Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/09/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Prynhawn da. Dyma ni'n cychwyn ar ein cyfarfod am heddiw. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd

Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd a ohiriwyd o 14 Medi, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog ac i'w ofyn gan Natasha Asghar. 

Lleihau Allyriadau Carbon

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae ymwybyddiaeth gynyddol—. Mae'n ddrwg gennyf.

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau carbon yng Nghymru? OQ58380

Diolch. Y llynedd, gwnaethom gynyddu ein huchelgais i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, a chyn COP26 y llynedd, gwnaethom gyhoeddi Cymru Sero Net, ein cynllun lleihau allyriadau yr ydym yn awr yn gweithio ar ei gyflawni, a’n cynllun presennol ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd, ’Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd'.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Ymddiheuriadau, credaf fy mod wedi cyffroi i fod yn ôl ar gyfer y diwrnod cyntaf yn swyddogol, neu'r ail ddiwrnod.

Mae ymwybyddiaeth gynyddol fod ein diet a'n dewis o fwyd yn cael effaith sylweddol ar ein hôl troed carbon. Cludo, pecynnu a phrosesu bwyd sydd i gyfrif am 6 y cant o allyriadau carbon o wledydd cyfoethog, felly mae prynu bwyd a gynhyrchir yn lleol yn golygu allyriadau is. Yn ddiweddar, rydych wedi cyhoeddi dau gynllun newydd—cynllun grantiau bach ar gyfer creu coetir, y grant creu coetir, gyda £32 miliwn o gyllid i ffermwyr a thirfeddianwyr ar gyfer plannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd hwn. Nawr, mynegwyd pryderon y gallai annog plannu coed amharu ar allu ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd, felly hoffwn ofyn, Ddirprwy Weinidog, sut y bydd y cynlluniau hyn yn sicrhau y bydd y gwaith o gynyddu gorchudd coed, drwy gynyddu'r nifer o goed yng Nghymru, yn digwydd ar dir a nodir fel tir llai cynhyrchiol yn hytrach nag ar dir o ansawdd uchel, a chynnal cynhyrchiant bwyd lleol drwy hynny.

Diolch. Fel y gwyddoch, y targed o 86 miliwn o goed yw’r hyn sydd angen i ni ei blannu i gyflawni ein targedau allyriadau carbon fel y’u nodir gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, corff annibynnol. Rydym oll yn cytuno ar sail drawsbleidiol i gyflawni sero net. Rydym yn cymeradwyo gwaith comisiwn y DU ar y newid yn yr hinsawdd. Yn syml, mae hyn yn nodi'n ymarferol yr hyn y bydd hynny'n ei olygu. Cychwynnwyd archwiliad dwfn gennym flwyddyn yn ôl bellach i ddeall pam nad ydym wedi bod yn cyflawni ein targedau plannu coed, a gwnaethom bennu cyfres o gamau ymarferol, a gynhyrchwyd ar y cyd â’r gwahanol sectorau, i nodi sut y gwnawn hynny, ac mae hynny’n cynnwys cynllun ffermio cynaliadwy newydd y mae fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, wedi’i gyhoeddi, ac mae hwnnw'n nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’r gymuned ffermio i gyflawni'r targedau hynny.

Mae dweud ei fod yn un peth neu'r llall yn ddeuoliaeth ffug; fod coed yn cael eu plannu ar draul tyfu bwyd. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Ac rydym yn awyddus i weithio ar egwyddor y goeden iawn yn y lle iawn, yn sicr, ond hefyd, plannu ar berthi ac ymylon ffermydd, lle mae ffermwyr yn barod i blannu coed a lle nad yw hynny'n disodli eu prif weithgarwch. Yn gyffredinol, er mwyn cyflawni targedau’r pwyllgor newid hinsawdd, mae angen newid oddeutu 10 y cant o ddefnydd tir. Felly, fe fydd newidiadau, oherwydd heb y newidiadau hynny, yn syml iawn, ni fydd y sector ffermio yn wydn. Ni fyddant yn gallu cynhyrchu'r bwyd y mae pob un ohonom yn dibynnu arno gan y bydd y newid yn yr hinsawdd yn amharu arnynt. Felly, mae er lles pob un ohonom i fynd y tu hwnt i'r penawdau, i roi'r rhaniadau o'r neilltu a chydweithio i gyflawni rhywbeth a all gyflawni ein nodau cyffredin.

Un dull sydd wedi cael ei ddefnyddio yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau, wrth gwrs, yw i gyflwyno cyfyngiadau cyflymder ar amryw ffyrdd yng Nghymru. Nid yn unig mae hynny yn dod â budd amgylcheddol, mae hefyd yn dod â budd o safbwynt diogelwch i drigolion yn y cyffiniau hynny. A dwi eisiau amlygu i chi, os caf fi, fod ymgyrch wedi'i lansio ym mhentref Glasfryn ger Cerrigydrudion i gyflwyno cyfyngiadau cyflymder yno. Os teithiwch chi ar yr A5 o Fangor yr holl ffordd i'r Amwythig, Glasfryn yw'r unig bentref ar y siwrnai yna lle does yna ddim cyfyngiadau o safbwynt cyflymdra, er bod yna gyffyrdd prysur yn y pentref, er bod yna dai fetr neu ddau un unig o ymyl y ffordd. Yn wir, yr hyn welwch chi pan fyddwch chi'n cyrraedd y pentref yw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder cenedlaethol, sydd, i bob pwrpas, wrth gwrs, yn atgoffa ac yn annog gyrwyr i yrru 60 milltir yr awr, sy'n gwbl annerbyniol.

A gaf fi felly eich gwahodd chi, Ddirprwy Weinidog, i gwrdd â'r ymgyrchwyr lleol, o dan arweiniad y Cynghorydd Gwennol Ellis, naill ai fan hyn yng Nghaerdydd neu, gorau oll, pan ddowch chi i'r gogledd, a bod yna gyfle i chi ddod i Glasfryn i weld eich hunan y sefyllfa yna ac i ddeall, os medrwch chi, pam y mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn ar unwaith?

Wel, wrth gwrs, rydym yn cymryd camau i ostwng terfynau cyflymder. Bydd gan bob ffordd lleol derfyn cyflymder diofyn o 20 mya o fis Medi nesaf, gyda’r gallu i awdurdodau lleol ddarparu ar gyfer eithriadau i’w cadw ar 30 mya. A bydd hynny, heb os, yn cael effaith ganlyniadol ar ymdeimlad pobl o gyflymder ar ffyrdd eraill. Felly, byddwn hefyd yn edrych ar ein polisi gosod terfynau cyflymder lleol. Hefyd, rydym wedi cyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ein bod bellach wedi derbyn adroddiad llawn y panel adolygu ffyrdd, y byddwn yn ei archwilio dros y misoedd nesaf, gyda swyddogion yn edrych yn fanwl ar bob un o'r llu o argymhellion a wnaethant, ac yn sicr, mae terfynau cyflymder yn ganolog i'w dadansoddiad o'r hyn y mae angen inni ei wneud, er mwyn cyflawni ein hamcanion o ran allyriadau carbon ond hefyd i achub bywydau.

Yn amlwg, cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw ffyrdd lleol. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r cefnffyrdd. Ac rwy'n cydnabod bod enghreifftiau i'w cael lle mae'r gymuned yn teimlo bod cyflymder ffyrdd yn rhy gyflym, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried fel rhan o'n pecyn cyffredinol i newid dulliau teithio.

13:35

Yr ail gwestiwn i'w ateb y prynhawn yma gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, ac i'w ofyn gan Rhys ab Owen.

Y Gronfa Diogelwch Adeiladau

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa diogelwch adeiladau? OQ58400

Member
Lesley Griffiths 13:35:19
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Mae cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar agor i unigolion sy'n gyfrifol gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer adeiladau preswyl sy'n 11m neu'n uwch. Hyd yma, rydym wedi cael 261 datganiad o ddiddordeb ac mae angen cynnal arolwg ymwthiol o 163 ohonynt. Mae'r gwaith arolygu hwn yn mynd rhagddo, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn yr hydref.

Diolch yn fawr, Weinidog. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol o ddau dân fis diwethaf ar falconïau yn natblygiad Victoria Wharf, heb fod ymhell o’r fan hon, ym Mae Caerdydd. Dywedodd Taylor Wimpey, datblygwr y datblygiad hwnnw, dros ddwy flynedd yn ôl y byddent yn fodlon gwneud y gwaith cyweirio yno, ond nid yw'r gwaith wedi dechrau o hyd. Nawr, rwyf wedi dweud ar goedd fy mod yn awyddus i gael Bil Cymru mewn perthynas â diogelwch adeiladau, ond roedd y Llywodraeth yn anghytuno. Pryd y byddwch yn rhoi'r amddiffyniadau cyfreithiol yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022 Llywodraeth y DU ar waith?

Diolch. Fel Llywodraeth, roeddem yn bryderus iawn wrth glywed am y tân diweddar y cyfeiriwch ato yn Victoria Wharf. Deallaf efallai ei fod wedi digwydd o ganlyniad i’r haul yn tywynnu drwy ddrws balconi agored ac yn cynnau darnau bach rhydd o bren ar falconi, a bod hynny wedi arwain at y tân. Rwy'n falch iawn na chafodd unrhyw un eu hanafu a bod y tân wedi'i ddiffodd yn gyflym.

Mae’r Gweinidog yn parhau i weithio’n agos gyda swyddogion yn Llywodraeth y DU, a bydd yn cyflwyno’r mater a godwch yn y dyfodol agos iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ein cronfa diogelwch adeiladau ein hunain yng Nghymru a agorodd ar 30 Medi y llynedd, ac mae’n dda gweld y datganiadau o ddiddordeb hynny y cyfeiriais atynt yn y cwestiwn agoriadol. Credaf fod hynny’n sicr yn fan cychwyn ar gyfer sicrhau mynediad at gymorth, ac rwy’n falch o weld bod pobl o ddifrif wedi deall pwysigrwydd hyn.

Weinidog, erys y ffaith bod yr oedi cyn rhoi cronfa diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru ar waith wedi golygu bod llawer o drigolion a pherchnogion fflatiau ledled Cymru wedi’u rhoi mewn sefyllfa ariannol ansicr, wedi methu gwerthu neu ailforgeisio eu heiddo gan fod benthycwyr yn gwrthod benthyg arian pan nad oes tystysgrifau EWS1 ar gael, ac arolygon heb eu cynnal. Mae'r sefyllfa wedi'i gwaethygu gan na roddwyd amserlen bendant, ac mae pobl wedi bod mewn limbo ers blynyddoedd heb wybod a fydd y sefyllfa'n cael ei datrys byth. Nid yn unig fod hyn yn ddinistriol i'r rhai sy'n berchen ar eu heiddo ac wedi'i brynu gyda phob ewyllys da, ond mae wedi arafu'r farchnad eiddo i'r fath raddau fel y gallai llawer o ddarpar berchnogion fflatiau fod yn amharod i brynu yng Nghymru. Y ffaith amdani bellach yw bod hyn yn dinistrio’r hyn a fu unwaith yn farchnad eiddo iach. Weinidog, pa asesiad y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud o effaith yr oedi wrth ddarparu arolygon ac asesiadau risgiau tân, a’r effaith y mae pasbortau diogelwch adeiladau wedi’i chael ar y farchnad eiddo yng Nghymru? Diolch.

Nid wyf yn cydnabod y senario y mae’r Aelod yn ei disgrifio; mae 163 o adeiladau eisoes wedi eu nodi ar gyfer cynnal arolygiadau ymwthiol. Er fy mod yn sylweddoli mai’r gobaith oedd cwblhau’r gwaith erbyn diwedd yr haf, fel y dywedaf, mae wedi'i ymestyn i’r hydref. Mae hynny'n bennaf oherwydd yr angen i sicrhau caniatâd gan y perchnogion cyfrifol i gael mynediad i adeiladau. Mae’r Gweinidog yn parhau i weithio’n agos iawn gyda datblygwyr yng Nghymru a chyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi mewn perthynas â'r cytundeb datblygwyr. Credaf fod hwnnw'n waith pwysig iawn a fydd yn dod â chryn dipyn o gysur i lawer o'r bobl y cyfeiriwch atynt. Bydd y contractau’n cael eu llofnodi cyn bo hir, a gwn fod y Gweinidog i fod i gyfarfod â’r datblygwyr fis nesaf, ddechrau mis Hydref. Credaf fod angen ichi edrych ar y gwaith sylweddol a wnaethom mewn perthynas â hyn. Mae hwn yn waith pwysig iawn sy’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo.

A gaf fi ddymuno'n dda i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, y gwn na all fod yma heddiw, a diolch i chi am ateb y cwestiynau? Hoffwn adleisio pryderon fy nghyd-Aelod, Rhys ab Owen, mewn perthynas â’r tân a ddigwyddodd yn ddiweddar. Tân yw tân. Sut bynnag y dechreuodd, y pryder oedd y gallai fod wedi lledu ac y gallem fod wedi wynebu sefyllfa ofnadwy, fel a ddigwyddodd yn Grenfell bum mlynedd yn ôl. Mae sawl agwedd ar hyn, ac roeddwn yn awyddus i ganolbwyntio ar un, os caf. Mae llawer o berchnogion tai wedi mynd â'r datblygwyr eu hunain i'r llys. Mae’r datblygwyr hynny wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru y byddant, wrth gwrs, yn cyweirio eu heiddo ac yn cadw at y cytundeb datblygwr. Gwyddom na all pobl fforddio gwneud dim heblaw aros, yn gorfforol, o ran eu diogelwch eu hunain, ac yn emosiynol hefyd, gyda'r straen sydd arnynt. O'r rhestr a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, gwyddom fod chwe datblygwr, sydd wedi’u henwi, nad ydynt wedi ymgysylltu eto. Er tryloywder, tybed a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi rhestr o ba ddatblygwyr sydd wedi cytuno i lofnodi'r cytundeb datblygwyr, pa rai sydd wedi gwrthod neu sydd heb ymgysylltu, a beth y gallai’r canlyniadau fod. Diolch yn fawr iawn.

13:40

Diolch. Rhannaf eich pryderon ynglŷn â'r tân yn Victoria Wharf. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ystyried eich cais. Yn sicr, o'r wybodaeth sydd gennyf yma, credaf ein bod yn aros am gadarnhad gan un datblygwr arall ynghylch adeiladau canolig neu uchel. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o rai achosion—sawl achos, rwy’n credu—lle mae’r unigolyn cyfrifol a’r asiantau rheoli wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr yn breifat i wneud y gwaith arolygu hwnnw, a gwn fod y Gweinidog yn edrych ar ad-dalu costau arolygon ac yn edrych ar ariannu ôl-weithredol. Credaf ei bod bob amser wedi nodi'n glir iawn na ddylid gorfodi lesddeiliaid i dalu am broblemau diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol am eu creu, a gwn fod ganddi gyfarfod arall, fel y dywedais, wedi'i gynllunio gyda datblygwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn 2019, gwnaeth Llywodraeth Cymru nifer o ymrwymiadau ynghylch tryloywder, atebolrwydd a chyfranogiad. Un o’r ymrwymiadau hyn oedd codi ymwybyddiaeth o gyllid Llywodraeth Cymru, yn benodol ynglŷn ag o ble y daw arian a sut y caiff ei wario. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod, ar sawl achlysur, wedi ceisio darganfod faint o arian a wariwyd gennych ar brosiectau ffyrdd ledled Cymru, cyn iddynt gael eu dirwyn i ben yn sydyn gan eich adolygiad ffyrdd, ac ni chefais unrhyw beth ond oedi bwriadol a diffyg eglurder. Bu'n rhaid gwneud cais rhyddid gwybodaeth i ddarganfod bod cyfanswm o £24 miliwn wedi’i wario ar brosiectau ffyrdd ledled Cymru cyn iddynt gael eu canslo. Daw hyn ar ôl i’ch Llywodraeth wastraffu £157 miliwn ar brosiect ffordd liniaru’r M4. Mae busnesau Cymru yn erfyn am well seilwaith ffyrdd, ac mae taer angen ffyrdd lliniaru neu ffyrdd osgoi ar gymunedau, fel Llanbedr, i fynd i'r afael â llygredd a thagfeydd. Felly, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi roi’r gorau i’r polisi hurt o rewi prosiectau gwella ffyrdd yng Nghymru a buddsoddi yn y seilwaith y mae cymaint o'i angen arnom?

Wel, nid wyf yn siŵr pam fod hwn yn bolisi mor gymhleth i’w ddeall. Mae pob un ohonom wedi ymrwymo i gyflawni ein targedau newid hinsawdd. Daw 17 y cant o'r allyriadau o drafnidiaeth. Nawr, golyga hynny fod angen inni fabwysiadu dull gwahanol o ymdrin â thrafnidiaeth os ydym am gyflawni'r nodau sero net hynny, gan mai trafnidiaeth yw'r sector sydd wedi newid arafaf ers gosod y targedau am y tro cyntaf ym 1990. Felly, mae angen dull gweithredu gwahanol arnom. Nid ymddengys bod dealltwriaeth sylfaenol o hynny ar feinciau'r Ceidwadwyr. Maent yn ymrwymo i’r targedau lefel uchel, ond pan fydd yn rhaid i chi drosi hynny wedyn i’r hyn y mae’n ei olygu’n ymarferol, maent yn cilio oddi wrtho, ac mae gwleidyddiaeth y peth yn anodd, ond mae angen arweiniad arnom yn y cyfnod heriol hwn. Deallaf gan Brif Weinidog newydd y DU ei bod wedi ymrwymo i gyflawni sero net: mae hi wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu drilio ym Môr y gogledd; mae'n mynd i ddechrau ffracio; ac mae'n mynd i, rwy'n dyfynnu, 'adeiladu ffyrdd yn gyflymach'. Wel, bydd pob un o’r pethau hynny'n cynyddu ein hallyriadau. Byddant yn mynd â ni ymhellach oddi wrth gyflawni'r sero net y clywsom gan Boris Johnson fis Tachwedd diwethaf yn y COP eu bod wedi ymrwymo i'w gyflawni. Felly, mae anghysondeb gwybyddol llwyr ar feinciau'r Torïaid rhwng yr hyn y maent yn dweud eu bod am ei wneud a'r hyn y maent yn barod i'w gefnogi mewn gwirionedd.

Nawr, rydym wedi edrych ar ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy banel arbenigol ar adeiladu ffyrdd i edrych ar gynlluniau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, nid y rhai sydd wrthi'n cael eu hadeiladu, gan y bydd y rheini'n parhau, ond y rhai nad ydynt wedi dechrau eto, i weld a ydynt yn gydnaws ag amcanion strategaeth trafnidiaeth Cymru er mwyn cyflawni ein cyllidebau carbon. Fel y dywedaf, rydym newydd dderbyn yr adroddiad hwnnw. Rydym yn ei archwilio'n fanwl, a byddwn yn gwneud datganiad arno i’r Senedd yn yr hydref. Ond mae'n amlwg, o gywair ei datganiadau unwaith eto, nad yw hi'n barod i wynebu canlyniadau ei haddewidion ei hun.

Ddirprwy Weinidog, gwn eich bod wrth eich bodd yn trafod Llywodraeth y DU, ond gadewch inni ganolbwyntio ar Gymru, sef yr hyn yr ydych chi a minnau’n gyfrifol amdano yma. Felly, mae'n rhaid ichi gytuno bod seilwaith ffyrdd annigonol yn niweidio busnesau ac yn amharu ar y gwaith o greu swyddi ar adeg pan ydym yn ymadfer wedi effeithiau’r pandemig. Mae eich methiant i wella ffyrdd yn golygu mwy o dagfeydd, allyriadau carbon uwch, ac yn gwneud yr economi'n llai cynhyrchiol a chystadleuol. Mae’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi dweud bod eich dull gweithredu, ac rwy'n dyfynnu,

'yn anghydlynol, yn anghynaladwy a bydd yn niweidio busnesau, swyddi a symudedd yng Nghymru gan fethu mynd i'r afael â newid hinsawdd.'

Dywedodd Logistics UK fod y diwydiant logisteg yn dibynnu ar waith ffordd effeithlon i gyflenwi i'r wlad yr holl nwyddau sydd eu hangen ar ein heconomi i weithredu, a bod rhewi pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd, mewn gwirionedd, yn gam yn ôl. Beirniadodd hyd yn oed yr AS Llafur—nid Ceidwadwr, yr AS Llafur—dros Alun a Glannau Dyfrdwy y penderfyniad i ganslo'r ffordd yn sir y Fflint, a fyddai’n lleihau llygredd aer i’w etholwyr sy’n byw yn Aston a Shotton. Felly, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn derbyn bod symud nwyddau'n effeithlon ac yn gosteffeithiol yn hollbwysig i’r economi, a bod eich dull gweithredu gwrth-ffyrdd, yr ydym wedi’i weld dro ar ôl tro, o fynd i’r afael â'r newid hinsawdd wedi dyddio wrth inni symud i sbectrwm o gerbydau newydd, glanach a gwyrddach?

13:45

Rwy’n sylweddoli y bydd yr Aelod wedi ysgrifennu hynny cyn iddi gael cyfle i wrando ar yr hyn a ddywedais a’r her a roddais iddi. Nid wyf yn derbyn cynsail ei phwynt. Mae symud nwyddau a phobl yn amlwg yn hollbwysig. Nid yw hynny’n bosibl ar hyn o bryd gan fod gennym dagfeydd. Nid ydych yn datrys tagfeydd drwy adeiladu mwy o ffyrdd. Mae digon o dystiolaeth ryngwladol yn dangos, os byddwch yn adeiladu mwy o gapasiti ffyrdd, eich bod yn annog mwy o draffig, sy'n arwain at fwy o dagfeydd ac yna at fwy o alw am adeiladu ffyrdd. Ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers dros 50 mlynedd. Maent yn ysgwyd eu pennau, ond hoffwn weld y dystiolaeth sydd ganddynt i wrth-ddweud yr hyn yr wyf newydd ei ddweud. Mae’r ymchwil academaidd ar hynny'n gwbl glir. Ac os gallwn dynnu traffig nad oes angen iddo fod yno oddi ar y ffyrdd, mae hynny, mewn gwirionedd, yn gwneud mwy o le ar gyfer y sector cludo nwyddau.

Rydym yn amlwg am weld cludiant nwyddau'n symud oddi ar ffyrdd ac ar y rheilffyrdd lle bo modd, ond mae methiant y Llywodraeth Geidwadol i fuddsoddi’n ddigonol yn y rheilffyrdd yng Nghymru, lle rydym £5 biliwn yn brin o fuddsoddiad—sydd, unwaith eto, pe baent yn ddiffuant yn eu safbwyntiau, yn rhywbeth y byddent yn ei gydnabod—wedi llesteirio ein gallu i newid dulliau teithio oddi ar y ffordd ac ar y rheilffyrdd mewn perthynas â chludiant nwyddau. Ond nid yw'n wir fod gennym ffyrdd annigonol ar hyn o bryd. Yr hyn nad ydym wedi bod yn ei wneud yw buddsoddi’n ddigonol mewn cynnal a chadw ffyrdd presennol. Ac un o amcanion yr adolygiad ffyrdd yw edrych ar sut y gallem symud buddsoddiad oddi wrth adeiladu ffyrdd newydd i ofalu am y rhai sydd gennym, ac wrth inni wneud hynny, hybu newid mewn dulliau teithio.

Dywedaf eto wrth yr Aelod ar y meinciau gyferbyn, rydych wedi ymrwymo i sero net erbyn 2050, daw 17 y cant o allyriadau o drafnidiaeth—sut y bwriadwch dorri'r allyriadau hynny er mwyn inni gyflawni ein targedau? Arhosaf i glywed eich ateb.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Yn gyntaf, byddwn yn gwella pethau drwy ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan, rhywbeth yr wyf wedi sefyll yma dro ar ôl tro yn gofyn amdanynt ledled Cymru, sef yr hyn yr ydym yn gyfrifol amdano yma, Ddirprwy Weinidog. Y ffaith syml yw bod eich Llywodraeth wedi methu darparu’r seilwaith ffyrdd y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu. Nid ydym yn byw ar adeg lle rydym yn teithio gyda cheffylau a cherti. Nid Little House on the Prairie mo hyn; rydym yng Nghymru yn 2022. Mae gosod terfyn cyflymder o 20 mya yn amhoblogaidd ac yn wrthgynhyrchiol. Mae mwy na 1,600 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am bleidlais gyhoeddus ar y newid hwn—galwad sy’n cael ei hystyried ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Deisebau. Ac mae Cyngor Sir Fynwy eisoes wedi cadarnhau y bydd dwy ardal yng Nghil-y-coed yn dychwelyd i 30 mya wedi i dagfeydd waethygu. I roi halen ar y briw, mae eich strategaeth drafnidiaeth yn bwriadu cyflwyno tollau ffyrdd a thaliadau atal tagfeydd. Felly, Ddirprwy Weinidog, mae ceir yng Nghymru yn angenrheidiol am fod trafnidiaeth gyhoeddus yma yn annibynadwy, yn anghyfleus, ac mewn llawer o fannau, heb fod yn bodoli, diolch i 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru. Ond fy nghwestiwn yw: pryd y byddwch yn rhoi'r gorau i geisio gorfodi gyrwyr oddi ar y ffordd ac yn rhoi'r gorau i gosbi modurwyr oherwydd eich methiant chi?

Nid wyf yn siŵr sut mae rhoi ochenaid yn y Cofnod, Lywydd, ond efallai—

Ardderchog. Os felly, fe lwyddais.

Nid wyf yn gwybod ble i ddechrau, a dweud y gwir. Yn gyntaf oll, nid yw terfynau cyflymder 20 mya yn orfodol. Cytunodd y Senedd drwy fwyafrif llethol ar ddechrau’r haf i newid y terfyn cyflymder diofyn. Mae gwneud eithriadau i hynny o fewn gallu awdurdodau priffyrdd lleol yn llwyr. A chyda llaw, dim ond gyda chefnogaeth Aelodau Ceidwadol yn y Senedd y digwyddodd y broses honno. Aelodau Ceidwadol a bleidleisiodd i sefydlu’r broses o greu tasglu ar gyfer 20 mya; Aelodau Ceidwadol yn y Senedd ddiwethaf a bleidleisiodd i gyflwyno’r polisi hwn. Mae llun yn mynd o gwmpas o Andrew R.T. Davies gyda Rod King ar—[Torri ar draws.] Mae Natasha Asghar bellach yn ymbellhau oddi wrth arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, ond yn amlwg, ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am gefnogaeth Aelodau Ceidwadol. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â hynny, ac mae’r Senedd hon wedi pleidleisio’n ddemocrataidd i fwrw ymlaen â hynny, gan roi’r grym llawn i awdurdodau lleol osod eu terfynau cyflymder eu hunain o dan y meini prawf ar gyfer eithriadau. Felly, mae hynny, yn syml, yn anghywir ac yn gyfeiliornus ac yn gamarweiniol ac yn anonest.

O ran cerbydau trydan, wrth gwrs, rydym am i bobl newid i gerbydau trydan. Rwyf i wedi newid i gar trydan ac mae'n rhaid dweud, mae'n brofiad dymunol. Ond mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud yn glir iawn: nid ydym yn mynd i gyflawni sero net drwy newid i gerbydau trydan. Unwaith eto, mae hwnnw’n bwynt anghywir arall nad yw’n seiliedig ar ffaith na thystiolaeth. A gwn fod areithiau’r Aelod yn aml yn barthau di-ffaith, ond mae angen iddynt gael rhywfaint o gysylltiad â realiti. Mae’n amlwg fod angen inni leihau nifer y teithiau a wnawn, ac mae gennym darged o ostyngiad o 10 y cant mewn teithiau ceir. O’r teithiau yr ydym yn eu gwneud, mae angen inni wneud mwy ohonynt ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac o’r teithiau na ellir ond eu gwneud mewn car—ac mae nifer fach o deithiau na ellir ond eu gwneud mewn car—rydym am iddynt gael eu gwneud cyn gynted â phosibl mewn cerbydau trydan. Rwy’n canmol Llywodraeth y DU am osod targed uchelgeisiol i wahardd gwerthu cerbydau petrol erbyn diwedd y degawd. Roedd yn gam beiddgar ac arloesol ganddynt, ac rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Ond ofnaf unwaith eto nad yw meinciau'r Ceidwadwyr yn fodlon dilyn y dystiolaeth ar gadw at eu hymrwymiad i gyflawni sero net. Gofynnaf eto: os ydych yn gwrthwynebu pob un dim a gyhoeddwn, beth sydd gennych i'w gynnig yn lle hynny?

13:50

Diolch, Lywydd. Hoffwn innau roi fy nymuniadau gorau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd a gobeithio y caiff wellhad buan.

Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed allyriadau sero net erbyn 2050, a thrwy ein cytundeb cydweithio, mae'n archwilio cyngor a allai ddod â hyn ymlaen, o bosibl, i 2050. Yr argyfyngau hinsawdd a natur, wedi’u cydblethu fel y maent, yw’r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein gwlad, ein byd. Felly, mae cyflawni sero net cyn gynted â phosibl yn hanfodol. Ar ddydd Iau 8 Medi, nododd Liz Truss ymateb Llywodraeth y DU i brisiau ynni uchel, gan gynnwys cyflymu'r broses o roi trwyddedau olew a nwy newydd a chodi’r gwaharddiad ar ffracio. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes sydd newydd ei benodi, Jacob Rees-Mogg, wedi nodi ei amheuaeth ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd yn glir. Mae’n fuddsoddwr mewn mwyngloddio olew a glo drwy Somerset Capital Management, ac mae wedi datgan yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae angen inni fod yn meddwl am fanteisio ar bob modfedd giwbig o nwy o Fôr y Gogledd'.

Byddai hyn yn drychinebus i'r hinsawdd ac yn tanseilio ymdrechion i gyflawni sero net yn sylweddol. Felly Weinidog, hoffwn wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael, neu'n bwriadu eu cael, gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd goblygiadau eu polisïau ynni newydd yn effeithio ar ein cynlluniau sero net yng Nghymru.

Rhannaf yr anghrediniaeth y credaf eich bod yn ei mynegi, a'r rhwystredigaeth gyda'r cyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, ac yn amlwg, eu hobsesiwn â thanwydd ffosil. Yn fy marn i, mae’n ddigalon iawn gweld pa mor bell yn ôl y maent yn dymuno mynd. Fel y clywsoch y Prif Weinidog yn dweud yn glir iawn ddoe, ni fydd unrhyw ffracio yma yng Nghymru, a chredaf y bydd mainc Plaid Cymru yn rhannu hynny, yn falch o hynny. Credaf ei bod mor siomedig ac mor rhwystredig nad yw Llywodraeth y DU yn rhannu ein huchelgais. Fel y dywedoch chi, rydym yn gobeithio cyflawni sero net erbyn 2050, a chyda'r cytundeb cydweithio—. Credaf mai 2035 roeddech chi'n ei feddwl, ond fel y dywedwch, rydym yn archwilio hynny ar hyn o bryd. Y peth yw, ac mae hyn yn realiti go iawn, ni all y DU gyflawni ei thargedau heb ein cymorth ni, ond ni allwn ninnau yng Nghymru gyflawni ein targed ychwaith heb i Lywodraeth y DU ein helpu a chwarae ei rhan—ei rhan deg, credaf ei bod yn deg dweud—yma yng Nghymru.

Diolch, Weinidog. Mae'r ail gwestiwn a'r olaf yr hoffwn ei ofyn yn ymwneud â mater arall—grymuso cymunedau. Mae'n ymwneud â sawl portffolio, gan gynnwys newid hinsawdd yn ogystal â materion gwledig. Ond gan ganolbwyntio ar y portffolio hwn, gwelwyd dicter cymunedol yn Llanbradach yn ddiweddar ar ôl i gwmni preifat ddinistrio coetir clychau’r gog hardd a oedd yn bwysig i lawer o bobl. Nid oedd y cwmni wedi cael caniatâd cynllunio, a gwnaethant addo adfer y safle ar ôl i gannoedd o bobl brotestio, a diolch byth eu bod wedi gwneud hynny. Er bod y dinistr yn mynd yn groes i'r rheoliadau presennol, gellid bod wedi ei atal pe bai'r safle wedi bod mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar yn dadlau o blaid pasio Bil grymuso cymunedau, a fyddai’n galluogi cymunedau i berchnogi asedau lleol yr ystyrir eu bod yn bwysig. Dywed yr adroddiad mai Cymru sydd â'r nifer lleiaf o hawliau statudol ym Mhrydain mewn perthynas â thir. Yn amlwg, gallai lleisiau cymunedol fod, a byddwn yn dadlau y dylent fod, yn llawer cryfach hefyd. A wnewch chi ddweud wrthyf beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyflwyno deddfwriaeth i rymuso cymunedau fel y gall lleoedd fel Llanbradach a ledled Cymru sicrhau bod yr asedau cymunedol gwerthfawr hyn yn cael eu diogelu, os gwelwch yn dda?

Diolch. Nid wyf yn ymwybodol fod y Gweinidog yn edrych ar unrhyw beth. Byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati. Ond credaf fod y pwynt a godwch yn bwysig iawn. Os edrychwch ar broses y cynlluniau datblygu lleol, er enghraifft, mae'n dryloyw iawn, ac mae angen iddi gael yr ymwneud cymunedol hwnnw. Byddwn yn disgwyl y byddai’r Gweinidog yn awyddus iawn i gynyddu cyfranogiad y gymuned. I ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf ynglŷn â'r argyfwng natur, y peth olaf y byddem yn dymuno'i weld yw ardal fel yr un a ddisgrifiwch yn cael ei dinistrio.

Datblygiadau Cynhyrchu Ynni Newydd

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod lleisiau cymunedau'n cael eu clywed mewn perthynas â datblygiadau cynhyrchu ynni newydd? OQ58393

Mae ymgysylltu ac ymgynghori'n hollbwysig i'r broses gynllunio, ac mae cyfleoedd i gymunedau fynegi eu barn ar gynlluniau ynni'n hanfodol i'r gwaith o baratoi cynlluniau datblygu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio.

Mae canllawiau cynllunio hefyd yn hollbwysig o ran ymgysylltu. O ystyried y ffaith bod 'Cymru’r Dyfodol' wedi gosod uchelgais ar gyfer adeiladu nifer sylweddol o ffermydd gwynt ychwanegol ar y tir ledled y wlad, mae llawer o gymunedau bellach yn pryderu am yr effeithiau posibl arnynt, ac yn wir, mae llawer o fusnesau'n pryderu am yr effeithiau posibl arnynt hwythau hefyd. Un ardal o’r fath yw’r ardal yng ngogledd fy etholaeth rhwng Betws-yn-Rhos a Moelfre ac mor bell i lawr â Llanfair Talhaearn, lle mae cynnig yn cael ei gyflwyno gan gwmni ffermydd gwynt ar gyfer tyrbinau hyd at 250m o uchder, a allai fod yn agos iawn at gartrefi pobl. O ystyried nad oes canllawiau clir gan Lywodraeth Cymru ar lefelau derbyniol o sŵn, pellter tyrbinau oddi wrth eiddo a maint tyrbinau gwynt ar y tir, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu’r canllawiau sydd ar gael i ddatblygwyr, fel y gall cymunedau lleol ddwyn datblygwyr i gyfrif drwy'r broses gynllunio a allai ddilyn yn awr?

13:55

Deallaf fod pryderon yn aml yn codi pan fydd gennych brosiectau seilwaith mawr. Cofiaf yr honiadau a wnaed pan oedd Gwynt y Môr yn cael ei ddatblygu, gan bobl yn Llandudno a oedd yn honni y byddai ymwelwyr yn cadw draw o’r cyrchfan i dwristiaid, rhywbeth sy’n amlwg wedi cael ei wrthbrofi. Felly, dylem nodi bod rhai pobl yn bryderus. Mae pobl hefyd sy’n gefnogol iawn i ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn ystod yr argyfwng ynni sy’n ein hwynebu, gan mai ynni gwynt yw'r hawsaf i’w roi ar waith a’r rhataf i’w gomisiynu. Felly, yn sicr, ni ddylem droi cefn ar ynni gwynt.

Fel y dywedwch, yn gwbl gywir, rydym wedi nodi ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer ynni gwynt sy’n sefydlu rhagdybiaeth o blaid datblygiad ynni gwynt ar raddfa fawr. Nid yw hynny, fodd bynnag, yn rhoi rhwydd hynt i ddatblygwyr adeiladu yno fel y mynnont; mae'n rhaid iddynt basio cyfres o wiriadau a nodir ym mholisi 18 yn 'Cymru'r Dyfodol', sy'n cynnwys sŵn. Felly, mae meini prawf manwl wedi'u rhestru yno lle mae'n rhaid iddynt basio'r prawf. Bydd ein swyddogion yn sicrhau bod y cynigion cael eu harchwilio'n fanwl, ond nid oes dianc rhag y ffaith bod angen inni weld llawer mwy o ynni gwynt yn cael ei roi ar waith yn gyflym os ydym am ddiwallu ein hangen i ddiogelu ffynonellau ynni, ond hefyd ein hangen i ddod yn garbon niwtral.

Dyw Huw Irranca-Davies ddim yma i ofyn cwestiwn 5 [OQ58376], felly cwestiwn 6, Peter Fox. 

Gwella Diogelwch Dŵr

6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch dŵr yng Nghymru? OQ58387

Diolch. Mae ein hadnoddau naturiol dan bwysau o ganlyniad i newid hinsawdd, tywydd eithafol a thwf y boblogaeth. Bydd ymagwedd fwy integredig a chynaliadwy tuag at y ffordd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau dŵr yn ein galluogi i wneud y mwyaf o fuddion economaidd a chymdeithasol mewn ffordd deg, gan ddiogelu ecosystemau hanfodol a'r amgylchedd ar yr un pryd.

