Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/02/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y cyfarfod yn berthnasol, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r rheini sydd ar gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Rhianon Passmore.

Cyllid gan Lywodraeth y DU

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael gan Lywodraeth y DU i gymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd? OQ57608

Llywydd, bydd Cymru'n cael llawer llai o arian gan Lywodraeth y DU o'i gymharu â'r hyn a gawsom gan yr Undeb Ewropeaidd ac y byddem ni wedi ei gael o dan y cylch presennol o gyllid strwythurol. Mae'r warant absoliwt na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd wedi ei thorri a chefnwyd arni'n gyfan gwbl.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cyfaddef o'r diwedd na fydd yn rhoi cyllid yn lle cyllid yr UE yn llawn i Gymru am dair blynedd. Mae hyn er i Boris ddweud yn gyson na fyddai pobl Cymru geiniog yn dlotach ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Boris yn economaidd o ran dweud y gwir—pwy fyddai wedi meddwl? Wrth i'r Cymry ddisgwyl colli £1 biliwn y flwyddyn, mae Boris a'i Lywodraeth Dorïaidd yn gadael i dwyllwyr gerdded yn rhydd gydag arian cyhoeddus—gwerth £4.3 biliwn o arian a gafwyd yn dwyllodrus drwy gynlluniau cymorth coronafeirws, mae'r Torïaid newydd ddileu dyledion unrhyw gontractau ffrindgarwch. Prif Weinidog, gwnaeth y Western Mail sylwadau yn ei olygyddol yr wythnos diwethaf,

'Unwaith eto, ein cymunedau tlotaf sydd fwyaf tebygol o fod ar eu colled'.

Mae'r cymunedau tlotach hynny yn gymunedau fel Rhisga, Trecelyn a Crosskeys—tapestri o drefi sy'n ffurfio etholaeth Islwyn. Prif Weinidog, beth all Llywodraeth Lafur Cymru ei wneud i sefyll dros Islwyn a sefyll dros Gymru, ar ochr y Cymry, tra bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ochri â'u cyfeillion twyllodrus?

Llywydd, rwy'n credu bod gwerth atgoffa pawb beth ddywedodd y Blaid Geidwadol yn ei maniffesto yn etholiad cyffredinol mis Rhagfyr 2019, ac y gwnaethon nhw ei ailadrodd yng nghyhoeddiadau cynhwysfawr yr adolygiad o wariant ym mis Hydref y llynedd. Dyma y gwnaethon nhw ei ddweud:

'Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o leiaf'

—o leiaf, Llywydd—

'yn cyfateb i faint Cronfeydd yr UE ym mhob gwlad, a Chernyw, bob blwyddyn.'

Wel, byddai Cymru wedi cael £375 miliwn o gyllid yn y flwyddyn galendr hon o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Beth fyddwn ni'n ei gael mewn gwirionedd? 47 miliwn o bunnau. Sut y mae unrhyw un, Llywydd, yn credu bod £47 miliwn, pan fyddem ni wedi cael £375 miliwn, yn cyfateb o leiaf i faint cronfeydd yr UE bob blwyddyn? Ac, wrth gwrs, mae Rhianon Passmore yn iawn bod yr addewid hwnnw, y warant absoliwt honno, fel y dywedwyd wrthym yn y Siambr yma, wedi ei gefnu arno yn llwyr. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bellach y bydd yn cyfrif tuag at yr arian y bydd yn ei roi i ni, arian yr ydym ni wedi ei gael eisoes gan yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid wyf i'n dweud dim am ddefnydd twyllodrus o arian, ond rwy'n dweud yn sicr iawn fod y ddadl honno yn dwyllodrus—nid yw'r ddadl y gallwch chi gyfrif arian sydd gennych eisoes tuag at arian y gwnaethon nhw addo y bydden nhw yn ei roi i ni, yn disgrifio'n gywir yr hyn sy'n digwydd yn y fan yma.

Nawr, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Wel, Llywydd, yr hyn y byddwn yn bendant yn ei wneud yw parhau i gynnal safonau gwahanol yma yng Nghymru i'r hyn yr ydym wedi ei weld dros ein ffin. Bydd yr Aelodau yn fan yma yn cofio ym mis Ebrill y llynedd y cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad cynhwysfawr ar ddarpariaeth a chaffael Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yma yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad ei fod wedi dangos sut yr oeddem ni yng Nghymru wedi gallu osgoi'r problemau y cawson nhw eu hadrodd yn Lloegr. Wel, ar ben y £4.3 miliwn a gafodd ei golli drwy dwyll o gronfeydd busnes—cofiwch yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Agnew:

'gwrthodiad "gresynus", "truenus", "enbyd o annigonol" gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â thwyll'—

yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr ei hadroddiad ar gaffael PPE yn Lloegr. Dywedodd y rheolwr cyffredinol nad oedd wedi gallu cael sicrwydd nad oedd lefel sylweddol o'r golled o bron i £9 biliwn a gafodd ei golli ar PPE yn Lloegr, o ganlyniad i dwyll. Wel, dyna chi, Llywydd: cymhariaeth uniongyrchol iawn, iawn â'r ffordd y mae pethau wedi eu gwneud yng Nghymru. Mae'r arian hwnnw wedyn ar gael i ni fuddsoddi mewn cefnogi busnesau, i gefnogi'r cymunedau yn etholaeth Islwyn, o'i gymharu â'r ffyrdd y mae pethau wedi eu gwneud dros ein ffin. 

13:35

Prif Weinidog, dwi'n cytuno ei bod yn hollol hanfodol nad yw Cymru'n cael llai o gyllid nag a oedd ganddi pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac, fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gallaf eich sicrhau y byddwn ni yn craffu ar y mater hwn yn ofalus iawn yn yr wythnosau a misoedd sydd i ddod. Nawr, y mis diwethaf, cyhoeddwyd y byddai strwythurau newydd yn cael eu sefydlu rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig i drafod materion sy'n effeithio ar bobl ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig lle maent yn torri ar draws polisïau gwahanol y Seneddau. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa rôl y gallai'r strwythurau hyn ei chwarae i sicrhau bod Cymru'n cael y lefel gywir o gymorth ariannol unwaith y daw cyllid yr Undeb Ewropeaidd i ben?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Paul Davies am beth ddywedodd e, fel Cadeirydd y pwyllgor, a dwi'n edrych ymlaen at y gwaith y bydd y pwyllgor yn ei wneud i'n helpu ni gyd i wneud yr achos i'r Trysorlys i wneud beth ddywedodd y Ceidwadwyr yn eu maniffesto nhw yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw amheuaeth nawr eu bod nhw wedi symud yn ôl o beth roedden nhw'n addo, a bydd y gwaith pwyllgor yn help, dwi'n siwr, i ail-wneud yr achos i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ariannu Cymru fel roedden nhw wedi dweud.

So, mae system newydd wedi dod i rym i'n helpu ni i drafod pethau dros y Deyrnas Unedig. Dyw hwnna ddim wedi digwydd eto, ac, wrth gwrs, mae'r pethau sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon dros yr wythnos ddiwethaf yn rhoi rhyw fath o gymhlethdod i mewn i drefnu pethau heb gael Gogledd Iwerddon wrth y bwrdd. Dwi'n edrych ymlaen at weld pryd fydd cyfarfod cyntaf y system newydd yn cael ei drefnu, achos bydd hwnna yn gyfle i ni wneud y pwyntiau dwi wedi eu gwneud heddiw, ac mae'r Gweinidogion yn y Llywodraeth yma yng Nghymru yn eu gwneud bob tro y gallwn ni, i'r Gweinidogion yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.  

Mae'n ddiddorol iawn darllen Papur Gwyn y gronfa codi'r gwastad, onid yw, Prif Weinidog, gyda chyfeiriadau at Renaissance Florence, ymerodraeth Fysantaidd Jericho, os nad dim byd arall, ond mae hefyd yn cyfeirio at y codi'r gwastad a ddigwyddodd yn yr Almaen ar ôl yr ailuno, gan esbonio bod £1.7 triliwn wedi ei wario yno hyd at 2014, sef £71 biliwn y flwyddyn dros 24 mlynedd. Nid yw'r gronfa codi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin gyda'i gilydd yn darparu ar gyfer hyd yn oed 10 y cant o'r lefel honno o gyllid. Fel yr ydych chi newydd ei nodi, Prif Weinidog, bydd Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd o dan y cynlluniau hyn nag y byddem ni pe na baem ni wedi ymadael â'r UE, er gwaethaf yr addewidion gan y Torïaid na fyddem ni geiniog yn waeth ein byd. Ond, yn ogystal â hynny, mae'n fater o sut y caiff yr arian hwn ei wario. Bydd yr oruchwyliaeth strategol a gawsom gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn diflannu ac yn ei lle daw proses o roi arian y llywodraeth i brosiectau er mwyn ennill pleidleisiau, a bydd cynghorau yn mynd yn erbyn ei gilydd mewn brwydr i gael arian o San Steffan. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi nad yw'r agenda codi'r gwastad yn ddim mwy na sbin gwleidyddol, pan fo'r Torïaid mewn gwirionedd yn lleihau lefel y cyllid strwythurol ac yn ein hamddifadu ni o'r gallu i'w wario'n strategol?

13:40

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Delyth Jewell wedi gwneud y pwyntiau yna'n rymus iawn ac rwy'n cytuno â nhw i gyd. Mae Papur Gwyn 'Codi'r Gwastad' yn ddogfen ddigyfaill, hyd yn oed gan yr Ysgrifennydd Gwladol y mae ei enw ar y clawr. Mae'r ymgais i ymestyn yn bell ac yn eang ar draws niwl amser, yn fy marn i, yn ddim byd ond arwydd o'r diffyg cynnwys gwirioneddol a oedd yna ar gyfer hyn, er gwaethaf y ffaith bod y gronfa codi'r gwastad hon, y gronfa ffyniant gyffredin, wedi ei hyrwyddo gan y Blaid Geidwadol ers 2017. Maen nhw wedi cael blynyddoedd pan allen nhw fod wedi cynhyrchu rhywbeth a oedd yn cyfateb i'w haddewidion. Yr hyn sydd gennym ni yn lle hynny yw dogfen denau iawn yn wir—yn denau o ran arian am fod y Trysorlys wedi gwrthod darparu'r arian angenrheidiol i'w chefnogi, ac yn denau iawn o ran ymateb i'w honiadau ei fod yn ymwneud â throsglwyddo grym a phrosesau gwneud penderfyniadau y tu hwnt i Whitehall oherwydd, fel y dywedodd Delyth Jewell, bydd pob un penderfyniad a gaiff ei wneud ynghylch sut y caiff arian ei wario yng Nghymru yn cael ei wneud yn San Steffan, nid yn unman arall. Ac mae'r ffordd gystadleuol honno o osod un rhan o Gymru yn erbyn un arall er mwyn gwneud cais am yr hyn sy'n weddill ar y bwrdd yn y gronfa hon yn sicr o olygu nad yw'r arian yn cael ei wario'n briodol. Ni fydd cynllun strategol y tu ôl iddo. Bydd yn gyfres o fân dalpiau o arian a gaiff eu dosbarthu ar sail y mae'n anodd iawn dod o hyd i unrhyw resymeg wirioneddol iddi yn aml, a heb unrhyw synnwyr o gwbl ynghylch sut y bydd unrhyw effaith hirdymor o'r buddsoddiad hwnnw yn cael ei sicrhau i'r cyhoedd yng Nghymru.

Yr Argyfwng Costau Byw

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr argyfwng costau byw? OQ57603

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i weithredu i atal yr argyfwng y maen nhw eu hunain yn gyfrifol amdano. Mae degawd o gyni wedi gadael llawer mwy o bobl mewn tlodi ac yn methu â rheoli'r sefyllfa y maen nhw ynddi bellach.

Wel, Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, ac rwy'n ei weld o ddydd i ddydd yn Ogwr—ac rwy'n siŵr bod pob Aelod yma, ni waeth beth fo'i ymlyniad gwleidyddol—oherwydd bod teuluoedd yn Ogwr bellach yn wynebu sawl ergyd. Mae'n argyfwng costau byw wedi ei achosi gan bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU. Mae'r toriad i gredyd cynhwysol wedi effeithio ar ddegau o filoedd o deuluoedd ledled Cymru. Mae cyflwyno'r rhaglen Way2Work, sy'n lleihau'r amser sydd gan bobl i ddod o hyd i swydd yn eu maes sgiliau a phrofiad o dri mis i bedair wythnos yn unig, yn golygu y bydd pobl bellach yn wynebu sancsiynau cyn bod cymorth ariannol ar waith. Ac nid dyna'r diwedd. Mae aelwydydd yn wynebu'r pwysau pellgyrhaeddol cynyddol yr ydym ni i gyd yn gwybod amdanyn nhw: mae cost y siopa wythnosol yn cynyddu, mae'r costau ynni'n cynyddu, ac mae gennym ni fwy o godiadau treth ar y ffordd diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae hyn yn mynd i wneud pethau'n waeth. Nid rhethreg yw'r dewis rhwng gwresogi a bwyta; mae'n realiti erbyn hyn. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, fod ad-daliad biliau ynni trwy drefniant prynu nawr a thalu wedyn y Canghellor—fel y mae prif weithredwr Cyngor ar Bopeth wedi ei ddisgrifio—yn llwytho'r baich ar y rhai hynny sy'n gallu ei fforddio leiaf?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies mai dyna ganlyniad anochel camreoli economi'r DU—caiff costau'r camreoli hwnnw eu llwytho ar y bobl hynny na allan nhw fforddio ysgwyddo'r baich hwnnw. A gaf i godi dau bwynt o'r nifer mawr o bwyntiau pwerus a wnaeth yr Aelod? Rwy'n falch iawn ei fod wedi cyfeirio at y rhaglen Way2Work, oherwydd nid wyf yn credu fy mod i wedi clywed y rhaglen hon yn cael ei thrafod ar lawr y Senedd, ac mae'n haeddu trafodaeth o'r fath. Rydym eisoes wedi gweld effaith y toriad o £20 mewn credyd cynhwysol ar gyfer teuluoedd yma yng Nghymru, un o'r penderfyniadau mwyaf creulon yr wyf i'n credu y mae unrhyw Lywodraeth wedi ei wneud yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl cyn y rhyfel i'r 1930au i ddod o hyd i Lywodraeth a oedd yn fwriadol ac yn bwrpasol yn cymryd arian ar y raddfa honno allan o bocedi aelwydydd a oedd ei angen fwyaf. Yn ein cronfa cymorth dewisol ni, lle rydym ni wedi gallu ymestyn y meini prawf i helpu teuluoedd, oherwydd credyd cynhwysol, y mis diwethaf roedd 57 y cant o'r holl geisiadau o ganlyniad i'r ffaith nad oedd pobl yn gallu ymdopi heb yr £20 yr wythnos ychwanegol hwnnw. Mae'n raddfa syfrdanol o drallod sydd wedi ei hachosi gan y penderfyniad hwnnw. A nawr, ar ben hynny, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae gennym ni'r cyhoeddiad hwnnw a gafodd ei smyglo allan, mai dim ond pedair wythnos fydd gan bobl yn y dyfodol i ddod o hyd i swydd y mae ganddyn nhw'r sgiliau, y profiad a'r gallu i'w chyflawni. Mae'n cymryd pum wythnos i gael taliad credyd cynhwysol, ac rwy'n credu bod Aelodau yma hyd yn oed—Aelodau Ceidwadol yma—a bwysodd, yn gynharach y llynedd, ar y Canghellor i leihau'r amser aros hwnnw. Felly, mae'n cymryd pum wythnos i chi aros am daliad, a phedair wythnos i aros i gael eich cosbi. Rwy'n credu bod hynny'n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am le mae blaenoriaethau Llywodraeth y DU.

Yr ail bwynt a wnaeth Huw Irranca-Davies yr oeddwn i'n dymuno rhoi sylw iddo, Llywydd, oedd y cynllun prynu nawr a thalu wedyn. Felly, dyma ni: y cymorth y bydd pobl yn ei gael gyda'u biliau yw y byddan nhw eu hunain yn talu'n hwyrach yn lle talu nawr. Nawr, efallai eich bod wedi meddwl, pe baech chi wedi gwrando ar y ffordd y soniodd Gweinidogion y DU amdano, y bydd y cymorth hwn ar gael i bobl yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn fis Hydref mewn gwirionedd. Bydd yn fis Hydref cyn i'r cymorth hwnnw gael ei ddarparu. Ac rwy'n clywed Ofgem yn dweud eu bod yn bwriadu byrhau'r cyfnod ar gyfer ailedrych ar y terfyn uchaf ar brisiau o chwe mis i dri mis, sy'n golygu, o bosibl, y bydd dau godiad arall mewn biliau tanwydd cyn i bobl hyd yn oed cael y cymorth y mae'r Canghellor wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn, ac yna bydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu'n ôl. Nid yw hynny'n swnio i mi fel rhywbeth sy'n debygol o gael ei groesawu'n gyffredinol gan bobl sy'n ei chael yn anodd, nid yn unig o ran biliau tanwydd, ond o ran cyfraniadau yswiriant gwladol, gyda phrisiau bwyd yn codi, gyda chwyddiant yn 7 y cant. Mae'r rhain i gyd yn golygu y bydd cyfnod anodd iawn o flaen y teuluoedd yn Ogwr, ac rwy'n gwybod y bydd eu cynrychiolydd yn y Senedd yn bryderus iawn ynghylch hyn.

13:45

Diolch i'r Aelod dros Ogwr am godi'r mater pwysig hwn, er nad wyf i'n cytuno efallai â'r holl deimladau na'r ffordd y mae'n eu cyflwyno. Ond, yn dilyn y cyhoeddiad sydd i'w groesawu gan y Canghellor am becyn cymorth i helpu pobl gyda chostau byw cynyddol, gan gynnwys cymorth i ymdopi â chostau ynni cynyddol yn ogystal ag ad-daliad y dreth gyngor, bydd Llywodraeth Cymru yn cael tua £175 miliwn o gyllid canlyniadol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei bod yn bwysig defnyddio'r cyllid sylweddol hwn i roi cymorth brys i bobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ddarparu ad-daliad treth gyngor i helpu i leihau'r pwysau ar deuluoedd, yn ogystal â chreu cronfa ddewisol er mwyn i awdurdodau lleol ei darparu i'r aelwydydd hynny sydd eisoes yn gymwys i gael gostyngiad i'r dreth gyngor? Diolch.

Wel, Llywydd, diolch i Peter Fox am hynna. Mae'n sôn am becyn cymorth. Rwy'n credu fy mod i eisoes wedi esbonio bod y cymorth ar gyfer biliau tanwydd yn gymorth sy'n caniatáu i chi ohirio'r bil. Nid yw'n rhoi unrhyw arian i chi; mae'n golygu nad oes rhaid i chi dalu'r cyfan ymlaen llaw. Mae'n sôn am gymorth 'brys', a bydd y cymorth hwnnw'n cyrraedd gyda'r holl frys a ddaw fis Hydref nesaf. Cafwyd cynnydd bach o £140 i £150 i'r gostyngiad cartrefi clyd, ond eto nid arian gan y Trysorlys yw hynny; arian yw hynny sy'n mynd ar fil pawb arall, fel rhan o'r costau cymdeithasol ac amgylcheddol y mae'n rhaid i bob defnyddiwr eu talu.

Nawr, rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn na allwch chi gymharu'n uniongyrchol y dreth gyngor yng Nghymru â'r dreth yn Lloegr. Pan fydd gostyngiad y Canghellor o £150 i fil band D yn Lloegr yn cael ei weithredu, bydd treth gyngor band D yn Lloegr yn dal i fod yn uwch na threth gyngor gyfartalog band D yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl i gymorth y Canghellor gael ei ddefnyddio. Ac yng Nghymru, mae gennym y cynllun budd-dal y dreth gyngor, y rhoddodd ei Lywodraeth ef yn Lloegr y gorau iddi bron i 10 mlynedd yn ôl—£244 miliwn, Llywydd, ymhell uwchlaw unrhyw swm canlyniadol a byddwn ni'n ei gael, sy'n cael ei ddarparu bob blwyddyn; 220,000 o aelwydydd yng Nghymru nad ydyn nhw'n talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: os byddwn yn cael £175 miliwn i helpu aelwydydd yng Nghymru gyda'r argyfwng costau byw, ar gyfer hynny y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio, ond caiff ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n cydnabod y dirwedd bresennol yng Nghymru, y ffaith bod cymorth eisoes ar gael yng Nghymru nad yw'n bodoli dros ein ffin. Byddwn yn dod o hyd i'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael yr arian hwnnw i'r teuluoedd sydd ei angen, a byddwn yn gwneud y penderfyniadau hynny cyn gynted ag y gallwn ni.

13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os caf i dynnu eich sylw at rywbeth yr ydych yn gyfrifol amdano, sef y bwrdd iechyd yn y gogledd ac adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ar wasanaethau fasgwlaidd yr wythnos diwethaf a ddatgelodd fod y rhan fwyaf o ddogfennau clinigol yn annarllenadwy neu'n absennol, nad oedd cyfathrebu a chynllunio gofal yn bodoli mewn rhai achosion, ac, mewn un achos, bu'n rhaid i wraig gŵr a oedd wedi cael trychiad ei gario i'r toiled ar ôl iddo gael ei anfon adref heb gynllun gofal, a yw hyn yn dderbyniol, ac, os nad ydyw, a wnewch chi ymddiheuro?

Nid wyf i'n ystyried bod hynny'n dderbyniol, Llywydd; wrth gwrs ddim. Mae canfyddiadau'r 44 o achosion hynny a adolygodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn siomedig iawn, ac maen nhw—fel y dangosodd Andrew R.T. Davies yn ei ateb—yn gamgymeriadau a wnaed gan staff clinigol a fethodd â dilyn yr hyn sy'n ymddangos i mi yn safonau ymarfer proffesiynol sylfaenol. Pan fyddwch chi'n darllen bod diffygion o ran cadw cofnodion, o ran cael caniatâd a dilyn achosion a archwiliwyd, yna mae pob un ohonom yn iawn i bryderu ac i gael ein siomi, a mater i'r bwrdd iechyd yn awr yw sicrhau bod y safonau ymarfer proffesiynol angenrheidiol yn cael eu darparu'n gyson i'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw yn y gogledd.

Yn anffodus, Prif Weinidog, ni chlywais ymddiheuriad gennych yn y fan yna, a gofynnais i chi ei roi i bobl Cymru, ac yn arbennig y bobl sydd â'r bwrdd iechyd hwnnw'n diwallu eu hanghenion, a'r staff hefyd, sy'n teimlo eu bod wedi eu siomi, oherwydd, yn amlwg, yr oeddech chi—y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd—wedi rhoi'r bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig am saith mlynedd. Hefyd, roedd gan eich Dirprwy Weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, gyfrifoldeb arbennig dros y bwrdd iechyd yn y gogledd, ac felly rwy'n gofyn i chi eto, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n derbyn bod y canfyddiadau hyn yn annerbyniol, eich bod yn ymddiheuro am yr amser yr oeddech yn dal awennau'r drefn lywodraethu ac atebolrwydd y bwrdd iechyd hwnnw. Ni allwch chi fynd ymlaen yn barhaus yn dweud y bydd addewidion yn cael eu gwneud a bod gwelliannau'n cael eu gwneud dro ar ôl tro pan (a) o'ch diffyg ymddiheuriad heddiw, nad yw'n ymddangos eich bod chi'n derbyn unrhyw atebolrwydd am y problemau a gododd ac a gafodd eu datgelu gan yr adroddiad hwn, ac, yn bwysig, fel ceffylau bach y ffair, y ffordd yr ydym ni yr Aelodau yn gweld adroddiadau fel hyn yn ymddangos o ardal y bwrdd iechyd yn gyson. Felly, rwyf i yn gofyn i chi, gan mai chi a roddodd y bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig, a chi yw'r Prif Weinidog, a chyn hynny, chi oedd y Gweinidog iechyd, i ymddiheuro am yr hyn sydd wedi digwydd yn y bwrdd iechyd hwn.

Llywydd, nid yw'n anodd i mi ymddiheuro o gwbl. Nid wyf i'n rhannu'r un safonau â'r Blaid Geidwadol, lle mae'r Prif Weinidog yn gwrthod ymddiheuro dro ar ôl tro am y pethau y bu mor uniongyrchol gyfrifol amdanyn nhw. Rwyf i wedi ymddiheuro yn y gorffennol am fethiannau'r bwrdd iechyd yn y gogledd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfres o gamau i gynorthwyo'r bwrdd iechyd i sicrhau bod y gwasanaethau y mae pobl yn eu cael o'r safon y mae ganddyn nhw'r hawl iddi.

O ran gwasanaethau fasgwlar yn unig, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad sylweddol yn seilwaith ffisegol y gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ac, o ganlyniad i'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd iddo ar gyfer y bwrdd iechyd hwnnw, mae chwe llawfeddyg fasgwlaidd ymgynghorol ychwanegol, radiolegydd ymyriadol ymgynghorol ychwanegol, pedwar meddyg iau fasgwlaidd, nyrsys arbenigol fasgwlaidd ychwanegol, a ward fasgwlaidd bwrpasol â 18 o welyau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r bwrdd i unioni rhai o'r diffygion a nodwyd ynddo. Mae'n destun siom mawr dysgu bod safonau ymarfer proffesiynol yn y gwasanaeth hwn o hyd nad ydyn nhw'n cyfateb i'r safonau y mae gan bobl hawl i'w disgwyl gan y rhai sy'n uniongyrchol gyfrifol am y gofal clinigol hwnnw.

Nododd fy nghyd-Weinidog Eluned Morgan yn ei datganiad ysgrifenedig ar 3 Chwefror y mesurau a fydd yn cael eu cymryd yn awr, ac mae hynny'n cynnwys gwaith goruchwylio'r gwasanaeth gan wasanaeth fasgwlaidd mawr y tu allan i Gymru i sicrhau bod goruchwyliaeth a chymorth amlddisgyblaethol ar gael. Dywedodd yn y datganiad ysgrifenedig hwnnw hefyd ei bod wedi gofyn i wasanaethau fasgwlaidd gael eu trafod yng nghyfarfod teirochrog nesaf Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Cynhelir y cyfarfod hwnnw ddydd Gwener yr wythnos hon.

13:55

Wel, gofynnais i chi am yr eildro i ymddiheuro ac fe ddywedoch chi eich bod yn cael anhawster wrth ymddiheuro. Rwy'n siŵr y bydd y wraig a oedd yn cario ei gŵr i'r toiled yn gresynu at y ffaith eich bod yn cael anhawster wrth ymddiheuro am y diffyg cynllun gofal a roddwyd ar waith. Rwy'n siŵr y byddwch yn ei chael yn wir—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr bod y cleifion—22 sydd wedi'u rhifo yn y ddogfen benodol hon—y mae gennych gyfrifoldeb amdanyn nhw, sydd â'u cofnodion ar goll neu nad oes modd dod o hyd i unrhyw gynlluniau gofal a roddwyd ar waith ar gyfer eu llesiant yn y dyfodol—. Ac mae'n destun gofid, yn ystod y saith mlynedd yr oeddech chi'n gyfrifol am y bwrdd iechyd yn uniongyrchol yma o Gaerdydd, oherwydd mesurau arbennig—efallai y byddwn yn ychwanegu, y corff cyhoeddus a fu hwyaf mewn mesurau arbennig mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig—yr ydych chi, unwaith eto, wedi teimlo na allwch chi ymddiheuro ar ôl i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi.

Rydych wedi rhoi cynnig ar fesurau arbennig, Prif Weinidog. Ers ei ffurfio yn 2009, bu pedwar prif weithredwr, chwe chadeirydd ac erbyn hyn mae gennym ymyrraeth wedi ei thargedu ac rydym yn dal i gael adroddiadau fel hyn. Ar ba bwynt ydych chi'n mynd i dderbyn, yn hytrach na rhoi cynnig ar yr un peth dro ar ôl tro a chael yr un canlyniadau, fod angen diwygio ac ailstrwythuro radical ar Betsi fel y gallwn weld newid ar gyfer pobl y gogledd a darparu gwasanaeth sy'n rhoi diwedd ar gyhoeddi adroddiadau fel hyn a ninnau'n gorfod eu trafod yma yn y Siambr hon?

Llywydd, efallai mai oherwydd fy mod yn siarad yn rhannol o bell na chlywyd yr hyn a ddywedais yn ddigon clir. Yr hyn a ddywedais oedd—

Os caf eich helpu, Prif Weinidog, fe glywais chi yn sicr yn dweud na chawsoch unrhyw anhawster wrth ymddiheuro. Felly, efallai ei fod wedi ei gamglywed mewn mannau eraill, ond dyna'n sicr fy atgof o'r hyn a ddywedoch chi.

Wel, Llywydd, dyna'n union a ddywedais i, na chefais unrhyw anhawster wrth ymddiheuro, ac rwy'n siŵr y bydd arweinydd yr wrthblaid yn cydnabod hynny. Mae arnaf ofn na allaf gytuno ag ef mai'r ffordd orau o gryfhau gwasanaethau i bobl yn y gogledd, yn y ffordd yr wyf i'n credu ar draws y Siambr yr hoffem ni ei gweld, fyddai dechrau ar yr helbul o ddiwygio radical ac ailstrwythuro gwasanaethau. Pe bai unrhyw beth yn cael ei warantu i dynnu sylw oddi wrth ofal yn y rheng flaen, o'r math y mae angen ei gywiro mewn gwasanaethau fasgwlaidd, yna taflu'r sefydliad i'r math hwnnw o helbul mewnol fyddai hynny. Gallaf ei sicrhau, ar wahanol adegau pan awgrymwyd hyn, fod hyn wedi'i ailadrodd y tu mewn i Lywodraeth Cymru a gyda chynghorwyr proffesiynol a gyda chyrff eraill, a phob tro, deuir i'r casgliad y byddai hyn yn groes i'r hyn sydd ei angen ar gyfer gwella. Byddai'n gwarantu, am nifer o flynyddoedd i ddod, yn hytrach na chanolbwyntio ar y pethau y mae angen eu gwneud, y byddai pobl yn y gogledd yn y gwasanaeth iechyd yn canolbwyntio ar faterion sefydliadol, yn hytrach nag ar safonau gofal clinigol.

Diolch, Llywydd. Dwi ar y cofnod yn dweud y dylid cael gwared ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr oni bai eu bod nhw'n gallu dod yn ôl ar y trywydd cywir, ac mae gen i ofn bod yr adroddiad yma rydyn ni wedi'i weld rŵan yn gwneud dim i roi hyder inni yn nyfodol y bwrdd. Wythnos yn ôl, wrth ateb cwestiwn gan Mabon ap Gwynfor, mi wnaeth y Prif Weinidog fwy neu lai ein cyhuddo ni ar y meinciau yma, ac ymgyrchwyr a staff lleol, o danseilio gwasanaethau fasgwlar yn y gogledd oherwydd y modd rydyn ni wedi gwrthwynebu a chodi cwestiynau am y broses o ganoli gwasanaethau. O fod wedi gweld yr adroddiad damniol arall yma, ydy'r Prif Weinidog rŵan yn gweld mai codi pryderon go iawn am resymau da yr oeddem ni?

14:00

Na, dwi ddim yn cytuno â hynny o gwbl, Llywydd. Dwi'n cofio'r cwestiynau gan Mabon ap Gwynfor a dwi'n cofio'r atebion—yr atebion gofalus—a roddais i wythnos diwethaf. Dwi'n dal i gredu beth ddywedais i wythnos yn ôl. Beth sydd wedi digwydd gyda'r gwasanaeth, i ailwampio'r gwasanaeth, yw rhywbeth a oedd yn angenrheidiol i'w wneud. Dyw'r ffordd y mae wedi cael ei wneud ddim yn dderbyniol, ond fel yr oedd Eluned Morgan yn ei ddweud yn ei datganiad hi—dyma beth ddywedodd y Gweinidog:

'Rwyf hefyd yn siŵr nad yw'r sefyllfa wedi cael ei helpu gan drafodaeth gyhoeddus negyddol ddi-baid sydd wedi taflu cysgod dros unrhyw effeithiau cadarnhaol ad-drefnu'r gwasanaeth ac a oedd â'r potensial i effeithio ar forâl staff. Mae hyn yn rhywbeth a nodwyd yn adroddiad cyntaf yr RCS.'

Codwyd pryderon a chodwyd gwrthwynebiad am ein bod yn poeni am safonau'r gwasanaeth. Prin y gallwn gredu'r hyn yr oeddwn i yn ei ddarllen yn yr adroddiad hwn: triniaeth wedi ei rhoi na ddylai fod wedi'i rhoi, hyd yn oed tynnu rhan o'r corff; triniaeth na roddwyd pan ddylai fod wedi'i rhoi; diffyg cyfathrebu ofnadwy gyda chleifion a'u teuluoedd; a chadw cofnodion mor wael fel na allai ymchwilwyr y coleg brenhinol hyd yn oed nodi'r hyn a ddigwyddodd i rai cleifion na pha drafodaethau a gafwyd am eu triniaeth, neu, yn wir, a oedd y bwrdd iechyd hyd yn oed wedi cyflawni ei rwymedigaethau moesegol a chyfreithiol wrth drin cleifion. Yn hytrach na bod yn fai ar y rhai ohonom a heriodd y rhaglen ganoli, mae hyn wedi bod yn ganlyniad i anallu a chamreoli, a bu'n rhaid i'r bwrdd fynnu bwrw ymlaen â'r ymchwiliad hwn pan oedd uwch reolwyr yn dal i ddweud, 'Na, mae popeth yn iawn.'

Nawr, roedd cwestiynau go iawn ynghylch a oedd Betsi Cadwaladr yn barod i ddod allan o fesurau arbennig, yn gyfleus iawn cyn yr etholiad diwethaf. Rwy'n chwilio am sicrwydd y prynhawn yma y bydd gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd yn mynd yn ôl i fesurau arbennig gydag ymyrraeth wedi'i thargedu i ddatrys y llanastr hwn. Ac a wnaiff y Prif Weinidog, wrth fyfyrio, gytuno nawr fod diwedd mesurau arbennig bryd hynny'n gynamserol?

Wel, Llywydd, nifer o bwyntiau yn y fan yna. Mae'n bwysig cofnodi'r ffaith bod hyd at hanner y 44 o achosion yr ymchwiliwyd iddyn nhw gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn rhagddyddio ad-drefnu'r gwasanaethau ers peth amser; mae'r rhain yn achosion sy'n ymestyn rhwng 2014 a 2021. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud cam, unwaith eto yr wythnos hon, wrth gymysgu'r ddau fater hynny gyda'i gilydd. Y ffordd y mae gwasanaethau wedi'u hail-lunio, fel bod gwasanaethau arbenigol wedi'u crynhoi mewn un lle, oedd y penderfyniad cywir; nid yw hynny'n cael ei herio yn adroddiadau Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ac, yn wir, cefnogodd y coleg brenhinol y cynllun hwnnw. Yr hyn sy'n annerbyniol ac yn siomedig iawn yw esgeuluso safonau sylfaenol ymarfer proffesiynol a ddatgelir yn yr adroddiad.

Fi oedd y Gweinidog a roddodd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Cofiaf i aelodau ar lawr y Siambr ddweud wrthyf fod hynny'n gyfleus at ddibenion gwleidyddol, yn union fel yr wyf wedi arfer â phleidiau eraill sy'n ceisio honni bod y penderfyniad i ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig rywsut wedi'i ysgogi'n wleidyddol. Yr oedd, Llywydd, yn ganlyniad i'r broses sydd ar waith.

Ni allaf roi'r gwarantau y mae'n gofyn amdanyn nhw y prynhawn yma i'r Aelod, oherwydd nid penderfyniadau gwleidyddol yw'r rheini. Nawr, efallai ei fod yn credu, fel gwleidydd, fod yr atebion ganddo ac y dylem ddibynnu ar ei farn wleidyddol yn unig, ond nid dyna'r ffordd y gwneir y penderfyniadau hynny yng Nghymru. Bydd cyfarfod teirochrog. Bydd y cyfarfod teirochrog yn gwneud argymhellion ac yna, yn wir, Gweinidogion fydd yn penderfynu a ddylid eu gweithredu a sut i'w gweithredu. Ond dyna sut mae'r system yn gweithio. Nid bobl yn dylunio atebion ar lawr y Senedd ond drwy gael barn arbenigol y cyfarfod teirochrog hwnnw, ac yna Gweinidogion yn cymryd y cyfrifoldeb dros eu gweithredu.

14:05

Ond rwy'n ofni, weithiau, fod penderfyniadau'n cael eu gwneud heb ddealltwriaeth ddofn o'r cymunedau y maen nhw'n effeithio arnyn nhw. Gadewch i ni edrych ar yr egwyddor honno o ganoli. Rwy'n deall yn llwyr y dadleuon dros ddatblygu canolfannau sy'n gallu cael cyfradd brosesu uwch o gleifion â'r afiechydon mwyaf difrifol. Ond (a) pan wnawn ni hynny ar gyfer ardaloedd gwledig, dyweder, mae'n rhaid i ni feddwl yn arloesol er mwyn peidio â dileu swyddogaethau craidd sy'n bwysig yn lleol, oherwydd pa addewidion bynnag a wnaed mewn cysylltiad â'r canoli penodol hwn, byddai rhai gwasanaethau'n cael eu cadw'n lleol, yn sicr nid dyna sydd wedi digwydd. A (b) os yw'n ymwneud â gwell gwasanaethau, pam ar y ddaear yr oedd yr elfen honno o ganoli, a allai fod wedi bod yn fuddiol, heb ei datblygu o amgylch Ysbyty Gwynedd, lle yr oedd ansawdd y driniaeth mor uchel? Gofynnais i gyfarwyddwr meddygol Betsi Cadwaladr pam ar y ddaear na phenderfynwyd canoli o amgylch Ysbyty Gwynedd. Dywedodd wrthyf nad oedd yn gwybod.

Mae gwersi yma i Gymru gyfan, rwy'n credu, Prif Weinidog, sef bod yr egwyddor o ganoli wedi dod yn bwysicach nag ansawdd y gofal mewn gormod o achosion. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gael ymchwiliad sy'n agored ac yn dryloyw, ac yn annibynnol, i'r hyn a ddigwyddodd gyda gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd, fel y gall Cymru gyfan fod yn siŵr bod y gwersi hynny, lle aiff canoli o chwith, yn cael eu dysgu'n wirioneddol?

Wel, mae rhai agweddau ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod y gallaf gytuno â nhw, Llywydd. Rydym newydd gyhoeddi'r ail adroddiad ymchwiliad annibynnol; nid wyf yn gweld lle mae'r budd o bentyrru ymchwiliad ar ôl ymchwiliad. Yr hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu ar sail yr adroddiadau sydd gennym nawr o'n blaenau.

Y pwynt y teimlaf y gallaf i gytuno ag ef yw pan ddywed Rhun ap Iorwerth fod yn rhaid trosglwyddo modelau sy'n cael eu datblygu gan golegau brenhinol ac eraill yn briodol i gyd-destun Cymru ac nid dim ond eu codi a'u gollwng yng Nghymru. Pan oeddwn i yn Weinidog iechyd, yr oeddwn i hefyd yn gyfrifol am ddarn o waith a wnaed am Ysbyty Cyffredinol Bronglais, lle trafodwyd yr union ddadleuon hyn—a'u trafod gyda'r colegau brenhinol—am y ffordd y gellid defnyddio gwasanaethau y gellid eu darparu'n ddiogel ac yn briodol yn lleol mewn ardal wledig yn ddiogel ac yn llwyddiannus yn yr ysbyty hwnnw. Ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn gyfres lwyddiannus o gamau gweithredu sydd wedi dilyn ac sydd wedi ychwanegu at staff yr ysbyty a'r capasiti yn yr ysbyty. Felly, rwy'n cytuno bod yn rhaid i dueddiadau cyffredinol mewn meddygaeth, sydd tuag at ganoli gwasanaethau arbenigol, gael eu graddnodi ar gyfer y cyd-destun y maen nhw'n cael eu gweithredu ynddo, a dylem wneud hynny mewn ffordd sy'n gweithio i ni yma yng Nghymru.

Lle yr wyf yn gwyro oddi wrtho'n llwyr, yw ei ddymuniad i geisio ailagor hen frwydrau dros y ffordd y penderfynwyd ar wasanaethau a'u ffurfweddu yn y gogledd yn y cyd-destun fasgwlaidd. Ni allai'r Gweinidog iechyd fod wedi bod yn fwy uniongyrchol yn ei datganiad sef y byddai hynny yn tynnu sylw oddi ar y gwaith go iawn sydd dan sylw, sef sicrhau bod y system sydd gennym nawr yn gweithio, ac yn gweithio'n iawn, ac nad oes ganddi'r agweddau annymunol a siomedig iawn a ddatgelwyd yn yr adroddiad yr oedd y bwrdd ei hun wedi'i gomisiynu.

Strategaeth Ryngwladol

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OQ57614

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ers cyhoeddi'r strategaeth ryngwladol, rydym wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau gweithredu ac wedi atgyfnerthu ein perthynas â phartneriaid rhyngwladol allweddol. Rydym yn adolygu blaenoriaethau yn rheolaidd o'u cymharu â'r strategaeth ryngwladol wrth i ni symud i fyd y tu hwnt i coronafeirws.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Wrth i ni edrych ymlaen at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi ymhen ychydig wythnosau, penderfynais yn gynharach yr wythnos hon ddarllen eich datganiad ysgrifenedig cyn Dydd Gŵyl Dewi y llynedd. Roeddwn i wrth fy modd yn darllen mai eich nod bryd hynny oedd defnyddio ein

'Diwrnod Cenedlaethol i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Ryngwladol, gyda'i huchelgeisiau allweddol o godi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol'.

Cofiaf o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf fod cynlluniau eleni yn debyg hefyd. Ond yn y datganiad ysgrifenedig hwnnw, fe sonioch chi y byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn cael cyhoeddusrwydd drwy dudalennau @walesdotcom Twitter, Instagram a Facebook. Yn wir, mae llawer o gyhoeddusrwydd rhyngwladol Cymru i fod i gael ei wneud drwy @walesdotcom. Ond, Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol, hyd y bore yma, mai dim ond un postiad gwreiddiol sydd wedi ei roi ar y tudalennau Twitter a Facebook y sonioch chi amdanyn nhw y llynedd fel rhan annatod o'ch strategaeth ryngwladol, yn ystod y tri mis diwethaf, a dim ond un postiad ar Instagram ers mis Medi? Sut yn union yr ydym yn gwerthu Cymru i'r byd cyn ein diwrnod cenedlaethol fel lle i weithio, astudio, i ymweld ag ef ac i fuddsoddi ynddo pan fo'n ymddangos ein bod wedi cau ar gyfer busnes?

