Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/10/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso i'r cyfarfod y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Alun Davies. 

Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mlaenau Gwent

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosib polisïau economaidd Llywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent? OQ58545

Llywydd, pobl ym Mlaenau Gwent fydd yn talu am bolisi Llywodraeth y DU o doriadau treth heb eu hariannu ar gyfer y cyfoethog. Gofynnir iddyn nhw dalu am y dyledion y bydd y Llywodraeth ddi-hid hon yn eu cronni. Toriadau i wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill fydd canlyniad bwriadol y trychineb economaidd hwn.

Diolch yn fawr. Gwnaethom ddeffro y bore yma wrth gwrs i'r newyddion gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid bod twll gwerth £60 biliwn heb ei ariannu yng nghyllid cyhoeddus y DU o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU—nid o ganlyniad i ryfel yn Ewrop, nid o ganlyniad i COVID, ond o ganlyniad i'w penderfyniadau eu hunain. Cyn i ni orffen ein brecwast, roedd Banc Lloegr wedi cyhoeddi ei fod yn ehangu'r ymyrraeth i gynnal rhywfaint o sefydlogrwydd mewn marchnadoedd. Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi mai'r casgliad yr ydym ni wedi dod iddo yw bod naill ai Llywodraeth Geidwadol y DU yn gwbl anfedrus o ran cyllid cyhoeddus ac na ellir ymddiried ynddi i redeg cyllid cyhoeddus, neu mae hi'n ei wneud yn fwriadol, fel y nododd Simon Clarke ychydig wythnosau yn ôl, pan ddywedodd fod angen gwladwriaeth lai arnom i gyd-fynd ag economi treth isel—toriadau treth ar gyfer y cyfoethog y telir amdanyn nhw gan doriadau i wasanaethau cyhoeddus i bawb arall? Prif Weinidog, mae angen i'r Llywodraeth hon warchod pobl Blaenau Gwent yn y ffordd y mae angen iddi warchod pobl Cymru rhag yr anfedrusrwydd hwn a'r cynllwyn hwn yn erbyn y sector cyhoeddus. Rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru sicrhau y gallwch wneud popeth yn eich pwerau i ddiogelu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl Blaenau Gwent eisiau gweld buddsoddi ynddyn nhw ac nid toriadau. Diolch. 

Wel, Llywydd, rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i amddiffyn pobl ym Mlaenau Gwent ac mewn rhannau eraill o Gymru rhag yr ymosodiadau hyn arnom. Llywydd, nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio'r difrifoldeb sy'n wynebu economi'r DU heddiw. Neithiwr, llithrodd y bunt ymhellach ar farchnadoedd rhyngwladol, a phan fydd Banc Lloegr yn ymyrryd a rhoi datganiad i ddweud mai'r rheswm eu bod yn gorfod ymyrryd yw oherwydd bod 'risg ddiriaethol' i sefydlogrwydd ariannol y DU—mae Banc Lloegr yn dewis pob un gair gyda'r gofal a'r pwyll mwyaf—nid yw hwn yn sylw ffwrdd-â-hi, Llywydd; dyna ddatganiad o Fanc Lloegr sy'n arwydd i bawb arall pa mor ddifrifol yw sefyllfa economi'r Deyrnas Unedig.

Neithiwr crynhodd Jim Pickard, y newyddiadurwr uchel ei barch y Financial Times, a arferai gwmpasu Cymru yn rhan o'i rawd, pan ofynnwyd iddo beth y mae hyn i gyd yn ei olygu, dywedodd y bydd yn golygu'r tri pheth hyn: bydd cyfraddau morgeisi yn parhau i gynyddu, bydd costau benthyca'r Llywodraeth yn cynyddu'n sydyn, a bydd cronfeydd pensiynau unwaith eto mewn argyfwng. Ac mae amcangyfrif y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bore yma o doriad o £60 biliwn mewn un flwyddyn mewn gwariant cyhoeddus yn golygu toriadau go iawn yma yng Nghymru. Maen nhw'n amcangyfrif toriad o 15 y cant mewn cyllidebau adrannol. Llywydd, byddai toriad o 15 y cant i gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhywbeth na welwyd hyd yn oed yn ystod dyddiau tywyllaf cyni, ac rwyf eisiau dweud mewn modd difrifol heddiw, os wynebwn ni doriadau ar y raddfa honno, rydym yn sôn am filoedd ar filoedd o bobl yn colli eu swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gyda'r holl effaith fydd hynny yn ei gael ar fywydau'r bobl hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hynny. Rydym yn wynebu canlyniadau mwyaf difrifol y penderfyniadau a wnaed dim ond ychydig wythnosau yn ôl. A'r ateb yw bod yn rhaid i Lywodraeth y DU—mae'n rhaid iddi—newid cwrs. Rhaid iddi wneud yr hyn a ddywedodd Rishi Sunak bod angen ei wneud yn ystod yr etholiad arweinyddiaeth gyda Liz Truss. Beth ddwedodd e? 'Os nad ni yw'r blaid arian cadarn, dydw i ddim yn gweld diben i'r Blaid Geidwadol.' A does dim arian cadarn yn unman i'w gael o dan Lywodraeth Liz Truss.

13:35

Yn amlwg, roeddem yn disgwyl i'r rhethreg wleidyddol lifo heddiw. [Torri ar draws.] Mae Aelod Blaenau Gwent, o dan hynna i gyd, rwy'n siŵr yn bryderus iawn am wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent ac ni wnaeth gyfeirio at hynny. Er enghraifft, yr hyn sy'n arbennig o heriol ar hyn o bryd yw'r pwysau yn—[Torri ar draws.]

Gawn ni glywed yr Aelod, os gwelwch yn dda? Rwy'n credu bod angen i'r Prif Weinidog glywed ac mae angen i ni i gyd glywed yr Aelod yn cyfrannu—ac mae hynny'n cynnwys pobl o'ch meinciau eich hun i fod yn dawel, yn ogystal â meinciau cefn y Llywodraeth. Diolch.

Diolch Llywydd. Roeddwn i'n siarad am wasanaethau cyhoeddus lleol. Er enghraifft, mae'n gyfnod arbennig o heriol i lywodraeth leol, fel y gwyddoch chi, gyda'r pwysau cynyddol ar wasanaethau sydd ganddyn nhw, ac mae'r galw i'w deimlo'n arbennig ym maes gofal cymdeithasol, mewn gwasanaethau oedolion a phlant. Yn sir Fynwy, er enghraifft, mae'r angen am ofal sydd heb ei ddiwallu dros 2,000 awr yr wythnos ar hyn o bryd. Er fy mod yn gwybod y bydd rhywfaint o'r £70 miliwn o gyllid canlyniadol, sydd, fe wn i yn swm bach, sy'n gysylltiedig â'r cyhoeddiad ar dreth stamp yn Lloegr, yn ariannu rhan o'ch cyhoeddiadau treth trafodiadau tir, mae tua £46 miliwn ar ôl o'r cyhoeddiad hwnnw y credaf ei fod yn dal heb ei ddyrannu. Prif Weinidog, rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth alwadau ar ei chyllideb, ond a wnewch chi'n ystyried sianelu rhywfaint o'r arian hwnnw i lywodraeth leol i'w helpu i ymdopi â'r pwysau gofal cymdeithasol cynyddol, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae hynny'n hanfodol er mwyn datgloi'r broblem enfawr honno sydd gennym ni gyda'r GIG yn tanberfformio yn y wlad hon ar hyn o bryd?

Llywydd, mae Peter Fox, yn siarad bob amser ag awdurdod mewn cysylltiad â llywodraeth leol, o ystyried ei brofiad o arwain awdurdod lleol. Bydd yn gwybod sut mae arweinydd awdurdod lleol yn teimlo pan fo'n ystyried gostyngiad o 15 y cant yn ei gyllidebau. Ac mae'n iawn fod cyllid canlyniadol yn sgil newidiadau i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr. Ond yr hyn na fydd wedi cael cyfle i'w weld, rwy'n dychmygu, yw gweld bod Llywodraeth y DU, ddoe, wedi cyhoeddi y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru £70 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf a £70 miliwn yn llai eto yn y flwyddyn wedyn. Felly, efallai y bu £70 miliwn o ganlyniad i dreth dir y dreth stamp dros gyfnod o dair blynedd, ond, ddoe, fe wnaethon nhw gyhoeddi—ac mae hyn cyn yr holl doriadau a ddaw ar 31 Hydref—y bydd ein cyllideb £70 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn. Mae hynny'n golygu bod y cyfleoedd, er mai rhai bach fydden nhw wedi bod, i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r pwysau gwirioneddol yr amlinellodd Peter Fox yn gwbl briodol, wedi eu dileu mewn un llythyr gan y Trysorlys.

Yr Argyfwng Costau Byw

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynglŷn â'r argyfwng costau byw sy'n wynebu trigolion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ58550

Llywydd, ni ddaeth cyfle i drafod hwn nac unrhyw fater arall o du Prif Weinidog diweddaraf y DU.

Wel, rwy'n credu bod hynny'n hurt. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch, efallai y dylai Liz Truss fyfyrio ar yr hyn yr ydym ni'n ei ddysgu i'n plant am bwysigrwydd deialog a thrafodaeth agored. Pan lwyddwch i gael gafael arni, a wnewch chi bwyso ar Brif Weinidog y DU i roi ateb i'r tri cham gweithredu ar gostau byw y mae'r gweinyddiaethau datganoledig yn galw amdanyn nhw: y cynnydd o £25 i bob budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, diddymu'r cap budd-dal a'r terfyn dau blentyn, ac ymgyrch frys i hybu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau? Byddai'r camau hyn yn lleddfu'r baich ar lawer o aelwydydd yn fy rhanbarth i ar unwaith ac yn atal degau o filoedd yn fwy o bobl yn y wlad hon rhag cael eu gwthio i dlodi.

Llywydd, diolch i Joyce Watson am hynna, a diolch iddi am dynnu sylw at y ffaith ei bod hi'n ddiwrnod y ferch heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae ein rhan, ynghyd â llywodraethau o amgylch y byd yn hynny o beth. Rwy'n falch iawn yn wir o roi gwybod i'r Aelodau fod Jaime, sydd wedi bod yn fy nghysgodi dros y 24 awr ddiwethaf, yn yr oriel a bydd yn gwylio ein trafodion y prynhawn yma. Llywydd, wrth gwrs, pan fydd cyfleoedd yn codi, bydd Gweinidogion eisiau dilyn y pwyntiau yr ydym wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU drwy'r ohebiaeth gan ein Gweinidog cyllid. Ond nid yn unig y ffaith na ddaeth gwahoddiad i gwrdd â Phrif Weinidog y DU, ond y ffaith nad yw un o gydrannau'r adolygiad rhynglywodraethol y cytunwyd arnyn nhw yn ofalus ac a gwblhawyd gan Lywodraeth ddiwethaf y DU, y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn gweithredu ychwaith. Roedd cyfarfod o'r hyn sy'n cael ei alw'n FISC, Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid i fod i ddigwydd. Roedd i fod i ddigwydd ym mis Medi; cafodd ei ohirio gan Lywodraeth y DU. Fe'i haildrefnwyd ar gyfer 5 Hydref; mae wedi cael ei ohirio eto gan Lywodraeth y DU. Nid yw un o'r ddau bwyllgor hynny—y pwyllgor gweinidogol a'r pwyllgor cyllid—wedi cwrdd ers i'r Prif Weinidog newydd ddod i rym. Sefydlwyd 11 o grwpiau ar lefel weinidogol dan yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol. Bu 20 o gyfarfodydd o'r grwpiau hynny rhwng mis Mawrth a dechrau mis Medi. Does dim un ohonyn nhw wedi cwrdd ers i'r Prif Weinidog newydd ddod i rym. Mae'n chwalfa—mae'n chwalfa—o set o drefniadau y cytunodd y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, dan arweiniad ac, i raddau, a ddigwyddodd yn y chwe mis rhwng mis Mawrth a mis Medi. Fe wnawn ni gymryd pa bynnag gyfleoedd sy'n dod i'n rhan ni, ond y gwir yw bod Llywodraeth bresennol y DU wedi troi ei chefn nid yn unig ar ein dyfodol economaidd, ond ar ddyfodol y Deyrnas Unedig hefyd. 

13:40

Prif Weinidog, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dechrau ymchwiliad i ddeintyddiaeth yn ddiweddarach yr wythnos hon. Fel y gwyddoch chi, mae problemau enfawr o ran pobl yn gallu cael triniaeth ddeintyddol, ond un o'r prif broblemau yw'r effaith y bydd yr heriau costau byw yn ei chael ar gleifion. Pryder a godwyd yw y bydd cleifion sy'n cael triniaeth breifat nawr yn ymuno â rhestrau aros y GIG, neu'n ceisio ymuno â nhw, ac, yn ôl Conffederasiwn GIG Cymru, mae gan hynny'r potensial i roi mwy o bwysau fyth ar y system. Nawr, yn ôl ymatebion yr ymgynghoriad, mae anghydraddoldebau enfawr ym maes iechyd y geg. Nid yw cleifion newydd sy'n byw yn y canolbarth, yn enwedig os ydych chi'n byw ym Mhowys, yn gallu cael gafael ar ddeintydd y GIG o gwbl. Felly, a gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gau'r bwlch anghydraddoldeb? A beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i gefnogi'r rhai nad ydyn nhw'n gallu fforddio cael gafael ar driniaeth ddeintyddol?  

Wel, Llywydd, bydd unrhyw beth yr wyf i ar fin ei ddweud, gall yr Aelod fod yn sicr, yn bitw o gymharu ag effaith y toriadau y gwyddom bellach eu bod ar eu ffordd. Felly, mae angen rhyw fath o realaeth bwyllog, hyd yn oed gan Aelodau ar y meinciau Ceidwadol. Nawr, o ganlyniad i'r newidiadau i'r contract deintyddol, newidiadau a oedd, wrth gwrs, yn cael eu gwrthwynebu gan Aelodau ar y meinciau hynny, bydd degau o filoedd o apwyntiadau newydd ar gael yng ngwasanaeth deintyddol y GIG yn y flwyddyn galendr hon. Eisoes, mae miloedd yn rhagor o gleifion y GIG yn cael eu derbyn ym mhob rhan o Gymru. Roedd yna dwf disgwyliedig, rwy'n credu, o ychydig dros 120,000 o gleifion deintyddol o ganlyniad i'r newidiadau i'r contract. Rydym ni wedi cyflawni dros hanner hynny yn hanner cyntaf y flwyddyn, ac mae hynny'n cynnwys ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys—y bwrdd iechyd lleiaf oll—lle mae cannoedd a channoedd o apwyntiadau newydd yn bosibl. Rwy'n credu bod hynny'n deyrnged i'r gwaith a wnaed ochr yn ochr â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i lunio'r cytundeb newydd, ond bydd y pwysau yr ydym ar fin ei wynebu yn cael ei deimlo ym maes deintyddiaeth, fel ym mhob rhan arall o'r gwasanaethau a ddarperir gan GIG Cymru. 

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwyf eisiau dweud fy mod i'n teimlo ei bod hi'n drist iawn nad yw'r Ceidwadwyr ar ochr arall y meinciau yn gwrando ar y pryderon go iawn sydd gennym ni ynghylch gwasanaethau yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio, drwy wrando—drwy wrando—eich bod yn gallu cyfleu'n glir iawn y neges bod angen sgwrs rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn datrys ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym yn clywed, tra bo pensiynwyr yn destun clo triphlyg ar eu pensiwn gwladol, mae'r rhai sy'n hawlio mathau eraill o fudd-daliadau lles yn wynebu'r posibilrwydd o doriadau sylweddol mewn termau real i'r hyn y byddant yn ei gael. Gobeithio, Prif Weinidog, y byddwch chi'n condemnio'r sefyllfa benodol honno, ac y bydd hynny'n cael ei glywed gan gydweithwyr Ceidwadol hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd pethau'n newid o ran y mater penodol hwnnw. 

Rwyf eisiau edrych ar ddigartrefedd, yn enwedig mater tai yn y canolbarth a'r gorllewin, a diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater penodol hwn. A wnewch chi amlinellu'r camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sefydlu llawr ar gyfer taliadau tai dewisol, a fyddai'n rhoi sicrwydd i gynghorau o ran yr arian sydd ar gael iddyn nhw i atal achosion o droi allan a digartrefedd? Diolch yn fawr iawn.

13:45

Diolch i Jane Dodds. Ar ddiwrnod sobreiddiol iawn, mae'n hollol sobreiddiol dychmygu y gallai'r bobl sy'n ymdopi ar bron i ddim yn ein cymdeithas ac sy'n gweld eu biliau'n cynyddu drwy'r amser, fod yn wynebu'r ffaith na fydd eu budd-daliadau hyd yn oed yn codi yn unol â chwyddiant, fel yr addawyd ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2019. Rwy'n cytuno â Penny Mordaunt, a ddywedodd y byddai'n amhosibl meddwl y gallai hynny ddigwydd.

Yr wythnos diwethaf, gofynnais i arweinydd yr wrthblaid yma a fyddai'n ychwanegu ei lais at yr ymgyrch i sicrhau bod y lleiaf cefnog yn ein cymdeithas yn cael eu diogelu drwy gynyddu eu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Rwy'n cynnig y cyfle hwnnw iddo eto'r prynhawn yma. Bydd yn ymuno â llawer o Geidwadwyr sy'n credu y dylai hynny fod yn wir. Os nad ydyw, bydd popeth arall yr ydym yn ei weld a fydd yn effeithio ar fywydau'r bobl hynny yn cael eu gwneud hyd yn oed yn llai dioddefadwy gan weithredoedd Llywodraeth a fydd wedi dewis ei blaenoriaethau—fel y gwyddom, gan godi'r cap ar fonysau bancwyr a bod yn barod i dorri budd-daliadau y rhai lleiaf cefnog.

Mae hynny'n sicr i'w deimlo ym maes tai, fel y dywedodd Jane Dodds. Cafodd taliadau tai dewisol eu torri gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf. Maen nhw'n offerynnau mor ddefnyddiol i awdurdodau lleol, dyma'n union y math o beth yr oedd Peter Fox yn cyfeirio ato'n gynharach. Arian lleol sy'n caniatáu i awdurdod lleol ymateb i'r setiau penodol o amgylchiadau y maen nhw'n yn eu hwynebu a'r hyn y gallan nhw ei wneud i ymyrryd gyda'r taliadau dewisol hynny i osgoi'r llwybr llawer drytach, sef teuluoedd yn dod yn ddigartref. Rydym yn gwneud ein gorau yn y flwyddyn ariannol hon i roi mwy o'n harian i wneud yn iawn am golli arian y DU yn y maes hwn. Ond, ni fydd ond yn un peth arall ar restr hir iawn o bethau na fyddwn yn gallu eu cynnal ar y lefel bresennol os yw ein cyllidebau'n cael eu lleihau yn y ffordd yr addewir nawr.

Prif Weinidog, pan fydd Prif Weinidog y DU yn siarad â chi o'r diwedd ac nid amdanoch chi yn unig, a wnewch chi ei sicrhau hi ar ran pobl y canolbarth a'r gorllewin nad ydych chi yn erbyn twf o gwbl ond eich bod chi gyda balchder, yn erbyn trachwant?

Llywydd, mae'r nonsens ein bod ni rywsut—er ein bod ni ar restr hir iawn, iawn o bobl eraill y mae Prif Weinidog y DU wedi nodi nad ydyn nhw'n rhannu ei barn hi ar y byd, mae'n debyg. Tyfodd economi Cymru, yn ôl y ffigurau a gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd ym mis Medi, yn gynt y llynedd nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig. Felly, pa ffon fesur posibl y mae Prif Weinidog y Du yn ei defnyddio i ddod i'r casgliad ein bod yn gwrthwynebu twf, wel nid oes gennyf syniad o gwbl. Rydym ni'n gwybod—ac yn sicr fe wnaeth Ken Skates, yn ei gyfrifoldebau blaenorol, lawer iawn i gyfrannu at hyn—y cynhwysion sy'n creu twf. Mae'n fuddsoddiad gan y cyhoedd a'r sectorau preifat i wneud yn siŵr bod gan bobl sy'n cyflawni swyddi yn economi Cymru a'r DU yr offer gorau posibl ar gael iddyn nhw, ac mae'n fuddsoddiad mewn sgiliau fel bod y bobl sydd gennym mor gymwys ag y gallan nhw fod hefyd i wneud eu cyfraniad mwyaf at yr economi. 

Mae'r syniad bod y Deyrnas Unedig, sydd eisoes yn economi dreth isel wedi'i dadreoleiddio, llawer mwy nag economïau llawer mwy llwyddiannus mewn mannau eraill, angen mwy o hynny fel llwybr i dwf—nid oes tystiolaeth ar ei gyfer ac nid oes ffydd ynddo, nid yn unig gan wrthbleidiau ond gan farchnadoedd ledled y byd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf fe wnes i eich herio ar eich anallu i gyflwyno ymchwiliad COVID, ac mae gwahaniaeth rhwng fy marn i a'ch barn chithau, ac rwy'n derbyn hynny, ac mae hynny'n wahaniaeth gwleidyddol. Fodd bynnag, mae Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru eisiau'r ymchwiliad annibynnol hwnnw. Yn ystod eich atebion i mi, fe wnaethoch chi nodi eu bod nhw wedi 'symud ymlaen'. A ydych chi'n derbyn mai eu nod o hyd yw cyflawni ymchwiliad COVID Cymru gyfan annibynnol?

13:50

Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n well i mi ddyfynnu geiriau'r teuluoedd mewn profedigaeth eu hunain, fel nad oes amwysedd o ran yr hyn rwy'n ei ddweud. Felly, dyma—. Rwy'n dyfynnu nawr yn uniongyrchol o'r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ganddyn nhw ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n credu'n gryf mai ymchwiliad i Gymru gyfan fyddai'r ffordd orau o,

'gyflawni'r gwaith craffu y mae Cymru'n ei haeddu'.

Dyna fu eu barn nhw erioed. Rwyf wedi ei ailadrodd a'i drafod gyda nhw mewn pum cyfarfod ar wahân. Ânt ymlaen i ddweud, er gwaethaf y cyfarfodydd hynny, mae'r Prif Weinidog,

'yn dal heb ei argyhoeddi mai dyma'r ffordd iawn i fynd ymlaen'.

Dyna grynodeb teg iawn o fy safbwynt i. A fy mod i'n credu hynny,

'rhaid i bob penderfyniad sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru gael ei weld yng nghyd-destun y rhai a wneir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig'.

Unwaith eto, cynrychiolaeth hollol deg o fy marn i. Yna maen nhw'n dweud,

'felly, mae CBFJC wedi symud eu pwyslais i sicrhau y bydd craffu llawn ar Gymru yn Ymchwiliad Covid-19 y DU'.

Rwy'n credu ei bod hi'n haws i mi roi eu geiriau ar gofnod yn hytrach na cheisio eu dehongli nhw fy hun.

Rwy'n derbyn y pwynt yr ydych chi wedi'i wneud, Prif Weinidog, ond yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi geisio gwneud y pwynt eu bod wedi 'symud ymlaen', pan fo eich sylwadau agoriadol mewn gwirionedd yn ein cyfeirio at eu datganiad i'r wasg yr wythnos diwethaf yn dangos yn glir eu bod eisiau cael ymchwiliad Cymru gyfan, annibynnol. Ond fe fydd y cofnod yn siarad a bydd pobl yn barnu yn unol â hynny.

Hoffwn godi gyda chi, Prif Weinidog, e-bost fy etholwr a gefais neithiwr. Tynnodd Ross sylw at y profiad gafodd ei nain yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Rwy'n gwerthfawrogi na allwch ymateb i achosion unigol, ond roedd hon yn neges e-bost arbennig o ingol a gefais, ac rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn cael y negeseuon e-bost hyn. Aeth ei nain 86 oed i'r adran damweiniau ac achosion brys, nid mewn ambiwlans, ond mewn tacsi, a hithau o dan amheuaeth o fod wedi dioddef strôc, oherwydd cafodd wybod y byddai'n cymryd sawl awr, os nad diwrnod cyfan, i gael ambiwlans ar ei chyfer. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, arhosodd 20 awr cyn gweld meddyg—20 awr. Ei hasesiad nawr yw na fydd hi byth yn mynd yn ôl i ysbyty, a'r cyfan y mae'n dymuno amdano yw y caiff farwolaeth ddi-boen. 

Nawr, ym mis Mehefin, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru archwiliad dirybudd o'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Rwy'n gobeithio, fel Aelod dros etholaeth yma yng Nghaerdydd, eich bod yn gyfarwydd â chanlyniadau eu hargymhellion a'r sefyllfa a ganfuwyd ganddynt. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf fy mod wedi amlygu anallu gwrthblaid. Allech chi ddangos gallu eich Llywodraeth i mi wrth fynd i'r afael ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran damweiniau ac achosion brys, ac yn benodol, mynd i'r afael â'r pryderon sydd gan nain Ross, na fydd hi byth yn mynd i adran ddamweiniau brys eto ac sy'n dymuno marwolaeth ddi-boen?

Wel, mae angen i bryderon yr unigolyn gael eu trafod gan y clinigwyr sy'n gyfrifol am ei gofal, oherwydd byddai'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'i ddweud yn amlwg yn annerbyniol, ac mae angen i'r rhai a oedd yn gyfrifol drafod gyda hi sut mae hi'n teimlo nawr a beth allan nhw ei wneud i wneud iawn am hyn.

Rwy'n gyfarwydd wrth gwrs, Llywydd, ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n bwysig pwysleisio, onid yw e, bod yr adroddiad wedi canfod bod y mwyafrif o gleifion wedi dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch a'u bod yn cael gofal brys da. Dyna mae'r adroddiad yn ei ddweud. Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod nifer o ffactorau amgylcheddol yn effeithio ar allu staff i ddarparu gofal urddasol. A gadewch i mi fod yn glir y prynhawn yma, Llywydd; mae'n gwbl annerbyniol i mi ddarllen adroddiad sy'n dweud bod adran achosion brys yn fudr, nad oes gan adran achosion brys ddigon o gadeiriau i bobl eistedd arnyn nhw, ac nad yw adran achosion brys yn gallu cynnig dŵr i bobl sy'n aros.

Edrychwch, rwy'n deall bod y system o dan bwysau enfawr, gyda niferoedd digynsail o bobl yn dod i mewn, a staff sydd o dan y pwysau mwyaf oherwydd yr hyn y maen nhw wedi mynd drwyddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw hynny'n esgusodi bwrdd iechyd am fethu â chyflawni'r safonau amgylcheddol sylfaenol iawn hynny. Nawr, heddiw, mae'r Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi £2 filiwn arall i helpu byrddau iechyd ledled Cymru gyda'r pethau bach, sylfaenol hynny sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i brofiad y claf ac i brofiad staff hefyd. Mae'n ddigon anodd gweithio yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru heb orfod teimlo bod yr amgylchedd yr ydych chi'n gweithio ynddo yn fudr ac yn annerbyniol. Felly, mae'r Aelod yn gofyn 'Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud?' Wel, fe ddown o hyd i swm arall o arian y byddwn yn ei ddarparu i'r adrannau brys hynny, ac yna edrychaf yn ar y bobl sy'n cael eu talu i reoli'r sefydliadau hynny i wneud yn siŵr y cedwir yn briodol at y safonau sylfaenol hynny ac nad yw'r amgylchedd ffisegol y mae'n rhaid i staff weithio ynddo ac y bydd cleifion yn dod iddo o'r math a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad hwnnw. 

13:55

Un o'r enghreifftiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwnnw, Prif Weinidog, oedd plant yn cyrraedd â llosgiadau difrifol ac, oherwydd nad oedd offer ar gael, roedd staff yn gorfod rhoi plant mewn sinciau i oeri eu llosgiadau neu ddefnyddio'r cawodydd yn ystafelloedd newid staff. Dyna lefel yr her yn yr adran damweiniau ac achosion brys honno, ac yn wir adrannau damweiniau ac achosion brys ar draws Cymru gyfan.

Yr hyn y byddwn i'n ei awgrymu hefyd yw mai un o wasgbwyntiau mawr adrannau damweiniau ac achosion brys yn amlwg yw'r amseroedd aros y mae pobl yn eu dioddef pan fydd yn rhaid iddyn nhw fynd ar restrau a phan nad ydyn nhw'n cael triniaethau. Mae hynny'n rhoi pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, gyda phobl yn cyrraedd gyda chymhlethdodau wedi datblygu yn sgil yr arosiadau. Nawr, dywedodd y Gweinidog Iechyd, ar Sunday Supplement nad yw wedi rhoi'r gorau iddi o ran amseroedd aros eto—dyfyniad uniongyrchol o Sunday Supplement. Yr un amser aros yr heriwyd hi i ddweud y byddai'r Llywodraeth yn ei gyflawni oedd y targed cyntaf o gyflawni holl apwyntiadau cleifion allanol erbyn diwedd y flwyddyn ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn aros 12 mis neu fwy. A ddywedwch chi'n nawr y bydd y targed penodol hwnnw'n cael ei gyrraedd ymhen ychydig dros ddau fis a hanner?

Wel, yr hyn a ddywedaf i, Llywydd, yw bod arosiadau hir yn y GIG yng Nghymru wedi gostwng dros bedwar mis yn olynol, ac mae pobl ledled y system yn gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y targedau y mae'r gwasanaeth iechyd wedi ymrwymo iddyn nhw. Mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn, mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn ymdrin â methiannau mewn rhannau eraill o'r system—nid cymaint, rwy'n credu, â'r methiant y cyfeiriodd ato. Ond, rydym ni'n gwybod, pan fydd pobl yn teimlo efallai na fyddan nhw'n cael apwyntiad mewn mannau eraill yn y system, maen nhw'n gwybod y gallan nhw fynd i adran damweiniau ac achosion brys ac yn y diwedd, cael eu gweld. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach nag yr oeddech chi eisiau ac efallai na fyddai amgylchedd y bydd yn rhaid i chi aros ynddo yr hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl, ond yn y diwedd fe gewch eich gweld. A dyna pam mae pobl yn dewis y llwybr hwn os nad oes ganddyn nhw ffydd y byddan nhw'n cael y gofal amserol sydd ei angen arnyn nhw mewn rhannau eraill o'r system. Dyna egluro i raddau y pwysau y mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn ei wynebu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Mae staff yn gweithio mor galed ag sy'n bosibl o dan yr amgylchiadau anodd iawn y maen nhw'n eu hwynebu. Bob wythnos, rwy'n adrodd—anaml y caf fy holi, ond bob wythnos rwy'n adrodd ar effaith coronafeirws yn GIG Cymru. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd cynnydd o dros 100 yn nifer y cleifion mewn gwely mewn ysbyty yng Nghymru gyda coronafeirws mewn un wythnos, nôl i dros 500 ddydd Gwener. Aeth nifer y staff a oedd i ffwrdd o'u gwaith oherwydd COVID-19 yn ôl dros 1,000 yr wythnos diwethaf. Bob tro mae hynny'n digwydd, mae'n ei gwneud hi'n anoddach i staff sy'n ceisio clirio'r ôl-groniad o bobl sy'n aros am ofal wedi'i gynllunio. Ac eto, bob dydd, maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio sicrhau bod pobl Cymru'n cael y gofal o ansawdd a'r ymyriadau parhaus yr ydym ni'n gwybod eu bod eu hangen. 

Diolch, Llywydd. Mae argyfwng costau byw y gaeaf hwn yn dod ar ben blynyddoedd o gyni, pryd y mae cyflog gweithwyr wedi disgyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae pobl yn gweithio mwy o oriau am lai o arian, ac mae nifer cynyddol o bobl sy'n gweithio yn dweud mai digon yw digon. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, cafodd cynnig ei gefnogi'n unfrydol gan Unsain ar gyfer codiadau cyflog yn ddiogel rhag chwyddiant. Dan arweiniad Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth, Unite, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac undebau eraill, mae cannoedd o filoedd o weithwyr eisoes yn streicio dros gyflog.

Nawr, mae Llywodraeth San Steffan yn cuddio y tu ôl i gyflogwyr hyd braich a chyrff adolygu cyflogau annibynnol wrth osgoi ei chyfrifoldebau, ond, lle mae rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn y cwestiwn, chi a'ch Llywodraeth fydd yn penderfynu. Mae nyrsys ac athrawon yn pleidleisio dros streicio yng Nghymru oherwydd eich cynigion ar gyfer toriad mewn termau real i'w cyflogau. Felly, Prif Weinidog, ai polisi eich Llywodraeth chi yw y dylai gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus fod â hawl i setliad cyflog sydd o leiaf yn cadw i fyny â chwyddiant?

14:00

Wel, Llywydd, tynnodd arweinydd Plaid Cymru sylw at y penderfyniad a basiwyd yng nghynhadledd y Blaid Lafur. Dyna bolisi fy mhlaid, ac mae'n bolisi y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno'n fawr ein bod ni mewn sefyllfa i'w weithredu. Bydd yn gwybod bod pob codiad o 1 y cant yn y bil cyflog ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn costio £100 miliwn arall. Mae pob 1 y cant yn costio £100 miliwn. Os gall ddweud wrthyf lle y gellir dod o hyd i'r arian hwnnw, yna rwy'n fodlon trafod gydag ef. Os y cyfan sydd ganddo i'w gynnig i mi yw dyheadau a chyhuddiadau hunangyfiawn nad yw pobl eraill rywsut mor gydwybodol ag y mae ef, yna rwy'n ofni nad yw'r ddadl honno'n debygol o ffynnu.

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog: edrychwch, nid yw gwleidyddiaeth ofnadwy yn San Steffan yn esgus dros gael gwleidyddiaeth wael yma yng Nghymru. Nid ynghylch cyflog yn unig y mae'r anghydfodau hyn; maen nhw'n ymwneud â goroesiad ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ym maes gofal iechyd, mae gennym argyfwng gweithlu, gyda mwy a mwy o bobl yn gadael bob dydd. Mae 3,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru, sy'n gynnydd o dros 1,200 ers y llynedd. Mae symiau cynyddol yn cael eu gwario ar nyrsys asiantaeth sy'n llenwi bylchau mewn rotâu.

Mae'r ffigurau ar gyfer gofal cymdeithasol yn waeth, gyda 5,500 o swyddi gwag. Yr wythnos diwethaf, wrth siarad am y frwydr i recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol, dywedodd y Dirprwy Weinidog Julie Morgan na allai gofal cymdeithasol gystadlu â'r sector lletygarwch. Er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw, mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth ynghylch yr argyfwng cyflog isel, nyrsys—y nyrsys sy'n gweithio'n galed y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw—yn gorfod defnyddio banciau bwyd, gweithwyr gofal a fyddai'n cael eu talu'n well mewn archfarchnadoedd. Fe gyfeirioch chi at gynnig y Blaid Lafur a'ch ymrwymodd i dalu codiadau o leiaf yn unol â chwyddiant, ond dywedodd nid San Steffan yn unig—. Dyfynnaf: roedd y cynnig yn annog

'Llywodraeth ar bob lefel i gymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn a darparu cyflog teg i'r rhai sy'n eu darparu'.

Pam nad ydych chi'n barod i wneud hynny yma yng Nghymru?

Llywydd, cyfraniad hynod o wag yw ailadrodd y broblem drosodd a throsodd, heb un frawddeg sy'n ein helpu i ddod o hyd i ateb. Mae'r Llywodraeth hon yn talu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol; y tro cyntaf erioed i hynny gael ei wneud yn hanes datganoli. Ond rwyf i newydd roi'r pwyntiau a wnes yn gynharach y prynhawn yma i arweinydd Plaid Cymru: mae toriad o dros £1 biliwn eisoes i'n cyllideb yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym yn gwybod hynny, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac effaith chwyddiant ar ein cyllideb yw ei bod werth dros £1 biliwn yn llai nag yr oedd pan osododd y Llywodraeth Geidwadol y gyllideb honno ym mis Tachwedd y llynedd.

Ar ben hynny, rydym ni'n mynd i wynebu mwy o ostyngiadau enfawr. Gadewch iddo ddweud wrthyf ble mae'r arian i wneud yr hyn y mae'n gofyn i mi wneud yr wythnos hon, heb sôn am yr arian i wneud yr hyn a ofynnodd i mi ei wneud yr wythnos diwethaf, a'r arian i wneud yr hyn a ofynnodd i mi ei wneud yr wythnos flaenorol—ble gellir dod o hyd i'r holl arian hwnnw mewn cyfnod pan nad oes gennym fwy o arian i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae gennym lai o arian nag ar unrhyw adeg yn ystod hanes datganoli.

Felly, rydych yn cytuno â mi, Prif Weinidog, ynghylch lefelau cyflog, ond rydych yn dweud bod eich dwylo wedi'u clymu gan San Steffan. Wel, onid yw'n amser, felly, i gymryd materion i'n dwylo ein hunain? Na, dydw i ddim yn golygu—. Dydw i ddim yn cyfeirio at annibyniaeth na datganoli lles; mater ar gyfer diwrnod arall yw hwnnw. Rwy'n golygu yn y fan hon, nawr. Mewn ymateb i Alun Davies, fe ddywedoch eich bod wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl bwerau oedd gennych i amddiffyn pobl Cymru rhag yr ymosodiad hwn gan y Torïaid. Wel, defnyddiwch yr holl bwerau sydd gennych. Mae gennym y gallu i ddefnyddio ein pwerau treth i gadw'r gyfradd dreth sylfaenol o 20c yng Nghymru a bod yn fwy blaengar trwy roi ceiniog ar y gyfradd uwch ac ychwanegol. Fe wnaethom ni ddadlau dros y pwerau hynny, buom yn ymgyrchu drostyn nhw, yn union ar gyfer sefyllfaoedd yn codi fel hyn. Byddai gwneud fel yr ydym ni'n ei gynnig yn codi'n agos at £250 miliwn gan fynd rhywfaint o ffordd, o leiaf, i fynd i'r afael â'r argyfwng cyflog a morâl yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal ag yn argyfwng ehangach bywiogrwydd. Byddai'n diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn achub bywydau. Onid dyna'r ffordd Gymreig o undod, o gymuned, o chwarae teg, sef yr union resymau dros greu'r lle hwn?