Diolch, Weinidog. Gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon fod yr haf hwn wedi bod yn eithriadol o boeth a sych am gyfnod hir o amser; yn wir, mae’n debygol mai mis Mawrth i fis Awst eleni fydd y cyfnod o chwe mis sychaf ond dau ers i gofnodion ddechrau ym 1865. Er gwaethaf cynnydd diweddar mewn glawiad, cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynharach y mis hwn fod pob rhan o Gymru wedi newid i statws sychder. Yn amlwg, mae hyn yn peri pryder i bobl ledled y wlad y bydd angen cyflenwad dŵr dibynadwy arnynt ar gyfer gweithgarwch sylfaenol o ddydd i ddydd. Mae’r diffyg glawiad wedi rhoi mwy fyth o bwysau ar y sector amaethyddol ar adeg sydd eisoes yn anodd, gan gynyddu costau bwyd ymhellach o bosibl. Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth y DU, Dŵr Cymru a CNC i sicrhau gwell cyflenwadau dŵr yng Nghymru, a pha ystyriaethau a roddir gennych i gyrchu cyflenwadau dŵr ychwanegol? Rhoddaf enghraifft i chi yn fy etholaeth i, lle mae’r dŵr sy’n cael ei bwmpio allan o dwnnel Hafren—y ffynnon anferth, oddeutu 11 miliwn o alwyni y dydd—yn cael ei arllwys i aber afon Hafren. Mae rhywfaint o’r dŵr hwnnw eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fragdy lleol, roedd rhywfaint yn arfer cael ei ddefnyddio gan yr hen felin bapur, ond mae yna 11 miliwn o alwyni y dydd, a gallai hwnnw fod yn ddŵr perffaith y gellid ei gyfeirio a’i dwnelu i mewn i gronfeydd dŵr lleol, neu beth bynnag. Mae'n enghraifft o sut y gallem wneud mwy yn yr oes hon o newid mawr.

Diolch. Mae’r Aelod yn llygad ei le; rydym mewn statws sychder ledled Cymru, ac yn sicr, rydym wedi gweld tywydd sych am gyfnod hir eleni. Credaf, unwaith eto, fod hyn yn adlewyrchu’r heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Credaf mai un o'r pethau cyntaf y byddwn yn eu dweud yw ei bod yn bwysig iawn ein bod oll, pob un ohonom—pob aelod o'r cyhoedd, pob busnes—yn defnyddio dŵr yn ddoeth, a'n bod yn parhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth, nid yn unig tra byddwn mewn statws sychder, ond drwy'r amser, ac yn rheoli'r adnodd gwerthfawr hwn ar yr adeg hon. Daeth Llywodraeth Cymru â grŵp cyswllt sychder ynghyd—cafodd ei gynnull, yn ôl pob tebyg, ddechrau mis Awst, rwy'n credu. Mae'n parhau i gyfarfod yn wythnosol, gan ddod â’r holl randdeiliaid o bob rhan o Gymru ynghyd i helpu i lywio’r cyfeiriad a chytuno ar y camau gweithredu sydd eu hangen arnom i ddiogelu adnoddau dŵr Cymru. Mae timau sychder CNC ledled Cymru yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd, ac yn sicr, o’m portffolio i, o safbwynt amaethyddol, mae fy swyddogion yn parhau i gyfarfod â hwy hefyd. Mae llawer o fonitro ecolegol yn mynd rhagddo. Maent yn ymateb i ddigwyddiadau'n gyflym iawn.

Ar y pwynt a godwch ynglŷn â thwnnel Hafren, rwy'n ymwybodol o hynny. Credaf fod rhai trafodaethau pellach wedi bod, neu credaf fod y Gweinidog yn bwriadu, efallai, cael trafodaethau pellach—gwn fod rhai wedi bod yn y gorffennol—rhwng y cwmnïau dŵr a Network Rail i weld beth y gellid ei wneud, efallai'r posibilrwydd o drosglwyddo'r dŵr a bwmpiwyd o'r twnnel, er enghraifft, i'r prif seilwaith cyflenwi. Ni chredaf fod unrhyw ddatblygiadau diweddar wedi bod, ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod y Gweinidog yn edrych i weld beth arall y gellir ei wneud.

14:00
Rhewi Rhenti ac Atal Troi Allan

7. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i rewi rhenti ac atal troi allan er mwyn helpu tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw? OQ58395

Diolch. Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi cyhoeddi £380 miliwn o gyllid i helpu aelwydydd Cymru i reoli'r argyfwng costau byw. Ar 1 Rhagfyr eleni, bydd y gyfraith yn newid er mwyn darparu mwy o ddiogelwch a hawliau cliriach i denantiaid yng Nghymru.

Iawn, diolch. Yn gynharach yn y mis, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban i rewi rhenti ac atal troi allan i helpu tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw. Eleni, yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd uchaf yng nghost rhentu y tu allan i Lundain, gyda chynnydd syfrdanol o hyd at 13.9 y cant ar gyfartaledd mewn rhenti. Daw hyn ochr yn ochr â chynnydd ym mhrisiau tanwydd, ynni a bwyd, sy'n taro pobl ledled Cymru. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y gallai Llywodraeth Cymru weithredu cyn gynted â phosibl i sicrhau nad effeithir ymhellach ar denantiaid drwy droi allan a chodi rhenti? Rwy'n deall bod rhent tai cymdeithasol yn cael ei osod yn flynyddol, a byddai'n dda pe bai modd gwneud rhywbeth o leiaf tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i'w helpu drwy'r gaeaf, yn union fel y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud.

Diolch. Rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog yn deall y galwadau am weithredu brys ar reoli rhenti. Ond rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol nad yw unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau'n arwain at leihau'r sector rhentu preifat na chynnydd posibl mewn digartrefedd. Yn amlwg, rwy'n credu bod rhaid osgoi canlyniadau anfwriadol.

Mae'r Gweinidog wedi gofyn am gyflawni gwaith ymchwil, oherwydd rwy'n credu eich bod angen y sylfaen dystiolaeth gryfach honno cyn i chi gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Felly, comisiynwyd yr ymchwil honno i sicrhau bod ganddi sylfaen dystiolaeth gadarn, er mwyn iddi allu deall yn llawn beth yw effaith bosibl unrhyw fesurau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar ddulliau newydd o osod rhenti fforddiadwy i bobl leol ar incwm lleol, a hawl i dai digonol, ac yn amlwg mae hynny'n rhan o'r cytundeb gyda Phlaid Cymru mewn perthynas â'r cytundeb cydweithio. Soniais ym mis Rhagfyr y byddai'r ddeddfwriaeth yn dod i rym a bydd y cyfnod rhybudd gofynnol ar gyfer troi allan heb fai ar gyfer tenantiaid newydd yn cael ei gynyddu i chwe mis, ac mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ymestyn y cyfnod rhybudd gofynnol i denantiaid presennol. Byddai hynny eto yn gwella diogelwch deiliadaeth.

Weinidog, er efallai fod y syniad o reoli rhenti ac atal troi allan yn ymddangos fel syniad da i helpu pobl, mae hanes yn dangos i ni nad yw'n ateb da i ddatrys y problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth Iwerddon fesurau rheoli rhenti, ac arweiniodd hynny at brinder tai, rhenti uwch oherwydd bylchau yn y gyfraith a landlordiaid yn tynnu eiddo oddi ar y farchnad. Y rheswm pam fod rhenti mor uchel yw oherwydd nad oes gennym ddigon o dai yma yng Nghymru. Mae angen blaenoriaethu adeiladu tai er mwyn cynyddu'r cyflenwad a lleihau'r galw. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, os cyflwynir mesurau rheoli rhenti, y byddwn o bosibl yn gweld cynnydd mewn digartrefedd a mwy o ddarpariaeth rhent yn cael ei rhoi ar y farchnad agored, wrth i landlordiaid adael y sector, gan ddwysáu'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd?

Wel, bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Carolyn Thomas fy mod yn credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn cael canlyniadau anfwriadol. Ac un o'r pethau a allai ddigwydd yn fy marn i yw y gallech weld niferoedd mawr o landlordiaid yn gadael y farchnad, ac y byddai hynny, felly, yn lleihau'r cyflenwad o eiddo, a allai arwain at gynyddu digartrefedd yn sylweddol. Mae yna ganlyniadau anfwriadol eraill yn bosibl hefyd. Os edrychwch ar dystiolaeth ryngwladol, fe welwch y gall mesurau rheoli rhent greu targed yn hytrach na chap, ac unwaith eto, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn osgoi hynny. Yn amlwg, blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw'r 20,000 o dai newydd i'r sector rhentu dros dymor y Llywodraeth.

14:05
Diogelu Coetiroedd Hynafol

8. Pa bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd ar waith i ddiogelu coetiroedd hynafol? OQ58392

Diolch. Mae ein polisïau cynllunio yn gosod fframwaith cryf ar gyfer gwarchod coed, gan gynnwys coetiroedd hynafol. Rydym yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 i ddarparu gwell amddiffyniad i'r amgylchedd a dull mwy effeithiol o atal torri coed yn anghyfreithlon. Bydd ein cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi cymorth i warchod a rheoli coetiroedd hynafol. 

Diolch am yr ateb hwnnw. Cafodd y mater yr wyf am ei godi ei grybwyll yng nghwestiynau'r llefarwyr. Mae bob amser yn dda gweld llefarwyr ar ran y pleidiau yn cymryd rhan, ni waeth pa mor fach, yng ngwaith Aelodau a etholir yn uniongyrchol. Dros yr haf, dychrynodd trigolion Llanbradach yn fy etholaeth wrth weld bod contractwyr wedi dechrau cloddio tir ar safle a elwir yn goedwig clychau'r gog yn lleol. Bu'r ardal hon yn bwysig iawn i'r gymuned leol ers cenedlaethau ac mae'n dal i fod yn bwysig i lawer o bobl. Dechreuodd y gwaith cloddio heb ganiatâd cynllunio, ac yn dilyn ymgyrchu cymunedol cafodd ei atal ar orchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fodd bynnag, mae trigolion yn ofni y gallai'r gwaith ddechrau eto ar unrhyw adeg os na cheir digon o amddiffyniadau ar waith, yn enwedig gan fod y tir mewn dwylo preifat. A wnaiff y Gweinidog roi gwybod felly pa opsiynau sydd ar gael i'r gymuned leol i geisio sicrhau bod y goedwig yn cael ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Diolch. Gwn fod pryder ar draws y gymuned yn Llanbradach a Chaerffili ynglŷn â dinistrio coetir clychau'r gog, ac roedd gweld rhai o'r lluniau'n peri gofid. Yn fy marn i, y peth mwyaf cadarnhaol ynglŷn â hyn yw'r ffaith bod yr ymateb cymunedol mor gryf, gan eu bod yn deall gwerth bioamrywiaeth i'w hardal. Rwy'n meddwl bod gennym dipyn o ffordd i fynd i wneud yn siŵr fod datblygwyr hefyd yn deall y gwerth.

Rwy'n credu bod ein fframwaith polisi yn gryf; mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi'n glir y dylai awdurdodau cynllunio ddiogelu coetiroedd hynafol, coetiroedd lled-naturiol, a hen goed unigol a choed hynafol. Mae cyngor sefydlog CNC i'r awdurdodau hefyd yn ei gwneud hi'n glir y dylid gwrthod caniatâd cynllunio os byddai'r datblygiad yn arwain at golli neu ddirywiad coetir hynafol, oni bai bod rhesymau cwbl eithriadol. Yn yr achos hwn, rwy'n credu bod camau wedi'u cymryd i glirio'r tir cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio, ac mae camau gorfodi ar y gweill gan yr awdurdod lleol. Felly, rwy'n credu y dylwn dalu teyrnged i arweinydd ac aelod cabinet cyngor Caerffili a'r cyngor cymuned am weithredu cryf pan ddaethant yn ymwybodol fod y dinistr hwn wedi digwydd. Gall y gymuned ofyn am wneud gorchmynion cadw coed ar goed y maent yn eu hystyried yn werthfawr, ond rwy'n credu bod hon yn enghraifft o ble mae'n bwysig ein bod i gyd yn dod at ein gilydd i wneud yn siŵr fod camau llym yn cael eu rhoi ar waith yn sgil unrhyw dramgwyddo, a'n bod yn gwella lefel ein gwerthfawrogiad o goetiroedd hynafol fel na cheir gweithredu o'r fath yn y lle cyntaf.

Hoffwn yn fawr gael help Llywodraeth Cymru i warchod y coetir hynafol ym mharc arfordirol Penrhos yng Nghaergybi. Cafwyd caniatâd tua degawd yn ôl i adeiladu parc gwyliau yno; nid wyf yn credu y dylid bod wedi rhoi caniatâd bryd hynny, ac yn sicr bellach, yng nghyd-destun ein dealltwriaeth newydd o ddyfnder yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth a gwerthfawrogiad o fannau cyhoeddus gwyrdd, mae'n sicr yn teimlo'n anghywir. Nawr, hoffwn longyfarch y Gweinidog materion gwledig ar ei rôl estynedig, sy'n cynnwys, ac rwy'n dyfynnu: ansawdd yr amgylchedd lleol; diogelu a rheoli bywyd gwyllt; rhandiroedd a seilwaith gwyrdd trefol; mannau gwyrdd cymunedol; mynediad at gefn gwlad; arfordiroedd; hawliau tramwy; ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Mae'n swnio fel disgrifiad o weinidog ar gyfer Penrhos. Felly, Ddirprwy Weinidog—byddai'n haws pe bawn i'n gofyn y cwestiwn hwn i'r Gweinidog ei hun—ond sut y gallwch chi weithio gyda hi i wneud yn siŵr fod modd gwarchod y coetir hynafol hwn, yr unig goetir o'i fath ger Caergybi?

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n anodd pan fo awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio, ac fel y dywedoch chi, roedd hyn beth amser yn ôl. O ystyried y fframwaith polisi a nodwyd gennyf, hoffwn feddwl na fyddai hynny'n digwydd pe bai caniatâd cynllunio yn cael ei roi o'r newydd heddiw. Mae'r hyn y gallwn ei wneud yn ôl-weithredol yn amlwg yn gwestiwn mwy cymhleth, ac yn sicr yn un y byddwn yn ei annog ef i'w drafod gyda'i gyngor ei hun ar Ynys Môn. Ac yn sicr fe fyddem yn agored i gael sgwrs. Mae'r rhain yn benderfyniadau dyrys, onid ydynt? Ond rwy'n credu mai'r broblem sy'n ein hwynebu i gyd yw y gall datblygwyr yn aml wneud dadleuon eithriadol mewn achosion penodol, ond mae'r effaith gronnus yn un sylweddol, ac rydym yn wynebu nid yn unig argyfwng hinsawdd ond argyfwng natur hefyd. O ran penderfyniadau unigol, mae'r rhain yn aml yn gymhleth ac weithiau'n ddyrys. Felly, mae arnaf ofn nad oes gennyf ateb rhwydd iddo heddiw, heblaw fy mod yn credu ei fod yn nodi cyfres o bwyntiau rhesymol y mae angen inni eu hystyried gyda'r awdurdod lleol i weld beth yw'r opsiynau posibl.

14:10
Help i Denantiaid

9. Pa gamau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i helpu tenantiaid yn ystod yr argyfwng costau byw presennol? OQ58408

Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi cyhoeddi cyllid o £380 miliwn i helpu aelwydydd Cymru i reoli'r argyfwng costau byw. Mae Cynllun Lesio Cymru yn gwella mynediad at dai yn y sector rhentu preifat fforddiadwy mwy hirdymor. Mae cronfa atal digartrefedd ychwanegol gwerth £6 miliwn wedi cael ei darparu i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gynnal tenantiaethau pobl ac osgoi digartrefedd.

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am gamu i mewn, munud olaf. Gaf i innau estyn fy nymuniadau gorau i'r Gweinidog am wellhad buan hefyd?

Mae tenantiaid a chymdeithasau tai fel ei gilydd yn hynod o bryderus am y misoedd nesaf ac yn ei chael hi'n anodd i flaengynllunio ac i gyllido heb fod ganddynt sicrwydd o beth fydd cyfraddau budd-daliadau. Mae'r synau mae'r Prif Weinidog newydd, Liz Truss, wedi eu gwneud dros yr haf yn sôn am dorri i lawr ar fudd-daliadau, ac mae hynny yn hynod o bryderus, yn enwedig gan fod rhenti yn cael eu talu drwy'r system credit cynhwysol, ac wrth gwrs mae'r LHA wedi cael ei rhewi ers 2020. Pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael efo'r ysgrifennydd newydd dros waith a phensiynau yn Llundain? Ac a ydych chi wedi dwyn pwysau arni hi a'r Prif Weinidog newydd i sicrhau bod lefelau budd-daliadau yn cynyddu er mwyn cyfarch y cynnydd yn y costau byw, yn enwedig rhenti, a'u bod nhw hefyd yn cynyddu lefelau y lwfans tai lleol?

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU mewn perthynas â llawer o'r materion a grybwyllwch. Fe fyddwch yn deall nad yw'r Llywodraeth newydd sy'n dod i mewn wedi cael—. Yn sicr nid ydynt wedi cael mis mêl. Mae wedi bod yn gyfnod anodd ar gyfer ymgysylltu â Gweinidogion newydd, felly nid wyf yn ymwybodol o unrhyw sgyrsiau penodol sydd wedi digwydd.

Cyfeiriais o'r blaen at y gronfa atal digartrefedd, a bod y £6 miliwn a gyflwynodd Llywodraeth Cymru wedi'i fwriadu ar gyfer llenwi bwlch a adawodd Llywodraeth y DU gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb a gyflwynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ac er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i helpu pobl yn yr argyfwng costau byw digynsail, mae'n rhaid inni gydnabod na allwn lenwi pob bwlch. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cael trafodaethau gyda'i swyddog cyfatebol newydd pan fydd yn dychwelyd i'r gwaith.

Gwaith Deuoli'r A465

10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion y mae gwaith deuoli'r A465 yn ardal Hirwaun wedi effeithio arnynt? OQ58407

Trafnidiaeth Cymru yw'r awdurdod dros dro sy'n gyfrifol ar ran Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y contractwr yn cyflawni eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau i drigolion Hirwaun a'r rhai yr effeithir arnynt yn yr ardal. 

Diolch, Dirprwy Weinidog. Ar 8 Awst, fe fynychais gyfarfod cyhoeddus yn Hirwaun wedi'i drefnu gan gynghorwyr lleol, Karen Morgan ac Adam Rogers. Roedd yn glir bod y gwaith yn cael effaith mawr ar unigolion a busnesau, ac er bod cydnabyddiaeth o'r effaith gan Future Valleys Construction a chyngor Rhondda Cynon Taf, roedd yn amlwg nad oedd datrysiadau tymor byr i'r problemau a godwyd, gan gynnwys pryderon mawr o ran diogelwch yn sgil cynnydd mewn damweiniau yn yr ardal oherwydd y gwaith. Gaf i wahodd y Dirprwy Weinidog i ymweld â'r ardal a chwrdd â chynghorwyr lleol a thrigolion i weld effaith y gwaith—gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth—a gweithio gyda Future Valleys Construction, trwy Trafnidiaeth i Gymru, i ganfod datrysiadau brys cyn bod rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol neu ei ladd mewn damwain, a chyn i fusnesau yn yr ardal fynd i'r wal oherwydd effaith y gwaith ar eu busnesau?

Wel, rwy'n cydnabod yn llwyr fod cynlluniau ffyrdd mawr fel hyn yn aflonyddgar. Maent yn swnllyd. Maent yn achosi niwed i'r amgylchedd. Maent yn creu allyriadau sylweddol. Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod yn adolygu ein hymagwedd tuag at adeiladu ffyrdd. Os caf nodi un pwynt a wnaeth Heledd Fychan am y ffordd a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, rwy'n meddwl mai Ieuan Wyn Jones a'i comisiynodd pan oedd yn Weinidog trafnidiaeth yn ystod y Llywodraeth glymblaid, felly nid wyf yn meddwl ei bod hi'n deg ichi wneud yr ensyniad a wnewch. Mae'n cael ei arwain, fel y gwyddoch, gan gonsortiwm, consortiwm Cymoedd y Dyfodol, ac maent yn ein sicrhau bod ganddynt gyfres gyfan o fesurau ar waith i gysylltu â'r gymuned leol, mae ganddynt ystod o weithgareddau ymgysylltu, mae ganddynt gyrhaeddiad mawr ar y cyfryngau cymdeithasol lle byddant yn hysbysu pobl pan fydd ffyrdd yn cael eu cau. Ceir swyddog allgymorth cymunedol gyda rôl i gyfarfod â thrigolion a chynghorwyr cymuned sydd â phryderon, a dyna'r lle cywir i leisio pryderon. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn cael atebion boddhaol, ar bob cyfrif cysylltwch â mi eto, ond dyna ddylai fod yn fan cychwyn. 

Fel y dywedais, mae angen inni feddwl yn galed iawn am y cynlluniau ffyrdd mawr, drud ac anodd hyn ac a yw parhau i wneud yr hyn yr ydym bob amser wedi'i wneud yn mynd i gynhyrchu'r canlyniad y mae pawb ohonom eisiau ei weld os ydym am gyflawni sero net ac os ydym am sicrhau llesiant yn ein cymunedau. 

14:15
2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg a ohiriwyd o 14 Medi. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. 

Cefnogaeth i Fyfyrwyr

1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi myfyrwyr sy'n gwneud cyrsiau prifysgol israddedig sy'n gymwys i gael cyllid y GIG? OQ58403

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i adolygu cynllun bwrsariaeth gwasanaeth iechyd gwladol Cymru. Rŷn ni'n cydnabod effaith costau byw cynyddol ar fyfyrwyr gofal iechyd proffesiynol ac rŷn ni'n ceisio nodi camau y gellir eu cymryd ar unwaith i roi cymorth ychwanegol iddyn nhw.

Wel, rŷch chi wedi ateb fy nghwestiwn nesaf i, rwy'n credu, a diolch ichi am hynny, oherwydd rôn i'n mynd i dynnu sylw at y ffaith bod etholwr sy'n dechrau gradd nyrsio oedolion eleni wedi cysylltu â mi yn esbonio y bydd yn derbyn £5,855 y flwyddyn i'w gynorthwyo â chostau byw. Wrth gwrs, mae costau llety hunanarlwyo i fyfyrwyr dros £6,000 yn ei achos ef, felly mae yna ddiffyg yna yn barod, heb sôn am roi bwyd ar y bwrdd. Ond beth roedd e'n ei ddweud oedd, wrth gwrs, pe bai e'n astudio cwrs arall neu'n penderfynu peidio â chymryd bwrsariaeth iechyd tuag at ffioedd y cwrs, yna mi fyddai fe'n gallu cael hyd at £10,700 y flwyddyn i dalu costau byw. Y cwestiwn roedd e am i fi ofyn oedd pam fo gymaint o wahaniaeth yn hynny o beth a beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r anghymelliad, neu'r disincentive, yna i rywun fod yn astudio cwrs i fod yn nyrs, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith bod yna ddiffyg yn y gweithlu. Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod yna adolygu yn digwydd, ond efallai y gallwch chi roi syniad inni o bryd bydd yna newid ar lawr gwlad. 

Mae rhai newidiadau wedi digwydd eisoes. Felly, mae HEIW eisoes wedi cynyddu'r lwfans sydd ar gael i fyfyrwyr ynglŷn â llety placements er enghraifft, a hefyd trafnidiaeth. Felly, mae rhai camau eisoes wedi cael eu cymryd. Rŷn ni wedi sefydlu bwrdd rhaglen bwrsariaethau a chymhellion er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu adnewyddu'r fwrsariaeth i sicrhau ei fod e yn creu cymhelliad, fel mae'r Aelod yn dweud. Byddan nhw'n edrych ar ystod eang o ffactorau, yn cynnwys y rhai mae e wedi sôn amdanyn nhw heddiw. 

Rwy'n credu bod yr un etholwr o bosibl wedi cysylltu â mi, er fy mod yn credu iddynt ein henwi'n unigol yn hytrach na gyda'n gilydd y tro hwn. Fe wnaethant esbonio nad oedd eu mab yn gymwys oherwydd bod incwm eu cartref ychydig dros y trothwy cymhwysedd ar gyfer bwrsariaeth GIG a asesir ar sail incwm. Roedd eisoes yn brin o £317 cyn ystyried treuliau bwyd, golchi dillad a theithio. Fe wnaethant dynnu sylw at y ffaith y byddai eu mab arall, nad oedd yn astudio ar gyfer cwrs nyrsio ond yn hytrach, ar gyfer cwrs amgen cyffredinol, £3,000 y flwyddyn yn well ei fyd ar yr arian y mae'n ei dderbyn yn awr drwy'r system sydd yn ei lle ar hyn o bryd. Felly, sut y byddech chi'n ateb cwestiwn olaf yr etholwr, i'r ddau ohonom, rwy'n credu: beth y gellid ei wneud i ddiwygio'r ffordd annheg y mae myfyrwyr nyrsio sy'n dechrau eu hastudiaethau y tymor hwn yn cael eu trin?

Wel, rwy'n cyfeirio Mark Isherwood at yr ateb a roddais eiliad yn ôl, ond rwyf am ddweud wrtho ef ac wrth Llyr Gruffydd, os hoffech chi ysgrifennu ataf ynglŷn â'r etholwr penodol, gallwn edrych ar hynny'n fwy manwl—oni bai eich bod wedi gwneud hynny eisoes; rwy'n sicr wedi cael peth gohebiaeth ar hyn. Ond byddwn yn hapus iawn i edrych yn fanylach ar hynny. 

Ariannu Ysgolion

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith yr argyfwng costau byw wrth ariannu ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OQ58402

Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi egluro, dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r grym ariannol sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael ag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.

14:20

Diolch, Weinidog. Ar ymweliad ag ysgolion yn fy rhanbarth ddechrau'r tymor, roedd y pennaeth yn sôn wrthyf i am ei phryder am wresogi a goleuo'r dosbarthiadau eleni; roedd hi wrthi fel lladd nadroedd yn trio diffodd pob switsh mewn golwg. Ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio bod cyllidebau ysgolion ar draws Cymru'n wynebu heriau enfawr yn sgil effaith chwyddiant a phrisiau ynni. Yn ôl arolwg gan y National Association of Head Teachers, mae 37 y cant o benaethiaid yn rhagweld bydd y costau hyn yn creu diffyg yn eu cyllidebau, a na fydd opsiwn heblaw ystyried diswyddiadau. Byddai hynny'n drychinebus ar adeg pan fo ein plant a'n pobl ifanc angen y gefnogaeth orau bosib yn sgil effaith y pandemig ar eu haddysg. Mae NAHT Cymru hefyd wedi rhybuddio am effaith niweidiol bosib os na fydd awdurdodau lleol yn darparu'r cyllid llawn ar gyfer codiadau cyflog athrawon, ond mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer hyn. Felly a fydd unrhyw gefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael ar gyfer ysgolion er mwyn ymdopi â'r holl heriau ariannol hyn?

O ran costau tâl y gweithlu, mae'r arian hwnnw eisoes wedi ei ddyrannu fel rhan o negodiadau yr RSG y llynedd. Dyna oedd y sail iddyn nhw gael eu cytuno. Rwy'n cytuno â beth mae Sioned Williams yn ei ddweud ynglŷn â'r pwysau sydd ar ein hysgolion ni oherwydd cynnydd mewn costau gwresogi a chostau eraill o ran chwyddiant ac ati. Fel mae'r Aelod yn gwybod o'r hyn rôn ni'n ei drafod yn y Senedd ddoe, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn prynu £600 miliwn yn llai o adnoddau ac o wasanaethau nag oedd hi ym mis Tachwedd diwethaf. Felly, mae galw ar y Prif Weinidog yn San Steffan a'r Canghellor i sicrhau ein bod ni'n cael arian i wneud i fyny am hynny, oherwydd dyna oedd pawb yn cytuno ar ddiwedd y llynedd oedd yr angen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dim ond gan y Llywodraeth yn San Steffan mae'r gallu a'r grym ariannol i allu gwneud yn iawn am hynny.

Does dim, yn anffodus, atebion syml yn y maes hwn. O ran cyllidebau ysgolion yn benodol—roedd yr Aelod yn sôn am waith y WLGA yn hyn o beth—rŷn ni yn gwybod, yn sgil y ffaith ein bod ni wedi parhau i ariannu ysgolion dros gyfnod COVID, er bod llai o ddarpariaeth wedi bod mewn amryw o ffyrdd gwahanol, fod yr arian wrth gefn sydd gan ysgolion yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol iawn dros y cyfnod hwnnw. Felly, rŷn ni yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod defnydd y ffynhonnell honno o arian hefyd yn cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth wrth edrych ar y sefyllfa heriol mae ysgolion yn ei wynebu.

Weinidog, rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau sy'n wynebu ein hysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd, a chanfu arolwg diweddar gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) fod athrawon yn darparu arian, bwyd a dillad i helpu plant a theuluoedd gyda phwysau costau byw. Dywedodd hefyd fod bron i saith o bob 10 athro wedi gweld bod llai o egni gan fwy o'u disgyblion a llai o allu i ganolbwyntio hefyd. Weinidog, o ystyried ei bod yn hysbys fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar les athrawon a disgyblion, pa gefnogaeth bellach y gellid ei darparu i athrawon, disgyblion a theuluoedd i'w helpu drwy'r cyfnod anodd a heriol hwn?

Wel, byddwn yn croesawu unrhyw gymorth y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w ddarparu ar ffurf cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi teuluoedd ledled Cymru. Rwy'n credu bod y methiant i fod yn glir am hynny yn bryder sylweddol i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae gennym ni, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, nifer o gynlluniau i gefnogi'r argyfwng costau byw go iawn y mae teuluoedd ledled Cymru yn ei wynebu, megis y grant datblygu disgyblion—mynediad, y rhaglen prydau ysgol am ddim yr oeddem yn ei thrafod yn y Senedd ddoe, y rhaglen gwella gwyliau'r haf, a llawer o bethau eraill yn wir.

Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi teuluoedd dan bwysau yng Nghymru mewn amgylchiadau anodd iawn er gwaethaf y pwysau y mae'r Aelod yn ymwybodol fod cyllideb Llywodraeth Cymru ei hun yn ei wynebu. Yr hyn sydd ei angen arnom yw partner yn San Steffan sy'n barod i gamu i'r adwy hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Weinidog, sefais yma yn ôl yn 2021 pan ddeuthum i'r Senedd hon am y tro cyntaf, y Senedd ddiwethaf, ac er fy mod ar y pwyllgor addysg, fe ddeuthum yn hwyr i'r adolygiad, ond fe wrandewais ar y dystiolaeth a chredu'r Llywodraeth pan ddywedasant eu bod eisiau newid addysg cydberthynas a rhywioldeb er gwell, rhywbeth yr oedd ei angen yn fawr. Fe nodais fy mhrofiad fy hun o addysg cydberthynas a rhywioldeb, a amlygodd, yn debyg i brofiad llawer o rai eraill, fod gwir angen newid yn y maes hwn. Cytunai pawb fod angen i'r hyn a gyflwynid fod yn ffeithiol, ac yn bwysicaf oll, yn briodol i oedran. Fe siaradais ar fater addysg cydberthynas a rhywioldeb o fewn wythnosau i ddychwelyd, ac yn ôl bryd hynny, fe ddywedais

'Roeddwn i'n amheus...ar y dechrau ac yn anghyfforddus â'r syniad bod fy mab 10 oed yn cael ei addysgu am gydberthynas a rhywioldeb ar y math hwnnw o lefel. Ond ar ôl clywed y dystiolaeth a gwrando ar bobl drwy gydol proses y pwyllgor o graffu ar hyn, rwyf bellach yn gyfforddus â'r hyn y byddai fy mab o bosibl yn cael ei addysgu yn ei gylch.'

Flynyddoedd ers hynny, mae'n ymddangos bod sail i fy mhryderon gwreiddiol. Yr hyn a welwn yw plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad â deunydd nad yw'n briodol i'w hoedran ac sydd eisoes yn cael effaith negyddol ar ein pobl ifanc. Efallai fod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhy hyblyg, Weinidog, yn rhy agored i wahanol ffyrdd o'i gyflwyno a'r ffocws arno gan ysgolion ledled Cymru. Weinidog, mae gennych gyfle i symleiddio'r canllawiau i warchod ac addysgu ein plant gyda ffeithiau a gwybodaeth sydd, fel y bwriadwyd iddynt ei wneud yn wreiddiol, yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar ein plant i lywio'u ffordd drwy gyfnod dryslyd a datblygu i fod yn oedolion a'r cyfan sy'n mynd gyda hynny. Onid ydych chi'n cytuno, Weinidog, fod y canllawiau'n rhy llac o bosibl, a hyd yma, nad ydynt yn sicrhau'r wybodaeth ddiogel, seiliedig ar ffeithiau a addawyd i'n pobl ifanc i sicrhau bod perthnasoedd boddhaus a diogel yn cael eu cyflwyno?

14:25

Mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg sy'n eu galluogi i ymdopi â'r byd lle'r ydym yn byw ac yn deall yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, heriau nad oeddwn i yn sicr yn eu hwynebu pan oeddwn i eu hoedran hwy, a dyna bwrpas ac effaith sylfaenol y cod a'r canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod dadl gyhoeddus wedi'i hysgogi gan nifer o bobl sy'n awyddus i rannu camwybodaeth mewn perthynas ag effaith y cod a'r canllawiau, a byddwn wedi gobeithio y gallai fod wedi gallu gwrthsefyll y demtasiwn i gefnogi'r gyfres gamarweiniol honno o honiadau.

Mae'r cod yn glir iawn, ac yn y ffordd y dywedodd hi yn ei chwestiwn, mae'n benodol iawn ynglŷn â'r cyfyngiadau a'r gofynion sy'n berthnasol i addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wahanol gamau datblygiadol. Hoffwn wahodd unrhyw Aelod, neu'n wir unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y maes, i ddarllen y cod ei hun, ac i beidio â chredu rhai o'r honiadau a wneir yn ei gylch. Mae'n destun sensitifrwydd mawr, ac nid wyf yn credu—. Mae'r Aelod yn honni bod hyn eisoes yn rhywbeth y mae hi'n poeni yn ei gylch. Pythefnos sydd wedi mynd heibio ers cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Felly, nid cynnyrch system addysg Cymru yw'r deunydd y mae rhai o'r grwpiau sy'n ceisio camliwio'r sefyllfa yn siarad amdano, ac rwy'n gobeithio y daw o hyd i ffordd o ymwrthod â'r honiadau hynny.

Weinidog, nid wyf yn cefnogi'r sylwadau hynny; rwy'n siarad fel rhiant fy hun i un sydd bron yn eu harddegau ac o'r hyn a glywais ar hyd a lled Cymru. Fel llawer o rieni ar hyd a lled Cymru, rwy'n teimlo siom enfawr hyd yma ynghylch yr hyn a glywaf sy'n cael ei gyflwyno ar lawr gwlad. Rwy'n ofni bod yr hyn sy'n digwydd yn cael yr effaith groes i'r hyn a fwriadwyd, ac roeddem i gyd eisiau'r un peth. Mewn gwirionedd, mae yna effaith andwyol. effaith sydd eisoes i'w gweld yn niweidiol, ar rai plant, gyda rhai'n gweld yr hyn sy'n cael ei ddysgu fel jôc oherwydd ei fod wedi mynd i eithafion, yn hurt, ac mae wedi cynyddu rhai achosion o fwlio. Dyma rwy'n ei glywed gan blant.

Mae'n hynod siomedig nad yw'r dysgu priodol, seiliedig ar ffeithiau a oedd ei eisiau a'i angen yn cael ei gyflwyno. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i adolygu cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n cael ei ddysgu yng Nghymru gan roi syniad i ni sut y'i cyflwynir a'r hyn a gyflwynir mewn gwirionedd wrth inni fynd drwy'r tymor hwn? Diolch.

Mae natur generig honiadau'r Aelod, diffyg penodoldeb, y dull bras o ymwneud â'r cwestiwn hwn yn anhygoel o ddi-fudd. Mae'r cwricwlwm wedi bod yn cael ei ddysgu ers mater o ddyddiau yn yr ysgolion mewn gwirionedd, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed ganddi naill ai yn y Siambr neu ar wahân ynghylch manylion yr hyn y mae'n cyfeirio ato. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i fod yn ofalus ac yn wyliadwrus ynglŷn â sut y gwnawn honiadau yn y lle hwn.

Yn sicr, ni fyddaf yn ymrwymo i adolygu'r cod. Mae'r cod y mae'r Senedd hon wedi'i gymeradwyo yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru, yn cael ei wneud felly gan athrawon sydd wedi ymrwymo i lesiant a lles y bobl ifanc y maent yn eu dysgu, ac rwy'n sefyll gyda hwy i wneud yn siŵr fod y bobl ifanc hynny'n cael cwricwlwm llawn sydd wedi'i lunio ar gyfer eu cadw'n ddiogel ac yn iach.

Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â chi; mae ei angen arnom i gadw plant yn ddiogel ac yn iach. Yr hyn sy'n amlwg yw bod Stonewall, grŵp a gâi ei edmygu ac a dorrai dir newydd ar un adeg, yn amlwg â gafael haearnaidd ar gynghori'r Llywodraeth hon, rhywbeth sydd ynddo'i hun yn codi pryderon pan fyddant yn ystyried bod plant mor ifanc â thair oed yn gallu penderfynu eu bod yn drawsrywiol. Mae nifer o grwpiau wedi mynegi pryderon fod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu gwneud yn agored i syniadau ymhell y tu hwnt i'w hystod oedran ar adeg mor hawdd gwneud argraff arnynt ar eu taith i ddod yn oedolion. Dyma oedd fy mhrif bryderon yn wreiddiol, ond mae gennyf hyder y gwnaiff y Llywodraeth hon ddefnyddio'r cyfle hwn i ehangu darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb er lles. Efallai fod angen inni ailystyried rhoi'r gallu i rieni optio allan os ydynt yn parhau i fod yn bryderus dros weddill y tymor hwn.

