Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/11/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r cyfarfod y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a dwi wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog y prynhawn yma. Y cwestiwn cyntaf, felly, Jayne Bryant. 

Newport Wafer Fab

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i rwystro Nexperia BV rhag caffael Newport Wafer Fab? OQ58769

Member
Lesley Griffiths 13:30:28
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ffaith bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud o'r diwedd, sydd wedi rhoi rhywfaint o eglurder sydd i'w groesawu. Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion yn hanfodol i economi Cymru, ac rydym yn galw eto ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei strategaeth ar led-ddargludyddion a buddsoddi yn y sector hynod o bwysig hwn ar frys.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Roedd penderfyniad Llywodraeth y DU i atal y pryniant gan Nexperia oherwydd materion diogelwch cenedlaethol, yn ddealladwy, wedi cipio'r penawdau. Fodd bynnag, yr hyn sy'n cael ei golli yw'r effaith y mae'r cyhoeddiad hwn yn ei gael ar y gweithlu hynod fedrus ac ymroddedig o dros 500. Fe fyddwch yn gwybod, dros y blynyddoedd, mewn gwahanol ymgnawdoliadau, fod y gweithlu wedi wynebu llawer o ansicrwydd ynghylch dyfodol y safle. Mae addewid Nexperia yn cynnig sefydlogrwydd gyda buddsoddiad ychwanegol. Mae'r swyddi'n rhai uwch-dechnoleg ac, yn ddiweddar, wedi bod yn talu'n dda. Pa ran a gafodd Llywodraeth Cymru yn y penderfyniad hwnnw, a pha drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar ôl y penderfyniad hwnnw? Ac a all y Gweinidog fy sicrhau i, fy etholwyr i a'r gweithlu o bob rhan o'r rhanbarth y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y swyddi arloesol hyn, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, yn cael eu diogelu?

Diolch. Mae gan Gasnewydd glwstwr lled-ddargludyddion o arwyddocâd byd-eang, ac mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i sicrhau nad yw'n cael ei ddal yn ôl o ganlyniad i'r bennod hon. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant wastad wedi sefyll dros y sector hollbwysig hwn yn ei hetholaeth, ac rydym yn uchelgeisiol o ran y rhan y gall ei chwarae. Rwy'n credu bod gweinyddiaeth Biden wir wedi rhoi blaenoriaeth enfawr i'r sector hwn hefyd, ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch methiant Llywodraeth y DU i flaenoriaethu'r sector hwn yn y DU. Yn ddiweddar, bu Gweinidog yr Economi yn gweithio gyda KLA i ddatgloi buddsoddiad newydd mawr yn y clwstwr. Bydd hynny'n cefnogi 750 o swyddi newydd yng Nghasnewydd, sy'n tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru ymhellach. Ac mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a'r Strategaeth Ddiwydiannol, yn gofyn am gyfarfod ar frys. Fel Llywodraeth, nid oes gennym yr arbenigedd i asesu'r materion diogelwch dan sylw, ond dylai strategaeth lled-ddargludyddion y DU fod ar waith nawr i ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau, gyda sicrwydd ar gyfer pob lefel o Lywodraeth. 

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am godi'r cwestiwn yma. Gweinidog, yn amlwg mae penderfyniad Llywodraeth y DU i atal Nexperia rhag caffael Newport Wafer Fab am resymau diogelwch cenedlaethol wedi achosi pryder mawr ymhlith y gweithlu ynghylch diogelwch eu swyddi a dyfodol y cwmni, y mae fy nghyd-Aelod newydd ei grybwyll. Mae dyfarniad ar faterion diogelwch cenedlaethol yn dal yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan, ac yn briodol felly. Fodd bynnag, ddydd Iau diwethaf, ysgrifennais, ynghyd â Gweinidog yr Economi, fel y gwnaethoch sôn, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes, Grant Shapps, yn gofyn am eglurhad o safbwynt y Llywodraeth a cheisio gwarant y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i warchod swyddi'r gweithlu. A wnewch chi, Gweinidog, ymrwymo i weithio'n gydlynus â Llywodraeth y DU i gefnogi'r gweithlu yn Newport Wafer Fab i ddiogelu dyfodol y cwmni, oherwydd ni all Casnewydd fforddio colli swyddi medrus iawn â chyflog da mewn cwmnïau fel hyn, wrth symud ymlaen?

Yn bendant, a byddwch wedi clywed fy ateb cychwynnol i Jayne Bryant. Ac, fel y soniais, mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol BEIS i geisio cyfarfod brys. Rwy'n credu mai dim ond ddoe neu heddiw yr anfonwyd y llythyr hwnnw. Felly, byddwn i'n gobeithio—ac os oes gennych chi unrhyw ddylanwad—a byddwn i'n awgrymu ei fod yn gyfarfod brys i drafod hyn, wrth symud ymlaen. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol ein bod wedi bod yn aros yn hir am ymateb gan Lywodraeth y DU, ac rydym yn falch iawn ei bod yn ymddangos bod ychydig o frys arnyn nhw ynghylch y mater hwn.  

Gweinidog, mae etholwyr Islwyn sy'n gweithio i gwmni Nexperia wedi cysylltu â mi ac maen nhw'n bryderus iawn ynghylch diogelwch eu swyddi yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU. Mewn llythyr at ysgrifennydd busnes Llywodraeth y DU, Grant Shapps, dywedodd cymdeithas staff Nexperia fod Llywodraeth y DU wedi bwrw cwmwl tywyll dros dde Cymru. Gweinidog, fory, bydd cymdeithas y staff yn teithio i San Steffan gyda Ruth Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, i gyflwyno'r pryderon hynny. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu'r clwstwr blaengar o gwmnïau lled-ddargludyddion yn rhanbarth Gwent, sydd mor hanfodol i economi'r de-ddwyrain? A oes cynlluniau i chwilio am drafodaethau brys wyneb yn wyneb gyda swyddogion cyfatebol Llywodraeth y DU i gytuno'n gyflym ar ffordd ymlaen a sicrhau na fydd un swydd â sgiliau uchel yn cael ei pheryglu? Hefyd, a fyddech chi a Gweinidog yr Economi yn barod i gwrdd â mi a chydweithwyr eraill Gwent i fynd i'r afael â phryderon difrifol ein hetholwyr?

13:35

Fel yr wyf eisoes wedi sôn, mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu i ofyn am gyfarfod wyneb yn wyneb gydag Ysgrifennydd Gwladol BEIS, ac rwy'n siŵr, ar ôl iddo gael y cyfarfod brys hwnnw, bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau lleol am y datblygiadau diweddaraf yn y mater pwysig iawn hwn. Rwy'n credu mai un o'r pethau gorau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw parhau i roi rhywfaint o bwysau o ddifrif ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei strategaeth lled-ddargludyddion ar frys, oherwydd rydym ni'n gwybod y byddai hynny wedyn, nid yn unig yn sicrhau swyddi yr ydym yn siarad amdanyn nhw nawr, yng Ngorllewin Casnewydd, ond hefyd yn denu mwy o fusnesau uwch-dechnoleg i Gymru, a hefyd i mewn i'r DU, o ran hynny.

Arian Ychwanegol i Ysgolion

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi arian i ysgolion yng Nghymru a fydd yn cyfateb i'r arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ysgolion yn Lloegr? OQ58767

Rydym yn parhau i wynebu dewisiadau anodd iawn wrth i ni baratoi ein cyllideb ddrafft 2023-24. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi datgan, byddwn yn cadw ein pwyslais ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Fel y dengys dadansoddiad diweddar Trysorlys EM, roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru 17 y cant yn uwch nag yn Lloegr yn 2021-22. Byddwn yn darparu manylion pellach yn ein cyllideb ddrafft 2023-24.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU gynnydd mewn cyllid ar gyfer addysg, a fyddai'n cyfateb i tua £200 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg yng Nghymru pe baem ni'n gwneud yr un peth, gyda Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cael £1.2 biliwn yn ychwanegol o gyllid ychwanegol yn gyfan gwbl dros y ddwy flynedd. Gweinidog, mae'n hanfodol bellach, gyda'r holl bwysau ychwanegol ar ein hysgolion, bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer cyllidebau'r dyfodol yn cyfateb i'r hyn sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion yn Lloegr gan Lywodraeth y DU, er mwyn diwallu anghenion dirfawr gyllidebau ein hysgolion ni. A all Llywodraeth Cymru heddiw roi'r sicrwydd a'r ymrwymiad hwnnw i benaethiaid ac ysgolion ar hyd a lled Cymru?

Rwy'n credu y cymeraf y cyfle yn gynnar iawn yn y sesiwn holi hon i ddweud na fydd y cyllid ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru—£1.2 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf—yn llenwi'r bylchau mawr yn ein cyllideb. Fe wnaf hynny'n glir iawn. Rydym ni'n wynebu rhai dewisiadau anodd iawn fel Gweinidogion wrth i ni gyflwyno cyllideb y flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu ein cyllidebau er mwyn gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed a chynnal ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Bydd yn rhaid i ni ystyried manylion datganiad yr hydref yr wythnos diwethaf yn ofalus iawn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn amlwg yn gwneud hynny wrth i ni nesáu at gyhoeddi'r gyllideb ddrafft fis nesaf. Mae ein setliad cyffredinol dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd—sy'n mynd o 2022 i 2025—yn dal i fod yn werth llai mewn termau real nag yr oedd adeg yr adolygiad gwariant y llynedd. Felly, mae gennym ni'r cyllid y gwnaethoch chi sôn amdano, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael, heb os, drafodaethau dwyochrog gyda phob Gweinidog wrth i ni gyflwyno cyllideb y flwyddyn nesaf. Mae faint o gyllid sy'n cael ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion yn amlwg yn benderfyniad i awdurdodau lleol, ac nid yw Llywodraeth Cymru, yn amlwg, yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol, fel y gwyddoch. Ac, unwaith eto, bydd y trafodaethau hynny ynghylch cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn amlwg yn cael effaith ar y gyllideb addysg hefyd.

Trefnydd, yr wythnos diwethaf ymwelais ag Ysgol Gynradd Capcoch yn Abercwmboi i weld y gwaith gwych a gwirioneddol hyfryd y mae'r ysgol yn ei wneud i geisio brwydro yn erbyn effeithiau tlodi plant. Mae ymyriadau rhagweithiol yr ysgol, gan gynnwys adnoddau cyfnewid dillad, banc bwyd a'i hagwedd tuag at bethau fel tripiau ysgol, wedi cael eu canmol gan Estyn. Mae'r Resolution Foundation yn amcangyfrif y rhagamcanir y bydd tlodi plant cymharol yn cyrraedd ei lefel uchaf nawr ers y 1990au. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi ysgolion i gefnogi plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr sy'n dioddef oherwydd yr argyfwng costau byw a osodir arnom gan Lywodraeth Dorïaidd hon y DU?

Diolch. Wel, rydym yn cydnabod bod y cynnydd mewn costau ynni, yr argyfwng costau byw, yn amlwg yn rhoi mwy o bwysau ar ein hysgolion, ar ein hawdurdodau lleol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn ogystal ag ar gymaint o'n hetholwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull o ddylanwadu posibl i helpu pobl ledled Cymru gyda'r argyfwng costau byw. Byddwch yn ymwybodol mai ein grant datblygu disgyblion yw'r mwyaf hael ar draws y Deyrnas Unedig. O flwyddyn i flwyddyn, rydym wedi ymestyn y grant datblygu disgyblion ac mae'r cyllid ar gyfer eleni bellach dros £130 miliwn. Yn gydnabyddiaeth o'r pwysau sy'n wynebu teuluoedd,  cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn gynharach eleni, daliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn neu berson ifanc sy'n gymwys i gael y grant datblygu disgyblion. Ac eto, mae hynny'n mynd â'r arian ar gyfer y cynllun hwnnw dros £23 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bwriad y Gweinidog yw diweddaru ein canllawiau gwisgoedd ysgol statudol a lansio ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig—mae'n ddrwg gennyf, mae'r ymgynghoriad hwnnw ar waith ar hyn o bryd.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr, Llywydd. Arweinydd y tŷ, mae'n amhosibl peidio â theimlo'n ddigalon wrth ddarllen yr adroddiadau yn The Sunday Times am weithgareddau swyddogion heddlu yn llu Gwent, ac yn arbennig mewn wythnos pan ydym ni'n tynnu sylw at drais domestig ac yn arbennig trais yn erbyn menywod. Mae'n drawmatig, a dweud y lleiaf, bod y cyhuddiadau, fe ddywedwn ni, a'r datguddiadau yn yr erthygl honno yn tynnu sylw at gam-drin mor eang o fewn llu Gwent. Y bore yma, dywedodd merch y swyddog a enwyd yn yr adroddiad ei bod hi a'i mam wedi'u parlysu gan ofn wrth feddwl beth y gallen nhw ei wneud iddyn nhw am eu bod wedi amlygu'r hyn a ddarganfyddon nhw ar ffôn ei diweddar dad. Oes gennych chi ffydd y gall heddlu Gwent amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref pan fydd gwraig a merch rhywun sydd wedi bod yn ymwneud â thrais domestig yn gwneud datganiadau o'r fath—a'u bod nhw'n arswydo wrth feddwl beth y gallen nhw ei wneud iddyn nhw?

Rwy'n credu bod yr honiadau diweddaraf yn adroddiad The Sunday Times ddydd Sul diwethaf yn peri pryder mawr. Fel Llywodraeth, ac rwy'n siŵr fel pawb yn y Siambr yma, rydym ni'n sefyll yn erbyn llygredd, casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia ym mhob ffurf. Dydw i ddim wedi gweld y sylwadau a wnaed gan y teulu hyd yma. Fel y gwyddoch chi, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Gymru; mae'n fater i Lywodraeth y DU, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond wrth gwrs rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid plismona yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod, fel Llywodraeth, yn sicr, fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymryd yr adroddiadau hyn o ddifrif ac rwy'n siŵr, yn dilyn y sylwadau, yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw, gan y teulu, y bydd eisiau sicrwydd pellach. Mae hi wedi gofyn am sicrwydd gan y prif gwnstabl a chomisiynydd heddlu a throseddu Gwent ac mae wedi cwrdd â'r ddau ohonyn nhw i drafod yr honiadau ac wedi cael sicrwydd fod Heddlu Gwent yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif.

Gallaf ddweud hyn, arweinydd y tŷ: nid oes gennyf unrhyw ffydd yn uwch arweinyddiaeth llu Gwent, boed hynny ar lefel swyddogion neu ar lefel y comisiynydd heddlu a throseddu. Mae'r datguddiadau hyn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf. Rwy'n canmol gweithgareddau'r heddlu wrth rybuddio pobl yn yr ardal fod 33 o fenywod yr wythnos yn wynebu trais domestig, yn ofni am eu bywyd neu'n ofni anaf, ond sut ar y ddaear, gyda chyhuddiadau o'r fath wedi eu cyflwyno—cyhuddiadau go iawn sy'n dweud yn union sut y mae hi—fod pobl â gormod o ofn i fynd at unigolion i geisio cymorth, sut all y 33 o fenywod hynny, heb sôn am weddill y gymuned yn ardal Gwent, gael y sicrwydd hwnnw? Felly, rwyf wedi dweud nad oes gennyf i ffydd yng ngallu'r uwch reolwyr yn Heddlu Gwent i unioni'r sefyllfa. Gofynnais i chi yn y cwestiwn cyntaf a oes gennych chi ffydd.

Mae gennym ni ffydd. Fel y dywedais i, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cwrdd â'r prif gwnstabl a'r comisiynydd heddlu a throseddu i drafod y pryderon. Hyd y gwn i, nid yw wedi cael cyfarfod pellach. Fe wnaethoch chi sôn am y sylwadau a gyflwynodd y teulu. Mae'n bwysig iawn, yn amlwg, bod gan bobl sydd eisiau amlygu eu pryderon, os ydyn nhw wedi dioddef unrhyw drosedd, ffydd yn yr heddlu, a dyna pam y mae hi mor bwysig bod yr honiadau hyn yn cael eu trin yn syth, ac yn sicr dyna ddigwyddodd. Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, fod cyn-bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron, Nazir Afzal, wedi galw am ymchwiliad cenedlaethol ar y mater hwn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn amlwg, yn ei drafod â Heddlu Gwent, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ceisio cael cyfarfod pellach mewn cysylltiad â'r sylwadau y cyfeirioch chi atyn nhw a wnaed heddiw gan y teulu.

A yw'r Llywodraeth wedi ffurfio barn ar ymchwiliad o'r fath yma yng Nghymru? Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi yn ei gynhadledd i'r wasg yr wythnos diwethaf wedi dweud bod y Llywodraeth yn y broses o ffurfio barn. Ond, os ydych chi heddiw, er enghraifft, yn byw yn ardal Gwent a'ch bod chi'n mynd i wefan y rheolaeth wleidyddol—h.y. gwefan y comisiynydd heddlu a throseddu—does dim sôn o gwbl am ba gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r cwynion hyn. Gallwch ddod o hyd i fideo sy'n sôn am ChuChu TV Police yn casglu ieir sy'n achosi problemau yn yr ardal, ond allwch chi ddim dod o hyd i unrhyw beth ynghylch y cyhuddiadau hyn yn erbyn Heddlu Gwent. Rwy'n mynd yn ôl at fy mhwynt: mae hyn yn ymwneud â ffydd a mynd i'r afael â rhai o'r cyhuddiadau mwyaf difrifol posibl y gellid eu cyflwyno yn erbyn heddlu, a'i allu i ymdrin â'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Ydych chi, fel fi, yn cytuno y dylai'r comisiynydd heddlu a throseddu edrych yn y drych a gofyn ai ef yw'r person gorau i ddatrys y broblem hon yn ardal Heddlu Gwent?

13:45

Mae eich cyfeiriad at y wefan, rwy'n credu, yn hynod o bryderus, ac yn amlwg mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei lle, ac fe ofynnaf iddi wneud rhai ymholiadau penodol mewn cysylltiad â hynny. Ynghylch y farn a oes angen ymchwiliad cenedlaethol, mae'n amlwg fod plismona yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, a nhw felly sydd i benderfynu a ydyn nhw'n credu y dylai ymchwiliad ddigwydd. 

Diolch, Llywydd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi oedi'r cyhoeddiad ffurfiol ynghylch streicio yn yr Alban, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi ailagor trafodaethau cyflog. Pam ydych chi, hyd yn hyn, yn gwrthod gwneud yr un peth? Yr wythnos diwethaf, awgrymodd y Prif Weinidog na fyddai'n iawn i siarad â'r RCN tra bod undebau eraill hefyd yn pleidleisio, felly a gawn ni ddisgwyl, pan fydd canlyniadau pleidleisiau'r pum undeb iechyd arall hynny yn cael eu cyhoeddi yn y pythefnos nesaf, y byddwch chi'n ailagor trafodaethau bryd hynny? Fe ofynnodd y Prif Weinidog i ni ym Mhlaid Cymru o ble y gallai'r arian ddod ar gyfer cynnig cyflog uwch eleni. Wel, a allaf i awgrymu dwy ffynhonnell bosibl? Un ohonyn nhw yw'r gwariant presennol sydd heb ei ddyrannu, a'r ffigur diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer hwnnw, ym mis Mehefin, oedd £152 miliwn; y llall yw'r gronfa wrth gefn a oedd yn £92 miliwn. A wnewch chi efallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch beth yw'r ffigyrau hynny nawr, a pham na ellir eu defnyddio fel ffynhonnell arian ar gyfer cynnig cyflog diwygiedig?

Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt olaf am gyllid heb ei ddyrannu a chronfeydd wrth gefn. Rwy'n siŵr bod arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth y DU ynddi. Fe glywsoch chi fi, yn fy atebion cynharach ynghylch datganiad yr hydref, yn sôn am y bwlch go iawn sy'n dal yno—. Mae chwyddiant yn 11.1 y cant—11.1 y cant. Nid yw ein cyllideb yn agos at allu ymdopi â'r ffigur hwnnw.

O ran eich cwestiwn penodol ynghylch yr RCN, nid yr RCN yn unig sydd wedi pleidleisio; nid undebau iechyd eraill yn unig sydd wedi pleidleisio. Rydym ni'n gwybod bod gweithwyr post ar streic, rydym ni'n gwybod bod gweithwyr rheilffyrdd, eto, ar streic, mae bargyfreithwyr ar streic, rwy'n credu bod darlithwyr prifysgol—. Mae ar draws ein sector cyhoeddus ac, yn anffodus, mae ein setliad ariannol presennol yn is o lawer na'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i ymateb i'r heriau sylweddol iawn y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gweithwyr ledled Cymru yn eu hwynebu.

Byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ymdrin â'r cwestiwn penodol: a oes gennych arian yng nghronfa wrth gefn Cymru, ac a oes gennych chi wariant heb ei ddyrannu ar gael i chi.

Nawr, mae Keir Starmer yn dweud ei fod eisiau i'r GIG ddibynnu llai ar feddygon a nyrsys tramor a'i fod eisiau torri dibyniaeth Prydain ar fewnfudwyr. Ydy'r math yma o rethreg yn eich poeni chi? Pan awgrymodd y farwnes Dorïaidd, Dido Harding, y llynedd, y dylid dod â dibyniaeth y GIG ar staff tramor i ben, dywedodd Eluned Morgan hyn: 

'Dylem ni fod yn dathlu'r bobl yma sydd wedi ein helpu ni drwy'r pandemig, yn hytrach nag ymddangos ein bod ni eisiau cau'r drws ar y bobl yma sydd wir wedi camu i'r adwy yn ystod ein cyfnod ni o angen.'

Felly, ydy Llywodraeth Cymru dim ond yn beirniadu gwleidyddiaeth chwiban ci ymfflamychol pan fo Ceidwadwr ar fai? Ac onid y ddibyniaeth go iawn yn y GIG yw'r gwariant ar staff asiantaeth, a gododd i £133 miliwn y llynedd, i nyrsys yn unig, sy'n breifateiddio drwy'r drws cefn i bob pwrpas? Byddai gosod uchafswm ar wariant ar staff asiantaeth y gaeaf hwn yn rhoi ffordd arall i chi roi'r codiad cyflog teilwng i staff y GIG, o ble bynnag y maen nhw'n dod, y maen nhw'n ei haeddu.

Nid yw'r ffigyrau gennyf wrth law yr ydych yn gofyn amdanyn nhw ynghylch cronfeydd wrth gefn a chyllid heb ei ddyrannu—. Ond y cyfan y gallaf ei ddweud i'ch sicrhau chi yw mai ychydig iawn fydd ar ôl o'r gronfa wrth gefn neu o'r cyllid heb ei ddyrannu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, oherwydd y bylchau sydd gennym yn ein setliad oddi wrth Lywodraeth y DU.

Dydw i ddim wedi gweld naill ai erthygl na datganiad Keir Starmer. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedaf yw: fel GIG yma yng Nghymru, rydym yn sicr yn dibynnu ar bobl o dramor i gefnogi nid yn unig ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd gofal cymdeithasol. Ac mae llawer o'r gwir broblemau sydd gennym ni mewn gofal cymdeithasol nawr oherwydd bod cymaint—a gallwch fynd â hyn yn ôl i'r amser pan adawom ni'r Undeb Ewropeaidd—ein staff gofal cymdeithasol wedi gadael y wlad. Roedd llawer ohonyn nhw'n ddinasyddion yr UE, ac eraill. Rwy'n gwybod yn fy etholaeth fy hun, yn Wrecsam, mae gennym nifer sylweddol o weithwyr Ffilipinaidd sy'n ein cefnogi ni yn ein sector gofal cymdeithasol. Felly, rydym ni'n dibynnu ar bobl o dramor i helpu ni i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—ac mewn meysydd eraill. Does ond rhaid edrych o fewn y sector amaethyddol. Rwy'n gwybod bod ein ffermwyr, eto, yn dibynnu ar weithwyr mudol.

13:50

Os felly, pam mae Keir Starmer yn siarad am wneud i Brexit weithio yn hytrach na mynd â ni'n ôl i'r farchnad sengl?

Nawr, os gallwn droi at Qatar, rydych chi wedi gweld adroddiadau fod cefnogwyr Cymru, gan gynnwys cyn-gapten Cymru, Laura McAllister, wedi cael eu hatal wrth fynd i mewn i'r stadiwm neithiwr am wisgo hetiau a chrysau-T enfys. Byddwch hefyd wedi darllen bod FIFA yn gwrthod diystyru cosb chwaraeon i chwaraewyr sy'n gwisgo band braich 'OneLove'. Onid dangos y cerdyn coch i homoffobia y dylai FIFA ei wneud, ac ni ddylai fod yn fater i chwaraewyr wneud hyn ar eu rhan? Ydych chi'n credu bod yna gyfle adeg gêm Cymru yn erbyn Lloegr i anfon neges bwerus, sydd o bosibl yn cynnwys swyddogion y ddwy gymdeithas, ond hefyd Gweinidog yr Economi yn gwisgo band braich 'OneLove' neu symbol enfys arall, nid yn unig yn y stadiwm ond hefyd mewn cyfarfodydd swyddogol, fel cynrychiolydd pawb yng Nghymru a hefyd ein gwerthoedd cyffredinol o gydraddoldeb yn ddieithriad, y mae cenedl gyfan Cymru a thîm Cymru yn eu cefnogi?

Yn hollol. Roedd yn dro pedol munud olaf gwarthus gan FIFA. Roedd yn osodiad gwahanol iawn i'r hyn yr oedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n ei wneud. Rwy'n credu mai'r un cychwynnol oedd y bydden nhw'n dirwyo'r gymdeithas bêl-droed, ac rwy'n credu yn sicr y cymdeithasau pêl-droed Ewropeaidd a oedd wedi cytuno i hynny, fe wnaethon nhw dderbyn hynny, i raddau, os hoffech chi. Mae cosbau chwaraeon yn wahanol iawn, iawn, onid ydyn nhw? Pe bai Gareth Bale wedi cael ei gosbi ac yna ei gosbi'r ail dro, ni fyddai wedi bod ar y cae i gymryd y gic gosb, er enghraifft, felly gallwch chi weld yr effaith y byddai wedi'i gael. Ond, FIFA, roedd e'n hollol warthus. Byddai wedi bod yn ddatganiad mor syml ond pwerus, rwy'n credu. Ac rydych chi'n hollol iawn, gwelsom un o'n llysgenhadon ein hunain, Laura McAllister, yn cael ei gorfodi i dynnu ei het. Rwy'n adnabod rhywun yn Qatar neithiwr y gofynnwyd iddo dynnu ei gareiau sgidiau enfys o'i esgidiau ymarfer. Mae'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n gwybod ein bod wedi bod yn trafod gyda'r llysgenhadaeth yn Doha, yn ceisio gofyn am rywfaint o eglurhad brys na fydd hetiau bwced, careiau esgidiau neu grysau-T enfys yn cael eu gwahardd o stadia, ac rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld achosion eraill fel hyn. Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gêm rhwng Cymru a Lloegr yr wythnos nesaf a sut y gallwn wneud y datganiad pwerus hwnnw, sydd i ni, yn fater pwysig iawn, iawn. Rwy'n credu bod FIFA wedi colli cyfle da ac maen nhw wedi achosi cymaint o loes a gofid i gymaint o bobl.

Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016? OQ58729

Cafwyd rhai manteision sylweddol o gyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, gan gynnwys cyllid uwch a llais nyrsio cryfach o lefel ward i lefel bwrdd. Fodd bynnag, mae'n anochel bod pandemig COVID-19 a phrinder byd-eang parhaus o staff nyrsio wedi bod yn her i fyrddau iechyd wrth geisio gweithredu'r Ddeddf.

Diolch. Trefnydd, fel y gwyddom i gyd, mae adran 25A o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol i gael digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys ofalu'n sensitif am gleifion ble bynnag y caiff gwasanaethau nyrsio eu darparu neu eu comisiynu. Roedd swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig ym mwrdd Betsi yn 736.5 ym mis Awst eleni, i fyny o 541 ym mis Tachwedd 2020. Nawr, er y gellir sicrhau'r lefel staffio mewn rhai wardiau, yn aml mae hyn yn cynnwys nyrsys sy'n staff parhaol, banc neu asiantaeth. Nid yw llawer o staff asiantaeth yn gallu cyflawni rhai swyddogaethau, er y gallant fod ar fand perthnasol. Er enghraifft, gallu gwneud gwaith mewnwythiennol ar glaf. Mae hyn, wedyn, yn arwain at nyrsys eraill yn gorfod gwneud mwy o waith i sicrhau diogelwch cywir cleifion. Mae hwn yn fater arwyddocaol. Yn sicr, yn y tri ysbyty, yr ysbytai mwy, sy'n gwasanaethu fy etholaeth i, mae bod â'r nifer cywir o nyrsys ar ward yn cael blaenoriaeth dros y nyrsys cywir gyda'r hyfforddiant cywir. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi nad yw diogelwch cleifion yn cael ei beryglu o ganlyniad i'r prinder nyrsio enfawr hwn yr ydym yn ei wynebu? A faint o 'ddigwyddiadau byth'—ac mae hwnnw'n derm a ddefnyddir ym maes iechyd—a faint o ddigwyddiadau diogelwch adroddadwy eraill sydd wedi digwydd oherwydd y prinder nyrsio aruthrol hwn? Diolch.

13:55

Mae gen i ofn nad oes gen i ateb i'ch cwestiwn olaf am ddigwyddiadau byth. Byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cysylltiad â hynny.

Fel y dywedais i yn fy ateb agoriadol i chi, mae prinder staff nyrsio byd-eang; nid yw hyn yn unigryw i Gymru na'r DU yn unig. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym gymaint o staff y gwasanaeth iechyd â phosibl ar draws ein byrddau iechyd, ac rydym wedi gweld cynnydd, yn sicr, yng ngweithlu'r GIG. Mae bellach ar ei lefel uchaf erioed mewn rhai ardaloedd. Y ffigur cyfwerth ag amser llawn o'r holl staff yw 88,638 ledled Cymru, sydd 12 y cant yn uwch nag yr oedd dair blynedd yn ôl.

Trefnydd, yn ddiweddar, es i ymweld â'r ganolfan arloesi addysg iechyd newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, lle maen nhw'n awr wedi ehangu i gynnig graddau nyrsio a graddau iechyd cysylltiedig. Mae hyn yn agor byd o gyfleoedd i fyfyrwyr ddod yn nyrsys, parafeddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd—mae'n wych, y cynnig nawr—a hefyd i weithwyr iechyd presennol ailhyfforddi ac ailsgilio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf a'r cyfleusterau gwych. Mae'n profi'n boblogaidd iawn, ac maen nhw'n mynd i dderbyn mwy o fyfyrwyr ym mis Ionawr.

Prif Weinidog, rwy'n gwybod pa mor werthfawr y gall gyrfa mewn nyrsio fod, a hoffwn ddweud bod fy nyrs i newydd newid gyrfa i astudio i fod yn nyrs iechyd meddwl yno, ac yn mwynhau'r cwrs yn fawr. A fyddwch chi'n helpu i hyrwyddo nyrsio fel gyrfa, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi pobl i gael gyrfa yn y gwasanaethau iechyd? Hefyd, mae'r bwrsari wir yn cael ei groesawu yng Nghymru. Diolch.

Diolch. Mae'n amlwg—gan ei fod yn fy etholaeth i—fy mod yn ymwybodol iawn o'r adran arloesedd addysg iechyd newydd ym mhrifysgol Glyndŵr ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Mae gennym ni ddarpariaeth debyg lawr yn Abertawe, felly mae'n wych ei chael yn y gogledd hefyd, oherwydd rydym yn gwybod, on'd ydym ni, o ran lle mae pobl yn hyfforddi, maen nhw'n aml yn aros yn yr ardal honno. Felly, bydd hynny'n amlwg yn helpu gyda chadw a dod â staff newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd, byddwn i'n credu. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym ni'n awyddus iawn i hyrwyddo nyrsio fel gyrfa; mae'n yrfa werth chweil, a byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'w hyrwyddo.

Cymorth ar gyfer Llifogydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymunedau sy'n profi llifogydd yng Ngorllewin De Cymru? OQ58741

Diolch. Mae ein hamcanion cyllido i leihau'r risg o lifogydd i gymunedau wedi'u nodi yn ein strategaeth llifogydd genedlaethol a'r rhaglen lywodraethu. Rydym yn darparu £36.4 miliwn o arian grant parhaus ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd o'r gwaith dylunio i waith adeiladu yn rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Diolch. Dair wythnos yn ôl, gwnaeth glaw trwm orlwytho draeniau a chwlfertau mewn nifer o gymunedau yn fy rhanbarth i a gwelais effaith hyn yn uniongyrchol, yng Nghwm Tawe a'r diwrnod canlynol yn ardal Melincryddan, Castell-nedd, a dyma'r trydydd tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r Melin ddioddef llifogydd difrifol. Roedd yn dorcalonnus siarad â thrigolion a fynegodd eu tristwch, eu rhwystredigaeth a'u pryder wrth weld eu cartrefi yn dioddef llifogydd unwaith eto a llawer o eiddo wedi'u eu difetha.

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd newydd gwerth £100,000 yn St Catherines Close yn y Melin, dan y strategaeth genedlaethol i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Gan iddo fethu gwta chwe mis ar ôl cwblhau'r cwlfert newydd, pa asesiad a gynhaliwyd o ran effeithiolrwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun hwn? A hefyd, a fydd cymorth brys yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth i helpu'r cyngor gyda chost y gwaith glanhau ac i wneud y gwelliannau angenrheidiol i'r gwaith atal llifogydd, a hefyd i ariannu taliadau cymorth dewisol i aelwydydd yr effeithiwyd arnyn nhw? Ac i fusnesau lleol sydd wedi eu difetha unwaith eto, sydd heb fynediad at Flood Re, a fydd unrhyw gymorth iddyn nhw, i'r rhai na allan nhw nawr gael yswiriant, a thaliadau grant lliniaru llifogydd busnes sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, fel oedd yn digwydd ar ôl stormydd Bellla a Christoph?

Diolch. O ran eich cwestiwn ynghylch yr asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag effeithiolrwydd buddsoddi yn y cynllun, darparwyd cyllid ar gyfer sgrin brigau newydd i'r awdurdod lleol drwy ein cronfa cynlluniau ar raddfa fechan i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Darparon nhw gynigion manwl ar gyfer ailgynllunio'r sgrin brigau bresennol honno'n sylweddol, ac roedd swyddogion yn fodlon â gwaith gwella arfaethedig yr awdurdod rheoli risg, a hynny oedd ceisio gwneud y grid yn fwy effeithlon ac felly, yn fwy diogel i'w weithredu. Yn anffodus, yn yr achos hwn—ac rwy'n clywed yn iawn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am eich etholwyr; mae'n brofiad ofnadwy iddyn nhw, llifogydd yn eich cartref—roedd y cwlfert yn dal i gael ei orlwytho oherwydd maint y storm. Yn y pen draw, ni all cynlluniau llifogydd ond rheoli risg, ac fe all digwyddiadau eithafol achosi llifogydd o hyd. Rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol yn y broses o baratoi achos busnes amlinellol i fynd i'r afael â'r risg llifogydd ehangach sy'n gysylltiedig â nant Cryddan, ac mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r cynigion hynny lywio ymchwiliadau adroddiad adran 19 yr awdurdod lleol i'r digwyddiad yr ydych wedi cyfeirio ato.

O ran cefnogaeth frys, pan fo'n briodol, mae awdurdodau lleol yn gallu gwneud ceisiadau am gymorth ariannol o dan ein cynllun cymorth ariannol brys. Byddai hynny'n cynorthwyo gyda'r baich ariannol o ddarparu rhyddhad a gwneud gwaith ar unwaith i reoli effaith sefyllfa frys.

