Y Cyfarfod Llawn
Plenary
15/11/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a dyma ni yn cychwyn y cyfarfod gyda'r eitem gyntaf, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joel James.
1. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio tanwydd hydrogen ar gyfer cerbydau modur yng Nghymru? OQ58713
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O'r gogledd i'r de a'r gorllewin i'r dwyrain, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau ymarferol ar gyfer defnyddio hydrogen er mwyn datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru.
Diolch Prif Weinidog. Er gwaethaf yr holl ddiddordeb ynghylch y potensial i hydrogen ddod yn elfen chwyldroadol wrth ddatgarboneiddio'r diwydiant modurol, rydym ar hyn o bryd eto i weld unrhyw dystiolaeth wirioneddol o hyn ar ein ffyrdd. Rwyf i, fel llawer yma, rwy'n siŵr, yn credu bod cyfle enfawr i hydrogen gwyrdd ddod yn rhan fawr o'r ateb wrth ddatgarboneiddio'r diwydiant modurol, yn enwedig am ei fod yn dileu rhai o'r rhesymau y mae pobl yn eu defnyddio i beidio newid i gerbydau trydan. Os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif yn ei bwriad i hydrogen gwyrdd ddod yn danwydd o bwys, yna nid ydym yn symud hanner digon cyflym wrth adeiladu seilwaith a chreu amodau'r farchnad sydd eu hangen. Cyhoeddodd Shell yr wythnos diwethaf y bydd tair gorsaf hydrogen yn cau, gan nodi diffyg galw gan ddefnyddwyr, sy'n bryderus oherwydd ei fod yn dangos nad yw'r farchnad yn ymateb yn ddigon da i botensial hydrogen gwyrdd fel ffynhonnell tanwydd, ac, felly, Prif Weinidog, mae angen i ni argymell yn gryfach bod hwn yn fuddsoddiad gwerth chweil a hirdymor. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, ac o ystyried y potensial ar gyfer cynhyrchu hydrogen gwyrdd o brosiectau fel canolfan ynni gwyrdd Statkraft yn sir Benfro, pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda diwydiant i annog mwy o fuddsoddi mewn cynhyrchu hydrogen gwyrdd a seilwaith gorsafoedd hydrogen?
Diolch i Joel James am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac rwy'n ei groesawu fel recriwt i'r rhai ohonom sydd wastad wedi credu mai swyddogaeth y Llywodraeth yw camu i'r adwy pan fo'r farchnad yn methu. Felly, mae'n dda gwybod bod y syniad hwnnw'n fyw ar y meinciau Ceidwadol. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am botensial hydrogen gwyrdd a phwysigrwydd y ffaith bod hon yn bartneriaeth rhwng busnesau preifat ac awdurdodau cyhoeddus. Dydw i ddim mor besimistaidd ag yr oedd ef yn swnio ynghylch y potensial i hwn fod yn gam arloesol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cynllun trafnidiaeth yma yng Nghymru. Mae'r enghraifft Statkraft y cyfeiriodd Joel James ati, Llywydd, yn gyfleuster i gynhyrchu hydrogen gwyrdd, i'w storio hefyd, yn Nhrecŵn yn sir Benfro. Rwyf wedi cael cyfle i drafod hyn gyda chynrychiolwyr Statkraft pan fues i'n ymweld ag Iwerddon yn ddiweddar. Byddaf yn cwrdd ag EDF, buddsoddwr mawr arall mewn ynni adnewyddadwy, gydag uchelgeisiau o ran hydrogen gwyrdd hefyd, yn ddiweddarach heddiw. Yma yng Nghymru, rydym yn benderfynol o weithio gyda'r buddsoddwyr mawr hynny i roi'r hyder sydd ei angen arnyn nhw, ac i wneud yn siŵr, lle mae'r buddsoddiadau hynny'n dibynnu ar bartneriaeth rhwng awdurdodau cyhoeddus—mae buddsoddiad Statkraft yn sir Benfro yn dibynnu ar bartneriaeth â Chyngor Sir Penfro oherwydd y cynllun yw sicrhau y bydd yr hydrogen gwyrdd sy'n cael ei gynhyrchu yn pweru bysiau ar draws sir Benfro ac yn helpu gyda theithio ar y rheilffyrdd hefyd—a phan fo honno’n bartneriaeth allweddol i ddatgloi buddsoddiad a chreu'r dyfodol hydrogen gwyrdd hwnnw, yna bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn bartneriaid gweithredol yn yr ymdrech honno.
Prif Weinidog, mae gan raglen HyNet North West y potensial i newid yn sylweddol y ffordd yr ydym yn diwallu ein hanghenion trafnidiaeth a busnes o ran tanwydd ar draws gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, gogledd Cymru. Maer metro dinas-ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram, sy'n hyrwyddo'r rhaglen, ac mae'n cael ei chefnogi gan gynghorau Wrecsam a sir y Fflint, yn ogystal â chyngor busnes gogledd Cymru. A fyddech chi'n ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gyflymu'r broses o gyflawni rhaglen HyNet er mwyn symud trafnidiaeth a diwydiant tuag at ein targedau di-garbon?
Wel, Llywydd, rydw i'n cytuno â Ken Skates bod HyNet yn cynrychioli cyfle pwysig i economi gogledd-ddwyrain Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr. Yn gynharach yn yr hydref, llwyddais i drafod datblygiad HyNet gyda maer metro Lerpwl, Steve Rotheram. Er mwyn ateb y cwestiwn hwn â naws eciwmenaidd, fe wnaf gydnabod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn HyNet. Ac mae'n enghraifft o'r ffordd yr ydym ni wedi gallu gweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i chwarae ein rhan ochr yn ochr â nhw a chynrychiolwyr etholedig yng ngogledd-orllewin Lloegr er mwyn i'r prosiect hwnnw ddwyn ffrwyth. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad y mae Cyngor Sir y Fflint, yn arbennig, ochr yn ochr â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, wedi'i wneud. Mae'r uchelgais i gael safle allweddol i gynhyrchu a storio hydrogen ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn un o'r rhesymau pam y mae gennym ni'r buddsoddiad hwnnw, sy'n cyrraedd ar draws yr economi honno sy'n cyfuno gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. A bydd cydweithio yn cynnig y cyfle gorau i ni wneud yr hyn a ddywedodd Ken Skates, Llywydd, sef cyflymu ein gallu i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i sicrhau cartref i bawb sydd angen un yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ58722
Llywydd, mae’r argyfwng costau byw, ac argyfyngau mewn rhannau eraill o'r byd, yn creu pwysau ar y system dai. Ar gyfartaledd, mae dros 1,400 o bobl yn cyflwyno eu hunain i wasanaethau digartrefedd bob mis sydd angen llety dros dro. Mae dros 6,000 o bobl sy'n ffoi rhag rhyfel yn Wcráin wedi cael noddfa yng Nghymru ers mis Mawrth.
Diolch, Prif Weinidog. Cysylltodd rhiant sengl â mi yr wythnos diwethaf, mae ganddi blant oed ysgol gynradd sydd â diabetes, awtistiaeth ac ADHD. Mae'r fam yn gweithio fel cynorthwyydd ysgol, ac mae hi wedi cael rhybudd troi allan, sydd wedi dod i ben, gan fod y landlord yn gwerthu'r tŷ. Dywedodd y cyngor lleol wrthi am chwilio am lety rhent preifat, ond y rhataf y gall ddod o hyd iddo yw £995 bob mis calendr. Dywedodd gwerthwyr tai fod angen iddi ddangos tystiolaeth o gyflog o £30,000, sy'n fwy nag y mae hi'n ei ennill. Ni fydd hi'n cael ei rhoi ar frig y rhestr dai ar gyfer tŷ nes iddi symud i lety dros dro yn gyntaf. Mae'r fam nawr ar restr aros am lety dros dro, a dywedodd gweithiwr tai mewn awdurdod lleol wrthyf i fod pobl yn aros mewn llety dros dro am fisoedd ar hyn o bryd, ac rydym yn gwybod y bydd y galw yn debygol o gynyddu gan fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar fwy a mwy o bobl. Nid yw llety dros dro yn llety addas nac yn iach i deulu â phlant. Pan na all plant gael eu hawliau dynol sylfaenol a chartref diogel, onid yw hi'n bryd cyflymu ac ehangu'r rhaglen Unnos y cytunwyd arni, i ymgymryd ag addasu tai ac adeiladu tai ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, er mwyn sicrhau bod gan blant ac oedolion gartrefi diogel ac addas?
Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno â Heledd Fychan bod gan brosiect Unnos ran i'w chwarae, rhan bwysig i'w chwarae, wrth ein galluogi ni i gyflymu'r gwaith o adeiladu cartrefi fforddiadwy hirdymor i bobl ym mhob rhan o Gymru. Ni fydd yr uchelgais honno'n helpu'r unigolyn a gysylltodd â'r Aelod gyda'i hanawsterau presennol, a dyna pam y mae'n iawn ein bod yn mynd ymlaen gyda'n gilydd i fuddsoddi yn y mesurau hynny sy'n rhoi rhywfaint o ryddhad ar unwaith i bobl sy'n cael eu hunain heb unman i fyw, ac mae hynny'n cynnwys y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Bydd hynny'n creu dros 1,000 o gartrefi newydd i bobl yma yng Nghymru. Byddan nhw'n lleoedd iddyn nhw eu hunain, fe fyddan nhw'n lleoedd lle bydd pobl yn gallu cynllunio dyfodol eu bywydau. Y tu hwnt i'r llety dros dro, bydd llety parhaol i'w gael hefyd. A dyna pam, Llywydd, yr ydym ni'n buddsoddi mewn gwneud tai gwag yn addas i'w defnyddio unwaith eto yma yng Nghymru—cronfa ailgylchu gwerth £43 miliwn sydd eisoes wedi creu 1,600 o gartrefi na fydden nhw fel arall ar gael i'w meddiannu, neu lle byddai'r amodau ffisegol mor anodd fel y gorfodir pobl i adael. Mae dros 1,600 o gartrefi wedi cael eu defnyddio unwaith eto yn y ffordd honno, a 1,300 o gartrefi eraill wedi eu gwneud yn ddiogel i bobl aros ynddyn nhw hefyd.
Mae anghydbwysedd rhwng y galw am dai yng Nghymru a'r cyflenwad. Mae hynny'n amlwg i unrhyw un sy'n cynrychioli pobl sy'n dod i gymorthfeydd ac yn dweud wrthym am yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu. Ond, drwy gynyddu'r cyflenwad a chefnogi pobl pan ddônt yn denantiaid, i'w cynnal nhw yn y ffordd orau bosibl, mae gennym ni'r cynllun ar waith yng Nghymru a fydd yn ein rhoi ni mewn gwell sefyllfa ar gyfer y bobl hynny sydd, mewn sawl rhan o Gymru, yn wynebu'r un anawsterau ag oedd yr unigolyn y soniodd Heledd Fychan amdani y prynhawn yma.
Prif Weinidog, yn ddiweddar, cwrddais â Trivallis, darparwr tai cymdeithasol mwyaf RhCT, ac roedd yn dda iawn cael diweddariad ganddyn nhw ynghylch sut maen nhw wedi gallu gwneud defnydd o raglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro Llywodraeth Cymru i wneud tai gwag yn addas i'w defnyddio unwaith eto gyda'r pwrpas penodol o symud pobl a theuluoedd allan o lety gwely a brecwast dros dro. Pa fath o fesurau fyddwch chi'n eu rhoi ar waith i fonitro'r cynllun hwn a gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni amcan Llywodraeth Cymru i bawb yng Nghymru gael cartref diogel, addas, parhaol?
Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am dynnu sylw yn enwedig at y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Mae'n arloesi yma yng Nghymru, mae £65 miliwn bellach wedi'i ddarparu iddi, ac rwyf wedi rhyfeddu at y ffordd y mae awdurdodau lleol blaengar a chymdeithasau tai blaengar wedi bachu ar y cyfle y mae'r rhaglen hon yn ei chynnig. Dyna pam, o fewn cyfnod o 18 mis, y byddwn yn gweld mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol yn cael eu defnyddio unwaith eto. Byddwn yn ei fonitro, Llywydd, drwy'r broses dyfarnu grantiau arferol, ond rwy'n credu, pan geir partneriaid sy'n dangos bod ganddyn nhw'r ymrwymiad a'r gallu i ddefnyddio'r cyllid yr ydym yn gallu ei ddarparu i ddefnyddio cartrefi unwaith eto, i gynnig rhywle i bobl fel y gallant symud ymlaen yn eu bywydau, fe ddylem ni ymddiried ynddyn nhw i wneud y gwaith. Ac er ei fod yn iawn, oherwydd ei fod yn arian cyhoeddus, ein bod yn ei fonitro a'u bod nhw'n rhoi cyfrif amdano, rwy'n credu y dylai fod yn berthynas y gellir ymddiried ynddi â sefydliadau fel y rhai a grybwyllwyd gan Vikki Howells a'r awdurdod lleol yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Lle mae gennym bobl ar lawr gwlad sy'n dangos eu gallu i gyflawni, dylem ni eu galluogi nhw i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n dda eich gweld chi'n ôl ar ôl i chi fod i ffwrdd oherwydd COVID yr wythnos diwethaf. Atgof amserol bod y feirws, yn amlwg, yn dal allan yna ac yn tynnu pobl allan o weithgareddau eu diwrnod arferol.
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf—bythefnos yn ôl, dylwn i ddweud—fe wnaeth cadeirydd yr ymchwiliad COVID ledled y DU dynnu sylw at y ffaith na fyddai'r gwaith y bydden nhw'n gallu ymgymryd ag ef yn gallu crisialu'r holl faterion y byddai hi'n dymuno eu hystyried yma yng Nghymru, o ystyried faint o waith sydd ganddi ar ei phlât a faint o waith sy'n dod i mewn i'r ymchwiliad hwnnw, er y byddai, ynghyd â'i chydweithwyr yn yr ymchwiliad hwnnw, yn parhau i gynnal ymchwiliad a gwaith chraffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru mor gynhwysfawr â phosibl. Yn sgil ei sylwadau, onid ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol bellach i ni gael yr ymchwiliad COVID ar gyfer Cymru gyfan, fel y gall y rhai a gollodd anwyliaid trwy argyfwng COVID gael yr atebion sydd eu hangen arnyn nhw i ddod â chyfnod arbennig o dywyll yn eu bywydau nhw i ben?
Llywydd, yn gyntaf oll, diolch i arweinydd yr wrthblaid am yr hyn a ddywedodd. Gwyddom ei fod ef ei hun wedi cael profiad o ba mor anodd y gall COVID fod, ac mae'n iawn iddo dynnu sylw at y ffaith bod miloedd o bobl yn parhau i fynd yn sâl â COVID bob wythnos yma yng Nghymru. Mae hynny'n cael effaith ar fywydau'r unigolion hynny, ac mae'n cael effaith ar ein gallu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus a busnesau preifat hefyd. Yn sicr nid yw COVID ar ben.
Darllenais yr hyn a ddywedodd y Farwnes Hallett, y Farnwres Hallett, wrth agor y rhan arbennig honno o'r ymchwiliad. Nid wyf yn credu fy hun ei bod hi'n awgrymu y byddai'n gwneud mwy pe bai'n gallu. Yn syml, roedd hi'n egluro i bobl, o fewn yr amserlenni sydd ar gael iddi hi a'i phenderfyniad i gynhyrchu adroddiad o fewn yr amserlen a all gael dylanwad ar y ffordd y gwneir penderfyniadau yn y dyfodol, ym mhopeth y mae'n ei wneud, y bydd yn rhaid iddi ganolbwyntio ar y materion y mae'n credu sydd â'r potensial mwyaf i roi gwybodaeth dda, atebion ac arweiniad ar gyfer y dyfodol. Rwy'n fodlon iawn i adael yr ymchwiliad yn ei dwylo hi nawr, a dyna fyddwn ni'n ei wneud.
Mae ar gofnod cyhoeddus bod y sylwadau hynny yna, bod cadeirydd ymchwiliad y DU wedi tynnu sylw at y cyfyngiadau oherwydd llwyth gwaith ymchwiliad y DU. Mae ar gofnod, yn yr un cyfweliad neu'r un sylwadau yr oedd hi'n eu gwneud, ei bod wedi tynnu sylw at y ffaith pe bai ymchwiliad annibynnol yn cael ei sefydlu yma yng Nghymru, y byddai hi, ynghyd â'i chydweithwyr, yn barod i weithio gyda'r ymchwiliad annibynnol hwnnw. Yr unig berson sy'n stopio ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru yw chi eich hun, Prif Weinidog, neu a allwch chi enwi sefydliad arall sydd mewn gwirionedd yn erbyn yr egwyddor o sefydlu ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru i roi atebion i'r bobl hynny a gollodd anwyliaid drwy bandemig COVID?
Llywydd, rwyf wedi egluro dro ar ôl tro, ac nid wyf yn bwriadu gwastraffu amser y Senedd y prynhawn yma yn ailadrodd yr hyn a ddywedais i ar 19 Hydref y llynedd, 30 Tachwedd, 25 Ionawr, 23 Mai—mae'r rhain i gyd yn achlysuron pan wyf wedi ateb y cwestiwn hwn gan yr Aelod. Efallai nad ydych chi'n hoffi'r ateb—dydw i ddim yn disgwyl y byddwch chi—ond nid yw'r ateb am newid drwy barhau i ofyn yr un cwestiwn. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o gael yr atebion y mae pobl yng Nghymru eu heisiau o ran yr hyn a ddigwyddodd yma yng Nghymru, gan gynnwys popeth a fydd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru—a gallaf ddweud wrthych fod Llywodraeth Cymru yn datgelu cannoedd ar filoedd o ddogfennau i'r ymchwiliad. Mae'r syniad na fydd yn edrych ar y materion sy'n bwysig i Gymru, dydw i ddim yn credu y bydd gwaith yr ymchwiliad yn amlygu hynny. Dyna'r ffordd y bydd pobl yn cael atebion cywir, cyfan, craff y maen nhw, yn gwbl briodol yn dymuno eu cael, a dyna o hyd yw polisi Llywodraeth Cymru.
Y cwestiwn a gyflwynais i chi, oedd y canlynol: a allech chi enwi sefydliad arall a oedd yn rhannu eich cred na ddylem gael ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i COVID yma yng Nghymru? Rwy'n sylwi o'ch ateb nad oeddech yn gallu rhoi enw sefydliad arall ar Gofnod y Senedd. Ac, os gwelwch yn dda, cymerwch cyhyd ag y dymunwch, oherwydd rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn dangos diddordeb mawr yn eich ymatebion heddiw. Pan wnes i godi hyn gyda chi rai wythnosau yn ôl, fe ddywedoch chi, 'Dyna anallu gwrthblaid, a dyma allu Llywodraeth'. Gallu y Llywodraeth, yn yr achos hwn, yw atal ymchwiliad annibynnol.
Byddwn ni, ymhen ychydig wythnosau, yn gosod cynnig yn y Senedd i ddwyn pwyllgor Senedd Cymru ymlaen i gael ymchwiliad ar y mater penodol hwn mewn gwirionedd. P'un a fydd y Senedd yn pleidleisio drosto neu beidio, mae hynny'n fater o atebolrwydd democrataidd yma yn y Siambr, ond dyna all y gwrthbleidiau ei wneud. A wnewch chi godi'r chwip ar eich meinciau cefn i gefnogi cynnig o'r fath, oherwydd, yn sicr, pan wyf yn siarad â chyd-Aelodau o'ch ochr chi yn ogystal â phen arall yr M4—Chris Evans, er enghraifft, o Islwyn—maen nhw eisiau gweld yr ymchwiliad annibynnol hwnnw oherwydd eu bod nhw'n credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud, a dim ond oherwydd eich ystyfnigrwydd chi nid ydym yn cael yr ymchwiliad hwnnw yma yng Nghymru? Felly, dewch i ni weld beth fydd canlyniad y pleidleisiau yma, a gadewch i ni weld a oes angen i chi chwipio eich Aelodau i gefnogi rhwystro ymchwiliad cyhoeddus COVID yma yng Nghymru.
Wel, Llywydd, dydw i ddim yn mynd i ymateb i awgrym nad ydw i erioed wedi ei weld, pan nad oes un darn o bapur o fy mlaen i yn egluro beth mae arweinydd yr wrthblaid yn credu y bydd yn ei osod ger bron y Senedd. Wrth gwrs, pan fydd yn gwneud ei feddwl i fyny ac yn gosod rhywbeth, yna byddaf yn edrych arno'n ofalus a bydd fy ngrŵp yn penderfynu beth y maen nhw'n dymuno ei wneud. Ond, y syniad y gallwch chi drin materion o'r difrifoldeb hwn mewn ffordd mor ddi-hid, eich bod chi'n credu ei bod hi'n bosibl gwneud awgrym o ddim—dim byd o gwbl, nid un ddogfen i awgrymu i ni beth fyddai cwmpas ymchwiliad o'r fath, pa bwerau fydd ganddo, sut fydd yn mynd ati i weithredu hyn. Pan gawn ni gynnig difrifol gennych, yna byddwn yn edrych arno o ddifrif, ond y prynhawn yma, yn sicr nid ydym wedi cael hynny. Ac os yw eisiau i mi enwi sefydliad yr wyf wedi cael trafodaethau ag ef sy'n credu mai'r ffordd orau o gael atebion i gwestiynau pobl yw drwy ymchwiliad y DU, yna byddaf yn ei gyfeirio, fel y gwnes i lawer gwaith o'r blaen, at y sgyrsiau a gefais gyda Phrif Weinidog y DU, yr oedd ef yn eu cefnogi ar y pryd, oherwydd yn fy nhrafodaethau gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson, roedd hi'n amlwg mai ymchwiliad y DU â'r gallu i ysgogi'r holl wybodaeth angenrheidiol a chael y pwerau y byddai eu hangen arno i wneud yr ymholiadau hynny, oedd y ffordd ymlaen a ffafriwyd. Rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen: cefnogais Brif Weinidog y DU ar y pryd, hyd yn oed pan oeddech chi wedi ceisio'u tanseilio nhw'n gyson.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae heddiw'n nodi 100 mlynedd o oruchafiaeth etholiadol Llafur, gan wneud eich plaid, yn eich geiriau chi,
'y blaid fwyaf llwyddiannus yn y byd democrataidd'.
Mae'n rhaid i mi ddweud, y bore 'ma, nid oedd yr hwyliau yn rhai o ddathlu pan sefais i a chydweithwyr eraill Plaid Cymru yn y glaw mewn undod ag undebwyr llafur ar streic i nodi rhai adegau hanesyddol eraill; y bleidlais gyfartalog fwyaf o blaid streicio gan undeb y PCS yn ei hanes, sy'n cwmpasu 126 o weithleoedd ar wahân, gan gynnwys y sefydliad hwn, y Senedd; y tro cyntaf i Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon gynnal pleidlais ymhlith ei haelodau ynghylch streicio dros gyflogau yn ei hanes 125 mlynedd; y streic gyntaf ledled y genedl yn hanes 106 mlynedd y Coleg Nyrsio Brenhinol. Nawr, mae Keir Starmer wedi gwrthod dro ar ôl tro gefnogi gweithwyr sy'n streicio, gan ddweud ei fod yn deall pam y mae streiciau'n digwydd, ond nad oedd yn barod i sefyll gyda gweithwyr ar linellau piced. Beth ydych chi'n credu y byddai Keir Hardie wedi ei wneud o hynny? Ac yn fwy perthnasol, ydych chi'n barod i sefyll mewn undod â gweithwyr pan nad yw eich arweinydd Prydeinig yn gwneud hynny, yn anffodus?
Wel, Llywydd, rwy'n cydnabod y dicter a'r siom y mae llawer o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn eu profi ar hyn o bryd. Pan fydd eich cyflogau wedi cael eu cadw i lawr drwy ddegawd o gyni, ac rydych chi bellach yn wynebu codiadau cyflog o dan lefel chwyddiant, yna mae'n gwbl ddealladwy pam y mae gweithwyr o dan yr amgylchiadau hynny'n teimlo fel hyn a pham eu bod yn pleidleisio i weithredu yn y ffordd yma. A does gan y Llywodraeth Lafur hon ddim amwysedd o gwbl wrth roi ar gofnod ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi cael eu gwthio i gymryd y camau y maen nhw wedi eu cymryd. Rwy'n hapus iawn i ailadrodd hynny a'i roi ar gofnod eto y prynhawn yma.
Mae Syr Keir wedi dweud mai'r peth pwysicaf y gallai ei wneud ar gyfer gweithwyr ar streic yw hebrwng Llywodraeth Lafur i mewn. Ac ie, pe bai honno'n Llywodraeth radical a all helpu i ddarparu cyllid tecach i Gymru a mwy o degwch cyffredinol drwy'r mathau o newidiadau blaengar y mae arweinydd ein plaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn eu cynnig drwy ei Bil Comisiwn Diwygio Trethi, gallai wneud gwahaniaeth pwysig iawn i'n bywydau. Ond yng Nghymru, nid oes angen i ni hebrwng Llywodraeth Lafur i mewn, mae gennym ni un yn barod. A Llywodraeth Lafur Cymru yw'r un y bydd nyrsys, ymhen ychydig wythnosau, gydag athrawon yn ymuno'n fuan wedyn, yn ôl pob tebyg, yn taro yn ei herbyn. Er mwyn osgoi sefyllfa pan fydd y mudiad llafur i bob pwrpas mewn anghydfod â'r Llywodraeth dan arweiniad plaid sy'n rhannu ei henw, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud os yw'r dewis o ddefnyddio'r pwerau treth incwm sydd gennym mewn ffordd flaengar, gan gynnwys, os oes angen, y gyfradd sylfaenol, yn rhywbeth y byddwch o leiaf yn edrych arno'n fanwl er mwyn osgoi'r cyni sylweddol sydd yn bur debyg o fod o'n blaenau ni'n fuan?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno ag arweinydd Plaid Cymru nad oes dim yn bwysicach i wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig na Llywodraeth Lafur yn San Steffan, ac edrychaf ymlaen at wneud popeth o fewn ein gallu, fel plaid yma yng Nghymru, fel yr ydym wedi ei wneud ers 100 mlynedd, i wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y fuddugoliaeth Lafur honno ar y cyfle cyntaf posibl. Mae fy nhrafodaethau gyda chydweithwyr undebau llafur—ac roeddwn i'n eu cael nhw'n gynharach y bore 'ma—yn ei gwneud hi'n amlwg iawn i mi eu bod nhw'n deall cyfyng-gyngor Llywodraeth Lafur Cymru yma. Mae gennym gyllideb sefydlog y mae'n rhaid i ni ei phennu, ac os ydym ni'n talu mwy i bobl na'r arian sydd gennym—ac rydym ni wedi bodloni argymhellion y corff adolygu cyflogau, ym maes iechyd ac addysg—os ydym ni'n talu mwy i bobl na hynny, yna mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod o rywle arall.
Nawr, fe wnaf i am eiliad, dynnu sylw at y profiad yn yr Alban. Yno, mae chwaer blaid Plaid Cymru yn wir wedi cynnig mwy o gynnydd i weithwyr iechyd nag yr ydym wedi gallu ei wneud yma yng Nghymru. A wnaeth hyn atal yr RCN yn Yr Alban rhag pleidleisio dros streicio ym mhob un bwrdd iechyd yn yr Alban? Naddo. Ac oherwydd bod yr SNP yn Llywodraethu yn yr Alban, mae'n rhaid iddyn nhw wynebu'r cyfyng-gyngor anodd iawn sy'n dod gyda'r penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud, ac rwy'n eu parchu nhw am y ffordd y maen nhw wedi gwneud y penderfyniadau hynny. Ond gadewch i ni fod yn glir, Llywydd, mae Llywodraeth yr SNP, yn y pythefnos diwethaf, wedi cyhoeddi ei bod yn cymryd £400 miliwn allan o gyllideb GIG yr Alban er mwyn talu am y codiad ychwanegol yng nghyflog gweithwyr o fewn y GIG. Mae hwnna'n benderfyniad y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud, ac mae o fewn ei hawdurdod gwleidyddol ei hun i wneud hynny. Yr hyn y mae angen i ni ei glywed gan Blaid Cymru yw os ydyn nhw'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyflogau gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd y tu hwnt i'r cyllid sydd gennym, o ble fyddai'r arian yn dod yma?
Rwy'n edrych ymlaen at weld y Prif Weinidog yn caniatáu i ni fynd drwy'r llyfrau gydag ef. A fydd e'n trefnu sesiwn friffio pan gawn ni edrych mewn gwirionedd, fesul llinell, ar ble y gallwn ni ailflaenoriaethu'r gyllideb mewn ffordd flaengar, sosialaidd?
Nawr, a wnaiff y Prif Weinidog egluro un peth? Fe gyfeirioch chi at drafodaethau. Ydych chi'n barod i gynnal trafodaethau gyda'r undebau iechyd yn yr anghydfod dros gyflogau, ac yn wir gyda'r holl undebau sector cyhoeddus sy'n pleidleisio dros streicio? Mae'r Blaid Lafur yn San Steffan yn galw ar y Llywodraeth yno fel mater o drefn i ddod o gwmpas y bwrdd mewn sefyllfaoedd fel hyn. Mae'r Blaid Lafur yn yr Alban yn gwneud y pwynt hwnnw hefyd. Ydych chi'n barod i ddod o gwmpas y bwrdd? Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud wrthym fod y Gweinidog iechyd wedi gwrthod trafod gyda Fforwm Partneriaeth Cymru, corff sy'n cynnwys undebau llafur, arweinwyr y GIG a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, sydd, yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol yn meddu ar hanes hir o bartneriaeth gymdeithasol gynhyrchiol ar faterion sy'n gysylltiedig â chyflogau. Pam ydych chi'n gwrthod cwrdd â nhw, pan fo partneriaeth gymdeithasol i fod yn egwyddor graidd i chi, a chi yw'r Blaid Lafur yn llythrennol? Hynny yw, ai dyna sut mae llwyddiant ar ôl 100 mlynedd yn edrych bellach?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, rwy'n ddiolchgar i arweinydd Plaid Cymru am gytuno i ddod i sesiwn friffio manwl ar yr amgylchiadau y byddwn yn eu hwynebu yma yng Nghymru pan fyddwn wedi gweld canlyniadau datganiad yr hydref ddydd Iau.
Llywydd, mae pob streic yn dod i ben yn y diwedd wrth drafod, a dyna'r ffordd rwy'n credu y bydd yr anawsterau presennol a welwn ni mewn gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru yn cael eu datrys. Nid yw Llywodraeth Lafur byth yn gwrthod siarad â'n partneriaid, ond mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd sy'n deg i bob partner mewn unrhyw fforwm partneriaeth. Nid y Coleg Nyrsio Brenhinol yw'r unig undeb sy'n cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, ac mae undebau llafur eraill yn ymgynghori gyda'u haelodau ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i chi gynnal y trafodaethau hyn mewn ffordd sy'n cydnabod buddiannau mwy nag un grŵp neu un sefydliad. Ond mae'r egwyddor bod streicio yn cael ei ddatrys yn y diwedd drwy drafodaethau yn un yr ydym yn ei deall yn llwyr, oherwydd Llywodraeth yw hon, er gwaethaf y cyfnod anodd iawn yr ydym ynddo ac y byddwn yn parhau ynddo, sy'n credu'n gryf a heb betruso mai partneriaeth gymdeithasol yw'r ffordd gywir o wneud yn siŵr bod modd datrys materion heriol iawn rhyngom ni.
3. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer rhandiroedd cymunedol? OQ58686
Llywydd, mae ein grant cymorth rhandiroedd wedi dyrannu £750,000 eleni ar draws awdurdodau lleol i helpu i wella a chynyddu'r ddarpariaeth o randiroedd. Yn ogystal â'r gronfa bwrpasol hon, mae rhaglenni eraill fel y gwasanaeth cynghori ar dir cymunedol hefyd yn cefnogi datblygiad rhandiroedd.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae gen i randiroedd yn fy etholaeth sydd wedi elwa ar grantiau a oedd ar gael, ond mae yna lawer iawn o bobl o hyd sydd eisiau rhandir ond yn methu cael un. Mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, y ddau gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru ei hun ac awdurdodau lleol, dir y maen nhw'n berchen arno ond, ar hyn o bryd, nid oes ganddyn nhw ddefnydd buddiol ar ei gyfer. A fydd Llywodraeth Cymru'n annog defnyddio tir o'r fath ar gyfer rhandiroedd, yn hytrach na'i weld yn cael ei adael?
Wel, Llywydd, rwy'n tybio y dylwn i ddatgan buddiant yn y cwestiwn hwn. Roeddwn i ar fy rhandir fy hun ddydd Sul. Os ydych chi'n casglu mafon yng nghanol mis Tachwedd yna does dim angen i unrhyw un ddweud wrthych nad yw newid hinsawdd yn effeithio arnom ym mhob rhan o'n bywydau.
Rwy'n falch o glywed beth ddywedodd Mike Hedges am effaith gadarnhaol y grant cymorth rhandiroedd yn Abertawe. Ar draws Cymru gyfan, mae eisoes mewn cynllun treialu bach a gwnaeth 18 mis o'r grant ei hun greu 760 o leiniau, neu alluogi gwaith adfer lleiniau segur er mwyn eu defnyddio unwaith eto. Roedd yn arbennig o ddiddorol i mi weld, yn etholaeth yr Aelod ei hun, yn rhandiroedd Cwmgelli yn Nhre-boeth, er enghraifft, fod yr awdurdod lleol yn bwriadu datblygu set o leiniau cychwynnol, ac rwy'n credu bod hynny'n ffordd ddefnyddiol a phwysig iawn. Rwy'n gyfarwydd iawn, yn fy rhandiroedd fy hun, i weld pobl yn cyrraedd gyda brwdfrydedd enfawr, sy'n gweithio'n galed am dros bythefnos neu dair wythnos, ac yna'n canfod na allant gynnal yr ymdrech dros y cyfnod hirach. Ac mae lleiniau cychwynnol sy'n caniatáu i bobl feithrin eu diddordeb a'u capasiti rwy'n credu yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddefnyddio'r grant cymorth rhandiroedd.
Ac rwy'n credu bod Abertawe hefyd wedi dangos, yn ogystal â darparu lleiniau ychwanegol yn uniongyrchol, eu bod yn sicrhau bod mwy o'u stoc rhandiroedd ar gael i bobl trwy wella hygyrchedd, diogelwch, ailgylchu cyfleusterau ar y lleiniau. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae Mike Hedges yn ei ddweud, Llywydd: mae gan 16 o gymdeithasau rhandiroedd cymunedol awdurdodau lleol yn Abertawe i gyd restrau aros. Felly, mae ein grant cymorth rhandiroedd yn gweithio ochr yn ochr â mentrau eraill, megis y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol, i chwilio am gyfleoedd eraill a newydd i sicrhau bod mwy o dir ar gael i'r bobl hynny sy'n cydnabod manteision uniongyrchol tyfu bwyd ar gyfer eich defnydd eich hun ond hefyd y manteision iechyd a chymdeithasol ehangach sy'n dod o gynnal eich rhandir eich hun.
Diolch i haelioni Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, rhoddwyd dros erw o dir yn rhodd i'r gymuned leol i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain, gan alluogi tua 40 o drigolion sir Benfro o bob cenhedlaeth i edrych ar ôl eu darn nhw eu hunain o dir. Arweiniwyd y prosiect gan Grŵp Resilience, ymgyrch a arweinir gan y gymuned, sy'n ceisio meithrin hunanddibyniaeth ac ysbryd cymunedol trwy weithio gydag unigolion, sefydliadau'r Llywodraeth a busnesau i hyrwyddo ffordd fwy cynaliadwy o fyw. Mae Grŵp Resilience wedi bod o fudd enfawr i orllewin Cymru, drwy ddatblygu dros 25 o fannau tyfu cymunedol neu wrth wella ein dealltwriaeth o gymunedau mwy gwyrdd, glanach a hunangynhaliol. O ystyried eu llwyddiant, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i efelychu eu model cymunedol ar draws Cymru gyfan?
Diolch i'r Aelod am y wybodaeth yna. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'n ei ddangos yw rhywbeth y byddwch chi'n ei weld ym mhob rhan o Gymru, bod y diddordeb mewn tyfu bwyd cymunedol yn ehangach na rhandiroedd yn unig a bod ganddo grŵp hynod frwdfrydig o bobl yno sydd â diddordeb mewn dod o hyd i ffyrdd, nid unigolion yn unig ar eu rhandiroedd eu hunain ond, os ydw i'n meddwl am fy etholaeth fy hun, dim ond darnau o dir ymylol oedd fel arall heb unrhyw ddefnydd pwrpasol wedi eu cymryd drosodd gan grwpiau cymunedol sydd bellach yn gofalu amdanyn nhw, yn tyfu bwyd arnyn nhw, yn sicrhau eu bod ar gael i'r gymuned leol honno. A bydd yr hyn a welwch chi yn digwydd yn sir Benfro rwy'n credu yn cael eich efelychu yn y ffordd honno ym mhob rhan o Gymru. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth fwyd gymunedol, oherwydd bydd hynny'n ein galluogi ni i ni feddwl am ffyrdd i harneisio'r ymdrech gymunedol enfawr honno, a thrwy gynnig rhywfaint o gefnogaeth ehangach drwy awdurdodau cyhoeddus, eu galluogi nhw i wneud hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58724
Wel, Llywydd, diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu yn y sector cymdeithasol ac wedi buddsoddi mwy o gyllid nag erioed, gan ddarparu £300 miliwn eleni. Mae hyn yn cynnwys 40 y cant o gynnydd yn y canolbarth a’r gorllewin.
Diolch yn fawr iawn. Fel rŷch chi'n gwybod, mae bron i 90,000 o aelwydydd yng Nghymru ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae hyn wedi codi o 65,000 o gartrefi yn 2018, ac mae elusennau'n disgwyl i'r nifer godi ymhellach. Ac mae tueddiadau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru yn peri pryder mawr, gyda nifer yr aelwydydd ar restrau aros yn 2022 lan bron 50 y cant yn sir Benfro a dros 100 y cant ym Mhowys, o'i gymharu â ffigurau pedair blynedd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud fod sir Gâr, dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, wedi dangos patrwm gwahanol, gyda gostyngiad o ryw 12 y cant yn nifer yr aelwydydd sy'n aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, felly, o sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i gyflawni hyn? A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i archwilio pa wersi y gellid eu dysgu o arfer da sir Gâr mewn ardaloedd awdurdodau eraill yng Nghymru?
Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn ychwanegol yna. Dwi wedi cael un cyfle i siarad gyda'r gweision sifil sydd wedi edrych i mewn i'r profiad yn sir Gâr, achos mae e yn sefyll mas, onid yw e? Rŷch chi'n gweld beth sydd wedi digwydd yn sir Gâr yng nghyd-destun de-orllewin Cymru, ac mae record sir Gâr yn rhywbeth gwahanol i'r awdurdodau lleol eraill. Beth mae swyddogion wedi awgrymu i fi, jest yn y sgwrs gyntaf, yw bod sir Gâr wedi bod yn gweithio yn y maes hwn dros y tymor hir. Maen nhw wedi prynu tai pan fo tai yn dod lan ar y farchnad ar werth, ac mae rhaglen ddatblygu gyda nhw sy'n fwy dwfn na'r rhai sydd gyda'r awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth. So, mae'n bosib bod gwersi i'w dysgu mas o'r profiad mae sir Gâr wedi'i gael.
Mae sir Gâr hefyd wedi cydweithio â ni fel Llywodraeth, ac roedd sir Gâr yn un o'r awdurdodau lleol gwreiddiol ble roedden ni wedi codi'r hawl i brynu tai cymdeithasol, ac mae hwnna wedi helpu yn sir Gâr a'r tymor fwy nac mewn rhai awdurdodau lleol eraill. A hefyd maen nhw wedi gweithio gyda ni i ddefnyddio'r arian rŷn ni wedi'i roi ar y bwrdd i dynnu tai gwag nôl i rentu i bobl.
So, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i edrych i mewn i'r profiadau yn sir Gâr i weld os oes rhywbeth gwahanol mae'r cyngor yn ei wneud, ond hefyd i roi hwnna yng nghyd-destun yr ymdrech fwyaf rŷn ni'n treial i helpu, i helpu i fuddsoddi gyda'r awdurdodau lleol a hefyd gyda'r bobl eraill sy'n gwneud gwaith pwysig yn y maes.
Prif Weinidog, dangosodd cais rhyddid gwybodaeth diweddar fod tua 4,500 o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol ym Mhowys. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hynny'n peri pryder mawr. Rwy'n siŵr bod yr unigolion hynny a'r bobl hynny ar y rhestr aros honno, fel yr wyf i, eisiau gwybod heddiw beth yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn ei wneud i ddatrys y broblem hon, oherwydd, fel y dywedoch chi'n gynharach, mae cyllid ar gael, ond nid yw'n cyflawni'r canlyniadau yr ydych chi eu heisiau. Felly, yn lle ceisio penawdau, Prif Weinidog Cymru, ydych chi'n credu y byddai cael gwared ar bethau fel y rheoliadau ffosffad a osodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at ddadflocio'r system gynllunio?
