Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/12/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Yr eitem gyntaf ar gyfer y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Cynhyrchu Ynni ac Effeithlonrwydd Ynni

1. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i alluogi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fuddsoddi'n weithredol mewn cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd ynni wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd? OQ57354

Mae ein cynllun Cymru Sero Net a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein targedau mewn perthynas ag ynni ac effeithlonrwydd ynni. Cefnogwyd y cynllun hwn gan ddyraniad cychwynnol o £200 miliwn, a bydd mesurau pellach yn cael eu nodi yn y gyllideb ddrafft, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.

Weinidog, rwy'n croesawu eich ymateb cychwynnol yn fawr. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru. Ond un o'r pethau diddorol, wrth ystyried yr agwedd hon o gael cyfran mewn cynhyrchiant ynni ac effeithlonrwydd ynni, yw y byddwch yn aml yn gweld—a byddwn yn cefnogi hyn fel aelod cydweithredol—y syniad o fodelau cyfranddaliadau, lle gallech gynnwys aelodau'r cyhoedd, ond mae'n tueddu i ymwneud â math penodol o aelod o'r cyhoedd, os mynnwch. Un o'r ffyrdd mwyaf y gallwn gynnwys pobl yw drwy sicrhau bod naill ai Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol yn rhanddeiliad ar ran pobl leol. A oes rhwystrau penodol y gallwn eu chwalu neu a oes ffyrdd y gallwn ei gwneud yn haws ac annog awdurdodau lleol i gymryd rhan weithredol mewn cynlluniau cynhyrchu ynni yn arbennig?

Ie, mae hwn yn fater pwysig iawn a gwn ei fod yn faes o ddiddordeb penodol i'r panel strategaeth datgarboneiddio llywodraeth leol. Sefydlwyd y panel hwnnw ym mis Tachwedd 2020, a hyd yn oed gyda phopeth a oedd yn digwydd gyda’r pandemig, maent yn dal i fod wedi cyfarfod dros 13 gwaith bellach i archwilio'r ffyrdd gorau o gynorthwyo llywodraeth leol i gyflawni’r mentrau datgarboneiddio hynny sydd mor angenrheidiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £0.5 miliwn o gyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn datblygu rhaglen gymorth i awdurdodau lleol i'w galluogi i sicrhau bod ganddynt gymaint o adnoddau â phosibl ac i osgoi dyblygu ac mae hynny wedi bod yn rhan bwysig o sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ar yr agenda bwysig hon.

Mae ein polisi ar berchnogaeth ar gynhyrchiant ynni yn nodi sut y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau'r budd mwyaf i bobl Cymru wrth ddatblygu prosiectau ynni yma yng Nghymru, gyda chyfleoedd i hyrwyddo perchnogaeth leol. Ac rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi cychwyn, wedi ariannu ac wedi cefnogi pedair strategaeth ynni ranbarthol a fydd yn dechrau nodi maint y newid sydd ei angen er mwyn cyrraedd system ynni carbon isel ac mae'r rheini'n sicr wedi'u cyd-ddatblygu gan bartneriaid rhanbarthol, ac mae awdurdodau lleol yn rhan wirioneddol bwysig o hynny.

Ar lefel leol, rydym yn treialu cynlluniau peilot cynllunio ynni ardal leol yng Nghonwy a Chasnewydd ar hyn o bryd i nodi'r camau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio'r system ynni leol, a chredaf fod hyn oll yn dyst i'r rôl bwysig y gall ac y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae yn yr agenda hon.

Oherwydd y targed a osodoch i chi'ch hun, Weinidog, a amlinellwyd gennych ar ddechrau eich cyfraniad, sut rydych yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol i gynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar bympiau gwres yng Nghymru, ac i addysgu pobl amdanynt, os gwelwch yn dda? Diolch.

Wel, Lywydd, mae arnaf ofn nad wyf yn siŵr a yw hwn yn fater ar gyfer cwestiynau cyllid neu lywodraeth leol. Ond efallai y caf ofyn i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ysgrifennu at Laura Ann Jones gyda'r manylion hynny, gan nad wyf yn rhan o'r sgyrsiau hynny fy hun.

Y Cynllun Buddsoddi i Arbed

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed? OQ57348

13:35

Mae rhaglen y cynllun buddsoddi i arbed yn parhau i ddarparu cymorth ar gyfer ystod o fentrau newid sy'n cael eu cyflawni ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. Ers 2009, mae'r gronfa wedi buddsoddi gwerth bron i £200 miliwn.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Rwy'n llwyr gefnogi'r defnydd o gynlluniau buddsoddi i arbed—mae'n ffordd synhwyrol ymlaen, yn enwedig pan fydd yn lleihau costau sefydlog. A all y Gweinidog roi enghraifft o gynllun buddsoddi i arbed llwyddiannus sydd wedi'i ymestyn i feysydd eraill, a sut y maent yn disgwyl iddo gyflawni, a pha wersi a ddysgwyd o'u hymestyn felly?

Mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, fod Mike Hedges bob amser wedi cefnogi cynlluniau buddsoddi i arbed yn gryf iawn, gan gydnabod y gwerth a ddaw yn eu sgil. A chredaf fod gennym enghreifftiau da iawn o brosiectau sy'n gwneud yn union yr hyn y mae Mike Hedges wedi'i amlinellu—er enghraifft, y cofnodion electronig am gleifion. Roedd hwnnw'n brosiect sy'n cael gwared ar yr angen am le i storio cofnodion, ac sydd hefyd yn darparu ffordd fwy effeithlon o lawer o gael gafael ar wybodaeth cleifion, ac mae'n arbed yr angen wedyn i'r ffeiliau hynny gael eu cludo rhwng lleoliadau daearyddol—prosiect gwych sydd, wrth gwrs, yn cael effaith mewn mannau eraill yn y GIG erbyn hyn. A byddwn hefyd yn cynnwys prosiect ein system ar gyfer rheoli stoc theatr fel enghraifft. Mae'n creu arbedion effeithlonrwydd drwy gynnal lefelau stoc economaidd a chynyddu diogelwch mewn perthynas â storio eitemau. Ac yna hefyd, ein rhaglenni recriwtio nyrsys, sydd hefyd yn arbed ar gost recriwtio staff asiantaeth. Ond rwyf bob amser yn ymwybodol nad yw arferion da bob amser yn teithio'n dda. Felly, rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i nodi'r rhwystrau a'r galluogwyr i sicrhau bod yr arferion da'n lledaenu yn y ffordd a amlinellwyd gan Mike Hedges.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Peter Fox.

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Weinidog, yn anffodus, mae ymddangosiad diweddar amrywiolyn omicron wedi creu mwy o ansicrwydd i bob un ohonom. Ac er fy mod yn mawr obeithio fel arall, mae ychydig fisoedd anodd o'n blaenau o bosibl. Yn ddealladwy, mae llywodraethau a gwyddonwyr yn ceisio deall goblygiadau'r amrywiolyn i iechyd y cyhoedd, ond mae sôn am gyfyngiadau ar y gorwel yn creu llawer o bryder ymysg busnesau, ar adeg pan oedd llawer yn gobeithio defnyddio cyfnod y Nadolig i adennill rhywfaint o'r incwm y maent wedi'i golli dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r cyfnod hwn yn arbennig o bwysig i'n sector lletygarwch a'r swyddi y mae'r galw ychwanegol hwn yn eu cefnogi. Rydym eisoes wedi gweld bod yr ansicrwydd a'r pryder eisoes yn dechrau cael effaith andwyol—mae bariau a bwytai wedi cael eu taro gan don o bobl yn canslo dros yr wythnosau diwethaf, tra bod ein busnesau twristiaeth hanfodol hefyd yn ofni effaith unrhyw gyfyngiadau.

Dywedodd y Prif Weinidog ddoe os—. O, esgusodwch fi—iPad. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe, os bydd angen cyfyngiadau pellach dros yr wythnosau nesaf, y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu cymorth ychwanegol i fusnesau y tu hwnt i’r hyn y gallai Gweinidog Llywodraeth y DU ei ddarparu. A allwch amlinellu sut olwg fydd ar y cymorth hwn, er mwyn helpu i leddfu unrhyw bryderon a allai fod gan fusnesau ar hyn o bryd ynglŷn â'r dyfodol? Hefyd, mae busnesau angen blaenoriaeth ar ddyfodol rhyddhad ardrethi annomestig, gyda nifer ohonynt yn wynebu dychweliad trychinebus i atebolrwydd 100 y cant ym mis Ebrill 2022. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn ystyried ymestyn y seibiant ardrethi busnes annomestig i helpu busnesau drwy ran ddiwethaf y pandemig. A fydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich cyllideb sydd ar y ffordd? A allwch roi sicrwydd i fusnesau hefyd y byddwch yn defnyddio dull gweithredu trosiannol pan ddaw unrhyw gynllun cymorth yn y dyfodol i ben maes o law?

Diolch i Peter Fox am ei gwestiynau, a byddwn yn cydnabod yn arbennig popeth a ddywedodd am bwysigrwydd yr adeg hon o'r flwyddyn i'r busnesau hynny, yn enwedig yn y sectorau manwerthu a lletygarwch. Hoffwn roi sicrwydd i Peter Fox fy mod wedi bod yn cael trafodaethau gyda’r Prif Weinidog a fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, ynglŷn â pha gymorth y gallai fod angen ei ddarparu i fusnesau i gydnabod yr effaith y mae pandemig y coronafeirws yn parhau i’w chael ar fusnesau yma yng Nghymru. Yn anffodus, nid wyf mewn sefyllfa i amlinellu'r pecyn cyllid penodol y gallem fod yn ei ystyried ar hyn o bryd; ond hoffwn roi sicrwydd i chi fod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda fy nghyd-Aelodau. Cefais gyfle i glywed yn uniongyrchol gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, yn un o'n cyfarfodydd partneriaeth yn ddiweddar, ac roeddent yn dweud yn glir iawn fod angen cefnogi busnesau. Cefais gyfle hefyd i gyfarfod â Chonsortiwm Manwerthu Cymru pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y gyllideb. Felly, rwyf wedi cael cyfleoedd da iawn i wrando ar bryderon busnesau yn uniongyrchol.

Ac wrth gwrs, roedd ardrethi annomestig yn rhan fawr o'r sgyrsiau hynny, ac unwaith eto, hoffwn roi sicrwydd i Peter Fox a'r rheini yn y sector busnes y bydd gennyf fwy i'w ddweud ar hyn yn y gyllideb, y byddwn yn ei chyhoeddi ddydd Llun. Felly, nid oes gormod o amser i aros tan hynny, ond rwy'n wirioneddol falch o'r hyn rydym wedi gallu'i gyflawni drwy ein cymorth drwy ardrethi busnes yma yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, dros y ffin, roedd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn dechrau talu ardrethi yn ystod yr haf eleni, tra bod ein busnesau yma wedi cael blwyddyn gyfan o ryddhad, sydd wedi bod yn wirioneddol wych yn fy marn i, ac wrth gwrs, mae'n gymorth i ni ar yr adeg arbennig o heriol hon o'r flwyddyn.

13:40

Diolch am eich ymatebion, ac mae'n swnio fel pe gallai fod rhywfaint o newyddion cadarnhaol. Rwy'n siŵr nad wyf am gael llawer o wybodaeth gennych am y gyllideb, ond rwyf am geisio. Felly, diolch am eich ymateb.

Wrth gwrs, nid yr economi yn unig sy'n wynebu cyfnod ansicr, ond ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Mae llawer o bwysau eisoes, fel y gŵyr pob un ohonom. Nid oes ond rhaid inni edrych ar yr amseroedd aros cyfredol ar gyfer triniaethau, sydd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig. Ac er bod gwasanaethau'n gwneud eu gorau glas i ymateb i'r heriau, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf ynghylch ​​maint y dasg sydd o'n blaenau, ni fydd yr amrywiolyn newydd ond yn ychwanegu at eu llwyth gwaith. Un ffordd o helpu i ryddhau rhywfaint o gapasiti yn y gwasanaethau iechyd yw sicrhau bod pobl sydd angen gofal cymdeithasol yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt yn y gymuned, neu wasanaethau arbenigol. Fodd bynnag, fel y mae pob un ohonom wedi clywed dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ôl-groniad sylweddol yn y sector, gyda nifer annerbyniol o bobl yn aros i gael eu symud allan o'r ysbyty i'w cartref neu i gyfleuster gofal cymunedol. Er bod cynghorau a'u staff wedi gwneud gwaith gwych yn ymdrin ag effaith y pandemig, mae'n amlwg y bydd angen mwy o gymorth arnynt dros y misoedd nesaf. Mae llawer eisoes yn wynebu gorwariant enfawr mewn gwasanaethau plant ac oedolion, a bydd hyn yn ychwanegu at y pwysau ariannol sy'n wynebu ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol. Weinidog, a wnewch chi roi'r codiad digonol sydd ei angen ar gynghorau yn y setliad llywodraeth leol fel y gallant ymateb i bwysau cyfredol a phwysau yn y dyfodol, a sut y bydd y gyllideb yn dyrannu'r cyllid canlyniadol sylweddol a ddaw i Gymru o ganlyniad i gyhoeddiadau diweddar ynghylch gofal cymdeithasol mewn rhannau eraill o'r DU?

Yn ychwanegol at hynny, mae angen cynllun hirdymor, uchelgeisiol arnom hefyd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol fel na fydd y sefyllfa hon yn codi eto ac er mwyn gwella cyfraddau recriwtio a chadw. Er mwyn ein llywio i'r cyfeiriad cywir, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am dâl o £10 yr awr fan lleiaf i bob gweithiwr gofal cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio bod safbwynt Plaid Cymru yn dal i fod yr un fath yn hynny o beth. Weinidog, sut y bydd eich cyllideb yn dechrau mynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd yng Nghymru?

Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Rwyf am ddechrau drwy gyfeirio at ein sefyllfa yn ystod y flwyddyn gyda'r cymorth ychwanegol rydym wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol mewn perthynas â phandemig y coronafeirws a'r pwysau enfawr y mae'n ei roi ar ofal cymdeithasol yn benodol. Fe fyddwch yn gyfarwydd â'r cyllid gwerth £42 miliwn rydym wedi'i ddarparu ar gyfer mynd i'r afael â'r pwysau ar ofal cymdeithasol, yn ychwanegol at y gronfa adfer gofal cymdeithasol a ddyrannodd £40 miliwn pellach i awdurdodau lleol, i helpu'r sector i ymdopi â'r pwysau parhaus. Fodd bynnag, cyfeiriodd Peter Fox at y materion parhaus mewn perthynas â gwasanaethau plant a gofal cymdeithasol oedolion, yn ogystal â'r angen i ychwanegu at hynny er mwyn cefnogi gofalwyr. Hoffwn roi sicrwydd i Peter Fox fod fy swyddogion yn trafod â thrysoryddion llywodraeth leol i ddeall hyd a lled y pwysau hwnnw, ond rwy’n bwriadu ysgrifennu ar unwaith at arweinydd CLlLC i nodi’r amlen o gyllid pellach i gefnogi awdurdodau lleol gyda hynny yn y flwyddyn ariannol hon.

Wrth edrych tuag at y gyllideb, a gaiff ei chyhoeddi ddydd Llun, a heb fod eisiau manylu gormod, hoffwn ddweud yr hyn rydym wedi'i ddweud bob amser, sef y bydd gofal cymdeithasol ac iechyd yn flaenoriaethau ochr yn ochr â'r pwysau ehangach ar lywodraeth leol yn y gyllideb, y byddwn yn ei chyhoeddi ddydd Llun—felly, nid oes gormod o amser cyn y gallwn rannu manylion y cynlluniau hynny gyda chi.

Diolch am hynny, unwaith eto, Weinidog. Credaf fod y gorwariant y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu gyda gofal plant ac oedolion oddeutu £50 miliwn ar hyn o bryd.

Gan symud ymlaen at fy mhwynt olaf, Weinidog, bydd y cyfnod ansicr rydym yn ei wynebu unwaith eto yn gwaethygu'r problemau y mae teuluoedd ledled Cymru eisoes yn eu hwynebu. Nawr, gwn fod hwn yn fater sy'n ymwneud â phob rhan o'r Llywodraeth, ond hoffwn ganolbwyntio ar ba gymorth ychwanegol fydd yng nghyllideb yr wythnos nesaf er mwyn helpu i leddfu'r beichiau sy'n wynebu teuluoedd. Roedd rhai pethau i'w croesawu yn y cytundeb cydweithio at ei gilydd, er enghraifft yr ymrwymiad i ehangu gofal plant i gynnwys plant dwy oed, a oedd hefyd yn rhan o faniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig. Fodd bynnag, mae'r amser ar gyfer siarad drosodd, ac mae angen inni weld camau gweithredu ar unwaith. A fydd eich cyllideb yn darparu'r cyllid sydd ei angen er mwyn rhoi hwb i'r broses o ehangu gofal plant am ddim fel y gellir helpu teuluoedd dros y misoedd nesaf? Fodd bynnag, yn anffodus, roedd y cytundeb braidd yn brin o fanylion mewn mannau, felly mae angen inni weld pecyn cymorth ehangach i bobl a theuluoedd.

Un ffordd o helpu cyllid pobl yw rhewi'r dreth gyngor, am y ddwy flynedd nesaf o leiaf, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl. A fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio peth o'r cyllid ychwanegol sylweddol a ddisgwylir i roi'r gallu i awdurdodau lleol ymdopi â phwysau costau a rhewi'r dreth gyngor? Yn ogystal, mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi’n gyflymach nag unrhyw ran arall o’r DU. Mae angen inni wneud mwy i helpu pobl i gamu ar yr ysgol dai, yn ogystal ag adeiladu'r cartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel y mae eu hangen yn enbyd yng Nghymru, gan alluogi dyhead a darparu'r diogelwch sydd ei angen ar bobl. A wnewch chi weithio i dorri cyfraddau treth trafodiadau tir, cael ei gwared ar gyfer prynwyr tro cyntaf a chodi'r trothwy i £250,000? Ac a wnewch chi ddarparu setliad cyllid mwy hirdymor i'r grant cymorth tai er mwyn rhoi hwb i'r gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol? Yn olaf, a wnewch chi hefyd ymrwymo i sicrhau na fydd cyfraddau treth incwm Cymru yn codi drwy gydol tymor y Senedd, fel rhan o'ch cynlluniau gwariant? Diolch, Weinidog.

13:45

Diolch i Peter Fox am y gyfres honno o gwestiynau, a bydd pob un ohonynt yn dod yn glir pan gyhoeddir y gyllideb ddydd Llun. Ond hoffwn ymateb i rai o'r materion hynny, yn enwedig ynglŷn â'r cytundeb cydweithio. Rydym wedi gweithio'n agos ac yn ofalus gyda Phlaid Cymru i sicrhau bod yr eitemau yn y cytundeb cydweithio'n cael eu hariannu, a bod modd eu cyflawni. Felly, rydym wedi bod yn ofalus iawn gyda'r math hwnnw o waith fforensig i sicrhau bod y cytundeb cydweithio'n gyflawnadwy a'i fod yn rhan ddi-dor, mewn gwirionedd, o'n cyllideb gyffredinol.

Ac yna credaf fod angen imi roi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn rhyw fath o gyd-destun, oherwydd, do, rydym wedi cael codiad sylweddol ym mlwyddyn gyntaf yr adolygiad o wariant tair blynedd, ond mae'r ddwy flynedd wedyn yn dynn eithriadol. A chredaf fod angen inni ystyried y codiad cychwynnol yn y flwyddyn gyntaf yn ei gyd-destun, gan nad yw ond yn gynnydd mawr os ydych yn rhannu'r holl gyllid COVID rydym wedi'i gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Os ydych yn diystyru'r holl gyllid COVID ychwanegol a gawsom eleni, mae ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn is nag eleni mewn gwirionedd, a chredaf fod angen inni gofio hynny, o ystyried y ffaith nad yw COVID yn diflannu a gwelwn hynny'n cael ei adlewyrchu'n fawr yn yr heriau rydym yn eu hwynebu yn awr gyda'r straen newydd, yr amrywiolyn newydd. Credaf fod cyd-destun yn hollbwysig mewn perthynas â'r gyllideb. Ond rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau'n fodlon ar yr hyn y gwelant y gallaf ei ddarparu pan gyflwynir y gyllideb ddydd Llun. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ydy, mae omicron yn taflu cysgod mawr dros Gymru'r Nadolig yma onid yw, ac, er na allwn ni ragweld efallai yn union beth fydd goblygiadau'r amrywiolyn i iechyd y cyhoedd ac i'r NHS, rydym ni eisoes yn gweld ei effaith e, onid ydym, er enghraifft, ar y sector lletygarwch, fel gwnaethoch chi gydnabod yn gynharach. So, i ddilyn i fyny ar eich ateb blaenorol chi, a allwch chi esbonio pam nad ydych chi, fel Gweinidog cyllid, yn bwriadu rhyddhau rhagor o gyllid i gefnogi'r sector lletygarwch nawr? Oherwydd mae'r ergyd a'r effaith i'r busnesau yna yn cael eu teimlo ar hyn o bryd wrth inni siarad. Dyw dweud, 'Arhoswch tan i fi gyhoeddi fy nghyllideb ddydd Llun' ddim yn datrys y broblem, oherwydd ymrwymiadau gwariant o fis Ebrill nesaf ymlaen fydd y rheini.

Yn sicr. Ymddiheuriadau os nad oeddwn yn glir. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried, heddiw, pa arian ychwanegol y gallai fod ei angen ar fusnesau i'w cefnogi drwy'r cyfnod nesaf hwn. Felly, cyn dod i'r sesiwn hon, cefais fy nghyfarfod diweddaraf gyda'r Prif Weinidog, a buom yn sôn am y cymorth y gallai fod ei angen ar fusnesau, ac yna mae trafodaethau pellach ar y gweill gennym gyda Gweinidog yr Economi. Felly, mae'r rhain yn drafodaethau byw iawn ac rwy'n cydnabod brys y sefyllfa. Rwy'n credu bod hynny ar wahân i'r gyllideb, a fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun nesaf, ac a fydd yn edrych ar y cyfnod o fis Ebrill ymlaen. Ond hoffwn roi sicrwydd fod y trafodaethau ar gymorth i fusnesau yn fyw iawn ar hyn o bryd.

13:50

Dyna fe. Wel, diolch am y sicrwydd hynny. Dwi’n meddwl bod pob un ohonom ni’n gobeithio bydd modd darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen mor fuan ag sy’n bosibl.

Ond, rŷn ni i gyd, wrth gwrs, yn cofio sut wnaeth Llywodraeth San Steffan anwybyddu cais Cymru i estyn taliadau ffyrlo pan aethon ni i mewn i’r firebreak y llynedd, a dim ond ar ôl i Loegr fynd i mewn i firebreak wedyn y gwnaethon nhw gyflwyno’r gefnogaeth i ni yma yn sgil hynny. Nawr, fe allem ni, wrth gwrs, fod yn wynebu sefyllfa debyg dros y misoedd nesaf. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi fel Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod trigolion Cymru ddim yn cael eu cosbi a ddim yn methu allan ar gefnogaeth gan y Trysorlys yn Llundain petai ni’n gorfod cymryd camau yn fan hyn sy’n wahanol, wrth gwrs, i'r rhai, efallai, bydd y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr yn eu cymryd?

Yn sicr. Felly, credaf y byddai'n gwbl annerbyniol pe byddem mewn sefyllfa, fel y digwyddodd pan wnaethom gyflwyno'r cyfnod atal byr yn gynharach yn y pandemig, pan na ddarparodd Llywodraeth y DU unrhyw gymorth ariannol ychwanegol, ond cyn gynted â bod angen iddynt gymryd camau tebyg, roedd y cynllun ffyrlo ar gael yn sydyn iawn. Mae'r sefyllfa honno'n gwbl annerbyniol. Nid ydym yn gwybod beth i ddisgwyl gyda'r pandemig hwn a pha fesurau a allai fod yn angenrheidiol dros y misoedd i ddod, felly credaf fod cael fframwaith clir gyda Llywodraeth y DU ynghylch pryd y dylai cyllid fod ar gael ac o dan ba amgylchiadau yn gwbl hanfodol.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu, ochr yn ochr â Phrif Weinidog yr Alban, at Lywodraeth y DU ar yr union fater hwn. Fy nealltwriaeth i yw nad ydynt wedi cael ymateb eto, felly rwyf wedi ysgrifennu eto y bore yma at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn amlinellu'r mater penodol hwnnw a'r angen am sicrwydd yn hynny o beth. Ond wedyn hefyd, gan godi mater gwarant COVID eto, oherwydd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom negodi gwarant COVID, a roddodd swm craidd i ni ar gyfer gwariant COVID, a ganiataodd inni gynllunio, a ganiataodd inni wneud y gorau o gyfleoedd, ac a ganiataodd inni ddeall y risgiau roeddem yn eu hwynebu, gan ein bod yn ymwybodol o'r cyfanswm y byddem yn ei dderbyn. Er iddo barhau i newid drwy gydol y flwyddyn, roedd yn ddechrau da o leiaf. Felly, rydym yn gofyn am adfer y warant hynny yng ngoleuni'r sefyllfa bresennol, ac rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y bydd Llywodraeth y DU yn cytuno i'w wneud, gan ei fod i'w weld yn hyblygrwydd rhesymol y byddent yn gallu ei ddarparu i ni.

Ond nid dim ond gwrthod ffyrlo pan oedd Cymru wir ei angen e sydd yn fy mhoeni i, Gweinidog; mae’r modd mympwyol y mae’r Ceidwadwyr yn trin Cymru i’w weld mewn meysydd ariannu eraill, hefyd, wrth gwrs. Mae sgandal HS2 a gwrthod biliynau o bunnau a ddylai ddod i Gymru—pres mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn ei gael, wrth gwrs—yn enghraifft arall, fel hefyd mae’r modd y maen nhw wedi torri’u gair ar ariannu Ewropeaidd, gyda cholli cannoedd o filiynau o bunnau a fyddai wedi dod i Gymru, ond sydd bellach yn cael ei bocedu gan San Steffan. Does dim ffocws strategol i’r gronfa ffyniant cyffredin—eto, rhywbeth sy’n gweithredu ar fympwy’r Canghellor yn Downing Street. Mae yna batrwm yn fan hyn, onid oes? Patrwm sy’n cael ei adlewyrchu ar draws Llywodraeth San Steffan.

Nawr, dwi’n gwybod eich bod chi mor rhwystredig â fi oherwydd yr effaith trawsnewidiol y byddai’r cyllid yma yn ei gael petai yn ein cyrraedd ni, ond gaf i ofyn, felly: beth yn fwy allwch chi fel Llywodraeth ac y gallwn ni fel Senedd ei wneud i sicrhau bod Cymru yn cael yr arian sy’n ddyledus i ni a’n bod ni’n cael ein trin yn decach gan Lywodraeth San Steffan?

Credaf fod y Senedd bob amser ar ei gorau pan ddown o hyd i feysydd y gall pob un ohonom gytuno arnynt, ac yn y gorffennol, rydym wedi gallu dod o hyd i gefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Senedd i amryw o faterion pan oedd angen inni bwyso ar y Trysorlys, ac yn sicr yng nghyd-destun Brexit. Felly, credaf fod llawer y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i bwysleisio'r pwyntiau hyn ynglŷn â thegwch, ynglŷn â sicrhau bod y datganiad o bolisi ariannu yn fwy na dogfen yn unig, a'i fod yn cael ei wireddu ac y cedwir ato. Felly, rydym yn ceisio gweithio drwy hynny gyda'r Trysorlys.

Credaf y byddai unrhyw ymdrechion y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud i sicrhau bod y strwythur cysylltiadau rhynglywodraethol newydd yn gweithio yn bwysig. A'r lle gorau y gallant wneud hynny, a'r lle pwysicaf, fyddai drwy'r strwythurau cyllid. Felly, bydd yr holl bwyntiau hynny a nodwyd gennych—HS2, cyllid Ewropeaidd ac ati—yn bwysig. Gallwn fynd ymlaen i sôn am gyllid tomenni glo, er enghraifft. Er inni gyflwyno dadleuon cryf iawn, a gefnogwyd gan y gymdeithas ehangach yng Nghymru, ynghylch y ffaith y dylai cyllid tomenni glo ddod gan Lywodraeth y DU gan fod hynny'n rhagflaenu datganoli—gwnaed yr holl ddadleuon hynny'n dda—ni ddigwyddodd hynny, ac wrth gwrs, bydd yn rhaid ichi weld yn awr sut rydym yn adlewyrchu cyllid ar gyfer tomenni glo yn y gyllideb yr wythnos nesaf. Ond pan edrychwn ar hynny, cofiwch fod hwnnw'n gyllid na allwn ei wario ar seilwaith mewn meysydd y credwn ein bod yn gyfrifol amdanynt go iawn. Felly, ni allwn anghytuno ag unrhyw beth a nodwyd gan Llyr Gruffydd yn ei gwestiwn, a dweud y gwir. Ac os gallwn ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'n gilydd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn, rwyf bob amser yn barod i edrych am ffyrdd o wneud hynny.

13:55
Awdurdodau Lleol

3. Pa gymorth ariannol y bydd y Gweinidog yn ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau dros fisoedd y gaeaf? OQ57372

Darperir cyllid drwy'r setliad llywodraeth leol sydd heb ei neilltuo i gefnogi darpariaeth gwasanaethau drwy'r flwyddyn. Cafwyd cynnydd o 3.8 y cant yn y cyllid hwn yn y flwyddyn ariannol hon. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid drwy gronfa galedi llywodraeth leol ac mae wedi cyhoeddi £42 miliwn o gyllid ar gyfer mynd i'r afael â'r pwysau ar ofal cymdeithasol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog, a gwrandewais yn ofalus hefyd ar eich ymatebion i gwestiynau Peter Fox mewn perthynas â gofal cymdeithasol eiliad yn ôl, ac fel y dywedoch chi ar y pryd, gan nodi peth o'r cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn rydych eisoes wedi'i ddarparu i gynghorau yng Nghymru. Ond hoffwn wthio hyn ychydig ymhellach y prynhawn yma, os caf. Fel rydym wedi'i nodi, un o'r ffyrdd gorau y gall ein cynghorau gefnogi ein gwasanaeth iechyd ar yr adeg hon yw drwy sicrhau bod gennym gapasiti digonol mewn cartrefi gofal a gofal cartref i ryddhau lle mewn gwelyau ysbyty. Ac wrth gwrs, rydym wedi gweld mewn blynyddoedd blaenorol eich bod wedi darparu cyllid i gefnogi'r pwysau ychwanegol hwn yn ystod y gaeaf, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond yn fy mhrofiad i, gorau po gyntaf y bydd cyngor yn gwybod pa gyllid ychwanegol y gallent fod yn ei dderbyn i helpu i reoli'r pwysau ychwanegol hwnnw yn ystod y gaeaf. Ac wrth gwrs, nid yw'n fater o fod y gaeaf ar ei ffordd; mae'r gaeaf yma, ac rydym yn ei ganol. Felly, o gofio hyn, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i gynghorau y byddant yn cael y cyllid digonol hwn ar gyfer pwysau'r gaeaf yn fuan, fel y gallant gynllunio i gefnogi ein gwasanaeth iechyd mewn modd amserol dros y misoedd nesaf? Diolch.

Ie. Hoffwn ailadrodd y pwyntiau a wneuthum mewn ymateb i Peter Fox, fod ein swyddogion yn gweithio’n agos iawn gyda thrysoryddion i ddeall faint yn union o arian y bydd ei angen ar lywodraeth leol er mwyn ymgymryd â’r holl waith gofal cymdeithasol y mae angen iddynt ei wneud—ym maes gofal cymdeithasol oedolion a gwasanaethau plant. Ac wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo, rwy'n ceisio rhoi llythyr o gysur i lywodraeth leol, mewn gwirionedd, fel y gallant fwrw iddi a gwario hyd at bwynt penodol heb orfod poeni am y gwaith sy'n mynd rhagddo rhwng trysoryddion a swyddogion. Felly, rwy'n gobeithio y gellir anfon y llythyr hwnnw fwy neu lai ar unwaith, neu'n sicr cyn bo hir, er mwyn rhoi'r lefel honno o sicrwydd iddynt. Oherwydd gwn fod hwn yn fater sy'n peri straen i lywodraeth leol ac arweinwyr llywodraeth leol, ac mae hynny'n rhywbeth y gallaf helpu gydag ef, a hoffwn wneud hynny'n gyflym.

Weinidog, rwy'n falch iawn o weld bod y cynllun cymorth tanwydd gaeaf bellach ar waith, gan alluogi cynghorau Cymru i helpu'r rheini yn eu cymunedau sy'n agored i niwed i dalu i gadw eu cartrefi'n gynnes y gaeaf hwn. Sut arall y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi eu cymunedau dros y cyfnod sy'n dod, yn enwedig yng ngoleuni canfyddiadau Sefydliad Bevan nad yw bron i ddwy o bob pum aelwyd yng Nghymru yn gallu fforddio mwy na'r pethau sylfaenol?

Diolch am godi hynny, ac wrth gwrs, roedd adroddiad Sefydliad Bevan yn anodd ei ddarllen mewn gwirionedd, o ran sicrhau ein bod yn deall lefel y pwysau y mae llawer o deuluoedd yn ei wynebu, ac mae'r pwysau'n gwaethygu wrth i gostau byw gynyddu, cost tanwydd ac ati, a'r holl heriau sy'n amgylchynu teuluoedd yn ystod y pandemig. Felly, rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol ac rwy'n hynod ddiolchgar iddynt am allu cyflawni ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf a hwythau'n gwneud cymaint yn barod. Felly, rwy'n eu canmol am greu'r capasiti i wneud hynny.