O ran taliadau grant lliniaru llifogydd busnesau, mae Busnes Cymru'n darparu un pwynt cyswllt i fusnesau, felly gallent gael golwg ar hwnnw i weld a oes unrhyw beth ar gael ymhellach.

14:00

Trefnydd, yn eich ateb cychwynnol, sonioch chi am bwysigrwydd lleihau'r perygl o lifogydd yn y lle cyntaf, felly roeddwn i eisiau tynnu eich sylw at yr amddiffynfeydd llifogydd ar draeth Newton ym Mhorthcawl. Mae trigolion sy'n byw ar Ffordd y Traeth yno wedi cysylltu â mi, yn poeni am gynllun rheoli traethlin Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Y polisi tymor byr yw cynnal y draethlin, drwy gynnal yr amddiffynfeydd presennol, nes eu bod yn cyrraedd diwedd eu hoes effeithiol. O ystyried y polisi canolig a thymor hir, ni fyddai unrhyw welliannau amddiffyn yn cael eu gwneud, felly bydd risg uwch o lifogydd i'r eiddo preswyl ac asedau ar y glannau.'

Mewn geiriau eraill, y polisi yma yw peidio â gwella'r amddiffynfeydd môr o gwbl, ac mae adroddiad CNC ei hun yn cyfaddef y bydd hynny'n cynyddu'r tebygolrwydd o lifogydd yn yr ardal yn sylweddol, y gallwch ddychmygu ei fod yn achosi llawer iawn o bryder i bobl leol gyda'u cartrefi wedi'u lleoli yno. Siawns nad yw'n well ein bod yn cymryd camau ataliol i amddiffyn rhag llifogydd, yn hytrach nag ymateb i sefyllfa pan fydd yn mynd yn rhy hwyr. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru a fyddwch chi'n cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor lleol i lunio cynllun nad yw'n dibynnu ar gartrefi pobl yn dioddef llifogydd?

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn llawer gwell i bawb sy'n gysylltiedig â hyn fabwysiadu agwedd ataliol at lifogydd, yn hytrach na gorfod ymateb bob amser. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi rhoi cyllid sylweddol i'r mesurau ataliol hynny, gyda nifer fawr o gynlluniau ledled y wlad, nid dim ond yn y de-orllewin. Fe wnes i sôn yn fy ateb wrth Sioned Williams mai dim ond rheoli risg y gall cynlluniau llifogydd, a'r hyn a wnaiff ein strategaeth llifogydd genedlaethol ni yw amlinellu sut y byddwn yn rheoli'r risg hwnnw dros y degawd nesaf. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn sicr yn hapus iawn i ystyried y pryderon yr ydych chi'n eu codi gyda CNC a'r awdurdod lleol.

Cŵn Tywys

5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i fynd i'r afael â sefyllfaoedd lle y gwrthodir mynediad i berchnogion cŵn tywys? OQ58733

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn glir: mae'n anghyfreithlon gwrthod mynediad i berson anabl sydd â chi cymorth. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn gyfrifol am lynu wrth y Ddeddf ac rydym yn gweithio gyda nhw i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth.

Diolch yn fawr iawn, Trefnydd, am yr ateb yna. A gaf i hefyd estyn fy niolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei llythyr ar 10 Tachwedd ar yr union fater hwn? Bydd aelodau'n ymwybodol o waith Cŵn Tywys Cymru, sy'n ymgyrchu i roi terfyn ar atal cŵn tywys rhag dod i mewn i fusnesau. Pan gwrddais â nhw yn y Senedd ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedon nhw wrthyf i am rai sefydliadau busnes adnabyddus yn gofyn i berchnogion cŵn tywys i adael, gydag enghreifftiau diweddar penodol o leoedd fel Tesco a Premier Inn. Mae'r busnesau hyn yn gweithredu yma yng Nghymru. Rwy'n deall yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb cychwynnol, Trefnydd, ond a gaf i ofyn i chi beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i anfon neges gref, yng Nghymru, fod hyd yn oed un gwrthodiad yn annerbyniol? Sut gallwn anfon y neges honno i sicrhau bod gennym bolisi drysau agored ar gyfer cŵn tywys yn ein cenedl?

Diolch. Mae'n hynod siomedig clywed yr hyn rydych chi newydd ei ddweud, Jack Sargeant. Mae'r sefyllfa honno'n gwbl annerbyniol ac, fel yr wyf eisoes wedi nodi, mae'n anghyfreithlon. Mae gan bobl sydd â chŵn cymorth hawl yn ôl y gyfraith i gael mynediad i safle manwerthu—fe wnaethoch chi sôn am westy, hefyd—ac ni ddylid gwrthod mynediad i safle. Rydym yn gweithio gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru a'r grwpiau archfarchnadoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r broblem. Rwy'n cwrdd yn rheolaidd â'r archfarchnadoedd, ac yn sicr byddaf yn hapus iawn i edrych i mewn i'r mater. Yr hyn yr ydym ni wir eisiau ei wneud—ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn angerddol am hyn—yw codi ymwybyddiaeth o'r effaith y mae gweithredoedd pobl yn ei gael ar bobl o'r fath sydd â'r cyflyrau anodd iawn hyn ac sydd wir angen eu ci tywys i'w cynorthwyo yn eu bywydau bob dydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu cydymffurfiaeth â'r canllawiau a'r rheoliadau. Byddaf, yn sicr, o fy rhan i, yn gwneud hynny gyda'r archfarchnadoedd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn edrych ar hyn hefyd. Mae gennym hefyd y tasglu hawliau anabledd a gwaith Llywodraeth Cymru'n datblygu hawliau pobl sydd ag anableddau drwy'r tasglu hwn. 

14:05

Roeddwn yn ffodus i gynnal y digwyddiad Cŵn Tywys yn y Senedd fis diwethaf. Fel rydym wedi clywed gan ein cyd-Aelod Jack Sargeant, dangosodd ymchwil y mudiad Cŵn Tywys a gyhoeddwyd fis diwethaf fod 81 y cant o berchnogion cŵn tywys a ymatebodd i'w harolwg wedi cael eu hatal rhag mynd i mewn i fusnes neu wasanaeth a hynny'n anghyfreithlon, oherwydd eu bod â chŵn tywys. Maen nhw wedi lansio'r hyn y maen nhw'n ei alw'n ymgyrch Open Doors yn erbyn gwrthodiadau mynediad anghyfreithlon i addysgu'r cyhoedd a busnesau a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sut mae gwrthodiadau mynediad yn effeithio ar berchnogion cŵn tywys.

Ond nid dyna'r unig rwystr mae pobl sydd â chŵn tywys yn dod ar ei draws. Mae Cŵn Tywys Cymru hefyd yn dal i ymgyrchu dros strydoedd mwy diogel, gan ddweud bod llawer o gynlluniau wedi'u hariannu gydag arian teithio llesol Llywodraeth Cymru lle mae llwybrau beicio yn cael eu gosod ar droedffyrdd heb unrhyw linell glir rhwng y lôn feicio a'r llwybr troed i gerddwyr. Sut fydd Llywodraeth Cymru felly nid yn unig yn cefnogi ymgyrch Open Doors y mudiad Cŵn Tywys, ond hefyd yn ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwiriadau llawer mwy cadarn cyn y dyrennir cyllid i lwybrau teithio llesol newydd, er mwyn sicrhau bod pob llwybr newydd yn ddiogel ac y gall pawb eu defnyddio? 

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'n llawn ymgyrch Open Doors Cŵn Tywys Cymru, pryd rydym yn annog pob manwerthwr i gydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Mae'n erchyll eich clywed yn dweud y gwrthodwyd mynediad i 81 y cant o berchnogion cŵn tywys a oedd yn rhan o'r adolygiad—mae'r ddau ohonom newydd ddefnyddio'r gair 'anghyfreithlon'. 

O ran strydoedd mwy diogel, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch y monitro a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â hyn a'r ffordd yr asesir cynlluniau mewn cysylltiad â theithio llesol, ac a yw'n credu ei fod yn ddigon cadarn. 

Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut bydd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar gymunedau yng Nghymru? OQ58765

9. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r goblygiadau i Gymru o ddatganiad yr hydref gan Ganghellor y DU? OQ58728

Diolch. Llywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 6 a 9 gael eu grwpio.

Er gwaethaf rhai ychwanegiadau cymedrol i'n setliad dros y ddwy flynedd nesaf, nid yw datganiad yr hydref yn mynd yn agos at ymdrin â'r pwysau yr ydym yn eu hwynebu. Y gwir yw ein bod yn dal i wynebu toriad mewn termau real yn ein cyllideb, a fydd yn cael effaith sylweddol ar gymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Diolch am hynna. Mae cymunedau dros Gymru yn barod yn dioddef. Wedi 12 mlynedd o lymdra, dydy gwasanaethau hanfodol ddim mewn sefyllfa i wynebau toriadau pellach. Dwi'n meddwl bod gonestrwydd yn hanfodol mewn gwleidyddiaeth, felly mae angen nodi'n glir mai bai'r Llywodraeth yn San Steffan yw difrifoldeb y sefyllfa hon, ac mae'r ffaith eu bod nhw'n gwadu hyn a'u bod nhw'n beio'r sefyllfa fyd-eang yn destun siom. Yng Nghymru, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae cyllideb eich Llywodraeth yn wynebu bwlch ariannol sylweddol yn sgil chwyddiant, mae gostyngiad o 7 y cant yn incwm gwario aelwydydd, a hefyd biliau ynni sy'n cynyddu eto, a threthi uwch. Allwch chi ddweud wrthym ni, plis, sut byddwch chi'n cydbwyso'r angen i gynnal gwasanaethau gyda'r angen i gefnogi pobl sy'n wynebu caledi difrifol? Gydag arian mor dynn, a fyddwch chi'n blaenoriaethu'r bobl fwyaf bregus wrth lunio'r gyllideb, i geisio atal cymaint o ddioddef a chymaint o farwolaethau ag sy'n bosibl?

Diolch. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dryloywder a lle mae'r bai. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Gyda Llywodraeth y DU, rydym ni wedi cael degawd o gyni, ac erbyn hyn rwy'n credu bod hyn hyd yn oed yn waeth na'r elfennau o gyni a gyflwynon nhw dros y degawd diwethaf. Mae'r DU mewn dirwasgiad dwfn, ac mae incwm aelwydydd yn gostwng ar raddfa anhygoel o gyflym. Beth wnaeth y Canghellor yr wythnos diwethaf? Roedd newydd gyflwyno anfoneb i ni am fethiant Llywodraeth y DU i reoli'r economi a chyllid cyhoeddus dros y 12 mlynedd diwethaf. Rydym ni wedi cael y chwyddiant uchaf mewn 40 mlynedd. Rydym wedi cael y baich treth uchaf mewn 70 mlynedd. Mae hyn mor ddifrifol, a chredaf ei bod yn holl bwysig bod hynny'n cael ei gyfleu i'n hetholwyr.

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn a ddywedodd y Canghellor oedd ei fod eisiau rhoi cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed, ond rwy'n credu bod yna bryder gwirioneddol nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Dyna pam y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu. Soniais mewn atebion cynharach ein bod, yn amlwg, yn edrych ar ein cyllideb ddrafft, a fydd yn cael ei chyhoeddi fis nesaf. Rydym wir yn ystyried manylion datganiad yr hydref yn ofalus, a gallaf sicrhau pawb yn y Siambr hon y byddwn, fel Llywodraeth Cymru, yn parhau i flaenoriaethu ein cyllidebau i warchod y rhai mwyaf agored i niwed a chynnal ein hymrwymiad i'r Gymru gryfach, decach, wyrddach honno.

14:10

Gweinidog, mae fy etholwyr eisoes yn ei chael hi'n anodd fforddio talu eu biliau—nid dim ond pobl ar incwm isel ond ar incwm canol hefyd. Mae rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i ddatganiad yr hydref, yn nodi y bydd y ddwy flynedd nesaf yn gweld y cwymp mwyaf mewn incwm aelwydydd ers cenedlaethau. Bydd mwy na hanner yr aelwydydd ar eu colled ar ôl datganiad yr hydref. Bydd teuluoedd Prydain yn colli 7.1 y cant o'u hincwm gwario. Eleni, byddwn yn gweld y cwymp mwyaf mewn incwm gwario real y pen ers diwedd y 1940au. Nid yw'r flwyddyn nesaf gymaint â hynny'n well; byddwn yn gweld yr ail gwymp mwyaf ar gofnod. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru'n parhau i annog Llywodraeth y DU, yn y ffordd gryfaf, i fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng incwm aelwydydd a chostau byw, sy'n dinistrio bywydau ar draws y DU, neu, a dweud y gwir, i gamu o'r neilltu a gadael i Lywodraeth Lafur, a fydd yn mynd i'r afael â hyn ddod i rym cyn gynted â phosibl?

Yn bendant. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i wthio'r pwyntiau hynny a wnaethoch chi. Yn syml, maen nhw'n niferoedd syfrdanol yn adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hwnnw y cyfeirioch chi atyn nhw. Bydd incwm gwario real aelwydydd fesul person yn gostwng mwy na 7 y cant dros y ddwy flynedd nesaf, fel y dywedoch chi, a dyna'r cwymp mwyaf erioed. Mae incwm nawr yn mynd i lawr i lefelau 2013—naw mlynedd yn ôl. Soniais ein bod eisoes mewn dirwasgiad dwfn. Mae'r sioc yn sgil chwyddiant a gawsom ers y mis diwethaf yn amrywio rhwng gwahanol fesurau. Datguddiad ysgytwol arall a welais oedd bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd wedi datgan y rhagwelir y bydd y DU yn cael y perfformiad twf gwaethaf yn y G20 dros y ddwy flynedd nesaf, ac eithrio Rwsia. Mae'n anhygoel. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn parhau i gael y trafodaethau hynny ac, fel y dywedais i, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion datganiad yr hydref wrth i ni baratoi i gyflwyno ein cyllideb ddrafft fis nesaf.

Wrth gwrs, byddwn yn trafod datganiad yr hydref ychydig yn ddiweddarach, ac fe fydd cyfraniad gennyf yno, gobeithio. Ond mae'n cynnwys rhywfaint o gefnogaeth i gymunedau, sydd i'w chroesawu'n fawr yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol, trwy bolisïau fel y cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog, a chynnydd i bensiynau a budd-daliadau. Does dim syndod nad ydym wedi clywed unrhyw gyfeiriad at y rhain yn y Siambr heddiw hyd yn hyn.

Yn Lloegr, bydd y datganiad yn darparu £1 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y gronfa gymorth i aelwydydd. Bydd hyn yn golygu y bydd Cymru'n cael cyfran Barnett o'r arian canlyniadol hwnnw, gyda thua £158 miliwn ar gael i'r Llywodraeth ddatganoledig. Yng Nghymru, mae gennym y gronfa cymorth dewisol, sy'n rhoi cymorth mawr ei angen i bobl mewn cyfnod o drafferthion ariannol. Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, Gweinidog, mae'r pwysau chwyddiant presennol a phroblemau costau byw wedi golygu bod mwy o bobl mewn perygl o ddioddef trafferthion ariannol. Fodd bynnag, dim ond dewis i bobl ar fudd-daliadau penodol yw'r gronfa cymorth dewisol ar hyn o bryd, sy'n golygu y gallai'r rhai sydd angen cymorth fethu â chael cymorth ariannol. A fydd y Llywodraeth yn ystyried defnyddio symiau canlyniadol Barnett yn sgil cyhoeddi'r gronfa gymorth i aelwydydd er mwyn rhoi hwb pellach i gyllid ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, gan alluogi ehangu'r meini prawf cymhwysedd, fel y gall mwy o bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt?  

Diolch. Fel y soniais mewn atebion cynharach, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol—yn amlwg, Llywodraeth Cymru gyfan—yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion y cyllid a ddyrannwyd i ni yr wythnos diwethaf, wrth i ni baratoi i gyflwyno'r gyllideb ddrafft.

O ran y gronfa cymorth dewisol, rwy'n cytuno â chi—mae'n gronfa ardderchog. Mewn gwirionedd mae'r swyddfeydd wedi'u lleoli yn fy etholaeth fy hun yn Wrecsam ac rwyf wedi gwrando ar alwadau ar sawl achlysur, a gallwch weld pa mor anobeithiol yw pobl. Ond dywedaf fod y Canghellor wedi colli rhai cyfleoedd da iawn yr wythnos diwethaf i helpu pobl o aelwydydd incwm isel. Gallai fod wedi diddymu'r cap budd-dal yn llwyr, ynghyd â'r terfyn dau blentyn, er enghraifft. Mae yna rai polisïau Adran Gwaith a Phensiynau llym iawn y gellid bod wedi eu rhoi o dan y chwyddwydr mewn gwirionedd. 

14:15

Prynhawn da, Gweinidog. 

Diolch hefyd i Delyth am godi'r mater yma.

Roeddwn i wir eisiau ymateb i rywbeth a ddywedoch chi wrth ymateb i Delyth, sy'n ymwneud â gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hynny yn sgil yr hyn sydd yn y bôn yn benderfyniad cyllideb anodd iawn gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn i eisiau codi'r mater o wasanaethau amddiffyn plant a chymaint y maen nhw o dan bwysau. Felly, tybed a wnewch chi wneud sylw ynghylch y sefyllfa o ran amddiffyn plant, gweithwyr cymdeithasol a'r gwasanaethau hynny, y mae angen eu hariannu'n dda er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod. A wnewch chi wneud sylw ar hynny, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn sydd, yn ei hanfod, yn doriadau a osodwyd arnom gan San Steffan? Diolch yn fawr iawn. 

Ni allaf ddweud unrhyw beth yn benodol ynghylch sut y byddwn yn ariannu gwasanaethau amddiffyn plant wrth symud ymlaen. Fel y dywedais i, byddwn yn edrych yn gyffredinol ar sut yr ydym yn defnyddio'r cyllid a ddyrannwyd i ni yr wythnos diwethaf, ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch targedu cymorth i'r gwasanaethau cyhoeddus mwyaf agored i niwed a blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus—mae hynny'n anghenraid llwyr, a dyna'r hyn, fel Llywodraeth, yr ydym ni wastad wedi ceisio ei wneud. Er enghraifft, rydym wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn cynlluniau dros y flwyddyn ddiwethaf i ddarparu cefnogaeth uniongyrchol i bobl, y taliad cymorth tanwydd gaeaf, er enghraifft, ac fe glywsoch chi fi mewn ateb cynharach yn sôn am fynediad at Grant Amddifadedd Disgyblion, ac rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol i hwnnw. Yn amlwg, mae prydau ysgol am ddim yn faes arall lle yr ydym ni'n ceisio helpu teuluoedd gyda'r gost o ddarparu ar gyfer eu plant sy'n mynd i'r ysgol.

A gaf i ofyn i chi, Gweinidog—? Rydych chi'n angharedig, rwy'n credu ynghylch datganiad hydref Llywodraeth y DU. Rydych chi'n gwybod yn iawn, mae pob un ohonoch chi ar y meinciau yna yn gwybod yn iawn, bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyllideb fwyaf erioed. Mae'n gyllideb sy'n torri record, ac mae'n mynd i gynyddu dros y ddwy flynedd nesaf. Fe gawson ni ddatganiad yr hydref a oedd yn amddiffyn y clo triphlyg ar bensiynau, a oedd yn cynyddu budd-daliadau pobl ar raddfa chwyddiant, a oedd yn gwarchod y gyllideb ar gyfer ein hysgolion, a hefyd, wrth gwrs, a fuddsoddodd mwy o arian i'n gwasanaeth iechyd gwladol. Nawr, rwy'n gwybod bod hanes eich Llywodraeth ar ariannu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn warthus—yr unig Lywodraeth yn y DU gyfan i dorri cyllideb y GIG erioed—ond a fyddwch chi'n ymrwymo heddiw i gynyddu cyllideb y GIG mewn termau real fel y mae Llywodraeth y DU yn Lloegr yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf?

Nid wyf yn mynd i wneud unrhyw ymrwymiadau gwario heddiw. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud sawl gwaith y prynhawn yma mai penderfyniadau dan arweiniad y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol fydd y rhain, ond yn cael eu cymryd ar draws y Llywodraeth gyfan wrth i ni weithio tuag at gyhoeddi ein cyllideb ddrafft fis nesaf.

Dydw i ddim yn credu fy mod i wedi bod yn angharedig o gwbl. Rwy'n credu fy mod i wedi bod yn glir iawn. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Delyth Jewell yn gynharach am fod yn dryloyw yn bwysig iawn. Rwyf newydd ddweud sut y mae pethau, sef bod ein setliad cyffredinol dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd yn werth llai mewn termau real nag yr oedd adeg yr adolygiad gwariant y llynedd. Nawr, mae hynny'n ffaith. Gallwch ddweud 'dyma ni eto'—mae hynny'n ffaith. Byddwn yn cael, fel y dywedwch, £1.2 biliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf—nid eleni, sef y ddwy flynedd nesaf. Ond ni fydd ein cyllideb gyffredinol yn 2024-25 yn uwch—dim uwch—mewn termau real nag yn y flwyddyn bresennol, a bydd ein cyllideb gyfalaf 8.1 y cant yn is. Mae chwyddiant, sy'n 11.1 y cant, wedi erydu ein cyllideb i lefelau pryderus iawn, ac wrth gwrs mae hynny wedyn yn cael effaith ar awdurdodau lleol ac mae'n cael effaith ar ein GIG. Maen nhw'n adrodd diffygion sylweddol o ganlyniad i chwyddiant, pwysau cyflog, ac, wrth gwrs, y costau ynni cynyddol, ac rwy'n ofni bod datganiad y Canghellor yr wythnos diwethaf wedi methu â mynd i'r afael ag unrhyw un o'r rheini. 

Nawr, rwy'n siŵr y bydd eich etholwyr wedi clywed eich canmoliaeth i Lywodraeth y DU, a gallant ffurfio eu barn eu hunain. 

14:20
Fferm Gilestone

7. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r tir ar Fferm Gilestone ar wahân i'r brydles arfaethedig ŵyl y Dyn Gwyrdd? OQ58744

Member
Lesley Griffiths 14:20:09
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Mae modd ystyried holl asedau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu unrhyw agenda polisi. Ar hyn o bryd mae fferm Gilestone yn cael ei rheoli'n briodol er mwyn sicrhau bod yr ased yn cael ei gynnal tra bod trafodaethau ar ddyfodol tymor hir y safle yn dod i ben.

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am eich ateb. Mae pryder enfawr yn fy ardal i ynghylch Lywodraeth Cymru yn prynu fferm Gilestone am £4.25 miliwn a'r diwydrwydd dyladwy o amgylch hynny, a'r defnydd posibl o dir ar gyfer yr ardal honno yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, rwy'n ymwybodol eich bod chi'n trafod gyda pherchnogion gŵyl y Dyn Gwyrdd, ond hoffai pobl leol i mi gynnig ateb arall i Lywodraeth Cymru o ran yr hyn y gallai'r tir yna gael ei ddefnyddio ar ei gyfer, a hoffwn i chi ei gymryd o ddifrif.

Mae angen coleg amaethyddol ar dde Powys oherwydd yr amseroedd teithio hir y mae'n rhaid i bobl yn fy etholaeth i fynd i gael y ddarpariaeth honno. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud wrth fudiad nad oedd safle priodol i goleg amaethyddol yn ne Powys, ond nawr mae gan Lywodraeth Cymru fferm Gilestone, ac rwy'n credu, ac mae llawer o bobl eraill yn credu, y byddai hwnnw'n lle perffaith ar gyfer coleg amaethyddol. Mae cefnogaeth i hyn gan bobl leol, mae cwmnïau lleol yn ei gefnogi, a dywedodd darparwr addysg y bydden nhw'n ei gefnogi hefyd. Ac mae hynny'n golygu y gallai'r tir hwnnw gael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio ac i helpu'r cenedlaethau nesaf o ffermwyr ifanc. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru cyfarfod â mi ac eraill i fwrw ymlaen â'r cynnig hwn, oherwydd rydym ni i gyd yn credu bod hynny'n well defnydd ar gyfer y tir hwnnw, heblaw am ei ddefnyddio ar gyfer gŵyl?  

Gwnaethoch chi sôn bod trafodaethau yn parhau gyda'r Dyn Gwyrdd, felly os, ar ddiwedd y trafodaethau hynny, y penderfynir peidio â bwrw ymlaen â'r cynnig, bydd amcanion polisi eraill yn cael eu harchwilio ar gyfer defnyddio'r safle, neu mae modd ystyried y safle i'w werthu ar y farchnad agored. A dyna fyddai'r amser wedyn i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. 

Gwasanaethau Cyhoeddus

8. Sut mae blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru wedi helpu gwasanaethau cyhoeddus i adfer o effeithiau'r pandemig? OQ58746

Member
Lesley Griffiths 14:22:05
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Fel sydd wedi'i nodi yn ein cyllideb 2022-23, ein blaenoriaeth ni oedd defnyddio pob ysgogiad posibl i gyflawni ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, darparu'r sylfeini ar gyfer ein hadferiad pandemig ar ôl COVID-19, a symud ymlaen tuag at Gymru gryfach, decach a gwyrddach. 

Diolch am eich ateb, Gweinidog. Mae effeithiau dinistriol y pandemig yn parhau, yn anffodus, i gael eu teimlo gan wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Byddai'n rhesymol tybio, felly, y bydd eich Llywodraeth yn cymryd pob cyfle i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i adfer. Ond yn ddiweddar bu cyfarfod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 bod yna danwariant o £526 miliwn wedi bod. O ganlyniad, bu'n rhaid dychwelyd £155 miliwn o gyllid a gafodd ei ddyrannu i Gymru i'r Trysorlys. Bob wythnos yn y Senedd, Gweinidog, rydym ni'n clywed am y Llywodraeth hon yn beio'u methiannau ar ddiffyg cyllid gan San Steffan, ac eto, mae'n amlwg nad ydych chi'n gwario'r arian sydd eisoes wedi'i roi i chi. Felly, a ydych chi'n cytuno, Gweinidog, bod hyn yn warthus eich bod chi wedi dychwelyd £155 miliwn i'r Trysorlys, pan fo ein hysbytai, ysgolion a chynghorau lleol yng Nghymru o dan bwysau ariannol difrifol? Diolch.

Nid oes gennyf i fanylion y £155 miliwn yna, felly nid wyf yn gwybod a fyddai modd ei wario ar ysgolion neu iechyd. Mae yna wahanol gyllidebau, mae yna wahanol reolau a rheoliadau. Yn anffodus nid oes gennyf i'r manylion i gytuno â'ch sylwadau. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd unwaith eto sy'n gwneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths, felly. 

Member
Lesley Griffiths 14:23:39
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Does dim newidiadau i'r busnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.  

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am addysg ynglŷn â chymorth i fyfyrwyr yn ystod y pwysau costau byw presennol? Rwyf i wedi codi hyn yn y gorffennol, ond nid wyf i wedi gweld datganiad ar y pwnc. Fel y gwyddoch chi, mae gan fyfyrwyr ar hyn o bryd—pob myfyriwr—hawl i grant o £1,000 y flwyddyn tuag at eu costau byw. Mae hynny'n swm sydd wedi'i osod ers 2017, sydd erioed wedi cynyddu gyda chwyddiant, ac, i bob pwrpas, mae wedi cael ei dorri mewn termau gwirioneddol nawr gan fwy na 17 y cant. Yn ogystal â hynny, mae trothwyon incwm yr aelwyd lle mae'n rhaid i bobl wneud cyfraniad tuag at eu costau byw a'u dysgu wedi aros yn £18,370, ac nid yw wedi cynyddu yn unol â chwyddiant, sy'n golygu bod llawer mwy o bobl nawr yn gorfod talu am aelod o'r teulu a allai fod yn mwynhau'r fraint o addysg uwch. Allwch chi ddweud wrtha i—? Mae'n bryd i'r lefelau hyn gael eu codi. Rwy'n credu bod hwn yn amser priodol i wneud hynny, o ystyried y pwysau costau byw, a hoffwn i ddatganiad gan y Gweinidog ar y pwnc hwn.

14:25

Diolch. Mae gennym ni'r gefnogaeth fwyaf blaengar i fyfyrwyr yn y DU, a bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad yn fuan iawn.

Trefnydd, mae tîm Cymru wedi llwyddo i uno'n cenedl, ac mae papurau newydd ar draws y byd yn adrodd ein stori ni. Mae hyd yn oed The Washington Post wedi cynnwys erthygl ar y tîm ac 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan, sydd heb ei ail. Er hynny, mae'n destun cywilydd i FIFA fod y twrnamaint yn digwydd yn Qatar. Rwy'n falch bod tîm Cymru wedi bod mor agored yn rhannu gwerthoedd Cymru â'r byd, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon helpu i sicrhau bod gwaddol Cwpan y Byd yng Nghymru yn un cadarnhaol. Felly, hoffwn i ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu sut y bydd hynny'n digwydd. Sut allwn ni ddatblygu llwyddiant rhyfeddol 'Yma o Hyd'  o ran y cyfle i fanteisio ar y Gymraeg ac ymgysylltu â hi? Sut gall ein llwyddiant ym myd chwaraeon drosglwyddo i'r gêm ar lawr gwlad, a sut gallwn ni sicrhau bod Cymru yn ddiedifar yn dod yn wlad hyd yn oed yn fwy cynhwysol, cyfartal, ac yn hynod falch o fod felly ar ôl y twrnamaint hwn? Sut gallwn ni sicrhau y bydd casineb yn cael ei wrthod â chariad a balchder at bawb sy'n byw yng Nghymru? Rwy'n codi hyn oherwydd bod etholwyr wedi ysgrifennu ataf i fynegi eu pryder.

Diolch, ac yn sicr mae'n gyfle anhygoel, on'd ydy? Rydw i aros trwy gydol fy holl fywyd—ac rydw i lawer yn hŷn na chi—i weld Cymru yn rownd derfynol Cwpan y Byd. Ac, wyddoch chi, mae'n gynulleidfa fyd-eang—5 biliwn o bobl—felly mae'n wir yn gyfle enfawr. A gwnaethom ni drafod, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, y tro pedol munud olaf gwarthus gan FIFA o ran y band braich OneLove. Ond rwy'n credu ei fod yn gyfle enfawr i ni, a dyna pam, fel Llywodraeth, fod y Prif Weinidog ar ei ffordd yn ôl o Qatar ar hyn o bryd, lle rwy'n  gwybod ei fod wedi cael cyfres o gyfarfodydd am yr hyn y gallwn ni ei wneud gan Lywodraeth Cymru, er mwyn annog busnesau i ddod yma, er enghraifft. Bydd Gweinidog yr Economi yn Qatar yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi yn rhoi datganiadau ysgrifenedig i ni ar y teithiau y maen nhw wedi'u cael a'r bobl â phwy y maen nhw wedi'u cwrdd, yn ogystal â sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r llwyfan byd-eang hwnnw mewn ffordd nad ydym ni wedi'i gael am flynyddoedd lawer gan ein tîm pêl-droed dynion Cymru gwych.

Trefnydd, a gaf i ofyn am eich diweddariad blynyddol ar raglen dileu TB Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda? Cafodd hwn ei gynnal ddiwethaf ar 16 Tachwedd y llynedd, ac fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae TB mewn gwartheg wedi bod yn llinyn negyddol parhaus ledled amaethyddiaeth Cymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gan achosi poen a loes calon enfawr i ffermwyr Cymru. Gyda'r ffair aeaf—ffair aeaf Frenhinol Cymru—yr wythnos nesaf, byddai heddiw wedi bod yn gyfle da a delfrydol i ddod â'r datganiad blynyddol hwn i lawr y Siambr hon, fel y gallwn ni fel Aelodau, a'r gymuned ffermio ehangach, graffu arnoch chi a chyflawniad eich Llywodraeth ar ddileu TB. Felly, a gaf i ofyn i'ch rhaglen dileu TB flynyddol gael ei chyflwyno cyn toriad y Nadolig, er mwyn iddo barhau i fod yn flynyddol?

Diolch. Fel y dywedoch chi, roedd fy un olaf ym mis Tachwedd y llynedd, ac roeddwn i wedi gobeithio gallu'i wneud ym mis Tachwedd eleni. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae cwpl o resymau pam nad ydw i wedi gallu ei gyflwyno yr wythnos hon. Un o'r prif resymau—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ei werthfawrogi'n llwyr—yw mai'r un swyddogion sy'n gweithio ar ddileu TB sy'n gorfod ymdrin â'r achosion ym ymwneud â ffliw adar, felly mae hynny wedi rhoi llawer o bwysau ar fy swyddogion i. Rydw i hefyd yn disgwyl—fel y gwyddoch, chi, sefydlais i grŵp cynghori penodol o ran TB—ond rydw i eisiau—. Nid datganiad dileu TB blynyddol yn unig yr oeddwn i eisiau'i wneud; roeddwn i eisiau adnewyddu'r rhaglen hefyd, felly mae'n ddarn mwy o waith. Ond rydw i eisiau eich sicrhau chi y byddaf i'n ei gyflwyno cyn gynted ag y gallaf i.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu lafar, pa un bynnag sydd yn fwy priodol, ar hynt Big Bocs Bwyd a sut mae'n rhyngweithio â sefydliadau cymunedol lleol hefyd sy'n darparu bwyd i'r rhai sydd ei angen? Mae nifer o sefydliadau wedi dod ataf i, gan fynegi pryder bod diffyg cydlynu, sydd yn y pen draw wedi arwain at nifer o sefydliadau yn cystadlu am yr un cyllid a bwyd o fewn yr un ardal. Yn y pen draw, mae hyn ar draul y nod ar y cyd o gefnogi ein cymunedau, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno y bydd sicrhau gwell cydlynu yn gwasanaethu'n well yr union bobl y mae'r gefnogaeth hon yn bwriadu eu helpu.

14:30

Gwnaf, yn sicr, fe wnaf i siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a gweld os gwnaiff hi gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi gwneud llawer iawn o waith, ac yn sicr, rydym ni'n ymwybodol o, yn amlwg, Big Bocs Bwyd. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad oes gennym ni ddyblygu, felly, yn amlwg, mae angen cydlynu sefydliadau yn well, ond fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig. 

Gweinidog, yr wythnos diwethaf, gofynnais i am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd ar yr uwchgynhadledd canser, a gafodd ei chynnal dros fis yn ôl. Mae diffyg ymrwymiad gan y Llywodraeth i ddarparu datganiad cynhwysfawr o'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn achosi rhywfaint o bryder i mi. Penderfynodd yr uwchgynhadledd canser, pan fo'n bosibl, y dylai byrddau iechyd weithredu llwybrau syth-i-brofion a sefydlu clinigau diagnostig un stop. Bydd hyn yn lleihau'r angen am glinigau cleifion allanol, ac yn lleihau hyd yr amser yn y llwybrau diagnostig. Yn dilyn yr hyn sydd wedi'i ddisgrifio fel uwchgynhadledd sylweddol, ddigynsail, pa gamau a gweithgarwch brys sydd wedi'u cynnal, ac ym mha ffyrdd y mae byrddau iechyd yn newid eu ffyrdd o weithio i gyflawni'r ymrwymiadau sydd wedi'u hamlinellu, ac a wnaiff y Gweinidog nawr drefnu datganiad yn y Cyfarfod Llawn?

Diolch. Wel, rwy'n ymwybodol y daeth nifer o gamau o'r uwchgynhadledd canser y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ystyried ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr, pan fydd y darn hwnnw o waith wedi'i wneud, y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig. 

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd ar newidiadau i wasanaeth ambiwlans Cymru a beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol ar gyfer cleifion. Dros y penwythnos, cysylltodd nifer o etholwyr â fi yn pryderu am y newidiadau sydd bellach yn cael eu gweithredu i wasanaeth ambiwlans Cymru, a dim cerbydau ymateb cyflym nawr yn gweithredu o'r Gelli yn y Rhondda. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn rhan o newidiadau ehangach i'r defnydd o wasanaethau Cerbydau Ymateb Cyflym ledled Cymru.