Wel, yn sicr, dydw i ddim yn credu y byddai caniatáu mwy o lygredd yn afonydd Powys yn rhywbeth a fyddai'n cael ei gefnogi gan etholwyr yr Aelod, a gadewch i ni fod yn glir iawn pan ddywed 'cael gwared ar reoliadau ffosffad', dyna'n union mae'n ei olygu—dyna'n union mae'n ei olygu—ni all olygu unrhyw beth arall. Os ydych chi'n caniatáu i ddatblygiadau tai ddigwydd gan wybod—gan wybod—y bydd hynny'n arwain at fwy o lygru cyrsiau dŵr ac afonydd, yna dyna fydd effaith gwneud yr hyn y mae'r Aelod yn ei gynnig.
Erbyn hyn, yn ffodus, mae gan y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y maes hwn, gan gynnwys sefydliadau ym Mhowys, agwedd fwy adeiladol tuag at ddatrys y cyfyng-gyngor sy'n ein hwynebu. Wrth gwrs mae angen i ni allu adeiladu tai ym Mhowys a rhannau eraill o Gymru; mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ateb cynaliadwy fel nad yw adeiladu'r tai hynny yn achosi llygredd ychwanegol mewn afonydd sydd eisoes—eisoes—wedi'u gor-lygru. Bydd angen cyfres o gyfraniadau: bydd angen cyfraniad gan y rheoleiddiwr; bydd angen cyfraniad Dŵr Cymru; bydd angen cyfraniad gan fuddiannau ffermio; a bydd angen cyfraniad gan ddatblygwyr tai sydd â thechnegau y gallant eu defnyddio ac sy'n fodlon eu defnyddio a fyddai'n golygu, pan fyddwch chi'n adeiladu tai newydd, nad yw'n arwain—
Mae'n wir ddrwg gennyf i, Prif Weinidog, ond mae llawer o aelodau meinciau cefn o ddwy blaid o leiaf yn ceisio cyfrannu yn eich lle chi yn y ddadl hon. Byddai'n well gennyf i eich clywed chi na nhw—pob un ohonyn nhw. Pob un ohonyn nhw. Prif Weinidog.
Llywydd, diolch. Roeddwn i'n ceisio egluro i'r Aelod bod y broblem y mae'n ei nodi yn un go iawn, ond mae'r ateb y mae'n ei gynnig yn creu problem arall, problem ddifrifol iawn, yn waeth. Ni fyddwn ni'n datrys y broblem yn y ffordd honno. Yr unig ffordd y byddwn ni'n ei datrys yw drwy gasglu ynghyd gyfraniad nifer o wahanol asiantaethau a sefydliadau. Mae hynny'n cynnwys adeiladwyr tai. Rwy'n credu eu bod nhw'n cydnabod hynny. Mae technegau y gallant eu datblygu a fyddai'n golygu y gall adeiladu tai ddigwydd heb y difrod a fyddai'n cael ei achosi gan yr ateb gor-syml a gynigiodd James Evans i ni, a fyddai heb os, yn arwain at lygredd ychwanegol.
5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r prif flaenoriaethau i Gymru yn y datganiad yr hydref ar y gyllideb? OQ58692
Llywydd, yr wythnos diwethaf cefais gyfarfod adeiladol gyda Phrif Weinidog y DU, pan gyflwynais gyfres o fesurau ymarferol y gellid eu cynnwys yn natganiad y Canghellor ar 17 Tachwedd. Byddai'r mesurau ymarferol hynny yn helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Rwy'n wirioneddol falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei blaenoriaethau cyn datganiad yr hydref. Gwyddom, fel mater o ffaith, oddi wrth ein hetholwyr, ein hawdurdodau lleol a'n trydydd sector bod cyni rhif 1 y Ceidwadwyr wedi rhwygo'r perfeddion allan o lywodraeth leol ac wedi peryglu parhad y trydydd sector, er gwaethaf ymdrechion gorau ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol ac er gwaethaf ymdrechion gorau gwirfoddolwyr a'r sector gwirfoddol allan yna. Pa reswm ar y ddaear fyddai gennym i gredu y byddai cyni rhif 2 y Ceidwadwyr yn cynnig unrhyw beth gwell i bobl Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw?
Llywydd, mae Huw Irranca-Davies yn gwneud pwynt pwysig iawn. Rydym eisoes wedi cael degawd o arbrawf diffygiol ac aflwyddiannus sef cyni yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi ein gadael ni i gyd yn waeth ein byd nag y byddem ni fel arall. Ac mae'r ffeithiau yn siarad drostyn nhw eu hunain, Llywydd. Rhwng 2010 a 2021, pob un o'r blynyddoedd hynny yn flwyddyn o Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, tyfodd cynnyrch domestig gros y pen yn y Deyrnas Unedig 6 y cant yn unig mewn termau real. Tyfodd 11 y cant yn yr Almaen, tyfodd 17 y cant yn Unol Daleithiau America. Yn 2010, roedd incwm gwario y pen aelwydydd yn y Deyrnas Unedig 90 y cant o ffigur yr Almaen. Erbyn 2021, roedd wedi gostwng i 81 y cant. Mae'r New Economics Foundation yn amcangyfrif mai effaith uniongyrchol cyni yw sicrhau bod economi'r DU £100 biliwn yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Pwy fyddai byth yn meddwl am ailadrodd yr un arbrawf? Ni cheisiwyd gwneud hyn mewn mannau eraill yn y byd. Roedd ganddyn nhw ddull gwahanol, roedd ganddyn nhw ddull buddsoddi, roedd ganddyn nhw ddull Keynesaidd, a daethant allan o gyfyng-gyngor 2008 mewn ffordd llawer cryfach.
Rydym ni'n gweld yr un patrwm eisoes yn ailadrodd ei hun. Yr wythnos diwethaf, gostyngodd chwyddiant yn yr Unol Daleithiau o dan 8 y cant. Cyhoeddodd Banc Ffrainc yr wythnos diwethaf y bydd economi Ffrainc yn dianc rhag dirwasgiad ym mhedwerydd chwarter eleni. Tyfodd economi'r Almaen 0.3 y cant yn nhrydydd chwarter eleni. Nid oes unrhyw un o'r pethau hynny'n wir am y Deyrnas Unedig o dan stiwardiaeth y blaid Geidwadol.
Nid wyf yn aml, Llywydd, yn dyfynnu The Daily Telegraph wrth ateb cwestiynau yma, ond, pe baech chi wedi edrych ar The Daily Telegraph ddoe, byddech wedi gweld erthygl ddifrifol iawn sy'n dadlau bod codiadau treth a thoriadau gwariant cyhoeddus ar yr adeg hon yn y cylch economaidd yr union bresgripsiwn anghywir ar gyfer economi'r DU. Dyma economi sydd eisoes mewn dirwasgiad, yn ôl Banc Lloegr, a nawr rydym yn colli pŵer prynu ar raddfa sy'n cyflymu'n barhaus, Banc Lloegr yn codi cyfraddau morgeisi, ac arian yn cael ei dynnu o bocedi pobl gan Lywodraeth y DU hefyd. Bydd hyn yn gwarantu, mae'n ymddangos i mi, y bydd y dirwasgiad yr ydym yn ei wynebu eisoes, yn hirach, bydd yn ddyfnach ac, unwaith eto, y cymunedau hynny a'r sefydliadau hynny a all fforddio hyn leiaf fydd ar reng flaen dos arall o gyni Torïaidd.
Rwyf innau hefyd yn eich croesawu chi, Prif Weinidog, yn ôl i'r Siambr yn dilyn eich salwch; mae'n dda eich gweld chi. Dydw i ddim yn amau bod gan y Canghellor rai dewisiadau anodd y bydd rhaid eu gwneud cyn datganiad yr hydref, felly rwy'n mynd i geisio bod yn adeiladol. Bydd hyn yn cael effaith ar Lywodraeth Cymru, ac rwy'n cydymdeimlo rywfaint â hi. Fel cyn-arweinydd cyngor ers 13 mlynedd, rwy'n deall yn rhy dda sut beth yw gosod cyllideb pan nad yw'r setliad ariannu yn hollol yr hyn yr hoffech chi iddo fod, a dywedaf dim mwy yn hynny o beth. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, yn hytrach nag yn erbyn ein gilydd, er mwyn ein cael ni yn ôl ar y trywydd iawn.
Roedd yn galonogol iawn gweld y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU yn ymuno ag eraill yng nghyfarfod diweddar Cyngor Prydain-Iwerddon. Llywydd, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog a wnaeth fanteisio ar y cyfle i drafod cynyddu pensiynau a budd-daliadau yn unol â phrisiau gyda'i gyd-Weinidogion yn y DU yn y cyfarfod diweddar, oherwydd, fel y gwyddom, mae hyn yn rhywbeth ar yr ochr hon i'r Siambr yr ydym yn cytuno ag ef. Ac wrth edrych yn nes at adref, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch gwerth y grantiau a'r lwfansau datganoledig y mae'n eu gweinyddu yng ngoleuni effaith chwyddiant, fel y gelwir amdanyn nhw gan Sefydliad Bevan?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, diolch i Peter Fox am ei sylwadau agoriadol caredig, ac rwy'n cydnabod, fel y ceisiaf wneud bob amser, y profiad sydd ganddo fel cyn arweinydd cyngor yn gorfod gwneud penderfyniadau gwirioneddol pan fo dewisiadau anodd iawn ganddo.
A gaf i ddweud, Llywydd, fy mod yn croesawu penderfyniad Prif Weinidog y DU i fod yn bresennol yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig? Ef yw'r Prif Weinidog cyntaf i wneud hynny ers cyfnod hir iawn. Rwy'n credu ei fod yn benderfyniad pwysig, symbolaidd, o ystyried y tensiynau parhaus mewn perthnasoedd mewn cysylltiad â phrotocol Gogledd Iwerddon, ac o ystyried y pwysau sydd ar ddyddiadur unrhyw Brif Weinidog, y bu iddo neilltuo amser i fod yno ac i gynnal cyfarfodydd ar wahân gydag ystod o unigolion gwahanol. Rwy'n credu bod hynny'n gymeradwy ac rwy'n gobeithio, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, bod y dechrau adeiladol hwnnw yn gosod naws wahanol i'r dyfodol o ran cysylltiadau rhyng-lywodraethol.
Yn ogystal â chyfarfodydd dwyochrog gyda Phrif Weinidog y DU, bu hefyd yn gadeirydd cyfarfod cyntaf cyngor y Prif Weinidog. Roedd hyn yn rhan o'r adolygiad cysylltiadau rhyng-lywodraethol a ddaeth i ben ym mis Mawrth eleni. Doedd dim cyfarfod blaenorol o'r cyngor wedi ei gynnal. Felly, eto, yn gynnar iawn yn ei gyfnod fel Prif Weinidog, fe wnaeth Mr Sunak hi'n flaenoriaeth i gadeirio cyfarfod o'r cyngor hwnnw, ac roeddwn i'n falch o weld hynny hefyd.
Fe wnes i, wrth gwrs, achub ar y cyfle, gydag eraill—roedd Canghellor y Trysorlys yn bresennol yn y cyngor, felly hefyd Michael Gove—i godi'r mater o gynyddu budd-daliadau, a'r clo triphlyg i bensiynwyr, ond roeddwn hefyd yn gallu cofnodi cyfres o gamau gweithredu, eithaf cymedrol ond yn bwysig iawn ym mywydau'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw, yr wyf yn credu y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd yn ei datganiad yr hydref.
Dadleuais yn gryf dros ddiddymu taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu. Beth all fod yn waeth na chanfod, pan fyddwch chi o'r diwedd wedi llwyddo i gasglu ychydig o arian i'w roi tuag at gyflenwad trydan, bod yr arian hwnnw eisoes wedi'i lyncu i dalu tâl sefydlog am yr holl ddyddiau hynny pan nad oeddech chi'n gallu defnyddio trydan o gwbl? Mae'n anghyfiawnder economaidd dwfn, a gallai'r Llywodraeth hon ddiddymu'r taliadau sefydlog hynny a gwneud i'r cwmnïau amsugno'r costau, fel y gwnaeth y Llywodraeth pan ddywedodd wrth y BBC bod yn rhaid i'r gorfforaeth dalu cost trwyddedau am ddim i bobl dros 75 oed. Gallent gymryd eu hesiampl eu hunain a'i gymhwyso i gwsmeriaid mesuryddion rhagdalu.
Dadleuais am gynnydd mewn taliadau disgresiwn at gostau tai a'r lwfans tai lleol. Dyma enghraifft hurt o Lywodraeth sy'n arbed rhywfaint o arian gydag un llaw—symiau bach o arian—drwy fethu ag uwchraddio'r lwfansau hynny yn unol â chwyddiant, a thalu llawer, llawer mwy gyda llaw arall pan fydd y bobl hynny'n cael eu hunain yn ddigartref oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r rhenti mwyach. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt pwrs economaidd, cyhoeddus i roi'r arian hwnnw mewn lle gwahanol lle gall wneud yn well.
Yna, cynigiais i aelodau'r cyngor rannu'r profiad a gawsom yma yng Nghymru, dan arweiniad fy nghydweithiwr Jane Hutt, i ddarparu gwarantau yn erbyn colled i undebau credyd, fel eu bod yn gallu cynnig benthyciadau i bobl a fyddai'n cael eu hystyried yn ormod o risg fel arall. Mewn asesiad arferol o risg, ni fyddech yn rhoi benthyg arian i'r unigolyn hwnnw. Mae undebau credyd yng Nghymru yn gallu gwneud hynny oherwydd rydym yn cynnig gwarant iddyn nhw yn erbyn colled. Y canlyniad bendigedig, Llywydd, yw hyn: wrth gwrs rydych chi'n colli arian pan fyddwch chi'n rhoi benthyg i bobl sydd mewn amgylchiadau anodd iawn, iawn, ond mae 80 y cant o'r arian y mae'r undebau credyd yn ei fenthyg i bobl a gwmpesir gan ein gwarant yn dod yn ôl o'r bobl eu hunain, oherwydd y ffordd y mae undebau credyd yn gweithredu. Mae hynny'n faes arall lle gallai Llywodraeth y DU, gyda buddsoddiadau cymedrol, helpu'r bobl hynny a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd i fenthyg arian o rannau drutaf a pheryglus y farchnad.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Hyfryd i'ch cael chi nôl. Croeso nôl.
Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ofal cymdeithasol. Fel yr ydym ni'n gwybod, mae ein hawdurdodau lleol ledled Cymru yn mynd i fod yn cael trafferthion gyda'u cyllidebau wrth symud ymlaen, o ran ariannu gofal cymdeithasol—ein pobl fwyaf agored i niwed. Byddai hynny'n helpu ein gwasanaethau iechyd ni hefyd. Mae'n hyfryd clywed gennych chi am y pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU, ond i fod yn onest, nid oes gennyf i unrhyw ffydd o gwbl y bydd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn diwallu anghenion pobl yng Nghymru, ac yn bendant ni fyddai'n diwallu anghenion pobl agored i niwed. Ond yma yng Nghymru, mae gennym ni ddewisiadau, a hoffwn i ofyn i chi: a fydd Llywodraeth Cymru'n codi trethi er mwyn ariannu gofal cymdeithasol yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.
Rwy'n credu bod yr wythnos hon yn mynd i fod yn wythnos wael iawn i wasanaethau gofal cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n aros i weld beth fydd yn digwydd ddydd Iau, ond mae unrhyw ddarn o wybodaeth sy'n gollwng o'r Drysorlys yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn mynd i roi'r gorau i'w hymrwymiad i gyflwyno eu fersiwn nhw o'r adolygiad Dilnot. Byddwch chi wedi gweld sylwadau cwbl ddeifiol Syr Andrew Dilnot ei hun ar y peth diweddaraf hwn—wel, rwy'n credu mai 'brad' yw'r gair y mae'n ei ddefnyddio—o'r gwaith y gwnaeth ef ar ran Llywodraeth Geidwadol. Ac os yw hynny'n wir, mae ganddo effeithiau uniongyrchol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, fel y gwyddom ni.
Mae hi bob tro wedi bod yn un o'r posau mawr o geisio symud ymlaen ar ofal cymdeithasol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y grŵp arbenigol a gafodd ei sefydlu yn sgil y cytundeb cydweithredu yn y maes hwn. Ond mae'r adroddiad yn dweud wrthych chi fod rhyng-gysylltiad yn y penderfyniadau gan Lywodraeth y DU a'r penderfyniadau y mae modd eu gwneud yma yng Nghymru yn wirioneddol iawn. Rwy'n ofni, os mai'r ateb sydd gan Lywodraeth y DU i'r anawsterau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol yw dweud y gellir cynyddu'r dreth gyngor yn Lloegr, ei fod wir yn ateb enbyd i'r hyn sydd yn broblem ddifrifol iawn.
Rwyf i wedi ateb y cwestiwn sawl gwaith, Llywydd, ynglŷn â'r pwerau sydd gennym ni fel Llywodraeth o ran cyfraddau Cymru o dreth incwm, a'r un ateb ydyw: byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau hynny pan fydd gennym ni'r ffeithiau llawn, ac mewn ffordd drefnus, fel rhan o'r broses o osod y gyllideb yr ydym ni wedi'i nodi ar gyfer cydweithwyr yma yn y Siambr. Ond gadewch i mi ddweud hyn, Llywydd: ni ddylai unrhyw un gredu bod codi'r gyfradd sylfaenol o dreth yn benderfyniad hawdd yma yng Nghymru. Rydym ni'n sôn am dynnu arian o bocedi pobl sy'n ennill £12,000 y flwyddyn. Rwyf i eisoes wedi dweud y prynhawn yma fy mod i'n credu mai un o'r camgymeriadau mawr sydd ar fin cael ei wneud yw bod y dirwasgiad yr ydym ni eisoes ynddo ar fin cael ei wneud yn waeth trwy gymryd pŵer prynu allan o bocedi pobl. Mae'r person hwnnw sy'n ennill £12,000 yma yng Nghymru yn wynebu'r holl filiau yr ydym ni wedi siarad amdanyn nhw yma yn y Siambr—y biliau ynni, y biliau bwyd, y biliau rhent, yr holl bethau hynny. Ni ddylai neb feddwl bod penderfyniad i gymryd mwy o arian allan o boced y person hwnnw yn un y byddem ni'n ei wneud yn ysgafn.
6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn sector cyhoeddus o danwydd ffosil? OQ58703
Diolch i Jack Sargeant, Llywydd. Rydym ni'n annog partneriaeth pensiwn Cymru i weithredu'n fwy ac yn gyflymach wrth symud tuag at sero net. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi gwahodd arweinwyr cronfeydd pensiwn i annerch cyngor partneriaeth Cymru yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddarach y mis hwn, gan nodi eu cyfraniad at gyflawni sero net.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymrwymiad gan y Gweinidogion yn eich Cabinet. Llywydd, rwyf i wedi datgan buddiant gyda'r cwestiwn hwn oherwydd fy ymwneud ymroddedig a pharhaus ag ymgyrch dadfuddsoddi Cymru, ond mae'r cloc yn tician, Prif Weinidog, ar yr amser sydd gennym ni i osgoi trychineb amgylcheddol difrifol a'r anhrefn, y newyn a'r gwrthdaro sy'n dod gydag ef. Mae symiau enfawr o'n harian pensiwn sector cyhoeddus yn parhau i gael eu buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, ac rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn y Senedd am y gefnogaeth i fy nghynnig yn gynharach eleni. Os bydd Cymru'n gosod y targedau hyn a chynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn dadfuddsoddi erbyn 2030, ni fyddai'r genedl gyntaf yn y byd i wneud hynny.
Prif Weinidog, heddiw rydym ni'n dathlu 100 mlynedd o Lafur yn ennill yng Nghymru. Rydym ni yn dal yn feiddgar ac rydym ni yn dal yn uchelgeisiol, ac mae'n rhaid i ni fod yn blaid feiddgar ac uchelgeisiol fel y gall ein cenedlaethau'r dyfodol a'n cenedlaethau iau, fel y rhai o Ysgol Uwchradd Penarlâg yn fy etholaeth yn yr oriel heddiw, fynd ymlaen i fyw bywydau llwyddiannus mewn byd cynaliadwy. Prif Weinidog, a wnewch chi gwrdd â mi a chyd-ymgyrchwyr i drafod ymhellach sut y gallwn symud ymlaen â'r cynnig beiddgar hwn?
Llywydd, rwy'n llongyfarch Jack Sargeant ar yr holl waith y mae'n ei wneud yn y maes hwn. Gwnaeth arwain dadl lwyddiannus iawn ar lawr y Senedd yma nôl ym mis Mai ac mae e'n iawn, wrth gwrs, i dynnu ein sylw at y ffaith mai bywydau ein pobl ifanc fydd yn cael eu heffeithio ddwysaf gan y penderfyniadau yma. Pleser oedd cwrdd â chyfres o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Penarlâg ar fy ffordd i mewn i'r Siambr yn gynharach heddiw.
Yn ymarferol, Llywydd, yr unig gronfa bensiwn sector cyhoeddus sy'n gwneud buddsoddiadau yng Nghymru yw'r gronfa llywodraeth leol. Nid oes gan gynlluniau pensiwn eraill—cynllun pensiwn y gwasanaeth iechyd, cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, ac yn y blaen—fuddsoddiadau; maen nhw'n dibynnu ar weithwyr heddiw i dalu pensiynwyr heddiw. Yr unig gronfa bensiwn sydd â buddsoddiadau yw'r cynllun pensiwn llywodraeth leol, ac er bod rhaid i ni eu hannog nhw i fod yn feiddgar ac i fod yn uchelgeisiol, a gosod targedau yn y ffordd y mae Jack Sargeant yn ei hawgrymu, yn y diwedd rhaid iddyn nhw fod eu targedau nhw a'u huchelgais nhw, oherwydd nid oes gan Lywodraeth Cymru allu statudol i orfodi unrhyw dargedau arnyn nhw.
Y newyddion da, Llywydd, rwy'n credu, yw bod arwyddion cryf bod cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru yn symud yn y cyfeiriad yma a'u bod yn gwneud y pethau y mae Jack Sargeant yn gofyn iddyn nhw eu gwneud. Mae cronfa bensiwn Clwyd, lle mae ganddo ef ddiddordeb arbennig, yn gynharach eleni wedi ffurfio partneriaeth gyda chwmni buddsoddi yn benodol er mwyn symud ei fuddsoddiadau i ynni glân a chynhyrchu ynni glân yma yng Nghymru. Mae wedi gwneud yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu: mae wedi gosod targed o sero net erbyn 2045 a tharged dros dro o leihau carbon gan 50 y cant erbyn 2030. Byddai'r ymgyrch yn hoffi iddyn nhw fynd ymhellach ac i fynd yn gyflymach, a dyna pam mae ymgyrchoedd yn bwysig. Rwy'n hapus iawn i roi ymgymeriad y byddwn i'n cwrdd â Jack Sargeant i drafod beth arall y mae modd ei wneud i annog cronfeydd pensiwn i symud i'r cyfeiriad hwnnw.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod cynaliadwyedd ariannol ffermydd ac ardaloedd gwledig wrth wraidd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)? OQ58721
Llywydd, mae'r amcan hwnnw yn cael ei sicrhau drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, fel y mae wedi'i sefydlu yn y Bil.
Diolch. A fyddwch chi heddiw, a'r Gweinidog, yn amlwg, yn eistedd wrth eich ymyl, yn ystyried ymrwymo i bumed amcan sy'n cael ei ychwanegu at y Bil i roi'r sicrwydd y maen nhw'n ei haeddu i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig? P'un ai'r Undeb Amaethwyr Cymru y gwnes i siarad â nhw yr wythnos ddiwethaf ydyw, neu'n ffermwyr yn fy rhanbarth i fy hun, mae'n amlwg mai'r Bil Amaeth, a'i botensial i newid ffermio yn aruthrol yn ein cymunedau gwledig ni yn y dyfodol, yw'r prif ganolbwynt, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn. Rhaid i hyfywedd ariannol ar gyfer ein ffermydd a'n hardaloedd gwledig fod wrth wraidd yr holl benderfyniadau ac ystyriaethau drwy'r Bil hwn. Byddai'r pumed amcan hwnnw sy'n cael ei gynnwys yn y Bil hwn, yn hollbwysig, yn gweithredu fel dull i ffermwyr, undebau a chyrff cyhoeddus i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif er mwyn sicrhau mai dyma'r sefyllfa. A fyddech chi'n cytuno â mi bod hyn yn haeddu ystyriaeth arall?
Gwn ei fod yn cael rhagor o ystyriaeth gan y Gweinidog, a'i bod hi'n parhau i fod mewn trafodaethau ynghylch pumed nod o gadernid economaidd. Rwy'n credu bod dadl gref i'w gwneud bod gan y pedwar nod yr ydym ni eisoes wedi'u nodi gadernid economaidd yn rhan annatod ohonyn nhw i gyd, oherwydd mae'r pedwar nod i gyd wedi'u cynllunio i wneud yn siŵr y gall ffermwyr fynd ati i gael eu talu am gynhyrchu'r pethau dim ond ffermwyr sy'n gallu eu darparu. Mae hynny'n dechrau gyda chynhyrchu bwyd cynaliadwy—dyna'r nod cyntaf yr ydym ni'n ei gynnig yn y Bil—ond yr holl bethau eraill y mae ffermwyr yn gallu'u darparu, y nodau cyhoeddus hynny sy'n golygu y bydd gan drethdalwyr ddiddordeb uniongyrchol mewn gwneud yn siŵr bod buddsoddiad yn parhau mewn cymunedau ffermio—aer glân, dŵr glân, arferion amaethyddol cynaliadwy—eisoes yn cael eu cipio yn y pedwar nod y mae'r Bil yn eu cynnwys. Maen nhw yno i wneud yn siŵr bod gan ffermwyr ffyrdd y gallan nhw eu cymryd, drwy'r camau y gallan nhw eu cymryd, mae'n nhw'n gallu parhau i gael incwm wedi'i ddarparu iddyn nhw er mwyn sicrhau cadernid economaidd. Yn y cyfamser, fel y dywedais i, mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn parhau i drafod ag eraill a fyddai pumed nod yn rhywbeth a fyddai, mewn unrhyw ffordd ystyrlon, yn ychwanegu unrhyw beth arall at y ffordd y mae'r Bil eisoes wedi'i roi at ei gilydd.
Yn olaf, cwestiwn 8, Altaf Hussain.
Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog Cymru.
8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged sero net? OQ58697
Prynhawn da hefyd, Llywydd, i'r Dr Hussain.
Y llynedd, gwnaethom ni nodi ein huchelgais o allyriadau sero net erbyn 2050. Mae'r camau gweithredu uchelgeisiol sydd eu hangen wedi'u cynnwys yn 'Cymru Sero Net'. Fis diwethaf, rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wybod i Aelodau o gynlluniau i greu datblygwr adnoddau adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus—dim ond un o'r camau sydd eu hangen i gyflawni sero net.
Prif Weinidog, mae eich 'Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd Sero Net' ar gyfer 2021-25 yn nodi'r amrywiaeth o uchelgeisiau a'r camau gweithredu a ddisgwylir drwy weithio'n agos mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau. Mae cyllideb ddangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn nodi £2.9 biliwn ar gyfer newid hinsawdd i fuddsoddi yn y meysydd cyflenwi hynny lle gallai Llywodraeth Cymru arwain, yn ddefnyddiol, y newid yr ydym ni i gyd eisiau'i weld. Rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r her ariannol sylweddol sydd o'n blaenau. Yng ngoleuni ei drafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet, faint o'r cyllid hwnnw ar gyfer 2023-24 sydd nawr yn ddiogel, ac, os nad yw, beth mae hyn yn ei olygu i'ch cynllun chi? Diolch.
Mae hynny'n gwestiwn pwysig iawn yn agos at ddiwedd y cwestiynau heddiw, oherwydd mae'n mynd at wraidd y penbleth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wynebu ar ôl datganiad yr hydref ddydd Iau. Os bydd y Canghellor yn penderfynu datrys ei benbleth drwy gymryd bwyell i'n cyllidebau cyfalaf, yna mae'n anochel y bydd hynny'n cael effaith ar ein gallu ni i fuddsoddi'r £1.8 biliwn y soniodd Dr Hussain amdano. Mae'n fuddsoddiad cyfalaf wedi'i dargedu yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Ein huchelgais fydd mynd ati i wneud y buddsoddiad hwnnw. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â'r argyfwng hinsawdd, yna mae'n rhaid i ni fuddsoddi heddiw yn y prosiectau seilwaith hynny sy'n caniatáu i ni wneud gwell ymateb iddo yn y dyfodol, boed hynny yn y buddsoddi yr ydym ni'n ei wneud mewn rhyddhad rhag llifogydd, p'un ai yw yn y ffordd yr ydym ni'n gallu ail-ddylunio rhai o'n prosiectau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i wneud yn siŵr bod adeiladau'n chwarae eu rhan i gyrraedd sero-net. Mae hynny i gyd yn ddibynnol ar y gyllideb gyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Gallaf roi'r sicrwydd hwn i'r Aelod: pan fydd y Cabinet yn eistedd i wneud yr hyn a wir allai fod, fel y dywedodd Peter Fox, yn benderfyniadau anodd iawn, byddwn i bob amser yn cael ein harwain gan egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sef, drwy gydbwyso penderfyniadau heriol iawn heddiw, mae gennym ni bob amser mewn golwg yn ogystal yr effaith y bydd y penderfyniadau hynny'n ei gael ar genedlaethau'r dyfodol.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio'r drafodaeth ar gyllideb Comisiwn y Senedd yfory tan yr wythnos nesaf. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol o ran y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfranogiad yn arolwg cyn-filwyr ledled y DU, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd? Dyma'r arolwg cyntaf erioed o'i fath, ac rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw cael cymaint o ddata â phosibl am y gymuned gyn-filwyr yng Nghymru, ac, yn wir, deuluoedd cymunedau cyn-filwyr, fel y gallwn ni gynllunio ein hymdrechion yn y ffordd orau i'w cefnogi yn y dyfodol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn cynnal yr arolwg hwn am y 12 wythnos nesaf, ac rwy'n credu y byddai'n dda pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu defnyddio ei holl sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol, ac unrhyw ymdrechion eraill y gall ei wneud, gydag aelodau'r grŵp arbenigol, er enghraifft, dim ond er mwyn lledaenu ymwybyddiaeth o amgylch Cymru, er mwyn i ni gael cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan.
Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn awyddus iawn i'n cyn-filwyr a'u teuluoedd fod yn ymwybodol o'r arolwg, a byddaf i'n hapus i wneud hynny a chyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Trefnydd, mae mwy o ystlumod pedol ymhlith y rhai prinnaf yn y DU gyfan, ac maen nhw wedi'u diogelu o dan ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd 2021. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gynnal a gwella amgylchedd naturiol fioamrywiol. Rwy'n gwybod na all Llywodraeth Cymru wneud sylw ar faterion cynllunio, ond y rheswm rwy'n gofyn am ddatganiad ynglŷn â hyn yw bod cais i godi fflatiau ar stad Castell Rhiwperra, lle mae ystlumod pedol mawr yn nythu. Mae hyn yn achos pryder mawr yn lleol. Rwyf i eisoes wedi codi'r mater gyda'r Gweinidog; roeddwn i'n ddiolchgar am ei hateb. Mae hi wedi egluro y bydd penderfyniad ar atgyfeirio'r cais ai peidio yn cael ei wneud maes o law. Felly, yr hyn yr oeddwn i eisiau ei dderbyn, os gwelwch yn dda, oedd datganiad o sicrwydd cyffredinol bod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i'w chyfrifoldebau cadwraethol, i roi'r hyder i sefydliadau fel Grŵp Ystlumod y Cymoedd ac Ymddiriedolaeth Gadwraeth Rhiwperra fod eu pryderon am les y rhywogaeth hynod brin hon yn cael eu rhannu ar draws y Llywodraeth. Diolch.
Yn amlwg, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i'r gwerthoedd cadwraeth yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rwy'n credu eich bod chi wir wedi gwneud y peth cywir wrth ysgrifennu at y Gweinidog, ac rydych chi'n dweud eich bod chi wedi cael ei hymateb defnyddiol.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Mae'r un cyntaf ar nifer y sefydliadau sy'n darparu cymorth ar-lein a gwasanaethau ar-lein yn unig, ac felly'n eithrio'r rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at gyfleuster ar-lein neu na all ddefnyddio cyfleusterau ar-lein. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar sut maen nhw'n sicrhau bod y rhai nad ydyn nhw'n gallu, neu nad ydyn nhw eisiau defnyddio cyfleusterau ar-lein yn gallu cael mynediad at wasanaethau dros y ffôn.
Mae'r ail ddatganiad rydw i'n gofyn amdano—ac fe glywais i'r hyn y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach—ar ba gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wrth ddod â thaliadau ynni sefydlog am ddyddiau pan nad oes ynni'n cael ei ddefnyddio i ben. Mae yna lawer o bobl nad ydyn nhw'n defnyddio ynni am ddyddiau, ond pan fyddan nhw'n defnyddio ynni, mae'r taliadau sefydlog am y dyddiau pan nad oedd ynni'n cael ei ddefnyddio yn dal i gael eu codi. Mae hyn yn brifo'r bobl dlotaf yn y gymdeithas, sy'n talu am egni nad ydyn nhw wedi'i ddefnyddio. Roedd gennyf i fenyw oedrannus yn dweud wrthyf i ei bod hi'n talu £2.50 i gynhesu paned o gawl tomato am ei bod hi'n defnyddio gwerth pum diwrnod o daliadau sefydlog.
Diolch. Mae'r cyfrwng digidol nawr yn chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas, o ganiatáu i bobl ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a chyhoeddus, er enghraifft, neu leihau teimladau o unigrwydd ac unigedd drwy gynnal cysylltiad â'u ffrindiau a'u teuluoedd, neu, wrth gwrs, barhau i weithio a chael mynediad at ddysgu. Ond wrth gwrs, mae yna bobl sy'n dewis peidio cymryd rhan, neu nad ydyn nhw'n gweld yr angen, ac, wrth gwrs, mae yna rai sydd methu fforddio'r costau sy'n gysylltiedig â bod ar-lein. Rwy'n credu ein bod ni'n gwybod, yn ystod, ac ers y pandemig, fod llawer o wasanaethau nawr wedi symud i sianeli digidol, felly mae'n gwbl hanfodol i'r rhai sy'n datblygu'r gwasanaethau hyn eu bod yn ymwybodol o'r goblygiadau ac yn eu hystyried ar gyfer bobl sy'n cael eu heithrio'n ddigidol, o agwedd cydraddoldeb, ac hefyd, wrth gwrs, yr effaith ar yr adferiad economaidd. Byddwch chi'n ymwybodol o'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, ein strategaeth ddigidol i Gymru, ac mae hynny'n gwneud yn gwbl glir ein nod o roi'r cymhelliad, y mynediad, y sgiliau a'r hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol yn seiliedig ar eu hanghenion. Fel Llywodraeth, ein rhan ni mewn gwirionedd yw ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau a pharhau i godi ymwybyddiaeth o'r angen am ddarparwyr gwasanaethau, boed yn gyhoeddus, yn breifat neu'n drydydd sector, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion.
Gwnaethoch chi sôn bod y Prif Weinidog ei hun wedi sôn ei fod wedi codi'r mater o daliadau ynni sefydlog gyda'r Prif Weinidog yng Nghyngor Prydain-Iwerddon yr wythnos ddiwethaf. Rydym ni'n gwybod bod angen buddsoddiad mawr yn y grid i'w ddatblygu'n system ynni sero net sy'n gadarn i'n helpu ni hefyd. Yn amlwg, mae'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn rhoi'r baich mwyaf ar y rhai sy'n gallu ei fforddio leiaf. Mae'n rhaid i hynny newid. Mae'r tâl sefydlog yn elfen o'r system brisio nad yw wir yn ystyried gallu person unigol i dalu. Fel y dywedodd y ddau ohonom ni, cododd y Prif Weinidog hwn gyda Phrif Weinidog y DU, ond rwy'n gwybod fel Llywodraeth ein bod ni'n parhau i godi hyn mewn trafodaethau sydd gennym ni gydag Ofgem. Ond mae wir angen newid sylfaenol wrth symud ymlaen i rai defnyddwyr ynni—yn hytrach na chonsesiynau i rai defnyddwyr ynni, i wneud hyn ar draul eraill.
A gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi fel Gweinidog Materion Gwledig a'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y cynnydd syfrdanol i ffioedd rheoleiddio a thaliadau Cyfoeth Naturiol Cymru? Yn unol ag ymgynghoriad CNC ar drwyddedau, bydd y cynnydd yn cael ei nodi ledled sawl cyfundrefn codi tâl o fis Ebrill 2023 ymlaen, ac mae'n cynnwys cynnydd o ddeng gwaith yng nghost ceisiadau newydd ar gyfer gwasgaru ar dir neu ddip defaid gwastraff am gost o £3,728. Ar adeg pan ydym ni'n gweld costau'n codi'n aruthrol ar draws y bwrdd, gallai'r cynnydd mawr hwn gael effaith niweidiol ar y frwydr yn erbyn clafr defaid ac mae angen mynd i'r afael â hi. Diolch.
Nid fi fyddai hi; y Gweinidog Newid Hinsawdd fyddai hwnnw, gan mai hi sy'n gyfrifol am CNC. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi bod yn cael trafodaethau gyda CNC ynglŷn â hyn, ond nid wyf i'n gweld y byddai hynny ar gyfer ddatganiad llafar. Os oes unrhyw wybodaeth arall y mae'r Gweinidog yn teimlo bod angen iddi hi ei rhannu â ni, byddaf i'n gofyn iddi wneud datganiad ysgrifenedig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar safonau'r heddlu yng Nghymru? Gwnaethom ni ddysgu'r wythnos ddiwethaf fod Heddlu Wiltshire yn arwain ymchwiliad i gasineb at fenywod, llygredd a hiliaeth honedig yn Heddlu Gwent. Daw hynny ar gefn adroddiad damniol corff gwarchod yr heddlu ar fethiannau yn y broses fetio a oedd yn caniatáu i droseddwyr ac ysglyfaethwyr rhywiol ymuno â'r gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr. Bydd gan fy etholwyr bryderon difrifol ac, yn fy marn i, pryderon cyfiawn am addasrwydd yr heddlu yn ymchwilio i'r heddlu ar y materion hyn, ac am eu diogelwch eu hunain, a dweud y gwir. Rwy'n gwerthfawrogi nad yw llawer o hyn wedi'i ddatganoli, ond mae'r canlyniadau wedi'u datganoli. Rwy'n credu bod angen datganiad gweinidogol i daflu goleuni ar y materion hyn sy'n tawelu meddyliau'r cyhoedd ac yn cefnogi'r mwyafrif helaeth o staff a swyddogion ein heddlu sy'n gwasanaethu'n onest ac yn anrhydeddus.
Diolch. Mae'r honiadau yn yr adroddiad yn peri pryder mawr. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn falch iawn bod y llu'n glir iawn am hyn. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym ni'n sefyll yn erbyn llygredd, casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia yn eu holl ffurfiau. Rydych chi'n sôn bod plismona yn amlwg yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond, wrth gwrs, fel Llywodraeth, rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid plismona yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfarfod ddoe gyda'r CSP, Jeff Cuthbert, a'r prif gwnstabl, Pam Kelly, i ddeall mwy am eu hymateb i'r honiadau hyn ac i bwysleisio'r difrifoldeb y mae, fel Llywodraeth, ein bod ni'n ystyried yr honiadau hyn hefyd. Gwnaeth y prif gwnstabl Kelly gadarnhau eu bod eisoes yn gweithio'n gyflym i fynd i ymdrin â'r materion sydd wedi'u codi. Mae'n hanfodol i'r llu gymryd camau pendant ac, yn amlwg, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r ymchwiliad annibynnol gan Heddlu Wiltshire sydd ar y gweill. Mae'r llu wedi'i gwneud hi'n glir iawn y bydd camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw un sydd wedi torri naill ai safonau proffesiynol neu'r trothwy troseddol, ac rwy'n gwybod bod Heddlu Gwent yn gweithio'n rhagweithiol i annog staff a dioddefwyr i ddod ymlaen â'u profiadau.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu costau economaidd llawn cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20 mya rhagosodedig yng Nghymru. Trefnydd, fel y gwyddoch chi, yr wythnos diwethaf, cafodd cynghorwyr ar hyd a lled Cymru lythyr gan y Llywodraeth yn sôn am y cynllun yma, ac rwy'n dyfynnu o'r llythyr:
'Hefyd, yr amcangyfrif yw y bydd hyn yn arbed tua £100 miliwn i Gymru yn y flwyddyn gyntaf yn unig, dair gwaith yn fwy nag y byddai'n ei gostio i gyflwyno'r cynllun hwn'.
