Y Cyfarfod Llawn
Plenary
12/10/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sarah Murphy.
1. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod digon o leoedd ysgolion ar gael i ddisgyblion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58521
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgolion. Mae'n rhaid iddynt sicrhau bod digon o ysgolion yn darparu addysg gynradd ac uwchradd i ddisgyblion yn eu hardaloedd. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw awdurdod lleol lle nad oes digon o leoedd ysgolion.
Diolch, Weinidog, ac rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb i’r cwestiwn hwn. Gwn ar ôl clywed gan lawer o rieni yn fy etholaeth, a ledled Cymru wrth gwrs, eu bod eisiau gallu danfon eu plant i ysgolion da, yn agos at eu cartrefi. Ond mae hon wedi bod yn broblem i rieni a disgyblion yn fy nghymuned, felly mae’n wych clywed am y buddsoddiad o £1.8 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ysgolion mewn datblygiadau tai i gynyddu'r nifer o ystafelloedd dosbarth a lleoedd disgyblion, yn Ysgol Gyfun Bryntirion, a bod cynlluniau ar waith i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Coety, sydd wedi'i lleoli mewn datblygiad tai diweddar. Ond hoffwn nodi, yn benodol mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Coety, yn anffodus, pan adeiladwyd y datblygiad tai, ac mae'r ysgol yn ei ganol, nad oedd digon o leoedd ar gyfer y disgyblion, yn enwedig gan fod y datblygiad tai wedi ehangu bellach. Felly, mae bwlch lle nad oedd digon o leoedd yn yr ysgol honno ar gyfer y plant sy'n byw o'i chwmpas, ac mae'r bwlch hwnnw wedi golygu bod plant wedi gorfod mynd ymhellach i ffwrdd, ac mewn rhai achosion, fod brodyr a chwiorydd heb allu mynychu'r un ysgol. Rwy’n deall y gall fod yn anodd rhagweld faint o leoedd y bydd eu hangen mewn ysgolion newydd, ond beth arall y gellir ei wneud i ganiatáu rhywfaint yn fwy o hyblygrwydd yn hyn o beth pan fyddwn yn adeiladu datblygiadau tai ac ysgolion newydd?
Diolch i Sarah Murphy am groesawu’r buddsoddiad, gan gynnwys yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel mewn mannau eraill. Roedd yn braf ymweld ag Ysgol Gyfun Bryntirion gyda hi'n ddiweddar. Mae'n llygad ei lle, wrth gwrs, yn dweud ei bod yn bwysig inni sicrhau bod ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gydnaws â datblygiadau ym maes tai. Mae ein system gynllunio yn allweddol yn hyn o beth i’n helpu i sicrhau, wrth i ddatblygiadau tai newydd gael eu hadeiladu, fod digon o leoedd ysgolion ar gael mewn cymunedau. Dylai awdurdodau fabwysiadu ymagwedd strategol a hirdymor tuag at ddarparu cyfleusterau cymunedol, sy'n amlwg yn cynnwys ysgolion, pan fyddant yn paratoi eu cynlluniau datblygu. Mae’r cynlluniau hynny’n nodi sut y bydd lleoedd yn newid dros gyfnod o 15 mlynedd—faint o dai newydd a gaiff eu hadeiladu a ble y cânt eu lleoli. Ac felly, fel rhan o hynny, byddem yn disgwyl i seilwaith, gan gynnwys darpariaeth ysgolion, fod yn ystyriaeth hollbwysig wrth gynllunio’r datblygiadau tai newydd hynny. Ond rwy’n cydnabod, weithiau, fod bylchau rhwng y ddarpariaeth a’r angen, sydd efallai'n anochel.
Weinidog, yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr o’r enw, 'Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru’, i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio lleoedd ysgolion, i adrodd ar leoedd gwag ac i bennu niferoedd derbyn ysgolion. Nawr, mae defnyddio data, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn gwbl gywir—rydym yn defnyddio data i gynllunio ein lleoedd ysgolion—yn hanfodol, fel cyfraddau genedigaethau, nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu, data mudo a theuluoedd newydd yn symud i ardaloedd newydd. Felly, beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud yn awr i sicrhau bod unrhyw ganllawiau ategol yn addas i'r diben er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i gynllunio lleoedd ysgolion yn awr ac ar gyfer y dyfodol?
Rwy'n fodlon fod y canllawiau'n ddigonol i alluogi awdurdodau i wneud hynny. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod lleol a chanddo fwy o leoedd ysgolion cynradd, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ogystal â rhai cyfrwng Saesneg, ac yn yr un modd mewn darpariaeth uwchradd, nag sydd o ddisgyblion. Fel y trafodais gyda Sarah Murphy funud yn ôl—. Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa lle mae rhieni bob amser yn gallu anfon eu plant i'r ysgol o'u dewis cyntaf—nid dyna'r system sydd gennym. Mae cydbwysedd rhwng y dewis hwnnw ac argaeledd lleoedd yn lleol i’r ysgol honno, ond ar sail awdurdodau lleol, gallaf roi sicrwydd i chi fod digon o leoedd i ddiwallu'r angen sy'n codi.
2. Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei darparu i fyfyrwyr prifysgol ar draws canolbarth a gorllewin Cymru wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu? OQ58543
Cymru sy'n cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r lefelau uchaf o gymorth grant nad oes angen ei ad-dalu yn targedu'r bobl sydd ei angen fwyaf. Rŷn ni'n cydweithio'n agos â'r sector i sicrhau eu bod nhw'n ystyried pob opsiwn i gefnogi myfyrwyr y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw.
Diolch yn fawr iawn. Efallai y dylwn i fod yn datgan diddordeb gan fod dwy ferch gen i yn y brifysgol ar hyn o bryd, a dwi wedi cael nifer o e-byst gan fyfyrwyr, nifer ohonyn nhw yn y ddwy brifysgol sy'n digwydd bod yn fy rhanbarth i. Felly, dwi'n ymwybodol iawn o'r straen cynyddol y mae'n myfyrwyr prifysgol yn ei wynebu yn sgil yr argyfwng costau byw. Yn wir, tra bo chwyddiant yn parhau i godi, mae'r pecyn cynhaliaeth sy'n cael ei roi i fyfyrwyr ond wedi codi rhyw 3.5 y cant, sydd wrth gwrs yn is na lefel chwyddiant. Ac yn ôl ymchwil diweddar gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, gwelwyd bod 92 y cant o fyfyrwyr yn pryderu am eu gallu i reoli eu harian, gyda bron hanner yn dweud bod hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Yn wir, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar, dywedodd llywydd UCMC bod un myfyriwr o Gaerfyrddin ond â rhyw £100 ar ôl, ar ôl talu rhent a biliau yn ystod tymor yr hydref. Felly, gan ystyried hyn, a wnewch chi, Weinidog, sicrhau bod pecyn cynhaliaeth ar gael i fyfyrwyr sydd o leiaf ar yr un lefel â chwyddiant?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Ein blaenoriaeth ni yma yng Nghymru yw sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at gefnogaeth sy'n caniatáu iddyn nhw gwrdd â costau dyddiol, a hefyd bod gan ein sefydliadau addysg uwch ni fynediad at lefelau addas a digonol o arian ar gyfer hynny. Fel rwy'n dweud, mae gennym ni yma yng Nghymru eisoes y pecyn mwyaf cefnogol o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Mae'n sicr yn wir bod pob prifysgol yn cynnig ffynhonnell i roi cefnogaeth benodol i fyfyrwyr o dan bwysau. Mae peth o'r gwasgedd a pheth o'r pwysau sy'n dod ar y ffynonellau hynny yn deillio o'r ffaith nad yw myfyrwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol yn cael yr un gefnogaeth, felly mae mwy o alw ar y ffynonellau arian argyfwng hynny yn ein prifysgolion ni yma yng Nghymru. Rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau eu bod nhw'n gallu rhoi gwybod i fi fod digon o gefnogaeth ar gael drwy'r prifysgolion. O ran ein cefnogaeth ni fel rhan o'r system ariannu ehangach, mae gan bob myfyriwr access at isafswm o gefnogaeth sy'n gyfystyr â'r cyflog byw. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf ynglŷn â sut y bydd hynny'n edrych yn y dyfodol. Felly, bydd mwy o wybodaeth ar gael i'r Aelod, ac i Aelodau eraill, bryd hynny.
Weinidog, hoffwn godi mater yr oeddwn am wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol ohono. Gwnaeth un o fy etholwyr—myfyriwr o Gymru—gais i ddarparwr addysgol yn Lloegr ar gyfer cwrs hyfforddi bargyfreithwyr proffesiynol, a chawsant wybod gan y darparwr nad oeddent yn fodlon cael mynediad at y cyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Nawr, nid yw hwn yn fater o bryder—. Nid yw hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ond rwy'n siomedig fod myfyrwyr o Gymru—ac o fy ymchwil fy hun, ymddengys bod hyn yn wir—yn cael eu trin yn wahanol i fyfyrwyr o Loegr os ydynt yn gwneud cais drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Ni chredaf ei fod yn fater sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, nac yn wir i Cyllid Myfyrwyr Cymru, ond tybed a ydych yn ymwybodol o’r sefyllfa hon, ac a yw hyn yn rhywbeth y byddech yn fodlon herio darparwyr yn Lloegr neu unrhyw ran arall o'r DU yn ei gylch, oherwydd a fyddech yn cytuno â mi y byddai’n gwbl anghywir i fyfyriwr o Gymru gael eu cosbi? Yn yr achos hwn, mae'r rhiant wedi gorfod ariannu'r cwrs a'r ffioedd eu hunain; pe bai'r teulu wedi bod yn Lloegr, ni fyddai hynny wedi digwydd. A ydych yn ymwybodol o'r materion hyn? Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion.
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai’r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â'r achos penodol hwnnw, a byddaf yn ymchwilio iddo. Mae gennym fecanwaith, system, yng Nghymru sy’n galluogi darparwyr cyrsiau mewn unrhyw ran o’r DU i gael eu hachredu, fel y mae’r Aelod yn amlwg yn gwybod, ac nid yw’n seiliedig ar ddaearyddiaeth; mae’n seiliedig ar feini prawf ac achredu gwrthrychol, sydd wedyn yn galluogi myfyriwr o Gymru i allu cael mynediad at y darparwr hwnnw mewn unrhyw ran o’r DU, a chael y cymorth sydd ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Felly, mae clywed yr hyn y mae'r Aelod wedi'i amlinellu heddiw yn peri gofid i mi, a byddwn yn ddiolchgar pe gall ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf bob amser wedi bod yn gefnogol i’r syniad fod angen diweddaru addysg rhyw yng Nghymru. Roedd wedi dyddio ac roedd angen ei newid, ond yn y ffordd iawn. Mae'r methiannau amlwg a welwn mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb yn peri gofid i mi. Os na chaiff pethau eu haddasu, byddwn yn colli cyfle yma i fynd ati o ddifrif i wella addysg rhyw i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Bydd y lles o'r newidiadau mawr eu hangen yr ydym yn eu gweld mewn addysg rhyw yn cael eu colli drwy beidio â sicrhau cynnwys ac iaith sy'n addas i oedran wrth gyflwyno negeseuon mor bwysig i'n plant a'n pobl ifanc. Fel y pwysleisiais yn gryf wrth y cyn Weinidog, Kirsty Williams, sydd â thri o blant ei hun, roedd angen i gynnwys newydd yr hyn a gâi ei ddysgu—ac roedd hi'n cytuno—(a) ddefnyddio geirfa y gall y plentyn/unigolyn ifanc sy'n cael eu dysgu ei deall, a (b), ac yn bwysicaf oll, sicrhau nad oedd y cynnwys yn peri dryswch a'i fod yn addas i'r oedran. Rydym fis i mewn i’r tymor newydd hwn a dechrau cyflwyno'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd yn swyddogol, ac mae’n gwbl amlwg fod rhywfaint o’r deunydd addysgu a argymhellwyd yn peri pryder i rieni ac athrawon. Ac yn sicr, nid ydynt—gormod lawer o'r deunydd a argymhellir—yn addas i'r oedran wedi’r cyfan. Fel mam i blentyn 12 oed a phlentyn tair oed fy hun, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r hyn a glywn—
Mae'n rhaid ichi ofyn cwestiwn yn awr; mae gennych dri chwestiwn yn y sesiwn hon, ac rydych eisoes 50 y cant dros amser.
Weinidog, gadewch imi ddarllen dyfyniad i chi o lyfr—
Na, na, na; ni chredaf fod gennych amser. Gallwch ei ddarllen yn eich cwestiwn nesaf yn ystod eich munud nesaf. A wnewch chi ddod at gwestiwn?
Iawn. Weinidog, mae’n bwysig fod pawb yn gallu bod yn bwy bynnag y dymunant fod, ac mae angen inni addysgu dealltwriaeth a pharch at bawb. Ond onid ydych yn cytuno â mi fod angen i'r hyn sy'n cael ei ddysgu fod yn gwbl addas ar gyfer oedran y plentyn hwnnw, fel eu bod (1) yn deall yr iaith a ddefnyddir, a (2) yn ddigon aeddfed yn emosiynol i dreulio ei gynnwys?
Wel, rwyf am ddechrau drwy ddweud nad yw bod yn rhiant yn rhagofyniad ar gyfer poeni am les ein plant yng Nghymru. [Aelodau’r Senedd: 'Clywch, clywch.’] ac mai fy mlaenoriaeth fel Gweinidog, a rennir yn eang iawn yn y Siambr hon, yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn ac yn cael eu galluogi i fyw bywydau iach a diogel. Rydym yn gweithio gyda’r NSPCC i sicrhau bod yr adnoddau a ddarparwyd gennym, y cod a’r ddeddfwriaeth, yn bodloni’r safon honno. Ceir rhai sy'n anghytuno â'r hyn a wnawn. Mae angen iddynt roi cyfrif am eu cymhellion eu hunain, ond dyna'r sail ar gyfer cyflwyno’r diwygiadau.
Mae’r Aelod yn ailadrodd pwyntiau cyffredinol ac amhenodol a wnaeth y tro diwethaf y bûm yn ateb cwestiynau yn y Siambr hon. O ganlyniad i’r awgrym peryglus iawn a wnaeth, rwy'n credu, ysgrifennais ati i'w gwahodd i egluro unrhyw enghreifftiau penodol y cyfeiriodd atynt yn y Siambr, ac nid yw wedi ateb.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn dod at hynny; rwyf ar fin darllen dyfyniad i chi o lyfr sydd i fod ar gyfer plant pump oed. Weinidog, enw’r llyfr hwn, a argymhellwyd, yw Who are you?, sy'n cynnwys y dyfyniad hwn:
'Pan fydd babanod yn cael eu geni, mae pobl yn gofyn ai merch neu fachgen ydyn nhw. Ni all babanod siarad, felly mae oedolion yn dyfalu drwy edrych ar eu cyrff.'
—ar gyfer plant pump oed.
Y frawddeg nesaf yn y llyfr yw hon:
'Gall pobl fod yn drawsryweddol, yn cwiar, yn anneuaidd, yn rhyweddhylifol, yn anrhyweddol, yn niwtral o ran rhywedd, yn ddeurywedd, yn drydydd rhywedd ac yn ddau-enaid.'
Nawr, nid y cynnwys sy'n fy mhoeni, Weinidog; fy mhwynt yw ei fod yn gynnwys mewn llyfr ar gyfer plentyn pum mlwydd oed. Nid wyf yn ymosod ar y proffesiwn addysgu, proffesiwn y mae gennyf barch mawr ato. Dyma’r deunyddiau sy’n cael eu hargymell gan y Llywodraeth hon iddynt eu haddysgu, y maent hwy eu hunain yn pryderu yn eu cylch, y mae penaethiaid yn pryderu yn eu cylch, ac y mae rhieni’n pryderu yn eu cylch. Dyna rwy'n ei wneud. Ac fe anfonoch chi lythyr ataf, fel y gwnaeth aelod o'r undeb, sy'n gyn-aelod o staff Llafur, prysuraf i ychwanegu, a hoffwn ddweud eto ar goedd na fyddwn byth yn breuddwydio ymosod ar broffesiwn y mae gennyf barch mor fawr ato. Mae'n ymwneud â'r cynnwys, Weinidog. Fy swydd i yw eich dwyn i gyfrif a siarad ar ran y rhieni sy'n pryderu am yr hyn yr argymhellir y dylid edrych arno ar gyfer eu plant. Plentyn pump oed yn gallu dweud yr holl eiriau mawr hynny, Weinidog—a allwch chi ddeall?
Bydd yn rhaid ichi ofyn eich cwestiwn, Laura Anne Jones. Nid wyf yn gwybod beth sydd mor anodd am ofyn cwestiwn. Dewch at eich cwestiwn.
Diolch, Lywydd. A wnewch chi gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod adnoddau addysg awdurdodau lleol, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid yn addas i'r oedran, a chael gwared ar y rhai nad ydynt yn addas ar unwaith, a hefyd y rheini sy'n cyfeirio pobl at Mermaids? A wnewch chi ymrwymo i adolygu deunyddiau y gwelwyd eu bod yn ddiangen ar gyfer y grŵp oedran hwn, a sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu harwain gan wyddoniaeth, yn ogystal â chynnwys ideoleg rhywedd, addasrwydd i oedran—
Rydych eisoes wedi gofyn tri chwestiwn yn y gyfres honno o gwestiynau. Nid ydych i ofyn eich trydydd cwestiwn. Rydych wedi gofyn digon o gwestiynau yn y sesiwn hon—mae pedwar munud o amser wedi'i dreulio ar hyn eisoes. A gaf fi ofyn i’r Gweinidog ymateb i unrhyw rai o’r cwestiynau hynny, os gwelwch yn dda?
Ceisiaf fod mor niwtral ag y gallaf. Credaf fod yr Aelod yn gwneud anghymwynas â phobl ifanc Cymru gyda'r ffordd y mae'n gofyn y cwestiynau hyn. Rwy’n berffaith barod i ateb cwestiynau, fel y gwneuthum y tro diwethaf. Fe'i gwahoddais i dynnu fy sylw at ddeunydd penodol yr honnai, y tro diwethaf inni siarad, ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion. Nid yw wedi gwneud hynny. Hoffwn ei gwahodd i wneud hynny, fel y gellir datrys y mater, yn hytrach na’i ddefnyddio fel pwynt dadl ar ei rhan.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mae effaith yr argyfwng costau byw cyn waethed, os nad yn waeth, na'r argyfwng COVID i rai myfyrwyr. Dyna oedd barn is-ganghellor Prifysgol De Cymru, Ben Calvert, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf. Rhybuddiodd ef ei fod yn poeni'n benodol am fyfyrwyr hŷn, a oedd mewn perygl o adael cyrsiau allweddol, fel graddau gofal iechyd a nyrsio, am nad oedden nhw'n medru fforddio costau byw. Mae'r myfyrwyr ar gyrsiau fel hyn hefyd, wrth gwrs, yn methu â gweithio i gael incwm ychwanegol yn sgil y ffaith eu bod yn gorfod bod ar leoliadau gwaith fel rhan o'u cwrs. Mae arolwg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru yn cefnogi y datganiad pryderus yma, yn datgelu bod 28 y cant o fyfyrwyr yng Nghymru â llai na £50 y mis i fyw arno; 92 y cant yn pryderu am eu gallu i ymdopi yn ariannol; 11 y cant yn defnyddio banciau bwyd; a theimla 89 y cant nad yw Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, nac ychwaith Llywodraeth Cymru, yn gwneud digon i'w cefnogi yn ystod yr argyfwng yma. Dwi'n nodi eich ateb chi i Cefin Campbell i'r cwestiwn blaenorol, a dwi'n edrych ymlaen at eich datganiad ynglŷn â dyfodol y pecyn cynhaliaeth, ond a oes yna rywbeth gall y Llywodraeth ei wneud i ymrwymo i ddarparu grantiau ychwanegol, naill ai yn uniongyrchol neu drwy gronfeydd caledi prifysgolion, i'w helpu drwy y cyfnod anodd hwn yn benodol, i wneud yn iawn am y ffaith bod y pecyn cyllid myfyrwyr bellach yn annigonol, yn sgil chwyddiant, fod rhai myfyrwyr wedi'u cau mas o'r gefnogaeth costau byw—
Dwi'n mynd i orfod gofyn i'r Aelod ddod i gwestiwn.
Sori, iawn.
Fel wnes i sôn yn gynharach, mae hon yn sefyllfa heriol iawn i fyfyrwyr am y rhesymau mae Sioned Williams yn sôn amdanyn nhw. Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gronfa galedi i sicrhau bod darpariaeth ar gael i'r rheini sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol. Mae maint y cronfeydd hynny yn amrywio o sefydliad i sefydliad. Rwyf wedi gofyn i HEFCW roi sicrwydd i mi fod yr hyn sy'n cael ei ddarparu gan ein prifysgolion ni yn ddigonol, bod access digonol ar gael drwy'r prifysgolion i gefnogaeth ariannol ar gyfer y cyfnod anodd hwn. Ond ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol—y flwyddyn nesaf ymlaen—byddaf yn gwneud datganiad maes o law ynglŷn â'r lefel o gefnogaeth.
Diolch, Weinidog. Mae rhent myfyrwyr yn benodol, wrth gwrs, wedi codi 29 y cant yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, ac, erbyn hyn, yn llyncu bron i 60 y cant o'r pecyn cyllid myfyrwyr ar gyfartaledd. Fel plaid, rŷn ni wedi bod yn galw am weithredu mesurau costau byw brys a radical, fel rhewi rhent a gwahardd troi allan, gan y bydd y cynnydd mewn rhent yn drychinebus i nifer o fyfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd i ymdopi, gan effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol nhw, ac ar eu hastudiaethau, wrth gwrs. A yw'r Llywodraeth yn mynd i wrando ar alwadau rhai fel llywydd undeb myfyrwyr Cymru, Orla Tarn, sydd wedi datgan ei bod o blaid gosod cap ar rent ar lety a thai myfyrwyr, fel sy'n digwydd yn yr Alban, gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Llywodraeth yr Alban i gefnogi myfyrwyr Cymru yn yr un modd?
Rwy'n cwrdd gyda llywydd NUS Cymru yn y dyddiau sydd i ddod i drafod hyn gyda nhw, oherwydd gwnes i weld y dystiolaeth gafodd ei rhoi i'r pwyllgor. Fel bydd yr Aelod yn gwybod, rŷn ni wedi edrych yn fanwl ar yr hyn sy'n cael ei gynnig yn yr Alban, a dyw e ddim yn edrych efallai ar y wyneb mor hael ac y mae ef—. Mae'n edrych yn fwy hael efallai ar yr wyneb nag yw e go iawn. Rŷn ni hefyd yn poeni'n ddirfawr am yr hyn rŷn ni'n gweld yn digwydd yn yr Alban, hynny yw, bod pobl yn tynnu allan o'r farchnad rhentu preifat, sydd yn creu heriau mwy sylweddol i fyfyrwyr ac i eraill. Ond dyma un o'r pethau rwy'n bwriadu eu trafod gyda llywydd NUS Cymru pan fyddaf yn cwrdd gyda nhw yn y diwrnodau nesaf.
3. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y system addysg yn rhoi sgiliau bywyd hanfodol i bobl ifanc? OQ58514
Mae pedwar diben gorfodol y Cwricwlwm i Gymru yn darparu’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Mae’r dibenion, a’r sgiliau craidd sy’n eu cefnogi, yn gosod disgwyliadau uchel i sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg eang a chytbwys, gan gynnwys y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Diolch, Weinidog. Gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig yw hi fod pobl ifanc yn gadael yr ysgol gydag addysg dda. Fodd bynnag, dylai addysg dda olygu mwy na chael graddau da yn unig. Dylai ymwneud â rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i bobl ifanc allu ymdopi â bywyd. Mae sgiliau bywyd yn helpu pobl i ganolbwyntio ar sawl agwedd ar eu bywydau ac maent yn hanfodol i'w helpu i reoli straen a datrys y problemau y gallent eu hwynebu drwy gydol eu hoes. Mae'r sgiliau bywyd y cyfeiriaf atynt yn cynnwys datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol, llythrennedd ariannol, gwneud penderfyniadau, trefnu amser, rheoli straen, yn ogystal â sgiliau mwy sylfaenol fel coginio a gwnïo. Felly, Weinidog, sut y mae’r system addysg yng Nghymru yn darparu’r sgiliau bywyd hanfodol sydd eu hangen ar bobl ifanc i’w paratoi’n llawn ar gyfer y dyfodol? Oherwydd, er mor bwysig yw hi i rywun wybod bod pi yn hafal i 22/7 neu 3.14, mae hefyd yn hynod hanfodol fod pobl ifanc yn gwybod yn gynnar sut i dalu bil, llenwi ffurflen forgais, dysgu sut i fuddsoddi eu harian, a sut i gyflwyno ffurflenni treth hefyd.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fod darpariaeth sgiliau bywyd yn gwbl ganolog i'n cwricwlwm newydd mewn ysgolion. Rydym am i addysgwyr gael rhwydd hynt i allu datblygu eu cwricwla i gefnogi dysgwyr i ddatblygu’r union fathau hynny o sgiliau bywyd. Mae’r pedwar diben sydd wrth wraidd y cwricwlwm wedi’u seilio ar ystod o 33 o nodweddion sy’n creu amrywiaeth o wahanol sgiliau bywyd, ac sydd wedi’u hysbrydoli’n fawr gan adroddiad gan Senedd Ieuenctid ddiwethaf Cymru yn 2019, y mae'n gyfarwydd ag ef rwy'n siŵr, 'Sgiliau Bywyd, Sgiliau Byw.' Roedd hynny'n un o’r materion allweddol a godwyd gan y Senedd Ieuenctid ar y pryd. Mae hynny wedi bod yn rhan bwysig iawn o'n ffordd o feddwl ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â'r cwricwlwm. Felly, croesawaf ei hymrwymiad i'r maes hwn—mae'n un y mae pob un ohonom yn ei rannu—ac edrychwn ymlaen at weld y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno yn ein hysgolion, ac yn darparu'r ystod o sgiliau bywyd, y tynnodd hi sylw at rai ohonynt yn ei chwestiwn.
Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn. Weinidog, o ystyried yr hyn y mae pobl ifanc wedi bod drwyddo gyda COVID, yr hyn y maent ar fin mynd drwyddo gyda'r argyfwng costau byw, mae'n hanfodol eu bod, drwy'r cwricwlwm newydd, yn gallu dysgu'r sgiliau bywyd hanfodol hynny, yn enwedig mewn llythrennedd ariannol ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl. A wnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gwaith caled yn y Senedd flaenorol gan Bethan Sayed, a bwysleisiodd yr angen i bobl ifanc ddatblygu sgiliau ariannol hanfodol?
Yn wir, ac rwy'n talu teyrnged i waith Ken Skates hefyd mewn perthynas â maes ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn arbennig. Rwy'n cytuno'n llwyr â byrdwn ei gwestiwn. Gwyddom fod sgiliau bywyd fel llythrennedd ariannol, ynghyd â gwneud penderfyniadau ac iechyd meddwl a lles emosiynol, yn elfennau hanfodol o gwricwlwm trawsnewidiol. Nid pawb, wrth gwrs, a bleidleisiodd dros y cwricwlwm hwnnw pan roddwyd cyfle iddynt wneud hynny. Fe fydd yn gwybod bod y canllawiau’n egluro sut i ddatblygu llythrennedd ariannol ar gyfer astudio’r system rifau mewn mathemateg, caiff ei ategu ym maes iechyd a lles drwy archwilio risg a dyled bersonol a’i chanlyniadau, ac mae’r cwricwlwm yn dod â’r meysydd hynny ynghyd. Felly, ni waeth pa ran o’r cwricwlwm y mae pobl ifanc yn ei hastudio, mae cyfle i ddod â’r agweddau hynny ynghyd, i’w gosod ochr yn ochr, er mwyn rhoi’r gyfres lawn o sgiliau iddynt, gan gynnwys sgiliau ymwybyddiaeth iechyd meddwl a llythrennedd ariannol, y mae Ken Skates newydd eu pwysleisio.
Rhan arall o'r cwricwlwm newydd a'r sgiliau craidd yr ydym yn ceisio eu datblygu yn ein pobl ifanc yw hyder. Mae'n ymwneud â phethau cymhleth a sylfaenol iawn, ond mae a wnelo hefyd â phlant hyderus a chreadigol sy'n barod i godi eu llais a chymryd rhan. Yn aml, gallwch ddweud pan fyddwch yn cerdded i mewn i ystafell ddosbarth ac maent yn sgwrsio â'i gilydd—yn ymddwyn yn dda, ond yn sgwrsio.
Cawsom ysgol gynradd Bryncethin i fyny yn yr oriel heddiw. Gofynnais iddynt, Weinidog, mewn perthynas â'r cwestiwn hwn, 'Pe bawn yn gofyn rhywbeth iddo sy'n ymwneud â hyn, beth fyddwn i'n ei wneud?', a saethodd y dwylo i fyny, ac roedd yn wych gweld hynny. Felly, Weinidog, rwyf am ofyn y cwestiwn i chi, er y bydd efallai'n eich llorio chi. Y cwestiwn y gwnaethant ei ofyn—hyn gan blant ysgol gynradd—oedd sut yr ydym yn adeiladu mwy o ysgolion newydd, cyffrous yng Nghymru?
Gwych. Un o’r cyfleoedd y gobeithiaf y bydd ysgol Bryncethin ac ysgolion eraill yn manteisio arnynt yw’r gronfa her ysgolion cynaliadwy, a lansiwyd gennyf yn ddiweddar, sy’n gyfle i adeiladu ysgolion ar sail cynllun peilot gan ddefnyddio deunyddiau naturiol—felly pren, cerrig—a gwneud hynny gan eu dylunio gyda'r bobl ifanc a staff mewn ysgolion, fel cyfle cwricwlaidd gwirioneddol. Credaf fod llawer ohonom wedi bod yn yr ysgol sero net gyntaf yng Nghymru, sef ysgol gynradd Trwyn y De ym Mro Morgannwg, ac wedi gweld y codau QR yno o amgylch yr adeilad, sy’n egluro hanes yr adeilad i’r bobl ifanc fel offeryn addysgu: pam ei fod wedi'i adeiladu yn y ffordd hon? Sut y mae'n gweithredu? Beth yw ei effaith amgylcheddol? Credaf fod hwnnw'n gyfle gwirioneddol i ni ddod â'r cwricwlwm ynghyd â chwestiynau ynghylch yr ystad ysgolion. Ond cwestiwn gwych gan ysgol gynradd Bryncethin.
4. Beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran categori iaith y ddwy ysgol arloesol newydd dan ei her ysgolion cynaliadwy? OQ58540
Mae her yr ysgolion cynaliadwy yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd drwy arloesi a chydweithio. Gan y rhagwelir y bydd prosiectau arfaethedig o fewn rhaglen buddsoddi ysgolion a nodwyd gan awdurdodau lleol, rydym yn disgwyl i amcanion allweddol rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu gael eu hystyried hefyd, y mae hybu'r iaith Gymraeg wrth gwrs yn un ohonyn nhw.
Diolch, Weinidog. Yn sicr, fe fyddwn ni yn gofyn ichi ymrwymo i sicrhau bod y ddwy ysgol hon yn rhai Cymraeg neu yn rai fydd yn dod yn ysgolion Cymraeg. Yn amlwg, mae'n allweddol bwysig. Roedden ni'n trafod wythnos diwethaf yr adroddiad 'Cymraeg 2050' a'r angen am fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg os ydyn ni am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Ond, ar yr un pryd, a ninnau mewn argyfwng hinsawdd, byddech hefyd yn disgwyl bod pob ysgol newydd, nid dim ond y ddwy newydd hon, gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddynt. Byddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod cynlluniau ar gyfer safle newydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn yng Nglynrhedynog wedi ei gyflwyno gan gyngor Rhondda Cynon Taf. Heb os, mae dirfawr angen adeilad newydd ar yr ysgol hon, ac mae'r cynlluniau i'w croesawu. Ond rhaid imi fynegi pryder bod y cynlluniau â cheir yn ganolog iddi, gan nodi y bydd ardal gollwng benodol ar y safle, 30 o lefydd parcio ar gyfer staff a 40 o lefydd parcio ychwanegol wedi'u neilltuo ar gyfer rhieni yn ystod amserau gollwng a chasglu. Cyferbynnwch hyn â 24 o lefydd parcio beiciau a 12 lle ar gyfer parcio sgwter. Sut, felly, y byddwch yn sicrhau bod pob ysgol newydd yn adlewyrchu blaenoriaethau'r Llywodraeth o ran yr iaith a chynaliadwyedd?
Dwi'n gobeithio'n fawr iawn bod un o'r ysgolion, o leiaf, sy'n ennill y gystadleuaeth hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'n dibynnu ar ba gynigion a ddaw i law, wrth gwrs, ond dyna beth fyddai fy ngobaith i, yn sicr, am resymau amlwg.
O ran yr her roedd yr Aelod yn cynnig am ysgolion yn y dyfodol, fel y bydd hi eisoes yn gwybod, mae gofyniad ar unrhyw ysgol newydd sy'n cael ei gynnig i'w hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru—mae gofyniad eu bod nhw'n sero net o ran carbon yn y dyfodol, ac mae hynny'n cynnwys hefyd safonau uchel o ran active travel a mynediad at yr ysgol. Felly, mae'r canllawiau hynny eisoes yn eu lle; maen nhw'n gyhoeddus, ac mae cyfle i'r Aelod gael golwg arnyn nhw, ac, os oes ganddi unrhyw awgrymiadau pellach, byddwn i'n hapus i'w clywed nhw.
Weinidog, nod yr her ysgolion cynaliadwy yw uwchraddio’r seilwaith ysgolion presennol i'w wneud yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ond rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r tân ofnadwy a fu yn ysgol gynradd Maenorbŷr yn fy etholaeth i ddydd Llun, a achosodd ddifrod enfawr i adeilad yr ysgol. Diolch byth, ni chafodd neb ei anafu. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd arweinyddiaeth wych y pennaeth, Mrs Sharon Davies, a’i staff, a wnaeth yn siŵr fod yr holl staff a'r disgyblion yn ddiogel, ac rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddynt am eu gwaith yn hyn o beth. Ond a wnewch chi nodi pa gymorth sydd ar gael i Gyngor Sir Penfro i sicrhau y ceir cyn lleied â phosibl o darfu ar ddysgu disgyblion? A pha gymorth sydd ar gael iddynt wrth iddynt atgyweirio ac ailadeiladu’r ysgol? Diolch.
Gwelais y digwyddiad ym Maenorbŷr, ac rwy'n talu teyrnged i waith arweinwyr a staff yr ysgol yn diogelu'r bobl ifanc a sicrhau bod y trefniadau priodol ar waith. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi lle ceir enghreifftiau penodol yn codi sy'n ychwanegol at y trefniadau cyfalaf sydd eisoes ar gael i awdurdodau. Ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn rhan o’r trafodaethau sydd eisoes yn mynd rhagddynt.
5. Pa gymorth y mae’r Llywodraeth yn ei roi i ysgolion Arfon a'r awdurdod lleol wrth iddynt gyflwyno’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd? OQ58513
Rŷn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd a gyda chonsortiwm GwE i sicrhau bod ysgolion yn Arfon yn cael eu cefnogi’n llawn i weithredu’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan gynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau. Rŷn ni wedi cyhoeddi pecyn adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ar Hwb i gefnogi ysgolion i drafod y mater sensitif hwn gyda rhieni a gofalwyr.
Rydych chi'n ymwybodol iawn o'r camwybodaeth sy'n cael ei ledaenu gan rai yn fy etholaeth i a thu hwnt i hynny am y cod. Mae'r ffug newyddion mewn perig o danseilio'r polisi a'r gwaith o gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb, polisi rydym ni ar y meinciau yma yn gyfan gwbl gefnogol ohono fo. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae yna bryder nad ydy'r adnoddau a'r deunyddiau dysgu newydd wedi bod yn cyrraedd yr ysgolion yn brydlon. Mae angen y deunyddiau newydd yma i gefnogi'r cod newydd, ac mae hyn wedi creu rhywfaint o wagle ar gyfer lledaenu'r ffug wybodaeth. Dwi'n falch o glywed bod pethau yn symud ymlaen efo hynny, ond fyddwn i’n licio cael sicrwydd gennych chi y prynhawn yma fod yna amserlen bendant mewn lle ar gyfer cyflwyno digonedd o'r adnoddau dysgu yma sydd eu hangen, yn ychwanegol i'r hyn sydd wedi cael ei ddarparu'n barod. So, fedrwch roi ryw syniad o bryd fydd hynny'n digwydd?
Wel, mae e eisoes yn digwydd. Rŷn ni mewn proses barhaus o ddarparu adnoddau cynyddol yn y maes hwn ac mewn rhannau eraill o'r cwricwlwm hefyd. Mae'r adnoddau sydd eisoes ar gael wedi'u cyhoeddi ar Hwb, sydd ar gael i bob ysgol. Dyw pob ysgol, dwi ddim yn credu, ddim yn dewis cael mynediad ato fe, ond mae'r adnoddau yno ar-lein i bawb. Ond beth efallai fyddai'n ddefnyddiol byddai i mi ysgrifennu at bob un Aelod yn rhoi linciau i'r rheini, fel eich bod chi'n gallu, fel Aelodau, os ŷch chi'n dymuno, rhannu'r rheini ymhellach gydag etholwyr lleol a phreswylwyr lleol sy'n dod i gysylltiad â chi, i sicrhau ein bod ni i gyd yn rhannu'r wybodaeth iawn am y cwricwlwm.
Yn anffodus, mae arnaf ofn fod y modd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflwyno polisi cymdeithasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn achos clasurol o'r Llywodraeth yn plesio'r rhyfelwyr woke yn ein plith. [Torri ar draws.] Ac efallai nad ydych yn hoffi clywed hyn, Weinidog, ond dyma'r realiti yn anffodus. Pwy yw'r wladwriaeth i ddweud wrth blant beth sydd orau iddynt? Nid eich lle chi yw gwneud hynny, nid fy lle i yw gwneud hynny, nid yw'n fusnes i neb—
A gawn ni ganiatáu i'r Aelod barhau â'i gwestiwn, os gwelwch yn dda? A gawn ni rywfaint o dawelwch?
Diolch, Lywydd. Nid eich lle chi yw gwneud hynny, nid fy lle i yw gwneud hynny, nid yw'n fusnes i neb ar wahân i'r rhieni. Hwy ddylai fod yn penderfynu pa fath o addysg y mae eu plentyn yn ei chael ac a ydynt am ymgysylltu ag addysg rhyw, ac nid chi, Weinidog. Sut ar y ddaear y disgwyliwch i blant mor ifanc â phump oed ddeall neu ddechrau deall y math yma o wybodaeth? Mae rhieni ar hyd a lled Cymru yn rhyfeddu at y ffaith bod y Llywodraeth hon yn gweithredu'r polisi hwn. Ac o edrych ar rai o enwau'r llyfrau sy'n cael eu cynnig o dan y polisi hwn i blant rhwng pump a saith oed, o'r enw Jacob's New Dress, Pink is for Boys, Oliver Button is a Sissy, a Princess Kevin, i enwi ond ychydig, ai dyma'r cyfeiriad yr ydym eisiau anelu ato mewn gwirionedd, Weinidog? A pha fath o neges y mae hyn yn ei roi i rieni yng Nghymru sy'n awyddus i weld eu plant yn adeiladu ar eu deallusrwydd academaidd yn hytrach na pha mor woke ydynt? Ac yn olaf, i ofyn cwestiwn syml: oes neu nac oes, a oes gennych chi ffydd fod rhieni'n gwybod beth sydd orau i'w plant?
Mae camddisgrifio'r cwricwlwm er mantais wleidyddol yn anhygoel o amharchus. Ef yw'r ail Aelod o'i feinciau i ddefnyddio'r cyfle hwn—
Nid wyf yn credu bod y Gweinidog angen unrhyw help gan aelodau'r meinciau cefn ar hyn. Rwyf am ganiatáu i'r Gweinidog barhau mewn tawelwch, os gwelwch yn dda.
—i bardduo'r gwaith y mae athrawon yn ei wneud ar draws ysgolion i sicrhau bod ein pobl ifanc yn ddiogel ac yn iach. Rwy'n ymroddedig i hynny ac rwy'n siomedig o glywed nad ydyw ef.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith gwella yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Caerdydd? OQ58538
Yn ôl yr awdurdod lleol mae contractiwr wedi cael ei benodi ac mae gwaith wedi dechrau ar y safle yn ystod gwyliau'r haf. [Torri ar draws.] Mae disgwyl i'r gwaith barhau i mewn i 2023.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yn ychwanegol at ein gohebiaeth flaenorol oherwydd rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn ysgol Santes Monica yn sgandal, ac nid yw Cyngor Caerdydd yn datrys y broblem. [Torri ar draws.] Mae'r sefyllfa'n enbyd; mae dosbarthiadau derbyn a blwyddyn 1—
Mae'n ddrwg gennyf dorri ar eich traws—nid chi sydd ar fai, Joel James; bai Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth ei hun ydyw, ac eraill, sy'n parhau i drafod y cwestiwn olaf rhyngddynt. Gallant wneud hynny y tu allan i'r Siambr, os gwelwch yn dda. Rwyf eisiau clywed beth sydd gan y Gweinidog a'r person sy'n gofyn y cwestiwn i'w ddweud.
Diolch, Lywydd. Mae'r sefyllfa'n enbyd; mae dosbarthiadau derbyn a blwyddyn 1 yn cael eu gwasgu i mewn i neuadd yr ysgol, sydd nid yn unig heb gyfleusterau toiled digonol, ond sydd yn y pen draw yn golygu nad oes modd defnyddio neuadd yr ysgol, sy'n golygu nad yw'r ysgol gyfan yn cael gwersi addysg gorfforol mwyach os yw'r tywydd yn wael. Mae'r sgaffaldiau o amgylch yr ysgol, sydd wedi bod yno ers pedair blynedd heb i unrhyw waith gael ei wneud ar y safle, wedi lleihau maint y maes chwarae awyr agored i'r fath raddau fel nad yw ond yn ymarferol ar gyfer gwacáu mewn argyfwng, ac unwaith eto, nid oes lle o gwbl i gynnal gwersi addysg gorfforol.
Er bod rhywfaint o waith ar yr adeiladau ategol wedi dechrau erbyn hyn, fel y nodwyd gennych, nid yw Cyngor Caerdydd wedi darparu unrhyw amserlen ar gyfer y gwaith ar brif adeilad yr ysgol, ac mae'n dirywio ar raddfa frawychus. Yn wir, ar ddyddiau glawog, mae dŵr yn llifo i lawr y waliau mewnol, mae carpedi'n wlyb yn barhaus ac mae llwydni du helaeth ar bron bob wal. Rwy'n siomedig iawn fod yn rhaid i blant, athrawon a'u pennaeth weithio mewn amgylchedd o'r fath ym mhrifddinas y wlad hon, a'u bod yn teimlo'n ddi-rym i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Weinidog, hoffwn bwysleisio yn y termau cryfaf posibl fod angen i chi ymyrryd yn bersonol yn y mater hwn. Ni all Llywodraeth Cymru ddibynnu ar Gyngor Caerdydd i'w ddatrys, oherwydd ymddengys eu bod yn analluog i wneud hynny. Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r plant a'r athrawon yn ysgol Santes Monica y byddwch yn mynd i'r afael â'r mater hwn yn bersonol? Diolch.
Mae iechyd, diogelwch a llesiant dysgwyr a staff a chymuned yr ysgol gyfan yn amlwg o'r pwys mwyaf. Mae cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am iechyd a diogelwch mewn ysgolion ac mae dyletswydd arnynt i sicrhau diogelwch dysgwyr a staff bob amser. Mae'r Aelod wedi ysgrifennu ataf ar ddau achlysur mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru geisio diweddariad ar gynnydd y prosiect mewn ymateb i hynny. Bu swyddogion yr awdurdod yn gweithio'n agos gyda'r ysgol mewn perthynas â'r gwaith. Yn dilyn ymgynghoriad ac arolygon dros yr haf, mae gwaith i'r ardal dysgu cynnar ac adeilad allanol, yn arbennig, wedi cael eu nodi fel blaenoriaeth, ac mae'r gwaith wedi dechrau dros wyliau'r haf. Bydd gwaith i'r prif adeilad a gwaith atgyweirio ychwanegol yn dechrau yn ystod tymor yr hydref. Rwy'n gobeithio bod y diweddariad hwnnw o gymorth, ond byddwn yn awgrymu ei fod yn cadw mewn cysylltiad â Chyngor Caerdydd mewn perthynas â'r sefyllfa benodol hon.