Ond, dim ond neithiwr, cysylltodd etholwr â mi a oedd taer angen ambiwlans ar gyfer perthynas oedd dros 80 oed ac a oedd wedi syrthio yn y gawod, gan dorri ei ffêr, gan ei adael mewn gwewyr llwyr. Ffonion nhw am ambiwlans am 2 pm; cyrhaeddodd am 12.30 yn oriau mân y bore yma, a'r person yn dirywio, ac mae ffawd y person hwnnw'n ansicr ar hyn o bryd. Unwaith eto mae perthnasau wedi bod ar y ffôn y bore 'ma yn gofyn ydy hi'n ddiogel erbyn hyn i ffonio am ambiwlans pan na allwch chi fynd â pherson i'r ysbyty eich hun, ac yn ei gysylltu â'r newidiadau yn y cerbydau ymateb cyflym yn y Rhondda yn benodol, ac yn effeithio ar ardaloedd cyfagos. 

Pa sicrwydd ydyn ni'n gallu rhoi i gleifion y byddan nhw'n cael y driniaeth frys honno, yn hytrach na chael eu gadael mewn gwewyr am oriau?

Wel, rwy'n hynod bryderus o glywed am eich etholwr; nid oes neb eisiau ffonio am ambiwlans a theimlo na fydd yr ambiwlans yn ymateb. Felly, gallaf i ddweud ein bod ni wedi cyflwyno 74 ambiwlans newydd, er enghraifft; gwnaethoch chi gyfeirio at oedran ambiwlans. Felly, mae'r sicrwydd hwnnw a'r hyder hwnnw i etholwyr, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog, dim ond yr wythnos diwethaf, wedi cwrdd â'r ymddiriedolaeth ambiwlans i siarad am eu hymateb perfformiad—eu perfformiad ymateb—mae'n ddrwg gen i, rwy'n cael fy ngeiriau yn y drefn anghywir. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddiogel dweud nad dyna yw lle y mae, ond mae'r Gweinidog yn cyflwyno ychydig o fentrau—ac fe wnes i grybwyll yr ambiwlansys newydd—i helpu i wella'r mater fel mater o frys. 

Hoffwn i'n fawr gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar nifer yr achosion o ryddhau'n anniogel o'r ysbyty. Fe wnaf ddatgan buddiant ar y pwynt hwn oherwydd mae'r enghraifft hon rwy'n mynd i'w rhoi nawr yn cynnwys perthynas teuluol agos iawn 98 oed. 

Bythefnos yn ôl, dioddefodd y perthynas hwn o ganlyniad i ddamwain car ac fe'i cymerwyd i'r ysbyty, a gwnaeth ddioddef ysgwydd wedi'i thorri a phroblemau symudedd eraill o ganlyniad i'r ddamwain hon. Ddoe, heb unrhyw rybudd felly, cafodd y person hwnnw ei gymryd adref amser cinio ddoe gan yr ambiwlans. Dim darpariaeth gofal ar waith o gwbl, a dim ond pan yr oeddwn i ar fy ffordd yma i Gaerdydd, ychydig cyn 5 o'r gloch, y cefais wybod bod y person hwnnw wedi bod yn eistedd mewn cadair, yn amlwg heb fwyd, diodydd na'r gallu i fynd i'r tŷ bach. Ffoniais i gael gwybod bod y pecyn gofal yn dechrau'r diwrnod canlynol ac nad oedd gennyf i ddim byd i boeni yn ei gylch. Wedyn ffoniais i'r ysbyty, a oedd yn methu dweud wrthyf i pa ofal oedd yn mynd i fod. Yn fyr, fe wnes i ffonio gymaint o bobl yr oeddwn i'n eu nabod neithiwr, a llwyddon ni i gael rhywfaint o gymorth, tua 7.30 p.m. Felly, roedd yr unigolyn hwnnw wedi bod yn eistedd mewn cadair am saith awr. Cefais wybod neithiwr fod hwn yn achos o ryddhau'n anniogel ac nad oedd yn brin, bod hyn yn digwydd yn rhy aml—a daeth hyn gan rywun yn gweithio o fewn y ddarpariaeth honno. Dyma pam y byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai'r Gweinidog iechyd, ac yn wir y Gweinidog gofal cymdeithasol, mor garedig â rhoi datganiad. Eisteddais i yma yn ystod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, lle roedd y math hwn o beth yn mynd i ddod i ben—roedd iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd i fod yn fwy cydgysylltiedig. Nid oes unrhyw feddwl cydgysylltiedig, yn sicr, yn yr achos o ryddhau'n anniogel a effeithiodd ar fy mherthynas teuluol. Ond, fel rhywun sy'n cynrychioli nifer fawr o etholwyr oedrannus, rwyf i eisiau gweld gwarantu na fydd hyn yn digwydd eto i naill ai fy etholwr i, neu yn wir etholwyr unrhyw un o'r Aelodau sy'n eistedd yma. Diolch.

14:35

Diolch. Ac eto, rwy'n bryderus iawn o glywed am brofiad aelod o'ch teulu. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod gennym ni broblemau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol—fe wnaethom ni siarad amdanyn nhw yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog. Ac rydym ni wedi colli nifer enfawr, nifer sylweddol, o weithwyr gofal cymdeithasol, wrth symud ymlaen, ac mae angen i ni gael y llif hwnnw o iechyd i ofal cymdeithasol i wella. Nid yw'n unigryw i Gymru. Rwy'n gwybod nad yw hynny'n gysur i'r aelod o'ch teulu chi, ond mae'n rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio arno.

Rydym ni wedi clywed eisoes heddiw, wrth gwrs, llawer o gyfeiriadau at hanes cwbl annerbyniol Qatar ar hawliau dynol, wedi'i adlewyrchu yn y ffordd y mae llawer o gefnogwyr pêl-droed wedi cael eu trin yn ystod y 24 awr ddiwethaf. Mae achosion cam-drin hawliau dynol sy'n digwydd gan Lywodraeth Iran, wrth gwrs, yn rhai y mae'n rhaid i ni hefyd dynnu sylw atyn nhw a'u condemnio, ac, o ystyried bod Cymru yn chwarae Iran ddydd Gwener, ac o ystyried nawr nad yw pêl-droedwyr Cymru yn gallu gwneud eu safiad eu hunain, mae'n fater i bob un ohonom ni wneud safiad ar eu rhan, ac ar ran y dynion, menywod a phlant yn Iran sy'n cael eu herlid a'u lladd gan y drefn wrthun yn y wlad honno. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru, cyn y gêm ddydd Gwener, gyhoeddi datganiad diamwys yn condemnio Llywodraeth Iran am ymyrryd â hawliau dynol, am erlyn lleiafrifoedd yn systematig, ac am eu defnydd cynyddol o garcharu ar fympwy, diflaniadau gorfodol, ac, wrth gwrs, y gosb eithaf? A wnewch chi, fel Llywodraeth Cymru, y safiad hwnnw?

Diolch. Roeddwn i'n meddwl bod tîm pêl-droed Iran yn hynod o ddewr yn eu sylwadau a'u datganiadau yn eu cynhadledd i'r wasg yn dilyn—rwy'n credu mai ar ôl y gêm ddoe ydoedd, neu cyn. Yn sicr, fe wnaf i siarad gyda, rwy'n credu mai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fyddai hi, ynglŷn â'ch cais.

Gawn ni gyhoeddiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi ynghylch pa gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau sy'n canfod eu hunain mewn trafferthion ariannol? Mae yna gyflogwyr cymharol fawr bellach mewn cyswllt efo nifer ohonom ni yn sôn am eu pryderon eu bod nhw am orfod rhoi eu gweithlu ar y clwt yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf yma. Hyd yma, does yna ddim cymorth ariannol go iawn wedi cael ei gynnig gan y Llywodraeth yma. Mae'n ymddangos fel nad oes yna ddealltwriaeth gan y Llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa i nifer ohonyn nhw. Nid cyngor hir dymor sydd ei angen ar y busnesau yma, ond pres—pres i'w helpu efo'u cash flow nhw yn y tymor byr, a dydyn nhw ddim yn gwybod at bwy y mae troi. Felly, byddai cyhoeddiad o ba gymorth sydd ar gael a lle y dylai'r bobl yma droi yn ddefnyddiol iawn i fusnesau Cymru ar hyn o bryd. Diolch.

Wel, rydw i'n anghytuno'n ddirfawr, nad ydych chi'n credu bod dealltwriaeth yn Llywodraeth Cymru o'r anawsterau a'r heriau y mae ein busnesau ni'n eu hwynebu—wrth gwrs ein bod ni, ac mae Busnes Cymru yno i ddarparu'r gefnogaeth honno. Ond, fel yr wyf i wedi'i ddweud sawl gwaith yn yr awr ddiwethaf, nid yw ein setliad ariannol ni'n caniatáu i ni roi symiau enfawr o gyllid. Ond rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, ac yn sicr, o ran costau ynni, rwy'n credu bod nifer sylweddol o fusnesau wedi cysylltu â Gweinidog yr Economi. Felly, os oes unrhyw beth arall y gall ef ei wneud, bydd y cymorth hwnnw ar gael drwy Busnes Cymru.

14:40

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y prynhawn yma ynglŷn â'r ardoll gosod ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn sir Ddinbych yn benodol? Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i wedi cysylltu â mi yn ddiweddar sydd, a dweud y gwir, wedi'u harswydo gan y 50 y cant ychwanegol o ardoll y dreth gyngor ar eu heiddo ac yn teimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag buddsoddi yn yr ardal. Maen nhw, a minnau, yn credu bod y trothwy 182 diwrnod yn llawer rhy uchel ac yn afrealistig o'r realiti. Yn fy amser byr hyd yma fel Aelod o'r Senedd rydw i ond wedi dod ar draws un person yn fy etholaeth i a wnaeth gyflawni'r trothwy, am flwyddyn yn unig, yn 2012, a gallech chi ddadlau bod hwnnw'n haf anarferol, oherwydd y tywydd poeth, Gemau Olympaidd Llundain ac Euro 2012. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog yn esbonio pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych am yr ardoll hon a fy sicrhau i a fy etholwyr fod sir Ddinbych ar agor i fusnes ac y gall pobl leol deimlo'n ddiogel wrth fuddsoddi yn eu heiddo? Diolch.

Rwy'n credu bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cael ei graffu arno droeon ar y polisïau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, felly nid ydw i'n credu bod angen datganiad arall.

A gaf i wneud cais am gyfres rheolaidd o ddatganiadau ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei wneud i gryfhau ac ailagor Pont y Borth? Dwi wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog heddiw yma. Rydyn ni yn clywed bod gwaith i ddechrau yn fuan ar y bont. Rydyn ni yn clywed bod y bont i ailagor efo cyfyngiad pwysau yn fuan yn y flwyddyn newydd. Rydyn ni'n clywed bod yna faterion yn cael eu hystyried ar gyfer lliniaru traffig. Rydyn ni'n clywed am faterion yn cael eu hystyried o ran cefnogi busnes. Ond rydyn ni angen cyfathrebu efo pobl yn glir ynglŷn â beth yn union sy'n digwydd a pha bryd. A gaf i ofyn i'r Llywodraeth adeiladu i mewn i'w hamserlen nhw ddatganiadau cyson er mwyn cyfathrebu efo pobl sy'n byw yn Ynys Môn ac ardal y Fenai ynglŷn ag union natur y gwaith ac amserlen y gwaith i symud tuag at ailagor y bont yma?

Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn y Nadolig.

3. Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022

Rydych chi wedi bod yn dri am bris un y prynhawn yma. Rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog, rydych chi wedi bod yn Drefnydd, ac nawr rydych chi ar fin bod yn Weinidog materion gwledig. Gofynnaf i chi gynnig y rheoliadau ar daliadau amaethyddol—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM8133 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 14:42:39
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd, ac rwy'n dymuno cynnig y cynnig hwn. Mae hwn yn offeryn statudol cyfansawdd i gynyddu'r ffi statudol rhagnodedig y ceir ei chodi gan awdurdod proffesiynol ar gyfer penodi cymrodeddwr annibynnol i ddatrys anghydfodau neu i wneud cofnodion penodol o ran tenantiaethau amaethyddol wedi'u llywodraethu gan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. Nid yw'r ffi bresennol, sef £115, wedi'i diweddaru ers 1996, ac nid yw hi nawr yn talu'r gost o ddarparu'r gwasanaeth apwyntiadau. Bydd y rheoliadau'n cynyddu'r ffi i £195, yn unol â chwyddiant, a gofynnir i'r Senedd gytuno i'r rheoliadau.

Hoffwn i gymryd y cyfle heddiw dim ond i godi ychydig o bryderon ynghylch y rheoliadau sydd wedi'u gosod ger ein bron. Fel yr eglurodd y Gweinidog, nid yw'r ffi y ceir ei chodi ar gyfer penodi cymrodeddwr annibynnol wedi'i diweddaru ers 1996, felly cynigir ei chodi o £115 i £195. Er nad ydym ni'n sôn am lawer iawn o arian yma, mae'n dal i fod yn gynnydd o ganran enfawr, yn enwedig ar adeg o gostau mewnbwn uchel a chwyddiant. Felly, byddwn i'n cwestiynu os yw'r amseru'n iawn. Mae ffermwyr sy'n denantiaid yn dioddef oherwydd cynnydd mewn rhent yn ogystal â chostau mewnbwn i'w busnesau. Oni ddylai hyn gael ei oedi felly tan ar ôl yr argyfwng economaidd presennol, neu yn wir cyflwyno'r cynnydd bob yn dipyn? Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi ymgynghori ag aelodau grŵp diwygio tenantiaeth y diwydiant, ond a yw'r ymgynghoriad hwnnw'n gynrychioliadol o'r corff o ffermwyr sy'n denantiaid yng Nghymru ac, felly, a yw'n adlewyrchu barn y ffermwyr hyn sy'n denantiaid yma, mewn gwirionedd?

Ar nodyn arall, mae'r memorandwm esboniadol yn dangos nad yw asesiad effaith rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan ei fod yn cynyddu'r ffi statudol yn unol â chwyddiant prisiau defnyddwyr. Ond gwyddom ni nad yw incwm nifer o ffermwyr sy'n denantiaid wedi codi yn unol â chwyddiant. Byddai gennyf i ddiddordeb felly i glywed a ydym ni'n gwybod pa mor aml y defnyddir cymrodeddwyr proffesiynol i ddatrys unrhyw anghydfod a allai godi o ran cytundebau tenantiaeth yn yr achosion hyn yng Nghymru. Os felly, pa effaith fydd y cynnydd yn y ffioedd yn ei gael ar ffermwyr sy'n denantiaid sydd angen gwasanaethau cymrodeddwr? Er ei fod wedi'i gynhyrchu yng nghyd-destun Lloegr, mae adroddiad diweddar yr adolygiad Rock gan y gweithgor tenantiaeth yn mynegi pryder am y ffordd y mae asiantau'n gweithredu'n gyffredinol a sut mae angen rhywfaint o oruchwyliaeth a diwygio ar gymrodeddu. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am gomisiynydd neu ombwdsmon i oruchwylio'r gwaith o gymrodeddu, a'n barn ni, felly, fyddai y dylai hyn fod wedi'i wneud cyn y cyhoeddiad hwn heddiw, a byddwn i'n annog y Gweinidog i ystyried sefydlu rhywbeth o'r fath cyn gynted â phosibl.

Yn olaf, mewn unrhyw benderfyniad i osod rheoliadau newydd, byddem ni eisiau cael sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried argymhellion adolygiad Bichard ar siarter frenhinol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, ac yn arbennig argymhelliad 3, er mwyn sicrhau bod gwahanu rhwng portffolio Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig o weithgareddau masnachol, â'i gweithgareddau ehangach eraill. O ystyried y materion hyn yr wyf i wedi'u codi a'r pryderon y cafodd eu mynegi gan rai yn y sector o ran y cynnydd mewn ffioedd a'r materion cysylltiedig, byddwn ni'n ymatal yn y bleidlais heddiw. Fodd bynnag, byddwn ni'n barod i roi cymorth i reoliadau'r Llywodraeth pan fydd y pryderon sydd wedi cael eu mynegi wedi cael sylw digonol. Diolch.

14:45
Member
Lesley Griffiths 14:46:00
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr i chi, Mabon, am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno bod hwn yn gynnydd sylweddol, ac mae hi'n rhwydd bod yn ddoeth wedi'r digwyddiad, ond efallai y byddai hi wedi bod yn well i ni beidio â bod wedi aros mor hir i'w gynyddu. Rwy'n gwybod nôl yn—rwy'n credu mai—2019, fe wnaeth DEFRA gynyddu'r un ffi o ran eu diwygiad i denantiaethau, ac rwy'n credu mai tua £195 oedd hynny dair blynedd yn ôl.FootnoteLink Felly, mae'n cyd-fynd â hynny i ryw raddau, er mae'n debyg eu bod nhw'n ystyried a ddylid cynyddu hynny eto. Felly, rwy'n deall yn iawn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y cynnydd, ond, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae hynny'n cyfateb i gyfradd chwyddiant o 1996 tan nawr. Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddio ei baratoi gan fod y rheoliadau yn gwneud mân ddiwygiad technegol i gynyddu'r ffi statudol. Felly, dyna'r rheswm pam na wnaethom ni hynny. Roeddech chi'n holi am aelodau'r grŵp diwydiant diwygio tenantiaethau. Nid wyf i'n gwybod a ydyn nhw'n cwmpasu barn pob un ffermwr tenant yma yng Nghymru, oherwydd fe fyddwn i'n dychmygu bod sawl barn amrywiol, ond yn sicr fe gytunodd aelodau'r grŵp hwnnw y dylid defnyddio ffi o'r fath i gael tegwch a chysondeb. Fe wnaethoch chi ofyn i mi sawl gwaith y digwyddodd cymrodeddu o'r fath. Nid yw'r ffigwr hwnnw ar gael i mi yma o fy mlaen, ond fe fyddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny.

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac, felly, fe ohiriwn ni'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon

Eitem 4 sydd nesaf, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon, a dwi'n galw ar Weindog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig—Mick Antoniw.  

Cynnig NDM8132 Vaughan Gething

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Protocol Gogledd Iwerddon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae hi'n bryder ac yn siom enfawr i mi orfod mynd i'r afael â'r Bil hwn. Er newidiadau rif y gwlith yn Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf, nid oes fawr ddim wedi newid. Mae hi'n ymddangos nad oes llawer o gynnydd wedi bod, ac rydym ni'n parhau i fod â'r posibilrwydd y bydd y Bil annoeth ac anghyfrifol hwn yn dod yn gyfraith. Mae enw da y DU yn rhyngwladol wedi cael ei bardduo cymaint yn ddiweddar nes fy mod i wedi gobeithio y byddai Gweinidogion y DU wedi bod yn ddigon doeth i osgoi mwy o ddistryw gyda'r hurtrwydd hwn. Rwy'n dal i obeithio y bydd gan y Prif Weinidog diweddaraf y crebwyll yr oedd ei ragflaenwyr mor amddifad ohono, ac y bydd yn canfod y doethineb a'r pwyll gwleidyddol sydd ei angen i sicrhau cynnydd gwirioneddol. 

Rydyn ni wedi cyflwyno'r cynnig fel bod y Senedd yn gallu ystyried materion am y Bil a phenderfynu ar gydsyniad. Bydd yr Aelodau yn gweld ein bod ni, yn y memorandwm, yn dweud bod y rhesymau dros beidio â rhoi cydsyniad yn rhesymau da o ran y gyfraith a'r cyfansoddiad. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld bod Llywodraeth Cymru yn credu bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y Bil. Mae hyn yn wir am y Bil i gyd, heblaw am gymal 1. Dwi'n gweld bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cytuno ar y cyfan.

Ond gadewch i ni edrych, yn gyntaf, ar amcanion polisi honedig y Bil a'r cyd-destun. Prif nod y protocol oedd atal ffin galed ar ynys Iwerddon. Dyna'r nod o hyd. Roedden nhw'n dweud bod y protocol yn ateb newydd pragmatig ac effeithiol i'r broblem gymhleth. Cafodd y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson, glod mawr amdano.

Mae'r protocol yn gwneud trefniadau penodol ar gyfer Gogledd Iwerddon i ddiogelu cytundeb Belffast, Dydd Gwener y Groglith. Mae'n gwneud yn siŵr bod busnesau Gogledd Iwerddon yn dal i gael mynediad hawdd i farchnadoedd yn yr Undeb Ewropeaidd a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn diogelu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, ac eto, yn rhyfeddol, lai na phum mis ar ôl cytuno i'r protocol a'i wneud yn gyfraith ryngwladol fel rhan o gytundeb ymadael y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn creu rhwystrau sydd ddim yn dderbyniol i fasnachwyr o fewn marchnad fewnol y Deyrnas Unedig. 

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Roedd Brexit bob amser am fynnu ffin yn rhywle rhwng marchnad sengl yr UE a marchnad fewnol y DU, ond eto mae Llywodraethau olynol y DU a oedd yn cefnogi Brexit wedi gwrthod cydnabod y pwynt hwn a hynny mewn ffordd naïf ac ystyfnig. Rwy'n derbyn, wrth gwrs, y gall unrhyw gytundeb fod yn destun adolygiad technegol ac, yn wir, mae'r DU a'r UE wedi dechrau trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol ynglŷn â newidiadau technegol i'r protocol, ac mae'n rhaid i'r rhain barhau. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu bod angen iddi fod â phwerau trwy gyfrwng y Bil hwn i wneud newidiadau i'r ffordd y mae'r protocol yn gweithredu mewn cyfraith ddomestig. Mae hi'n ymddangos ei bod o'r farn fod bodolaeth pwerau o'r fath yn ei rhoi mewn sefyllfa fwy manteisiol wrth drafod newidiadau i'r protocol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, ac eto fe ysgrifennodd 52 o'r 90 o aelodau sydd yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a etholwyd ym mis Mai, o dair plaid, ym mis Mehefin at Brif Weinidog Johnson yn gwrthwynebu'r Bil hwn.

Mae dull Llywodraeth y DU yn dactegol naïf ac yn wleidyddol hurt. Mae i ymagwedd Llywodraeth y DU ganlyniadau trychinebus iawn i Gymru a'r cytundeb masnach a chydweithio, sy'n rhagweld y dylai'r DU gysylltu â rhaglen ymchwil Horizon. Mae ei rhaglenni rhagflaenol wedi bod o fudd mawr i economïau Cymru a'r DU ac Ewrop yn fwy eang dros gyfnod o ddegawdau. Mae llawer o raglenni ymchwil ym mhrifysgolion Cymru wedi cael eu hariannu drwyddi, ond eto mae ein cyfranogiad parhaus ni yn y cylch o raglenni a chyllid sydd eisoes wedi dechrau yn cael ei beryglu erbyn hyn oherwydd y Bil hwn. Nid yw'r Comisiwn wedi bod yn fodlon parhau gyda chyfranogiad y DU yn y rhaglen, yn fwyaf tebygol oherwydd y drwgdeimlad a achoswyd gan y Bil. Rydym ni, ynghyd â phrifysgolion a busnesau ledled y DU, wedi pwyso arnyn nhw i ailystyried eu dull o weithredu, ond y gwir achos yn y pen draw yw'r Bil hwn. 

Nawr, rwyf i am ymdrin â'r dadleuon penodol dros beidio ag argymell caniatâd. Yn gyntaf, mae hi'n ddigon posibl y bydd y Bil, yn ôl bob tebyg, yn torri cyfraith ryngwladol. Mae ysgolheigion cyfreithiol nodedig wedi dweud bod amddiffyniad cyfraith ryngwladol Llywodraeth y DU oherwydd rheidrwydd i dorri rhwymedigaethau rhyngwladol nid yn unig yn llipa, ond yn ddiobaith hyd yn oed, fel y'i disgrifiwyd gan gyn-bennaeth adran gyfreithiol Llywodraeth y DU. Nid ydym ni'n fodlon cymeradwyo caniatâd i Fil sydd â phosibiliad o dorri cyfraith ryngwladol ar sail na ellir ei chyfiawnhau. Yn unol â'r memorandwm, mae i hynny oblygiadau difrifol i rwymedigaethau Gweinidogion Cymru i gydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytundebau yn unol â'r cod gweinidogol. Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhannu'r pryderon hyn ynghylch safbwynt Llywodraeth y DU. Yn ein barn ni, fe fyddai hi'n amhriodol yn foesol ac yn gyfansoddiadol i'r Llywodraeth hon argymell cydsyniad i ddeddfwriaeth sydd ynddi ei hunan yn anghyfreithlon, o bosibl.

Yn ail, mae llawer o'r pwerau i lunio rheoliadau a ddrafftiwyd yn y Bil mor eang fel nad oes ganddyn nhw unrhyw eglurder gwirioneddol o ran eu dibenion, ac mae i hyn oblygiadau sylweddol i Gymru o bosibl ac i'n setliad datganoli ni, yn yr ystyr na allwn ni ddeall natur na chylch posibl y pwerau y gellid eu rhoi i Weinidogion Cymru yn llawn ac ni allwn ni asesu yn iawn ychwaith i ba raddau y gellid defnyddio Gweinidogion y Goron i dresmasu ar faterion datganoledig. Mae hi'n amlwg nad yw hyn yn dryloyw, yn bendant nid yw hon yn gyfraith dda, ac yn sicr mae hi'n bygwth egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol a'n setliad datganoli ni. Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhannu pryderon hefyd ynghylch y pwerau dirprwyedig hynod eang sydd yn y Bil hwn.

Yn drydydd, fe ddylwn i ailadrodd na roddwyd unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, unwaith eto. Ni chawsom ni unrhyw ran yn nrafftio'r Bil hwn ac, yn union fel gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) echrydus, rydym ni'n anghytuno ag ymagwedd dactegol Llywodraeth y DU. Fe ddylai hi barhau i drafod yn adeiladol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'r materion technegol hyn yn barhaus. Nid wyf i'n dymuno i Lywodraeth Cymru a'r Senedd fod yn rhan o unrhyw ddifenwad pellach i'r DU yn rhyngwladol. Rwy'n falch fod pob un o'r tri adroddiad gan bwyllgor y Senedd ar y memorandwm, er gwaethaf yr amser cymharol gyfyngedig i'w ystyried, yn mynd i'r afael â phryderon am y niwed posibl i'r cysylltiadau rhwng y DU a'r UE ac yn pwysleisio'r angen am setliad drwy drafodaeth. Rwy'n ddiolchgar am eu diwydrwydd a'u cefnogaeth ac am y gwaith pwysig a wnaethpwyd o ran craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil. Diolch, Dirprwy Lywydd.

14:55

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Cyfathrebu, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma. Roedden ni fel pwyllgor yn bryderus am y diffyg amser oedd gennym ni yn wreiddiol i ystyried ei lawn oblygiadau, oherwydd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, bydd goblygiadau pellgyrhaeddol yn deillio o'r Bil. Er rhoddwyd estyniad yn y pen draw, newidiwyd yr amserlen ar ôl i'n pwyllgor ni adrodd ar y cydsyniad deddfwriaethol. Oherwydd difrifoldeb y materion sy'n codi o'r Bil, roedden ni fel pwyllgor eisiau cymryd amser i glywed mwy o dystiolaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Gweinidogion Cymreig ac o San Steffan, ond doedd hynny, yn anffodus, ddim yn bosibl gyda'r amserlennu gwreiddiol.

Er fy mod i'n deall, yn amlwg, fod cyflymder deddfu ar y Mesur hwn wedi bod yn rhannol gyfrifol am yr amserlennu, mae hefyd yn wir bod Llywodraeth Cymru wedi eistedd gyda'r LCM yn hirach na'r arfer. Rŷn ni fel pwyllgor yn cydnabod y rhesymau pam wnaeth hyn ddigwydd, ond roedden ni, gwaetha'r modd, yn teimlo bod yr amser rhoddwyd inni sgrwtineiddio'r LCM yn lleiafsymiol o'i gymharu gyda'r amser oedd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y Mesur. Fel rŷn ni wedi trafod yn barod ac wedi clywed, rŷn ni'n ymwybodol iawn o'r rhesymau pam roedd hyn wedi digwydd, ond buasem ni eisiau nodi, yn y dyfodol, ein bod ni’n teimlo fel pwyllgor ei bod hi'n hynod bwysig i'r Llywodraeth roi digonedd o amser i bwyllgorau allu sgrwtineiddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn llawn, yn enwedig rhai gyda chymaint o oblygiadau difrifol.

Mae gan y pwyllgor nifer o bryderon difrifol o ran yr LCM ei hun. Fel rydym ni wedi clywed eisoes, mae'r pwerau dirprwyedig pellgyrhaeddol a geir o fewn y Bil yn achosi pryder i ninnau hefyd. Fel cafodd ei drafftio, fe fyddai'r Bil yn galluogi Gweinidogion y Goron i wneud unrhyw newidiadau i'r Bil y maen nhw'n eu hystyried yn briodol yn y dyfodol ac wrth edrych yn ôl. Fe allai unrhyw is-ddeddfwriaeth addasu cymhwysedd deddfwriaethol y lle hwn gyda'r pwerau hynny neu wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig, yn wir, heb ystyriaeth i'n Senedd ni na'n Gweinidogion ni yng Nghymru.

Ond, heb sôn am unrhyw gwestiynau cyfansoddiadol, mae gan ein pwyllgor ni bryderon yn ymwneud â'n cylch gwaith cysylltiadau rhyngwladol. Rydym ni'n nodi bod y Bil yn peri risg i enw da a hygrededd rhyngwladol y DU o ran cyfraith ryngwladol. Rydym ni'n cytuno â Llywodraeth Cymru bod y Bil yn golygu

'methiant diplomyddiaeth a gwladweinyddiaeth'

Mae hi'n debygol iawn y byddai enw da Cymru yn ddioddef o gysylltiad â hyn, ac rydym ni'n pryderu bod y Bil yn nodi dirywiad yn y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE. Gallai hynny effeithio ar sut mae strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno, ac fe allai hynny'n fod ag effaith wir ddinistriol ar gysylltiadau rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. Oherwydd ein meysydd arbennig o ddiddordeb yn y pwyllgor, rydym ni'n pryderu hefyd ynglŷn â sut y gallai'r Bil hwn effeithio ar gydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon. Fe allai llawer iawn o ganlyniadau annisgwyl ddeillio o'r ddeddfwriaeth hon. Rydym ni, unwaith eto, wedi cael ein siomi mai ychydig iawn o amser a roddwyd ar gyfer proses graffu sy'n fwy trylwyr. Ac fe fyddem ninnau'n adleisio'r rhai sy'n annog y ddwy ochr i geisio datrysiad drwy drafodaeth i'r materion hynny a godwyd gan y protocol. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Huw Irranca-Davies. 

15:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhoddwyd ein hadroddiad ni ar femorandwm Llywodraeth Cymru o ran y Bil Protocol Gogledd Iwerddon hwn ar 9 Tachwedd, ac rwy'n diolch i'r tîm clercio a'r Aelodau hefyd am eu hystyriaeth a'u diwydrwydd nhw.

Roedd ein hadroddiad ni'n mynegi ein pryder ni gyda'r Bil hwn, am lawer o resymau. Yn gyntaf, wrth gyflwyno'r Bil, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod hi'n rhagweld na fydd ei rhwymedigaethau rhyngwladol yn cael eu cyflawni. Rydym ni'n pryderu felly am y posibilrwydd y bydd y Bil yn torri cyfraith ryngwladol, fel y dywedodd y Gweinidog, yn wir. Mae Llywodraeth y DU yn dibynnu ar egwyddor o reidrwydd yn cyfiawnhau ei dull hi o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi o'r farn mai ffordd 'ddadleuol iawn' o osgoi rhwymedigaethau rhyngwladol yw honno, fel nododd y Gweinidog yn y memorandwm. Mae llawer o sylwebwyr cyfreithiol yn nodi hefyd mai amddiffyniad llipa iawn yw galw ar athrawiaeth rheidrwydd yn yr amgylchiadau hyn ac mae'n annhebygol o lwyddo.

Yn y pwyllgor arweiniol ar gyfer cytundebau rhyngwladol, rydym ni o'r farn fod cadw atyn nhw'n fater hollbwysig. Rydym ni'n cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol hefyd o ran bod y posibilrwydd o dorri cyfraith ryngwladol gan y Bil yn creu problem gyfansoddiadol i'r Senedd hon, oherwydd fe ofynnir i ni gydsynio i rywbeth sy'n cyfiawnhau torcyfraith i bob pwrpas.

Fel gŵyr y Senedd, nid yw fy mhwyllgor i fel arfer yn gwneud argymhelliad i weld a ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad hi i ddarpariaethau o fewn Biliau'r DU. Fodd bynnag, oherwydd goblygiadau cyfansoddiadol mawr y Bil hwn, roeddem ni o'r farn ei bod hi'n iawn i wneud hynny yn yr achos hwn. Roedd pob un o'n haelodau heblaw am un yn credu y dylai'r Senedd ddal ei chydsyniad i'r Bil yn ôl. Rydym yn dod i'r casgliad hwnnw oherwydd gallai penderfyniad gan y Senedd i gydsynio i'r Bil hwn gyfrannu at dorri cyfraith ryngwladol, a byddai'n golygu bod y Senedd yn gweithredu'n anghymarus â'i rhwymedigaethau rhyngwladol. Byddai hynny, yn ddiamau, yn erbyn ysbryd y setliad datganoli.

Rydym ni'n rhannu pryderon y Gweinidog hefyd y byddai argymell cydsynio i'r Bil hwn yn herio ymlyniad Gweinidogion Cymru at y cod gweinidogol, sy'n cynnwys dyletswydd benodol ar Weinidogion i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol a gyda rhwymedigaethau cytundebau. Os oes disgwyl i Weinidogion Cymru arfer y pwerau i wneud rheoliadau yn ôl y Bil, fe allai gwneud hynny fod yn gyfystyr â thorri'r cod hwnnw dro ar ôl tro.

Gan droi at y pwerau hynny i lunio rheoliadau yn benodol, nodwyd bod Pwyllgor Pwerau a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi yn galw'r holl bwerau yn y Bil, mewn dyfyniadau yn, 'bwerau uwch Harri VIII'—sy'n sylw trawiadol iawn. Rhoi'r enw hwnnw wnaethon nhw am fod y pwerau o fewn y Bil yn caniatáu i Weinidogion wneud unrhyw ddarpariaeth y gellid ei gwneud gan Ddeddf Seneddol, gan gynnwys addasu'r Bil drwy reoliadau wedi iddo ddod yn ddeddf. Felly, rydym ni'n cytuno â nhw; mae'r pwerau dirprwyedig hynod eang yn y Bil hwn yn peri pryder. Fe fydden nhw'n caniatáu i Weinidogion y DU wneud unrhyw newidiadau yr hoffen nhw eu gwneud i'r Bil yn y dyfodol i bob pwrpas—gan gynnwys yn ôl-weithredol—heb unrhyw gyfranogiad na rhan i Weinidogion Cymru nac yn wir i'r Senedd hon.

Mae ein pryderon ni o ran y pwerau dirprwyedig eang yn y Bil yn aros yr un fath ni waeth a yw'r pwerau hynny'n cael eu harfer gan Weinidogion y DU neu'n dilyn hynny yn y dyfodol gan Weinidogion Cymru. O bryder pellach i ni yw'r ffaith nad yw hi eto'n hysbys pa bwerau dirprwyedig newydd i Weinidogion Cymru y gellir eu creu o ganlyniad i'r Bil, neu pa weithdrefnau y gellir eu cymhwyso i'r pwerau hynny, a Gweinidogion y DU a fydd yn gwneud yr holl benderfyniadau hynny.