Felly, mae'r llythyr yn ceisio tynnu sylw at arbediad o £100 miliwn i'r pwrs cyhoeddus, sydd, yn fy marn i, mae'n deg dweud, ei bod wedi methu â chyfleu'r darlun ariannol llawn wrth gyfathrebu hynny gyda chynghorwyr oherwydd, yn wir, mae'r memorandwm ar y gorchymyn yn nodi, at ei gilydd, bod amcangyfrif canolog dangosol ar werth ariannol presennol y polisi yn cael ei gyfrifo'n £4.54 biliwn negyddol—gan arbed £100 miliwn i'r pwrs cyhoeddus, efallai, ond cost o £4,500 miliwn i'r economi. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, hoffwn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad ar yr holl gostau sy'n ymwneud â chyflwyno terfynau cyflymder rhagosodedig 20 mya sy'n adlewyrchu'r arbedion, wrth gwrs, ond hefyd y costau yn arbennig i'n heconomi, ac sy'n caniatáu i'n trethdalwyr ddeall costau'r cynnig hwn yn llawn?
Byddaf i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y mater hwnnw.
Gweinidog, mae darparu gofal canser o safon yn hanfodol i'r bobl hynny y byddai eu diagnosis wedi'i fethu yn ystod y pandemig, ac i'r rhai sydd nawr yn aros i ddechrau triniaeth. Fis diwethaf, mynychodd y Gweinidog iechyd uwchgynhadledd ganser gyda byrddau iechyd lleol ledled Cymru i ymdrin ag amseroedd aros ac i ymdrin â phroblemau gallu o fewn GIG Cymru. Mae'n hanfodol bod y Gweinidog iechyd yn rhoi trosolwg o ganlyniadau'r uwchgynhadledd a'r mesurau y mae hi'n bwriadu eu cymryd i ymdrin â'r materion hyn. A fydd y Gweinidog busnes yn cyhoeddi datganiad llafar cyn y toriad i sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar hyn ac ar gynllun gweithredu gwasanaeth canser y GIG? Diolch.
Diolch. Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi arwain uwchgynhadledd o ddarparwyr gwasanaethau canser ac arweinwyr fis diwethaf i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer gwasanaethau canser o effaith y pandemig. Rwy'n gwybod ei bod hi'n parhau i weithio gyda'r byrddau iechyd i ymdrin â'r mater.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog yr Economi: cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau yr ydym ni'n eu cymryd i helpu i sicrhau economi ymwelwyr gynaliadwy a ffyniannus sy'n cefnogi ac yn gwella cymunedau ledled Cymru. Mae'r economi ymwelwyr yn newid yn gyflym, ac mae rhan llety ymwelwyr yn creu heriau mawr i gymunedau ledled byd. Er enghraifft, mae twf cyfryngau archebu ar-lein wedi dod â llawer o fanteision, fel llwybrau newydd i'r farchnad a mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol o'r pryderon ynghylch cydymffurfio â'r gofynion presennol ac effaith llety gosod tymor byr ar stoc tai a'n cymunedau.
Bydd ein cynlluniau i ddatblygu cynllun trwyddedu statudol yn canolbwyntio ar godi'r gwastad fel rhan o ymateb hirdymor i'r heriau mawr sy'n ein hwynebu. Mae ein cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru yn ymrwymo i gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau fel rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau gosod tymor byr ei chael ar y tai sydd ar gael a'u fforddiadwyedd i bobl leol yn ein cymunedau. Ym mis Gorffennaf eleni, cadarnhaodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru gynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr, gan gynnwys llety gosod tymor byr, gan ei gwneud yn ofynnol sicrhau trwydded, gyda'r nod o godi safonau ledled y diwydiant twristiaeth.
Cyn hynny, a thros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn archwilio ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o ran sut y gallai cynllun o'r fath weithio yng Nghymru. Cafodd contractwyr eu penodi i ymgymryd â'r gwaith hwn y llynedd ac fe fuon nhw'n cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol o'r awdurdodau lleol, a chyrff sy'n cynrychioli'r sector a rhai sy'n gweithredu lletyai. Roedden nhw'n ymchwilio i fanteision cynllun o'r fath ac ystyriaethau allweddol ynghylch sut y gellid bwrw ymlaen â chynllun o'r fath a'i weithredu yma yng Nghymru. Ar ben hynny, rhoddwyd ystyriaeth i adolygiad o ymdriniaeth cyrchfannau eraill o gynlluniau fel hyn yn fyd-eang. Mae'r gwaith cychwynnol hwn wedi rhoi ffurf ar yr ymgynghoriad y mae'r Llywodraeth yn gobeithio ei lansio cyn bo hir.
Ond yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i amlinellu amcanion a manteision arfaethedig cynllun fel hwn. Y prif nod yw sicrhau tegwch i bob busnes llety i ymwelwyr sy'n gweithio yn y sector. Mae'r pryder ynghylch diffyg tegwch wedi bod yn bwnc llosg ers amser maith. Yn benodol, fe geir pryderon nad yw rhannau arbennig o'r sector, er enghraifft llety byrdymor anffurfiol, yn bodloni nac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol nhw, tra bod busnesau sefydledig, gwirioneddol yn gwneud hynny. Fe allai cynllun trwyddedu statudol gynnig mecanwaith i fynd i'r afael â hyn drwy ei gwneud hi'n ofynnol i letywyr roi tystiolaeth o'r gofynion penodol sydd ganddyn nhw ar waith, fel yswiriant priodol, cadarnhâd o statws cynllunio, tystiolaeth o asesiadau risg tân, tystysgrif diogelwch nwy, prawf o ddiogelwch trydan, i roi dim ond ychydig o enghreifftiau. Bydd y cynllun hwn yn helpu i sicrhau cysondeb yn y safon y dylai pob lletywr ei bodloni. Mae bod â chynllun lle mae hi'n rhaid i fusnesau llety i ymwelwyr gyrraedd trothwy penodol o ofynion yn datgan yn eglur iawn i ddefnyddwyr bod busnesau llety i ymwelwyr yng Nghymru yn ateb gofynion penodol o ran safonau a diogelwch.
Fe fyddai cynllun yn rhoi gwell deallusrwydd i ni hefyd—cronfa ddata gynhwysfawr, nad yw hi ar gael ar hyn o bryd, o bwy yn union sy'n weithredol yn y diwydiant. Ar hyn o bryd nid oes modd cadarnhau o fusnesau llety i ymwelwyr sydd i'w cael yng Nghymru nac mewn unrhyw gymuned benodol. Fe fydd deall graddfa a natur y sector yn offeryn pwysig i ddatblygu polisïau'r dyfodol naill ai ar lefel leol neu genedlaethol. Fe fyddai sefydlu cronfa ddata statudol o fusnesau llety i ymwelwyr trwyddedig yn cynnig mecanwaith i Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, fel yr awdurdodau lleol, i gyfathrebu ynglŷn â materion allweddol sy'n ymwneud â'r sector. Fe welsom ni pa mor heriol y gall hi fod i ymgyrraedd am bob rhan o'r sector oherwydd ein profiadau diweddar yn ystod pandemig COVID-19.
Rydym ni'n cydnabod hefyd y bydd cynllun trwyddedu statudol yn sylfaen bwysig i feysydd eraill o bolisi. Fe fydd bod â'r wybodaeth a ddaw yn sgil cynllun o'r fath yn darparu data ar faint a nodweddion yr hyn sydd gennym ni ar gyfer twristiaeth a fydd yn llywio ystyriaethau o ran polisi, yn lleol ac yn genedlaethol, ynghylch rheoli ail gartrefi yn seiliedig ar y dystiolaeth, ynghyd â llety gwyliau a datblygu'r economi a'r seilwaith sydd yma i ymwelwyr. Fe allai gefnogi'r gwaith o gasglu ardoll ymwelwyr hefyd. Ar gyfer ardoll ymwelwyr, fe fyddai cael system drwyddedu yn cynnig rhestr gynhwysfawr o bob darparwr llety i ymwelwyr sydd mewn ardal. Fe allai hynny gefnogi gweinyddiad parhaus yr ardoll, oherwydd bydd y rhai y mae angen eu trwyddedu nhw yn fwyaf tebygol o fod yr un rhai y bydd gofyn iddyn nhw godi am yr ardoll a'i gasglu. Mae cysylltiadau eglur rhwng y cynigion hyn, ac fe fyddwn ni'n annog cyfraniadau i'r ymgynghoriad 12 wythnos ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr, a fydd yn cau ar 13 o fis Rhagfyr.
Fel crybwyllais i eisoes, wrth geisio sefydlu cynllun trwyddedu statudol, rydym ni'n edrych hefyd ar fecanweithiau o'r fath sydd ar waith neu'n cael eu datblygu yn fyd-eang. Yn y DU, cymerwyd dulliau gwahanol gan ein cymdogion ni ac maen nhw ar wahanol gamau o'u datblygiad. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr dderbyn ardystiad gan Tourism Northen Ireland er mwyn cael bod yn weithredol, ac mae'r cynllun hwn wedi bod ar waith ers 1992. Mae gan Lywodraeth yr Alban ddeddfwriaeth ar waith sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob gwesteiwr a gweithredwyr byrdymor fod â thrwydded er mwyn cael bod yn weithredol, oni bai bod ganddyn nhw eithriad penodol. Mae gan westeion a gweithredwyr presennol tan Ebrill y cyntaf y flwyddyn nesaf i wneud cais am drwydded yn Yr Alban. Ac yn Lloegr, caeodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y DCMS, gais am dystiolaeth o ran cyflwyno cynllun posibl i gofrestru llety twristiaeth. Pwrpas ymgynghoriad y DCMS yw deall manteision a heriau'r cynnydd mewn llety byrdymor a gwyliau yn Lloegr yn well, a chasglu tystiolaeth gychwynnol ar effaith bosibl ystod o ymatebion polisi dichonadwy. Fe geir enghreifftiau eraill hefyd, fel y cynlluniau gorfodol sydd ar waith ar Ynys Manaw ac yng Ngweriniaeth Iwerddon. Rydym ni'n gobeithio dysgu o'r enghreifftiau amrywiol hyn, gan gynnwys pa wersi y gellir eu dysgu o batrwm Rhentu Doeth Cymru o ran datblygu ein cynllun ni ein hunain.
Yn dilyn cyfres o sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol dros y misoedd diwethaf, fe fyddwn ni'n lansio ymgynghoriad ffurfiol cyn bo hir i ofyn am sylwadau ar ffurf a natur y cynllun trwyddedu statudol arfaethedig yma yng Nghymru. Mae adborth ar rai o'r nodau sydd wrth wraidd cynllun trwyddedu arfaethedig wedi bod o gymorth, yn enwedig o ran sefydlu tegwch, a datblygu mwy o ddeallusrwydd a mwy o hyder i ddefnyddwyr. Serch hynny, codwyd rhai pryderon ynghylch y baich rheoleiddio canfyddedig a allai gyd-fynd â chynllun trwyddedu. Mae hyn yn cynnwys y gwaith sy'n ymwneud â darparu tystiolaeth o'r defnydd cyfredol o ran cynllunio, a swyddogaeth yr awdurdodau lleol wrth ymateb i'r gofyniad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru fel ei gilydd yn cytuno mai cynllun trwyddedu statudol sy'n cynnig y mecanwaith cadarnaf ar gyfer y ddarpariaeth yng Nghymru, gan ei fod yn ddull sy'n pennu'r safon y dylai busnesau llety i ymwelwyr ei chyrraedd. Eto i gyd, fe fydd yr ymgynghoriad yn galluogi cyflwyno amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys o ran gofynion y cynllun trwyddedu. Fe fyddwn ni'n gofyn barn am weithrediad cynllun statudol o'r fath, yn genedlaethol neu yn lleol, neu gyda model hybrid sy'n cyfuno elfennau cenedlaethol a lleol. Yn ogystal â hynny, fe fyddwn yn ceisio barn ynghylch a ddylai fod gofyn i bob busnes llety i ymwelwyr gael trwydded, neu a ddylid bod unrhyw eithriadau. Rydym ni'n bwriadu cynnal profion o ran pa mor aml y dylid adnewyddu trwyddedau hefyd, ynghyd â'r ffioedd y gallai fod angen eu codi am drwyddedau. Wrth benderfynu ar strwythur unrhyw ffioedd, rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau ar fusnesau yn yr hinsawdd bresennol, wrth gwrs.
Rydym ni o'r farn fod y rhan fwyaf o bobl yn dymuno gweithredu o fewn y gyfraith, felly un o'r amcanion yw datblygu cynllun a fydd yn sicrhau cyfradd uchel o gydymffurfiaeth wirfoddol. Serch hynny, fe roddir prawf yn yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer mesurau cydymffurfio a gorfodi, gan gynnwys cosbau, i sicrhau tegwch. Fe fyddwn ni'n lansio'r ymgynghoriad ym mis Rhagfyr ac fe fyddwn ni'n annog ein rhanddeiliaid ni i fod â rhan yn y broses. Diolch yn fawr. Rwy'n hapus i dderbyn cwestiynau.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Yn gyntaf, Gweinidog, fe gyhoeddwyd y polisi hwn o gynllun trwyddedu nôl ym mis Gorffennaf, gyda'r Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn ei gyhoeddi i'r wasg. Rydym ni ym mis Tachwedd erbyn hyn a dyma'r tro cyntaf i'r Siambr glywed am y cynllun gyda rhagor o fanylder. Mae'r rhai sydd yn y diwydiant wedi dweud bod cryn bryder wedi bod yn y sector ers y cyhoeddiad hwnnw, ac mae'r oedi maith yn ystod y misoedd rhwng y cyhoeddiad a'r datganiad yma heddiw wedi bod yn ddi-fudd ar y gorau. Felly, a ydych chi'n derbyn i'r oedi fod yn sylweddol a bod yr ansicrwydd wedi peri gofid yn y sector? Ac a wnewch chi esbonio pam mae'r datganiad hwn wedi cymryd cymaint o amser i ddod gerbron y Senedd?
Wrth symud ymlaen at y cynllun ei hun, rwyf i am ddechrau drwy synnu'r Gweinidog efallai drwy ddweud nad wyf i'n credu bod cynllun cofrestru ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru yn syniad drwg ynddo'i hun mewn gwirionedd. Fe allai cynllun fel hwn alluogi Llywodraeth Cymru i feddu ar ddata cynhwysol iawn, er mwyn gweld a oes meysydd lle nad yw'r cyflenwad yn ateb y galw, er enghraifft, ac fe allai hefyd gael ei ddefnyddio fel modd gan y Llywodraeth i hyrwyddo busnesau twristiaeth ledled Cymru, ac fel gwnaethoch chi ei nodi, Gweinidog, at ddibenion cydymffurfio hefyd â'r gofynion presennol, fel roeddech chi'n dweud. Rydych chi'n dweud hefyd, ac rwyf innau'n cytuno â hynny i raddau helaeth,
'Fe fyddai cynllun yn rhoi gwell deallusrwydd i ni hefyd—cronfa ddata gynhwysfawr, nad yw hi ar gael ar hyn o bryd, o bwy yn union sy'n weithredol yn y diwydiant.'
Rwy'n cytuno â hynny hefyd; dyna rywbeth i'w groesawu, yn enwedig ar ôl i'r pandemig dynnu sylw at yr angen am gronfa ddata o'r fath i helpu i dargedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut mae ef yn bwriadu defnyddio'r gofrestr hon, pwy fydd â'r hawl i'w gweld hi, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag unrhyw ran o'r gost ariannol i fusnesau ar gyfer cofrestru?
Ond, mae'n ddrwg gen i ddweud bod lansio'r cynllun heddiw gan Lywodraeth Cymru yn eglur—ac fe wnaethoch chi gyfaddef hynny eich hun, Gweinidog—o ran ei ddefnydd i ragflaenu treth ar dwristiaeth. Dyma'r ymgais ddiweddaraf mewn cyfres faith o bolisïau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ers i chi ddod yn Weinidog yr Economi sy'n ymosod ar y diwydiant ac a allai olygu bod y diwydiant yn llai hyfyw o'i gymharu â'n cystadleuwyr, oherwydd fe wyddom ni, lle bu treth ar dwristiaeth yn weithredol dramor, y cafodd ei defnyddio gyda'r bwriad o gyfyngu ar dwristiaeth mewn ardal benodol yn hytrach na chynyddu hynny. Fe hoffwn i weld mwy o dwristiaeth yng Nghymru, ac fe fyddwn i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru o'r un farn, ond mae camau'r Llywodraeth yn awgrymu'r gwrthwyneb.
Mae'r diwydiant wedi rhybuddio trwy'r amser y byddai cyffyrddiad ysgafn o gofrestru/trwyddedu yn colli cefnogaeth pe ystyrid hynny gan y diwydiant yn ffordd o gasglu treth ar dwristiaeth, yn hytrach na bod yn fecanwaith ar gyfer cynnal busnesau sy'n ymwybodol o safonau a chwynnu ail gartrefi sy'n cynnig llety achlysurol dros dro.
Fe wnaethoch sôn sawl tro yn eich datganiad chi y bydd y polisi hwn yn canolbwyntio ar gysoni tegwch. Efallai fod hyn yn wir yng Nghymru, ond mewn marchnad fyd-eang a chystadleuol, nid yw hyn yn sicrhau tegwch i Gymru o gymharu â gwledydd eraill. Fe wyddom ni, fel roeddech chi'n dweud, mai cam rhagbrofol yw hwn. Mae'r cam rhagbrofol hwn yn rhagflaenu treth ar dwristiaeth—treth na fyddai'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, sut ar y ddaear y gellid ystyried hynny'n gysoni tegwch?
Mae agwedd, yn fy marn i, yn Llywodraeth Cymru, mai y nhw sy'n gwybod orau, yn enwedig pan fydd y diwydiant yn dweud rhywbeth arall wrthych chi—byddai'r dystiolaeth ar y newidiadau o ran hunan-ddarpariaeth, a dim ond 1 y cant o'r ymatebwyr sy'n cefnogi eich cynigion chi yn tystiolaethu i hynny. Ond yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma heddiw yw croesffordd ddifrifol yn nyfodol y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru. Mewn arolwg barn diweddar, roedd 73 y cant o berchnogion llety gwyliau yn y gogledd yn dweud y gallen nhw roi'r ffidil yn y to. Ac fe wnaeth aelod meinciau cefn Llafur yr wythnos diwethaf, yn y Senedd hon, gyfeirio at bobl fel hyn sy'n poeni am ddyfodol y diwydiant hwn fel 'grwgnachwyr'. Ond siawns nad oes yn rhaid derbyn, pan fo tri chwarter o bobl mewn diwydiant yn dweud ei bod hi'n bosibl y bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r ffidil yn y to, ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru eistedd i fyny a gwrando. Ac fe ddywedodd Richard Bond, sef perchennog Finest Retreats,
'byddai cyfuniad o reoleiddio a threthiant ychwanegol â goblygiadau ehangach i ranbarthau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth ddomestig'
a
'ni ddylid anwybyddu'r anfantais bosibl i economïau lleol'.
Ac yna fe aeth ymlaen i ddweud:
'Yr unig gysondeb i bob golwg yw cosbi'r diwydiant llety gwyliau yn union pryd mae angen y gefnogaeth lwyraf arno i ffynnu'.
Felly, Gweinidog, a ydych chi'n ystyried y sylwadau hynny, yn ogystal â miloedd o rai eraill, yn sylwadau grwgnachwyr? Neu a ydych chi o'r farn eu bod nhw'n sylwadau gan ddiwydiant proffesiynol sy'n ofidus ynglŷn â dyfodol y diwydiant twristiaeth oherwydd eich polisïau gwrth-dwristiaeth chi?
Diolch i chi. Rwyf i am ymdrin â rhan adeiladol cyfraniad yr Aelod yn gyntaf ac, wrth gwrs, eich pwynt chi ynglŷn â phryd y cyhoeddwyd y bwriad cychwynnol gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru ym mis Gorffennaf. Ers hynny, fel y dywedais i yn fy natganiad—fe gawsoch chi gopi ohono ymlaen llaw yn ogystal â fy nghlywed i'n ei ddarllen—cafodd contractwyr eu penodi i ymgymryd â gwaith archwilio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid o ran sut y gallai cynllun weithio yng Nghymru. Ac fe wnes i nodi'r cyfweliadau gyda grwpiau ffocws a rhanddeiliaid allweddol hefyd gan awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y sector, a'r lletywyr. Rwy'n deall na fuoch chi yn y Llywodraeth erioed, ond mae'n rhaid i chi geisio profi pethau fel hyn cyn cyhoeddi'r hyn a fyddech chi'n hoffi ei wneud, ac ymgysylltu â phobl wedyn, ac rydym ni'n symud ymlaen nawr i gam ymgynghoriad ffurfiol, a'n bwriad ni yw i hwnnw ddigwydd yn y mis nesaf.
Rwy'n croesawu eich pwyntiau chi o ran y cynllun a'r hyn y gallai ei olygu. Dyma bwynt a phwrpas y cynllun. Mae'n sefyll ar ei rinweddau ei hun o ran cysoni tegwch ar gyfer pob un sy'n weithredol yn y maes hwn. Meddyliwch amdani fel hyn: mae Rhentu Doeth Cymru wedi cysoni tegwch gyda chyfres o safonau i bob landlord am lety mwy hirdymor ar gyfer prif gartref y mae pobl yn byw ynddo. Rydym ni'n edrych nawr ar y manteision i'r diwydiant hwn ar gyfer llety mwy byrdymor, ac fe geir rhesymeg wirioneddol yn hynny, ac mae hynny'n sefyll ar ei ben ei hun. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y gallai hyn ein helpu ni mewn meysydd eraill o bolisi hefyd, ac nid rhywbeth anarferol mo hynny. Nid oes unrhyw beth dichellgar yn hynny, nid ydym ni'n dwyllodrus—rydym ni'n gwbl agored a thryloyw.
Ac o ran cael gafael ar y gofrestr o eiddo trwyddedig, rwy'n credu y byddem ni'n awyddus i hynny fod ar gael yn fwy eang fel y gallech chi weld, pe byddech chi'n aros yn rhywle, fod hwnnw'n safle trwyddedig mewn gwirionedd. Dyna ran o'i ddiben o ran defnyddwyr yn cael gwybod eu bod nhw'n aros yn rhywle sydd â thrwydded gymwys ac yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol.
O ran ffioedd ar gyfer bod ar y gofrestr, wel dyna un o'r pethau y byddwn ni'n rhoi prawf arnyn nhw, oherwydd mewn gwahanol rannau o'r byd, mae ganddyn nhw wahanol gynlluniau ar waith, ac weithiau, maen nhw'n amrywio'r ffi o ran maint y llety neu os ydyn nhw'n rhan o grŵp ehangach. Felly, fe ddylem ni geisio profi a deall y pethau hynny, a dyna'n union pam fod gennym ymgynghoriad ac, yn wir, cynllun o ran gweithrediad y gofrestr. Ac, unwaith eto, gyda Rhentu Doeth Cymru mae gennym ni brofiad o system lle mae awdurdodau lleol yn gwneud hyn—mae ganddyn nhw awdurdod lleol arweiniol yn gweithredu ar eu rhan nhw. Dyma un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus i'w brofi a'i ddeall. Felly, yn y grŵp hwnnw o randdeiliaid, busnesau—ie; efallai y bydd cymunedau ac unigolion yn dymuno cymryd rhan; ond rwy'n awyddus iawn i glywed gan awdurdodau lleol hefyd ynglŷn â'r ffordd y gallai cynllun weithredu yn fwyaf effeithiol gan gwrdd ag anghenion eu cymunedau lleol nhw, fel cyrchfannau i dwristiaid, lle mae'r economi honno'n gyfran fawr o weithrediad yr economi mewn llawer cwr o Gymru. Boed hynny'n Wynedd, sir Benfro neu Abertawe neu Gaerdydd, fe geir gwahanol fathau o dwristiaeth ym mhob un o'r ardaloedd hynny, ond yr hyn mae hynny'n ei olygu i'r cymunedau lleol wedyn hefyd.
Ac edrychwch, gan ddod yn ôl at eich pwynt rheolaidd chi, yn fy marn i fy hun, os ydych chi am adrodd y chwedl ddwl hon ar goedd wrthych chi eich hun ac wrth bobl eraill ein bod ni'n ceisio ymosod ar y sector hwn o'r economi, yn hytrach na'i weld yn iach a chynaliadwy i'r dyfodol, yna, wrth gwrs, mewn democratiaeth mae'r hawl gennych chi i ddal ati i wneud hynny, ni waeth pa mor ddwl ydyw gwneud hynny. Ond fe ddylwn eich atgoffa chi'n garedig fod pobl yn y Llywodraeth, mewn democratiaeth, yno oherwydd y ffordd mae pobl wedi pleidleisio a'r hyn a ddewisodd y bobl. Yn yr etholiad diwethaf, roeddem ni'n eglur iawn o ran bod â chynigion ar gyfer amrywiaeth o'r materion hyn yn ein maniffesto ni ac rydym ni wedi dod i gytundeb mewn ffordd dryloyw yn y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru. Ac rwy'n gwybod nad yw hi bob amser yn wir fod Llywodraethau o wahanol dueddiadau yn gwneud ymgais i gadw eu haddewidion nhw, ond rydym ni'n benderfynol o wneud hynny.
Ac o ran eich cyhuddiad chi ynglŷn â phwy sy'n gwybod orau, rwyf i am atgoffa'r Aelod mai dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oeddech chi'n ceisio dweud wrth bob un ohonom mai'r bobl a oedd yn gwybod orau oedd deiliaid byrhoedlog Rhif 10 a Rhif 11 Stryd Downing a'r anhrefn a adawyd ar eu holau nhw. Rydym ni'n gwneud hyn drwy ymgynghori yn llawn ar draws y sector; rydym ni wedi ymgysylltu â nhw'n flaenorol. Rydym ni am gael ymgynghoriad priodol, ac fe fyddwn ni'n ystyried rhywbeth wedyn yr wyf i o'r farn a fydd yn codi safonau ar draws y sector, ac er lles y diwydiant a'i ddefnyddwyr, yn wir. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i gefnogi economi'r ymwelwyr a chydnabod y newidiadau sylweddol sy'n digwydd a sicrhau, fel rwy'n dweud, bod dyfodol iach a chynaliadwy i'r economi a'r cymunedau sy'n gartref iddi.
Does yna ddim amheuaeth fod twristiaeth yn gyfrannwr pwysig i'r economi. Mae ymwelwyr yn gwario £17 miliwn y diwrnod, neu mae hynny'n dros £6 biliwn y flwyddyn, yn yr economi yma. Ond, dim ond rhan o'r darlun ydy hynny, oherwydd pa iws cael economi gref ar draul ein cymunedau? Ac os ydy'r arian hwnnw yn llifo allan o'r cymunedau hynny, ac, yn wir, allan o Gymru, pa ddefnydd ydy hynny? Mae'n rhaid inni sicrhau twristiaeth gynaliadwy, sydd yn gydnaws â'r cymunedau ac yn dod â budd economaidd a chymdeithasol iddynt. Dyna sydd felly wrth wraidd y system drwyddedu yma dŷn ni'n siarad amdani heddiw, a dyna pam ein bod ni yn y blaid wedi gwthio i gael hwn yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a ninnau ym Mhlaid Cymru.
Dwi eisoes wedi sôn ar lawr y Siambr yma am y twf anferthol yn y sector lletyau gwyliau tymor byr, yn enwedig trwy blatfformau megis Airbnb, Vrbo ac eraill. Fe gyhoeddodd y Sefydliad Bevan adroddiad rhagorol ar effaith Airbnb ar ein cymunedau yn gynharach yr hydref yma, gan ddangos bod dros 14,000 o'r tai ar y platfform yma yn addas i fod fel tai i deuluoedd i fyw ynddyn nhw. Yn wir, fe nododd yr adroddiad fod y tai oedd ar Airbnb a oedd yn addas i bobl fyw ynddyn nhw fel cartrefi hirdymor yn gyfwerth i bron i draean o'r stoc tai preifat yng Ngwynedd, ac un o bob pump o'r tai yn y stoc dai preifat yn Ynys Môn ac yng Ngheredigion.
Mae'r sector wedi tyfu y tu hwnt i reswm; dyna, mewn gwirionedd, sydd wedi tanseilio'r sector llety gwyliau yng Nghymru—sector sydd wedi bod yn rhan o'r ddarpariaeth ymwelwyr yma ers cenedlaethau, ond sydd yn cael ei fygwth oherwydd y platfformau ar-lein yma. Ac wrth gwrs, mae hyn yn rhan ganolog o'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r boneddigeiddio sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau glan morol a gwledig wrth inni weld hyd at 40 y cant o dai mewn rhai cymunedau yn eistedd yn wag am rannau helaeth o'r flwyddyn.
Wrth gwrs, rhan o'r pryderon o amgylch y camau yma ydy'r diffyg data sydd gennym ni o ran diffiniadau, ac yn y blaen. Felly, ydy'r Gweinidog yn cytuno, pan fydd yr elfen ddiweddaraf hon yn weithredol, y bydd y wybodaeth fwy cyfoethog fydd gennym ni am beth sy'n llety gwyliau go iawn a beth sy'n ail gartref yn caniatáu inni dargedu mesurau trethiannol ac ati yn well yn y dyfodol? Bydd unrhyw un sydd wedi ymgynghori go iawn efo'r sector lletyau gwyliau, fel yr ydw i wedi ei wneud, yn gwybod bod y sector wedi bod yn galw am system drwyddedu ers blynyddoedd. Mae'r darparwyr yna sydd yn gweithredu trwy gwmnïau effeithiol ac egwyddorol, fel Daioni yn fy etholaeth i, yn gorfod cydymffurfio â rheolau llym—a chywir—er mwyn sicrhau bod eu gwesteion yn cael y profiad gorau a mwyaf diogel posib. Yn anffodus, dydy hynny ddim yn wir am blatfformau fel Airbnb neu Vrbo. Gall unrhyw un roi llety i fyny ar y platfformau yma, a thanbrisio a thanseilio y darparwyr cydwybodol yn y sector yna sydd yn ceisio sicrhau y ddarpariaeth orau posib.
Bydd system drwyddedu yn tynnu safonau y ddarpariaeth i fyny ac yn sicrhau fod ymwelwyr sydd yn dod yma yn cael y profiad gorau posib o wyliau yng Nghymru, efo darparwyr sydd yn amlwg wedi buddsoddi yn y busnes ac yn ymrwymo i ddiogelwch yr ymwelwyr. Bydd y gofyn i gael trwydded a'i chynnal yn cyflwyno mwy o reolaeth i gymunedau yn ogystal ag ymwelwyr. Byddwn ni am weld mecanwaith clir fel rhan o fanylion y system drwyddedu arfaethedig er mwyn galluogi cymunedau i allu cwyno am dai niwsans—er enghraifft, tŷ mewn stryd wedi ei roi ar Airbnb ac sy'n amharu ar amwynderau lleol achos sŵn neu wastraff. Fedrwch chi gadarnhau, felly, mai'r bwriad ydy y bydd yna fecanwaith o'r fath i ddelio â phryderon pan fydd pethau'n mynd o chwith? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am y sylwadau. Roedd un cwestiwn ar y diwedd ynghylch mecanwaith cwynion rwy'n credu ac mae hynny'n rhan o'r pwynt ynghylch cael trwydded gydag eiddo cofrestredig sy'n caffael trwydded—ar gyfer cyrraedd y safonau a gwneud yn siŵr wedyn ei fod yn cael ei redeg mewn modd sydd yn unol â'i drwydded. Dyna'r pwynt a wnes i tua'r diwedd. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o fusnesau yn awyddus i gydymffurfio â'r amodau ac y byddan nhw'n dymuno ufuddhau i'r gyfraith o ran rhedeg eu busnesau ac ennill elw. Ond, mae angen i ni ym mhob system bron iawn lle rydym ni'n bwriadu cael rhyw fath o fesurau amlinellol sy'n cael eu nodi mewn statud, mae angen i chi gael rhyw ffordd o geisio gorfodi'r rhain mewn gwirionedd. Felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n bwriadu rhoi prawf arno yn yr ymgynghoriad. Fe fydd hi'n bwysig i ni glywed oddi wrth gymunedau a rhanddeiliaid fel ei gilydd, oherwydd fe fydd yna nifer o'r busnesau eu hunain, rwy'n siŵr, sydd â syniadau ynglŷn â'r hyn y maen nhw'n ei ystyried a allai fod yn ffordd deg o ymdrin â phobl. Yr ystrydeb weithiau yw nad yw busnesau yn dymuno unrhyw fath o reoleiddio effeithiol, ac eto, mewn gwirionedd, mae llawer o fusnesau yn dymuno rheoleiddio effeithiol sy'n sicrhau nad yw pobl sy'n llai egwyddorol na nhw ac nad ydyn nhw'n gofalu cymaint am eu heffaith nhw ar y gymuned leol yn gallu gostwng eu prisiau er mwyn bod yn fwy cystadleuol. Felly, mae honno'n rhan bendant o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei brofi yn yr ymgynghoriad.
Rwy'n lled gytuno gydag ystod o'r pwyntiau a wnaethoch chi yn y cyfraniad. Mae angen i ni fod â thwristiaeth sy'n gynaliadwy, ag amrywiaeth y cynnig, boed yn ddigwyddiadau mawr, boed yn newyddion da fel bydd y Tour of Britain yn gorffen yng Nghymru, boed yn bethau fel gwyliau teuluol traddodiadol, penwythnosau hir, boed hynny yng nghefn gwlad Cymru, mewn dinas neu dref, ond gwneud hynny mewn ffordd nad yw hi'n tynnu oddi wrth gynaliadwyedd unrhyw gymuned. A dyna pam rydym ni yn y fan hon, oherwydd dros y ddau ddegawd diwethaf, mae ehangu sylweddol wedi bod yn y newid defnydd sydd o lety mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ac yn hynny o beth, yng Nghymru, rydym ni'n union fel rhannau eraill o'r byd. Mae Barcelona yn ystyried effaith llety gwyliau byrdymor ar eu prif ddinas nhw eu hunain. Felly, mae angen i ni edrych ar bethau fel Airbnb a Booking.com, ac mewn gwirionedd mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny yn awyddus i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad oherwydd rwy'n credu eu bod nhw'n cydnabod nad Cymru yn unig fydd â'r datrysiad hwn o ran polisi, fe fydd yna ddatrysiadau ledled y byd i geisio taro'r cydbwysedd hwnnw: economi iach y mae economi ymwelwyr yn rhan sylweddol ohoni ond mewn ffordd nad yw'n tanseilio cynaliadwyedd cymuned. Ac rwy'n ffyddiog iawn y bydd yr Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon dros y ffin yn Lloegr yn edrych gyda diddordeb gwirioneddol ar yr atebion y byddwn ni'n eu darganfod ac effaith a chanlyniad ein hymgynghoriad ni ein hunain.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am roi'r datganiad gwerthfawr hwn gerbron heddiw? Rwy'n ei groesawu yn fawr a chyda'r perygl o ail-ddweud yr hyn yr oedd gan Mabon ap Gwynfor yn ei gyfraniad rhagorol ef, fe hoffwn i ddatgan bod honno, yn y rhan hon o'r gogledd yn Ne Clwyd, yn broblem fawr mewn rhai cymunedau, y cymunedau poblogaidd hynny ymhlith twristiaid, gan gynnwys Llangollen, lle mae llawer o anheddau domestig yn cael eu defnyddio ar gyfer llety gwyliau mewn ffordd amhriodol. Mae hynny'n amddifadu busnesau da, cyfreithlon, o safon uchel o'u cwsmeriaid, ac mae'n creu tensiynau o fewn cymdogaethau hefyd, lle mae eiddo dan ei sang o ymwelwyr mewn ffordd sy'n anaddas, ac wrth gwrs mae hynny'n arwain at lawer o geir yn cael eu parcio mewn cymdogaethau hefyd.
Gweinidog, a wnewch chi sicrhau pobl yn Llangollen a ledled Cymru sy'n wynebu'r broblem benodol hon, y bydd yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig yn mynd yn bell o ran datrys y broblem o lety sy'n anghynaladwy ac anaddas yn cael ei ddefnyddio at ddibenion llety gwyliau? Ac a gaf i ofyn am sicrwydd oddi wrthych chi, Gweinidog, y byddwch chi'n cyfathrebu â'r sector cyn gynted â phosibl ynghylch y mesurau y gwnaethoch chi eu cynnig heddiw fel y gall perchnogion eiddo a darparwyr llety o'r fath wneud trefniadau? Diolch.
Diolch i chi. Mae hi'n bleser gweld yr Aelod, ac mae peth o'r gwaith hwn, wrth gwrs, yn dilyn ymlaen oddi ar ei gyfnod ef yn y Llywodraeth ac yn gweithio ochr yn ochr â'r economi ymwelwyr. Ond, gan gydnabod, fel gwna ef, nad yw'r effaith ar yr etholaethau i gyd i'r un cyfeiriad ac fe geir adegau pan fo'r effaith yn dylanwadu yn uniongyrchol a dinistriol ar y gymuned sy'n lletya, ac, wrth gwrs, mae llawer o letywyr yn cydnabod eu bod nhw'n awyddus i ymwelwyr ddod i'w tref, eu pentref, eu dinas nhw, i fwynhau'r lle a gwario arian yno, sy'n cefnogi'r economi leol, ond y pwynt yw yr ôl troed maen nhw'n ei adael yn ystod eu harhosiad ac wedi hynny hefyd, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, sef cydbwyso symud i ffwrdd oddi wrth ddefnydd o lety sy'n anghynaladwy ac anaddas at ddefnydd cynaliadwy sy'n cynnig dyfodol gwirioneddol i'r gyfundrefn. Ac felly fe fyddwn ni'n annog rhanddeiliaid yn ei etholaeth ef ei hun a ledled y wlad i fod â rhan i'w chwarae, gan gynnwys enghreifftiau lle mae pethau wedi mynd o chwith, ond lle gall pethau weithio mewn ffordd dda hefyd, oherwydd rydym ni eisoes wedi cael ymgysylltiad â'r sector cyn i mi roi fy natganiad i heddiw, ac fel arwydd cyn yr ymgynghoriad yr ydym ni'n disgwyl ei lansio ym mis Rhagfyr, ac fe fydd yna amser i bobl fod â rhan yn yr ymgynghoriad ei hun a'r digwyddiadau o'i gwmpas, ac fe fyddwn ni wedyn, wrth gwrs, yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom ni i lywio'r camau nesaf y byddwn ni'n eu cymryd yn y Llywodraeth. Felly, mae yna ddigon o gyfle i bobl gymryd rhan eto hyd nes y byddwn ni'n cynnig ein hateb terfynol, a gweithio ar y daith ar gyfer dod at ein gilydd. Rydym ni'n awyddus i gael system a fydd yn gweithio er lles pawb ac yn gwneud ymdrech i daro cydbwysedd, fel mae'r Aelod yn ei nodi. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau o Langollen, ac yn wir fe fyddaf i'n mynd gyda'r teulu ar ymweliad arall i'r fan honno yn y dyfodol agos.
Ac yn olaf, Jane Dodds.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da, Gweinidog. Rwyf i am ategu sylwadau Mabon ap Gwynfor a Ken Skates hefyd.
Wyddoch chi, o ran twristiaeth, ni allwn ni sefyll yn ein hunfan. Mae yna argyfwng gwirioneddol yn rhai o'n cymunedau ni. Rydym ni newydd glywed am Langollen a Dwyfor Meirionnydd hefyd. Mae gwir angen i ni ddod i'r unfed ganrif ar hugain o ran ein hymagwedd ni at dwristiaeth, yr ydym ni'n falch ohoni, fel mae pob un ohonom ni wedi dweud, yma yng Nghymru.
Rwy'n cefnogi'r cynllun trwyddedu a'r ardoll ymwelwyr hefyd; rwy'n gwybod nad ydyn ni yma i siarad am hynny gyda manylder heddiw. Mae yna rai materion a godwyd gyda mi gan berchnogion gwestai, er enghraifft, ynglŷn â'r ymgynghoriad—ac rwyf i wedi clywed y datganiad—ac ehangder y trafodaethau y byddwch yn eu cael. Felly, tybed a wnewch chi amlinellu rhai o'r cynlluniau sydd gennych chi i dynnu'r bobl hynny i mewn a allai fod ag amheuon a phryderon ynghylch y cynllun cofrestru a'r ardoll ymwelwyr. Diolch yn fawr iawn.
Na, rwy'n credu bod hwnna'n bwynt teg ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n cynnal yr ymgynghoriad fel nad yw'n ymarferiad ar bapur neu ar-lein yn unig, ac ie, wrth gwrs, fe fydd hwnnw'n agored i bawb, felly ni fyddai raid i chi fod yn bresennol mewn digwyddiad ffurfiol na bod yn rhan o grŵp busnes neu gymdeithas benodol, ond rwy'n disgwyl yn ffyddiog y bydd pawb sydd â rhan yn yr economi ymwelwyr a'u grwpiau cynrychioliadol nhw—. Rwyf i'n cwrdd â fforwm economi ymwelwyr, sy'n cynnwys pobl yn y byd lletygarwch yn fwy eang, y cyrff lletygarwch eu hunain ac ystod gyfan o ddiddordebau eraill, felly rwy'n disgwyl y bydd y sefydliadau hynny i gyd yn ymateb i'r ymgynghoriad ac yn cymryd rhan ynddo.