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ganlyniadau TGAU a Safon Uwch haf 2022? OQ58512
Gan adlewyrchu trawsnewid yn ôl i safonau arholiadau sefydledig, dyfarnwyd canlyniadau ar oddeutu'r pwynt hanner ffordd rhwng 2021 a 2019. Dangosodd ein dysgwyr ddycnwch aruthrol yn eu perfformiadau ac yn dystiolaeth o hynny, bydd y nifer uchaf erioed o bobl ifanc o Gymru yn mynd i'r brifysgol eleni.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Bûm yn ymweld â phob ysgol uwchradd yn Nwyrain Abertawe ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU, ac fe ymwelais â'r rhai a gafodd ganlyniadau Safon Uwch ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch. Roeddent yn hapus gyda'r canlyniadau, ond fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, roedd problemau gyda rhai o'r cwestiynau a osodwyd. Mae'n gwybod hyn oherwydd rwyf wedi codi'r mater gydag ef ar sawl achlysur. Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau na fydd problemau'n codi gyda chwestiynau arholiad eto eleni?
Mae'n gwestiwn da, ac rwyf wedi parhau i drafod gyda Cymwysterau Cymru a CBAC mewn perthynas â rhai o'r materion a gododd yn ystod y gyfres o arholiadau'r haf. Bydd yn cofio, wrth gwrs, i Cymwysterau Cymru a CBAC ysgrifennu at ganolfannau cyn y dyddiau canlyniadau i esbonio'r hyn a ddigwyddodd, yr hyn yr oedd eu hadolygiadau wedi'i ddatgelu a'r camau yr oeddent yn eu cymryd i ymateb i'r rheini, a oedd yn cynnwys newid cynlluniau marcio a ffiniau graddau'r papurau yr effeithiwyd arnynt. Mae rhyw elfen o hyn yn digwydd mewn nifer o flynyddoedd yn anffodus. Wrth gwrs, rwy'n derbyn eleni, o ystyried gorbryder dwysach dysgwyr, y bydd yr heriau hynny wedi cael eu teimlo'n waeth gan bobl ifanc. Er hynny, rwyf eisiau bod yn glir iawn wrth sicrhau bod y camau hyn a roddwyd ar waith wedi gallu adlewyrchu'r sefyllfaoedd a gododd ac wedi gallu gwneud iawn am hynny yn y cynlluniau marcio, gan roi canlyniadau teg i bob dysgwr. Ond yn amlwg, fel ym mhob un o'r blynyddoedd hyn, sydd wedi bod yn eithaf unigryw yn y ffordd yr ydym wedi ymateb i COVID, mae yna bethau i'w dysgu ar gyfer blynyddoedd i ddod, ac rwy'n hyderus y bydd y gwersi hynny wedi'u dysgu ar gyfer blynyddoedd i ddod.
Weinidog, gwyddom fod llawer o addysgwyr, ers blynyddoedd, wedi galw am ffocws ar y pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Yn Abertawe eleni, mathemateg oedd y pwnc Safon Uwch mwyaf poblogaidd ac fe'i cydnabuwyd fel un o'r pynciau anoddaf. Fe gafodd 59.6 y cant A* neu A ac fe lwyddodd 85.7 y cant i ennill gradd C neu uwch. Mae hwn yn ganlyniad eithriadol. Beth y gallwn ei ddysgu o'r llwyddiant hwn wrth inni geisio ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn y pynciau STEM?
Yn sicr. Rydym yn falch o weld pobl ifanc yn ymgymryd â phynciau STEM a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i barhau i wneud hynny. Mae her wedi bod o ran y bwlch rhwng y rhywiau ymhlith pobl ifanc sy'n gwneud pynciau STEM, ond mae'r gwaith y buom yn ei wneud drwy ein partneriaid wedi helpu i fynd i'r afael â hynny i ryw raddau. Darparodd adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' rai argymhellion inni mewn perthynas â'r ffordd orau i geisio cau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes STEM ac mae'r Llywodraeth yn gweithredu'r camau hynny. Ond hoffwn longyfarch pawb a gafodd ganlyniadau da mewn mathemateg a phob pwnc arall yr haf hwn. Rwy'n credu ei fod yn brawf anhygoel o'u gwytnwch, eu creadigrwydd, ac mae'n beth i'w ddathlu.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fentrau penodol Llywodraeth Cymru i leihau'r bwlch tlodi o ran cyrhaeddiad myfyrwyr yn dilyn y pandemig? OQ58537
Gwnaf. Roedd fy natganiad i'r Siambr ym mis Mawrth a'r araith a roddais i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin yn nodi fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r amcan hwn, o gyflwyno hyrwyddwyr cyrhaeddiad i archwilio ffyrdd o gymell athrawon i weithio yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Gweinidog rai misoedd yn ôl, a byddai'n ddefnyddiol clywed diweddariad gan y Gweinidog am y cynnydd sy'n cael ei wneud, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir yn cael cyfle cyfartal i symud ymlaen gyda'u haddysg. Rydym i gyd yn gwybod ac rydym i gyd yn ymwybodol fod plant sy'n dod o gefndiroedd arbennig o anodd a difreintiedig wedi dioddef yn ystod y pandemig, ac rydym wedi gweld y bwlch cyrhaeddiad hwnnw'n ehangu. Rydych yn ffyddiog iawn, os nad oes ots gennych imi ddweud, Weinidog, y byddwch yn gallu lleihau'r bwlch cyrhaeddiad hwn yn y dyfodol, a gobeithio y caiff eich optimistiaeth ei wireddu. Ond a allwch chi roi diweddariadau pellach i ni i sicrhau bod pob un ohonom yma'n deall y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod y plant yr ydym yn eu cynrychioli sy'n dod o'r cefndiroedd anoddaf yn cael y cyfle y byddai pawb ohonom eisiau iddynt ei gael er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial?
Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod. Enw ein strategaeth yw 'Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb', a hynny i gydnabod bod gan bob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir, hawl i gael system ysgol sy'n annog eu dyheadau ac sy'n rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt gyflawni eu potensial.
Mae'r ystod o fesurau a nodais, ym mis Mawrth a mis Mehefin, yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu harferion i gefnogi dysgwyr difreintiedig: mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon; mae rhywfaint ohono'n ymwneud â'n rhaglenni dysgu proffesiynol newydd; mae rhywfaint ohono'n ymwneud â ffocws ar lefel arweinyddiaeth, ar strategaethau arwain mewn ysgolion, i gefnogi athrawon; ac mae rhywfaint ohono'n ymwneud â chael athrawon i weithio yn yr ysgolion sydd fwyaf o angen sgiliau'r athrawon gorau. Ond mae yna hefyd nifer o ymyriadau penodol i gefnogi dysgwyr yn uniongyrchol: mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â darllen a llafaredd, ac fe fyddwch yn cofio imi sôn am y rhaglen iaith a llythrennedd ar gyfer 2,000 o bobl ifanc ychwanegol y mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda ni arni i gefnogi sgiliau cyfathrebu a sgiliau darllen. Ond mae yna rai trafodaethau heriol y bydd angen inni eu cael hefyd ynglŷn â'r arfer o setio mewn ysgolion ac ar ba bwynt y mae hynny'n fwyaf priodol. Rwy'n credu bod yna drafodaeth ehangach i ni ei chael mewn perthynas â hynny.
Yr allwedd, rwy'n credu, mewn perthynas â'r ddwy gyfres o fesurau a nodais yw eu bod yn ddulliau system gyfan. Mae'n ffocws o'r blynyddoedd cynnar, drwodd i'r ysgolion a thrwy addysg bellach, addysg uwch a dysgu gydol oes, ac rwy'n credu mai'r amcan cyffredin hwnnw ar draws y system yw'r allwedd i wneud cynnydd yn y maes hwn. Ni all y system ysgolion, y system addysg, wneud hyn ar ei phen ei hun, ond yn sicr mae yna bethau y gallwn eu gwneud i gyfrannu at gau'r bwlch cyrhaeddiad. Rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad cyn diwedd y tymor hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein sefyllfa mewn perthynas â phob un o'r cynlluniau hyn.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau uniondeb canlyniadau TGAU a Safon Uwch? OQ58539
Rydym yn gweithio'n barhaus gyda Cymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau uniondeb ein holl ganlyniadau. Mae hyn yn cynnwys asesiadau safonedig diogel, prosesau manwl o ansawdd, a phrosesau marcio dienw sy'n cael eu monitro ac sy'n cael eu cymhwyso'n gyson ledled Cymru. Yn ogystal, caiff tryloywder ei gynnal drwy gydol y broses drwy ymgysylltu rheolaidd â rhanddeiliaid.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb calonogol? Fel cenedl fyd-eang, flaengar, mae harneisio a meithrin galluoedd ein plant i gystadlu mewn marchnad fyd-eang yn hanfodol os ydym am ddenu teuluoedd a chyfleoedd gwaith i Gymru. Felly, mae'r ymgynghoriad diweddar a gafodd ei lansio gan Cymwysterau Cymru, a allai roi llai o bwyslais ar arholiadau traddodiadol o 2025 ymlaen, wedi achosi pryder ymhlith rhai yn y proffesiwn y gallai hyn roi plant yng Nghymru dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion yn Lloegr a thu hwnt. Gyda staff a disgyblion yn dal i orfod addasu i weithrediad cwricwlwm newydd, ynghyd â'r ffaith bod darpar gyflogwyr y dyfodol yn pryderu am uniondeb symud ymhellach oddi wrth arholiadau na'n cymdogion ac eraill, sut y mae'r Gweinidog am sicrhau y bydd plant yng Nghymru yn gallu cynnig rhywbeth yr un mor ddeniadol i gyflogwyr â'u cymheiriaid yn fyd-eang?
Nid wyf yn credu bod un yn dilyn y llall. Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar rôl arholiadau yn y dyfodol a sut y caiff cymwysterau eu hasesu. O ystyried y ddwy neu dair blynedd diwethaf, pan fo llawer o newid wedi bod yn ein system ysgolion o ran sut yr awn ati i addysgu ac asesu, rwy'n credu y byddai'n anghywir i ni roi hynny i un ochr heb edrych a oes achos dros addasu'r cydbwysedd yn y dyfodol, ac edrych ar wahanol ffyrdd o arholi wrth wneud hynny.
Rwy'n credu mai'r peth pwysig ar hyn o bryd yw ein bod yn arwain trafodaeth uchelgeisiol, greadigol ynglŷn â sut y gallwn wneud yn siŵr fod gan bobl ifanc yn y dyfodol fynediad at y cymwysterau gorau a'u bod yn cael eu hasesu yn y ffordd fwyaf priodol, gan adlewyrchu egwyddorion y cwricwlwm, sy'n sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cydnabod yn rhyngwladol, ac sy'n rhoi'r cyfleoedd gorau iddynt o gymharu â rhannau eraill o'r byd, sydd nid yn unig yn cymharu â'r rhai ar draws y ffin—fel yr awgrymai ei gwestiwn, rwy'n credu—ond ar draws y byd.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidiog. Mi ges i amser da ym mis Medi pan oeddwn yn ymweld â chlinig—
Rydych chi angen gofyn y cwestiwn ar y papur.
Sori. Rŷch chi'n iawn.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau deintyddol cymunedol? OQ58536
Ym mis Awst 2022, cyhoeddodd y prif swyddog deintyddol ganllawiau wedi’u diweddaru ar rôl y gwasanaeth deintyddol cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys ehangu swyddi swyddogion deintyddol cyflogedig i gefnogi cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig, neu ddim mynediad o gwbl, at wasanaethau deintyddol cyffredinol sy’n cael eu darparu fel arfer drwy’r model contractwyr annibynnol.
Diolch. Ces i amser gwych yn ymweld â chlinig a oedd yn rhoi gwasanaethau deintyddol cymunedol yn Llanelli ym mis Medi. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio yn y cymunedau ar draws Cymru, yn enwedig yn ystod cyfnod coch y pandemig, yn sicrhau bod triniaeth frys ar gael.
Wrth ymweld â'r gwasanaethau deintyddol cymunedol yn Llanelli, dysgais lawer am yr hyn y maent yn ei wneud i ddiwallu anghenion pobl agored i niwed: pobl sydd ag anableddau, trafferthion iechyd meddwl, a ffoaduriaid hefyd. Ond roedd pryder ynghylch erydu gwasanaethau deintyddol cymunedol. Roedd y pwysau ar y gwasanaeth deintyddol cyffredinol yn effeithio arnynt yn fawr, ac roedd rhai o'u slotiau brys yn cael eu llenwi gan yr achosion deintyddiaeth gyffredinol brys hynny. Mae hyn yn aml yn golygu nad oes lle ar gael ar gyfer cleifion agored i niwed sydd angen gofal brys. Felly, tybed a wnewch chi ymrwymo i glustnodi'r cyllid a diogelu'r ddarpariaeth hon. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad, â Llanelli yn ein rhanbarth efallai, i glywed gan y staff gwych sy'n darparu gwasanaeth. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, ac mae'n galonogol iawn clywed am y gwaith y maent yn ei wneud yn y gwasanaethau deintyddol cymunedol hynny yn Llanelli. Y newyddion da yw ein bod ni wedi rhoi gwerth £2 filiwn ychwanegol o gyllid rheolaidd ers 2022 i wella mynediad, ac mae llawer o'r byrddau iechyd wedi defnyddio'r arian hwnnw i fuddsoddi yn eu gwasanaethau deintyddol cymunedol—ac mae hynny'n wir, rwy'n gwybod, ym Mhowys a sir Gaerfyrddin, sydd yn ein rhanbarth. Felly, maent eisoes yn defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw'n benodol ar gyfer yr hyn yr oeddech wedi'i obeithio y byddent yn ei wneud.
Y pwynt arall mae'n debyg yw bod y contract deintyddol newydd yn golygu ein bod yn disgwyl i 112,000 o apwyntiadau newydd fod yn bosibl, a dylai hynny ryddhau'r slotiau yr oeddech yn dweud eu bod yn cael eu cymryd gan bobl a ddylai fod yn mynd i rywle arall mewn gwirionedd. Felly, oherwydd y newid cytundebol hwnnw, byddwn yn disgwyl i fwy o'r slotiau cymunedol hynny gael eu rhyddhau.
Diolch am godi'r cwestiwn hwn, Jane Dodds. Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr y bydd degau o filoedd o apwyntiadau newydd yn cael eu creu ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Edrychwn ymlaen at gael gwybod lle a phryd y bydd y rhain ar gael—pryd y byddwn yn dechrau eu gweld. Rwy'n parhau i gael gohebiaeth gan etholwyr pryderus, fel pawb arall yma, sy'n cael trafferth cael mynediad at wasanaethau deintyddiaeth y GIG. Ar hyn o bryd, dim ond 17 y cant o bractisau yn sir Fynwy sy'n derbyn cleifion newydd, yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain. Mae cael mynediad at ddeintydd y GIG yng Nghymru fel claf newydd bron yn amhosibl ar hyn o bryd, neu'n golygu aros am flwyddyn neu ddwy, ond os yw claf yn ymuno â chynllun fel Denplan, gallwch gael eich gweld bron yn syth. Yn amlwg, mae rhywbeth o'i le yma os yw hynny'n digwydd. Weinidog, a wnewch chi amlinellu heddiw pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i gadw staff ac i annog pobl i ddilyn gyrfa yn y diwydiant deintyddiaeth? Sut y gallwch sicrhau nad yw cleifion y GIG o dan anfantais oherwydd awydd rhai deintyddion i dderbyn mwy o gleifion preifat?
Diolch yn fawr. Rydym eisoes yn gweld gwahaniaeth o ganlyniad i'r contract newydd hwnnw. Felly, mae 73,000 o gleifion newydd eisoes wedi cael mynediad eleni, ac fel rwy'n dweud, rydym yn disgwyl i'r ffigur hwnnw gyrraedd 112,000 o gleifion newydd yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Felly mae'n gwneud gwahaniaeth yn barod. Hefyd, mae gennym yr academi ddeintyddol newydd ym Mangor, ac rydym yn gobeithio y bydd honno'n darparu mynediad i rhwng 12,000 a 15,000 o gleifion, a bydd honno ar agor chwe diwrnod yr wythnos.
Y pwynt yw, er bod llawer o sŵn yn y system am ddeintyddion y GIG yn gadael, y gwir amdani yw mai dim ond 14 y cant o'r cytundebau sydd wedi'u trosglwyddo'n ôl. Mae 89 y cant o gyfanswm gwerth y contract deintyddol wedi symud ymlaen i'r contract newydd. Ond nid ydych yn colli rheini o'r GIG—rydych yn eu hailddosbarthu. Felly nid ydynt yn cael eu colli oherwydd eu bod yn mynd i rywle arall. Cânt eu hailddosbarthu.
Rydym wedi bod yn recriwtio mwy o ddeintyddion, ac rwy'n sicr yn rhoi llawer o bwysau ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn cynyddu nifer y therapyddion deintyddol yn y dyfodol, oherwydd rwy'n credu bod rhaid inni sefydlu model newydd lle rydym yn sôn am ddull tîm yn hytrach na bod popeth yn ddibynnol ar y deintydd.
Weinidog, mae'n amlwg bod yna broblem o fewn y maes yma. Ddydd Gwener diwethaf ces i ddau e-bost oddi wrth etholwyr am fethu â chael gwasanaeth i'w plant nhw. Roedd un yn cael ei hannog i fynd yn breifat gan y deintydd, a dywedwyd wrth y llall gan eu deintydd nhw y byddan nhw'n aros i'w plentyn dwyflwydd oed nhw am o leiaf dwy flynedd cyn cael apwyntiad. Mae iechyd dannedd plant Cymru yn ofid. Mae'r dystiolaeth yn dangos ein bod ni tu ôl Lloegr yn barod. Ar gychwyn mis Gorffennaf y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethoch chi ddweud y bydd gwasanaethau deintyddol yn mynd nôl i'r arfer wedi i wasanaethau brys gael eu delio â nhw yn gyntaf. Pryd mae hynny'n mynd i ddigwydd, Weinidog?
Rydym yn cyrraedd pwynt nawr lle—. Yn amlwg, rydym yn dal mewn sefyllfa lle mae COVID yn realiti. Mae gan un o bob 50 o bobl COVID, felly mae'n rhaid i ni gofio, mewn unrhyw sefyllfa sy'n cynhyrchu aerosol, ceir mwy o risg o ledaenu COVID. Felly, mae'n siŵr y bydd gostyngiad bach yn lefel y gweithgarwch.
O ran plant, rydym yn gobeithio edrych ar fodelau newydd o sut y gallwn edrych ar hynny, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm ystyried lle efallai y gallwn ystyried ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â mater deintyddiaeth plant. Oherwydd rwy'n ymwybodol fod angen inni sicrhau bod pobl yn meddwl yn y ffordd briodol, mewn perthynas ag iechyd dannedd, o oedran cynnar iawn. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau, ac rwy'n gobeithio y gallaf adrodd ar beth yw'r sefyllfa gyda hynny rywbryd yn fuan.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gofal brys acíwt mewn ysbytai ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58529
Er bod gennyf rôl i osod cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru a dwyn y GIG i gyfrif, bwrdd iechyd Powys sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau ar lefel leol ac am sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Diolch. Mae triniaeth frys ar gyfer cyflyrau acíwt fel strôc neu ataliad ar y galon yn anos i'r bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn fy etholaeth. Gyda digwyddiadau strôc a chardiaidd, mae munudau ac eiliadau'n gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw, ac os ydych yn goroesi, mae amseriad yr ymyrraeth yn cael canlyniad uniongyrchol ar eich adferiad. Yn fy etholaeth i, mae pobl yn cael eu gorfodi i deithio dros 45 munud i gael gofal yn Lloegr neu siroedd eraill yng Nghymru. Rwy'n clywed trigolion dro ar ôl tro yn cysylltu â mi i ddweud eu bod yn aros dros saith awr am ambiwlans a'u bod yn gorfod rhoi eu hanwyliaid mewn car a'u gyrru i ysbyty. Mae'r teithiau hyn yn beryglus dros ben ac yn ofidus i aelodau'r teulu. Felly, Weinidog, hoffwn wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau mynediad amserol at driniaethau brys i'r preswylwyr sydd gennyf ym Mrycheiniog a sir Faesyfed, fel nad ydynt o dan anfantais o ganlyniad i'r ffaith nad oes unrhyw ysbytai dosbarth ym Mhowys.
Diolch yn fawr. Rydych yn hollol gywir; mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod tegwch yn rhywbeth sy'n bodoli ledled Cymru. Mae gennym arweinydd clinigol ar gyfer strôc yng Nghymru, a gyda chymorth rheolwr y grŵp gweithredu ar gyfer strôc a'r arweinydd cenedlaethol proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer strôc, rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau strôc rhanbarthol yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys sut y bydd gwasanaethau strôc hyperacíwt, y cyfeirir atynt bellach fel canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr, yn cael eu ffurfweddu i sicrhau mynediad teg. O ran Powys, fel rhan o'r broses honno, yn amlwg bydd rhaid i'r trefniadau sy'n cysylltu'r canolfannau strôc rhanbarthol cynhwysfawr hynny gyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Gwn y bydd gan boblogaeth Powys ddiddordeb mewn clywed hynny, ac maent mewn cysylltiad â'r gwasanaethau yn Lloegr i wneud yn siŵr fod y cynllun hwnnw'n ystyried y ffaith fod pobl, mewn gwirionedd, yn croesi'r ffin i Loegr.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf i ofyn cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. James Evans.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a ydych yn credu y dylai pobl sydd â phroblem iechyd meddwl gael sicrwydd o asesiad iechyd meddwl o fewn mis?
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, ein nod yng Nghymru yw cael gwasanaeth 'dim drws anghywir'. Mae gennym dargedau ar waith yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol a mynediad at wasanaethau eraill. Mae gwasanaethau dan bwysau ar hyn o bryd ac rydym yn cymryd camau i adfer perfformiad gyda'r byrddau iechyd.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Dywedodd eich arweinydd Llafur yn y DU, Keir Starmer, y byddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn gwarantu triniaeth iechyd meddwl o fewn mis, ond mae ystadegau eich gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc yn dangos bod y Llywodraeth yma yng Nghymru yn methu. Dim ond 50 y cant o blant sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu hasesiad o fewn mis. Mewn rhai byrddau iechyd, mae tri phlentyn o bob pedwar yn aros yn hwy na mis ar gyfer asesiad, ac yn Aneurin Bevan, mae 85 y cant o blant yn aros yn hwy na mis am ymyrraeth therapiwtig. Mae hyn yn annerbyniol a dweud y gwir. Felly, a ydych yn credu bod eich Llywodraeth yn gwneud cam â phlant sydd ag anghenion iechyd meddwl yng Nghymru?
Pe bai'r Aelod wedi bod yma ddoe ac wedi ymuno â ni ar gyfer fy natganiad ar ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', byddai wedi fy nghlywed yn siarad yn fanwl am y rhain. Mae hawl gan Keir Starmer i amlinellu ei bolisïau ar gyfer y Llywodraeth Lafur sydd i ddod yn Lloegr, ond fe allai fod yn syndod i chi glywed bod iechyd wedi ei ddatganoli yng Nghymru. Nid wyf yn derbyn o gwbl ein bod yn gwneud cam â phlant Cymru. Fel y gwyddoch yn iawn, mae'r pandemig wedi cael effaith ar amseroedd aros. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau a chynnydd yn aciwtedd yr achosion a welir.
Rydym wedi sefydlu arolwg yr uned gyflawni o wasanaethau CAMHS arbenigol. Disgwylir iddynt adrodd y mis hwn. Yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio, ynghyd â'r uned gyflawni, gyda phob bwrdd iechyd yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn adfer eu sefyllfa CAMHS. Rwy'n aros am yr adroddiad hwnnw gan yr uned gyflawni, a bydd gweithredu ei argymhellion yn allweddol. Unwaith eto, pe baech chi wedi bod yma ddoe, byddech wedi fy nghlywed hefyd yn disgrifio'r ystod gyfan o gymorth yr ydym yn ei ddarparu ar lefel ymyrraeth gynnar ac ar lefel ysgol, sydd wedi'i gynllunio i atal problemau rhag gwaethygu i lefel gwasanaethau CAMHS arbenigol.
Mae'n ddiddorol ei fod hefyd yn dangos nad yw arweinydd y Blaid Lafur yn y DU yn credu bod gan Lywodraeth Cymru unrhyw uchelgais mewn perthynas â gwasanaethau iechyd. Mae'n debyg mai dyna pam ei fod yn gosod ei dargedau ei hun, oherwydd nad yw eisiau cysylltu ei hun â'r methiannau yma. Mae'r ffigurau'n hollol glir fod argyfwng iechyd meddwl yn wynebu ein plant, sy'n cael ei waethygu gan y ffaith nad yw'r Llywodraeth hon yn ymdrin ag ef. Ac ni waeth sawl gwaith y dywedwch fod pethau'n anodd, dylech fod yn ymdrin â'r broblem hon.
Mae'n annerbyniol i mi fod bron i 50 o blant a phobl ifanc o dan 18 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn fenywaidd, wedi cael eu rhoi dan gadwad o dan adrannau 151 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn y chwarter diwethaf. A ydych yn credu ei bod yn dderbyniol rhoi plant ifanc dan gadwad? Beth yw cynlluniau'r Llywodraeth hon i ddatrys y broblem, ac os nad ydych yn credu bod hwnnw'n fethiant ar ran y Llywodraeth hon, beth yn union y mae methiant yn ei olygu i chi?
Wel, rwy'n credu y gwelwch chi, James, nad oes adran 151 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn amlwg, mae amddiffyniadau ar waith o dan y gyfraith i gadw pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl dan gadwad. Rydym am weld nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan gadwad yn lleihau. Dyna pam ein bod yn buddsoddi'r holl arian hwn mewn ymyrraeth gynnar, atal, mewn gwasanaethau noddfa ac mewn gofal argyfwng. Ond bydd bob amser rhai pobl y bydd angen eu cadw dan gadwad er eu lles eu hunain o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ac rydym yn monitro'r achosion hynny'n ofalus iawn, a gallwch weld, pan fydd rhywun yn cael eu cadw dan gadwad—drwy'r camau a gymerir wedyn, gyda llawer ohonynt yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau eilaidd—fod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud i gadw pobl yn ddiogel.
Llefarydd Plaid Cymru nesaf, Rhun ap Iorwerth.
Ar 20 Medi, mi ddywedodd y Prif Weinidog mai ffigurau a data Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sydd y tu cefn i gynlluniau'r elusen i gau'i ddau safle yn y Trallwng a Chaernarfon a symud yr hofrenyddion i un safle. Dwi, a rhai o fy nghyd-Aelodau, wedi ysgrifennu ato fo i nodi mai ffigurau y Llywodraeth ydy'r rhain—ffigurau EMRTS yn y gwasanaeth iechyd—ac i ofyn iddo gywiro’r record. Mi fuaswn i'n gwerthfawrogi pe tasai'r Gweinidog yn cadarnhau hynny heddiw hefyd. Os ydy o'n help, mi ddyfynnai o eiriau'r elusen ei hun, bod yr analysis,
'wedi'i wneud gan ein partneriaid meddygol, y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)'.
Rŵan, oherwydd ansicrwydd ynglŷn ag union sail y data yma, na, yn wir, beth yn union mae'r data yn ei ddweud wrthym ni, ydy'r Gweinidog yn barod i gomisiynu adolygiad annibynol o'r data yna ac, yn benodol, i gael yr adolygiad i ystyried impact tebygol y newid ar yr ardaloedd hynny sydd fwyaf anodd eu cyrraedd ar y ffordd ac sydd ymhellach o'r canolfannau gofal brys—llefydd fel pendraw Llŷn, gogledd Môn a Phowys?
Diolch yn fawr. Edrychwch, ar hyn o bryd, mae pob un ohonom yn gweithio ar sail adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol. Felly, y peth pwysig yw ein bod yn gadael i'r system a'r broses wneud eu gwaith. Nawr, gwn fod prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans yn gweithredu’n annibynnol ar y gwasanaeth ambiwlans awyr, a’r peth allweddol i ni ei wneud, yn gyntaf oll, yw darganfod, ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n briodol, a yw hyn yn gyfystyr â newid gwasanaeth, ac os ydyw, yna yn amlwg, byddwn yn ymgysylltu â'r cynghorau iechyd cymuned. Ac ar y pwynt hwnnw, byddant yn penderfynu a yw'r newidiadau arfaethedig yn cynrychioli newid gwasanaeth, ac os ydynt, bydd hynny'n sbarduno ymgynghoriad ffurfiol. Ac ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni edrych ar y data. Ond gadewch imi ddweud wrthych am y data, gan fy mod wedi ymchwilio i hyn ac wedi gofyn pa ddata a ddefnyddiwyd: cawsom sicrwydd ynghylch trylwyredd y gwaith modelu data cynhwysfawr. Yr hyn a ddywedir wrthyf yw ei bod yn anodd inni gyhoeddi—
Eich data chi ydyw.
Rwy'n gwybod hynny. Rwy'n mynd i ddod at hynny, Rhun. Mae'n anodd inni gyhoeddi'r data hwnnw, gan y gallai ei gwneud yn bosibl adnabod cleifion, a dyna a ddywedwyd wrthyf. Dyna a ddywedwyd wrthyf, ac rwy'n fwy na pharod i roi hynny i chi yn ysgrifenedig.
Mae hynny'n nonsens llwyr.
Fy ofn i ydy bod yr ardaloedd mwyaf gwledig yn mynd i golli allan wrth i'r ambiwlans fynd ar ôl targedau niferoedd cleifion gall cael eu cyrraedd efo'r hofrennydd heb ystyried yn iawn y tebygrwydd y gallai'r rheini gael eu cyrraedd yn reit gyflym ar y ffordd beth bynnag mewn ardaloedd poblog.
Liciwn i dynnu sylw y Gweinidog at adroddiad, 'Service Evaluation of the Emergency Medical Retrieval & Transfer Service (EMRTS) Cymru', a gafodd ei gyhoeddi llai na blwyddyn yn ôl. Mae o'n nodi,
'Er i'r gwasanaeth wneud gwelliannau mawr o ran cydraddoldeb yn gyffredinol, roedd anghydraddoldeb yn parhau yn y ddarpariaeth yn y Gogledd Orllewin, a nodwyd y dylid ystyried ehangu i'r ardal hon.'
Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill eleni, wrth ymateb i'r adroddiad hwnnw, roedd y Gweinidog yn ganmoliaethus iawn ynghylch—ac rwy'n dyfynnu—'canfyddiadau cadarnhaol' yr adroddiad.
Nawr, rwy’n siŵr y gellid gwneud yr un dadleuon ar gyfer Powys, ond ar y mater penodol hwn, sut y gall symud yr hofrennydd ymhellach i ffwrdd, symud y cerbydau ffyrdd ymhellach i ffwrdd, fod yn gyfystyr ag ehangu gwasanaethau Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys yn y gogledd-orllewin yn benodol? Ni all ymwneud â chynyddu oriau hedfan—mae hynny'n helpu pawb; byddai pob un ohonom yn croesawu hynny. Sut y byddai cau Caernarfon yn gyfystyr ag ehangu’r ddarpariaeth yn y gogledd-orllewin fel modd o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb parhaus yn y ddarpariaeth, neu beth sydd wedi newid ers eich datganiad ym mis Ebrill?
Edrychwch, mae'r ambiwlans awyr yn elusen annibynnol. Hwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, ac maent wedi edrych ar effeithlonrwydd eu gwasanaethau. A chi fyddai'r cyntaf i ddweud wrthyf, 'Pam nad ydym yn cyrraedd pobl yn gyflymach' [Torri ar draws.] Rydych wedi gofyn yn y gorffennol, 'Pam nad ydym yn cyrraedd pobl yn gyflymach?' Ac maent yn dweud, 'Gallwn gael mwy o effeithlonrwydd'—[Torri ar draws.] Wel, mae pobl eraill wedi gofyn, Rhun. A gadewch imi ddweud yn glir, mae angen inni gyrraedd pobl yn gyflymach—mae honno'n broblem y mae angen inni fynd i'r afael â hi. Ac mae'r ambiwlans awyr yn ceisio mynd i'r afael â'r union broblem honno. Maent wedi edrych ar yr effeithlonrwydd, maent wedi darparu rhywfaint o ddata, ac maent wedi gwneud yr asesiad hwnnw. Nawr, nid ydym wedi ymwneud â'r broses honno eto, gan nad yw'n broses ffurfiol o hyd. Ar y pwynt hwnnw, byddwn yn ymwneud â’r broses, pan ddaw’n ffurfiol.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o adroddiad 'Niferoedd Nyrsio 2022' y Coleg Nyrsio Brenhinol mewn perthynas â gogledd Cymru? OQ58531
Mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol yn amlinellu’r heriau y mae pandemig COVID a phrinder staff nyrsio byd-eang wedi eu creu i'n gweithlu. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru’r nifer cywir o nyrsys a staff gofal iechyd i ddiwallu anghenion gofal ein pobl.
Diolch, Weinidog, am eich ateb cychwynnol. Ac ar gyfer y cofnod, er eglurder, mae fy mrawd a chwaer yn nyrsys yn y gwasanaeth iechyd gwladol hefyd.
Ddiwedd y mis diwethaf, Weinidog, cefais y pleser o fynychu digwyddiad Gwrando ar Nyrsio y Coleg Nyrsio Brenhinol yma yn y Senedd, a noddwyd gan eich cyd-Aelod o'ch plaid, Buffy Williams. Ac roedd yn wych cyfarfod â'r staff nyrsio hynny, sy'n parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel, ddydd ar ôl dydd. Yn y digwyddiad hwn, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol eu hadroddiad 'Niferoedd Nyrsio 2022', a oedd yn dangos, yng Nghymru, fod 2,900 o swyddi nyrsio yn wag ar hyn o bryd, ac yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, yng ngogledd Cymru, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod 650 o swyddi nyrsio gwag i fyny yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Felly, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Weinidog, ac fel yr amlinellwyd gennych ar y cychwyn, mae'n her i recriwtio a chadw nyrsys yng Nghymru. Felly, yng ngoleuni hyn, pa gamau penodol pellach y credwch y gallech chi a Llywodraeth Cymru eu cymryd, yn gyntaf oll, i recriwtio mwy o nyrsys, ac i sicrhau hefyd ein bod yn cadw'r nyrsys gweithgar sydd gennym yn barod?
Diolch yn fawr iawn. Wel, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn buddsoddi'r lefelau uchaf erioed mewn hyfforddiant ar gyfer y GIG—£262 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon yn unig. Mae nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer nyrsys wedi cynyddu dros 69 y cant ers 2016— 2,396 yn rhagor o nyrsys ar y system. Felly, rhan o'r broblem yw bod rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw pobl—dyna'r her wirioneddol o'm rhan i. Rwyf wedi gofyn i Addysg a Gwella Iechyd Cymru weithio gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn y maes hwn i helpu i gadw nyrsys.
Credaf ei bod yn werth pwysleisio hefyd ein bod wedi recriwtio 400 o nyrsys rhyngwladol ychwanegol eleni. Ac roeddwn yn falch iawn, ddydd Llun, o gyfarfod â Gweinidog iechyd Kerala yn India, y byddwn yn partneru â hwy, fel y gallwn recriwtio'n uniongyrchol o Kerala, ac fel y gallwn gael llwybr uniongyrchol at fyfyrwyr cymwys o ansawdd uchel. Ac roedd yn dda clywed, mewn gwirionedd, fod—. Oherwydd rydych bob amser yn teimlo braidd yn euog am fynd â nyrsys o wlad sy'n datblygu, er bod India yn eithaf datblygedig bellach mewn sawl rhan, ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall beth yw eu cymhelliant. Ac roeddent yn dweud yn glir iawn wrthyf eu bod yn fwy na pharod i'w hyfforddi, maent yn fwy na pharod i'w hanfon draw yma. A'r hyn sy'n digwydd yw bod y taliadau'n cael eu hanfon yn ôl i Kerala, a dyna pam ei bod o fudd iddynt hwythau hefyd ein bod yn cyflogi'r nyrsys hyn. Felly, mae rhywfaint o gynlluniau ar waith, gwyddom fod mwy o lawer gennym i'w wneud, ond mae hwn yn bwysau byd-eang y mae pawb yn ei wynebu.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfathrebu gyda chleifion o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ58519
Mae’r bwrdd iechyd yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu. Golyga hyn fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu uniongyrchol i ganolbwyntio ar wella cyfathrebu o fewn y bwrdd iechyd.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn teimlo bod rhaid imi godi hyn gyda chi o ystyried bod llawer o etholwyr wedi dod ataf yn ddiweddar i ddweud eu bod yn teimlo, pan fyddant hwy neu eu hanwyliaid yn yr ysbyty, mai ychydig iawn o wybodaeth a gânt. Mae'n fater gofid pellach mai 68 y cant yn unig o’r achosion a godais yn ddiweddar gyda’r bwrdd iechyd sydd wedi cael ymateb o fewn eu targed o 21 diwrnod gwaith. Nawr, mae swyddogion wedi egluro wrthyf fod oedi'n digwydd am fod clinigwyr yn methu ateb cwestiynau ar unwaith, neu efallai fod nodiadau meddygol wedi mynd ar goll, neu'n anodd dod o hyd iddynt. Mewn un achos, anfonais lythyr fis Tachwedd diwethaf, ac ni chafwyd ymateb tan fis Medi eleni oherwydd, yn y diwedd, fe'i hanfonwyd at yr ombwdsmon. Mae oncolegydd wedi ymddiheuro, gan ddweud y bu rhai problemau o ran dod o hyd i nodiadau clinigol ar gyfer y claf penodol hwnnw. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei ddwyn i fy sylw; mae'n digwydd yn rhy aml. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, Weinidog.
Felly, beth y gallwch ei wneud i sicrhau, ni waeth pa mor brysur yw ward, fod nodiadau’n cael eu hysgrifennu ar yr adeg briodol, fel bod y cleifion eu hunain neu eu teuluoedd yn gwybod yn union, ond hefyd, pan fydd cwynion yn cael eu gwneud, na chawn ein gadael i aros—pan ydym yn cynrychioli'r etholwyr hyn—am fisoedd lawer am nad yw'r nodiadau wedi'u hysgrifennu gyda diwydrwydd dyladwy, gan greu rhwystr yn y broses gwyno? Diolch.
Diolch. Wel, yn gyntaf oll, dylai clinigwyr fod yn ysgrifennu nodiadau; dylent fod yn ysgrifennu nodiadau ar adeg y driniaeth. Felly, nid oes unrhyw esgus dros hynny; mae hynny'n ofyniad. Ond o ran nodiadau'n mynd ar goll, credaf fod digideiddio'n rhan o’r ateb i hyn, a dyna pam fy mod wedi treulio cryn dipyn o fy amser yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gennym GIG llawer mwy modern, ein bod yn buddsoddi yn y GIG. Ac rydym yn buddsoddi mwy y pen nag y mae Lloegr. Felly, rydym yn buddsoddi oddeutu £18 y pen, o gymharu ag £11.50. A bydd y rhaglen drawsnewid ddigidol honno’n sicrhau ein bod mewn sefyllfa lle gallwn wybod beth yn union sy’n digwydd, y bydd y systemau’n siarad â’i gilydd, ac yna, ni fydd gennym sefyllfa lle mae nodiadau’n mynd ar goll.
5. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau fod capasiti'r GIG yng ngogledd Cymru yn ddigon i ateb y galw? OQ58528
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o safon, sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy i’r boblogaeth leol. Mae hyn yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a diweddaraf. Rŷn ni hefyd wedi darparu buddsoddiad ychwanegol i’w cefnogi.
Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod un o bob wyth swydd nyrsio yn wag yn y gogledd. Rŷn ni hefyd yn gwybod, yn ôl cadeirydd y bwrdd iechyd, o'r 642 o feddygon teulu sydd gennym ni yn y gogledd, mae chwarter ohonyn nhw dros 65, a mae disgwyl i draean o'r 642 yna ymddeol yn y pum mlynedd nesaf. Ac rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, bod dim niferoedd digonol yn dod mewn i lenwi'r swyddi ar eu holau nhw. Mae 20 y cant o swyddi yn cael eu llenwi gan ddoctoriaid locum, dros dro, ar hyn o bryd, cyn bod y rhai roeddwn i'n sôn amdanyn nhw yn ymddeol.
Ydych chi felly'n derbyn mai un o fethiannau hanesyddol y Llywodraeth yma, a Llywodraethau blaenorol, yw'r methiant i gynllunio'n ddigonol ar gyfer gweithlu y dyfodol yn y sector yma, a chanlyniad y methiant hynny, wrth gwrs, wedyn, yw bod gennym ni lefelau staffio sy'n crebachu, ei bod hi'n costio mwy i'r pwrs cyhoeddus wedyn i lenwi'r gwagle yna, ac, wrth gwrs, bod e'n gadael mwy o bwysau a baich ar ysgwyddau y rhai sydd ar ôl?
Wel, rŷn ni wedi bod yn hyfforddi pobl, ac rŷn ni wedi gweld 54 y cant mwy o bobl yn gweithio yn yr NHS dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn Betsi nawr, rŷn ni'n gweld bod bron i 20,000 o bobl yn gweithio i'r bwrdd iechyd, ac mae yna gynlluniau i recriwtio 380 mwy yn ystod y ddwy flynedd nesaf. A'r syniad sydd fanna yw bod y bwrdd eisiau cael pobl leol i gymryd y llefydd yna, felly mae gyda nhw gynllun ar gyfer hynny. A beth sy'n bwysig felly yw bod y cynllunio hynny yn cael ei wneud. Mi wnes i gael cyfarfod gyda'r GMC yr wythnos diwethaf. Roedden nhw'n dangos yn union faint o bobl sy'n mynd i adael oherwydd eu bod nhw yn dod lan at y ffaith eu bod nhw'n mynd i gael eu pensiwn— 'ymddeol', dyna'r gair—ac ymddeol cyn bo hir.