Rydym yn awyddus i gefnogi teuluoedd mewn ystod eang o ffyrdd, gan gynnwys y cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu drwy ein cronfa cymorth dewisol. Felly, mae honno'n gronfa gwerth £25.4 miliwn, sy'n cynnwys £10.5 miliwn ychwanegol eleni, ac mae ar gael i gefnogi pobl sy'n wynebu caledi ariannol, ac rydym wedi cynyddu'r nifer o weithiau y gall pobl gael mynediad at y gronfa honno yn ystod y flwyddyn. A bydd hynny'n wirioneddol bwysig wrth gefnogi'r teuluoedd a'r unigolion yr effeithiwyd arnynt yn sgil cael gwared ar y cynnydd o £20 yn y credyd cynhwysol. Felly, hoffwn gymeradwyo'r gronfa honno i fy nghyd-Aelodau a'ch gwahodd i ddarganfod mwy am y gronfa honno fel y gallwch dynnu sylw eich etholwyr, a allai fod yn ei chael hi'n anodd, at y gronfa honno, oherwydd yn sicr, mae ar gael i helpu pawb sydd mewn angen. Mae'n gronfa gymharol syml er mwyn ceisio darparu'r arian hwnnw i bobl sydd ei angen cyn gynted â phosibl.

14:00

Weinidog, yn ystod 10 mlynedd o gyni Torïaidd yn torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, mae awdurdodau lleol wedi ad-drefnu, ailstrwythuro a gwneud yr holl arbedion effeithlonrwydd y gallent eu gwneud. Maent wedi dod mor effeithlon fel bod unrhyw bwysau newydd, er enghraifft oherwydd tywydd garw, dyfarniadau cyflog neu ddeddfwriaeth newydd, yn eu rhoi mewn perygl o fethu gallu darparu gwasanaethau rheng flaen. Ystyriwyd bod peth deddfwriaeth, megis ymgymryd â'r cyfrifoldeb o sefydlu cyrff cynghori ar gyfer draenio trefol cynaliadwy neu'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, yn niwtral o ran cost, ond nid oes gan rai cynghorau yr adnoddau mewnol na chronfeydd wrth gefn mwyach yn dilyn blynyddoedd o doriadau. A wnaiff y Gweinidog gynnal asesiad risg ariannol ac ymgynghori'n llawn ag awdurdodau lleol cyn pasio unrhyw ddeddfwriaeth neu gyfrifoldebau newydd? Diolch.

Diolch am y cwestiwn ac am nodi'r amgylchiadau heriol y mae llywodraeth leol wedi'u hwynebu yng Nghymru. Er gwaethaf y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf o setliadau da, nid yw'n gwneud iawn am 10 mlynedd o gyni mewn unrhyw fodd. Byddwn yn sicrhau bod newidiadau a wneir drwy gyfreithiau ym Miliau'r Senedd neu is-ddeddfwriaeth yn cynnwys asesiad o'r gost a'r arbedion drwy'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth wneud hynny, er mai cyfrifoldebau Gweinidogion portffolio yw'r rhain, byddent fel arfer yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gynhyrchu'r rheini, ac wrth gwrs byddwn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n briodol â llywodraeth leol mewn perthynas â deddfwriaeth a fydd yn effeithio arnynt. Ac yna, hefyd, rydym yn ystyried costau unrhyw ddeddfwriaeth newydd y gallem fod eisiau ei chyflwyno yn rhan o'n cylch cyllidebol, ac yn amlwg caiff ei chynnwys bellach yn yr ystyriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf i ddod. Ond mae eich pwynt am sicrhau ein bod yn ymgysylltu â llywodraeth leol ac yn darparu'r offer sydd eu hangen arnynt i wneud y gwaith yn sicr yn bwynt y byddwn yn ei gefnogi.

Caffael yn y Sector Cyhoeddus

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi caffael Llywodraeth Cymru yn y sector cyhoeddus? OQ57351

Yn dilyn ymgynghoriad, cafodd datganiad polisi caffael Cymru ei ddiweddaru a'i gyhoeddi ym mis Mawrth 2021, gan nodi egwyddorion lefel uchel i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein nodau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol drwy gaffael. Ar 25 Tachwedd, cyhoeddwyd cynllun gweithredu yn nodi sut y byddwn yn cadw at y datganiad.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Bythefnos yn ôl, yn ystod dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnesau bach, anogais Weinidog yr Economi i edrych ar ffyrdd o gryfhau ein harferion caffael i helpu busnesau bach lleol i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymchwil sy'n dangos, am bob £1 y mae busnes bach yn ei dderbyn, fod 63c yn cael ei ailfuddsoddi yn yr economi leol, o'i gymharu â 40c ar gyfer cwmnïau mwy. Dyna pam mae'n hanfodol fod y system gaffael mor hygyrch â phosibl i fusnesau bach a'u bod yn cael pob cyfle i ennill contractau yn y lle cyntaf. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, ar y mater hwn? Ac yng ngoleuni Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus Cymru, sut y byddwch yn sicrhau bod busnesau bach yn gallu cystadlu'n deg am gontractau yn y dyfodol?

Mae hyn o ddiddordeb mawr o ran sicrhau bod gan yr arian a wariwn drwy gaffael yng Nghymru werth cymdeithasol, a chyflawnir hynny'n rhannol drwy gefnogi'r economi sylfaenol a chefnogi busnesau bach a chanolig eu maint yma yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn hon, rydym wedi cyhoeddi nifer o nodiadau polisi caffael Cymru, sydd yno i gefnogi'r broses gaffael. Roedd un yn benodol yn ymwneud â busnesau bach a chanolig eu maint a sut i sicrhau caffael sy'n ystyriol o fusnesau bach a chanolig. Mae hynny'n amlygu ac yn adeiladu ar yr egwyddorion yn y siarter 'Agor Drysau' ar gyfer caffael sy'n ystyriol o fusnesau bach a chanolig, a darparodd wybodaeth wedi'i diweddaru ac adnoddau ychwanegol i sefydliadau i gefnogi busnesau bach a chanolig. Mae hefyd yn ailadrodd yr ymrwymiadau a'r egwyddorion y cytunwyd arnynt rhwng sector cyhoeddus Cymru a busnesau bach a chanolig i bennu lefel ofynnol o arferion da ac annog caffael sy'n ystyriol o fusnesau bach a chanolig.

Yr ail nodyn polisi caffael Cymru rwyf eisiau tynnu sylw ato yw'r canllawiau ar gadw caffaeliadau is na'r trothwy ar gyfer awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru, ac fe gyhoeddwyd hwnnw eleni. Mae'n annog sefydliadau o fewn y cwmpas i symleiddio caffael mewn perthynas â gwariant contractau ar nwyddau, gwasanaethau a chontractau gwaith sydd â gwerth is na'r trothwyon perthnasol. Ac eto, mae hynny yno i geisio sicrhau bod busnesau bach yn arbennig yn gallu cystadlu am y contractau hynny. Ond lle mae mwy i'w wneud yn y maes hwn, byddem yn awyddus i wneud hynny wrth gwrs. Credaf y bydd hyn hefyd yn rhan bwysig o'r gwaith rydym yn ei wneud i nodi a mapio bylchau yn y gadwyn gyflenwi sydd gennym yma yng Nghymru. Pan welwn fylchau, os gallwn ddod o hyd i fusnesau bach y gallwn eu tyfu neu eu haddasu i lenwi'r bylchau hynny a dod yn llwyddiannus, byddem eisiau gwneud hynny.

14:05

Weinidog, roeddwn yn falch iawn o weld, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, y byddwch yn archwilio sut i osod targedau ystyrlon i gynyddu caffael sector cyhoeddus o'r 52 y cant presennol. Fel y nododd Paul Davies, bydd y caffael sector cyhoeddus hwn yn creu manteision economaidd enfawr i fusnesau lleol oherwydd y cyfraniad enfawr a wnânt i'w hardal leol. Y mis diwethaf, canmolodd y Prif Weinidog brosiect cronfa her cyngor sir Gaerfyrddin. Soniodd mai llaeth Cymru yw'r holl laeth a ddefnyddir mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, ond yn anhygoel, mae'n rhaid mynd â rhywfaint o'r llaeth hwnnw nid yn unig y tu allan i sir Gaerfyrddin, ond y tu allan i'r wlad, y tu allan i Gymru, er mwyn iddo gael ei brosesu a'i botelu, a bod yr awdurdod lleol yn sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i wneud rhywfaint o waith i weld a ellir ail-greu'r capasiti prosesu ar sail gydweithredol yn y sir. Sut y gallwn sicrhau y gall arferion gorau o'r fath ym maes caffael ledaenu ar draws Cymru gyfan, gan gynnwys yn fy rhanbarth i, fel y gellir prynu a hyrwyddo mwy o gynhyrchion a gwasanaethau lleol yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf? Diolch yn fawr.

Diolch. Rwy'n falch iawn fod hwn yn faes sydd o fewn y cytundeb cydweithio, i archwilio sut y gallwn gadw'r gwerth hwn yma yng Nghymru. Credaf ei fod yn adeiladu ar waith da a wnaed dros yr haf, sef ymarfer darganfod i greu cynllun digidol ar gyfer e-gaffael. Mae'n golygu y byddwn yn edrych ar lawer mwy o dryloywder drwy'r gadwyn gyflenwi, fel ein bod yn deall y problemau y mae Rhys ab Owen newydd eu disgrifio gyda llaeth yn cael ei gludo allan o'r wlad i'w brosesu, a'i gludo'n ôl at y plant mewn ysgolion. Mae honno'n enghraifft dda iawn o'r math o fwlch roeddwn yn sôn amdano'n gynharach, ond yn fwy felly ym maes capasiti prosesu. Gwn fod hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog materion gwledig, ac wrth gwrs, mae wedi bod yn ceisio cefnogi cynnydd yn y capasiti prosesu yma yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd. Ond byddaf yn sicr yn edrych ar yr hyn y mae cyngor sir Gaerfyrddin yn ceisio'i gyflawni a beth y gallwn ei ddysgu o hynny.

Bydd lledaenu arferion gorau yn bwysig iawn yn y gwaith a wnawn i gynyddu capasiti a gallu'r proffesiwn caffael yma yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi i gefnogi pobl drwy gymwysterau gradd ac yn y blaen yn y gobaith y byddant yn aros yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn dod yn weithwyr caffael proffesiynol sy'n gweithio mewn ffordd wahanol. Mae'n ymwneud â mwy na'r llinell sylfaen erbyn hyn, a deall fod pethau'n ymwneud llawer mwy â pha werth cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y gallwch eu cael o'ch gwariant, yn hytrach na dim ond beth yw'r peth rhataf y gallwch ei brynu. Felly, rwy'n credu ein bod mewn lle cyffrous iawn o ran caffael, ac os gallwn edrych ar enghreifftiau da, fel yr hyn a ddisgrifir yn sir Gaerfyrddin, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.

Clercod Cynghorau Cymuned

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl clercod cynghorau cymuned? OQ57366

Mae'n rhaid i bob cyngor cymuned gael clerc; maent yn hanfodol i lywodraethu cynghorau tref a chymuned yn dda. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi eu cyfraniad ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid allanol i ddarparu cymorth i'w hannog i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Er tryloywder, hoffwn dynnu sylw at y ffaith fy mod yn gynghorydd cymuned a chynghorydd bwrdeistref sirol. Fel y gwyddoch ac fel y dywedoch chi, mae cynghorau tref a chymuned yn chwarae rhan mor bwysig yng nghynaliadwyedd y cymunedau y maent yn eu cynrychioli, a hwy yw'r union ddiffiniad o ddemocratiaeth leol. Rwy'n deall bod rôl clercod cynghorau tref a chymuned yn un sy'n darparu cyngor a chymorth annibynnol, gwrthrychol a phroffesiynol. Rwyf hefyd yn eu hystyried yn unigolion a ddylai fod uwchlaw gwleidyddiaeth plaid, a gwleidyddiaeth plaid annibynnol hyd yn oed, a dylent fod yn ddiduedd ac yn anweithgar yn wleidyddol. Oherwydd, yn y pen draw, mae unrhyw beth heblaw hyn yn bwrw amheuaeth ar y rôl y maent yn ei chyflawni ac yn dylanwadu'n bendant iawn ar y cyngor a'r cymorth y maent yn eu darparu. Rwy'n cyflwyno'r cwestiwn oherwydd credaf fod gwrthdaro buddiannau posibl yn achos unigolyn sy'n cyflawni swydd clerc ac sydd hefyd yn gynrychiolydd etholedig, naill ai mewn cyngor cymuned, cyngor tref neu awdurdod lleol, neu unrhyw gyngor. Gyda hyn mewn golwg, a yw'r Gweinidog yn cytuno na ddylai clercod cynghorau tref a chymuned allu dal swydd fel cynghorydd etholedig, ac a wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud y newidiadau deddfwriaethol perthnasol? Diolch.

14:10

Diolch i Joel James am godi hyn y prynhawn yma. Rwyf am roi ystyriaeth bellach i hyn yng ngoleuni ei sylwadau y prynhawn yma. Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n rhoi eu hamser i fod yn gynghorwyr tref a chymuned, oherwydd drwy'r pandemig, rydym wedi gweld gwerth y rheini wrth iddynt gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymunedau. Felly, mewn ymateb i'r cwestiwn uniongyrchol, byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny, ond diolch i chi am y cyfle i fynegi fy niolch i'r sector.FootnoteLink

Cyfarpar Diogelu Personol

6. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddarparu cyfarpar diogelu personol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OQ57381

Yn 2021-22, derbyniodd prif grŵp gwariant iechyd a gofal cymdeithasol £1.1 biliwn ychwanegol o gyllid refeniw COVID. O hwn, dyrannwyd dros £820 miliwn i gefnogi'r GIG a phrofi ac olrhain. Hyd yma, rydym wedi dyrannu dros £38 miliwn i'r GIG ac ar hyn o bryd rydym yn rhagweld gwariant o tua £58 miliwn ar gyfarpar diogelu personol.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Weinidog, y rheswm pam rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yw bod canllawiau diogelu a rheoli heintiau yn dangos nad oes gan staff ar wardiau cyffredinol fynediad at fasgiau FFP3. O ystyried esblygiad yr amrywiolion COVID, gan gynnwys yr un rydym i gyd wedi clywed amdano'n ddiweddar yn fwy nag erioed, yr amrywiolyn omicron, efallai y bydd angen adolygu canllawiau atal a rheoli heintiau fel rhagofal. Gallai hyn gynnwys cyflwyno masgiau FFP3 mewn ardaloedd clinig cyffredinol, yn seiliedig ar asesiad risg. Hoffwn wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â darparu'r cyllid sydd ei angen i ymestyn argaeledd masgiau FFP3 pe bai'n ofynnol i staff y GIG yng Nghymru eu defnyddio. Diolch.

Diolch. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod sefydliadau'r GIG yn cael y cyllid sydd ei angen arnynt i ymateb i'r pandemig. Rwy'n credu, ar hyn o bryd, fod gan y GIG yr arian sydd ei angen arno, o ran darparu'r cyfarpar cywir, ond hefyd o ran yr holl waith arall y mae angen iddo ei wneud i ymateb i'r pandemig a cheisio cyflawni rhywfaint o'r gwaith adfer sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar. Nid wyf wedi cael unrhyw geisiadau pellach am gyllid gan y GIG, ond yn amlwg, byddwn yn agored i'r trafodaethau hynny pe bai angen cyllid ychwanegol.

Nid dyma fy maes arbenigedd, ond rwy'n deall bod prif swyddogion meddygol a phrif swyddogion nyrsio wedi gofyn i'r dystiolaeth gael ei hailystyried y penwythnos diwethaf yng ngoleuni'r amrywiolyn newydd mewn perthynas â masgiau wyneb, a'r cyngor yw nad yw masgiau FFP3 yn cael eu hystyried yn briodol fel rheol, ond y dylid eu darparu os yw asesiad risg lleol yn awgrymu bod risg o drosglwyddiad yn parhau ar ôl rhoi'r holl fesurau atal a rheoli heintiau eraill ar waith. Os yw cyllid yn atal hyn rhag digwydd, hoffwn wybod hynny, ond nid wyf yn credu bod hynny'n wir, oherwydd mae digon o gyllid yno.

Gwasanaethau Cam-drin Domestig

7. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddarparu gwasanaethau cam-drin domestig wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? OQ57378

Mae Llywodraeth Cymru yn glir ynglŷn â'i huchelgais i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'r pandemig wedi creu heriau eithriadol i ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r gwasanaethau sy'n eu cefnogi. Yn sgil hynny, rhyddhawyd dros £4 miliwn o gyllid ychwanegol i'r sector i ymdopi â'r effaith.

Weinidog, yng Nghasnewydd, ac yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a sir Fynwy hefyd, mae Barnardo's Cymru yn rhedeg gwasanaeth Agor Drysau Caeedig, sy'n wasanaeth i'r teulu cyfan pan fo cam-drin domestig yn digwydd a theulu'n dioddef o ganlyniad. Yn wir, ers mis Mawrth 2019, mae dros 450 o deuluoedd wedi elwa o'r gwasanaeth hwn. Mae'n darparu cymorth wedi'i deilwra i oedolion a phlant sy'n goroesi cam-drin domestig, yn ogystal â gwasanaethau i gyflawnwyr. Dengys ymchwil gyffredinol fod mwy nag un o bob 10 plentyn dan 11 oed yn profi cam-drin domestig. Mae'r pandemig, gyda'r cyfyngiadau symud cysylltiedig, wedi gwaethygu'r problemau hyn, ac o ganlyniad, ceir galw cynyddol a pharhaus. Weinidog, mae gwerthusiad annibynnol o'r gwasanaeth hwn gan Barnardo's wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae'n dangos gwerth y gwaith, ond mae cyllid y Swyddfa Gartref, sy'n galluogi'r prosiect hwn, ar hyn o bryd yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf ac mae'r dyfodol y tu hwnt i hynny'n ansicr. Weinidog, gydag Aelodau eraill o'r Senedd ar gyfer yr ardal sy'n elwa o'r gwasanaeth hwn, rwyf wedi ysgrifennu atoch ac wedi cynnwys y gwerthusiad ac esboniad o'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn, ac rwy'n meddwl tybed a fyddech yn ystyried cymorth ariannol angenrheidiol yn ofalus i sicrhau bod y gwaith pwysig a gwerth chweil hwn yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

14:15

Diolch i John Griffiths am godi'r mater hwn y prynhawn yma a chydnabod, mewn gwirionedd, y gwaith pwysig y mae sefydliadau fel Barnardo's yn ei wneud, ac mae'n ddiddorol iawn clywed am y prosiect rydych wedi'i ddisgrifio. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol yn ystod y pandemig, wrth gydnabod, fel y dywedodd John Griffiths, fod mwy o aros gartref yn ei gwneud yn anos i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig. Nid yw'r llythyr wedi dod i law eto; rwy'n disgwyl mai fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fydd yn ymateb i'r llythyr yn y pen draw, ond fe wnaf yn siŵr fod gennyf gopi ohono hefyd. Mae'r mater hwn yn rhan o'i phortffolio hi, ond byddaf yn siŵr o edrych arno hefyd. Diolch.

Weinidog, cafodd rhai sefydliadau trydydd sector gymorth ariannol ychwanegol yn ystod y pandemig i ymateb i'r cyfraddau cynyddol o gam-drin domestig yn ystod y cyfyngiadau symud ac i gynorthwyo llinellau cymorth amrywiol i ymateb i achosion mwy heriol. Nid yw'r pandemig ar ben, ond mae llawer o sefydliadau'n ofni bod y cyllid wedi dod i ben. A all y Gweinidog gynnig ymrwymiad personol i bawb sy'n dal i gael eu cam-drin y bydd adnoddau'n cael eu targedu i helpu i'w nodi ac i ymateb gyda phartneriaeth gryfach fyth gyda'n heddluoedd? Diolch.

Diolch, ac mae Altaf Hussain yn gywir ein bod wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol i'r sector hwn yn ystod y pandemig, gan gydnabod y pwyntiau y mae ef a John Griffiths wedi'u disgrifio. Rydym wedi darparu dros £1.2 miliwn mewn llety gwasgaredig yn y gymuned ar gyfer y rhai nad yw'r ddarpariaeth lloches yn addas ar eu cyfer, ac ar gyfer llety camu ymlaen. Credaf fod hyn wedi bod yn bwysig iawn er mwyn rhyddhau lle mewn llochesi fel y gallai pobl barhau i adael os oedd angen iddynt wneud hynny yn ystod cyfnod mor anodd. A rhyddhawyd tua £0.25 miliwn o gyllid ychwanegol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, ac ychwanegwyd cyllid pellach at hwnnw. Ac mae hynny wedi galluogi rhai o'n gwasanaethau trais yn y cartref i ailgyflunio'r hyn y maent yn ei wneud hefyd, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID, megis arfogi llochesi a chefnogi dioddefwyr, darparu cyfarpar diogelu personol ac yn y blaen. Felly, bu'n rhaid cyflawni llawer o waith pwysig eleni yn benodol mewn ymateb i'r pandemig. Ond fel y dywedais, bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn gwrando'n astud iawn ar y cwestiwn hwn ac yn ystyried yr hyn y mae cyd-Aelodau wedi bod yn ei ddweud, rwy'n siŵr.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi croesawu byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel ffordd o sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n fwy effeithlon? OQ57376

Mae awdurdodau lleol, ynghyd â'u partneriaid statudol eraill, yn gweld manteision gweithio drwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae eu hadroddiadau blynyddol yn darparu tystiolaeth fod awdurdodau lleol wedi ymrwymo i weithio gyda'u partneriaid byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wella llesiant yn eu hardal.

Yn amlwg, elfen allweddol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus a enwir yn y Ddeddf yn cydweithio er mwyn dileu dyblygu. Ac rwyf newydd eich clywed yn dweud wrth Peter Fox, heb ystyried yr arian ychwanegol sydd gennym ar gyfer COVID, sy'n amlwg yn gyfres arbennig iawn o heriau, mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn bwriadu lleihau'r gyllideb ar gyfer Cymru, nid y flwyddyn nesaf ond y flwyddyn ganlynol, sy'n eithaf brawychus. Felly, dyna fwy o reswm byth pam fod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl enfawr i'w chwarae drwy eu dulliau gwaith cydweithredol arloesol. A allwch chi ddweud wrthym pa fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rydych yn eu hystyried yn arloesol am arwain y ffordd i ddangos pa mor dda y gallant gydweithio?

14:20

Ie. Credaf fod gennym enghreifftiau rhagorol o waith ar y gweill, felly cynhaliodd bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Cwm Taf, er enghraifft, ymarfer labordy byw gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er mwyn ceisio canfod sut y gallai'r partneriaid hynny ymateb yn y ffordd orau i blant a phobl ifanc sy'n profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

A byrddau gwasanaethau cyhoeddus sir y Fflint a Wrecsam hefyd; maent wedi ffurfio bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd yn arbennig er mwyn darparu ymateb ar y cyd i COVID ac i ddatblygu cynllun adfer ar y cyd yn dilyn COVID. Unwaith eto, credaf fod honno'n enghraifft o arloesi defnyddiol iawn. Wedyn, mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Fynwy wedi rheoli adnoddau rhwydweithiau gwirfoddol yn ystod camau cynnar y pandemig, ac roeddent yn ymgysylltu ac yn cefnogi pobl ar lefel ficro iawn ac unwaith eto, roedd hynny'n gadarnhaol iawn. Ond rwy'n credu bod gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus enghreifftiau da o arferion da y gellir ac y dylid eu rhannu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.

Ac rwy'n awyddus ein bod yn hwyluso'r broses o rannu arferion da, felly mae fy swyddogion a swyddogion swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn dod â swyddogion y byrddau gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd bob chwarter er mwyn sicrhau bod fforwm ar gael i rannu profiadau a rhannu arferion da.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Y cwestiynau nesaf, felly, fydd i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

TB

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â ffermwyr ynghylch sefyllfaoedd posibl lle ceir achosion o TB? OQ57349

Member
Lesley Griffiths 14:22:05
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Mae'r Llywodraeth yn cyfathrebu â busnesau fferm drwy ohebiaeth a datganiadau gwybodaeth rheolaidd, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr achosion o glefydau a'r tueddiad yn ôl ardal. Cynigir ymweliadau cyngor milfeddygol Cymorth TB i ffermwyr ac fe'u hanogir i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein fel y dangosfwrdd TB a'r ibTB i gael gwell dealltwriaeth o'r risg i'w busnesau.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod, fel finnau, Weinidog, yn gallu deall y pryder enfawr y mae busnes a theulu ffermio yn ei wynebu pan gânt lythyr gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ynghylch profion TB a chyfyngiadau ar eu buches a'u fferm. Mae fy nghwestiwn penodol yn ymwneud â theuluoedd ffermio'n cael llythyrau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn eu hysbysu, ar gam, nad ydynt wedi cwblhau profion TB, pan fydd y profion priodol wedi'u cynnal mewn gwirionedd. Yn aml, anfonir llythyrau ar gam oherwydd camgyfathrebu rhwng milfeddygfeydd a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, i chi a'ch swyddogion edrych ar y broses hon? Byddwn yn awgrymu bod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cyfathrebu â milfeddygfeydd i gael cadarnhad ac eglurhad cyn anfon llythyrau, gan achosi straen a phryder diangen i ffermwyr yn y ffordd honno, a dylid osgoi hynny yn y lle cyntaf. Tybed a allai'r Gweinidog wneud sylwadau ynglŷn ag a yw'n ymwybodol o'r mater penodol hwn ac a fyddai'n fodlon ailedrych ar y broses honno.

Diolch, ac rwy'n deall y straen a'r gofid y byddai hynny'n ei achosi i ffermwr a'i deulu. Nid wyf yn credu eich bod yn cyfeirio at fater sy'n digwydd yn helaeth, ond wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i ofyn i'r prif swyddog milfeddygol a'i thîm o swyddogion gael golwg arno.

Bwyd a Diod o Ogledd Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru? OQ57373

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yng ngogledd Cymru i hyrwyddo bwyd a diod gan ddefnyddio ystod eang o raglenni busnes. Roedd cynhyrchwyr gogledd Cymru yn ein digwyddiad BlasCymru unigryw yn ddiweddar, ac yn ddiweddar hefyd lansiais y weledigaeth newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy'n nodi sut y gellir cyflawni twf cynaliadwy.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y bydd pob Aelod dros Zoom yn cytuno, rwy'n siŵr, mae hon yn adeg ardderchog o'r flwyddyn i fod yn hyrwyddo ac yn blasu bwyd a diod gwych o bob cwr o Gymru, a daw'r goreuon, wrth gwrs, o fy rhanbarth i yn y gogledd. Ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, Weinidog, fod gennym hyb bwyd a diod byd-enwog yng ngogledd Cymru, boed yn selsig arobryn gan Edwards o Gonwy neu'r cig organig o ystâd Rhug yng Nghorwen, ac wrth gwrs i olchi'r cyfan i lawr mae jin Aber Falls ger Llanfairfechan ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod am Lager Wrecsam wrth gwrs, ymhlith llawer o fwydydd a diodydd rhagorol eraill. Hefyd, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru elfen waith benodol sy'n canolbwyntio ar y sector bwyd-amaeth, ac mae wedi cael hwb sylweddol yn ddiweddar gyda chymeradwyaeth i achos busnes amlinellol ar gyfer canolfan economi wledig newydd yng Nglynllifon. Disgwylir i ganolfan economi wledig Glynllifon ddarparu dros 100 o swyddi llawnamser mewn busnesau bwyd lleol a chynnydd gwerth ychwanegol gros o tua £50 miliwn mewn ardal bwysig iawn yng Nghymru. Felly, Weinidog, pa gamau y byddwch chi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod y cynlluniau hyn yng Nglynllifon yn dwyn ffrwyth, i wneud i'r sector bwyd a diod yng ngogledd Cymru ffynnu hyd yn oed yn fwy? Diolch.

14:25

Diolch, a diolch am roi'r cyfle imi gytuno â chi ynglŷn â sut y mae'n adeg dda o'r flwyddyn i brynu ein bwyd a'n diod gwych o Gymru. Mae bob amser yn beth da, ac roedd yn wych bod yn y ffair aeaf y mis diwethaf, a gweld y neuadd fwyd, a gweld pobl yn llythrennol yn ciwio yn yr awyr agored am amser hir i allu prynu bwyd a diod o Gymru unwaith eto ar faes sioe Frenhinol Cymru.

Cytunaf â chi am y gwaith sy'n parhau i gael ei wneud yn awr yng Nglynllifon. Ymwelais â'r lle y mis diwethaf i gael golwg ar eu cynlluniau ar ei gyfer, a byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r Ganolfan Technoleg Bwyd, a phrosiect HELIX, sy'n cael ei gyflawni yn Llangefni. Rwy'n credu y bydd y ddau'n cydgysylltu â'i gilydd yn dda iawn.

Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw. A gaf fi gytuno ag ef a'r Gweinidog, am yr hyn y mae hi wedi'i ddweud hefyd? Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod yn hynod o angerddol am y cyfraniad cadarnhaol y gall bragwyr a thafarndai lleol ei wneud i'n heconomi leol, a bragdai rhagorol fel y rhai yn sir y Fflint, Hafod a Polly's, neu'r Lager Wrecsam ardderchog yn eich etholaeth eich hun, fel y nododd Sam Rowlands, sydd unwaith eto wedi ennill gwobr arall—gwobr aur arall—am eu lager pilsner Bootlegger byd-enwog.

Nawr, Weinidog, yn y Senedd ddiwethaf, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yn y Senedd yn llwyddiannus, ac rydym ar fin ailymgynnull y grŵp pwysig hwn yn y flwyddyn newydd. A wnewch chi ymrwymo heddiw i ddod i ymwneud â'r grŵp yn y flwyddyn newydd, a dangos sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector pwysig hwn ledled Cymru?

Diolch i Jack Sargeant. Rwy'n falch iawn eich bod yn ailymgynnull y grŵp yn y flwyddyn newydd, ac wrth gwrs byddaf yn hapus iawn i ddod draw i'ch cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallaf. Fel y dywedwch, yn ein rhan ni o ogledd-ddwyrain Cymru mae gennym nifer o ficrofusnesau, bragdai a llawer o dafarndai lleol sy'n gwerthu'r cwrw hwnnw, felly mae'n dda iawn gallu dweud unwaith eto wrth bobl, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn o COVID rydym yn ei wynebu yn awr, 'Mae'n dda iawn cefnogi'r bragwyr lleol hynny.'

A gaf fi ddweud wrth fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, y byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn ymuno â'r grŵp trawsbleidiol hwnnw? Weinidog, os caf fynd yn ôl tua 10 mlynedd, rwy'n cofio Cadwyn Clwyd, asiantaeth ddatblygu ranbarthol, yn sicrhau £14 miliwn o gyllid yr UE i hybu'r economi wledig yn sir y Fflint a sir Ddinbych. Daeth mwy o gyllid i mewn i asiantaethau ar draws gogledd Cymru fel Partneriaeth Gogledd Gororau Cymru, Menter a Busnes a Menter Môn. Roedd yr arian hwn yn gymorth i lawer o gynlluniau hyrwyddo bwyd, megis gŵyl fwyd yr Wyddgrug, ac ariannu canolfan gynnyrch leol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gydag 16 o gyflenwyr bwyd a diod o bob rhan o ogledd Cymru. Mae wedi helpu i sefydlu llwybr bwyd bryniau Clwyd, ac wedi helpu i ariannu prosiect eirin Dinbych, ymhlith pethau eraill. Ond Weinidog, rwy'n pryderu am golli cyllid Ewropeaidd i'r sector bwyd drwy Lywodraeth Cymru. A ydych chi'n gwybod y daw arian newydd gan Lywodraeth y DU fel yr addawyd? Diolch.

Bydd y diwydiant bwyd a diod yn parhau i dderbyn cyllid sylweddol drwy'r rhaglen datblygu gwledig hyd nes y daw'r rhaglen honno i ben yn 2023. Yn anffodus, 'na' yw'r ateb byr i'ch cwestiwn. Bydd Cymru'n colli dros £106 miliwn o gyllid newydd yr UE ar gyfer datblygu gwledig dros gyfnod yr adolygiad o wariant. Mae hynny ar ben y £137 miliwn nad wyf wedi'i gael gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn ariannol hon, felly mae'r mantra 'dim ceiniog yn llai' yn swnio'n wag iawn, mae arnaf ofn. Fe fyddwch yn gwybod fy mod i a fy nghyd-Weinidogion, yn enwedig y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi parhau i lobïo Llywodraeth y DU, yn enwedig ar y fethodoleg y maent wedi'i defnyddio i wneud eu symiau. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ystyried hynny wrth inni gyflwyno'r gyllideb ddrafft yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, hoffwn ddweud bod gwyliau bwyd yn ffordd ragorol yn fy marn i o hyrwyddo ein bwyd a'n diod gwych o Gymru ac rwyf wedi gwneud popeth a allaf i barhau i'w hyrwyddo, yn amlwg, a'u cefnogi. Nid ydym wedi gallu cynnal cymaint o rai rhithwir eleni ag y byddem wedi bod eisiau—rhai yn y cnawd, mae'n ddrwg gennyf—ond rydym wedi llwyddo i wneud rhywfaint o waith rhithwir dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd.

14:30

Er tegwch, o ystyried y rhestr hir o fwydydd a diodydd o'r gogledd a hyrwyddwyd gan yr Aelodau yn awr, teimlaf fod angen imi ddweud bod bwyd a diod arall ar gael o rannau eraill o Gymru, ac ar gael i bawb cyn y Nadolig, gobeithio.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau.

Ac yn gyntaf, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd, ac yn gyntaf, a gaf fi ddechrau drwy ddymuno Nadolig llawen iawn i'r Gweinidog a thrwy ddiolch iddi am y ddeialog onest ac agored a gafodd hi a minnau ynglŷn â'r portffolio hwn?

Weinidog, rwyf wedi crybwyll arian cynllun datblygu gwledig nas gwariwyd neu a gamwariwyd yn y Siambr ar sawl achlysur eisoes, a hoffwn ganolbwyntio ar y cynllun 'coeden am ddim i bob cartref' y gwnaethpwyd sioe fawr o'i gyhoeddi ar 6 Rhagfyr gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. O ystyried bod y cyllid ar gyfer plannu coed o fewn eich portffolio chi, yn eich llaw chi y mae'r pwrs, fel petai. Felly, a allwch chi roi manylion am gost y cynllun hwn, boed yn arian newydd neu'n arian wedi'i ailddyrannu, ac yn olaf, a allwch roi sicrwydd, os yw'n arian wedi'i ailddyrannu, nad yw'n arian a fyddai'n mynd fel arall tuag at gefnogi'r diwydiant amaethyddol?