14:05

Llywydd, rwyf i a'r Gweinidog cyllid wedi dweud y byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y pwerau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y ffordd yr ydym yn eu gwneud bob amser, fel rhan o'r broses o osod y gyllideb, pan fydd gennym yr wybodaeth lawn sydd ei hangen arnom er mwyn gallu gwneud hynny. Nawr, mae wedi gwneud achos y prynhawn yma; bydd yr achos hwnnw'n cael ei ystyried yn rymus o fewn Llywodraeth Cymru, ond bydd yn cael ei wneud yn y ffordd yr ydym yn ei wneud bob amser, yn drefnus, yn y broses o osod cyllideb, fel y byddai'r Pwyllgor Cyllid yn disgwyl i ni ei wneud, a phan fyddwn yn ymwybodol o'r holl benderfyniadau a fydd yn cael effaith ar ein gallu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesaf.

Deddf Cydraddoldeb 2010

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? OQ58518

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae gan awdurdodau lleol eu mandad a'u cyfrifoldebau democrataidd eu hunain. Mae dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn cael eu rhoi yn uniongyrchol ar gyrff cyhoeddus perthnasol. Gallwn annog a chefnogi awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau hyn, ond y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth.

Yn allweddol i gyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010 mae sicrhau bod toiledau Changing Places sy'n gwbl hygyrch ar gael, rhai a gynlluniwyd fel y gall pawb, ni waeth beth fo'u hanghenion mynediad neu anabledd neu ddibyniaeth ar gymorth gofalwyr neu offer arbenigol, ddefnyddio cyfleuster toiled gydag urddas a hylendid. Mae TCC, Trefnu Cymunedol Cymru—Together Creating Communities, grŵp o arweinwyr cymunedol arbennig o sefydliadau ar draws sir y Fflint, Wrecsam a sir Ddinbych, wedi ymuno i weithredu gyda'i gilydd ar fater toiledau Changing Places. Maen nhw'n dweud er gwaethaf sicrwydd ynghylch eu darpariaeth gan Lywodraethau olynol Cymru yn mynd yn ôl ddau ddegawd, gan gynnwys gan rai sy'n parhau i fod yn Weinidogion yn y Llywodraeth hon, mai dim ond tua 50 o doiledau Changing Places sydd ar gael yng Nghymru gyfan o hyd. Maen nhw'n nodi, er bod Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglen doiledau Changing Places, gyda chronfa benodol sy'n werth £30 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr, y cyfan yr ydym ni wedi'i glywed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn yw bod swyddogion yn cynnal dadansoddiad o ganlyniadau ymgynghoriad ar doiledau Changing Places a chyfleusterau newid babanod mewn adeiladau hygyrch i'r cyhoedd. Felly pryd y bydd Llywodraeth Cymru'n galluogi pobl yng Nghymru nad ydyn nhw yn gallu defnyddio toiledau hygyrch safonol i gael eu hanghenion dynol sylfaenol wedi'u diwallu a'u hawliau cydraddoldeb wedi eu bodloni, i fwynhau diwrnod allan heb y straen o boeni am gael mynediad at gyfleusterau toiledau a thrwy hynny gynyddu eu hannibyniaeth a'u hiechyd a'u llesiant yn gyffredinol?

Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r grŵp y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, a da o beth oedd ymuno ag ef yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas y Mudiadau Gwirfoddol yn Wrecsam yn ddiweddar. Mae trefn y digwyddiadau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu yn un cywir. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y cyfrifoldebau yn y maes hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

Mae'n ymddangos fel amser maith yn ôl bellach, Llywydd, pan oeddech chi a minnau yn aelodau o'r pwyllgor iechyd yma. Bu'r ddau ohonom yn eistedd ar ymchwiliad undydd i effaith cyfleusterau toiledau cyhoeddus ar iechyd y cyhoedd, a diwrnod da a buddiol oedd e hefyd, gydag adroddiad a oedd yn dangos pa effaith y mae'n ei gael ar allu pobl i fyw eu bywydau bob dydd os nad yw'r cyfleusterau iechyd cyhoeddus hynny ar gael. Felly, dydw i ddim yn anghytuno â'r dadansoddiad y mae Mark Isherwood wedi ei nodi, ac fel y mae'n dweud, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn olrhain yr arian sydd wedi ei ddarparu i awdurdodau lleol i weld i ba raddau y maen nhw wedi gallu defnyddio'r arian hwnnw i hyrwyddo'r cyfleusterau sydd ar gael i blant, yn ogystal ag oedolion, fel bod yr ataliadau hynny ar allu cymryd rhan mewn gweithgareddau cyffredin, a fyddai fel arall yno, yn cael eu herydu.

14:10

Prif Weinidog, bydd yr argyfwng costau byw ac economaidd difrifol oherwydd anallu Llywodraeth y DU yn brifo pobl anabl a menywod agored i niwed fwyaf. Mae Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru, a reolir gan Lafur, ynghyd â'r gymuned fusnes, wedi sefydlu prosiect treialu i gefnogi pobl anabl yn lleol i gael hyfforddiant a chyflogaeth i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a phrinder sgiliau cronig yn sir y Fflint. A fyddech chi'n cytuno â mi bod hon yn enghraifft unigryw o gyngor sy'n cael ei ysgogi gan gydraddoldeb, o blaid busnes ac sy'n gweithio'n galed i ymdrin â chydraddoldeb ar yr un pryd â chefnogi'r economi? Diolch.

Llywydd, rwy'n croesawu'n fawr y fenter sydd wedi'i sefydlu yn sir y Fflint. Rydym yn gwybod nad yw anghydraddoldeb yn effeithio'n gyfartal ar bob rhan o'r gymdeithas, ac mae pobl ag anableddau wedi adrodd ers tro byd am effeithiau gormodol o ran cyflogaeth, eu gallu i gael mynediad at wasanaethau ac ati, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn sir y Fflint yn rhoi'r pwyslais penodol iawn hwnnw ar y bobl hynny a fydd yn cael y budd mwyaf o ymyrraeth gwasanaethau cyhoeddus effeithiol.

Eiddo Preifat i'w Rentu

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r cyflenwad o eiddo preifat i'w rentu? OQ58535

Llywydd, ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru mae'r rhaglen cynllun lesio Cymru werth £30 miliwn. Mae'r cynllun hwn yn galluogi awdurdodau lleol i lesu eiddo'r sector rhentu preifat gan landlordiaid, gan ddarparu incwm gwarantedig i'r landlordiaid hynny a darparu cartrefi ar rent fforddiadwy i'r rhai a allai, fel arall, wynebu digartrefedd. 

Diolch Prif Weinidog. Yn ddiweddar, cwrddais â Chymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl i drafod sut i hybu'r cyflenwad o eiddo preifat sydd ar gael i'w rhentu yng Nghymru. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y ffaith bod rhentwyr ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y cartrefi sydd eu hangen arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae adroddiad annibynnol ar gyfer yr NRLA wedi awgrymu y byddai Cymru angen ychydig o dan 9,000 o eiddo rhent preifat newydd y flwyddyn i gyrraedd targedau tai. Fodd bynnag, mae 38 y cant o landlordiaid preifat wedi dweud wrth yr NRLA eu bod yn bwriadu torri nifer yr eiddo y maen nhw'n eu rhentu allan. Mae'r NRLA yn pryderu y byddai datblygiad posibl ym maes rheoli rhent yng Nghymru mewn ymateb i'r argyfwng costau byw yn ei gwneud hi'n anoddach i denantiaid gael gafael ar y cartrefi sydd eu gwir angen arnyn nhw. Felly, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n gwrando ar y pryderon a godwyd gan yr NRLA ac yn asesu'n drylwyr ganlyniad niweidiol posibl rheoli rhent ar gyflenwi eiddo preifat i'w rhentu yma yng Nghymru? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n gyfarwydd â gwaith Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl. Maen nhw'n galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r lwfansau tai lleol, i roi terfyn ar rewi budd-daliadau tai a rhoi diwedd ar yr arfer o aros am bum mis ar gyfer gredyd cynhwysol ar ddechrau cais, a hefyd y dylid trawsnewid y taliad ymlaen llaw y gallai tenantiaid ei gael, o fenthyciad i grant fel nad yw tenantiaid yn mynd i ddyled yn awtomatig ar y dechrau. Felly, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau hynny a wnaed gan yr NRLA ac yn gobeithio y bydd yr Aelod yn dymuno cyfleu'r pwyntiau hynny i'r Llywodraeth sy'n gyfrifol amdanyn nhw.

Mae hi'n iawn, wrth gwrs, fod yna risg wirioneddol y bydd landlordiaid yn gadael y farchnad prynu i rentu. Pam y maen nhw'n gwneud hynny? Wel, mae hynny oherwydd costau benthyg arian sy'n codi'n gyflym ac y maen nhw'n eu hwynebu. Pe byddech chi wedi benthyg £200,000—[Torri ar draws.]

Gadewch i mi orffen yr ateb am un eiliad, Llywydd, dim ond i ddangos y rheswm pam y mae pobl o dan bwysau yn y sector hwnnw. Y gyfradd morgais ym mis Rhagfyr 2021—gallech fenthyg arian ar gyfradd o 2.34 y cant. Ar y diwrnod y cyhoeddodd y Canghellor diweddaraf ei gyllideb fach honedig, roedd y gyfradd morgeisi wedi codi i 4.74 y cant. Heddiw, mae'n 6.43 y cant, o ganlyniad i'r cyhoeddiadau byrbwyll a wnaed gan y Canghellor, gyda'i fenthyca heb ei ariannu. Mae hynny'n ychwanegu tua £500 y mis at gost benthyca landlord preifat sy'n ceisio cynyddu'r nifer o dai sydd ar gael i'w rhentu. Dyna'r rheswm pam y mae'r farchnad mewn perygl o ddymchwel—oherwydd ni all pobl fforddio benthyg arian bellach am y prisiau y mae'n rhaid iddyn nhw dalu o dan y Llywodraeth bresennol.

14:15
Colli Babanod

5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sydd wedi dioddef colli babanod? OQ58551

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau profedigaeth ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys bydwragedd profedigaeth arbenigol, i helpu teuluoedd yn yr amgylchiadau unigryw hynny sy'n peri gofid mawr.

Diolch, Prif Weinidog. Gwn fod hwn yn bwnc sy'n agos at eich calon, a bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud llawer iawn i gefnogi rhieni drwy gyfnod anhygoel o anodd. Roeddwn i eisiau crybwyll profiadau fy etholwyr, a gafodd fabi yn farwanedig yn drist iawn ar ôl 40 wythnos. Fe wnaethon nhw ofyn am bost-mortem, sy'n ddealladwy, ond oherwydd y bylchau mewn patholeg bediatrig, fe gawson nhw wybod y byddai'n rhaid aros am chwe mis cyn cael y canlyniadau. Mae hwn yn arhosiad arteithiol.

Dywedodd fy etholwyr ei bod yn teimlo fel pe bai eu bywydau ar stop, a bod cyfnod sydd eisoes yn anodd yn cael ei wneud gymaint anoddach i fynd trwyddo. Dwy agwedd bwysig ar alaru yw gallu prosesu'r hyn ddigwyddodd, a'r gallu hefyd i edrych tuag at y dyfodol. Gyda chymaint o gwestiynau heb eu hateb yn parhau, mae'r oedi cyn cael y canlyniadau post-mortem yn gwneud y ddau beth yma'n anodd iawn. Mae'n ddealladwy bod rhieni'n ysu i wybod cymaint â phosibl. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â recriwtio a chadw staff yn y maes hwn, a pha gymorth ychwanegol y mae modd ei roi i rieni yn eu profedigaeth ar ôl colli eu babi?

Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o allu noddi, unwaith eto, weithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi yma yn y Senedd yr wythnos nesaf. Mae'r rhain ymhlith y profiadau mwyaf dinistriol y gall teuluoedd eu profi. Rydym wedi eu trafod droeon yma ar lawr y Senedd. Fe fydd rhai pobl yma'n cofio, rwy'n credu, un o'r cyfraniadau mwyaf cofiadwy yn y cyfnod y bûm i yma, pan aeth Dr Dai Lloyd ati i sôn am brofiad ei deulu wrth golli eu mab, Huw, 40 munud ar ôl iddo gael ei eni. Roedd yn un o'r cyfraniadau mwyaf pwerus i mi ei glywed yma erioed yn y Senedd.

Pan fyddwch chi'n cyrraedd yr amser, fel fi, pan fo gennych chi wyrion ac wyresau i'w hystyried hefyd, yna mae pob eiliad yn werthfawr gyda nhw, ac mae meddwl y gallen nhw gael niwed yn gyson rhywle yng nghefn eich meddwl. Felly, mae teuluoedd sy'n eu cael eu hunain yn yr amgylchiadau ofnadwy a ddisgrifiodd Jayne Bryant angen yr holl gymorth y mae'r system yn gallu ei roi iddyn nhw, gan gynnwys y cymorth sy'n dod o batholeg bediatrig.

Ddechrau mis Medi, fe wnaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gyfarfod. Mae wedi gwneud penderfyniad i gyflogi darparwr parhaol ychwanegol ar gyfer patholeg bediatrig. Mae wedi trafod y defnydd o gapasiti ychwanegol yn Ysbyty Alder Hey fel y bydd rhai teuluoedd yng ngogledd Powys a gogledd Cymru yn cael eu gwasanaethau patholeg bediatreg yno. Bydd hynny'n rhyddhau mwy o gapasiti yn system Cymru. Ac mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru hefyd wedi ymrwymo i asesu ei fuddsoddiad yng ngwasanaeth Caerdydd, i wneud yn siŵr ei fod yn gallu diwallu anghenion teuluoedd mewn modd amserol.

Pwerau Pellach i Gymru

6. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau pellach i Gymru? OQ58532

Wel, diolch i Rhys ab Owen, Llywydd, am y cwestiwn. Mae'r cyfleon i drafod gyda Llywodraeth ddiweddaraf y Deyrnas Unedig wedi bod yn brin. Ond cafodd datganoli cyfiawnder ei drafod yn helaeth mewn digwyddiad o bwys ym mhencadlys Heddlu De Cymru ar 30 Medi. Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bresennol a chlywodd ein bwriad penderfynol i fynd ar drywydd argymhellion comisiwn Thomas.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac roeddwn i’n gresynu’n fawr clywed eich ateb chi i fy nghyfaill i, Joyce Watson. Mae’r diffyg cyfathrebu â chi gan Brif Weinidog Prydain nid yn unig yn haerllug i chi a’ch swyddogaeth, ond yn haerllug i’r Senedd gyfan yma, a dwi’n gobeithio y bydd fy nghyfeillion i gyferbyn yn dweud y neges yna i’r Prif Weinidog.

Os nad yw fy nghyfeillion gyferbyn yn cael gwared ar Liz Truss, mae’n debygol y bydd y cyhoedd yn cael gwared arni yn yr etholiad nesaf fel Prif Weinidog. Dywedodd Keir Starmer o’r blaen nad oedd ganddo deimladau cryfion ynglŷn â datganoli pwerau i’r lle hwn. Pa drafodaethau ydych chi wedi’u cael gyda’r person fydd, siŵr o fod, y Prif Weinidog nesaf ar Brydain ynglŷn â datganoli pwerau i’r lle hwn, a sicrhau bod datganoli fan hyn ar seiliau cadarn a fydd yn stopio unrhyw Lywodraeth yn San Steffan yn y dyfodol yn tanseilio Llywodraeth a Senedd ein gwlad ni? Diolch yn fawr.

14:20

Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn ychwanegol. Ces i gyfle i gwrdd â Keir Starmer yn Lerpwl yng nghynhadledd y Blaid Lafur, a ches i gyfle i dreulio diwrnod gyda Gordon Brown yn yr Alban yn yr wythnos ar ôl y gynhadledd. Roedd hynny’n gyfle i siarad â Gordon Brown am yr adroddiad y mae e’n paratoi i Keir Starmer am bethau cyfansoddiadol dros y Deyrnas Unedig, ond hefyd am bethau yma yng Nghymru, a dwi’n edrych ymlaen at weld adroddiad Gordon Brown. Bydd hwnna, yn fy marn i, yn setio mas nifer o argymhellion pwysig i ni, nid jest yma yng Nghymru, ond dros y Deyrnas Unedig, i greu system o ddatganoli fydd ddim yn gallu cael ei throi nôl gan y Llywodraeth yn San Steffan pan yw pobl yng Nghymru wedi pleidleisio ddwywaith mewn refferenda i sefydlu’r Senedd hon gyda’r pwerau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac, yn fwy na hynny, nid jest datganoli sefydlog yn fan hyn, ond camau ychwanegol i gryfhau datganoli yma yng Nghymru, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

Twristiaeth

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog twristiaeth yng Nghymru? OQ58548

Llywydd, buddsoddi'n uniongyrchol, ymgyrchoedd cyfalaf a refeniw, ymgyrchoedd hyrwyddo yn y Deyrnas Unedig a thramor, ac mae cydweithio â'r diwydiant i wella sgiliau a chyfleoedd gyrfa yn rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i annog twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.

Prif Weinidog, sylwais ddydd Gwener eich bod chi ac Adam Price—rwy'n credu bod y ddau ohonoch chi yn dod ymlaen yn iawn bryd hynny—wedi lansio eich ymgynghoriad treth dwristiaeth gydag aelodau'r diwydiant yn bresennol. Yn y cyfarfod hwnnw, rwy'n deall bod y ddau ohonoch chi wedi ceisio esbonio eich cynlluniau, ond yna gadael cyn cymryd unrhyw gwestiynau. Wel, rwyf wedi siarad â rhai o'r gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant twristiaeth hwnnw, a'r un peth yn fwy na dim arall yr oedden nhw eisiau ei gyfleu i chi yw pa mor isel yw morâl yn y diwydiant twristiaeth ar hyn o bryd. Mae'r morâl hwnnw, medden nhw, yn isel oherwydd olyniaeth o bolisïau gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Maen nhw'n poeni am effaith anferth treth dwristiaeth ar eu busnesau a'u cymunedau, maen nhw'n poeni am newidiadau i eiddo gwyliau hunanarlwyo, fydd yn lleihau faint o lety gwyliau sydd yn eu hardaloedd, ac maen nhw'n poeni bod ganddyn nhw Lywodraeth yng Nghymru sy'n gwneud fawr ddim i'w cefnogi, ac y maen nhw'n teimlo ei bod yn hytrach yn eu llesteirio. Ar ôl siarad ag un gweithredwr o'r fath yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd wrthyf ei fod wedi canslo buddsoddiad saith ffigwr yn ei fusnes, a fyddai wedi cefnogi mwy o swyddi a hybu'r economi leol, oherwydd y polisïau hynny gan Lywodraeth Cymru. Prif Weinidog, ydych chi nawr yn derbyn bod eich polisïau yn cael effaith yn y byd go iawn nawr, hyd yn oed cyn iddyn nhw gael eu gweithredu, a bod morâl ar ei isaf erioed yn y sector? A fyddwch chi'n ymrwymo i adolygu eich llechen o bolisïau gwrth-dwristiaeth niweidiol cyn ei bod hi'n rhy hwyr?

Llywydd, wythnos ar ôl wythnos mae'r Blaid Geidwadol yn y Siambr hon yn dilorni'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Ni fu erioed air da i'w ddweud amdano. Os oedd ddiffyg hyder yn y diwydiant, mae hynny achos ei fod yn gwrando ar bobl fel Tom Giffard.

Nawr, y gwir broblem a wynebodd y diwydiant twristiaeth yng Nghymru dros yr haf, haf o dywydd ffantastig, oedd y ffaith na allai recriwtio'r staff yr oedd eu hangen arno er mwyn gallu agor i'r graddau yr oedd eisiau ei wneud, ac i wneud yr arian a allai fod wedi ei wneud—un arall o fuddion Brexit yr Aelod, heb os.

Roeddwn yn falch iawn yn wir i gymryd rhan yn y digwyddiad gydag arweinydd Plaid Cymru. Cawsom ddigon o gyfle i ddangos i'r gynulleidfa yno y rhesymau pam y byddwn yn cyflwyno ardoll ymwelwyr: oherwydd bydd yn codi arian i fuddsoddi yn y diwydiant twristiaeth, ac i wneud yn siŵr y bydd yr amodau sy'n gwneud Cymru'n lle deniadol i ymwelwyr heddiw yn mynd i barhau i fod yn lle deniadol i'r dyfodol. Mae cyfraniad bychan at hynny gan ymwelwyr sy'n dod i fwynhau'r rhannau hynny o Gymru yn beth teg i'w wneud, ond hefyd yn ffordd effeithiol iawn o sicrhau ein bod yn gallu cefnogi a chynnal y diwydiant twristiaeth i'r dyfodol.

Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio ar 20 Medi, Llywydd, ac mae dros 500 o ymatebion wedi dod i law hyd yma. Bydd pum digwyddiad ymgynghori, ym mhob rhan o Gymru, bu Adam Price a minnau'n bresennol mewn un. Mae digwyddiad rhithwir ar gyfer pobl sy'n methu cyrraedd y digwyddiadau ffisegol; bydd hynny'n digwydd ar 27 Hydref. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud cyflwyniad i grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth ar 19 Hydref, felly bydd yn gyfle i'r Aelod gael ei gywiro ar ychydig o'r pwyntiau y mae wedi'u gwneud heddiw—byddai'n beth da pe bai'n dod yno i glywed ychydig o ffeithiau. Ac fe awn ni ymlaen i weithio gyda'r diwydiant i wneud yn siŵr, yn wahanol iawn i wythnos ar ôl wythnos o ddweud wrthym pa mor wael yw'r diwydiant, a pha mor anobeithiol ydyn nhw o ran llwyddo yn y dyfodol, byddwn ni'n gwneud y pethau gyda nhw fydd yn gwarantu y bydd twristiaeth yng Nghymru yn parhau i gael ei chefnogi i'r dyfodol hwnnw.

14:25
Cyfrifoldebau Datganoledig

8. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gweithredoedd diweddar Llywodraeth y DU ar gyfrifoldebau datganoledig? OQ58533

Llywydd, mae Llywodraeth ddiweddaraf y DU wedi gwrthod diystyru toriadau i fudd-daliadau, wrth gadarnhau ei bwriad i dorri gwasanaethau cyhoeddus. Bydd blaenoriaethau gwrthnysig o'r fath yn effeithio'n andwyol ar ein gallu i gyflawni cyfrifoldebau datganoledig, ac yn cosbi'r tlodion er mwyn talu am fonysau bancwyr.

Prif Weinidog, rydym eisoes wedi clywed digon heddiw, rwy'n credu, i bwysleisio barn llawer yn y Senedd, gan grybwyll eu hetholwyr, bod pobl a sefydliadau'n wynebu heriau digynsail ar hyn o bryd gyda'r argyfwng costau byw, costau tanwydd ac ynni, a phopeth arall yn codi gymaint, gyda sefyllfa'r gyfradd llog wedi'i chreu gan Lywodraeth y DU, a gyda, rwy'n ofni, toriadau i wariant eto i ddod. Mae wir yn storm ofnadwy i bobl a sefydliadau geisio byw trwyddi. Yn amlwg, Prif Weinidog, bydd Llywodraeth Cymru, fel yr ydych chi wedi nodi, yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer pobl yma yng Nghymru, ond mae llawer o'r dulliau ysgogi angenrheidiol sydd i'w defnyddio i ymateb, yn nwylo Llywodraeth y DU. Dyna pam, rwy'n gobeithio, y bydd y comisiwn annibynnol hwnnw a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn gallu gwneud cynnydd, fel ein bod yn cael strwythurau a threfniadau ar waith ar gyfer sianel gyfathrebu briodol i ganiatáu'r gwaith o fynd i'r afael yn briodol â'r materion hyn ar sail cyfrifoldeb datganoledig.

Prif Weinidog, yn ogystal â hynny i gyd, mae awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol, a chymaint o rai eraill yng Nghymru, yn ysu am sianeli cyfathrebu da, sianeli cyfathrebu gwell hyd yn oed â Llywodraeth Cymru. A tybed beth allech chi ei ddweud heddiw o ran yr angen hwnnw a chyflawni'r angen hwnnw i gael cyswllt rheolaidd, sianeli cyfathrebu effeithiol, ar adeg mor anodd o bwysau mor ddigynsail.

Llywydd, diolch i John Griffiths am hynna, a gwnaf ddau bwynt os caf. Yn gyntaf oll, cymeradwyo'r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd gwaith y comisiwn, wedi'i gadeirio gan yr Athro Laura McAllister a'r Archesgob Rowan Williams. Bydd yr aelodau yma'n gwybod, ar y cyd ag awdurdodau'r Senedd, bod Llywodraeth Cymru yn noddi cyfres o ddarlithoedd pryd y byddwn yn clywed lleisiau o'r tu allan i Gymru sydd â chyfraniad i'w wneud o ran meddwl am ein dyfodol cyfansoddiadol. Mae disgwyl i'r gyntaf o'r darlithoedd hynny gael ei threfnu yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf. Fe'i traddodir gan David Lidington, y cyn Ddirprwy Brif Weinidog yn Llywodraeth Theresa May. Rwyf wedi darllen rhai o'r cyfraniadau y mae wedi'u gwneud at y dadleuon hyn mewn mannau eraill; mae e'n werth ei glywed wir. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yma yn gallu dod i glywed beth sydd ganddo i'w ddweud ac i drafod y materion hynny gydag ef. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ychwanegu at y dadleuon sydd gennym yn fewnol, y lleisiau hynny o du allan i Gymru a all ein helpu i ehangu ein dealltwriaeth ac i ddyfeisio dyfodol i ni'n hunain yn y ffordd orau bosibl.

Fy ail ymateb i John Griffiths, Llywydd, yw i, unwaith eto, gytuno ag ef ar bwysigrwydd cyfathrebu. Dyna pam, ddoe, yng nghyfarfod wythnosol pwyllgor y Cabinet ar gostau byw, ymunodd ein partneriaid cymdeithasol â ni. Felly, ymunodd y sector gwirfoddol â ni. Bydd cymunedau ffydd yn ymuno â ni. Bydd cynrychiolwyr o ddiwydiant preifat yn ymuno â ni a hefyd Cyngres Undebau Llafur Cymru. Bydd llywodraeth leol yn y cyfarfod hwnnw hefyd, a byddan nhw'n dod bob pythefnos i bob cyfarfod arall o'r pwyllgor hwnnw, er mwyn gwneud yr union beth y mae John Griffiths wedi ei ddweud—gwneud yn siŵr fod cyfathrebu uniongyrchol rhyngddyn nhw a Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw safbwyntiau sydd ganddyn nhw; o ran unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw y dylem ni ei chael, byddan nhw'n gallu ei darparu. Ond hefyd, pryd gallwn ni esbonio rhai o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd, byddan nhw wedyn yn gallu trosglwyddo hynny'n uniongyrchol i'w haelodau a'u sefydliadau, y gwyddom y bydd ganddyn nhw gymaint i'w wneud dros y gaeaf pan ddaw hi i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed rhag y profiadau anodd yr ydym ni'n gwybod bydd yn siŵr o ddod i'w rhan.

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:30:21
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i'r busnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ddarparu'r ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych? Mae hwn yn brosiect hirddisgwyliedig a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog presennol nôl yn 2013. Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai ysbyty newydd sbon yn cael ei gyflwyno erbyn 2016 bryd hynny, ac, wrth gwrs, rydym ni'n mynd i fod o leiaf 10 mlynedd ers cyhoeddiad y Prif Weinidog erbyn hyn, cyn i ni hyd yn oed weld rhaw yn y ddaear, byddai'n ymddangos. Mae llawer o bobl yn pryderu y bydd y prosiect hwn yn cael ei ddileu'n dawel bach gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw'n pryderu am ddiffyg ymrwymiad ymddangosol y Gweinidog iechyd presennol. Rwy'n credu bod angen rhywfaint o eglurder ar bobl ar hyn. Cafodd y gwelyau yma eu haddo oherwydd cau'r gwelyau ysbyty cymunedol ym Mhrestatyn ac yn Y Rhyl, ac mae ganddo effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae Ysbyty Glan Clwyd yn eu darparu, sydd ag adran frys o dan bwysau eithriadol. Mae'r gwelyau hynny'n hanfodol er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar yr ysbyty hwnnw a gwneud yn siŵr ei fod yn cyrraedd yn ôl i'r safon o ran y ffordd y dylai fod yn weithredu i gleifion yng ngogledd Cymru. Pryd fydd gennym ni ddatganiad, a phryd allwn ni ddisgwyl i'r ysbyty hwnnw gael ei gyflawni, fel gafodd ei addo gan y Prif Weinidog presennol?

Nid oes unrhyw gynlluniau am ddatganiad yn yr hanner tymor presennol o ran y rhaglen gyfalaf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd ei hun yn ystyried ei raglen gyfalaf ar draws y gogledd, felly byddwn i'n dychmygu y byddai hynny'n rhan ohono. 

Trefnydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae pryderon mawr wedi'u mynegi am ddiogelwch gwesty yng Nglynebwy sy'n gweithredu fel tŷ amlfeddiannaeth. Cafodd dyn ei ddarganfod yn farw yng Ngwesty'r Parc yn Waunlwyd, a chafodd un arall ei arestio ar amheuaeth o'i lofruddiaeth. Mae trigolion lleol a oedd yn rhan o gyfarfod cyhoeddus dilynol i drafod eu hofnau ynghylch diogelwch y gwesty yn dweud mai dyma'r drydedd farwolaeth sydd wedi cael ei adrodd yn y gwesty. Nid yw eu hofnau nhw'n ddi-sail, gan fy mod i wedi cael gwybod bod dau awdurdod lleol, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, wedi tynnu eu cleientiaid o'r cyfleuster erbyn hyn. Dywedodd arweinydd Llafur cyngor Blaenau Gwent, Stephen Thomas, hefyd, ac rwy'n dyfynnu: 

'Mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried y mater gan fod cynghorau'n ei chael hi'n anodd darparu gwasanaethau cofleidiol o gyllidebau presennol, sydd eisoes o dan bwysau. Bu sawl methiant difrifol yma ac mewn lleoliadau eraill, sy'n effeithio'n niweidiol ar y rhai sy'n cael eu lletya ac, yn bwysig, ar y cymunedau lleol o gwmpas y cyfleusterau.'

O fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd ers y llynedd, rwy'n ymwybodol bod methiannau yn ymwneud â rheoleiddio Tai Amlfeddiannaeth a'u twf wedi arwain at grynhoad o gyfleusterau o'r fath, ac o leiaf un person agored i niwed yn cael ei gartrefu mewn llety anaddas gyda chanlyniadau trasig. Ydy hi'n amser ailystyried y rheoliadau a'r canllawiau? Oherwydd mae'n ymddangos bod y status quo yn methu cymunedau a'r cleientiaid agored i niwed mewn tai Amlfeddiannaeth. A gawn ni felly ddatganiad gan y Llywodraeth ar frys ar hyn os gwelwch yn dda?

Yn sicr, mae'n sobreiddiol iawn clywed yr amgylchiadau trasig yr ydych chi'n eu disgrifio. Wrth gwrs, mae'n fater i bob awdurdod lleol faint o Dai Amlfeddiannaeth sydd ganddyn nhw a'u lleoliad o fewn eu ffiniau eu hunain. Nid wyf i'n sicr y byddai'r hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yn arwain at y Gweinidog yn gwneud datganiad ar ailystyried y rheoliadau. 

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r un cyntaf ar ardaloedd menter. Cafodd wyth ardal fenter eu creu yng Nghymru. Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad yn 2013; roedd diweddariad ysgrifenedig ym mis Mawrth eleni. Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y bwriad i ariannu ardaloedd menter yn y dyfodol. 

Mae'r ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano ar restrau aros orthopedig. Ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, mae cynlluniau i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer orthopaedeg, gofal asgwrn cefn, diagnosteg, adsefydlu a rhewmatoleg. Hoffwn i gael datganiad gweinidogol ar a yw'r Gweinidog yn gweld hyn fel ffordd ymlaen ledled Cymru. 

Diolch. Fe wnaf ofyn i Weinidog yr Economi gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ardaloedd menter. O ran gwasanaethau orthopedig ac amseroedd aros, rwy'n credu y byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud nad yw amseroedd aros orthopedeg lle yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod, fel amseroedd aros eraill. Mae cyllid ychwanegol sylweddol wedi'i roi i leihau amseroedd aros orthopedeg—rwy'n credu ei fod dros £170 miliwn bellach, yn rheolaidd—i helpu i ymdrin â'r ôl-groniad hwnnw. Rydym ni nawr yn gweld amseroedd aros yn lleihau, ond, fel y dywedais i, nid mor gyflym ag y byddem ni eisiau gwneud hynny. Gwnaeth y Gweinidog iechyd gynnal uwchgynhadledd orthopedeg nôl ym mis Awst, i wneud yn siŵr bod byrddau iechyd yn ymwybodol o'r hyn oedd ei angen er mwyn dod â gwelliant ym y maes iechyd hwn o'r gwasanaeth iechyd. Mae strategaeth orthopedeg genedlaethol hefyd wedi cael ei datblygu, ac rydym ni'n cyllido datblygiad rhwydwaith orthopedeg.

14:35

Gweinidog, mae pryder enfawr yn y canolbarth ynghylch y cynigion gan wasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys GIG Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru i symud y lleoliad o'r Trallwng, sydd hefyd yn cynnwys dileu cerbyd ffordd. Mae'r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi'n fawr, mae'n gwbl angenrheidiol, ac mae'n anodd gweld sut bydd dileu'r gwasanaeth a'r lleoliad hwn yn arwain at well ganlyniad i bobl yn y canolbarth y mae angen triniaeth ar frys arnyn nhw'n gyflym. Holais y Prif Weinidog am hyn ar 20 Medi yn y Siambr, a gofynnais i iddo a fyddai'n sicrhau bod y data y mae'r cynigion yn seiliedig arnyn nhw'n cael eu cyhoeddi. Gwnes i hynny oherwydd bod amheuaeth am y data hwnnw. Atebodd y Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu o Gofnod y Trafodion:

'Rwyf i wedi gweld ffigurau sy'n dod o'r gwaith a wnaed, ond dydyn nhw ddim yn ffigurau sy'n perthyn i Lywodraeth Cymru; maen nhw'n perthyn i'r elusen ambiwlans awyr ei hun.'

Mae'r elusen ei hun yn hollol glir nad yw'r data yn perthyn iddyn nhw, ond mae'n perthyn i'r gwasanaeth o fewn GIG Cymru. Hoffwn i weld y data llawn yn cael ei gyhoeddi, hoffwn i weld y modelu y tu ôl i'r data'n cael ei gyhoeddi hefyd, fel bod modd craffu arnyn nhw. Ysgrifennais i at y Prif Weinidog fis diwethaf, a gofynnais i iddo a fyddai'n cywiro'r cofnod. Nid wyf i wedi cael ateb eto. Byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, os gallech chi hwyluso ateb drwy'r Prif Weinidog.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ymwneud Llywodraeth Cymru â'r cynigion? Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am wasanaethau a darpariaeth iechyd. Mae angen i ni sicrhau bod gennym ni'r ddarpariaeth argyfwng gorau un. Nid wyf i'n credu bod cael gwared â'r lleoliad yn y Trallwng, ac yn wir Caernarfon, yn mynd i arwain at ganlyniad gwell i bobl Cymru o ran cyrraedd triniaeth frys cyn gynted â phosib.

Gwnaethoch chi ofyn bod dau faes yn cael eu hystyried. Yn sicr, fe wnaf i siarad â swyddfa'r Prif Weinidog i sicrhau eich bod chi'n cael ymateb i'r llythyr yr ysgrifennoch chi ato fis diwethaf. O ran y data, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r data'n addas i'w gyhoeddi, oherwydd, pe bai'n cael ei gyhoeddi, gallai alluogi adnabod unigolion, ac yn amlwg byddai hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Rwy'n credu ei fod hefyd yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif, ac, yn amlwg, byddai hynny'n anodd iawn i'w ddehongli heb gyd-destun.

Dwi am ofyn am ddatganiad a gweithred, os gwelwch yn dda. Nôl ym mis Mawrth, fe wnes i godi mater diffyg deintyddion efo chi yn Nwyfor Meirionnydd. Bryd hynny, fe ddywedoch chi y buasech chi'n gofyn i'r Gweinidog iechyd ddod â datganiad ymlaen ynghylch deintyddiaeth, ac y byddai hynny'n cael ei wneud o fewn yr hanner tymor yn dilyn mis Mawrth, gan bod y Gweinidog yn gweithio ar y mater. Rydyn ni bellach ym mis Hydref, a, hyd y gwn i, does yna ddim datganiad wedi cael ei wneud ar ddarpariaeth ddeintyddol. Mae ansawdd iechyd ceg pobl yn Nwyfor Meirionnydd yn debygol o ddirywio os nad oes yna gynnydd yn y ddarpariaeth. Gaf i ofyn felly fel mater o frys i'r Gweinidog iechyd ddod ymlaen â chyhoeddiad ynghylch darpariaeth deintyddiaeth, os gwelwch yn dda?

