Y Cyfarfod Llawn
Plenary
22/06/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. [Torri ar draws.] Os caf i ychydig o dawelwch gan Blaid Cymru, fe gaf i gario mlaen. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i bawb sydd ar Zoom ag i'r rhai sy'n Aelodau yn y Siambr.
Felly, yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56667
Diolchaf i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn yna. Mae cyfyngiadau yn y de-ddwyrain yn parhau i adlewyrchu cyflwr yr her iechyd cyhoeddus yn sgil y coronafeirws. Yr amrywiolyn delta yw'r ffurf amlycaf bellach ar draws y de-ddwyrain. Tasg yr wythnosau i ddod fydd blaenoriaethu rhyddid y misoedd diwethaf yr ydym ni wedi gweithio'n galed i'w gyflawni.
Rwyf i wedi cael cwestiwn trwy Facebook gan Rhian Jay, sy'n codi'r mater ynghylch ap brechu'r GIG, a'r hyn y mae'n ei ddweud yw:
'A oes unrhyw syniad o bryd y bydd ap brechu GIG Cymru yn cael ei lansio os gwelwch yn dda? Rwy'n mynd i ddigwyddiad lle mae angen prawf arna i fy mod i wedi cael y ddau frechiad. Ar ôl codi hyn gyda'r bwrdd iechyd, fe wnaethon nhw ddweud y gallwch chi wneud cais am dystysgrif yn ysgrifenedig neu dros y ffôn, ac fe allwch gael tystysgrif, ond yn Lloegr gallwch chi gael y brechiad drwy'r ap.'
Dywed Rhian ei bod hi wedi ffonio fore heddiw yn gofyn am dystysgrif, ond ei barn hi yw ei bod yn broses hynaflyd ac araf o'i chymharu â'r broses yn Lloegr, a'i chwestiwn hi yw pryd byddwn ni'n gweld yr ap yng Nghymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw ryw pedair wythnos y tu ôl i Loegr cyn ei lansio, ond mae hynny tua nawr. Felly, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny os gwelwch yn dda?
Diolch, Llywydd. Wel, mae'n wir, am resymau technegol sy'n ymwneud yn bennaf ag ad-drefnu'r ateb yn Lloegr i fodloni gofynion Cymru, nad oedd yn bosibl lansio'r ap yng Nghymru ar yr un pryd ag y cafodd ei lansio yn GIG Lloegr. Nid wyf i'n cytuno bod yr ateb sydd wedi bod ar waith yng Nghymru yn ystod y pedair wythnos diwethaf yn hynaflyd. Mae dros 10,000 o bobl wedi cael tystysgrifau drwy'r ffordd honno o wneud pethau, ac o ganlyniad i waith caled iawn y tîm ym mwrdd iechyd bae Abertawe y mae hynny wedi bod yn bosibl. Pan fydd system Lloegr yn llwyddo i wneud ei gwaith, ac i sicrhau y gall pobl Cymru ei defnyddio, mae arnaf i ofn, Llywydd, na fydd ar gael yn Gymraeg. Er gwaethaf ceisiadau mynych i Lywodraeth y DU barchu'r gyfraith yma yng Nghymru, maen nhw'n dweud wrthym na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny am sawl mis arall, ond, o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf, rydym ni yn rhagweld y bydd yn bosibl i ddinasyddion Cymru ddefnyddio'r un ateb, er nad yw hynny drwy'r ap ond drwy borth gwefan. Bydd y daith wedi hynny yn union yr un fath â'r ap a bydd pobl Cymru yn gallu ei defnyddio mewn amser real yn y ffordd y mae system Lloegr wedi bod ar gael yn Lloegr ers 17 Mai.
Prif Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru yn datgelu'r gwrthgyferbyniad llwyr rhwng nifer yr achosion mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae'r ffigurau'n amrywio o 91.3 o achosion ym mhob 100,000 o bobl yng Nghonwy, 77.3 yn sir Ddinbych a 73.7 yn sir y Fflint i ddim ond 6.6 ym Merthyr Tudful a 7.2 ym Mlaenau Gwent. O ystyried y gwahaniaethau rhanbarthol hyn, a wnewch chi, Prif Weinidog, egluro ymagwedd eich Llywodraeth tuag at gyfyngiadau symud lleol, ac ai eich polisi o hyd yw codi cyfyngiadau ar sail Cymru gyfan?
Ie, Llywydd. Polisi Llywodraeth Cymru o hyd yw mai atebion i Gymru sy'n berthnasol i bob rhan o Gymru yw'r ffordd orau o ymdrin â chyflwr presennol y feirws. Mae'r Aelod yn gywir, fodd bynnag, i dynnu sylw at y gwahaniaethau rhanbarthol hynny. Mae'n amlwg iawn erbyn hyn fod y gogledd wedi bod yn arbennig o agored i ledaeniad mawr iawn y feirws yng ngogledd-orllewin Lloegr. Serch hynny, er ein bod yn parhau i ddysgu mwy am y ffordd y mae'r amrywiolyn delta yn debygol o ledaenu a'i effaith ar dderbyniadau i'r ysbyty, nid ydym yn gweld yr angen i gael lefel wahanol o gyfyngiadau ar hyn o bryd mewn unrhyw ran o Gymru.
Prif Weinidog, mae'r Groes Goch Brydeinig wedi canfod mai unigrwydd yw un o effeithiau mwyaf arwyddocaol y cyfyngiadau COVID-19. Mae'n destun pryder bod eu hymchwil hefyd wedi canfod na fyddai 37 y cant o bobl yng Nghymru yn ffyddiog o ran gwybod ble i fynd i gael cymorth iechyd meddwl ac emosiynol. A gaf i ofyn beth fydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn, i sicrhau bod gan fyrddau iechyd y gallu a'r sgiliau a'r adnoddau i ddiwallu anghenion iechyd meddwl ac unigrwydd eu poblogaethau, a bod pawb yn gallu cael gafael ar gyngor a gwybodaeth? Ac yn olaf, a gaf i ofyn a wnewch chi ymrwymo i gynyddu'r broses o gyflwyno gweithwyr cyswllt rhagnodi cymdeithasol? Gallan nhw ddarparu cymorth wedi ei deilwra i bobl sy'n dioddef unigrwydd cronig, i'w helpu i ail-fagu eu hyder a'u hannibyniaeth. Wrth i ni ailagor y gymdeithas, bydd angen gwirioneddol am ein cymorth ar y bobl hyn.
Llywydd, mae Delyth Jewell yn iawn wrth ddweud yr adroddir am unigrwydd yn rheolaidd gan boblogaethau ledled y Deyrnas Unedig a bod hynny yn un o effeithiau coronafeirws, nid yn unig yn arolwg y Groes Goch ond yn yr arolygon pythefnos yr ydym ni'n cymryd rhan ynddyn nhw fel Llywodraeth Cymru. Ac nid yw hynny'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn unig, er mor bwysig yw hynny; gall fod yn ddim ond y ffaith bod pobl yn teimlo bod y rhyngweithio cymdeithasol arferol hynny y bydden nhw'n gallu dibynnu arno ar unrhyw adeg arall wedi bod yn llawer anoddach iddyn nhw. Byrddau iechyd yw un o'r ffyrdd y gallwn ni ymateb i hynny, ond rydym ni wedi dibynnu yn fawr iawn ar y trydydd sector i ddarparu'r lefelau sylfaenol hynny o gysylltiad â phobl, cyfleoedd i bobl gael sgyrsiau â bod dynol arall, i gysylltu pobl weithiau gydag ymdrechion gwirfoddol ehangach mewn ardaloedd lle gall pobl sydd wedi canfod bod y profiad hwn yn un mor anodd ar y lefel gymdeithasol honno ac y gellir dod o hyd i ffyrdd newydd a gwahanol o gael y lefel honno o gyswllt dynol o hyd. Ac mae rhagnodi cymdeithasol, fel y dywed yr Aelod, yn sicr yn rhan bwysig o'r ffordd y gellir darparu gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol i bobl â'r mathau hynny o anghenion iechyd meddwl a lles lefel isel, fel y'u gelwir weithiau, yn y gymuned, drwy hwyluso mynediad at yr ystod ehangach honno o bosibiliadau sy'n bodoli eisoes yn y gymuned, ond lle gall eu cyflwyno drwy bresgripsiwn cymdeithasol weithiau chwalu'r rhwystrau y gall pobl eu teimlo rhwng eu hanghenion eu hunain a'r ffyrdd y gellid diwallu'r anghenion hynny yn y gymuned. A bydd mwy o bwyslais ar ragnodi cymdeithasol yn sicr yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i effaith y coronafeirws yn y misoedd nesaf.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro? OQ56626
Diolch yn fawr i Paul Davies am y cwestiwn. Llywydd, ymdrin yn effeithiol â bygythiad y coronafeirws yw’r prif ffordd rydym yn cefnogi’r economi ym Mhreseli Sir Benfro o hyd. Bydd hynny’n galluogi busnesau yn yr etholaeth i fanteisio ar yr holl fuddsoddiadau eraill y mae’r Llywodraeth hon yn eu gwneud i ddiogelu eu dyfodol.
Brif Weinidog, o gofio bod cyfyngiadau yn parhau, mae'n bwysig eich bod chi fel Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gefnogi ein busnesau wrth symud ymlaen, ac i gefnogi economïau lleol. Nawr, mae busnesau teithio yn fy etholaeth i wedi cysylltu â fi oherwydd maen nhw'n dal i gael trafferth gydag effaith y pandemig ar eu gallu i wneud busnes, wrth gwrs. Dywedodd un busnes wrthyf fi, a dwi'n dyfynnu,
'Mae angen cymorth ariannol arnom i'n helpu drwodd i'r cyfnod nesaf. Mewn gwirionedd, rydym wedi cael sero incwm am y 15 mis diwethaf. Mae'n sefyllfa amhosibl ac anghynaladwy, ac mae'n bryd, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, i'r diwydiant teithio dderbyn pecyn cymorth pwyllog penodol.'
Brif Weinidog, beth yw'ch neges chi i'r busnes hwn ac, yn wir, i fusnesau teithio ledled Cymru? Ac a wnewch chi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i'r sector, er mwyn amddiffyn cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol?
Diolch yn fawr i Paul Davies am y cwestiwn. A dwi'n cytuno bod argyfwng coronafeirws wedi cael effaith fawr ar fusnesau bach ym maes teithio, ac mae hynny'n mynd i barhau am y misoedd sydd i ddod. So, roedd y Gweinidog dros yr Economi wedi cyhoeddi pecyn o help ychwanegol i fusnesau sydd wedi gweld effaith o'r ffaith dydyn ni ddim yn gallu bwrw ymlaen i ailagor pethau fel roeddem ni'n bwriadu gwneud yn wreiddiol. Mae e'n dal i weithio gyda swyddogion i baratoi am fwy o gymorth i fusnesau, fel busnesau ym maes teithio, sydd ddim yn gallu ailagor o gwbl neu sydd ddim yn gallu ailagor yn llawn. Ac mae'r gwaith yna yn parhau, a bydd y Gweinidog yn dod i lawr y Senedd i esbonio sut rydym ni'n mynd i fwrw ymlaen i helpu i roi mwy o gymorth i fusnesau, fel busnesau teithio, fel mae Paul Davies wedi awgrymu'r prynhawn yma.
Bydd Paul Davies yn gwybod bod busnesau yng Nghymru wedi cael £400 miliwn yn fwy mewn cymorth coronafeirws nag y bydden nhw wedi ei gael pe byddai'r un busnesau hynny wedi bod yn Lloegr. Dyna y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gefnogi'r economi, ym Mhreseli Sir Benfro ac ym mhob cwr o Gymru. Ond, wrth edrych i'r dyfodol, Prif Weinidog—gwn eich bod wedi siarad am hyn yn eithaf manwl yr wythnos diwethaf—a wnewch chi sicrhau y bydd unrhyw ymgynghoriad ar ardoll dwristiaeth arfaethedig yn ystyried barn trethdalwyr lleol yn ein mannau sy'n boblogaidd ymhlith twristiaid, yn ogystal â'r busnesau gwych sy'n gwasanaethu'r ymwelwyr hynny. Gan mai nhw yw'r rhai sy'n ysgwyddo'r baich o gyfyngiadau cyllideb y cyngor sy'n talu am bethau fel y toiledau, gwasanaethau casglu sbwriel a meysydd parcio, ac rwy'n credu ei bod ond yn deg y dylen nhw allu gofyn i'r rhai sy'n gallu fforddio mynd ar wyliau yn ein rhanbarth hardd dalu ychydig yn ychwanegol.
Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y ddau bwynt pwysig yna. Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod llawer iawn o gymorth eisoes wedi ei ddarparu i fusnesau yma yng Nghymru. Yn sir Benfro yn unig, mae bron i 7,000 o grantiau wedi eu talu am swm o filiynau lawer o bunnoedd i barhau i gefnogi'r cwmnïau hynny a'r busnesau hynny fel yr ydym ni wedi ymrwymo i'w wneud.
O ran yr ardoll dwristiaeth, Llywydd, fel yr eglurais yr wythnos diwethaf, mae'r drafodaeth yr ydym yn bwriadu ei chael yn ymwneud â phŵer lleol i awdurdodau lleol godi ardoll pan fyddan nhw'n dewis gwneud hynny ac o'r farn y byddai hynny'n iawn i'w hamgylchiadau lleol. Yr hyn y mae Joyce Watson yn sicr yn dweud y gwir ynglŷn ag ef yw bod y syniad yn un poblogaidd ymhlith y poblogaethau brodorol hynny y mae'n rhaid iddyn nhw dalu costau llawn yr holl wasanaethau a ddarperir yn eu hardaloedd ar hyn o bryd, hyd yn oed pan fydd y poblogaethau hynny yn codi'n sylweddol iawn yn ystod y tymor gwyliau. A diben ardoll, pe byddai awdurdod lleol yn dymuno ei defnyddio, yn fy marn i, yw sicrhau bod ymwelwyr yn gwneud cyfraniad bach i'r buddsoddiad sydd ei angen i gadw'r lleoedd y maen nhw'n ymweld â nhw i ffynnu, ac i gael yr holl gyfleusterau hynny—y meysydd parcio, y toiledau a phopeth arall y byddech, pan eich bod yn ymweld â rhywle, yn gobeithio eu bod yno. Mae'n ymddangos i mi fod gwneud cyfraniad bach at hyn yn fuddsoddiad mewn llwyddiant y busnesau hynny a'r ardaloedd hynny yn y dyfodol, a'i wneud mewn ffordd sy'n deg, lle mae'r costau dan sylw yn cael eu rhannu rhwng pobl sy'n byw yno'n barhaol a phobl sy'n ymweld â'r lleoedd gwych hynny sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ymwelais i â Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg ddoe—cyfleuster gwych sy'n darparu cymaint o ofal a thynerwch i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd hefyd. Mae Tŷ Gobaith, yn amlwg, yn gwneud yr un peth yn y gogledd. A ydych chi'n cydnabod, gan ei bod yn Wythnos Hosbis y Plant, y gwahaniaeth rhwng hosbis i blant a hosbis i oedolion, a lefel y cyllid y byddai ei angen ar gyfer y mudiad hosbisau yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwyf innau hefyd wedi cael y fraint—ac mae hi'n fraint—yn y gorffennol o ymweld â Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith, ac i weld drosof fy hun y gwaith syfrdanol y maen nhw'n ei wneud ac ymrwymiad y bobl sy'n gweithio yno. Mae'r fformiwla yr ydym ni'n ei defnyddio i ddarparu'r cymorth yr ydym yn ei roi i'r sector hosbisau yng Nghymru yn fformiwla a sefydlwyd drwy waith y Farwnes Ilora Finlay yn ei thrafodaethau gyda'r sector. Rydym yn adolygu hynny yn rheolaidd gyda'r sector ac yn siarad â hwy drwy'r amser, ond nid fformiwla gan Lywodraeth Cymru yw hon sy'n cael ei dyfeisio gennym ni a'i gosod gennym ni; mae'n fformiwla sy'n deillio o'r trafodaethau yr ydym yn eu cael gyda'r sector a'r anghenion niferus y mae'n ceisio eu diwallu.
A ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog, mai dim ond 5 y cant o gyllid y mae'r fformiwla honno yn ei ddarparu i hosbisau plant yng Nghymru yn anffodus, ond yn Lloegr mae'n 21 y cant o gyllid ac yn yr Alban mae'n 50 y cant o gyllid? Nawr, nid wyf i am eiliad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gamu i mewn a neidio'n syth i 50 y cant, ond a ydych chi'n credu bod angen taith i gynyddu'r ffrwd cyllid honno, yn enwedig wrth ddod allan o COVID a'r effaith ddinistriol y mae hynny wedi ei chael ar weithgareddau codi arian i elusennau? Oherwydd ni all fod yn deg bod fformiwla o'r fath yn darparu cymaint o anghydbwysedd o ran cyllid ar gyfer hosbisau plant yma yng Nghymru, sef 5 y cant, 21 y cant yn Lloegr a 50 y cant yn yr Alban. Felly, a wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth i adolygu'r fformiwla hon, er mwyn gallu rhoi fformiwla decach ar waith i gefnogi'r gwaith trugarog y mae hosbisau yn y sector plant yn ei wneud yma yng Nghymru?
Wel, rwy'n sicr yn cytuno ag Andrew R.T. Davies, Llywydd, am y gwaith pwysig y mae'r trydydd sector wedi ei wneud yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae wedi cael cymorth cryf gan gronfa benodol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei darparu ac y mae'r trydydd sector wedi ei defnyddio yn effeithiol iawn wrth ymateb i ystod eang o anghenion, yr anghenion unigrwydd y clywsom amdanyn nhw yn gynharach y prynhawn yma, ac yn y gwaith y mae'n ei wneud yn y mudiad hosbisau hefyd.
Nid yw'r gymhariaeth y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei defnyddio yn un gyfatebol gan nad yw'n ystyried y mathau eraill o gymorth sydd ar gael yng Nghymru nad ydyn nhw ar gael o reidrwydd mewn mannau eraill. Ond rydym yn parhau i fod mewn deialog gyson â'r sector am y cwantwm o arian y gallwn ei ddarparu iddo a'r ffordd y caiff ei ddosbarthu. Mae'r sector yn ffyrnig i aros yn un gwirfoddol a hynny'n gwbl briodol, onid yw? Mae'n gwbl awyddus i sicrhau ei fod yn parhau i wneud yr holl bethau y mae'n eu gwneud i godi ei arian ei hun, i fanteisio ar haelioni pobl yng Nghymru. Mae cytuno ar ffordd o sicrhau bod yr arian y gallwn ni ei ddarparu yn cyrraedd y lle iawn, yn cyrraedd mewn ffordd sy'n cydnabod y gwahaniaethau sylweddol rhwng y gwahanol fathau o wasanaethau, y gwahanol fathau o hosbisau y mae elusennau yn eu darparu yng Nghymru, yn beth eithaf cymhleth. Dyna pam yr oeddem ni'n dibynnu ar y gwaith rhagorol a wnaeth y Farwnes Finlay yn ei thrafodaethau gyda'r sector, ac rydym yn parhau i geisio symud ymlaen gyda'r sector mewn partneriaeth yn y ffordd honno.
Yn anffodus, ni chlywais ymrwymiad i gael adolygiad o'r fformiwla cyllid honno, er fy mod i'n derbyn ei fod yn faes cymhleth ac rwyf i yn derbyn y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, Prif Weinidog, am ffyrnigrwydd y sector wrth ddiogelu ei statws elusennol, a hynny'n gwbl briodol oherwydd yr arian y mae'n ei godi.
Ond a gaf i godi mater ar wahân gyda chi a hynny ynghylch y bêl-droed sydd i fod i ddigwydd yn 16 olaf Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA ddydd Sadwrn. Ddoe, tynnodd y Gweinidog iechyd, yn fy marn i, sylw yn briodol at y cyfyngiadau sy'n cael eu rhoi ar deithio rhyngwladol i gefnogwyr fynd draw i Amsterdam. Fodd bynnag, y bore yma mae Llywodraeth Denmarc wedi cyhoeddi y bydd eu cefnogwyr yn cael teithio i'r Iseldiroedd, i Amsterdam, i wylio eu tîm yn chwarae, ar yr amod ei fod o fewn cyfnod o 12 awr. Nawr, yn aml iawn mae cefnogwyr yn y stadiwm yn cael eu hystyried fel y deuddegfed dyn, gan sbarduno eu tîm ymlaen i fuddugoliaeth gobeithio, fel yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld ddydd Sadwrn nesaf. O ystyried y newid mewn amgylchiadau i gefnogwyr Denmarc, ac yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall mae lefel yr haint yr un fath yn Nenmarc ag ydyw yma yng Nghymru, a fyddwch chi'n cyflwyno unrhyw sylwadau i awdurdodau'r Iseldiroedd i ganiatáu i gefnogwyr Cymru deithio, os byddan nhw'n bodloni'r gofynion teithio sydd ar gefnogwyr sy'n teithio i wylio gemau mewn pencampwriaeth? Gan fy mod i'n credu bod y telerau wedi newid erbyn hyn, o gofio bod y ddau dîm ar yr un sefyllfa ddoe o ran cyfyngiadau ar gefnogwyr, ond heddiw mae Llywodraeth Denmarc wedi symud i ganiatáu i'w cefnogwyr deithio o fewn cyfnod o 12 awr ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn.
Llywydd, wel, yn gyntaf, wrth gwrs, llongyfarchiadau i dîm Cymru ar lwyddo i fynd ymlaen i gamau nesaf y bencampwriaeth a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw ddydd Sadwrn pan fyddan nhw'n wynebu Denmarc yn yr Iseldiroedd.
Nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi newid, Llywydd. Yr un yw'r cyngor y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac, yn wir, y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi ei roi i gefnogwyr, sef nad hon yw'r flwyddyn i deithio i wylio Cymru yn chwarae dramor. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r miloedd hynny o bobl a fyddai wedi bod wrth eu boddau yn cael teithio a mynd i gefnogi tîm Cymru mewn mannau eraill, sydd wedi dilyn y cyngor a roddwyd iddyn nhw, sef eu bod nhw yn fwy diogel a bod y bobl sy'n agos at eu calonnau yn fwy diogel os ydyn nhw'n dewis aros yng Nghymru a chefnogi'r tîm o'r fan hyn. Rydym wedi gweld, hyd yn oed yn ystod y 24 awr diwethaf, bod chwaraewyr sydd wedi mynd yn sâl o ganlyniad i coronafeirws ac na fyddan nhw'n gallu cymryd rhan yng ngham nesaf y bencampwriaeth, ac wrth i ni barhau yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi yng Nghymru, gyda'r amrywiolyn delta yn cynyddu pha mor agored i niwed y mae hynny'n ein gwneud ni, nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi newid. Mae'n parhau i gyd-fynd â'r cyngor a ddaw o fannau eraill; ein cyngor yw, 'Peidiwch â theithio, mwynhewch y bencampwriaeth, cefnogwch eich tîm o Gymru.'
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Brif Weinidog, rhyw flwyddyn yn ôl, mi oeddech chi'n cyhoeddi bod ysgolion am gael ailagor eto ar ôl cyfnod clo hirfaith, ond rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, gymaint mae teimlo'n ynysig, bod ar wahân o'u ffrindiau wedi cael effaith drom ar lesiant ac iechyd meddwl pobl ifanc. Rŵan, drwy gydol y pandemig, dydy'r gyfran o bobl ifanc sy'n aros dros bedair wythnos am apwyntiad ar ôl cael referral i dîm gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol erioed wedi disgyn dan chwarter. Ydy hynny'n ddigon da?
Wel, i ddechrau, dwi'n cydnabod, wrth gwrs, yr effaith mae coronafeirws wedi'i gael ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Bob tro dwi'n cwrdd â phobl ifanc, trwy'r Senedd Ieuenctid, er enghraifft, mae hwnna'n rhywbeth maen nhw'n codi bob tro rydym ni'n siarad â nhw. Ar y cyfan, dydyn nhw ddim yn siarad am wasanaethau arbennig fel CAMHS, maen nhw'n siarad am bethau maen nhw eisiau eu gweld yn yr ysgol, yn y gymuned, pethau maen nhw'n gallu eu cael yn gyflym a'u cael pan ydyn nhw'n treial delio â'r problemau pob dydd o dyfu lan mewn cyfnod mor ansicr.
Gyda CAMHS, wrth gwrs, maen nhw, fel pob adran arall yn y maes iechyd, yn treial ymdopi ag effaith coronafeirws arnyn nhw hefyd. Dydyn nhw ddim yn gallu gweld pobl yn yr un ffordd roedden nhw'n gallu gwneud cyn y coronafeirws, ac maen nhw'n gweithio'n galed i dreial i fod yn hyblyg, treial i fod yn greadigol, i ffeindio ffordd i roi'r cymorth arbennig i'r bobl ifanc sy'n cwympo mor dost mae'n rhaid iddyn nhw gael gwasanaeth arbennig fel yna.
Mae yna, wrth gwrs, straen ar wasanaethau arbenigol CAMHS yn ystod y pandemig, ond nid problem newydd ydy hon. Mae ffigurau sydd newydd gael eu cyhoeddi yn dangos ym mis Awst 2019 fod bron hanner y rheini oedd yn cael referral ar gyfer gwasanaethau arbenigol CAMHS yn aros dros bedair wythnos. Dwi'n meddwl yng Nghaerdydd a'r Fro, mi oedd yn 85 y cant. Ond lle mae'r ymateb i hynny? Rydyn ni'n gweld cynnydd a chyflymu yn y broses frechu rŵan, mewn ymateb i'r amrywiolyn delta. Rydyn ni'n gweld rhaglenni dal i fyny yn cael eu cyflwyno mewn addysg, ond pan fo'n dod at broblemau iechyd meddwl dwys, dydw i ddim yn gweld yr un difrifoldeb. Rŵan, fel Gweinidog iechyd nôl yn 2015, mi ddywedasoch chi ei bod hi yn bwysig bod y bobl iawn yn cael eu trin ar yr amser iawn, ond pam, pan fo hi'n dod at iechyd meddwl pobl ifanc, nad ydy hynny'n digwydd hyd yn oed rŵan, chwe mlynedd yn ddiweddarach?
Rwyf i yn credu, Llywydd, nad yw'r Aelod yn rhoi clod priodol i'r datblygiadau a wnaed yn y gwasanaeth CAMHS yn y ddwy flynedd cyn dechrau'r pandemig coronafeirws, oherwydd fe wnaeth y ffigurau wella, ac fe wnaethon nhw wella'n sylweddol ledled Cymru. Roedd y gwasanaeth ar lwybr o welliant gwirioneddol. Rwyf i wedi ateb llawer o gwestiynau ar lawr y Senedd hon, o'r adeg pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, a fy marn i erioed yw mai'r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer pobl ifanc yw amrywiaeth o wasanaethau fel nad yw pawb yn cael eu cyfeirio i'r gwasanaeth CAMHS fel y cam cyntaf tuag at gael cymorth gyda phroblem iechyd meddwl. Rhan o'r broblem gyda'r gwasanaeth CAMHS yw bod llawer iawn o bobl sy'n cael eu cyfeirio i'r gwasanaeth yn ymgeiswyr anaddas ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn y pen draw. Mae'n rhaid asesu'r holl bobl ifanc hynny, yna mae'r holl bobl ifanc hynny yn mynd i mewn i'r ciw o flaen pobl eraill y mae'r gwasanaeth hwnnw yn wirioneddol yr ymateb angenrheidiol iddyn nhw.
Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw tynnu'r bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i CAMHS pan ddylen nhw ac y gallen nhw gael darpariaeth briodol iawn gan wasanaeth cwnsela mewn ysgolion, neu weithiau hyd yn oed gan bobl sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o gymorth cyntaf iechyd meddwl mewn gwasanaethau cyffredinol fel y gwasanaeth ieuenctid, i allu helpu'r bobl ifanc hynny y mae angen cymorth o'r math hwnnw arnynt—y cymorth, fel y dywedais, Llywydd, pan eich bod chi'n siarad â phobl ifanc eu hunain, dyna'r cymorth y maen nhw'n ei godi gyda chi gan amlaf: pethau sydd ar gael yn rhwydd, wrth law, yn rhan o drefn arferol pethau y maen nhw'n ymwneud â nhw. Ac yna bydd y bobl y mae angen gwasanaeth CAMHS arnyn nhw yn gallu cyrraedd y gwasanaeth hwnnw yn gyflymach. Roedd y gwasanaeth ymhell ar y daith honno. Mae'n anochel bod coronafeirws yn tarfu arno. Ac, fel y dywedais i, mae'r gwasanaeth yn gweithio'n galed iawn i geisio dod o hyd i ffyrdd creadigol o allu parhau i ddarparu gwasanaeth amserol i'r bobl ifanc hynny sydd ei angen, er gwaethaf y cyfyngiadau ar y graddau y gallan nhw wneud hynny mewn ffyrdd wyneb yn wyneb mwy confensiynol.
Ac wrth gwrs, mae angen i ni gyfeirio pobl at y math iawn o gymorth, ond allwn ni ddim bychanu pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol CAMHS ychwaith. Ac fe fu cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn ystod pedwar mis cyntaf eleni o'i gymharu â'r llynedd. Ond fe wnaeth Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd lawer o waith ar effaith y pandemig, a thynnodd sylw yn benodol at y broblem hon o'r canol coll—y nifer sylweddol o blant a phobl ifanc y mae angen cyngor a chymorth iechyd meddwl arnyn nhw ond nad oes angen gwasanaethau acíwt neu arbenigol arnyn nhw o bosibl. Felly, cytunaf â'r Prif Weinidog ar hynny.
Byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru wedi cyflwyno cynigion ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau galw heibio ledled Cymru, a fydd yn cynnig cyngor a chymorth iechyd meddwl cyfrinachol rhad ac am ddim i bobl ifanc. Nawr, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno y gallai rhwydwaith o'r fath—yn awr, yn arbennig, ar ôl y pandemig, efallai—gynnig achubiaeth i'r miloedd o bobl ifanc sydd wedi eu dal yn y canol coll hwnnw ar hyn o bryd? Ac os felly, a fyddech chi a'ch swyddogion yn cyfarfod â mi i drafod mynd ar drywydd y cynnig hwnnw ymhellach?