14:10

Llywydd, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl fod yr Aelod yn treulio mwy o'i amser yn edrych ar bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol hynny na mi. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru, drwy'r strategaeth ryngwladol, yn brysur bob dydd o ran sicrhau bod Cymru'n cael ei hyrwyddo dramor a'n bod yn defnyddio ein diwrnod cenedlaethol fel llwyfan y gallwn wneud mwy arno i sicrhau bod proffil Cymru, cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru, gwaith ein sefydliadau celfyddydol, mae ein sefydliadau chwaraeon yn adnabyddus ledled y byd, bod proffil Cymru'n cael ei gryfhau yn unol â hynny.

Llywydd, hyd yn oed yn ystod y mis diwethaf, ar draws y byd, mae swyddfeydd Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud yr union beth hwnnw: digwyddiad Cymreig yn Washington gydag Astudio yng Nghymru a phrifysgolion Cymru, sicrhau bod cyfleoedd i ddod i astudio yma yng Nghymru yn hysbys ac yn cael eu hyrwyddo'n briodol yn yr Unol Daleithiau, a chyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mrwsel yn ailddechrau, yn enwedig o amgylch y cynllun i gael cyfarfod o'r CPMR—Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol—yma yng Nghaerdydd ym mis Mawrth, gan ddod â dirprwyaethau o bob rhan o Ewrop i'n prifddinas. Cefnogodd ein swyddfa ym Mharis daith fasnach Gymreig i Arddangosfa Niwclear y Byd ym Mharis ym mis Rhagfyr. Mae ein swyddfeydd yn y dwyrain canol, wrth gwrs, wedi bod yn canolbwyntio ar ddigwyddiad Expo'r Byd yn Dubai, ac yn Japan, mae ein swyddfa wedi arwain digwyddiad buddsoddi gwynt ar y môr sydd wedi arwain at 10 cwmni o Japan yn mynegi diddordeb mewn buddsoddi yma yng Nghymru.

Efallai pe bai'r Aelod yn treulio ychydig llai o amser â'i ben yn Instagram ac ychydig mwy yn edrych ar y byd o'i gwmpas, byddai'n cydnabod yr holl bethau sy'n mynd ymlaen drwy'r amser i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd hwnnw.

Prif Weinidog, mae Cymru'n gartref i rai brandiau a gydnabyddir yn rhyngwladol fel wisgi Penderyn, sydd wedi'u lleoli yn fy etholaeth i, ac mae eu slogan, 'O Gymru i'r byd', yn pwysleisio'r agwedd fyd-eang hon. Yn ogystal â'r sylwadau yr ydych eisoes wedi'u gwneud i'r Aelod blaenorol, a wnewch chi amlinellu i ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar enw da'r arweinwyr byd hyn, i hyrwyddo busnesau Cymru a Chymru fel cyrchfan twristiaeth?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae hi'n llygad ei lle i gyfeirio at wisgi Penderyn fel brand Cymreig blaenllaw, brand sy'n adnabyddus ar draws y byd. Mae gan Gymru frandiau blaenllaw mewn sawl rhan o fywyd; roedd yn wych bod Opera Cenedlaethol Cymru wedi cael eu dewis i berfformio yn Dubai yn y digwyddiad expo. Ond ym maes bwyd a diod yn arbennig, mae gennym gymaint o frandiau sy'n arwain y byd, ac yn Dubai—a bydd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad expo o amgylch Dydd Gŵyl Dewi—byddwn yn hyrwyddo dŵr Tŷ Nant, Rachel's Organic, Caws Eryri, ochr yn ochr â wisgi Penderyn, wrth gwrs.

Pan oeddwn i yn Japan, Llywydd—mae'n ymddangos yn bell yn ôl nawr—roedd wisgi Penderyn yn gerdyn galw go iawn i Gymru, yn cael ei adnabod ym mhobman. Roeddwn i yn Tokyo fy hun y diwrnod y rhedodd Tokyo allan o Lager Wrecsam yn ystod cwpan y byd, ac roedd hwnnw'n frand eiconig arall o Gymru sy'n adnabyddus ar draws y byd. Mae'r brandiau hynny, yn ogystal â bod yn gardiau galw ar gyfer busnesau Cymru, fel y dywedodd Vikki Howells, hefyd yn dod â phobl i Gymru. Unwaith eto, pan oeddwn i yn Japan, roedd bwyd a diod yn bwysig iawn i ymwelwyr Japaneaidd. Mae'n bwysig iawn yn wir fod ganddyn nhw ymdeimlad cryf o darddiad y bwyd y maen nhw'n ei fwyta. Pan fyddan nhw'n dod i Gymru, fel y gwnaethon nhw, hyd at y pandemig, yn eu niferoedd cynyddol o flwyddyn i flwyddyn, y brandiau eiconig hynny yw'r hyn sy'n ein helpu ni'n aml iawn i gryfhau'r cynnig twristiaeth hwnnw hefyd.

14:15
Gofal Iechyd yng Ngorllewin Cymru

4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth gofal iechyd yng ngorllewin Cymru? OQ57607

Y flaenoriaeth bresennol yn y gorllewin yw cydbwyso gwasanaethau o hyd i gadw pobl yn ddiogel rhag COVID gan ymestyn y gwaith o ddychwelyd gwasanaethau ehangach, mwy rheolaidd wrth iddi ddod yn ddiogel i wneud hynny. 

Diolch, Prif Weinidog. Bythefnos yn ôl, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda achos busnes rhaglen ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau gofal iechyd yn y gorllewin, a fydd, os caiff ei gymeradwyo a'i gadarnhau gan eich Llywodraeth chi, yn gweld ysbyty newydd yn cael ei godi mewn lleoliad nad yw wedi'i benderfynu eto rywle rhwng Arberth a Sanclêr. Mae'r achos busnes hwn hefyd yn gweld ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu hisraddio i ysbytai cymunedol. Mae'r rhain yn gynlluniau sydd wedi bod o gwmpas ers nifer o flynyddoedd. Bwriedir cynnal protest ar 23 Chwefror y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg gan y grŵp ymgyrchu lleol, sydd heb roi'r gorau i'r frwydr i weld gwasanaethau'n aros yn eu hysbyty lleol. Pan oeddech chi'n Weinidog iechyd yn 2014, roeddech chi—a dyfynnaf—yn teimlo nad oedd 'diben defnyddiol' i gyfarfod â thrigolion pryderus yn y gorllewin i drafod ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd pan wahoddwyd chi gan yr AS Stephen Crabb i wneud hynny. O ystyried cryfder y teimladau yn y gymuned a'u hawydd cyson i weld gwasanaethau'n cael eu cadw yn eu hysbytai lleol, a ydych yn difaru yn awr na wnaethoch chi gyfarfod â phobl yn y gorllewin?

Mae arnaf ofn bod y cwestiwn yn gwbl anghywir, oherwydd fe wnes i gyfarfod—fe wnes i gyfarfod—â chynrychiolwyr y grwpiau hynny. Fe wnes i gyfarfod â nhw yma yn yr adeilad hwn. Felly, mae'n hollol anghywir, mewn gwirionedd. Ond rwy'n credu bod ei gwestiwn yn siomedig iawn—yn siomedig iawn. Os yw'r Blaid Geidwadol yn credu mai eu cyfraniad at wella gwasanaethau yng ngorllewin Cymru unwaith eto yw arwain ymgyrch yn erbyn y gwelliannau y mae'r bwrdd iechyd yn ceisio eu cyflwyno, yna mae'n gwneud cam mawr â'r bobl y mae'n eu cynrychioli. Gadewch i mi fod yn glir ynghylch hynny gydag ef. Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno cyfres o gynigion. Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arnyn nhw. Maen nhw wedi'u cynllunio i sicrhau bod gwasanaethau yn y gorllewin yn ddiogel am yr 20 mlynedd nesaf.

Mae arnaf ofn fy mod yn cofio'n rhy dda y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru geisio buddsoddi miliynau a miliynau o bunnau i wella gwasanaethau yn y gorllewin, pan oedd Brian Gibbons yn Weinidog iechyd yma a chyflwynodd y bwrdd iechyd gynllun ar gyfer ysbyty newydd—ysbyty newydd sbon—ar gyfer y gorllewin, i'w leoli bryd hynny, yn Hendy-gwyn ar Daf, yn etholaeth yr Aelod ei hun. Gwrthwynebiad gan ei blaid ef a oedd yn atal y buddsoddiad mawr hwnnw rhag cael ei wireddu yn y gymuned y mae bellach yn ei gwasanaethu. Rwy'n gobeithio nad yw'n bwriadu dechrau ar ei yrfa yma yn y Senedd drwy rwystro ymdrechion pobl leol i sicrhau buddsoddiad o filiynau o bunnau yn y gwasanaethau iechyd y byddant yn dibynnu arnyn nhw yn y dyfodol.

Gobeithio, Prif Weinidog, y byddwch yn cytuno â mi y byddai'n beth da canolbwyntio ar y £1.3 biliwn sydd ar y bwrdd ar gyfer ysbyty newydd—y math o fuddsoddiad sydd ei wir angen yn ein hardal. Mae'n arian trawsnewidiol a all arwain at drawsnewid yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd. Gobeithio y byddwch yn rhannu fy marn bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd wrando ar farn pawb ledled y gorllewin, nid lleisiau'r rhai sy'n gweiddi uchaf yn unig.

Diolch i Joyce Watson am ddod â llais o bwyll a rheswm i'r drafodaeth hon. Os yw'r bwrdd iechyd yn gallu cyflwyno achos busnes argyhoeddiadol, fel y dywed, mae buddsoddiad mawr i'w wneud mewn gwasanaethau yn y de-orllewin. Nid yw, fel y gwn y bydd yn cydnabod, yn gynllun sy'n canolbwyntio ar wasanaethau ysbytai ychwaith. Mewn rhai ffyrdd, mae'n gyson â rhai o'r pwyntiau yr oedd Rhun ap Iorwerth yn eu gwneud yn gynharach. Mae'n gynllun i sicrhau bod cymaint o wasanaethau â phosibl yn cael eu darparu mor agos at le mae pobl yn byw â phosibl drwy gryfhau cyfleusterau cymunedol—cyfleusterau y tu allan i ysbytai mewn mannau fel canolfan iechyd integredig Cross Hands, mewn canolfannau yn Aberystwyth a datblygiadau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cynllunio mewn rhannau eraill o ardal y bwrdd iechyd—ac wrth gwrs, cadw gwasanaethau yn Llwynhelyg ac yng Nglangwili, lle mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fuddsoddi yn yr adeiladau hynny ac yn y gwasanaethau hynny hyd heddiw.

Roedd yn newyddion da iawn—a gwn y bydd Joyce Watson, ar ôl bod yn gefnogwr mor frwd o hyn oll, yn cytuno—ar 25 Ionawr pan oedd y baban cyntaf yn derbyn gofal yn yr uned gofal arbennig i fabanod sydd bellach yn cael ei darparu yng Nglangwili, gyda gwerth £25 miliwn o fuddsoddiad yn y gwasanaethau hynny. Rwy'n cytuno yn llwyr â Joyce Watson fod yn rhaid i'r bwrdd iechyd wrando ar farn pawb yn ardal y bwrdd iechyd, wrth gwrs, fod yn rhaid iddo weithio gyda'i glinigwyr, ac yna gall edrych ymlaen at y mathau o fuddsoddiad y byddai ei gynllun yn ei sbarduno, gyda gwasanaethau'n cael eu darparu'n agos at le mae pobl yn byw yn y gymuned a gyda system ysbyty sy'n diwallu anghenion yr unfed ganrif ar hugain.  

14:20
Diogelwch Tân

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi trigolion a landlordiaid mewn adeiladau sydd â diffygion diogelwch tân posibl yn sgil datganiadau diweddar gan Lywodraeth y DU? OQ57606

Mater i ddatblygwyr a adeiladodd adeiladau â diffygion diogelwch tân yw talu am eu hadfer. Ym mis Medi lansiwyd cam cyntaf cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Bydd hyn yn darparu arolygon a ariennir gan grantiau ar gyfer adeiladau lle mae problemau diogelwch tân yn hysbys neu'n cael eu hamau er mwyn nodi'r camau adfer angenrheidiol.

Diolch. Ddiwedd mis Ionawr, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus yma ar risiau'r Senedd i wrando ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw ac a gafodd eu dal yng nghanol yr hyn sy'n drasiedi ac yn sgandal. Siaradais â phensiynwraig, Eileen, sy'n talu £511 y mis mewn taliadau gwasanaeth yn unig. Dim ond £800 y mis yw ei hincwm—ei phensiwn misol—. Anfonwyd bil o filoedd o bunnau at un arall a oedd yn bresennol a dim ond 25 diwrnod a gafodd i'w dalu. Mae eraill yn wynebu biliau o £50,000 dros y blynyddoedd nesaf. Gwyddom i gyd y bydd y sgandal hwn yn dinistrio bywydau pobl ddi-rif, heb sôn am y niwed emosiynol ofnadwy y mae hyn yn ei achosi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig clywed lleisiau'r bobl hynny. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn camu i'r adwy i helpu'r lesddeiliaid hynny ar hyn o bryd. Mae angen cymryd camau adferol i wneud yr adeiladau hynny'n ddiogel ac i sicrhau bod eu hiechyd emosiynol yn cael ei ddiogelu. Felly, gofynnaf i chi, Brif Weinidog, ailystyried eich safbwynt a sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y camau adferol sydd eu hangen ar yr eiddo hynny. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Nid wyf yn hollol siŵr fy mod yn dilyn y pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cyllid o'r math hwnnw, ond ei wneud mewn ffordd nad yw'n creu'r perygl moesol pan fo'r pwrs cyhoeddus yn talu am y problemau y mae datblygwyr eu hunain wedi'u creu ac yn gadael i'r datblygwyr hynny fynd yn rhydd heb orfod talu. Rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr, Michael Gove, wedi gwneud y pwynt hwnnw'n union, pan ddywedodd ei fod yn disgwyl i'r diwydiant ddarparu'r £4 biliwn y bydd ei angen i unioni'r camweddau y mae'r diwydiant ei hun wedi'u creu. Os yw'r pwrs cyhoeddus yn camu i mewn ac yn talu'r holl filiau hynny, pa gymhelliant posibl fydd i'r datblygwr nesaf sicrhau nad yw eu hadeiladau'n dioddef o'r un diffygion?

Rwy'n llongyfarch yr Aelod ar y cyfarfod a gynhaliodd. Gwelais rai adroddiadau amdano, ac mae'r rheini'n dystiolaethau pwerus gan y bobl y cyfarfu â nhw y diwrnod hwnnw y mae hi wedi eu hailadrodd. Oherwydd hynny, Llywydd, ar 14 Rhagfyr, gwnaeth y Gweinidog sy'n gyfrifol, Julie James, ddatganiad llafar ar lawr y Senedd, pryd ymrwymodd Lywodraeth Cymru i gynllun cymorth lesddaliad newydd i helpu'r nifer fach honno o lesddeiliaid sy'n cael eu hunain yng nghanol y caledi ariannol sylweddol iawn y mae Jane Dodds wedi cyfeirio ato y prynhawn yma. Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad pellach cyn toriad y Pasg a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am sut y bydd y cynllun cymorth lesddaliad hwnnw'n gweithredu—y costau y bydd yn eu talu, y ffordd y bydd pobl yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw—fel y bydd y rhai a ddioddefodd waethaf yn y sgandal hwn yn cael y cymorth y gallwn ni ei ddarparu heb ganiatáu i'r datblygwyr eu hunain osgoi eu cyfrifoldebau. Maen nhw'n gyfrifol am y diffygion hyn, rhaid iddyn nhw eu cywiro.

14:25
Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru? OQ57584

Diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae gwaith y bwrdd yn parhau i ddatblygu, felly hefyd y dirwedd ddiogelu yng Nghymru. Ym mis Ionawr cadeiriais gyfarfod cyntaf un bwrdd adolygu diogelu unedig sengl Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. 

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Fel y mae'r Prif Weinidog yn sôn yn y fan yna, mae'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi chwarae rhan allweddol, ac mae wedi'i gynnwys yn y bwrdd adolygu diogelu unedig sengl, a chwaraeodd fy nhad fy hun, fel y gŵyr y Prif Weinidog, ran bwysig yn y gwaith o'i sefydlu. Prif Weinidog, bedair blynedd i ddoe cefais fy ethol i'r Senedd hon yn dilyn marwolaeth drasig Dad. Rwyf wedi bod yn myfyrio ar ei farwolaeth, ac rwyf wedi bod yn myfyrio ar sut yr ydym yn sicrhau ei etifeddiaeth yn y maes penodol hwn. Y peth pwysicaf sy'n dod i fy meddwl i yw nad oedd hyn byth yn ymwneud â swyddi mewn Llywodraeth na statws i Dad, yr oedd bob amser yn ymwneud â sicrhau newid cadarnhaol i bobl Cymru. Prif Weinidog, felly, a gaf i ofyn i chi: sut yr ydym yn sicrhau bod yr etifeddiaeth hon o barhau i sicrhau newid cadarnhaol i bobl Cymru yn parhau? 

A gaf ddiolch i Jack Sargeant am hynna? Roeddwn yn falch iawn o gadeirio cyfarfod cyntaf y bwrdd adolygu diogelu unedig sengl newydd. Pe bai wedi bod yno, rwy'n credu y byddai wedi cael ei gyffwrdd gan y nifer o weithiau y cyfeiriwyd at Carl Sargeant, oherwydd pan mai Carl oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol cyflwynodd adolygiad o'r ffordd y cafodd adolygiadau o ddynladdiadau domestig yng Nghymru eu gweithredu er mwyn gwella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig. Carl oedd yr un a ofynnodd i brif gwnstabl cynorthwyol Dyfed-Powys ar y pryd, Liane James, i gynnal yr adolygiad hwnnw, a Liane a gyflwynodd y gwaith sydd y tu ôl i'r bwrdd newydd yn y cyfarfod agoriadol hwnnw.

Rwy'n credu y gall Jack fod yn ffyddiog ond hefyd gall ymfalchïo'n fawr yn y ffaith bod ffrwyth y gwaith hwnnw yn awr, yn 2022, yn cael ei weld a'i wneud yn effeithiol yma yng Nghymru. Mae wedi tyfu'n sylweddol o'r man cychwyn a osododd Carl mewn cynnig. Bydd y system newydd yn cwmpasu adolygiadau o ddynladdiad domestig, adolygiadau ymarfer plant, adolygiadau ymarfer oedolion ac adolygiadau o ddynladdiadau iechyd meddwl. Gan ei fod yn bartneriaeth rhwng ymarferwyr a Phrifysgol Caerdydd, bydd yn ein helpu ni i sicrhau y bydd y gwersi y gellir manteisio arnyn nhw yn y dyfodol pan fydd pethau'n mynd o le'n ddifrifol, yn hysbys ac y byddant ar gael ym mhob rhan o Gymru, a bydd yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau'r teuluoedd hynny yr effeithiwyd cymaint arnyn nhw.

Roedd yn wych clywed gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, yn y cyfarfod hwnnw, ac roedd yn wych cael y sefydliadau datganoledig allweddol o amgylch y bwrdd—CLlLC, Llywodraeth Cymru, yr adrannau gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau iechyd—ond hefyd y gwasanaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli hefyd. Roedd yn dda iawn cael cynrychiolaeth o'r Swyddfa Gartref ar y bwrdd, i weld uwch grwner Cymru yn aelod o'r bwrdd hwnnw. Rwy'n credu mewn gwirionedd, Llywydd, ei fod yn enghraifft ymarferol a grymus o'r ffordd y gall menter gan Weinidog ymroddedig arwain at newid gwirioneddol a pharhaol.

14:30
Effeithlonrwydd Ynni

7. Pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r sector manwerthu ynghylch gwella effeithlonrwydd ynni tuag at garbon sero? OQ57627

Llywydd, ym mis Mawrth eleni, byddwn yn lansio strategaeth fanwerthu i Gymru. Mae'r strategaeth yn ganlyniad i ymgysylltiad agos â'r sector a bydd yn hybu effeithlonrwydd ynni, a bydd yn cynnwys penodi cynrychiolwyr gwyrdd undebau llafur yn y gweithle, un o ymrwymiadau maniffesto'r Llywodraeth hon.

Diolch, Prif Weinidog. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â Chyfeillion y Ddaear ynghylch annog archfarchnadoedd i ôl-osod drysau ar oergelloedd a rhewgelloedd, neu sicrhau bod ganddyn nhw ddrysau pan gânt eu huwchraddio. Rwy'n deall bod y Pwyllgor Deisebau wedi trafod hyn yn nhymor diwethaf y Senedd, ac ymatebodd rhai archfarchnadoedd i ddweud eu bod yn credu y byddai'n effeithio ar arferion prynu byrbwyll defnyddwyr. Rwy'n credu bod pethau wedi newid erbyn hyn, a gyda newid hinsawdd yn flaenoriaeth, ynghyd â thargedu gwastraff bwyd, credaf y dylid ailedrych arno. Gall costau ynni sy'n codi hefyd helpu i annog manwerthwyr i leihau'r defnydd o ynni. Mae Aldi wedi bod yn arwain y ffordd ar hyn, ac wedi dangos, wrth adeiladu archfarchnadoedd newydd, nad yw gosod drysau oergelloedd yn broblem a gall wella profiad cwsmeriaid o'i gymharu ag eiliau oer annioddefol nad oes ganddyn nhw ddrysau oergell arnyn nhw. A wnaiff y Prif Weinidog fy nghynghori ar y ffordd orau ymlaen yn yr ymgyrch hon, ac a fyddai'n bosibl i archfarchnadoedd rannu eu profiad a'u harferion gorau o ran arbed costau, er mwyn dysgu oddi wrth y rhai sydd wedi cymryd y cam hwn? Diolch.

Diolch i Carolyn Thomas am y cwestiynau pwysig yna, Llywydd. Mae hi'n llygad ei lle, profwyd bod defnyddio drysau ar oergelloedd yn arbed ynni, yn lleihau'r bwyd sy'n cael ei ddifetha, ac felly'n arbed arian i fusnesau. A gyda chost ynni'n codi fel y mae, siawns nad oes mwy o gymhellion i fusnesau wneud yr hyn a awgrymodd yr Aelod. Ac mae hi'n iawn, mae pethau wedi newid erbyn hyn.

Nawr, mae gwaith da iawn yn digwydd ymhlith rhai archfarchnadoedd. Mae Sainsbury's, er enghraifft, wedi gweithio gyda Choleg Imperial Llundain ar ei strategaeth ddi-garbon, ac mae hynny'n cynnwys llawer o fentrau o'r math y mae'r Aelod wedi'i nodi. Mae Aldi, fel y gwyddom ni, yn mynd i arbed yr hyn sy'n cyfateb i 2,000 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn drwy osod drysau oergell fel rhywbeth arferol yn ei storfeydd newydd a'r rhai sydd newydd eu hadnewyddu. Cynhaliodd arbrawf, roedd yr arbrawf yn llwyddiannus, ac erbyn hyn mae'n digwydd yn ei holl storfeydd. Mae gennym fentrau eraill sy'n digwydd yng Nghymru yn y maes arbed ynni hwnnw. Mae Tesco yn treialu'r defnydd o gerbydau nwyddau trwm trydan yn ei ganolfan ddosbarthu yn ne Cymru—y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gael y cerbydau trydan hynny.

Nawr, y pwynt yw, fel yr oedd Carolyn Thomas yn ei awgrymu, yn fy marn i, fod arnom angen i bawb arall ddysgu arfer da'r prif gwmnïau. Ac mae'r strategaeth fanwerthu yn gyfle i ni helpu i wneud i hynny ddigwydd. Mae Lesley Griffiths yn cyfarfod yn rheolaidd â'r sector manwerthu, pryd y byddwn yn trafod ystod eang o faterion sy'n berthnasol i Gymru, ac mae effeithlonrwydd ynni yn sicr yn un ohonyn nhw. Ac mae'r strategaeth yn gyfle i dynnu rhywfaint o hynny at ei gilydd ac annog y rhai sydd, yn y gorffennol, wedi bod yn amharod, oherwydd eu bod yn credu y gallai drysau oergelloedd, er enghraifft, effeithio'n negyddol ar werthiannau, i gymryd y camau llwyddiannus y mae eraill eisoes wedi dangos y gallwch chi eu gwneud—yn llwyddiannus o safbwynt y cwsmer, ond hefyd gyda manteision arbed ynni go iawn.

Staff Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o nifer staff Llywodraeth Cymru sydd wedi'u lleoli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57626

Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn, Llywydd. Ar ddiwedd mis Ionawr cofnodwyd bod swyddfa barhaol 1,067 o staff Llywodraeth Cymru yn y canolbarth neu'r gorllewin.

14:35

Diolch yn fawr iawn. Rŷn ni'n gwybod bod dros hanner staff y Llywodraeth yn gweithio fan hyn yng Nghaerdydd, a rhyw 58 y cant ar draws y de-ddwyrain i gyd. Nawr, mae rhyw 19 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ond eto dim ond rhyw 13 y cant o swyddi Llywodraeth Cymru sydd wedi eu lleoli yma, a, digwydd bod, mae nifer y swyddfeydd sydd gan y Llywodraeth yn y rhanbarth wedi'u lleoli ar gyrion trefi. A gaf i ofyn, felly, wrth inni'n araf bach symud yn ôl i ryw fath o normalrwydd ar ôl COVID, pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ynglŷn â symud rhagor o swyddi i'r gorllewin a'r canolbarth a defnyddio adeiladau yng nghanol trefi fel swyddfeydd er mwyn adfywio'r trefi hyn yn economaidd a chymdeithasol?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiynau yna. Mae'n well jest inni gofio ar ddechrau datganoli fod bron pob un o'r bobl oedd yn gweithio i'r Swyddfa Gymreig yn gweithio yma yng Nghaerdydd, a dros y cyfnod o ddatganoli rŷn ni wedi creu swyddfeydd newydd ym Merthyr Tudful, yn Llandudno ac, wrth gwrs, yn Aberystwyth hefyd. Nawr, rŷn ni yn mynd i symud mewn i gyfnod newydd ar ôl coronofeirws, dwi'n meddwl, pan fydd llai o staff yn gweithio bob dydd mewn swyddfeydd a mwy o bobl yn gweithio'n lleol. Dyw hyn ddim yn golygu y bydd pobl yn gweithio yn eu tai eu hunain bob tro, ond hefyd bydd mwy o bosibiliadau i bobl ddod at ei gilydd i weithio o ganolfannau gwaith. Ac rŷn ni wedi bod yn gweithio'n galed i sefydlu mwy o ganolfannau fel yna lle bydd pobl yn gallu cael mynediad i'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt yn nes at adref. Nawr, yn y gorllewin, mae canolfannau gyda ni yn barod yn Hwlffordd ac yn Llanelli, ac rŷn ni'n edrych i weld ble fydd mwy o bosibiliadau yn y dyfodol.

Fel roedd Cefin Campbell yn ei ddweud, Llywydd, mae'r canolfannau nid jest ar ffin trefi, maen nhw'n gallu bod yn fwy hyblyg na hynny. Maen nhw'n gallu bod yn rhan o'r trefi. A bydd mwy o bosibiliadau i bobl aros yn lleol, a phan maen nhw'n aros yn lleol i weithio maen nhw'n gwario mwy o arian yn y trefi hefyd. So, mae'n help i bobl, mae'n help i'r amgylchedd, ond mae'n help economaidd hefyd. A dwi'n gyfarwydd â'r gwaith mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ei wneud, a dwi'n gwybod bod yr Aelod yn rhan o'r gwaith pwysig yna, ac rŷn ni, fel Llywodraeth, eisiau gwneud mwy i gydweithio â phobl leol i weld beth allwn ni wneud i helpu pobl yn y cyd-destun ar ôl coronafeirws, lle bydd dim rhaid i bobl deithio bob dydd i mewn i swyddfeydd mawr, i aros yn lleol, i weithio yn lleol ac i fod yn rhan o'r economi leol ar yr un pryd. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.   

Member
Lesley Griffiths 14:38:53
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig. 

Trefnydd, dros y penwythnos roedd tafarndai ledled Cymru gyfan yn llawn pobl yn gwylio'r rygbi. Nid oedd yn brofiad pleserus, rwy'n gwybod, i lawer ohonom ni'r penwythnos hwn, ond dyna yr oedd llawer o bobl yn ei wneud. Yn anffodus, y diwrnod canlynol, ar y Sul, roedd pobl a oedd mewn eglwysi yn dal i orfod gwisgo eu masgiau yn yr eglwys er mwyn cymryd rhan mewn gweithredoedd addoli. Nid wyf i'n credu ei fod yn iawn, ac nid yw llawer o fy etholwyr yn credu ei fod yn iawn, bod modd i bobl weiddi a sgrechian ar sgriniau teledu mewn tafarndai llawn heb fod angen gwisgo masg ac, eto, mae'n ymddangos bod pobl mewn addoldai yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn fel hyn. A gaf i ofyn i chi am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mae addoldai'n dal i wynebu'r cyfyngiadau sylweddol iawn hyn ar adegau pan nad yw lleoliadau eraill, fel lleoliadau lletygarwch?

14:40

Diolch. Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yr adolygiad tair wythnos o'r holl ddiogeliadau COVID yn dod i ben yr wythnos hon, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried cyn datganiad y Prif Weinidog ddydd Gwener.

Hoffwn i ddatgan buddiant fy mod ar hyn o bryd yn gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan eich hun yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog materion gwledig ynghylch y cynllun cydweithredu a datblygu'r gadwyn gyflenwi? Fel y gwyddoch chi eisoes, mae'r tîm rhaglenni gwledig yng Nghyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais am gyllid o dan rownd 11 y cynllun am le ar gyfer prosiect cynhyrchu lleol. Mae hyn yn cynnwys nifer o bartneriaid cyflenwi o sir Fynwy a thu hwnt o bob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd. Cyflwynodd y tîm gais llawn am gyllid ym mis Mai 2021 a dydyn nhw yn dal ddim wedi derbyn unrhyw benderfyniadau ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn er gwaethaf bod penderfyniad fod i ddod gan y Llywodraeth o fewn 90 diwrnod o wneud cais. Rwy'n deall nad dyma'r unig gynllun nad yw wedi cael ymateb eto. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall, Gweinidog, fod oedi o'r fath yn arwain at ansicrwydd i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag atal manteision y cynllun rhag cael eu teimlo yn yr ardal leol. At hynny, bob mis mae'r prosiect yn cael ei ohirio, mae'r amser cyflawni'n cael ei leihau, sy'n golygu bod yn rhaid i'r tîm gyfrif am danwariant mewn elfennau cyflawni prosiectau ychwanegol. Byddai unrhyw ddiweddariad neu gymorth y gallech chi eu rhoi, Gweinidog, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Diolch.

Diolch. Nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad, ond fe wnaf i yn sicr edrych ar yr achos unigol yr ydych chi newydd ei godi gyda mi ac fe wnaf ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion llawn.

Rwy'n gofyn am ddadl yn ystod amser y Llywodraeth i drafod goblygiadau'r papur 'Codi'r gwastad' i Gymru gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn cytuno â mi ein bod ni wedi gweld Llywodraethau olynol San Steffan sydd wedi bod yn gostwng gwastad Llywodraethau—gan dynnu arian oddi wrth Gymru. Er mwyn datrys problem datblygiad anwastad o fewn rhanbarthau Lloegr, mae'r Llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n defnyddio cytundeb datganoli, gyda phwerau ar neu'n agosáu at y lefel uchaf o ddatganoli. Yn anffodus, nid yw'r papur hwn yn dweud dim am Gymru o ran y lefel uchaf o ddatganoli. Pan yr ydym ni wedi gofyn am ddatganoli cyfiawnder, ynni, Ystad y Goron, toll teithwyr awyr, mae wedi cael ei wrthod dro ar ôl tro. Mae gan rai rhanbarthau yn Lloegr fwy o bwerau na sydd gennym ni fel gwlad yng Nghymru. 

Gan droi at fater arall, hoffwn i gael datganiad cynhwysfawr gan y Gweinidog newid hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau i ateb nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, o ystyried bwriad Llywodraeth y DU i ymestyn y cyfnod cyfyngu cyfreithiol i ymdrin ag eiddo diffygiol o chwe blynedd i 30 mlynedd, a wnaiff y Gweinidog gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwyr nawr i adennill costau adfer datblygiadau ym Mae Caerdydd? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda Banc Datblygu Cymru i weld a allan nhw chwarae rhan i ddarparu benthyciadau wedi'u cefnogi'n fasnachol i gefnogi trigolion y datblygiadau hyn i adfer eu hadeiladau diffygiol? Diolch yn fawr.

Diolch. Nid wyf i'n anghytuno â'r rhan fwyaf o'r datganiad gan yr Aelod ynghylch codi'r gwastad a'r Papur Gwyn 'Codi'r gwastad' gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'r Papur Gwyn yn ei wneud, i'r rheini ohonom ni sydd wedi cael y cyfle i gael golwg arno, yn clodfori potensial cytundebau datganoli newydd yn Lloegr, ac eto maen nhw wedi tanseilio datganoli yng Nghymru ar bob achlysur. Maen nhw wedi defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 i dynnu pwerau cyllido a gwneud penderfyniadau oddi ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd. Mae'r Llywodraeth wedi cael ei beirniadu'n hallt—Llywodraeth y DU—am ei diffyg ymgysylltu strategol â Llywodraeth Cymru ar godi'r gwastad gan bwyllgor dethol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ei hun. Rwy'n credu, oni bai bod Llywodraeth y DU yn newid ei dull gweithredu, y byddan nhw'n gwastraffu mwy o adnoddau, yn tangyflawni ac yn camgyfleu'r hyn sydd wir yn digwydd. 

Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ddiogelwch adeiladau cyn toriad y Pasg.

Rwy'n galw am ddatganiad ar addysg disgyblion awtistig yng Nghymru. Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd ysgol addysg Prifysgol Abertawe ddatganiad ynghylch ei hadroddiad rhagarweiniol ar addysg disgyblion awtistig yng Nghymru. Mae'r canfyddiadau'n cynnwys bod dros dri chwarter y disgyblion awtistig wedi dweud bod yn yr ysgol yn achosi mwy o bryder, dywedodd tri o bob pedwar eu bod wedi dioddef bwlio, roedd dros hanner yn credu nad oedden nhw'n cael digon o gymorth yn ystod y diwrnod ysgol, ac roedd traean yn teimlo nad oedd eu hathro yn eu deall. Dywedodd un o bob tri rhiant y mae eu plant yn mynychu lleoliadau prif ffrwd eu bod yn anhapus â'r ysgol, o gymharu â phedwar o bob pump o'r rhai mewn darpariaeth arbenigol sy'n hapus â lleoliad eu plentyn. Dywedodd y rhieni wrthyn nhw nad oedd un o bob tri phlentyn â datganiad o angen addysgol yn cael yr holl gymorth na darpariaeth sydd wedi'u nodi yn y ddogfen. Mae gan 90 y cant o addysgwyr brofiad o weithio gyda disgyblion awtistig, ac roedden nhw'n teimlo nad oedd eu hawdurdod lleol wedi bod yn gefnogol ar y cyfan. A dywedodd pedwar o bob pump o rieni a bron i dri chwarter y rhieni y mae gan eu plant ddatganiad ar hyn o bryd nad oedd eu hawdurdod lleol nac ysgol eu plentyn wedi rhoi unrhyw wybodaeth iddyn nhw am gyflwyno'r cod anghenion dysgu ychwanegol newydd a'r hyn y mae'n ei olygu i'w plentyn. Mae hyn yn adlewyrchu fy llwyth achos uchel fy hun yn y maes hwn, gyda'r swyddogion hynny sydd eisoes wedi gwrthod deall awtistiaeth yn parhau i wneud hynny, gan achosi poen a beio'r rhieni. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny. 

14:45

Diolch. Rwy'n gwybod fod gan yr Aelod ddiddordeb agos iawn yn y pwnc hwn, a bydd y Gweinidog addysg a'i swyddogion yn edrych yn fanwl iawn ar yr adroddiad. Mae'n bwysig bod plentyn yn cael yr addysg gywir a phriodol, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Gweinidogion, yn gwrando ar arbenigwyr o'r fath. A bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn amlwg yn ystyried y camau nesaf o'r adroddiad.  

Trefnydd, hoffwn i gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ofal cartref, oherwydd mae Cydffederasiwn GIG Cymru wedi datgan mai un o brif ffynonellau tagfeydd y system yw'r trosglwyddo o ryddhau i lwybrau adfer a mynediad ymlaen i becynnau gofal cartref. Rwy'n derbyn fwyfwy o ohebiaeth gan berthnasau'r rhai nad oes modd eu rhyddhau. Mae darparwyr gofal preifat yn rhoi pecynnau gofal yn ôl i awdurdodau lleol oherwydd na allan nhw ddod o hyd i staff gofal. Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud wrthyf i nad ydyn nhw mewn sefyllfa i warantu pecyn gofal ar unwaith i unrhyw un sydd wedi bod yn yr ysbyty yn hwy na 14 diwrnod, oherwydd prinder staff. Ac rwy'n siŵr yr hoffwn i a'r Siambr wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gofal cartref ar gael i'r rhai y mae angen eu rhyddhau, a pha gamau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw mwy o ofalwyr yn y sector gofal yng Nghymru. Diolch, Llywydd. 

Yn sicr. Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar y cyflog byw gwirioneddol. Mae hynny'n rhywbeth cadarnhaol iawn, yn amlwg, y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn amlwg yn ceisio defnyddio'r ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau cartref i'w poblogaeth leol. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dair wythnos yn ôl, cyhoeddodd cell atal a rheoli heintiau COVID-19 y DU ganllawiau newydd ar ddefnyddio offer diogelu anadlol ar gyfer staff gofal iechyd rheng flaen. Arweiniodd hyn at Lywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniad i ganiatáu i holl staff gofal iechyd yn Lloegr fanteisio ar lefelau uwch o gyfarpar diogelu personol, sef masgiau FFP2 a FFP3, er mwyn sicrhau bod staff a chleifion yn cael eu cadw'n ddiogel rhag amrywiolyn omicron COVID-19. Mae'r canllawiau newydd hyn yn berthnasol nid yn unig i'r GIG yn Lloegr ond i Lywodraeth Cymru hefyd. A gawn ni felly ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn esbonio pam y mae wedi dewis anwybyddu'r canllawiau newydd hyn—efallai y byddai hi eisiau ei gwneud nawr, o gofio ei bod yn y Siambr; mae'n ymddangos braidd yn rhyfedd fy mod i'n gofyn am ddatganiad gan y Trefnydd pan ei bod hi yn yr ystafell, ond rwy'n crwydro—a pham ei bod hi yn hytrach yn parhau i adael penderfyniadau ar lefelau uwch o gyfarpar diogelu personol wrth ddrws byrddau iechyd a rheolwyr unigol, pan y gallai ddangos arweiniad a sicrhau bod staff a chleifion ledled Cymru gyfan yn cael eu diogelu'n llawn? [Torri ar draws.] Cyfle euraidd. 

Rwy'n credu bod y Gweinidog bron wedi cael ei themtio i wneud y datganiad ar yr adeg honno—

—ond rwy'n credu bod angen i ni ganiatáu i'r Trefnydd ymateb yn ffurfiol. [Torri ar draws.]

Nid wyf i eisiau cyfnewid swyddi, os mai dyna'r hyn yr ydych chi'n ei olygu.

Roeddwn i ond yn mynd i ddweud wrth yr Aelod nad dyna'r ffordd y mae'r datganiad busnes yn gweithio. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi gwneud datganiad ysgrifenedig. Mae masgiau FFP3 ar gael i'r holl staff lle mae asesiad risg lleol yn dangos risg barhaus o drosglwyddo er gwaethaf mesurau atal a rheoli heintiau eraill sydd ar waith.

14:50

Diolch i'r Trefnydd. Pwynt o drefn ar ddatgan diddordeb, Cefin Campbell. 

Ie, ymddiheuriadau mawr, Llywydd—fe wnes i anghofio datgan diddordeb, sef fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Gaerfyrddin, cyn gofyn y cwestiwn i'r Prif Weinidog. Felly, ymddiheuriadau. 

Diolch am yr ymddiheuriad. Dyna ni, dwi wedi galw un aelod o bob grŵp dros y tair wythnos ddiwethaf yma nawr sydd wedi gwneud yr un camgymeriad o beidio datgan diddordeb. A gaf i ofyn i'r rhai ohonoch sy'n gynghorwyr neu'n piau busnes, neu beth bynnag yw'ch diddordeb chi, geisio cofio hynny pan fyddwch chi'n gwneud eich cyfraniad yn hytrach na'n bod ni'n galw hyn yn hwyrach yn y sesiwn? Fyddaf i ddim yn caniatáu hynna ymhellach; mae pob un grŵp wedi cael one strike, and you're out. 

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: COVID Hir

Felly, fe wnawn ni symud ymlaen nawr i'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar COVID hir—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Llywydd. Fis Mehefin y llynedd, fe wnes i lansio rhaglen Adferiad sef pecyn gwerth £5 miliwn o wasanaethau i bobl sy'n gwella o effeithiau hirdymor COVID-19 yng Nghymru, gan gynnwys COVID hir. Yn rhan o'r cyhoeddiad hwnnw, fe ddywedais i y byddem ni'n adolygu cynnydd y rhaglen bob chwe mis. Mae'r adolygiad cyntaf wedi ystyried adroddiadau gan bob un o'r byrddau iechyd ac adborth gan gannoedd o bobl sydd wedi derbyn gofal yn rhan o'r gwasanaeth drwy gyfrwng gwerthusiad o'r gwasanaeth ledled Cymru, a gynhaliwyd gan ganolfan ymchwil Cedar.

Cyn i mi droi at ganlyniadau'r adolygiad, fe hoffwn i ddweud rhywbeth am sut y caiff gwasanaethau i bobl â COVID hir eu strwythuro yng Nghymru. Rydym ni'n dymuno i'r gofal hwn ddiwallu anghenion arbennig pobl drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl i'w cartrefi nhw. Os caiff rhywun drafferthion yn sgil effeithiau hirdymor COVID-19, eu pwynt cyswllt cyntaf yw eu meddyg teulu, a all eu cyfeirio nhw'n gyflym ac yn rhwydd at wasanaethau lleol, gan gynnwys y gwasanaethau adsefydlu. Mae rhai pobl wedi cael eu cyfeirio at y system mewn rhannau eraill o'r GIG hefyd. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi treulio wythnosau lawer neu fisoedd hyd yn oed yn yr ysbyty yn cael triniaeth COVID-19, er ei bod hi'n ddiddorol nodi nad oedd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu trin am COVID hir fod yn gleifion mewnol mewn ysbytai oherwydd eu salwch COVID-19 gwreiddiol.