Yn ail, ers dod yn ôl o wyliau'r haf, rwyf i wedi sylwi bod dyddiau'r Llywodraeth, ar ddydd Mawrth, yn dueddol o orffen yn gynnar, a'r cyfan a gawn ni yw datganiadau, heb unrhyw bleidleisiau o gwbl. O ystyried bod y Llywodraeth yn honni bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn llawn dop, mae hyn yn fy synnu i. A fydd y Trefnydd felly yn ystyried  rhaglen y Llywodraeth, a sicrhau bod yr amser sydd gennym ni'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol, yn enwedig o ystyried bod y gwahanol argyfyngau sy'n ein hwynebu ni ar ein pennau ni nawr wrth i ni siarad? Diolch.

Gallaf i sicrhau'r Aelod fy mod i'n ystyried busnes y Llywodraeth yn fanwl iawn bob wythnos, ac yn cael sgyrsiau gyda fy nghydweithwyr gweinidogol i wneud yn siŵr bod prynhawn llawn o fusnes.

O ran deintyddiaeth, yn sicr gwnaf edrych ar yr hyn y dywedais i wrthych chi ym mis Mawrth, ac os nad oes datganiad wedi bod, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig o leiaf cyn hanner tymor. 

14:40

Gweinidog, nôl yn 1913—nid oeddwn i o gwmpas ar y pryd—pan gafodd Ysbyty Cymunedol Maesteg ei agor yn gyntaf, nid oedd digon o arian ar gael i'w adeiladu na'i gynnal, felly cafodd apêl ei chyhoeddi, a chymerodd y glowyr a'u teuluoedd yng Nghwm Llynfi daliadau wythnosol a misol o'u cyflogau er mwyn talu i'r ysbyty gychwyn arni. Mae'r gymuned yn hoffi iawn ohono; mae wedi bod yn ganolbwynt i ofal iechyd a lles yn nyffrynnoedd Llynfi ac Afan ers hynny, ac mae dyfodol disglair iddo, oherwydd mae'r bwrdd iechyd yn ystyried ymestyn y gwasanaethau yno, gan gynnwys y gwasanaethau dydd, i gyfateb ag anghenion modern y gymdeithas honno. Ond—a dyma lle byddwn i'n croesawu datganiad—rydym ni'n gwybod bod cynigion da i ailagor y ward sydd wedi'i chau, a gafodd ei throsglwyddo o dan COVID i ward Seren i lawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda bwriad o ddod â hi yn ôl, wedi'i huwchraddio, yn fwy modern, gyda mwy o le o amgylch y gwelyau ac ati. Ond nid yw hyn wedi digwydd, oherwydd, fel yr wyf i'n ei ddeall, mae'r gost yn mynd y tu hwnt, gyda'r costau cynyddol nawr, wedi mynd o £600,000 i ymhell dros £1 miliwn, ac mae bwlch yno sydd angen ei lenwi. Gweinidog, a gawn ni ddatganiad ar hyn? Oherwydd bod pobl eisiau sicrwydd bod dyfodol disglair i'r ysbyty yn ei gyfanrwydd, ond hefyd i'r ward hon, oherwydd mae'r staff eu hunain, y mae'r gymuned hefyd yn hoff iawn ohonynt, eisiau dod yn ôl a bod yn ôl ar y ward honno yn edrych ar ôl y bobl o'r ardal.

Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn disgrifio ffordd y cafodd llawer o'n hadeiladau cyhoeddus ni eu hariannu yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Rydych chi'n cyfeirio at y cynlluniau oedd gan yr ysbyty, ac, yn amlwg, fel y dywedwch chi, mae cynnydd aruthrol wedi bod nawr yng nghost deunyddiau, er enghraifft, ac yn amlwg llafur hefyd. Yn hytrach na bod y Gweinidog yn gwneud datganiad, rwy'n credu y byddai'n well i'r bwrdd iechyd ymateb. Efallai y gallech chi ysgrifennu atyn nhw a gweld beth yw eu hymateb. 

Mae'r GIG yn bryder mawr i bob un ohonom yma, a gallwch chi weld hynny. Gweinidog, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r heriau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd wrth ymateb i amrywiaeth o bwysau. Nid yw pobl yn gallu cael triniaeth neu lawdriniaeth yn ddigon cyflym; nid yw'r cleifion sy'n ddigon iach i adael ysbyty yn gallu mynd adref yn ddigon cyflym; ac mae rhai pobl yn canfod eu hunain yn yr ysbyty gyda chyflyrau y byddai modd eu rheoli gartref. Rwy'n croesawu'r buddsoddiad yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot, fel y dywedodd Mike Hedges, i gynyddu nifer y theatrau llawdriniaeth gyda'r nod o ddod yn ganolbwynt rhagoriaeth y bwrdd iechyd ar gyfer orthopaedeg a llawdriniaethau asgwrn cefn. Mae llawer o waith i'w wneud, a dylai byrddau iechyd gael eu cefnogi wrth wneud y penderfyniadau allweddol hyn yn gyflym i ymdrin â'r argyfwng cynyddol yn y GIG. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn nodi sut y bydd ein gwasanaeth iechyd yn ymdrin â'r amrywiaeth o bwysau, sut y byddwn yn datblygu integreiddio ein gwasanaethau ni i fod yn fwy di-dor, a sut y byddwn ni'n ymdrin â recriwtio a chadw ein meddygon a'n nyrsys? Diolch. 

Rydych chi'n ymdrin ag amrywiaeth o heriau sy'n wynebu'r GIG. Yn amlwg, nid ydym ni eisiau gweld pobl yn yr ysbyty am funud yn hirach nag sydd angen iddyn nhw fod, ac mae'u cael nhw adref, lle maen nhw'n amlwg yn gallu gwneud cynnydd a gwella, yn hanfodol bwysig. Mae gwaith yn mynd ymlaen yn barhaus i wneud hynny'n fwy di-dor. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi cael problemau yn ymwneud â gohirio trosglwyddo gofal, er enghraifft. Yn sicr, yn ystod misoedd y gaeaf rydym ni fel arfer yn gweld cynnydd yn hynny, ac mae cryn dipyn o waith yn mynd i mewn i hynny cyn y gaeaf sydd i ddod. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn gwneud datganiadau ynghylch recriwtio ac o amgylch y materion hyn yn barhaus yn ystod ei chwestiynau a'r datganiadau lawer y mae'n eu gwneud yn y Siambr hon. 

Prynhawn da, Gweinidog. Y prynhawn yma, amser cinio, ymunodd llawer o bobl ar draws y Senedd gyda'i gilydd i gefnogi'r bobl yn Iran, ac rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y sefyllfa yn Iran. Gwyddoch chi fod sefyllfaoedd ofnadwy wedi bod yn Iran, yn dilyn marwolaeth drasig Mahsa Amini, 22 oed, ac, yna, Nika Shakarami sy'n 16 oed. Mae'r protestwyr—menywod, merched ysgol—sydd bellach yn ymuno â llawer o bobl eraill, yn hynod ddewr. A'r prynhawn yma, gwnaethom ni glywed gan bobl o Iran eu hunain yr hyn y gallwn ni ei wneud. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi'n cyfyngu yn Senedd Cymru o ran ein pwerau, ond mae llawer o bethau yr hoffen nhw i ni eu gwneud. Ar ran y grŵp oedd ar risiau'r Senedd, rwyf i wedi cael cais i ysgrifennu llythyr trawsbleidiol a fydd yn mynd at y Prif Weinidog ac atoch chi. Ond, byddem ni'n gwerthfawrogi datganiad am y sefyllfa yn Iran, yn enwedig o edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru i sicrhau ein bod ni'n eu cefnogi ac i sicrhau bod y cyfryngau yn dal i wylio'r sefyllfa ofnadwy sydd yna. Diolch.

14:45

Diolch. Yn sicr mae Jane Dodds yn disgrifio sefyllfa dorcalonnus iawn, ac rwy'n talu teyrnged i bawb a wnaeth gasglu heddiw i ddangos eu cefnogaeth. Rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn falch iawn o dderbyn llythyr gennych chi, Jane. Ein huchelgais ni yma yw gwneud Cymru y lle mwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw neu'n ferch, ac mae hynny wrth gwrs yn ymestyn i hyrwyddo hawliau merched yn fyd-eang. Ni ddylai neb gael ei orfodi i wisgo neu beidio â gwisgo unrhyw eitem o ddillad neu unrhyw fynegiant allanol o'i ffydd. Mae gennym ni strategaeth genedlaethol i ymdrin â thrais yn erbyn menywod a merched a chynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r rhain yn cynrychioli'r gwerthoedd yr ydym ni'n sefyll drostyn nhw mewn undod â menywod Iran.

Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar am eich cyngor o ran rheoli disgwyliadau ynghylch gohebiaeth Gweinidogion a Llywodraeth Cymru. Mae etholwr wedi cysylltu â mi ar ôl ysgrifennu at y Prif Weinidog nôl ym mis Mawrth 2021 am na chafodd ymateb, er iddo siarad gyda sawl gwahanol swyddog o sawl adran. Ysgrifennais at y Prif Weinidog fy hun yn gofyn i fy etholwr dderbyn ymateb ym mis Mehefin eleni, a nawr rwyf innau'n aros am ymateb i fy ngohebiaeth, er gwaethaf mynd ar ei hôl. Rwy'n siŵr y gallwch chi werthfawrogi bod hyn yn rhwystredig iawn i bawb sy'n gysylltiedig ac yn gwbl amharchus hefyd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am eich arweiniad ar y mater hwn ac ymrwymiad y byddaf i'n derbyn ymateb fel y gallaf i ei drosglwyddo i fy etholwr.

Yn ail, Llywydd, a chyfeiriaf Aelodau at fy nghofrestr buddiannau ar gyfer yr eitem hon, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol am drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth i fyrddau iechyd yma yng Nghymru, yn dilyn y newyddion yr wythnos diwethaf bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwaethygu i statws ymyrraeth wedi'i dargedu ar gyfer cyllid a chynllunio a bydd yn parhau ar gam monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad? Mae'n hanfodol bod Aelodau'n cael y cyfle i graffu ar y Gweinidog ar y datblygiad pwysig hwn, felly byddwn i'n ddiolchgar os byddai modd gwneud amser am ddatganiad ar y mater hollbwysig hwn. Diolch.

Diolch. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig mae'n debyg o ran Hywel Dda, ac rwy'n rhoi ymrwymiad personol i chi, bydd gennych chi ymateb gan y Prif Weinidog y gallwch chi ei rannu gyda'ch etholwr.

Ymhellach i'r cwestiwn a gafodd ei godi gan Jane Dodds yr wythnos diwethaf, mae pryder o hyd gan ganolfannau achub lleol ynghylch tynged rasio cŵn yn stadiwm y Valley. Mae cofnodion cronfa ddata'r Valley ei hun yn dangos, rhwng 2018 a 2020, fod 141 o filgwn ar gyfartaledd yn gorffen rasio ar y trac bob blwyddyn. Mae eu gyrfa rasio yn gorffen yn bedair i bum mlwydd oed, ac, yn y mis diwethaf, dangoswyd bod 20 milgwn yn segur. Nid oes cofnod ffurfiol o ble mae'r cŵn yma wedi mynd na beth allai eu tynged fod, ac nid yw stadiwm y Valley yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd i'r milgwn hyn. A allai'r Gweinidog ymchwilio i hyn drwy ysgrifennu at berchennog y stadiwm ac yna rhoi datganiad ynglŷn â pha gofnodion sy'n cael eu cadw o dynged y milgwn yn gadael y trac, pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod cartrefi addas yn cael eu darganfod iddyn nhw, a pha berthynas sydd gan y trac gyda sefydliadau ag enw da sy'n gallu eu helpu i ailgartrefu milgwn yng Nghymru, fel Greyhound Rescue Wales, Hope Trust, Dogs Trust, Almost Home Dog Rescue? Mae yna gymaint o elusennau all roi'r gefnogaeth honno. Diolch.

Diolch. Yn sicr, gallaf i roi ymrwymiad i chi y byddaf i'n ysgrifennu at berchennog trac rasio y Valley yng Nghaerffili. Yn anffodus, gwnes i ysgrifennu ato ym mis Mawrth, ac yr wyf i'n dal i aros am ymateb. Felly, nid ydw i'n siŵr y caf i ymateb os ysgrifennaf i ato eto, ond yn sicr, fe wnaf i  ysgrifennu ato eto. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gwbl ymroddedig i les milgwn. Rydw i eisiau ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud ar unwaith. Yn amlwg, mae'r Pwyllgor Deisebau yn cyflwyno deiseb. Rwy'n mynd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar drwyddedu gweithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid. Mae hynny'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Felly, mae yna waith yn digwydd. Ond hoffwn innau hefyd gyfarfod â pherchennog y trac rasio.

Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y gallu i herio trothwyon meddiannaeth disgwyliedig ar gyfer llety hunanarlwyo yn ystod y pandemig COVID-19. Fel y gwyddom ni i gyd, yn ystod y pandemig, roedd rheoliadau COVID-19 yn golygu nad oedd busnesau hunanarlwyo, yn ôl y gyfraith, yn gallu cyrraedd y cyfraddau hysbysebu gofynnol o gael eu rhestru am 140 noson y flwyddyn. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol twristiaeth y Senedd, rwyf i wedi cael aelodau o'r sector yn cysylltu â mi ynghylch diffyg her gan Lywodraeth Cymru o ran y gyfradd feddiannaeth hon, er gwaethaf Llywodraethau eraill ledled y DU yn caniatáu i hyn ddigwydd. Felly, o ganlyniad, mae gennym ni nawr Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhybuddio busnesau eu bod, mewn blynyddoedd blaenorol, wedi methu â chyrraedd y trothwy, er bod hyn yn amhosib iddyn nhw ei wneud oherwydd y gyfraith, ac nawr mae eu statws ardrethi annomestig yn cael ei adolygu ac, yn wir, yn debygol o gael ei golli i lawer o'r busnesau hyn. Bydd hyn, wrth gwrs, yn arwain at ailddosbarthu busnesau dilys fel eiddo preswyl, gyda nhw wedyn yn wynebu bil treth cyngor wedi'i ôl-ddyddio am y tair blynedd diwethaf, a allai fod yn eithaf sylweddol iddyn nhw, gyda llawer ohonyn nhw o bosib yn gorfod cau, a swyddi'n cael eu colli a chanlyniadau anfwriadol eraill. Nawr, mae ond yn iawn fod y busnesau hyn yn gallu herio'r broses hon gan nad oedden nhw'n gallu bod ar agor yn ystod yr amseroedd hynny. Felly, hoffwn i gael datganiad ar y safbwynt hwnnw. Diolch.

14:50

Diolch. Rwy'n deall bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi gofyn i chi ysgrifennu ati. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cael tipyn o ohebiaeth o gwmpas hyn, felly rwy'n meddwl y bydd hi'n hapus iawn i rannu hynny gyda chi a hefyd i ymateb i chi os ydych chi'n ysgrifennu ati.

Roeddwn i eisiau cyfeirio at y sylwadau cynharach gan Jane Dodds heddiw, oherwydd, ar ôl gwrando ar bobl Iran sy'n byw yng Nghymru, ar risiau'r Senedd, rwy'n credu ei bod yn glir iawn lefel y dicter ynghylch y diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU. Yn enwedig, maen nhw eisiau gweld asedau Iran yn y DU wedi'u rhewi nes iddyn nhw roi'r gorau i ladd eu pobl eu hunain, yn enwedig menywod a merched, mewn niferoedd mawr. Nid oes gennym ni ddigon o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, ac rydym ni'n dibynnu, felly, ar y sgyrsiau personol hyn tan, ac oni bai bod y cyfryngau mewn sefyllfa i ddweud mwy wrthym ni. Roedden nhw hefyd eisiau gweld llysgennad y DU yn cael ei alw'n ôl o Tehran. Mae'n rhaid i ni fyfyrio ar gyn lleied y mae pobl wedi elwa fel arfer ar y cyfoeth yn sgil olew yn eu gwledydd. Prin yw'r gwledydd sydd wedi cael rhagwelediad Norwy, a sefydlodd y gronfa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, y gronfa gyfoeth sofran fwyaf yn y byd erbyn hyn. Felly prin yw'r drafodaeth am hawliau unigolion i elwa ar eu hadnoddau naturiol, ac yn hytrach, mae'n fater o 'Sut allwn ni elwa?'. Mae'n rhaid i ni roi hawliau dynol yn llawer cliriach, ar flaen ac yng nghanol yr ystyriaethau. Felly, roeddwn i'n falch iawn o glywed eich geiriau chi, arweinydd y tŷ, ond rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ni ysgrifennu at Lywodraeth y DU a gofyn iddyn nhw ei wneud yn llawer cliriach lle maen nhw'n yn sefyll gyda menywod a merched sy'n cael eu lladd yn Iran.

Wel, yn sicr, fe wnaf i drosglwyddo'ch sylwadau a'ch barn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a fydd, rwy'n siŵr, yn hapus iawn i ysgrifennu at Lywodraeth y DU. 

Trefnydd, hoffwn i hefyd ailadrodd galwadau gan Jane Dodds yn gynharach ac eraill ar draws y pleidiau, ar draws y Siambr, i Lywodraeth Cymru fabwysiadu sefyllfa llais gryf, hyd yn oed os daw hyn o dan Lywodraeth y DU i weithredu.

Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd gyda chyhoeddiad ffurfiol o'i gynlluniau i ddisodli safon uwch a BTEC yma yng Nghymru. Mae'n anodd deall ein bod ni mewn sefyllfa yng Nghymru o hyd nad ydym ni'n gwybod sut olwg fydd ar ein cymhwyster gyfwerth â lefelau T Lloegr. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Trefnydd, na all y diffyg cynllun hwn barhau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano ar addysg gartref. Fel y gwyddoch chi, Trefnydd, dair wythnos yn ôl, gofynnais i am ddatganiad brys gan y Llywodraeth hon am gynigion ar gyfer addysgu gartref yng Nghymru. Mae'r gymuned yn awyddus iawn am atebion, felly hoffwn i roi pwysau arnoch chi am ddatganiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach gan y Gweinidog addysg.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd i uwchraddio ceginau ysgolion er mwyn hwyluso'r nifer cynyddol o brydau ysgol am ddim sy'n cael eu darparu. Nid yw cyfaddefiad diweddar gan y Llywodraeth hon i fy nghydweithiwr Janet Finch-Saunders, lle dywedodd y Llywodraeth, 

'nid yw'n bosib ar hyn o bryd gadarnhau nifer yr ysgolion cynradd yng Nghymru y mae angen uwchraddio eu ceginau'

yn ddigon da. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi, Trefnydd, os gallai'r Gweinidog addysg ddod i'r Senedd hon a lleddfu pryderon—pryderon amlwg—a chadarnhau mewn datganiad bod pob ysgol yn barod, a byddan nhw'n barod i weithredu menter prydau ysgol am ddim cyffredinol y Llywodraeth hon. Diolch.

Felly, rwy'n credu i mi ateb Jane Dodds yn llawn ynglŷn â'r sefyllfa yn Iran, a byddwch chi wedi clywed fy ateb i Jenny Rathbone. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU. 

Gwnaethoch chi ofyn am dri datganiad gan y Gweinidog addysg. O ran prydau ysgol am ddim, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, ac nid wyf i'n credu, mewn gwirionedd, bod angen datganiad ar hyn o bryd.

O ran arholiadau, bydd y Gweinidog Addysg, yn amlwg, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i  Aelodau, drwy naill ai ddatganiad llafar neu ysgrifenedig, pan fydd y penderfyniadau wedi'u gwneud.

Ac o ran addysgu gartref, eto, fe wnaf i gael trafodaeth gyda'r Gweinidog i sicrhau bod datganiad, ar yr adeg briodol, yn cael ei wneud.

14:55
3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol

Eitem 3 y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad—cyhoeddi'r Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n cyflwyno ein Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol. Yn y papur, rydyn ni'n ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer diwygio etholiadol a'r camau nesaf i foderneiddio trefniadau gweinyddu etholiadol yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 10 Ionawr. Mae'r cynigion yn gam arall ar ein taith i greu system etholiadol i'r unfed ganrif ar hugain—system sy'n rhoi mwy o gyfle i bleidleiswyr gymryd rhan er mwyn i bob dinesydd allu chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth.

Fe wnaf i ddechrau trwy atgoffa'r Aelodau o rai o'r pethau rydyn ni wedi eu gwneud yn barod. Yn ystod y bumed Senedd, rhoddwyd y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor cymwys. Cafodd hyn ei wneud trwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dwi'n falch bod pobl ifanc, a phobl sydd wedi dewis byw yng Nghymru, yn cael llais nawr yn y gwaith o redeg eu gwlad. 

Dirprwy Lywydd, fis Gorffennaf y llynedd fe gyhoeddais i fframwaith eglur ar gyfer diwygio etholiadol gyda chwe egwyddor a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol a'r gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth yng Nghymru: tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwell profiad i'r dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb. Mae'r Papur Gwyn yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn gofyn am farn ar yr egwyddorion hyn. Rydym ni'n dymuno defnyddio'r egwyddorion eglur hyn yn feincnod neu er mwyn meincnodi diwygiadau etholiadol ac ar gyfer arwain ein gwaith ni wrth gefnogi cyfranogi ac ymgysylltu democrataidd, ac rydym ni'n dymuno sicrhau eu bod nhw'n ennyn cefnogaeth eang.

Ychydig dros bum mis yn ôl, fe wnaethom ni gyflawni cyfres o newidiadau etholiadol yn llwyddiannus yn etholiadau lleol mis Mai mewn partneriaeth â phedwar awdurdod a'r gymdeithas etholiadol yn fwy eang. Yn gyntaf, fe wnaethom ni gefnogi pedwar cyngor i dreialu ffyrdd newydd o bleidleisio, gan roi mwy o hyblygrwydd i bobl ynglŷn ag amseru a lleoliad y pleidleisio. Rydym ni'n gwneud y mwyaf a allwn ni o gofrestru pleidleiswyr drwy fuddsoddi mewn niferoedd mwy yn nhimau etholiadau'r awdurdodau lleol, a chyfathrebu sy'n cael ei deilwra ar gyfer anelu at grwpiau sydd newydd eu rhyddfreinio. Fe wnaethom ni gefnogi'r trydydd sector a'r ysgolion wrth fod â gwell ymgysylltiad â phobl ifanc drwy gynnig cyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wleidyddiaeth a dinasyddiaeth. Yn olaf, fe wnaethom ni gyflwyno newidiadau gyda'r nod o wella cyfraddau o ran datganiadau o wallau ynglŷn â phleidleisiau post. Felly, rydym ni'n rhoi cynnig ar bethau newydd yng Nghymru ac yn dysgu gwersi o'n hymdrechion ni gyda phartneriaid sydd â'r un uchelgais â ninnau o ran gwella cyflwr iechyd y ddemocratiaeth yng Nghymru.

Ar ôl cyflawniad y cylch o etholiadau arferol i'r Senedd a llywodraeth leol, nawr yw'r amser iawn i gyflymu ein hagenda ni o ran y diwygiadau gan ragweld yr etholiadau datganoledig mawr nesaf yn 2026 a 2027. Mae ein Papur Gwyn ni'n nodi agenda uchelgeisiol gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer moderneiddio gweinyddiaeth etholiadol a diwygio etholiadol ehangach, gan gefnogi cyflawniad ein rhaglen ni ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau diffygion yn y ddemocratiaeth. Mae hynny'n ategu'r gwaith i sicrhau diwygio'r Senedd a gytunwyd gan yr Aelodau ar gyfer 2026 ac ymlaen.

Felly, rydym ni'n gwahodd barn am gymysgedd o gynigion nad ydyn nhw'n ddeddfwriaethol ar gyfer hyrwyddo ymgysylltiad ag etholiadau, i wneud ymgeisio am swydd etholedig yn fwy diogel ac yn fwy syml. Rydym ni'n awyddus hefyd i gael barn pleidleiswyr am ein cynigion ni ar gyfer deddfwriaeth i foderneiddio gweinyddiad yr etholiadau, a gwella trefn adolygiadau etholiadol a chymunedol ar gyfer llywodraeth leol, ac atgyfnerthu cyfraith etholiadol, i'w cyflwyno yn ystod y tymor Seneddol hwn. Yn olaf, rydym ni'n nodi ein cynigion ni ar gyfer y tymor hwy o ran diwygiadau etholiadol er mwyn cefnogi democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Mae ein cynigion ni'n wahanol i lawer o'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n ymddangos fel pe baen nhw wedi cynllwynio i'w gwneud hi'n fwy anodd i bobl bleidleisio mewn etholiadau yn y DU. Rwyf i'n awyddus i fod yn eglur: ein blaenoriaeth ni yw bod â'r cyfranogiad mwyaf, yn hytrach na chodi rhwystrau wrth fynd i'r afael â bwgan twyll etholiadol.

A gaf i droi nawr i edrych ar rai o'r uchafbwyntiau yn y Papur Gwyn? I gefnogi ein hegwyddor ni o hygyrchedd, rydym ni'n nodi mesurau i gefnogi pleidleiswyr anabl a ffyrdd o gefnogi ymgeiswyr mwy amrywiol ar gyfer swyddi etholedig, gan gynnwys ymestyn y gallu sydd gan bobl wrth dynnu o gronfa swyddi etholedig, a mesurau i gefnogi diogelwch yr ymgeiswyr. I gefnogi ein hegwyddor ni o gyfranogiad, rydym ni'n nodi sut y gellid gweithredu cofrestriad awtomatig o bleidleiswyr, yr ydym ni'n awyddus i'w dreialu. Rydym ni'n gofyn am farn hefyd o ran rhoi gwybodaeth well i bleidleiswyr, ac am roi gwelliannau yn eu lle wrth gynnal adolygiadau etholiadol. I gefnogi ein hegwyddor ni o degwch, rydym ni'n gofyn a ddylid gwneud rhagor i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn y broses etholiadol, a gwneud awgrymiadau o ran sut y gallwn ni liniaru'r tangofrestru sydd yna ymhlith rhai fel myfyrwyr. I gefnogi ein hegwyddor ni o well profiad i'r dinasyddion, rydym ni'n holi a ddylid parhau â phleidleisio yn dilyn trywydd ein cynlluniau treialu ni, a sut y gellid gwella prosesau cyfredol fel pleidleisio trwy ddirprwy neu bleidleisiau'r absennol yn rhan o weledigaeth eglur ar gyfer democratiaeth ddigidol. I gefnogi ein hegwyddor ni o symlrwydd, rydym ni'n awgrymu y dylid ailosod y fasnachfraint ar gyfer etholiadau Cymru er mwyn lleihau cymhlethdod, a gofyn am fwy o gysondeb yng ngofynion cyllid ymgyrchu ar gyfer etholiadau datganoledig a neilltuedig. Ac ar gyfer cefnogi ein hegwyddor ni o uniondeb, rydym ni'n cynnig ffurfio bwrdd rheoli etholiadol newydd i sicrhau cydnerthedd yn y dulliau o weinyddu etholiadau, gan uno'r panel annibynnol ar gydnabyddiaethau a Chomisiwn Democratiaeth Leol a Ffiniau Cymru er mwyn adeiladu ar eu cryfderau nhw ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n gwneud i'n democratiaeth ni weithio, o'r bobl sy'n cyflwyno eu hunain i weithio i'w cymunedau nhw fel ymgeiswyr am swyddi etholedig, i'r gweinyddwyr sy'n gweithio mor galed y tu ôl i'r llenni drwy'r flwyddyn i wneud yn siŵr fod ein prosesau democrataidd ni'n gweithio yn ddi-dor, a phawb sy'n egluro sut mae'r system yn gweithio i'w ffrindiau nhw, eu cymdogion nhw a'r bobl ifanc, a hefyd i'r pleidleiswyr sydd wrth galon ein democratiaeth ni.

Am bedair blynedd yn unig yr ydym ni wedi bod yn gyfrifol am etholiadau Cymru, ac fe fydd llunio system etholiadol sy'n gweddu i'r unfed ganrif ar hugain gan gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr, fel bydd pob dinesydd yn gallu bod â rhan lawn yn ein democratiaeth ni, yn cymryd amser. Rwy'n edrych ymlaen at glywed safbwyntiau ledled y wlad ar ein Papur Gwyn—pleidleiswyr, gweinyddwyr, ymgyrchwyr ac arbenigwyr. Mae ein democratiaeth yn eiddo i bawb ohonom ni, ac mae gan bob un ohonom ni ran wrth sicrhau ei bod hi'n addas i'r dyfodol. Diolch yn fawr.

15:00

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yn ogystal â'r copi ymlaen llaw ohono a gefais i gennych chi.

Mae'n rhaid i mi ddweud nad ydwyf i'n gwrthwynebu gweld newidiadau yn y system bleidleisio. Nid wyf i'n gwrthwynebu gweld newidiadau yng ngweinyddiad etholiadau, nac yn wir, eu diwygio nhw, pe byddai hynny'n angenrheidiol. Ond mae gennym ni enw da iawn o ran cynnal etholiadau teg yma yng Nghymru, fel gwnawn ni mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Nid yw'n gymhleth, mae'n gweithio ac mae'n darparu canlyniadau. Nid ydym ni'n gweld y niferoedd yr hoffem ni eu gweld o ran pleidleisiau bob amser, ac mae cynyddu hynny'n her, ac rwyf i o'r farn bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arnom ni ein hunain i'w ddatrys, o ran rhoi'r ysbrydoliaeth i etholwyr fynd allan i bleidleisio mewn etholiadau. Nid ydych chi'n gallu gorfodi neb i fwrw'r bleidlais sydd ganddo i'w bwrw, ac mae'n rhaid i ni gymryd a derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am nad ydym ni, efallai, yn rhoi digon o ysbrydoliaeth i bobl.

Ond nid wyf i o reidrwydd yn gweld yr angen am bob un o'r newidiadau arfaethedig yr ydych chi'n eu cyflwyno yn y Papur Gwyn, nac ychwaith yn gweld hwn yn faes a ddylai fod yn llyncu amser Llywodraeth Cymru i gyd o bosibl o ran ei blaenoriaethau deddfwriaethol hi. Mae llawer o bethau eraill y gallai Llywodraeth Cymru fod yn ymdrin â nhw, ond am ryw reswm, mae hi'n ymddangos eich bod chi'n canolbwyntio ar bethau nad ydyn nhw o reidrwydd yn flaenoriaethau i'r cyhoedd.

Felly, y sefyllfa sydd gyda chi pan wnaethoch chi gychwyn ar eich cynlluniau treialu pleidleisio cynnar yn gynharach eleni; a dweud y gwir, roedden nhw'n drychinebus—roedden nhw'n gyfan gwbl a hollol drychinebus. Fe wnaethoch chi wario £1.5 miliwn—£845 i bob unigolyn a bleidleisiodd yn gynnar. Dyna'r canlyniad. A lleihau mewn gwirionedd a wnaeth nifer y pleidleisiau yn yr ardaloedd hynny a oedd â'r cynlluniau treialu i bleidleisio yn gynnar ynddyn nhw, ac roedd hwnnw'n ostyngiad gwaeth nag a welwyd yn nifer y pleidleisiau yn y cnawd trwy Gymru gyfan. Felly, fe ostyngodd hyd yn oed yn waeth na'r gostyngiad o 3 y cant a welwyd trwy Gymru gyfan. Felly, nid llwyddiant mo hwnnw. Felly, fe atebwyd un cwestiwn i chi, yn fy marn i, mewn ffordd ysgubol oherwydd methiant nodedig y cynlluniau treialu pleidleisio cynnar hyn o ran na ddylech fod yn bwrw ymlaen ag unrhyw fwriad pellach o fod â phleidleisio cynnar yn y dyfodol.

Rydych chi wedi trafod, yn eich Papur Gwyn, gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Nawr, nid yw hi'n eglur i mi pam y gallai hynny fod yn angenrheidiol. Mae miliynau lawer o bobl yng Nghymru yn cofrestru i bleidleisio gyda'r system gofrestru bleidleisio bresennol heb unrhyw broblemau o gwbl. Ac wrth gwrs mae yna rai heriau sy'n dod i'r amlwg gyda chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Fe allech chi, yn y pen draw, weld pobl yn cael eu cofrestru i bleidleisio ddwy waith, er enghraifft, mewn dau gyfeiriad, gyda chynnydd o bosibl yn y perygl y bydd yr unigolion hynny'n pleidleisio ddwy waith mewn un etholiad—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs, fe allai hynny ddigwydd nawr, ond mae hynny'n fwy tebygol o ddigwydd os ydych chi wedi cofrestru yn awtomatig mewn dau le ar yr un pryd.

Rydych chi'n cyfeirio at fyfyrwyr yn benodol; y gwir amdani yw bod llawer o fyfyrwyr yn awyddus i fod wedi eu cofrestru yng nghyfeiriad eu cartrefi yn unig, eu cartrefi parhaol nhw, nid eu cyfeiriad nhw yn ystod y tymor. Nawr, mae hwnnw'n fater iddyn nhw os ydyn nhw'n dewis cofrestru yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Mater iddyn nhw yn llwyr yw hwnnw sef mai y nhw sy'n gallu dewis, ond rydych chi'n cymryd y dewis hwnnw oddi wrth bobl os ydych chi'n eu cofrestru nhw'n awtomatig i bleidleisio yn eu cyfeiriad nhw yn ystod y tymor. Nid yw hi'n eglur sut rydych chi am oresgyn rhai o'r heriau hynny, lle gallai pobl fod yn dymuno mynegi eu dewis i fod wedi eu cofrestru mewn un lle yn hytrach nag arall, ac nid yw hi'n eglur, yn y Papur Gwyn, sut rydych chi am fynd i'r afael â'r posibilrwydd o bobl yn pleidleisio ddwywaith yn yr un gyfres o etholiadau pan nad oes ganddyn nhw hawl i wneud felly.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, y cynlluniau treialu sydd wedi digwydd, a chyflwyno cofrestriad pleidleiswyr awtomatig sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd. Yng Nghaliffornia, er enghraifft, cafodd 1,500 o bleidleiswyr eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol yn awtomatig yn anghymwys o ganlyniad i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr awtomatig yno, a dyblygwyd 84,000 o enwau pobl ar y gofrestr yng Nghaliffornia ei hun yn unig. Nawr, rwy'n gwybod bod poblogaeth Califfornia yn llawer mwy, ac fe fyddwn i wrth fy modd yn cael mynd draw yno i weld sut mae'r cwbl yn gweithio a'm llygaid fy hun, ond y gwir amdani yw nad ydym ni'n dymuno bod mewn sefyllfa lle byddai pobl yn teimlo, heb yn wybod, efallai, fel pe byddai ganddyn nhw ddau neu dri chyfle i bleidleisio oherwydd eu bod nhw'n berchen ar ddau neu dri o dai mewn dau neu dri gwahanol le, neu am eu bod nhw'n cofrestru yn rhywle yn ystod amser tymor ac yn cofrestru yn rhywle arall rywbryd arall. 

Fe gefais i fy siomi hefyd, Gweinidog—[Anghlywadwy.]—Llywodraeth Cymru i ymestyn yr etholfraint i fwy o garcharorion. Rwy'n credu bod hynny'n siomedig iawn yn wir, eich bod chi'n parhau i fod â'r safbwynt hwnnw yn y Llywodraeth. Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU yn eich atal chi rhag gwneud hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio na fydd Llywodraeth y DU yn newid, o ran yr ymagwedd honno wrth symud ymlaen.

15:05

Darren, rydych chi wedi mynd ymhell dros eich amser, rwy'n awyddus i gynnwys pobl eraill. 

Iawn. Y pwynt olaf, os caf ei godi, os yw hynny'n iawn, Dirprwy Lywydd, yw fy mod i'n awyddus i wybod sut rydych chi am gadw'r egwyddor hon o symlrwydd ynghylch etholiadau pan ydych chi mewn gwirionedd am gyflwyno mwy o gymhlethdod i'r system etholiadol, oherwydd po fwyaf yr ydym ni'n ymwahanu yng Nghymru oddi wrth y system bleidleisio a ddefnyddir ar gyfer etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ac ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU, yna po fwyaf o gymhlethdod y mae hynny'n mynd i'w achosi i bobl o ran gorfod ymdopi, a cheisio ei ddeall wrth fynd i fwrw eu pleidlais. Felly, pe byddai cofrestru awtomatig gennym ni, er enghraifft, ar gyfer rhai etholiadau ac nid eraill, fe allai pobl gymryd yn ganiataol eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol eisoes ond efallai na fyddai hynny'n wir, ac rwy'n credu bod cymhlethdod fel hyn yn anfoddhaol iawn. A dyna pam rwyf i'n eich annog chi i weithio yn agosach gyda Llywodraeth y DU ar gyfer ceisio, pe byddem ni'n bwrw ymlaen ag unrhyw ddiwygiadau, y gallwn ni geisio gwneud hynny gyda chysondeb ar gyfer pob etholiad, i wneud yn siŵr nad yw'r cymhlethdod hwnnw'n bresennol.

15:10

Diolch am y sylwadau hynny, a diolch, hefyd, am groesawu'r amcan cyffredin o fod ag awydd am system etholiadol sy'n gweithio yn iawn, yn effeithlon a chadarn.