Wel, Llywydd, rwy'n falch o glywed bod atgyfeiriadau wedi gwella. Mae hynny'n newyddion da, ac mae'n rhan o adferiad cyffredinol atgyfeiriadau i wasanaethau iechyd yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf eleni, o'i gymharu â'r cyfnod yn syth ar ôl yr argyfwng ym mis Mawrth a mis Ebrill y llynedd. Wrth gwrs fy mod i'n hapus iawn i drefnu cyfarfod i siarad ynghylch pa un a fyddai'r syniad hwnnw yn gyfraniad i'r ystod o wasanaethau yr ydym ni'n eu darparu ar hyn o bryd. Mae gwasanaethau galw heibio ar gael i bobl ifanc eisoes mewn nifer o wahanol ffyrdd, rhai drwy'r trydydd sector, rhai drwy'r gwasanaeth cwnsela sydd gennym ni mewn ysgolion. Felly, byddai angen i ni fod yn ffyddiog nad oeddem yn dyblygu rhywbeth a oedd eisoes ar gael nac yn tanseilio gwasanaeth a oedd eisoes yn llwyddo i ddarparu cymorth i bobl ifanc. Ond i archwilio'r syniad ac i weld beth y gellid ei wneud ohono, yna wrth gwrs rwy'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod cyfarfod o'r fath yn cael ei drefnu.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru? OQ56625
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd, a chafodd y model a ffefrir gennym ei nodi yn yr ymgynghoriad diweddar. Ochr yn ochr â'r gwaith o adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad, mae treial ar y gweill yng Nghonwy ar hyn o bryd i arbrofi â chyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn ddigidol.
Diolch. Byddwch chi'n ymwybodol fy mod i, fis Tachwedd diwethaf, wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ac i leihau gwastraff yng Nghymru, a bod mwyafrif o 34 o Aelodau wedi cefnogi fy nghynnig. Nawr, er i chi ymatal, fe aeth y bleidlais o blaid y cynnig deddfwriaethol hwn ac, fel y gallwch chi ddychmygu, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad ydym ni'n colli'r momentwm hwnnw a gafwyd, yn enwedig ar ddechrau tymor Senedd newydd—a hwnnw'n chweched tymor y Senedd. Roeddwn i wedi fy siomi braidd felly, Prif Weinidog, gan fod darn mor werth chweil ac sydd wedi ei brofi o ddeddfwriaeth ar ddod, nad oes ymrwymiad clir yn eich rhaglen lywodraethu, a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, i ddatblygu cynllun dychwelyd ernes.
Fe wnaethoch chi sôn yn gwbl briodol fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Polytag Ltd a WRAP i dreialu'r cynllun dychwelyd ernes newydd. Y bwriad yw cynnal cyfweliadau â thrigolion a chriwiau ailgylchu ar ôl y treial i roi mwy o wybodaeth am sut y gellid defnyddio'r cynllun ledled Cymru. Os bydd y treial yn llwyddiannus yng Nghonwy—fel yn y Wirral, lle cafodd 91 y cant o ddeunydd pacio wedi'i dagio ei ailgylchu'n llwyddiannus—erbyn pryd y byddech chi'n disgwyl y bydd cynllun dychwelyd ernes ar waith i Gymru gyfan sy'n cyd-fynd â systemau eraill ledled y DU ac yn gweithio'n ymarferol â nhw? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am dynnu sylw at y cynllun treialu sy'n digwydd mewn tua 500 o gartrefi yn ei hetholaeth hi ei hun, a fydd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i'n dealltwriaeth o sut y gellid bwrw ymlaen â'r cynllun dychwelyd ernes. Mae Gweinidogion bob amser yn ymatal, Llywydd, ar ddeddfwrfa'r meinciau cefn; dyna'r confensiwn sydd gennym ni. Ond rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod ein bod ni'n gobeithio sicrhau pwerau ar gyfer cynllun dychwelyd ernes i Gymru drwy Fil Amgylchedd y DU. Yr wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ni yw bod disgwyl i hwnnw gwblhau ei daith seneddol mewn pryd i gael Cydsyniad Brenhinol yn yr hydref. Wedyn bydd gennym ni'r pwerau sydd eu hangen arnom i gyflwyno ein rheoliadau, ac rydym yn disgwyl gosod y rheini yn yr hydref hefyd.
A gaf i groesawu'r ymateb a roddwyd gan y Prif Weinidog? Rwy'n credu bod hwn yn rhywbeth y mae llawer o bobl ar draws y Siambr yn ei gefnogi yn fawr iawn. Ddydd Gwener, cwrddais â disgyblion o ysgol Glyncollen ar-lein, a oedd yn unfrydol o blaid cynllun dychwelyd ernes. Soniais wrthyn nhw am hen gynllun pop Corona, yr wyf i'n sôn amdano yn y lle hwn yn weddol reolaidd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn gadarnhaol iawn bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn, ond y byddai rhaglen ar gyfer y DU gyfan yn well o lawer? Byddai'n ei gwneud yn haws i gwmnïau sicrhau y gellir eu prynu yng Nghaer a'u dychwelyd yn Wrecsam, gan ei gwneud yn llawer haws i'r cynllun weithio. Yn wir, rwy'n credu y byddai bob un ohonom yn dymuno cael cynllun i Gymru, ond byddai cynllun i Brydain gyfan gymaint yn well.
Diolch i Mike Hedges am hynna. Mae'r traddodiad yn ysgol Glyncollen o ymgyrchu ar y materion hyn yn un real iawn. Rwy'n cofio cwestiwn ar lawr y Senedd hon am y gwaith yr oedd disgyblion yr ysgol yn ei wneud i sicrhau bod llaeth yn cael ei gyflenwi i'r ysgol mewn fformat y gellir ei ailddefnyddio, yn hytrach nag mewn cartonau a fyddai'n cael eu taflu i ffwrdd. Felly, llongyfarchiadau mawr am eu diddordeb parhaus yn hyn. Pe bydden nhw wedi eu magu yng Nghaerfyrddin yn hytrach nag Abertawe, Llywydd, bydden nhw wedi bod yn yfed Tovali Special ac nid pop Corona. Ond y pwynt cyffredinol a gododd Mike Hedges—ac rwy'n credu ei fod yn adleisio rhywbeth a ddywedodd Janet Finch-Saunders—yw yr hoffem ni weld cynllun ar gyfer y DU, gan ein bod ni'n credu y bydd hynny'n gweithio'n well i bobl yma yng Nghymru. Mae'n haws i ddefnyddwyr, wrth gwrs—ffin hir ac agored, pobl yn siopa ac yn byw ar y ddwy ochr iddi, mewnlifiad pobl i Gymru, yn ystod misoedd yr haf yn arbennig. Rydym ni'n awyddus i bobl gael un system y gallan nhw ei deall yn rhwydd. Mae yna bosibilrwydd o dwyll os bydd gennych chi systemau gwahanol ar y ddwy ochr o'r ffin, a byddai un system yn helpu i ddileu hynny. A byddai'n golygu costau gweithredu is i fusnesau hefyd. Am yr holl resymau hynny, rydym ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU, sydd, er syndod i ni a braidd ar y funud olaf, wedi cynnwys cynllun wrth fynd yn ei hymgynghoriad, yn hytrach na'r cynllun cynhwysfawr yr hoffem ni ei weld—mae'r Alban eisoes wedi ymrwymo i gynllun cynhwysfawr; dyna yn sicr yw ein dewis ninnau. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cytuno ar hynny hefyd, fel yr oeddem ni'n credu yn wreiddiol y byddai'n digwydd, ac yna byddwn yn gallu cael y trefniadau ar gyfer y DU gyfan y mae Mike Hedges yn eu hyrwyddo a hynny yn gwbl briodol yn fy marn i.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56666
Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys y rhai hynny, wrth gwrs, ar gyfer y gogledd, fel y'u nodir yn ein rhaglen lywodraethu sydd newydd ei chyhoeddi.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod mai un o'r cyflogwyr mwyaf yn y gogledd yw'r sector twristiaeth, sy'n cefnogi tua 46,000 o swyddi ac mewn amseroedd arferol yn cynhyrchu dros £3.5 biliwn bob blwyddyn i'r economi leol. Fodd bynnag, fel y gwnaethoch ei grybwyll yn gynharach, rydym ni'n ymwybodol o'ch cynlluniau i archwilio treth dwristiaeth ar ymwelwyr sy'n dod i Gymru ar wyliau. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud y byddai hyn yn gwneud y diwydiant yn llai cystadleuol ac yn gwneud i Gymru ymddangos yn ddrutach. A fyddech chi'n cytuno â mi, yn hytrach na threulio amser, egni ac adnoddau ar geisio cyflwyno treth sydd wedi ei gwrthod gan yr arbenigwyr yn y maes, mai nawr yw'r amser i gefnogi'r sector i adfer o'r pandemig?
Nawr yw'r amser i'r Llywodraeth a etholwyd gan bobl Cymru gyflawni'r maniffesto y cawsom ein hethol arno. Roedd y cynnig i archwilio treth dwristiaeth yno yn llwyr ac yn bendant yn ein maniffesto ac fe'i trafodwyd yn ystod ymgyrch yr etholiad. Fe wnaeth pobl Cymru eu penderfyniad; byddan nhw yn cael y blaid y gwnaethon nhw bleidleisio drosti a'r cynigion y gwnaethom ni roi ger eu bron.
Prif Weinidog, mae gwaith caled Llywodraethau Llafur olynol wedi arwain at y gyfradd gyflogaeth yn y gogledd yn cyrraedd y lefel uchaf erioed, ac erbyn hyn mae gennym y nifer uchaf erioed o fusnesau yn bodoli yn y gogledd. Ond wrth gwrs, mae cydweithio trawsffiniol wedi bod yn allweddol wrth ysgogi llwyddiant economi'r gogledd, ac mae cysylltiadau arbennig o gryf mewn sectorau allweddol fel ynni gwyrdd a gweithgynhyrchu uwch, ac, yn wir, gwyddorau bywyd. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod cydweithio â'n cymheiriaid trawsffiniol yn ein gwneud yn gryfach, a'i fod yn gwbl angenrheidiol er mwyn osgoi cystadleuaeth a gwella cludiant trawsffiniol hefyd?
Diolchaf i Ken Skates am hynna, ac am dynnu sylw at gryfderau'r economi yn y gogledd, gyda'i lefelau cyflogaeth uchaf erioed, ac fel y bydd yr Aelodau wedi ei weld, gyda'r ffigurau mewnfuddsoddi uniongyrchol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cryfder parhaus yr economi yn y rhan honno o Gymru. Roeddwn i'n falch iawn yn ddiweddar o gyfarfod ag uwch aelodau bwrdd Airbus, a ddaeth i ddweud wrthyf am eu cynlluniau i barhau i fuddsoddi yn y gogledd wrth i'r sector hedfan hwnnw adfer, a pha mor benderfynol yr ydyn nhw y bydd y gweithlu medrus ac ymroddedig iawn sydd ganddyn nhw yn y rhan honno o Gymru yn parhau i fod yn rhan o ddyfodol y cwmni byd-eang hwnnw.
Roedd yr Aelod ei hun, Llywydd, pan oedd yn Weinidog yr economi, yn hyrwyddwr mawr dros weithio gydag eraill i sicrhau bod yr economi yn y gogledd-ddwyrain yn arbennig yn rhan o'r ecoleg a'r economi ehangach honno. Mae Cynghrair Mersi Dyfrdwy, y gwn ei fod wedi ei hyrwyddo—mae ein cyd-Aelod Vaughan Gething wedi bod i gyfarfod heddiw ar gyfer lansio cyfres o syniadau ar gyfer ysgogiad economaidd ac ariannol ar draws ardal Mersi Dyfrdwy—y Gynghrair Ynni ar y Môr, y posibiliadau ar gyfer economi dal a storio carbon drawsffiniol ym maes hydrogen, lle mae gennym ni fuddsoddiadau yn Ynys Môn ac yn sir y Fflint, a—ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes yr oedd yr Aelod yn ei hyrwyddo yn arbennig—rhaglen metro lle'r ydym yn perswadio Llywodraeth y DU i wneud y buddsoddiadau angenrheidiol y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud yn y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd i sicrhau y gall economi'r gogledd barhau i ffynnu.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau hawl pob plentyn i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru? OQ56659
Diolch am y cwestiwn. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae gosod y sylfeini i ehangu mynediad at addysg Gymraeg yn ymgyrch tymor hir. Rydyn ni’n torri tir newydd gyda’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd ac rwy’n edrych ymlaen at weld ffrwyth y llafur hynny.
Diolch yn fawr am yr ymateb, Brif Weinidog. Allaf i dynnu sylw'r Prif Weinidog at sir Pen-y-bont ar Ogwr am eiliad? Mae sawl teulu yn fy nhref enedigol, sef Pencoed, bellach, o bosib, yn wynebu sefyllfa lle na fyddant yn gallu anfon eu plant i'r ysgol gynradd Gymraeg agosaf ac, yn lle, bydd angen iddynt ddewis rhwng anfon eu plant hyd yn oed ymhellach i ffwrdd i dderbyn eu haddysg, neu ddewis addysg Saesneg. Yn anffodus, nid yw record cyngor sir Pen-y-bont ar addysg iaith Gymraeg yn un bositif. Mae'r cyngor wedi methu dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod addysg Gymraeg yn opsiwn realistig mewn nifer o gymunedau, ac mae nifer fawr o deuluoedd wedi cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau am addysg eu plant nad oeddent am eu gwneud. Pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyngor Pen-y-bont i newid y sefyllfa'n sylweddol? Os yw'r Llywodraeth o ddifri o ran cyrraedd ei tharged o 1 miliwn, yna bydd angen i'r Llywodraeth gymryd y sefyllfa mewn ardaloedd fel Pen-y-bont o ddifri.
Diolch am y cwestiwn. Dwi'n ymwybodol o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi achos dwi wedi cael cyfle i siarad yn barod gyda'r Aelod lleol dros Pen-y-bont ac am ddyfodol addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal yna. Ym mhob cwr o Gymru, mae pob Aelod fan hyn siŵr o fod yn cynrychioli pobl pan dydyn nhw ddim yn gallu cael lle yn yr ysgol maen nhw'n ei dewis. Dwi'n ei wneud e fel Aelod yng Ngorllewin Caerdydd bron bob blwyddyn gyda phlant sydd eisiau addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn y ddinas. Rŷm ni i gyd yn gwneud gwaith gydag unigolion fel yna. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed ac yn agos gyda chyngor Pen-y-bont ar Ogwr i dyfu'r nifer o leoedd sydd gyda nhw mewn ysgolion yn yr ardal trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae cynlluniau gyda nhw nawr sy'n mynd i dyfu'r nifer o bobl sy'n gallu mynd i'r ysgolion Cymraeg dros y ddegawd nesaf—pethau ymarferol. Maen nhw eisiau gwneud mwy yn Ysgol y Ferch o'r Sgêr, maen nhw'n mynd i symud ysgol i ganol Pen-y-bont i dynnu mwy o bobl i fewn fel yna, ac maen nhw'n mynd i ail-greu Ysgol Bro Ogwr a rhoi mwy o le yn yr ysgol honno. Mae mwy o waith i'w wneud ym Mhen-y-bont, dwi'n ymwybodol o hynny, ond dwi'n siŵr y bydd y cyngor nawr, gyda'r cynlluniau a gyda'r arian rŷm ni'n ei roi fel Llywodraeth i'w helpu nhw, ar y ffordd ymlaen i'n helpu ni i gyd i gyrraedd at y pwynt, hanner ffordd drwy'r ganrif, ble bydd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yma.
Mae carfan amrywiol o lywodraethwyr ysgol o amrywiaeth o gefndiroedd yn allweddol i redeg a rheoli ysgol yn effeithiol. Daw llawer o ddisgyblion sy'n mynychu cyfleusterau addysgiadol cyfrwng Cymraeg o gartrefi lle nad yw'r rhieni yn siarad Cymraeg eu hunain. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sicrhau bod rhieni di-Gymraeg yn cael eu hannog i sefyll etholiad fel rhiant-lywodraethwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg?
Dwi'n gwybod, wrth gwrs, dros Gymru i gyd, bod nifer fawr o blant sy'n dod o deulu di-Gymraeg yn mynychu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a dwi'n croesawu hynny. Mae'n rhan bwysig o'r cynlluniau sydd gyda ni. Yma yng Nghaerdydd, mae wyth o bob 10 o blant sy'n mynychu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn dod o deulu lle nad oes neb arall yn siarad Cymraeg. Mae'r ysgolion yn gweithio'n galed, gyda'r adnoddau rŷm ni wedi helpu i baratoi, i helpu pobl sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg sydd eisiau bod yn rhan o'r ysgol—ar y bwrdd llywodraethwyr, er enghraifft—i wneud hynny mewn ffordd effeithiol, ac maen nhw wedi llwyddo i'w wneud e. Mae enghreifftiau gyda ni'n barod am sut i'w wneud e. Drwy gydweithio gyda'r awdurdodau lleol a dysgu o'r profiadau sydd wedi gweithio dros Gymru, dwi'n hyderus y gallwn ni ffeindio ffordd i bobl sydd eisiau bod yn rhan o fywyd yr ysgol wneud hynny, a gwneud cyfraniad effeithiol hefyd.
A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn addysg Gymraeg a gofal plant Cymraeg fel rhan o'n huchelgais i greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg? Felly, a fyddai'n ymuno â mi i groesawu'r gwaith sydd wedi dechrau wrth adeiladu canolfan newydd gofal plant Cymraeg ym Melin Ifan Ddu, yng nghwm Ogwr, fel rhan o uchelgais Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr i gryfhau addysg a gofal plant Cymraeg yn yr ardal?
Diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies, Llywydd, a dwi'n cytuno gyda fe; y ffordd orau i dynnu mwy o blant i mewn i ysgolion Cymraeg yw trwy ddechrau gyda phlant mewn gofal. So, unrhyw beth ni'n gallu ei wneud i roi mwy o gyfleusterau i groesawu plant bach i mewn i gael gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd hwnna yn mynd i helpu ni i gyd yn y tymor hir. Mae'r cyngor ym Mhen-y-Bont wedi derbyn bron £3 miliwn oddi wrth y Llywodraeth Gymreig mewn grant cyfalaf i ddelifro pedwar canolfan drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i bobl sydd jest yn dechrau ar y daith. Bydd un yn mynd i helpu i gael mwy o blant i ddod ymlaen am Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, ac mae gwaith yn mynd ymlaen hefyd yn y dre ym Mhen-y-Bont, ym Mhorthcawl, ac ym Metws hefyd, i wneud yn union beth oedd Huw Irranca-Davies yn ei awgrymu.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailddatblygu canol trefi yng Ngorllewin De Cymru? OQ56651
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y gwahanol ffynonellau cymorth ar gyfer ailddatblygu canol trefi yng Ngorllewin De Cymru, bydd y cynllun grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi, a lansiwyd ym mis Ebrill eleni, yn cynnig manteision i drefi yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Diolch, Prif Weinidog. Wrth siarad â manwerthwyr a masnachwyr marchnad yng nghanol tref Castell-nedd, mae'n amlwg bod canol y dref yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a llai o ymwelwyr ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd datblygu'r pwll nofio, y caffi a'r llyfrgell yn y dref yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr, ond mae yna deimlad bod angen gwneud mwy i weld gostyngiad yn yr unedau manwerthu gwag sydd gennym ni yng nghanol y dref ar hyn o bryd, ac mae angen mynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol; mae angen mynd i'r afael â lefelau rhent, ardrethi busnes; ac mae angen ehangu'r cynnig yn y dref. A wnewch chi felly amlinellu pa waith ychwanegol yr ydych chi'n bwriadu ei wneud gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ac asiantaethau eraill, ar y materion hyn yn ystod tymor y Senedd? Diolch.
Diolch yn fawr. Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y gwaith sydd eisoes ar y gweill—gwaith mawr, Llywydd—£13 miliwn o fuddsoddiad yng nghanol tref Castell-nedd, a £5.5 miliwn o hwnnw wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac yn ogystal â'r holl bethau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw—y pwll nofio, yr ystafell iechyd, y llyfrgell—bydd hefyd fannau masnachol a manwerthu newydd o ansawdd da i geisio denu busnesau yn ôl i ganol y dref honno, ac i wneud hynny gyda'r math o ddychymyg yr ydym ni wedi ei weld mewn sawl rhan o Gymru, hyd yn oed yn ystod yr argyfwng, lle mae busnesau newydd wedi agor ar y strydoedd mawr. Ni all dyfodol manwerthu fod yn ymgais i greu pethau fel yr oedden nhw yn y gorffennol. Mae'r byd wedi symud ymlaen, ac mae ymddygiad defnyddwyr wedi symud ymlaen, wedi ei gyflymu mewn sawl ffordd gan y pandemig. Ond serch hynny mae busnesau manwerthu sy'n gwneud cynnig penodol iawn, sy'n denu pobl a masnach yn llwyddiannus, a byddant yn gallu—ac rwy'n siŵr y byddant yn llwyddo—i fasnachu'n llwyddiannus yng nghanol Castell-nedd hefyd, gan gryfhau'r craidd masnachol hwnnw. A thu hwnt i'r buddsoddiad presennol, byddwn wrth gwrs yn parhau i siarad â'r gymuned fusnes leol honno a gyda'r awdurdod lleol, i weld pa gyfleoedd eraill a fydd ar gael; ffrydiau cyllid eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu dros y tymor pum mlynedd hwn, i gryfhau ymhellach bywiogrwydd hanfodol canol tref Castell-nedd a fydd yn rhoi dyfodol iddo ac ymdeimlad ei fod yn parhau i gael ei werthfawrogi gan ei ddinasyddion lleol a'i fod yn fan y maen nhw'n dymuno ymweld ag ef.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio amgylchedd naturiol Islwyn er budd ei phobl? OQ56644
Llywydd, ddoe cafodd Ffordd Geedwig Cwmcarn, un o'r llu o atyniadau amgylcheddol yn Islwyn, ei hailagor. Diolchaf i'r Aelod am ei chefnogaeth gyson i hyn a'r agenda amgylcheddol ehangach yn ei hetholaeth.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ddoe, fel y dywedasoch chi, ailagorodd ffordd goedwig Cwmcarn am y tro cyntaf ers 2014 yn dilyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd. Prif Weinidog, mae yno faes gwersylla newydd a gwell, llyn, nifer o lwybrau newydd i bob gallu gyda mynediad i bawb, tri man chwarae newydd, llwybr cerfluniau coetir a chaban pren gyda golygfeydd panoramig—gwir, mewn gwirionedd—golygfeydd panoramig o gymunedau Islwyn, a bydd hynny'n gweithredu fel man ar gyfer dysgu yn yr awyr agored ac yn gatalydd a gobeithio, yn ysgol goedwig yn y dyfodol.
Prif Weinidog, a gaf i, ar ran pobl Islwyn, ddiolch i chi a Llywodraeth Lafur Cymru, a welodd botensial yr amgylchedd naturiol, syfrdanol yng nghymoedd Gwent, a blaenoriaethu coedwig Cwmcarn wrth gychwyn prosiect tasglu'r Cymoedd? Ac a wnewch chi, Prif Weinidog, ymuno â mi i ddiolch i gyfeillion coedwig Cwmcarn—Cymdeithas Twmbarlwm, Cymdeithas Hanes Diwydiannol Tŷ Rhydychen yn Rhisga a phobl Islwyn—a fu'n hyrwyddo ac yn brwydro am saith mlynedd hir gyda mi am i un o drysorau amgylchedd naturiol Cymru fod ar gael i bawb unwaith eto? Prif Weinidog, sut, felly, y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod etifeddiaeth tasglu'r Cymoedd yn cael ei warchod, a'i ddiogelu a'i feithrin hefyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Roedd ddoe yn ddiwrnod gwych gydag ailagor y goedwig. Mae gen i atgofion hynod o braf ohoni, o fynd â fy mhlant i yno pan oedden nhw'n tyfu i fyny, ac roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, i allu ymweld â hi eto ym mis Mawrth eleni, ynghyd â rhai teuluoedd i bobl a fu farw yn ystod yr argyfwng coronafeirws, lle'r oedd coed yn cael eu plannu er cof am anwyliaid. Roedd yn ddiwrnod syfrdanol o braf, ac mae cyfoeth llwyr yr amgylchedd naturiol hwnnw yn ased anhygoel sydd gennym ni. Mae wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, Llywydd, fel y gwyddoch chi—bu'n rhaid cwympo 115,000 o goed yn y goedwig oherwydd syndrom marwol sydyn y derw, a effeithiodd ar y coed llarwydd, mewn gwirionedd, yng Nghwmcarn, a dyna pam y mae wedi cymryd y saith mlynedd hir hyn iddi gael ei hailagor.
Ond y pwynt y mae Rhianon Passmore yn ei wneud yw'r un pwysig: mai'r grwpiau lleol hynny, dros y blynyddoedd hir hynny, y bobl ymroddedig iawn hynny ac ymrwymiad gwirioneddol yr awdurdod lleol i'r safle hwnnw yw'r hyn sydd wedi arwain at ei ailagor, nid yn unig fel yr oedd o'r blaen, ond gyda'r holl gyfleusterau ychwanegol hynny y cyfeiriodd yr Aelod lleol atyn nhw, a gwn y bydd yn mynd ymlaen i ddenu llawer o bobl nawr i'r safle sydd wedi ailagor. Ac fel y dywedodd hi, mae'n rhan o'r patrwm buddsoddi ehangach hwnnw a addawyd gennym drwy waith tasglu'r Cymoedd—yr arian yr ydym ni wedi ei fuddsoddi yn y lleoliadau cyrchfan hynny. Gallwch chi wir wneud taith ar draws y cymunedau hynny yn y Cymoedd erbyn hyn o un o'r safleoedd cyrchfan hynny i'r llall, bob un â buddsoddiad newydd ynddo, bob un yn dweud rhywbeth arbennig am hanes neu amgylchedd y rhan honno o Gymru, ac rwyf i'n credu y bydd llawer o ymwelwyr yn ailddarganfod cyfoeth y cymunedau hynny, a bydd Cwmcarn yn sicr yn un o'r perlau yn y profiad hwnnw.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhys ab Owen.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau lefelau llygredd aer yng Nghaerdydd? OQ56658
Diolch yn fawr. Llywydd, o dan y drefn rheoli ansawdd aer lleol a sefydlwyd drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i asesu a rheoli risgiau i iechyd y cyhoedd sy’n deillio o lygredd aer. Rydyn ni wedi edrych ar y cyngor annibynnol gan yr arbenigwyr, ac wedi cytuno ar becyn o fesurau a nodwyd gan Gyngor Caerdydd i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â therfynau nitrogen diocsid.
Diolch yn fawr i chi, Brif Weinidog. Fel rŷch chi'n ymwybodol, ar Ddiwrnod Aer Glân, fe wnaeth cyngor Llafur Caerdydd ailagor Heol y Castell yng nghanol Caerdydd. Fe wnaeth eich Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddisgrifio'r symudiad fel un siomedig, ac mae nifer o gynghorwyr o'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd wedi cwestiynu'r ffigurau a'r data y mae'r cyngor wedi’u defnyddio. Fe wnaethom ni i gyd fan hyn, pob un Aelod yn y Senedd, sefyll ar faniffesto i hyrwyddo Deddf aer glân, a byddai lefelau llygredd Heol y Castell yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf yna.
Dwi'n gwybod ei bod yn anodd. Mae yna gwynion yng Nglan-yr-Afon, fel rŷch chi'n ymwybodol, yn Grangetown ac ym Mhontcanna am y cynnydd yn y lefel o lygredd. Ond, mae'n rhaid inni symud pobl o ddefnyddio ceir, a dyw ailagor heol ddim yn ateb hynny. Felly, Brif Weinidog, a gaf i eich annog chi: a wnewch chi plîs siarad gyda Chyngor Caerdydd a'u hannog nhw i ailystyried ac i gau Heol y Castell unwaith eto i gerbydau? Diolch yn fawr.
Wel, dwi ddim yn mynd i wneud hynny, Llywydd. Mae'r dewis y mae'r cyngor wedi'i wneud yn un anodd dros ben. Y cynllun maen nhw'n bwrw ymlaen i'w wneud nawr yw'r unig gynllun yr oeddem yn cytuno ag ef yn wreiddiol. Roedd y cynllun yna yn dangos bod y ffigurau yn gallu dod yn ôl o dan y lefel y mae'r gyfraith yn ei rhoi i lawr.
Llywydd, dydw i ddim yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd Rhys ab Owen am yr angen i ddod o hyd i ffyrdd sy'n golygu nad oes angen i bobl ddefnyddio eu ceir. Ond, ni wnaeth cau Stryd y Castell arwain at bobl yn gadael eu ceir gartref. Fe'u harweiniodd i ddefnyddio eu ceir mewn ffyrdd eraill. Fe'u harweiniodd i ddefnyddio eu ceir i deithio yn lle hynny drwy rai o rannau tlotaf ein dinas, lle nad yw ansawdd yr aer eisoes yr hyn y mae angen iddo fod.
Felly, roedd fy etholwyr yn Ninian Park Road—ffordd brysur iawn lle dywedir wrth blant, fel mater o drefn yn yr haf, am beidio â mynd allan a chwarae y tu allan gan nad yw ansawdd yr aer yn ddigon da i wneud hynny—fod cau Stryd y Castell yn gwneud eu trafferthion yn llawer anoddach. Mae'r ffigurau y mae'r cyngor wedi'u cael, nid ganddyn nhw eu hunain ond gan ddadansoddwyr annibynnol, yn dangos bod cau Stryd y Castell wedi cael yr effaith andwyol honno ar strydoedd preswyl mewn ffordd na ddigwyddodd ar Stryd y Castell gan nad yw hi'n stryd breswyl.
Felly, roedd y dewis a oedd yn wynebu'r cyngor yn un gwirioneddol heriol. Maen nhw wedi penderfynu mynd yn ôl at y cynllun y cytunwyd arno'n wreiddiol gyda Llywodraeth Cymru ac a ariannwyd gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ar yr adeg pan yr oedd hi'n gyfrifol, gwerth £19 miliwn. Nid yw'n fater o fynd yn ôl i bedair lôn o draffig o flaen y castell. Bydd yn mynd yn ôl i ddwy lôn o draffig, fel yr oeddem ni wedi cytuno, gyda lonydd bysiau a beiciau wedi'u hychwanegu.
Am y tro, bydd yn diogelu'r bobl yn y strydoedd preswyl hynny yr effeithiwyd yn andwyol ar eu bywydau drwy gau Stryd y Castell. Dyna'r cydbwysedd y mae'r cyngor wedi'i daro, ac rwy'n credu, i mi, nes y gallwn wneud pethau yn y tymor hwy i leihau'r defnydd o geir yn llwyr, ei fod yn gydbwysedd y gellir ei amddiffyn yn gyfan gwbl.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu dau ddatganiad at yr agenda heddiw. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws, a bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad: 'Adolygiad o ffyrdd'. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog, a wnewch chi wneud datganiad ynghylch pryd y bydd y rheoliadau cyfyngol ar gyfer deintyddion preifat ac, yn ddiau, bob deintydd arall yng Nghymru yn cael eu llacio fel y gallant fynd i'r afael â'r angen enfawr a chynyddol am wasanaethau deintyddol yn dilyn y 15 mis anodd diwethaf?
Diolch. Wel, mae hyn yn rhywbeth y bydd y Gweinidog iechyd, yn amlwg, yn siarad amdano â'r cymdeithasau deintyddol perthnasol. Rwy'n gwybod bod rhai deintyddion yn gwneud mwy a mwy o waith, ond wrth inni weld sut y mae'r amrywiolyn delta yn parhau i ledaenu yng Nghymru yn anffodus, rwy'n credu bod rhai deintyddion wedi gorfod cymryd cam yn ôl. Ond, ar yr adeg fwyaf priodol, yn amlwg, rhoddir canllawiau a mwy o wybodaeth.