Nid yw'n hi eglur i ni ychwaith, a dweud y gwir, pam mae angen hyn i gyd, gan nad yw mecanweithiau'r cytundeb ymadael ei hun wedi cael eu harchwilio yn llawn eto, ac mae hynny'n cynnwys erthygl 16 o brotocol Gogledd Iwerddon, sy'n caniatáu i'r DU a'r UE gymryd mesurau diogelu dros dro os yw'r protocol yn arwain at anawsterau penodol neu ar gyfer dargyfeirio masnach. Rydym yn pryderu, fel cafodd ei fynegi gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, fod dull Llywodraeth y DU yn debygol o gael effaith ddinistriol ar gysylltiadau rhwng y DU â'r UE.

Gan droi at gymalau penodol yn y memorandwm, rydym ni'n cytuno â'r Gweinidog fod y cymalau a restrir yn y memorandwm yn dod o fewn pwrpas o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Eto i gyd, rydym ni o'r farn hefyd fod cymalau 6, 7, 11, 18 a 24 o'r Bil yn perthyn i'r categori hwnnw. Mae'r memorandwm yn dweud bod cymalau 2 i 4 a 13 i 15 o'r Bil yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rydym ni'n cytuno â'r asesiad hwnnw, ond credwn hefyd fod cymalau 8 a 20 yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol, yn ogystal â hynny. Nid ydym ni o'r farn fod cymal 12 yn gofyn caniatâd y Senedd, ac rwy'n gwybod mai barn yw honno nad yw'n cael ei rhannu gan y Gweinidog, felly fe fyddem ni'n croesawu unrhyw arsylwadau ynglŷn â hynny, Gweinidog.

Cyn i mi gloi fy sylwadau, fe hoffwn i unwaith eto fynegi siom y pwyllgor gydag ymgysylltiad prin Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno deddfwriaeth sy'n effeithio ar feysydd a ddatganolwyd. Rydym ni'n cydnabod mai dyma un o'r rhesymau pam rhoddwyd y memorandwm gerbron 15 wythnos wedi cyflwyno'r Bil. Serch hynny, rydym ni'n credu er hynny y gallai Llywodraeth Cymru ei hun fod wedi gweithredu yn gynt i ganiatáu amser digonol i graffu gan bwyllgorau'r Senedd, yn enwedig o ystyried goblygiadau rhyngwladol a chyfansoddiadol y Bil, a gododd fy nghyd-gadeirydd. Diolch yn fawr iawn.

15:05

Rwy'n siomedig, mae'n rhaid i mi ddweud, ond nid wyf wedi fy synnu o glywed y bydd Llywodraeth Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Ac wrth gwrs, rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon yn ddinesydd Gwyddelig ac yn ddinesydd y DU, ac yn rhywun sydd wedi bod yn aelod hirsefydlog o Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon, yr wyf yn gadeirydd ei bwyllgor ar faterion Ewropeaidd mewn gwirionedd. Felly, rwyf i wedi rhoi ystyriaeth helaeth i'r ddeddfwriaeth hon sydd ger ein bron, ac rwyf wedi dod i'r casgliad ei bod hi, yn anfoddog, yn angenrheidiol i'w chefnogi, oherwydd y gwir yw bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio yn galed iawn wrth geisio datrysiad rhesymol i rai o'r problemau a gododd y protocol ar ynys Iwerddon a rhwng y DU a Gogledd Iwerddon o ran masnach.

Ac rwy'n credu y bydd y Bil sydd gennym ger ein bron, pe bai'n cael ei ddeddfu—pe bai'n angenrheidiol iddo gael ei ddeddfu—yn cyflawni'r mater pwysicaf y mae angen i ni i gyd fod yn gytûn yn ei gylch, a hynny yw ei bod hi'n rhaid i ni ddiogelu cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Fe fyddwn yn nodi'r flwyddyn nesaf bum mlynedd ar hugain ers cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Mae hwnnw wedi golygu heddwch a sefydlogrwydd i ni yng Ngogledd Iwerddon dros y chwarter canrif diwethaf, ac mae angen i ni sicrhau bod sylfaen o heddwch a sefydlogrwydd, sydd yn y cytundeb hwnnw, yn cael ei lwyr ddiogelu i'r dyfodol hefyd. Ac wrth gwrs, un o'r agweddau pwysig ar hyn yw osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny pe byddem ni'n rhoi'r egwyddorion yn y Bil hwn ar waith, gan barhau i ddiogelu marchnad y DU a sicrhau cywirdeb marchnad fewnol y DU ei hun hefyd.

Aeth 18 mis o drafodaethau dwys gyda'r UE heibio erbyn hyn heb gytundeb, ac fe hoffai Llywodraeth y DU, wrth gwrs, fod â setliad a gytunwyd gan yr UE a'r DU gyda'i gilydd, ond yn anffodus mae'r gwrthodiad i blygu dim ar ochr yr UE wedi golygu bod angen ceisio cyflwyno datrysiad arall. Felly, fe fydd y Bil hwn, rwy'n credu, yn datrys y problemau ymarferol hynny gyda rhannau o brotocol Gogledd Iwerddon, sydd wedi codi o ganlyniad i rannau o'r protocol hwnnw. Fe fydd yn amddiffyn y rhannau o'r protocol sy'n gweithio, ac fe ellir ymdrin â'r canlyniadau anfwriadol hynny sydd wedi codi o ganlyniad i roi'r protocol ar waith.

Fe geir pedwar maes allweddol, yn bennaf, y mae Llywodraeth y DU yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Y cyntaf yw'r prosesau tollau beichus y mae busnesau yn eu hwynebu ledled Gogledd Iwerddon ac yn y DU; yr ail yw rheoleiddio anhyblyg; y trydydd yw anghysondebau treth a gwariant rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon; ac mae'r pedwerydd yn ymwneud â materion llywodraethu. Bydd yn cyflwyno sianeli gwyrdd a choch i gael gwared ar gostau diangen a gwaith papur ychwanegol i fusnesau sy'n masnachu o fewn y DU, wrth sicrhau bod gwiriadau llawn yn digwydd ar gyfer nwyddau sy'n dod i ben eu taith yn yr UE. Bydd yn rhoi'r dewis i fusnesau roi nwyddau ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon yn ôl naill ai reolau nwyddau'r DU neu rai'r UE. Bydd yn sicrhau bod Gogledd Iwerddon yn gallu elwa ar un o'r polisïau o ran seibiant yn y dreth a gwariant â gweddill y DU, gan gynnwys toriadau TAW ar bethau fel deunyddiau sy'n arbed ynni a benthyciadau adfer wedi COVID. Ar hyn o bryd, nid ydyn nhw'n gallu gwneud felly oherwydd protocol yr UE. Ac wrth gwrs fe fydd yn normaleiddio trefniadau llywodraethu fel bydd unrhyw anghydfod yn cael ei ddatrys mewn ffordd briodol gan ganolwyr annibynnol ac nid gan Lys Cyfiawnder Ewrop.

Rwyf wedi clywed llawer o gyfeirio at y mater hwn fel ei fod yn gyfystyr â thorri cyfraith ryngwladol ac yn anghyfreithlon felly. Mae safbwynt Llywodraeth y DU yn eglur, ac mae hi wedi cyhoeddi ei safbwynt cyfreithiol a'r cyngor cyfreithiol a gafodd hi gyda manylder ac mae hynny'n mynegi bod y ddeddfwriaeth yn gyfreithlon yn ôl cyfraith ryngwladol ar sail athrawiaeth rheidrwydd. Mae hi'n cefnogi'r cydbwysedd a ddarperir ar gyfer cytundeb Dydd Gwener y Groglith, sef, wrth gwrs, fel rwy'n dweud, y peth pwysicaf sydd angen ei warchod yn hyn i gyd, wrth ymdrin â'r materion hyn, y nifer fechan o broblemau y mae'r protocol yn eu codi. Ac rydym ni'n gwybod os nad ydym ni'n ymdrin â'r problemau hyn sy'n codi eu pennau o ganlyniad i roi'r protocol ar waith, y bydd yn parhau i achosi tensiynau cymunedol yng Ngogledd Iwerddon. Y gwir yw bod y tensiynau cymunedol hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd ac sydd wedi achosi'r methiant i ffurfio Llywodraeth yno ers yr etholiadau diwethaf yng Ngogledd Iwerddon o ganlyniad i'r protocol hwn yn bennaf, a'r rhwystrau hyn, os mynnwch chi, sydd wedi cael eu codi ar ganol môr Iwerddon. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â nhw; mae angen i ni wneud hyn mewn ffordd deg a chytbwys. Fel Llywodraeth y DU, fe fyddai hi'n well o lawer gennyf innau fod â setliad a gafodd ei negodi, ond mae hi'n amlwg nad yw hynny'n bosibl ar hyn o bryd, ac fe fydd cyflwyno'r Bil hwn, rwy'n gobeithio, yn diddymu'r cyfwng hwn ac yn ymdrin â'r materion hyn unwaith ac am byth.

15:10

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Dyna un safbwynt sydd yn hollol groes i'r hyn rydyn ni yn teimlo fel plaid, ac mi fyddwn ni hefyd yn gwrthwynebu heddiw.

Weinidog, fel y gwyddoch eisoes, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Credwn y dylai penderfyniadau ar faterion datganoledig o hyd gael eu trafod, eu craffu a’u cymeradwyo gan Senedd Cymru, yn hytrach na chael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ein rhan. Mae arfer o’r fath yn tanseilio seiliau datganoli. Mae natur y cynnig cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn yn pwysleisio dilysrwydd safiad Plaid Cymru yn glir, gan ei fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod yn rhan o fesurau i ddatgymhwyso’n unochrog elfennau o brotocol Gogledd Iwerddon, yn groes i gyfraith ryngwladol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i’r rhwymedigaethau hyn lai na thair blynedd yn ôl fel rhan o gytundeb 'oven-ready' Boris Johnson ar ôl Brexit—ymadroddiad sy’n ymddangos yn fwy anffodus bob dydd o ystyried y smonach mae'r Blaid Dorïaidd hon yn ei wneud o lywodraethu'r Deyrnas Unedig.

Weinidog, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu rhoi caniatâd i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn am dri rheswm penodol. Yn gyntaf, fel yr wyf wedi crybwyll eisoes, mae’r Bil dan sylw yn ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymwrthod â’i hymrwymiadau o dan gyfraith ryngwladol. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ceisio cyfiawnhau’r dull hwn o weithredu ar sail yr athrawiaeth cyfraith ryngwladol o angenrheidrwydd, mae nifer o ysgolheigion cyfreithiol wedi anghytuno’n gryf â rhesymau o’r fath. Mae hyn yn dangos unwaith eto fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ddeall yn llawn telerau’r cytundeb a lofnodwyd i ffanffer mawr yn ôl ym mis Rhagfyr 2019, neu nad oedd ganddynt erioed unrhyw fwriad i’w anrhydeddu yn y lle cyntaf.

Weinidog, rwy’n siŵr y cytunwch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi chwalu unrhyw hygrededd oedd ganddi gyda’r gymuned ryngwladol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond yma yng Nghymru, lle mae ein gwleidyddiaeth yn dipyn mwy aeddfed a chyfrifol, nid oes angen i enw da ein Senedd gael ei effeithio gan fyrbwylltra San Steffan, a dim ond un enghraifft o hynny yw’r Bil hwn.

Yn ail, ymhell o ddiogelu cytundeb Gwener y Groglith fel y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i honni’n sinigaidd, mae’r mesur hwn wedi gwaethygu tensiynau ar ynys Iwerddon a grëwyd gyntaf wrth i’r Torïaid ddilyn y trywydd o Brexit caled. Mae’r syniad bod y mesur hwn rywsut yn cynnal yr egwyddor o gefnogaeth draws-gymunedol yn cael ei danseilio gan y ffaith y gwnaeth pleidiau sydd o blaid gweithredu’r protocol ennill mwyafrif ysgubol o seddi yn etholiad diwethaf Cynulliad Gogledd Iwerddon. Yn lle ymdrechu i leihau aflonyddwch Brexit ar ynys Iwerddon, mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon wedi rhoi cytundeb Gwener y Groglith mewn mwy o berygl nag ar unrhyw adeg dros y 24 mlynedd ddiwethaf.

Yn olaf, rhaid inni ystyried goblygiadau’r Bil hwn o safbwynt Cymreig, a’r niwed posibl y gallai ei achosi i rwydweithiau o ran cydweithio hollbwysig Cymru ag Iwerddon. Fel ein cymydog Ewropeaidd agosaf, mae perthynas Cymru ag Iwerddon yn chwarae rhan arwyddocaol yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru o safbwynt masnach a diwylliant. Mae’n hollbwysig, felly, fod y Senedd hon yn cyfleu neges gadarn i’n cyfeillion Gwyddelig ein bod yn gwrthod unrhyw fesurau a allai niweidio ein rhwymau cryf o gydweithio. Yn ogystal â hyn, fel y mae’r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi cyfeirio ato, mae’r ffaith na ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio’r ddeddfwriaeth hon, er gwaethaf ei pherthnasedd amlwg i Gymru, yn cyfleu diffyg parch Llywodraeth San Steffan tuag at ddatganoli. Mae hefyd yn tanlinellu pa mor wag yw eu rhethreg bod y Deyrnas Unedig yn undeb cyfartal.

Am y rhesymau hyn, mae Plaid Cymru'n gwrthwynebu'n gryf y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn rhannu ein barn ar y mater.

15:15

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi codi pwyntiau yn y ddadl hon. Rwy'n gwybod bod y gwahaniaeth a'r anghytundeb llwyr yn hyn o beth yn amlwg iawn. Er hynny, rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni i gyd yn ei gydnabod yw pwysigrwydd sylfaenol y mater hwn o ran heddwch yng Ngogledd Iwerddon, a lles economaidd a masnachol hefyd.

Os caf i fynd i'r afael â chwpl o'r pwyntiau a godwyd. Mae'r pwynt wedi ei wneud o ran y cyfnod o 15 wythnos rhwng cyflwyniad y Bil a rhoi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron. Rwy'n credu nad yw hi'n gwbl deg, mae'n debyg—rwy'n credu bod Gweinidog yr Economi, yn ei lythyr at y Llywydd ar 27 o fis Mehefin, yn egluro y byddai rhoi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron yn cael ei ohirio oherwydd diffyg unrhyw ymgysylltiad ystyrlon. Yn amlwg, fe geir yma faterion cymhleth iawn y bu'n rhaid eu hystyried yn ofalus—a thymor yr haf, yr angladd gwladol ac yn y blaen. Ond rwy'n cydnabod, fel pob amser, bwysigrwydd ceisio sicrhau bod gan y Senedd gyfnod digonol o amser i graffu, ac nid wyf i'n gwadu hynny. Mae'n rhywbeth sydd wastad mewn golwg. Yn amlwg, roedd yna amgylchiadau anodd.

O ran y pwynt a gododd Darren, fy mhryder i yw nad wyf i'n credu y gallwch chi ddatrys problem wleidyddol drwy gyfrwng deddfwriaeth. Rwy'n credu y bydd ceisio gwneud hynny nid yn unig yn gwaethygu'r tensiynau, ond yn achosi tensiynau newydd ac ychwanegol, ac nid yw'n datrys y mater.

Mae'n debyg mai'r crynodeb gorau y gallaf ei roi yw gyda dim ond dau ddyfyniad yr wyf i'n credu eu bod nhw'n crisialu'r materion hyn yn gryno iawn ac yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru. Daw'r un cyntaf oddi wrth y Farwnes Ros Altmann, sy'n gyn-Weinidog pensiynau i'r Ceidwadwyr a oedd yn cymryd rhan yn y ddadl Cyfnod Pwyllgor ar 25 Hydref. Dywedodd hi:

'Mae'r problemau gyda'r Bil hwn yn llawer dyfnach, yn fwy sylfaenol, ac yn wir yn bwysicach, na Brexit. Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder ac anghyfiawnder, am ddiogelu democratiaeth seneddol ac am y gwerthoedd y mae ein gwlad yn credu ynddyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi—pwysigrwydd cadw at ein haddewidion, dibynadwyedd, gonestrwydd, uniondeb. Mae'r Bil hwn yn chwalu'r pethau hyn i gyd yn yfflon: dyma ymgais i rwygo cytundeb rhyngwladol a lofnodwyd yn ddiweddar, a hynny, yn ôl yr honiad, gyda phob ewyllys da.'

Ac yna seithfed adroddiad Pwyllgor Dirprwyedig Tŷ'r Arglwyddi a Diwygio Rheoleiddio ar 7 Gorffennaf:

'Mae'r Bil yn golygu trosglwyddiad llwyr o bŵer o'r Senedd i'r Pwyllgor Gwaith fel gwelsom ni drwy gydol proses Brexit. Mae'r Bil hwn yn ddigynsail o ran ei driniaeth ddi-hid o'r Senedd, yr UE a rhwymedigaethau rhyngwladol y Llywodraeth.... Rydym ni...yn methu'n lân â deall pam mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno Bil sydd wedi ffaelu mewn cymaint o ffyrdd i gyd-fynd ag egwyddorion democratiaeth seneddol'.

Fe ddarllenais i drwy'r Bil eto heddiw, ac fe geir ymadrodd yno,

'Caiff un o Weinidogion y Goron, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth y mae'r Gweinidog o'r farn ei bod yn briodol'.

Mae hynny'n ymddangos mewn 13 o adrannau yn y Bil—

Rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae eich arweinydd chi yn Senedd y DU, Syr Keir Starmer, wedi derbyn hyn—ac rwy'n dyfynnu. Dywedodd ef:

'Nid wyf i'n ceisio honni nad oes yna broblemau a heriau gyda'r protocol'.

Mae ef yn derbyn bod angen ei newid, ac eto nid yw ef wedi cynnig yr un dim o ran yr hyn y byddai ef yn ei newid a sut y byddai ef yn sicrhau'r newid hwnnw. A wnewch chi ddweud wrthym ni: sut fyddech chi'n mynd i'r afael â'r problemau gyda'r protocol y mae eich arweinydd eich hun yn derbyn eu bod nhw'n bodoli?

Wel, yn gyntaf i gyd, fyddwn i ddim wedi cyflwyno'r Bil, oherwydd mae'r Bil yn chwalu'n yfflon yr holl gysyniad o rwymedigaeth ryngwladol a chyfreithiol. Yn ail, pe byddai hi'n wirioneddol mor enbyd fel ei bod hi'n rhaid i chi wneud rhywbeth, fe fyddai erthygl 16 wedi cael ei defnyddio, fel dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, oherwydd fe fyddai hynny'n galluogi rhoi mesurau diogelu ar waith ac yn caniatáu trafodaethau. Rwyf i o'r farn fod y Bil yn adlewyrchiad o adwaith difeddwl, ymateb gwleidyddol ac ideolegol i farn benodol yng Ngogledd Iwerddon, ac rwy'n credu y byddwch chi'n edifarhau ryw ddiwrnod os ewch chi ymlaen nawr gyda'r Bil arbennig hwn.

Os caf i ddim ond gorffen efallai, ni all Llywodraeth Cymru gefnogi cydsyniad i'r Bil hwn. Mae'n ddiffygiol yn gyfreithiol, yn dactegol drychinebus ac mae'n dwyn anfri ar statws rhyngwladol y DU unwaith eto. Felly, rwy'n gofyn i bob Aelod atal cydsyniad i'r Bil hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 3—

A oes yna dri? Iawn. Diolch i chi. Gadewch i ni ganu'r gloch, felly. Fe fyddwn ni'n ymgynnull unwaith eto ymhen pum munud.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

15:25
5. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 3, y Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 9 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn. 

Eitem 3. Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 4, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon. Galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Eitem 4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, eitem 6—datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymateb i ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU a’r rhagolygon economaidd a chyllidol. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch. Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad yr hydref y bu hen ddisgwyl amdano ac fe gyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolygon yn nodi ein bod ni'n wynebu'r cwymp mwyaf mewn safonau byw ers iddyn nhw gael eu cofnodi. Datganiad digalon iawn oedd hwn gan y Canghellor wedi 12 mlynedd o Lywodraethau Ceidwadol, a gyhoeddwyd yn sgil y gyllideb 'fechan' drychinebus, ochr yn ochr â rhagolygon economaidd llymach eto gan yr OBR.

Mae estyniadau aml-flwyddyn i rewi trothwyon treth incwm ac yswiriant cenedlaethol yn golygu y bydd gofyn i ni gyd dalu rhagor o drethi, gan gynyddu baich treth i'w gyfradd uchaf mewn 70 mlynedd, mewn cyfnod pan fo chwyddiant ar ei gyfradd fwyaf mewn mwy na phedwar degawd, ac rydym ni ar fin yr hyn y mae'r OBR a Banc Lloegr yn credu fydd yn ddirwasgiad hirfaith. Mae disgwyl i Gynnyrch Domestig Gros grebachu gan 2 y cant, a fydd yn arwain at gostau gwirioneddol a sylweddol i bobl ledled y wlad, ac mae disgwyl i gyfradd diweithdra gynyddu yn sylweddol. Fe allai hynny olygu bod 20,000 i 25,000 yn rhagor o bobl yn ddi-waith yng Nghymru yn unig. Efallai mai'r rhan fwyaf ysgytwol o'r cyfan yw'r cwymp gwirioneddol o ran incwm gwario aelwydydd. Dros y ddwy flynedd nesaf, disgwylir i hyn ostwng gan 7 y cant yr unigolyn. Hwnnw fyddai'r cwymp mwyaf erioed.

Yr wythnos diwethaf, roedd y Canghellor yn awyddus i feio digwyddiadau byd-eang am ragolygon ariannol enbyd y DU, gan gynnwys y pandemig ac ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin. Er nad oes modd gwadu bod y rhain wedi cael effaith ddifrifol ar ein heconomi ni, mae'r sefyllfa wedi'i gwaethygu oherwydd camreoli'r economi a chyllid cyhoeddus parhaus gan Lywodraeth y DU. Mae'r DU yn mynd i mewn i ddirwasgiad mewn sefyllfa waeth nag unrhyw un o economïau'r G7, a dyma'r unig wlad G7 i beidio ag adennill lefelau cyn-COVID o Gynnyrch Domestig Gros a chyflogaeth.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau cyfres o siociau niweidiol a achoswyd ganddi hi ei hunan ar ein heconomi a'n gwlad yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, o gyni i Brexit, a'r gyllideb fach drychinebus, a greodd dwll enfawr yn ein harian cyhoeddus. Mae'r Canghellor wedi ceisio llenwi'r twll hwnnw drwy gymysgedd o godiadau treth a thoriadau gwariant caled. Bydd mwyafrif llethol y toriadau gwariant hynny'n dod ar ôl 2024-25, gan ohirio penderfyniadau ariannol anodd tan ar ôl etholiad cyffredinol nesaf y DU, a rhoi poen i ni heddiw a phoen i ni yfory.

Gwnaeth y degawd cyntaf o gyni economi'r DU £100 biliwn yn llai; gan ehangu'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd; gan wneud pobl ifanc yn waeth eu byd nag oedd eu rhieni ar eu hoedran nhw; llai yn perchen ar gartref; a chreu'r argyfwng presennol yn y sector rhentu preifat. A nawr, mae Llywodraeth y DU yn barod i ailadrodd yr arbrawf diffygiol a methedig hwn i drwsio'r camgymeriadau a wnaeth. Ond nid oes angen cyni 2.0 arnom ni; yr hyn sydd ei angen arnom ni yw buddsoddi mewn addysg a sgiliau, cefnogi busnes a thrafnidiaeth, i helpu i hybu twf economaidd a denu buddsoddi.

Cyn datganiad yr hydref, roeddem ni'n wynebu'r rhagolygon ariannol gwaethaf ers datganoli. Mae hyn yn parhau i fod yn wir. Mae ein setliad cyffredinol dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd yn dal i fod yn werth llai mewn termau real na phan gafodd ei gyhoeddi fis Hydref diwethaf. Byddwn ni'n derbyn £1.2 biliwn ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i benderfyniadau gwariant a gafodd eu gwneud yn Lloegr, ond ni fydd ein cyllideb gyffredinol yn 2024-25 yn uwch mewn termau real nag yn y flwyddyn bresennol. Bydd ein cyllideb gyfalaf 8.1 y cant yn is. Daw bron i hanner y cynnydd mewn cyllid y flwyddyn nesaf o fesurau ardrethi annomestig yn Lloegr, nid o wariant ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus. Nid yw'r arian ychwanegol yn dod yn agos at yr hyn sydd ei angen arnom ni i fodloni'r pwysau ar bob rhan o'n cyllideb, gan gynnwys amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag yr heriau aruthrol sydd wedi'u hachosi gan y chwyddiant uchaf erioed, pwysau cyflog a chostau ynni. Gallai ein setliad fod hyd at £3 biliwn yn is mewn termau real na'r disgwyl, a hyd at £1 biliwn yn is yn 2023-24 yn unig.

Yn wyneb y pwysau hyn, rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei fforddio. Mae gennym ni bwysau a blaenoriaethau niferus y mae angen eu cynnwys neu'u hail-flaenoriaethu. Dim ond hyn a hyn o'r ffordd y bydd cyllid a ddaeth o ganlyniad i ddatganiad yr hydref yn mynd i ddiogelu cyflwyno'r rhaglen lywodraethu, lliniaru effaith yr argyfwng costau byw, ymdrin â gofynion cyflogau'r sector cyhoeddus a pharhau i gefnogi ein hymateb dyngarol i'r sefyllfa yn Wcráin. Mae dal angen gwneud penderfyniadau a dewisiadau heriol, ochr yn ochr ag ystyried yn barhaus i ba raddau yr ydym ni'n gallu lliniaru colli cyllid yr UE.

Mae'r rhagolygon cyfalaf wedi dirywio. Er y byddwn ni'n ystyried yr holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, ni fydd gennym ni fawr o ddewis ond i leihau ein cynlluniau cyfalaf a meddwl yn fwy creadigol am ariannu blaenoriaethau cyfalaf mawr wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn effeithio ar ein strategaeth fuddsoddi seilwaith newydd yng Nghymru. Fel rhan o'n paratoadau parhaus ar gyfer y gyllideb, rydym ni'n wynebu penderfyniadau anhygoel o anodd. Ac er nad oes dewisiadau hawdd, rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o fewn y cyllid sydd gennym ni ar gael. Er mwyn gallu ymateb i'r ansicrwydd cyllidol, mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i fod yn hyblyg ac ystwyth wrth wneud penderfyniadau ynghylch ein cyllidebau yn y dyfodol. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr.

Ni wnaeth y Canghellor ddyrannu unrhyw gyllid ychwanegol o ran y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd unrhyw newidiadau i'n setliad y flwyddyn ariannol hon yn destun proses amcangyfrifon atodol y DU yn y flwyddyn newydd. Mae'r Canghellor hefyd wedi dweud y bydd cyllideb wanwyn, a allai effeithio ar gynlluniau ar gyfer ein cyllideb derfynol. Felly, er gwaethaf y cyd-destun hwn, rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i barhau i weithio i flaenoriaethu ein cyllidebau, i warchod y rhai mwyaf agored i niwed a chynnal ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach wrth i ni baratoi ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24. 

15:35

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Rwy'n cydnabod bod pethau wedi bod yn anodd, fel y gwnes i gyfeirio ato yma rwy'n credu y tro diwethaf i ni siarad ar y materion hyn. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod y Canghellor wedi cymryd camau pendant sydd i'w croesawu i osod y wlad ar lwybr mwy sefydlog o fewn ond ychydig wythnosau. Mae'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu yn deillio o gyfuniad o siociau byd-eang unwaith-mewn-cenhedlaeth heb eu tebyg o'r blaen, fel yr ydych chi, Gweinidog, wedi'i gydnabod—COVID a rhyfel anghyfreithlon Putin. Ac i ymateb i'r pethau hyn, rydym ni wedi gweld gwariant cyhoeddus yn cynyddu'n gyflym ac yn sylweddol i roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl a busnesau. Gadewch i ni beidio ag anghofio, ar lefel Llywodraeth y DU, cafodd tua £400 biliwn ei wario yn ystod y pandemig, yn cefnogi busnesau a sicrhau 14.5 miliwn o swyddi. Mae rhyw £55 biliwn wedi'i ddarparu eleni hefyd i helpu pobl a busnesau gyda'u biliau ynni—un o'r pecynnau cymorth mwyaf yn Ewrop—ar ben biliynau i helpu gyda chostau byw. Ond yn groes i'r hyn mae rhai yn ei feddwl, does dim siec wag; mae'n rhaid talu'r gwariant hwn, er ei fod yn hollol angenrheidiol, yn ôl rhywbryd. Yr hyn y gwnaeth y Canghellor yr wythnos ddiwethaf oedd cyflwyno cynllun i gael cyllid cyhoeddus yn ôl ar seiliau mwy cynaliadwy, sefydlog. Mae hyn yn golygu bod penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud. Mae angen ymyriadau sylweddol ar amseroedd rhyfeddol, fel y gwnaethom ni ei weld drwy gydol COVID.

Mae chwyddiant yn effeithio arnom ni i gyd—mae'n ein gwneud ni'n dlotach, ac mae'n rhoi pwysau ar gyllid o bob haen o Lywodraeth a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Fel yr wyf i wedi'i ddweud o'r blaen, rwy'n gwybod sut beth yw gorfod cydbwyso cyllidebau yn ystod gwariant cyhoeddus sydd wedi'u ffrwyno—wedi'u lefelu, mae'n rhaid i mi ddweud, am flynyddoedd lawer gan y Lywodraeth Cymru hon. Ac er fy mod i'n croesawu'r cymorth ynni a chostau byw presennol, rydw i bob amser wedi bod yn glir bod yn rhaid i'r Llywodraeth gadw meddwl agored i ddarparu'r gefnogaeth y mae pobl ei angen wrth i bethau newid yn ystod y misoedd nesaf. Ond yn syml, ni allwn ni fforddio cadw gwariant bron i £100 biliwn ar log dyled yn unig, yn rhannol oherwydd cyfraddau llog cynyddol. Byddai'r arian yma gymaint gwell yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus. Yr hyn oedd yn siomedig oedd na wnaeth Canghellor yr wrthblaid yn San Steffan gynnig unrhyw ddewisiadau eraill i'r cynlluniau a gafodd eu gosod gan y Canghellor fel ateb i'n sefyllfa o ran cyllid. Yn wir, bas a gwan oedd ei hymateb, fel yr ydym ni wedi dod i ddisgwyl, yn anffodus, ganddi. Ac eto, rydym ni wedi gweld beirniadaeth gan Weinidogion Llafur Cymru, heb lawer o arwydd beth yw'r dewis arall. Un funud, roedd Llywodraeth Cymru wedi'i chynhyrfu am doriadau trethi, ac yn bygwth ailosod bandio treth incwm, yna maen nhw wedi'u cynhyrfu bod y mesurau hyn wedi'u tynnu'n ôl. Fel yr wyf i wedi'i ddweud o'r blaen, bob tro y mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei safbwynt, yn y bôn mae'n groes i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud—nid yw hynny'n arbennig o gadarnhaol.

Byddai gennyf i ddiddordeb, Gweinidog, os gallech chi amlinellu—[Torri ar draws.]

Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddadl. Mae'n ddrwg gen i.

Mae'n ddrwg gen i, Peter, os caf i ond egluro—nid dadl yw hon, dim ymyriadau.

O mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i'n meddwl nad oeddem ni mewn dadl.

Iawn. Felly, byddai gen i ddiddordeb, Gweinidog, os gallech chi amlinellu beth yn union yw cynllun Llafur. Sut byddai Llywodraeth Lafur yn ymdrin ag effeithiau erydol chwyddiant, sy'n gwneud yr argyfwng costau byw yn waeth, ac yn dod â'r ddyled genedlaethol i lawr? Mae pethau i'w croesawu gan y Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, yn natganiad yr hydref, a fydd yn help mawr i bobl yn y cyfnod anodd hwn. Oherwydd, wrth wrando ar ddatganiad y Gweinidog, fyddech chi byth yn meddwl bod pethau cadarnhaol, y byddai pobl yn eu croesawu, a bod Llywodraeth Cymru wir eu heisiau. Nid oes cyfeiriad o gwbl yn y datganiad, yn y cyhoeddiadau hyn, yno at y pethau defnyddiol hynny a all helpu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel cynyddu budd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth yn unol â chwyddiant, yn ogystal â'r cynnydd sylweddol mewn cyflogau byw cenedlaethol ac isafswm cenedlaethol; y taliad o £900 i'r rhai ar fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd; y taliad o £300 i aelwydydd pensiynwyr; y £150 i rai sydd ar fudd-daliadau anabledd. Ond er bod y Gweinidog yn dweud y gallai Llywodraeth y DU fod wedi cynnig mwy o gymorth costau byw, felly hefyd y gallai Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn beth arall oedd ar goll o ddatganiad y Gweinidog.

Felly, Gweinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i ddefnyddio peth o'r cyllid canlyniadol wedi'u darparu i Gymru drwy ddatganiad yr hydref i ddyrchafu grantiau datganoledig er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i bobl? Ac, ar bwnc cyllid canlyniadol, a allwch chi esbonio sut yr ydych chi'n bwriadu dyrannu hyn yn y gyllideb sydd i ddod? Er enghraifft, a fyddwch chi'n cyfarwyddo'r rhan fwyaf o gefnogaeth arall i'r sectorau iechyd ac addysg a llywodraeth leol, sydd, fel y gwyddoch chi, o dan straen sylweddol ar hyn o bryd, neu a ydych chi'n bwriadu lledaenu'r cyllid ychwanegol yn fwy cyfartal ar draws adrannau? 

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn i gyffwrdd yn fyr ar y diwygiadau ochr gyflenwi y gwnaeth y Canghellor eu cyhoeddi, sy'n bwysig i gael ein heconomi yn symud unwaith eto. Hynny yw, newidiadau i reoliadau yn y pum diwydiant twf, gan gynnwys diwydiannau gweithgynhyrchu uwch a diwydiannau gwyrdd, i gefnogi'n well cyflwyno twf sectorau newydd a rhai sy'n datblygu, ynghyd ag ystyried ddefnyddio parthau buddsoddi i annog twf ymchwil a datblygu. 

Byddai diddordeb gennyf i wybod pa drafodaethau yr ydych chi'n bwriadu eu cael gyda'r Trysorlys o ran y rhan y mae Cymru eisoes yn ei chwarae wrth gynnal a thyfu technolegau o'r fath, a sut y gall y ddwy Lywodraeth gydweithio i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau o'r fath yn gweithio yng nghyd-destun Cymru yn ogystal â chyd-destun Prydain, er mwyn i ni gael gwell buddsoddiad uniongyrchol a sicrhau bod ein holl gymunedau'n gallu teimlo'r manteision hyn. Diolch.

15:40

Diolch yn fawr iawn i lefarydd yr wrthblaid am y cwestiynau y prynhawn yma. Fe wnaf i ddechrau drwy fyfyrio eto ei bod yn ymddangos mai dull y Blaid Geidwadol yw beio'r sefyllfa ariannol yr ydym ynddi ar hyn o bryd yn llwyr ar y pandemig ac ar ryfel Putin yn Wcráin. Ond nid dyna'r darlun llawn, wrth gwrs, oherwydd mae £30 biliwn o'r twll y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei lenwi yn ymwneud yn llwyr ac yn llawn â chamreoli'r economi drwy'r gyllideb fach hurt honno. Byddwn ni'n edrych yn ôl arno ac—mae'r difrod mae wedi'i wneud yn anhygoel. Nid rhyw jôc hurt yn unig a ddigwyddodd drwy law griw o glowniau yn San Steffan, mewn gwirionedd mae'n rhywbeth sydd wir yn cael effaith ar fywyd nawr. A byddwn ni'n talu nawr a byddwn ni'n talu'n hir i'r dyfodol am eu haerllugrwydd ac am y camgymeriadau y maen nhw wedi'u gwneud.