Felly, beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n cymryd y ffigurau yna i gyd. Rŷch chi wedi gweld bod y Blaid Lafur yn genedlaethol wedi dweud ein bod ni'n awyddus i weld lot mwy o feddygon yn cael eu hyfforddi ac, yn sicr, o ran hyfforddi nyrsys, fel roeddech chi'n clywed o'r cwestiwn blaenorol, rŷn ni eisoes yn hyfforddi lot mwy nag yr oedden ni yn y gorffennol—yn fwy na 69 y cant yn fwy nag ŷm ni wedi yn y gorffennol. Y drafferth yw mae'n rhaid i ni gadw pobl yn y system, a dyna ble mae’r tensiwn. Ac rŷch chi'n deall bod lot o bwysau wedi bod ar y bobl yma dros y ddwy flynedd diwethaf.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi mynegi fy mhryderon yn y gorffennol am hyd yr oedi yn ein hysbytai—Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, ac wrth gwrs, Ysbyty Maelor Wrecsam. Nawr, fe fyddwch hefyd yn gwybod fy mod yn credu bod gan ysbytai cymunedol, ac yn enwedig ysbyty cyffredinol dosbarth Llandudno, ran allweddol i'w chwarae i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Gwn eich bod wedi bod yn gwrando, gan fod treial gwasanaeth pontio wedi’i gynnal yn ward Aberconwy bellach, mae theatr lawdriniaethau wedi’i hailagor, ac mae uned strôc newydd yn mynd i gael ei lleoli yno. Carwn gael amserlen ar gyfer hynny, os gwelwch yn dda. Ond mae mwy y gellir ei wneud. Dim ond 43.7 y cant o gleifion a dreuliodd lai na’r amser targed o bedair awr yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd, ac eto, mae’r ffigur yn uned mân anafiadau Llandudno yn 97.6 y cant, sy'n anhygoel. Felly, dyna ni: mae'r uned mân anafiadau'n perfformio'n eithriadol o dda. Felly, Weinidog, a wnewch chi edrych ar—? Nid oes ganddynt feddyg dros nos a phethau felly, a chredaf fod yna ffyrdd y gallech wella’r ddarpariaeth yn yr ysbytai cymunedol hyn, a heb os, bydd hynny’n lleddfu rhywfaint ar y pwysau ar yr ysbytai mwy hyn, sy’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o glywed bod pethau’n mynd o nerth i nerth yn Llandudno, ac yn sicr, pan ymwelais â’r ysbyty hwnnw, un o’r pethau y canolbwyntiais arnynt oedd beth y mae’r bobl hyn yn ei wneud yno, pa mor hir y maent wedi bod yma, beth yw'r cynllun ar gyfer y bobl hyn, ac roedd yn amlwg. Cyfarfûm ag un dyn yno, rwy'n cofio, a oedd wedi cael torri'i goes i ffwrdd, ond roedd yn byw mewn fflat ail lawr. Felly, roedd yn amlwg nad oedd yn mynd i allu mynd adref, ond nid oeddent wedi dechrau datrys y broblem honno hyd nes ei fod yn dod at ddiwedd ei driniaeth. Wel, gallech fod wedi dechrau datrys y broblem honno wythnosau ynghynt, felly mae a wnelo hyn â cheisio cael pobl i ddeall yr angen i weithio drwy'r pethau hynny. Cyn gynted ag y dônt i mewn drwy'r drws, beth yw'r cynllun ar gyfer rhyddhau'r bobl hyn? Rwy'n falch iawn o glywed bod y gwasanaeth pontio hwnnw'n gweithio'n dda iawn. Ac rydych yn llygad eich lle—rhan o'r hyn y mae angen inni ei wneud ledled Cymru gyfan yn awr yw sicrhau bod pobl yn deall bod dewisiadau eraill ar gael heblaw am adrannau damweiniau ac achosion brys: y gallant fynd i ganolfannau gofal sylfaenol brys, gallant fynd i ganolfannau gofal brys ar yr un diwrnod, gallant ffonio 111, gallant fynd i'w fferyllfa leol. Mae’r holl bethau hyn yn opsiynau nad oedd ar gael rai blynyddoedd yn ôl, ond mae gennym gynllun, yn amlwg, ac rydym wedi bod yn rhoi cynnig ar ymgyrch, Helpwch Ni i’ch Helpu Chi, i sicrhau bod pobl yn gwybod i ble y dylent fynd i gael y cymorth iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chanser y coluddyn? OQ58530
Rydym yn gweithio i wella canlyniadau canser y coluddyn drwy wella llwybrau diagnostig, gostwng yr oedran sgrinio yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, a gwella ansawdd triniaeth canser y coluddyn.
Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o weld yr oedran sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn gostwng yn ddiweddar i 55, gan y gwyddom fod sgrinio pobl yn gynharach yn golygu y gellir canfod canser yn gynharach. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig y gellir cael mynediad at driniaeth cyn gynted â phosibl. Felly, roedd yn flin gennyf nodi, ym mis Gorffennaf, mai 36 y cant yn unig o gleifion â chanserau yn y bibell gastroberfeddol isaf yng Nghwm Taf Morgannwg a ddechreuodd eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r pwynt pan amheuid bod canser arnynt. Fel y gwyddoch, mae hynny’n sylweddol is na'r targed perfformiad ar gyfer llwybr lle’r amheuir canser. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad cyflym at driniaeth?
Diolch yn fawr, Vikki. Mae’r ffigurau hynny’n amlwg yn rhy isel ac yn annerbyniol. Dyna un o'r rhesymau pam y gelwais am gyfarfod uwchgynhadledd canser heddiw—gan alw'r holl fyrddau iechyd a'r arweinwyr canser ym mhob un o'r byrddau iechyd ynghyd. Un o'r materion yn fwyaf arbennig mewn perthynas â chanserau yn y bibell gastroberfeddol isaf yw ein bod wedi gweld, yn rhannol o ganlyniad i'r cynnydd mewn sgrinio, cynnydd o 38 y cant yn y galw am y gwasanaeth—38 y cant. Mae hwnnw'n gynnydd enfawr, ac yn amlwg, nid oedd gennym gapasiti i ymdopi â hynny, ac mae hynny'n egluro pam fod y lefelau hynny mor isel. Ond mae'n rhaid inni wneud rhywbeth am hynny, a dyna pam ei bod yn galonogol clywed y bore yma fod bwrdd Cwm Taf Morgannwg yn mynd i gynyddu nifer yr ystafelloedd yn yr unedau symudol yn y canolfannau triniaeth i gynnal y llawdriniaethau hyn, a'u bod hefyd wedi cadarnhau llwybr delfrydol sengl, sy'n sicrhau bod cleifion yn cael eu hanfon yn uniongyrchol am brofion fel nad oes ganddynt amser hir i aros cyn iddynt ddechrau ar eu taith i geisio cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Weinidog, gŵyr pob un ohonom ei bod yn hanfodol cael diagnosis cynnar o ganser y coluddyn. Mae'n ffaith y bydd bron pawb sy'n cael diagnosis ar y cam cynharaf yn goroesi. Serch hynny, ers blynyddoedd, rydym wedi methu canfod y salwch hwn yn ddigon cyflym yng Nghymru. Roeddem yn bumed ar hugain allan o 29 o wledydd yn Ewrop ar gyfer y gyfradd oroesi pum mlynedd. Gyda hanner y cleifion canser y coluddyn yn cael diagnosis yn hwyrach, bedair blynedd yn ôl, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig y dylai pobl rhwng 50 a 74 oed gael prawf. Yng Nghymru, nid yw pobl rhwng 50 a 55 oed yn cael eu profi eto, a bydd rhaid inni aros am flynyddoedd cyn i’r grŵp oedran hwn gael ei drin yr un fath ag mewn mannau eraill yn y DU. Mae’r perfformiad gwarthus hwn gan Weinidogion Cymru wedi peryglu bywydau llawer o bobl. Felly, pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod pobl rhwng 50 a 55 oed yn cael eu cefnogi yn awr, cyn i'r oedran sgrinio gael ei ostwng ymhen dwy flynedd? Diolch.
Diolch. Rwy'n falch o weld ein bod bellach wedi gostwng yr oedran yr ydym yn anfon profion imiwnocemegol ar ysgarthion i bobl dros 55 oed, ond rydych yn llygad eich lle, mae'n rhaid inni wneud mwy, ond mae'n rhaid inni wneud hynny ar yr un pryd â chynyddu capasiti. Rydym wrthi'n edrych ar hyfforddi mwy o glinigwyr er mwyn sicrhau, pan fydd y galw hwnnw—ac rydych wedi clywed am y galw hwnnw, cynnydd o 38 y cant—. Mae hwnnw'n gynnydd enfawr, felly rhaid ichi baratoi ar gyfer hynny. Mae gennym offer newydd a chyfleusterau newydd, ac rwy’n siŵr y byddwch wedi clywed hefyd, ddechrau’r wythnos, am ein canolfannau diagnosis cyflym, y rhai cyntaf i gael eu cyflwyno yn y Deyrnas Unedig, a dylai hynny fod o gymorth hefyd. Felly, bydd yr holl bethau hynny'n cael eu cyflwyno, ond nid oes diben ehangu hyd nes ein bod yn barod i gefnogi'r bobl pan fyddant yn cael y diagnosis. Felly, rydym ar y pwynt hwnnw—rydym yn adeiladu'r capasiti. Yn sicr, roedd yn galonogol clywed y bore yma fod y mesurau hynny a’r camau hynny'n cael eu rhoi ar waith ledled Cymru.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo e-sigaréts i ysmygwyr? OQ58526
Er ein bod yn cydnabod bod e-sigaréts yn cael eu defnyddio gan rai pobl sydd am roi’r gorau i ysmygu, mae’r dystiolaeth ynghylch eu heffaith hirdymor yn dal i ddatblygu. Rydym yn bwriadu edrych yn fanwl ar ein polisi ar e-sigaréts yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu, fel rhan o’n cynllun cyflawni newydd ar reoli tybaco.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ddydd Mawrth diwethaf, yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog mai’r dystiolaeth yw, i’r rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio e-sigarét, eu bod yn gwneud hynny yn ogystal ag yn hytrach nag yn lle sigaréts confensiynol—nodwyd defnydd deuol gan 85 y cant mewn astudiaethau diweddar. Dyna a ddywedodd. Siaradodd fy swyddfa ag ASH Cymru yn fuan wedyn, ac nid ydynt yn siŵr o ble y daeth y ffigur hwn. Fe wnaethant ofyn hefyd i'w chwaer-sefydliad, ASH UK, ac nid yw'n ymddangos eu bod hwythau ychwaith yn gwybod o ble y daeth y ffigur hwn. Ymddengys bod yr ystadegyn yn gwrth-ddweud canfyddiad arolwg y meddygon teulu fod defnyddio e-sigaréts yn fwyaf cyffredin o fewn y grŵp cyn-ysmygwyr. Weinidog, yng Nghymru, y ganran gyfartalog o ysmygwyr yw 18 y cant, a dim ond 7 y cant ar gyfer e-sigaréts. O'r rhai sy'n defnyddio e-sigaréts, mae 76 y cant yn eu defnyddio i roi'r gorau i ysmygu. Felly, Weinidog, onid ydych yn credu ei bod yn bryd ichi ddechrau cydnabod manteision e-sigaréts a’u rôl yn diddyfnu ysmygwyr oddi ar sigaréts fel y gallwn leihau o'r diwedd y niferoedd sy'n ysmygu yng Nghymru?
Diolch i Laura Anne Jones. Mae ysmygu, wrth gwrs, yn hynod niweidiol i iechyd, a rhoi'r gorau i ysmygu yw'r un cam pwysicaf y gall rhywun ei gymryd i wella eu hiechyd. Rydym yn cydnabod, i rai pobl, fod e-sigaréts a chynhyrchion nicotin eraill yn cael eu defnyddio i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu, ac mae tystiolaeth gyfredol yn awgrymu eu bod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu tybaco. Gwyddom fod oddeutu saith o bob 10 ysmygwr yn dymuno rhoi’r gorau iddi, ac mae ein gwasanaeth GIG rhad ac am ddim, Helpa Fi i Stopio, ar gael i gefnogi ysmygwyr, ac ers 2017, mae wedi helpu dros 75,000 o ysmygwyr. Gwyddom fod cael cymorth gan y GIG yn cynyddu gobaith ysmygwyr o lwyddo hyd at 300 y cant o gymharu â cheisio rhoi'r gorau iddi ar eu pen eu hunain. Fel gyda chynhyrchion didrwydded eraill sy'n cynnwys nicotin, ni all darparwyr gwasanaeth Helpa Fi i Stopio ddarparu mynediad at e-sigaréts hyd nes bod opsiynau trwyddedig ar gael i ni eu hystyried. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd ein strategaeth tybaco newydd, 'Cymru Ddi-fwg’, lle gwnaethom nodi ein huchelgais i Gymru ddod yn ddi-fwg erbyn 2030. Yn hanesyddol, rydym wedi mabwysiadu ymagwedd ofalus tuag at gynhyrchion e-sigaréts yng Nghymru o gofio bod y dystiolaeth ar eu heffeithiau hirdymor yn dal i ddatblygu, ynghyd â’u hapêl bosibl i blant a phobl ifanc. Rydym yn glir iawn na ddylai plant, pobl ifanc a phobl nad ydynt yn ysmygu ddefnyddio e-sigaréts ar unrhyw gyfrif. Fel rhan o’n cynllun cyflawni ar dybaco, rydym yn bwriadu edrych yn fanwl ar ein safbwynt polisi ar e-sigaréts yng Nghymru, gan gynnwys eu rôl ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu tybaco. Mae adroddiadau am y cynnydd yn y defnydd o e-sigaréts gan blant yn peri cryn bryder. Byddwn hefyd yn edrych ar beth arall y gellir ei wneud i atal plant a phobl ifanc rhag eu defnyddio.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r rhaglen frechu COVID-19? OQ58516
Hyd at 11 Hydref, roedd cyfanswm o 363,000 o bigiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi yng Nghymru. Mae’r rhaglen ar y trywydd iawn i roi gwahoddiad i'r holl bobl gymwys gael eu pigiad atgyfnerthu erbyn 30 Tachwedd, yn unol â’r ymrwymiad a roddwyd yn ein strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, a gyhoeddwyd gennym ar 15 Gorffennaf.
Diolch, Weinidog. Dyna newyddion rhagorol. Y brechlyn, wrth gwrs, yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu ein hunain rhag COVID, ac er mwyn byw gyda'r feirws, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gael y pigiad pan fydd ar gael i ni. Mae hefyd yn hanfodol fod y broses o gyflwyno'r rhaglen yn parhau yn y ffordd fwyaf effeithlon a theg. A ydych yn hyderus fod pobl yn gallu cael y brechlyn o fewn amserlen gyson ar draws pob cymuned ac ar gyfer pob grŵp oedran yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn. Wel, rydym yn sôn am geisio darparu'r pigiad atgyfnerthu i 1.6 miliwn o bobl gymwys yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni drwy 400 o safleoedd brechu, felly credaf fod y ddarpariaeth honno'n ddigonol i ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfle hwnnw. Fel y dywedaf, ein targed yw cyrraedd 75 y cant o'r garfan honno, a hyd yn hyn, rydym ar y trywydd iawn i gyflawni'r targed hwnnw. Felly, rydym yn gwneud cynnydd. Rwyf ychydig yn bryderus nad ydym yn cael yr ymateb gan weithwyr iechyd a gofal yr oeddwn wedi gobeithio'i gael, felly hoffwn annog pobl i geisio annog y gweithwyr iechyd a gofal hynny'n benodol i fanteisio ar y cyfle, yn ogystal, wrth gwrs, â phobl agored i niwed, ac i'w gael os caiff ei gynnig. Yn Ne Clwyd, er enghraifft, gwn fod 34 y cant o’r bobl sy’n gymwys eisoes wedi cael eu brechiadau.
Cwestiwn 9, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn. Wythnos diwethaf, Weinidog, ges i—
Y cwestiwn ar y papur trefn, plis.
Sori, sori, dwi'n neidio ymlaen gormod.
Mae'n arfer heintus.
9. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o lefelau staffio'r GIG yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ58544
Diolch yn fawr. Mae gweithlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nawr wedi cyrraedd lefel na welwyd erioed o’r blaen. Ond, rŷn ni’n cydnabod yr heriau o ran y gweithlu yn y canolbarth a’r gorllewin ar yr un pryd â’r pwysau sydd ar wasanaethau yn sgil galw sylweddol.
Diolch yn fawr iawn. Yr wythnos diwethaf, fel dywedais i, ges i'r pleser o gwrdd â'r RCN fan hyn yn y Senedd i gael trafod eu hadroddiad diweddaraf, ac yn y nos ges i'r pleser o gwrdd â nifer o nyrsys o ranbarth y gorllewin a'r canolbarth a chlywed am y pwysau gwaith aruthrol maen nhw'n ei wynebu: prinder staff; tâl annigonol; morâl yn isel; ac yn dweud eu bod nhw wedi blino'n lân; teimlo'n ddigalon achos bod nhw'n methu gwneud eu gwaith yn iawn; problemau strategol megis cynlluniau annigonol i gadw nyrsys yn eu gwaith; recriwtio annigonol; cynllunio cefnogaeth i'r gweithlu, ac yn y blaen. Felly, ynghyd â'u cyflogau isel ac amodau gwaith heriol, dyw hi ddim yn syndod, felly, fod cymaint o nyrsys yn gadael y sector. Ond y broblem yw, ar draws ardal Hywel Dda, fod tua 540 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig, gyda'r uchaf yng Nghymru, ac mae'r bwrdd iechyd yma hefyd gyda'r uchaf yn cyflogi nyrsys sy'n cael eu talu gan asiantaeth. Mae hwn wedi codi 46 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn costio'n agos i £29 miliwn. Felly, ac ystyried hyn, Weinidog, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i greu strategaeth ar gyfer cadw mwy o nyrsys yn y proffesiwn?
Diolch yn fawr. Mae hon yn ardal lle dwi wedi gofyn i'm swyddogion i wirioneddol edrych arni yn fanwl. Mae'n anodd gwneud hyn, achos, fel rŷch chi'n gallu dychmygu, o ran retention, os oes 1,000 o bobl gyda chi off yn sâl gyda COVID, beth ŷch chi’n mynd i’w wneud i lenwi’r gwagle oedd yna? Sut ŷch chi’n mynd i gymryd pwysau off y bobl sydd yn gorfod gwneud i fyny am y gwagleoedd yna? Ac os nad ydym ni’n defnyddio pobl o asiantaeth, mae’r pwysau arnyn nhw’n mynd i fod yn waeth. Nawr, dwi’n anhapus iawn o ran faint rŷn ni’n gwario ar asiantaeth ar hyn o bryd, a dyna pam dwi wedi gofyn i HEIW ganolbwyntio ar y gwaith yma ac i sicrhau ein bod ni’n gweithredu gyda’r undebau, yn gyflym, i sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa well. Ond, ar ddiwedd y dydd, beth sydd ei angen yw cael mwy o nyrsys i aros ac i gario ymlaen gyda’r hyfforddiant rŷn ni’n gwneud. Ond mae’n rhaid dweud bod Hywel Dda nawr â lefelau staffio ar lefelau sydd heb gael eu gweld o’r blaen. Mae 11,000 o bobl yn gweithio i’r bwrdd iechyd, ac, o ran nyrsys, mae 136 yn fwy nag oedd yno dair blynedd yn ôl. Felly, mae mwy nag oedd yna. Y drafferth yw bod y galw yn mynd i fyny drwy’r amser, a dyna yw’r broblem. Mae’n poblogaeth ni’n heneiddio, mae’r pwysau’n waeth. Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud y cynllunio strategol yna ar gyfer gweithlu’r dyfodol.
Ac yn olaf, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ystod dadl Pwyllgor Deisebau yn ddiweddar, fe ddywedoch chi,
'mae'n anghywir awgrymu y byddai ymestyn adran 25B i gynnwys pob un o'r meysydd hynny'n arwain at roi'r "tîm llawn o nyrsys" i Gymru, fel y mae'r ddeiseb yn ei roi, a hynny'n syml am nad yw'r nyrsys hynny'n bodoli ar hyn o bryd.'
Yr hyn rwy'n ceisio ei gywiro, fy hun, a rhoi cyfle i chi ehangu ac egluro, yw bod Llywodraeth Cymru—chi eich hun—yn honni bod yna strategaethau recriwtio amrywiol, gan gynnwys recriwtio rhyngwladol hefyd, ac rydych chi'n siarad am y buddsoddiadau uchaf erioed mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant. Felly, os yw hynny'n wir, nid yw'r ddau beth yn gyson â'i gilydd. Tybed a wnewch chi roi ychydig o gyd-destun pellach, efallai, i'ch sylwadau yn ystod y ddadl Pwyllgor Deisebau.
Iawn, felly, pan fyddwch chi'n llunio deddf, mae'n rhaid ichi gydymffurfio â'r gyfraith, ac os yw'r gyfraith yn dweud, 'Rhaid i chi gael x o nyrsys mewn ward benodol', mae'n rhaid ichi gydymffurfio â'r gyfraith honno. Os na allwch wneud hynny am nad oes gennych chi'r nyrsys, rydych chi'n torri'r gyfraith. Felly, beth yw'r pwynt llunio deddf y gwyddoch na allwch gydymffurfio â hi? Ac ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn inni gydymffurfio am nad oes gennym ddigon o nyrsys.
Felly, yr hyn sydd ei angen arnom, ac rwy'n derbyn hynny—. Rydym eisoes yn gwneud llawer ar recriwtio gweithlu. Rydym yn hyfforddi mwy nag a wnaethom erioed o'r blaen. Rydym yn recriwtio'n rhyngwladol. Ond rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yn awr yw canolbwyntio ar gadw staff, oherwydd rydym yn colli pobl mor gyflym ag yr ydym yn eu hyfforddi. Felly, dyna'r maes y credaf fod angen inni ganolbwyntio arno. Ac os gallwn ni wneud hynny fe fyddwn mewn sefyllfa lawer iawn gwell. Mae'r bobl yma wedi blino'n lân. Maent wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers dwy flynedd. Felly, mae angen inni roi cefnogaeth iddynt—felly, gweithio gyda'r undebau a'r AaGIC i ddeall yn iawn beth yw'r pwysau a beth arall y gallwn ei wneud i dynnu'r pwysau oddi arnynt—ac yna byddwn mewn sefyllfa i ddechrau llunio deddfau y gallwn gydymffurfio â hwy.
Diolch i'r Gweinidog.
Does yna ddim cwestiynau o dan eitem 3.
Eitem 4, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r unig ddatganiad y prynhawn yma gan Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. A hithau wedi bod yn Ddiwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl ar 10 Hydref, hoffwn gymryd y cyfle heddiw i ddathlu un grŵp penodol yn fy rhanbarth, sef y Metalidads.
Mae'r Metalidads, a adwaenir hefyd fel y Fathers of Metal, yn dwyn ynghyd y drindod sanctaidd honno, sef tadolaeth, iechyd meddwl a cherddoriaeth metel trwm ac yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn nhref y Barri i annog tadau lleol i ddod allan o'r tŷ ac i ffwrdd oddi wrth y plant a'r partneriaid er mwyn ffurfio cyfeillgarwch newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau hwyliog fel casglu sbwriel traeth, codi arian ar gyfer achosion lleol, clybiau ffilm i deuluoedd, nosweithiau bwyd a gemau, mynd i gigs a hyd yn oed dysgu sut i blethu gwallt eu plant yn barod ar gyfer yr adeg pan fyddant yn mynd i'r ysgol.
Gan ddefnyddio eu platfform cyfryngau cymdeithasol, maent yn trafod pynciau tabŵ fel iselder, trafferthion cenhedlu plant, profedigaeth yn sgil colli plant, diagnosis o awtistiaeth, ymdopi â phatrymau cysgu trafferthus plant bach a thrafferthion priodasol fel ffordd o ddadstigmateiddio pynciau siarad difrifol ac i gefnogi ei gilydd drwy wahanol brofiadau bywyd.
Eleni, mae Metalidads wedi estyn allan ac wedi ymgysylltu â nifer o fandiau a cherddorion sy'n enwog yn fyd-eang ym myd cerddoriaeth metel trwm, ac wedi eu cyfweld, er mwyn normaleiddio'r cwestiwn 'Wyt ti'n iawn?'
Mae grwpiau o'r fath mor bwysig o ran cefnogi rhieni, a dwi'n siŵr bydd fy nghyd-Aelodau yn cytuno bod angen inni gefnogi sefydliadau a mentrau lleol yn ein cymunedau sy'n cynnig y math yma o gefnogaeth sydd yn achub bywydau. Yn sicr, fe ges i groeso cynnes iawn gan y Metalidads, a chael budd mawr o'u cyfarfod.
Rwyf am orffen gyda dyfyniad a ddefnyddir yn aml gan y Fathers of Metal,
'boed yn far tremolo neu'n ddiddyfnu, yn Napalm Death neu'n glytiau...mae hi bob amser yn dda i siarad.'
Rociwch ymlaen.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Paul Davies.
Cynnig NDM8090 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad: Adolygiad o’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw. Lywydd, mae'n teimlo fel amser maith er pan basiodd y Senedd gynnig yn unfrydol dros gael pwyllgor i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr Llywodraeth Cymru (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar fyrder. A'r rheswm am hynny yw oherwydd ei bod hi'n amser maith ers hynny.
Roedd Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig o ddifrif ynglŷn â'r gwaith, ac fe gytunodd i gychwyn ar yr adolygiad yn ein cyfarfod cyntaf. Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cafodd adroddiad y pwyllgor ei ohirio oherwydd adolygiad barnwrol i gyfreithlondeb y rheoliadau, mater a oedd allan o ddwylo'r pwyllgor. Roedd yr adolygiad barnwrol hwnnw'n bwysig i'r ddadl hon, nid yn unig i egluro pam y cymerodd gymaint o amser i gynhyrchu adroddiad y pwyllgor, ond hefyd i dynnu sylw at ba mor arwyddocaol yw'r rheoliadau hyn.
Er bod yr holl reoliadau y pleidleisiwn arnynt yn bwysig, mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol hyn yn effeithio ar bethau sy'n greiddiol i gynnal bywyd yng Nghymru—cynhyrchu bwyd, ansawdd ein dŵr a'r amgylchedd ehangach. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y rheoliadau'n lleihau llygredd yn ein hafonydd yn y pen draw, yn osgoi cyfnewid llygredd ac yn atal neu'n lleihau gollwng mwyfwy o faetholion i'r amgylchedd. Dywedodd y Gweinidog yn glir iawn fod y rheoliadau, drwy weithredu yn y modd hwn, yn cyflawni yn erbyn ystod eang o gyfrifoldebau Cymru ac yn darparu ymateb cyfannol i heriau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chynhyrchiant amaethyddol.
Serch hynny, er mwyn gweithredu'r rheoliadau hyn, bydd gofyn i lawer o ffermwyr gyflawni gwaith cydymffurfio, a fydd yn cynnwys gwaith adeiladu sylweddol ar gost sylweddol, a gallai hynny fygwth eu hyfywedd. Felly, mae'n hanfodol fod y rheoliadau hyn yn gosod y cydbwysedd cywir rhwng gwarchod ein hamgylchedd naturiol a chynnal system reoleiddio ymarferol i ffermwyr Cymru.
Nawr, cyn imi redeg drwy'r adroddiad a'i argymhellion, rwyf am dynnu sylw at ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad a'i berthnasedd i'r ddadl hon. Roedd disgwyl ymateb Llywodraeth Cymru ar 14 Medi, ac eto fe'i gosodwyd yn y pen draw ar 5 Hydref, sef y dyddiad terfynol olaf ar gyfer ei gynnwys ar agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Fe wnaeth yr oedi hwn amharu'n ddifrifol ar allu Aelodau i graffu ar ymateb y Llywodraeth, ac o'r herwydd mae'n effeithio ar y ddadl hon. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd pob Gweinidog yn y dyfodol yn ystyried pwysigrwydd ymateb i adroddiadau pwyllgorau'r Senedd mewn modd amserol, fel y gallwn gael dadleuon cwbl wybodus ar adroddiadau pwyllgorau'r Senedd.
Nawr, lansiodd Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig ymgynghoriad ar y rheoliadau, a gynhaliwyd dros haf 2021, ac fe wnaeth ystod eang o randdeiliaid—gan gynnwys pysgotwyr, ffermwyr a sefydliadau amgylcheddol—ymateb i'r ymgynghoriad. Ni fydd yr Aelodau'n synnu clywed bod y rheoliadau'n ddadleuol. Mewn ymateb i'n hymgynghoriad, mae ffermwyr wedi cyfeirio atynt fel rhai didostur a chosbol, ac fe wnaethant fynegi pryderon y byddant yn afresymol o ddrud i'w gweithredu ac y gallant achosi i ffermydd fynd i'r wal.
Ar y llaw arall, cawsom dystiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol a physgotwyr a oedd yn croesawu'r rheoliadau, gan ddadlau ei bod yn hen bryd eu cael. Fe wnaethant ddweud wrthym nad yw'r system bresennol yn atal y llygrwyr amaethyddol gwaethaf, a bod gweithredu ar ffurf y rheoliadau hyn yn mynd rywfaint o'r ffordd i leihau'r llygredd yn ein hafonydd. Felly, fel pwyllgor, roeddem yn ymwybodol iawn fod angen i'r rheoliadau daro'r cydbwysedd cywir a'u bod mor effeithiol â phosibl. Pan ddaeth yr adolygiad barnwrol i ben, llwyddodd y pwyllgor i barhau gyda'n hymchwiliad a gosod ein hadroddiad.
Lywydd, mae'n cynnwys 10 argymhelliad, ac am fod yr amser yn gyfyngedig y prynhawn yma, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes penodol: cymorth ar gyfer cyflawni, rhanddirymiadau, a phryderon ynghylch ffermio yn ôl y calendr. Yn gyntaf, un o'r materion mwyaf dybryd a godwyd oedd y gost i ffermwyr o gyflawni'r rheoliadau hyn, ac fe'i gwnaed yn eithaf clir i'r pwyllgor y gallai ffermydd fynd i'r wal. Felly, roeddwn yn falch o weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi £20 miliwn ychwanegol tuag at helpu ffermwyr i gyflawni'r rheoliadau hyn, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig ddaeth gydag ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor. Rwy'n falch hefyd o weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl i'r pwyllgor o'r darpariaethau a wneir, gan gynnwys cymorth ariannol uniongyrchol a chyllid ychwanegol i wasanaethau cynghori. Ac wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau pryd y gall y pwyllgor ddisgwyl yr wybodaeth honno.
Yn yr un modd, mae angen cefnogaeth i gyrff cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi amcangyfrif y byddant hwy angen 60 o staff ychwanegol i ddarparu'r isafswm llwyr, ac o bosibl fod angen dros 200 o aelodau staff i ddarparu gorfodaeth lawn mewn perthynas â'r rheoliadau hyn. Wrth gwrs, bydd trefn orfodi dameidiog heb ddigon o adnoddau yn rhoi'r gwaethaf o'r ddau fyd i ni, ac roeddwn yn poeni braidd wrth ddarllen yn ymateb y Llywodraeth nad yw'r cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer y rheoliadau wedi ei gytuno eto gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd angen amser ar Cyfoeth Naturiol Cymru i recriwtio a hyfforddi staff ychwanegol, ac felly mae'n hanfodol fod cytundeb lefel gwasanaeth yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad i ni ar ei ddatblygiad ac unrhyw wybodaeth bellach sydd ganddi am ba mor hir y gallai gymryd i Cyfoeth Naturiol Cymru fod mewn sefyllfa i allu gorfodi'r rheoliadau hyn.
Lywydd, clywodd y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch rhanddirymiadau. Roeddem yn pryderu y byddai tynnu'r rhanddirymiad ar gyfer ffermydd glaswelltir cymwys yn ôl yn rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol, ac felly argymhellwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno'r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i ffermydd glaswelltir cymwys wasgaru hyd at 250 kg yr hectar o nitrogen. Rhybuddiodd undebau ffermio y gallai'r penderfyniad i beidio â chynnwys y rhanddirymiad alw am ddadstocio ar lawer o ffermydd Cymru, gan effeithio ar hyfywedd ffermydd, màs critigol o fewn y gadwyn gyflenwi a chyflogaeth, ac y gallai'r gyfradd is o 170 kg yr hectar arwain at gynhyrchu alltraeth mewn gwledydd sydd â safonau is. Felly, rwy'n falch o weld, yn y datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd ag ymateb y Llywodraeth, y bydd ffermydd Cymru yn gallu gwneud cais yn awr am drwydded i wasgaru mwy o nitrogen. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sicrwydd i ffermwyr Cymru heddiw na fydd y mesur hwn yn arwain at fiwrocratiaeth bellach iddynt.
Yn olaf, rwyf am sôn am ffermio yn ôl y calendr. Mae Rhan 5 o reoliadau Llywodraeth Cymru'n pennu cyfnodau gwaharddedig, pan fo gwasgaru wedi'i wahardd. Ac er bod eithriadau i rai mathau o ddaliadau a phridd, bydd y cyfnod gwaharddedig yn para o fis Hydref tan fis Ionawr, gyda rhai cyfyngiadau pellach yn para tan ddiwedd mis Chwefror. Clywodd y pwyllgor ddadleuon cryf am bwysigrwydd hyblygrwydd i ffermwyr ar gyfer pryd i wasgaru slyri, ac fe gafodd hynny ei atgyfnerthu i ni mewn gwirionedd yn ystod taith ein pwyllgor i Ganolfan Ymchwil Amaeth Gelli Aur yn sir Gaerfyrddin. Roeddem eisoes wedi clywed pethau mawr am eu gwaith ar brosesu slyri a defnyddio technoleg i benderfynu ar yr amser gorau i wasgaru. Yn ystod yr ymweliad, dangoswyd offer i ni sy'n cefnogi ap y bu'r ganolfan yn ei ddatblygu. Roedd yn gyfuniad trawiadol o orsaf dywydd a synwyryddion sy'n monitro'r amodau, lle mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei bwydo i mewn i ap sy'n prosesu'r data ac yn rhoi statws coch, oren neu wyrdd i ffermwyr ar gyfer gwasgaru slyri. Cawsom wybod bod y system wedi ei phrofi yn ystod cyfnod gwaharddedig 2021-22, a'r canfyddiadau oedd bod yr ap yn dangos statws gwyrdd ar gyfer gwasgaru trwy fis Chwefror a mis Mawrth, sy'n golygu bod y tywydd a'r amodau tir yn iawn ar gyfer gwasgaru slyri. Fodd bynnag, bron cyn gynted ag y daeth y cyfnod gwaharddedig i ben, fe wnaeth yr ap ddynodi bod yr amodau'n goch, gan nodi nad oeddent yn addas ar gyfer gwasgaru slyri. Wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o ba mor anrhagweladwy y gall y tywydd fod, felly mae'n hanfodol fod ffermwyr yn cael newid i system a gefnogir gan dechnoleg yn seiliedig ar y byd go iawn, amodau byw, nid system galendr sy'n seiliedig ar gyfartaledd tymhorol, a hynny cyn gynted â phosibl.
Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu unrhyw argymhellion amgen addas sy'n defnyddio technoleg yn hytrach na chyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru slyri ac er fy mod yn croesawu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn agored i awgrymiadau newydd, rwy'n siomedig fod eu hymateb yn rhoi'r baich cyfrifoldeb ar y gymuned ffermio yn hytrach na bod y Llywodraeth yn mynd ati'n rhagweithiol i fynd ar drywydd dewisiadau technolegol eraill yn lle ffermio yn ôl y calendr. Felly, rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i hyn.
Lywydd, mae adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu popeth o ddata ansawdd dŵr i orfodaeth ac ymgorffori'r rheoliadau mewn safonau gofynnol cenedlaethol, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr i ddarllen ein hadroddiad. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd mesurau technolegol amgen, i fod yn gwbl dryloyw ynghylch y cymorth cyllido sydd ar gael i ffermwyr, ac i ddarparu sicrwydd bod yna adnoddau ac arweiniad digonol i Cyfoeth Naturiol Cymru allu monitro a gorfodi'r rheoliadau hyn. Fel pwyllgor, rydym yn bwriadu parhau i adolygu'r rheoliadau hyn yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau eu heffeithiolrwydd, ac felly, ar y nodyn hwnnw, Lywydd, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon. Diolch.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae polisi parth perygl nitradau Llywodraeth Cymru, pwnc yr adroddiad hwn, wedi bod yn bolisi blaenllaw ond dadleuol gan y Llywodraeth hon a Llywodraethau blaenorol yng Nghymru. Felly, nid oedd ond yn iawn i'r Senedd ofyn i'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig adolygu'r rheoliadau hyn ar frys. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn awyddus i bwysleisio nad parthau perygl nitradau yw'r rhain, ond gyda Rhannau 2, 3, 4, 5 a 7 o'r rheoliadau adnoddau dŵr yr un fath air am air â pholisi parth perygl nitradau, mae arnaf ofn, os yw'n edrych fel hwyaden ac yn cwacian fel hwyaden, yna hwyaden yw hi.
Gan ganolbwyntio ar yr adroddiad ei hun, cefais fy siomi wrth weld Llywodraeth Cymru'n gwrthod argymhelliad 1 yn y papur hwn,
'Dylai Llywodraeth Cymru ailgyflwyno’r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i
ffermydd glaswelltir cymwys daenu hyd at 250 kg/ha o nitrogen.'
Nawr, rwy'n sylweddoli fod hwn wedi ei wrthod ar y sail fod datganiad ar y cyd yr wythnos diwethaf gyda Phlaid Cymru, fel eich partner cydweithio, wedi disodli argymhelliad 1, ond mae cynnwys y datganiad hwnnw'n creu sawl pryder i'r diwydiant ac i minnau. Er gwaethaf y naratif a gafodd ei hyrwyddo, nid oedd y datganiad yn cynnig unrhyw newid polisi i'n cymuned amaethyddol, yn wahanol i'r hyn y byddai argymhelliad 1 wedi'i gyflawni. Ac unwaith eto, bydd yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ar gynllun trwyddedu posibl yn gweld yr un dystiolaeth yn cael ei chyflwyno a'r un dadleuon yn cael eu trafod, felly rwy'n gobeithio'n fawr na welwn yr un hen ganlyniad yn cael ei gyflawni. Oherwydd nid oes dim wedi'i warantu o ran rhanddirymiad, a gadewch inni beidio ag anghofio bod terfyn rhanddirymiad is yn rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol yn erbyn ffermwyr eraill ar draws y DU, fel y disgrifiodd Cadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, yn gynharach.
Nodaf hefyd gyda diddordeb fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3 o'r adroddiad,
'Dylai’r Gweinidog amlinellu i’r Pwyllgor ei hystyriaethau o’r effaith y gallai’r
Rheoliadau hyn ei chael ar y system gynllunio'.
Er iddi dderbyn yr argymhelliad, fe fethodd ymateb Llywodraeth Cymru gydnabod y ffaith y bydd yn rhaid cyflwyno a phrosesu nifer fawr o geisiadau cynllunio er mwyn i ffermydd fodloni rheoliadau Llywodraeth Cymru. Yn wir, er mai barn Llywodraeth Cymru yw nad yw gofynion seilwaith y rheoliadau'n wahanol iawn i linellau sylfaen rheoleiddiol sy'n bodoli eisoes, nid yw eich ymateb chi, Weinidog, yn cydnabod nad oes gan ffermydd teuluol ar raddfa fach seilwaith yn ei le ar hyn o bryd er mwyn cadw at y rheoliadau hyn. O'r herwydd, bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid cyflwyno ceisiadau cynllunio newydd ar gyfer seilwaith, gyda'r perygl y bydd y ceisiadau hyn yn boddi awdurdodau lleol mewn gwaith, gydag adrannau cynllunio nifer ohonynt eisoes o dan straen aruthrol. Ar ôl darllen eich ymateb, nid wyf yn hyderus eich bod yn gwbl ymwybodol o'r effaith a'r ffordd y bydd y ceisiadau hyn yn llyffetheirio awdurdodau lleol.
Ac yn olaf, os caf droi at argymhelliad 6, cefais fy siomi o glywed nad ydych wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn. Pwrpas yr argymhelliad oedd dangos y pwysau y bydd achos TB mewn gwartheg yn ei achosi wrth lynu wrth eich rheoliadau. Ni chafwyd eglurhad ynglŷn ag a fydd ffermydd gydag achosion o TB yn eu buchesi yn cael mynd y tu hwnt i'r terfyn nitrad o 170 kg yr hectar. Dan yr amgylchiadau hyn, gallai ffermydd o dan gyfyngiadau TB nad ydynt yn gallu symud gwartheg weld nifer eu stoc yn cynyddu'n sylweddol, ond eto nid oes eglurhad ynglŷn ag a fu ystyriaeth o hyn gyda'r rheoliadau hyn. Drwy gadw at reoliadau TB, drwy ddilyn llythyren y gyfraith ar symudiadau gwartheg pan geir achos o TB, gallai ffermwyr dorri'r rheoliadau dŵr yn anfwriadol. Ni all hyn fod yn amryfusedd, felly rwy'n ceisio eglurder na fydd y ffermydd hyn yn cael eu cosbi'n annheg.
Rwy'n cofio bod yn ohebydd papur newydd ifanc, flynyddoedd maith yn ôl, yn trafod a fyddai parth perygl nitradau'n cael ei gyflwyno drwy sir Benfro neu drwy Gymru gyfan. Nawr, oddeutu chwech neu saith mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i drafod a dadlau manylion y polisi hwn. Gobeithio y gwnewch chi ailystyried a derbyn pob un o'r 10 argymhelliad a gyflwynwyd gan y pwyllgor, gan eu gweithredu'n llawn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor, Paul Davies, pawb a roddodd dystiolaeth a'r staff clercio. Diolch, Lywydd.
Diolch i'r pwyllgor, y Cadeirydd a'r holl staff, fel y dywedodd Sam Kurtz, am eu gwaith trylwyr iawn yn gwneud yr ymchwil yma. Mae'n rhaid dechrau drwy gydnabod ein bod ni yn gweld llawer gormod o achosion o lygredd dŵr yn ein dyfroedd, ac mae’n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb a chwarae eu rhan—y ffermwyr, ie, ond hefyd y cwmnïau dŵr, cwmnïau adeiladu a phawb arall. Ond, mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod rôl y diwydiant amaethyddol yn ein cymunedau gwledig, o ran ei gyfraniad gwerthfawr i’r economi leol, ei gyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant a chymuned, heb sôn wrth gwrs am ei rôl ganolog, sef cynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd.
Mae’r argymhelliad cyntaf un, ynghylch y derogation, yn mynd at galon y broblem. Fel y dywed yr undebau amaethyddol yn eu cyfraniad, byddai'r rheoliadau newydd wedi arwain at y rhan fwyaf o ffermwyr gwartheg Cymru yn gorfod stocio llai, gan effeithio ar eu hyfywedd, yn ogystal â hyfywedd busnesau eraill, megis ffatrïoedd llaeth, ac yn y blaen.
Yn yr adroddiad, rydym ni’n gweld Aled Jones o'r NFU a’r FUW yn rhybuddio y byddai’r rheoliadau newydd, fel ag yr oedden nhw, yn hynod o niweidiol, yn enwedig i ffermydd bach ucheldir Cymru. Heb air o gelwydd, roeddwn i yn gweld ffermwyr yn fy etholaeth i yn dweud eu bod nhw am gael gwared ar wartheg yn llwyr o’r ucheldiroedd. I rai, roedd hynny am olygu eu bod nhw yn mynd allan o ffermio yn gyfan gwbl, i eraill roedd yn golygu eu bod nhw am stocio mwy o ddefaid ar y mynydd. Rŵan, yr eironi wrth gwrs efo hynny ydy y byddai tynnu gwartheg i ffwrdd o’r ucheldir a rhoi defaid yn eu lle yn arwain at fwy o niwed bioamrywiaeth. Mae’r RSPB a chyrff eraill yn dadlau bod angen gwartheg i bori ein hucheldiroedd, ac mae hyn yn cael ei nodi yn yr adroddiad.
Ond yn ogystal â hyn, byddai gorfodi y newid yma mor sydyn yn gwneud yr un peth i’n cymunedau amaethyddol ag y gwnaeth Margaret Thatcher i’n cymunedau glofaol, sef creu niwed parhaol, a hynny dros nos. Dyna pam fod y cyhoeddiad diweddar rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth ynghylch oedi cyflwyno y cam nesaf ac edrych i gyflwyno system drwyddedi i ffermwyr, er mwyn iddyn nhw fedru lledaenu hyd at 250 kg o nitrogen ar eu tir, i’w groesawu. Nid yn unig y bydd yn sicrhau parhad asgwrn cefn ein cymunedau gwledig a phob dim sydd ynghlwm â hynny, yn economaidd ac yn ddiwylliannol, ond bydd hefyd o fudd sylweddol i fioamrywiaeth yng Nghymru, ac mae hynny i’w groesawu yn gynnes.
Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod y costau o adeiladu yr isadeiledd angenrheidiol yn anferthol, ac yn cynyddu, ac mae’r ail argymhelliad yn ei gwneud yn glir bod angen tryloywder ynghylch pa gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr. Mae’n amlwg nad oedd y swm a ddynodwyd yn wreiddiol yn ddigon o bell ffordd, fel roedd tystiolaeth Gareth Hughes o’r FUW yn nodi. Felly, mae’n dda o beth gweld bod y Llywodraeth, yn y cytundeb efo Plaid Cymru, wedi sicrhau £20 miliwn yn ychwanegol er mwyn ceisio sicrhau bod gan ffermwyr yr isadeiledd ac adnoddau angenrheidiol. A fydd o’n ddigon? Hwyrach ddim, ond mae’n llawer iawn gwell na’r sefyllfa roeddem ni ynddi ynghynt.