Trefnydd, ar 25 Mehefin, byddwn yn nodi Diwrnod Mynd yn Wyrdd, ac mae pwyslais yr ymgyrch ar ddatgoedwigo trofannol. Efallai fod hynny'n swnio fel rhywbeth sy'n bell i ffwrdd, ond mae'r blaned, fel yr wyf yn siŵr eich bod yn gwybod, yn colli ardal o goedwig bob blwyddyn sy'n cyfateb i naw gwaith maint Cymru oherwydd ein bod yn bwyta olew palmwydd, soi, coffi, y papur yr ydym yn ysgrifennu arno, y pren a ddefnyddiwn ar gyfer adeiladu. Felly, hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth yn nodi pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud ein cenedl yn un ddi-ddatgoedwigo, oherwydd mae ein harferion siopa yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi sy'n tagu ysgyfaint y byd? Hoffwn pe bai'r datganiad yn ymdrin ag a fydd contract economaidd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi di-ddatgoedwigo, ac a fyddwch yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w gwneud yn ofynnol i gwmnïau ddilyn deddfwriaeth diwydrwydd dyladwy ynghylch eu cadwyni cyflenwi. Ac, yn olaf, ond nid lleiaf o bell ffordd, Trefnydd, hoffwn pe bai'r datganiad yn nodi pa gymorth fydd ar gael i wledydd y cynhyrchwyr—y cymunedau coedwigoedd hynny yn yr Amazon ac ar draws y byd—sydd wedi gweld eu diwylliannau bron â chael eu dinistrio oherwydd ein trachwant a'n diffyg penderfyniad ni.
Diolch. Mae'r Aelod yn codi mater pwysig iawn, ac yn sicr, pan oeddwn i'n gyfrifol am hyn yn nhymor blaenorol y Llywodraeth, roedd yn ddarn o waith yr oeddem yn ei gyflawni gyda Llywodraeth y DU i weld beth arall y gellid ei wneud.
Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn cynnal gwaith ymchwil manwl ynghylch plannu coed ar hyn o bryd, sy'n fater ar wahân, rwy'n gwybod, ond mae'n amlwg yn fater arwyddocaol sy'n gysylltiedig â hyn. Nid wyf yn siŵr a yw hwn yn faes y maen nhw'n ei ystyried, ond, os felly, a bod ganddyn nhw ragor o wybodaeth, gallwn gyflwyno datganiad.
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau urddas mislif, ac yn benodol o ran pryd y mae'r Gweinidogion yn disgwyl gallu cyflwyno eu cynllun gweithredu strategol ar urddas mislif? Rwy'n croesawu'r £3.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu eto i'r mater hwn, a hefyd yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, ond rwy'n awyddus i weld cyhoeddi'r cynllun gweithredu fel y gallwn sicrhau ein bod ni'n cymryd agwedd gyfannol at urddas mislif.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y cynnydd ar y cynllun wedi bod yn arafach na'r gobaith ar y dechrau, oherwydd effaith pandemig COVID. Ond mae gwaith ar y gweill i sicrhau ein bod yn adnewyddu'r cynllun gweithredu strategol drafft ar urddas mislif, a bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi eto yn ddiweddarach eleni.
Mae llu o ymrwymiadau ar draws Llywodraeth Cymru yn y cynllun hwnnw, ac mae hynny'n cynnwys annog y defnydd o gynhyrchion mislif ecogyfeillgar, sefydlu urddas mislif mewn ysgolion ac mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch—a hynny drwy ddarparu cynhyrchion am ddim ac adnoddau dysgu priodol—a hefyd alluogi darpariaeth mewn mwy o leoliadau iechyd a nodi uchelgais i ddatblygu'r ddarpariaeth o gynhyrchion mislif gan gyflogwyr, busnesau a chyfleusterau i fod yn rhywbeth normal. A byddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, yn flaenorol, wedi rhoi cyllid sylweddol i awdurdodau lleol, fel bod modd i bob awdurdod lleol wneud yr hyn a oedd yn iawn ar gyfer eu poblogaeth leol.
Gweinidog Busnes, mae'n bwysig ein bod ni nawr yn ceisio dod ag ymdeimlad o normalrwydd yn ôl i'n gwlad o ran cyfyngiadau coronafeirws ac ymdrin â'r pandemig hwn. Mae'r ymdeimlad hwnnw o normalrwydd yn arbennig o bwysig i'n pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn cael cymaint o ddysgu yn yr ysgol â phosibl, er mwyn yr holl fanteision yr wyf wedi'u hamlinellu'n flaenorol yn y Siambr hon. Ac eto, yr wythnos hon, yn Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod, mae'r dysgwyr yn yr ysgol gyfan bellach yn cael eu haddysgu ar-lein oherwydd pryderon COVID. Mae angen llwybr cynaliadwy arnom, Trefnydd, ar gyfer mynd i'r afael â'r coronafeirws yn ein hysgolion. Felly, a wnaiff y Gweinidog addysg wneud datganiad am ba fesurau newydd y byddai'n eu hystyried, ac y mae'r Llywodraeth yn eu hystyried, i sicrhau bod plant yn dysgu yn yr ysgol am yr amser mwyaf posibl? Nid yw'n ffordd gynaliadwy o fwrw ymlaen pan fydd grwpiau blwyddyn ysgol gyfan yn absennol ac ysgolion cyfan yn cau, oherwydd mae dysgu yn yr ysgol yn bwysig i ddysgwyr ac mae'r ffaith eu bod gartref yn achosi problem i rieni? Diolch.
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr fod dysgu yn yr ysgol yn bwysig iawn, ac yn amlwg dyma'r tro cyntaf inni gau ysgol gyfan, yn anffodus. Mae arnaf ofn, wrth i'r pandemig hwn fynd yn ei flaen, rwy'n credu, droeon, fod y feirws wedi bod un cam ar y blaen a, phan fyddwch yn meddwl y gallwch wneud pethau, nid ydym wedi gallu gwneud hynny.
Mae'n amlwg bod y Gweinidog dros addysg yn ystyried pa wersi y gellir eu dysgu yn gysylltiedig â'r ysgol hon yn Ninbych-y-pysgod, ond nid wyf yn credu mai nawr yw'r adeg iawn i gyflwyno datganiad.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad am y gostyngiad sylweddol mewn euogfarnau am dreisio yng Nghymru. O'i gymharu â 2016-17, fe wnaeth yr euogfarnau am dreisio yn 2020 ostwng bron i ddwy ran o dair, o gofio mai dim ond 5 y cant oedd yn llwyddiannus yn y lle cyntaf. Mae hynny gyda llai nag un o bob 60 o achosion o dreisio yn cael eu cofnodi gan yr heddlu sy'n arwain at gyhuddo'r sawl sydd dan amheuaeth. Nawr, rwy'n cydnabod nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ond yr hyn sydd wedi'i ddatganoli yw canlyniad a sgil-effeithiau hynny. Wrth gwrs, nid un unigolyn sy'n gysylltiedig ag achos o dreisio. Os yw'r unigolyn yn digwydd bod yn rhiant, bydd yn effeithio ar y plant. Os yw'n blentyn, bydd yn effeithio ar ei rieni, a bydd yn effeithio ar ei frodyr a'i chwiorydd. Rwy'n cofio darllen erthygl a oedd yn dweud bod un achos o'r fath yn effeithio ar 47 o wahanol bobl. Wrth gwrs, mae yna ochr arall i hyn. Oherwydd diffyg euogfarn, a hefyd y diffyg mynediad at gyfiawnder yr ydym wedi'i weld, drwy achosion llys dros dro a pharhaol, mae'n golygu, os byddwch yn aflwyddiannus yn eich euogfarn, y byddwch yn debygol iawn o fod yr un mor aflwyddiannus yn y cymorth sydd ei angen arnoch chi a'ch teulu. Felly, rwy'n gofyn i chi, gyda pharch, gyflwyno rhywbeth yn y dyfodol agos iawn, oherwydd mae hwn yn argyfwng, ac mae'n argyfwng y mae angen inni fynd i'r afael ag ef.
Diolch. Fel yr ydych yn cydnabod, nid yw'r system cyfiawnder troseddol wedi'i datganoli i Gymru, ond wrth gwrs rydym yn cydweithio'n agos iawn â'r holl heddluoedd yng Nghymru ac â phartneriaid cyfiawnder troseddol yma yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol o'r gefnogaeth sylweddol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf o leiaf, ac os nad cyn hynny. Ac ni fyddwn yn gwneud dim ynghylch cam-drin, ac mae gennym ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fel y gwyddoch chi. Mae hynny wedi'i lywio gan dystiolaeth fyd-eang a chenedlaethol yr effeithir ar fenywod a merched yn anghymesur gan bob math o gam-drin. Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ac mae gennym ein llinell ffôn Byw Heb Ofn, ac yn amlwg, gall unrhyw un sy'n dioddef trais neu gam-drin gartref gael gafael ar y cymorth cyfrinachol hwnnw am ddim, bob awr o'r dydd a'r nos, drwy'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, naill ai drwy sgwrsio, drwy alwad, drwy e-bost neu drwy neges destun. A byddwn i'n annog pob Aelod i sicrhau bod eu hetholwyr yn ymwybodol o hynny.
Mae'r tymor ymwelwyr eto yn ein cyrraedd ni, a nifer fawr o bobl yn mynd i ddod i'n cymunedau ni dros yr wythnosau nesaf. Eisoes, mae gwylwyr y glannau, timau achub mynydd, parafeddygon a gwasanaethau brys eraill wedi bod yn ofnadwy o brysur. Mae'r galw ar y gwasanaethau yma, yn enwedig gwasanaethau iechyd, yn cynyddu'n sylweddol adeg gwyliau, ac eleni yn mynd i fod yn fwy prysur nag arfer, ac mi ydym ni hefyd ar drothwy trydedd don o'r coronafeirws. Mae angen felly meddwl am edrych ar sut mae ariannu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd sydd yn gweld poblogaeth yn cynyddu 10 gwaith yn fwy adeg gwyliau. A gawn ni ddatganiad brys gan y Llywodraeth felly ynghylch sut mae disgwyl i'n gwasanaethau brys a gwasanaethau iechyd ymdopi yn ystod cyfnod y gwyliau anodd yma sydd o'n blaenau? Diolch.
Diolch. Rwy'n credu bod y tymor ymwelwyr wedi hen ddechrau yma yng Nghymru. Mae hyn bob amser wedi bod yn rhywbeth sy'n cael ei drafod a'i ystyried pan gynhelir sgyrsiau ar gyllidebu. Felly, nid wyf yn credu bod angen datganiad, ac nid wyf yn credu bod angen cyllideb benodol—mae'n rhan o'r cyllidebau cyffredinol a dderbynnir gan ein byrddau iechyd a'n gwasanaethau.
Gweinidog, gyda'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd wrth inni ddechrau dod allan o bandemig y coronafeirws, mae goryrru yn dod yn un o'r problemau mwyaf yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad am waith partneriaeth GoSafe ac a ellir darparu mwy o arian i ariannu camerâu gwirio cyflymder cyfartalog mewn ardaloedd lle ceir problemau goryrru ar draws ein cymunedau er mwyn helpu i achub bywydau a chadw pobl yn ddiogel a hefyd i leihau allyriadau? Diolch, Llywydd.
Diolch. Mae'r gwasanaeth GoSafe yn sicr yn rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau parhaus ynghylch angen rhagor o gyllid, na sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny. Ond yn sicr fe ofynnaf i'r Gweinidog a oes unrhyw beth penodol ar gael, ac, os oes ganddo ragor o wybodaeth, fe ofynnaf iddo ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink
Trefnydd, mae'n wythnos Hosbis Plant, felly a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i'n dwy hosbis plant yng Nghymru: sef Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, dwy hosbis ragorol, sydd gyda'i gilydd yn darparu gofal seibiant a lliniarol i fwy na 400 o deuluoedd â phlant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd? Ac maen nhw'n dymuno gallu sicrhau'r plant a'r teuluoedd hynny, ac eraill yn y dyfodol, y gallan nhw warantu, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ddyfodol teg a chynaliadwy sy'n cynnig mwy o gymorth a gofal i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru. Byddai datganiad o'r math hwn yn galluogi Llywodraeth Cymru hefyd i ymhelaethu ar yr ymrwymiad i'w groesawu i ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau y diwellir eu hanghenion mor agos i'w cartrefi â phosibl ac yng Nghymru pryd bynnag y bo'n ymarferol. Ac a wnaiff y Llywodraeth amlinellu, felly, sut y bydd yn gweithio gyda Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith i sicrhau bod y cyllid a'r gwasanaethau ychwanegol hyn yn cyrraedd y rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Felly, rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn croesawu datganiad ar yr adeg amserol hon.
Diolch, Huw Irranca-Davies, am dynnu sylw at y gwaith gwych y mae ein hosbisau'n ei wneud. Maen nhw'n darparu gwasanaethau eithriadol o bwysig, ac maen nhw'n rhoi cymorth enfawr i gleifion a theuluoedd a gofalwyr. Efallai eich bod wedi clywed arweinydd yr wrthblaid yn codi'r mater hwn gyda'r Prif Weinidog ac ateb y Prif Weinidog. Rydym yn parhau i fuddsoddi mwy nag £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ledled Cymru, ac mae llawer o hyn yn mynd i'n hosbisau oedolion a phlant ledled Cymru. Rydym hefyd wedi dyrannu £12.3 miliwn o gyllid brys i gefnogi ein hosbisau ers dechrau pandemig COVID-19, ac mae'r cyllid hwnnw wedi'i ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau clinigol a chryfhau ein cymorth profedigaeth gan hosbisau. Rwy'n siŵr bod yr Aelod hefyd yn ymwybodol o ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i adolygu'r gwaith o gynllunio llwybr cleifion a chyllid hosbisau, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes fel y gallwn adolygu'r ffordd y dyrennir yr arian penodol hwnnw i fyrddau iechyd a'n hosbisau gwirfoddol.
Ac, yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae gennyf ddau awgrym. Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn traddodi araith ar 5 Gorffennaf i amlinellu cynlluniau ar gyfer sgwrs genedlaethol ar ein dyfodol cyfansoddiadol. A wnaiff y Gweinidog busnes drefnu datganiad yn y fan hon, cyn ei araith, er mwyn iddo allu rhannu ei gynlluniau gyda ni yn gyntaf?
Rhif 2: yn ystod y pandemig mae'r cyhoedd, yn briodol, wedi cydnabod gwaith y GIG a'r sectorau allweddol wrth wneud popeth posibl i gadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, arweinyddiaeth a darpariaeth llywodraeth leol sydd wedi'u hanwybyddu i raddau helaeth yn ystod y 15 mis diwethaf—sector sydd wedi dangos arloesedd, atebion lleol ac arweinyddiaeth wrth gyflawni dros y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. A wnewch chi drefnu dadl yn amser y Llywodraeth i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol amlinellu ei gweledigaeth hi ar gyfer llywodraeth leol wrth inni gynllunio ein ffordd allan o'r pandemig? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, iawn. Ac rwy'n siŵr—. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud am araith y Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhannu ei araith gyda ni ar yr adeg fwyaf priodol, ond ni fyddwn yn gallu cyflwyno datganiad llafar cyn yr araith, ond fe wnaf—ac mae'n eistedd yn y Siambr gyda mi—fe wnaf sicrhau ei fod yn rhannu ei araith gyda chi.
O ran eich sylwadau am lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus a'u hymateb i'r pandemig, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac rwy'n credu bod pobl yn cydnabod y gwaith anhygoel y maen nhw wedi'i wneud, pan fyddwch yn meddwl am sut maen nhw wedi cefnogi gyda'r gwaith profi, olrhain, amddiffyn, er enghraifft, a darparu parseli bwyd. Ac yn sicr mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'n fawr yr holl waith y mae awdurdodau lleol wedi'i wneud, ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig.
Diolch i'r Trefnydd. Dyna ddiwedd ar yr eitem yna. Felly, byddwn ni'n cymryd toriad byr nawr ar gyfer caniatáu newidiadau yn y Siambr. A bydd y gloch yn canu dwy funud cyn inni ail gychwyn. Diolch yn fawr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:44.
Ailymgynullodd y Senedd am 14:55, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—diweddariad ar y coronafeirws. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Am y tro cyntaf yn y Senedd hon ac am y tro cyntaf ers nifer o fisoedd, mae'n rhaid imi ddweud wrth Aelodau fod achosion o'r coronafeirws, yn anffodus, yn cynyddu yma yng Nghymru. Unwaith eto, rŷn ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol ac rŷn ni ar ddechrau'r drydedd don o'r pandemig. O fewn ychydig iawn o wythnosau, mae amrywiolyn delta, roedden ni'n arfer ei alw'n amrywiolyn sy'n peri pryder sy'n tarddu o India, wedi lledu o dri chlwstwr bach yng ngogledd a de-ddwyrain Cymru i'n cymunedau ym mhob rhan o Gymru.
Dros y pythefnos diwethaf, mae cyfradd achosion y coronafeirws a'r gyfradd bositifrwydd wedi mwy na dyblu. Heddiw, y gyfradd achosion yw 31.3 achos fesul 100,000 o bobl. Mae achosion yn cynyddu bron ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, wedi'u gyrru gan yr amrywiolyn hwn sy'n symud yn gyflym ac yn hynod o hawdd i'w drosglwyddo. Yng Nghonwy, mae'r cyfraddau bellach yn agosáu at 100 o achosion fesul 100,000 o bobl, ac yn sir Ddinbych a sir y Fflint maen nhw'n uwch na 50 mewn 100,000.
Dirprwy Lywydd, mae wyth o bob 10 achos newydd o'r coronafeirws yng Nghymru yn achosion o'r amrywiolyn delta. Amcangyfrifir bellach fod y gyfradd R—yr R rate—ar gyfer Cymru rhwng 1 ac 1.4, sy'n arwydd pellach fod heintiau'n codi unwaith eto. Mae'r dystiolaeth i gyd yn awgrymu bod yr amrywiolyn delta yn fwy trosglwyddadwy na'r amrywiolyn alffa—amrywiolyn Kent—a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r achosion yn yr ail don dros y gaeaf.
Nid Cymru yw'r unig ran o Brydain sy'n gweld ton gynyddol o achosion y coronafeirws sy'n cael eu hachosi gan amrywiolyn delta; os rhywbeth, rŷn ni ychydig o wythnosau y tu ôl i'r sefyllfa yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Yn Lloegr erbyn hyn, mae dros 70,000 o achosion wedi'u cadarnhau o amrywiolyn delta, a rhyw 5,000 yn yr Alban. Yn Lloegr a'r Alban, mae niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda'r coronafeirws unwaith eto, ac, yn anffodus iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cadarnhau 73 o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag amrywiolyn delta. Yn ffodus, dŷn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwn eto yma yng Nghymru. Rŷn ni tua dwy neu dair wythnos y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i'n ffiniau, ond mae hyn yn darparu darlun sy'n peri gofid i ni.
Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi oedi eu cynlluniau eu hunain i lacio cyfyngiadau'r coronafeirws oherwydd pryder am yr amrywiolyn delta. Ac yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau na fyddwn yn bwrw ymlaen ag unrhyw lacio newydd o'r cyfyngiadau dan do yn lefel rhybudd 1 yr wythnos hon, na dros gylch y tair wythnos nesaf. Byddwn ni'n defnyddio'r saib pedair wythnos i ganolbwyntio ar gyflymu brechiadau er mwyn helpu i atal mwy o bobl rhag mynd yn ddifrifol wael wrth inni wynebu'r don newydd yma o heintiau.
Er bod achosion yn codi, mae'n dal i fod gyda ni'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig, a, diolch i ymdrechion enfawr pawb sy'n ymwneud â'r cynllun, mae rhai o'n cyfraddau brechu ni ymysg y gorau yn y byd. Bydd hyn i gyd yn ein helpu ni wrth inni wynebu'r drydedd don yma. Mae'r gwaith modelu'n awgrymu y gallai oedi o bedair wythnos nawr helpu i leihau'r nifer uchaf o dderbyniadau dyddiol i'r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo'r gwasanaeth iechyd yn brysur iawn yn ymateb i'n holl anghenion gofal iechyd, nid jest y coronafeirws.
Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus i dalu teyrnged i'n rhaglen frechu wych ni ac i bawb sydd wedi ei gwneud hi'n llwyddiant ysgubol. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 88.7 y cant o oedolion wedi cael eu dos cyntaf a bod 60.2 y cant wedi cael eu hail ddos. Rhwng nawr a chanol mis Gorffennaf, fe fyddwn ni'n rhoi 0.5 miliwn o frechlynnau ychwanegol yn y system. Fe fyddwn yn canolbwyntio ar gynnig ail ddos i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 yn ystod y pedair wythnos nesaf, sef pawb dros 50 oed, pob gweithiwr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, a grwpiau eraill sy'n agored i niwed, gan gynnwys, wrth gwrs, breswylwyr cartrefi gofal. A chan ddibynnu ar y cyflenwad, fe fyddwn ni'n cyflymu'r apwyntiadau ar gyfer pobl dros 40 oed fel na fydd yn rhaid iddyn nhw aros am fwy nag wyth wythnos rhwng eu dos cyntaf a'u hail. Nawr, i gyflawni hyn, fe fydd angen cymorth pawb arnom i annog pobl i ddod ymlaen a chwblhau eu cwrs o ddau ddos. Nid yw un brechlyn yn ddigon; mae angen i bawb gael dau.
Dirprwy Lywydd, er na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i reoliadau coronafeirws am y pedair wythnos nesaf, rydym wedi gwneud rhai diwygiadau mân i sicrhau y bydd hi'n haws deall y rheolau. Ac mae'r rhain yn cynnwys newid y rheoliadau fel y bydd maint unrhyw safle—ynghyd ag asesiad risg—yn pennu faint o bobl all fod yn bresennol mewn gwledd briodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd dan do. Rydym wedi dechrau ailagor canolfannau preswyl addysg awyr agored, gan ddechrau gyda phlant oedran ysgol gynradd. Rydym wedi diwygio'r rheoliadau i sicrhau bod y safleoedd sy'n cynnal perfformiadau cerddorol a chomedi ar lawr gwlad yn cyd-fynd â'r rheolau ar gyfer lletygarwch. Ac rydym wedi diweddaru'r rheoliadau hefyd fel eu bod nhw'n adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf o ran sut y gall busnesau gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg ar eu safleoedd nhw ac i egluro'r rheolau ynglŷn â 2m o bellter ar gyfer grwpiau o chwech o bobl.
Fe fyddwn ni'n parhau i gynnal ein rhaglen o ddigwyddiadau peilot yn sectorau theatr, chwaraeon ac eraill yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf, gan arbrofi gyda niferoedd mawr o bobl i weld sut a phryd y maen nhw'n ymgynnull yn ddiogel ac effaith hynny.
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau a ddiweddarwyd hefyd sy'n ymdrin â nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys ymweliadau ag ysbytai a gwasanaethau mewn addoldai. Ac rydym wedi cyhoeddi datganiad gan ein cynghorwyr gwyddonol ni ynglŷn â'r defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion, er na fydd yna unrhyw newid uniongyrchol yn y defnydd ohonyn nhw.
Dirprwy Lywydd, rwyf am gloi drwy ddweud ein bod ni mewn cyfnod tyngedfennol unwaith eto yn ystod y pandemig hwn. Mae'r brechiadau yn cynnig gobaith gwirioneddol o berthynas wahanol â'r feirws. Efallai y bydd modd ymateb i'r don hon heb orfod cyflwyno mesurau o ran cyfyngiadau symud, os gallwn ni dorri'r cyswllt rhwng heintio ac angen triniaeth mewn ysbyty. Fe all brechu ein helpu ni hefyd i symud y tu hwnt i gyfnod pandemig a dod â'r cylch hwn o orfodi a llacio cyfyngiadau i ben. Ond, am y tro, fe fyddwn ni'n parhau â'n dull pwyllog ni, sy'n seiliedig ar ddata, o ymateb i'r pandemig hwn sy'n parhau. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich diweddariad y prynhawn yma? O ran yr amrywiolyn delta, er ein bod ni'n edrych ar gynnydd yn y gyfradd heintio yng Nghymru, mae niferoedd y rhai sydd angen triniaeth mewn ysbyty, yn ffodus, yn parhau i fod yn gymharol fach, sef 116 o gleifion COVID yn gyffredinol mewn gwelyau acíwt, ac un gyda COVID mewn gwely awyru ymledol. Wrth gwrs, rwy'n deall, ac rwy'n credu eich bod chi wedi dweud hynny, y bydd yna oedi bob amser, felly, rhwng wythnosau o heintio ac achosion difrifol.
Ond rwy'n troi nawr at yr hyn a ofynnais ichi ar 8 Mehefin ynglŷn â'ch ymchwil i frechiadau, a'ch ateb chi ar y pryd oedd bod dadansoddiad cynnar o'r data yn edrych yn obeithiol iawn, ac ychydig iawn o achosion o'r amrywiolyn delta oedd gyda ni bryd hynny, mewn gwirionedd, ond roedd yn cynyddu'n gyflym. Felly, ar y pryd, fe ddywedoch chi fod angen
'pythefnos ychwanegol i ni gael dadansoddi'r data',
ac felly y dewis priodol oedd—fe ddywedoch chi ar y pryd—i'r Cabinet wneud y penderfyniadau o ran cyflwyno'r cyfyngiadau. Nawr, rwy'n gwybod na allai'r Prif Weinidog roi unrhyw ddiweddariad penodol ddydd Gwener diwethaf o ran effeithiolrwydd y brechu. Mae pythefnos wedi mynd heibio erbyn heddiw, ac nid oes dim byd penodol ynglŷn â hynny yn y datganiad heddiw. Felly, a gaf i ofyn: a wnewch chi roi unrhyw ddiweddariad pellach inni o ran sut mae'r brechiadau wedi gweithio yn erbyn yr amrywiolyn delta yng Nghymru? Ac os na allwch chi ateb hynny heddiw, a fyddech chi'n rhoi syniad inni, efallai, pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i roi'r dadansoddiad hwnnw?
Gan droi at y cyfyngiadau, rwy'n nodi—. Fel yr wyf i'n ei gweld hi, fe ddywedwyd wrthym gan weithwyr iechyd proffesiynol fod COVID yn debygol o fod gyda ni am byth, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, gwaetha'r modd. Ac fe fydd yn rhaid inni fyw gyda COVID. Felly, yn sicr, nid wyf yn dymuno gweld unrhyw gyfyngiadau symud eto; rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno â'r safbwynt hwnnw. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud na fyddai ef yn diystyru unrhyw gyfyngiadau symud pellach ar hyn o bryd. Rwy'n tybio y byddech chi'n cytuno â safbwynt y Prif Weinidog yn hynny o beth. Rydych chi wedi dweud y bydd yna oedi, i bob pwrpas, dros y pedair wythnos nesaf, ond a gaf i eich holi chi am unrhyw ystyriaethau a roddwyd gennych yn y Cabinet i gyfyngiadau pellach neu gyfyngiadau symud pellach? Nid wyf yn dymuno gweld hynny, ond rwy'n gofyn ichi am eich dadansoddiad a'ch barn chi o ran eich ystyriaethau yn y Cabinet ynglŷn â hynny. A ydych chi'n ystyried cyfyngiadau pellach ar hyn o bryd ac, i bob pwrpas, a ydych chi'n anelu tuag at sefyllfa yng Nghymru lle nad oes unrhyw farwolaethau oherwydd COVID? Oherwydd fe fyddai bron yn amhosibl cyflawni hynny, yn fy marn i. Ond rwy'n ceisio deall y cydbwysedd yr ydych chi'n ei geisio yma a phryd y cawn ni'r wybodaeth honno ynglŷn â derbyniadau i ysbytai oherwydd yr amrywiolyn delta, a'ch meddylfryd chi hefyd ynglŷn â chyfyngiadau pellach posibl.
Rydych chi wedi sôn am rai meysydd sydd wedi cael eu llacio. Roeddwn i'n falch iawn eich bod wedi llacio ar y gallu i ymweld â chleifion mewn ysbytai; rydych chi wedi llacio'r cyfyngiadau yn hynny o beth. Rydych chi wedi caniatáu canu mewn eglwysi, sy'n faes arall yr wyf i'n ei groesawu hefyd. Mae croeso hefyd i'r llacio o ran canolfannau addysg awyr agored. Ond rwy'n credu bod yna bryder yma—ac efallai y gofynnaf am eich barn chi ynghylch a oes gwersi i'w dysgu yma—bod angen i rai diwydiannau gael cryn dipyn o rybudd ymlaen llaw. I ganolfannau addysg awyr agored, mae'n cymryd wythnosau i baratoi, ac yna mae'n rhaid i'r ysgolion wneud eu trefniadau nhw, ac mae'n rhy hwyr iddynt newid eu trefniadau. Fe wyddom, pan fydd ysgol efallai wedi newid ei safle—efallai eu bod nhw'n dod i mewn i Gymru ac yn mynd i rywle arall yn y DU—yn y dyfodol efallai na fyddant yn dod yn ôl i Gymru wedyn. Felly, mae'n bwysig iawn bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud a'u rhyddhau i rai sectorau ar fyrder, a chyda digon o rybudd i allu cynllunio er mwyn i lacio'r cyfyngiadau hynny wneud rhywfaint o wahaniaeth iddyn nhw.
Mae arbenigwyr clinigol wedi rhybuddio, gan fod achosion o'r ffliw wedi eu ffrwyno cymaint yn ystod y 18 mis diwethaf oherwydd y cyfyngiadau symud fwy na thebyg, y bydd ein systemau imiwnedd ni'n llai effeithiol, gan arwain o bosibl at broblemau a gaiff eu storio tan y gaeaf. Nawr, yma yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi bod y cyfraddau ymgynghori â meddygon teulu oherwydd y ffliw ar 0.7 fesul 100,000 o boblogaeth—hynny ar 17 Mehefin—sydd ymhell islaw'r cyfartaledd tymhorol o 11 fesul 100,000. Felly, mae data gwyliadwriaeth y sefydliad yn awgrymu nad yw'r ffliw wedi cylchredeg yn ystod misoedd y gaeaf, ac felly mae'r posibilrwydd o gyfraddau uwch neu weithgarwch annhymhorol uwch na'r cyffredin yn ystod tymor 2021-22 yn parhau. Ac yn fyd-eang, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi mynegi pryderon hefyd bod y ffliw yn parhau ar gyfradd is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, o edrych ar y nifer a fanteisiodd ar y brechiad rhag ffliw y llynedd, fe gafodd ychydig dros 51 y cant o'r rhai hynny o dan 65 oed mewn grŵp risg clinigol eu brechiad ffliw. Felly, pa ymdrechion yr ydych yn eu gwneud nawr i sicrhau y bydd y rhai sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu brechu, ac, yn bwysicaf oll, yn manteisio ar y brechlyn? A tybed a allech roi gwybod inni hefyd am eich trafodaethau â'ch cymheiriaid yn y DU o ran rhaglen arall i weinyddu brechiadau atgyfnerthu ar gyfer COVID, a sut yr ydych chi'n cefnogi GIG Cymru i baratoi ac ymdopi â'r hyn a fydd yn anochel yn fwy o bwysau i ddod yn y gaeaf, yn anffodus.