Gadewch i ni beidio â gadael i Brexit ddianc rhagddi chwaith, oherwydd mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cadarnhau bod data diweddar yn gyson â'i asesiad cynharach bod Brexit yn niweidio ein heconomi. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn disgwyl, o dan y cytundeb sydd wedi'i gytuno gan Lywodraeth y DU, yn ystod y tymor hir, y bydd economi'r DU o leiaf 4 y cant yn llai nag a fyddai wedi bod fel arall. Mewn gwirionedd, y consensws ymhlith arbenigwyr annibynnol yw y gallai'r costau economaidd fod hyd yn oed yn fwy os yw'r amrywiaeth lawn o effeithiau, y mae llawer ohonyn nhw'n anodd eu mesur yn union, yn cael eu cynnwys. Mae ymchwil sy'n cynnwys effeithiau o'r fath yn canfod y gallai cyfanswm y costau fod rhwng 8 y cant i 10 y cant o Gynnyrch Domestig Gros blynyddol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ystyried effaith Brexit, yr ydym ni ond dechrau'i deimlo, fel rhan o'r darlun cyffredinol yma hefyd.

Beth fyddai Llafur wedi'i wneud yn wahanol? Wel, ni fyddem ni yn y llanast yma pe bai Llafur wedi bod wrth y llyw oherwydd, ie, byddem ni wedi cael y pandemig, ie, byddem ni wedi cael rhyfel Putin, ond ni fyddem ni wedi cael goblygiadau'r gyllideb fach. Felly, mae llawer o'r problemau y mae gofyn i bobl dalu amdanyn nhw wedi'u creu gan Lywodraeth y DU ei hun. Yn ogystal â hyn, mae'r ffordd y mae ef wedi mynd at y gyllideb yn gohirio llawer o'r problemau ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae'r tynhau cyllidol wedi'i ôl-lwytho'n drwm, a'r rhan helaeth o'r toriadau gwariant gwasanaethau cyhoeddus hynny wedi'u hamserlenni mewn gwirionedd ar gyfer ar ôl 2025, gan oedi'r holl benderfyniadau anodd iawn tan ar ôl etholiad cyffredinol nesaf y DU. 

Mae'r Canghellor hefyd wedi gorfod llacio ei fandad cyllidol. Mae ef wedi'i wthio i bum mlynedd nawr y pwynt lle mae'n dweud ei fod eisiau i ddyled fod yn gostwng fel ffracsiwn o incwm cenedlaethol. Soniodd y llefarydd am ddyled, a thua £100 biliwn y flwyddyn erbyn diwedd cyfnod y rhagolwg, bydd gwariant ar log dyled yn uwch na gwariant ar unrhyw adran unigol yn Llywodraeth y DU, ar wahân i'r GIG, ac mae hynny ond yn dangos eto yr effeithiau tymor hir yr ydym ni'n mynd i fod yn eu hwynebu o ganlyniad. 

Soniodd yr Aelod am rai o'r pethau y mae modd eu croesawu'n rhesymol, o leiaf yn y man cyntaf. Roedd Llywodraeth Cymru yn galw am gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Er bod Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad i wneud hynny, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi canfod y byddai hynny'n dal i adael eu gwir werth ar y trywydd i fod 6 y cant yn is na'u lefelau cyn y pandemig. Mae hynny'n cyfateb i bron i £500 y flwyddyn i bobl gyffredin ddi-waith. Wrth gwrs, mae hynny'n tybio eu bod yn dal i allu manteisio ar swm llawn y gefnogaeth fel y maen nhw ar hyn o bryd o dan y gwarant pris ynni ar ôl mis Ebrill nesaf. Rydym ni eisoes wedi clywed am yr effeithiau ar incwm gwario i deuluoedd: yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan ostwng 7 y cant.  Mae hynny'n gwbl ddigynsail, ac rydym ni'n mynd i fod yn gweld yr effeithiau hynny'n trosglwyddo i bwysau, rhagor o bwysau, ar wasanaethau cyhoeddus.

Ac rydym ni hefyd wedi clywed am ddull Llywodraeth y DU o drethu, ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU nawr wedi cyhoeddi'r rhewi aml-flwyddyn hynny i bob prif dreth incwm neu drothwy yswiriant cenedlaethol, a, drwy rewi'r trothwyon hynny, ac yn enwedig y lwfans personol, mae Llywodraeth y DU yn codi treth incwm mewn ffordd nawr sy'n fwy atchweliadol na phe baent ond wedi codi cyfraddau. Ac wrth i fwy o weithwyr gael eu tynnu i dalu treth uwch nawr, bydd mwy o gyflog yn cael ei golli ar unwaith, ac, wrth gwrs, oherwydd y ffordd y mae'r lefelau cyflog yma yng Nghymru, mae mwy o bobl yng Nghymru yn fwy tebygol o fod ar eu colled o ganlyniad uniongyrchol i'r ymyrraeth benodol honno hefyd. 

Felly, o ran ein cynlluniau ein hunain, byddaf i, wrth gwrs, yn nodi'r cynlluniau hynny pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr. Nawr bod gennym ni'r ffigurau terfynol hynny gan Lywodraeth y DU—ac rwy'n dweud  'terfynol', oherwydd y gallen nhw eto newid cyn neu ychydig ar ôl ein cyllideb derfynol—mae gennym ni gyfnod dwys o waith nawr ar draws y Llywodraeth i ddarparu cyd-Aelodau â'r ffigyrau y byddan nhw'n gweithio oddi mewn iddynt ac yna i gwblhau ein cyllideb ddrafft ar gyfer ei chyhoeddi. 

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaeth datganiad yr hydref yr wythnos diwethaf gan Ganghellor y DU, rwy'n credu, gadarnhau, oni wnaeth, mewn gwirionedd, beth yr ydym ni wedi'i ofni ers peth amser. Mewn ymateb i'r llanast llwyr maen nhw wedi'i wneud o'r economi, mae'r Torïaid wedi penderfynu rhyddhau ton newydd o gyni, gyda chanlyniadau dinistriol i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Ar ôl degawd o doriadau, o danfuddsoddiad ac anghydraddoldeb sydd eisoes wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, mae wedi plymio miliynau o gartrefi i dlodi; mae wedi achosi'r wasgfa hiraf ar safonau byw ers y rhyfeloedd Napoleonaidd. Unwaith eto, rydym ni'n wynebu criw breintiedig o aml-filiynyddion yn rhoi baich eu balchder gormodol ar ysgwyddau pobl weithgar Cymru. Ac er bod y Torïaid, mae'n siŵr—ac maen nhw eisoes wedi'i wneud y prynhawn yma—yn defnyddio llawer o aer poeth yn honni eu bod wedi gwneud penderfyniadau anodd ac angenrheidiol, gallaf ddweud wrthych na fyddwn ni'n llyncu'r cleber Torïaidd hwnnw.

Gadewch i ni fod yn hollol glir—a gallwch chi ysgwyd eich pen cymaint ag y mynnwch chi—mae cyni bob amser wedi bod yn ddewis gwleidyddol pwrpasol. Roedd yn ddewis gwleidyddol pan ddywedodd Cameron ac Osborne wrthym ni—ydych chi'n cofio—hynny, 'Rydym ni i gyd yn yr un cwch'. Ydych chi'n cofio hynny? Pawb yn yr un cwch, ie, tra bo nhw'n hel mêl i gwch eu cefnogwyr corfforaethol ar draul pobl gyffredin. Ac mae'n ddewis gwleidyddol nawr, wrth i'r Llywodraeth Dorïaidd hon sydd allan o reolaeth ac heb gysylltiad â realiti unwaith eto yn rhoi buddiannau eu plaid o flaen buddiannau pobl. A gallaf ddweud hyn wrthych chi: rydym ni'n gwybod y bydd canlyniadau eich dewis yn cael effaith ar fywoliaeth ac ar fywydau yma yng Nghymru. Felly, rydym ni'n gwybod y bydd gan ddatganiad yr hydref oblygiadau dwys o ran gwariant cyhoeddus yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gyllideb sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru. 

Ond o ran eleni, yn gyntaf oll, Gweinidog, rydych chi'n ein hatgoffa ni nad oes arian ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi, felly, yng ngoleuni hynny, nid yn unig ar gyfer y broses gyllideb atodol arferol a chyllideb atodol, ond ar gyfer ailgyfrifiad ehangach, mwy sylfaenol o gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon—adleoli cyllidebau, defnyddio unrhyw gronfeydd heb eu dyrannu ac unrhyw danwario a fydd yn y gyllideb? Allwch chi ddweud ychydig wrthym ni am eich bwriadau chi ar gyfer y flwyddyn ariannol benodol hon? 

Nawr, yn anffodus, wrth gwrs, bydd cyfyngiadau'r setliad datganoledig presennol—pa waeth mor ddoeth a sefydledig ein cynlluniau yma yn y Senedd, byddan nhw bob amser yn amodol ar fympwyon San Steffan tra bod y status quo cyfansoddiadol yn parhau. Ond mae yna rai mesurau datganoledig, waeth pa mor gyfyngedig, y mae eu defnyddio yma i inswleiddio'r Cymry o leiaf rhag rhai o ormodedd gwaethaf y storm economaidd hon. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni a fydd Llywodraeth Cymru yn archwilio o ddifrif nawr y dewis o ddefnyddio rhai o'ch pwerau dros gyfraddau treth incwm Cymru i gynhyrchu rhywfaint o'r cyllid sydd ei angen arnom ni i gau'r bwlch, y bwlch enfawr, sydd wedi agor o'n blaenau? Ac ar gyllid cyfalaf yn enwedig, meddech chi, yn eich datganiad, y byddwch chi, ac rwy'n dyfynnu eto, yn

'ystyried yr holl ysgogiadau sydd ar gael i ni'.

Fyddech chi'n gallu ehangu ychydig ar hynny? Oherwydd, yn amlwg, mae benthyca yn un maes allweddol, ond rydych chi wedi pwyso yn drymach yn y cyfnod adolygu gwariant hwn ar fenthyg nag efallai o'r blaen, felly hoffwn i ddeall lle yr ydych chi'n meddwl y gallwch chi fynd o ran cyllid cyfalaf.

Nawr, mae'r setliad datganoledig presennol, fel y dywedais i, yn rhwym ar allu Llywodraeth Cymru i ymateb i'r digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU hyn a phenderfyniadau cyllidol. Rydych chi'n dweud wrthym ni y bydd y Llywodraeth yn parhau i fod yn hyblyg ac ystwyth, ond a ydych chi'n derbyn bod hynny'n eithaf anodd pan na allwch chi ond potsian, i bob pwrpas, gyda phenderfyniadau macroeconomaidd a gaiff eu gosod ar Gymru gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan na wnaethom ni erioed bleidleisio drosti yma yng Nghymru wrth gwrs? Ac os ydych chi, yna onid yw'n bryd mynnu bod yr ysgogiadau macroeconomaidd hyn yn cael eu trosglwyddo i ni yma yng Nghymru fel y gallwn ni ddiogelu ein pobl ni'n well a gwneud yn siŵr nad yw Llywodraeth y DU yn dal Cymru yn ôl?

15:50

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hynny ac yn sicr, byddwn i'n cysylltu fy hun â'ch sylwadau ar ddechrau'r cyfraniad, a oedd yn nodi ein bod ni'n gweld yr hyn sydd, yn y bôn, yn don newydd o gyni. Prin ein bod ni wedi llwyddo i ddal anadl ers yr un diwethaf, a bydd yn cael effeithiau o ran gwasgu ar safonau byw, ar gynyddu tlodi, ar gynyddu nifer y plant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi, ac, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, mae hynny'n ddewis—mae cyni yn ddewis gwleidyddol yn gyfan gwbl, ac yn ddewis gwleidyddol pwrpasol.

Rydym ni'n gwybod bod ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth y DU fod wedi ymateb. Mae'r Resolution Foundation wedi dweud bod dirywiad o 19 mlynedd wedi bod mewn cyflogau, ac mae'r rhagolygon gwan am gyflogau a chwyddiant uchel yn golygu na fydd cyflogau'n dychwelyd i'w lefelau 2008 tan 2027. Petai cyflogau wedi tyfu ar yr un raddfa â chyn yr argyfwng ariannol mawr yn 2008 fe fydden nhw mewn gwirionedd yn £15,000 y flwyddyn yn uwch. Ac eto, mae hyn i gyd yn rhan o'r ymateb, mewn gwirionedd, i'r ffordd mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyni ac yn edrych i wneud hynny eto, sy'n amlwg o bryder mawr i ni o ran yr hyn y mae'n ei olygu i bobl yma yng Nghymru.

O ran rheolaeth ariannol eleni, wrth gwrs byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi ein cyllideb atodol gyntaf yn gynharach eleni, a'r bwriad yw cyhoeddi cyllideb atodol arall ym mis Chwefror, ond, fel yr wyf i wedi crybwyll o'r blaen wrth gyd-Aelodau yn y Siambr, rydym ni wedi bod yn gwneud darn o waith yn edrych ar draws y Llywodraeth i weld beth y gallai fod yn rhaid i ni ei wneud o ran ail-flaenoriaethu i allu ymateb i bwysau chwyddiant yn y flwyddyn ariannol hon, ac i wneud hynny wrth i ni amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, yn ganolog iddo, gan ddiogelu'r gefnogaeth yr ydym ni'n ei darparu ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed.

Felly mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae pwysau aruthrol drwyddi draw, yn enwedig ym maes iechyd, ond hefyd mewn mannau eraill. Ond, pan fyddwn ni'n dod i gwblhau'r gyllideb atodol, byddwn ni'n gallu rhoi mwy o fanylion o ran o ble yr ydym ni wedi gallu ail-flaenoriaethu cyllid i ymateb i rai o'r pwysau hynny, a beth fydd goblygiadau hynny. Ond rydym ni bob amser yn ymwybodol iawn o asesiadau effaith cronnol a phwysigrwydd deall yr effeithiau y mae ein dewisiadau yn eu cael ar y bobl hynny sydd â nodweddion gwarchodedig, neu nifer o nodweddion gwarchodedig. Felly, edrychwn ni drwy'r lens arbennig honno. Ond, fel yr wyf yn ei ddweud, byddaf yn gallu dweud mwy ar hynny pan fyddwn ni'n dod at y gyllideb atodol, ond yn ddiau, hwnnw'n yw'r math o ofod yr ydyn ni ynddo ar hyn o bryd.

Roedd y Prif Weinidog, yn ei drafodaethau â Phrif Weinidog y DU, yn gallu nodi amrywiaeth o bethau y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud na fyddai mewn gwirionedd yn costio llawer o arian—pethau fel diddymu taliadau sefydlog ar fesuryddion rhagdalu, cefnogaeth i undebau credyd a darparu gwarant yn erbyn colli arian i helpu unigolion i sicrhau benthyciadau yno—nid pethau ofnadwy o ddrud y gallai Llywodraeth y DU fod yn edrych i'w gwneud. Ond gofynnodd ef hefyd bod y terfynau benthyca a'r arian wrth gefn wedi'u cytuno fel rhan o fframwaith cyllidol 2016 yn cael eu diweddaru yn unol â chwyddiant, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i hefyd wedi'i godi gyda'r Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Mae hynny'n ymddangos yn beth ymarferol y gallai Llywodraeth y DU ei wneud.

O ran benthyca, ym mhob blwyddyn ers i ni gael pwerau benthyca rydym ni bob tro wedi bwriadu defnyddio ein pwerau benthyca llawn o fewn y flwyddyn ariannol honno, ond fel arfer, mae'n wir bod Llywodraeth y DU, erbyn diwedd y flwyddyn, yn rhoi cyllid ychwanegol i ni yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol, sy'n golygu nad oes rhaid i ni fenthyg yn y flwyddyn benodol honno. Er mwyn ein helpu i gyfrif am hynny, yn y flwyddyn ariannol hon fe wnes i or-raglennu gyfalaf gan £100 miliwn. Wrth gwrs, roedd hwn yn benderfyniad a gafodd ei wneud cyn y chwyddiant presennol a'r senarios presennol, felly mae'n gwneud rheolaeth eleni yn arbennig o heriol. Ond rwy'n credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud, i sicrhau'r cyllid gorau posibl sydd gennym ni ar gael i ni. Ond byddwn ni'n parhau, ac rwy'n gwybod y bydd eraill yn parhau, i gyflwyno'r achos y dylem ni gael cynnydd yn ein terfynau benthyca blynyddol yn ei grynswth, ac rydym ni'n cefnogi'r dadleuon sydd wedi cael eu gwneud gan, rwy'n gwybod, aelodau'r Pwyllgor Cyllid blaenorol y dylem ni gael cyfyngiadau benthyca darbodus yma yng Nghymru, fel bod y Senedd yn gallu cytuno ar beth yw lefel briodol o fenthyca a chytuno ar ein cynlluniau ad-dalu. Ac rwy'n credu mai hynny yw'r ffordd iawn ymlaen o hyd.

Ar gyfraddau treth incwm Cymru, wrth gwrs, rydym ni'n ystyried hyn bob blwyddyn. Mae hi ond yn ymddangos bod llawer mwy o ddiddordeb yn y peth eleni, gan gofio popeth sydd wedi bod yn digwydd draw yn San Steffan, a hefyd y pwysau eithafol sydd ar aelwydydd. Felly, ydym, wrth gwrs, rydym ni bob amser yn ystyried yr ysgogiadau sydd ar gael i ni, ond rydym ni'n gwneud hynny gan fod yn ymwybodol o faich treth cyffredinol pobl. Felly, byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud ar ddechrau'r datganiad heddiw bod y baich treth ar ei uchaf ers 70 mlynedd, ac, yn amlwg, rydym ni wedi clywed beth fydd yr effeithiau o ran incwm gwario ar aelwydydd. Felly, pan fyddwn ni'n gwneud y penderfyniadau hynny, rydym yn ymwybodol o'r cyd-destun ehangach, gan gynnwys y dreth gyngor a'r hyn y mae arweinwyr awdurdodau lleol yn ei ddweud wrthym ni o ran sut y gallai fod angen iddyn nhw ymateb i ddefnyddio'r ysgogiad penodol hwnnw hefyd. Felly, mae'n benderfyniad sy'n cael ei wneud yn ei gyfanrwydd, ond byddwn ni'n darparu'r penderfyniadau hynny i'r Senedd, ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, ar 13 Rhagfyr.

15:55

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Rwy'n crynhoi datganiad hydref Llywodraeth San Steffan fel un siomedig iawn, ond nid yn drychinebus. Ar ôl 12 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan a degawd o gyni, mae'r DU mewn dirwasgiad dwfn ac mae aelwydydd yn wynebu'r cwymp mwyaf mewn safonau byw erioed—mae'r 'braidd yn ymdopi' wedi dod yn 'ddim yn ymdopi'. Ni fydd y £1.2 biliwn dros ddwy flynedd o arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn llenwi'r bylchau mawr yn y gyllideb. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai'r her i Lywodraeth Cymru yw defnyddio'r arian yn ddoeth, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau allweddol, nid ar fewnbynnau cyllidol? Mewn dirwasgiad, yr her yw tyfu'r economi. Mae hynny'n golygu mwy o ganolbwyntio ar sectorau sgiliau uchel, cyflogau uchel a sgiliau cynyddol, symudiad, byddwn i'n ei awgrymu, i weithredu theori twf mewndarddol. Yn olaf, ar gyfalaf, ydy'r Gweinidog wedi ystyried defnyddio derbyniadau cyfalaf? 

Diolch yn fawr iawn am godi'r pwyntiau penodol hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn wir y dylem ni fod yn ystyried defnyddio'r arian yn ddoeth, ac i fod yn meddwl yn arbennig am beth yw'r canlyniadau o ran y penderfyniadau y gallem ni fod yn eu gwneud, a dyna pam mae'n bwysig nawr cymryd faint o amser y mae ei angen arnom ni i ddod i afael a'r ffigyrau a gafodd eu darparu i ni wedi'r datganiad ar Dydd Iau. Ac mae'r rheiny wedi dod mewn cyfres o daenlenni a dogfennau ategol ychwanegol, felly mae angen i ni fynd i'r afael â hynny mewn gwirionedd er mwyn deall yn union â beth mae'r cyllid canlyniadol yn ymwneud. Yn aml, mae ceisiadau uniongyrchol iawn, iawn i ni roi sicrwydd o lefelau penodol o gyllid canlyniadol o ganlyniad i'r penderfyniadau hynny ar ran Llywodraeth y DU, ond rydym ni'n gadarn iawn bod angen i ni dreulio peth amser yn mynd i'r afael â'r materion penodol hynny i'w deall, ond hefyd i ddeall y canlyniadol negyddol. Oherwydd mae pobl bob amser yn awyddus iawn i siarad am y canlyniadol cadarnhaol ac i ofyn am y gyfran deg o hynny, ond mae'n debyg eu bod yn llai awyddus i ofyn am gyfran deg y canlyniadau negyddol. Rydym eisoes yn gwybod y bydd gofyn i ni fod £70 miliwn yn waeth ein byd y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU o ran cyfraniadau yswiriant gwladol i gyflogwyr. Felly, eto, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gynnwys yn ein ffyrdd arbennig o feddwl hefyd.

O ran cyfalaf, rydym ni wedi bod yn awyddus iawn i greu argraff ar Lywodraeth y DU ar y mater hwn, oherwydd rwyf i wedi siarad heddiw am sut mae ein cyllideb gyfalaf yn crebachu dros y cyfnod o amser i ddod, sy'n amlwg yn bryder gwirioneddol. Ond yna, pan fyddwch chi'n edrych ar yr hyn mae rhai o'r arbenigwyr yn ei ddweud—y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, y comisiwn twf, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—mae pob un ohonyn nhw'n dweud, mewn cyfnod lle yr ydych chi eisiau tyfu'r economi, bod angen i chi fod yn buddsoddi. Mae angen i chi fod yn buddsoddi mewn cyfalaf dynol—felly, buddsoddi mewn sgiliau, fel y mae Mike Hedges yn ei ddweud—a hefyd buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd—felly, buddsoddi mewn ynni gwyrdd ac yn y blaen—a chael y pwyslais penodol hwnnw y mae Mike Hedges yn sôn amdano o ran y sectorau cyflogau uchel a'r cyfleoedd i ni dyfu yn yr ardaloedd hynny, a fydd yn ein rhoi ni ar lwyfan y byd ac yn ein gwneud yn ddeniadol i fuddsoddwyr, gan feithrin ein doniau ein hunain sydd gennym ni yma yng Nghymru hefyd. 

Felly, yn sicr, dyna'r math o ofod sydd angen i ni fod ynddo. Mae'r setliad cyfalaf yn ei gwneud hi'n anoddach i ni weithredu yn y gofod hwnnw, ond rydym ni'n ystyried, fel y dywedais i, yr holl ffyrdd y gallwn ni o bosibl wneud y gorau o'n cyfalaf. 

Gweinidog, ar ben clywed na fydd y cyllid ychwanegol cymedrol ar gyfer gofal cymdeithasol ac ysgolion yn ymdrin â'r bwlch ariannu, mae cyllid cyfalaf yn parhau i gael ei dorri hefyd, ac nid oes dim arian canlyniadol ar gyfer y rheilffordd 2 gyflym ar gyfer ein seilwaith rheilffyrdd, sy'n peri pryder. Roedd gan Lywodraeth y DU gyfle hefyd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, i dyfu'r economi felly, drwy fuddsoddi mewn swyddi, mewn addysgu, mewn gofal cymdeithasol, cynllunwyr—roedd angen cynllunwyr arnom ni hefyd—ac mae'n rhaid i ni gofio hyn pan ddaw'r Ceidwadwyr Cymreig ynghyd â'u rhestrau siopa. Rwy'n sylwi mai dim ond tri sydd yma nawr; roedd pedwar ychydig o'r blaen, ond maen nhw wedi mynd.

Mae cynghorau'n wynebu bwlch ariannu o £802 miliwn yn y gyllideb hefyd, felly maen nhw wedi cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau amhosibl, a fydd yn effeithio'n fawr ar ein gwasanaethau ac iechyd pobl. Gweinidog, y pennawd oedd y byddai £1.2 biliwn yn ychwanegol i Gymru, ond a ydych chi'n cytuno gyda mi mai'r gwirionedd yw y byddai hyn yn cael ei negyddu'n llwyr, ei lyncu, gan chwyddiant cynyddol, biliau ynni a chostau cyflog, wedi'u creu nid yn unig gan ryfel Putin, ond hefyd Brexit a phenderfyniadau Llywodraeth y DU? Gwnaethom ni sôn yn gynharach, o dan Truss, bod twll du gwerth £30 biliwn wedi'i greu. Felly, rwy'n poeni'n fawr am hynny, a dim ond eich barn chi am hynny, a chael y gwir allan yna. Diolch.

16:00

Ydw, rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny, ac mae Carolyn Thomas bob tro yn amddiffyn y llywodraeth leol yn gryf ac yn gwneud achos cryf drosti. Cefais i gyfle i gwrdd ag arweinwyr y llywodraeth leol a phrif weithredwyr bore ddoe, i siarad am oblygiadau'r gyllideb, ac unwaith eto, roedden nhw'n gwneud yr achosion hynod gryf hynny o ran gofal cymdeithasol, addysg a'r holl bwysau ledled y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, ac yn sôn am y goblygiadau ar gyfer cyflawni os nad yw'r bwlch cyllido hwnnw'n cael ei fodloni. Felly, rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol ein bod nawr â'r darlun cyffredinol hwnnw o ran cyllid canlyniadol.

Mae'n hi hefyd yn bwysig cydnabod, er nad oes rhaid i ni wneud yr un peth yn amlwg yma, mae'n ddefnyddiol os oes gan bobl ddarlun o'r hyn y mae'r cyllid canlyniadol yn ymwneud â dros y ffin yn Lloegr. Felly, mae 44 y cant o'r arian canlyniadol hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chynllun trethi annomestig newydd, y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno dros y ffin, felly yn amlwg rydym ni'n edrych yn fanwl iawn ar hynny. Yn rhannol, mae'n cynnwys cefnogaeth bontio i'r busnesau hynny sy'n gweld cynnydd yn eu biliau, wrth iddyn nhw symud i'r rhestr sgorio newydd, oherwydd bod yr Asiantaeth Swyddfa Brisio newydd gwblhau ailbrisiad. Felly, eto, mae angen i ni ystyried y goblygiadau ar gyfer hynny i ni yma yng Nghymru. Ond o'r symiau canlyniadol y flwyddyn nesaf, mae £666 miliwn; yn Lloegr, mae hynny'n £294 miliwn o ran cyfraddau annomestig. A'r flwyddyn wedyn, mae gennym ni £509 miliwn o arian canlyniadau, ac mae'r ffigwr sy'n ymwneud â chyfraddau annomestig yn y flwyddyn honno yn £146 miliwn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos ac yn rhoi ychydig o liw i'r cyllid yr ydym ni'n ni wedi ei gael.

Wedi dweud hynny, rwy'n gwybod eich bod chi hefyd wedi bod yn awyddus iawn ein bod ni'n ystyried ffyrdd eraill o helpu awdurdodau lleol, fel o bosibl symud mwy o gyllid o'r grantiau penodol i'r grant cymorth refeniw—mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n mynd ati i ystyried ar hyn o bryd. Mae cyfalafu rhai costau wedi bod yn rhywbeth y mae gofyn i ni ei archwilio eto, sef yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, a hefyd mae awdurdodau lleol wedi siarad â ni am y pwysau eithafol y maen nhw a'u swyddogion o dan mewn cymaint o ffyrdd ar hyn o bryd, gan ymateb i'r argyfwng costau byw. Felly, maen nhw wedi gofyn i ni a oes pethau y gallem ni edrych ar o bosibl eu cyflawni dros gyfnod hirach o amser i ryddhau a lleddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw. Felly, eto, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n mynd ati i edrych arno ar hyn o bryd.

Un cwestiwn: o ystyried bod datganiad cyllideb Mawrth 2010 gan Ganghellor Llafur diwethaf y DU, Alistair Darling, wedi nodi bod maint y diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian—wedi'i ddiffinio fel cyni—ac felly roedd e'n torri benthyca, gwario a rhagolygon twf; o ystyried bod cyfraddau chwyddiant presennol yn uwch mewn 23 gwlad Ewropeaidd, a 16 allan o 27 aelod-wladwriaeth yr UE, nag yn y DU; o ystyried bod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhagweld bod hanner gwledydd ym mharth Ewrop, o leiaf, yn wynebu dirwasgiad; ac o ystyried bod cyfraddau llog banc canolog y DU yn is nag mewn llawer o brif economïau, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Chanada, ai dim ond person twp iawn a fyddai'n honni bod yr argyfwng costau byw presennol wedi'i greu yn San Steffan?

Rwy'n cytuno â Joyce Watson ar y pwynt arbennig hwnnw. Ond, ydy, rwy'n credu ei bod hi'n ddigon hawdd dyfynnu rhai ffeithiau dethol, ond, na, mae'n ffaith sicr bod y gyllideb fach wedi costio i'r wlad hon, wedi costio pob un ohonom ni, pawb yng Nghymru, biliynau o bunnoedd, ac mae hynny'n ffaith sicr. Roedd hynny ond yn ganlyniad uniongyrchol i haerllugrwydd llwyr y bobl a oedd yn gwneud y penderfyniadau hynny ar y pryd. Mae'n rhaid i ni i gyd wneud—[Torri ar draws.] Maen nhw wedi mynd, ond maen nhw wedi gadael cynffon hir ofnadwy o drafferth tu ôl iddyn nhw. Ac, wyddoch chi, roedd gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol ddigon i'w ddweud am gyllideb fach Llywodraeth y DU hefyd. Mae'n hollol rhyfeddol iddyn nhw ymyrryd yn y ffordd y gwnaethon nhw, felly rwy'n meddwl bod y dyfarniad yna yn glir iawn hefyd. Gallwn ni ystyried y ffordd y mae'r gwahanol economïau wedi bod yn symud, ond rydym ni'n mynd i mewn i ddirwasgiad nawr mewn lle gwaeth nag unrhyw wlad G7 arall; ni yw'r unig un sydd heb adfer ei lefelau o incwm a chyflogaeth genedlaethol cyn y pandemig, felly yn amlwg, rydym ni mewn lle llawer gwaeth i fynd drwy'r hyn sy'n storm sy'n cael ei theimlo mewn ffyrdd gwahanol mewn gwahanol lefydd.

16:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno gyda fy nghyd-Aelodau Joyce Watson a Carolyn Thomas. Nid yw'r llanast economaidd ofnadwy hwn yr ydym ni ynddo i'w feio dim ond ar ryfel Putin. 

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yr OECD, heddiw—heddiw—wedi adrodd bod y DU yn un o'r economïau sy'n perfformio waethaf yn y byd ymhlith yr economïau cyfoethocaf. Felly, wn i ddim pa ran o hynny sy'n annealladwy. Rwy'n ddigon hapus anfon yr adroddiad i'r blaid gyferbyn. Dyma'r asesiad cyntaf o economi'r DU gan sefydliad rhyngwladol o bwys yn dilyn traed moch cyntaf Llywodraeth y Ceidwadwyr gyda chyllideb fach Liz Truss, ac erbyn hyn cynllun ymosod pellach Sunak ar y sector cyhoeddus. Mae marcio'r gwaith cartref hwn yn rhoi'r DU ar waelod isaf y dosbarth. Rwy'n ddigon hapus dosbarthu'r adroddiad.

Bellach mae Rishi Sunak yn un o dri Phrif Weinidog y DU hyd yma yn 2022, ac yn un o bedwar Canghellor yn 2022. Felly, nid yw'n sefyllfa gref na sefydlog. Ac er y bydd y Prif Weinidog yn ymddangos—

—yng nghwisiau tafarn y dyfodol am fanion bethau, nid yw ei bolisïau cyni yn fanion bethau. 

Fy nghwestiwn—fe ddof yn syth ato, Dirprwy Lywydd: beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i liniaru'r dioddefaint hwn sy'n cael ei achosi'n ddigyfaddawd i bobl Islwyn a Chymru gan ddewisiadau gwleidyddol y Llywodraeth Geidwadol hon sydd gan y DU ?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gloi'r datganiad y prynhawn yma trwy nodi rhai o'r pethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gefnogi'r rhai mwyaf bregus ac i amddiffyn dinasyddion yma yng Nghymru, oherwydd dyna'n wir yw'r gwaith sydd o'n blaenau nawr wrth i ni ddechrau cwblhau a ffurfioli ein cyllideb i'w chyflwyno ar 13 Rhagfyr. Dyma'r cyfle y mae'n rhaid i ni ei gymryd i wneud ein gorau i bobl, i dargedu'r gefnogaeth i'r rhai mwyaf bregus ac i flaenoriaethu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r ddau beth yna'n gwbl angenrheidiol.

Eisoes yn y flwyddyn ariannol hon, rydym ni wedi buddsoddi £1.6 biliwn mewn cynlluniau i ddarparu cefnogaeth uniongyrchol i bobl, megis y taliad cymorth tanwydd gaeaf gwerth £200. Gadewch i ni gofio mai dim ond yma yng Nghymru yr oedd hynny ar gael, ac ar gael ddwywaith yn ystod y flwyddyn galendr. Ac rydym ni hefyd wedi darparu amrywiaeth o raglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl ar yr adeg pan fyddan nhw ei angen fwyaf, gan gynnwys ein cynllun i leihau'r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim, a mynediad at y grant datblygu disgyblion, er enghraifft, sy'n helpu teuluoedd gyda'r gost o anfon eu plant i'r ysgol. Felly, gallwn yn bendant ddarparu'r sicrwydd a'r warant y caiff ein cyllideb ei hadeiladu ar ein gwerthoedd cryf o fod yn decach, yn gryfach ac yn wyrddach, a dyna'r gwaith sydd o'n blaenau nawr yn yr wythnosau nesaf.

7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid: Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf

Eitem 7 sydd nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: glasbrintiau cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid, adroddiad cynnydd a'r camau nesaf. Galwaf ar y Gweinidog—Jane Hutt.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid yn cynrychioli gweledigaeth a strategaeth ar y cyd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cefnogi menywod, plant a phobl ifanc sy'n troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r glasbrintiau yn 2019 mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, plismona yng Nghymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'r dull partneriaeth hwn yn arbennig o bwysig gan fod cyfiawnder yn faes sydd wedi'i gadw'n ôl ar hyn o bryd, ond sydd â pherthynas agos â'r gwasanaethau datganoledig. Rwy'n parhau i gyfarfod â Gweinidogion cyfiawnder y DU i drafod y glasbrintiau a materion cyfiawnder ehangach gyda'r Cwnsler Cyffredinol, i drafod ein gwaith ar y cyd a'n gweledigaeth o ran cyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.

Ond, heddiw, hoffwn eich diweddaru ar y cynnydd ynghylch y glasbrintiau. Ym mis Mai 2022, fe wnaethom ni gyhoeddi ein cynlluniau gweithredu, gan dynnu sylw at y cynnydd rydym ni'n ei wneud i ddargyfeirio menywod a phobl ifanc o droseddu. Cafodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau ein diweddaru ar y gwaith hwn yn ddiweddar gan ddirprwy gomisiynydd heddlu a throsedd De Cymru, Emma Wools, a Dominic Daley, cyfarwyddwr ymgysylltu ac arloesi'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yr uwch swyddogion sy'n gyfrifol am y glasbrintiau menywod ac ieuenctid yn y drefn honno. Hoffwn rannu gyda chi rai elfennau allweddol o'r gwaith sy'n mynd rhagddo, gan ganolbwyntio'n gyntaf ar y glasbrint cyfiawnder menywod.