Diolch, a hoffwn ddymuno Nadolig heddychlon a hapus iawn i Sam Kurtz a'r holl Aelodau a dymuniadau gorau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Daw hyn o fewn portffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd fel y dywedwch ac fe'i cyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Yn fy llaw i y mae'r pwrs ar gyfer rhai pethau, ond nid popeth, ac mae'r polisi rydych newydd gyfeirio ato a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd—mae'r cyllid yn rhan o'i bortffolio ef.

Diolch, Weinidog—diolch am yr eglurhad hwnnw.

Rwy'n siŵr eich bod wedi eich dychryn lawn cymaint â minnau, Weinidog, pan dynnodd BBC Wales sylw mewn rhaglen ddogfen yn gynharach yr wythnos hon at docio clustiau cŵn tarw bach i gynyddu gwerth y cŵn i fridwyr a'u gwneud yn ddeniadol i berchnogion newydd. Clywodd y rhaglen ddogfen sut y gall cŵn bach sydd â'u clustiau wedi'u tocio werthu am £1,500 ychwanegol, gan wneud yr arfer creulon hwn yn fenter werthfawr i droseddwyr. Er bod tocio clustiau yn anghyfreithlon yn y DU, nid oes unrhyw ddeddf yn gwahardd yr hawl i fewnforio'r anifeiliaid hyn i'r DU. Ond er ein bod yn derbyn bod mewnforio anifeiliaid yn fater a gadwyd yn ôl, mae gennych bwerau gorfodi os caiff y cŵn bach hyn eu gwerthu i drigolion Cymru neu os ydynt ym mherchnogaeth trigolion Cymru. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, i fynd i'r afael â'r math gofidus hwn o gam-drin anifeiliaid, ac a wnewch chi roi mwy o bwerau i'r RSPCA i ymladd creulondeb i anifeiliaid?

Diolch. Do, arswydais wrth weld y rhaglen y cyfeirioch chi ati. Mae tocio clustiau cŵn yn anghyfreithlon, mae'n ddiangen ac rwy'n siŵr ei fod yn hynod o boenus ac nid oes unrhyw fanteision i les nac iechyd y ci. Am resymau cosmetig yn unig y caiff ei wneud mewn gwirionedd, er mwyn gwneud i'r cŵn edrych yn fwy milain, a chredaf ei fod yn gwbl wrthun.

Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) sydd ar y ffordd yn ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn. Fel y dywedwch, Bil Llywodraeth y DU ydyw wrth gwrs, ond mae'n ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn a chŵn bach sydd wedi cael eu hanffurfio, ac yn amlwg mae hynny'n cynnwys tocio clustiau. A chredaf y bydd cyfyngu ar eu mewnforio yn cryfhau gallu ein swyddogion gorfodi i allu adnabod cŵn o'r fath yn haws ac erlyn y rhai sy'n ymwneud â thocio clustiau'n anghyfreithlon yng Nghymru a ledled y DU. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â hyn.

Diolch. Ac yn olaf, Weinidog, roeddwn yn falch o arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar les anifeiliaid y mis diwethaf, a welodd y Llywodraeth yn cael ei threchu a'r cynnig yn cael ei basio heb ei ddiwygio yn y Senedd. Roedd hi'n braf gweld yr agwedd gytbwys a meddwl agored a oedd gan bawb yn ystod y ddadl, ac rwy'n gobeithio y gall hyn barhau.

Rwy'n ymwybodol o lythyr a gawsoch gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru, a fynegodd bryder ynghylch peth o'r hyn a hepgorwyd, er ei fod yn croesawu rhai agweddau ar gynllun gweithredu lles anifeiliaid eich Llywodraeth. Un mater felly oedd absenoldeb unrhyw gyfeiriad at gyflwyno rheoliadau ar fridio cathod. A gaf fi ofyn am eich ymrwymiad heddiw i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rheoliadau bridio cathod a chŵn ar sail gyfartal a sicrhau y bydd cathod bach a gaiff eu bridio yng Nghymru yn gallu mwynhau'r un lefelau uchel o les a diogelwch ag a roddir i gŵn bach?

14:35

Yn bendant. Rwy'n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas â hynny, yn union fel rwy'n edrych ar ficrosglodynnu cathod hefyd. A phan fyddaf yn ymateb i'r ohebiaeth y mae Sam Kurtz yn cyfeirio ati, byddaf yn hapus iawn i rannu hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod prinder milfeddygon yng Nghymru yn dal i fod yn broblem i ni yma, ac mae wedi'i waethygu gan Brexit a'r pandemig hefyd wrth gwrs. Nawr, mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn dweud bod mwy o lefydd mewn ysgolion milfeddygol yn rhan o'r ateb, ac roedd agoriad swyddogol ysgol gwyddor filfeddygol Prifysgol Aberystwyth yr wythnos diwethaf yn sicr i'w groesawu. Bydd y myfyrwyr milfeddygol yno, wrth gwrs, yn treulio'r ddwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, a thair blynedd wedyn yn astudio ar gampws Coleg Milfeddygol Brenhinol Hawkshead yn Swydd Hertford. Nawr, yn y cyfamser, mae gan yr Alban ddwy ysgol filfeddygol ac mae naw yn Lloegr, a phob un ohonynt yn cynnig y cyrsiau pum mlynedd llawn sy'n arwain at radd lawn. Felly, Weinidog, os ydym am ddatrys prinder milfeddygon yng Nghymru yn iawn, a ydych yn cytuno fod angen ysgol filfeddygol lawn ar Gymru, sy'n cynnig ei chyrsiau gradd pum mlynedd ei hun? Ac os ydych chi'n cytuno, ac rwy'n hyderus eich bod, a wnewch chi agor trafodaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth, a'r sector amaethyddol yn ehangach, i ystyried sut y gellir datblygu cwrs Aberystwyth yn gwrs pum mlynedd llawn a hynny'n gyflym, gyda'r cyfleusterau angenrheidiol, i helpu i ddatrys y prinder milfeddygon sydd gennym yma yng Nghymru?

Diolch. Credaf fod Llyr Huws Gruffydd yn gwneud pwynt pwysig iawn am brinder milfeddygon. A hoffwn ychwanegu at y rhestr rydych wedi sôn amdani, mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd a Brexit, yr achosion o ffliw adar sydd gennym ar draws y DU yn anffodus. Erbyn hyn mae gennym 52 o achosion, a gallwch ddychmygu'r capasiti milfeddygol y mae'r achosion o ffliw adar yn ei lyncu hefyd. Roeddwn yn falch iawn o weld Prifysgol Aberystwyth—yr ysgol filfeddygol yno—yn cael ei hagor yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, ni allwn fynychu'r agoriad, ond cefais ymweliad—ym mis Hydref rwy'n credu—i'w weld drosof fy hun, ac fe wnaeth argraff fawr arnaf. Ac rwy'n gwybod bod Christianne Glossop, sydd wedi gweithio ar sicrhau bod hynny'n digwydd dros y 18 mlynedd diwethaf, yn falch dros ben. Ac rwy'n credu ei fod yn gam cyntaf. Roeddwn i fod i gyfarfod â'r Gweinidog addysg ddydd Llun i weld beth arall y gallem ei wneud i gefnogi prifysgol Aber mewn perthynas â hyn, ond yn anffodus, rwy'n credu mai'r wythnos nesaf y mae'r cyfarfod yn awr. Ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylid ei archwilio, a byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod a gaf gyda'r Gweinidog addysg.

Diolch, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn tybio bod y gwaith ar ben, oherwydd yn amlwg, dechrau'r daith yw hyn, a hoffem ei weld yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Diolch.

Nawr, agwedd hanfodol arall ar gymorth i bobl ifanc yn y sector amaethyddol yw cymorth iechyd meddwl wrth gwrs. Ym mis Hydref, mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod Plaid Cymru, Cefin Campbell, fe ddywedoch chi fod cefnogaeth i elusennau iechyd meddwl yn y sector ffermio, ac rwy'n dyfynnu,

'yn rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i helpu, rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.'

Nawr, yn ddiweddar, yn y ffair aeaf,  mynegodd Sefydliad DPJ bryderon, er eu bod yn cael rhywfaint o gefnogaeth ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, nad oes sicrwydd mwy hirdymor o gyllid. Ac rwy'n gwybod y byddai sefydliadau iechyd meddwl gwledig eraill yn rhannu'r un pryder. Felly, o ystyried eich ymrwymiadau blaenorol ar lawr y Senedd, a chyn cyhoeddi'r gyllideb yr wythnos nesaf wrth gwrs, a allech ddweud wrthym a ydych yn bwriadu cyflwyno cynllun ariannu hirdymor ar gyfer elusennau iechyd meddwl fel Sefydliad DPJ?

Diolch. Cyfarfûm â'r elusennau iechyd meddwl yn y sector amaethyddol yn y ffair aeaf fy hun, ac roedd yno gynrychiolwyr o tua chwech ohonynt, rwy'n credu, ac yn amlwg, buom yn trafod yr heriau—. Fe fyddwch yn deall ei bod yn anodd iawn rhoi ymrwymiadau hirdymor—nid wyf yn siŵr beth a olygwch wrth 'hirdymor'—ond yn sicr rwy'n bwriadu parhau i'w cefnogi, yn ariannol a hefyd gydag amser swyddogion, oherwydd mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda hwy. Ac rwy'n mynychu—yn sicr, dros gyfnod y pandemig, rwyf wedi mynychu llawer o gyfarfodydd y grŵp a ddaeth ynghyd o dan ymbarél i gefnogi ein sector amaethyddol. Felly, byddaf yn parhau i wneud hynny, yn sicr. Fel y dywedaf, nid wyf yn glir beth a olygwch wrth 'hirdymor', ond yn ystod proses y gyllideb, byddaf yn sicr yn ymrwymo i gyllid.

Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Rwy'n credu bod 'mwy hirdymor', mae'n debyg, yn ddisgrifiad gwell, efallai.

Unwaith eto, gan ddatblygu thema ffermwyr iau, clywais bryderon yn ddiweddar gan ffermwyr tenant yn enwedig, a Chymdeithas y Ffermwyr Tenant, fod ffermwyr iau yn ei chael hi'n anodd caffael tir o dan reolau olyniaeth. Nawr, rwy'n ymwybodol, drwy waith achos, o sefyllfaoedd lle nad yw teuluoedd wedi gallu trosglwyddo'r denantiaeth i'w mab neu eu merch am nad yw'r mab neu'r ferch yn gallu gwneud eu bywoliaeth o'r daliad yn unig. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fod mwy a mwy o ffermydd yn dibynnu ar incwm oddi ar y fferm i allu goroesi y dyddiau hyn, ac mewn gwirionedd, mae llawer o'r tenantiaethau hynny o faint lle mae'n debygol fod gwneud eich bywoliaeth ohonynt bron yn amhosibl beth bynnag. Felly, mae'n amlwg i mi nad yw deddfwriaeth tenantiaeth yng Nghymru yn cyd-fynd â newidiadau yn y byd amaeth.

Nawr, rwy'n ymwybodol nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau eto i weithredu darpariaethau penodol yn Atodlen 3 i Ddeddf Amaethyddiaeth y DU 2020 sy'n ymwneud â ffermydd tenant fel y maent yn gymwys i Gymru. Daeth rheoliadau i rym yn Lloegr, gyda llaw, yn ôl ym mis Mai eleni. Felly, a gaf fi ofyn: pa bryd y bwriadwch gyflwyno rheoliadau tebyg i'r rhai a welir yn Lloegr, fel y gallwn newid y profion addasrwydd a masnachol hen ffasiwn presennol, a gwneud y gyfraith yn fwy addas i'r diben, a hwyluso olyniaeth tenantiaid yn y pen draw wrth gwrs?

14:40

Diolch. Nid wyf yn gallu rhoi amser penodol i chi, oherwydd mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Cyfarfûm â Chymdeithas y Ffermwyr Tenant yn y ffair aeaf, unwaith eto—manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â chryn dipyn o bobl wyneb yn wyneb y mis diwethaf—ac rwy'n cytuno; credaf fod llawer o broblemau'n codi gyda ffermwyr tenant nad ydych yn eu cael, yn amlwg, gyda ffermwyr sy'n berchen ar y tir eu hunain, a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni ei gael yn iawn. Felly, mae'n galw am fwy nag edrych ar un darn o'r ddeddfwriaeth yn unig; mae angen edrych ar y cyfan mewn ffordd gyfannol. Felly, rwy'n gwybod bod swyddogion yn parhau i gyfarfod. Rwy'n disgwyl cyngor pellach, yn ôl pob tebyg—wel, bydd hynny yn y flwyddyn newydd, ond nid wyf yn gwybod pa mor gyflym yn y flwyddyn newydd. Ond unwaith eto, pan gawn ragor o wybodaeth, byddaf yn hapus iawn i'w rhannu gyda chi.

Hela Trywydd

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar ei dir ar les anifeiliaid? OQ57362

Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o gylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, mater iddynt hwy oedd ei benderfyniad i wahardd hela trywydd ar ystâd goetir Llywodraeth Cymru, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o effaith gwaharddiad o'r fath ar les anifeiliaid.

Diolch, Weinidog. Tynnodd achos Hankinson sylw at y ffordd roedd hela trywydd wedi dod yn llen fwg i gelu hela anifeiliaid byw yn anghyfreithlon, a chwta bedwar diwrnod yn ôl, cafodd meistr y Western Hunt ei erlyn yn llwyddiannus o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 am ddigwyddiad a ddigwyddodd wrth esgus hela trywydd. Hoffwn adleisio'r cais a wnaed i chi gan fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf: a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wahardd hela trywydd ar bob tir cyhoeddus, rhywbeth sy'n amlwg yn angenrheidiol os ydym am gynnal y safonau lles anifeiliaid uchaf yng Nghymru?

Wel, mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd fyddai hynny, ond rwy'n gwybod—cefais drafodaethau gyda hi ac yn sicr, yng ngoleuni dyfarniad y llys yn ddiweddar, mae hyn yn rhywbeth y bydd yn ei ystyried yn ofalus, ond credaf y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhoi ystyriaeth i waharddiad parhaol ar hela trywydd gan y rhai sy'n gyfrifol am dir sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru.

Weinidog, a barnu yn ôl eich ymateb felly, mae'n hysbys ac yn cael ei dderbyn yn eang nad oes gan y Blaid Lafur sy'n rhedeg Llywodraeth Cymru fawr o ddealltwriaeth o'r ffordd wledig o fyw na chefn gwlad, a chredaf fod penderfyniad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar ei dir yn anghywir. Nid hela, a waharddwyd yn Neddf Hela 2004, yw hela trywydd. Mae hela trywydd yn weithgaredd cwbl gyfreithlon; nid yw'n golygu mynd ar drywydd mamaliaid. Felly, ni fydd y gwaharddiad hwn yn cael unrhyw effaith ar les anifeiliaid, fel y nodwyd gennych chi a'r Aelod arall. Mae'r codi bwganod ar y pwnc hwn wedi bod yn rhemp. Mae'r dyfarniad CNC hwn yn ymosodiad arall ar y ffordd wledig o fyw gan sefydliadau'r Llywodraeth ac unigolion 'effro' sy'n ceisio dod â thraddodiadau gwledig i ben drwy ledaenu anwireddau. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid perthnasol yn awr i gael trafodaeth wybodus ac i edrych ar y dystiolaeth a datrys y penderfyniad gwael hwn? Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n anghytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd yr Aelod, a na, ni wnaf gyfarfod ag ef, oherwydd, fel y dywedais, mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw hwn.

Gwn fod yr RSPCA hefyd yn pryderu bod hela trywydd yn gweithredu fel llen fwg, gan ganiatáu i hela llwynogod barhau. I Aelodau nad ydynt yn ymwybodol o sut mae hyn yn gweithio, mae hela trywydd yn golygu defnyddio wrin, rhannau o'r corff neu garcasau llwynogod, ceirw neu ysgyfarnogod wedi'u gosod ar lwybr i gŵn eu dilyn, ac er bod helfeydd traddodiadol wedi'u gwahardd, fel y clywsom, gall hyfforddi cŵn hela i ddilyn yr aroglau hyn arwain at darfu ar anifeiliaid fel llwynogod a'u lladd os bydd y cŵn yn codi gwynt anifail byw. Nid yw hela trywydd i fod i olygu bod llwynogod yn cael eu lladd, ond unwaith eto, fel y clywsom, mae achos proffil uchel yn ddiweddar wedi tynnu sylw at y ffaith bod yr arfer o hela trywydd wedi'i ddefnyddio i guddio hela anghyfreithlon ers blynyddoedd. Ac ar wahân i hynny, mae'n sicr fod defnyddio aroglau anifeiliaid marw yn gwbl ddiangen pan fo dewisiadau amgen fel hela abwyd yn bodoli, sy'n caniatáu i gŵn hela ddilyn arogl artiffisial nad yw'n deillio o garcasau neu rannau o'r corff. Weinidog, mae'n sicr islaw urddas bodau dynol i gael pleser o farwolaeth creadur arall. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi edrych ar ffyrdd, gyda'ch cyd-Aelodau—wedi clywed yr hyn rydych newydd ei ddweud—o berswadio tirfeddianwyr eraill yn yr wythnosau nesaf hyn i wahardd hela trywydd, yn enwedig cyn Gŵyl San Steffan, pan fydd y gorymdeithiau hyn yn digwydd?

14:45

Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Vikki Howells, mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw hwn, ond yng ngoleuni dyfarniad y llys yn ddiweddar, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd yn ei ystyried yn ofalus, i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am dir sy'n eiddo cyhoeddus yng Nghymru yn gwahardd hela trywydd yn barhaol.

Arallgyfeirio ar Ffermydd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i arallgyfeirio ar ffermydd? OQ57387

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pob busnes yng Nghymru. Mae Busnes Cymru a Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo busnesau fferm i ddod yn fwy effeithlon, proffidiol a chadarn. Mae'r cymorth wedi'i deilwra yn ôl anghenion cwsmeriaid a gwahanol ranbarthau Cymru, yn dibynnu ar ofynion.

Felly, mewn perthynas â fy nghwestiwn atodol rwyf ar fin ei ofyn, mae'r Gweinidog wedi ymdrin â'r mater yn effeithiol yn y gorffennol, ac yn anffodus, rydym yn awr mewn sefyllfa lle mae wedi gwaethygu'n ddiweddar. Mae problem barhaus ar Fferm Gelliargwellt Uchaf yn fy etholaeth, lle mae fferm laeth fawr wedi arallgyfeirio i ailgylchu bwyd, ac mae wedi cael contract gyda nifer o awdurdodau lleol cyfagos, gan gynnwys Caerffili, a chloddio mwynau o chwarel ar y safle. Mae'r broses wedi peri pryder i drigolion ym mhentrefi cyfagos Gelligaer, Pen-y-bryn a Nelson dros y blynyddoedd, yn bennaf oherwydd llygredd sŵn, llwch ac arogleuon, a'r problemau sy'n gysylltiedig â thraffig cerbydau nwyddau trwm. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â thrigolion, gyda rhanddeiliaid allweddol megis cyngor Caerffili, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gweithredwyr, Bryn Group, mewn lleoliad ffurfiol a reolir gan bwyllgor i geisio rheoli'r sefyllfa. Ond yr hyn a fyddai'n ddefnyddiol yw pe gallwn gael cyfarfod â'r Gweinidog i siarad am rai o'r materion allweddol sy'n gysylltiedig â'r fferm hon sydd wedi arallgyfeirio'n helaeth ac edrych ar yr hyn y gellir ei wneud ynglŷn â rhai o'r materion penodol y soniais amdanynt i geisio lleddfu'r problemau i drigolion yn y flwyddyn newydd.

Diolch. Mae'n eglur eich bod wedi cyfarfod â'r rhanddeiliaid cywir. Yn amlwg, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol ystod o bwerau ac offer gorfodi i fynd i'r afael â'r effeithiau amgylcheddol y cyfeirioch chi atynt ac yn amlwg, rydych wedi lleisio eich pryderon wrthynt hwy. Rwy'n hapus iawn i gyfarfod â'r Aelod. Rwy'n credu hefyd y byddai'n dda cael cyfarfod ar y cyd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd mae'n eglur fod rhai o'r materion a godwyd gennych yn ei phortffolio hi. Yn sicr, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, yn debyg i Hefin David, rwyf wedi dwyn yr achos hwn i'ch sylw o'r blaen, achos y teulu Jenkins, Model Farm yn y Rhws. Mae'r fferm bîff a chnydau âr hon wedi arallgyfeirio i dyfu blodau gwyllt a gwerthu'r hadau, ac mae hefyd wedi arwain at gynnydd mewn gwenyn, pryfed peillio a phryfed eraill yn eu caeau. Bydd hyn i gyd yn cael ei ddinistrio os yw'r landlordiaid, Legal and General, yn eu troi oddi ar y tir i adeiladu ystâd ddiwydiannol. Roeddwn yn falch iawn o glywed yn eich ymateb i fy nghyd-Aelod, Llyr Huws Gruffydd, eich bod wedi cyfarfod â Chymdeithas y Ffermwyr Tenant yn ddiweddar. Pa gymorth y gallwch ei roi i ffermwyr tenant, fel y teulu Jenkins, i'w helpu i barhau i arallgyfeirio? Diolch yn fawr.

Fel y soniais yn fy ateb cynharach i Hefin David—yn yr ateb a gyflwynais—rydym yn darparu ystod o gymorth. Mae'r rhan fwyaf o'n cymorth—rwy'n ceisio meddwl a oes unrhyw ran ohono nad yw—ar gael i ffermwyr tenant lawn cymaint ag i dirfeddianwyr. Felly, rwy'n siŵr os cysylltant â Cyswllt Ffermio yn y lle cyntaf i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth busnes sydd ar gael iddynt, gallai hynny fod yn lle da i ddechrau.

Lles Anifeiliaid

5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ57364

Diolch. Mae'r cynllun lles anifeiliaid a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi gwelliannau i les anifeiliaid yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio ar safonau uchel, mabwysiadu a rhannu arferion gorau, ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, datblygu systemau effeithiol, cefnogol a chynaliadwy ar gyfer gorfodi, a thrwy'r modd deinamig y mae'n mynd ati i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol.

14:50

Diolch, Weinidog. Ddechrau mis Tachwedd, datganwyd bod Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar, sy'n golygu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i geidwaid adar caeth ddilyn mesurau bioddiogelwch llym i ddiogelu eu hadar. Mae hyn yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os mai dim ond un aderyn rydych chi'n berchen arno, ac mae hwn yn gyfnod pryderus i geidwaid adar. Weinidog, beth yw'r ffordd orau y gall pobl Cymru ddiogelu eu hadar rhag y clefyd hwn, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn asesu maint y broblem wrth inni symud tuag at 2022?

Diolch yn fawr iawn. Gallaf glywed ci yn ymuno yn y cwestiynau llafar sy'n cael eu hateb heddiw. Rydych chi'n llygad eich lle; rydym wedi cael nifer sylweddol o achosion o ffliw adar ledled Prydain. Soniais mewn ateb cynharach ein bod bellach yn gwybod am 52 o ddigwyddiadau; mae gennym dri yng Nghymru. Gwnaethom gyflwyno mesurau gorfodol i gadw adar dan do ddiwedd y mis diwethaf. Rydym yn asesu'r effaith yn gyson. Gwn fod y prif swyddogion milfeddygol ledled y DU yn cyfarfod—credaf eu bod yn cyfarfod bob nos ar hyn o bryd. Mae'n cael effaith sylweddol ar gapasiti milfeddygol. Felly, byddwn yn annog pawb yng Nghymru sy'n cadw adar i gofrestru. Ar hyn o bryd, nid oes raid i chi gofrestru heblaw bod gennych nifer penodol o adar, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn; hyd yn oed os mai dim ond un sydd gennych, cofrestrwch os gwelwch yn dda, oherwydd fe gewch sicrwydd wedyn eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i ni ei chael. Fe ddigwyddodd yn gynnar iawn y gaeaf hwn. Rydym yn gweld ffliw adar y rhan fwyaf o aeafau yn anffodus. Yn aml, caiff ei gario yma gan adar gwyllt, ond yn anffodus, fe ddechreuodd yn llawer cynt ac mae'n broblem fawr iawn ar hyn o bryd. Rwyf newydd gyflwyno'r hyn a alwn yn 'ganolfan reoli argyfwng fach' ym Mharc Cathays. Un rithwir yn unig yw hi ar hyn o bryd i gynorthwyo swyddfa'r prif swyddog milfeddygol oherwydd, yn amlwg, mae'n cael effaith enfawr ar ein hadnoddau gweithlu yma yng Nghymru.

Weinidog, rwyf wedi codi hyn gyda chi nifer o weithiau yn awr—yn sicr, yn ystod y pumed tymor—ond rwy'n dal i bryderu fwyfwy am nifer y fideos a'r lluniau sy'n cael eu gosod ar Facebook a safleoedd cyfryngau cymdeithasol eraill gydag iaith farchnata fel 'un ci bach ar ôl'. Yn wir, rwyf ar Facebook yn awr yn darllen, 'A all rhywun fy helpu i ddod o hyd i gartref ar gyfer y ci bach bach hwn? O, hyfryd, faint mae'n gostio? Dim cost'. 'Pam eu bod yn cael gwared arno?', ac maent yn dweud, 'O, ymrwymiadau gwaith'. Felly, mae fy mhryderon wedi'u hadlewyrchu mewn adroddiad diweddar gan Blue Cross, a ganfu fod nifer fawr o gŵn bach ar gael i'w prynu ar-lein o hyd, gyda dros 400 o hysbysebion yn cael eu gosod bob dydd, ac mae'r dull gorllewin gwyllt hwn, i mi, yn tanseilio'r rheoliadau rydych wedi ceisio eu cyflwyno ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti. Fel y mae fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, wedi'i grybwyll, canfu ymchwiliad BBC Wales ei fod yn helpu i greu—

—masnach greulon mewn cŵn ffasiynol eu hedrychiad. Pa gamau y gallwch ymrwymo i'w cymryd, gan weithio gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, i sicrhau bod rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn chwarae eu rhan yn gorfodi gwerthiannau cyfreithlon ac nad yw hwn yn llwybr at weld cŵn bach yn cael eu hailgartrefu mewn modd amhriodol?

Credaf fod Janet Finch-Saunders yn codi pwynt pwysig iawn, ac rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn, dros y pandemig COVID-19, sydd, yn fy marn i, wedi ysgogi'r cynnydd a welwn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n anodd iawn, onid yw, pan nad yw'r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio yn yr un ffordd â rhannau eraill o'r sector. Ar fater tocio clustiau cŵn, y cyfeiriais ato o'r blaen, unwaith eto gwelwn gynnydd ar y cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda safonau masnach oherwydd, yn amlwg, maent yn gweithio ar y cyd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol fel y gallant rannu gwybodaeth, er enghraifft, i weld ble mae hyn yn digwydd, a gallant weithio'n agosach o lawer, rwy'n credu, awdurdodau lleol, ledled y DU, i osgoi hyn. Ond rwy'n ofni ei bod yn broblem enfawr. Ond rwy'n credu bod gan brynwyr gyfrifoldeb hefyd. A hyd yn oed os ydych chi'n achub ci bach neu os ydych chi'n cael un heb unrhyw gost, rwy'n dal i feddwl, fel unigolyn, fod gennych chi gyfrifoldeb i sicrhau eich bod yn cael eich ci bach, ci, cath neu gath fach o le priodol.

Lles Anifeiliaid mewn Lladd-dai

6. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella lles anifeiliaid mewn lladd-dai? OQ57357

14:55

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau safonau lles uchel ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru ar bob cam o'u bywyd, gan gynnwys yn y man lladd. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys yr ymrwymiad i'w gwneud yn ofynnol i osod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Weinidog, rwyf wedi clywed llawer o alwadau gan bobl yn ein cymunedau gwledig sy'n credu ei bod bellach yn bryd gwneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn ein lladd-dai, fel y mae yn Lloegr. Er fy mod yn deall y rhesymau dros gyflwyno cynllun gwirfoddol, a all y Gweinidog gadarnhau faint o ladd-dai yng Nghymru sydd â theledu cylch cyfyng erbyn hyn, a faint sydd heb un? Ac wrth wneud hynny, pa asesiad y mae wedi'i wneud o effaith y cynllun presennol? Diolch.

Diolch. Ar y posibilrwydd o deledu cylch cyfyng gorfodol, nid wyf erioed wedi'i ddiystyru. Roeddwn bob amser yn meddwl ei fod yn rhywbeth y byddem yn ei gyflwyno pe na bai'r cynllun gwirfoddol yn gweithio yn y ffordd roeddem am iddo weithio. Ond roeddwn i eisiau gweithio, ac rwyf am barhau i weithio, gyda gweithredwyr lladd-dai i sicrhau ein bod yn cael teledu cylch cyfyng ym mhob un o'r lladd-dai. Mae 24 o ladd-dai yng Nghymru. Mae teledu cylch cyfyng wedi'i osod mewn 14 ohonynt, ac nid oes teledu cylch cyfyng yn y 10 arall. Mae gan bob un o'r lladd-dai mawr deledu cylch cyfyng, felly'r rhai llai—. Ymwelais ag un neu ddau o'r rhai llai ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid ydynt yn awyddus iawn i gael teledu cylch cyfyng gorfodol. Rwy'n credu eu bod yn meddwl y gallwch weld popeth sy'n digwydd o un safle am eu bod yn fach, ac yn amlwg mae milfeddygon yno drwy gydol pob gweithgarwch lladd anifeiliaid. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â gweithio mewn perthynas gefnogol â'n lladd-dai i sicrhau ein bod yn ei gyflwyno. Fel y dywedais yn yr ateb a gyflwynais i chi, mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i'w gwneud yn ofynnol i osod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn ystod y cyfnod llywodraethu hwn o bum mlynedd.

Ailgartrefu Cŵn

7. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi ailgartrefu cŵn? OQ57370

Diolch. Arweiniodd ein cydweithrediad â Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru at gyhoeddi cod ymarfer gorau gwirfoddol ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020. Gan adeiladu ar hyn, mae ein cynllun lles anifeiliaid yn ymrwymo i gyflwyno gofynion rheoleiddio ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, gan gynnwys canolfannau achub ac ailgartrefu, erbyn 2023.

Diolch, Drefnydd. Cyn imi ofyn fy nghwestiwn, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a ymunodd â Luke Fletcher a minnau ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf i gyfarfod a chlywed gan berchnogion milgwn a arferai rasio, lle cawsom gyfarfod â chryn dipyn o filgwn hefyd, a chlywed pryderon ynglŷn â rasio milgwn yng Nghymru.

Gwerthwyd trac rasio milgwn y Valley yn Ystrad Mynach yn ddiweddar gyda'r bwriad o'i wneud yn un o draciau trwyddedig Bwrdd Milgwn Prydain Fawr. Rhagwelir y bydd y cynnydd yn nifer y rasys yn arwain at bedair gwaith yn fwy o gŵn yn rasio ac felly, angen cartrefi pan na fydd mo'u hangen ar y diwydiant mwyach. Gwyddom fod sefydliadau lles yn ei chael hi'n anodd ymdopi ar hyn o bryd â'r 100 neu fwy o filgwn sy'n gadael y trac bob blwyddyn, ar ben y cŵn sydd angen eu hailgartrefu. Weinidog, tybed a wnewch chi ystyried atal gwaith ehangu ar drac y Valley hyd nes eich bod wedi cael cyfle i ystyried ein cais i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, ac mae'n ddrwg gennyf na allwn ymuno â chi ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf, ond diolch am drefnu'r digwyddiad hwnnw. Fel y gŵyr Jane Dodds ac Aelodau eraill, mae gan y Pwyllgor Deisebau alwad fyw ar hyn o bryd i wahardd rasio milgwn yng Nghymru, a bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw ystyried rasio milgwn yng Nghymru fel rhan o gynllun trwyddedu yn y dyfodol, fel y nodir yn ein cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd ar gyfer Cymru. Roeddwn yn ymwybodol fod sôn am newid perchnogaeth yn achos y trac rasio rydych newydd gyfeirio ato, ac yn amlwg byddai unrhyw waith i ehangu'r trac a'i gyfleusterau yn y dyfodol yn amodol ar reolau cynllunio, ac ni fyddwn yn gallu atal hynny wrth gwrs. Ond yng ngoleuni'r hyn y mae Jane Dodds newydd ei ddweud wrthyf, byddaf yn sicr yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas ag ystyried rasio milgwn fel rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol tra byddaf yn aros am ganlyniad y Pwyllgor Deisebau hefyd.

15:00

A gaf fi adleisio'r hyn y mae Jane Dodds wedi'i ddweud wrth ddiolch i'r Aelodau am eu hymwneud ar fater lles milgwn, gan gynnwys y Gweinidog hefyd am ei hymwneud hithau? Mae wedi bod yn wirioneddol drawsbleidiol. Yn dilyn cwestiwn Jane, os aiff y cynlluniau rhagddynt ar drac y Valley yn Ystrad Mynach, bydd y cynnydd mewn rasio yn arwain at fwy o filgwn yn cael eu hanafu neu'n cael anaf angheuol. Er fy mod yn croesawu'r cynllun lles anifeiliaid, rwyf hefyd wedi lleisio fy mhryderon ynghylch pa mor annigonol yw'r cynllun lles anifeiliaid mewn perthynas â lles milgwn. Felly, yng ngoleuni'r cynnydd posibl mewn rasio—ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn awr ynglŷn â'r ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hyn—pa ystyriaethau eraill, yn ychwanegol at yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried ar hyn o bryd, a roddir i'r cynllun lles anifeiliaid os bydd mwy o rasys yn cael eu cynnal yng Nghymru? Ac yn olaf, a gaf fi estyn gwahoddiad i'r Gweinidog ac i unrhyw Aelod arall sy'n awyddus i gyfarfod â Hope Rescue yn y flwyddyn newydd? Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i nodi, mae deiseb gerbron y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd i wahardd rasio milgwn, a Hope Rescue sy'n gyfrifol am y ddeiseb honno.

Diolch. Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â hwy, yn ôl pob tebyg ar ôl i'r Pwyllgor Deisebau glywed a gweld eu deiseb ac ar ôl iddi gael ei chyflwyno, os caiff ei chyflwyno, i Lywodraeth Cymru i'w hystyried. Credaf y byddai'n fwy priodol imi gyfarfod â hwy wedi hynny. Byddwch wedi clywed fy ateb i Jane Dodds; yn amlwg, clywais wybodaeth bellach nad oeddwn yn ymwybodol ohoni gan Jane, a byddwn yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud.