Mae rhaglen Adferiad wedi ariannu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol estynedig ac uwch ym mhob bwrdd iechyd, ac rydym ni wedi datblygu llwybr clir i wella argaeledd a chyflymu'r broses atgyfeirio ar gyfer triniaeth lle mae angen gofal mwy arbenigol ar bobl. Fe ddarperir yr holl wasanaethau yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Fe gefais i'r fraint o gwrdd â rhai o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau yn ogystal â rhai o'r bobl sy'n derbyn gwasanaethau pan ymwelais i â thîm hir COVID ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'r wythnos diwethaf.

Y wybodaeth sydd gennym ni oddi wrth fyrddau iechyd yw mai'r amser aros cyfartalog i bobl gael eu gweld gan wasanaethau COVID hir yw 23 diwrnod. Mae hyn yn cymharu â'r amser aros o 15 wythnos ar hyn o bryd ar gyfer mynediad i'r clinigau COVID hir arbenigol a sefydlwyd mewn ardaloedd yn Lloegr. Mae data gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dangos bod ychydig dros 2,400 o bobl, erbyn mis Ionawr, wedi cael diagnosis o COVID hir gan eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, a bod 2,226 o bobl wedi cael eu cyfeirio at ein gwasanaethau adsefydlu COVID hir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhif hwn yn llai nag amcangyfrifon hunanadrodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol o niferoedd y bobl sydd â COVID hir yng Nghymru, ac nid ydym ni'n gwybod eto beth fydd effaith hirdymor omicron, yr amrywiolyn sy'n gyffredin iawn ar hyn o bryd yn ein cymunedau ni ac wedi effeithio ar gymaint o bobl, ar niferoedd y rhai sy'n dioddef symptomau COVID hir.

Mae ap adfer COVID, sy'n cefnogi pobl i reoli eu symptomau eu hunain, wedi cael ei lawrlwytho dros 10,000 o weithiau. Mae hi'n bosibl fod llawer o bobl wedi canfod bod yr ap yn eu helpu nhw i reoli eu symptomau o ddydd i ddydd. Serch hynny, fe wyddom ni fod rhai pobl, yn enwedig y rhai a ddatblygodd COVID-19 ar ddechrau'r pandemig ac sy'n byw gydag effeithiau hirdymor eu salwch cychwynnol, wedi cael trafferth wrth gael gafael ar y cymorth yr oedd ei angen arnyn nhw. Fe fyddwn i'n eu hannog nhw i ofyn am help os yw eu symptomau nhw'n effeithio ar ansawdd eu bywydau.

Llywydd, rwyf i eisiau troi yn nawr at yr hyn y mae'r adolygiad cyntaf o raglen Adferiad yn ei ddweud wrthym ni. Mae'r gwerthusiad yn awgrymu bod y gwasanaethau yn cefnogi'r bobl hynny sydd wedi cael eu gweld ac sy'n cael triniaeth i wella eu canlyniadau o ran iechyd. Mae hi'n ymddangos bod y model adsefydlu integredig ac amlbroffesiwn a ddarperir yn lleol yn ateb anghenion ein poblogaeth ni. Ond nid ydym ni'n hunanfodlon, ac fe fyddwn ni'n parhau i fonitro, dysgu, a gwella gwasanaethau, gan sicrhau ein bod ni'n ymateb i adborth gan bobl y mae angen y gwasanaethau hyn arnyn nhw ac sy'n eu defnyddio nhw.

Mae ein gwasanaethau COVID hir yn cynnig asesiadau a mynediad at ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol, triniaethau, ac adsefydlu.

Rŷn ni'n gwybod, ymhlith nifer fach o bobl, fod COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau, a bod angen asesiadau, ymchwiliadau a thriniaethau arbenigol parhaus arnyn nhw. Mae nifer y plant sydd â COVID hir yng Nghymru hefyd yn parhau i fod yn isel, diolch byth. Mae byrddau iechyd yn trin pob plentyn yn unol â'i anghenion penodol.

Mae ein gweithlu'n gweithio'n galed iawn i helpu'r boblogaeth gyfan i wella'n effeithiol ac yn gyfartal. Maen nhw'n cydweithio â phobl ledled y byd i sicrhau bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn sail i'n penderfyniadau ni a'n hymatebion.

Llywydd, yn ychwanegol at y gwasanaeth Adferiad, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ledled y Deyrnas Unedig i COVID hir, a fydd yn helpu i gynyddu ein gwybodaeth am driniaethau a diagnosis. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl yng Nghymru sydd hefyd yn cymryd rhan yn yr astudiaethau ymchwil pwysig iawn hyn.

Dwi hefyd wedi sefydlu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae rhan o raglen waith y ganolfan hon yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â materion sy'n berthnasol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan COVID hir ac i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae rhai pobl wedi dioddef symptomau COVID hir mor ddifrifol neu barhaol nes eu bod wedi effeithio ar eu gallu i weithio. Dwi'n falch o ddweud bod cyflogwyr y gwasanaeth iechyd ac undebau llafur wedi cydweithio i adolygu polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth i sicrhau bod staff gofal iechyd yn cael eu cefnogi cymaint â phosibl.

Mae gwasanaethau adferiad ar gyfer COVID hir y gwasanaeth iechyd yn cynnwys cymorth i bobl o ran eu gallu i weithio, er bod budd-daliadau cysylltiedig â gwaith yn parhau'n gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi wnes i hefyd ofyn i Gomisiwn Bevan lunio adroddiad ar y potensial ar gyfer datblygu cofrestr o bobl sydd â COVID hir yma yng Nghymru. Ar hyn o bryd dwi'n ystyried ei adroddiad.

Mae byrddau iechyd wedi dweud wrthym ni eu bod yn credu y bydd ehangu'r gwasanaeth COVID hir presennol a'i gyfuno â gwasanaeth i bobl â chyflyrau hirdymor a gwasanaethau adsefydlu cymunedol yn sicrhau triniaeth ac arbenigedd clinigol o'r ansawdd gorau ar gyfer y tymor hir.

Dwi bellach yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf, fel y gall y gwasanaeth iechyd ddal ati i ddatblygu arbenigedd ein gweithlu, addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth, a sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn rhan o'n cynlluniau ehangach ar gyfer adfer yn dilyn COVID. Diolch yn fawr.   

14:55

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Mae gennyf i ddiddordeb yn eich honiad ynglŷn â'r wybodaeth a gawsoch chi gan y byrddau iechyd—mai'r amser aros cyfartalog i bobl gael eu gweld gan wasanaethau COVID hir yw 23 diwrnod. Fe ewch chi ymlaen hefyd i gymharu hyn ag amser aros o 15 wythnos ar gyfer mynediad at glinigau COVID hir arbenigol a sefydliwyd mewn rhannau o Loegr. A gaf i ofyn i chi: a yw'r ddwy gymhariaeth a wnewch ar sail gyffelyb i'w gilydd, ac os nad ydyn nhw, a wnewch chi nodi'r gwahaniaethau?

Un o'r prif straeon heddiw, Gweinidog, ar y BBC, fel gwelsoch chi, mae'n siŵr, yw stori Siân Griffiths, sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi talu i gael gweld ymgynghorydd yn Stoke-on-Trent yn hytrach nag aros 12 mis—sef yr hawliad yn yr achos hwn—yn GIG Cymru. Felly, a wnewch chi esbonio'r gwrthgyferbyniad, efallai, rhwng profiad a stori Siân a'r honiad mai 23 diwrnod yw'r amser aros cyfartalog am driniaeth ar gyfer COVID hir? Pa gamau, tybed, yn hyn o beth, y byddech chi'n eu cymryd, Gweinidog, i sicrhau nad oes yn rhaid i gleifion Cymru deithio yn bell na theithio i Loegr mewn achosion fel yr un a nodir yn y stori benodol hon?

Nawr, nid wyf i'n ymwybodol bod y data yr ydych chi'n sôn amdano oddi wrth y byrddau iechyd wedi cael eu cyhoeddi o gwbl, Gweinidog, felly tybed a wnewch chi gytuno i gyhoeddi'r data hyn er mwyn i ni allu ymchwilio i hynny ein hunain ar draws y Senedd.

Wrth gwrs, mae llawer o bobl sy'n dioddef oherwydd COVID hir, neu wedi gwneud hynny'n flaenorol, yn sôn am eu rhwystredigaethau a'u brwydrau nhw, o orfod mynd am sawl prawf ar wahanol amseroedd ac mewn gwahanol leoedd. Maen nhw'n sôn bod y profiad yn un blinedig, ac rwy'n siŵr y gallech chi a minnau ddeall hynny. Mae'r bobl sy'n dioddef oherwydd hyn eu hunain yn dadlau bod angen clinigau arbenigol, oherwydd fe all pobl fod yn sâl iawn ac yn analluog i negodi system gymhleth o atgyfeiriadau i wahanol leoedd. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno y byddai hi'n well i'r rhai sy'n dioddef yn y sefyllfaoedd penodol hyn allu mynd i un lle ar gyfer eu triniaeth.

Roedd gennyf i ddiddordeb mewn menter sy'n digwydd yn Essex ar gyfer rhai sy'n dioddef oherwydd COVID hir neu gyflyrau eraill yr ysgyfaint, lle mae cerbyd symudol ar gael i gael cymorth i gleifion sydd mewn perygl—rwy'n cymryd bod y cerbyd symudol yn gallu parcio yn agos iawn at gartref rhywun—am fod pobl yn ei chael hi'n anodd mynd i weld meddyg teulu neu i'r ysbyty eu hunain, ac mae'r fenter honno'n darganfod cyflyrau amrywiol, fel COVID hir, wrth gwrs. Yr hyn a oedd yn fy nharo i oedd y gallai menter fel honno gael ei chyflwyno, o bosibl, mewn ardaloedd yng Nghymru, ac mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, lle mae'n rhaid i bobl deithio ffordd bell am eu hapwyntiadau ysbyty ac ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu.

Canolfannau arbenigol, wrth gwrs—. Un o'r dadleuon a ddefnyddir i gefnogi canolfannau arbenigol yw y gall meddygon ddatblygu arbenigedd drwy gyfuno meddyliau ac adnoddau ar gyfer deall y cyflwr yn well. Felly, a gaf i ofyn sut mae profiad arbenigol yn cael ei ddatblygu yma yng Nghymru, Gweinidog?

Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud bod rhai pobl wedi dioddef symptomau COVID mor ddifrifol neu hirhoedlog fel bod hynny wedi cael effaith ar eu gallu nhw i weithio, ac fe aethoch chi ymlaen wedyn i fynegi eich balchder oherwydd bod y GIG, cyflogwyr, ac undebau llafur wedi gweithio gyda'i gilydd i adolygu polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth i sicrhau bod staff gofal iechyd yn cael cymaint o gefnogaeth â phosibl. Wrth gwrs, am staff gofal iechyd yr ydych chi'n sôn, ond a yw'r cymorth hwn yn ymestyn at nyrsys mewn cartrefi gofal nad ydyn nhw'n cael eu cyflogi gan y GIG?

Ac wrth gwrs, y mater arall, Gweinidog, yr wyf i'n siŵr ei bod chi'n ei ddeall hefyd, yw nad ydym ni'n llawn ddeall COVID hir eto, wrth gwrs, ac yn anffodus mae'r diffiniadau yn amrywio drwy'r byd. Felly, mae'r mesurau o pa mor gyffredin ydyw, neu pa mor gyffredin yw'r symptomau, yn amlwg yn amrywio llawer, ac fe all hi fod yn anodd i feddygon teulu roi'r gofal a'r cyngor cywir i gleifion. Felly, a gaf i ofyn pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth ddiffinio symptomau COVID hir i allu rhoi cefnogaeth i feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?

Ac yn olaf, Gweinidog, rwy'n ymwybodol bod y rhai sy'n dioddef o COVID hir yn gymwys i gael taliadau oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fe fydd y sawl sy'n eu derbyn yn cael taliadau drwy gyfrwng taliadau annibyniaeth bersonol a gynllunnir i helpu'r rhai, wrth gwrs, sy'n dioddef o gyflyrau hirdymor neu anabledd sy'n effeithio ar eu gallu nhw i gyflawni tasgau bob dydd neu symud o gwmpas. Felly, tybed, yn olaf: sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y cyrff perthnasol yng Nghymru sy'n cefnogi pobl â COVID hir yn gwneud pobl yn ymwybodol o'r taliadau arbennig hyn?

15:00

Diolch yn fawr, Russell. Rwyf yn credu ei bod hi'n werth tynnu sylw at y ffaith bod y gwasanaethau i'w cael yn gynt yng Nghymru. Yr hyn a wyddoch chi yw bod pethau wedi mynd i gyfeiriad ychydig yn wahanol yn Lloegr, yn wahanol i'r ffordd yr ydym ni wedi mynd yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Yr hyn a olygodd hynny, mewn gwirionedd, oedd bod pobl yn cael eu gweld yn fwy cyflym yng Nghymru, ac mae llawer mwy o aros am y clinigau hyn yn Lloegr, y clinigau COVID hyn. Gadewch i ni gofio, tua 90 ohonyn nhw sydd yna rwy'n credu, nad yw hynny'n gymaint felly, os ydych chi'n ystyried maint a phoblogaeth Lloegr. Felly, rwyf i o'r farn mai'r hyn sy'n bwysig i gleifion yw pa mor gyflym y daw eu hapwyntiadau nhw a sicrhau eu bod nhw'n cael asesiad sy'n eu cyfeirio nhw wedyn at y cymorth priodol. Dyna'r system y gwnaethom ni ei sefydlu yng Nghymru, ac mae hi'n ymddangos bod llawer o bobl yn fodlon ar y system honno.

Rwy'n amharod, yn amlwg, i fynegi barn ar unrhyw achosion unigol, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, ar ddechrau COVID, wrth gwrs, dysgu oeddem ni i gyd, ac nid oeddem ni'n gwybod fawr o ddim am COVID hir, ac rydym ni'n parhau i ddysgu am COVID hir, ond, yn amlwg, mae'r gwasanaeth a oedd ar gael bryd hynny'n wahanol dros ben i'r gwasanaeth sydd ar gael nawr, a bod y £5 miliwn a aeth i mewn i'r system ym mis Gorffennaf yn dwyn ffrwyth yn barod. Felly, yn amlwg, mae yna bobl a allai fod yn rhwystredig iawn am eu bod nhw wedi teimlo felly cyn i'r rhaglen hon ddechrau, ond, yn amlwg, mae'r system hon ar gael iddyn nhw hefyd.

Rwyf i'n hapus iawn i gyhoeddi'r adroddiad, sydd, wrth gwrs, yn asesiad annibynnol o'r hyn y gwnaethom ni ei gyflwyno.FootnoteLink Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn, rwy'n credu, oherwydd, yn amlwg, rydym ni i gyd yn clywed adroddiadau anecdotaidd, ond, mewn gwirionedd, yr hyn sy'n bwysicach i mi yw gwrando ar ddata sy'n fwy eang, ond, wedi dweud hynny, rwy'n credu ei bod hi'n werth gwrando ar brofiad uniongyrchol pobl. Dyna'r hyn yr oeddwn i'n gallu ei wneud yr wythnos diwethaf yn Abertawe, lle mae'n rhaid i mi ddweud bod yr ymateb gan y bobl a oedd yn derbyn y gwasanaeth yn gadarnhaol iawn.

Mae'r dull amlbroffesiynol, amlddisgyblaethol yn un sy'n gweithio yn dda iawn yma yng Nghymru, yn ein barn ni, a dim ond tua 3.5 y cant o'r bobl sy'n dod i mewn i'r system sy'n cael eu cyfeirio at ofal eilaidd. Felly, dyna'r perygl gyda'r dull o gynnal clinigau fel hyn, eich bod chi'n gwahodd pobl i fynd i weld arbenigwyr, mewn gwirionedd, heb wir angen iddyn nhw, o reidrwydd, fod yn gweld arbenigwr o'r fath a'r cwestiwn yw pa fath o arbenigwr y mae angen iddyn nhw ei weld. Gan fod y symptomau ar gyfer COVID yn amrywio yn fawr iawn, iawn ym mhob unigolyn; mae gan rai broblemau gyda blinder ac maen nhw'n methu ag arogli pethau, mae gan rai drafferthion wrth anadlu, yn bendant, a rhai'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio, ond mae gan rai broblemau llawer mwy cymhleth sy'n ymwneud â materion ynglŷn â'r galon neu faterion ynglŷn â'r ysgyfaint ac mae hi'n amlwg bod angen gwasanaethau llawer mwy arbenigol ar bobl fel hynny.

O ran staff iechyd a gofal, mae hi'n amlwg bod canolbwyntio pendant iawn wedi bod ar hynny oherwydd yr ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at y rhai sydd efallai wedi cael COVID yn ystod eu cyflogaeth, yn arbennig. Rwy'n falch o ddweud bod yr undebau a'r GIG yn cydweithio i wneud yn siŵr o hynny.

A dim ond o ran diffinio symptomau, mae hi'n anodd, oherwydd mae'r symptomau yn gallu amrywiol llawer iawn i lawer iawn o bobl. Rydym ni'n dal i ddysgu, ond yr hyn a wnaethom ni'n gynnar iawn yn y rhaglen oedd rhoi hyfforddiant i feddygon teulu i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r hyn i gadw llygad amdano a'r mannau y gallen nhw gyfeirio pobl atyn nhw.

15:05

Diolch am y datganiad, Weinidog. Heb os, mae llawer o gleifion sy’n dioddef y symptomau ofnadwy yma yn gallu cael cefnogaeth gan eu meddygon teulu, ac mae rôl meddygon teulu wrth gwrs yn hanfodol yn hyn, ond rŷn ni yn gwybod dyw rhai ddim yn gallu cael eu cyfeirio; maen nhw'n dod nôl at eu meddygon dro ar ôl tro a dydyn nhw ddim yn cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw.

Roeddech chi'n sôn am ddysgu; wrth gwrs mae wedi bod yn broses o ddysgu i’r proffesiwn meddygol, ond mae’n amlwg dyw'r arbenigedd ddim yno, a dyw'r gefnogaeth ddim yno, ar gyfer rhai o'r cleifion hyn sy’n mynd at eu meddygon teulu. Felly, pa adolygiadau fydd yna i'r rheini sydd wedi trio tro ar ôl tro i gael y gefnogaeth arbenigol yma? A beth am y rheini, wrth gwrs, fel y clywon ni yn achos Sian Griffiths o Ynys Môn, sydd wedi bod yn y newyddion heddiw ac wedi cael ei gorfodi i dalu i fynd yn breifat? Mae hi, fel nifer o staff eraill sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd, wedi gorfod mynd yn breifat. Oni ddylen nhw, yn syml iawn, gael ad-daliad? A beth am y staff hynny wedyn sy’n gweithio i’r gwasanaeth iechyd sydd yn wynebu colli eu cyflog nawr, a nhw yn dal i fethu gweithio? Maen nhw'n haeddu parhad i gefnogaeth ariannol; gobeithio y byddwch chi'n cytuno â hynny. Ond fel pwynt canolog, yn sgil eich datganiad heddiw, onid ydym ni yn dal i fod yn brin o’r math o dimau arbenigol byddai yn gallu rhoi diagnosis cywir, yn medru rhoi triniaethau addas, ac yn rhoi y gefnogaeth yna yn gynt na'r hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd ar gyfer cleifion sy’n dioddef o COVID hir? Diolch.

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod, yn amlwg, rôl bwysig i feddygon teulu. Dyna yw'r drws ffrynt ar gyfer y ffordd rŷn ni'n gweithredu gydag iechyd yn y wlad yma. Ac, wrth gwrs, wedyn, maen nhw yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau yma sydd nawr ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Dyna yw'r adborth rŷn ni wedi'i gael o'r adroddiad yma.

Felly, dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig gofyn pryd mae pobl wedi ceisio am y gwasanaethau yma. Os oedden nhw wedi ceisio cyn mis Gorffennaf, mae'n bwysig eu bod nhw'n mynd yn ôl nawr achos mae'r gwasanaethau ar gael nawr, lle nad oedden nhw ar gael cyn mis Gorffennaf diwethaf, achos ein bod ni wedi dysgu. Dim ond ym mis Gorffennaf daeth y £5 miliwn yma ar gael. Felly, os oes yna bobl sydd efallai ddim wedi cael yr help cyn hynny—. Ac roedd e'n ddiddorol cwrdd â nifer o bobl yn Abertawe ddydd Gwener, nifer wedi dal COVID yn Rhagfyr 2020. Wrth gwrs, doedd y gwasanaeth ddim ar gael yr adeg yna, ond maen nhw'n hapus nawr eu bod nhw wedi cael y driniaeth ers i'r rhaglen yma ddod. So, mae'n rili bwysig bod pobl yn mynd yn ôl os oedden nhw wedi ceisio yn y lle cyntaf, achos mae'r system, yn amlwg, wedi newid.

Beth sy'n digwydd, wrth gwrs, yw bod yna dimau arbenigol. Dyna beth sy'n digwydd nawr. Mae yna dimau, mae'r GPs yn cyfeirio at y timau arbenigol yna ac maen nhw'n cyfeirio pobl i sicrhau—. Efallai bod yna iechyd meddwl; efallai fod issues yn ymwneud â blinder. Mae pob math o bethau ac mae'r arbenigwyr i gyd yna yn helpu allan. Felly, mae'r driniaeth nawr yn gwbl wahanol i beth oedd ar gael o'r blaen. Ac yn sicr, nid jest oedden ni'n barod i ddysgu yr adeg honno, ond rŷn ni'n awyddus i gario ymlaen i ddysgu, achos, fel dwi'n dweud, mae hwn yn rhywbeth newydd a dŷn ni ddim eto'n gwybod sut mae omicron yn mynd i gael effaith ar COVID hir chwaith. 

15:10

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn y prynhawn yma. Yr hyn yr wyf i am ganolbwyntio arno yw'r effaith a gaiff hyn ar bobl, ar gleifion ac ar deuluoedd. Fe hoffwn i wybod beth yn union yw'r gwasanaethau hyn y mae'r Gweinidog am wneud yn siŵr eu bod nhw ar gael ym mhob un o'n byrddau iechyd ni. Beth yw disgwyliadau'r Llywodraeth ar gyfer y gwasanaethau hyn? Fel hithau, nid wyf i wedi fy argyhoeddi mai uned arbenigol heb adnoddau digonol yw'r ffordd orau o ddarparu gofal, ond fe hoffwn innau hefyd fod wedi fy argyhoeddi bod y system bresennol yn gwneud ei gwaith yn iawn. Pa gyfarwyddiadau a roddodd Llywodraeth Cymru i'r byrddau iechyd? Pa nodau neu amcanion a bennwyd ar gyfer darparu'r gwasanaethau hyn?

Ac yn ail, Llywydd, fe hoffwn i ystyried y GIG yn benodol a'r staff rheng flaen sydd, drwy gydol y pandemig, wedi eu rhoi eu hunain mewn perygl ac a allai fod yn dioddef o COVID hir eu hunain erbyn hyn. Mae dyletswydd ar bob yr un ohonom ni i sicrhau bod gan y bobl a gafodd eu heintio wrth gynnal y gwasanaethau gofal er ein mwyn ni i gyd ofal sylfaenol ar eu cyfer nawr a swyddogaeth bwysig—swyddogaeth sylfaenol—y Llywodraeth hon yw anrhydeddu'r ddyletswydd honno o ran gofal. A gawn ni sicrhau, Gweinidog, fod pawb yn y GIG a'r gwasanaethau cysylltiedig sy'n dioddef oherwydd COVID hir heddiw yn cael eu trin fel pobl sydd wedi dioddef anaf diwydiannol ac yn derbyn y ddyletswydd honno i ofalu amdanyn nhw y mae angen i ni i gyd sylweddoli ei maint hi oherwydd eu gwasanaeth nhw er ein mwyn ni?

Diolch yn fawr. Rwy'n gallu sôn wrthych chi am rai o'r pethau y gwnaethom ni ganolbwyntio arnyn nhw o ran ein disgwyliadau ni. Yn sicr, rydym ni'n disgwyl gweld amser yn cael ei roi i staff, hyfforddiant, ac offer therapiwtig a thechnegol yn cael eu prynu, a phwyslais gwirioneddol yn cael ei roi ar adnoddau digidol. Rwy'n falch iawn o ddweud bod 10,000 o bobl wedi lawrlwytho'r ap hunangymorth. Fe wnes i ei lawrlwytho neithiwr a chael golwg iawn arno. Mae'n un hawdd iawn ei ddefnyddio, ac mae hi'n amlwg bod llawer o bobl yn gallu cael y cymorth hwnnw sy'n addas iddyn nhw. Felly, mae'r ap hefyd yn rhoi cymorth unigol sydd wedi ei deilwra.

Y gofyniad arall oedd ein bod ni, mewn gwirionedd, yn disgwyl gweld cymorth priodol i bob unigolyn. Felly, nid oes unrhyw gymorth sy'n addas i bawb; mae'n rhaid i hwnnw ymateb i'r bobl sy'n cerdded i mewn i'r gwasanaethau hynny. Yn sicr, o ran y bobl sydd wedi cael eu heintio â COVID, yn enwedig os ydyn nhw wedi bod yn weithwyr yn y GIG, rydych chi yn llygad eich lle, fe geir dyletswydd o ran gofal. Roedd hi'n ddiddorol iawn clywed gan fwrdd iechyd Abertawe yn benodol yr wythnos diwethaf am sut y maen nhw'n canolbwyntio llawer ar gefnogi'r bobl hynny sydd wedi ei chael hi'n anodd mynd yn ôl i'r gwaith, gyda therapyddion galwedigaethol yn cael eu rhoi ar waith yn benodol i roi cymorth iddyn nhw a sicrhau nad yw pobl yn cael eu gwthio nôl i'w gwaith cyn iddyn nhw fod yn barod. Mae yna ddealltwriaeth arbennig, mewn gwirionedd, fod dyletswydd o ran gofal yn rhywbeth y mae angen ei deall ac, wrth weithio gyda'r undebau llafur, ein bod ni'n sicrhau bod y parch dyledus hwnnw'n cael ei roi i'r bobl hynny sydd, fel rydych chi'n dweud, wedi rhoi popeth sydd ganddyn nhw yn ystod y pandemig hwn ac sydd wedi talu pris mawr am hynny mewn rhai achosion.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i chi am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Gweinidog. Rwyf i o'r farn nad ydym ni wedi deall yn llawn eto pa mor fawr yw effaith hirdymor heintiad COVID ar rai pobl. Yr hyn a wyddom ni yw bod llawer gormod o bobl, yn anffodus, yn teimlo yn wanllyd iawn ymhell wedi i'r feirws adael eu system. Gweinidog, mae yna dystiolaeth yn dod i'r amlwg sy'n tynnu sylw at debygrwydd rhwng sganiau o'r ymennydd mewn rhai cleifion COVID a'r rhai sy'n dioddef rhai mathau o glefyd Alzheimer. Pa ymchwil a wnaethpwyd yng Nghymru i ddeall achosion a'r meddyginiaethau posibl ar gyfer COVID hir?

Mae adsefydlu yn allweddol i adferiad tymor hwy, felly pa asesiad a wnaethoch chi o allu gwasanaethau o'r fath yng Nghymru, gan ystyried y gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig—ffisios, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith? Sut fydd y GIG yng Nghymru yn rheoli atgyfeiriadau i'r gwasanaethau hyn? Mae rhai byrddau iechyd fel fy un i, Betsi Cadwaladr, yn caniatáu hunanatgyfeiriadau, ond mae angen ymyriadau gan feddygon teulu ar rai eraill. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i osgoi'r posibilrwydd o loteri cod post o ran gofal? A gydag amcangyfrifiad o 2 y cant o'r boblogaeth y credir eu bod nhw'n dioddef COVID hir, pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o'r pwysau ychwanegol y gallai hynny ei roi ar y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru? Ac yn olaf, Gweinidog, wrth i ni symud oddi wrth y pandemig at gyfnod pan fo'r clefyd hwn ar gam endemig, pa broses a gaiff ei rhoi ar waith i fonitro effeithiau tymor hwy heintiadau COVID ar unigolion ac ar ein systemau ni o ofal iechyd?

Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i wedi gweld yr ymchwil hwnnw sy'n awgrymu ei fod yn cael effaith debyg i Glefyd Alzheimer, felly pe byddech chi'n anfon copi o hwnnw i mi, fe fyddai hynny o gymorth mawr. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw dysgu am COVID hir bob dydd. Rydym ni wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn ymchwil, fel y nodais i yn fy natganiad i, yn gweithio yn benodol ar hyn.

Mae yna bobl fel therapyddion yn arbennig, yr ydych chi'n ymwybodol iawn ohonyn nhw, a all fod o gymorth mawr yn yr amgylchiadau hyn, gan roi'r cymorth angenrheidiol a rhoi hyder o'r newydd i bobl. Dyna ddaeth yn amlwg iawn i mi wrth gwrdd â rhai o'r bobl hyn sef eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn falch iawn bod eu problem nhw wedi cael ei chydnabod, ac roedd llawer ohonyn nhw'n teimlo bod pobl yr oedden nhw'n eu hadnabod—. Gan fod llawer ohonyn nhw wedi dioddef COVID hefyd, ond heb ymateb i'r heintiad yn y ffordd honno, fel y clywsoch chi, fe ddywedwyd wrth rai mai pobl ddiog oedden nhw ac mae hynny ymhell iawn o fod yn wir. Yr hyn a oedd yn rhagorol yw bod y bobl hyn mor falch o gael gwrandawiad, a'u clywed, ond i allu cael y cymorth ymarferol yr oedd ei angen arnyn nhw hefyd, felly, i ailadeiladu eu hiechyd a'u bywydau nhw.

Ac yn sicr, o ran loteri cod post, wel, rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwasanaeth amlddisgyblaethol hwn wedi cael ei sefydlu ym mhob bwrdd iechyd erbyn hyn, felly ni ddylem ni fod yn gweld hynny. Ac yn amlwg, mae'r effaith hirdymor yn rhywbeth y mae angen i ni gadw llygad arno, a dyna pam y dywedais i fy mod i am weld ailasesiad yn digwydd bob chwe mis, o ran COVID hir, ar gyfer gwirio, 'A ydym ni'n gwneud y peth iawn? Beth sydd angen i ni ei newid? Sut mae angen i ni ailwerthuso'r gwasanaethau a roddwn ni?'

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog ac rwy'n croesawu'r ymateb i Alun Davies hefyd o ran dyletswydd gofal i'r rhai sydd wedi cael eu heintio â'r coronafeirws yn y GIG a'r gwasanaethau cysylltiedig. Ond rwy'n teimlo bod darn o waith i'w wneud yn hynny o beth ar gyfer deall yn iawn pwy yn union a gafodd coronafeirws wrth weithio o fewn y gwasanaethau hynny. Fe wn i fod gan fy nghyd-Aelod Sarah Murphy angerdd arbennig ynglŷn â hynny, ac rwy'n credu bod cyfle yn hynny o beth i weithio gyda'n cydweithwyr ni yn yr undebau llafur. 

Yn ogystal â hynny, Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad yn arbennig, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i ni siarad am helpu pobl sydd â COVID hir. Ychydig wythnosau nôl, am yr eildro, fe ystyriodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd ddeiseb yn galw am glinigau COVID hir—clinigau un stop. Nawr, mae hi'n bwysig i'r cleifion ledled Cymru a fydd yn defnyddio'r gwasanaethau hyn fod â rhan wrth lunio'r gwasanaethau hyn. A wnewch chi nodi heddiw, Gweinidog, sut y caiff gwasanaethau COVID hir eu darparu yn y dyfodol, a sut y gellir clywed lleisiau'r cleifion yn y cynllun cyflawni hwn?

15:20

Diolch yn fawr iawn, Jack. Ac fe wn i fod yna lawer o bobl sy'n canolbwyntio llawer iawn ar y mater hwn, a phan welwch chi salwch sydd mor wanychol â hwn, mae hi'n amlwg bod angen i ni ymateb i hynny. Nid ydym ni wedi dilyn y trywydd o fod â chlinigau COVID hir, ond rydym ni'n dilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ac fe wnaf ddarllen i chi'r hyn y mae canllawiau NICE yn ei ddweud mewn gwirionedd. Maen nhw'n dweud y dylem ni:

'Roi gwasanaethau amlddisgyblaethol ar gael, os ydynt ar waith...ar gyfer asesu symptomau iechyd corfforol a meddyliol a chynnal profion ac ymchwiliadau pellach'

a

'gallai'r rhain fod yn glinigau "un stop" '.

Wel, yr hyn a wnawn ni yw bod y tîm amlddisgyblaethol hwn ar gael drwy gyfrwng y meddygon teulu. Os ydych chi am alw hwnnw beth bynnag yr ydych chi'n ei alw, y ffaith yw ein bod ni'n dilyn canllawiau NICE, ac rydym ni'n hyderus iawn ein bod ni'n gwneud felly. Mae hi'n bwysig, yn fy marn i, ein bod ni'n parhau i ddysgu oddi wrth leisiau'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau ac yn gwrando arnyn nhw, a dyna pam mae hi'n bwysig, yn fy marn i, fod y rhai sydd wedi ceisio defnyddio'r gwasanaeth yn gynharach yng nghwrs y pandemig yn cydnabod bod y gwasanaeth wedi newid yn sylweddol ac yn sylfaenol yn ystod y chwe mis diwethaf. Ac mae hi'n bwysig iawn, os yw pobl wedi gofyn am ofal fel hyn ar y dechrau a heb ei gael, eu bod nhw'n gwybod ei fod ar gael nawr ac y dylen nhw fynd i ofyn am y cymorth hwnnw.

Diolch i'r Gweinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelod sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:22.

15:30

Ailymgynullodd y Senedd am 15:32, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni

Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y cap ar brisiau ynni. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, y cap ar brisiau a fydd yn dod i rym o fis Ebrill eleni ar gyfer defnyddwyr ynni preswyl. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Jane Hutt ddydd Iau, mae'r cynnydd o 54 y cant yn y cap yn amlwg yn ergyd drom i aelwydydd a theuluoedd sydd eisoes dan bwysau ac sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw. Daw'r cynnydd diweddaraf hwn yn dynn ar sodlau cynnydd sylweddol yn 2021, ac mae'n golygu y bydd bil ynni tanwydd deuol cartref nodweddiadol yn agos at £2,000 y flwyddyn. Er bod y cynnydd hwn wedi'i ysgogi'n rhannol gan yr amrywiadau diweddar ym mhris cyfanwerthu byd-eang nwy, rhaid i Lywodraeth y DU gael ei dwyn yn atebol am y dewisiadau y maen nhw wedi'u cymryd. Llywodraeth y DU sy'n gosod y fframwaith prisio mae Ofgem yn ei weithredu, ac mae hyn yn cael effaith annheg ar aelwydydd.

Rydyn ni i gyd yn cydnabod yr angen am weithredu ar frys gan y Llywodraeth i gyrraedd ein targedau sero-net, ond rhaid i ni gydnabod hefyd mai dull blaengar yw'r ffordd decaf o gyflawni'r nod hwnnw. Rydyn ni wedi bod yn gyson ac yn glir ynghylch yr angen am gyfnod pontio cyfiawn, gyda'r rhai mwyaf abl i dalu am y newidiadau angenrheidiol yn talu'r gyfran fwyaf o'r costau. O ganlyniad, rydyn ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu cost y newid drwy system dreth flaengar, yn hytrach na bod y costau hyn yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r defnyddiwr, gan daro aelwydydd yn galed gyda'r codiadau prisiau serth hyn pan fydd costau eraill hefyd yn cynyddu.

Yn ail, mae'r DU wedi dioddef ers tro byd o danfuddsoddi sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Drwy gydol y degawd diwethaf, torrodd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain gymorthdaliadau a methodd â rhoi'r cymhellion ar waith ar gyfer maint y buddsoddiad sydd ei angen. O ganlyniad, mae gennym anghydbwysedd yn ein system ynni, gyda gorddibyniaeth ar danwydd ffosil, am gost amgylcheddol sylweddol. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU yn argymell modelau ariannol ar gyfer buddsoddi ynni newydd sy'n trosglwyddo'r costau i ddefnyddwyr, gan drosglwyddo'r risg o ddatblygwyr i aelwydydd, gan roi pwysau ar filiau'r cartref yn y dyfodol drwy brisiau uwch.

Ac yn olaf, mae gennym ni Lywodraeth y DU sydd wedi parhau i dorri taliadau lles i'r rhai mwyaf anghenus, wedi methu â chodi trethiant gan y rhai mwyaf abl i dalu, ac wedi gadael y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau gydag argyfwng cost byw. Gan ystyried y cynnydd diweddaraf hwn yn y cap ar brisiau, mae 145,000 o aelwydydd a oedd mewn perygl o dlodi tanwydd yn 2018 bellach yn debygol o gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae hyn yn golygu bod mwy na chwarter yr holl aelwydydd yng Nghymru, os nad mwy, yn gorfod gwneud dewisiadau anodd ynghylch a ddylid gwresogi eu cartrefi ai peidio.

Ysgrifennodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau at Lywodraeth y DU ar 11 Ionawr, gan bwyso'r achos dros weithredu ar unwaith a nodi cyfres o gamau y mae angen eu cymryd. Mae'r camau hynny'n cynnwys ehangu'r gostyngiad cynnes yn y cartref, dileu costau polisi o filiau'r cartref a'u hariannu yn hytrach na threthiant cyffredinol. Mae ymateb Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn llai na'r camau sydd eu hangen. Er y bydd y cynnig i ddarparu gostyngiad o £200 i bob aelwyd yn helpu gyda'r biliau mae angen i aelwydydd eu talu heddiw, nid yw ar gael tan fis Hydref nesaf. Hyd yn oed pan ddaw'r cymorth hwn drwodd, mae'n daliad untro; mae angen ei ad-dalu dros y pum mlynedd nesaf, felly ni fydd yn gwneud dim i helpu aelwydydd yn y tymor canolig.

Mae Llywodraeth y DU yn gamblo y bydd prisiau nwy cyfanwerthol yn gostwng fel na fydd effaith yr ad-daliad yn cael ei deimlo cymaint gan aelwydydd. Ond mae'r realiti yn debygol o fod yn faich ychwanegol ar aelwydydd i dalu'r arian hwn yn ôl ar adeg pan fo'r cap ar brisiau yn parhau i godi o ganlyniad i'r methiannau sylfaenol yn y ffordd mae Llywodraeth y DU yn goruchwylio'r system ynni. Y canlyniad yma yw bod defnyddwyr yn wynebu costau uwch am gyfnod parhaus o amser. Nid brig tymor byr yn y farchnad yw hwn, ac yn fy nghyfarfod ag Ofgem yr wythnos diwethaf roedden nhw’n glir gyda mi y bydd adegau anodd o'n blaenau i aelwydydd. Galwais ar Ofgem i sicrhau bod hawliau cwsmeriaid yn cael eu diogelu a bod gan aelwydydd sy'n agored i niwed fynediad llawn i'r cymorth a'r cyngor sydd ar gael. Ailadroddais fy ymrwymiad i weithio gydag Ofgem i sicrhau bod aelwydydd yng Nghymru yn manteisio i'r eithaf ar yr holl wasanaethau ar yr adeg hon o gyni.

Dirprwy Lywydd, rydyn ni’n glir y byddwn ni’n defnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae ein cynllun ymdopi â thywydd oer yn nodi 14 o gamau gweithredu yr ydym ni eisoes yn eu cymryd gyda phartneriaid i gefnogi aelwydydd. Cam allweddol yw helpu i wella effeithlonrwydd ynni domestig drwy gynllun Nyth y rhaglen Cartrefi Cynnes. Mae ein buddsoddiad parhaus yn arbed mwy na £300 ar gyfartaledd i aelwydydd incwm ar eu biliau ynni. Roedd ein cronfa cymorth i gartrefi gwerth £51 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cynnwys £38 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Roedd hyn yn cynnig budd-daliadau untro o £100 i aelwydydd o oedran gweithio sy'n derbyn budd-daliadau prawf modd tuag at gost eu hanghenion ynni. Ac, yr wythnos diwethaf, yn wyneb pwysau cynyddol ar aelwydydd a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU, fe wnaethom arwain drwy esiampl a chyhoeddi ehangiad i’r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan ddyblu'r taliad untro i £200. Yn wahanol i gynnig Llywodraeth y DU, mae hyn yn gymorth ar unwaith heb amserlen ad-dalu. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn mynd beth o'r ffordd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond fe wyddom ni na fydd hyn yn ddigon o hyd i lawer o bobl sy'n byw mewn angen.

Yng ngoleuni'r newidiadau ym mis Ebrill, a'r tebygolrwydd o gynnydd pellach, rydyn ni am wneud mwy. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â Gweithredu Ynni Cenedlaethol i archwilio'r opsiynau ar gyfer mesurau cymorth pellach. Er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ar 17 Chwefror gyda gwasanaethau rheng flaen a grwpiau allweddol eraill i nodi beth arall y gellir ei wneud i gefnogi aelwydydd yn awr ac yn y dyfodol. Ac, wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae angen i ni gydnabod mai'r watt mwyaf cynaliadwy o ynni yw'r un nad oes ei angen. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i sefydlu polisïau sy'n cefnogi lleihau'r galw am ynni, arbed arian i bobl a busnesau Cymru yn ogystal â mynd i'r afael ag allyriadau—polisïau sy'n cynnwys buddsoddi yn y stoc dai i wella effeithlonrwydd ynni, cefnogi'r economi gylchol i annog ailddefnyddio ac atgyweirio, a gweithio'n agos gyda diwydiant i gefnogi defnydd mwy cynaliadwy o ynni.

Rydyn ni wedi ymrwymo i drawsnewid cyfiawn a sicrhau bod y system ynni yng Nghymru yn cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y ffordd decaf bosibl. Wrth i ni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am newidiadau brys i'r ffordd y caiff y farchnad ei rheoleiddio, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi aelwydydd yng Nghymru. Mae dyfodol gwyrddach, cryfach a thecach i Gymru mewn perygl yn sgil marchnad ynni hen ffasiwn a strwythur prisio ynni sy'n ddall i'r effeithiau ar y tlotaf a'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Rhaid i ni weithio i wneud beth bynnag y gallwn ni i gadw ein gweledigaeth yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch. 

15:35

Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. A dweud y gwir, mae'n rhaid i mi fod yn onest, pan ddarllenais y ddogfen gyntaf, roeddwn i’n meddwl fy mod wedi codi'r ddogfen anghywir, oherwydd yr oedd yn darllen braidd yn debycach i ddarllediad gwleidyddol pleidiol gan Blaid Lafur Cymru. Mae gennym ni ddatganoli, rydyn ni wedi bod â hyn ers 22 mlynedd bellach, ac, mae arnaf i ofn, mae dal i bwyntio bys ar Lywodraeth y DU am yr hyn sy'n argyfwng byd-eang yn rhywbeth nad yw fy etholwyr yn Aberconwy am ei glywed. Eich targed gwreiddiol oedd dileu tlodi tanwydd yn llwyr ym mhob aelwyd erbyn 2018, ac eto mae amcangyfrifon diweddar yn dangos bod 155,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, 12 y cant o aelwydydd yma yng Nghymru, 20 y cant o aelwydydd yn y sector preifat yn byw mewn tlodi tanwydd, a 9 y cant yn y sector tai cymdeithasol. Pe na bai'r targedau hyn wedi'u methu, yn syml iawn, ni fyddai pobl Cymru yn wynebu argyfwng mor ddifrifol ag y maen nhw heddiw.