Wel, dyna lawer o gwestiynau, Russell. Diolch i chi. Fe wnaf fy ngorau i geisio eu hateb nhw. Rydych chi'n ymwybodol ein bod ni ar ddechrau trydedd don, a dyna pam nad yw'n amser nawr i roi ein troed lawr ar y sbardun, yn arbennig felly wrth inni barhau i ddysgu am yr amrywiolyn delta.
Mae yna rai arwyddion cynnar sy'n galonogol iawn, ond yn amlwg mae'n anodd iawn cael mesuriadau dibynadwy o Gymru, gan fod ein cyfraddau ni mor isel yma, felly rydym yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, yn Lloegr yn arbennig. Fe gyhoeddwyd rhai papurau diddorol iawn, ond ni chawsant eu hadolygu gan gymheiriaid, felly rydym yn aros am y dadansoddiad hwnnw fel y gallwn fod yn wirioneddol hyderus yn yr hyn yr ydym ni'n ei weld fel arwyddion cynnar o'r posibilrwydd i ddau ddos o'r brechlyn leihau'r tebygolrwydd yn sylweddol o fod ag angen triniaeth mewn ysbyty. Felly, pan welwn ni'r ddogfen honno wedi ei hadolygu gan gymheiriaid, rwy'n credu y byddwn mewn gwell sefyllfa i roi ein dyfarniad ni. Yn sicr, dyna pam rydym ni wedi oedi o ran ein cynlluniau i ddatgloi.
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i orfodi cyfyngiadau symud pellach, ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych y caiff hyn ei yrru gan ddata, fel y bu hi yng Nghymru erioed. Fe fyddwn yn dilyn yr wyddoniaeth ac yn dilyn y data, a'r hyn na fyddwn ni'n ei wneud yw rhoi addewidion gwag. Ni fyddwn ni'n dathlu diwrnod rhyddid yng Nghymru; ni fydd gennym ddyddiad gorffen i anelu ato. Fe fyddwn ni'n gwneud yr hyn sy'n iawn o ystyried yr amgylchiadau sydd ger ein bron, ac fe fyddwn ni'n darllen y data ac yn ymateb i hynny.
Roeddem yn falch o weld ein bod wedi gallu llacio o ran ymweliadau ag ysbytai, ond rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio, mae'n debyg, ei bod yn bwysig i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud ar lefel leol. Felly, fe wyddom ni fod amrywiolyn delta yn arwyddocaol iawn nawr, neu ei fod yn cynyddu mewn ardaloedd yn y gogledd, felly fe all y dyfarniadau a wnân nhw fod yn wahanol i'r dyfarniadau a wneir mewn byrddau iechyd mewn mannau eraill.
Roeddem ni'n falch o lacio'r cyfyngiadau o ran canolfannau ymwelwyr awyr agored, yn enwedig ar gyfer plant ifanc. Ac wrth gwrs, yr hyn yr oeddem ni'n ceisio ei wneud oedd rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r wythnosau prin iawn hyn sydd ar ôl cyn diwedd tymor. Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid canfod cydbwysedd yn hyn o beth; mae'n rhaid inni ystyried y data, Ond pan welwn ni eu bod ar lefel yr ydym yn gyfforddus â hi, yna rwy'n credu y byddai llawer o'r canolfannau hynny'n hapus i agor, yn hytrach na'n bod ni'n rhoi tair wythnos arall iddyn nhw i baratoi. Felly, mater o gydbwyso yw hwn, wrth gwrs.
O ran y ffliw, rydym yn pryderu'n fawr am yr hyn a allai ddigwydd o bosibl yn ystod y gaeaf nesaf. Fe wn i fod y feirws syncytaidd resbiradol yn cylchredeg, yn enwedig ymysg plant, a'i fod yn rhywbeth yr ydym ni'n pryderu'n fawr yn ei gylch, ac rydym yn rhoi cynlluniau sefydliadol cynhwysfawr iawn ar waith. Mae hynny wedi datblygu llawer iawn eisoes, ac fe fyddwn yn gwrando ar gyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio o ran ein gallu ni i gyflwyno dosau atgyfnerthu ochr yn ochr â brechlynnau ffliw i'r dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhyw bedwar neu bump o gwestiynau, dwi'n meddwl, gen i. Y cyntaf jest yn dilyn ymlaen o'r pwynt olaf yn y fan yna: oes gennych chi ddiweddariad i ni ar y gwaith sydd yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y brechiad atgyfnerthu—y booster yna—yn gallu cael ei roi allan yn yr hydref yn unol â'r hyn y mae'r JCVI wedi awgrymu sydd angen ei weld yn digwydd?
Mae gwthio'r ail ddos yna allan mor gyflym â phosib yn allweddol rŵan, wrth gwrs. Dwi'n ymwybodol bod yna wahanol ffyrdd y mae pobl i fod i ddelio â'u byrddau iechyd: rhai yn disgwyl am lythyr, rhai yn disgwyl am alwad ffôn, eraill yn gorfod mynd ar-lein i wneud eu hapwyntiad eu hunain; a dyna wnes i, yn y pen draw, a chael fy ail frechiad i ddoe. Oes yna angen rhywfaint o gysoni neu gryfhau y cyfathrebu ar lefel genedlaethol yn fan hyn, o ran sut y mae pobl i fod i gael yr ail frechiad yna mor fuan â phosib? Achos mae'n rhaid i mi gyfaddef, roeddwn i wedi drysu braidd fy hun dros yr wythnosau diwethaf.
Myfyrwyr: mae llawer o fyfyrwyr wrth gwrs yn mynd i fod wedi cael eu brechiad cyntaf yn lle maen nhw yn y brifysgol, ac wedyn yn mynd yn ôl gartref i rannau eraill o Gymru neu i Loegr. Allwch chi egluro pa waith sy'n cael ei wneud i hwyluso pethau fel bod yr ail ddos yn gallu cael ei rhoi heb rwystrau, lle mae pobl wedi newid cyfeiriad a llythyrau'n mynd ar goll, a'r math yna o beth?
Mae'r twf yn yr amrywiolyn delta, wrth gwrs, yn bygwth ein hysbytai ni unwaith eto. Rydyn ni'n gobeithio, wrth gwrs, bod y brechiad yn mynd i atal ymchwydd mawr yn y nifer sy'n mynd i'r ysbytai, ond beth rydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i gryfhau'r symudiad tuag at gael mwy o safleoedd COVID-lite, fel nad ydy gweithgareddau eraill yr NHS yn dod dan fygythiad mwy na sydd ei angen? Mae cael y safleoedd COVID-lite yma, wrth gwrs, yn rhywbeth mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, er enghraifft, wedi gofyn amdano fo droeon dros y flwyddyn diwethaf. Maen nhw'n dal yn methu â gweld y math o symudiad ar hyn yr hoffen nhw ei gael.
Un cwestiwn olaf ynglŷn ag asthma yn benodol, a'r angen i bobl sy'n dioddef asthma gael brechiad ychwanegol. Mae yna bryder gan Asthma UK bod yna gannoedd o filoedd o bobl wedi mynd ar goll o systemau'r gwasanaeth iechyd ar draws Prydain ac wedi methu â chael y brechiad yn gynnar. Mae yna restr brechiadau ffliw sydd gan y gwasanaeth iechyd beth bynnag; mae fy nharo i fod trio ailddyfeisio'r olwyn wedi mynd ymlaen yn fan hyn. Felly, allwch chi edrych ar y posibilrwydd o jest mynd oddi ar restr asthma'r brechiad ffliw er mwyn sicrhau bod pobl sy'n dioddef asthma yn cael unrhyw boosters mor fuan â phosibl pan ddaw hi i'r hydref? Diolch.
Diolch yn fawr. O ran pobl a chysondeb cyfathrebu, dwi'n meddwl bod y canllawiau'n glir iawn ar wefannau'r awdurdodau iechyd ynglŷn â ble ddylai pobl fynd. Dwi'n meddwl ei fod e'n anodd, achos mae pobl yn derbyn eu gwybodaeth nawr o gymaint o lefydd gwahanol, a dyna pam beth rŷn ni'n ceisio ei wneud yw ymateb i beth sy'n briodol, yn arbennig lle rŷn ni'n gweld bod llai o bobl yn dod ymlaen. Mae yna broblem arbennig gyda ni ar hyn o bryd ymysg pobl groenddu sydd o dras Affricanaidd a Charibïaidd. Ymysg yr oedran 30 i 39, mae yna broblem. Felly, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar ble maen nhw'n mynd ar gyfer eu gwybodaeth nhw. Rŷn ni'n gwneud lot o waith manwl ble rŷn ni'n gweld bod yna broblem. Roeddwn i lan yn Wrecsam ar ddydd Gwener, ac roedd hi'n ddiddorol; fe wnaethon ni weld bod yna broblem mewn un ardal o Wrecsam, ac roedden nhw wedi symud y ganolfan frechu i mewn i ganolfan hamdden yng nghanol yr ardal o ble roedd llai o bobl yn dod. Ac ar y penwythnos, roedden nhw'n mynd i fynd i ganol y dref, fel eu bod nhw'n mynd at lle oedd pobl yn mynd i basio heibio. Felly, dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth sy'n mynd i symud ymlaen.
O ran myfyrwyr, mae'n glir ei bod hi'n bosibl i bobl gerdded i mewn a chael eu brechlyn. Mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny—dos cyntaf neu'r ail ddos hefyd. Daeth fy mab i nôl dros y penwythnos, a'r peth cyntaf y gwnes i oedd sicrhau ei fod e'n mynd am ei frechlyn e; roedd yn ddiddorol i weld wnaeth e ddim cael cynnig y brechlyn pan oedd e yn Lloegr fel myfyriwr. Felly, dwi'n falch o weld ein bod ni ymhell ar y blaen yn y maes yna.
O ran y safleoedd COVID-lite, rŷn ni'n trafod ar hyn o bryd gyda'r byrddau iechyd, ac rŷn ni'n awyddus i weld os allwn ni weld byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd tipyn bach mwy a chael, efallai, canolfannau mwy rhanbarthol. Ond byddwch chi'n ymwybodol, os ŷch chi'n mynd i gael canolfan boeth a chanolfan oer, mae hwnna'n golygu ei fod e'n anodd cael A&E yn yr ardal yna. Trïwch chi gau lawr ardal A&E mewn ysbyty. Dwi ddim yn meddwl eich bod chi'n gofyn am hynny, ond mae hwnna, yn amlwg, yn gyfyngder ar ein posibilrwydd o newid un ysbyty mewn i ganolfan sydd yn COVID-lite.
O ran asthma, dwi'n gwybod, yn y lle cyntaf, roedd pobl gydag asthma difrifol yn yr haen gyntaf yna o bobl a oedd yn cael eu blaenoriaethu. Roeddwn i'n ymwybodol bod yna grŵp gwahanol o ran brechiad ffliw. Roedd yna gyfyngder ar faint oedd gyda ni o'r brechlyn ar yr adeg yna, ac felly wrth inni fynd mewn i'r boosters, fe gawn ni weld os oes mwy o supply gyda ni, ac efallai y bydd yn haws inni fynd nôl at yr adroddiad a'r rhestr yna a oedd gyda ni ar gyfer y ffliw.
Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Fe hoffwn i godi pwynt gyda chi ynglŷn â llif yr wybodaeth a'r ffordd yr ydych chi'n cyflwyno'r wybodaeth honno i'r Senedd. Heddiw, fe gafodd y datganiad hwn ei ychwanegu i'r agenda ar y funud olaf. Ni chlywais i unrhyw beth gwahanol yn y datganiad hwn i'r hyn a glywais i yn eich sesiwn friffio chi i'r wasg ddoe ac, yn wir, yn sesiwn friffio'r Prif Weinidog i'r wasg ddydd Gwener. Rwy'n deall yn iawn y pwysau sydd ar gyflwyno'r wybodaeth hon, ond mae'n bwysig iawn dangos dyledus barch i'r Aelodau a sicrhau bod yr wybodaeth hon yn dod yn gyntaf i'r Aelodau fel y gallant ei chyfathrebu â'u hetholwyr. Yn anterth y pandemig, roeddwn i'n sylweddoli pa mor anodd oedd cyfathrebu'r wybodaeth honno ac fe wnaed hynny drwy sesiynau darlledu cyhoeddus a sesiynau i'r cyfryngau o Barc Cathays. Ond a gaf i ofyn sut yn union yr ydych chi'n rhoi cais am amser wrth i'r Llywodraeth amserlennu ei busnes seneddol? Oherwydd fe fyddwn i'n annog y Llywodraeth yn enbyd, ac yn ceisio cefnogaeth gan y Llywydd yn hyn o beth, i sicrhau bod y datganiadau hyn yn cael eu cyflwyno a bod yr wybodaeth hon yn dod yn gyntaf i'r Aelodau, yn hytrach nag yn y sesiynau briffio i'r wasg a gynhelir ym Mharc Cathays ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr iawn. Yn sicr, roeddem yn awyddus iawn i sicrhau eich bod chi'n cael clywed yr wybodaeth hon yn y Siambr. Roeddem ni'n ymwybodol iawn i'r datganiad hwnnw gael ei wneud gan y Prif Weinidog ddydd Gwener, ac i ragor o wybodaeth gael ei rhoi gennyf fi ddoe. Dyna pam roeddem ni'n bryderus iawn. Peidiwch ag anghofio ein bod ni'n gwneud penderfyniadau mewn amser real yn y cyswllt hwn gyda data yn cael eu rhoi inni ar y funud olaf un, ac mae'n rhaid gwneud penderfyniadau cyflym iawn. Mae'n rhaid gwneud rhai o'r dyfarniadau hyn ar y dydd Iau, gyda'r cyhoeddiad ar y dydd Gwener, a heddiw yw'r cyfle cyntaf a gawn i ddod atoch chi a rhoi gwybod beth yn union sy'n digwydd. Fe fyddwn ni'n parhau â'r ymrwymiad hwn i roi'r wybodaeth ichi, ond mae yna adegau yn ystod pandemig lle mae angen cyflwyno gwybodaeth yn gyflym iawn, a sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa, yn enwedig pan ydym ar ddechrau trydedd don.
Gweinidog, er bod briffiau a datganiadau Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws wedi cwmpasu ystod eang o feysydd, un maes sydd heb gael llawer o sylw, yn ddiweddar yn sicr, yw deintyddiaeth. Yn amlwg, mae triniaethau brys wedi bod ar gael drwy gydol cyfnod COVID, ond mae ffigurau a ddarparwyd gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dangos bod deintyddiaeth yng Nghymru yn gweithredu ar hyn o bryd ar lefel sydd tua un rhan o bump o'r lefel cyn y pandemig. Fe wyddom pa mor bwysig yw archwiliadau ataliol rheolaidd o ran iechyd y geg, ac mae rhai o fy etholwyr i yng nghwm Tawe wedi cysylltu â mi yn mynegi eu pryderon nad ydynt wedi cael archwiliad rheolaidd ers cryn dipyn o amser erbyn hyn. Mae yna ddealltwriaeth, wrth gwrs, fod yn rhaid ailddechrau archwiliadau rheolaidd yn ddiogel, ond ar yr un pryd, mae pryderon hefyd ynghylch y posibilrwydd o ehangu'r bwlch anghydraddoldeb o ran iechyd y geg. A wnewch chi felly amlinellu meddylfryd Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a'r trafodaethau sy'n digwydd gyda'r proffesiwn, a rhoi syniad o ba bryd yr ydych chi'n disgwyl i wasanaethau deintyddol arferol ailddechrau? Diolch.
Rwy'n ymwybodol iawn bod deintyddiaeth yn un o'r sectorau hynny lle mae'n rhaid bod yn ofalus iawn, oherwydd mae'r perygl o ymlediad gan aerosol yn real ac yn fwy arwyddocaol yno na mewn llawer o sector arall. Dyna pam rydym ni'n parhau i fod mewn sefyllfa lle'r ydym ni ar rybudd ambr o ran deintyddiaeth. Mae hynny'n golygu bod y cyfyngiadau hynny'n ddifrifol iawn, mewn gwirionedd. Mae'n rhaid sicrhau bod yna lanhau trylwyr iawn rhwng triniaethau i wahanol unigolion. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o anhawster y sefyllfa hon. Rwyf wedi cael cyfarfod eisoes gyda'm swyddogion i ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud i gyflymu'r sefyllfa pan allwn ni. Mae rhywfaint o ymchwil ddiddorol iawn wedi dod allan o Brifysgol Bangor i ddangos y gall cynorthwywyr deintyddol fod yr un mor gywir yn eu dadansoddiad nhw o archwiliadau, ac felly fe fyddwn ni'n ystyried a fyddai modd defnyddio cynorthwywyr deintyddol a'u hyfforddi nhw i glirio rhywfaint o'r gwaith sydd wedi pentyrru. Mae rhywun newydd ofyn imi sut i gael amser yn y Siambr; rwyf wedi gofyn a fyddai modd imi ddod i Siambr a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa o ran deintyddiaeth, oherwydd rwy'n ymwybodol bod hon yn broblem neilltuol ledled Cymru.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Roeddech chi'n crybwyll canolfannau addysg awyr agored a'r cyfleoedd y gellir eu rhoi nawr i blant ysgol gynradd o ganlyniad i rai o'r newidiadau a wnaethoch chi. Mae pennaeth Llu Cadetiaid y Fyddin yn y gogledd wedi cysylltu â mi, gan ddweud y bydd y cyfyngiadau parhaus hyn, yn anffodus, yn effeithio ar tua 1,000 o gadetiaid yng Nghymru, rhwng 12 a 18 oed, a oedd yn edrych ymlaen yn fawr at wersylloedd a gweithgareddau'r haf sydd wedi bod yn eu dyddiaduron nhw ers misoedd lawer. A gaf i eich annog chi i adolygu'r cyfyngiadau hyn cyn gynted ag y bo modd, gyda golwg ar godi'r cyfyngiadau ar wersylloedd cadetiaid y fyddin yn benodol, ac wrth gwrs ar weithgareddau eraill? Dylid cofio y bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn dod o gefndiroedd difreintiedig a heb gael unrhyw gyfle i ddod at ei gilydd na mynd i ffwrdd, efallai, ar wyliau teuluol hyd yn oed, boed hynny yng Nghymru neu rannau eraill o'r DU? A gaf i ofyn ichi am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa bryd yr ydych chi'n disgwyl bod mewn sefyllfa i adolygu'r sefyllfa honno cyn gynted â phosibl? Diolch.
Diolch yn fawr, Darren. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi hyrwyddo'r lluoedd arfog am flynyddoedd lawer, ac mae'n wych eich gweld chi'n parhau yn y swyddogaeth honno. Fe fyddwch yn ymwybodol, pe byddem yn caniatáu i bobl aros yn yr un llety dros nos, fod y tebygolrwydd o ymlediad feirysol yn cynyddu'n sylweddol. Gallwn wneud hyn o ran plant ysgol gynradd, yn rhannol oherwydd ein bod yn gwybod, os effeithir arnyn nhw, fod yr effaith yn isel iawn, ond hefyd gan fod y plant hyn mewn swigod eisoes. Ni fyddai hynny'n wir yn achos cadetiaid y fyddin, a dyna pam na fydd yn bosibl inni, ar hyn o bryd, ganiatáu i hyn ddigwydd. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn dod i farn ar hyn eto ymhen y mis, o ran faint o gymysgu dan do a ganiateir, ond rwy'n credu bod ychydig o ffordd i fynd eto cyn y gallwn weld sefyllfa sy'n caniatáu i oedolion gymysgu dan do dros gyfnod hir o amser—hynny yw, arhosiad dros nos. Rwy'n credu y bydd hynny'n cymryd ychydig mwy o amser, mae arnaf ofn, Darren.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Fe hoffwn innau wneud sylwadau hefyd ynghylch eich cyfeiriad at ganolfannau addysg awyr agored preswyl. Cysylltodd rhai ohonyn nhw â mi ddoe, a dyna sut y cefais i wybod am ddatganiad Llywodraeth Cymru, gan nad oeddem ni wedi cael ein hysbysu'n uniongyrchol fel Aelodau. Fe godais i'r pryderon hyn a fynegwyd gan ganolfannau addysg awyr agored preswyl ynghylch canllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth Cymru yma am y tro cyntaf ym mis Mawrth, ar ôl i'r sector ddweud eu bod nhw wedi 'cyrraedd pwynt tyngedfennol', heb allu masnachu am 12 mis, ac eto roedd Llywodraeth Cymru, medden nhw, wedi methu â rhoi'r cymorth ariannol na chynnal y ddeialog adeiladol yr oedd eu hangen arnynt i oroesi. Rwy'n credu bod y llythyr hwnnw wedi ei anfon at bob Aelod.
Yr wythnos diwethaf, cefais negeseuon e-bost oddi wrth ganolfannau addysg awyr agored preswyl yn dweud, er enghraifft, 'Mae'r diwydiant hwn yn cael ei andwyo am byth. Mae hyn yn achosi diffyg ariannol enfawr yn yr economi leol, yn yr hirdymor a'r byrdymor fel ei gilydd. Ar hyn o bryd, mae gwestai addysg awyr agored yn cael eu rheoli'n ddiogel yn Lloegr, ac mae'r arian a ddylai fod yn dod i mewn i economi Cymru yn mynd ar goll. Mae'r rheolau'n anghyson ac, a dweud y gwir, yn ddiffygiol. Yn syml, mae Cymru ar fin colli un o'r ffyrdd mwyaf llawen o rannu ei threftadaeth a'i diwylliant gyda phobl ifanc. A dyma ddyfyniad olaf: 'Mae colli canolfannau yng Nghymru yn drychineb i Gymru o safbwynt ariannol a diwylliannol, ond mae ffordd hawdd o ymdrin â hyn'.
Er ichi gyhoeddi ddoe y bydd aros dros nos mewn canolfannau addysg awyr agored preswyl yn cael ei ganiatáu bellach i blant ysgol gynradd, mae'r canolfannau wedi ymateb gan ddweud, er enghraifft, 'Trueni na chawsom glywed am y newidiadau i'r cyngor ychydig wythnosau yn ôl, oherwydd fe fyddai wedi bod mwy o gyfle i achub rhai canolfannau' ac, 'Mae'n ymddangos i lawer ohonom ni sy'n darparu addysg awyr agored breswyl mai'r cyfan a wnaed oedd ymateb i'r argyfwng hwnnw gydag argyfwng arall'. Sut ydych chi'n mynd i ymgysylltu â nhw nawr yn y ddeialog adeiladol y maen nhw wedi bod yn galw amdani ers tro byd?
Diolch yn fawr, Mark. Rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw ein bod ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y sector hwn i Gymru. Rwy'n credu ei fod yn un o'r meysydd, yn enwedig mewn rhannau o'r gogledd a Bannau Brycheiniog, lle gall pobl, mewn gwirionedd, gael profiadau sy'n newid bywydau—gan gymryd pobl allan o'u hamgylchedd arferol a chyflwyno bywyd yn yr awyr agored iddynt. Wrth gwrs, rydym yn deall pa mor bwysig yw hyn i iechyd meddwl, yn benodol, ac i lesiant hefyd. Ac rydym ni wedi rhoi cymorth i'r sector hwn mewn gwirionedd. Mae'n ddigon hawdd dweud, 'Trueni na chawsom glywed am y newidiadau ychydig wythnosau yn ôl'. Wel, trueni na fyddem ni wedi cael gwybod am y feirws ychydig fisoedd yn ôl. Mae honno'n ffordd ryfedd iawn o awgrymu ein bod ni'n gwneud penderfyniadau fel hyn. [Torri ar draws.] Na. Rydym ni wedi dilyn y data bob amser. Byddwn yn parhau i ddilyn y data. Fe wyddom fod trosglwyddiad o fewn ardaloedd preswyl lle mae oedolion yn cymysgu dros gyfnod hir yn debygol o beri i'r feirws ymledu. Ni ellir ein plagio am hyn. Fe fyddwn ni'n dal ein tir. Ein gwaith ni yw amddiffyn pobl Cymru, a dyna yw ein safbwynt ni. Ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i estyn cymorth i sectorau sy'n cael amser anodd.
Diolch, Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae rhagfarn yn faich sy'n drysu'r gorffennol, yn bygwth y dyfodol, ac yn gwneud y presennol yn anhygyrch. Mae'r geiriau hyn, a ynganwyd gan Maya Angelou dros 30 mlynedd yn ôl, yn dal i adleisio mor uchel heddiw. Mae heddiw'n nodi pedwerydd Diwrnod Cenedlaethol Windrush, diwrnod sy'n cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau dynion a menywod ar draws y Gymanwlad a helpodd i adeiladu Cymru fodern a gwneud y wlad hon yn gartref iddyn nhw, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu nifer o sefydliadau i nodi'r digwyddiad hwn ledled Cymru, i ailadrodd y straeon hynny ac i ddathlu'r cyfraniadau hynny i'n cenedl.
Mae mudwyr wedi bod yn rhan annatod o'n cenedl ers amser maith cyn ac ers i deithwyr y Windrush gyrraedd. A byddai'n esgeulus imi beidio â manteisio ar y cyfle hwn i atgoffa dinasyddion yr UE yng Nghymru fod straeon eich cyfraniadau, bod eich awydd i alw Cymru'n gartref i chi, yn rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi'n llwyr. A dyna pam yr ydym wedi gweithio'n ddiflino i atgoffa dinasyddion yr UE yng Nghymru i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ac i wneud hynny cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar 30 Mehefin.
Fel Llywodraeth Cymru rydym hefyd wedi cefnogi a chynnig noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers tro byd. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa, a'r wythnos diwethaf cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi cyfraniad rhyfeddol ffoaduriaid i'r frwydr yn erbyn COVID-19 yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, os cymerwn eiliad i fyfyrio, 2020 oedd, heb amheuaeth, y flwyddyn pan fuom yn wynebu hiliaeth na welsom ei thebyg erioed o'r blaen, lle cawsom ein gorfodi i wynebu'r gorffennol a chyflwr presennol ein cysylltiadau hiliol. Roedd effaith COVID-19 yn parlysu'r byd. Ymhlith y rhai a ddioddefodd yr ergyd galetaf gan y pandemig oedd ein cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Anfonodd llofruddiaeth greulon George Floyd donnau ysgytwol ar draws y byd a sbarduno protestiadau byd-eang yn erbyn anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau hiliol, gan gynnwys yma yng Nghymru. Dyma rai o'r digwyddiadau a newidiodd ein byd a byddant yn cael eu cofio yn ein llyfrau hanes fel rhybudd amserol ar gyfer cyfiawnder hiliol a newid.
Roedd y 25 o Fai 2021 yn nodi blwyddyn ers marwolaeth Mr Floyd. I'w deulu, cafwyd rhyw fath o gyfiawnder pan gafodd rheithgor o 14 y swyddog heddlu Derek Chauvin, yn euog o'i lofruddiaeth. I ni, mae marwolaeth George Floyd yn ein hatgoffa ni bod yn rhaid inni gymryd camau i fynd i'r afael â hiliaeth o bob math a symud ymlaen. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymdrechu i wneud hynny: symud ymlaen.
Ym mis Mawrth 2020, trafodais gyda Fforwm Hil Cymru y bwriad i ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a chyflymodd digwyddiadau 2020 ein penderfyniad i gyflawni cynllun erbyn diwedd tymor diwethaf y Senedd. A'r llynedd, cefnogodd y Senedd gynnig i ddileu hiliaeth ac ideolegau hiliol yn llwyr ac ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol systemig a strwythurol. Ac rydym wedi cymryd camau breision ers hynny yn ein hymdrech i weithio tuag at ddileu hiliaeth a chyflawni ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.
Ar 24 Mawrth, gwnaethom lansio'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol drafft ar gyfer Cymru, Cymru wrth-hiliol, ar gyfer ymgynghori. Rwy'n falch mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i alw am wlad wrth-hiliol.
Roedd y dystiolaeth gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wrth i ni gyd-adeiladu'r cynllun gweithredu yn gwneud graddfa a natur dreiddiol yr hiliaeth y mae pobl yn ei hwynebu bob dydd yn glir iawn. Roedd hyn yn atgyfnerthu'r angen am y cynllun gweithredu i hyrwyddo Cymru wrth-hiliol. Nid yw'n ddigon da dweud nad ydym yn hiliol. Mae effeithiau niweidiol hiliaeth sydd wedi eu hen sefydlu ac anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny yn gofyn am weithredu rhagweithiol, gwrth-hiliol.
Mae gwrth-hiliaeth yn alwad i unigolion a sefydliadau i ymrwymo i feddwl yn weithredol ac ymateb i effeithiau posibl eu strwythurau, eu prosesau, eu polisïau a'u harferion presennol o ran pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'n bryd inni symud y baich o fynd i'r afael â hiliaeth oddi ar ysgwyddau dioddefwyr gweithredoedd o'r fath, a'i drosglwyddo i bawb mewn cymdeithas. A dyna sut y byddwn ni'n cyflawni Cymru sy'n fwy cyfartal, sy'n decach ac sy'n hygyrch i'n holl ddinasyddion. Ac rwy'n ddiolchgar am ymdrechion cynifer o bobl a sefydliadau ledled Cymru a roddodd eu hamser, eu gwybodaeth a'u harbenigedd gwerthfawr ac i'r rhai a rannodd eu profiadau byw o hiliaeth wrth gyd-greu'r cynllun gweithredu.
Gyda'n gilydd, rydym wedi cyflawni cynllun drafft sy'n glir o ran diben, yn seiliedig ar weithredu, ac wedi'i hyrwyddo gan y bobl a fydd yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'n gynllun gweithredu sydd heb gywilydd yn ei benderfyniad i ddileu anghydraddoldebau hiliol erbyn 2030, ac mae'n gynllun y gallwn ei gryfhau ymhellach.
Er mwyn sicrhau bod y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael i bawb, rwyf wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori i 15 Gorffennaf 2021. Mae'n hanfodol bod yr ymgynghoriad yn ymestyn yn eang i gymunedau amrywiol, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer deialog hyblyg, a all fod ar sawl ffurf. Lansiais grant ymgynghori cymunedol ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i sicrhau bod cyfleoedd ymgynghori ar gael i gymunedau a grwpiau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, i'w galluogi nhw i ymateb i'r cynllun. Mae eu lleisiau'n hollbwysig yn y broses hon, gan ein bod am sicrhau ein bod yn cymryd yr amser i ymgysylltu ag unigolion a chymunedau sy'n wynebu anghydraddoldebau hiliol, i gynnwys y safbwyntiau hynny yn ein cynllun. A byddwn yn cymryd yr hyn a ddysgwn o'r broses hon i lywio sut yr ydym yn gweithio gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y dyfodol.