Rwy'n disgwyl y bydd pobl sy'n rhedeg eu busnesau eu hunain, y bydd rhai ohonyn nhw'n dymuno cymryd rhan, i gael eu barn nhw. Ac rwy'n credu mai dyna'r pwynt ynglŷn â'n dymuniad ni i fod â'r ystod lawnaf o bobl yn cymryd rhan, ac, yn union fel gyda'r ardoll ymwelwyr, rydym ni wedi cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb; o leiaf tri ohonyn nhw o gwmpas y wlad. Maen nhw wedi cael eu cynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i geisio sicrhau y bydd pobl yn gallu cael atebion yn y digwyddiad, ond ar gyfer gwybod bod y Llywodraeth â diddordeb mawr mewn gwrando, ac rydym ni wedi gweithio gydag amrywiaeth o bobl i wneud yn siŵr bod pobl yn mynd i'r digwyddiadau hynny, ond rydym ni wedi cynnal digwyddiad ar-lein hefyd i bobl na fyddai'n gallu teithio yn y cnawd i unrhyw un o'r lleoliadau—felly, roedd yna gymaint o hygyrchedd â phosibl. Oherwydd, os ydych chi'n meddwl am y lle hwn, sefydliad cymharol newydd yw hwn, ac eto roedd y sector llety i ymwelwyr ym 1999 yn hollol wahanol i'r byd sydd gennym ni nawr a'r olwg sydd ar lety i ymwelwyr yn y rhan fwyaf o'n trefi, ein dinasoedd a'n pentrefi ni. Felly, ystyr hyn yw deall y byd fel y mae ar hyn o bryd, a chael system sy'n addas i'r diben—fel dywedais i, economi ymwelwyr ffyniannus a chynaliadwy sy'n cael ei gynnal mewn cymunedau ffyniannus a chynaliadwy.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, cynnig gofal plant Cymru, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynnig gofal plant Cymru, gan gynnwys ei estyniad at rieni mewn addysg a hyfforddiant. Mae gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael ac yn hygyrch yn helpu rhieni i weithio, gan gefnogi ein hymgyrch ni i gynyddu twf economaidd, a mynd i'r afael â thlodi, a lleihau anghydraddoldebau. Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu'n agos at fod yn gweithio.
Ym mis Medi, fe wnaethom ni ehangu cynnig gofal plant Cymru i gynnwys rhieni sydd eisoes wedi cofrestru neu sy'n bwriadu cofrestru mewn cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach sy'n para am 10 wythnos o leiaf. Mae hyn yn adlewyrchu'r gwerth yr ydym ni'n ei roi ar gefnogi pobl sy'n ceisio gwella eu rhagolygon gwaith nhw trwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr eu gyrfa. Mae hyn yn golygu y gallwn gefnogi myfyrwyr gofal iechyd hefyd, nad ydyn nhw'n gymwys bob amser i gael cymorth gofal plant yn ôl y cynlluniau presennol.
Mae'r ehangu hwn yn dangos ei bosibiliadau eisoes. Mewn un awdurdod lleol, fe gysylltodd teulu i fynegi eu diolch nhw am y 'gwasanaeth sy'n haeddu 10 allan o 10', mae'r fam honno'n cael ei chefnogi wrth astudio am radd Baglor mewn nyrsio. Yn y tymor cyntaf ers yr ehangu, rydym ni wedi cael gwybod am 168 o deuluoedd erbyn hyn sy'n elwa ar y cynnig gofal plant, gan ddisgwyl mwy dros yr wythnosau nesaf wrth i'r ceisiadau ar gyfer mis Ionawr ddod i law. Mae cefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant gyda chostau gofal plant yn golygu y bydd mwy o deuluoedd, a menywod yn enwedig, yn gallu elwa ar well rhagolygon o ran gwaith.
Dirprwy Lywydd, ochr yn ochr â'r ehangiad hwn o'r cynnig gofal plant, rydym ni hefyd wedi bod yn cwmpasu'r gefnogaeth sydd ar gael trwy ein rhaglenni cymorth addysg uwch ac addysg bellach, a'n rhaglenni cyflogadwyedd, fel Cymunedau am Waith, Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth a ReAct. Bydd y gwaith traws-bortffolio hwn yn nodi'r ffordd fwyaf addas o ddarparu cefnogaeth ychwanegol i rieni, yn enwedig y rhai mewn addysg oedolion, addysg yn y gwaith, addysg gymunedol, y rhai sy'n dilyn cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill a'r rhai sydd ar gyrsiau tymor byr. Bydd yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu'r gefnogaeth orau i rieni.
Unwaith eto, roedd y canfyddiadau gwerthuso annibynnol diweddaraf, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn dangos bod ein cynnig gofal plant ni wedi cefnogi cyflogaeth rhieni. Ym mis Mehefin 2022, roedd dros 18,000 o blant yn derbyn gofal plant a ariannwyd gan y cynnig gofal plant. Rydym ni'n disgwyl y bydd y nifer hwn yn cynyddu wrth i fwy o rieni ystyried y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw yn yr argyfwng costau byw hwn.
Roedd bron i un ym mhob 10 rhiant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant yn dweud na fydden nhw yn y gwaith oni bai am y cynnig. Roedd 6 y cant arall yn dweud y bydden nhw'n gweithio mewn swydd gyda chyflogau is pe na fyddai'r cynnig wedi bod ar gael iddyn nhw. I'r teuluoedd hynny, mae'r cynnig gofal plant yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w bywydau nhw. Ond nid yn unig fod y cynnig gofal plant â rhan hanfodol ym mywydau'r teuluoedd hyn, mae'n cefnogi llawer o ddarparwyr gofal plant yn ogystal â hynny. Ac er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi darparwyr gofal plant, rydym ni wedi cytuno ar gynnydd yn y gyfradd i £5 yr awr yn dilyn adolygiad, ac mae hynny'n golygu cynnydd o 11 y cant.
Mae'r swm y gall darparwyr gofal plant godi ar rieni am fwyd o dan y cynnig hefyd wedi cynyddu, o £7.50 i £9 y dydd. Mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd sylweddol ym mhrisiau bwyd a chyfleustodau, ond mae'n golygu cydbwysedd gofalus rhwng yr hyn sy'n fforddiadwy i'r darparwr ac, wrth gwrs, yr hyn sy'n fforddiadwy i'r teulu.
Ar gyfer helpu i wella'r broses o gyflwyno'r cynnig gofal plant i ddarparwyr, yn ogystal â'i gwneud hi'n haws nag erioed i rieni wneud cais, fe wnaethom ni lansio ein gwasanaeth digidol newydd ni'n ddiweddar i Gymru gyfan. Fe ysgrifennais i at Aelodau fis diwethaf, cyn y lansiad, ynglŷn â hynny. Wythnos diwethaf, fe ymwelais i â meithrinfa Darling Buds yng Nghaerdydd, ychydig dros y ffordd fan acw, i glywed yn uniongyrchol am yr hyn y mae'r gwasanaeth digidol newydd yn ei olygu iddyn nhw a'r rhieni sy'n ei ddefnyddio.
Fe fydd y gwasanaeth digidol newydd yn golygu ei bod hi'n haws eto i fanteisio ar y cynnig gofal plant ac yn rhoi profiad sy'n fwy cyson ledled Cymru. Fe fydd yn symleiddio'r prosesau y mae'n rhaid i ddarparwyr gofal plant eu dilyn i hawlio taliadau ac fe fydd yn symleiddio'r broses o gasglu data ar gyfer pawb, i fireinio ein dealltwriaeth ni o'r niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Fe fydd y gwasanaeth newydd ar gael ar-lein, gydag ystod o ddewisiadau cymorth all-lein ar gael i ddefnyddwyr. Gan fod y gwasanaeth ar gael ar unrhyw ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, bydd pobl yn gallu defnyddio'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim gan ddefnyddio eu dyfeisiau nhw mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, gan gofio'r pwysau sydd ar gyllidebau pobl.
Dyluniwyd y gwasanaeth newydd gyda'r safonau'r Gymraeg ac anghenion diogelwch yn brif flaenoriaethau. Fe fydd yn gwbl fyw o fis Ionawr 2023 ymlaen ac fe fydd yn disodli'r systemau cyfredol yn llwyr erbyn mis Medi 2023.
Felly, fe garwn i ofyn i'r Senedd ymuno â mi i groesawu'r ehangu hwn a'r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd, sy'n cefnogi'r rhieni hynny sydd wedi dewis ceisio addysg uwch ac addysg bellach ar gyfer gwella eu hamcanion nhw o ran gyrfaoedd. Ac wrth gwrs, rydym ni'n parhau i ehangu'r ddarpariaeth i blant dwyflwydd oed drwy Dechrau'n Deg fel rhan o'n cytundeb cydweithredu ni â Phlaid Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Testun pryder yw bod Llywodraeth Cymru wedi bod mor gyflym i weithio ar wasanaeth gofal plant digidol ledled Cymru pan fo'r GIG wedi bod yn aros dros 10 mlynedd am ddiweddaru systemau, a bod peiriannau ffacs yn parhau i gael eu defnyddio drwy'r gyfundrefn gyfan. Ac er ei bod hi'n ganmlwyddiant goruchafiaeth Llafur yng Nghymru heddiw, ac mae eich plaid chi'n dathlu hynny heno, rwy'n credu, rwy'n siŵr y byddai pobl Cymru yn dathlu Plaid Lafur a Llywodraeth Cymru sy'n gallu symud o'r ugeinfed ganrif a bod ag ystyriaethau o'r unfed ganrif ar hugain o ran technoleg, Dirprwy Weinidog. Ac er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi ymestyn y ddarpariaeth o ofal plant ledled Cymru, mae hi'n amlwg y gallai'r gwasanaeth digidol y gwnaeth y Llywodraeth ei lansio olygu y gallai'r rhai sydd â'r angen mwyaf am y gefnogaeth fethu â chael gafael arni, ac mae hynny'n achosi risg ddifrifol o adael pobl yn methu manteisio ar ofal plant y mae arnyn nhw gymaint o angen amdano.
Mae'r oes ddigidol wedi galluogi miliynau i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddilyffethair, ond nid yw hyn yn wir i bawb, ac mae llawer yn parhau i fod heb ffonau clyfar, cyfrifiaduron, na llechi, o ran hynny. Yn aml yr henoed a'r tlotaf yw'r rhain, ac rwy'n poeni y bydd llawer o bobl yn methu â manteisio ar y gwasanaeth hwn oherwydd eu bod yn methu â chael gafael ar y dechnoleg. Ac mae pwysau costau byw yn golygu bod llawer o bobl mewn mannau fel Rhyl yn fy etholaeth i, a mannau eraill ledled Cymru, yn ei chael hi'n anodd, ac nid yw gwneud i bobl brynu technoleg newydd am helpu i leddfu'r pwysau ariannol arnyn nhw, pan fo data diderfyn a llechi yn rhy ddrud i rai. Yn yr un modd, mae hyd yn oed teuluoedd cefnog a theuluoedd cefn gwlad Cymru yn wynebu'r baich o fod heb gysylltiad â'r we, 5G a band eang, ac yn methu â defnyddio'r gwasanaeth hwn ychwaith. Mae hyn yn dangos y ceir materion ehangach y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fynd i'r afael â nhw cyn cyflwyno cynllun un ateb sy'n addas i bawb ac sy'n rhoi mwy fyth o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros ein hawdurdodau lleol ni.
Er bod i'r cynllun ei fwriadau da, nid yw syniad y Llywodraeth o gynllun sy'n sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael yr un profiad ym mha awdurdod lleol bynnag y maen nhw'n byw ynddo yn cael ei wireddu, ac mae'r Llywodraeth wedi bod yn esgeulus o ran ystyried pam nad yw gwasanaeth ledled Cymru yn ystyried y materion hyn. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog egluro sut y bydd y cynllun hwn yn cael ei ymestyn ar draws pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru? Faint o ystyriaeth a roddwyd i'r gwahaniaethau daearyddol ac economaidd y mae llawer o'r awdurdodau hyn yn eu hwynebu, ac a yw dull un ateb sy'n addas i bawb yn briodol yn y sector gofal plant? Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch yn fawr iawn chi. Mae hi'n peri tipyn o benbleth i mi sut y gall Gareth Davies ddweud, 'Pam nad ydym ni'n hyrwyddo technoleg?', a minnau'n ei gyhoeddi heddiw mewn gwirionedd. Rydym ni'n cyhoeddi datrysiad digidol i'r sector gofal plant. Rwyf i wir o'r farn ei fod yn ceisio cydio mewn pethau ar gyfer beirniadu'r hyn sy'n gam cadarnhaol iawn ymlaen. Rwy'n falch ei fod wedi nodi 100 mlynedd o Lafur heddiw, ac y byddwn ni—. Fe fyddwn ni'n dathlu heno, ac un o'r pethau y byddwn ni'n ei ddathlu fydd y mewnbwn mawr a roddodd y Llywodraeth hon ym maes gofal plant a chydnabod anghenion rhieni a phlant. Ac rwy'n credu bod llwyddiant Llafur yng Nghymru yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni wedi rhoi ystyriaeth i'r hyn y mae pobl ei angen ac wedi ceisio cwrdd â'r anghenion hynny.
Rwy'n credu ei fod ef, yn amlwg, yn gwneud pwynt pwysig am y rhai nad ydyn nhw'n gallu gwneud defnydd o'r dechnoleg, ac fe roddwyd ystyriaeth fanwl iawn i hynny, ac mae modd i bobl gael gymorth os nad oes ganddyn nhw fodd i gael gafael ar y dechnoleg. Er enghraifft, maen nhw'n gallu cael llinell gymorth bwrpasol, llinell ffôn, a chymorth wyneb yn wyneb hefyd, ac mae hynny wedi cael ei ystyried.
Cafodd y gwasanaeth hwn, mewn gwirionedd, ei ddarparu nid trwy gyfrwng 22 awdurdod lleol, ond trwy 10 gwahanol awdurdod lleol a oedd yn gweithio ar ran awdurdodau lleol eraill. Fe fydd hyn yn ei gwneud hi'n llawer symlach, yn llawer haws, i'r darparwyr a'r rhieni, o ran gallu manteisio ar y gwasanaethau. Ac mae hi'n ddiddorol, yn ein cyfathrebiadau ni â'r rhieni, ein bod ni mewn gwirionedd wedi canfod mai ychydig iawn sydd heb unrhyw gysylltiad digidol. Y grŵp iau, yn amlwg, yn y boblogaeth yw hwn ar y cyfan, ond, er hynny, fe fyddwn i'n derbyn bod rhai nad oes ganddyn nhw gysylltiad, ac rydym ni wedi cynnwys mesurau i geisio mynd i'r afael â hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod mwy ymhlith y darparwyr oedd heb gysylltiad digidol efallai, ac felly mae ymdrech yn cael ei gwneud yn hynny o beth.
Mae'r wythnos gyntaf wedi dangos bod rhwng 2,500 a 3,000 o rieni eisoes wedi dechrau gwneud cais i ddechrau defnyddio'r cynnig gofal plant ym mis Ionawr. Yn yr wythnos gyntaf, roedd gennym ni 2,000 o rieni yn y broses gofrestru mewn gwirionedd, ac rydym ni eisoes wedi cymeradwyo 400 ohonyn nhw. Fe wnes i roi cynnig ar y dechnoleg pan ymwelais i â Darling Buds, ac roedd ei ddefnyddio yn hawdd iawn ac yn syml. Mae mwyafrif y darparwyr wedi cofrestru gyda'r gwasanaeth i estyn y cynnig. Rwy'n credu bod Gareth Davies yn codi materion eraill i geisio bychanu llwyddiant yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Diolch i chi.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae gofal plant yn elfen bwysig o’r cytundeb cydweithio, a dwi’n falch iawn o groesawu’r datganiad heddiw. Mae’r ffeithiau rydych chi wedi cyfeirio atynt yn dangos pam bod hyn mor bwysig, a’r effaith y mae ehangu yn ei chael yn barod. Dwi’n gwybod am waith achos, cyn hyn, am bobl a fyddai wedi elwa’n fawr ar yr hyn rydych chi wedi bod yn ei rannu gyda ni, ac sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i raddau Meistr oherwydd nad oedd y cymorth hwn ar gael iddynt. Felly, mae o yn gam pwysig iawn ymlaen ac yn rhywbeth i’w groesawu, fel mae’r ystadegau yn ei ddangos.
Cafodd gofal plant am ddim cyffredinol ei gydnabod fel y cyfartalwr mwyaf gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Er bod ehangu mynediad at ofal plant rhad ac am ddim o fudd uniongyrchol i blant yn eu blynyddoedd ffurfiannol nhw, mae hefyd—fel gwnaethoch chi ei gydnabod—fuddion ehangach iddo wrth fynd i'r afael â thlodi. Fel y gwyddom ni, mae'n tynnu rhai o'r rhwystrau i helpu rhieni, mamau yn enwedig, i ddychwelyd i'r gwaith.
Fe wyddom ni fod prinder gofal plant yn un o'r rhwystrau sy'n cael eu mynegi amlaf o ran cyflogaeth menywod, gan arwain at gyfranogiad economaidd is a phrinhau dewisiadau menywod o ran gyrfa. Yng Nghymru, mamau yw 86 y cant o rieni sengl, a 63 y cant o famau mewn cartrefi dau riant sy'n gyfrifol ar eu pennau eu hunain neu'n bennaf am ofal plant, o gymharu â dim ond 17 y cant o dadau. Dyna pam mae hyn yn hollbwysig o ran ymdrechu dros Gymru gyfartal ar sail rhyw. Dyna pam, fel roeddech chi'n cyfeirio, mae gofal plant am ddim o 12 mis oed, gan ddechrau gyda gweithredu hynny ar gyfer plant dwyflwydd oed yn y tymor cyntaf hwn—dyna pam yr oedd hwn yn addewid allweddol i Blaid Cymru yn etholiad Senedd Cymru 2021, a dyna pam mae'n ymddangos yn y cytundeb cydweithredu rhwng ein dwy blaid ni.
Fel gwyddom ni, mae'r sector yn wynebu cyfnod anodd iawn. Drwy gydol COVID, daeth darparwyr gofal plant i'r adwy mewn argyfwng cenedlaethol gan eu gwneud eu hunain yn ganolfannau gofal plant i'n gweithwyr allweddol ni, a oedd yn golygu y gallai nyrsys, meddygon ac athrawon barhau i weithio. Mae angen cymaint o gymorth a chefnogaeth â phosibl ar y sector erbyn hyn, wrth i ni wynebu'r argyfwng costau byw, fel bod eu gwasanaethau hanfodol nhw'n parhau i fod ar gael.
Cyfyngwyd ar fynediad at ofal plant am ddim hefyd gan fylchau difrifol yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Dangosodd arolwg gofal plant yn 2022 gan yr Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant fod digonolrwydd gofal plant wedi gostwng ers 2021 ar gyfer pob categori yng Nghymru, ac eithrio gofal ar ôl ysgol i bobl ifanc 12 i 14 oed. Llai na thraean o awdurdodau lleol, 29 y cant, sydd â gofal plant digonol ar gyfer y 30 awr o hawl i addysg gynnar am ddim o dan y cynnig gofal plant. Gwelir prinder sylweddol i blant anabl a rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, heb unrhyw awdurdod lleol yn mynegi bod gofal plant yn unol â'r rhain ar gael ym mhob ardal yn ei awdurdod.
Ond, fel y gwnaethoch chi gydnabod hefyd, mae yma gyfle ac angen dirfawr i sicrhau darpariaeth o ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru. Mae gofal plant yn rhan o'r maes addysg a gofal cynnar ehangach, a thrwy wasanaethau a lleoliadau gofal plant y blynyddoedd cynnar mae miloedd o blant a theuluoedd ledled Cymru yn cael eu profiadau cyntaf o'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Fe hoffwn i ofyn yn benodol heddiw, dim ond i ymateb i rai o'r pwyntiau yna—. Roeddwn i'n falch o weld y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at allgáu digidol ac yn cydnabod rhai o'r heriau yn hynny, oherwydd rydym ni'n gweld niferoedd cynyddol o bobl yn dewis peidio ag adnewyddu band eang, er enghraifft, yn eu cartrefi nhw, yn rhan o reoli eu costau byw. Mewn rhai ardaloedd, ac mae hynny'n cynnwys ardaloedd ychydig filltiroedd yn unig o Gaerdydd, fe all hyn olygu bod ei bod hi'n anodd i chi gael cysylltiad sy'n ddigon cryf i allu defnyddio gwasanaethau digidol. Felly, rwy'n credu bod rhywbeth yn hynna.
Yn amlwg, nid yw oriau pethau fel llyfrgelloedd cyhoeddus yn hyblyg bob amser, oherwydd, yn aml, fe allai rhieni edrych ar y dewisiadau hyn gyda'r nos neu ar y penwythnosau. Mae rhai llyfrgelloedd ar agor ar ddydd Sadwrn, ond nid yw pob un. Felly, rwyf i am ofyn i chi: sut ydym ni am sicrhau na fydd allgáu digidol yn rhwystr i lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd? Rwy'n credu bod llawer o bethau i'w croesawu yma, ond rwy'n poeni o ran y rhai sy'n gallu defnyddio'r dechnoleg—nid mater o anallu o ran ei defnyddio yw hwn—ond y ffaith nad oes posibl ei defnyddio hi oherwydd yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd.
Hefyd, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r bylchau difrifol yn y ddarpariaeth o ofal plant, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer plant anabl, ac, fel cafodd ei grybwyll, ar gyfer rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, ac rwy'n credu y gall y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod ynghynt o ran pobl sy'n byw mewn ardaloedd cefn gwlad, lle gall hygyrchedd neu drafnidiaeth fod yn rhwystr rhag cael gafael ar ofal plant? Felly, sut mae sicrhau y bydd pawb sydd ei angen yn gallu ei gael, yn y mannau ac ar yr adeg y maen nhw ei angen?
Ac yn olaf, os caf i ofyn, o ran y gwasanaeth digidol cenedlaethol, rwy'n nodi i werthusiad gael ei wneud a bod treialon wedi bod, ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn o ran yr adborth adeiladol a gafwyd. A wnewch chi roi gwybod i ni ymhle mae hwn ar gael i'r cyhoedd, oherwydd nid wyf i wedi gallu dod o hyd iddo, er mwyn ni gael deall o'r gwerthusiad a'r adborth ar ôl y treialon beth efallai yw rhai o'r heriau y mae angen i ni eu goresgyn? Diolch i chi.
Diolch yn fawr i chi, Heledd, am eich croeso cynnes i'r camau hyn ymlaen. Roedd hi'n ddiddorol clywed am brofiad pobl a oedd mewn addysg nad oedden nhw'n gallu manteisio ar y cynnig gofal plant, oherwydd fe gefais innau'r un profiad yn fy ngwaith etholaethol fy hun, ac rwy'n credu y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl sydd angen manteisio arno. Rwy'n falch iawn hefyd fod Heledd wedi sôn am fanteision ehangach mynd i'r afael â thlodi a pha mor gwbl hanfodol yw hi i ddarparu gofal plant sy'n hawdd ei gael ac yn rhad ac am ddim ar gyfer gwneud cynnydd yn hyn o beth. Ac yn amlwg, dim ond megis dechrau yw hyn i ni—rwy'n llwyr gydnabod hynny, mae ffordd faith eto—ond rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Aelod dynodedig i sicrhau ein bod ni'n ymestyn gofal plant cyn belled ag y bo modd gwneud hynny.
Felly, mae yna ddiffyg. Rwy'n derbyn yn llwyr fod diffygion yn y system ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu rhoi cymorth i ddatblygu addysg Gymraeg, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol. Rwy'n credu, os gallwn ni sicrhau bod honno'n rhan annatod o'r camau cynnar, pan fo plant yn dechrau mynychu unrhyw safle am y tro cyntaf—plant blwydd a dwyflwydd oed—yna rwy'n credu y byddwn ni'n symud ymlaen mewn gwirionedd o ran y Gymraeg. Felly, peth gwirioneddol wych yw ein bod ni wedi cael y cyfle yma, ac wrth gwrs, rydym ni'n cael help gan Cwlwm i fwrw ymlaen â hyn.
O ran plant anabl, rwy'n gwybod bod y cynnig gofal plant yn ystyried anghenion plant a theuluoedd sydd ag anableddau. Ac rwy'n credu bod help ariannol ychwanegol, mewn gwirionedd, wedi cael ei roi am y rheswm hwnnw.
Y pwyntiau y gwnaethoch chi eu hategu ynglŷn â rhai o'r pethau a ddywedodd Gareth, am allgáu digidol, mae hwnnw wedi cael ei gydnabod yn llwyr yn y cynigion hyn. Ac fel dywedais i, fe fydd hi'n bosibl i bobl gael cymorth i wneud hyn gyda ffonau a chyswllt wyneb yn wyneb—mae hynny wedi ei gynnwys yn benodol. Ac wrth gwrs, ni fydd hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i bobl ei wneud drwy'r amser. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n llwyddo i roi'r cyfan yn ei le ac ni fydd angen i'r rhieni, yn arbennig felly, ddefnyddio hyn drwy'r amser, ond fe fydd angen i'r darparwyr ei ddefnyddio trwy'r amser, oherwydd fe fyddan nhw'n gwneud hawliadau am yr arian, felly mae hi'n bwysig iawn bod y darparwyr yn gallu cael gafael arno yn rhwydd.
Roedd yna werthusiad, ac fe gafodd hwnnw ei wneud—. Roedd yna grŵp a oedd yn paratoi ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth digidol, ac roedd y grŵp yn cynnwys rhieni, darparwyr, ac roedd yn cael ei gyd-gynhyrchu i raddau helaeth iawn, ac fe fydd yn rhaid i mi ddweud wrthych chi eto lle mae hyn ar gael mewn gwirionedd.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr am eich adroddiad chi. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig y gwnaethoch chi dynnu sylw ato yw bod bron i un o bob 10 rhiant sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant wedi dweud na fydden nhw'n gallu gweithio oni bai am y cynnig. Ac mae hynny'n hollol iawn, oherwydd mae gofal plant yn llawer rhy ddrud o'i gymharu â'r cyflogau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu hennill. Gwaith sy'n mynd rhagddo yw hwn i bob un ohonom, ond rwy'n llwyr gydnabod eich ymroddiad a'ch angerdd chi wrth ymroi i'r dasg hon, ac mae'n rhaid i ni ddal ati.
Un o'r pethau yr hoffwn ei ofyn, a tybed a wnaethoch chi drafod hyn gyda'ch cyd-Aelodau, yw mai'r her fwyaf sydd ganddyn nhw yn y GIG yw llenwi swyddi gwag. Un o'r rhesymau pam nad ydyn nhw'n gallu llenwi'r swyddi gwag yw oherwydd diffyg gofal plant. Fe fyddai nyrsys, yn arbennig felly, yn ei chael hi'n anodd gweithio pe na fyddai gofal plant ar gael iddyn nhw. Tybed a yw'r Llywodraeth yn rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnig gofal plant rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Yn ail, fe hoffwn i dynnu sylw at fater hygyrchedd. Rwy'n cytuno â Gareth ynglŷn â rhai pethau, ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth ar gael wyneb yn wyneb yn ogystal ag yn ddigidol, ond mae'n rhaid iddi fod yn wybodaeth gywir. Roeddwn i'n meddwl am yr argymhelliad a wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach eleni ynglŷn â'r mater hwn o ran yr angen i ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth mewn un man, fel y gallai rhieni ymchwilio i beth bynnag sydd ar gael, yn dibynnu ar ble maen nhw'n byw. Fe wnaethoch ein cyfeirio ni at y gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd, ac yng Nghaerdydd darperir hwnnw gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd—
Jenny, mae angen i chi ddod i ben nawr.
Felly, ceisiais chwilio am ofal i blant dwy flwydd oed o'r lle yr oeddwn i'n arfer byw yn Llanedern. Doedd dim byd yn ymddangos o fewn milltir. Yna, chwiliais am gymorth gofal plant ar gyfer cod post yn Llanedern sydd yn ardal Dechrau'n Deg, ac unwaith eto cefais fy synnu na wnaeth unrhyw beth ymddangos o fewn milltir. Dydy hynny ddim yn gywir. Ac, os nad yw'n gywir, yna mae'n anodd iawn i bobl nad ydynt efallai yn yr ardal Dechrau'n Deg, na fyddant felly'n cael y gefnogaeth ychwanegol honno gan ymwelwyr iechyd, i wybod ble i fynd, yn enwedig os mai dyma eu plentyn cyntaf nhw ac nad oes ganddyn nhw'r rhwydweithiau hynny.
Jenny, mae angen i chi ddod i ben, os gwelwch yn dda.
Rwy'n gwneud pwynt pwysig.
Ydych, ond rydych chi hefyd ymhell dros y terfyn amser, fel y gwyddoch chi.
Diolch yn fawr, Jenny, am y pwyntiau pwysig iawn hynny. Rwy'n credu bod yr holl werthuso wedi dangos bod y cynnig gofal plant wedi bod o gymorth mawr i rieni i fynd yn ôl i'r gwaith, a'r rhieni hynny yw'r rhieni sydd yn gyffredinol ar enillion cyfartalog neu enillion isel, oherwydd na fydden nhw wedi gallu fforddio cost gofal plant pe bai'n rhaid iddyn nhw dalu o'u pocedi eu hunain. Felly, rwy'n credu y bu'n llwyddiannus iawn yn cyrraedd y bobl yr oeddem ni wedi bwriadu iddo eu cyrraedd. Mae'r cynnig gofal plant yn cael ei gynnig i bawb sy'n bodloni'r meini prawf o weithio nifer yr oriau. Felly, does dim darpariaeth arbennig wedi bod i'r GIG, ond mae'r estyniad i addysg a hyfforddiant sy'n digwydd nawr yn golygu y bydd gweithwyr gofal iechyd sy'n fyfyrwyr yn gallu manteisio arno, rhywbeth nad oedden nhw'n gallu ei wneud o'r blaen. Felly, rwy'n credu bod hynny'n siŵr o helpu'r broblem yn y gwasanaeth iechyd. Yna, fe wnaethoch chi hefyd godi'r mater am y stwff digidol, ac yn amlwg rwy'n meddwl yr un ymateb, ein bod ni'n darparu help yn bersonol ar y ffôn i bobl sy'n cael problemau gyda mynediad digidol. Y pwynt olaf, y gwasanaeth gwybodaeth i'r teulu, sydd i fod i ddal yr holl wybodaeth, felly rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylid gwneud gwaith dilynol arno o ran pam nad oedd hynny yno, ac mae hynny'n rhywbeth y gallaf i ei wneud gyda fy nghydweithwyr. Diolch.
Diolch i'r Diprwy Weinidog.
Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Weinidog yr Economi ar ymgysylltu o ran cwpan y byd Qatar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 27 Medi, fe wnes i gyflwyno datganiad yn amlinellu ein gweithgareddau arfaethedig i hyrwyddo Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA i ddynion yn Qatar. Gyda'r twrnamaint bellach ychydig ddyddiau i ffwrdd, rwy'n falch o gyflwyno datganiad arall yn nodi'r diweddaraf am ein dull o weithredu. Fel y trafodwyd o'r blaen, mae gennym ni bedwar amcan allweddol ar gyfer y cwpan y byd hwn, sef: hyrwyddo Cymru; cyflwyno ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru; a, sicrhau gwaddol cadarnhaol o'n cyfranogiad.
Yng nghwpan y byd, pan fydd pobl yn gweld Cymru, fe fyddan nhw'n gweld ein gwerthoedd. Mae Llywodraeth Cymru'n credu mewn gwaith teg, hawliau menywod, hawliau dynol, ac y dylai pob un ohonom ni fod yn rhydd i fyw fel ni go iawn. Mae ein gwerthoedd yn ffurfio elfen ddiffiniol o'r genedl yr ydym ni'n falch o'i hyrwyddo. Mae ein bywiogrwydd, amrywiaeth ac ysbryd yn cael eu cysylltu'n annatod ag ymgyrchoedd anodd i hyrwyddo hawliau gartref a thramor. I lawer, mae'r cyfraniad Cymreig unigryw yn gyfystyr â chyfunoliaeth ac undod, a bydd yr egwyddorion hyn yn tanio ein presenoldeb yng nghwpan y byd.
Ynghyd â chenhedloedd blaengar eraill â thimau yn y twrnamaint hwn rydym ni wedi codi pryderon difrifol am hawliau gweithwyr a hawliau LHDTC+ yn Qatar. Cododd y Prif Weinidog y materion hyn yn uniongyrchol gyda'r llysgennad ar ran Qatar i'r DU. Ers hynny rydw i wedi ysgrifennu at y llysgennad ar ran Qatar i'r DU yn condemnio'r sylwadau homoffobig a wnaed gan lysgennad cwpan y byd ar ran Qatar. Mae gweinidogion yn parhau i gyfarfod â rhanddeiliaid, gan gynnwys y TUC rhyngwladol a grŵp cefnogwyr y Wal Enfys, i ymgysylltu ar y materion critigol hyn. Rydym ni’n cydnabod arwyddocâd y materion hyn ac y bydd rhai cefnogwyr yn dewis peidio â theithio o ganlyniad i hynny. Nid yw ein penderfyniadau mewn unrhyw ffordd yn ceisio lleihau'r anghyfiawnderau dan sylw, a byddwn ni’n gweithio i sicrhau bod ein presenoldeb yn gadael effaith gadarnhaol.
Gan y disgwylir cynulleidfaoedd enfawr ar gyfer gemau yn erbyn UDA a Lloegr, mae gennym ni gyfle i gyflwyno’r gwerthoedd yr ydym ni fel Llywodraeth wedi bod yn gyson arnyn nhw. Rydym ni’n cefnogi ymrwymiad y tîm i wisgo band braich enfys 'One Love' ac yn canmol penderfyniad y rhai yng ngwersyll Cymru i godi eu llais ar y materion hyn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym ni’n falch o'r safiad a gymerwyd gan y tîm. Mae Cymru'n ffodus o gael ei chynrychioli gan y grŵp arbennig yma o chwaraewyr o dan arweinyddiaeth Rob Page. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, chwaraewyr a chefnogwyr yn edrych yn briodol at Lywodraeth Cymru am gyngor, cefnogaeth ac arweinyddiaeth ar y materion hyn. Rydym ni’n cydweithio'n agos â nhw i helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflwyno presenoldeb Cymreig unigryw a blaengar yn y twrnamaint.
Wrth i ni wynebu ein cymdogion a'n cystadleuwyr ym maes chwaraeon, Lloegr, yn y grŵp, mae gennym ni gyfle prin hefyd o flaen cynulleidfa wirioneddol fyd-eang i ddangos yn glir bod Cymru yn genedl ar wahân o fewn y DU. Yn gynharach heddiw, ymunodd aelodau'r grŵp o Gaerdydd, Hoops and Loops, gyda mi wrth fynychu'r sesiwn hyfforddi olaf cyn cwpan y byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Grŵp cymorth ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDTC+ yw hwn i bobl sydd wedi dod i Gymru i ddianc rhag trais domestig, erledigaeth a hyd yn oed y bygythiad o farwolaeth. Mae statws Cymru fel cenedl o noddfa yn bwysig. Mae'n rhan greiddiol o'r gwerthoedd rydyn ni'n dewis sefyll drostyn nhw. Rwy'n falch iawn bod y rhai sy'n adeiladu bywyd newydd yma wedi gallu ymuno â ni wrth i ni nodi'r foment fawr hon yn hanes chwaraeon Cymru.
Mae'n hanfodol bod y gêm fyd-eang yn dysgu gwersi o'r twrnamaint yma ac yn gwneud hynny ar frys. Gyda chynulleidfa o 5 biliwn o bobl, rydyn ni'n gwybod mai ychydig iawn fydd y rheiny sy’n gwylio cwpan y byd yn ei wybod am Gymru, os unrhyw beth. Wrth i ni gyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd, byddwn ni'n hyrwyddo cenedl agored, flaengar ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddathlu ein gwerthoedd. Mae ein rhaglen weithgareddau bellach yn wirioneddol yn mynd rhagddi. O Neuadd Les Tylorstown yn y Rhondda Fach, datgelodd Robert Page ei garfan o 26 chwaraewr yng Nghwpan y Byd i gael ei harwain gan ein talismon a'n capten, Gareth Bale. Does dim amheuaeth y byddan nhw'n rhoi popeth i'r crys ac i genedlaethau o gefnogwyr oedd yn meddwl efallai na fyddai’r dyddiau hyn byth yn dod eto.
Rwy'n falch o gadarnhau pedwar ychwanegiad newydd i Tîm Cymru 22, gyda'n grŵp newydd o lysgenhadon Cymru. Mae'r llysgenhadon, dan faner Lleisiau Cymru, yn cynnwys cymysgedd amrywiol o'n lleisiau a fydd yn hyrwyddo goreuon Cymru i'r byd. Rydym ni’n hynod ffodus o fod wedi recriwtio seren Olympaidd, y pencampwr byd a'r deiliad record byd Colin Jackson, cyn-gapten Cymru yr Athro Laura McAllister, y DJ a'r cyflwynydd Katie Owen, a'r cogydd enwog Bryn Williams. Fel rhan o'r dull Tîm Cymru 22 ehangach, bydd llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Jess Fishlock ac Ian Rush, mawrion pêl-droed Cymru, hefyd yn cefnogi gweithgareddau ein rhaglenni.
Rydw i wedi diweddaru Aelodau ar y gronfa cymorth partner yn y gorffennol, gan gadarnhau'r 19 prosiect llwyddiannus. Mae'r gwaith yn cefnogi Gŵyl Cymru, amrywiaeth o dros 200 o ddigwyddiadau sy'n dathlu'r celfyddydau a chwaraeon. Mae S4C wedi trefnu cyngerdd i fynd â Chymru i'r byd yn Efrog Newydd, a gafodd ei gynnal neithiwr ac a fydd yn cael ei ddarlledu y penwythnos hwn. Mae'r Urdd wedi darparu eu jamborî canu mwyaf erioed ar draws ysgolion, gan gynnwys mwy na 230,000 o blant, ac mae StreetGames Wales wedi estyn allan i'n cymunedau lleiaf cefnog, gan gynnig safleoedd chwaraeon ar garreg y drws ar draws 36 o gymunedau yng Nghymru. Dim ond cipolwg ar y gweithgarwch sydd eisoes ar y gweill yw hwn.
Rydym ni hefyd yn gweithredu ein hymgyrch farchnata well, sy'n canolbwyntio ar farchnadoedd targed gan gynnwys UDA, cynulleidfaoedd Ewropeaidd allweddol a'r DU ar draws brand, busnes a thwristiaeth, yn ogystal ag ymgyrch gref yng Nghymru. Bydd ein gweithgareddau'n cynnwys llinyn marchnata digidol craidd sy'n canolbwyntio ar dwristiaeth, yn ogystal â marchnadoedd masnach a buddsoddi. Rydym ni’n cyflwyno gweithgareddau ledled y byd, gan weithio gyda Tîm Cymru 22 a thrwy ein swyddfeydd tramor. Byddwn ni'n lansio gosodiad celf sy'n benodol i Gymru yn y Corniche yn Doha i hyrwyddo Cymru yn y twrnamaint. Bydd cynnwys Cymreig ym mhafiliwn a gŵyl gardd fawr y DU, a derbyniad ar thema Cymru ar 21 Tachwedd dan ofal llysgennad Prydain i Qatar gyda'r Prif Weinidog yn brif westai. Yn yr Unol Daleithiau, rydym ni’n cefnogi digwyddiad Pêl-droed yn y Cylch yn Washington, digwyddiad rhanddeiliaid diwylliannol yn Efrog Newydd, digwyddiad e-hapchwarae yn Atlanta, a digwyddiadau busnes yn Chicago a Los Angeles.
Er mwyn cefnogi ein hamcan i hyrwyddo Cymru flaengar, bydd y Prif Weinidog yn mynychu gêm grŵp gyntaf Cymru ers 64 mlynedd yn erbyn yr UDA, a byddaf i’n mynychu gêm Lloegr. Mae'r rhain yn cynrychioli'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol i ni godi proffil Cymru, a gwneud cysylltiadau lle gallwn ni rannu ein diddordebau a'n gwerthoedd. Ni fydd Gweinidogion Cymru yn bresennol yng ngêm Iran ac fe fyddan nhw'n cefnogi Cymru o adref. Er mwyn sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn Qatar, rydym ni wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU a gydag ystod o asiantaethau'r Llywodraeth, yn ogystal â heddluoedd y DU. Mae sianeli cyswllt rheolaidd wedi parhau i gael y newyddion diweddaraf am faterion diogelwch gyda goruchaf bwyllgor Qatar, sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am reoli'r digwyddiad yn y wlad. Rydym ni hefyd wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â llysgenhadaeth y DU yn Qatar a llysgennad Ei Fawrhydi yn swyddfa Qatar.