Rwyf yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwrw ymlaen â rhai gwelliannau i effeithlonrwydd ynni, ond mae hynny bellach yn troi'n dipyn o hunllef, on'd ydy, i chi fel Llywodraeth? Mae Arbed wedi gweld trigolion mewn nifer o bentrefi yng Ngwynedd yn cael problemau gyda lleithder a llaid gwyrdd yn dilyn gwaith i'w cartrefi. Yn ddiweddar, gorfodwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymddiheuro i drigolion ar ôl problemau fel selio ffenestri ddiffygiol, lleithder, llwydni ac algâu. Mae disgwyl i'ch dull cyflawni allweddol, y rhaglen Cartrefi Cynnes, rhwng 2011 a 2023, gyrraedd 79,000 o gartrefi yn unig. Felly, a fyddwch chi’n ystyried, Gweinidog, bod yn rhagweithiol a diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth, fel y gall pob un o'r 155,000 o'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd weld rhywfaint o fudd mewn gwirionedd?

Cyfanswm cost datgarboneiddio stoc tai yn seiliedig ar amcangyfrifon Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw tua £15 biliwn, ac mae mwy na £10 biliwn ohono ar gyfer y stoc tai cymdeithasol ac ar gyfer cartrefi mewn tlodi tanwydd. Mae cyllid cyfalaf o dan y llinell wariant ar y gyllideb breswyl a'r gyllideb ansawdd yn £72 miliwn ar gyfer 2022-23, gan gynyddu i £92 miliwn ar gyfer y ddau gynllun yn 2023-24 a 2024-25. Ar y sail honno, gallai gymryd dros 160 mlynedd i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'r holl arian sydd ei angen i ddatgarboneiddio'r holl stoc tai. Felly, dywedwch wrthym ni, mewn ffordd ystyrlon, sut ydych chi’n mynd i gyflymu pethau?

Rydych chi’n honni eich bod am gael system dreth flaengar. Fodd bynnag, byddai treth ffawdelw o 10 y cant, sydd wedi cael ei chynnig, yn debygol o godi llawer llai nag sy'n cael ei hawlio, ac, yn dibynnu ar ymateb ymddygiadol cwmnïau, gall leihau refeniw treth mewn gwirionedd. Felly, rwyf i’n gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi’n cydnabod bod y gyfradd dreth bresennol a godir ar elw olew a nwy eisoes yn fwy na dwbl y gyfradd a godir ar elw yn rhan fwyaf o sectorau eraill yr economi.

Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi mwy o drethiant yn cael ei roi ar ein teuluoedd sy'n gweithio'n galed gan eich Llywodraeth. Mae ychydig o ysgogiadau y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ymdrin â nhw—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi ei glywed, ond mae'n rhaid dweud hynny. [Torri ar draws.]

15:40

Hoffwn glywed y—[Torri ar draws.] Hoffwn glywed cwestiynau'r Aelod i'r Gweinidog, felly rhowch gyfle iddi wneud hynny.

Diolch. Lleihau'r gyfradd raddedig credyd cynhwysol, cynyddu'r cyflog byw cenedlaethol, rhewi'r dreth tanwydd am y deuddegfed flwyddyn yn olynol, a bellach y cynllun ad-dalu hanesyddol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Bydd cynllun Llywodraeth y DU, Joyce, yn helpu gyda biliau'r cartref ar unwaith a bydd yn amddiffyn pobl rhag cymaint â hanner y cynnydd o £700. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £175 miliwn mewn symiau canlyniadol Barnett o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU o £150 oddi ar filiau'r dreth gyngor. A wnewch chi ymrwymo i wneud hyn yng Nghymru?

Rwyf i wedi fy syfrdanu gan eich honiad ffug y bu tanfuddsoddi sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Rwy'n gobeithio eich bod yn sicr yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i arloesi prosiectau sero-net Cymru, ac yn sicr mae'n cyflawni ei chynllun ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae gan Lywodraeth y DU—yr ydych chi'n cadw sôn amdani, felly fe wnaf innau hefyd—gynllun hefyd ar gyfer economi hydrogen sy'n arwain y byd, sy'n cynnwys ymrwymiad i greu treial pentref hydrogen erbyn 2025, ac o bosibl treialu tref hydrogen erbyn diwedd y degawd. Felly, a wnewch chi eto adlewyrchu uchelgais o'r fath drwy ehangu ar yr ymrwymiad yng nghyllideb carbon 2 i gefnogi prosiectau hydrogen lleol ac atebion sy'n seiliedig ar deuluoedd?

Rwy'n cydnabod bod cymorth i'w ddarparu—

Ie, fe wnaf i nawr—i Flaenau Gwent drwy'r rhaglen Byw'n Gall i ddatblygu math o ficrogrid ar ystad ddiwydiannol a fyddai'n ein helpu i symud i ynni adnewyddadwy a chreu a dosbarthu ynni glanach yn lleol. Felly, o gofio, Gweinidog, fod strategaeth ynni y gogledd yn cynnwys datblygiad microgrid fel maes blaenoriaeth, a wnewch chi sefydlu treial microgrid yn y gogledd? Mae'n bryd i'r gogledd elwa ar rywfaint o arloesedd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:45

Wel, ble i ddechrau? Arbed—mae Arbed wedi cael rhai problemau, yn sicr, ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders ei hun, rydyn ni wedi cymryd cyfrifoldeb dros y rheini drwy ein hawdurdodau lleol ac fel Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, roedd cynlluniau blaenorol cyn Arbed mae Llywodraeth y DU wedi'u lledaenu—mae llawer o'r Aelodau yma wedi cael problemau ofnadwy gyda nhw yn eu hetholaethau. Ymateb Llywodraeth y DU i hynny oedd taflu eu dwylo mewn arswyd, dweud nad oes bond ac nid oes dim y gellir ei wneud ac mae'r deiliad tŷ yn gyfan gwbl ar ei ben ei hun. Felly, Janet, cyn i chi ddechrau taflu cerrig, dylech chi wirioneddol edrych ar ble rydych chi'n codi'r cerrig, oherwydd dydych chi ddim mewn lle da fel Ceidwadwyr i ddweud eich bod wedi gwarchod defnyddwyr rhag cynlluniau sydd wedi'u cynllunio yn wael iawn.

Gan fynd ymlaen at y cynnig datgarboneiddio, rydyn ni’n sicr wedi dysgu am rai o'r anawsterau a gawsom gydag Arbed, ac yn wir o rai o'r anawsterau bach a gawsom ni gyda safon ansawdd tai Cymru. Nid yw un maint yn addas i bawb. Felly, mae gennym ni raglen ôl-ffitio wedi’i hoptimeiddio yma yng Nghymru lle rydyn ni’n treialu gwahanol dechnolegau ar gyfer gwahanol fathau o dai, gan sicrhau ein bod yn dysgu o broblemau'r gorffennol gyda gosodiadau waliau ceudod sydd wedi mynd o'i le—mae rhai ohonynt yn rhagorol, ond mae rhai ohonynt wedi mynd o'i le—a materion eraill sydd wedi codi, i sicrhau bod gennym ni’r rhaglen gywir ar gyfer y tŷ cywir.

Dros y ffin, mae gennym ni Brif Weinidog de Pfeffel yn sôn am bympiau gwres ffynhonnell aer ar gyfer pob tŷ, y byddai waeth i chi ei osod ar y tu allan, oherwydd heb fynd i'r afael â'r holl faterion eraill, ni fyddant yn cael unrhyw effaith.

Un neu ddau o bethau eraill y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw: y dreth ffawdelw. Wyddoch chi, dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda hynny. Cwmni a all gyhoeddi'r elw mwyaf erioed ar yr un adeg â chodi prisiau ynni i'r pwynt lle mae pobl yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac rydych chi’n dweud wrthyf i eu bod nhw eisoes yn talu digon o dreth—. Wel, rwy’n credu bod hynny'n dweud y cyfan am y Ceidwadwyr. Mae y tu hwnt i ddychan—ni fyddaf i hyd yn oed yn ceisio gwneud hynny. Os na allwch chi weld y problemau rydych chi'n eu gwneud, rwy'n teimlo'n flin iawn drosoch chi.

Mae'r mater £150 y dreth gyngor yn un arall. Felly, mae hynny'n ad-daliad ar y dreth gyngor; mae gennym ni eisoes gynllun rhyddhad treth gyngor yma yng Nghymru nad yw'n cael ei ddyblygu yn Lloegr. Ni all unrhyw un sy'n talu rhent ar y cyd hawlio ad-daliad y dreth gyngor, felly ni fydd unrhyw un sy'n talu treth gyngor fel rhan o'i rent yn gallu ei hawlio. Rydyn ni wedi gofyn cwestiynau am hynny. Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae hynny'n gweithio. Mae'r syniad bod y £200 sy'n cael ei roi i bobl yn fenthyciad— mae’n rhaid eich bod chi, hyd yn oed, Janet, yn gallu gweld y twpdra o ddibynnu ar farchnad mor gyfnewidiol â hyn i wastatáu fel na fydd ots gan bobl ad-dalu benthyciad. Mae'n syfrdanol.

Mae'r Llywodraeth hon, ar y llaw arall, yn gwneud yr hyn a allwn ni i helpu ar unwaith gyda grantiau i bobl sydd mewn angen ar unwaith. Y syniad eich bod chi’n dweud wrthyf i beth yw costau byw pan mai chi yw'r Llywodraeth a gymerodd y codiad credyd cynhwysol o £20 i ffwrdd, chi sydd wedi rhewi'r lwfans marchnad dai lleol—. Rydych chi’n siarad â mi am gynnydd mewn rhenti ar yr un pryd â rhewi'r lwfans tai lleol, ar ôl ei godi unwaith mewn 15 mlynedd yn unig—ymddygiad hollol warthus, a dweud y gwir, gyrru pobl i dlodi—ni fyddaf yn derbyn hynny. Mae'n gwbl warthus eich bod chi wedi gwneud hynny. Pobl sy'n byw mewn llety rhent yn y sector preifat na allant bellach hawlio cost lawn eu rhent yn llwyr drwy bolisïau lles eich Llywodraeth, rydych chi’n eu cefnogi, nad oes gennych chi erioed ddim i'w ddweud yn eu herbyn—mae'n rhyfeddol. Rwy'n siŵr bod gan bobl Aberconwy lawer o gwestiynau i'w gofyn ar hyd y llinellau hynny, mae’n debyg.

O ran datblygiadau ynni arloesol, rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn yma yng Nghymru, gydag Ofgem a gyda phawb arall i ddatblygu strwythurau grid datganoledig. Fodd bynnag, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y grid cenedlaethol fel mae’n cael ei alw. Mae'r cyfarwyddiadau i Ofgem yn lliniaru hynny. Gallech chi wneud llawer o les i'ch etholwyr, Janet, drwy ofyn i Lywodraeth y DU ddatganoli hynny i Gymru, oherwydd mae arnom angen datblygu grid ymlaen llaw nad yw'n cael ei lywio gan bolisïau a chontractau defnyddwyr, ond sy'n cael ei ysgogi gan angen ac sy'n caniatáu grid gwasgaredig. Byddwn yn eich cefnogi’n llwyr ar hynny. Mae gridiau dolen gaeedig wedi achosi problemau diddiwedd oherwydd cyn gynted ag y byddant yn mynd i lawr, fel rydyn ni wedi dysgu am gost ym Maglan, ni fydd Llywodraeth y DU yn camu i mewn, ni fydd yn deddfu i sicrhau bod y derbynnydd swyddogol yn camu i mewn i helpu'r bobl yno.

Felly, dydw i ddim yn cymryd unrhyw wersi o gwbl gennych chi ar sut i ddelio â lles, ar sut i ddelio â thlodi, ar sut i ddatblygu strwythurau ynni arloesol na sut i ddelio â Llywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, Janet, mae gwir angen i chi wneud eich ymchwil yn well.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel rydyn ni newydd ei glywed, bydd miliynau o bobl ledled y DU yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o straen anhygoel oherwydd y cap prisiau ar filiau sy'n codi 54 y cant. Bydd rhannau o Gymru ymhlith y rhannau fydd yn cael eu taro waethaf yn y DU gyfan. Bydd ardaloedd awdurdodau lleol, gan gynnwys Ceredigion, yn edrych ar £972, Gwynedd £904, sir Gaerfyrddin £853, Powys £848. Ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r rheini. Bydd 14 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cael eu heffeithio'n waeth na'r cynnydd cyfartalog mewn prisiau o £693. Mae rhai o'r ardaloedd hynny eisoes yn ardaloedd sydd â rhai o'r cyflogau isaf yn y DU hefyd ac, yn amlwg, fel rydyn ni’n ei drafod yn aml, y tu ôl i'r holl ffigurau hynny, bydd sefyllfaoedd gwirioneddol frawychus i unigolion ac i deuluoedd.

Daw hyn ar adeg, wrth gwrs, pan fydd miliynau eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, i roi bwyd ar y bwrdd, i dalu biliau ffôn, biliau band eang, costau trafnidiaeth, costau tai, costau sy'n gysylltiedig ag addysg—mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, on’d ydy? Un cam mae angen i Lywodraeth Cymru ei gymryd, rwy’n credu, yw lleihau costau byw cyffredinol er mwyn lleddfu rhywfaint o’r cynnydd mewn prisiau mwy serth. Gwn eich bod chi wedi bod yn cyfeirio at hyn ychydig yn barod. Rwy'n falch iawn o glywed y bydd yr uwchgynhadledd yn mynd yn ei blaen ar 17 Chwefror. Wrth gwrs, daw hynny o ganlyniad i’r Senedd yn pleidleisio o blaid cynnig diweddar Plaid Cymru yn galw am gynllun argyfwng. Rwy’n croesawu hyn yn fawr. A gaf i ofyn i chi pa fathau o fesurau fydd yn cael eu trafod yn yr uwchgynhadledd hon? Fe wnaethoch chi ddweud y bydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda gwasanaethau rheng flaen a grwpiau allweddol, ac rwy’n croesawu hynny'n fawr, ond a allech chi gynnig rhywfaint o sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, y bydd yr uwchgynhadledd hon yn cynnwys lleisiau pobl sy'n mynd i gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng costau byw hwn, a sut y gellid clywed eu lleisiau fel rhan o hynny?

Nid yw tlodi tanwydd, wrth gwrs, yn broblem newydd. Mae pobl eisoes yn ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes ac yn iach, ac mae'r cynnydd mewn capiau prisiau yn mynd i'w gwthio'n ddyfnach i drafferthion. Fel mae Gofal a Thrwsio Cymru wedi'i fynegi, mae pobl yn newid eu hymddygiad, ac mae hyn yn mynd i effeithio ar eu hiechyd. Maen nhw'n mynd i dorri'n ôl ar wresogi a defnyddio llai o drydan allan o ofn mynd i ddyled ynni. Mae'r oerfel yn gyfrifol am lawer o gyflyrau iechyd. Mae'n achosi derbyniadau i'r ysbyty a mwy o farwolaethau. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pa fesurau wedi'u targedu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf agored i niwed ac sy'n mynd i fod fwyaf agored i'r cynnydd hwn? Byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran atal ac ymateb i ddyled o ran biliau ynni, yn ogystal â'r hyn rydych chi eisoes wedi'i nodi, wrth gwrs. Rwy'n awyddus iawn, a gwn fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen, i glywed mwy am sut y bydd pobl ar fesuryddion rhagdalu yn cael eu cefnogi, oherwydd gallent wynebu eu ynni yn cael ei ddiffodd os byddan nhw'n rhedeg allan o arian. Felly, a oes mesur penodol rydych chi’n ei archwilio a allai helpu pobl yn y sefyllfa wirioneddol enbyd honno, os gwelwch chi’n dda?

Ac yn olaf, mae hwn yn faes sydd eisoes wedi codi yn eich sgwrs â Janet, wrth gwrs, i droi at dai. Fel rydyn ni wedi bod yn ei glywed, mae gennym y stoc dai hynaf yn y DU a rhai o'r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon hefyd. Mae'r amcangyfrif diweddaraf ar gyfer cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru eisoes yn 12 y cant, sy'n un ym mhob 10 cartref neu rywbeth, ac rwy’n credu bod yr amcangyfrif hwnnw o 2019, felly gallai hynny danbrisio'r broblem yn sicr. Mae cydweithiwr i mi yn San Steffan wedi bod yn sôn am sut mae 275,000 o gartrefi yng Nghymru—bron i un rhan o bump o'r holl aelwydydd—nad ydyn nhw wedi'u cysylltu â'r grid nwy. Rwy’n credu bod y ffigur hwnnw o 2020. Ac mewn ardaloedd gwledig, fel Ceredigion, mae'r ffigur hwnnw'n codi cymaint ag i 80 y cant. Yng Nghymru, mae'n ymddangos bod gennym ni gyfres o heriau unigryw sy'n mynd i wneud yr argyfwng hwn, neu'r argyfyngau hyn sy’n ymdoddi, hyd yn oed yn fwy difrifol, o ran tai, o ran gwresogi, ac mae gwir angen i ni fynd i'r afael â hynny'n awr yn fwy nag erioed.

Rwy’n cydnabod bod y cwestiynau eisoes wedi'u hateb yn y sesiwn hon, ond yn eich datganiad fe wnaethoch chi gyfeirio at y sefyllfa hon. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ystod tymor y Senedd a rhoi gwybod i'r Senedd am unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i wneud stoc tai Cymru'n fwy effeithlon o ran ynni, yn enwedig, efallai, pan fyddwn ni’n sôn am gartrefi oddi ar y grid? Diolch yn fawr iawn.

15:50

Diolch. Felly, ie, fe wnaf i redeg drwy rhai o’r rheini, yn gyflym iawn. Felly, cafodd Jane Hutt a minnau gyfarfod da iawn gydag Ofgem. Mae'n ddrwg gen i, mae pob diwrnod yn cymysgu â'i gilydd—rwy'n credu mai dydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd hi. Yn hwyr yr wythnos diwethaf beth bynnag. Efallai mai yn hwyr iawn ddydd Iau oedd hi, ond dydw i ddim yn gallu cofio. Ond, beth bynnag, roedd yn gyfarfod da iawn, er bod tipyn o densiwn, oherwydd nid ydym yn hapus o gwbl am y ffordd mae hyn wedi cael ei drin, ond fe wnaethom ni godi nifer o bwyntiau. Roedd y pwynt am y mesurydd rhagdalu yn sicr yn un a oedd yn uchel ar ein hagenda. Mae rhai materion gwirioneddol dechnegol ynghylch os yw eich cyflenwr yn methu, beth sy'n digwydd i'r taliadau presennol sydd gennych chi, ac a oes rhaid i chi dalu taliadau balŵn ai peidio. Felly, cafodd hynny ei wyntyllu'n dda yn y cyfarfod. Cawsom ein sicrhau hefyd gan Ofgem eu bod wedi gofyn i'r cwmnïau ynni roi mesurau ar waith a fydd yn nodi pobl sy'n hunan-ddatgysylltu, gan nad ydyn nhw’n defnyddio unrhyw ynni mwyach, oherwydd eu bod nhw wedi diffodd eu gwres ac yn y blaen. Oherwydd yn amlwg gallan nhw weld hynny o'r mesuryddion, yn enwedig ar fesuryddion rhagdalu—gallan nhw weld nad yw pobl yn talu i mewn iddynt. Felly, byddwn yn parhau â'r sgwrs honno, wrth y bwrdd crwn a gydag Ofgem. Mae nifer o bethau mae angen i ni eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw pobl yn hunan-ddatgysylltu, fel maen nhw’n ei alw—rhoi'r gorau i ddefnyddio ynni.

Rhan o'r mater ynglŷn â'r bwrdd crwn yw casglu gwybodaeth a syniadau o bob cwr o Gymru ar yr hyn y gallwn ni ei wneud, a rhoi'r mesurau hynny ar waith. Mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt mewn gwirionedd yn gyfrifol am y bwrdd crwn a'i ddosbarthiad, ac rwyf i’n bresennol hefyd. Fodd bynnag, byddaf yn codi'r pwynt am brofiad byw; rwy'n siŵr y bydd ganddi hynny mewn llaw, ond byddaf yn dod yn ôl atoch chi ar hynny. Yn sicr, byddwn yn sicrhau bod Gweithredu Ynni Cenedlaethol yno fel llais y sector wrth gynrychioli hynny, felly byddaf yn sicr yn dod yn ôl atoch chi ar hynny.

Un o'r pethau rydyn ni’n awyddus iawn i'w wneud, ac rydyn ni eisoes wedi ariannu ein hasiantaethau cynghori i wneud hyn, yw sicrhau bod pobl yn gallu cael y cyngor cywir. Felly, ar y pwynt oddi ar y grid, er enghraifft, nid yw pobl bob amser yn deall bod y taliadau tanwydd—. Rydych chi’n gymwys ar gyfer y rheini hyd yn oed os ydych chi ar olew oddi ar y grid. Does dim rhaid i chi fod yn ddefnyddiwr nwy. Felly, os ydych chi’n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, byddwch chi ar y trywydd iawn ar gyfer hynny.

Byddwch wedi fy nghlywed i, Delyth, nifer o weithiau yn y Siambr hon yn sôn am y problemau sydd gennym ni yng Nghymru lle gallwch chi weld fferm wynt allan o'ch ffenestr, ond rydych chi ar olew oddi ar y grid ac yn y blaen. Byddwn yn gweithio gyda'n gwasanaethau cynghori ar ynni i sicrhau bod cymunedau sy'n cynnal ffermydd gwynt, er enghraifft, yn gallu cymryd buddion cymunedol y gellir eu defnyddio i insiwleiddio eu cartrefi, a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer gwresogi trydan. Ni fyddai hynny'n wir nes eich bod wedi gwneud cryn dipyn o waith. Gellir defnyddio manteision cymunedol ar gyfer nifer o bethau. Mae angen i'r gymuned eu hunain ddewis y budd-daliadau hynny, ond gallwn ni eu cynorthwyo gyda dewislen o ddewisiadau y gallai pobl ddewis ohonynt, ac annog y defnydd o'r budd-daliadau hynny ar gyfer pethau fel inswleiddio, ôl-ffitio ac yn y blaen, i sicrhau bod y tai'n cyrraedd y safon. Mae'n amlwg er budd y cwmnïau ynni hefyd, oherwydd mae hynny'n rhoi mwy o gwsmeriaid iddynt am eu hynni, ond hefyd rydych chi’n defnyddio llai o ynni drwy insiwleiddio eich cartref yn y ffordd honno. Felly, mae nifer o bethau sydd gennym ar y gweill i wneud hyn, ond, yn amlwg, maen nhw ar gyfer y tymor hwy, nid ydyn nhw’n mynd i ddatrys yr argyfwng uniongyrchol rydyn ni’n sicr yn ei wynebu, ac mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith, fel y dywedais i, a nifer o daliadau.

Y peth olaf roeddwn i am ei ddweud wrthych chi oedd ein bod yn awyddus iawn i siarad â'r sector rhentu preifat—unwaith eto, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud hyn—am gymryd y gwersi o'n rhaglen ôl-ffitio wedi'i optimeiddio a dechrau eu cyflwyno i dai'r sector rhentu preifat, felly nid y sector perchen-feddianwyr eto. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi bod yn rhoi cynlluniau cymhelliant ar waith i gael landlordiaid sector rhentu preifat i roi eu tai i ni tra byddwn ni'n eu datblygu i'r safon.

Mae gostyngiad y lwfans tai lleol yn broblem fawr iawn i ni. Felly, roedd yn arfer bod ar 50 y cant, dim ond i atgoffa pawb; gostyngodd y Ceidwadwyr hynny i 30 y cant ac yna ei rewi. Mewn ardaloedd yng Nghymru, mae'n cwmpasu llai na 5 y cant o'r farchnad rentu ar ei lefel bresennol, felly mae'n drychineb, mewn gwirionedd. Bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i ryw ddull arall er mwyn gallu cefnogi'r landlordiaid hynny er mwyn sicrhau bod hynny ar waith. Ond ni allaf bwysleisio digon y math o fesur llechwraidd a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol wrth rewi'r lwfans hwnnw, a'r effaith mae hynny'n ei chael ar (a) allu pobl i wresogi eu cartref a thalu eu rhent, ond hefyd ar ein gallu i ymyrryd yn y farchnad honno mewn ffordd sy'n golygu y gall landlordiaid rhent y sector preifat gael help i godi eu heiddo i'r safon, sy'n bwysig iawn.

Y peth olaf y byddaf yn ei ddweud, Dirprwy Lywydd, yw mai rhan o'r rhaglen ORP, y rhaglen ôl-ffitio optimaidd, yw nodi'r hyn sy'n gweithio, ond mae hefyd i ddatblygu sgiliau gweithlu. Felly, ar hyn o bryd rydym yn datblygu sgiliau pobl i roi boeleri nwy mwy effeithlon i mewn. Holl bwynt y rhaglen hon yw cyfrifo'r dechnoleg sy'n gweithio, ond hefyd i gyfrifo'r sgiliau sy'n angenrheidiol i'w ffitio, fel y gallwn gyflwyno'r rhaglen grant i'r sector preifat unwaith y bydd gennym y sgiliau hynny, gan wybod y bydd y gweithwyr medrus yno i roi'r darpariaethau hynny ar waith, ac nid yw hynny'n wir yn awr, os edrychwch chi ar hynny. Yna, mae fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans, sy'n eistedd yn y Siambr gyda mi, a minnau wedi dechrau trafod, fel pwynt rhagarweiniol, a ellir rhoi cymhellion yn y farchnad i wobrwyo pobl sy'n dod â'u tai i fyny i'r safon effeithlonrwydd ynni A ac yn y blaen, o ran disgowntiau ac yn y blaen. Oherwydd rhan ddiddorol iawn o'r sgwrs gydag Ofgem oedd rhan yn ymwneud â pham nad yw'r farchnad ei hun yn ymateb i hynny. Felly, os byddwch chi’n dod â'ch tŷ i fyny i EPC A nid yw'n hawlio premiwm yn y farchnad ar hyn o bryd, sy'n ymddangos yn wrthun. Felly, byddwn ni’n edrych ar gymhellion i wneud hynny hefyd. 

15:55

Diolch, Gweinidog. Diolch i chi am eich datganiad. Fe wnaethoch chi ddweud prynhawn yma fod gwahaniaeth amlwg rhwng ymyriadau'r Llywodraeth yng Nghymru a'r ymyriadau hynny gan y Llywodraeth yn Lloegr. Mae cynllun y DU, fel y gwyddom ni i gyd, yn rhy hwyr. Mae'n mynd i rhoi baich dyled ar bob deiliad tŷ, gan roi gydag un llaw a chymryd yn ôl gyda'r llall, tra bod Llywodraeth Cymru wedi targedu cymorth i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn awr, heb unrhyw amodau. Fe wnaethoch chi sôn am gambl Llywodraeth y DU ar brisiau cyfanwerthu. Y gwir amdani yw bod Llywodraethau Torïaidd wedi bod yn gamblo gyda diogelwch ynni'r DU ers blynyddoedd. Er enghraifft, yn 2017, fe wnaeth ganiatáu i gyfleuster storio nwy mwyaf y wlad gau. Gadawodd hynny Brydain gyda'r gallu i storio dim ond 2 y cant o'r galw blynyddol, tra gall mewnforwyr nwy mawr eraill storio 20 i 30 y cant. Ar yr un pryd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, nid yw Llywodraethau Ceidwadol wedi buddsoddi digon o bell ffordd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Maen nhw wedi torri cymorthdaliadau ac—

16:00

—dydyn nhw erioed wedi trwsio'r to pan oedd yr haul yn disgleirio. Dim ond un frawddeg arall, os caf i. Yr hyn y byddwn i'n ei hoffi, Gweinidog, yw rhywfaint o adborth o'r cyfarfod ar 17 Chwefror yr ydych chi wedi cyfeirio ato, yn enwedig ar gyfer fy ardal i, lle mae llawer o bobl oddi ar y grid, i weld pa gymorth y gallwn ni ei roi i'r bobl hynny sy'n cael gafael ar nwy ac olew oddi ar y grid ac nad yw moeth y cap prisiau hwnnw ganddyn nhw. 

Diolch, Joyce. Felly, un neu ddau o bethau yn y fan yna. Yn bendant, ar y pwynt storio, er mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud mewn gwirionedd yw symud oddi wrth danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy. Mae un o'r materion sy'n ymwneud â'r buddsoddiad a'r diffyg buddsoddiad a'r modelau buddsoddi yn ddiddorol iawn. Felly, fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori y llynedd, ac yna derbyn, o ganlyniad i ddarn o waith ac ymgynghoriad, model o'r enw model sylfaen asedau a reoleiddir, sy'n cyfalafu yn effeithiol cost buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy ac yna'n rhoi cost hynny ar filiau defnyddwyr. Felly, yn y bôn, mae'n cael y defnyddiwr i dalu amdano. Felly, mae'n sgâm i beidio â gorfod rhoi unrhyw arian y Llywodraeth ynddo. A dyna un o'r anawsterau sydd gennym ni, ein bod ni yn erbyn Llywodraeth nad yw'n buddsoddi ymlaen llaw ac sy'n llunio model sy'n trosglwyddo'r pris yn ôl i'r defnyddiwr. Ac, mewn gwirionedd, fe wnaethon nhw gyhoeddi hynny ar adeg y cynnydd cyntaf i brisiau Ofgem ddiwedd y llynedd mewn ffordd hynod o ansensitif o'i gyhoeddi yn fy marn i, hyd yn oed i'r Ceidwadwyr. 

Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, byddwn yn hapus iawn i roi adborth ar 17 Chwefror. Byddaf i neu Jane Hutt, rwy'n siŵr, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar ganlyniad hynny, fel y gallwn ni gael y cyngor allan i etholwyr pawb. Ac o ran olew oddi ar y grid, rydym ni'n chwilio am syniadau a phethau arloesol y gallwn ni eu gwneud wrth y bwrdd crwn, yn ogystal â rhannu pethau. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn pa un a allem ni helpu cymunedau i ddod at ei gilydd i swmp-brynu olew, a fyddai'n cael y pris i lawr, ac i'w helpu i roi'r cyfleusterau storio ar waith drostyn nhw eu hunain oherwydd, fel erioed, y tlotaf ydych chi, y lleiaf tebygol ydych chi o allu manteisio ar brisiau swmp, y lleiaf tebygol yr ydych chi o ddod at eich gilydd fel cymuned i wneud hynny. Felly, bydd pethau y mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych i weld a allwn ni gynorthwyo pobl i'w gwneud, efallai gyda benthyciadau ymlaen llaw er mwyn gwneud y swmp-brynu a chael y pris is, neu nifer o bethau eraill y mae gennym ni ddiddordeb mewn edrych arnyn nhw. Felly, Joyce, os oes gennych chi gymunedau yr ydych chi'n credu y byddai ganddyn nhw ddiddordeb yn hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn o weithio gyda chi i weld a allwn ni eu nodi. 

Prynhawn da, Gweinidog. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy'n cydnabod y dicter a'r angerdd rydych chi'n eu teimlo pan fyddwch chi'n cyfeirio at y diffyg empathi a thegwch llwyr yr ydym ni'n ei glywed gan y blaid gyferbyn yn eu swyddogaeth o wneud teuluoedd yn dlotach, ac yn enwedig pan fyddwn ni'n wynebu'r effaith enfawr iawn hon ar eu bywydau. Rwyf i'n gallu fforddio talu'r cynnydd i brisiau tanwydd sy'n cael ei gyflwyno, ac rwy'n siŵr y gall llawer ohonom ni yn y Siambr hon, ond mae llawer nad ydyn nhw'n gallu. Ac rwy'n eich annog chi, pa blaid bynnag yr ydych chi'n perthyn iddi, ewch i siarad â'r aelwydydd hynny, ewch i glywed eu hanesion, ewch i glywed yr union sefyllfaoedd y maen nhw ynddyn nhw, oherwydd dyna sydd ar goll yma gan y Ceidwadwyr: tegwch ac empathi. 

Rydym ni wedi clywed llawer am aelwydydd. Hoffwn siarad ychydig, os caf i, Gweinidog, am fusnesau bach. Ym Mhowys a sir Benfro, yn y rhanbarth yr wyf i'n gyfrifol amdano, ac y mae eraill yn y Siambr yn gyfrifol amdano, mae nifer uwch o ficro-fusnesau a busnesau bach, ac maen nhw'n cael eu heffeithio gan y cynnydd hwn i brisiau. Tybed a gaf i ofyn i chi pa gymorth wedi'i dargedu sydd ar gael i'r busnesau bach hynny ar yr adeg benodol hon gan Lywodraeth Cymru. Diolch. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn, Jane. Un o'r pethau yr ydym ni eisiau eu hystyried wrth y bwrdd crwn yw sut y gallwn ni dargedu microfusnesau yn benodol. Felly, mae gennym ni'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes ar waith, wrth gwrs, felly ni fydd llawer iawn o fusnesau bach yn talu ardrethi eisoes gan y byddan nhw'n manteisio ar hwnnw. Ond rydym ni'n awyddus iawn i dargedu cymorth arall i fusnesau. Felly, un o'r pethau y byddwn ni'n eu hystyried wrth y bwrdd crwn yw sut y gallwn ni wneud hynny. Mae hefyd yn ymwneud â sut y gallwn ni wella sgiliau ein hasiantaethau cynghori i roi'r cyngor cywir ar gyfer dyledion busnes a masnachol, yn ogystal ag ar gyfer dyledion personol a chartref. Felly, byddwn ni'n sicr yn ystyried hynny. Byddwn yn gweithio gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill i wneud yn siŵr ein bod ni'n deall hynny. Rydym ni'n pryderu'n fawr bod hyd yn oed y siop goffi leiaf, a oedd efallai'n gwneud elw bach, yn mynd i gael trafferth gyda'i chostau ynni, o ystyried y cynnydd i brisiau sydd gennym ni. Felly, byddwn ni'n sicr yn ystyried hynny. Nid yw'r ateb gen i ar hyn o bryd; rhan o ddiben y bwrdd crwn, wrth gwrs, yw gwneud yn union hynny.

Rydym ni hefyd yn annog busnesau, wrth gwrs, i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni solar ac yn y blaen, a batris storio, i wneud yn siŵr y gallan nhw gael y gorau o newid i ynni adnewyddadwy. Ac ni allaf i bwysleisio digon bod diogelwch y cyflenwad yn bwysig iawn i'n cymunedau busnes, wrth gwrs, yn ogystal ag i'n haelwydydd. 

16:05

Diolch, Gweinidog, ar gyfer eich datganiad heddiw ar fater sy'n peri pryder i lawer iawn o'm hetholwyr. Mae gen i dri chwestiwn i chi. Yn gyntaf, rwy'n nodi sylwadau'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cap tariff ynni domestig gwahaniaethol, neu dariff ynni cymdeithasol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am hyn; er enghraifft, sut y gallai weithio, faint o bobl yng Nghymru a allai elwa a faint. 

Fy ail gwestiwn, Gweinidog. Pan oedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn siarad gyda'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi, nodwyd nad oedd llawer o bobl a oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf wedi gwneud, bryd hynny, cais am y cymorth. A allwch chi roi unrhyw wybodaeth ddiweddaraf am hyn ac efallai amlinellu pa waith ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod unrhyw un sy'n gymwys yn cael y cyllid hwn?

Ac yn olaf, cynhaliodd fy undeb llafur, Undeb y Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gweithwyr Perthynol, arolwg o'u haelodaeth yn ddiweddar, a dywedodd pedwar o bob pump o bobl a ymatebodd fod pryderon ariannol yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno mecanweithiau a chymorth i ddinasyddion Cymru y mae eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio gan bryderon ariannol?

Diolch, Vikki. Felly, un neu ddau o bethau yn y fan yna. Y cap gwahaniaethol, roeddem ni’n trafod gydag Ofgem sut y gallai hwnnw weithio. Rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried rhoi cap ar brisiau gwahaniaethol ar waith. Braidd yn groes i’r amcan hefyd, ac maen nhw wedi ei gyhoeddi bellach, fe wnaethon ni hefyd ofyn iddyn nhw edrych ar adolygu'r pris yn amlach, oherwydd un o'r problemau mawr i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd yw'r gallu i ragweld. Felly, mae'r syniad eich bod chi'n aros bob chwe mis ac yna mae cynnydd enfawr, nid yw'n bosibl i chi ragweld hynny, allwch chi ddim cyllidebu ar ei gyfer, allwch chi ddim rhoi arian o'r neilltu. A braidd yn groes i’r amcan, am wn i, os oes gennych chi gynnydd llai yn raddol, mae'n llawer haws ei reoli. Felly, cyhoeddwyd hynny gan Ofgem fel cais hefyd. Ond rydym ni’n dweud yn y bôn, 'Pam na allwch chi gael cap sy'n gwahaniaethu ar gyfer modd?' Felly, os ydych chi ar fudd-daliadau lles, yna mae'r cap yn is, os ydych chi ar fesurydd rhagdalu, yna mae'r cap yn is, ac yn y blaen. Gallaf feddwl yn y fan a’r lle am nifer o ffyrdd y gallem ni wneud hynny a fyddai'n gwneud i hynny weithio, ac mae'n rhannu'r baich yn wahaniaethol oddi wrth y rhai sy’n cael eu taro fwyaf, y mae'n ymddangos ein bod ni bob amser yn rhoi'r baich mwyaf arnyn nhw, draw i'r rheini ohonom ni, fel y dywedodd Jane Dodds, sydd efallai’n gallu fforddio, neu o leiaf sy’n ei chael hi’n haws fforddio, y cynnydd i brisiau. Felly, dyna oedd y pwynt hwnnw.

O ran y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, un o'r rhesymau pam rydym ni'n cynnal y bwrdd crwn ar 17 Chwefror yw i nodi, ynghyd â'r holl asiantaethau cynghori a fydd yn cymryd rhan, sut y gallwn ni gael y cyngor hwnnw allan yn fwy effeithiol. Rydym ni’n gweithio gyda chydweithwyr mewn cynghorau hefyd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n gymwys i gael budd-daliadau eraill yn cael eu cyfeirio at y budd-daliadau hyn. Rwyf i wedi cael un neu ddau o gyfarfodydd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill—banciau ac yn y blaen—sy’n dweud y gallan nhw ei gael allan drwy’r ffordd honno, gan fod ganddyn nhw fecanweithiau hysbysu ar gyfer cwsmeriaid sy'n cael anawsterau dyled, y gallan nhw ddechrau eu cyfeirio at wasanaethau cynghori a fyddai'n eu cynorthwyo i gael cymorth grant gennym ni ac yn y blaen. Felly, rydym ni’n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn manteisio ar yr arian pan fydd ar gael, a dyna pam roeddwn i’n awyddus i ddweud bod pobl ar olew oddi ar y grid hefyd yn gymwys. Rwy'n credu ei fod yn aml yn fyth bod pobl yn meddwl nad ydyn nhw.

Ac yna, o ran y mater iechyd meddwl, eto, wrth gyfeirio at gyngor ar ddyledion, rydym ni’n cyfeirio gwasanaethau iechyd meddwl ar yr un pryd. Rydym ni wedi ariannu'r asiantaethau cynghori er mwyn rhoi pecyn cyfannol o gymorth i deuluoedd sy'n dod ymlaen, ac rydym ni mewn trafodaethau gyda nifer o feysydd eraill, y tîm o amgylch y teulu ac yn y blaen, mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd i wneud yn siŵr bod gweithwyr wedi'u henwi yn gallu helpu gyda chyfeirio hefyd. Yn aml, mae gan deuluoedd sydd mewn trafferthion broblem wirioneddol yn ei gyfaddef, ac rwyf i wir yn ofni hynny, yn y don benodol hon—. Hynny yw, mae hyn yn beth ofnadwy, yn gondemniad o'n cymdeithas, os caf i ddweud hynny. Mae gennym ni rai teuluoedd sydd wedi arfer gorfod gofyn am gymorth a chael rhyw fath o groen mwy trwchus ynghylch hynny—am beth ofnadwy i'w ddweud mewn cymdeithas gyfoethog. Mae gennym ni don arall o bobl na fydd wedi tyfu'r croen mwy trwchus hwnnw ac a fydd yn teimlo cywilydd ac embaras. Rwyf i yma i ddweud na ddylen nhw, nad yw'n ddim y maen nhw wedi ei wneud o'i le eu hunain, y dylen nhw ddod ymlaen a chael y cymorth y maen nhw wir yn ei haeddu, ac na ddylai pobl deimlo mai eu bai nhw yw'r ffaith nad ydyn nhw'n gallu ymdopi.

16:10

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw, sydd, wrth gwrs, yn amserol iawn. Hoffwn, yn gyntaf oll, ymuno ag Aelodau ar draws y Siambr i gydnabod yr anawsterau sy'n deillio o'r cynnydd i'r costau ynni hyn, a fydd yn taro llawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled y wlad.

Fel rydych chi wedi tynnu sylw ato yn eich datganiad, Gweinidog, ceir problemau hirdymor, fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â nhw. Y cyntaf, y ffordd yr wyf i'n ei weld, yw sut y gallwn ni fel cenedl ynys Prydain Fawr ddod yn hunangynhaliol o ran ynni ac, wrth gwrs, y rhan y gallwn ni ei chwarae yma yng Nghymru i gyflawni'r nod hwnnw. Yr ail, yr ydych chi hefyd wedi ei gydnabod yn eich datganiad, yw'r mesurau y gellir eu cymryd i leihau ein dibyniaeth ar ddefnyddio ynni yn gyfan gwbl.

Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, sut ydych chi'n gweld eich swyddogaeth chi a swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â'r materion hirdymor hyn, a sut gwnewch chi gyflymu eich cynlluniau i ddelio â'r cyfleoedd strategol a fydd yn dod yn sgil y rhain hefyd? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am hynna, Sam. Yn sicr, ceir rhai problemau hirdymor. Mae'r holl fater ynghylch diogelwch ynni a bod yn hunangynhaliol o ran ynni yn sicr yn un ohonyn nhw. Ein bwriad, wrth gwrs, yw cael Cymru i'r pwynt lle mae'n allforiwr ynni net, felly rydym ni'n cynhyrchu cymaint o ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru fel y gallwn ni ei allforio, ac mae ein holl anghenion yn cael eu diwallu yma.