Mae clywed gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yr un mor hanfodol hefyd, gan nad cynllun i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn, mae'n gynllun i Gymru gyfan a'i phobl—mae pob un ohonom yn elwa ar Gymru gynhwysol a gwrth-hiliol. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni barhau i siarad am fynd i'r afael â hiliaeth yng Nghymru, a defnyddio cyfleoedd a gyflwynir i bawb yn y broses ymgynghori hon. Mae'n rhaid inni ymuno fel pleidiau gwleidyddol â chymdeithasau busnes, undebau llafur, cyrff cyhoeddus, y trydydd sector a chymdeithas sifil. Dim ond trwy ein hymdrech ar y cyd i gydnabod a dileu hiliaeth y gallwn ddileu hiliaeth yn wirioneddol a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol.
Mae mis Mehefin hefyd yn Fis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Mis Pride. Ac mae'r digwyddiadau hyn yn gerrig milltir allweddol sy'n rhoi cyfle i ni ddathlu ein hamrywiaeth a'r cryfder a ddaw yn sgil hynny i addysgu a chodi ymwybyddiaeth. Ac mae nodi pen-blwyddi pwysig fel Diwrnod Windrush, Wythnos Ffoaduriaid, Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Mis Pride yn atgyfnerthu gwirionedd sylfaenol: ni ddylem, ac nid ydym yn cymryd ein cymunedau'n ganiataol. Yn hytrach, byddwn yn ymdrechu'n galetach i wneud Cymru'n wlad lle mae cydraddoldeb i bawb yn sicr ac nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth a enillir.
Felly, yn olaf, galwaf ar bawb yma i addo gweithio gyda ni yn ein gweledigaeth i sicrhau Cymru wrth-hiliol. Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd mae'n rhaid i ni ymrwymo i ddileu pob math o hiliaeth. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni ymdrechu i greu cymdeithas deg a chlir. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i'n gobeithion ar gyfer ein gwlad gyd-fynd â phenderfyniad i newid. Diolch yn fawr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch, Dirprwy Lywydd, diolch Gweinidog. Nid yw hiliaeth yn hawdd ei gweld, ei deall na'i chollfarnu. Pe na bai hynny'n wir, byddai'r dasg o adnabod gwrth-hiliaeth yn syml. Mae pobl yn teimlo nad yw rhywbeth yn hiliol os nad yw ymosodiad hiliol wedi digwydd, neu os nad yw'r gair 'N' neu 'P' wedi'u defnyddio. Credwn na all pobl dda fod yn hiliol, credwn mai dim ond yng nghalonnau pobl ddrwg y mae gwir hiliaeth yn bodoli, credwn fod hiliaeth yn ymwneud â gwerthoedd moesol, pan fo, yn hytrach, yn ymwneud â goroesiad y system o bŵer. Mae natur gudd hiliaeth strwythurol yn anodd ei dwyn i gyfrif. Mae'n llithro allan o'ch dwylo'n hawdd, fel arian byw o'ch dwylo—ni allwch ei weld. Mae Reni Eddo-Lodge yn dewis y term 'strwythurol' yn hytrach na 'sefydliadol', oherwydd ei bod yn credu ei fod wedi'i gynnwys mewn mannau llawer ehangach nag yn ein sefydliadau mwy traddodiadol. Mae hiliaeth strwythurol yn anhydraidd ac nid yw'n cael sylw, nid yw'n ymwneud â rhagfarn bersonol yn unig, ond mae'n effeithio ar ein rhagfarn ar y cyd. Dyma'r math o hiliaeth sydd â'r pŵer i gael effaith sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl. Mae'r darlun cenedlaethol yn ddifrifol, ac mae'n effeithio ar grwpiau o fewn y cymunedau du, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig yn wahanol.
Gwelwn hefyd y cyhuddiad rheolaidd o hiliaeth yn cael ei daflu yn erbyn unrhyw un sy'n cynnig cymeradwyo, addysgu, i gynnal gwerthoedd gwareiddiad gorllewinol. Mae ofn cael eu cyhuddo o hiliaeth wedi arwain sylwebyddion, gwleidyddion a heddluoedd ledled y byd gorllewinol i ymatal rhag beirniadu neu gymryd camau yn erbyn llawer o arferion troseddol amlwg sydd wedi ymsefydlu yn ein plith. Arferion fel priodas dan orfod, enwaedu menywod, lladd ar sail anrhydedd a bygythiadau cynyddol gan grwpiau crefyddol yn erbyn unrhyw un sy'n amlygu'r feirniadaeth leiaf o'u ffydd. Mae ymchwil o nifer o wahanol ffynonellau yn datgelu sut mae hiliaeth yn treiddio i wead ein byd. Mae hyn yn gofyn am ailddiffinio ar y cyd beth mae'n ei olygu i fod yn hiliol, sut mae hiliaeth yn amlygu ei hun, a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud i'w dileu.
Rwy'n pryderu bod bron i 79,000 o droseddau casineb hiliol wedi'u cofnodi yn 2019, cynnydd o 11 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Fel yr amlinellwyd yn ein maniffesto, ein gweledigaeth yw Cymru heb hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu, a dyna pam yr wyf am bwyso ar Lafur Cymru i arwain drwy esiampl a chymryd ymagwedd dim goddefgarwch tuag at bob math o wahaniaethu ledled Llywodraeth Cymru. Ni allwch ddisgwyl i eraill weithredu oni bai eich bod wedi rhoi trefn ar eich tŷ eich hun. Felly, a wnaiff y Gweinidog egluro beth fydd ei Llywodraeth ei hun yn ei wneud? Wrth ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol newydd, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r Senedd y bydd y ddogfen yn golygu rhywbeth y tu hwnt i'r geiriau cynnes sy'n aml yn gysylltiedig â mynd i'r afael â hiliaeth, ac, wrth adeiladu Cymru wrth-hiliol, eich bod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd i'r bobl? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch yn fawr am y geiriau pwysig iawn yna. Ac, fel y dywedwch chi, mae'n anodd mynd i'r afael â'n hiliaeth strwythurol a'i herio. Gall fynd yn ei blaen, ac mae wedi mynd yn ei blaen yn osgoi sylw am gyfnod rhy hir o lawer. Mae wedi'i chuddio, ac, wrth gwrs, mae wedi effeithio ar gyfleoedd cynifer o bobl. Felly, mae dileu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol—bob amser yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Ac rydym wedi rhannu yn y Siambr hon—rydym wedi cefnogi gyda'n gilydd—fel yr holl bleidiau a gynrychiolwyd y llynedd, ar fwy nag un achlysur, ein hatgasedd tuag at hiliaeth ac ideolegau hiliol.
Rwy'n credu eich bod yn gosod her bwysig i ni fel Llywodraeth Cymru. Ni ddylai fod yn eiriau cynnes yn unig. Mae'n wir—. Dyna pam y mae'r cynllun mor bwysig, oherwydd mae wedi'i adeiladu ar werthoedd gwrth-hiliaeth. Mae'n galw am ddim goddefgarwch, fel y dywedwch chi, o hiliaeth yn ei holl ffurfiau, ond mae wedi'i ddatblygu ar y cyd, ac rwy'n credu mai dyna yw ei gryfder, oherwydd nid y Llywodraeth sy'n dweud, 'Dyma'r hyn sy'n iawn yn ein barn ni.' Mae hyn wedi bod yn ymwneud â'r rhai y mae hiliaeth yn effeithio arnyn nhw, ac mae'r rheini sy'n gweithio yn ein proffesiynau ac sy'n byw yn ein cymunedau wedi gweithio gyda ni i gael y cynllun hwn i'r pwynt lle y gallwn ni ei weithredu wedyn, ac rydym yn bwriadu iddo fod yn gynllun ymarferol. Os edrychwch chi arno, ac edrychwn ymlaen at eich ymatebion, mae ganddo gamau gweithredu penodol iawn i'w cymryd, ac mae ar draws pob maes polisi. Felly, wrth ddatblygu'r cynllun, cyfarfûm â holl Weinidogion Llywodraeth Cymru. Mae gan bob rhan o Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb, a'u gweithredoedd ar ei draws—. Ac, ar ôl ei gwblhau, bydd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r gwaith o'i gyflawni a bydd yn atebol amdano.
Dim ond ychydig o bwyntiau yr oeddwn i eisiau eu dilyn, o ran y materion allweddol, ac rwy'n credu bod addysg yn hollbwysig, fel y dywedwch chi, oherwydd mae hyn yn effeithio ar gyfleoedd pawb. A chyfraniadau'r cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a Cynefin, yn y gweithgor cwricwlwm newydd, a gadeiriwyd gan yr Athro Charlotte Williams, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ac sy'n gweithio i'r Gweinidog addysg—a sefydlwyd fis Awst diwethaf. Ac fe wnaeth oruchwylio'r gwaith hwnnw o ddatblygu adnoddau dysgu sy'n hanfodol i'n hysgolion. Nododd fylchau yn yr adnoddau neu'r hyfforddiant presennol sy'n gysylltiedig â chymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau, ac, fel Aelodau o'r Senedd honno ddiwedd mis Mawrth a oedd yma, byddwch yn cofio i'r cyn-Weinidog Addysg dderbyn pob un o'r 71 o argymhellion yn adroddiad terfynol gweithgor y cwricwlwm newydd ar 19 Mawrth. Felly, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithredu'r argymhellion. Mae'r Gweinidog, Jeremy Miles, yn bwrw ymlaen â hyn yn rhinwedd ei swydd yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, gan edrych arno fel rhan o'r broses newydd o weithredu'r cwricwlwm, ac mae gan gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru gyfres o argymhellion cynnar iawn a gyflwynwyd gan y grŵp ar adnoddau dysgu. Ond yna, wrth gwrs, mae'n golygu bod yn rhaid iddo ymgysylltu ag Estyn, consortia rhanbarthol, rhanddeiliaid cynlluniau gweithredu cydraddoldeb hiliol ac, yn wir, yr Athro Charlotte Williams, sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru mewn rôl gynghori wrth roi'r argymhellion ar waith.
Rwyf hefyd eisiau dweud rhywbeth am droseddau casineb. Rydych yn sôn am gasineb a sut y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r bygythiadau a'r ofn sydd wedi treiddio i wead ein byd, fel y dywedwch chi. Ddoe, cyfarfûm â BAWSO—roedd yn bwysig iawn clywed ganddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud i gefnogi menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig drwy'r pandemig, a'r ffyrdd y maen nhw wedi ymladd yn erbyn sefyllfaoedd anodd iawn i'r rheini heb ffyrdd o gyrchu cymorth i gael arian cyhoeddus, y teimlwn ni wrth gwrs y dylid rhoi sylw i hyn—rydym yn gweithio arno yn Llywodraeth Cymru, ond mae angen cefnogaeth Llywodraeth y DU arno hefyd. Ond i ddweud i gloi, er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o droseddau casineb ac annog adrodd amdanyn nhw, fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi £180,000 yn natblygiad Mae Casineb yn brifo Cymru, ac mae honno'n ymgyrch i helpu i fynd i'r afael â throseddau a digwyddiadau casineb. Ac i wneud hynny, i ddatblygu'r ymgyrch honno, unwaith eto, buom yn ymgynghori â phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig i gael y math iawn o ymgyrch gyfathrebu ac i sicrhau ein bod wedi mynd i'r afael â hi mewn ffordd sy'n ddiwylliannol sensitif ond ein bod hefyd wedi edrych ar naws a'r neges ar gyfer yr ymgyrch, ac fe'i lansiwyd ar 9 Mawrth. Ac rydym yn parhau i ariannu'r adroddiad troseddau casineb cenedlaethol a'r ganolfan gymorth sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Byddwn yn cynghori'n fawr iawn, yn enwedig ein Haelodau newydd, a'n Haelodau sy'n dychwelyd, i ymweld â'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth, sy'n gweithio mor galed yn y maes hwn. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth honno gennych chi eich hun, Altaf, ac yn amlwg gan Geidwadwyr Cymru heddiw.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fel Aelod newydd i'r Senedd, rwy'n falch iawn o ymateb i'r datganiad hwn ar bwnc mor bwysig o fewn fy wythnosau cyntaf fel Aelod etholedig ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau. Mae gwaredu hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol yn fater cwbl greiddiol i Blaid Cymru ac yn un rwy'n benderfynol o weld cynnydd yn ei gylch erbyn diwedd tymor y Senedd. Gan ystyried bod creu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn rhan o faniffesto Plaid Cymru, rwy'n amlwg yn croesawu'r datganiad hwn yn fawr.
Agorodd y Gweinidog ei datganiad gan ddyfynnu'r awdur Affro-Americanaidd Maya Angelou, ac mae'n destun balchder, wrth gwrs, fod un arall o fawrion llenyddiaeth Affro-Americanaidd, Ralph Ellison, wedi dod i ardal Abertawe a Threforys yn fy rhanbarth i fel GI ac wedi nodi i Invisible Man, ei nofel enwog o 1952, gael ei chychwyn yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth adweithiol Dorïaidd San Steffan am i Windrush a hanes amlddiwylliannol yr ynysoedd hyn fod yn anweledig—ein dyletswydd ni yma yng Nghymru yw peidio â chaniatáu hyn.
Mae'n rhaid i ni roi i bawb bresenoldeb yn ein hanes, rhan i'w chwarae wrth ddychmygu ein dyfodol a llais ac amlygrwydd yn y presennol.
Yn gyntaf, felly, ar y cynllun ac ar yr ymgynghoriad, allwch chi esbonio sut mae argymhellion yr Athro Ogbonna wedi'u hymgorffori i mewn i'r cynllun? Yn ogystal, rydych yn ymestyn y cyfnod ymgynghoriad er mwyn sicrhau mwy o fewnbwn. Beth yw eich proses chi o sicrhau bod lleisiau croestoriadol yn gallu bwydo i mewn? Ac yn olaf ar y cynllun, rydych yn awyddus i gynnwys nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn y weledigaeth o Gymru wrth-hiliol. Beth yw'r system o atebolrwydd sydd wedi'i adeiladu i mewn i'r cynllun i sicrhau bod y weledigaeth yma'n troi'n realiti?
Yn ail, mae angen i lwybrau arweinyddiaeth fod yn glir i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Beth yw eich gobaith chi o'r effaith y bydd ehangu a diwygio'r Senedd yn cael ar greu Cymru wrth-hiliol? Ac yn olaf, mae yna ardaloedd polisi amlwg—addysg a thai—lle gall y Senedd achosi newid positif. Ond rwyf hefyd o'r gred fod cymaint mwy y gallwn ei wneud os gwnawn ni ddatganoli'r heddlu a chyfiawnder. Mae'n destun tristwch bod Cymru wedi'i chlymu at Lywodraeth adweithiol asgell dde sy'n cael ei harwain gan wleidydd sydd wedi gwneud datganiadau hiliol, sy'n ei gwneud hi'n anos i bobl fynnu hawliau cyfartal a lloches—er enghraifft, yn sgil y bygythiad presennol i rym y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol—ac sydd wedi torri hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod i swyddogion y Llu Ffiniau.
Does dim amser heddiw i restru nifer helaeth yr enghreifftiau eraill o ymddygiad sydd wedi gwneud dim i sicrhau diwedd i hiliaeth a chamwahaniaethu. A ydych chi felly'n cytuno gyda mi, yng ngoleuni'r cynllun hwn, fod Senedd Cymru mewn safle llawer gwell i wneud penderfyniadau ar gyfiawnder sy'n effeithio ar gydraddoldeb, ac y byddai ei ddatganoli yn gymorth ychwanegol yn ein siwrnai at gyrraedd Cymru wrth-hiliol? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch yn fawr am eich cwestiynau.
Rwyf hefyd wrth fy modd yn eich croesawu chi—a'ch llongyfarch chi, rhywbeth nad wyf wedi cael y cyfle i'w wneud—i fod yn llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, ac i ymateb i'ch cwestiynau am y datganiad pwysig iawn hwn, y gwn fod Plaid Cymru wedi'i gefnogi'n llawn. Yn wir, roedd yn dda iawn, yn y Senedd flaenorol, pan oedd gan y pwyllgor a gadeiriwyd gan John Griffiths, a oedd yn amlwg ag Aelodau Plaid Cymru, Aelodau o bob rhan o'r Senedd—. Roedd cefnogaeth mor gryf i'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, wrth i ni ei ddatblygu, a'r dystiolaeth yr oedden nhw yn ei chymryd, yn enwedig o effaith anghymesur COVID-19 ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond hefyd yn edrych ar yr effeithiau economaidd-gymdeithasol hefyd—. A'r hyn a oedd yn wirioneddol bwysig oedd, wrth i ni edrych ar yr effaith anghymesur, ein bod yn gallu elwa ar yr Athro Emmanuel Ogbonna, a fu'n gweithio gyda phobl â phrofiad bywyd o hyn, yn edrych ar yr effeithiau economaidd-gymdeithasol. Dyna pam y mae'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn edrych—ac, yn wir, y rhaglen lywodraethu, sydd mor bwysig—. Os edrychwch chi drwy'r rhaglen lywodraethu, nid cydraddoldeb yn unig sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae camau gweithredu o ran tai, o ran cyflogadwyedd, o ran gwella mynediad at brentisiaethau, a hefyd o ran addysg, fel y dywedais eisoes.
Nawr, un o'r materion pwysicaf yng ngwaith cychwynnol cynnar y rhai a oedd yn cyd-lunio'r cynllun oedd edrych ar beth ddylai'r blaenoriaethau fod: ie, wrth gwrs, iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd addysg, cyflogaeth ac incwm ac arweinyddiaeth a chynrychiolaeth, a dyna lle y byddwn yn gwneud y newidiadau. Daeth y system cyfiawnder troseddol i mewn hefyd, er nad yw wedi'i datganoli. Roedd yn amlwg iawn, o'r trafodaethau a hefyd o edrych ar y dystiolaeth o adroddiadau fel adroddiad David Lammy, fod angen inni edrych ar effaith y system cyfiawnder troseddol ac, yn wir, yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n pwerau, ond hefyd edrych ar, unwaith eto, y rhaglen lywodraethu, gan edrych ar blismona a datganoli plismona a chyfiawnder a sut yr ydym yn symud ymlaen â hynny, ond edrych ar dai a llety, diwylliant, treftadaeth, chwaraeon, democratiaeth leol, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, y cyfan—popeth yr ydym yn gyfrifol amdano fel Senedd—ond wrth gwrs llawer mwy na hynny.
Rwyf hefyd eisiau dweud bod pennod yn y cynllun, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymateb iddi'n llawn, o ran y system cyfiawnder troseddol a sut y gallwn gymryd camau i gefnogi ac ymateb o fewn ein pwerau ac yna edrych ymhellach ar yr hyn y gallwn ni ei wneud. Bydd rhywfaint o hynny mewn partneriaeth hefyd, o ran polisïau nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Enw'r bennod yw 'Troseddu, Cyfiawnder, Agweddau Atgas a Chydlyniant Cymunedol', ac mae cydlyniant cymunedol, wrth gwrs, yn hanfodol o ran sut yr ydym yn mynd i'r afael ag effaith hiliaeth ar bobl, unigolion a chymunedau.
Mae adeiladu cymunedau cydlynol ac integredig yn rhan bwysig o'r camau gweithredu, gan gydnabod bod pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu tangynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol hefyd, bod angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei adlewyrchu, yn enwedig o ran ein hasiantaethau cyfiawnder troseddol, ond hefyd yn cydnabod bod hyn yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n adnewyddu ein canolfan adrodd am droseddau casineb a chymorth i Gymru, ac rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y pwyntiau hynny. Felly, gyda'ch cefnogaeth chi, rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol, wrth i bwyllgorau ddechrau ffurfio, a symud ymlaen, nid yn unig ymgysylltu â'r ffordd yr ydym yn ymateb i'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ond sut yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod wedi darparu cyllid, nid yn unig i grwpiau gyfrannu at ddatblygu'r cynllun, ond, fel y dywedais i yn fy natganiad, roeddem hefyd, o fewn y cyfnod ymgynghori hwn, yn estyn allan at fwy o grwpiau i dreiddio'n ddwfn i gymunedau. Felly, rydym wedi rhoi mwy o grantiau i ddweud, 'Dyma'r cynllun' fel y gallant ymateb a chyfrannu ato. Felly, mae wedi bod yn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru gyfan.
Ond rwy'n credu wrth i'r gwerthoedd—. Os edrychwch chi ar y cynllun, ein diben yw gwneud newid ystyrlon i fywydau cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig drwy fynd i'r afael â hiliaeth, a chredwn mai dim ond am eu hawliau y mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn gofyn, yn hytrach na ffafrau wrth wneud penderfyniadau, yn y gweithlu a darparu gwasanaethau ac ym mhob agwedd ar fywydau bob dydd.
Diolch hefyd am roi sylwadau ar Invisible Man a'r hyn a ddechreuodd yng Nghymru, a Maya Angelou. Pan euthum i—. Siaradais â hynafgwyr Windrush heddiw, ac fe siaradon nhw am y 73 o flynyddoedd, pan ddaethon nhw ar yr Empire Windrush. Fe ddaethon nhw oherwydd y gofynnwyd iddyn nhw ddod. Fel y dywedon nhw, 'Gwnaethom ateb': 'Galwodd Prydain—fe wnaethom ni ateb.' Roedd hynny ar y faner, ac yr oedd clywed Roma Taylor, cyn-filwr ysbyty maes Cymru 203, yn siarad heddiw yn bwerus iawn.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'r holl randdeiliaid, wrth gwrs, sy'n ymwneud â'r holl waith y maen nhw wedi'i wneud i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol drafft hwn. Mae'n sicr yn feiddgar, mae'n uchelgeisiol, a dyna sydd ei angen arnom i helpu i ddileu hiliaeth yma yng Nghymru. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, Gweinidog, mae'n cwmpasu pob maes, ac ni allwn gwmpasu pob maes yma heddiw, felly rwy'n mynd i ganolbwyntio yn fwy ar ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon, yn enwedig chwaraeon, oherwydd byddech chi'n disgwyl i chwaraeon fod yn un maes lle byddai pobl yn unedig, ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, gyda ni i gyd yn rhannu awydd cyffredin i weld ein tîm neu ein gwlad yn gwneud yn dda, boed hynny ar lefel leol neu ar lefel genedlaethol, ac eto mae'n faes lle gwelwn gystadleuwyr o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn profi rhai o'r camdriniaethau mwyaf erchyll. Yn gynharach eleni, cafodd y pêl-droedwyr o Gymru Ben Cabango a Rabbi Matondo negeseuon hiliol difrïol ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Mecsico ym mis Mawrth. Dim ond dau o nifer o chwaraewyr o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a brofodd gamdriniaeth erchyll ar-lein eleni yn unig yw'r dynion ifanc hyn. Rwy'n awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda sefydliadau ynghylch mynd i'r afael â hiliaeth ar-lein mewn chwaraeon.
Nodais mai un o'r camau gweithredu allweddol yn y cynllun ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth mewn diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yw cymryd camau i gynyddu amrywiaeth ethnig yn y gweithlu ar bob lefel, ac yn benodol mewn timau arwain ac ar fyrddau. Roeddwn yn arbennig o falch o weld hynny yng ngoleuni'r adroddiad gan Wales This Week a ddangosodd y—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben nawr?
—diffyg amrywiaeth yng nghyrff llywodraethu chwaraeon mwy Cymru. Iawn. Datgelodd y ffigurau, o 765 o weithwyr, mai dim ond 19 oedd o'r cymunedau hynny. A ydych yn cytuno â mi, Gweinidog, ei bod yn rhaid inni, er mwyn i bethau newid, eu newid ar y bwrdd, a rhaid i ni arwain o'r brig?
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson, a diolch am dynnu ein sylw at hyn heddiw—y maes allweddol hwn o hiliaeth mewn chwaraeon, a'r malltod, y ffordd gywilyddus y mae cynifer o ddynion a menywod ym maes chwaraeon yn dioddef cam-drin hiliol, a'r cam-drin hiliol sydd yno ar y cyfryngau cymdeithasol. Dydyn ni ddim i gyd yn gweld hynny. Maen nhw yn gweld y cam-drin hiliol hwnnw ar ôl perfformio'n wych yn eu chwaraeon ac yn dangos eu talent a'u sgiliau, ac i'w timau, a'r cam-drin hiliol hwnnw sydd mor wrthun i ni. A diolch am dynnu ein sylw at hyn yn y ddadl hon heddiw. Mae'n amlwg bod yn rhaid i ni wneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth mewn chwaraeon. Dyna pam y mae'r thema bolisi honno yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol—diwylliant, chwaraeon a threftadaeth—ac rwy'n falch, unwaith eto, ei fod wedi'i amlygu'n glir iawn yn y rhaglen lywodraethu. Mae'n flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon.
Mae'n rhaid inni wneud rhywbeth ynghylch y cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol hynny yng Nghymru, a amlygwyd gan y rhaglen ITV honno, Wales This Week. Ac rydych yn tynnu sylw at y thema polisi, yr arweinyddiaeth a'r gynrychiolaeth. Rydym wedi ymrwymo, Dirprwy Lywydd, i ddal holl arweinwyr cyrff cyhoeddus yn bersonol atebol am ddarparu gweithlu cynrychioliadol, a gweithleoedd cynhwysol a seicolegol ddiogel. Rydym yn cefnogi gwaith Chwaraeon Cymru ac maen nhw'n gweithio gyda UK Sport, Sport England, Sport Scotland a Sport Northern Ireland i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol, ond bellach disgwylir iddyn nhw ymateb o ran y camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, hefyd, ein bod yn cydnabod gwaith Chwaraeon Cymru sydd wedi cynhyrchu—ac mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i wybodaeth o'r rhaglen honno—ymgyrch #TellYourStory, sy'n gofyn i bobl o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rannu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o sut beth yw bod yn rhan o chwaraeon neu hyd yn oed gael eu heithrio ohonyn nhw, a'r hiliaeth honno sydd wedi gyrru pobl allan o chwaraeon oherwydd yr effaith annioddefol ar eu bywydau.
Dyma hefyd pam y mae hi mor bwysig ein bod yn buddsoddi yn Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn ein hysgolion, yr elusen addysgol wrth-hiliol honno. Mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'n plant a'n pobl ifanc. Ac, wrth gwrs, maen nhw'n dangos esiampl; pêl-droedwyr ydyn nhw'n bennaf, ond nid bob tro, ond maen nhw'n cyflwyno neges wrth-hiliol i bobl ifanc ac eraill mewn ysgolion. Efallai y byddai rhai ohonoch hefyd wedi bod mewn ysgolion pan oedden nhw'n ymgymryd â'u gwaith, ac mae mor bwerus ac mor bwysig.
Ond gadewch i ni fynd i'r afael â hyn, a diolch i chi am dynnu sylw at hyn a'i amlygu, sef yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, a rhaid i bob un ohonom wneud hynny heddiw o ran hiliaeth mewn chwaraeon, wrth i ni feddwl am ein chwaraewyr wrth iddyn nhw symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n bedair blynedd i'r wythnos hon ers i Lywodraeth Cymru fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth—penderfyniad yr oeddwn i a'r holl Aelodau ar y meinciau hyn yn ei groesawu'n fawr. Credaf fod cymryd arweiniad wrth gamu ymlaen fel hynny, a chymryd gafael ar y diffiniad hwnnw a'i gymhwyso i sefydliad yn beth pwysig iawn i'w wneud. Ond, yn anffodus, mae llawer o sefydliadau, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy'n dal yn gwrthod mabwysiadu'r datganiad gwaith penodol hwnnw a diffiniad o wrthsemitiaeth, gan gynnwys llawer o'n prifysgolion. Ychydig i lawr y ffordd yma, mae Prifysgol Caerdydd yn dal i wrthod mabwysiadu'r datganiad penodol hwnnw ar hyn o bryd, gwaetha'r modd.
A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i nid yn unig annog pobl i fabwysiadu'r datganiad hwn yn rhagweithiol, y rhai a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ond i'w gwneud yn ofynnol iddyn nhw fabwysiadu'r diffiniad, wrth symud ymlaen? Oherwydd rwy'n credu ei bod yn bryd nawr i ddechrau mabwysiadu dull mwy radical o ymdrin â'r math o gasineb gwrth-Iddewig yr ydym yn ei weld, yn anffodus, ar rai o'n campysau.
Wel, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y byddem yn ei wneud beth bynnag. Mae gan gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru ystod eang o gamau gweithredu sy'n ymwneud ag addysg, gan gynnwys addysg uwch, ac mae edrych ar y materion hyn mewn cysylltiad â'r disgwyliadau sydd gennym o'n sefydliadau addysg uwch yn amlwg yn rhan o hynny o ran pwysigrwydd y diffiniad hwnnw. Diolch.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd; diolch, Weinidog, hefyd, am y datganiad yma. Dwi'n falch gweld y camau sy'n cael eu cymryd yn hyn o beth.
Roeddwn i eisiau cymryd y cyfle yma i nodi yn benodol y ffaith ei bod hi'n Fis Hanes y Roma, y Sipswn a Theithwyr, ac roeddwn i'n falch iawn eich clywed chi'n cyfeirio at hynny yn eich datganiad chi. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod hiliaeth yn erbyn y cymunedau yma yn parhau i fod yn dderbyniol yn ein cymdeithas ni, a hynny yn seiliedig ar anwybodaeth. Ond, oherwydd yr anwybodaeth yna, dyna yw sail y ffaith nad oes yna ddim yn cael ei wneud i ddathlu cyfraniad y cymunedau yma i'n hanes a'n diwylliant a'n twf ni fel cenedl. Os ystyriwch chi mai heb y Roma a'r Sipsiwn, er enghraifft, fuasai gennym ni ddim ein caneuon gwerin a'n dawnsio gwerin ni yma yng Nghymru heddiw, fel roedd Dr Meredydd Evans wedi'i nodi. Ac rydych chi'n meddwl yn benodol am bobl fel Abram Wood a chyfraniad anferthol ei deulu o; yn meddwl hefyd am iaith y Roma yng Nghymru—y Kale yma. Hynny ydy, yn Nolgellau, mae pobl yn parhau i gyfeirio at ei gilydd fel 'chavi', sef 'plentyn' yn iaith Romani Cymru. Ac fel rhywun a gafodd ei fagu am gyfnod yn Abertawe, dwi'n gyfarwydd iawn â'r term 'mush'—pobl yn cyfeirio at ei gilydd fel 'mush'—sef y gair am 'ddyn' yn iaith y Roma yma yng Nghymru. Ond does yna ddim cydnabyddiaeth o rôl y cymunedau yma yn ein twf ni fel cenedl, na hyd yn oed statws swyddogol i'r iaith na'u diwylliant nhw. Felly, beth ydych chi am wneud i sicrhau bod y cymunedau yma, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn nhwf ein cenedl ni ac yn ein diwylliant ni, eu bod nhw'n cael y gydnabyddiaeth gywir, ynghyd â phob un gymuned arall yma, ac yna hefyd i gael gwared ar yr ymosodiadau hiliol sydd yn eu herbyn nhw? Diolch.