Ac am siom yw hyn o ystyried ewyllys da y Senedd ddiwethaf a'r awydd cytûn i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno mewn ffordd briodol nad yw'n ddryslyd i'n pobl ifanc. Rwy'n teimlo'n siomedig, ac rwyf am i chi dawelu meddyliau pobl heddiw, Weinidog, os yw rhieni eisiau gweld beth sy'n cael ei ddysgu i'w plant ym mhob ysgol, y byddant yn gallu gweld y deunydd a gaiff ei ddefnyddio mewn ystafelloedd dosbarth, i dawelu eu hofnau neu i weld beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Ac os nad ydynt yn fodlon â'r cynnwys y mae eu plentyn yn ei dderbyn, a fyddech chi'n gadael iddynt optio allan?

14:30

Nid yw honiadau cyffredinol gan yr Aelod yn creu realiti newydd ar lawr gwlad. Mae hi'n haeru bod yna ddryswch; mae hi'n haeru llawer o bethau yn ei chyfraniad heddiw. Gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth mewn gwirionedd.

Mae’r Aelod yn ymwybodol fod y cod eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ymgysylltu â rhieni mewn perthynas â chynnwys y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mae ysgolion yn gwneud hynny. Mae'n greiddiol i ofynion y cod a'r canllawiau y dylai hynny ddigwydd, ac mae hynny mewn gwirionedd yn gyson â'n hymagwedd at y cwricwlwm yn gyffredinol. Mae ysgolion ar daith i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n fwy gwybodus ac addas i oedran ar draws ein system ysgolion. Rwyf eisiau eu cefnogi i wneud hynny. Gallant fanteisio ar y cod, mae ganddynt y canllawiau, ac mae ganddynt fwyfwy o adnoddau i'w galluogi a'u cefnogi i wneud hynny. Mae pob ysgol yn gwybod bod angen iddynt ymgysylltu â rhieni mewn perthynas â’r mater hwn ac maent yn gwneud hynny. Dyna’r ffordd orau o wneud yn siŵr fod ein pobl ifanc yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt.

Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog. Hoffwn innau ganolbwyntio ar addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond o ongl hollol, hollol wahanol. Hoffwn groesawu'r datganiad ysgrifenedig gwnaethoch gyhoeddi dros yr haf parthed honiadau camarweiniol ynglŷn ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, a gresyn bod llefarydd yr wrthblaid wedi cerdded allan heb i ni gael y drafodaeth yma rŵan.

Gwn eich bod wedi gofyn i'r grŵp sydd yn lledaenu honiadau camarweiniol roi'r gorau i ddosbarthu'r wybodaeth ffug hon, ac rwyf yn cytuno â'r hyn y dywedoch o ran tactegau ymosodol y grŵp hwn. Mae'n fy arswydo innau, yn arbennig o weld yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngwynedd wedi ei dargedu at yr aelod cabinet, Beca Brown. Serch hynny, fel rydych yn gwybod, mae'r grŵp hwn yn parhau gyda'i ymgyrch, gyda chyfres o gyfarfodydd wedi eu trefnu ledled Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Gwn fod camau wedi eu cymryd yn barod gan y Llywodraeth, ond pa gamau eraill fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau diogelwch cynghorwyr, staff awdurdodau lleol ac athrawon, wrth i'r elfen hon o'r cwricwlwm newydd gael ei chyflwyno?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cwestiwn olaf. Rŷn ni'n gweithio gyda'n partneriaid yn gyffredinol i sicrhau bod y wybodaeth iawn ar gael a bod canllawiau ar gael i allu mynd i'r afael â hyn. Mae wir yn bwysig—ac mae'n drueni nad yw llefarydd y Ceidwadwyr yma i glywed hyn eto—mae wir yn bwysig bod y drafodaeth gyhoeddus ynghlwm â'r maes polisi hwn yn digwydd mewn ffordd sydd yn gyfrifol ac yn seiliedig ar ffeithiau yn hytrach na honiadau.

Cytuno'n llwyr, Weinidog, a diolch am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg bod y grŵp yn targedu rhieni gyda'i ymgyrch o gam-wybodaeth, ac hyd yn oed Aelodau o'r Senedd fe ymddengys. Nodaf fod y Llywodraeth wedi creu canllaw i'r cwricwlwm i rieni a gofalwyr, a dogfen dwi'n credu sy'n wych ac yn egluro'r newidiadau yn effeithiol. Ond, o siarad â nifer o rieni a gofalwyr, prin neb sydd wedi gweld yr adnodd pwysig hwn.

Sut felly ydych chi am sicrhau bod pob rhiant a gofalwr yn derbyn copi o'r taflenni hyn, ac yn cefnogi ysgolion i egluro'r newidiadau, rhag ofn eu bod hwythau hefyd yn cael eu bygwth gan y rhai sy'n ymgyrchu yn erbyn y newidiadau? Mae angen sicrhau bod pob plentyn yn elwa o'r newidiadau hyn, ac ofnaf fod yna nerfusrwydd ac ofn o ran cyflwyno'r pwnc hwn os ydy'r ymgyrch hon yn parhau i fynd rhagddi.

Wel, dyna yw'r risg, fel mae'r Aelod yn dweud. Dyna pam mae e mor bwysig bod y drafodaeth yn digwydd mewn ffordd gymedrol, ffeithiol, oherwydd mae amryw o heriau o flaen athrawon ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cyflwyno cwricwlwm o'r newydd ac mae angen sicrhau eu bod nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn llwyddiannus yn y maes hwn ac ym mhob maes arall.

Rydyn ni'n gweithio gyda'r awdurdodau lleol a gyda'r consortia i edrych ar beth allwn ni ei wneud i gefnogi rhieni ymhellach yn hyn o beth. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi sicrhau bod playlist penodol ar gael ar Hwb, sydd yn cynnwys ystod o adnoddau mewn 12 iaith i sicrhau bod yr awdurdodau lleol ac ysgolion yn cael eu cefnogi ac i hwyluso'r gwaith y maen nhw eisoes yn ei wneud i weithio gyda rhieni a'r gymuned ehangach i sicrhau bod pawb yn deall beth sy'n digwydd ar lawr gwlad go iawn, yn hytrach na beth sy'n cael ei honni.

14:35
Disgyblion o Wahanol Gefndiroedd Economaidd-Gymdeithasol

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd er mwyn ceisio lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgol o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol? OQ58412

Roedd fy natganiad llafar ar 22 Mawrth yn amlinellu fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r uchelgais hwn.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o adroddiad diweddar yr Education Policy Institute, sy'n dweud bod dim cynnydd wedi bod o ran lleihau'r bwlch rhwng disgyblion o wahanol gefndiroedd cymdeithasol dros y ddegawd diwethaf. Mae'r adroddiad yn dweud bod y disgyblion tlotaf ddwy flynedd y tu ôl i'w cyfoedion o gefndiroedd mwy llewyrchus, ar gyfartaledd. Rwy'n gwybod eich bod chi'n poeni am hyn, Weinidog; rydych chi wedi gwneud hynny'n hysbys. Ond, allwch chi esbonio i ni beth sydd wedi mynd o'i le a beth fyddwch chi'n ei wneud i daclo'r broblem, ynghyd â beth rydych chi wedi ei ddweud? Rwy'n deall yr heriau y gwnaeth llymder eu hachosi, ond dyw hyn ddim yn esbonio pam fod y sefyllfa yn waeth yng Nghymru nag yw e yn Lloegr. Allwch chi ddweud hefyd beth yw eich dadansoddiad o ran gwraidd y broblem? Ydy e achos bod ysgolion mewn ardaloedd tlotach heb yr un adnoddau a chyllid, neu a oes heriau mewn atynnu athrawon efallai i rai o'r ardaloedd hyn? Sut fyddwch chi'n targedu adnoddau a chyllid er mwyn cefnogi disgyblion sy'n wynebu anfanteision? Ac yn olaf, Weinidog, faint o flaenoriaeth fyddwch chi'n ei rhoi i geisio dysgu grwpiau sydd angen mwy o gefnogaeth mewn grwpiau sydd yn llai, plis? Diolch yn fawr.

Wel, mae amryw o gwestiynau pwysig iawn yng nghwestiwn yr Aelod. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y cefndir cymdeithasol yng Nghymru yn wahanol i'r cefndir cymdeithasol, ar gyfartaledd, yn Lloegr—hynny yw, bod lefelau o dlodi yn uwch yng Nghymru am resymau, efallai, sydd yn rhannol hanesyddol. Nid yw'r pwerau o ran trethi ac ati a gwariant ddim gyda ni i'n galluogi ni i fynd i'r afael â'r elfennau creiddiol hynny. Rydyn ni'n defnyddio'n hadnoddau ni i allu lliniaru effeithiau hynny y gorau y gallwn ni, ond mae heriau yn hynny o beth. Mae'r adroddiad yn dangos pethau pwysig i ni, ond mae'n cytuno â'n dadansoddiad ni eisoes, fel petai, o beth sydd angen ei wneud.

Yn y datganiad ym mis Mawrth, ac wedyn yn yr araith y gwnes i ei rhoi gyda'r Sefydliad Bevan, roedd rhaglen—byddwn i'n dweud rhaglen helaeth—o fesurau yn cael eu cysidro, ac rydym ni'n eu cymryd nhw. Felly, mae rhai o'r pethau hynny i wneud â sut rydym ni'n cefnogi'r gweithlu addysg i allu defnyddio strategaethau amgen, o ran hyfforddi athrawon, o ran sicrhau peer-to-peer support i arweinwyr ysgol ac o ran cefnogi ysgolion i allu recriwtio’r athrawon sydd eu hangen mewn ardaloedd sy'n fwy difreintiedig. Felly, mae ystod o bethau yn y maes hwnnw.

Wedyn, o ran cefnogi disgyblion a myfyrwyr yn uniongyrchol, mae cynlluniau o ran llefaredd a darllen, yn cynnwys cynllun mentora gyda phrifysgol i allu sicrhau bod lefelau llefaredd a darllen yn cynyddu. Ond mae hefyd yn edrych—ac efallai bod hyn yn mynd i wraidd y cwestiwn wnaethoch chi ei ofyn ar y diwedd—ar yr hyn sy'n digwydd eisoes ar lawr gwlad o ran setio. Hynny yw, pryd yn y llwybr ysgol ydyn ni'n rhannu a didoli disgyblion, ac wedyn oes achos i ni allu edrych eto ar hynny? Mae newid y system honno yn mynd i godi heriau, gyda llaw. Ond, mae'n sicr bod yn rhaid i ni edrych ar hynny.

O ran y cwestiwn o ran ariannu, wrth gwrs, mae gennym ni—rwyf wedi rhestru rhai ohonyn nhw eisoes heddiw—lot o gynlluniau sydd wedi'u targedu'n benodol iawn tuag at ysgolion ar sail y niferoedd o bobl ifanc difreintiedig. Felly, mae hynny wrth wraidd yr hyn rydym ni'n ei wneud beth bynnag. Ac mae'r EPI wedi dweud, er enghraifft, fod lot o'r pethau wnaethom ni yn sgil COVID wedi'u pwyso yn benodol tuag at blant a phobl ifanc sy'n ddifreintiedig.

14:40

Weinidog, canfu adroddiad ar gyfer Adran Addysg y DU yn 2015 fod yr ysgolion mwyaf llwyddiannus yn cefnogi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig, gan drin pob disgybl fel unigolyn sydd â heriau ac anghenion penodol. Roedd yr ysgolion llai llwyddiannus yn tueddu i edrych ar eu disgyblion difreintiedig fel grŵp yr oedd eu hamgylchedd cartref a diffyg mynediad at gyfleoedd yn cyfyngu ar eu gobaith o lwyddo. Mae’r ysgolion mwyaf llwyddiannus yn rhoi systemau effeithiol ar waith i nodi anghenion, dewis strategaethau, monitro cynnydd ac ymateb yn gyflym, gan ddarparu cymorth emosiynol helaeth i ddisgyblion ochr yn ochr â chefnogi eu cynnydd academaidd. Weinidog, a ydych chi'n cytuno mai’r dull unigol hwn sydd wedi’i dargedu yw’r mwyaf addas ar gyfer lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol yma yng Nghymru? Diolch.

Rwy’n credu bod hynny’n rhan o’r ateb. A dweud y gwir, rwy’n credu’n gryf y bydd y cwricwlwm newydd yr ydym yn ei gyflwyno yng Nghymru, sydd wedi’i deilwra i anghenion dysgwyr unigol ac sy’n rhoi pob dysgwr yn y sefyllfa orau bosibl i gyflawni ei botensial ei hun, yn gam enfawr ymlaen i ni mewn gwirionedd. Bydd pawb ohonom yn siarad ag ysgolion yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau. Yn fy mhrofiad i, mae ysgolion sydd â lefelau uchel o anfantais yn gyffrous iawn am y cyfleoedd a ddaw yn sgil y cwricwlwm oherwydd gallant weld bod yna ffordd efallai o ailennyn diddordeb rhai o’r bobl ifanc sydd wedi wynebu’r heriau mwyaf. Felly, rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn.

Gorffennais fy ateb i Delyth Jewell drwy gyfeirio at y gwaith a wnaethom mewn perthynas â COVID, ac rwy’n credu y byddwn yn darganfod—rydym eisoes yn darganfod—nad yw effaith hwnnw wedi'i theimlo'n gyfartal, a bod effaith sylweddol iawn ar y rhai mwyaf difreintiedig, ac felly mae'r cymorth a ddarparwyd gennym wedi ymwneud i raddau helaeth â sicrhau bod anghenion y dysgwr unigol yn cael eu diwallu a'u hadlewyrchu. Felly, nid oedd yn ymwneud â rhaglen dal i fyny generig; roedd yn ymwneud ag ailysgogi, ailadeiladu hyder, ail-ymgysylltu ar lefel sy'n addas i'r unigolyn.

Canlyniadau Arholiadau 2022

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau 2022 yng Ngorllewin De Cymru? OQ58377

Mae Cymwysterau Cymru wedi ceisio darparu canlyniadau graddau ar gyfer Safon Uwch a TGAU cymeradwy sydd oddeutu hanner ffordd rhwng haf 2019 a haf 2021, ar lefel genedlaethol. Ac mae’r canlyniadau a gyflawnwyd gan ddysgwyr yn dangos eu gwytnwch, ac rwy’n eu llongyfarch i gyd ar eu cyflawniadau.

Weinidog, ar ôl cyfnod mor gythryblus, gydag effaith y pandemig yn amlwg yn effeithio ar fywydau ein pobl ifanc, mae’n iawn inni ddathlu cyflawniadau ein holl bobl ifanc sydd wedi dangos cymaint o gryfder wrth gwblhau eu hastudiaethau. Bydd llawer wedi cael trafferth oherwydd absenoldeb, ac mae rhai wedi cwestiynu tegwch y canlyniadau. Pa wersi y gallwn eu dysgu o brofiad y garfan hon o ddisgyblion wrth i ni gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt? Diolch.

Wel, rwyf am dderbyn y gwahoddiad i ailadrodd fy llongyfarchiadau i bobl ifanc yng Nghymru, sydd wedi bod drwy gyfnod anodd iawn. Mewn rhai ffyrdd, rwy’n credu mai’r flwyddyn ddiwethaf hon oedd y fwyaf aflonyddgar o ran y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ac felly roedd dychwelyd at arholiadau yn y cyd-destun hwnnw yn dasg arbennig o heriol yn fy marn i. Ond rwy’n credu bod y canlyniadau wedi dangos dycnwch ein pobl ifanc, eu hymrwymiad i’w dysgu eu hunain, a’r gwaith anhygoel y mae athrawon a’r gweithlu addysg ehangach wedi’i wneud i gefnogi ein pobl ifanc. Rydym yn edrych ar y flwyddyn nesaf yn barod wrth gwrs. Bydd pobl sy’n astudio arholiadau y flwyddyn nesaf wedi profi aflonyddwch yn ystod y flwyddyn hon felly bydd rhai gwersi i’w dysgu o brofiadau’r flwyddyn ddiwethaf yn y cyd-destun hwnnw wrth gwrs.

Mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi dweud na fydd yr addasiadau i gyrsiau penodol y bu’n rhaid eu gweithredu eleni yn weithredol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, bydd pobl ifanc yn cael gwybod ymlaen llaw pa feysydd fydd yn cael eu harholi fel y gallant ganolbwyntio eu gwaith adolygu yn y ffordd honno, felly mae honno’n un agwedd a fydd yn cael ei datblygu o eleni ymlaen. Ac mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda rheoleiddwyr arholiadau eraill mewn rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd mewn perthynas â graddio a ffiniau graddau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r gwaith hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd.

Bydd llawer ohonom wedi siarad â dysgwyr ar ddiwrnodau canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Fy mhrofiad i o hynny oedd bod pobl ifanc yn gwerthfawrogi'r cymorth adolygu a’r cymorth ar-lein yr oeddent yn gallu manteisio arno cyn arholiadau, a byddwn yn sicr eisiau parhau â'r cymorth hwnnw y flwyddyn nesaf hefyd. Yn amlwg, rydym yn gobeithio na fydd y flwyddyn o'n blaenau yn debyg i'r flwyddyn ddiwethaf, ond yn sicr bydd dysgwyr wedi cael y profiad a gawsant eleni wrth iddynt symud ymlaen at arholiadau'r flwyddyn nesaf, felly byddant angen y cymorth ychwanegol hwnnw gennym ni hefyd. 

14:45
Cymorth i Ysgolion

5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i ysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ58411

Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion ni. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi egluro yn y Senedd ddoe mai dim ond y Llywodraeth yn San Steffan sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael gydag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.

Diolch, Weinidog. Yn sicr, fel gwnaeth y Prif Weinidog bwysleisio hefyd, mae yna rôl gan y Llywodraeth hon ac mae yna bethau y gallem ni fod yn eu cyflawni. Soniodd y Prif Weinidog ddoe am yr ymgyrch o ran sicrhau bod pobl yn cymryd pob buddiant sydd ar gael ar y funud, gan gynnwys y rhai sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Yn yr Alban, mae ganddyn nhw gynghorwyr mewn ysgolion penodol i gefnogi rhieni i sicrhau eu bod nhw'n cael pob buddiant. Ydy hyn yn rhywbeth yr ydych yn ystyried ei gyflwyno yma yng Nghymru?

Mae eisoes yn digwydd mewn rhai ysgolion yng Nghymru. Mae ysgolion yn cefnogi teuluoedd mewn pob math o ffyrdd i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad at gefnogaeth ehangach. Un o’r ystyriaethau wnaeth y Prif Weinidog sôn amdano ddoe, wrth gwrs, oedd bod angen sicrhau bod unrhyw gysylltiad rhwng teuluoedd ac unrhyw gorff cyhoeddus yn caniatáu i bobl ddeall yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer nhw. Un o'r pethau, fel efallai fod yr Aelod yn gwybod, y gwnaethom ni ei ystyried yng nghyd-destun cynllun prydau am ddim oedd sut i atgoffa teuluoedd, er eu bod nhw'n cael prydau am ddim, os ydyn nhw'n gymwys eisoes i dderbyn cefnogaeth benodol, eu bod nhw'n gwybod hynny a bod cyfle iddyn nhw hysbysu'r ysgol o hynny fel bod yr ysgol yn gallu sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad at yr ystod ehangach yna o gefnogaeth sydd i'w chael eisoes. Ac mae mwy i'w wneud hefyd o ran cyfathrebu a sicrhau ein bod ni hefyd fel Llywodraeth yn darparu gwybodaeth i ysgolion allu cefnogi teuluoedd sydd mewn angen.

Weinidog, diau y bydd y gost o gyflenwi ynni i adeiladau ysgolion, gyda'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni cyfanwerthol, yn rhoi straen enfawr ar gyllid, sydd, fel y gwyddom, eisoes dan bwysau sylweddol. O ganlyniad, mae'r ffaith y bydd yn rhaid i benaethiaid wneud toriadau staffio er mwyn cydbwyso cyllidebau, fel yr amlygwyd ynghynt gan Aelodau eraill, yn peri pryder gwirioneddol. Er ein bod ni i gyd yn cytuno bod y sefyllfa y mae ysgolion ynddi ymhell o fod yn ddelfrydol, credaf fod y sefyllfa bresennol yn rheswm dros fuddsoddi'n fwy helaeth yn effeithlonrwydd ynni adeiladau ysgolion. Tybed felly pa gynlluniau sydd gennych i uwchraddio effeithlonrwydd ynni adeiladau ysgolion ledled Cymru, ac o ystyried bod gan lawer ohonynt doeau addas iawn a digon o dir i gefnogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, tybed a yw'r Llywodraeth hon am ddarparu buddsoddiad i alluogi ysgolion yng Nghymru i osod paneli solar neu dyrbinau gwynt addas. Diolch.

Wel, mae hwnnw'n ateb mwy hirdymor i'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio'n gywir fel un sydd ar fin digwydd i ysgolion, ac rwy'n gobeithio, fel rwy'n siŵr y bydd ef, pan fydd y datganiad yn cael ei wneud ddydd Gwener, y bydd Prif Weinidog y DU yn glir ynghylch yr ymrwymiad y mae'n ei roi i fusnesau ac i unigolion am y cymorth tuag at gostau ynni, sy'n sicr yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU yn teimlo'r pwysau anhygoel y byddent yn ei deimlo fel arall.

Ar y pwynt ehangach a wnaeth yr Aelod, mewn nifer o ffyrdd fe fydd yn gwybod bod gennym raglen i sicrhau bod ystad yr ysgol, fel pob rhan arall o'r ystad gyhoeddus yng Nghymru, yn gwneud ei gyfraniad tuag at gyrraedd y nodau, y targedau uchelgeisiol a osodwyd gennym er mwyn gwneud Cymru yn genedl sero net. Felly, o ran ysgolion a adeiladir o'r newydd, fel y gŵyr, o 1 Ionawr eleni, bydd angen i unrhyw ysgol sy'n gofyn am arian gan Lywodraeth Cymru fod yn ysgol sero net. Ond mae yna lawer o ysgolion, yn amlwg, sy'n llawer hŷn na hynny ac mae cryn dipyn o ystad yr ysgol angen buddsoddiad er mwyn iddynt hwy allu cyfrannu hefyd, ac mae gwaith ar y gweill i ddeall hyd a lled hynny gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol ac edrych wedyn ar sut y gellir mapio hynny i'r dyfodol.

Weinidog, mae diddordeb sylweddol wedi bod yn yr ymgynghoriad yr adroddwyd yn ei gylch ar wisgoedd ysgol, a siaradodd y Prif Weinidog am hyn ddoe. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y grant datblygu disgyblion i roi hyd at £200 o gymorth i fwy o deuluoedd gyda chostau gwisg ysgol a chit ysgol, ond mae Cymdeithas y Plant wedi dweud bod cost gyfartalog gwisg ysgol yn dal i fod dros £300 y plentyn y flwyddyn, ac mae hynny’n annheg ac yn gwbl ddiangen. Mae tair blynedd ers inni gyflwyno canllawiau i wella fforddiadwyedd gwisg ysgol—dwy flynedd cyn Lloegr hynny yw—ac mae Llywodraethau Torïaidd olynol San Steffan wedi ehangu’r anghydraddoldeb. Nawr rydym yn gweld bod banciau gwisg ysgol yn agor, ochr yn ochr â banciau bwyd, ochr yn ochr â'r banciau cynhesu arfaethedig, ac eto gall y bancwyr gael eu bonysau disgwyliedig. A wnewch chi ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae ysgolion yn fy rhanbarth yn ei wneud i sicrhau bod teuluoedd yn hawlio’r holl gymorth sydd ar gael iddynt, ac am yr amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw?

14:50

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae’n gywir i ddweud, wrth gwrs, fod costau gwisg ysgol yn bryder sylweddol i lawer o deuluoedd. Ysgrifennais at ysgolion dros doriad yr haf, tuag at ddiwedd y toriad, i ddweud wrthynt y byddwn yn edrych eto, fel y mae'n dweud, ar y canllawiau sydd wedi bod ar waith ers tair blynedd, i bob pwrpas, ar hyn o bryd, ond mae maint y mater yn golygu bod angen inni edrych eto ar beth arall y gallwn ei wneud. Gwyddom y gall cost gwisg ysgol gyda logos ysgol fod yn broblem wirioneddol i deuluoedd, felly byddaf am edrych i weld a yw hynny’n gwbl angenrheidiol ac a ddylai fod yn ofynnol i ysgolion ddarparu logos haearn smwddio yn rhad ac am ddim, fel y gellir cynnal rhinweddau’r wisg ysgol heb i'r rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd orfod talu'r costau.

Ein grant datblygu disgyblion ni yma yng Nghymru yw’r grant mwyaf hael yn unrhyw ran o’r DU. Mewn gwirionedd mae’n werth hyd at £300 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7, sy’n flwyddyn lle mae’r costau’n arbennig o heriol, a £225 i flynyddoedd eraill, ac fe gafodd ei gynyddu i’r lefel honno eleni. A dyna un o amrywiaeth o ffyrdd yr awn ati i gefnogi teuluoedd, ond mae'r pwysau y mae teuluoedd yn ei deimlo oherwydd costau yn real iawn ac mae llawer o deuluoedd nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn amlwg yn ei chael hi'n anodd, a dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau hyn, fel cost gwisg ysgol.

Help i Fyfyrwyr

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu myfyrwyr gyda heriau costau byw? OQ58394

Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod myfyrwyr addysg uwch yn gallu cael cymorth sy'n eu galluogi i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd. Mae ein system cymorth i fyfyrwyr yn darparu cymorth sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol, gyda’r lefelau grant uchaf yn cael eu targedu at y myfyrwyr sydd â’r angen mwyaf.

Diolch ichi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yr un mor bryderus â minnau am y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant yn y misoedd diwethaf ac wrth gwrs, rhagwelir y bydd yn codi'n uwch eto yn y misoedd i ddod. Nid yw’r drefn cyllid myfyrwyr wedi newid i ystyried y costau cynyddol y mae llawer o fyfyrwyr yn eu hwynebu, yn enwedig o ran cynyddu lefel y grant y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar sail gyffredinol i bob myfyriwr—mae hwnnw wedi’i rewi ers cyflwyno'r drefn cyllid myfyrwyr newydd. Ac ni fu cynnydd yn y grantiau cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ychwaith. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i edrych ar lefelau’r grant cyffredinol hwnnw, ac yn wir y benthyciadau cynhaliaeth sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr, o ystyried y sefyllfa y bydd llawer ohonynt yn ei hwynebu dros y misoedd nesaf a’r blynyddoedd i ddod?

Wel, mae cyfraddau cymorth i fyfyrwyr mewn gwirionedd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â'n polisi, a byddaf yn gwneud datganiadau am hynny yn yr wythnosau nesaf. Eisoes yng Nghymru mae gennym y system cymorth myfyrwyr fwyaf blaengar yn unrhyw ran o’r DU, ac rwy’n falch iawn o hynny, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hynny, system sydd, fel y gwyddoch, yn cynnwys cymysgedd o grantiau a chymorth ychwanegol. Ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy'n chwilio am syniad o lefel y cymorth sydd ar gael, fe wnaethom gyhoeddi datganiad, naill ai ddoe neu’r bore yma, rwy'n credu, sy’n nodi’r ystod o gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch mewn perthynas â grantiau, benthyciadau a gostyngiadau yn y dreth gyngor ac yn y blaen. Byddwn yn parhau i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi myfyrwyr. Rydym yn amlwg wedi sicrhau bod cyllid ar gael mewn llawer o wahanol ffyrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i adlewyrchu rhywfaint o'r pwysau, ond rwy'n gobeithio dweud ychydig mwy am gymorth i fyfyrwyr yn yr wythnosau nesaf.

Yr Amgylchedd Dysgu Gorau

7. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i greu'r amgylchedd dysgu gorau ar gyfer plant? OQ58399

14:55

Mae sicrhau bod yr ystad ysgolion yn addas at y diben yn hanfodol i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Dyna pam, ers 2014, ein bod wedi buddsoddi £1.22 biliwn drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn erbyn cyfanswm o wariant gyda'n rhanddeiliaid ar y rhaglen o £2.2 biliwn. 

Diolch am yr ateb.

Y gaeaf hwn fydd un o'r rhai mwyaf heriol yn hanes datganoli, oherwydd bydd yr argyfwng costau byw yn cael effaith greulon a didrugaredd ar bawb bron, ond yn enwedig y rhai mwyaf bregus, heb ymyrraeth sylweddol gan y wladwriaeth. Mae addysg yn un o'r nifer o feysydd lle bydd yr argyfwng hwn i'w deimlo. Bydd rhai plant nad ydynt yn gymwys ar gyfer ein polisi prydau ysgol am ddim yn llwglyd y gaeaf hwn. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i alwadau Plaid Cymru i ymestyn y rhaglen prydau ysgol am ddim i bawb fel mesur brys i gynnwys plant ysgolion uwchradd? Ac yn sgil eich ateb i Sioned Williams yn gynharach—nad oes unrhyw arian pellach ar gael i ysgolion i fynd i'r afael â'r costau cynyddol—lle byddech chi'n awgrymu y dylai penaethiaid dorri eu cyllidebau er mwyn cadw'r goleuadau ynghyn? 

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod bod y Llywodraeth hefyd yn gobeithio y gallwn wneud mwy ym maes prydau ysgol am ddim, ond mae'r estyniad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn yn un lle byddai angen i ni wneud y mathau o doriadau mewn rhannau eraill o'n cyllideb y mae'r Aelod yn gofyn i mi fanylu arnynt y dylai ysgolion eu gwneud yn eu cyllidebau hwy. Felly, mae'r her yn sylweddol iawn.

Yn ogystal â chael yr ymrwymiad a'r trugaredd i wneud y gwahaniaeth, mae'n rhaid i ni hefyd ddod o hyd i'r adnoddau i allu gwneud hynny, a dyna'r her y mae'r Llywodraeth hon yn ei hwynebu, fel y mae'n cydnabod, rwy'n siŵr, yn absenoldeb ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i unioni'r toriad i bŵer prynu Llywodraeth Cymru drwy'r cyllid sydd gennym eisoes. Fel y dywedais yn gynharach, y gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus i ymdopi â chostau ynni—ac mae hynny'n cynnwys ein system addysg—yw'r math o lefel o gefnogaeth y mae angen i Lywodraeth y DU ei darparu i bob rhan o'r DU.

Mae cwestiwn 8 [OQ58392] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 9, Carolyn Thomas.

Natur a Bioamrywiaeth

9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn addysgu plant am bwysigrwydd natur a bioamrywiaeth? OQ58396

Mae addysg am yr amgylchedd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau a gwyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys cyfeiriadau penodol at yr amgylchedd i sicrhau bod dysgwyr yn ymdeimlo â phwysigrwydd natur a bioamrywiaeth.  

Diolch am yr ateb, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan yr RSPB, dim ond un o bob pump o blant sydd â chysylltiad â byd natur, ac mae'r amser a dreulir yn chwarae yn yr awyr agored wedi haneru mewn un genhedlaeth yn unig. Mae archwilio'r amgylchedd naturiol yn hynod fuddiol i blant ifanc yn enwedig ar gyfer datblygu eu synhwyrau a'u datblygiad emosiynol. Mae'n bwysig fod y profiadau hyn yn digwydd yn ystod oedran ysgol gynradd, oherwydd os nad yw plentyn yn cysylltu â natur cyn ei fod yn 12 oed, mae'n llai tebygol o wneud hynny fel oedolyn.

Os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng natur sy'n ein hwynebu, mae angen inni sicrhau hefyd fod arweinwyr y dyfodol yn deall pwysigrwydd cadw ein bioamrywiaeth ar gyfer ecosystemau a chydbwysedd bywyd gofalus. Weinidog, pa gyllid sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion i gysylltu plant â byd natur? Diolch.

Wel, fel cyn-adaregwr ifanc fy hun, rwy'n rhoi sylw manwl i'r hyn y mae'r RSPB yn ei ddweud wrthym ynglŷn â chysylltiad pobl ifanc â byd natur. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn cydnabod, o'n profiad ni ein hunain, pa mor bwysig a phleserus yw hynny pan yn ifanc. Mae dwy brif raglen yr ydym yn eu hariannu ac yn parhau i'w cefnogi yng nghyswllt addysg amgylcheddol mewn ysgolion. Mae Eco-Sgolion yn un, ac mae Maint Cymru yn un arall. Gallwn ddefnyddio'r ddwy raglen honno i fynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, fel petai, i bobl ifanc allu ymgysylltu â'u hamgylchedd ehangach, ond hefyd i gael ymdeimlad o reolaeth mewn perthynas â sut y maent yn ymwneud â natur a bioamrywiaeth. Rhyngddynt, cafodd y rhaglenni hynny oddeutu £0.5 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd diwethaf. Mae hynny'n galluogi ysgolion i ymgysylltu â'r rhaglenni hynny heb unrhyw gost. Yn fy mhrofiad i—ac rwy'n siŵr y bydd ei phrofiad hithau o'i rhanbarth yr un peth—pan fyddwch yn siarad ag ysgolion, mae'r ddwy raglen hynny'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac mae'r rhan fwyaf o benaethiaid a'r rhan fwyaf o staff addysgu yn gweld cyfle go iawn gyda'r cwricwlwm newydd i allu gwneud cynnydd go iawn yn y ffordd y mae'r rhaglenni hynny'n chwarae rhan yn y cwricwlwm ehangach mewn ysgolion hefyd. 

Dyw Rhianon Passmore ddim yma i ofyn cwestiwn 10 [OQ58413].

15:00
Effaith Chwyddiant ar Gyllidebau

11. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith chwyddiant ar gyllidebau ysgolion ar gyfer 2022-23 ? OQ58383

Mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn cael effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus a bydd yn effeithio ar gyllidebau ysgolion. Rydym yn gwybod bod cronfeydd wrth gefn ysgolion mewn sefyllfa well ar hyn o bryd, ac rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i reoli eu cyllidebau yn sgil yr amgylchiadau presennol.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. A gaf fi gywiro rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud yn gynharach? Nid y pennaeth sy'n gyfrifol am gyllidebau ysgolion; maent yn gyfrifoldeb i'r corff llywodraethu yn unol â'r gyfraith. Mae hwnnw'n bwynt pwysig i'w gofio.

Ydy, efallai bod y swm cyfartalog o arian sydd gan gyrff llywodraethu ysgolion yn gymharol uchel, ond nid yw hynny'n golygu nad yw rhai ysgolion yn gweithredu gydag ond ychydig iawn o arian wrth gefn, ac mae rhai cronfeydd wrth gefn ysgolion yn fwy o ganlyniad i lwc dda a phethau sydd wedi digwydd na dim byd arall. Hynny yw, gosodwyd y cyllidebau hyn ar adeg wahanol iawn i'r un yr ydym ynddi yn awr. Mae gennym gostau cyflogau athrawon a chostau ynni—nid wyf yn gwybod beth fydd codiad cyflog yr athrawon, ond rwy'n dyfalu y bydd yn llawer uwch na'r hyn y gwnaeth llywodraethwyr ysgolion ei osod yn ôl ym mis Mawrth a mis Ebrill pan oedd pethau mewn sefyllfa hollol wahanol. Sut y mae'r Gweinidog yn meddwl y bydd ysgolion yn gallu talu'r costau ychwanegol hynny, a pha gymorth ychwanegol sy'n mynd i gael ei roi naill ai gan awdurdodau lleol neu gan Lywodraeth Cymru?

Ar fater cronfeydd wrth gefn yn benodol, rwy'n derbyn pwynt yr Aelod fod yna ddarlun amrywiol mewn gwahanol ysgolion, ac os nad oes gennych gronfeydd wrth gefn, ni fyddai hyn yn berthnasol i'r ysgol honno. Ond y darlun cyffredinol ar draws y system yng Nghymru yw bod cronfeydd wrth gefn ysgolion, yn ôl y data diwethaf sydd ar gael, sydd bellach bron yn flwyddyn oed, wedi cynyddu o £31 miliwn ym mis Mawrth 2020 i £180 miliwn ym mis Mawrth 2021. Felly, dyna'r darlun cyffredinol ar draws y system, a bydd awdurdodau lleol lle mae hynny'n wir yn gweithio gydag ysgolion i reoli'r cronfeydd wrth gefn hynny sydd wedi cynyddu mewn ffordd sy'n cefnogi anghenion yr ysgolion hynny.

Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, cynyddodd y setliad llywodraeth leol ar gyfer eleni dros 9 y cant. Bydd costau chwyddiant yn amlwg yn effeithio'n sylweddol iawn ar hynny. Yn amlwg, mae trafodaethau ar y gweill gydag awdurdodau lleol er mwyn deall ble mae'r pwysau, ond fel y bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud mewn atebion blaenorol, mae cyfyngiad gwirioneddol ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud os na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud iawn am y £600 miliwn yn llai o bŵer prynu sydd gan ein cyllideb ni heddiw nag a oedd ganddi ddiwedd y llynedd.

Diolch i'r Gweinidog. 

Mae gennyf un neu ddau o bwyntiau ar ddiwedd y ddwy sesiwn holi. Rwy'n disgwyl i'r Aelodau fod yma i ofyn eu cwestiynau llafar, os ydynt wedi cyflwyno cwestiynau, oni bai eu bod wedi cael eu tynnu'n ôl yn ffurfiol. Rwy'n disgwyl hefyd i'r Aelodau fod yma, ac aros yma, drwy gydol unrhyw sesiwn gwestiynau i'r Gweinidogion y maent am gael eu galw ynddi. Nid yw pob Aelod wedi bodloni'r disgwyliad hwnnw heddiw ychwaith, ac mae sawl un yn euog. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn y  Siambr i fy nghlywed yn dweud hyn, ond rwy'n gobeithio y bydd eu cyd-Aelodau ym mhob un o'r pleidiau gwleidyddol, bron, yn trosglwyddo'r neges. Ni fyddaf yr un mor drugarog yr wythnos nesaf. 

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
4. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
5. Cwestiynau Amserol

Mae'r cwestiwn amserol cyntaf i'w ofyn gan Hefin David, i'w ateb gan Weinidog yr Economi. 