Cewyll Anifeiliaid

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu addewid Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio? OQ57365

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio. Rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i edrych ar sut a ble y cânt eu defnyddio, ac i ba raddau. Rydym hefyd yn ystyried effeithiau lles systemau presennol ac amgen.

Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd y byddent yn cael gwared ar systemau cewyll yn raddol ar gyfer nifer o wahanol anifeiliaid fferm, a digwyddodd hynny o ganlyniad i fenter dinasyddion Ewropeaidd, End the Cage Age, a gefnogwyd gan 1.4 miliwn o ddinasyddion, ac roedd 54,000 ohonynt yn dod o'r DU. Yng Nghymru, mae llawer o anifeiliaid a ffermir yn dal i gael eu caethiwo mewn cewyll, gan gynnwys hychod mewn llociau porchella, ieir dodwy, adar hela a chwningod. Dywed End the Cage Age fod dros 16 miliwn o anifeiliaid yn y DU yn byw mewn system gewyll. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi ymrwymo i gyflwyno cynnig deddfwriaethol erbyn diwedd 2023 i ddiddymu'n raddol gan arwain at wahardd y defnydd o gewyll ar gyfer ieir, hychod, lloi, cwningod, hwyaid a gwyddau, ac anifeiliaid eraill hefyd. Maent wedi ymrwymo i gael gwared yn raddol ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio erbyn 2027. Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ystyried ei wneud er mwyn gwella lles pob anifail sy'n cael eu ffermio yng Nghymru?

Diolch yn fawr, a chredaf fod Joyce yn codi pwynt pwysig iawn. Mae gennym enw da iawn am godi'r safonau ym maes lles anifeiliaid fferm. Fe gyfeirioch chi at gorau hychod ar gyfer moch a chewyll cig llo ar gyfer lloi—maent wedi'u gwahardd—a chewyll batri ar gyfer ieir dodwy. Rydym yn wirioneddol awyddus i barhau i adeiladu ar hyn, a dyna pam mae ein rhaglen lywodraethu'n cynnwys ymrwymiad i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio. Lluniwyd y rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd yn 2007, ond maent yn nodi amodau manwl ar gyfer cadw anifeiliaid sy'n cael eu ffermio. Felly, fel y soniais yn fy ateb cynharach, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda gweinyddiaethau eraill i ystyried sut y gallwn wella ein safonau uchel iawn ym maes lles anifeiliaid a ffermir ymhellach drwy archwilio, er enghraifft, y defnydd o gewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy a llociau porchella ar gyfer moch. Rydym yn mynd i ystyried o ddifrif beth yw'r effaith ar les yr anifeiliaid, y diwydiant, argaeledd masnachol systemau amgen, yn ogystal â'r effaith ar ddefnyddwyr, masnach, ac yn bwysig, yr amgylchedd.

Cadwyni Cyflenwi Amaethyddol

9. Pa fesurau y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod cadwyni cyflenwi amaethyddol yn eco-gyfeillgar ac yn gynaliadwy? OQ57369

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at gadwyn gyflenwi amaethyddol sero net a fydd o fudd i'r economi wledig a'r economi gylchol. Drwy'r cynlluniau cymorth amaethyddol presennol a'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, rydym yn cefnogi'r newid i ffermio mwy ecogyfeillgar a chynaliadwy.

15:05

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae nwyon tŷ gwydr amaethyddol sy'n deillio o bridd, tail a gwrtaith, ynghyd â methan a gynhyrchir gan wartheg, wedi ychwanegu'n sylweddol at y newid yn yr hinsawdd ac ystyrir eu bod cyn waethed, os nad yn waeth, na charbon deuocsid. Mae taer angen annog pawb ym maes rheoli tir, yn enwedig y rheini sy'n tyfu bwyd ac yn rheoli da byw, i ddatblygu arferion ffermio ecogyfeillgar a chynaliadwy i liniaru'r effeithiau hyn ac i gynyddu'r potensial ar gyfer dal a storio carbon, neu o leiaf i gadw carbon sydd eisoes yn y pridd.

Bydd addasu i hyn ac addasu ar y cyflymder sydd ei angen arnom yn golygu costau enfawr i'r diwydiant ffermio wrth gwrs, ac er mwyn cyflawni hyn, bydd angen cyllid sylweddol a rheoliadau cyfreithiol cadarn a all eu cynorthwyo i gynnal y safonau amgylcheddol uchaf a all arwain yn y pen draw at arferion ffermio cynaliadwy. Pa asesiadau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gwneud o'r cyllid hinsawdd sydd ei angen i helpu ffermwyr yng Nghymru gyflawni lefel dderbyniol o ffermio ecogyfeillgar a chynaliadwy? Ac yn eich barn chi, Weinidog, pa ddeddfwriaeth ychwanegol sydd ei hangen i sicrhau bod ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd diwydiannol eraill yng Nghymru yn gallu mabwysiadu arferion ffermio ecogyfeillgar a chynaliadwy? Diolch.

Diolch. Rydych yn llygad eich lle, bydd amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd bob amser yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr am eu bod yn dibynnu ar brosesau naturiol, ond rydym yn parhau i fynd i'r afael â her lleihau'r nwyon tŷ gwydr sy'n deillio o ffermio tra'n cynnal cynhyrchiant bwyd o ansawdd uchel.

Mae'r Llywodraeth eisoes wedi rhoi cryn dipyn o gymorth i'r sector mewn perthynas â hyn; mae hynny'n cynnwys cynlluniau Glastir, er enghraifft, ar gyfer gwella bioamrywiaeth tir yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cael y cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio. Ac mae'r cynlluniau hynny wedi caniatáu i'n ffermwyr fuddsoddi mewn offer newydd a thechnoleg newydd, ac maent wedi gwella gwytnwch a chynaliadwyedd y cadwyni cyflenwi amaethyddol. Soniodd Joel James am y cynllun ffermio cynaliadwy rydym yn ei gynnig, a fydd yn sicr yn helpu ein ffermwyr mewn perthynas â hynny, felly mae hwn yn amlwg yn gynllun rydym ar fin ei gychwyn. Rwy'n chwilio am ffermwyr i gofrestru ar gyfer ail ran y gwaith, a fydd yn digwydd yn yr haf, gan ei bod yn bwysig iawn fod y ffermwyr yn cyd-lunio'r cynllun gyda ni.

Anffurfio Anghyfreithlon

10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag anffurfio anghyfreithlon fel tocio clustiau cŵn mewn lleoliadau domestig? OQ57367

Diolch. Mewn cydweithrediad â'r heddlu, mae prosiect gorfodi'r awdurdodau lleol, a ariennir gan y Llywodraeth, yn coladu gwybodaeth am unrhyw un yr amheuir eu bod yn tocio clustiau cŵn fel y gall yr awdurdod lleol perthnasol roi camau ar waith. Yn ogystal, nod y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) sydd ar y ffordd yw ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn a chŵn bach sydd wedi eu hanffurfio, er enghraifft drwy docio clustiau.

Diolch, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich ateb i gwestiwn Samuel Kurtz am y ffasiwn erchyll hon am gŵn â'u clustiau wedi'u tocio, er bod hynny'n anffurfio anghyfreithlon yn y DU, y byddech yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i geisio atal yr arfer anghyfreithlon a barbaraidd hwn.

Cynyddodd nifer yr adroddiadau i'r RSPCA ynglŷn â thocio clustiau cŵn 621 y cant dros y cyfnod o chwe blynedd yn arwain at 2020, a datgelodd adroddiad y BBC ar y mater nad oes gan swyddogion lles anifeiliaid ar lefel leol adnoddau i ymdrin â'r broblem gynyddol hon. Felly, a allai'r Gweinidog nodi sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â chwestiwn adnoddau? A hefyd, a wnaiff y Llywodraeth ystyried lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â'r mater, fel y mae'r RSPCA yn galw amdani, i anfon neges glir nad yw anffurfio cŵn yn anghyfreithlon at ddibenion cosmetig yn dderbyniol yng Nghymru? Diolch.

Diolch. Soniais am brosiect gorfodi'r awdurdodau lleol—mae'n brosiect cyllido tair blynedd rwyf wedi’i gefnogi i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cynorthwyo i ymateb i bryderon yn eu hardaloedd. Mae'r cynllun lles anifeiliaid rwyf wedi'i gyflwyno ar gyfer tymor pum mlynedd y Llywodraeth hon wedi'i wneud mewn partneriaeth, ac rydym wedi gwrando ar bryderon awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector.

Byddwn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag addysgu, gan y credaf fod hynny'n bwysig iawn; os ydym yn mynd i gael ymgyrch, rwy'n credu y dylid canolbwyntio ar ymwybyddiaeth wrth gwrs, ond credaf fod angen canolbwyntio i'r un graddau ar addysgu pobl fel eu bod yn sylweddoli pa mor greulon yw'r arfer hwn.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen at y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf y prynhawn yma gan Elin Jones.

Cafodd Geiriadur Prifysgol Cymru ei sefydlu gan Brifysgol Cymru union 100 mlynedd yn ôl. Mae ynddo bron i 90,000 o gofnodion ac mae'n cynnwys tua 9 miliwn o eiriau—rhai bellach allan o ddefnydd bob dydd, rhai yn newydd eu defnydd.

Mae'r Gymraeg, fel pob iaith, yn esblygu'n barhaus, a'r geiriadur sy'n ei chofnodi yn esblygu hefyd. Mae'r gwaith yma'n cael ei wneud gan dîm bach o weithwyr arbenigol yn Aberystwyth, sy'n ymchwilio i ddefnydd cynharaf unrhyw air, ei ystyr a'r ddealltwriaeth amrywiol ohono mewn tafodieithau gwahanol. Fyddai'r gwaith yma ddim yn bosibl oni bai am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn 2002, cwblhawyd a chyhoeddwyd pedair cyfrol gyfan y geiriadur, a 'Zwinglîaidd' oedd y gair olaf bryd hynny. Yna, mi oedd angen cychwyn ar y gwaith o'r newydd, o ddiweddaru yn barhaus. Wrth gwrs, erbyn hyn, mae'r geiriadur cyfan ar gael ar y we i bawb am ddim, ac ers 2006, ar ap Geiriadur Prifysgol Cymru hefyd. O bosibl, dyma'r unig eiriadur hanesyddol llawn sydd ar gael am ddim fel hyn.

Wn i ddim beth yw'r gair hynaf yn yr iaith Gymraeg, ond liciwn i fentro taw gair ieuengaf y Gymraeg yw 'hwblyn', sef gair newydd am 'booster' a gafodd ei fathu ar Twitter yn yr wythnosau diwethaf yma gan Dr Eilir Hughes—gair a fydd yn ymddangos yn y geiriadur ar ryw bwynt yn y dyfodol agos, mae'n siŵr.

Diolch i'r rhai a gafodd y weledigaeth i gychwyn y geiriadur 100 mlynedd yn ôl a'r rhai sy'n ei gynnal heddiw. Mae pob iaith yn y byd angen ei geiriadur.

15:10

Yn gyntaf, gadewch imi sôn am Elin a'r hyn a ddywedodd. Iaith yw calon y genedl. Nawr, gadewch imi sôn am yr Athro Robert Owen.

Mab i ffermwr oedd Bob Owen, a anwyd yn Chwilog ym mhenrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru ym 1921, a byddai wedi bod yn 100 oed eleni. Fe'i magwyd ar fferm y teulu. Ar ôl bod yn yr ysgol gynradd a'r ysgol ramadeg leol, astudiodd feddygaeth yn Ysbyty Guy yn Llundain, cyn treulio tair blynedd yn y Llu Awyr Brenhinol.

Ar ôl rhagori mewn hyfforddiant orthopedig yn Lerpwl, gan ennill cymrodoriaeth ABC, fe’i penodwyd yn llawfeddyg orthopedig ymgynghorol yn Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt, Croesoswallt, ac ysbytai gogledd Cymru yn Rhyl ac Abergele. Rhoddodd wasanaeth ardderchog i'r sefydliadau hyn, gan gynnwys cyflwyno arthroplasti Charnley, ynghyd â chaeadle gwydr, yn Abergele, y ganolfan gyntaf yn y byd y tu allan i Wrightington.

Yn ddiweddarach, bu hefyd yn athro llawfeddygaeth orthopedig ym Mhrifysgol Lerpwl, a bu'n feddyg ymgynghorol ac yn athro yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey, lle bûm yn gweithio gydag ef rhwng 1979 a 1983. Roedd yn awdur a chyd-awdur 140 o bapurau gwyddonol, yn gyd-olygydd dau werslyfr nodedig ac yn aelod balch o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, Cymdeithas Orthopedig Prydain, Cymdeithas Sgoliosis Prydain a Chymdeithas Asgwrn Cefn Serfigol Prydain.

Yng Nghymru, roedd yn ymddiriedolwr neu'n gynghorydd i sawl sefydliad elusennol sy'n helpu plant anabl neu sâl, yn ddirprwy raglaw Clwyd, ac yn ombwdsmon meddygol Cymru. Roedd yn gefnogwr pybyr ac yn gyn-lywydd Cymdeithas Hanes Meddygaeth Cymru.

Cafodd OBE am ei wasanaethau i feddygaeth ym 1990, gyda'i gyflawniadau'n cynnwys cyd-sefydlu Ronald McDonald House yn ysbyty Alder Hey, a helpu i sefydlu Robert Owen House, a gafodd ei enwi er anrhydedd iddo, yn Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl, i ddarparu llety ar gyfer perthnasau cleifion.

Ac rwyf am gloi gyda'i ddyfyniad: 'Ac felly, yn y pen draw, bydd beddargraff Mag'—ei wraig—'a minnau, fel nyrs a meddyg, yn dweud hyn: ein nod oedd rhoi cysur i eraill. Felly y daw fy stori i ben.' Diolch yn fawr iawn.

Wedi'i hadeiladu ar ddiwedd y bymthegfed ganrif, mae eglwys y plwyf San Silyn yn Wrecsam yn un o ryfeddodau Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n gartref i Ŵyl Angylion. Mae'r ŵyl yn coffáu'r rheini a gollodd eu bywydau i'r coronafeirws ledled Cymru. Mae pob un o'r 6,000 o angylion sy'n cael eu harddangos wedi'u gwneud â llaw o amryw ddefnyddiau—papur, polystyren, ffabrig, cardbord—rhai'n newydd, rhai wedi'u hailgylchu. Mae'r angylion yn llenwi'r eglwys. Mae rhai wedi'u hongian o du mewn y tŵr, wedi'u gosod ar rwyd a'u gollwng i gorff yr eglwys. Mae'r eiliau'n llawn angylion, ynghyd â'r festri, lle maent yn croesawu aelodau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Pan ymwelais â'r ŵyl am y tro cyntaf, cefais fy syfrdanu—roedd y ffaith bod pob un o'r angylion yn cynrychioli gŵr, gwraig, partner, tad, mam, brawd, chwaer, ffrind neu gymydog a gollodd eu bywyd i'r feirws creulon hwn yn emosiynol dros ben. Wrth eistedd yn un o'r corau, wedi fy amgylchynu gan yr angylion, myfyriais ar yr 21 mis diwethaf, ac effaith pandemig byd-eang COVID-19. Wrth gwrs, mae angylion yn symbol o obaith a goleuni, a chofiais yr amser hwn y llynedd pan glywsom gyntaf fod ein gwyddonwyr wedi cynhyrchu brechlyn, a faint o obaith a roddodd hynny i ni. Wrth inni gychwyn ar gyfnod anodd arall o'r pandemig, mae'n bwysig fod gennym obaith a goleuni o hyd. Hoffwn dalu teyrnged i aelodau eglwys y plwyf San Silyn yn Wrecsam am greu arddangosfa mor hyfryd a theimladwy, sydd i'w gweld tan ddiwedd mis Ionawr. Bydd cymaint o deuluoedd yng Nghymru yn wynebu'r Nadolig heb rywun annwyl yn sgil y coronafeirws, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ŵyl Angylion yn rhoi rhywfaint o gysur a chryfder ar adeg mor anodd.

15:15

Ar ran cymunedau Porthysgewin a Sudbrook yn ne sir Fynwy, hoffwn dalu teyrnged i was sifil rhagorol. Mae Anthony Griffiths wedi rhoi rhan enfawr o'i fywyd i'w gymunedau. Bu'n gynghorydd cymuned ers dros 51 mlynedd cyn ymddeol o waith cymunedol y mis diwethaf. Mae Tony wedi bod yn llawer mwy na chynghorydd cymuned yn unig—mae'n gyfaill, yn gefnogwr, yn eiriolwr, ac yn ddyn y gellir dibynnu arno i gynifer o bobl yn ein pentrefi. Y tu ôl i bob digwyddiad, pob achlysur a phob gwelliant yn ein pentrefi dros y 50 mlynedd diwethaf, fe welwch Tony, y prif gynheiliad wrth wraidd popeth. Mae ei gyfoeth o brofiad a'i wybodaeth hanesyddol am y gymuned wedi bod yn amhrisiadwy. Mae wedi ychwanegu gwerth anfesuradwy i'r gymuned, a flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl gan was sifil lleol. Mae bob amser yn barod i helpu'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd neu'r rheini sydd angen help llaw—yn y bôn, mae bob amser yn gofalu am bobl. Mae'n trefnu goleuadau Nadolig y pentref ac yn rheoli'r elfennau technegol y tu ôl i'r nifer o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal o un flwyddyn i'r llall. Er ei fod bellach yn ei 80au, nid yw ei wasanaeth i'n cymunedau wedi lleihau, ac mae bob amser ar reng flaen bywyd lleol. Tony Griffiths yw Mr Porthysgewin—unigolyn cwbl ymroddedig a dibynadwy sy'n rhoi popeth sydd ganddo i'w gynnig er lles pobl eraill, heb ofyn am ddim yn ôl. Mae'n bleser dathlu ei ymdrechion yn y ffordd fach hon heddiw. Diolch.

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwy llofnodion deisebau

Eitem 5, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: trothwy llofnodion deisebau. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM7868 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwy llofnodion deisebau’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2021; ac

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 15:18:19
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Yn ffurfiol.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y broses cydsyniad deddfwriaethol

Eitem 6 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y broses cydsyniad deddfwriaethol. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.

Mae Rhys ab Owen wedi diflannu. Maddeuwch i ni am eiliad, bawb, os gwelwch yn dda. Rydym yn aros i'r Aelod ddychwelyd. Dyna fe. Rhys, drosodd atoch chi i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7843 Rhys ab Owen, Alun Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan

Cefnogwyd gan Luke Fletcher

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd.

2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.

3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben;

b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol;

c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr ichi, Dirprwy Lywydd, a sori am beidio â bod yma ar amser. Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael y ddadl bwysig hon. Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd yn y Siambr hon. Llynedd oedd yr uchaf, gydag 18, ac eleni yr ail uchaf, gydag 16. Mae hyn yn adlewyrchiad o ddirmyg Llywodraeth Dorïaidd sy’n ceisio tanseilio y setliad datganoli. Yn y bôn, dim ond rhywbeth for show yw’r LCMs hyn. Rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol bellach yw confensiwn Sewel. Bydd Llywodraeth San Steffan yn parhau i anwybyddu’r Senedd hon a bwrw ymlaen â'i hagenda ei hunan beth bynnag fo canlyniad pleidleisiau LCMs yn y Senedd hon. Mae hyn yn dangos mor ddi-lais a di-bwys yw'r Senedd hon, Senedd ein gwlad ni, yn San Steffan.

Dylai'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol fod yn destun cryn bryder i gefnogwyr democratiaeth yma yng Nghymru. Maent yn fygythiad gwirioneddol i'r sefydliad hwn, ac eto maent yn pasio drwy'r Siambr hon fel dim mwy na throednodyn. Nid yw hyd yn oed y sylwebyddion gwleidyddol mwyaf selog yn sylwi arnynt, ond maent yn geffyl pren Troea sy'n erydu sylfaen y system wleidyddol yma yng Nghymru yn araf, yn llechwraidd ac yn raddol. Mae angen inni fod yn effro i'r bygythiad neu byddwn yn gweld Senedd wannach o lawer erbyn yr etholiad nesaf. Ni waeth beth y mae'r pwyllgor ar ddiwygio'r Senedd yn ei wneud, gallem weld Senedd wannach o lawer yma erbyn yr etholiad nesaf.

Dylem weithio gyda'n gilydd yn y Senedd a chyda'r ddau dŷ yn San Steffan i egluro'r egwyddorion pan ddefnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Ydw, rwy’n cyfaddef y gallaf weld bod lle i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, ond ar gyrion ein setliad datganoli yn unig y dylid eu defnyddio. Fodd bynnag, dro ar ôl tro, rydym yn gweld cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn effeithio ar hanfod y setliad datganoli yma yng Nghymru. Gadewch inni ddweud yn glir: dylai deddfau sy'n effeithio ar Gymru ac sydd o fewn cymhwysedd y Senedd gael eu llunio yma yng Nghymru, yn y lle hwn. Ni yw Senedd Cymru, ni yw'r ddeddfwrfa genedlaethol, nid rhyw gragen symbolaidd sy'n plygu yn ôl chwiw pwy bynnag sydd yn y Llywodraeth yn San Steffan. Mae hyn yn arbennig o drist, onid yw, ar hyn o bryd, wrth inni weld pa mor galongaled y bu Llywodraeth Dorïaidd bresennol y DU dros yr wythnosau diwethaf—Llywodraeth gywilyddus sy'n dymuno cael y pwerau i ddirymu dinasyddiaeth dinasyddion Prydeinig, gan eu gwneud yn ddiwladwriaeth heb roi unrhyw reswm, Llywodraeth sydd am garcharu pobl am brotestio, Llywodraeth sydd am ddifreinio rhannau helaeth o'r boblogaeth drwy eu Bil Etholiadau.

Mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn elyniaethus i ddatganoli—mae hynny'n ffaith. Mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi dweud bod datganoli'n gamgymeriad, ac amlygir hyn nid yn unig drwy ei eiriau ond drwy ei weithredoedd. Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld cysylltiadau rhynglywodraethol yn chwalu. Mae Prif Weinidog Cymru ei hun wedi disgrifio Boris Johnson fel 'gwaelod y gasgen'. Pam, felly—pam ar y ddaear—y byddem yn rhoi’r pŵer i Lywodraeth y DU erydu, tanseilio a datgymalu’r Senedd hon fesul darn? Mae angen inni fod yn onest â ni'n hunain. Mae'r broses ddatganoli yng Nghymru wedi dod i stop yn sydyn ac rydym bellach yn mynd tuag yn ôl.

Mae angen dull mwy systematig o nodi pryd a lle mae'r Senedd hon yn rhoi cydsyniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae angen adolygiad brys arnom i ddeall yn union pa fath o effaith y bydd yr LCMs hyn yn ei gael ar y setliad datganoli nawr ac yn y dyfodol. Cawsom ni oll ein hethol i'r lle hwn gan bobl Cymru; rŷn ni'n atebol iddynt hwy. Nid ydw i am i Filiau a chyfreithiau sydd o fewn cymhwysedd y Senedd hon gael eu pasio gan Weinidogion Torïaidd yn Llundain—Gweinidogion sy'n poeni dim am bobl Cymru. Llywodraeth San Steffan a wrthododd ymestyn ffyrlo i weithwyr Cymru yn ystod y firebreak llynedd, Llywodraeth San Steffan sy'n sicrhau nad yw Cymru yn cael ceiniog o arian HS2, a Llywodraeth San Steffan wnaeth sicrhau Brexit ideolegol sydd wedi gadael Cymru yn wlad dlotach.

Rŷn ni hefyd yn byw mewn cenedl ddwyieithog lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cyd-fyw ac yn ieithoedd ffyniannus, ac mae'r Senedd hon yn adlewyrchu hynny'n dda iawn. Ar lefel bersonol, Ddirprwy Lywydd, gallaf ddweud fy mod wedi siarad Cymraeg llawer mwy yn broffesiynol yn ystod fy saith mis yn y Senedd hon nag ydyw i wedi yn y 12 mlynedd cyn nawr. O'r dechrau, mae deddfwriaeth yn y Senedd hon wedi bod yn ddwyieithog, gyda chydraddoldeb clir rhwng y ddwy iaith. Yn amlwg, dyw hynny ddim yn wir am San Steffan. Fe wnaeth arweinydd y tŷ hyd yn oed alw'r Gymraeg yn iaith dramor. Mae mwy o barch i iaith farw fel Lladin yno nag sydd i iaith fyw fel y Gymraeg.

Dywedodd yr Arglwydd Thomas, y cyn-Arglwydd Brif Ustus, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar i'r pwyllgor deddfwriaeth, fod y setliad datganoli yng Nghymru yn gymhleth—yn gymhleth hyd yn oed i gyfreithwyr—a bod y defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn cymhlethu materion ymhellach fyth. Ni fydd yn gwneud unrhyw synnwyr i'r mwyafrif helaeth o bobl fod deddf mewn maes datganoledig, mater sydd wedi'i ddatganoli ers dros 20 mlynedd, yn cael ei phasio gan San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y cymhlethdod. Maent yn mynd yn groes i'w dyletswydd eu hunain o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 drwy gydsynio—ond nid yn unig cydsynio; ar brydiau, drwy annog—Llywodraeth San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig. Dychmygwch gyfreithiwr, heb sôn am leygwr, yn chwilio am ddeddf sy'n ymwneud â'r amgylchedd yng Nghymru. Byddai'r unigolyn hwnnw'n iawn i gredu y byddai unrhyw ddeddf ddiweddar mewn maes datganoledig wedi'i chyflwyno yma gan y Senedd, ond nid yw hynny'n wir. Mae'r setliad datganoli yng Nghymru yn ddigon cymhleth heb i Lywodraeth Cymru ychwanegu at y dryswch hwnnw.

Ni fydd Biliau cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ddwyieithog. Ni allant ffurfio rhan o gynlluniau codeiddio Llywodraeth Cymru, ac ni fydd y Senedd yn craffu'n briodol arnynt. Gwelsom hynny ddoe ddiwethaf yn ymateb y ddau bwyllgor i’r Bil diwygio cyfraith lesddaliad. Cwynodd y ddau bwyllgor ynglŷn â diffyg amser ar gyfer craffu. Bydd y cynigion cydsyniad deddfwriaethol hefyd yn rhwystro Seneddau’r dyfodol rhag cyflwyno deddfwriaeth yn y meysydd hyn. Aelodau, a ydym o ddifrif yn barod i drosglwyddo pwerau yn ôl i Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy'n mynd o un sgandal i'r nesaf, o un enghraifft o gamreoli i'r nesaf?

Pleidleisiodd pobl Cymru ddwywaith o blaid y Senedd hon, ac etholwyd mwyafrif sylweddol o blaid datganoli i'r lle hwn ym mis Mai. Mae'n rhaid inni beidio â thanseilio'r mandad democrataidd clir hwn drwy drosglwyddo ein pwerau i Weinidogion Torïaidd heb unrhyw graffu go iawn yma o gwbl. Dylem fod yn craffu'n briodol, fel Aelodau, ar ddeddfau Cymru. Dyna yw ein gwaith. Rwyf am weld Senedd sy'n gryf ac yn ddemocrataidd, Senedd sydd wedi'i grymuso ac sy'n defnyddio ei phwerau i'r graddau llawn er mwyn sicrhau newid cadarnhaol i fywydau pobl Cymru.

Ni all Llywodraeth Cymru daflu'r baich ar Weinidogion Torïaidd yn Llundain bob amser. Mae angen inni sicrhau adolygiad brys i broses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, lle rydym yn gofyn i'n hunain a ydynt yn berthnasol hyd yn oed, a ddylent fodoli o gwbl, lle rydym yn dadansoddi'n fforensig yr effaith a gânt ar y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru, a sicrhau y gall yr Aelodau yn y lle hwn graffu ar ddeddfwriaeth yn effeithiol. Aelodau, mae'n rhaid inni amddiffyn ein Senedd, amddiffyn ei phwerau ac er mwyn Cymru—Senedd sy'n darparu deddfwriaeth radical, ystyrlon sy'n destun craffu. Nid yw hynny'n digwydd gyda phroses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Nid fel hynny y mae cyfraith dda yn cael ei drafftio a'i deddfu. Ein rôl a'n dyletswydd, fel Aelodau o'r Senedd, yw craffu ar y gyfraith a sicrhau bod gan bobl Cymru y cyfreithiau y maent yn eu haeddu wedi'u pasio gan eu Senedd. Diolch yn fawr.

15:25

Rwy'n siarad heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cyfrannu yn y ddadl hon oherwydd cyfrifoldebau fy mhwyllgor wrth gyflwyno adroddiadau ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi cael eu cyfeirio atom ni gan y Pwyllgor Busnes.

Gadewch imi gydnabod i gychwyn nad yw pob memorandwm, neu LCM, yr un peth. Bydd rhai yn ymwneud â meysydd lle gallai fod rhesymau digonol a phriodol, yn wir, dros ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Gydag eraill, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth bresennol y DU yn ceisio deddfu ac wedi bod yn ceisio deddfu mewn meysydd datganoledig yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru, ac yn wir, yn groes i ddymuniadau'r Senedd hon. Fodd bynnag, mae memoranda eraill—trydydd categori—yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru o ganiatáu a gofyn, weithiau, i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth ar ei rhan. A’r memoranda hyn sydd wedi peri'r pryder mwyaf i’r pwyllgor.

Nawr, ar brydiau, rydym wedi teimlo bod angen beirniadu dull Llywodraeth Cymru o weithredu a gwneud hynny'n eithaf cryf a llym, ac nid yw gwneud hynny'n rhoi unrhyw foddhad o gwbl i ni. Byddai'n well o lawer gennym gyfrannu at wella deddfwriaeth yn gyson yn y lle hwn—yn y Senedd—a chyflawni'r canlyniadau gorau posibl i gymunedau ledled Cymru. Ond yn lle hynny, rydym mewn sefyllfa, yn enwedig yn y chweched Senedd hon, lle rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn adrodd ar ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud mewn man arall, yn San Steffan, nad oes gennym unrhyw allu go iawn i ddylanwadu arni na'i llunio. Mae'n annifyr, ac yn anghyfforddus weithiau.

Nawr, ein rôl fel pwyllgor yw adrodd ar faterion cyfansoddiadol sy'n berthnasol i'r memorandwm dan sylw, ac wrth wneud hynny, rydym yn tynnu sylw'r Senedd at faterion perthnasol fel y gall yr Aelodau eu hystyried wrth bleidleisio ar gynnig cydsyniad. Rydym yn ceisio sicrhau y cedwir uniondeb datganoli. Mae hon yn rôl hanfodol, ac mae'n un rydym o ddifrif yn ei chylch, yn anad dim, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i nodi mewn gwirionedd—cyn-Gadeirydd y pwyllgor rwy'n ei gadeirio bellach—am nad oes ail Siambr i adolygu yma yn y Senedd. Ein pwyllgor sy'n cyflawni'r rôl honno, i bob pwrpas.

Nawr, byddwn bob amser yn anelu at fod yn adeiladol wrth adrodd fel pwyllgor, ond—a bydd Gweinidogion yn deall y safbwynt hwn—mae'n rhaid inni godi ein llais yn uchel ac yn glir pan fydd cwestiynau pwysig i'w gofyn, os credwn fod Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau a allai niweidio neu danseilio datganoli. Ac wrth wneud y sylwadau hyn, dylwn ychwanegu mai ar adegau prin yn unig y bydd y pwyllgor yn argymell rhoi neu wrthod cydsyniad ar gyfer Bil y DU. Yn y pen draw, mae'n rhaid i hynny fod yn fater i'r Senedd gyfan.

Ond fel y nodais, mae ein rhaglen waith ers mis Gorffennaf yn llawn o waith craffu ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethom osod ein hail adroddiad ar bymtheg ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol ers sefydlu ein pwyllgor—17. Mae'r 17 o adroddiadau wedi ymdrin â 14 memorandwm ac wyth memorandwm atodol. Mae memoranda newydd wedi'u gosod yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ac mae addewid o fwy eto i ddod; rydym yn brysur. Mae 17 o adroddiadau yn cynrychioli oddeutu hanner nifer yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y pwyllgor blaenorol drwy gydol y pumed Senedd. Mae hyn yn eithaf syfrdanol pan gofiwch fod llawer o adroddiadau'r pumed Senedd yn trafod Biliau'r DU a oedd yn ymwneud â Brexit.

Nawr, nid nifer yr adroddiadau rydym yn eu cyhoeddi yw'r stori lawn wrth gwrs, fel y mae'r erthygl ragorol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd yn ei nodi. Hyd yn hyn, yn y chweched Senedd, hyd heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y memoranda hynny ar gyfer 17 o Filiau'r DU, gan gwmpasu 360 o gymalau ac atodlenni. Ac mae hynny'n cyferbynnu'n amlwg â'r bumed Senedd: rhwng mis Mai 2016 a mis Mai 2017, gosododd Llywodraeth Cymru femoranda cydsynio ar gyfer 10 Bil, gan gwmpasu oddeutu 80 o gymalau ac atodlenni yn unig.

Nawr, yn amlwg, mae hwn yn gynnydd sylweddol eisoes eleni yn y ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig a wneir yn San Steffan yn hytrach na'r Senedd. Nid ydym wedi ceisio cuddio ein pryder ynglŷn ag i ba raddau y mae Llywodraeth y DU bellach yn deddfu mewn meysydd datganoledig, ac nid yw'n syndod—a chan gyfeirio at y sylwadau a wnaed yn gynharach gan yr unigolyn sy'n cyflwyno hyn, gan Rhys—mae'n fater y down yn ôl ato yn y flwyddyn newydd.