Mae nifer o bethau y mae angen i ni eu gwneud o ran cynhyrchu ynni, ond mae pethau y mae angen i ni eu gwneud hefyd o ran lleihau defnydd. Mae hynny yn ymwneud â'r holl bethau yr ydym ni newydd sôn amdanyn nhw—ôl-osod wedi'i optimeiddio, gan wneud yn siŵr bod ein cartrefi yn addas i'r diben ac yn y blaen. 

Mae hefyd yn ymwneud â newid arferion oes. Rwy'n dweud yn gyson wrth fy mhlant, 'Rwy'n gwybod mai LED yw ef, ond mae'n dal i ddefnyddio rhywfaint o drydan. Diffoddwch y golau pan fyddwch chi'n gadael yr ystafell.' Rydych chi'n cael y math o agwedd 'siaradwch â'r llaw' yna rydych chi'n ei chael gyda phobl ifanc yn eu harddegau, ond rwy'n credu bod arferion oes yn bwysig: tynnu plygiau pethau nad ydych chi'n eu defnyddio, a sicrhau bod eich defnydd o ynni cyn lleied â phosibl—nid oherwydd eich bod chi'n dlawd neu oherwydd ei fod yn broblem, ond oherwydd ei fod o ddaioni i'r byd, mae o ddaioni i'r blaned. Po fwyaf o egni nad oes angen i ni ei gynhyrchu, gorau oll i'r blaned.

Felly, rydym ni'n cynnal rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd lawn gyda'n cyllideb garbon 2, sy'n dilyn y mathau hynny o newidiadau ymddygiad bach sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Byddwn yn ymgysylltu â'r sector masnachol ar hynny hefyd. Rydym ni wedi dod i'r arfer yn ystod yr ugeinfed ganrif o oleuo ffenestri ein siopau a'n trefi mewn ffordd nad yw'n gwbl angenrheidiol o bosibl wrth i ni fynd ymlaen i argyfwng hinsawdd.

Ond, yn y bôn, mae angen i ni gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy. Mae angen i ni fanteisio ar yr adnoddau naturiol helaeth sydd gennym ni o'n cwmpas, ac mae gennym ni nifer o raglenni ar waith i fanteisio ar ynni morol—ynni'r tonnau ac ynni'r llanw, sy'n ddau beth gwahanol, rwyf i wedi ei ddysgu yn ddiweddar—gwynt, solar a'r gweddill. 

Fe wnes i sôn yn gryno mewn ateb blaenorol, Dirprwy Lywydd, ein bod ni'n cael sgwrs barhaus gydag Ofgem, nid yn unig am y cap ar brisiau ynni a sut mae'n gweithio, er ein bod ni'n amlwg wedi cael nifer o broblemau gyda hynny, ond am y grid a'r angen i wneud hwnnw yn addas i'r diben ac i ganiatáu mathau gwasgaredig o gynhyrchu ynni, felly, cartrefi fel gorsafoedd pŵer. Mae hynny yn golygu bod yn rhaid i chi gael trefniant cyflenwi yn ogystal â threfniant darparu ar y grid. Felly, rydym ni'n cael sgyrsiau da am sut y gallwn ni sicrhau bod y pethau hynny yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac i gael y buddsoddiad ar waith i wneud hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, mae argyfwng costau byw'r Torïaid yn effeithio ar bob un aelwyd yn Islwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr gyfarfod Ofgem y Gweinidog ar lawer o bynciau, ond yn enwedig o ran y pryderon ynghylch y mesuryddion rhagdalu a godwyd. Mae Ofgem wedi dweud y bydd taliadau ynni cyfartalog aelwydydd yn codi i £1,971 ym mis Ebrill, heb unrhyw gymorth uniongyrchol ar hyn o bryd yn y DU. Gyda'r DU wedi'i rhannu yn 14 gwahanol ranbarth prisio, lle mae'n costio gwahanol symiau i gael trydan a nwy i mewn i gartrefi pobl, ceir darnio prisiau cynhenid ledled Prydain.

Gweinidog, mae pobl Islwyn wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Lafur Cymru am ehangu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan ddyblu'r taliad untro ymlaen llaw i £200. Felly, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ddigonolrwydd, neu fel arall, ymateb Llywodraeth Dorïaidd y DU i'r argyfwng cost byw hwn? Sut mae rhewi lwfans tai lleol yn deg? Pa sylwadau pellach fydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i Lywodraeth Dorïaidd y DU yn galw am newidiadau brys i'r ffordd y mae'r farchnad ynni yn cael ei rheoleiddio i gynorthwyo pobl Cymru? A sut gall Cymru arloesi a datblygu ymhellach gynlluniau ynni cymunedol sydd o fudd i gymunedau lleol, fel y cynllun ynni dŵr gwyrdd arfaethedig ar lwyfandir Aberbargod yn Islwyn? Diolch.

16:15

Diolch, Rhianon. Felly, fel y dywedais i, mae Jane Hutt a minnau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, Kwasi Kwarteng, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn galw am bum cam eithaf syml: dileu'r costau polisi cymdeithasol ar filiau ynni'r cartref a'u symud i drethiant cyffredinol oherwydd, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, maen nhw'n dreth atchweliadol ac annheg iawn ar eu ffurf bresennol; cyflwyno terfyn uchaf ar dariff ynni domestig gwahaniaethol y mae Vikki Howells newydd sôn amdano, a chyflwyno gwell tariff wedi ei dargedu at gefnogi aelwydydd incwm is yn well; darparu rhagor a mwy o gymorth drwy'r gostyngiad cartrefi cynnes a chynlluniau taliad tanwydd gaeaf eraill, felly nid benthyciadau ond grantiau a thaliadau untro, i gyrraedd pobl; ehangu gallu cyflenwyr, yn bwysig iawn, i ddileu dyled ynni cartrefi a chyflwyno elfennau o arian cyfatebol i'r cynlluniau, gyda chostau'n cael eu talu gan Lywodraeth y DU; a chynyddu'r lwfans tai lleol, am yr holl resymau yr ydym wedi eu nodi. Nid ydym wedi cael ymateb hyd yn hyn. Byddaf yn ysgrifennu eto i atgoffa'r Ysgrifennydd Gwladol nad yw wedi ymateb eto.

Hoffwn i dynnu sylw hefyd, Rhianon, gan y gwnaethoch chi ei godi, y byddwn yn cael y £175 miliwn o gyllid canlyniadol o ganlyniad i'r ad-daliad o £150 ar gyfer cartrefi ym mandiau A i D. Fe wnes i ddweud, wrth ateb Janet Finch-Saunders, na fydd niferoedd mawr o bobl yn gallu manteisio ar hynny. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud y bydd y Cabinet yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r cyllid i gefnogi pobl y mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn edrych ar hynny gyda'i swyddogion.

Hoffwn atgoffa'r Senedd fod bil cyfartalog y dreth gyngor ym mand D yn Lloegr £167 yn uwch nag yng Nghymru eisoes, a bod gennym ni gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor gwerth £244 miliwn ar waith, sy'n helpu 270,000 o aelwydydd yng Nghymru gyda biliau'r dreth gyngor, ac nad yw tua 220,000 yn talu dim o gwbl. Felly, rydym ni eisoes wedi datblygu'n sylweddol fwy—yn fy marn i—na'r cynnig pitw iawn gan y Llywodraeth Geidwadol.

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Eitem 5 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig. Mick Antoniw.

Cynnig NDM7907 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pensiynau'r  Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.

Mae'r rhan fwyaf o'r Bil hwn y tu allan i gymhwysedd datganoledig. Mae'r darpariaethau yr ydym yn eu trafod heddiw yn ymwneud dim ond â chynyddu'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer aelodau o'n tribiwnlysoedd datganoledig hyd at 75 oed, a threfniadau ar gyfer eistedd ar ôl ymddeol. Mae'r rhain yn bethau yr ydym wedi dod i'r casgliad, o dan y setliad presennol o leiaf, ei bod yn gwneud synnwyr bod cydraddoldeb parhaus rhwng Cymru a Lloegr.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ill dau wedi craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n diolch iddyn nhw am ystyried y memorandwm ac am eu hadroddiadau ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad â'n hasesiad o'r darpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd.

Daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i'r casgliad nad oedd gan fwyafrif y pwyllgor unrhyw wrthwynebiad i gytuno i'r cynnig, gan nodi bod un Aelod wedi mynegi pryder ynghylch yr egwyddor o ddeddfwriaeth a fydd yn berthnasol i Gymru yn cael ei deddfu trwy Fil Llywodraeth y DU yn hytrach na Bil Llywodraeth Cymru. Nid wyf i'n anghytuno â'r safbwynt hwn. Yn gyffredinol, dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Ein dull ni o ddeddfu yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl y gellir eu cyflawni trwy'r gallu sydd gennym ni i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain a thrwy fanteisio ar y cyfleoedd priodol sydd ar gael i ni yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Yn yr achos hwn, bwriad y darpariaethau yw darparu mwy o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion busnes ar draws llysoedd a thribiwnlysoedd. Byddai Cymru o dan anfantais pe bai deiliaid swyddi barnwrol yn wynebu gyrfa farnwrol fyrrach a llai hyblyg o bosibl yng Nghymru o'i chymharu â'r hyn y gallen nhw ei dilyn yn Lloegr.

Ym mis Rhagfyr, fe wnes i groesawu cyhoeddiad adroddiad Comisiwn y Gyfraith, a oedd yn adolygu'r gyfraith sy'n llywodraethu'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Yn fy natganiad ysgrifenedig, roeddwn i'n glir ein bod ni'n cefnogi'n gryf egwyddor sylfaenol argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer un system dribiwnlys unedig, annibynnol yng Nghymru. Rydym yn gweithio ar fanylion argymhellion Comisiwn y Gyfraith wrth i ni ddatblygu ein polisi unigryw i Gymru sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru, gan gynnwys swyddi barnwrol.

Wrth gwrs, bydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar weithredu ein polisi ar gyfer diwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig. Fodd bynnag, gellir gwneud a gweithredu'r darpariaethau yn y Bil yr ydym yn ei drafod heddiw a'r newidiadau i'r oedran ymddeol gorfodol a threfniadau eistedd ar ôl ymddeol ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol yn gynt nag a fyddai'n wir pe baem yn gohirio'r newidiadau i'n deddfwriaeth ni yn y dyfodol mewn ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Rwyf i o'r farn bod darpariaethau'r Bil sy'n destun y memorandwm yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac, yn unol â hynny, rwy'n argymell bod yr Aelodau yn cytuno i'r cynnig ac yn rhoi cydsyniad y Senedd i'r darpariaethau Bil hynny.

16:20

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i i'w gwneud, a hynny dim ond oherwydd bod hwn yn un eithaf diddorol sydd o'n blaenau ni yma. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm hwn ar 3 Tachwedd 2021, ac nid oes gennym ni unrhyw argymhellion yn ein hadroddiad, ond dau sylw a ddylai fod o ddiddordeb i'r Senedd o ran cymhwysedd deddfwriaethol.

Felly, rydym yn nodi ac yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd. Rydym hefyd yn nodi bod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond mewn ffordd—fel y disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol—sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn gwirionedd, ac felly—ac mae o ddiddordeb i ni fel pwyllgor—nid oes angen cydsyniad ar gyfer y cymalau hynny. Yn hytrach, mae Rheol Sefydlog 30 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod datganiad ysgrifenedig gerbron y Senedd. Mae hyn ychydig yn anarferol a gallwch chi weld pam ein bod wedi cyffroi fel pwyllgor bod hyn yn ymddangos yma ar lawr y Senedd.

Felly, rydym ni yn nodi yn nodiadau ein hadroddiad fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi gosod datganiad o'r fath ar 12 Awst 2021 mewn cysylltiad â'r Bil, ac ers i ni adrodd, rydym yn nodi bod rhagor o ddatganiadau wedi eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 30, fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol.

Felly, diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd; mae'n rhywbeth i'w nodi ar gyfer yr Aelodau eraill.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.

Rwy'n diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth fanwl o'r hyn sy'n ddarn technegol iawn o ddeddfwriaeth ac, wrth gwrs, roedd y cyfeiriad a wnaeth o ran rhai newidiadau a gwelliannau a wnaed sy'n berthnasol i ddarpariaethau pensiwn y diffoddwyr tân, a oedd yn ganlyniad i weithredu deddfwriaethol, a ddaeth i ben yn y Goruchaf Lys, rwy'n credu, o ran rhai materion cydraddoldeb.

I gloi, mewn gwirionedd: mae darpariaethau'r Bil yno yn ymwneud â darparu hyblygrwydd i ddiwallu anghenion busnes y llysoedd a'r tribiwnlysoedd, ac rwy'n credu eu bod yn arwain yn adeiladol at yr hyn a fydd, gobeithio, yn ddeddfwriaeth yn y dyfodol o ran gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn cysylltiad â thribiwnlysoedd Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Eitem 6 yw'r ddadl ar gyllideb ddrafft 2022 i 2023. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7908 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl hon y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

Ers ein cyfle cyntaf i gynnal dadl ar y gyllideb ddrafft hon yn y Senedd, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Senedd wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant. Cyn i mi roi rhai o'r myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n deillio o'r craffu, hoffwn fyfyrio ar yr amgylchiadau sydd wedi llunio ac sy'n parhau i lunio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb. Cafodd y gyllideb hon ei ffurfio i gydnabod bod y pandemig ac effeithiau cyfyngiadau'r flwyddyn flaenorol ymhell o fod ar ben. Fodd bynnag, rydym ni wedi gosod cyllideb sydd, yn ogystal â chanolbwyntio ar gryfhau'r cymorth i wasanaethau cyhoeddus yn awr, hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer Cymru lewyrchus y tu hwnt i'r pandemig. Mae gennym ni rwymedigaeth i'r rhai y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw fwyaf i ddarparu Cymru decach nad yw'n gadael neb ar ei ôl. Mae'r gyllideb hon yn gwneud popeth o fewn ein pwerau a'n cyllid i fynd i'r afael ag effeithiau anghymesur y pandemig.

Rydym ni hefyd yn cydnabod yr angen i edrych i'r tymor hwy i sicrhau ein bod yn gadael Cymru gynaliadwy ar ein holau ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni wedi gweithredu yn awr i fynd i'r afael â'r angen dybryd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae ein paratoadau wedi eu harwain gan gefnogi llwybr Cymru at adferiad, gan sicrhau bod Cymru gryfach yn deillio o'r pandemig, ac un sy'n parhau i werthfawrogi cydraddoldeb. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o hyn, ac adlewyrchir hyn yn y cyllid refeniw ychwanegol yr ydym yn ei fuddsoddi: £1.3 biliwn ar gyfer y GIG, £60 miliwn o gyllid grant penodol i gefnogi gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill, a £743 miliwn ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth bod y gyllideb ddrafft hon wedi rhoi sicrwydd i'r sector cyhoeddus ehangach, a'r gydnabyddiaeth o'n hymgysylltiad â phartneriaid. Ochr yn ochr â'n cymorth i'r sector cyhoeddus, byddwn ni hefyd yn parhau i gefnogi'r economi a busnesau gyda buddsoddiad uniongyrchol o £160 miliwn i liniaru effeithiau'r pandemig, a gyda buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, canol trefi a seilwaith digidol.

Nod y gyllideb hon hefyd yw sicrhau Cymru decach, ac mae ein buddsoddiad o £60 miliwn ychwanegol mewn gofal plant, bron i £65 miliwn mewn adfer a diwygio addysg, a £90 miliwn mewn prydau ysgol am ddim, ar ben buddsoddiadau sylweddol sydd wedi eu gwneud eisoes yn y maes hwn, yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl. Hefyd, mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, wedi ei ysgogi gan gyfradd chwyddiant nas gwelwyd ers dros ddegawd, mae'r gyllideb hon wedi ystyried yr effeithiau ar y rhai mwyaf agored i niwed. Rydym ni wedi gweithredu drwy gynnwys cynlluniau fel ein cynllun treialu incwm sylfaenol ac ategu'r gronfa cymorth dewisol. Rydym ni hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei holl ysgogiadau i ymateb i'r argyfwng, gan gydnabod nad yw'r ysgogiadau a all gael yr effaith fwyaf ar les ac ynni wedi eu datganoli. Ond ni fyddwn yn hunanfodlon yn ein hymateb ein hunain i helpu'r rhai y mae'r argyfwng yn effeithio arnyn nhw fwyaf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi pecyn o fesurau ar gyfer 2021-22 a 2022-23 cyn bo hir, wedi ei dargedu at ble y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru.

Mae'r argyfwng hinsawdd a natur yn gofyn am weithredu brys a radical, y math a lywiodd y penderfyniad i greu gweinyddiaeth newydd ar gyfer newid hinsawdd a'r math a arweiniodd at y penderfyniad i gynnal adolygiad ar sail sero o'n holl gyllidebau cyfalaf. Mewn ymateb, rydym wedi llunio strategaeth seilwaith a buddsoddi 10 mlynedd newydd i Gymru a chynllun cyllid buddsoddi tair blynedd, sy'n neilltuo £8 biliwn o gyllid i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'n rhaid i bob buddsoddiad yn y cynllun ystyried effaith garbon ei weithgareddau. Wrth wraidd y cynllun hwn mae £1.8 biliwn o gyllid cyfalaf sy'n buddsoddi yn yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn y goedwig genedlaethol, bioamrywiaeth a mannau gwyrdd, cynhyrchu ynni a datgarboneiddio. Wrth sicrhau bod cymaint â phosibl o'n cyllid cyfalaf ar gael, byddaf hefyd yn amlinellu rhagor o ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol yn ein cyllideb derfynol, sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau. Fe wnaeth y mecanweithiau cymhleth a oedd ar waith gan Lywodraeth y DU i reoli ein proffil ein hunain ei gwneud yn amhosibl cyflwyno cynllun credadwy ar gyfer defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol yn gynharach.

Gan droi at bwyntiau a godwyd wrth graffu, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth o'r camau cadarnhaol yr ydym yn eu cymryd i wella prosesau cyllideb a threth drwy ein cynllun gwella'r gyllideb. Edrychaf ymlaen at ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid a chydweithwyr ehangach yn y Senedd ar y gwaith pwysig hwn wrth i ni symud ymlaen. Rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i ni gydweithio i roi Cymru ar flaen y gad yn y diwygiadau hyn, yng nghyd-destun y DU ac yn rhyngwladol. Rwyf hefyd yn croesawu'r gydnabyddiaeth o'r graddau y mae gweithredoedd Llywodraeth y DU wedi effeithio ar ein cynlluniau.

Methodd y setliad cyllidebol heriol o gylch gwariant aml-flwyddyn Llywodraeth y DU, yn enwedig o ran cyfalaf, â mynd i'r afael â'r pryderon sylweddol y mae Cymru'n eu hwynebu. Mae'r diffyg cymorth parhaus gan Lywodraeth y DU ar gyfer COVID, ei methiant i ddarparu cynllun credadwy i ddisodli cyllid yr UE, a'r ffaith iddi anwybyddu ein cais rhesymol am gymorth i adfer tomenni glo a mynd i'r afael â llifogydd, yn rhai enghreifftiau yn unig o ble mae Llywodraeth y DU wedi gwneud drwg â phobl Cymru. Rydym ni hefyd wedi gweld, drwy beidio â chwblhau ei hadolygiad o wariant tan ddiwedd mis Hydref, fod Llywodraeth y DU unwaith eto wedi methu â pharchu datganoli, gan effeithio ar ein cyllideb a'n hamserlen graffu ein hunain. Er fy mod i'n gobeithio dychwelyd at ein hamserlen arferol yn y dyfodol, y realiti yw y byddwn, unwaith eto, ar fympwy Llywodraeth y DU. Ac, wrth gwrs, byddaf yn parhau i alw am barchu datganoli yn fy ymgysylltiad â Llywodraeth y DU.

Yng ngoleuni'r setliad heriol a'r cyd-destun cyllidol cyfnewidiol parhaus, rydym ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cymaint â phosibl o'n cyllid ar gael. Rwyf i'n sicr ein bod ni wedi creu cyllideb ddrafft sy'n defnyddio'r holl ysgogiadau o fewn ein pwerau yn briodol. Er bod y camau yr ydym wedi eu cymryd yn ddoeth, nid ydyn nhw'n rhydd rhag risg. Wrth ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael yn llawn, rydym ni wedi mabwysiadu strategaeth wrth gefn newydd ac wedi gor-raglennu ein cyllidebau cyfalaf. Felly, rwy'n ei gwneud yn glir, heb ragor o gyllid gan Lywodraeth y DU, y byddai'n rhaid i unrhyw alwadau am fwy o gyllid ddod trwy ddadfuddsoddi mewn maes arall. Yn hyn o beth, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth o'r angen am fwy o hyblygrwydd cyllidebol gan Lywodraeth y DU. Efallai y cawn ni ragor o arian eto gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn, ond yn aml caiff hyn ei ddarparu ar fyr rybudd a heb yr hyblygrwydd sydd ei angen i fanteisio i'r eithaf ar y dyraniadau hyn.

Mae'r gyllideb ddrafft hon yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yng nghytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru. Mae'n cefnogi buddsoddiad mewn 13 o'r meysydd yr ydym wedi cytuno i gydweithio arnyn nhw, er enghraifft buddsoddi £90 miliwn ychwanegol i gefnogi ein huchelgais ar gyfer prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Byddaf yn parhau i weithio gydag Aelodau dynodedig yn y meysydd cytundeb hyn. Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn nodi'r buddsoddiad o £20 miliwn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal o ganlyniad i drafodaethau gyda Jane Dodds.

Hoffwn i ddiolch i bawb sy'n ymwneud â pharatoi'r gyllideb, gan gynnwys y Pwyllgor Cyllid. Mae'r craffu ar ein rhagdybiaethau a'n cynlluniau yn rhan annatod o'r broses, ac er ein bod yn cytuno â'r mwyafrif helaeth o'r argymhellion, mae rhai y bydd angen i ni eu hystyried yng ngoleuni'r cyfyngiadau yr wyf i wedi eu nodi heddiw. Byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac adroddiadau pwyllgorau eraill y Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 8 Mawrth. I gloi, rwy'n ffyddiog bod gennym ni gyllideb a all gyflawni ein huchelgais a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Rwy'n falch o gyflwyno cyllideb ddrafft sy'n cyflawni dros Gymru, ac edrychaf ymlaen at ddadl adeiladol yn y Senedd. Diolch.

16:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i i wneud cyfraniad yn y ddadl bwysig yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Hon yw cyllideb ddrafft gyntaf y Senedd hon a dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru, am y tro cyntaf ers 2017, wedi gallu darparu cyllideb amlflwyddyn sy'n nodi cyllid ar gyfer 2022-23 a dyraniadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Mae hyn wedi cael croeso cynnes gan ein rhanddeiliaid ac mae wedi rhoi lefel o sicrwydd iddynt gynllunio'n fwy effeithiol dros y tymor hirach. Gobeithiwn y bydd hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn dychwelyd i gyhoeddi ei chyllidebau ym mis Hydref, gan ganiatáu i'r pwyllgor ei amserlen arferol o wyth wythnos waith ar gyfer craffu ar y gyllideb. Edrychwn ymlaen hefyd at arwain dadl yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn nhymor yr haf, cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn yr hydref.

Hon yw fy nghyllideb ddrafft gyntaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n ystyried ymgysylltu â phobl ledled Cymru a gwrando ar randdeiliaid fel blaenoriaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth ac a rannodd eu barn gyda ni drwy ein hymgynghoriad, ein sesiynau tystiolaeth a'n grwpiau ffocws, sydd oll wedi helpu i lunio ein canfyddiadau.

Wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru, a'r Gweinidog yn benodol, yn wynebu heriau sylweddol wrth ymateb i bwysau economaidd, effeithiau newid hinsawdd, Brexit a lliniaru'r wasgfa ar incwm aelwydydd. Mae pwysau sy'n gysylltiedig â'r pandemig hefyd yn parhau i fod yn arwyddocaol ar gyfer iechyd, llywodraeth leol a busnesau. Mae ein hadroddiad yn gwneud 41 o argymhellion. O ystyried yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar ein prif bryderon.

Mae newid nodedig ac i'w groesawu yn y gyllideb ddrafft hon tuag at adferiad. Mae'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi bod yn well na'r disgwyl ac mae rhagolygon diwygiedig ar gyfer sylfaen drethi Cymru hefyd yn dangos rhagolygon economaidd gwell. Rydym yn croesawu'r cynnydd yn grant bloc Cymru, sydd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu dyraniadau cyllideb ar draws yr holl grwpiau gwariant. Mae angen mawr am hyn ac mae'n rhoi sylfeini cadarn ar waith ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, er bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 yn cynnwys cynnydd sylweddol, mae'r cynnydd yn y ddwy flynedd ganlynol yn llawer llai, a bydd y blynyddoedd hyn hyd yn oed yn fwy heriol.

Fel pwyllgor, rydym ni hefyd yn pryderu am y rhagolygon cyfyngedig ar gyfer cyllid cyfalaf, sydd, mewn termau real, yn debygol o gael ei dorri dros y cyfnod o dair blynedd. Bydd angen gwneud dewisiadau anodd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym yn falch o glywed bod y Gweinidog wedi newid ei dull o ddyrannu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf, sydd â'r bwriad o sicrhau cymaint o gyllid â phosibl, drwy fenthyca a symiau canlyniadol posibl. Fodd bynnag, hoffem ni gadw llygad ar y dull newydd hwn ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adrodd yn ôl ar y sefyllfa gyllid yn ystod y flwyddyn sy'n gysylltiedig â chynlluniau cyfalaf sydd wedi eu gor-raglennu a'i bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cyllid a geir yng nghronfa wrth gefn Cymru.

O ran cyllid, mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r ymreolaeth i wthio cyllid o un flwyddyn i'r nesaf, er mwyn atal unrhyw arian o Gymru rhag cael ei golli. Er mwyn gwneud ei gwaith yn effeithiol, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl yn y gyllideb, felly rydym yn cefnogi'r Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a oedd yn cynnwys nifer o ymrwymiadau gwariant ychwanegol. Er i'r Gweinidog ddweud wrthym nad oedd y cytundeb yn cael fawr o effaith ar y broses o flaenoriaethu cyllid ar gyfer eleni, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi eglurder ynghylch sut y caiff y cyllid ar gyfer ymrwymiadau polisi cysylltiedig ei adlewyrchu yn y dyraniadau cyllideb yn y dyfodol.

Hoffwn i droi yn awr at sut mae'r gyllideb ddrafft yn effeithio ar feysydd polisi penodol. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r farn bod iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol wedi cael setliad da, sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethu gwasanaethau lleol. Rydym ni hefyd yn falch o glywed y sylwadau cadarnhaol ynghylch ymateb a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae'r sectorau hyn yn destun pwysau digynsail. Fel y nodwyd, bydd dyraniadau cyfalaf yn gyfyngiad penodol, o ystyried y galwadau am drawsnewid gwasanaethau, buddsoddi mewn seilwaith a goblygiadau ehangach datgarboneiddio a lleihau effaith amgylcheddol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried newid refeniw i gyfalaf yn rhan o gyllidebau'r dyfodol ac yn caniatáu i'r sector iechyd wneud yr un peth, i ddarparu hyblygrwydd, o ystyried y cyllid cyfalaf cyfyngedig sydd ar gael. Rydym hefyd yn pryderu am brinder staff a materion yn ymwneud â'r gweithlu, wrth i staff ddioddef yn sgil absenoldebau oherwydd eu bod wedi eu gorweithio a COVID-19. Mae heriau tymor hwy hefyd i fynd i'r afael â nhw, er enghraifft nifer uchel o swyddi gwag ymhlith staff, wrth i lawer yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol wneud dewisiadau gyrfa amgen, sydd yn aml gyda gwell cyflog. O ganlyniad, mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth i ddangos sut y bydd y dyraniadau ar gyfer 2022-23 yn lleddfu'r pwysau uniongyrchol ar staffio ar draws y sectorau iechyd, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol.

Dywedodd y busnesau y buom yn siarad â nhw fel pwyllgor wrthym fod yr ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a'r sectorau y maen nhw'n eu cynrychioli wedi bod yn dda. Roedd cydnabyddiaeth o'r cymorth cyflym a roddodd Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, yn enwedig yr egwyl i ardrethi busnes, y cynllun ffyrlo, grantiau a benthyciadau. Fodd bynnag, fe wnaethom ni glywed hefyd y gellid gwneud mwy, a dyna pam yr ydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud rhagor o ddyraniadau yn y gyllideb derfynol i gynyddu'r cymorth ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes. Er mwyn galluogi busnesau a manwerthwyr llai i adfer ar ôl y pandemig, rydym yn argymell hefyd fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn seilwaith a sgiliau digidol ac yn helpu'r busnesau hynny i ddatblygu presenoldeb ar-lein.

Gyda’r agenda hinsawdd ac amgylcheddol yn cynyddu yn dilyn uwchgynhadledd dyngedfennol COP26, mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i dargedu buddsoddiadau ar gyfer yr argyfyngau o ran hinsawdd a natur. Efallai y bydd lefel y cyllid newydd a’r cyllid ychwanegol a nodir yn y gyllideb ddrafft, fodd bynnag, yn is na'r hyn sydd ei angen i ymdrin â'r dasg enfawr hon. Mae’n siomedig nad yw’r gyllideb ddrafft yn mynd ymhellach i asesu effaith penderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru o ran carbon. Os yw’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn sail wirioneddol i Lywodraeth Cymru wneud buddsoddiadau, rhaid iddi gael syniad clir o’r hyn y bydd yn ei chyflawni drwy ei gwariant. Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd amlinellu’r ffyrdd ymarferol y mae’r strategaethau a’r amcanion a amlinellir yn y gyllideb ddrafft yn cael eu rhoi ar waith i gydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

Eleni, bydd aelwydydd yn teimlo pwysau sylweddol ar eu hincwm o ganlyniad i chwyddiant, costau ynni cynyddol a phrisiau nwyddau uwch, a'r aelwydydd tlotaf fydd yn cael eu taro galetaf. Bydd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am gynnydd ym mhris biliau nwy a thrydan pobl yn peri pryder arbennig i lawer. Mae'r pwyllgor yn nodi ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng, fel y gronfa cymorth dewisol, cymorth gyda biliau tanwydd gaeaf ac ymestyn prydau ysgol am ddim, er i ni glywed bod gan amrywiaeth o gynlluniau broffil isel, sy'n golygu bod y bobl fwyaf agored i niwed ar eu colled. Mae'r pwyllgor yn annog y Gweinidog i gysylltu â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i sicrhau bod y cyhoedd ac asiantaethau cymorth yn deall bod amrywiaeth o gymorth ar gael. Dylid symleiddio a chydgrynhoi budd-daliadau Cymru. Rydym yn galw am sefydlu un pwynt mynediad sy'n cysylltu ar draws y gwasanaethau a'r cynlluniau allweddol er mwyn i bobl allu cael gafael ar y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo yn hawdd.

Soniais ar ddechrau’r cyfraniad hwn fod ymgysylltu â phobl ledled Cymru a gwrando ar farn rhanddeiliaid yn flaenoriaeth gen i fel Cadeirydd. Mae dangos effaith y gyllideb yn hollbwysig er mwyn sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â’r sectorau a’r sefydliadau hynny yr effeithir arnynt, ac yn rhoi cyfle iddynt lywio a dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol. Rydym wedi argymell felly y dylid ystyried sut y cyflwynir gwybodaeth gyllidebol fel ei bod yn gysylltiedig â chanlyniadau ac effeithiau. Teimlwn y bydd hyn yn helpu gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hun, yn ogystal â chynyddu gallu’r cyhoedd a’r Senedd i ddwyn cyllideb Llywodraeth Cymru i gyfrif. 

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae gwaith craffu ariannol yn bwysicach nag erioed, oherwydd bydd gwariant cyhoeddus ar raddfa fawr yn ofynnol i sicrhau adferiad o’r pandemig a mynd i’r afael â’r pwysau aruthrol y mae Cymru yn eu hwynebu. Fel y dywedodd cyfranwr o un o grwpiau ffocws y pwyllgor wrthym, gallai cynnydd mewn gwariant wneud byd o wahaniaeth wrth inni adfer ar ôl y pandemig. Mae'r pwyllgor yn falch bod y safbwyntiau hynny'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mater i'r Gweinidog rŵan ydy sicrhau bod gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei gwireddu. Fel pwyllgor, byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw llygad barcud ar sicrhau bod rhethreg Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r realiti. Diolch yn fawr.

16:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Peter Fox i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, yn ogystal â fy nghyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i chi am y ffordd yr ydych chi wedi rheoli'r pwyllgor drwy'r cylch cyllideb cyntaf hwn; mae wedi bod yn wych gweithio gyda chi. A diolch hefyd i bawb a gyfrannodd at graffu ar y gyllideb bwysig iawn hon.

Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i yn fy araith ar y gyllideb ddrafft fis diwethaf, mae nifer o bethau yr wyf i'n eu croesawu yn gyffredinol, er enghraifft y cyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru, y gwyliau ardrethi busnes a'r cynnydd i setliad llywodraeth leol. Mae angen dyraniadau o'r fath yn fawr i helpu gwasanaethau a busnesau nid yn unig i adfer ar ôl y pandemig, ond i feithrin cydnerthedd a'n rhoi ar lwybr gwell ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i mi ailadrodd mai'r rheswm y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu'r cymorth ariannol y mae mawr ei angen ar ein cymunedau a'n gwasanaethau, yw bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi'r hwb ariannol mwyaf erioed i Gymru. Fodd bynnag, yn y manylion y daw'r broblem, a byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn craffu'n fanwl ar sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio dros y misoedd nesaf i sicrhau ei fod yn cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei addo—Cymru gryfach, decach a gwyrddach, fel yr ydym newydd ei glywed.

Y rheswm dros ein gwelliant, Dirprwy Lywydd, a'r rheswm y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw, yw ein bod yn dal i fod o'r farn y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy yn ei chynigion cyllidebol. Yn wir, mae angen iddi wneud mwy i fynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf arwyddocaol y mae Cymru'n eu hwynebu: yr ôl-groniad yn y GIG yng Nghymru sydd eisoes dan straen ac wedi ei orweithio, sydd wedi arwain at nifer o gofnodion diangen yn ystod COVID, fel yr amseroedd aros uchaf ar gofnod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf ar gofnod a'r amseroedd aros hiraf ar gofnod; y galw cynyddol am ofal cymdeithasol, sy'n rhoi straen enfawr ar y sector yn ogystal â nifer o faterion staffio, gan gynnwys cyflog isel, trosiant uchel—[Torri ar draws.] Na, ni fyddaf yn derbyn unrhyw ymyriadau ar hyn o bryd; mae'n ddadl ddwy awr ac mae amser hir i bobl gyfrannu. Maen nhw'n cynnwys cyflogau isel, cyfraddau trosiant uchel a gostyngiad yn nifer y staff mewn rhai ardaloedd. Mae cyflwr bregus economi Cymru hefyd, sydd wedi gorfod ymdrin â chylch o gyfyngiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan dagu twf a buddsoddiad. Mae'r pandemig wedi amlygu'r materion economaidd strwythurol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu, gan dynnu sylw at yr angen i godi'r gwastad yn y wlad. Ac ymateb i newid hinsawdd a'r argyfyngau natur, a fydd yn dominyddu gwaith y Senedd hon, yn yr hyn a alwodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn 'ddegawd arwyddocaol'.

Wrth gwrs, mae gennym ni hefyd y mater presennol yn ymwneud â'r costau byw cynyddol, fel y gwnaethom ei drafod yn gynharach, o ganlyniad i bwysau chwyddiant wrth i'r economi fyd-eang adfer ar ôl y pandemig. Nawr, cyn i'r Aelodau gyferbyn fy nghyhuddo o hyn, nid wyf yn negyddol heb reswm. Y gwir amdani yw bod y pandemig wedi gwaethygu problemau sylweddol a oedd yn bodoli eisoes, gan nad oedd Llywodraethau blaenorol wedi mynd i'r afael â nhw. Er bod y grŵp Llafur yn credu nad nhw na Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddim sydd o'i le yng Nghymru, mae'r rhain yn bethau y bydd angen i'r Llywodraeth, yn wir, yma, a'r Senedd fynd i'r afael â nhw dros y blynyddoedd nesaf, a nhw hefyd yw'r pethau y mae ein hetholwyr yn dymuno ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion arnyn nhw. Dyna pam yn fy araith y mis diwethaf y gwnes i nodi rhai o gynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru a fyddai'n cefnogi adferiad ein gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd yn adeiladu cenedl fwy llewyrchus ac uchelgeisiol. Mae ein cynlluniau â chostau yn cynnwys mynd i'r afael ag ôl-groniad y GIG drwy sefydlu canolfannau llawfeddygol rhanbarthol sy'n ysgafn o ran COVID; cefnogi busnesau i adfer ar ôl y pandemig drwy becyn o bolisïau i ddenu pobl yn ôl i'r stryd fawr, yn ogystal ag arian ychwanegol i fusnesau sy'n dal i gael anawsterau wrth dalu am gost COVID; hyrwyddo ymchwil a datblygiad drwy ddarparu dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin ag ymchwil a datblygiad; sefydlu partneriaethau a ffrydiau cyllid newydd—dylai hyn fod yn flaenoriaeth benodol i helpu'r wlad i ailgodi'n gryfach, creu swyddi ac annog mewnfuddsoddiad; cymryd camau i leddfu'r pwysau ar deuluoedd drwy ariannu cynllun i rewi'r dreth gyngor i Gymru gyfan am o leiaf dwy flynedd i roi saib ychwanegol i'r teuluoedd hynny; cynyddu cyllid fesul disgybl i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid hanesyddol yn ein hysgolion a recriwtio mwy o athrawon amser llawn i hybu safonau a rhoi'r addysg sydd ei hangen ar bobl ifanc ar ôl dwy flynedd o darfu.

Yr hyn sy'n peri rhwystredigaeth i mi, Dirprwy Lywydd, yw ein bod yn clywed dro ar ôl tro, gan Weinidog ar ôl Gweinidog, sut nad Llywodraeth Cymru yw'r unig ffatri syniadau a bod angen gwaith trawsbleidiol ar faterion o bwys cenedlaethol. Ac roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn dweud heddiw ei bod yn dymuno gweithio gyda phob un ohonom ni ar hyn, ac eto nid yw camau gweithredu Llywodraeth Cymru bob amser yn cyfateb i'w rhethreg, ac, yn hytrach, mae'n teimlo mai safbwynt diofyn y Llywodraeth yw troi tuag at y ffordd hawsaf o gael y pleidleisiau angenrheidiol i basio cyllideb—bargen gyda Phlaid, ac, mae'n ymddangos, un gyda'r Aelod Rhyddfrydol hefyd. Ac, unwaith eto—[Torri ar draws.]

16:45

Mae'r Aelod wedi dweud yn gynharach na fydd yn derbyn ymyriad ar hyn o bryd. 

Ac, unwaith eto, dyma'r hyn sydd gennym ni yn y pen draw. Gweinidog, mae'r ddadl hon yn gyfle i gael cefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol i'ch cynlluniau gwariant yn ogystal â sicrhau bod eich cyllideb yn rhoi Cymru ar lwybr gwell. A wnewch chi gyfarfod â mi a chyd-Aelodau o'r ochr hon i'r Siambr i wrando ar ein pryderon yn ogystal â phryderon rhanddeiliaid, ac ystyried ein cynlluniau i sicrhau bod y gyllideb yn cyflawni ei blaenoriaethau?

Gan gyfeirio at gytundeb Llafur/Plaid, sy'n dal i ymddangos yn fath o glymblaid ym mhob dim ond enw, mae pryderon wedi eu codi, er enghraifft gan Ddadansoddiad Cyllidol Cymru, fod y cytundeb yn cynnwys ymrwymiadau gwariant ychwanegol sylweddol. Er enghraifft, fel yr ydym wedi ei glywed, gallai ehangu prydau ysgol am ddim gostio £86 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol; gallai ehangu'r ddarpariaeth gofal plant gostio £40 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol; a bydd angen o leiaf £200 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i greu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Wel, gallwn ni weld yn sicr nad yw Plaid Cymru yn rhad i'w chanlyn, nac ydy? Mae cwestiynau o hyd ynghylch pa mor hawdd eu cyflawni yw rhai o'r ymrwymiadau hyn. Er enghraifft, Gweinidog, sut ydych chi'n ymateb i bryderon gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y diffyg cyllid cyfalaf ychwanegol ymddangosiadol i fuddsoddi mewn cyfleusterau arlwyo ysgolion i gyflawni'r polisi prydau ysgol? Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan hefyd nad yw'r gyllideb ddrafft yn gwneud dyraniad i ddiwygio'r trefniadau sy'n llywodraethu sut y mae pobl yn talu am ofal ar hyn o bryd. Ydych chi'n cytuno â hyn? Gweinidog, a wnewch chi hefyd roi eglurder ynghylch y cynllunio ariannol yr ydych wedi ei wneud ar gyfer y dyfodol i gyfrifo costio polisïau'r cytundeb cydweithredu a'u hariannu? Ac a yw hyn yn cynnwys cynyddu cyfraddau treth incwm Cymru ar ryw adeg?

Dirprwy Lywydd, wrth archwilio ymhellach, mae'r gyllideb ddrafft yn llwytho swm sylweddol o arian ychwanegol i'r GIG ar y dechrau, ac rwy'n dal i gwestiynu sut y bydd hyn yn effeithio ar gynllunio ariannol tymor canolig a hir ar gyfer gwasanaethau. Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i bryderon sylweddol y pwyllgor iechyd ynghylch methiant llawer o'r byrddau iechyd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol a'r angen cyson i Weinidogion eu hachub? At hynny, beth fydd effaith y gostyngiad o £98 miliwn i ddyraniad cyfalaf craidd y GIG ar y trawsnewid gwasanaethau y mae mawr ei angen, fel y nododd Cydffederasiwn y GIG?

Nawr, er fy mod i'n croesawu'r cynnydd i'r setliad llywodraeth leol, mae pryderon o hyd, gyda'r holl bwysau y mae cynghorau'n eu hwynebu, y bydd llawer yn cael eu gadael heb fawr o le ychwanegol i symud. A yw'r Gweinidog yn ystyried unrhyw ddyraniadau pellach i lywodraeth leol er mwyn iddyn nhw allu buddsoddi'n fwy yn eu hardaloedd lleol yn hytrach na dim ond bodloni pwysau chwyddiant? Yn y cyfamser, mae materion hirsefydlog o hyd ynghylch fformiwla ariannu llywodraeth leol ac, yn benodol, bod y bwlch cyllid rhwng y cynghorau sy'n cael y mwyaf a'r lleiaf o gyllid wedi ehangu eto. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu ac ailwampio'r fformiwla o'r diwedd fel bod pob cyngor yn cael setliad teg yn gyson, p'un a yw'n gyngor gwledig neu drefol? Nawr, rwy'n gwybod yr ateb stoc—rydym ni wedi ei glywed droeon—ond dyma lle mae angen i'r Llywodraeth arwain, ac arwain o'r tu blaen a chymryd cyfrifoldeb am hyn.