Mae dull system gyfan y rhaglen fraenaru i fenywod yn canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal cynnar, gan gymryd agwedd gyfannol ac adsefydlol i ddargyfeirio menywod o droseddu, a chefnogi menywod i gael mynediad at wasanaethau yn y gymuned trwy gymorth un-i-un. Mae'r cymorth a'r arweiniad ymarferol a ddarperir yn hanfodol, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng costau byw. Pwysleisiodd gwerthusiad diweddar pa mor effeithiol y mae'r prosiect hwn yn gwella bywydau menywod sy'n agored i niwed yng Nghymru na fyddai, o bosibl, fel arall, wedi ymwneud bryd hynny â'r system gyfiawnder. O dan y glasbrint, mae gwasanaethau dargyfeirio bellach ar waith ar gyfer menywod ym mhob un o bedair ardal yr heddlu yng Nghymru.

Datblygiad arall yw pecyn hyfforddi newydd ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda menywod yn y system gyfiawnder sy'n rhoi sylw i rywedd a thrawma. Diben yr hyfforddiant hwn yw cynyddu sgiliau staff gan roi iddynt yr arbenigedd a'r hyder i ystyried rhywedd. Caiff ei gyflwyno ar hyn o bryd i'r holl asiantaethau sy'n gweithio yn y maes cyfiawnder troseddol.

Mae'r gwasanaeth Ymweld â Mam, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, yn helpu mamau Cymru i gynnal perthynas gadarnhaol â'u plant drwy gydol eu dedfryd o garchar, gan gynnig cymorth arbenigol i gadw a chryfhau cysylltiadau teuluol hanfodol. Rhwng Mehefin 2021 ac Awst 2022, mae'r rhaglen wedi cefnogi 68 teulu.

Mae ymweliadau blaenorol yr wyf wedi bod arnynt â charchar Eastwood Park a charchar Styal wedi fy ngalluogi i weld â'm llygaid fy hun y gwaith gwych a wneir gan lasbrint cyfiawnder menywod, gan gynnwys Canolfan Menywod Ymddiriedolaeth Nelson yng ngharchar Eastwood Park. Bydd hyn yn darparu un gwasanaeth cynhwysfawr i bob menyw ar y safle hyd at 12 mis cyn iddynt gael eu rhyddhau i'r gymuned, gan gysylltu ystod o wasanaethau gyda'i gilydd.

Gallaf hefyd gadarnhau bod trafodaethau'n parhau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhanddeiliaid allweddol eraill ar y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod. Bydd y ganolfan yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr, gan roi sylw i drawma, i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn ddewis arall yn lle dedfrydau trafferthus a diangen.

Dirprwy Lywydd, rydym yn gwybod bod 57 y cant o fenywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd yn rai sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Mae 63 y cant o ferched a menywod ifanc sy'n treulio dedfrydau yn y gymuned hefyd wedi profi trais rhywiol neu gam-drin domestig wrth law cymar agos. Mae cysylltiadau rhwng tlodi a thrais hefyd, gyda thystiolaeth gref yn amlygu bod anghydraddoldeb incwm sylweddol yn rhagfynegydd cryf o droseddau treisgar. Mae'r ganolfan breswyl i fenywod yn beilot ar gyfer y Deyrnas Unedig i ddangos bod modd cael dewis arall yn lle carcharu.

Rwyf nawr yn troi at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sy'n ystyried cyfiawnder o safbwynt trawma ac sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf. O dan y glasbrint, mae rheolaeth achos well bellach ar gael i bob tîm troseddau ieuenctid yng Nghymru ar gyfer plant mewn cyswllt gwirfoddol a statudol. Mae'r dull seicolegol hwn yn cydnabod y trawma y mae pobl ifanc wedi'i brofi, ac mae'n nodi sut i'w helpu i adeiladu'r cydnerthedd sydd ei angen arnynt i ffynnu a byw bywydau di-drosedd. Yn ogystal, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bellach yn darparu cyllid i gefnogi'r gwasanaeth triniaeth ac ymgynghori fforensig y glasoed. Mae hyn wedi mabwysiadu model seicolegol, gyda phwyslais ar drawma, ar gyfer timau troseddau ieuenctid ledled Cymru, gan wella'r cymorth sy'n cael ei roi i bobl ifanc sy'n agored i niwed.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar fframwaith cyfiawnder atal troseddu ymysg ieuenctid i gefnogi plant sydd mewn perygl o fynd i'r system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn adeiladu ar fuddsoddiad sy'n bodoli eisoes, megis hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol, a ariennir gan grant plant a chymunedau Llywodraeth Cymru, ac mae'r grant yn ariannu prosiectau ar ddargyfeirio, atal a chefnogi pobl ifanc, er mwyn hwyluso newid yn eu hymddygiad.

Ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom ni amlinellu ein gweledigaeth i blant gael llety mewn cartrefi bach sy'n agos at eu cymunedau, a chael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth gofleidiol arbenigol sy'n diwallu eu hanghenion. Bydd bwrdd rhaglenni cartrefi bach, dan arweiniad Llywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Adran Addysg Llywodraeth y DU, yn sbarduno'r gwaith uchelgeisiol hwn.

Dim ond cipolwg byr yw hwn o'n cyflawniadau, sydd wedi'u nodi'n llawn yn y cynlluniau gweithredu. Ar 26 Hydref fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi gwerthusiad, sy'n rhoi ymdeimlad grymus o'r effaith y mae'r glasbrintiau'n ei wneud yn ymarferol. Ddydd Iau, byddaf yn siarad yng nghynhadledd glasbrint cyfiawnder menywod, gan roi cyfle pellach i rannu canlyniadau'r rhaglen. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed gan fenywod gan gynnwys Danielle John, sydd wedi cael cefnogaeth sy'n newid bywydau gan y glasbrintiau ac sydd wedi cynnig arbenigedd amhrisiadwy i'n gwaith, gan gynnwys trwy rannu ei phrofiad byw ei hun.

Mae'r glasbrintiau'n cael eu cynnal fel model enghreifftiol ar gyfer darparu polisïau allweddol, trawsbynciol mewn partneriaeth, sydd bellach yn cael ei efelychu mewn mannau eraill. Mae ein strategaeth genedlaethol, VAWDASV, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn cael ei darparu trwy'r un dull glasbrint, gan roi pwyslais sylweddol ar brofiad a dylanwad goroeswyr.

Rwy'n croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y pwyllgor, a fydd, rwy'n gwybod, yn adlewyrchu'r heriau y mae menywod yn y system gyfiawnder yn dal i'w hwynebu. Mae menywod yn dal i gael eu dedfrydu i ddedfrydau diangen a thrafferthus o dan glo, sy'n gallu cael effaith ddofn ar eu plant a chreu problemau sylweddol mewn meysydd fel iechyd a thai. Rwy'n falch bod y glasbrintiau wedi helpu i liniaru rhai o'r materion hyn, ond dim ond newid radical i'r ffordd y mae menywod yn cael eu trin ar draws y system fydd wir yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr heriau hyn. Dyna pam rydym yn parhau i weithio ar y ganolfan breswyl i fenywod, ac ar hysbysu dedfrydwyr am effaith carcharu.

Mae'r gefnogaeth a roddir i fenywod, plant a phobl ifanc drwy'r glasbrint bellach yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Mae'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, ac ar adegau fel hyn mae'n hanfodol sicrhau bod menywod a phobl ifanc yn cael cymorth i gael mynediad i'r gwasanaethau maen nhw eu hangen.

I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll yn fyr y camau nesaf pwysig ar ein gweledigaeth am gyfiawnder, a gafodd ei nodi ym mis Mai yn ein cyhoeddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Mae ein gweledigaeth yn canolbwyntio ar atal, gan gydnabod mai dim ond wrth ddarparu cyfiawnder cymdeithasol y gallwn ni fynd i'r afael yn wirioneddol â'r rhesymau sylfaenol dros bwysau ar y system gyfiawnder. Mae arnom ni eisiau siarad am y weledigaeth gyffredin a gredwn ni sy'n bodoli ar gyfer agwedd Gymreig unigryw tuag at gyfiawnder, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau wrth i'r trafodaethau hyn esblygu.

Hoffwn hefyd gydnabod cyhoeddiad diweddar 'The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge' gan awduron yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Robert Jones a Richard Wyn Jones. Bydd y llyfr hwn yn rhoi cyfraniad defnyddiol wrth i ni geisio bwrw ymlaen â'r weledigaeth gyffredin hon.

Wrth i gyfiawnder barhau ar hyn o bryd yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl, byddwn yn parhau gyda'n dull cydweithredol a chynhyrchiol o leihau trosedd ac aildroseddu, er mwyn creu Cymru well i bawb o dan y system bresennol, ochr yn ochr â gwaith i ddatblygu'r ddadl dros ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:15

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU glasbrintiau cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid ym mis Mai 2019, i wella partneriaethau, fel y dengys y Gweinidog, rhwng gwasanaethau datganoledig ac anatganoledig, a ddatblygwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â'r datganiad gan Weinidog cyfiawnder Llywodraeth y DU ar y pryd:

'Mae’n bwysig fod gennym, yng nghyd-destun y fframwaith datganoli presennol, ddull gweithredu lleol penodol ar gyfer cyflawni’r gwaith yng Nghymru—dull sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra i droseddwyr er mwyn hybu eu hadsefydliad a’u cadw oddi wrth droseddu am byth.

'Bydd y glasbrintiau hyn yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn barod i gefnogi troseddwyr yng Nghymru a helpu i dorri’r cylch troseddu.'

Dyluniwyd y glasbrintiau hyn i nodi dyheadau allweddol Llywodraeth Cymru ac arwain egwyddorion ar gyfer menywod a phobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu mewn peryg o fynd i mewn iddo, yn canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal cynnar, ac argymell dull cyfannol ac adsefydlol. I ba raddau y mae'r Gweinidog yn cydnabod felly bod hyn yn cyd-fynd â strategaeth carchardai Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU, Papur Gwyn i adsefydlu troseddwyr a lleihau troseddau; strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU i ddargyfeirio troseddwyr bregus o ddedfrydau byr o garchar; a chynllun Turnaround Llywodraeth y DU i ddal ac atal troseddu ieuenctid yn gynt nag erioed, i helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn rhag troseddu pellach, mwy difrifol?

Gwnaeth y bartneriaeth gomisiynu, a sefydlwyd rhwng comisiynwyr yr heddlu a throsedd, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, alluogi asesiad gwerthusadwyedd fis diwethaf ar gyfer glasbrintiau cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid Cymru. Pa gynllun gweithredu sydd gennych chi felly, neu ydych chi'n bwriadu ei gael, i gyflawni ei argymhellion penodol i werthuso'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid sy'n canolbwyntio ar weithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ymgymryd ag ymarfer sylfaenol systematig a sefydlu'r mecanwaith sydd ei angen fel bod modd monitro tueddiadau mewn data dros amser? Mae hyn yn arbennig o berthnasol lle mae argymhellion ar gyfer gwerthuso strategaethu atal yn cynnwys defnyddio data ynghylch yr amser a gymer hi i gyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau iechyd meddwl i ddangos cyflenwad gwasanaeth o'i gymharu â'r galw. Rwy'n parhau i dderbyn gwaith achos rheolaidd ynghylch plant niwroamrywiol y gwrthodwyd asesiad iddynt neu a gawsant gam-ddiagnosis.

Pa ystyriaeth bellach ydych chi wedi ei rhoi i'r argymhellion yn adroddiad Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad yn 2010, 'Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad Plant o Gymru yn yr Ystad Ddiogel', pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor, gan gynnwys bod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Llywodraeth y DU sut bod modd datblygu lleoliadau ystadau diogel newydd yng Nghymru—yn amlwg dim ond ar gyfer y plant hynny na ellir rhoi sylw iddyn nhw fel arall—defnyddio uned ddiogel Hillside yng Nghastell-nedd fel model, ac yn cynnwys datblygu'r ddarpariaeth mewn lleoliad priodol yng ngogledd Cymru?

Pa gynllun gweithredu sydd gennych chi, neu ydych chi'n bwriadu ei lunio, i gyflawni argymhellion penodol yr asesiad gwerthusadwyedd i werthuso glasbrint cyfiawnder menywod, sy'n galw, er enghraifft, am ehangu sylfaen dystiolaeth droseddu'r menywod? Mae'n dweud:

'Mae sylfaenu ac olrhain cynnydd defnyddwyr gwasanaeth trwy flaenoriaethau'r Glasbrintiau yn hanfodol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn argymell datblygu fframwaith perfformiad a monitro aml-asiantaeth ag adnoddau digonol cyn unrhyw werthusiad.'

O ganlyniad i strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU, fe ysgrifennoch chi at yr Aelodau yn datgan y buoch yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ac y byddai un o'r canolfannau preswyl peilot i fenywod, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fel dewis arall yn lle carcharu, gyda'ch cyfranogiad, ger Abertawe yn y de. Sut byddai hyn wedi helpu troseddwyr benywaidd bregus yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn nes at adref? Ymhellach, ym mis Medi, cafodd cynlluniau ar gyfer y ganolfan hon eu gwrthod gan Gyngor Abertawe. Felly, beth yw'r sefyllfa sydd ohoni, lle bellach gall carcharorion benywaidd o Loegr gael eu rhyddhau o garchardai Cymru i gael adferiad mewn canolfannau yn Lloegr ond ni all carcharorion benywaidd yng Nghymru gael eu rhyddhau i ganolfannau cyfatebol yng Nghymru?

Yn olaf, ymwelodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd â Charchar Eastwood Park Ei Fawrhydi yn Swydd Gaerloyw yn ddiweddar, lle daw 148 o'r 340 o garcharorion o Gymru. Ar yr ymweliad, cafodd Aelodau o'r Senedd wybod, wrth gael eu rhyddhau o'r carchar, bod naw o bob 10 carcharor o Gymru'n aildroseddu, o'i gymharu ag un o bob 10 o'r rheiny o Loegr. Felly, sut ydych chi'n cyfrif am hyn, ble mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am swyddogaethau cyfiawnder troseddol, gan gynnwys carchardai, ond mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am dai, iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg pan fydd y menywod hyn yn dychwelyd i Gymru?

16:20

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd, y ddwy Lywodraeth, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. O ran datblygu'r glasbrintiau hyn, mae'r glasbrintiau cyfiawnder i fenywod a chyfiawnder ieuenctid, mae'r ffordd yr ydym ni'n datblygu mewn gwirionedd yn taflu goleuni ar ddatblygiad a chynnydd yng Nghymru, a gall hynny hefyd fod yn ddefnyddiol yng ngweddill y DU, yn fy marn i. Rydym ni wedi gwneud cynnydd mawr hyd yn hyn, oherwydd mae hyn yn ymwneud â chydweithio â'n partneriaid cyfiawnder, ac mae'n ymwneud â'r nod allweddol, sef gwella canlyniadau i fenywod a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â'r system gyfiawnder.

Mae'n amlwg, os ydym ni'n grymuso menywod a phobl ifanc i fyw bywydau iach a di-drosedd—. Mae pwyslais ar atal a dargyfeirio wrth i ni ddatblygu'r glasbrintiau. Fel y dywedoch chi, fe'u cyhoeddwyd yn ôl yn 2019, ac maent yn cael eu darparu mewn partneriaeth nid yn unig gyda HMPPS, y gwasanaeth carchardai a phrawf, ond hefyd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn â'r Swyddfa Gartref a'r comisiynwyr heddlu a throsedd, ond hefyd, yn wir, pawb sy'n rhan o ddarparu gwasanaethau. Bydd hynny'n cynnwys y gwasanaethau datganoledig o ran llywodraeth leol, iechyd, tai ac addysg.

Rwy'n credu ei bod hi yn bwysig cydnabod mai'r hyn rydym ni'n ei wneud yng Nghymru—ac rydym ni'n mynd i ganolbwyntio arno yn y gynhadledd y soniais amdani, ddydd Iau—yw'r arloesedd rydym ni'n llwyddo i'w gyflwyno. Yn amlwg, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn edrych ar hyn yn ofalus iawn o ran tystiolaeth. Dyna i chi'r cynllun braenaru arloesol i fenywod, gyda'r dull system gyfan yma. Dyna'r gwasanaeth ymyrraeth gynnar 18 i 25 sy'n cael ei ddarparu yn ne Cymru a Gwent, sy'n cydnabod effaith yr ymyriadau hynny. Mae'r ffaith, mewn gwirionedd, ein bod ni hefyd wedi cael gwerthusiad annibynnol o'r gwasanaeth—fe wnaethoch chi ofyn am werthuso—gan ddangos sut mae'r gwasanaeth mewn gwirionedd yn cefnogi menywod i fynd i'r afael ag anghenion ac agweddau agored i niwed. A dyna effaith gadarnhaol y gwasanaeth o ganlyniad i'r ymyrraeth honno.

Mae'n bwysig, pan edrychwn ni ar y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, ei fod mewn gwirionedd yn rhoi plant yn gyntaf, sef yn rhoi pwyslais ar hawliau plant. Mae hyn yn golygu gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn hytrach na ffordd sy'n canolbwyntio ar wasanaeth. Mae'n ymwneud â diwallu anghenion plant yn y system gyfiawnder, neu rai plant sydd mewn peryg o ddod i mewn i'r system honno. Rwy'n credu y dylem ni edrych ar rai o'r canlyniadau allweddol hynny, fel y gwasanaeth triniaeth ac ymgynghori fforensig y glasoed, gan ddarparu model gwirioneddol gynhwysfawr lle mae pwyslais ar seicoleg a thrawma, fel y soniais, i dimau troseddau ieuenctid yng Nghymru.

Erbyn hyn mae gennym ni wobr ymarfer effeithiol, sydd wedi codi lefel yr ymarfer ledled Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y prosiect cartrefi bach a'r ffaith ein bod yn cydweithio i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni weld plant yn systemau lles a chyfiawnder Cymru wedi eu cydleoli'n llawn yn yr un adeilad neu safle. Roedden ni'n gytûn pan gwrddais â'r Gweinidog ar y pryd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i edrych ar y ffordd ymlaen pan fyddwn ni'n symud ymlaen mewn gwirionedd. Yn amlwg, bu gan Hillside swyddogaeth bwysig iawn, ein canolfan blant, ac mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a minnau wedi ymweld yn rheolaidd. Rydym ni wedi cyfrannu mwy o arian at hynny, ond rydym ni nawr yn edrych ar fwrdd prosiect cysgodol cartrefi bach, gan edrych ar y ffordd y gallwn ni gael y cartrefi bach cyfun hyn wedi'u cydleoli'n llawn yn yr un adeilad neu safle. Wrth gwrs, mae'r tai bychain yma yn golygu y byddwn ni'n gallu wedyn rhoi'r ddarpariaeth yna ar draws Cymru, ac nid fel mae hi ar hyn o bryd, dim ond yn ne Cymru.

Fe hoffwn i ond rhoi diweddariad o ran canolfan breswyl y menywod; fe wnaethoch chi holi am hynny. Mae hyn yn ymwneud â darparu dull mwy cyfannol ystyriol o drawma o ddarparu gwasanaethau i fenywod. Mae'n gynllun peilot; rydym yn ceisio edrych ar y peilot fel dewis arall yn lle carcharu. Mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar hyn fel cyfle yng Nghymru i ddarparu'r prosiect peilot hwnnw, i edrych ar ganlyniadau hynny pan fyddwn ni'n ei sefydlu. Bydd yn bwysig iawn, fel peilot, y gellir wedyn ei efelychu. Wrth gwrs, Mark, rydym ni wedi trafod hyn mewn cwestiynau gennych chi o'r blaen. Oherwydd fe hoffwn i weld y peilot hwnnw'n cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o Gymru, wrth gwrs, ond mae angen i ni sefydlu canolfan breswyl y menywod.

Yn y cyfamser, mae gennym ni ddatblygiadau da o ran y glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd o ran llety a mentrau cefnogi i fenywod yn y system gyfiawnder. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad yr adroddiad a gomisiynwyd—ymchwil annibynnol o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn cydweithrediad â Llamau i gael dealltwriaeth well o anghenion llety menywod o Gymru a'r rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu ar wahanol adegau yn y daith gyfiawnder troseddol. Rydym ni'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwnnw wedi'i rannu gyda ni yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at wneud fy rhan yn ymweld â'r ganolfan newydd ONE Woman's Centre yng Ngharchar Eastwood Park. Ond hefyd, bydd canolfan arall sy'n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Nelson, sy'n rhedeg yr un yng Ngharchar Eastwood Park, yng Nghaerdydd hefyd, gan ddarparu'r gwasanaeth canolfan dydd hollbwysig hwnnw i fenywod, sy'n gallu galluogi menywod i gael mynediad at bwy sydd wedi cael dedfrydau mewn gwirionedd ond nid dedfrydau o garchar, sy'n gallu byw yn y gymuned wedyn ac elwa o'r holl wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu.

Felly, rydym ni'n gwneud cynnydd; mae mwy i ddod, ond rwy'n credu yn enwedig o ran troseddwyr ifanc a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, mae'r dull hwn o hawliau plant wedi cael ei gydnabod yn eang y tu allan i Gymru. Mae nifer y troseddau ymysg ieuenctid yn gostwng, ac rwy'n credu mai'r ymyrraeth gynnar a gwell rheolaeth achosion sy'n cael cymaint o effaith. Ond mae hefyd yn ymwneud â gwasanaethau datganoledig yn ymgysylltu'n llawn, sydd yn fy marn i yn cyflwyno achos da iawn dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru.

16:30

Diolch, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich datganiad, ac rŷn ni wedi clywed am ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac rwy'n aelod ohono—. Fe ges i brofiad anhygoel, a dweud y gwir, anhygoel o werthfawr ar yr ymweliad yna i HMP Eastwood Park. Achos dyna lle roedden ni'n medru deall yn iawn, mewn gwirionedd, goblygiadau y modd y mae menywod Cymru yn cael eu hanfanteisio gan y system gyfiawnder droseddol drwy gael eu carcharu a chael eu carcharu yn Lloegr; y camwahaniaethu amlwg sy'n digwydd iddyn nhw yn sgil eu rhywedd, yn tanseilio rhaglenni adferiad, a'r modd y mae dedfrydau byrion cwbl anaddas a dibwrpas yn creu difrod a niwed i fywydau ac i deuluoedd rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas, sydd wedi eu camfanteisio ac yn aml eu cam-drin fel y sonioch chi.

Fe glywson ni gan y llywodraethydd yno mai 42 o ddiwrnodau oedd dedfryd carcharon benywaidd Eastwood Park ar gyfartaledd—digon hir i fenyw o Gymru golli'i thŷ, ei theulu, ei rhaglen o driniaethau iechyd, ond dim yn ddigon hir i fenyw o Gymru fedru elwa o raglenni a fyddai'n gallu ei chefnogi hi a'i chryfhau hi, ei helpu hi i ddod yn rhydd o ymddygiadau niweidiol, ei helpu i leddfu problemau iechyd, iechyd meddwl, a chael cyfle i ddelio gyda thrawma a thrais y mae hi wedi eu dioddef. 

Gweinidog, gwnaeth hynny i mi sylweddoli mewn gwirionedd sut mae'r ymyl ddanheddog honno o rymoedd a chyfrifoldebau datganoledig anunion, ffiniol ond cyfun sy'n llywodraethu'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn un mor finiog i fenywod, a ddangoswyd, wrth gwrs, mor glir gan y llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yr oeddech yn ei gydnabod fel cyfraniad defnyddiol. Mae'r cwestiynau y mae eu llyfr yn eu gofyn am ddichonoldeb llunio polisïau cydgysylltiedig mewn tirwedd ddeddfwriaethol mor gymhleth, gyda dwy Lywodraeth yn rheoli gwahanol feysydd a liferau ac atebolrwydd, yn hanfodol, yn wir, i'w hystyried wrth werthuso a datblygu strategaethau fel y glasbrint ac, yn wir, datganoli cyfiawnder i Gymru.

Mae'r asesiad gwerthuso diweddar y cyfeirioch chi ato yn eich datganiad yn tanlinellu pwynt yr awduron, rwy'n credu, ynghylch diffyg data disylwedd. Roeddwn i mewn seminar yn ystod yr egwyl lle roedden nhw'n dweud wrtha i eu bod yn gorfod defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth er mwyn cael peth o'r data oedd ei angen arnyn nhw i wneud eu dadansoddiad. Mae hyn yn benodol yn wir o ran canlyniadau menywod o Gymru yn y system cyfiawnder troseddol. Felly, beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn?

Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad ein pwyllgor, dywedodd Dr Robert Jones, ers cyhoeddi'r glasbrint ar gyfer troseddwyd benywaidd yn 2019, er enghraifft, bod Llywodraeth y DU, wrth geisio cyflawni ei blaenoriaethau polisi ei hun, wedi datgelu cyfres o fentrau cyfiawnder troseddol a diwygiadau a fydd, yn ôl ei rhagamcanion ei hun, yn tanseilio'r addewidion a nodir yn y glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad y glasbrint i leihau nifer y menywod yn system cyfiawnder troseddol Cymru. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, a pha sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU am effaith ei blaenoriaethau polisi ar nodau'r glasbrint a rennir o ran troseddu gan fenywod yn benodol?

Roedd hefyd yn hynod bryderus ddoe, yn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar yr ymchwiliad hwn, i glywed prif weithredwr y Gymdeithas Ynadon yn rhannu gyda ni nad oedd 50 y cant o'i aelodau, mewn arolwg yr oedden nhw wedi'i gynnal, yn gyfarwydd â'r glasbrint a'i nodau. Clywsom nad oedd ynadon, hyd yn oed ar lefelau uwch, sydd, wedi'r cyfan, fel dedfrydwyr yn elfen allweddol yn y strategaeth hon, yn teimlo y buont yn rhan o'r glasbrint. Gweinidog, a allech chi esbonio hyn, ac a allech chi ddweud wrthym ni sut rydych chi'n bwriadu sicrhau bod lleisiau'r holl randdeiliaid yn cael eu clywed a sut mae nodau'r glasbrint yn cael eu cyfleu iddynt a'u hymgorffori ym mhob agwedd ar yr asiantaethau sy'n ymwneud â'i weithredu a'i werthuso?

Ac un allweddol i mi, ac rwy'n credu fy mod i, mae'n debyg, yn siarad ar ran rhai o fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor hwnnw: yn dilyn y sgyrsiau a gefais yng ngharchar Eastwood Park, gofynnwyd i mi, 'A fydd yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud wrthych chi y prynhawn yma yn gwneud gwahaniaeth? A fydd pethau'n newid?' A allwch chi ddweud wrthym ni sut mae unrhyw gynnydd yn cael ei gyfleu i'r menywod sy'n byw ar yr ymyl ddanheddog, finiog honno? Diolch.

16:35

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at ganlyniad eich ymchwiliad a'r argymhellion a gyflwynir i Lywodraeth Cymru, ond hefyd oherwydd y bydd yn adroddiad a rennir yn llawer ehangach, nid yn unig gyda Llywodraeth Cymru, ond hefyd gyda Llywodraeth y DU, o ran holl bartneriaid Llywodraeth y DU, a'r system gyfiawnder troseddol o ran dedfrydwyr. Dyma hefyd lle mae fy ymgysylltiad â'r Cwnsler Cyffredinol mor bwysig, wrth i ni edrych ar yr ymyl ddanheddog hon, yr ydym ni'n ei chydnabod yn llwyr, a dyna pam roedd 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' yn bapur mor bwysig i'n helpu i'n harwain ymlaen ac, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n gweithio ag ef ac yn ei godi gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ar wahân.

Fe hoffwn i droi at y sylw hwnnw y gwnaethoch chi—a fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth—oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi'n mynd i garchar Eastwood Park ac, yn wir, i garchar Styal, y credaf fod aelodau o'r pwyllgor yn mynd iddynt. Pan es i i'r ddau garchar yna, allwch chi ddim anghofio beth ddywedodd y menywod wrthon ni. Y sioc pam maen nhw yno yn y lle cyntaf—ac fe wnes i sôn am yr ystadegau yn gynharach ynglŷn â'r trais a'r cam-drin domestig; y trawma roedden nhw wedi ei wynebu yn eu bywydau—ac yna'r sefyllfa roedden nhw ynddi o ran y ddarpariaeth o ran darpariaeth adsefydlu ac amgylchiadau i symud ymlaen.

Y peth pwysig—a dyma pam mae'r glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd—. Mae a wnelo hyn â chyfiawnder menywod. Mae'n rhaid i mi ddweud bod chwe egwyddor arweiniol i'r glasbrint cyfiawnder menywod, a'r un cyntaf yw cynnwys menywod â phrofiad byw ac ymrwymiad i gyd-gynhyrchu. Felly, mae'n rhaid i ni ddangos bod hynny'n digwydd. Mae fy natganiad heddiw yn rhan o'r craffu hwnnw, ac mae arna i eisiau fod yn rhannu hyn. Rwyf yn ymweld â charchar Eastwood Park ym mis Ionawr gyda'r Cwnsler Cyffredinol, ac felly byddaf yn gallu siarad yn uniongyrchol â—efallai fod rhai o'r menywod y gwnaethoch chi eu cyfarfod wedi gadael y carchar nawr, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cael y trafodaethau hynny. Ond hefyd bod yr egwyddorion eraill yn cael eu harwain gan dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth ein bod ni'n dod at ein gilydd a'r mynediad at ddata yn hanfodol bwysig. Mae hyn yn fater mawr i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae arnom ni eisiau'r data hwnnw. Mewn gwirionedd mae gennym ni gytundeb gyda nhw y dylem ni sefydlu ffiniau ar gyfer y data sydd ei angen arnom ni. Ni ddylai fod wedi bod yn rhaid i'r Dr Robert Jones gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth i gael yr wybodaeth honno. Y data hwnnw nawr, rydym ni wedi cael cydnabyddiaeth bod angen darparu hynny.

Mae'r canolbwyntio ar y person, ar drawma ac ar rywedd yn hanfodol—mae'r rhain i gyd yn egwyddorion arweiniol. Ond y peth hollbwysig, mewn gwirionedd, o ran darparu cyfiawnder, yw integreiddio gwasanaethau datganoledig a heb eu datganoli yn well. Ac os edrychwch chi arni, ie, mae darparu gwasanaethau i ferched yn y ddalfa yn gyfrifoldeb ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae'r llinell gyfrifoldeb ddeddfwriaethol yn newid o wasanaethau Seisnig i rai Cymreig pan fyddan nhw wedi gadael y carchar a phan fyddan nhw yn y cymunedau yng Nghymru. Ac felly, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am iechyd, addysg a chamddefnyddio sylweddau.

Mae yna lawer o bethau sydd wedi eu datblygu, a byddwch wedi clywed amdanyn nhw o'ch ymweliadau ac o'ch ymchwiliad. Mae cydlynwyr llwybr llety pob uned gyflenwi ar gyfer y gwasanaeth prawf ar draws Cymru'n hynod bwysig o ran y llwybr i sicrhau llety.  Rwyf wedi sôn am y gwasanaeth Ymweld â Mam. Rwyf wedi sôn am drais yn y cartref. Mae Cynghorydd annibynnol Cymru Ddiogelach ar drais domestig a thrais rhywiol—swydd yw honno yng ngharchardai Eastwood Park a Styal, ac mae hynny'n helpu menywod i ailsefydlu'n ôl yng Nghymru. Ond hefyd, mae'r cyfeiriadau yn dod drwy'r llwybr hwnnw o ran tîm rheolwyr ailsefydlu troseddwyr a'r ONE Women's Centre. Mae Pobl, sy'n darparu'r cyswllt carchardai yn y de—byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith hwnnw gyda menywod Cymru, i edrych ar bob agwedd ar anghenion llety. Ac rwyf wedi sôn am yr ymchwil a wnaed gyda Llamau a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam hefyd, i edrych ar yr anghenion llety ehangach hyn. Rwy'n gobeithio y cawn ni yr ymateb hwnnw yn ôl mewn pryd ar gyfer canlyniad eich ymchwiliad hefyd.

Ond rwy'n credu ei bod hi yn bwysig bod gennym ni'r trydydd sector yn ymwneud yn fawr—Cymru Ddiogelach, Ymddiriedolaeth Nelson ac, yn wir, o ran y rhaglen fraenaru i fenywod, llawer o sefydliadau eraill—Cymorth i Ferched Casnewydd, ar lefel leol—. Y ffaith ein bod, hefyd, yn edrych ar anghenion lleiafrifoedd ethnig hefyd—. Mae gwaith penodol yn cael ei wneud, gyda £2.5 miliwn ar gyfer cyfeirwyr benywaidd i'r gwasanaeth braenaru. Felly, rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o hyder i chi ein bod yn symud ymlaen gyda'r ymyl ddanheddog honno, gyda'r agweddau datganoledig a'r rhai sydd heb eu datganoli, gydag ymrwymiad allweddol i weithio aml-asiantaeth a buddsoddi. Daw'r buddsoddiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â Llywodraeth y DU. Daw hefyd gan ein comisiynwyr heddlu a throsedd a'r trydydd sector. 

16:40

Gyda'r amser byr iawn sy'n weddill, Gweinidog, roedd arna i eisiau dweud diolch am gyflwyno hyn heddiw. Fe fyddwn i'n dweud, ar y cyfan, y bu'r ymateb rwyf wedi ei glywed, beth bynnag, i'r glasbrint cyfiawnder menywod yn gadarnhaol, yn ogystal â phrosiect Ymweld â Mam. Ond dim ond eisiau adeiladu oeddwn i, a dweud y gwir, ar beth mae fy nghyd-Aelod Sioned Williams wedi'i ddweud. Pan wnaethom ni ymweld â charchar Eastwood Park yn ddiweddar, cawsom wybod bod cant y cant o'r menywod yno yn ddioddefwyr cyn iddyn nhw gael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol; mae 60 y cant ohonyn nhw, ar hyn o bryd, yn fenywod o Gymru.

Felly, dim ond tri pheth oedd arna i eisiau eu codi yn gyflym iawn. Cawsom wybod gan y menywod nad oes ganddyn nhw fynediad at gynrychiolydd etholedig. Does ganddyn nhw ddim ffordd o e-bostio rhywun; allwch chi ond anfon e-byst atyn nhw. Felly, os gellir ymchwilio i hynny ar frys, credaf y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth aruthrol iddyn nhw. Nid oes ganddyn nhw fynediad chwaith i Buvidal; Mae'n rhaid iddyn nhw gael methadon bob dydd, mae'n eu gwneud nhw'n sâl iawn ac mae'n llawer anoddach iddyn nhw gadw oddi ar y cyffuriau. Maen nhw'n cael gwybod nad ydyn nhw'n gallu cael hynny, yn wahanol i'r carcharorion Seisnig sydd yno, am eu bod yn Gymry. Dydyn nhw chwaith ddim yn gallu cael mynediad i unedau preswyl yn syth ar ôl iddyn nhw ddod allan o'r carchar, fel mae menywod yn Lloegr yn ei wneud, sydd wedi eu hatal rhag aildroseddu.

Yn olaf, mae'n debyg mai tai a llety yw'r prif bryder sydd ganddyn nhw. Siaradais ag un fenyw oedd i fod i gael ei rhyddhau o garchar Eastwood Park ar 21 Rhagfyr. Fy ymateb cychwynnol oedd, 'O.' Ac fe ddywedodd hi, fel, 'ie, byddech chi'n meddwl y byddwn i'n hapus am fynd adref adeg y Nadolig.' Ond, meddai, 'does gen i ddim tŷ i fynd iddo. Mae'n rhaid i mi deithio o'r fan yma i Abertawe, i swyddfeydd y cyngor, dau ddiwrnod cyn y Nadolig gan erfyn arnyn nhw am lety.' Dim ond pedwar o'r 22 awdurdod lleol sy'n derbyn cyllid—[Anhyglywadwy]—bellach; mae'n rhaid i'r lleill gofrestru ar ei gyfer cyn gynted â phosib. Felly, pe gellid ymchwilio i hynny, byddai hynny'n wych. Diolch.