I wneud yn siŵr ein bod ni’n sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol, byddwn yn gwerthuso'r gweithgareddau hyn wrth gefnogi cwpan y byd i ddysgu gwersi o'r ymyriadau hyn ar gyfer cyfleoedd diplomyddiaeth mewn chwaraeon yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i'n blaenoriaethau buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yma yng Nghymru, gyda chyllideb gyfalaf o £24 miliwn dros y tair blynedd nesaf ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn cyfleusterau ysgolion. Dirprwy Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn diystyru difrifoldeb y materion mae'r twrnamaint hwn wedi'u codi i'n dinasyddion, ein cyrff chwaraeon a'n Llywodraethau ym mhob man. Rwy'n falch bod ein cynlluniau yn atgyfnerthu'r gwerthoedd sy'n gwneud Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi i ddymuno’r gorau i Robert Page a'r tîm yn y cwpan y byd hwn—pob lwc, Cymru.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn 'ma? Mae cwpan pêl-droed y cyd yn Qatar yn gyfle i ni arddangos Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae'n iawn bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddefnyddio'r digwyddiad i ddatblygu cyfleoedd economaidd ac i deithio i'r digwyddiad ei hun. Rydw i hefyd yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon difrifol ynghylch hawliau gweithwyr a hawliau LHDTC+ gyda'r llysgennad ar ran Qatar i'r DU, ac wedi ymgysylltu â’r TUC rhyngwladol a grŵp cefnogwyr y Wal Enfys er mwyn ymgysylltu ar y materion hollbwysig hyn.
Mae cwpan y byd yn rhoi cyfle i hyrwyddo ein gwerthoedd. Mae'r Gweinidog wedi dweud yn glir, er mwyn cefnogi Cymru ac ymwneud â diplomyddiaeth, y bydd y Prif Weinidog yn mynd i gêm grŵp Cymru yn erbyn yr UDA, ac, yn wir, bydd y Gweinidog yn mynychu gêm Lloegr. Mae hefyd yn dweud y byddant yn gweithio i sicrhau bod eu presenoldeb yn gadael effaith gadarnhaol, ac felly er mwyn tryloywder, rhaid i'r Gweinidog gyhoeddi gwariant Llywodraeth Cymru ar y teithiau hyn, ynghyd â rhestr o’r cyfarfodydd a digwyddiadau y bydd ef a'r Prif Weinidog yn eu mynychu. Efallai y bydd y Gweinidog yn cytuno i gyhoeddi manylion llawn a chostau'r teithiau hyn fel y gallwn asesu p’un a ydyn nhw wedi cyflawni eu canlyniadau arfaethedig ac wedi darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.
Mor ddiweddar â’r wythnos ddiwethaf, esboniodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn mynychu COP27 oherwydd ei bod am gyfyngu ei milltiroedd aer, ac eto mae'n ymddangos nad oes ganddi broblem wrth gyfiawnhau'r teithiau penodol hyn. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddeall y dryswch dros feddylfryd Llywodraeth Cymru yma, gan y bydd llawer iawn o bobl a fydd eisiau deall pam bod yr ymgysylltu hwn yn briodol ond nad oedd presenoldeb COP27 yn briodol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn egluro, er mwyn i bawb gael gwybod, pa feini prawf yn union mae teithiau Qatar wedi eu diwallu efallai nad oedd COP27 yn eu diwallu.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at yr ymgyrch farchnata well mae Llywodraeth Cymru wedi ei lansio mewn perthynas â chwpan y byd, sy'n cynnwys pwyslais ar dargedu marchnadoedd yng Nghymru, yr UDA a'r DU, ac mae’n rhoi mwy o fanylion i ni am rai o'r prosiectau a'r gweithgarwch sy'n digwydd. Cyfeiriodd y datganiad yn benodol at linyn marchnata digidol craidd Llywodraeth Cymru, fydd yn canolbwyntio ar dwristiaeth yn ogystal â marchnadoedd masnach a buddsoddi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr ymgyrchoedd marchnata digidol fydd yn digwydd. Mae datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at Gŵyl Cymru a'r amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n dathlu ein diwylliant, ein celfyddydau a'n hiaith. Mae'n hanfodol ein bod ni’n adeiladu oddi ar gweithgarwch hwn ar gyfer y dyfodol. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y trafodaethau y mae'n eu cael gyda sefydliadau fel Amgueddfa Cymru, y mentrau iaith a'r Urdd er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl mae cwpan y byd yn eu cynnig i Gymru.
Mae datganiad heddiw yn cadarnhau rhai ychwanegiadau newydd i'r tîm o lysgenhadon Cymru fydd yn cefnogi rhaglen ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru. Mae'n wych gweld cymysgedd go iawn o leisiau i helpu i hyrwyddo Cymru i'r byd yn ystod cwpan y byd. Efallai y gallai ddweud wrthym ni pa weithgareddau penodol y bydd y llysgenhadon yn eu gwneud yn ystod cwpan y byd a sut y bydd yn mesur llwyddiant Lleisiau Cymru yn fwy cyffredinol. Wrth gwrs, mae'n iawn bod Llywodraeth Cymru yn ceisio creu gwaddol cadarnhaol a pharhaol o gwpan y byd, fel y dylai o bob digwyddiad mawr. Mae'n hanfodol nad yw Llywodraeth Cymru yn cychwyn ar yr agenda hon heb ymgysylltu'n sylweddol â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru ac, yn wir, randdeiliaid eraill. Felly, byddwn i’n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu ein diweddaru ar y trafodaethau diweddaraf y mae wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynglŷn â chreu gwaddol parhaol o gwpan y byd pan fydd y twrnamaint wedi dod i ben.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gyfleoedd diplomyddiaeth chwaraeon, ac mae'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o adroddiad yr Athro Laura McAllister ar ddatblygu strategaeth diplomyddiaeth chwaraeon yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwnnw yn cydnabod yn gywir, ar hyn o bryd, bod unrhyw fanteision i gymdeithas neu economi Cymru yn ad hoc yn hytrach nag yn rhan o strategaeth hirdymor ac yn gysylltiedig ag amcanion polisi Cymru neu Brydain yn ehangach. Nododd hefyd bod angen gwneud rhagor i fapio, mesur a gwerthuso chwaraeon yn ddigidol a'i gyfraniad i economi Cymru gartref a thramor. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni p’un a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried strategaeth diplomyddiaeth chwaraeon. Hefyd, a all ddweud wrthym ni pa waith sy'n cael ei wneud i fesur cyfraniad chwaraeon yn well i economi Cymru?
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dysgu o arfer gorau yn y maes hwn. Yn sicr, gallwn ddysgu llawer gan Lywodraethau eraill ar draws y byd. Mae Llywodraeth Awstralia wedi gwneud gwaith sylweddol ar sut y gall chwaraeon helpu i gyflawni ei nodau polisi tramor. Felly, efallai bod lle yma i gomisiynu gwaith ar sut mae Llywodraethau eraill wedi mynd ati i wneud hyn, fel y gallwn ni ddysgu o'r arfer gorau. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn ystyried comisiynu papur ar y mater hwn. Mae cwpan y byd Qatar yn cynnig cyfleoedd economaidd sylweddol a gallai fod yn ffordd o agor y drws i gysylltiadau masnach pellach gyda gwledydd eraill, ond mae angen i ni ystyried y darlun cyfan o sut y gall chwaraeon fod yn ased economaidd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y mentrau penodol mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddyn nhw a sut y gallant gyflwyno enillion cadarnhaol i economi Cymru. Felly ar y nodyn hwnnw, Dirprwy Lywydd, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, a gaf i ddweud 'pob lwc' anferth i Rob Page a'r tîm?
Diolch am y sylwadau a’r gyfres o gwestiynau. Fe wnaf fi geisio gwneud cymaint ohonyn nhw mor brydlon ag y gallaf, gan weld llygaid treiddgar y Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf.
O ran gwariant y teithiau a'r manylion, rydym ni’n cyhoeddi'n rheolaidd, gyda phob ymweliad tramor mae Gweinidogion yn ymgymryd ag ef, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r rhaglen weithgareddau a phwy sydd wedi mynychu. Rydym ni bob amser yn cyhoeddi manylion y gost. Mae hynny'n cael ei gyflwyno mewn amryw o ffurfiau. Felly, ni fydd y gost yn cael ei chuddio. Ac o ran y gwahaniaeth mae Gweinidogion yn ei wneud, mae'n rhan o'r hyn rydyn ni'n ei wneud wrth fod yn gymesur. Mae dewisiadau sy'n arwain Gweinidogion i’w gwneud ynghylch a ydyn nhw'n credu y bydd ymweliad tramor yn gwneud synnwyr, ac yna bydd angen i'r Prif Weinidog lofnodi ei fod yn cytuno bod hynny'n ddefnydd da o amser ac adnodd. Fe wnaethon ni'r dewis bod Gweinidogion yn mynychu'r ddwy gêm fwyaf yn y gemau grŵp yn ddefnydd da o amser Gweinidogion. Mae hynny'n mynd i'ch pwynt chi ynghylch beth fydd ein llysgenhadon yn ei wneud pan ddaw hi'n fater o weithredu Lleisiau Cymru a sut bydd Gweinidogion yn ychwanegu at hynny.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n anodd tanbwysleisio'r lefel ryfeddol o sylw yn y cyfryngau fydd yn Qatar i dimau sydd yno. Bydd ganddyn nhw lu o leisiau gyda materion gwahanol y byddan nhw eisiau siarad amdanyn nhw a’u hamlygu. Ac wrth gwrs, bydd diplomyddiaeth chwaraeon a diddordeb y byd chwaraeon ehangach—nid pêl-droed yn unig ond amrywiaeth o rai eraill—yn bwysig i ni. Bydd gweinidogion yn cael cyfleoedd gwahanol i gwrdd â phobl mewn gwahanol Lywodraethau a rhanddeiliaid gwahanol na fydd pawb arall yn gallu eu gwneud. Mae hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth. Ac mae hynny'n tanlinellu pam y gwnaed y dewisiadau gan y Llywodraeth i fynychu dwy o'r gemau grŵp. Bydd gennym ni, gobeithio, broblem bositif i fynd i'r afael â hi ar ôl gemau’r grŵp, os yw Cymru i mewn i'r rownd nesaf. Byddai'n llawer gwell gen i fod yn siarad am ein llwyddiant parhaus yn y twrnamaint.
Pan ddaw, eto, i'r gronfa gymorth partner ei hun, rydym ni, wrth gwrs, fel yn wir mae ein partneriaid, yn mynd i fanteisio i’r eithaf ar effaith y gwariant hwnnw, nid yn unig i ddangos bod yr arian wedi'i wario yn unol â'r prosiectau, ond wedyn i ddeall effaith hynny. Rwy'n llwyr ddisgwyl, nid yn unig o ran yr enillion y byddwn ni am eu gweld o safbwynt y Llywodraeth, ond mae gan Aelodau ddiddordeb cwbl resymol a dilys i ddeall beth fu'r effaith honno ar wahanol bwyntiau mewn amser, oherwydd, i rai o'r rhain, bydd effaith uniongyrchol o ran y gweithgarwch sydd wedi bod yn adeiladu rhywfaint o'r cyffro. Er enghraifft, nid yw jamborî'r Urdd yn rhywbeth rwy'n credu y byddwch chi'n ei ddweud, 'Wel, beth fydd effaith hynny ymhen chwe mis?' ond mae'n rhan bwysig o'r ymdeimlad o undod mewn digwyddiad byd-eang nad oes yr un ohonon ni wedi ei brofi yn ystod ein hoes—o edrych o gwmpas yr ystafell—ac y gall unrhyw un ohonom ni ei gofio.
Y pwynt ehangach, felly, er hynny, y bydd angen i chi, mewn rhai meysydd, edrych ar ffrâm amser hirach i weld effaith yr holl wariant a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a bydd yr Aelod yn deall hyn hefyd. Mae hynny hefyd yn wir am rai o'r pwyntiau am farchnata digidol. Fe wnaethom ni gynnig briff ar gyfer pwyllgorau pwnc, ond rwy'n gwerthfawrogi nad oes llawer o amser ar gael bob tro. Rydyn ni'n fwy na pharod i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhannu'r marchnata sy'n mynd allan er mwyn i chi weld rhai enghreifftiau o'r hyn sy'n cael ei roi allan mewn gwahanol rannau o'r byd. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, rwy'n gobeithio i'r Aelodau gael gweld 'Dyma Gymru' ar-lein—cyfrif 'Dyma Gymru' ar y cyfryngau cymdeithasol a rhywfaint o gynnwys 'Croeso i Gymru' sy'n mynd allan. Ar ôl gweld rhai o'r ymdrechion mae gwledydd eraill yn eu rhoi allan, rwy'n credu bod ein un ni yn dda iawn o ran bod yn ffenest bositif iawn i Gymru, fel y dylai fod.
O ran ein llysgenhadon, yn arbennig mae gennym ni ddiddordeb yn y byd pêl-droed, y byd busnes, bwyd a diod, ac mae'n ddefnyddiol iawn bod Bryn Williams, y cogydd enwog, yno—cyfleoedd mawr yn y rhanbarth ac yn ehangach. Ac, wrth gwrs, y sgwad ddiwylliant oedd gennym ni, a Mace the Great, sydd, y dylwn i dynnu sylw ato, Dirprwy Lywydd, yn fachgen o Sblot, ond dydy pob un ohonyn nhw ddim yn etholwyr i mi. Ond, mae gennym ni amrywiaeth o bobl sydd ar fin, rwy'n credu, bod o arwyddocâd rhyngwladol go iawn, ac, unwaith eto, mae’n dangos amrywiaeth ein cynnig ni yma yng Nghymru, ac mae rhywfaint ohono y gallwn ni ond ei wneud drwy fod yn y wlad yn ogystal â'n gweithgarwch mewn mannau eraill. Wrth gwrs, bydd rhai sgyrsiau diddorol hefyd, rwy'n siŵr, o amgylch UEFA 2028, lle bu datganiad cyhoeddus blaenorol am y ffaith bod yna gais posib ar y cyd rhwng holl wledydd y DU a Gweriniaeth Iwerddon fel gwesteiwyr posib ar gyfer y twrnamaint hwnnw.
O ran chwaraeon a hyrwyddo chwaraeon fel ased economaidd, byddwn ni’n parhau i ystyried dyfodol digwyddiadau chwaraeon a p’un a oes angen strategaeth benodol arnom sydd mor wahanol i'n strategaeth ddigwyddiadau mawr, yr ydym ni yn y broses o’i hail-gomisiynu, dull ar gyfer y dyfodol, ac mae'r Aelod wedi siarad am hynny o'r blaen. Rydym ni wedi lansio ein strategaeth digwyddiadau ar gyfer y dyfodol hefyd, ac rwyf i am sicrhau ein bod ni’n gwneud pethau sy'n gyson wrth ddysgu o gyfleoedd y digwyddiad arwyddocaol hwn o flaen 5 biliwn o bobl.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw.
Nid wyf, mewn unrhyw ffordd, am dynnu sylw oddi ar y cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno gan Gymru yn ennill eu lle yng Nghwpan y Byd; mae'n arddangosfa wych—dyma'r arddangosfa fwyaf rydyn ni erioed wedi'i chael, ac rwy'n credu ei bod hi’n iawn ein bod ni’n buddsoddi yn hyn. Fodd bynnag, rwyf am roi ar gof a chadw nad ydw i’n credu y dylai cwpan y byd fod yn digwydd yn Qatar. Rydw i'n anghytuno'n llwyr â'r penderfyniad hwnnw. Roeddwn i'n ofidus ond doeddwn i ddim yn synnu clywed Sepp Blatter, cyn-lywydd FIFA, yn dweud mewn cyfweliad diweddar fod Qatar yn gamgymeriad, ei fod yn ddewis drwg. Fe wnaeth gydnabod hefyd nad oedd hawliau dynol yn rhan o'r penderfyniadau. Ac rwy'n credu, po fwyaf sy'n dod allan, yn gynyddol felly, mae'n gwneud i mi gwestiynu pam mae Llywodraeth Cymru nawr yn mynychu, gyda mwy a mwy o bobl yn cyfaddef na chafodd y pethau hyn eu hystyried.
Rydw i hefyd eisiau atgoffa pobl pam nad pryderon yn unig yw'r rhain, ond y ffeithiau y tu ôl i'r rhain. Felly, fel y gwyddom ni, hawliau gweithwyr mudol, yn 2021, cyhoeddodd The Guardian erthygl, a chanfu dadansoddiad fod 6,500 o weithwyr mudol wedi marw yn Qatar ers iddyn nhw gael eu dewis i gynnal cwpan y byd. Mae cyfanswm y marwolaethau yn debygol o fod yn sylweddol uwch, gan nad yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys y marwolaethau o nifer o wledydd sy'n anfon nifer fawr o weithwyr i Qatar, gan gynnwys Ynysoedd y Philipinau a Kenya, na ychwaith yn cynnwys y marwolaethau o ddiwedd 2020 ymlaen. Allwn ni gymryd eiliad i fyfyrio ar hynny?
Ar ben hyn, mae cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yn Qatar, ac mae swyddogion yn parhau i fynnu bod ymwelwyr yn parchu arferion lleol ac osgoi arddangos hoffter yn gyhoeddus. Mewn cyfweliad â Sky News, ailadroddodd gweinidog materion tramor Qatar alwadau—galwadau—i ymwelwyr 'barchu ein cyfreithiau'. Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n digwydd os yw dau ddyn yn cusanu neu'n dal dwylo ar y stryd, dywedodd:
'Mewn gwirionedd nid yw'r gyfraith yn caniatáu arddangos hoffter yn gyhoeddus, boed yn ddyn ac yn ddyn, neu'n ddyn ac yn ddynes. Dyna'n cyfraith ni.'
Ac mae Ysgrifennydd Tramor y DU, James Cleverly, fydd hefyd yn y twrnamaint, wedi cael ei feirniadu ar ôl iddo ddweud y dylai cefnogwyr LHDT sy'n mynd i Qatar, lle mae gweithgarwch o'r un rhyw yn anghyfreithlon, ddangos ychydig o 'ystwythder a chyfaddawd'. Allwn ni hefyd gymryd eiliad i fyfyrio ar hynny?
Rhaid i mi gyfaddef, y mwyaf sy'n dod allan, y mwyaf anghyfforddus ydw i, fel y dywedais i, y byddwn ni yno, yn mynychu. Yn amlwg, rwy'n hynod o falch y bydd Tîm Cymru yno. Rwy'n credu eu bod nhw i'w canmol am gymryd y safiad cryf yna, ac rwy'n falch y byddan nhw'n gwisgo'r band braich 'One Love'. Rwy'n falch o'n chwaraewyr ni a safbwynt Rob Page, a dylid cydnabod hynny. Ond gadewch i ni atgoffa ein hunain hefyd bod llywydd FIFA, Gianni Infantino, wedi gofyn yn ddiweddar i dimau cwpan y byd osgoi trafodaethau ynghylch materion hawliau dynol yn Qatar cyn y twrnamaint drwy ysgrifennu at arweinwyr cymdeithas y 32 gwlad sy'n cystadlu yr wythnos ddiwethaf, gan eu hannog i beidio,
'caniatáu i bêl-droed gael ei lusgo i bob brwydr ideolegol neu wleidyddol sy'n bodoli'.
Syfrdanol. Felly, fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, rydych chi wedi dweud bod y Prif Weinidog wedi codi pryderon gyda’r llysgennad ar ran Qatar, a'ch bod chi wedi ysgrifennu llythyr yn ymwneud â'r sylwadau homoffobig a'u condemnio, ond pa ymateb gawsoch chi, a pha ymateb gafodd y Prif Weinidog? Mae'n un peth codi'r pryderon hynny, ond, drwy gymryd y safiad hwn, beth fydd mewn gwirionedd yn newid yn Qatar i bobl LHDTC+ a gweithwyr mudol gan bresenoldeb Llywodraeth Cymru yno? Beth fydd yn newid mewn gwirionedd a beth fydd y gwaddol, nid yn unig o ran gwerth economaidd o ran brand Cymru, ond i'r bobl hynny sy'n cael eu heffeithio ac sy'n cael eu herlid neu sy'n marw oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn Qatar?
Hoffwn ofyn hefyd: pam rydym ni’n anfon dau ddyn i gynrychioli Llywodraeth Cymru? Os ydych chi'n mynd, pam nad ydyn ni'n anfon cynrychiolydd benywaidd o Lywodraeth Cymru, fel oedd y bwriad yn wreiddiol? Pa neges mae hyn yn ei hanfon i hawliau merched hefyd, sydd hefyd yn rhywbeth sy'n bryder yn Qatar? Pa neges mae'n ei hanfon ein bod ni’n anfon dau ddyn i gynrychioli Llywodraeth Cymru, os ydych chi'n mynd?
Hoffwn hefyd adleisio pwynt Paul Davies, o ran COP27. Rwy'n credu ei fod yn bwynt teg i'w godi, mewn argyfwng hinsawdd lle rydyn ni'n dweud, 'mae hon yn flaenoriaeth', ein bod ni'n blaenoriaethu mynychu dwy gêm bêl-droed cyn mynychu COP27. Mae hynny'n gwestiwn sydd angen mynd i'r afael ag ef, a hoffwn eglurder ar hynny.
Ac, yn olaf, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd ein cefnogwyr yn ddiogel yn Qatar? Ac os nad ydych chi'n gallu rhoi iddyn nhw, beth yw eich cyngor i unrhyw gefnogwyr LHDTC+ sydd i fod i fynd, ond sydd yn pryderu am eu diogelwch ar hyn o bryd? Rwy'n credu gyda mwy a mwy o bethau yn y wasg, yn dweud bod yn rhaid i bobl barchu arferion, mae pobl yn mynd yn fwyfwy pryderus, ac mae disgwyl iddyn nhw fod yn Qatar yn fuan iawn.
Yn yr un modd â Paul Davies, rwy'n credu ein bod ni angen gwybod pa fesurau sydd ar waith o ran y buddsoddiad, beth yw'r amcanion, beth yw llwyddiant, a hoffwn weld hynny'n cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib er mwyn i ni weld sut bydd y buddsoddiad yna'n newid. Ond y peth pwysicaf yw: sut fydd hyn yn newid pethau i bobl yn Qatar? Beth fydd y gwaddol hwnnw?
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Edrychwch, rydym ni wastad wedi cydnabod mai penderfyniad FIFA yw cynnal y twrnamaint mewn unrhyw wlad. Nid wyf yn credu bod ymyriadau diweddar Sepp Blatter wedi bod yn ddefnyddiol, nac ychwaith yn credu eu bod nhw wedi'u cynllunio i fod yn ddefnyddiol. Mae yna bwynt ehangach bod gwleidyddiaeth ym mhob sefydliad, ac yn sicr mae digon o wleidyddiaeth o fewn FIFA.
O ran ble mae'r twrnamaint nawr, ein dewis ni yw: nawr ein bod ni wedi ennill ein lle, beth yw ein dewis ni o ran sut rydyn ni'n cefnogi ein tîm, a beth mae hynny'n ei olygu i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru? A dyna rwyf wedi'i nodi. Dyma beth wnes i ei nodi ym mis Awst, ac yna yn y datganiad yn y Senedd ar 27 Medi, a'r hyn rydw i'n ei ailadrodd eto heddiw yn ein hymgysylltiad rheolaidd.
O ran hawliau LHDTC+, rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn glir ynglŷn â'r ffaith bod gennym ni, wrth gwrs, wahaniaeth, nid yn unig yn ein cyfreithiau, ond yn ein gwerthoedd, ac mae hynny'n rhan o'n hymgysylltiad â gwahanol rannau o'r byd. Ac fe nododd y Prif Weinidog y datganiad penodol ynglŷn ag ymgysylltu â gwledydd nad ydym ni’n rhannu gwerthoedd gyda nhw. Yr her bob amser yw os ydych chi'n ymgysylltu neu beidio, ac os ydych chi'n ymgysylltu, sut rydych chi'n mynd ati i ymgysylltu mewn ffordd sy'n gadarnhaol am bwy ydyn ni yn y wlad hon, ac i fod yn falch o hynny.
Mater o gyd-ddigwyddiad yn hytrach na dewis bwriadol yw ein bod ni wedi dewis yr holl lysgenhadon sydd gennym ni, os mynnwch chi, y ffaith bod un ohonyn nhw'n ddu, y ffaith bod gennym ni ddwy fenyw, y ffaith bod dwy ohonyn nhw yn hoyw. Mae hynny'n syml oherwydd fod ganddyn nhw lawer iawn i’w gynnig: Laura McAllister ym myd diplomyddiaeth chwaraeon, mae hi wir ynghlwm yn y byd hwn—byddwch chi'n gwybod hyn hefyd—ar draws pêl-droed dynion a menywod; Colin Jackson, gyda dilyniant rhyngwladol enfawr, a bydd yn gallu dod â llawer gydag ef; Bryn Williams, yr hyn a ddaw yn ei sgil ef, cogydd enwog, a bwyd a diod yn gyfle go iawn o fewn y rhanbarth hwnnw ond yn fras ar draws y byd; ac mae Katie Owen o Ferthyr yn rhywun sydd wedi cael apêl sylweddol i gynulleidfa llawer iau—mae gen i ofn llawer iau na fi fy hun, fel arfer, mae'n rhaid i mi gydnabod bod y dyddiau hynny pan oeddwn i’n ifanc wedi hen fynd. Ond rydym ni'n fwriadol yn dewis pobl rydyn ni'n meddwl all ychwanegu at Gymru ac mae hynny'n mynd ochr yn ochr â llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd. Mae Ian Rush a Jess Fishlock yn bobl y bydd cefnogwyr pêl-droed ar draws y byd yn eu hadnabod, ac yn enwedig Jess Fishlock, gan mai hi oedd chwaraewr mwyaf gwerthfawr y llynedd ym mhêl-droed merched yn yr Unol Daleithiau. Mae Jess Fishlock a Laura McAllister wedi bod yn glir iawn am eu barn a'u gwerthoedd, a dydw i ddim yn disgwyl iddyn nhw stopio. Rydyn ni wedi dewis pobl fydd yn ychwanegu at frand Cymru a beth rydyn ni'n mynd i allu ei wneud ar lwyfan byd-eang, a byddwn ni'n falch o bob un o'r rheini, yn ogystal â'r tîm.
O ran y sicrwydd a roddwyd i ni, rydym ni wedi cael yr un neges, a dweud y gwir, am arddangos hoffter cyhoeddus rhwng unrhyw gwpl, a phan ymwelais â Qatar o'r blaen, roedden nhw’n glir iawn nad yw arddangos hoffter yn gyhoeddus yn digwydd rhwng dynion a menywod. Nid dyna eu disgwyliad nhw. Yr her, serch hynny, yw bod y sicrwydd yr ydym ni wedi’i geisio ac wedi ei dderbyn am ddiogelwch ein cefnogwyr, a'r negeseuon clir iawn gan y bobl sy'n rhedeg y twrnamaint, yw bod croeso i bawb. Dyna pam roeddwn i wedi fy nychryn—. Wel, waeth am hynny, cefais fy nychryn beth bynnag gan sylwadau'r llysgennad pêl-droed. Dyna pam wnes i eu condemnio nhw'n syth ar ôl eu clywed. Dyna pam rwyf i wedi ysgrifennu at lysgennad Qatar y DU, oherwydd eto, pan wnaeth y Prif Weinidog gwrdd ag ef, cafodd sicrwydd fod croeso i bawb. Dydw i ddim wedi cael ymateb. Nid yw’n anarferol i beidio derbyn ymateb o fewn wythnos. Ond rhan o'r pwynt yw nodi'n glir iawn ein disgwyliadau ni ein hunain a'r ffaith ein bod ni’n disgwyl i'n cefnogwyr allu bod wir yn nhw eu hunain, ond deall y bydd rhai pobl yn dewis peidio mynd yno. Ac mae'n rhesymol i bobl ddweud na fyddan nhw'n mynd yno.
Dydyn ni ddim mewn sefyllfa ble rydyn ni'n dweud mai barn Llywodraeth Cymru yw'r unig farn gywir a derbyniol; bydd gwahanol bobl yn gwneud dewisiadau gwahanol, ac mae angen i ni barchu eu hawl i wneud hynny. O ran sut mae pobl yn cael eu trin, rydyn ni eisiau gweld y sicrwydd yn cael ei ddiwallu a’i wireddu. Dyna pam rydym ni wedi ymgysylltu â heddluoedd nid yn unig y DU ond gyda thîm llysgenhadaeth Prydain yn Qatar, yn fy ymweliad cynharach ac ers hynny hefyd, a dyna pam mae llysgenhadaeth y DU yn disgwyl cael mwy o adnoddau ar gael iddo; gyda chefnogwyr Lloegr a Chymru yn ymddangos yn y wlad a'r rhanbarth ehangach, gallant ddisgwyl cael mwy o geisiadau am gymorth consylaidd nag y byddent fel arfer yn ei ddisgwyl yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, mae'n ymgymeriad sylweddol, a byddwn yn parhau â'r ymgysylltu sydd gennym ni, ac mae'n un o'n prif amcanion i wneud yn siŵr bod ein cefnogwyr yn ddiogel.
O ran diddordeb yn y rhanbarth yn y dyfodol, rhan o'r rheswm rydyn ni'n ymgysylltu nawr yw oherwydd ein bod ni eisiau bod yn ni ein hunain, rydyn ni eisiau i bobl weld Cymru fel y mae heddiw, ac mae'n rhan o'r hyn rydyn ni'n meddwl y gallwn ni ei wneud i helpu i newid rhannau eraill o'r byd. Er hynny, byddwn hefyd am gynnal diddordeb yn nyfodol y wlad a'r rhanbarth ehangach. Ac ar hawliau gweithwyr, mae Qatar wedi gwneud mwy o gynnydd na gwledydd eraill yn y rhanbarth. Mae ganddyn nhw swyddfa ar gyfer y Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn Qatar; nid oes gan wledydd eraill yn y rhanbarth hynny. Pan wnaeth y Prif Weinidog gyfarfod Cyngres ryngwladol yr Undebau Llafur â'r TUC—roedd yn gyfarfod ar ein menter ni ac fe wnaethom ni ofyn am y cyfarfod—fe wnaethon nhw roi diweddariad i ni ar y sefyllfa. Maen nhw wedi gwneud newidiadau i'r gyfraith cyflogaeth. Bydd rhai o'r newidiadau diwylliannol yn y ffordd mae pobl yn trin gweithwyr yn cymryd mwy o amser, fel y mae yn y wlad hon pan fyddwn ni'n newid hawliau cyflogaeth. Yn aml mae'n cymryd amser i bobl ddal fyny. Ond maen nhw'n dweud, mae'r TUC rhyngwladol yn dweud eu bod nhw’n gweld cynnydd yn Qatar eu bod nhw am gael eu cydnabod, ond eu bod am iddo gael ei adeiladu arno. Does neb, rwy'n credu, yn awgrymu bod y sefyllfa ar hawliau gweithwyr heddiw fel y bydden ni'n dymuno iddo fod yn y wlad honno na'r rhanbarth hwnnw am byth. Felly, mae'n ymwneud â chynnal ein diddordeb a chwyddo llais llafur cyfundrefnol o fewn y wlad honno beth bynnag. Ac eto, mae hynny'n rhan o'r hyn y byddwn ni'n ei wneud.
Pan ddaw, wrth gwrs, at yr hyn rydym ni’n ei wneud ein hunain, mae CBC wedi bod yn glir iawn: maen nhw eisiau i ni fod ar y daith gyda nhw. Maen nhw am i ni fod yn bresennol i'w cefnogi yn y wlad yn y gemau, ac roedd yn bleser mawr gallu mynychu sesiwn hyfforddiant cyhoeddus olaf y garfan heddiw a bod yn rhan o'r broses ffarwelio. Ond mae angen i ni gydnabod hefyd, fel cenedl ar wahân o fewn y DU, nad yw'n ymwneud yn unig â p’un a yw Gweinidogion Cymru yno, y realiti yw, os nad ydym ni yno, y bydd cynrychiolaeth gan y Llywodraeth; yn syml, bydd Llywodraeth y DU yno yn y rhanbarth ar ein rhan ni a byddent yn cymryd yr holl ymrwymiadau a chyfweliadau dan gyfarwyddyd y Llywodraeth yn lle Llywodraeth Cymru. Dydw i ddim yn credu mai dyna'r cydbwysedd cywir; rwy'n credu y dylem ni fod yno. Dylen ni fod yn falch o'r tîm a'u cefnogi nhw ac ymgysylltu yn y ffordd y gwnaethom ni ddweud y bydden ni'n ei wneud.
Rwy'n falch o'r ffaith, nid yn unig bod ein cymdeithas bêl-droed ni ond cymdeithasau pêl-droed eraill UEFA, y 10 ohonyn nhw, wedi ymateb i lythyr FIFA, a oedd, yn fy marn i, yn cynnwys barn wael ac yn bryfoclyd, ac fe gafodd yr ymateb yr oedd yn ei haeddu gan wledydd UEFA. Mae pob un ohonyn nhw'n mynd i wisgo'r band braich 'One Love', achos mae'n ddewis nid gan y cymdeithasau ond gan y timau. Ac unwaith eto mae hynny'n siarad â gwerthoedd y mae'r cenhedloedd wedi bod yn eu codi cyn y twrnamaint ac y byddant yn parhau i wneud hynny yn ystod y peth. Ein gwaith ni yw rhoi llwyfan i'r chwaraewyr lwyddo, iddyn nhw godi materion fel maen nhw wedi gwneud yn barod, ac i'r Llywodraeth eu cefnogi a gwneud yn glir, mewn gwirionedd, nid eu gwaith nhw yw bod yn wleidyddion yn hyn i gyd ac mae rôl i ni yn y Llywodraeth. Ac edrychwch, rwy'n gwybod y tro diwethaf i ni gael y sgwrs hon, ar 27 Medi, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi’n dymuno y gallech chi fynd ar yr awyren gyda ni i Qatar. Bydd sgwrs am yr hyn rydyn ni i gyd eisiau gallu ei wneud wrth gefnogi'r tîm a sut rydyn ni'n gwneud hynny, p'un a ydyn ni yn Qatar neu beidio, ac eisiau gweld gwaddol ar y cae ac oddi arno, yng Nghymru, ledled y byd ac, wrth gwrs, yn y rhanbarth.
Prynhawn da eto, Gweinidog. Rwyf eisiau cofnodi fy nghefnogaeth i dîm Cymru. Gobeithio y byddant yn dod yn ôl gyda chwpan y byd. Oni fyddai hynny yn anhygoel? Gobeithio y bydden ni'n eu gweld nhw gyntaf yma yn y Senedd. Ond fe fyddwch chi'n gwybod bod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ledled y DU yn condemnio Gweinidogion yn mynd o Gymru i gwpan y byd Qatar, a gobeithio efallai y byddai Plaid Cymru'n ymuno â ni yn y sefyllfa yna hefyd.
Mae gen i dri chwestiwn i chi yn yr amser sydd gen i. Mae un yn cael ei ailadrodd am y trydydd tro, ac rwy'n gwerthfawrogi bod gennych chi lawer o gwestiynau, ond pam nad aeth Llywodraeth Cymru i COP27 ar y sail eich bod chi'n mynd i fod yn gwario milltiroedd aer, ac eto mae llawer o bobl yn y tîm hwn yn mynd i ffwrdd i Qatar? Yr argyfwng hinsawdd yw ein bygythiad mwyaf, a hefyd o bosib ein cyfle economaidd mwyaf hefyd. Yr ail gwestiwn: pam eich bod chi wedi gwneud penderfyniad i beidio â mynychu gêm Iran yn seiliedig ar hawliau dynol, ac rydych chi'n mynd i Qatar o hyd, sydd fel rydych chi wedi clywed yn cael ei amlinellu ag un o'r cofnodion hawliau dynol gwaethaf mewn perthynas â menywod, pobl hoyw a gweithwyr o wledydd eraill? Ac rwy'n deall eich bod chi eisiau codi gwerthoedd Cymru, ond mae gennych chi swyddfa yn Qatar, rydych chi wedi bod â swyddfa yn Qatar ers nifer o flynyddoedd, ac rwy'n deall eich bod chi'n mynd i barhau gyda hynny. Nid oes angen i Weinidogion Cymru fynd, ac rwy'n eich annog i ailystyried y penderfyniad hwnnw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n cydnabod y safbwynt mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi'i chymryd. Fel y dywedais, mae'n gwbl ddilys i bobl fod â barn wahanol ynghylch a ddylai Gweinidogion Cymru fod yno ai peidio. Wedi'r cyfan, rydym ni’n ffodus i fyw mewn democratiaeth weithredol, lle mae gan bobl farn wahanol, ac rydym ni yma i'w trafod a'u dadlau. O ran Iran, gwnaed y dewis ynghylch a oedd yn gymesur i Weinidogion Cymru fynychu gêm Iran. Y ddau gyfle mawr i hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang yw'r gêm UDA, ac mae'r UDA yn un o'n marchnadoedd allweddol lle rydym ni am ehangu ac ymgymryd â mwy o weithgaredd. Byddaf i yn yr Unol Daleithiau ar adeg y gêm rhwng UDA a Chymru, gyda chyfres o ymrwymiadau gyda’r cyfryngau a chwrdd â chyfleoedd datblygu busnes a chyfleoedd i fuddsoddi. Mae'n gyfle arwyddocaol iawn. A hefyd, ein Prif Weinidog, pwy bynnag y bydd ar ôl i dîm y dynion ennill eu lle eto am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd—rwy'n credu ei bod hi'n iawn fod ein Prif Weinidog ni yno ar gyfer ein gêm gyntaf yn y twrnamaint hwn. Dyma'r digwyddiad mwyaf yn y byd—yn fwy na'r Gemau Olympaidd. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni yno yn cael ein cynrychioli gan Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, nad oedd yn bodoli 64 o flynyddoedd yn ôl wrth gwrs.
O ran cymesuredd mynychu, dyna'r dewis rydyn ni wedi'i wneud ynglŷn â lle rydyn ni'n meddwl y gallwn ni gael y budd mwyaf o'n presenoldeb. Ac wrth gwrs mae'r gêm yn erbyn Lloegr, rwy'n credu, yn un dda i ni, nid yn unig oherwydd fy mod i'n bositif am y canlyniadau, o bosib, ar y cae, ond, os ydych chi'n meddwl am y ffordd mae llawer o'r rhannau o'r byd mewn gwirionedd yn gweld Prydain, maen nhw'n aml yn gweld y DU, Prydain a Lloegr fel bod yn gyfystyr â'i gilydd, yr un fath. Mae cael gêm yn erbyn Lloegr yn y digwyddiad byd-eang mwyaf, rwy'n credu, yn ffordd gadarnhaol iawn o dynnu sylw at y ffaith bod Cymru a Lloegr yn rhannau gwahanol o'r DU, a bydd Gweinidogion Cymru yn cael y cyfle i dynnu sylw at hynny yn ein hymgysylltiadau yn y rhanbarth ac yn wir ledled y byd. Mae'n rhan o'r rheswm y mae ein hymgyrch farchnata yn bwysig i nodi pwy yw Cymru, ble rydyn ni, a beth yw'r cyfleoedd i ymweld ac, yn wir, wrth gwrs, i fuddsoddi yn nyfodol ein gwlad.
Mae pwynt am beth sy'n gymesur a'r cydbwysedd wrth wneud gwahanol bethau, ond mae hefyd yn dod yn ôl i'r pwynt am COP27: beth fydden ni wedi ei gyflawni drwy Weinidogion yn mynd i hynny ar ôl y gynhadledd ddigwyddodd yma yn Glasgow? Ac mae'r cydbwysedd yn ymwneud â defnyddio amser gweinidogol a'r hyn rydyn ni'n meddwl ein bod ni'n ei ennill. Rydyn ni'n credu y byddwn ni'n ennill o gael Gweinidogion yn y ddwy gêm hynny, ac yn wir y gweithgareddau eraill rydyn ni'n eu noddi. A rhan o'r pwynt cael swyddfa yno: dydy bod â swyddfa wedi ei staffio gan weithwyr Llywodraeth Cymru ddim yr un fath â chael presenoldeb gweinidogol. Pan es i Qatar fy hun, a chyn hynny pan es i i'r Emiradau Arabaidd Unedig, roedd amrywiaeth o ymrwymiadau dim ond oherwydd presenoldeb gweinidogol y gwnaethom ni eu sicrhau, a'r realiti yw ei fod yn helpu i agor mwy o ddrysau ac i gael mwy o sgyrsiau, ac mae'n dweud rhywbeth am pa mor o ddifrif rydych chi'n cymryd yr ymgysylltiad a'r ymateb rydych chi'n ei gael yn ôl gan bobl. Nid datblygiad busnes yn unig yw hynny; dyna'r pwynt hefyd am godi ein materion, am fyw ein gwerthoedd a'r datganiadau rydyn ni'n eu gwneud. O gael ein swyddfa’n dweud, 'Dyma pwy yw Cymru', nid yw'r un peth â chael y Prif Weinidog na Gweinidog Cabinet gwahanol yn Llywodraeth y wlad honno yn gwneud y datganiadau hynny, boed yn Qatar neu yn y byd ehangach. Felly, rwy'n credu, gyda pharch, fod rhesymau da dros i ni wneud hynny, fel yr ydym ni, ond rwy'n derbyn bod gan eraill berffaith hawl i fod â safbwynt amgen.