Ond wrth gloi, fel Cadeirydd y pwyllgor mae un gwelliant y byddwn yn ei argymell y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud o ran ei dull o weithredu, sef cyflwyno memoranda o ansawdd uchel yn gyson. Mae angen iddynt fynegi pam fod memorandwm yn cael ei gyflwyno: a yw'n cael ei osod am fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddarpariaethau; a yw o ganlyniad i gydweithredu; neu a yw deddfwriaeth yn cael ei gorfodi ar Gymru, yn erbyn ei hewyllys, gan Lywodraeth y DU, neu yn erbyn dymuniadau Llywodraeth Cymru? Mae angen esbonio'r sail resymegol dros y dull yn llawn, gan gyfeirio nid yn unig at y darpariaethau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer, ond hefyd at faterion cymhwysedd deddfwriaethol a chynnydd yr holl gysylltiadau rhynglywodraethol perthnasol. Yn rhy aml, mae manylion pwysig wedi'u cynnwys mewn gohebiaeth pan ddylent ffurfio rhan annatod o'r achos dros geisio cydsyniad mewn memorandwm.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddwn yn parhau’n gadarn i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynghylch ei defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, a hynny er mwyn nid yn unig arferion cyfansoddiadol da, ond hefyd, democratiaeth Cymru. Diolch yn fawr iawn. 

15:35

Dwi'n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, bod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes nôl ym mis Medi yn amlinellu beth rôn ni'n ystyried oedd yr heriau allweddol o ran y Senedd yn craffu ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu LCMs. Fe ofynnon ni i'r Pwyllgor Busnes gynnal adolygiad i'r broses LCM er mwyn sicrhau ei bod hi'n addas at y diben. Nawr, fe ysgogwyd y llythyr gan ein profiad ni o graffu ar yr LCM ar gyfer Bil yr amgylchedd yn ystod rhan gyntaf tymor y Senedd hon. Ond mae'n deg dweud nad oedd yr heriau rôn ni'n eu hwynebu yn unigryw i'r LCM hwnnw, a dydyn nhw ddim, wrth gwrs, yn unigryw i'r Senedd yma. Hynny yw, cyn y bumed Senedd, roedd LCMs, ar y cyfan, yn ymwneud â darpariaethau oedd â ffocws cul; doedden nhw ddim yn ennyn llawer o ddadlau, os o gwbl, a dweud y gwir. Mae'n bosib bod y bumed Senedd wedyn, wrth gwrs, wedi bod yn drobwynt o ran craffu ar LCMs wrth i LCMs yn ymwneud â Biliau mawr a chymhleth oedd yn gysylltiedig â Brexit, a oedd yn gwneud darpariaethau sylweddol i Gymru, gael eu cyflwyno. 

Fe ddaeth yn amlwg yn fuan iawn wedyn, wrth gwrs, nad oedd y broses LCM wedi'i chynllunio er mwyn craffu ar Filiau fel y rhain. Cymerwch y gwaith craffu ar yr LCM ar gyfer Bil yr amgylchedd er enghraifft. Nawr, fel Biliau eraill yn ymwneud â Brexit, roedd Bil yr amgylchedd yn cynnwys darpariaethau sylweddol i Gymru mewn maes polisi datganoledig allweddol, darpariaethau a fyddai wrth gwrs, heb os, yn fwy addas ar gyfer Bil yn y Senedd hon. Pe bai wedi bod yn Fil yn y Senedd hon, byddai'r amserlen ar gyfer craffu wedi ymestyn dros sawl mis. Yn lle hynny, fe gafon ni bedair wythnos, sef dau gyfarfod, er mwyn ystyried ac wedyn cyflwyno adroddiad ar yr LCM. Pe bai e wedi bod yn Fil yn y Senedd hon, byddai Llywodraeth Cymru wedi gorfod darparu gwybodaeth fanwl am eu hamcanion polisi, diben ac effaith arfaethedig y darpariaethau, ac amcangyfrifon cost ymhlith pethau eraill, ond roedd yr LCM, wrth gwrs, yn cynnwys gwybodaeth gyfyngedig am rai agweddau ar y rhain, a dim gwybodaeth o gwbl am agweddau eraill. Pe bai e wedi bod yn Fil yn y Senedd yma, byddai cyfle wedi bod i fynd i'r afael â phryderon y pwyllgor am ddarpariaethau penodol drwy gynnig gwelliannau i'r ddeddfwriaeth. Ond, wrth gwrs, roedd Bil yr amgylchedd eisoes wedi cyrraedd camau olaf y gwaith craffu yn Senedd y Deyrnas Unedig, felly doedd trafod gwelliannau ddim yn opsiwn. 

Dirprwy Lywydd, mae'n debyg bod yr heriau dwi wedi'u hamlinellu yn gyfarwydd erbyn hyn i'r rhan fwyaf o bwyllgorau polisi, os nad pob un ohonyn nhw a dweud y gwir, o ystyried y nifer sylweddol o LCMs sydd wedi cael eu cyflwyno ers dechrau'r chweched Senedd. Rŷn ni mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio LCMs yn lle proses graffu ar gyfer Biliau'r Senedd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio Biliau'r Deyrnas Unedig yn gynyddol i ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gytundeb Llywodraeth Cymru. Dyw'r broses sydd wedi ei nodi yn ein Rheolau Sefydlog ni ddim wedi'i chynllunio ar gyfer hyn, ac mae'n rhaid i ni ofyn a yw e'n dal i fod yn addas at y diben. 

Nawr, fel yr amlinellwyd yn fy llythyr i at y Pwyllgor Busnes, nawr yw'r amser i adolygu'r broses LCM. Os yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu parhau i ddefnyddio Biliau'r Deyrnas Unedig i ddeddfu dros Gymru ar faterion o bwys, mae'n rhaid i ni fod yn hyderus fod y broses LCM yn hwyluso ac yn cefnogi gwaith craffu ystyrlon gan y Senedd yma, ac, wrth gwrs, ein bod ni'n gallu ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid o Gymru ar faterion fydd yn effeithio arnyn nhw. 

Dwi'n mawr obeithio, felly, y bydd y ddadl yma heddiw yn golygu y byddwn ni nawr yn gweld cynnydd o ran cael adolygiad, ac y byddwn ni o ganlyniad yn gweld gwelliannau sylweddol a buan i'r broses bresennol. Diolch. 

A gaf i ddiolch hefyd i Rhys, a phobl eraill hefyd, am ddod â'r ddadl bwysig yma ymlaen heddiw?

Fel y clywsom, mae hon yn broses hollbwysig i'r Senedd, ac nid yw mor drylwyr ag y byddem yn ei ddisgwyl. Mae nifer, amserlenni, gwybodaeth a chwmpas y cynigion cydsyniad deddfwriaethol i gyd yn rhoi pwysau ar y broses. Cafwyd nifer bron yn gyfartal o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn y flwyddyn 2020-21 ag y cafwyd yn y pedair blynedd flaenorol. Mae memoranda megis y Bil etholiadau, y Bil iechyd a gofal a diogelwch adeiladau yn crwydro i feysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru ers tro. Dylem gofio pa mor bwysig yw hi i'r Senedd ei hun roi deddfwriaeth sylfaenol arwyddocaol mewn grym ar faterion datganoledig. Ac mae yna egwyddor wrth fynnu grym y lle hwn fel y prif gorff deddfu, yn enwedig pan fo'n ymddangos bod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn chwilio am unrhyw ffordd o danseilio'r setliad datganoli a'n Senedd.

Hoffwn ategu'r pryderon ynghylch nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol, eu hamserlenni ac ansawdd y wybodaeth sydd ar gael. Fel Aelod newydd, mae hynny'n fy rhoi ar y droed ôl, fel y mae'n ei wneud i eraill, rwy'n siŵr. Nid yw'r Senedd yn cael digon o gyfle i graffu ar ddarnau arwyddocaol o ddeddfwriaeth, ac nid yw pob Aelod yn gallu ymgysylltu'n gyfartal ychwaith. Dyma reswm arall wrth gwrs pam y dylid cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd i sicrhau bod y Senedd yn gallu craffu'n briodol ar ddeddfwriaeth. Felly, i grynhoi, rwy'n cefnogi'r pryderon ynghylch y defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol a'r effaith ar y setliad datganoli, yn enwedig gyda darnau mor arwyddocaol o ddeddfwriaeth, gan gynnwys sbarduno deddfwriaeth y gellid ei chyflwyno yma drwy broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond yn bwysicach na hynny, ni ddylem ddatblygu deddfwriaeth sy'n effeithio ar y setliad datganoli neu ein Senedd. Diolch.

15:40

Hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gynnig y ddadl hon heddiw, a chyfle, o'r diwedd, i ni gael trafodaeth iawn ar y broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu'r LCMs, nid bod y geiriau 'LCMs' wedi bod yn ddieithr i'r Siambr hon. Fel mae'r siaradwyr eraill wedi sôn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer 17 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn saith mis cyntaf y chweched Senedd, sydd yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, gan eithrio 2020. Ac, os ydym ni'n credu mewn datganoli, a'r syniad y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, ac yn credu yn y Senedd hon, dylai hyn fod yn destun pryder i ni, gan ei fod yn cwtogi ar ein pwerau ni, fel Senedd, ac, felly, yn ymosodiad ar ddemocratiaeth. 

Fel yr ydym ni oll yn ymwybodol, mae pwyllgorau, fel rydym wedi ei glywed gan Huw Irranca-Davies a Llyr Gruffydd, wedi codi pryderon niferus ac eang ynghylch hyn oll, gan gynnwys y diffyg cefndir ac esblygiad y ddeddfwriaeth, strwythur aneglur y drafftio, bod y prawf cymhwyso ynglŷn â'r angen am gydsyniad y Senedd yn aneglur, rhesymau aneglur gan Lywodraeth Cymru dros argymell cydsyniad ai peidio, barn Llywodraeth Cymru ar gymalau penodol, y graddau mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio diwygio Biliau'r Deyrnas Unedig, a natur y gwelliannau a geisir, ynghyd ag effaith y Bil ar ddeddfwriaeth neu fframweithiau allweddol eraill sy'n rhyngweithio â hwy. Dengys hyn yn glir, felly, bod amrywiaeth o faterion heb eu datrys o ran y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.

Ac eto, er bod y pryderon hyn wedi eu codi, nid yw'r Senedd wedi cael cyfle i graffu'n ystyrlon ar y broses tan heddiw. A hoffwn gymryd y cyfle felly i fynegi yn glir fy mod yn anfodlon iawn â'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol hyd yma. Wedi'r cyfan, rhaid gofyn pam bod Llywodraeth Cymru yn dewis, dro ar ôl tro, i wneud diwygiadau o fewn Bil yn y Deyrnas Unedig, yn hytrach na chyflwyno ei Bil ei hun. Ydy o oherwydd diffyg amser, diffyg Aelodau neu ddiffyg awydd? Neu a oes rhesymau amgen? A pha effaith mae hyn wedyn yn ei chael ar graffu, gan nad yw Aelodau a rhanddeiliaid yn medru cydweithio a chyfrannu i'r ddeddfwriaeth yn ôl y broses hon? Lle mae llais y Senedd hon a phobl Cymru yn y broses?

Bob tro mae LCM yn cael ei gyflwyno mae'n cryfhau'r gynsail beryglus o roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol, yn lle Gweinidogion Cymru, ac nid dyma pam gwnaeth pobl ar draws y pleidiau ymgyrchu am ehangu pwerau'r Senedd hon. Mae LCMs yn cymhlethu system sy'n barod yn hynod o gymhleth, ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl Cymru ddylanwadu ar y broses ddeddfwriaethol, yma yng Nghymru. Hoffwn, felly, annog fy nghyd-Aelodau i bleidleisio o blaid cynnig y ddadl heddiw, a gwneud safiad yn erbyn y bygythiad amlwg i'n democratiaeth. Mae pobl Cymru wedi ymddiried ynom ni i basio Deddfau yn y meysydd sydd wedi eu datganoli ers dros 20 mlynedd, yn hytrach na Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dylem felly sicrhau ein bod yn cyflawni ar eu rhan, yn hytrach na rhoddi grym yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd dro ar ôl tro wedi dangos nad ydy hi’n malio dim am fuddiannau pobl Cymru.

15:45

Rwyf am gadw fy sylwadau'n fyr yn y ddadl hon, ond nid oes angen dweud y byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig ar y papur trefn heddiw. Ac nid oherwydd nad wyf yn credu y dylai datganoli fodoli; ymgyrchais yn frwd dros y pwerau pellach i'r Senedd yn y refferendwm yn ôl yn 2011. Ond ar ôl byw drwy brofiad lle roedd gennym system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ofnadwy, o gwmpas fy nhymor cyntaf yn y Senedd, gallaf ddweud hyn wrthych, Mr ab Owen a phawb arall sydd wedi cyfrannu at y ddadl: y realiti yw bod system y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn llawer tecach ac yn parchu datganoli lawer yn fwy nag y gwnaeth system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol a'i rhagflaenodd erioed.

Nawr, mae'n rhaid inni edrych ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol fel offer y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio'n effeithiol i gyflymu'r gwaith o weithredu ei pholisïau. Dyna un o'r rhesymau pam y caiff cynigion cydsyniad deddfwriaethol eu cyflwyno weithiau, ac fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn hollol gywir, gellir eu defnyddio'n gwbl briodol yn y modd hwnnw er mwyn cyflawni amcanion polisi Llywodraeth. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU hawl weithiau i ddeddfu ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ac fe wnaeth hynny ar ran pobl Cymru er bod y rhan fwyaf o'r gwleidyddion yn y Senedd ar y pryd eisiau atal Brexit, ac rwy'n credu mai sydd wedi cymylu barn llawer o bobl sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ar broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n bodoli. Oherwydd y realiti yw, yn anffodus, oherwydd y safbwyntiau gelyniaethus ac ymdrechion bwriadol llawer o'r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolid yn y Senedd flaenorol i atal Brexit, cafwyd mwy o gweryla nag a fyddai wedi bod ynghylch defnyddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn deddfu.

Ac wrth gwrs, nid yw'n wir, Heledd Fychan, i awgrymu na chreffir yn effeithiol ar y ddeddfwriaeth hon ac nad yw pobl sy'n cynrychioli Cymru yn craffu arni. Mae'n destun craffu. Mae llawer mwy o bobl yn craffu ar unrhyw ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy Senedd y DU nag sy'n craffu ar ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy'r Senedd. Mae gennym 650 o Aelodau Seneddol, oddeutu 800 aelod o Dŷ'r Arglwyddi, a pheidiwch ag anghofio ychwaith fod yna bobl yn cynrychioli Cymru sy'n cynrychioli pobl yn Senedd y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin. Felly, mae pobl Cymru yn cael dweud eu barn ar y materion hyn ac mae cyfleoedd wedyn i gael trafodaethau a dadleuon pellach yma yn y Senedd drwy ein prosesau ni.

Nawr, byddwn yn cytuno, rwy'n credu, fel gyda phob proses ddeddfwriaethol, fod pethau y gellid ac y dylid, yn gwbl briodol, eu gwneud i wella prosesau'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, yn enwedig ynghylch yr amser sydd ar gael i graffu. Ac fel y nododd Huw Irranca-Davies yn gwbl gywir, mae yna adegau hefyd pan ellid gwella'r wybodaeth sy'n dod gyda'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol, y memoranda sy'n dod gyda'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n cytuno'n gryf â'r pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn eu hawydd i weld gwelliannau yn hynny o beth, ond camgymeriad yw dweud bod proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn un sy'n sathru ar ddatganoli. Nid yw'n gwneud hynny. Mae'n arf i barchu datganoli. Dyna pam y cafodd ei gynnwys yn Neddf Llywodraeth Cymru, ac mae'n sicr yn well o lawer na'i ragflaenydd. 

Os caf ddweud hyn hefyd, mae'r Senedd yn deddfu ar amrywiaeth o faterion gwahanol. Weithiau, mae mwyafrif y bobl yng ngogledd Cymru ac sy'n cynrychioli seddi yng ngogledd Cymru yn pleidleisio yn erbyn y penderfyniadau a wneir gan wleidyddion o'r de yn bennaf yn y Senedd. Nid wyf yn cwyno'n ormodol am hynny. Nid wyf yn awgrymu ein bod angen proses sy'n parchu'r ffaith y gallai pobl yng ngogledd Cymru anghytuno ac y gallai eu cynrychiolwyr anghytuno. Rwy'n derbyn mai democratiaeth yw hynny. Ac mae'n rhaid inni barchu'r ffaith bod Senedd y DU yn parhau i fod yn sofran yn y DU, ledled y DU gyfan. Ac wrth gwrs mae'n rhaid parchu datganoli, ond mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod Senedd y DU yn parhau i fod yn sofran. Felly, am y rheswm hwn a'r rhesymau eraill rwyf wedi'u nodi, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn ar y papur trefn, a byddwn yn awgrymu y dylai'r Aelodau eraill wneud yr un peth. Diolch. 

15:50

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy groesawu'r ddadl? Mae cydsyniad deddfwriaethol yn bwysig iawn i brosesau democrataidd Cymreig a rhyngseneddol. Felly, mae'n bwysig ein bod i gyd yn deall y broses, pryd y caiff ei chymhwyso a pham, a'r egwyddorion sy'n sail iddi. Nawr, efallai fod hwn yn fater sydd o ddiddordeb arbenigol, ymylol i rai, ond rwy'n sicr yn cytuno â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei fod yn rhan bwysig o'n fframwaith cyfansoddiadol. 

Dim ond pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n ceisio gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru, neu'n ceisio addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, neu'n gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, y cyflwynir memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Felly, pan fydd hyn yn digwydd, fel arfer mae'n rhaid i'r Llywodraeth osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl ei gyflwyno. Yna caiff y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwnnw ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes at bwyllgor neu bwyllgorau, ynghyd ag amserlen  ar gyfer llunio adroddiad.

Nawr, dyna'r broses, ond mae'n creu nifer o heriau. Mae'n golygu bod y sbardun ar gyfer proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ganlyniad i gyflwyno Bil yn San Steffan, ac yn yr un modd mewn perthynas â gwelliannau a wneir wrth i'r Bil fynd rhagddo. Yn aml, ni fyddwn yn cael manylion Bil tan y funud olaf, a phan fydd hyn yn digwydd, mae'n ei gwneud hi bron yn amhosibl cydymffurfio â gofynion ein Rheol Sefydlog ein hunain. Mae'r un peth yn wir am welliannau i Filiau, sy'n aml yn ymddangos yn ddigymell bron, sy'n arwyddocaol ac sy'n aml yn gwneud ychwanegiadau arwyddocaol i Fil. Mae hyn yn galw am ddadansoddi ar frys gan gyfreithwyr er mwyn i femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol gael eu cyflwyno. I bob pwrpas, gall camau o'r fath gan Lywodraeth y DU ei gwneud yn anodd iawn i bwyllgorau graffu'n ddigonol arno. Felly, rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw. Mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn aml iawn mewn sefyllfa debyg o orfod dadansoddi materion cyfreithiol arwyddocaol a chymhleth o fewn cyfnod byr iawn o amser, a chytunaf fod hwn yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef hefyd ar lefel rynglywodraethol, oherwydd mae'n tanseilio prosesau democrataidd yn fy marn i. 

Felly, byddwn yn ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol oherwydd deddfwriaeth sydd wedi'i chyflwyno yn San Steffan. Ein prif egwyddor, wrth ddeddfu ar gyfer Cymru, yw y dylem ddeddfu yn y Senedd mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a bydd hynny'n parhau i fod yn wir. Fodd bynnag, mae'n rhaid ystyried pob darn o ddeddfwriaeth y DU yn ôl ei deilyngdod ei hun. Yn aml, bydd dadansoddi deddfwriaeth o'r fath yn datgelu manteision ac anfanteision sy'n gwrthdaro. Weithiau, mae'r mater yn ymwneud â deddfwriaeth a fyddai o fudd i bobl Cymru ond nad yw o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol bresennol. Ar adegau eraill, mae'n ymwneud â materion sydd o ddiddordeb trawsffiniol, ac mewn achosion eraill mae'n ymwneud â materion cymhwysedd, lle byddwn bob amser yn mabwysiadu safbwynt cadarn ac egwyddorol ar gadw uniondeb y setliad datganoli. 

Nawr, yn gynharach yn yr hydref, ysgrifennais at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i amlinellu ein meini prawf ar gyfer pennu'r amgylchiadau lle byddem yn ystyried defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn perthynas â Chymru. A chan ein bod wedi sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd, nid wyf am gymryd yr amser yn awr i'w hamlinellu'n fanwl heddiw. Fodd bynnag, i'w crynhoi, ni fyddem ond yn ystyried defnyddio Bil Llywodraeth y DU os oes cyfle i newid y gyfraith yn gyflymach nag y gallem ei wneud drwy ein rhaglen ein hunain, neu lle mae'n briodol ac yn fanteisiol fod cyfundrefnau rheoleiddio cyffredin ledled Cymru a Lloegr, ac ar yr amod ein bod yn cadw'r pŵer i wneud ein newidiadau deddfwriaethol ein hunain, pe baem yn dymuno gwneud hynny, yn nes ymlaen.

Felly, mae'n briodol i'r Aelodau godi mater craffu, oherwydd mae'n wir na fydd craffu a wneir gan y Senedd ar ddeddfwriaeth o'r fath mor fanwl ag y bydd ar gyfer deddfwriaeth a wneir yn y Senedd. A dyma un o'r dyfarniadau y mae'n rhaid eu gwneud pan gyflwynir deddfwriaeth yn San Steffan gan Lywodraeth y DU. Ac am y rheswm hwn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau cymaint o graffu â phosibl drwy broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond rwy'n cydnabod pwysigrwydd y mater a godwyd, felly rwy'n cadarnhau y byddwn yn gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes i ystyried sut y gellir gwella'r broses ac i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.

Lywydd, nid oes gan Lywodraeth y DU hanes da o barchu'r setliad datganoli—ymhell o fod—ac mae deddfwriaeth yn sgil Brexit wedi datgelu ymagwedd ganoledig, reolaethol tuag at ddatganoli yma, a gweddill y Deyrnas Unedig. O ganlyniad i'r defnydd cynyddol o bwerau cydredol neu ymdrechion cynyddol i'w creu, sefydlu strwythurau a chyfundrefnau cyllido DU gyfan mewn meysydd datganoledig, a'r modd y caiff safbwyntiau'r Senedd a Senedd yr Alban ar beth deddfwriaeth eu diystyru'n llwyr, nid oes gennym unrhyw reswm dros gredu bod Llywodraeth y DU yn gyfaill i ddatganoli. Ond nid ydym wedi osgoi mabwysiadu dull cadarn o amddiffyn ein buddiannau fel Gweinidogion Cymru a buddiannau'r Senedd hon. Un enghraifft yw Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a drafodwyd gan yr Aelodau ddoe, lle llwyddasom i negodi bod mater newydd arfaethedig i'w gadw yn ôl yn cael ei ddileu. Fodd bynnag, bydd angen cyfaddawdu wrth negodi weithiau, a lle ystyrir cyfaddawd, y prawf bob amser yw a yw gwneud y cyfaddawd, o dan yr holl amgylchiadau, yn well i bobl Cymru na pheidio â gwneud y cyfaddawd hwnnw. Ond gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod yn parhau i flaenoriaethu ymdrechion i amddiffyn y setliad datganoli yn erbyn ymdrechion i'w danseilio.

Hoffwn gyfeirio at un neu ddau o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud. Rhys ab Owen Jones—yn sicr, pan fyddaf yn gwrando arnoch yn siarad am y materion hyn, mae'n fy atgoffa ychydig o'r adegau y bûm mewn capel Cymraeg, lle mae'r materion yn ymwneud â daioni a drygioni a thân a brwmstan. Felly, rwy'n cytuno'n rhannol â chi ar y pwynt cyfansoddiadol, ond nid o reidrwydd â'r dull ffwndamentalaidd a fabwysiadwyd.

Huw, fe wnaethoch bwynt ynglŷn â'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd sylfaenol y pwyllgor hwnnw ac yn sicr yn derbyn sut y gallem fynegi'n gliriach y rhesymeg sy'n sail i femoranda cydsyniad deddfwriaethol.

Llyr, fe wnaethoch nifer o bwyntiau tebyg, ond unwaith eto, hoffwn gadarnhau fy mod yn cytuno â rhai o'r sylwadau a'r pryderon ynglŷn â chraffu.

A Jane, mewn perthynas â nifer o'r pwyntiau a wnaethoch, mae'r Bil etholiadau, er enghraifft, y cyfeirioch chi ato, yn enghraifft o ble rydym wedi gwrthwynebu'n llwyr yr ymdrechion i ymgorffori rhai egwyddorion nad ydym eisiau eu gweld yn cael eu cymhwyso i etholiadau Cymru.

Ac i Heledd, nid yw nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddewis o ran yr argymhellion a wnawn; mae'n ganlyniad i orfod ymateb i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, ac mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

A Darren, roeddwn yn poeni'n fawr, oherwydd roeddwn yn dechrau cytuno â chi ar y dechrau ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai'n rhaid imi gyfaddef hynny ai peidio, ond mae'n rhaid imi ddweud, yn anffodus, credaf eich bod wedi dechrau mynd ar gyfeiliorn—ni wnaethoch gydnabod yr hyn sy'n ymosodiad pendant ar ddatganoli yn fy marn i. Ond rydych yn sicr yn iawn ynglŷn â hen system y gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol, rhywbeth y credaf ein bod i gyd yn falch o gael ei wared.

Yn ddelfrydol, ym mhob deddfwriaeth a ddaw o fewn cymhwysedd y Senedd, credaf mai'r farn yw y dylem ei gwneud yma, yn y sefydliad hwn. Mae gennym raglen ddeddfwriaethol yn Llywodraeth y DU sy'n ceisio herio datganoli a chyfrifoldebau'r Senedd fwyfwy, felly byddwn yn ceisio gwneud ein deddfwriaeth, ein memoranda cydsyniad deddfwriaethol, mewn ffordd sy'n diogelu ac yn gwella ein setliad cyfansoddiadol, ac yn bwysicaf oll, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Busnes, y Senedd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a phwyllgorau eraill i edrych ar sut y gellir gwella proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma, ac eithrio cyfraniad braidd yn rhyfedd Darren Millar o bosibl. Ddirprwy Lywydd, rôl y gwrthbleidiau yw gwrthwynebu Llywodraethau, fel arfer, a defnyddio cynifer o wahanol dechnegau seneddol â phosibl i rwystro'r Llywodraeth rhag cael ei ffordd. Rhaid mai dyma'r tro cyntaf i mi gofio lle mae gwrthblaid nid yn unig wedi rhoi rhwydd hynt i fusnes y Llywodraeth ond wedi dweud hefyd nad ydynt eisiau'r opsiwn o graffu ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth ychwaith. Mae'n sefyllfa eithaf rhyfedd i fod ynddi. Rwy'n croesawu'r—. Mae Darren eisiau gwneud ymyriad.

16:00

Nid wyf wedi awgrymu o gwbl am eiliad na ddylem allu craffu ar ddeddfwriaeth. Yn wir, pe baech yn gwrando'n fwy gofalus ar yr hyn a ddywedais, dywedais fod yna bethau roedd angen eu gwneud i wella'r prosesau presennol a'r cyfleoedd ar gyfer craffu ar y polisi a'r memoranda a gynhyrchir. Felly, nid yw hynny'n wir o gwbl. Yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd bod gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn well o lawer na lle roeddem, a bod cyfleoedd defnyddiol weithiau i Lywodraeth Cymru allu cyflymu'r gwaith o weithredu ei pholisïau—polisïau nad wyf yn cytuno â hwy weithiau, nad wyf yn cytuno â hwy'n aml iawn mewn gwirionedd, ond weithiau mae'n arf defnyddiol.

Gallaf ddeall eich bod am wneud araith arall yn achub eich sefyllfa, ond nid dyma'r cyfle i wneud hynny, mae arnaf ofn.

O ran ble rydym, yr hyn a wnewch wrth gwrs pan fyddwch yn craffu ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yw eich bod yn craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y memorandwm; nid ydych yn craffu ar y ddeddfwriaeth, a dyna fethiant allweddol y system hon. Nid yw mewn unrhyw ffordd—. Nid wyf yn credu y gallwch ei gymharu'n hawdd â'r hen system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol o gwbl, lle roeddech yn trafod egwyddor deddfwriaeth a'r cymhwysedd deddfwriaethol; yma rydych chi'n trafod y ddeddfwriaeth ei hun, y Bil.

Yr enghreifftiau a roddaf i Darren yw'r enghreifftiau a drafodwyd gennym ddoe mewn perthynas â diwygio cyfraith lesddaliad, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol y byddwn yn ei drafod ymhen ychydig wythnosau ynghylch diogelwch adeiladau. Nid ydym wedi cael cyfle i graffu ar unrhyw un o'r darpariaethau sydd yn y darnau hynny o ddeddfwriaeth. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw craffu ar y memorandwm lle mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am roi'r pŵer i Senedd San Steffan ddeddfu. Rydym yn gwybod, ac mae'n rhaid i chi fod yn unigolyn caredig tu hwnt, byddwn yn awgrymu, os ydych chi'n credu y bydd unrhyw graffu'n digwydd ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn San Steffan. Prin eu bod yn craffu ar eu deddfwriaeth eu hunain draw yn y fan honno, heb sôn am ddeddfwriaeth a gaiff ei hawgrymu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i chi fod yn unigolyn caredig tu hwnt—rwy'n gwybod bod y Nadolig yn dod, ond rydych yn mynd â phethau i eithafion ar rai adegau. Felly, mae hyn yn ymwneud â chraffu seneddol priodol ar ddeddfwriaeth, a byddwn wedi rhagweld y byddai pob Aelod o'r wrthblaid yn dymuno ac yn disgwyl y lefelau uchaf o graffu ar unrhyw fath o ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth.

Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddweud y prynhawn yma, ond wyddoch chi, rydych yn dweud bod Rhys yn siarad fel pregethwr mewn capel, ond rhaid imi ddweud wrthych chi, Gwnsler Cyffredinol, yr hyn a ddysgais o gael magwraeth capel oedd bod yn rhaid i chi fyw eich credoau. Nid yw'n ddigon plygu pen-glin ar nos Sul neu fore Sul, mae'n rhaid i chi fyw'r credoau hynny ar fore Llun hefyd, mae arnaf ofn, Gwnsler Cyffredinol, ac nid yw'r Llywodraeth yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny.

Nid yw'n ddigon dweud bod gan Lywodraeth Cymru raglen ddeddfwriaethol lawn pan nad oes gennym ond dau Fil Llywodraeth gerbron y lle hwn. Nid yw'r un ohonynt—wel, mae un ohonynt yn Fil arwyddocaol, nid yw'r ail yn Fil arwyddocaol, ac yna mae gennym Fil Aelod preifat. Os yw'n wir na all y Llywodraeth fynd ar drywydd mwy na dau ddarn o ddeddfwriaeth ar unrhyw adeg, dylai'r Llywodraeth ddweud hynny ac egluro pam, a dylai'r Llywodraeth fuddsoddi yn yr adnoddau i'w galluogi i gael adnoddau i fynd ar drywydd rhagor o ddeddfwriaeth. Mae gan y Llywodraeth reolaeth dros ei chyllideb ei hun ac mae angen i'r Llywodraeth gydnabod hynny. Felly, mae gennym hawl felly i graffu ar y ddeddfwriaeth honno ac nid craffu ar is-gontractio deddfwriaeth i le arall yn unig.

Ond rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Yn ei ddau gyfraniad ar y mater yr wythnos hon mae Huw Irranca-Davies wedi dangos grym craffu seneddol priodol. Nid yw'r gwaith a wneir gan y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder ar y materion hyn yn waith y gall y Llywodraeth ei roi o'r neilltu; mae'n waith y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei gydnabod. Rwy'n credu bod grym y ddadl a wnaeth Huw Irranca-Davies ddoe yn y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth, gobeithio, yn myfyrio'n ddwys iawn yn ei gylch.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae Rhys wedi'u gwneud a'r pwyntiau a wnaeth y Cwnsler Cyffredinol, am y gwrthdaro, ac rwy'n credu ei fod yn wrthdaro, rhwng Llywodraethau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon i raddau llai, a San Steffan. Credaf fod problem ddifrifol yn codi o'r ffaith nad yw San Steffan yn cydnabod mandad yr Aelodau a etholir i'r lle hwn, a'n hawl i lywodraethu, ein hawl i ddeddfu. Rwy'n credu bod problem ddifrifol yno.

Credaf hefyd y byddai achos Llywodraeth Cymru yn fwy pwerus pe bai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ddeddfwriaeth a'r prosesau yn y lle hwn mewn ffordd sy'n cydnabod ein hawliau, yn ogystal ag arfer yr hawliau hynny mewn dadl â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n arbennig o siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio defnyddio prosesau cyflym lle mae'n credu bod angen deddfwriaeth gyflym.

16:05

Os edrychwch ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar ddiogelwch adeiladau, gellid bod wedi mynd â Bil drwy'r lle hwn mewn amser tebyg i'r hyn y mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi'i gymryd, a chyda chraffu ac opsiwn i bobl yma bleidleisio arno.

Felly, rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd, am eich amser y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n gobeithio, o ganlyniad i'r ddadl hon, y gallwn ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut rydym yn deddfu yn y dyfodol, a gobeithio mai'r hyn a wnaiff hynny fydd cydnabod grym democratiaeth y gwn fod y Cwnsler Cyffredinol wedi ymladd amdani ers mwy o amser na'r rhan fwyaf o Aelodau'r lle hwn, a gwn ei fod yn credu ynddi gymaint â phawb arall sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, 'Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7870 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod yn Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Nid yw'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i adnewyddu ar gyfer y chweched Senedd, mor sych nag mor arbenigol ag y mae ei deitl yn awgrymu. Mae'n gytundeb pwysig sy'n berthnasol i bob un o bwyllgorau'r Senedd ac yn gymwys i holl Weinidogion Cymru.

Er bod fy mhwyllgor, gan adeiladu ar waith y pwyllgor a'i rhagflaenodd, wedi arwain ar hyn, mae'r cytundeb yn cynrychioli'r safbwynt y cytunwyd arno ar y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Senedd gyfan mewn perthynas â chyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel weinidogol, y cytundebau, y concordatau, a'r memoranda cyd-ddealltwriaeth. Mae gwybodaeth o'r fath yn dod yn fwyfwy hanfodol i ni fel Aelodau o'r Senedd ar gyfer monitro a deall gwaith Gweinidogion Cymru yng nghyd-destun y DU.