Diolch yn fawr. Rwy'n siŵr y byddaf yn cael y cwestiynau hyn yn sgil argymhellion gan y pwyllgor. Yn amlwg, dylai fod mynediad i'w cynrychiolwyr etholedig o ble bynnag yw eu cartref, eu tref enedigol. Rwy'n siŵr, fel Aelodau etholaethol, fod llawer ohonoch chi wedi cynrychioli—. Ond mae angen i'r menywod wybod pwy ydyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wybodaeth—mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni adrodd yn ôl yn ei gylch syth—o ran eu sefyllfaoedd.

Rwy'n credu bod y gefnogaeth a'r mentrau gofal iechyd yn hanfodol bwysig, ac rydym ni'n edrych ar hynny. Mae cytundeb ar gyfer adnodd penodol i fenywod gyda'r tîm cydlynydd iechyd a chyfiawnder newydd. Bydd hynny hefyd yn cysylltu gyda byrddau iechyd lleol. Mae cytundeb partneriaeth eisoes ar gyfer iechyd carchardai.

Hefyd, dim ond i wneud yn siŵr bod pobl yn deall: rwy'n sôn am yr ymyl ddanheddog yna eto, o ran y cyfrifoldebau rhwng llywodraeth leol a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'n bod ni'n edrych ar y materion hynny o ran mynediad i iechyd. Yn wir, rwyf wedi sôn am addysg iechyd, camddefnyddio sylweddau. Rwy'n deall y bu triniaethau camddefnyddio sylweddau fel Buvidal ar gael i gleifion, ond mae angen i ni nodi os nad yw hyn yn digwydd. Mae ar gael y tu allan i'r carchar cyn iddo gael ei ragnodi yn y carchar, felly mae angen i ni sicrhau bod yna gydnabyddiaeth o anghenion menywod Cymreig mewn carchardai. Ond mae eich adborth o'ch ymweliad â charchar Eastwood Park yn werthfawr iawn, ac edrychaf ymlaen at ymweld fy hun maes o law.

Diolch. Mae dros 15 mlynedd ers i adroddiad Corston argymell na ddylai'r rhan fwyaf o fenywod fod yn mynd i'r carchar, a bod angen dedfrydau cymunedol i'r bobl yma. Felly, mae angen i ni fod yn ymchwilio i hyn ar frys. Yn amlwg, byddai'n well gen i pe bai gennym ni system gyfiawnder troseddol ddatganoledig. Fel y mae adroddiad 'Justice at the Jagged Edge in Wales' yn ei gwneud yn glir, dyma'r unig Senedd a Llywodraeth nad oes ganddi farnwriaeth ochr yn ochr â hi, ac, am bob math o resymau, mae hynny'n syniad gwirioneddol wael, mewn gwirionedd.

Felly, mae gwir angen i ni unioni hynny. Rwy'n croesawu'n fawr y gwaith sy'n cael ei wneud i atal menywod rhag mynd i'r carchar ac i roi cefnogaeth gynnar iddyn nhw i atal hynny a sicrhau bod hynny ddim yn digwydd. Fe wnaethoch chi sôn am y niferoedd sydd wedi cwblhau'r pecyn hyfforddi rhywedd a thrawma ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y system gyfiawnder, a dim ond meddwl oeddwn i tybed a ydych chi mewn sefyllfa i ddweud wrthym ni faint sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant hwnnw o Styal ac Eastwood Park, oherwydd un o'r materion a gododd yn Styal oedd bod prinder difrifol o staff, a olygai fod hyd yn oed y pethau mwyaf sylfaenol yn cael eu gohirio weithiau, fel y cynadleddau fideo sydd gan fenywod gyda'u plant. Felly, mae'n wir—mae'r system wedi torri'n llwyr, ac mae angen i ni ei drwsio mor gyflym â phosib.

O ran merched ar ddedfrydau byr, peth hollol ddibwrpas, mae'r drws tro yn gweithio'n wych gyda dedfrydau byr; maen nhw'n dod yn ôl i mewn. Felly, fe hoffwn i wybod ychydig mwy am eich sgyrsiau gyda'r heddlu, os yn bosibl, ar y gwahaniaethau—a chyda'r ynadon—ynghylch pam, er enghraifft, fod Gwent yn anfon 88 y cant o'r bobl y mae'n eu dedfrydu ar ddedfrydau byr, pan mai yn ne Cymru dim ond 55 y cant yw'r ganran. Mae hynny'n wahaniaeth sylweddol mewn ardaloedd cyfagos. Felly, pam mae hynny, a sut allwn ni gwtogi hynny?

16:45

A gaf i ddweud y bydda i'n ymchwilio i'r sylw yna? Mae'n rhywbeth rwy'n siŵr a gaiff ei grybwyll. Does a wnelo hynny ddim â Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â chyfiawnder troseddol; mae'n ymwneud â chyfiawnder a chyfiawnder a chyfiawnder lleol i ferched yng Nghymru, ac fe wna i ymchwilio i hynny o ran gwahaniaeth daearyddol. Ond hefyd fe ddylen ni fod yn gweithredu ar adroddiad Jean Corston. Mae'n rhaid i ni gael dewis arall yn hytrach na charchar i fenywod, mae arnom ni eisiau lleihau dedfrydau o garchar, ac mae arnom ni eisiau sicrhau bod ein strategaeth VAWDASV mewn gwirionedd yn helpu i atal menywod rhag cymryd rhan mewn gwirionedd neu gael eu tynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Diolch i chi am eich cefnogaeth i ddatganoli cyfiawnder i Gymru.

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl

Eitem 8 yw’r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol, hyfforddiant y gwasanaeth tân a chapasiti i ehangu’r rôl. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan ein gwasanaethau tân ac achub llawer iawn i fod yn falch ohono. Yn benodol, maen nhw wedi gwneud cyfraniad mawr at sicrhau lleihad sylweddol a chyson mewn tannau.

Erbyn hyn mae llai na hanner cymaint o danau ag oedd yn 2005, ac mae tanau preswyl, sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o farwolaethau ac anafiadau tân, yn agos at neu ar eu hisaf erioed. Er bod hyn yn anochel wedi lleihau'r llwyth gwaith ymateb brys i ddiffoddwyr tân yn hyn o beth, mae angen o hyd i ddiffoddwyr tân allu ymateb i unrhyw dân neu ddigwyddiad arall ar unrhyw adeg, a gall argyfwng mawr barhau i fod angen yr holl adnoddau sydd ar gael ar draws ardal eang. Felly, er bod rhai gostyngiadau cymedrol wedi bod yn nifer y diffoddwyr tân dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf, nid ydynt yn agos at fod mor fawr â'r gostyngiad yn nifer y tanau. Er hynny, mae hyn yn creu potensial clir i'r gwasanaeth wneud mwy, ac, yn benodol, i gefnogi ein GIG. Mae gan ddiffoddwyr tân lawer o'r sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer hyn eisoes, ac mae tystiolaeth gref y byddai hyn yn sicrhau canlyniadau iechyd gwell ac arbedion sylweddol.  Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, er enghraifft, mae diffoddwyr tân o dros 20 o orsafoedd yn ymateb yn rheolaidd i ddigwyddiadau meddygol i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans. Maen nhw wedi achub bywydau cannoedd o gleifion ac wedi gwella'r canlyniadau i lawer mwy.

Y nod tymor hir fu, ac yw, i wireddu'r potensial hwn. Ym mis Mawrth 2021, fe wnes i ddatganiad ar y cyd â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd yn nodi'r weledigaeth hon ac yn disgrifio swyddogaeth ehangach i'r gwasanaethau tân ac achub. Roedd ganddo dair prif elfen: ymateb meddygol brys i achosion lle mae brys yn hanfodol i oroesi, fel ataliad ar y galon; ymateb i bobl sydd wedi syrthio ond heb eu hanafu, nad ydynt yn brif flaenoriaeth i'r gwasanaeth ambiwlans ond y gall eu cyflwr ddirywio'n gyflym; ac atal cwympiadau a damweiniau eraill yn y cartref.

Er mwyn rhoi sicrwydd i mi y gellid gwireddu hyn yn ddiogel, cynhaliodd ein prif gynghorydd tân ac achub, Dan Stephens, adolygiad ar ddiwedd 2021 o'r gallu sydd gan y gwasanaeth i ymgymryd â swyddogaeth ehangach. Daeth ei adolygiad ef i'r casgliad fod gallu o'r fath yn bodoli, ond bod angen newidiadau i arferion gwaith i'w wireddu'n ddiogel. Yn benodol, roedd llawer o'r gallu yn ystod y shifft nos gyfan, pan nad yw diffoddwyr tân yn aml yn rhan o ymateb brys ac yn cael gorffwys neu gysgu os nad ydynt, tra bod tystiolaeth yn dangos bod y rhan fwyaf o argyfyngau meddygol yn digwydd yn ystod y dydd.

Rhywbeth a barai ofid mwy uniongyrchol oedd bod y prif gynghorydd tân ac achub, yn ystod yr adolygiad hwn, wedi canfod tystiolaeth bod angen newidiadau beth bynnag, gan nad oedd diffoddwyr tân yn treulio digon o amser yn cynnal gweithgareddau i leihau'r tebygolrwydd o dân neu yn hyfforddi i sicrhau bod eu sgiliau yr hyn y dylen nhw fod. Mae unrhyw ddiffygion mewn hyfforddiant yn arbennig o bryderus. Mae diffodd tân yn broffesiwn hynod gymhleth, sydd angen meistrolaeth ar ystod eang o brosesau, tactegau ac offer, a dealltwriaeth lawn o'r peryglon sy'n bodoli gyda thannau neu ddigwyddiad arall. Os na chefnogir diffoddwyr tân i gael eu hyfforddi'n briodol, ni allant weithio'n ddiogel, sy'n peryglu eu diogelwch eu hunain a'r rhai y gelwir arnynt i'w hamddiffyn. Ac fel sy'n wir, yn naturiol, bydd sgiliau'n dirywio os na chânt eu defnyddio'n rheolaidd, mae'r dirywiad yn nifer yr achosion o dân yn atgyfnerthu'r angen am hyfforddiant rheolaidd o ansawdd uchel.

O ganlyniad, cynhaliodd y prif gynghorydd tân ac achub adolygiad manwl pellach o hyfforddiant diffoddwyr tân, a gyhoeddwyd fis diwethaf. Canfu hyn nifer o faterion a allai fod yn ddifrifol, megis diffyg mynediad at gyfleusterau hyfforddi realistig a dibyniaeth ormodol ar swyddogion isel eu safle—heb unrhyw fai arnyn nhw—a allai fod heb hyfforddiant cefndirol. Yn fwyaf pryderus, fe wnaeth y prif gynghorydd tân ac achub argymhelliad dros dro fis Mawrth diwethaf y dylai ein tri gwasanaeth tân ac achub sefydlu ar frys faint o amser hyfforddi sydd ei angen, ond eto does yr un ohonyn nhw wedi gwneud ymgais ddifrifol i wneud hynny. Felly, ysgrifennais at gadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub ar 6 Hydref, yn eu hannog i dderbyn a gweithredu ar yr argymhellion hyn yn ddi-oed. Roeddwn yn falch bod awdurdod tân ac achub y gogledd wedi gwneud hynny ac wedi amlinellu rhaglen gynhwysfawr yn eu hymateb manwl i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion. Byddwn yn annog y lleill i ddilyn yr esiampl hon.

Mae tri rheswm sylfaenol pam mae angen gweithredu. Yn gyntaf, mae diffodd tân wedi dod yn llawer mwy cymhleth yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd datblygiadau mewn technoleg, ehangu swyddogaeth y gwasanaeth—er enghraifft, i gynnwys llifogydd a damweiniau ffordd—a newidiadau i ddeunyddiau a chynnwys adeiladu. Eto i gyd, nid yw arferion gwaith y gwasanaeth a'r amser hyfforddi sydd ar gael wedi newid i raddau helaeth ers y 1970au. Yn ail, mae pryderon penodol ynghylch diffoddwyr tân neilltuedig neu ar alwad, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r gweithlu ac yn cynnwys y mwyafrif helaeth o Gymru. Dim ond dwy neu dair awr o hyfforddiant yr wythnos sydd ganddyn nhw bob wythnos—ffracsiwn bach o'r hyn a gaiff eu cydweithwyr llawn amser—ond eto mae'n rhaid iddyn nhw gynnal yr un sgiliau i'r un lefel. Mae hynny'n peryglu gofyn gormod o'r criwiau hynod ymroddedig hyn. Mae materion ehangach a hirdymor yn ymwneud â chynaliadwyedd y system dyletswyddau neilltuedig, a byddwn yn cydweithio â chyflogwyr ac undebau llafur i fynd i'r afael â hyn. Ond mae'r problemau ynglŷn â hyfforddiant yn bryder sydd angen rhoi sylw iddo ar unwaith.

Yn drydydd, ac yn bwysicaf oll, nid risgiau technegol neu ddamcaniaethol yn unig yw'r rhain; maen nhw'n gosod diffoddwyr tân a'r cyhoedd mewn perygl amlwg. Mae diffygion hyfforddi wedi bod yn gysylltiedig â bron pob marwolaeth diffoddwr tân yn y DU yn y 25 mlynedd diwethaf, ac yn y golled drasig o fywyd yn Nhŵr Grenfell a mannau eraill. Nid wyf yn barod i aros am drasiedi i sbarduno'r camau yma. Er ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i swyddogaeth ehangach i ddiffoddwyr tân, ni allwn ofyn i ddiffoddwyr tân ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol tra bod pryderon am ddiogelwch arferion a hyfforddiant presennol. Byddwn yn dychwelyd at yr amcan hwnnw unwaith y bydd gennym ni sicrwydd llawn ynghylch y materion hyn. Rydym ni nawr yn disgwyl i'r cyflogwyr fynd i'r afael yn llawn â'r materion hyn yn gadarn ac ar frys, rhywbeth rwy'n siŵr y byddai Aelodau'n cytuno ag ef. Byddai methu â gwneud hynny yn weithred anghyfrifol ar ran cyflogwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod angen gweithredu ar hyfforddiant diffoddwyr tân, a byddwn yn cymryd camau priodol i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae sicrhau diogelwch y gweithlu ymhlith dyletswyddau pwysicaf unrhyw gyflogwr, ac yn elfen allweddol o bartneriaeth gymdeithasol. Mae hynny'n arbennig o wir ar gyfer diffodd tân, sydd yn gynhenid beryglus ac sydd hefyd yn cynnwys diogelu'r cyhoedd yn uniongyrchol. Felly, fy mwriad yw sefydlu fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub, a fydd yn cynnwys cyflogwyr ac undebau llafur yn mynd i'r afael â'r materion hyn a materion eraill ar y cyd, a bydd yn cwrdd am y tro cyntaf yn gynnar y flwyddyn nesaf. Yn y tymor byrrach, mae angen mynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol iawn ynghylch hyfforddiant, ond bydd y fforwm yn rhoi llwyfan i ni yn y tymor hirach i gydweithio i gefnogi a chynnal ein gwasanaethau tân ac achub a'r rhai sy'n eu darparu.

16:50

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw, ac os caf i, hoffwn ymateb i ambell bwynt. Yn gyntaf, sail eich cynigion yw nad yw diffoddwyr tân yn ymdrin â chymaint o danau mwyach ac felly mae ganddyn nhw fwy o gapasiti i helpu gydag argyfyngau meddygol, ond rwy'n teimlo eich bod wedi methu â chydnabod mai'r rheswm dros y gostyngiad yn nifer y tanau yw bod diffoddwyr tân yn gwneud gwaith da iawn, nid yn unig wrth addysgu pobl i asesu risgiau, ond wrth helpu pobl i weithredu mwy o fesurau diogelwch tân. Ac nid ydych wedi sôn am sut y byddwch yn cynnal hyn os ydych chi'n ehangu swyddogaeth diffoddwyr tân i gynnwys galwadau meddygol brys. 

Ar ben hynny, rydych chi'n dweud bod canfyddiadau'r adolygiad thematig, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn nodi bod diffyg hyfforddiant ar hyn o bryd a bod hyn oherwydd y ddibyniaeth drom ar y disgresiwn a ddangosir gan swyddogion iau pan fyddant yn gweithredu'r gwaith o gynnal protocolau hyfforddi. Ond ble mae'r dystiolaeth bod diffoddwyr tân, yng Nghymru, wedi cael hyfforddiant hynod o annigonol? Mae'r adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato hyd yn oed yn dweud, ar bwyntiau 93 a 94, bod asesu cymhwysedd hyfforddi yn anodd ei asesu'n gadarn ar wahân, ac, yn ymarferol, i hwyluso asesiad ystyrlon o bob diffoddwr tân unigol ar draws sawl ardal gymhwysedd byddai angen llawer iawn o amser.

Felly, fe fyddwn i'n dadlau, Dirprwy Weinidog, bod hwnnw'n ddatganiad annheg, i chi ddweud bod hyfforddiant mewn cyflwr mor enbyd. Efallai y byddwch hefyd yn dweud, Dirprwy Weinidog, nad yw arferion gwaith presennol diffoddwyr tân yn addas bellach ar gyfer gofynion yr hyfforddiant hwn, oherwydd anghenion gweithredol cymhleth y gwasanaeth tân wrth ymdrin â'r ystod eang a'r mathau amrywiol o ddigwyddiadau y mae'n eu hwynebu. Ond caiff y pwynt ei danseilio, oherwydd ni allwch nodi faint o amser sydd ei angen i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn, oherwydd dim ond un o'r tri gwasanaeth tân yng Nghymru sydd mewn gwirionedd wedi cwblhau dadansoddiad o'u gwirfodd o faint o amser y mae diffoddwyr tân ei angen i gynnal yr holl ofynion cymhwysedd craidd ac ychwanegol. Ac mae'r adroddiad yn dweud, heb unrhyw resymu o gwbl, nad yw'n credu y byddai'r dadansoddiad hwn yn dal dŵr o'i adolygu'n fanwl.

Felly, yr hyn yr ydych chi'n ei awgrymu, Dirprwy Weinidog, yw bod y Llywodraeth hon yn credu bod swyddogion iau yn ein gwasanaeth tân yn methu a gwneud penderfyniadau hyfforddi cywir, sydd, yn fy marn i, yn farn y prif gynghorydd tân ac achub, heb, o'r hyn y gallaf ei weld, unrhyw dystiolaeth bendant bod diffoddwyr tân wedi'u hyfforddi'n annigonol ar hyn o bryd ar gyfer cymhlethdodau swyddogaethau sy'n eu hwynebu, eto heb unrhyw asesiad o'r hyfforddiant, ac, yn olaf, bod diffoddwyr tân yn cysgu yn ystod shifftiau nos pan nad oes ganddyn nhw alwadau brys, ac felly maen nhw yn y pen draw yn darparu gwerth gwael am arian.

A'ch ateb i hyn yw cael fforwm partneriaeth gymdeithasol. Os yw'r sefyllfa gynddrwg ag yr ydych yn ei honni yn eich datganiad, ni allaf ragweld sut mae cael fforwm partneriaeth gymdeithasol yn mynd i newid unrhyw beth mewn unrhyw gyfnod rhesymol mewn gwirionedd. Gyda hyn mewn golwg, Dirprwy Weinidog, ac o gofio y bydd yn debygol y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ail-drafod gydag undebau llafur ynghylch newidiadau mewn arferion gwaith, pa mor hir yr ydych chi'n amcangyfrif y bydd yn ei gymryd cyn byddwch yn cyflawni eich amcanion? Ydych chi'n disgwyl i Undeb y Brigadau Tân gynnal pleidlais ymhlith aelodau ynghylch y newidiadau hyn, neu a ydych chi'n credu y bydd Undeb y Brigadau Tân yn derbyn eich argymhellion bod angen i batrymau gwaith newid?

Yn olaf, o ystyried bod yr Undeb wedi cyhoeddi pleidlais ymgynghorol ar 15 Tachwedd, sydd wedi arwain at ganran o 78 yn pleidleisio, a phleidlais aelodau o 79 y cant yn gwrthod y cynnydd cyflog o 5 y cant a oedd ar gael, a fydd bellach bron yn sicr yn arwain at streicio, pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i fynd i'r afael â'ch newidiadau arfaethedig mewn patrymau shifft, ochr yn ochr â'ch uchelgais o ehangu swyddogaeth diffoddwyr tân i ymdrin â galwadau meddygol, gyda thrafodaethau cyflog sydd bellach yn debygol iawn o ddigwydd? Diolch.

16:55

Llywydd, mi wnaf fy ngorau i ddatod y cyfraniad yna gan Joel James. Yn bennaf oll, nid wyf yn awgrymu unrhyw beth; adroddiad gan ein prif gynghorydd tân ac achub oedd hwn, ac mae gennyf i ddyletswydd wedyn i ymateb iddo pan fo'n codi pethau ynghylch hyfforddiant a diogelwch. Ac nid ydym yn awgrymu unrhyw beth am ddiffoddwyr tân swyddfa unigol na gorsafoedd penodol, dim ond, mewn gwirionedd, bod angen y dystiolaeth a'r wybodaeth honno arnom ac i weithio ar y cyd â'r gwasanaethau tân ac achub a chynrychiolwyr y gweithlu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny yn y tymor byr.

Ac o ran y tymor hirach, mewn gwirionedd, y ffordd orau y gallwn ni edrych ar rai o'r heriau tymor hirach hynny—ac fe godais, yn y datganiad, bryderon ynghylch hynny—rwy'n gwybod ei fod yn effeithio ar Aelodau yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru—mae llawer ohonom yn ddibynnol iawn ar yr RDS, y gwasanaeth dyletswydd yn ôl galw, ac rydym wedi gweld, dros y blynyddoedd, y newid, ac mae ffordd o fyw pobl wedi newid, mae'r ddibyniaeth ar hynny wedi newid hefyd, ac rwy'n credu bod gwaith mawr i'w wneud ar hynny. A'r rheswm dros gael y fforwm hwn yw nid yn unig i ddod â phobl at ei gilydd dim ond er mwyn hynny, ond i sylweddoli mewn gwirionedd y gallwn gronni'r arbenigedd hwnnw, y profiad hwnnw, a dod â hynny at ei gilydd a'i gael yn iawn hefyd.

Ac mae'r Aelod yn drysu nifer o faterion yn ei gyfraniad—rwy'n oedi cyn dweud o bosibl yn fwriadol, ond mae hyn yn hollol ar wahân i unrhyw faterion yn ymwneud â gweithredu diwydiannol neu gyflog ac amodau. Mae hwn yn fater o hyfforddiant a diogelwch diffoddwyr tân, a dyna pam yr oeddwn i'n credu mai fy nyletswydd i oedd dod â hyn ger bron Aelodau heddiw, i godi hynny, ond hefyd i ddweud, mewn gwirionedd—. Mae'n fraint anhygoel cael bod yn y sefyllfa hon, a chael mynd allan i weld o lygad y ffynnon rai o'r gweithgareddau y mae ein diffoddwyr tân yn eu cyflawni yn y gwasanaethau ledled Cymru. Pwynt hyn, mewn gwirionedd, yw ein bod eisiau gweithio ar y cyd, rydym eisiau gweithio gyda'n gilydd, ond mae angen i'r gwasanaethau tân ac achub ymateb yn llawn i'r adroddiad diweddaraf, fel y gallwn mewn gwirionedd gael darlun cliriach o'r hyn yw'r heriau mewn gwahanol leoedd a sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â nhw mewn ffordd sydd nid yn unig yn gweithio i'n diffoddwyr tân ac achub anhygoel, ond hefyd i gymunedau ledled Cymru.

17:00

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw.

Diolch byth ein bod yn gweld llai a llai o danau domestig. Rwy'n credu bod hynny'n beth positif wrth symud ymlaen, ac wrth gwrs, rwy'n gwybod bod yna lawer o bobl yn y gwasanaeth tân sy'n dymuno nawr i weld beth arall y gallan nhw ei wneud er mwyn i'r gwasanaeth barhau'n berthnasol.

Roeddwn i'n eithaf siomedig, mewn gwirionedd, gydag un o'r sylwadau a wnaed gan Joel, a oedd i raddau, yn fy marn i, yn ceisio awgrymu bod y ffaith y ceir llai o danau erbyn hyn yn cael ei defnyddio gan ddiffoddwyr tân bellach fel cyfle i gysgu ar shifft. Roeddwn i'n credu bod hynny'n sylw eithaf siomedig, a bod yn hollol onest.

Ond, mae ein gwasanaeth tân, afraid dweud, yn wynebu—

Joel James a gododd—

Joel, nid dadl yw hon, felly nid yw ymyriadau'n bosibl. Felly, ewch ymlaen, Luke Fletcher.

Ond nid fi oedd yn gyfrifol am y datganiad yna, dyna oedd yn yr adroddiad.

Parhau, dim problem?

Wrth gwrs, mae ein gwasanaethau tân yn wynebu mwy o bwysau. Mae prinder staff yn un ohonyn nhw, eithafion tywydd a ysgogir gan newid hinsawdd yn digwydd yn amlach ac yn amlach, a heriau a ddaw wrth i ni fynd i'r gaeaf yng nghanol argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen. Mae'r Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn poeni y bydd pobl mewn perygl ychwanegol oherwydd yr argyfwng costau byw, yn yr ystyr bod pobl yn chwilio am ddulliau rhatach, amgen i gadw'n gynnes yn wyneb biliau ynni cynyddol, efallai eu bod yn defnyddio gwresogyddion hen ffasiwn neu ddiffygiol a blancedi trydan, neu eu bod o dan y camsyniad ei bod yn rhatach defnyddio trydan yn ystod yr oriau allfrig, ac felly bydd mwy yn defnyddio nwyddau gwyn pan fyddan nhw'n cysgu, er enghraifft. Mae hyn yn golygu, pe bai tân, y gallai fod yn amser hir cyn iddo gael ei ddarganfod, gan roi llai o amser i breswylwyr ymateb yn gyflym ac yn ddiogel.

Ar ben hyn, wrth gwrs, dros yr haf, nododd Undeb y Brigadau Tân, yn hytrach na gwella gwasanaethau tân ac achub, collwyd 11,500 o ddiffoddwyr tân oherwydd toriadau ers 2010, ac mae dibyniaeth gynyddol ar ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl galw, y disgwylir iddyn nhw ddysgu'r ystod o sgiliau diffodd tân mewn ffracsiwn fach iawn o amser o'i gymharu â'u cydweithwyr llawn amser. Mae prif swyddog tân canolbarth a gorllewin Cymru, Roger Thomas, wedi gwneud sylw ar ba mor anghynaladwy yw'r model 'ar ddyletswydd yn ôl galw'; nid yw pobl ifanc yn dod i mewn i gymryd lle'r diffoddwyr tân hŷn ar ddyletswydd yn ôl galw ar hyn o bryd. Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 702 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ar gyfer diffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl galw, ond 574 yw'r garfan bresennol. Maen nhw wedi rhoi cynnig ar fesurau i recriwtio diffoddwyr tân, fel cysylltu â chyflogwyr lleol a chynnig cyrsiau, ond mae angen rhywbeth mwy radical. Mae'n ymddangos ei bod, o bosibl, yn broblem sy'n ymwneud â chenedlaethau. Felly, i'r perwyl hwnnw, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod hyfforddiant yn y dyfodol yn targedu pobl iau, ei fod yn meithrin model recriwtio cynaliadwy, ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl galw?

Nawr, nid yn unig mae'n rhaid i ni wella'r hyfforddiant a ddarperir, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyflog ac amodau ein diffoddwyr tân o ansawdd derbyniol. Rydym yn gwybod y bydd aelodau Undeb y Brigadau Tân yn pleidleisio yn ystod yr wythnosau nesaf ynghylch a ddylid lansio ymgyrch o weithredu diwydiannol ar ôl gwrthod cynnig cyflog o 5 y cant. Nododd ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Brigadau Tân fod diffoddwyr tân yn defnyddio banciau bwyd. Dyma'r un bobl a weithiodd drwy'r pandemig i amddiffyn eu cymunedau ac ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol i wneud hynny, ac sydd ar hyn o bryd yn wynebu heriau a phwysau ychwanegol. Felly, roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i ddweud bod toriad cyflog pellach mewn termau real yn ffordd ffiaidd o'u had-dalu.

Ond, nawr, i wella amodau gwaith a diogelwch ein gwasanaeth tân, sut fydd hyfforddiant y gwasanaeth tân yn y dyfodol yn sicrhau nad yw tactegau diffodd tân hen ffasiwn a allai fod yn beryglus yn cael eu dysgu, fel y nodwyd yn yr adolygiad thematig? A sut bydd hyn yn cael ei fonitro a'i gynnal? Ac o ystyried themâu cyson amser hyfforddi annigonol sydd wedi'i gyfyngu gan batrymau gwaith, beth mae'r Dirprwy Weinidog yn ei gredu yw'r ateb i hyn? Er enghraifft, beth oedd gan yr awdurdodau tân ac achub i'w ddweud ynghylch hyn yn eu hymateb? Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am ei gyfraniad a'r nifer o bwyntiau a wnaeth? Ar y dechrau fe wnaethoch chi nodi'r pwynt rhagweledol iawn, fod y ffaith bod gennym lai a llai o danau domestig nawr yn deyrnged i lwyddiant y gwasanaeth tân ac achub, ond, fel y nodwyd hefyd, mae'r heriau yr ydym yn eu hwynebu drwy newid hinsawdd ac, o bosibl, yr argyfwng costau byw wedi esblygu, felly mae'r pwysau'n parhau, ac mae'n bwysig iawn i'r gwasanaeth esblygu a chael y gefnogaeth i wneud hynny.

Rwyf am ymdrin â'r pwynt a wnaethoch o ran yr her bosibl sy'n wynebu pobl sy'n ceisio cadw'n gynnes mewn gwahanol ffyrdd os nad ydyn nhw, efallai, yn gallu fforddio cynhesu eu cartref yn y ffordd y bydden nhw wedi gwneud fel arfer—os ydyn nhw'n cysylltu gwresogyddion trydan neu'n defnyddio canhwyllau a phethau tebyg. Mae gan y gwasanaethau tân ac achub raglen o—. Rydym ni'n eu hariannu nhw trwy grantiau diogelwch cymunedol i fynd i mewn a gwneud y gwiriadau hynny. Rydym ni'n cysylltu'n agos iawn â nhw a chodwyd hefyd y dylem ni weld sut y gallem wneud hynny yn yr argyfwng costau byw, efallai i edrych ar rai o'r deunyddiau sy'n cael eu defnyddio, i wneud yn siŵr y gallwn ni fynd i'r afael â'r materion hynny, ac efallai chwilio am y peryglon hynny hefyd. Ond mae'n rhaglen hynod o gynhwysfawr i wirio pobl arbennig o agored i niwed hefyd—pobl fwy agored i niwed yn eu cartrefi. Ac mae'n golygu, yn amlwg, os ydym ni'n bwriadu ehangu'r swyddogaeth yn y dyfodol, mae hynny eisoes yn rhywbeth y maen nhw'n ei wneud, sef edrych ar y risgiau hynny ar aelwydydd pobl hefyd.

Fe wnaethoch grybwyll yn briodol, heriau'r system ar ddyletswydd yn ôl galw, a chyfeirioch at y prif swyddog, Roger Thomas, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r tri phennaeth, ond hefyd yn unigol, ac yn ceisio mynd allan i'w cyfarfod ar leoliad. Y tro diwethaf i mi siarad â Roger Thomas, roedd pwyslais mawr ar bryderon ynghylch cynaliadwyedd y system RDS. Rydych chi'n iawn i ddweud, ers blynyddoedd lawer, y bu addasiadau bach yma ac acw, ac rydym wedi cyrraedd y pwynt nawr pan fo angen i ni edrych arno a mynd i'r afael ag ef, a dyna pam yr wyf wedi tynnu sylw ato yn y datganiad. Mae'n rhywbeth yr hoffwn iddyn nhw edrych arno ar y cyd, oherwydd mae modelau gwahanol mewn mannau eraill, ond nid her i Gymru yn unig yw hi—mae'n bodoli mewn cymunedau tebyg ar draws y DU. Pa un a oes pethau y gallwn eu gwneud yn y cyfamser o ran defnyddio'r dulliau dylanwadu ar draws y Llywodraeth i, efallai, weithio gyda chyflogwyr i ddweud, 'Mewn gwirionedd, rhyddhewch staff i fod yn rhan o'r system RDS.' Rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny, ond, yn amlwg, mae angen i ni edrych ar y tymor hirach, sut mae hynny'n gweithio, oherwydd mae bywydau pobl wedi newid, ac mae'r ffordd y mae pobl yn byw a gweithio wedi newid hefyd.

Yr hyn sy'n galonogol yw fy mod i wedi cael y pleser o gyfarfod—ychydig allan o'ch rhanbarth chi, Luke, yn y gogledd, yn y Rhyl—â rhai recriwtiaid newydd i'r gwasanaeth tân. Rwy'n credu eu bod nhw yn eu trydedd wythnos. Felly, roedden nhw'n frwdfrydig iawn, yn dod o bob cefndir gwahanol, gydag amryw o resymau pam yr oedden nhw wedi ymuno â'r gwasanaethau tân ac achub, ac roedd brwdfrydedd yno mewn gwirionedd ynghylch beth arall y gallai'r gwasanaeth tân ei wneud hefyd o fewn yr adnoddau sgiliau hynny sydd ganddyn nhw. Felly, rwy'n credu bod cyfle yna, ond, fel y dywedais i, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fynd trwy'r heriau hynny o ran edrych ar hyfforddiant a chael y sicrwydd hynny gan y gwasanaethau unigol, a sicrhau y gallwn gael y dadansoddiad priodol hwnnw a gweld sut yr ydym yn symud ymlaen a mynd i'r afael â'r materion ehangach hynny.

Fe ymdriniaf yn gyflym â'r pwyntiau sy'n ymwneud â chyflog diffoddwyr tân, ac wrth gwrs, rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn yng Nghymru o'i chymharu â mannau eraill yn y DU, o ran sut mae'r gwasanaethau tân ac achub yn cael eu hariannu. Felly, nid ydym yn eu hariannu'n uniongyrchol. Yn amlwg, mae'n digwydd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ardollau awdurdodau lleol. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Undeb y Brigadau Tân hefyd. Cefais gyfarfod â nhw yn ddiweddar, yr wythnos diwethaf, felly beth allwn ni ei wneud, efallai, i roi'r pwysau hwnnw i gael cyllid pellach, o bosibl gan y Swyddfa Gartref drwy gyllid y sector cyhoeddus i gefnogi'r diffoddwyr tân wrth iddyn nhw symud ymlaen hefyd.

17:05

Hoffwn ddeall, yn gyntaf oll, mai'r ymateb i adroddiad y prif gynghorydd tân ac achub, yr ydych wedi ei gael, yw un o'r gogledd, ond nad ydych chi wedi cael ateb cynhwysfawr gan awdurdodau achub y canolbarth na'r de. Mae hynny'n siomedig i'w glywed, oherwydd rwy'n gwybod eich bod wedi galw amdano yn eich datganiad ar 11 Tachwedd, rwy'n credu, yn y Siambr hon, ac fe ddywedoch chi eich bod yn disgwyl ei gael unrhyw ddydd. Felly, nid eu barn nhw yw'r hyn yr ydw i ar fin ei ddatgan, oherwydd does neb wedi ei chael eto, dim ond barn aelodau Undeb y Brigadau Tân yr wyf i wedi siarad â nhw.