Bearmach Cyf

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ659

Diolch am y cwestiwn. Deallwn fod Bearmach Cyf wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae cynghorwyr Cymru'n Gweithio wedi rhoi cymorth ar y safle i weithwyr Bearmach dros gyfnod o dair wythnos, a byddwn yn parhau i weithio gyda staff yr effeithiwyd arnynt, i roi cyngor a chymorth. Rwy'n deall y bydd hyd at 89 o bobl yn cael eu heffeithio yn sgil cau'r cwmni hwn ac yn wynebu colli eu swyddi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae hwnnw'n ateb cychwynnol defnyddiol. Cefais wybod ddydd Llun 12 Medi gan gyngor Caerffili am Bearmach. Maent wedi cynhyrchu a chyflenwi partiau sbâr ar gyfer cerbydau Land Rover hŷn, ac wedi'u lleoli, fel y dywedais, ar ystad ddiwydiannol Pantglas. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r cyngor yn hwyr y dydd Gwener blaenorol, ac rwy'n deall bod y cwmni wedi derbyn cymorth grant gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol. A yw Gyrfa Cymru wedi ymwneud â'r cwmni? Dywedodd yr awdurdod lleol y bydd mewn cysylltiad â hwy i helpu o safbwynt cyflogadwyedd, felly hoffwn wybod hynny. Yn anffodus, ni chafodd union niferoedd y rhai sy'n cael eu diswyddo eu cadarnhau. Fe wnaeth y Gweinidog ei gadarnhau yn ei ateb; clywsom ei fod yn 51, ond yn awr, mae wedi cadarnhau ei fod yn 89. Mae hyn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'r economi leol ym Medwas a'r cyffiniau. Hoffwn wybod beth y mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud i gefnogi'r economi ymhellach yn yr ardal o gwmpas Pantglas a Bedwas yn enwedig. A oes modd i'r Gweinidog roi asesiad pellach inni o effaith cau Bearmach ar weithlu'r gymuned leol, gan gynnwys ei ddealltwriaeth o rôl Gyrfa Cymru? Ac a oes modd iddo egluro pa gymorth pellach a fydd ar gael i gyn-weithwyr gan Lywodraeth Cymru, yn ychwanegol at yr hyn mae eisoes wedi'i grybwyll? 

15:05

Diolch. Fe geisiaf ymdrin â phob un o'r pwyntiau hynny. Ein dealltwriaeth yw bod 89 o bobl yn gyflogedig ar y safle, ac o ystyried mai ein dealltwriaeth ni yw eu bod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'i bod yn debygol y bydd y safle'n cau, maent i gyd mewn perygl o golli swyddi. Fy nealltwriaeth i yw bod nifer cyfyngedig o weithwyr wedi'u cadw am gyfnod o wythnosau i gynorthwyo gyda chau'r busnes a chael gwared ar stoc ar y safle. I'r rhai nad ydynt yn ymwybodol o hynny, mae Bearmach yn gwmni annibynnol sy'n cyflenwi rhannau ac ategolion ar gyfer cerbydau Land Rover, ac wrth gwrs, mae llawer o'r rheini yn dal mewn bodolaeth. 

Mae Cymru'n Gweithio yn rhan o wasanaeth Gyrfa Cymru, felly maent wedi bod ar y safle yn rhoi cymorth i weithwyr. Rydyn ninnau hefyd yn dechrau gweithio gyda hwy—rydym yn deall bod rhywfaint o aelodau undebau llafur yno—i edrych ar gyngor ac arweiniad drwy sesiynau grŵp a sesiynau i unigolion. Mae rhai o'r prif dulliau cymorth y gallwn eu darparu yn digwydd drwy ein rhaglen ReAct Plus. Mae hynny ar gael i bobl sydd naill ai wedi eu heffeithio gan ddiswyddiadau posib, neu yn yr achos hwn, sefyllfa ddiswyddo sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith ac yn wir, Cymru'n Gweithio, i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad addas. Mae hefyd yn darparu grant hyfforddiant galwedigaethol o hyd at £1,500 i helpu pobl sydd wedi'u diswyddo i gaffael sgiliau newydd o bosibl er mwyn caniatáu iddynt ddychwelyd i'r farchnad lafur, gan gynnwys gwaith amgen.

Dylwn ddweud, a byddaf yn hapus i gadarnhau hyn eto, os yw pobl eisiau rhagor o wybodaeth, gallant gysylltu â Cymru'n Gweithio ar 0800 0284844. Felly, os nad yw pobl wedi dod i gysylltiad uniongyrchol, fe allant wneud hynny ar y rhif hwnnw, a byddaf yn anfon y rhif a'r manylion hynny at Aelod yr etholaeth hefyd. Rydym hefyd yn darparu ystod o gymorth arall yn yr ardal, gan gynnwys y rhaglen gwella cynhyrchiant busnes. Rydym yn edrych ar wella cystadleurwydd mentrau bach a chanolig yn yr ardal leol hefyd, fel bod ffynonellau cyflogaeth amgen ar gael, gobeithio. 

Tra bod y farchnad lafur yn dynn iawn ar hyn o bryd, os yw'r rhagolygon gan sawl economegydd o Fanc Lloegr yn gywir, rhan o fy mhryder yw y gallem weld nifer o sefyllfaoedd tebyg yn wynebu'r economi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ond byddwn yn fwy na pharod i siarad gyda'r Aelod hyd yn oed ar ôl y cwestiwn hwn, oherwydd rwy'n credu y bydd yn ddarlun sy'n newid. 

Mae Bearmach wedi bod yn gyflogwr lleol da ers blynyddoedd lawer yn ardal Bedwas a Thretomos. Ar wahân i'r 50 o swyddi y nodwyd y byddant yn cael eu heffeithio, fel y clywsom, bydd llawer o staff asiantaeth eraill a gyflogwyd ar y safle bellach wedi colli eu hincwm ar yr amser gwaethaf posibl. Bydd hyn hefyd yn ergyd i fusnesau lleol a oedd yn cydweithio â Bearmach, neu'n elwa o fod gweithwyr yn gwario'u harian yn y gymuned leol. A wnewch chi roi gwybod i'r Siambr p'un a wnaeth Bearmach gysylltu â chi am unrhyw gymorth ariannol a pha gefnogaeth a gafodd ei chynnig wedyn? Ac a yw cau Bearmach, cwmni llwyddiannus ar un adeg sydd wedi methu ymdopi â'r amodau economaidd anodd, wedi ysgogi ailfeddwl ynghylch y modd y mae Llywodraeth yn blaenoriaethu'r diwydiant ceir fel sbardun i economi Cymru?  

Rwy'n meddwl bod dau gwestiwn gwahanol yno. Yn gyntaf, mae'n bwynt sy'n werth ei ystyried bod gweithwyr asiantaeth, oni bai eu bod wedi ennill hawliau cyflogaeth—. Ac mae yna broses; rwy'n cofio gwneud hyn pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth. Os ydych chi wedi bod yno'n ddigon hir, gallwch hawlio statws parhaol. Fel arall, ni fydd ganddynt ddiogelwch diswyddo ac ni fydd ganddynt hawl i daliadau, oherwydd ni fyddant wedi ennill hawliau cyflogaeth na hyd gwasanaeth mewn cyflogaeth yn wir. 

O ystyried yr her gyda'r sector modurol yn fwy eang, rydym yn dal i weld y sector modurol yn rhan sylweddol o economi Cymru, wrth symud ymlaen. Mae'n amlwg yn agored i rai o'r newidiadau sy'n digwydd, ac yn arbennig y newidiadau yn ein perthynas fasnachu â gwledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn enwedig ein perthynas fasnachu ag Ewrop. Mae hynny wedi gwneud sawl rhan o'r sector yn fwy bregus. Ond bydd yn gyfnod o newid i'r sector, ac mae cyfleoedd, wrth symud ymlaen, drwy fathau newydd o yriant gyda'r cryfder sylweddol sy'n dal i fod gennym yma yn rhan o'r economi, ac yn rhan o'r darlun gweithgynhyrchu ehangach yn wir.

Byddaf yn cyfarfod ag aelodau o sector modurol Cymru yr wythnos nesaf yng nghynhadledd Autolink Fforwm Modurol Cymru. Rwyf wedi eu cyfarfod sawl gwaith i edrych ar heriau y mae'r sector yn eu hwynebu. Nid oeddem yn ymwybodol ymlaen llaw y byddai'r safle'n cau bron ar unwaith. Rwyf wedi cyfarfod â fy swyddogion fy hun, ac nid oedd unrhyw arwyddion cynnar. Ni chafwyd unrhyw ymgysylltiad â'r cwmni yn hirdymor na hyd yn oed yn y tymor byr ymlaen llaw; daethom yn ymwybodol o'r cau pan ddigwyddodd hynny. Felly, mae fy swyddogion wedi cynnig ymgysylltu â'r cwmni, fel y gwelwch; mae fy adran wedi ymgysylltu'n swyddogol â gwasanaeth Cymru'n Gweithio. Rwy'n hapus i rannu rhagor o wybodaeth wrth iddi ddod i law gyda'r Aelodau sydd â diddordeb.

15:10

Diolch i'r Gweinidog. Bydd Dirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon yn ateb yr ail gwestiwn. Galwaf ar Heledd Fychan.

Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai

2. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai? TQ660

Member
Dawn Bowden 15:11:13
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn hwnnw. Rwyf wedi cynnal trafodaethau ar hawliau gweithwyr gyda swyddogion yr undeb cydnabyddedig ym Mhlas Menai, gyda Chwaraeon Cymru, a chyda Siân Gwenllian, Aelod Senedd etholaethol yr ardal leol. Mae'r cyhoeddiad ddoe gan Chwaraeon Cymru yn cadarnhau bod yn rhaid i Parkwood ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth staff, ac rwy'n dawel fy meddwl bod Chwaraeon Cymru wedi dilyn proses ymgysylltu drylwyr gyda'r staff a'r undeb.

Diolch, Dirprwy Weinidog. A minnau wedi fy magu yn Ynys Môn, dwi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Plas Menai fel adnodd a chyflogwr lleol, a braf oedd medru ymweld â Phlas Menai ychydig fisoedd yn ôl fel aelod o'r pwyllgor diwylliant a chwaraeon. Yn ystod yr ymweliad, fe wnaethom fynegi pryder am y posibilrwydd o allanoli gwasanaethau, a rhaid cyfaddef does dim o'r pryderon hynny wedi'u lleddfu ddoe na heddiw. Rhaid cyfaddef hefyd fy mod yn synnu'n fawr at gefnogaeth y Llywodraeth i allanoli gan gorff wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd â dyletswyddau o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Sut mae'r newid hwn yn cyd-fynd â'r egwyddorion hynny? Yn bellach, doedd dim cyfeiriad ddoe o gwbl chwaith yn eich datganiad am yr iaith Gymraeg a phwysigrwydd Plas Menai o ran swyddi da i Gymry Cymraeg yn yr ardal, a hefyd o ran darparu hyfforddiant a chyrsiau yn ddwyieithog. Pa sicrwydd allwch chi ei roi o ran yr elfen hon? Does yna ddim profiad, o beth dwi'n ei weld, gan y rhai sydd wedi cael y cytundeb o flaenoriaethu pethau yn ddwyieithog. Gan gydnabod bod yna nifer o bryderon pellach, da fyddai gwybod hefyd beth oedd y paramedrau pendant oedd yn eich datganiad rhwng Chwaraeon Cymru a'i bartner strategol newydd a gyfeiriwyd ato gennych.

Fe fyddwch yn ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennyf ddoe fod Chwaraeon Cymru wedi cwblhau ei broses i nodi beth y maent yn ei alw'n bartner strategol ar gyfer rheoli Plas Menai yng Ngwynedd yn y dyfodol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud hynny. Rydym yn siarad am reoli'r ganolfan, rydym yn sôn am fanyleb, contract gyda Parkwood Leisure sydd â'r nod o sicrhau, diogelu ac ehangu dyfodol Plas Menai. Fel y gwyddoch, mae Plas Menai wedi cael ychydig o drafferthion dros nifer o flynyddoedd, ac mae nifer o opsiynau gwahanol wedi'u cyflwyno ynghylch sut y gallem ddiogelu a symud ymlaen o hynny. Bydd Parkwood Leisure yn dod â phrofiad helaeth, arbenigedd a hanes o lwyddiant ym maes gweithgareddau awyr agored i'r bartneriaeth hon gyda Chwaraeon Cymru, rhywbeth nad yw'n bodoli ar y safle ar hyn o bryd. Felly, rydym yn edrych ar bartneriaeth a fydd yn defnyddio ac yn manteisio ar y profiad a'r arbenigedd sydd gennym, gyda phartner a fydd â'r arbenigedd nad oes gan y ganolfan.

O ran y fanyleb a'r contract, rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid cydymffurfio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynny wedi'i ysgrifennu yn y contract, yn ogystal â gofyniad i Parkwood Leisure gydymffurfio â strategaeth Chwaraeon Cymru ac i gydweddu â rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, ynghyd â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fel y gwyddoch, mae un o'r saith dull o weithio yn cynnwys ymrwymiad i'r Gymraeg a'i datblygiad. Mae Parkwood Leisure wedi ymrwymo'n llwyr i hynny i gyd. O ran amodau cyflogaeth y bobl sy'n gweithio yno, a oedd yn brif ystyriaeth i mi, ac i Chwaraeon Cymru, rwy'n gwybod, maent wedi cynnwys gwarant yn y contract y bydd telerau ac amodau gweithwyr Plas Menai yn cael eu gwarantu, gan gynnwys eu hawliau pensiwn, am gyfnod cyfan y contract. Maent hefyd wedi cytuno yn nhelerau'r contract na fydd gweithlu dwy haen, fel bod unrhyw staff newydd sy'n cael eu penodi ar ôl cychwyn y contract hefyd yn cael eu cyflogi ar y telerau ac amodau presennol y mae staff Plas Menai yn eu mwynhau ar hyn o bryd.

Rwyf wedi cael trafodaethau manwl gyda'r undebau lleol cydnabyddedig yn Chwaraeon Cymru. Mater i Chwaraeon Cymru wrth gwrs, fel corff hyd braich, yw trafod manylion hyn a sut y bydd yn effeithio ar eu gweithwyr, ond mae yna gydnabyddiaeth mai dyma'r ffordd orau ymlaen i'r datblygiad a goroesiad a thwf Plas Menai yn y dyfodol, sy'n bwysig. Mae'n gontract a fydd yn ceisio datblygu'r ganolfan yn gyfleuster gydol y flwyddyn, nad yw'n wir ar hyn o bryd. A chyda'r prosesau monitro sy'n mynd i fod ar waith i fonitro perfformiad y contract, ynghyd â buddsoddiad cyfalaf parhaus gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r safle, rwy'n fodlon y byddwn yn cyflawni'r contract rheoli—oherwydd dyna ydyw; bydd yn dal i fod ym mherchnogaeth Chwaraeon Cymru ac yn dal i fod ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, felly mae'n dal i fod yn gyfleuster sector cyhoeddus. 

15:15

Pan ymwelais â Phlas Menai gyda'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Heledd, cefais fy synnu gan ba mor wych yw'r cyfleuster, mewn lleoliad syfrdanol, ond hefyd y potensial pellach a allai fod ganddo i ymgorffori rhagor o weithgareddau. Roedd yr arlwy'n ymddangos yn eithaf cyfyngedig o'i gymharu â chanolfannau gweithgareddau awyr agored eraill. Roeddwn yn pryderu y byddai'r cyfleuster yn cael ei roi allan i fenter breifat er elw, ond rwy'n clywed y bydd Parkwood Leisure yn ei redeg fel busnes nid-er-elw; y caiff telerau ac amodau staff eu diogelu, fel rydych newydd ei ddweud, ac roedd hynny, fel rwy'n deall, yn bryder i'r undebau a byddai'n bryder i mi; y byddent yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fel rydych newydd ei ddweud, sy'n rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg; ac y byddant yn parhau i gyflogi pobl leol, gan greu mwy o swyddi drwy gydol y flwyddyn wrth symud ymlaen gobeithio.

Rwy'n ymwybodol fod llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi gorfod newid i wahanol fodelau gweithredu yn ystod blynyddoedd cyni, ac mae gan Parkwood Leisure brofiad eisoes o reoli rhai o'r rhain. Os gwelwch yn dda, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau hyn, a pha lwyddiant a gawsant gyda'r rheini? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn hwnnw? Mae hi'n hollol gywir, ar yr adeg hon o gyni ac o wahanol ffyrdd o wneud busnesau a chyfleusterau'n llwyddiannus, mae'n rhaid inni edrych ar wahanol fodelau. A phe baem yn byw mewn byd delfrydol, mae'n debyg na fyddem yn edrych ar y math hwn o fodel, ond nid ydym, ac felly rydym yn gwneud hynny, oherwydd yr hyn y gobeithiwn ei wneud yw sicrhau dyfodol a thwf y cyfleuster hwn. Rydych yn hollol gywir i ddweud nad preifateiddio yw hyn—y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei gyfleu i Heledd Fychan; mae Parkwood yn bartner a gomisiynwyd, ac mae'r asedau yn parhau o dan berchnogaeth Chwaraeon Cymru. Siaradais am y buddsoddiad cyfalaf parhaus y bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i'w wneud ym Mhlas Menai. Byddai contract Parkwood yn cael ei weithredu drwy eu cangen elusennol, Legacy Leisure, a hynny'n bendant iawn ar sail nid-er-elw, ac mae'r contract wedi'i lunio ar sail nid-er-elw. 

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud fy mod yn cadeirio grŵp trawsbleidiol undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol yn y Senedd? A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn gwrthwynebu rhoi gwasanaethau ar gontract allanol gan Lywodraeth Cymru—yn llwyr, yn ddigamsyniol yn ei wrthwynebu? Mae 'nid-er-elw' yn beth diddorol iawn, oherwydd mae llawer o lefydd 'nid-er-elw'; mae'n hawdd gweithio o gwmpas hynny, wrth gwrs, oherwydd eich bod yn talu ffioedd gwasanaethau ymgynghori, rydych chi'n talu ffioedd cymorth, rydych chi'n talu'r pris y mae'r cwmni hwnnw am ei godi am wasanaethau, felly, mewn gwirionedd, nid yw'r elw'n cael ei wneud ar y contract, mae'n cael ei wneud oddi allan i'r contract. Rwy'n siŵr fod gennym sefyllfa lle bydd amodau pobl yn cael eu diogelu o'r diwrnod cyntaf, ac rwy'n siŵr hefyd y bydd gennym ni sefydliad sy'n dweud, 'Mae angen inni wneud newidiadau i'n gwneud yn fwy effeithlon.' Yn fy mhrofiad i o breifateiddio ar unrhyw un o'i ffurfiau, bydd gweithwyr yn talu'r pris drwy newidiadau i'w telerau ac amodau. Os nad yw'r rheolwyr na'r bwrdd presennol yn gallu rhedeg canolfan awyr agored Plas Menai yn effeithiol, y camau mwyaf effeithiol fyddai disodli'r bwrdd a'r uwch reolwyr a rhoi pobl sy'n gallu gwneud hynny yn eu lle. Pam y mae'r Gweinidog yn credu y bydd rhoi'r gwaith ar gontract allanol yn darparu gwell gwasanaeth, a pham y credwch y gall y sector preifat ei wneud yn well na'r sector cyhoeddus?

15:20

Wel, yn gyntaf oll, diolch am y cwestiwn hwnnw, Mike. Yn gyntaf oll, nid wyf yn credu y gall y sector preifat wneud pethau'n well na'r sector cyhoeddus. Yr hyn yr oeddem yn ei wynebu a'r hyn yr oeddem yn ymdrin ag ef oedd sefydliad sydd wedi rhoi cynnig ar sawl opsiwn gwahanol i ddod â llwyddiant i Blas Menai, gan gynnwys dod â'u rheolwyr eu hunain i mewn, dod â staff marchnata i mewn, a chyflwyno ffyrdd eraill o weithio sydd heb gyflawni'r newidiadau hynny. Yr hyn nad ydynt wedi gallu ei wneud yw cyflwyno'r math o arbenigedd wrth ddatblygu'r cyfleuster o fewn y cyllid sydd ganddynt. Rydych chi'n hollol iawn mai'r hyn y bydd Parkwood Leisure yn ei wneud yn rhan o'r contract yw y byddant yn cael ffi am reoli'r gwasanaeth hwnnw. Felly, nid yw'r gwasanaeth yn cael ei roi ar gontract allanol, ond mae'r gwaith rheoli'n cael ei roi ar gontract allanol. Mae'r gwasanaeth yn parhau'n rhan o Chwaraeon Cymru, ac ni allaf ailadrodd hynny ddigon; mae'n parhau'n rhan o Chwaraeon Cymru. Mae'n parhau i fod yn gorff sector cyhoeddus ac yn ddarpariaeth sector cyhoeddus. Ond byddai'r elw a ddaw i'r sefydliad yn dod drwy eu ffi rheoli, a fydd, gyda llaw, gryn dipyn yn llai na chostau rhedeg Plas Menai ar hyn o bryd—tua 32 y cant yn llai na chostau rhedeg Plas Menai.

Nawr, os nad yw Parkwood yn gallu gwneud arian ar y sail honno, eu problem hwy yw hynny. Dyna y cawsant eu contractio i'w wneud. Dyna'r ffi y maent wedi dweud y gallant reoli'r sefydliad hwnnw arni, ac y gallant ddatblygu'r sefydliad yn seiliedig ar y lefel honno o ffi rheoli. Hefyd wedi'i ysgrifennu yn y contract, ac rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig, Mike—. Treuliais flynyddoedd lawer, fel y gwyddoch, yn swyddog undeb llafur, ac rwy'n gwybod yn iawn beth sy'n digwydd gyda chontractau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE) ac nad yw contractau TUPE ronyn yn fwy gwerthfawr na'r papur y maent wedi'u hysgrifennu arno ar y diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, y gwahaniaeth yma yw nad contract TUPE arferol yw hwn, lle mae'r cyflogwr newydd yn cymryd yr awenau ar y diwrnod cyntaf ac yna'n gallu cyflwyno hysbysiad i newid y telerau ac amodau. Mae telerau ac amodau gweithwyr Plas Menai yn cael eu gwarantu ar gyfer oes y contract. Nid penderfyniad Parkwood Leisure fydd unrhyw newidiadau i staffio a allai fod eu hangen ym Mhlas Menai, Chwaraeon Cymru fydd yn penderfynu hynny. Felly, mae'n gwbl amlwg fod hwn yn fath gwahanol iawn o drefniant. Dyma drefniant partneriaeth a gomisiynwyd, lle nad oes dim yn digwydd yn y sefydliad heb gytundeb Chwaraeon Cymru fel partner, gyda'r partner a gomisiynwyd, Parkwood Leisure.

6. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i dynnu sylw at y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Andy Airey, Mike Palmer a Tim Owen—tri gŵr sy'n fwy adnabyddus fel 3 Dads Walking. Mae'r tri thad, pob un ohonynt wedi colli merch yn sgil hunanladdiad, ar hyn o bryd yn cyflawni eu hail her, sef taith 500 milltir i dynnu sylw at atal hunanladdiad ac i godi arian i'r elusen atal hunanladdiad, Papyrus. Dechreuodd 3 Dads Walking eu her yn St Andrews House yng Nghaeredin ddydd Sadwrn, 10 Medi, sef Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, ac maent yn cyrraedd y Senedd gyda'r nos ar 1 Hydref.

Yn anffodus, hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf ymhlith pobl o dan 35 oed yn y DU, a phob blwyddyn, yn anffodus mae dros 200 o blant ysgol yn cyflawni hunanladdiad. Mae 3 Dads Walking yn credu, drwy godi ymwybyddiaeth, y gallwn i gyd drafod y mater gyda'n gilydd ac atal teuluoedd eraill rhag cael eu difetha yn yr un modd. Mae'r tadau'n cerdded drwy bob un o'r gwledydd—Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Cymru a Lloegr—er cof am eu merched, Beth, Sophie ac Emily, ac maent yn agos at fod wedi codi £1 filiwn ar gyfer Papyrus, sef elusen atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc. Roeddwn am godi hyn yn y Senedd y prynhawn yma gan ei fod yn fater pwysig i dynnu sylw ato, ac roeddwn am dynnu sylw at waith anhygoel y tri thad. Diolch.

Mae'n Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd heddiw. Mae Diwrnod Clefyd Alzheimer y Byd yn gyfle byd-eang i godi ymwybyddiaeth, addysgu, annog, cefnogi a goleuo mewn perthynas â phob math o ddementia. Mae dementia'n gyflwr cymhleth ac yn aml mae angen cymorth arbenigol ar bobl i'w helpu i fyw eu bywydau, eu cadw'n ddiogel a gwarchod eu llesiant. Yn ôl ymchwil ar gyfer Cymdeithas Alzheimer Cymru, roedd 45 y cant o bobl a oedd wedi cael diagnosis yng Nghymru yn teimlo nad oeddent wedi cael digon o gefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yng Nghymru, mae tua 50,000 o bobl yn byw gyda dementia, ac amcangyfrifir y bydd y nifer yn codi i tua 100,000 erbyn 2050.

Mae diagnosis yn gallu bod yn frawychus, ond mae'n well gwybod na pheidio â gwybod. Mae naw o bob 10 o bobl sydd â dementia wedi dweud eu bod wedi elwa o gael diagnosis, gan ganiatáu mwy o amser i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac agor y drws i driniaeth, gofal a chymorth. Felly, fy neges ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan ddementia yn rhanbarth Dwyrain De Cymru a ledled Cymru yw nad ydych ar eich pen eich hun. Os ydych yn poeni am eich cof neu gof rhywun sy'n annwyl i chi, mae cefnogaeth ar gael i chi gan sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer Cymru, a all eich cynorthwyo i wneud y broses o gael diagnosis dementia mor glir â phosibl. Felly, peidiwch â dioddef mewn tawelwch. A hoffwn ddweud wrth bob un o'r Aelodau yma heddiw yn y Siambr a thu hwnt, efallai y bydd y rhai sydd ag Alzheimer's a dementia yn ein hanghofio ni ond gyda'n gilydd, rhaid i ni beidio â'u hanghofio hwy. Diolch. 

15:25

Hoffwn dalu teyrnged i'r diweddar Tony Paris, a fu farw yr wythnos diwethaf. Roedd Tony yn un o Dri Caerdydd, a gafwyd yn euog ar gam o lofruddiaeth drasig a threisgar Lynette White, a ddigwyddodd ond ychydig funudau ar droed o'r Siambr hon. Rwy'n cofio fel bachgen ifanc y protestiadau yng Nghaerdydd am gyfiawnder i Dri Caerdydd. Rwyf hefyd yn cofio'r clecs parhaus amdanynt. Rwy'n cofio hefyd, fel bargyfreithiwr ifanc, y cyn-heddweision, mewn llys agored, yn dweud eu bod yn dal i fod yn euog o lofruddiaeth. Ac er iddynt gael ymddiheuriadau gan Heddlu De Cymru, methodd yr achos llygredigaeth yn erbyn y cyn-heddweision oherwydd bod tystiolaeth ar goll, tystiolaeth y daethpwyd o hyd iddi ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Ni ddaeth yr anghyfiawnder tuag at Tony Paris i ben pan gerddodd allan o'r carchar. 

Mae gan Heddlu De Cymru hanes gwael o gamweinyddu cyfiawnder, yn enwedig mewn perthynas â phobl o leiafrifoedd ethnig. Mae'r mis hwn hefyd yn nodi 70 mlynedd ers crogi Mahmood Mattan ar gam yng ngharchar Caerdydd. Ni allwn anghofio'r achosion hyn o gamweinyddu cyfiawnder. Dyna pam rwy'n cefnogi Cassie Parris, merch Tony, sy'n parhau ei frwydr dros gyfiawnder ac sy'n dechrau ymgyrch i enwi stryd ar ôl Tony yn ei annwyl Butetown. Roedd Tony Paris yn dadlau dros gyfiawnder i bawb; bydd Cymru a'r byd yn lle tlotach hebddo. Diolch yn fawr. 

Gyda thristwch ofnadwy y clywodd Cymru am farwolaeth Eddie Butler. Yn gawr addfwyn, roedd Eddie yn gapten ar Glwb Rygbi Pont-y-pŵl, bu'n gapten ar dîm Cymru a chwaraeodd i'r Barbariaid a'r Llewod, ond fel sylwebydd y daeth Eddie nid yn unig yn enw cyfarwydd ond yn bresenoldeb cyfarwydd ar ddyddiau gemau. Yn ein buddugoliaethau a'n siomedigaethau, roedd llais melodig Eddie yn ein tywys ni, gan groniclo'r eiliadau hynny pan fuom fel cenedl yn dal ein gwynt ar y cyd. Roedd Eddie bob amser yn dod o hyd i'r geiriau. Fel y dywedodd Gary Lineker, roedd Eddie yn fardd Cymreig go iawn a ddaeth â gemau'n fyw gyda brwdfrydedd ac angerdd.

Roedd yn ymgyrchydd selog a roddodd ei gefnogaeth a'i allu i sefydliadau yn amrywio o DEC Cymru i ganser y prostad a Felindre. Ond roedd stori Cymru ei hun o ddiddordeb mawr iddo. Roedd hi'n fraint enfawr cael rhannu llwyfan gydag Eddie yn rali annibyniaeth Merthyr yn 2019. Y diwrnod hwnnw, roedd Merthyr yn llawn brwdfrydedd a chyffro, ac aeth Eddie ati i saernïo'r geiriau a sianelodd yr emosiynau hynny a rhoi llais i'n gobeithion a'n breuddwydion. Bydd colled ar ôl ei lais, bydd colled ar ei ôl ef. Ni welir ei debyg eto. Nos da, Eddie, ac fe'th welwn ar y chwiban olaf.  

Y cyflwynydd sioe siarad fenywaidd gyntaf yn hanes teledu Prydain oedd dynes ganol oed o Lansawel, Mavis Nicholson, merch i yrrwr craen yng ngwaith dur Port Talbot. Fe'i ganed yn y 1930au, a'i magu mewn tŷ teras bach, ac aeth yn ei blaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe dan Kingsley Amis. Symudodd i Lundain, lle daeth i sylw Thames Television yn ei phedwardegau cynnar, ac felly, ym 1971, dechreuodd ei gyrfa yn y byd teledu. Bu'n gyd-gyflwynydd rhaglen brynhawn wythnosol o'r enw Tea Break gyda Judith Chalmers, Mary Parkinson, a Mary Berry. 

Ym 1984, ymunodd â'r Channel 4 newydd, gan gyflwyno ei rhaglen gyfweld yn ystod y dydd, Mavis on 4. Roedd hi'n meistroli'r cyfweliad hir. Dywedodd yr actores Maureen Lipman fod moment Frost-Nixon ym mhob un o'i chyfweliadau. Fe gyfwelodd â chymaint o'r enwau mawr—Elizabeth Taylor, Rudolf Nureyev, Kenneth Williams. Ond roedd hi yr un mor chwilfrydig ynglŷn â bywydau'r bobl a oedd yn eistedd wrth ei hymyl ar y trên ag a oedd hi am fywydau Lauren Bacalls a David Bowies y byd hwn.

Bu'n cyflwyno ar y radio hefyd. Bu'n cyflwyno Start the Week a Woman's Hour, a llenwi dros Jimmy Young ar Radio 2.

Enillodd Wobr Arbennig Bafta Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Deledu yn 2018. Ac am gyfraniad oedd hwnnw. Tybed a yw Loose Women heddiw neu Emma Barnett yn gwybod pwy wnaeth chwalu'r nenfwd gwydr ar eu cyfer. Mavis Nicholson oedd honno, gyda goslef Llansawel ar ei llais.

Symudodd Mavis yn ôl i Gymru dros 20 mlynedd yn ôl a bu farw ar 8 Medi yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 91 oed.

15:30
7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd

Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone. 

Cynnig NDM8072 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd, a osodwyd ar 18 Mai 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd yn ddefnyddiol i bob Aelod, gan fod hyn yn rhywbeth y gwn fod ein holl etholwyr yn hynod bryderus yn ei gylch. Dechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad hwn yn y gwanwyn eleni, pan oedd prisiau ynni yn draean yr hyn ydynt heddiw. Ac mae Cymru’n arbennig o agored i’r cynnydd digynsail hwn. Mae rhywfaint o stoc dai Cymru ymhlith yr hynaf yn Ewrop. Mae cartrefi heb eu hinswleiddio'n ddigonol, yn y sector preifat yn bennaf, ac sydd naill ai'n eiddo i berchen-feddianwyr neu'n cael eu rhentu'n breifat, yn costio swm anghymesur i'w gwresogi ac yn dibynnu ar ffynonellau ynni sy'n allyrru carbon. Y DU sydd ar waelod y tabl yn Ewrop ar inswleiddio cartrefi. Mae tai yn y DU, ar gyfartaledd, yn colli 3 gradd Celsius o wres dan do ar ôl pum awr, deirgwaith yn gyflymach nag yn yr Almaen. Ac mae gan hyd yn oed gwledydd de Ewrop fel yr Eidal a Sbaen, nad ydynt yn cael ein gaeafau oer a hirfaith ni, gartrefi sydd, ar gyfartaledd, wedi'u hinswleiddio ddwywaith cystal â chartrefi'r DU. Mae hyn yn wirioneddol syfrdanol.

Dros 20 mlynedd yn ôl, bwriad y Ddeddf cartrefi cynnes oedd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru a dileu tlodi tanwydd. Mae cyfuniad o lunio polisïau diffygiol, rheoliadau annigonol ac aflonyddwch ym marchnadoedd ynni’r byd yn golygu nid yn unig ein bod ymhell o gyflawni’r nod hwnnw, ond bod y sefyllfa bellach yn enbyd. O ganlyniad i godi'r cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod dros 600,000 o aelwydydd, neu 45 y cant o’r holl aelwydydd, yn byw neu y byddant yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru cyn gynted ag y bydd y gaeaf yn dechrau. Yn ôl pob tebyg—mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny—dyna, bellach, yw tynged y rhan fwyaf o aelwydydd Cymru. Y rhai mwyaf agored i niwed yw'r rhai sy'n wynebu'r dewis enbyd rhwng bwyta neu wresogi. Fel y nodir yn yr adroddiad hwn, mae angen gweithredu ar frys gan y Llywodraeth ar raddfa ddigynsail.

Hoffwn ddiolch i’r holl bobl a fu’n rhan o'r gwaith o lunio adroddiad yr ymchwiliad, yr holl randdeiliaid a’r arbenigwyr polisi a roddodd dystiolaeth ffurfiol, yr aelodau o’r cyhoedd a siaradodd â ni am eu profiadau personol o’r materion yr ydym yn ymdrin â hwy yn yr adroddiad, clercod y pwyllgor a’r staff ymchwil a gefnogodd ein hymchwiliad, yn ogystal â’r archwilydd cyffredinol a’i dîm yn Archwilio Cymru am eu harchwiliad manwl o raglen Cartrefi Clyd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd.

Roedd nwy yn arfer cael ei ystyried yn ffordd effeithiol a chymharol rad o wresogi ein cartrefi. Roedd hynny tan i nwy ddechrau cael ei ddefnyddio i bweru gorsafoedd pŵer yn lle glo, ac mae hyn, ynghyd â sgil-effeithiau'r rhyfel yn Wcráin, wedi cynyddu prisiau’r farchnad yn sylweddol. Mae'r cythrwfl wedi creu argyfwng digynsail i aelwydydd y gaeaf hwn. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) yn dweud y bydd y codiadau hyn yn taro'r cartrefi tlotaf yng Nghymru yn galetach nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU. Ac mae rhai aelwydydd yn gwario dros chwarter—26 y cant—o'u hincwm ar ynni a bwyd, sydd ill dau wedi cael eu heffeithio gan chwyddiant enfawr. I'r bobl hyn, fel y mae NIESR yn proffwydo, ni fydd twf cyflogau na budd-daliadau lles yn gwneud iawn am y cynnydd cyflym hwn mewn chwyddiant.

Rydym yn falch fel pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein tri argymhelliad cyntaf, sy’n ymwneud â’r camau y mae angen eu cymryd ar unwaith i adolygu effeithiolrwydd cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl yn sgil y toriad TAW ar gyfer deunyddiau arbed ynni ac inswleiddio. A yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa yn awr i rannu canlyniad ei hadolygiad o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf? Mae angen i bob un ohonom wybod pa awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sydd â’r strategaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun wrth inni wynebu problemau mwy enbyd byth y gaeaf hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £4 miliwn ychwanegol yn y Sefydliad Banc Tanwydd, sy’n rhoi taliadau ychwanegol i bobl â mesuryddion talu ymlaen llaw, a chronfa wres ar gyfer prynu olew gwresogi ymlaen llaw ar gyfer aelwydydd incwm isel nad ydynt ar y grid nwy. Mae hynny i’w groesawu’n fawr, a byddai’n dda gwybod a yw’r Llywodraeth yn credu bod hynny’n mynd i fod yn ddigonol i ddiwallu'r galw y gaeaf hwn.

Mae nifer fawr o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eisoes wedi cynnig sefydlu hybiau cynnes y gaeaf hwn fel nad yw pobl yn crynu yn eu cartrefi. Pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhagweld, mewn partneriaeth â’r panel cynghori ar dlodi tanwydd ac eraill, i sicrhau y bydd y mentrau rhagorol hyn yn rheoli'r adnoddau uniongyrchol sydd eu hangen yn y cymunedau tlotaf un i atal pobl rhag rhewi i farwolaeth yn llythrennol?