Rwy'n credu mai craidd hyn yw bod y byd yn newid: mae'r dechnoleg gennym ni, rydym ni wedi dysgu am gyfleoedd, yn union fel gwnaethom ni yn y Senedd hon gyda chyfarfodydd hybrid—rydym ni wedi dysgu sut i ddefnyddio'r rhain. Ac ymgynghoriad yw hwn, ac nid ei ddiben yw gorfodi unrhyw un i bleidleisio, ond sicrhau eich bod chi'n gallu rhoi'r cyfle gorau i'r bobl i gyd, i'r amrywiaeth o alluoedd ledled y gymdeithas ac yn y blaen i allu cymryd rhan yn y pleidleisio. Oherwydd bwriad hyn yw gwneud y mwyaf o bleidleisio, gwneud y mwyaf o'r cyfle i bleidleisio, yw creu democratiaeth sy'n iach iawn. Mae hwnnw wedi bod bob amser, mewn gwirionedd, yn un o'r nodau llesiant gwirioneddol i mi, y dylem ni i gyd fod yn anelu ato, oherwydd mae cymdeithas lle nad yw niferoedd cynyddol o bobl â rhan ar lwybr peryglus iawn yn fy marn i, ac rwy'n credu ein bod ni'n gweld hynny'n fyd-eang.

Rydych chi'n sôn y bydd hyn yn llyncu amser, wel, wrth gwrs, yn 2017, fe gawsom ni gyfrifoldebau arbennig i'n galluogi ni i newid yn wirioneddol a diwygio ein cyfraith etholiadol ni, ac rydym ni'n gweld cyfleoedd yn hynny o beth. Pwrpas yr ymgynghoriad yw archwilio'r cyfleoedd hynny ac ystyried sut y gallem ni dynnu ein system etholiadol i'r unfed ganrif ar hugain. Wedi'r cyfan, yr hyn a gawsom ni yn y gorffennol hyd nawr oedd rhai cynlluniau treialu, nad ydyn nhw wedi ymwneud—nid oedd neb erioed o'r farn y byddai'r pedwar cynllun treialu y gwnaethom ni eu cynnal yn trawsnewid y niferoedd sy'n pleidleisio ar amrantiad ac roedd rhuthr enfawr am fod i bleidleisio yn yr etholiadau. Roedd hyn bob amser am ymdrin â'r gwaith technegol o ran sut y gallem wneud pethau yn wirioneddol wahanol, i ddangos y gallem ni ddigideiddio, i ddangos y gallem ni gynnal etholiadau mewn ffordd wahanol, ac ar ben hynny—ac i'r graddau hynny, roedden nhw'n llwyddiannus iawn. Pe byddem ni'n gofidio yn wirioneddol ynglŷn â llyncu amser, fe allai hi fod o ddefnydd pe byddech chi'n galw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r gyfraith UE a ddargedwir, a fydd yn llyncu llawer iawn o amser mewn ffordd gwbl ddiangen. Rwy'n gadael hynny i un ochr.

Rwy'n gweld gwir atyniad yn nefnydd y pwerau sydd gennym ni i roi golwg ar sut y gall technoleg wneud pleidleisio yn rhywbeth mwy deniadol, a'i gwneud hi'n haws, a chynnal y cadernid a'r symlrwydd. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i'n gwrando ar rai o'ch sylwadau chi, eich bod wedi gwneud i mi feddwl am ryw fath o Gapten Ludd—wyddoch chi, y sawl a aeth o gwmpas yn gwrthwynebu, Darren y Ludiad [Chwerthin.] Ac rwyf i o'r farn mai dyna yw ychydig o'r anhawster ynglŷn â'r dull hwn. Fe ddylech chi ddilyn esiampl David Cameron mewn gwirionedd, ac fe ddywedodd David Cameron,

'Mae'r newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud...yn moderneiddio gyda phwrpas. Y pwrpas hwnnw yw sicrhau ein bod ni'n gallu ymateb i heriau mawr ein hoes'.

Ac mewn llawer ffordd, os ydych chi'n cymryd cyflwr ein democratiaeth ni o ddifrif, mae wynebu'r heriau hynny ac ystyried sut y gall technoleg wneud ein system etholiadol ni'n fwy deniadol, sy'n werth ei archwilio yn drylwyr yn fy marn ni, ac os oes yna bethau y mae'r cynlluniau treialu yn rhoi tystiolaeth y gallai'r pethau hynny weithio, yna fe ddylem ni wneud hynny.

Cofrestru awtomatig: wel, mae hi'n ymddangos i mi fod cael cymaint o bobl â phosib yn gallu pleidleisio ac sydd â hawl i bleidleisio ar y gofrestr etholiadol wir yn amcan y dylem ni fod ag ef mewn gwirionedd. Ac o ran mater cofrestru ddwy waith, wel, ar hyn o bryd, nid wyf i'n credu ei bod hi'n drosedd i fod wedi cofrestru ddwy waith neu gofrestru dair gwaith hyd yn oed. Yr hyn sydd yn drosedd yw pleidleisio mewn mwy nag un man. Rwy'n cofio pan oeddwn i'n fyfyriwr, roeddwn i wedi fy nghofrestru mewn dau le trwy'r amser: tref fy magwraeth ac ym mha le bynnag yr oeddwn i'n dibynnu ar y man y byddwn ni pan fyddai'r etholiad yn digwydd mewn gwirionedd.

Ynglŷn â masnachfraint carcharorion, yn sicr mae gennym ni uchelgais sydd, rywbryd yn y dyfodol, ynglŷn â chategori arbennig o garcharorion, yn rhan o adsefydlu carcharorion ac yn rhan o ymgysylltu pobl sy'n ailgyflwyno yn y broses ddemocrataidd ac mae hynny'n rhywbeth sydd ag apêl. Ni fydd hynny'n digwydd y tro hwn; rhywbeth i'r tymor hwy ydyw'n bendant, yn bennaf oherwydd ar gyfer cyflawni hyn, bydd angen ymgysylltiad cadarnhaol ag agweddau o'r system gyfiawnder gyfeiriedig nad ydyn nhw i'w cael i ni ar hyn o bryd.

O ran symlrwydd, a gaf i ddim ond dweud bod y sylw a wnaethoch chi ynglŷn â pheidio ag ymwahanu, nad wyf i o'r farn ein bod ni'n ymwahanu? Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw moderneiddio. Llywodraeth y DU sy'n ymwahanu mewn gwirionedd—yn ymwahanu oddi wrth egwyddorion sylfaenol drwy greu rhwystrau a fydd yn ei gwneud hi'n fwy anodd i bobl gofrestru i bleidleisio ac o ran gallu i bleidleisio hefyd. Ond, fel y dywedais i, ymgynghoriad yw hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at gynnwys eich cyfraniad chi ac, yn ddiamau, cyfraniad eich plaid yn y broses honno o ymgynghori. Fe fydd y safbwyntiau hynny, yn amlwg, yn cael eu hystyried, fel y caiff pob barn.

15:15

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol, ac rŷn ni fel Plaid Cymru yn croesawu unrhyw ymgais i'w gwneud hi'n haws i bobl bleidleisio. Rŷn ni'n edrych ymlaen i weld y manylion wrth i'r ymgynghoriad fynd yn ei flaen.

Pam nad ydym ni'n fodlon newid y system bleidleisio? Mae popeth arall yn y byd yn newid. Ond mae Mr Ludiad draw fan hyn yn dymuno i ni aros yn oes yr injan stêm o ran pleidleisio, yn hytrach na mynd gyda'r oes ddigidol. Ond prin ei bod hi'n syndod, serch hynny, i glywed Darren Millar yn gwrthwynebu newid. Wrth gwrs, fe wrthwynebodd ei blaid bob diwygiad ers Deddf Diwygio 1832, oni wnaethon nhw? Felly, mae hynny yn ôl y disgwyl o leiaf. Ei ymosodiad ar y cynlluniau treialu—. Wel, dim ond cynlluniau treialu yw'r rhain, onid e? Profion ydyn nhw. Pethau i ddysgu oddi wrthyn nhw, ac fe fyddwn i'n cefnogi unrhyw gynllun treialu sydd â nod o geisio annog mwy o bobl i bleidleisio. Mae ef yn sôn am ddryswch. Fe newidiodd ei blaid ef y system bleidleisio, ar y cyd â'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Deddf y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, i system cyntaf i'r felin. Nid oedd unrhyw sôn am ddryswch bryd hynny. Y nhw oedd y rhai a oedd yn dymuno cyflwyno prawf o hunaniaeth gan bleidleisiwr. Ni fu unrhyw sôn am achosi anhrefn bryd hynny.

Rwy'n siŵr, Cwnsler Cyffredinol, eich bod chi wedi aros ar eich traed yn hwyr neithiwr i wrando ar fy ffrind a fy nghyd-Aelod Sioned Williams ar y rhaglen Sharp End. Roedd hi'n dweud, fel gydag ymestyn yr hawliau pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed, na chaiff pobl eu grymuso i bleidleisio oni bai eu bod yn cael eu hysbrydoli i bleidleisio, ac mae hynny'n eithriadol o bwysig. Roeddwn i'n cytuno gyda Darren ynglŷn â hynny. Mater i bob un ohonom ni yw ysbrydoli, ond mae addysg yn allweddol o ran gwleidyddiaeth. Mae Sioned yn iawn. Addysg wleidyddol—pa swyddogaeth sydd gan addysg wleidyddol yn hyn i gyd?

Fel llawer o bobl, rydym ni'n curo ar ddrysau ar adeg etholiad. Ac mae pobl yn dweud wrthym ni, 'O, wel, dim ond ychydig fisoedd yn ôl y gwnaethon ni symud yma, ac nid ydym ni wedi cofrestru.' Fe fydd hyn yn datrys hynny. Yr hyn na fydd yn ei ddatrys yw rhai wardiau—. A gaf i fynd â chi i rai wardiau yng Nghaerdydd, lle rydych chi'n mynd ar hyd stryd ar ôl stryd, gan fynd heibio tŷ ar ôl tŷ o bobl heb gofrestru? Ni wnaiff hyn ddatrys y broblem honno, ond yr hyn a welwn ni mewn sawl ward yng Nghaerdydd, ac ym Mhontypridd rwy'n siŵr, lle mae'r cyfraddau pleidleisio ar hyn o bryd yn yr ugeiniau isel, yw y bydd y canran pleidleisio yn plymio ymhellach eto, ond o leiaf fe fyddai hynny'n adlewyrchiad cywir o niferoedd pobl sy'n pleidleisio.

Fel roeddech chi'n dweud, nid peth newydd mo cofrestru awtomatig. Roeddwn i, yn fy neuadd breswyl, wedi cofrestru yn awtomatig i bleidleisio yn Lloegr, yn eu hetholiadau lleol nhw, ac fe allaf i ddweud wrthych chi mai dyna'r unig etholiad erioed i mi beidio â phleidleisio i Blaid Cymru. [Chwerthin.] Nid wyf i am ddweud wrthych chi i bwy y gwnes i bleidleisio, ond nid yw'r blaid honno erioed wedi bod â chynrychiolaeth yn y fan hon, ac mae'r blaid honno'n cefnogi annibyniaeth i Gymru, felly fe'ch gadawaf chi i ddyfalu. Ond mae hi'n bwysig bod pobl yn gwybod eu bod nhw wedi cofrestru. Sut ydych chi am ddweud wrth bobl eu bod nhw wedi cael eu cofrestru? Sut fydd yr hysbyseb yn cael ei thalu amdani? Ai'r awdurdodau lleol sydd am fod yn gyfrifol, unwaith eto, i dalu'r bil hwnnw?

Pryd ac ymhle y bydd y cynlluniau treialu yma'n digwydd, oherwydd dim ond ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau Cymru y gallwch chi eu cael nhw? Wel, mae'r rhain yn bell iawn i ffwrdd, felly pryd fyddan nhw'n digwydd a pha mor gyflym fydd y gwerthusiad yn cael ei gwblhau wedyn?

Rwy'n siomedig—. Ac rwyf i am atgoffa Darren Millar o eiriau Iesu Grist yn yr efengyl yn ôl Mathew: 'Bûm yng ngharchar, ac ymwelsoch â mi, daethoch ataf.' Wel, fe hoffwn i gofio am y carcharorion heddiw. Nid yw'r ffaith nad yw Darren Millar yn dymuno cynnwys carcharorion—. Fe ddylai pawb sy'n byw yn y wlad hon fod yn rhan o'r gymdeithas ddinesig, ac fe ddylech chi wrando, dylech wrando ar eiriau eich gwaredwr, Iesu Grist, yn y Testament Newydd, Darren Millar. Nawr, rwyf i'n annog Llywodraeth Cymru i roi hyn yn ôl ar yr agenda—rhywbeth y mae fy mhlaid a minnau'n teimlo yn gryf iawn ynglŷn ag ef.

Ychydig o bethau technegol i gloi: beth yw'r bwrdd rheoli etholiadol hwn yr ydych chi'n sôn amdano? A yw'r un peth â'r bwrdd cydlynu etholiadol y mae'r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn holi yn ei gylch? Fe nodais i, reit ar ddiwedd eich datganiad, eich bod chi wedi sôn am uno'r panel taliadau annibynnol a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol Cymru. Nawr, rydych chi'n gwybod bod y panel taliadau annibynnol yn ymdrin â chyfraddau tâl aelodau etholedig y cynghorau, ond ag awdurdodau'r parciau cenedlaethol a'r awdurdodau tân ac achub hefyd. Sut mae hynny'n cysylltu â'r comisiwn ffiniau, a sut fydd hynny'n effeithio ar unrhyw adolygiadau o ffiniau pan gaiff ei roi gerbron yma? Diolch yn fawr. Ac o fewn pum munud. [Chwerthin.]

15:20

A gaf i ddiolch i chi am eich sylwadau? Roeddwn i'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r sylwadau, ac rwy'n cytuno yn bendant â'r sylwadau a wnaethoch chi o ran profi hunaniaeth pleidleiswyr. Er mae'n debyg y byddwn i'n anghytuno â chi ar hynna, oherwydd fe geir llawer o annibendod yn deillio oherwydd sut ar y ddaear a fyddai hynny'n gweithio a'r heriau posibl o ran egluro i bobl beth sy'n ofynnol ganddyn nhw a sut fyddai hynny'n gweithio mewn gwirionedd, a meddwl ydw i tybed a fydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd. 

Mae'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon—[Anghlywadwy.]

Rwy'n credu bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon, o ran ei phroses arbennig hi. Rwy'n credu, o ran y farn gyffredin sydd ymysg pob un o'r pleidiau, ein bod ni i gyd yn gytûn o ran yr angen i wleidyddion fod yn ysbrydoli pobl, ac mae honno'n ddyletswydd i ni. Rwy'n credu, ar gyfer ysbrydoli, ei bod hi'n rhaid i ni gynnig cyfleoedd ar gyfer gwir ymgysylltiad hefyd, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried gyda'r system addysg ac ati. Wrth gwrs, fe geir amrywioldeb, ac yn amlwg mae yna gyfleoedd drwy'r cwricwlwm newydd o ran grymuso addysg ddinesig, sydd yn gwbl sylfaenol yn fy marn i, ond y gallu hefyd i ymgysylltu mewn ffordd deg â phleidleiswyr ifanc—gydag ysgolion ac yn y blaen—mewn ffordd deg ac amhleidiol ynglŷn â'r ffordd y mae'r system etholiadol yn gweithio, ond o ran sut fath o faterion sy'n gallu codi hefyd.

Ar nodyn personol, rwyf i bob amser wedi teimlo yn siomedig iawn am nad yw cymaint â hynny o ysgolion yn dysgu pobl am undebau llafur, am y mudiad cydweithredol a phethau o'r fath—mae pethau fel hynny wedi bod yn bwysig iawn yn ein hanes ni—ond mater arall ydyw hwnnw. Yn amlwg, fe fydd yna broblem o ran unrhyw newidiadau a sut mae rhoi cyhoeddusrwydd iddyn nhw a'r broses ymgysylltu yn hynny o beth, dyna rywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn yr ymgynghoriad, ond yn amlwg mae hynny'n hynod bwysig.

O ran y cynllun treialu, rwy'n credu mai'r pwynt pennaf fydd hwn: os byddwn ni'n sefydlu cronfa ddata genedlaethol o ran cofrestru awtomatig—yn y bôn, digideiddio'r system etholiadol yw hyn—ni allwn ni wneud hynny mewn gwirionedd, oherwydd nid yw'r gallu gennym ni i wneud hynny. Mae angen sefydlu'r ddeddfwriaeth; fe allwn ni gael y cynllun treialu wedyn. Fe ddaw'r cynllun treialu ar ôl i ni gael y ddeddfwriaeth, a dyna pam mae'r amserlen yn bwysig iawn. Fe fydd y cynllun treialu hwnnw gennym ni i asesu'r gwahanol ffynonellau y gellir cael y wybodaeth ohonyn nhw, oherwydd mae'n rhaid i ni sicrhau bod y system sy'n cael ei sefydlu gennym ni a'r cronfeydd data yr ydym ni'n eu defnyddio ac argaeledd y wybodaeth a sut y caiff ei chynnal wedyn (1) yn parchu preifatrwydd, ond yn gadarn ac yn cynnal hyder yng ngonestrwydd y system etholiadol.

Mae gennym ni eisoes, wrth gwrs, lawer iawn o gronfeydd data. Mae gan y GIG gronfa ddata enfawr yn barod. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs—. Un o'r pethau yw y byddai'r gofrestr etholiadol, fel y cyfryw—neu'r gronfa ddata honno—yn rhestr gaeedig. Felly, ni fyddai honno ar gael i'w gwerthu, fel y mae hi ar hyn o bryd mewn rhai ffyrdd. Ac rwy'n credu mai peth da iawn fyddai hynny. Fe fyddai hi ar gael i'r awdurdodau priodol fynd ati hi yn ôl yr angen.

O ran y bwrdd rheoli a chydlyniad etholiadol, wel, wrth gwrs, mae hwnnw'n rhywbeth a sefydlwyd yn gwbl wirfoddol ymhlith swyddogion cofrestru etholiadol. Y ni yw un o'r ychydig leoedd nad oes bwrdd rheoli etholiadol cenedlaethol statudol mewn gwirionedd. Felly, yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gynnig yw ein bod ni'n creu un felly mewn gwirionedd—creu, mewn gwirionedd, strwythur cenedlaethol addas ydym ni ar gyfer rheoli a chydlynu etholiadau o gwmpas Cymru mewn ffordd wirioneddol, gyda'r holl fanteision a fyddai'n dod o ran gwneud y mwyaf o ddefnyddio technoleg, systemau, cysondeb, cydnerthedd ac yn y blaen.

O ran y bwrdd taliadau, rwy'n credu mai mater mewn gwirionedd yw hwnnw o fod â chyfle i ymgorffori rhywbeth mewn corff arall sydd yn y bôn yn fater o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y ddeddfwriaeth. Felly, fe geir cynnig ynglŷn â hynny hefyd. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb y pwyntiau i gyd.

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr iawn. Rwy'n croesawu unrhyw fesurau i'w gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl, y rhai sydd ag anableddau corfforol a synhwyraidd, wrth fynd i orsaf bleidleisio. Weithiau, mae mynd i'r orsaf bleidleisio yn gallu bod yn anodd iawn ynddo'i hun i bobl sydd ag anableddau fel hyn. A beth mae pobl yn ei wneud? Dydyn nhw ddim yn trafferthu, oherwydd mae hi'n ormod o drafferth.

Rwy'n croesawu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Fe wnaeth llawer o fy etholwyr i a oedd wedi dod i bleidleisio i mi ddarganfod nad oedden nhw wedi eu cofrestru, mewn gwirionedd, ac roedd hynny'n hynod siomedig i mi, er nad felly i neb arall o reidrwydd. Ond, mewn difrif, mae honno'n broblem: pobl yn tybio eu bod nhw wedi eu cofrestru ac yna'n darganfod ar ôl cyrraedd yno nad ydyn nhw. Mae'r rhain yn tueddu i fod yn anghymesur o ifanc; ac yn tueddu i fod yn anghymesur yn bobl o ardaloedd mwy tlawd.

Yr un newid mawr sydd wedi gweithio yn dda iawn yw'r pleidleisiau post ar alw, mae'r rhain yn wir wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ond mae dwy broblem yn hyn o beth: niferoedd y bobl sydd, ar eu pleidlais bost nhw, yn cael ei gwrthod hi am eu bod nhw'n llenwi'r dyddiad y maen nhw'n ei anfon i mewn, ac nid dyddiad eu geni; a'r bobl nad yw eu llofnod nhw'n cyfateb i'r llofnod a anfonwyd i mewn ganddyn nhw. Yn aml, mae'r bobl hyn yn dioddef cyflyrau dirywiol, pethau fel sglerosis ymledol neu bethau fel clefyd Parkinson, ac mae eu llofnod nhw wedi newid dros amser. Felly, fy nghais i yw: a fyddai hi'n bosib dychwelyd y pleidleisiau hyn i'r bobl er mwyn caniatáu iddyn nhw gywiro'r gwallau hyn? Oherwydd y cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw cymryd yr amlen allanol; nid ydych chi'n ddim yn cyffwrdd â'r bleidlais o gwbl.

Yr ail un yw: Mae gen i ofn nad yr anhawster wrth bleidleisio sy'n atal pobl rhag pleidleisio—ond diffyg awydd i bleidleisio o gwbl, ac mae honno'n her i ni ar y meinciau hyn i gyd sydd yma, ac aelodau pleidiau nad oes â chynrychiolaeth yma, i wneud i bobl ystyried eu bod nhw'n dymuno pleidleisio i ni.

15:25

Diolch i chi. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch chi gyntaf ynghylch cynhwysiant, mewn gwirionedd, am rai sydd ag anableddau, yn alluoedd synhwyraidd efallai ac yn y blaen, yn wirioneddol bwysig. Mae digideiddio ac yn y blaen yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer newid a chynhwysiant wrth eu cymryd. Y rhain yr ydym ni'n awyddus i'w harchwilio, ac fe geir llawer o enghreifftiau mewn gwledydd ledled y byd yr wyf i'n gwybod iddyn nhw gael eu hystyried cyn hyn, ond rwy'n credu bod digideiddio eto yn creu cyfleoedd yn hyn o beth.

Fe ddylwn i ddweud un peth, wrth gwrs, sef yr un peth hwnnw yr ydym ni'n cyfeirio ato yn y papur—nid ei ystyried ar gyfer y gyfres nesaf o etholiadau, ond yn y dyfodol—sef wrth gwrs pleidleisio ar-lein. Rydym ni o'r farn bod yna broblemau o ran technoleg, diogelwch ac yn y blaen ar hyn o bryd, ond wrth gwrs mae digideiddio yn agor y drws i hynny, ac rwy'n credu ei fod yn beth gwahanol iawn. Mae gan lawer ohonom ni brofiad ohono mewn sawl ffordd yn barod, ac felly mae hyn yn ymwneud â'r defnydd o'r dechnoleg, ar yr amod y gellir ei wneud gyda diogelwch, mewn ffordd gadarn ac, yn fy marn i, yn gwbl syml.

Rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch chi ei godi o ran pleidleisiau post yn hollol gywir. Wrth gwrs, digwyddodd rhai newidiadau ar ôl yr etholiadau diwethaf o ran fformat y papurau ar gyfer pleidlais bost, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef eich bod chi'n hollol iawn o ran y dryswch. Fe wnes i gamgymeriad fy hun ac roedd hi'n rhaid i mi fynd i chwilio am bapur arall ar gyfer gwneud hynny, am yr un rheswm yn union—mae rhywun yn llofnodi yn y lle anghywir neu beth bynnag. Ac mae'r rhain yn gamgymeriadau sy'n hawdd eu gwneud. Felly, un o'r pethau yn y maes yma sy'n cael ei gynnwys yn y papur ar gyfer ymgynghori yw'r mater hwn o olrhain, wrth gwrs. A sicrhau bod y rhai sy'n awyddus i bleidleisio ac sy'n defnyddio pleidleisiau post—os oes rhesymau am hynny, bod gwallau technegol fel hyn ac ati, bod cyfleoedd i'w cywiro nhw ac yn y blaen. Nid wyf i'n credu bod hynny'r tu hwnt i'n gallu ni o gwbl.

Rwyf yn diolch i chi am y sylwadau eraill.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da, Cwnsler Cyffredinol. Munud sydd gennyf i siarad am ddemocratiaeth, pan mai fi yw'r unig gynrychiolydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond rwy'n dymuno dweud ar goedd fy mod i'n cefnogi egwyddor y diwygiadau hyn, oherwydd mae democratiaeth yn y DU mewn dyfroedd dyfnion, mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddion ar ei gwanaf erioed, mae'r niferoedd sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn parhau i fod yn isel, mae cyfranogiad mewn democratiaeth yn parhau i leihau, ac mae gennym lawer i'w wneud—yn wahanol i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, sy'n benderfynol o ddifetha ein democratiaeth ni a dwyn ein rhyddid democrataidd sylfaenol ni oddi wrthym.

A bod yn onest, mae'r ymdrech i waradwyddo carcharorion hyd yn oed yn fwy yn anfaddeuol yn fy marn i. Gyda'r parch mwyaf, Darren Millar, mae hi'n anfaddeuol eich bod chi'n ceisio gwadu'r hawl iddyn nhw drafod a phleidleisio ar bethau sydd mor bwysig iddyn nhw—mor bwysig iddyn nhw ag yr ydyn nhw i ninnau. Felly, mae'n rhaid i ni ddiddymu rhwystrau a'i gwneud hi'n symlach i bobl bleidleisio, ac rwy'n ddiolchgar am y datblygiadau a gafodd eu gwneud yn y datganiad heddiw.

Dyma rai syniadau i roi hwb wirioneddol hyd yn oed ymhellach o ran pleidleisio yng Nghymru. Fe hoffwn i weld symudiad lle mae'n rhaid i bob cyngor ethol cynghorwyr trwy Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Rwy'n dymuno gweld cyllidebu cyfranogol, fe hoffwn i weld mwy o arloesi o amgylch cynulliadau dinasyddion, ac rwy'n dymuno ein gweld ni'n arwain y ffordd ar ddata a thechnoleg, yr ydych newydd gyfeirio ato. Mae yna gymaint i'w groesawu yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen ymhellach â hyn yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

A gaf i ddiolch i chi am y sylwadau yna? Rwy'n credu bod hwn yn ymgynghoriad cyffrous iawn, oherwydd mae wedi dangos y gallwn ni, yng Nghymru, wneud rhywbeth gwahanol, y gallwn ni ei wneud yn well ac y gallwn ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni. Rwy'n credu mai'r dull sydd wedi bod gennym ni, ac sy'n rhywbeth a gafodd ei ystyried dros nifer o flynyddoedd ers 2017, yw'r ffordd y gallwn ni foderneiddio a thynnu ein system bleidleisio ni i'r unfed ganrif ar hugain—. A gadewch i ni wynebu'r peth, nid yw ein system bleidleisio, yn y bôn, wedi newid rhyw lawer mewn 100 mlynedd. Pleidleisiau ar bapur mewn rhestrau yw hi o hyd, gyda phensiliau a phapurau a phrenau mesur, ac rydych chi'n tynnu llinellau drwodd ac yn y blaen, ac yn amlwg nid yw hi'r tu hwnt i'n gallu ni i gynhyrchu rhywbeth llawer gwell mewn gwirionedd, ac rwy'n edrych ymlaen at eich syniadau chi yn hyn o beth 

A gaf i ddim ond dweud rhywbeth ynglŷn â'r syniadau a'r sylwadau wnaethoch chi o ran cynghorau lleol a Phleidlais Sengl Drosglwyddadwy? Wel, wrth gwrs, o ganlyniad i ddeddfwriaeth a basiwyd yma, mae gan gynghorau lleol gyfle i ddewis cyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn eu systemau pleidleisio nhw os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny, yn fy marn i, o fewn y ddwy flynedd gyntaf, ond mae hwnnw'n ddewis sydd ganddyn nhw'n lleol mewn gwirionedd. Diolch.

15:30
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg'. A galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr sydd mewn rhannau o Gymru wedi ysgogi teimladau cryf ers rhai blynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, mae'n ddealladwy bod yna deimlad o anghyfiawnder fod pobl yn gallu cael eu prisio mas o'r farchnad dai leol gan rai sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr.

Mae Cymru wedi bod yn genedl groesawgar erioed, ac rŷn ni eisiau i hynny fod yn wir bob amser. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ond mae gormod o lety gwyliau a gormod o ail gartrefi sy'n wag am ran helaeth o'r flwyddyn yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd ardaloedd a'r ymdeimlad o gymuned. Yn aml, mae'r ail gartrefi hyn mewn cymunedau Cymraeg ac maen nhw'n gallu lleihau ar y cyfleoedd sydd gennym ni i ddefnyddio'n hiaith yn y cymunedau hynny. Hefyd, os nad yw pobl ifanc yn gallu fforddio byw a gweithio yn ein cymunedau Cymraeg, mae hyn hefyd yn gallu bod yn niweidiol i'r Gymraeg.

Fel arfer, mae'n haws disgrifio'r broblem a galw am weithredu nag yw hi i'w datrys. Ond rŷn ni'n torri tir newydd yma yng Nghymru yn y datrysiadau rŷn ni'n eu cyflwyno i wynebu'r heriau hyn, ac mae sawl un tu hwnt i Gymru wedi dangos diddordeb yn yr hyn rŷn ni'n ei wneud. Rŷn ni'n arloesi. Rŷn ni nawr yn cynnwys ystyriaethau ieithyddol ym materion fforddiadwyedd ac ail gartrefi. A dyna beth dwi'n mynd i siarad amdano fe heddiw.

Dwi am i 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' fod yn ganolog i'r ffordd rŷn ni'n ymateb i'r heriau lawer sy'n wynebu cymunedau Cymraeg. Cawsom 800 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynllun—y nifer uchaf o ymatebion rŷn ni wedi'u derbyn ar fater sy'n ymwneud â'r Gymraeg, sy'n dangos y teimladau cryf a'r awydd i weithredu. Mae pobl Cymru am warchod a diogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol, fel fi hefyd. Felly, diolch o galon i bawb a wnaeth ateb.

Prif nod y cynllun yw helpu cymunedau i gynllunio drostyn nhw eu hunain, i ddelio ag heriau penodol o fewn eu hardaloedd, gan ddwyn ynghyd gwybodaeth ac egni lleol. Nid cynllun tai yn unig yw hwn. Mae'n tynnu ynghyd, er enghraifft, y gwaith mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi bod yn ei wneud ym maes tai, ynghyd â gwaith y Llywodraeth ar yr economi, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol. Mae'n enghraifft go iawn, Dirprwy Lywydd, o brif ffrydio'r iaith i bolisïau eraill.

Rwy'n cyhoeddi heddiw hefyd becyn o bron i £500,000 sydd ar gael i wireddu rhai o amcanion y cynllun. I roi blas i chi o'r amcanion hyn: rŷn ni am greu mwy o fentrau cydweithredol, wedi eu harwain gan y gymuned. Roedd tipyn o gefnogaeth i'r syniad yma yn ymatebion yr ymgynghoriad. Bydd rhain yn llefydd i bobl weithio a defnyddio'u Cymraeg yn ddirwystr—gofodau uniaith, hynny yw.

Rŷn ni hefyd am weithio gyda'r rheini sydd â rôl allweddol yn y farchnad dai—arwerthwyr tai, cyfreithwyr, cwmnïau morgeisi ac awdurdodau lleol. Mae cyfle gennym ni i weithio gyda'r arbenigedd lleol yma er mwyn i ni rannu gwybodaeth am gymorth i helpu pobl leol i brynu neu i rentu tai yn fforddiadwy.

Byddwn ni hefyd yn creu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol. Pobl leol fydd y rhain sy'n adnabod eu cymunedau'n dda, yn esbonio'n diwylliant a sefyllfa'n hiaith er mwyn helpu i integreiddio pobl newydd iddyn nhw. Mae pobl yn fwy parod i berthyn i gymuned pan fyddan nhw'n deall y gymuned maen nhw'n byw ynddi.

Rŷn ni'n clywed yn aml am dai yn cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad, neu'n cael eu gwerthu'n sydyn i brynwyr gyda digon o fodd i'w prynu nhw, yn aml heb yr angen am forgais. Rŷn ni'n clywed hefyd am werthwyr yn derbyn prisiau is gan bobl leol, pobl yn rhoi amser digonol i bobl leol drefnu benthyciad. Mae enghreifftiau o werthwyr yn helpu prynwyr, a rhaid cofio nad arwerthwyr tai sy'n penderfynu pwy sy'n prynu eiddo—mae'r penderfyniad terfynol yn nwylo'r gwerthwr. Felly, byddwn ni'n sefydlu cynllun cyfle teg, i godi ymwybyddiaeth ymysg gwerthwyr neu ddarpar werthwyr am y dewisiadau sydd ganddyn nhw i gefnogi pobl sydd am aros neu ddychwelyd i'r cymunedau y cawsant eu magu ynddynt. Bydd hwn yn gynllun gwirfoddol er mwyn amlygu beth y gallwn ni ei wneud i helpu pobl leol i gael tŷ sy'n fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu.

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fe wnes i lansio'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Bydd y comisiwn yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg. Drwy ddefnyddio gwybodaeth arbenigwyr yn y maes, bydd y comisiwn yn llunio adroddiad ymhen dwy flynedd a fydd yn gwneud argymhellion polisi. Mae'r comisiwn eisoes wedi cyfarfod, a dwi'n disgwyl y bydd ei ganlyniadau yn heriol i nifer, ond mae'n hanfodol ein bod ni'n gwreiddio ein polisïau ar sail tystiolaeth a realiti.

Rhan bwysig o'r cynllun fydd amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg, sydd hefyd wedi ei gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu. Cawsom ni ymateb cryf ac adeiladol i'r cwestiwn yma yn yr ymgynghoriad. Rŷn ni'n gwybod bod enwau tai, busnesau, llynnoedd a mynyddoedd yn effeithio ar naws ardal, a bod pobl yn poeni am hyn. Dyna pam y gwnaethom ni ymrwymo i wneud popeth y gallwn ni i warchod enwau lleoedd Cymraeg, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu mwynhau. Rŷn ni angen datblygu ein sail tystiolaeth er mwyn gweithredu, nid yn unig am nifer yr enwau sy'n newid, ond am sut a ble y mae hynny'n digwydd. Felly rŷn ni wrthi'n comisiynu ymchwil trylwyr i'n helpu ni yn hynny o beth. Byddwn ni hefyd yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol i gael gweld beth yn union sy'n mynd ymlaen, a bydd angen gwahanol atebion er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae iechyd economaidd ein cymunedau Cymraeg yn bwysig i ffyniant yr iaith. Bydd Aelodau wedi gweld o ddatganiadau yn gynharach yr wythnos hon am gyllid ychwanegol a fydd yn adeiladu ar waith rhaglen flaenorol Arfor. Bydd hyn yn helpu busnesau ac yn creu cyfleoedd gwaith o fewn rhai o'n cymunedau Cymraeg, sy'n ychwanegu gwerth i'n rhaglenni prif ffrwd ac i 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' hefyd wrth gwrs.

Os ydym ni am i bobl leol gael cyfle gwirioneddol i fyw yn ein cymunedau Cymraeg, i gynnal bywiogrwydd yr iaith fel rhan naturiol o fywyd cymdeithasol ac economaidd bob dydd, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau ac ar draws ein gwlad, rhaid i ni fod yn feiddgar wrth weithredu. Mae Llywodraeth Cymru, drwy gydweithio â Phlaid Cymru, wedi gwneud hynny. Cyhoeddi 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' heddiw yw'r cam diweddaraf ar y daith, ochr yn ochr ag ystod o fesurau eraill rŷn ni wedi eu cymryd i wireddu realiti ymarferol yr hawl i fyw adref.

15:35

Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy ffurflenni a gyhoeddwyd yn datgan buddiant, o ran perchnogaeth eiddo.

Diolch am y datganiad. Dwi'n meddwl bod pob un Aelod o'r Senedd yn gefnogol o'r targed i gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. [Torri ar draws.]

Diolch i chi. Dyna ddechrau arni. [Chwerthin.]

Yn bwysig mae ein Prif Weinidog ni wedi galw Cymru yn genedl noddfa. Felly, i mi, mae'n rhaid i mi ddechrau fy nghyfraniad heddiw na ddylid dal yma yng Nghymru, ar unrhyw adeg, unrhyw ragfarn neu ragdybiaeth sy'n aflonyddu ar unrhyw unigolyn sy'n bwriadu prynu tŷ yng Nghymru. Nawr, rwy'n parchu'r ffaith bod y cynllun siawns teg, a allai ganiatáu i eiddo gael ei farchnata yn lleol yn unig, am gyfnod penodol, yn wirfoddol, ond ni ddylid gwneud hwnnw'n orfodol mewn unrhyw ffordd o gwbl, oherwydd, wedi'r cyfan, rydym ni'n byw mewn marchnad rydd.