Gweinidog, yn ogystal â hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang, sydd wrth gwrs yn hanfodol, ac yr ydym yn ei gefnogi'n llawn—mae'n hanfodol ein bod hefyd yn manteisio ar yr ymgysylltu a'r brwdfrydedd a'r eiddgarwch newydd gartref, i sicrhau'r effaith gadarnhaol, hirhoedlog yr ydych yn siarad amdano yn agoriad eich datganiad ac wrth gwrs y mae arnom ni i gyd eisiau ei weld. Yn ddelfrydol, byddai gennym ni eisoes y cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru i fanteisio'n wirioneddol ar yr hyn rwy'n siŵr a fydd yn cynyddu'r niferoedd fydd yn eu defnyddio yn ystod ac ar ôl cwpan y byd. Gweinidog, ydych chi'n cytuno bod angen i ni adeiladu ar ein llwyddiant ym myd chwaraeon? Yn anffodus—. Mae'n ddrwg gennyf i. Yn anffodus, mae llwyddiant tîm cenedlaethol Cymru er gwaethaf diffyg buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cyfleusterau chwaraeon dros y ddau ddegawd diwethaf, ac nid o'u herwydd. Ydych chi'n cytuno â mi bod angen i ni adeiladu ar ein llwyddiant ym myd chwaraeon, manteisio ar y brwdfrydedd newydd hwn yr ydym yn ei weld ac y byddwn yn ei weld, ac a ydych chi'n cydnabod yr angen i fynd ymhell y tu hwnt i'r hyn yr ydych chi wedi ymrwymo i gyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru, i fod yn gydradd o leiaf ag Iwerddon, Lloegr a'r Alban a'r hyn y maen nhw'n ei fuddsoddi yn eu cyfleusterau chwaraeon a dod o hyd i sêr y dyfodol yn eu gwledydd? Ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, gobeithio, Gweinidog, y byddwch yn ystyried dod i'r grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon yn arbennig ar gyfer cwpan y byd, a gynhelir fis nesaf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, y BBC ac ITV, fel y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd a thrafod sut orau y gallwn ni elwa yn sgil yr achlysur rhyfeddol hwn. Pob lwc, Cymru.
Fe wnaf i roi sylw i'r cwestiynau penodol, ac yna ymdrin â'r gorffeniad mwy unedig. Edrychwch, fel y gŵyr Laura Anne Jones yn iawn, rydym ni wedi ymrwymo yn y gyllideb gyfalaf i fuddsoddi'n sylweddol mewn gwella cyfleusterau chwaraeon. Mae'r rhaglen fuddsoddi mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—rydym ni wedi sicrhau ein bod yn darparu cyfleusterau nad ydyn nhw'n addas i ysgolion yn unig, ond at ddefnydd y gymuned hefyd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i wneud hynny ac yn falch o wneud hynny. Ond, fel y gŵyr yr Aelod, mae ein gallu i fuddsoddi mwy o gyfalaf yn gysylltiedig â'r cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni wedi gweld toriad ariannol mewn cyfalaf yn y cyfnod adolygu gwariant diwethaf. Rydym ni wedi cael degawd o gyni, ac ni all yr Aelod ddod yma, a hithau wedi bod yn gefnogwr tymor hir o gyni a'r toriadau a wnaed, ac yna mynnu y caiff mwy o arian ei wario er gwaethaf y toriadau ariannol mewn termau real a gawsom ni. Os oes arnoch chi eisiau buddsoddi mwy o arian mewn cyfleusterau chwaraeon, yna mae angen i chi geisio dweud wrthym ni o ble ddaw'r arian hwnnw, yn hytrach na cheisio ei dynnu o'r awyr gyda hudlath. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ergyd wleidyddol siomedig gan y blaid nad yw'n dwyn unrhyw berthynas â realiti, ac roeddwn i'n meddwl y gallai rhywfaint o ostyngeiddrwydd gan Geidwadwyr ar ôl teyrnasiad dros dro trychinebus Truss a Kwarteng fod yn fwy priodol.
O ran eich sylw olaf, os ydw i ar gael, byddwn i'n hapus iawn i ymuno â'r Aelodau i edrych ar waddol ehangach cwpan y byd, ac, yn wir, gall pob un ohonom ni, rwy'n credu, gytuno i gyd: pob lwc, Cymru, Robert Page, a'r holl dîm.
Ie, wir. Pob lwc, Cymru. Felly, dyna ddiwedd ar y datganiad yna. Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ansawdd dŵr. A'r Gweinidog, felly—Julie James.
Diolch, Llywydd. Dŵr yw un o'n hasedau naturiol mwyaf ac mae'n rhan annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae ein sector dŵr yn wynebu heriau brys a digynsail.
Dros yr 20 mlynedd nesaf bydd Cymru'n wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, lefelau'r môr yn codi, a thywydd eithafol amlach a dwys. Bydd yr angen i gyflawni datgarboneiddio, cydnerthedd o ran yr hinsawdd, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella ansawdd ein dŵr yn gofyn am atebion arloesol, newid ymddygiad, a buddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith dŵr.
Mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu. Mae angen dull Cymru gyflawn o gyflawni'n gyflym ac yn sylweddol i wireddu ein huchelgeisiau o ran natur a'r hinsawdd, a rhaid i bob un ohonom ni ddeall ein swyddogaeth o ran cyflawni hynny. Mae dyfroedd ffyniannus yn hanfodol i gefnogi cymunedau iach, busnesau ffynianus a bioamrywiaeth. Er mwyn galluogi hyn, mae angen i ni leihau'r pwysau ar ein dyfroedd, er enghraifft, llygredd maethynnau. Ar hyn o bryd mae dros 60 y cant o'n hafonydd mwyaf gwerthfawr yn methu targedau ffosffad. Er bod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar fywyd gwyllt a chynefin, mae hyn hefyd yn cyfyngu ar ein gallu i adeiladu'r cartrefi carbon isel sydd eu hangen ar ein cymunedau ar y cyflymder sydd ei angen.
Ym mis Gorffennaf y llynedd aeth y Prif Weinidog ati i gynnull uwchgynhadledd lle'r oedd sefydliadau'n addo gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion i fynd i'r afael â llygredd ffosfforws. Ers hynny, sefydlwyd byrddau rheoli maethynnau, yr ydym ni wedi bod yn darparu cymorth ariannol o hyd at £415,000 ar eu cyfer. Mae cronfa ddata o fesurau lliniaru wedi'i chynhyrchu ac ar hyn o bryd mae'n cael ei hystyried gan aelodau o'r grŵp goruchwylio afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datblygu cyfrifiannell maethynnau. Byddwn yn gweithio gyda sir Gaerfyrddin, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol eraill i ddatblygu cyfrifiannell maethynnau genedlaethol y gellir ei haddasu i'w defnyddio ar hyd a lled Cymru. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried dichonolrwydd mesurau tymor byr a bydd yn adrodd yn ôl yng ngwanwyn 2023. Mae cynnig caniatâd dalgylchol wedi cael ei ddatblygu ac yn cael ei ystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae prosiect model marchnad dalgylch wedi'i sefydlu ac ar waith ar ffurf cynllun arbrofol ym Mrynbuga. Ac rydym ni wedi nodi atebion priodol, seiliedig ar natur, a byddwn yn dechrau archwilio eu haddasrwydd mewn dalgylchoedd penodol.
Cynhelir uwchgynhadledd ddilynol ym mis Chwefror i ganolbwyntio ar gynnydd, a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu i leihau crynodiadau maethynnau a datblygu cyfres o fesurau i alluogi datblygu cynaliadwy i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â rhaglen o weithiau cyfalaf gwerth miliynau o bunnoedd, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau niferus sy'n wynebu afonydd Cymru, gan gynnwys effeithiau ar ansawdd dŵr. Daw'r pwysau allweddol ar ddyfroedd o addasiadau diriaethol neu newidiadau o waith dyn i'r cynefin naturiol; llygredd o garthion a dŵr gwastraff; llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth; llygredd o ardaloedd gwledig; a llygredd o fwyngloddiau. Mae'r rhaglen gyfalaf yn cynnwys prosiectau i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn stociau eogiaid a sewin, adfer cynefin afonydd nodweddiadol er buddion lluosog, gan gynnwys ansawdd dŵr, ynghyd â chyfrannu at lesiant pobl.
Rwy'n awyddus iawn i sicrhau'r buddsoddiad a'r arian mwyaf posibl, a byddwn yn annog sefydliadau i gydweithio. Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein datganiad blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat, sy'n darparu'r fframwaith i gwmnïau dŵr gefnogi ein hamcanion strategol. Gan ganolbwyntio ar yr argyfyngau hinsawdd a natur, gwelliannau amgylcheddol, cydnerthedd, iechyd asedau a chwsmeriaid a chymunedau, mae'n hanfodol bod buddsoddiad cwmni dŵr yn chwarae rhan i leihau llygredd.
Nid oes un mesur a fydd yn datrys yr argyfwng hwn ac nid oes ateb cyflym. Er enghraifft, mae mynd i'r afael â gorlifiadau storm yn un o'r nifer o elfennau y mae angen mynd i'r afael â nhw os ydym ni am wella ansawdd afonydd yng Nghymru. Mae'r cwmnïau dŵr wedi bod yn gweithio dros sawl blwyddyn i wella asedau sy'n perfformio'n wael. Mae hyn yn cynnwys gwella'r monitro er mwyn adnabod lle mae angen cymryd camau pellach a blaenoriaethu camau i fynd i'r afael â niwed ac effaith amgylcheddol.
Bydd angen buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau dros y blynyddoedd nesaf i wireddu ein huchelgeisiau, ac rwy'n awyddus i sicrhau bod pob ceiniog o fuddsoddiad yn darparu ar gyfer cwsmeriaid, cymunedau a'r amgylchedd wrth osgoi creu neu waethygu anghydraddoldeb. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ni ein rhan i'w chwarae. Mae taflu dim ond un cadach gwlyb i lawr y tŷ bach yn ddigon i ddechrau rhwystr ac yn peryglu achosi llifogydd trychinebus mewn cartrefi, gan arwain at ofid a chost sylweddol. Bob tro rydym ni'n palmantu dros ddreif neu ardd, rydym ni'n ychwanegu at y pwysau ar ein rhwydweithiau draenio.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i wella ansawdd dŵr, a gellir gwneud hynny dim ond os yw pawb yn ymdrechu a Chymru gyfan yn mynd ati, lle mae'r Llywodraeth, rheoleiddwyr a'r holl sectorau perthnasol yn gweithio gyda'i gilydd nawr a dros y tymor canolradd a chanolig i gyflawni canlyniadau tymor hir i wella ansawdd dŵr.
Mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden sy'n gysylltiedig â dŵr fel nofio dŵr agored wedi cynyddu'n aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yng Nghymru, mae nifer y dyfroedd ymdrochi dynodedig hefyd wedi cynyddu, ond rwy'n awyddus i gael barn pobl am beth arall y gallwn ni ei wneud i annog hyn drwy arolwg nofwyr dŵr mewndirol ac arolwg tirfeddiannwr dŵr mewndirol yn gynnar yn 2023. Rydym wedi nodi pum lleoliad o ddŵr mewndirol yr hoffem eu defnyddio i arbrofi gyda ffordd newydd o drin dyfroedd ymdrochi y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith hwn wrth i ni symud tuag at ddynodi dyfroedd mewndirol.
Ym mis Mai eleni fe wnaethom ni gomisiynu adroddiad annibynnol i gynnal adolygiad ôl-weithredu o'r drefn systemau draenio cynaliadwy yng Nghymru. Rwy'n disgwyl yr adroddiad hwn yng ngwanwyn 2023 a byddaf yn defnyddio hyn i nodi dewisiadau polisi i sicrhau bod cynlluniau systemau draenio cynaliadwy nid yn unig yn cyflawni eu swyddogaeth o arafu llif dŵr wyneb, ond hefyd yn darparu cynefinoedd bywyd gwyllt. Bydd cynyddu systemau draenio cynaliadwy ledled Cymru yn arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer bywyd gwyllt, gan gyfrannu at ein targedau bioamrywiaeth.
Rydym ni'n buddsoddi £3.1 miliwn yn ein—. Mae'n ddrwg gennyf, fe roddaf fy nannedd yn ôl i mewn. Rydym yn buddsoddi £3.1 miliwn yn ein rhaglen arbrofi rheoli llifogydd naturiol tair blynedd, a gynlluniwyd i'n helpu i ddeall sut mae rheoli llifogydd naturiol yn gweithio a sut orau y gallwn ni gyflawni'r mathau hyn o gynlluniau. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 15 prosiect ar draws Cymru, y disgwylir iddyn nhw leihau'r risg o lifogydd i 800 eiddo ar ôl eu cwblhau. Bydd y rhan fwyaf o'r prosiectau hyn hefyd yn gwella ansawdd dŵr.
Rwyf hefyd wedi ymrwymo i adfer cynefinoedd morol yng Nghymru. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod amgylchedd morol Cymru yn parhau i fod yn gydnerth i genedlaethau'r dyfodol. Rwy'n cefnogi prosiectau adfer cynefinoedd hanfodol, fel prosiect morwellt Cymru, ac yn croesawu'r trafod parhaus â Llywodraeth Cymru, sy'n hanfodol i blethu i'r gwaith o gyflawni ein hymrwymiad fel llywodraeth.
Rwyf wedi bod yn glir iawn bod angen i ni ystyried dalgylchoedd yn eu cyfanrwydd, gan ganolbwyntio ar gydweithrediad aml-swyddogaethol ac atebion sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd dŵr. Trwy fynd ati fel hyn a gwella ymgysylltu â'r gymuned, byddwn yn gallu rhoi ystyriaeth well i amgylchiadau a blaenoriaethau lleol. Gall dinasyddion a grwpiau lleol fod â rhan allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â llygredd ansawdd dŵr drwy ddarparu gwybodaeth fonitro ac ymwybyddiaeth gyhoeddus.
Rwy'n awyddus i weithio gyda gwyddonwyr lleyg i ddeall sut y gall eu gwaith gefnogi a llywio gwell dealltwriaeth o'r ystod o effeithiau ar ein dyfroedd. Rhaid i bob plaid weithio gyda'i gilydd ac mae'n rhaid i Gymru gyfan fynd ati i ymdrin â'r risgiau lluosog sy'n effeithio ar ein llynnoedd, afonydd a'n nentydd a sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ansawdd ein dyfrffyrdd. Rwy'n annog pob sector a sefydliad i weithio gyda'n gilydd, i fod yn dryloyw, yn agored ac yn hyblyg, sef yr ymateb sydd ei angen arnom ni i fynd i'r afael o ddifrif â'r materion ansawdd dŵr sy'n ein hwynebu ledled Cymru. Diolch.
Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod ac fe wnaethom ni wrthwynebu ar y meinciau hyn Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r—o, diolch am eich datganiad, gyda llaw, Gweinidog—y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Rwy'n credu fod honno'n frwydr yr ydym ni wedi ei cholli, ac rwy'n teimlo trueni dros y ffermwyr hynny. [Torri ar draws.] Arhoswch funud. Rwy'n teimlo trueni dros y ffermwyr hynny sydd heb unrhyw gofnod o achos o lygredd amaethyddol yn eu herbyn, oherwydd maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu cosbi.
Gadewch i mi ei gwneud hi'n glir o'r meinciau hyn: does arnom ni ddim eisiau gweld llygredd. Fi yw Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd ac mae hynny'n cynnwys yr amgylchedd. Ac rydym ni i gyd, yn Geidwadwyr Cymreig angerddol, o'r farn bod llygru ein hafonydd, ein cyrsiau dŵr, y môr ac unrhyw beth yn annerbyniol, ac rydym ni wedi galw ers tro ar y meinciau yma i chi ddwyn y cwmnïau dŵr i gyfrif. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hefyd bod y sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud am gadachau gwlyb a phethau felly—. Rwyf wedi mynd lawer tro ar ôl cael negeseuon e-bost yn dweud, 'Mae cannoedd o bysgod marw', felly rydych chi'n mynd a—. Mae Dŵr Cymru, i fod yn deg, yn ymchwilio, ac o ganlyniad, mewn gwirionedd, yn yr achosion hynny—. Nid yw unrhyw un o'r achosion o lygredd yn fy etholaeth, ers i mi fod yma, mewn gwirionedd wedi bod yn gysylltiedig â gweithgareddau ffermio. Wrth fynd yn ôl i'r ddadl benodol honno, ni chydnabuwyd erioed y byddai £20 miliwn yn ddigon.
Mae gen i gwestiwn ichi yn y fan yma. Ar adeg pan fo Jeremy Clarkson ac, wrth gwrs, fy ffermwr yn Llanfairfechan, Gareth Wyn Jones, yn siarad nawr, Gweinidog, mor huawdl ar ran ffermwyr, gan ddweud bod arnyn nhw eisiau cael gwared ar y mynyddoedd hyn o reoliadau sy'n ceisio microreoli pob erw, a wnewch chi edrych, wrth symud ymlaen, i weld sut allwch chi weithio'n well gyda'n ffermwyr?
Nawr, wrth gwrs, soniodd fy nghyd-Aelod James Evans heddiw am ffosffadau a'r mater tai. Rydych chi wedi cyflwyno'r ddadl i ni: 'Edrychwch, allwch chi ddim ei chael hi y ddwy ffordd. Allwch chi ddim dweud eich bod yn poeni am yr amgylchedd ac yna cytuno i lygredd.' Nid ydym yn cytuno â llygru. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw bod bron i 10,000 o dai yn sownd yn y system gynllunio. Nawr, y cyfan fyddwn i'n ei ddweud yw, heb os nac oni bai nid ydym ni eisiau'r niferoedd mawrion hynny, ond os na cheir adeiladu'r tai hynny, eglurwch hynny wrth y datblygwyr a dweud na chânt fyth ganiatâd cynllunio. Y ffaith yw bod yna rwystr yn y system gynllunio.
Llygredd carthion yw'r llygrydd mwyaf yn nyfroedd ymdrochi Cymru, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, ac un peth nad oeddwn i'n gwybod amdano tan yn ddiweddar, a ninnau wedi cael rhai achosion o lygredd, yw pan fo aelodau'r cyhoedd, naill ai drwy eu datblygwyr neu—. Maen nhw, os mynnwch chi, yn gysylltiadau anghyfreithlon. Rwy'n canfod mwy a mwy o'r achosion hyn yn ymrithio, lle mae afon Conwy yn cael ei llygru ac yna, wrth olrhain yr achos yn ôl, mae'n tarddu o ddatblygiad preifat mewn gwirionedd neu mae'n dod o dai yn rhywle, a dyw'r cwmnïau dŵr ddim wastad yn gallu ei adnabod. Felly, beth ydych chi'n ei wneud, Gweinidog, i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd, pan fo nhw'n datblygu eiddo neu'n ailddatblygu eiddo, yn gwybod y rheolau o ran cysylltu â'r system ddraenio? Ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni fod yn deddfu nawr i sicrhau nad yw cwmnïau dŵr yn cael gadael achosion o ryddhau carthion heb eu datrys—rhai am sawl blwyddyn?
Rydych chi wedi honni y byddai'n costio £9 biliwn i £14 biliwn i gael gwared ar orlifoedd storm cyfunol. Canfuwyd bod 184 o bibau carthion yn gweithredu heb drwyddedau yng Nghymru, gan ailadrodd yr hyn yr wyf newydd ei ddweud, gyda dim ond un cais am drwydded yng Nghymru ym mis Mawrth 2022. Ond eto, yn 2022, roedd 3,299 o achosion rhyddhau o'r pibellau hyn heb drwyddedau, ac mae hynny wedi cynyddu 43 y cant ers 2020.
Felly, yn y bôn, yr hyn rwy'n ei ddweud yw nad yw'r hyn sy'n digwydd nawr yn gweithio. Felly, a fyddwch yn ymrwymo, Gweinidog, i weithredu ar y cynnydd cyflym mewn digwyddiadau rhyddhau, gan ymlid y rhai sy'n rhyddhau gwastraff yn anghyfreithlon? A gadewch i ni gael—. Dydw i ddim yn hoffi'r term 'cyfannol', ond gadewch i ni gael dull cynhwysfawr, amlochrog, fel ein bod yn rhoi terfyn, unwaith ac am byth, ar lygru'n dyfrffyrdd. Diolch.
Wel, diolch, Janet. Wyddoch chi, unwaith eto, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi dynnu sylw at y gwrthddywediad yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud. Dydych chi ddim eisiau llygredd. Dydych chi ddim eisiau'r rheoliadau llygredd amaethyddol. Mae'r syniad nad yw unrhyw amaethyddiaeth yng Nghymru yn achosi llygredd, ei fod i gyd yn fai'r cwmnïau dŵr ac adeiladwyr tai yn ffwlbri.
Wrth gwrs, yr hyn sydd ei eisiau arnom ni yw'r union beth a ddywedais yn fy natganiad, a'r hyn a bwysleisiodd y Prif Weinidog yn yr uwchgynhadledd yn y Sioe Frenhinol. Mae angen i bob sector roi'r gorau i feio'r sectorau eraill a cheisio rhoi trefn ar ei dŷ ei hun. Yr hyn mae arnom ni ei eisiau yw ffermwyr sy'n rhoi'r maethynnau cywir yn y lle iawn ar yr adeg iawn, fel nad yw'n rhedeg i'r afonydd. Mae angen i ni eu helpu nhw i wneud hynny. Mae angen i ni eu helpu i wneud y profion pridd ar eu tir sy'n gwneud iddyn nhw ddeall pa faetholion sy'n angenrheidiol. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr bod ffermwyr yn cael eu hariannu'n iawn ac, yn wir, eu bod wedi'u hyfforddi'n iawn i ddeall beth yw'r gwahaniaeth.
Rydym ni'n gweld hyn drwy'r amser. Rwy'n ei weld drwy'r amser, lle rwy'n byw. Rydych chi'n gweld ffermwr yn chwalu tail ger afon yn y glaw. Wel, gallwch wylio beth sy'n digwydd pan fydd hynny'n digwydd. Felly, wyddoch chi, nid yw'r ffermwr yn ceisio llygru'r afon honno yn fwriadol, ond mae'n defnyddio arfer sy'n sicr o arwain at y canlyniad hwnnw. Felly, mae angen y rheoliadau llygredd amaethyddol ar waith oherwydd mae angen i ni gael y ffermwyr i ddeall beth maen nhw'n ei wneud. Mae'n arbed arian iddyn nhw yn y tymor hwy. Does neb eisiau rhoi maethynnau ar y pridd nad yw'n angenrheidiol, ac mae angen i ni ddiogelu'r afonydd rhag hynny.
Yn yr un modd, o ran gorlifiadau storm cyfunol, rydym ni wedi ei gwneud hi'n blaen iawn yn wir i Ofwat—ac, yn wir, i Lywodraeth y DU—yn eu cyfarwyddiadau i Ofwat, a'n cyfarwyddiadau ni i Ofwat, mae angen iddyn nhw reoleiddio'r cwmnïau dŵr, fel eu bod yn buddsoddi yn y lle cywir. Ond mae angen y mecanwaith prisiau i adlewyrchu hynny arnom ni hefyd. Mae'r pethau yma'n fwy cymhleth na dim ond dweud wrth bobl am wneud rhywbeth. Mae angen iddyn nhw gael y strategaethau buddsoddi cywir i allu gwneud hynny.
Y peth arall y mae angen i ni ei wneud yw bod angen i bobl ysgwyddo eu cyfrifoldeb eu hunain yn hyn o beth. Ers amser maith yng Nghymru, mae angen caniatâd cynllunio i balmantu dros eich gardd flaen, ond dydy'r rhan fwyaf o awdurdodau ddim yn gorfodi hynny a dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwybod hynny. Pan fyddwch chi'n palmantu dros eich gardd flaen—mae Joyce yn y Siambr nawr, ac mae Joyce wedi hyrwyddo hyn dros flynyddoedd lawer—mae angen i bobl ddeall nad yw'r dŵr hwnnw'n cael ei amsugno i'r ddaear o amgylch eu tŷ bellach, ond yn rhedeg i'r cwteri. Yna, mae gennych chi broblem enfawr gyda gorlifoedd storm llawer, llawer mwy y mae'n rhaid i'r cwmnïau dŵr ymdrin â nhw wedyn. Felly, eto, bydd yn rhaid ymateb i hynny. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym ni'n ychwanegu at y broblem honno.
O ran yr adeiladu tai y gwnaethoch chi sôn amdano, wrth gwrs dydw i ddim yn mynd i ddweud wrthyn nhw nad ydyn nhw'n cael adeiladu'r tai hynny. Yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud yw'r hyn a nodais yn fy natganiad: rydym ni'n adolygu'r drefn systemau draenio cynaliadwy hynny, rydym yn adolygu beth fyddai angen ei wneud pe baech chi eisiau adeiladu'r tai ar ochr yr afonydd hynny yn yr ardaloeddd cadwraeth arbennig lle mae problemau, a byddwn yn cyhoeddi'r hyn y gellir ei wneud i ganiatáu adeiladu'r tai hynny. Rwyf eisiau nhw yn fwy nag unrhyw un arall yn y Siambr hon, ond mae arnaf i hefyd eisiau gwneud yn siŵr nad yw'r bobl sydd wedyn yn byw yn y tai hynny, eu hunain yn llygru'r afon y bydden nhw, mae'n siŵr, yn hapus iawn i fyw yn agos ati, ac mae hynny'n wir am ein holl ardaloedd arbennig ni.
O ran cysylltiadau anghyfreithlon, un o'r pethau y gall pobl ei wneud yw sicrhau nad yw eu tŷ hwythau mewn gwirionedd wedi'i gysylltu'n anghyfreithlon. Mae'n anodd iawn gennyf i gredu bod adeiladwyr yn anfwriadol a heb sylweddoli yn cysylltu'r tŷ nid â'r garthffos ond â'r afon leol. Mae hynny'n amlwg yn drosedd. Felly, byddwn yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i allu cymryd camau gorfodaeth gwell yn erbyn pobl sydd wedi gwneud hynny. Yn anffodus, mae llawer o'r achosion hyn yn hanesyddol. Pan symudais i fy nhŷ i, sydd tua 30 o flynyddoedd yn ôl bellach, roedd y cysylltiad yno'n wael. Rydym ni wedi ei gywiro ers hynny. Felly, mae llawer o dai hŷn yn y sefyllfa honno, felly mae angen i bobl fod yn effro i hynny mewn gwirionedd a gwirio eu hunain sut gyswllt sydd gan eu haelwyd hwythau.
Ac, oes, mae angen i ni i gyd ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb personol am yr hyn a daflwn i lawr y tŷ bach. Llawer o bethau sydd yn y ffilmiau a welsom ni—gwyliais yr un gan George Monbiot ynghylch Afon Wysg yn ddiweddar; mae'n ddigon i wneud i chi grio, os nad ydych chi wedi ei weld. Ond mae'r stwff sy'n arnofio heibio i gyd yn bethau na ddylai fyth fod wedi cael eu rhoi yn y system garthffosiaeth yn y lle cyntaf. Felly, mae angen i bobl fod yn ofalus iawn o ran rhoi cadachau gwlyb a phob math o bethau eraill i lawr y tŷ bach. Gwaredwch nhw'n ofalus gyda'ch gwastraff ac yna byddwn yn ymdrin â nhw'n briodol ac ni fyddant yn achosi llygredd.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Roedd nifer ohonom yn bryderus ac yn ffieiddio clywed eleni fod—wel, rydyn ni wedi clywed y ffigurau yn barod—cymaint o ddigwyddiadau o garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i gyrsiau dŵr Cymru. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod, dydy’r rhain ddim yn cynnwys nifer o orlifiadau storm nas caniateir, na gorlifoedd nad ydynt yn cael eu monitro gan gwmnïau dŵr. Ydyn ni’n gwybod niferoedd go iawn yr achosion sydd wedi digwydd ers daeth y datguddiadau yna mas? Oes gennym ni syniad o ba mor wael y mae’r broblem yn parhau i fod, yn enwedig, efallai, y ffigurau mwy cudd?
Materion eraill sy'n peri pryder o ran ansawdd dŵr—ac rydych chi wedi cyffwrdd â hyn yn barod, Weinidog—ydy’r risgiau o lygredd drwy lawiad cynyddol oherwydd newid yn yr hinsawdd ac ehangu trefol, sydd i gyd yn peri risgiau cynyddol yn gysylltiedig â dŵr ffo llygredig, mwy o wastraff dynol, a mwy o risg o lifogydd, gyda mwy o bobl yn dod i gysylltiad â dŵr llygredig. Hoffwn i wybod, os gwelwch yn dda, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith newid hinsawdd, twf yn y boblogaeth, a threfoli ar ansawdd dŵr a risgiau llygredd dŵr. Hoffwn i hefyd, Weinidog, plis, i chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r effeithiau hyn.
Nawr, y darn nesaf rwy'n mynd i godi, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydyn ni yn aml yn ei drafod yn y Siambr, a hefyd yn y pwyllgor. Pan fyddwn ni’n edrych ar beth sy’n digwydd yn yr Alban—. Rwy’n gwybod nad yw’n fater byth o, 'Wel, mae’n rhaid i ni wastad ddilyn beth sy’n digwydd yn yr Alban achos mae e’n digwydd yn yr Alban’, ond byddai’n ddefnyddiol i wybod beth yw'ch asesiad chi am hyn ar hyn o bryd. Mae Safonau Amgylcheddol yr Alban wedi dechrau ei rôl statudol fel corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol, ac er i randdeiliaid Cymru argymell camau cyfatebol i Gymru, nid oes gennym ni ymrwymiad pendant o ran yr amserlen am bryd fyddwn ni’n gallu cau’r bwlch llywodraethu yng Nghymru. Mae angen arnom ni sylfaen lywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru. Dwi’n meddwl y byddai hwnna’n rhywbeth a fyddai’n gallu—. Fyddai hwnna ddim yn silver bullet mewn unrhyw ffordd, ond byddai'n helpu gymaint. Felly, byddai unrhyw wybodaeth ychwanegol y byddech chi’n gallu ei rhoi i ni o ran yr amserlennu, byddai hwnna’n ddefnyddiol. Ac os byddech chi’n gallu ymrwymo’n gadarn i gyflwyno’r ddeddfwriaeth oedd wedi’i haddo am egwyddorion amgylcheddol, byddai’n hwnna’n ddefnyddiol.
Gweinidog, y sylw olaf yr oedd arnaf i eisiau ei wneud mewn gwirionedd oedd am yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud ar ddiwedd eich ymateb i Janet. Mae'r materion anodd, cymhleth ynghylch pobl yn taflu pethau na ddylen nhw i lawr y tŷ bach, gan arwain at bethau ffiaidd na ddylai fod yn ein dyfrffyrdd yn mynd i mewn i'n dyfrffyrdd, mwy o berygl o lifogydd, yr holl bethau gwahanol hyn—. Yn gyntaf, sut ydych chi'n meddwl y gallwn ni—? Mewn gwirionedd, na, nid yn gyntaf—dyma'r cwestiwn. Rwyf newydd sylweddoli nad oedd yna 'yn ail' i fod. Sut allwn ni ddatrys y mater gwirioneddol ddyrys, cymhleth hwn nad yw hi, gyda phobl, bob amser yn wir nad ydyn nhw'n sylweddoli mai dyma'r peth anghywir i'w wneud? Mae rhai ohonyn nhw'n sylweddoli mai dyma'r peth anghywir i'w wneud, ond am gymaint o wahanol resymau cymhleth, maen nhw'n gwneud hynny beth bynnag. Dydw i ddim yn sôn am gosbi pobl yn y fan yma. Sut allwn ni gynyddu ymdeimlad o gyfrifoldeb cymunedol ynghylch hyn? Rwy'n gwybod bod hwn yn gwestiwn anodd iawn, ond sut allwn ni gael mwy o bobl sy'n byw yn ein cymunedau, o ddyddiau eu plentyndod, i fod eisiau gwneud y peth iawn, i fod eisiau gofalu mwy am yr amgylchedd? Does neb eisiau i hyn i gyd ddigwydd, ac eto mae'r pethau anghywir yn digwydd sy'n arwain at hynny. Felly, os oes unrhyw lygedyn o olau y gallwch chi ei roi i ni ynghylch hynny, byddai'n ddefnyddiol. Diolch.
Diolch, Delyth. O ran y glaw cynyddol—. Wel, nid dim ond y glaw cynyddol, mewn gwirionedd. Un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yw hafau poeth a sych ac yna glaw eithafol. Rydym yn dal yn gweld sychder yn y rhan fwyaf o Gymru. Nid yw ein cronfeydd dŵr wedi codi i'r fan ble y dylen nhw fod eto, er gwaethaf y glaw a gawsom yn ddiweddar, oherwydd mae'n ysbeidiol. Mae llawer ohono'n disgyn yn sydyn ac yna mae'n ysbeidiol. Gallech ddweud bod heddiw yn ddiwrnod glawog, ond doedd gan rannau helaeth o heddiw ddim glaw. Felly, rydym ni'n gwylio newid hinsawdd yn digwydd. Ac mae hynny'n dilyn haf poeth a sych pan sychodd y tir yn grimp. Felly, yn lle amsugno'r dŵr hwnnw, mae'n rhedeg i ffwrdd, ac mae hynny'n broblem wirioneddol. Mae'n broblem wirioneddol i ni sicrhau ein bod yn rhoi systemau cydnerth ar waith sy'n caniatáu amsugno dŵr yn well pan ddaw o'r diwedd.
Un o'r rhesymau pam yr ydym ni wir yn pwysleisio nawr mai'r hyn rydych chi'n ei wneud yn eich cartref eich hun sydd wir yn bwysig yw oherwydd os gall y dŵr hwnnw amsugno i'r gerddi—hyd yn oed y gerddi blaen bach sydd gan bobl mewn ardaloedd trefol—mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o ddŵr sy'n rhedeg ymaith. Ac os caf grwydro am un eiliad, peidiwch â gosod AstroTurf. Darllenwch ychydig am yr hyn sydd mewn AstroTurf a beth sy'n digwydd i blant sy'n chwarae arno, a'r cyfansoddion cemegol sy'n mynd i mewn iddyn nhw wedyn. Ymysg y llawer iawn o bethau rwy'n gobeithio o'n deddfwriaeth plastigion, Llywydd, ar ôl i ni ei phasio yn y pen draw, yw y gallwn ni edrych yn fuan iawn ar AstroTurf, oherwydd ei fod yn erchyll. Yr hyn mae pobl yn chwilio amdano yw lawnt werdd hyfryd. Dyw hi ddim mor anodd â hynny i dyfu lawnt werdd, mewn gwirionedd. Felly, rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda'n plant ysgol fel rhan o'n cwricwlwm newydd. Dyma ddinasyddion hyddysg o'r byd y mae arnom ni eu heisiau, sy'n deall effaith eu gweithredoedd nhw ar y blaned y maen nhw'n byw arni.
Y peth arall y byddwn ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw gwahardd amrywiol fathau o blastig untro, felly wedyn nid fyddan nhw'n gallu cael eu taflu i lawr y tŷ bach—y ffyn cotwm clasurol a'r ffyn troi a phob math o bethau eraill y mae pobl yn llwyddo i'w taflu i lawr y tŷ bach. Ac yna, rwy'n mynd yn ôl i'r hyn yr ydw i wedi'i drafod yn aml yn y Siambr hon hefyd, a byddaf yn sôm amdano wrth Lywodraeth y DU unwaith eto, sef labelu. Rwy'n credu bod ganddom ni broblemau gwirioneddol gyda labelu. Mae rhai pethau'n cael eu labelu fel pe baen nhw'n fioddiraddadwy neu bod modd eu taflu i lawr y tŷ bach, fel cadachau gwlyb y gellir eu gwaredu. Nid oes y fath beth â chadach gwlyb y gellir ei roi lawr y tŷ bach. Mae siarad â Llywodraeth y DU am yr hyn y gellir ei wneud i'w labelu i rymuso pobl i wneud y dewisiadau cywir yn bwysig iawn, mewn gwirionedd. Felly, byddwn ni'n gwneud hynny hefyd.
O ran y corff amgylcheddol, yn amlwg, rydym ni wedi trafod hyn droeon. Rwy'n hollol benderfynol o sefydlu corff amgylcheddol gyda'r targedau bioamrywiaeth i'w gweithredu. Rydym ni'n dilyn yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban yn agos iawn. Byddwn yn dysgu'r gwersi o hynny, ac felly pan fyddwn yn gwneud hynny, bydd gennym y fantais o fod wedi dysgu'r gwersi hynny. Rwy'n hapus iawn i ddweud unwaith eto y byddwn yn gwneud hynny. Rydym ni'n mynd, rwy'n gobeithio, i COP15 yng Nghanada, lle byddwn yn gobeithio chwarae rhan fawr yn yr hyn sy'n digwydd o ran y targedau 30x30, a sut y gallen nhw gael eu gweithredu yn yr hyn a elwir yn wladwriaethau is-genedlaethol at y diben hwn—is-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig. Ac fe fydd y Gynghrair Dan2 yn edrych ar hynny hefyd, felly byddwn ni'n gallu helpu ein gilydd gyda hynny.
O ran hynny, byddwn hefyd yn bwriadu gweithredu, fel y dywedais yn fy natganiad, cyfres gyfan o atebion naturiol yn ymwneud â dŵr. Mae gennym ni rai ar waith ar hyn o bryd. Wn i ddim a yw Mike Hedges yn y Siambr—dydy e ddim. Yn etholaeth Mike Hedges—efallai eich bod wedi fy nghlywed yn sôn amdano—
Mae e y tu ôl i chi.
O, rydych chi yna. Mae'n ddrwg gennyf i, Mike. Yn union y tu ôl i mi, Mike. Mae gennym ni amddiffynfa llifogydd Tawe, sy'n ateb naturiol yn y fan yna. Mae afon Tawe'n llifo allan i'r hyn a fyddai wedi bod yn rhan o'i gorlifdir naturiol. Mae'n wely cyrs. Mae ganddo'r fioamrywiaeth fwyaf anhygoel sydd wedi dychwelyd i'r rhan honno o Abertawe, ac mae wedi atal afon Tawe rhag gorlifo ar ei hyd am gyfnod hir iawn. Mae'n hynod o lwyddiannus ac, mewn gwirionedd, ac mae'n bwysig iawn fod plant ysgol lleol yn mynd i weld beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n gwneud hynny. Felly, mae gennym ni'r rhaglenni hyn ar waith, ac mae'r cyhoeddiadau a wnes i yn ystod fy natganiadau yn cyflwyno'r wybodaeth honno ar draws Cymru mor gyflym ag y gallwn ni.
Ac ar y gair, fel petai, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. A gaf i groesawu datganiad y Gweinidog? Mae'r Gweinidog yn gywir: dros yr 20 mlynedd nesaf—mewn gwirionedd, y 50 mlynedd nesaf—mae Cymru'n wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach, sychach, lefelau'r môr yn codi a thywydd eithafol mwy aml a dwys. Roedd llawer ohonom ni a fagwyd yn y 1960au a'r 1970au wedi arfer â glaw ysgafn parhaus; nawr mae gennym ni gyfnodau hir, sych, a glaw trwm iawn rhyngddyn nhw, sy'n gallu arwain at lifogydd, yn aml mewn ardaloedd na welsant lifogydd o'r blaen. Ar hyn o bryd, mae dros 60 y cant o afonydd yn methu targedau ffosffad, sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywyd gwyllt. Mae llygredd o garthion a dŵr gwastraff yn effeithio ar afonydd ledled Cymru, gan gynnwys Afon Tawe. A yw'r Gweinidog yn cytuno na allwch chi barhau i roi ffosffadau, nitradau a charthion yn ein hafonydd heb effeithio ar ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth? Dydy o ddim yn diflannu, mae o'n dal yno. Mae mynd i'r afael â gorlif oherwydd stormydd yn un o'r sawl elfen sydd angen mynd i'r afael â nhw os ydym ni am wella ansawdd afonydd yng Nghymru. Mae carthion heb eu trin yn cael eu rhyddhau'n rheolaidd yng ngwaith trin Trebanos yn etholaeth Castell-nedd Jeremy Miles ac mae'n effeithio ar Afon Tawe, gan achosi problemau i bysgotwyr a phlant sy'n chwarae yn nes i lawr yr afon, sy'n cynnwys eich etholaeth chi a fy un i, Gweinidog. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen gweithredu, gan gynnwys deddfwriaeth, i atal rhyddhau carthion amrwd i afonydd? Oni bai ein bod ni'n deddfu, ni fydd y cwmnïau dŵr yn gwneud dim.