Er bod rhaglen Cartrefi Clyd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i oddeutu 67,000 o aelwydydd a gafodd gymorth drwyddi, roedd ei diffygion yn amrywio o faint a graddfa’r rhaglen i feini prawf cymhwysedd cyfyngol a chap grant a oedd wedi’i gynllunio’n wael, ac a oedd yn rhwystro dulliau tŷ cyfan mwy cyfannol. Daeth Nyth ac Arbed, yn eu hanfod, yn gynlluniau amnewid boeleri nwy, gan flaenoriaethu systemau gwresogi sy'n allyrru carbon dros ymyriadau eraill. Disgrifiwyd y pwyslais a roddir ar osod boeleri newydd heb waith cyflenwol i insiwleiddio cartrefi gan un o’n rhanddeiliaid fel

'prynu tebot llawn craciau.'

Mae’r ffigurau ar gyfer 2020-21 yn dangos bod bron bob un o’r mesurau a roddwyd ar waith gan Nyth y flwyddyn honno yn ymwneud â systemau gwres canolog yn hytrach na chynlluniau inswleiddio, sy’n golygu eu bod yn parhau i osod systemau a oedd yn allyrru carbon. Mae ein hadroddiad, ochr yn ochr ag adroddiad yr archwilydd cyffredinol, yn nodi mewn du a gwyn y gwersi sy'n rhaid eu dysgu o ddiffygion rhaglen bresennol Cartrefi Clyd. Mae argymhelliad 6 yn ein hadroddiad, yn benodol, yn crynhoi’r angen i’r rhaglen nesaf fod yn fwy o ran maint, yn ddoethach o ran pwy y mae’n ei dargedu ac yn wyrddach yn ei hymyriadau.

Gan fod y Senedd bellach wedi ailddechrau ei busnes arferol ar gyfer tymor yr hydref eleni, edrychwn ymlaen at lansiad rhaglen nesaf Cartrefi Clyd. A wnaiff y Gweinidog nodi, naill ai yn awr neu’n ysgrifenedig i’r pwyllgor, y ffyrdd yr aethpwyd i’r afael ai peidio â’n pwyntiau penodol ynglŷn â’r rhaglenni olynol? Yn benodol, rydych yn dweud

'bydd y fersiwn nesaf yn ymateb i amodau'r farchnad a'r gadwyn gyflenwi, gan gydbwyso'r galw â'r capasiti sydd ar gael.'

Geiriau doeth, o ystyried lefel y tarfu yng Nghymru a’r byd. Yn y tymor hir, mae trechu tlodi tanwydd a diogelu ein ffynonellau ynni yn dibynnu ar ddatgarboneiddio pob cartref yn effeithiol, ac mae hynny’n cynnwys gwell effeithlonrwydd ynni.

Mae Cymru wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd o ran cynhyrchu dros hanner yr ynni y mae’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd o adnoddau adnewyddadwy. Yr her i Lywodraeth Cymru yw sut y gall hynny drosi’n drawsnewidiad teg, cyfiawn a gwyrdd yng nghyd-destun y ffordd y mae marchnad ynni’r DU wedi’i rigio ar hyn o bryd i gost ddrudfawr nwy. Mae newid i ynni adnewyddadwy yn allweddol, ac mae'n fater brys.

Rydych wedi derbyn deunawfed argymhelliad y pwyllgor ar strategaeth glir, hirdymor ar gyfer datgarboneiddio gyda’r nod o roi’r hyder sydd ei angen ar ddiwydiant i fuddsoddi mewn sgiliau, technoleg a phobl. Gwyddom fod angen y cynllun sgiliau sero net yn awr, felly gobeithio na fydd y dyddiad cyhoeddi a ragwelir ym mis Rhagfyr yn llithro.

Bydd angen i'r newid i sero net edrych ar y stoc dai o bob oed a math o ddeiliadaeth yng Nghymru. Mae’r nifer fwyaf o aelwydydd tlawd o ran tanwydd yn y sector rhentu preifat ac mewn ardaloedd gwledig, ac mae angen camau penodol i fynd i’r afael â’r rhain. Mae'r heriau i denantiaid yn y sector rhentu preifat yn arbennig o ddifrifol. Ychydig iawn o denantiaid sy’n rhentu’n breifat a elwodd o’r rhaglen bresennol, a chanfu ymchwil a amlygwyd yn ein hadroddiad nad oedd fawr ddim cydberthynas rhwng effeithlonrwydd ynni eiddo a chyfraddau rhent y farchnad. Felly mae angen i Lywodraethau Cymru a’r DU fynd i’r afael â hyn drwy gyfuniad o gymhellion i landlordiaid, safonau mwy trwyadl ac ymgysylltu cyffredinol.

Felly, yn benodol mewn perthynas ag argymhelliad 22, a wnaiff y Gweinidog nodi a yw’n bwriadu annog Llywodraeth y DU i weithredu ar gynigion i gynyddu’r safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol i dystysgrif perfformiad ynni C ar gyfer pob eiddo rhent erbyn 2028? Ac os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i weithredu, a wnaiff Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â gweithredu’r safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni uwch hyn yng Nghymru yn unig? Edrychaf ymlaen at sylwadau’r Aelodau ac ymateb y Gweinidog.

15:40

Rwy'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar adroddiad ein pwyllgor ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd. Hoffwn ddiolch i’n Cadeirydd, Jenny Rathbone, am ein llywio drwy nifer sylweddol o faterion pwysig, sydd, yn y cyfnod hwn o her economaidd, wedi dod yn bwysicach byth i deuluoedd ledled Cymru. Mae tlodi tanwydd, y risg i iechyd a llesiant teuluoedd wrth inni wynebu misoedd oeraf y flwyddyn, gyda phrisiau eisoes yn llawer uwch nag ychydig fisoedd yn ôl, yn fygythiad y mae angen i’r Senedd hon a Llywodraeth Cymru ymateb iddo. Yn wir, rydym mewn lle gwahanol i’r adeg pan ddechreuodd y pwyllgor ar y gwaith hwn, gyda theuluoedd yn wynebu costau tanwydd, cynnydd ym mhrisiau’r archfarchnad, y perygl o ddirwasgiad ac effaith tlodi tanwydd, a fydd, eleni, yn taro mwy o aelwydydd nag a welwyd o'r blaen.

Hoffwn ganolbwyntio ar ymateb y Gweinidog i argymhellion y pwyllgor. Mae ein hadroddiad yn glir o ran y casgliadau y daethom iddynt, yn seiliedig ar y cyfoeth o dystiolaeth a ystyriwyd gennym, ac mae ymdeimlad o bwrpas yn yr hyn a argymhellwyd gennym. A chan ein bod wedi cyhoeddi ein hadroddiad ym mis Mai, bedwar mis yn ôl, rwy'n gobeithio bod y Gweinidog wedi gwneud cynnydd sylweddol bellach ar fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a argymhellwyd gennym, gyda'r newidiadau yn y tywydd ar y gorwel.

Hoffwn sicrwydd y caiff ein hargymhellion eu cyflawni, ac yn arbennig yn y meysydd canlynol: yn gyntaf, gwnaethom alw am adolygiad o’r cymorth a gynigir i aelwydydd incwm isel drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf cyn hydref 2022, gan asesu’r cyfraddau sy'n manteisio fesul ardal awdurdod lleol, asesu effeithiolrwydd y gwaith hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth, ac ystyried a oes angen rhagor o waith allgymorth i fynd ati'n rhagweithiol i gefnogi grwpiau sy’n anos eu cyrraedd ac sy’n agored i niwed. Dywedodd ymateb y Gweinidog fod adolygiad yn cael ei gynnal. A yw hwn wedi'i gwblhau bellach, ac os nad yw, pryd? A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd fod yr adolygiad mor gynhwysfawr ag y mae’r pwyllgor wedi galw amdano, i ddeall yn llawn effeithiolrwydd cymorth i aelwydydd incwm isel ac i feddwl am anferthedd yr heriau y mae llawer mwy o aelwydydd yn eu hwynebu bellach?

Yn ail, rwy'n pryderu nad yw’r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn rhai o’n hargymhellion yn cael ei adlewyrchu yn y naratif cysylltiedig. Er enghraifft, yn ein pumed argymhelliad, lle'r ydym yn galw am feini prawf cymhwysedd craffach, llai cyfyngol sy’n sicrhau, fan lleiaf, fod unrhyw aelwyd sy’n bodloni’r diffiniad o dlodi tanwydd yn gallu cael cymorth pan fo angen yn y fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, dywed Llywodraeth Cymru y bydd

'yn ystyried argymhelliad y Pwyllgor wrth gynllunio manylion y meini prawf cymhwysedd i sicrhau yr eir i'r afael â'r pwyntiau a godwyd.'

Nid yw fy nehongliad o hyn yn ymrwymo’r Llywodraeth i wneud yn union fel yr argymhellodd y pwyllgor, er eu bod wedi derbyn yr argymhelliad. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y prynhawn yma y bydd y rhaglen newydd yn graffach ac yn llai cyfyngol?

Mae’r rhain yn ystyriaethau allweddol, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n awyddus i wybod bod gwersi’n cael eu dysgu, a hoffwn annog y Llywodraeth i gyhoeddi'r rheini cyn gynted â phosibl. Crybwyllwyd yr her ynghylch rhaglen sy’n graffach o ran pwy y mae’n ei dargedu gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad, a soniai y dylai’r Llywodraeth nodi sut y mae’n bwriadu sicrhau bod y fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd yn fwy o ran maint, yn graffach o ran pwy y mae'n eu targedu ac yn wyrddach yn ei hymyriadau. Rwy'n cytuno â’r archwilydd cyffredinol.

Ar argymhelliad 6, mae arnaf ofn unwaith eto nad yw'r naratif yn cyd-fynd â'r ffaith bod yr argymhelliad wedi'i dderbyn. Dywedir wrthym eto i aros i'r Gweinidog nodi cwmpas a diben y rhaglen newydd hon. A yw’r Gweinidog yn derbyn barn Archwilio Cymru y dylai’r rhaglen newydd fod yn fwy o ran maint, yn graffach ac yn wyrddach? Os felly, a fydd hynny’n cael ei nodi'n glir y prynhawn yma, i roi hyder i’r Aelodau fod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud, ynghyd â’r manylion y dylem ddisgwyl eu gweld yn awr?

Yn drydydd ac yn olaf, hoffwn sôn am faes arall yn ein hadroddiad sy’n hollbwysig.

15:45

Er bod gennyf rai pryderon ynghylch cyflymder ymatebion gweinidogol, mewn cyfnod o her ddigynsail ac uniongyrchol, mae sawl maes yn ein hadroddiad sy’n ymwneud â’r tymor hwy. Mae un o’n hargymhellion, Rhif 11, yn gofyn am gynllun seiliedig ar ardal yn y dyfodol i ddatblygu strategaeth ymgysylltu â’r gymuned er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl o’r rhwydweithiau presennol—

—a bod ymdeimlad cryfach o lawer o ymrwymiad ymhlith cymunedau lleol. Mae hyn yn bwysig. Gwlad fechan yw Cymru; mae gennym gapasiti sylweddol yn ein rhwydwaith o awdurdodau lleol, darparwyr tai, grwpiau cymunedol a thrydydd sector sydd wedi cyrraedd gallu i ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau i helpu i sicrhau'r ymrwymiad hwnnw. Mae yna reswm pam fod hyn yn hollbwysig.

Hoffwn glywed gan y Gweinidog ynghylch hynny. Diolch.

Mae'r ymchwiliad a'r adroddiad yma i'r rhaglen Cartrefi Clyd a thlodi tanwydd efallai'n un o'r pwysicaf i fi fod yn rhan ohono fel aelod o bwyllgor yn y Senedd hyd yma, achos bob gaeaf mae cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd i fforddio gwresogi eu cartrefi, gan fyw mewn amodau llaith, oer sy'n beryglus i'w hiechyd. Dyna oedd y sefyllfa gaeaf y llynedd, a'r gaeaf cyn hynny, a'r gaeaf cyn hynny, cyn i'r rhyfel yn Wcráin ddechrau, cyn anterth yr argyfwng ynni presennol. Roedd yna sefyllfa argyfyngus yn barod yn bodoli a oedd yn gwneud y gwaith craffu a'r dadansoddi manwl hwn gan y pwyllgor, er mwyn sicrhau bod fersiwn nesaf y rhaglen yn elwa o ddysgu gwersi allweddol ac yn gwneud yr hyn mae angen iddi ei wneud, yn waith brys ac yn waith hollbwysig, yn hollbwysig o ran ein hangen fel cenedl i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'n hymdrechion hanfodol ni i dorri allyriadau carbon, ac o ran ein dyletswydd i ddileu lefelau cwbl annerbyniol o dlodi tanwydd, sydd bellach, fel ddwedodd y Cadeirydd, wedi cyrraedd 45 y cant, a siŵr o fod yn uwch.

Ac os nad oedd hynny'n ddigon o gymhelliad i'n sbarduno ni, dechreuon ni ymchwilio hefyd yn sgil methiannau dybryd a drudfawr y rhaglen Cartrefi Clyd a nodwyd gan adroddiad Archwilio Cymru. Roedd y diffygion a nodwyd yn rhaid sylfaenol a syfrdanol, o ystyried pwysigrwydd y rhaglen a maint y gwariant cyhoeddus arni, ac mae argymhelliad y pwyllgor y dylai fersiwn newydd y rhaglen gynnwys fframwaith fonitro, gwerthuso a rheoli cadarn yn gwbl greiddiol. Y peth canolog i nodi, efallai, yw bod y cyllid ar gyfer y rhaglen wedi bod yn gwbl annigonol. Roedd tystiolaeth comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn drawiadol o ran hynny, ac yn tanlinellu diffyg amlwg y rhaglen hyd yma o ran ei huchelgais a'i heffaith a'r angen brys am weithredu ar hyn.

Mae pris rhagor o oedi cyn buddsoddi a gweithredu ar fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn uwch o lawer nawr yn nhermau tlodi tanwydd, wrth gwrs, yn sgil yr argyfwng ynni presennol. Mae Plaid Cymru yn cefnogi argymhellion y pwyllgor ac yn falch o weld ymateb y Llywodraeth, sy'n derbyn pob argymhelliad. Ond mae nifer o'r ymatebion i'r argymhellion yn awgrymu y byddai diweddariad yn cael ei gynnig i'r Senedd ynglŷn â fersiwn nesaf y rhaglen erbyn dechrau y tymor newydd yma wedi'r toriad, ac yng ngolau'r argyfwng sy'n ein taro, sy'n bygwth iechyd ac yn wir bywydau teuluoedd, mae angen amserlen glir ac ymrwymiad polisi pendant ar frys ar gyfer rhaglen uchelgeisiol a chynhwysfawr i daclo'r argyfyngau costau byw a hinsawdd, sy'n cyflawni'r nod yn effeithiol, yn unol â chanfyddiadau'r adroddiad. Pryd gawn ni glywed hynny, Weinidog? Hoffwn gael llinell amser pendant yn eich ymateb i'r ddadl.

A tra ein bod ni'n aros am weithrediad y fersiwn newydd o'r rhaglen, mae Plaid Cymru yn cefnogi barn NEA Cymru y dylid gwneud newidiadau a buddsoddiadau newydd nawr oddi mewn i'r rhaglen Nest bresennol i'w gwneud yn fwy effeithiol ac er mwyn dyfnhau ei heffaith. Dylai'r Llywodraeth wneud y mwyaf o'r cynllun presennol drwy roi hwb ariannol i'r rhaglen a'i haddasu i gynnig mesurau ffabrig ac insiwleiddio ochr yn ochr â systemau gwresogi. Y dull ffabrig a gwaethaf yn gyntaf o ran ôl-osod, gan dargedu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran tanwydd, sydd angen bod wrth wraidd fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Bydd hyn yn lleihau'r galw am ynni ac yn cyflawni’r nod ddwbl yna o leihau tlodi tanwydd wrth leihau defnydd ynni ac felly allyriadau carbon.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Dorïaidd San Steffan i ddefnyddio treth ar elw grotesg o enfawr y cwmnïau olew a nwy i helpu ariannu rhaglen i wella stoc tai Cymru, sydd ymhlith y lleiaf ynni effeithiol yn y Deyrnas Gyfunol.

Un peth sy'n amlwg, mae angen gweithredu radical ar raddfa nas gwelwyd hyd yma. Dŷn ni'n hoffi defnyddio'r term yna, 'radical', efallai'n rhy aml. Mae'r rhaglen yma yn gofyn am wir ystyr y gair 'radical'. Mae'r adroddiad hwn yn cynnig llwybr sy'n glir o ddryswch a diffygion y rhaglen flaenorol. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn y map sydd wedi cael ei gynnig. Yr hyn sydd angen i ni yma a miloedd o drigolion Cymru ei glywed yw pryd fydd y cam nesaf ar y daith yn cael ei gymryd.

15:50

Pan oeddem ni i gyd yn dechrau allan ar yr ymchwiliad yma, doeddem ni ddim yn gwybod mai hwn fyddai'r pwnc mwyaf pwysig i ni i gyd, ac i ddweud y gwir, dwi'n teimlo tipyn bach yn drist fod yna ddim mwy o bobl yma yn y Siambr, achos hwn ydy'r peth mwyaf pwysig i ni i gyd ac i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli hefyd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch yn gyntaf i'r unigolion a'r cyrff hynny wnaeth gymryd rhan yn yr ymchwiliad yma, y Gweinidog a hefyd y Cadeirydd a'm cyd-Aelodau.

Mae'n bwysig bod yr adroddiad yn cael ei greu yn y cyd-destun rydym ni i gyd ynddo, hynny yw, beth rydyn ni'n ei wynebu rŵan a beth dwi'n ei ddweud: hwn ydy'r peth mwyaf pwysig. Dylem ni i gyd yn ein calon ac yn ein pen fod yn meddwl, 'Mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hyn ar gyfer y bobl rydyn ni i gyd yn eu cynrychioli.'

Mae 45 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn debygol o fod mewn tlodi ynni eleni. Mae Banc Lloegr wedi rhagdybio y bydd chwyddiant yn cyrraedd rhyw 13 y cant erbyn diwedd y flwyddyn. Nid yw rhyw 70 y cant o'r bobl sy'n byw mewn tlodi ynni yn derbyn unrhyw fath o fudd-daliadau ac nid, felly, yw llawer o'r cymorth sydd ar gael yn berthnasol iddynt. A chyn y pandemig a chyn yr argyfwng costau byw yma, roedd traean o blant yng Nghymru yn wynebu tlodi.

Dwi eisiau canolbwyntio ar un o'r elfennau roeddem ni'n edrych arnynt, a dwi'n gwybod bod hyn wedi cael ei drafod y prynhawn yma, hynny yw, Cartrefi Clyd y Llywodraeth, ac Arbed a Nest.

Roedd adroddiad y pwyllgor ac adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi nifer o faterion a phryderon: rheolaeth wael ar gontractau a rhaglenni; problemau gyda chyrraedd cymunedau gwledig a rhentwyr preifat; diffyg eglurder ynghylch y meini prawf a'r amcanion; a'r cyflymder a'r raddfa sy'n angenrheidiol. Clywsom yn y dystiolaeth i’r pwyllgor, er bod y rhaglen wedi bod o gymorth i lawer o bobl ledled Cymru, na chafodd yr effaith ac nad oedd ganddi'r cyrhaeddiad a’r effeithiolrwydd sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer y bobl gywir, yn y ffordd gywir, o ran tlodi tanwydd a datgarboneiddio. Barnwyd nad oedd bron i hanner y bobl a gafodd gymorth drwy’r rhaglen y llynedd mewn tlodi tanwydd, ac roedd y ffigur hwnnw’n fwy na 60 y cant yn y flwyddyn flaenorol.

Gan gyffwrdd â’r rheini mewn cymunedau gwledig a gynrychiolir gennyf fi, a chan eraill yma, rwy'n gwybod, maent yn wynebu heriau penodol yn aml wrth ymdrin ag eiddo hen iawn sy’n anodd eu hôl-osod a’u hinswleiddio, ac ychydig iawn o allu sydd gan y rheini mewn llety rhent i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac fel y gwyddom, mewn rhai amgylchiadau, gallant wynebu anawsterau a chael eu ceryddu wrth iddynt wneud hynny. Byddai’n ddefnyddiol clywed gan y Gweinidog felly pa gamau sy’n cael eu cymryd, neu’r opsiynau sy’n cael eu harchwilio, i sicrhau nad yw cymunedau gwledig a rhentwyr preifat yn cael eu gadael ar ôl yng ngham nesaf y rhaglen.

Yn ogystal ag edrych ar yr hyn sydd angen digwydd nesaf, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ymchwiliad i fynd i’r afael â’r methiant ymddangosiadol i reoli arian cyhoeddus yn iawn. Mae’r materion sy’n ymwneud â throsglwyddo arian o un elfen o’r rhaglen i’r llall yn codi cwestiynau. Mae dadansoddiad cyflym o ddatganiadau blynyddol y rhaglen yn dangos bod nifer yr aelwydydd sy’n cael cymorth o dan y cynllun wedi gostwng o 5,500 i 4,500 yn 2020-21, ac ar gyfradd 2016-17, byddai’n cymryd 111 o flynyddoedd i insiwleiddio pob cartref, ac ar gyfradd 2021, 135 mlynedd. Felly, mae nifer enfawr o gwestiynau yma i'w hystyried mewn perthynas â maint a lefel y buddsoddiad, a hefyd sut y gall y rhaglen, wrth symud ymlaen, gyrraedd cymunedau gwledig a’n rhentwyr preifat.

Credaf ei bod yn bwysig canolbwyntio yn awr ar ddysgu’r gwersi hynny a symud ymlaen, ond erys y ffaith bod y targed statudol i drechu tlodi tanwydd erbyn 2018 wedi’i fethu, a hynny o gryn bellter. Mae £400 miliwn o bunnoedd wedi’i wario ar brosiect sydd wedi methu cyflawni ei amcanion, ac fel y dywedais ar y dechrau, rydym yn wynebu argyfwng ynni a allai fod wedi gwarchod pobl Cymru yn rhannol pe bai rhaglen Cartrefi Clyd wedi gwneud ei gwaith. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch hefyd i’m cyd-Aelodau, y Cadeirydd a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar yr adroddiad hollbwysig ac amserol hwn, ‘Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd’, yn ogystal â’r rheini a roddodd dystiolaeth ac a siaradodd gerbron y pwyllgor. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb naill ai drwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, neu eu derbyn mewn egwyddor. Gwyddom fod yr argyfwng costau byw'n effeithio ar gynifer o bobl ar draws ein cymunedau. Mae’r adroddiad hwn wedi bod yn hollbwysig o ran nodi’r bylchau yn y cymorth, a deall sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i sicrhau na chaiff unrhyw gartref ei adael ar ôl. Ac wrth inni ddechrau’r tymor hwn, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd ar waith, a byddwn yn croesawu cynlluniau i wneud y meini prawf cymhwysedd, yn enwedig ar gyfer cymorth, yn llai cyfyngol, fel y nodir yn argymhelliad 5.

Mae llawer o bobl yn ein cymunedau angen y cymorth hwn yn ddybryd, ond nid ydynt wedi gallu cael mynediad ato. Er enghraifft, mae Marie Curie yn tynnu sylw at y ffaith bod argymhelliad 5 yn gyfle i gefnogi pobl â salwch angheuol, pobl â chanser, neu gyflyrau niwrolegol, ac sydd bellach yn wynebu tlodi tanwydd oherwydd yr argyfwng parhaus. Mae pobl sy’n marw yng Nghymru, yn ogystal â’r rheini sy’n dioddef o salwch cronig, yn treulio llawer mwy o amser a llawer mwy o arian ar wresogi eu cartrefi’n ddigonol, ac fel y canfu Marie Curie, maent yn ofnus iawn ynghylch cost gwresogi eu cartrefi wrth symud ymlaen. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y bobl hyn yn ein cymunedau yn gymwys i gael y cymorth priodol ac yn cael eu cyfeirio'n effeithiol ato.

Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3, i weithio gyda’r panel cynghori ar dlodi tanwydd i nodi camau neu fesurau uniongyrchol i fyrdymor i gefnogi teuluoedd sydd eisoes mewn tlodi tanwydd. Mae'n dorcalonnus fod rhai o'r fideos mwyaf poblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd yn awgrymu y dylai pobl ddiffodd yr holl reiddiaduron yn eich cartref a dibynnu ar flanced drydan i'ch helpu drwy'r misoedd nesaf. Mae’r pryder a’r straen ynglŷn â thalu costau tanwydd uwch ar gynnydd ar draws ein cymunedau, ac os oeddem yn credu bod unrhyw obaith y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn ac yn rhoi’r cyhoedd yn gyntaf, roeddem yn gwbl anghywir. Fel y dywedodd Martin Lewis o Money Saving Expert, bydd aelwydydd yn wynebu bil ynni nodweddiadol sy'n codi i hyd at £3,500 y flwyddyn o’r hydref hwn ymlaen, ac mae’r cymorth arfaethedig presennol gan Lywodraeth y DU yn druenus o annigonol.

Mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu polisi Plaid Lafur y DU o gael cap ar brisiau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau i godi treth ffawdelw ar y cwmnïau sy’n parhau i bocedu elw aruthrol o’r argyfwng. Amcangyfrifir y bydd yn costio £150 biliwn rhwng nawr a 2024, a fydd yn dod o fenthyca. Felly, bydd yn rhaid inni ei dalu’n ôl rywsut, na fydd ond yn gohirio'r broblem yn y bôn, a’r gost i’r cyhoedd.

Ond hefyd, £2,500 fydd y cap, gyda phawb yn derbyn £400 dros y chwe mis nesaf. Yn ôl fy nghyfrifiadau i, mae hynny’n dal i fod o leiaf £600 yn fyr o’r £3,500 a amcangyfrifwyd. O ble y mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i hwn ddod? Dywed trigolion yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl wrthyf y bydd yn amhosibl iddynt ei dalu, gyda phrisiau bwyd, tanwydd ac ynni yn codi tra bo llawer o gyflogau'n aros yr un fath.

Yn ffodus, unwaith eto, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn na wnaiff Llywodraeth y DU, ac yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Gwelwn hynny mewn sawl argymhelliad ac ymateb gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb i’n hadroddiad—sy’n canolbwyntio ar gydweithio a phartneriaeth rhwng awdurdodau lleol, gan gynnwys sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar gynllun cymorth tanwydd Cymru, lle gall trigolion hawlio taliad untro o £200 drwy eu hawdurdod lleol i sicrhau y gallant dalu eu bil tanwydd, yn ogystal â thalebau tanwydd a chronfa wres i bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw sy’n wynebu caledi.

Clywsom hefyd gan ein Prif Weinidog ddoe y bydd £1 filiwn ar gael i ganolfannau cymunedol, clybiau chwaraeon a grwpiau eraill i ddarparu banciau cynhesu i helpu tuag at eu costau tanwydd, wrth iddynt ddarparu mannau cynnes a chroesawgar i bobl barhau i ymgynnull. Dim ond drwy ddeall profiadau byw pobl o'r argyfwng hwn y gallwn sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei roi, a chredaf ein bod wedi gwneud ein gorau i gyfleu eu lleisiau yn ein hadroddiad. Ond mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau yn awr fod y bobl sydd angen cymorth yn gwybod ble a phryd y gallant gael mynediad ato, ac i sicrhau bod y cymorth mor hygyrch â phosibl i'r bobl sydd ei angen.

16:00

Canfu adroddiad y pwyllgor fod rhaglen Cartrefi Clyd gwerth £360 miliwn Llywodraeth Cymru yn ddiffygiol o ran ei graddfa, ei maint a'i diben. Mae hyn yn destun pryder difrifol, fel y mae canfyddiad yr adroddiad y disgwylir y bydd y newidiadau syfrdanol i’r farchnad ynni yn ystod y flwyddyn hon yn taro’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru yn galetach nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU, yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 21 o argymhellion yr adroddiad, mae'n destun pryder ei bod wedi derbyn y ddau arall mewn egwyddor yn unig. Fel y dywedais yn y Siambr hon yr hydref diwethaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, barn gyfunol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yw na ddylid defnyddio 'derbyn mewn egwyddor' mewn ymateb i adroddiadau pwyllgor eto, a rhaid derbyn neu wrthod argymhellion. Lle mae angen gwneud rhagor o waith i weithredu argymhelliad, neu os na ellir gweithredu o fewn terfyn amser penodol, dylid nodi hyn yn glir ym manylion yr ymateb.

Ar wahân i hynny, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, rwyf hefyd yn ymwybodol o bryderon yng Nghynghrair Tlodi Tanwydd Cymru ynghylch ymatebion Llywodraeth Cymru i rai o’r argymhellion y mae wedi’u derbyn. Fel y dywedodd NEA Cymru yn ei gyflwyniad i ymgynghoriad y pwyllgor,

'nid yw’r cynlluniau presennol yn ddigonol i fynd i’r afael â graddau tlodi tanwydd yng Nghymru heb sôn am ddatgarboneiddio cartrefi. Mae nawr yn adeg hollbwysig i ystyried pa mor bell y mae’r rhaglen bresennol wedi mynd â ni, ac achub ar y cyfle wrth symud ymlaen i ddarparu cymorth gwarantedig i’r 'gwaethaf yn gyntaf'—hynny yw, y rhai ar yr incwm isaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon—gan wella bywydau aelwydydd tlawd o ran tanwydd wrth i ni ddatgarboneiddio ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.'

Roeddent yn dweud bod

'Effeithlonrwydd ynni gwael yn un o'r prif resymau dros dlodi tanwydd a bod mwy nag 80 y cant o’r aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn byw mewn cartrefi aneffeithlon; nifer uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU.'

Roeddent yn dweud bod

'Effaith ganlyniadol tai o ansawdd gwael ar wasanaethau iechyd yn ddifrifol ac yn costio tua £95 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mewn cyferbyniad, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pob £1 sy’n cael ei gwario ar wella cynhesrwydd mewn aelwydydd agored i niwed yn arwain at £4 o fanteision iechyd, a gallai fod bron i 40 y cant yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty yn achos rhai afiechydon sy’n gysylltiedig ag oerfel ymhlith pobl y mae eu cartrefi wedi’u huwchraddio. Mae'r arbediad blynyddol cyfartalog ar gyfer uwchraddio cartref i lefel resymol o effeithlonrwydd ynni dros £300 y flwyddyn, a dros £1,000 yn achos yr aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon.'

Daethant i'r casgliad fod yn rhaid cael cyllid digonol i fynd i'r afael â'r broblem. Dylid gwario’r cyllid hwn ar sail 'adeiledd yn gyntaf', gan weithio ar effeithlonrwydd ynni’r amgylchedd adeiledig i wneud cartrefi yn sero net cyn neu ar yr un pryd â gwneud newidiadau i’r system wresogi mewn cartref; mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth a darparu cyngor digonol wrth gyflwyno’r rhaglen; rhaid sicrhau hefyd fod gan aelwydydd hyder y bydd y newidiadau a wneir i’w cartrefi o ansawdd da, wedi’u cefnogi gan fynediad at gamau unioni digonol. Yn olaf, er mwyn sicrhau hyder, rhaid cael tryloywder yng nghynlluniau’r Llywodraeth.

Fel y maent hwy a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn ei ddweud, mae’n hanfodol fod y fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd yn canolbwyntio ar godi aelwydydd allan o dlodi tanwydd, gan gefnogi’r rhai gwaethaf yn gyntaf—hynny yw, y rhai ar yr incwm isaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon—a’i fod yn cael ei gefnogi gan ddigon o gyllid hirdymor a deddfwriaeth i gyrraedd targedau a osodwyd yng nghynllun trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Mewn perthynas â chyllid, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad y dylai nodi’r cyllid sydd ei angen i ymateb drwy adolygu digonolrwydd ei dyraniadau gwariant ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn tai, maent yn dweud nad yw’r ymateb ynglŷn â hyn yn ymrwymol, a bod angen y buddsoddiad a’r cyllid hwnnw i gyrraedd targedau tlodi tanwydd. Yn gyffredinol, maent yn datgan mai’r peth allweddol yw rhaglen Cartrefi Clyd i godi aelwydydd allan o dlodi tanwydd, gan godi’r gwaethaf yn gyntaf.

Ac fel y dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad fis Tachwedd diwethaf ar reolaeth Llywodraeth Cymru o raglen bresennol Cartrefi Clyd,

‘Wrth edrych ar unrhyw gynllun dilynol ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd, mae gan Lywodraeth Cymru sawl mater i'w ddatrys. Mae'r rhain yn cynnwys ailfeddwl am y mesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir, bod yn gliriach am ddiben craidd y Rhaglen a thynhau contractau yn y dyfodol i alinio costau ac i gymell gwell gwerth am arian.’

16:05

Diolch i'r pwyllgor am ei waith. Dwi’n croesawu’r adroddiad ac mae o’n ategu llawer iawn o beth dwi wedi’i glywed. Yn wahanol i’r pwyllgor, fedraf i ddim siarad ar ran gweddill Cymru, ond mi fedraf i siarad ar ran fy etholaeth i, a’r rhwystredigaeth a gafwyd wrth geisio gweithredu rhai o’r cynlluniau, ac wrth gwrs y gwersi sydd i’w dysgu.

Dwi am ganolbwyntio ar rai o’r gwersi o un profiad yn Nwyfor Meirionnydd. Ystyriwch bentref Tanygrisiau ym mro Ffestiniog. Mae Tanygrisiau yn dioddef y lefel waethaf o dlodi tanwydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae ymhlith y lefel isaf o incwm—ac maen nhw off gas. Roedd fy rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas, wedi bod yn brwydro i gael datrysiad i broblemau gwres tai Tanygrisiau ers iddo gael ei ethol nôl ym 1974. Tua dwy flynedd yn ôl, daeth Arbed am Byth i Danygrisiau, ond yn ôl yr hyn dwi wedi’i glywed, ni ellir galw’r cynllun yn un llwyddiannus yno.

Rhoddwyd y cytundeb i gwmni o’r Alban. Roedd y cwmni yna i fod yn partneru efo sefydliad lleol, y Dref Werdd—sefydliad sydd yn adnabod ei bro, ac wedi bod yn brwydro i ddatrys tlodi tanwydd ym mro Ffestiniog. Ond, chafwyd ddim trafodaeth o gwbl rhwng y cwmni yma a’r Dref Werdd, er mai’r Dref Werdd oedd y partneriaid llawr gwlad. Rhaid, felly, dysgu’r wers o sicrhau bod yna fewnbwn lleol wrth ddatblygu’r gwaith.

Do, aeth y cytundeb ariannol i gwmni o’r Alban, ond gwirfoddolwyr y Dref Werdd oedd wedi gorfod mynd ati i farchnata a hysbysebu’r cynlluniau, o’u gwirfodd. Doedd ganddyn nhw ddim dealltwriaeth—y cwmni, hynny yw—o’r ardal, heb sôn am dopograffeg yr ardal. Roedden nhw wedi meddwl y medran nhw gyflwyno pibelli nwy ar gyfer rhai o’r tai er mwyn cyrraedd eu targedau, ond mae yna reswm pam nad oes yna bibelli nwy yn yr ardal hynny—a hynny oherwydd fod yna garreg ithfaen drwchus o dan y ddaear. Pe byddan nhw wedi trafod efo pobl ar lawr gwlad ymlaen llaw, yna mi fyddan nhw wedi gwybod am hynny, ac wedi addasu eu cynlluniau.

Yn y diwedd, cafwyd 41 panel PV. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs. Ond rhoddwyd ddim yr un cyfarwyddyd ar sut i gael y gorau o’r paneli yma i’r trigolion lleol, ac mae’n gwbl annigonol i ddatrys y tlodi tanwydd sydd yn bodoli yn yr ardal. Efo Nyth, aethpwyd ati i ffeindio problemau mwyaf brawychus yn y tai, a’u datrys, ond ni wnaed y gwaith angenrheidiol eraill. Felly, er enghraifft, os oedd angen boeler newydd, yna rhoddwyd y boeler i mewn, ond nid aethpwyd ati i insiwleiddio'r tŷ hefyd, yn union fel ddaru Jenny Rathbone esbonio ar gychwyn y drafodaeth. 

Un peth, os caf fod mor hy, mae'r adroddiad wedi ei fethu ydy'r ffaith fod yna raglenni cyffelyb hefyd yn cael eu gweithredu o du San Steffan, megis cynllun ECO. Mae yna achlysuron pan yw cynlluniau Llywodraeth Cymru a rhai Llywodraeth San Steffan yn cydredeg, yn mynd yn gyfochrog i'w gilydd, ac yn gwrthdaro. I'r person cyffredin ar lawr gwlad, dydy o'n gwneud dim synnwyr fod y rhaglenni yma'n cystadlu â'i gilydd, a dydyn nhw ddim yn deall pam nad oes posib i'r cynlluniau yma gydweithio. Felly, mi fuaswn i hefyd yn awgrymu fod unrhyw gynlluniau newydd gan y Llywodraeth yn edrych i weld beth arall sydd yn cael ei weithredu, ac os oes posib cydblethu'r gwaith er mwyn cael y mwyaf allan ohonyn nhw. 

Mae argymhelliad 6 fod angen i'r rhaglen nesaf fod yn fwy uchelgeisiol, i bob pwrpas, hefyd yn un hollol gywir, a dylid ei dderbyn. Ac fel y dywedodd Sioned Williams, does dim yn agos i'r faint o bres sydd angen arnom ni wedi ei fuddsoddi hyd yma. Mae e'n awgrymu nad ydy'r Llywodraeth yn gwerthfawrogi'n llawn maint yr her o'u blaenau nhw. Mae'n stoc dai ni yng Ngwynedd ymhlith yr hynaf yn Ewrop, efo nifer o adeiladau cofrestredig, ac hefyd yn y parc cenedlaethol. Beth mae'r Llywodraeth am ei wneud i sicrhau fod yr adeiladau yma am fedru manteisio ar unrhyw gynllun newydd yn y dyfodol? 

Gobeithio, efo hynny o eiriau, y bydd y gwersi yma yn cael eu dysgu wrth i'r Llywodraeth symud ymlaen i ddatblygu eu cynlluniau newydd. 

