Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/06/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso i bawb i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Mae'r cwestiynau cyntaf y prynhawn yma i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

1. Pa adnoddau sydd wedi'u dyrannu yng nghyllideb 2021-22 Llywodraeth Cymru i helpu pobl â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru? OQ56620

Mae ein cyllideb yn cefnogi ystod o fuddsoddiadau er mwyn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond gwnaethom ddyrannu £1 filiwn ar gyfer 2021-22 ar gyfer cymorth wedi'i dargedu. Bydd hanner y cyllid yn cefnogi'r hyb cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i Gymru a bydd yr hanner arall yn cefnogi gweithgarwch i atal, lliniaru ac ymdrin ag effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn enwedig ar lefel gymunedol.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'r cymorth hyd yn hyn? Mae hi wedi bod yn 18 mis anodd dros ben i blant ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y gwahaniaeth rhwng profiadau plant o’r pandemig yn sylweddol. Mae'n amlwg i mi y bydd plant sydd wedi cael sawl profiad niweidiol yn ystod plentyndod wedi wynebu mwy o heriau na llawer o'u cyfoedion. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud eisoes ar sefydlu y bydd y trawma hwn yn effeithio arnynt am weddill eu hoes. Mae enghreifftiau da i’w cael o ble y gall dulliau sydd wedi’u llywio gan drawma i gefnogi'r plant hyn gael effaith fuddiol iawn. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi felly pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynyddu’n sylweddol yr arian sy'n cael ei wario ar fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'u hatal?

Diolch am godi'r mater pwysig hwn, a gwn ei fod yn achos pryder enfawr i fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’i thîm yn benodol. Mae cyllideb 2021-22 yn cynnwys £0.5 miliwn arall i gefnogi gwaith i atal, lliniaru ac ymdrin ag effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae hyn yn ychwanegol at y cyllid blaenorol. Bydd penderfyniadau ynglŷn â sut y bydd y swm penodol hwn yn cael ei ddyrannu’n cael eu llywio gan y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gan yr hyb cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy’n ceisio mapio'r ddarpariaeth bresennol. A bydd y grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd yn cyfrannu at y gwaith hwnnw, i'n helpu i ddatblygu canfyddiadau adolygiad polisi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod Llywodraeth Cymru. Felly, gwn fod cyngor yn cael ei baratoi ar gyfer fy nghyd-Aelodau ar hyn o bryd, a chyflwynir y cyngor hwnnw iddynt cyn diwedd mis Awst 2021, er mwyn nodi’r ffordd orau o ddefnyddio’r cyllid ychwanegol hwnnw.

Weinidog, er fy mod yn croesawu unrhyw adnoddau a glustnodir i helpu'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae'n gwbl amlwg nad yw Cymru'n gwneud digon i leihau adfyd yn y lle cyntaf. Er nad yw’n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod ynddo'i hun, gwyddom fod tlodi'n ffactor ychwanegol sy'n peri straen a all arwain at esgeuluso neu gam-drin plentyn. Yn anffodus, mae bron i 30 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi, a methodd Llywodraeth Cymru yn llwyr â chyflawni eu targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud i drechu tlodi plant, a phryd y byddwch yn cyflawni eich targed i’w ddileu? Diolch yn fawr iawn.

Wel, yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, gwnaethom nodi ystod eang o gamau y byddwn yn eu cymryd i drechu ac atal tlodi plant. Fe fyddwch wedi gweld ein cyllid ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim, er enghraifft, a Chymru oedd y wlad gyntaf yn y DU, wrth gwrs, i gyhoeddi y byddai prydau ysgol am ddim yn parhau drwy wyliau’r ysgol, tan y Pasg yn 2022. Ac mae gwaith yn mynd rhagddo gennym i edrych yn agosach ar brydau ysgol am ddim a'n polisi yn y cyswllt hwnnw, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer plant sydd ei angen fwyaf.

Fe fyddwch hefyd yn deall ein bod wedi bod yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â'n cynllun mynediad at y grant datblygu disgyblion, er mwyn ei ehangu i gynnwys nifer ehangach o blant a theuluoedd yma yng Nghymru. Felly, rydym yn edrych ar y cynlluniau sydd gennym ar hyn o bryd a beth arall y gallwn ei wneud yn y maes pwysig hwn. Ac fel y dywedwch, nid yw tlodi ynddo'i hun yn un o'r profiadau niweidiol rydym yn meddwl amdanynt wrth sôn am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond yn sicr, mae'n fater cwbl allweddol ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef ochr yn ochr â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

13:35
Polisi Treth

2. Pa egwyddorion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn wrth ddatblygu polisi treth yng Nghymru? OQ56635

Mae ein hegwyddorion treth, a gyhoeddwyd yn ein fframwaith polisi treth, yn sicrhau cysondeb a chydlyniaeth yn ein system dreth ehangach drwy sicrhau bod trethi Cymru yn codi refeniw yn deg, yn cefnogi amcanion polisi ehangach, yn glir, yn sefydlog ac yn syml, ac yn annog ymgysylltu eang er mwyn creu Cymru fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwyf wrthi’n adolygu'r egwyddorion ar hyn o bryd.

Weinidog, mae gormod lawer o anghydraddoldeb yn y DU, a gormod lawer o anghydraddoldeb yng Nghymru. Pan fyddwn yn teithio o gwmpas ein hetholaethau fel Aelodau o’r Senedd, gwelwn wahaniaethau mawr o ran ansawdd bywyd, cyfoeth ac incwm rhwng gwahanol rannau o'n hetholaethau. Felly, mae llawer o waith i'w wneud. Llywodraeth y DU sydd â rhai o'r ysgogiadau o ran treth a budd-daliadau, ond mae gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau sylweddol, ac ar ôl treth incwm, un o'r rhai pwysicaf yw'r dreth gyngor. Y llynedd, nododd adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod y dreth gyngor yng Nghymru wedi dyddio, yn anflaengar ac yn afluniol, a bod angen ei hailwerthuso a’i diwygio, ac yn wir, cafwyd addewid ym maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau’r Senedd i ddiwygio’r dreth gyngor. Felly, gallai diwygio'r dreth gyngor wneud gwahaniaeth sylweddol i wneud Cymru’n wlad decach. Felly, a allwch ddweud wrthym heddiw, Weinidog, a wneir gwaith ar frys i edrych ar system y dreth gyngor yng Nghymru, a sut y gellid ei diwygio i'w gwneud yn llawer mwy blaengar a theg? Ac a fydd y gwaith hwnnw hefyd yn ystyried dewisiadau amgen fel treth gwerth tir?

Diolch am eich cwestiwn pwysig. Mae dau beth yr hoffwn eu cynnig yn fy ymateb, a’r cyntaf yw fy mod yn falch iawn o'r hyn y bu modd i ni ei gyflawni yn ystod tymor diwethaf y Senedd o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Cawsom wared ar y gosb o garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor gan y gwyddom na ddylai ei chael hi’n anodd talu'ch biliau fod yn drosedd. Gwnaethom sicrhau hefyd fod pobl sy'n gadael gofal hyd at 25 oed yn cael eu heithrio rhag baich y dreth gyngor, a buom hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda MoneySavingExpert a Martin Lewis i sicrhau bod pobl â nam meddyliol difrifol yn gallu cael mynediad at yr ystod o gymorth sydd ar gael iddynt i dalu’r dreth gyngor yn arbennig. Felly, gwnaethom lawer o waith ar wneud y dreth gyngor yn decach, ond mae John Griffiths yn llygad ei le nad yw'r system ynddi'i hun yn system flaengar; mae'n system anflaengar, fel y nododd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, gwnaethom gynnal a chomisiynu cyfres o astudiaethau ymchwil, gan gynnwys gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond hefyd gwaith gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, ac eraill, i archwilio sut beth fyddai system decach yn y dyfodol. Roedd yr opsiynau hynny’n cynnwys treth gwerth tir, treth incwm leol, a chadw ein system gyfredol ond ei hailbrisio a chynnwys bandiau ychwanegol o bosibl o fewn y system. Felly, casglwyd yr holl waith hwnnw mewn crynodeb o'r canfyddiadau a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror, a'r dasg yn awr i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y Siambr, gobeithio, yw penderfynu pa un o'r opsiynau hynny, os o gwbl, y dylem fwrw ymlaen â hwy, a sut i wneud hynny. Felly yn sicr, credaf fod gennym ffordd gyffrous o’n blaenau yn nhymor y Senedd hon o ran diwygio trethiant lleol i'w wneud yn decach.

Weinidog, mae llawer o bobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn cymudo o’r etholaeth i weithio yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a thu hwnt, a'r unig ffordd y gall y bobl hynny fynd i'w gweithle yw drwy yrru oherwydd bod fy etholaeth mor wledig a'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, cynigiodd Llywodraeth Cymru y syniad o dreth ffordd bosibl, a phe bai’n cael ei chyflwyno, gallai effeithio'n andwyol ar bobl weithgar fy etholaeth sydd eisoes yn talu eu trethi i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod economi Cymru’n parhau i dyfu. Weinidog, a allwch gadarnhau heddiw nad yw Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno treth ffordd, gan y byddai hyn yn effeithio'n fawr ar bocedi pobl weithgar Brycheiniog a Sir Faesyfed? Diolch, Lywydd.

Roedd y gwaith y cyfeiriwch ato yn waith a wnaed gan Weinidog yr Economi yn nhymor diwethaf y Senedd i archwilio sut beth fyddai treth ffordd, ac nid yw hon yn un o'r trethi rydym yn ystyried bwrw ymlaen â hwy ar hyn o bryd yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, mae'n rhywbeth rydym yn awyddus i’w archwilio, er mwyn deall ei rinweddau neu ei ddiffygion. Felly yn sicr, nid yw'n gynnig gweithredol ar hyn o bryd, ond mae’n un o amrywiaeth eang o feysydd rydym yn edrych arnynt er mwyn deall beth y gallai'r cyfleoedd neu'r risgiau fod. Felly, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynigion uniongyrchol, ond yn amlwg, mae gennym ddiddordeb mewn syniadau.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox. 

Diolch, Lywydd, a diolch i chithau, Weinidog, am ddod ger ein bron heddiw, ac edrychaf ymlaen at berthynas waith iach gyda chi dros y cyfnod i ddod.

Weinidog, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio’r broses o lacio cyfyngiadau yn sylweddol am oddeutu pedair wythnos wedi chwalu gobeithion llawer o sectorau, yn enwedig lletygarwch, a oedd yn amlwg wedi gobeithio gallu dychwelyd i fasnachu'n gynharach ar ôl y 15 mis anodd, trychinebus rydym wedi’u cael, ac er mwyn i fusnesau oroesi drwy gydol y cyfyngiadau cyfredol, mae'n hanfodol bellach fod cymorth ychwanegol yn dod ar gael yn gyflym. Fodd bynnag, sylwais yn y gyllideb atodol, a gawsom neithiwr, mai hyd at ddiwedd y mis hwn yn unig y mae cyllid wedi'i ddyrannu i fusnesau—hyd at fis Mehefin. Felly, Weinidog, fel mater o frys, a wnewch chi ateb fy ngalwad heddiw i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i fusnesau Cymru y tu hwnt i ddiwedd y mis hwn?

Diolch am eich cwestiwn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ddod o hyd i'r tir cyffredin y gallwn weithio'n gydweithredol arno yn y dyfodol, a llongyfarchiadau ar eich apwyntiad i bortffolio cwbl gyfareddol a rhyfeddol y gwn y byddwch yn ei fwynhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus iawn i ddarparu'r pecyn cymorth gorau posibl i fusnesau drwy gydol y pandemig, ac o ganlyniad, rydym eisoes wedi cyhoeddi ac wedi ymrwymo oddeutu £2.5 biliwn mewn cymorth ariannol, gan ddiogelu 160,000 o swyddi yng Nghymru. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol iawn o effaith y cyfyngiadau parhaus ar rai sectorau o'r economi, a dyna pam y cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog addysg, yn ddiweddar fod £2.5 miliwn yn ychwanegol yn dod ar gael i ddigolledu'r busnesau hynny, megis atyniadau dan do a lleoliadau priodasau, sy'n dal i gael eu heffeithio gan y newid fesul cam i lefel rhybudd 1. Mae'r gyllideb atodol yn nodi'r dyraniadau a wnaed hyd yma. Fodd bynnag, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi clustnodi hyd at £200 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau yn y gyllideb derfynol. Felly yn sicr, mae rhywfaint o arian ar ôl i'w ddyrannu, a gwn fod fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, yn siarad â swyddogion ynglŷn â sut bethau fydd cynlluniau yn y dyfodol, a gwn y bydd yn awyddus i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl cyn gynted ag y bo modd.

Wel, diolch, Weinidog. Mae hynny'n galonogol, gan fod busnesau Cymru wedi fy rhybuddio’n blwmp ac yn blaen eu bod yn ofni mynd i’r wal. Mae llawer ohonynt yn ofni y byddant yn mynd i’r wal oni bai bod eich Llywodraeth yn rhoi mwy o gymorth ariannol ar unwaith. Gan gadw hynny mewn cof, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr pam fod y Llywodraeth efallai’n dewis gadael—. Wel, clywaf yr hyn a ddywedwch na fydd busnes yn cael ei adael ar ôl, ond edrychwn ymlaen at weld peth o'r cymorth hwnnw'n cael ei roi yn gynt yn hytrach na’n hwyrach. Awgrymodd yr ymchwil ddiweddar iawn a welsom drwy Dadansoddi Cyllid Cymru fod oddeutu £500 miliwn—a maddeuwch i mi os yw’r ffigur hwnnw’n anghywir gennyf—mewn cyllid COVID-19 heb ei ddyrannu y gellid ei ddefnyddio i roi hwb i adferiad ariannol Cymru drwy barhau i rewi ardrethi busnes y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol hon—sy’n beth gwych, peidiwch â chamddeall, ond i ymestyn hynny ymhellach—ac efallai gyda chymhellion ychwanegol. Felly, Weinidog, mae'n hanfodol hefyd fod ein busnesau’n gallu ymadfer ar ôl y pandemig. Felly, beth a wnewch i sicrhau adferiad ariannol cynaliadwy hirdymor i fusnesau a chymunedau?

Wel, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu rhyddhad ardrethi busnes am 12 mis i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yma yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn mynd ymhellach na'r hyn sydd ar gael i fusnesau dros y ffin, ac sydd wedi costio mwy i ni na’r hyn a gawsom gan Lywodraeth y DU mewn cyllid canlyniadol, ond mae hynny oherwydd ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi busnesau yn y sectorau hynny, sy'n fentrau bach a chanolig yn bennaf.

Felly yn amlwg, byddwn yn ceisio parhau i gefnogi busnesau mewn unrhyw ffordd y gallwn, ac rydych yn llygad eich lle fod adnoddau sylweddol heb eu dyrannu yn y gronfa COVID wrth gefn. Fodd bynnag, bydd angen i'r rheini ddiwallu anghenion ym mhob agwedd ar fywyd Cymru. Felly, byddwn yn disgwyl gwneud cyhoeddiadau pellach yn y dyfodol eithaf agos ar gymorth i'r GIG a chymorth pellach i lywodraeth leol, pe bai ei angen drwy'r gronfa galedi ac ati. Mae cryn dipyn o bwysau ar y cyllid ychwanegol hwnnw, ond hoffwn roi sicrwydd y bydd cyhoeddiadau’n cael eu gwneud maes o law mewn perthynas â chyllid COVID mewn amryw feysydd.

13:45

Croesawaf hynny’n fawr; diolch, Weinidog. Mae llawer o'n busnesau’n dal i fod yma heddiw, er gwaethaf y niwed enfawr a achoswyd gan COVID. Wrth gwrs, credaf fod hynny oherwydd y £6 biliwn mewn cymorth i Gymru gan Lywodraeth y DU. Heb y cymorth hwnnw, ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn hoffi meddwl am y swyddi a'r busnesau na fyddent yma yn awr ac a fyddai wedi eu colli.

Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi honni ei bod wedi darparu mwy o arian i fusnesau nag sydd wedi'i roi gan y DU. Clywsom Mrs Watson yn crybwyll hynny ddoe yn y Siambr hon, a chafodd ei ailddatgan gan y Prif Weinidog. Os yw hynny'n wir, yna, yn ddi-oed, mae’n rhaid rhoi'r darlun llawn i bobl Cymru. O ble y daeth yr arian hwn—y £400 miliwn ychwanegol? A gafodd ei addasu at ddibenion gwahanol a faint ohono a allai fod wedi ei addasu at ddibenion gwahanol? Beth y mae hynny wedi’i olygu i wasanaethau eraill, y gwasanaethau yr aethpwyd â’r arian hwn oddi arnynt er mwyn ei ddefnyddio at ddiben gwahanol? Sut y maent yn mynd i ymdopi wrth symud ymlaen? Yn amlwg, mae rhai cwestiynau i’w gofyn ac mae angen rhywfaint o eglurder mewn perthynas â hynny.

Ond mae un peth yn sicr: mae'n hanfodol nad yw teuluoedd sydd wedi’u taro'n galed, yn ogystal â busnesau bach a chanolig hanfodol bwysig, yn talu'r bil am yr ymrwymiad i wariant ychwanegol. Felly, er fy mod yn croesawu’r ffaith bod arian ychwanegol yn cael ei wario, mae cyfle’n cael ei golli bob amser yn sgil y gost o wneud hynny. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dealltwriaeth glir. Yn sicr, nid ydym am i'r beichiau hynny, y costau ychwanegol hynny, gwympo ar deuluoedd a busnesau. Felly, a wnewch chi ateb y pryderon pwysig hyn heddiw, Weinidog, ac a wnewch chi hefyd ddiystyru unrhyw godiadau treth yn y dyfodol agos a fyddai’n llesteirio adferiad ariannol Cymru? Diolch.

Diolch am eich cwestiynau. Rwyf bob amser yn ceisio bod mor gwbl dryloyw ag y gallaf, ac rwy’n ymrwymo i fod mor dryloyw ag y gallaf drwy gydol tymor y Senedd hon hefyd. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaethom gyhoeddi tair cyllideb atodol y llynedd. Ni oedd yr unig ran o'r DU i wneud hynny, oherwydd roedd yn bwysig i mi fod pobl yn deall o ble roedd yr arian yn dod a ble roeddem yn ei ddyrannu.

O ran addasu cyllid at ddibenion gwahanol, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cyflawnais ymarfer gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i graffu ar eu cyllidebau ac archwilio’r hyn y gellid ei ddychwelyd i'r canol er mwyn cefnogi’r ymateb i COVID. Arweiniodd hynny at oddeutu £0.25 biliwn o gyllid wedi'i addasu at ddibenion gwahanol. Gallwch weld manylion hwnnw yn ein cyllidebau atodol blaenorol, ond i raddau helaeth, roedd yn ymwneud â gweithgarwch nad oedd modd ei gynnal mwyach oherwydd y cyfyngiadau. Felly, nid oeddent yn doriadau yn yr ystyr draddodiadol, os mynnwch.

Ond rydym hefyd wedi bod yn ffodus; oherwydd penderfyniadau a wnaed yma, mae pethau wedi costio llai inni eu cyflawni, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu cyflawni mwy. Enghraifft dda, rwy'n credu, yw ein system profi, olrhain, diogelu, a ddarparwyd gan awdurdodau lleol, gan fyrddau iechyd a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus eraill yma yng Nghymru, ac mae wedi sicrhau gwerth rhagorol am arian yn ogystal â bod yn wasanaeth o’r radd flaenaf. Dyna'r mathau o benderfyniadau a wnaed gennym yma a ganiataodd inni gael gwasanaeth am lai o wariant ariannol, ond gwasanaeth da hefyd, a chaniatáu inni addasu cyllid ychwanegol at ddibenion gwahanol mewn mannau eraill wedyn.

Rydym wedi dweud yn glir iawn yn ein maniffesto na fyddem yn ceisio codi cyfraddau treth incwm Cymru cyhyd ag y bydd yr argyfwng economaidd yn parhau, ac yn sicr, rydym ynghanol yr argyfwng hwnnw ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i achub ar y cyfle fan hyn i'ch llongyfarch chi ac i roi ar y record yn ffurfiol fy llongyfarchion i chi ar eich penodi yn Weinidog yn y Llywodraeth bresennol? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i gysgodi eich gwaith chi yn ystod y Senedd yma.

Mae yna sawl haen o weinyddiaeth gyhoeddus newydd wedi cael eu creu yma yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, un gwendid amlwg yn fframwaith y Ddeddf, ac wrth greu'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yma, yw'r diffyg trefniadau ariannu clir a chyson ar gyfer y byrddau hyn. O ystyried pwysigrwydd y byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel prif gerbyd cyflawni'r Ddeddf llesiant ar lawr gwlad yng Nghymru, ac o gofio bod aelodaeth y byrddau yma yn debyg iawn, bron iawn yn union yr un fath, ar draws Cymru, a bod yr un cyfrifoldebau statudol ganddyn nhw, mae'r diffyg trefn gyllido gyson, genedlaethol a diffyg mynediad i gronfeydd cyfun yn rhyfeddol, efallai, a dweud y gwir. Ond mae'n rhyfeddach fyth hefyd, wrth gwrs, o ystyried bod rhai o'r endidau eraill, fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol ac, mae'n debyg, y cyd-bwyllgorau corfforedig arfaethedig, yn mynd i fod yn gweithredu ar sail wahanol. Felly, gaf i ofyn beth yw'ch bwriad chi yn gynnar yn eich tymor fel Gweinidog i fynd i'r afael â'r anghysondeb yna?

13:50

Diolch am eich cwestiwn a'ch geiriau caredig yn fy nghroesawu i'r rôl benodol hon. Unwaith eto, edrychaf ymlaen yn fawr at ddod o hyd i'r tir cyffredin y gallwn weithio arno gyda'n gilydd.

O ran byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r byrddau statudol eraill sydd gennym yng Nghymru, fe fyddwch yn ymwybodol fod adolygiad wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru, a adroddodd ei ganfyddiadau oddeutu diwedd y llynedd, ac roedd yr adolygiad hwnnw'n nodi rhai o'r heriau a ddisgrifiwyd gennych mewn perthynas â'r trefniadau cyllido a'r canfyddiad fod rhai o rolau'r byrddau yn cael eu dyblygu. Ond roedd yr adroddiad yn nodi’n glir iawn y dylai unrhyw newid ddod o'r gwaelod i fyny, yn hytrach na chael ei orfodi gan Lywodraeth Cymru.

Fy mlaenoriaethau uniongyrchol mewn perthynas ag elfen lywodraeth leol fy mhortffolio yw gweithredu’r penderfyniadau ar yr adolygiadau o ffiniau yn llwyddiannus, yna cyflawni'r is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn llwyddiannus hefyd. Ond rwyf wedi bod yn meddwl beth fydd y blaenoriaethau wrth agosáu at ddiwedd y flwyddyn, ac yn sicr, bydd edrych ar rolau byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r byrddau eraill a sut y cânt eu cefnogi ac ati yn bwysig. Mae’n sgwrs nad wyf wedi’i chael eto gyda llywodraeth leol ac eraill, er imi gael cyfle i siarad ag Alun Michael am ei farn ynglŷn â hyn. Ond ar hyn o bryd, cyn imi ddisgrifio unrhyw ffordd ymlaen, teimlaf fod yn rhaid imi gael y sgyrsiau hynny a gwneud rhywfaint o wrando, gan ystyried popeth rydych wedi'i ddweud y prynhawn yma wrth gwrs.

Wel, mae Alun Michael yn ddyn lwcus. Dyna ni. Rwy'n siŵr y byddwch yn siarad â phobl eraill hefyd.

Mae, wrth gwrs, y pwynt yma wedi dod yn glir yn sgil adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pwyllgor trawsbleidiol, ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, wnaeth edrych ar roi'r Ddeddf llesiant ar waith. Roedd y pwyllgor yn dweud bod, ac rwy'n dyfynnu, 

'trefniadau cyllido anghyson ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyfyngu ar ba mor effeithiol y gallent fod.'

Mae'n 'aneffeithlon', ac nid oes cyfiawnhad dros hynny. Felly, tra ei bod hi'n rhywbeth rwyf i yn ei werthfawrogi ac yn deall eich bod chi'n awyddus i'r alwad ddod o'r gwaelod i fyny, wrth gwrs, natur y Ddeddf oedd bod y dictad yn dod o'r top i lawr ynglŷn â chreu'r byrddau yma yn y lle cyntaf. Felly, byddwn i yn gobeithio'n fawr fod hwn yn rhywbeth y byddwch chi yn ei gymryd o ddifrif a, gobeithio, yn ceisio ei gysoni. 

Ond dim on un rhan o'r hyn y gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei ddisgrifio fel, a dwi'n dyfynnu eto, 

'tirwedd gymhleth a biwrocrataidd cyrff partneriaeth a llu o ofynion deddfwriaethol ac adrodd' 

yw'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yma. Ac, wrth gwrs, yr ychwanegiad diweddaraf i'r darlun yma fydd y cyd-bwyllgorau corfforedig, y CJCs. Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw, mi wnaeth un o uwchgyfarwyddwyr eich adran chi ddweud, a dwi'n dyfynnu:

'yn y tymor hwy, byddem yn rhagweld y byddai rhai o'r partneriaethau hynny, rhai o'r strwythurau eraill, yn dod yn ddiangen mewn gwirionedd, gan y bydd gan y cyd-bwyllgorau corfforedig drosolwg llawer mwy pwerus—a throsolwg llawer ehangach wrth iddynt ymsefydlu—a fydd yn dechrau mynd i’r afael â rhywfaint o waith y partneriaethau eraill.'

Rydych chi wedi cyffwrdd ar hynny, efallai, yn eich ateb blaenorol, ond efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa bartneriaethau a strwythurau ŷch chi'n rhagweld bydd yn cael eu gwneud yn redundant dros y cyfnod nesaf. Ac yn wir, yr awgrym wedyn yw mai'r bwriad yw amsugno llawer o'r strwythurau yma i mewn i'r CJCs yn y pen draw, a bod hynny'n rhyw fath o aildrefnu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus drwy'r drws cefn.

Yn sicr, nid dyna'r bwriad. Fe wyddoch y bydd gwaith cychwynnol y cyd-bwyllgorau corfforedig, pan fyddant yn weithredol, yn digwydd ar ffurf datblygiad rhanbarthol a lleol—ar draws y ffiniau lleol hynny—o ran datblygu economaidd, a chynllunio hefyd. Mae'r rhain yn feysydd nad ydynt ar hyn o bryd yn rhan o gyfrifoldeb y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, y byrddau partneriaeth rhanbarthol ac ati. Ond rwy'n wirioneddol awyddus ac agored i gael y trafodaethau hyn ynglŷn â sut y gellir sicrhau bod y byrddau’n gweithio'n fwy effeithiol yn y dyfodol ac i sicrhau y gwneir unrhyw newidiadau i'w cyfrifoldebau mewn partneriaeth â'r rheini sy'n aelodau o'r byrddau hynny. Ond nid yw cyd-bwyllgorau corfforedig yn fecanwaith ar hyn o bryd ar gyfer gwneud y mathau hynny o newidiadau a ddisgrifiwch, gan y credaf y byddant, yn gyntaf oll, yn ceisio mynd i'r afael â'r eitemau pwysig hynny, fel datblygu economaidd, y bydd angen iddynt weithio arnynt gyda’i gilydd. Felly, yn amlwg, byddaf yn awyddus i ymgyfarwyddo â gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar hyn, ochr yn ochr â'r adroddiadau eraill, a chael y trafodaethau hynny gyda’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol ac eraill cyn penderfynu ar ffordd ymlaen.

13:55

Diolch. Dyw'r Llywodraeth ddim wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad eto. Dwi'n meddwl mai'r bwriad oedd gofyn i'r Llywodraeth bresennol ymateb gan fod yr adroddiad wedi dod ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf. Ac wrth gwrs, o gofio'ch rôl allweddol chi nawr yng nghyd-destun gwasanaethau lleol a chyllid hefyd, byddwn i'n gobeithio eich bod chi'n rhan o'r drafodaeth wrth ymateb i hynny, a dwi'n gobeithio bod hynny ddim wedi mynd ar goll yn holl waith y Llywodraeth. 

Peth arall oedd yn dod yn glir yn adroddiad y pwyllgor ar gyflawniad y Ddeddf oedd, er ein bod ni wedi deddfu, wrth gwrs, i greu ffordd o weithio yma yng Nghymru sy'n seiliedig ar ddatblygu cynaliadwy ar y dull ymataliol—preventative approach—ac yn y blaen, y gwir amdani yw bod y drefn ariannu yn unrhyw beth ond cynaladwy. Mae'r adroddiad yn cydnabod effaith degawd o fesurau llymder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi rhedeg llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus i'r llawr, i bob pwrpas. Mae'n dweud yn yr adroddiad:

'Mae deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn anos ei gweithredu’n briodol os caiff cyllidebau eu gwarantu am gyn lleied â blwyddyn ar y tro.’

Tra'n cydnabod heriau amlwg y setliadau annigonol ariannol, diffygiol, rydyn ni wedi eu cael o gyfeiriad Llundain, mae'r pwyllgor yn gosod yr her i'r Llywodraeth i wneud yr hyn sy'n bosib i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, wrth gwrs, er mwyn cyflawni'r Ddeddf ac uchelgais y Ddeddf. Felly, y cwestiwn dwi eisiau ei gloi arno fe yw: a fydd y Llywodraeth yma, ac a fyddwch chi fel Gweinidog, yn gwrthod gweinyddu mwy o lymder dros y bum mlynedd nesaf ac yn defnyddio dulliau creadigol i arwain adferiad sy'n cael ei yrru gan fuddsoddiad? Hynny yw, sut fyddwch chi fel Llywodraeth yn gwarchod pobl Cymru rhag mwy o doriadau trwy eich gweithredoedd ac nid dim ond trwy eich geiriau?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Rwy'n rhannu eich pryder a'r pryderon rydych wedi'u disgrifio am setliadau un flwyddyn a’r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran yr anhawster i gynllunio a chael dulliau cynaliadwy o ymdrin â gwasanaethau. Felly, rwy'n falch iawn o allu dweud o'r diwedd ein bod yn disgwyl yr adolygiad cynhwysfawr o wariant hirddisgwyliedig yn nes ymlaen eleni. Byddem yn disgwyl iddo fod yn adolygiad o wariant tair blynedd, a bydd hynny'n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru weithredu cyllideb tair blynedd wrth symud ymlaen a rhoi hyder tair blynedd i bartneriaid sydd ei angen, mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth a all fod yn wirioneddol gadarnhaol yn y dyfodol.

Mae'n peri pryder i mi pan fyddwn yn ystyried yr hyn a ddywedodd y Canghellor yn ei gyllideb ym mis Mawrth ynglŷn â'r rhagolygon ariannol ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, ar gyfer y flwyddyn nesaf yn enwedig, nid yw'n ymddangos y byddwn yn edrych ar setliad arbennig o gadarnhaol. Felly, gallai pethau newid. Yn anochel, bydd Llywodraeth y DU yn wynebu rhai o'r un heriau â ninnau o ran y pwysau ar y gwasanaeth iechyd, yr angen i gefnogi a pharhau i gefnogi busnesau ac ati. Amser a ddengys beth fydd Llywodraeth y DU yn ei wneud yn ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant tair blynedd, ond yn sicr, ein bwriad yw darparu'r math hwnnw o sicrwydd a pharhau i ddarparu'r diogelwch hwnnw cyhyd ag y gallwn i'r GIG a llywodraeth leol, gan gydnabod y rôl y maent yn ei chwarae yn darparu gwasanaethau i bobl yn ein cymunedau.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno dadl cyn diwedd y tymor yn union fel rydym wedi’i wneud dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ac wrth gwrs, fe fyddwch yn cofio iddi gael ei arwain gan y Pwyllgor Cyllid yn y blynyddoedd blaenorol fel y gallai'r pwyllgor fyfyrio ar y dystiolaeth a gasglwyd. Yn anffodus, eleni, nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa honno eto gyda'r pwyllgorau, ond rwy'n dal yn awyddus i gyflwyno'r ddadl honno er mwyn clywed blaenoriaethau fy nghyd-Aelodau am y tair blynedd i ddod.

Systemau Pleidleisio Awdurdodau Lleol

3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel system bleidleisio yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dod i rym? OQ56641

Mae Deddf 2021 yn caniatáu i brif gynghorau ddewis naill ai system y cyntaf i’r felin, neu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Egwyddor allweddol yn Neddf 2021 drwyddi draw yw y dylid gwneud penderfyniadau’n lleol. Ni ddylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn y dewis lleol hwnnw drwy geisio sicrhau bod cynghorau’n defnyddio’r naill system neu'r llall.

14:00

Wel, os ŷch chi'n disgwyl i awdurdodau lleol wneud hyn o'u gwirfodd, dwi'n meddwl eich bod chi'n twyllo'ch hunan i raddau, Weinidog. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yma fod yn rhagweithiol i annog yr awdurdodau lleol i fabwysiadu'r gyfundrefn yma. Felly, ydych chi'n cytuno gyda, er enghraifft, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol bod angen gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i beilota hyn, efallai? Efallai bod angen creu rhyw fath o gronfa er mwyn rhoi anogaeth iddyn nhw. Mae gwaith addysgu lleol yn angenrheidiol o safbwynt cyfundrefn etholiadol newydd ac yn y blaen a heb fod yr elfennau yma yn eu lle, dyw e jest ddim yn mynd i ddigwydd. Felly, beth dwi eisiau ei glywed ganddoch chi yw: a oes yna fwriad ganddoch chi i fod yn rhagweithiol yn lle eistedd yn ôl, ac yn y pen draw gweld bod yna ddim byd yn digwydd?

Wrth gwrs, mae Deddf 2021 yn dilyn yr un egwyddor ag y gwnaeth Deddf Cymru 2017 pan roddodd yr hawl i'r Senedd ddewis ei system bleidleisio, felly dilyn y broses sefydledig honno y byddem yn ei wneud yma. Ond cefais gyfarfod rhagorol gyda'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn gynharach yr wythnos hon, a dywedasant wrthyf am waith roeddent wedi'i wneud gyda chynghorwyr i ddeall yr awydd am y bleidlais sengl drosglwyddadwy ymhlith cynghorwyr yma yng Nghymru, ac un peth y gwnaethant roi cryn dipyn o sylw iddo oedd y ffaith nad oedd nifer eithaf sylweddol o gynghorwyr yn gwybod nac yn teimlo eu bod yn gwybod digon am y bleidlais sengl drosglwyddadwy nac am y goblygiadau, sut y gallai weithio ac ati, i wneud y penderfyniad hwnnw, felly cytunais fod yna waith y gallem ei wneud ar y cyd i ddarparu gwybodaeth i gynghorwyr ac i gefnogi'r gwaith addysgu y mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn awyddus i’w wneud i sicrhau o leiaf y gall cynghorwyr wneud dewis gwybodus am yr opsiynau sydd ar gael iddynt.

Weinidog, yn ystod y cyfrif etholiadol ym mis Mai, bu swyddogion cynghorau a gwirfoddolwyr yn gwirio ac yn cyfrif pleidleisiau ar gyfer pleidlais etholaethol y Senedd, pleidlais ranbarthol y Senedd, etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, a phleidleisiau ar gyfer isetholiadau cynghorau a chynghorau cymuned. Yn y dyfodol, nid yw'n afrealistig i ddisgwyl senario lle gallai pob un o'r pleidleisiau hyn gael eu cyfrif o dan system bleidleisio wahanol. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod hon yn senario y dylid ei hosgoi, oherwydd nid yn unig y bydd yn arwain at ddryswch ymhlith yr etholwyr, bydd hefyd yn llesteirio ymdrechion i gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan yn y prosesau democrataidd hynny megis etholiadau cynghorau lleol, lle ceir anhawster eisoes i annog pobl i bleidleisio?

Credaf efallai fod tuedd i orbwysleisio’r cymhlethdodau a'r tebygolrwydd o ddrysu pleidleiswyr, oherwydd fel y dywedwch, mae pleidleiswyr eisoes yn gallu ymdopi ag amrywiaeth o systemau pleidleisio, ac fel rydych wedi disgrifio, mae gan bleidleiswyr wahanol ymagweddau yn etholiadau’r Senedd, etholiadau seneddol y DU, ac etholiadau’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Felly, efallai fod y system gyfrif o dan drefn y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gymhleth, ond yn sicr, nid yw'r broses bleidleisio’n gymhleth o ran gosod eich ymgeiswyr yn eu trefn gan ddefnyddio un, dau, tri ac ati, ac mae'n bwysig fod gan bapurau pleidleisio gyfarwyddiadau clir ar gyfer pleidleiswyr ynglŷn â sut i fwrw eu pleidleisiau. Felly, ni chredaf o reidrwydd y bydd defnyddio nifer o wahanol systemau wrth fwrw eu pleidleisiau y tu hwnt i allu’r pleidleiswyr.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog edrych ar nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd ledled Cymru pan gawsom etholiadau’r Senedd? Ond ni allaf feddwl am system etholiadol waeth na’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog edrych ar faint y wardiau a chanlyniadau etholiadau cyngor yr Alban, a gynhaliwyd o dan drefn y bleidlais sengl drosglwyddadwy? A all y Gweinidog ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd, nid i'r cynghorau yn unig, ynglŷn â sut yn union y mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweithio? Oherwydd credaf fod pobl yn sôn llawer am y bleidlais sengl drosglwyddadwy ac mae pawb yn dweud pa mor wych yw hi hyd nes y bydd pobl yn dechrau edrych arni.

O ran etholiadau cyngor yr Alban, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw broblemau rydym wedi'u cael yn 2017 neu 2012, ond mae'n hollol wir fod 2007 yn flwyddyn anodd iawn o ran yr etholiadau hynny, a oedd yn cyfuno etholiadau ar gyfer Senedd yr Alban a llywodraeth leol ar yr un diwrnod. Ond credaf mai'r consensws yw bod y problemau hynny wedi codi'n bennaf oherwydd iddynt gael eu cyfuno ar un papur pleidleisio, a'u bod wedi cyflwyno cyfres o ddatblygiadau arloesol sylweddol ar yr un diwrnod, sef y papur pleidleisio seneddol un ochr, cyfrif electronig a system bleidleisio newydd y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer llywodraeth leol. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i edrych ar brofiadau mewn mannau eraill i ddysgu o'r profiadau cadarnhaol, ond hefyd, yn amlwg, o'r profiadau anos y credaf fod yr Alban wedi llwyddo i'w datrys yn ôl pob golwg.