Nawr, fel y soniais yn fyr, argymhellodd ein pwyllgor rhagflaenol yn y pumed Senedd i Lywodraeth Cymru y dylai ymrwymo i gytundeb a fyddai'n cefnogi gwaith craffu'r Senedd ar Lywodraeth Cymru yn ei hymwneud rhynglywodraethol. Roedd Llywodraeth Cymru'n cytuno, a bydd rhai o'r Aelodau'n gwybod bod iteriad cyntaf y cytundeb hwn wedi'i sefydlu a'i nodi'n ffurfiol gan y pumed Senedd ym mis Mawrth 2019.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth ein pwyllgor, yn fuan iawn ar ôl ymffurfio, oedd mynd ati i sefydlu cytundeb newydd gyda Llywodraeth Cymru a oedd yn addas i'r diben yn ein chweched Senedd. Rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog yr un mor agored i barhad y cytundeb, a'n bod wedi gallu dod â'r fersiwn newydd hon i'r Senedd cyn i 2021 ddod i ben. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i nodi ar gyfer y cofnod, er bod trafodaethau ar gytundeb newydd wedi'u cynnal, fod Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedi bodloni'r gofyniad yn y cytundeb gwreiddiol ac wedi cyflwyno adroddiad blynyddol ar 28 Medi, sy'n ganmoladwy, ac i'w groesawu.

Mae'r cytundeb yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn llywodraethu'r berthynas rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol. Yr egwyddorion hyn yw tryloywder, atebolrwydd a pharch at y rhan y mae'n rhaid i drafodaethau cyfrinachol ei chwarae rhwng llywodraethau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod prif ddiben y Senedd o graffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru. Yn gyfnewid am hynny, fel rydym ni yn y Senedd yn amlwg yn cydnabod, bydd angen trafodaeth rynglywodraethol gyfrinachol weithiau rhwng Llywodraethau'r DU. Felly, mae'r cytundeb yn ceisio sicrhau bod egwyddorion atebolrwydd Llywodraeth Cymru i'r Senedd, a thryloywder yng nghyd-destun y berthynas hon, bellach wedi'u cynnwys yn y cysylltiadau a systemau rhynglywodraethol.

Hoffwn dynnu sylw'r Senedd hefyd at ymrwymiad pellach gan y Prif Weinidog sydd wedi'i gynnwys yn ein hadroddiad ar y cytundeb. Mae'r ymrwymiad hwn yn adeiladu ar brotocol a oedd ar waith rhwng y pwyllgor a'n rhagflaenodd a Llywodraeth Cymru yn y pumed Senedd. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno yn awr y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at fy mhwyllgor ac at bwyllgorau perthnasol eraill y Senedd i'n hysbysu am unrhyw fwriad i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes a ddatganolwyd i Gymru ac unwaith eto, mae hyn yn wirioneddol glodwiw. A lle mae amser yn caniatáu, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i roi cyfle i'r Senedd fynegi barn cyn rhoi cydsyniad. At hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno datganiad mewn perthynas ag arfer pob pŵer deddfwriaethol dirprwyedig gan un o Weinidogion y DU mewn maes datganoledig y mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad iddo, gan egluro'r sail resymegol dros y cydsyniad hwnnw, a gwneir hyn fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith i ddyddiad gosod gerbron neu hysbysu Senedd y DU.

Felly, er y bydd fy mhwyllgor yn parhau i arwain ar fonitro gweithrediad y cytundeb a chydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â'i delerau, byddwn yn annog pwyllgorau eraill y Senedd i ymgyfarwyddo ag ef, a'r goblygiadau a'r manteision posibl i'w gwaith craffu. Ac a gaf fi, wrth gloi, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor, fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, am eu diwydrwydd yn y mater hwn, a'r tîm clercio hefyd sydd wedi bod yn rhagorol yn hyn o beth, ond hefyd, diolch i Lywodraeth Cymru am y ffordd y maent wedi gweithio gyda ni i gyflwyno'r cytundeb hwn? Diolch yn fawr iawn. 

16:10

I gadarnhau, bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, a siaradaf yn y ddadl hon heddiw fel rhywun sy'n aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Yn hynny o beth, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei ddatganiad agoriadol, ond hefyd am ei arweiniad i'r pwyllgor? Mae'n wych gweithio gyda chi, Huw. Yn aml, mae cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyng-sefydliadol yn bethau cymhleth a dryslyd. Mae nifer y strwythurau sydd ar waith a natur y trafodaethau a gynhelir o'u mewn yn gallu gwneud pethau'n anodd eu dilyn, hyd yn oed i ni yma yn y Siambr, heb sôn am aelodau'r cyhoedd. Gall ychwanegu pethau fel Brexit, y pandemig a'r nifer helaeth o gytundebau a deddfau wneud i'r lle hwn deimlo fel pe bai'n cael ei adael ar ôl ar adegau, nid yn fwriadol, ond weithiau mae bron fel pe baem yn ceisio dal ein cynffon braidd.

A dyma pam y credaf fod y cytundeb hwn rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwysig. Mae'r Senedd hon bob amser wedi parchu craffu ac atebolrwydd, ac mae'r cytundeb hwn yn gam ymlaen i'r cyfeiriad cywir. Tra'n sicrhau bod y trefniadau cyfrinachedd angenrheidiol ar waith, mae'n sicrhau ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu'r lle hwn pan fydd Gweinidogion y DU yn arfer cymwyseddau datganoledig. Mae hyn yn ein galluogi i graffu ar benderfyniadau a gwella tryloywder y Llywodraeth.

Yr hyn rwyf am ei ddweud, fodd bynnag, yw bod yn rhaid inni fod yn fwy ymwybodol o'r ffordd rydym yn ymwneud â thrafodaethau am gysylltiadau rhynglywodraethol. Gwn y gall pethau fod yn anodd a gallant fod ychydig yn straenllyd, ac mae pethau gan bob Llywodraeth y gellir eu gwneud yn well. Ond yn rhy aml, gallwn gael ein rhwydo gan wleidyddiaeth a rhethreg, yn hytrach na sut y gallwn gydweithio i gyflawni ein nodau cyffredin, ac mae mwy o'r nodau hyn nag y mae rhai yn y Siambr hon yn ei gredu o bosibl. Dylai adfer o'r pandemig fod ar y blaen ym mhopeth y dylai Llywodraethau o bob lliw ganolbwyntio arnynt, ac mae'n iawn ein bod ni yng Nghymru yn ceisio ymgysylltu'n adeiladol â phartneriaid o bob rhan o'r DU, a bod y lle hwn yn cefnogi ac yn herio'r gwaith hwn.

Lywydd, rwy'n cloi fy nghyfraniad drwy groesawu'r cyfle i gael dadl y prynhawn yma, a diolch unwaith eto i'r Cadeirydd am ei chyflwyno. Diolch.

Rwy'n croesawu'r cytundeb hwn rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Ar adeg pan fo cysylltiadau rhynglywodraethol yn aml yn wael iawn a dweud y lleiaf, mae mor bwysig fod y Senedd yn gwbl ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd gydweithredu â Llywodraeth Cymru i geisio gwella cysylltiadau rhynglywodraethol.

Fel y soniais ddoe yn y ddadl ar ddiogelwch tân, pobl Cymru sy'n dioddef pan fydd y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn chwalu. Fe welsom yn ddiweddar, oni wnaethom, yn y Sianel, y canlyniadau trasig pan fydd dwy Lywodraeth yn rhoi gwleidyddiaeth o flaen pobl. Nid wyf am weld ail Dŵr Grenfell yn digwydd ym Mae Caerdydd nac yn Abertawe tra bo gwleidyddion yn dal i gecru ynglŷn â phwy sy'n talu am waith diogelwch tân. Nid wyf eisiau gweld ail Aberfan yn digwydd tra bo gwleidyddion yn gwleidyddoli tomenni glo yn hytrach na bwrw ati i glirio'r creithiau hyn o'n tirweddau.

Fel y soniodd Huw Irranca-Davies, gall cysylltiadau rhynglywodraethol ymddangos yn bwnc sych. Nid wyf yn disgwyl i Aelodau ddangos llawer o ddiddordeb mewn cytundebau rhynglywodraethol ffurfiol, fframweithiau cyffredin, concordatiau, memoranda neu benderfyniadau eraill. Ond maent yn adlewyrchu'r berthynas rhwng Llywodraethau, boed yn adeiladol, yn rhwystrol neu hyd yn oed yn ddinistriol ar adegau. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl Cymru. Felly rwy'n croesawu'r cytundeb hwn, oherwydd mae'n rhoi dau gonglfaen ein democratiaeth i ni yn y Senedd: tryloywder ac atebolrwydd. Bydd yn creu mwy o dryloywder ac felly'n galluogi craffu pellach—ein rôl bwysicaf fel Aelodau anllywodraethol o'r Senedd, fel y pwysleisiodd Alun Davies yn gwbl briodol yn y ddadl ddiwethaf.

Mae'r cytundeb hwn yn ymdrin â memoranda cyd-ddealltwriaeth. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw'r rhain yn rhwymo'r Llywodraeth bresennol, heb sôn am Lywodraethau olynol. Dônt i fodolaeth heb unrhyw graffu go iawn, ac yn aml dylent fod mewn darn o ddeddfwriaeth yn hytrach nag mewn cytundeb nad yw'n rhwymol rhwng dwy weithrediaeth. Dyna pam ei bod mor bwysig fod y Llywodraeth yn dryloyw ynglŷn â'u bodolaeth a bod cyfle i herio eu cynnwys. Fel rhan o'r cytundeb hwn, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal tudalen bwrpasol ar ei gwefan ei hun yn darparu'r holl gytundebau rhynglywodraethol ffurfiol perthnasol o bob math sydd ar waith rhyngddynt hwy a Llywodraeth y DU. Nid wyf am funud yn dychmygu y bydd y traffig i'r dudalen honno'n uchel, ond mae'n bwysig eu bod yno. Mae'n bwysig eu bod yn hygyrch.

Rwy'n falch fod y cytundeb hwn yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a Llywodraeth Cymru, awgrymu gwelliannau i'r cytundeb yn ystod y Senedd hon. Gall cysylltiadau rhynglywodraethol newid yn gyflym iawn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd pethau'n gwella pan fydd Llywodraeth San Steffan yn sylweddoli o'r diwedd nad yw eu hundeboliaeth gyhyrol yn cyflawni dim. Rwyf hefyd yn falch o'r ymrwymiad ym mharagraff 16 o'r cytundeb, os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu trefniadau newydd gyda'r nod o gyrraedd cytundeb rhynglywodraethol, y bydd yn rhoi rhybudd digonol ymlaen llaw i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Mae'r ymrwymiad ychwanegol gan y Prif Weinidog ar hysbysu'r Senedd pan fydd Llywodraeth Cymru yn cydsynio a phan fydd wedi cydsynio i Lywodraeth y DU arfer pŵer dirprwyedig mewn maes datganoledig mor bwysig, er mwyn iddo fod yn offeryn monitro go iawn ar gyfer y Senedd. Rydym newydd glywed yn y ddadl am y cynnydd mewn cynigion cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Mae hefyd yn bwysig monitro a chraffu i ba raddau y mae cydsyniad yn cael ei roi i is-ddeddfwriaeth. Mater yw hwn y bydd y pwyllgor o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies—. Ac rwyf am adleisio'r hyn a ddywedodd Peter Fox am ei gadeiryddiaeth o'r pwyllgor; rydym yn ffodus iawn i'w gael fel Cadeirydd. Byddwn yn arwain ar hyn. Ond fel y dywedais yn y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn dangos diddordeb ac yn dod yn gyfarwydd â'r hyn sy'n digwydd, oherwydd mae'n effeithio ar ein democratiaeth yng Nghymru ac felly mae'n effeithio ar y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Felly, Ddirprwy Lywydd, dyna ddiwedd fy ail bregeth—efallai y tro hwn heb y tân a'r brwmstan—a byddwn yn hapus iawn i groesawu'r Cwnsler Cyffredinol i fy nghapel Cymraeg ar unrhyw adeg gyfleus, i'r gwasanaeth carolau heno efallai. Diolch yn fawr.

16:15
Member
Lesley Griffiths 16:19:40
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i egwyddorion bod yn agored ac yn dryloyw y seilir y cytundeb newydd arnynt, a chefnogi rôl graffu'r Senedd. Rydym o ddifrif ynglŷn â'n rhwymedigaethau mewn perthynas â chyflawni ein cyfrifoldebau o dan y cytundeb. 

Rydym yn parhau i ddiweddaru ac adrodd i'r Senedd ar ein cysylltiadau, ein hymgysylltiad a'n gwaith ar y cyd â Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'n partneriaid yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn union fel y gwnaethom barhau i gynnal ein rhwymedigaethau tra bod gwaith ar y cyd ar gytundeb newydd yn parhau. Er enghraifft, yn gynharach yn nhymor yr hydref, rhannodd y Prif Weinidog adroddiad cysylltiadau rhynglywodraethol blynyddol ar gyfer 2020-21 gydag Aelodau'r Senedd. Cyflawnodd yr adroddiad un o'n hymrwymiadau yn y cytundeb gan Lywodraeth Cymru y cytunwyd arno yn ystod tymor blaenorol y Senedd. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys datganiad gan y Prif Weinidog ar gyfarfod rhynglywodraethol gyda Phrif Weinidog y DU a Phrif Weinidogion y gwledydd datganoledig, a datganiad ar uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Hefyd, hoffwn gofnodi'r hyn a nodwyd mewn gohebiaeth â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad eisoes, gyda'r Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at y pwyllgor a phwyllgorau perthnasol eraill i'w hysbysu o fwriad i gydsynio i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru, gan egluro sail resymegol dros y bwriad i gydsynio. Pan fydd amser yn caniatáu, byddwn yn rhoi cyfle i'r Senedd fynegi barn cyn rhoi cydsyniad yn ffurfiol.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig bob tro y bydd Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Weinidog Llywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig, gan egluro'r sail resymegol dros y cydsyniad hwnnw fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith i ddyddiad gosod gerbron neu hysbysu Senedd y DU. Mae datganiadau'r Prif Weinidog a'r adroddiad cysylltiadau rhynglywodraethol blynyddol yn dyst i bwysigrwydd tryloywder, craffu ac atebolrwydd. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi gwybod i chi am yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yn ysbryd y cytundeb rydym yn ei drafod ac yn dadlau yn ei gylch heddiw.

O ran cysylltiadau â Llywodraeth y DU, mae cydweithredu a chydweithio'n dal yn bosibl ac mae ymgysylltiad ar yr ymateb i'r pandemig ac adfer yn ei sgil ac ar agweddau gweithredol gadael yr UE yn dangos hyn yn glir. Fodd bynnag, byddai hyn yn well gydag ymgysylltu parchus, rheolaidd a dibynadwy drwy systemau rhynglywodraethol diwygiedig a chadarn. Rydym yn dal yn obeithiol y bydd yr adolygiad ar y cyd yn gwella'r modd y cynhelir cysylltiadau rhynglywodraethol. Er ein bod yn wynebu perthynas heriol iawn â Llywodraeth y DU, gall creu systemau rhynglywodraethol mwy strwythuredig gyda mwy o barch cydradd a chyfranogiad fod yn gamau pwysig a chadarnhaol. Ers yr etholiad ym mis Mai, rydym wedi bod yn sefydlu ac yn ailsefydlu perthynas â Gweinidogion yng nghyd-destun ein rhaglen lywodraethu, ac yn ail-lunio cysylltiadau yng ngoleuni datblygiadau gwleidyddol ledled y DU.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau tryloywder cysylltiadau rhynglywodraethol a bydd yn parhau i weithredu yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:20

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Mae'n dda gweld bod gennym gonsensws ar fater mor bwysig â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol a gweithio rhynglywodraethol. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn craffu'n dda yma yn y Senedd ar y tryloywder a'r atebolrwydd a grybwyllwyd fel dwy o'r tair egwyddor, ond hefyd ein bod yn parchu—ein bod yn rhoi lle i gyfrinachedd trafodaethau pan fo angen rhwng Llywodraethau hefyd.

Rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Gweinidog nid yn unig i gyflwyno'r cytundeb, ond hefyd i wneud i'r cytundeb weithio, a bydd ein pwyllgor yn awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth i weld hynny'n digwydd ar ran y Senedd. I'r holl gyfranwyr heddiw ac i aelodau fy mhwyllgor, diolch yn fawr iawn. I'r Llywodraeth, edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ar hyn a'i weld yn gwreiddio'n gadarn iawn, oherwydd mae cael y cytundebau ar waith yn un peth, mae gwneud iddynt weithio yn fater arall. Rydym yn ymwybodol iawn hefyd, Lywydd, y tu ôl i'r llenni, er gwaethaf y ddadl gynharach heddiw, fod peth gwaith da iawn yn digwydd ar sail rynglywodraethol ac mae'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol hwn yn caniatáu i'r Senedd gael golwg dda ar yr hyn sy'n digwydd ac i wneud sylwadau ac i graffu ar hynny hefyd. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb. Diolch yn fawr am y cyfle i ddod â hyn i sylw'r Senedd.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, mi wnawn ni dderbyn y cynnig yn unol a Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Yr eitem nesaf, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae'r ddadl hon ar ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7871 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi ymgyrch COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19.

2. Yn croesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19 sy'n benodol i Gymru.

3. Yn nodi y bydd ymchwiliad COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Heddiw, rwy'n falch o agor y ddadl hon ar y mater y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn ei godi'n barhaus dros y 18 mis diwethaf. Galwasom yn gyntaf am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru, ac rydym yn dal i deimlo bod pobl Cymru sydd wedi colli anwyliaid i'r clefyd erchyll hwn yn haeddu gwybod pob manylyn ynglŷn â sut yr ymdriniwyd â'r pandemig yng Nghymru yn benodol. Yn wir, dylid taflu goleuni ar arferion a phenderfyniadau da a drwg.

Ers ein galwadau am ymchwiliad dros 18 mis yn ôl, gwrthodwyd y galwadau'n barhaus gan y Llywodraeth Lafur, er bod ein galwadau am ymchwiliad cyhoeddus penodol wedi'u hadleisio gan bleidiau gwleidyddol eraill—gyda Phlaid Cymru hefyd yn galw am ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru ers dros 18 mis—a chan weithwyr iechyd proffesiynol a chyrff eraill hefyd wrth gwrs. Ond yn bwysig, y teuluoedd mewn profedigaeth sydd â'r alwad hon. Yn anffodus, rydym wedi gweld 9,000 o bobl yn marw yng Nghymru o ganlyniad i COVID-19, ond y teuluoedd mewn profedigaeth sydd, yn anad dim, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru. Rwyf o'r farn fod y bobl sydd wedi colli anwyliaid oherwydd COVID yn haeddu atebion, fel y mae'r bobl sydd wedi wynebu oedi cyn cael llawdriniaethau a phobl sydd wedi wynebu oedi cyn cael diagnosis o ganser, wrth gwrs, a gallai'r rhestr honno barhau. Yn ystod 18 mis cyntaf y pandemig, cafodd dros 50,000 o lawdriniaethau ac 1.3 miliwn o apwyntiadau eu canslo yn ysbytai Cymru.

Mae'r ffigurau'n pwysleisio'r pryderon fod costau'r cyfyngiadau symud yn ymestyn y tu hwnt i'r economi, ac maent yn symud i faes iechyd corfforol yn ogystal â meddyliol. Mae hyn yn atgyfnerthu'r neges hefyd pam ein bod angen ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru. Ond mae'n tanlinellu'r anawsterau a gawsom yn GIG Cymru, gyda'r ôl-groniad hiraf o driniaethau yn hanes Cymru, gydag un o bob pump o bobl ar restr aros, yn anffodus. Gan fod iechyd wedi'i ddatganoli, mae llawer o benderfyniadau wedi'u gwneud yma yng Nghymru gan y Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ac wedi cymryd camau gwahanol i Lywodraethau mewn rhannau eraill o'r DU, a hynny'n gwbl briodol hefyd. Ond ar y cwestiwn hwnnw, byddwn yn dweud mai'r cwestiwn yma yw: pam? Pam y mae Llywodraeth Cymru yn amharod i gael ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru, yn ogystal ag ymchwiliad cyhoeddus yn y DU? Pam yr amharodrwydd i gefnogi'r ddau ymchwiliad cyhoeddus?

Mae'r Llywodraeth Lafur wedi gohirio gwaith mewn dau faes arwyddocaol—profi mewn cartrefi gofal ac ap tracio ac olrhain y GIG. Ar ôl i Loegr gyflwyno profion torfol mewn cartrefi gofal yn ystod y don gyntaf yn 2020, dywedodd y Prif Weinidog na allai weld unrhyw werth mewn cyflwyno profion ar draws holl gartrefi gofal Cymru. Ceisiodd Cymru ddatblygu ei hap olrhain ei hun ym mis Ebrill y llynedd—gan golli amser hollbwysig, wrth gwrs, cyn penderfynu bod yn rhan o ap y DU ar 17 Mai. Ni welai Llywodraeth Cymru unrhyw werth ychwaith mewn cyflwyno masgiau wyneb gorfodol dros haf 2020, er gwaethaf cyngor, ffaith a allai fod wedi arwain at gyfradd uwch o haint yng Nghymru. Yn wir, ni chyflwynodd y Prif Weinidog fasgiau gorfodol tan fis Medi 2020. Felly, nid yw'n gyfrinach ychwaith wrth gwrs fod cyfradd yr heintiau a ddaliwyd yn ysbytai Cymru wedi bod yn uchel iawn. Credaf fod rhaid i Lywodraeth Cymru—y Llywodraeth Lafur yma—ateb cwestiynau difrifol am heintiau COVID-19 a ddaliwyd mewn ysbytai yn ystod y pandemig a dangos bod gwersi wedi'u dysgu—hoffwn ddweud ar gyfer pandemig yn y dyfodol, ond yn anffodus ar gyfer adegau fel yr adeg rydym ynddi yn awr.

Mae'n debygol neu'n bendant fod 27 y cant o'r bobl a fu farw o COVID-19 wedi dal COVID-19 ar wardiau ysbytai. Yn Hywel Dda, canfu un cais rhyddid gwybodaeth fod un o bob tri o bobl wedi marw o COVID-19 ar ôl dal yr haint mewn ysbyty. A dyma un rheswm pwysig pam fod angen ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Ac yn anffodus wrth gwrs, y tu ôl i bob ystadegyn a chanran, mae pobl go iawn a phobl sydd wedi marw a theuluoedd sy'n galaru.

Ac nid yn y sector iechyd yn unig y mae'r Llywodraeth wedi bod â rheolaeth a dyletswydd i ddiogelu. Yn fy marn i, mae oedi cyn cyhoeddi cynllun ar gyfer busnesau, er gwaethaf galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig, wedi bod yn fethiant arall gan y Llywodraeth hon. A gwelsom y ffordd ofnadwy y cyflwynwyd cam 3 y gronfa cadernid economaidd, a ataliwyd gwta 36 awr ar ôl agor oherwydd nifer y ceisiadau a ddaeth i law. Mae lletygarwch, wrth gwrs, wedi dioddef yn fawr oherwydd y pandemig a'r penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth yma yng Nghymru. Dyna pam ein bod angen ymchwiliad penodol i Gymru.

Er bod y sylw ar yr amrywiolyn newydd, mae hefyd yn bwysig nad ydym yn anghofio'r nifer di-rif o benderfyniadau sydd wedi'u gwneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, penderfyniadau sy'n rhaid eu harchwilio. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn barhaus, ac yn dal i ddweud, ei fod yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru, ar gyfer Cymru, ac mae hynny'n iawn—yn briodol felly. Mae'n amheus pam nad yw am weld craffu'n digwydd ar y penderfyniadau a wneir yma. Ni ddylid caniatáu i'r Llywodraeth Lafur guddio y tu ôl i ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer y DU gyfan. Mae arnaf ofn fod pobl Cymru yn haeddu gwell na gwleidyddiaeth bitw. Mae gan y Prif Weinidog un cyfle olaf i ddangos i'r genedl ei fod yn parchu datganoli ac yn derbyn atebolrwydd a ph'un a yw am wrthod atebion i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig hwn. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma.

16:30

Rwyf am ddechrau gyda chyfaddefiad. Pan alwais i a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru am yr ymchwiliad cyhoeddus i’r pandemig yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, efallai na nodais rywbeth yn ddigon clir: pan nododd y Llywodraeth eu bod hwythau hefyd yn cefnogi ymchwiliad, tybiais yn anghywir eu bod hwy, fel finnau, yn cyfeirio at ymchwiliad penodol i Gymru. A phan eglurodd y Llywodraeth eu bod mewn gwirionedd yn cefnogi ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan a chynnwys ystyriaeth o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru fel rhan o'r ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn unig, roeddwn yn meddwl i gychwyn fy mod wedi camglywed, ond nid oeddwn wedi camglywed. Eglurwyd yn ddiweddarach fod Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at bennod, neu benodau, ar Gymru mewn darn o waith ar gyfer y DU gyfan. Pam y rhagdybiais hynny? Oherwydd yn fy meddwl i, roedd hi mor amlwg fod yn rhaid inni gael ymchwiliad sy'n ymroi'n llwyr i ystyried beth ddigwyddodd yma.

Dewisodd Cymru ddatganoli fel y gallem ddechrau ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ein dyfodol ein hunain—i aeddfedu fel cenedl. Tyfodd y gefnogaeth gychwynnol fain honno o blaid sefydlu'r Cynulliad yn gefnogaeth aruthrol o blaid deddfu llawn. Bellach, mae gennym Senedd—Senedd Cymru, ac mae Llywodraeth a ffurfir ohoni'n cael y fraint o'n harwain drwy unrhyw gyfnodau anodd y gallem eu hwynebu fel cenedl.

Her COVID, wrth gwrs, yw'r her fwyaf o bell ffordd a wynebwyd gan unrhyw Lywodraeth Cymru, ac yn sicr, gallwn wneud rhai sylwadau cyffredinol am weithredoedd Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r her honno. Heb os, mae wedi bod o ddifrif ynglŷn â'i dyletswyddau. Mae wedi gwneud ei gorau gyda chywirdeb, yn fy marn i, i geisio cyflawni'r canlyniadau gorau i bobl Cymru. Yna, gallwn graffu ar elfennau penodol o'i gweithredoedd. Mae wedi gwneud llawer o bethau'n dda. Mae wedi gwneud camgymeriadau hefyd. Mae wedi gweithredu'n gyflym ar brydiau. Mae wedi llusgo'i thraed ar adegau eraill. Ar brydiau, mae wedi manteisio ar ein gallu i fod yn ystwyth fel cenedl fach. Ar adegau eraill, mae wedi methu achub ar rai cyfleoedd. Mae rhai pethau y byddem yn dymuno'u hailadrodd gyda mwy fyth o frwdfrydedd, pe baem yn wynebu her o'r fath eto, a phethau eraill, heb os, y byddem am eu hosgoi. Mae rhai penderfyniadau wedi achub bywydau, ac mae eraill wedi achosi risgiau diangen. Nawr, mae hynny oll, mewn sawl ffordd, yn anochel. Mae wedi bod yn oddeutu 21 mis o benderfyniadau anodd a phwysau di-baid ar y Llywodraeth ac ar Weinidogion, ond un peth nad oes unrhyw amheuaeth yn ei gylch yw bod yn rhaid inni ddysgu. Byddwn yn wynebu heriau tebyg eto. Rhai anoddach fyth, o bosibl. Efallai y bydd hynny yn ystod ein hoes ni, efallai na fydd, ond ni yw'r rhai, y funud hon, a all sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn yn ein hymdrech i ddod o hyd i atebion.

Pan alwais i a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru am sefydlu ymchwiliad yn gynnar, dywedwyd wrthym y byddai'n tynnu sylw oddi ar y gwaith o fynd i'r afael â'r pandemig. Yr hyn sy'n tynnu sylw oddi ar yr ymdrech i sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi gorau posibl yw treigl amser. Fe wnaethom ddadlau y gellid penodi cadeirydd fan lleiaf. Efallai y gellid rhoi fframweithiau ar waith. Gellid dechrau casglu tystiolaeth tra bo'r atgofion yn dal i fod yn fyw, mewn amser real, mewn ffyrdd nad oeddent yn torri ar draws y gwaith o ymladd y pandemig. A dyma ni, yn wynebu ail Nadolig mewn pandemig, a thrwy gydgysylltu ein hunain ag ymchwiliad y DU, nid oes gennym amserlen o hyd. Nid oes gennym hanfodion ymchwiliad go iawn hyd yn oed. Mae'n parhau i fod yn ymrwymiad mewn egwyddor, tra bo cwestiynau go iawn heb eu hateb ynghylch cymaint o feysydd: profi, cartrefi gofal, ymyrraeth gynnar, cyfarpar diogelu personol, brechu, awyru, cau ysgolion, digwyddiadau mawr, ymweliadau â chartrefi gofal, y rhestr warchod, gwisgo masgiau, iechyd meddwl, cymorth economaidd a llawer mwy.

Bydd cyd-Aelodau ar draws y Siambr, rwy'n siŵr, yn canolbwyntio ar wahanol elfennau. Ym mhob un o'r meysydd hyn, ein profiadau: colli anwyliaid, dioddef afiechyd, gweithio ym maes iechyd a gofal a sectorau allweddol eraill, colli addysg, busnesau dan bwysau—digwyddodd y cyfan yng nghyd-destun penderfyniadau a wnaed yng Nghymru, a bydd persbectif yn allweddol os ydym am gael atebion gonest. Drwy ddiffiniad, ni fydd ymchwiliad y DU yn edrych ar bethau o bersbectif Cymreig. Efallai y bydd yn ystyried, o'r tu allan, yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru, ond ni fydd ganddo bersbectif Cymreig. Efallai y bydd yn ystyried y rhyngweithio rhwng penderfyniadau mewn gwahanol rannau o'r DU, ond ni fydd yn ystyried y rhyngweithio hwnnw o bersbectif Cymreig.

Lywydd, i gloi, byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, er fy mod, ar yr un pryd, mae'n rhaid imi ddweud, yn gresynu'n fawr at natur gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU mewn perthynas â'r pandemig mewn cymaint o ffyrdd. Ac rydym yn gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru. Nid yw dweud eich bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU, eich bod wedi cael y sicrwydd rydych yn ei geisio gan Brif Weinidog y DU, yn ddigon da. Heb amheuaeth, mae'r ffordd y mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi tanseilio ymddiriedaeth pobl drwy ei weithredoedd dro ar ôl tro, yn tanseilio ein hymddiriedaeth ni ymhellach y byddai ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn rhoi'r ateb y mae Cymru'n chwilio amdano. Rydym bellach yn gwneud penderfyniadau drosom ein hunain yng Nghymru drwy Lywodraeth Cymru, a hynny'n briodol. Rydym yn croesawu hynny fel cenedl, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru groesawu'r craffu mwyaf manwl.

16:35

Cyn galw Rhun ap Iorwerth, mi ddylwn fod wedi galw ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno'n ffurfiol gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru,

b) ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn ystyried y penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y pedair gwlad.

c) bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban.

2.Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad y DU yn cynnwys sylw priodol i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch. Lywydd, roedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn dymuno ystwytho'u cyhyrau datganoli a gwneud eu penderfyniadau eu hunain mewn perthynas â'r pandemig hwn, felly dylai Llywodraeth Cymru fod yn barod i sefyll dros ei hegwyddorion a bod yn agored a derbyn craffu priodol ar y penderfyniadau hyn. Boed y penderfyniadau a wnaethant yn gywir neu'n anghywir, penderfyniadau'r Prif Weinidog hwn a Llywodraeth Cymru oeddent.

Bydd pob Aelod yn y Siambr hon wedi cael e-byst dirifedi yn nodi enghreifftiau o sut y mae penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi effeithio ar fywydau eu hetholwyr a'u hanwyliaid, ond nid wyf am roi'r enghreifftiau hynny yn awr, gan nad ydym yn dadlau yma heddiw a oedd y penderfyniadau hynny'n gywir ai peidio. Yn syml iawn, rydym yn nodi wrth Lywodraeth Cymru fod cynnal ymchwiliad sy'n benodol i Gymru i'r penderfyniadau tyngedfennol a wnaethant nid yn unig yn angenrheidiol, ond mai dyna'r peth iawn i wneud. Mae peidio â dymuno cael ymchwiliad penodol i Gymru yn edrych fel pe bai gennych rywbeth i'w guddio, ac a dweud y gwir, mae'n sarhad ar y teuluoedd yng Nghymru sy'n chwilio am atebion. Mae'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn gwneud anghyfiawnder drwy wrthod rhoi'r atebion hynny i bobl. Roedd Llywodraeth Cymru eisiau bod yn wahanol; cawsant gyfle i fod yn wahanol. Dylai'r Llywodraeth hon felly gynnal ei hymchwiliad cyhoeddus ei hun i'r modd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yng Nghymru.

Nid ydym yn galw am ymchwiliad i Gymru heb reswm; gwnawn hynny am mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae angen ateb cwestiynau ynghylch y canlyniadau a ddeilliodd o weithredoedd Llywodraeth Cymru a chanfod pam mai yng Nghymru y gwelwyd y gyfradd farwolaethau COVID uchaf yn y DU. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn edrych ar wleidyddiaeth Cymru a'r Senedd hon mewn gwirionedd. A ydynt yn parchu'r sefydliad fel y maent yn ei honni, neu a ydynt yn credu bod y Senedd hon mor amherthnasol fel nad oes angen craffu arni'n drylwyr ac yn briodol? Ni allwn ddysgu o'r pandemig hwn oni bai ein bod yn craffu ar y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth hon. Nid ydym yn dysgu unrhyw beth o gladdu'r penderfyniadau hynny mewn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau anodd ac ni fydd unrhyw un yn dadlau ynghylch pa mor anodd oedd rhai o'r penderfyniadau hynny. Ond hefyd, gellid dadlau bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniadau er mwyn bod yn wahanol i Lywodraeth y DU a dim mwy na hynny, gan chwarae gwleidyddiaeth bleidiol gyda'n bywydau. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i chwarae gwleidyddiaeth bleidiol, Lywydd, i ysgrifennu llythyrau amrywiol at Rif 10, a chyhoeddi'r hyn y dylent fod wedi'i wneud fisoedd yn ôl—y byddant yn cynnal ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Mae angen atebion ar Gymru. Diolch.