Mae hefyd y mater o newid hinsawdd. Er fy mod i'n croesawu'r cyfalaf o £1.8 biliwn dros y tair blynedd nesaf ar gyfer buddsoddiad gwyrdd, mae £1.6 biliwn o hyn wedi ei ddyrannu i ddatgarboneiddio tai cymdeithasol, gan adael £200 miliwn yn unig o gyfalaf ar gyfer buddsoddiadau eraill. Yn amlwg, ni all hyn fod yn ddigon.

Cyn i mi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn i sôn am ddyfodol cyllid yr UE. Drwy gydol proses y gyllideb, rydym ni wedi clywed Llywodraeth Cymru yn pardduo Llywodraeth y DU yn gyson ynghylch y mater, yn wir roedd yr Aelodau'n parablu'n helaeth yn gynharach heddiw. Bydd Cymru'n parhau i elwa ar gyllid yr UE tan 2024-25, a bydd Llywodraeth y DU yn ychwanegu yn raddol at y swm sy'n weddill. Mae'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru yn hapus i godi bwganod am ddyfodol Cymru y tu allan i'r UE yn hytrach nag edrych ar gyfleoedd i godi'r gwastad yn ein cymunedau. Mae Gweinidogion yn sôn bod disodli rhaglenni yn fygythiad i ddatganoli, ond pam na ddylem ni ymddiried yn ein cynghorau a'n cymunedau i gyflawni'r newidiadau y maen nhw'n dymuno eu gweld? Siawns nad ydym ni yn y Siambr hon yn credu mewn egwyddorion is-gorff, onid ydym ni? A yw Gweinidogion yn credu mewn gwirionedd y dylai'r pwerau ddod i ben ym Mae Caerdydd?

16:50

Mae angen i'r Aelod ddod i ben yn awr. Mae gen i lawer o siaradwyr sy'n dymuno cyfrannu heddiw.

Mae angen i ni weld Gweinidogion Cymru yn ymgysylltu â rhaglenni newydd, fel y mae llawer o'n cynghorau wedi ei wneud eisoes, felly ein cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cyllid sydd ar ei ffordd i ni. Mae angen i'r gyllideb hon fod yn un o gefnogaeth ac adferiad, ond hefyd yn un o ddyhead a ffyniant, o godi'r gwastad—cyllideb sy'n cyflawni newid gwirioneddol i bobl Cymru o'r diwedd yn hytrach na dim ond potsian o amgylch yr ymylon. Mae'r cyllid mwyaf erioed gan y Llywodraeth yn ogystal â'r cymorth enfawr yn ystod y pandemig yn rhoi cyfle i ni yma yng Nghymru i sicrhau dyfodol gwell, mwy disglair a gwyrddach. Ond fel y mae, mae hon yn gyllideb sy'n methu â chyrraedd y nod mewn nifer o feysydd allweddol, wrth gefnogi ein GIG, ein cymunedau—

Rwyf i ar fin gorffen, dirprwy Gadeirydd. Gall y gyllideb wneud mwy ac mae'n rhaid iddi wneud hynny, a dyma pam yr wyf i'n mawr obeithio bod y Gweinidog yn agored i ymgysylltu â ni ar yr ochr hon i'r Siambr ac nid eu cyfeillion Plaid yn unig, fel y gallwn ni, yn un Senedd, ymateb i'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru. Diolch.

Dwi am rannu, gyda'ch caniatâd chi, fy nghyfraniad i yn gyntaf yn fy nghapasiti fel llefarydd fy mhlaid ar gyllid, ac wedyn i fynd ymlaen i wneud rhai sylwadau fel Cadeirydd pwyllgor.

Yn gyntaf, o safbwynt Plaid Cymru, wrth gwrs, rŷn ni yn croesawu, fel clywon ni gan y Cadeirydd, fod hon, o'r diwedd, yn gyllideb aml-flwyddyn. Dwi'n credu ein bod ni wedi aros rhyw bum mlynedd, dwi'n meddwl, i gael bod yn y sefyllfa yma. Mae'n wyrthiol, a dweud y gwir, sut mae cyrff cyhoeddus a'r Llywodraeth ei hunan i raddau, wedi gallu cynllunio mewn sefyllfa neu ar sail mor anwadal, yn gorfod mynd o flwyddyn i flwyddyn oherwydd gwahanol sefyllfaoedd sydd wedi codi ar lefel San Steffan. A gobeithio nawr y bydd y sicrwydd yma'n gallu caniatáu i'n darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allu gwasgu pob ceiniog allan o'r pwrs cyhoeddus i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio mor galed ag sy'n bosib. Ac mae angen i hynny digwydd, wrth gwrs, achos efallai gallai rhai pobl ddadlau bod y setliad, yn ymddangosiadol, efallai, ar yr olwg gyntaf, yn edrych yn weddol hael; mae'r realiti yn wahanol iawn, yn enwedig os edrychwch chi dros y tair blynedd gyfan.

Rŷn ni'n dal yn gweld oblygiadau Brexit, sydd yn dod â chostau ychwanegol i ni yma yng Nghymru, rŷn ni'n dal i frwydro COVID, rŷn ni'n dal, wrth gwrs, yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur yng Nghymru ac ar draws y byd, a nawr rŷn ni'n gweld y crisis costau byw yn taro. Felly, os ŷch chi'n credu bod y gwasanaeth iechyd, a llywodraeth leol, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi bod o dan bwysau ers blynyddoedd, wel, dyw hynna ddim yn mynd i leihau yn y cyfnod nesaf. Mae'n bosib iawn y bydd e'n dwysáu, ac mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof. Mae'r Ceidwadwyr yn sefyll lan yn y Siambr hon ac yn awgrymu bod Trysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn hael â Chymru. Mae'n ffars, yn fy marn i, ac mae'n sarhad, a dweud y gwir. Hyd yn oed petaech chi yn derbyn ei fod e'n setliad gwell na'r disgwyl, beth rŷn ni'n gweld, wrth gwrs, yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig efallai yn rhoi gydag un llaw, ond yn cymryd gyda'r llaw arall. Maen nhw'n pocedu £1 biliwn o bres Ewropeaidd a ddylai fod yn dod i Gymru, gwrthod siâr Cymru o bres HS2, tra eu bod nhw'n hapus i'w roi i'r Alban, a'i roi i Ogledd Iwerddon, ond ddim i Gymru, o na. Mae Cymru angen gwybod ei lle pan fo'n dod i dderbyn cyllid o'r fan yna.

Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod hefyd—dyw e ddim yn rhywbeth newydd—petai cyllidebau Cymru wedi cadw lan â chwyddiant, yna, fel mae'r Gweinidog yn ein hatgoffa ni'n gyson, mi fyddai yna £3 biliwn ychwanegol yn y gyllideb rŷn ni'n ei thrafod heddiw, ond, na. Felly, peidied y Ceidwadwyr â dod fan hyn a dweud wrthym ni pa mor lwcus ŷn ni. Mae'r gwirionedd i'r gwrthwyneb yn llwyr.

Ac, wrth gwrs, erbyn diwedd y drydedd flwyddyn, yn edrych ar yr hyn sydd o'n blaenau ni y prynhawn yma, mi fydd y gyllideb refeniw 0.5 y cant yn unig wedi tyfu dros dair blynedd—dros dair blynedd, dim ond 0.5 y cant. Mi fydd y gyllideb gyfalaf, sef y buddsoddiad yna sydd ei angen mewn isadeiledd i danio'r economi, i greu swyddi yma yng Nghymru—mi fydd hwnnw 11 y cant yn llai. Dyna realiti y gyllideb sydd o'n blaenau ni heddiw. Felly, dwi ddim eisiau clywed rhagor o'r nonsens yna, â phob parch.

O ran gwelliant y Ceidwadwyr, wel, am welliant diog. Mae'n or-gyffredinol, onid yw e? Plague on all your houses yw'r math yna o welliant. Ydych chi'n dweud bod pob elfen o'r gyllideb ddim yn cwrdd â blaenoriaethau pobl Cymru? Dyw hi ddim yn berffaith. Dyw hi ddim yn berffaith, a dwi yn poeni a'n rhannu consýrn am elfennau o'r gyllideb i lywodraeth leol, er enghraifft, ddim o reidrwydd y flwyddyn nesaf, ond yn sicr ym mlwyddyn 2 a 3, lle bydd yr ariannu yn disgyn ymhellach y tu ôl i lefelau chwyddiant.

Dwi'n poeni hefyd fod mwy y gellid a dylid ei wneud i amddiffyn pobl Cymru yn wyneb y crisis costau byw. Bydd rhai o fy nghyfeillion i ar feinciau Plaid Cymru yn ymhelaethu ar hynny yn nes ymlaen yn y ddadl yma.

Ond mae yna elfennau i'w croesawu hefyd, wrth gwrs, sydd yn sicr yn cwrdd â blaenoriaethau pobl Cymru yn fy marn i, yn enwedig yr elfennau yn y gyllideb yma, fel clywon ni gan y Gweinidog, sy'n rhoi ar waith y cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Yn lle cwyno ar y cyrion, fel mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud, mae Plaid Cymru wedi rholio llawes i fyny ac wedi eistedd lawr gyda'r Llywodraeth i drafod beth allwn ni wneud i fynd i'r afael â'r problemau yma. Yn lle amddiffyn toriadau mewn credyd cynhwysol, mae Plaid Cymru yn y cytundeb yma yn delifro ar brydau ysgol am ddim i blant Cymru. Yn lle leinio pocedi cyfeillion cyfoethog gyda chytundebau PPE digon amheus, fel mae'r Ceidwadwyr wedi'i wneud, mae Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithredu yn delifro mwy o ofal am ddim i blant a rhieni Cymru.

Ac mae yna 44 o bolisïau eraill sydd yn cael eu rhoi ar waith yn y cytundeb, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gyllideb yma yn sicrhau ein bod ni'n gallu symud ymlaen gyda'r rheini. Felly, yn wahanol iawn i beth rŷn ni'n ei weld gan y Ceidwadwyr a Llywodraeth San Steffan y dyddiau yma, mae Plaid Cymru yn arddel gwleidyddiaeth gyfrifol, adeiladol sydd yn blaenoriaethu anghenion pobl Cymru, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y dyraniadau sydd yn y gyllideb yma.

Dyw hi ddim yn berffaith. Dwi'n cytuno, dyw hi ddim y gyllideb y byddai Plaid Cymru wedi'i gosod yn ei chyflawnder, a dyna pam y byddwn ni ddim yn pleidleisio o blaid y gyllideb. Ond mae yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac mae o leiaf yn cychwyn ar y gwaith o adeiladu'r Gymru rŷn ni eisiau ei gweld.

Mi symudaf i ymlaen nawr i gyfrannu i'r ddadl ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Wrth gwrs, mae'n gyllideb ddrafft gyntaf y chweched Senedd. Mae'n dilyn COP26, ac yn rhagflaenu COP15, lle wrth gwrs rŷn ni'n disgwyl gweld targedau bioamrywiaeth byd-eang newydd yn cael eu cytuno. Mae pwysau cynyddol ar lywodraethau ar draws y byd i sicrhau bod gweithredu a buddsoddiadau yn cyd-fynd â'r geiriau cadarnhaol rŷn ni'n eu clywed, ond, wrth gwrs, beth rŷn ni eisiau gweld yw hynny yn cael ei roi ar waith. Ac mae'r chweched Senedd yn cyd-ddigwydd â chyfnod tyngedfennol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad byd natur. Ac mi fydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf yn hanfodol wrth benderfynu a all Cymru fodloni ei chyllideb garbon ar gyfer 2021-25, a gwneud digon o gynnydd, wrth gwrs, tuag at ddod yn genedl sero net erbyn 2050 neu, wrth gwrs, yn gynt, gobeithio.

Mae llawer o naratif y Llywodraeth ynghylch y gyllideb ddrafft yn ymwneud â’r angen i lunio ymateb brys a radical, i ddefnyddio geiriau'r Llywodraeth, i’r argyfwng newid hinsawdd. Ac mae’r gyllideb ddrafft yn gyfle i'r Llywodraeth ddangos ei hymrwymiad i wneud yn union hynny drwy ei phenderfyniadau gwariant. Ac mae rhai arwyddion calonogol: mwy o fuddsoddiad ym maes datgarboneiddio tai, yr economi gylchol, coedwigaeth, ynni adnewyddadwy a llifogydd. Ond, wrth gwrs, y prawf go iawn fydd a fydd hyn yn ddigon i sicrhau newid ar y raddfa ac ar y cyflymder sydd angen ei weld.

Nawr, datgarboneiddio trafnidiaeth yw un o'r prif heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth drafnidiaeth ddiweddar, a hynny'n gwbl briodol, yn gosod targedau ymestynnol, sy'n cynnwys i 50 y cant o fysiau fod yn ddi-allyriad erbyn 2028. Ond fydd cyllid i gefnogi datgarboneiddio gwasanaethau bysiau lleol ddim yn dilyn tan 2023-24. Y cwestiwn yw: pam? Pam hynny? Rŷn ni wedi gofyn i'r Gweinidog am esboniad o hynny. Ochr yn ochr â'r targed ar gyfer bysiau, mae gan Lywodraeth Cymru darged y bydd pob cerbyd tacsi neu gar hurio preifat yn ddi-allyriad erbyn 2028. Wel, bydd angen cymorth ar y sector hwn, gydag unigolion yn hunangyflogedig a’u henillion yn isel, er mwyn iddyn nhw allu trosglwyddo i geir trydan. Yn ein hadroddiad, felly, rŷn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi map llwybr ar gyfer cyflawni targedau 2028, gan gynnwys manylion y gost ariannol a sut y caiff ei chyflawni. Rŷn ni'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at dderbyn ymateb.

Yn olaf ar drafnidiaeth, rydym yn pryderu am y backlog mewn gwaith cynnal a chadw priffyrdd lleol sy’n aros i gael ei wneud, ar gost o tua £1 biliwn. Mae cyflwr ein ffyrdd ni wrth gwrs nid yn unig yn cael effaith ar drafnidiaeth, ond ar bethau eraill, oherwydd y problemau ehangach y gall dadfeilio eu hachosi, er enghraifft, culverts sydd ddim, efallai, yn cael eu cynnal a'u cadw sydd wedyn yn achosi llifogydd. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud wrthym ni y bydd cyllid yn cael ei ailgyfeirio o ganlyniad i'r adolygiad o ffyrdd ond, wrth gwrs, y gofid yw na fydd hynny hyd yn oed yn ddigon i grafu'r wyneb. Ond amser a ddengys.

Symud ymlaen, felly, i’r argyfwng natur, fe fethodd Llywodraeth Cymru gyflawni dros fyd natur yn y bumed Senedd. Fe fethodd gyflawni ymrwymiadau a thargedau cenedlaethol a rhyngwladol. Er bod yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf yn awgrymu nad yw’n rhy hwyr i dynnu byd natur yn ôl o’r dibyn, mae angen newid sylweddol a thrawsnewidiol—nid yn y flwyddyn nesaf, nid ymhen pum mlynedd, ond nawr. Ac mae’r gyllideb ddrafft yn awgrymu cynnydd mewn gwariant uniongyrchol ar fioamrywiaeth, ac mae hynny i’w groesawu. Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gliriach ynglŷn â chyfanswm y cyllid y mae’n ei ddarparu ar gyfer adferiad byd natur, a sut y mae wedyn yn asesu a monitro effaith hyn ar frwydro yn erbyn colli bioamrywiaeth.  

Ac, i gloi, mae gan, wrth gwrs, Cyfoeth Naturiol Cymru rôl ganolog o ran gwarchod a gwella'r amgylchedd a chefnogi'r llywodraeth i wireddu ei huchelgais. A'r neges gan randdeiliaid, yn glir iawn ac yn groch iawn, yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael trafferth i gyflawni ei rôl yn iawn oherwydd diffyg capasiti a diffyg adnoddau. Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, wedi dweud bod gwaith ar droed i adolygu cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rŷn ni'n croesawu hynny’n fawr iawn fel pwyllgor. Ond mae'n rhaid defnyddio'r cyfle yma i wrthdroi y tuedd hanesyddol o doriadau yng nghyllid Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n rhaid cytuno ar setliad felly—

17:00

—sy’n gymesur â'i rôl a'i chyfrifoldebau. Dŷn ni ddim eisiau bod nôl yn trafod hwn eto flwyddyn nesaf. Diolch.

Hoffwn i ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Gweinidogion, y Dirprwy Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a roddodd dystiolaeth i ni ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gefnogi ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft eleni. Yn ogystal ag ymddangos gerbron y pwyllgor, rhoddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth ysgrifenedig helaeth a manwl i ni. Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith caled a'u cydweithrediad, a wnaeth wella ein gallu i graffu ar y gyllideb ddrafft. Fe wnaethom ni ofyn am wybodaeth mor fanwl oherwydd profiadau ein pwyllgor blaenorol, a oedd yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn nodi'n ddigon clir sut yr oedd ei chyllidebau drafft yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn anffodus, roedd hyn yn wir eleni hefyd. Yn siomedig, ni chyhoeddodd y Llywodraeth asesiadau o'r effaith ar hawliau plant i ddangos sut yr oedd hawliau plant yn llywio dyraniadau cyllideb ar gyfer plant a phobl ifanc. Hepgoriad amlwg oedd nad oedd yn sôn am hawliau plant unwaith yn ei holl asesiad effaith integredig strategol.

Rydym yn pryderu'n fawr fod hwn yn gam yn ôl yn ei rhwymedigaethau statudol o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r gyfraith hon yn golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhopeth y maen nhw'n ei wneud. Mae'r dyraniadau ariannol ar draws portffolios Llywodraeth Cymru ymysg y penderfyniadau pwysicaf y mae Gweinidogion Cymru yn eu gwneud. Rydym yn gobeithio bod eleni yn wall anffodus a bod y Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion yn y maes hwn ar gyfer cyllidebau drafft yn y dyfodol.

Gwnaethom nifer o argymhellion cryf, ond hoffwn i dynnu sylw at ddau argymhelliad arall o'n hadroddiad terfynol. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag iechyd meddwl amenedigol. Ar hyn o bryd, mae llawer o deuluoedd yn y gogledd a'r canolbarth yn gorfod teithio pellteroedd afresymol o hir i gael gafael ar wasanaethau cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Fe wnaethom ni glywed gan y Dirprwy Weinidog bod cynlluniau i agor darpariaeth newydd ar gyfer y teuluoedd hynny ychydig dros y ffin, ar y cyd â GIG Lloegr, yn cael eu gweithredu'n gyflym. Yn anffodus, clywodd ein pwyllgor blaenorol sicrwydd tebyg yn ôl yn 2017. Rydym ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro pa wasanaethau fydd yn agor i deuluoedd Cymru, a phryd y bydd y gwasanaethau hynny ar gael.

Mae'r ail yn ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi newid uchafswm dyfarniad y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 ers 2004. Nid yw ychwaith wedi newid uchafswm trothwy incwm aelwydydd ers blwyddyn ariannol 2011-12. Rydym ni o'r farn bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn ffynhonnell amhrisiadwy o incwm i blant a'u teuluoedd. Rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn egluro pam y mae wedi gadael i werth y lwfans mewn termau real ostwng mor sylweddol, ac effaith y gostyngiad hwnnw ar nifer y dysgwyr sy'n gymwys i'w gael.

Mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion adeiladol eraill ar draws ystod o feysydd polisi hanfodol. Yn fwy cyffredinol, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn 2022-23 ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn benodol, rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfer ar ôl COVID, a'r cyllid ar ei gyfer.

Rydym wedi cytuno y byddwn yn rhoi sylw arbennig ar hyd y chweched Senedd i gyflawni polisïau. Mae hyn yn berthnasol i lawer o ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i ni mewn cysylltiad â'r gyllideb ddrafft. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 a thu hwnt, bydd fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a minnau yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn trosi'r ymrwymiadau a'r dyraniadau cyllid hynny yn welliannau gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Diolch.

17:05

Prynhawn da, Gweinidog. Diolch yn fawr am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud ar y gyllideb, a diolch am eich ymgysylltiad â mi hefyd. Diolch yn fawr. 

Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r cynigion hynny yn y gyllideb. Rydw i a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn eu cefnogi. Y rheini yw: buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl; cynnydd yn y grant datblygu disgyblion, menter a gyflwynwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol eto; parhau gyda'r cerdyn teithio rhatach i bobl o dan 21; cynllunio i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn yr ysgol gynradd; a dwi'n edrych ymlaen hefyd i weld rhagor o fanylion am gynigion ynghylch gofal plant. A dwi'n falch hefyd o weld yr ymrwymiad, yn dilyn fy nghynnig i ddiwygio gwasanaethau i blant y llynedd, i fuddsoddi mewn rhaglen o ddiwygio er mwyn sicrhau bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. 

Tybed a gaf i ganolbwyntio ar dri maes: trafnidiaeth, iechyd a chladin, y soniais amdanyn nhw yn gynharach yn y Siambr. I ddechrau gyda thrafnidiaeth, rwy'n croesawu'r manylion amlinellol sydd wedi eu darparu o ran cyllid i gynorthwyo trafnidiaeth gyhoeddus a'r agenda datgarboneiddio. Tybed a allwch chi roi rhagor o wybodaeth am sut y bydd dyraniad y gyllideb yn galluogi llwybrau sy'n fuddiol yn gymdeithasol i gael eu cynnal, neu hyd yn oed eu hadfer, a faint o'r gyllideb sydd wedi ei ddyrannu ar hyn o bryd sy'n cael ei gyfeirio tuag at ddatgarboneiddio. A hoffwn i ofyn pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn dilyn fy nadl fer ar drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed, a sut y gallai'r gyllideb hon roi hwb i'r uchelgais hwnnw.

O ran iechyd, roeddwn i'n meddwl tybed a gaf i ofyn am rywfaint o eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer iechyd meddwl. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol sydd wedi ei ddyrannu i wasanaethau iechyd meddwl, a'r £10 miliwn ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc. Gweinidog, rydym yn gwybod bod nifer y bobl ifanc sy'n aros am fwy na phedair wythnos am asesiad iechyd meddwl yr uchaf erioed. Felly, tybed a allech chi rannu rhywfaint o fanylion ychwanegol am sut y byddai hyn yn cael ei ddyrannu. Ac, wrth aros ym maes iechyd eto, rwyf i wedi codi pryderon yn gyson ynghylch deintyddiaeth, yn enwedig yn y canolbarth a'r gorllewin, gyda nifer cynyddol o bobl yn methu â chael mynediad at ddeintydd y GIG hyd yn oed cyn y pandemig. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr arian ychwanegol sydd ar gael, ond mae angen iddo wneud mwy. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ragor o wybodaeth am hynny.

Yn olaf, Gweinidog, o ran cladin—unwaith eto, yr ail dro i mi godi'r mater hwn y prynhawn yma—mae'n argyfwng gwirioneddol ac yn sgandal i'r bobl hynny y mae'n effeithio arnyn nhw. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r manylion sydd wedi eu nodi yn y gyllideb sy'n ymwneud â'r mater hwn. Rwyf i yn pryderu, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o'r dyraniad cyfalaf i ymdrin â'r mater hwn ym mlwyddyn 2024-25, sy'n fy arwain i gredu y bydd yn rhaid i'r mwyafrif llethol o'r rhai sydd wedi eu dal yn y mater hwn aros o leiaf tair blynedd arall cyn y bydd gwaith adfer yn dechrau hyd yn oed. Mae hynny wyth mlynedd ers y drasiedi yn Nhŵr Grenfell. Pan fo'r cynllun pasbort diogelwch adeiladau eisoes wedi derbyn 248 o ddatganiadau o ddiddordeb, a gallwn ddisgwyl cyhoeddiad yn y cam nesaf ym mis Ebrill, hoffwn i ofyn a oes gofyn i'r lesddeiliaid hynny aros yn hirach i waith diogelwch hanfodol gael ei wneud.

Rwy'n gorffen unwaith eto, Gweinidog, drwy ddiolch i chi am eich ymgysylltiad ac am eich cefnogaeth i rai o'r materion yr wyf i wedi eu cyflwyno yn y gyllideb. Diolch yn fawr iawn. Diolch.

17:10

Byddai'r ddadl hon yn cael ei gwella pe bai gennym ni gynigion amgen, hyd yn oed os dim ond ar lefel cyllidebau gweinidogol, gan y Ceidwadwyr, nad oedden nhw'n fodlon derbyn unrhyw ymyriadau, a Phlaid Cymru. Mae'n hawdd gwario arian ychwanegol. Efallai y dylech chi ddweud o le yr ydych am ei gymryd.

Byddaf i'n cefnogi'r gyllideb, ond y cwestiwn allweddol yw: beth fydd yn cael ei gyflawni am y gwariant ychwanegol? Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am ei setliad cyllideb aml-flwyddyn, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar adolygiad gwariant tair blynedd i roi sicrwydd cyllid i sefydliadau, gan ddarparu dyraniadau dros dro ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Bydd pobl sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol nad ydyn nhw wedi cael hysbysiad terfynu swydd yn anrheg Nadolig eleni oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod a fyddan nhw'n cael eu hariannu i'r flwyddyn ganlynol.

Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod y dyraniad wedi ei ddarparu dros y cyfnod o dair blynedd wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddarparu cynnydd sylweddol mewn cyllid refeniw yn 2022-23. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn 2023-24 a 2024-25 yn llawer mwy cymedrol, ac mae rhai sefydliadau'n cael eu cyllidebau wedi eu rhewi mewn termau arian parod ar lefel 2022-23. Rwy'n croesawu gor-ymrwymiad y gwariant cyfalaf, oherwydd dylai osgoi tanwariant cyfalaf wrth i gynlluniau lithro yn ystod y flwyddyn. Mae'n anochel y bydd cynlluniau cyfalaf yn llithro yn ystod y flwyddyn.

Mae'n hawdd gwario arian. Yr her i'r Llywodraeth yw ei wario'n fuddiol. Rwyf wedi fy siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r pum E Saesneg. Effeithiolrwydd: a oedd y gwariant yn effeithiol yn y flwyddyn flaenorol ac a wnaeth gyflawni'r hyn oedd ei angen? Effeithlonrwydd: a gafodd adnoddau eu defnyddio yn effeithlon y llynedd? Os na, beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau eleni? Cydraddoldeb: a yw gwariant y gyllideb yn deg i bob grŵp? Clywais Jayne Bryant yn siarad yn gynharach am blant; rwy'n siŵr bod rhywun yn mynd i sôn am fenywod, ac mae rhywun arall yn mynd i sôn am bobl hŷn yn ddiweddarach yn y ddadl hon. Tegwch: a yw'r gyllideb yn deg i Gymru gyfan, nid am flwyddyn yn unig ond dros sawl blwyddyn? A'r amgylchedd: beth yw effaith ddisgwyliedig y gyllideb ar garbon a bioamrywiaeth?

Er bod Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymdrin â'r un olaf, mae angen mynd i'r afael â'r pedwar cyntaf. Pam mae rhai ardaloedd yn y DU, Gogledd America ac Ewrop yn llwyddiannus yn economaidd, gyda chyflogau uchel, sgiliau uchel a chynhyrchiant uchel? Maen nhw'n darparu'r offeryn economaidd pwysicaf—nid rhoi llwgrwobrwyon i bobl ddod; addysg yw'r offeryn economaidd pwysicaf. Os oes angen i chi ddarparu cymhellion ariannol i gwmnïau ddod ag unedau cangen, nid ydyn nhw eisiau dod. Trwy ddarparu'r capasiti ymchwil mewn prifysgolion, a darparu gweithlu medrus iawn, bydd clystyrau o gwmnïau'n dechrau ffurfio. Yna, bydd yr economi'n tyfu, a bydd cyflogau'n cynyddu.

Hefyd, mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac addysg yn parhau i fod yn un o'r dulliau mwyaf pwerus o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, i ymgorffori camau atal a buddsoddi yn ein cenedlaethau yn y dyfodol, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl. Gyda'r ddarpariaeth gyffredinol o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd gwladol, mae'n amlwg y bydd defnyddio prydau ysgol am ddim fel dangosydd cyllid addysgol ychwanegol yn diflannu. Rwy'n credu bod angen i ni wybod beth fydd yn disodli hynny.

Gan droi at effeithlonrwydd, mae angen i'r gwasanaeth iechyd gael ei hebrwng—. Roeddwn i'n mynd i ddweud i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, ond yn sicr i mewn i ran olaf yr ugeinfed ganrif. Caiff presgripsiynau eu hargraffu, eu llofnodi, eu darparu â llaw; pam na allwn ni gael e-bresgripsiynau? Pam na ellir eu llenwi ar-lein gyda llofnod ar-lein ac yna eu hanfon at y fferyllydd perthnasol? Efallai y bydd pryderon ynghylch rhai cyffuriau, yn enwedig cyffuriau sy'n seiliedig ar opiwm, ond gellir cynnwys mesurau diogelu ar eu cyfer nhw. Un o'r pethau a synnodd lawer ohonom yn y pwyllgor iechyd—ac rwy'n siŵr y bydd Russell George yn sôn amdano'n ddiweddarach—yw bod peiriannau ffacs nid yn unig yn dal i gael eu defnyddio ond yn dal i gael eu prynu yn y gwasanaeth iechyd.

Beth mae'r byrddau iechyd yn ei wneud i gynyddu effeithlonrwydd ynni? Gan fod byrddau iechyd yn cael arian ychwanegol, sut maen nhw'n mynd i wella cynhyrchiant mewn ysbytai? Mae'n ymddangos bod gennym y syniad hwn eich bod yn rhoi'r arian a bydd popeth yn iawn. Wel, rydych chi'n rhoi'r arian ac nid yw popeth yn iawn, ac mae angen i ni fynd i'r afael â pham nad yw'n iawn, a gwneud yn siŵr ei fod yn iawn yn y dyfodol. Ac mae dweud, 'Mae angen mwy o arian ar gyfer iechyd' neu 'Mae angen mwy o arian arnom ar gyfer rhywbeth arall', mae hynny'n iawn, mae'n hawdd, mae'n wleidyddiaeth dda; mae'n economeg wael. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod yr arian yn cael ei wario'n effeithiol ac yn effeithlon, ac rydym yn gwybod nad yw prynu peiriannau ffacs i'w weld ar y rhestr o wariant sy'n effeithiol nac yn effeithlon.

Rwy'n rhagweld, ac rwy'n gobeithio y byddaf i'n anghywir, y bydd y byrddau iechyd yn cael y cynnydd a bydd y gyfran a roddir i ofal iechyd sylfaenol yn gostwng eto, felly bydd canran y gwariant ar iechyd sylfaenol yn gostwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu sefydliadau mawr fel CNC, Betsi Cadwaladr a gwasanaeth ambiwlans Cymru; ar ba bwynt y mae'r Llywodraeth yn penderfynu nad ydyn nhw'n gweithio a bod angen eu rhannu'n unedau llai? A fydd y gyllideb hon yn caniatáu i hynny ddigwydd?

Yn olaf, mae angen i ni ddatrys problem rheoli gweithredol yn y sector cyhoeddus, er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ganlyniadau, a llawer llai ar fewnbynnau a faint o arian rydym yn ei wario. Beth ydym ni'n ei gael am ein harian?

17:15

Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau, wrth gwrs, i fod ar flaen ymateb Cymru i'r pandemig. Ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hoffwn i ddiolch i bawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y gwirfoddolwyr niferus a channoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Dylem fod yn ddiolchgar iawn iddyn nhw.

Mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn gweithio'n galed i adfer a chynnal y gwasanaethau hanfodol nad ydyn nhw'n ymwneud â COVID y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn edrych, wrth gwrs, at y dyfodol, tuag at ailosod ar ôl y pandemig, sy'n cynnig cyfle i ddatblygu system fwy cydnerth a helpu pobl yng Nghymru i fyw bywyd hirach ac iachach. Heb sector gofal cymdeithasol sefydlog a chadarn ac effeithiol, ni allwn ni fod yn ffyddiog wrth gwrs y bydd pobl yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae perygl y byddwn ni'n gweld yr effaith ar wasanaethau iechyd yn gwaethygu, hyd yn oed.

Felly, yn barod, mae gormod o bobl yn gorfod treulio gormod o amser yn yr ysbyty oherwydd nid oes modd darparu pecynnau gofal addas. Mae eraill yn cael eu rhyddhau heb becynnau gofal digonol. Oni bai fod y materion hyn yn cael eu datrys, gall yr arian sy'n cael ei ddyrannu i wasanaethau iechyd barhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn heb ddarparu gwasanaethau mwy integredig na gwella canlyniadau. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi ein sicrhau eto y bydd y dyraniadau yn y gyllideb ddrafft yn ddigon i ymateb i'r pwysau uniongyrchol nac i ddarparu sefydlogrwydd tymor hwy. Yn fater o'r brys mwyaf, mae angen rhagor o eglurder, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn a fydd yn y tymor presennol i ymdrin â'r gweithlu a phwysau eraill sy'n wynebu darparwyr gofal cymdeithasol a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i sicrhau bod pobl yn parhau i dderbyn y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, os bydd y pwysau sy'n wynebu'r sector yn gwaethygu.

Mae pwysau sylweddol hefyd ar ein gwasanaethau iechyd, wrth gwrs, ac mae aelodau'r pwyllgor a minnau'n pryderu'n fawr fod yr hyn sy'n cyfateb i un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restrau aros, y mae llawer ohonyn nhw'n aros am gyfnodau hir ac ansicr, mewn poen, anghysur, trallod a hefyd mewn llawer o achosion yn wynebu caledi ariannol yn y cyfnod hwnnw hefyd. Felly, mae'r rhain yn faterion y byddwn ni'n eu trafod gyda'r Gweinidog yn ddiweddarach yr wythnos hon fel rhan o'n hymchwiliad i effaith ôl-groniadau amseroedd aros.

Rydym ni'n falch o weld y buddsoddiad yn y broses o adfer gwasanaethau'r GIG; fodd bynnag, byddem ni'n croesawu mwy o fanylion gan y Llywodraeth ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn asesu sut y bydd y cyllid ar gyfer cynllun adfer y GIG yn digwydd, sydd, wrth gwrs, i'w gyhoeddi ym mis Ebrill. Felly rydym ni'n amlwg yn awyddus iawn i weld y ffyrdd newydd o weithio, modelau newydd o ddarparu gwasanaethau a chyflawni canlyniadau a phrofiadau i bobl y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnyn nhw. Rwy'n credu bod trawsnewid ystyrlon a pharhaus yn gwbl angenrheidiol, ac mae fy marn i yn gydnaws â barn Mike Hedges o ran e-bresgripsiynu. Nid oeddwn i'n mynd i sôn am hyn, ond, ydy, wrth gwrs, mae Mike yn gywir: gwnaethom ni glywed bythefnos yn ôl fod y GIG nid yn unig yn dal i ddefnyddio peiriannau ffacs, ond eu bod dal yn prynu peiriannau ffacs. Felly, rydym ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn parhau i'w defnyddio o ran ei chyllideb ynghylch sbarduno trawsnewid a mwy o gydnerthedd o fewn GIG Cymru.

Rhoddodd Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 ddyletswydd statudol i fyrddau iechyd adennill eu costau dros gyfnod treigl o dair blynedd, felly mae'n siomedig bod dau fwrdd iechyd yn dal i fethu'n gyson â gweithredu o fewn eu cyllidebau a thraean dim ond yn adennill eu costau o ganlyniad i'r miliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol bob blwyddyn. Felly, rydym ni'n cytuno â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw hon yn system gynaliadwy, ac nid yw'n deg ar fyrddau iechyd sy'n gwneud y peth iawn ac yn cadw o fewn eu cyllidebau.

Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol iechyd a gofal cymdeithasol newydd a'r gronfa gyfalaf newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yn seiliau canolog agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym ni'n nodi bod cronfeydd trawsnewid blaenorol wedi'u beirniadu gan Archwilio Cymru yn 2019 ar sail nad oedd fawr o dystiolaeth bod prosiectau llwyddiannus yn cael eu prif ffrydio a'u hariannu fel rhan o'r broses o ddarparu gwasanaethau craidd cyrff cyhoeddus.

Ac wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â thrawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig—nid yw'n ddigon gwneud hynny'n unig—mae angen i ni hefyd drawsnewid sut yr ydym ni'n meddwl am iechyd a sut yr ydym ni'n sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys a bod pawb yn ymwneud â hynny. Rydym ni'n gwybod bod lefel uchel o glefydau cronig ledled Cymru; mae'n rhy uchel ac mae gormod o faterion yn ymwneud â ffyrdd o fyw nad ydyn nhw'n iach, ac mae hyn oll yn rhy gyffredin o lawer. Felly, mae helpu pawb yn ein cymunedau—

17:20

—i fyw bywyd iachach bydd angen gweithredu ar draws y Llywodraeth er mwyn ymdrin â'r achosion sylfaenol. Mae hynny'n cynnwys tai, tlodi a chyfle i fanteisio ar fwyd fforddiadwy ac iachach.

Ac wrth orffen, Dirprwy Lywydd, mae angen i ni, wrth gwrs, ymdrin â'r anghydraddoldebau iechyd niferus, ac mae angen mwy o eglurder arnom ni ynghylch sut y caiff cyllid yn y gyllideb ei dargedu i sicrhau bod gwariant yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir, gyda phobl yng Nghymru yn byw bywyd hirach ac iachach. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Byddaf i'n siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a hoffwn i ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am fynychu sesiynau tystiolaeth y pwyllgor.

Mae ein pwyllgor yn croesawu'r setliad llywodraeth leol. Gwnaethom ni glywed gan y sector ei fod yn hael a bydd yn galluogi awdurdodau lleol i ymgymryd â chynllunio tymor hwy yn hytrach nag ymateb i bwysau uniongyrchol yn unig. Ond rydym ni'n pryderu am y gostyngiad mewn cyllid cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol, sy'n rhan o ostyngiad ehangach mewn gwariant cyfalaf ar draws y gyllideb. Felly, rydym ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru a CLlLC yn cydweithio i archwilio ffyrdd eraill o gefnogi cyllidebau cyfalaf mwy ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys y swyddogaeth o fenthyca â chymorth.

Rydym ni hefyd yn pryderu ynghylch yr anawsterau parhaus y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu o ran recriwtio a chadw staff ar draws pob maes gwasanaeth, ond yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol. Cyfeiriodd y Gweinidog at £60 miliwn o gyllid uniongyrchol ychwanegol ar gyfer diwygio'r sector gofal; fodd bynnag, hoffem ni wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr arian hwn yn cyflawni ei nodau. Rydym ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru, cyn cyhoeddi'r gyllideb derfynol, yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut y bydd yr arian ychwanegol hwn yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor y sector.

O ran tai, rydym ni'n croesawu'r ymrwymiad i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu'n gyflym. Fodd bynnag, rydym ni'n pryderu bod nifer digynsail o bobl mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2021 yn dangos bod dros 7,000 o bobl mewn llety dros dro brys a bod 1,728 yn blant dibynnol dan 16 oed. Mae angen symud pobl i lety parhaol hirdymor os yw digartrefedd i fod yn rhywbeth prin, tymor byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd, megis nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth. Rydym ni'n pryderu y gallai awdurdodau lleol wynebu heriau ariannol os bydd nifer y bobl mewn llety dros dro yn parhau i gynyddu. Felly, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro'n agos y pwysau ar lety brys dros dro, fel bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael heb lety.

Ac, wrth i'r pandemig ddod i ben, ni fydd awdurdodau lleol yn gallu helpu pobl heb droi at arian cyhoeddus. Mae cyflwyno deddfwriaeth iechyd y cyhoedd i ymestyn cymorth a chefnogaeth i bobl yn y sefyllfa hon wedi rhoi achubiaeth i lawer yn ystod y pandemig. Felly, mae'n peri pryder mawr y gallai rhai pobl ddisgyn drwy'r bylchau a pheidio â bod yn gymwys i gael cymorth unwaith y bydd argyfwng iechyd y cyhoedd ar ben. Felly, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn dal i allu ymestyn cymorth a chefnogaeth sy'n gysylltiedig â thai i bobl nad ydyn nhw'n gallu cael arian cyhoeddus.

Mae pryder y bydd Llywodraeth Cymru yn cael problemau gyda chwyddiant prisiau defnyddiau, tarfu ar y gadwyn gyflenwi a phrinder llafur medrus wrth geisio adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, carbon isel i'w rhentu. Rydym ni'n poeni am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar y targed o 20,000 o dai fforddiadwy, yn enwedig gan ein bod ni wedi clywed efallai na fydd y ffigur hwn yn ddigonol i ymdrin â phroblemau gyda chyflenwadau tai yng Nghymru. Ac o ran cartrefi carbon isel, rydym ni hefyd yn pryderu a yw'r dyraniad cyllideb ar gyfer datgarboneiddio yn ddigonol i alluogi awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddatgarboneiddio eu stoc. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, mae hyn yn rhywbeth y dylai gael ei flaenoriaethu, ac rydym ni wedi gofyn i'r Gweinidog roi manylion ynghylch sut y mae dyraniad y gyllideb yn ddigonol i ddatblygu gwaith ôl-osod ar y lefel a'r cyflymder sydd ei angen.

Yn olaf, rydym ni'n croesawu'r refeniw ychwanegol yn y gyllideb ddrafft i gefnogi arolygon diogelwch tân a chreu pasbortau cyweirio adeiladau ar gyfer pob adeilad uchel ledled Cymru. Rydym ni'n sylweddoli mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw penderfynu beth sydd o'i le ar yr adeiladau hyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod rhoi atebion i lesddeiliaid a thenantiaid, yn ogystal â gwybodaeth am ddiogelwch eu hadeiladau, yn flaenoriaeth. Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae angen rhoi atebion i lesddeiliaid a thenantiaid ynghylch sut y caiff yr arian ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl, fel bod ganddyn nhw o leiaf rywfaint o eglurder a sicrwydd ar yr adeg anodd hon. Rydym ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau na fydd yn rhaid i lesddeiliaid dalu am gostau cywiro, ac y dylai'r gwaith o wella diogelwch yr adeiladau hyn fwrw ymlaen ar frys. Diolch yn fawr.

17:25

A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Gweinidog cyllid a'r Llywodraeth am ddod â'r ddadl yma gerbron y Senedd? Mi fyddaf i'n cyfrannu i'r ddadl yma ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. O ystyried maint helaeth cylch gorchwyl y pwyllgor, mi wnaf i ffocysu ar y prif bwyntiau rydym wedi eu nodi yn dilyn ein gwaith craffu. 