14:05
Effaith Ariannol COVID-19 ar Awdurdodau Lleol

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ariannol COVID-19 ar awdurdodau lleol yng Nghymru? OQ56630

Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau wedi cael trafodaethau rheolaidd gydag arweinwyr llywodraeth leol ar effaith y pandemig, gan gynnwys yr effeithiau ariannol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chyfarwyddwyr cyllid llywodraeth leol i ddeall anghenion y sector, ac rydym wedi ymateb gyda chymorth sylweddol, a gwerth mwy na £1 biliwn o gyllid.

Diolch, Weinidog. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i weithwyr cynghorau lleol am fynd y tu hwnt i’r galw yn ystod y pandemig. Nid yn unig fod cyllideb Rhondda Cynon Taf wedi’i tharo gan gostau COVID—mae gennym fil o £12 miliwn hefyd am waith adfer wedi’r tirlithriad yn Tylorstown, ac nad anghofier y miliynau i wella cwlfertau a systemau draenio yn dilyn y llifogydd ofnadwy.

Gweithiodd ein cyndadau yn y Rhondda eu bysedd at yr asgwrn i wneud y wlad hon yn gyfoethog, gyda llawer yn talu'r pris eithaf ei gellid ei dalu am y glo. Ni fyddai'n deg disgwyl i'n cymunedau dalu costau sicrhau bod ein tomenni glo yn ddiogel. Roeddwn yn falch o sefyll ar faniffesto a oedd yn ymrwymo i Ddeddf diogelwch tomenni glo, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r gwaith hyd yn hyn. A wnaiff y Gweinidog barhau i weithio'n agos gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn cael y cymorth ariannol mawr ei angen?

Hoffwn adleisio edmygedd a diolch Buffy Williams i weithwyr llywodraeth leol sydd, fel y dywedodd, wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r galw drwy gydol y pandemig, ac maent yn parhau i wneud hynny wrth inni geisio symud drwy'r cyfnod presennol hefyd.

Mae'n hollol wir fod cymunedau fel yr un y mae Buffy yn ei chynrychioli wedi chwarae rhan anhygoel o bwysig yn ein hanes, ac wedi aberthu llawer iawn o ganlyniad i hynny. Etifeddwyd y tomenni glo sydd gennym yma yng Nghymru, ac mae’r broblem yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU hefyd chwarae ei rhan yn helpu i’w datrys. Mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo i edrych ar ddiogelwch tomenni glo ledled Cymru ac adfer tomenni glo, i archwilio pa waith y mae angen ei wneud yn hynny o beth, ond mae'r gwaith hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, yn sylweddol iawn. Bydd yn cymryd 10 mlynedd i’w gwblhau ac yn galw am lawer o adnoddau ariannol hefyd, felly rydym yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid i'n cefnogi gyda'r gwaith hwnnw. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU ar 19 Mawrth i argymell ffyrdd y gallem symud ymlaen ar hynny. Mae’n dal i aros am ymateb ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithio’n adeiladol arno gyda ni.

Gadewch i minnau hefyd dalu teyrnged i waith caled awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn, a rhoi clod am yr holl ymdrechion a wnaed gan y rheini ar y rheng flaen, ond hefyd i'r rheini y tu ôl i'r llenni yn y gwasanaethau cymorth sydd wedi bod yn gwneud pethau fel mantoli'r cyfrifon i sicrhau bod y gwasanaethau wedi gallu parhau i gefnogi ein cymunedau.

Un mater y mae'r pandemig hwn wedi taflu goleuni arno yw parodrwydd llywodraethau ar bob lefel ar gyfer argyfyngau cenedlaethol sylweddol. Felly, yng ngoleuni hyn, pa gyllid y byddwch yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i'w galluogi i fod yn hollol barod ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol?

Diolch am godi'r mater hwn. Mae gennym uned argyfyngau sifil yn Llywodraeth Cymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar archwilio paratoadau a chynlluniau pob rhan o Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r hyn sydd angen i ni ei wneud ochr yn ochr â phartneriaid ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, gan ddysgu o'n profiadau yn ystod y pandemig hwn. Wrth gwrs, mae cyllid yn rhan o'r ystyriaethau hynny, ond mae'n dibynnu ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y ffordd o ran darparu'r sicrwydd drwy gyllidebau aml-flwyddyn. Wrth symud ymlaen, credaf fod gennym seiliau cryf iawn i adeiladu arnynt. Mae'r gwaith a wnaethom mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a thrwy ein cymorth gyda’r gronfa galedi COVID ar gyfer llywodraeth leol wedi bod yn rhagorol mewn sawl ffordd yn fy marn i o ran diwallu anghenion cymunedau lleol. Felly, bydd angen inni ddod o hyd i ffyrdd y gallwn barhau i adeiladu ar yr hyn sydd gennym fel ein bod yn barod am unrhyw beth sy'n galw am ymateb argyfwng sifil. Wrth gwrs, rydym yn mawr obeithio na fydd pandemig arall, ond yn sicr, mae angen inni baratoi ar gyfer popeth.

Heb os, mae COVID wedi cael effaith sylweddol ar gyllid cyhoeddus ac nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn eithriad. Mae'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus wedi dod at ei gilydd ac wedi darparu adnoddau i helpu gyda’r frwydr yn erbyn y pandemig wedi bod yn ysbrydoledig. Rwy'n ymwybodol hefyd nad yw rhai cynghorau yng Nghymru wedi gallu gwario peth o'u cyllidebau gan fod gweithgarwch wedi'i atal neu ei gwtogi mewn rhai sectorau. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol fod gan rai cynghorau cymuned gronfeydd sylweddol wrth gefn gan nad ydynt wedi gallu gwario arian ar y pethau yr arferant wario arnynt am fod y rheini ar stop. A oes unrhyw gyngor y gall y Llywodraeth hon ei roi i gynghorau sir neu gymuned ynglŷn â defnyddio cronfeydd wrth gefn i liniaru effaith llai o incwm mewn meysydd eraill, a lleddfu'r baich ar y bobl sy’n talu’r dreth gyngor?

14:10

Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Rydym wedi bod yn ymwybodol iawn o incwm a gollwyd gan awdurdodau lleol yn enwedig, ac o ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £190.5 miliwn i gefnogi llywodraeth leol gydag incwm a gollwyd. Ac mae hynny'n cynnwys incwm a gollwyd o wasanaethau cymdeithasol i oedolion y byddent fel arfer yn codi tâl amdanynt, gwasanaethau eraill fel cynllunio lle gallent fod yn disgwyl gwneud incwm, gwasanaethau fel theatrau, y mae llawer o awdurdodau lleol yn eu rhedeg, a gwasanaethau arlwyo ac ati. Felly, buom yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol, a nodwyd y ffigur hwnnw o £190.5 miliwn. A bu modd inni ddarparu'r cymorth i dalu'r gost honno. Ac rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol i gydnabod y ffaith nad ydynt wedi gallu casglu'r holl dreth gyngor y byddent fel arfer wedi'i chasglu ychwaith. Felly, rydym wedi gallu cefnogi awdurdodau lleol yn y ffordd honno.

Wrth gwrs, os oes incwm ychwanegol wrth gefn bellach, credaf y gallai fod yn gyfle i awdurdodau lleol a'r cynghorau tref a chymuned lleol ystyried beth y gallai eu cyfraniad fod wrth inni gychwyn ar yr adferiad, a beth y mae eu cymunedau lleol eu hunain yn dweud wrthynt yr hoffent weld buddsoddi ynddo.

Cymorth Busnes

5. Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i gymorth busnes yng Nghymru wrth ddrafftio ei chyllideb ar gyfer 2021-22? OQ56627

Ein pecyn o gymorth i fusnesau yw'r mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, ac rydym wedi darparu mwy mewn cymorth i fusnesau nag a gawsom gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r cymorth yn Lloegr. Rwyf wedi clustnodi hyd at £200 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau yn 2021-22 i ymateb i newidiadau sy'n esblygu o'r pandemig.

Diolch. O ystyried bod datblygu busnes yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, byddech yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyfrannu peth o’i harian ei hun hefyd yn ychwanegol at y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Er bod y Prif Weinidog yn gwadu hynny, dywedodd perchennog bwyty yng ngogledd Cymru, nad oedd yn gymwys i gael cyllid diweddaraf Llywodraeth Cymru, ei fod wedi eu bradychu. E-bostiodd busnes lletygarwch arall i ddweud: 'Siaradais â Mark Drakeford pan ymwelodd â bragdy Wrexham Lager. Dywedodd wrthyf y byddai grant ailgychwyn ar gael pan fyddai fy nhafarn yn ailagor, grant arall am na allai fy nhafarn agor oherwydd nad oedd ganddi ofod yn yr awyr agored, a grant pellach ar gyfer gweithredu ar 17 Mai. Rwyf newydd wirio gwefan Busnes Cymru a darganfod nad wyf yn gymwys i gael unrhyw grantiau o gwbl'. Darganfu wedi hynny y gallai wneud cais am grant o £2,500, gan ddweud nad yw hynny'n cymharu â’r grant cyfatebol o £8,000 yn Lloegr.

Disgrifiodd un arall gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y grantiau fel slap yn ei wyneb. Dywedodd un arall wrthyf: ‘Cawsom addewid gan Mark Drakeford fod arian wedi'i neilltuo ac y byddai'n cael ei ddosbarthu'n gyflym cyn gynted ag y byddai’r Llywodraeth wedi'i hethol, ond nid ydym wedi derbyn unrhyw gyllid.’ Dywedodd un arall: 'Roedd y rownd ddiweddaraf o grantiau yn ein cefnogi tan ddiwedd mis Mawrth. Mae'r grantiau diweddaraf ar gyfer mis Mai i fis Mehefin. Beth ddigwyddodd i fis Ebrill, pan oeddem yn dal ar gau?' Mae dim ond ailadrodd honiad y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau yn y DU yn sarhad ar y rhain a’r llu o fusnesau eraill sydd wedi cysylltu â mi ac Aelodau eraill. Beth, os unrhyw beth, sydd gennych i'w ddweud wrthynt? Beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch?

Mae'n rhaid imi ddweud wrth Mark Isherwood ei fod yn fwy na honiad—mae'n ffaith. Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu’r pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau, ac mae busnesau yng ngogledd Cymru wedi derbyn dros £475 miliwn o gymorth drwy’r gronfa cadernid economaidd ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2020. A’r cymorth rydym wedi’i roi i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yw'r mwyaf hael yn y DU, ac mae hynny oherwydd y trefniadau pwrpasol rydym wedi'u rhoi ar waith. Nawr, yn anochel, ni fyddwn yn gallu cyrraedd pob busnes. Fodd bynnag, ni allaf ymateb i fusnesau dienw rydych wedi'u disgrifio yn y Siambr heb wybod yr holl ffeithiau. Ond yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dolen i’r holl gymorth y mae busnesau wedi’i gael yng Nghymru, a chredaf y bydd fy nghyd-Aelodau o’r farn fod hwnnw’n eithaf addysgiadol a chadarnhaol, o ran gallu edrych ar y busnesau sydd wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru yn eu cymunedau a’u hetholaethau eu hunain. Felly, fel y dywedaf, Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu'r pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau. Fe'i cynlluniwyd i ategu cymorth Llywodraeth y DU drwy'r cynllun ffyrlo, ac rydym yn awyddus iawn i’r cynllun ffyrlo gael ei ymestyn cyhyd ag y bo angen, yn hytrach na’i fod yn dod i ben yn fuan.

14:15
Datgarboneiddio Trafnidiaeth

Weinidog, llongyfarchiadau ar eich rôl newydd. Hoffwn ofyn i chi:

6. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddatgarboneiddio trafnidiaeth wrth ddyrannu'r gyllideb i'r portffolio newid hinsawdd? OQ56629

Mae mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn ganolog i waith llunio polisi'r Llywodraeth hon. Er enghraifft, eleni, rydym wedi darparu £275 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi’r gwaith parhaus o gyflawni ein rhwydweithiau metro, cynyddu buddsoddiad mewn teithio llesol i oddeutu £55 miliwn, a dyrannu £38 miliwn i gefnogi’r broses o gyflawni seilwaith gwefru ceir trydan, tacsis, cerbydau hurio preifat a bysiau dim allyriadau.

Diolch, Weinidog. Rhwng 2013 a 2014, sefydlodd Llywodraeth Cymru y grant cynnal gwasanaethau bysiau yn lle'r grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau, gyda lefel y cyllid wedi'i gosod ar £25 miliwn. Nid yw'r pot sefydlog hwn o £25 miliwn wedi newid ers sefydlu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, gyda 10 y cant yn mynd i drafnidiaeth gymunedol a £100,000 yn ychwanegol yn cael ei gymryd fel cyfraniad y gweithredwyr at y gwaith o redeg Traveline Cymru, gan adael £22.4 miliwn net ar gyfer gwasanaethau bysiau cofrestredig lleol yng Nghymru. Mewn cyferbyniad, mae grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau Llywodraeth yr Alban yn cynnwys taliad craidd a chymhelliad i weithredu bysiau gwyrdd, ecogyfeillgar. Nod y taliad craidd yw cefnogi gweithredwyr i gadw prisiau ar lefelau fforddiadwy, ac mae’r rhwydweithiau'n fwy helaeth nag y byddent fel arall. Ac mae'r cymhelliad gwyrdd yn helpu gyda chostau ychwanegol rhedeg bysiau allyriadau isel, i sicrhau bod gweithredwyr yn eu defnyddio. Hoffwn wybod, Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu cymhelliant drwy'r grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau i gwmnïau bysiau yng Nghymru ddatgarboneiddio eu stoc gerbydau.

Diolch am godi'r mater hwn, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym ddadl ar fysiau yn nes ymlaen y prynhawn yma wrth gwrs lle gellir archwilio rhai o'r materion hyn yn fanylach gyda'r Gweinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth. Ond mae datgarboneiddio trafnidiaeth yn hollbwysig, ac fel rwyf wedi disgrifio, mae peth o'r buddsoddiad a wnawn mewn bysiau dim allyriadau yn benodol, fel bod y gwasanaethau'n gallu gweithredu mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn well â'n huchelgeisiau ar gyfer mynd i'r afael â’r newid hinsawdd. A thrwy gydol y pandemig, rydym wedi darparu cyllid sylweddol i'r diwydiant bysiau yma yng Nghymru i sicrhau ei fod yn parhau i weithredu yn ystod y pandemig, gan y gwyddom pa mor bwysig yw'r gwasanaeth hwnnw i lawer o weithwyr allweddol allu cyrraedd eu gweithle. Felly, mae ein cymorth i'r diwydiant bysiau wedi bod yn sylweddol. Mae'n dal i fod yma heddiw, diolch i'r cymorth rydym wedi'i roi drwy gydol y pandemig, ond nid yw hynny'n golygu na ellir ac na ddylid gwneud newidiadau yn y dyfodol, mewn perthynas â sicrhau gwasanaeth mwy effeithlon o ran carbon, ond hefyd gwasanaeth sydd ychydig yn fwy ymatebol i ofynion ein cymunedau penodol ac un sy’n cyd-fynd â'n huchelgeisiau ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol mewn gwirionedd. Felly, mae'r system bresennol, o ganlyniad i ddadreoleiddio'r diwydiant bysiau, yn golygu nad yw rhai o'r lleoedd lle mae fwyaf o angen bysiau yn cael eu gwasanaethu'n dda, ond mae ardaloedd lle gall pobl dalu mwy yn tueddu i gael gwell gwasanaeth, yn anffodus.

Gweinidog, mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd iawn, yn Nhreganna yng Nghaerdydd, i fynd ar y beic nôl ac ymlaen i'r ysgol, oherwydd diffyg lonydd beic. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, o ran datgarboneiddio trafnidiaeth, ar gyfer cyllid i Lwybrau Diogel i'r Ysgol ar gyfer cynghorau fel cyngor Caerdydd? Diolch yn fawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf i gynghorau ar gyfer Llwybrau Diogel i'r Ysgol, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, yn ogystal â’n cyllid teithio llesol. Ar ddechrau’r Senedd flaenorol, oddeutu £16 miliwn y flwyddyn yn unig a fuddsoddid gennym mewn teithio llesol, ond fel y dywedais, mae buddsoddiad bellach wedi cynyddu i oddeutu £55 miliwn, gan ddangos y flaenoriaeth gyson a chynyddol rydym yn ei rhoi i deithio llesol am yr holl resymau a nodwyd gennych, ond hefyd mewn perthynas â’n huchelgeisiau aer glân hefyd.

14:20
Fformiwla Ariannu Awdurdodau Lleol

7. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i adolygiad annibynnol o'r fformiwla bresennol ar gyfer ariannu awdurdodau lleol yng Nghymru? OQ56642

Gwnaf. Mae'r fformiwla ariannu’n cael ei datblygu a'i chynnal ar y cyd â llywodraeth leol. Os oes gan lywodraeth leol, drwy lais cyfunol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gynigion ar gyfer gwahanol ddulliau neu os ydynt yn awyddus i gael adolygiad ffurfiol o'r fformiwla, mae croeso iddynt gynnig hyn.

Diolch, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb. Codaf hyn gyda chi gan fod gennyf rai pryderon difrifol nad yw'r fformiwla ariannu gyfredol yn addas at y diben mwyach. Fe'i rhoddwyd ar waith sawl blwyddyn yn ôl—gwyddom hanes hynny—ac efallai ei bod yn iawn bryd hynny, ond ni chredaf ei bod yn iawn ar gyfer y sefyllfa rydym ynddi bellach.

Fel rhywun a fu’n arweinydd cyngor am amser maith, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth cynyddol rhwng cyllid a chronfeydd wrth gefn amryw o gynghorau ac rwyf wedi dadlau bod y system wedi dyddio a bod angen ei hadolygu. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld amrywio cyllid y pen o'r boblogaeth o £1,000 i dros £1,700 y pen, gyda disgwyl y bydd cynghorau sy’n cael llai o gyllid yn parhau i droi at godiadau yn y dreth gyngor i wneud iawn am y diffygion, ac nid yw hyn yn gynaliadwy. Weinidog, a ydych yn credu y bydd cydnabod natur wledig, teneurwydd poblogaeth a chost uned uwch darparu gwasanaethau mewn awdurdodau gwledig mawr yn hollbwysig mewn unrhyw fformiwla neu ddull diwygiedig o ariannu awdurdodau lleol?

Wel, mae'r fformiwla ariannu hon yn cael ei datblygu mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol i sicrhau bod gwahanol ffactorau'n cael eu trin yn deg, ac wrth gwrs, mae aelodau annibynnol yr is-grŵp dosbarthu yno i sicrhau nad oes tuedd o blaid neu yn erbyn buddiannau unrhyw awdurdod penodol, ac maent, wrth gwrs, yn nodi materion technegol. Ond mae'n wir fod y fformiwla'n ceisio ystyried ystod o bethau. Felly, fe fyddwch yn gwybod yn sir Fynwy mai un o'r rhesymau pam fod sir Fynwy'n cael setliad grant is nag eraill yw oherwydd y gallu mwy yn gymharol sydd gennych i godi’r dreth gyngor o gymharu â chynghorau eraill, a bod y data a ddefnyddir yn y setliad yn adlewyrchu’r ffaith bod gan sir Fynwy lai o amddifadedd o gymharu ag ardaloedd eraill o Gymru, a chredaf fod ystyried amddifadedd mewn ardaloedd a'n hangen i ddarparu gwasanaethau yn gwbl allweddol i'r fformiwla. Ond golyga hefyd, yn 2021-22, fod setliad sir Fynwy wedi cynyddu 3.9 y cant, ac roedd hynny’n uwch na chyfartaledd Cymru. Felly, pan fyddwch yn tynnu nifer o ffactorau ynghyd, rydych yn cael yr ymatebion gwahanol hyn. Ond credaf fod mynd i'r afael ag amddifadedd yn gwbl allweddol ac ni fyddwn yn dymuno gweld unrhyw newid i fformiwla yn symud oddi wrth hynny.

Meysydd Polisi nad ydynt wedi'u Datganoli

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganran cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 sy'n cael ei gwario ar feysydd polisi nad ydynt wedi'u datganoli? OQ56624

Dim ond yn unol â'r blaenoriaethau y mae pobl Cymru yn pleidleisio drostynt y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi. Mae hyn wedi cynnwys yr angen i fuddsoddi i fynd i'r afael â thanfuddsoddi hanesyddol a chyson gan Lywodraeth y DU mewn meysydd hanfodol fel band eang a’r seilwaith rheilffyrdd.

Diolch, Weinidog. Ar 19 Mai 2021, cyfaddefodd y Prif Weinidog ei hun wrth y Senedd:

'Nid oes gennym yr holl bwerau a fyddai’n angenrheidiol, heb sôn am yr holl arian a fyddai’n angenrheidiol i gynnwys incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru gyfan'.

Felly, maddeuwch fy syndod fod Llywodraeth Cymru, mor gynnar yn nhymor y Senedd newydd hon eisoes wedi dechrau gwario adnoddau ar faes polisi nad yw wedi’i ddatganoli. Nawr, er efallai fod y Prif Weinidog yn meddwl bod ganddo'r gallu i lunio arbrawf a fydd yn caniatáu ichi brofi'r honiadau a wneir am incwm sylfaenol cyffredinol, ni ellir cyfiawnhau ceiniog a fuddsoddir a munud o'r amser a dreulir gan swyddogion ar drywydd yr iwtopia sosialaidd hon. Mewn gwirionedd, byddai Cymru gam yn nes at fod yn wladwriaeth gomiwnyddol pe bai eich cysyniad o roi swm sefydlog o arian i bob unigolyn bob mis yn dod yn realiti. Felly, a wnewch chi fel Gweinidog nodi faint o adnoddau rydych wedi caniatáu iddynt gael eu dyrannu i ariannu gwaith sy'n gysylltiedig ag incwm sylfaenol cyffredinol yn y flwyddyn ariannol hon? Diolch.

Wel, wrth gwrs, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ymwneud â lleddfu tlodi, ac mae hynny’n sicr yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’w wneud. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau a chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a'u lles—pob un ohonynt yn bethau y byddem am eu cyflawni yma yng Nghymru. Rydym wedi dilyn cynlluniau peilot ledled y byd yn agos iawn a chyda chryn ddiddordeb, a chredwn fod cyfle i brofi fersiwn ohono yma.

Wrth gwrs, nid ydym yn profi fersiwn ar gyfer y boblogaeth gyfan. Rydym yn meddwl am garfan o bobl, pobl sy'n gadael gofal o bosibl, sydd, yn fy nhyb i, yn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed a'r bobl sydd fwyaf teilwng o’n cymorth, a dod o hyd i ffyrdd creadigol a ffyrdd arloesol o gefnogi'r unigolion hynny. Felly, rydym yn edrych yn agos ar fodelau sydd wedi'u llunio mewn mannau eraill; rydym yn edrych ar brofiad yr Alban a gwledydd eraill ar draws y byd. Ond mae'r holl waith hwn yn cael ei wneud ym mhortffolio’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a hi fydd yn rheoli’r gwaith penodol hwn yn ei phrif grŵp gwariant.

14:25

Diolch i'r Gweinidog.

Cyn inni symud ymlaen, a gaf fi ddweud fy mod wedi sylwi ar dueddiad i chwifio baneri y tu ôl i’r Aelodau ar Zoom yr wythnos hon? Mae'n edrych fel pe bai'r gyfradd R ar faneri yn fwy nag 1 ar hyn o bryd. Felly, o'r wythnos nesaf ymlaen, dim mwy o faneri. Fel arall, byddaf yn cael fy nhemtio i chwifio baner gweriniaeth drofannol annibynnol Ceredigion y tu ôl i mi yma. [Torri ar draws.] Yn union. Felly, symudwn ymlaen i wythnos ddi-faner yr wythnos nesaf, os gwelwch yn dda.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig, y gogledd a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, a daw’r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Y Sector Fwyd yn Ynys Môn

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hybu'r sector fwyd yn Ynys Môn? OQ56632

Member
Lesley Griffiths 14:26:56
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Y mis diwethaf, cyhoeddwyd y gwaith ehangu gwerth £20 miliwn yn Mona Island Dairy, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo'r sector bwyd a diod, a bydd cynhyrchwyr o Ynys Môn yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein harddangosfa ryngwladol, Blas Cymru, yn nes ymlaen eleni.

Diolch, Weinidog. Mi ydych yn gwybod fy mod i wedi tynnu sylw droeon at ddiffyg eiddo priodol ar gyfer cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. Dwi wedi gwthio am fuddsoddiad o'r fath, ac wedi gwerthfawrogi cyfarfodydd efo chi a'ch swyddogion am hyn yn y gorffennol. Ond rydym ni'n dal i weld cwmni ar ôl cwmni yn gorfod 'retrofit-io' unedau busnes er mwyn eu gwneud nhw'n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd.

Mae hwn yn sector sy'n gyffrous iawn yn Ynys Môn. Mi wnes i ymweld â ffatri newydd Mona Island Dairy yr wythnos diwethaf. Dwi'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am ei chefnogaeth i hwnna. Ond gadewch inni ddefnyddio hwnnw fel springboard, os liciwch chi, ar gyfer trio cael y math o fuddsoddiad dwi'n galw amdano fo mewn lleoliad neu leoliadau lle gallwn ni dyfu'r sector yma—cynhyrchu bwyd a chynhyrchu swyddi o fewn sector sydd mor gyffrous yn Ynys Môn. Dwi'n cynnig eto i gydweithio â'r Llywodraeth i droi hwn yn realiti.

Diolch. Ac fel y gwyddoch, cawsom sgwrs fer y tro diwethaf inni gyfarfod yn y Senedd, rwy’n credu; rwy’n fwy na pharod i gael cyfarfod pellach gyda chi. Yn amlwg, mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni yn rhywle lle rydym wedi archwilio hyn, ac mae'n gwbl hanfodol fod gennych yr unedau pwrpasol y cyfeiriwch atynt fel y gallwn annog arloesi pellach. Mae honno’n sgwrs y byddaf yn parhau i'w chael gyda'n tair canolfan technoleg bwyd yma yng Nghymru.

Diolch. Mae arweinwyr masnach a diwydiant wedi croesawu dychweliad porthladdoedd rhydd i'r DU, ac mae'n bosibl mai’r sectorau prosesu bwyd, melysion, diodydd alcoholig a thecstilau fydd fwyaf ar eu hennill. Mae cytundebau masnach y DU yn cynnig hwb i fusnesau Cymru, lle mae halen môr Ynys Môn, cig oen o Gymru, cregyn gleision Conwy ac eirin Dinbych Dyffryn Clwyd er enghraifft ymhlith y 15 o gynhyrchion eiconig o Gymru a allai gael eu diogelu yn Japan am y tro cyntaf fel rhan o gytundeb masnach y DU-Japan.

Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu 10 neu fwy o borthladdoedd rhydd ledled y DU, ac mae'n awyddus i sefydlu porthladd rhydd ym mhob un o wledydd y DU. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen dull cydgysylltiedig, gyda busnesau, cymunedau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru oll yn chwarae eu rhan. Mae model porthladdoedd rhydd y DU yn cwmpasu set eang o fesurau i ysgogi gweithgarwch economaidd, gan greu swyddi a chael effaith adfywiol ar borthladdoedd, cymunedau lleol ac economïau. Sut felly y byddech yn ymgysylltu â grŵp llywio porthladd rhydd Ynys Môn, gydag aelodau o Ynys Môn a phob rhan o ogledd Cymru yn gweithio i ddatblygu cynnig ar gyfer porthladd rhydd Ynys Môn Caergybi?

Wel, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynnig ffurfiol wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar borthladd rhydd arfaethedig yng Nghymru. Ond rydym wedi nodi’n gwbl glir na allwn dderbyn y cynnig y byddai porthladd rhydd yng Nghymru yn derbyn £8 miliwn yn unig mewn cymorth ariannol tra bo pob porthladd rhydd yn Lloegr yn cael £25 miliwn. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno bod hynny'n gwbl annerbyniol. Ac ysgrifennodd Gweinidogion Cymru at Drysorlys y DU, yn ôl ym mis Chwefror, i nodi hynny'n glir iawn. A gwnaethom nodi amodau hefyd lle gellid gwneud pethau ar y cyd, ond nid ydym wedi derbyn ymateb i'r llythyr hwnnw eto. Felly, ni ellir gwneud penderfyniad ar y mater oni bai ein bod yn cael ymateb gan Lywodraeth y DU.

Rwy'n siŵr, unwaith eto, y byddwch yn cytuno bod awgrym yr Ysgrifennydd Gwladol y gallai Llywodraeth y DU ddewis gweithredu porthladd rhydd yng Nghymru, heb ein cydsyniad, yn enghraifft arall o adlais o'r brig i lawr o bolisi economaidd cyn datganoli, pan fyddem yn clywed y neges, 'Yng Nghymru, fe gewch chi'r hyn a roddir i chi.' Ac mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda ni, nid yn ein herbyn.

14:30
Y Cytundeb Masnach Amlinellol Rhwng Llywodraeth y DU ac Awstralia

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cytundeb masnach amlinellol diweddar rhwng Llywodraeth y DU ac Awstralia ar ffermwyr cig eidion a chig oen yng Ngogledd Cymru? OQ56634

Diolch. Rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid y diwydiant i nodi unrhyw effeithiau posibl ar sector amaethyddol Cymru. Roedd y gwaith hwn yn sail i'n sylwadau i Lywodraeth y DU, pan ddywedasom na ddylai unrhyw gytundeb masnach roi ffermwyr Cymru dan anfantais na pheryglu ein safonau uchel.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cytuno 'o ran egwyddor' ar y cytundeb masnach rydd newydd gydag Awstralia, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, yn gwneud cam â ffermwyr Prydain yn yr un modd ag y mae wedi gwneud cam â diwydiant pysgota Prydain. Byddai'n caniatáu i Awstralia gynyddu ei lefelau allforio cig eidion i'r DU fwy na 60 gwaith y lefelau yn 2020 yn y flwyddyn gyntaf, cyn y byddai unrhyw dariffau'n dechrau. Mae hyn yn gosod cynsail peryglus iawn ar gyfer cytundebau masnach pellach â gwledydd fel yr UDA a Canada. A gwn fod ffermwyr ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a gynrychiolir gennyf yn pryderu'n fawr am hyn.

Mae'r cytundeb hefyd yn bygwth safonau bwyd, rheoliadau lles anifeiliaid ac amddiffyniadau amgylcheddol, ar ben milltiroedd bwyd astronomegol, y dylem fod yn gweithio i'w lleihau yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd. Mae'n hanfodol fod cynnyrch o Awstralia wedi'i labelu'n glir, fel y gallwn ni fel defnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus am y bwyd a brynwn a'r sgil-effeithiau. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ar y mater hwn, yn galw am amddiffyniadau i ffermwyr Cymru a'r safonau diwydiant sydd gennym ar hyn o bryd? Diolch.

Diolch. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos iawn gyda'n rhanddeiliaid yn y diwydiant a gweinyddiaethau datganoledig eraill fel ein bod wedi gallu asesu effeithiau posibl yr holl negodiadau masnach sydd ar y gweill, ac yn amlwg mae hynny'n cynnwys y cytundeb ag Awstralia. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn y pum mlynedd ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl ym mis Mehefin 2016, ein bod wedi cyflwyno'r pwyntiau hyn dro ar ôl tro ac wedi cyflwyno sylwadau clir iawn i Lywodraeth y DU yn galw am fesurau diogelu amaethyddol priodol fel nad oes gennym gystadleuaeth anghyfartal iawn o'r fath yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'n safbwynt ar bwysigrwydd cadw tariffau a chwotâu ar ein nwyddau amaethyddol sensitif iawn, megis cig oen a chig eidion. Rwyf hefyd wedi tynnu sylw Llywodraeth y DU droeon at sut y gallai'r cytundeb hwn osod cynsail. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn: nid yw'n ymwneud â chytundeb Awstralia yn unig, mae'n ymwneud â'r cytundebau masnach eraill hefyd.

Mewn perthynas â'ch cwestiwn ynghylch safonau, unwaith eto, nid ydym eisiau i'n safonau uchel iawn gael eu tanseilio gan wledydd nad oes ganddynt yr un safonau uchel â'n rhai ni. Rwy'n mynychu grŵp rhyngweinidogol gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a gweinyddiaethau datganoledig eraill. Rydym wedi eu cynnal bob chwe wythnos yn ôl pob tebyg drwy gydol tymor diwethaf y Llywodraeth. Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Llun nesaf—hwn fydd y cyntaf y tymor hwn—a byddwn yn gallu ailadrodd hynny. Os caiff ei ystyried, fe gawn weld.

Ar labelu, unwaith eto, credaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae pobl yn deall tarddiad yn iawn bellach, ac maent eisiau gwybod o ble y daw eu bwyd. Felly, mae'n bwysig iawn fod unrhyw gig o Awstralia wedi ei labelu'n glir wrth ei werthu, fel y gall pobl wneud y penderfyniadau hynny ac fel y gellir gwahaniaethu rhwng y cynnyrch hwnnw a chynnyrch o safon uwch a fydd ar y silffoedd hefyd.

Ar ymweliad diweddar â fferm gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a nifer o ffermwyr, roedd yn ddiddorol nad cytundebau masnach oedd yn peri pryder sylweddol iddynt ond yn hytrach y meysydd rydych chi'n eu rheoli, Weinidog, megis parthau perygl nitradau a bygythiad cynyddol TB i'w da byw ac felly i'w bywoliaeth. Ond ar wahân i hynny, yng ngoleuni'r cyfleoedd y mae'r cytundeb hwn a chytundebau masnach y dyfodol yn eu cynnig, pa ymdrechion ychwanegol rydych yn eu gwneud i hyrwyddo cig eidion a chig oen Cymru dramor?

14:35

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol i Hybu Cig Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda hwy i sicrhau ein bod yn gallu hyrwyddo ein cig eidion a'n cig oen ledled y byd. Yn amlwg, ers pandemig COVID-19, nid ydym wedi gallu cynnal y nifer o ymweliadau masnach y byddem yn eu cynnal fel arfer, er ein bod wedi cynnal rhai digwyddiadau rhithwir. Ond gobeithio y gallwn barhau â'r ymweliadau masnach yn y dyfodol, wrth inni allu teithio.

Unwaith eto, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid eraill i wneud hynny, ac rydym hefyd—. Efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth y byddwn, yn ddiweddarach eleni, yn cynnal Blas Cymru a ohiriwyd yn anffodus. Mae hwnnw'n denu miliynau o bunnoedd yn llythrennol, a bydd cig oen a chig eidion Cymreig yn amlwg iawn yno hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch y Gweinidog ar ei hailbenodiad, ac edrychaf ymlaen at weithio tuag at Gymru wledig decach a ffyniannus? Weinidog, mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o Wythnos Bwyd Môr yn 2016, fe gyhoeddoch chi eich bwriad i ddyblu cynhyrchiant dyframaethu morol erbyn 2020. Gan fod cynllun morol 2019 ac adroddiad dilynol 2020 wedi methu cyfeirio at yr amcan hwn, a chan fod y ffigurau flwyddyn a hanner ar ei hôl hi, a yw'r polisi hwn wedi suddo heb adael ei ôl?

Croeso i Samuel Kurtz ar ei benodiad, ac edrychaf ymlaen at eich cael yn gweithio gyferbyn â mi. Ni waeth beth y mae Rebecca yn ei ddweud, rwy'n credu bod hwn yn bortffolio cyffrous iawn hefyd ac rwy'n siŵr y byddwch yn ei fwynhau.

Nac ydy; mae'r polisi hwnnw gennym o hyd. Yn amlwg, rydym wedi cael rhai problemau gyda'n hallforion bwyd môr, ac fe fyddwch yn fwyaf ymwybodol o'r problemau'n ymwneud â molysgiaid dwygragennog byw, a'r anawsterau rydym wedi'u cael ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n sicr yn flaenoriaeth inni ar hyn o bryd oherwydd, yn llythrennol, mae'r diwydiant allforio ar ymyl dibyn. Felly, rydym yn canolbwyntio ar hynny, ond na, mae'r polisi yno o hyd.

Diolch. Un mater sy'n parhau i achosi straen a gofid i ffermwyr ledled Cymru yw TB buchol, sy'n fater y mae Gweinidogion olynol wedi methu mynd i'r afael ag ef yn iawn. Yr wythnos diwethaf, wrth ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, rhoddodd y Prif Weinidog y bai ar ffermwyr Cymru am ledaenu TB, gan ddweud,

'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg heintiedig a dod â nhw i'r ardal.'

Achosodd y datganiad hwn ddicter ymhlith ffermwyr yma yng Nghymru, sy'n gwneud popeth y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ei wneud er mwyn mynd i'r afael â TB buchol. Gwyddom fod angen prawf cyn symud clir cyn y gellir symud gwartheg. Ddoe, cafodd y Prif Weinidog a chithau a minnau lythyr gan y Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol, a alwodd ar y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i

'ddysgu'r ffeithiau gwyddonol a phrofedig sy'n ymwneud â TB buchol ac yna ymddiheuro i'r diwydiant am y niwed a achoswyd gan eich datganiad anghywir.'

Weinidog, a wnewch chi naill ai gynnig yr ymddiheuriad hwn i ddiwydiant amaethyddol Cymru, neu a ydych am gofnodi eich cymeradwyaeth i'r safbwyntiau a rannwyd gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf?

Rwy'n credu ei fod yn un o'r llythyrau mwyaf haerllug imi fod yn ddigon anffodus i'w dderbyn, a bod yn berffaith onest gyda chi. Credaf fod yr hyn a ddywedwch yn anghywir ynglŷn ag ystadegau. Os edrychwch ar y duedd sy'n sicr wedi bod yn digwydd dros y 33 mis diwethaf, rwy'n credu, rydym wedi gweld gostyngiad yng nghyfanswm 12 mis y buchesi ag achosion newydd ac rydym wedi cael gostyngiad o 2 y cant yn nifer yr achosion newydd yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021. Ac yn amlwg, yn ôl y wybodaeth a gawsom, mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn TB yn ardaloedd dyffryn Conwy, sir Ddinbych a Phennal, sef yr ardaloedd y tynnodd Janet Finch-Saunders sylw'r Prif Weinidog atynt rwy'n credu, wedi'u hachosi i gychwyn gan symudiadau i'r ardal o ddaliadau mewn ardaloedd lle ceir mwy o achosion o TB, ac yna gan symudiadau lleol o fewn yr ardal honno, yn enwedig o fewn daliadau o dan yr un rheolaeth fusnes.