16:10

Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd sir, cefais brofiad uniongyrchol o bobl sy'n cael trafferth gyda thlodi tanwydd ac sy'n ceisio ymdopi â baich ychwanegol systemau gwresogi diffygiol yn enwedig oddi ar y grid. Gofynnwyd i mi ymweld â phreswylydd oedrannus a oedd yn cael problemau gyda'i gwres canolog olew. Roedd ei drysau a'i ffenestri yn llydan agored i ryddhau'r mygdarthau ofnadwy ac roedd y tŷ'n rhewi. Roedd y boeler olew yn gollwng ym mhantri'r hen wraig ac roedd yn ofnadwy. Roedd y ddynes nid yn unig yn gorfod dioddef y mygdarthau a'r oerfel, roedd ganddi broblemau symudedd ac roedd hi'n rhannol ddall hefyd. Buan y darganfûm fod gan eraill foeleri wedi'u gosod yn yr hen bantrïau. 

Bûm yn ymweld â phreswylwyr cyfadeilad llety tai gwarchod hefyd, ac roedd ganddynt wresogyddion storio a oedd yn rhedeg allan o wres erbyn pedwar o'r gloch, ac yna roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio gwresogyddion trydan a oedd yn gostus iawn. Roeddent yn oer yn eu heiddo, ac ymgyrchais i gael nwy o'r prif gyflenwad i'w pentref. Yn y pen draw, llwyddodd y cyngor i weithio gyda chwmni cyfleustodau ac fe wnaethant helpu i'w ariannu ac fe wnaeth gymaint o wahaniaeth. Fe wnaethant osod gwres canolog nwy yn yr eiddo. Roedd rhai pobl yn amheus o gael nwy, ond roedd nifer yn falch o beidio â chael yr hen foeleri mawr y tu mewn i'r tai, ac roedd y cartrefi gymaint yn gynhesach gyda system wresogi ddibynadwy. 

Mae trigolion wedi cysylltu â mi i ddweud bod ganddynt hen foeleri wedi torri, a dim gwres canolog, ac nad ydynt yn gallu fforddio rhai newydd, yn pendroni beth y gallant ei wneud, ac maent wedi cael eu rhoi mewn cysylltiad â'r arian grant gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi cael eu huwchraddio i foeleri nwy, gan nad ydynt yn mynd â llawer o le a chan eu bod wedi bod yn ddibynadwy drwy'r cynllun. Rwy'n adrodd y straeon hyn oherwydd nid yw pob eiddo, yn enwedig rhai hŷn, yn addas ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer, ac mae boeleri nwy newydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod fuddiol i lawer, ac ni ddylid eu diystyru, yn enwedig i'r rhai hynny nad oes ganddynt ddewisiadau amgen pan fyddant wedi bod mewn sefyllfa enbyd. Mae'r cyllid hwn wedi bod yn achubiaeth i lawer o bobl. 

Lle bo'n bosib ac ym mhob cartref newydd, dylid defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer, a solar wrth gwrs, ac rwyf wedi gweld y budd o osod y rhain. Ddeng mlynedd yn ôl, pan ymwelais â'r ddynes oedrannus hon, roedd yna ddatblygiad newydd o 43 o dai yn cael eu hadeiladu, ac roedd gan bob un bympiau gwres ffynhonnell aer. Unwaith eto, roedd pobl yn amheus ohonynt ond roeddent yn gweithio ac maent wedi bod yn dda iawn. Unwaith eto, roedd y diolch am hynny i gyllid Llywodraeth Cymru ar y pryd, a fu'n gymorth i allu fforddio adeiladu'r rheini. 

Ond mae gennym broblemau gyda chysylltiad â'r grid, ac mae hynny'n gorgyffwrdd â'r ddadl nesaf. Lle mae paneli ynni solar wedi'u gosod ar fyngalos llety gwarchod, y rhai sydd newydd newid i nwy o'r prif gyflenwad, maent yn cael trafferth cysylltu â'r grid prif gyflenwad yn awr. Felly, mae angen inni sicrhau bod y gwaith atgyweirio ac ailosod boeleri yn cael ei wneud er budd pennaf tenantiaid, i helpu i gadw eu biliau'n is a'u cartrefi'n gynnes, gan sicrhau bod cartrefi wedi'u hinswleiddio a bod ganddynt system wresogi effeithiol. Dyma'r adnodd gorau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer helpu pobl i oroesi'r argyfwng hwn.

Mae gwaith amlenni wedi'i wneud mewn llawer o'r tai bellach hefyd ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr. A dweud y gwir, erbyn hyn mae gwaith amlenni wedi'i wneud yn yr holl dai cyngor yn yr ardal yr oeddwn yn ei chynrychioli. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ariannu gan y cyngor ond maent hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r cyllid. Yn y tymor byrrach, mae'r mesurau a gymerwyd gan Gymru wedi bod yn achubiaeth, yn enwedig y talebau i'r rhai sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw, ac maent wedi bod yn cynnig gollyngdod hanfodol ar unwaith. Bûm yn y banc bwyd i bobl, yn helpu i gasglu bwyd, ond pan nad oedd ganddynt bŵer i gynhesu a choginio'r bwyd, mae wedi bod yn anhygoel, pendroni beth i'w wneud, a cheisiais eu helpu drwy roi arian yn y mesurydd fy hun. Ond nawr, mae'r talebau sydd ar gael yn gwneud cymaint o wahaniaeth, felly, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Mae angen inni sicrhau yn awr fod y cynllun Cartrefi Clyd yn cynorthwyo cymaint o dai ag sy'n bosibl cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau budd hirdymor. Diolch.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad a'r adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd, ac yn diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl bwysig hon heddiw.

Ond mae'r adroddiad sy'n deillio o'r ymchwiliad hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at gyflawni ein rhaglenni a'n cynlluniau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol sydd ohoni, ac roedd yn benderfyniad doeth i gynnal yr ymchwiliad hwn, ac rydym yn diolch i'r pwyllgor am eu tystiolaeth, eu mewnwelediadau a'u hargymhellion. Fel y mae eich adroddiad yn ei wneud yn glir, mae cost ynni wedi dod yn fwyfwy dylanwadol wrth ganfod lefel y tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae'r cynnydd mewn prisiau ynni wedi bod yn ymosodiad ar ein safonau byw ac wedi cael effaith ddinistriol yn barod ar yr aelwydydd sydd leiaf abl i dalu. Bellach, mae llawer o bobl yn methu fforddio'r hanfodion y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt yn ein bywydau bob dydd; mae'n anodd credu'r creulondeb annirnadwy wrth i deuluoedd fethu rhoi bwyd ar y bwrdd neu ddarparu hanfodion sylfaenol fel gwres a golau yn 2022, ond dyma yw'r realiti i gynifer o bobl.

I adrodd ar rai o'r camau a llawer mwy, wrth gwrs, sydd wedi cael eu cyflwyno mewn datganiad ddoe gan y Prif Weinidog, ond camau ers cyhoeddi'r adroddiad ar 4 Awst, fe wneuthum gyfarfod ag Ofgem am newidiadau sy'n cael eu gwneud i amlder y newidiadau i'r cap prisiau. Ac fe wneuthum gyfarfod ag Ofgem eto ar 26 Awst, gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, y diwrnod y cyhoeddwyd pris mis Hydref, ac fe wnaethom fynegi pryderon dwfn am y cynnydd yn y cap prisiau i £3,549. Mae Prif Weinidog newydd y DU wedi rhoi camau ar waith i weithredu ar y pryderon a godwyd gennym, gyda chyhoeddiad y pris ynni, ac rwy'n edrych ymlaen at ddiweddariad Llywodraeth y DU ddydd Gwener. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu—mae cap prisiau o £2,500 dros ddwy flynedd yn fethiant i ddarparu cymorth ychwanegol wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae gan Lywodraeth y DU rym ariannol a chyfrifoldeb moesol i wella cymorth i ddeiliaid tai drwy'r argyfwng hwn. Ac rydym wedi galw'n gyson am dariff ynni domestig cymdeithasol, wedi'i osod yn is na thariffau safonol, er mwyn diogelu aelwydydd incwm isel yn well. Rydym wedi galw am gynnydd sylweddol yn yr ad-daliad a delir drwy gynlluniau, megis gostyngiad Cartrefi Clyd, dileu holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol yn barhaol o filiau ynni'r cartref, ac i'r costau hyn gael eu talu o drethiant cyffredinol, wedi'i ariannu'n rhannol o leiaf gan dreth ffawdelw ar yr elw gormodol y mae cynhyrchwyr nwy ac olew yn ei fwynhau.

Ar 17 Chwefror ac 11 Gorffennaf, gyda chymorth fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cynhaliais uwchgynadleddau i archwilio beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi aelwydydd drwy'r amser anodd hwn. Ond ar 26 Mai, fe wneuthum gyfarfod hefyd â chyflenwyr ynni, gan gynnwys cwmnïau olew gwresogi, i ofyn am sicrwydd fod camau'n cael eu cymryd i ddiogelu aelwydydd bregus wrth i'r gaeaf agosáu. Ac rydym yn gweithredu, gan fuddsoddi mwy na £318 miliwn ers mis Hydref ar amrywiaeth o fesurau i helpu'r rhai mwyaf anghenus. Rwyf wedi ehangu'r gefnogaeth sydd ar gael drwy'r gronfa cymorth dewisol i aelwydydd sy'n byw oddi ar y grid, i helpu gyda phrynu olew gwresogi a nwy hylifedig, sy'n arbennig o bwysig i gymunedau gwledig a rhywbeth sydd wedi'i grybwyll yn y ddadl hon heddiw. Mae mwy na 900,000 o aelwydydd wedi derbyn eu taliad costau byw o £150 eleni, ac mae  mwy na 166,000 o aelwydydd wedi cael y taliad cymorth tanwydd y gaeaf o £200. Mae cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru ar waith bellach ar gyfer y gaeaf sy'n dod, a byddwn yn agored i geisiadau o ddydd Llun nesaf, 26 Medi, ymlaen.

Ac rwy'n croesawu'r argymhellion gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gynllun costau byw sylweddol Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais yn fy ymateb i'r argymhellion, rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau y gallwn estyn allan a gwella'r nifer sy'n derbyn hwnnw, ond hefyd, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rydym wedi ymestyn y cynllun, sy'n golygu y bydd hyd at 400,000 o aelwydydd yn gymwys. Bydd pobl ar gredydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd, lwfans gofalwr, yn ogystal â budd-daliadau cyfrannol a'r rheini sy'n cael cymorth gan y cynllun gostyngiadau'r dreth cyngor i dalu eu bil treth gyngor oll yn gymwys bellach ar gyfer y taliad o £200. Gwn y bydd yr holl bartneriaid a phob Aelod yn chwarae eu rhan i sicrhau bod nifer fawr yn manteisio ar y cynllun hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth bellach am y nifer sy'n manteisio ar y cynllun cymorth tanwydd a gyflwynwyd y llynedd, a byddaf yn diweddaru hynny wrth inni gael rhagor o wybodaeth.

Ond bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod ni hefyd yn ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ehangu ei rwydwaith, er mwyn cynnig cymorth i'r aelwydydd mwyaf bregus ar draws Cymru sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu tanwydd. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Trussell, roeddwn yn falch o lansio hyn yn Wrecsam, lle roedd eu banc bwyd eisoes wedi datblygu'r cynllun, a dysgu hefyd gan fanc bwyd Blaenau Gwent, a oedd eisoes yn gysylltiedig ag ef. Ond bydd y cynllun hefyd yn rhoi cymorth iddynt ychwanegu at eu mesurydd talu ymlaen llaw neu brynu tanc llawn o olew gwresogi. 

Rydym yn parhau i alw am gael gwared ar daliadau sefydlog o dariffau mesuryddion talu ymlaen llaw. Fel mater o flaenoriaeth, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael yn y tymor byr i helpu gyda'r argyfwng uniongyrchol. Ac yn dilyn llwyddiant y ddwy ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', rydym wedi helpu pobl i hawlio mwy na £2.7 miliwn o incwm ychwanegol, a byddwn yn cynnal trydedd ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' i helpu pobl i gael gafael ar yr holl fudd-daliadau gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r cymorth y mae ganddynt hawl i'w gael. Ond mae angen gweithredu yn y tymor hwy fel y gwnaed yn glir yn yr argymhellion yn yr adroddiad hwn. Ein huchelgais hirdymor yw gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi a sicrhau ein bod ond yn defnyddio'r ynni sydd ei angen arnom i greu cartref gweddus a diogel. Mae ein rhaglenni ôl-osod tai yn seiliedig ar egwyddorion o drin y gwaethaf yn gyntaf, ar sail adeiledd yn gyntaf, gyda mesurau gwresogi wedi'u cynllunio i sicrhau pontio teg i wresogi carbon isel ar gyfer iechyd a llesiant ein pobl a'r blaned. 

Bydd yr adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi sut y bydd yr argymhellion hyn yn cael eu hystyried yn fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Ac ar yr un pryd, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen Cartrefi Clyd gyfredol, gan gynyddu ei chyllideb 10 y cant eleni i £30 miliwn, gyda chyfanswm buddsoddiad o £100 miliwn yn y setliad cyllideb tair blynedd presennol. Bydd hyn yn cefnogi tua 5,000 o aelwydydd gyda mesurau effeithlonrwydd ynni cartref mawr eu hangen am ddim erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae disgwyl i gynllun Nyth hefyd ddarparu cyngor diduedd am ddim ynghylch effeithlonrwydd ynni drwy'r llinell gymorth i dros 1,600 a mwy o aelwydydd y flwyddyn. Bydd hyn yn cael ei ymestyn o fis Tachwedd gydag ymgyrch tanwydd gaeaf i ddarparu cyngor a chyfeirio at wasanaethau cymorth hanfodol, fel y nodais.

Yn olaf, mae contract Nyth hefyd yn parhau i arloesi, ac eleni mae wedi cynnwys gosod paneli solar. Caiff hyn ei ategu cyn bo hir drwy gyflwyno atebion storio batri, sy'n parhau i gael eu hargymell drwy'r asesiad tŷ cyfan. Bydd y cyfuniad o'r ddau fesur yn helpu i liniaru'r gwaethaf o'r cynnydd anwahaniaethol diweddar mewn prisiau ynni, gan wneud yr ynni solar yn hygyrch i aelwydydd yn ystod adegau brig, pan fydd y systemau solar ffotofoltäig yn llai effeithlon. Yn amlwg, byddwn yn cymryd tystiolaeth arall o'r ddadl heddiw o ran mynediad i'r grid.

Ar ran Llywodraeth Cymru, unwaith eto rwy'n croesawu'r adroddiad gwerthfawr hwn, gan dderbyn 21 o argymhellion yn llawn a dau argymhelliad mewn egwyddor. Bydd y rheini'n cael eu cyflawni, a byddwn yn mynd ati i weithredu'r argymhellion hyn yn unol â'r pwysigrwydd y maent yn ei haeddu, gan gefnogi ein hymdrechion ar y cyd i ymateb i'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael â thlodi o bob math, gan gynnwys tlodi tanwydd. Bydd hyn hefyd yn darparu camau cynaliadwy mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

16:20

Diolch yn fawr iawn. Diolch i'r holl bobl a gymerodd ran yn y ddadl, yn enwedig y rhai sydd heb fod yn rhan o drafodaethau'r pwyllgor. Rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig clywed gan bobl eraill sy'n gallu rhoi barn arbenigol benodol, boed hynny o'u hetholaeth neu o'u diddordeb arbenigol mewn tlodi tanwydd. Rwy'n credu bod angen o hyd i egluro llawer o'r manylion ar hyn i gyd, a bydd y pwyllgor yn cymryd camau dilynol ac yn darparu gohebiaeth ysgrifenedig fel y gallwn gael gwell syniad o (a) sut yn union y gwnawn ymateb i'r argyfwng presennol a (b) y rhaglen Cartrefi Clyd ddiweddaraf, y sylweddolaf ei bod yn rhan o gylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac nid yw'n gallu bod yma ar hyn o bryd. Felly, edrychwn ymlaen at ei chynlluniau pwysig iawn ar gyfer dyfodol hirdymor ein gwlad.

Gan edrych ar yr hyn y mae pobl eraill wedi ei ddweud, mae angen i ni—. Fel y mae Altaf wedi'i ddatgan, mae dirwasgiad ar y ffordd, ac felly ni fydd pethau ond yn gwaethygu. Soniodd Sioned Williams am y lleithder y mae teuluoedd wedi gorfod ei ddioddef bob gaeaf, beth bynnag am yr argyfwng presennol. Rwy'n credu bod sawl Aelod wedi siarad am yr angen i ystyried adroddiad y swyddfa archwilio a gafodd ei gyhoeddi bron i flwyddyn yn ôl bellach. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ei holl argymhellion, ac er tegwch i Lywodraeth Cymru, rydym yn gweld rhaglenni'n cael eu gwerthuso'n rheolaidd yn awr, i sicrhau bod rhaglenni'n cyflawni'r hyn y maent i fod i'w gyflawni.

Roedd yn ddefnyddiol iawn clywed gan Mabon ap Gwynfor am y problemau penodol sydd wedi wynebu un o gymunedau tlotaf ac oeraf ei etholaeth, lle rhoddwyd y contract i sefydliad nad oedd yn gyfarwydd â thopograffi'r ardal, ac er bod paneli solar wedi cael eu hargymell a'u gosod, ni wnaeth sicrhau'r budd gorau am na chafodd yr adeiladau eu hinsiwleiddio, ac mae hynny'n rhywbeth a ddaeth allan o'n hadroddiad. Un o'r rhesymau pam y crybwyllodd Carolyn fater pympiau gwres ffynhonnell aer yw nad oes unrhyw bwynt gosod pympiau gwres ffynhonnell aer mewn cartrefi nad ydynt wedi cael eu hinswleiddio, oherwydd mae'n cynyddu'r biliau mewn gwirionedd, oherwydd bydd gennych fil trydan enfawr yn lle bil nwy enfawr. Felly, rwy'n credu bod y pwyslais a roddodd y Gweinidog ar adeiledd yn gyntaf fel y ffordd ymlaen yn bendant yn un defnyddiol iawn, oherwydd yn bendant mae angen i ni—. Hyd yn oed os nad oes gennym y dechnoleg heddiw a fydd yn gweddu i gartrefi penodol, mae angen inni sicrhau nad ydym yn colli'r gwres yr ydym yn ei golli ar hyn o bryd.

Un o'r pethau a wnaeth Jane Dodds oedd tynnu sylw at sut y methodd y rhaglen Cartrefi Clyd ddiwethaf gyrraedd y nod o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddiogelu ein teuluoedd a gwneud ein cyfraniad ein hunain at yr argyfwng hinsawdd. Felly, yn 2020, byddai wedi cymryd 111 o flynyddoedd i gwblhau'r gwaith o inswleiddio ein holl gartrefi, ac yn 2021, ar y raddfa y câi pethau eu gwneud, byddai'n cymryd 138 o flynyddoedd. Nid yw'r blaned yn gallu aros tan hynny. Mae'n rhaid inni fwrw ymlaen â hyn nawr. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n rhaid i ni ei wneud, pob un ohonom, yw sicrhau bod pobl yn meddwl 'inswleiddio, inswleiddio, inswleiddio' yn ogystal ag 'ynni adnewyddadwy, ynni adnewyddadwy, ynni adnewyddadwy.'

Dwy stori fach. Dyma un ohonynt: siaradais â rhywun ar garreg y drws y bore yma, a dweud, 'Rwy'n gweld eich bod yn ailosod eich to, a ydych chi wedi meddwl am roi paneli solar ar y rhan o'ch to sy'n wynebu'r de?' 'O, dyna syniad da—nid oeddwn wedi meddwl am hynny.' Felly, dywedais, 'Wel, mae gwir angen i chi fwrw ymlaen â hynny yn awr, oherwydd mae gennych chi'r sgaffaldiau i fyny, a bydd eich towyr, nad ydynt yn gymwys i wneud y gwaith, yn dweud wrthych y gallant gael cyfarwyddyd ynglŷn â ble mae'n rhaid i chi roi'r atgyfnerthiadau i osod y paneli solar.' Fel arall, rydych chi'n dad-wneud yr holl waith da cyn ichi allu gosod rhai newydd. Mae'r ail stori'n ymwneud â busnes bach a wnaeth fy nghalonogi'n fawr drwy ddweud ei fod wedi cael 17 o baneli solar wedi'u gosod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a dangosodd y mesurydd bach sy'n dweud faint o egni a gynhyrchai, ac felly faint o arian a arbedai, a fydd yn cadw ei fusnes yn fyw. Oni bai bod busnesau'n meddwl am y pethau hyn, 'Sut y gallaf fi wneud rhywbeth?'—. Os oes gennych chi'r arian, mae angen i chi ei fuddsoddi ar inswleiddio eich cartref a gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy. Nid oes dewis arall. Felly, rwy'n credu bod gennym heriau sylweddol iawn o'n blaenau fel y mae adroddiad Archwilio Cymru wedi dangos yn glir, ac mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain, mae arnaf ofn, ynglŷn â'r anawsterau a wynebwn y gaeaf hwn.

Un o'r pwyntiau a gododd Sarah Murphy yw'r hyn sy'n digwydd i bobl nad ydynt yn gallu mynd i hybiau cynnes? Os oes gennych salwch angheuol, mae'n debygol na fyddwch chi am gymysgu â llawer o bobl eraill. Sut y gellir eu cadw hwy'n gynnes y gaeaf hwn? Oherwydd ni fyddant yn elwa o hybiau cynnes ac efallai y bydd eu teuluoedd yn ymdrechu'n daer i sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl i unigolion o'r fath, ond sut y mae gwneud hynny heb effeithio ar fywydau aelodau eraill y teulu, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni feddwl amdano? Diolch yn fawr iawn am eich holl gyfraniadau.

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—Ynni adnewyddadwy yng Nghymru
9. Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad cydymffurfio ar gyfer y cyfnod 2021-22
10. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dwr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Felly, symudwn ymlaen, a'r eitem nesaf yw cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi gwelliannau a gyflwynwyd i NDM8073 gael eu hystyried. 

Galwaf ar aelod y Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Darren Millar.

Cynnig NNDM8075 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.22(i) dros dro er mwyn caniatáu i’r gwelliannau a gyflwynwyd i NDM8073 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 21 Medi 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl Plaid Cymru: Costau byw

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Nesaf yw eitem 11, dadl Plaid Cymru—costau byw. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8073 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:

a) haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig; 

c) rhewi rhent; 

d) ailgyflwyno mesurau i wahardd troi allan yn y gaeaf; 

e) ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;

f) cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pwrpas cynnig Plaid Cymru heddiw a'n dadl gyntaf yn y tymor newydd hwn yw amlygu'r angen am weithredu pellach ar unwaith ac ar frys gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw i gefnogi pobl Cymru sy'n wynebu caledi a ddisgrifiwyd gan nifer o bobl sy'n gweithio ym maes tlodi fel 'tlodi Fictoraidd'. Mae'n argyfwng wrth gwrs, ond mae'n argyfwng a fu'n datblygu ers amser maith—nid daeargryn economaidd sydyn mohono. Mae Brexit, pandemig COVID-19, geowleidyddiaeth a rhyfel wedi chwarae eu rhan wrth gwrs, fel y mae polisïau cyni creulon y Ceidwadwyr, polisïau a orfodwyd ar ein pobl gan Lywodraeth San Steffan na wnaethant bleidleisio drostynt.

Mae pobl Cymru'n dioddef oherwydd bod y prif ddulliau a'r adnoddau a allai helpu i ddiogelu teuluoedd Cymru yn dal i fod yn San Steffan, ac nid yw'n syndod fod y mesurau a amlinellwyd hyd yma gan Lywodraethau'r Torïaid yn Llundain dan Johnson a Truss yn gwbl annigonol a heb fod wedi eu targedu'n ddigonol at y rhai sydd fwyaf mewn angen. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod hwn yn argyfwng go iawn. Fe wyddoch fod yr economi mewn trafferth pan fo hyd yn oed cyflogwyr pobl sydd ar gyflogau uchel yn pryderu am eu staff. Bydd Lloyd's of London yn talu £2,500 yn ychwanegol i staff sydd ar gyflog sylfaenol o £75,000 y flwyddyn i helpu i dalu am gostau byw cynyddol.

Mae'r cynnydd a welsom mewn biliau ynni, sy'n golygu y bydd biliau cyfartalog ar lefel o £2,500 y flwyddyn, 'yn annormal' fel y gwnaeth pennaeth National Energy Action Cymru, Ben Saltmarsh, ei ddisgrifio'n gryno pan ddaeth newyddion o'r diwedd am rywfaint o weithredu gan San Steffan. Mae'r biliau hyn ddwywaith cymaint â'r hyn a oeddent flwyddyn yn ôl, ac yn gwbl anghynaladwy. Nid yw'r gwaith ar ben. Ac mae'n rhaid cofio hefyd nad cap yw hwn—nid yw'n derfyn ar faint fydd eich bil. Bydd llawer o aelwydydd yn wynebu biliau uwch na hyn. Os ydych yn anabl, er enghraifft, bydd costau byw cynyddol yn effeithio arnoch yn anghymesur oherwydd eich bod yn fwy tebygol o fod ar incwm is, gyda chostau byw uwch ac angen trafnidiaeth hygyrch, deiet arbenigol, a bod gennych gostau uwch am nwy a thrydan i gadw'ch tymheredd yn sefydlog ac i bweru offer hanfodol. Ac nid oes gennych ddewis ynglŷn â diffodd peiriant anadlu neu beidio â phweru chyfarpar codi.

Grŵp arall sy'n cael eu taro'n galed yw meddygon, nyrsys, athrawon, peirianwyr a gwyddonwyr y dyfodol, ein dysgwyr a'n myfyrwyr. Bydd Heledd Fychan yn siarad am yr angen i gynyddu lefel y lwfans cynhaliaeth addysg i'w cefnogi. Ac fel llefarydd Plaid Cymru dros addysg ôl-16, rwyf am godi llais dros y 92 y cant o fyfyrwyr Cymru sydd wedi dweud wrth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr eu bod yn pryderu ynglŷn â'u gallu i ymdopi'n ariannol. Mae 11 y cant ohonynt yn defnyddio banciau bwyd. Mae rhent myfyrwyr wedi codi 29 y cant yng Nghymru yn ystod y tair blynedd ddiwethaf ac nid yw cymorth cynhaliaeth yn cadw gyfuwch â chwyddiant. Byddai rhewi rhenti ar draws pob sector yn helpu i fynd i'r afael â hyn. Mae myfyrwyr hefyd wedi wynebu loteri cod post o ran gallu cael ad-daliad y dreth gyngor ar gyfer costau byw oherwydd anghysondeb yn y ffordd y mae awdurdodau lleol wedi dosbarthu'r cymorth. 

Mae'r mesurau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y cyfeirir atynt yn eu gwelliannau i'w croesawu wrth gwrs. Bydd rhai, fel prydau ysgol am ddim, yn drawsnewidiol. Ond mae angen gwneud llawer mwy; crafu'r wyneb yn unig y bydd rhai o'r pethau hyn. Clywsom y Prif Weinidog ddoe yn cyhoeddi un mesur newydd yn unig, cefnogaeth i fanciau cynhesu, ac yn mynnu na ddylai ymdrechion ganolbwyntio ar ariannu cynlluniau newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn ond yn hytrach ar sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn manteisio ar y cynlluniau sydd eisoes ar gael. Pwrpas ein cynnig, a basiwyd cyn y toriad, ar wneud y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn addas i'r diben oedd tynnu sylw at yr angen hanfodol i'r cymorth sydd ar gael gyrraedd pocedi'r bobl sy'n gymwys i'w gael.

Roedd y data a gyhoeddwyd yn ddiweddar mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch darparu taliadau o dan y cynllun hwn, a fydd yn dechrau eto'n fuan, yn rhestru taliadau a wnaed gan awdurdodau lleol ond ni chynigiai unrhyw gyfeiriad naill ai at gyfran yr aelwydydd cymwys sy'n derbyn y taliadau neu os oedd gan unrhyw rai o'r aelwydydd hynny nodweddion gwarchodedig. Hoffwn wybod sut a phryd y cynhaliwyd yr adolygiad o'r rownd ddiwethaf, y cefais sicrwydd gan y Prif Weinidog ei fod wedi digwydd pan ofynnais iddo ddoe. Pa wersi hollbwysig a ddysgwyd er mwyn sicrhau bod help yn cyrraedd y rhai sydd ei angen?

Fe'i gwneuthum yn glir yn gynharach nad trychineb sydyn yw hwn. Mae un o bob tri o'n plant wedi bod yn byw mewn tlodi dros y ddau ddegawd diwethaf, y lefel uchaf o holl wledydd y DU, a ni oedd yr unig wlad yn y DU i weld tlodi plant yn codi yn lle gostwng dros gyfnod y pandemig. Yn ogystal â'r ffactorau y cyfeiriais atynt eisoes sydd wedi cyfrannu at y sefyllfa enbyd hon, rhaid tynnu sylw at syrthni ac annigonolrwydd Llywodraethau olynol yng Nghymru i fynd i'r afael â lefelau cywilyddus o dlodi, a adawodd aelwydydd Cymru mor agored i niwed yn wyneb y storm sydd bellach wedi cyrraedd. Yn ôl yn 2009, dywedodd Victoria Winckler o Sefydliad Bevan, mewn ymateb i ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree ar yr hyn yr oedd ei angen i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ac rwy'n dyfynnu:

'Dylid ystyried y cyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru geisio rhagor o bwerau deddfwriaethol i fynd i'r afael â thlodi plant.'

Gadewch inni atgoffa ein hunain mai Llywodraeth Lafur oedd mewn grym yn San Steffan ar y pryd. Gadewch inni atgoffa ein hunain mai yn 2009 y dywedwyd hynny. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael cyfle i greu newid, ac eto wedi llusgo eu traed. A nawr, yn 2022, mae ein pobl yn wynebu'r gaeaf caletaf ers i'n gwlad gael Llywodraeth Cymru i'w gwasanaethu a'u cefnogi. Y casgliad rhesymegol ehangach i ddod o'n cynnig ni heddiw yw bod angen mwy o rym ar Gymru i amddiffyn ei phobl. Hyd yn oed gyda'r holl fesurau a gyhoeddwyd, mae degau ar filoedd o bobl yng Nghymru yn dal i wynebu gaeaf o fynd heb bethau hanfodol fel bwyd neu'r gallu i ymolchi â dŵr poeth, neu orfod benthyg arian ar gyfraddau llog cynyddol er mwyn talu costau byw cynyddol. Os ydych chi'n cydnabod yr argyfwng hwn, pleidleisiwch dros ein cynnig. Pleidleisiwch dros ein cynnig os ydych yn credu y gallwn ni, drwy basio'r gyfres o fesurau brys yr ydym yn galw amdanynt, sicrhau bod gan bobl arian yn eu pocedi pan fydd ei angen arnynt a bod rhagor o ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru helpu'r bobl y mae i fod i'w gwasanaethu yn wyneb y biliau cynyddol hyn, cyflogau disymud, toriadau creulon i les a chynnydd uwch nag erioed mewn prisiau bwyd a hanfodion.

Gall hyn olygu edrych eto ar gyllidebau adrannol. Rwy'n credu bod maint yr argyfwng yn galw am wneud hynny. Rydym yn awgrymu y dylid ystyried camau eang, nifer ohonynt yn gamau y mae Llywodraethau eraill yn eu gweithredu—capio costau trafnidiaeth, rhewi rhenti, gwahardd troi allan yn y gaeaf. Pleidleisiwch dros ein cynnig os ydych yn cytuno mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw gweithredu'n gymesur â maint yr argyfwng, yn gyfannol ac yn gyflym. Bydd fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru'n amlinellu pam ein bod yn galw am y mesurau penodol, a da o beth fyddai clywed barn yr Aelodau ar y mesurau a'r awgrymiadau hyn ar gyfer camau pellach y gellid eu cymryd. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ac rwy'n eich annog i ddangos i'ch etholwyr fod eu Senedd yn eu clywed ac y bydd yn eu cefnogi.

16:40

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.

Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:

a) gwarant pris ynni, sy’n rhoi cap ar gostau ynni;

b) taliadau costau byw i bob ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;

c) taliad costau byw anabledd gwerth £150;

d) gostyngiadau misol mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;

e) cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;

f) gostyngiad yn y gyfradd tapro credyd cynhwysol;

g) rhewi’r dreth tanwydd;

h) rhewi ffi'r drwydded teledu am dwy flynedd;

i) taliadau tanwydd gaeaf ychwanegol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw'r Aelod dros Orllewin Clwyd, Darren Millar. Afraid dweud bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn—a dweud y lleiaf—i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt, ac mae'r argyfwng costau byw yn faich enfawr arall sy'n wynebu bron bob teulu a gynrychiolir gennym, ac nid wyf am chwarae gwleidyddiaeth plaid yn y ddadl hon; mae'n rhy bwysig. Mae angen gweithredu.

Ond nid ni yng Nghymru'n unig sy'n wynebu hyn. Ar draws y byd, mae gwledydd yn ymrafael â'r materion hyn. Yn ddiweddar cyfarfûm â theulu o Bafaria, un o Ffrainc ac un o'r Eidal, pob un yn wynebu sefyllfaoedd tebyg iawn yn eu gwledydd eu hunain, ac felly nid yw'n unigryw i ni. Ac wrth gwrs, fel mae ein gwelliant yn disgrifio, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno pecyn sylweddol o fesurau hyd yma, gwerth tua £37 biliwn, i helpu i gefnogi cymunedau ar hyd a lled y wlad: taliadau costau byw i deuluoedd, yn ogystal â'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol.

Rwy'n croesawu'r gwarant pris ynni diweddar yn fawr, a gwyddom y bydd yn capio prisiau cyfartalog ar £2,500, lle'r oeddem yn ofni eu bod am godi i £3,500. Gwyddom fod £2,500 yn dal i fod yn llawer mwy nag y byddent wedi'i dalu y llynedd a bod mwy i'w wneud. Ac rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad y bore yma y bydd 50 y cant o gostau ynni busnesau'n cael eu talu am chwe mis, a'i adolygu ymhen tri mis i weld a all hynny barhau. Ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi galw am dreth ffawdelw ychwanegol i helpu i dalu am y cynlluniau hyn, ond ar hyn o bryd mae gwir angen i gwmnïau fuddsoddi mewn cyflenwadau ynni gwyrdd newydd i hybu diogeledd ynni ac i atal pethau o'r fath rhag digwydd eto. Gellid gwneud mwy, fodd bynnag, i sicrhau bod elw'n cael ei ail-fuddsoddi yn y cymunedau.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at glywed am y mesurau ychwanegol y mae disgwyl i Lywodraeth newydd y DU eu gweithredu yn ddiweddarach yr wythnos hon i helpu pobl i gadw mwy o'u harian yn eu pocedi. Ond Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais dro ar ôl tro yn y Siambr hon, mae angen mwy o gefnogaeth dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac ar y cyd, mae angen i Lywodraethau Cymru a'r DU, yn ogystal â ni yn y Senedd, weithio gyda'r holl bartneriaid i gyflwyno cymorth i helpu pobl i ymateb i unrhyw heriau sydd ar y gorwel, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl ddulliau ariannol sydd ar gael iddi i sicrhau bod pobl yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.

Mae rhai o'r awgrymiadau a nodwyd yn y cynnig gwreiddiol yn bethau y cytunaf y gellid edrych arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn: er enghraifft, sut i gyfyngu ar gost trafnidiaeth gyhoeddus, rhoi cymorth i'r rhai sydd ag ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol heb unrhyw fai arnynt hwy, a rhoi cymorth i fyfyrwyr a phobl ifanc o gefndiroedd incwm is. Fel y dywedodd Sioned, mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi tynnu sylw at fyfyrwyr sy'n wynebu loteri côd post o ran cael ad-daliad treth gyngor, am ei fod yn dibynnu ar sut yr aeth awdurdodau lleol unigol ati i ddosbarthu'r cymorth.

Ond hefyd hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ychwanegol fel ehangu cymhwysedd cynlluniau sydd eisoes yn bodoli i gynnwys teuluoedd nad oes angen cymorth arnynt fel arfer, er enghraifft, teuluoedd nad ydynt yn derbyn budd-daliadau. Mae angen ei gwneud yn haws i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt, megis un pwynt mynediad a phasbort awtomatig i gynlluniau ar gyfer cartrefi difreintiedig, tra gallai Llywodraeth Cymru hefyd geisio cefnogi cynghorau lleol yn well i helpu teuluoedd drwy'r argyfwng hwn, megis gweithio gyda hwy i gynyddu capasiti'r gwasanaethau cymorth lleol, yn ogystal â lleddfu'r baich cynyddol ar y dreth gyngor.

Yn olaf, mae angen dull wedi'i dargedu'n well, megis help i bobl sy'n wynebu salwch hirdymor a'r rhai sy'n derbyn gofal diwedd oes. Bydd rhai ohonoch a ymwelodd â digwyddiad Macmillan ddoe wedi clywed sut y mae gan yr unigolyn cyffredin sy'n dioddef o ganser gost ychwanegol fisol barhaus o tua £800 y mis. O'r herwydd, mae angen darparu cymorth ychwanegol i'r unigolion hynny, megis ymestyn y cymorth dewisol presennol neu gyflwyno pethau fel pasys bws am ddim efallai i'r rhai yr effeithir arnynt.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwybod bod safbwyntiau gwahanol yn bodoli ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r argyfwng hwn, a gadewch inni beidio â thwyllo ein hunain fod yna ateb syml a all roi diwedd ar hyn, ond drwy weithio'n adeiladol gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y gallwn helpu i leihau'r straen ar bobl a busnesau, a goresgyn yr argyfwng ofnadwy hwn yn y pen draw. Diolch.

16:45

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.

Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:

a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;

b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;

c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;

d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Nid yw argyfyngau'n cilio pan fo'n anghyfleus iddynt barhau. Os ydym yn eu hanwybyddu, nid ydynt yn diflannu, ac nid yw'r argyfwng costau byw yn argyfwng sydd wedi pylu yn ei arwyddocâd, fel y gwnaeth un darlledwr ei roi, oherwydd digwyddiadau'r wythnos diwethaf, ac ni fu toriad yn y cythrwfl a'r panig a deimlid gan bobl ledled y DU pan roddodd Llywodraeth San Steffan doriad iddi hi ei hun dros yr haf. Na, mae argyfyngau'n difa popeth.

Mae pobl yn siarad am y gaeaf o anniddigrwydd, ond yr hyn a gawsom yn yr argyfwng hwn sy'n difa popeth yw haf o anwybyddiad, o ddifaterwch ar ran y rhai sydd mewn grym, haf o Gabinet absennol, ac un Prif Weinidog baeddedig yn trosglwyddo pŵer i un arall cwbl amhrofedig a wrthododd ddweud wrthym am fisoedd sut y byddai'n ymdrin â'r argyfwng hwn.

Ond yn awr, o'r diwedd, rydym yn gwybod sut y mae Truss yn bwriadu cadw'r bobl fwyaf enbyd eu byd yn fyw dros y gaeaf, oni bai, wrth gwrs, eu bod yn digwydd bod yn ddigon anffodus i fod â mesuryddion talu ymlaen llaw neu fod oddi ar y grid nwy. Bydd biliau i bawb arall yn cael eu rhewi ar lefel arteithiol a fydd yn gwthio pobl i ddyled echrydus. Mae tlodi, tlodi go iawn, wrth y drws i filoedd o bobl.

Os na chaiff y cap prisiau ei dynnu'n ôl i lawr i'r lefelau a welwyd cyn mis Ebrill fel yr argymhellwyd gennym, fe welwn farwolaethau y gellid bod wedi'u hosgoi. Am hynny y soniwn yma mewn gwirionedd, ac nid yn unig y mae'r cap hwn yn rhy uchel, mae'r ffordd y mae Truss wedi penderfynu y bydd yn cael ei ariannu yn llechgïaidd. Bydd cwmnïau ynni sydd wedi gwneud biliynau o elw anhaeddiannol dros ben yn cadw'r elw hwnnw. Ni fyddant yn wynebu treth ychwanegol. Yn hytrach, bydd trethdalwyr yn sybsideiddio'r biliau. Byddwn ni'n dal i dalu drwy ein trwynau, ond dros gyfnod hirach. Mae'r cyfoeth sydd ar y brig, y cyfoeth anfoesol, trachwantus hwnnw, yn aros yn gyfan, heb ei gyffwrdd, heb ei gyrraedd gan y bobl ar y gwaelod.

A oes unrhyw ryfedd fod pobl yn dweud, 'Digon yw digon'? Digon o'r system ben-i-waered hon lle mae San Steffan yn ffafrio atebion hawdd tymor byr fel ffracio er mwyn cynnal y foment hon mewn amser a'r ddogn honno o arian ar gyfer y cyfranddalwyr, y gwneuthurwyr arian amheus hynny nad oes neb yn eu gweld, heb unrhyw ystyriaeth o'r dyfodol, yr awyr y maent yn ei llygru, y ddaear y maent yn ei gwenwyno. Maent wedi methu cynnal y cyflenwadau nwy sydd eu hangen arnom oherwydd yr obsesiwn â'r presennol, a gwneud cymaint o arian â phosibl tra gallant, heb unrhyw ystyriaeth o'r hyn sy'n digwydd pan fydd ddaw'r cyfan i ben.

Mor wahanol y gallai pethau fod wedi bod i Gymru pe bai morlyn llanw bae Abertawe wedi cael caniatâd? Gyda phwerau dros gynhyrchu ynni, gydag elw o Ystad y Goron, mor wahanol y gallai pethau edrych pe bai gennym system a fyddai'n buddsoddi elw yn ein dyfodol cyfunol, yn hytrach na'i gloi allan o gyrraedd? Yn lle hynny, wrth gwrs, bydd yr aelwydydd cyfoethocaf yn cael dwywaith cymaint o help o gymharu â'r rhai tlotaf, ac wrth gwrs, mae Cabinet Truss yn bachu ar y cyfle hwn i danseilio sero net—unrhyw beth sy'n cadw'r peiriant arian i droi ar gyfer y cyfoethocaf. Maent yn gwbl fyddar i'r cyfan arall.

Felly, nid yw'r sgrech o ofn, y waedd o ofid a leisir gan filiynau o bobl erioed wedi'u cyffwrdd hwy, ac maent yn fyddar i apeliadau ein planed. Ond Ddirprwy Lywydd, ni fydd y trychineb hinsawdd yn cilio tra bydd y biliwnyddion yn mynd yn gyfoethocach ychwaith. Os ydym yn anwybyddu hwnnw, ni fydd yn diflannu. Dyma'r adeg i ddod â chwmnïau ynni i ddwylo cyhoeddus, i fuddsoddi mewn ynni gwyrdd, i inswleiddio ein cartrefi, i achub ein planed, i gryfhau ein dyfodol. Dyma'r adeg i feddwl yn radical, gostwng costau trafnidiaeth gyhoeddus, hepgor ôl-ddyledion y dreth gyngor, rhewi rhenti, a helpu pobl i aros yn fyw. Oherwydd mae argyfyngau'n difa popeth, fel fflamau, ac os nad ydym yn eu diffodd yn gyflym, ni fydd y creithiau y byddant yn eu gadael byth yn gwella.

16:50

Fe gaf drafferth dilyn hynny, Delyth. Roedd yn dda iawn.

Credaf yn gryf na ddylai cwmnïau tanwydd ffosil a chyfranddalwyr fod yn gwneud elw o bris uchel tanwydd ffosil, tra bo cartrefi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef caledi mor ddifrifol. Mae cynghorau a grwpiau cymunedol yn ystyried sefydlu cartrefi cynnes a cheginau cawl. Sut y mae hyn wedi cael digwydd ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain? Mae'r UE yn ystyried codi treth o 33 y cant ar elw, a bydd hyn yn golygu cymryd £140 biliwn yn ôl gan y cwmnïau ynni. Ond yn hytrach na threth ffawdelw, byddai'n well gan y Torïaid weld pobl sy'n gweithio yn ysgwyddo'r baich. Mae'r Trysorlys yn rhagweld £170 biliwn o elw dros ben, ond eto bydd cymorth ariannol y Prif Weinidog yn costio £150 biliwn o arian trethdalwyr, gan roi'r wlad mewn dyled bellach am genedlaethau i ddod. Mae gweithwyr eisoes yn gweithio shifftiau hir, ac oriau anghymdeithasol yn aml am yr un tâl, gan effeithio ar iechyd meddwl, teuluoedd a gofal plant. Maent wedi wynebu canlyniadau ras i'r gwaelod dros y degawd neu fwy diwethaf.

Mae Llywodraeth y DU yn siarad am dyfu'r economi drwy fusnes a chreu swyddi da sy'n talu'n dda. Wel, mae digon o swyddi gwag ym maes iechyd a'r sector cyhoeddus y maent yn ei chael hi'n anodd eu llenwi—swyddi a oedd ar un adeg yn talu'n dda. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU ddechrau tyfu'r economi drwy ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus yn briodol. Rydym eu hangen yn awr yn fwy nag erioed. Wedyn gallwn fuddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth, ailadeiladu ein GIG a'n cartrefi gofal, adeiladu tai cymdeithasol di-garbon a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Roedd gennym GIG a gwasanaethau cyhoeddus teilwng cyn y cyni ariannol, ond cawsom wybod bod yn rhaid inni dynhau ein gwregysau flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan dorri 30 y cant bob tro oddi ar ofal cymdeithasol, addysg a thrafnidiaeth. Y sector cyhoeddus a gamodd i'r adwy yma yng Nghymru i helpu gyda'r pandemig, a'r sector cyhoeddus fydd yn gorfod darparu'r grantiau, helpu i greu ystafelloedd cynnes a darparu bwyd i bobl.

Mae Llywodraeth y DU yn beio rhyfel Putin, ond roedd yr argyfwng costau byw yn broblem cyn hynny. Mae prisiau bwyd wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd y ffordd wael yr aethpwyd i'r afael â Brexit. Ac er gwaethaf gostyngiad mewn cyllid termau real, nodaf o ddadleuon y gorffennol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi dwywaith cymaint o gymorth i drigolion ag a dderbyniodd gan Lywodraeth y DU i'r pwrpas hwnnw. Mae'r talebau tanwydd a'r holl becynnau cyllid grant yn wych, ond nid yw'n gynaliadwy; mae'n fiwrocrataidd ac yn gostus i'w gyflawni.

Gwelais awdurdod lleol yn hysbysebu am 12 o staff budd-daliadau i ddosbarthu cyllid grant am £19,500 y flwyddyn, sy'n golygu y byddant hwy angen budd-daliadau hefyd yn ôl pob tebyg—ac felly mae'r cylch yn parhau—a help gyda gwresogi a bwyd. Ni ddylai'r cap ar brisiau ynni fod wedi cael ei godi. Dylai Llywodraeth y DU fod wedi bod yn feiddgar a chadw'r cap prisiau a fodolai cyn mis Ebrill, sef £1,277. Mae angen codiad cyflog gwirioneddol i weithwyr a chodi credyd cynhwysol yn sylweddol. A gallwn wneud hyn drwy drethu'r 10 y cant cyfoethocaf. A, Delyth, digon yw digon.

Hoffwn ddechrau drwy adleisio galwadau Sioned Williams. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng hwn, mae'n rhaid inni gefnogi'r cynigion yma. A hoffwn anghytuno â honiad Peter Fox fod ein cynnig yn bleidiol wleidyddol. Nid yw hynny'n wir. Mae'n cynnig camau ymarferol y gallwn eu rhoi ar waith yma nawr. Os oes unrhyw beth yn bleidiol wleidyddol, eich gwelliant chi yw hwnnw, sy'n rhestru'r hyn mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud, a hefyd, mae gwelliant Llafur hefyd yn rhestr o bethau sydd wedi'u gwneud, nid pethau ychwanegol y gallwn eu gwneud, oherwydd nid yw'r camau sydd wedi'u rhoi ar waith gan y ddwy Lywodraeth yn mynd yn ddigon pell, ac mae mwy y gallwn ei wneud. Mae'n rhaid inni dderbyn mai penderfyniadau gwleidyddol sy'n gyfrifol am yr argyfwng hwn, a rhaid inni ystyried bod yna bethau sydd o fewn ein rheolaeth yma, a dylai'r rhestr sydd gennym yn ein cynnig ni gael ei chefnogi gan bawb os ydym yn cydnabod maint yr argyfwng.

Diolch i'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae mwy o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim ers dechrau'r mis hwn, fel rhan o'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd erbyn 2024. Ond fe ddylen ni fod yn ymdrechu i ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd hefyd, fel mater o frys, i helpu i fynd i'r afael ag effaith yr argyfwng costau byw hwn ar ein plant a'n pobl ifanc, a hefyd i fynd i'r afael â thlodi plant, sydd yn broblem gynyddol yma yng Nghymru. Ac fel y soniais ddoe hefyd, mae'n rhaid edrych rŵan ar ymestyn cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc. Fel y canfu adolygiad tlodi plant Llywodraeth Cymru, nid yw pawb sydd angen prydau ysgol am ddim yn eu derbyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â'r lefelau uchel o dlodi yng Nghymru ers blynyddoedd, a gellir dadlau ers dechrau'r Senedd hon, ac eto mae'r mater yn gwaethygu. Dwi'n siŵr bod nifer ohonom yn cofio'r uchelgais i ddiddymu tlodi plant erbyn 2020 yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu yn 2003 y grŵp gorchwyl tlodi plant i ymchwilio i effeithiau tlodi plant difrifol yng Nghymru, ar adeg pan oedd un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi.

Bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach, nid yw'r ffigwr hwn wedi newid fawr ddim. Nid oes un ward cyngor yn unman yng Nghymru gyda chyfradd tlodi plant o dan 12 y cant. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd tua 195,000 o blant yn byw mewn cartrefi o dan y llinell dlodi. Oherwydd y cyfraddau tlodi plant uchel hyn, mae ein plant yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan yr argyfwng costau byw. Rydyn ni'n gwybod bod tlodi plant yn achosi niwed dwfn a gydol oes i ganlyniadau plant, sy'n gwaethygu po hiraf y bydd plentyn yn parhau mewn tlodi.

Mae tyfu i fyny mewn tlodi a phrofi'r straen a ddaw yn ei sgil yn golygu profiad plentyndod andwyol, a fydd yn effeithio ar yr unigolion hynny drwy gydol eu hoes. Mae'n drawmatig fel plentyn i dyfu i fyny heb i'ch anghenion gael eu diwallu. Mae'n debygol o gael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, hunanddelwedd a hunan-werth, iechyd corfforol, addysg a llwybr gyrfa dilynol, y gallu i gymdeithasu'n normal a rhyngweithio â'u cyfoedion, a'r tebygolrwydd y byddant yn ymwneud â throsedd, naill ai fel dioddefwr neu droseddwr.

Cododd prisiau bwyd ar y gyfradd gyflymaf ym mis Awst ers 27 mlynedd. Mae cyfran y bobl sy'n byw ar aelwydydd ag un neu ddau o blant sy'n gorfod torri yn ôl ar fwyd i blant bron wedi dyblu ers mis Tachwedd 2021—ers inni gael ein hethol i'r chweched Senedd hon. O ystyried y ffaith bod corff sylweddol o dystiolaeth yn dangos effaith maeth gwael yn ystod plentyndod ar ragolygon iechyd tymor hir plentyn, mae'r ffaith bod un o bob pump cartref gyda dau o blant yn torri yn ôl ar fwyd i'r plant yn arbennig o bryderus. Mae'n rhaid gwneud mwy o ran hyn.

Ond, ochr yn ochr ag ehangu prydau ysgol am ddim a chefnogaeth o ran sicrhau y dechrau gorau i bob plentyn, rhaid inni hefyd edrych ar y cynllun lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'r swm yma wedi aros ar £30 yr wythnos ers ei gyflwyno yn 2004. Ers ychydig llai nag 20 mlynedd, dydy o ddim wedi cynyddu o gwbl, er bod costau yn parhau i gynyddu. Rydyn ni'n gwybod pa mor hanfodol ydy'r taliad hwn, ac yn gwneud y gwahaniaeth i berson ifanc allu parhau gydag addysg neu beidio; i'w rhieni allu gwneud y dewis i'w cadw nhw mewn addysg.

Mae'n rhaid cynyddu hwn rŵan i £45 yr wythnos fel rhan o'r pecyn o fesurau costau byw brys, i sicrhau nad yw'r argyfwng hwn yn effeithio'n negyddol ar ein pobl ifanc na'n dysgwyr, na'u huchelgeisiau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae mwy y gallwn ni ei wneud ac y dylem ni ei wneud, os ydym o ddifrif ynglŷn â rhoi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn yng Nghymru.

16:55

Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru. Dwi'n cytuno'n hollol efo beth y mae Sioned wedi ei ddweud, Delyth, Carolyn a Heledd. Diolch yn fawr iawn.

Rydym mewn sefyllfa dywyll ac enbyd iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn gwybod ers misoedd beth sydd ar y ffordd. Yn hytrach na threulio'r haf yn paratoi ac yn trefnu pecyn cymorth cynhwysfawr i ddiogelu pobl y gaeaf hwn, y cyfan a welsom yw Llywodraeth Geidwadol y DU yn edrych tuag i mewn, arni hi ei hun a sut i warchod ei hun.

Ni allwn orbwysleisio'r effaith wirioneddol y bydd yr argyfwng hwn yn ei chael. Yn bersonol—ac rwy'n gwybod bod eraill yma hefyd—rwy'n llythrennol yn arswydo rhag beth a ddaw yn y misoedd nesaf i bobl yn fy rhanbarth i ac ar draws Cymru, a dylem i gyd arswydo. Mae bywydau pobl mewn perygl, ac os na fydd y mesurau cywir i ddiogelu pobl yn weithredol yn fuan iawn, bydd pobl yn marw, fel y clywsom.

Mae'n rhaid inni sicrhau mai'r rhai sydd â'r pocedi dyfnaf a'r ysgwyddau lletaf—y bobl sy'n gwneud elw annisgwyl ac annirnadwy—sy'n talu. Bydd unrhyw gynllun sy'n gwthio mwy o bobl i ddyled ac yn trosglwyddo'r broblem i genedlaethau'r dyfodol ond yn achosi poen hirdymor. Economeg o'r brig i lawr; wel, rwyf wedi dysgu rhywbeth am hynny. Dysgais rywbeth amdano gan Joe Biden ddoe, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu,

'Cefais lond bol ar economeg o'r brig i lawr. Nid yw erioed wedi gweithio.'

Ac eto dyna beth y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn mynd i'w wneud. A Peter Fox, gyda'r parch mwyaf, rydych yn dweud gadewch inni gadw gwleidyddiaeth plaid allan o hyn. Wel, pam y bu i'ch Llywodraeth chi gymryd £20 yr wythnos o daliadau credyd cynhwysol i'r tlotaf o'n pobl? Gallwn dreulio'r ddau funud a hanner cyfan sydd gennyf ar ôl yn siarad am Lywodraeth Geidwadol y DU. Byddwn angen llawer mwy o amser, mewn gwirionedd. Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio, fel y dywedwyd, ar y materion mwyaf ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu gweithredu i helpu pobl yma yng Nghymru—trafnidiaeth, dyled a thai a digartrefedd. Diolch i Blaid Cymru am nodi hynny'n glir iawn. Oherwydd ychydig iawn y gallwn ei wneud yma, ond fe all ein cymheiriaid draw acw wneud cryn dipyn am ymddygiad cywilyddus Llywodraeth Geidwadol y DU.

Ond mae llawer y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, felly gadewch inni ddechrau gyda thrafnidiaeth. Rwyf eisoes wedi cynnig a galw am weithredu brys ar gostau trafnidiaeth gyhoeddus, ac fe wnaethom drafod ym mis Ionawr fy nghynnig i gyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar deithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yng Nghymru i'r sawl sydd dan 25 oed. Mae angen inni weld hynny'n cael ei roi mewn grym, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn edrych ar hynny. Mae Sbaen wedi torri costau ar deithiau cymudwyr a theithiau pellter canolig o fis Medi tan ddiwedd y flwyddyn. Mae'r Almaen wedi torri cost pob taith dros €9, ac mae Lwcsembwrg wedi gwneud pob trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim ers 2020. Felly, gallwn wneud yr un peth yng Nghymru.

Yn ail, dyled bersonol. Mae effaith dyled bersonol yn fater y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ei ystyried yn y gorffennol. Argymhellodd yr adroddiad 'Dyled a'r pandemig' y dylai'r Llywodraeth edrych ar ddichonoldeb cyflwyno coelcerthi dyledion mewn perthynas ag agweddau ar ddyled sector cyhoeddus. Mae hwn yn gynnig allweddol gan fy mhlaid, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn adolygu hyn ac yn ei weithredu yn y dyfodol. Hoffwn fachu ar y cyfle hefyd i gyfeirio'n ôl yn gyflym iawn at fy nghynnig ar gyfer ymestyn y peilot incwm sylfaenol i gynnwys gweithwyr mewn gwaith trwm a charbon-ddwys, sydd mewn perygl o golli eu swyddi.

Ac yn olaf, rhewi rhenti a rhentu preifat. Mae angen inni feddwl am dai a digartrefedd. Rwy'n cytuno bod angen gweithredu ar frys i ddiogelu pobl sydd mewn perygl oherwydd union natur bod mewn llety rhent preifat. Rhenti sy'n codi'n gyflym a methiant i weithredu ar droi allan yw'r sbardun allweddol yma. Rwy'n credu bod oedi amddiffyniad i rentwyr rhag troi allan tan fis Rhagfyr yn benderfyniad cwbl anghywir, ac rwy'n credu bod rhaid inni ofyn a yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn addas i'r diben ar hyn o bryd, heb sôn am yn y dyfodol. Mae angen moratoriwm yn awr ar droi allan.

Bydd yna bobl sy'n lladd ar unrhyw ymyrraeth ym maes tai, dyled neu wariant cyhoeddus sylweddol, neu drafnidiaeth sy'n derbyn cymhorthdal. Ond rydym yn wynebu trychineb cymdeithasol os na weithredwn. Y cwestiwn go iawn—ac fe ddof i ben gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—yw beth yw cost peidio â gweithredu i atal y trychineb hwnnw. Diolch yn fawr iawn. 

17:00

Mae’r argyfwng sydd yn ein hwynebu ni yn un anferthol. Mae chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac wedi chwalu pob rhagamcan a gafwyd gan economegwyr, ac mae’r rhagolygon yn dangos y bydd o’n cynyddu hyd yn oed yn fwy. Mae prisiau ynni wedi chwyddo i lefelau cwbl anghynaliadwy i’r rhan fwyaf o bobl, ac mae’r cynnydd yn y pris ynni yn cael ei adlewyrchu yn y cynnydd ym mhris bwyd, pris trafnidiaeth a phrisiau pethau eraill. Mae hyn oll yn dod ar ben degawdau o gyflogau’n aros yn llonydd, neu yn methu cadw i fyny â chwyddiant, 10 mlynedd o gyni o du Torïaid ciaidd San Steffan, a chwtogi cyson ym mudd-daliadau rhai o’r pobl mwyaf bregus.

Yn ôl Sefydliad Bevan, mae tua 180,000 o aelwydydd yma yng Nghymru bellach yn methu â fforddio rhai o bethau mwyaf elfennol bywyd: gwres, bwyd neu nwyddau ymolchi, heb sôn am bethau moethus. Gwn eu bod yn galw hwn yn argyfwng costau byw, ond y gwir ydy ei fod yn argyfwng fforddio byw. Y drasiedi ydy fod pobl yn methu fforddio byw. O'i roi yn y termau yma, rydyn ni'n gweld yr argyfwng am beth ydy o mewn gwirionedd, sef bod cyfalaf yn cael ei flaenoriaethu dros fywydau. Mae yna ddigon o fwyd yma, mae yna ddigon o ynni, mae yna ddigon o dai, ond mae pobl yn marw ac yn dioddef oherwydd bod dogma'r farchnad rydd yn dweud bod gwerth y pethau yma yn fwy na gwerth bywydau pobl. Dyna'r gwir. A chyn hir, bydd hwn hefyd yn argyfwng i'r farchnad rydd wrth i bobl weld nad ydy'r drefn yn gweithio o'u plaid, a gwthio yn ôl. 

Wrth drafod yr argyfwng yma a'r chwyddiant sydd ynghlwm iddi, yr un elfen sy'n ganolog i hyn oll ond sydd braidd byth yn cael sylw ydy'r costau o gael to uwch ein pennau. Rwy'n syrffedu ar orfod sôn am hyn yn y Siambr drosodd a thro, ond mae rhenti yng Nghymru wedi cynyddu yn fwy nag unrhyw ran arall o'r deyrnas anghyfartal yma, gyda'r bobl ar yr incwm isaf yng Nghaerdydd, er enghraifft, yn talu 35 y cant o'u hincwm ar rent yn unig, a'r rhent yn y ddinas hon wedi cynyddu 36 y cant mewn dwy flynedd. Mae chwarter tenantiaid preifat Cymru yn poeni eu bod nhw am golli eu tai yn y tri mis nesaf, a hyn ar ben y ffaith eu bod nhw wedi gweld cynnydd anferthol mewn troi allan di-fai yn barod.

Ac i'r rhai hynny sy'n cael eu troi allan neu'n chwilio am gartref, yna mae'r cyfleoedd i ganfod eiddo addas yn boenus o brin. Heddiw, fe lansiodd Sefydliad Bevan eu hadroddiad ar yr argyfwng tai, gan edrych ar y farchnad rent yng Nghymru dros yr haf diwethaf, a chanfod, credwch neu beidio, mai dim ond 60 eiddo oedd ar gael trwy Gymru benbaladr ar raddfa lwfans tai lleol, a bod yna saith awdurdod lleol heb yr un eiddo ar gael ar y raddfa honno. Gwyddom fod y niferoedd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol wedi cynyddu o bron i hanner, a bellach mae'r rhestr honno tua 90,000. Yn wyneb hyn, mae'n rhaid gweithredu, a hynny ar frys. 

Dwi'n falch fod cytundeb Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn edrych i gyflwyno Papur Gwyn a fydd yn cynnwys edrych ar gapio rhenti, ond mae'n rhaid i ni weithredu cyn hynny. Dyna pam fod yn rhaid i ni edrych ar rewi rhenti dros y tymor byr yma, a sicrhau bod yna bot o bres ar gael i ddigolledu'r sector tai cymdeithasol wrth iddyn nhw edrych i ddadgarboneiddio eu stoc. Byddai rhewi rhenti hefyd yn sicrhau nad ydy landlordiaid preifat yn medru elwa ar gefn trallod eraill yn ystod y cyfnod anodd yma. Dwi'n diolch i Carolyn Thomas am godi'r pwynt yma yn gynharach heddiw, ac yn gwybod ei bod hi'n siarad ar ran y mudiad Llafur yng Nghymru trwy wneud hynny. 

Wedi'r cyfan, mae'n rhaid i ni gofio mai aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas—pobl ag anableddau, rhieni sengl ac eraill—sydd yn fwyaf tebygol o fynd i ddyledion ar eu rhenti oherwydd lefelau incwm isel. Mae dyledion o'r fath yn effeithio ar iechyd meddwl ac ar fagwraeth plant, felly mae gweithredu ar atal hyn am fod yn fuddsoddiad hefyd, gan arbed pres i adrannau eraill o'r Llywodraeth yn y pen draw. Felly, dwi'n galw arnoch chi yn y Llywodraeth i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban a rhewi'r rhenti yma er mwyn galluogi’r mwyaf bregus i oroesi'r gaeaf anodd iawn yma. A dwi'n galw ar yr Aelodau ar feinciau cefn y Blaid Lafur i wrthod gwelliant eu Llywodraeth eu hunain, ac i gadw'n driw at y daliadau hynny a oedd wedi'ch cyflyru chi i roi eich enwau ymlaen fel gwleidyddion, a chefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw. 

17:05

Rhun ap Iorwerth. Na.

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. 

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon? Rydym newydd gael dadl bwerus iawn ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar drechu tlodi tanwydd, ac yn wir, ddoe, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad hefyd ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn ystyried hyn yn flaenoriaeth hollbwysig i’r Llywodraeth hon.

Mae pobl yng Nghymru'n wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Mae biliau ynni domestig wedi dyblu dros y 12 mis diwethaf, ac mae’r effaith i'w theimlo ar draws ein heconomi a’n cymunedau, yn enwedig ymhlith y rhai ar yr incwm isaf a’r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae hynny wedi’i fynegi’n glir heddiw. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn gwario £1.6 biliwn ar gymorth costau byw wedi’i dargedu a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl a helpu i liniaru’r argyfwng hwn. A ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog y tri mesur ychwanegol y byddwn yn eu gweithredu—ar y drydedd ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', ar fannau cynnes ac ar fanciau bwyd.

Rydym wedi gwneud llawer yma yng Nghymru, ond gwyddom mai Llywodraeth y DU sydd â'r adnoddau allweddol ar gyfer lliniaru'r argyfwng hwn, hwy sydd wedi caniatáu i'r argyfwng hwn waethygu a dim ond papuro dros y craciau y mae eu hymyriadau wedi'i wneud. Mae angen y warant prisiau ynni gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod 45 y cant o bobl Cymru eisoes yn debygol o fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill eleni. Mae hynny wedi'i ddweud eisoes. Ychydig iawn sydd yna yn y warant i gefnogi'r rheini y mae'r costau ynni cynyddol eisoes yn effeithio arnynt.

Ar ôl ystyried y warant prisiau ynni, a gwrthdroi, yn ôl y disgwyl, y cynnydd gan y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol i gyfraniadau yswiriant gwladol—arhoswn am y cyhoeddiad ddydd Gwener—mae Sefydliad Resolution wedi rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd y degfed ran gyfoethocaf o aelwydydd yn cael oddeutu £4,700 y flwyddyn drwy'r mesurau hyn, tra bydd y tlotaf yn cael £2,200, gan ddyfnhau'r anghydraddoldebau sy'n falltod ar fywydau pobl. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio benthyca i dalu am y cap yn lle treth ffawdelw ar yr elw aruthrol a wneir gan gynhyrchwyr olew a nwy yn ein tynghedu ni oll i ddyfodol o filiau uwch am flynyddoedd lawer i ddod.

Rwy'n cytuno â Phlaid Cymru fod y cynnydd presennol mewn biliau ynni'n anghynaladwy, ac rwy'n cytuno ei bod yn gywilyddus fod pobl yng Nghymru yn wynebu’r cynnydd hwn yn eu biliau tra bo'r cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud elw digynsail. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU, llawer ohonom yma yn y Siambr hon, i gydnabod difrifoldeb yr argyfwng i drethdalwyr, i ailfeddwl eu hymagwedd tuag at dalu am gapiau ar brisiau ynni a threthu elw digynsail y cynhyrchwyr olew a nwy.

Galwaf hefyd ar Lywodraeth y DU i adolygu’r system fudd-daliadau. Gwnaeth Jane Dodds y pwynt am y toriad o £20 i gredyd cynhwysol y llynedd, ac rwyf innau hefyd wedi galw am gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a’r terfyn dau blentyn i gefnogi teuluoedd ac i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac ailystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cymreig i Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â'r holl gyfrifoldebau ac anghenion mewn perthynas â nawdd cymdeithasol yng Nghymru. Rwyf wedi datgan ar sawl achlysur yn y Senedd hon ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl Cymru drwy’r argyfwng digynsail hwn, ac rwy'n gwneud yr ymrwymiad hwn eto heddiw.

Ond mae'n rhaid imi ddweud hefyd nad ydym ni, fel Llywodraeth, yn ddiogel rhag effeithiau'r argyfwng costau byw, ac yn union fel y mae chwyddiant yn erydu'r hyn y gall unigolion a theuluoedd ei brynu, mae'n gwneud hynny i'r Llywodraeth hefyd. Felly, mae setliad yr adolygiad o wariant tair blynedd, a gawsom gan Lywodraeth y DU y llynedd, bellach yn werth o leiaf £600 miliwn yn llai na phan y'i cawsom fis Hydref diwethaf, oherwydd effaith chwyddiant, ac mae’r bwlch hwn yn debygol o gynyddu pan welwn ragolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, pryd bynnag y cawn eu gweld.

Ond er ein bod yn cydnabod yr angen i weithredu, mae'n anochel fod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn cynyddu gwariant cyhoeddus—[Torri ar draws.] Credaf fod hyn yn rhywbeth sydd mor bwysig, oherwydd mae'n ymwneud â sut y gallwn estyn allan a sicrhau bod yr £1.6 biliwn yr ydym wedi’i ganfod i dargedu cymorth costau byw a rhaglenni cyffredinol yn gallu rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Ac mae hynny'n cynnwys y pecyn costau byw o £330 miliwn.

17:10

Mae gennych un dull pwysig y cyfeiriwyd ato eisoes, a fyddai’n effeithio'n uniongyrchol ar sefyllfa pobl ar unwaith, sef gorfodi i renti yn y sector preifat gael eu rhewi a gosod moratoriwm ar droi pobl allan yn y sector rhentu preifat. Ni fyddai hynny’n arwain at unrhyw ganlyniadau cyllidol i Lywodraeth Cymru ond byddai’n arwain at ganlyniadau enfawr i lawer iawn o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd.

Wel, credaf ei bod yn bwysig, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe ar y pwynt hwn, fod rhenti yn cael eu rhewi yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru tan ddiwedd mis Mawrth. Mae'r rhain yn bethau hollbwysig ar gyfer estyn allan ar faterion rhent, a byddwn yn mynd i'r afael â hwy wrth gwrs. Ond mae rhewi rhenti eisoes yn digwydd. O edrych ar ein pecyn costau byw o £330 miliwn—[Torri ar draws.]

17:15

Mae'n ddrwg gennyf, a wnaiff y Gweinidog—? [Anghlywadwy.] Roeddwn yn cyfeirio at orfodi rhenti i gael eu rhewi yn y sector preifat. Nid yw hynny wedi’i orfodi eto gan Lywodraeth Cymru, ac ni fyddai’n arwain at unrhyw ganlyniadau cyllidol, ond byddai’n arwain at ganlyniadau enfawr a buddiol i deuluoedd.

Wel, hynny yw, rwy'n dweud wrth arweinydd Plaid Cymru, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â sut y gallwn gael cymorth i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, gan nad oes unrhyw arwydd ein bod yn mynd i gael unrhyw gymorth gan Lywodraeth y DU ddydd Gwener ar ffurf camau gweithredu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. A dweud y gwir, wrth gwrs, golyga hynny ein bod yn mynd i weld effaith gyrydol iawn ar ein cyllidebau, gan gynnwys cyllidebau ein hawdurdodau lleol wrth gwrs, sy'n golygu nad yw arian yn mynd i fynd mor bell ag yr arferai fynd.

Rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â ni fel Llywodraeth Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i uwchraddio cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fel y gallwn fynd i'r afael â llawer o'r materion hyn yn ogystal ag edrych ar yr holl opsiynau a chyfleoedd sy'n codi. Ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi dderbyn hefyd mai’r hyn a wnawn yw rhoi arian ym mhocedi dinasyddion Cymru: y taliad costau byw o £150 i bob cartref; y £15 miliwn ychwanegol mewn cronfeydd cymorth dewisol; ac wrth gwrs, cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, y £200 yr ydym wedi ymestyn cymhwysedd ar ei gyfer yn eang, fel y gwyddoch. Credaf ei bod yn bwysig—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad arall oherwydd yr amser. Mae'n bwysig ein bod yn nodi ar goedd unwaith eto ein bod wedi ehangu'r cymhwysedd, ac yn amlwg, mae hynny'n mynd i fod yn wirioneddol bwysig er mwyn cyrraedd y 400,000 a allai fod yn gymwys wrth i'r cynllun ddechrau ddydd Llun. Rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn cydnabod hynny ac yn rhannu hynny gyda’ch etholwyr gan ei fod bellach yn cynnwys credydau treth plant; credyd pensiwn, y bu galw amdano ar draws y Siambr; mae'n cynnwys y lwfans byw i bobl anabl; taliadau annibyniaeth personol; y lwfans gweini; y lwfans gofalwr; y lwfans cyflogaeth a chymorth a'r budd-dal analluogrwydd. Bydd hwn yn fudd-dal Cymreig, ac rwy'n gobeithio y bydd y Siambr gyfan yn ein cefnogi i ddarparu'r arian hwn.

Felly, rydym yn gwneud llawer iawn mewn perthynas â'n system fudd-daliadau yng Nghymru, un pwynt mynediad, y siarter fudd-daliadau yr ydym yn ei datblygu, gan gydnabod hefyd fod hyn mor hanfodol; mae’n flaenoriaeth hollbwysig i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet ar gostau byw, fe wnaethom gyfarfod heddiw, a bydd yn cryfhau ein holl ymyriadau gyda'n partneriaid. Felly, lle gallwn, byddwn yn gwneud mwy ac yn archwilio pob opsiwn a chyfle. Bydd llawer o drafod ynglŷn â hyn: beth y gallwn ei wneud a sut y byddwn yn darparu'r £1.6 biliwn o gyllid gwerthfawr Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Ond bydd yn golygu gweithio gyda llywodraeth leol; bydd yn golygu gweithio gyda'r trydydd sector; cyfarfod â Sefydliad Bevan, fel y gwneuthum yr wythnos hon; y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant; National Energy Action; ein comisiynwyr; TUC Cymru. Ond yn anad dim, rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi hi a hi yn unig i ddarparu’r cymorth ychwanegol brys sydd ei angen.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau a’r Gweinidog a gyfrannodd at y ddadl hon. Heddiw, rydym wedi clywed llawer o ystadegau, ffigurau a chyfrifon sy’n nodi graddau brawychus yr argyfwng costau byw, ond ni all dim o hyn gyfleu na disgrifio effaith yr amddifadedd a’r tlodi hwn ar y rhai sy’n ei brofi. Mae mwy na phedwar o bob 10 oedolyn yng Nghymru—sef 43 y cant o oedolion yng Nghymru—wedi dweud bod eu sefyllfa ariannol bresennol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, gyda 30 y cant yn dweud bod eu sefyllfa ariannol bresennol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol. Mae tlodi'n lladd. Nid oes dianc rhag y ffaith honno. Ac wrth inni fynd i mewn i'r gaeaf hwn, rwy'n ofnus iawn—yn ofnus iawn—gan wybod beth y mae pobl yn mynd i fod yn ei wynebu. Pobl dda. Pobl nad ydynt yn haeddu hyn. Y bobl y tyfais i fyny gyda hwy. Y bobl rwy'n poeni amdanynt. A all unrhyw un ohonom—unrhyw un ohonom—ddweud yn onest ein bod yn cynrychioli’r bobl os nad ydym yn symud mynyddoedd i ddatrys yr argyfwng hwn?

Mae'n rhaid inni weithredu'n gyflym ac yn radical, a dyna pam na fyddwn yn cefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth a’r Torïaid. A dweud y gwir, nid ydynt yn ddim mwy na gwelliannau hunanlongyfarchol. Ond dyma'r realiti: nid yw canmol eich hunain yn ddigon da, oherwydd hyd yn oed gyda phopeth sy'n cael ei gyflwyno a'i wneud, mae pobl yn dal i'w chael hi'n anodd. Mae etholwyr yn dod atom yn ddyddiol. Dywedodd un o fy etholwyr: 'Bûm yn gweithio ac yn gweithio ac yn gweithio drwy gydol y pandemig. Cafodd y bonws ei dalu i mi fel cyflog. Collais fy nghredyd cynhwysol i gyd. Mae'r ychydig fonws a oedd yn weddill wedi diflannu yn sgil cost syfrdanol petrol a bwyd, a'r cyfan er mwyn imi allu parhau i weithio er mwyn parhau i oroesi.' Un arall: 'Gweithwyr gofal ydym ni. Cawsom y taliad bonws i weithwyr gofal cymdeithasol. I ni, roedd hynny'n golygu bod £800 yn cael ei dynnu o'n credyd cynhwysol, a daeth ein cymorth gyda'r dreth gyngor i ben. Rydym yn dal i fod heb fwyd, heb arian, heb drydan. Rydym yn gweithio mor galed i ofalu am bobl. Ai peth fel hyn yw 'help'?'