Ers sefydlu'r pwyllgor ym mis Mehefin y llynedd, mae cylch gorchwyl y pwyllgor wedi ei ymestyn i gynnwys cysylltiadau rhyngwladol. Ac er bach yw maint y cyllid sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y gwaith hwn, tua £8 miliwn i gyd, mae'n hynod bwysig. Yn sgil Brexit, mae rôl Cymru ar y llwyfan rhyngwladol nawr yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Yn anffodus, roedden ni fel pwyllgor yn siomedig â lefel y wybodaeth a oedd wedi'i rhannu gyda ni ar y pwnc hwn. Rwy'n cyfeirio'n benodol at brinder y naratif yn nogfen y gyllideb ddrafft a hefyd y wybodaeth a rannwyd gyda'r pwyllgor fel tystiolaeth ysgrifenedig. Mi wnaeth hyn ein gwaith craffu ni gymaint yn anoddach. Mae tryloywder yn eithriadol o bwysig i'n gwaith craffu ni, felly rydym yn erfyn ar y Llywodraeth i nodi hyn ac i sicrhau ei bod yn fwy agored ac yn darparu mwy o wybodaeth y flwyddyn nesaf.

I droi at chwaraeon, yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, dywedodd y Llywodraeth:

'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad ond mae angen mwy o flaenoriaethu traws-sector i greu'r newidiadau cynaliadwy hirdymor mewn cyfranogiad.'

Er gwaethaf y neges yma, dyw e ddim yn amlwg yn y setliad ariannol ar gyfer chwaraeon. Cynnydd pitw o 1 y cant mewn cyllid refeniw a gostyngiad o 7 y cant yn y gyllideb gyfalaf sydd ar gyfer chwaraeon. 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus, aur y byd na'i berlau mân' medd un o emynau enwocaf ein cenedl. Nid ydym ni yn gofyn am holl adnoddau na chyllid y Llywodraeth, ond beth hoffem wybod yw pa weithred sydd yn cynnal y fath ddatganiad. Os oes yna wariant arall mewn adrannau eraill, er enghraifft, yna mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn sôn amdano er mwyn cyfiawnhau y naratif pwysig yma wrth inni adfer iechyd ein cenedl, ac, rŷn ni i gyd yn gobeithio, wrth ddod mas o'r pandemig.

Nesaf, hoffwn i sôn am bryder ynghylch toriadau i gyllidebau cyfalaf y llyfrgell a'r amgueddfa genedlaethol. Bydd cyllid cyfalaf ar gyfer y sefydliadau hyn yn gostwng 32 a 33 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fel yr amlinellwyd yn adolygiad wedi'i deilwra y llyfrgell genedlaethol, rhagwelir y bydd angen hyd at £26 miliwn mewn cyllid cyfalaf i wneud gwaith cynnal a chadw a gwelliannau angenrheidiol i'r llyfrgell. Mae'r ddau sefydliad hyn yn drysorau mawr i'n cenedl. Rydym ni fel pwyllgor yn bryderus yr hiraf y bydd yn ei gymryd i gwblhau gwaith cyfalaf, yr hiraf y gallai rhai o gasgliadau pwysicaf y genedl fod dan fygythiad. Felly, 'cadarna'r mur po arwa'r garreg' yw ein neges i'r Llywodraeth. Rydym yn erfyn arnoch i amlinellu sut y byddwch yn darparu'r adnodd angenrheidiol i'r ddau sefydliad i sicrhau eu bod yn medru parhau i warchod trysorau'r genedl.

I orffen, Ddirprwy Lywydd, o ran yr iaith Gymraeg, rydym ni fel pwyllgor yn croesawu'n fawr y cyllid ychwanegol ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym o'r farn mai’r ffordd orau o sicrhau bod plant yn cydio yn yr iaith yn llawn, ac felly yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg, yw eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith o oedran cynnar iawn. Mae hyn yn golygu buddsoddiad sylweddol yn narpariaeth y blynyddoedd cynnar a throsglwyddiad iaith. I'r perwyl hwn, fe fydd hi'n bwysig i'r Llywodraeth esbonio goblygiadau o ran adnoddau er mwyn cyrraedd y targed o agor 60 o gylchoedd meithrin ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon. A chawn weld, wedi cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad diweddar, faint o waith fydd i'w wneud eto er mwyn cyrraedd targed 2050. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Mewn sawl ffordd, mae hon yn gyllideb ragorol mewn amgylchiadau anodd iawn. Byddwn i'n croesawu'r buddsoddiad yn adferiad y GIG, y gefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed, y warant i bobl ifanc, y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, y peilot incwm sylfaenol, cyflawni ein rhwymedigaethau wrth ymateb i newid hinsawdd. Mae'r holl faterion gwahanol hyn a llawer mwy yn ddilysnod Llywodraeth flaengar.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: yr ydym ni wedi gwrando ar ddadl ac wedi cymryd rhan mewn dadl y prynhawn yma nad yw hi wedi bod yn ddadl am gyllideb, mae hi wedi bod yn ddadl am wariant—hanner dadl ar y gyllideb. Gan nad wyf i wedi clywed araith, ac eithrio Mike Hedges o bosibl, nad yw wedi ceisio ymdrin â materion incwm yn ogystal â gwariant. Bydd pob Aelod o'r wrthblaid, yn eu hareithiau, yn gwario pob punt ddwywaith. Nid yw hynny'n ffordd dda o gynnal busnes yn y lle hwn. Byddwn i'n gwahodd y Gweinidog, ar ddiwedd y ddadl hon y prynhawn yma, i gyflwyno datganiad arall ar bolisi treth ac incwm sy'n deillio o drethiant, oherwydd mae angen i ni fod yn trafod incwm yn ogystal â gwariant. Dyna ddilysnod Senedd sy'n deall ei swyddogaeth.

Hefyd, mae angen i ni drafod maint a ffurf Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gwneud galwadau mawr ar Lywodraeth Cymru, ac felly y dylem ni. Rhaid i'n disgwyliadau o ran Llywodraeth Cymru fod yn uchel, rhaid iddyn nhw fod yn heriol. Ond y gwirionedd yw nad wyf i'n argyhoeddedig bod gennym ni Lywodraeth sydd â'r ffurf neu'r maint cywir i gyflawni'r ymrwymiadau y mae'n eu gwneud a'r disgwyliadau sydd gennym ni i gyd ohoni.

Mae deng mlynedd o gyni wedi dryllio model llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hefyd wedi cael effaith ddofn, ddifäol ar ein sector cyhoeddus cyfan a sut y gallwn ni gydweithio a chyflawni ar gyfer y dyfodol. Ac mae Brexit yn her fwy i Lywodraeth Cymru nag efallai i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Am y tro cyntaf, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nid yn unig gyflawni polisi ond datblygu polisi hefyd. A oes gennym ni'r bobl sy'n gallu gwneud hynny? A oes gennym ni'r bobl sy'n gallu ysgrifennu'r cyfreithiau a fydd yn cyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ni a'r cyfrifoldebau yr ydym ni wedi'u hennill? Nid wyf i wedi fy argyhoeddi mai 'oes' yw'r ateb i'r cwestiwn hwnnw. Rydym ni wedi clywed Gweinidogion yn dod i mewn i'r Siambr hon i ddweud wrthym ni na allan nhw gyflwyno deddfwriaeth am nad oes ganddyn nhw'r adnoddau ar gael. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth nad oes ganddi'r adnoddau sydd ar gael iddi i gyflawni ei chyfrifoldebau.

O ran lle yr ydym ni nawr, mae angen i ni ystyried rhai o'r pethau hyn ac mae angen i ni edrych yn galed ar sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn lle cyllid coll yr UE. Rwy'n ddigon hen i gofio yn y Senedd ddiwethaf Simon Hart yn dod i'r pwyllgor materion allanol, wedi'i gadeirio gan y Dirprwy Lywydd, ac yn rhoi ymrwymiad cwbl glir a diamwys pendant na fyddai ceiniog yn cael ei cholli o gyllid yr UE—byddai £375 miliwn yn cael ei ddarparu. Roedd ef naill ai'n fwriadol ddim yn dweud y gwir neu mae e'n ddi-glem. Nid yw'n gallu sefyll dros Gymru yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n dueddol o feddwl, a dweud y gwir, ei fod yn fwy di-glem nag anonest. Rwy'n dueddol o feddwl bod Llywodraeth y DU, fel y cafodd ei ddweud yn gynharach, yn credu y gallan nhw lwyddo i gadw Cymru'n brin o arian mewn ffordd na allan nhw ei gwneud gyda'r Alban ac maen nhw'n gwneud hynny. Mae'r mater sy'n parhau ynghylch tanfuddsoddi ar y rheilffyrdd yn rhywbeth sy'n mynd i'n llusgo ni nôl dro ar ôl tro.

Felly, beth ydym ni'n ei wneud ynghylch y peth? Wel, mae rhai ohonom ni'n gwneud areithiau yn ei gylch, ac felly y dylem ni. Ond mae angen i ni hefyd ystyried sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn lle'r cyllid hwnnw. Mae cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn wedi'u cymryd o Gymru o ganlyniad uniongyrchol i fethiannau Brexit ac o ganlyniad i gelwyddau, a dweud y gwir, a gafodd eu dweud gan bobl a oedd yn ei hyrwyddo. Mae honno'n ffaith na allwch chi ddianc rhagddi. Felly, mae angen i ni ystyried sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn ei le. Mae angen i ni ystyried sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn lle'r cyllid hwnnw, ac rwy'n credu bod angen i ni drafod a dadlau hynny.

Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am gadarnhad, wrth iddi grynhoi heddiw, fod rhaglen y Cymoedd Technoleg yn fy etholaeth i—. Ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru oedd cyflawni'r rhaglen £100 miliwn yn fy etholaeth i, ac rwyf eisiau iddi gadarnhau y prynhawn yma y bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno'n llawn, ym Mlaenau Gwent, fel y gwnaethom ni glywed gan Weinidogion o'r blaen.

Ac yn olaf, mae Mike Hedges yn aml yn gwneud y cyfraniadau mwyaf diddorol yn ystod y prynhawniau pan yr ydym ni'n cael y dadleuon hyn, a gwnaeth ef hynny eto heddiw. Oherwydd, yn hytrach na dim ond dod yma gyda rhestr siopa, yr hyn a wnaeth ef oedd gofyn sut yr ydym ni'n mynd i gyflawni'r hyn yr ydym ni wedi'i addo, beth yr ydym ni'n mynd i'w wneud mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei fod e'n hollol gywir, ac rwy'n dweud hynny eto, fod angen i ni gael amcanion ac amserlenni a therfynau amser a disgwyliadau llawer cliriach wedi'u rhoi i ni gan y Llywodraeth. Nid yw'n ddigon i ddweud, 'Mae gennym ni broblem, dyma £10 miliwn; mae gennym ni broblem fwy, dyma £20 miliwn; mae gennym ni broblem llawer mwy'—

17:35

Nid oeddwn i am fynd ymhellach, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu i mi gyrraedd cyn belled ag y gallwn i gyda hynna. Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod gennym ni'r amcanion a gafodd eu pennu gan y Llywodraeth cyn y rhaglenni hyn—amcanion, amserlenni, targedau—fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn y dyfodol am gyflawni, neu am beidio â chyflawni, yr ymrwymiadau y maen nhw'n eu gwneud y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd.

Diolch i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar gyllideb ddrafft 2022-23, cyllideb ddrafft yr wyf fi, ac rwy'n siŵr y mae llawer o bobl ledled Cymru wedi bod yn aros yn eiddgar amdani. Rwy'n siŵr y gall pob Aelod ar draws y Siambr gytuno bod y gyllideb hon wedi dod ar adeg anodd, wrth i ni barhau i symud allan o bandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'n hochr ni o'r Siambr nad yw'r gyllideb hon yn mynd yn ddigon pell i gyflawni blaenoriaethau pobl Cymru. Fel y cafodd ei amlinellu gan fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ei ymateb i'r gyllideb ddrafft hon, mae ein gwasanaethau lleol wedi mynd o dan bwysau aruthrol yn dilyn y pandemig. Rwyf i wedi sôn droeon yn y Siambr o'r blaen ei bod yn eithriadol o bwysig dal i nodi yn ystod y pandemig hwn fod cynghorau yn arbennig wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i ddarparu gwasanaethau eithriadol i'n cymunedau lleol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:40

Gweinidog, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae cynghorau, wrth gwrs, wedi croesawu'r setliad llywodraeth leol yn gyffredinol ar gynnydd o 9.4 y cant ar gyfartaledd ar draws y cynghorau hynny. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod hynny ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o danariannu i gynghorau ledled Cymru. Mae'n bwysig nodi hefyd bod rhai heriau o ran y ffordd y cafodd yr arian hwn ei ddyrannu, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y soniodd Llyr Gruffydd amdano o'r blaen o ran ariannu cynghorau yn y dyfodol hefyd. Un enghraifft y byddaf i'n tynnu sylw ati—rwy'n siŵr na fyddwch chi'n synnu'n ormodol at hyn—yw y bydd Cyngor Sir Fynwy sydd yn cael ei arwain gan y Ceidwadwyr, sy'n cael ei gynnal yn dda iawn, a gaf i ychwanegu, yn cael y cynnydd uchaf mewn cyllid allanol cyfanredol y flwyddyn nesaf, ond o ran y cyllid hwnnw y pen, fesul preswylydd yno, dyma'r isaf ar tua £1,200 y pen, yn hollol wahanol i'r £1,900 y pen hwnnw fesul preswylydd ym Mlaenau Gwent. [Torri ar draws.] Derbyniaf yr ymyriad, Llywydd. 

Diolch, Sam Rowlands. Y rheswm am hynny, wrth gwrs, yw bod ganddyn nhw fwy o allu i gael arian i mewn o'u treth gyngor. Mae dros hanner yr eiddo yn sir Fynwy yn uwch na band D; ym Mlaenau Gwent, mae ymhell dros hanner ym mand A. 

Diolch am y cyfraniad, Mike Hedges. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n cyfeirio ato yn amlwg yn awydd i drethu rhai ardaloedd yn llawer mwy sylweddol nag eraill. Wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei weld yw setliad teg er budd trigolion ledled Cymru. Mae'r gwahaniaeth hwnnw i mi yn gyfle nad ymdriniwyd ag ef.

Rwyf i hefyd yn siomedig o weld nad oes unrhyw sôn o hyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch adolygiad annibynnol o'r dull presennol o ddosbarthu cyllid ar gyfer cynghorau. Mae'n dal yn glir nawr bod y system bresennol yn rhoi llawer o gynghorau gwledig dan anfantais, sydd, yn fy marn i, yn bwynt arall y cyfeiriodd Peter Fox ato, ac nid yw'n gyfredol ar nifer o fetrigau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd yn rhannu fy mhryder, er gwaethaf cynnydd swmpus yn y setliad llywodraeth leol, y bydd y rhan fwyaf o gynghorau'n dal i gynyddu'r dreth gyngor, a nhw sy'n sefyll yn y siambrau cyngor hynny ac yn cymryd y feirniadaeth am hynny gan eu hetholwyr, pan fyddan nhw, mewn gwirionedd, yn gorfod ymdrin â chyllidebau heriol iawn eu hunain.

Pryder arall a ddaeth gan arweinwyr cynghorau yn ystod sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y gyllideb fu gostyngiad yn y cyllid cyfalaf hefyd. Mae'r gyllideb ddrafft yn dyrannu tua £150 miliwn o gyllid cyfalaf i gynghorau, tua £50 miliwn yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn peri pryder sylweddol—rwy'n credu bod Cadeirydd y pwyllgor wedi tynnu sylw at hyn—o ran ceisio ffyrdd eraill y byddai modd dosbarthu'r cyllid cyfalaf hwnnw i ganiatáu i gynghorau gyflawni'r pethau y mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w gweld yn digwydd yng Nghymru.

Cyfle arall sydd wedi'i golli, yn fy marn i, yw yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol, ac mae hynny eisoes wedi'i grybwyll yn y ddadl hon heddiw. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er eu bod yn croesawu'r £500 o daliadau ychwanegol yn ystod y pandemig, nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â heriau hirdymor y sector, ac yn arbennig y pryderon ynghylch recriwtio a chadw staff yn yr ardal honno. Nid yw'n ymddangos bod y gyllideb hon yn ymdrin â'r mater hwn.

Fel plaid leoliaeth yma—ac yr wyf i wedi sôn amdani nifer o weithiau o ran y gefnogaeth honno a'r penderfyniadau sy'n digwydd mor agos at lawr gwlad â phosibl, Gweinidog—byddwch chi eisoes yn ymwybodol iawn o fy mhryderon i ynghylch cyflwyno'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, ac, yng nghyd-destun y gyllideb, yr effaith niweidiol y gallai hyn ei chael ar effaith cyllid cynghorau. Rwy'n cydnabod bod arian wedi'i ddarparu i gynghorau i'w weithredu yn y flwyddyn gyntaf, ond rwy'n pryderu ynghylch y diffyg cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Byddwn i'n erfyn, pa benderfyniadau bynnag sy'n cael eu gwneud yn hyn o beth, nad ydyn nhw ar draul y gofynion a'r cyllidebau presennol o fewn llywodraeth leol.

Dof i ben, Llywydd, oherwydd rwy'n gwybod y byddwch chi'n awyddus i mi wneud hynny. O ran llywodraeth leol, mae rhannau o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi cynghorau i wneud y gwelliant hwnnw, ond yn fy marn i mae gormod o gyfleoedd yn cael eu colli a allent fod wedi caniatáu i gynghorau ffynnu hyd yn oed ymhellach a bod hyd yn oed yn fwy cynaliadwy. Ond hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ymgysylltu'n barhaus ag aelodau'r pwyllgor, y mae'r Cadeirydd John Griffiths yn ei gadeirio, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i graffu a chynnig dewisiadau eraill i'n hochr ni o'r gyllideb. Diolch.

17:45

Mae ein trafodaeth heddiw ar y gyllideb ddrafft yn digwydd o dan amgylchiadau eithriadol iawn, amgylchiadau sy'n galw am weithredu radical ac uchelgais nas gwelwyd ei thebyg, os ydym fel cenedl am sicrhau adferiad sy'n deg ac yn effeithiol. Ydy, mae'r pandemig wedi rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r argyfwng costau byw sy'n taro ein cymunedau yn dwysáu'r pwysau hynny, yn enwedig wrth i Lywodraeth San Steffan fynnu gwasgu mor drwm ar ein haelwydydd drwy'r penderfyniad creulon i dorri'r credyd cynhwysol, drwy gynyddu lefelau yswiriant gwladol. A nawr, yn wyneb y cynnydd syfrdanol ym mhris ynni, maent wedi cynnig mesurau cwbl annigonol i gefnogi teuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Ond roedd y sefyllfa cyn COVID o ran anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd a lefelau ac effaith tlodi yn gywilyddus, yn rhannol wedi ei achosi, wrth gwrs, gan ddegawd o bolisïau llymder Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, sy'n poeni dim am Gymru na phobl gyffredin. Yn rhy aml, yn hytrach na medru cynllunio'n flaengar i drawsnewid ein dyfodol fel cenedl, i atal y tlodi a'r anghydraddoldeb a oedd yn broblem ymhell cyn COVID, i wireddu gweledigaeth, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei throi i mewn i darian, yn gorfod amddiffyn pobl Cymru gymaint ag sy'n bosib rhag camau didostur y Torïaid yn Llundain a'u hawydd gwaelodol i amddiffyn eu buddion eu hunain. Ond rhaid tanlinellu hefyd ddiffyg Llywodraeth Cymru i gymryd y camau polisi breision oedd eu hangen dros 20 mlynedd a mwy i sicrhau bod yna Gymru deg a llewyrchus yn cael ei chreu.

Er ei bod hi'n anodd iawn, felly, i Lywodraeth Cymru a ninnau fel Senedd heddiw o fewn undeb anghyfartal a threfn gyllido annheg wireddu ein dymuniad a'n hangen sylfaenol i fedru cynllunio ymlaen i'r tymor hirach, rwy'n falch bod y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru wedi llwyddo i wthio'r rhaglen lywodraethu mewn cyfeiriad mwy radical, fel soniodd Llyr Gruffydd, sy'n dipyn o gamp o ystyried yr heriau presennol a ffiniau pwerau'r Senedd. Yn y ddadl hon y llynedd, fe ddefnyddiodd Plaid Cymru'r cyfle i sôn am ein cynlluniau ar gyfer prydau ysgol am ddim i bob plentyn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddadleuon y gyllideb sydd i ddod dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod hynny'n troi'n realiti.

Er bod y cytundeb cydweithio mewn lle, nid ein cyllideb ddrafft ni yw hon, wrth gwrs, sy'n cael ei thrafod heddiw—cyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru yw hi, ac rydym o'r farn bod yna sawl cyfle yn cael ei golli i flaenoriaethu atal mwy o deuluoedd Cymru rhag syrthio i dlodi a rhag effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw. O dan yr amgylchiadau, rwy'n meddwl bod yna achos cryf i ystyried cadw'r hyblygrwydd yn y gronfa cymorth dewisol, gostwng y cap cynnydd rhent ar dai cymdeithasol i ddim mwy na chwyddiant yn barhaol, ac atal prisiau tocynnau trên rhag cynyddu.

Rhaid croesawu'r cynnydd i ddyraniad awdurdodau lleol yn y gyllideb ddrafft, ond pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r awdurdodau yma o ran cael coelcerth dyledion i'r rhai sydd ag ôl-ddyledion treth cyngor, er enghraifft—rhywbeth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r miloedd o aelwydydd sydd eisoes mewn dyled, ac i'r miloedd yn fwy sy'n cael eu gwthio i ddyled ar hyn o bryd? A beth am sicrhau bod y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael ei ymestyn fel bod pawb sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn ei dderbyn, nid yn unig y rheini sy'n derbyn budd-dal prawf modd?

Rwy'n gwybod o'm gwaith ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod craffu wedi bod yn anodd iawn o ystyried y ffenestr fer o amser fu gennym i asesu'r gyllideb ddrafft—ffenestr sydd wedi bod yn culhau, fel rŷn ni wedi clywed, yn raddol dros y tair blynedd diwethaf. Gobeithio bydd y setliad aml-flwyddyn hon yn golygu y bydd mwy o gyfle i'r Senedd ac i eraill y tu hwnt i'r Senedd fedru ymgymryd â'r dasg o graffu yn fwy trwyadl mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r pwyllgor hefyd wedi argymell bod angen adolygiadau asesiadau effaith y gyllideb, ac rwy'n gobeithio bod mesur a chadw golwg ofalus o effeithiau'r argyfwng costau byw yn gallu bod yn rhan o hynny. Mae hyn yn gwbl hanfodol os yw'r Llywodraeth am wireddu nod ei rhaglen lywodraethu o greu Cymru gyfartal.

Ydy, mae pob penderfyniad cyllidebol yn digwydd mewn cyfnod arbennig o anodd ar hyn o bryd, rwy'n cydnabod hynny, ond rhaid pwysleisio cyfrifoldeb y Llywodraeth i liniaru effeithiau erchyll y trychineb costau byw. Rwy'n obeithiol ac yn grediniol bod cyfnod o'n blaenau lle gallwn adael esgeuluster San Steffan a'r undeb anghyfartal y tu ôl i ni. Ac wrth i ni ddod trwy lanast Brexit ac argyfwng COVID, gallwn gyrraedd at fan lle y gallwn fod yn fwy uchelgeisiol a blaengar o ran yr hyn rydym eisiau ei gyflawni fel cenedl, dros ein pobl, fel bod newid gwirioneddol yn digwydd, a bod pobl Cymru yn cael y cyfiawnder economaidd a chymdeithasol y maen nhw'n ei haeddu. Diolch.

17:50

Jenny Rathbone, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Jenny.

Diolch, Llywydd. Rwy'n gwerthfawrogi'r anawsterau enfawr y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth geisio creu cyllideb nad yw'n gadael i'r boblogaeth syrthio i fwy byth o dlodi ac anghydraddoldeb ar yr adeg anodd hon, gyda'r argyfwng costau byw sydd wedi dechrau cynyddu, a dweud y gwir, yn ystod y misoedd diwethaf. Nododd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mewn tystiolaeth i'n pwyllgor, y bydd aelwydydd incwm isel yn wynebu toriad o £290 o ran y gostyngiad yn eu hincwm budd-daliadau, dim ond oherwydd bod y Trysorlys wedi penderfynu cysylltu'r cynnydd mewn budd-daliadau y flwyddyn nesaf â'r gyfradd chwyddiant ym mis Medi, yn hytrach nag ym mis Rhagfyr, ac mae hynny'n enghraifft glir iawn o rai o'r problemau yr wyf i'n siŵr bod Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu.

Cawsom ni hyfforddiant defnyddiol iawn ar graffu ar gyllideb sy'n sensitif i gydraddoldeb, ond oherwydd cyfyngiadau amser, eleni gwnaethom ni benderfynu peidio â mabwysiadu dulliau arloesol megis cyllidebu ar sail rhywedd neu gynigion polisi prawfesur tlodi yn y cylch cyllideb hwn, ond gobeithiwn y gallwn ni ddod yn ôl at hynny yn y dyfodol.

Rydym ni'n hoffi'r ffaith bod tystiolaeth sylweddol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel man cychwyn i lunio ffurf ei chyllideb, ond roeddem ni hefyd yn pryderu ynghylch y diffyg manylion a gafodd eu darparu yn yr asesiadau effaith integredig strategol y mae angen ymdrin â nhw. Ac nid wyf i'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi sôn am y ffaith bod Chwarae Teg yn benodol, yn eu tystiolaeth nhw, wedi dweud nad yw'n addas i'r diben mewn gwirionedd, yr asesiad effaith strategol, oherwydd o'i ddarllen mae fel pe bai'n gydnabyddiaeth o faterion sy'n cael eu hwynebu gan grwpiau penodol, ond mae wedi'i ddatgysylltu o unrhyw ymrwymiadau neu gamau gweithredu sylweddol. Mae hyn yn rhywbeth nad yw'n newydd, gan fod y pwyllgorau cyllid, cydraddoldeb a llywodraeth leol, ynghyd â'r pwyllgor plant a phobl ifanc yn y pumed Senedd, wedi gwneud asesiad ar y cyd o hyn i gyd, gan ddod i'r casgliad nad oedd yr asesiad effaith strategol yn darparu dadansoddiad effeithiol o benderfyniadau gwario. Felly, rwy'n credu bod cryn dipyn o waith i'w wneud ar hynny.

Rydym ni'n cymeradwyo'n fawr sefydlu uned dystiolaeth a data cydraddoldeb newydd Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi'i ategu hefyd gan gomisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd mae angen i ni wybod o ddifrif pa mor bell yr ydym ni i ffwrdd o'r heriau sydd o'n blaenau, neu fel arall nid oes gennym ni syniad lle mae angen i ni roi'r adnoddau a'r ymdrech. Er enghraifft, nid ydym ni'n gwybod faint o staff o leiafrifoedd ethnig yr ydym ni'n eu cyflogi yn y sector gofal plant ac ym mha gymunedau a, heb hynny, ni allwn ni asesu pa mor bell i ffwrdd yr ydym ni o gael gweithlu gofal plant sy'n adlewyrchu ei boblogaeth. Rydym ni'n ymwybodol bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi ehangu. Cawsom ni gyhoeddiad ddoe gan Chwarae Teg a wnaeth gyflwyno'r dystiolaeth hon. Os ydym ni wir eisiau cael Cymru fwy cyfartal, mae gwir angen i ni wybod ble mae'r grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac ym mha sectorau cyflogaeth, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn ei gylch.

Mae'n amlwg, bron i 100 mlynedd ers y bleidlais gyffredinol i fenywod, ei bod yn annerbyniol mai dim ond 26 y cant o gynghorwyr llywodraeth leol sy'n fenywod, ac rwy'n gobeithio y bydd pleidiau gwleidyddol yn rhoi sylw i'r mater hwnnw.

Mae'n amlwg bod costau byw yn ystyriaeth bwysig, ond rydym ni'n falch iawn o'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi mynd i'r afael â'r gronfa gynghori sengl a'r gronfa cymorth dewisol. Rwy'n credu eu bod wedi bod yn adnoddau defnyddiol iawn. Gwnaethom ni glywed tystiolaeth o'r ffordd y maen nhw wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sydd â hawl i gael budd-daliadau, sydd yn amlwg wedi dod â mwy o arian i economi Cymru. Ac felly mae hynny'n llwyddiant gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru, ac felly rydym ni'n falch iawn o'r cynnydd o £1.7 miliwn yn y gronfa gynghori sengl, sy'n ddefnydd da o'r arian.

Ers cyhoeddi ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, rydym ni wedi cael cyfle i wneud ein gwaith craffu blynyddol ar gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwyf i eisiau siarad yn fyr am rai materion pwysig, a sôn am rai materion eraill gan Russell George, Mike Hedges ac Alun Davies.

Yn gyntaf, mae gwariant ataliol yn hanfodol. Rwy'n sylweddoli bod fframweithiau perfformiad yng nghanol pandemig yn anodd iawn eu cynnal, ond rhaid i ni feddwl am y costau sy'n gysylltiedig â pheidio ag ymdrin â mwy o bwyslais yn y fframweithiau perfformiad ar wariant ataliol ar ofal iechyd. Fel arall, ni allai'r cynnydd mewn cyllidebau iechyd roi'r budd sydd ei angen arnom ni. Gwyddom ni fod angen i ni wella o COVID, ond pe byddem ni wedi gweithredu'n gynharach ar atal, efallai y byddem ni wedi cael cyfradd is o farwolaethau. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn.

17:55

Mae angen i mi dynnu eich sylw chi at yr amser, mae'n ddrwg gennyf i. Mae'r amser eisoes ar ben ac mae gennyf i lawer o siaradwyr ar ôl, felly os wnewch chi ddod â'ch—

Rwyf i eisiau crynhoi drwy ddweud bod ein pryder ychwanegol ni'n ymwneud â'r—. Does dim cynnydd ar hyn o bryd yng nghyllideb comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Hi yw'r comisiynydd ymhlith y pedwar comisiynydd sy'n cael yr arian lleiaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'w swyddfa ymgymryd â chyrff cyhoeddus ychwanegol a'u cefnogi a chraffu arnyn nhw heb arian ychwanegol? Nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Yn benodol, o bryder mawr yw'r ffaith bod o dan eich ymarfer cysoni cyllideb newydd, na fydd comisiynwyr nawr yn gallu cadw arian mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwneud ymchwiliadau statudol. Rwy'n credu bod angen herio hynny'n bendant, oherwydd os nad oes gennych chi arian wrth gefn, a'ch bod chi'n gorfod mynd at Lywodraeth Cymru i fegian iddyn nhw wneud adolygiad statudol, i Lywodraeth Cymru, efallai, mae'n cyflwyno gwrthdaro buddiannau clir. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr hoffwn i fod Llywodraeth Cymru yn ymateb iddo a'i gywiro.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Hoffwn i ganolbwyntio ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi. Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar fusnesau a bywoliaethau ledled Cymru, ac mae'r gyllideb hon yn gyfle i ychwanegu adnoddau a chymorth y mae mawr eu hangen ar fusnesau a'u gosod nhw ar y trywydd iawn ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, mae nifer o bryderon ynglŷn â'r gyllideb ddrafft, gan gynnwys pryderon ynghylch y pecyn cymorth i fusnesau yr effeithwyd arnyn nhw gan y cyfyngiadau diweddar, yn ogystal â phryderon ynghylch dyrannu cyllid ar gyfer yr economi ymwelwyr, ymchwil ac arloesi, sgiliau a sawl maes rhaglen arall. Felly, os oes un neges neu ddatganiad yn cael ei gymryd o fy nghyfraniad y prynhawn yma, yna hwnnw yw bod rhaid egluro'r dyraniadau cyllid yn fwy penodol, a bod yn rhaid i lefel y manylion sy'n gysylltiedig â rhaglenni'r Llywodraeth gael ei hegluro'n well. 

Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi clywed tystiolaeth gan Weinidog yr economi, ac rwy'n ddiolchgar iddo am ei amser, ac am y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor. Yn ein sesiwn dystiolaeth, holodd y pwyllgor y Gweinidog yn benodol ynghylch lefel y cymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y cyfyngiadau diweddar, a bydd yr Aelodau'n gweld o'n hadroddiad ein bod ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu pecyn o gymorth wedi'i dargedu i gefnogi adferiad economaidd yn y sectorau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y cyfyngiadau diweddar. Mae gwaith gan gomisiwn Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru yn datgelu bod busnesau, ar gyfartaledd, yn ystod y pandemig, yn wynebu lefelau dyled presennol o tua £184,000, a bod traean o fusnesau'n ofni cau neu fethu o fewn mis heb gymorth cymesur brys gan y Llywodraeth. Bydd yr Aelodau'n cofio sylwadau REKOM UK, sydd â thri chlwb nos yng Nghymru; roedden nhw'n teimlo bod y sector yn cael ei neilltuo eto ar ôl penderfyniad Llywodraeth Cymru i gau'r sector. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd Gweinidogion yn myfyrio ar yr argymhellion wedi'u hamlygu yn adroddiad y pwyllgor ac yn gweithio gyda'r sector i ddiogelu ei gynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol a rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arno i fynd yn ôl ar ei draed.

Nawr, ystyriodd y pwyllgor hefyd effaith y gyllideb ddrafft ar yr economi ymwelwyr, ac rwyf i eisiau ailadrodd galwadau Cynghrair Twristiaeth Cymru am ddadansoddiad cynhwysfawr o wariant uniongyrchol ac anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar yr economi ymwelwyr ac asesiad cywir o'r hyn a gafodd ei wario ar dwf gwirioneddol. Gwnaethon nhw hi'n glir hefyd, yn wahanol i Awdurdod Twristiaeth Prydain, VisitScotland a Thwristiaeth Iwerddon, sy'n gyrff twristiaeth cenedlaethol hyd braich, nad yw Croeso Cymru yn cynhyrchu adroddiad blynyddol a set o gyfrifon safonol sydd ar gael i'r cyhoedd, ac felly mae deall ei gyllideb yn anodd iawn i randdeiliaid. Felly, efallai wrth ymateb i'r ddadl hon, bydd y Gweinidog cyllid yn dweud wrthym ni pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i wneud cyllid y Llywodraeth ar dwristiaeth yn fwy tryloyw fel y gallwn ni i gyd ddeall ei effaith yn well a sicrhau bod rhywfaint o atebolrwydd priodol, yn y ffordd y mae sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn ei wneud.

Nawr, wrth i ni ailgodi, ar ôl y pandemig, mae gennym ni gyfle i wneud pethau'n wahanol, ac wrth wraidd cynlluniau Llywodraeth Cymru dylai fod yna ymrwymiad i'r agenda sgiliau. Ym mis Hydref, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad difrifol iawn ar addysg uwch ac addysg bellach, ac rwyf i eisiau tynnu sylw'r Aelodau at y casgliad y bydd yn heriol i Lywodraeth Cymru ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed a gwarant i bobl ifanc mewn cyd-destun economaidd anodd. Rwy'n ategu barn Archwilio Cymru, ac mae'n rhywbeth yr wyf i wedi'i godi gyda Gweinidog yr economi fy hun: mae'n hanfodol ein bod ni'n gallu gweld yn union sut y caiff y prentisiaethau gradd a'r warant i bobl ifanc eu hariannu, a gobeithio y bydd y Gweinidog cyllid yn ymrwymo i ddarparu'r lefel honno o dryloywder. Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn argymell yn benodol bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n bwriadu gwario'r dyraniad ar gyfer prentisiaethau gradd a'i chynlluniau ar gyfer ehangu'r cyrsiau a chynyddu amrywiaeth prentisiaid gradd, yn unol ag adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2020. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad penodol hwnnw. 

Yn olaf, Llywydd, rwyf i eisiau sôn yn fyr am ymchwil ac arloesi ac ailadrodd fy ngalwadau blaenorol i weithredu argymhellion heb eu gwireddu yn adolygiadau Diamond a Reid. Darparodd yr Athro Reid ddwy set o argymhellion gwariant, un pe bai gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros gyllid newydd, ac un pe na fyddai ganddyn nhw hynny. Ac felly nid oes rheswm pam nad oes modd gweithredu'r olaf nawr. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynghylch pum blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, ond ni fydd y blaenoriaethau hynny'n cael eu gwireddu heb fod yr argymhellion hynny'n cael eu gweithredu. Felly, unwaith eto, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion hynny, yn enwedig o gofio bod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhoi adnoddau i Lywodraeth Cymru gyflawni'r argymhellion hynny.

Ac felly wrth gloi, Llywydd, rwy'n credu mai'r gofyniad mwyaf ar Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft hon yw tryloywder. Yn y rhan fwyaf o feysydd rhaglenni, mae manylion niwlog ond dim arwyddion clir o sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu, ac oherwydd hynny, mae craffu'n gyfyngedig ac mae'n anodd pennu effeithiolrwydd a gwerth am arian yn gywir. Ac felly, rwy'n annog y Gweinidog i ddarparu'r manylion hynny a sicrhau bod holl adrannau'r Llywodraeth yn darparu gwybodaeth mor agored a thryloyw â phosibl. Diolch yn fawr. 

18:00

Mae gennyf ychydig o bwyntiau i'w gwneud. Yn gyntaf, mae'r cytundeb cydweithredu a'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni yn rhywbeth yr wyf wir yn eithaf balch ohono, yn enwedig o ran prydau ysgol am ddim. Ac mae'n rhaid dweud, mae dweud nad yw'r gyllideb yn cyflawni o gwbl i bobl yng Nghymru yn gwbl anghywir. A yw'n berffaith? Na. Ond, cymerwch hyn wrth rywun a oedd ar brydau ysgol am ddim, bydd y polisi hwnnw'n unig yn mynd mor bell i helpu teuluoedd â phlant sy'n byw mewn tlodi. Nid oes amheuaeth am hynny. Ac fe'i cyflwynwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda'i gilydd. 

Gwerthfawrogais yr ymateb a gefais gan y Llywodraeth i gwestiwn ysgrifenedig ar 10 Ionawr yn ymwneud â rhoi mwy o gymorth yn gynnar ar gyfer prydau ysgol am ddim. Amlygwyd mai'r dyddiad cychwyn ar gyfer dechrau prydau ysgol am ddim fyddai mis Medi 2022. Gobeithio bod y Llywodraeth yn ystyried sut y gallem gyflymu'r broses hon, gan gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gynharach yn benodol. Mae'r Gweinidog wedi rhoi cyllideb tair blynedd y tro hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi bod hynny'n cyfyngu ar hyblygrwydd, ond a oes rhyw ffordd o roi mwy o'r cyllid a ddyrannwyd yn gynnar? Nawr mae'r angen, mae yn y presennol ac mae'n cael ei waethygu gan yr argyfwng costau byw, a byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr clywed a yw hyn yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn ei ystyried.

Yn ail, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy awydd i weld y lwfans cynhaliaeth addysg yn mynd ymhellach, ac roeddwn yn gwerthfawrogi ei hymateb i mi yng nghwestiynau'r llefarwyr yr wythnos diwethaf, pan godais y posibilrwydd o ehangu'r lwfans. Rwyf eisiau ailbwysleisio faint o achubiaeth yw'r lwfans i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, yn enwedig pan fyddwn ni'n cyrraedd addysg ôl-16. Rydym ni'n derbyn yn gyffredinol mai addysg yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a bydd cadw myfyrwyr ôl-16 yn cael yr effaith ddymunol honno o roi cyfleoedd a sgiliau pellach i'r rhai hynny sydd o gefndiroedd difreintiedig. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog ei hun yn gweld pa mor bwysig yw'r lwfans i'r myfyrwyr hynny, ac rwy'n gobeithio y gall hi roi sicrwydd, os oes gan y Llywodraeth gyllid pellach y bydd yn ceisio ehangu'r lwfans fel blaenoriaeth.

Yn olaf, nodwn y gwariant ar yr argyfwng hinsawdd a natur yn y gyllideb, ond rwyf yn ei chael yn anodd deall sut y gallwn ni gysoni'r gwariant hwn â'r bygythiad i gyllideb comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel y nododd Jenny Rathbone, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynghori a sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn gwneud ei ran ar faterion fel datgarboneiddio a'r newid gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cydnabu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

'Nid yw cyllideb Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi rhoi
capasiti digonol i’w swyddfa i roi’r lefel o gefnogaeth ymarferol a’r lefel o gefnogaeth sy’n benodol i’r sector i gyrff cyhoeddus y maent wedi galw amdanynt er mwyn gweithredu’r Ddeddf ar waith.'

Felly, os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch gwneud i'r dull hwn sy'n arwain y byd weithio, mae cydnabod y bylchau gweithredu sy'n bodoli yn hollbwysig. Oni ddylai'r Llywodraeth fod yn sicrhau bod gan y comisiynydd ddigon o adnoddau i wneud y gwaith? Mae cyllideb swyddfa'r comisiynydd eisoes yn un o'r cyllidebau swyddfa isaf ar gyfer unrhyw gomisiynydd yng Nghymru, a'r pwynt penodol sy'n peri pryder, i fod yn glir, yw bod cyllideb comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn golygu na allan nhw gario arian drosodd i'r flwyddyn newydd. Ac o fy nealltwriaeth i, mae hyn yn broblem oherwydd mae gwneud hynny wedi bod yn rhan fawr o'r ffordd y mae ei swyddfa wedi gweithredu. Gallai hyn atal y comisiynydd rhag gallu parhau i gynghori cyrff cyhoeddus, gan adael dim ond digon o adnoddau i gyflawni'r dyletswyddau statudol o ran monitro. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog roi rhywfaint o eglurder i'r Siambr ar y pwynt hwnnw. 

18:05

A gaf i ddatgan fy mod yn gynghorydd sir yn sir y Fflint? Mae'r cynnydd o 9.4 y cant i awdurdodau lleol yng Nghymru i'w groesawu, yn ogystal â'r gyllideb tair blynedd, a fydd yn helpu gyda chynllunio. Rwyf yn ymwybodol bod y setliad dros dro yn Lloegr wedi darparu cynnydd is o 6.9 y cant i gynghorau, a gyda'r rhagdybiaeth eu bod yn codi eu treth gyngor o'r uchafswm a ganiateir heb refferendwm. Ac roedd llawer o gyllid awdurdodau lleol yr Alban wedi'i neilltuo. 