Diolch, ond mae'r canlyniadau negyddol ffug sy'n deillio o'r prawf croen TB buchol presennol yn dangos, os yw symud yn digwydd o dan bolisi Llywodraeth Cymru, fod y polisi'n methu yma.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar, fodd bynnag, fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwario'r swm enfawr o £136,000 ar eu harwydd Caerfyrddin Hollywood-aidd ar ochr y gerbytffordd A40 tua'r dwyrain gydag arian yn dod o gynllun datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Mae hyn, ynghyd â chanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian yn niffyg cystadleuaeth, yn dangos nad yw'r cynllun datblygu gwledig yn addas at y diben ar ei ffurf bresennol. Weinidog, a allwch chi gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw ymrwymo i adolygiad annibynnol llawn o'r cynllun datblygu gwledig er mwyn sicrhau nad yw prosiectau rhodres a ffafriaeth bellach yn cymylu barn y Llywodraeth ynghylch gweinyddu grantiau'r cynllun datblygu gwledig?

14:40

Nid oes unrhyw gynlluniau i gynnal adolygiad pellach o gynlluniau datblygu gwledig 2014-20. Mae swyddogion wedi cydnabod nad oedd y dull o brofi gwerth am arian nifer o brosiectau hanesyddol y cynllun datblygu gwledig yn arfer gorau. Felly, credaf na fydd adolygiad pellach o hynny.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf innau eich llongyfarch chi hefyd ar eich ail apwyntiad fel y Gweinidog? A dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu perthynas adeiladol gyda chi dros y blynyddoedd nesaf. Dwi innau hefyd yn mynd i barhau gyda thema'r RDP, os caf i? Mae llawer o sylw wedi cael ei roi dros y misoedd diwethaf i ariannu'n llawn y cynllun datblygu gwledig, ac mae'r cynllun, fel rydym ni i gyd yn gwybod, yn hollbwysig i Gymru wledig, gan gefnogi ffermydd yn uniongyrchol a hefyd i ddatblygu projectau economaidd ac amgylcheddol.

Er hyn, mae yna gonsýrn ymhlith y sector fod Llywodraeth Cymru yn mynd i fethu â gwario cyllideb y cynllun hwn yn llawn erbyn diwedd y cyfnod ariannu yn 2023. Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, dim ond ychydig dros 60 y cant o gyllid y cynllun hwn sydd wedi ei wario hyd yn hyn. Os yw'r Llywodraeth am wario'r holl arian sydd yn y gronfa, sef £838 miliwn erbyn Rhagfyr 2023, bydd yn rhaid sicrhau cynnydd sylweddol yn y gyfradd gwariant misol o £6 miliwn i £10 miliwn, sydd yn dipyn o naid. Felly, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi yn eu lle i sicrhau bod yr holl arian hwn yn cael ei wario er mwyn cefnogi'n hardaloedd gwledig? Ac a ydy'r Gweinidog yn derbyn, os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwario'r arian yn llawn, y bydd hyn yn rhoi esgus arall i Lywodraeth San Steffan i roi llai o gyllideb i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod, gan beryglu sefydlogrwydd economaidd a hyfywedd ein diwydiant amaeth? 

Diolch. Hoffwn eich croesawu i'ch rôl fel llefarydd yr wrthblaid, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chithau hefyd. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da iawn mewn perthynas â chyflawni rhaglen ein cynllun datblygu gwledig. Mae dros £512 miliwn eisoes wedi'i wario. Fel y dywedwch, mae £362 miliwn pellach i'w wario dros y tair blynedd nesaf, ac yn sicr rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy swyddogion sy'n monitro'r cynllun datblygu gwledig, ac ar hyn o bryd rydym yn hyderus iawn y bydd y cyllid hwnnw'n cael ei wario.

Iawn. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio byddwch chi ddim fel John Redwood yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni'n anfon arian Cymru yn ôl i'r Trysorlys.

Yr ail gwestiwn: plannu coed ar dir fferm. Mater pwysig arall i'n cymunedau gwledig yw cynlluniau plannu coed ar dir fferm. Yn ddiweddar, fe gwrddais i â chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Myddfai yn sir Gâr a rhai o'r ffermwyr lleol o'r ardal honno i glywed tystiolaeth gynyddol o ffermydd cyfan, cymaint â 300 erw, yn cael eu prynu gan bobl fusnes cyfoethog a chwmnïau rhyngwladol mawr ar gyfer plannu coed ar gyfer carbon offsetting. Ac roedden nhw'n rhoi enghreifftiau i fi o ffermydd yn sir Gâr, Ceredigion a de Powys sydd wedi cael eu prynu yn ddiweddar at y pwrpas yma. Ac mae'n debyg bod arian cynllun Glastir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r cynlluniau, ac mewn un achos roedd hyn wedi atal ffermwr ifanc oedd wedi bwriadu symud yn ôl i brynu tir drws nesaf i fferm y teulu, roedd e wedi cael ei atal rhag gwneud hyn oherwydd bod y fferm yma wedi cael ei phrynu at bwrpas carbon offsetting

Rwy'n siwr eich bod chi'n cytuno, unwaith y bydd ein ffermydd teuluol fel hyn wedi cael eu colli a'u gorchuddio gan goed, fyddan nhw ddim yn cael eu dychwelyd i ddefnydd amaeth. Ac mae hyn yn drychineb wrth gwrs, nid yn unig i gynhyrchu bwyd yng Nghymru ond hefyd i gynaliadwyedd ein cymunedau gwledig, wrth iddo arwain at fwy o ddiboblogi gwledig ac effaith niweidiol ar gynaliadwyedd ein hysgolion gwledig a gwasanaethau gwledig yn ogystal. 

Nawr does neb yn amau pwysigrwydd plannu coed, wrth gwrs, i gyflawni ein polisïau amgylcheddol, ond rhaid gwneud hyn tra'n diogelu hyfywedd ein busnesau amaethyddol. Felly, y cwestiwn i'r Gweinidog yw hwn: a ydych chi'n cytuno â mi, felly, ei bod hi'n gwbl hurt bod cwmnïau a chyfoethogion o'r tu allan i Gymru, er enghraifft, yn gallu cael gafael ar daliadau cymorth ffermio drwy'r cynllun Glastir i blannu coed pan ddylai'r polisi hwnnw sicrhau bod yr arian yn aros yng Nghymru? Ac a ydy'r Llywodraeth yn fodlon sicrhau mai dim ond ffermwyr actif sy'n gallu cael gafael ar daliadau cymorth trwy'r cynllun hwn a bod angen capio canran yr erwau fferm y gellir eu neilltuo ar gyfer plannu coed a bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwneud hynny? Diolch yn fawr.

14:45

Diolch yn fawr iawn. Rydych wedi codi nifer o bwyntiau pwysig, ac mae'r cyntaf, rwy'n credu, yn ymwneud â ffermwr ifanc yn methu rhentu na phrynu tir fferm na fferm. Ac rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda ffermwyr ifanc, ynghyd â Llyr Huws Gruffydd, pan oedd yn eich rôl chi, i sicrhau eu bod yn cael cyfle i ddechrau eu fferm eu hunain, neu os na allant brynu un, eu bod yn cael cyfle o leiaf i rentu un. Felly, credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Ac rwy'n credu bod diogelu ein ffermydd yn rhywbeth sydd, yn amlwg, yn hanfodol yn fy rôl i. Ac yn y dyfodol, wrth inni ddatblygu ein polisi amaethyddol, unwaith eto, efallai eich bod yn ymwybodol fod y geiriau 'ffermwr gweithredol' yn ymddangos yn aml, os edrychwch ar y Papur Gwyn a gyhoeddais yn ôl ym mis Rhagfyr, ac mae sicrhau mai ffermwyr gweithredol sy'n cael eu gwobrwyo am y gwaith yn uchel iawn yn y rhestr o flaenoriaethau ynddo.

Mae plannu coed yn amlwg yn bwysig iawn. Os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau allyriadau carbon, os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau newid hinsawdd, mae angen inni blannu mwy o goed. Rwyf bob amser wedi dweud—ac mae plannu coed bellach yn rhan o'r weinyddiaeth ar newid hinsawdd—pan oeddwn yn gyfrifol amdano, nad oeddem yn plannu digon o goed. Felly, mae'n bwysig inni blannu coed, ond yn amlwg, mae pwy sy'n cael y cyllid ar gyfer gwneud hynny hefyd yn bwysig.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr fod plannu coed yn bwysig, ond mae'n ymwneud â phlannu'r goeden gywir yn y lle cywir ac am y rheswm cywir.

Felly, fy nghwestiwn olaf—

—yn Gymraeg: yn amlwg, prif ffocws gwaith y Llywodraeth a'r Senedd yn ystod y blynyddoedd nesaf mewn perthynas â materion gwledig fydd cyflwyno Bil amaeth newydd i Gymru. Mae'r heriau lu sy'n wynebu ardaloedd gwledig Cymru a'r sector amaeth yn golygu ei bod yn bryd llunio cyd-destun newydd i amaethyddiaeth yng Nghymru a sicrhau dyfodol llawer mwy ffyniannus i ffermio. Rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sydd yn rhoi gwytnwch i'n ffermydd teuluol wrth wraidd adfywiad y diwydiant. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod rhaid inni fel Senedd gefnogi ffermwyr Cymru yn eu nod o fod yn un o'r sectorau amaethyddol mwyaf amgylcheddol gynaliadwy yn y byd. Ond rhaid inni gydnabod hefyd, er mwyn i'r ffermydd fod yn amgylcheddol gynaliadwy, fod rhaid iddyn nhw hefyd fod yn economaidd gynaliadwy. Felly, gyda'r angen am amser i ddatblygu, treialu, modelu ac asesu effaith briodol cyfraniad y cynlluniau arfaethedig sydd gyda chi ar gyfer lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylid diogelu'r taliad sylfaenol ar lefelau cyllidol presennol—yn enwedig yng nghyd-destun ein hadferiad ar ôl COVID a pholisïau masnachol niweidiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rŷn ni wedi clywed yn barod—er mwyn rhoi mwy o sefydlogrwydd economaidd i'r diwydiant yn ystod yr amser heriol hwn?

Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cynnal taliadau cynllun y taliad sylfaenol ar yr un lefel ar gyfer 2021. Os cawn y cyllid y dylem ei gael gan Lywodraeth y DU, byddwn yn ceisio gwneud hynny ar gyfer 2022 hefyd. Wrth inni ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy sydd wedi'i nodi yn y Papur Gwyn ac wrth inni gyflwyno'r Bil amaethyddiaeth, rwyf wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn cyflwyno'r cynllun newydd hyd nes ei fod yn gwbl barod. Felly, ni fydd unrhyw bryder ynghylch disgyn drwy'r bylchau nac unrhyw beth felly, oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y cynllun hwnnw wedi'i sefydlu ac yn weithredol. Ac rydym wedi cael dau ymgynghoriad. Rydym bellach wedi cael y Papur Gwyn, felly, dros dair blynedd, mae gennym ymatebion sylweddol i ymgynghoriadau y gallwn weithio arnynt gyda dadansoddiad manwl yn parhau ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu, er mwyn rhoi'r sicrwydd y credaf fod ffermwyr ei angen yn y cyfnod ansicr hwn, cyn belled â'n bod yn cael yr un cyllid gan Lywodraeth y DU, byddwn yn gwneud hynny ar gyfer 2022.

14:50
Anifeiliaid Fferm sy'n Crwydro

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith anifeiliaid fferm sy'n crwydro ar les anifeiliaid? OQ56661

Nid ydym wedi asesu effaith anifeiliaid fferm sy'n crwydro ar les anifeiliaid. Mae gan berchnogion a cheidwaid anifeiliaid ddyletswydd gyfreithiol i ofalu am yr anifeiliaid y maent yn gyfrifol amdanynt.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Byddwn yn awgrymu efallai y dylai'r Llywodraeth wneud hynny. Mae'r rheini ohonom sy'n byw ac sydd wedi cael ein magu ym Mlaenau'r Cymoedd wedi hen arfer gweld defaid o amgylch ein cymunedau fel rhan o natur y lle. Ond yr hyn a welsom yn ddiweddar yw methiant yr awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent i gynnal ffensys a chynnal yr ardaloedd tir comin lle mae ganddynt gyfrifoldebau, sydd wedi golygu bod gennym broblem sylweddol o ran lles anifeiliaid yn y fwrdeistref. Cafodd saith anifail eu lladd mewn un ddamwain ar drothwy'r etholiad ym mis Mai, ac mae hyn yn peri gofid eithriadol i'r ceidwaid a'r ffermwyr, ond hefyd i bobl sy'n gorfod tystio i hynny. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod yna gyrff statudol yma gyda chyfrifoldebau, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru, yn gyntaf oll, gynnal yr asesiad y soniais amdano, ac yna sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaethau a'u cyfrifoldebau yn y materion hyn.

Diolch, ac fel y dywedwch, ym mis Mai eleni, adroddwyd bod nifer anarferol o uchel o ddefaid yn crwydro o amgylch y trefi yn eich etholaeth. Roedd pobl yn amlwg yn pryderu am y posibilrwydd y byddai damweiniau'n cael eu hachosi, a hefyd wrth gwrs am les yr anifeiliaid eu hunain, fel y dywedwch. Rwy'n credu ei bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith y dylai unrhyw un sydd â phryderon gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cyfrifoldeb perchnogion tir yw cynnal ffiniau, ond os caiff ffensys eu difrodi'n fwriadol, er enghraifft, dylid rhoi gwybod i'r heddlu. Rydych yn awgrymu bod angen inni wneud gwaith pellach gyda'r awdurdod lleol, ac rwy'n ymrwymo i wneud hynny, ac yn amlwg, i hysbysu'r Aelod pan fydd hwnnw wedi'i gwblhau.

Weinidog, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r holl Aelodau a llawer o bobl mewn cymdeithas. Mae da byw sy'n crwydro'n broblem, yn ogystal â phobl sy'n crwydro cefn gwlad a'r peryglon y mae hynny'n eu hachosi i dda byw, a pheryglon y mae da byw yn eu hachosi i bobl, ac rydym wedi gweld damweiniau trasig yn y blynyddoedd diwethaf. A ydych yn ymwybodol o gynlluniau a gyflwynwyd yn ne-orllewin Lloegr sydd wedi rhoi caniatâd dros dro i ddargyfeirio llwybrau cerdded er mwyn diogelu cerddwyr a phobl sy'n mwynhau cefn gwlad, yn ogystal â da byw? Ac os ydych yn ymwybodol ohonynt, a gaf fi eich annog i gael trafodaeth gyda'r Gweinidog newid hinsawdd, sy'n gyfrifol am hawliau tramwy cyhoeddus, i annog mwy o bobl i fanteisio ar y mathau hyn o gynlluniau er mwyn osgoi damweiniau trasig yng nghefn gwlad a gwella lles anifeiliaid?

Diolch. Nid wyf yn ymwybodol o'r cynlluniau—credaf ichi ddweud de-ddwyrain Lloegr—ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn gofyn i swyddogion edrych arno ac archwilio i weld a oes unrhyw wersi y gallwn eu dysgu.

Gwella Lles Anifeiliaid

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid yng Nghymru? OQ56663

5. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd a lles anifeiliaid dros dymor y Senedd hon? OQ56647

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56657

Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 4, 5 ac 8 gael eu grwpio. Mae iechyd a lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Mae'r grŵp fframwaith, a lansiwyd yn 2014, yn nodi ein cynllun trosfwaol 10 mlynedd ar gyfer gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ers dechrau'r pandemig, bu cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes yng Nghymru. Mae llawer o'r anifeiliaid hyn wedi dod o hyd i gartrefi cariadus am oes. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau fel y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn pryderu y gallai diwedd y pandemig yn storm berffaith pan fydd llawer o bobl yn cael gwared ar yr anifeiliaid anwes hynny. Gallai'r cyfuniad o ymchwydd yn nifer y bobl sy'n cael anifail anwes yng ngwres y foment, y newid yn amgylchiadau pobl ac effeithiau economaidd y pandemig i gyd daro ac arwain at ymchwydd yn nifer y bobl nad ydynt yn gallu gofalu am eu hanifeiliaid anwes mwyach. Gwyddom fod ymchwydd o'r fath yn digwydd. Cynyddodd y chwiliadau Google am gyngor ar brynu cŵn bach yn y DU bedair gwaith yn ystod canol mis Mawrth y llynedd, cyn dyblu eto ar ddechrau mis Mai. Yna, ym mis Tachwedd, gwelwyd cynnydd sydyn yn y chwiliadau'n gysylltiedig â gwerthu cŵn bach a chŵn ar-lein ar Google.

Wrth i'r pandemig lacio'i afael, a all Llywodraeth Cymru weithio gydag elusennau, megis yr RSPCA a Dogs Trust, yn ogystal ag awdurdodau lleol, ar ymgyrch wybodaeth i sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio i'r mannau cywir i gael cymorth os ydynt yn cael trafferth gyda'u hanifeiliaid anwes, ac i dynnu sylw at y llwybrau gorau a mwyaf diogel ymlaen fel nad oes rhaid i unrhyw anifail ddioddef heb fod unrhyw fai arnynt hwy?

14:55

Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, a chredaf y bydd llawer o bobl yn wynebu'r broblem hon, efallai wrth iddynt ddychwelyd i'r gwaith, yn ôl i'r swyddfa neu yn ôl i'w man cyflogaeth, oherwydd eu bod wedi prynu'r anifail yn ystod pandemig COVID. Gallai'r newid cwmni yn ystod y dydd gael effaith fawr ar yr anifail anwes, ond ar y perchnogion hefyd. Felly, credaf fod angen iddynt gynllunio sut y maent yn bwriadu gwneud y trawsnewid hwnnw a bod allan o'r tŷ am gyfnodau hir o amser. Yn amlwg, gall cynllunio a sefydlu trefn arferol helpu anifeiliaid i addasu i ffyrdd newydd o fyw. Fel Llywodraeth Cymru, rydym bob amser wedi gweithio'n agos gyda'r grŵp fframwaith y soniais amdano, yn ogystal â'r rhwydwaith lles anifeiliaid sydd gennym yng Nghymru, ac rydym wedi bod yn cynhyrchu canllawiau perthnasol a chymorth perthnasol i bobl allu gwneud hynny, ac mae llawer ohono'n gysylltiedig â gwefan Llywodraeth Cymru, felly gall pobl gael gafael ar honno'n hawdd iawn.

Rydym hefyd wedi cefnogi gwaith y Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes. Sefydlwyd hwnnw yn ôl yn 2001 i fynd i'r afael â phryderon cynyddol ynghylch hysbysebu anghyfrifol wrth geisio gwerthu, ailgartrefu a chyfnewid anifeiliaid anwes, ac unwaith eto, roedd hwnnw'n rhywbeth a grybwyllwyd wrthyf ar ddechrau'r pandemig mae'n debyg wrth inni sylweddoli bod pobl yn prynu—gwelsom gynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n prynu cŵn, yn enwedig. Mae gwir angen i bobl feddwl yn galed am yr ymrwymiad sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar anifail anwes, ac mae'n bwysig iawn dweud—ac mae'n gyfle gwych i allu dweud hyn eto—y dylai anifail anwes newydd gael ei brynu mewn modd cyfrifol.

Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd â ffrindiau pedair coes. Mae gen i Jack Russell o'r enw Poppy a chath o'r enw Binx. Ni allwn ddychmygu fy mywyd hebddynt. Nid anifeiliaid anwes yn unig ydynt, maent yn rhan o'r teulu. Nid yw hynny'n golygu eu bod bob amser yn ymddwyn yn dda, ac er mor anodd y gallant fod ar adegau, byddwn yn arswydo pe baent yn cael eu niweidio neu eu dwyn. Yn fy etholaeth yn y Rhondda, yn anffodus rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cŵn sy'n cael eu dwyn a nifer y cŵn y ceisir eu dwyn. Mae Heddlu De Cymru yn gwneud popeth yn eu gallu i adfer cŵn sydd wedi eu dwyn. Sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo'r heddlu i atal lladradau cŵn rhag digwydd yn y dyfodol?

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi—credaf yn gryf fod anifeiliaid anwes yn gwella bywyd teuluol, ac yn anffodus rydym yn sicr wedi gweld cynnydd mewn lladradau cŵn yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n drosedd o dan Ddeddf Dwyn 1968, sydd, yn amlwg, yn ddeddfwriaeth a gadwyd yn ôl, a'r gosb uchaf yw saith mlynedd o garchar. Mae swyddogion ledled y DU wedi bod yn ystyried yn ofalus beth yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â phobl sy'n dwyn anifeiliaid anwes, ac mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dod at ei gilydd yn Llywodraeth y DU ac wedi cyflwyno tasglu. Cafodd ei gyhoeddi, rwy'n credu, yn llythrennol ychydig ar ôl yr etholiad ym mis Mai, neu ar ddiwrnod ein hetholiad hyd yn oed, a bydd hwnnw'n edrych ar yr holl wybodaeth sydd gan bob heddlu mewn perthynas â'r mater hwn. Byddant yn adrodd ar eu canfyddiadau'n fuan iawn, mewn gwirionedd, dros doriad yr haf.

Yma yng Nghymru, rwyf ar fin cyhoeddi—wel, rwy'n credu fy mod newydd gyhoeddi—y byddaf yn cyfarfod â'n cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt Cymru yr wythnos nesaf. Mae gennym dimau troseddau cefn gwlad gwych yma yng Nghymru; rwy'n credu bod heddluoedd Lloegr yn genfigennus ohonynt. Felly, rwyf wedi cytuno i ariannu treial 12 mis ar gyfer y cydgysylltydd hwn—comisiynydd, mewn gwirionedd—a bydd yn arwain ac yn hwyluso cyswllt a chydgysylltu effeithiol â'r pedwar heddlu yma yng Nghymru. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod ag ef yr wythnos nesaf. Rwy'n credu ei bod yn rôl gyffrous iawn ar gyfer y dyfodol.

Weinidog, roeddwn yn falch iawn o weld cyfeiriad yn y rhaglen lywodraethu at wahardd defnyddio maglau, mater rwyf wedi ymgyrchu drosto ers i mi gael fy ethol am y tro cyntaf yn 2016. Fel y gwyddom, mae maglau'n achosi dioddefaint diwahân i anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a rhywogaethau a warchodir fel ei gilydd. A allwch chi roi unrhyw fanylion pellach ynglŷn â phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chynigion?

Ni allaf roi llinell amser i chi ar gyfer hynny. Yn amlwg, mae wedi'i gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu, felly bydd yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon, ond mae'n rhywbeth rwy'n ceisio ei wneud ar y cyfle cyntaf posibl. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth rydych yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, felly roeddwn yn falch iawn ei fod wedi'i gynnwys yn y rhaglen lywodraethu. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym gynlluniau mewn perthynas â hyn yn y Papur Gwyn—y Papur Gwyn ar amaethyddiaeth y soniais amdano—a gyhoeddwyd gennyf yn ôl ym mis Rhagfyr. Felly, mae'n sicr yn dda iawn fod y gwaharddiad hwnnw'n cael ei gyflwyno.

15:00

Weinidog, mae Llywodraeth Geidwadol y DU eisoes wedi dechrau'r broses yn Senedd y DU o wahardd primatiaid rhag cael eu cadw fel anifeiliaid anwes ac eithrio mewn amgylchiadau penodol iawn. Mae RSPCA Cymru wedi mynegi pryder fod Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd yn cyflwyno gwaharddiad tebyg yma yng Nghymru. Weinidog, hoffwn ofyn i chi: a allech chi egluro eich polisi ar gadw primatiaid fel anifeiliaid anwes? Os na fyddwch yn cyflwyno gwaharddiad yng Nghymru, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater lles sy'n gysylltiedig â chadw primatiaid mewn amgylcheddau domestig anaddas?

Diolch. Ni chaiff neb gadw unrhyw anifail gwyllt peryglus, ac mae hynny'n cynnwys llawer o brimatiaid, heb gael trwydded gan ei awdurdod lleol yn gyntaf o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976. Fel rhan o hynny, byddai awdurdodau lleol, yn amlwg, yn archwilio safleoedd ac yn ystyried gofynion lles. Rydym yn gweithio gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru i ddrafftio cod ymarfer newydd yma yng Nghymru ar gyfer primatiaid, sy'n disgrifio eu hanghenion cymhleth. Yn anffodus, cafodd y gwaith ei oedi yr haf diwethaf, rwy'n credu, oherwydd pandemig COVID-19. Bydd y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), sy'n Fil gan Lywodraeth y DU, yn gwahardd cadw, bridio, gwerthu a throsglwyddo primatiaid yn Lloegr heb drwydded primatiaid benodol. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU fel y gallwn ymestyn y ddarpariaeth honno yma yng Nghymru. Gosodais femorandwm cydsyniad deddfwriaethol yr wythnos hon mewn perthynas â hynny.

Esgusodwch y llun aneglur braidd. Gobeithio nad yw'n effeithio ar ansawdd y sain o gwbl. Weinidog, rwy'n croesawu camau gan eich Llywodraeth i wella iechyd a lles anifeiliaid. Mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cynnal y safonau lles uchaf yma yng Nghymru. Mae un o fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd wedi mynegi pryderon ynghylch cadw da byw mewn lleoliad preswyl. Mae'n siŵr bod cadw a magu da byw yn gofyn am sgiliau a gwybodaeth arbenigol y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen i gadw anifeiliaid anwes fel cŵn neu gathod. Mae'r rhai sy'n cadw da byw yn destun gwiriadau lles anifeiliaid a llu o ofynion sy'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. A wnaiff eich Llywodraeth sicrhau bod y bobl sy'n cadw da byw mewn mannau preswyl yn ddarostyngedig i'r un gofynion lles anifeiliaid trwyadl â ffermwyr?

Yn sicr, cyfrifoldeb y perchnogion yw sicrhau iechyd a lles yr anifeiliaid y maent yn eu cadw. Byddem yn disgwyl i bobl gydnabod hynny'n llwyr ac ymddwyn yn unol â hynny.

Weinidog, mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'w gwneud yn ofynnol i ladd-dai yng Nghymru gael teledu cylch cyfyng, cam y mae pob plaid wedi'i gefnogi a'i godi gyda chi yn y Siambr hon ers sawl blwyddyn bellach. Mae'r defnydd o'r dechnoleg hon wedi cael ei ystyried ers tro yn gam pwysig tuag at sicrhau bod gennym y lefelau uchaf o ddiogelwch mewn perthynas â lles anifeiliaid yng Nghymru. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pam nad yw teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai eisoes yn orfodol, ac o ystyried yr ewyllys wleidyddol glir o bob ochr, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi datrys y mater hwn eisoes?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol a wnaed yn nhymor blaenorol y Senedd mewn perthynas â theledu cylch cyfyng. Roedd gennym ddull gwirfoddol lle'r oeddem yn darparu cyllid sylweddol ar gyfer y lladd-dai llai o faint. Mae gan bob lladd-dy mwy o faint yng Nghymru deledu cylch cyfyng ac maent yn glynu wrth brotocol a ddatblygwyd ac y cytunwyd arno ar y cyd â'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Darparwyd cyllid gennym ar gyfer y rhai llai i helpu i brynu teledu cylch cyfyng. Ni all teledu cylch cyfyng gymryd lle goruchwyliaeth uniongyrchol gan reolwyr lladd-dai; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio hynny—neu filfeddygon swyddogol, yn enwedig mewn safleoedd bach. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ond rydym wedi ymrwymo i'w gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy gael teledu cylch cyfyng yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Y Rhaglen Datblygu Gwledig

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen datblygu gwledig yng Ngorllewin De Cymru? OQ56653

Diolch. Mae'r rhaglen datblygu gwledig yn parhau i gyflawni ledled Cymru, gan gynnwys yn ne-orllewin Cymru. Mae prosiectau'n cael eu cyflawni sydd o fudd i'n hamgylchedd naturiol, ein busnesau a'n cymunedau gwledig ledled y wlad.

Diolch, Gweinidog. Er gwaethaf y ffaith bod y rhaglen datblygu gwledig wedi rhedeg am nifer o flynyddoedd gyda'r nod o hyrwyddo twf economaidd gwledig cynaliadwy, rydyn ni'n dal i weld lefelau incwm yn rhai o'n hardaloedd gwledig ni yng Ngorllewin De Cymru yn styfnig o isel. Wrth gwrs, mae gan raglenni fel bargen ddinesig bae Abertawe y potensial i gefnogi twf mewn cymunedau gwledig, gyda ffocws ar ddarparu gwell cysylltedd digidol a allai arwain at ddatblygiad economaidd, ond mae tlodi gwledig yn amlweddog ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag e ar draws Llywodraeth. Mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn enwedig yn codi dro ar ôl tro fel ffactor sy'n effeithio ar gyfleon economaidd ac ar ansawdd bywyd trigolion. Mae torri ar wasanaethau bysiau yn enwedig, yn sgil y pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol ac yn sgil COVID, yn broblem ddifrifol. Felly, hoffwn ofyn ichi ba drafodaethau rydych chi'n eu cael ar hyn o bryd gyda'ch cyd-Weinidogion, yn enwedig y Gweinidogion dros yr economi a chyfiawnder cymdeithasol, ynghylch datblygu strategaeth economaidd a dileu tlodi wedi ei theilwra ar gyfer cymunedau gwledig dros y blynyddoedd nesaf. Diolch.

15:05

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r ddau Weinidog y cyfeirioch chi atynt yn ystod y mis neu fwy diwethaf o'r Llywodraeth newydd, ond yn amlwg, ar ôl bod yn gyfrifol am y portffolio yn y tymor blaenorol, rwyf wedi cael y trafodaethau ynglŷn â sicrhau bod ein hardaloedd gwledig yn cael y cyllid sydd ei angen arnynt, oherwydd mae'n amlwg bod gan ardaloedd gwledig ofynion ac anghenion gwahanol. Fe sonioch chi am drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft; yn sicr, rydym wedi cael y trafodaethau hynny o'r blaen.

Mewn perthynas â'r rhaglen datblygu gwledig, mae'n bwysig iawn fod y prosiectau a ariennir yn sicrhau'r manteision angenrheidiol i'r ardaloedd y maent yno ar eu cyfer a bod y rhaglenni a'r prosiectau hynny'n cael eu monitro. Mae rhai arfarniadau sylweddol ar y gweill yn eich rhanbarth ar hyn o bryd mewn perthynas â phrosiectau'r rhaglen datblygu gwledig yno. Mae adferiad COVID yn amlwg yn faes lle rydym yn ceisio sicrhau nad yw ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl. Ac mae gennym y cynlluniau buddsoddi mewn busnesau gwledig ar gyfer prosiectau bwyd a phrosiectau anamaethyddol, ac rydych newydd gyfeirio at rai ohonynt.

Un o amcanion y rhaglen datblygu gwledig yw hyrwyddo twf economaidd cryf a chynaliadwy yng Nghymru. I lawer o ffermydd a busnesau gwledig, mae hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflawni drwy arallgyfeirio eu busnesau. Mae rhai yn fy rhanbarth i, yn enwedig yng Ngŵyr, wedi ystyried arallgyfeirio i dwristiaeth, ond mae llawer wedi dweud wrthyf ei bod yn broses eithaf hir a biwrocrataidd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog amlinellu'r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau eraill sy'n awyddus i wneud yr un peth yn y dyfodol?

Mae'n fy synnu eich bod yn dweud hynny am arallgyfeirio i dwristiaeth, oherwydd credaf fod hwnnw'n faes lle'r ydym wedi gweld arallgyfeirio sylweddol. Mae llawer o'r ceisiadau a gawsom mewn perthynas ag arallgyfeirio'n ddiweddar wedi ymwneud ag ynni, er enghraifft—hoffai pobl osod un felin wynt ar eu fferm efallai i sicrhau bod ganddynt ynni. Felly, mae'n fy synnu eich bod yn dweud eu bod yn rhy fiwrocrataidd, oherwydd credaf mai twristiaeth yw'r prif faes lle mae'r arallgyfeirio hwnnw eisoes wedi digwydd. Ond mae amrywiaeth o gynlluniau y gall ffermwyr wneud cais amdanynt. Ac mae Cyswllt Ffermio hefyd, sy'n amlwg yn unigryw i Gymru, yn darparu gwasanaeth lle gall unrhyw ffermwr sydd eisiau trafod arallgyfeirio o unrhyw fath ffonio am gymorth a chyngor arbenigol.

Ychydig iawn o fudd a gawn o gynhyrchu bwyd y tu hwnt i werthu'r deunyddiau crai. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen inni ddatblygu'r diwydiant prosesu bwyd yng Nghymru, ac a wnaiff y Gweinidog edrych ar safle Felindre yn etholaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans fel lleoliad ar gyfer prosesu bwyd gan nifer fawr o gwmnïau fel y caiff yr elw a wneir o brosesu bwyd ei gadw yng Nghymru yn hytrach na chael ei allforio allan?

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ehangu'r sector prosesu bwyd sydd gennym yma. Mae'n bwysig iawn i economi Cymru, fel y dywedwch. Byddwn yn sicr yn hapus iawn i edrych yn gyffredinol ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas â hynny yn Felindre.

TB mewn Gwartheg

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg? OQ56639

Pan ail-lansiais y rhaglen dileu TB yn 2017, ymrwymais i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd yn flynyddol. Y datganiad ysgrifenedig diweddaraf a gyhoeddais oedd ym mis Tachwedd 2020 a byddaf yn rhyddhau'r datganiad nesaf ar gynnydd ein rhaglen dileu TB tuag at ddiwedd y flwyddyn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn eich holi am eich profion a'ch strategaeth profi. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw rhai gwartheg sydd wedi'u heintio â TB yn cael eu canfod gan brofion Llywodraeth Cymru ei hun, ac mae hyn yn amlwg yn destun rhwystredigaeth fawr i'r diwydiant ffermio pan fydd y Prif Weinidog ei hun yn ceisio rhoi'r bai ar ffermwyr, fel y soniwyd yn gynharach yn y sesiwn hon gan fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz. Ni fyddwn yn datrys y problemau os bydd profion Llywodraeth Cymru ei hun yn methu canfod gwartheg sydd wedi'u heintio â TB. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, a ydych yn cydnabod y broblem? Pam nad yw gwartheg sydd wedi'u heintio â TB yn cael eu canfod gan brofion Llywodraeth Cymru ei hun, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r canlyniadau negyddol ffug er mwyn atal TB rhag lledaenu?

15:10

Nid wyf yn credu mai dyna a wnaeth y Prif Weinidog o gwbl. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cynharach i Samuel mai'r hyn y cyfeiriai ato oedd y wybodaeth a roddwyd i ni mewn perthynas ag achosion tebygol y cynnydd mewn ardal lle na cheir llawer o achosion o TB. Rwy'n credu bod M. bovis yn organeb anodd iawn i'w chanfod. Nid oes un prawf na chyfuniad o brofion ar gael sydd â phenodolrwydd 100 y cant, nad yw'n canfod unrhyw ganlyniadau cadarnhaol ffug ac sydd â sensitifrwydd 100 y cant. Ni allant ganfod yr holl anifeiliaid sydd wedi'u heintio â TB. Felly, rydym yn defnyddio profion gwaed ychwanegol, er enghraifft, megis y prawf gama interfferon a'r prawf gwrthgyrff IDEXX, ac rydym yn darllen y prawf croen o dan amodau llym fel bod y risg o fethu canfod gwartheg heintiedig yn llai. Dyna'r dull rydym wedi'i fabwysiadu mewn ardaloedd TB isel a chanolradd yng Nghymru.

Mae'n peri pryder imi, fel pawb yma, pan fydd ffermydd yn cael achosion o TB. Gwyddom ei fod yn greulon, yn drawmatig, ac yn glefyd rydym eisiau ei ddileu. Yr unig adeg rwyf wedi anghytuno gydag Aelodau o'r Senedd yw ar ddifa moch daear; mae llawer o foch daear wedi'u difa dros ddegawdau lawer, ac eto mae TB yn dal i fodoli. Fodd bynnag, Weinidog, rydym wedi gwneud cynnydd da a bu gostyngiad o 44 y cant yn nifer yr achosion yn ystod y degawd diwethaf. Fe sonioch chi am raglen brechu gwartheg a oedd ar y gweill—roedd yn arloesol—a hoffwn glywed a oes gennych unrhyw ddiweddariad ynglŷn â'r rhaglen frechu honno.

Diolch. Yn sicr, mae'n gyfnod gofidus iawn i ffermwyr. Gwn pa mor dorcalonnus yw cael achos o TB. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym y cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny hefyd, lle rydym yn ymdrin â'r achosion anodd hynny. Fe sonioch chi am y profion maes rydym yn eu cynnal mewn perthynas â'r brechlyn hwn. Nod y prosiect, pan fyddwn wedi cael y treialon maes llwyddiannus hynny, yw gwneud cais i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol fel y gallwn gael awdurdodiadau marchnata ar gyfer y brechlyn BCG i wartheg a phrofion croen DIVA erbyn 2025. Nid oes gennyf ddiweddariad, mae'n debyg, ers yr un olaf a roddais, ond rydym yn gobeithio cwblhau'r treialon maes erbyn diwedd 2024. Ond yr hyn y byddwn yn ei wneud yw cyflwyno adroddiadau cynnydd dros y ddwy i dair blynedd nesaf.

Diolch i'r Gweinidog. Mi fyddwn ni'n cymryd torriad byr nawr wrth inni wneud newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:13.

15:20

Ailymgynullodd y Senedd am 15:24, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 eiliad
15:25

Diolch. Eleni, mae Côr Merched Treforys yn dathlu 80 mlynedd ers ffurfio, ac rwy’n falch iawn i fod yn llywydd i’r côr.  