Diolch, Mike. Fel y dywedais o'r blaen, rydym ni wedi bod yn gweithio gydag Ofwat i wneud yn siŵr, yn yr adolygiad pris nesaf ar gyfer cwmnïau dŵr, bod y gallu a'r angen i fuddsoddi mewn atal all-lif carthion i afonydd, yn enwedig y llifoedd carthion cyfun, yn angenrheidiol iawn a bod modd cyflwyno rhaglen fuddsoddi. Mae'n bwysig iawn i ni fod y mecanwaith prisiau yn cael ei roi ar waith i alluogi, yn arbennig, i Dŵr Cymru fuddsoddi, gan fod Dŵr Cymru yn gwmni nid-er-elw. Felly, rydym ni wir wedi bod yn pwysleisio i Ofwat bod yn rhaid i'r model prisiau y maen nhw'n ei weithredu fod o fudd i gwmni nid-er-elw, fel y gall fuddsoddi mwy. Cafodd Jane Hutt a minnau sgwrs ddiddorol iawn gyda nhw a chyda'r elusennau dŵr am fforddiadwyedd hynny, yn ogystal â'r gallu i fuddsoddi. Felly, rydym ni'n sicr yn gweithredu ynghylch hynny, Mike.
Dim ond o ran y ffosffadau a'r ardaloedd cadwraeth arbennig, mae gennym ni gyfres gyfan o raglenni cyfalaf ar waith yr ydym ni'n gobeithio eu cyflwyno ledled Cymru. Mae gennym y prosiect dalgylch cyfle y gogledd-orllewin, sy'n targedu erydiad glannau afonydd a achosir gan dda byw yn mynd i afonydd, cyflwr cynefin torlannol gwael ac effaith llygredd gwasgaredig ar safleoedd gwlyptir sensitif. Mae hynny yng Nghlwyd, Conwy ac Ynys Môn. Mae prosiect misglen berlog dŵr croyw, sy'n ymwneud â chydnerthedd afonydd a datblygu buddion i ansawdd dŵr—a gallaf ddweud yn slei bach yn y fan yna mai fi yw'r hyrwyddwr wystrys brodorol yn y fan yna, Llywydd, felly rwy'n frwd iawn dros y prosiect hwnnw hefyd. Ac mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, ochr yn ochr â phrosiect y pedair afon, sy'n gweithio gyda thirfeddianwyr i leihau llif maethynnau a gwaddodion i Afon Dyfrdwy trwy ddarparu ar gyfer ymyriadau ar y fferm. Mae gennym ni amrywiaeth o brosiectau o'r math hwnnw, Mike, lle byddwn yn dysgu ohonyn nhw ac yna'n ceisio eu cyflwyno nhw'n iawn ar draws afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Roeddwn yn wir yn arbennig o falch o glywed y cyfeiriad at nifer y mentrau cyfredol, gan gynnwys yr un yng Nghyngor Sir Gâr a'r gyfrifiannell maethynnau newydd ei datblygu ac adfer cynefinoedd critigol. Fel y dywedwch chi, mae dyfroedd ffyniannus yn hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau iach, busnesau ffyniannus a bioamrywiaeth, a gall ein cymunedau amaethyddol chwarae rhan wrth gyflawni hyn. Felly, o gofio cyflwyniad cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'r Bil amaeth, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cyd-Aelod y Gweinidog materion gwledig i sicrhau y caiff ffermwyr eu gwobrwyo am eu hymdrechion i adfer cynefinoedd hollbwysig fel afonydd, llynnoedd a phyllau dŵr ar eu tir? Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr am hynna. Wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths a minnau wedi bod yn gweithio'n agos iawn, iawn gyda'n gilydd, fel y mae ein holl swyddogion, ar hyn. Allwn ni ddim gwneud hyn heb ein ffermwyr—dyna'r gwir amdani—heb ein tirfeddianwyr, felly wrth gwrs maen nhw'n gwbl ganolog. Rydym ni'n gweithio gyda'r undebau amaeth a gyda grwpiau o ffermwyr eraill. Roedd gennyf i ffermwyr ar fy archwiliad dwfn bioamrywiaeth, er enghraifft; maen nhw'n gwbl sylfaenol i'n gallu i wneud hyn. Diben hyn yw moderneiddio ein harferion ffermio, i sicrhau bod ffermwyr yn defnyddio'r hyn sy'n angenrheidiol a dim mwy, er mwyn arbed arian iddyn nhw mewn gwirionedd, a gwireddu'r amaethyddiaeth fanwl yr hoffem ei gweld ledled Cymru. Ond mae hefyd i annog—[Torri ar draws.] Ie; mae'r mentrau amaeth cynaliadwy—nid yn unig y cynllun ffermio cynaliadwy, ond y lleill i gyd hefyd—i gyd wedi'u cynllunio i wobrwyo ffermwyr sy'n gwneud y peth iawn, a dyna'u holl ddiben nhw. Yn wir, rydym ni wedi dysgu llawer gan grwpiau o ffermwyr a ddaeth at ei gilydd y tu allan i'r cynllun ac wedi llunio prosiectau yr ydym ni wedi'u dysgu ohonyn nhw. Roedd yn eu galluogi i gynnal y prosiect gwrychoedd a lleiniau, er enghraifft. Hefyd, roeddwn yn falch iawn, er ychydig yn drist, i lansio'r fenter olaf a ariennir gan Ewrop ar gyfer prosiect Pedair Afon LIFE i lawr yn sir Gaerfyrddin yn y coleg amaethyddol yno, i siarad â'r ffermwyr lleol am ba mor dda y derbyniwyd y prosiect hwnnw a beth y gellir ei wneud pan fyddwn i gyd yn cydweithio â'n tirfeddianwyr i wneud yn siŵr ein bod yn adfer ein hafonydd i'w cyflwr dilychwin y byddem i gyd yn hoff iawn o'i weld.
Rwyf innau hefyd yn diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn o werth gwastadeddau Gwent, Gweinidog, ar ôl sefydlu'r gweithgor rwy'n falch iawn o'i gadeirio a gwneud llawer o waith arall. Maen nhw'n enghraifft wych o ddraenio cynaliadwy yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid. Mewn gwirionedd, mae rhyw 900 milltir o ddyfrffyrdd ar y gwastadeddau hynny yng Ngwent, ac wrth gwrs, maen nhw'n cynnal bywyd gwyllt gwerthfawr iawn, gan gynnwys llygod y dŵr, sydd wedi bod yn atyniad mawr yn ddiweddar. Er hynny, Gweinidog, bu problemau ynghylch ansawdd dŵr ac yn wir llifogydd, ac mae hynny'n destun pryder mawr i'r rhai sy'n byw yno. Mae yna lawer o bentrefi nid nepell o wastadeddau Gwent, felly mae trigolion a busnesau lleol wedi mynegi cryn bryder wrthyf ynghylch y problemau hynny, ac weithiau mae hi braidd yn ddryslyd darganfod pwy sy'n gyfrifol. Ai Cyfoeth Naturiol Cymru, ai'r awdurdod lleol, ai Dŵr Cymru, ai British Rail o ran y dyfrffyrdd a'r cylfatiau ac ati? Rwy'n credu mai'r apêl gan bobl a busnesau sy'n byw ac yn gweithredu'n lleol, Gweinidog, yw: a all Llywodraeth Cymru weithio gyda'r rhai sydd â chyfrifoldeb i wneud yn siŵr y clirir y cyrsiau dŵr hynny'n briodol, mai cynnal a chadw yw'r hyn sydd ei angen bob amser, fel ein bod ni'n osgoi'r materion niweidiol o ran ansawdd dŵr a llifogydd gymaint â phosibl yn y dyfodol?
Ydy, yn hollol, John. Roeddwn i wrth fy modd yn dod draw i un o'r cyfarfodydd, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn gweithio'n galed iawn yno ar wastadeddau Gwent, sy'n ysgyfaint gwyrdd go iawn ar gyfer y trefoli o'u cwmpas—yn bwysig iawn, iawn am bob math o resymau bioamrywiol, ond, mewn gwirionedd, yn bwysig iawn i bobl hefyd: maen nhw'n llythrennol yn cynhyrchu'r aer yr ydym ni'n ei anadlu. Felly, mae'n drysor pwysig y mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth amdano mewn gwirionedd.
Mae nifer o reolau a rheoliadau nad ydw i wedi cael amser yn y datganiad hwn i'w crybwyll. O dan gyfarwyddeb y fframwaith dŵr, er enghraifft, mae'n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro ansawdd dŵr yr wyneb a'r ddaear, a chasglu data cemegol, ffisegol a biolegol i ddosbarthu cyrff dŵr. Mae'r gyfarwyddeb yn hyrwyddo dull integredig, cyfannol o reoli dŵr yn seiliedig ar fasnau afonydd, yr unedau daearyddol a hydrolegol naturiol. Felly, gallaf sicrhau eich etholwyr a phobl y trefi a'r pentrefi cyfagos yno bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw llygad ar lawer o'r agweddau hynny.
Er hynny, mae cymhlethdod ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am rai elfennau o orfodaeth. Mae gennym ni dri adolygiad cyfredol yn ystyried hynny. Mae gennym ni adolygiad sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio i adroddiadau adran 19 a llifogydd gaeaf; mae ein pwyllgor rheoli dyfroedd ac arfordiroedd wrthi'n adolygu'r fframwaith rheoleiddio; ac mae gennym ni adolygiad mewnol arall ar y gweill, oherwydd, o ganlyniad i'r ffordd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi golygu ein bod yn gyfrifol ein hunain am rai o'r rheoliadau hynny, mae angen i ni gael adolygiad ynghylch a ydyn nhw y rhai gorau ar ein cyfer ni, gydag awdurdodau lleol, neu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, neu, yn wir, gyda'r cwmnïau dŵr. Felly, mae tri adolygiad ar wahân yn digwydd ar hyn o bryd, ac ar ryw adeg byddwn yn dod â nhw at ei gilydd i roi rhywfaint o eglurder. Yn y cyfamser, John, os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf am achosion penodol, byddaf yn gallu eich cyfeirio at y rheoleiddiwr cywir ar gyfer yr enghraifft benodol yr ydych chi'n ei rhoi.
Rwy'n sicr yn croesawu eich datganiad, Gweinidog, heddiw. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad da, a diolch i chi am eich ymgysylltiad â mi, oherwydd, yn amlwg, mae afonydd yn rhan bwysig, ac mae rhai o'r materion hyn yn taro tant yn fy nghymuned mewn gwirionedd.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn arbrofi gyda chynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff cyn eu cyflwyno ar sail statudol y flwyddyn nesaf, a byddai gennyf ddiddordeb gwybod mwy am sut mae'r cynlluniau arbrofol hyn yn dod yn eu blaen a pha wersi y gallech fod wedi'u dysgu ganddyn nhw eisoes. Wrth ystyried llygredd, mae awgrymiadau rheolaidd y gallai unedau dofednod dwys o fewn ac o amgylch dalgylch Gwy yn benodol fod yn cael effaith andwyol. Eto i gyd, mae'n ymddangos bod tystiolaeth anghyson o union effaith ffermio o'r fath ar lefelau llygredd, ac rwy'n credu ein bod wir angen eglurder ar hynny. Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy niddordeb yno, nid bod gennyf i unrhyw ieir o gwbl.
Yn unol â dull Cymru gyfan hefyd, byddai gennyf i ddiddordeb clywed, Gweinidog, sut mae'r Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda ffermwyr o gwmpas dalgylchoedd afonydd Wysg a Gwy i wella arferion ffermio er mwyn helpu i leihau llygredd, a pha waith y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i ddadansoddi pa effaith y mae arferion ffermio dwys yn ei gael ar ansawdd dŵr a sut y gellir lliniaru hyn. Diolch.
Ie, diolch i chi, Peter. Felly, ein cynlluniau rheoli basnau afonydd, ein cynlluniau rheoli dalgylchoedd afonydd yw'r prif fecanwaith rydym ni'n ei ddefnyddio i wella ansawdd dŵr. Rydym ni'n gweithredu'r cynlluniau—rwy'n gwybod eich bod chi'n gwybod hyn eisoes—ar ffurf partneriaeth dalgylch a chydweithrediad traws-sectoraidd rhwng amrywiaeth eang o randdeiliaid, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol, ffermwyr, cyrff pysgota, prifysgolion, y cwmnïau ynni, cwmnïau cyfleustodau a grwpiau gweithredu lleol, ac mae un, yn amlwg, ar gyfer afonydd Wysg a Gwy.
Rydym yn defnyddio'r hyn a elwir yn fethodoleg integredig sy'n seiliedig ar ddalgylch, sy'n cael ei hyrwyddo gan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, sy'n dal mewn grym, ac erfyniaf ar y Llywodraeth Geidwadol i beidio ag ystyried ei diddymu unrhyw bryd yn fuan. Felly, os oes gennych chi unrhyw ddylanwad yno, defnyddiwch hynny os gwelwch yn dda. Mae'r fethodoleg seiliedig ar ddalgylch, sy'n cael ei hyrwyddo gan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, wir yn dangos canlyniadau cadarnhaol a gwelliant graddol yn ansawdd dŵr, y mae'r canlyniadau dosbarthiad diweddaraf yn tystio iddynt. Felly, mae 40 y cant o gyrff dŵr Cymru yn cael eu hystyried yn 'dda' neu'n 'well' ar hyn o bryd; mae 44 y cant o afonydd Cymru yn sicrhau statws 'da'; ac mae data 2020-21 yn dangos gwelliant o 8 y cant mewn ansawdd dŵr ers y dosbarthiad cyntaf a ryddhawyd yn 2009. Ac rwy'n defnyddio'r ffigyrau hynny'n fwriadol, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â chael cyngor anobaith yma hefyd. Felly, o siarad â rhai pobl ifanc yn gynharach heddiw, mae'n bwysig deall bod y pethau hyn yn gweithio; mae gennym ni dystiolaeth bod hyn yn gwella'r ffordd y mae'r pethau hyn yn gweithio, ac felly, os ydym ni i gyd yn cyd-ymdrechu ac mewn gwirionedd yn gwneud y pethau hyn, byddwn yn gweld y gwelliant hwnnw. Fel arall, rwy'n credu bydd pobl yn dechrau taflu eu dwylo i fyny ac yn meddwl, 'Beth yw'r ots?' Felly, rwyf yn credu bod hynny'n bwysig iawn, iawn.
Rydych chi wedi nodi'n gywir iawn fod yna amryw o fygythiadau. Felly, rydym ni'n gwybod bod gennym ni'r sector amaethyddol, yng Nghymru; mae gennym ni fwyngloddio a chwarela, gan gynnwys llygredd o fwyngloddiau metel segur, sy'n broblem sylweddol mewn rhannau o Gymru; mae gennym ni'r sector trafnidiaeth; mae gennym ni lygredd trefol; ac mae gennym ni ollyngiadau o'r diwydiant dŵr. Mae gennym ni lu o ffactorau. Felly, mae'n rhaid i ni gael dull traws-sectoraidd integredig. Felly, mae gwella ansawdd dŵr yn sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi gwneud darpariaethau ar gyfer rhaglen amlflwyddyn, gwerth miliynau o bunnau i wella ansawdd dŵr—dros £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf, er enghraifft, dim ond i atal llygredd o'r mwyngloddiau metel segur.
Felly, i droi'n syth, wedyn, at y sylw a wnaethoch chi am ieir, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud rhywfaint o fodelu ynghylch ffosffadau mewn dalgylchoedd afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig er mwyn rheoli dŵr gwastraff. Drafft yw hwn ar hyn o bryd, ond dim ond i roi gwybod i chi y gallwn ni gyfrifo llwythi o ddefnydd tir gwledig, sy'n cynnwys amaethyddiaeth ac yn benodol, ieir, ac rwy'n credu ei fod yn adrodd ei stori ei hun. Rwyf dim ond yn pwysleisio mai drafft yw hwn, ond afon Gwy, sy'n 72 y cant, afon Wysg, 67 y cant, afon Dyfrdwy, 24 y cant, ac afon Teifi 28 y cant. Felly, mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi, onid yw, am afonydd Wysg a Gwy a'r hyn sy'n digwydd yno. Felly, byddwn yn defnyddio'r rhain i edrych ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud i reoli hynny ac i helpu'r ffermwyr yno mewn gwirionedd i wneud rhywbeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd gyda'r unedau ieir hynny, oherwydd, gadewch i ni fod yn glir, maen nhw'n cynhyrchu cynnyrch y mae pobl ei eisiau. Felly, mae angen i ni allu gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy ac mewn ffordd na fydd yn llygru ein hafonydd gerllaw, ond mae'n caniatáu i'r ffermwyr hynny gynhyrchu'r cynhyrchion y mae pobl eu heisiau.
A'r peth arall yw gwarchod rhag canlyniadau anfwriadol. Felly, mae gennym ni rai rheoliadau cynllunio, rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod, yng Nghymru, sy'n golygu bod yn rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer dros 40,000 o adar. Felly, mae gan bawb 39,999, gyda'r canlyniad bod gennych chi lu o unedau llai, sy'n anoddach i'w rheoli mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn, pan fyddwn ni'n meddwl am atebion yr ydym ni'n credu y gallai weithio, ac nad ydym yn rhoi rhywbeth yn ei le sy'n ei wneud yn waeth mewn gwirionedd. Felly, mae nifer o bethau y bydd angen i ni edrych arnyn nhw. Ond ni allaf bwysleisio digon fod angen i ni wneud hyn gyda'n tirfeddianwyr a gyda'n ffermwyr, ond mae angen gwneud rhywbeth. Dydy'r syniad ein bod ni'n dweud, 'Nid eu bai nhw ydy o, ond bai y cwmnïau dŵr', neu'r holl bethau eraill yr ydym ni wedi'u trafod yma, ddim yn dal dŵr. Mae angen i bob sector edrych ar ei hun ac i edrych i weld beth all y sector hwnnw ei wneud i wella hyn, neu bydd ein hafonydd yn marw, a does dim un ohonom ni eisiau hynny.
Prynhawn da, Gweinidog, a diolch yn fawr i chi am eich datganiad. Mae wir yn dangos, rwy'n credu, agwedd gynhwysfawr iawn tuag at ansawdd dŵr. Diolch i chi a'ch tîm am ei lunio. Rwy'n un o drigolion y Gelli Gandryll, fel y gŵyr llawer ohonoch chi, ac mae'n bwysig iawn i mi fod afonydd, yn enwedig afon Gwy—. Ein bod ni'n mynd i'r afael â llygredd afon. Rwy'n nofio yn yr afon bob haf. Dydw i ddim wedi cael unrhyw afiechydon cas hyd yma, ond pwy a ŵyr? Mae'n ddigon posib y bydd y flwyddyn nesaf yn wahanol.
Fe hoffwn i siarad am Dŵr Cymru, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am lygredd dŵr. Mae prif weithredwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn Dŵr Cymru wedi derbyn £2.4 miliwn mewn cyflog, gan gynnwys £808,000 mewn taliadau bonws. Rwy'n methu deall sut mae Dŵr Cymru yn ei gweld hi'n iawn gwobrwyo eu hunain am eu methiant gyda llygredd dŵr. Felly, tybed Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Dŵr Cymru ac a allwch chi godi'r mater hwnnw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane. Rydym yn cael trafodaethau gyda Dŵr Cymru, ac yn wir Hafren Dyfrdwy, trwy'r amser. Mae gennym ni berthynas weithio agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'n hawdurdodau dŵr, am resymau amlwg, ac fel yr oeddwn i'n dweud gynnau fach mewn ymateb i John, rydym ni ar hyn o bryd yn cynnal nifer o adolygiadau ynglŷn â phwy sydd â pha gyfrifoldeb i wneud beth yn y maes hwn. Mae gennym ni ymchwiliad cytundeb cydweithredu ar y gweill, ac mae gennym ni dri arall hefyd yn cael eu hystyried, i wneud yn siŵr bod y rheoliadau sydd gennym ni ar waith yn effeithiol ac effeithlon, ac rwy'n credu ei fod yn amlwg mae'n debyg. Does gennych chi ddim pedwar adolygiad os yw rhywbeth yn effeithiol ac effeithlon, ac yn amlwg dyw e ddim, felly rydym ni'n gobeithio y bydd yr adolygiadau yn rhoi man cychwyn i ni o ran diwygio'r system honno.
Rwyf hefyd yn siarad gydag Ofwat a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rheolaidd iawn am hyn. Nid mater i Lywodraeth Cymru yw'r ffordd mae'r cwmnïau dŵr yn talu eu gweithwyr. Yr hyn sy'n fater i ni yw gwneud yn siŵr bod Ofwat, o dan gyfarwyddyd Llywodraeth y DU yn ogystal â ninnau, yn rhoi cynllun ariannol ar waith sy'n caniatáu i'r cwmnïau hynny gael y staff cywir yn y lle cywir, gan gynnwys staff gorfodi, ond yn bwysicach o lawer i gael y math cywir o fuddsoddiad cyfalaf i gywiro'r mathau o broblemau sydd gennym ni ac yr ydym ni newydd fod yn trafod yn hyn o beth, yn enwedig y gorlifoedd storm cyfunol a cham-gysylltu ystadau tai, ac yn wir, mewn gwirionedd, safleoedd masnachol hefyd, er nad oes neb wedi sôn am hynny, oherwydd mae'r rheini'n faterion mawr iawn. Ac mae'n gwbl sylfaenol, yn enwedig i Dŵr Cymru, fod y cynllun ariannol hwnnw'n caniatáu cwmni nid-er-elw, oherwydd nid oedd y cynllun blaenorol; roedd yn eu rhoi dan anfantais oherwydd nad oedden nhw'n talu difidend i gyfranddalwyr. Felly, mae gwir angen ystyried hynny, ac rydym ni yn cael y sgyrsiau hynny'n aml iawn.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Llywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylw mai dull Cymru gyfan yw hwn, ac mae angen nifer o randdeiliaid ac asiantaethau i ddod ynghyd i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr, oherwydd ni ellir rhoi unrhyw un rhan o'r bai ar un parti. Roeddwn i'n eithaf bodlon yn eich datganiad bod gennych chi grŵp gorchwyl a gorffen yn edrych ar fesurau lliniaru tymor byr. Tybed a allech chi ymhelaethu ar hynny ac ar beth y maen nhw'n edrych arno i weld a allwn ni gael y system gynllunio i weithio eto. A hefyd, fe ddywedoch chi fod cronfa ddata o fesurau lliniaru wedi ei llunio. Tybed a allech chi ymhelaethu mewn gwirionedd ar beth yw'r rheiny, a pha ymgynghori ehangach a fydd gyda'r diwydiant ehangach i wneud yn siŵr bod modd gweithredu'r pethau hynny.
A dau gwestiwn yn olaf. Fe wnaethoch chi sôn am y £3.1 miliwn ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd ac ansawdd dŵr. Dydw i ddim yn ymwybodol o fanylion hynny, felly os wnewch chi fy nghyfeirio at ble mae'r cynlluniau hynny a sut maen nhw'n mynd i wella rheoli llifogydd ac ansawdd dŵr, byddai gennyf i ddiddordeb mawr yn hynny. A hefyd, yn olaf, fel yr ydych chi'n ei ddweud am gadachau gwlyb, rydych chi'n iawn, Gweinidog; does dim modd eu hailgylchu ac mae pobl yn eu taflu i lawr y tŷ bach, neu beth bynnag maen nhw'n ei wneud, a dyw e ddim yn iawn. Hoffwn wybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda Gweinidogion o Lywodraeth y DU ynghylch labelu, oherwydd rwy'n cytuno â chi bod angen i ni fod yn glir iawn ynghylch plastig untro a beth y gellir ei ailgylchu a beth na ellir ei ailgylchu, ac os wnewch chi ymhelaethu ar y trafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, byddwn i'n ddiolchgar iawn. Diolch, Llywydd.
Diolch, James. Mi wnaf fy ngorau gyda hynny. Mae'n rhestr eithaf hir o bethau.
Dim ond i ddweud bod yna berthynas agos iawn rhwng cynllunio ar gyfer gwasanaethau draenio a charthffosiaeth. Mae'n rhaid i gwmnïau dŵr gyflawni eu dyletswyddau statudol o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol. Mae'n rhaid iddyn nhw weithio gyda'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am atal llifogydd ac asedau draenio sylweddol, ac mae'n rhaid iddyn nhw weithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr. Felly, gallwch weld yn syth yr angen am ddull traws-sector. Yn amlwg, mae arnom ni eisiau i'r garthffosiaeth a'r seilwaith draenio i gyd gael eu rheoli'n dda a'u cynnal mewn ffordd integredig, gyda digon o gapasiti i reoli'r galw a roddir arno. Mae hynny'n gynllun cydweithredol hirdymor, i ganfod sut y gallwn ni wneud hynny, a dyna pam y cawsom ni'r uwchgynhadledd, nôl yn yr haf, a dyna pam rydym ni'n dweud wrth bob sector i weithio gyda ni i lunio cynlluniau. Felly, mae gennym ni lawer o grwpiau gorchwyl a gorffen wedi eu sefydlu o ganlyniad i'r uwchgynhadledd, ac rydym ni'n disgwyl i bob sector ddweud beth all ei wneud i'n helpu ni gyda hynny. Yn y cyfamser, fel y dywedais, rydym ni wedi bod yn buddsoddi mewn nifer o bethau eraill. Felly, mae'r rhaglen ar gyfer y llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu rheolaeth llifogydd sy'n seiliedig ar natur ym mhob un o brif ddalgylchoedd afonydd, gan ehangu cynefinoedd gwlyptir a choetir yn y broses. Felly, rydym yn cefnogi prosiectau rheoli llifogydd naturiol ledled Cymru, gyda £3 miliwn mewn cyllid grant a ddarperir drwy'r rhaglen. Felly, rwy'n credu mai dyna yr ydych chi'n cyfeirio ato yna. Mae'r rheiny mewn ystod fawr iawn o ddalgylchoedd afonydd ar draws Cymru, James, felly byddai'n rhaid i chi ddweud wrthyf i pa rai oedd gennych chi ddiddordeb arbennig ynddyn nhw. Os ysgrifennwch chi, gallaf roi rhestr ohonyn nhw i chi; does gen i mo'r wybodaeth honno arnaf i. Mae'n rhestr hir, hir. Felly, ysgrifennwch os oes arnoch chi eisiau rhywfaint o fanylion am hynny yn eich ardal eich hun, neu ble bynnag sydd dan sylw gennych chi.
Mae'r rhaglen, fel y dywedais mewn atebion blaenorol, yn mynd i leihau'r perygl o lifogydd i tua 800 eiddo, ond mae'n llawer ehangach na hynny, gan ei fod yn gwella ansawdd dŵr ac yn creu cynefinoedd ac yn gymorth gyda rheoli tir. Felly, mae'r rhain yn fanteision lluosog i un gwariant, ac rydym ni'n awyddus iawn gwneud hynny. Rydym ni hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer 15 o brosiectau a ddarperir gan 10 awdurdod rheoli risg gwahanol ledled Cymru i edrych ar ddatrysiadau naturiol, yn hytrach na chwlfertau caled, er enghraifft. A phrosiect Pedair Afon LIFE, a grybwyllais yn gynharach, a es i lawr i'w lansio yn sir Gâr, er enghraifft, mae'n werth mynd i gael golwg arno yn y coleg. Mae ganddyn nhw arddangosfa yno, ac mae honno'n sôn am bethau fel—bydd rhyw 500 km o afonydd yn cael sylw. Ac mae hynny'n gwneud pethau fel—yn y gorffennol, mae pobl wedi sythu'r afon, a fyddai'n ymddangos fel pe bai'n rhoi tir mwy hylaw i chi, ond mewn gwirionedd beth mae'n ei wneud yw gwneud i'r afon lifo yn llawer cyflymach ac yn cael gwared ar rai o'r manteision. Felly, mewn gwirionedd, fe'i gelwir yn 'ail-ystumio', ail-ystumio'r afon. Rwy'n credu bod bron pawb yn cofio ystumllynnoedd o'u gwersi ddaearyddiaeth; yn llythrennol dyma'r unig beth mae pobl yn ei gofio o'r rhan fwyaf o wersi daearyddiaeth. Ond, mae ail-ystumio'r afonydd ac adfer yr agweddau naturiol hynny'n arafu llif yr afon, yn caniatáu i'r afon ledaenu allan i'r tir lle bo angen heb lifogydd mawr, ac mae ganddo fudd gwirioneddol y gallwch ei weld yn syth mewn termau bioamrywiaeth ac i'r tirfeddianwyr. Felly, rwy'n fodlon iawn i chi ysgrifennu ataf a gofyn am fanylion y prosiectau penodol hyn, ond rydym ni'n falch iawn o'r hyn sydd wedi'i gyflawni.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: cenedl o ail gyfle. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i roi datganiad ichi am ein cynlluniau ni i wneud Cymru yn genedl ail gyfle, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sy'n cynnwys rhoi gwybod lle rydym ni arni o ran diwygio ac adnewyddu maes dysgu oedolion, rhoi dyletswydd gyfreithiol newydd ar waith i ariannu'r maes, a datblygu ein cynllun peilot ar gyfer cwricwlwm dinasyddion.
Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon fy mod i am i Gymru fod yn genedl ail gyfle yn y byd addysg, rhywle lle gall bawb gyrraedd eu potensial, cenedl lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, lle mae gan bobl yr hyder, y cymhelliant a'r modd i ailymuno ag addysg er mwyn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i weithio a ffynnu yn ein cymdeithas. Mae ehangu cyfleoedd dysgu gydol oes yn hanfodol i Gymru allu ffynnu dros y degawdau nesaf. Wrth i yrfaoedd pobl ehangu ac amrywio, bydd mwy o bobl yn ceisio ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd i ddod o hyd i waith sefydlog. Ac wrth inni drosglwyddo i economi sero net, bydd angen i fusnesau newid i dechnolegau newydd i leihau carbon. Ar ben hynny, mae bod yn genedl o ddysgwyr gydol oes yn hanfodol inni gyflawni ein nodau cymdeithasol a dinesig ehangach, gan gynnwys gwell lles ac iechyd meddwl, mwy o ddefnydd o'r Gymraeg, a democratiaeth y gall bawb gyfrannu ati.
Bydd creu cenedl o ail gyfle yn gofyn i ni oresgyn rhwystrau a gwyrdroi rhai tueddiadau diweddar. Mae nifer yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn dysgu wedi gostwng ledled y DU dros y degawd blaenorol. Mae ymchwil yn dangos mai'r rhai hynny sydd fwyaf tebygol o elwa ar ail-gydio mewn addysg fel oedolion, yn enwedig y rhai sydd fwyaf difreintiedig ac sydd â'r lleiaf o gymwysterau, yw'r rhai lleiaf tebygol o wneud hynny hefyd. Ond, Dirprwy Lywydd, trwy lunio polisi arloesol rydym eisoes wedi gwneud rhywfaint o gynnydd tuag at oresgyn yr heriau hyn.
Mae ein fformiwla ariannu dysgu oedolion yn y gymuned, sydd wedi'i diwygio, wedi ailddosbarthu cyllid addysg oedolion yn decach ledled Cymru a, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi dyrannu ychydig dros £11.5 miliwn ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Mae £4 miliwn arall wedi'i ddyrannu i ddysgu oedolion gan awdurdodau lleol, a hefyd i golegau addysg bellach i sicrhau bod y dysgwyr anoddaf eu cyrraedd yn ein cymdeithas yn ail-gydio mewn dysgu. Mae ein rhaglenni cyfrif dysgu personol yn rhoi'r cyfle i weithwyr gael y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wneud cynnydd yn eu gyrfa.
Mae'r cyrsiau newydd hyn wedi bod o fudd i dros 27,000 o bobl ers eu cyflwyno yn 2017, ac rydym wedi buddsoddi dros £55 miliwn i ddatblygu'r ddarpariaeth. Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn dyrannu £52 miliwn arall yn y rhaglen i helpu pobl gyflogedig i uwchsgilio ac ailsgilio i feysydd blaenoriaeth. Y llynedd, darparais bron i £6 miliwn i wella capasiti digidol ac i fynd i'r afael â heriau sero net mewn darparwyr a cholegau dysgu oedolion. A diolch i'n diwygiadau blaengar ac unigryw i gyllid myfyrwyr addysg uwch, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn addysg uwch rhan-amser, ac yn arbennig cynnydd sylweddol mewn myfyrwyr—gan gynnwys llawer o gefndiroedd difreintiedig—yn astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Gan adeiladu ar y llwyddiannau hyn, rydym bellach yn dechrau ar y diwygiadau mwyaf arwyddocaol i addysg drydyddol ers datganoli, ac mae adnewyddu ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes wrth wraidd y diwygiadau hyn. Dyna pam mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a dderbyniodd gefnogaeth unfrydol yng Nghyfnod 4 y Senedd hon, yn dechrau gyda dyletswydd strategol i'r comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil i hyrwyddo dysgu gydol oes. Ar ben hynny, mae'r Ddeddf yn creu dyletswydd newydd ar y comisiwn i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant i oedolion, ac mae'r manylion llawn i'w nodi mewn deddfwriaeth eilaidd, y byddwn yn ei chyflwyno ar gyfer ymgynghori yn 2023.
Wrth i ni symud at sefydlu'r comisiwn newydd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda grŵp cyfeirio allanol dysgu oedolion yr wyf wedi gofyn iddyn nhw gyd-ddylunio rhaglen o gydlynu cenedlaethol i ailfywiogi'r gwaith o ddarparu addysg i oedolion yng Nghymru, ac rwyf wedi dyrannu £2 miliwn dros y flwyddyn ariannol bresennol a'r nesaf i gefnogi'r gwaith hwn.
Gan adeiladu ar ein diwygiadau i'r cwricwlwm ysgol, rydym yn gweithredu cwricwlwm dinasyddion ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion yng Nghymru. Bydd hyn yn cefnogi oedolion drwy addysg i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, i fod yn ddinasyddion sy'n ymgysylltu ac i fwynhau canlyniadau iechyd a chyflogaeth gwell.
Rwy'n falch o gael gweithio mewn partneriaeth â'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, Addysg Oedolion Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Coleg Caerdydd a'r Fro, Oasis Caerdydd a'r Brifysgol Agored, a fydd yn cyflwyno pum cynllun treialu cwricwlwm newydd i ddinasyddion, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cyfranogiad dysgwyr oedolion ehangach.
Bydd y cynlluniau treialu hyn, a fydd yn dechrau'r mis hwn, yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o ddysgu oedolion: ar iechyd a lles, ar ddysgu byd-eang, ar addysg iaith, ar sut y gall ysgolion a chymdeithasau tai gefnogi dysgu yn y gymuned, a sut rydym yn datblygu mwy o gydlyniad cymunedol a dinasyddiaeth. Yn ogystal â hyn, rydym yn comisiynu arolwg 'cyflwr y genedl' o lythrennedd a rhifedd oedolion, er mwyn deall lle mae diffyg y sgiliau craidd hyn yn rhwystr i waith a lles. Rydym hefyd yn datblygu fframwaith dysgu proffesiynol i staff ar draws pob rhan o'r sector ôl-16, ac mae ein cronfa dysgu proffesiynol yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i ddatblygiad proffesiynol y gweithlu ar draws y sector ôl-16, ac rydym yn gweithio i wella nifer y llwybrau digidol i ddysgu oedolion sydd ar gael.
Ar ôl cefnogi ehangu mynediad i gyfrwng OpenLearn y Brifysgol Agored, rwyf eisiau archwilio ymhellach y potensial ar gyfer digidol i ehangu mynediad at ddysgu oedolion, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan a'r rhai hynny sy'n ceisio cymryd y camau cyntaf hanfodol hynny yn ôl i ddysgu. Mae fy swyddogion yn comisiynu ymarfer mapio fel cam cyntaf tuag at ddatblygu gwybodaeth llawer cliriach, llawer mwy cydgysylltiedig i ddysgwyr ar hyn o bryd a dysgwyr posibl i gael mynediad at gyrsiau ar-lein.
Dirprwy Lywydd, gyda'i gilydd, rwy'n credu bod hyn yn dangos yn glir ein hymrwymiad i wneud Cymru'n genedl o ail gyfle. Bydd gwireddu'r weledigaeth hon yn llawn yn cymryd amser, a byddwn yn parhau i wynebu heriau, yn enwedig yn y cyd-destun cyllidol presennol. Ond rwy'n ffyddiog ein bod ar y llwybr i wneud Cymru'n genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Diolch yn fawr.
Prynhawn da, Gweinidog, a diolch am eich datganiad. Rwy'n croesawu pwyslais a buddsoddiad yn y maes hwn ac unrhyw beth a fydd yn gwrthdroi'r tueddiadau ar i lawr yr ydym wedi'u gweld o ran oedolion yn cymryd rhan mewn dysgu. Rwy'n croesawu'r meysydd penodol yr ydych chi wedi dewis canolbwyntio arnyn nhw: pwysigrwydd strategaeth a dyletswydd strategol, rhannu cyfrifoldeb, yr angen am gynaliadwyedd a'r syniad o ail gyfleoedd.
Er fy mod yn falch o weld y cyhoeddiad hwn o'r cynlluniau treialu newydd, yn canolbwyntio ar wahanol elfennau dysgu oedolion, mae gen i rai cwestiynau o hyd. Mae dysgwyr sy'n oedolion yn wynebu sawl her sy'n unigryw i'w sefyllfa y mae'n rhaid i unrhyw ymdrech i hybu mynediad at y cyfleoedd hyn fynd i'r afael â nhw. Er enghraifft, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu, yn aml mae'n rhaid i ddysgwyr sy'n oedolion gydbwyso gwaith, teulu ac ymrwymiadau cymdeithasol gydag unrhyw ymdrechion i gymryd rhan mewn dysgu newydd. Mae ymchwil o Ganada wedi darganfod bod dros 70 y cant o gyflogwyr yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer addysg sy'n gysylltiedig â swyddi, ond eto dim ond 22 y cant o weithwyr sy'n ei ddefnyddio. Gweinidog, sut fyddwch chi'n sicrhau bod y cymorth ychwanegol hwn yn cael ei gyfeirio'n iawn, ei hyrwyddo'n iawn ac yn cyrraedd y dysgwyr sy'n oedolion sydd ei angen fwyaf?
Mae rhwystrau ariannol yn ystyriaeth graidd, oherwydd gall y rhai hynny sydd heb y gallu i gael cyllid ar gyfer cyrsiau ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r arian ar eu cyfer, yn enwedig, yn amlwg, o ystyried yr heriau ariannol presennol. Mae adroddiad gan grŵp prifysgol MillionPlus yn y DU yn tynnu sylw at y rhwystr o ran cost. Er enghraifft, pan gynyddwyd ffioedd dysgu prifysgolion yn 2012, gostyngodd nifer y myfyrwyr aeddfed 20 y cant ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, a chymaint â 49 y cant ar gyfer cyrsiau er enghraifft ar gyfer nyrsys. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau, Gweinidog, nad rhwystrau ariannol yw'r peth mwyaf sy'n atal ein dysgwyr sy'n oedolion?
Mae meddylfryd yn faes pwysig arall, gan fod llawer o ddysgwyr sy'n oedolion yn dioddef o ddiffyg hyder yn eu hunain. Ynghyd â ffactorau eraill, dyma pam mae nifer o alwadau allweddol ar unrhyw ddarparwyr dysgu oedolion, sy'n cynnwys hyblygrwydd wrth gyflenwi fel y gall dysgwyr ffitio sesiynau i'w hamserlenni prysur; gwerth am arian, gan sicrhau nad yw cyrsiau fforddiadwy o ansawdd isel; cymuned gefnogol, gan sicrhau rhwydwaith cryf i fynd i'r afael ag unrhyw amheuon neu anawsterau personol, yn ddelfrydol drwy ddefnyddio tiwtoriaid personol neu fentoriaid. Er mwyn helpu i ymdrin â hyn, rwy'n credu y dylem ni annog amrywiaeth o fformatau addysgu, gan gynnwys sicrhau bod dysgu o bell yn gwbl hygyrch, pan fo modd, i'r rhai sy'n dymuno ei ddefnyddio. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn ymrwymo i geisio gwella'r gallu a nifer y llwybrau digidol i addysg sydd ar gael. Sut, Gweinidog, yn ymarferol ydych chi'n bwriadu ei wneud mor hygyrch a hyblyg â phosibl?
Gweinidog, rydym i gyd yn cytuno bod yn rhaid i Gymru fod yn lle sy'n cynnig y gefnogaeth orau bosibl yn y modd mwyaf hyblyg fel y gallwn sicrhau bod y rhai sy'n dymuno cymryd rhan mewn dysgu oedolion â'r adnoddau i wneud hynny a'u bod yn ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at fonitro llwyddiant y cynlluniau treialu sydd i ddod. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'r ffordd adeiladol y mae hi wedi ymgysylltu â'r datganiad, ac rwy'n credu ei fod yn arwydd o'r gefnogaeth ar draws y Siambr ar gyfer mentrau mewn cysylltiad â sicrhau y gall oedolion ddychwelyd i addysg ar unrhyw adeg mewn bywyd. Mae hi'n nodi rhai rhwystrau posib pwysig i bobl sy'n gwneud y penderfyniad i wneud hynny. Rwy'n credu, mewn ffordd, y rhwystr mwyaf dwys yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am eu hunain fel dysgwyr sy'n oedolion ac nid ydynt yn ymwybodol o'r cyfle, y goblygiadau a'r gefnogaeth sydd ar gael er mwyn gwneud hynny. Mae'n bwysig i bobl gael y cyfle i ailsgilio a meithrin sgiliau newydd, ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig i bobl gael y cyfle i ddychwelyd i addysg, fel petai, ar eu telerau eu hunain, at eu dibenion eu hunain, nid dim ond yn gysylltiedig â'r cyfleoedd cyflogaeth y gall arwain atynt weithiau.