Yn ystod datganiad y Gweinidog ar y gyllideb ddrafft, codais bryderon ynghylch cyllid ar gyfer priffyrdd a gynhelir gan gynghorau, a fe wnaf barhau i wneud hynny yn awr. Mae'n bryder gwirioneddol y bydd y cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru yn gostwng 11 y cant erbyn cyllideb 2024-25, ac o dan gronfa adolygu cymunedol Llywodraeth y DU, dim ond £46 miliwn y bydd Cymru yn ei gael eleni, o'i gymharu ag o leiaf £375 miliwn y byddem wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Rwyf yn ymwybodol bod y gwaith seilwaith mawr ar yr A55 sy'n digwydd ar hyn o bryd yng ngogledd-orllewin Cymru, a fydd hefyd yn cynnwys draenio i'w wneud yn fwy cydnerth i lifogydd, yn cael ei ariannu gyda £20 miliwn o Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai bwysigrwydd cynnal y ffyrdd sydd gennym eisoes, nid yn unig i fodurwyr ond i gerddwyr a beicwyr hefyd, y mae tyllau yn y ffordd yn fygythiad mwy fyth iddynt. Mae'r cyllid grant blynyddol ychwanegol diweddar gan Lywodraeth Cymru o £20 miliwn wedi rhoi cyfle i awdurdodau atal rhywfaint o ddirywiad yn y priffyrdd sydd wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i flynyddoedd o gyni y Torïaid. Ac felly, rwyf yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid yr wythnos diwethaf y byddai cyllid cyfalaf ychwanegol o £70 miliwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei roi i gynghorau, gan gynnwys ar gyfer priffyrdd, a fydd, gobeithio, yn cael ei glustnodi gan fy mod yn gwybod y pwysau sydd ar wahanol adrannau llywodraeth leol wrth bennu eu rhaglen gyfalaf, cystadlu i gyfateb arian Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau rhaglenni cyfalaf clodwiw, pwysig, fel ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, darpariaeth gofal plant ac adeiladu cartrefi di-garbon i'w rhentu.

Wrth symud ymlaen, mae angen cynllun cynnal a chadw wedi'i gynllunio a chyllid ar gyfer priffyrdd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellir mynd i'r afael â'r ôl-groniad sylweddol o ran cynnal a chadw ffyrdd a phriffyrdd ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a chefnffyrdd, ac egluro'r sail ar gyfer y penderfyniad i beidio â pharhau â'r grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus. Dylai hyn gynnwys manylion unrhyw asesiad a wnaed o effaith y penderfyniad ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, yn ogystal â gwerth am arian mewn cynnal a chadw priffyrdd lleol, diogelwch ar y ffyrdd, ac yn y blaen.

Dros y blynyddoedd, cafwyd rhai enghreifftiau da o waith ar y cyd ar yr ased priffyrdd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a chynghorau, fel y prosiect ôl-groniad cenedlaethol o waith cynnal a chadw priffyrdd a chontractau rheoli asedau. A datblygwyd y prosiectau hyn gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru, y corff ar gyfer swyddogion technegol priffyrdd awdurdodau lleol. Roedd un o ganlyniadau cadarnhaol blaenorol y mentrau hyn yn cynnwys y fenter benthyca llywodraeth leol, a oedd yn darparu cymorth ariannol y mae mawr ei angen ar gyfer cyfundrefnau cynnal a chadw gwell i wella'r rhwydwaith priffyrdd presennol ledled Cymru ar gyfer y cyhoedd sy'n teithio.

Mae wedi'i godi sawl gwaith yn y fan yma fod nifer o briffyrdd yn y gogledd hefyd yn cael eu heffeithio gan y stormydd cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd, gan arwain at eu cau yn llawn neu yn rhannol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi effeithio ar gymunedau yn Llangoed a Phenmon yn Ynys Môn, yn Nhrecelyn yn Wrecsam, y bont ger Tremeirchion yn sir Ddinbych a thirlithriad yn Ffrith, sir y Fflint, bob un yn costio mwy nag y mae gan yr awdurdodau lleol gyllid ar ei gyfer. Rwyf yn ymwybodol y bydd yr un yn Ffrith yn costio £3.8 miliwn i'w ddatrys. O fy ymchwiliadau diweddar, rwy'n gwybod bod y cynllun cymorth cyllid brys, a elwid gynt yn gynllun Bellwin, sydd ar gael i ddarparu cymorth ariannol brys i helpu awdurdodau lleol dalu costau anfesuradwy, na ellir eu hyswirio y maen nhw'n eu hysgwyddo wrth ymdopi ag achosion brys yn eu hardal. Ac mae'r gronfa cadernid brys, y byddaf yn sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn ymwybodol ohoni. Rwy'n gobeithio y bydd y meysydd pwysig hyn yn cyd-fynd â chylch gwaith y cyllid, ond mae gennyf rai pryderon.

Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i archwilio ffyrdd eraill o gefnogi cyllidebau cyfalaf mwy ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol, gan gynnwys swyddogaeth benthyca â chymorth i ariannu'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ffyrdd, a mynd i'r afael â ffyrdd y mae trychinebau naturiol yn effeithio arnynt. Diolch.

18:10

Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Sir Penfro a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, a thrwy adleisio geiriau fy nghyd-Aelod, AS Mynwy: yn y manylion y ceir y gwirionedd, yn sicr. Ac mae'n amlwg o'r ddadl y prynhawn yma, yn dilyn yr hwb ariannol mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU, nad yw'r gyllideb hon yn mynd yn ddigon pell i gyflawni dros bobl Cymru. Yn y bôn, nid yw'r gyllideb hon yn bodloni nifer o ddisgwyliadau, sydd wedi fy ngadael yn methu â chefnogi'r eitem a gyflwynwyd y prynhawn yma. Er fy mod yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog materion gwledig i gynnal cynllun taliadau sylfaenol Llywodraeth Cymru drwy gydol 2022, nid yw'r diwydiant amaethyddol wedi cael sicrwydd eto y bydd y cynllun taliadau sylfaenol yn parhau yn 2023 a hyd nes y caiff y cynllun ffermio cynaliadwy ei lansio yn 2025. Felly, a all y Gweinidog cyllid gynnig unrhyw sicrwydd am ddyfodol y cynllun taliadau sylfaenol yn ystod y ddwy flynedd hyn? Rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod pwysigrwydd y cynllun taliadau sylfaenol o ran cynorthwyo'r gymuned amaethyddol i lywio pandemig COVID-19 gan sicrhau hefyd y gall y diwydiant oroesi'r cynnydd mewn costau ac adnoddau. Ni ellir tanbrisio manteision economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ffermydd teuluol. Rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod y cynllun taliadau sylfaenol yr un mor bwysig ag erioed o ran ategu parhad cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel yng Nghymru—rhywbeth y mae arnaf ofn y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn ei anwybyddu.

Roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun lles anifeiliaid, sy'n ceisio gwella lles anifeiliaid Cymru, gan gynnwys ein hanifeiliaid anwes. Gwell hwyr na hwyrach. Er fy mod yn dal i gredu'n gryf bod mwy i'w wneud, mae'r strategaeth hon yn gam i'r cyfeiriad cywir. Yn wir, rhan sylweddol o'r cynnig hwn oedd prosiect hyfforddiant gorfodi awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru—model hyfforddi ar gyfer Cymru gyfan a oedd yn ceisio datblygu safon diwydiant i holl swyddogion gorfodi awdurdodau lleol ddysgu oddi wrtho. Er bod hwn yn gynnig pwysig sy'n ceisio sefydlu cydraddoldeb ledled Cymru, rhaid iddo hefyd fod â chyllid digonol, difrifol ac wedi ei glustnodi sy'n sail i union ddiben y prosiect. Yn wir, roedd y Gweinidog materion gwledig yn iawn pan ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu:

'os nad yw'r gorfodi yn gweithio, yna nid ydych yn mynd i wneud unrhyw gynnydd'.

Ni ddylid caniatáu i gost ariannol gorfodi rheoliadau lles anifeiliaid newydd Llywodraeth Cymru ddisgyn ar ein hawdurdodau lleol sydd wedi'u gorymestyn a heb ddigon o adnoddau. Er fy mod yn cydnabod bod awdurdodau lleol wedi cael cynnydd yn eu cyllid ar gyfer y cyfnod 2022-23, rwyf yn dal yn bryderus nad oes unrhyw fesurau diogelu ar waith i sicrhau bod y llwybr ariannu hwn yn parhau heibio i'r pwynt y mae'r cynllun lles anifeiliaid wedi dod i ben.

Ac eto, efallai'n fwy pryderus, nid dyma'r unig enghraifft lle mae hyn yn wir. Mae rheoliadau dŵr newydd Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'n sylweddol y baich ar gorff Llywodraeth Cymru ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), sy'n fwy adnabyddus i bob un ohonom ni fel yr NVZs, sef Parthau Perygl Nitradau, yn ychwanegu llwyth gwaith enfawr i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i tua 60 o staff amser llawn ychwanegol ddarparu'r cynnyrch hyfyw lleiaf, neu 200 o staff eraill i gyflawni'r rheoliadau ar eu ffurf lawn. Ac eto, nid oes sôn am hyn yn naratif cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn hytrach na rhoi'r cyllid sydd ei angen ar y sefydliad i fodloni eu diffygion staffio, maen nhw, yn hytrach, wedi derbyn cyfanswm o £7.2 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf er mwyn darparu seilwaith TGCh gweithredol wedi'i ddiweddaru. Rwy'n credu bod hyn yn gamflaenoriaeth llwyr. Er fy mod yn dal i gredu bod gwell polisïau i wella ansawdd dŵr yma yng Nghymru, os yw'r Llywodraeth hon yn mynnu bod yna NVZs, yna dylai o leiaf ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru yn iawn fel y gallan nhw wneud y gwaith o orfodi'r rheoliadau. Er y gall y Llywodraeth geisio llunio'r gyllideb hon yn gadarnhaol, realiti'r sefyllfa yw ei bod yn methu'n sylfaenol â bodloni naratif polisi'r Llywodraeth hon. Nid yw'n gwneud fawr ddim i liniaru'r cyfyngiadau ariannu difrifol sydd nid yn unig yn wynebu ein hawdurdodau lleol ond asiantaethau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd, yn ddyddiol, yn gorfod cydbwyso pwysau rheoliadau Llywodraeth Cymru yn erbyn eu gallu eu hunain i gyflawni eu nodau a'u hamcanion craidd. Hapus i ildio.

18:15

Rwy'n deall eich dadl bod angen mwy o arian ar Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd ar drywydd yr holl bobl sy'n llygru ein hafonydd, ond tybed a allech chi nodi o ble y credwch y gallai fod angen i'r arian ddod ohono i wneud hynny? Er enghraifft, a fyddech chi'n cefnogi cynnig Undeb Amaethwyr Cymru i gapio taliadau sylfaenol, fel nad ydym yn ariannu miliwnyddion?

Wel, yn sicr, ac rydym wedi siarad llawer yn y Siambr hon am gronfeydd creu coetir Glastir sy'n mynd dros y ffin i wledydd eraill sy'n prynu—cwmnïau eraill sy'n prynu— tir amaethyddol gorau Cymru ar gyfer coedwigo yn bod yn ddymunol ac yn dderbyniol i'r Llywodraeth hon wrth dderbyn arian grant drwy goetir Glastir. Felly, mae cyllid ar gael.

Fodd bynnag, fe wnaf ildio, gan fy mod yn ymwybodol o'r amser. Ni allwn anwybyddu goblygiadau ariannol cyfarwyddo awdurdodau lleol ac asiantaethau i weithredu a gorfodi polisi Llywodraeth Cymru. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cyflawni'r polisïau hyn, rhaid iddyn nhw ddeffro i'r realiti o orfod eu gorfodi, a diwedd y gân yw'r geiniog. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Rebecca Evans, am ei dull o weithredu a'i dull o ymgysylltu â Phwyllgor Cyllid y Senedd i graffu ar y gyllideb ddrafft deg iawn, werdd a blaengar hon. A hoffwn ddiolch hefyd i'n cyd-Aelodau cyllid a'n Cadeirydd cadarn iawn.

Mae Cymru wedi dioddef ac mae'n parhau i ddioddef pandemig byd-eang sydd wedi arwain at siglo hanfodion a model ein heconomi ni yng Nghymru. Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith fawr ar bob un ohonom ni, ond, i rai, yr aberth eithaf, ac ni ddylem ni yn y lle hwn byth anghofio.

Llywydd, wrth i ni o bosibl weld bywyd ar ôl y pandemig ar y gorwel, rydym ni yn awr yn edrych ar gyfradd sylfaenol chwyddiant sy'n codi'n sydyn iawn, ac argyfwng costau byw ac ynni y Torïaid sy'n effeithio'n ddwys ar fywydau pob dyn, menyw a phlentyn yn fy etholaeth i, sef Islwyn. Yn anghredadwy, yn un o wledydd cyfoethocaf y byd yn 2022, mae cyd-ddinasyddion yn wynebu'r dewis annymunol, amhosibl rhwng gwresogi neu fwyta. Nid yw hyn, fel y mae'n ymddangos y mae'r Torïaid yn ei gredu, yn rhethreg wleidyddol nac yn jôc wael; mae'n real, oherwydd bydd rhai pobl yn marw eleni oherwydd na allan nhw fforddio gwresogi eu cartrefi, a hyn i gyd wrth i'r llechau, twbercwlosis a diffyg maeth dychwelyd i'n hysbytai yn y Deyrnas Unedig oherwydd system les nad yw'n gweithredu, sydd wedi torri.

Cefndir y cymysgedd peryglus hwn yw Llywodraeth Dorïaidd y DU dan arweiniad Prif Weinidog sydd, a dyfynnaf, 'ddim yn glown i gyd'—geiriau ei gyfarwyddwr cyfathrebu newydd, Guto Harri. A tra bod Laurel a Hardy yn hapus yn canu 'I will survive', mae poblogaeth Cymru yn cael trafferth bob dydd dim ond i roi bwyd ar y bwrdd i'w teuluoedd. Mae'r ddeuoliaeth hon yn crynhoi'r myopia Torïaidd a welwn ni yn y Siambr, ac mae Boris a'i Lywodraeth y DU Dorïaidd wedi cyfaddef o'r diwedd na fydd yn amnewid cyllid yr UE yn llawn i Gymru am dair blynedd, er iddo ddweud yn gyson wrthym ac o fewn y Siambr hon na fyddai pobl Cymru geiniog yn dlotach pan adawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd. Sut y gallwn ni ymddiried mewn sylwadau o'r fath?

Er bod y Torïaid wedi siomi Cymru, mae'r gyllideb hon gan Lywodraeth Lafur Cymru yn sefyll dros bobl Cymru, ac rwyf i'n erfyn, yn erfyn ar y Torïaid Cymreig gyferbyn i wneud yr un peth. I'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi'n agos at £1.3 biliwn—[Torri ar draws.]—byddwn i, ond rwy'n ymwybodol iawn o'r amser a hoffwn orffen; nid y tro hwn, Janet—gan fuddsoddi'n agos at £1.3 biliwn yn ein gwasanaeth GIG yng Nghymru, sefyll dros awdurdodau lleol, sydd wedi cael buddsoddiad uniongyrchol ychwanegol o £750 miliwn i'r grant cynnal refeniw, a £100 miliwn ychwanegol wedi'i dargedu at iechyd meddwl, gan gefnogi'r sector gofal cymdeithasol gyda chyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol y cyflog byw go iawn, buddsoddi mewn addysg gyda £320 miliwn ychwanegol hyd at ddiwedd y tymor i barhau i ddiwygio a chefnogi addysg ledled Cymru.

Ac mae'n iawn bod Llywodraeth Cymru a'n Gweinidog yr Economi yn buddsoddi yn y cynlluniau treialu dysgu personol a'r gwarant i bobl ifanc, a bod argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch drafftio a gwerthuso penderfyniadau ar y gyllideb, sy'n cynnwys, wrth ei ffynhonnell, y tlotaf yn ein cymdeithas, sy'n parhau i fod yn fenywod, yn cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n croesawu yr adborth ar y newidiadau newydd o ran cryfhau Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb a'r grŵp cynghori newydd ar wella'r gyllideb. Ond, fel y mae Jenny Rathbone eisoes wedi'i ddweud wrthym ni heddiw, mae'n gwbl bwysig bod gan Gymru brosesau asesu effaith strategol cyfannol a chroestoriadol rhagorol, a'n bod yn archwilio cyllidebu ar sail rhyw i Gymru.

Mae'n iawn bod y Pwyllgor Cyllid yn gwneud y gwaith hwn ac yn drafftio ac yn gwerthuso argymhellion o'r fath. Mae Llywodraeth Lafur Cymru, i gloi, Llywydd, yn buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau o bob oed, gan fuddsoddi mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, mewn seiber, mewn diogelwch a chenedlaethau'r dyfodol. A heddiw, nid yfory, yw hynny, rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol Cymru. Rydym ni'n buddsoddi ym mhobl Cymru, ac rwy'n cymeradwyo'r gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru hon i'r lle hwn. Cymru gryfach, Cymru decach a Chymru wyrddach—cyllideb ddrafft sy'n ceisio sefydlu Cymru gyfiawn. Diolch.

18:20

Mae'n bleser cymryd rhan mewn dadl mor bwysig. Mae'n cael ei hystyried yn eang fel un o uchafbwyntiau calendr gwleidyddol Cymru.

Pedair wythnos yn ôl, roeddwn yn feirniadol iawn o'r effaith y byddai'r gyllideb hon yn ei chael ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Yn ystod y pedair wythnos hynny, mae'r sefyllfa wedi dod yn llawer cliriach. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yn llwm, ac ychydig iawn o effaith ar y gorau a gaiff y gyllideb hon ar y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Ni wnaf ail-adrodd fy nadl ar y cyflog byw gwirioneddol—yr wyf wedi siarad amdano gryn dipyn—ond mae wedi dod yn amlwg nad fi yw'r unig un i leisio pryderon. Mae'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn dweud na fydd y cyflog byw gwirioneddol yn ddigonol i gefnogi, cadw na recriwtio gweithwyr gofal. Roedd Cyngres yr Undebau Llafur yn fwy damniol. Fe wnaethon nhw ddweud bod £9.90 yr awr yn rhy isel a bod y setliad yn methu â chynnwys ffactorau eraill sy'n ffurfio cydnabyddiaeth cyflog deg. Fel y nododd y Fforwm Gofal Cenedlaethol, mae prinder staff eisoes yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n disgwyl i'r sefyllfa waethygu dros y misoedd nesaf.

Roedd y gyllideb hon yn gyfle delfrydol i fynd i'r afael â'r prinder staff gyda chytundeb uchelgeisiol i staff, ac eto dewisodd Llywodraeth Cymru wneud y lleiaf posibl. Gallen nhw fod wedi dewis alinio gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG, cam a fyddai'n costio tua £54 miliwn yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ei hun. Yn wir, byddai'n well ganddyn nhw fynd am yr opsiwn rhad, yn ôl llawer yn y sector, na fydd yn gwneud fawr ddim i wella argyfwng sy'n gwaethygu. Gyda'r arbedion a wnaed, fe wnaethon nhw benderfynu gwario £10 miliwn ar baratoi'r tir i ddileu elw preifat o'r sector gofal plant. Dylai hynny ddweud popeth y mae angen i chi ei wybod am y Llywodraeth hon a'u cyllideb. Yn hytrach na gwobrwyo a gwerthfawrogi ein staff gofal gweithgar, byddai'n well ganddyn nhw wario arian cyhoeddus ar fynd ar drywydd fendeta ideolegol yn erbyn y sector preifat—sector preifat sy'n darparu dros dri chwarter y gofal yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ie, yn sicr.

Diolch. O ran y datganiad diwethaf hwnnw, gwyddom ni i gyd fod arnom angen economi gymysg fywiog o ran gofal, boed hynny mewn meithrinfa neu ofal plant neu mewn gofal iechyd i'r henoed. A fyddech chi hefyd yn cydnabod, pan fyddwn yn mynd i'r afael â phrinder arian yn y pwrs cyhoeddus, oherwydd toriadau grant bloc Cymru mewn termau real—mewn termau real—fod—

Na, mae hynny'n ddigon o ymyriad. Rwy'n awgrymu i Aelodau sydd wedi gwrthod ymyriadau eu hunain i feddwl efallai a oes amser ar gyfer ymyriadau ar hyn o bryd. Gareth Davies.

Diolch, Lywydd. Roedd yn fwy o araith, rwy'n credu, nag ymyriad.

Ond dyma'r sector preifat sy'n cwmpasu 80 y cant. Nid dim ond piso dryw yn y môr; hwn yw'r môr. Mae prinder yn y sector gofal yn cael effaith wanychol ar ein GIG. Fel y nododd y Gweinidog ei hun, mae gennym tua 1,000 o bobl sy'n iach yn feddygol yn ein gwelyau ysbyty na ellir eu rhyddhau oherwydd diffyg gofal cymdeithasol. Ond mae'r gyllideb hon wedi rhoi pwysau ychwanegol ar GIG sydd eisoes yn gwegian. Ar yr wyneb, mae'n edrych fel bod y gyllideb ar gyfer y GIG yn un hael, ond, fel popeth yn y Llywodraeth hon, a'r hyn sydd wedi ei grybwyll ychydig o weithiau yn y ddadl hon, yn y manylion y ceir y gwirionedd.

Mae cronfa adfer y GIG yn annhebygol o wneud unrhyw wahaniaeth i'r twll du enfawr. Mae byrddau iechyd yn parhau i orwario'n aruthrol, ac mae gennym rai o'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU. Mae dros hanner cleifion Cymru yn aros mwy na 26 wythnos i ddechrau triniaeth. Nid rhifau ar fantolen yn unig yw'r rhain; bywydau pobl ydyn nhw: cannoedd o filoedd o bobl yn dioddef oherwydd oedi, miloedd o gleifion yn marw oherwydd oedi. Ble mae'r cynigion radical i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus mewn iechyd a gofal? Nid yw'n ymddangos eu bod ar radar Llywodraeth Cymru. Dim canolfannau llawfeddygol rhanbarthol sy’n rhydd o COVID. Yn hytrach, mae gennym doriad i'r gyllideb gyfalaf, sydd wedi poeni arweinwyr y GIG, gan na fyddant yn awr yn gallu darparu'r offer na'r safleoedd diweddaraf i drin cleifion. Yr hyn sydd gennym yw cyllideb ddrafft sy'n methu â chyflawni ar gyfer iechyd a gofal, ac sy'n methu dinasyddion a chleifion Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant a gwrthod y gyllideb hon.

18:25

Diolch, Llywydd. Mae'n galonogol iawn i allu cyfrannu i'r ddadl hon ar y gyllideb fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan mai dyma'r tro cyntaf i'r pwyllgor hwn graffu ar y gyllideb.

Felly, mae hyn hefyd yn garreg filltir bwysig wrth graffu ar wariant Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â chyfiawnder, ac rwy'n gobeithio, drwy ein gwaith, ein bod yn dechrau taflu goleuni ar y mater pwysig iawn hwn. Fel rhan o'r gwaith craffu a thryloywder cynyddol hwn, rydym yn ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am ymateb i'n cais a darparu gwybodaeth am wariant ar gyfiawnder cyn ein sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol. Nododd y wybodaeth hon yn fras sut y dyrennir adnoddau i weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyfiawnder ym mhob prif grŵp gwariant ac ar draws portffolios gweinidogol amrywiol, ac mae hynny'n wirioneddol ddefnyddiol ac yn cael ei groesawu'n fawr.

Nawr, at ei gilydd, gwnaethom saith argymhelliad, o ystyried nad yw gwariant ar gyfiawnder wedi'i ddadgyfuno ar hyn o bryd, yn gyffredinol i geisio cael mwy o eglurder, gan edrych ymlaen at sut y dylid darparu'r wybodaeth honno mewn cyllidebau yn y dyfodol hefyd. Felly, er enghraifft, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o fanylion am sut y defnyddir y £4.2 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru, yn enwedig o ystyried y swyddogaeth bwysig y mae'r tribiwnlysoedd wedi'i chwarae wrth ymateb i heriau'r coronafeirws a'r angen i weithredu o bell, sydd wedi bod yn destun dadl yn y Siambr hon o'r blaen.

Nid yw'n syndod, efallai, ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at ddadgyfuno gwariant ar gyfiawnder. Yn ogystal â hyn, gwnaethom argymell hefyd y dylai ei rhaglen waith cyfiawnder gynnwys camau mesuradwy a rhaglenni penodol sy'n cael eu costio'n llawn, gydag adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at y cynnydd o ran cyflawni a gwerthuso canlyniadau cydrannau unigol. Credwn y bydd ein saith argymhelliad, os cânt eu gweithredu, yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni argymhelliad gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sef i Lywodraeth Cymru gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar faterion cyfiawnder. A sylwais yn y sylwadau rhagarweiniol fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr argymhellion wrth symud ymlaen.

Felly, hoffwn droi'n awr at fater pwysig defnydd Llywodraeth Cymru o Filiau'r DU i ddeddfu a'i femoranda cydsyniad deddfwriaethol canlyniadol. Nawr, mae'n syndod bod eu defnydd wedi dod yn nodwedd amlwg—hyd yma o leiaf yn y chweched Senedd hon—o'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni eu hamcanion polisi yn ddeddfwriaethol. Nawr, gan roi o'r neilltu am y tro rinweddau, neu fel arall, y dull hwn, mae'r cyfiawnhad a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at fater capasiti Llywodraeth Cymru i ddeddfu a'r adnoddau a ddyrennir i'r dasg hon. Ac, yn wir, codwyd hyn gan fy nghyd-Aelod ar y pwyllgor, Alun Davies, yn gynharach. Mewn llythyr cyn ein hawgrym tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym ac rwy'n dyfynnu:

'bod angen i Lywodraeth Cymru ystyried pob Bil Llywodraeth y DU yn ofalus, a chydbwyso'r angen i amddiffyn y setliad datganoli presennol cyn belled ag y bo modd'—

cyn belled ag y bo modd—

'a'r egwyddor y dylem ddeddfu ein hunain yma yng Nghymru, gyda chyfleoedd a allai godi i wella'r gyfraith i ddinasyddion Cymru',

gan edrych i ben arall yr M4.

Nawr, mae'r sylwadau hyn yn drawiadol oherwydd eu harwyddocâd cyfansoddiadol a'u perthnasedd i egwyddorion democrataidd sylfaenol—sybsidiaredd, datganoli ac yn y blaen. At hynny, rhaid i ni beidio ag anghofio bod swyddogaeth ddeddfu wrth wraidd swyddogaeth y Senedd hon. Yn ogystal, mae angen bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut y bydd yr ymrwymiadau deddfwriaethol yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni. Felly, am yr holl resymau hyn y mae'n bwysig deall sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyllidebu i sicrhau bod digon o gapasiti i ddeddfu a chyflwyno ei chynigion deddfwriaethol—materion a godais gyda'r Gweinidog cyllid yr wythnos diwethaf yma yn y Cyfarfod Llawn.

Felly, mae'r tri argymhelliad terfynol sy'n deillio o'n gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn ceisio canfod data sylfaenol, er mwyn ceisio deall yn well yr heriau deddfwriaethol a wynebir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod bod rhai o'r heriau presennol yn deillio o ganlyniadau gadael yr UE a'r pandemig coronafeirws. Fodd bynnag, fel y cydnabu'r Cwnsler Cyffredinol, mae angen i ni hefyd ddechrau meddwl am weddill y chweched Senedd a thu hwnt. Felly, yn benodol, rydym yn awyddus i ddysgu am lefel yr adnoddau sydd ar gael o fewn y gyllideb ddrafft i gynyddu gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio staff newydd a chynyddu arbenigedd—mae Aelodau eraill wedi sôn am hyn hefyd. O gofio ein bod wedi bod yn gwneud deddfwriaeth sylfaenol ers tua 15 mlynedd eisoes, hyderwn y bydd hyn yn adeiladu ar y strategaethau hyfforddi a recriwtio presennol ac yn peidio â dechrau o sylfaen sero. 

Felly, diolch i fy nghyd-aelodau yn y pwyllgor a'n tîm clercio am y gwaith craffu a dadansoddi diwyd, fel bob amser, ac edrychwn ymlaen at ymateb y Gweinidog i'r ddadl.

18:30

Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.

Diolch, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn ddadl wirioneddol ddefnyddiol. A chafwyd rhai cyfraniadau hynod adeiladol, y gwn y byddaf i a fy nghyd-Weinidogion, a fydd wedi bod yn gwrando'n astud, yn myfyrio arnynt wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol a symud tuag at benderfyniadau pellach y mae angen i ni eu gwneud o ran cynorthwyo pobl yng Nghymru drwy'r argyfwng costau byw. Ac, fel y dywedais i yn fy sylwadau rhagarweiniol, rwy'n bwriadu dweud mwy am ein dull o wneud hynny'n fuan iawn.

Ond mae cymaint o bwyntiau pwysig wedi'u codi yn y ddadl, ac yn amlwg nid wyf yn mynd i allu ymdrin â nhw i gyd yn fy sylwadau cloi, ond yr hyn yr wyf i'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau bod fy nghyd-Aelodau i gyd a minnau'n ymateb yn llawn i argymhellion y pwyllgor cyn y ddadl derfynol ar y gyllideb, ac edrychaf ymlaen at allu gwneud hynny.

Felly, rwyf eisiau ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd mewn perthynas â'r cyd-destun yr ydym yn ein cael ein hunain ynddo. Wrth gwrs, mae'n gadarnhaol bod gennym ragolwg gwariant tair blynedd, ond nid yw'r ffigurau sydd gennym yn dadwneud y degawd hwnnw o gyni. Ac mae nifer o gydweithwyr wedi cyfeirio at y ffaith bod proffilio'r gwariant dros y tair blynedd nesaf yn anodd iawn, yn enwedig gyda'r proffil adnoddau sy'n gwyro'n drwm at ddechrau'r cyfnod, a'r ffaith bod ein cyllid adnoddau yn cynyddu llai na 0.5 y cant mewn termau real rhwng 2022-23 a 2024-25. Wyddoch chi, mae hynny'n mynd i fod yn heriol i wasanaethau cyhoeddus wrth i ni symud ymlaen, ac mae nifer o gyd-Aelodau wedi mynegi pryderon am hynny, ac rwy'n rhannu'r pryderon hynny.

Rydym wedi clywed llawer o alwadau am wariant cyfalaf ychwanegol—llawer o fynegi pryderon ar feinciau'r Ceidwadwyr o ran y dyraniadau cyfalaf a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Ond, mae'r ffaith nad ydym wedi gallu dyrannu cymaint o gyfalaf ag y byddem yn dymuno yn adlewyrchiad o'n cyllideb gyfalaf a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU. Yn gyffredinol, bydd ein cyllid cyfalaf yn gostwng mewn termau arian parod ym mhob blwyddyn o'n cyfnod adolygu gwariant tair blynedd, a bydd 11 y cant yn is yn 2024-25 nag ydyw yn y flwyddyn bresennol. Felly, wyddoch chi, os yw cyd-Aelodau Ceidwadol eisiau gwybod pam nad ydym ni'n buddsoddi mwy mewn cyfalaf mewn llywodraeth leol ac ym maes iechyd, mae'r ateb yn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU.

Mae cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi nodi y prynhawn yma y bydd ein cyllideb yn 2024-25 bron £3 biliwn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010-11. Dychmygwch y gyllideb y gallem ni fod yn ei thrafod y prynhawn yma pe bai'r cyllid hwnnw ar gael i ni. Ac, wrth gwrs, nid yw hynny hyd yn oed yn ystyried yr heriau o ran diffyg cyllid newydd yr UE.

Rwyf eisiau troi at fenthyca a'n rhaglen gyfalaf. Hoffwn gadarnhau bod y gyllideb ddrafft yn adlewyrchu ein cynlluniau i wneud y mwyaf o'n benthyca cyfalaf, gan dynnu i lawr yr uchafswm blynyddol mwyaf y ceir ei dynnu i lawr sef £150 miliwn y flwyddyn, gan fenthyca £450 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25. A dyna'r uchafswm y cawn ei gael ar hyn o bryd yn y fframwaith cyllidol fel y mae, ac wrth gwrs rydym yn parhau i bwyso am hyblygrwydd pellach yn y maes penodol hwnnw oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr holl adnoddau sydd ar gael i ni. A byddwn yn cynnal ein dull o ariannu buddsoddiad drwy dynnu i lawr y mathau lleiaf drud o gyfalaf yn gyntaf. Felly, fel y disgrifiais, fel arfer yn defnyddio ein setliad grant bloc yn gyntaf ac yna'n ceisio benthyca. Ond dim ond wedyn y byddwn yn symud ymlaen i ddefnyddio'r mathau drutach hynny o ariannu cyfalaf unwaith y byddwn wedi disbyddu ein cyfalaf cyffredinol, wrth gwrs. A modelau cyllid arloesol, er eu bod yn amlwg o ddiddordeb i ni, fel y byddwch wedi'i weld drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol, byddem yn ceisio defnyddio'r rheini hefyd, ond dim ond i wneud hynny mewn ffordd briodol. A dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio gorddyraniad cyfalaf cyffredinol. Mae hynny, fel y disgrifiodd Mike Hedges, yn rhoi cyfle i ni, rwy'n credu, ymestyn pob punt sydd ar gael i ni, ond mae'n ddull gwahanol o gymharu â'r rhai hynny yr ydym wedi'u cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ac, unwaith eto, rydym ni'n mabwysiadu dull gwahanol o ran ein dull o ymdrin â chronfeydd wrth gefn. Felly, fel rhan o'r gyllideb aml-flwyddyn, mae gennym strategaeth ariannol newydd i sicrhau'r cyllid mwyaf posibl ar yr ochr adnoddau. Yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol pan fydd cynlluniau gwariant wedi defnyddio'r terfyn tynnu i lawr blynyddol o £125 miliwn yn llawn, nid yw ein cynlluniau'n cymryd y terfyn tynnu i lawr llawn o gronfa Cymru o 2023-24, a hynny oherwydd y byddwn yn defnyddio'r gronfa Cymru honno i reoli'r sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn heb ddal unrhyw DEL heb ei neilltuo, a bydd symiau tynnu i lawr yn cael ei gynnwys o fewn y cyllidebau atodol priodol.

Rwy'n sôn am hynny oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes cronfa arian ar wahân yn awr i ddyrannu arian ychwanegol ohoni. Felly, rydym wedi clywed llawer o alwadau, yn enwedig gan y Ceidwadwyr, am feysydd eraill lle yr hoffent i ni fuddsoddi, lle nad ydym wedi mynd yn ddigon pell, ond mae gwir angen y cynigion amgen hynny arnom ni yn awr i gael eu cyflwyno o ran ble y byddai'r Ceidwadwyr yn buddsoddi ac o ble y byddent yn cymryd yr arian, oherwydd allwch chi ddim bod â dim ond un ochr i'r stori honno. Cyfeiriodd llefarydd y Ceidwadwyr at gynlluniau wedi'u costio. Ewch ymlaen a chyhoeddi'r cynlluniau hynny wedi'u costio, oherwydd byddem ni wir yn awyddus iawn i'w gweld ac i weld ble y byddai'r toriadau hynny'n dod a ble na fyddech yn rhannu ein blaenoriaethau o fewn y gyllideb.

Yn fyr, am golli cyllid yr UE, o dan gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, dim ond £46 miliwn a gawn eleni, ac mae hynny o'i gymharu ag o leiaf £375 miliwn y byddem wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Yn amlwg, nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio i Gymru, ac mae angen i Lywodraeth y DU gadw at yr addewidion y mae wedi'u gwneud.

Mae'n eithaf anhygoel clywed Ceidwadwyr yn sôn am gefnogi ein cymunedau gwledig pan fydd ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru ar eu colled o leiaf £106 miliwn o gyllid newydd yr UE dros gyfnod yr adolygiad o wariant, ac mae hynny ar ben y £137 miliwn nad yw'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, yn amlwg, mae diffyg cydlyniad rhwng yr hyn yr hoffai'r Ceidwadwyr ei weld ar gyfer y Gymru wledig a'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i gael ei gyflawni.

Mae sawl cyd-Aelod wedi sôn am ddadansoddiad carbon y gyllideb. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi'r argyfwng hinsawdd a natur ar waith yn ganolog iddi, fel yr ydych wedi'i weld o fewn y gyllideb, ac rwy'n credu y byddwn i'n cyfeirio cyd-Aelodau at yr ystod o ddogfennau a gyhoeddir ochr yn ochr â'r gyllideb, ond hefyd wedyn i'r cynllun cyflawni sero-net, felly dyna ble y gwelwch chi yr effeithiau carbon hynny a'r camau yr ydym yn eu cymryd, defnyddio'r holl ysgogiadau hynny, gyda rôl y gyllideb wedyn i eistedd ochr yn ochr â hynny ac ariannu'r camau gweithredu hynny lle mae'r dystiolaeth yn cefnogi'r angen i fuddsoddi.

Rydym hefyd wedi adeiladu ar yr hyn a oedd yn waith gwirioneddol dda, a gyhoeddwyd gennym ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft y llynedd, yn adroddiad y prif economegydd. Gwnaeth hynny ein harwain i ystyried yr angen i gael adolygiad o'r newydd o'n cyllidebau cyfalaf cyffredinol ac yna sefydlu strategaeth seilwaith a buddsoddi 10 mlynedd newydd i Gymru. A ni yw'r unig ran o'r DU i fod wedi gwneud adolygiad o'r newydd o gyllidebau cyfalaf, ac mae'n beth anghyfforddus iawn i'w wneud, oherwydd rydych chi'n cael sgyrsiau anodd iawn gyda chyd-Aelodau yn y pen draw oherwydd nid oes rhagdybiaeth y bydd cyfalaf blaenorol yn cael ei gyflwyno, ond dyma'r peth iawn i'w wneud yn yr ystyr o sicrhau bod ein cyllidebau cyfalaf yn cyd-fynd yn well â'n huchelgeisiau ym maes yr amgylchedd.

Ac, yn yr un modd, mae cyllidebu ar sail rhyw yn rhan bwysig iawn o'n dull yn awr at ein cyllideb. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod Trysorlys Cymru yn ysgogi hyn, ond hefyd mae gennym uchelgeisiau i fod ymhlith yr arweinwyr byd hynny, ac rydym yn ymgysylltu'n aml iawn â'r gwledydd Llychlynnaidd, gyda Seland Newydd ac eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn, i sicrhau ein bod yn dysgu o arfer da mewn mannau eraill a'n bod yn dechrau ymgorffori'r dull gweithredu yn wirioneddol. Felly, y llynedd, gwnaethom ddechrau'r gwaith pwysig hwn drwy'r cyfrifon dysgu personol, ac mae hynny'n parhau, ond yn awr rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith yn y maes hwn gyda dau gynllun treialu arall y byddwn yn ymgymryd â nhw ym maes teithio llesol a hefyd y gwarant pobl ifanc. Felly, mae llawer o waith pwysig iawn ar gyllidebu ar sail rhyw. Ond, gyda chyllidebu ar sail rhyw a gydag asesiadau effaith carbon, gwn ein bod mewn gwirionedd ar ddechrau taith bwysig iawn, ac yn awyddus, rwy'n credu, i fynd ar hyd y daith honno gydag Aelodau'r Senedd hon sydd â diddordeb cyffredin yn yr agendâu hyn, oherwydd maen nhw mor bwysig ac felly'n cael eu rhannu, rwy'n credu.

Felly, dim ond i ymateb i rai o'r pwyntiau penodol yn awr o ran dyraniadau, rwyf eisiau sôn am iechyd oherwydd yn amlwg dyna'r rhan fwyaf o'r gyllideb. Rydym yn ymrwymo £170 miliwn yn rheolaidd i gefnogi trawsnewid gofal wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion y mae eu triniaethau wedi'u gohirio o ganlyniad i'r pandemig, a £20 miliwn arall yn rheolaidd i gefnogi'r pwyslais ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, gan gyflawni'r canlyniadau sy'n wirioneddol bwysig i gleifion.

Roedd llawer o gyd-aelodau yn pryderu'n gwbl briodol am ofal cymdeithasol. Felly, rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu gofal cymdeithasol, ac rwy'n credu y gallwch chi weld hynny yn y gyllideb hon gyda'r £60 miliwn ychwanegol o arian uniongyrchol ychwanegol i fwrw ymlaen â'r diwygiadau hynny. Yn 2022-23 yn unig, rydym yn darparu dros £250 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys £180 miliwn o fewn y setliad llywodraeth leol a buddsoddiad uniongyrchol o £45 miliwn ynghyd â £50 miliwn o gyfalaf gofal cymdeithasol ychwanegol o'i gymharu â 2021-22. Felly, rwy'n credu bod ein hymrwymiad i ofal cymdeithasol yno yn sicr ac mae'n glir iawn, iawn.

Mae iechyd meddwl, unwaith eto, yn rhywbeth sydd wedi dod drwy'r ddadl yn gwbl briodol fel maes hollbwysig i lawer o gyd-Aelodau. Rydym wedi dyrannu £100 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles, ac mae hynny'n cynnwys pecyn ychwanegol o £50 miliwn yn 2022-23, ac mae'n cynnwys cyllid ychwanegol i gefnogi gweithredu cynllun y gweithlu iechyd meddwl, ac, wrth gwrs, cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc.

Mae'n debyg fy mod yn profi amynedd y Llywydd ychydig oherwydd fy mod ar fin mynd dros fy amser—

18:40

—ond rwyf eisiau cloi drwy gyfeirio unwaith eto at y cyhoeddiadau costau byw y byddaf yn eu gwneud cyn gynted ag y gallaf o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r unigolion hynny sydd wedi'u heffeithio ganddo. A hefyd, i ddiolch eto i'r pwyllgorau am y gwaith sydd wedi'i wneud wrth graffu ac i dynnu sylw at y ffaith y bydd fy nghyd-Aelodau a minnau'n ymateb i lawer o'r cwestiynau manwl a godwyd drwy gydol y ddadl y prynhawn yma.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o baratoi'r gyllideb ddrafft. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o bartneriaeth waith gref ar draws y Senedd, lle mae gennym bobl flaengar sydd eisiau dangos i Gymru gyfan ein bod yn barod i gydweithio ac i ddod o hyd i dir cyffredin i gyflawni'r hyn sydd ei angen ar gyfer Cymru.

Felly, i gasglu ac i gloi, rwy'n credu bod y gyllideb hon yn cyflawni ein gwerthoedd a'n haddewidion uchelgeisiol i bobl yng Nghymru, ac mae'r pecyn cyllid a amlinellir yma yn defnyddio pob sbardun i ddarparu'r sylfeini ar gyfer ein hadferiad ac i'n symud tuag at Gymru gryfach, decach a gwyrddach. Diolch, Llywydd.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe wnawn ni gymryd egwyl fer nawr i baratoi'n dechnegol ar gyfer y pleidleisiau hynny.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:43.

18:45

Ailymgynullodd y Senedd am 18:47, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd nawr y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 5, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol: O blaid: 41, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y gyllideb ddrafft 2022-23, ac mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 6. Cyllideb Ddrafft 2022-23. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Eitem 6. Cyllideb Ddrafft 2022-23. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am y dydd heddiw, a dyna ddiwedd ar ein gwaith ni. Nos da, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:49.