Dechreuwyd y côr yn 1941 gan Miss Lillian Abbot ac aelodau’r grŵp amddiffyn cymorth cyntaf lleol. Ar y pryd, roedd llawer o gorau meibion yn boblogaidd yn yr ardal, fel maen nhw’n parhau i fod, fel y côr byd-enwog Morriston Orpheus.  

Mae eu cyfarwyddwr cerdd presennol, Anthony Williams, wedi bod gyda’r côr ers 1974 ac maen nhw wedi bod yn ehangu eu repertoire cerddorol yn raddol, o ganu alawon gwerin ac emynau i alawon sioe a cherddoriaeth pop.  

Canolfan y côr yw Capel y Tabernacl yn Nhreforys. Maen nhw’n ymarfer yn y festri ac yn cael eu cyngherddau yn y capel. Maen nhw wedi perfformio gyda nifer o gorau, unawdwyr a bandiau milwrol. Hefyd, mae’r côr yn adnabyddus ar draws y byd, wedi canu yn adeiladau’r Senedd yn Toronto ac Ottawa yn ystod eu taith o Ganada yn 1991. 

Nid Canada yw’r unig wlad maen nhw wedi gadael marc arni, ond maen nhw hefyd wedi perfformio yn yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, y Ffindir, Iwerddon, Tysgani, Gwlad Pwyl a llawer o gyngherddau yn Lloegr. Llongyfarchiadau.

Yr wythnos hon yw Wythnos y Lluoedd Arfog ar draws y Deyrnas Unedig, a bydd llawer ohonom yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn yma. Ond heddiw yw Diwrnod y Milwyr Wrth Gefn—diwrnod a neilltuwyd gennym i dalu teyrnged i'r rhai sy'n rhoi eu hamser hamdden i wasanaethu fel rhan annatod o allu amddiffyn y DU. Mae dros 2,000 o filwyr wrth gefn yng Nghymru yn gwirfoddoli i gydbwyso eu swyddi a'u bywyd teuluol â gyrfa filwrol ac eleni, cawn gyfle i fyfyrio ar y rôl anhygoel y mae milwyr wrth gefn wedi'i chwarae yn ystod pandemig COVID-19 ac i ddiolch iddynt. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys cynorthwyo ein GIG i gyflawni ei rhaglen frechu flaengar, cefnogi ein canolfannau profi, a helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Felly, heddiw, gadewch i ni fanteisio ar y cyfle i ddiolch i filwyr wrth gefn a chymuned gyfan y lluoedd arfog yng Nghymru am eu gwaith yn ystod y 18 mis diwethaf, ac i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr i'n cenedl a'r manteision y maent yn eu creu i'w cyflogwyr, gadewch inni wneud popeth yn ein gallu i annog cyflogwyr ledled y wlad, gan gynnwys Comisiwn y Senedd a Llywodraeth Cymru, i fabwysiadu polisïau sy'n cefnogi recriwtio milwyr wrth gefn a rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i ymgymryd â'u rolau hanfodol a phwysig. Diolch.

Prynhawn ddoe, fe glywsom ni am farwolaeth dyn a chwaraeodd ran mor bwysig ym mywydau nifer ohonom ni. Bu farw David R. Edwards yn 56 mlwydd oed. Ffurfiodd Dave y band Datblygu pan yn yr ysgol yn Aberteifi yn 1982, a datblygodd y band i fod yn un o'r mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru. Roedd o'n gyfansoddwr ac yn fardd, a'i farddoniaeth yn ffraeth, yn dyner, yn ddoniol ac yn ddwys. Ond nid dyn y sefydliad oedd Dave. Yn wir, byddai'n chwerthin wrth feddwl ein bod ni'n ei goffau e yma heddiw. Doedd gan Dave ddim amser i unrhyw un nag unrhyw ddosbarth o bobl oedd yn edrych i lawr eu trwynau ac yn barnu pobl eraill. 

Roedd geiriau Dave yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru nad oedd yn cael ei adlewyrchu yn y cyfryngau torfol. Roedd o'n dal drych i fyny i fywyd go iawn yng Nghymru—bywyd 'Sgymraeg' pobl gyffredin—a thrwy ei gerddoriaeth yn golygu ein bod ninnau yn gwybod beth oedd bywyd fel i bobl Cymru. Creodd wrth-ddiwylliant newydd, ac iddi sain oedd yn unigryw i Gymru—nid cerddoriaeth oedd yn ceisio efelychu y diwylliant Eingl-Americanaidd, ond sain a oedd yn perthyn i oes a chymdeithas arbennig, a'r cyfan drwy'r Gymraeg. Wrth adrodd hanes y Cymry go iawn, rhoddodd hyder i genhedlaeth o Gymry fynd allan a mynegi eu hun. Ysbrydolodd Dave nifer o gerddorion a bandiau eraill a flagurodd i beth a adnabuwyd fel 'Cool Cymru' ar droad y ganrif. Ac, wrth gwrs, mae'n dal i ysbrydoli pobl ifanc heddiw. Oedd, roedd teimladau a bywydau pobl ifanc yn bwysig iawn i Dave. Mae ein diolch yn fawr iddo. Bydd ei gerddoriaeth yn rhan barhaol o soundtrack fy nghenhedlaeth i. Rydym ni'n meddwl am deulu a ffrindiau'r gŵr arbennig yma yn eu galar heddiw. Diolch, Dave.

15:30
Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog

Yr eitem nesaf yw cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.

Cynnig NDM7727 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i'r eitem nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 23 Mehefin 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid atal y Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigion o dan Reolau Sefydlog 16.1 ac 16.3 i gytuno teitlau a chylchoedd gorchwyl Pwyllgorau

Cynigion o dan Reolau Sefydlog 16.1 a 16.3 i gytuno teitlau a chylchoedd gorchwyl pwyllgorau. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynigion yn ffurfiol.

Cynnig NDM7729 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno y caiff y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro, a sefydlwyd ar 26 Mai 2021, ei ailenwi y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ei gylch gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, a Rheol Sefydlog 26C, ac i ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth, datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol cyfansoddiadol Cymru), cyfiawnder, a materion allanol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) newidiadau i’r setliad datganoli, a chysylltiadau rhynglywodraethol.

Cynnig NDM7731 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.

Cynnig NDM7732 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3, i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall y pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pheirianwaith llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Gymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Cynnig NDM7733 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

Cynnig NDM7734 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Cynnig NDM7735 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd, adfywio, sgiliau, masnach, ymchwil a datblygu (gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth), a materion gwledig.

Cynnig NDM7736 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol, cymunedau, a thai.

Cynnig NDM7737 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith. Yn ogystal, gall y pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol; a gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Cynnig NDM7738 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): polisi newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni; cynllunio; trafnidiaeth, a chysylltedd.

Cynnig NDM7739 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol. Gall y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y Gymraeg.

Cynnig NDM7740 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.

Cynnig NDM7741 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 23.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Darren. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid

Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i'r grwpiau plaid. A galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig yn ffurfiol. Darren.

Cynnig NDM7728 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:

1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;

2. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ceidwadwyr Cymreig;

3. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ceidwadwyr Cymreig;

4. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Plaid Cymru;

5. Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llafur;

6. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru;

7. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur;

8. Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;

9. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;

10. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Llafur;

11. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur;

12. Y Pwyllgor Deisebau - Llafur.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i benodi Comisiwn y Senedd

Cynnig i benodi Comisiwn y Senedd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig yn ffurfiol. Darren.

Cynnig NDM7730 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Ken Skates (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), yn aelodau o Gomisiwn y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws

Yr eitem nesaf, cynnig i benodi Comisiwn—

O, rwyf wedi gwneud hynny. [Chwerthin.] Dim ond gwneud yn siŵr.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): gwasanaethau bws. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7704 Huw Irranca-Davies, Jayne Bryant, Hefin David, Janet Finch-Saunders, John Griffiths, Llyr Gruffydd, Vikki Howells, Jenny Rathbone, Luke Fletcher, Altaf Hussain, Jane Dodds, Natasha Asghar, Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.

3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu defnydd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.

4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:

a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;

b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;

c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a

d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn i'w drafod a'r llu o Aelodau trawsbleidiol a gefnogodd y cais hefyd?

Mae bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hintegreiddio'n briodol yn amlwg yn bwysig iawn i'r Senedd ac i'r etholwyr a wasanaethwn. Nawr, mae'n siŵr heddiw y bydd gan yr Aelodau hanesion i'w hadrodd am ein gwasanaethau lleol ein hunain. Bydd rhai'n sôn am wasanaethau a gollwyd yn ystod neu hyd yn oed cyn y pandemig; bydd rhai'n sôn am ffyrdd newydd creadigol o ddarparu atebion trafnidiaeth, yn enwedig i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. A byddwn hefyd yn clywed, gobeithio, am ddewrder gyrwyr a staff a gadwodd wasanaethau bws hanfodol i fynd pan oedd y pandemig ar ei waethaf ac ers hynny. Bydd y profiadau hyn yn lleol a thrwy Gymru yn dda i'w clywed yn y Senedd.

Ond rwy'n gobeithio y cawn amser hefyd i ganolbwyntio ar y ffordd ymlaen i Gymru, ar gyfer pob rhan o Gymru, sy'n galw am ddiwygio a buddsoddi'n wirioneddol radical yn ein bysiau, bysiau rheolaidd a bysiau Fflecsi ac ar alw, ond hefyd am lawer mwy o integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol, amserlenni a systemau tocynnau symlach, newid dulliau teithio yn sylweddol o drafnidiaeth unigolion i drafnidiaeth gymunedol ac i deithio llesol lle bynnag y bo modd i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r angen am deithiau hwy hefyd, drwy greu cymunedau lleol gyda swyddi a gwasanaethau a siopau a chyfleoedd i gymdeithasu o fewn pellter hawdd ei deithio ar droed neu ar feic.

Ond gadewch inni ddechrau gyda bysiau, oherwydd rwy'n tybio mai dyna y bydd llawer o bobl eisiau clywed amdano. Nid fi'n unig sydd wedi gweld y toriadau helaeth i wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae effaith y toriadau'n aml wedi bod waethaf ar y cymunedau mwyaf anghysbell, a chymunedau sydd dan anfantais sylweddol eisoes. Mae blaenau'r cymoedd hardd yn fy etholaeth—pen y bryniau yn fy nghymoedd—yn aml yn gyn-gymunedau glofaol ac ystadau tai cymdeithasol. Yn aml, ni cheir darpariaeth dda o siopau a chyfleusterau iechyd a chyfleoedd swyddi a chlybiau a chanolfannau cymunedol i allu cymysgu a chymdeithasu ynddynt. Dyma'r mannau sydd â'r cyfraddau isaf o bobl yn berchen ar geir a lle mae'r preswylwyr yn aml yn hŷn ac yn llai iach a llai symudol. Ac eto, dyma'r union gymunedau—mor aml, y rhai lle gwelir y toriadau gyntaf. Ac yn aml daw'r toriadau hynny yn gyntaf fel rhai dros dro, oherwydd problemau a nodir ynghylch gyrru bysiau ar strydoedd cul gyda cheir wedi'u parcio, neu ddifrod i fysiau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu oherwydd y pandemig. Ond mor aml, daw'r toriadau hyn yn rhai parhaol, er gwaethaf gwrthwynebiad y bobl leol a chynrychiolwyr lleol. Weithiau dywedir wrthym fod y toriadau'n digwydd am nad yw'r llwybr yn broffidiol. Ac eto, mae gan fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus ddiben cymdeithasol ac economaidd go iawn. Maent yn cysylltu pobl a chymunedau. Heb fysiau, mae gennym gymunedau ynysig a phobl ynysig, gyda'r holl broblemau a ddaw yn sgil hynny i unigolion ac i gymdeithas. Ni allwn ddarostwng bysiau i fod yn ddim mwy na thrafodiad ariannol am docyn neu gyfrifiad oer o broffidioldeb tymor byr gwahanol lwybrau. Maent yn fwy na hynny. Fel y dywedodd Marion a Keith yng Nghaerau wrth y BBC neithiwr, maent yn achubiaeth i bobl allu cyfarfod â'u ffrindiau, cyrraedd y meddyg neu'r ysbyty, cyrraedd y gwaith a bod yn rhan o'u cymuned ehangach. Hebddynt, mae cymunedau wedi'u hynysu ac ar eu pen eu hunain ac mae hynny'n wir am yr unigolion yn ogystal.

Felly, yn y chweched Senedd hon, mae gennym gyfle yn awr i wneud pethau'n wahanol iawn. Gan fod gennym y pwerau bellach, mae angen inni adfer y diben cyhoeddus a chymdeithasol sy'n graidd i bob trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol fel rydym eisoes wedi dechrau ei wneud gyda threnau. Ac mae hyn yn golygu adfer rheolaeth ar y bysiau a'r oruchwyliaeth ehangach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bobl, defnyddwyr trafnidiaeth a chynrychiolwyr a etholir yn lleol, fel bod bysiau a threnau a bysiau Fflecsi a bysiau ar alw a thrafnidiaeth gymunedol yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd, a lle nad oes neb—neb—yn cael ei adael heb gysylltiad â'u cymuned ehangach a'r byd gwaith a byd eu ffrindiau a chymdeithas.  

Er gwaethaf y pandemig, neu efallai o'i herwydd, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Mae'r cytundeb gwasanaethau bysiau ym mis Mawrth 2021 wedi ymrwymo dros £37 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ond mae hyn yn amodol ar

'ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.'

Ac mae hefyd yn ceisio ailddatblygu defnydd ar ôl COVID, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau. Mae hynny'n dda, ac mae'n galonogol gweld Gweinidogion yn manteisio ar y cyfle i ailsiapio trafnidiaeth bysiau. Roedd y cyhoeddiad beiddgar ddoe ar oedi ac adolygu'r gwaith adeiladu ffyrdd hefyd yn canolbwyntio'n galonogol ar symud buddsoddiad tuag at fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny'n dda, ond mae llawer mwy i'w wneud—llawer mwy. 

Mae 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021', yn gosod cyfeiriad radical eglur a newydd i ymgymryd â thrafnidiaeth bysiau a chysylltedd trafnidiaeth leol. Mae'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau, sy'n cynnwys ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau—nid crebachu, ond ymestyn—datblygu'r ddeddfwriaeth bysiau newydd, deddfwriaeth rydym wedi ymgynghori arni eisoes, i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol, gan ddarparu gwasanaethau bysiau arloesol a mwy hyblyg mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gyda sectorau masnachol a'r trydydd sector, meddai cadeirydd y Blaid Gydweithredol, a sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb. Hwy yw'r opsiwn y bydd pobl yn ei ddewis gyntaf, yn hytrach nag opsiwn sbâr.

Nawr, mae hyn yn wirioneddol gyffrous i lawer ohonom. Mae'n cynnig dyfodol newydd i fysiau sy'n eu rhoi wrth wraidd polisi trafnidiaeth lleol a rhanbarthol, ac mae'n rhoi pobl yn ôl wrth wraidd y gwasanaethau lleol hynny, gyda mwy o reolaeth dros lwybrau ac amseroedd lleol a mwy, gyda'r pwynt o egwyddor

'bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb'.

Felly, sut y mae rhoi pobl a defnyddwyr bysiau yn ôl wrth wraidd trafnidiaeth gyhoeddus? Rydym yn ei wneud drwy ddefnyddio'r pwerau newydd sydd gan y Senedd hon yn awr, drwy weithredu dull modern, Cymreig o ailreoleiddio bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy gydnabod bod gan fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus ddiben cymdeithasol a chyhoeddus sylfaenol. Rydym yn democrateiddio bysiau eto. Nawr, nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Rydym yn dechrau o'r byd go iawn o sawl degawd o wasanaethau bysiau ar ôl dadreoleiddio, ac rydym yn dechrau drwy gydnabod y sgiliau a'r arbenigedd sydd ar gael gan y gweithredwyr presennol, a rhywfaint o'r buddsoddiad, er ei fod wedi'i lywio'n fawr gan fuddsoddiad a threfn reoleiddio'r Llywodraeth, mewn cerbydau modern a hygyrch mewn rhannau o'r rhwydwaith, ac rydym hefyd yn cydnabod ymrwymiad a phrofiad y gyrwyr a'r staff sydd wedi cadw'r gwasanaeth hwn i fynd drwy'r pandemig hefyd.

Ond os gall Llundain a Lerpwl gael mwy o reolaeth ddemocrataidd ar fysiau a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, a'u hintegreiddio'n well, gan integreiddio systemau tocynnau a thocynnau rhatach, llwybrau a gwasanaethau'n mynd yn amlach pan a lle mae'r cyhoedd am iddynt fynd, ni welaf pam na allwn ninnau wneud hynny hefyd. Ac os gall gweithredwyr masnachol ddarparu'r gwasanaethau hyn, fel yn yr ychydig leoedd dethol yn y DU a llawer yn fyd-eang mewn gwirionedd, gall awdurdodau lleol a rhanbarthol a threfol a chydfuddiannol di-elw a mentrau cymdeithasol wneud hynny hefyd. Os gallant gael mwy o fuddsoddiad mewn bysiau gyda gorwel ariannu mwy hirdymor, bysiau allyriadau isel iawn, sy'n gwbl hygyrch ar hynny, os gallwn droi cyllid a theithwyr at drafnidiaeth dorfol sy'n ystyriol o'r hinsawdd, yn hytrach na thrafnidiaeth unigolion, ac os gallwn wella amodau gwaith ac atyniad y sector i yrwyr—. Os yw'n ddigon da i Lundain ac yn ddigon da i Lerpwl, yn fy marn i mae'n ddigon da i Lewistown yn Ogwr, ac mae'n ddigon da i Drelales ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu i Lanelli a Llandudno, ac i unrhyw le arall yng Nghymru o ran hynny. Felly, gadewch inni fod yn feiddgar ac ailddychmygu dyfodol bysiau a thrafnidiaeth integredig yng Nghymru. 

Rwy'n edrych ymlaen yn y ddadl hon at glywed barn Aelodau eraill y Senedd ar ddyfodol bysiau a thrafnidiaeth integredig yng Nghymru, ac ymateb y Gweinidog i'r ddadl hon cyn bo hir, gan fy mod yn gobeithio y bydd yn nodi amserlen bysiau ar gyfer cyflawni'r trawsnewid cyffrous a radical hwn. A Ddirprwy Lywydd, dim ond amser byr fydd ei angen arnaf ar gyfer ymateb ar y diwedd. Diolch. 

15:40

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud fy araith gyntaf yn y Senedd hon wasanaethau bysiau yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod am godi hyn a'i gyflwyno fel testun dadl. Nawr, nid oes amheuaeth fod hwn yn fater sy'n peri pryder mawr i bobl ledled Cymru, a chaiff hynny ei ddangos yn glir gan y gefnogaeth i'r cynnig gan Aelodau o bob grŵp gwleidyddol a gynrychiolir yma heddiw. 

Mae gwella gwasanaethau bysiau yn gwneud synnwyr economaidd, drwy wella mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Mae hefyd yn gwneud synnwyr yn gymdeithasol, drwy ganiatáu i bobl fyw bywydau llawnach a mwy boddhaol. Fodd bynnag, mae'n ffaith—a gwn ein bod i gyd yn hoffi ffeithiau yma—fod nifer y teithwyr wedi bod yn gostwng yn ddiweddar. Mae'n sicr bod nifer o resymau dros hyn: yn gyntaf, cynnydd yn y defnydd o geir preifat; yn ail, tagfeydd, sy'n naturiol yn cynyddu amseroedd teithio, gan wneud gwasanaethau'n llai rhagweladwy; yn drydydd, gostyngiad mewn cymorth ariannol i'r sector, gan wneud llawer o lwybrau'n aneconomaidd.

Mewn ardaloedd gwledig, mae poblogaethau mwy gwasgaredig, llai dwys yn ei gwneud yn anodd darparu gwasanaethau amserlen eang sy'n cael eu rhedeg gan fysiau traddodiadol. Yn aml, mae gwasanaethau'n teithio ar lwybrau hir ac anuniongyrchol i wasanaethu cynifer o bobl â phosibl, ond maent yn dod yn ddewis amgen nad yw'n ddeniadol i deithwyr sydd â char at eu defnydd. Caiff ei wneud yn fwy heriol gan effaith COVID-19 ar y sector bysiau. Mae'r grant brys ar gyfer gwasanaethau bysiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig wedi darparu'r gwasanaethau hanfodol i bobl sydd wedi bod angen parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gweithwyr allweddol. Ond mae'r effaith barhaol ar y defnydd o fysiau yn parhau'n anhysbys, gyda disgwyl i nifer y teithwyr ostwng hyd yn oed ymhellach nag y maent wedi'i wneud eisoes. Felly, y cwestiwn yw: sut y mae gwrthdroi'r dirywiad hwn?

Yn gyntaf, mae angen inni fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau. Rwyf eisoes wedi sôn am y grant brys ar gyfer gwasanaethau bysiau, ond cyn y pandemig, roedd cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru i'r rhwydwaith bysiau yn canolbwyntio'n bennaf ar y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Chwe blynedd yn ôl, cafodd Cymru wared ar y grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau a sefydlu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau yn ei le, gyda chyllid o £25 miliwn. Mae'n frawychus felly nad yw'r pot sefydlog hwn o £25 miliwn wedi newid ers sefydlu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Mae'r cyllid fesul teithiwr ar gyfer gwasanaethau bysiau yn annigonol ac yn cymharu'n wael â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr rheilffyrdd. Gall y Dirprwy Weinidog dynnu sylw at y gwahanol gynlluniau tocynnau teithio rhatach sy'n bodoli, ond cymorthdaliadau y mae'r teithiwr yn eu mwynhau yw'r rhain, ac nid ydynt yn gwneud iawn am wasanaethau bysiau wedi'u hariannu'n wael. 

Yn ail, rhaid inni annog bysiau glanach a gwyrddach. Yn yr Alban, mae grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau Llywodraeth yr Alban yn cynnwys taliad craidd a chymhelliant i weithredu bysiau gwyrdd economaidd. Nod y taliad craidd yw cefnogi gweithredwyr i gadw prisiau tocynnau ar lefelau fforddiadwy a rhwydweithiau'n fwy eang nag a fyddent fel arall, ac mae'r cymhelliant gwyrdd yn helpu gyda chostau rhedeg ychwanegol bysiau allyriadau isel i gefnogi eu defnydd gan weithredwyr. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cymhellion i gwmnïau bysiau yng Nghymru ddatgarboneiddio eu stoc o gerbydau.

Mae tagfeydd yn parhau i fod yn ddatgymhelliad mawr i bobl sy'n defnyddio bysiau, a bydd gweithredu terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd preswyl yn gwaethygu hyn. Mae'n amlwg fod angen rhaglen o fesurau blaenoriaeth ar gyfer bysiau, megis lonydd bysiau effeithiol ac effeithlon, goleuadau traffig blaenoriaethol a chysgodfannau bysiau gwell, i annog pobl allan o'u ceir ac yn ôl ar fysiau, oherwydd, fel y mae, nid wyf eto wedi cyfarfod ag unrhyw un sy'n teimlo bod y system fysiau yma yng Nghymru yn werth aberthu eu ceir drosti. 

Yn olaf, mae angen inni ei gwneud yn haws i bobl deithio ledled Cymru gan ddefnyddio un cwmni bysiau i'r llall, drwy gyflwyno cerdyn teithio i Gymru gyfan. Roeddwn wrth fy modd pan gafodd fy awgrym—fod ymateb mor gadarnhaol wedi dod gan y Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl. Ddirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, ac edrychaf ymlaen yn ddiffuant at weithio gyda phawb yma i ddarparu gwell gwasanaeth bws i bawb yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn. 

15:45

Yn amlwg, hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod. Credaf fod gan Huw a minnau ddiddordeb cyffredin yn lleol gan fod y ddau ohonom yn hanu o etholaeth fendigedig Ogwr—fi ym Mhencoed a Huw, wrth gwrs, ym Maesteg. Ac wrth gwrs, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod gan y ddau ohonom aelodau o'r teulu sy'n aml yn dibynnu ar wasanaethau bysiau i gyrraedd y gwaith neu i fynychu apwyntiadau ysbyty. 

Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol mai bysiau a'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau yw'r mater sy'n codi fwyaf yn ein mewnflychau pa ardal bynnag a gynrychiolwn. Yn yr etholiad, er enghraifft, collais gyfrif ar faint o weithiau y cafodd gwasanaethau bysiau eu crybwyll, yn enwedig gan etholwyr a oedd wedi ymddeol ac yn amlach na pheidio yn dibynnu ar y gwasanaeth i gyrraedd apwyntiad, yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn fy achos i, neu yn yr achosion y deuthum ar eu traws.

Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi taro'r hoelen ar ei phen ddoe, a chredaf y bydd yn hapus iawn fy mod wedi dweud hyn, fod bysiau'n llawn gymaint o fater cyfiawnder cymdeithasol ag y maent o fater newid hinsawdd neu o fater trafnidiaeth. Er enghraifft, gwyddom nad oes gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr bysiau—tua 80 y cant—gar preifat at eu defnydd. Gwyddom hefyd fod y mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr bysiau sy'n dibynnu ar y gwasanaethau ar incwm isel. Ac unwaith eto, gan ddychwelyd at Ogwr, fel y mae Huw'n gwybod, nid yw'r rheilffyrdd yn cyrraedd y rhan fwyaf o'r etholaeth. Ac nid yw hon yn nodwedd sy'n unigryw i Ogwr, mae'n rhywbeth a welir ledled Cymru. Mae cymoedd Ogwr a Garw yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau bysiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac mae hwnnw'n batrwm a welwn ym mhobman yng Nghymru fel y dywedais, o gymoedd Ogwr i gymoedd Castell-nedd ac i'r cymoedd o amgylch Abertawe. Mae llawer o'r ardaloedd hyn yn dibynnu ar y gwasanaethau ac er hynny, mae gwasanaethau dan fygythiad cyson o gael eu torri neu eu newid am nad ydynt yn broffidiol mwyach.

Ac rwy'n credu bod elw yn air allweddol inni ei ystyried yn y ddadl hon. Y gwir amdani yw, cyn belled â bod gwasanaethau bysiau yn nwylo cwmnïau sy'n cael eu gyrru gan elw, ni chânt byth mo'u gyrru gan anghenion ein cymunedau—dyna hanfod hyn. Cyfeiriodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at hyn mewn ateb a roddodd yn gynharach heddiw: lle mae angen gwasanaethau, mewn cymunedau incwm isel yn bennaf, nid ydynt yn bodoli o gwbl ac maent o ansawdd gwael, ond lle gall pobl fforddio talu mwy am y gwasanaeth, mae ansawdd y gwasanaeth yn wych. Mae'n bwysig yn awr wrth i'r ddadl hon ddatblygu—ac mae angen iddi ddatblygu fel mater o frys, gyda llaw—ein bod yn canolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau bod ein gwasanaethau bysiau a'r system drafnidiaeth gyhoeddus ehangach yn gweithio i'n cymunedau, a chymunedau, unwaith eto, yw'r gair allweddol yma. I mi, mae hynny'n golygu dod â'r pŵer yn ôl i'r bobl a dod â'n gwasanaethau hanfodol yn ôl i ddwylo cyhoeddus.

Yn y Llywodraeth ddiwethaf, cyflwynais ddeiseb i'r Pwyllgor Deisebau yn cynnwys oddeutu 3,700 o lofnodion, gyda nodyn eglurhaol yn esbonio ei fod yn fater gofal iechyd cymdeithasol yn ogystal â mater trafnidiaeth a'r economi. Fel cyn aelod cabinet awdurdod lleol dros drafnidiaeth, anerchais gyfarfodydd llawn o drigolion gofidus yn pryderu ynglŷn â cholli gwasanaeth, gyda rhai ohonynt yn eu dagrau ac yn poeni am gael eu hynysu'n gymdeithasol.

Mae trafnidiaeth bysiau yn hynod o gymhleth a drud. Mae ein contract ar gyfer gwasanaeth oddeutu £500,000 ar gyfartaledd. Maent yn aml yn gysylltiedig â chludiant i'r ysgol i'w gwneud yn hyfyw. Mae pob rhanbarth yn wahanol, a dyna pam y mae'r grant trafnidiaeth bysiau wedi'i rannu'n rhanbarthau ac yna'n ardaloedd awdurdodau lleol yn seiliedig ar fformiwla. Yn sir y Fflint, er enghraifft, dim ond un o 22 awdurdod, mae 450 o gontractau trafnidiaeth: mae 350 yn gontractau cludiant i ysgolion, sy'n gwasanaethu miloedd o drigolion, yn aml y rhai mwyaf agored i niwed, ifanc, hen, anabl a chymdeithasol ddifreintiedig. Pan fydd bws yn hwyr neu pan nad yw'n cyrraedd yn brydlon, mae'n peri gofid ac mae angen datrys hynny'n gyflym, a dyna pam y mae angen iddo gael ei gyflawni'n lleol gydag arbenigedd lleol.

Mae gan ardaloedd poblog iawn wasanaethau da am mai dyna lle maent yn fwy proffidiol. Mae angen cymorthdaliadau uchel ar ardaloedd gwledig a mynediad at wasanaethau nad ydynt i'w cael yn lleol. Mae angen i drafnidiaeth esblygu a thyfu o'r gymuned i fyny. Dengys profiad na allwch orchymyn oddi fry a disgwyl i bobl symud at wasanaeth. Rhaid i weithredwyr gael sicrwydd ariannol contract hirdymor a chyllid grant tuag at gaffael cerbydau newydd i helpu gwasanaethau i fod yn gynaliadwy. Credaf y dylai gwasanaethau rheolaidd barhau ar lwybrau prysur a gwasanaethau galw'r gyrrwr Fflecsi ar y rhai sydd â niferoedd isel o deithwyr, gan gynnwys tacsis a gweithredwyr contractau ysgolion drwy elfen o fudd cymunedol, yn enwedig ar gyfer apwyntiadau meddygol. Gellid ehangu hyn i weithio ar y cyd â byrddau iechyd. Ac mae angen inni roi pwerau i awdurdodau lleol allu eu rhedeg, yn union fel y byddent yn ei wneud ar un adeg. O'r blaen, ceid gwasanaeth bws cyhoeddus a gwasanaeth ar gyfer y cyhoedd. Mae llawer o'n gwasanaethau wedi'u dileu gan gystadleurwydd ac ni chânt eu hariannu'n briodol. Diolch. 

15:50

Mae eraill wedi dadlau y prynhawn yma dros yr egwyddor o fysiau ac ariannu gwasanaethau bysiau, a threfnu a rheoli gwasanaethau bysiau. Ategaf bopeth a ddywedwyd wrth agor y ddadl hon gan fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies; rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod lle bysiau mewn polisi trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ceisio disgrifio sut y byddai hynny'n cael ei gynnwys o fewn ymagwedd ehangach y Llywodraeth. Ac rwy'n falch fod y Gweinidog yma—yn gorfforol yma, mewn gwirionedd—y prynhawn yma i allu gwrando ar y ddadl hon ac ymuno â'r ddadl.

O ran sut rydym yn darparu bysiau a gwasanaethau bysiau, mae'n amlwg y bydd newidiadau sylweddol ac mae angen newidiadau sylweddol am y rhesymau y mae llawer o bobl eisoes wedi'u rhoi; ni allwn barhau i reoli ein gwasanaethau heddiw ac yfory yn y ffordd y gwnaethom rai degawdau yn ôl. Ond mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd o anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Os edrychwch ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nglynebwy dros y pythefnos diwethaf, byddwch wedi gweld gwasanaeth Fflecsi yn cael ei gyflwyno, lle rydych yn ffonio ac yn gwneud apwyntiad gydag ap i ddal bws ac yn y blaen, a chefnogais hynny. Hoffwn weld y gwasanaethau hyn yn cael eu hymestyn a'u datblygu, ond mae'n rhaid ei ddarparu. Ac nid yr anhrefn a welsom yng Nglynebwy dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yw'r gwasanaeth y mae pobl Glynebwy ei angen. Lle rydym yn darparu gwasanaethau, mae angen inni sicrhau ein bod yn deall profiadau bywyd a phrofiadau byw y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Os ydych yn mynd â'ch plentyn i'r ysgol yng Nglynebwy, nid bws ymhen awr sydd ei angen arnoch, mae angen bws arnoch yn awr ac yna mae angen i chi ddychwelyd mewn hanner awr neu 20 munud. A dyna mae gwasanaeth bws trefol llawer byrrach yn gallu ei wneud. Efallai fod angen inni ystyried darparu gwasanaethau Fflecsi a bob dim ar rwydwaith gwasanaeth ehangach a mwy nag a geir o fewn amgylchedd tref fach, lle mae angen gwasanaethau bysiau ar gyfer teithiau byr sy'n deithiau mwy mynych, ond nid teithiau hwy, ac mae angen ichi ddychwelyd o fewn awr, a phethau felly. Felly, mae angen inni ddeall profiad byw pobl.

Wedyn, mae angen i'n Llywodraeth siarad â hi ei hun a chyda ni, gyda'n gilydd. Bydd y rheini ohonoch a oedd yn y Senedd ddiwethaf wedi diflasu arnaf yn sôn am yr angen—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] A bod yn deg, roeddech wedi diflasu cyn imi godi ar fy nhraed. Ynglŷn â'r angen am wasanaethau i gysylltu lleoedd fel Blaenau Gwent ag ysbyty newydd y Faenor yng Nghwmbrân. A bydd llawer o bobl yma wedi clywed Gweinidogion yn ymateb gan ddweud y byddai hynny'n digwydd. Afraid dweud bod yr ysbyty wedi'i adeiladu, mae'r ysbyty wedi agor ac nid oes gennym wasanaethau bws i gysylltu'r bobl â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom. Ac mae rhannau o fy etholaeth yn dal heb eu cysylltu â'r adnodd newydd gwych hwnnw.

Felly, mae gennych un rhan o'r Llywodraeth yn dweud, 'Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac rydym am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym am i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn wasanaeth y bydd pobl yn ei ddewis yn hytrach na'r car preifat', ac mae gennym ran arall o'r Llywodraeth yn darparu cyfleusterau newydd gwych sydd y tu hwnt i gyrraedd trafnidiaeth gyhoeddus a'r tu hwnt i gyrraedd y bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Ac mae angen cydgysylltu hynny. Mae arnaf ofn nad oes gennyf lawer o amynedd na chydymdeimlad â'r Llywodraeth ar hyn, oherwydd dywedwyd wrthynt amdano a dywedwyd wrthynt amdano bum mlynedd yn ôl. Ac er inni gael nifer o Weinidogion yn gwneud areithiau huawdl iawn—ac rydym yn edrych ymlaen at eich un chi y prynhawn yma, Weinidog—yr hyn na chawsom oedd gwireddu'r polisi ar lawr gwlad, ac o ganlyniad, rwy'n siarad ag etholwyr wythnos ar ôl wythnos am y methiant i ddarparu'r cysylltedd y maent ei angen ac y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl.

Rwyf am gloi drwy ddweud hyn: roedd dadreoleiddio bysiau gan Lywodraeth Thatcher yn y 1980au yn drychineb llwyr i bobl dlawd a bregus yn y wlad hon. Roedd yn drychineb llwyr i wasanaethau bysiau ac i gwmnïau bysiau hefyd. Rydym wedi gweld dinistrio gwasanaeth cyhoeddus o ganlyniad i bolisi Llywodraeth, Llywodraeth y DU, ac mae'n iawn ac yn briodol yn awr inni ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni er mwyn adfer gwasanaethau bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i wasanaethu anghenion pobl. Yr eironi yw, nid yn unig fod y Llywodraeth Dorïaidd, Llywodraeth Thatcher, wedi dinistrio'r gwasanaeth cyhoeddus, fe wnaethant ddinistrio sylfaen y diwydiant ei hun hefyd. Pe bai Darren yn mynd ar Google, byddai'n gwybod nad yw cwmnïau bysiau eu hunain yn gynaliadwy fel y mae pethau. Mae arnom angen gwasanaeth cynaliadwy. Mae arnom angen gwasanaeth sy'n cynnig cysylltedd. Ac mae arnom angen gwasanaeth, fel y dywedwyd yn gynharach, sy'n darparu cyfiawnder cymdeithasol i bobl ledled y wlad hon.

15:55

Cyn y pandemig COVID, roedd y defnydd o wasanaethau bysiau a mynediad atynt eisoes ar lwybr tuag at i lawr. Awgrymodd dadansoddiad yn 2018 fod y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol wedi gostwng 20 y cant mewn 10 mlynedd. Yn wir, Cymru sydd wedi gweld y gostyngiad canrannol mwyaf mewn milltiroedd bysiau rhwng 2006-07 a 2016-17 o'i gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae honno'n ffaith anffodus iawn. Felly, rwyf wrth fy modd fod yna gonsensws trawsbleidiol ar yr angen i ymgysylltu'n ystyrlon â'n cymunedau ledled Cymru ar strategaeth newydd ac i ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu anghenion trafnidiaeth.

Mae darparwyr trafnidiaeth eu hunain yn sicr wedi ysgwyddo eu cyfrifoldeb yn ystod y pandemig hwn, ac rwy'n falch iawn o fy ngweithredwyr bysiau yn Aberconwy. Mae Alpine Travel wedi bod yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth cymunedol am ddim i alluogi pobl agored i niwed i gyrraedd y siopau, ac maent wedi bod yn barod eu cymwynas, yn casglu presgripsiynau er enghraifft. Dyna un enghraifft o'r angerdd sydd gan ein gweithredwyr bysiau yng ngogledd Cymru dros gysylltu cymunedau. Felly, credaf ei bod yn iawn inni roi'r gorau i ddifrïo'r sector hwnnw a siarad ar eu rhan mewn gwirionedd. Y Llywodraeth hon yng Nghymru sydd wedi gwneud cam â hwy, nid hwy eu hunain, na'r cymunedau.