Yn olaf, mae’r adroddiad yn cyfeirio at yr angen i ffermwyr adeiladu neu wella storfeydd slyri. Rŵan, unwaith eto, dowch i Ddwyfor Meirionnydd ac fe wnaf i eich cyflwyno chi i ffermwyr oedd yn trio am ganiatâd cynllunio i adeiladu storfeydd slyri newydd, ond oedd yn cael trafferthion cael caniatâd cynllunio. Mae’n hawdd iawn dweud ar bapur fod angen gwneud hyn, llall ac arall, ond mae’n fater gwahanol iawn gweithredu'r uchelgeisiau hynny yn y byd go iawn. Felly, wrth ystyried argymhelliad 3, mae’n dda gweld bod y Llywodraeth, yn eu cytundeb efo Plaid Cymru, am sicrhau dwy flynedd yn ychwanegol, yr amser yna i alluogi y gwaith yma i fynd rhagddo, a sicrhau y just transition hwnnw sydd angen ar ffermwyr. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n byw yn fy etholaeth, yng Nghaerffili, ac mae gennym ardal sydd â chrynodiad o ffermydd, ac o amgylch y ffermydd hynny ceir llawer o dai, a gallwch ddychmygu bod etholwyr yn poeni'n fawr ynglŷn â sut yr ymdrinnir â slyri a sut y caiff y materion hyn eu rheoleiddio—efallai'n fwy felly nag mewn ffermydd sy'n fwy ynysig ac yn llai agos at gymunedau. Felly, rwy'n credu bod y rheoliadau wedi cael eu croesawu'n gyffredinol gan drigolion Caerffili, os nad gan bob fferm, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael ei adlewyrchu yn rhai o'r sylwadau a wnaed gan Mabon ap Gwynfor a Sam Kurtz. Ac wrth gwrs, mae'n rhesymol dweud na cheir un ateb sy'n mynd i fod yn addas ym mhob achos, sef cyfeiriad yr adroddiad a gynhyrchwyd.
Mae'n rhaid i mi anghytuno gyda'r Cadeirydd ar un pwynt: dywedodd ei fod yn pryderu bod y Llywodraeth wedi cymryd amser i ymateb i adroddiad y pwyllgor. Wel, mewn gwirionedd, o ystyried pwysigrwydd y rheoliadau hyn a phwysigrwydd y mater i'r Senedd gyfan, rwy'n credu bod cael y rhain yn iawn, cael yr ymateb yn iawn, a chario dwy ran o dair o'r Senedd gyda ni pan ddaw'n fater o weithredu'r rheoliadau yn bwysig, a chredaf mai dyna lwyddwyd i'w wneud yn y dyddiau cyn ymateb y Llywodraeth. Rwy'n credu, felly, y gallwch weld yn awr y dylai ymateb y Llywodraeth ennyn—byddwn yn synnu pe na bai wedi ennyn—mwyafrif o ddwy ran o dair o gefnogaeth yn y Senedd, er gwaethaf rhai o'r pryderon sy'n dal i gael eu mynegi gan y Ceidwadwyr a siaradodd hyd yma.
A byddwn yn dweud hefyd o ran y rheoliadau, mae'r rheoliadau hyn wedi bod yn destun pedair rownd o graffu, mwy na llawer o reoliadau eraill a welwn, felly maent wedi bod yn destun dadl yn y Senedd, yn destun ymchwiliad y pwyllgor, yn destun adolygiad barnwrol, a'r ddadl heddiw. Mae'r pedwar peth wedi craffu ar y rheoliadau hyn, ynghyd â llawer o gwestiynau a ofynnwyd gennyf fi a llawer o rai eraill yn y Siambr dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, yn sicr mae achos i'w wneud bod y Llywodraeth wedi caniatáu llawer iawn o graffu ar y rheoliadau hyn. Byddwn yn dweud eu bod wedi gwrando. Byddwn yn dweud eu bod wedi gwrando'n enwedig ar argymhelliad 1, ac fel y cydnabu Sam Kurtz, mae argymhelliad 1 yn ddarostyngedig i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn awr, ac rwy'n credu bod hynny'n mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hynny'n effeithiol. Rwy'n credu mai'r hyn a welwn heddiw yw Llywodraeth sy'n gwrando ar y trigolion yn fy etholaeth sy'n poeni am lygredd amaethyddol, ond hefyd ar y ffermwyr sydd â phryderon am yr effeithiau. Mae'r arian sydd bellach yn cael ei roi tuag at hynny, ynghyd â'r ymgynghoriad ychwanegol, yn dangos bod y Llywodraeth hon wedi gwrando'n effeithiol heb leihau eu hymrwymiad i reoli llygredd nitrogen.
Felly, byddwn yn croesawu ymateb y Llywodraeth ar y cyfan, ac rwy'n falch fy mod i wedi gallu cymryd rhan yn yr ymchwiliad, oherwydd yn sicr fe ddangosodd bob agwedd ar y broses i mi. Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog yn awr ei bod wedi gwneud gwaith da yn sicrhau y gallwn wneud cynnydd a diogelu ein hamgylcheddau, ein hamgylcheddau gwledig, rhag llygredd nitrogen.
Gaf i ymestyn diolch i'r pwyllgor hefyd ac i Gadeirydd y pwyllgor?
Mae'r pwyllgor wedi gwneud llawer iawn o waith, ac rydym yn ddiolchgar iawn amdano, gwaith sy'n dadlau'r achos dros ymateb mwy cymesur i fater gwirioneddol ddifrifol. Nid wyf wedi siarad ag unrhyw ffermwr nad yw'n cydnabod bod angen i ansawdd dŵr fod yn well. Mae pawb eisiau cydweithio ar hyn, dull tîm Cymru o weithredu.
Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i ofyn am asesiad o'r effaith economaidd. Fe wneuthum hynny ym mis Awst, gan gydnabod bod costau uwch yn rhan o bryder ffermwyr ynglŷn â'r dyfodol. Rwy'n pryderu y bydd canlyniadau anfwriadol y rheoliadau hyn i'w teimlo ymhell y tu hwnt i giât y fferm unigol, oherwydd ni roddwyd digon o sylw i'r effaith ehangach ar ein cymunedau gwledig, na goblygiadau i gadwyni cyflenwi cyn ac ar ôl giât y fferm. Cefais fy atgoffa heddiw ddiwethaf y byddai'r terfyn rhanddirymiad 170 kg arfaethedig yn arwain at gyfradd ddadstocio gwartheg llaeth o 17 y cant—colled i ni o oddeutu 330 miliwn litr o gynhyrchiant llaeth. Mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cyfnod adolygu pedair blynedd, sydd wedi'i gynnwys yn y rheoliadau, yn edrych nid yn unig ar effaith y rheoliadau ar leihau llygredd amaethyddol, ond ar effaith y rheoliadau ar y diwydiant ei hun.
Fy nghwestiwn cyntaf, os caf, Weinidog, yw deall ychydig mwy am y cynllun trwyddedu arfaethedig a sut y mae hynny'n cyd-fynd ag argymhelliad 1 yn yr adroddiad. Mae gennyf gwestiynau, er enghraifft, ynglŷn â faint o fusnesau fferm a all ddisgwyl elwa. A fydd unrhyw wersi i'w dysgu i lywio newidiadau posibl i'r rheoliadau? Beth yw paramedrau'r ymgynghoriad i sicrhau ei fod yn deg, yn gytbwys ac yn cael ei arwain gan dystiolaeth, a beth yw'r meini prawf llwyddiant ar gyfer yr ymgynghoriad? Mae ffermwyr wedi dweud dro ar ôl tro mai dim ond ateb dros dro yw gohirio'n unig, felly mae angen eglurder i ffermwyr ynglŷn â beth y mae'r cynllun trwyddedu yn ei olygu'n hirdymor mewn gwirionedd.
Hoffwn hefyd ganolbwyntio ar argymhelliad 2, a chostau cyflwyno'r rheoliadau hyn. Mae'r pecyn cyllido hyd yma yn llawer is na'r hyn yw ffigyrau'r Llywodraeth ei hun ar gyfer y gost ymlaen llaw o tua £360 miliwn. Mae'r FUW wedi amcangyfrif y gallai'r gost fod tua £450 miliwn mewn gwirionedd, sy'n wahaniaeth enfawr. Ni ellir rhoi'r £20 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf yn ei gyd-destun heb gael manylion llawn am gymorth ariannol hyd yma, ac yn wyneb pwysau costau sy'n cynyddu'n barhaus i'n ffermwyr, mae'n swnio fel diferyn bach yn y môr.
Fel y nododd Paul Davies, mae'r dechnoleg newydd yn ddiddorol iawn, ac rwy'n pryderu y gallai'r dechnoleg newydd sy'n datblygu negyddu'r angen i adeiladu storfeydd slyri newydd. Bydd rhai ffermwyr wedi gwario symiau enfawr o arian a chanfod wedyn nad oedd angen y gwariant, gan roi pwysau costau ychwanegol enfawr ar ffermydd. Felly, mae angen cysoni rhwng y cynllun trwyddedu arfaethedig, y cyfnod adolygu pedair blynedd a chyflwyno mesurau amgen. I fod yn bryfoclyd, fy nghwestiwn fyddai: pam na chawn ni aros nes bod y dechnoleg newydd yn dod yn weithredol a gweld pa effaith a gaiff?
Mae gwir angen eglurder ynghylch pa adnoddau ychwanegol sydd eu hangen, gan CNC er enghraifft, fel y nododd y Cadeirydd a chan eraill hefyd. Heb y rôl reoleiddio effeithiol honno, cosbi ffermwyr yn unig y mae'r rheoliadau hyn. Hefyd, rwy'n nodi'r pwynt gan fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor ynghylch capasiti adrannau cynllunio awdurdodau lleol. Maent dan bwysau aruthrol. Yng Ngheredigion, rwy'n deall mai un swyddog cynllunio sy'n ymdrin â'r holl ffermwyr sy'n gwneud ceisiadau ar gyfer storfeydd slyri ar hyn o bryd.
Mae angen dull tîm Cymru o weithredu. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad a wnaed gan y Llywodraeth a Phlaid Cymru yr wythnos diwethaf, byddwn yn croesawu eglurder ynglŷn ag a fydd y dyddiad cau ar gyfer cynigion amgen yn cael ei ymestyn, ac a fydd Llywodraeth Cymru'n ailedrych yn awr ar y cynigion amgen a gyflwynwyd gan y sector. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddechrau drwy ganmol y pwyllgor am adroddiad gwych? Ond mae'n drueni inni gyrraedd sefyllfa lle bu'n rhaid cael yr adroddiad hwn. Rwyf newydd wrando ar Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pregethu pa mor ddrwg yw hyn i ffermwyr, ond pe bai ei phlaid wedi camu i’r adwy yn nhymor y Senedd ddiwethaf a chefnogi ffermwyr, fel y gwnaeth Plaid Cymru a ninnau ar feinciau’r Ceidwadwyr, ni fyddem byth yn y sefyllfa hon. Felly, credaf fod rhai o’i sylwadau braidd yn rhagrithiol.
Yr hyn yr hoffwn ei drafod gyda'r Gweinidog—ac rydym yn croesawu rhai o’r cyhoeddiadau a wnaed gennych—yw'r £20 miliwn ychwanegol, ac argymhelliad 3, sy'n ymwneud â'r pwysau y bydd hyn yn ei roi ar ein hawdurdodau cynllunio. Ni chredaf, ac nid yw'r diwydiant yn credu ychwaith, fod yr £20 miliwn ychwanegol hwn yn mynd i helpu ffermwyr i ymdopi â’r rheoliadau hyn pan fyddant ar waith, gyda’r costau seilwaith, a phopeth sy’n gysylltiedig â hynny. Mae gennyf nifer o ffrindiau sy'n ffermwyr ac sy'n dweud na fydd rhywfaint o'r arian yr ydych yn ei ddarparu hyd yn oed yn rhoi'r concrit yn y ddaear i ganiatáu i hyn ddigwydd.
Yr hyn yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog—. Ydy, mae arian ychwanegol i’w groesawu, ond rydym yn mynd i orfod gweld mwy o fuddsoddiad, oherwydd os ydych yn gofyn i ffermwyr dalu mwy a mwy o arian eto fyth, mae hynny’n mynd i wneud busnesau fferm yn anhyfyw ac yn anghynaliadwy yn y dyfodol. Rwy’n siŵr nad ydym am weld y rheoliadau hyn yn gyrru ein ffermwyr oddi ar y tir, ac yn eu hatal rhag cynhyrchu bwyd a diod ar gyfer ein cyhoedd. Oherwydd os bydd ein ffermwyr yn rhoi'r gorau iddi, mae ein cymunedau gwledig ledled ein gwlad yn mynd i farw. Gwn nad yw hynny'n rhywbeth rwyf fi am ei weld, ac nid yw fy nghyd-Aelodau yma am ei weld. Felly, mae cyllid ychwanegol i'w groesawu, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn darparu mwy o arian i gefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd gennych. Diolch.
Dwi'n mynd i gychwyn drwy gydnabod a chroesawu'r hyn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth yr wythnos diwethaf—ddim cweit yn taro nodyn mor sinigaidd, efallai, ag un neu ddau. Dyw e ddim, wrth gwrs, yn ddiwedd proses, ond mae e'n cadw'r drafodaeth yn fyw ac mae e'n golygu bod yna newid agwedd wedi bod. Y dewis arall oedd ein bod ni jest yn ei adael e i fynd a chario ymlaen. Felly mae angen cydnabod, dwi'n meddwl, bod yna waith aruthrol wedi digwydd ar y meinciau yma i ddod i'r pwynt yma ac i o leiaf nawr gyflwyno'r cyfle y bydd o leiaf rhai o ffermwyr Cymru yn cael trwydded a bod popeth yn cwympo i'w le er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu chwalu 250 kg yr hectar o nitradau ar y tir.
Mae'r £20 miliwn, wrth gwrs, ar ben beth sydd eisoes wedi ei ymrwymo, ond does neb yn dweud bod hynny'n mynd i dalu am bopeth. Ond 'rargol, mae e'n well na beth oedd yna cyn hynny, felly peidiwch â bod mor negyddol a pheidiwch â bod mor sinigaidd. Ond dŷn ni ddim yn cael ein dallu gan y ffaith bod yna lot rhagor o waith i'w wneud. Un o'r pethau dwi eisiau cyfeirio ato fe hefyd yw bod yna edrych eto ar asesiad effaith rheoleiddiol. Dwi'n meddwl bod hwnna yn arwyddocaol. Oherwydd dŷn ni mewn cyd-destun gwahanol—mae'r creisis costau byw, dŷn ni'n gwybod bod costau mewnbynnau yn y diwydiant wedi mynd trwy'r to. Mae costau adeiladu, inflation adeiladu, i gwrdd â'r isadeiledd sydd ei angen yn fyd cwbl newydd. Ac felly, mae hi'n berffaith iawn, dwi'n meddwl, bod yr asesiad yna yn cael ei edrych arno eto, fel ei fod e yn adlewyrchu'r cyd-destun newydd—Wcráin, a phopeth arall, a diogelwch bwyd—sydd angen ei gadw mewn cof.
Ond mae yna gwestiynau difrifol a gofidiau real iawn yn dal i fod, ac mae'r Cadeirydd, wrth gwrs, wedi cyfeirio at un ohonyn nhw, sef yr ymlyniad yma at y cyfnodau caeedig—y closed periods yma. Dwi wedi codi hyn gyda chi yn y gorffennol, Weinidog; ddwy flynedd a mwy yn ôl, fe wnes i gyfeirio at y ffaith bod rhai o amgylcheddwyr mwyaf Prydain yn dweud bod ffermio'n ôl y calendr yn wrthgynhyrchiol, yn counterproductive. Ac fe wnaethoch chi gytuno eich bod chi'n stryglo â'r approach yna a chyda cyfiawnhau'r approach yna, a chydnabod ar y pryd nad yw e, fel y clywsom ni, yn cymryd ystyriaeth o'r ffaith y gallai fod dyddiau yn y cyfnod agored sy'n gwbl anaddas ar gyfer chwalu tail, a dyddiau yn y cyfnod caeedig fyddai yn addas ar gyfer gwneud hynny. Ond, wrth gwrs, dyna rŷch chi wedi ei ddewis i'w ymgorffori yn y rheoliadau.
Felly, wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni beth wnaeth eich perswadio chi bod hynny yn dderbyniol. Beth newidiodd eich meddwl, yn erbyn, fel dwi'n dweud, rhai o amgylcheddwyr mwyaf Prydain, bod edrych ar galendr i weld os yw'r amgylchiadau'n ffafriol yn well nag edrych drwy'r ffenest? Dyna mae'r rheoliadau yn ei ddweud. Ac mae'ch ymateb chi i'r argymhelliad yna—argymhelliad 8 yw e, os dwi'n cofio'n iawn—yn cyfeirio at dechnoleg, a bod technoleg yn cael ei ddatblygu, a'n bod ni o fewn cyrraedd i fabwysiadu system, fel y clywon ni eto, sy'n llawer mwy amser real—real time—ac yn cyrraedd trachywiredd—precision—o gae i gae. Mae'r dechnoleg yna, ac mae e o fewn dim i fod yn dechnoleg fyddai modd i'w rolio fe allan ar draws y wlad.
Ond, wedyn, yn eich ymateb, rŷch chi'n dweud y gwnewch chi ystyried hyn yn ystod yr adolygiad pedair blynedd. Wel, ydy hynny'n golygu eich bod chi'n mynd i orfodi'r sector i fuddsoddi mewn isadeiledd, i wario miliynau ar filiynau o arian cyhoeddus—a'u harian nhw eu hunain—ac wedyn efallai, mewn dwy flynedd, dweud, 'O, mae gyda ni dechnoleg nawr, bydd dim angen lot o hwn'? Mae wir angen i chi ailystyried, dwi'n meddwl, y pwynt yna.
Dau bwynt arall cyn i mi gloi. Credaf fod y contractwyr, yn ôl pob golwg, wedi cael eu hanghofio gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth. Hwy yw un o'r cyflogwyr mwyaf yn ein cymunedau gwledig, gyda'r rhan fwyaf o'u gwaith, wrth gwrs, yn seiliedig ar ffermydd bach, teuluol. Bydd y cyfnod gwaharddedig o dri mis yn drychinebus i lawer ohonynt. Pan fydd 31 Ionawr yn cyrraedd, mae’n bosibl iawn na fydd ganddynt unrhyw lafur, nac unrhyw offer i wagio’r holl storfeydd slyri mawr newydd hyn, oherwydd, wrth gwrs, ni fyddai ganddynt fawr ddim incwm, os o gwbl, yn dod i mewn dros y misoedd blaenorol. Bydd rhai'n mynd i'r wal. Bydd rhai yn pleidleisio â'u traed ac yn gadael y diwydiant. Ac os oes llai o gontractwyr, pwy ar y ddaear sy'n mynd i fod yno i wagio'r storfeydd slyri gorlawn pan ddaw'r cyfnod gwaharddedig i ben ar yr hyn y mae llawer ohonom bellach yn ei galw'n wythnos wasgaru slyri genedlaethol? Ac os na fydd unrhyw un yno i symud y slyri, beth sy'n digwydd wedyn? Efallai y gallech ddweud wrthym sut y credwch y gall ffermwyr ddatrys y broblem honno. Rwy'n gobeithio y bydd yr asesiad effaith rheoleiddiol yn rhoi ystyriaeth lawn i’r rôl allweddol y mae contractwyr yn ei chwarae.
Yn olaf, clywsom gryn dipyn o sôn am gynllunio; er fy mod yn cydnabod bod problem gyda chapasiti, hoffwn ofyn i chi beth yw eich neges i’r ffermwyr sydd eisoes wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio i fodloni’r gofynion newydd gyda storfeydd slyri mwy o faint, ond y gwrthodwyd eu ceisiadau cynllunio, nid unwaith, nid ddwywaith, ond sawl gwaith, a bellach, ni allant fodloni eich gofynion newydd ac ni chaniateir iddynt addasu er mwyn bodloni eich gofynion newydd? Beth yw eich neges iddynt hwy? Oherwydd yr hyn a glywaf yw eich bod, i bob pwrpas, yn eu gorfodi i gau'r fferm deuluol.
A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad, ac i'r Gweinidog am y datganiad diweddar ar hyn hefyd? Dylwn ddatgan ar y cychwyn fy rôl fel hyrwyddwr yr eog. Ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, drwy gydol y degawd y bûm yn gynrychiolydd etholedig, rwyf hefyd wedi hyrwyddo anghenion a dyheadau ffermydd bach a chanolig eu maint, yn enwedig y rhai sy'n ffermio'n gynaliadwy iawn ac sy'n gryf o blaid yr amgylchedd ac enillion amgylcheddol hefyd. Ac mae llawer ohonynt, gan gynnwys ffermwyr sydd wedi ennill gwobrau, yn byw yn fy etholaeth i, a ddisgrifir yn aml fel un o etholaethau'r hen feysydd glo. Mae'n llawer mwy na hynny; mae'n etholaeth wledig iawn, ac mae ffermio bob amser wedi bod yn rhan annatod ohoni, ymhell cyn i ddiwydiant ddod yno.
Rydym yn wynebu cyfnod heriol iawn i'r byd ffermio, ond rydym hefyd yn wynebu heriau gwirioneddol o ran natur. Rydym mewn argyfwng natur ac argyfwng bioamrywiaeth. Rydym wedi gweld cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru, sy’n cydnabod hynny. Rydym yn agosáu at COP15 gyda'r cyhoeddiadau bioamrywiaeth. Rydym am i’r targedau ddod yn ôl, i'w cloi yn eu lle gan Julie James, y Gweinidog, a’u troi’n gamau gweithredu yma yng Nghymru. Felly, mae hynny'n ffurfio cefndir i'n sefyllfa ar hyn o bryd.
Mae'n ddiddorol, yr ymateb i'r adroddiad hwn—yr ymateb pegynol iddo. Mae grwpiau amgylcheddol wedi dweud yn unfryd fod hyn yn wirioneddol siomedig, mae hyn yn drist iawn, mae hyn yn ohiriad, ac mae gohirio'n golygu, unwaith eto, ein bod yn mynd i weld afonydd llygredig. Mae undebau'r ffermwyr—Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ac eraill—wedi dweud yn unfryd fod hyn rhoi lle i anadlu. Dyna ddyfyniad gan un ohonynt—lle i anadlu, cyfle i ailfeddwl, efallai, nid yn unig gyda'r trwyddedu ac ati, ond yn fwy sylfaenol. Dyna maent yn ei ddweud wrth eu haelodau. Felly, mae'n peri rhywfaint o ddryswch i mi, Lywydd, ynglŷn â beth yn union yr ydym yn ei drafod yma, nid yn unig yn sgil yr adroddiad, ond yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyhoeddi. A yw'n ailfeddwl sylfaenol? A yw'n ohirio dros dro yn unig? A yw'n rhyw fath o addasu? Neu a yw'n golygu y byddwn, ymhen tri, pedwar mis, pum mis, yn dal ati yn ôl yr arfer ac yn cynnal yr adolygiad, ac yn bwrw ymlaen â'r hyn a nodwyd yn y lle cyntaf? Nid wyf yn gwybod. Efallai y gall y Gweinidog fy ateb heddiw, ond mae’r her a’r amrywiaeth yn yr ymatebion yn dweud llawer wrthym.
Mae’n amlwg fod rôl wedi bod i’r adroddiad pwyllgor hwn. Cafwyd her aflwyddiannus yn y llysoedd. Roedd yn rhaid i’r pwyllgor aros i weld beth oedd hynny cyn iddo gyflwyno ei ystyriaeth ei hun a chael y Gweinidog o’u blaenau. Rwy'n gweld hynny. Rydym hefyd wedi cael y cytundeb cydweithio, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn bersonol, fod y cytundeb cydweithio wedi chwarae rhan yn yr hyn a welwn yn digwydd ar hyn o bryd. Ond mae fy neges mor syml â hyn: ni allwn barhau, o ystyried yr ansicrwydd parhaus. Mae’r pwyntiau y mae Llyr newydd eu gwneud am benderfyniadau buddsoddi gan ffermwyr yn rhai da, yn ogystal â’r pwynt a wnaeth Jayne am yr un peth yn union: a ydym yn mynd i ddweud wrth y rhai sydd eisoes wedi buddsoddi, 'Wel, roedd hynny’n wastraff arian’ gan ein bod bellach yn mynd i gael rhyw ateb technolegol hynod sy'n golygu bod yr arian hwnnw wedi'i wastraffu?
Mae'n bosibl iawn y bydd atebion technolegol yn dod i'r amlwg yn y dyfodol. Yn sicr. Ond ni allwn ddiystyru’r buddsoddiad y mae rhai ffermwyr wedi dewis ei wneud i geisio gwneud y peth iawn, i fynd at eu rheolwyr banc, a dweud, 'A gawn ni gael rhywfaint o gyllid? Bydd angen imi gael benthyciad 20 mlynedd er mwyn gwneud hyn. Rwy'n mynd i ofyn am gymorth gan Cyswllt Ffermio ac ati i wneud hyn hefyd, ond bydd rhaid imi wneud penderfyniad yma.' Ni allwn eu taflu o dan y bws yn awr; rydym yn mynd i orfod dweud wrthynt, 'Roedd yn werth gwario'r arian hwnnw nid yn unig ar gyfer eich fferm, ond ar gyfer yr amgylchedd hefyd'. Bydd ffermwyr yn croesawu rhywfaint o amser ychwanegol, nid oes amheuaeth, gyda hyn, ond wrth i hyn fynd rhagddo gyda’r ymgynghoriad ar drwyddedu ac ati, credaf fod angen inni fod yn gwbl onest ynglŷn â beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd, p'un a yw'n rhywbeth arall sydd wedi'i ailfeddwl yn llwyr ai peidio.
Un peth yr oeddwn am ei bwysleisio oedd pwysigrwydd cynghorwyr newydd CNC. Ers gormod o amser, nid ydym wedi cael y wybodaeth gywir, y bobl gywir yn sefyll ar y safle, sy'n deall ffermio, ond sydd hefyd yn barod i fabwysiadu'r meddylfryd mwyaf modern, mwyaf cyfredol o ran beth yw'r cymorth amgylcheddol gorau. Mae gennyf ffermwyr sydd wedi ennill gwobrau amgylcheddol yn fy ardal i, maent yn gwybod beth y maent yn ei wneud, ond nid yw hynny'n wir am bob ffermwr. Pan fydd gan y ffermwr hwnnw agronomegydd yn dweud hefyd, 'Gadewch i mi eich cynghori ar y pethau hyn, a gyda llaw, rwy'n ei werthu hefyd', nid dyna'r ffordd ymlaen. Felly, bydd y cynghorwyr CNC hyn, gyda'i gilydd, a’u harbenigedd, a’u rhoi ar waith mewn pryd, yn hollbwysig.
Gadewch imi droi at un pwynt sy'n dangos y peth nodweddiadol hwn yr oeddem yn ei ddweud am ansicrwydd yma. Mae’n ymwneud ag ychydig o gyfraniadau a wnaed eisoes. Ar argymhelliad 1—ac mae'n werth tynnu ychydig o bwyntiau allan o hyn—ni all y Llywodraeth dderbyn yr argymhelliad hwn. Mae hyn yn ymwneud â rhanddirymiad ar ffermydd glaswelltir sy'n gwasgaru hyd at 250 kg yr hectar ac ati. Mae'n mynd ymlaen i ddweud nad yw rhanddirymiad dan gyfundrefnau blaenorol erioed wedi galluogi gwasgaru mwy o faethynnau na’r hyn sydd ei angen ar gnydau, ac ati. Ond wedyn, wrth gwrs, cafwyd datganiad. Rwy’n tybio ei fod wedi dod allan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Mae angen i ni, rywbryd, dynnu llinell o dan hyn i gyd. Mae yna ohiriad; y gwanwyn nesaf, mae angen inni gael sicrwydd llwyr, oherwydd, a dweud y gwir, ni fydd ffermwyr bach a chanolig yn maddau i ni oni bai ein bod yn rhoi sicrwydd gwirioneddol cyn gynted â phosibl, ac a dweud y gwir, ni fydd yr amgylchedd yn maddau i ni ychwaith: ansawdd ein hafonydd, ansawdd ein pridd a phopeth arall. Mae angen inni benderfynu pa ffordd yw’r ffordd ymlaen, a mynd i'r afael â hyn o ddifrif.
Rwyf wedi darllen yr adroddiad gyda diddordeb. Rwyf wedi datgan fy marn yn glir iawn ar lygredd amaethyddol sawl gwaith dros nifer o flynyddoedd yma yn y Siambr. Cymharais y camau llym, ond angenrheidiol, a gymerwyd gennym yng Nghymru â’r gyfundrefn o esgeulustod yn Lloegr yr wythnos diwethaf. Mae hynny wedi galluogi llawer iawn o lygredd amaethyddol yn ein dyfrffyrdd gyda chanlyniadau amgylcheddol dinistriol. Felly, er fy mod yn ofalus, ac rwy’n golygu hynod o ofalus, wrth groesawu unrhyw lastwreiddio ar y rheoliadau—gan mai dyna ydyw—a gyflwynwyd fis Ebrill diwethaf, rwy’n derbyn mai celfyddyd yr hyn sy'n bosibl yw gwleidyddiaeth, ac yn y pen draw, beth bynnag sy'n gweithio i ddiogelu'r amgylchedd yw'r ffordd ymlaen. Felly, rwy’n cefnogi penderfyniad y Gweinidog i ddod o hyd i ateb cynaliadwy sy’n gweithio i’n diwydiant ffermio, ond sy’n cyflawni’r amcanion ecolegol hanfodol hynny. Ac ni fyddwch yn synnu y byddaf yn gwylio hynny'n agos iawn ac yn dweud fy marn, os byddaf yn teimlo bod angen. Rwy’n teimlo'n rhwystredig fod rhai busnesau ffermio wedi methu rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i gydymffurfio â’r rheoliadau wrth aros am yr adolygiad barnwrol aflwyddiannus hwnnw. Roedd datganiad diweddar y Gweinidog yn awgrymu hynny hefyd.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Mewn munud.
Nid yw'n dderbyniol, ac mae'n gosod cynsail gwael. Rydym wedi clywed gan Huw Irranca yn gwbl glir fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dymuno cydymffurfio a gweld manteision cyflwr amgylcheddol ffafriol, nid yn unig ar eu ffermydd ond mewn afonydd hefyd. Nid yw'n fwriad, a gŵyr pob un ohonom nad yw'n fwriad, gan y rhan fwyaf o ffermwyr i lygru. Yn anffodus, bu achosion lle cafwyd llygredd bwriadol, ac mae digon o dystiolaeth i'r perwyl hwnnw.
Diolch. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio, a hoffwn ddatgan buddiant hefyd; roeddwn ar fai na wneuthum hynny ar y dechrau.
Fe sylwais.
Ond ar yr un pryd, y rheswm pam fod y busnesau hyn wedi methu cydymffurfio yn yr ystyr a ddywedwch yw am eu bod yn ceisio gwneud hynny; maent yn gwneud eu gorau glas i fynd at awdurdodau lleol i ofyn am y cais cynllunio, i ofyn am i’r cais cynllunio gael ei gymeradwyo fel y gallant osod y seilwaith, y lagwnau slyri sy’n angenrheidiol, ond maent yn cael eu gwrthod gan awdurdodau lleol.
Mae’n debyg fod hynny’n wir mewn rhai achosion. Nid wyf yn derbyn ei fod yn wir ym mhob achos, serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud. Ac ni chredaf y dylai busnesau gael eu gwobrwyo am fethu paratoi neu gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli bod y costau cynyddol a’r amgylchiadau byd-eang y cyfeiriwyd atynt wedi ychwanegu pwysau ychwanegol. Er, mewn gwirionedd, roedd y rheoliadau hyn yn hysbys iawn ymhell cyn hynny.
Felly, hoffwn wybod am yr £20 miliwn—ac rwy'n ei groesawu—i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth, ond hoffwn sicrwydd nad yw pobl yn cael eu talu ddwywaith—nad yw pobl sydd eisoes wedi cael eu talu i gydymffurfio yn cael mwy o arian neu'r un arian ddwywaith.
Mae'r pwyllgor yn argymell y rhanddirymiad hwn y clywsom amdano—y 250 kg yr hectar o nitrogen. Er na chafodd hynny ei dderbyn, mae’r dyddiad gweithredu ar gyfer y terfyn 170 kg yr hectar wedi’i ohirio. Credaf fod hynny’n hynod o siomedig. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y cynllun trwyddedu 250 kg yr hectar tan 2050. Dylem asesu effaith economaidd ac amgylcheddol y terfyn is wrth gwrs, ond yn fy marn i, dylid cadw 170 fel y terfyn diofyn. Rwy'n cefnogi barn Cyswllt Amgylchedd Cymru y dylid dod o hyd i ffyrdd amgen o reoli gwastraff anifeiliaid, yn hytrach nag ailgyflwyno’r terfyn uwch. Felly, mae ffyrdd eraill i'w cael. Os nad edrychwn ar ffyrdd eraill, rydym yn ôl lle dechreuasom, a llygredd amaethyddol yw'r rheswm mwyaf cyffredin dros halogiad yn ein dyfrffyrdd. Os nad ydym yn llwyddo i fynd i'r afael â hynny, rydym yn methu ar ran ein cymuned ffermio a’r amgylchedd ehangach. Gyda hynny mewn golwg, dylem oll gefnogi beth bynnag sydd ar gael a beth bynnag sy’n gweithio i ddiogelu ein hamgylchedd, sydd, yn y pen draw, yn golygu diogelu cynaliadwyedd ein holl dir a’n dyfrffyrdd ar gyfer y dyfodol.
Y Gweinidog materion gwledig nawr i gyfrannu i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu gwaith yn cynnal yr adolygiad hwn a llunio’r adroddiad a’r argymhellion. A diolch i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwyf am geisio ymateb i gynifer o bwyntiau â phosibl.
Mae adroddiad y pwyllgor yn codi cyfres o bwyntiau adeiladol mewn perthynas â rhoi'r rheoliadau ar waith. Mae’r adroddiad yn darparu argymhellion sy’n ceisio ein helpu i sicrhau bod y rheoliadau a’r cymorth sydd ar gael i helpu ffermwyr i gydymffurfio yn gwbl glir ac yn addas ar gyfer maint yr her sy’n ein hwynebu ni oll. Rwyf wedi cytuno i roi rhagor o fanylion a sicrwydd ynghylch cyllid ac mewn perthynas â rôl orfodi CNC a’r trefniadau ar gyfer adolygiad rheoleiddiol. Rwyf wedi rhoi eglurhad pellach mewn perthynas â sut yr ydym yn gwarchod rhag canlyniadau anfwriadol a sut y gellir eu rhoi ar waith mewn ffordd sy'n diogelu buddiannau ffermwyr tenant a'r rheini sy'n wynebu cyfyngiadau TB.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi gwneud argymhellion mewn perthynas â gwaith fforwm rheoli tir Cymru, ac rwy'n cefnogi ysbryd yr argymhellion hynny'n llwyr. Ni allaf gyfarwyddo gwaith y fforwm, ond gyda chytundeb ei aelodau, rwy’n barod i barhau i weithio gyda’r grŵp yn yr union ffordd y mae’r pwyllgor wedi’i hargymell. Mae argymhelliad cyntaf adroddiad y pwyllgor yn gofyn am gyflwyno proses i ganiatáu i ffermwyr wasgaru lefelau uwch o slyri os caiff amodau penodol eu bodloni. Rwyf wedi bod yn gweithio drwy gydol yr haf ar sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffordd o ymateb yn gadarnhaol i’r argymhelliad hwn, ac fel rhan o’r cytundeb cydweithio, mae Plaid Cymru hefyd wedi cymryd rhan agos a gweithredol yn y gwaith hwn.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn sgil y trafodaethau hynny gyda Phlaid Cymru, sy’n nodi ein bwriad i wneud darpariaeth i gynnal ymgynghoriad i archwilio’r cynnig hwn, ac i gyflwyno newidiadau i’r rheoliadau os tybir bod cynllun o'r fath yn ymarferol i ffermwyr ac yn diogelu'r amgylchedd y maent hwy, fel pob un ohonom, yn ddibynnol arno. Felly, i dawelu meddwl Jane Dodds, hoffwn ddweud na allaf achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Mae'n ymgynghoriad ystyrlon, felly nid oes unrhyw gynllun wedi'i lunio yn y ffordd y gofynnwch i gael rhywfaint o sicrwydd, gan y byddai'n amhriodol cael ymgynghoriad nad oedd yn ystyrlon. Gofynnodd Huw Irranca-Davies a fydd yna ailfeddwl sylfaenol—ddim o gwbl. Dim ond gohirio un rheoliad yw hyn wrth inni edrych ar gynllun trwyddedu, a byddwn yn gweithio gyda Phlaid Cymru i lunio’r cynllun hwnnw, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad llawn. Paul Davies, unwaith eto'n sôn am y cynllun trwyddedu, fe sonioch am yr angen i sicrhau na cheir rhagor o fiwrocratiaeth, ac af yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth Jane Dodds, y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal; bydd yn ymgynghoriad 12 wythnos. Os gwelwch yn dda, bawb, cyflwynwch eich safbwyntiau, oherwydd felly, wrth inni lunio'r cynllun, yn amlwg, gallwn sicrhau bod yna lai o fiwrocratiaeth.
Nid yw’n bosibl derbyn argymhelliad y pwyllgor mewn perthynas ag argymhelliad 1 yn y ffordd y’i lluniwyd—pwynt y credaf fy mod wedi’i egluro’n fanwl yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn gweld bod hyn yn cynnig ffordd o ymateb yn gadarnhaol yn yr ysbryd y gwn y bwriadwyd yr argymhelliad.
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru)—nid parthau perygl nitradau, Sam, efallai eich bod chi am barhau i drafod parthau perygl nitradau; yn amlwg, rydych yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth, nid wyf fi—yn gwbl hanfodol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol domestig a rhyngwladol. Ac er bod y rheoliadau'n canolbwyntio ar nitradau, mae'r camau gweithredu sy'n ofynnol ar eu cyfer hefyd yn fodd angenrheidiol o fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion eraill, a gwn eu bod oll yn hynod bwysig i'r Aelodau ar draws y Senedd.
Mae ymdrin â llygredd amaethyddol yn flaenoriaeth bwysig ac angenrheidiol i liniaru effaith yr argyfwng hinsawdd, oherwydd y nwyon tŷ gwydr y mae'n eu cynnwys, yn ogystal â'r allyriadau sy'n cael eu rhyddhau o ganlyniad i'r niwed amgylcheddol y mae'n ei achosi, ac fel y nododd Jane Dodds, mae angen dull gweithredu tîm Cymru er mwyn i hyn weithio. Llygredd amaethyddol yw prif ffynhonnell llygredd amonia niweidiol, sy'n gallu amharu ar ddatblygiad ysgyfaint plant a lefelau clefyd y galon, yn ogystal â chadwraeth coetiroedd hynafol.
Cododd cryn dipyn o Aelodau’r £20 miliwn. Soniodd James Evans am y peth, ac yn amlwg, nid yw'n credu ei fod yn ddigon. Ac fel y dywedodd Llyr, ni chredaf y byddai unrhyw un yn dweud mai dyna fyddai'r swm cyntaf o arian yr ydym wedi'i ddarparu; rydym wedi darparu cyllid sylweddol. Ond gadewch imi ddweud wrthych: nid oes gennyf bot o arian lle gallaf ddod o hyd i £20 miliwn arall, ac mae'n drueni fod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r bancwyr yn gyntaf, yn hytrach na'n ffermwyr gweithgar. Gofynnodd Joyce Watson am rywfaint o sicrwydd ynghylch peidio â thalu ffermwyr ddwywaith, ac rwyf bob amser wedi dweud na allem roi arian cyhoeddus i sicrhau bod ffermwyr yn cydymffurfio â’r rheoliadau a oedd eisoes ar waith, felly gallaf roi sicrwydd i chi ynglŷn â hynny.
Soniodd sawl Aelod am y dechnoleg newydd, ac aeth Cefin Campbell a minnau i Gelli Aur i weld sut yr oedd y dechnoleg honno’n dod yn ei blaen, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn falch iawn o gefnogi hynny. Nid oeddwn wedi bod yno ers rhyw dair blynedd, rwy’n credu, ac roedd yn dda gweld y cynnydd a oedd yn cael ei wneud. Ond rydym yn dal i weld achosion o lygredd amaethyddol a gadarnheir bob mis yn cyrraedd ffigurau dwbl eto eleni, ac mae’n rhaid inni wneud rhywbeth yn awr. Mae llygredd amaethyddol hefyd yn ffynhonnell sylweddol o lygredd ffosffad, sydd ar hyn o bryd yn atal gwaith datblygu tai a seilwaith allweddol arall y gwyddom fod ei angen ar frys i wella bywydau pob cymuned yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle yn y ddadl hon i danlinellu fy ymrwymiad i gamau gweithredu ar yr hinsawdd, i aer glân, i ansawdd dŵr ac i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a gwn fod ffermwyr—y rhan fwyaf ohonynt—yn rhannu’r pethau hynny hefyd. A bydd unrhyw benderfyniad a wnaf yn anrhydeddu ac yn datblygu'r ymrwymiadau hynny, a gadewch imi atgoffa pawb, mae'r ymrwymiadau hyn wedi'u hymgorffori yn y gyfraith. Maent yn adlewyrchiad o'n cyfrifoldeb moesol i drosglwyddo treftadaeth naturiol Cymru i’r genhedlaeth nesaf mewn gwell cyflwr nag y'i cawsom.
Wrth drafod ein rhwymedigaethau amgylcheddol, yn anffodus, mae angen tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi nodi ei bwriad i ddiddymu holl gyfreithiau'r UE a ddargedwir, ac mae hynny’n cynnwys mesurau diogelu amgylcheddol hanfodol. Felly, credaf fod hwn yn bolisi hynod annoeth a fydd yn achosi, ar y gorau—[Torri ar draws.]. Iawn.
Rwy’n rhoi cyfle i’r Gweinidog fyfyrio ar y sylwadau a wnaed yr wythnos hon gan y cyn-Weinidog amaethyddol a fu wrthi ers amser maith yn DEFRA, George Eustice, sydd wedi gwawdio'r cynigion sydd bellach yn dod gan Lywodraeth y DU, yn dilyn y gwaith a wnaed, a’r gwaith a wnaed gyda ffermwyr, ar ysgogi lefelau uwch o stiwardiaeth amgylcheddol. Dywed bellach fod y gwaith hwnnw'n cael ei daflu allan—yn cael ei daflu o dan y bws—gan Lywodraeth y DU.
Credaf y gallwn weld pam nad yw George Eustice yn Ysgrifennydd Gwladol yn DEFRA mwyach.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal a chadw at safonau amgylcheddol yr UE. Byddaf yn gwrthsefyll, a lle bo modd, yn atal unrhyw newidiadau a wneir gan y Ceidwadwyr yn San Steffan rhag tanseilio’r safonau hynny, ac mae hynny’n cynnwys fel y’u hadlewyrchir yn y rheoliadau llygredd amaethyddol. Er bod adroddiad y pwyllgor wedi’i gyhoeddi cyn i bolisi Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi, rwy’n siŵr y byddai’r pwyllgor yn cytuno na ddylid caniatáu i unrhyw un o safonau amgylcheddol yr UE gael eu tanseilio yng Nghymru.
Cododd cwpl o Aelodau faterion sy'n ymwneud â chamau yr oedd ffermwyr eisoes wedi’u cymryd mewn perthynas â’r rheoliadau newydd. Credaf ei bod yn deg dweud bod rhai ffermwyr wedi gweithredu eisoes, a chredaf y byddant wedi sicrhau manteision i’w busnesau ac i’r amgylchedd. Credaf fod llawer o ffermwyr wedi gwneud ymdrech i wneud hynny cyn i reoliadau 2021 gael eu rhoi ar y gweill, oherwydd y manteision y gallent eu gweld i’w busnes.
Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y pwyllgor ac Aelodau eraill o’r Senedd yn parhau i ddangos diddordeb yn y maes hwn. Rwy’n parhau i gredu mai’r dyfodol gorau i ffermio yng Nghymru yw dyfodol lle rydym yn cadw ffermwyr ar y tir, gan eu cynorthwyo i gynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n gynaliadwy i’r amgylchedd ac i’w busnes. Ac yn yr wythnos y mae cig oen Cymru, am y tro cyntaf ers cenedlaethau, yn cael ei allforio i Ogledd America, gallwn fod yn sicr y bydd cynnal safonau uchel yn parhau i fod yn hollbwysig i’n llwyddiant. A gaf fi dderbyn ymyriad?