Nawr, os cymerwn ni Iwerddon, er enghraifft, mae yna filiwn o bobl yn nodi yn y cyfrifiad ac mewn pethau eraill o'r fath eu bod nhw'n medru'r Wyddeleg, ond, mewn gwirionedd, llai nag 80,000 sy'n ei siarad hi bob dydd. Rydym ni i gyd yn gweithio i osgoi sefyllfa o'r fath yma, ac rydym ni i gyd yn awyddus i'r Gymraeg ffynnu. Fodd bynnag, mae angen cymunedau cynaliadwy a chyfleoedd gwaith sy'n talu yn llawer gwell yn yr ardaloedd hynny y dyluniwyd y cynllun hwn i'w cefnogi. Ar hyn o bryd, mae'r ddau brif sector er hynny, sef amaethyddiaeth a thwristiaeth, wedi dod o dan bwysau sylweddol mewn gwirionedd oherwydd eich Llywodraeth chi, gyda'r holl reoliadau sy'n cael eu gosod ar ein ffermwyr ni a chyda twristiaeth hefyd, gyda rhai o'r symudiadau nawr ym maes twristiaeth, ac mae hyn yn bennaf o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Mae eich cynllun yn gwbl gywir i nodi eich bod chi wedi newid y rheolau ynghylch llety gwyliau tymor byr, gan gyflwyno'r trothwy 182 diwrnod. Nawr, cafodd yr achos yn erbyn hynny ei ddadlau yn huawdl iawn gan y sector, a'r undebau ffermio hyd yn oed, felly mae'n rhaid i chi fod ychydig yn ofalus nad yw'r hyn yr ydych chi'n ei ddylunio â chanlyniadau anfwriadol, oherwydd mae hi'n gwbl afresymegol ei bod yn debygol y bydd tâl yn cael ei godi ar ffermwyr am logi eu llety gwyliau oherwydd nad oes digon o gwsmeriaid nac ymwelwyr ganddyn nhw i allu cyrraedd y trothwy o 182, ac mae amodau cynllunio yn eu hatal nhw rhag cael eu rhoi ar rent yn y sector breifat ar y farchnad agored. Dim ond llety i'w osod ar gyfer gwyliau a fu'r rhain erioed, a phan mae ffermwyr wedi arallgyfeirio, ni ddylech chi fod yn ceisio eu tanseilio nhw.

Diolch byth, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cefnogi cynlluniau a fydd yn hybu twf economaidd a chymunedol yn y gorllewin, fel 200 o swyddi gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi yng Nghaergybi. Felly, fe fyddwn i'n falch, Gweinidog, pe byddech chi'n egluro faint o swyddi yn y gorllewin—. Cynllun Arfor 2, a fydd yn costio £11 miliwn, faint o swyddi y mae disgwyl i hwnnw eu darparu? A sut fath o swyddi? A ydym ni'n siarad nawr am swyddi sy'n talu yn well? Oherwydd ni ddylem anghofio yn y fan hon fod cyflog cyfartalog canolrifol, yng Nghymru, yn £3,000 i £4,000 yn llai nag yn Lloegr. Felly, pe bai ein Cymry lleol ni'n ennill mwy o arian gyda swyddi gwell, mwy o gyflog, yna siawns y bydden nhw'n ei chael hi'n haws mewn gwirionedd i ystyried bod yn berchnogion ar eu cartrefi eu hunain wedyn.

Fe allem ni efelychu parthau buddsoddi treth isel Prif Weinidog y DU hefyd. Rwy'n gwybod hefyd mai ar gyfer helpu i ddatblygu polisïau'r dyfodol yw'r comisiwn y gwnaethoch chi ei sefydlu, ond fe allai hi gymryd dwy flynedd i'r comisiwn hwnnw gyhoeddi ei adroddiad. Felly, a oes yna unrhyw obaith y byddwch chi'n cyflymu hynny, o ystyried yr argyfwng sy'n wynebu rhai o'n cymunedau ni?

Roeddwn i, serch hynny, yn siomedig i ddarllen yn y cynllun nad oes sail tystiolaeth ar hyn o bryd o ran y broblem o newid enwau lleoedd. Ac rwy'n gweld hynny'n aml, mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i fy hun. Pan fyddwn ni'n gwybod am enghreifftiau, fel ffermydd—hen ffermydd traddodiadol teuluoedd Cymru—yn cael eu henwi o'r newydd yn Hakuna Matata, mae hi'n ymddangos nad oes unrhyw angen i chi gomisiynu ymchwil penodol cyn paratoi i gymryd camau o ryw fath.

Fe fydd hi'n cymryd blynyddoedd cyn i ni weld unrhyw gynnydd o gwbl o ran gweld pobl leol mewn sefyllfa well i fforddio tai yn eu cymunedau nhw, oherwydd, yn y bôn, nid y broblem wirioneddol yw perchnogaeth ail gartrefi na llety gwyliau na pherchnogion tai llety na dim byd o'r fath. Y gwir amdani yw bod Lywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chodi digon o dai. Yn rhan gyntaf eleni, y nifer yw 1,236, rwy'n credu, ac mae hynny gryn dipyn yn is na'r flwyddyn cyn hynny, felly ble mae eich brwdfrydedd chi i wir ddatrys y problemau hyn yn ein cymunedau ni yng Nghymru drwy adeiladu tai? 

15:40

Iawn. Felly, mae gen i ychydig o gwestiynau i chi. A wnewch chi egluro faint o adeiladau newydd yr ydych chi'n gobeithio eu gweld yn y fro Gymraeg? Pan fyddwch chi'n mynd ar ôl newidiadau mewn cynllunio, o ran categoreiddio, a fyddwch chi'n canolbwyntio ar ddiwygio cynllunio sy'n hybu prosiectau i adeiladu tai a seilwaith, fel mae ein Prif Weinidog ni'n ei wneud yn y DU? Ac, yn olaf, lle mae'r mannau hyn gennych chi ar gyfer siarad Cymraeg yn unig, lle fyddwn ni'n croesawu pobl fel cenedl noddfa, sut fyddwch chi'n canfod y cymunedau hyn yn parhau i fod yn gydlynus, yn hytrach na bod â swigod sy'n allgáu pobl eraill, lle gallai hynny wedyn atal cymunedau rhag ymuno â'i gilydd? Diolch i chi.

Wel, a gaf i ddweud i gychwyn fy mod i o'r farn gref fod cyfraniad yr Aelod wedi dechrau yn well nag y gorffennodd? Rydw i'n ei llongyfarch hi ar ei defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr, ac rwy'n annog llawer mwy o hynny.

Felly, fe wnaeth hi nifer o bwyntiau eang, rhai ohonyn nhw'n berthnasol i'r datganiad, a rhai ohonyn nhw yn berthnasol i feysydd eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos o'r dechrau nad oes unrhyw wrthdaro rhwng croesawu pobl i'n cymunedau ni a ffyniant y Gymraeg. Rydym ni'n gweld pobl bob dydd o bob rhan o'r byd sydd wedi dewis dod i fyw yma yng Nghymru ac rydym ni wrth ein boddau iddyn nhw ddysgu Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny i'w ddathlu wir. Mae hynny'n rhywbeth cwbl anhygoel i'w weld. Rydym ni wedi gweld plant o Wcráin yn dysgu Cymraeg. Rydym ni'n gweld hynny gyda phobl sy'n dod o rannau eraill o'r DU ac ymhellach i ffwrdd.

Mae swyddogaeth y llysgenhadon diwylliannol yn bwysig iawn yn hyn o beth, wrth gynnwys pobl yn y gymuned, gan esbonio'r cyd-destun diwylliannol yn y lle maen nhw wedi dewis byw ynddo. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o greu'r amgylchedd croesawgar hwnnw. Rwy'n canfod arwyddion yng nghwestiwn yr Aelod o'i bod hi wedi darllen yr araith a roddais i yn yr Eisteddfod, felly rwyf yn diolch iddi hi am y ganmoliaeth ymhlyg yn hynny, ond mae hi'n iawn i ddweud nad yw'r prif rifau yn ddigonol os nad yw pobl yn defnyddio'r iaith bob dydd. Dyna pam rydyn ni'n lwyr awyddus i weld economïau lleol sy'n ffynnu. Rwy'n clywed y pwynt y mae hi'n ei wneud yn gyson ynglŷn â'r trothwy ar gyfer llety hunan-arlwyo. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod eiddo yn y rhan honno o'r sector yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n gynhyrchiol i'r economi. Nid ydym ni'n dymuno gweld y tai hynny'n wag am gyfnod maith a thynnu oddi wrth allu'r gymuned i ffynnu yn economaidd, yn gymdeithasol ac o safbwynt ieithyddol.

Mae hi'n gwneud llawer o'r pwyntiau o ran cyfleoedd gwaith mewn rhannau o Gymru yr oeddwn innau'n eu gwneud yn y Senedd ddiwethaf pan oeddwn i'n Weinidog Brexit. Rwy'n falch o weld ei bod hi o'r diwedd wedi sylweddoli canlyniad rhai o'r penderfyniadau yr oedd hi'n hapus i'w cefnogi nhw yn nyddiau olaf y Senedd ddiwethaf. Rwy'n credu y dylid croesawu'r dröedigaeth fel honno ar y ffordd i Ddamascus yn fawr, yr oedd cyfraniad heddiw yn tystiolaethu ohoni. Rwyf i'n wir yn croesawu'r gefnogaeth hefyd y mae hi'n ei rhoi ar gyfer dull uchelgeisiol o ymdrin ag enwau lleoedd. Rwy'n cydnabod bod tyndra yn hynny o beth, mae'n debyg, gyda'i hymrwymiad arall hi i farchnad rydd, felly rwy'n credu mai rhywbeth arbennig o arwyddocaol yw ei bod hi'n gweld hynny'n rhan o'r datrysiad.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, er hynny, mewn difrif, wrth gloi fy ymateb i'w phwyntiau hi, yw bod gennym ni nodau uchelgeisiol o ran adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu, ond mae hi'n gwybod mai canlyniadau chwalfa economaidd y 10 diwrnod diwethaf fu gwthio cyfraddau llog yn uwch yn sylweddol iawn, ac fe fydd hynny'n rhoi pwysau anhygoel ar nodau adeiladu tai ein Llywodraeth ni a nodau pob Llywodraeth arall yn y DU yn y maes hwnnw hefyd. Dyna pam mae hi mor bwysig bod polisi economaidd Llywodraeth y DU yn cael ei phennu gyda'r amcanion cymdeithasol ehangach hyn mewn golwg. Rwy'n rhannu'r uchelgais o sicrhau ein bod ni'n adeiladu digon o gartrefi yng Nghymru i bobl allu byw ynddyn nhw'n fforddiadwy, ond mae camau ei chydweithwyr hi yn San Steffan yn gwneud hynny'n fwy anodd yn hytrach nag yn haws, mewn gwirionedd.

15:45

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Diolch hefyd am gael golwg arno cyn y cyhoeddiad yma heddiw. Mae’r Gweinidog, wrth gwrs, yn llygad ei le wrth ddweud fod ail dai wedi achosi trafferthion mawr i’n cymunedau gwledig ac arfordirol, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfhaf, a hynny ers degawdau. Mae’r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi arwain at y Gymraeg yn colli tir, pobl yn gadael eu cymunedau, a’r colledion cymdeithasol a chymunedol a ddaw yn sgil hynny. Dyna, wrth gwrs, y cefndir trist, ond dwi'n falch, trwy gydweithio efo Plaid Cymru a thrwy wrando ar lais ymgyrchwyr sydd wedi bod mor huawdl yn cyflwyno'r broblem a chynnig atebion ers degawdau, fod yna olau ar ben draw y twnnel.

Dwi’n cytuno efo datganiad y Gweinidog wrth iddo ddweud ein bod ni’n torri tir newydd yma yng Nghymru. Fe hoffwn gymryd y cyfle i groesawu’r pecyn o fesurau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, y 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' newydd yma, a bod yna gyllid sydd am gynorthwyo er mwyn cyrraedd y nod. Mae yna gwestiwn, wrth gwrs, a ydy'r cyllid yma am fod yn ddigonol, oherwydd mae’r argyfwng tai yn anferthol. Felly, dwi'n chwilio am sicrwydd ynghylch hirhoedledd y cyllid tuag at yr amcanion yma. Hoffwn i ofyn i’r Gweinidog sut yn union y mae o’n rhagweld y bydd y cynllun yma yn helpu i wireddu amcanion y pecyn o fesurau ehangach ar gyfer delio efo'r argyfwng ail gartrefi yr ydym wedi sôn amdano'n barod.

Hoffwn i bwysleisio, er gwaethaf fod yna rai ardaloedd efo nifer uchel o siaradwyr Cymraeg a rhai ardaloedd efo nifer isel o siaradwyr Cymraeg, fod yr iaith yn perthyn i Gymru gyfan ac i bawb yng Nghymru, o Fôn i Fynwy. Dwi’n nodi eich bod yn sôn am ardal Arfor, sydd yn mynd o Fôn i sir Gâr, ond mi fyddwch chi’n gwybod fod yna ardaloedd eraill, megis ardal eich magwraeth chi yng nghwm Tawe, sydd efo nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, hefyd yr hen fro ym Maesteg, neu ddyffrynnoedd Clwyd a Cheiriog. Felly, sut mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y cynllun yn amddiffyn yr iaith a'r diwylliant ar draws Cymru, nid yn unig yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg? 

Wrth i ni aros am ganlyniadau’r cyfrifiad i gael eu dadansoddi, mae’n amlwg y bydd gan y data ar yr iaith oblygiadau i unrhyw gynllun gan y Llywodraeth er mwyn amddiffyn y Gymraeg. Hynny ydy, mi fydd y cyfrifiad yn rhoi darlun mwy clir o statws y Gymraeg, ac mi fydd angen i ni ystyried y data wrth i ni symud ymlaen gydag unrhyw bolisïau newydd. Felly, ydy’r Gweinidog yn hyderus y bydd y cynllun yma yn addas i’r diben, ac yn medru cymryd i ystyriaeth canlyniadau’r cyfrifiad? 

Soniodd y Gweinidog am y mater o dai yn cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad, neu’n cael eu gwerthu’n sydyn i brynwyr oedd â’r gallu ariannol i’w prynu'n ddi-droi. Fe soniodd am sefydlu cynllun cyfle teg, fel soniodd Janet Finch-Saunders yn ei gylch. Doedd hi ddim am weld hyn yn dod yn statudol, ond dwi'n awyddus i weld a oes gennych chi syniadau i ddatblygu'r cynllun gwirfoddol yma i fod yn gynllun statudol a fydd yn parhau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac yn ei ymestyn ar gyfer ardaloedd eraill hefyd, er mwyn sicrhau bod gan bawb gyfle i fyw yn eu cymunedau. 

Agwedd arall hoffwn i gyffwrdd arni ydy’r mater o enwau lleoedd, fel ddaru chi sôn amdano ar ddiwedd eich cyfraniad diwethaf. Dwi’n croesawu’r ffaith bod y cynllun yma am helpu i amddiffyn enwau lleoedd, rhywbeth mae'r blaid hon wedi sôn amdano sawl tro. Rydyn ni'n cofio, wrth gwrs, cynnig Dr Dai Lloyd i amddiffyn enwau lleoedd yng Nghymru. I ailadrodd y pwynt a wnaed ynghynt, mae’r iaith a'r diwylliant Cymreig yn berchen i bob un ohonom ni, ac yn rhan o'n hanes a'n hetifeddiaeth cyffredin yma. Felly, sut mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y cynllun yn mynd ati i amddiffyn yr iaith trwy enwau lleoedd ar lefel statudol? 

Yn olaf, mae'r 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' yn sôn am fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Ond, o ystyried cyndynrwydd y Llywodrareth i ddatblygu fframwaith statudol i alluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol, pa ran mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ei chwarae yn hyn? Ac a wnewch chi gydweithio efo hi er mwyn cryfhau'r fframwaith statudol er mwyn galluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol er mwyn cyrraedd eich dibenion? Diolch yn fawr iawn.  

15:50

Diolch am y cwestiynau pellach hynny. I gychwyn ar y cwestiwn o gyllid, dwi ddim wedi datgan yn y datganiad heddiw yr holl ffynonellau o arian sydd yn berthnasol i'r gwaith rwyf wedi sôn amdano heddiw. Mae yna fuddsoddiad rydym ni wedi ei ddarparu i Cwmpas i gefnogi'r gwaith o ran darparu cynlluniau mentrau cydweithredol a thai, fel ein bod ni'n dwyn o brofiad mentrau cydweithredol fel PLANED, Partneriaeth Ogwen a Chwmni Bro Ffestiniog. Mae lot o botensial yn y maes hwnnw hefyd sy'n cael ei ariannu trwy'r cynllun. Mae Cwmpas yn gweithio gyda ni ynghylch hynny ar hyn o bryd. 

Rwy'n cytuno'n llwyr gyda beth mae'r Aelod wedi dweud; wrth gwrs bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Un o'r elfennau cyffrous, rwy'n credu, yng ngwaith y comisiwn newydd fydd edrych ar safle'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, a'n helpu ni i ddeall impact economaidd a chymdeithasol ar yr iaith. Bydd hynny yn ein helpu ni i lunio polisïau fydd yn gymwys ar gyfer bob rhan o Gymru, maes o law. Bydd hyn yn digwydd mewn cyfnodau yng ngwaith y comisiwn. Un o'r elfennau sydd o dan ystyriaeth ar hyn o bryd yw'r cysyniad o ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, lle efallai bod posibilrwydd i bolisi addysg, polisi cynllunio, polisïau mewn meysydd eraill gael gogwydd sydd yn berthnasol i amgylchiadau'r Gymraeg yn y gymuned honno. Bydd gwaith y comisiwn yn bwysig iawn yn creu sail o dystiolaeth ar gyfer hynny. Bydd hynny'n gweithio mewn ffyrdd gwahanol yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ar yr un llaw, o'u cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru ar y llaw arall. Felly, mae hwn yn rhan o waith y comisiwn yn y tymor canol hefyd. 

Rŷm ni'n disgwyl i weld beth fydd canlyniadau'r cyfrifiad, fel gwnaeth yr Aelod ddweud. Dwi ddim yn gwybod beth fyddan nhw ar hyn o bryd. Beth rŷm ni wedi ceisio ei wneud yn hyn a gyda'r camau eraill rydym ni wedi eu cymryd o ran yr ymateb i'r her ail gartrefi—ac hefyd, gyda llaw, yng nghyd-destun polisi addysg yn y Gymraeg—yw ein bod ni mor uchelgeisiol ag y gallwn ni fod. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y canlyniadau pan ddown nhw atom ni cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio, ond beth bynnag fyddan nhw, mae gennym ni fwy o waith i'w wneud. Felly, dyna'r bwriad yn hyn—ein bod ni'n bod mor uchelgeisiol ag y gallwn ni. Mae'r camau rydym ni wedi'u cymryd fan hyn, yn y maes cynllunio, yn y maes trethi, ac ati, wedi bod yn gamau breision, fel roedd yr Aelod yn cydnabod yn ei gyfraniad. Ond, byddwn ni yn edrych eto ar y taflwybr pan gawn ni'r canlyniadau yn y cyfrifiad, i weld os yw'n gymwys ar gyfer y pum mlynedd a'r 10 mlynedd nesaf. Felly, mae cyfle inni ailedrych ar y taflwybr i 2050 yn y cyd-destun hwnnw.

O ran y cynllun cyfle teg, mae'r cwestiwn o beth sydd wedi cael ei ddatganoli a beth sydd wedi cael ei gadw yn ôl, wrth gwrs, yn berthnasol o ran ein gallu ni fel Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn. Ond, rŷn ni yn edrych ar un elfen gyfreithiol, hynny yw beth mwy y gall gwerthwyr ei wneud o ran cyfamodau ar eu heiddo, i weld os oes gyda ni botensial yn y maes hwnnw. Felly, mae'r gwaith yna'n mynd i fod yn digwydd cyn bo hir, ac mae elfen gyfreithiol i hynny a fydd efallai'n cynnig rhyw fath o gyfle.

Ar yr un testun, gwnaeth e ofyn ynglŷn â sail ddeddfwriaethol i'r gwaith ar enwau lleoedd. Dwi ddim yn diystyru'r posibilrwydd o wneud rhywbeth deddfwriaethol, ond mae agenda deddfwriaethol y Senedd hon yn un lawn iawn. Dŷn ni ddim eto mewn man i allu gwybod yn union beth fydd angen i'r Ddeddf honno i wneud. Mae'r sefyllfa'n wahanol o ran enwau lleoedd, enwau tai, enwau busnesau, ac mae hynny'n faes eithaf cymhleth o ran pwerau ac o ran hefyd beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Ond, y pwrpas wrth edrych ar y sail dystiolaeth, o gomisiynu'r ymchwil yna, yw ein bod ni'n gallu gweld yn glir beth sydd angen deddfwriaeth i ni allu symud y maen i'r wal, a beth y gallwn ni wneud heb ddeddfwriaeth. Dŷn ni ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiynau hynny eto.

15:55

Dwi'n tynnu sylw at fy natganiad i o fuddiant o ran perchnogaeth eiddo. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r sylw dwi wedi'i roi yn ddiweddar i'r tenantiaid sydd wedi dweud wrthym ni fod eu landlord nhw yn stad Bodorgan wedi gofyn iddyn nhw adael eu cartrefi er mwyn eu troi nhw'n dai gwyliau. Mae fy mhryder i fan hyn, wrth gwrs, am yr unigolion a'r teuluoedd hynny sy'n wynebu colli eu cartref, ond mae fy mhryder i hefyd ynglŷn â'r impact ar y stoc dai yn lleol. Dwi'n tynnu sylw'r Gweinidog heddiw at lythyr mae etholwr wedi'i anfon ataf i ddoe, wedi'i bostio drwy ddrws ffrynt ym Menllech:

'Rwy'n gobeithio nad oes ots gennych fy mod yn cysylltu â chi. Rwy'n chwilio am eiddo yn eich ardal a meddwl oeddwn i tybed a fyddai diddordeb gennych mewn gwerthu neu rentu eich eiddo yn y tymor hir.'

Cwmni o'r enw Coastal Holidays a oedd wedi postio'r llythyr hwnnw—nid cwmni twristiaeth leol, mae'n rhaid dweud, ond cwmni sydd o Warwick, yn ôl eu gwefan nhw. Yn bwysig iawn, cwmni ydy o sydd yn trio mynd ati'n bwrpasol i dynnu tai allan o'r stoc dai lleol, yn amddifadu pobl o fewn y gymuned rhag y gallu i brynu'r tai yna, yn gwthio prisiau i fyny. 

Mae'r Gweinidog heddiw wedi sôn am yr arfer da mae o eisiau ei ddatblygu. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y llythyr yma yn arfer gwael—dydy o ddim yn unigryw, wrth gwrs—a'i fod o'n brawf pam bod angen y mesurau o'r fath sydd wedi cael eu crybwyll heddiw ac sy'n deillio allan o'r cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru, a pham bod angen gweithredu'n gadarn, yn cynnwys deddfwriaeth, er mwyn gwarchod y farchnad dai, a thrwy hynny warchod y Gymraeg?

Dwi'n sicr yn derbyn ei bod hi'n arfer drwg. Dyna'r union fath o beth rŷn ni eisiau mynd i'r afael ag e yn y cynlluniau ehangach sydd gyda ni. Mae'r hyn rŷn ni'n datgan heddiw yn gwneud cyfraniad. Dyw arfer da ddim wastad yn ddigon; mae angen newid deddfwriaeth a newid trethi ar gyfer gwneud hynny. Rydyn ni, wrth gwrs, yn gwneud hynny o ran cynllunio, o ran treth LTT ac ati. Felly, mae'r ystod ehangach o bethau hynny i gyd, ar y cyd, rwy'n gobeithio, rwy'n ffyddiog, yn mynd i wneud gwahaniaeth.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol

Symudwn ymlaen y prynhawn yma i'r eitem nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ymdrin â feirysau anadlol. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ynghylch COVID-19 a phwysau'r gaeaf ar 20 Medi. Tynnais sylw at y ffaith ein bod yn paratoi ar gyfer trydydd gaeaf o fyw gyda COVID, ond bod y sefyllfa o ran feirysau anadlol yn fwy ansicr na'r blynyddoedd blaenorol oherwydd bod patrymau tymhorol wedi cael eu hamharu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Mae'r cynnydd diweddaraf mewn achosion yn dangos nad yw COVID-19 wedi diflannu, ac mae angen i ni fod yn wyliadwrus a pharatoi. Yn ôl arolwg haint coronafeirws diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd cyfran y bobl yng Nghymru yn cael prawf COVID-19 positif yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 26 Medi tua 1 ymhob 50 o bobl.

Er mwyn helpu i baratoi ein cymunedau a'r systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer yr hyn a allai fod yn aeaf heriol, heddiw, rydym ni'n cyhoeddi ein dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â feirysau anadlol ar gyfer hydref/gaeaf 2022-23. Ochr yn ochr â'r cyhoeddiad hwn, byddwn hefyd yn darparu cyngor technegol pellach ar senarios a chamau gweithredu sydd eu hangen o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn ychwanegu ymhellach at y cynllunio presennol a ddechreuwyd fisoedd lawer yn ôl yn y GIG, fel y nodir yn fframwaith cynllunio'r GIG. Felly, mae cynllunio ar gyfer cynnydd mewn pwysau yn ymarfer gydol y flwyddyn ac mae mwy o ddatblygu ymyriadau wedi bod a fydd yn galluogi cryfder o fewn gwasanaethau gofal brys ac argyfwng dros y gaeaf.

Bydd y cyngor technegol ar fodelau gaeaf 2022-23, a gyhoeddir heddiw hefyd, yn gymorth pellach i gynllunio parhaus y GIG yng Nghymru drwy ddarparu pedwar model COVID-19. Dros y ddau gyfnod gaeaf blaenorol, rydym wedi gweld lefelau isel o ffliw a feirysau syncytiol anadlolyn cylchredeg o'i gymharu â blwyddyn arferol, ac roedd hynny'n fwyaf tebygol oherwydd cyfyngiadau a oedd ar waith yn gysylltiedig â COVID-19. Mae llawer o ansicrwydd, felly, ar gyfer gaeaf 2022-23, gan nad yw'r cyfyngiadau hynny mewn grym bellach. Nawr, mae'r modelau gaeaf hyn ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill yn archwilio sefyllfa 'beth os' pe bai'r feirysau hyn yn dod at ei gilydd, a bydd hynny'n helpu cynllunwyr y GIG a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer senario gwaethaf rhesymol a senario brys o ran COVID, ynghyd â phwysau a heriau eraill.

Hoffwn gymryd y cyfle heddiw i dynnu sylw at y negeseuon allweddol yn ein dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â feirysau anadlol ar gyfer hydref/gaeaf 2022-23. Nawr, yn ganolog i'r dull yr ydym wedi ei gymryd yw ein hamcan i amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas rhag clefyd difrifol. Mae hyn yn parhau i fod yn bwyslais allweddol pan fyddwn yn gweithredu mewn amgylchedd sy'n sefydlog o ran COVID, lle'r ydym yn disgwyl tonnau pellach o'r haint ond nid ydym yn disgwyl i'r rhain roi pwysau parhaus, anghynaladwy ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, fel yr ydym yn ymwybodol, gall amgylchiadau newid yn gyflym gyda chynnydd parhaus mewn achosion neu effaith amrywiolion yn y dyfodol o ran eu gallu i ledaenu, ymateb imiwnedd a brechlynnau ddim yn gweithio a difrifoldeb. Bydd angen i ni weithredu'n gyflym i ymateb i amgylchiadau sy'n newid, a gallai hyn gynnwys cyflwyno mesurau eraill a chyngor cryfach ar ymddygiadau amddiffynnol, gan gynnwys, er enghraifft, defnyddio gorchuddion wyneb a chyflwyno profion ychwanegol i ddiogelu'r rhai sy'n fwy agored i niwed.

Rydym wedi nodi cynlluniau i gyflawni, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, system wyliadwriaeth effeithiol, ar y cyd sy'n rhoi gwybodaeth amserol i helpu asesiad risg effeithiol a phenderfyniadau rheoli risg i leihau niwed gan COVID-19 a feirysau anadlol eraill. Bydd hyn yn fwy allweddol y gaeaf hwn, gyda diwedd profion cymunedol torfol ar gyfer COVID-19 ym mis Ebrill 2022 a'r ansicrwydd o ran effaith bosibl ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill. Rydym hefyd wedi amlinellu ein prosesau sydd wedi llwyddo yn y gorffennol a phrofion ar gyfer rheoli achosion o glefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys feirysau anadlol.

Mae ein dull gweithredu yn pwysleisio mai brechu sy'n dal i gynnig yr amddiffyniad gorau rhag COVID-19 a'r ffliw. I'r rhai sy'n gymwys i gael eu brechu, dyna yw'r cam pwysicaf y gallan nhw ei gymryd i ddiogelu eu hunain ac eraill. Cafodd ein rhaglen frechu gaeaf yn erbyn firysau anadlol ei lansio ar 1 Medi ac, hyd yma, mae dros 360,000 o frechiadau COVID-19 wedi cael eu rhoi.

Yn ein cyngor a'n dull gweithredu, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar alluogi ac annog ymddygiadau gan unigolion i ddiogelu eu hunain, diogelu ein gilydd ac, yn enwedig, i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae angen gwneud hyn oherwydd bod hyn yn gallu cael budd sylweddol o ran lleihau trosglwyddiad firysau anadlol. Dylen ni i gyd, erbyn hyn, fod yn gyfarwydd â'r mesurau amddiffyn hyn, sy'n cynnwys aros adref os ŷch chi'n sâl a gwisgo gorchudd wyneb mewn llefydd llawn dan do ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rŷn ni hefyd wedi cynnwys cyngor wedi'i dargedu ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau allweddol fel iechyd, gofal cymdeithasol, carchardai ac addysg.

Elfen allweddol arall o'n dull o ymdrin â feirysau anadl yw sut y gallwn ni amddiffyn pobl sydd â risg uchel o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19. Rŷn ni wedi amlinellu cyngor i'r rhai sy'n gymwys i gael eu trin gyda therapi gwrthfeirysol neu therapi gwrthgyrff, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd a sut i gael mynediad at driniaeth. Mae ein dull profi yn cael ei dargedu bellach hefyd, i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Bydd e'n helpu'r broses wyliadwriaeth, yn rhoi cefnogaeth os bydd achosion lluosog, ac yn helpu cynllunio ar gyfer ton posibl o'r feirws a senario COVID brys. Rŷn ni'n parhau i ddarparu profion ar gyfer cleifion symptomatig, staff iechyd a gofal, carcharorion, a phreswylwyr cartrefi gofal. Ar gyfer y gaeaf, rŷn ni hefyd yn darparu mwy o brofion aml-ddadansoddiad, sef multiplex testing, mewn sawl lleoliad. Mae'r profion hyn yn gallu rhoi diagnosis o feirysau anadlol eraill heblaw am COVID-19, a sicrhau bod triniaeth addas a mesurau amddiffyn yn cael eu rhoi ar waith.

Bydd ein hymgyrchoedd cyfathrebu yn canolbwyntio ar yr arferion amddiffynnol y gall pawb eu dilyn bob dydd i atal feirysau anadl rhag lledaenu, er mwyn diogelu'r bobl sydd yn wynebu'r risg fwyaf. Bydd y negeseuon yn sensitif i'r cynnydd mewn costau byw, ac fe fyddan nhw'n canolbwyntio ar arferion sy'n hawdd ac yn syml i bawb gadw atynt ac yn ein helpu i ymateb i'r heriau fydd i ddod yn ystod y gaeaf yma. Diolch.

16:05

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, ac rwy'n cefnogi'r neges honno'n fawr, annog pobl i fynd am eu brechiad ffliw a'u pigiad atgyfnerthu hefyd. Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, i annog pobl i gymryd eu pigiad ffliw; rwy'n gwybod y cefais i a llawer o Aelodau eraill eu pigiad ffliw yn y digwyddiad hwnnw'r wythnos diwethaf.

Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad heddiw, fe orffennoch chi drwy siarad am ymgyrch i annog pobl i fynd am eu brechlyn ffliw a'u pigiad atgyfnerthu. Ydych chi'n disgwyl i fyrddau iechyd gynnal yr ymgyrch honno ym mhob un o ardaloedd y byrddau iechyd lleol, neu oes elfen o Lywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o ymgyrch fwy Cymru gyfan? Efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny.

Roeddech chi'n sôn am bwysigrwydd, yn gwbl briodol, wrth gwrs, bod staff gofal iechyd ac eraill yn mynd am eu brechiad hefyd. Fel rwy'n ei ddeall, ar hyn o bryd, dim ond 29 y cant o staff gofal iechyd sydd wedi cael eu brechiad COVID 2022-23, ac mae un o bob tri oedolyn dros 65 oed wedi cael eu pigiad atgyfnerthu. Erbyn hyn, hyd yma, mae hynny, wrth gwrs, ymhell y tu ôl i darged Llywodraeth Cymru o weld 75 y cant yn manteisio ar y brechiad. Felly, mae gen i ddiddordeb, hefyd, yn eich asesiad dros y 12 mis diwethaf o ran y nifer sydd wedi ei gael. Mae'r pryder hwnnw, wrth gwrs, wrth i amser fynd yn ei flaen, fod pobl yn rhoi'r flaenoriaeth honno yn is i lawr eu hagenda blaenoriaeth. Pa mor llwyddiannus y mae'r 12 mis diwethaf hynny wedi bod o ran pobl yn cymryd eu pigiadau atgyfnerthu? Ydych chi'n poeni am y ffigyrau yr wyf newydd eu hamlinellu nawr? Ydych chi'n mynd i gyrraedd eich targed o 75 y cant, a pham 75 y cant? Sut gafodd y targed hwnnw ei gyflwyno, a beth mae'n ei olygu os nad yw eich targed yn cael ei gyrraedd? Hefyd, mae pryder fod rheoli heintiau ymhlith nifer o fyrddau iechyd wedi mynd i'r gwellt braidd, er gwaethaf y gwersi a ddysgwyd yn ystod COVID-19. Felly, y llynedd, dim ond 57 y cant o staff gofal iechyd â chyswllt uniongyrchol â chleifion wnaeth gymryd eu brechiad ffliw. Felly, efallai y caf ofyn i chi: a yw hynny'n bryder i chi a sut ydych chi'n bwriadu gwrthdroi hynny?

Roedd gen i gryn ddiddordeb i chi ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, y bydd eich cyngor a'n dull gweithredu

'yn parhau i ganolbwyntio ar alluogi ac annog ymddygiadau gan unigolion i ddiogelu eu hunain'.

Felly, rwy'n darllen hynny ac yn ceisio deall hynny yn fy ngeiriau fy hun. A wnewch chi gadarnhau mai hunan gyfrifoldeb bellach yw dull Llywodraeth Cymru o reoli COVID yn y dyfodol?

Yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cyhoeddwyd adroddiad y gell gynghori dechnegol. Roedd yn ddarllen diddorol, wrth i mi ddarllen trwy hwnnw. Y pennawd mawr yno yw bod cyfraddau ysbytai yn llawer uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, yn sylweddol, ac, wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod bod cyfraddau marwolaeth yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw ran o'r DU fesul poblogaeth. Mae gen i ddiddordeb ym mha wersi yr ydych chi wedi'u dysgu yn hynny o beth i lywio dulliau o ymdrin ag achosion anadlol yn y dyfodol.

16:10

Diolch yn fawr iawn. Wel, gallaf eich sicrhau chi y bydd yna ymgyrch genedlaethol ochr yn ochr â'r ymgyrchoedd sy'n digwydd, rwy'n siŵr, ar lefel awdurdodau lleol. Os ydw i'n onest, rydyn ni braidd yn siomedig â nifer y bobl sydd wedi cyflwyno eu hunain hyd yn hyn o ran staff iechyd a gofal, a dyna pam rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ysgrifennu at y byrddau iechyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cefnogaeth a bod ni'n ysgogi'r lefelau hynny o frechu ar gyfer ffliw a COVID ymysg staff iechyd a gofal. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld hynny'n digwydd. Rydyn ni'n gweithio gydag undebau llafur hefyd i geisio gweld a allan nhw ein helpu ni gyda rhai o'r negeseuon yna.

Fe wnaethoch chi ofyn a yw ein rhaglen wedi bod yn llwyddiannus; rwy'n credu y bu'n hynod o lwyddiannus. Os ydych chi'n ei chymharu â rhannau eraill o'r byd, rydyn ni wedi cael lefelau uchel iawn o bobl yn eu cymryd. Y cwestiwn yw: sut mae cadw'r momentwm hwnnw, sut mae cadw'r brwdfrydedd pan fo peryg o laesu dwylo oherwydd ein bod ni i gyd yn mynd yn ôl i normal—am y tro cyntaf, gadewch i ni ei wynebu, mewn tua thair blynedd? Felly, yr hyn rydyn ni wedi'i osod yw'r targed hwnnw o 75 y cant. Rydyn ni'n credu bod hwn yn darged realistig. Rydym ni'n cydnabod, bob tro, bod llai o bobl yn debygol o ddod am eu brechiadau. Dydy e ddim yn ddelfrydol, nid dyna lle'r ydyn ni eisiau bod, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall na allwch chi orfodi pobl i mewn i'r pethau hyn, mae'n rhaid i chi ddod â'r bobl gyda chi. Y ffordd orau o ddod â phobl gyda ni yw eu hargyhoeddi a'u cael i ddeall, nid yn unig eu bod yn cefnogi eu hunain, eu bod nhw'n amddiffyn eu hanwyliaid ac maen nhw'n amddiffyn y gymuned ehangach os ydyn nhw'n manteisio ar y cyfle hwn. 