Mae'r £37.2 miliwn yn y cytundeb gwasanaethau bysiau yn ddechrau da. Rwy'n croesawu'r ffaith bod gan y cynllun delerau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol, gan gynnwys cefnogi teithiau dysgwyr i'r ysgol, cynyddu gwasanaethau mewn sefyllfaoedd lle mae'r galw'n fwy na'r capasiti, a chefnogi integreiddio ar draws y dulliau teithio. Yn wir, yn fy etholaeth i a'r etholaeth nesaf, gallai fod o fudd i ddyffryn Conwy a pharc cenedlaethol Eryri. Fel y mae llawer o'r Aelodau yma'n gwybod, caiff yr ardal ei llethu gan ymwelwyr sy'n teithio yn eu ceir eu hunain. Rwyf wedi ymgyrchu ers tro byd dros wasanaeth rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog, ac integreiddio amserlennu gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau fel y gall twristiaid fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd o ddinasoedd i'r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Wrth gwrs, byddai hyn yn cyd-fynd â blaenoriaeth 2 'Llwybr Newydd' a'r ymrwymiad i ymestyn cyrhaeddiad daearyddol trafnidiaeth gyhoeddus i bob cymuned, yn enwedig yn y Gymru wledig. Yn wir, mae Aberconwy yn enghraifft wych o sut y gellir moderneiddio gwasanaethau, a sut y gwnaed hynny, i ateb y galw ar draws cymunedau gwledig. Mae gennym wasanaeth bws Fflecsi dyffryn Conwy. Yr hyn y mae'r ddarpariaeth hon yn ei wneud yw addasu llwybr y daith i godi a gollwng teithwyr yn unrhyw le o fewn parth dynodedig y Fflecsi. Nid wyf yn amau y byddai'n effeithio'n gadarnhaol ar genhadaeth pawb ohonom i gyflawni sero net.

Yn ddiweddar, cefais y pleser o ddysgu am y camau y mae Llew Jones International o Lanrwst yn eu cymryd i ddarparu teithiau glân, cynaliadwy a fforddiadwy. Er enghraifft, mae ganddynt ddau gerbyd hybrid sy'n lleihau'r defnydd o ddiesel oddeutu 65 y cant. Mae ganddynt gynlluniau cyffrous eraill, megis creu llwybr cyntaf TrawsCymru yng Nghonwy, a fydd â dau gerbyd cwbl drydanol. Gellid grymuso eu hymgyrch werdd drwy gynllun sy'n helpu gweithredwyr i fuddsoddi mewn bysiau trydan.

Nodais fod 'Llwybr Newydd' yn cynnwys ymrwymiad i addasu'r seilwaith presennol i newid hinsawdd drwy fynd i'r afael â materion fel llifogydd. Mae'r nod hwn yn ganmoladwy, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle heddiw i dynnu sylw at y gwaith gwych a wnaed gan Network Rail i wella gallu gorsaf reilffordd Dolgarrog i wrthsefyll llifogydd. Os caf aros gyda'r enghraifft honno, gan fod cysgodfan fysiau ger yr orsaf hefyd, ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ailagor y bont yn ddiogel, mae'n hanfodol uwchraddio'r llwybr sy'n arwain at y ganolfan drafnidiaeth fach. Byddai hyn yn cyd-fynd â'r ymrwymiad yn 'Llwybr Newydd' i uwchraddio'r seilwaith presennol i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol o ran hygyrchedd a diogelwch, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw helpu trigolion i ddefnyddio cysgodfannau bysiau yn ogystal â bysiau.

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y strategaeth yn cyflawni gwelliannau i wasanaethau bysiau a newidiadau cadarnhaol hefyd ar gyfer cerdded a beicio, gan fod y rheini ar frig eich hierarchaeth yn ogystal. Mae'n bryd gweld olwynion y strategaeth hon yn troi, felly rwy'n cefnogi galwadau am amserlenni ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag unrhyw un sydd am adfer darpariaeth dda o fysiau cymunedol ym mhob un o'n hetholaethau. Diolch.

16:00

Rwy'n falch o ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod, drwy gydol y pandemig, wedi gallu cysylltu â Stagecoach a'u cyfarwyddwr ar gyfer de Cymru, Nigel Winter, sy'n berson da iawn i siarad ag ef. Un o'r pethau a ddywedodd oedd bod y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi achub y diwydiant bysiau yng Nghymru drwy'r pandemig. Credaf y dylai'r Dirprwy Weinidog, a hefyd y cyn Weinidog, Ken Skates, gael clod am hynny, oherwydd heb y gwasanaeth hwnnw, heb y cynllun hwnnw a'r cynlluniau a'i holynodd, ni fyddem yn siarad heddiw am wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd ni fyddai gennym sylfaen iddo allu bodoli arni.

Roeddwn innau hefyd yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Senedd flaenorol, a gwnaethom nifer o adroddiadau—credaf fod y Dirprwy Weinidog yn aelod o'r pwyllgor am gyfnod, cyn iddo gael ei ddyrchafu i'r lefel bresennol o enwogrwydd y mae arni ar hyn o bryd, ac roedd yn aelod da iawn o'r pwyllgor. Un o'r pethau a sefydlodd, fel rhan o'r pwyllgor hwnnw, oedd adroddiadau ar bethau fel tagfeydd traffig, strwythur a rôl Trafnidiaeth Cymru, ac datgarboneiddio trafnidiaeth. Mae'r adroddiadau hyn yn archif y Senedd i ni eu darllen, ac maent yn allweddol, rwy'n meddwl, i'r cyfeiriad y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd iddo. Rwy'n arbennig o hapus ynglŷn â hyblygrwydd.

Dwi eisiau gweld gwasanaeth hyblyg i gysylltu cymunedau fel Ystrad Mynach a Nelson, er enghraifft. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu hop on, hop off pan fyddan nhw eisiau. A hefyd, byddai'n dda cael ap a rhif ffôn i fwcio bws. Mae cynllun peilot fel hyn yn digwydd yng Nglynebwy ar hyn o bryd; mae'n dda i weld. Byddai'n grêt i weld hwnna fan hyn yng Nghaerffili, a gallwn ni sortio unrhyw broblemau a allai godi.

Fel y dywedodd Alun Davies, fe gafwyd problemau. Wel, gadewch inni ddatrys y rheini cyn i ni ddod â'r peilot i Gaerffili, gawn ni? Mae'n debyg mai dyna'r ffordd orau o'i wneud. Rwyf wedi bod yn gwasgu ar y Gweinidog am wasanaeth Fflecsi. Efallai y gallwn ddatrys y problemau yng Nglynebwy yn gyntaf a gallwn ei berffeithio yng Nghaerffili. Dyna'r ffordd y dylai pethau ddigwydd.

Rwy'n credu bod y Bil rydym yn disgwyl ei weld, ac y byddem wedi'i weld—rwy'n credu bod y cyfweliad diwethaf a wneuthum ar Sharp End cyn y pandemig yn ymwneud, nid â'r pandemig, ond â'r Bil bysiau roeddem yn disgwyl ei weld yn y Senedd ddiwethaf. Credaf y bydd y Bil ailreoleiddio yn rhywbeth gwirioneddol bwysig. Ac rwy'n credu mai'r mater allweddol fydd sut rydych yn darparu ar gyfer pobl sy'n gweithio y tu allan i oriau, sut rydych yn mewnlenwi gwasanaethau nad ydynt yn broffidiol. Sut rydych yn gwneud hynny? Credaf y bydd ailreoleiddio—fel y dywedwyd eisoes gan lawer o siaradwyr, yn enwedig ar y meinciau hyn, oherwydd credaf fod hon yn gred ganolog yn ein hymgyrch dros gyfiawnder cymdeithasol—yn allweddol i'r Bil hwnnw.

Cwestiwn arall hefyd—ac efallai fod hwn yn un y gall y Gweinidog ymateb iddo yn ei ateb—fydd sut y bydd y strwythurau rheoleiddio'n gweithio. Oherwydd rwyf wedi siarad â Carolyn Thomas, a oedd yn aelod Cabinet dros drafnidiaeth yng Nghyngor Sir y Fflint. Rwyf wedi dysgu llawer heddiw o siarad â hi. Un o'r pethau y soniodd amdanynt yw beth yw rôl Trafnidiaeth Cymru, beth fydd rôl cyd-awdurdodau trafnidiaeth, a beth fydd rôl awdurdodau lleol. Oherwydd ceir llawer o rolau penodol y gallwch eu dyrannu i'r gwahanol grwpiau hynny ac mae'n rhaid i chi eu cael yn iawn, ac nid ydym yn glir o hyd beth yn union fydd y rheini. Credaf y byddai ychydig o fanylion gan y Gweinidog yn ei ymateb yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth ac yn ein galluogi i ddeall beth y mae'r Bil yn ceisio ei gyflawni yn y dyfodol.

Mae hon yn ddadl i'w chroesawu'n fawr. Natasha Asghar, roedd yn wych gweld eich araith gyntaf, ac roedd yn araith dda iawn. Efallai ei bod ychydig yn rhy bleidiol i mi mewn rhannau, ond yn bendant, y cyfeiriad rydym am ei gael yw cael y gwelliant hwn mewn trafnidiaeth gyhoeddus drwodd ar sail drawsbleidiol yn y Senedd hon. Credaf fod y ddadl hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer hynny.

Ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, mae etholwyr di-ben-draw wedi bod mewn cysylltiad ar yr union fater hwn, ac mae'n amlwg fod gwasanaethau'n anghyson ledled Cymru. Ac er bod problemau'n gysylltiedig â'r pandemig wedi arwain at lai o wasanaethau a llai o gapasiti, y realiti yw bod y gwasanaethau bysiau yn gwbl annigonol cyn hynny hyd yn oed. Ni ddylid defnyddio COVID fel esgus. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cynlluniau ac amserlenni manwl gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryd y bydd gwelliannau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl, ac yn bwysicach, fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r rheini.

Os ydych yn berchen ar gar, a'ch bod wedi bwriadu defnyddio bws ar ddiwrnod penodol, mae iddo gael ei ganslo neu ei oedi yn anghyfleus ar y mwyaf. Ond i'r rhai nad ydynt yn berchen ar gar, neu nad ydynt yn gallu gyrru oherwydd oedran neu gyflwr meddygol, ac sy'n dibynnu ar fysiau i gyrraedd y gwaith, i apwyntiadau meddygol, i fynd i siopa, i fynd â'u plant i'r ysgol neu i gymdeithasu, gall effeithio'n ddifrifol ar eu bywydau. Ac er bod problem benodol gyda gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig, credaf fod angen inni fod yn onest fod hon yn broblem eang a hefyd yn effeithio ar bobl sy'n byw yn ein trefi a'n dinasoedd. Os ydym o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd a chynorthwyo mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ni all hyn barhau.

I ddangos hyn, hoffwn ddefnyddio enghraifft o fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd. Rwy'n byw yn ardal Graigwen, sydd 1 filltir o ganol y dref ond i fyny bryn serth iawn. Mae llawer o bobl oedrannus yn byw yn fy nghymuned, ac maent yn gwbl ddibynnol ar y bws i gyrraedd gwasanaethau sylfaenol. Cyn y pandemig, roeddem wedi bod yn galw am welliannau. Roedd y gwasanaeth bws bob awr yn annibynadwy, byddai'n gorffen am 5.30 p.m. bob dydd, nid oedd yn rhedeg ar ddydd Sul na gŵyl y banc ac nid oedd ychwaith yn cyrraedd pen y bryn i wasanaethu'r rhai sy'n byw ar y strydoedd ar ben uchaf yr ystâd. Roedd pobl yn cwyno wrthyf eu bod yn teimlo'n ynysig ac wedi eu cyfyngu i'w cartrefi, ac na allent ddibynnu ar y gwasanaeth bws. Roeddent hyd yn oed yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i dacsi i fynd â hwy i apwyntiadau meddygol pe bai'r apwyntiad yn gwrthdaro ag adeg cludo plant i neu o'r ysgol, ac roeddent yn bryderus pan fyddai'n rhaid iddynt fynd i rywle gan na allent fod yn sicr y byddai bws yn cyrraedd. Mae hyd yn oed y gysgodfan fysiau'n annigonol ac nid yw'n darparu cysgod rhag y glaw.

Fel y dywedais, dyma'r problemau roeddem yn eu hwynebu cyn y pandemig, ac nid ydynt yn unigryw i Graigwen. Mae problemau tebyg hefyd gyda'r gwasanaethau bysiau sy'n gwasanaethu cymunedau eraill ger y dref, megis Cilfynydd a Glyn-coch, sydd wedi gwaethygu'n raddol, gyda gwasanaethau'n cael eu canslo'n aml oherwydd prinder gyrwyr. Yn wir, ar 19 Mehefin, nid oedd gwasanaethau 109, 107 a 105 yn rhedeg o gwbl, heb unrhyw gyfathrebu â theithwyr. Rwyf wedi derbyn cwynion tebyg heddiw am bobl yn cael eu gadael yn yr orsaf fysiau ym Mhontypridd.

Cysylltodd un fam sy'n byw yng Nghilfynydd y bore yma, ar ôl clywed am y ddadl heddiw ar y newyddion, a rhannodd hyn gyda mi:

'Rwy'n dibynnu ar y gwasanaethau bws i gael fy merch i'r ysgol. Yn aml iawn, nid yw'r bysiau'n cyrraedd neu maent yn rhedeg yn hwyr. Arweiniodd hyn at wneud fy merch bron awr yn hwyr i'r ysgol.'

Rhannodd un arall, sydd hefyd yn byw yng Nghilfynydd, stori debyg, gan ddweud:

'Gan fy mod yn fam sengl sy'n gweithio, rwy'n dibynnu ar y bysiau i gyrraedd y gwaith i wneud shifft tra bod fy mhlant yn yr ysgol yn ogystal ag ar y penwythnos. Yn aml iawn, mae'r bws sydd wedi'i amseru i gyrraedd yr ysgol i'w casglu yn cael ei ganslo ac mae fy mhlant yn gorfod aros i mi gyrraedd. Mae hyn wedi golygu fy mod wedi gorfod caniatáu iddynt gerdded adref o'r ysgol yn gynt nag rwy'n gyfforddus i wneud gan nad yw'n bosibl cyrraedd yno mewn pryd oherwydd bod bysiau'n hwyr neu'n cael eu canslo mor aml.'

Rhannodd preswylydd o Lyn-coch ei dibyniaeth ar fws i gyrraedd y gwaith yn Nantgarw, a'i bod, o ganlyniad i fysiau hwyr neu wedi'u canslo wedi bod yn hwyr i'w gwaith ar sawl achlysur dros yr wythnosau diwethaf, gan arwain at lai o gyflog iddi hi a'i dau fab. Mae eraill yn sôn am apwyntiadau meddygol a gollwyd, gan gynnwys brechiadau COVID ac apwyntiadau ysbyty yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, er iddynt adael dwy neu dair awr i wneud yr hyn a ddylai fod yn daith 20 munud ar y mwyaf.

Mae edefyn cyffredin yn rhedeg drwy'r holl ohebiaeth a gefais ar fater bysiau lleol: mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio, yn ddi-nod ac nad oes neb yn gwrando arnynt. Maent yn bryderus ac yn ynysig. Gall y Llywodraeth newid hyn. Fe ddylai'r Llywodraeth newid hyn. Rhaid wrth weithredu, nid geiriau'n unig, ac mae angen gweithredu yn awr.

16:05

Rwy'n cynrychioli etholaeth wrthgyferbyniol lle ceir rhai o'r wardiau cyfoethocaf yng Nghymru ochr yn ochr â rhai o'r ardaloedd cynnyrch ehangach tlotaf o ran amddifadedd. Yn un o fy wardiau tlotaf, penderfynodd y ganolfan feddygol israddio'r feddygfa ym Mhen-twyn, gan ddadfuddsoddi o'r gymuned leol, ac felly mae cleifion sydd naill ai'n sâl eu hunain neu sydd â phlant sy'n sâl yn gorfod cerdded milltir neu ddwy i gyrraedd y meddyg—ac nid ydynt yn teimlo'n dda, neu nid yw eu plentyn yn teimlo'n dda. Mae rhai ohonynt mor dlawd fel nad oes ganddynt unrhyw gredyd ar eu ffonau hyd yn oed, felly yn bendant ni allant fforddio tacsi. Felly, mae diffyg bws yn anhygoel o anodd iddynt.

Fodd bynnag, nid bywydau rhai ar aelwydydd tlawd yn unig sy'n crebachu pan gaiff gwasanaethau bysiau eu tynnu'n ôl. Gallaf gofio dair blynedd yn ôl pan gollodd Cyncoed y gwasanaeth bws ar hyd ochr orllewinol llyn y Rhath y byddwch i gyd yn gyfarwydd ag ef—yr effaith ddinistriol ar bobl oedrannus ac anabl, nad ydynt yn gallu cerdded yn gyfforddus ar draws y parc er mwyn dal yr un bws sy'n rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol y llyn unwaith yr awr. Mae hyn yn golygu bod eu bywydau'n crebachu, oherwydd eu bod mor ofalus gyda'u harian, yn bennaf, fel na fyddant yn llogi tacsi er mwyn mynd i gwrdd â ffrind neu i ryw achlysur cymdeithasol arall, ac maent yn rhoi'r gorau i fynd allan. Gallant gael bwyd wedi'i ddanfon, ond os nad oes ganddynt berthnasau gerllaw sy'n mynd i'w cludo i lefydd, nid ydynt yn mynd i unman.

Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mae'r achos yn deillio o'r ffaith na allwn reoli'n union ble mae'r llwybrau sy'n gwasanaethu etholaeth drefol iawn. Hyd yn oed mewn etholaethau trefol, mae gennym broblemau enfawr pan fo pobl yn cael eu hynysu'n gymdeithasol o ganlyniad i brinder bysiau a diffyg rheolaeth dros ble mae angen i fysiau fynd. Nid oes diben cael tocyn bws mewn amgylchiadau o'r fath—tocyn rhyddid—os nad oes bysiau. Felly, rwy'n gobeithio, gyda'n gilydd, y gallwn symud ymlaen i sicrhau y gellir trefnu'r arian a wariwn ar fysiau, sy'n arian sylweddol, mewn ffordd well fel y gallwn sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg at fws. 

16:10

Mae'n bleser cefnogi'r cynnig hwn a gyflwynwyd gan fy nghyfaill yr Aelod dros Ogwr heddiw. Pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl hon, deuthum o hyd i ffigur ar StatsCymru a'm syfrdanodd ac a danlinellai bwysigrwydd y ddadl heddiw, sef nifer teithiau teithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul y pen o'r boblogaeth yn 2019-20. Ar gyfer Lloegr, roedd yn 72.3, yr Alban 67, ac i Gymru dim ond 28.2 oedd y ffigur, a hynny cyn i ni ystyried effaith COVID.

Yng nghyd-destun y pandemig, fodd bynnag, mae'n deg dechrau drwy gydnabod y gefnogaeth sylweddol a ddarparodd Llywodraeth Cymru—cymorth fel y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau sy'n werth miliynau o bunnoedd. Nid yw'n ormod dweud na fyddai'r diwydiant bysiau'n bodoli heb y gefnogaeth honno. Ond mae hynny, ynddo'i hun, yn codi cwestiynau, fel y mae ail ran y cynnig yn awgrymu—cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd y model presennol, a yw gwasanaethau'n ateb y galw lleol, a sut rydym yn mapio ac yn pennu llwybrau yn ein cymunedau. Mae angen ailfeddwl yn radical beth rydym ei eisiau o ddarpariaeth bysiau a'r hyn y credwn sy'n ddarpariaeth bysiau dda.

Yn gyntaf, rhaid inni ddarparu gwasanaethau bysiau y mae ein cymunedau am eu cael, ac rwyf am ddangos hyn drwy enghraifft yn fy etholaeth. Mae'r daith o bentref Cwm-bach i archfarchnad leol yn llai nag 1 filltir. Mae llawer o bobl hŷn yn byw yn y pentref, mae cyfraddau perchnogaeth ceir yn isel, ac ers i'r archfarchnad gael ei hadeiladu dros 20 mlynedd yn ôl, mae gwasanaeth bws uniongyrchol wedi bodoli. Yn ddiweddar, fodd bynnag, penderfynodd y gweithredwr bysiau gael gwared ar y gwasanaeth, a bellach rhaid i bobl fynd ar ddau neu dri bws i gyrraedd yr archfarchnad, taith a all fod hyd at 5 milltir bob ffordd—taith 10 milltir ar gyfer siwrnai a ddylai fod yn llai na 2 filltir. Yn amlwg, gall fod yn her wirioneddol gyda bagiau siopa trwm. Sut y mae annog pobl i fynd ar fysiau os mai dyma'r math o wasanaeth sy'n cael ei ddarparu? Rwy'n cefnogi pwynt 6 y cynnig am sgwrs ystyrlon â chymunedau. Mae pobl leol angen, ac yn haeddu, cael llais uniongyrchol yn y broses o benderfynu ar ddarpariaeth sy'n diwallu eu hanghenion.

Yn ail, rhaid inni gynnig ffyrdd gwahanol o ymateb i'r anghenion hynny. Fel pob Aelod, caf ohebiaeth reolaidd gan etholwyr am y gwasanaethau y maent eu hangen neu eu heisiau, a chaf yr un ymatebion gan weithredwyr bysiau pan leisiaf y pryderon hyn yn eu tro. 'Nid yw'r llwybrau hynny'n hyfyw yn economaidd', dywedant, 'Nid oes digon o deithwyr i'w cyfiawnhau'. Credaf y gallai teithio ar alw fod yn fodd o dorri drwy'r impasse nad yw byth yn caniatáu inni archwilio a yw llwybrau gwasanaethau bysiau newydd yn hyfyw mewn gwirionedd ac y byddent yn cael eu defnyddio. Efallai na fydd yn ymarferol cael bysiau mawr, gwag yn rhuo o gwmpas, ond efallai mai cerbydau llai yn gweithredu mewn ffordd ddoethach yw'r ateb. Treialwyd cynllun Fflecsi yn y Senedd y tymor diwethaf, gan gynnwys mewn rhannau o RhCT, ac o dan y cynllun hwnnw, gallai pobl ofyn i fws ar alw eu codi o'u cartref, eu gwaith neu'r siopau. Byddwn yn awyddus iawn i weld llawer mwy o hyn. Rhaid iddo weithredu ochr yn ochr â gwaith darparwyr trafnidiaeth gymunedol i ategu'r gwaith a wnânt.

Yn drydydd, rhaid i lwybrau bysiau gysylltu â'i gilydd. Mae hon yn her benodol ar lwybrau hwy, er enghraifft o fy etholaeth i i Abertawe—cyrchfan siopa boblogaidd ac ardal gyflogaeth, ac eto ni cheir gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol. Yn lle gwasanaeth bws uniongyrchol, sawl blwyddyn yn ôl cafwyd dau wasanaeth sy'n cysylltu, Aberdâr i Lyn Nedd a Glyn Nedd i Abertawe. I ddechrau, roedd yn rhaid aros 15 munud rhwng bysiau, ond newidiodd hynny i awr gan fod gwahanol gwmnïau'n darparu cymalau gwahanol o'r daith ac nid oeddent yn barod i gyfaddawdu na gweithio gyda'i gilydd i gael gwasanaeth sy'n cydgysylltu. Nid yw'n realistig disgwyl i bobl aros cyhyd; sut y gallwn annog mwy o bobl ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda threfniadau mor anymarferol? Yn yr un modd, nid oes llwybr bws uniongyrchol i Gaerdydd o fy etholaeth i. Iawn, mae gennym drenau, ond hyd yn oed pan fydd y metro'n gweithredu ar gapasiti llawn, dim ond 25 y cant o draffig cymudo presennol y Cymoedd i Gaerdydd y bydd y rheilffyrdd yn ei gario. Felly, mae angen ymdrech fawr i ddarparu gwasanaethau bysiau os ydym am ddenu pobl allan o'u ceir, ac mae cwestiwn y metro yn allweddol i fy etholaeth i. Pan gafodd ei ystyried yn gyntaf, roedd cysyniad y metro yn ymwneud â mwy na gwasanaeth trên yn unig, roedd yn ymwneud hefyd â gwasanaeth bws gwennol cynhwysfawr yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth cwbl gydgysylltiedig. Mae hyn yn allweddol i gymunedau fel y rhai rwy'n eu cynrychioli lle gall pobl fyw gryn bellter o orsaf drenau, yn gymharol ynysig. Cefais fy nghalonogi gan drafodaethau diweddar ar y metro sy'n sôn am fysiau fel rhan fwy o'r cynllun yn ei gamau nesaf. Yn yr un modd, roedd sylwadau'r Dirprwy Weinidog yn ei ddatganiad ddoe ynghylch integreiddio gwasanaethau yn galonogol.

I gloi, hoffwn ddweud ychydig eiriau i ddangos fy ngwerthfawrogiad o'n gyrwyr bysiau. Yn ystod y pandemig, maent wedi bod yn weithwyr hanfodol sydd wedi cadw'r gwasanaethau'n weithredol. Mae sicrhau'r safonau cyflogaeth uchaf a bod staff yn cael llais yn nyfodol eu diwydiant yn allweddol i unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol. Diolch.

16:15

Rwy'n croesawu'r ddadl yma a'r drafodaeth yma'n fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi dod ag o ger ein bron. Dwi'n awyddus i weld y Gweinidog a'r Llywodraeth yma'n edrych yn benodol ar wasanaethau bysus yn ein cymunedau gwledig ni, ac eisiau ategu ychydig o'r hyn roedd Alun Davies yn ei ddweud ynghynt, oherwydd mae'n ymddangos bod disconnect rhwng yr hyn mae'r Llywodraethau yn ei ddweud a'r hyn maen nhw'n ei gyflawni ar lawr gwlad. Os ystyriwch chi dros y degawdau diwethaf, rydyn ni wedi gweld model dinesig yn cael ei orfodi ar gymunedau Cymru, efo gwasanaethau yn cael eu ymbellhau o'n cymunedau gwledig ni. Os ystyriwch chi faint o ysbytai cymunedol sydd wedi cau, ac os ydy rhywun angen prawf gwaed neu ffisiotherapi neu rywbeth, maen nhw'n gorfod teithio ymhellach. Faint o gartrefi gofal sydd ymhell o'n cymunedau gwledig? Os ydy rhywun eisiau mynd i weld anwyliaid iddyn nhw, y pellter yna. Meddyliwch am y swyddfeydd post sydd wedi cau, y banciau sydd yn dal i gael eu cau, y canolfannau gwaith sydd wedi mynd, y llysoedd sydd wedi cael eu colli o'n cymunedau, ac yn gorfodi pobl i deithio ymhellach ac ymhellach. Ond eto, wrth gwrs, oherwydd natur ein cymunedau gwledig a bod yna gyn lleied o bobl yn byw ynddyn nhw, y routes yma sy'n cael eu torri gyntaf ydy'r rhai gwledig, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu gweld yn rhai proffidiol, ac rydyn ni wedi gweld mwy o hynny yn digwydd oherwydd yr austerity, y cyni yma sydd wedi cael ei orfodi arnom ni gan y ddwy Lywodraeth.

Felly, mae gwasanaethau wedi mynd ymhellach i ffwrdd tra, ar yr un pryd, rydyn ni'n gweld y pres i wasanaethau bysus yn mynd yn llai, a mi wnaf i roi enghraifft: mae yna etholwr i mi o Aberdaron wedi cysylltu â fi wythnos yma—Aberdaron ym mhen draw Llŷn—yn gorfod mynd i dderbyn addysg bellach yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau, sy'n bellter i ffwrdd, ac yn gorfod teithio oriau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Neu etholwr arall sydd wedi cysylltu â fi, yn Harlech, ac yn gorfod mynd i'r ysbyty ym Mangor. Rŵan, 35 milltir sydd rhwng Harlech a Bangor, ond er mwyn mynd yno ar drafnidiaeth gyhoeddus, rhywbeth buasai'n cymryd bron i awr mewn car, mae'n cymryd tair awr a hanner, a bron i bedair awr ar fysiau. Felly, mae'n rhaid i ni weld atebion a gweld cymunedau gwledig yn cael eu hystyried yn hyn o beth, a dyna fuasai fy mhle i wrth i'r Gweinidog ystyried ei ateb i'r ddadl yma. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb, am y ddadl honno.

Cefais fy nghalonogi'n fawr gan faint o gonsensws a geir, ynghylch pwysigrwydd bysiau ac ynghylch rhai o'r mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith gyda'n gilydd i wella'r sefyllfa. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies ar y dechrau, mae angen inni adfer diben cyhoeddus trafnidiaeth gyhoeddus, ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n sylw pwerus a craff iawn. A nododd Heledd Fychan yn rymus iawn sut y mae rhai pobl yn cael cam ar hyn o bryd gan wasanaeth nad yw bob amser yn gweithio ac yn sicr nid yw bob amser yn hawdd. Fel y dywedais yn glir ddoe, er mwyn mynd i'r afael â mater hollbwysig newid hinsawdd mae angen inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud, ac ar hyn o bryd nid yw'n hawdd. Mae'n llawer haws os oes gennych gar, a chofiwch nad oes gan oddeutu 20 y cant o aelwydydd gar, ond os oes gennych gar dyna'r ffordd symlaf o deithio. Os ydym i gyd yn ddiffuant yn ein hamcanion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, rhaid inni newid hynny, felly y ffordd amlwg, hawdd o deithio ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau bob dydd yw trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym ymhell o gyrraedd hynny, a chredaf fod angen inni i gyd fod yn onest ynglŷn â hynny. Mae llawer o resymau cymhleth pam ein bod ymhell o hynny, ac maent wedi cael eu gwyntyllu gan lawer o bobl yn y ddadl hon.

Mae gennym system sy'n gymhleth iawn. Roedd y preifateiddio ar ddechrau'r 80au yn drychineb, ac mae wedi gwneud pethau'n anodd iawn eu cydlynu. Mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain yn gweithio am ei bod yn cael ei rheoleiddio. Y tu allan i Lundain anaml y mae'n gweithio, oherwydd nid yw'n cael ei rheoleiddio. Nid yw mor gymhleth â hynny. Roeddem wedi gobeithio cyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd ddiwethaf i gyflwyno masnachfreinio i Gymru. Nid oedd modd inni wneud hynny, ond rydym yn benderfynol o'i wneud yn y Senedd hon, a byddwn yn cyhoeddi cynllun yn ddiweddarach eleni ar sut y bwriadwn wneud hynny. Rwyf am inni weithio gyda'n gilydd, o gofio'r uchelgais a rennir yn y Siambr hon, i'w wneud yn gynllun mor uchelgeisiol ag y gallwn, nid i wneud y lleiafswm y mae angen inni ei wneud, ond i weld a allwn ymestyn i sicrhau system drafnidiaeth gyhoeddus ddi-dor o un pen i'r llall sy'n gweithio i'r rhan fwyaf o bobl.

Hoffwn adleisio'r sylwadau yn y Siambr ynglŷn â sut roedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau bysiau yn arwyr tawel y pandemig, a theyrnged Vikki Howells yn arbennig i'r gyrwyr bysiau a alluogodd weithwyr allweddol, staff y GIG a phlant i ddychwelyd i'r ysgol—ni allem fod wedi'i wneud hebddynt. Rwy'n credu ei bod hefyd yn iawn inni gydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i achub diwydiant, fel y dywedodd Hefin David fod Nigel Winter o Stagecoach wedi'i nodi. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod Ken Skates, a welaf ar y sgrin, sydd wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant bysiau gyda mi drwy'r pandemig i sicrhau bod y pecyn o fesurau yno i atal yr ecosystem hanfodol hon rhag diflannu o flaen ein llygaid.

Rydym wedi rhoi arian sylweddol i mewn, a thrwy roi'r arian hwnnw i mewn rydym wedi gwella cysylltiadau, rydym wedi gwella'r trefniadau sylfaenol, ac rydym bellach mewn sefyllfa lawer cryfach na phan aethom i mewn, ac mae gennym gysylltiadau a chontractau ar waith gyda gweithredwyr masnachol, sy'n ein rhoi mewn sefyllfa well o lawer yn fy marn i i wireddu'r uchelgais y byddwn yn ei nodi yn ddiweddarach eleni yn ein strategaeth fysiau.

Fel y dywedwyd, bysiau yn aml yw'r darn o'r system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei esgeuluso. Hwy sy'n cario'r nifer fwyaf o deithwyr o bell ffordd, ond nid hwy fu'r flaenoriaeth i bawb. Gwnaed llawer o sylwadau yma, 'Wel, Llywodraeth Cymru sydd ar fai am hyn'—byddwn yn eich annog i edrych ar draws y DU a gweld a yw'r gwasanaeth bysiau'n well, a byddwn yn eich annog i edrych ar eich maniffestos eich hun dros lawer o etholiadau i weld a oeddech yn galw am fwy o weithredu ar fysiau, a'r gwir yw nad oeddech. Credaf fod pob un ohonom wedi esgeuluso bysiau, gan fod costau i'r system drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae angen i hynny newid.

Fel y nodwyd, mae'n ffaith bod hon yn ddadl cyfiawnder cymdeithasol. Nid oes gan 80 y cant o deithwyr bysiau ddewis arall, ond yn yr un ffordd, nid yw 50 y cant o bobl byth yn teithio ar fws. Felly mae ymraniad cymdeithasol go iawn yma rhwng y ddelwedd o fysiau fel pethau nad ydynt ar gyfer pobl fel ni, ac mae angen inni wrthsefyll y ffordd y gwelir bysiau fel pethau ar gyfer eraill. Rhaid i fysiau fod i bawb. Rhaid iddynt fod yn ddeniadol i bawb a rhaid iddynt weithio i bawb, a hyd nes y byddwn yn gwneud hynny, ni fyddwn yn trawsnewid y ffordd y mae bysiau'n gweithio yn y ffordd rydym i gyd am ei gweld ac y mae angen inni ei gweld os ydym am fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae hynny'n mynd i alw am fuddsoddiad, ond mae hefyd yn mynd i alw am ddewisiadau gwleidyddol anodd yma ac mewn llywodraeth leol. Mae'n mynd i alw ar awdurdodau lleol i fod yn barod i ailddyrannu gofod ffordd i ffwrdd oddi wrth geir tuag at gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a rennir, ac roeddwn yn falch iawn o glywed Natasha Asghar yn gwneud y pwynt hwnnw yn ei datganiad agoriadol. A gobeithio y bydd hi a'i chyd-Aelodau'n mynd ar berwyl hynny oherwydd nid yw'n mynd i fod yn hawdd, gan y bydd y bobl a fydd yn teimlo'r anghyfleustra neu sy'n teimlo wedi'u datgysylltu gan hynny yn griddfan mewn poen. Ond dyna sydd angen i ni ei wneud, oherwydd yr hyn y mae gweithredwyr bysiau wedi'i ddweud dro ar ôl tro wrth yr ymchwiliadau niferus a ddisgrifiwyd gan Hefin David yw mai un o'r prif rwystrau y mae gweithredwyr bysiau yn eu hwynebu i ddenu mwy o ddefnydd yw dibynadwyedd ac amser teithio. Mae hynny'n ymwneud â gwneud bysiau'n ffordd gyflymaf, yn ffordd hawsaf o deithio. Golyga roi'r flaenoriaeth i fysiau yn hytrach na cheir wrth gynllunio ffyrdd ac o ran blaenoriaethau goleuadau traffig. Dyna beth sydd angen inni ei wneud. Y cwestiwn i bob un ohonom: a ydym yn ddigon dewr i'w wneud? Rwy'n ddigon dewr ac rwy'n gobeithio y byddwch chi gyda mi pan ddaw'r adeg i wneud hynny. 

I ymateb i rai o'r sylwadau yn y cyfraniadau rhagorol niferus, roeddwn yn falch o weld cynifer o Aelodau'n tynnu sylw at y rôl y mae gwasanaeth bws Fflecsi ar alw wedi'i chwarae, ac yn ei chwarae yn Nyffryn Conwy fel y soniodd Janet Finch-Saunders; soniodd Carolyn Thomas yn yr un modd am ei botensial, fel y gwnaeth Vikki Howells, fel ffordd o ddod â theithwyr newydd ar fysiau ac archwilio lle gall y llwybrau fod yn fwy hyfyw gan ddefnyddio'r system ar alw newydd hon. Ac yn sicr, dyna'r profiad yng Nghasnewydd lle cafodd hyn ei dreialu; mae'n dangos bod galw cudd yno. Bydd pobl yn defnyddio bysiau pan fydd yn wasanaeth mwy hyblyg. Felly, mae'n galonogol iawn.

Tynnodd Alun Davies sylw at drafferthion cychwynnol yng Nglynebwy, lle bu rhai anawsterau. A byddwn yn dweud wrtho—rwy'n deall ei rwystredigaeth—mae'n brosiect peilot, ac mae prosiectau peilot yno i brofi dulliau gweithredu, ac nid yw pethau bob amser yn digwydd fel y bwriadwyd. A bu anawsterau gyda meddalwedd a chyda hyfforddi staff. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, rydym bellach wedi mynd heibio i hynny; byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud wrthyf a oes problemau parhaus, ond dyna'r wybodaeth ddiwethaf a gefais. Ac rydym yn dysgu, ac wrth inni ddysgu, byddwn yn tyfu, a chredaf mai dyna'r dull cywir o weithredu, ac mae'n well ein bod yn methu'n gyflym ac yn methu ar lefel fach na methu mewn un bang mawr os byddwn yn rhuthro hyn. Felly, dyna yw ein bwriad a'n huchelgais: cyflwyno hyn yn hyderus.

Tynnodd sylw at ambell feirniadaeth ddilys o'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn cael eu cynllunio heb ystyried sut y bydd pobl yn eu cyrraedd, heblaw mewn car. Ac mae wedi sôn am Ysbyty Athrofaol y Faenor, enghraifft gyfarwydd iawn, a dyfynnais yr esiampl honno i brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr wythnos diwethaf, am eu bod yn cynllunio ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru, i sicrhau nad yw'r camgymeriadau hynny'n cael eu hailadrodd. Ac un o'r pwyntiau o roi'r adran hon gyda thrafnidiaeth wrth ymyl cynllunio, wrth ymyl adfywio, wrth ymyl newid hinsawdd ac eraill, yw sicrhau bod cydweithio'n digwydd, a gallwn fynnu bod y pethau hynny'n cael eu hystyried yn drwyadl. 