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod yn dirwyn i ben. Nid ydych wedi rhoi sylw i’r cyfnodau gwaharddedig, sydd wedi’u codi gan dri neu bedwar o siaradwyr gwahanol.
Nid oeddwn yn dirwyn i ben, a dweud y gwir. Roeddwn yn edrych ar yr amser. Ar y cyfnodau gwaharddedig, os caf ateb Llyr: rydych yn llygad eich lle, roedd yn rhywbeth y bûm yn ymrafael ag ef am amser maith. Un o'r pethau a'm perswadiodd oedd anghenion y cnwd a'r maethynnau y mae angen eu rhoi ar y tir. Mae'n ddiddorol iawn na soniodd unrhyw Aelod, yn unrhyw un o'u hymatebion, am ofynion y cnwd nac am anghenion y cnwd.
Felly, yn fyr: gwn fod gwasgaru slyri—. Efallai y bydd twf y cnwd a’r angen am faethynnau yn y gaeaf yn cynyddu oherwydd cynnydd yn nhymheredd y pridd, ond un o’r ffactorau i mi oedd nad yw'r oriau o olau'r haul yn newid rhyw lawer. Felly, dyna'r rheswm pam y cefais fy mherswadio yn y pen draw. Dyna un o'r prif resymau, ond roedd cryn dipyn o resymau. Ond roedd yn rhywbeth—rydych yn llygad eich lle—y bûm yn rhyw lun o ymrafael ag ef.
I gloi, rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag Aelodau’r Senedd, a chyda phob un o’n rhanddeiliaid yng Nghymru, wrth inni barhau i leihau lefelau llygredd amaethyddol, sy’n fygythiad mor amlwg i’r amgylchedd naturiol. Diolch.
Paul Davies, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha mor bwysig yw’r rheoliadau hyn, a pha mor bwysig yw hi ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng diogelu’r amgylchedd a chefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu’r bwyd sydd ei angen ar ein gwlad.
Rydym wedi clywed cyfraniadau craff iawn, ac angerddol iawn yn wir y prynhawn yma, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n deall na fyddaf yn gallu ymateb i bob un. Ond rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Gaerffili am godi’r amserlenni y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael i ymateb i’n hadroddiad, ac rwy’n cytuno’n fawr ag ef: roedd yn bwysig fod y Llywodraeth yn rhoi amser i ystyried ein hadroddiad yn fanwl. Yr unig bwynt y byddwn yn ei wneud ynghylch yr amserlenni yw eu bod wedi mynd dros y terfyn amser, gan mai'r terfyn amser oedd 14 Medi, a gosodwyd yr adroddiad ar 8 Mehefin mewn gwirionedd. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol, efallai, pe bai’r Llywodraeth wedi dweud wrth y pwyllgor pa bryd y bwriadai ymateb i’r adroddiad, ond rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ysgrifennu ataf eto heddiw ar y pwynt hwnnw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Nawr, mae Aelodau fel yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a'r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd wedi codi effaith gweithredu'r rheoliadau hyn ar ffermwyr, yn enwedig y costau ariannol. Mae'r pwyllgor yn deall y bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith enfawr ar ffermio yng Nghymru ac y gallent fygwth cynaliadwyedd llawer o ffermydd yn ddifrifol. Am y rheswm hwnnw, fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi'n union pa gymorth fydd ar gael i ffermwyr i ateb y gofynion ansawdd dŵr a gofynion amrywiol eraill y rheoliadau. Dylai hyn, wrth gwrs, gynnwys y symiau, y mecanweithiau darparu cyllid ac yn wir yr amserlenni.
Mae Aelodau megis Jane Dodds a Llyr Gruffydd hefyd wedi codi'r defnydd o dechnoleg y prynhawn yma, ac fel y dywedais yn gynharach, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gref mewn perthynas â'r defnydd o dechnoleg i hwyluso mwy o hyblygrwydd ynghylch pryd y gallai ffermwyr wasgaru slyri. Nawr, mae'r Gweinidog wedi dweud yn glir iawn wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried technoleg a mesurau amgen, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw. Ond fel y dywedodd Llyr Gruffydd, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn edrych ar ddewisiadau technolegol amgen yn y dyfodol agos, ac nid yn y blynyddoedd nesaf yn unig.
Yn fwy cyffredinol, fel pwyllgor, rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am weithredu'r rheoliadau hyn. Rydym yn arbennig o awyddus i ddysgu mwy am y paratoadau i Cyfoeth Naturiol Cymru fod mewn sefyllfa i orfodi'r rheoliadau hyn yn ddigonol ac yn deg. Rydym hefyd yn awyddus i weld dadansoddiad manwl o gymorth i ffermwyr gydymffurfio â'r rheoliadau hyn, a byddem hefyd yn hoffi cael mwy o wybodaeth am system drwyddedu arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermydd sydd angen defnyddio lefel uwch o nitrogen. Gwn fod y Gweinidog wedi dweud y bydd yr ymgynghoriad hwn yn digwydd, ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymgynghoriad hwnnw.
Fel y dywedais wrth agor y ddadl hon, rwy'n credu bod symud o ffermio yn ôl y calendr a chyflwyno dull o wasgaru sy'n seiliedig ar dechnoleg yn hanfodol i ffermio yng Nghymru. Rwyf wedi clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud y prynhawn yma, ond rwy'n gobeithio bod hon yn nodwedd greiddiol o'r adolygiad arfaethedig o'r rheoliadau hyn, adolygiad yr wyf yn disgwyl y bydd Aelodau'r pwyllgor hefyd yn awyddus i fod yn rhan ohono.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn gloi'r ddadl hon drwy ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Yr unig ffordd o sicrhau bod y rheoliadau hyn yn taro'r cydbwysedd cywir yw drwy eu gwreiddio mewn tystiolaeth, ac mae hynny hefyd yn wir ar gyfer adroddiad y pwyllgor. Credaf fod ein hadroddiad a'r argymhellion ynddo yn seiliedig ar lefel uchel o dystiolaeth o ansawdd da. Felly, i gloi, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau a'r Gweinidog am eu cyfraniadau heddiw, a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael diweddariad ar gynnydd gweithrediad ein hargymhellion maes o law? Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 y prynhawn yma yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai’. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.
Cynnig NDM8089 Russell George
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai’, a osodwyd ar 15 Mehefin 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor yr ail ddadl ar adroddiad pwyllgor y prynhawn yma, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai'. Rwy'n hapus i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Fe wnaeth ein hadroddiad 25 o argymhellion ac roeddwn yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 20 yn llawn. O'r pump a dderbyniwyd mewn egwyddor, mae'n siomedig fod nifer o'r argymhellion hynny wedi'u hanelu at wella gofal dementia. Roedd argymhelliad 19 yn galw ar y Llywodraeth i fandadu hyfforddiant dementia pellach ar gyfer staff y GIG a allai ddod i gysylltiad â phobl sy'n byw gyda dementia. Gwnaethom yr argymhelliad hwn oherwydd bod tystion wedi dweud wrthym fod yna ddiffyg dealltwriaeth o anghenion pobl â dementia mewn ysbytai a sut y gellid eu cefnogi yn eu sefyllfa mewn ffordd sy'n llai brawychus iddynt hwy eu hunain.
Felly, roedd argymhelliad 20 yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd i sefydlu cynlluniau peilot i dreialu slotiau rhyddhau penodol ar gyfer pobl â dementia. Byddai hyn yn sicrhau nad yw pobl agored i niwed yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn hwyr yn y nos pan fo mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth, a phan fyddant o bosibl yn mynd adref, efallai, i dŷ oer, neu ar adeg sy'n achosi gofid drwy amharu ar arferion teuluol.
Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gawsom fod materion a godwyd ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal heb amheuaeth wedi cael eu gwaethygu gan y pandemig—mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei dderbyn—ond gan gydnabod bod problemau hirsefydlog a oedd yn bodoli ymhell cyn COVID-19. Fodd bynnag, mae'n gwbl annerbyniol fod mwy na 1,000 o bobl mewn gwelyau ysbyty pan allent fod wedi cael eu rhyddhau.
A gadewch i ni gofio hefyd nad ystadegau yn unig yw achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Y tu ôl i bob achos o oedi wrth drosglwyddo, mae yna unigolyn nad yw wedi cael y gofal a'r cymorth y maent ei angen i allu dychwelyd adref neu i symud i lety priodol. Mae hefyd yn effeithio ar aelodau teuluol a gofalwyr di-dâl, sydd yn y sefyllfa amhosibl o adael eu hanwyliaid yn yr ysbyty yn hwy na'r hyn sy'n angenrheidiol neu ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu pellach nad ydynt yn gallu ymdopi â hwy o bosibl, a hynny'n aml ar gost i'w hiechyd neu eu llesiant eu hunain. Ac mae'r goblygiadau ariannol hefyd yn gallu bod yn sylweddol gyda hynny, yn enwedig yng nghyd-destun costau byw cynyddol.
Rydym i gyd wedi gweld lluniau o ambiwlansys yn ciwio tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys yn methu trosglwyddo cleifion. Mae hyn yn anochel yn effeithio ar nifer yr ambiwlansys sydd ar gael i ymateb i alwadau brys, gan arwain at yr arosiadau annerbyniol o hir i bobl sy'n sâl neu sydd wedi eu hanafu ac mewn poen, ac mewn rhai achosion, yn anffodus, gyda chanlyniadau sy'n peryglu bywyd. Ond wrth wraidd y mater mae diffyg capasiti difrifol yn ein system gofal cymdeithasol. Nid yw cleifion a allai fod yn barod i adael yr ysbyty yn gallu gwneud hynny oherwydd nad oes digon o gapasiti yn y gwasanaethau gofal i roi pecynnau gofal cartref ar waith a fyddai'n eu galluogi i ryddhau cleifion yn ddiogel. Mae'r diffyg capasiti hwn, ynghyd â'r argyfwng gweithlu gofal cymdeithasol sydd gennym, yn parhau i fod yn un o'r prif resymau pam fod oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty a pham fod llif cleifion drwy ysbytai wedi'i gyfyngu.
Nawr, yn wahanol i'r GIG, y bydd pawb wedi manteisio arno ar ryw adeg yn eu bywydau rwy'n siŵr, mae'r sector gofal cymdeithasol yn anweledig i raddau helaeth ac eithrio i'r rhai sydd angen ei gymorth; mae'n amhrisiadwy iddynt hwy. Oni bai bod camau radical yn cael eu cymryd i ddiwygio'r ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu a'i wobrwyo a sut y telir amdano, rydym yn annhebygol o weld unrhyw newid gwirioneddol. Dywedodd darparwyr gofal cymdeithasol wrthym fod hwn yn gyfnod digynsail o ran prinder staff. Mae pobl yn gadael y sector oherwydd eu bod yn gallu ennill arian tebyg mewn mannau eraill am wneud swyddi sy'n rhoi llai o bwysau arnynt. Hyd nes y ceir cydraddoldeb rhwng cyflogau a thelerau ac amodau staff gofal cymdeithasol a'u cymheiriaid yn y GIG, rwy'n credu y bydd y sector yn parhau i gael trafferth recriwtio a chadw staff.
Felly, roedd yn siomedig fod ymateb Llywodraeth Cymru i'n cais am wybodaeth ynglŷn â sut y bydd yn cynyddu recriwtio i'r sector gofal cymdeithasol yn llai na chadarn. Er iddo ailadrodd yr hyn a wnaed hyd yma, ni ddarparodd unrhyw eglurder na sicrwydd gwirioneddol ynghylch cynlluniau ar gyfer y dyfodol, felly rwy'n gobeithio efallai y gallai'r Gweinidog ddarparu'r manylion hynny y prynhawn yma. Byddai'n ddefnyddiol hefyd pe gallai'r Gweinidog roi diweddariad ar waith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ar ddatblygu fframwaith cyflog a chynnydd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, a rhoi sicrwydd bod y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu gyda'r brys angenrheidiol.
Un thema gref iawn a welsom oedd pryder am y pwysau a osodir ar deulu a gofalwyr di-dâl i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth gofal. Roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i gynnal adolygiad cyflym i weld a yw hawliau gofalwyr dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu torri o ganlyniad i orfod ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu nag y maent yn gallu neu'n barod i'w wneud am nad oes digon o wasanaethau ar gael. Ac rwyf hefyd yn croesawu'r flaenoriaeth y mae prif swyddog gofal cymdeithasol Cymru wedi ei rhoi i ofalwyr di-dâl yn ei flaengynllun gwaith.
Mae cynnwys cleifion a gofalwyr yn ganolog i'r broses o ryddhau cleifion, ac fe glywsom gan deuluoedd a gofalwyr di-dâl fod hyn wedi'i golli mewn sawl achos, yn anffodus. Hoffwn nodi neu sôn am Angela Davies, gofalwr di-dâl i'w thad a oedd â dementia, a ddywedodd wrthym am y trafferthion a brofodd. Clywsom hefyd gan randdeiliaid eraill, fel Arolygiaeth Gofal Cymru, am ansawdd asesiadau o anghenion cleifion mewn ysbytai. Clywsom am asesiadau'n cael eu llenwi gan staff y ward neu staff gofal cymdeithasol heb gynnwys y claf na'r bobl sy'n eu hadnabod orau.
Dywedodd y Gweinidog ei hun bod lle i wella cyfathrebu â gofalwyr a theuluoedd yn yr ysbyty, felly rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 24 a'r ymrwymiad i gomisiynu adolygiad o ansawdd ac effeithiolrwydd asesiadau o anghenion gofalwyr yn y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n meddwl tybed a all y Gweinidog gadarnhau y bydd ansawdd ac effeithiolrwydd asesiadau o anghenion cleifion mewn ysbytai hefyd yn cael eu hadolygu?
Yn olaf, rwyf am symud ymlaen i siarad am y diffyg cyfathrebu cyson a gweithio cydgysylltiedig rhwng cyrff iechyd, gofal cymdeithasol a chyrff y trydydd sector, sy'n peri mwy o bryder oherwydd ei fod yn fater sydd wedi'i godi'n gyson gan bwyllgorau eraill y Senedd. Yn wir, yn ôl ein hadroddiad diweddar ar effaith yr ôl-groniad amseroedd aros ar bobl yng Nghymru, mae angen gwneud cynnydd mewn perthynas â chofnodion digidol a rhannu gwybodaeth, er mwyn i gleifion allu cael gwasanaethau di-dor o bob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn perthynas â chydweddoldeb rhwng systemau TGCh a ddefnyddir mewn gwahanol rannau o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd tystion wrthym fod cyfathrebu clir a chyson rhwng gweithwyr proffesiynol meddygol yn yr ysbyty a gofal sylfaenol yn amhrisiadwy, ac mae angen cael gwared ar wahaniaethu di-fudd rhwng staff clinigol a staff anghlinigol os yw cleifion am elwa o weithlu iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Cyfeirir yn aml at y rheoliad diogelu data cyffredinol fel rhwystr i rannu data, ond dywedwyd wrthym ei bod yn bosibl cael memoranda cyd-ddealltwriaeth rhwng sefydliadau statudol a phrotocolau llywodraethu gwybodaeth a fyddai'n caniatáu cofnod electronig wedi'i rannu'n llawn.
Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma. Yn olaf, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, ein bod wedi cael syndod wrth glywed nid yn unig fod peiriannau ffacs yn dal i gael eu defnyddio gan y GIG yn 2022, ond bod rhai newydd yn dal i gael eu prynu. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, a diolch i'r ymchwilwyr a'r tîm clercio. Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn. Rydym ni'n cael at wraidd y materion sy'n dal ein gwasanaeth iechyd ni yn ôl ar hyn o bryd.
Rydym ni'n sôn am lif cleifion drwy'r system iechyd. Os nad oes yna lif rhwydd drwy'r system, mae gennych chi broblem. Dechreuwn ni wrth ddrws cefn ysbyty, pan fo claf yn barod i adael yr ysbyty cyffredinol ar ôl derbyn triniaeth. Dwi wedi eistedd mewn huddles yn Ysbyty Gwynedd ddwywaith—y cyfarfodydd boreol lle mae staff yn dod at ei gilydd i asesu lle maen nhw arni ar ddechrau diwrnod prysur arall—un o'r ystadegau sy'n cael eu trafod ydy faint o gleifion sy'n barod i adael ar sail meddygol, medically fit for discharge. Mae'n drawiadol i ffeindio bod efallai 80 neu'n fwy o welyau yn yr ysbyty yn cael eu defnyddio gan gleifion sydd ddim angen bod yno. Ac mae'r un yn wir mewn ysbytai cyffredinol ar draws Cymru. Mae hynny'n golygu problem wrth y drws ffrynt: canslo triniaethau achos does yna ddim gwely ar gael, efallai, a rhestrau aros hirach wedyn; mae'n golygu bod cleifion sy'n cyrraedd drwy'r adran frys yn methu symud o'r adran frys i'r ward os oes angen—mae'r ward yn llawn. Mae'r adran frys yn llawn, sy'n golygu bod ambiwlans yn methu dadlwytho claf, yn ciwio tu allan i'r ysbyty, yn methu ag ateb galwadau. Mae o'n gylch dieflig, a thrwy ein gwaith ni fel pwyllgor, wrth gwrs, mi oeddem ni'n trio deall pam mae'r bloc yma wrth y drws cefn, yr oedi wrth ryddhau cleifion, yn digwydd.
Mae'r sylw, yn gyffredinol, mewn blynyddoedd diweddar, wedi troi at wasanaethau gofal. Mae yna argymhellion cadarn yn yr adroddiad yma i'r perwyl yma: sut i sicrhau bod yr NHS ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol cynghorau sir yn gweithio'n well efo'i gilydd i integreiddio iechyd a gofal; sut i sicrhau bod arian integreiddio yn cael ei wario'n effeithiol; a sut i gefnogi staff gofal, eu talu nhw'n iawn, a'u cefnogi nhw'n iawn fel ein bod ni’n gallu recriwtio. Gwnaf i ddim mynd i mewn i fanylion hynny; maen nhw’n argymhellion cynhwysfawr. Mae Llywodraeth Cymru, fel rydym ni wedi ei glywed gan y Cadeirydd, yn cytuno â'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw. Mater i ni fydd dal y Llywodraeth i gyfrif a sgrwtineiddio cynnydd.
Mae pump o'r argymhellion sydd ddim ond yn cael eu derbyn mewn egwyddor, a dwi am droi at un o'r rheini, sef argymhelliad 8:
'Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn gweithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill i sicrhau bod mwy o gyfleusterau cam-i-fyny/cam-i-lawr mwy priodol ar gael ledled Cymru.'
Mae diffyg darpariaeth cam i lawr yn broblem enfawr. Dydy'r capasiti ddim yno. Ac mae wedi dod yn fwy a mwy clir i fi na allwn ni ddibynnu ar y sector gofal i ddarparu'r capasiti yna ac, a dweud y gwir, nad ydy hi’n deg i ni ofyn iddyn nhw ei ddarparu fo. A dwi’n ofni mai beth rydym ni’n ei weld yn fan hyn ydy canlyniadau degawdau o bolisi gwael. Dwi wedi gweld ffigurau sy’n awgrymu bod gennym ni rhyw 20,000 o welyau ysbyty yng Nghymru ddiwedd y 1980au. Mae yna ystadegau pendant iawn erbyn 1997, pan oedd yna ychydig o dan 16,000. Dipyn dros 10,000 o welyau sydd gennym ni erbyn hyn. Beth rydym ni wedi’i weld ydy rhaglen bwrpasol o gau ysbytai cymunedol, cau gwelyau, lleihau capasiti. A rŵan, ydym ni wir i fod i synnu bod yna broblem capasiti, bod yna lif gwael o gleifion drwy'r system? Mae'r Llywodraeth yn troi at y gwasanaethau gofal, yn dweud bod angen i'r sector hwnnw fod yn derbyn cleifion ynghynt. Mae gen i ofn, fel dwi'n dweud, ein bod ni'n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth sy’n amhosib. Ydy hynny’n tynnu oddi ar argymhellion y pwyllgor? Nac ydy, dydy o ddim, ddim o gwbl. Mae eisiau cryfhau y sector gofal, mae eisiau ei gyllido fo yn iawn ac mae eisiau cefnogi gweithwyr gofal.
Ond drwy gau yr holl welyau, mi oedd Llywodraethau Llafur a Cheidwadol, yn fan hyn ac yn San Steffan, yn helpu i greu y broblem sydd gennym ni heddiw. Mae pobl yn byw yn hirach. Mae mwy o bobl angen triniaeth. A dim ots faint rydym ni’n dymuno, yn hollol, hollol gywir gyda llaw, i bobl allu cael gofal gartref, i fynd gartref mor gyflym â phosibl ar ôl triniaeth ac ati, mae’n synnwyr cyffredin bod yna'n dal fwy o bobl sy’n mynd i fod angen jest ychydig bach o ofal ychwanegol ar ôl triniaeth ysbyty—yr union fath o ofal sy'n gallu cael ei gynnig mewn ysbyty cymunedol. Felly, mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog ymrwymiad i raglen newydd o greu y capasiti yna. Mi ddywedith fod yna ddim arian at gael, dwi'n siŵr, ond rydym ni'n sôn yn y fan hyn am welyau sydd gymaint rhatach na gwelyau mewn ysbyty cyffredinol. Rydym ni'n sôn am dynnu'r pwysau oddi ar y pen drud o'r NHS. Gadewch inni weld rhaglen fydd yn creu y capasiti yna, yn hytrach na dim ond gofyn i wasanaethau gofal wneud yr hyn dwi’n ei gredu sy’n amhosib.
Diolch i'r Cadeirydd am gadeirio'r pwyllgor mewn modd colegol ac am yr adroddiad a ddeilliodd o hynny. Ni allwn edrych ar bob agwedd ar yr hyn sy'n creu'r problemau yn y cyfnod byr hwn wrth gwrs, ond un o'r problemau gyda rhyddhau cleifion ar yr adeg briodol, yn amlwg, yw staffio. Nid yw o unrhyw werth o gwbl—i'r gwrthwyneb, mewn gwirionedd—i gleifion aros yn yr ysbyty'n ddiangen. Felly, nid yw o fudd i les corfforol na lles meddyliol y claf, ac nid yw'n deg ychwaith ar staff yr ysbyty na fydd, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn gallu rhoi'r sylw angenrheidiol, mewn ward brysur iawn, i rywun a allai fod yn dioddef o gyflwr fel dementia, er enghraifft. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at staffio yn y sector gofal cymdeithasol. Mae wedi cael ei grybwyll eisoes. Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys. Ac rwy'n gwybod ac yn deall fod Llywodraeth Cymru yn y gofod hwnnw a'u bod yn ceisio dod i delerau â'r hyn y gallant ei wneud, fel y cyflog byw, fel hyfforddiant ychwanegol, ond er hynny, ni allwn osgoi'r ffaith bod prinder enfawr o staff o fewn gofal cymdeithasol ac o fewn ysbytai hefyd.
Ac fe soniais, yr wythnos diwethaf, fod angen inni fynd i'r afael â pham y mae pobl—a menywod ydynt yn bennaf—yn gadael y proffesiwn ar oedran penodol, o gwmpas 40 oed. Beth yw'r rheswm am hynny? Pam y maent yn gadael ac yn ein gadael ni gyda'r prinder hwn? Ai oherwydd eu bod hwy eu hunain wedi dod yn ofalwyr, neu ai oherwydd eu bod wedi bod yn y system ers 20 mlynedd ac yn awyddus iawn i adael? Nid ydym yn gwybod yr atebion, a dywedodd y Gweinidog y byddai'n chwilio am atebion, oherwydd bydd hynny'n ein helpu, os ydym yn gwybod yr atebion i'r cwestiynau hynny, i edrych ar a meddwl am reoli'r trosiant staff hwnnw, a hefyd yr hyn y bydd angen inni ei wneud ynghylch y niferoedd sy'n cael eu hyfforddi i lenwi'r bwlch hwnnw, os ydym yn gwybod mai dyna'r oedran pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn ystyried gadael o bosibl, neu fel arall, gallem gynnig contractau gwahanol iddynt, gweithio mwy hyblyg, gweithio rhan amser. Rydym yn siarad yn aml yma am staff asiantaeth, ond yn aml iawn, os gofynnwch i rywun pam eu bod wedi mynd i weithio i asiantaeth, byddant yn dweud wrthych ei fod yn ddewis sy'n ymwneud â'u ffordd o fyw oherwydd eu bod yn cael gweithio'r oriau y maent eisiau eu gweithio, yn y llefydd y maent eisiau gweithio ynddynt. Felly, mae angen inni archwilio hynny, oherwydd mae hyn i gyd yn chwarae rhan yn yr hyn yr ydym yn siarad amdano yma. Os nad oes gennych y staff, lle bynnag y mae'r prinder hwnnw o staff, ni allwch ac ni fyddwch chi byth yn datrys y problemau.
Rwyf am siarad yn fyr am ofalwyr di-dâl a'r angen am seibiant. Fe wyddom—ac unwaith eto cafwyd tystiolaeth ynglŷn â hyn—nad yw llawer o'r cyfleusterau yr oeddent yn dibynnu arnynt ar gael iddynt mwyach, naill ai, unwaith eto, oherwydd prinder staffio neu ddiffyg cyllid yn sgil y cyni y mae pawb ohonom wedi'i ddioddef, neu fod cyfleusterau eraill ar gael ond nad ydynt yn hygyrch iddynt yn uniongyrchol. Clywsom lawer iawn am welyau gofal cymunedol cam-i-lawr, ac er fy mod yn cefnogi'r angen am y rheini, yn y pen draw mae pobl eisiau mynd adref. Os nad yw pobl yn mynd adref, maent yn dirywio'n gyflym iawn, ac os ydynt mewn gwely ysbyty neu wely cymunedol, mae'r unigolyn hwnnw'n dal i fod mewn gwely. Maent yn mynd yn ddryslyd iawn yn gyflym iawn. Maent yn mynd yn ddibynnol yn gyflym iawn, er eu bod yn mynd i mewn o fod yn byw'n annibynnol. Felly, mae'n hanfodol fod pobl yn mynd adref.
Rwy'n gwylio'r cloc; rwy'n gwybod fy mod yn brin o amser. Ond rwy'n credu ei bod yn her enfawr ac rwy'n gwybod nad hwn fydd yr unig adroddiad o'i fath. Rwy'n gobeithio y bydd y nesaf yn dangos rhywfaint o'r cynnydd y mae pawb ohonom eisiau ei weld.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac wrth gwrs fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol rwyf wedi gweld tystiolaeth o lygad y ffynnon gan dystion sydd yn y sefyllfa orau i sylwebu ar gyflwr presennol y broses o ryddhau cleifion o ysbytai ledled Cymru.
Ar ôl clywed achosion gan nifer o bobl ledled Cymru, mae'n glir fod hwn yn fater y mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu arno ar unwaith. Fodd bynnag, oherwydd bod y Llywodraeth wedi atal y gwaith o gasglu ffigurau ers mis Chwefror 2020, nid oes unrhyw arwydd gwirioneddol o ba mor fawr yw'r broblem mewn gwirionedd, ac os mai'r achosion a welwn yn ddyddiol yw ein tystiolaeth, rwy'n disgwyl y gallai'r broblem fod yn llawer gwaeth nag a feddyliwyd. Dangosodd y ffigurau diwethaf fod llawer o bobl wedi cael eu hatal rhag gadael yr ysbyty oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal, a bod hynny'n rhoi baich ychwanegol ar argaeledd gwelyau. Mae'r broblem hon yn arwain at fwy o oblygiadau i'r GIG, gan fod nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol yn frawychus o isel ac nid oes unrhyw arwydd y bydd y sefyllfa'n gwella.
Ers i'r Blaid Lafur gymryd cyfrifoldeb am redeg GIG Cymru ym 1999, rydym wedi gweld cwymp o 29 y cant yn nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol. Er bod yr ystadegau hyn yn warthus, mae'r dioddefaint y mae llawer yn ei wynebu oherwydd y mater hwn yn real iawn. Daeth yn amlwg fod claf wedi cael ei orfodi i aros am 41 awr cyn i griwiau ambiwlans drosglwyddo gofal i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, ac o ystyried mai 15 munud yw'r amser targed, mae hyn yn dangos bod ei alw'n fethiant yn feirniadaeth rhy garedig ar y broblem hon. Ac mewn gofal cymdeithasol, mae angen uchelgais arnom i gyflawni system sy'n addas i'r diben fel y gellir rhyddhau cleifion yn ddiogel. Ar hyn o bryd, adnoddau a lefelau staffio isel yw'r prif resymau pam nad yw cleifion yn cael eu rhyddhau, sydd yn ei dro yn creu tagfa yn y system gyfan, gan arwain at adrannau damweiniau ac achosion brys gorlawn ac arosiadau hir am ambiwlansys, ac rydym yn gweld y pethau hyn yn rhy aml.
Rhan o'r rheswm am hynny yw bod lefelau staff gofal cymdeithasol yn isel, ac mae'r amodau a'r cyflogau i staff yn isel. Lle mae Llywodraeth Cymru yn nofio yng ngogoniant eu cyflog byw gwirioneddol ar £9.50 yr awr, nid yw'n ddigon. Felly, rwy'n galw am gysondeb rhwng tâl staff gofal cymdeithasol a graddfeydd cyflog y GIG ac amcangyfrifir y byddai hynny'n costio oddeutu £9 miliwn i'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod modd ei wneud a byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog gyfeirio at hyn wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma. Oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio nad gweithio naw tan bump o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig y bydd staff gofal cymdeithasol yn ei wneud; maent yn gweithio 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, maent yn gweithio ar y penwythnosau, yn y nos, oriau anghymdeithasol ac yn aros dros nos. Felly, rwy'n credu ei bod yn hen bryd iddynt gael eu gwobrwyo am eu hymrwymiad i helpu ein pobl fwyaf agored i niwed a'n bod yn gwneud gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn fwy deniadol.
Gan droi at y gaeaf, os caf, ac fel y soniais yn y pwyllgor iechyd ddydd Iau diwethaf, rwy'n mynd yn bryderus iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn wrth i'r tymheredd ostwng ac wrth i'r nosweithiau dynnu i mewn, a hynny'n syml am ein bod, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gweld y straeon arswyd yn ddyddiol, wrth i bwysau waethygu yn ystod y misoedd oerach. Mae'n ddigon hawdd siarad am gynlluniau'r gaeaf pan fyddwn yn ei ganol, ond yr hyn a fyddai orau inni ei wneud fyddai cynllunio ar gyfer y gaeaf pan fo'r haul yn tywynnu a sicrhau bod gennym yr adnoddau cywir yn eu lle mewn ffordd ragweithiol, fel y gallwn wneud ein gorau i ddiogelu ein pobl rhag y cyflyrau iechyd y gall tywydd garw'r gaeaf eu hachosi.
Hoffwn orffen fy araith heddiw drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, a staff gweithgar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac wrth gwrs, yr holl dystion sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn y prynhawn yma. Diolch.
Fel aelod newydd o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a'r clercod a phawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 25 argymhelliad naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.
Fel Aelod gydag ysbyty yn fy etholaeth, Ysbyty Tywysoges Cymru, mae rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn parhau i fod yn un o'r problemau allweddol sy'n cael eu codi, boed hynny gan weithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen neu gleifion neu eu teuluoedd. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, fel mater brys, y dylid gweithredu ar ddarpariaethau gofal cam-i-lawr, fel y nodir yn argymhelliad 11. Mae fy mwrdd iechyd fy hun, Cwm Taf Morgannwg, wedi dweud wrthyf fod ysbytai wedi dod yn rhy debyg i gartrefi gofal. Mae dros 25 y cant o gleifion mewn ysbytai angen gwely cam-i-lawr; nid oes yr un ar gael. Felly, maent yn aros ar wardiau, am gyfnodau hir iawn weithiau, er nad dyna yw'r lle gorau iddynt fod, fel y clywsom gan fy nghyd-Aelod Joyce Watson. Rydym yn gwybod bod tystiolaeth yn dangos bod cleifion yn dechrau dirywio os na chânt eu rhyddhau pan fo angen iddynt gael eu rhyddhau, ac rwyf hefyd wedi cael gwybod bod yr argyfwng costau byw yn golygu bod rhai o'r cartrefi gofal yn fy etholaeth yn gorfod ystyried cau, a fyddai wedyn, wrth gwrs, yn lleihau capasiti gwelyau hyd yn oed ymhellach. Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae gan Ysbyty'r Tywysog Siarl fynediad at 100 o welyau cam-i-lawr, mae gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg fynediad at 100 o welyau cam-i-lawr, a dim ond chwe gwely cam-i-lawr y mae gan Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr fynediad atynt, felly dywedwyd wrthyf fod gwelyau cam-i-lawr yn hollbwysig i fy nghymuned. Felly rwy'n gwybod, ac rwy'n cydnabod, fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwysau cynyddol, fel y nodwyd yn eu hymateb i argymhelliad 1, ac wedi blaenoriaethu'r gwaith o ailosod y system er mwyn gwella trosglwyddo cleifion i'r lle mwyaf priodol ar gyfer eu gofal, ond pan fo'r arian hwn a'r trafodaethau hyn yn digwydd gyda'r byrddau iechyd, hoffwn ofyn eu bod yn sicrhau ei fod yn mynd i'r holl ysbytai ar draws y bwrdd iechyd cyfan.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at argymhelliad 5 ar ryddhau i adfer yna asesu, a'r angen i leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn gorfod dychwelyd i'r ysbyty. Unwaith eto, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym sefydliadau cymunedol anhygoel, megis Age Connects Morgannwg, Gofal a Thrwsio Cymru, sydd wedi bod yn helpu gyda chleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, ac rwy'n gwybod, o siarad â nifer o nyrsys cymunedol, cymaint y maent yn dibynnu ar Ofal a Thrwsio Cymru i helpu gyda'r amser adfer gartref ac i sicrhau bod cleifion yn ddiogel yn ystod ac ar ôl gadael yr ysbyty. Mae Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi dibynnu ar wasanaeth Age Connects i ryddhau cleifion am dros 20 mlynedd. Maent nid yn unig yn darparu cludiant i gleifion o'r ysbyty, ond maent hefyd yn eu helpu i setlo'n ôl yn eu cartrefi, yn hytrach na'u gadael wrth garreg y drws, ac maent hefyd yn cadw mewn cysylltiad dros chwe wythnos ac yn cyfeirio at sefydliadau eraill. Mae hynny'n helpu gyda chymhorthion, addasiadau, tai, cynllunio prydau bwyd ac efallai eu cyflwyno i hobi. Ond oherwydd cyfyngiadau ariannol, mae'r gwasanaethau hyn bellach wedi cael eu torri gan y bwrdd iechyd, felly nid yw hynny'n digwydd bellach. Clywais gan un o weithwyr Age Connects eu bod yn yr ysbyty yr wythnos o'r blaen, am eu bod yn rhannu gwybodaeth am eu gwasanaethau, a daeth un o'r nyrsys atynt a dweud, 'A fyddech chi'n fodlon mynd â'r claf yma adref?' Dywedasant, 'Wel, nid ydym yn darparu'r gwasanaeth hwnnw mwyach.' Felly, wedyn, bu'n rhaid i'r claf aros am ambiwlans i'w cludo adref. Felly, fel y dywedais, rwy'n deall y cyfyngiadau ariannol, ond mae'n dangos, pan fo dadfuddsoddi'n digwydd yn y gwasanaethau hyn, ei fod yn effeithio ar gleifion, ond hefyd yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans.
Yn olaf, hoffwn orffen drwy dynnu sylw at argymhellion 12 a 14 sy'n ymwneud â diwygio cyflogau a'r ymgyrch i recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol. Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r dirprwy arweinydd a'r aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol, Jane Gebbie, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, am fy mod wedi bod yn pwyso am ymgyrch recriwtio i lenwi'r bylchau hynny. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal ac wedi datgan, yn eu hymateb, mai man cychwyn yw hwn ac nid y pen draw ar welliannau hirdymor i weithwyr.
Hefyd, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU am adolygiad o'r lwfans milltiroedd 45c, wedi 12 mlynedd ers yr adolygiad diwethaf, gan eu bod yn ei ystyried yn rhwystr i recriwtio. Mae'r argyfwng tanwydd yn effeithio ar weithwyr gofal cymdeithasol sy'n gorfod defnyddio'u ceir i fynd at gleifion yn eu cartrefi. Mae'n siomedig na fydd Llywodraeth y DU yn adolygu'r lwfans hwn, o ystyried bod taer angen gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r gweithwyr hanfodol hyn ar gyflogau isel fel arfer ac effeithir arnynt gan yr argyfwng ynni yn eu swyddi. Gofynnaf felly i Lywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr â chyngor Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn am yr adolygiad gan Lywodraeth y DU i helpu'r ymgyrch recriwtio ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru. Diolch.
Tua 10 mlynedd yn ôl rwy'n cofio prif weithredwr bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ar y pryd yn dweud wrthyf, yn ysbyty'r Heath—ein hysbyty trydyddol—fod cyfartaledd oedran cleifion yn 84 oed, ac rwy'n amau'n fawr fod y proffil oedran hwnnw wedi newid. Felly, nid wyf yn credu y dylem feio ysbytai am y sefyllfa yr ydym ynddi. Mae popeth yn glanio yn yr ysbyty am nad yw'r gwasanaethau eraill yno. Nid ydym byth yn mynd i gyrraedd oni bai ein bod yn ailgyfeirio adnoddau o'r ysbytai lle mae gennym yr ymatebion brys hyn. Felly, rhaid inni gryfhau nyrsio cymunedol.
Nid oes neb eisiau treulio mwy o amser mewn ysbyty nag sy'n angenrheidiol yn feddygol iddynt fod yno, oni bai pan nad oes ganddynt gartref i fynd iddo sydd â'r adnoddau addas ar gyfer eu hanghenion gwella neu anghenion parhaus. Rwy'n cofio un o fy etholwyr, a oedd yn gyn-brifathro, a aeth i'r ysbyty, yn 93 oed, am fod ganddo haint wrinol. Fe gefais i, yr Aelod Seneddol, a'r comisiynydd heddlu, yn ogystal â'i deulu, ein plagio'n ddiddiwedd ganddo i'w gael allan o'r fan honno am nad oedd am fod yno mwyach. Yn amlwg, ag yntau'n gyn-brifathro, roedd yn rhywun a oedd wedi arfer cael pobl yn ufuddhau, er ei fod yn ei nawdegau. Ond gallwch ddychmygu sut y byddai rhywun arall, nad oedd â'r set sgiliau honno, yn cael eu gadael yno i farw. Ni allwn barhau fel hyn. Nid oes unrhyw un eisiau marw yn yr ysbyty. Yn sicr nid wyf fi.
Nid yw nyrsys ardal yn syniad newydd. Cafodd ei wneud yn gyntaf yn Lerpwl yn y 1860au ac roedd yn rhagflaenydd pwysig i'r GIG. Arferai olygu nyrs gyda phecyn o bethau wedi'u clymu ar gefn beic. Ond mae angen i nyrsys ardal modern ddefnyddio amserlennu llwyth achos electronig i optimeiddio diogelwch a chosteffeithiolrwydd. Rwy'n cofio ymweld â thîm nyrsio cymdogaeth Cwm Taf yn 2020 ychydig cyn y cyfyngiadau symud a chlywed sut yr arbedodd y system e-drefnu oriau bwy'i gilydd o amserlennu i'r uwch reolwyr i gyfrif pobl a oedd naill ai'n mynd i mewn i'r ysbyty neu bobl yn dod allan o'r ysbyty i'w hychwanegu at nifer y bobl yr oedd angen iddynt ymdrin â hwy.
Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog yn gweithio arno, ac rwy'n falch iawn o glywed bod cynnydd yn cael ei wneud, oherwydd mae'n un o'r allweddi i wella'r system. Oherwydd mae'n ein galluogi i ddeall y galw am wasanaethau nyrsys ardal lle mae capasiti neu angen i gefnogi'r system i atal derbyniadau ac i hwyluso rhyddhau cleifion. Rhaid i arweinydd y tîm allu deall pa alw sydd yna yn y gymdogaeth a pha sgiliau a nifer staff fydd eu hangen i'w ddiwallu. Mae hyn hefyd wedi galluogi timau i ymgorffori sgiliau gweithwyr cymorth gofal iechyd yn ddiogel yn eu timau a rhyddhau nyrsys cofrestredig mwy cymwys i ddarparu gofal mwy cymhleth. Gall deall capasiti a galw fesul awr alluogi gwasanaethau nyrsys ardal i wneud y gweithlu'n fwy hyblyg i ateb y galw ac ymateb i unrhyw faterion cyllido tymor byr. Felly, rwy'n falch iawn o ddeall—[Torri ar draws.] Altaf, a oeddech chi eisiau gwneud ymyriad?
Diolch, Jenny. Rwyf wedi gweithio yn yr ysbyty, ac ar wahân i ofal nyrsio ac ar wahân i'r gwasanaethau cymdeithasol, nid yw adroddiad rhyddhau'r claf byth yn cael ei baratoi ar amser. A daw'r adroddiad rhyddhau'r claf gan y meddyg isaf ei statws yn yr adran pan ddylai ddod gan y meddyg ymgynghorol wrth iddo wneud rownd y ward a rhyddhau'r claf. Dylid gwneud hynny mor gynnar â phosibl.
Diolch am dynnu sylw at hynny, oherwydd roedd hynny'n rhywbeth a gafodd ei nodi gan Archwilio Cymru hefyd, yn eu hadroddiad hwy. Roeddent yn dweud bod llai na hanner yn cofnodi p'un a oedd rhyddhau'r claf yn gymhleth neu'n syml, a bod llai na thraean o ysbytai'n cofnodi pan oedd y claf yn barod i'w ryddhau, yn hytrach na phan gafodd ei ryddhau mewn gwirionedd.
Rwy'n falch o ddweud, heddiw, yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Nyrsio'r Frenhines, fod nyrsys Betsi Cadwaladr yn cyflwyno'r gwaith y maent yn ei wneud i fyny yn Betsi Cadwaladr ar sut y mae amlygrwydd eu data gwasanaethau cymunedol yn trawsnewid darparu gofal. Felly, da iawn i dîm Betsi Cadwaladr. Ac yfory, mae Paul Labourne yn siarad, sef rhywun rwy'n talu llawer o sylw iddo oherwydd mai ef yw ein swyddog nyrsio integreiddio ac arloesedd ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol yn Llywodraeth Cymru. Mae'n bwysig iawn ein bod yn deall bod y ffordd y cyflwynwn y systemau llwyth achos electronig hyn hefyd yn cael ei ddefnyddio i brofi a allwn ni nodi lefelau gofal ar gyfer pob claf unigol yr ymwelwyd â hwy ar y system hon. Mae'n debyg nad yw hyn erioed wedi cael ei wneud o'r blaen, ac felly gallai wella'n fawr ein dealltwriaeth wirioneddol o'r hyn sydd ei angen ar bobl yn y gymuned. Felly, da iawn chi, Weinidog.
Newyddion da hefyd yw bod hyd at dri awdurdod lleol sydd bellach wedi dechrau defnyddio'r un system gyda'u gwasanaethau gofal cartref yn cyfyngu ar ddyblygu gwaith, gan alluogi ymweliadau mwy cydgysylltiedig â nyrsys ardal cymdogaeth—hŵre—
Jenny, mae angen i chi ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
—yn ogystal â rhoi'r gweithlu, y cynhyrchiant a'r arbedion effeithlonrwydd y gall systemau o'r fath eu cyflawni ac y dylent eu cyflawni i'r gwasanaethau hynny. Bydd hyn yn gwneud y swydd yn llawer mwy diddorol gyda llai o straen ac felly bydd yn effeithio'n gadarnhaol ar ein systemau cadw staff. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed yn union pryd y byddwn yn ei gael drwy Gymru gyfan.
A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad ac am y ddadl heddiw? Rhaid imi ddweud bod llawer o argymhellion a dadansoddiadau da o'i fewn, gan ganolbwyntio'n enwedig ar faterion rhyddhau cleifion a sut yr ymdriniwn â hynny. Rwy'n credu ei fod hefyd yn cydnabod bod hyn yn eithriadol o heriol, yn hynod gymhleth ac nad oes un newid syml a all ddatrys hyn. Mae angen inni wneud amrywiaeth o bethau.