Gofynnodd hi yn olaf am y buddsoddiad mewn digidol, a soniais am rywfaint o'r buddsoddiad penodol yr ydym wedi'i wneud yn ddiweddar iawn mewn cysylltiad â hynny. Ond mae hynny'n gwestiwn o hygyrchedd hefyd, yn tydi? Nid yw pawb yn mynd i gael eu cyrraedd trwy wella'r cynnig digidol, ac mae hynny'n cael ei ddeall yn llwyr, er ei bod yn ffordd bwysig o fapio, egluro a gwneud y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael yn hygyrch a bod modd ei dilyn, sy'n arwyddocaol iawn. Yr hyn yr ydym wedi ei ddarganfod, ac mae wedi bod yn glir ers cryn amser, yw bod angen mwy o gydlynu, fel bod gwell cysondeb o ran dull ledled Cymru, gan wneud y mwyaf o'r cyfle i ddysgwyr allu gwybod beth sydd yno a chymryd rhan yn hawdd.
Ond, yn ogystal â hynny, mae peth o hynny, fel roedd hi'n dweud yn ei chwestiwn, yn ymwneud â'r hyder i ddychwelyd at ddysgu. Nid yw pawb yn barod i ail-gydio ar lefel dechrau cymhwyster, neu wneud gradd, er enghraifft. Mae yna lawer sydd, mae'n debyg, ychydig yn gynharach ar y daith ail-gydio. Felly, mae rhywfaint o'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i roi yn fwyaf diweddar dros y flwyddyn ddiwethaf, ddwy flynedd, wedi bod i gefnogi ehangu'r hyn rydyn ni'n ei alw'n gyrsiau 'bachu a blasu', sef yr adegau cynnar hynny o ailgydio, efallai, yn y sgiliau dysgu, i fod mewn lleoliad lle gallwch chi ddechrau cofio'r sgiliau o fod yn ddysgwr. Felly, rwy'n credu bod angen mabwysiadu nifer o ddulliau gwahanol, ac rwy'n gobeithio bod fy natganiad wedi amlinellu hynny'n gynharach.
Ar y cwestiwn o gefnogaeth ariannol, sy'n bwysig iawn—eto, mae nifer o'r buddsoddiadau y cyfeiriais atyn nhw yn fy natganiad yn uniongyrchol yn cefnogi mynediad at hyfforddiant sgiliau; mae cyfrifon dysgu personol yn enghraifft dda iawn o hynny. Ac fe fyddwn i'n dweud fy mod i'n wirioneddol falch o'r ffaith bod ehangu addysg uwch rhan-amser wedi bod mor sylweddol a llwyddiannus yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod yn uniongyrchol, rwy'n credu, oherwydd bod gennym, yng Nghymru, y gefnogaeth cyllid myfyrwyr mwyaf blaengar o unrhyw ran o'r DU, ond ei fod hefyd yn trin myfyrwyr rhan amser yn yr un modd ag y mae'n trin myfyrwyr llawn amser, ac rwy'n credu bod hynny wedi bod y tu ôl i gynnydd eithaf sylweddol yn niferoedd y myfyrwyr.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn falch o'r pwyslais ar hyrwyddo, ehangu a datblygu addysg gydol oes yn ein cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth a'n cydweithio ar sefydlu'r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil. Mae'n hanfodol sicrhau nawr bod ffocws y comisiwn yn dynn ar y ffaith bod Cymru yn llwyddo'n well yn y nod o ddod yn genedl ail gyfle, wedi blynyddoedd o danfuddsoddiad ac, yn wir, doriadau'r i'r sector, ac mae hynny yn fwy hanfodol nag erioed, fel rŷch chi wedi'i nodi, o ystyried yr heriau economaidd a allai llesteirio'r uchelgais yna.
Es i ar ymweliad gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gampws Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, mae proffil oedran myfyrwyr y brifysgol honno yn hŷn ar gyfartaledd na'r cyfartaledd sector yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol, a hynny, yn ôl y brifysgol, yn adlewyrchu eu pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, uwchsgilio ac addysg gydol oes. Fe gwrddais i â myfyrwyr oedd yn sôn am y pwysau economaidd sydd arnyn nhw am eu bod nhw'n hŷn—pwysau economaidd sy'n esgor hefyd ar broblemau iechyd meddwl a straen—a oedd yn cael effaith ar eu gallu i gwblhau eu rhaglenni yn llwyddiannus. Fel y clywon ni, mae hanner myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru yn byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig ein cenedl, ac rŷn ni'n gwybod bod y pwysau ar y cymunedau hyn yn barod wedi cyrraedd lefel argyfyngus ac yn debyg o ddwysáu ymhellach.
Felly, er bu croeso i'r cyfeiriad newydd o ehangu dysgu i oedolion, mae yna bryder ynglŷn â'r lleihad mawr yn y blynyddoedd diwethaf yn y nifer o oedolion sy'n astudio o fewn y sector addysg bellach, a'r gwymp hefyd o ran y bobl sy'n astudio'n rhan-amser yn y gymuned, ar yr un pryd ac y cafodd cyllido ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned ei leihau yn sylweddol iawn ac yn dal i fod yn is nag yr oedd. Felly, sut ydych chi am flaenoriaethu llwybrau clir a hygyrch i ddysgu uwch ac, o ystyried y pwysau economaidd yma, pa gymorth ymarferol fydd ar gael i bobl ymgymryd â chyfleon i ailsgilio ac ailgysylltu ag addysg ar bob lefel?
Roedd grŵp o ddysgwyr o addysg oedolion yn y gymuned Castell-nedd Port Talbot yn ymweld â'r Senedd y bore yma, ac roedden nhw'n gofyn i fi am well gefnogaeth i ddysgwyr er mwyn parhau â'u hastudiaeth. Roedden nhw'n croesawu'r hyn sydd wedi digwydd o ran y cyfrifon addysgu personol, ond roedden nhw'n sôn bod angen gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus—felly, y seilwaith i'w helpu nhw i ymgymryd â'u cyrsiau—help gyda chost trafnidiaeth, help gyda ffioedd arholiadau—roedd yn rhaid iddyn nhw ffeindio hynny o'u poced nhw eu hunain. Ac roedd darpariaeth ddigidol hefyd yn fater o bryder, gyda'r cyfarpar sydd ar gael i'w fenthyg yn gyfyngedig. Felly, sut mae'r Llywodraeth am barhau i geisio dileu y rhwystrau economaidd yma i'r myfyrwyr hŷn yma er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y buddsoddiad a'r nod yma o greu cenedl ail gyfle? Sut ydych chi'n mynd i gefnogi pobl i ymgymryd ag addysg mewn cyfnod pan fo'r addysg honno yn gwbl hanfodol i hybu gwydnwch ein cymunedau, lles ein dinasyddion, ac iechyd ein heconomi?
Fe sonioch chi yn eich datganiad am yr heriau cyllidol yma. Mae darpariaeth addysg oedolion a rhan-amser mewn addysg bellach, ac yn y gymuned, yn aml, gyda'r cyntaf o bethau i gael eu torri pan fo cyllid yn brin. Fe welom ni hyn o dan Lafur yma yng Nghymru pan oedd polisïau llymder San Steffan dan y Llywodraeth glymblaid yn niweidio Cymru dros y ddegawd diwethaf. Felly, Weinidog, o ran yr ymrwymiad yma i sicrhau yr addysg ail gyfle yma, sut ydych chi'n mynd i gynnal hynny os bydd cyni economaidd pellach? Mae hynny yn gofyn am gyllid parhaus ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned, fel bod modd darparu pwyntiau mynediad yn ôl i gyfleoedd dysgu, a dilyniant i ddarpariaeth alwedigaethol a chyflogadwyedd.
Wedyn, sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur, a pha gynlluniau sydd ar y gweill i ddeall y math o ddysgwyr a allai elwa ar fynediad gwell i ddysgu oedolion? Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y pwyslais cryfach ar addysg oedolion o fudd i’r rhai sydd angen mynediad fwyaf, hynny yw, y rhai sy’n lleiaf tebygol o fod wedi elwa ar gyfleoedd addysg ffurfiol, y rhai sy’n lleiaf tebygol o fod â chymwysterau ac sydd wedi gadael addysg yn gynt yn eu bywydau, a phobl hŷn? Diolch.
Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu y gwnes i ateb y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y datganiad y gwnes i ei ddatgan ar y cychwyn cyntaf. Ond, jest i gydnabod bod yr heriau y mae hi’n sôn amdanyn nhw yn rhai real, ac mae angen sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r gyllideb sydd gennym ni yn y ffordd fwyaf blaengar y gallwn ni. Dyna pam mae’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu drwy'r PLA, y gwnaeth hi ei chydnabod yn ei chwestiwn, a’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu o ran addysg rhan amser, llawn amser, ac addysg uwch hefyd, mor bwysig.
O fewn y gyllideb sydd ar gael i golegau addysg bellach, mae’r gyllideb a ddyrannwyd y llynedd yn cynnwys y cynnydd mwyaf yn y gyllideb sydd wedi bod mewn sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn ymrwymedig i ehangu cyfleoedd i bobl ôl-16. Mae hynny yn cynnwys hefyd elfennau o arian yn y colegau—y rheini sydd ar gael—i ddiwallu anghenion brys ac argyfyngus unigolion lle mae pwysau costau yn bygwth bod yn rhwystr iddyn nhw o ran cael mynediad at gyrsiau. Mae cronfeydd penodol gan golegau sydd yn cael eu hariannu ar gyfer y pwrpas hwnnw.
Un o’r cwestiynau y gwnaeth hi ei ofyn sydd yn bwysig iawn yw: sut rŷm ni’n gallu sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y rheini sydd angen cael mynediad fwyaf at addysg bellach? Mae’r ystadegau yn dangos, yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol, mai dyna’r her fwyaf, os hoffwch chi. Y bobl sydd yn fwyaf tebygol o fanteisio ar addysg fel oedolion yw’r rheini sydd efallai wedi cael y mwyaf o addysg ar hyd eu llwybr hyd hynny. Felly, dyna un o’r heriau, un o'r sialensiau mwyaf dyrys.
Rwy’n credu bod hyn yn rhan o’r strategaeth yn gyffredinol. Mae’r gwaith y mae’r external reference group yn ei wneud gyda ni yn ein helpu ni i ddeall sut i allu cyrraedd pobl, sut i allu sicrhau nad oes dyblygu, a bod y ffordd rŷm ni’n cyfathrebu â phobl yn sicrhau bod cyrsiau yn hygyrch i bobl, a’n bod ni hefyd yn cynnig llwybrau i bobl allu ailgydio gyda dysgu sydd yn amrywiol, sydd yn adlewyrchu amryw lefelau o hyder, os hoffwch chi, ac i’r rheini sydd efallai ymhellach o’r system addysg.
Felly, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un ymyriad yn y maes hwn yn mynd i ateb y galw. Ond rwy’n gobeithio bod y darlun dwi wedi bod yn ei ddisgrifio—ystod eang o ymyriadau ar y cyd—yn mynd i allu cyrraedd y rheini sydd angen y gefnogaeth fwyaf.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog, a'ch ymrwymiad, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, i ddysgu gydol oes ac addysg ail gyfle. Roedd yn dda eich gweld yn y gwobrau dysgu i oedolion nôl ym mis Medi, Gweinidog, gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith, lle rwy'n credu i ni glywed tystiolaeth bwerus iawn gan y rhai a oedd wedi elwa ar addysg ail gyfle a chanfod bod hynny'n trawsnewid eu bywydau'n llwyr, iddyn nhw eu hunain ac, yn wir, eu plant a'u teuluoedd. Mae'n bwerus iawn yn wir, ac mae fy mhrofiad i fy hun yn atgyfnerthu hynny, Gweinidog.
Ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a bod allan o waith am gyfnod o flynyddoedd, ac yna cael teulu ifanc, byw ar ystad gyngor, roeddwn i'n edrych am ffordd ymlaen, ac addysg ail gyfle, a mynd i'r coleg addysg bellach yng Nghasnewydd—Coleg Nash fel yr oedden ni'n ei ddisgrifio bryd hynny—a arweiniodd fi yn ôl i fyd addysg ac ymlaen i'r brifysgol, gyrfa yn y gyfraith, a nawr y fraint o gynrychioli pobl, yn gyntaf yn y Cynulliad ac yma yn y Senedd erbyn hyn. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r cyfleoedd hynny yn fawr ac rwyf eisiau eu gweld ar gael i bobl eraill.
Rwy'n credu hefyd, Gweinidog, bod angen i ni ddeall y gweithle o ran y cyfleoedd yma. Rwy'n credu bod cronfa ddysgu undebau Cymru yn bwerus iawn, a'r cynrychiolwyr dysgu, a rhwyddineb mynediad, lle gall pobl gael cyfleoedd uwchsgilio ac addysg yn y gweithle, ac yna datblygu angerdd amdano a mynd ymlaen o'r fan honno, efallai i'w coleg addysg bellach lleol a thu hwnt, yn bwerus iawn, iawn. Rwy'n credu bod hynny'n agwedd bwysig iawn ar y ddarpariaeth sydd ei hangen arnom.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am hynna? Siaradodd yn deimladwy iawn yn y digwyddiad yn y Senedd am ei daith ei hun, fel y mae wedi gwneud yma heddiw, ac rwy'n credu bod hyn yn dangos yn llwyr bŵer a phwysigrwydd dysgu gydol oes i ddemocrateiddio mynediad at addysg ar bob adeg yn eich bywyd. Rwy'n credu bod y stori y mae John Griffiths newydd ei rhoi yn stori ysbrydoledig am addysg oedolion—mae'n dechrau ar un pwynt ar y daith, ac yna gall hynny eich arwain chi at—. Mae'n daith gronnus, onid yw hi, o ddysgu mwy a mwy ac ymestyn eich cymwysterau neu eich taith ddysgu ar unrhyw adeg mewn bywyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gweld hyn yn gyfannol. Bydd pobl yn ailgydio mewn dysgu ar ba bynnag adeg ac ym mha bynnag leoliad sy'n gweithio iddyn nhw. I rai, mae hynny'n lleoliad cymunedol. I rai, mae'n brifysgol. I eraill, bydd yn y gweithle, a chlywodd y ddau ohonom ni am waith dau undeb a gafodd wobrau am eu gwaith anhygoel o ran nodi gweithwyr na fyddent efallai wedi meddwl amdanynt eu hunain fel rhai â chyfle i ddysgu ac yna datblygu eu cyfleoedd i feithrin mwy a mwy o sgiliau. Rwy'n credu bod ymrwymiad y Llywodraeth i gronfa dysgu undebau Cymru yn bwysig iawn, ac mae'n bwysig gweld datblygu sgiliau yn y gweithle fel rhan o'r cynnig cyffredinol sydd gennym ni.
Diolch i'r Gweinidog.
Symudwn ymlaen nawr at ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles.
Cynnig NDM8109 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2021-22.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon heddiw, a gofyn i chi nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg am y flwyddyn 2021-22, mae yna wrth gwrs elfen o dristwch wrth gofio am Aled Roberts. Roedd cyfraniad Aled fel Comisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn yn flaengar, ac yn gosod sylfaen ac arweiniad cadarn i’r gwaith. Er i gyfnod Aled fel comisiynydd gael ei dorri’n fyr, heb os, fe wnaeth ei farc ar y swydd ac ar y Gymraeg. Fel Comisiynydd y Gymraeg, fe wnaeth Aled achub ar bob cyfle i ysbrydoli ac i gefnogi’r rhai a oedd angen cymorth a chyngor, a bu'n lladmerydd cryf dros siaradwyr Cymraeg. Doedd e ddim yn ofni ein herio ni fel Gweinidogion, ac roedd ei frwdfrydedd, yn enwedig dros wella cynllunio addysg Gymraeg, yn amlwg i bawb. Ar lefel bersonol, roedd Aled yn gymeriad caredig ac onest, llawn hiwmor, ac yn golled enfawr i’w deulu ac i’w gymuned. Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio am Aled yma heddiw wrth draddodi’r adroddiad blynyddol, ac yn cofio am ei gyfraniad pwysig.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Gwenith Price, dirprwy gomisiynydd y Gymraeg, am arwain y sefydliad mor effeithiol ers mis Chwefror. Mae wedi bod yn gyfnod anodd i’r staff, ond rwy’n ddiolchgar i Gwenith ac i’r holl staff am sicrhau bod gwaith y comisiynydd wedi parhau yn ddi-dor. Pwysig hefyd yw nodi fy niolch i aelodau panel cynghori’r comisiynydd, ac i'r pwyllgor archwilio a risg, am fod yn gefn i Gwenith.
Mae nawr hefyd yn gyfle i ni edrych ymlaen, ac o ran hynny, mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi mai Efa Gruffudd Jones sydd wedi’i phenodi fel Comisiynydd y Gymraeg. Bydd Efa yn dechrau fel comisiynydd ar 9 Ionawr. Mae’r Gymraeg wedi bod yn ganolog yng ngyrfa Efa, fel cyn-brif weithredwr yr Urdd am 12 mlynedd, ac nawr fel prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ers chwe mlynedd. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi siaradwyr Cymraeg, o ddenu siaradwyr newydd ac o weithio tuag at gynyddu defnydd o'r Gymraeg. Rwy'n disgwyl ymlaen i weithio gydag Efa i sicrhau mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg a'r rheini sy'n dysgu'r iaith i ddefnyddio'r Gymraeg, a chydweithio ar y nod ehangach o gynyddu defnydd.
Mae gan Comisynydd y Gymraeg rôl bwysig fel rheoleiddiwr, a hefyd o ran gweithredu 'Cymraeg 2050'. Fel eiriolwr dros faterion Cymraeg, mae'n bwysig bod y comisiynydd yn herio'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill o bryd i'w gilydd i sicrhau cynnydd a gwella parhaus o ran ymwneud pobl â sefydliadau a'r Gymraeg. Mae'r adroddiad blynyddol yn mynd â ni ar daith drwy waith y comisiynydd, gan nodi uchafbwyntiau o'r hyn a gyflawnwyd ym meysydd fel hawliau, dylanwadu ar bolisi, datblygu isadeiledd a hybu defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau ac elusennau.
Rwy'n falch o weld rhai enghreifftiau yn yr adroddiad o le mae gwaith y comisiynydd o orfodi safonau wedi arwain at welliannau yn y gwasanaethau mae pobl yn eu derbyn. I mi, mae hynny'n elfen hollbwysig o waith y comisiynydd. Rhaid i ni edrych ar y drefn safonau fel ffordd o wella gwasanaethau a chynyddu defnydd o'r Gymraeg. Rhaid helpu cyrff a defnyddwyr fel ei gilydd i gynnig ac i ddefnyddio gwasanaethau.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth trwy'r cytundeb cydweithio i wella gwasanaethau Cymraeg ac i roi hawliau i ddefnyddwyr trwy'r drefn safonau yn gadarn. Fe wnes i lywio'r safonau i reoleiddwyr iechyd trwy'r Senedd cyn toriad yr haf, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar baratoi set o safonau i'r cwmnïau dŵr, i fwrw ymlaen â'r rhaglen sydd yn y cytundeb cydweithio.
Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn rhestru rhai pethau maen nhw wedi gwneud i ddylanwadu ar bolisi, ac mae rôl y comisiynydd yn hynny o beth yn bwysig. Mae angen atgoffa cyrff cyhoeddus—ac rwy'n cynnwys y Llywodraeth yn hynny—o beth gallwn ni ei wneud i helpu'r Gymraeg i ffynnu drwy brif-ffrydio astudiaethau Cymraeg o'r cychwyn wrth ddatblygu polisi.
Rwy'n falch o beth rŷm ni fel Llywodraeth wedi cyflawni dros y flwyddyn diwethaf. Rŷm ni wedi lansio'r comisiwn cymunedau Cymraeg. Rŷm ni wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, ac wedi lansio polisi newydd i roi gwersi Cymraeg am ddim i bobl oed 16 i 25, ac i'r gweithlu addysg.
Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i sefydlu cwmni Adnodd i sicrhau bod digon o adnoddau Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Rŷm ni'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu'r cyfleoedd i wneud prentisiaethau ac addysg alwedigaethol trwy'r Gymraeg. Rŷm ni hefyd wedi cydweithio gyda Microsoft er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyfarfodydd dwyieithog gyda chymorth cyfieithydd ar y pryd ar Teams.
Yn ganolog i'r holl ddatblygiadau hynny yw ffocws y Llywodraeth ar gynyddu'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg, a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Rwyf wedi dweud sawl gwaith ers bod yn Weinidog dros y Gymraeg fod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni, yma yn y Senedd, yn y Llywodraeth, ac, yn bwysicaf oll, ym mhob man arall yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am sicrhau amser i drafod yr adroddiad pwysig hwn, a hoffwn ailadrodd geiriau'r Gweinidog a thalu teyrnged i Aled Roberts. Roedd Aled yn berson gwych, nid yn unig yn wleidydd medrus ond hefyd yn was cyhoeddus caredig a oedd yn barod i sefyll ar ei draed a churo'r drwm dros ein cymunedau Cymraeg. Roedd yn deall beth sydd gan ein hiaith i’w chynnig i’r Gymru fodern wrth edrych i'r dyfodol, iaith a oedd ar drai ers blynyddoedd, ac fel petai’n cael ei hanwybyddu a’i gwanhau. Ond oherwydd gwaith Aled ac eraill, dechreuodd yr agweddau hen ffasiwn hyn newid. Roedd Aled yn caru’r iaith ac yn deall pa mor bwysig ydoedd; roedd yn sicrhau ei bod yn cael sylw haeddiannol. Roedd hyn yn amlwg yn ei waith fel Aelod Cynulliad a thrwy gydol ei gyfnod fel Comisiynydd y Gymraeg hefyd. Yn wir, heb arweinyddiaeth Aled, rwy'n ofni na fyddem yn gallu dathlu llwyddiant yr iaith heddiw.
Yn ogystal â hyn, ni allaf lai na thalu teyrnged hefyd i waith Gwenith Price, dirprwy gomisiynydd y Gymraeg. Fel y noda'r adroddiad blynyddol hwn, roedd marwolaeth Aled wedi gadael bwlch yn swyddfa'r comisiynydd, a Gwenith gyda chymorth ei thîm ymroddgar fu’n sicrhau bod etifeddiaeth Aled yn parhau. Rwy'n credu fy mod i'n siarad ar ran y Siambr i gyd wrth fynegi ein diolch am yr arweinyddiaeth ymroddgar a roesoch chi, Gwenith, yn y rôl hon.
Wrth droi at gynnwys yr adroddiad hwn, mae'n amlwg i mi fod swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn weithgar yn ei rôl a'i chyfrifoldeb a hefyd wedi gweithredu mewn modd rhagweithiol i hyrwyddo a diogelu ein hiaith. Yn wir, rhoes gryn bleser i mi weld cyfraniad Comisiynydd y Gymraeg at Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith; mae'n bwysig i ni ddysgu gan ein partneriaid ieithyddol ond, trwy gydweithio, gallwn hefyd helpu i ddarparu llwyfan ar gyfer hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg. Gyda chyfleoedd fel presenoldeb tîm pêl-droed Cymru yng nghwpan y byd, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn manteisio ar y sylw mae Cymru'n ei chael, ac yn ei defnyddio fel cyfle i annog defnydd o'n hiaith.
Yn ogystal â hyn, roeddwn i'n falch o weld bod ymdrechion wedi'u gwneud i foderneiddio'r allbwn, gan wreiddio'r iaith yn y cyfleoedd technolegol sydd o'n blaenau. Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys lansio gwefan newydd Comisiynydd y Gymraeg a defnyddio podlediadau a darllediadau, a rhaid i'r pethau hyn barhau. Wrth wneud hyn, rydym yn allforio'r iaith y tu hwnt i'w chynulleidfa draddodiadol, ac yn datblygu marchnad newydd o siaradwyr Cymraeg y gallwn ni eu denu a'u swyno.
Yn wir, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, mae'n amlwg bod Aled, Gwenith a'u tîm wedi gwneud mwy na chyflawni eu gwaith a'u cyfrifoldebau. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi llwyddo i ennyn diddordeb a sicrhau ein bod yn bwrw ati i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Trwy ddal ati i wneud hyn, a pharhau i gydweithio a gwreiddio'r Gymraeg fel iaith sy'n perthyn i bawb, fel dywedodd y Gweinidog, rwy'n hyderus ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed. Hefyd, pob lwc i Efa Gruffudd Jones yn ei swydd newydd; mae ganddi ein cefnogaeth yn y rôl. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am y cyfle i fod yn trafod yr adroddiad pwysig yma heddiw. Hoffwn gysylltu fy hun â sylwadau'r Gweinidog a Sam Kurtz o ran Aled Roberts. Yn sicr, dwi'n siŵr y bydd pob Aelod yma'n cytuno â mi fod ei waith wedi cael ei barchu a'i edmygu'n fawr ar draws y Senedd. Mae'r cynnydd a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn dyst i'w eiriolaeth ragorol dros y Gymraeg, ac mae'n bwysig bod hynny yn cael ei chydnabod ar bob cyfle posibl.
Hoffwn hefyd ategu beth sydd wedi'i ddweud eisoes am waith Gwenith Price, sydd yn parhau, wrth gwrs, ar y funud, am y ffordd mae hi wedi, mewn amgylchiadau anodd iawn, parhau gyda gwaith swyddfa'r comisiynydd, parhau i herio'r Llywodraeth pan fo angen hefyd ar adegau, ond parhau gyda'r gwaith positif sydd angen o ran hyrwyddo'r Gymraeg. Dwi hefyd eisiau dymuno pob llwyddiant i Efa Gruffudd Jones wrth iddi hi fod yn paratoi ar gyfer adeiladu ar y seiliau cadarn sydd wedi'u gadael gan Aled a hefyd Gwenith. Pob hwyl iddi hi.
O ran yr adroddiad, dyma'r cyntaf o'r fath ers dechrau'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru fis Tachwedd y llynedd. Fel plaid, rydyn ni'n falch iawn o weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo nifer o ymrwymiadau allweddol ynglŷn â gwelededd, defnydd ac hygyrchedd yr iaith, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ym mhob rhan o'r genedl. Dwi'n cytuno'n llwyr â chi—bob tro rydych chi'n ei ddweud o, Weinidog, dwi'n ei ailadrodd o—bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae'n neges bwysig ac yn un rydyn ni angen parhau i'w chyfathrebu. Ac yn sicr i mi hefyd ein bod ni'n sicrhau bod y Gymraeg yn agored i bawb a bod pawb yn gallu cael y cyfle hwnnw. Mae yna gymaint o bethau rydych chi wedi'u hamlinellu sydd yn y cytundeb cydweithio, megis y gwersi Cymraeg ac ati, ond yn amlwg mae yna heriau hefyd rydyn ni wedi'u trafod yn aml o ran addysg Gymraeg. Yn amlwg mae'r Ddeddf yn mynd i fod yn bwysig iawn o ran sicrhau nid yn unig bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ond bod pawb efo'r cyfle i'w dysgu hi a'i defnyddio hi a'i mwynhau hi, sydd yn beth mawr.
Er bod rhywfaint o le i optimistiaeth yn yr adroddiad, mae hefyd yn amlwg nad yw cynnydd mewn meysydd eraill i gyd wedi bod mor bellgyrhaeddol ag a gobeithiwyd yn wreiddiol. Yn benodol, mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen i amcanion ac ysbryd 'Cymraeg 2050' fod wrth galon pob datganiad, polisi a gweithred, os yw'r Llywodraeth hon o ddifri ynglŷn â gwireddu'r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ac ar sail hon felly, Weinidog, gaf i ofyn ichi fynegi sut rydych chi yn sicrhau hyn? Yn amlwg, rydym ni wedi gweld penderfyniad gan yr Uchel Lys yn ddiweddar o ran yr ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg newydd yng nghwm Tawe, o ran y methiant i asesu'r effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Sut, felly, mae pethau o'r fath yn gyson gyda strategaeth 'Cymraeg 2050'?
Yn ei gwrandawiad i'w phenodi, soniodd y comisiynydd newydd am yr angen i flaenoriaethu naws gydweithredol a chefnogol wrth ddelio â sefydliadau ar safonau'r Gymraeg yn hytrach na throi at ddulliau enwi a chodi cywilydd yn y lle cyntaf. Ac er ein bod yn cydnabod, wrth gwrs, gwerth ennill calonnau a meddyliau, mae hefyd yn hanfodol nad yw'r comisiynydd yn cael ei rhwystro rhag defnyddio'r mecanweithiau rheoleiddio cadarn a ddarperir gan y Mesur i sicrhau bod safonau perthnasol yn cael eu cynnal a, lle bo angen, eu cryfhau. Mae hefyd yn werth pwysleisio bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn 2017 i wanhau rôl y comisiynydd o ran pwerau rheoleiddio wedi’u beirniadu'n hallt ar y pryd, ac mae'n bwysig, felly, nad ydym yn gwastraffu amser yn adfywio hen ddadleuon. Rôn i'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn, wrth gwrs, am bwysigrwydd y rôl rheoleiddio. Byddem ni'n gofyn, felly, am sicrwydd bod y comisiynydd yn mynd i gael pob cymorth gofynnol i gyflawni'r pwerau rheoleiddio sydd ar gael iddi ac na fydd hi'n cael ei chyfyngu i rôl o hyrwyddo yn unig.
Yn olaf, Weinidog, hoffwn dynnu eich sylw at achos ddiweddar yn ymwneud â staff deintyddol Bupa yn cael eu cyfarwyddo i ymatal rhag sgwrsio â chydweithwyr yn Gymraeg, yn groes i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Fe welsoch chi, dwi'n siŵr, y datganiad gan swyddfa'r comisiynydd yr wythnos diwethaf ynglŷn â hyn. Ydych chi'n cytuno bod achosion o'r fath yn tanlinellu'r angen i ymestyn ac atgyfnerthu safonau'r Gymraeg cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys y sector preifat? Ac a wnaiff y Gweinidog barhau i gydweithio â ni i gyflawni'r amcanion yma cyn gynted â phosib? Diolch.
Fel eraill, liciwn i ddechrau fy nghyfraniad i y prynhawn yma drwy dalu teyrnged i Aled Roberts. Mi wnes i wasanaethu fan hyn gydag Aled, a dwi'n cofio gweld ei wyneb draw fan yna ble roedd e'n eistedd ac yn gwenu ar draws y Siambr. Beth bynnag oedd pobl yn ei ddweud, roedd gwên ar wyneb Aled ac roedd wastad gair gwresog yn yr ystafell de ar ôl unrhyw drafodaeth. Roedd hi'n bleser gwasanaethu fan hyn gydag Aled, ac roedd hi'n bleser gweithio gyda fe ar ôl hynny. Gwleidyddion fel Aled ydy'r gorau ohonom ni, a dwi'n gwybod bod pob un ohonom ni yn gweld colled yn ei le fe yn ystod y cyfnod ers ei golli e. Mae eisiau mwy o wleidyddion fel Aled Roberts, sydd yn gallu ymestyn ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac sy'n gallu gwasanaethu ei gymuned yn y ffordd wnaeth e. Dwi'n cofio clywed y newyddion ei fod e wedi cael ei benodi fel comisiynydd, ac rôn i'n gwybod bod y swydd yn saff yn ei ddwylo e. Dŷch chi'n gwybod, pa bynnag her dŷn ni i gyd yn wynebu, pan fo rhywun fel Aled yn gwasanaethu yn y rôl, rwyt ti'n gallu cael ffydd mi fydd y rôl yn cael ei llenwi yn y ffordd y buasai pob un ohonom ni eisiau ei weld. Mae hynny'n brin iawn, yn aml iawn, mewn gwleidyddiaeth.
Wedi dweud hynny, dwi hefyd yn croesawu, wrth gwrs, penodiad Efa Gruffydd Jones. Mi oedd hi'n ymddangos gerbron y pwyllgor diwylliant rai wythnosau'n ôl, ac roedd hi'n gadarn yn y ffordd wnaeth hi ateb ein cwestiynau a'r ffordd roedd hi'n trafod polisïau—polisïau'r Llywodraeth, polisi 'Cymraeg 2050'—ond hefyd y ffordd roedd hi'n deall beth oedd anghenion rôl fel comisiynydd. A dwi yn meddwl, bob tro mae yna gomisiynydd newydd, mae'n rhaid i ni feddwl beth ydy'r ffocws yn mynd i fod ar gyfer y comisiynydd newydd, ble mae polisi yn mynd i fynd, a beth yw'r blaenoriaethau. A dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni newid ambell waith y ffocws a'r blaenoriaethau fel dŷn ni'n symud ymlaen, i gydnabod y cyd-destun gwahanol a newydd, ac i gydnabod y cyd-destun sy'n newid gydag amser.
Wrth lansio 'Cymraeg 2050' roeddwn i eisiau gweld her i'r Llywodraeth. Roedd angen i'r Llywodraeth newid. Doedd y Llywodraeth ddim yn gweithredu yn y ffordd fuasai wedi cefnogi'r Gymraeg yn y ffordd y dylai'r Llywodraeth wneud. Ac rôn i'n gwybod—a dwi'n falch iawn o gefnogaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones—bod rhaid newid pethau, a'n herio ni fel gwlad hefyd, achos Cymry fydd yn siarad Cymraeg, nid jest gweision sifil ym Mharc Cathays. Y Cymry fydd yn adnewyddu'r Gymraeg—y rhai ohonon ni sy'n siarad Cymraeg, yn dysgu Cymraeg, yn defnyddio'r Gymraeg. Dwi'n cofio trafod gyda Carwyn sut roedden ni'n mynd i lansio’r polisi, ac mi ddaeth aelodau o dîm pêl-droed Cymru at ei gilydd mewn ysgol ddim yn bell o fan hyn. Chris Coleman oedd y rheolwr ar y pryd, ac roedd e'n sôn sut roedd yr FAW wedi trio defnyddio'r Gymraeg, normaleiddio'r Gymraeg, os dŷch chi'n licio, yn ystod yr Ewros oedd newydd fod ar y pryd. A dŷn ni'n edrych nawr ymlaen at yr wythnos nesaf, ac yn ymfalchïo o weld Cymru yn chwarae yng nghwpan y byd, ac yn ymfalchïo hefyd yn y diwylliant newydd sydd wedi tyfu trwy gyfrwng y Gymraeg, a ble mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gwbl naturiol wrth gefnogi'r tîm. Dwi'n edrych ymlaen at gefnogi Cymru yr wythnos nesaf, ac edrych ymlaen hefyd at sut rŷn ni'n defnyddio'r Gymraeg.
Pan dŷn ni yn meddwl amboutu herio'r Llywodraeth, mae'n rhaid i ni hefyd herio ein gilydd. Gormod o weithiau dwi'n clywed, yng nghyd-destun trafodaeth polisi y Gymraeg, y polisi iaith, nad ŷn ni'n fodlon herio ein gilydd yn ddigon aml. Mi wnes i ddweud hyn wrth Cymdeithas yr Iaith rai wythnosau yn ôl. Mae gwaith newydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd, gwaith sydd yn hynod o bwysig. Mae penodiad y Gweinidog o Simon Brooks i edrych ar ddyfodol cymunedau Cymraeg yn benodiad hynod o bwysig, a dwi'n croesawu hynny. Dwi'n croesawu tôn y Gweinidog hefyd, a dwi'n croesawu'r ffordd mae'n fodlon ystyried sut rŷn ni'n cynllunio addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae yna her newydd.
Ond liciwn i gynnig her arall olaf yn yr amser sydd gen i y prynhawn yma. Dwi'n meddwl bod angen edrych ar y ddeddfwriaeth sydd gyda ni i gefnogi'r polisi 'Cymraeg 2050'. Dwi ddim yn credu bod y safonau yn ddigonol. Dwi ddim yn credu bod pwyslais rheoleiddio yn mynd i hybu'r Gymraeg, neu greu hyder i siarad a defnyddio'r Gymraeg. Ac mi ddywedaf hyn gyda phob parch at Heledd—a dwi'n croesawu cyfraniad Heledd gyda llaw—ond fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg, a gaf jest ddweud hyn? Pan oeddwn i'n dysgu Cymraeg, doeddwn i ddim yn dysgu Cymraeg oherwydd roedd safonau neu hawliau yn y cefndir. Doeddwn i ddim yn dysgu Cymraeg oherwydd y fath o reoleiddio oedd ddim yn digwydd ar y pryd. Rôn i'n dysgu Cymraeg oherwydd beth oedd y Gymraeg, a natur y bywyd dŷn ni'n gallu byw drwy gyfrwng y Gymraeg, y ffaith bod y Gymraeg yn gallu newid eich bywyd chi. A dwi'n credu bod rhaid i ni siarad dim jest gyda'r Cymry sy'n siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd anyway, ond y Cymry sydd ddim yn siarad Cymraeg, y Cymry sydd wrthi yn dysgu Cymraeg, y Cymry heb yr hyder i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd. A dyna lle mae'r her bwysig. Os ydyn ni'n gallu gwneud hynny—
Alun, mae'n rhaid i ti orffen nawr.
—mi fyddwn ni ddim jest yn newid polisi'r iaith, ddim jest yn newid y Llywodraeth, ond mi fyddwn ni hefyd yn newid Cymru.
Galwaf ar Jeremy Miles i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau ar y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd. Dwi jest eisiau cloi, os caf, drwy sôn am yr esblygu mae Alun Davies yn sôn amdano fe sydd mor bwysig ym mholisi iaith, a sut ydyn ni'n mynd ati i sicrhau ffyniant yr iaith a mynediad hafal i'r Gymraeg i bawb sydd eisiau ei dysgu hi, a chyfleoedd i bawb. Mae'r gallu a'r hyder i newid ac edrych eto ar yr hyn rŷn ni'n ei wneud, ac ymateb i'r cyd-destun sydd ohoni o bryd i'w gilydd, yn beth pwysig iawn wrth i ni fynd ati i ehangu cyfleoedd i bobl.
Mae hawliau ieithyddol yn bwysig iawn. Mae nhw'n bwysig i ddefnyddwyr y Gymraeg, ond mae hefyd yn gwbl glir, wrth gwrs, na wnawn ni reoleiddio'n ffordd i ffyniant y Gymraeg. Mae angen hefyd greadigrwydd a dychymyg yn sut rŷn ni'n ehangu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Fe wnaeth Heledd Fychan sôn am gyfyngu i hyrwyddo. Mae hyrwyddo yn beth pwysig; mae'r comisiynwyr wedi gweld hynny yn beth pwysig drwy gydol y blynyddoedd, ac mae angen edrych ar hynny fel rôl greiddiol ynghyd â'r rheoliadau.
Mae mwy nag un cyfrannwr wedi sôn am y cyfle sydd gyda ni yng nghyd-destun cwpan y byd i allu amlygu a dangos esiampl ac ymestyn cyfleoedd i bobl i ddysgu'r Gymraeg, a pha un ai mai 'Cymru' neu 'Wales' yw'r enw sydd gyda chi ar gyfer y tîm cenedlaethol, mae'r gwaith mae'r gymdeithas bêl-droed wedi bod yn gwneud gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu, mewn partneriaeth, adnoddau i hyfforddi'r tîm a staff y gymdeithas, cefnogwyr pêl-droed, a chwaraewyr a chefnogwyr ar lawr gwlad wedi bod yn un o'r enghreifftiau hynny o greadigrwydd a meddwl tu allan i'r bocs, a sicrhau ein bod ni'n cymryd mantais o bob cyfle i allu atgoffa pobl fod cyfle iddyn nhw ddysgu'r Gymraeg hefyd.
Ac os caf i hefyd gytuno gyda'r pwynt wnaeth Alun ynglŷn â'r ffaith bod gan bawb nid jest berchnogaeth ar y Gymraeg ond hefyd rôl yn gwarchod y Gymraeg, ac inni gydweithio ar y cyd tuag at y targedau sydd gennym ni yn 'Cymraeg 2050'. Ynghyd â'r gwaith rŷn ni'n ei wneud fel Llywodraeth ar y cyd gyda Phlaid Cymru yn y cytundeb cydweithio, ac mewn amryw o ffyrdd eraill, rwy eisiau gweld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus ar draws Cymru yn cymryd cyfrifoldeb hefyd am yr iaith. Drwy gydweithio, fe wnawn ni sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu, a sicrhau'r nod honno bod y Gymraeg yn perthyn i bawb a bod gan bawb gyfle i ddysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio, ond gan nad oes pleidleisiau y prynhawn yna, mae'n dod â ni i ddiwedd busnes heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.