Yn ddiweddarach eleni—roeddem wedi gobeithio ei wneud cyn y pandemig, mewn ymateb i sylwadau gan Alun Davies; mae wedi'i ohirio—ond rydym yn gobeithio erbyn diwedd y flwyddyn y bydd gennym wasanaeth bws TrawsCymru newydd ar draws y Cymoedd a fydd yn cysylltu'r Faenor â llwybr dwyrain-gorllewin, gan gysylltu Cwmbrân, Pont-y-pŵl, Trecelyn, Ystrad Mynach a Phontypridd â fflyd o fysiau allyriadau isel, ac rydym yn gweithio ar fanylion hynny yn awr. Ac rwy'n hapus i siarad ymhellach ag Alun Davies i weld a allwn wella hynny a'i gysylltu â'r gwasanaethau Fflecsi. Fe'i clywaf o'i sedd yn gwneud sylwadau adeiladol eraill yr hoffem eu cadw mewn cof wrth inni gynllunio'r gwasanaeth, oherwydd mae'n rhaid iddo weithio ar gyfer y bobl rydym i gyd yma i'w gwasanaethu. Mae'r pethau hyn yn anodd eu gwau gyda'i gilydd oherwydd, fel y nodwyd, nid oes gennym yr offer ac nid oes gennym yr holl adnoddau y byddem am eu cael oherwydd, fel y nodwyd gennym ddoe, mae arian yn cael ei wario mewn mannau eraill ac mae angen i ni ei ailddyrannu.  

Gofynnodd Hefin David yn briodol am rôl newydd Trafnidiaeth Cymru, y cydbwyllgorau corfforaethol a'r awdurdodau lleol wrth gynllunio'r gwasanaeth newydd. Mae llawer o waith wedi bod yn mynd rhagddo mewn deialog â phob un o'r rheini y byddwn yn ei nodi yn ein cynllun yn yr hydref. Ond yn gryno, gobeithiwn mai Trafnidiaeth Cymru fydd y ganolfan ragoriaeth lle mae awdurdodau lleol wedi colli pobl ac arbenigedd yn sgil cyni. Gobeithiwn mai Trafnidiaeth Cymru fydd y meddwl arweiniol i helpu awdurdodau lleol, sef y rhai atebol, a gallant hwythau gydweithio ar lefel ranbarthol i sicrhau eu bod yn dod â'u màs critigol[Anghlywadwy.] Mae yna lawer y gallwn ei wneud, ac mae'n iawn fod y Senedd yn ein gwthio i fynd ymhellach ac yn gyflymach. Diolch yn fawr.

16:30

Nid oes unrhyw Aelod ychwanegol wedi dweud ei fod yn dymuno siarad. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dywedais y byddwn yn ei gadw o dan funud, ac fe wnaf hynny yn wir. Hoffwn ddiolch i'r—. Rwy'n credu ein bod wedi cael 10 cyfrannwr i'r ddadl hon, ac rwyf fi, fel y Gweinidog, wedi fy nghalonogi gan y consensws ar yr angen am fuddsoddiad ychwanegol a mwy o gynllunio, at ei gilydd, gan bobl, ynglŷn â rhoi'r rheolaeth yn ôl i bobl leol ac awdurdodau lleol fel bod ganddynt lais wrth benderfynu ble mae'r llwybrau hyn yn rhedeg a'r adegau o'r dydd y byddant yn rhedeg hefyd. Mwy o gydweithio, llai o gystadleuaeth—. Rwy'n credu bod cystadleuaeth wastraffus yn thema. Efallai fod gennym ffyrdd gwahanol o fwrw ymlaen â hynny, ond credaf y bydd honno'n thema hefyd.

Weinidog, fe ofynnoch y cwestiwn yn eich sylwadau cloi—. Ni allaf droi at gyfraniad pawb o fewn munud, mae arnaf ofn. Ond fe ofynnoch y cwestiwn, 'A ydym yn ddigon dewr?' Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ddigon dewr. Er mwyn symud buddsoddiad i mewn i ddulliau gwahanol o deithio, rhaid inni fod yn barod i ddweud yn onest sut y caiff hynny ei wneud. Os ydym yn mynd i siarad am adfer rheolaeth, rhaid inni fod yn onest gyda phobl ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny.

Ond hoffwn ddweud wrth gloi ei fod yn ymwneud â phartneriaeth. Rydym wedi dysgu cymaint ynglŷn â sut i wneud hyn yn dda yn ystod y pandemig. Wrth adeiladu'n ôl yn decach—a mater cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder hinsawdd yw hwn—gwnawn hynny gyda'n gilydd a chyda chefnogaeth y bobl yn y Siambr hon. Rwy'n credu bod gennych gefnogaeth y Siambr i wneud hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny yn brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:32.

16:40

Ailymgynullodd y Senedd am 16:40, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Eitem 6 yw'r eitem nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7716 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

2. Yn credu y dylid parchu canlyniadau refferenda bob amser.

3. Yn cydnabod bod nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Codaf i gyflwyno'r cynnig ar y papur trefn ac i siarad yn erbyn y ddau welliant.

Lywydd, heddiw mae'n bum mlynedd ers y foment hanesyddol pan bleidleisiodd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n wirionedd anghyfleus i lawer o bobl yn y Siambr hon, ond dyna fel y mae pethau. Pleidleisiodd mwy o bobl yn y refferendwm, wrth gwrs, nag mewn unrhyw bleidlais yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 1997. Rhoddodd ganlyniad clir inni a syfrdanodd y sefydliad Cymreig, a gallaf glywed rhai ohonynt yn heclo ar hyn o bryd—[Chwerthin.] Pleidleisiodd 854,572 o bobl yng Nghymru dros adael yr UE. Mae hynny bron ddwywaith cymaint â'r rhai a bleidleisiodd dros Lafur yn etholiad diwethaf y Senedd, a 300,000 yn fwy na'r nifer o bleidleisiau a fwriwyd o blaid sefydlu'r Senedd yn ôl yn 1997.

Nid oedd y tair blynedd a hanner a ddilynodd bleidlais Brexit yn rhai hawdd. Roedd y rhifyddeg seneddol, a phenderfyniad y rhai a oedd yn chwarae gwleidyddiaeth ac nad oeddent yn parchu ewyllys y bobl ac a geisiai rwystro proses Brexit, yn ei gwneud hi'n anodd ac yn flinderus iawn ar adegau. Ond daeth y cyfnod poenus hwnnw i ben gydag etholiad cyffredinol yn 2019 a welodd Lywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol gyda mwyafrif enfawr. Cafodd fandad clir i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, ac roedd yn etholiad a welodd wal goch Llafur yn cael ei chwalu'n yfflon yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu sychu oddi ar y map wrth gwrs—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n hoffi hynny, James. A chafodd Plaid Cymru ei bwrw i'r trydydd safle yn ei sedd darged Rhif 1, Ynys Môn.

Yn dilyn yr etholiad hwnnw, wrth gwrs, llwyddodd Boris i gyflawni Brexit. Cyflawnodd ei addewid i'r bobl. Lywydd, mae'n hanfodol er lles democratiaeth fod canlyniadau etholiadau a refferenda bob amser yn cael eu parchu a'u gweithredu. Dyna pam rwy'n hynod siomedig nad yw'r ymwahanwyr ym Mhlaid Cymru na Llywodraeth Lafur Cymru, yn eu gwelliannau dileu popeth heddiw, wedi dewis adlewyrchu'r gwirionedd pwysig hwn.

Lywydd, ni chyflwynodd fy mhlaid y cynnig heddiw gyda'r bwriad o agor rhaniadau'r gorffennol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y ddadl ar Brexit—[Torri ar draws.] Mae'n wir. Fe'i cyflwynwyd, yn hytrach, i roi cyfle i'r holl Aelodau o'r Senedd hon gael dadl lawn a gonest am y cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i Gymru, ac i symud ymlaen o holl raniadau'r pum mlynedd diwethaf. Ac eto, fel y gwelwn o'r papur trefn, mae'r ddwy blaid gyferbyn wedi cyflwyno gwelliannau sy'n ailadrodd yr un math o ymraniad, yr un math o siarad gorchestol, a nodweddai eu hymateb i'r refferendwm yn 2016. Maent fel record wedi torri, Lywydd. Mae'n bryd iddynt symud ymlaen.

Mae gwelliannau Llafur a Phlaid Cymru—[Torri ar draws.] Mae gwelliannau Llafur a Phlaid Cymru yn ceisio pedlera'r chwedloniaeth fod Llywodraeth y DU wedi bod yn tanseilio datganoli ers Brexit, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwirionedd. Diolch i Brexit, y realiti yw bod gan Gymru bellach ei Senedd ddatganoledig fwyaf pwerus mewn hanes.

Mae Cymru wedi dod allan ohoni gyda rhestr newydd gyffrous o gyfrifoldebau a oedd gynt wedi'u lleoli ym Mrwsel, ac yn groes i haeriad Llafur a Phlaid Cymru, ni wnaeth Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ddileu unhryw un o bwerau'r Senedd hon. Yn hytrach, fe wnaeth ganiatáu i bwerau a arferai fod wedi'u lleoli yn yr UE gael eu trosglwyddo'n drefnus, ac roedd yn eu dychwelyd i Seneddau yma yn y DU. Dyna'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto. Ac yn y pwerau a'r cyfrifoldebau pellach hynny, mae dwsinau o feysydd yma yng Nghymru sydd bellach wedi gweld y setliad datganoli'n cael ei gadarnhau ymhellach yn ein cyfansoddiad. Nid pwerau dros feysydd deddfwriaeth aneglur nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar fywydau pobl yw'r rhain. Maent i'w cael mewn meysydd arwyddocaol, megis ansawdd aer, labelu bwyd, yr amgylchedd morol, caffael cyhoeddus, ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ac mae'r holl bwerau a chyfrifoldebau newydd hyn, os cânt eu defnyddio'n dda gan y Llywodraeth hon yng Cymru, yn gallu gwella bywydau pobl o ddydd i ddydd ledled y wlad.

Felly, Lywydd, ni fu unrhyw gipio pwerau gan Lywodraeth y DU ar ôl i ni adael yr UE. Ni fu unrhyw ymosodiad ar ddatganoli. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i Aelodau'r pleidiau gyferbyn roi rhestr i mi o'r pwerau sydd wedi'u cipio oddi wrth y Senedd o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac rwy'n dal i aros am y rhestr honno. Oherwydd y realiti yw na fydd dim arni. Nid oes dim arni; nid oes unrhyw beth ar y rhestr honno. Edrychaf ymlaen at ei derbyn. Gobeithio y gwnewch waith gwell na'ch rhagflaenydd, oherwydd ni chefais gopi. A hynny oherwydd na allant gynhyrchu un, oherwydd nid oes unrhyw bwerau wedi'u cipio oddi wrth y Senedd hon. Nid yw'r cyhuddiadau y maent wedi bod yn eu cyfeirio at Lywodraeth y DU yn ddim mwy na chlecian clefyddau—clecian clefyddau gan bleidiau gwleidyddol sy'n gwrthwynebu i bwerau gael eu trosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd i San Steffan, ac eto'n poeni dim pan oedd yr holl bwerau hyn yn cael eu harfer ym Mrwsel.

Unwaith eto heddiw, mae Plaid Cymru yn ddigon haerllug i gyflwyno rhywbeth sy'n galw am refferendwm pellach ar newid cyfansoddiadol. Nawr, fel y dywedais bythefnos yn ôl wrth yr Aelodau ar feinciau Plaid Cymru, nid oes archwaeth am newid cyfansoddiadol sylweddol pellach a refferenda pellach yng Nghymru. Gwnaethoch osod eich stondin i bobl Cymru yn etholiadau'r Senedd y mis diwethaf, ar y sail eich bod am gael annibyniaeth a'ch bod am gael refferendwm, ac fe gawsoch slap gan etholwyr Cymru, a wrthododd eich galwadau'n llwyr.

Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o ganoli ymosodol yn ystod y misoedd diwethaf—canoli ymosodol, dyna maent wedi ein cyhuddo ohono. Yr eironi. Mae'n haerllug braidd fod Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn canoli pwerau yng Nghaerdydd ac yn mynd â phwerau oddi wrth gynghorau lleol ar hyd a lled y wlad am ddau ddegawd yn dweud wrth Lywodraeth y DU ei bod yn Llywodraeth sy'n canoli. Cwbl anghredadwy. Dyma'r ffeithiau: mae Llywodraeth y DU, o ganlyniad i gronfa godi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin, mewn gwirionedd yn datganoli pŵer. Mae'n datganoli pŵer drwy roi rôl lawer mwy i awdurdodau lleol nag erioed o'r blaen yn y gwaith o gyflawni buddsoddiad mawr a sylweddol yn eu hardaloedd. Oherwydd dyna'r gwahaniaeth rhwng fy mhlaid i a'r pleidiau eraill a gynrychiolir yn y Siambr hon: rydym yn ymddiried mewn pobl leol i wneud penderfyniadau lleol drostynt eu hunain. Credwn eu bod yn gallu gwneud y penderfyniadau drostynt eu hunain yn well na'r bobl sy'n eistedd mewn tyrau ifori yng Nghaerdydd. Dyna'r gwirionedd. Dyna'r gwirionedd.

Nawr, byddech yn meddwl y byddai'r pleidiau gyferbyn yn croesawu mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, ac eto, maent yn ei wrthwynebu. Onid yw'n rhyfeddol? Maent bob amser yn gofyn am fwy o arian a mwy o fuddsoddiad, a phan ddywed Llywodraeth y DU, 'Iawn, fe wnawn ei roi; fe wnawn baratoi'r ffordd gyda Deddf marchnad fewnol y DU', maent yn dweud, 'Nid ydym ei heisiau; rydym am wneud y penderfyniadau. Wel, mae'n ddrwg gennyf, mae'n annerbyniol. Ni ddylech gwyno am yr adnodd ychwanegol y mae Llywodraeth y DU am ei ddarparu yma yng Nghymru. Nid ydym angen Llywodraeth sy'n codi dau fys ar Lywodraeth y DU; yr hyn rydym ei angen yw Llywodraeth sy'n cydweithio â Llywodraeth y DU er budd pobl Cymru. Oherwydd, wyddoch chi, o ganlyniad i Brexit, mae gennyf lawer o optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Nid yn unig y bydd Cymru'n elwa o ganlyniad i'r gronfa ffyniant gyffredin a'r cronfeydd codi'r gwastad a ddaw i'n hawdurdodau lleol, byddwn hefyd yn elwa o ganlyniad i'r cytundebau masnach sydd wedi'u cytuno gyda gwledydd ym mhob cwr o'r byd.

Mae Llywodraeth Ei Mawrhydi eisoes wedi sicrhau cytundebau masnach gyda 67 o wledydd a'r Undeb Ewropeaidd. Chwe deg saith o wledydd. Cytundebau gwerth mwy na—. Cofiaf rai ohonoch ar y meinciau Llafur yn dweud wrthym na fyddai unrhyw ffordd y ceid cytundeb masnach o fewn y degawd nesaf gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac eto mae gennym un. Ac eto, mae gennym un. Mae Boris Johnson a'i dîm wedi cyflawni'r wyrth. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi hynny, ond dyna'r gwir. Dyna'r gwir. Mae gennym gytundebau gwerth mwy na £890 biliwn, ac yn dal i godi. Mae 63 y cant o fasnach y DU yn dod o dan y cytundebau masnach hynny. Cytundebau gyda gwledydd mor amrywiol â Canada, yr Aifft, Gwlad yr Iâ, Japan, Kenya, Serbia, Chile, Singapôr. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ac nid cytundebau masnach yw'r rhain a luniwyd gan Deyrnas Unedig ynysig; mae'r rhain yn gytundebau masnach gan Brydain fyd-eang sydd am chwarae rhan bwysig ar y llwyfan rhyngwladol.

Felly, gadewch inni nodi pum mlwyddiant gwych y refferendwm heddiw drwy roi'r ymraniadau y tu ôl inni. Gadewch inni gytuno i weithio gyda'n gilydd, i fanteisio ar y cyfan y mae Brexit yn ei gynnig, a gadewch inni sicrhau bod Llywodraeth Cymru, dros y pum mlynedd nesaf, yn cydweithio â Llywodraeth y DU er budd pawb yma yng Nghymru.

16:45

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw nawr ar Rhys ab Owen i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

16:50

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bygythiadau parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa ffyniant gyffredin;

2. Yn credu y dylai pleidleiswyr bob amser gael cynigion clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig y gwelliant.

Lywydd, synnais o weld y cynnig hwn gan y Ceidwadwyr heddiw. Bythefnos yn ôl, cefais fy nghyhuddo gan brif chwip y Ceidwadwyr o fogailsyllu cyfansoddiadol. Wel, beth a gawsom heddiw ond bogailsyllu cyfansoddiadol? Ond Mr Millar, rwy'n credu eich bod wedi mwynhau ein dadl bythefnos yn ôl yn fwy nag yr hoffech ei gyfaddef.

Roedd dadl gyntaf Plaid Cymru yn flaengar; roedd yn dangos y ffordd i wella Cymru, ehangu ein pwerau, nid eu rhoi nhw nôl fel mae'r Torïaid eisiau gwneud. Mae Brexit wedi digwydd, ni mas o'r Undeb Ewropeaidd, pam mae'n rhaid ichi fynd ymlaen ac ymlaen am y peth gymaint, dwi ddim yn gwybod. Ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn ni'n mynd i ddwyn i gyfrif arweinwyr 'leave' wnaeth wneud pob math o addewidion gwag i bobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig. Wnawn ni ddim anghofio y bws coch gyda'r addewid am fwy o arian i'r gwasanaeth iechyd; wnawn ni ddim anghofio'r addewid y byddai Cymru a chymunedau mwyaf difreintiedig Cymru yn derbyn arian ychwanegol; wnawn ni ddim anghofio'r cynnydd yn y casineb tuag at fewnfudwyr oherwydd ymgyrch 'leave'.

Gwyddom beth oedd yr ymgyrch 'gadael' yn ei olygu pan oeddent yn gweiddi am adfer rheolaeth. Adfer rheolaeth i San Steffan. Nid oedd Cymru ar yr agenda. O'r dechrau, nid oedd lle i Gymru o gwbl. Gwelsom hyn yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a roddai gyfyngiadau pellach ar y setliad datganoli yng Nghymru, ac fe'i gwelwn yn awr gyda Chymru'n cael ei hanwybyddu dro ar ôl tro. Gwrandewch, Aelodau; gwrandewch ar sŵn y llif cyson o fygythiadau i ddatganoli ar ôl Brexit. Deddf marchnad fewnol y DU, cronfa codi'r gwastad, cronfa ffyniant gyffredin, cawsant oll eu cynllunio er mwyn ail-lunio'r map gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o'i blaid dro ar ôl tro.

Gwnaeth yr ail baragraff yng nghynnig y Ceidwadwyr heddiw i mi chwerthin, lle maent yn dweud y dylid parchu canlyniadau refferenda. Nawr, wel, mae hynny'n chwerthinllyd yn dod oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr. Cyn yr etholiad, datganodd un o'ch Aelodau ei fod o'r diwedd yn mynd i ddod ag arbrawf datganoli i ben yng Nghymru. Dywedodd yr Aelod hwnnw hefyd y bydd yn ymgyrchu i roi diwedd ar ddatganoli yng Nghymru. A yw hynny'n dangos parch at ganlyniadau dau refferendwm yn 1997 a 2011? Safodd eich arweinydd yn y Senedd—eich arweinydd yn y Senedd—yn 2005 ar faniffesto a ddywedai y byddent yn cael refferendwm a fyddai'n cynnwys opsiwn i ddiddymu'r Cynulliad. A yw hynny'n dangos parch at ewyllys pobl Cymru? A'r wythnos hon—dim ond yr wythnos hon—clywsom gan Weinidog yr economi, a ddywedodd, er iddo gael ei wahodd i'r trafodaethau masnach gyda'r UE, na chaniatawyd iddo ddweud dim. Nid oedd yn cael cyfrannu. A yw hynny'n dangos parch at ein Llywodraeth yma yng Nghymru? Gadewch imi ddweud hyn wrth feinciau'r Ceidwadwyr yn awr: nid arbrawf yw ein Senedd yng Nghymru. Nid yw yma i ddod i ben ar fympwy Plaid Geidwadol mewn Llywodraeth, ac nid ystum symbolaidd mohonom. Nid ydym yma i gael ein gweld yn hytrach na'n clywed.

Roedd Gwynfor Evans yn dangos mwy o weledigaeth nôl yn y 1960au nag ydyn ni'n gweld draw yn fanna gyda'r Torïaid. Roedd e'n disgrifio Cymru fel labordy—siawns inni ddangos sut i wneud pethau a'r byd yn ein dilyn ni.

Mae nifer o newidiadau pwysig wedi digwydd yn y lle hwn, newidiadau cymdeithasol, pethau byddem ni ddim yn dychmygu a fyddai'n bosibl 20 mlynedd yn ôl: gwahardd ysmygu mewn tafarndai, taliadau bagiau plastig, caniatâd tybiedig ar drawsblannu organau a dileu'r amddiffyniad—hyd yn oed roeddech chi'n moyn ei gadw fe—dileu'r amddiffyniad o gosb resymol ar blant.

Ac edrychaf ymlaen at weithio'n drawsbleidiol yn y grŵp hwn i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol, fel y gallwn greu, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach heddiw, iwtopia sosialaidd yma yng Nghymru.

Lle mae Cymru yn arwain, mae eraill yn dilyn.

Roedd Boris Johnson yn gweld proses Brexit fel cyfle i fachu allweddi drws ffrynt 10 Stryd Downing. Nawr fod gennym y Brexit caled, llym hwn, mae angen i ni fel Senedd gydweithio i liniaru ei effaith. Rhaid inni wrthsefyll sŵn y curo drymiau o bell gan Blaid Geidwadol genedlaetholgar yn Lloegr, plaid sy'n benderfynol o niweidio datganoli, a thrwy hynny, niweidio Cymru a niweidio pobl Cymru.

Mae pôl ar ôl pôl yn dangos bod pobl Cymru ar draws y sbectrwm gwleidyddol eisiau rhagor o bwerau. Fy nghri i felly i chi, Llywodraeth Cymru, yw peidiwch â llaesu dwylo, peidiwch ag oedi, peidiwch ag aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud rhywbeth, oherwydd does dim byd o'r tu yna yn mynd i fod o fantais i bobl Cymru. Mae'n rhaid inni nawr, os ŷn ni'n parchu refferenda'r gorffennol, fynnu pwerau ychwanegol. Felly, cefnogwch ein gwelliant, mynnwch bwerau ychwanegol er lles pobl Cymru. Diolch yn fawr.

16:55

Rwy'n galw nawr ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol welliant 2.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.

3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Fel y dywedais yma ym mis Mehefin 2016,

'Rhaid i Gymru ym Mhrydain fod yn bartner sofran i Ewrop nid yn dalaith o’r UE fel rhan o gymuned fyd-eang sy’n edrych tuag allan.'

Heddiw, bum mlynedd union ers i bobl Cymru—pobl Cymru—bleidleisio i adael yr UE, mae Prydain fyd-eang sy'n edrych tuag allan yn gallu llunio cytundebau masnach gyda marchnadoedd newydd fel grym masnachu rhyddfrydol, rhydd er daioni yn y byd. Cyflawnwyd llawer, ac yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau digynsail a grëwyd gan y pandemig a'r beirniadu cyson gan y rhai na chafodd eu ffordd eu hunain am unwaith.

Ers Brexit, mae ein DU fyd-eang wedi arwyddo cytundebau gyda 67 o wledydd a'r UE, ac mae'n gwneud cynnydd da gyda chyfeillion a chynghreiriaid eraill, gan gynnwys Seland Newydd, Awstralia a'r Unol Daleithiau. Bydd cytundeb masnach rydd hanesyddol yr wythnos diwethaf gydag Awstralia yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau a defnyddwyr y DU a Cymru, drwy ddileu'r holl dariffau ar nwyddau'r DU, gan ei gwneud yn rhatach i werthu cynnyrch fel ceir, wisgi a serameg i Awstralia, a chael gwared ar fiwrocratiaeth i filoedd o fusnesau bach, gan ei gwneud yn haws teithio a gweithio, yn enwedig i bobl ifanc.

Bydd ffermwyr yn cael eu diogelu gan gap ar fewnforion di-dariff am 15 mlynedd, a bydd cynhyrchwyr amaethyddol hefyd yn cael cymorth i gynyddu eu hallforion dramor. Mewn rhai achosion, mae gan Awstralia safonau lles anifeiliaid uwch na rhai o wledydd yr UE, ac mae Ysgrifennydd masnach ryngwladol y DU hefyd wedi gwarantu, er enghraifft, y bydd cig eidion sy'n cael ei chwistrellu gan hormonau yn parhau wedi ei wahardd yn y DU. Fodd bynnag, fel y dywedodd NFU Cymru Clwyd wrthyf ddydd Sadwrn diwethaf, mae rhyddfrydoli masnach yn dda, ond mae angen chwarae teg arnynt mewn perthynas â safonau hylendid a lles. Rydym yn cytuno. Roeddent yn ychwanegu bod angen cynlluniau cymorth fferm arnynt gan Lywodraeth Cymru sy'n bwrpasol, yn ymarferol ac yn fforddiadwy. Wel, mater i'r Gweinidogion hyn yw hynny.

Ddoe, lansiodd Llywodraeth y DU negodiadau i ymuno â chytundeb partneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel, ardal fasnachu rhydd gwerth £1 triliwn, sy'n gartref i 500 miliwn o bobl, a fydd yn agor cyfleoedd newydd i fusnesau'r DU yn y farchnad sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Yn hytrach na chwyno a nadu, difrïo a chodi bwganod, mae'n hanfodol fod Gweinidogion Llafur Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, cyd-deithwyr ym Mae Caerdydd, bellach yn sicrhau bod Cymru ar flaen y ciw i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a grëir i fusnesau Cymru gan y cytundebau masnach newydd hyn a fydd yn ein galluogi i adeiladu'n ôl yn well ar ôl y pandemig.

Fel y dywedais yma fis Rhagfyr diwethaf,

'mae arbenigwyr yn dweud y bydd y cytundeb masnach ar ôl Brexit yn helpu'r economi i ymadfer yn 2021, ar ôl blwyddyn anodd wedi'i dominyddu gan argyfwng coronafeirws.'

Ddeufis yn ôl, dywedodd y gweithredwr fferi môr Iwerddon, Stena Line, fod traffig cludo nwyddau ar gynnydd yn ei borthladdoedd yng Nghaergybi ac Abergwaun yn dilyn gostyngiad bach ar ôl Brexit. Nododd rhagolwg y CBI ddydd Gwener diwethaf y bydd economi'r DU yn ehangu 8.2 y cant eleni a 6.1 y cant y flwyddyn nesaf, gan ragori ar holl brif gystadleuwyr y DU a chodi'r economi'n ôl i lefelau gweithgarwch cyn y pandemig erbyn diwedd y flwyddyn.

Nonsens manteisgar yw'r twyll pleidiol am Ddeddf marchnad fewnol y DU. Mewn gwirionedd, ar adeg Bil ymadael y DU, cytunodd Llywodraeth y DU y byddai fframweithiau ar gyfer y DU gyfan i ddisodli rheoliadau'r UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU mewn meysydd fel bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd, gan osod safonau na all yr un ohonynt ddisgyn oddi tanynt, gyda'r trefniadau cyffredin presennol yn cael eu cynnal hyd nes y cytunir ar y rhain i gyd.

Ac mewn datganiad ar adroddiad diweddaraf Llywodraeth y DU ar fframweithiau cyffredin yn gynharach y mis hwn, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:

'Mae'r adroddiad yn dweud bod gwaith cadarnhaol yn parhau ar Fframweithiau Cyffredin, ac yn cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio'r 'pwerau rhewi'.'

Mae'r bobl adweithiol gyferbyn yn dal i sbinio y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn gadael Cymru'n waeth ei byd, gan ddewis anwybyddu datganiadau mynych gan Weinidogion Llywodraeth y DU y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin yn weithredol yn union yr un fath â'r swm o arian a gâi ei wario yng Nghymru a oedd yn deillio o'r UE, neu'n fwy na hynny, wedi'i ategu gan y warant 'dim ceiniog yn llai'. Yr hyn nad ydynt am i bobl ei wybod yw bod Llywodraeth y DU yn gofyn i awdurdodau lleol yng Nghymru ymuno â rhanddeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru i feddwl am syniadau hynod arloesol, lle bydd y gwersi a ddysgwyd yn sail i becyn llawer mwy o arian o ddiwedd 2021 ymlaen.

Yr wythnos diwethaf, roeddent hyd yn oed yn honni yma y byddai'r arian yn cael ei wario'n well pe bai'n cael ei roi yn eu dwylo gorchymyn-a-rheoli hwy yn uniongyrchol. Gadewch inni gofio bod Llywodraethau Llafur Cymru eisoes wedi gwario £5.5 biliwn mewn cyllid o'r UE ar fethu cau'r bwlch ffyniant, naill ai yng Nghymru neu rhwng Cymru a gweddill y DU. Dyna pam y mae Llywodraeth y DU am weithio ar y lefel isaf—ar lefel leol, gydag awdurdodau lleol—a chyda Llywodraeth Cymru i roi'r arian hwnnw o'r diwedd tuag at sicrhau bod y bwlch ffyniant yn cael ei gau fel y bwriadwyd iddo ei wneud yn wreiddiol a chreu'r ffyniant y mae Cymru wedi bod yn aros cyhyd i'w gyflawni. 

17:00

Bum mlynedd yn ôl, o drwch blewyn pleidleisiodd mwyafrif o bobl a fwriodd bleidlais yng Nghymru a'r DU gyfan i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym wedi gadael. Mae hynny'n iawn, a dyna'r canlyniad democrataidd. Ond mae democratiaeth yn gymhleth, nid gordd mohoni. Yn ogystal â phenderfyniad mwyafrifol, mae'n ymwneud â phlwraliaeth, goddefgarwch a dod o hyd i dir cyffredin, sy'n un o'r rhesymau pam y dadleuodd llawer ohonom dros gytundeb ymadael a oedd yn cadw cymaint â phosibl o fynediad at farchnad sengl yr UE a chyfranogiad parhaus mewn undeb tollau. Yn fy marn i, byddai hynny wedi bod yn ganlyniad mwy democrataidd i'r refferendwm, un y gallai dwy ochr y ddadl fod wedi byw gydag ef.

Fel y mae, dilynodd y Torïaid lwybr Brexit pleidiol, caled gan ei droi'n fater ymrannol gwenwynig sy'n parhau i rannu gwleidyddion, ond yn bwysicach na hynny, mae'n parhau i rannu cymunedau, teuluoedd a ffrindiau a sefydlogrwydd cyfansoddiadol y DU, sy'n drist ac yn anghyfrifol iawn. Am y rheswm hwnnw'n unig, dylid ystyried cytundeb Boris Johnson yn fethiant gwleidyddol a chymdeithasol. Ond eisoes mae'n profi'n fethiant economaidd hefyd. Y rheswm arall y gwnaethom ddadlau dros fwy o ymochri â'r UE oedd i atal yr hyn a welwn yn awr—rhwystrau i fasnach y dywedwyd wrth fusnesau Cymru na fyddent yn eu hwynebu, y cynnydd enfawr mewn biwrocratiaeth a rhwystrau heblaw am dariffau, yr anawsterau a wynebir gan y celfyddydau a'r sector creadigol wrth deithio yn Ewrop, y niwed uniongyrchol i'n diwydiant bwyd môr, a'r ffin amlwg iawn ym môr Iwerddon. Nid yw'r rhain yn broblemau annisgwyl na bach, fel yr hoffai'r Torïaid inni gredu; maent yn sylfaenol ac yn ganlyniad anochel Brexit y Torïaid. 

Soniais am Ogledd Iwerddon. Rydym i gyd, gobeithio, yn derbyn na allwn gael ffin galed ar ynys Iwerddon. Felly, mae unrhyw gytundeb masnach gydag UDA neu Awstralia, neu unrhyw wlad arall o ran hynny, o reidrwydd yn golygu naill ai ffin ym môr Iwerddon neu daflu ffermwyr Cymru a'r DU o dan y bws Brexit enwog. Nid oes ffordd o osgoi hynny. Mae cytundeb Awstralia yn dangos y cyfeiriad teithio. Mae'r Torïaid wedi dewis y ffin forol a masnach rydd dros gyfanrwydd cyfansoddiadol y DU a dyfodol ffermio yng Nghymru.

Eglurais ragrith y Torïaid ar y mater hwn yn ddiweddar, felly nid wyf am ailadrodd hynny, ond ni wyddwn a ddylwn chwerthin neu grio pan wyliais Weinidog masnach y DU yn ei amddiffyn yn y Senedd ac ar y cyfryngau. Ar un gwynt, canmolodd Liz Truss y mynediad y byddai ein ffermwyr yn ei gael i'r marchnadoedd newydd, fel Fiet-nam. A'r eiliad nesaf, roedd hi'n cyfaddef nad oes nemor ddim masnach mewn cynnyrch fel cyw iâr am ei bod mor bell. Wel, pwy fyddai wedi meddwl? Pwy fyddai wedi meddwl bod Fiet-nam ymhell o weddill Ewrop? Yn sydyn, mae hi wedi gweld y golau hwnnw.

Bum mlynedd ar ôl y refferendwm, fy marn i yw na fydd y cyhoedd ym Mhrydain yn goddef y Brexit Torïaidd dinistriol, ymrannol, dogmatig hwn yn rhy hir. Rwy'n gobeithio ac rwy'n disgwyl y byddwn ymhen pum mlynedd yn myfyrio ar Brexit o safbwynt ymochredd llawer agosach ar dollau a'r farchnad. Byddai honno'n ffordd ymlaen lawer mwy synhwyrol, ymarferol a democrataidd, a gallai hefyd helpu i achub rhai o'r busnesau yma a'n helpu i gael digon o bobl i weithio yn y diwydiannau hynny. Diolch.

17:05

Diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl bwysig hon heddiw a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Mr Millar. Heddiw, wrth gwrs, fel y gwyddoch yn amlwg, mae'n bum mlynedd ers i bobl Cymru bleidleisio gyda phobl y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac i mi, un o agweddau mwyaf diddorol y refferendwm oedd mai dyma'r ymarfer democrataidd mwyaf a welodd ein gwlad erioed. Rwyf am gymryd ychydig funudau y prynhawn yma i ddathlu hynny.

Cofiwch ein bod wedi cael ein hethol yma heddiw yn etholiadau'r Senedd gan oddeutu 45 y cant o'r etholwyr, ac etholir cymheiriaid i San Steffan gan oddeutu 67 y cant o'r etholwyr, ond pleidleisiodd 72 y cant o'r etholwyr yn y refferendwm bum mlynedd yn ôl. Bu llawer iawn o ymgysylltu gan yr etholwyr—pleidleisiodd 1.6 miliwn o bobl yng Nghymru yn refferendwm Brexit. Dyma Lywodraeth Geidwadol yn y DU sy'n gweithredu ar ewyllys y bobl ac sy'n cyflawni ac yn parhau i gyflawni ar y mandad a roddwyd gan bobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel gwleidyddion, wrth gwrs, rhaid inni beidio ag anghofio pwy rydym yn eu cynrychioli a'r hyn y maent am i ni ei wneud, ac roedd y refferendwm hwn yn enghraifft berffaith o hyn. [Torri ar draws.] Yn eich etholaeth chi, rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod, Mr Davies, fod 62 y cant, rwy'n credu, wedi pleidleisio i adael.

Dewisodd pobl Cymru adael yr Undeb Ewropeaidd. Aethant yn erbyn yr hyn roedd llawer o arbenigwyr yn dweud wrthynt am ei wneud ac aethant yn erbyn yr hyn roedd llawer o wleidyddion yn dweud wrthynt am ei wneud. Hwy a ddewisodd eu tynged a hwy a ddewisodd eu rhyddid oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, ein rôl ni fel gwleidyddion etholedig—ac yn sicr fel Llywodraeth—yw gwrando a chyflawni ewyllys y bobl a phobl Cymru sy'n rhoi eu mandad i ni. Nid oes ffordd gliriach o wrando ar bobl Cymru na thrwy refferendwm deuaidd uniongyrchol. Ac yng ngeiriau un o bleidwyr mwyaf democratiaeth, Abraham Lincoln, democratiaeth yw 'llywodraeth gan ac ar ran y bobl'. Mae etholiadau'n perthyn i'r bobl; eu penderfyniad hwy ydyw.

Mae'n fwy amlwg nag erioed fod pobl Prydain wedi cymeradwyo Brexit. Fe wnaethant gymeradwyo cynllun Brexit Llywodraeth Geidwadol y DU eto—[Torri ar draws.] Fe wnaethant ei gymeradwyo eto, Mr Davies, yn etholiad cyffredinol diweddaraf y DU lle cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif enfawr i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, fel y mae Prif Weinidog y DU yn parhau i'w ailadrodd. Ac fel yr amlinella ein cynnig Ceidwadol, mae'n bryd yn awr i Lywodraeth Cymru hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r UE yn eu cyflwyno. Rydym bellach wedi adennill ein hannibyniaeth wleidyddol ac economaidd yn llawn, gan adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau, ein harian, ein masnach a'n pysgodfeydd. Gan symud ymlaen o hyn, bydd y cytundeb masnach y mae'r DU wedi cytuno arno gyda'r UE ar ran pobl Prydain yn helpu i feithrin perthynas newydd wych gyda'n cymdogion Ewropeaidd, yn seiliedig ar fasnach rydd a chydweithredu cyfeillgar.

I gloi, Lywydd, mae heddiw'n ddiwrnod arbennig iawn i ddemocratiaeth: pum mlynedd ers y bleidlais fwyaf a welodd y wlad hon erioed. Ac onid yw'n wych ein bod yn gallu gweld democratiaeth ar waith, a bod Llywodraeth y DU yn cyflawni dymuniadau pobl y wlad hon? Er gwaethaf y codi bwganod, dewisodd pobl ein gwlad wych adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethant ddewis adennill ein hannibyniaeth, rheoli ein cyfreithiau a'n harian, a phenderfynu ar ein mewnfudo a'n masnach. Mae heddiw'n caniatáu inni ddathlu grym pleidlais yr unigolyn, democratiaeth ar waith a Llywodraeth sy'n barod i gyflawni mandad clir. Dyma'r adeg i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi'u rhoi i ni. Mae'n bryd agor i'r byd ehangach a gwneud y wlad hon hyd yn oed yn well. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. 