Rwy'n credu, o ran rheoli heintiau o fewn cyfleusterau'r GIG a lleoliadau gofal, yr hyn yr ydyn ni wedi'i wneud yw ein bod wedi caniatáu i bobl wneud dewisiadau ar lefel leol. Felly, yn amlwg, mewn rhai rhannau, bydd gennych chi gyfraddau COVID uwch nag mewn eraill. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n rhoi'r hyblygrwydd yna iddyn nhw. Pe byddem yn gweld y niferoedd yn codi'n aruthrol, yna mewn gwirionedd, byddai'n rhaid i ni feddwl a oedd angen i ni gyflwyno fersiynau mwy llym o'r canol. Ond, rydych chi'n gofyn a yw hunan-gyfrifoldeb yn rhan o'r ymateb; mae wastad wedi bod yn rhan o'r ymateb. Mae'n rhan o'r ymateb, nid dyma'r unig ymateb. Brechu yw ein arf allweddol yn ein harfau yn erbyn COVID. Ond, hunan-gyfrifoldeb—wyddoch chi os ewch chi i ystafell orlawn sydd dan do yng nghanol y gaeaf, ac mae cyfraddau yn un o bob 50, y siawns yw bod eich risg yn uwch. Felly, wrth gwrs, pobl sy'n dewis cymryd y cyfrifoldeb hwnnw eu hunain a deall y risgiau maen nhw'n eu cymryd. 

Fe wnaethoch chi ofyn, yn olaf, am heintiau COVID. Byddwch chi wedi gweld yr wythnos ddiwethaf, os edrychwch chi ar nifer yr heintiau COVID o'i gymharu â Lloegr, bod 57 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru wedi'u heffeithio o'i gymharu â 71 y cant o'r cyhoedd yn Lloegr wedi'u heffeithio. Felly, roedd marwolaethau gormodol 20 y cant yn is yng Nghymru nag yn Lloegr, ond rydych chi'n iawn i ddweud bod mwy o achosion yn yr ysbytai, ond rydych chi'n disgwyl hynny mewn poblogaeth sy'n hŷn, sy'n salach, sy'n dlotach ac sy'n fwy agored i niwed. 

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Dwi'n cytuno'n gyffredinol efo'r cynllun fel y mae wedi cael ei amlinellu gan y Gweinidog heddiw. Mae'r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs, i ddweud bod COVID ddim wedi ein gadael ni, bod hwnnw'n dal yn gysgod, a'r cysgod yn cynyddu, ac wrth gwrs, mae hi'n bryder y gallai'r ffliw gymryd gadael y gaeaf yma mewn ffordd nad ydy o wedi ei wneud ers sawl blwyddyn. Dwi yn ddiolchgar i Dr Harri Pritchard a'r tîm yng Nghanolfan Iechyd Amlwch am roi fy mrechiad ffliw i fi, ac rydw innau hefyd, wrth gwrs, fel pawb yma, yn annog y rheini sydd yn gymwys i gael y brechiad—y rhai sydd dros 50 oed, y rhai oedd yn gorfod gwarchod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn ystod y pandemig—i fynd a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y brechiad hwnnw ac i gysylltu efo meddyg teulu neu fferyllfa.

Eisiau gofyn un cwestiwn syml ydw i ynglŷn â'r impact y gallai cynnydd mewn cyflyrau anadlol drwy COVID a'r ffliw a'r firysau eraill ei gael ar y gwasanaeth iechyd. Dwi'n wirioneddol bryderu bod y Gweinidog yn dal yn dweud wrthym ni ei bod hi'n hyderus o gyrraedd targedau'r Llywodraeth o ran rhestrau aros, ei bod hi'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt erbyn diwedd eleni na fydd unrhyw un yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol am y tro cyntaf. Dydyn ni ddim yn agos at fod ar y trywydd tuag at gyrraedd y targed hwnnw, ac os ydyn ni'n gweld pwysau ychwanegol oherwydd cyflyrau anadlol, mae'r pwysau yn mynd i fod yn fwy fyth, yn ei gwneud hi'n anos i gyrraedd at y targed. Felly, pa bryd bydd y Gweinidog yn gwneud asesiad i weld beth ydy'r impact mae cyflyrau anadlol yn ei gael ar allu’r Llywodraeth i gyrraedd at y targedau yna? Achos beth dwi angen ei wybod ydy bod y Llywodraeth yn barod i ailasesu yn ddigon buan, newid cyfeiriad yn ddigon buan, neu mi fydd holl asgwrn cefn cynlluniau’r Llywodraeth i ddod â rhestrau aros i lawr, amseroedd aros i lawr, yn dioddef.

16:15

Diolch. Wel, rŷn ni, fel rŷch chi’n gwybod, wedi modelu ac wedi edrych ar beth fyddai’n gallu digwydd dros y gaeaf yma, ac mae’r gwasanaeth iechyd yn paratoi ar gyfer y modelu rŷn ni wedi ei weld, lle byddwn ni’n debygol o weld peak, yn ôl y modelu, ym mis Rhagfyr a Ionawr, felly mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny, a dyna yw'r amser, wrth gwrs, nid jest am broblemau COVID, ond dyna yw’r amser pryd mae pobl eisiau cymryd amser off ar gyfer y Nadolig, a dyna pryd mae'n debygol y gwelwn ni ffliw hefyd. Felly, mae’r pethau yna yn sicr o gael effaith ar ein gallu ni i gyrraedd rhai o’n targedau ni, ond dyna pam mae’n bwysig ein bod ni’n cael y cynllun yma mewn lle, fel bod pobl yn cymryd y cyfle i gael eu vaccines nhw, fel eu bod nhw’n gallu diogelu eu hunain.

Y ffaith yw bod 1,000 o bobl ddylai fod yn gweithio yn yr NHS heddiw sydd ddim yn gweithio o ganlyniad i COVID. Nawr, mae hwnna yn mynd i gael effaith ar ein gallu ni. Un o’r pethau rŷn ni’n ei wneud i blygio’r gaps yna yw defnyddio nyrsys asiantaeth, sy’n anodd, ac mae hynny’n cynyddu’r gost inni o faint rŷn ni’n gwario ar nyrsys asiantaeth. Dyw e ddim yn rhywbeth rŷn ni eisiau ei wneud, ond mae’n rhywbeth rŷn ni angen ei wneud os ŷn ni eisiau parhau i trial cyrraedd y targedau rŷn ni wedi’u gosod. Bydd yn anodd cyrraedd y targedau rŷn ni wedi’u gosod ar gyfer y rhestrau aros, ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni’n gwneud ein gorau glas i gyrraedd y lefelau yna, a chyrraedd y nod yna, achos beth rŷn ni’n sôn am fan hyn yw bywydau pobl, ac mae angen i bobl gael eu gweld. Dwi yn sicr yn rhoi pwysau ar y byrddau iechyd i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted ag sy’n bosibl. Dwi’n edrych ymlaen yfory i gael summit canser gydag aelodau o’r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r Camau Nesaf

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r camau nesaf. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Lynne Neagle.

Diolch. Ddoe fe wnaethom nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac mae'r Llywodraeth hon yn gadarn yn ei hymrwymiad i wella'r amddiffyniad a'r gefnogaeth i iechyd meddwl a lles. Dangosir hyn drwy fy mhenodi yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant dynodedig a gosod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn ein rhaglen lywodraethu.

Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae effaith y coronafeirws ar iechyd meddwl yn dod yn gliriach fyth. Mae gwasanaethau yn adrodd bod mwy o atgyfeiriadau gyda mwy o gymhlethdod. Bob mis, er bod ein timau gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol yn derbyn mwy na 5,000 o atgyfeiriadau, mae mwy na 17,000 o bobl yn cael gofal a thriniaeth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol. Mae galw cynyddol am bobl sydd angen therapïau seicolegol a chymorth argyfwng, a mwy na 1,200 o atgyfeiriadau at ddatrys argyfwng a thimau trin yn y cartref bob mis. Yn erbyn y cefndir hwn, rwy'n ymwybodol iawn bod yr argyfwng costau byw presennol yn debygol o ychwanegu at yr her.

Rydym yn cyrraedd diwedd ein strategaethau 10 mlynedd 'Law yn llaw at Iechyd Meddwl' a 'Siaradwch â mi 2', ac rwyf eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiweddaru'r Aelodau ar y cynnydd, gwerthusiad annibynnol y strategaethau hyn a'n camau nesaf. Rydym wedi dod yn bell ers cyhoeddi'r ddwy strategaeth, ac mae'r gwasanaethau, y gefnogaeth a'r buddsoddiad sydd gennym heddiw yn dangos newid sylweddol o'i gymharu â'r hyn oedd ar waith yn 2012. Yn y cyfnod hwnnw, mae ein buddsoddiad a glustnodwyd blynyddol i'r GIG ar gyfer iechyd meddwl wedi codi o £577 miliwn i £760 miliwn. Rydym hefyd wedi ymrwymo £50 miliwn arall yn 2022-23, gan godi i £90 miliwn yn 2024-25 i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Gyda'r buddsoddiad hwn, rydym wedi trawsnewid gwasanaethau a weithredir ar ddechrau'r strategaeth. Mae hyn yn cynnwys creu timau iechyd meddwl sylfaenol lleol ledled Cymru, timau datrys argyfwng a thrin yn y cartref, gwasanaethau cyd-gysylltu seiciatrig a thimau amenedigol cymunedol. Rydym hefyd wedi sefydlu un pwynt cyswllt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc er mwyn gwella hygyrchedd, ac rydym wedi gwreiddio Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, darn unigryw o ddeddfwriaeth sy'n darparu'r fframwaith i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym hefyd wedi sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru ac rydym yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad i wella mynediad at y gwasanaethau hyn yn y gogledd.

Rydym wedi ehangu cefnogaeth yn sylweddol ar lefelau haen 0/1 i ddarparu mynediad hawdd i ystod o gefnogaeth ac i osgoi uwchgyfeirio i gefnogaeth arbenigol pan fo hynny'n briodol. Mae hyn yn cynnwys trwy ein llinell gymorth 24/7 CALL a therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein. Mae'r gwasanaethau hyn ar eu pen eu hunain wedi derbyn tua 97,000 o gysylltiadau ers mis Medi 2020. Rydym hefyd wedi dechrau cyflwyno cyngor iechyd meddwl brys yn raddol drwy 111, a fydd yn darparu mynediad ar unwaith i gyngor gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd fod wedi cychwyn cyflwyno bob yn dipyn tuag at fod â staff ar gael 24/7 erbyn y Nadolig.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar a bod â dull system gyfan o wella iechyd meddwl a llesiant. Rydym wedi creu rhaglen iechyd ac addysg ar y cyd a dull gweinidogol ar y cyd, wedi'i ddatblygu o amgylch ysgolion, i ddarparu dull system gyfan o ran iechyd meddwl emosiynol a llesiant. Wrth gyflawni ein hymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu, rydym hefyd yn cyflwyno mewngymorth CAMHS mewn ysgolion ledled Cymru i sicrhau bod problemau yn cael eu nodi a chefnogaeth yn cael ei darparu'n gynharach.

Mae cynnydd da bellach wedi'i wneud gyda deddfwriaeth allweddol sy'n sail i'n hagenda, ac rydym bellach wedi ymgynghori ar y rheoliadau drafft i Gymru i gefnogi gweithredu Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 a'r mesurau diogelu rhag colli rhyddid.

Mae atal hunanladdiad yn parhau i fod yn un o'n prif flaenoriaethau. Rydym wedi targedu £1 miliwn yn ychwanegol yn 2022-23 i gefnogi'r gwaith hwn. Ym mis Ebrill 2022, gweithredodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r heddlu, GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, y system arolygu hunanladdiad amser real. Bydd y system hon yn darparu gwybodaeth hanfodol i gryfhau gwaith ataliol, sicrhau cefnogaeth gyflym ac adnabod tueddiadau neu glystyrau.

Gallaf gyhoeddi heddiw y byddwn erbyn diwedd y mis yn lansio ymgynghoriad ar ganllawiau newydd i gefnogi pobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad, neu sy'n agored iddo neu wedi'u heffeithio ganddo. Mae'r canllawiau wedi cael eu llywio gan safbwyntiau pobl sy'n cael eu heffeithio gan hunanladdiad a'u nod yw sicrhau ymateb mwy tosturiol, gan gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, ar y gwahanol gamau ar y daith honno. Bydd rhoi'r canllawiau hyn ar waith yn bwyslais allweddol ar ôl yr ymgynghoriad.

Mae ein strategaethau 10 mlynedd presennol 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Siarad â mi 2' yn seiliedig ar egwyddor gweithio mewn partneriaeth ar draws Llywodraeth, y sector gyhoeddus a'r trydydd sector i wella iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i werthusiad annibynnol o'r strategaethau i asesu eu heffaith a llywio ein camau nesaf. Comisiynwyd y gwerthusiad hwn ym mis Medi 2021, ac mae'r tîm gwerthuso wedi ymgysylltu'n eang â defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr a rhanddeiliaid allweddol. Mae'r tîm wedi cynnal cyfweliadau manwl a digwyddiadau gweithdai gyda rhanddeiliaid ledled Cymru a gyda defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac ymarferwyr rheng flaen. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn fuan, pan fydd canfyddiadau'r gwerthusiad yn barod i'w cyhoeddi.

Heddiw rwy'n cyhoeddi, yn dilyn yr ymgysylltu a'r gwerthusiad cynhwysfawr hwn, bod gwaith bellach ar y gweill i ddatblygu strategaethau'r dyfodol. Mae'n hanfodol ein bod ni bellach yn dysgu o ganfyddiadau'r gwerthusiad, yn adeiladu ar ein cynnydd, yn gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ac yn datblygu gwasanaethau iechyd meddwl o'r radd flaenaf sy'n diwallu anghenion a galw'r dyfodol. Bydd y prif ganfyddiadau o'r gwerthusiad yn helpu i arwain a llywio ein pwyslais a'n blaenoriaethau wrth ddatblygu'r strategaethau nesaf a bydd fy swyddogion nawr yn ymgysylltu ymhellach i ehangu ar yr ymchwil a'r dystiolaeth hon. Rwy'n ymroddedig i ddull cwbl gynhwysol a sicrhau bod llais y dinesydd a phrofiad byw y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hadlewyrchu yn nyluniad ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Un o'r blaenoriaethau allweddol fydd datblygu gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy ac amrywiol trwy weithredu cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydw i eisiau gweld gwell integreiddio gwasanaethau iechyd meddwl, gan adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi'i wneud i ymgorffori iechyd meddwl yn y rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol a'r rhaglen gofal brys ac argyfwng, ac, wrth gwrs, pwyslais ar anghydraddoldebau a mynediad at gymorth iechyd meddwl.

Er bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar weithio, atal ac ymyrraeth gynnar draws-Lywodraethol, mae angen i ni hefyd osod gweledigaeth glir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i sicrhau bod y lefel hon o gefnogaeth ar gael yn agosach at adref. Yn yr holl waith hwn, rwy'n disgwyl adeiladu ar y trefniadau ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth sydd bellach wedi'u sefydlu'n gadarn, gan gynnwys ein fforwm defnyddwyr gwasanaeth cenedlaethol a gofalwyr.

Dim ond ychydig o feysydd pwyslais yw'r rhain, ond rydym yn disgwyl gweld ymgysylltu sylweddol â phartneriaid yn y sectorau statudol a'r trydydd sector, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth eu hunain, wrth i ni ddatblygu'r strategaethau olynol. Bydd yn bwysig gwneud hyn mewn ffordd ystyrlon, ac rwy'n disgwyl i'r gwaith hwn gael ei wneud yn ystod 2023, gyda'r bwriad o gyhoeddi strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori tua diwedd 2023. Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y cynnydd gyda'r gwaith pwysig hwn.  

16:25

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Er hynny, mae'n siomedig nad adroddiad blynyddol yw hwn. Er bod y parodrwydd a'r brwdfrydedd yno gan y Dirprwy Weinidog i wella gwasanaethau iechyd meddwl, mae angen i'r Senedd allu dadansoddi cynnydd drwy adrodd clir, yn hytrach na datganiad yn unig.

Dim ond un adroddiad blynyddol y mae 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' wedi ei gyflwyno, yn 2013, yn ei gyfnod o ddegawd ac un adroddiad cynnydd yn ôl yn 2018. O ystyried arwyddocâd a phwyslais Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl, mae'n hanfodol ei bod yn gallu dangos yn glir i'r Senedd lle y mae wedi cyflawni ei nodau a lle mae angen cyflawni mwy o waith. Er ein bod yn sylweddoli bod COVID-19 wedi cael effaith ar wasanaethau iechyd meddwl, mae hwn yn gyfle i gyflwyno gwelliannau allweddol i system iechyd meddwl Cymru. Ac mae nifer o welliannau a cherrig milltir wedi eu cyflawni. Ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru'n ceisio llenwi'r bylchau mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol a gofal argyfwng gyda dibyniaeth ar sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau lloches. Er fy mod yn cytuno bod lle i wybodaeth a phrofiad y trydydd sector, dylai Llywodraeth Cymru hefyd weithredu ei hagenda ei hun yn llawn drwy'r GIG a gwella gwasanaethau o fewn ei systemau ei hun. Ac er bod brwdfrydedd ac angerdd a geiriau cynnes yn bresennol yn y datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, rwy'n credu y dylid cyhoeddi adroddiad blynyddol fel bod gan Senedd Cymru gyfle i graffu ar hyn mewn modd llawn, priodol a democrataidd a fydd yn cwmpasu anghenion pobl o bob cwr o Gymru, oherwydd, fel yr wyf yn siŵr y gallwch chi ddeall, Dirprwy Weinidog, bydd anghenion pobl yng Nghaerdydd yn wahanol iawn i'r rhai hynny yn sir Ddinbych a fy etholaeth i, er enghraifft.

Rwy'n croesawu'r uned mamau a babanod yn y de, ond a gaf i ofyn y prynhawn yma hefyd pam na chafodd hyn ei ymestyn i'r gogledd, ac a allech chi roi mwy o wybodaeth am a allai hynny fod yn bosibilrwydd i'r gogledd yn y dyfodol? Nodaf fod rhai canlyniadau lefel uchel o strategaeth 2012, gan gynnwys gwella iechyd meddwl a lles y boblogaeth gyfan a lleihau stigma salwch meddwl, wedi'u troi ar eu pen o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, wrth i chi allu cyfeirio atynt. Mae'n bryderus, er mai nod 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yw lleihau stigma, canfu Amser i Newid Cymru mai dim ond 5 y cant o oedolion sydd â mwy o ddealltwriaeth a goddefgarwch o broblemau iechyd meddwl, a bod ymddygiad ceisio cymorth wedi dirywio, a gostyngiad mawr yn nifer y bobl yng Nghymru sy'n barod i siarad am broblem iechyd meddwl gyda theulu, ffrindiau neu gyflogwyr. Felly, sut fydd eich strategaeth newydd yn mynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl?

Rydym hefyd yn gwbl ymwybodol bod rhai byrddau iechyd lleol yn dal i fethu yn eu dyletswydd gofal tuag at gleifion iechyd meddwl, er gwaethaf yr arian sylweddol y mae eich Llywodraeth wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, Dirprwy Weinidog. Yn Betsi Cadwaladr, er enghraifft, o dan ymyrraeth wedi ei dargedu, a chyn hynny dan fesurau arbennig ar gyfer iechyd meddwl, rydym ni'n gweld camgymeriadau mynych, gan gynnwys dwy farwolaeth mewn dwy flynedd, a chleifion bregus a risg uchel ddim yn cael eu hamddiffyn rhag niwed y gellid bod wedi ei osgoi yn adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd. Felly, sut bydd eich strategaeth newydd yn sicrhau nad yw'r camgymeriadau hyn yn cael eu gwneud eto fel bod modd rhoi sicrwydd i bobl yn sir Ddinbych a'r gogledd?

Dirprwy Weinidog, cyn y pandemig, fe amlinellodd Mind Cymru, fod miloedd o bobl yn aros yn hirach nag erioed i dderbyn therapi seicolegol. Er bod amseroedd aros oedolion wedi gwella ers y pandemig, dylai dal fod o bryder mawr mai dim ond un o bob dau glaf yn CAMHS a dderbyniodd asesiad gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod, a dim ond un o bob pump o blant a phobl ifanc ym mae Abertawe yn cael eu hasesiad o fewn yr amser hwn.

Rydym hefyd yn gweld o'r ffigurau diweddaraf bod ymyriadau therapiwtig i blant a phobl ifanc yn waeth, a dim ond 40 y cant yn dechrau eu therapi o fewn 28 diwrnod. Felly, Dirprwy Weinidog, ydy hyn yn arwydd bod eich strategaeth iechyd meddwl bresennol wedi methu plant a phobl ifanc? Pa gamau brys ydych chi'n eu cymryd i wella'r sefyllfa hon? Ac a ydych chi y nawr yn mynd i gynnal adolygiad llawn o wasanaethau iechyd meddwl? Diolch.

16:30

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny? Yn amlwg, roedd llawer o faterion yno i ymateb iddyn nhw. Os gallaf godi, yn gyntaf oll, eich sylwadau am yr adrodd ar strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae adroddiadau rheolaidd yn cael eu gwneud i'r fforwm partneriaeth iechyd meddwl cenedlaethol, yn ogystal â chyrff eraill. Hefyd, rwyf wedi sefydlu—wel, sefydlodd fy rhagflaenydd—bwrdd goruchwylio gweinidogol y GIG i fonitro cynnydd yn erbyn holl ffrydiau'r rhaglen 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Ond yn sicr, fel rhan o'n hystyriaeth o sut rydyn ni'n mynd i ddatblygu'r strategaeth newydd, rwy'n hapus iawn i edrych ar adrodd a sut y gallwn ni wneud hynny'n fwy tryloyw, yn ogystal â'r datganiadau a'r craffu rheolaidd yr wyf yn ei gael yn y Senedd. Dim ond i ychwanegu hefyd: rydyn ni'n bwriadu cyhoeddi adroddiad cloi ar ôl i ni gwblhau'r strategaeth bresennol, felly byddwch chi'n gallu gweld yn union ble rydyn ni gyda'r holl bethau hynny.

Dydw i ddim wir yn cytuno â'r hyn rydych chi wedi'i ddweud am gydbwysedd y gefnogaeth gyda'r trydydd sector. Mae'r trydydd sector yn darparu, yn fy mhrofiad i, cefnogaeth hynod bwysig a gwerthfawr iawn i gymunedau ac, mewn sawl ffordd, nhw sydd yn y sefyllfa orau i chwalu'r rhwystrau hynny, yn enwedig mewn cymunedau yr ydym weithiau'n eu disgrifio—er nad wyf yn hoffi'r term—yn anodd eu cyrraedd. Maen nhw mewn sefyllfa dda iawn i wneud hynny. Rydym wedi cynyddu'r cyllid yn aruthrol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys i'r trydydd sector, ond nid yw hynny gan eithrio gwasanaethau'r GIG. Dim ond eleni, rydyn ni'n gwario £23 miliwn yn ychwanegol ar feysydd blaenoriaeth yng nghynllun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac yn mynd i'r afael â phwysau amseroedd aros. Felly, yn sicr nid yw'n fater o fuddsoddi yn y trydydd sector gan eithrio gwasanaethau statudol.

Diolch am eich croeso ar gyfer yr uned i famau a babanod yn y de, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld ychydig fisoedd yn ôl. Rwy'n hynod ymwybodol o'r angen am ddarpariaeth yn y gogledd. Gwnaed gwaith modelu i nodi'r angen posibl ar gyfer uned o'r fath yn y gogledd, a nodwyd y bydd angen, ar hyn o bryd, tua dau wely—o bosibl tri—. Felly, ar sail honno, mae'n anodd iawn sefydlu uned mamau a babanod annibynnol yn y gogledd. Ond, yr hyn yr ydym yn ei wneud nawr yw gweithio gyda'r GIG yng ngogledd-orllewin Lloegr i sefydlu uned y gall menywod yn y gogledd gael mynediad iddi. Rwy'n ymroddedig iawn i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r ddarpariaeth uned mamau a babanod honno yn y gogledd.

Gwnaeth yr Aelod rai pwyntiau am stigma, a chyfeiriodd at Amser i Newid Cymru. Wrth gwrs, yn wahanol i Loegr, rydym wedi parhau i ariannu Amser i Newid yn Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd £1.4 miliwn gennym ychydig yn ôl i barhau â'r rhaglen, ar y cyd â Gweinidog yr economi, oherwydd dyna'r dull yr ydym yn ei ddefnyddio o ymdrin ag iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'n ddull traws-Lywodraethol. Ond mae wastad mwy y gallwn ni ei wneud o ran mynd i'r afael â stigma, a bydd hynny'n nodwedd allweddol o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar y strategaeth newydd.

O ran y pwyntiau rydych chi wedi eu gwneud am Betsi Cadwaladr, fel yr ydych chi'n ymwybodol iawn, mae Betsi Cadwaladr mewn ymyrraeth wedi ei thargedu ar gyfer iechyd meddwl. Cefnogwyd hynny gan £12 miliwn o gyllid rheolaidd i wella gwasanaethau. Ac yn ogystal â'r llu o gyfarfodydd sy'n cael eu cynnal i ysgogi perfformiad yn y GIG, yn Betsi mae cyfarfodydd ymyrraeth wedi ei thargedu hefyd; rwy'n cwrdd â nhw bob chwarter i fynd drwy'r matrics ymyrraeth wedi'i thargedu. Byddwch yn ymwybodol i ni gyhoeddi ychydig yn ôl y bydd adolygiad annibynnol nawr o'r gwahanol adolygiadau a gynhaliwyd o'r digwyddiadau yr ydych wedi cyfeirio atynt, i wir edrych i ba raddau y mae'r argymhellion hynny wedi'u gwreiddio'n llawn yn Betsi Cadwaladr.

Fe wnaethoch chi nifer o bwyntiau am amseroedd aros. Mae gennym adolygiad o'r uned gyflenwi therapïau seicolegol ar hyn o bryd, sy'n edrych ar hynny. Ond yn gyffredinol, mae gwasanaethau'n cyflawni tua 70 y cant yn erbyn y targed o 80 y cant ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol i oedolion, er ein bod ni'n cydnabod bod mwy y gallwn ni ei wneud. Nid yw'r data hwnnw'n cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio tuag at hynny, a bydd adolygiad yr uned gyflenwi yn ein helpu ni gyda hynny.

O ran eich pwyntiau am CAMHS, does dim byd sy'n bwysicach i mi na darparu gwasanaethau i'n plant a'n pobl ifanc, ac rydych chi wedi ailadrodd eich galwad eto am adolygiad o wasanaethau, er i mi fod yn glir iawn yn y ddadl a gawson ni am hyn bod gennym adolygiad sydd bron â gorffen. Adolygiad uned gyflenwi CAMHS a fydd yn adrodd y mis hwn, a bydd hynny'n ein galluogi i edrych ar y data, gwirio ein bod yn cyfri'r un pethau mewn gwahanol fyrddau iechyd, ac, yn hanfodol, bydd yn gwneud rhai argymhellion ynghylch sut i wella'r gwasanaethau hynny. Bydd hynny'n flaenoriaeth i mi, yn sicr.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad yw'n ymwneud â gwasanaethau arbenigol yn unig. Bydd llawer o'r plant a phobl ifanc sy'n aros am wasanaethau arbenigol yn cael eu cyfeirio'n ôl allan eto am nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy hwnnw. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y Llywodraeth yw cymryd dull system gyfan o gefnogi plant a phobl ifanc lle maent yn byw eu bywydau, felly gan ddechrau mewn ysgolion gyda'n dull ysgol gyfan, yna drwy ein fframwaith NYTH sy'n darparu cymorth cynnar a gwell cefnogaeth yn y gymuned, ac yna symud ymlaen i wasanaethau mwy arbenigol, ac wrth gwrs mae cymorth argyfwng yn rhan allweddol o hynny hefyd. Felly, does dim byd sy'n fwy o flaenoriaeth i mi. Rydym ni'n gwneud cynnydd da a byddwn yn dymuno edrych drwy'r strategaeth nesaf sut y gallwn atgyfnerthu hynny.

16:35

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad heddiw yma. Allwn ni ddim, dwi ddim yn meddwl, gor-bwysleisio arwyddocâd y pwynt yma mewn amser o ran y sylw rydyn ni yn ei roi i iechyd meddwl. Mae wedi bod yn beth cadarnhaol i gael y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' i roi ffocws i ni ar y gwaith sydd angen ei wneud, i ddeall dyfnder y problemau rydyn ni'n eu hwynebu o ran iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, a rŵan, gan ein bod ni ar y pwynt yma lle mae'r strategaeth honno yn cael ei haileni, mae'n rhaid i ni ei chael hi yn iawn. 

Oes, mae yna gamau wedi'u cymryd dros y blynyddoedd diwethaf. Oes, mae yna gynnydd wedi bod mewn buddsoddiad mewn iechyd meddwl, ond mae'r ffaith ein bod ni'n dal yn wynebu problemau mor ddwys yn y maes yma yn dweud wrthym ni fod yna rywbeth o'i le o hyd. Yn yr un ffordd ag yr ydym ni'n sôn am yr angen i fuddsoddi yn yr ataliol yng nghyd-destun yr NHS yn gyfan gwbl, mi hoffwn i wybod gan y Gweinidog pa fwriad sydd ganddi hi i sicrhau bod yna fwy fyth o gyfran o'r gyllideb yn mynd i mewn i daclo a datrys problemau yn gynnar, rhag iddyn nhw ddatblygu i mewn i broblemau sydd wedyn yn mynd yn fwy o fwrn ar yr unigolyn, wrth gwrs, ond hefyd yn drymach o bwysau ar y gwasanaethau acíwt, sydd yn ddrud i'w darparu, ac yn creu mwy o loes i'r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny.

Mi fyddwn i yn licio gwybod pa waith mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud ar y pwynt yma i sicrhau na fyddwn ni mewn blynyddoedd yn dal i wynebu problemau yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl acíwt o'r math rydyn ni wedi eu gweld yn y gogledd dros y blynyddoedd diwethaf—y problemau sy'n parhau yn adran Hergest yn Ysbyty Gwynedd, lle mae'r staff yn dal yn troi atom ni fel cynrychiolwyr lleol ac yn sôn am broblemau o forâl isel a phryder am ddiogelwch cleifion. Dydy hynny ddim yn dderbyniol, felly mi fyddwn i'n hoffi clywed mwy am y math o syniadau sy'n datblygu gan y Dirprwy Weinidog yn hyn o beth.

Ac yn olaf, dwi angen sicrwydd yn fan hyn y bydd mwy yn cael ei wneud i flaenoriaethu'r plant a phobl ifanc. Rydyn ni'n gwybod, er gwaethaf y cynnydd mewn gwariant, er gwaethaf y ffocws ychwanegol sydd wedi bod—ac rydyn ni'n croesawu hynny—ar iechyd meddwl, ein bod ni'n dal yn methu â symud plant a phobl ifanc i mewn i wasanaethau llesiant ac iechyd meddwl yn ddigon buan, a bod hynny'n golygu bod problemau a allai gael eu datrys yn troi yn broblemau mwy dwys. Dwi'n gwybod am bobl sydd wedi rhoi fyny'n llwyr ar wasanaethau yr NHS ac wedi penderfynu nad oes yna unrhyw opsiwn ond mynd yn breifat, a hynny mewn bob mathau o feysydd, yn cynnwys anhwylderau bwyta.

Dwi angen sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog bod yna ffocws o'r newydd yn mynd i fod ar hyn, ac ail-lefelu blaenoriaethau ar gyfer pobl ifanc, a hefyd ar gyfer y cyfnod trosi yna rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau oedolion. Mi fyddwn i'n ddiolchgar am sylwadau ynglŷn â hynny hefyd. Rydyn ni'n gwybod bod Mind Cymru a'u cynllun nhw, Sort the Switch, yn ymwneud â'r maes yma yn benodol. Felly, unwaith eto, mae hwn yn gyfnod cwbl, cwbl allweddol. Mi gefnogaf i'r Llywodraeth yn gwneud y penderfyniadau cywir rŵan, ond dwi'n edrych ymlaen at weld y strategaeth honno yn un gadarnach na mae hi wedi bod pan fydd hi'n dod o'n blaenau ni cyn bo hir rŵan.

16:40

A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei sylwadau, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth o'r gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud drwy'r strategaeth? Rwy'n cytuno'n llwyr bod yn rhaid i ni gael hyn yn iawn, ac, fel rydych chi wedi'i gydnabod, rydym wedi cynyddu buddsoddiad yn aruthrol. Gwnaethoch chi gyfeirio at y problemau parhaus gydag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod pandemig COVID wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pawb, ac yn arbennig i blant a phobl ifanc.

Roeddech chi'n sôn am yr angen i flaenoriaethu iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dyna pam rwyf wedi dod i mewn i'r swydd yma, Rhun; rwyf wedi dod i mewn i'r swydd yma oherwydd fy mod i'n poeni mor angerddol am hynny, ar ôl arwain y gwaith yn y pwyllgor, a fy ymroddiad yw cyflawni ar yr agenda yna. Ac rydyn ni'n gwneud cynnydd. Cyfeirioch chi at atal. Rydyn ni'n gwario arian ar atal drwy'r hyn sy'n strategaeth draws-Lywodraethol sy'n ymdrin â thai, cyflogaeth, cyngor ar ddyledion, cyngor ariannol—yr holl faterion hynny. Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal yn llwyr, ac mae hynny'n cael ei gefnogi gan y cyllid yr ydym yn ei fuddsoddi yn y rhaglenni hynny.

Rydym yn gweld diwygiadau i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Cyfeiriais yn y datganiad at yr un pwynt mynediad. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth, oherwydd mae hynny'n golygu nad yw plant yn cael eu hanfon i wahanol rannau'r system, yn ôl ac ymlaen. Gellir eu rhoi mewn cysylltiad â'r bobl gywir; dyma ein dull 'dim drws anghywir' ar waith. Ac fel y dywedais wrth yr Aelod blaenorol, ni fydd angen CAMHS arbenigol ar lawer o'r bobl ifanc hyn. Dydyn nhw ddim yn sâl yn feddyliol; maen nhw'n profi gofid oherwydd yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn eu bywydau, ac mae cymorth mwy priodol ar gael iddyn nhw. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau eu bod yn gallu cael yr help hwnnw, ac rydym yn buddsoddi £12 miliwn yn ychwanegol eleni, rwy'n credu, yn y dull ysgol-gyfan ar gyfer iechyd meddwl. Mae ein fframwaith NYTH â chyllid ychwanegol yn sail iddo, ac mae gennym ni, fel y gwyddoch chi, y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru i dreialu'r ddarpariaeth noddfa i bobl ifanc, er ein bod yn gobeithio'n fawr na fydd angen i bobl ifanc fod mewn argyfwng; rydyn ni eisiau atal hynny rhag gwaethygu yn gynharach.

Diolch am eich sylwadau am Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi amlinellu eisoes y camau sy'n cael eu cymryd yn y Llywodraeth. Fel y dywedais i, rwy'n cyfarfod â Betsi bob chwarter i fynd trwy'r fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu'n fanwl. Mae hynny'n ychwanegol i'r holl gyfarfodydd eraill sy'n cael eu cynnal i fonitro ansawdd a'r perfformiad yn Betsi, a'r cyfarfodydd ymyrraeth wedi'i thargedu. Mae gennym yr adolygiad yma yn awr sy'n mynd i edrych ar draws yr amrywiaeth o argymhellion sydd wedi eu gwneud o ran Betsi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o wybod bod y Gweinidog iechyd wedi cymeradwyo'r achos busnes amlinellol ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd, sy'n bwysig iawn. Mae bod â'r arian cyfalaf iawn yn bwysig iawn, ac mae honno'n neges sydd wedi'i rhoi i mi lawer, lawer gwaith pan wyf wedi siarad gyda'r staff yn Betsi. Felly, bydd hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn.

Rwy'n hapus iawn, Rhun, i roi'r sicrwydd i chi ynglŷn â gwasanaethau anhwylder bwyta. Rwyf wedi bod yn glir iawn bod y gwasanaethau hynny yn flaenoriaeth i mi. Rydw i wedi bod yn mynd o gwmpas yn ymweld â'r gwahanol dimau anhwylderau bwyta, a chefais ymweliad positif iawn â'r un yn Betsi, lle maen nhw'n gwneud gwaith gwych iawn i atal problemau rhag gwaethygu i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Rydym wedi rhoi £2.5 miliwn ychwanegol bob blwyddyn, o eleni, yn sail i'n hymrwymiad i wasanaethau anhwylderau bwyta, ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda'r holl fyrddau iechyd y disgwylir iddynt fodloni canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar anhwylderau bwyta, gan gynnwys yr amser aros pedair wythnos. Ond rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, oherwydd mae hynny'n gwbl allweddol, a'n gwaith ni mewn ysgolion. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd yna i chi, a bydda i'n mynd i weld y timau anhwylder bwyta eraill. Mae'n rhaid i mi ddweud, mewn gwirionedd, fod y profiad o ymweld â nhw wedi bod yn hynod gadarnhaol. Maen nhw'n bobl hynod ymroddedig sy'n gwneud gwaith gwych iawn. Rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy i siarad am y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y GIG. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

Prynhawn da, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad, a hefyd y gwaith rwy'n gwybod eich bod wedi'i wneud a'r ymrwymiad sydd gennych i'r maes gwaith penodol hwn.