Weinidog, yn fy sylwadau agoriadol rwyf am fyfyrio ar y ffaith bod y GIG, y staff o fewn y GIG, o'r clinigwyr a'r nyrsys i'r bobl sy'n glanhau'r theatrau llawdriniaethau ac yn eu paratoi a'r porthorion, yn gwneud gwyrthiau bob dydd, ac rwy'n cael gwybod hynny gan fy etholwyr hefyd. Felly, er bod pwysau aruthrol, pwysau digynsail mae'n debyg, ar y system ac nad yn y gaeaf yn unig, fel yr oeddech chi'n ei ddweud, y mae'n digwydd mwyach, ond bob diwrnod o'r flwyddyn, a bod y gofynion yn cynyddu ynghylch yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y GIG yn ogystal â'r heriau y mae'n eu hwynebu wedi'r pandemig a'r pwysau costau arno, mae'n perfformio gwyrthiau, ac rwy'n gwybod hynny. Bu farw fy nau riant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac roedd y driniaeth a gawsant a'r gofal a gawsant dros y blynyddoedd, mewn lleoliadau acíwt a phan aethant i mewn i'r ysbyty ar y diwedd heb ddod yn ôl allan, yn gwbl anhygoel, ac rwy'n herio unrhyw le yn y byd i roi'r gofal a gawsant a'r tosturi a'r driniaeth a gawsant.
Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar rywbeth y bûm yn myfyrio arno ar ôl i mi ymweld â'r ysbyty y mae Sarah a minnau yn ei rannu, Ysbyty Tywysoges Cymru, yn ddiweddar. Fe wneuthum gyfarfod a siarad yn fanwl ac yn hir iawn gyda staff y gwasanaethau brys yn yr adran damweiniau ac achosion brys ac yn ehangach. Soniais fy mod bob amser wedi gwybod bod yr uned damweiniau ac achosion brys honno wedi cael ei chanmol o bryd i'w gilydd am y dull ymarfer gorau sydd ganddi o ymdrin â chleifion, drwy nodi'r broblem wrth ddod oddi ar yr ambiwlans a'u cael i mewn i'r ysbyty, ac yn y blaen. Mae wedi bod yn arloeswr dros nifer o flynyddoedd. Ac maent yn dal i wneud yr hyn y credant sy'n ymarfer gorau, ond y ffaith syml amdani yw—. Roedd eu dadansoddiad yn ddiddorol, oherwydd teimlant eu bod bellach wedi cael eu dal mewn sefyllfa lle na allant ddarparu gofal o'r safon sydd ei hangen, ac nid yw'n ymwneud â'r hyn a welwch ym mhen blaen yr ysbyty, ond yn hytrach yr hyn a welwch yn y cefn; sef rhyddhau cleifion.
Roeddent yn gweld y ffaith bod gennych ambiwlansys yn ciwio fel symptomau; roeddent yn gweld y ffaith bod gennych bobl gorfod aros yn rhy hir mewn adrannau gwasanaethau brys fel symptomau, yn eistedd mewn cadeiriau pan ddylent fod mewn gwelyau, yn gorwedd mewn gwelyau pan ddylent fod ar ward, ac yn y blaen, a phan fyddant yn cyrraedd y ward, yn gorfod aros ar y ward honno'n rhy hir a methu gadael yr ysbyty oherwydd problemau gyda rhyddhau. Maent yn gweld pobl, fel sydd wedi cael ei nodi yn y ddadl hon yn barod, yn dod yno—nid pobl sy'n dod yno am resymau ofer, gwirion o fewn y gwasanaethau brys yw'r rhain; maent fel arfer yn llawer hŷn, maent fel arfer yn llawer salach erbyn iddynt gyrraedd. Felly, nid pobl y gallwch eu troi ymaith.
Roedd Luke yno gyda mi ar yr ymweliad hwn; clywsom hyn wyneb yn wyneb gan staff rheng flaen yno. Ni allant eu cael ar y wardiau, ni allant eu symud allan o'r gwasanaethau brys, ac ni allant eu symud wedyn o'r ysbyty i ofal cofleidiol da yn eu cartrefi—er gwaethaf, gyda llaw, yr hyn yr oedd Jenny yn cyfeirio atynt fel arferion da iawn yng Nghwm Taf ac yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r gofal cofleidiol a gwasanaeth nyrsio a ddarparerir; er gwaethaf gwasanaeth Gofal a Thrwsio gwych—byddwn i'n dweud y gorau yng Nghymru—sydd ag ôl-groniad mor hir â'ch braich. Felly, mae pob rhan o'r peth y dibynnwn arno ar gyfer rhyddhau cleifion adref yn gwegian.
Yn y cyfamser, fel yr oedd Sarah yn gywir i ddweud, rydym o dan y capasiti yn sylweddol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gyda gofal cam-i-lawr. Felly, rwyf am ddweud wrthych, Weinidog, ynghylch y mater a godais ar y llawr ddoe am hen Ysbyty Cymunedol Maesteg—annwyl iawn, a gwerthfawr iawn—dyma gyfle yma, yn rhyfedd iawn, y gallai honno fod yn un o'r rolau y mae ysbyty Maesteg yn eu darparu yn y dyfodol. Ond mae angen inni ddod o hyd i fwy o gapasiti eto yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn bendant mae yna faterion sy'n galw am ein sylw er mwyn chwalu'r pethau cyllido sy'n dal i aros ar ôl yr holl flynyddoedd rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Rydym wedi eistedd gyda hwy—rwyf fi wedi eistedd gyda hwy—ac wedi dweud wrthynt, 'Rydym yn gwybod beth yw'r broblem yma gyda diffyg capasiti i allu symud cleifion allan. Rhowch eich pennau at ei gilydd, rhowch eich cyllid at ei gilydd a phenderfynwch sut yr ydych am ei wneud, a symudwch ymlaen.' Rwy'n gwybod eu bod yn ceisio ei wneud, Weinidog, ond rwy'n dyfalu bod yr her honno'n cael ei hailadrodd ar draws Cymru gyfan.
Mae'r pwynt ar lefelau cyflog gofal cymdeithasol yn bwynt sydd wedi'i wneud yn dda iawn, ac rydym wedi cydnabod hyn ers amser maith. Mae'n dda ein bod wedi symud i'r cyflog byw go iawn yn y gwasanaeth iechyd ac yn y blaen, a'n bod wedi ceisio proffesiynoli'r system gofal cymdeithasol ac yn y blaen, ond yn syml, byddwn yn dweud nad yr ateb i hyn yw gweld beth arall y gallwn ei ddweud wrth y Gweinidog sy'n eistedd yno mewn gwirionedd—cymryd gan y gwasanaeth iechyd mewn rhyw faes i'w roi i weithwyr gofal cymdeithasol yma neu beth bynnag. Rwyf am i Weinidogion Cymru wneud beth bynnag a allant, ond mae angen i hyn fod yn gynnydd i'r DU gyfan. Mae angen i hyn ddigwydd ar draws y DU, oherwydd fe wyddom, o ran yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei roi yn setliad gofal cymdeithasol, o ran y cynnydd hwnnw, gallwn efelychu hynny yma.
Mae fy amser wedi dod i ben. Ceir problemau sylweddol, gyda staff yn ceisio gwneud eu gorau glas i gyflawni arferion gorau a gofal tosturiol, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw eu bod wedi dweud wrthym, 'Rydym ar y pwynt yn awr lle rydym yn poeni pan ddown i mewn, oherwydd rydym yn ceisio gwneud ein swyddi ac ni allwn eu gwneud.' Nid wrth y drws blaen y mae'r broblem, ond wrth y drws cefn. Sut y gallwn ddatrys hynny, Weinidog? Pa mor gyflym y gallwn ni ddatrys hynny?
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Rwy'n croesawu'r adroddiad, a hoffwn ganmol y pwyllgor ar ei ddull trylwyr iawn o ymdrin â'r adolygiad. Mae'r adroddiad yn archwilio sbectrwm eang o bethau sy'n gallu effeithio ar lif cleifion drwy ein hysbytai, ac yn y pen draw ymlaen at ryddhau ac adferiad. Yr hyn a glywsom heddiw yw pa mor gymhleth yw'r sefyllfa. Mae'n rhaid iddo fod yn ddull system gyfan, oherwydd oni bai ein bod yn ei wneud fel system gyfan, bydd rhyw ran yn creu tagfa mewn rhan arall. Bydd yr argymhellion a wnaethoch yn werthfawr i helpu i ddarparu chyfeiriad a ffocws pellach wrth inni fynd i'r afael â gwelliannau yn y maes hwn. Rydym wedi darparu ein hymateb ffurfiol i'r adroddiad. Rwy'n croesawu'r sylwadau a ddarparwyd heddiw gan yr Aelodau, ac roeddwn am ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at nifer o fesurau allweddol yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy i gefnogi'r gwaith o reoli llif cleifion a rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn amserol.
Nawr, er mwyn gwneud gwelliannau i'n systemau, rhaid inni edrych nid yn unig ar lif cleifion a rhyddhau cleifion, ond hefyd ar ymatebion cymunedol a gwasanaethau osgoi derbyniadau i'r ysbyty. Felly, fel yr awgrymoch chi yno, nid ar ben draw'r system y mae'r broblem, ond 'Sut yr awn ati i'w hatal rhag dod i mewn yn y lle cyntaf?' hefyd. Yr ataliol, felly, eto, mae hynny'n gymhlethdod ychwanegol, ond rydym yn rhoi llawer iawn o adnoddau ac yn gweithio ar y mesurau atal hynny hefyd. Mae gennym waith ar y gweill yn canolbwyntio ar ragweld gofal a chefnogi pobl yn agosach at adref, ble bynnag y gallai hynny fod, ac rydym yn chwilio am yr ymateb clinigol gorau ar eu cyfer.
Mae rhan o'r strategaeth atal honno o fewn ein chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng, ac mae honno'n rhaglen gofal sylfaenol strategol, felly mae'n dod â gofal cynradd, eilaidd ac ambiwlans a'r rheini i gyd i mewn. Mae hyn i gyd yn cael ei ddatblygu gan glinigwyr ac maent wedi dweud wrthym, 'Dyma fydd yn gweithio'. Felly, mae gennym chwe nod. Mae llawer ohono'n ymwneud ag atal, mae llawer ohono'n ymwneud â, 'Pa mor gyflym y gallwch chi gael pobl allan? O ble mae'r llif yn dod?' Rwy'n disgwyl i bob gwasanaeth ddefnyddio'r egwyddor gartref yn gyntaf a chadw at y llwybr rhyddhau i adfer yna asesu. Felly, rydym yn gwybod ei bod hi'n well gwneud asesiad yng nghartref rhywun yn hytrach nag mewn gwely ysbyty. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n gwthio arno, ac o'r herwydd, i mi, mae'n rhaid gwneud yr ailalluogi yn y cartref, felly mae cael y therapyddion galwedigaethol yn ôl allan i'r gymuned yn bwysig iawn.
Mae'n bwysig hefyd ein bod yn darparu gofal brys un diwrnod ac yn cynorthwyo pobl i ddychwelyd adref heb eu derbyn i'r ysbyty. Dylid gosod dyddiadau amcangyfrifedig ar gyfer rhyddhau yn gynnar a'u cyfathrebu fel bod yr holl dimau, yn yr ysbyty ac yn y gymuned, yn gwybod beth sy'n cael ei gynllunio, ac yna mae dyrannu'r rhyddhau i adfer cywir yn bwysig iawn, ac i sicrhau bod gennym lai o ddiwrnodau pan fydd rhywun yn yr ysbyty.
Gareth, fe wnaethoch chi sôn y dylem gynllunio ar gyfer y gaeaf. Gallaf eich sicrhau ein bod wedi bod yn cynllunio ar gyfer y gaeaf ers mis Ebrill. Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn. Bellach mae wedi'i ymgorffori yn ein strwythur blynyddol. Fe gyflwynwyd £25 miliwn gennym ar ddechrau'r broses, oherwydd os dechreuwch recriwtio ym mis Medi, fe wyddom ei bod yn rhy hwyr, mae'n rhaid ichi hyfforddi pobl. Felly, cawsom ymgyrch enfawr dros yr haf i recriwtio pobl i'r gwasanaeth gofal, i ailalluogi, oherwydd, mewn gwirionedd, roedd eu hangen arnom yn barod ar gyfer yr hydref. Felly, mae hyn i gyd yn cael ei baratoi, yr arian—fel arfer, yr hyn a wnawn yw rhoi talp o arian yn awr, ond mae'n rhy hwyr, ac mae pawb wedi gofyn i ni. Felly, rydym yn gwneud hynny'n barod.
Yn ogystal â chyflwyno prosesau llwybr diwygiedig—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad gan Altaf Hussain?
Wrth gwrs.
Diolch, Weinidog iechyd. A yw'n cynnwys ward arsylwi o 30 neu 50 o welyau ynghlwm wrth bob adran damweiniau ac achosion brys ac ysbyty dosbarth cyffredinol? Gallech ddefnyddio'r ward honno ar gyfer y cleifion ychwanegol hyn sy'n barod i'w rhyddhau, ond nad ydynt yn mynd adref.
Altaf, fe fyddwch yn deall nad seilwaith yw'r her go iawn mewn gwirionedd, ond staffio. Felly, dyna'r broblem, ac fe wyddom fod y broblem staffio'n rhywbeth sy'n heriol ym mhobman, ond yn enwedig gofal cymdeithasol. Felly, rydym eisiau i bobl fynd adref, rydym eisiau'r gefnogaeth yn y gymuned, ac rydym yn cael anhawster recriwtio. Rwy'n credu ein bod i gyd yn derbyn mai rhan o'r broblem recriwtio yw bod angen talu mwy i ofalwyr.
Gareth, rwy'n mynd i ddweud hyn yn garedig heddiw, ond rwy'n mynd i'ch rhybuddio bod y sŵn yn mynd i gynyddu bob tro y dywedwch wrthym am wario arian, oherwydd byddem wrth ein boddau'n talu mwy i ofalwyr. Ond mewn gwirionedd, mae eich Llywodraeth newydd wneud hyn gryn dipyn yn anoddach—yn llawer iawn anoddach. Mae honno'n mynd i fod yn broblem fawr i ni, a hynny ar ben—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Fe dderbyniaf ymyriad.
Diolch am hynny. Roeddwn i'n siarad am fwy na gofalwyr, roeddwn i'n siarad am gyflogau staff gofal cymdeithasol, sy'n bethau hollol wahanol. Ac rwy'n deall y cymhlethdodau mewn gofal cymdeithasol o'i gymharu â gofal iechyd, oherwydd daw 99.9 y cant o wasanaethau gofal iechyd o fewn y GIG, ond mewn gofal cymdeithasol, mae'n dameidiog ac mae'n cynnwys y sector cyhoeddus, awdurdodau lleol a'r sector preifat. Ac rwy'n deall yr heriau hynny, ond rwy'n credu os gallwn weithio i sicrhau parch cydradd rhwng cyflogau staff iechyd a staff gofal cymdeithasol, rwy'n credu y gallwn fod yn esiampl ddisglair i weddill Ewrop, a'r byd yn wir.
Gareth, byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny, dyna yw ein huchelgais ni fel Llywodraeth, mae yn ein maniffesto ni, dyna beth yr ydym yn awyddus i'w weld, ond mae eich Llywodraeth chi newydd wneud hynny'n llawer iawn anoddach. Rydym newydd gael bil o £207 miliwn ar gyfer ynni nad oeddem yn ei ddisgwyl, a chawsom dipyn bach o ad-daliad gan Lywodraeth y DU—£100 miliwn efallai—ond mae hynny'n gadael bwlch o £100 miliwn y mae'n rhaid i mi ddod o hyd iddo o rywle. Felly, mae honno'n broblem, ac mae'n mynd i fod yn broblem y flwyddyn nesaf. Rydym yn penderfynu fel Llywodraeth lle mae'r arian hwnnw'n mynd. Ac rydym yn gwario tua 33 y cant yn fwy ar ofal cymdeithasol yng Nghymru nag a wnânt yn Lloegr yn barod, felly byddai'n gas gennyf ddychmygu ym mha gyflwr y mae'r system ofal yn Lloegr os ydynt yn gwario 33 y cant yn llai na ni. Huw, roeddech chi'n sôn bod rhaid inni roi'r cyllid hwn at ei gilydd—rydym wedi gwneud hynny. Rydym yn rhoi £144 miliwn lle rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol a byrddau iechyd benderfynu gyda'i gilydd sut y maent yn mynd i wario'r arian hwnnw, ac mae'r cyfan yn y gofod hwn, mae'r cyfan yn y gofod hwn sy'n ymwneud â sut yr awn i'r afael â'r bil oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae un neu ddau o faterion eraill yno hefyd—iechyd meddwl a beth bynnag—ond mae llawer iawn ohono'n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo gofal.
Nod y cynllun capasiti gofal cymunedol yr ydym wedi dechrau arno yn awr yw darparu capasiti ychwanegol yn y system o fis Hydref eleni tan fis Ebrill 2023. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y buom yn gweithio arno dros yr haf cyfan, a'r amcan yw creu gwelyau ychwanegol cam i lawr er mwyn adfer a darpariaeth gyfatebol yn y gymuned, ochr yn ochr â rhoi mesurau ychwanegol ar waith i hybu'r gweithlu gofal cymunedol. Ac mae'r ymdrech fawr ar gyfer y gaeaf hwn yn ategu ac yn gyson â'r rhaglen waith gofal brys ac argyfwng, ac rwy'n edrych ymlaen at roi mwy o fanylion i chi am hynny, oherwydd rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar baratoi ar gyfer adeiladu capasiti cymunedol ychwanegol dros y gaeaf. Felly, mae capasiti o fewn gofal cymdeithasol yn faes yr ydym yn canolbwyntio arno'n bendant iawn. Rydym yn ymwybodol fod diffyg niferoedd digonol o staff gofal cymdeithasol yn effeithio ar ryddhau cleifion, ac mae gennym nifer o gamau i ymdrin â hyn. Yn ogystal, mae pob rhanbarth wedi datblygu cynllun i gynyddu ei gapasiti gofal cymdeithasol cymunedol ac yn cydlynu ymgyrchoedd recriwtio ar lefel leol a rhanbarthol.
Nawr, siaradodd un neu ddau o bobl am yr angen am systemau—systemau digidol—i weithio gyda'i gilydd, a'r hyn sydd gennym yn awr yw system wybodaeth gofal cymunedol Cymru. Rydym eisoes wedi gwario £30 miliwn arni, ac rydym yn bwriadu gwario £12 miliwn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf. Ac mae hyn yn mynd i integreiddio gwasanaethau cymdeithasol a data iechyd cymunedol, fel y gallant rannu cofnodion electronig ar gyfer iechyd a gofal, er mwyn inni allu cael y systemau i siarad â'i gilydd. Rhaid inni fod yn fodern yma; mae hyn yn mynd i'n helpu i fod yn fodern, ac mae hyn yn mynd i wneud rhai o'r materion yr oedd llawer ohonoch chi'n siarad amdanynt, a chael data—pam fod pobl yn methu cael eu rhyddhau a beth sy'n eu hatal? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith gyda llywodraeth leol i nodi'n union pam nad yw pobl yn symud yn y system. Ai oherwydd nad yw eu meddyginiaethau wedi cyrraedd? Ai oherwydd nad oes ganddynt gludiant adref? Ai am nad oes neb i ofalu amdanynt pan fyddant yn cyrraedd adref? Felly, yr holl bethau hynny, rydym wedi dadansoddi'r cyfan ac rydym yn ei godio ac rydym yn sicrhau ein bod yn gwybod pam fod pobl yn methu cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
Weinidog, mae angen i chi ddod i ben yn awr.
Diolch. Rhun, fe wnaethoch chi ofyn am welyau ysbytai. Wel, mae gennym gryn dipyn yn fwy o welyau ysbyty yng Nghymru, yn ôl Ymddiriedolaeth Nuffield, nag sydd ganddynt yn Lloegr. Mae 270 o welyau i bob 100,000 yng Nghymru; 170 gwely i bob 100,000 yn Lloegr. Ond rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn bwrw iddi gydag ailalluogi fel y nodoch chi. Mae'n ymwneud â mwy na gwelyau ysbyty, mae'n ymwneud â sut y mae eu cael allan o welyau ysbyty ac i'r gymuned.
Nawr, mae gennym adroddiad gan y grŵp arbenigol ar ofal, ac mae hwnnw'n mynd i gael ei gyhoeddi'n fuan. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud, mae'n debyg, beth bynnag oedd yr uchelgeisiau, y gallem gael ein cyfyngu gan ein cyfyngiadau ariannol yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni ddeall hynny, beth bynnag oedd y sefyllfa cyn yr haf, mae wedi newid yn sylweddol. Mae fy nghyd-Aelod Julie Morgan wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hyn hefyd. Rwy'n meddwl bod hynny'n ddigon gennyf fi, Gadeirydd.
Bûm yn hael iawn, Weinidog.
Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Russell George, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl.
Diolch. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a diolch yn arbennig—rwy'n credu i Gareth Davies wneud pwynt yn ei gyfraniad o ddiolch i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil ehangach sy'n cefnogi gwaith ein pwyllgor, felly hoffwn gofnodi hynny gennyf fi hefyd.
Rwy'n credu mai Rhun a Sarah a ddywedodd fod angen gwelyau cam-i-lawr, a gwnaeth Sarah, rwy'n credu, y pwynt fod angen dyrannu arian ar gyfer gwelyau cam-i-lawr yn deg ar draws y byrddau iechyd. Cyfeiriodd y Gweinidog at hynny yn ei chyfraniad, ac rwy'n croesawu peth o'r cyfraniad a wnaeth y Gweinidog ar adeiladu mwy o gapasiti cymunedol. Hefyd, credaf i Rhun yn ei sylwadau agoriadol, sôn am bwysigrwydd ystyried llif cleifion. Rwy'n credu bod angen inni edrych arno yn ei gyfanrwydd, ac archwilio ble mae'r rhwystrau, a chael gwared ar, a mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau hynny wrth gwrs.
Soniodd Joyce yn ei chyfraniad pam fod y pwyllgor efallai wedi canolbwyntio ar ryddhau cleifion o'r ysbyty. Cawsom dipyn o drafodaeth am hyn yn y pwyllgor: materion hirsefydlog, capasiti gofal cymdeithasol, integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, yr argyfwng yr ydym ynddo gyda'r gweithlu. Ac fe wnaeth Joyce dynnu sylw, wrth gwrs, at drafferthion gofalwyr di-dâl hefyd, a rhai o'r heriau sy'n eu hwynebu yn awr. Fe wnaeth Joyce hefyd nodi bod angen inni wybod mwy ynglŷn â pham fod pobl yn gadael y proffesiwn gofal cymdeithasol. Rwy'n meddwl ein bod yn gwybod hynny i ryw raddau, ond rwy'n meddwl bod mwy y gallwn ei wneud i ddeall pam fod hynny'n digwydd.
Soniodd llawer o'r Aelodau am y gwelyau hynny—. Soniais yn fy sylwadau agoriadol am yr ambiwlansys sy'n ciwio y tu allan i ysbytai. Rwy'n credu mai Huw a soniodd—ac roedd yn ymadrodd da—am ambiwlansys yn ciwio fel symptom o lif cleifion. Felly, wrth i mi grybwyll hynny, ac rydym i gyd yn ymwybodol o'r ambiwlansys sy'n aros y tu allan i ysbytai, ni all cleifion a phobl sydd angen y gwelyau fynd i mewn yno, mae yna ochr arall i hyn hefyd, y cyfeiriodd Joyce a Jenny ati, ynglŷn ag iechyd pobl yn dirywio pan fyddant mewn gwelyau ysbyty, a phan fydd angen iddynt fynd adref er lles eu hiechyd eu hunain hefyd, ond o ran rhwystredigaethau pobl yn y gwelyau hynny sy'n methu mynd adref. Soniodd Jenny am un o'i hetholwyr fel enghraifft, ond efallai nad oes gan bob un o'r rheini sgiliau i ddadlau dros gael mynd adref, sef y pwynt a wnaeth Jenny, rwy'n credu.
Fe wnaeth nifer y pwynt hefyd ynglŷn â'r angen i bobl fynd adref cyn gynted â phosibl, ond eto, wrth gwrs, gwyddom fod hyn wedyn yn cysylltu â rhai o'r problemau sydd gennym gyda lefelau staff gofal. Soniodd Gareth, yn bwysig, am y materion sy'n ymwneud â data. Mae hyn yn rhan o'r adroddiad, a rhai o'r materion y gwnaethom argymhellion yn eu cylch. Ond roedd hefyd yn sôn am y cyflog a'r amodau gwaith hefyd. Ond yn bwysig, mae angen inni wneud y proffesiwn yn fwy deniadol, onid oes? A thynnu sylw yn ogystal at y pwysau gwaeth a fydd gennym y gaeaf hwn.
Diolch i Sarah am dynnu sylw, yn gwbl briodol, at y ganmoliaeth i sefydliadau fel y Groes Goch ac Age Concern. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn ei hymateb hithau a Huw wedi siarad am y materion cymhleth, a hefyd galwadau cynyddol a disgwyliadau cynyddol hefyd, a bod angen dull system gyfan, y cyfeiriodd Huw a'r Gweinidog ill dau ato.
O ran ymateb y Gweinidog, soniodd y Gweinidog am yr angen i bobl fynd adref yn gyflym hefyd, ond wrth gwrs, ni all pobl fynd adref os nad yw'r gwasanaethau ar gael i'w cefnogi. Rwy'n croesawu'n fawr, yn enwedig fel Aelod dros etholaeth wledig, y drafodaeth gan y Gweinidog ynghylch cael gwasanaethau mor agos at adref â phosibl. Rwy'n croesawu hynny'n fawr o safbwynt gwledig.
Mae gwir angen recriwtio, ac ymgyrch recriwtio, a soniodd y Gweinidog am hynny yn ei sylwadau i gloi, a'r ymgyrch enfawr sydd y tu ôl i hynny. Ond yr hyn y byddwn i wedi hoffi gwybod ychydig mwy amdano yw pa mor llwyddiannus y bu'r ymgyrch honno, ac a fu'r ymgyrch honno'n effeithiol. Rwy'n meddwl y byddai wedi bod yn dda gwybod ychydig bach mwy am hynny. Ond rwy'n hapus fod y Gweinidog wedi sôn am rai o'r problemau integreiddio y soniais amdanynt ar y dechrau, gyda GDPR a systemau eraill yn gweithio gyda'i gilydd. Yn fy sylwadau agoriadol, soniais am beiriannau ffacs nid yn unig yn dal i gael eu defnyddio ond yn dal i gael eu prynu yn y GIG. Mae'n dda gweld y gwelliannau ar integreiddio systemau'n gwneud cynnydd da, ac yn amlwg fel pwyllgor byddwn yn cadw llygad hynod o agos ar hynny. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 7 sydd nesaf—dadl Plaid Cymru, y sector rhentu preifat. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8091 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rhenti cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ymhellach.
2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.
3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.
4. Yn nodi bod diffyg darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.
5. Yn credu bod yn rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau brys i:
a) rhewi rhenti yn y sector rhentu preifat;
b) gosod moratoriwm ar droi pobl allan.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar y cychwyn, dwi am ddatgan diddordeb sydd ar y cofnod cyhoeddus.
Felly, nôl ym mis Ionawr, fe gyflwynais gynnig ar reoli rhenti yn y Siambr. Yn ôl y disgwyl, pleidleisiodd y Ceidwadwyr yn ei erbyn, tra bod y Blaid Lafur wedi ymatal, yn bennaf oherwydd addewid fod y Llywodraeth wedi comisiynu papur i edrych ar y syniad a fyddai'n bwydo i mewn i'r Papur Gwyn ar dai. Ond mae'r Papur Gwyn yn parhau i fod beth amser i ffwrdd, tra bod y cynnig hwn yn ymgais i ymateb i argyfwng uniongyrchol.
Felly, mae'r Senedd hon eisoes wedi derbyn yr egwyddor fod angen inni weld ymyrraeth yn y farchnad rentu er mwyn diogelu tenantiaid, gyda llawer ohonynt ymhlith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Yn groes i synau gan y Torïaid gyferbyn, sy'n credu mewn cronni cyfoeth ac sy'n honni bod y cynnig hwn yn wrth-landlordiaid, mae'r cynnig hwn sydd o'n blaenau heddiw, os yw'n wrth-unrhyw beth, yn wrth-ddigartrefedd ac o blaid sicrhau bod gan bawb do uwch eu pennau. Oherwydd yma heddiw mae gennym gynnig i wneud rhywbeth o leiaf i helpu llawer o'r rhai sydd dan fygythiad o fynd yn ddigartrefedd y gaeaf hwn, yn hytrach na gwneud dim. Dim ond cam dros dro yw rhewi rhenti, fel y mae'r enw'n awgrymu, i fynd i'r afael ag argyfwng uniongyrchol. Mae'r un peth yn wir am waharddiad ar droi pobl allan o'u cartrefi yn debyg i'r camau a gymerwyd gan y Llywodraeth hon pan oedd y pandemig COVID ar ei anterth. Nawr, rwy'n deall y pryderon am ganlyniadau anfwriadol cymryd y camau hyn. Mae yna bryderon y bydd rhenti'n cynyddu'n sylweddol ar ddiwedd y cyfnod, ac y bydd pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref. Rwy'n deall y pryderon hynny. Ond mae canlyniadau i wneud dim, sef y bydd llawer o bobl yn cael eu gwneud yn ddigartref y gaeaf hwn oherwydd eu hanallu i dalu eu rhenti. Mae'n dilyn yn rhesymegol, felly, fod gwybod y bydd pobl yn mynd yn ddigartref yn ganlyniad cwbl fwriadol i wneud dim.
Ddydd Llun diwethaf fe wnaethom nodi Diwrnod Digartrefedd y Byd, a bu'r Gweinidog yn torri rhubanau i agor adeilad Crisis Skylight yn Abertawe, a fydd yn helpu pobl sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref. Wel, mae'n ddrwg gennyf ddweud bod perygl real iawn y bydd y ganolfan honno'n cael ei boddi dros y misoedd nesaf gan denantiaid a fydd wedi cael eu troi allan am nad ydynt yn gallu fforddio'r rhenti ar eu cartrefi. Rydym ynghanol argyfwng tai ac un o'r argyfyngau costau byw gwaethaf mewn cof. Fel pob argyfwng ariannol yn yr oes fodern, mae gwreiddiau'r argyfwng hwn ym maes tai hefyd. Yn achos rhentwyr preifat, y cyfan a wnânt yw gweithio'n galed—mwy nag un swydd weithiau—er mwyn trosglwyddo eu harian prin i landlord preifat.
Nawr, bydd y Torïaid yn dadlau bod yr argyfwng tai yn ganlyniad i brinder cyflenwad. Mae hynny'n gywir, hyd at bwynt. Mae yna ddiffyg cronig o dai cymdeithasol, canlyniad degawdau o danfuddsoddi. Ond mae'n ymddangos nad yw'r Torïaid yn deall eironi'r ddadl hon, oherwydd mae'n llwyr danseilio'r elfen fwyaf sylfaenol yn nogma'r farchnad agored y maent yn credu mor daer ynddi, sef cyflenwad a galw. Mae digon o alw ond mae'r ochr gyflenwi yn methu'n druenus. Yn union fel economeg o'r brig i lawr, nid yw cyflenwad a galw'n gweithio, ac mae'n un o fytholegau'r farchnad rydd. Mae'r prinder tai'n golygu bod cystadleuaeth ffyrnig am dai, gyda landlordiaid yn gallu cynyddu rhenti gan wybod bod pobl mewn sefyllfa enbyd.
Nawr, nid yw hyn yn wir am bob landlord, o bell ffordd. Ond ystyriwch y dyfyniad hwn o erthygl gan Rebecca Wilks ar gyfer Voice.Wales yr wythnos hon, ar ôl iddi fynychu digwyddiad ar gyfer buddsoddwyr eiddo Caerdydd yr wythnos diwethaf. Dywedodd hyn:
'cynghorodd y siaradwr Adam Jones landlordiaid i gyhoeddi "codiadau rhent llai yn rheolaidd" yn lle codiadau mawr, mwy ysbeidiol'.
Tactegau fel hyn sydd wedi arwain at sicrhau mai gan Gymru y mae'r codiadau rhent mwyaf yn unrhyw le yn y DU, oni bai am Lundain. Mewn rhai achosion, clywn am renti'n dyblu a theuluoedd yn ofidus iawn.
Nawr, clywn fod landlordiaid preifat yn gadael y sector gyda honiadau fod baich ychwanegol rheoliadau'n gwneud pethau'n anodd iddynt. Anwybyddwch yr honiadau hynny. Yn gyntaf, mae'r rheoliadau yno i ddiogelu lles tenantiaid. Yr hyn a welwn yw perchnogion eiddo'n elwa ar brisiau eiddo chwyddedig, ac mewn rhai achosion, yn elwa ar ôl manteisio ar arian y Llywodraeth i wneud eu heiddo'n fwy addas a gweddus i fyw ynddynt i denantiaid, drwy eu gwerthu am elw neu eu rhoi ar Airbnb. Felly, unwaith eto, yr hyn a welwn yw arian cyhoeddus yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol i gyfrifon banc preifat. Gallwch weld bod rhywbeth yn bwdr yn y system hon. Felly, mae gennym brinder eiddo sydd ar gael, sy'n ychwanegu at y broblem ac yn arwain at godiadau rhent enfawr mewn rhai achosion.
Yng Nghymru, mae rhenti ar gyfartaledd wedi cynyddu dros 15 y cant o un flwyddyn i'r llall. Mae hyn yn llawer mwy na chwyddiant, ac ni ellir ei gyfiawnhau. Ddwy flynedd yn ôl, roedd llawer o rentwyr preifat yn gwario dros draean o'u hincwm ar renti, ac yma yng Nghaerdydd roedd tenantiaid yn gwario'n agosach at 40 y cant o'u cyflogau ar renti. Roedd hyn ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny, rydym wedi gweld cynnydd dau ddigid yn y rhenti.
Mae ein hawdurdodau lleol eisoes yn cael nifer o bobl yn dod atynt yn ddigartref ac angen llety dros dro. Nid oes ganddynt gapasiti i ymdrin â rhagor, ond dyna'r sefyllfa sy'n eu hwynebu y gaeaf hwn. Mae miliynau lawer o bunnoedd yn cael ei wario ar gynorthwyo pobl sy'n mynd i'r sefyllfa hon, sydd angen llety dros dro neu sy'n ddigartref, ac mae cyllidebau'r cyngor wedi'u disbyddu'n llwyr. Trwy wneud dim a gadael i bobl fynd yn ddigartref, bydd rhaid i'r Llywodraeth hon ddod o hyd i fwy o arian i'w roi i gynghorau i ymdopi â'r cynnydd yn nifer y digartref.
Ddoe, fe wnaeth y Prif Weinidog herio fy nghyd-Aelod Adam Price i ddod o hyd i'r arian i dalu am godiadau cyflogau nyrsys. Wel, caiff yr her ei thaflu'n ôl atoch chi. A allwch chi ddweud wrthym o ble y daw'r arian i ariannu'r cynnydd enfawr yng nghostau digartrefedd a fydd yn deillio o ddiffyg gweithredu? Mesur dros dro yw rhewi rhenti. Gellid ei weithredu ar unwaith i bara dros gyfnod yr argyfwng costau byw hwn y mae economegwyr yn disgwyl y bydd yn para am oddeutu dwy flynedd. Gellid ei adolygu bob chwe mis. Fe allech chi gyflwyno cap rhent yn syth wedyn er mwyn osgoi'r ofn y bydd rhai landlordiaid yn codi eu rhenti'n aruthrol.
Mae'r rhain yn gamau sy'n gyffredin i lawer o wledydd eraill. Yn Ffrainc, mae codiadau rhent wedi'u capio ar 3.5 y cant am flwyddyn fel rhan o becyn y Llywodraeth ar yr argyfwng costau byw. Yn Nenmarc, mae rhenti wedi cael eu datgysylltu dros dro o'r mynegai prisiau defnyddwyr, a chynnydd wedi'i gapio ar 4 y cant dros ddwy flynedd. Mae cyfyngiadau ar eiddo rhent wedi'u gosod ym Mharis a Lyon, ac mae cyfyngiadau ar gynnydd rhent ledled y dalaith wedi'u cyflwyno yng Nghaliffornia ers mis Ionawr 2020, ac maent i barhau mewn grym tan 2031. Yn Berlin, cafodd rhenti eu rhewi am bum mlynedd, gan ddechrau ym mis Chwefror 2020, ac mae Iwerddon yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad ar droi allan y gaeaf hwn.
Mae'r senedd ranbarthol ym Mrwsel wedi datblygu cynllun arloesol lle maent yn cysylltu codiadau rhent ag effeithlonrwydd ynni eiddo, felly ni chaniateir i dai nad ydynt yn defnyddio ynni'n effeithlon i godi eu rhenti o gwbl, pan fo gan 30 y cant o dai ym Mrwsel lefelau effeithlonrwydd ynni gwael iawn, a bydd hyn yn helpu'r argyfwng costau byw ac yn ysgogi landlordiaid i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo. Felly, dyma rai syniadau y gellid eu datblygu os nad ydych yn derbyn y cynnig sydd o'n blaenau heddiw. Dyma gamau y gallech edrych arnynt yma yng Nghymru.
Mae'r Alban wedi cyflwyno rhewi rhenti a gwaharddiad ar droi pobl allan yn dilyn ymgyrch gan Mercedes Villalba a'i chydweithwyr Llafur. Mae Maer Llafur Llundain, Sadiq Khan, yn galw am rewi rhenti. Mae Ysgrifennydd tai yr wrthblaid yn Lloegr, Lisa Nandy, yn ystyried rhoi hawl i gynghorau gyflwyno rhewi rhenti yn Lloegr. Felly, a fydd Llafur yng Nghymru yn dilyn eu cymheiriaid ledled y DU? Mae'r Torïaid yn San Steffan, wrth gwrs, eisoes wedi cyflwyno rhewi—rhewi'r lwfans tai lleol. Mae'r lwfans tai lleol wedi'i rewi ers dwy flynedd, ond eto yn y ddwy flynedd honno mae rhenti wedi codi mwy nag ar unrhyw adeg arall.
Rwyf wedi cyfeirio o'r blaen at waith eithriadol Sefydliad Bevan, a gynhaliodd ddwy astudiaeth fanwl i'r lwfans tai lleol, a'r ffaith dim ond 60 eiddo a oedd ar gael ledled Cymru gyfan ar lefelau lwfans tai lleol dros gyfnod yr haf,. Fel Llywodraeth, rydych chi wedi cytuno y dylid rhoi'r gorau i rewi'r lwfans tai lleol. Mae honno'n alwad hawdd, oherwydd gallwch feio San Steffan, eu bai hwy ydyw, ond gallwn gyflwyno ein rhewi ein hunain yma i ganiatáu i'r tenantiaid hynny fyw yn eu cartrefi eu hunain drwy rewi rhenti. Mae honno'n weithred ymarferol y gallwn ei gwneud i ymateb i ddiffyg tosturi San Steffan. Felly, neges i'n cyd-Aelodau Llafur: byddwch yn ddewr, byddwch yn feiddgar, peidiwch â llusgo traed. Mae'r dewis yn amlwg: gweithredu a rhewi rhenti, neu wneud dim a gadael i bobl rewi y gaeaf hwn.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â deall ei chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn galw ar i Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans tai lleol yng Nghymru.
Yn cydnabod:
a) bod tenantiaid cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag codiadau rhent y gaeaf hwn;
b) o 1 Rhagfyr bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael eu troi allan;
c) bod mwy na 25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael llety dros dro ers dechrau’r pandemig.
Yn croesawu:
a) y £6 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant rent;
b) y buddsoddiad o £65 miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol, gan sicrhau bod gan ragor o bobl le y gellir ei alw’n gartref.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol. Yn ffurfiol.
Mae'n iawn—fe glywais.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario ar lety dros dro.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r nifer cynyddol o hysbysiadau troi allan adran 21 sy'n cael eu cyflwyno gan landlordiaid preifat.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r broses o hyrwyddo'r cynllun benthyciadau cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai gwag i fod yn gartrefi;
b) adolygu a chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd targedau adeiladu tai;
c) adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i drosi lleoedd gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy ffurflen datganiad o fuddiant ar berchnogaeth eiddo.
Rwy'n sefyll eto i gyfrannu at ddadl arall sy'n cyfeirio ac yn ceisio lladd ar y sector rhentu preifat. Nawr, gadewch imi ddweud o'r dechrau a heb unrhyw amheuaeth ei bod yn ffaith bod landlordiaid preifat yn cyfrannu'n helaeth ac yn sylweddol iawn at ddarparu cartrefi o ansawdd da a diogel ar draws Cymru. Mae'r mwyafrif o'r landlordiaid hyn wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, ac maent o ddifrif ac yn broffesiynol ynglŷn â'u rôl fel perchnogion cartrefi a landlordiaid. Siaradwch ag unrhyw un ohonynt ac fe fyddant yn dweud wrthych, 'Y cyfan a ddymunwn yw dod o hyd i denant da a fydd yn gofalu am fy ased—yr eiddo—a thalu eu rhent fel ei fod yn ei wneud yn werth yr ymdrech.'
Nawr, rwy'n credu bod y ddadl hon heddiw yn ganlyniad i fethiant parhaus Llywodraeth Lafur Cymru ers dechrau datganoli, ac nid ydych chi ym Mhlaid Cymru yn ddi-fai; rydych wedi bod yn y Llywodraeth yma yn y 23 mlynedd diwethaf. Gwelwyd adeiladu tai'n chwalu dros y 23 mlynedd diwethaf—mae nifer yr anheddau a gwblhawyd rhwng 2021-22 9.3 y cant yn is na chyn y pandemig. Nid ydych chi hanner ffordd eto hyd yn oed at gyrraedd y targed o 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi methu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru, ac oherwydd yr hyn y galwch amdano yn awr mae'n ffaith bod nerfusrwydd ar gynnydd ymhlith yr asiantaethau landlordiaid cofrestredig. Dim ond tua 9,000 o gartrefi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol a gafodd eu hadeiladu rhwng 2010 a 2019. Hyd yma, mae eich methiant wedi arwain at 67,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai yng Nghymru. Felly, peidiwch â dweud bod pobl yn mynd i fod yn ddigartref—mae eisoes yn digwydd.
Mae gwariant ar lety dros dro wedi cynyddu o £5 miliwn yng Nghymru yn 2018-19 i fwy na £20 miliwn yn 2021; cafodd 25,200 o bobl eu gosod mewn llety dros dro. Gadewch i mi ddweud wrthych, nid cartrefi bach braf, clyd yw'r rhain—maent yn ystafelloedd mewn clybiau golff, gwely a brecwast a gwestai. Mae gwestai cyfan yn Llandudno, cyrchfan i dwristiaid, yn darparu to uwch eu pennau i'n teuluoedd bregus.
Mae'r farchnad sector rhentu preifat yn pleidleisio gyda'i thraed. Mae'r darparwyr cartrefi gwerthfawr hyn yn gadael y farchnad. Ym mynegai hyder landlordiaid diweddaraf y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl, landlordiaid yng Nghymru sydd â'r lefelau hyder isaf o gymharu â landlordiaid ym mhob un o ranbarthau Lloegr. Mae data arolwg o aelodau'r gymdeithas yn dangos bod 26 y cant o landlordiaid yng Nghymru wedi gwerthu dros y 12 mis diwethaf; mae 49 y cant yn bwriadu gwerthu eiddo yn y 12 mis nesaf. Mae adfeddiannu gan landlordiaid wedi bod yn cynyddu'n gyson yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, hyd at 150 yn ail chwarter 2022, o gymharu â dim ond 78 ar ddiwedd 2021.
Mae Plaid Cymru gymaint allan o gysylltiad—[Torri ar draws.]—ydy—a Llafur Cymru, nes eich bod wedi meddwl ei bod hi'n rhesymol—ac rydych yn dal i'w leisio, a chywilydd arnoch—rydych chi'n meddwl ei bod hi'n rhesymol cyflwyno beichiau pellach drwy Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae Plaid Cymru'n galw am rewi rhenti ac ystyried moratoriwm ar droi allan, hyd yn oed pan geir ôl-ddyledion rhent difrifol—pam y byddai unrhyw landlord yn aros, yn trosglwyddo ased i rywun fyw ynddo, ac yna'n cael—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, ewch amdani.