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn yna gan yr Aelod. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid bob blwyddyn i TGP Cymru i gyflawni'r prosiect Teithio Ymlaen, sy'n rhoi cyngor, eiriolaeth a chymorth ar gyfer cymryd rhan i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Ac mae gennym grŵp rhanddeiliaid, yr ydym yn gweithio'n agos iawn ag ef, yn enwedig dros y pandemig, i deilwra ein hymatebion iechyd cyhoeddus ar gyfer y cymunedau hyn sy'n agored i niwed, ond hefyd i ymgysylltu â'r cymunedau hynny i edrych ar yr argymhellion ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Ond rwy'n credu bod pwynt pwysig iawn a wnaed yn ymwneud â'r ffaith y gallwn ddysgu cymaint mwy gan ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rwy'n siŵr bod Mabon yn ymwybodol o Gwmni Diwylliannol a Chelfyddydau Romani. Maen nhw wedi cynhyrchu'n ddiweddar—ac mae hynny'n cael ei gefnogi gennym ni—adnodd archif llafar LGBTQ Sipsiwn, Roma a Theithwyr, oherwydd, yn amlwg, mae cysylltiadau rhyngadrannol hefyd, o ran Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ogystal â Mis Pride. Mae gennym gystadleuaeth yn ystod Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr gyda thimau cydlyniant cymunedol ledled Cymru. Yn wir, maen nhw'n dylunio mygydau, gyda phobl ifanc yn cymryd rhan. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod yr Athro Charlotte Williams wedi ymgysylltu drwy'r grwpiau yr ydym yn gweithio gyda nhw. Maen nhw'n bwriadu cynnwys diwylliant a gwerthoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr o fewn y cwricwlwm a'r mecanwaith cymorth i ysgolion, oherwydd gyda'n plant a'n pobl ifanc y byddwn ni'n dechrau gwneud y gwahaniaeth hwnnw.
Byddaf nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:08.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:21, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Mae'r datganiad nesaf, felly, gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gymwysterau yn 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Yn fy natganiad ar 'Adnewyddu a diwygio’, cadarnheais y byddem ni'n rhoi dysgwyr yn gyntaf, gan gefnogi eu lles a'u hyder a rhoi cyfleoedd iddyn nhw i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau allweddol i'w galluogi i wneud cynnydd. Mae'r rhain yn egwyddorion sydd wedi llywio ein trefniadau ar gyfer cymwysterau yr haf hwn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r athrawon a'r darlithwyr sydd wedi cefnogi eu dysgwyr trwy ddull newydd, dan amserlen dynn, i'w galluogi i symud ymlaen. Rwy'n deall i hyn fod yn heriol iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni, dan gadeiryddiaeth Geraint Rees, a ddaeth â phenaethiaid ysgol a cholegau ledled Cymru at ei gilydd. Maent wedi dod at ei gilydd yn wythnosol i gydlunio dull gweithredu, gan ymateb yn ystwyth i heriau newydd. Maent wedi canolbwyntio'n ddi-baid ar anghenion dysgwyr, eu lles a'u cynnydd. Heddiw, fe gyhoeddais lythyr gan gadeirydd y grŵp dylunio, sy'n tynnu sylw at rôl y sector addysg gyfan, yn darparu system lle gall dysgwyr deimlo eu bod yn llwyr haeddu’r cymwysterau y maent yn eu cael. Mae'r dull gweithredu ar gyfer 2021 yn rhoi ymddiriedaeth ym marn gyfannol canolfannau. Bydd dysgwyr yn derbyn gradd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'u dysgu a fydd ond wedi'i asesu ar y cynnwys a gwmpaswyd gan eu hysgol neu goleg. Gofynnwyd i ganolfannau ystyried materion cydraddoldeb fel rhan o'u trefniadau. Gallant ddefnyddio ystod o dystiolaeth asesu, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o brofiad ar lefel dysgwyr a lefel leol, ac mae dull wedi'i ddatblygu hefyd i sicrhau bod gan ymgeiswyr preifat lwybr clir i gyflawni eu cymwysterau.
Er mwyn hyrwyddo tegwch a chysondeb, mae'r hyblygrwydd hwn wedi ei gefnogi gan ganllawiau, gan ddeunyddiau enghreifftiol a gan ddysgu proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9 miliwn i gefnogi ysgolion a cholegau yn ogystal â dyrannu diwrnod hyfforddiant mewn swydd cenedlaethol. Mae yna ddulliau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol, gan gynnwys deialog broffesiynol gyda CBAC ynghylch deilliannau graddau ar lefel canolfan, nodwedd y gofynnwyd amdani gan y sector yn 2020. Gallaf sicrhau'r Aelodau na fydd CBAC yn newid unrhyw ddeilliannau o ganlyniad i'r ddeialog hon; penderfyniadau'r canolfannau ydyn nhw o hyd. Gan adlewyrchu'r model cyflawni gwahanol eleni, mae CBAC wedi gallu gostwng ei ffioedd 42 y cant, gan ryddhau £8 miliwn arall i ysgolion a cholegau. I gydnabod swyddogaeth canolfannau, rwy'n darparu £1.6 miliwn arall i allu gostwng ffioedd i 50 y cant.
Bellach, ysgolion a cholegau sy'n rheoli adolygiadau canolfannau o raddau y mae dysgwyr yn gofyn amdanyn nhw yn rhan o'r broses apelio. Rwy'n hyderus y bydd gan ddysgwyr fynediad at lwybr apelio teg ac ymarferol. Pan fo adolygiad canolfan wedi ei gynnal, os yw'r dysgwr yn dymuno parhau â'r mater ymhellach, mae ail lwybr ar gael drwy CBAC. Mae'r dull hwn yn unigryw i Gymru ac fe'i datblygwyd i leihau'r baich ar ysgolion a cholegau yn ystod y gwyliau. Heddiw rwyf i'n cadarnhau y bydd apeliadau am ddim.
Mae eleni yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae'n well gan rai dysgwyr arholiadau, a bydd rhai yn gwneud yn well mewn asesiadau parhaus. Mae'r dysgwyr hyn wedi bod yn destun aflonyddwch sylweddol yn ogystal ag addasu i ddull newydd o asesu. Rwyf i'n hyderus ein bod wedi datblygu system sy'n dryloyw, yn deg, yn gydradd ac yn gredadwy. Gall dysgwyr fod â hyder yn y graddau a ddyfarnwyd, ac felly hefyd y system addysg ehangach a chyflogwyr, yng Nghymru a thu hwnt. Rydym ni wedi cefnogi ysgolion, colegau a sefydliadau addysg uwch i gefnogi dysgwyr i drosglwyddo i'w camau nesaf.
Cymru, wrth gwrs, oedd y cyntaf i ganslo arholiadau'r haf, ond mae pob un o bedair gwlad y DU bellach ar lwybr tebyg yn fras. Rydym yn parhau i ymgysylltu'n agos â'n cymheiriaid i sicrhau chwarae teg i ddysgwyr ledled y DU, ac mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer derbyniadau i addysg uwch. Mae prifysgolion yng Nghymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cydweithio o dan arweinyddiaeth y Brifysgol Agored i gyflwyno University Ready, llwyfan ar-lein o adnoddau sy'n amrywio o sgiliau astudio i gefnogi iechyd meddwl a lles.
Yn olaf, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gymwysterau galwedigaethol sy'n cael eu rheoleiddio ar y cyd â gweinyddiaethau eraill. Ar gyfer cymwysterau tebyg i TGAU a Safon Uwch, er enghraifft BTEC, bydd graddau yn cael eu pennu gan ysgolion a cholegau mewn ffordd debyg i gymwysterau cyffredinol, a byddan nhw'n cael eu dyfarnu heb fod yn hwyrach na TGAU a Safon Uwch. Ar gyfer cymwysterau galwedigaethol eraill a ddefnyddir ar gyfer dilyniant neu drwydded i ymarfer, mae'r cymwysterau wedi eu haddasu a gall asesiadau barhau pan fo'n ddiogel gwneud hynny. Mae £26 miliwn wedi ei ddyfarnu i sefydliadau addysg bellach i ganiatáu i ddysgwyr ddychwelyd yn ddiogel er mwyn sicrhau bod rhaglenni galwedigaethol yn cael eu cwblhau.
Wrth gloi, hoffwn i ailddatgan fy niolch i athrawon a darlithwyr, y grŵp dylunio, Cymwysterau Cymru, CBAC a phartneriaid ar draws y system addysg am eu hymdrech ar y cyd i sicrhau y dyfernir cymwysterau i genhedlaeth o ddysgwyr, gan nodi eu gwaith caled a'u cyrhaeddiad yn ystod cyfnod o darfu digynsail. Mae'r ymdrechion hyn wedi galw am gyfraniad sylweddol gan ein gweithlu ac arweinyddiaeth gref a moesegol gan arweinwyr ein hysgolion a'n colegau. Rwy'n diolch iddyn nhw am eu hymdrechion. Hoffwn i hefyd longyfarch dysgwyr am eu cadernid a'u hymrwymiad yn ystod blwyddyn wirioneddol heriol.
A gaf i ddechrau hefyd drwy dalu teyrnged i'n hysgolion, ein colegau a'n hathrawon ledled Cymru am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc drwy'r 15 mis eithriadol o anodd hyn, dan bwysau aruthrol? Hoffwn innau hefyd ddymuno pob lwc i'n dysgwyr, sydd wedi dangos dealltwriaeth a chadernid rhyfeddol, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Gweinidog, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
Llywydd, rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ac yn cydnabod gwaith caled pawb sy'n gysylltiedig, o ddylunio, darparu ac asesu i geisio sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cael y graddau tecaf posibl eleni yn dilyn traed moch annerbyniol y llynedd. Roedd gweithio'n galed i gynllunio system gan ddefnyddio asesiadau i gefnogi a dangos tystiolaeth yn well o'r graddau a roddwyd i'r dysgwyr yn gam angenrheidiol i sicrhau nad yw carfan eleni yn rhannu'r un profiadau â charfan y llynedd. Fy ngobaith diffuant i yw bod y darpar raddau hyn a bennir gan y ganolfan, sy'n dechrau cael eu cyflwyno i'r dysgwyr eisoes, yn adlewyrchu'n deg waith caled a photensial ein pobl ifanc, a bod y broses apelio yn gadarn ac yn addas i'r diben.
Llynedd, yr oedd chwyddiant graddau yn enfawr, Gweinidog, ac yn gwbl anghynaliadwy. Heb os bydd rhywfaint o chwyddiant graddau eleni, Gweinidog, oherwydd natur y broses sydd ar waith. Ond pa gyfran o fyfyrwyr fyddech chi'n disgwyl eu gweld yn ennill graddau A* i C eleni, Gweinidog? Mae'n ymddangos bod y darpar raddau sy'n cael eu darparu rhwng nawr a 2 Gorffennaf yn addasiad synhwyrol y mae Cymru wedi ei fabwysiadu, sydd yn wahanol i weddill y DU, gan roi'r amser hynny i ddysgwyr apelio cyn y toriad, a chyn i'r canlyniad swyddogol aros. Mae hyn, wrth gwrs, i'w groesawu, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, fel y gall myfyrwyr ddathlu eu gwaith caled ar y diwrnodau canlyniadau hynny. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod y broses am ddim, fel yr ydych wedi ei gyhoeddi heddiw.
Yn amlwg, roedd rhywfaint o bryder dealladwy, Gweinidog, ynghylch cam 1 y broses apelio. Y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ni yn ei ddymuno yw rhoi baich ychwanegol sylweddol ar athrawon ac ysgolion ar ôl yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddo gyda'r pandemig, pan fo nhw wedi mynd y tu hwnt ar ein cyfer. Fodd bynnag, mae yn ymddangos—os nad yw wedi ei orlwytho—yn gam cyntaf naturiol a synhwyrol i apelio i ysgol y dysgwr ei hun cyn CBAC. Mae'n ymddangos, trwy arwyddion cynnar, wrth siarad â rhanddeiliaid, Gweinidog, fod popeth yn dda hyd yn hyn o ran nifer yr apeliadau sy'n cael eu cyflwyno, ond mae'n amlwg bod cryn dipyn o ffordd i fynd eto. Gweinidog, a gaf i ofyn i chi gyhoeddi diweddariad treigl ar nifer yr apeliadau? Ac a wnewch chi hefyd rannu â'r Siambr hon heddiw, Gweinidog, yr hyn y byddwch chi'n ei wneud i gynorthwyo dysgwyr sy'n defnyddio bwrdd arholi yn Lloegr, i dynnu sylw at y broses wahanol sydd ganddyn nhw ar waith, o'i chymharu â phroses CBAC fel yr ydych wedi ei hamlinellu, gan sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru ledled Cymru yn cael y gefnogaeth lawn sydd ei hangen arnyn nhw gennym ni?
Hefyd, a gaf i eich holi ynghylch costau dyfarnu cymwysterau yr ydych wedi eu crybwyll bellach heddiw yn eich datganiad? Mae ysgolion yn dal i dalu 50 y cant o'u ffioedd arholiadau arferol er nad ydyn nhw'n cael unrhyw arholiadau gan CBAC, a'u bod yn gorfod pennu a chymedroli graddau yn fewnol eu hunain. Mae'r llwyth gwaith ar gyfer staff ysgol yn llawer mwy nag mewn blwyddyn arferol, ac mae gan CBAC swyddogaeth lai. Felly, siawns, Gweinidog, y dylai Llywodraeth Cymru fod yn talu'r rhan fwyaf o'r costau eleni, os nad yr holl gostau, o ystyried y pwysau y mae ysgolion yn eu hwynebu. Hefyd, hoffwn i sôn am yr amgylchiadau penodol y mae ymgeiswyr addysg breifat ac addysg gartref yn eu hwynebu, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n gallu rhoi iddyn nhw y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw ar ddechrau'r haf.
Ac yn gyffredinol, beth mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud i sicrhau bod dysgwyr, rhieni a gofalwyr 100 y cant yn glir ynglŷn â'r broses apelio, os ydyn nhw o'r farn bod angen apelio yn erbyn eu gradd? A ydych chi'n fodlon bod canllawiau clir wedi eu rhoi i'r dysgwyr hyn a rhwydweithiau cymorth?
Yn alwedigaethol, rwy'n croesawu'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw a fydd yn mynd i sefydliadau addysg bellach i'w galluogi i addasu i alluogi dysgwyr i ddychwelyd yn ddiogel, ond rwyf i hefyd yn rhannu rhai o bryderon colegau ynglŷn â'r oedi mewn rhai asesiadau ymarferol ar gyfer cyrsiau galwedigaethol, fel iechyd a gofal cymdeithasol a chyrsiau gofal plant. Wrth ychwanegu at yr oedi a gafwyd eisoes y llynedd, mae'r oedi hyd yn hyn wedi rhoi hyd yn oed mwy o straen ar y system, gan greu nifer o dagfeydd y mae angen mynd i'r afael â nhw bellach, yn enwedig yn y meysydd hanfodol y mae angen i ni gynyddu cyflogaeth ynddyn nhw, fel iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod colegau wedi gweithio'n galed gan eu bod wedi ailagor i flaenoriaethu asesiadau ymarferol yn y meysydd hyn, nad oedden nhw'n bosibl yn ystod y pandemig, ac mae yna elfen o ennill tir erbyn hyn. A bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn cael rhyw fath o effaith. Ond beth yw'r niferoedd yr ydym yn sôn amdanyn nhw, Gweinidog? A wnewch chi ddatganiad am nifer y bobl sy'n dal i aros i wneud asesiadau ar hyn o bryd os gwelwch yn dda, er mwyn i ni allu monitro'r broses?
Yn olaf, Gweinidog, er ein bod yn trafod cymwysterau eleni, mae hefyd yn bwysig dechrau edrych ymlaen at asesiadau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen eglurder ar ysgolion, athrawon a phobl ifanc ynghylch trefniadau yn y dyfodol, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio â rhywfaint o hyder. Ac er eu bod yn angenrheidiol yn ystod y pandemig, nid yw trefniadau eleni yn gynaliadwy gyda chynifer o newidynnau yn y tymor hir. Felly, Gweinidog, a allwch chi gadarnhau a yw'n fwriad gennych ddychwelyd i system decach a chyson sy'n seiliedig ar arholiadau y flwyddyn nesaf? Diolch.
Diolch am y croeso a roddodd yr Aelod i'r datganiad yna. Mae hi wedi gofyn cyfres o gwestiynau; byddaf i'n gwneud fy ngorau i geisio rhedeg drwyddyn nhw mewn modd mor gynhwysfawr ond byr ag y gallaf. Nid wyf i'n credu ei bod yn ddefnyddiol siarad am chwyddiant graddau. Byddwn yn gweld bod yn well gan rai dysgwyr arholiadau a'u bod yn perfformio'n well ynddyn nhw, a bydd rhai yn gwneud yn well mewn asesiadau parhaus. Mae lens cydraddoldeb wedi ei gymhwyso i ddyluniad asesiadau ar lefel canolfan. Yr hyn y gallaf ei ddweud â sicrwydd yw y bydd dysgwyr eleni wedi darparu tystiolaeth o gyrhaeddiad, a'n bod wedi cefnogi ysgolion i ddarparu dull cyson, teg sydd wedi ei gymhwyso mewn modd teg fel y gall dysgwyr fod â hyder yn y graddau sy'n cael eu dyfarnu iddyn nhw.
O ran y cam cyntaf, fel y mae hi'n ei alw, rwyf i'n credu bod hynny yn gam pwysig mewn gwirionedd gan ei fod yn rhoi syniad cynnar i'r dysgwyr o'u graddau arfaethedig, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw geisio adolygiad, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw fwrw ymlaen â hynny i apelio os nad ydyn nhw'n fodlon â hynny. Ac rwy'n credu bod y ffaith bod y cam cyntaf hwnnw yn digwydd yn ystod y tymor yn golygu yng Nghymru—yn unigryw rwy'n credu—y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn ystod y tymor yn hytrach nag yn ystod gwyliau'r haf, ac yn rhoi sicrwydd i fyfyrwyr o'r cyfeiriad y maen nhw'n mynd iddo. Os rhoddir graddau i'r myfyrwyr yn awr ac maen nhw'n fodlon arnyn nhw, dyna fydd y graddau y byddan nhw'n eu cael, i fod yn glir. Rwyf i wedi darllen damcaniaethu yn y wasg y bydd ymdeimlad o limbo. Os yw dysgwyr wedi cael y graddau a'u bod yn dymuno eu hadolygu, mater iddyn nhw yw hynny ac yn amlwg mae ganddyn nhw hawl i wneud hynny, ond os ydyn nhw'n fodlon â'u graddau, dyna yw eu graddau.
O ran myfyrwyr sy'n gwneud arholiadau drwy fyrddau yn Lloegr, ceir trefniadau cyfatebol, ac o ran ymgeiswyr preifat, byddan nhw naill ai yn cael eu hasesu gyda chanolfannau y mae ganddyn nhw berthynas â nhw eisoes, neu gan CBAC mewn canolfannau sydd wedi cytuno i'w cynnal.
O ran y ffioedd, mae gostyngiad o 50 y cant yn ostyngiad sylweddol. Mae athrawon wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyflwyno'r asesiadau sy'n ofynnol ar gyfer yr haf hwn, ond mae CBAC hefyd wedi chwarae rhan bwysig iawn o ran darparu arweiniad ac adnoddau a sicrwydd ansawdd a deunyddiau er mwyn galluogi hynny i ddigwydd. Maen nhw eu hunain yn elusen ac felly mae angen iddyn nhw sicrhau bod eu costau yn cael eu hadlewyrchu yn hynny. Bydd y cyhoeddiad yr wyf i wedi ei wneud heddiw yn rhyddhau rhagor o arian sylweddol i'r system.
O ran canllawiau i ddysgwyr, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw i ddysgwyr am y broses apelio.
O ran trefniadau galwedigaethol, mae rhai cymwysterau, oherwydd eu natur, y gallan nhw fod yn gymwysterau mewn sectorau, er enghraifft, sydd wedi bod o dan gyfyngiadau oherwydd COVID. Byddai gofal cymdeithasol yn enghraifft dda o hynny. Rydym ni wedi buddsoddi £26 miliwn yn y sector i gefnogi'r sector i fynd i'r afael â hynny, a £41.5 miliwn arall i gefnogi dysgwyr sy'n pontio trwy'r cymwysterau hynny, ond bydd enghreifftiau lle na fu hynny mor syml, yn amlwg, yn anffodus.
O ran 2022, mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi nodi y bydd angen addasu'r asesiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf fel bod cynnwys y cwrs yn adlewyrchu'r tarfu sydd eisoes wedi digwydd yn y system. Mae CBAC yn ymgynghori ar hynny, ac rwyf i ar ddeall mai eu bwriad yw gwneud cyhoeddiad cyn diwedd tymor yr haf.
Dwi'n falch iawn o weld y datganiad heddiw ac eich bod chi wedi gwrando ar yr awgrym wnes i yn y Senedd yr wythnos diwethaf, sef lleihau ffioedd arholiadau i ysgolion. Fel cyn-gadeirydd llywodraethwyr, dwi'n ymwybodol iawn fod talu am arholiadau yn elfen bwysig o gyllideb ysgol. Doedd hi ddim yn ymddangos yn deg fod ysgolion yn wynebu biliau tebyg i'r rhai oedd yn arferol cyn COVID, o gofio fod llawer o'r baich o gynnal yr asesiadau eleni wedi disgyn ar ein hathrawon a'n hysgolion ni.
Wythnos diwethaf, fe wnes i ddyfynnu un ysgol a oedd yn wynebu bil o £100,000 am arholiadau, felly fe fyddan nhw'n croesawu'r newyddion yma bod y bil yn cael ei haneru. Ond mae'r rhan fwyaf o arweinwyr ysgolion yng Nghymru yn credu y dylid lleihau'r ffioedd arholiadau yn fwy sylweddol na hynny. Dwi ddim yn credu i chi ateb y cwestiwn a godwyd yn gynharach ynglŷn â hynny—oes yna fwy o newyddion da yn mynd i ddod i ysgolion? Oes yna le i leihau y ffioedd yma yn fwy eto? Dwi'n meddwl mai 25 y cant eto y byddai undeb yr arweinwyr ysgolion yn galw amdano fo.
Y gobaith ydy, wrth gwrs, y bydd yr arian sy'n cael ei ryddhau o'r llinell arholiadau yn y gyllideb yn aros yn yr ysgolion at ddefnydd yr ysgol. Felly, wnewch chi sicrhau bod yr arian ychwanegol yma yn aros yn yr ysgolion? Ac a fyddwch chi'n rhoi arweiniad i ysgolion ddefnyddio'r arian yma yn uniongyrchol fel taliadau bonws i staff? Dyna ydy'r bwriad yn yr Alban, ac mi fyddai'n dda rhoi cydnabyddiaeth uniongyrchol i athrawon sydd wedi cymryd ymlaen y tasgau ychwanegol yma oherwydd y newid yn y dulliau asesu. Mi fyddai rhoi bonws o gannoedd o bunnoedd yn arwydd clir ac yn troi geiriau o ddiolch yn weithred o ddiolch i'r proffesiwn dysgu, sydd wedi rhoi cymaint yn ystod y cyfnod yma ac wedi mynd y filltir ychwanegol dros ein plant ni a'n pobl ifanc ni.
Mae'r drefn wedi creu heriau mawr, wrth gwrs, a baich gwaith trymach na'r un arferol. Buaswn i'n licio gwybod, felly, pa gymorth lles ac iechyd meddwl fydd ar gael i athrawon sydd wedi ysgwyddo'r baich gwaith ychwanegol yma ar ben y biwrocratiaeth sydd yn ofynnol iddyn nhw ymhél â fo fel arfer.
O ran y disgyblion, sef y bobl bwysig yn fan hyn, mae yna ansicrwydd o ganlyniad i'r hyn sydd yn digwydd eleni, ac mi fydd y rheini sydd yn gobeithio mynd i'r brifysgol yn gorfod disgwyl tan ddiwrnod canlyniadau safon uwch swyddogol ar 10 Awst tan gwybod yn iawn yn union beth yw eu tynged nhw. Dwi'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud, ond buaswn i yn licio sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn mynd i arwain ar hyn a bod yna ddigon o wybodaeth a chefnogaeth angenrheidiol ar gael i ddarparu i'n disgyblion ni. Ac felly, hoffwn i ychydig o fanylion pellach ynglŷn â hynny os gwelwch yn dda.
Un pwynt olaf gen i: mi fydd yna rai disgyblion angen aileistedd arholiadau. Mae yna rai yn dal wrthi'n cymryd yr asesiadau, wrth gwrs—dydy'r broses heb orffen eto, naddo? Yn anffodus, mi fydd yna nifer cynyddol yn cael eu haflonyddu oherwydd y drydedd don, sydd yn digwydd o'n cwmpas ni ar hyn o bryd o ran COVID. Felly, pa gefnogaeth ydych chi, rŵan, yn mynd i'w rhoi i'r garfan benodol hon o ddisgyblion? Diolch.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran y cwestiwn ffioedd, wel, mae'r ddarpariaeth rŷn ni wedi'i sicrhau heddiw ynghyd â'r hyn y mae Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru wedi'i ddarparu, yn sicrhau bod costau'r arholiadau'n cael eu haneru. Rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig, fel y gwnes i eisoes, cydnabod y gwaith y mae athrawon yn ei wneud er mwyn sicrhau bod disgyblion a dysgwyr yn cael eu hasesu, ond ynghyd â hynny, mae rôl wedi bod gan y WJEC ei hunan i ddarparu adnoddau, cefnogaeth a chyngor yn y cyd-destun hwnnw hefyd, ac rwy'n credu bod yr hyn sydd wedi'i ddatgan heddiw'n adlewyrchu hynny hefyd.
O ran cyllideb, wrth gwrs, cyllideb yn yr ysgolion fydd hyn iddyn nhw ei defnyddio. Fel y gwnaeth fy rhagflaenydd ei ddatgan yn y pecyn cefnogaeth cyntaf i'r system addysg i ddelio gydag effaith yr haf hwn, mae'r gyllideb ar gael i gefnogi delio gyda'r asesiadau a'r apeliadau, gan gydnabod bod pwysau adnoddau ar ysgolion o ran amser athrawon, o ran adnoddau gweinyddol, ac ati. Felly, mae'r ddarpariaeth hon hefyd yn caniatáu i ysgolion wneud penderfyniadau i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion eu gweithlu nhw a'u hanghenion lleol nhw yn hynny o beth.
O ran cefnogaeth iechyd meddwl, fel rhan o'n fframwaith dull ysgol gyfan, fe wnaethon ni ddatgan bod cefnogaeth ar gael ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgol, ac mae mentora un-i-un wedi bod yn cael ei sefydlu eisoes i sicrhau bod capasiti yn y system i gefnogi athrawon gyda'u llesiant meddwl nhw eu hunain, ynghyd â'r gallu iddyn nhw i gefnogi'u disgyblion nhw, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, wrth gwrs, dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gwnaethoch chi sôn am ansicrwydd. Gwnaf i jest ddweud un peth eto os caf i. Os ydy disgybl wedi cael y graddau sydd eu hangen ar gyfer y cynnig prifysgol sydd gyda nhw, wel, mae'r graddau hynny'n gyson nawr; maen nhw wedi'u datgan, ac os ydyn nhw'n hapus gyda'r graddau hynny, gwnaiff y graddau hynny ddim newid. Rwyf i eisiau bod yn glir am hynny, oherwydd dwi ddim yn moyn iddyn nhw deimlo ansicrwydd yn y cyd-destun hwnnw. O ran mynediad i brifysgol yn ehangach na hynny, rŷn ni'n gweithio gyda HEFCW, gyda UCAS a gyda phrifysgolion yng Nghymru i sicrhau bod y cyfathrebu gyda myfyrwyr yn glir ac yn gymwys. Ac mae Cymwysterau Cymru wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid addysg uwch hefyd er mwyn sicrhau bod pobl yn deall, yn y sector addysg uwch, y broses sydd yn mynd yn ei blaen yma yng Nghymru eleni.
Gweinidog, rwy'n cytuno yn llwyr â disgyblion yn cael asesiadau sy'n seiliedig ar athrawon drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Ond ar ôl cyfarfod ag athrawon yn y Rhondda, mae'r system newydd wedi rhoi straen aruthrol ar yr alwedigaeth. Sut y bydd y Gweinidog yn cefnogi athrawon drwy'r flwyddyn academaidd nesaf? Hefyd, pa gymorth fydd ar gael i fyfyrwyr nad ydyn nhw'n cael y graddau yr oedden nhw'n eu disgwyl?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O ran sut olwg fydd ar y flwyddyn academaidd nesaf, bydd hi'n ymwybodol o'r cyhoeddiadau a wnes i ddoe ynglŷn â chategoreiddio ac ynglŷn â mesurau perfformiad ysgolion a'u hatal dros dro ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22. Hefyd ynglŷn â'r dull y bydd Estyn yn ei ddefnyddio ar gyfer arolygiadau yn ystod y flwyddyn nesaf, a fydd, rwy'n gobeithio—ac yn sicr y bwriedir iddo—greu lle yn y system i alluogi athrawon, yn y ffordd y mae arni hi ei heisiau, i allu canolbwyntio eu hegni ar gefnogi myfyrwyr, wrth ymateb i COVID ac o ran eu dilyniant, a hefyd paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Yn ogystal â hynny, bydd cefnogaeth ar gael i gefnogi athrawon yn y broses honno, yn rhan o'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio a gyhoeddais i ychydig wythnosau yn ôl.
O ran myfyrwyr nad ydyn nhw'n cael y graddau sydd eu hangen arnyn nhw, yn yr un modd â phob blwyddyn arall, bydd cymorth ar gael iddyn nhw i roi cyngor iddyn nhw ar eu hopsiynau o ganlyniad i'w canlyniadau. Ond rwyf i eisiau bod yn glir iawn fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod y system sydd wedi ei rhoi ar waith, o dan amgylchiadau heriol iawn, yn un sydd wedi ei chynllunio i sicrhau tegwch, ond hefyd cysondeb, fel y gall dysgwyr a chyflogwyr a'r sector addysg yn gyffredinol fod â hyder ynddi.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae'n ddrwg iawn gen i ddweud wrth y Siambr nad yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am wneud y datganiad nesaf yn bresennol, boed hynny ar Zoom neu yn y Siambr. Gwn fod nifer o Aelodau yn dymuno gofyn cwestiynau am y datganiad hwn y mae diddordeb mawr ynddo, ond nid yw'r Gweinidog yn bresennol ar hyn o bryd. Fe wnaf i oedi'r cyfarfod am ychydig funudau i weld a oes modd dod o hyd i'r Gweinidog.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:46.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:51, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Y datganiad nesaf, felly, yw'r un gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar adolygiad o ffyrdd, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad. Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Mae gwyddonwyr y byd yn dweud wrthym mewn termau clir iawn fod angen inni leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ar frys. Er 1990, mae allyriadau Cymru wedi gostwng 31 y cant, ond er mwyn cyrraedd ein targed statudol o sero net erbyn 2050 mae angen inni wneud llawer mwy. Fel yr atgoffodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ni yr wythnos diwethaf, os ydym ni am gadw'r cynnydd mewn tymheredd o fewn terfynau diogel, mae angen i ni, yn ystod y 10 mlynedd nesaf, fwy na dyblu'r holl doriadau yr ydym wedi llwyddo i'w cyflawni dros y 30 mlynedd diwethaf.