17:10

Am ben-blwydd trychinebus. Ni ddefnyddiaf fy nghyfraniad heddiw i ailadrodd y celwyddau a ddywedwyd yn ystod refferendwm 2016—maent wedi'u cofnodi'n gyhoeddus—ond rwy'n gresynu at gywair ail hanner cynnig y Ceidwadwyr gyda'i ffocws ar gyfleoedd, gan anwybyddu'n gyfleus y cipio pŵer gan San Steffan o dan Ddeddf y farchnad fewnol, a chynlluniau olynol yr UE yr eglurais i'r Siambr yr wythnos diwethaf eu bod fel pe baent wedi'u creu i gyfoethogi ardaloedd sy'n cefnogi'r Torïaid ar draul ein cymunedau ni. Dim sôn am y toriadau sy'n bygwth ein sector celfyddydau, gallu ein myfyrwyr i astudio, ffurfio cysylltiadau a ffynnu dramor—maent oll wedi'u colli.

Pan ddeuthum i'r Senedd hon am y tro cyntaf a dod yn llefarydd ar Brexit, roedd yn ymddangos bod ein holl sylw'n cael ei roi i gytundebau masnach, newyddion am y negodiadau, a chloch y pleidleisiau'n atseinio yr holl ffordd o San Steffan i'n Senedd ni. Cawn fy mlino gan yr ymwybyddiaeth o'r cyfan nad oedd yn cael ein sylw—y pethau y gellid, y byddid, y dylid, a allai fod wedi digwydd ond na ddigwyddodd am fod Brexit yn mynd â'n holl sylw. Yn awr, mae saga druenus Brexit yn rhy aml wedi ei chyfyngu i ddatganiadau ysgrifenedig. Mae diweddariadau sy'n effeithio ar fywoliaeth a chyfleoedd bywyd dinasyddion yn cael eu gwthio i dudalennau ysgrifenedig, na chânt eu lleisio na'u craffu.

Nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru, a dyn a ŵyr, mae COVID wedi gorfod mynd â chymaint o'n sylw, ond Lywydd, y tu allan i'r Siambr mae'n dal i fod ymdeimlad o'r hyn a allai fod wedi bod, nid ar ffurf amser deddfwriaethol na blaenoriaeth Llywodraeth mwyach efallai, ond ar ffurf bywydau ar stop, dinasyddion yr UE sydd wedi byw ers blynyddoedd yn ein plith yn gorfod ailymgeisio am eu hawl i breswylio, ymdeimlad o ryngberthyn tynn a dyheadau a rennir yn cael eu gwthio i'r cyrion, a gorwelion yn crebachu ac yn cyfyngu. Ac ar draws y môr, mae anghytgord a thensiwn yng Ngogledd Iwerddon yn cynyddu, wedi'i gymell gan Weinidogion San Steffan na wnaethant drafferthu poeni am yr effaith y byddai eu laissez-faire, eu braggadocio diog yn ei chael ar yr hyn sy'n llythrennol yn fater o fywyd a marwolaeth.  

Lywydd, mae'r cynnig yn siarad am gyfleoedd. Rwy'n siarad am gyfleoedd a gollwyd—cost cyfle biwrocratiaeth, llenwi ffurflenni, y ffyrdd nas teithiwyd oherwydd eu bod wedi'u cau bellach. Yn 'Hard Border' mae'r bardd Clare Dwyer Hogg yn ein hatgoffa bod

'cyfle a gobaith yn dod ar ffurf pethau fel ager a mwg.'

Nid yw pob un o effeithiau Brexit mor ddiriaethol â rhesi o lorïau ar draffordd. Hoffwn atgoffa'r Siambr o'r teithiau nas teithiwyd, y cariad nas profwyd, yr heriau a gollwyd cyn y gellid eu hwynebu, llwyddiannau a phrofiadau y gallem fod wedi'u rhannu; y pethau a allai fod wedi bod yn gwasgaru ac yn diflannu fel mwg yn y gwynt.

Roeddwn wedi tybio mai fel hyn y byddai'r ddadl y prynhawn yma, mewn gwirionedd. Efallai y dylwn fod wedi meddwl yn wahanol amdani. Pan ystyriwch beth a ddigwyddodd cyn ac ar ôl y refferendwm, yn eironig credaf mai gyda Phrif Weinidog Lwcsemourg, Xavier Bettel, rwy'n cydymdeimlo fwyaf, pan ddywedodd, 

'O'r blaen, roeddent i mewn ac yn optio allan o lawer o bethau; yn awr maent eisiau bod allan ac optio i mewn i lawer o bethau.'

Yn ddiarwybod rwy'n credu ei fod wedi crisialu'r gwyro, yr anonestrwydd a'r dryswch ym mholisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros y cyfnod hwn a chyn hynny.

Rwy'n gynefin â dymuniad y Ceidwadwyr i guro'r drymiau y prynhawn yma,  ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r awydd hwnnw, ac yn gadael iddynt wneud hynny. Ond yr hyn na allwch ei wneud yw adeiladu gwleidyddiaeth ac adeiladu polisi ar anonestrwydd. Roedd Darren Millar yn llygad ei le. Daeth yma ym mis Rhagfyr a dweud, 'Mae Boris Johnson wedi cyflwyno cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd y dywedoch chi'—gan bwyntio at Lywodraeth Cymru—'na allai byth ei wneud'. Ac roeddech yn llygad eich lle yn dweud hynny, oherwydd gwnaeth Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, y camgymeriad o gredu'r hyn a ddywedodd Boris Johnson. Yr hyn a wnaeth Boris Johnson er mwyn sicrhau'r cytundeb, wrth gwrs, oedd trosglwyddo Gogledd Iwerddon i weinyddiaeth ac awdurdodaeth yr Undeb Ewropeaidd i bob pwrpas.

Dyna a ddigwyddodd; mae 288 o fesurau cyfraith Ewropeaidd mewn grym yn gyfreithiol heddiw yng Ngogledd Iwerddon, ac mae honno'n ffaith absoliwt. Crëwyd ffin i lawr môr Iwerddon. Dywedodd yr Undeb Ewropeaidd eu bod am gael ateb, a dywedodd Boris Johnson wrth y papurau tabloid ei fod yn mynd i ymladd dros Blighty, ac fe gyrhaeddodd yno, ac fe ildiodd, rhoddodd y ffidil yn y to, gwnaeth gam â phobl Gogledd Iwerddon ac fe ddywedodd gelwydd wrth Senedd Prydain. Ac mae hynny'n gwbl glir. Wyddoch chi, y lefel honno o wyro ac anonestrwydd yw'r edefyn sylfaenol sydd wedi llywio polisi Llywodraeth y DU drwy gydol y cyfnod hwn—dweud un peth, gwneud rhywbeth arall. Ac rydym wedi gweld canlyniad hynny yn Iwerddon heddiw. Wrth gwrs, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd o 60 y cant mewn busnes trawsffiniol rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon oherwydd, wrth gwrs, rydych chi bellach wedi creu'r hyn y mae Sinn Fein wedi methu ei wneud mewn gwirionedd, ac mae Boris Johnson wedi llwyddo i'w wneud—creu economi Iwerddon gyfan am y tro cyntaf ers yr ymraniad, sy'n ffordd ryfedd o ddathlu ei gred yn yr undeb.  

Ac mae hefyd wedi gwneud rhywbeth gwahanol, rhywbeth gwahanol iawn, a siaradodd Liz Truss am hyn yn The Times ddydd Sadwrn. Unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn siarad am y cytundebau masnach y maent wedi'u gwneud mewn gwahanol rannau o'r byd, ond pa effaith y mae hynny'n ei chael ar y wlad hon? Pa effaith y mae'n ei chael ar Gymru? Rydym yn sôn am y cytundeb masnach posibl gyda gwledydd y Môr Tawel, ond yr hyn nad ydynt yn ei ddweud wrthych yw mai 0.08 y cant yw'r cynnydd yn y cynnyrch mewnwladol crynswth yn ôl eu ffigyrau hwy eu hunain. Dim pwynt sero wyth y cant. Ni allai'r Brydain fyd-eang dalu am ei chwch hwyliau ei hun hyd yn oed. [Chwerthin.] A'r realiti yw nad yw hynny hyd yn oed yn talu am gost gadael y farchnad sengl, a'r swyddi a'r cyfleoedd a gollir yn sgil hynny. Felly, mae'n sylfaenol anonest.

A'r peth arall a ddywedodd ddydd Sadwrn y credwn ei fod yn eithaf diddorol oedd nad yw'r Brydain fyd-eang, meddai, yn mynd i fynd ar drywydd imperialaeth debyg i'r UE mewn masnach. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs—ac fe'i dywedodd ei hun—yw nad ydym yn mynd i ddweud wrth bobl mewn gwledydd eraill sut i redeg eu ffermydd. Dyna roeddent yn ei ddweud. Felly, yr hyn y maent yn mynd i'w wneud yw lleihau tariffau fel unig nod polisi, ac nid oes ots pa effaith y mae hynny'n ei chael ar les anifeiliaid, ar lafur gorfodol. Nid oes ots beth yw'r effaith ar ddinistrio'r amgylchedd, oherwydd mae gennym bolisi masnach heb werthoedd. Mae gennym bolisi masnach sy'n canolbwyntio ar dariffau ond nid yw'n canolbwyntio ar werthoedd a phwy ydym fel gwlad, pwy ydym fel pobl. Ac nid yw ychwaith yn canolbwyntio ar ddiogelu ffermwyr yn yr achos hwn, rydym wedi gweld y ffordd y maent wedi gwneud cam â'r diwydiant pysgota, a byddant yn gwneud cam â phob diwydiant arall. Gwelsom yr un peth gyda dur yn y dyddiau diwethaf. Yr unig bobl y byddant yn eu diogelu yw arianwyr Dinas Llundain sy'n rhoi eu rhoddion iddynt.

Wrth gloi, Lywydd, gadewch imi ddweud hyn. Un o'r pethau pwysig i'r holl Aelodau yma, gan gynnwys Darren Millar, yw ein bod yn diogelu'r hawliau a'r breintiau sydd gennym fel Aelodau o'r lle hwn, ac mae hynny'n golygu ein bod yn diogelu'r setliad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto droeon, a setliad a gymeradwywyd y mis diwethaf yn yr etholiad pan enillodd y blaid hon fwyafrif. Ac edrychaf ymlaen at eich gweld yn pleidleisio i weithredu'r maniffesto Llafur, gadewch imi ddweud. Ond yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud—a dof i ben gyda hyn—yw diogelu'r pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gennym yma. Ni fu llif o bwerau newydd i lawr yr M4. Nid ydym wedi gweld hynny. Yr hyn a welsom yw Gweinidogion Llywodraeth y DU yn codi eu baneri, yn canu eu caneuon ac yn dweud celwyddau uniongyrchol wrth bobl y wlad hon, wrth Senedd y DU ac wrth y Senedd hon hefyd. A thrwy wneud hynny, Darren, efallai eich bod wedi ennill lefel o ryddid neu annibyniaeth—beth bynnag y dymunwch ei alw—ond rydych wedi iselhau ein gwleidyddiaeth. 

17:15

Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod fy etholaeth wedi pleidleisio'n gadarn i adael yr UE. Ar adeg y refferendwm yn 2016, roedd gan Ddyffryn Clwyd Aelod Cynulliad Llafur a oedd yn anghytuno â chanlyniad y bleidlais, ac fel ei chyd-Aelodau ar feinciau Llafur a Phlaid Cymru, gwnaethant y cyfan yn eu gallu i danseilio Brexit. Aberafan, Alun a Glannau Dyfrdwy, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, De Clwyd, Cwm Cynon, Delyn, Wrecsam—mae'r rhestr yn parhau.

Heddiw, caiff Dyffryn Clwyd ei chynrychioli yn y ddwy Senedd gan y Ceidwadwyr Cymreig—Ceidwadwyr Cymreig sy'n parchu dymuniadau eu hetholwyr ac wedi addo gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Brexit yn llwyddiant. Yn anffodus i bobl fy etholaeth, a llawer o etholaethau eraill a bleidleisiodd i adael, dewisodd Llafur wastraffu'r pum mlynedd diwethaf yn ceisio osgoi realiti'r refferendwm. Yn hytrach na chadw at ddymuniadau'r 56.5 y cant o fy etholwyr a benderfynodd fod Cymru'n well ei byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rhoddodd Llafur, gyda chymorth Plaid Cymru, gynnig ar bob tric posibl i'n cadw dan sawdl Brwsel. Ar wahân i swyddi i'r bechgyn, mae ein haelodaeth o'r UE wedi methu sicrhau manteision gwirioneddol i fy etholaeth nac i'n gwlad. Do, cawsom filiynau o bunnoedd mewn cronfeydd strwythurol, ond methodd y cynlluniau hynny sicrhau manteision parhaol i bobl Cymru yn gyffredinol, ac i fy etholwyr yn benodol.

Mae Dyffryn Clwyd yn gartref i'r ward dlotaf yng Nghymru, a'r gyfran uchaf o'r ardaloedd cynnyrch ehangach haen is mwyaf difreintiedig. Ni sydd â'r drydedd gyfradd uchaf o farwolaethau cynamserol yng Nghymru; mae gan 37 y cant o'n poblogaeth oedolion gyflwr iechyd cyfyngus hirdymor; mae 23 y cant o blant yn methu cyflawni'r cyfnod sylfaen; ac mae gennym y ganran uchaf o oedolion sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru. Ni wnaeth ein haelodaeth o'r UE sicrhau gwelliannau i fywydau fy etholwyr. Yn wir, mae ein haelodaeth o'r bloc diffyndollol marwaidd wedi ein dal yn ôl.

Bum mlynedd yn ôl, pleidleisiodd y rhan fwyaf o'r cyhoedd sy'n pleidleisio dros fwrw ymaith iau'r fiwrocratiaeth gamweithredol ac edrych allan ar fyd ehangach. Pleidleisiasom dros ymryddhau o reolau a gynlluniwyd i fod o fudd i ffermwyr Ffrainc a gweithgynhyrchwyr ceir o'r Almaen yn hytrach na pherchnogion siopau ym Mhrestatyn a gweithredwyr gwely a brecwast yn y Rhyl. Yn hytrach na gwrando ar eu pleidleiswyr a phobl yr undeb gwych hwn, mae Llafur wedi dewis gwneud popeth yn eu gallu i danseilio ein dyfodol y tu allan i'r UE. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn eu gallu i'n cadw wedi ein clymu wrth fiwrocratiaeth yr UE. Diolch byth, mae gennym Lywodraeth Geidwadol wrth y llyw yn y DU—Llywodraeth Geidwadol sy'n benderfynol o adael diffyndollaeth yr UE a mynd ar drywydd masnach ddi-dariff gyda'r byd ehangach. Mewn cymhariaeth, mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi bygwth niweidio masnach rydd rhwng gwledydd cartref y DU drwy gynnig Deddf marchnad fewnol y DU. Pe bai ganddynt bŵer i wneud hynny, byddai'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ein llusgo'n ôl i Undeb Ewropeaidd marweiddiol, ond diolch byth, ni allant wneud hynny.

Mae'n bryd bellach i Lywodraeth Cymru a'u cynorthwywyr bach roi'r gorau i geisio gwrthdroi'r refferendwm a dechrau canolbwyntio ar y dasg bwysig o sicrhau bod Cymru'n elwa ar y manteision a grëwyd yn sgil gadael yr UE. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi sicrhau cytundebau masnach gyda bron i 70 o wledydd. Maent yn sefydlu cronfa ffyniant gyffredin yn lle rhaglenni ariannu strwythurol a wnaeth gam â'n gwlad, cronfa a fydd yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa o'n twf economaidd wrth inni ddod yn genedl sy'n edrych allan. Ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i anwybyddu pobl Cymru a dechrau gweithio i sicrhau manteision Brexit. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Rwyf wedi dysgu llawer yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf a ddysgais yw bod pobl am inni roi'r gorau i ddadlau â'n gilydd, i weithio gyda'n gilydd, a chanolbwyntio ar ddyfodol pobl Cymru.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu at gywair rhai o'r sylwadau yn y ddadl hon, ac nid wyf yn credu bod eu hangen. Roedd Brexit yn ymrannol ac yn boenus; gadewch inni godi uwchlaw'r adegau hynny. Rwyf am ganolbwyntio ar y presennol a sut y gallwn barhau i gefnogi ein pobl yng Nghymru, gan gynnwys ffermwyr a busnesau. Gobeithio ein bod yn gweld hwn fel cyfle a'r angen i symleiddio trefniadau ar gyfer busnesau sy'n mewnforio ac yn allforio i Ewrop. Mae rhai yn ei chael hi'n anodd iawn gyda'r rheoliadau a'r rheolau newydd, sy'n bryder o ystyried effaith economaidd y pandemig. Mae angen creu trefniadau a safonau llywodraethu newydd hefyd, gan ganolbwyntio ar amddiffyniadau amgylcheddol a safonau bwyd. Mae angen creu cyfleoedd ac mae angen i Lywodraeth y DU eu galluogi, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru. Ac yn olaf, i'n ffermwyr, dyma ddyfyniad gan gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru:

'felly mewn cytundeb a ganiatâi fynediad niweidiol at fwydydd o Awstralia, ni fyddem yn ennill fawr ddim a byddem yn gwneud cam â'n ffermwyr a'n safonau, a'r cyfan er mwyn datganiad i'r wasg gan y Llywodraeth yn dweud "mae gennym gytundeb masnach".'

Wrth orffen, a gaf fi apelio'n barchus ar fy nghyd-Aelodau Ceidwadol i gysylltu â'r Ceidwadwyr yn San Steffan er mwyn sicrhau bod cytundebau masnach yn cynnig bargen dda i'n ffermwyr yng Nghymru ac nad ydynt yn gwneud cam â hwy? Os gwelwch yn dda, gadewch inni siarad gyda'n gilydd ac am ein gilydd gyda pharch. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Roeddwn yn teimlo rheidrwydd i gyfrannu yn y ddadl hon, yn bennaf oherwydd, fel Jane, cefais fy nharo gan gywair llawer o'r hyn a glywais yma heddiw. Efallai mai ei anian hwyliog naturiol ydyw, ond bron nad oeddwn yn meddwl bod Darren Millar yn mwynhau hyn—rhwbio ein hwynebau, os mynnwch, yn y ffaith ei bod hi'n bum mlynedd ers canlyniad y refferendwm hwnnw.

Cafwyd canlyniadau difrifol i'r canlyniad hwnnw. Rydym wedi symud ymlaen, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae unrhyw un sy'n gwadu'r canlyniadau difrifol hynny'n gwneud anghymwynas wirioneddol â phobl eu hetholaethau eu hunain—ac ydw, rwy'n gwybod eich bod am wneud eich marc yma yn y Senedd newydd hon, ond rydych yn gwneud anghymwynas â Chymru.

Gadewch imi sôn yn gyflym am y sector bwyd yn fy etholaeth. Nid yw unrhyw gytundeb—ac oes, mae nifer ohonynt, Darren Millar—nid yw unrhyw gytundeb o reidrwydd yn gytundeb da, a gwn mor bryderus yw ffermwyr yn fy etholaeth am ganlyniadau'r cytundeb ag Awstralia. Gwn mor ddinistriol yw effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ffermwyr pysgod cregyn yn fy etholaeth. Gallaf ddweud wrthych am un allforiwr bwyd yn fy etholaeth—allforiwr rhagorol. Byddai 30 y cant o'i hufen iâ yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Byddai'n cymryd archeb, byddai'n trefnu'r archeb honno—sypiau gweddol fach, yn ffurfio archebion mawr gyda'i gilydd, yn creu swyddi ac yn cynnal swyddi yn fy etholaeth. Byddent yn cymryd yr archeb a byddent yn ei chyflenwi. Nawr, maent yn cymryd yr archeb—ni allwch anfon sypiau bach i wledydd yr Undeb Ewropeaidd mwyach, rhaid ichi lenwi lori, oherwydd rydych yn dod â milfeddyg—milfeddyg—i'ch ffatri yma ar Ynys Môn ac yn eich etholaethau chi i basio'r hufen iâ a'i gymeradwyo. Wedyn mae gennych asiant allforio; wedyn mae gennych asiant mewnforio yn y wlad rydych yn allforio iddi. Roedd yn rhaid anfon un llwyth o hufen iâ deirgwaith cyn iddo gael ei ganiatáu i mewn i'r Iseldiroedd. Ni wnaeth y gwneuthurwr geiniog ar y llwyth allforio hwnnw, a'r realiti yn awr yw na fydd y cwmni'n allforio yn y dyfodol yn ôl pob tebyg. Nawr, mae hwnnw'n ganlyniad difrifol i adael yr Undeb Ewropeaidd, pa un a wnaethoch chi bleidleisio dros hynny ai peidio.

Nawr, rwyf o ddifrif am geisio'r gorau i Gymru yn y cyd-destun newydd hwn, ond jingoistiaeth go anobeithiol yw llawer o'r hyn a glywsom heddiw ac mae Cymru a'r Senedd yn haeddu gwell na hynny.

Y Gweinidog cyfansoddiad i gyfrannu i'r ddadl, Mick Antoniw.

Diolch, Lywydd. Yn y pum mlynedd ers y refferendwm, rydym wedi trafod y canlyniad droeon. Bob tro, rydym wedi dweud yn glir ein bod yn parchu canlyniad y refferendwm hwnnw. Yn wir, rydym yn ei barchu'n fwy na'r Aelodau gyferbyn, oherwydd rydym hefyd yn parchu'r canlyniad ynghyd â'r addewidion a wnaed i ddiogelu Cymru ac economi Cymru. Mae'r Aelodau gyferbyn yn dangos amarch dirmygus tuag at yr addewidion ac ni allaf gofio unrhyw achlysur pan wnaethant sefyll dros Gymru, hyd yn oed pan ddaeth yn hollol amlwg fod yr addewidion hynny'n cael eu torri.

Rydym wedi treulio pum mlynedd yn gweithio mor adeiladol â phosibl, gan ddarparu dadansoddiadau a pholisi'n seiliedig ar dystiolaeth dro ar ôl tro mewn ymgais i wneud beth bynnag y gallem i sicrhau bod y canlyniad a negodwyd gan Lywodraeth y DU yn lliniaru'r difrod economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i Gymru cyn belled ag y bo modd, a thrwyddi draw, rydym wedi bod yn gyson glir fod y cytundeb a negodwyd gan Lywodraeth y DU wedi methu diogelu economi Cymru a gweithwyr Cymru rhag y tryblith economaidd a ragwelwyd gennym drachefn a thrachefn.

Ac eto, gyda Llywodraeth gymwys a gofalgar yn y DU, gallai fod wedi bod mor wahanol. Yn hytrach, rydym wedi cael cytundeb masnach eithriadol o anghymwys, sydd bellach yn bygwth ein sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol, darnio'r DU, a thanseilio heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r effaith ar ein heconomi yn glir: llai o fasnach, fel y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei ragweld, ac o ganlyniad i gytundeb masnach yr UE, bydd allforion a mewnforion tua 15 y cant yn is yn y DU; ergyd i gynhyrchiant hirdymor y DU, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd cynhyrchiant yn gostwng 4 y cant o ganlyniad i'r cytundeb masnach; masnach yn cael ei ddargyfeirio i ffwrdd o'r porthladdoedd yng Nghymru, gyda chyfeintiau masnach yn parhau gryn dipyn o dan y lefelau hanesyddol, wrth i nwyddau gael eu cymell i symud yn uniongyrchol drwy Ogledd Iwerddon i farchnadoedd Prydain.

Goblygiadau mawr i sectorau allweddol yng Nghymru: mae allforion bwyd a diod i'r UE wedi gostwng 47 y cant yn ystod chwarter cyntaf 2021; rhwystrau newydd i fasnachu allforion bwyd môr byw i'n prif farchnadoedd yn Ewrop, sy'n bygwth bodolaeth sectorau cyfan yng Nghymru. Risgiau yn sgil dull Llywodraeth y DU o ymdrin â chytundebau masnach newydd: mae'r cytundeb ag Awstralia yn creu risgiau sylweddol i'r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, a allai wynebu cystadleuaeth yn sgil mewnforion cynyddol gan gynhyrchwyr cig oen a chig eidion Awstralia, nad oes raid iddynt gyrraedd yr un safonau â'n cynhyrchwyr ni mewn meysydd fel lles anifeiliaid. 

Ac fel y buom yn ei drafod yma yr wythnos diwethaf, er gwaethaf yr addewidion a wnaed adeg y refferendwm ac wedi hynny, mae Llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd agenda o ganoli ymosodol ac ymosod ar ddatganoli yng Nghymru, ac nid ydynt hyd yn oed yn cuddio hynny. Yr unig bobl nad ydynt i'w gweld yn ymwybodol ohono yw'r Ceidwadwyr Cymreig.

Gan ddefnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf y farchnad fewnol, pwerau a gynlluniwyd i gipio swyddogaethau sy'n rhan o gymhwysedd y Senedd a Llywodraeth Cymru, maent yn dwyn arian a addawyd i bobl Cymru, arian y mae gennym hawl iddo. Efallai y bydd Cymru'n cael cyn lleied â £10 miliwn drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn ei blwyddyn beilot yn 2021, pan fyddem wedi cael mynediad at o leiaf £375 miliwn bob blwyddyn o fis Ionawr 2021 ar gyfer rhaglenni cronfeydd strwythurol newydd yr UE, ar ben y derbyniadau am ymrwymiadau i brosiectau rydym eisoes wedi'u gwneud drwy raglenni ariannu cyfredol yr UE.

Nid oes unrhyw sylwedd ychwaith i gronfa godi'r gwastad y DU, gydag awdurdodau lleol yng Nghymru yn debygol o gael llai na £450,000 y flwyddyn. Mae'r cronfeydd hyn yn doriad enfawr o'r hyn y gallai Cymru fod wedi disgwyl ei gael, ac maent hefyd yn amlwg yn cipio pwerau, sy'n mynd yn groes i'r hyn a benderfynwyd gan Senedd y DU yn Neddfau Llywodraeth Cymru ac a gymeradwywyd mewn dau refferendwm, rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig i'w gweld yn ei anghofio mor hawdd.

Nid oes amheuaeth fod cyllid cyhoeddus Cymru, ein heconomi a'n setliad datganoli oll wedi'u niweidio'n ddramatig gan ddull gweithredu Llywodraeth y DU ers y refferendwm. Yn wir, mae cynllun honedig Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru—cynllun na ddangoswyd digon o gwrteisi i ymgysylltu ac ymgynghori â Llywodraeth Cymru yn ei gylch—yn dangos y dirmyg llwyr sydd ganddynt tuag at y Senedd hon.

Ac eto, mae'r Ceidwadwyr Cymreig, neu efallai y dylwn ddweud—eu gwir enw yn awr mewn gwirionedd—y Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn parhau i geisio lledaenu'r anwiredd fod Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo pwerau i'r Senedd hon o ganlyniad i Brexit. Mae hynny'n anwiredd, ac maent yn gwybod hynny. Ein pwerau ni oeddent eisoes, wedi'u harfer ar lefel yr UE gyda'n cydsyniad ni, pwerau yr addawyd y byddent y dychwelyd yma'n gyfreithiol ar ôl inni adael yr UE.

Mae'r Torïaid yn cipio pŵer am un rheswm yn unig: er mwyn sicrhau bod ganddynt bwerau yng Nghymru na allant eu caffael drwy'r blwch pleidleisio. Rhaid imi ddweud y byddai Vladimir Putin a Donald Trump yn edmygu'r hyn rydych yn ei wneud yn fawr, oherwydd nid yn unig eich bod yn tanseilio datganoli, rydych yn parhau i danseilio democratiaeth a rheolaeth y gyfraith, a thrwy wneud hynny, rydych wedi cyflymu proses sy'n arwain yn gyflym at chwalu'r DU. Lywydd, nid oes raid iddi fod fel hyn. Gall y Torïaid newid eu ffyrdd a gallant edifarhau a dechrau sefyll dros Gymru. Wedi'r cyfan, mae mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am 99 o bobl gyfiawn nad oes angen iddynt edifarhau.

Lywydd, mae gennym weledigaeth o Gymru gref mewn DU lwyddiannus, mewn undeb wedi'i drawsnewid yn sylweddol, undeb gwirfoddol o genhedloedd, yn seiliedig ar ddiben cyffredin a ffyniant cyffredin, ac sy'n dathlu buddiannau cyffredin a chydsafiad gweithwyr a theuluoedd ledled y DU. Byddwn yn nodi ein gweledigaeth wedi'i diweddaru cyn bo hir, pan fyddwn yn cyhoeddi ail argraffiad 'Diwygio ein hundeb: cyd-lywodraethu yn y DU', ac ar ôl hynny, byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd yn disgrifio'n fanylach y camau y byddwn yn eu cymryd i sefydlu comisiwn cyfansoddiadol newydd i ysgogi trafodaeth ehangach drwy sgwrs gyhoeddus genedlaethol, sgwrs ac ymgysylltiad â phobl Cymru. Byddwn yn ymgysylltu'n eang, ledled Cymru. Rydym am sicrhau bod ein dinasyddion yn cael cyfle i siapio'r ffordd y gwnawn benderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth am faterion sy'n effeithio ar eu bywydau, materion sy'n bwysig iddynt, ac sy'n pennu dyfodol ein perthynas â gwledydd a rhanbarthau'r DU.

Lywydd, mae ein dyfodol ar ôl Brexit, ein cyfansoddiad, ein sofraniaeth, yn perthyn i bobl Cymru a neb arall, a galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth, i weithio gyda ni i hyrwyddo, chwyddo a chyfoethogi'r sgwrs genedlaethol rydym ar fin ei chychwyn. Diolch, Lywydd.

17:35

Diolch, Lywydd. Ac nid oes unrhyw un gyferbyn yn y Blaid Lafur na Phlaid Cymru wedi sôn am bethau cadarnhaol Brexit, ac mae'n drueni. Mae'r Gweinidog yn sôn am danseilio democratiaeth. Nid wyf am gymryd unrhyw bregethau gan Lafur ynglŷn â thanseilio democratiaeth, oherwydd dyna mae eich plaid wedi bod yn ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf.

Bum mlynedd yn ôl i heddiw, heriodd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig y bobl elît, yr academyddion, y sosialwyr siampên a'r proffwydi gwae, yn y DU ac ar draws y byd. Ac fel y mae fy nghyd-Aelodau Ceidwadol wedi dweud, cododd y bobl yn erbyn y sefydliad a phleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel y dywedwyd, dyma'r bleidlais ddemocrataidd fwyaf yn hanes ein gwlad. Ac mae Mr Rhys ab Owen yn sôn am barch—mae'n drueni na all Plaid Cymru barchu ewyllys y Prydeinwyr a'r Cymry. Fel y gwelsom, nid oedd unrhyw ffiniau i brosiect ofn, oherwydd roedd y proffwydi gwae ym mhobman. Dywedwyd wrthym na fyddai gennym fwyd, dim meddyginiaeth, dim mewnforion, dim allforion a byddai ein marchnadoedd stoc yn chwalu. Ac roedd y bobl sy'n eistedd yn y lle hwn yn gwthio'r agenda codi bwganod honno, a bum mlynedd yn ddiweddarach, profwyd bod y bobl a oedd yn proffwydo gwae yn anghywir. Treuliodd llawer o'r bobl a oedd yn eistedd yma, ac ar draws y DU, y pum mlynedd diwethaf yn ceisio atal democratiaeth ac atal ewyllys pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig a bleidleisiodd i adael. Diolch byth, yn 2019, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Darren Miller, fe gymeradwyodd pobl Prydain y Prif Weinidog Ceidwadol, Boris Johnson, a phleidleisio'n gadarn dros y Ceidwadwyr am y tro cyntaf ledled Cymru i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, a mawredd, fe lwyddwyd i gyflawni Brexit.

Mae Llafur yn sôn am ganoli a chipio pŵer. Mae'r Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan am godi'r gwastad drwy Gymru gyfan, a'r broblem yw nad yw'r Ceidwadwyr yn ymddiried yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i godi'r gwastad drwy Gymru gyfan. Bydd yn canolbwyntio ar eich cadarnleoedd Llafur, gan gefnu ar bobl a'u cymunedau am flynyddoedd i ddod.

Ymgyrchais dros adael yr Undeb Ewropeaidd, fel llawer o rai eraill ar y meinciau Ceidwadol hyn ac yn ehangach, gan gredu ein bod yn well ein byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Gareth Davies, roedd ei etholwyr yn dweud bod yr UE yn eu dal yn ôl. Felly, aethom allan yno, a cherdded y strydoedd gyda neges gadarnhaol am Gymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a chymryd rheolaeth ar ein ffiniau, ein harian a'n cyfreithiau, fel y dywedodd Sam Rowlands, yn rhydd o afael comisiynwyr anetholedig sy'n atebol i neb. Rydym ni ar y meinciau Ceidwadol hyn, fel y crybwyllodd Mark Isherwood, yn edrych ymlaen at weledigaeth fyd-eang i Gymru fel rhan o Deyrnas Unedig fyd-eang, gan fanteisio ar y cyfleoedd, cyrraedd marchnadoedd sy'n datblygu a defnyddio ein dylanwad er daioni mewn byd sy'n newid yn barhaus.

Fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelodau, mae Llywodraeth Prydain wedi lansio adran fasnach anhygoel, sydd wedi negodi cytundebau treigl gyda gwledydd ym mhob cwr o'r byd. A sicrhawyd y cytundeb gyda'r UE, y dywedodd llawer ohonoch yn y Siambr hon ac yn ehangach nad oedd yn bosibl, a sicrhaodd hynny biliynau o bunnoedd i'n heconomi. Ond a gawn ni unrhyw ganmoliaeth gan y gwleidyddion gyferbyn? Na chawn.

Siaradodd Delyth Jewell am gyfle a gollwyd. A gadewch inni atgoffa ein hunain: o Grenada i Guatemala, o Japan i Wlad yr Iorddonen, o Canada i Cameroon, mae'r Brydain fyd-eang yn ei hôl, yn helpu ein busnesau i allforio i farchnadoedd sy'n datblygu ledled y byd ac yn tyfu ein heconomi. Nawr yw'r amser i bawb, beth bynnag eich barn, i dderbyn y canlyniad a chroesawu'r newid a'r manteision cadarnhaol y gall Brexit eu cynnig i Gymru. [Torri ar draws.] Mae'n drueni fod Joyce Watson yn dal i rwgnach ei fod yn Brexit Torïaidd. Wel, fe'ch atgoffaf, Joyce, nad Brexit Torïaidd yw hwn, dyma y pleidleisiodd pobl Cymru amdano. Mae Alun Davies yn sôn am anonestrwydd—daw hyn gan ddyn a ddywedodd lai na hanner awr yn ôl fod Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i fuddsoddi yn ei gymuned ond nad yw wedi gwneud hynny. Felly, nid wyf am siarad am anonestrwydd gydag Alun Davies. Rwy'n credu bod angen i chi edrych ychydig yn nes—[Torri ar draws.] Credaf y dylech edrych ychydig yn nes adref, Mr Davies, os ydych am edrych ar anonestrwydd. Bellach mae gan wleidyddion Cymru—[Torri ar draws.] O, Alun, rhowch y gorau iddi. Bellach mae gan wleidyddion Cymru—

17:40

—bwerau newydd eang wedi'u trosglwyddo o'r UE ac rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn credu mai'r rhai a etholir yma yng Nghymru yw'r rhai gorau i benderfynu ar y rheini ar ran y Cymry. Dyna y mae Plaid Cymru am ei gael, felly gobeithio eich bod yn cefnogi hynny. O amaethyddiaeth i chwaraeon i ansawdd aer, o reoli perygl llifogydd i goedwigaeth, mae gan Lywodraeth Cymru arfogaeth bellach i wneud i'r rheoliadau hyn weithio i Gymru a chael gwared ar or-fiwrocratiaeth yr UE er mwyn gwella ein gwlad a bywydau pobl Cymru.

Ni all gwleidyddion, beth bynnag fo'u lliwiau, osgoi'r penderfyniadau anodd na'r dewisiadau polisi mwyach. Ni allwn feio'r UE am eu diffyg gweithredu na'u methiannau. Yn awr, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros ein gweithredoedd ac i gynhyrchu'r canlyniadau y mae pobl Cymru am eu cael. Byddwn wrth fy modd yn dweud bod gennyf fwy o hyder yn y Llywodraeth hon gyda'r pwerau sydd ganddi i wella bywydau pobl Cymru, i hybu cyflogaeth, i dyfu'r economi a gwneud hon yn Gymru sy'n gweithio i bawb, ond nid yw hynny'n wir. Ond rwy'n berson cadarnhaol, Lywydd, a gobeithiaf gael fy argyhoeddi gan y Llywodraeth, ond mae'r incwm sylfaenol cyffredinol arfaethedig, treth dwristiaeth a gwaharddiad ar ffyrdd yn gwneud i mi feddwl tybed beth sy'n dod nesaf. Ac fe wnaf grynhoi, Lywydd.

Mae'n eironig, serch hynny, fod Llywodraeth Lafur sosialaidd Cymru, y cenedlaetholwyr ym Mhlaid Cymru—gyda chefnogaeth yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol mae'n debyg, beth bynnag y maent yn ei gefnogi yr wythnos hon—wedi gwneud eu 'dileu popeth' arferol i'n cynnig ac wedi cyflwyno eu naratif negyddol am Brexit, er i'r rhan fwyaf o'u hetholaethau bleidleisio i adael. Ac Alun Davies, rydych wedi grwgnach yr holl ffordd drwodd, a phleidleisiodd y mwyafrif helaeth yn eich etholaeth dros adael. Unwaith eto, roeddech yn ddigon bodlon i dderbyn y canlyniad pan wnaethant bleidleisio—

Credaf i chi—. Credaf i chi addo i mi eich bod yn dod i ben—

Iawn, fe ddof i ben yn awr, Lywydd. Felly, gadewch inni wneud y gorau o'r bleidlais hanesyddol hon—

—ond wedyn fe benderfynoch chi ymosod ar Alun Davies eto.

—ac adeiladu Cymru—. Gadewch inni adeiladu Cymru y mae pobl ein gwlad yn ei haeddu: Cymru fyd-eang, Cymru gref a ffyniannus, Cymru mewn Prydain gref, fyd-eang, Cymru sy'n cyflawni blaenoriaethau'r bobl. Diolch, Lywydd.

Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais ar hynny tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac fe fyddwn ni nawr—. Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais honno. Toriad byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:44.

17:45

Ailymgynullodd y Senedd am 17:48, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, a'r bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 6 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 6 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

17:50

Gwelliant 2, felly. Pleidlais ar welliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.

Eitem 6 - Gwelliant 2 - cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7716 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.

3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 6 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

8. Dadl Fer: Bargen deg i weithwyr

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, ac fe fyddwn ni felly yn symud ymlaen i'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer gyntaf heddiw i'w chyflwyno gan Jack Sargeant. Felly dwi'n galw ar Jack Sargeant i wneud ei gyflwyniad. Jack Sargeant.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant fel aelod hynod falch o undebau Unite a Community? Lywydd, rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-gadeirydd grŵp Unite yn y Senedd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Sarah Murphy, a hefyd i fy nghyd-Aelodau Carolyn Thomas a Mike Hedges.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld ein cymunedau a'n gweithwyr yn cyd-dynnu i helpu ei gilydd a chadw ein gilydd yn ddiogel, gweithwyr mewn cynifer o feysydd yn gwneud aberth enfawr: yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal, yn ein canolfannau brechu, yn darparu bwyd ac eitemau hanfodol, yn cadw ein cymunedau'n lân a'n cartrefi'n ddiogel a chymaint mwy. Ddirprwy Lywydd, yn y mudiad Llafur, mae gennym air am y cyd-dynnu hwn: rydym yn ei alw'n gydsafiad.

Gwelsom hefyd enghraifft o'r her gyda pheiriannau anadlu yn Airbus a'r partneriaid lleol yn y gadwyn gyflenwi leol: gweithwyr yn rhoi eu bywydau ar stop i newid cynhyrchiant i beiriannau anadlu heb fawr o rybudd. Ni fydd y rhai nad ydynt yn beirianwyr yn deall pa mor anodd yw hynny. Roedd yr hyn a wnaeth y gweithwyr yn wyrthiol ac fe achubodd fywydau. Gwerth chwe mis o gynhyrchiant peiriannau anadlu arferol mewn un diwrnod yn unig. Ac rwy'n ailadrodd hynny: chwe mis o gynhyrchiant peiriannau anadlu arferol mewn un diwrnod yn unig.

Rhaid inni edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf a chydnabod bod angen bargen decach i weithwyr yn y wlad hon ac y dylai Llywodraethau ar y naill ben a'r llall i'r M4 geisio gwobrwyo gweithwyr a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli gyda mwy o lais a mwy o amddiffyniadau. Yn bersonol, rwy'n croesawu'n fawr y gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud i osod partneriaeth gymdeithasol wrth wraidd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

Fel cynrychiolwyr cymunedau gweithgynhyrchu balch yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gwelwn enghreifftiau di-rif o'r gwaith anhygoel y mae undebau llafur—ac yn enwedig stiwardiaid llawr gwaith fel Daz Reynolds o undeb Unite—yn ei wneud dros ein cymunedau. Unwaith eto, roedd y gwaith a wnaed yn Airbus y llynedd gan Daz ac Undeb Unite Cymru ar ddiogelu swyddi yn enghraifft wych o bartneriaeth gymdeithasol ar waith. Camodd yr undebau i mewn a negodi wythnos waith fyrrach, gan achub 360 o swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda.

Gadewch i ni gyferbynnu hynny â'r hyn sy'n digwydd pan nad yw cyflogwyr yn gweithio gydag undebau ac yn ceisio tanseilio eu gweithlu: sgandal ffiaidd diswyddo ac ailgyflogi mewn ymgais i leihau telerau ac amodau gweithwyr gyda bygythiad y cânt eu diswyddo os nad ydynt yn cytuno. Nid oes lle i arferion o'r fath yng Nghymru nac yn unrhyw le arall, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru mor huawdl yr wythnos diwethaf. Ddirprwy Lywydd, mae'r arfer hwn yn wrthun, a dylem i gyd sefyll gyda'r undebau i ddweud bod yn rhaid iddo ddod i ben. Nid yw geiriau'n ddigon, a dylai Llywodraeth Geidwadol y DU roi diwedd ar ddiswyddo ac ailgyflogi ar unwaith. Yn bersonol, nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb mewn codau gwirfoddol; mae angen diogelwch llawn y gyfraith ar weithwyr.

Yng Nghymru mae gennym gyfle i arwain ac adeiladu cydsafiad a thegwch i weithwyr ym mhopeth a wnawn. Mae dwy ffordd o gyflawni hyn: drwy fod Llywodraethau'n ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â phobl ac undebau llafur, a thrwy i bob un ohonom ymuno â'r undeb a sefyll mewn cydsafiad â'n cydweithwyr.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae undebau wedi cyflawni cymaint ar ran gweithwyr: diogelwch yn y gweithle, absenoldeb â thâl, y penwythnos a chymaint mwy, ac mae'n hen bryd inni eu grymuso i sicrhau bargen decach i weithwyr. Diolch yn fawr.

17:55

Ar y dechrau, fe wnaf ddatgan buddiant fel aelod balch o undebau llafur Unite, Unsain, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac Undeb GMB.

Diolch, Jack, am gyflwyno'r ddadl fer hanfodol hon heddiw, ac ategaf bopeth rydych wedi'i ddweud. Ni allai'r sefyllfa fod yn gliriach: nid oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU unrhyw fwriad i sefyll dros y gweithwyr, felly yn eu habsenoldeb rhaid inni ymladd diswyddo ac ailgyflogi â chydsafiad a chywilydd. Cydsafiad â'n gweithwyr ar draws pob sector sy'n wynebu'r dewis gwarthus hwn, gyda'n brodyr a'n chwiorydd yn yr undebau llafur sy'n mynd ar streic ac yn ymladd, a chywilydd, oherwydd mae cywilydd yn ysgogydd pwerus i'r busnesau mawr hyn. Edrychwch ar sut y cafodd British Airways eu cywilyddio i roi'r gorau i'w cynlluniau diswyddo ac ailgyflogi.

Felly, dyna pam y mae angen i fwy ohonom yma heddiw sefyll a dweud, 'Cywilydd arnoch Nwy Prydain, Asda, Sainsbury's drwy Argos, am fygwth diswyddo eich staff os nad ydynt yn derbyn telerau ac amodau gwaeth, a chywilydd arnoch am drin eich staff mor wael a hwythau wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig ac wedi chwyddo eich elw ac wedi leinio pocedi eich cyfranddalwyr. A chywilydd arnoch chi, Lywodraeth y DU, am gefnu ar weithwyr pan allech roi diwedd ar yr arfer o ddiswyddo ac ailgyflogi, ond eich bod yn dewis peidio â gwneud hynny.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am roi munud i mi? Cytunaf â phopeth y mae Jack Sargeant a Sarah Murphy wedi'i ddweud am ddiswyddo ac ailgyflogi, ond nid wyf am ailadrodd hynny. Rwy'n mynd i symud ymlaen at bwnc arall yn ymwneud â'r modd y mae gweithwyr yn cael eu trin mor wael, sef cyflogau.

Cyflwynwyd yr isafswm cyflog dros 20 mlynedd yn ôl, ond rydym bellach wedi cyrraedd y cam lle dylem fod yn deddfu ar gyfer y cyflog byw go iawn. Mae'r cyflog byw go iawn yn seiliedig ar gostau byw ac ar hyn o bryd mae'n cael ei dalu'n wirfoddol gan dros 7,000 o gyflogwyr. Ym mis Ebrill 2016, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol gyfradd isafswm cyflog uwch ar gyfer yr holl staff dros 25 oed, a'i gamenwi'n gyflog byw cenedlaethol. Mae'n llawer o bethau, ond nid yw'n gyflog byw.

Nid yw'r isafswm cyflog yn cael ei gyfrifo yn ôl yr hyn sydd ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw. Mae'n seiliedig ar gyrraedd 66 y cant o'r canolrif enillion erbyn 2024. Ar hyn o bryd mae dros £1 yr awr yn llai na'r cyflog byw go iawn. Beth y mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu, i rywun sy'n gweithio 40 awr, eu bod yn cael £40 yn llai, ac i lawer ohonynt, dyna eu bil bwyd am yr wythnos. A chredaf mai dyna'r pwynt i bobl: mae llawer o bobl yn gweithio amser llawn ac yn dal i fyw mewn tlodi. Ni ddylai pobl fod yn byw mewn tlodi pan fyddant yn gweithio amser llawn. Rhaid inni gael cyflog byw go iawn i bobl, ac nid yw gostwng cyflogau a thalu'r isafswm cyflog i bawb yn gwneud dim i wella cynhyrchiant pobl, ac nid yw'n gwneud dim i fywydau pobl.

Diolch i Jack am gyflwyno'r ddadl hon yn y Senedd, ac am bopeth y mae'n ei wneud i gefnogi gweithwyr a diwydiant yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn fy mhrofiad personol fel postmon, gwelais sut y mae'r ymgyrch i hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn ein gorfodi i dderbyn oriau gwaith afrealistig. Ymladdodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn llwyddiannus yn erbyn masnachfreinio ein brand a chyflogau is i ddechreuwyr newydd a fyddai wedi creu gweithlu dwy haen, ond mae'r cyflogwr yn dal ati i ymosod ar yr enillion hyn. Fel y mae, mae pob contract newydd yn rhan-amser, ond disgwylir i chi weithio amser llawn, sy'n golygu nad yw'r gweithlu'n cael gwyliau llawn, hawl pensiwn na thâl salwch llawn, ac ni all ymrwymo i swydd ran-amser arall i sicrhau cyflogaeth amser llawn. Mae preifateiddio, cystadleurwydd a pholisïau Llywodraeth y DU wedi gwthio safonau cyflogaeth a chyflogau i lefel is nag erioed a ras i'r gwaelod. Rhowch dâl teg i weithwyr am waith teg, a thyfu'r economi yn y ffordd honno. Diolch.

18:00

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Hannah Blythyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod a fy nghymydog etholaethol Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon yn y Senedd heddiw. Fel rhywun sydd wedi treulio'r mwyafrif helaeth o'i bywyd gwaith yn gweithio am well bargen yn y gwaith, mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac rwy'n rhannu eich ymrwymiad i gael bargen well i weithwyr. Rwyf am i bob gweithiwr yng Nghymru gael eu trin yn deg a chyda pharch, fel y dylai fod. Hefyd, llongyfarchiadau i chi a Sarah Murphy ar ddod yn gyd-gadeiryddion grŵp Unite yn y Senedd yma, gan fy nilyn i a'r Dirprwy Lywydd hefyd. 

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw, oherwydd fel y clywsom, mae'r materion hyn yn effeithio ar fywydau beunyddiol a bywoliaeth pobl ar hyd a lled Cymru. Ac roedd Jack Sargeant yn iawn i siarad am enghraifft Airbus, lle'r oedd yn talu teyrnged ac yn dyst i'r hyn sy'n digwydd pan fydd yr undebau llafur yn cydweithio â'r cyflogwyr, ac yn gwneud penderfyniad beiddgar a dewr. Gwn fod llawer o glod i waith Daz Reynolds a'r tîm yn Airbus am wneud hynny, a'r gwaith i ni yn gyffredinol wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

Fe wyddoch fod cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn gyrru popeth a wnawn fel Llywodraeth, ac mae gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol yn ganolog i hynny. Mae gwaith diogel a gwerth chweil o fudd i weithwyr ac i gyflogwyr hefyd. Gwyddom fod bargen well i weithwyr yn gwneud gwahaniaeth o ran gwneud gweithleoedd yn well, ac mae'n mynd lawer ymhellach ac yn llawer mwy sylfaenol i wead gwlad ac adferiad cryfach, gwell a thecach. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi ymrwymo i weithio tuag at waith teg yng Nghymru, gan gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau a bywoliaeth pobl.

Er bod hawliau cyflogaeth, fel y clywsom, yn parhau i fod wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull a phŵer sydd ar gael i ni i sicrhau canlyniadau gwaith teg, gan ddefnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol a phŵer y pwrs cyhoeddus i wella arferion, diwylliant ac ymddygiad gwaith. Bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus drafft yn rhoi partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru ar sail ffurfiol. Bydd yn cryfhau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, a bydd yn gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus penodol. Bydd hefyd yn gosod dyletswydd gwaith teg ar Weinidogion Cymru.

Ond wrth gwrs, er ei fod yn gam sylweddol ymlaen i ni, nid y Bil yw ein hunig ddull o sicrhau newid. Rwyf am i'r Llywodraeth newydd hon yng Nghymru symud yn gyflym i weithredu'r agenda bolisi uchelgeisiol a nodir yn adroddiad 'Gwaith Teg Cymru'. Ac rydym wedi dechrau hynny gydag ymgyrch hawliau a chyfrifoldebau'r gweithlu gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o hawliau yn y gweithle ac arweiniad ar gymorth. Rydym hefyd wedi sefydlu fforwm gwaith teg a gweithgorau cysylltiedig ar gyfer gofal cymdeithasol, i geisio gwella amodau gwaith ym maes gofal cymdeithasol, a fydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig yn y broses o wireddu ein haddewid i dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Soniodd Mike Hedges am bwysigrwydd gwthio'r cyflog byw go iawn, wedi cynifer o flynyddoedd ar ôl cyflwyno'r isafswm cyflog—20 mlynedd ar ôl i'r ymgyrch dros gyflog byw ddechrau mewn gwirionedd. I mi, nid yw'n feincnod, mae'n llinell sylfaen, a dylid gosod cyflog byw go iawn o amgylch telerau ac amodau eraill, a'r cyfle i gamu ymlaen yn y gwaith. 

Rydym hefyd wedi sefydlu fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol, sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth o bartneriaid i wella'r dull o ymdrin ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, yn enwedig yng nghyd-destun y pandemig COVID. Bydd y Llywodraeth hon hefyd yn pwyso am ddatganoli'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy'n cael ei danariannu mewn ffordd a fydd yn gweithio i weithwyr a gweithleoedd yng Nghymru. 

Ddirprwy Lywydd, rydym yn gweithio i gefnogi llawr gwaith teg mewn perthynas â hawliau statudol ac amddiffyniadau, ac rydym yn ymdrechu i godi'r terfyn gwaith teg drwy symud y tu hwnt i'r sy'n ofynnol yn gyfreithiol. Wrth gefnogi llawr gwaith teg, rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddiogelu rhag llithro'n ôl ar hawliau gweithwyr, ac i alw am welliant mewn rhai meysydd, gan godi gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a llwybrau cymorth, cyngor ac unioni camweddau lle na chydymffurfiwyd â hawliau, ac adfywio ac atgyfnerthu cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol cadwyni cyflenwi, a gwella ei effaith.

Wrth edrych ar y terfyn gwaith teg, rydym yn defnyddio'r pwrs cyhoeddus i annog arferion da a gwrthsefyll arferion gwael, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu fel arweinydd a model rôl ar gyfer yr ymddygiad a'r arferion rydym am eu gweld gan eraill ac yn bwysig, gwella mynediad at undebau llafur ac annog ehangu cydfargeinio.

Rydym wedi clywed llawer heddiw am ddiswyddo ac ailgyflogi—arfer niweidiol y mae angen deddfu yn ei erbyn. Mae angen i Lywodraeth y DU gadw at yr ymrwymiad a roddodd i gynnal hawliau gweithwyr a byddwn yn parhau i'w dwyn i gyfrif, oherwydd gwyddom nad yw ras i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr o unrhyw fudd i weithwyr, busnesau na'r economi ehangach. Wyddoch chi, daeth diswyddo ac ailgyflogi i ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy ymgyrch y GMB yn Nwy Prydain ac ymgyrch Unite yn British Airways wedyn, ac mae gwir angen i'r realiti gyd-fynd â'r rhethreg gan Lywodraeth y DU ar arferion fel hyn; nid yw gofyn i'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu ddatrys a chynhyrchu canllawiau newydd, fel y maent wedi'i wneud, yn mynd yn ddigon pell i ddiogelu gweithwyr rhag gweithredu o'r fath.

Mewn cyferbyniad, gwyddom fod y cyflogwyr gorau yn darparu gwaith teg ac yn cydnabod manteision gwneud hynny iddynt hwy. Dyna'r ymddygiad rydym am ei sefydlu a'i ledaenu yma yng Nghymru fel ein bod yn adeiladu'n ôl yn well, yn gryfach ac yn decach. Byddwn yn gweithio gyda'n cyflogwyr a'n hundebau llafur i hyrwyddo gwaith teg a manteision partneriaeth gymdeithasol, gan sicrhau bargen deg i weithwyr a gwneud y gweithle yn lle gwell i bawb. Diolch. 

18:05
9. Dadl Fer: Dileu'r clafr yng Nghymru: yr angen parhaus i gael cynllun cryf ar waith i ddileu'r clafr yng Nghymru

Eitem 9. Symudaf yn awr at ail ddadl fer heddiw, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddi hi. Janet Finch-Saunders.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud yr un i Samuel Kurtz, Sam Rowlands a James Evans gyfrannu at y ddadl bwysig hon.

Nawr, fe ŵyr y Gweinidog, ac efallai nad yw'r Aelodau o'r Senedd hon yn ymwybodol iawn o hynny, fod y clafr yn glefyd heintus a llechwraidd iawn sy'n effeithio ar les anifeiliaid ac yn arwain at golledion economaidd. Fel y gwyddoch efallai, mae'n cael ei sbarduno gan widdon sy'n byw ar groen y ddafad, gan achosi briwiau, cosi difrifol, colli gwlân, a cholli cynhyrchiant yn y pen draw. Gall un gwiddonyn arwain yn y pen draw at haint sy'n ymledu drwy ddiadell a hefyd i ddiadelloedd cyfagos. Bydd defaid heintiedig yn dioddef o brwritis difrifol y byddant yn ceisio ei liniaru drwy grafu i'r pwynt lle byddant yn anwybyddu unrhyw weithgarwch arall tra'n achosi hunan-niwed sylweddol. Gall methu trin yr haint yn briodol achosi colledion economaidd difrifol yn sgil dirywiad cyflym yng nghyflwr y corff, pwysau geni isel, cyfradd farwolaethau uwch ymhlith ŵyn o famogiaid heintus ac israddio neu gondemnio carcasau adeg eu lladd. 

Mae difrifoldeb y sefyllfa'n glir iawn wrth ystyried bod astudiaeth yn 2010 wedi nodi bod 36 y cant o ffermydd defaid Cymru wedi cael achosion yn ystod y pum mlynedd blaenorol. Cofnodwyd achosion o'r clafr ar 15.8 y cant o ffermydd Cymru yn 2015, ac amcangyfrifir y gallai cost y clefyd i'r diwydiant yng Nghymru fod yn fwy na £5 miliwn y flwyddyn. Felly, mae angen inni fynd i'r afael â'r clefyd yn y wlad hon, oherwydd os na wnawn hynny, bydd goblygiadau difrifol i les a chynhyrchiant yn parhau. Nawr, mae ADAS wedi ystyried cost oedi cyn cael diagnosis a thriniaethau aflwyddiannus ac amhriodol, a'r golled gysylltiedig mewn cynhyrchiant. Canfuwyd bod colledion cynhyrchiant oddeutu £20 y famog. Ar gyfer diadell o 500, barnwyd bod costau achosion o gamddiagnosis ac achosion heb eu trin yn dda oddeutu £10,000. Mae'r ddiadell gyfartalog yng Nghymru yn 700 o ddefaid, sy'n golygu bod y golled amcangyfrifedig i gynhyrchiant oddeutu £14,000.

Dibynna'r triniaethau presennol ar gyfer plâu'r clafr naill ai ar feddyginiaethau i'w chwistrellu i ladd parasitiaid yn seiliedig ar lactonau macrogylchig—MLs—neu ddipiau organoffosffad. Nawr, bydd defnyddio'r cynhyrchion hyn i wrthsefyll haint y clafr yn arwain at gyfnodau hir ac anghyfleus o gadw cig o'r gadwyn fwyd. Felly, rhaid cael nod terfynol yma yng Nghymru i ddileu'r clafr, ac mae modd gwneud hynny. Mae Norwy, Sweden ac UDA wedi dileu'r clafr. Yn wir, roedd rhaglenni dileu blaenorol y DU yn llwyddiannus; llwyddwyd i'w ddileu yma yn 1952 a bu'r DU yn rhydd o'r clafr nes iddo gael ei ailgyflwyno o Iwerddon ym 1973. Felly, rwy'n credu, ac rwy'n eithaf hyderus, y gall Cymru, gyda'r gefnogaeth gywir gan Lywodraeth Cymru, sicrhau'r canlyniad a ddymunir unwaith eto. Yn wir, credaf fod hwn yn faes prin o bolisi amaethyddol y gallem gytuno arno mewn gwirionedd, Weinidog. Yn wir, rwy'n croesawu'r ffaith bod Cyswllt Ffermio wedi datgan y canlynol:

'Yr ateb gorau yn y tymor hir i drin y clafr yw cael gwared ar y clefyd o Gymru a gweddill Prydain. Y gobaith gorau sydd gennym o gyflawni hyn yw os bydd ffermwyr yn cydweithio i daclo’r afiechyd.'

Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol o'r adroddiad, 'Ffermwyr yn cydweithio i drechu clafr', a'r camau y mae ffermwyr mewn rhai ardaloedd yn eu cymryd i wella lefelau bioddiogelwch ffermydd, megis cynnal ffensys a chwilio am fylchau, mannau rhwbio a rennir, ffensys dwbl lle bo'n bosibl, a chydgysylltu triniaethau gyda ffermwyr cyfagos. Fodd bynnag, mae'r prosiect hwnnw i fod i ddod i ben eleni. Yn yr un modd, daeth y mesur dros dro lle câi samplau croen o ddefaid sy'n dangos arwyddion clinigol tybiedig o'r clafr eu harchwilio'n rhad ac am ddim i ben ar 31 Mawrth 2021. Felly, mae angen gweithredu yn awr, ac mae gennych rôl allweddol i'w chwarae yn hyn, Weinidog.

Yn 2019, ym mis Ionawr, fe wnaethoch ymrwymo £5 miliwn o gyllid rhaglen datblygu gwledig Cymru ar gyfer dileu'r clafr. Felly, nid fi yw'r unig un sy'n siomedig iawn nad yw hwn wedi cyrraedd y diwydiant o hyd. Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd ar y mater yng nghynhadledd NFU Cymru ym mis Tachwedd 2020, fe wnaethoch gydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi menter y diwydiant. Er ichi egluro eich bod wedi gorfod gohirio'r miliynau hyn—£5 miliwn—oherwydd COVID-19, deallaf ichi roi sicrwydd fod y cynllun ar frig eich blaenoriaethau wrth edrych ar ddyraniadau'r gyllideb yn y dyfodol. Fodd bynnag, erbyn 15 Mawrth 2021—dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach—rydych wedi cyfyngu ar eich ymrwymiad, fel yr ysgrifennoch chi at Bwyllgor yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gan ddweud,

'Ein bwriad o hyd yw bwrw ymlaen â'r gofyniad wrth ystyried Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yn y dyfodol, ond ni allwn roi unrhyw sicrwydd ynglŷn â'r posibilrwydd o gyllid newydd a phenodol ar hyn o bryd'.

Cyn hynny, roedd y prosiect a arweiniwyd gan y diwydiant i helpu i ddileu'r clefyd ar ffermydd wedi cyrraedd y cam o ddewis cais da yn mynegi diddordeb i'w ddatblygu. Fel rydych wedi dweud eich hun, Weinidog, nid yw gwneud dim yn opsiwn. Felly, mae'n hanfodol bwysig fod cyllid ar gael ac na chaiff ei ailgyfeirio y tro hwn. Yn wir, rwy'n cytuno ag NFU Cymru y gellid dyrannu'r £5 miliwn o gronfeydd na chânt eu gwario ar hyn o bryd o Gynllun Datblygu Gwledig yr UE Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio clywed ymrwymiad gennych heddiw y byddwch yn gwneud hyn. Po arafaf y gweithredwch, yr hwyaf y bydd Cymru'n wynebu'r broblem a nodwyd gan grŵp y clafr yng Nghymru yn 2018—dim dileu yn rhannol oherwydd diffyg cyllid, strategaethau niferus sy'n cystadlu, a diffyg cydgysylltiad.

Mae'n bryd ailflaenoriaethu'r ymateb i'r clafr fel y gall Cymru gyflawni'r gwaith o gyflwyno'r strategaeth a ddatblygwyd gan ffermwyr, milfeddygon ac arbenigwyr technegol, er mwyn lleihau effaith llawer o'r problemau a ganfuwyd mewn rhaglenni blaenorol a gwella lefelau uchel o les yn y diwydiant defaid yng Nghymru. Mae angen inni ddarparu manteision economaidd sylweddol i ffermydd unigol a'r diwydiant cyfan. Mae angen inni wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, lleihau nifer yr achosion o'r clefyd heb unrhyw fesurau deddfwriaethol, ac mae angen inni weld pum amcan fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn cael eu cyflawni.

Weinidog, Aelodau o'r Senedd, mae ein ffermwyr ledled Cymru yn dioddef yn fawr ar hyn o bryd. Maent yn teimlo'n siomedig iawn am y parthau perygl nitradau. [Torri ar draws.] Nid yw'n fater i chwerthin yn ei gylch. Teimlant—

18:10
Member
Lesley Griffiths 18:13:47
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Nac ydy.

Y peth yw, maent yn teimlo'n siomedig iawn am y parthau perygl nitradau, maent yn teimlo'n siomedig iawn am eich agwedd at TB mewn gwartheg a'ch bod heb wrando ar wyddoniaeth y milfeddygon. Weinidog, dyma gyfle yn awr i chi weithio gyda'r ffermwyr. Gadewch i bawb geisio dileu'r clafr, ac os gwelwch yn dda, rhyddhewch y £5 miliwn rydych wedi'i addo iddynt. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am sicrhau'r ddadl bwysig hon ar y clafr, ac rwyf bob amser yn croesawu gweithgarwch yn y lle hwn sy'n tynnu sylw at yr anawsterau y mae ffermwyr Cymru yn eu hwynebu wrth iddynt fwydo'r genedl.

Gwnaeth rhaglen ddiweddar Amazon Prime Clarkson's Farm waith ardderchog hefyd yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, wrth iddi ddilyn y newyddiadurwr a'r cyflwynydd teledu, Jeremy Clarkson, wrth iddo sefydlu a rhedeg ei fferm 1,000 erw dros gyfnod o 12 mis. Bydd gwylwyr y rhaglen yn gwybod am y gofid a deimlai Jeremy Clarkson pan gafodd tair o'i famogiaid eu taro gan fastitis a chawsant eu cludo i'r lladd-dy, a'r tristwch a deimlai pan fu un o'i hyrddod farw'n sydyn ac annisgwyl oherwydd cwlwm perfedd. Mae ffermwyr yn poeni'n fawr am eu diadell. Mae'r clafr, ynghyd â mastitis a chwlwm perfedd, yn anhawster arall y mae ffermwyr defaid yn ei wynebu wrth geisio cadw eu diadell yn iach. Rwy'n ddiolchgar i Janet am godi'r mater pwysig hwn, a hefyd i Jeremy Clarkson am dynnu sylw at fywyd y ffermwr mewn ffordd gignoeth a difyr. Diolch.

18:15

Diolch am fy ngalw, Mr Dirprwy Lywydd. Diolch i Ms Finch-Saunders am godi'r pwnc pwysig hwn y prynhawn yma. Fel rhywun sy'n treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd gwaith y tu ôl i sgrin gyfrifiadurol mewn swyddfa, nid wyf yn mynd i sefyll yma ac esgus fy mod yn gwybod yn fanwl am y clafr. Ond yn sicr fe'm trawyd gan gyfeiriadau a wnaeth Ms Finch-Saunders at y cyllid a ddyrannwyd, nad yw'n ymddangos ei fod wedi'i ddarparu hyd yn hyn. Felly, rwyf am sefyll yma y prynhawn yma a chefnogi'r galwadau i'r cyllid hwnnw gael ei ddarparu i'r sector cyn gynted ag sy'n bosibl. Fel y dywedais, fel rhywun nad yw'n gwybod llawer am y clefyd ei hun, yn sicr mae clywed amdano a'r effeithiau y mae'n eu cael ar ein ffermwyr ac ar les anifeiliaid hefyd—mae'n hen bryd iddo gael ei ddileu yma yng Nghymru. Ac os gellir rhyddhau'r arian cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu i'n ffermwyr weithio yn y ffordd orau bosibl, er lles eu bywoliaeth, ac er lles yr anifeiliaid eu hunain hefyd, byddaf yn sicr yn cefnogi hynny heddiw. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am godi'r pwnc pwysig hwn heddiw yn y Siambr. Y clafr yw un o'r problemau iechyd mwyaf sy'n wynebu ffermydd defaid yn fy etholaeth. Fel ffermwr fy hun, rwyf wedi chwistrellu ivermectin i mewn i ddefaid ac rwyf hefyd wedi dipio. Rwyf hefyd wedi cael pigiad ivermectin yn fy mys fy hun. Felly, gwn yn union beth sydd ei angen i drin y clafr yn gyflym. Oherwydd heb driniaeth briodol, gall pobl wynebu colled economaidd ddifrifol i'r busnes a phroblemau lles i'r defaid yr effeithir arnynt. Mae'r Gweinidog yn gwybod bod hwn yn bwnc y mae gennyf gryn dipyn o ddiddordeb ynddo, oherwydd mae hi a minnau wedi cyfarfod mewn bywyd blaenorol i drafod hyn.

Mae yna atebion i'r broblem. Yn yr Alban, mae'r clafr yn glefyd hysbysadwy. Efallai fod hyn yn rhywbeth y byddai'r Gweinidog yn ei ystyried, a gorfodaeth i glirio tir comin yn flynyddol i drin defaid ar gyfer y clafr er mwyn sicrhau, cyn iddynt ddychwelyd i'r tir comin, nad ydynt yn mynd ag unrhyw haint yn ôl gyda hwy. Rwy'n credu y byddai hefyd yn helpu pe bai Llywodraeth Cymru yn cadw mwy o wyliadwriaeth ar y clefyd, ac yn ystyried y defnydd o brofion gwaed i gadw golwg ar y diadelloedd sy'n defnyddio tir comin, oherwydd mae'n bosibl defnyddio profion gwaed i ganfod y gwrthgyrff a allai fod gan ddefaid a ddaeth i gysylltiad â'r clafr cyn iddynt ddatblygu arwyddion clinigol o'r clefyd.

Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y pwyntiau hyn. Fel y gŵyr, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda hi i fynd i'r afael â'r broblem hon, oherwydd mae'n effeithio ar ein fferm ein hunain ac mae'n hunllef o glefyd. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 18:18:13
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cytunaf yn llwyr â Janet Finch-Saunders; nid yw'n fater i chwerthin yn ei gylch o gwbl. Y clafr yw un o'r clefydau defaid mwyaf heintus yng Nghymru, ac mae'n her anodd iawn i'n diwydiant defaid. Mae dileu'r clefyd yn bwysig nid yn unig i mi ond i bawb sy'n poeni am iechyd a lles ein diadell genedlaethol. Gall anifeiliaid yr effeithir arnynt ddioddef yn fawr ac mae'r clefyd hwn yn fygythiad mawr i les defaid. Amcangyfrifodd prifysgol Bryste, mewn astudiaeth ddiweddar, fod y clafr yn costio rhwng £78 miliwn a £202 miliwn i'r diwydiant yn y DU bob blwyddyn mewn colledion i gynhyrchiant a chostau triniaeth.

Felly, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i'r diwydiant weithio mewn partneriaeth a rhannu'r cyfrifoldeb o ddileu'r clafr o Gymru gyda'r Llywodraeth a'r grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid, sydd wedi cydnabod y mater hwn ers tro byd ac wedi ei wneud yn flaenoriaeth. Dywed Janet Finch-Saunders fod angen i ffermwyr fabwysiadu agwedd gydweithredol at y clefyd, ac yna mae'n ymddangos bod pob Aelod sydd wedi cyfrannu yn rhoi'r cyfrifoldeb i gyd ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cael profion am ddim, cynhaliwyd cynllun peilot gennym dros y gaeaf, ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant mewn perthynas â'r clafr. Mae ceidwaid ein 9.5 miliwn o famogiaid ac ŵyn yng Nghymru yn dibynnu ar gael pawb i weithio gyda'n gilydd os ydym am drechu'r clefyd hwn. 

Yma yng Nghymru, eir i'r afael â'r clefyd drwy fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, a hoffwn atgoffa'r Aelodau o'i nodau, yr effeithir ar bob un ohonynt gan y clafr. Mae gan Gymru anifeiliaid cynhyrchiol ac iach. Mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da. Mae pobl yn ymddiried yn y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu ac maent yn hyderus yn ei chylch. Mae gan Gymru economi wledig ffyniannus ac mae gan Gymru amgylchedd o ansawdd uchel. Byddaf yn dychwelyd at y nodau hyn gan eu bod yn ymwneud yn sylfaenol â'r clafr. Mae ein fframwaith hefyd yn nodi egwyddorion allweddol ynghylch y ffordd y cyflawnir y nodau hyn. Maent yn arbennig o berthnasol i reoli a dileu'r clafr yn effeithiol, felly hoffwn ganolbwyntio arnynt.

Yn gyntaf, yr egwyddor fod atal yn well na gwella, ac mae hyn yn golygu bod gan y rhai sy'n cadw defaid gyfrifoldeb i arfer bioddiogelwch da a'u hatal rhag cael eu heintio â gwiddon y clafr. Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr defaid yng Nghymru yn gwneud hynny wrth gwrs fel rhan o'r broses o gynllunio iechyd gyda'u milfeddyg, ond caiff rhai o'u hymdrechion eu peryglu gan leiafrif bach nad ydynt yn gwneud hynny. Mae cynnal ffiniau diogel, ymchwilio i statws iechyd cyn prynu, cwarantin i ddefaid sydd newydd eu prynu i mewn a defnyddio mesurau ataliol rheolaidd yn hollbwysig i atal lledaeniad y clafr.

Yr ail egwyddor yw deall a derbyn rolau a chyfrifoldebau. Ar gyfer y clafr, mae hyn yn golygu bod pob ceidwad defaid yn cydnabod eu cyfrifoldeb i sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu cadw'n rhydd o'r clafr. Mae ganddynt ddyletswydd i roi gwybod i awdurdodau lleol am achosion o'r clafr ar eu fferm a ffermydd eraill a'i drin ar unwaith ac yn effeithiol os yw'n digwydd.

Y drydedd egwyddor yw gweithio mewn partneriaeth, ac er mai cyfrifoldeb ffermwyr defaid unigol a'r diwydiant defaid ehangach yw'r clafr yn bennaf, mae'n flaenoriaeth i'n grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid ac mae hyn wedi arwain at gymorth defnyddiol, gan gynnwys cymorth ariannol, i sicrhau gwell rheolaeth. Comisiynodd ein grŵp fframwaith astudiaeth gan Brifysgol Bryste yn 2018 i bennu pa mor gyffredin yw'r clefyd yng Nghymru. Dywedodd 16 y cant o ffermwyr Cymru a ymatebodd i arolwg yr astudiaeth fod eu defaid wedi cael y clafr yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, gall adroddiadau diweddar am ymwrthedd i'r driniaeth chwistrellu ar ffermydd Cymru ddadsefydlogi'r patrwm hwn yn y dyfodol.

Mewn cydweithrediad â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, rydym hefyd wedi ariannu dau gyfnod o brofion am ddim ar gyfer y clafr i ffermwyr defaid yng Nghymru sy'n amau y gallai eu defaid fod wedi eu heintio. Mae'r rhain wedi bod yn hynod lwyddiannus yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cael diagnosis cywir er mwyn ysgogi triniaeth effeithiol. Rydym hefyd wedi noddi prosiect peilot prawf o gysyniad i weithredu ffyrdd newydd ac arloesol o reoli'r clafr. Galluogodd y prosiect grwpiau rheoli clefydau lleol i berchnogi achosion pan fyddent yn digwydd a grymuso ceidwaid defaid i weithio gyda'i gilydd i ddileu'r clefyd yn yr ardal.

Treialodd y prosiect y defnydd o brawf diagnosteg gwaed arloesol ELISA i ganfod y clafr mewn diadelloedd cyfagos lle ceir risg o ddal y clefyd, a chyda'r agenda 'iechyd cyfunol' mewn golwg, triniaeth sy'n ystyriol o'r amgylchedd drwy ddefnyddio unedau dipio symudol i drin diadelloedd yr effeithir arnynt yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae'r triniaethau ar gyfer y clafr bellach yn gyfyngedig iawn ac mae'n rhaid eu defnyddio'n briodol os ydynt am barhau'n effeithiol. Mae defnyddio unedau dipio symudol proffesiynol yn ffordd effeithiol o drin y clefyd heb y risg o niwed amgylcheddol a straeniau sydd ag ymwrthedd mewn gwiddon.

Gan ddychwelyd at nodau ein fframwaith, mae'n hanfodol rheoli'r clafr yn effeithiol, ar raddfa leol a chenedlaethol. Rhaid i ddefaid fod yn rhydd o'r clafr i fod yn gynhyrchiol ac i gael ansawdd bywyd da. Rhaid i'n diwydiant ryddhau ei hun o gost y clefyd, ac mae angen ei reoli er mwyn i ddefnyddwyr fod â hyder mewn cig oen o Gymru. Rhaid rhoi triniaethau'n gywir er mwyn diogelu ein hamgylchedd. Nid yw dileu'r clafr yn llai uchelgeisiol o fod wedi'i osod yn erbyn tirwedd ansicr. Fodd bynnag, byddwn yn parhau â'n ffocws diwyro ar wneud gwelliannau i safonau iechyd a lles ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru. Mae ein hegwyddor graidd—fod atal yn well na gwella—yn ganolog i'n gwaith wrth inni hyrwyddo cynlluniau iechyd anifeiliaid gweithredol a'r manteision sylweddol y gallant eu cynnig i fusnesau fferm unigol a'r diwydiant ehangach yng Nghymru. Diolch. 

18:20

Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Siwrnai ddiogel adref, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:24.