Fe'ch clywais yn cyfeirio at dai fel 'asedau' ddwy waith yn barod. Onid dyma graidd y broblem gyda'r mater hwn, fod tai'n cael eu hystyried fel asedau? Cartrefi i deuluoedd yw tai. Oni wnewch chi dderbyn hynny?
Ie, ond cofiwch fod llawer o'r cartrefi hyn wedi cael eu prynu, wyddoch chi, a morgeisi arnynt.
I wneud arian, felly nid ydynt ar gyfer teuluoedd.
Na. Mae'n ddrwg gennyf, na. Mae'r polisïau'n unig—
A gawn ni beidio â chael deialog? Nid oes deialog i fod rhwng Aelodau.
Na, diolch. Bydd y ddau bolisi hyn yn unig yn cymell tswnami o landlordiaid i adael y sector a chyhoeddir hysbysiad adran 21. Eisoes, rhwng 2018-19 a 2021-22, mae 20,070 o landlordiaid wedi datgysylltu o Rhentu Doeth Cymru. Polisïau fel eich un chi sy'n dychryn y farchnad yn awr. Mae tystiolaeth yn dangos bod gwaharddiad ar droi allan yn gohirio'r bygythiad o ddigartrefedd yn hytrach na cheisio ei atal. Yn sgil codi'r gwaharddiad blaenorol, cynyddodd lefelau adfeddiannu eiddo landlordiaid yng Nghymru a Lloegr 207 y cant. Nid fy ffigyrau i yw'r rhain; mae'r rhain yn ystadegau sydd wedi'u dogfennu. Canfu astudiaeth gan Assist Inventories o 10,000 o landlordiaid fod 45 y cant yn bwriadu troi cefn ar denantiaethau hirdymor, gyda 41 y cant arall yn dweud eu bod yn mynd i ystyried gwneud hynny.
Wedyn mae gennym hunllef rheoli rhenti. Cyn i Senedd yr Alban basio eu deddfwriaeth, rhybuddiodd Cymdeithas Landlordiaid yr Alban fod landlordiaid yn gwerthu eu heiddo yn sgil yr argymhellion. Os edrychwn ymhellach i ffwrdd, yn San Francisco, lle disgynnodd y cyflenwad tai 15 y cant wedyn, tra bod rhenti yn Berlin wedi saethu i fyny bron i 10 y cant rhwng 2015 a 2017. Felly, dyna ni.
Nid wyf yn mynd i ddweud Llafur Cymru, am nad eu dadl hwy yw hon, ond roeddwn yn hapus iawn fod Hefin David ar Sharp End nos Lun wedi siarad synnwyr cyffredin gan ddweud bod cynghorau wedi cysylltu ag ef—
Janet, mae angen i chi ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
—i ddweud, 'Peidiwch â rhewi rhenti.'
Rwy'n nodi'r gwir, ac rwyf wedi ailadrodd sawl gwaith y byddwch chi a'ch polisïau yn gwthio pobl i mewn i lety dros dro. Rwy'n rhoi gwahoddiad diffuant i gyd-Aelodau'r Senedd hon dderbyn realiti, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol, i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn ei gyfanrwydd. Felly, gallwn ddechrau heddiw drwy gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Darren Millar AS. Diolch.
Mae ein cynnig heddiw yn un sy'n ceisio sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac amddiffyniad rhag y storm economaidd waethaf ers degawdau. Mae'n ymwneud â gweithredu yn awr, gan achub pobl rhag dioddefaint ac amddifadedd yn awr. Mae'n ymwneud â mynnu mai diogelu'r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas ddylai fod yn ffocws i Lywodraeth gyfiawn, nid gwarchod asedau ac incwm y rhai na fydd yn gorfod wynebu'r gofid o geisio cadw bwyd ar y bwrdd neu golli eu cartrefi.
Mae pobl sy'n rhentu eu cartrefi'n fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi neu fod ar incwm isel. Maent yn llai tebygol o fod â chynilion neu asedau y gallant eu defnyddio i leddfu sioc economaidd neu drafferthion ariannol tymor byr. Dyma'r grwpiau o bobl a fydd yn fwyaf pryderus ynglŷn â gallu fforddio eu rhent wrth i gostau bob dydd godi. Ac rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn cytuno na ddylai neb orfod poeni am golli eu lloches—nid eu hasedau; eu lloches—yn ystod adeg oeraf y flwyddyn.
Felly, cofiwch, mae 35 y cant o rentwyr cymdeithasol a 21 y cant o rentwyr preifat yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd fforddio'r pethau sylfaenol, o'i gymharu â phobl sy'n berchen ar eu cartref eu hunain neu sydd â morgais. Roedd bron i 10,000 o aelwydydd yng Nghymru dan fygythiad o ddigartrefedd y llynedd, ac mae mwy nag un o bob 10 o bobl yng Nghymru yn poeni am golli eu cartref yn ystod y misoedd nesaf. Rhaid i hynny fod yn ffocws i ni yn y misoedd nesaf. Yn bennaf y rhai yn y sector rhentu preifat—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, rwy'n meddwl eich bod chi wedi siarad digon, Janet. Mae'r rhai yn y sector rhentu preifat yn wynebu chwyddo rhenti cynyddol. Ar ben hyn, cofiwch fod 45 y cant o aelwydydd Cymru bellach yn byw mewn tlodi tanwydd, ac mae 98 y cant o aelwydydd sydd ar incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd, gan orfod gwario mwy nag 20 y cant o'u hincwm ar ynni. Ac fe gyhoeddwyd y ffigyrau hyn cyn i chwyddiant gyrraedd y lefelau uchaf erioed, gan wthio costau eitemau bob dydd i fyny. Ddirprwy Lywydd, yn syml iawn, nid oes gan y teuluoedd hyn unman i droi. Nid oes unrhyw lacrwydd yn y gyllideb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynnig rhaglenni cymorth gwahanol lle bo modd, ac mae hynny i'w ganmol wrth gwrs, ond y gwir amdani yw nad yw'r taliadau sy'n cael eu cynnig yn mynd i gyffwrdd yr ochrau ac nid ydynt yn mynd i helpu pawb sydd mewn angen. Efallai ei bod yn fwyn allan yno heddiw, ond nid oes unrhyw amheuaeth nad yw'r gaeaf yma eisoes, gaeaf a fydd yn effeithio’n enbyd ar iechyd a llesiant gormod o deuluoedd yng Nghymru. A'r rhai yr effeithir arnynt waethaf fydd y rhai sydd eisoes yn dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol. Y rhai yr effeithir arnynt waethaf fydd pobl ag anableddau; menywod; rhieni sengl; pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig; pobl sydd â phroblemau iechyd corfforol a meddyliol; teuluoedd â phlant; pobl iau; pobl LHDTC+—grwpiau o bobl sydd eisoes yn wynebu rhwystrau gyda thai, cyfleoedd cyflogaeth, bylchau incwm, anghydraddoldebau iechyd, costau uwch.
Rhaid gweld yr argyfwng costau byw yn yr un golau ag argyfwng COVID, ac fe gafodd y gwersi caled eu dysgu gan y Llywodraeth hon yn sgil yr argyfwng hwnnw. Ond yr ymadrodd y cofiaf Weinidogion yn ei ddefnyddio, pan ddaethant i ddeall, er yn rhy hwyr i rai teuluoedd, fod angen gweithredu radical a beiddgar i achub bywydau yn wyneb diffyg gweithredu gan San Steffan oedd, 'Gweithredwch yn gadarn, gweithredwch yn gynnar.' Mae angen inni weld yr un ymagwedd eto gyda'r argyfwng hwn. Mae angen gweithredu'n gadarn a gweithredu'n gynnar. Mae gan y Llywodraeth bwerau i amddiffyn pobl Cymru rhag y gwaethaf o'r niwed yn sgil difaterwch ideolegol Torïaidd mewn perthynas â diogelu'r rhai sydd mewn mwy o berygl o galedi economaidd, dyled a digartrefedd y gaeaf hwn, oherwydd bod yna amgylchiadau mewn argyfyngau lle mae angen cyflwyno mesurau brys dros dro, ac mae angen hyn yn arbennig ar y grwpiau mwyaf difreintiedig yn sgil argyfyngau cyfunol tai a chostau byw. Dywedodd cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, Dr Kelechi Nnoaham heddiw:
'Mae'r argyfwng costau byw yn mynd i wneud yn union yr un peth ag a wnaeth argyfwng Covid'.
Roedd effaith yr argyfwng yn ddyfnach ar ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, a'r gyfradd farwolaethau ddwywaith mor uchel. Yr un anghydraddoldeb, yr un gwendidau hynny, a gaiff eu dyfnhau gan yr argyfwng costau byw. Bydd dioddefaint pobl yn y grwpiau a'r cymunedau hynny'n fwy unwaith eto.
A wnewch chi ildio? Os caf adeiladu ar y pwynt hwn, yn ystod argyfwng COVID, beth a wnaethom? Gwarchod y rhai mwyaf bregus. Onid dyna y mae'r cynigion hyn ar rewi rhenti a gwaharddiad brys dros dro ar droi allan wedi'u cynllunio i'w wneud? Maent yno i warchod y mwyaf bregus yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw.
Yn hollol, ac mae'r elfen iechyd yn hyn wedi'i nodi heddiw gan Goleg Brenhinol y Meddygon, sydd wedi dweud, wrth gwrs, fod tlodi'n achosi salwch ac iechyd gwael. Mae'r argyfwng costau byw yn debygol o gael effaith sylweddol ar y GIG, yn union fel y gwnaeth argyfwng COVID. Mae cymdeithasau tenantiaid fel ACORN, Living Rent, a Generation Rent yn cytuno bod y mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban yn ffordd dda o helpu i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn sgil yr argyfwng. Fel y clywsom, ymateb maer Llundain Sadiq Khan i'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban yw mai rhewi rhenti yw'r union beth sydd ei angen ar Lundeinwyr. Mae Plaid Cymru'n credu mai dyna sydd ei angen ar bobl Cymru.
Os arhoswn yn rhy hir, os na weithredwn yn awr, fe fydd hi'n rhy hwyr i atal y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas rhag effaith andwyol rhent anfforddiadwy ac arswyd digartrefedd. Nid oes gan Lywodraeth Cymru rym—
Sioned, mae angen i chi ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Nid oes gan Lywodraeth Cymru rym i atal biliau rhag codi i'r entrychion. Ni all sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Ond fe all weithredu i roi sicrwydd i bobl y gallant aros yn eu cartrefi, nad yw cyllidebau sydd eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf yn chwalu oherwydd codiadau rhent, tra bod gwyntoedd oer y storm economaidd ofnadwy hon yn oeri pobl Cymru hyd at fêr eu hesgyrn.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu bod angen inni siarad am dai yn llawer amlach nag y gwnawn. Rwy'n credu bod tai yn bwysig, a nes ein bod yn ymdrin â thai'n effeithiol i greu cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw, bydd problemau'n dal i fodoli. Mae llawer o'r problemau sydd gennym ym maes addysg ac iechyd yn deillio o dai annigonol. Mae dau ateb i'r argyfwng tai, gan ddefnyddio camau sydd wedi gweithio o'r blaen. Yr un rwy'n ei ffafrio yw adeiladu tai cyngor ar y raddfa sydd ei hangen i ateb y galw. Fe weithiodd hyn rhwng y 1950au a'r 1970au. Pe baem yn gynrychioliadol fel Senedd, byddai o leiaf 15 a mwy na thebyg 20 ohonom wedi cael ein magu mewn tai cyngor. Byddai gennym Aelodau a fyddai'n deall eu pwysigrwydd.
Yn amlwg, mae gan y Ceidwadwyr farn wahanol. A''r farn honno yw rhoi'r gorau i reolaeth gynllunio. Fe weithiodd hyn yn y 1930au—nid wyf yn dweud na fyddai'n gweithio—ond mae costau amgylcheddol sylweddol i wneud hynny. Hynny yw, a yw'r Ceidwadwyr o ddifrif eisiau gweld datblygu di-reolaeth ar raddfa fawr mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, parciau cenedlaethol, ardaloedd gwledig a glan môr? Oherwydd dyna mae cefnu ar reoliadau cynllunio yn ei olygu mewn gwirionedd. Edrychwch ar yr ardaloedd sy'n annwyl i chi am eu bod yn wyrdd a dymunol. A yw'r Ceidwadwyr eisiau datblygu ar y rhain? Wrth gwrs, nid oes unrhyw broblem y mae Ceidwadwyr San Steffan—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
 chroeso.
Rydych chi'n siarad am gyflenwad a galw. Gwyddom fod angen tua 12,000 o dai wedi eu cwblhau bob blwyddyn ym marchnad eiddo Cymru. Ar hyn o bryd, ar y gorau, mae'r Llywodraeth yn cwblhau tua 6,000, efallai mor isel â 5,000 mewn blwyddyn wael. Nid ydym yn cyrraedd yn agos at y galw. Rhaid eich bod yn cydnabod bod honno'n broblem, a bod galw am ganiatadau rheoli cynllunio ystyrlon yn rhywbeth i'w groesawu, cyn belled â bod y seilwaith yn cael ei roi yn ei le, fel meddygfeydd, ysgolion a seilwaith trafnidiaeth. Felly, nid yw'n fater o adeiladu dros lefydd prydferth; mae'n ymwneud â chael polisi cynllunio synhwyrol sy'n ateb y galw.
Rwy'n credu eich bod newydd wneud nifer o adeiladwyr yn hapus iawn, o wybod y byddech yn croesawu adeiladu ar raddfa fawr yn y Bont-faen a Bro Morgannwg.
Mae rhewi lwfansau tai lleol gan Lywodraeth y DU yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl a theuluoedd sy'n derbyn lwfansau tai lleol yn wynebu bwlch rhwng y cyfraddau a delir a'u rhent. Mae hyn yn cynyddu'r risg o ddigartrefedd, wrth iddi fynd yn fwyfwy anodd i bobl ddal i fyny â thalu rhent, yn ogystal â thalu am bethau hanfodol, fel bwyd a biliau ynni.
Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae'r cymysgedd tai wedi newid. Gwelwyd gostyngiad yn y nifer o dai cyngor a chynnydd mawr yn y nifer o dai sy'n cael eu rhentu'n breifat. Y sector rhentu preifat bellach yw'r ail fath mwyaf cyffredin o ddeiliadaeth ar ôl perchen-feddiannaeth. Cafwyd cynnydd yn nifer y landlordiaid preifat. Ydw, rwy'n sylweddoli nad yw pob landlord preifat yn Rachmans cyfoes. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn landlordiaid da ac yn trin eu tenantiaid yn dda. Nid yw llawer o'r rhain ond yn berchen ar un eiddo, a phrynwyd llawer ohonynt drwy forgais. Mae tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru eisoes wedi'u diogelu dros y gaeaf rhag codiadau rhent, gan fod rhenti cymdeithasol yn cael eu gosod yn flynyddol, gyda'r newid nesaf i renti cymdeithasol ddim i ddod tan Ebrill 2023. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn wynebu pwysau enfawr, yn enwedig lle mae'n rhaid iddynt ail-gyllido benthyciadau.
Yn arwynebol, mae rhewi rhenti yn y sector rhentu preifat yn ddeniadol, ond mae'n rhewi rhenti fel y maent ar hyn o bryd, ac mae rhai rhenti'n rhy uchel ac eraill yn rhy isel, o'i gymharu ag eiddo o'r un math. Gyda chyfraddau llog yn codi, gallai olygu bod eiddo'n gorfod cael ei werthu. Os mai'r hyn sy'n digwydd yw bod yr eiddo'n cael ei werthu ac yna'n cael ei brynu gan brynwyr tro cyntaf, byddai hynny'n beth gwych. Lleihau nifer yr eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat, gan gynyddu nifer y perchen-feddianwyr: da. Ond yn anffodus, mae gennym orllewin gwyllt y maes tai, Airbnb, a dyna sy'n fy mhoeni i, y bydd pobl yn troi'r tai hyn o fod yn cael eu rhentu gan deuluoedd i fod yn eiddo Airbnb. Mae hyn yn tynnu'r eiddo o'r farchnad dai. Pan fydd eiddo sy'n cael eu gwerthu'n cael eu defnyddio fel Airbnb yn nwyrain Abertawe, rhaid bod hon yn broblem ledled Cymru gyfan.
A gaf fi roi dyfyniad gan Crisis, yr elusen dai fawr y siaradodd Mabon amdani yn gynharach? Maent yn ofni gweld llif uniongyrchol o hysbysiadau ymadael a llythyrau'n hysbysu am godiadau rhent yn sgil yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei gyflwyno heddiw. Byddai Crisis yn awgrymu y dylid dysgu o gyhoeddiadau diweddar ynghylch deddfwriaeth debyg yn Yr Alban. Yn ystod yr oedi rhwng cyhoeddi a deddfu, dywedodd cydweithwyr ar draws y sector tai yn yr Alban fod tenantiaid yn cael hysbysiadau ymadael a llythyrau'n eu hysbysu am godiadau rhent.
Fe feddyliais am reoli rhenti. Rwyf eisiau gweld swyddogion rhent yn dod yn ôl. Am y gall landlordiaid droi tenantiaid allan gyda hysbysiad adran 21 pan fydd y tymor sefydlog yn dod i ben, nid oes gan denantiaid Cymru unrhyw fesurau rheoli rhenti go iawn. Gall y landlord ofyn iddynt dalu rhent uwch a'u troi allan, neu ddod o hyd i denantiaid newydd os ydynt yn gwrthod. Mae hyn yn dangos pa mor hawdd yw hi i denantiaid gael eu troi allan ac mae'n gysylltiedig iawn â diffyg mesurau rheoli rhenti.
Mae moratoriwm ar droi allan yn edrych yn ddeniadol, ond efallai mai gohirio troi allan hyd nes y dôi i ben yn unig a wnâi. Os bydd tenantiaid yn penderfynu peidio â thalu rhent i'w landlordiaid, gallent gronni ôl-ddyledion rhent difrifol sydd wedyn yn creu sail ar gyfer troi allan. O 1 Rhagfyr ymlaen, bydd tenantiaethau newydd yng Nghymru yn ddarostyngedig i waharddiad ar droi allan heb fai am chwe mis, ac mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ymestyn hyn i gynnwys tenantiaethau sy'n bodoli eisoes. Rwyf fi o'r farn y dylid dod â throi allan heb fai i ben yn awr. Ni ddylid gofyn i unrhyw un adael heb fai. Mae hynny'n sylfaenol anghywir ac mae'n torri'r cydbwysedd rhwng landlord a thenant.
Fe ddof yn ôl at y cyflenwad i orffen. Gyda'r cyflenwad yn brin a'r galw'n fawr, mae rhenti'n codi. Yr unig ateb effeithiol yw adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Fe weithiodd o'r blaen ac fe wnaiff weithio eto.
Clywsom yn barod heddiw sut y mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng tai yn cael mwy o effaith ar rai rhannau o gymdeithas neu gymunedau nag eraill. Fel llefarydd Plaid Cymru ar bobl hŷn a chymunedau, rwy'n ymwybodol o ba mor anodd y gall y gaeaf fod ar yr adegau gorau i bobl hŷn, ac yn sicr nid yw hon yn un o'r adegau gorau. Mae pobl hŷn yng Nghymru ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. O ystyried bod gennym gyfran uwch o bobl hŷn yn byw yma yng Nghymru, o'i gymharu â gwledydd eraill y DU, mae hwn yn ofid mawr.
I lawer o bobl hŷn, nid yw gostwng y gwres neu ei ddiffodd yn opsiwn, a byddant yn teimlo effaith y costau ynni uwch yn fwy na'r rhan fwyaf o bobl yn y misoedd nesaf. Rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gytuno yma na ddylai unrhyw berson hŷn yn ein cymunedau fod mewn perygl o fod yn ddigartref y gaeaf hwn. Dylai pobl hŷn allu ymddeol gydag urddas hefyd, gyda digon o incwm i fyw'n gyfforddus ac yn hapus. Mae'n warth parhaus fod llawer o fenywod yng Nghymru wedi'u hamddifadu o hyn oherwydd polisi cydraddoli pensiwn annoeth ac anfoesgar y Llywodraeth Dorïaidd, sydd wedi gwthio llawer i fyw mewn tlodi. Cafodd y polisi ei ruthro drwodd, a chwalodd gynlluniau ymddeol cymaint o fenywod yng Nghymru.
Byddai rhewi rhenti a'r gwaharddiad ar droi allan fel y galwn amdano heddiw nid yn unig yn diogelu pobl hŷn rhag digartrefedd, bydd yn sicrhau, yn wyneb chwyddo rhenti, y gall pobl hŷn barhau i fod â chysylltiad â'u cymunedau a byw o amgylch y bobl sy'n eu cefnogi. Bydd hyn yn hanfodol yn ystod misoedd y gaeaf i atal pethau fel cwympiadau ac afiechydon sy'n gysylltiedig â chartrefi oer. Os oes raid i bobl hŷn israddio i dai llai priodol oherwydd prisiau cynyddol, efallai y byddant yn wynebu unigrwydd cymdeithasol, afiechydon, tlodi tanwydd a hyd yn oed marwolaethau gaeaf. Gellir osgoi llawer o'r canlyniadau hyn pe bai'r mesurau yn ein cynnig heddiw'n cael eu gweithredu.
Gan symud ymlaen, bydd yr argyfwng costau byw a thai'n effeithio'n negyddol ar y gymuned ehangach heb fesurau brys. Mae chwyddo rhenti'n bygwth gwthio tenantiaid incwm is allan o'r cymdogaethau y maent yn byw ynddynt a chyfrannu o bosibl at y boneddigeiddio a welwyd eisoes mewn mannau eraill. Canlyniad arall fyddai cynyddu amseroedd cymudo, yn ogystal â chanlyniadau seicolegol a chymdeithasol o bosibl ar yr unigolion a'r cymunedau yr effeithir arnynt.
Yn olaf, mae ymchwil yn yr Unol Daleithiau wedi canfod y gall rheoli rhenti fod yn arbennig o effeithiol am atal dadleoli lleiafrifoedd hiliol a gall helpu i feithrin amrywiaeth mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio. Os ydym am wneud y peth iawn i'n pobl fwyaf bregus yng Nghymru, mae angen inni fynd ymhellach na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Cefnogwch y cynnig hwn. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno trafodaeth bwysig iawn heddiw ar y sector rhentu preifat? Roeddwn yn falch iawn ein bod, ar y meinciau hyn, yn gallu cefnogi'r mwyafrif llethol o'r cynigion a gyflwynwyd gennych heddiw. Ond wrth gwrs, nid ydym yn gallu cefnogi pwynt 6. Yn ein cynnig, rydym yn bwriadu dileu hwnnw, sy'n amlwg yn ymwneud â rhewi rhenti yn y sector preifat. Ond rwy'n falch iawn ein bod hefyd wedi gallu darparu atebion amgen i rai o'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, a byddaf yn archwilio'r rheini ymhellach yn fy nghyfraniad heddiw.
Yn gyntaf oll, hoffwn drafod y pwynt y soniodd Mabon ap Gwynfor amdano yn ei agoriad, sef rhai o'r canlyniadau anfwriadol mewn perthynas â rhewi rhenti. Fel y gwelsom yn Yr Alban, lle maent wedi cyflwyno mesurau rhewi rhenti, mae hyn eisoes wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol a negyddol i denantiaid ac i'r rhai sy'n ceisio rhentu eiddo, oherwydd bod y cyflenwad o dai rhent yn lleihau tra bod y galw'n cynyddu. Yn wir, mae adeiladwr tai mwyaf yr Alban bellach wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i atal buddsoddiad yn y sector rhentu preifat, yn rhannol oherwydd y mesurau hyn. Hefyd ar ganlyniadau anfwriadol, yn Iwerddon, lle ceir ffurfiau ar reoli rhenti ar waith eisoes fel y crybwyllwyd, gwelsom luniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar o gannoedd o bobl yn ciwio i geisio cael gafael ar eiddo rhent mewn llefydd fel Dulyn ar hyn o bryd. Felly, yn amlwg, nid yw'n ateb pob problem ar hyn o bryd, yn sicr.
Y pwynt arall y cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor ato wrth agor y ddadl, ac mae eraill wedi sôn amdano heno, yw'r anghysondeb rhwng cyflenwad a galw mewn perthynas â thai rhentu preifat. Mae'n gwbl glir na fyddai rhewi rhenti'n gwneud dim byd o gwbl i fynd i'r afael â heriau cyflenwad a galw. Felly, mae'n bwysig iawn, ac er y gallai fod yn haws ceisio diystyru rhai o'r canlyniadau anfwriadol, maent yn real iawn os yw rhewi rhenti yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth eisiau ei gefnogi a bwrw ymlaen ag ef.
Fel yr amlinellir yn ngwelliant 2 o'n cynigion heddiw, mae awdurdodau lleol yn wynebu costau cynyddol llety dros dro, a cheir heriau sylweddol y mae angen mynd i'r afael â hwy. Cefais fy nharo gan y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn darparu oddeutu £10 miliwn o'r cynllun COVID, y grant caledi i denantiaid, i awdurdodau lleol, ond 2.3 y cant yn unig o'r arian hwnnw a ddefnyddiwyd erioed. Felly, tybed, fel ateb cyflym i helpu ar unwaith, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio'r tanwariant sylweddol i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd bron ar unwaith. Mae rôl allweddol y gall ein cynghorau ei chwarae yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn. Gwyddom fod tai gwag yng Nghymru'n broblem sylweddol; rydym yn gwybod bod mwy o dai gwag nag a geir o ail gartrefi yng Nghymru. Felly, rydym yn argymell y dylid gwneud mwy o waith i hyrwyddo'r cynllun benthyciadau cartrefi gwag er mwyn sicrhau bod mwy o dai gwag yn cael eu troi'n ôl yn gartrefi i bobl fyw ynddynt. Mae cyfle go iawn yno i wneud gwahaniaeth cyflym.
Mae'r mater arall yr hoffwn gyffwrdd arno heddiw eisoes wedi'i grybwyll mewn gwirionedd; daw'n ôl at gyflenwad a galw mewn perthynas ag adeiladu mwy o dai. Mae wedi cael ei grybwyll yn barod fod angen adeiladu tua 12,000 o gartrefi yng Nghymru bob blwyddyn, ac nid ydym yn agos at y niferoedd hynny yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hynny ar draws Cymru gyfan. Mae'n hafaliad eithaf syml mewn rhai ffyrdd: mae mwy o gartrefi yn golygu y bydd llai o bobl yn ddigartref; nid yw'n gymhleth. Rhaid inni ystyried pam nad oes digon o gartrefi yn cael eu hadeiladu yng Nghymru i ateb y galw. Oherwydd fe wyddom—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Yn sicr, Jane. Gwnaf.
Diolch yn fawr iawn. Roedd yn wirioneddol wych eich clywed yn dweud 'mwy o gartrefi, llai o bobl yn ddigartref', ond rwy'n poeni'n fawr am safbwynt y Ceidwadwyr ar werthu ein tai cymdeithasol. Rwy'n credu bod eich plaid yn dal i gefnogi hynny. Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi wneud sylw ar hynny. A ydych yn credu mewn gwneud hynny—cymryd y stoc tai cymdeithasol oddi wrth awdurdodau lleol a'i werthu ymlaen? Diolch yn fawr iawn. Diolch am ganiatáu i mi ymyrryd.
Ddim o gwbl. Rwy'n credu bod gan bobl ddyhead gwirioneddol i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac ni fyddwn eisiau i neb feddwl fy mod yn dal pobl yn ôl o fod yn berchen ar eu heiddo eu hunain, cael eu tynged yn eu dwylo eu hunain. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor bwysig iawn y dylem geisio cytuno arni.
Fe af yn ôl i'r pwynt ynghylch adeiladu mwy o gartrefi preifat, oherwydd mae bron i 85 y cant o gartrefi Cymru naill ai'n eiddo perchen-feddiannaeth neu yn y sector rhentu preifat. Mae'n gyfran sylweddol iawn o gartrefi yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn gwybod—ac rwy'n sylweddoli bod amser yn brin, Ddirprwy Lywydd; fe fyddaf mor gyflym ag y gallaf—yng Nghymru, fod data gan Propertymark yn dangos bod ddwywaith cymaint o landlordiaid yn gadael y sector o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Felly, mae'n amlwg yn broblem yma yng Nghymru sy'n wahanol i rannau eraill o'r DU, ac sy'n achosi i landlordiaid beidio â bod eisiau bod yma gymaint ag ardaloedd eraill o'r DU.
Rwy'n sylweddoli bod yr amser wedi dod i ben; hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau fel y maent wedi'u nodi yn y papur. Diolch.
Yr hyn a drafodwn heddiw yw camau brys i gefnogi argyfwng y mae pawb ohonom yn ei weld. Mae pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref yn awr. Bydd mwy o bobl yn cael eu gwneud yn ddigartref y gaeaf hwn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Dim ond newydd ddechrau ydw i, Janet. Os caf fi barhau, ac os byddwch chi'n dal i fod eisiau ymyrryd ar rywbeth a ddywedais—.
Ond i ymateb i Sam Rowlands: wrth gwrs bod angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ond ni fydd hynny'n datrys pethau i bobl sy'n ddigartref yn awr, lle nad oes atebion digonol yn awr. Ac rydym yn gwybod yn barod fod teuluoedd wedi bod yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd mesurau cyni bwriadol, a rhieni sengl, plant a phobl ifanc yw rhai o'r grwpiau yr effeithir arnynt yn fwyaf anghymesur.
Yn ôl Sefydliad Bevan, dros haf 2022, roedd nifer yr aelwydydd ag un neu ddau o blant a oedd yn gorfod torri nôl ar fwyd i blant wedi bron â dyblu ers mis Tachwedd 2021. Mae hynny'n un o bob 10 teulu gydag un plentyn, ac un o bob pum teulu gyda dau o blant, yn gorfod torri'n ôl ar fwyd.
Fel y gwyddom, ceir corff sylweddol o dystiolaeth sy'n dangos effaith maeth gwael yn ystod plentyndod ar ragolygon iechyd hirdymor plentyn. Felly, mae'r ffigurau hyn yn arbennig o bryderus, ac ni fyddant ond yn gwaethygu wrth inni gyrraedd misoedd y gaeaf ac wrth i'r argyfwng costau byw waethygu. Rhaid inni sicrhau ein bod yn darparu cymorth i sicrhau nad yw aelwydydd yn gorfod dewis rhwng bwydo eu plant a gwresogi eu cartrefi, ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau nad ydynt mewn perygl o golli eu cartref drwy gael eu troi allan yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn, neu gael eu prisio allan oherwydd chwyddo rhenti.
Gwyddom, hefyd, fod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl ifanc a'r rhai sy'n gadael gofal sy'n cael eu gosod mewn llety dros dro. Yn 2021-22, cafodd 95 o bobl ifanc 16 ac 17 oed eu gosod mewn llety gwely a brecwast dros dro o dan y ddeddfwriaeth ddigartrefedd bresennol ac fe gafodd 114 o bobl sy'n gadael gofal eu rhoi mewn llety dros dro o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae'r ddau ffigur wedi codi ers dechrau pandemig COVID-19.
Gwyddom hefyd fod myfyrwyr wedi bod yn mynegi pryderon ariannol sylweddol wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, gyda 92 y cant o'r myfyrwyr a arolygwyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn pryderu ynglŷn â'u gallu i ymdopi'n ariannol. Nid yw benthyciadau a grantiau myfyrwyr yn cynyddu yn unol â chwyddiant, ond eto maent yn wynebu costau cynyddol. Mae myfyrwyr wedi bod yn gwario mwy a mwy o'u harian ar rent. Dair blynedd yn ôl, roedd rhent cyfartalog myfyrwyr yng Nghymru oddeutu 53 y cant o'u pecyn cymorth ariannol, ond bellach mae'r ffigur hwn bron yn 60 y cant, gyda chynnydd aruthrol yn rhenti myfyrwyr yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Yn yr arolwg a gynhaliwyd, nodwyd mai dim ond £50 y mis oedd ar ôl gan bron i un o bob tri myfyriwr, ar ôl talu eu rhent a'u biliau, i brynu bwyd ac eitemau hanfodol eraill sydd eu hangen ar gyfer astudio. Roedd 11 y cant yn defnyddio banciau bwyd. Roedd costau tai dros ddwy ran o dair o fyfyrwyr, 69 y cant, wedi cynyddu ers mis Ionawr eleni, gyda bron i hanner y myfyrwyr yn dweud bod y costau hyn wedi codi mwy na £20 yr wythnos. Nododd 89 y cant o fyfyrwyr fod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith ar eu hiechyd meddwl, gyda thema allweddol yn y categori hwn yn ymwneud â 'phoeni am dalu biliau', 'pryder a straen cyson', a 'cael trafferth bwyta'.
Mae'n rhaid inni wneud mwy i sicrhau nad yw ein plant, ein pobl ifanc a'n dysgwyr yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan yr argyfwng costau byw. Mae'r grwpiau hyn, mewn llawer o achosion, yn ddibynnol ar deulu neu Lywodraeth am gymorth, felly rhaid inni sicrhau nad ydynt hwy na'u teuluoedd mewn perygl o gael eu troi allan, neu o fethu fforddio eu rhent, neu o fynd yn ddigartref yn y pen draw o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Dyna pam y mae'r cynnig heddiw mor bwysig: diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn y cymunedau a gynrychiolir gennym.
Hawl yw cartref, nid nwydd. Fel y nododd y Cenhedloedd Unedig, dylai cartref fod yn noddfa, yn lle i fyw mewn heddwch a diogelwch, a chydag urddas. Mae hynny i gyd mewn perygl, ac fe fydd mewn perygl y gaeaf hwn. Mae'r rhain yn fesurau brys ar gyfer sefyllfa frys. Dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd eraill yn gwneud hynny hefyd.
Mewn llawer o wledydd Ewropeaidd, mae'r mwyafrif o bobl yn rhentu eu tai, ond yn y DU, mae eiddo'n cael ei ystyried yn fuddsoddiad. Mae'r syniad fod cartref yn hawl ddynol a bod gan bawb hawl i do dros eu pen yn ddarostyngedig i fympwy grymoedd y farchnad, preifateiddio a cheisio elw.
Pan ddaeth Margaret Thatcher i rym, fe dynnodd y Llywodraeth arian a roddwyd i gynghorau adeiladu tai yn ôl. Fe wnaeth y polisi hawl i brynu trychinebus wreiddio dogma neo-ryddfrydol yn ddyfnach ym mholisi tai'r DU a gwelwyd gostyngiad o 45 y cant yn nifer y tai cymdeithasol a oedd ar gael rhwng 1981 a 2014. Ni chafwyd tai newydd erioed yn lle'r rhan fwyaf o'r cartrefi a werthwyd o dan y polisi hwn. Gwerthiant torfol o asedau gwladol i mewn i'r sector preifat ydoedd, ac o ganlyniad mae wedi costio mwy i bobl leol rentu, a mwy, mewn rhai achosion, i'r pwrs cyhoeddus mewn budd-daliadau tai. Cyn 2016, ni châi awdurdodau lleol gadw'r rhent o eiddo a'i ail-fuddsoddi i'w gwella i safon ansawdd tai Cymru ac adeiladu tai cyngor newydd. Yn anffodus, erbyn yr amser hwnnw, roedd toriadau cyni'r Torïaid yn brathu.
Mae Llywodraeth Cymru'n gwario dros 90 y cant o'i chyllideb ar gyllid sector cyhoeddus ac nid oes ganddi ddulliau cyllidol o fenthyg. Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i adeiladu tai, fel y dylai. O dan Lywodraeth Lafur Clement Attlee, roedd y wladwriaeth yn rhoi arian yn uniongyrchol i gynghorau i'w fuddsoddi ar gyfer cynyddu tai cymdeithasol. O ganlyniad, cafodd cannoedd o filoedd o dai rhent cymdeithasol eu hadeiladu. O safbwynt economaidd, roedd y cyfiawnhad yn amlwg: gyda'r wladwriaeth yn adeiladu niferoedd mawr o gartrefi, roedd prisiau tai a rhenti'n parhau i fod yn fforddiadwy oherwydd bod lefelau'r cyflenwad yn uchel.
Mae'r polisi Torïaidd presennol o dorri cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â chyfyngu ar y gwaith o adeiladu tai cymdeithasol wedi creu prinder arbenigwyr ar gynllunio lleol, draenio, priffyrdd a thrafnidiaeth, a bydd yn creu diweithdra torfol yng Nghymru, a thlodi, gan fod traean o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Dywedir wrthyf fod pobl yn y sector cyhoeddus bellach angen to dros eu pennau, gan nad yw cyflogau wedi codi yn unol ag argyfwng costau byw'r Torïaid. Ac mae angen addysgu Prif Weinidog y DU na allwch dyfu'r sector preifat a gwneud toriadau cyni yn y sector cyhoeddus ar yr un pryd. Ni all y sector preifat gamu i'r adwy, gan fod prinder enfawr o weithlu a sgiliau yno hefyd yn sgil y pandemig a gadael yr UE.
Mae landlordiaid cymdeithasol eisoes yn ddarostyngedig i fesurau rhewi rhenti tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf; caiff capiau eu hadolygu'n flynyddol a'u gosod gan Lywodraeth Cymru. Mae angen i'r sector preifat hefyd gael mesurau rheoli rhenti, hawl i denantiaeth ddiogel gyda hawl i gadw anifail anwes wedi'i chynnwys yn y denantiaeth, a gwahardd y defnydd o droi allan heb fai. Ac mae angen inni sicrhau bod banciau a chymdeithasau adeiladu'n ystyried taliadau rhent hanesyddol wrth asesu ceisiadau morgais. Mae llawer o bobl yn talu prisiau rhent sy'n uwch na cheisiadau morgais.
Cafodd y lwfans tai lleol ei rewi yn 2016 ac eto yn 2020. Mae rhai landlordiaid yn troi at Airbnbs oherwydd, yn ôl adroddiad Bevan, mewn rhai ardaloedd, gallant ennill yr un faint mewn 10 wythnos ag y byddent yn ei ennill ar rent amser llawn drwy'r lwfans tai lleol, nad yw'n ddigon o gwbl. Mae'r sefyllfa'n argyfyngus ac yn newid yn gyflym. O siarad yn ddiweddar ag arweinwyr cynghorau a chymdeithasau tai, ac adroddiad newydd gan Crisis, nid nawr yw'r amser i rewi rhenti'r sector preifat; mae'r sefyllfa'n rhy gyfnewidiol, yn rhy gymhleth ac yn rhy beryglus gydag argyfwng gwleidyddol-economaidd Llywodraeth y DU, sydd wedi gweld y cynnydd cyflymaf erioed i forgeisi, a rhagwelir y bydd prisiau tai'n disgyn ac y cawn ddirwasgiad, felly nid oes dim i lenwi'r bwlch ar hyn o bryd. Mae landlordiaid yn sylweddoli na fydd eu buddsoddiad eiddo yn ddiogel mwyach ac y gallant wneud mwy drwy roi eu harian yn y banc. Mae pobl yn poeni am forgeisi pan ddaw cyfnodau penodol i ben, ac mae'r sefyllfa'n frawychus.
Rwyf newydd ddarllen bod mesurau rhewi rhenti Llywodraeth yr Alban—
Carolyn, a wnewch chi ildio?
Mae'n ddrwg gennyf, rwyf am barhau. Rwyf ynghanol siarad a dim ond munud sydd gennyf ar ôl.
Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn cyflym, dyna'i gyd.
Na. Nid yw'n ildio.
Rwyf—mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi colli fy lle. Rwyf newydd ddarllen bod mesurau rhewi rhenti Llywodraeth yr Alban yn cynnwys llawer o eithriadau i landlordiaid preifat, lle mae landlord yn wynebu mwy o gostau eiddo, taliadau llog ar forgais a rhai costau yswiriant, felly mae ganddynt eithriadau, ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y mesurau rhewi rhenti hynny. Mae angen inni sicrhau bod cymorth wedi'i dargedu yn cael ei ddarparu i'r tenantiaid sy'n ei chael hi'n anodd ac sy'n ennill digon i dalu rhent ond sydd â hawl i fudd-daliadau.
Rwy'n croesawu'r cyllid i ganiatáu i gynghorau a chymdeithasau tai brynu eiddo rhentu preifat wrth iddynt ddod ar y farchnad i helpu i ddiogelu tenantiaethau, arbed rhag troi allan a symud eiddo i'r farchnad dai cymdeithasol, sef yr hyn sydd ei angen arnom. Mae tua 25,000 eiddo gwag yng Nghymru. Yn aml, un o'r rhesymau y mae perchnogion eiddo gwag yn eu rhoi dros eu cadw yw eu bod yn aros i'r marchnadoedd eiddo wella cyn gwerthu. Oherwydd prinder cyflenwad tai, mae perchnogion yn gwybod, os ydynt yn dal eu gafael ar eiddo'n ddigon hir, ei fod yn debygol o gynyddu yn ei werth. Mae'n debyg y bydd pobl yn sylweddoli bellach y bydd gwerth eu hased yn gostwng oherwydd yr hyn sy'n digwydd gyda'r sefyllfa economaidd ac yn eu rhoi ar y farchnad, gobeithio.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd yn awr—Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae pobl ledled Cymru'n wynebu argyfwng costau byw digynsail sydd wedi'i ysgogi gan y cynnydd aruthrol yng nghostau ynni, tanwydd a bwyd. Ond Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir: argyfwng a wnaed gan y Torïaid yw hwn, o ddegawd o gyni i doriadau creulon i fudd-daliadau ac addewidion gwag ar drethi. Mae biliau morgeisi'n codi o ganlyniad i'r gyllideb fach, neu'r digwyddiad cyllidol, neu beth bynnag yr ydym i fod i'w alw, a rhagwelir y bydd economi'r DU yn wynebu'r twf arafaf y flwyddyn nesaf o gymharu ag unrhyw economi fawr ddatblygedig, a'r isaf o gymharu ag unrhyw economi G20 ar wahân i Rwsia. Mae'r Torïaid wedi creu'r amodau ar gyfer yr argyfwng digynsail hwn ac maent yn ychwanegu at y pwysau ar gyllidebau aelwydydd. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y pwysau y mae costau byw cynyddol yn ei roi ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys costau rhentu i denantiaid.
Rydym yn gwybod bod rhenti tenantiaethau newydd a rhenti mewn ardaloedd penodol o Gymru yn codi'n gynt o lawer na'r cyfartaledd o 2.5 y cant a gofnodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Soniodd Mabon am wneud dim byd, ond mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i helpu tenantiaid, gan gynnwys eu cefnogi i aros yn eu cartrefi. Dyna pam ein bod wedi darparu £6 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol y flwyddyn ariannol hon ar gyfer mesurau rhyddhad ac atal digartrefedd yn ôl disgresiwn. Gellir defnyddio'r cyllid hwn ar gyfer tenantiaid rhentu preifat a thenantiaid tai cymdeithasol, a gall gynnwys talu ôl-ddyledion rhent, darparu gwarant rhent neu gymorth gyda biliau'r cartref. Mae atal digartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth gwbl allweddol yng Nghymru ac fe'i hadlewyrchir yn ein rhaglen lywodraethu ac yn y cytundeb cydweithio. Ategir hyn wrth gwrs gan ein targed uchelgeisiol i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae ein hymrwymiad wedi ei ddangos yn glir yn y buddsoddiadau a wnawn: buddsoddiad o dros £197 miliwn mewn cymorth tai a gwasanaethau atal digartrefedd, a £310 miliwn eleni yn unig mewn tai cymdeithasol, sef y lefel uchaf erioed. Fodd bynnag, nid ydym yn bychanu maint yr her sy'n wynebu aelwydydd ledled Cymru, sydd, yn ddealladwy, yn poeni'n fawr am effaith yr argyfwng costau byw arnynt hwy a'u teuluoedd. Dyna pam ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth i gynnig a darparu cymorth ar unwaith i'r rhai sydd fwyaf mewn angen.