Wrth edrych ymlaen at ddydd Gwener, mae'n mynd i fod yn adeg dyngedfennol i gynifer o bobl—adeg pan fyddant naill ai'n cael rhywfaint o dawelwch meddwl neu ddim byd o gwbl. Ac mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn hyderus iawn ynglŷn â dydd Gwener nesaf. Ymddengys mai'r cyfan a gawn yw'r un hen sbwriel marchnad rydd, economi ryddfrydol yr ydym bob amser wedi'i gael o ochr arall y Siambr, nad yw'n gwneud dim—dim byd o gwbl—i bobl ddosbarth gweithiol. [Torri ar draws.] Ewch yn eich blaen.

17:20

Rwyf wedi eistedd yma'n gwrando ar y ddadl hon am yr awr ddiwethaf gyda diddordeb, a dim ond unwaith gan Carolyn Thomas y clywais gyfeiriad at ryfel Vladimir Putin yn erbyn Rwsia, ac yn enwedig gyda'r geiriau iasoer gan Arlywydd Rwsia y bore yma, yn rhoi coed ar dân y rhyfel eto gydag Wcráin ac yn creu tensiynau gyda'r gorllewin. Felly, onid ydych yn barod i wneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin am yr hyn sy'n digwydd, neu a ydych yn mynd i ddefnyddio'r awr gyfan i ladd ar Lywodraeth y DU?

Iawn, wel, mae'n amlwg nad oeddech yn gwrando'n ddigon da, Gareth, gan fod Sioned wedi crybwyll hynny yn ei chyfraniad. Rwyf fi am ddweud wrthych am roi'r gorau i wyro'r sgwrs drwy'r amser. Rydym wedi gweld Prif Weinidog y DU yn dadlau o blaid economeg o'r brig i lawr, toriadau treth, cael gwared ar y cap ar fonysau bancwyr, a gyda llaw, dim treth ffawdelw o gwbl ar gwmnïau ynni, sy’n gwneud biliynau wrth i filiau pobl godi—biliynau, maent yn gwneud arian fel slecs—ac yn lle hynny, rydych chi'n disgwyl i'r bobl dalu. Calliwch. Er mwyn Duw, calliwch. Ni allaf oddef unrhyw un sy'n dal i ddadlau o ddifrif o blaid economeg o'r brig i lawr ar hyn o bryd. Nid yw erioed wedi gweithio, ac ni fydd byth yn gweithio.

Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth Lywodraeth Cymru yn wyneb yr elyniaeth gynyddol tuag at bobl ddosbarth gweithiol gan Lywodraeth y DU yw gwnewch y peth iawn. Mae ymateb y Llywodraeth i rai o’r polisïau a gynigiwyd gan Blaid Cymru wedi bod yn gwbl syfrdanol. Ai dyma gyflwr sosialaeth radical yng Nghymru? Amharodrwydd i rewi rhenti a gwahardd troi allan yn y sector preifat yng Nghymru, lle mae cynigion i helpu pobl bob amser yn ennyn y cwestiwn 'Sut y bwriadwch dalu amdanynt?' Nid dyna iaith sosialaeth. Dyna iaith y dosbarth rheolaethol, pobl sydd wedi derbyn ideoleg cyni, boed yn anymwybodol neu'n ymwybodol. I aralleirio, blaenoriaethau yw iaith sosialaeth, ac yn anad dim, fel llawer o’r Aelodau Llafur yn y Siambr hon, a bod yn deg, fy mlaenoriaeth i yw’r bobl, a diogelu'r bobl rhag yr argyfwng costau byw—y bobl sy'n ffynnu pan fydd Llywodraeth yn gofalu amdanynt, ac sy'n dioddef pan nad yw'n gwneud hynny. Bydd hwn yn bandemig o fath hollol wahanol. Er bod maint yr argyfwng yn golygu ei fod yn effeithio ar bron bawb yn ein cymdeithas, mae'n gwbl ddinistriol i'n pobl dlotaf a mwyaf agored i niwed.

Rydym eisoes wedi clywed sut yr effeithir yn anghymesur ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, ynghyd â phobl anabl a rhentwyr. Mae mwy nag un o bob pedwar o deuluoedd un rhiant sydd â phlant ifanc yn cael trafferth fforddio pethau bob dydd—nid moethau, ond hanfodion bob dydd.

A fyddech chi hefyd yn cytuno mai'r peth hawsaf i'w wneud, mae'n debyg, a'r peth y mae angen ei wneud ar unwaith, yw rhoi diwedd ar daliadau sefydlog? Mae pobl yn rhoi £10, y maent wedi cymryd wythnos i'w gynilo, yn y mesurydd, ac mae chwarter i draean ohono eisoes wedi mynd ar daliadau sefydlog pan nad oeddent yn defnyddio'r ynni. Mae hynny'n syml. Ni ddylai orfod costio unrhyw beth i’r Llywodraeth. Gallent ei ychwanegu at gost ynni, ond byddai hynny’n helpu pobl dlawd yn fwy na dim arall.

Da iawn, Mike. Un peth arall i'w ychwanegu at y rhestr o ofynion y mae Plaid Cymru yn gofyn amdanynt.

Rwyf am gloi gyda hyn. Mewn seminar a gefais yn y brifysgol gyda Richard Wyn Jones, dywedodd yn gellweirus efallai y dylai fod cerflun o Thatcher y tu allan i'r Senedd—fe ofynnaf i'r Aelodau fod yn amyneddgar gyda mi ar hyn. [Chwerthin.] Heb os, roedd Thatcher yn ffactor a gyfrannodd at dderbyn datganoli yng Nghymru a sefydlu’r lle hwn oherwydd yr uffern lwyr y rhoddodd Llywodraeth y DU bobl ddosbarth gweithiol drwyddi yn ystod ei phrifweinidogaeth. Nid oedd ganddynt Senedd bryd hynny, ond mae gennym un bellach. Ac er y byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i dynnu ei bys allan, yn yr un modd, byddwn yn dweud yr un peth wrth Lywodraeth Cymru. Os na fyddant yn gweithredu, Llywodraeth y DU, hynny yw, yr unig beth sy'n mynd i amddiffyn pobl Cymru yw’r lle hwn. Cefnogwch ein galwadau, a gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriwn y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig

Mae eitem 12 wedi ei gohirio tan 28 Medi.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:26.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:32, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

17:30
13. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 11, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 11. Dadl Plaid Cymru - Costau Byw. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 11. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 11. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

17:35

Cynnig NDM8073 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.

2. Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.

3. Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:

a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;

b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;

c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;

d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.

Agor y bleidlais.

Mae gennyf un Aelod eto i bleidleisio.

Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 11. Dadl Plaid Cymru - Costau byw. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

14. Dadl Fer: Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: Yr heriau a'r cyfleoedd

Symudwn ni'n awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Jenny Rathbone i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.

Os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n ddistaw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joyce Watson, Peter Fox a Luke Fletcher i'w galluogi i gyfrannu at y ddadl.

Gan fod cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd yn un o'r cynigion pwysicaf a mwyaf radical yn y cytundeb partneriaeth â Phlaid Cymru, a'n bod wedi dyrannu £260 miliwn i wneud iddo ddigwydd, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn ei wneud yn iawn ac yn cyflawni ein hamcanion polisi. Mae hyn yn ymwneud â mwy na gwneud yn siŵr nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol, mae'n rhaid iddo ymwneud â’r ffordd yr ydym yn trawsnewid perthynas plant â bwyd yn wyneb y diwylliant gordewdra sy'n annog pobl i fwyta'r holl bethau anghywir.

Fel y gwnaeth y datganiad gan y Gweinidog yn glir ddoe, mae’n ymddangos bod y garreg filltir gyntaf, sef bod yr holl blant oedran derbyn yn cael cinio am ddim o ddechrau’r tymor hwn wedi’i chyrraedd i raddau helaeth. Mae'n ymddangos bod llawer o ysgolion ac awdurdodau lleol wedi gallu gwneud hyn yn weddol hawdd. Mae wyth cyngor eisoes wedi ymestyn y ddarpariaeth y tu hwnt i ddosbarthiadau derbyn, ymhell o flaen terfyn amser y Llywodraeth, sef mis Ebrill, i flynyddoedd 1 a 2 hefyd, felly mae 45,000 o ddisgyblion eisoes yn elwa ar y cynllun newydd hwn.

Cyflawnwyd hyn o fewn naw mis wedi'r cyhoeddiad, nad yw'n llawer o amser yn weithredol. Nid yw hynny'n golygu ei fod wedi bod yn hawdd. Mae dau awdurdod lleol, mewn gohebiaeth â mi ar hyn, wedi tynnu sylw at yr heriau o ran prynu offer, her a ddeilliodd yn sgil COVID a Brexit. Adroddodd Ynys Môn eu bod wedi goresgyn llu o heriau o ran prynu offer ychwanegol o ganlyniad i'r contract y maent wedi ymrwymo iddo gyda Chartwells, un o is-gwmnïau Compass, sy'n mynd i drefnu eu prydau ysgol, neu'n wir, sydd eisoes yn trefnu eu prydau ysgol.

Yn awdurdod lleol Caerdydd, bu’n rhaid cynnal arolwg o bob ysgol unigol i nodi pa rai oedd y prif flaenoriaethau ar gyfer adnewyddu ceginau yn ystod gwyliau’r ysgol, ac roedd cael 18 o geginau wedi’u hadnewyddu o fewn y cyfnod o chwe wythnos yn galw am gostio cynlluniau, caffael contractau a gwneud yn siŵr eu bod wedi’u cwblhau yn ystod y gwyliau. Roedd yn gryn orchest ac yn destun syndod i’r aelod cabinet dros addysg ei bod wedi'i chyflawni. Tynnodd Caerdydd sylw hefyd at berthynas waith hirhoedlog gyda chwmnïau gosod ceginau lleol a’u galluogodd i wneud y gwaith. Felly, mater bach mewn gwirionedd yw’r ffaith bod un ysgol yng Nghaerdydd a phump ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dal i weini cinio oer i ddisgyblion tra bo'r gwaith o adnewyddu eu ceginau’n cael ei gwblhau. A bod yn onest, mae maint eu ceginau yn llai pwysig na chael staff arlwyo cymwys a sicrhau bod pob plentyn yn cael bwyd a bod ganddynt ddigon o amser i fwyta eu cinio yn yr awr a neilltuwyd yn amserlenni'r rhan fwyaf o ysgolion.

Rwy’n deall pam fod Llywodraeth Cymru eisiau dechrau o’r dechrau, ond mae dechrau cyflwyno cinio am ddim i bawb yn y dosbarth derbyn yn her ynddi’i hun. Mae plant pedair oed yn gorfod ymdopi o’r newydd â‘r sŵn, yr wynebau newydd sy'n rhan o'r newid mwyaf yn eu bywydau. Hefyd, mae cael eu gwahodd i fwyta bwyd nad ydynt o bosibl erioed wedi'i flasu o'r blaen yn her fawr iawn .

Felly, ni ddylem synnu, yn ystod wythnos gyntaf y tymor, mai dim ond hanner y plant dosbarth derbyn yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville yng Nghaerdydd a oedd yn bwyta’r cinio ysgol yr oedd ganddynt hawl iddo. Ac mae'n anodd deall cymhlethdod y rhesymau pam nad oedd y lleill yn manteisio arno, ond mae rhywfaint ohono'n ymwneud â phryder rhieni, sydd am sicrhau bod y plentyn yn cael rhywbeth y mae'n gwybod y mae'n ei hoffi. Nid oedd ganddynt y pryder 'a ydw i’n mynd i ollwng yr hambwrdd', y byddai unrhyw blentyn pedair oed yn ei brofi, oherwydd bod y pryd yn cael ei weini yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer y plant penodol hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd y nifer sy'n manteisio ar y ddarpariaeth yn gwella wrth i'r disgyblion weld y bwyd y mae eu cyd-ddisgyblion yn ei fwynhau, ac wrth iddynt feddwl, 'Wel, hoffwn i gael ychydig ohono hefyd.' Felly, mae'n wirioneddol bwysig nad yw plant sy’n cael pecyn bwyd yn cael eu gwahanu oddi wrth y rhai sy'n bwyta prydau ysgol, oherwydd mae hefyd yn creu anghymhelliad; os yw eich ffrind bob amser yn cael pecyn bwyd, rydych chi'n mynd i gael pecyn bwyd hefyd. Ond os oes gennych chi ddewis am ddim, mae'n llawer haws ei hyrwyddo i bawb.

Mae’n her wirioneddol i benaethiaid, oherwydd mae angen amser ar blant ifanc iawn i fwyta, ac nid yw’r egwyl ginio byth yn hwy nag awr. Felly, yn ysgol Albany, mae’r plant derbyn yn mynd i mewn i’r ystafell fwyta yn gyntaf, ac yn cael gofal cariadus gan yr athrawes ddosbarth, y cynorthwywyr addysgu a’r goruchwylwyr cinio canol dydd, ac mae hynny’n angenrheidiol gyda phlant mor ifanc. Yn seiliedig ar berthynas esblygol fy wyrion fy hun â bwyd, rwy’n cydymdeimlo â’r rhiant pryderus a anwybyddodd hawl eu plentyn i gael prydau ysgol am ddim, ac a roddodd becyn bwyd wedi’i baratoi’n hyfryd yn lle hynny i fynd i’r ysgol, fel y dangosodd un ferch i mi, yn llawn o lysiau a ffrwythau bendigedig— y cyfan heb ei gyffwrdd. Rwy'n siŵr ei fod i gyd yn mynd adref. Mae'n gymhleth iawn gyda phlant bach iawn.

Cofiwch fod plant pedair oed yn cyrraedd y dosbarth derbyn gyda'r arferion bwyta y maent wedi'u meithrin ers eu geni. Bydd gofyn i blant bach fabwysiadu arferion bwyta eu rhieni—dyna maent wedi arfer ag ef. Felly, beth sy'n digwydd ar aelwydydd lle nad oes ffrwythau neu lysiau ffres ar gael, oherwydd tlodi, neu am resymau cymhleth eraill—cenedlaethau o fethu deall beth sydd orau i ni? Oni bai bod plant ifanc yn cael profi ystod o flasau, efallai y byddant yn amharod i roi cynnig ar rywbeth newydd. Mae rhai hyd yn oed yn datblygu rhywbeth o'r enw neoffobia, sef, yn llythrennol, ofn y newydd, ac ni fydd eraill yn bwyta bwyd sy'n cyffwrdd â bwyd arall—gwn bopeth am hynny—neu ond yn bwyta pethau penodol. Mae'n bwysig iawn nad ydym yn defnyddio bwyd fel gwobr, oherwydd fel arall efallai y byddwn yn creu problemau difrifol iawn ar gyfer y dyfodol. Os dywedwch, 'Os gwnei di hyn, os gwnei di ymddwyn yn dda heddiw, fe gei di hufen iâ', beth ydych chi'n ei wneud? Rydych chi'n gwobrwyo'r plentyn. Yr ymateb emosiynol yw eich bod yn mynd i gael gwobr ar ffurf rhywbeth sy'n braf i'w gael, ond nad yw'n arbennig o dda i chi. Felly, mae yna gyfres wirioneddol gymhleth o drefniadau ynghylch diddyfnu ac annog plant i fwyta deiet iach a chytbwys.

Mae'n debyg mai dyma'r fenter bwysicaf sydd gennym, sicrhau bod pob plentyn yn cael deiet iach a chytbwys drwy'r brecwast ysgol gynradd a'r cinio poeth maethlon. Y gwir cas yw na allwn fforddio peidio â'i wneud, oherwydd ni allwn barhau i wario 10 y cant o gyllideb ein GIG ar drin diabetes math 2, sy'n cael ei achosi i raddau helaeth gan ddeiet gwael a'r gordewdra sy'n deillio o hynny. Ni allwn ddal ati i oddef y nifer o blant pump oed sydd wedi colli dannedd, neu sydd â dannedd pydredig neu lenwadau—un o'r dangosyddion cryfaf o dlodi bwyd a maeth gwael, rhywbeth rwy'n dyst iddo dro ar ôl tro, bob tro rwy'n mynd i sefydliad addysgol. Mae'r athrawon yn dweud nad oes gan rieni'r plant hynny ddannedd, gan mai'r hyn sy'n digwydd gartref yw bod pobl yn bwyta'r holl bethau anghywir ac yn annhebygol o fod yn edrych ar ôl eu dannedd.

Felly, mae'n rhaid inni gwestiynu o ddifrif beth y mae ymwelwyr iechyd yn llwyddo i'w wneud i wneud gwahaniaeth go iawn wrth ryngweithio â rhieni, er mwyn sicrhau nad oes cenedlaethau newydd o blant yn dioddef y problemau sydd gan oedolion heddiw. Ac ar y radio heddiw, adroddiad arall eto am y cynnydd sylweddol mewn cyfres o ganserau, pob un yn gysylltiedig â deiet gwael—a hynny ar draws nifer o wledydd, nid ein gwlad ni yn unig. Ni allwn barhau fel hyn, er gwaethaf uchelgais ymddangosiadol Llywodraeth ddiweddaraf y DU i roi'r gorau i wrthsefyll y diwylliant bwyd obesogenig yr ydym wedi caniatáu iddo ddominyddu ein bywydau.

Mae datblygu dinasyddion iach yn un o ddibenion craidd y cwricwlwm newydd, ac mae'n her i bawb sy'n ymwneud ag addysg plant. Ni allwn ddal ati i adael i blant beidio â gwybod bod moron yn dod allan o'r ddaear. Fe gynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol arolwg o ddisgyblion dosbarthiadau babanod yn Lloegr a oedd yn bwyta cinio ysgol am ddim. Fe wnaethant ddangos, yn 2010, eu bod wedi blasu bwyd yn yr ysgol nad oeddent wedi'i flasu gartref, ac fe ddywedodd hanner y rhieni a holwyd fod eu plant wedi gofyn iddynt goginio bwydydd yr oeddent wedi'u bwyta yn yr ysgol. Yr eitemau mwyaf poblogaidd—nad yw'n syndod i ni, mae'n debyg—oedd moron, india-corn a phys, oherwydd bod y rhain ychydig yn felys, a'r lleiaf poblogaidd oedd planhigyn wy, ffacbys a sbigoglys. Ond wyddoch chi, po fwyaf y gwnawn annog plant i flasu, a pho fwyaf yr awn ati i gynnwys rhieni i gefnogi eu plant i ragarchebu'r prydau a fydd yn gwneud i'r plentyn deimlo'n fwy cyfforddus, eu bod yn mynd i gael yr hyn yr oeddent ei eisiau, a hefyd lleihau gwastraff bwyd—. Mae'n datblygu'r dysgu teuluol hwnnw mewn gwirionedd.

Mae angen inni gynnwys plant wrth dyfu bwyd, yn ogystal â'i baratoi. Bydd hynny'n ffordd dda iawn hefyd o'u cael i fwyta pethau newydd. Er enghraifft, adeiladodd Caerdydd ar brofiad cynllun Bwyd a Hwyl yr haf, lle'r oedd plant wedi mwynhau gwneud a bwyta caserol ffa sbeislyd. Mae bellach i'w weld bob pythefnos ar fwydlenni prydau ysgol ar ddyddiau Llun yng Nghaerdydd, lle dywedodd y cogydd yn un o'r ysgolion yr ymwelais â hi, 'O, nid wyf yn gwybod a ydynt yn mynd i hoffi hwnnw.' Nid yw hi'n rhywun sy'n hoff o fwyd sbeislyd, felly mae'n rhaid ichi obeithio nad yw hi'n dylanwadu ar faint sy'n ei gael. Mae'n ddrwg gennyf weld eu bod wedi ei gynnig ochr yn ochr â pizza tomato a chaws, sy'n her, mae'n rhaid i mi ddweud. Serch hynny, gallwch weld sut y mae'n adeg gyffrous ar gyfer annog a datblygu cenedlaethau iach i'r dyfodol. Mae rhagor y gallwn ddweud ar hynny i gyd, ond rwyf am symud ymlaen, oherwydd mae fy amser yn brin. 

Caffael bwyd yw'r cam nesaf y mae angen inni edrych arno. Mae sir Gaerfyrddin wedi arwain oherwydd rhai o'r grantiau a gawsant drwy ein cyd-Aelod, Lee Waters, mewn rô flaenorol. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau i fwydlenni ysgolion hyd yma, oherwydd eu bod wedi gorfod canolbwyntio ar gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb. Felly, nid ydynt wedi newid unrhyw un o'u bwydlenni. Ond er hynny, roeddwn wrth fy modd yn gweld llawer o fwyd cartref ar eu bwydlen, a gofynnais, 'Beth ydych chi'n ei olygu wrth fwyd cartref?' Mae bwyd cartref yn golygu bwyd a gaiff ei wneud yn yr ysgol, felly bydd arogl y bwyd hwnnw'n treiddio i'r ystafelloedd bwyta, a bydd yn amlwg yn galluogi'r cogydd i newid pethau. Os nad yw plant yn hoffi un peth, gallant ei gyfnewid am rywbeth arall.

Rydym yn lwcus iawn i gael pobl fel Castell Howell a Gwasanaeth Bwyd Harlech yn gyflenwyr bwyd, cyflenwyr Cymreig, sy'n hoff iawn o'r agenda i wella caffael bwyd. Ond mae'n rhaid inni fynd â'r peth lawer ymhellach mewn gwirionedd. Fel y dywedodd sir Gaerfyrddin, mae hyn yn ymwneud â newid system mewn gwirionedd, ac mae'n gymhleth. Felly maent yn arbrofi yn sir Gaerfyrddin i weld sut y gallant gael cynnyrch lleol ar y plât yn y sector ysgolion cyhoeddus, ac maent wedi defnyddio grantiau'r Llywodraeth i edrych ar hyn, gan weithio gydag arbenigwyr bwyd a CLES i'w wneud. Ond mae'n rhaid inni sylweddoli, yn y cyd-destun cyfredol, gyda'r holl broblemau presennol, mai cam dau y cynllun yw hwn, a rhywbeth rwy'n teimlo'n gyffrous iawn yn ei gylch, ond nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd dros nos. Felly, diolch am wrando, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pobl eraill.

17:45

Mae'r Aelod wedi dweud ei bod eisiau i dri pherson siarad, ond fel y gwelwch chi, mae'r dyraniad amser yn dynn. Weinidog, nid ydych am gymryd 15 munud, ydych chi?

17:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ei ddweud sawl gwaith yn barod: mae cyflwyno prydau ysgol am ddim yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir, yn enwedig o ystyried yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn awr. Wrth gwrs, hoffwn ei weld yn cael ei gyflwyno i ysgolion cyfun a cholegau addysg bellach, ond nid yw hyn yn tynnu oddi wrth yr hyn sy'n ymrwymiad uchelgeisiol yn y lle cyntaf. Mae'n rhywbeth y bûm yn falch ohono fel aelod o Blaid Cymru, polisi yr ydym wedi ymgyrchu drosto yn barhaus ers nifer o flynyddoedd bellach, ac mae'n enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pleidiau'n dod at ei gilydd. Roeddem yn hollol iawn, fel plaid, i nodi hyn fel ein prif flaenoriaeth yn y cytundebau cydweithio hynny.

O ran y cyfleoedd, maent yn ddiddiwedd mewn gwirionedd—ar gyfer llesiant, yr economi, a dyfodol Cymru. Nid yw plant llwglyd yn gallu dysgu. Os cewch wared ar yr elfen lwglyd, fe gewch wared ar anghydraddoldeb—nid yn gyfan gwbl, ond i raddau go helaeth. Roedd yn sicr yn achubiaeth i mi. Efallai nad oeddwn i a fy nheulu yn sylweddoli hynny ar y pryd, ond wrth edrych yn ôl, roedd yn bendant yn arwyddocaol o ran cyrraedd lle rwyf fi heddiw.

Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Lywydd wedi dweud bod amser yn dynn. Hoffwn ddweud llawer mwy. Rwy'n siŵr ei fod bob amser yn awyddus i fy ngweld yn mynd dros amser, er na fydd yn cyfaddef hynny, ond rwy'n falch o'r polisi hwn, rwy'n falch o'r ffaith bod Cymru'n arwain y ffordd yma, ac rwy'n ddiolchgar fod hyn yn digwydd.

A gaf fi ddiolch i chi, Jenny, am roi cyfle imi ddweud ychydig eiriau? Ac a gaf fi hefyd dalu teyrnged i'ch gwaith ar amryw o faterion cyfiawnder cymdeithasol ers ichi gael eich ethol, ac am eich rôl fel cadeirydd ein gweithgor trawsbleidiol ar brydau ysgol am ddim, gweithgor rwy'n falch iawn o fod yn rhan ohono?

Mae prydau ysgol yn rhan ddyddiol o ddeiet llawer o blant wrth gwrs ac felly mae'n bwysig eu bod yn iach ac yn faethlon i helpu i hybu iechyd da ymhlith y rhai sy'n eu cael, yn ogystal â'r manteision addysgol cysylltiedig. Mae cyfle wedyn i feddwl yn iawn am y ffordd orau y gallwn greu cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr lleol i ddarparu bwyd o ansawdd uchel a chyfleoedd caffael, rhywbeth a hwylusir gan y polisi prydau ysgol newydd, fel y gallwn ddarparu manteision i gymunedau lleol yn ogystal ag i ddisgyblion. Er enghraifft, bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) sydd ar y gweill yn ymgorffori'r egwyddor o gaffael cymdeithasol gyfrifol mewn cyfraith. Dylai fod a wnelo'r caffael hwnnw â mwy na phwy sy'n darparu'r cynnyrch rhataf yn unig. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd awdurdodau lleol yn cael cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol i gryfhau eu capasiti caffael fel y gallwn ni sicrhau manteision i bawb, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa waith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni i adolygu pa fwydydd y mae ysgolion yn eu defnyddio ar hyn o bryd, a'r potensial i gynhyrchwyr lleol sicrhau mwy o fynediad at ysgolion drwy'r cyflenwyr hynny, fel Castell Howell a Gwasanaeth Bwyd Harlech. Diolch.

Mae ymchwil wedi dangos bod llawer o blant yn optio allan o gael eu cinio ysgol am ddim—mae llawer o waith wedi'i wneud ar hynny—a hynny oherwydd eu bod yn wynebu stigma gan eu cyfoedion. Ond mae'r polisi hwn, y polisi prydau ysgol am ddim i bawb, yn dileu'r stigma hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Rydym yn gwybod bod plant yn casáu teimlo'n wahanol, ac rwy'n credu y bydd rhoi prydau ysgol am ddim i bawb yn helpu i ddileu'r stigma hwnnw. Ond yr hyn rwyf am alw amdano yma yw sicrhau nad ydym yn cael gwared ar un stigma ac yn creu un arall yn ei le. Rwyf am ofyn yma am sicrwydd y bydd ysgolion yn darparu opsiynau deiet planhigion ar eu bwydlen. Mae twf sylweddol yn nifer y plant sydd bellach yn dewis deiet planhigion—neu ddeiet 'figan'—am resymau iechyd a moesegol. Rwy'n ofni y gallai methu cynnig o leiaf un opsiwn deiet planhigion ar y fwydlen olygu y bydd y plant sydd wedi cael eu rhyddhau o'r stigma o orfod gwneud cais am bryd ysgol am ddim yn dioddef stigma arall, lle na fydd y bwyd hwnnw'n rhywbeth y byddent yn ei ddewis, ac y byddant yn cael eu gwneud i deimlo'n wahanol eto.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jenny Rathbone am ddod a'r ddadl fer hon i Siambr y Senedd. Mae gwaith ac angerdd Jenny yn y maes hwn, ac ym maes ehangach polisi bwyd, yn amlwg yn gyfarwydd iawn i ni, ond hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei chefnogaeth a'r cyngor y mae wedi'i ddarparu wrth inni gyflawni'r maes polisi allweddol hwn. Rwy'n credu bod yr angerdd a'r mewnwelediad a gyflwynwch i'r maes yn amlwg, os caf ddweud, yn eich araith agoriadol. Ac mae'n hanfodol, fel y mae'r Aelodau wedi'i ddweud, ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd y mae hyn yn eu creu wrth inni gyflwyno ein cynnig prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Yn yr un modd, fel y crybwyllwyd gan fwy nag un siaradwr, mae angen inni gydnabod a gweithio i oresgyn yr heriau a fydd ar ein llwybr wrth inni wneud hynny.

Ddoe, fe roddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar y cynnydd a wnaed ar ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, sef ymrwymiad allweddol yn ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Ac wrth wneud hynny, tynnais sylw at rai o'r heriau yr ydym eisoes wedi'u goresgyn yn ein penderfyniad i gefnogi cymaint o deuluoedd ag y gallwn mor gyflym â phosibl wrth i gostau byw barhau i godi. Fel y soniais ddoe, mae'r ffordd honno o weithio mewn partneriaeth, y dull tîm Cymru, wedi bod yn hanfodol wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim i 45,000 o blant ychwanegol mewn llai na dau dymor academaidd. Ac mae'n iawn ein bod yn blaenoriaethu'r ymdrechion hyn yn gyflym, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o agweddau eraill ar yr ymyrraeth drawsnewidiol hon a fydd yn sicrhau y gallwn gael y canlyniadau gorau posibl i bob un o'n dysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau ledled Cymru. Er mai ein blaenoriaeth uniongyrchol oedd ymateb i'r cynnydd mewn costau byw, nod ein huchelgeisiau eraill yw lleihau anghydraddoldebau iechyd, ymgorffori caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gwella llesiant a mynd i'r afael â chostau amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig. Ac felly, mae prydau ysgol am ddim i bawb hefyd yn gatalydd ar gyfer hybu ein huchelgeisiau mewn perthynas â'r economi sylfaenol, partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus.

Ond mae yna heriau sy'n gysylltiedig â chyflawni ac ymrwymo i waith ar y raddfa hon. Yn gyntaf, os ydym am leihau anghydraddoldebau iechyd mewn gwirionedd, gan feithrin arferion bwyta'n iach yn fwy hirdymor, rhaid inni roi blaenoriaeth i ddarparu prydau iach a maethlon. Ac fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae angen i hyn fod yn rhan o ddull ysgol gyfan ehangach o weithredu addysg bwyd, gan gysylltu dysgwyr â tharddle eu bwyd, eu helpu i wneud dewisiadau iach, a phwysleisio arwyddocâd cymdeithasol a llawenydd rhannu pryd o fwyd gyda'n gilydd.

Mae'r pandemig, y sefyllfa yn Wcráin, yr argyfwng costau byw a'r cynnydd mewn biliau ynni yn creu heriau sylweddol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae heriau hefyd ynghylch y modd yr awn ati, ar y cyd, i groesawu dulliau caffael sydd o fudd i bawb, ac sy'n edrych ar amcanion ehangach eraill ochr yn ochr â phris, fel y nododd Peter Fox yn ei gyfraniad. Mae'n rhaid inni wneud gwell defnydd o'n gallu i lywio caffael cyhoeddus, a all greu buddion mewn ffyrdd eraill wedyn, gan leihau faint o arian sy'n cael ei golli o gymunedau a chost amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig.

Ac mae'r hwb i'r galw yn sgil hyn yn arwain at gyfleoedd gwirioneddol i adleoli cadwyn fwyd sy'n fwy cynaliadwy, a rhoi mwy o fwyd o Gymru ar ein platiau cyhoeddus. Mae'r elfennau hyn yn greiddiol i'n huchelgeisiau ar gyfer prydau ysgol am ddim, gan gyflwyno'r posibilrwydd o newid sylweddol ym maes polisi ac yn ymarferol. Ond mae yna rai rhwystrau ar y llwybr, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r rheini: mae deall y farchnad yng Nghymru a chapasiti cyflenwyr i dyfu a chyflenwi bwyd lleol, cynaliadwy yn hanfodol; mae angen addysg ac uwchsgilio ar bob pwynt yn y gadwyn fwyd i hybu newidiadau i ddiwylliant ac ymarfer. [Torri ar draws.] Yn sicr. A ydych chi eisiau gwneud ymyriad?

17:55

Rydych chi'n gwneud gwaith mor wych yn cyflwyno'r prydau ysgol hyn, ond roeddwn yn meddwl, yr hyn sydd ar goll yma yw: a fyddai modd cael gwersi i ddysgu'r plant hyn sut i goginio? A dylai hynny fod yn un o'r camau, fel nad ydym yn mynd ymlaen ac ymlaen â hyn, ac ni ddylai fod am ddim. Efallai y daw amser wedyn pan fyddwn yn gallu rhoi diwedd arno.

Yn sicr. Rwy'n cytuno ei fod yn gyfle pwysig inni fabwysiadu dull ysgol gyfan o weithredu ar fwyta'n iach. Rwy'n credu ei fod yn bendant yn un o'r cyfleoedd allweddol.

Y cyfle cyntaf sydd gennym i ymgorffori bwyd iach a maethlon yn rhan o ddiwylliant yr ysgol yw'r diweddariad i'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, diweddariad yr ydym yn awyddus i'w gefnogi gyda sgwrs genedlaethol, gan olygu y bydd y rheoliadau'n cydweddu â'r cyngor gwyddonol diweddaraf, a bydd yn ein helpu i ail-fframio ein dull o gyflwyno addysg bwyd yn y ffordd y buom yn ei drafod heddiw. Ac rwyf eisiau sicrhau ein bod yn datblygu'r cynigion hynny yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru hefyd, oherwydd mae cyfleoedd a phwyntiau cyswllt gyda'r ddau faes polisi hynny. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu'r math o her a chefnogaeth i lunio bwydlenni ac ardystio cydymffurfiaeth â'r rheoliadau sy'n mynd i fod yn hanfodol er mwyn gallu symud ymlaen yn y maes hwn.

Ac rwy'n credu bod cyfle yma i ddatblygu meddylfryd o greu gwerth drwy gaffael bwyd yn hytrach nag edrych ar arbedion cost yn unig, er gwaethaf yr holl heriau eraill sy'n ein hwynebu. Ac felly, yn yr hydref, cyflwynir canllawiau cyfreithiol newydd, wedi'u datblygu drwy ein rhaglen economi sylfaenol, i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i brynu bwyd mwy lleol a chynaliadwy. Ac ochr yn ochr â hyn, mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yr ydym wedi'i grybwyll eisoes yn y ddadl, yn gyfle gwirioneddol i gryfhau dulliau'r economi sylfaenol ym maes caffael bwyd a chodi ei broffil ar draws y system gyfan. Mae yna ddyletswydd caffael newydd, gyda gwerth cymdeithasol yn ganolog iddi, a fydd yn helpu i sicrhau canlyniadau cymdeithasol gyfrifol, a bydd gofynion data ychwanegol fel y gallwn weld yr hyn sy'n digwydd yn y system a helpu i wella'r ffordd yr ydym yn cofnodi data bwyd. Rydym eisoes yn cynllunio cymorth i greu dull mwy cydlynol a chyson o gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus, a fydd yn helpu cwmnïau bwyd i fod yn barod ar gyfer y sector cyhoeddus, ac mae hyn yn cynnwys gwaith partneriaeth i ddatblygu rhaglen fwyd newydd ar gyfer y sector cyhoeddus a strategaeth fwyd sector gyhoeddus i Gymru. Ac rydym yn dysgu o rai o'r arferion addawol ledled Cymru y cyfeiriwyd atynt yn y ddadl eisoes, gan gynnwys sir Gaerfyrddin a gwaith y cyngor yno i fyrhau cadwyni cyflenwi, lleihau allyriadau carbon, gwella cysylltiadau yn y cadwyni cyflenwi bwyd ac adeiladu capasiti cyflenwyr lleol hefyd. Rydym hefyd yn edrych ar fodelau llwyddiannus o ddarparu prydau ysgol mewn llefydd fel Malmö, yn Nwyrain Ayrshire, yn Hackney, sy'n pwysleisio pwysigrwydd addysg, uwchsgilio ac arweinyddiaeth gref yn y system hefyd. Ac yn hollbwysig, maent hefyd yn cynnwys plant yn y gwaith o flasu seigiau newydd, fel y soniodd Jenny Rathbone yn ei chyfraniad, a chynnig y math o amrywiaeth yn y bwydlenni, y natur dymhorol a'r tarddiad, a'r opsiynau, megis dewisiadau eraill yn seiliedig ar ddeiet planhigion, fel y galwodd Joyce Watson amdanynt yn ei chyfraniad hithau. Ac yn olaf, mae swyddogion yn ymgysylltu â datblygiadau caffael bwyd sector cyhoeddus Cymru, gan weithio'n agos â chyfanwerthwyr a chyflenwyr i archwilio cyfleoedd i newid i gyflenwad Cymreig.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy delerau ac amodau ein grant prydau ysgol am ddim i bawb, rydym eisoes yn dylanwadu ar arferion caffael a chyflenwi ar lawr gwlad. Mae hwnnw'n gam cychwynnol mewn taith hwy a fydd yn sicr yn galw am ffrynt unedig ar draws portffolios yn y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, a'n partneriaid hefyd. Ac rydym eisoes wedi dangos yr hyn y gellid ei gyflawni, rwy'n credu, pan fydd gwahanol rannau o'r system yn cydweithio fel hyn, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n ganolog iddo, mewn gwirionedd, yw'r mewnwelediad sylfaenol fod hyn yn fwy na dim ond buddsoddiad mewn platiaid o fwyd; mae hefyd yn fuddsoddiad yn llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac yn iechyd ein heconomi hefyd. Diolch yn fawr.

18:00
15. Dadl Fer (Joel James (Canol De Cymru))

Eitem 15, dadl fer gan Joel James—gohiriwyd tan 28 Medi. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:04.