Felly, roeddwn i eisiau rhannu gyda chi, yn absenoldeb barn yr awdurdodau achub, dyma'r hyn yr wyf wedi ei gael gan aelodau Undeb y Brigadau Tân. Maen nhw o'r farn bod problem ynghylch blinder ar shifftiau ar hyn o bryd ac nid yw'n rhywbeth sydd—. Mae'n ddrwg gen i, dydyn nhw ddim yn credu bod problem ynghylch blinder ar shifftiau ar hyn o bryd ac nid yw'n fater y maen nhw'n credu y mae angen mynd i'r afael ag ef. Dyna a ddywedwyd wrthyf i gan aelod o'r FBU, gweithiwr tân, yn y de. Dywedon nhw eu bod yn teimlo y byddai cael gwared ar y cyfnodau o seibiant i ddiffoddwyr tân rhwng shifftiau yn wrthgynhyrchiol mewn gwirionedd, ac maen nhw'n teimlo na fydden nhw eisiau gweld hynny'n digwydd. Maen nhw'n teimlo, pe bai'r newidiadau'n mynd yn eu blaenau, yna byddai blinder yn cynyddu mewn gwirionedd. Maen nhw'n teimlo bod cyfnodau o seibiant yn hanfodol er mwyn sicrhau digon o orffwys i ddiffoddwyr tân rhwng shifftiau, a byddai mabwysiadu'r newidiadau arfaethedig yn cael effaith andwyol ar gydbwysedd bywyd-gwaith gweithlu sy'n staffio gwasanaeth sydd ar agor 24/7/365, a byddai effeithiau negyddol ar drefniadau gofal plant, er enghraifft, a dyna farn y gweithiwr tân hwn y bûm yn siarad ag ef. Maen nhw'n cael eu hunain, medden nhw wrthyf i, yn cytuno â'u huwch reolwyr, er fy mod i'n nodi, fel yr wyf wedi dweud yn gynharach, nad yw'n ymddangos bod uwch reolwyr wedi ymateb i chi—[Torri ar draws.] O, maen nhw. Iawn, maen nhw wedi ymateb i chi—iawn.

Felly, rwy'n credu bod eich dull gweithredu partneriaeth gymdeithasol yn ddefnyddiol iawn. Rwy'n credu os yw'r materion hyn i'w datrys, dyna'r ffordd orau i wneud hynny. A yw'r Gweinidog yn credu, felly, y byddai unrhyw gyfarfodydd dros dro yn ddefnyddiol, i ddeall barn Undeb y Brigadau Tân fel y'i disgrifiwyd i mi?

17:10

Diolch. A gaf i ddiolch i Hefin David am ei gyfraniad? Dim ond i egluro, wrth i mi ddarllen y datganiad roeddwn i'n meddwl, mewn gwirionedd, nid yw mor glir â hynny. Mae bob un o'r tri gwasanaeth tân ac achub, er mwyn ei gofnodi, wedi ymateb yn ôl y gofyn, i adroddiad y prif gynghorydd tân ac achub ar hyfforddiant, ond dim ond y gogledd sydd wedi ei lunio, wrth ymateb i bob argymhelliad, gyda chamau clir ynghylch yr hyn y maen nhw yn ceisio ei wneud i fynd i'r afael ag ef, sef yr hyn yr oeddem yn ei geisio, cael y sicrwydd hwnnw ei fod yn cael ei gymryd o ddifrif a'i fod yn cael ei ystyried, hyd yn oed os oedden nhw'n mynd i ddod yn ôl a dweud, 'Wel, mewn gwirionedd nid fel yna yr ydym ni'n ei gweld hi; rydym yn ei gweld fel hyn,' gyda'r dystiolaeth hefyd. Felly, dyna egluro hynna.

Rwy'n credu, yn hytrach na chyfeirio at yr adolygiad hyfforddi diweddaraf, rydych chi'n cyfeirio at yr adolygiad thematig cynharach, a oedd yn ceisio canfod a oedd lle i ehangu'r swyddogaeth, ac un o ganfyddiadau'r prif gynghorydd tân ac achub oedd ynghylch y patrymau shifft presennol, onid oedd? Roedd yn bedwar diwrnod yn y gwaith a phedwar diwrnod i ffwrdd, a diwrnodau naw awr a nosweithiau 15 awr. Felly, mae'r pwyslais ar hyn o bryd ar yr hyfforddiant hwnnw a chael yr hyfforddiant yn iawn, ac wrth gwrs byddai angen trafod unrhyw beth fel yna a mynd drwy'r sianeli priodol. Felly rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda'r FBU a'r holl gynrychiolwyr, a thrwy drafodaeth reolaidd a gobeithio trwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol newydd, pan fydd wedi'i sefydlu, i fynd i'r afael â'r heriau ehangach hynny ac i wneud y gwasanaeth tân yn fwy cynaliadwy, oherwydd—a byddwn i'n dweud hyn, oherwydd y cefndir rwy'n dod ohono hefyd—rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol cael llais y gweithlu fel rhan o hynny, i'w lunio ar gyfer y dyfodol, i'w gynnal, ac i'w gefnogi hefyd.

9. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y diweddariad ar Wcráin. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am roi'r cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru.

Pan wnes i roi diweddariad i chi ddiwethaf ym mis Hydref, roedd Cymru wedi croesawu ychydig o dan 6,000 o Wcreiniaid o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys o dan ein llwybr uwch-noddwr. Mae rhai yn parhau i gyrraedd gan bwyll ond yn gyson, ac roedd ychydig dros 6,100 o Wcreiniaid a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd Cymru wedi cyrraedd Cymru erbyn 15 Tachwedd. Mae mwy o bobl wedi cyrraedd dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, ond nid ydym yn cael y data hwnnw gan Lywodraeth y DU.

Mae mwy na 8,450 o fisas bellach wedi'u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i'r nifer sy'n cyrraedd barhau i dyfu. Rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru, ac er ein bod wedi gweld nifer fach o unigolion yn ceisio dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod yn ôl yn Wcráin, nid ydym yn gweld newid sylweddol ar hyn o bryd. 

Cefais fy siomi'n fawr o beidio gweld unrhyw eglurder yn natganiad yr hydref am ddyfodol ariannol cynlluniau Wcráin. Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gydraddoldeb ariannu rhwng cynllun Cartrefi i Wcráin a'r cynllun teuluoedd o Wcráin a'r cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin. Mae angen cadarnhad o gyllid blwyddyn 2 a 3 ar frys i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â thaliadau 'diolch' parhaus ac uwch i'r rhai sy'n lletya. Byddai'r olaf yn sicrhau y gall trefniadau lletya barhau er gwaethaf effeithiau costau byw.

Heb sicrwydd ynghylch ariannu'r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a lletywyr Cymru i gyd yn wynebu dewisiadau anodd ynghylch y gefnogaeth y gallwn ni ei darparu i Wcreiniaid sy'n chwilio am noddfa. Ein gobaith yw y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r eglurdeb hwn yn gyflym. Mewn ymateb i fy llythyrau at Weinidogion y DU am y materion hyn, mae'n bleser gennyf ddweud imi glywed gan Weinidog arweiniol newydd Cartrefi i Wcráin, Felicity Buchan AS, yr wythnos diwethaf. Er gwaethaf yr ansicrwydd hwn am y cyllid, mae cyfarfod wedi'i gynnull ar gyfer dydd Iau gyda Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Neil Gray ASP, a minnau, ynglŷn â'n sefyllfa ariannol.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi pobl i mewn i lety tymor hirach, fel y gallant gael bywydau mwy sefydlog. Mae dros 700 o Wcreiniaid a oedd yn cael eu cefnogi drwy'r llwybr uwch-noddwr bellach wedi symud ymlaen o lety cychwynnol, dros 500 o'r rhain yng Nghymru, naill ai gyda lletywyr, yn y sector rhentu preifat neu mewn tai dros dro a thymor hirach eraill. Fodd bynnag, mae'r pwysau ehangach ar dai ar draws Cymru yn golygu na allwn ni gefnogi pobl i lety mwy hirdymor mor gyflym ag y byddem ni'n dymuno. Felly, byddwn ni'n parhau i annog darpar letywyr i ddod ymlaen a chofrestru eu diddordeb yn llyw.cymru/cynnigcartref. Mae lletya yn cynnig llety cyflym, hyblyg a chost-effeithiol sy'n galluogi pobl i adennill rhywfaint o annibyniaeth ac i integreiddio mewn cymunedau lleol. Rydym ni'n gwybod bod rhai unigolion a theuluoedd wedi dod ymlaen i gynnig eu cartrefi ac yn dal i aros i fod yn lletywyr. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu haelioni. Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Chyfiawnder Tai Cymru i helpu i gefnogi'r broses baru. Ond nid oes gennym hanner digon o letywyr o hyd i ddarparu ar gyfer pawb sydd angen cefnogaeth. Byddem hefyd yn annog y rhai sy'n ystyried lletya i ymweld â gwefan Cyfiawnder Tai Cymru ac ymuno â seminar cyflwyniad i letya i gael gwybod rhagor.

Hoffwn ganolbwyntio gweddill y datganiad hwn ar goffâd pwysig a drafodwyd gennym yn y Siambr hon ym mis Mai. Mae mis Tachwedd eleni yn nodi dechrau cyfnod o goffáu naw deg mlynedd ers yr Holodomor yn Wcráin. Dyma'r newyn o waith dyn a achosodd i filiynau farw ac fe gafodd ei amlygu i'r byd, yn rhannol, gan ddewrder y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones. Roedd y ddadl ym mis Mai yn fyfyrdod pwysig ar y digwyddiadau hynny ac fe wnaethom ymrwymo i goffáu'r digwyddiad yng Nghymru.

Ar y pedwerydd dydd Sadwrn ym mhob mis Tachwedd, mae'r Holodomor yn cael ei goffáu yn rhyngwladol. Byddwn yn trefnu digwyddiad yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd, ynghyd â chymaint o gofebion pwysig eraill i heddwch. Yn rhan o'r digwyddiad bydd cyfranogiad gennyf i, y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol, llywodraeth leol, arweinwyr crefyddol, a dirprwy lysgennad Wcráin i'r Deyrnas Unedig. Bydd Wcreiniaid yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol a byddwn yn gosod torchau i gofio'r rhai a ddioddefodd yn ystod gweithredoedd blaenorol a gyflawnwyd gan lywodraeth ym Moscow. Ar ôl y coffáu, byddwn ni'n hyrwyddo cofio'r Holodomor ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i geisio codi ymwybyddiaeth ymhellach. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom hefyd ysgrifennu at letywyr ledled Cymru i sicrhau eu bod yn gwybod am Holodomor a'u hannog i drafod cynlluniau gyda'u gwesteion.

Mae erchyllterau presennol Putin yn Wcráin yn rhan o batrwm ymosodol tymor hirach yn erbyn pobl Wcráin sy'n ymestyn yn ôl ddegawdau lawer, ac mae nodi'r Holodomor fel hyn yn taflu goleuni ar hyn. Gwnaeth Gareth Jones, y newyddiadurwr o Gymru, a oedd yn ysgrifennu am y newyn, yr oedd Stalin yn gyfrifol amdano, hi'n glir nad oedd yr Wcreiniaid yr effeithiwyd arnyn nhw yn ceisio tosturi ac fe gyfeiriodd at eu dewrder. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd weld y nodweddion hynny sy'n cael eu amlygu yn Wcráin eto heddiw. Ac er ein bod yn anrhydeddu cydnerthedd a dewrder pobl Wcráin yn wyneb ymddygiad ymosodol Putin, rydym hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad i helpu Wcreiniaid yma yng Nghymru i gofnodi eu gwybodaeth am droseddau rhyfel a gyflawnwyd mewn cyfnod mwy diweddar.

Trwy sefydlu Donetsk ac adroddiadau Gareth Jones, yn ogystal â'r 500 a mwy o Wcreiniaid a alwodd Cymru yn gartref cyn y gwrthdaro hwn, roedd gan ein gwledydd sawl edefyn yn ein cysylltu. Nawr, rydyn ni'n gartref i fwy na 7,000 o Wcreiniaid mae'n debyg ac mae'r edafedd niferus hynny rhwng ein pobol yn ein clymu ni at ein gilydd yn gryfach nag erioed. Rwy'n gwybod y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i fynegi undod Cymreig gyda phob un o Wcráin ar ben-blwydd yr Holodomor.

17:15

Diolch. Nid yn aml yr wyf yn dechrau gyda sblash. [Chwerthin.]

Diolch am eich datganiad. Fel y dywedoch chi, gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol nifer yr Wcrainiaid a allai gyrraedd Cymru. Fe gyfeirioch chi at ffigyrau Llywodraeth y DU sy'n dangos bod mwy na 8,450 o fisas wedi'u rhoi bellach i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, a bod ychydig dros 6,100 o Wcráin a noddir gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd Cymru wedi cyrraedd Cymru erbyn 15 Tachwedd. Beth, felly, yw'r sefyllfa bresennol o ran tai i'r bobl hyn o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru o ran canolfannau croesawu, gwestai, cartrefi preifat a darpariaeth frys?

Pan wnes i ymateb i'ch datganiad ar Wcráin bedair wythnos yn ôl, cyfeiriais eto at drafodaethau oedd gennych neu'n bwriadu eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd posibl i'r taliad misol o £350 i bobl sy'n lletya Wcrainiaid yn eu cartrefi eu hunain. Yn eich datganiad heddiw, fe ddywedoch chi eich bod angen cadarnhad o gyllid blwyddyn 2 a 3 ar frys i gefnogi darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â thaliadau 'diolch' parhaus ac uwch, gan nodi y byddai'r olaf yn sicrhau y gallai trefniadau cynnal barhau er gwaethaf effeithiau costau byw. Ond fe wnaethoch hefyd ychwanegu eich bod yn falch eich bod wedi clywed gan arweinydd newydd y DU ar gyfer Cartrefi i Wcráin, Felicity Buchan, yr wythnos diwethaf. A fyddwch chi, felly, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch cynnydd, gobeithio o ran datblygu ymgysylltiad â Llywodraeth y DU a'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Iau gyda Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Neil Gray ASP ynghylch eich sefyllfa ariannol?

Rydym ni'n eich cefnogi chi yn eich pwyslais parhaus ar gefnogi pobl i lety tymor hirach er mwyn iddyn nhw gael bywydau mwy sefydlog. Fodd bynnag, sut fyddech chi'n ymdrin â'r datganiad a wnaed gan gynrychiolydd tai awdurdodau lleol yng nghyfarfod y mis hwn o'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y gogledd—ac rwy'n dyfynnu—bod 'pwysau ychwanegol anhygoel oherwydd digartrefedd ac ar ôl croesawu ffoaduriaid o Wcráin hefyd, ac os yw ffoaduriaid o Wcráin yn cael eu cartrefu gan gymdeithasau tai, gall hyn greu canfyddiad ymhlith eraill bod rhai grwpiau yn cael eu cartrefu o'u blaenau', gan amlygu'r ewyllys gan awdurdodau lleol i helpu, ond gyda'r pryder ynghylch sut y gall rhai o'r cyhoedd ymateb?

Rydych yn datgan yn briodol bod erchyllterau presennol Putin yn Wcráin yn rhan o batrwm ymosodol tymor hir yn erbyn pobl Wcráin sy'n ymestyn yn ôl degawdau lawer. Mae'r mis Tachwedd hwn yn nodi naw deg o flynyddoedd ers yr Holodomor yn Wcráin, y newyn Sofietaidd a wnaed gan ddyn a achosodd i filiynau farw. Er ein bod yn croesawu'r ffaith eich bod yn sefydlu digwyddiad coffáu'r Holodomor yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf, rydym hefyd yn cydnabod yr angen am goffáu tebyg mewn mannau eraill yng Nghymru. Pa ystyriaeth fyddwch chi felly yn ei rhoi i drefnu digwyddiadau o'r fath, naill ai ar eich pen eich hunain neu gyda phartneriaid rhanbarthol, yn y dyfodol yn y gogledd a rhanbarthau eraill o Gymru?

Wrth ymateb i'ch datganiad ar Wcráin fis diwethaf, cyfeiriais eto at y ddogfen a anfonais atoch a luniwyd gan y Ganolfan Cymorth Integreiddio Pwyliaid neu PISC, yn Wrecsam, gan fanylu ar eu hymdrechion dyngarol i helpu ffoaduriaid o Wcráin a'u cynnig am gefnogaeth gyfunol a chynaliadwy i bobl o Wcráin, gan gynnwys adeiladu tai dros dro, a gofyn i chi pa ymgysylltiad a gawsoch chi neu'ch swyddogion felly wedi hynny â nhw ynghylch hyn. Ddoe, bûm mewn cyfarfod unwaith eto gyda PISC, llywodraeth leol a chynrychiolwyr busnes, asiantaethau a gwirfoddolwyr eraill, i drafod parhad y coridor dyngarol a drefnwyd gan PISC i gael cyflenwadau hanfodol i elusennau penodol sy'n cefnogi pobl yn Wcráin, ac yn arbennig eu prosiect Pont Nadolig yn casglu rhoddion bocs esgidiau ar gyfer eu dosbarthu i rywun sydd mewn angen yn Wcráin y Nadolig hwn, yn enwedig 3,000 o blant amddifad sy'n byw mewn isloriau oherwydd cyrchoedd awyr, ond hefyd pobl hŷn, pobl anabl a milwyr yn y ffosydd. Dywedon nhw wrthyf nad oeddech chi na'ch swyddogion wedi bod mewn cysylltiad gan ofyn i mi ofyn i chi a allwch chi ddefnyddio'ch sefyllfa i helpu gyda'u prosiect pont Nadolig ac a wnewch chi gwrdd â nhw yn y flwyddyn newydd i drafod eu prosiectau parhaus. Byddwn felly yn ddiolchgar wrth gloi pe baech hefyd yn ymateb i'r cwestiynau hyn. Diolch.

17:20

Diolch yn fawr, Mark Isherwood, a diolch am groesawu'r datganiad hwn. Mae eich pwynt cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â sut rydym yn symud ymlaen gyda'n cynllun uwch-noddwr. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn gweithio'n galed yn croesawu gwesteion o Wcráin i'n canolfannau croeso, ond hefyd rydym yn sicrhau bod pobl yn cael eu symud ymlaen cyn gynted â phosibl o'r canolfannau croeso, gyda chymorth awdurdodau lleol ac yn wir sefydliadau'r trydydd sector hefyd. Dyma'r math o lety cychwynnol sy'n golygu eu bod yn cael cymorth cofleidiol yn ein canolfannau croeso. Ond mewn gwirionedd, wrth i nifer y bobl sy'n cyrraedd ostwng yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi cadarnhau pa westai a chanolfannau croeso yw'r rhai mwyaf priodol. Rydym ni'n adolygu'r gefnogaeth yr ydym ni'n ei chynnig er mwyn hyrwyddo annibyniaeth bersonol.

Fe wnes i ymweld â chanolfan groeso yn y gogledd lle roedd pobl yn hunanarlwyo, sef yr hyn y mae pobl yn hoffi ei wneud a chael mwy o annibyniaeth. Nid ydym yn cyhoeddi lleoliad ein canolfannau croeso, ond rydym ni wedi dysgu llawer iawn o ganlyniad i weithio gyda'n gwesteion o Wcráin a'n hawdurdodau lleol. Un o'r pethau diddorol—ac fe fyddwch chi'n gwybod hyn, bob un ohonoch chi, o bob cwr o Gymru yn eich etholaethau—yw bod llawer o Wcrainiaid, mewn gwirionedd, yn gweithio yn y system erbyn hyn. Maen nhw'n gweithio mewn awdurdodau lleol. Rwy'n sicr yn gwybod yn fy etholaeth i, mae ganddyn nhw swyddi, achos mae ganddyn nhw sgiliau. Mae'n wych pan ewch chi i ganolfan groeso neu i gwrdd ag awdurdod lleol ac mae gennych chi gyfieithwyr ar unwaith, mae gennych chi bobl sy'n gweithio ar Gymunedau am Waith, cyfleoedd gwaith. Felly, mae llwybr y ganolfan groeso yn gweithio, ac rydym yn ceisio sicrhau y gallwn gefnogi'r gwesteion gyda'r gefnogaeth gofleidiol orau.

Mae'n ddiddorol cofio, ac nid yw mor bell yn ôl â hynny, ein bod wedi ymrwymo i gefnogi 1,000 o Wcrainiaid drwy ein cynllun uwch-noddwr. Rydym bellach wedi croesawu 3,000 drwy'r llwybr uwch-noddwr. Mae gennym ni hefyd, mewn gwirionedd, 1,600 arall yr ydym wedi'u noddi sydd â fisas ond heb gyrraedd.

Rwy'n edrych ymlaen, yn fawr iawn, i gwrdd â Felicity Buchan yr wythnos nesaf, ochr yn ochr â fy nghydweithiwr Neil Gray o Lywodraeth yr Alban, yr ydym wedi gweithio'n ddwyochrog â nhw, a gyda chyn-Weinidogion trwy gydol ein hymateb dyngarol o groesawu gwesteion Wcreinaidd. Byddwn yn cyfarfod ddydd Iau yr wythnos hon, mae gennym y dyddiad yn y dyddiadur. Byddwn ni'n codi'r materion am gyllid, yn enwedig o ran y taliad 'diolch' o £350 i bobl sy'n lletya, ac fe awgrymodd y cyn-Weinidog dros ffoaduriaid Richard Harrington y dylai fod hyd at £500 os nad yw'n cael ei ddyblu. Felly, rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y gallwn ni fwrw ymlaen ag ef gyda nhw. Wrth gwrs, byddaf yn adrodd yn ôl, byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn dilyn fy nghyfarfod gyda'r Gweinidog newydd ac yn bwrw ymlaen â hynny.

Mae llety i fynd ymlaen iddo yn hanfodol, a dyna lle rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae'n dda cael yr adborth hynny o'r gogledd. Mae gennym fframwaith ar gyfer llety sy'n nodi disgwyliadau ar gyfer awdurdodau lleol, ac mewn gwirionedd mae'n sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar sut y gallwn ailgartrefu a chefnogi gwesteion Wcreinaidd wrth iddynt symud i lety tymor hirach. Mae'n gymysgedd o lety, fel y dywedais i. Mae rhai pobl yn symud i drefniadau lletya gan ganolfan groeso, eraill i'r sector rhentu preifat a mathau eraill o lety dros dro o ansawdd da. Ond rydych chi wedi gwneud y pwynt yn glir iawn, Mark; fel yr ydym ni'n cydnabod, mae gennym bron i 8,500 o bobl mewn llety dros dro eisoes yng Nghymru, ac mae'r rhain yn bwysau ar dai a fydd ond yn cynyddu gyda'r argyfwng costau byw. Felly, mae'n her enfawr. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ar y mater yma, ac yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol.

Un o'r cyfleoedd allweddol yw'r rhaglen gyfalaf llety dros dro gwerth £65 miliwn sy'n cefnogi amrywiaeth o fentrau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Maen nhw'n cynnig pob math o opsiynau a chyfleoedd o ran darparu cartrefi gwag, llety dros dro, amrywiaeth gyfan o ffyrdd y gellir cefnogi pobl i'r camau nesaf a llety i fynd ymlaen iddo.

Ydyn, rydyn ni'n cynnal digwyddiad ym mhrifddinas Cymru ddydd Sadwrn ar gyfer Holodomor, ond rwy'n gwybod, oherwydd bod cymaint o rwydweithiau ledled Cymru o westeion Wcreinaidd, mae pobl sy'n lletya yn trefnu digwyddiadau coffa hefyd. Byddaf yn gwneud yn siŵr y gallaf rannu unrhyw wybodaeth bellach y mae fy swyddogion yn ymwybodol ohoni, ac, yn wir, trwy ein cysylltiadau â gwesteion Wcreinaidd.

Fe fyddwch chi'n gwybod, Mark Isherwood, fy mod yn gweithio'n agos iawn gyda'r grŵp trydydd sector. Fe wnes i gwrdd â nhw dim ond ychydig wythnosau yn ôl. Mae hynny'n cynnwys y sefydliad o'r gogledd yr wyf yn cwrdd â nhw'n rheolaidd ac fe wnaethoch chi fy nghyflwyno i iddyn nhw, ond hefyd yr holl gynghorau gwirfoddol sirol yn ogystal â'r Groes Goch Brydeinig ac erbyn hyn, gwesteion Wcreinaidd eu hunain, yn gynyddol. Mewn gwirionedd, rydym wedi datblygu gyda nhw strategaeth cyfranogiad ac ymgysylltu i sicrhau y gallwn ymgysylltu â gwesteion Wcreinaidd a llunio polisïau sydd wedi'u cyd-gynhyrchu llawer yn fwy ar gyfer y ffordd ymlaen, a chael eu hadborth. Mae hynny'n cael ei weithredu. A gaf i awgrymu fy mod mewn gwirionedd yn cyfarfod â'r gymdeithas integreiddio Pwylaidd ar fy ymweliad nesaf â'r gogledd, â Wrecsam? Rydyn ni'n eu llongyfarch nhw ar bopeth maen nhw wedi ei wneud, ac yn croesawu'r prosiect Pont Nadolig yn arbennig.

17:30

Diolch am eich diweddariad, Gweinidog. Mae'n siomedig clywed na fu ymateb clir hyd yma gan Lywodraeth y DU ynglŷn â mwy o arian i bobl sy'n lletya ac awdurdodau lleol i gynorthwyo gyda darparu cymorth i ffoaduriaid Wcreinaidd yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Am holl eiriau cynnes Rishi Sunak yn Kyiv, nid yw Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn dangos cefnogaeth briodol i'r Wcrainiaid yng Nghymru sy'n gorfod ffoi o'u cartrefi.

Dywedodd cyfarwyddwr Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd ddoe bod 700 o ymosodiadau ar seilwaith iechyd wedi'u cofnodi ers i ymosodiad Rwsia ar Wcráin ddechrau. Galwodd yr ymosodiadau yn torri cyfraith ddyngarol ryngwladol a rheolau rhyfel—os oes pethau o'r fath—a rhybuddiodd y byddai miliynau o Wcrainiaid yn wynebu amodau sy'n bygwth bywyd dros y gaeaf. Mae'r WHO wedi galw am goridor iechyd dyngarol i sicrhau bod cyflenwadau'n gallu cyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf, a dywedodd mai'r unig ateb cynaliadwy ar gyfer system iechyd Wcreinaidd oedd, wrth gwrs, i'r rhyfel gael ei ddwyn i ben. Fy nealltwriaeth i, Gweinidog, yw ein bod wedi anfon ein llwyth cyntaf o gyflenwadau meddygol i Wcráin o Gymru ym mis Mawrth. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein diweddaru ar ba lwythi eraill neu gyllid ar gyfer cymorth meddygol gan Lywodraeth Cymru i Wcráin sydd wedi'u gwneud ers hynny? Ac ydy hi'n bosib o gwbl cael mwy o gefnogaeth wedi'i dargedu yn dod o fan hyn yng Nghymru?

Yn ddiweddar mae Menywod y Cenhedloedd Unedig wedi rhyddhau adroddiad polisi ar effeithiau rhywedd yr argyfwng yn Wcráin. Maen nhw'n nodi bod ystyriaethau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar goll o drafodaethau am yr argyfwng yn Wcráin ac yn argymell, ymhlith eraill, y canlynol: cymorth bwyd wedi'i deilwra gyda phwyslais ar wella'r gallu i gael bwyd maethlon digonol a phriodol i ddiwallu anghenion penodol menywod a merched mewn sefyllfa o wrthdaro ac argyfwng; cael gafael ar fwyd ar gyfer rhaglenni cymorth bwyd gan brosiectau ffermio cydweithredol sy'n eiddo i fenywod ac sy'n cael eu harwain gan fenywod a sefydliadau ar gyfer ymateb dyngarol a darpariaeth gyhoeddus; a sicrhau, wrth gwrs, bod gofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau rhywiol ac atgenhedlu ac iechyd meddwl, yn cael eu darparu i'r rhai sy'n ddarostyngedig i ecsploetio a cham-drin rhywiol a masnachu yng nghyd-destun bwyd a diogelwch ac argyfwng dyngarol.

Ac yn olaf, ar eich sylwadau ynghylch cofio'r Holodomor a'r angen i sicrhau ymwybyddiaeth o'r hanes hir hwn o ymddygiad ymosodol yn erbyn pobl Wcráin, a rôl y newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones wrth ddatgelu hyn i'r byd, rwy'n argymell y ffilm ragorol Mr Jones gan Agnieszka Holland. Dylai pawb ei wylio. Mae'n tanlinellu nid yn unig cadernid a dewrder pobl Wcráin yn wyneb gormes ofnadwy a brawychus, a dewrder anhygoel un unigolyn wrth ddatgelu hyn, ond hefyd bwysigrwydd gwirionedd, sy'n cael ei alw yn aml iawn, wrth gwrs, yn golled gyntaf rhyfel, a rôl hollbwysig y wasg yn wyneb hunan ddiddordeb y wladwriaeth. Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned Williams, am eich cwestiwn pwysig iawn.

Rwy'n gobeithio y byddwn yn clywed rhywfaint o newyddion yr wythnos nesaf am y sefyllfa ariannol. Rwy'n amau na fyddwn yn cael y sicrwydd llawn sydd ei angen arnom, oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â'r taliadau 'diolch' yn unig, sy'n fater brys, ond y cyllid am y ddwy flynedd nesaf, sef y tariff i awdurdodau lleol, sy'n eu helpu i ddarparu'r gefnogaeth gofleidiol i bobl sy'n cael eu lletya, a chefnogaeth trwy ein canolfannau croeso. 

Yn sicr, byddaf yn edrych ymhellach ar y datganiadau sydd wedi'u gwneud am y dreth ar y seilwaith iechyd yn Wcráin—y coridor iechyd dyngarol, y galwadau am hyn. A hefyd, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar—. Mae angen i mi fynd yn ôl at y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, y gwnaethom roi £4 miliwn, i gael mwy o adborth ar sut mae'r arian yna'n cael ei ddefnyddio a'i ddosbarthu, oherwydd mae'n arian yr ydym ni yng Nghymru wedi ei roi drwy ein cyllideb ni. Rwy'n credu bod y mater am natur rywedd a chyd-destun amgylchiadau menywod a merched yn Wcráin yn hanfodol bwysig. Un o'r pethau sydd gennym yw'r cyfle i ymgysylltu â chymaint o'r menywod sydd wedi dod. Menywod a phlant yw'r mwyafrif, wrth gwrs, o'n gwesteion Wcreinaidd, felly byddaf yn rhoi hynny ar agenda'r cyfarfod nesaf sydd gennym gyda nhw, gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb y Merched.

Rwy'n credu bod cyd-Aelodau yn ymwybodol bod Mick Antoniw yn arwain confoi yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Rwy'n gwybod ei fod yn drawsbleidiol, a all pawb fynd, ond rwy'n credu bod gwirfoddolwyr wedi bod o bleidiau; os ydyn nhw eisiau, gallan nhw fynd gydag ef. Mae'n mynd â llwyth, a bydd yn adrodd yn ôl i ni ar hynny. Mae ganddo gerbyd ac mae ganddo'r offer. Mewn gwirionedd, mae wedi codi llawer o arian, ac mae'n debyg eich bod chi i gyd wedi cyfrannu ato, yn ystod yr wythnosau diwethaf. Drwy Gymru, mae llawer o roi wedi bod. Bu llwythi. Rydych chi i gyd yn gwybod, mae'n debyg, am bobl yn eich etholaethau sydd mewn gwirionedd yn gwybod am y ffordd dawel honno y mae pobl yn bwrw ymlaen, yn cael gafael ar lori ac yn gyrru yno.

Holodomor—ydw, rwy'n credu bod yr ymwybyddiaeth yn bwysig iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn ogystal â'r ffilm Mr Jones, yn ddiweddar, yn y Barri, yn fy etholaeth i, gosodwyd plac ar y wal pan ddaeth y llysgennad, er cof am Gareth Jones, a gafodd ei difrïo am ddatgelu'r newyn a achoswyd gan Stalin, gan y ddynol ryw yn Wcráin. Roedd yn ddyn ifanc anghyffredin a lofruddiwyd yn y pen draw am ei gryfder a'i annibyniaeth fel newyddiadurwr.

17:35

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol, Gweinidog, bod rhai awdurdodau lleol—er enghraifft, sir Fynwy—wedi sefydlu cynllun gwarantwr ar gyfer teuluoedd Wcreinaidd sy'n adlewyrchu'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael i breswylwyr i atal neu leihau digartrefedd. Bwriad hyn yw eu helpu i sicrhau tai, sydd, wrth gwrs, yn sylfaen bwysig i alluogi teuluoedd i ddod o hyd i swydd a chyfleoedd addysgol. Ond mae'n ymddangos bod rhai rhwystrau anfwriadol yn y cynllun a allai atal pobl rhag sicrhau cartref. Mae'n ymddangos bod proses ymgeisio ac asesiad fforddiadwyedd a allai fod yn hir a allai atal pobl rhag cael y ddogfennau angenrheidiol yn ddigon cyflym, sy'n golygu eu bod yn colli cyfle i gael cartref i bobl eraill. Mae hyn wedi golygu bod teulu Wcreinaidd yn fy etholaeth fy hun wedi gorfod defnyddio eu cynilion bach iawn eu hunain—roedd yn rhaid iddyn nhw ei lusgo at ei gilydd—i roi'r bond i lawr i sefydlu eu cartref eu hunain. Yna, yn siomedig, gwelsant na allant wneud cais ôl-weithredol i'r awdurdod lleol am gymorth, nad oedden nhw'n ymwybodol yn wreiddiol bod ganddynt yr hawl i'w gael.

Gweinidog, hoffwn ofyn pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i'w helpu i gefnogi teuluoedd o Wcráin sy'n byw yng Nghymru yn well i ddod o hyd i lety tymor hirach. A, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'ch cydweithwyr gweinidogol mewn mannau eraill am ba gefnogaeth arall y gellir ei rhoi ar waith i helpu teuluoedd Wcreinaidd sy'n ceisio ymgartrefu yn eu cymuned am gyfnodau hirach, ond sydd ag ychydig iawn o gefnogaeth ariannol?

Diolch yn fawr, Peter Fox, ac a gaf ddiolch i Gyngor Sir Fynwy ac awdurdodau lleol eraill sy'n defnyddio'r ddarpariaeth hon? Maen ganddyn nhw ddarpariaeth i ddarparu'r bondiau cynllun gwarantwr. Bydd pobl sy'n cael llety yn y sector rhentu preifat yn ymwybodol o hyn. Fe wnaf ofyn i fy nghydweithiwr, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, am ddogfennau'r broses ymgeisio—lle mae hyn yn gorwedd o ran cyfrifoldeb.

Rwy'n credu bod hyn yn rhan o allu awdurdodau lleol, hefyd, gyda'r £6 miliwn sydd wedi mynd o Lywodraeth Cymru i helpu i atal digartrefedd. Mewn gwirionedd, yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod yn edrych ar bawb sydd ag angen tai. Mae angen i ni eu trin nhw â chydraddoldeb. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhan o'r cyllid a'r canllawiau i'w galluogi nhw i wneud hynny. Felly, fe wnaf yn sicr gymryd hynny yn ôl ac edrych ar hyn.

Rwyf eisoes wedi crybwyll y llwybrau i fynd ymlaen i lety. Mae gennym fframwaith ar gyfer llety sydd wedi ei ddrafftio gyda'r awdurdodau lleol. Yn wir, rwyf wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr awdurdodau lleol bob pythefnos neu dair wythnos. Rydym wedi bod yn rhannu arferion gorau. Cawson nhw seminar ar 8 Tachwedd. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda ni, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ysgogi, nid yn unig arweiniad hyblyg, ond cyllid i alluogi pobl i symud ymlaen. Fel y dywedwch chi, mae pobl eisiau bod yn annibynnol, ond mae lefelau rhent wir yn afresymol iawn mewn sawl ardal yng Nghymru.

Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddaf hefyd yn ei godi gyda'r Gweinidog ddydd Iau, oherwydd mae angen i ni edrych ar ffyrdd y gallan nhw ein cefnogi. Fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd godi'r angen am fwy o gefnogaeth ar gyfer lwfans tai lleol a thaliadau disgresiwn ar gyfer tai, oherwydd byddai hynny hefyd yn helpu awdurdodau lleol gyda'r trefniadau hyn. 

17:40

Diolch i'r Gweinidog. Dyna ddiwedd ar yr eitem, a diwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i chi.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:40.