16:40

I gychwyn, byddwn yn dweud nad wyf yn amau ​​ymrwymiad y Gweinidogion a’r Prif Weinidog, a wynebodd amgylchiadau erchyll y llynedd. Ni ddylai hyn ymwneud ag ymosodiadau personol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar fater penodol sydd, yn fy marn i, yn enghraifft o'r angen am ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru.

Ar 27 Ebrill 2020, cysylltodd rheolwr cartref gofal â mi am ei bod yn credu bod preswylydd wedi dod â COVID i'w chartref gofal ar ôl bod yn yr ysbyty am reswm nad oedd yn gysylltiedig â COVID. Credai fod oddeutu 15 o breswylwyr wedi marw yn sgil cyflwyno COVID drwy'r llwybr hwn. Dywedodd nad oedd y claf wedi cael prawf am COVID cyn dychwelyd gan mai polisi Llywodraeth Cymru ar y pryd oedd peidio â phrofi pobl asymptomatig. Siaradais â rheolwyr cartrefi gofal eraill a oedd yn adrodd straeon tebyg. Roedd rhai ohonynt wedi gofyn i'w preswylwyr gael eu profi cyn dod yn ôl i mewn i'r cartref, ond gwrthodwyd eu ceisiadau. Roeddent yn dweud mai polisi Llywodraeth Cymru hyd at 23 Ebrill oedd nid yn unig peidio â phrofi pobl asymptomatig a oedd yn mynd o'r ysbyty i gartrefi gofal, ond i wrthod caniatáu profion, hyd yn oed pe gofynnid am brawf.

Ar 29 Ebrill, codais hyn yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, a dywedwyd wrthyf na chynhaliwyd y profion am nad oeddent yn cynnig unrhyw beth defnyddiol. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod tystiolaeth wyddonol ar gael ar y pryd yn dangos bod cludwyr asymptomatig yn profi'n bositif os oedd ganddynt y feirws. Nawr, pan newidiodd y polisi hwnnw maes o law, nid y ffaith bod y dystiolaeth glinigol wedi newid oedd y rheswm a roddwyd, ond oherwydd bod y Llywodraeth yn cydnabod yr angen i roi hyder i bobl yn y sector. Y diwrnod wedyn, cafodd safbwynt y Llywodraeth ynghylch defnyddioldeb profi pobl asymptomatig ei wrth-ddweud gan y prif swyddog meddygol, a ddywedodd ei fod yn gwybod y gallent brofi’n bositif am COVID ac awgrymodd mai’r gwir reswm dros beidio â chynnal y profion oedd capasiti. Ac ar 1 Mai, dywedodd y Prif Weinidog, yn wir, fod yna ddiben profi pobl asymptomatig.

Ar 21 Mehefin, Lywydd, datgelodd WalesOnline fod 1,097 o bobl wedi'u hanfon o ysbytai i gartrefi gofal heb gael prawf tra bo'r polisi ar waith. Wrth ymateb i'r stori, rhoddodd y Prif Weinidog reswm newydd pam y newidiwyd y polisi. Meddai, ac rwy'n dyfynnu,

'Pan newidiodd y cyngor, fe wnaethom newid yr arfer.'

Roedd hyn yn gwrth-ddweud yr honiad cynharach na chafodd y polisi ei newid oherwydd newid yn y cyngor, ond ei fod wedi'i newid er mwyn rhoi hyder i'r sector. Y diwrnod wedyn, dywedodd y Gweinidog iechyd na chafwyd unrhyw farwolaethau yn sgil methiant i gynnal y profion hyn. Felly, roedd gennym y Prif Weinidog ar gofnod yn dweud nad oedd y polisi wedi'i newid oherwydd newid yn y cyngor, a'i fod wedi'i newid oherwydd newid yn y cyngor. Nawr, digwyddodd rhyw fath o gamgyfathrebu neu gamgysylltu, nid ydym yn gwybod beth. Rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn anfwriadol. Ni fyddai unrhyw un wedi dewis i hynny ddigwydd, ond fe ddigwyddodd.

Gofynnais i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r cyngor a gawsant, ond fe wnaethant wrthod. Nid oes gennyf unrhyw rym gwysio a fyddai’n gorfodi ei gyhoeddi, ond byddai gan ymchwiliad swyddogol i Gymru'r grym hwnnw. Nid oes gennyf unrhyw hyder, Lywydd, y byddai ymchwiliad ar gyfer y DU yn rhoi ffocws haeddiannol i’r mater hwn. Ac mae'n haeddu ffocws, oherwydd bu farw pobl o ganlyniad i'r polisi—polisi nad oedd yn gwneud synnwyr o'r cychwyn, polisi na roddwyd cyfiawnhad clir drosto erioed, polisi lle rhoddwyd rhesymau gwrthgyferbyniol dros ei newid, polisi sy'n sicr yn golygu bod angen dysgu gwersi.

Nawr, hoffwn gofnodi eto nad oes dadl yma ynghylch aberth a gwaith anhygoel o galed y Gweinidogion, y gweision sifil na'r Prif Weinidog yn enwedig; roedd ei aberth ef yn eithriadol.

I gloi, nid oes angen i'r ddadl hon fod yn ymarfer annymunol mewn sgorio pwyntiau ynghylch yr hyn a ddigwyddodd mewn amgylchiadau erchyll, ond cafwyd prosesau nad oeddent yn gwneud synnwyr y llynedd—methiannau a arweiniodd at farwolaethau; teuluoedd, gan gynnwys fy un i, a gollodd anwyliaid a oedd yn byw mewn cartrefi gofal. Nid yw'n beth cyffyrddus i'w godi, ond byddai peidio â'i godi a pheidio â cheisio gwneud popeth a allwn i ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd yn gamgymeriad trychinebus.

16:45

Ychydig iawn y gallaf fi fel Aelod neu unigolyn ei ychwanegu at y ddadl hon, felly os caf, Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle i rannu stori fy etholwr, Robert Leyland. Roedd Robert, neu Bob i'w deulu a'i ffrindiau, yn un o lawer a fu farw yn ystod y pandemig, nid oherwydd COVID, ond oherwydd llu o fethiannau yn ymwneud â llywodraethiant ein gwasanaeth iechyd. Ysgrifennodd Jacqueline, gwraig Bob ers 23 mlynedd, ataf gyntaf rai wythnosau yn ôl, gan ddisgrifio'r gyfres dorcalonnus o ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth ei gŵr. Rhoddodd ganiatâd imi rannu stori Bob gyda chi heddiw.

Bob oedd yr unigolyn dewraf, cryfaf, mwyaf gwydn iddi ei adnabod. Yn wirfoddolwr cymunedol, mae Bob yn gadael nid yn unig Jacqueline, ond ei ddwy ferch hefyd. Fel cymaint o bobl, fodd bynnag, cafodd gam gan yr union system a oedd i fod i ofalu amdano. Yn y misoedd cyn ei farwolaeth, dioddefodd Bob lu o broblemau anadlol. Fodd bynnag, un ymgynghoriad ffôn yn unig—un yn unig—a gafodd gyda meddyg ymgynghorol anadlol. Canslwyd apwyntiad wyneb yn wyneb a oedd wedi'i drefnu ar gyfer mis Ebrill eleni, a threfnwyd apwyntiad ffôn arall. Serch hynny, ni dderbyniodd yr alwad honno, heb unrhyw esboniad pam. Wrth i gyflwr Bob barhau i ddirywio'n gyflym, ei wraig a frwydrodd iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty. Roedd Bob wedi colli pedair stôn o bwysau, nid oedd yn gallu cerdded, ac roedd angen cyflenwad ocsigen arno i anadlu. Chwe diwrnod yn ddiweddarach, bu farw. Nodwyd mai prif achos ei farwolaeth oedd ffeibrosis yr ysgyfaint. Fodd bynnag, fel y dywed ei wraig, ni chafodd ei archwilio gan feddyg ymgynghorol anadlol. Pe bai Bob wedi cael ei archwilio gan arbenigwr, efallai y byddai wedi cael cynllun triniaeth effeithlon ac effeithiol, ni fyddai ei wraig yn weddw a byddai gan ei blant dad o hyd.

Yn anffodus, mae stori Bob yn debyg i stori cynifer o bobl eraill. Ni wnaed y penderfyniadau a arweiniodd at ei farwolaeth gan y staff ymroddedig a fu'n gweithio o amgylch y cloc i ofalu amdano; roeddent yn benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a'i swyddogion, ac mae'n rhaid cael atebolrwydd am y penderfyniadau hyn. Dyna pam ei bod mor bwysig cael ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru, lle gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau, yn rhai da a rhai gwael. Fel gyda phob Llywodraeth drwy gydol y pandemig, gwnaed penderfyniadau anodd, yn gyfeiliornus weithiau, ac o ganlyniad, fe gollwyd bywydau. Felly, rwy'n apelio, ar ran Bob, ar ran ei weddw, Jacqueline, a'u teulu, ac ar ran y nifer o deuluoedd ledled Cymru sydd wedi colli anwyliaid, eu bod yn cael y cyfle y byddai ymchwiliad COVID ar gyfer Cymru yn ei roi iddynt i rannu eu tystiolaeth ac i gael yr atebion y maent yn eu haeddu.

Rwyf am orffen drwy ddyfynnu Jacqueline yn uniongyrchol o'i llythyr:

'Nid yw ond yn iawn ac yn deg tynnu sylw at hanes trist y bobl a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig oherwydd methiannau systemig, a'n bod yn cael cyfiawnder. Rwy'n dymuno'n dda i chi gyda'ch ymgyrch dros ymchwiliad cyhoeddus mawr ei angen.'

Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig.

16:50

Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd ddoe gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae dwy o’r ardaloedd awdurdodau lleol yn fy rhanbarth yn gyntaf ac yn ail o ran y nifer uchaf o farwolaethau COVID yng Nghymru hyd yn hyn: 1,003 o bobl yn Rhondda Cynon Taf, 993 yng Nghaerdydd. Mae ychwanegu'r 356 o bobl ym Mro Morgannwg yn gwneud 2,352 o bobl yng Nghanol De Cymru, 26 y cant o gyfanswm marwolaethau Cymru. Ac fel y nododd Samuel Kurtz yn ei atgofion a'i sylwadau am Bob, y tu ôl i bob rhif ac ystadegyn, wrth gwrs, mae unigolyn a'u teuluoedd a'u ffrindiau.

Hoffwn siarad heddiw i gynrychioli barn pob unigolyn mewn profedigaeth sydd wedi cysylltu â mi i rannu eu straeon personol torcalonnus, a hoffwn ddiolch iddynt am eu dewrder yn gwneud hynny. Ar 26 Hydref, cefais fy nhagio mewn trydariad gan etholwr. Yn y trydariad, roedd cyfres o ffotograffau o'i thad a'r testun canlynol: '55 mlynedd yn ôl i heddiw, pan gyfarfu fy mam â fy nhad. Roeddent yn briod am 54 ohonynt, ond bu hebddo am dair wythnos ac ar y diwedd. Dim cyswllt na hwyl fawr, dim "Rwy'n dy garu di". Dyma pam fod angen ymchwiliad arnom yng Nghymru. Dechreuodd eu stori yng Nghymru a daeth i ben yng Nghymru. I mi, nid yw'n ymwneud â bai, mae'n ymwneud â'i gydnabod ef.'

Credaf mai dyna'r peth allweddol yma. Byddai'n hawdd iawn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, ond y gwir amdani yw bod pob un ohonom yn ceisio bod yn unedig yma, ac nid oes a wnelo hyn â bai. Rydym yn cydnabod yr aberth a wnaed gan gynifer o bobl, y penderfyniadau anodd a wnaed gan wleidyddion mewn amseroedd nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Rydym wedi gweld GIG a sector gofal dan ormod o bwysau ac ar fin torri, heb sôn am weld gofalwyr di-dâl a phobl sy'n gofalu am anwyliaid yn cael eu heffeithio hyd yn oed ymhellach. Mae pob un ohonom wedi cyfarfod â theuluoedd, rwy'n siŵr, yn ein rôl fel cynrychiolwyr etholedig, a chanddynt straeon torcalonnus tebyg i stori Bob.

Rhannodd Catherine gyda mi ar Twitter heddiw:

'Bu farw fy nhad mewn cartref gofal… bydd ffarwelio ag ef drwy ffenest gydag ef yn estyn ei freichiau ataf i'w helpu yn hunllef a fydd gyda fi am byth'.

Ac mae'r rhain yn bethau a fydd yn ein trawmateiddio fel cymuned, fel cymdeithas, am ddegawdau lawer. Mae wedi bod yn amser anodd.

Ond i mi, hoffwn ganolbwyntio ar ymgyrch Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru a fu yn y Senedd ar 3 Tachwedd ac a rannodd eu profiadau gyda ni a pham eu bod yn credu bod yr ymchwiliad cyhoeddus hwn mor angenrheidiol. Fel y mae cyfraniadau eraill wedi'i grybwyll eisoes, y tri phrif faes sy'n peri pryder iddynt yw dechrau COVID mewn ysbytai a hefyd mewn cartrefi gofal a'r hawl i fywyd ac i farwolaeth urddasol.

Credaf fod edrych ar yr Alban a'r hyn y maent yn ei wneud yn dangos yn glir pam y dylem fod yn cynnal ymchwiliad tebyg yma yng Nghymru, ac mae'r rhesymau'n syml. Gwnaethom benderfyniadau yma yng Nghymru a oedd yn benodol i Gymru, ac felly, dylai'r craffu fod yma. Os edrychwn ar yr Alban, mae nod yr ymchwiliad yno'n syml iawn: bydd yn craffu ar y ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19 yn yr Alban ac yn dysgu gwersi o hynny i sicrhau bod yr Alban mor barod â phosibl ar gyfer clefydau pandemig yn y dyfodol. Oherwydd fel y gŵyr pob un ohonom, mae'r pandemig hwn ymhell o fod ar ben a rhagwelir clefydau pandemig pellach yn y dyfodol. Mae angen inni ddysgu gwersi hefyd mewn pob math o ffyrdd, nid yn unig mewn perthynas â'r sector iechyd a'r sector gofal, ond yn debyg i'r cwmpas yn yr Alban, drwy edrych ar holl effaith COVID a'r camau a gymerwyd mewn perthynas ag addysg ac ati. Felly, mae fy ngalwad yn syml: mae angen inni sicrhau bod teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ac sy'n parhau i ddioddef profedigaeth yn cael yr atebion sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu, ond hefyd ein bod yn cynllunio'n well ar gyfer clefydau pandemig yn y dyfodol.

Fel y soniodd Rhun, mae tanseilio ymddiriedaeth gyda Llywodraeth y DU yn rhywbeth y mae llawer o etholwyr sydd wedi colli anwyliaid wedi’i godi gyda mi, yn dilyn y sylw diweddar yn y wasg i bartïon honedig ac yn y blaen pan nad oedd pobl yn cael gweld anwyliaid a oedd yn marw. Mae angen inni gydnabod diffyg ymddiriedaeth teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru yng nghymhwysedd Llywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad, heb sôn am edrych ar y sefyllfa wirioneddol yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn annog pob Aelod i feddwl am y teuluoedd sydd mewn profedigaeth wrth fwrw eu pleidleisiau heddiw a pham y bydd ymchwiliad yn ein helpu yng Nghymru. Nid yw'n ymwneud â thaflu bai; mae'n ymwneud â chyfiawnder a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

16:55

Fel y dywed y comisiynydd pobl hŷn, yn gwbl gywir:

'Bydd cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus penodol i Gymru yn sicrhau bod y Cadeirydd a’r panel a fydd yn gyfrifol am yr Ymchwiliad yn deall datganoli a nodweddion diwylliannol a gwleidyddol arbennig Cymru, yn ogystal â chynrychioli amrywiaeth ein gwlad a bod yn hygyrch mewn ffordd na allai un Ymchwiliad ar gyfer pob rhan o’r DU fod.'

Dyna pam fod yn rhaid inni wrthod gwelliant Llywodraeth Cymru i'r ddadl hon a gwrthod eu safbwynt ar y mater hwn. Gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau a'n harweiniodd ar hyd llwybr gwahanol i Loegr ac at un o'r cyfraddau marwolaeth COVID uchaf yn y byd. Roedd gennym Lywodraeth dan arweiniad Prif Weinidog Cymru a wrthododd dderbyn y dystiolaeth ar fasgiau wyneb am fisoedd, er bod tystiolaeth yn dangos eu heffeithiolrwydd wrth wrthsefyll lledaeniad Syndrom Anadlol Acíwt Difrifol a Syndrom Anadlol y Dwyrain Canol. Gwrthododd y Prif Weinidog gyflwyno eu defnydd yng Nghymru, ac wrth gael ei holi, dywedodd y Prif Weinidog, 'Nid ydynt ar waelod fy rhestr, nid ydynt hyd yn oed ar fy rhestr.' Faint o fywydau a gollwyd o ganlyniad i amharodrwydd y Prif Weinidog i wrando ar y dystiolaeth?

Caniatawyd i feirws SARS-CoV-2 ledaenu'n ddirwystr i raddau helaeth, gan arwain at niferoedd mwy o achosion a oedd angen triniaeth ysbyty, gan roi pwysau yn ei dro ar benaethiaid iechyd i symud cleifion allan o'r GIG ac i gartrefi gofal. Dyma pryd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei chamgymeriad mwyaf a mwyaf difrifol, drwy beidio â phrofi cleifion a'u gosod dan gwarantin cyn eu symud i gartrefi gofal. Caniataodd Llywodraeth Cymru i COVID-19 ledaenu'n ddirwystr i'r sector gofal. Faint o drigolion a staff y sector cartrefi gofal a fu farw o ganlyniad i fethiannau'r Llywodraeth hon? Mae eu methiannau wedi peryglu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a, heb os, wedi cyfrannu at farwolaethau cynifer o bobl. Sefydlwyd ysbytai maes ledled y wlad, ac yn hytrach na'u defnyddio i gadw cleifion agored i niwed yn ddiogel rhag y feirws, prin y gwnaed defnydd ohonynt o gwbl.

Caniatawyd i gleifion â COVID gymysgu â chleifion agored i niwed, gan ganiatáu i heintiau ledaenu'n gymharol ddirwystr. Bu farw un o bob pedwar o ddinasyddion Cymru a gollwyd yn sgil y pandemig o haint COVID a ddaliwyd mewn ysbyty yng Nghymru. Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am benderfyniadau a arweiniodd at y trychineb hwn, ac eto nid ydynt yn barod i dderbyn canlyniadau eu penderfyniadau. Yn lle hynny, fe wnaethant ddewis cuddio y tu ôl i ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, yn hytrach na wynebu ymchwiliad annibynnol ar gyfer Cymru yn unig—ymchwiliad a all ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar y penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ar gamau a effeithiodd ar ddinasyddion Cymru ac ar ddysgu gwersi penodol i Gymru er mwyn sicrhau na fydd Cymru byth yn cael ei rhoi mewn perygl eto fel y digwyddodd yn ystod cyfnodau cynnar y pandemig hwn.

Gwnaeth Gweinidogion Cymru benderfyniadau a effeithiodd yn uniongyrchol ar fywydau pob dinesydd yng Nghymru, penderfyniadau y byddwn yn talu amdanynt am genedlaethau, ac eto, nid ydynt yn barod i amddiffyn y penderfyniadau hynny i bobl Cymru. Mae'n wir y bydd dimensiwn Cymreig i ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer y DU gyfan, ond ni fydd yn llawer mwy na throednodyn. Bydd ymchwiliad y DU yn canolbwyntio i raddau helaeth ar GIG Lloegr. Ac wedi'r cyfan, mae poblogaeth Lloegr yn dri chwarter poblogaeth y DU. Mae GIG Lloegr yn gwasanaethu bron i 20 gwaith yn fwy o bobl na’n GIG ni. Yr unig ffordd y caiff pobl Cymru yr atebion y maent eu hangen ac y maent yn eu haeddu yw drwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrando ar eu cydwybod heno, rwy'n ymbil arnoch i wrthod ymdrechion Llywodraeth Cymru i osgoi craffu, ac rwy'n erfyn arnoch i wrando ar deuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru. Pleidleisiwch dros ein cynnig heddiw a gadewch inni gynnal ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru.

17:00

Mae'n rhaid imi ddweud bod hon yn un o'r dadleuon anoddaf y gall unrhyw un ohonom gyfrannu ati yn ôl pob tebyg, a chyn imi wneud fy nghyfraniad, hoffwn wneud apêl i'r Prif Weinidog a'i Gabinet: hanner Aelodau'r Senedd yn ôl y sôn fydd yn galw am hyn, ond mae cynifer o bobl yn galw am yr ymchwiliad hwn, felly byddwch yn barod i sefyll dros eich egwyddorion, a gadewch i ni gael ymchwiliad os gwelwch yn dda.

Roeddwn yn meddwl o ddifrif, o ddechrau'r pandemig, y byddai ymchwiliad yn digwydd yn awtomatig. Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn eistedd yma heno yn ymbil ar y Prif Weinidog i wneud hyn. Ond roedd hyd yn oed yn fwy trist pan gyfarfûm â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn y Senedd y mis diwethaf, ac roedd eu straeon torcalonnus am golled bersonol, galar a chaledi unwaith eto'n amlygu ac yn tanlinellu eu hymbil taer am atebion. 

Felly, gadewch imi fod yn glir: drwy ei chefnogaeth ddiysgog i ymchwiliad pedair gwlad gan Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn amddifadu'r cyhoedd yng Nghymru o atebion ynghylch y penderfyniadau a wnaeth ar ei phen ei hun. Mae rhai wedi awgrymu mai ffordd y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru o arddangos eu grym oedd y penderfyniadau hynny. Y cyfan rwy'n ei wybod yw hyn, roedd yna adegau pan oeddem fel pe baem yn crwydro i gyfeiriad gwahanol yma. Cafwyd dull anhrefnus o lacio cyfyngiadau symud, yn amrywio o'r rheol pum milltir anghredadwy, a fethodd gydnabod realiti cefn gwlad Cymru, i gael gwared yn sydyn ar y cyfyngiadau symud yn llwyr yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr. Mae gwrthod yr ymchwiliad hwn yn golygu na allwn werthuso effaith dulliau cyfyngu penodol, ac mae'n eironig ein bod yn gofyn yn awr am yr ymchwiliad hwn ar ddechrau cyfnod dieithr arall yn y pandemig.

Wrth i nifer y bobl sy'n mynd i ysbytai yng Nghymru ar gyfer triniaeth canser ostwng dros 40,000, a chyda Llywodraeth Cymru yn gwrthod bod yn rhan o borth profi Llywodraeth y DU, gan ddweud y byddech yn datblygu un eich hun, dim ond i gael gwared ar y syniad lai na mis yn ddiweddarach, drwy wrthod yr ymchwiliad hwn, nid yw Cymru bellach yn gallu bwrw ymlaen ag unrhyw baratoadau pandemig newydd. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi postio mwy na 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau anghywir ym mis Ebrill a mis Mai 2020, a bod hyn wedi'i waethygu ymhellach pan gafodd manylion mwy na 18,000 o unigolion eu postio'n ddamweiniol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gwrthod yr ymchwiliad hwn yn golygu na allwn ddeall yn llawn y rhesymeg a oedd yn sail i'r dewisiadau a wnaed ar y pryd. Gwyddom y byddai cynnal ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru o fudd i Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Ymhell o fod yn droednodyn yn nogfen ymchwiliad mwy y DU, fel y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud yn glir, bydd cynnal ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru yn sicrhau bod y panel yn deall yn union beth aeth o'i le, pryd aeth o'i le, a sut y gallant wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.

Hyd heddiw, mae gennyf fusnesau lletygarwch sy'n pryderu y byddwch unwaith eto'n penderfynu gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai, cyfyngiad anghymesur a niweidiodd y diwydiant, yn enwedig ym mis Rhagfyr, lle gall busnesau bellach wneud hyd at 25 y cant o'u trosiant blynyddol. Mae gennyf etholwyr sy'n parhau i fod yn ddryslyd ynghylch yr oedi cyn profi a rhyddhau cleifion o'r ysbyty i gartrefi gofal yn ogystal â'r oedi cyn ymuno ag ap profi ac olrhain y GIG. Cymru bellach sydd â'r nifer fwyaf o farwolaethau yn y DU gyfan, gyda chyfradd farwolaethau o 282 ym mhob 100,000. Drwy guddio y tu ôl i ymchwiliadau i benderfyniadau Llywodraeth y DU ar COVID-19, mae Llywodraeth Cymru yn tanseilio ein gallu i ystyried, cofio a pharatoi ar gyfer yr hyn sydd i ddod nesaf. Lywydd, atebolrwydd yw conglfaen unrhyw ddemocratiaeth. Rwy'n ymuno â chyd-Aelodau yn y Siambr hon a thrigolion o bob rhan o Gymru sydd wedi colli teuluoedd i annog Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r pandemig COVID yng Nghymru. Diolch.

17:05

Dwi nawr yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfrannu, Eluned Morgan.

Llywydd, mae'r pandemig hwn wedi bod yn hir ac yn anodd, ac mae wedi effeithio ar bob agwedd o'n bywydau ni o ddydd i ddydd. Mewn byd delfrydol, byddem ni'n edrych ymlaen at y Nadolig a'r flwyddyn newydd erbyn hyn, ond unwaith eto, rŷn ni'n wynebu amrywiolyn newydd sy'n symud yn gyflym, ac fe allai degau o filoedd o bobl ar draws y wlad gael eu heintio gan yr amrywiolyn hwn cyn y Nadolig.

Mae hwn yn gyfnod pryderus ac ansicr i ni i gyd. Ond os bydd e'n gyfnod anodd a phoenus, hefyd, mi fydd e'n sicr nawr yn gyfnod sydd yn fwy caled i unrhyw un sydd wedi colli unrhyw un sy'n annwyl iddyn nhw yn ystod y pandemig yma. Yn anffodus, mae llawer o deuluoedd wedi colli rhywun annwyl, gormod o lawer o deuluoedd. Mae'r feirws yma'n greulon, ac mae wedi lladd. Mewn llawer o achosion, mae gan y teuluoedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl gwestiynau—cwestiynau y mae hi ond yn iawn i'r teuluoedd yna ddisgwyl cael atebion iddyn nhw.

O ystyried yr effaith eang mae'r pandemig wedi'i chael, mae'n hollol briodol bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal. Dylai'r ymchwiliad hwn ystyried nid yn unig sut rŷn ni fel Llywodraeth wedi ymateb i'r pandemig hwn, ond sut mae cyrff cyhoeddus eraill wedi ymateb, hefyd.

Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae perthynas agos iawn rhwng llawer o benderfyniadau a gafodd eu gwneud a chamau a gafodd eu cymryd yma yng Nghymru a'r hyn a oedd yn digwydd ar draws holl wledydd y Deyrnas Unedig. O safbwynt craffu ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pandemig, rŷn ni'n credu mai ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yw'r opsiwn orau ar gyfer gwneud hynny mewn ffordd sy'n briodol ac yn agored. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei sefydlu, a bydd e'n ystyried y pandemig o safbwynt y Deyrnas Unedig gyfan.

Rŷn ni yn Llywodraeth Cymru yn credu ei fod e'n bwysig bod y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yma yng Nghymru ac yn y gwledydd datganoledig eraill yn cael eu hystyried o fewn cyd-destun ehangach na'r penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud yn San Steffan. Cafodd cryn dipyn o'r ymateb i'r pandemig ei reoli ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae llawer o bobl wedi gweithio ochr yn ochr â'r Llywodraeth i gynghori a rhoi arweiniad. Rŷn ni'n credu, wrth gynnal yr ymchwiliad, ei bod hi'n bwysig mabwysiadu dull sy'n edrych ar bob agwedd ar y cyd. Mae'n rhaid ymchwilio i'r ffordd yr aeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal â Llywodraethau datganoledig ati i ymateb i'r pandemig.

Lywydd, mae'r cyd-destun eang ar gyfer gwneud ein penderfyniadau wedi'i gysylltu'n anorfod ag ystyried tirwedd ehangach gwyddoniaeth a pholisi'r DU. Er enghraifft, mae cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, rhwydwaith Prif Swyddog Meddygol y DU, y Trysorlys a mesurau cymorth Llywodraeth y DU—maent i gyd yn gosod y paramedrau ar gyfer y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Gwnaed penderfyniadau hefyd sy'n effeithio arnom yma yng Nghymru nad oedd gennym fawr ddim rheolaeth drostynt os o gwbl. Cymerwch yr amrywiolyn delta—cafodd Llywodraeth y DU gyfle i gyfyngu ar deithio o'r eiliad y clywsant am yr amrywiolyn yn India, ond cadwasant eu ffiniau ar agor am wythnosau, a hwn yw'r amrywiolyn mwyaf amlwg yma yng Nghymru am y tro. Ond fe wnaethom rybuddio Llywodraeth y DU hefyd i beidio â newid o brofion PCR i brofion llif unffordd ar gyfer teithio rhyngwladol, a phe na baem wedi newid, efallai y byddem wedi darganfod yr amrywiolyn omicron yn gynt. Hwn fydd yr amrywiolyn mwyaf amlwg yng Nghymru cyn bo hir, ac mae hyn yn profi pa mor gydgysylltiedig rydym â gweddill y DU, a sut y byddai'n anodd gwahanu ein profiad yn llwyr oddi wrth brofiad ein cymdogion yn Lloegr, a pham felly ei bod yn gwneud synnwyr i gael ymchwiliad ar gyfer y DU, ond gyda ffocws Cymreig. 

Nawr, rwy'n falch o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i COVID, ac rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am eu cydweithrediad gyda'r ymateb i COVID. Wrth gwrs bod gwersi i'w dysgu, ac wrth gwrs y bydd meysydd lle mae'n rhaid inni wella, ond ceir meysydd hefyd lle mae ein hymateb i'r pandemig wedi dangos ffyrdd newydd a gwell o weithio. Rydym yn cymryd camau o fewn Llywodraeth Cymru a'r GIG i ddysgu'r gwersi hynny o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, wrth i ni barhau i ymateb i'r argyfwng parhaus. Ac mae'n bwysig fod y gwersi hyn yn cael eu dysgu yn awr, ac nad ydym yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad cyn inni wneud gwelliannau.

Cafwyd ffocws y prynhawn yma ar heintiau COVID a ddaliwyd mewn ysbytai yng Nghymru. Nawr, un o'r rhesymau pam ein bod yn gwybod cymaint am hyn yw oherwydd bod y GIG yng Nghymru wedi cofnodi pob achos o haint, ond mae angen i bobl fod yn ymwybodol mai ni yw'r unig ran o'r DU i gael system TG genedlaethol sy'n gallu casglu a chofnodi data o'r fath. Nawr, bydd y wybodaeth hon yn helpu'r holl deuluoedd sydd, yn briodol, eisiau ac angen atebion. Mae'r GIG eisoes wedi dechrau ymchwilio i bob achos drwy'r broses 'Gweithio i Wella', ac rydym yn rhannu canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw gyda theuluoedd.

Ac wrth gwrs rydym yn cydnabod y pryderon dilys ynghylch gallu ymchwiliad ar gyfer y DU i ganolbwyntio'n gyfartal ar y pedair gwlad fel rhan o'i gylch gwaith. Mae Prif Weinidog Cymru wedi trafod hyn gyda Phrif Weinidog y DU a Michael Gove. Nododd Prif Weinidog Cymru ei ddisgwyliadau ynglŷn â'r ffordd y caiff profiad pobl ei ystyried, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan y tîm ymchwilio ehangach rywun â chysylltiadau â Chymru a phrofiad a dealltwriaeth ddiweddar a pherthnasol o'i threfniadau llywodraethu. A bydd disgwyl hefyd i dîm yr ymchwiliad ddod i Gymru i glywed tystiolaeth yn uniongyrchol gan bobl yng Nghymru. Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd cynhyrchu penodau ar Gymru yn rhan o'r adroddiad hwnnw, fel y gall pobl fyfyrio'n dryloyw ar yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru a dod i gasgliadau.

Rydym yn disgwyl y bydd pobl yn cael cyfle i roi sylwadau ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad yn y flwyddyn newydd, cyn iddynt gael eu cwblhau'n derfynol. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyfarfod â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru ddwywaith i glywed yn uniongyrchol ganddynt, a chynhelir cyfarfod arall yn y flwyddyn newydd. Mae'n awyddus i'r grŵp rannu eu syniadau am y ffordd orau o sicrhau bod profiadau pobl o'r pandemig yn cael eu cynnwys yn rhan o'r ymchwiliad. Bydd ymchwiliad y DU yn dechrau yn y gwanwyn, ar adeg pan fydd y pandemig yn dal i fod gyda ni, ond rwy'n falch fod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â Phrif Weinidog Cymru cyn cyhoeddi penodiad y Farwnes Heather Hallett yn gadeirydd ymchwiliad y DU i COVID heddiw. A gwyddom fod ganddi hanes o fod yn sensitif i Lywodraethau datganoledig yn y Deyrnas Unedig drwy ei hymwneud â Gogledd Iwerddon.

Mae ymddangosiad yr amrywiolyn omicron, ynghyd â chyfraddau uchel o achosion yn barhaus, yn golygu bod ein ffocws yn parhau ar ymateb i'r argyfwng presennol a chadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n gwahodd yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau i'r cynnig. Diolch, Lywydd. 

17:10

Galwaf nawr ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl. Andrew R.T. Davies.

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Nid ydym yn ymddiheuro am ddod â'r ddadl hon gerbron y Senedd eto, gan fod Russell George wedi dweud yn gwbl glir yn ei sylwadau agoriadol fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn hyrwyddo'r achos hwn dros y 18 mis diwethaf. Mae'n hanfodol fod Cymru'n cael ei hymchwiliad annibynnol ei hun, ac os caf ddefnyddio geiriau'r Gweinidog ei hun o gyfraniadau ddoe yn y datganiad iechyd a gyflwynodd ar brofion a chyflwyno'r brechlyn atgyfnerthu yma yng Nghymru, yr hyn a ddywedodd oedd,

'Dwi ddim yn gwybod o ble mae pobl yn cael y syniad ein bod ni'n ei wneud e yn y ffordd maen nhw yn Lloegr. Dŷn ni ddim.'