Dau beth yn unig gen i, os caf i. Yn gyntaf, roedd y sefyllfa gyda CAMHS yn wael cyn COVID, yn sylweddol wael. Cafodd ei waethygu, do, ond nawr mae gennym ni 60 y cant o bobl ifanc yn dal i gael eu hapwyntiad cyntaf o fewn pedair wythnos. Dyw hynny dal ddim yn ddigon da, ac rwy'n gobeithio y bydd sylw yn dal i gael ei roi i'r maes gwaith penodol hwn, achos rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn gwybod y dinistr sy'n dod yn sgil problemau iechyd meddwl mewn pobl ifanc. Dydw i ddim yn siŵr fy mod i'n cytuno'n llwyr â'ch dadansoddiad nad oes angen y cymorth iechyd meddwl arnyn nhw, bod angen cefnogaeth arall arnyn nhw; hoffwn i weld y data a'r wybodaeth am hynny.

Yr ail bwynt, os caf ei wneud, yw ein bod yn credu mewn cydraddoldeb: iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Rwy'n falch iawn o weld y gwasanaethau haen 1, 97,000 o bobl yn cael eu cynnwys yn hynny, ond mae problem yn dal i fod am ofal argyfwng, a hoffem weld gwasanaeth gofal argyfwng 24/7 mewn iechyd meddwl. Tybed a fyddech chi'n cwrdd â mi dim ond i siarad am hynny, oherwydd nid dim ond am wasanaethau iechyd y mae hyn; mae'n ymwneud ag amrywiaeth o wasanaethau. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane, a diolch i chi am y geiriau caredig hefyd, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Rwyf eisiau bod yn glir na ddywedais i nad oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar bob person ifanc. Yr hyn rydyn ni'n ei wybod, er hynny, yw na fydd rhai o'r bobl ifanc hynny sy'n cael eu cyfeirio at CAMHS arbenigol yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol CAMHS am nad ydyn nhw'n sâl yn feddyliol; maen nhw'n profi gofid aciwt oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn eu bywydau. Dyma'r math o blant a phobl ifanc y canol coll y daethom i wybod amdanyn nhw drwy 'Cadernid Meddwl'. Yr hyn sy'n bwysig, ble bynnag y mae pobl ifanc angen y gefnogaeth honno, eu bod nhw'n gallu ei gael ar ba bynnag bwynt maen nhw ei angen. Dyna yw hanfod ein dull 'dim drws anghywir'. 

Mae'n rhaid i mi anghytuno â rhai o'r pethau rydych chi wedi'u dweud am amseroedd aros, oherwydd os edrychwn ni ar y ffigurau diweddaraf ar gyfer eich etholaeth chi ym Mhowys, maen nhw'n llawer uwch na'r targed o 80 y cant: mae 97.4 y cant o blant yn cael eu gweld o fewn y pedair wythnos, ac mewn gwirionedd yn derbyn ymyrraeth o fewn 97.1 y cant ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol. I CAMHS arbenigol, mae'n 91.3 y cant, er fy mod yn cydnabod nad yw ardaloedd eraill mewn cystal sefyllfa. A, dim ond i roi'r sicrwydd i chi, mae'r adolygiad gan yr uned gyflenwi yr ydw i wedi cyfeirio ato bron â'i gwblhau nawr. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd i ddatblygu trywyddion fel y gall y byrddau iechyd i gyd adfer eu perfformiad i gyrraedd y targedau yr ydym ni wedi'u gosod.

Rwy'n hapus iawn i gwrdd â chi, Jane, i siarad am wasanaethau argyfwng. Dim ond i ddweud hefyd, fel y dywedais i yn y datganiad, rydym yn gwneud cynnydd da gyda'n 111 'gwasgwch 2 am iechyd meddwl'. Fe wnes i gyfarfod â'r holl is-gadeiryddion yr wythnos diwethaf i gael diweddariad llawn ar ble maen nhw arni, ac rwy'n cydnabod yn llwyr na fydd hyn yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl yn unig. Dyna pam mae'n rhaid i'r byrddau iechyd fod â'r llwybrau cywir ar waith, oherwydd bydd llawer o'r bobl, rydyn ni'n gwybod o'r data, sy'n dod ymlaen am gymorth argyfwng, yn anffodus, yn bobl sy'n cael trafferth gyda phethau fel yr argyfwng costau byw, dyled a phethau felly hefyd. Felly, mae'n rhaid i ni fod â'r ystod yna o lwybrau ar waith er mwyn i ni allu cysylltu pobl â'r gwasanaethau cywir. Ond rwy'n hapus iawn i gael y drafodaeth yna gyda chi.

16:50

Gweinidog, roeddwn i eisiau holi am effaith camesgor ar iechyd meddwl. Mae'r disgwyliad cymdeithasol rhyfedd hwn o hyd i ni beidio â siarad am gamesgor, ac mae pobl yn galaru am y bywydau bach oedd yn rhan o'u byd nhw am gyfnod byr. Maen nhw'n galaru'r eiliadau na chawson nhw erioed gyda'i gilydd. Ac mae eu galar yn rhywbeth mae disgwyl i'r rhieni hynny ei brosesu'n breifat ac yna bwrw ymlaen â phethau. Does dim disgwyl bob amser y bydd cyflogwyr yn cynnig absenoldeb tosturiol a chymorth iechyd meddwl ar ôl camesgoriadau—dim ond os ydych chi'n colli'ch babi ar ôl 24 wythnos y mae hawliau mamolaeth yn dod i rym. Felly, a fydd y Llywodraeth yn gweithio gydag elusennau a theuluoedd i sicrhau bod gweithleoedd ledled Cymru yn mabwysiadu polisïau sy'n cael gwared ar y tabŵ hwn ynghylch camesgoriadau a chynnig absenoldeb tosturiol a chymorth iechyd meddwl? Oherwydd gall camau bach fel hyn helpu i sicrhau bod merched sy'n cael eu heffeithio a theuluoedd sy'n cael eu heffeithio yn cael eu trochi mewn ton o olau, ac yn helpu i sicrhau nad yw eu babanod yn cael eu hanghofio.

Diolch, Delyth, am wneud y pwyntiau hynny. Rwy'n cydnabod yn llwyr beth sydd, mewn rhai ffyrdd, yn ffurf unigryw o alar gyda chamesgoriad, oherwydd, yn aml, nid yw pobl yn ei gydnabod fel colled ddinistriol, ac mae hynny'n dwysáu'r galar mae pobl yn ei deimlo pan fyddan nhw'n colli babi. Mae gennym ni grŵp llywio profedigaeth yng Nghymru ac rydym ni wedi cyhoeddi fframwaith profedigaeth cenedlaethol i Gymru sy'n ceisio sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth pan fyddan nhw ei angen. Fel rhan o hynny wedyn rydym ni hefyd yn datblygu llwybrau penodol ar gyfer mathau arbennig o brofedigaeth. Lansiwyd yr un cyntaf yn ystod yr haf, a oedd ar gyfer marwolaeth person ifanc yn sydyn a thrawmatig. Ond mae'r llif gwaith nesaf ar golli babanod, ac rydym ni'n gweithio gyda'r sefydliadau hynny sy'n gweithio yn y maes hwn i geisio sicrhau ein bod ni'n cael y llwybr hwnnw'n iawn. Yn amlwg, nid yw materion cyflogaeth wedi'u datganoli i'r Senedd, ond rwy'n hapus iawn i roi sylw gyda fy swyddogion i sut y gallwn ni wneud yn siŵr, fel rhan o'r llwybr hwnnw, ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth o anghenion pobl sy'n dioddef profedigaeth trwy gamesgoriad neu golli babi.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. 

Yr eitemau nesaf yw eitemau 7 ac 8. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu nawr, fe fydd y ddau gynnig o dan eitemau 7 ac 8 yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes neb yn gwrthwynebu hynny, mi wnawn ni symud ymlaen. Does yna ddim gwrthwynebiad. 

7. & 8. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Dyma fi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8088 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).

Cynnig NDM8087 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

At ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a chynnig y cynnig a'r penderfyniad ariannol. Mae'r Bil hwn yn gam cyntaf pwysig, angenrheidiol yn ein taith i gefnogi gweithredu byd-eang i fynd i'r afael â llygredd plastig. O adolygu'r argymhellion gan y pwyllgorau, rwy'n nodi ein bod i gyd yn cytuno o ran ein huchelgais i atal yr effaith ddinistriol mae'r plastigion hyn yn ei chael ar ein hamgylchedd, bywyd gwyllt, iechyd a'n lles.

Hoffwn ddechrau, felly, drwy ddiolch i'r pwyllgorau cyllid; newid hinsawdd, yr amgylchedd a seilwaith; a deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Bil hwn. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr holl waith caled sydd wedi ei wneud i gyflwyno eu hadroddiadau cynhwysfawr a defnyddiol o fewn amserlen dynn iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig hefyd diolch i'r holl randdeiliaid, cymunedau a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu, cefnogi a gweithio gyda ni i ddatblygu'r cynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth hollbwysig hon. Rwyf hefyd yn croesawu'r dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig ychwanegol a ddarparwyd gan sefydliadau ac unigolion yn ystod y cyfnod craffu. Mae'r arbenigedd, yr her a'r persbectif cyfunol wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amhrisiadwy i ddatblygiad y Bil hwn.

Roedd adroddiadau'r pwyllgorau yn tawelu'r meddwl gan fod consensws yn amlwg bod y Bil yn fan cychwyn y mae mawr ei angen ac yn gam angenrheidiol i'r cyfeiriad cywir. Dim ond gyda'n gilydd y gallwn ni symud o ddiwylliant untro tuag at ddatblygu opsiynau eraill mwy cynaliadwy a mwy o ailddefnyddio. Llywydd, o ystyried nifer a chymhlethdod yr argymhellion, ni fydd modd ymateb i bob un ohonyn nhw heddiw. Felly, byddaf yn ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn unigol gyda fy ymateb llawn, yn dilyn y ddadl hon. Er hynny, byddwch chi'n falch o glywed y byddaf yn derbyn y mwyafrif o'r argymhellion.

Gan droi'n gyntaf at adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, nodaf argymhelliad 1 gan y pwyllgor i gyhoeddi strategaeth i leihau llygredd plastig yng Nghymru maes o law. Mae ein cyfeiriad strategol ar gyfer mynd i'r afael â phlastigion eisoes wedi'i nodi yn ein strategaeth economi gylchol, a'n cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon drafft. Felly nid oes angen strategaeth ar wahân. Fodd bynnag, rwy'n derbyn bod angen i ni sicrhau bod pawb yn glir ar fanylion y Bil, y diffiniadau o gynhyrchion ac unrhyw eithriadau cysylltiedig, ac yn glir ar waith i fwrw ymlaen â gwaharddiadau yn y dyfodol. Byddwn ni'n cynhyrchu canllawiau i helpu cynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr i ddeall y gwaharddiadau a ddaeth i mewn yn sgil y Bil. Rydym ni hefyd wedi cynnwys darpariaeth yn y Bil i sicrhau ein bod ni’n dryloyw am unrhyw gynhyrchion plastig untro yr ydym ni’n bwriadu eu hychwanegu neu gael gwared arnyn nhw yn y dyfodol. Mae hyn yn cael ei gyflawni o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, lle bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar yr ystyriaethau o ran p’un a ydyn nhw’n bwriadu ychwanegu neu gael gwared ar gynnyrch, neu ychwanegu neu ddileu eithriad. Bydd gwaith i weithredu'r Bil yn cael ei lywio gan gyngor a thrafodaethau arbenigol gyda rhanddeiliaid.

Rwy'n cydnabod yr ystod o argymhellion yn adroddiadau'r pwyllgorau sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymyriadau ar lefel Cymru yn cael eu deall yn glir gan y rhai fydd yn cael eu heffeithio. Mae argymhellion 3, 4 a 5 yn delio â'r angen i godi ymwybyddiaeth o nod y Bil i addysgu pobl am yr angen i symud i ffwrdd o blastig untro sy'n niweidiol i'r amgylchedd. Yn ystod sesiynau craffu'r pwyllgor, fe wnes i gadarnhau, yn amodol ar gymeradwyaeth i’r Bil gan y Senedd, y byddwn ni’n gweithio gydag ystod o grwpiau a sefydliadau i ddatblygu arweiniad a chyfathrebu i gefnogi gweithrediad y Bil. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth i helpu i egluro'r cynhyrchion sy'n cael eu gwahardd ac amlygu'r hyn a allai fod yn ddewisiadau eraill addas. Fel rhan o'n gwaith parhaus, byddwn ni’n tynnu sylw at unrhyw risgiau posibl neu ganlyniadau anfwriadol a allai ddeillio o ddewisiadau amgen nad ydynt yn blastig. Bydd ein cyfathrebu hefyd yn cynnwys negeseuon ehangach ynghylch atal sbwriel ac annog pobl i naill ai roi eu gwastraff yn y bin neu fynd ag ef adref gyda nhw os nad oes bin ar gael.

Gallaf hefyd gadarnhau y bydd ein canllawiau yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd o dan argymhelliad 12 mewn perthynas â darparu gwellt plastig untro. Hoffwn roi sicrwydd i Aelodau ein bod ni, drwy gydol datblygiad y Bil, wedi ymgysylltu'n rhagweithiol â grwpiau nodweddiadol gwarchodedig, gan roi cyfleoedd iddyn nhw wneud sylwadau ar ein cynigion wrth i ni symud ymlaen â'r gwaith hwn. Rydym ni wedi gwrando ar y pryderon maen nhw wedi eu codi ac wedi cynnwys eithriadau yn unol â hynny. Rydym ni wedi cael ymgysylltiad tebyg iawn gyda busnesau. Yn ogystal â darparu eglurder i unigolion a busnesau ar y cynhyrchion fydd yn cael eu gwahardd a'r camau mae angen iddyn nhw eu cymryd i baratoi ar gyfer y gwaharddiadau hyn, bydd y canllawiau'n nodi gwybodaeth am sut y dylai cynhyrchion sydd wedi'u heithrio barhau i fod ar gael—felly, sut y gall unigolion sy'n dibynnu ar wellt plastig untro i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol barhau i gael gafael ar y rhain, a beth ddylai busnesau ei wneud i sicrhau bod y rhai sydd angen y cynhyrchion hyn yn dal i allu cael gafael arnyn nhw.

Fel y nodwyd yn ystod camau'r pwyllgor, byddaf yn sefydlu proses gadarn a thryloyw wrth ystyried y cynhyrchion posibl i gael eu cynnwys yn y dyfodol. Ar y sail hon, rwy'n hapus i dderbyn argymhelliad 13, a byddaf yn cyflwyno gwelliant a fydd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar unrhyw reoliadau arfaethedig yn y dyfodol.

Mae argymhellion 14, 15 ac 16 yn gofyn am fwy o fanylion ynglŷn â pha gymorth ac ymgysylltiad y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i orfodi'r gwaharddiadau. Rwy'n bwriadu ysgrifennu at y pwyllgor o fewn y 10 diwrnod gwaith nesaf i amlinellu ein gwaith yn y maes hwn. Ond hoffwn roi sicrwydd ein bod ni’n gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol yn unigol ar ein canllawiau a'n gwaith codi ymwybyddiaeth.

Rwyf wedi derbyn y gwelliannau a gynigiwyd yn argymhellion 2, 5, 7 ac 8 mewn egwyddor. Byddaf yn ysgrifennu at Gadeirydd y pwyllgor maes o law ar y materion hyn i roi eglurhad pellach am ffordd arfaethedig ymlaen. Er enghraifft, rwyf fi eisoes wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad ôl-weithredu o'r Bil, fel sydd wedi cael ei awgrymu yn argymhelliad 8. Fodd bynnag, efallai y bydd angen ffrâm amser ychydig yn hirach ar hyn er mwyn caniatáu i'r ddeddfwriaeth ymgorffori.

Gan droi at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'u hargymhellion, unwaith eto rwy'n hapus i dderbyn y mwyafrif o'r argymhellion a gyflwynwyd, ac rwy'n bwriadu ysgrifennu at y pwyllgor gydag ymateb cynhwysfawr. At ddibenion y ddadl hon, hoffwn bwysleisio ein safbwynt bod y Bil yn gyfan gwbl o fewn cymhwysedd y Senedd, yn gwbl orfodadwy, ac nad yw’n cael ei effeithio gan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Fel y nodwyd yn gynharach, rwy'n fodlon cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar unrhyw newidiadau yn y dyfodol i'r cynhyrchion presennol yn y Bil, neu ar unrhyw ychwanegiadau arfaethedig. Fodd bynnag, bydd angen ystyriaeth bellach mewn perthynas â'r broses sy'n ymwneud â datblygu canllawiau, ac rwy’n bwriadu amlinellu ein safbwynt ar hyn yn fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor.

O ran y gwahanol argymhellion ynghylch amserlenni, byddaf unwaith eto'n mynd i'r afael â'r rhain yn ysgrifenedig er mwyn rhoi trosolwg manylach o'r amserlenni dan sylw. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, sut y bydd y cyfnod gwahardd symud am chwe mis sydd ei angen ar gyfer Sefydliad Masnach y Byd a chynhyrchion sydd â dyddiad cychwyn diweddarach yn gweithredu.

Yn olaf, gan droi at argymhellion y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch bod y pwyllgor yn fodlon yn eang gyda goblygiadau ariannol y Bil. Rwyf i wedi derbyn argymhellion 1, 2 a 3 mewn egwyddor gan y pwyllgor hwn, sy'n gofyn am eglurhad pellach ar gostau a buddion y Bil. Rydym ni’n gweithio gyda'n contractwyr gwreiddiol i ddiweddaru'r costau, y buddion a'r effaith i fusnesau a gweithgynhyrchwyr sy'n newid i blastigau amgen nad ydynt yn blastigau untro. Rydym ni hefyd yn comisiynu gwaith ychwanegol i asesu ac i nodi p’un a yw buddion gweithgynhyrchu yn ymwneud yn benodol â Chymru o ganlyniad i'r Bil. Bydd y gwaith cyfun hwn yn cymryd o leiaf chwe mis i'w gwblhau a bydd yn llywio canllawiau'r dyfodol sy'n ymwneud â'r Bil. Byddwn yn rhannu canlyniadau'r gwaith hwn gyda'r holl bwyllgorau pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.

Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithgynhyrchwyr a byddwn yn adeiladu ar berthnasau â sectorau sydd wedi'u heffeithio, fel sydd wedi’i awgrymu yn argymhelliad 4. Bydd hyn yn ein cefnogi i ddatblygu ein polisi i fynd i'r afael â llygredd plastig a chanllawiau cysylltiedig i gefnogi ei weithredu. Gallaf gadarnhau y bydd is-ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'r Bil yn cael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddrafft o'r rheoliadau gael ei gosod gerbron Senedd Cymru a'u cymeradwyo drwy benderfyniad Senedd Cymru. Bydd memorandwm esboniadol yn cyd-fynd â hyn, a fydd yn cynnwys asesiad effaith rheoleiddiol llawn ac yn cyflawni argymhelliad 5.

Diolch, Llywydd. Fe wnaf i ei gadael hi yn y fan yna am y tro ac yna fe wnaf ymateb i sylwadau'r Aelodau trwy gydol y ddadl. 

17:00

Galwaf yn gyntaf, felly, ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma ar egwyddorion cyffredinol y Bil ac i rannu barn y pwyllgor newid hinsawdd ynglŷn â'r Bil gydag Aelodau'r Senedd yma. Cyn i fi droi at gynnwys y Bil, mi fyddwn i'n hoffi siarad yn fyr am sut rydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn. Mi fydd Aelodau’n ymwybodol, wrth gwrs, na chafwyd unrhyw waith Cyfnod 1 gan bwyllgor—unrhyw bwyllgor—ar y Bil yma sydd ger ein bron ni heddiw. Dair wythnos yn ôl yn unig y cafodd y Bil ei gyflwyno yn y Senedd yn ffurfiol, y Bil terfynol. Ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gyd wedi gwneud gwaith ar y Bil yma. Dyw hi ddim yn sefyllfa rydyn ni'n hapus iawn â hi, ond o dan yr amgylchiadau, dwi'n credu ein bod ni wedi gwneud gwaith teilwng rhwng y tri phwyllgor o ran craffu ar y Bil. Os byddem ni wedi dewis peidio â gwneud y gwaith yma, yna fyddai yna ddim unrhyw fath o ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod ar ddarpariaethau manwl y Bil. A dim cyfle i'r rhai y mae’r cynigion yn effeithio arnyn nhw i gael dweud eu dweud. Roeddem ni felly'n credu ei bod hi'n bwysig inni gynnal y gwaith y gwnaethon ni ei wneud er mwyn osgoi diffyg llwyr o ran gwaith craffu. Ond—a dwi'n dweud hwn yn y modd cryfaf posib—ddylai ein gwaith ni a'r hyn dwi'n cyfeirio ato yn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma heddiw ddim cael ei ystyried fel ffordd ddigonol o gymryd lle gwaith craffu Cyfnod 1 go iawn gan bwyllgor. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall hynny. 

Gan droi at y Bil ei hun, felly, er bod cefnogaeth helaeth ymhlith rhanddeiliaid i’r Bil, mae'n rhaid dweud nad oedd neb yn twyllo'u hunain ynghylch yr effaith y buasai'r Bil yma'n ei gael ar yr amgylchedd. Fe ddywedodd y rhan fwyaf o bobl wrthym ni y bydd y Bil ar ei ben ei hun dim ond yn cael effaith gyfyngedig ar y llygredd plastig a’r sbwriel rydym yn ei weld ym mhob man o’n cwmpas, ond, wrth gwrs, ei fod yn y man lleiaf yn fan cychwyn. Ac mae'n gam cyntaf da i'r cyfeiriad iawn.

Fe gafwyd peth trafodaeth yn y pwyllgor am y diffiniadau y mae’r Bil yn eu defnyddio. Er enghraifft, roedd rhai cyfranwyr yn cwestiynu a oedd bylchau yn y diffiniad penodol o 'ddefnydd sengl' a beth mae hynny'n ei feddwl. Ond, y consensws oedd y bydd wastad peth amwysedd ynghylch diffiniadau. Roedd rhanddeiliaid yn poeni llai am berffeithrwydd na’r angen i sicrhau bod diffiniadau o leiaf yn cyd-fynd â deddfwriaeth arall. Rŷn ni felly wedi argymell y dylid diwygio’r Bil i gynnwys darpariaeth ar gyfer cyhoeddi canllawiau ar y diffiniadau.

Fodd bynnag, rydyn ni'n pryderu am un peth sydd wedi cael ei adael allan. Yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud, wrth gwrs, yw atal cyflenwi eitemau sydd wedi’u gwahardd, dyw e ddim yn atal gweithgynhyrchu’r eitemau hynny. Yn yr Alban, wrth gwrs, mae gweithgynhyrchu a chyflenwi wedi’u gwahardd. O dan y Bil fel y’i drafftiwyd, er efallai nad oes llawer ohonyn nhw, fe allai gweithgynhyrchwyr yng Nghymru fod yn cludo plastigau untro i rannau eraill o’r byd. Ac ar yr wyneb, felly, mae’n anodd gweld sut mae hyn yn cyd-fynd â’n huchelgais ni i fod yn wlad gyfrifol ar lefel fyd-eang. Nawr, mi ddywedodd y Gweinidog wrth gychwyn ei chyfraniad ein bod ni'n cychwyn ar daith fyd-eang pan fo’n dod i daclo plastig. Wel, mi fyddwn i’n ddiolchgar pe bai’r Gweinidog efallai, wrth ymateb i’r ddadl, yn rhoi sylw penodol i’r pwynt yna, a byddwn i’n awyddus i’w glywed.

Rhan ganolog y Bil, wrth gwrs, yw’r rhestr o eitemau sydd yn mynd i gael eu gwahardd, ynghyd ag elfennau o’r rheini, wedyn, lle mae yna eithriadau. Nawr, yn gyffredinol, roedd y rhanddeiliaid yn fodlon ar yr eitemau ar y rhestr, ond y neges y gwnaethon ni ei chlywed yn glir oedd mai man cychwyn ddylai hyn fod. Dwi’n gwybod bod y Gweinidog eisoes wedi dweud ei bod hi’n bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaharddiad ar weips gwlyb â phlastig ynddyn nhw cyn gynted ag y gall hi wneud hynny, ac mae’r pwyllgor yn eich cefnogi chi yn hyn o beth. Mi ddywedodd rhanddeiliaid wrthon ni y dylai’r eithriadau i’r gwaharddiadau fod yn fach iawn, ond fe wnaeth Anabledd Cymru roi digon inni gnoi cil amdano fe ynghylch y canlyniadau anfwriadol a allai godi yn sgil mesurau felly yn y Bil. Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau bod gan grwpiau cynrychioliadol fel Anabledd Cymru ac eraill ran flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu unrhyw gynigion i ychwanegu at y rhestr o eitemau sydd wedi eu gwahardd o'r cychwyn, a dwi’n falch bod y Gweinidog wedi cydnabod pwysigrwydd hynny yn y sylwadau y gwnaeth hi wrth agor y ddadl.

Nawr, mae disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan sylweddol o ran rhoi’r cynigion hyn ar waith, ac un o’r pryderon mwyaf y gwnaethon ni eu clywed oedd, wrth gwrs, ynghylch capasiti awdurdodau lleol i wneud y gwaith hwn. Mae’r Gweinidog wedi dweud ei bod hi’n disgwyl i awdurdodau lleol addysgu cyflenwyr cyn i’r gwaharddiad ddod i rym, wel, mae gen i amheuaeth ynghylch ​​a yw hyn yn realistig, yn seiliedig ar yr hyn rŷn ni wedi ei glywed. Fe ddywedwyd wrthym ni—ac rŷn ni i gyd yn gwybod hyn, wrth gwrs—fod toriadau difrifol wedi bod ar waith cynghori rhagweithiol. Roedd amheuon hefyd bod gan awdurdodau lleol y capasiti i orfodi'r gwaharddiad yn effeithiol. Awgrymwyd y gallai rhai awdurdodau lleol efallai ddewis peidio â chymryd unrhyw gamau gorfodi oherwydd diffyg capasiti. Dwi’n ddiolchgar felly bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei bod hi yn trafod y mater hyn gydag awdurdodau lleol, ond rŷn ni yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu’r cyllid sydd ei angen ar awdurdodau lleol i allu chwarae eu rhan i sicrhau bod y gwaharddiad yn llwyddiant, a dwi’n edrych ymlaen at dderbyn yr ohebiaeth gan y Gweinidog pan y bydd hi’n ysgrifennu atom ni ar hyn.

Yn olaf, felly, ac i gloi, mae'r pwyllgor yn falch o weld cynnydd yn y maes yma, ond mae'n amlwg, er bod rhanddeiliaid yn cefnogi'r Bil, nad yw'r Bil yn creu rhyw gyffro mawr. Wedi’r cyfan, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth yr Alban eisoes wedi deddfu i wahardd plastigau untro penodol, felly ymgais i ddal i fyny â nhw yw hyn. Mae’n wir bod hyn yn golygu y gallwn ni osgoi’r camgymeriadau y mae eraill wedi’u gwneud, ond am faint yn hirach y gallwn ni barhau i ddweud ein bod ni yn arweinwyr yn y maes polisi amgylcheddol, pan mai ni, wrth gwrs, yn y cyd-destun yma, yw’r olaf i weithredu?

17:05

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Wrth siarad yn y capasiti hwnnw—er, a gaf i gyfochri fy hun â llawer o'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor arall yr wyf yn eistedd arno? Ond hefyd, Gweinidog, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n cyflwyno hyn. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon yn dweud bod hyn yn gwneud cynnydd, ac rydym ni wedi bod yn aros am hyn, ac mae'n dda ei weld yn cael ei gyflwyno. Ond mae fy sylwadau yn mynd i gael eu cyfyngu i fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Mae'n dda cael y ddadl hon o'n blaenau. Yn yr adroddiad a gyflwynwyd gennym ni y bore yma, rydym ni wedi dod i un casgliad ac 17 o argymhellion, a nodaf eich bod chi’n derbyn, ar gyfer pob pwyllgor, y mwyafrif o'r argymhellion, ac y byddwch chi’n ysgrifennu atom gyda sylwadau manylach eraill, ac rydym ni’n gwerthfawrogi hynny.

Mae ein casgliad unigol yn ymwneud â'r mater hwn a godwyd gan Llyr ar osgoi proses graffu Cyfnod 1 y Senedd ar gyfer Biliau Llywodraeth Cymru. Ar ein pwyllgor ni, nid ydym ni wedi ein perswadio ei bod hi'n briodol i wneud hynny, nac yn wir yn gwbl angenrheidiol i Lywodraeth Cymru geisio gwneud hynny. Mae'n tynnu sylw at y risg y gallai'r math yna o osgoi sy'n golygu osgoi a chwtogi craffu arwain at ganlyniadau anfwriadol. Ni fyddai'r un ohonom ni am ei weld, ond ar y gwaethaf, efallai y bydd yn golygu efallai na fydd Bil o'r math hwn yn cyflawni'r canlyniadau mae'n bwriadu eu cyflawni. Rydym ni’n gobeithio nad yw hynny'n wir, ond dyna pam ein bod ni, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu osgoi'r broses graffu yno.

Rydym ni’n credu na ddylid croesawu’r awgrym y dylai’r broses o wneud cyfraith gael ei hosgoi i hwyluso ar er enghraifft, yn yr achos hwn, Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd her gyfreithiol—ac rwy'n dweud hyn ni waeth beth fo rhinweddau neu fel arall yr her honno—yn llwyr, oherwydd mae perygl iddo danseilio swyddogaethau'r ddeddfwrfa hon. Felly, rydym ni’n gobeithio nad yw dadleuon o'r fath yn cael eu cynnig fel mater o drefn gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'r cwestiwn hefyd yn codi ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu mor gyflym ag y gallai fod wedi gwneud, sy'n ymddangos ychydig yn groes i'r hyn yr wyf newydd ei ddweud, ond o ystyried bod y bwriad i ddeddfu wedi cael ei nodi gyntaf ym mis Mawrth 2020, rydym ni’n credu bod cyfleoedd yn bodoli i gyflwyno naill ai deddfwriaeth gynradd neu is-ddeddfwriaeth yn llawer cynt. Felly, yn lle ceisio hwyluso cynnydd y Bil drwy'r Senedd a chwtogi ar graffu trwy ollwng Cyfnod yn y fan yna, gan leihau'r cyfleoedd i gael craffu gwerthfawr, gallai Llywodraeth Cymru yn wir fod wedi hwyluso datblygiad y Bil cyn ei gyflwyno ac yna gwneud y Cyfnodau cyfan.

Ac yna mae'r cwestiwn a oedd gymaint o frys am y Bil hwn—er ein bod ni i gyd eisiau ei weld—ar y pwynt hwn, fel bod angen ei gyflymu drwy'r Senedd, neu a fyddai wedi bod yn well iddo gael ei ystyried gan y Senedd gyfan drwy drefn Bil brys y Senedd yn hytrach na chael ei adael i'r Pwyllgor Busnes benderfynu ar broses gyflym? Er mwyn rhoi eglurder ar rai o'r materion hyn, fe wnaethom felly wneud chwe argymhelliad yn gofyn am esboniad pellach gan y Gweinidog, ac edrychwn ymlaen at glywed gan y Gweinidog, naill ai heddiw neu'n ysgrifenedig, mewn ymateb i hynny.

Mae'r adroddiad yr ydym ni wedi'i gynhyrchu hefyd yn tynnu sylw at bryderon sydd gennym ni gydag absenoldeb unrhyw gyfeiriad yn y memorandwm esboniadol i effaith UKIMA, Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ar y Bil. Gweinidog, unwaith eto, rwy'n datgan ar y cofnod: rydym ni’n derbyn na all Deddf 2020 gyfyngu ar allu'r Senedd i ddeddfu ar faterion sydd o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol datganoledig, ac rydych chi wedi ailddatgan heddiw eich eglurder nad yw hyn yn effeithio arno, fel y dywedoch chi wrth ein pwyllgor. Fodd bynnag, ein pryder yw y gallai Deddf 2020, pan fydd y gyfraith yn cael ei gwneud gan y Senedd, effeithio ar ba mor effeithiol yw'r gyfraith oherwydd egwyddorion mynediad y farchnad mae'n eu cyflwyno ledled y DU. Felly, rydym ni’n gofyn i'r Gweinidog a oes, wrth beidio â chydnabod effaith bosibl—ac rydym yn nodi ei bod yn effaith bosibl—Ddeddf 2020 ar yr effaith ymarferol a gorfodi'r Bil hwn, unrhyw berygl nad yw pobl a busnesau sy'n cael eu heffeithio yng Nghymru yn cael gwybodaeth gywir am effaith y ddeddfwriaeth hon, neu a allai hyn, yn wir, olygu nad yw unigolion neu fusnesau yn ymwybodol o'r gyfraith neu'n cael camwybodaeth ynghylch maint llawn y gyfraith fel y mae'n gymwys yng Nghymru, neu, yn wir, ansicrwydd i awdurdodau lleol wrth orfodi rhai o'r darpariaethau yn y Bil. Felly, rydym ni'n gobeithio, Gweinidog, y gallwch chi ateb rhai o'r rheini heddiw.

Fe wnaethom ni bum argymhelliad mewn perthynas â'r pwyntiau hyn, ac maen nhw'n cynnwys gofyn i'r Gweinidog esbonio—fe wnaethom ni gymryd y dull newydd o roi astudiaeth achos damcaniaethol yn ein hadroddiad—p’un a yw hwnnw’n gywir ynghylch cymhwyso Deddf 2020 i blastig diraddadwy sy'n cael ei ddefnyddio fel plastig gwellt amaethyddol a garddwriaethol. Ni fydd pawb yn deall hyn, ond mae'n astudiaeth achos rydym ni'n ei rhoi i weld a allai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw'n iawn neu'n anghywir. Y cwestiwn allweddol yw hyn: tra gall y Bil wahardd plastig o'r fath, oherwydd Deddf 2020, a fydd busnesau Cymru yn dal i allu prynu ffilm gwellt o fannau eraill yn y DU, gan y byddai cyflenwyr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu parhau i gyflenwi iddyn nhw? Felly dyna beth rydym ni'n chwilio am ateb arno. A Gweinidog, rydych chi'n ysgwyd eich pen yn barod, felly gobeithio y byddwch chi'n sefyll i fyny ac yn dweud wrthym ni nad yw hynny'n gywir.

Yn olaf, fe wnaethom ni bum argymhelliad arall yn ymwneud â rhai o'r darpariaethau yn y Bil a rheolaeth y gyfraith. Un o egwyddorion sylfaenol rheolaeth y gyfraith yw sicrwydd. Felly, nid ydym yn rhannu barn y Gweinidog iddi fynegi i ni mewn pwyllgor y gallai deddfwriaeth fod yn agored i'w dehongli, neu ei bod yn gyfaddawd rhwng rhwyddineb dealltwriaeth a sicrwydd llwyr. Mae rheolaeth y gyfraith yn golygu bod angen gwahaniaeth rhwng canllawiau a gofynion anstatudol a gofynion a osodir yn ôl y gyfraith. Cyfeiriodd y Gweinidog at y canllawiau statudol hynny yn ei thystiolaeth, ond nid yw'r Bil yn adlewyrchu'r safbwynt hwn ar hyn o bryd. Felly, er y gall canllawiau ddylanwadu ar ymddygiad, yn y pen draw, byddai dehongli'r Bil yn cael ei adael i'r llysoedd. Felly, os oes gennym ni ddiffiniadau rhy hyblyg yn y Bil, gall hyn arwain at amwysedd a her. Rydym ni’n poeni, felly, ar gyfer awdurdodau lleol sy’n gorfodi'r darpariaethau yn y Bil, o ystyried na ddylent gymhwyso na gorfodi canllawiau fel pe baent yn gyfraith. Felly, rydym ni wedi argymell y dylai fod diffiniadau gwell, mwy manwl gywir yn y Bil, yn hytrach na cheisio darparu eglurder drwy ganllawiau. Rydym ni hefyd yn argymell bod dyletswydd i ddarparu canllawiau a bod y ddyletswydd yn cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid ac y dylai fod yn destun craffu gan y Senedd. Felly, Gweinidog, rydym ni’n edrych ymlaen at eich ymateb. Rydym ni’n gwybod y byddwch chi’n ysgrifennu atom yn fanwl hefyd, ond rydym ni’n croesawu'r ffordd hael y gwnaethoch chi agor eich sylwadau i'r Bil hwn a gobeithiwn y byddwch yn ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion hynny.

17:10

Diolch, Llywydd, a dwi'n falch i allu cyfrannu yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Buaswn i'n licio diolch i’r Gweinidog am ddod i’r pwyllgor i drafod goblygiadau ariannol y Bil. Dŷn ni wedi gwneud pump o argymhellion, a dŷn ni wedi clywed gan y Gweinidog a diolch iddi am ei sylwadau yn barod ar y rheini, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at gael mwy o fanylion ganddi mewn amser.

Ond cyn i fi fynd i fanylder ar hynny, hoffwn i ddechrau drwy gefnogi sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd, a hefyd y sylwadau dŷn ni newydd eu clywed gan Huw Irranca-Davies ynglŷn ag osgoi craffu yng Nghyfnod 1. Rydym yn cefnogi'r safbwynt bod osgoi Cyfnod 1 yn rhwystro'r cyfle i ymgynghori â rhanddeiliaid a'r cyhoedd ar y ddarpariaeth fanwl o fewn y Bil. Mae hefyd yn rhwystro'r cyfle i'r Senedd gynnal gwaith craffu llawn a thrylwyr ar oblygiadau ariannol a pholisi'r Bil.