Er mwyn cyrraedd targed 2050, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi dweud wrthym fod angen inni leihau allyriadau yn y degawd nesaf 63 y cant, ac erbyn 2040 mae angen iddyn nhw ostwng 89 y cant. Ar ein llwybr presennol, ni fyddwn yn cyflawni sero net tan tua 2090. Mae'r her yn amlwg a bydd angen i bawb, gan gynnwys y Llywodraeth, ystyried effaith eu dewisiadau.
Trafnidiaeth yw tua 17 y cant o gyfanswm ein hallyriadau ac felly mae'n rhaid iddi chwarae ei rhan. Yn gynharach eleni cyhoeddais strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, 'Llwybr Newydd'. Mae'n nodi gweledigaeth feiddgar ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Yr oedd yn cynnwys, am y tro cyntaf, darged newid dulliau teithio, sy'n ei gwneud yn ofynnol inni anelu at 45 y cant o deithiau i fod drwy ddulliau cynaliadwy o deithio erbyn 2045, i fyny o 32 y cant ar hyn o bryd. Er mwyn cyflawni'r targedau hyn mae angen inni symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gyflwyno Bil bysiau pellgyrhaeddol yn nhymor y Senedd hon i'w gwneud yn haws integreiddio amserlenni bysiau a threnau. Mae gweithredwyr bysiau wedi dweud mai'r prif rwystr i gynyddu nawdd yw dibynadwyedd ac amseroedd teithio, felly byddwn yn cymryd camau i roi mwy o flaenoriaeth i fysiau ar ein ffyrdd a byddwn yn edrych hefyd ar docynnau bws.
Eleni byddwn ni'n gwario mwy nag unrhyw ran arall o'r DU y pen ar fuddsoddiad teithio llesol i annog pobl i gerdded neu feicio ar gyfer teithiau lleol. Mae dwy o bob tair taith yng Nghymru o dan bum milltir o hyd. Gyda'r buddsoddiad cywir, a gydag anogaeth, mae potensial enfawr i gael y rhan fwyaf o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau bob dydd—nid pob taith, nid pawb, ond y mwyafrif. Mae'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud, ac mae llawer o wledydd lle mae eisoes yn cael ei wneud.
Mae deall y data yn gysylltiedig â thrafnidiaeth hefyd yn rhoi cyfle i ni wneud dewisiadau, ac, wrth i'r data a'r wyddoniaeth newid, bydd y dewisiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yn newid. Mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfle sydd gennym yn ddoeth os ydym am gyrraedd ein targedau newid hinsawdd. I'r perwyl hwn, rydym yn cyhoeddi oedi ar bob cynllun ffordd newydd wrth i ni adolygu ein hymrwymiadau presennol.
Mae swyddogion yng nghamau olaf sefydlu panel adolygu ffyrdd, a fydd yn cynnwys rhai o brif arbenigwyr y DU ar drafnidiaeth a newid hinsawdd. Bydd y panel yn ystyried gosod profion ar gyfer penderfynu pryd mai ffyrdd newydd yw'r atebion cywir ar gyfer problemau trafnidiaeth, yn unol â strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru. Ac rwyf yn dymuno i'r adolygiad ystyried sut y gallwn ni symud gwariant tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau trawsbleidiol yn y Senedd ddiwethaf.
Byddwn ni'n cyhoeddi cylch gorchwyl llawn yr adolygiad a'r aelodaeth lawn maes o law. Mater i'r panel fydd adolygu ein holl fuddsoddiadau arfaethedig mewn ffyrdd, boed hynny'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar y rhwydwaith ffyrdd strategol, neu'n anuniongyrchol, drwy grantiau, ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, fel bod pob prosiect yn y dyfodol yn cyd-fynd â thair blaenoriaeth y strategaeth drafnidiaeth newydd: lleihau'r angen i deithio, caniatáu i bobl a nwyddau symud yn haws o ddrws i ddrws drwy fathau cynaliadwy o drafnidiaeth, ac annog pobl i wneud y newid.
Mae strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru yn ymgorffori'r defnydd o hierarchaeth cynllunio trafnidiaeth gynaliadwy, a bydd y panel yn defnyddio hyn i sicrhau ein bod yn annog teithio drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus cyn cerbydau modur preifat. Er mwyn sicrhau bod y dull hwn wedi'i ymgorffori'n llawn yn ein penderfyniadau buddsoddi a'r rhai a wneir gan bartneriaid cyflawni eraill, rydym hefyd yn adolygu canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru, ein fframwaith gwneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau trafnidiaeth, fel ei fod yn gyson â 'Llwybr Newydd' ac yn defnyddio'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yr adolygiad yn darparu adroddiad cychwynnol i'r Gweinidogion o fewn tri mis i'w benodi, gan nodi sut y bydd yn mynd ati i gyflawni ei dasg, a darperir yr adroddiad terfynol o fewn naw mis i hynny, gan nodi canfyddiadau'r adolygiad.
Mae pob plaid yn y Senedd hon wedi ymrwymo i gymryd y bygythiad a achosir gan newid hinsawdd o ddifrif, ac mae hynny'n golygu gweithredu nawr i leihau allyriadau. Ni fydd hyn bob amser yn gyfforddus nac yn hawdd, Llywydd, ond dyna y mae'r wyddoniaeth yn gofyn i ni ei wneud a dyna y mae cenedlaethau'r dyfodol yn ei fynnu gennym. Diolch.
Dirprwy Weinidog, bydd y datganiad hwn heddiw yn digalonni ac yn siomi busnesau a defnyddwyr ffyrdd fel ei gilydd. Mae'n ffaith bod Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, ar ôl 22 mlynedd mewn grym, wedi methu ag adeiladu rhwydwaith ffyrdd digonol. Rhwng 2000 a 2019, mae rhwydwaith ffyrdd Cymru wedi cynyddu llai na 3 y cant, er gwaethaf y ffaith bod nifer y cerbydau ar y ffyrdd wedi cynyddu bron 30 y cant dros yr un cyfnod. Ond rydych chi heddiw wedi cadarnhau nad oes gan Lafur Cymru unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â'r traffig sy'n cynyddu ar ein ffyrdd.
Gwnaethoch chi dorri ymrwymiad maniffesto i fynd i'r afael â'r broblem o dagfeydd ar yr M4 drwy adeiladu ffordd liniaru, gan wastraffu £157 miliwn yn y broses, ac rydych wedi siomi defnyddwyr ffyrdd eto heddiw. Coridorau trafnidiaeth ffyrdd yw rhydwelïau masnach ddomestig a rhyngwladol ac maen nhw'n hybu cystadleurwydd cyffredinol economi Cymru. Yn 2017, roedd dros 30,000 o dagfeydd traffig ar ffyrdd Cymru, a gostiodd bron i £278 miliwn i economi Cymru. Dylai polisi priodol ar gyfer ffyrdd gynnwys cynlluniau uchelgeisiol i wella ein seilwaith ffyrdd drwy ddarparu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 yn y gogledd, a symud ymlaen â deuoli'r A40 i Abergwaun. Dylai gynnwys y ffordd osgoi ar gyfer Cas-gwent ac—rwy'n ymddiheuro am fy ynganiad ymlaen llaw—Llandeilo y mae trigolion wedi bod yn galw amdani. Yn hytrach, mae'r materion hyn wedi'u hoedi am y tro.
A allwch chi ddweud wrthyf, Gweinidog, a fydd y gwelliannau i'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Phenblewin, sydd i fod i ddechrau yr wythnos hon, yn digwydd yn awr neu a fydd oedi oherwydd yr adolygiad hwn? Dylai'r adolygiad o ffyrdd hefyd fynd i'r afael â'r gwrth-ddweud yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at liniaru lefelau llygredd aer. Mae gan Gymru rywfaint o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Mae'n ffaith. Mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau PM10 uwch na Birmingham a Manceinion, a Hafodyrynys sydd â'r ffordd fwyaf llygredig yn y DU y tu allan i Lundain.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i adolygu terfynau cyflymder ar brif ffyrdd yng Nghymru. Bydd llif cyson o draffig nid yn unig yn lleihau faint o ronynnau sy'n cael eu rhyddhau wrth i frêcs gael eu defnyddio a'u treulio, ond hefyd yn lleihau faint o garbon deuocsid y mae ceir yn ei gynhyrchu wrth gyflymu. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu parthau 50 mya mewn rhai rhannau o Gymru i gadw traffig i lifo, a lleihau terfynau nitrogen deuocsid, mae rhai arbenigwyr diogelwch traffig wedi dweud y gallai terfynau parhaol o 50 mya roi modurwyr mewn perygl. Ceir tystiolaeth bod mwy o dagfeydd yn arwain at rwystredigaeth i yrwyr a'i fod yn lleihau eu hymwybyddiaeth a'u gallu i ganolbwyntio. A wnewch chi gytuno i fynd i'r afael â'r mater hwn, Dirprwy Weinidog? Oherwydd mae'n ymddangos eich bod yn benderfynol o adael i'n ffyrdd ddirywio a gorfodi pawb i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er gwaethaf amheuon mawr ynghylch gallu'r rhwydwaith yng Nghymru i ymdopi ar ôl blynyddoedd o reolaeth wael a thanfuddsoddi. Mae angen mwy o wybodaeth ar weithwyr a busnesau Cymru ar frys am gwmpas yr adolygiad a'ch bwriad yn yr hirdymor ar gyfer ein seilwaith trafnidiaeth, ac mae angen mwy o wybodaeth arnom ninnau hefyd. Diolch.
Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r dadansoddiad yna o'r broblem. Mae Natasha Asghar wedi nodi'r dull rhagweld a darparu traddodiadol o adeiladu ffyrdd: rhagwelir y bydd traffig yn cynyddu, felly fe wnawn ni gynyddu'r cyflenwad o ffyrdd. Rydym wedi dilyn y llwybr hwnnw ers 50 mlynedd ac mae hynny wedi cynhyrchu mwy o draffig, teithiau hirach, pobl yn gweithio ymhellach oddi cartref, lefelau uwch o lygredd aer a lefelau uwch o ordewdra, lle mae gennym y plant mwyaf gordew yn Ewrop. Dyna y mae'r dull hwnnw wedi'i gynhyrchu. Nid yw'n gweithio, ac nid wyf i'n bwriadu parhau i wneud yr un peth dro ar ôl tro. Efallai ei fod yn gwneud pennawd hawdd, ond mae'n anghywir ar sail y dystiolaeth, ac yn sicr nid yw'n cyd-fynd â'r hyn yr oedd hi yn ei ddweud yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r angen i gymryd newid yn yr hinsawdd o ddifrif. Dywedodd hi a Janet Finch-Saunders yn y Siambr yr wythnos diwethaf, 'Mae angen ichi gymryd camau beiddgar', ac roedden nhw yn gwbl gefnogol i'r targed o gyflawni newid hinsawdd, ac mae hi wedi nodi ffordd o wneud y gwrthwyneb yn union.
Mae'n gwbl anghywir dweud nad ydym ni'n cynnal ffyrdd. Yn wir, holl bwynt y cyhoeddiad hwn yw ailddyrannu adnoddau tuag at gynnal a chadw ffyrdd fel yr argymhellwyd, fel y dywedais, gan benderfyniad unfrydol y pwyllgor trawsbleidiol ar yr economi yn y Senedd ddiwethaf, a argymhellodd ein bod yn rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd newydd a'n bod yn blaenoriaethu arian ar gyfer cynnal y rhai sydd gennym—dan Gadeirydd Ceidwadol, os caf i ychwanegu.
O ran y cwestiwn penodol am gynllun Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch, fel yr ydym wedi'i ddweud, bydd pob cynllun lle mae peiriannau cloddio yn y ddaear ar hyn o bryd yn parhau, ac mae hwnnw'n un ohonyn nhw. Felly, dyna un peth o leiaf rwy'n gobeithio y gallwn ni gytuno ar y ffeithiau.
Gweinidog, diolch am eich datganiad. Mae gennym gyfle ar ôl y pandemig i adeiladu cenedl a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol, a bydd buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, active travel ac isadeiledd gwyrdd yn rhan allweddol o hyn. Fodd bynnag, bydd yn hanfodol bwysig sicrhau nad yw cymunedau sydd wedi bod yn aros am amser hir am fuddsoddiad mewn isadeiledd yn cael eu gadael ar ôl.
Fe wnaethoch chi ddweud bod angen i ni symud i ffwrdd o wario arian ar brosiectau sy’n annog mwy o bobl i yrru a gwario mwy ar gynnal a chadw ein ffyrdd a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy’n rhoi dewis ystyrlon i bobl. Gaf i ofyn ichi pa ddewisiadau amgen mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio buddsoddi ynddynt? Byddwn i'n gwerthfawrogi mwy o eglurder a manylder ar y pwynt hwn.
Ac, o ran trafnidiaeth drydan, sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod gan bob ardal yng Nghymru gyfran deg o bwyntiau gwefru ceir trydan?
Gweinidog, bydd newid dulliau teithio yn sylweddol bwysig yn hyn i gyd, felly pa swyddogaeth fydd gan feysydd fel lonydd cyflym ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau trydan ar ffyrdd y dyfodol—pa mor bwysig fydd y swyddogaeth honno?
Ac i gyfeirio at eich pwynt ar gynnal ffyrdd sy'n bodoli eisoes, hoffwn dynnu'ch sylw at yr asesiad risg newid hinsawdd diweddaraf yn y DU. Mae'n cyfeirio at nifer o heriau sy'n wynebu seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys mwy o risg o fethiant llethrau oherwydd mwy o law, a'r risgiau cysylltiedig gydag ymsuddiant tir a chwalfa cafnau sy'n bodoli eisoes yn y ddaear o newidiadau yng nghynnwys dŵr y pridd oherwydd newid hinsawdd. Felly, a gawn i ofyn ichi beth y bydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod seilwaith ffyrdd yng Nghymru yn rhan o hyn, ac y bydd yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd?
A'r peth olaf y byddwn i'n ei ofyn i chi, Gweinidog, yw sut y byddwch yn cael cymeradwyaeth a chefnogaeth gan gymunedau y bydd hyn yn effeithio'n arbennig arnyn nhw. Unwaith eto, meddyliwch eto am gymunedau sydd wedi bod yn aros yn hir am fuddsoddiad mewn seilwaith. Pa ymgysylltu y byddwch chi'n ei gael gyda'r cymunedau hynny y bydd y penderfyniadau hyn yn debygol o effeithio arnyn nhw, os gwelwch yn dda?
Diolch am y sylwadau, a byddwn i'n gobeithio bod llawer iawn o dir cyffredin rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar y mater hwn. Rwy'n sylwi yn ystod ymgyrch yr etholiad inni gael ein beirniadu am beidio â bod yn ddigon eofn, am beidio â symud yn ddigon cyflym ar newid hinsawdd. Rwy'n credu y bu gan eich plaid chi ymrwymiad i gyflawni sero net erbyn 2035 ac y gwnaethoch chi ddweud ein bod ni'n rhy araf wrth fynd am 2050. Nawr, er mwyn cyflawni heriau 2050, fel y dywedais yn fy natganiad, ceir heriau sylweddol eisoes inni weithredu ymhellach ac yn gyflymach nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Felly, gan eich bod yn credu y dylem ni fynd yn gyflymach na hynny eto, byddwn i wedi gobeithio y byddech chi ar yr un ochr â ni o leiaf yn cydnabod beth yw'r broblem a beth yw rhai o'r atebion. Felly, gobeithio y gallwn ni gydweithio mor adeiladol â phosibl ar yr agenda honno.
Nid yw'r rhain yn faterion hawdd ac maen nhw yn achosi tensiynau, a bydd rhai o'r pethau'n anodd ac yn amhoblogaidd, ac nid wyf yn cilio o hynny; rwy'n credu bod yn rhaid inni wynebu hynny. Ni allwn ni gael cefnogaeth pobl oni bai ein bod ni'n dangos i bobl fod dewis gwell. Ym mhob deinameg newid ymddygiad, bydd pobl yn gwneud y peth hawsaf ei wneud, ac mae angen inni wneud y peth iawn i'w wneud y peth hawsaf ei wneud. Rydym ni wedi gweld hynny ym maes ailgylchu, wedi'i weld ym maes ysmygu mewn mannau cyhoeddus, ac yfed a gyrru. Mae cynsail ar gyfer sut y gallwn ni wneud hyn, ond nid yw'n mynd i fod yn hawdd.
Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â'r mater addasu, o'r allyriadau carbon sydd eisoes ar waith, ac rydym eisoes yn gweld, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, effaith gaeafau gwlypach a hafau sychach. Felly, bydd effaith ar ein seilwaith presennol, ac, fel yr ydych yn ei ddweud, nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd hynny'n eithaf manwl. Rydym wedi neilltuo arian eleni a'r llynedd ar gyfer rhaglen ffyrdd gadarn i geisio mynd i'r afael â lle mae seilwaith yn chwalu. Fel y dywedais i yn y datganiad, rwyf eisiau inni symud arian tuag at gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym ni, ac, wrth inni eu cynnal, eu gwella, rhoi mesurau ar waith sy'n annog defnyddio bysiau, gosod lonydd bysiau, gosod lonydd beicio ar wahân, uwchraddio'r seilwaith i annog trafnidiaeth gynaliadwy. Mae hynny'n rhan o'r agenda sydd gennym.
Rwy'n credu bod angen i ni weithio drwy hyn yn systematig. Mae Bil bysiau yr ydym wedi ymrwymo i'w gyflwyno; rwyf eisiau gwneud y Bil bysiau hwnnw mor uchelgeisiol â phosibl. Yr her sydd gennym ni, rwy'n credu, os ydym ni i gyd yn onest am hyn, yw cyflymder y newid y mae gwyddoniaeth yn ei fynnu, mae tensiwn yn hynny a pha mor gyflym y gallwn ni sicrhau newid, o ystyried pa mor gymhleth yw'r dirwedd a pha mor hir y mae'n ei gymryd i gael prosiectau seilwaith drwy'r broses. Felly, nid yw hyn yn hawdd.
O ran cymunedau sydd wedi bod yn aros yn hir am welliannau, rwy'n credu bod honno'n her deg iawn, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gael sgwrs onest am sut olwg sydd ar newid. Oherwydd rwy'n credu ein bod wedi dweud wrth bobl bod gosod priffyrdd yn cael gwared ar y broblem, pan mai'r gwir yw ei fod yn symud y broblem, ac mae'n creu problem wahanol. Yr un peth yr ydym ni'n gofyn i'r adolygiad hwn ei wneud yw llunio cyfres o reolau i ni ynghylch pryd y bydd priffyrdd y peth iawn i'w wneud, oherwydd nid ydym ni'n dweud nad ydym ni'n mynd i adeiladu ffyrdd eto, ond rydym ni'n dweud y bydd angen iddyn nhw fod mewn amgylchiadau penodol—y cysyniad hwn o'r cyfle: mae'n gyfyngedig, ac mae'n rhaid i ni ei wario'n ddoeth. Felly, byddwn i'n rhagweld y byddwn ni'n ystyried cynlluniau sydd â phwyslais penodol ar ddiogelwch neu bwyslais ar ansawdd aer, neu ar gyfer mynediad i ystadau diwydiannol neu dai newydd, er enghraifft, bydd achos dros ddweud bod adeiladu ffyrdd yn rhan o'r ateb. O ran dim ond mynd i'r afael â thagfeydd ac adeiladu ar y model rhagweld a darparu a glywsom gan y Ceidwadwyr, nid wyf yn credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hynny fel ateb hirdymor, ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni ganolbwyntio ar anawsterau tymor byr o'u cymharu â gwneud y peth iawn i genedlaethau'r dyfodol.
Gweinidog, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n cerdded, rhedeg a beicio'n nes at gartref drwy gydol y pandemig, a gyda'r anawsterau i rieni o ran cadw pellter cymdeithasol y tu allan i gatiau'r ysgol, roeddwn yn falch iawn o weld cyllid i gyflwyno mwy o barthau 20 mya yn fy etholaeth i, y Rhondda, i gadw trigolion yn ddiogel. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn adeiladu ar y gwaith hwn, yn ogystal â'r gwaith llwybrau teithio llesol sydd eisoes ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, dros dymor nesaf y Senedd.
Un maes yr hoffwn i ei drafod ymhellach gyda'r Gweinidog yw'r Rhondda Fach. Ar hyn o bryd mae gennym ffordd osgoi sy'n mynd o'r Porth i Bontygwaith, gan adael trigolion Tylorstown, Glynrhedynog, Blaenllechau a Maerdy mewn ciwiau hir o draffig ar adegau teithio brig. Mae llygredd aer yn fygythiad gwirioneddol i ni a chenedlaethau'r dyfodol, felly a wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi i drafod atebion teithio posibl i drigolion y Rhondda Fach, gan ymgorffori trafnidiaeth gyhoeddus a man teithio diogel i feicwyr a cherddwyr?
Diolch. Byddwn i, wrth gwrs, yn hapus i gyfarfod, ac mae honno'n enghraifft ddiddorol o ble yr adeiladwyd ffordd osgoi, beth, 10 mlynedd yn ôl nawr—rwy'n cofio mynd i'r seremoni agoriadol—lle mae honno wedi creu cyfres o atebion, ond yn ychwanegu pwysau ymhellach i lawr y rhwydwaith ffyrdd, gan arwain at alwadau am ragor o ffyrdd osgoi. Dyna'r math o ateb rhagweld a darparu yr oeddwn i'n ei ddisgrifio'n gynharach na allwn ni barhau i wneud y dull hwnnw o ymdrin â thrafnidiaeth os ydym o ddifrif ynghylch cyrraedd ein targedau newid hinsawdd.
Wedi dweud hynny, mae'n amlwg bod problem yn ei hetholaeth hi sy'n un go iawn i iechyd pobl ac am eu gallu i symud o gwmpas yn rhydd, a dyna'r cyfyng-gyngor yr ydym yn ei wynebu. Dod o hyd i ffordd drwy hynny fydd her tymor y Senedd hon, ac rwy'n gobeithio y bydd y panel yr ydym wedi'i sefydlu yn ein helpu i wneud hynny.
O ran y pwynt ar 20 mya, o ddwy flynedd o nawr, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya diofyn ar gyfer pob ardal breswyl, nid yn unig ar gyfer cynlluniau bach, ond ar gyfer ardal gyfan, oherwydd mae angen inni leihau cyflymder traffig er mwyn achub bywydau plant, ac yn rhan o'r holl newid yn yr amgylchedd, i symud y pŵer i ffwrdd o'r sefyllfa lle mae'r car yn frenin yn y gymuned i sefyllfa lle mae pobl yn frenin. A bydd hynny, rwy'n credu, yn gwella ansawdd bywyd pobl yn gyffredinol.
Dirprwy Weinidog, pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith economaidd peidio â bwrw ymlaen â chynlluniau a gynigiwyd eisoes ar gyfer adeiladu, y gadwyn gyflenwi a manteision economaidd lleol? Pa ddatblygiadau sy'n dibynnu ar ffyrdd, cyffyrdd neu bontydd newydd fydd yn cael eu hatal yn awr o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, yn arbennig, yr effaith ar y ganolfan ganser newydd arfaethedig yng Nghaerdydd, na ellir ond ei chyrraedd drwy gyfrwng ffyrdd a phontydd newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru? Ac yn fy rhanbarth i, mae datblygu'r fferm wynt ym mynydd Margam yn gofyn am atebion heblaw mynd drwy dref Maesteg.
Ym mis Mai, adroddodd y BBC fod Llywodraeth y DU yn adolygu ei rhaglen adeiladu ffyrdd oherwydd bod mwy o bobl yn gweithio gartref. Byddai'n ddiddorol gweld ai dyma'r sail ar gyfer gwneud y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru hefyd. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gefnffyrdd a thraffyrdd, tra bo'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am ffyrdd lleol. Mae rhai cynlluniau eisoes ar y gweill ac wedi'u cynllunio ar gyfer datblygu; a allai'r adolygiad hwn ganslo unrhyw un o'r rhain? Mewn unrhyw adolygiad, roeddem am gael sicrwydd y byddai gan lywodraeth leol yr adnoddau priodol i gynnal a chadw a thrwsio ffyrdd presennol er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a bod cynghorau'n cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw. Diolch.
Wel, rwy'n credu bod cryn nifer o'r pwyntiau y soniodd Altaf Hussain amdanyn nhw wedi cael sylw yn fy natganiad, felly rhoddaf gyfle iddo fyfyrio ar hynny, ac os oes ganddo ragor o gwestiynau rwy'n hapus i'w hateb.
O ran y cwestiwn penodol ynghylch y ganolfan ganser, nid yw hynny wedi'i gynnwys yng nghwmpas yr adolygiad hwn, oherwydd cynllun yw hwnnw i roi mynediad i brosiect; nid yw'n gynllun priffyrdd awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru. Ac yn yr un modd ffyrdd mynediad i ffermydd gwynt. Unwaith eto, nid ydym yn bod yn eithafol ynglŷn â hyn. Mae achos dros adeiladu ffyrdd, nid wyf yn gwrthddweud hynny, ond ni all fod yr ymateb diofyn i bob un broblem drafnidiaeth sydd gennym, sef yr hyn y mae wedi bod yn aml.
Soniodd yn ddiddorol am Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, yn ogystal ag ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050, maen nhw wedi cyhoeddi rhaglen ffordd gwerth £27 biliwn. Maen nhw fel petaent yn credu bod y ddau beth hynny'n gydnaws. Dydw i ddim yn credu hynny. Ond maen nhw'n dangos bod yna rywfaint o newid meddwl, fel y soniodd, oherwydd y ffaith bod pobl yn cymudo llai i'r gwaith ac mae hynny'n debygol o barhau. Felly, byddwn yn croesawu'n fawr newid bwriad ar ran Llywodraeth y DU. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn eithaf cyson yn ein dull ni o weithredu: rydym wedi nodi strategaeth drafnidiaeth i Gymru, sydd ag ymrwymiad i newid dulliau teithio, ac mae hynny'n gofyn am newid adnoddau a phwyslais.
Nid ydym yn rhoi'r gorau i adeiladu seilwaith—o ran ei bwynt am yr effaith economaidd—dim ond adeiladu seilwaith gwahanol yr ydym, seilwaith sy'n gallu gwrthsefyll y newidiadau yn sgil newid hinsawdd, y mae pob plaid yn dweud ei bod am fynd i'r afael â nhw. Ond eto, pan ddaw'n fater o wneud y dewisiadau anodd sydd eu hangen i wneud hynny'n real, mae pobl yn ailfeddwl. Ni wnawn ni hynny.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Dwi'n hapus i gytuno â phrif egwyddorion y datganiad hwnnw a'r amcanion sydd ynddo fe o ran mynd i'r afael â heriau enfawr newid hinsawdd. Ond mae'n rhaid i fi fynegi fy siom heddiw ar ran pobl Llandeilo gyda'ch datganiad chi, sydd yn atal y gwaith ar adeiladu ffordd osgoi i'r dref. Fel rhywun sydd yn byw rhyw ddwy neu dair milltir o Landeilo ac yn siopa a chymdeithasu yn y dref, dwi'n gwybod yn iawn pa mor siomedig fydd pobl y dref ar glywed y newyddion heddiw.
Fel rydych chi'n gwybod, mae gan Landeilo lefelau uchel iawn o lygredd aer, sydd yn uwch na'r safonau derbyniol. Ac fe glywais i chi'n sôn wythnos diwethaf am bwysigrwydd cael Deddf aer glân, a dwi'n llwyr gytuno â hynny. Ond, mae'r ffordd drwy ganol Llandeilo yn beryglus. Hon yw'r brif ffordd, fel rydych chi'n gwybod, o dde-orllewin Cymru at yr A40, sydd yn mynd ymlaen i ganolbarth Lloegr. A dwi wedi gweld cymaint o weithiau fy hunan lorris a bysys yn treial pasio'i gilydd, un yn gorfod mynd ar ben y pafin er mwyn pasio. Mae pobl Llandeilo ag ofn mynd i'r dref oherwydd y problemau hyn. Ffordd yw hi a gafodd ei chynllunio'n wreiddiol ar gyfer ceffyl a chart, nid ar gyfer HGVs a bysys. A does dim ffordd i ledaenu'r heol yna o gwbl.
Nawr, dwi'n derbyn yn llwyr fod angen inni bwyllo i ystyried sut i leihau ein defnydd o geir a mynd i'r afael â heriau newid hinsawdd, yn arbennig, fel dywedoch chi, mewn perthynas â phrojectau newydd. Ond, dyw ffordd osgoi Llandeilo ddim yn broject newydd.
Dirprwy Weinidog, byddwch yn ymwybodol nad yw'r angen am ffordd osgoi yn Llandeilo yn rhywbeth diweddar; mae pobl Llandeilo wedi bod yn gweiddi am hyn ers dros 50 mlynedd. Mae'r achos yn fy marn i yn glir; mae wedi'i ennill. Yn wir, cytunodd Llywodraeth Cymru yn 2016 i ariannu'r ffordd osgoi hon fel rhan o gytundeb pecyn y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru ar y pryd. Ers hynny, rydym wedi cael nifer o astudiaethau ac ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed mor ddiweddar â dwy flynedd yn ôl. Ond yn hytrach na chyflawni, rydym wedi gweld oedi dro ar ôl tro, gyda'r cyhoeddiad y llynedd y byddai'n cael ei ohirio tan 2025. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn siom arall i'r dref a'i phobl unwaith eto.
Felly, y cwestiwn: beth yw eich neges i bobl Llandeilo heddiw, sydd wedi cael eu gadael lawr eto gan y Llywodraeth, a sut ŷch chi'n bwriadu cynllunio i gwrdd â'u gobeithion nhw o safbwynt aer glân yn y dref, a diogelwch i draffig a phobl sydd yn cerdded ar y pafin yn y dref hefyd? Diolch yn fawr.
Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweithredu'n gyson. Rydym yn dweud bod angen i bob cynllun nad yw'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd fod o fewn cwmpas yr adolygiad, oherwydd mae angen i'r adolygiad wneud cyfres o ddyfarniadau ynghylch pryd y mae cynlluniau ffyrdd yn ateb cywir i broblemau yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai'n edrych yn rhyfedd iawn pe byddem wedi hepgor Llandeilo o'r adolygiad Cymru gyfan a byddwn i yn sicr wedi codi rhai cwestiynau.