A dyna'r peth allweddol yma. Mae Cymru wedi dilyn trywydd gwahanol ar lawer o faterion, fel y nodwyd mewn llawer o gyfraniadau y prynhawn yma: Laura Anne Jones yn sôn am y penderfyniadau sy'n newid bywydau y mae gwahanol Weinidogion wedi'u gwneud; Rhun ap Iorwerth yn dweud na ddylai Cymru fod yn bennod mewn ymchwiliad ar gyfer y DU; Delyth Jewell a Heledd Fychan yn tynnu sylw, yn achos Heledd, at nifer y marwolaethau yn ardal Canol De Cymru, ond yn achos Delyth, y mater penodol ynghylch cartrefi gofal a rhyddhau i gartrefi gofal. Mae'r rhain yn faterion na ellir ymdrin â hwy'n unig mewn ymchwiliad ehangach ar gyfer y DU. Mae angen edrych arnynt yn benodol yng nghyd-destun Cymru, oherwydd fe wnaed y penderfyniadau gan Weinidogion Cymru. 

A chredaf mai'r hyn sy'n dweud cyfrolau heddiw hefyd—a chredaf ei fod braidd yn siomedig a dweud y lleiaf, os nad yn peri gofid—yw nad oes yr un Aelod Llafur wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ni allaf feddwl am unrhyw ddigwyddiad arall yn fy oes i sydd wedi cael cymaint o effaith ar fywyd yng Nghymru, yn y DU, ac ar draws y byd. Diolch byth, nid wyf yn ddigon hen i gofio'r rhyfeloedd byd, nac unrhyw ddigwyddiadau mawr fel yna, ond mae'r pandemig hwn wedi cyffwrdd â phob cwr o'r byd, pob cornel o'r Deyrnas Unedig, a phob rhan o Gymru. Ac i'r 9,000 o bobl sydd wedi colli eu bywydau, mae'r teuluoedd a adawyd ar ôl yn haeddu atebion. Maent yn haeddu atebion i gwestiynau difrifol y maent eisiau eu gofyn am y ffordd yr ymdriniwyd â materion mewn cartrefi gofal, mewn ysbytai, a'r gymuned ehangach.

Ar y pwynt a wnaeth Gareth yn enwedig ynghylch gweithredoedd y Prif Weinidog mewn perthynas â gorchuddion wyneb, pan ddywedodd y Prif Weinidog ei hun nad oeddent ar waelod ei restr hyd yn oed—nid oeddent ar ei restr o gwbl ar y pryd hyd yn oed, yr haf diwethaf. Mae'n hawdd anghofio'r pethau hyn, ond roedd y camau a gymerwn yn ganiataol yn awr yn araf yn cael eu gweithredu, a thynnodd Gareth sylw at hynny yn ei gyfraniad. Nododd Janet, yn arbennig, y rheol pum milltir a'r effaith ar gymunedau gwledig, ac yna aeth ymlaen i sôn am y problemau gyda'r llythyrau a aeth ar goll i bobl a oedd yn gwarchod ar ddechrau'r pandemig. Mae'r rhain i gyd yn feysydd y gallai ymchwiliad ymdrin â hwy o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio, gwleidyddion fyddai'n cytuno i sefydlu'r ymchwiliad, ond wedi ei sefydlu, byddai'n cael ei lywodraethu gan y Ddeddf Ymchwiliadau, sy'n benodol iawn yn y ffordd y byddai'r cylch gorchwyl yn cael ei lunio a'r ffordd y byddai'r cadeirydd yn gweithredu.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Boris Johnson wedi cyhoeddi penodiad cadeirydd y DU heddiw. Mae hynny'n rhan hanfodol o'r fargen—y fargen a wnaeth Prif Weinidog y DU pan ddywedodd y byddai'n sefydlu ymchwiliad o'r fath, ac mae'n glynu wrth y fargen honno. Ond ni allaf ddeall yn fy myw pam y mae Prif Weinidog Cymru, a'r Llywodraeth Lafur, ac yn wir y Blaid Lafur, rwy'n tybio—ac eithrio Chris Evans, Aelod Seneddol Islwyn, sy'n credu y dylem gael ymchwiliad cyhoeddus—yn y bôn yn gwrthod gadael i'r ymchwiliad cyhoeddus hwn ddigwydd. Mae'n hanfodol fod teuluoedd y 9,000 o bobl sydd wedi marw yn y pandemig hwn yn cael yr atebion y maent yn gofyn amdanynt. Fe'i gwnaed yn gwbl glir ar y pryd y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal, ac roedd llawer ohonom, fel y nodwyd yn y cyfraniadau a wnaed y prynhawn yma, yn credu'n wirioneddol y byddai hwnnw'n ymchwiliad cyhoeddus i Gymru, yn hytrach nag ymchwiliad i'r DU gyfan yn unig.

Mae'r Alban wedi profi y gellir ei wneud yng nghyd-destun perthynas yr Alban/y DU. Fel unoliaethwr balch, rwyf eisiau gweld ymchwiliad ledled y DU, ond fel datganolwr hefyd, rwy'n deall yn iawn fod penderfyniadau wedi'u gwneud yma yng Nghymru sy'n benodol i Gymru. Mae'r consortiwm eang sydd wedi dod at ei gilydd i alw am yr ymchwiliad hwn—o'r comisiynydd pobl hŷn i Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, i'r Sefydliad Materion Cymreig, consensws eang o'r gymdeithas yng Nghymru—wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod y cyfnod mwyaf trawmatig ym mywydau'r rhan fwyaf o bobl yn cael ei brofi'n iawn o dan ficrosgop ymchwiliad annibynnol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau o bob plaid wleidyddol heno yn cymeradwyo cynnig y Ceidwadwyr sydd ger eu bron. Cyfeiriais at Chris Evans, Aelod Seneddol Llafur Islwyn. Ni allwn ei roi yn well fy hun. Dywedodd: 

'Nid wyf yn credu mai mater gwleidyddol yw hwn, mater moesol ydyw.'

Mae gennym gyfrifoldeb moesol i sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau Llafur mwy eangfydig ar y meinciau cefn yn cytuno â meddylfryd Chris Evans ac yn dangos eu cryfder moesol drwy bleidleisio gyda'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol heno dros gyflwyno'r ymchwiliad annibynnol. Fel y dywedais o'r blaen, crynhodd y Gweinidog iechyd y cyfan yn berffaith ddoe yn ei sylwadau pan ddywedodd, 'Nid Lloegr ydym ni. Nid ydym yn ei wneud yn yr un ffordd â Lloegr.' Felly, gadewch inni brofi'r hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru. Gadewch inni brofi'r effeithiau hynny. Gadewch inni adeiladu'r mesurau diogelwch ar gyfer clefydau pandemig yn y dyfodol, a sicrhau ein bod yn adeiladu Cymru well, fel y gallwn wrthsefyll y llymder a'r heriau y gallem eu hwynebu yn y dyfodol. Gadewch inni bleidleisio dros y cynnig hwn heno. Rwy'n annog yr holl Aelodau i ganiatáu i'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw ddigwydd, fel y gallwn sicrhau cyfiawnder i'r bobl sy'n galaru yma yng Nghymru.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gallwch ddangos drwy—. [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gweld gwrthwynebiad. Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, felly fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais honno yn dechnegol. Toriad byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:19.

17:20

Ailymgynullodd y Senedd am 17:23, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl gan Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y broses gydsyniad deddfwriaethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Rhys ab Owen, Alun Davies, Heledd Fychan a Jane Dodds. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, 19 yn ymatal ac 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Y broses cydsyniad deddfwriaethol: O blaid: 22, Yn erbyn: 15, Ymatal: 19

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r pandemig COVID-19 yng Nghymru. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, dwi'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 28 o blaid, neb yn ymatal, a 29 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru (Cynnig heb ei ddiwygio): O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

17:25

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n mynd ymlaen at bleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, dwi'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant, o dan Reol Sefydlog 6.20. Felly, mae'r gwelliant hefyd wedi'i golli o 29 pleidlais i 28, sy'n golygu bod y gwelliant a'r cynnig heb eu derbyn, ac felly does dim wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Dyna ni ddiwedd ar ein gwaith am y flwyddyn eleni, o bosib. Pob dymuniad da i chi i gyd, fel Aelodau—. Ond, ar y weithred olaf honno, dwi'n anghywir. Nid dyna ddiwedd ein gwaith ni am y flwyddyn. Mae'r ddadl fer dal i'w chynnal. 

10. Dadl Fer: Datblygu economi dinas-ranbarth Bae Abertawe

I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael, pob dymuniad da ichi am y Nadolig. I'r rhai ohonoch chi sy'n aros i glywed y ddadl fer, yna fe fyddwn ni yn symud ymlaen at y ddadl fer honno, yn enw Mike Hedges.

Diolch, Lywydd. Ceir cymuned fuddiant ledled dinas-ranbarth bae Abertawe. Abertawe oedd y ddinas fwyaf yng ngorllewin Ewrop i dderbyn cyllid amcan 1. Nid yw hynny'n destun balchder i mi o gwbl. Drwy'r rhanbarth, mae gennym Bort Talbot gyda dur, Llanelli gyda thunplat, sir Benfro gydag ynni, sir Gaerfyrddin gydag amaethyddiaeth ac Abertawe gyda gwasanaethau mawr y Llywodraeth fel y DVLA. Mae gan yr ardal Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar sawl safle. Felly, pam fod yr ardal yn gymharol dlawd? Yr achos, fel ym mhob man sy'n gymharol dlawd, yw gormod o bobl yn gweithio oriau afreolaidd ar yr isafswm cyflog. 

Rwy'n croesawu bargen ddinesig bae Abertawe, ac rwy'n llongyfarch y cynghorau a Llywodraethau Cymru a San Steffan am eu cefnogaeth i'r fargen hon. Er ei bod yn ddefnyddiol, ni fydd hyn yn trawsnewid yr economi. Os yw rhanbarth bae Abertawe am gael economi lwyddiannus, fywiog a ffyniannus, mae angen inni ganolbwyntio ar feysydd twf allweddol a chefnogi'r diwydiannau hynny gyda grantiau, cymhellion a chymorth arall. Ni allwn obeithio mwyach y bydd cynnig mwy nag unrhyw le arall i gwmnïau ddod â ffatri gangen yn datblygu ein heconomi, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd cangen hyn yn cau mewn cyfnod byr iawn.

Er y bydd gan bawb syniadau gwahanol ar ba sectorau i'w cefnogi, rwy'n credu bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gefnogi a meithrin y gwyddorau bywyd, TGCh, diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau proffesiynol. Mae'r dystiolaeth hefyd yn dweud wrthym y gall busnesau yn y sector gwyddorau bywyd dyfu'n gyflym iawn mewn marchnad fyd-eang, ac mae'r gwobrau am lwyddiant yn enfawr. Mae hyn yn golygu bod gan nifer fach o fusnesau llwyddiannus yn y diwydiant gwyddorau bywyd bŵer a photensial i gynhyrchu gwerth economaidd mawr i'r ddinas-ranbarth, gan greu swyddi sy'n talu'n dda.

Fodd bynnag, mae gwasanaethau proffesiynol ac ariannol yn sectorau lle mae Cymru, yn enwedig y tu allan i Gaerdydd, yn parhau i fod yn wan neu'n wan iawn. Mae angen inni ddatblygu ein gwasanaethau proffesiynol a defnyddio'r sector prifysgolion sy'n ffynnu i gynhyrchu cyflogaeth yn yr ardal. Yn y 1970au a'r 1980au, roedd Prifysgol Abertawe ar flaen y gad ym maes dadansoddi elfennau cyfyngedig, ac eto ychydig iawn o fudd a gafodd Cymru o hynny, os o gwbl. Gall gwasanaethau proffesiynol ym maes cyllid a pheirianneg gynhyrchu cyflogau uchel yn ogystal â chlystyrau o weithgarwch cysylltiedig. Mae gennym gwmni yswiriant mawr ac uchel ei barch yn yr ardal, ond mae gwir angen inni ddenu a chefnogi mwy o gyflogaeth gwerth uchel ar gyflogau uchel yn y sector ariannol. 

Un diwydiant allweddol nad yw wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol, ac sydd â'r gallu i gynhyrchu cyfoeth enfawr, yw TGCh. Mae tuedd i gwmnïau TGCh glystyru, nid yn unig yng Nghaergrawnt a Silicon Valley, ond o amgylch dinasoedd prifysgol eraill, ac o amgylch lleoedd fel Leamington Spa. Gydag ansawdd y graddedigion TGCh a gynhyrchir ym mhrifysgolion Cymru, mae'n siom ddifrifol fod gan Gymru gyfran is o'i phoblogaeth yn gweithio i gwmnïau TGCh na gweddill y DU. Mae datblygu economi yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar gyflogau isel a gwaith tymhorol. Felly, rydym angen strategaeth ar gyfer pob un o'r sectorau twf a dargedir.

17:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Hoffwn gymharu Abertawe â dinas sy'n cyfateb iddi, Aarhus, sef y ddinas fwyaf ond un yn Nenmarc, a Mannheim, sef ei gefell ddinas yn yr Almaen. Mae'r data economaidd ar gyfer y ddwy ardal yn ddiddorol, ond, fel un o drigolion bae Abertawe, yn ddigalon. Yn rhanbarth metropolitanaidd Mannheim, mae ei werth ychwanegol gros yn 147 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd, ond yn ninas Mannheim, mae'n 210 y cant, o'i gymharu ag ardal fetropolitan Abertawe ar 75 y cant ac ardal awdurdod lleol Abertawe ar 79 y cant.

Beth y mae Mannheim yn ei wneud yn wahanol, ac a all Abertawe ddysgu oddi wrth ei gefell ddinas? Cyfeiriwyd at ddinas Mannheim fel y ddinas glyfar gyntaf, lle maent wedi llwyddo i gysylltu pob aelwyd yn y ddinas â rhwydwaith ynni clyfar; mae arosfannau bysiau yn nodi pryd y mae'r bws nesaf yn cyrraedd, ac mae ganddynt arwyddion sy'n nodi lleoliad tagfeydd traffig. At hynny, yn y ddinas a'r rhanbarth, gallwch gyrraedd popeth ar fws, tram neu drên.

Prifysgol Mannheim yw un o'r sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw yn yr Almaen, ac mae'n chwarae rhan allweddol yn ei heconomi. Mae sefydliad ymchwil y brifysgol yn cydweithio'n agos â nifer o bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft Canolfan Ymchwil Gymdeithasol Ewropeaidd Mannheim a Chanolfan Ymchwil Economaidd Ewropeaidd Mannheim. Ysgol Fusnes Mannheim yw ysgol fusnes fwyaf blaenllaw yr Almaen, ac mae'n cynnig addysg reoli o'r radd flaenaf. Sefydliad sy'n gysylltiedig â'r brifysgol yw Canolfan Mannheim ar gyfer Entrepreneuriaeth ac Arloesi, sy'n darparu llwyfan sefydlu a deor i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Mae'r rhanbarth metropolitanaidd yn dod yn atyniad mwy a mwy i wasanaethau amlgyfrwng a thechnoleg uwch. Mae'r uchod yn helpu i egluro pam y mae Mannheim yn unfed ar ddeg yn y 15 dinas fwyaf dyfeisgar yn fyd-eang.

Mae'r ddinas hefyd yn gartref i gorfforaethau rhyngwladol mawr: ABB, IBM, Roche, Unilever. Hefyd, mae nifer o gwmnïau canolig eu maint yn datblygu, sydd â'r gallu i dyfu. Mae'r diwydiannau creadigol wedi'u sefydlu'n gadarn, gyda'r Mannheimer Schule enwog a'r theatr genedlaethol.

Mae gan Mannheim draddodiad diwylliannol hirsefydlog hefyd, ac mae'r Popakademie—prifysgol gyntaf yr Almaen ar gyfer cerddoriaeth bop a busnes cerddoriaeth—yn enwog yn rhyngwladol. Mae gweithdy'r dylunydd ffasiwn, Dorothee Schumacher, yno hefyd , a chaiff ei chreadigaethau eu cyflwyno mewn wythnosau ffasiwn rhyngwladol. Gyda'r nod o gyfrannu at amgylchedd lle gall llawer mwy o fusnesau creadigol ddatblygu, mae mg: mannheimer gründungszentren yn cefnogi sefydlwyr busnesau. Mae'r ganolfan yn cynghori yn ystod y broses sefydlu, yn darparu gofod swyddfa, ac yn helpu cwmnïau newydd i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu.

Credaf fod y rôl y mae'r brifysgol yn ei chwarae yn cefnogi datblygiad cwmnïau newydd yn hanfodol i ffyniant yr ardal, a hefyd y syniad o gael sectorau diwydiannol allweddol a'u cefnogi, gan adeiladu ar arbenigedd lleol a meysydd lle datblygwyd arbenigedd dros nifer o flynyddoedd. Er na all Abertawe efelychu popeth ym Mannheim, byddai adeiladu ar y prifysgolion, yn enwedig campws y bae, i gynhyrchu cwmnïau newydd drwy ganolfan entrepreneuriaeth ac arloesi yn gam sylweddol ymlaen. Mae Mannheim wedi gwneud cynnydd ym maes ynni a chysylltedd—dau faes y gall dinas-ranbarth bae Abertawe elwa ohonynt. Yn olaf, byddai adeiladu ar y diwydiannau creadigol sydd eisoes yn y rhanbarth yn helpu i ddatblygu dinas-ranbarth bae Abertawe. Ac a gaf fi atgoffa pobl, unwaith eto, fod y diwydiant gemau cyfrifiadurol yn fwy na'r diwydiant cerddoriaeth a'r diwydiant ffilm gyda'i gilydd?

Aarhus yw'r ddinas fwyaf ond un yn ôl poblogaeth yn Nenmarc, o'i chymharu ag Abertawe, y ddinas fwyaf ond un yng Nghymru. Mae Aarhus Fwyaf yn lleoliad pwysig yn y farchnad ynni gwynt fyd-eang. Mae'n gartref i rai o weithgynhyrchwyr tyrbinau gwynt mwyaf y byd. Pam? Oherwydd ei fod yno'n gyntaf. Y gwledydd a'r ardaloedd a oedd yno ar ddechrau diwydiannau, megis tyrbinau gwynt, yw'r rhai sy'n cael y budd mwyaf ohono, ac mae'n un o'r rhesymau pam fy mod mor gefnogol i forlyn llanw bae Abertawe.

Sefydlwyd Prifysgol Aarhus ym 1928 a hi yw'r brifysgol fwyaf yn Nenmarc, gyda 44,500 o fyfyrwyr, oddeutu dwywaith cymaint ag Abertawe. Ond mae Abertawe hefyd yn brifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil, felly'r her yw tyfu'r brifysgol, o ran nifer y myfyrwyr a'i safle'n fyd-eang. Mae cynnydd wedi'i wneud ar y ddau beth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag adeiladu campws y bae, ond mae cyfle o hyd i dyfu o ran niferoedd a gwella ei safle'n fyd-eang.

Y parc ymchwil mwyaf yn Aarhus yw parc gwyddoniaeth INCUBA, sy'n canolbwyntio ar ymchwil TG a biofeddygol—dau faes arall y soniais amdanynt ar y dechrau a thrwy gydol y drafodaeth hon. Mae'r sefydliad yn eiddo yn rhannol i Brifysgol Aarhus ac yn rhannol i fuddsoddwyr preifat, a'i nod yw meithrin perthynas agos rhwng sefydliadau cyhoeddus a chwmnïau newydd. Mae ymchwil TG a biofeddygol yn ddau o'r meysydd twf presennol yn y byd. Mae Aarhus yn gwybod hynny. Maent yn feysydd y mae dinas-ranbarth Abertawe yn awyddus i'w datblygu. Y nod yw rhoi'r rhanbarth ar y blaen o ran arloesi ym maes gwyddorau bywyd, a chael ei gydnabod fel dewis gyrchfan ar gyfer buddsoddiad a menter fyd-eang ym maes gwyddorau bywyd a llesiant. Ond gallwn dyfu ein mentrau ein hunain hefyd.

Mae Aarhus a Chaergrawnt—gyda'i Ffen Silicon a grëwyd yn 1970, pan ffurfiwyd parc gwyddoniaeth gan Goleg y Drindod a cholegau eraill Caergrawnt—yn dangos bod angen i barc ymchwil gael ei arwain gan y brifysgol. Ac rwy'n falch iawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, ond hoffwn ei weld i lawr yma hefyd. Mae cyfle i gynhyrchu parc ymchwil yn ninas-ranbarth bae Abertawe, ond mae'n rhaid iddo gael cefnogaeth prifysgol yn ogystal â chymorth lleol a chan Lywodraeth Cymru.

Aarhus yw canolfan Arla Foods, y cynhyrchydd cynhyrchion llaeth mwyaf yn Sgandinafia a'r pedwerydd cwmni llaeth mwyaf yn y byd. Mae gan Arla dri phrif frand: Arla, Lurpak a chaws Castello, sy'n cael eu gwerthu ym mhob cwr o'r byd. Rwy'n gofyn i bobl a allant enwi unrhyw frand arall sydd wedi'i wneud yng Nghymru, nid yn unig yn ne Cymru, y byddwn, pe bawn yn mynd i siop yn yr Almaen, neu'n mynd i siop yn Ffrainc neu Sbaen, yn dod o hyd i'r hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i Lurpak, Arla a chaws Castello.

Dylai prosesu mwy o'r bwyd yn lleol fod yn un maes twf a chael mwy o fudd economaidd o brosesu'r bwyd yn ogystal â'r fantais o'i gynhyrchu. Er nad oes dwy ddinas yr un fath, yn enwedig pan fyddant mewn gwahanol wledydd, ac er bod llwyddiant Aarhus yn dibynnu ar fwy na'r uchod, mae'n rhoi syniad o'r cyfeiriad teithio i gael dinas sy'n llwyddiannus yn economaidd. Er bod y cyngor yn symud dinas-ranbarth bae Abertawe i'r cyfeiriad cywir gyda'r fargen ddinesig, ni all y cyngor ar ei ben ei hun greu, na hyd yn oed arwain, llwyddiant economaidd ar gyfer yr ardal. Mae angen i'r prifysgolion, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a'r sector preifat gydweithio i dyfu'r economi.

Credaf fod angen pum cam gweithredu allweddol. Rhaid i'r fargen ddinesig fynd yn ei blaen i gynhyrchu'r manteision i gyflogaeth a'r economi a gynlluniwyd ar ei chyfer. Mae angen inni gael naill ai canolfan entrepreneuriaeth, fel Mannheim, neu barc datblygu, fel Aarhus, yn gysylltiedig â'r brifysgol yn Abertawe, neu'r ddau os oes modd. Mae cyfle i'r brifysgol dyfu ymhellach er mwyn iddynt ganolbwyntio ar arloesi a masnacheiddio. Mae angen inni gefnogi sectorau twf allweddol. Ac eto, fel y dywedais yn gynharach, mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yn fwy na cherddoriaeth a ffilmiau gyda'i gilydd. Mae Dundee wedi canfod hynny. I'r rhai sy'n gyfarwydd â Grand Theft Auto, daw hwnnw o Dundee.

Ac yn olaf, mae angen inni wella trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu gwahanol rannau'r rhanbarth. Nid ydym yn llai medrus, nid ydym yn llai galluog na rhannau eraill o'r byd; yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw ysgogiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r prifysgolion i'n symud ymlaen. Diolch.

17:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike Hedges am ei ddewis o ddadl fer, ynghyd â'i sylwadau agoriadol. Diddorol iawn—mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn y mae Mike wedi'i ddweud, ac yn enwedig y meysydd y mae wedi tynnu sylw atynt—mae'n tynnu sylw at feysydd o gryfder parhaus i adeiladu arnynt, yn ogystal â meysydd newydd posibl i edrych arnynt yn y dyfodol hefyd. Ac mae gan Mike ddiddordeb cyson mewn gwyddorau bywyd, rôl y brifysgol, ac wrth gwrs, nid yn unig TGCh ond trawsnewidiad digidol ehangach yr economi. A chredaf fod yr holl bethau hynny'n gyson â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru am eu nodi yn ein cynllun gweithredu economaidd a'n dull bwriadol o gael datblygiadau economaidd mwy rhanbarthol. Ac ers i fy rhagflaenydd, Ken Skates, benodi prif swyddogion rhanbarthol, rydym wedi ceisio meithrin cydweithrediad agosach a mwy effeithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid rhanbarthol. A chredaf fod hynny'n dwyn ffrwyth, gyda chydweithredu'n allweddol, ac mae'r bargeinion twf wedi helpu i ddod â phartneriaid at ei gilydd mewn gwirionedd—Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac yn hollbwysig, awdurdodau lleol fel partneriaid gyda busnesau, prifysgolion ac eraill.

Wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau gwirioneddol gyda COVID a Brexit yn cael effaith wirioneddol ar economi Cymru ac yn wir, ar ranbarth bae Abertawe. Nawr, hyd at ychydig wythnosau'n ôl, byddem wedi bod yn sôn am yr adferiad cyffredinol yn sgil COVID—mae hynny mewn llawer mwy o berygl yn awr. Yr hyn a wyddom yw bod problemau gyda chadwyni cyflenwi a staffio yn llesteirio'r adferiad, ynghyd â'r cynnydd mewn chwyddiant, ac mae ffigurau heddiw yn ein hatgoffa o hynny eto. Ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn cydnabod, yn ei rhagolygon, y bydd Brexit yn dyblu'r effaith niweidiol hirdymor y mae'r pandemig yn debygol o'i chael ar yr economi. Felly, mae ein perthynas wahanol ag Ewrop yn her fwy i ni, ac mae'r cysylltiadau y mae Mike Hedges wedi tynnu sylw atynt, gyda ffrindiau a phartneriaid Ewropeaidd, yn mynd i ddod yn fwy, nid yn llai, pwysig. A chredaf hefyd, yn benodol, y dylai ein cysylltiadau ag ynys Iwerddon ddarparu manteision gwirioneddol i ranbarth bae Abertawe, a manteisio ar botensial economaidd y môr Celtaidd yn arbennig, nid ei botensial o ran ynni adnewyddadwy yn unig.

Rydym wedi ceisio cynnal a diogelu busnesau ledled Cymru, wrth gwrs, gan gynnwys yn y rhanbarth hwn. Mae'r £2.5 biliwn a mwy a ddarparwyd gennym i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y pandemig wedi golygu bod dros £127 miliwn wedi'i ddarparu yn Abertawe, dros £60 miliwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, dros £109 miliwn yn sir Gaerfyrddin, a dros £111 miliwn yn sir Benfro gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau a swyddi yn y siroedd hynny. Ac rwy'n falch iawn fod Busnes Cymru yn parhau i gynorthwyo busnesau. Pan fyddwch yn meddwl am y rheswm penodol hwn, mae cannoedd o fusnesau wedi cael eu cefnogi drwy'r pandemig oherwydd gweithgarwch Busnes Cymru. Ac mae'r dull wedi'i dargedu wedi helpu i achub miloedd o swyddi yn llythrennol.

Pan edrychwn ar yr hyn rydym am ei wneud i gael mwy o bobl mewn gwaith, mae ein strategaeth cyflogadwyedd, y byddaf yn adrodd yn ôl arni yn y flwyddyn newydd, yn rhan allweddol o amlygu'r cymorth sydd ar gael i unigolion, yn enwedig y rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig, a'r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Un ffactor allweddol yn hynny fydd yr her o roi'r sgiliau i bobl naill ai gynyddu eu cyfleoedd i weithio, neu'n syml i gyrraedd y gweithle. Bydd ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn elfen sylweddol—yn elfen ganolog—o fewn y tirlun sgiliau, gyda'r wybodaeth am y farchnad lafur y maent yn ei darparu i ni, ond maent hefyd yn bartneriaid strategol sy'n cysylltu cydweithrediad yn eu rhanbarthau. Maent yn cefnogi ein dull rhanbarthol yn uniongyrchol, a'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yng Nghymru a nododd yr Aelod yn ei araith hefyd. 

Ochr yn ochr â hynny, wrth gwrs, rydym wedi parhau i ddatblygu ein fframweithiau economaidd rhanbarthol, a chredaf eu bod yn rhan hanfodol o ddyfodol datblygu economaidd yng Nghymru. Maent yn gyfrwng i ddatblygu ymhellach y cydweithio rydym yn ei gydnabod—a thynnodd yr Aelod sylw at nifer o ardaloedd, nid rhanbarth bae Abertawe yn unig—ond maent yn rhan o lwyddiant Mannheim, Aarhus a rhanbarthau Ewropeaidd eraill hefyd, a'r modd rydym yn cyflawni gyda chynlluniau rhanbarthol cydweithredol, sy'n rhwymo partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, mewn gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol economaidd rhanbarthol.

Nawr, y newyddion da yw bod y fframweithiau economaidd rhanbarthol hynny wedi datblygu'n dda, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r partneriaid rhanbarthol i geisio diffinio set y cytunwyd arni o flaenoriaethau datblygu economaidd ar gyfer pob rhanbarth. Ac yn rhanbarth bae Abertawe, mae'r fframwaith drafft eisoes yn adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud ymlaen llaw o baratoi cynllun cyflawni economaidd rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi hynny adeg y Nadolig neu cyn hynny. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl bartneriaid yn rhanbarth bae Abertawe am y ffordd y maent wedi gweithio'n adeiladol gyda'i gilydd, a'r ffordd rydym am barhau i weithio gyda hwy yn awr ac yn y dyfodol, a'r gwaith ychwanegol y comisiynais y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'w wneud ochr yn ochr â hynny. 

Yn ogystal â'r gwaith ar y fframwaith economaidd rhanbarthol wrth gwrs, rydym wedi gweld bod bargen bae Abertawe yn enwedig wedi cydnabod y realiti fod sector ynni adnewyddadwy morol newydd hyfyw a allai fod yn broffidiol iawn yn rhan o'r peilot ym margen ddinesig bae Abertawe. Nod y fargen ddinesig yw darparu dros 9,000 o swyddi medrus—cynnydd o £1.8 miliwn yn y gwerth ychwanegol gros. Rydym yn falch fod y rhanbarth wedi gwneud cynnydd ar ddatblygu prosiect portffolio, gydag wyth o'r naw prosiect eisoes ar waith. Ac mae'r cyllid sydd wedi'i ryddhau hyd yma yn golygu ein bod eisoes wedi rhoi tair blynedd o'r cyllid cyntaf, gyda dros £54 miliwn o raglen y fargen ddinesig eisoes allan i'w wario. Mae hynny'n newyddion da iawn, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na'r arian yn unig, mae'n ymwneud ag ysgogi menter ac arloesedd sy'n gwneud i'ch partner weld eich elw ar yr amser y maent wedi'i fuddsoddi mewn gweithio gyda'ch gilydd.

Ac unwaith eto, mae'r sector prifysgolion wedi bod yn allweddol i hyn hefyd, yn union fel y mae Mike Hedges wedi'i nodi mewn rhanbarthau eraill lle maent wedi bod yn llwyddiannus. Mae cael prifysgol sy'n canolbwyntio ar ymchwil a chael ymchwil, datblygu ac arloesedd sy'n cynnwys y sector prifysgolion a'r sector preifat yn allweddol i ddyfodol datblygu economaidd llwyddiannus. A chredaf fod gan ranbarth bae Abertawe lawer i'w gynnig i gefnogi ac annog gweddill Cymru hefyd. Mae hynny'n helpu i gyflawni prosiectau ynni morol yn sir Benfro—môr Doc Penfro—ond hefyd wrth gwrs, yr uchelgeisiau sy'n parhau i fod gennym mewn perthynas â thechnoleg môr-lynnoedd hefyd. Ond rwy'n credu hefyd ei fod yn amlygu'r cyfle sy'n bodoli yn y môr Celtaidd. Mae Llywodraeth Iwerddon, ynghyd â Gweinidogion Cymru, wedi cael sgyrsiau adeiladol gyda'r sector preifat, a chredaf fod cyfleoedd gwirioneddol, nid yn unig i gynhyrchu, fel y dywedais, ffynhonnell fwy o ynni adnewyddadwy, ond i greu cyfle economaidd gwirioneddol, sylweddol yn y cadwyni cyflenwi ar gyfer adeiladu, a fydd yn ymdrech sylweddol i ni ac a fydd, yn anochel, yn cynnwys y sector hwn. Mae'r ymchwil hyd yma, gyda'r Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, wedi nodi'r cyfleoedd hynny, ac rwy'n awyddus i weld partneriaid yn rhanbarth bae Abertawe yn manteisio ar y rheini, ynghyd â Gweinidogion yma yn ein hadran newid hinsawdd wrth gwrs.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Abertawe i hyrwyddo ei raglen adfywio a datblygu economaidd uchelgeisiol ar gyfer y ddinas. Mae'r fargen ddinesig ei hun wedi bod yn allweddol wrth greu ffrwd o brosiectau adfywio ychwanegol sy'n werth dros £1 biliwn yn Abertawe yn unig. Fel y mae Mike Hedges yn nodi, mae rhesymau da dros fod yn gadarnhaol am ddyfodol rhanbarth bae Abertawe, ond yn fwy na hynny, mae cryn awydd i ddysgu o rannau eraill o'r byd, gan gynnwys Mannheim ac Aarhus, i ddarparu rhanbarth bae Abertawe sy'n iachach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus, yn rhan o  Gymru sy'n iachach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus.

Edrychaf ymlaen at barhau â'r trafodaethau hyn gydag Aelodau o bob rhan o'r rhanbarth, gan gynnwys yr Aelod etholaeth a gyflwynodd y ddadl hon heddiw wrth gwrs. Rwy'n dymuno Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon iawn, gobeithio, i chi i gyd, ac os na all fod yn hynny, rwyf o leiaf yn edrych ymlaen at eich gweld i gyd yn y flwyddyn newydd ar ryw bwynt hefyd. Cymerwch ofal.

17:45

Diolch i'r Gweinidog.

Cyn i mi gloi'r trafodion am heddiw, a gaf fi ddymuno Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon, diogel a hapus iawn i chi i gyd a'ch teuluoedd? Edrychaf ymlaen at eich gweld yn y flwyddyn newydd yn iach, bawb ohonoch, a gobeithio y byddwch chi a'ch teuluoedd yn parhau'n iach dros y cyfnod hwn.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:46.