Fel y nododd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mewn dadl ddiweddar ar yr argyfwng costau byw, yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi'i dargedu a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac i helpu i leddfu'r argyfwng hwn. Ychydig wythnosau yn ôl yn unig, cyhoeddodd y Prif Weinidog dri mesur ychwanegol y byddwn yn eu gweithredu, ar drydedd ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', ar ganolfannau cynnes ac ar fanciau bwyd.
Gan droi'n benodol at y sector rhentu preifat, ym mis Ionawr eleni, lansiais gynllun lesio Cymru, yn ymrwymo £30 miliwn dros bum mlynedd i wella mynediad at dai fforddiadwy mwy hirdymor yn y sector rhentu preifat. Bydd yn sicrhau diogelwch i denantiaid ac yn rhoi hyder i landlordiaid. Lluniwyd y cynllun i gefnogi'r bobl a'r aelwydydd mwyaf difreintiedig sy'n ddigartref neu sy'n wynebu risg o ddigartrefedd. Bydd tenantiaid sy'n rhan o'r cynllun yn elwa o sicrwydd deiliadaeth fwy hirdymor o rhwng pump ac 20 mlynedd a bydd rhenti wedi'u cyfyngu i gyfraddau lwfans tai lleol. Bydd yna arian ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael y lefel o gymorth y byddent yn ei ddisgwyl mewn tai cymdeithasol. Rydym hefyd wedi darparu £300,000 o gyllid ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru i sefydlu llinell gymorth dyledion y sector rhentu preifat. Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, mae dros 900 o denantiaid wedi cael eu cefnogi.
Ond o edrych ar y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn yr Alban, mae'n amlwg nad yw mesurau rhewi rhenti na moratoriwm ar droi allan yn cynnig ateb i bob problem na sicrwydd llwyr i denantiaid. Rwy'n siŵr fod yr Aelodau wedi gweld papur Crisis ar yr union bwnc hwn. Mae Crisis yn nodi bod polisi rhewi rhenti cyffredinol o fudd i bob tenant yn y sector rhentu, ond nid oes gan bob tenant yn y sector rhentu broblemau gyda fforddiadwyedd. Mae'r sector rhentu preifat, yn arbennig—a geiriau Crisis yw'r rhain, nid fy ngeiriau i—yn sector amrywiol iawn o ran yr aelwydydd y mae'n eu gwasanaethu, o fyfyrwyr a gweithwyr ifanc proffesiynol, i deuluoedd â phlant ac aelwydydd hŷn. Ceir grŵp o aelwydydd incwm canolig nad yw fforddiadwyedd yn gymaint o broblem iddynt. Ceir grŵp gweddol fawr sy'n ei chael hi'n anodd iawn talu eu costau tai, a gallai'r rheini elwa o'r cynigion hyn. Ceir grŵp hefyd sydd eisoes yn gorfod talu'r gwahaniaeth rhwng eu rhent a'u budd-dal tai. Nawr, byddai rhewi rhenti a gwahardd troi allan yn oedi unrhyw gamau i droi pobl yn y grŵp hwn allan, ond ni fyddai'n cael gwared ar y risg o gronni ôl-ddyledion rhent. Ânt rhagddynt i ddweud eu bod yn cefnogi'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, sef targedu'r cymorth ar y bobl fwyaf agored i niwed yn y sector hwn a gwneud yn siŵr eu bod yn aros yn eu cartrefi. Nid ydym eisiau gyrru landlordiaid allan o'r sector; rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn manteisio ar y sector rhentu preifat ac yn aros yn eu cartrefi.
Felly, er bod moratoriwm dros dro—fel y mae llawer o'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon wedi nodi—yn gallu ymddangos ar yr wyneb fel ffordd o gadw pobl yn eu cartrefi, mae wedi bod yn gwbl amlwg nad yw'n gwneud hynny am amser hir iawn. Nid yw ond yn gohirio'r adeg pan fydd pobl yn wynebu troi allan gorfodol yn y gwanwyn, am ôl-ddyledion rhent y maent yn ei chael hi'n anodd iawn eu talu'n ôl. Felly, mae sicrhau cymorth wedi'i dargedu ar eu cyfer ar y pryd, yn eu cartrefi, yn ffordd lawer gwell o wneud hyn. Ac nid yw deddfu i gyflwyno mesurau rhewi rhenti yn effeithio ar denantiaethau newydd. Mae tystiolaeth academaidd ddiweddar wedi dangos bod mesurau rheoli rhenti mewn llawer o wledydd—er enghraifft, Iwerddon, fel y mae pobl wedi nodi—wedi arwain at landlordiaid yn gadael y farchnad mewn niferoedd gwirioneddol fawr. Mae hyn yn lleihau argaeledd tai ymhellach ac mae perygl y gallai gynyddu achosion o ddigartrefedd, yn enwedig ymhlith y tenantiaid mwyaf agored i niwed nad ydynt yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth rent amgen.
Hefyd, profwyd bod mesurau rheoli rhenti'n gweithredu fel targed yn hytrach na chap mewn rhai awdurdodaethau. Felly, y dull a ffefrir gennym ni yw sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cefnogi i aros yn eu cartrefi eu hunain, a darparu cymorth ariannol, sydd eisoes ar waith gennym ac ar gael yn awr. Nid yw hyn yn unrhyw fath o opsiwn 'gwneud dim'. Ac wrth gwrs, bydd y Ddeddf rhentu cartrefi yn dod i rym ym mis Rhagfyr, sy'n newid go iawn yn yr amddiffyniad a roddir i denantiaid yn y sector rhentu preifat.
Ac wrth gwrs mae angen inni ddatblygu ateb cadarn a hirdymor a fydd yn sicrhau sector rhentu cynaliadwy yng Nghymru. I wneud hyn, mae angen inni ddeall yn llawn, drwy dystiolaeth, beth yw'r problemau mewn gwahanol rannau o'r wlad a pha oblygiadau a allai fod i wahanol opsiynau rheoli rhenti os cânt eu cyflwyno. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo, o dan y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, i ddatblygu Papur Gwyn yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Rydym wedi comisiynu ymchwil, sydd bellach ar y gweill, i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth i gefnogi'r math cywir o fesurau rheoli rhenti ar gyfer y math cywir o eiddo yn y lle cywir. Fodd bynnag, o ystyried y prisiau cynyddol, rwy'n awyddus i gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl ar ymyriadau posibl i lywio datblygiad y Papur Gwyn, felly heddiw, rwy'n cadarnhau y byddwn yn cyhoeddi ac yn gweithio ar Bapur Gwyrdd yn gyntaf er mwyn darparu gwybodaeth i'r Papur Gwyn.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym i helpu pobl mewn modd cynaliadwy i aros yn eu cartrefi ac osgoi digartrefedd. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar unwaith a gwrthdroi eu penderfyniad gwarthus i rewi'r lwfans tai lleol. Mae amryw o Aelodau Ceidwadol wedi cyfrannu at y ddadl hon, ond rwy'n galw arnynt unwaith yn rhagor i wneud eu galwad ar Lywodraeth y DU i adfer y lwfans tai lleol yn gyhoeddus iawn. Mae'n arwain at dlodi yn y sector ac nid yw'n helpu'r landlordiaid. Byddai'n fwy o help i landlordiaid pe bai'r lwfans tai lleol ar y lefel briodol hefyd. Byddent yn gallu helpu eu tenantiaid yn well. Felly, mae hyn yn brifo pawb ac nid yw'n helpu neb. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU unwaith eto yr wythnos hon yn galw arnynt i ddadrewi a chynyddu'r cyfraddau lwfans tai lleol mewn ymdrech i gadw eu hymrwymiad i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld y Llywodraeth asgell dde eithriadol hon yn cosbi hawlwyr budd-daliadau ar adeg pan fo'n amlwg eu bod yn ceisio cynyddu cyfoeth y rhai mwyaf cyfoethog yn ein poblogaeth. Mae'n gwbl warthus eu bod yn rhewi cyfraddau tai lleol ar adeg pan fo rhenti'r sector rhentu preifat yn codi ar y gyfradd gyflymaf mewn dros ddegawd mewn sawl ardal, a bwlch sylweddol rhwng costau rhent pobl a'r cyfraddau sy'n cael eu talu ar hyn o bryd.
Mae torri cyllidebau lles eraill, sydd eu hangen yn awr yn fwy nag erioed, yn dwysáu'r methiant i ddadrewi a chynyddu'r lwfans tai lleol. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r gyllideb taliadau disgresiwn at gostau tai i gefnogi pobl yr effeithir arnynt fwyaf gan y toriadau i fudd-daliadau, ond eleni, penderfynodd y Llywodraeth Dorïaidd dorri tua 27 y cant, neu £2.3 miliwn, oddi ar y gyllideb honno o'i gymharu â'r llynedd. Daw hyn ar ben gostyngiad blaenorol o 18 y cant. Mae'r rhain yn ostyngiadau enfawr mewn cyllid, ac maent yn gwaethygu sefyllfa'r rhai sy'n profi'r argyfwng costau byw eisoes. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y DU yn y gorffennol i adfer y toriadau hyn. Nid oes unrhyw arwydd y byddant yn gwrando ar y galwadau hynny, ac rwy'n galw ar yr Aelodau Ceidwadol yma heddiw i ddweud yn gyhoeddus eu bod yn credu bod y toriadau hyn yn anghywir ac y dylid eu gwrthdroi.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cydnabod yr argyfwng costau byw enfawr y mae aelwydydd yn ei wynebu ledled Cymru. Rwyf wedi nodi heddiw yn y cyfnod byr o amser sydd ar gael ein bod ni, ac y byddwn ni, yn parhau i gefnogi pobl ledled Cymru drwy'r cyfnod heriol eithriadol hwn. Rydym yn cyflymu ein gweithredoedd i ddeall effeithiau a chanlyniadau posibl mesurau ychwanegol yn well, ond nid ydym yn credu mewn cyflwyno mesurau heb sylfaen dystiolaeth gadarn, gan ein bod yn gwybod y gallant arwain at ganlyniadau anfwriadol difrifol iawn ac arwain at fwy o ddigartrefedd.
Fel bob amser, Lywydd, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r holl bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru. Maent wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy'r pandemig ac yn parhau i wneud hynny i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gwasanaeth, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin—rwyf am nodi hynny: yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, mae pawb yng Nghymru yn cael gwasanaeth ar gyfer digartrefedd, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pobl yn gallu aros yn ddiogel yn eu cartrefi drwy'r argyfwng sydd i ddod y gaeaf hwn. Diolch.
Mabon ap Gwynfor nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl a'r drafodaeth ddifyr yma.
Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando ar gyfraniad cyntaf Janet Finch-Saunders, ac Andrew R.T. Davies hefyd, roedd yna eironi yn y ffaith eu bod yn cydnabod bod y farchnad rydd yn gwneud cam mawr â'n cymunedau, a'u bod felly yn galw am, ac yn mynnu ymyrraeth gan y wladwriaeth ar adeiladu tai, dim ond i weld y tai cymdeithasol hynny'n cael eu gwerthu'n ôl i'r sector preifat—mae yna eironi pendant yno sy'n amlwg yn cael ei golli. Rydych eisiau gweld mwy o dai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu, sef ymyrraeth y wladwriaeth—[Torri ar draws.] Iawn, rwy'n fodlon derbyn ymyriad.
Y pwynt a godais gyda Mike Hedges oedd y gallu i adeiladu mwy o dai. Nid ydym ond yn adeiladu tua 6,000 y flwyddyn a ninnau'n gwybod bod angen 12,000. Ni soniais am ymyrraeth y wladwriaeth o gwbl.
Mae Janet newydd ddweud 'mwy o dai cymdeithasol', sef ymyrraeth y wladwriaeth, sy'n cyd-fynd â'r hyn ddywedoch chi. [Torri ar draws.] Iawn. Felly, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad, Janet?
A gaf fi dderbyn ymyriad?
Na. Gallwch wneud ymyriad.
Ie, a gaf fi wneud ymyriad? [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi dynnu'r sylwadau yr ydych newydd eu gwneud yn ôl am landlordiaid yn adnewyddu eu heiddo gydag arian o'r pwrs cyhoeddus ac yna'n eu gwerthu ymlaen? Ni chaniateir hynny. Os oes gennych gytundeb lesio gydag unrhyw awdurdod lleol lle maent yn rhoi arian i chi—rwy'n meddwl ei fod tua £25,000 ar hyn o bryd—rhaid i chi dalu'r arian hwnnw yn ôl cyn i chi allu gwerthu eich eiddo. Felly, mae angen tynnu hynny yn ôl, oherwydd mae hynny'n awgrymu bod landlordiaid preifat yn gwneud arian o'r pwrs cyhoeddus ac nid yw hynny'n wir.
Na, yr hyn a welsom unwaith eto yw enghreifftiau gan y Llywodraeth hon a chan eich Llywodraeth chi o arian cyhoeddus yn cael ei drosglwyddo i bocedi preifat, a sicrhau bod pobl sydd eisoes yn gymharol gyfoethog yn gwneud mwy o arian ar gefn pobl sy'n gweithio—[Torri ar draws.] Dyna'r polisi—
O'r gorau, o'r gorau. Caniatewch i Mabon ap Gwynfor barhau i gloi'r ddadl.
Dyna'r polisi yr ydych chi'n ei barhau. Nawr, yr hyn a glywsom hefyd, diolch i ymyriad Luke a Sioned, oedd eu bod wedi sôn mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw diogelu pobl, nid asedau. Cartrefi yw tai. Llefydd y mae pobl eu hangen i fyw ydynt, nid ffordd i bobl wneud elw, sef yr hyn y mae'r Torïaid wedi bod yn ei ledaenu yma.
Clywsom gan Sam Rowlands am gartrefi gwag—yn hollol, rydym yn cytuno. Mae angen inni ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd eto. Ac fe glywsom lawer o syniadau ynghylch cartrefi gwag, ynglŷn â datblygu tai cymdeithasol, ac eraill. Mae'r rhain i gyd yn syniadau hirdymor. Nid ydynt yn mynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu heddiw ac ni fyddant yn helpu'r bobl sy'n wynebu cael eu troi allan dros y misoedd nesaf yn ystod y gaeaf hwn.
Cyfeiriodd Heledd at fyfyrwyr a'r ffaith bod 60 y cant o'u hincwm yn mynd ar rent. Rwy'n falch o ddweud bod Undeb Myfyrwyr Cymru/UCMC yn cefnogi'r alwad hon heddiw. Hefyd, mae'n werth nodi bod y TUC yn cefnogi gweithredu ar reoli rhenti a rhewi rhenti. Mewn gwirionedd, ddwy flynedd yn ôl, dangosodd arolwg TUC fod 66 y cant o'u haelodau'n cefnogi'r cynnig hwn, a dim ond 8 y cant yn ei wrthwynebu.
Soniodd Carolyn am Lywodraeth Clement Attlee ar ôl y rhyfel. Y peth gyda'r Llywodraeth honno wedi'r rhyfel oedd bod tai wedyn o dan yr adran iechyd cyhoeddus. Mae'n dangos y pwysigrwydd ac yn cysylltu'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am y cyswllt rhwng tai gwael ac iechyd gwael. Cyfeiriodd Mike hefyd at Airbnb, a'r hyn a welwn ar hyn o bryd yw bod landlordiaid—yn wahanol i'r hyn a ddywedodd Sam yn gynharach fod landlordiaid yn gadael y sector—ydynt, maent yn gadael y sector ac maent yn troi eu heiddo'n Airbnbs, neu mewn rhai achosion, yn gwneud elw o bris uchel tai.
Dyna'r sefyllfa sydd gennym, ond erys y ffaith y dylai pawb gael sicrwydd o gartref fforddiadwy o safon uchel, ond nid dyma'r sefyllfa yma yng Nghymru yn awr, ac mae wedi ei waethygu gan yr argyfwng costau byw a thai sy'n digwydd ar hyn o bryd. Clywn mai cyfrifoldeb cyntaf Llywodraeth mewn cymdeithas ddemocrataidd yw amddiffyn a diogelu bywydau ei dinasyddion. Dywedir hyn ar adeg o ryfel pan ydym yn brwydro—bob tro y clywn am ryfel, caiff miliynau a biliynau o bunnoedd eu pwmpio i mewn i gefnogi a sicrhau diogelwch ein dinasyddion. Wel, mae hyn yn wir heddiw. Mae angen inni sicrhau ein bod yn amddiffyn ac yn diogelu ein dinasyddion a sicrhau nad ydynt yn dioddef oherwydd digartrefedd, oherwydd na allant fforddio cael to uwch eu pennau.
A wnewch chi ildio ar y pwynt hwnnw?
Gwnaf.
Rwy'n cytuno â'r teimlad yn llwyr, ond a wnewch chi ymateb i'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn adroddiad Crisis UK—ac rwy'n tynnu sylw, fel yr Aelod gyferbyn, at fy nghofrestr buddiannau hefyd—lle maent yn dweud bod yr union fesurau sy'n cael eu hargymell yn creu risg sylweddol, yn eu geiriau hwy, o lif uniongyrchol o hysbysiadau ymadael a chodiadau rhent, ton o godiadau rhent a throi allan, cronni ôl-ddyledion rhent gan denantiaid, ac effaith negyddol ar gyflenwad a mynediad at dai rhentu preifat i'r rhai sydd ar ben isaf y farchnad? Mae gennych angerdd, mae gennych fwriadau gwych, ond mae Crisis yn dangos y bydd y mesurau yr ydych yn eu hargymell yn arwain at ganlyniadau negyddol.
Rydym yn derbyn yr hyn y mae Crisis yn poeni amdano, ac rwy'n credu fy mod wedi nodi hynny yn fy sylwadau gwreiddiol. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw, er ein bod yn derbyn y gallai hynny ddigwydd yn y dyfodol, fe wyddom ei fod yn mynd i ddigwydd yn awr. Gwyddom fod pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref yn awr, felly mae angen camau arnom i liniaru'r sefyllfa honno. Nawr, gwyddom hefyd fod y camau a nodwyd gennym yn gweithio yn Ffrainc, maent yn gweithio yn Nenmarc, maent wedi gweithio yn Iwerddon hefyd. Felly, oherwydd eich ofn y gallai rhywbeth ddigwydd—oherwydd ofn Crisis a'r Llywodraeth y gallai rhywbeth ddigwydd—yr hyn a ofynnwch yw gadewch inni beidio â gwneud unrhyw beth. Dyna y gofynnwch amdano.
Nawr, ni allwn—
A wnewch chi ildio?
Na, rwy'n brin o amser, mae arnaf ofn, Huw. [Torri ar draws.] Wel, rwy'n brin o amser, mae arnaf ofn, Huw.
Nid oes raid ichi dderbyn yr ymyriad.
Wel, rwy'n dod at—. Fe wnaf dderbyn, gan fod gennyf amser.
O'r gorau. Mae'n derbyn yr ymyriad.
Diolch. A fyddech chi felly'n ymateb i sylwadau Crisis ar ffyrdd gwell o ymdrin â'r union fater yr ydych chi'n ei gyflwyno? Rwy'n cytuno â'ch angerdd ac rwy'n cytuno â'r ffaith bod angen inni wneud popeth a allwn. Maent wedi awgrymu ffyrdd eraill. Beth yw eich ymateb i'w mesurau amgen?
Maent wedi awgrymu rhai syniadau a fydd yn helpu, ac ar hyn o bryd, nid yw'r Llywodraeth wedi mabwysiadu'r syniadau hynny ac nid ydynt yn eu cyflawni. Hefyd, fe wyddom y bydd pobl yn cael eu gwneud yn ddigartref dros y misoedd nesaf, felly rydym eisiau gweld gweithredu yn awr i sicrhau nad yw'r bobl hynny'n cael eu gwneud yn ddigartref, yn lle ei wthio ymlaen i'r dyfodol efallai. Dyna'r hyn yr ydym yn ei gynnig. Byddai rhewi rhenti'n helpu i ymdrin â hynny. Dyna wirionedd y mater hwn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddewis arall; nid oes unrhyw awgrym arall yn dod gan y Llywodraeth nac unrhyw un arall i ymdrin â'r argyfwng sy'n ein hwynebu heddiw, ac oni bai ein bod yn gweithredu heddiw, fe wyddom y byddwn yn gweld mwy o bobl yn ddigartref. Ofn yw'r hyn sy'n achosi'r diffyg gweithredu hwn, ac ar hyn o bryd ni allwn fforddio peidio â gweithredu. Gallech wneud hyn; gallech weithredu i achub bywydau. Mae angen inni weld yr un argyhoeddiad a ddangosodd eich Llywodraeth yn ystod argyfwng COVID a'r dewrder a ddangoswyd gennych. Mae angen inni weld hynny'n digwydd eto heddiw. Fel y dywedodd Sioned, mae angen gweithredu radical ac ni allwn sefyll o'r neilltu a gwneud dim. Felly, gadewch inni gefnogi'r cynnig hwn er mwyn inni allu rhoi'r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar y Llywodraeth i weithredu er mwyn lliniaru'r amgylchiadau gwaethaf heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i'r bleidlais. Felly, rŷn ni'n agor y bleidlais ar yr eitem gyntaf. Eitem 7 yw'r eitem gyntaf i bleidleisio arni. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, yn ymatal neb, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 7—Dadl Plaid Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Roedd 25 o blaid, 25 yn erbyn, neb yn ymatal. Felly, dwi'n bwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1. Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 25 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Eitem 7—Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 sydd nesaf, felly. Mae gwelliant 2 wedi'i gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.
Eitem 7—Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 3 sydd nesaf. Mae gwelliant 3 eto yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais ar welliant 3. Mae'r bleidlais unwaith eto'n gyfartal—25 o blaid, 25 yn erbyn. Fe rydw i'n defnyddio fy mhleidlais i a'i gosod yn erbyn.
[Anghlywadwy.]
Dwi wedi cau'r bleidlais.
Dywedodd fy sgrin fod caniatâd i mi bleidleisio ac nad oedd y bleidlais wedi ei chau pan wnaethoch alw canlyniad y bleidlais. A yw hynny'n golygu na chafodd fy mhleidlais ei chofnodi?
Fe wnaf oedi ar hynny ac edrych i weld, ond rwy'n credu y bydd eich pleidlais wedi cael ei phasio. Gallwn gadarnhau i chi, Alun Davies, fod eich pleidlais wedi'i bwrw ac wedi'i chofnodi. Y bleidlais derfynol, felly, ar ôl fy mhleidlais fwrw, oedd: o blaid gwelliant 3 25, neb yn ymatal, ac yn erbyn 26. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
Eitem 7—Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Fe bleidleisiwn yn awr ar y cynnig fel y'i diwygiwyd gan welliant 2.
Cynnig NDM8091 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rhenti cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ymhellach.
2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.
3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.
4. Yn nodi bod diffyg darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.
5. Yn credu bod yn rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.
6. Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario ar lety dros dro.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 7—Dadl Plaid Cymru. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio y prynhawn yma.
Ond mae yna ddadl fer nawr i'w chlywed, a dwi'n galw ar Luke Fletcher i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw e. Luke.
Ac os oes modd i'r Aelodau adael y Siambr yn dawel os ydych chi'n gadael y Siambr, er mwyn gallu clywed y ddadl fer.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud o amser i Mike Hedges, Heledd Fychan, Peredur Owen Griffiths a Jenny Rathbone. Beth yw lwfans cynhaliaeth addysg heblaw rhaff achub i gynifer, heddiw ac yn y gorffennol? Ym 1999, cyhoeddodd Llywodraeth y DU raglen beilot mewn 15 ardal awdurdod lleol. Cynigiai'r rhaglen daliad i fyfyrwyr 16 i 19 oed o deuluoedd yr ystyrid eu bod yn deuluoedd incwm isel ac a oedd mewn addysg amser llawn naill ai yn yr ysgol neu'r coleg. Roedd y cwestiwn yn un syml, ond hefyd yn un uchelgeisiol: a ellid cynyddu cyrhaeddiad a chyfranogiad drwy fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r problemau ariannol sy'n wynebu plant o deuluoedd incwm isel? Yn 2000, trodd 15 ardal awdurdod lleol yn 55, ac ar ôl i'r peilot ddod i ben, cafodd y lwfans cynhaliaeth addysg ei gyflwyno ledled y DU yn 2004. Parhaodd tan fis Hydref 2010, pan benderfynodd Llywodraeth y DU gael gwared arno.
Ond ni chafodd ei ddirwyn i ben yma yng Nghymru, ac fel y dywedais o'r blaen, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ei ddiogelu ar y pryd, ac wedi ei ddiogelu ers hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny fel cymaint o blant eraill o deuluoedd incwm isel. Ond os yw'n dal i fodoli yma yng Nghymru, pam ein bod yn cael y ddadl hon? Y gwir amdani yw bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn methu diwallu'r anghenion a'r heriau sy'n wynebu dysgwyr heddiw. Yn bennaf oll, nid yw gwerth taliad lwfans cynhaliaeth addysg yn agos at fod yn ddigon i gefnogi dysgwr. Mae'r gwerth wedi aros ar £30 yr wythnos ers 2004, bron i ddau ddegawd heb ei godi. Pe bai'r taliadau wedi cadw gyfuwch â chwyddiant, byddai'r taliad heddiw yn £45 yr wythnos. Mae hynny wedi arwain at doriad o draean mewn termau real yng ngwerth y lwfans cynhaliaeth addysg dros y cyfnod hwn. Yn 2020, dywedodd Robert, 17 ar y pryd, wrth Sefydliad Bevan,
'Mae angen mwy o lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw £30 yn prynu unrhyw beth i chi. Mae'n ddiwerth. Mae wedi mynd erbyn ichi dalu costau sylfaenol.'
Dywedodd Chloe, 16 ar y pryd, 'Mae'n iawn, ond yn anodd ei rannu ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch.' A dywedodd Thomas, a oedd yn 18 oed ar y pryd, fod llyfrau'n rhy ddrud i'w fforddio.
Ond y pryder mwyaf a nodwyd gan ddarparwyr addysg mewn perthynas â'r taliad fel y mae ar hyn o bryd, oedd bod rhai dysgwyr wedi rhoi'r gorau iddi oherwydd eu bod yn credu y byddent yn well eu byd yn ariannol yn hawlio lwfans ceisio gwaith neu'n cael swydd amser llawn. Roedd llawer yn methu fforddio parhau â'u haddysg hyd yn oed pan oeddent yn cael lwfans cynhaliaeth addysg. Mae hyn, wrth gwrs, yn mynd yn groes i'r brif egwyddor y sefydlwyd y lwfans cynhaliaeth addysg arni, a bydd y pandemig, a'r argyfwng costau byw mae'n siŵr, yn gwneud y sefyllfa'n waeth. Felly, mae angen mynd i'r afael â'r taliad wythnosol ar fyrder.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Yn ail, rhaid mynd i'r afael â'r meini prawf cymhwysedd a'u hehangu. Mae gormod o bobl ifanc yn cael eu cloi allan o gymorth y maent ei angen yn fawr. I raddau helaeth mae'r trothwyon wedi aros yr un fath ers 2011, sy'n golygu nad yw chwyddiant wedi cael ei ystyried. Oherwydd hyn mae angen i ddysgwyr heddiw fod yn dlotach na dysgwyr yn ôl yn 2011 er mwyn gallu ei hawlio. Unwaith eto, cyfrifodd Sefydliad Bevan y dylai'r trothwy cymhwysedd fod £4,000 yn uwch erbyn hyn ar ôl cynnwys chwyddiant a bod y gostyngiad termau real yn y trothwyon cymhwysedd wedi golygu bod nifer y dysgwyr sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg wedi gostwng yn gyson. At ei gilydd, mae'r nifer wedi gostwng o oddeutu 30,000 o ddysgwyr yn 2013 a 2014 i tua 20,000 yn 2018 a 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen mai newidiadau demograffig a fu'n gyfrifol am hyn, ond nid yw'r rhesymeg yn dilyn. Er bod nifer y bobl ifanc 16 ac 18 oed wedi gostwng 8 y cant, mae nifer y rhai sy'n cael lwfans cynhaliaeth addysg draean yn is. Neges gyffredin a glywir yn aml yw sut nad yw plant o aelwydydd incwm isel yn gallu fforddio bwyd yn y ffreutur neu ddeunyddiau dysgu perthnasol, ond eto nid ydynt yn gymwys ar gyfer lwfans cynhaliaeth addysg.
Yn olaf, mae pryderon gwirioneddol wedi'u mynegi wrthyf gan ddarparwyr addysg ynghylch cymhlethdod a diffyg ymwybyddiaeth o'r broses ymgeisio. Rhaid imi roi eiliad i ddiolch i'r tîm yng Ngholeg Penybont, a wnaeth y pwynt hwn yn gyson, yn enwedig Carys Swain, sydd wedi dadlau'n wych dros ddysgwyr yn y coleg. Mae'r broses ymgeisio ei hun yn cloi myfyrwyr allan, a daeth hyn yn amlwg eto mewn ymchwil a wnaed gan Sefydliad Bevan, yn ogystal â chael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn ei hadolygiad o'r lwfans cynhaliaeth addysg yn 2014. Mae colegau ac ysgolion, wrth gwrs, yn gwneud eu gorau i gyfeirio, ond mae'n heriol. Ceir llawer o ddysgwyr nad ydynt yn ymwybodol fod ganddynt hawl i lwfans cynhaliaeth addysg.
Felly, am beth y gofynnaf? Beth yw pwrpas y ddadl hon? Beth rwyf ei eisiau gan y Llywodraeth yn y lle cyntaf—. Ac wrth gwrs rwy'n cydnabod bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig ac mai gwaethygu a wnaiff pethau, ond yr hyn rwyf am ei gael yw sicrwydd fod y lwfans cynhaliaeth addysg yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a phan fo'r arian ar gael ym mhortffolio'r Gweinidog, fod y lwfans cynhaliaeth addysg yn un o'r meysydd polisi sydd ar frig y rhestr. Hoffwn ofyn hefyd i'r Gweinidog adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg, nid yn unig mewn perthynas â'r taliad ond hefyd y meini prawf cymhwysedd a'r broses ymgeisio, a bod y Llywodraeth yn gwella ei hymgyrch godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r hawl i gael y lwfans ymhlith dysgwyr ifanc.
Ddirprwy Lywydd, mae pob Aelod yn y Siambr yma yn awr oherwydd eu bod yn gwybod pa mor bwysig yw'r lwfans cynhaliaeth addysg i lwyddiant dysgwr o aelwyd incwm isel. Os caf ddod yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol ynglŷn â beth yw pwrpas y lwfans cynhaliaeth addysg, 'A allai lefelau cyfranogiad, cyrhaeddiad, godi drwy fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r problemau ariannol sy'n wynebu plant o aelwydydd incwm isel?' Wel, mae'r dystiolaeth yno i bobl ei gweld. Ond yn anffodus mae'n disgyn yn fyr o'r nod. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pryderon hyn. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth hefyd. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yn awr, yn fwy nag erioed, yw gweithredu.
A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am roi munud i mi yn y ddadl hon? Mae lwfans cynhaliaeth addysg yn bwysig iawn. O fy amser fel darlithydd coleg addysg bellach yn RhCT, pe na bai lwfans cynhaliaeth addysg wedi bodoli ni fyddai nifer o fyfyrwyr a aeth ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus mewn TGCh wedi gallu parhau â'u hastudiaethau. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn darparu cyllid i'w galluogi i barhau i astudio ac yna symud ymlaen i addysg uwch. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn caniatáu i'r rhai o deuluoedd llai cefnog barhau i astudio heibio i 16 oed. Mae'n dibynnu ar brawf modd, ac yn seiliedig ar gyfanswm incwm y teulu. A yw'n dal pawb sydd ei angen? Nac ydy. Ond mae'n cynnig rhaff achub i lawer. Rwy'n cytuno â Luke Fletcher fod angen ei ehangu. Mae angen i fwy o bobl fod yn gymwys i'w gael. Ond mae'n rhoi cyfle mor aruthrol i gymaint o bobl ifanc o gefndiroedd llai cefnog. Fel rhywun sydd, o brofiad personol ac o weld fy nghyn-fyfyrwyr yn llwyddo, wedi gweld yr hwb y mae addysg yn ei gynnig i incwm—po fwyaf o addysg a gawsoch, gorau oll yw eich gobaith o gael swydd dda—ni ddylid cyfyngu hynny i'r rhai sy'n dod o deuluoedd cefnog yn unig; dylai pob plentyn gael yr un cyfle. Mae lwfans cynhaliaeth addysg yn anghenraid i lawer.
Diolch, Luke, am ddod â hyn ger ein bron heddiw.
Mae'n rhaff achub i lawer. Ni allwn orbwysleisio ei bwysigrwydd. Un o'r pethau rwy'n falch iawn eich bod wedi'u pwysleisio heddiw yw'r meini prawf cymhwysedd, oherwydd un o'r pethau sydd wedi cael eu dwyn i fy sylw, gan rai y mae'r bobl ifanc yn eu teuluoedd yn dibynnu'n llwyr ar y lwfans cynhaliaeth addysg, yw'r meini prawf cymhwysedd pan fo'r person ifanc yn ofalwr. Ar hyn o bryd, rhaid i'w lefel presenoldeb fod yn 100 y cant er mwyn cael y lwfans cynhaliaeth addysg. Ac un o'r pethau a welwn dro ar ôl tro hefyd yw cynnydd mewn costau trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio arnynt rhag gallu cyrraedd y coleg ac ati i sicrhau presenoldeb 100 y cant. Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych arno yn awr. Yn ystod y pandemig, gwelsom fwy o golegau'n defnyddio Teams ac yn y blaen, a gallai pobl ymuno o bell, ond mae hynny'n cael ei dynnu'n ôl eto yn awr gan golegau, ac mae'r pwyslais ar fod yn bresennol yn gorfforol yn creu rhwystr mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod angen inni gofleidio'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig gyda phobl yn gallu ymuno o bell, oherwydd os na ellir cynyddu'r swm o arian a roddir drwy'r lwfans cynhaliaeth addysg ar hyn o bryd, gallwn o leiaf ei gwneud yn haws i fyfyrwyr allu bod yn bresennol a sicrhau nad ydynt yn colli'r taliadau hanfodol hyn, sy'n golygu eu bod yn rhoi'r gorau i addysg am nad yw eu teuluoedd yn gallu fforddio peidio â chael y £30 yr wythnos. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gall y Gweinidog weithio gyda cholegau i sicrhau bod y cymhwysedd yno ac nad yw pobl wedyn yn cael eu cosbi os na allant sicrhau eu bod yn bresennol 100 y cant o'r amser oherwydd llu o bethau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth, gan gynnwys yr argyfwng costau byw.
Diolch yn fawr iawn iti, Luke, am ddod â hwn ger ein bron heddiw a gadael i fi gyfrannu yn y ddadl yma sydd, dwi'n gwybod, yn bwysig iawn, iawn i ti.
Clywsom gan Heledd yn awr am y—. Ac rwyf am ddilyn ymlaen o'r hyn yr oedd Heledd yn ei ddweud: mae'r elusen Barnardo's Cymru'n mynd cyn belled â disgrifio'r lwfans cynhaliaeth addysg fel rhaff achub i lawer o'r bobl ifanc y maent yn eu helpu. Maent yn mynd cyn belled â dweud y gall olygu'r gwahaniaeth rhwng gofalwr ifanc yn gallu neu'n methu mynd i fyd addysg. Yn anffodus, mae llawer o'r gofalwyr ifanc hyn yn cael eu cosbi yn y pen draw, fel y dywedodd Heledd, drwy eu taliadau lwfans cynhaliaeth addysg oherwydd eu bod yn hwyr neu'n absennol, a achosir yn aml gan eu cyfrifoldebau gofalu. Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno â mi fod taliad a gollwyd i'r bobl ifanc hyn, sydd ond yn ceisio gwella eu rhagolygon ond sydd â chyfrifoldebau ychwanegol y tu hwnt i'r disgwyl i rai eu hoedran hwy, yn gwbl annheg. Ac a wnewch chi egluro i ni hefyd pa fath o lefel o ofal neu ddiogelwch sy'n cael ei roi i bobl ifanc sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg, yn enwedig gofalwyr ifanc, i wneud yn siŵr nad oes trydydd partïon yn camfanteisio arnynt? Diolch yn fawr.
Diolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn i'n hatgoffa nad yw'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cael ei uwchraddio ers 2004; mae'n amlwg yn prynu llawer llai nag yr arferai ei wneud ers talwm. Mae'n hanfodol—. Er gwaethaf y swm llai y mae'n ei brynu ar hyn o bryd, mae'n dal i fod yn ffordd wirioneddol hanfodol o alluogi pobl ifanc i aros mewn addysg a allai, fel arall, gael eu gwthio i swydd sy'n arwain i unman. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn annog pobl i aros yn eu haddysg ar ôl 16, fel bod gennym y gweithlu sydd eu hangen arnom i wneud yr holl dasgau newydd y mae cymdeithas eu hangen, yn enwedig gyda'r cynllun sero net. Mae angen inni hyfforddi nifer enfawr o bobl mewn swyddi glân a gwyrdd, yn ogystal â galluogi pobl i gael cymwysterau lefel mynediad, boed mewn gofal cymdeithasol a gofal iechyd, neu mewn sectorau eraill y gallent fod eisiau treulio eu bywyd ynddynt.
Rwy'n meddwl ei fod yn destun pryder fod yna lawer o ddysgwyr nad ydynt yn ymwybodol o'r lwfans cynhaliaeth addysg, oherwydd beth y mae ysgolion, colegau a sefydliadau addysg bellach yn ei wneud os nad ydynt yn ei hyrwyddo? Rwy'n credu y byddai'n dda clywed gan y Gweinidog am hynny a beth y gallwn ni ei wneud am y peth. Oherwydd mae'n stori debyg gyda'r daleb bwyta'n iach, gan nad yw rhai pobl yn cael honno, neu mae yna nifer fawr o bobl nad ydynt yn ei chael, ac yn sicr mae angen inni wneud y mwyaf o'r holl fudd-daliadau y dylai pobl allu eu cael yn y cyfnod hynod anodd hwn.
Galwaf yn awr ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rŷn ni'n cydnabod yr effaith bositif y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu ei gael ar bobl ifanc. Dyna pam rydym ni, yn ystod y blynyddoedd o gyni a orfodwyd ar Gymru gan y Llywodraeth glymblaid, wedi ceisio diogelu'r lwfans, yn wahanol i Loegr, lle gwnaed i ffwrdd ag ef yn 2011. A ninnau nawr, unwaith eto, yn wynebu cyfnod ariannol anhygoel o anodd, ydyn, rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo yn unol â’n rhaglen lywodraethu i gynnal y lwfans. Ochr yn ochr â'n hymrwymiadau eraill i bobl ifanc, ac ar gost flynyddol o £17 miliwn, mae’r lwfans cynhaliaeth addysg yn ei wneud e’n bosib i fwy na 18,000 o bobl ifanc barhau mewn addysg ôl-orfodol bob blwyddyn. Mae bron i un o bob tri—31 y cant—o fyfyrwyr llawn amser sy’n bodloni’r meini prawf cymwys o ran oed yn cael cymorth trwy’r lwfans cynhaliaeth addysg.
Mae cyfradd taliadau presenoldeb y lwfans cynhaliaeth addysg, sef £30 yr wythnos, yn gyson â’r hyn sydd ar gael yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Wrth gwrs, dwi’n deall bod yna bryderon, yn enwedig mewn cyfnod o argyfwng, nad yw’r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cynyddu ers peth amser. Dwi’n cydnabod gwaith Sefydliad Bevan ac yn parhau i groesawu eu safbwyntiau o ran lle y gallwn ni wella ymhellach ein hymrwymiad i bobl ifanc. Dwi’n sylweddoli bod pobl ifanc hefyd yn teimlo straen ariannol yr argyfwng costau byw sy’n bodoli ar hyn o bryd. Ond ar adeg pan fo'n rhaid inni i gyd fynd i’r afael â’r pwysau newydd ar wariant, dyw hi wir ddim yn bosib cynyddu cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 i £45. Rydyn ni’n amcangyfrif y byddai gwneud hynny yn golygu £8.5 miliwn yn rhagor y flwyddyn. Hefyd, er fy mod i’n deall nad yw’r trothwy ar gyfer ystyried aelwyd person ifanc yn gymwys i gael y lwfans wedi newid, byddai’r £8.5 miliwn ychwanegol a fyddai ei angen i gynyddu’r gyfradd yn codi i fwy na £15 miliwn y flwyddyn pe baem ni’n cyflwyno’r newidiadau hyn.
Yn sgil y cynnydd cyflym mewn chwyddiant, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwybod, ar y cyfan, y bydd ein cyllideb yn werth tua £4 biliwn yn llai dros y cyfnod hwn o dair blynedd nag a dybiwyd o'r blaen. I bob pwrpas, mae hyn yn doriad i'n cyllideb. Heb unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU na thoriadau i ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu bresennol a'r cytundeb cydweithio, bydd rhaid i'n huchelgais orffwys am y tro gyda chynnal y lwfans cynhaliaeth addysg. Er gwaethaf y cyfyngiadau ar gynyddu cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg rydym wedi ehangu'r garfan gymwys i gynnwys rhai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau teuluol y rhai sydd â statws mewnfudo gwarchodedig, ac yn fwy diweddar, yr ehangu i gynnwys pobl ifanc sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.
Gall pob person ifanc wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd, a lle mae eu hamgylchiadau teuluol yn newid, gan arwain at ostyngiad mewn incwm, rydym yn annog pobl ifanc i wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg gydag asesiad incwm y flwyddyn gyfredol. Mae ein hysgolion a'n colegau'n gweithio'n agos gyda'u dysgwyr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Gall pobl ifanc sy'n derbyn lwfans cynhaliaeth addysg gael mynediad at ystod o gymorth ychwanegol hefyd. Yn aml gall ysgolion a cholegau fenthyg offer TGCh ac adnoddau dysgu, gan gael gwared ar yr angen i wario eu lwfans cynhaliaeth addysg ar eitemau cwrs hanfodol. Mae'n bosibl hefyd y gallant gael cludiant am ddim neu wedi'i sybsideiddio yn ystod eu cwrs gan eu hawdurdod lleol. Mae dros £6 miliwn wedi'i ddarparu i sefydliadau addysg bellach, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd 2022-23 ar gyfer y gronfa ariannol wrth gefn. Nod y gronfa yw sicrhau nad yw dysgwyr ledled Cymru, yn cynnwys y rhai sy'n derbyn lwfans cynhaliaeth addysg, yn cael eu rhwystro gan gyfyngiadau ariannol. Er enghraifft, gall dysgwyr cymwys dderbyn arian ychwanegol tuag at ffioedd cwrs, deunyddiau cwrs, costau gofal plant, bwyd ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig ag astudio. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022-23, mae mynediad at y gronfa ariannol wrth gefn wedi cael ei ymestyn i gynnwys ceiswyr lloches ac unrhyw ddysgwr sy'n gymwys o dan y cymhwysedd cyllid ôl-16 ar gyfer cyllid prif ffrwd.
Yn fwy cyffredinol, mae pob ysgol a sefydliad addysg bellach yng Nghymru wedi cael cyllid i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at gynhyrchion mislif am ddim a phrydau bwyd am ddim yn ystod gwyliau coleg, pecyn cymorth cyfunol sy'n werth dros £1.5 miliwn. Mae gosod y sylfaen ar gyfer addysg ôl-orfodol yn cychwyn yn y cyfnod sylfaen, ac rydym yn darparu ystod eang o gymorth i ddysgwyr wrth iddynt gamu ymlaen drwy'r ysgol. Yn unol â'r cytundeb cydweithio, rhoddwyd £35 miliwn o gyllid cyfalaf newydd i awdurdodau lleol i'w fuddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau arlwyo ysgolion ac mae £200 miliwn wedi'i ymrwymo ar gyfer y ddarpariaeth o ddydd i ddydd dros y tair blynedd nesaf i gyflwyno prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru.
I orffen, Ddirprwy Lywydd, er ein bod yn parhau i fod yn gyfyngedig yn ein gallu i godi cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg, fel Llywodraeth rydym yn parhau i ymateb i'r argyfwng presennol gyda rhaglenni pellgyrhaeddol o gymorth i aelwydydd gyda'r nod o helpu ein pobl ifanc a'u teuluoedd sydd ar incwm isel. Byddwn yn parhau i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ni i gefnogi ein pobl ifanc ac i sicrhau nad yw arian byth yn rhwystr i gael mynediad at addysg.
Diolch i’r Gweinidog, a diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:30.