Sonioch am yr astudiaethau yr ydym wedi mynd drwyddynt. Y ffordd y mae dull WelTAG yn gweithio yw peidio â dechrau'r broses gyda ffordd mewn golwg; bydd yn dechrau'r broses gyda phroblem drafnidiaeth mewn golwg ac yn gweithio drwy'r broblem drafnidiaeth honno. Yn rhy aml, mae awdurdodau lleol wedi mynd drwy'r broses hon—ymwelais â Phendeulwyn ym Mro Morgannwg y bore yma; dyna enghraifft arall, ffordd nad yw'n cael ei datblygu mwyach—lle mae pobl yn dechrau'r broses honno gyda barn a bennwyd ymlaen llaw, 'Rydym eisiau ffordd', heb fynd drwy'r broses yn ddiffuant o fynd i'r afael â'r problemau sy'n gyson â Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sy'n gyson â'n hallyriadau newid hinsawdd, i fynd i'r afael â'r broblem. Efallai y gellir ymdrin â'r broblem mewn dulliau eraill heblaw adeiladu ffordd.
Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yn achos Llandeilo yw bod proses cam 2 WelTAG bron â'i chwblhau. Nid wyf yn mynd i atal y broses honno, er bod yr adolygiad yn cael ei wneud; rwy'n mynd i adael iddo gyrraedd y pwynt penderfynu nesaf, ac yna fe fyddwn yn disgwyl rhai argymhellion tymor byr gan WelTAG ynghylch gwelliannau y gellir eu gwneud yn fuan yn Llandeilo i helpu i liniaru'r sefyllfa. Rwy'n gyfarwydd iawn â hi, ac mae gennyf gydymdeimlad mawr â phobl y dref. Mae'n werth nodi nad oes barn unfrydol yn y dref ynghylch pa mor ddymunol yw ffordd osgoi, ond yn sicr mae barn unfrydol bod problem yn y dref, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Felly, rwy'n credu y byddwn yn gadael i WelTAG orffen ei broses, byddwn yn edrych ar yr hyn y mae'n ei gynnig, a byddwn yn cefnogi ac yn ariannu'r rheini. Yna, fel rhan o'r adolygiad ehangach, un o'r cwestiynau i'r panel pan fydd achosion fel Llandeilo—ac mae achosion yn fy etholaeth i lle mae galw am ffyrdd osgoi i fynd i'r afael ag ansawdd aer; achosion, rhaid imi ddweud, yr wyf wedi dadlau yn eu herbyn ar sail newid hinsawdd, a chredaf ei bod yn bwysig bod yn gyson—yw, ai ffordd yw'r ateb cywir mewn achosion o ansawdd aer. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn disgwyl i'r panel roi barn arno yn achos Llandeilo.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Nodaf eich sylwadau ar ffyrdd yn y dyfodol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau a phrofion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y gall y panel eu pennu, felly a allech roi unrhyw gyd-destun ehangach inni, gan ychwanegu at eich atebion cynharach i Delyth Jewell a Cefin Campbell, ynghylch yr hyn y gellid ei ystyried yn ffordd dda sy'n addas ar gyfer buddsoddiad?
Yn ail, nodaf eich sylwadau am wella ac integreiddio'r ddarpariaeth bysiau'n well. A allwch ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y gallwn sicrhau ein bod yn cyflawni'r amcan hwn, gan ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n addas i'r diben mewn gwirionedd ac a fydd yn annog pobl i deithio ar fysiau? Derbyniaf eich pwynt bod y rhan fwyaf o deithiau yng Nghymru dan 5 milltir, ond os yw'r 5 milltir hynny i fyny'r allt, ar ffyrdd serth fel Rhiw'r Mynach yn Aberdâr neu Heol Darran yn Aberpennar, gyda dau neu dri bag o siopa, yna mae mwy o rwystrau i deithio llesol i lawer, ac ymddengys mai bysiau fyddai'r ateb mwyaf priodol.
Ar y pwynt olaf hwnnw, byddwn yn nodi, 50 mlynedd yn ôl, roedd gennym lefelau sylweddol uwch o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, ac nid yw'r bryniau wedi ymddangos yn sydyn yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Credaf mai'r hyn sydd wedi newid yw ein hagweddau, ein disgwyliadau a'n harferion, a dyna'r her i ni, o ran newid ymddygiad. Nid oes un ateb i fynd i'r afael ag allyriadau carbon ym maes trafnidiaeth; mae cyfres o atebion. Rwy'n credu ein bod wedi gweld drwy'r cynnydd mewn gweithio o bell, un ateb nad oeddem yn credu oedd ar gael inni—i leihau'r angen i deithio yn y lle cyntaf, a chreu canolfannau cydweithio fel sydd gennym ar draws y Cymoedd, drwy dasglu'r Cymoedd, fel rhan o'n prosiect ehangach o dreialu gwahanol ddulliau fel nad oes raid i bobl wneud teithiau cymudo hir bob dydd.
O ran trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen cyfres ddeddfwriaethol o gynigion ar waith, mae angen inni edrych eto ar y cymhorthdal a'r trefniadau masnachol, ac mae angen inni edrych ar brisiau tocynnau. Mae angen inni wneud llawer iawn. Mae gan brosiect Fflecsi yr ydym wedi bod yn ei dreialu yng Nghasnewydd, sef bysiau sy'n ymateb i'r galw, botensial gwirioneddol. Un o'r anawsterau sydd gennym o ran bysiau yw bod bysiau wedi dod yn fater o gyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â mater newid hinsawdd neu drafnidiaeth. Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 80 y cant o deithwyr bysiau ddewis arall heblaw defnyddio'r bws, ac mae arnaf ofn, oherwydd cyfeiriad y polisi trafnidiaeth dros gyfnod hir, fod bysiau wedi dod yn bethau arbennig i bobl nad oes ganddyn nhw'r dewis. Maen nhw wedi bod ar gyfer pobl ar incwm is a phobl hŷn, ac mae angen i fysiau fod ar gyfer pawb. Credaf fod gan y model sy'n ymateb i'r galw gyfle i ddenu pobl newydd i deithio ar fysiau na fyddent fel arall wedi meddwl bod y bysiau ar eu cyfer nhw. Credaf fod hynny'n rhan o'n her ni.
O ran y cwestiwn cyntaf—i gwblhau fy nhaith am yn ôl drwy'r pwyntiau a wnaed—y cwestiwn ynghylch beth yw ffordd dda, fel y dywedodd Vikki Howells, mi gredaf, ni fyddwn i'n ei roi felly. Pryd mae ffordd yn ateb cywir? Nid oes gennyf farn benodedig. Mae'n rhywbeth i'r arbenigwyr ar y panel ei gynnig, oherwydd mae angen help arnom o ran hynny. Dyna pam yr ydym wedi sefydlu'r prosiect hwn. Rwy'n glir bod gan ffyrdd ran i'w chwarae yn ein system drafnidiaeth. Rwy'n credu'n gryf nad ydym wedi bod yn cynnal y ffyrdd presennol sydd gennym yn ddigon da. Unwaith eto, clywodd yr ymchwiliad, y credaf iddi eistedd arno gyda'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Senedd ddiwethaf, lawer o dystiolaeth a gwnaeth argymhellion ar gyflwr ein ffyrdd. Rwy'n credu y dylem fod yn gwario mwy o arian ar gynnal a chadw'r hyn sydd gennym, ond yna barhau i adeiladu ffyrdd pan fo hynny'n angenrheidiol. Y cwestiwn pryd y mae hynny'n angenrheidiol yw'r cyngor rwy'n ei geisio gan y panel hwn.
Wrth gwrs, mae tagfeydd traffig ei hun yn llygru, a bydd pobl, sydd â mwy o ddewisiadau nag a oedd ganddyn nhw 50 mlynedd yn ôl, yn parhau i ddefnyddio ceir oherwydd cyfleustra, angenrheidrwydd, tywydd, ardal neu ryddid y ffordd yn unig. Fel y dywedwch, rydych yn mynd i oedi pob cynllun ffordd newydd wrth ichi adolygu eich ymrwymiadau presennol, felly fel y dywedwch, nid cau'r drws yn llwyr yw e'—oedi yw e'. Wrth gwrs, bydd ceir y dyfodol yn gerbydau gwahanol, yn fwy ecogyfeillgar, gyda thechnoleg wahanol iawn, felly nid yw'n fater o gyfnewid, o blaid neu yn erbyn yr amgylchedd. Mae'n dechnoleg wahanol, opsiynau gwahanol, dewisiadau gwahanol yn y dyfodol.
Yn 2007, nododd ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru wyth dewis ar gyfer lliniaru tagfeydd traffig yn croesi yn ôl ac ymlaen o Ynys Môn, yn cynnwys pont newydd. Codais hyn gyda'r Prif Weinidog blaenorol bedair blynedd yn ôl yn y fan hon, ym mis Mehefin 2017. Dyma a ddywedais:
'yn amlwg, mae tagfeydd ar bontydd presennol Menai a Britannia wedi bod yn broblem ers blynyddoedd lawer. Bu degawd ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nodi wyth opsiwn, gan cynnwys pont newydd, ond ni aeth hynny ymlaen i gyflawniad. Dywedasoch fis Mai diwethaf'—
yn 2016—
'y byddech chi’n addo gwneud y drydedd bont fel eich blaenoriaeth ar gyfer y gogledd pe baech chi’n ffurfio Llywodraeth ac, wrth gwrs, cyhoeddodd eich Llywodraeth cyn y Nadolig'—
yn 2016—
'ei bod wedi penodi ymgynghorwyr i edrych ar lwybrau ar gyfer pont newydd arfaethedig i Ynys Môn, a allai ddechrau erbyn 2021 os bydd yn cael ei chymeradwyo.'
Gofynnais iddo
'roi sicrwydd nad ydym ni’n mynd i gael ailadroddiad o 2007 pan gawsom sicrwydd tebyg ar ôl i adroddiad a gomisiynwyd gael ei gynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru a’ch bod yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd'.
Atebodd y Prif Weinidog ar y pryd:
'Rydym ni wedi penodi Aecom i gefnogi ein cam nesaf o'r gwaith datblygu. Bydd hynny'n arwain at gyhoeddi llwybr a ffefrir ym mis Mai 2018. Ein nod yw gweld trydedd bont Menai yn agor yn 2022.'
Roedd hynny'n addewid bedair blynedd yn ôl. Pa mor sicr yw addewidion heddiw, neu a oes gennych rywbeth i'w ddweud wrthym am groesfan Menai?
Yn olaf, wrth siarad yn y fan hon fis diwethaf, galwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt presennol ynghylch coridor sir y Fflint ar yr A55/A494/A548. Cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru yn 2017 ei bod wedi penderfynu ar ddewis llwybr coch sir y Fflint i'r A55 yn Llaneurgain. Yn dilyn hynny codais bryderon etholwyr ynglŷn â hyn gyda chyn-Weinidog yr economi droeon, gan dynnu sylw at faterion fel effaith amgylcheddol ar gynefinoedd, dolydd a choetir hynafol. Fis Medi diwethaf, dywedodd eu bod yn bwriadu cynnal rhai ymchwiliadau amgylcheddol ar hyd y llwybr a ffefrir yn nhymor yr hydref 2020. Fis Hydref diwethaf, dywedodd, 'Rydym yn parhau â'r cam datblygu nesaf ar wella coridor sir y Fflint, ac ar hyn o bryd rydym yn caffael cynllunydd i ddatblygu cynllun y cynigion yn fanylach'. Mae'n swnio fel bod llawer o arian wedi'i wario.
Fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd wrthyf mai'r llwybr hwn oedd y mwyaf addas ar gyfer yr her a wynebwn yn yr ardal benodol honno o Gymru. Yn bersonol, rwy'n gwrthwynebu'r llwybr coch ac rwy'n ddiolchgar pe bai'r oedi hwn yn arwain at ganslo'r llwybr hwnnw mewn gwirionedd. Ond, serch hynny, yn gynharach eleni cyn yr etholiad, roeddwn yn bresennol mewn sesiwn friffio gyda swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, a ddywedodd wrthyf fod rhagolygon traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer coridor sir y Fflint wedi cynyddu, i fyny ac i fyny. Nid oeddent yn mynd i fynd tuag yn ôl, pa senario bynnag yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i fodelu. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i ddewisiadau eraill i ymdrin â'r cynnydd hwnnw mewn traffig a ragwelir gan Lywodraeth Cymru?
Fel y dywedodd Mark Isherwood, mae wedi gwneud yr achos yn erbyn y llwybr coch yn gyson ac, fel y dywed yr hen ddywediad, ni fydd rhai pobl yn fodlon derbyn 'ie' fel ateb. Rydym bellach wedi ymateb i hynny drwy rewi'r cynllun a'i adolygu. Byddwn i wedi tybio y byddai wedi croesawu hynny. Rwy'n gwybod nad yw'n un i ganmol Llywodraeth Cymru yn rhwydd, ond roeddwn i'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddai ychydig yn fwy graslon yn ei gylch. Mae'n iawn; mae'r problemau'n parhau. Mae hyn yn wir ar draws Cymru gyfan. Mae'r ffyrdd hyn wedi'u datblygu oherwydd bod problemau, ac os na fydd ffyrdd yn ateb i bob un ohonyn nhw, yna mae angen inni edrych ar atebion eraill. Dyna'r her sydd ger ein bron, a dyna'n rhannol yr her yr ydym yn mynd i'w roi i'r comisiwn er mwyn cynnig atebion iddo.
O ran ail groesfan Menai, rhan allweddol o'r achos—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf; trydedd groesfan Menai. Rydym yn cael anhawster dod i gonsensws ar faint o groesfannau sydd ar y Fenai. O ran croesfan Menai—gadewch inni ddweud hynny a bod yn amwys ynglŷn â nifer y darnau—rhan allweddol o'r achos dros hynny yn amlwg oedd ymdrin â'r traffig ar gyfer yr orsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa a ragwelwyd. Fel y gwyddom, yn anffodus nid yw hynny'n mynd i ddigwydd nawr, ac effeithiwyd ar yr achos o blaid y ffordd honno oherwydd y newid hwnnw mewn amgylchiadau. Fel y dywedais yn y datganiad, mae angen adolygu pob cynllun nad yw ar waith ar hyn o bryd, ac mae angen datblygu cyfres o fetrigau i benderfynu ar y rhai a ddylai fynd ymlaen a'r rhai na ddylent fynd ymlaen. Yn y cyfamser, gallwn ailddyrannu rhywfaint o'r arian hwnnw tuag at gynnal a chadw ffyrdd a gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, gellir ymdrin â'r problemau a nodwyd gan Mark Isherwood mewn ffyrdd eraill.
Mae gwaith comisiwn Burns yng Nghasnewydd wedi bod yn eithaf addysgiadol yn hyn o beth. Roedd llawer yn glir iawn o'r farn mai'r unig ateb i ymdrin â'r tagfeydd hynny oedd traffordd drwy wlyptiroedd Gwent, tra bod gwaith manwl comisiwn Burns yn dangos, mewn gwirionedd, y gellir ymdrin â'r traffig hwnnw drwy greu system drafnidiaeth gyhoeddus fodern am hanner y pris. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo drwy fwrdd cyflawni a thrwy gydweithio'n agos â chyngor Casnewydd, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Credaf fod hynny'n darparu glasbrint ar gyfer rhannau eraill o Gymru lle ceir tagfeydd, a lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis amgen realistig i lawer o'r teithiau hynny—fel y dywedais yn fy natganiad i, nid i bob unigolyn, nid i bob taith, ond i nifer digonol i wneud gwahaniaeth i'r broblem.
Dirprwy Weinidog, fe wyddoch y bydd cynnwys y datganiad hwn yn cael effaith fawr ar drigolion yn fy etholaeth i, yn enwedig y plant, y mae'r llygredd aer yr oedd y buddsoddiad hwn i fod mynd i'r afael ag ef yn effeithio'n sylweddol arnyn nhw. A gaf i ofyn ichi, Gweinidog, pa mor ffyddiog ydych chi y bydd canlyniad yr adolygiad yn mynd i'r afael â hyn ac y bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn cael effaith fesuradwy ar lygredd aer ar ffyrdd yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Yn ail, Gweinidog, fe wyddoch fod angen i bobl mewn busnesau yn fy etholaeth i deithio ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr i weithio—er mwyn teithio i'r gwaith, a hefyd i gysylltu'n effeithlon â'u cadwyn gyflenwi ar draws y rhanbarth hwnnw. A gaf i ofyn ichi, pa mor ffyddiog yr ydych chi y bydd yr adolygiad hwn yn ateb y cwestiynau sydd gan y busnesau hynny wrth ystyried penderfyniadau buddsoddi pwysig yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
O ran yr effaith ar fusnes, un o'r problemau sydd gan fusnesau yw tagfeydd lle mae gennych chi bobl yn defnyddio ceir i wneud teithiau y mae modd eu gwneud drwy ddulliau eraill, ond yn hytrach maen nhw'n tagu'r rhwydwaith ffyrdd. Felly, os cawn hyn yn iawn, gallwn dynnu traffig nad oes angen iddo fod ar y ffordd oddi yno, lle mae dewisiadau ymarferol eraill. Ailadroddaf y ffigur bod dwy ran o dair o'r holl deithiau ar gyfer pellteroedd o dan 5 milltir; nid y teithiau busnes cymhleth, pellter hir hyn y clywn amdanyn nhw'n aml yw'r rhain. Mae'n ymwneud â rhyddhau'r ffordd ar gyfer y teithiau hynny lle nad oes dewis arall, heb fod traffig y gellid ei ddadleoli'n achosi oedi. Felly, rwy'n credu bod hynny'n beth pwysig i'w ddweud.
O ran ansawdd aer, dyma un o'r materion y bydd yn rhaid i'r Senedd hon ei wynebu: beth sy'n mynd i mewn i Fil aer glân, pa mor uchelgeisiol a beiddgar yr ydym am fod ynglŷn â hynny, pa becyn o fesurau sy'n gwella ansawdd aer. Mae yna weledigaeth ar gyfer adeiladu ffyrdd osgoi ledled Cymru, er mwyn symud y broblem o un lle i'r llall. Nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr fod hynny'n ymdrin â mater ansawdd aer. Yn amlwg, wrth i allyriadau pibellau mwg ostwng, wrth i geir gael eu trydaneiddio fwyfwy, bydd hynny'n cael effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol yng nghanol trefi, ac mae newid ymddygiad yn rhan bwysig iawn ohono hefyd. Os gallwn sicrhau newid mewn dulliau teithio, gallwn leihau traffig, gallwn leihau llygredd a gallwn leihau tagfeydd. Gallwn wneud hynny'n gyflymach nag y gallwn drwy ymyriadau peiriannau trwm, a gallwn ei wneud yn rhatach, a lluosogi manteision eraill hefyd. Felly, rwy'n credu bod yna gymysgedd cymhleth yma. Rwy'n credu bod y dewis diofyn dibynadwy, sef y ffordd orau o ymdrin ag ansawdd aer yw 'ffordd', yn cael ei ddewis yn rhy aml, ac rwy'n credu bod angen edrych yn fwy manwl ar hyn. A gobeithio mai dyna un o'r pethau y bydd yr adolygiad yn ymdrin ag ef, oherwydd rwy'n cydnabod y pwynt yn llwyr, ac fel y dywedais, rwy'n gyfarwydd ag ef yn fy etholaeth i fy hun. Mae ceir yn llygru. Maen nhw'n lladd. Maen nhw'n cynhyrchu aer sy'n niweidio iechyd pobl, ac mae angen inni fynd i'r afael â hyn. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr ydym yn dal i geisio'i ddeall, sut orau i fynd i'r afael â hyn—ac rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad yn ein helpu ni gyda hyn.
Diolch yn fawr iawn Dirprwy Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma, a gobeithio nad tagfa draffig a achosodd eich oedi y prynhawn yma, gan y byddai hynny ychydig yn eironig. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi bod angen y rhan fwyaf o'r ffyrdd, ac ni fyddwn yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy wahardd adeiladu ffyrdd yn unig. Er mwyn lleihau allyriadau carbon deuocsid, rhaid inni edrych ar y teithiau sy'n digwydd ar y ffyrdd a, lle bynnag y bo modd, edrych ar deithio llesol.
Collodd fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd lwybr teithio llesol hanfodol pan chwalwyd pont Llannerch yn ystod Storm Christoph, gan ddileu'r unig lwybr teithio llesol hyfyw rhwng Trefnant a Thremeirchion. Dychmygwch y siom pan ddywedodd Llywodraeth Cymru wrth y cymunedau lleol nad oedd arian ar gael i ailosod y bont, sy'n golygu bod yn rhaid i drigolion Trefnant, sy'n mynd tua'r gorllewin ar yr A55, wneud dargyfeiriad o 2 i 3 milltir er mwyn cyrraedd adref, sydd yn ei hanfod yn achosi mwy o lygredd i'r amgylchedd. Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ailystyried y penderfyniad hwnnw nawr a sicrhau y rhoir adeiladwaith sy'n fwy abl i wrthsefyll y stormydd difrifol sydd bellach yn fwy tebygol oherwydd newid hinsawdd i gymryd lle Pont Llannerch? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Mae gen i ofn nad ydw i'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Nhrefnant, ond rwy'n hapus iawn i edrych arni a chael sgwrs bellach gyda'r Aelod. Rydym yn darparu'r buddsoddiad mwyaf erioed eleni ar gyfer seilwaith teithio llesol—£75 miliwn, sy'n fwy y pen nag unrhyw ran arall o'r wlad—ac mae arian ar gael eleni, yn barhaus, i awdurdodau lleol wneud cais am gynlluniau a fydd yn creu teithiau lleol fel y gall pobl wneud teithiau bob dydd, o un pen i'r llall, ar droed ac ar feic, ar gyfer yr holl deithiau hynny, y gwyddom amdanyn nhw, o dan 5 milltir, sydd i lawer o bobl yn ddewis amgen realistig, yn enwedig teithiau i'r ysgol. Felly, fel y dywedais, rwy'n hapus i edrych yn fanwl ar y cynllun ac i gael sgwrs bellach.
Gweinidog, rwyf mor falch ag unrhyw un arall bod Llywodraeth Cymru yn rhoi newid yn yr hinsawdd wrth wraidd ei rhaglen lywodraethu. Rhaid i benderfyniadau a wneir heddiw ystyried yr effaith y byddant yn ei chael ar genedlaethau yfory. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod pob agwedd a goblygiadau'n cael eu hystyried wrth benderfynu a fydd prosiectau adeiladu ffyrdd yn mynd rhagddynt, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant yn gynharach. Yn benodol, mae iechyd y cyhoedd, yng ngoleuni lefelau ansawdd aer gwael mewn ardaloedd preswyl, yn bryder i mi—er enghraifft, ar hyd yr A494 yn sir y Fflint. A fydd pryderon iechyd y cyhoedd yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol?
Pryder arall i mi, yn dilyn y datganiad hwn, yw ein bod ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle nad yw'r ffyrdd presennol yn addas at y diben, yn dilyn toriadau ariannol cyhoeddus i awdurdodau lleol o ganlyniad uniongyrchol i'r 10 mlynedd diwethaf o gyni'r Torïaid. Gwn fod gan sir y Fflint ôl-groniad o £40 miliwn, ac mae ôl-groniad Wrecsam ar gyfer atgyweirio ffyrdd yn £60 miliwn, felly mae angen i'r £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru, er iddo gael ei groesawu'n fawr y llynedd, gynyddu'n sylweddol, dim ond i ymwneud â'r gwaith cynnal a chadw ffyrdd presennol. Mae angen buddsoddi yn ein priffyrdd ledled y gogledd, ynghyd â theithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
A wnaiff y Gweinidog ymrwymiad y bydd cyllid sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau adeiladu ffyrdd yn y gogledd, gan gynnwys llwybr coch coridor sir y Fflint a thrydedd groesfan Menai, yn dal i gael ei fuddsoddi yn y gogledd, boed hynny ar gyfer buddsoddi mewn cynnal a chadw ac addasu priffyrdd presennol neu ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus? A wnewch chi roi gwybod imi os gwelwch yn dda a fyddech yn ystyried gwneud yr A470 yn gefnffordd yn sgil y ffaith nad yw coridor sir y Fflint, y llwybr coch yn mynd yn ei flaen? Diolch.
Diolch. Rwy'n sicr yn cytuno bod angen inni wario mwy o arian yn cynnal y rhwydwaith priffyrdd. Y rhwydwaith priffyrdd yw'r ased mwyaf sydd gan Lywodraeth Cymru, y rhwydwaith yn ein perchnogaeth ni ein hunain, ac yn amlwg, mae hynny hefyd yn berthnasol i'r rhwydwaith ffyrdd sy'n eiddo i lywodraeth leol hefyd. Rwy'n credu bod angen inni wario mwy o arian ar ofalu amdano. Dyna un o'r canlyniadau a fydd, gobeithio, yn deillio o'r cyhoeddiad heddiw ac o'n hymrwymiad yn strategaeth drafnidiaeth Cymru. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr ar hynny.
Gobeithio fy mod wedi ymdrin â llawer o'r pwyntiau y mae Carolyn Thomas yn eu gwneud wrth ymateb i Jack Sargeant ac i eraill. Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i deithio mewn ffyrdd sydd yn fanteisiol i'w hiechyd a'r amgylchedd, sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd ond sydd hefyd yn ateb y dibenion eraill y mae trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yno i'w cyflawni. Ond ni all yr un ohonom osgoi'r ffaith bod trafnidiaeth yn cyfrif am 17 y cant o'n holl allyriadau carbon, ac os yw pawb yn y Siambr hon wedi ymrwymo i gyflawni sero net erbyn 2050 ar yr hwyraf, mae'n rhaid i'r 17 y cant hynny fod yn rhan o'r gymysgedd ohonom sy'n penderfynu ar y ffordd orau o wario'r hyn sydd gennym wrth gefn. Ac nid yw'r wyddoniaeth ond yn mynd i fod yn fwy heriol, gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â hynny. Mae'n ddigon posibl y bydd yn rhaid dod â tharged 2050 ymlaen mewn ymateb i'r wyddoniaeth honno, ac mae angen i ni fod yn barod i wynebu'r ffaith y bydd angen i benderfyniadau trafnidiaeth a'r ffordd yr ydym bob amser wedi gwneud pethau, newid yng ngoleuni'r wyddoniaeth honno a'r dystiolaeth honno. A dyna y mae'r adolygiad hwn i fod i roi cychwyn arno, er mwyn inni allu cael trafodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch pryd mai'r dewis cywir yw ffordd a phryd mai'r dewis cywir yw rhywbeth arall.
Diolch am y stori newyddion da y gellir yn amlwg ei chyflawni, oherwydd bod dwy ran o dair o'r holl deithiau yn llai na phum milltir, mae hyn yn golygu y gall y rhan fwyaf ohonom feicio'r daith fer honno, ac i'r rheini sy'n byw yn ucheldiroedd fy etholaeth, mae gennym feiciau trydan erbyn hyn, nad oedd gennym 50 mlynedd yn ôl, felly dyna stori newyddion da arall.
Hoffwn eich holi am rywbeth ychydig yn wahanol, sef bod llawer o sôn wedi bod yn ystod y 48 awr ddiwethaf am brinder gyrwyr lorïau ledled Prydain a'r 13,000 o yrwyr lorïau sydd ar goll sydd wedi mynd yn ôl i rannau eraill o Ewrop oherwydd yr amgylchedd gelyniaethus a grëwyd gan Lywodraeth y DU nad yw'n credu bod y rhain yn bobl sy'n llenwi bylchau sgiliau hanfodol. Yn amlwg, mae cerbydau nwyddau trwm yn swnllyd, yn beryglus ac yn gostus o ran cynnal a chadw ffyrdd, ac yn sicr nid yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn nhreth cerbydau nwyddau trwm. Felly, tybed a fydd y panel adolygu ffyrdd arbenigol yn edrych ar sut yr ydym yn defnyddio ffyrdd i ddosbarthu nwyddau ac a allem greu rhwydwaith dosbarthu prif ganolfan a lloerennau mwy rhesymegol er mwyn i'r cerbydau nwyddau trwm allu gollwng eu nwyddau mewn cyfnewidfeydd ffyrdd pwysig neu farchnadoedd cyfanwerthu er mwyn i gerbydau trydan bach allu cwblhau rhan olaf y daith, neu, yn wir, feiciau mewn rhai achosion. Tybed a allech chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth y gallech chi ddechrau ei sefydlu fel mater o frys.
Diolch. Nid yw hynny'n dod o fewn cylch gwaith yr adolygiad o ffyrdd, ond mae'n dod o fewn strategaeth drafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth, ac rydym yn edrych ar y rhwydwaith dosbarthu milltir olaf hwnnw a'r potensial i wneud pethau'n wahanol. Ac fel rhan o'r cyllid eleni, rydym yn ariannu prosiect treialu sy'n defnyddio beiciau trydan, beiciau cargo yn Abertawe, Aberystwyth, y Drenewydd ac yng Nghaerdydd—yn enwedig beiciau wedi'u haddasu—i weld pa ran y gallan nhw ei chwarae. Oherwydd ceir tystiolaeth sylweddol i ddangos y gallan nhw gael effaith wirioneddol wrth fynd i'r afael ag ansawdd aer mewn trefi a dinasoedd ac effeithlonrwydd busnesau, oherwydd gallwch gyflawni'n llawer cyflymach gan ddefnyddio beic cargo trydan am y filltir olaf na phe baech yn rasio o amgylch y ddinas mewn fan wen. Felly, rwy'n credu bod beiciau trydan yn chwyldroadol, mewn trefi a dinasoedd o ran dosbarthu, ond hefyd mewn ardaloedd gwledig ar gyfer mathau eraill o deithiau.
Ac un peth nad ydym wedi'i drafod heddiw yn fanwl yw goblygiad y cyhoeddiad heddiw i ardaloedd gwledig. Ac rwy'n glir iawn bod angen i ardaloedd gwledig fod yn rhan o'r ateb. Bydd y dull y mae angen inni ei ddilyn mewn ardaloedd gwledig yn wahanol i'r dull a ddilynwn mewn ardaloedd trefol. Er hynny, mae'n amlwg bod modd cyflawni newid dulliau teithio mewn ardaloedd gwledig hefyd.
Gwnaethom rywfaint o waith, y gwnes i ei gyflwyno i arweinwyr awdurdodau lleol o ardaloedd gwledig ym mis Mawrth, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn edrych ar wledydd Ewrop a'u hardaloedd gwledig. Buom yn edrych ar sut y maen nhw, mewn amgylchiadau tebyg iawn—yn wir, weithiau'n fwy tenau eu poblogaeth na'n rhai ni—mewn rhai enghreifftiau, yn cael enghreifftiau llawer uwch o ddefnyddio bysiau, gwasanaethau llawer amlach, llawer mwy o ddefnydd o deithio llesol, yn rhannol drwy feiciau trydan, ond hefyd drwy lwybrau ar wahân. Felly, yn bendant mae elfen wledig i'n huchelgais o gyflawni newid dulliau teithio. Mae'n rhaid cael un. Mae'n un gwahanol, ond mae'r un mor bwysig, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny hefyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a dyna'n gwaith ni wedi ei gwblhau am y diwrnod heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:41.