Gan droi at farn y pwyllgor, rydym ni’n cefnogi nodau'r Bil i gyflymu'r newid o blastig untro tuag at ddatblygu dewisiadau amgen mwy cynaliadwy, ac rydym ni’n cydnabod manteision amgylcheddol lleihau llygredd plastig. Rydym ni hefyd yn falch o glywed bod y Gweinidog yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod nodau'r ddeddfwriaeth hon yn cael eu cyfleu'n effeithiol, ac rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn helpu i ddod â busnesau i gydymffurfio ac felly lleihau'r angen am orfodi. Fodd bynnag, fe wnaethom nodi meysydd o fewn yr asesiad effaith rheoleiddio sy'n cyd-fynd â'r Bil fel rhai sy'n broblematig.

Rydym ni’n arbennig o bryderus bod y gost a amcangyfrifir ar gyfer busnesau sy'n newid i blastigau untro amgen yn seiliedig ar ymchwil a data cymharol hen o 2019-20. Ar ben hynny, roedd y modelu costau cychwynnol yn seiliedig ar naw cynnyrch, yn hytrach nag 11, fel sydd wedi’i gynnwys yn y Bil. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn disgwyl y gallai costau'r naw cynnyrch fod wedi gostwng oherwydd y newid sydd eisoes yn digwydd i gynhyrchion amgen a'r effaith mewn mannau eraill yn y DU ac yn fyd-eang o wledydd sy'n gwahardd plastig untro. Er bod hyn yn dda i glywed, oherwydd gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar y costau, rydym ni’n dal i ddisgwyl i'r wybodaeth hon gael ei hadlewyrchu yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ac rydym ni’n argymell bod hyn yn cael ei gynnwys mewn trafodion Cyfnod 2 wedi'i ddiweddaru.

Llywydd, ni fydd yn syndod i'r Aelodau bod y pwyllgor yn poeni am effaith y pwysau chwyddiant presennol ar effaith ariannol deddfwriaeth. Mae Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF yn dweud y dylid tynnu effeithiau chwyddiant prisiau cyffredinol o amcangyfrifon yn ymwneud â Biliau. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog wrthym y byddai costau parhau gyda phlastig untro a symud i blastigau nad ydynt yn rhai untro yn destun chwyddiant. Gwnaeth y pwynt hefyd y gallai fod o fudd i fusnesau newid i gynhyrchion amgen i ffwrdd o blastigau sy'n seiliedig ar olew, o ystyried costau cynyddol olew, i liniaru effaith costau'r mesurau hyn. Er ein bod ni’n gwerthfawrogi'r awgrymiadau hyn ar sut y gellid cadw costau’n isel, rydym ni’n dal i boeni am yr effaith y gallai hyn ei gael ar fusnesau, o ystyried y gyfradd sylweddol o chwyddiant. Rydym ni’n credu hefyd ei fod yn peri risg fforddiadwyedd i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn bryder i'r Bil hwn ac ar gyfer Biliau yn y dyfodol ac, o ganlyniad, rydym ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth i bwysau chwyddiant wrth gyfrifo effeithiau costau deddfwriaeth.

Gan droi at faterion eraill, fe wnaethom glywed gan y Gweinidog ei bod yn anodd amcangyfrif costau yn ymwneud â gweithgynhyrchwyr a busnesau eraill yn newid cynhyrchu i ffwrdd oddi wrth eitemau plastig oherwydd diffyg data sydd ar gael a'r diffyg ymgysylltu â busnesau. Rydym ni’n siomedig bod hyn yn wir ac yn argymell bod rhagor o waith yn cael ei wneud i asesu'r costau hyn a'r anfanteision. Dylai'r asesiadau effaith reoleiddiol gynnwys y gost wedi’i hamcangyfrif orau gan Lywodraeth Cymru ar gyflwyno er mwyn ein galluogi i graffu'n effeithiol ar oblygiadau a manteision ariannol cyffredinol y Bil.

Mae ein trydydd argymhelliad yn gofyn am eglurhad ar p’un a yw'r £8.6 miliwn a nodwyd fel buddion gweithgynhyrchu ar sail y DU neu sail Cymru. Os yw'n cyfrif am weithgynhyrchu'r DU yn ei gyfanrwydd, fel mae'r asesiad effaith reoleiddiol yn ei awgrymu, ni ddylai hyn gael ei gynnwys fel budd i Gymru a dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei ffigyrau i gyfrifo'r budd penodol i Gymru.

Fel y bydd Aelodau'n gwybod, mae'r Bil hwn yn cynnwys pwerau rheoleiddio i wahardd cynhyrchion pellach mewn amser. Ond roedd y pwyllgor yn pryderu am y diffyg ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau, oedd yn golygu nad oedd data i asesu costau unrhyw waharddiadau yn y dyfodol yn cael ei gasglu. Rydym ni'n argymell felly bod Llywodraeth Cymru yn gwella ei chysylltiad â gweithgynhyrchwyr a busnesau yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw gynlluniau i wahardd cynhyrchion pellach yn cael eu costio'n gywir. Roedd y pwyllgor hefyd yn teimlo bod cydymffurfiaeth o fewn y sector, yn hytrach na dibynnu ar bwerau gorfodi'r Bil—.

Mae ein hargymhelliad olaf hefyd yn ymwneud â phwerau rheoleiddiol yn y Bil. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu RIA llawn a thrylwyr i gyd-fynd ag unrhyw is-ddeddfwriaeth berthnasol sy'n cael ei gwneud o dan y Bil hwn sy’n gwahardd cynhyrchion plastig untro pellach nad ydynt wedi'u cwmpasu yn barod o fewn y ddeddfwriaeth fel y’i drafftiwyd.

Lywydd, rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog a'i swyddogion am roi tystiolaeth i'r pwyllgor ar y darn arwyddocaol hwn o ddeddfwriaeth. Mae ein hargymhellion yn cyfeirio at feysydd y mae angen eu gwella er mwyn sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.

17:20

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'ch swyddogion a dyn nghyd-Aelodau yn y pwyllgor am y gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn hyd yma, ac mae’n hen bryd i ni sefyll yma, mewn gwirionedd, i groesawu'r Bil hwn. Rwy'n gwerthfawrogi popeth mae Cadeiryddion y pwyllgorau eraill wedi'i ddweud, ac rwy’n gobeithio fod hwn yn un Bil y gallwn ni i gyd, yn drawsbleidiol, ei gefnogi. Ond mae angen iddo fod yn Fil—. Nawr ein bod ni wedi cael y cyfle yma, mae angen iddo fod yn Fil sydd wir yn cyflawni, oherwydd mae hi'n flwyddyn wedi i'r Llywodraeth Lafur ddweud y byddech chi'n deddfu, mae hi'n ddwy flynedd ar ôl i Lywodraeth y DU osod ei gwaharddiad ei hun, ac mae'n dair blynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Ar 5 Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei hun y byddai'r Bil hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi her gyfreithiol barhaus Llywodraeth Cymru yn erbyn Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Beth bynnag, hynny o'r neilltu, rydw i a fy ngrŵp yn croesawu'r Bil, ac rydym ni’n cytuno â'r egwyddorion cyffredinol. Hynny yw, mewn gwirionedd, pwy fyddai ddim? Mae cynhyrchu plastig untro yn parhau i gwmpasu'r gyllideb garbon fyd-eang. Mae tua 98 y cant o gynhyrchion plastig untro yn cael eu cynhyrchu o borthiant newydd neu danwydd ffosil. Erbyn 2040, rhagwelir y bydd cynhyrchu, defnyddio a gwaredu plastigau sy'n seiliedig ar danwydd ffosil yn cyrraedd 19 y cant o'r gyllideb garbon fyd-eang. Ac amcangyfrifir bod 400 miliwn tunnell o wastraff plastig bob blwyddyn.

Mae'r canlyniadau yn ddinistriol, Llywydd. Bydd mwy o blastig na physgod yn y môr erbyn 2050. Mae gan 90% o adar y môr blastig yn eu stumogau. Mae llygredd microblastig wedi arwain at ddirywiad mewn ffawna, gan gynnwys larfa a gwiddon, ac mae tua 100,000 o ddarnau neu 250g o blastig yn cael eu bwyta gennym ni fel unigolion yn flynyddol. Nawr, gan gofio'r cyd-destun hwnnw, rwyf yn dymuno i'n Senedd yng Nghymru fynd cyn belled ag y gall gyda'r Bil newydd hwn.

Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru a Dŵr Cymru wedi mynegi siom nad yw cadachau gwlyb sy'n cynnwys plastigion yn cael eu cynnwys. Ond, pan ddaethoch chi i gyfarfod y pwyllgor yr wythnos ddiwethaf, Gweinidog, roeddech chi mewn gwirionedd yn fwy grymus ar hynny, ac yn sicr rydych chi'n mynd i fod yn edrych arno. Oherwydd, gadewch i ni fod yn onest, cadachau gwlyb, yn enwedig gyda phlastig, yw'r prif achos a chyfrannwr at ffurfio rhwystrau yn ein carthffosydd, a hefyd llygru'r amgylchedd â microblastigau. Mae hyd yn oed Ffederasiwn Plastigion Prydain wedi esbonio bod dewisiadau amgen i gadachau gwlyb sy'n cynnwys plastigion yn bodoli. Rwy'n deall, yn ôl fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd, fod gennym ni gwmni sydd eisoes yn ystyried cynhyrchu—. Ie, yn Wrecsam?

Fflint. Esgusodwch fi. Felly, gan ganolbwyntio am ychydig yn hirach ar y cynhyrchion plastig yr hoffem ni eu gwahardd, mae ymchwil wedi canfod nawr bod tua 39 y cant o smygwyr yn taflu diwedd sigaréts—neu ben sigaréts, fel yr oeddwn i bob amser yn arfer ei ddweud; ie, pen sigaréts—sy'n cynnwys plastig i lawr y draen. Plastig untro yw'r mwyafrif helaeth, ac maen nhw’n cynnwys cannoedd o gemegau gwenwynig, ac wedi cael eu smygu ar un adeg. Yr hyn sydd ar ôl yw pla o sigarennau plastig yn cyrraedd traethau. Yn aml iawn, i'r rhai ohonon ni sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau glanhau traeth—. O'r arglwydd, mae miloedd ohonyn nhw'n cael eu casglu pan fo sawl un ohonon ni allan yna.

Mae ffyn balŵn wedi'u cynnwys, a hynny’n gywir. 'Beth am y balŵns eu hunain?', gofynnwyd i mi. Mae rhywun wedi ysgrifennu ata i, o wybod bod hyn yn cael ei gyflwyno, felly mae'n dda bod y cyhoedd yn dod yn ymwybodol. Beth am y balŵns eu hunain? Mae'r RSPCA wedi rhybuddio y gall llyncu balwnau achosi marwolaeth drwy rwystro'r lleiniau treulio ac anadlu. Ac yn 2013, cynhyrchodd DEFRA ‘Llusernau awyr a balwns heliwm: asesiad o effeithiau ar dda byw a'r amgylchedd', lle nodwyd bod da byw yn tagu oherwydd iddyn nhw lyncu darnau balŵn.

Mae angen ystyried podiau coffi hefyd. Fe wnaeth Hamburg wahardd podiau coffi o adeiladau sy'n cael eu rhedeg gan y wladwriaeth fel rhan o ymgyrch amgylcheddol i leihau gwastraff. Cynnyrch mislif—maen nhw'n cynhyrchu 200,000 tunnell o wastraff y flwyddyn. Clytiau—nawr, mae'r un yma'n un anodd i mi, oherwydd, i unrhyw un sydd wedi bod yn fam, nid mynd yn ôl i'r hen gewynnau terry towelling, i mi, yw'r ffordd ymlaen. Fodd bynnag, p'un a allai gweithgynhyrchwyr edrych ar efallai gynhyrchu cewynnau gyda llai o blastig ynddyn nhw—oherwydd, unwaith eto, maen nhw’n aflwydd yn ein cymunedau wrth gael eu taflu'n anghyfrifol. Brwshys dannedd untro—mae 256 miliwn o'r rhain yn cael eu taflu. Raseli untro—2 biliwn yn y safle tirlenwi bob blwyddyn. Ac yn fwy diweddar, pecynnau profi COVID sydd—. Wel, plastig ydyn nhw ar hyn o bryd. P'un a allai'r cwmnïau hynny, Gweinidog, edrych arno mewn gwirionedd—. O ganlyniad i'ch Bil gael ei gyflwyno, efallai y bydd yn gwneud gweithgynhyrchwyr yn fwy cyfrifol pan fyddant yn rhoi pethau at ei gilydd.

Mae angen trafodaeth ddifrifol ynglŷn â gorfodi, ond rwy'n cytuno â phopeth sydd wedi cael ei ddweud yma. Mae hyn yn mynd i drosglwyddo costau draw i'n busnesau, ac rwy'n credu, os ydyn ni'n dod â phobl gyda ni, y bydd pobl yn sylweddoli cyn bo hir bod angen i ni weithio gyda'n gilydd ar hynny. Felly, mae angen i ni ei gefnogi gan wneud mwy ar ddefnyddio'r foronen, nid y ffon.

Rwy'n bryderus o ran y goblygiadau ariannol i'n hawdurdodau lleol. Mae CLlLC, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gyd wedi mynegi pryderon am adnoddau a diffyg capasiti—ac mae hynny nawr, cyn iddyn nhw edrych ar hyn.

Byddwn ni'n pleidleisio o blaid heddiw, Llywydd, ond rwy'n credu bod y Gweinidog yn gwybod, cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, rydyn ni am i hon fod yn Ddeddf sy’n gwneud popeth pan ddaw drwodd, a gobeithio y gallwn ni weithio gyda'n gilydd, Gweinidog, ar unrhyw welliannau sydd—. Efallai y gallwn ni weithio gyda'n gilydd fel bod y Bil hwn yn gwneud yr union beth yr ydym ni i gyd am iddo ei wneud. Diolch. 

17:25

Diolch, Gweinidog. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i wahardd plastig untro. Fe wnes i alw am hyn yn gyntaf yn 2019. Mae hyn heddiw yn gam pwysig ymlaen, a rhywbeth i'w groesawu, yn sicr. Achos mae plastig wedi plethu i fod yn rhan annatod o'n bywydau—o becynnau bwyd, ein dillad ni, y ffyrdd mae pobl yn glanhau, y pethau rŷn ni’n bwyta, mae plastig ym mhobman. Roeddwn i'n darllen yr wythnos hon fod microplastics wedi cael eu ffeindio yn llaeth y fron am y tro cyntaf. Ac er bod llygredd plastig yn wybodus i ni, mae COVID-19 wedi cyflymu effaith niweidiol microblastigau ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio’r delweddau trist o adar a chreaduriaid eraill wedi eu clymu mewn masgiau un defnydd, a’u boliau yn llawn o blastig. Bydd rhai yn cofio gweld darnau o blastig wedi eu darganfod yn nyfnderau'r môr, ar ben Everest, ar draethau Indonesia ac ar lannau afonydd ar draws y byd. Gogoniannau’r ddaear, a dyma ydy’r marker rŷn ni’n ei rhoi lawr fel dynoliaeth—wel, fe fyddwn ni'n rhoi marker arall lawr trwy ddeddfwriaeth fel hyn.

Rŷn ni’n gweld effaith plastig ar arfordir prydferth ein gwlad ein hunain. Mae microblastigau i’w canfod yn nifer o’n rhywogaethau dyfrol, brodorol. Mae’r data yn dangos, er gwaethaf yr ymgyrchu yn erbyn plastig untro, fod y canran o’r plastig a’r polystyrene hynny sydd yn gynwysedig yn y Bil o hyd yn uchel iawn ar ein traethau ac yn ein moroedd. 

Mae bron pawb yn cytuno bod angen gweithredu. Ond does bron neb eisiau newid eu bywydau nhw o gwbl, a dyna ydy'r sialens, wrth gwrs. Mae gennym ni ddyletswydd, wrth gwrs, i amddiffyn pobl ar draws y byd rhag peryglon gwastraff plastig, ac mae’n glir, er bod y Bil hwn yn gam pwysig ymlaen, a dwi rili yn dweud ei fod e'n gam pwysig, dyw e dal ddim yn ddigon cadarn o ran gwahardd gweithgynhyrchu eitemau plastig untro, fel mae Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd wedi bod yn rhoi mas.

Rwy'n pryderu, yn wahanol i'r Ddeddf ddiweddar a basiwyd yn yr Alban, fod Cymru ond yn gwahardd y cyflenwad yn hytrach na’r gweithgynhyrchu o’r eitemau rhestredig. Dylem ni fod yn atal allforio llygryddion hysbys i wledydd eraill hefyd. Gallai'r diffiniad cyfredol o 'ddefnydd sengl' ganiatáu cyflenwi cynhyrchion 'aml-becyn' neu 'maint teuluol' sy'n cynnwys nifer o eitemau wedi'u pecynnu'n unigol fel rhan o un cynnyrch. Mae'n arbennig o bwysig sicrhau bod y diffiniad hwn yn glir, a heb fylchau. Felly, mi fuaswn i’n hoffi clywed ar ddiwedd y ddadl os ydy’r Gweinidog yn cytuno y dylid diwygio'r diffiniad o eitem un defnydd i gynnwys y gair 'wedi'i genhedlu' wrth adlewyrchu diffiniad yr Undeb Ewropeaidd o gynnyrch plastig untro. 

Mae’r pwyllgor wedi trafod yn helaeth y ffaith—eto, mae hyn wedi cael ei amlygu'n barod yn y ddadl—fod wet wipes—dwi'n meddwl bod Llyr yn eu galw nhw'n 'wipes gwlyb'—ar goll yma. Yn eu hymateb i ymchwiliad y pwyllgor blaenorol ar ficroblastigau, amlygodd Dŵr Cymru cymaint ydy effaith y broblem o wet wipes o ran carthffosydd. Os na fyddan nhw’n cael eu hatal, beth mwy a all y Llywodraeth ei wneud a beth mwy a all cymdeithas ei wneud i hysbysu pobl am y niwed maen nhw’n ei wneud? 

Mae Wales Environment Link, fel rydyn ni wedi clywed, yn dadlau y gallai addysg dinasyddion fod o gymorth, ond, yn y pen draw, mae angen ymyrraeth reoleiddiol yn y maes hwn achos, fel rydyn ni wedi clywed gymaint o weithiau yn y Siambr ac yn y pwyllgor, mae newid ymddygiad yn beth mor eithriadol o anodd ei ysgogi. Ar hyn o bryd, does dim i atal cwmnïau rhag rhoi 'flushable' ar y wipes sy'n achosi difrod difrifol i'n systemau dŵr, a heb ddiffiniadau safonol o beth sydd yn biodegradable, mae hyn yn achosi dryswch i'r cyhoedd.

I gloi, Llywydd, mae angen i’r Bil ysgogi newid. Mae angen i’n hymddygiad ni i gyd newid, ac mae angen gwneud yn siŵr bod hyn yn wir nid dim ond yn ein bywydau bob dydd yng Nghymru, ond hefyd yr effaith rŷm ni’n ei gael ar weddill y byd. A dyna’r her i’r Llywodraeth, wrth gwrs: gwneud yn siŵr bod arferion pobl wir yn newid, eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n rhan o hyn, bod hyn ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd iddyn nhw, ond eu bod nhw eisiau datrys y broblem, a'n bod ni ddim yn gohirio'r problemau i'r cenedlaethau sydd i ddod. Mae’r gwaith sydd wedi mynd i mewn i’r Bil yma i’w glodfori, ac rwy'n gobeithio bydd modd datrys nifer o’r pryderon hyn wrth i’r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen. Diolch. 

17:30

Fel y dywedodd Delyth Jewell eisoes, rydym ni’n gwybod bellach fod plastigion mewn llaeth o'r fron mewn tua 70 y cant o'r achosion. Felly, mae'n amlwg mai dim ond y fersiwn ddiweddaraf o'r problemau rydyn ni wedi'u creu i ni'n hunain yw hyn, oherwydd bydd hefyd mewn llaeth powdr, bydd mewn llaeth buwch, bydd yn ein bara oherwydd y grawn sydd wedi tyfu ar dir sydd wedi â phlastig arno, a bydd yn ein cig a'n pysgod, yn sicr. Felly, yn bendant mae angen i ni weithredu nawr i roi'r gorau i ladd ein hunain fel hyn.

Rwy'n gwerthfawrogi'r dull meddal sydd wedi'i gymryd gan y Llywodraeth ar wellt plastig, oherwydd fe wnaethon ni gymryd rhywfaint o dystiolaeth ddiddorol gan rywun sy'n cynrychioli'r gymuned anabl, a ddywedodd mai gwellt plastig oedd y ffordd fwyaf addas o yfed i rai pobl ag anableddau penodol. Mae'n amlwg nad oes problem i bobl mewn ysbytai gael cynnig gwellt plastig oherwydd, yn amlwg, mae gwastraff wedi'i losgi i gyd yn mynd mewn un ffordd. Mae'n amlwg bod problem llawer mwy cymhleth, felly, yn y gymuned pan mae rhywun yn mynd i gaffi ac yn dweud, 'Mae fy mhlant eisiau gwellt plastig.' Rydyn ni'n mynd i fod angen rheoleiddio eithaf clir o ran sicrhau y bydd perchennog y caffi neu'r gweinydd yn gallu bod yn glir ynglŷn â phryd mae'n briodol cael gwellt plastig, oherwydd yn amlwg mae gwellt papur, mae yna wellt metel a gwellt pren y gellir eu hailddefnyddio. Felly, mae digon o ddewisiadau amgen i'r rhan fwyaf o bobl, ond rwy'n cydnabod bod hwn yn ddull meddal iawn o ymgysylltu â phobl i ddatblygu'r dewisiadau amgen, heb osod pobl anabl dan anfantais.

Un o'r meysydd lle mae angen rhywfaint o eglurder arnom yw ar gynhyrchion ocso-ddiraddadwy, oherwydd maen nhw, fel mae'r memorandwm esboniadol yn ei wneud yn glir iawn, yn gymaint o lid ag unrhyw beth arall. Ond, nid oes gwir ddiffiniad o gynhyrchion ocso-ddiraddadwy, felly mae hyn wir yn rhywbeth sydd angen rhywfaint o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, San Steffan a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, gan ei bod yn gwneud synnwyr i gael labelu gwirioneddol glir ar hyn. Ar hyn o bryd, mae llawer o bobl yn gwyrddgalchu eu cynnyrch yn wyrdd drwy ddweud, 'Mae hwn yn fioddiraddadwy.' Ydy, efallai ei fod ymhen 200 mlynedd, ond nid dyna beth rydyn ni'n sôn amdano mewn gwirionedd, nage?

Felly, yn amlwg, hoffwn i hefyd weld gweithredu cyflym ar blastig mewn cadachau gwlyb ac ar gynhyrchion mislif, oherwydd mae gen i ofn dweud bod pobl yn parhau, ac y byddant yn parhau i, roi cadachau gwlyb a chynhyrchion mislif i lawr y toiled oherwydd eu perthynas ddryslyd â'u cyrff a ddim eisiau eu gwaredu mewn mannau eraill. Mae llawer o dystiolaeth am hynny. Felly, mae gwir angen i ni weithio ar hynny, oherwydd yn sicr, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, maen nhw'n rhwystro'r carthffosydd a chreu'r mynyddoedd saim, felly mae'n costio llawer iawn o arian i ni ei dacluso.

Amlygodd Cadwch Gymru'n Daclus fod yna ddau blastig a oedd ar gynnydd. Un ohonynt oedd y cistiau fêpio hyn; mae angen i ni weithredu yn erbyn hynny. Ac, yn ail, sbwriel bwyd cyflym, y gwnaethon nhw ddweud oedd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Felly, mae yna berthynas sobreiddiol mewn gwirionedd rhwng yr hyn y mae pobl yn ei feddwl yw'r ffordd fwyaf economaidd o fwydo eu hunain neu eu teulu yn hytrach na choginio pryd sylfaenol mewn gwirionedd. Ond, nid yw hynny ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, mae’n rhywbeth i ddelio ag ef mewn mannau eraill. Serch hynny, rwy'n credu bod yna ffordd bwysig iawn mae angen i ni ddelio â siopau bwyd cyflym, a gweld beth allwn ni ei wneud i gymell pobl i ddod â'u cynwysyddion eu hunain i mewn pan fyddan nhw'n dod i godi cyri, yn hytrach na defnyddio mathau eraill o gynhyrchion. Mae hynny'n amlwg yn cysylltu'r ddeddfwriaeth hon â chyfrifoldebau'r cynhyrchwyr estynedig, a'n hymrwymiad cyffredinol, sy'n gorfod golygu lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Felly, mae gwaith da ar y gweill. Mae angen i ni fwrw ymlaen ag ef nawr, ac mae angen i ni newid y diwylliant yn eithaf cyflym ynghylch peidio taflu pethau i ffwrdd a meddwl mai dyna ddiwedd y peth, mae wedi mynd—nid yw wedi mynd.

17:35

Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r Bil hwn; mae'n Fil nodedig. Mae bob amser yn demtasiwn, onid yw e, pan fyddwn ni'n gwneud rhywbeth da—ac rwy'n credu bod hynny'n bendant wedi digwydd—i ddweud, 'Da iawn, ond beth am—?', ac mae gen i un o'r rheini, os caf i. Ond, rwyf fi am ddweud diolch yn fawr iawn am y gwaith sydd wedi ei wneud, a diolch am yr adroddiadau o'r pwyllgorau eraill hefyd. Rydym ni'n gwybod bod hwn yn fater rydych chi wedi gweithio arno a'ch bod chi'n ymroddedig iawn, iawn, fel y mae eich cydweithiwr.

Roeddwn i eisiau, mewn gwirionedd, dweud dau beth. Un yw tynnu sylw at rai o'r ymgyrchoedd cymunedol gwych hynny sydd wedi bod yn digwydd. Mae Surfers Against Sewage wedi bod yn cynnal cynllun achredu trefi, trefi di-blastig, lle, fel rydyn ni'n gwybod, mae cymunedau'n cymryd camau i weithio gyda busnesau lleol, grwpiau cymunedol, ysgolion, ac ati, er mwyn lleihau eu defnydd o blastigau ac i'w hailgylchu mewn ffyrdd cynhyrchiol. Mae 28 o drefi yng Nghymru wedi cael eu hachredu neu'n gweithio tuag at yr achrediad yna, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod ac yn rhoi diolch am y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar y lefel gymunedol yna achos mae wir yn bwysig ein bod ni'n codi'r ymwybyddiaeth yna ac yn ceisio newid y diwylliant yna. Dim ond tair tref yn ein rhanbarth ni sydd wedi gwneud hyn: Llanbedr Pont Steffan, Llanidloes ac Aberystwyth. Diolch i'r holl drefi hynny a'r bobl oddi mewn iddyn nhw am y gwaith maen nhw wedi ei wneud.

Felly, yr 'ond', i mi, os caf i, Gweinidog, yw tybed a allwn ni roi pwysau arnoch chi i fynd ymhellach ar y cynllun dychwelyd blaendal, y cyfeirir ato'n gyffredin fel cynllun dychwelyd potel. Fel y gwyddom, yn Norwy, mae'r cynllun dychwelyd poteli wedi arwain at ailgylchu 95 y cant o boteli, ond mae Llywodraeth y DU yn parhau i lusgo'u traed er iddynt ymrwymo i gyflwyno'r cynllun. Fy marn i, unwaith eto, efallai, yw y dylem ni yng Nghymru arwain y ffordd ar hyn, a dylen ni gynllunio a gweithredu cynllun ein hunain er mwyn i ni allu gwthio ymhellach, yn gyflymach ac ymlaen o ran ein hymrwymiad, yn hytrach nag aros i San Steffan fynd â hyn ymhellach.

Felly, rwy'n croesawu'r Bil ac yn diolch am y gwaith sydd wedi ei wneud, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, ac efallai i barhau â'r drafodaeth i weld sut y gallwn ni fynd ymhellach ac yn gyflymach. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i ymateb i'r ddadl. Julie James.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r holl sylwadau sydd wedi eu gwneud gan Aelodau heddiw yn fawr, a'r ysbryd mae'r sylwadau hyn wedi'i wneud ynddo. O ystyried cyfyngiadau amser, yn anffodus nid oes gen i amser i fynd trwy bob un ohonynt. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, does gen i ddim amser i fynd trwy bob argymhelliad, ond byddwn ni'n ysgrifennu yn ôl at y pwyllgorau a byddaf yn gwneud yn siŵr y bydd ymateb cynhwysfawr ar bob un o'r argymhellion a'r materion a godwyd gan wahanol Aelodau heddiw yn ymwneud â'r pwyllgorau yn dod yn ôl atoch i'w hystyried.

Roeddwn i eisiau, yn benodol iawn, rhoi sylw i’r pwynt gan Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder ar yr astudiaeth achos maen nhw wedi’i gynnwys, fodd bynnag. Yn barchus iawn, Huw, mae'n ddrwg iawn gen i ddweud nad ydyn ni'n cytuno bod astudiaeth achos y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder yn gynrychiolaeth gywir o'r safbwynt. Ein safbwynt yw bod darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd, yn gwbl effeithiol ac yn orfodadwy. Felly, mae hynny'n cynnwys y darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i gyflenwi cynnyrch plastig untro, ocso-bioddiraddadwy gwaharddedig i ddefnyddiwr yng Nghymru, ac mae'n cynnwys cyflenwi'r eitemau hynny o'r tu allan i Gymru, gan gynnwys o wledydd eraill y DU. Felly, mae'r Cwnsler Cyffredinol, sy'n eistedd wrth fy ochr heddiw, wedi nodi dro ar ôl tro mai ein safbwynt ni yw na all UKIMA, fel rydyn ni'n ei alw, weithredu i faterion wedi'u cadw'n ôl sy'n amlwg o fewn cymhwysedd y Senedd, ac nad yw’n gwneud hynny. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion nad ydynt wedi’u cadw yn ôl ac mewn perthynas â Chymru. Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Llywydd wedi dweud bod ei ddarpariaethau o fewn cymhwysedd, ac felly rydym ni o'r farn eu bod yn gwbl effeithiol ac yn orfodadwy, ac nid yw egwyddorion mynediad y farchnad yn UKIMA yn syml yn berthnasol iddynt. Felly, roeddwn i eisiau gwneud hynny'n wirioneddol blaen heddiw.

Fe wnaf i ychydig o bwyntiau eraill hefyd. Rwy'n croesawu cyfraniadau pob un o'r Aelodau yn fawr ynghylch mynd ymhellach a chyflymach ar wahanol gynhyrchion. Fel y dywedais i yn y pwyllgor, cawsom dros 60 o awgrymiadau yn ein hymateb. Hynny yw, ymateb sydd wedi'i gyhoeddi; gallwch edrych arno ar y wefan. Gallwch weld nifer yr eitemau a awgrymodd pobl. Mae pawb wedi sôn amdanyn nhw eto yma heddiw. Mae eraill hefyd. Er enghraifft, rwyf wedi bod yn trafod nifer o gynhyrchion yn y gwasanaeth iechyd gyda'r Gweinidog iechyd sydd bendant angen i ni edrych arnynt yn fanylach.

Ac ar y mater cadachau gwlyb, rydyn ni, wrth gwrs, wedi gweithio gyda'r gwneuthurwr yn y Fflint ac mewn mannau eraill—tair ffatri yng Nghymru, mewn gwirionedd—ond fel y dywedais i yn y pwyllgor, ac rwy'n atgoffa Janet, un o'r materion mawr i ni yw nad oes rhaid i chi labelu'r cynnyrch ar hyn o bryd i ddweud bod ganddo blastig ynddo. Felly, yn amlwg, mae'n llawer anoddach gorfodi os nad ydych chi'n gallu dweud, yn gywir, beth sydd ynddo. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y DU yn newid y drefn labelu, fel os oes gennych chi gynnyrch sy'n edrych fel y dylai allu gael ei gompostio neu fod yn fioddiraddadwy, ond mewn gwirionedd mae ganddo blastig ynddo, y dylid nodi hynny'n glir iawn ar y label. Mae gennym broblem gyda chadachau gwlyb, yn sicr, ond mae gennym ni broblem hefyd gyda rhai bagiau te gyda phlastig ynddynt, ac yn y blaen. Felly, mae angen labelu cynhyrchion sy'n cynnwys plastig, sy'n golygu nad ydynt yn fioddiraddadwy neu’n gallu cael eu compostio mwyach, oherwydd fel arall beth ydym ni i'w wneud â nhw? Allaf i ddim pwysleisio hynny ddigon, a byddaf i'n codi hynny ym mhob grŵp rhyng-weinidogol rydw i ynddo, a gobeithio, Janet, y byddwch chi'n gallu gwneud hynny gyda'r Llywodraeth yno yn San Steffan. Rwy'n siŵr y bydd y pwyllgorau yn ei wneud hefyd.

Ond, yn y cyfamser, byddwn ni'n gweithio gyda'n gweithgynhyrchwyr yma yng Nghymru yn ofalus iawn i wneud yn siŵr eu bod nhw eu hunain yn tynnu'r plastig o'u cynnyrch. Hyd yn oed os nad ydyn ni'n eu gwahardd, rydyn ni eisiau iddyn nhw gael eu tynnu o'r cynhyrchion. Felly, roeddwn i eisiau gwneud y sefyllfa yna'n blaen iawn. Fe fyddwn i'n hoffi'n fawr pe byddem wedi cynnwys cadachau gwlyb, ond mae wedi bod yn amhosib ar y pwynt gorfodi i wneud hynny. Er hynny, rwy’n falch iawn o ddweud, fod y Bil, wrth gwrs, yn caniatáu i ni ychwanegu cynhyrchion wrth i ni wneud yr ymchwil ac wrth i ni weithio gyda'n busnesau. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at allu gwneud hynny. Mae'n fwriadol yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion, gan dybio bod y Senedd yn ei phasio yn y ffurf hon yn y pen draw, fel bod yn rhaid i ni adrodd yn ôl i'r Senedd ar p’un a ydym ni'n cynnwys cynhyrchion ychwanegol ai peidio. Felly, rwy'n credu dwyn i gyfrif yn y ffordd yna—'Pam nad ydych chi'n mynd ymhellach?'—yn rhywbeth y dylai'r Senedd mewn gwirionedd, gobeithio, ei gymeradwyo, wrth i ni fynd â'r Bil drwy ei wahanol gyfnodau.

Mae'r Bil yn ffitio i'n strategaethau cynhwysfawr, ehangach sydd â'r nod o ddiogelu a gwella ein hamgylchedd. Felly, mewn ateb i Jane ac ambell un o'r lleill rwy’n meddwl, yn amlwg, mae hyn yn rhan o gyfres o fesurau, felly rydyn ni'n bwrw ymlaen â chyflwyno cynllun dychwelyd blaendal, fel mae'n digwydd. Mae yna hefyd gynllun cyfrifoldeb cynhyrchydd newydd, estynedig yn dod. Felly, byddwn yn codi'r pwynt gweithgynhyrchu yn y gyfres ehangach o fesurau. Felly, dydy'r ffaith nad yw yn y Bil hwn ddim yn golygu nad ydym yn ei wneud, a bydd y Senedd yn cael cyfle i gael golwg ar hynny, felly rwy'n derbyn y pwynt yn fawr. Rydyn ni'n glir iawn ar ein cyfrifoldebau byd-eang, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y pethau hynny. Felly, dim ond i atgoffa'r Aelodau, dim ond am nad yw i mewn yma, nid yw'n golygu nad yw'n dod neu nad yw'n cael ei gynnwys yn y gyfres o fesurau.

Mae'n cyfrannu at ein rhaglen lywodraethu, wrth gwrs, ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch iawn, a byddaf yn ailadrodd o'r dechrau, fy mod i'n gallu derbyn bron pob un o'r argymhellion gan y pwyllgorau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am faint o waith rydych chi wedi'i wneud mewn amser byr iawn. Yn benodol, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, byddwn yn cyflwyno gwelliannau i osod y canllawiau fel dyletswydd, felly byddwn ni'n gallu mynd i'r afael â hynny, ac yn sicr byddwn yn mynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid, yr ydym yn derbyn pob un ohonynt—nid oes un o'r rheini wedi cael eu gwrthod.

Ond, Llywydd, yn y diwedd, rydw i wir yn credu ein bod ni'n gwneud rhywbeth eithaf unigryw yma. Rydym ni y tu ôl i wledydd eraill y DU, ond mae hyn yn mynd ymhellach. Weithiau gallwch chi neidio, a gobeithio y bydd y Senedd yn cymryd y cyfle i neidio heddiw. Mae hyn yn rhywbeth mae'n ymddangos bod gennym ni ewyllys cyfunol i'w wneud. Mae'n rhywbeth rwy'n credu bod yn rhaid i ni ei gyflawni. Mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu ein cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol rhag effaith y plastig hwn. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Aelodau'n cymeradwyo'r ddau gynnig heddiw. Edrychaf ymlaen at drafodaeth bellach yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2, ac rwy'n gofyn i Aelodau heddiw gymeradwyo'r cynnig a chytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Diolch. 

17:45

Y cynnig felly yw i dderbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8, sef y cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu y cynnig o dan eitem 8? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyna ddiwedd ein busnes ni am y dydd. Does dim cyfnod pleidleisio. 

Amseru ardderchog, ychydig cyn cic gyntaf y pêl-droed am 6 o'r gloch. Dim byd ar ôl i'w wneud heblaw dweud, 'Pob lwc Cymru'.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:46.