Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
03/03/2021Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau am y Rheolau Sefydlog sydd yn ymwneud â threfn yn y cyfarfod, ac mae'r rheini'n berthnasol i'r cyfarfod yma.
Yr eitem gyntaf ar yr agenda, felly, y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod busnesau yn sir Benfro yn gallu cael mynediad at gymorth busnes yn ystod y pandemig? OQ56341
Lywydd, a gaf fi ddweud yn gyntaf fod awdurdodau lleol yn gwneud gwaith gwych wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddarparu’r grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig cyn gynted â phosibl? Ac mae'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £13 miliwn i bron i 4,000 o fusnesau yn Sir Benfro hyd yn hyn. Yn ogystal, mae Busnes Cymru wedi ymdrin â dros 50,000 o ymholiadau ac wedi cael mwy nag 8 miliwn o ymweliadau â’u gwefan ers dechrau'r pandemig.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod rhywfaint o ddisgresiwn gan awdurdodau lleol mewn perthynas â darparu cymorth ariannol i fusnesau yr effeithir arnynt gan COVID-19. Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn sylwadau gan fusnesau yn fy etholaeth nad ydynt wedi gallu cael mynediad at gymorth, er y dywedir wrthyf fod busnesau tebyg eraill mewn rhannau eraill o Gymru wedi derbyn y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt. Rwy'n siŵr y gallwch ddeall pa mor rhwystredig yw hyn i fusnesau yn Sir Benfro sy'n gweld busnesau mewn rhannau eraill o Gymru yn derbyn cymorth mawr ei angen. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb ledled Cymru, ac nad yw’r arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar loteri cod post. Felly, a allwch ddweud wrthym, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael gwared ar yr anghysondebau hyn ac i sicrhau bod busnesau'n gallu cael mynediad at y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i oroesi, ble bynnag y maent wedi'u lleoli yng Nghymru?
Wel, a gaf fi ddiolch i Paul Davies am ei gwestiwn a dweud, yn gyntaf oll, fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n ddiweddar â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn uniongyrchol â chynghorau ledled Cymru ynghylch grantiau dewisol? Mae'r mater y mae Paul Davies yn ei godi wedi canolbwyntio fwyaf ar fusnesau llety hunanddarpar, ac mae meini prawf ar waith sy'n cael eu hawgrymu ar gyfer awdurdodau lleol, ac mae hynny’n gwbl eglur. Yn amlwg, hoffem weld pob busnes sy'n gymwys drwy'r meini prawf hynny'n derbyn yr arian a fyddai'n eu galluogi i oroesi drwy'r pandemig. Ond os oes unrhyw fusnes yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg, os ydynt yn anfodlon â'r ffordd y mae eu hawdurdod lleol wedi dehongli'r meini prawf, dylent ystyried codi'r mater gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ond yn Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i fod yn gwbl ddiwyro yn ein haddewid i sicrhau y bydd unrhyw fusnes da yn 2019 yn fusnes da yn 2021, a dyna pam ein bod yn gwario mwy na £2 biliwn ar gefnogi busnesau drwy'r pandemig hwn.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar y rhwydwaith cefnffyrdd? OQ56342
Gwnaf, wrth gwrs. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol o'r tarfu ar ddefnyddwyr ffyrdd yn sgil y llifogydd, ac rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddod o hyd i atebion hirdymor ar gyfer rhai o'r ardaloedd mwyaf tebygol o gael llifogydd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth ichi yrru ar hyd yr M4, fel rwyf wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar, mae'r arwyddion trydanol yn aml yn rhybuddio bod yr A4042 yn Llanelen ar gau. Rwyf wedi crybwyll y rhan hon o'r rhwydwaith cefnffyrdd wrthych ar sawl achlysur o'r blaen. Gwn eich bod, mewn atebion blaenorol, wedi dweud bod ychydig, rwy'n credu, o waith adfer wedi’i wneud—neu drafodaethau gyda'r tirfeddiannwr ynghylch gwaith adfer—i geisio lliniaru'r problemau hyn. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn broblem, ac rwy'n poeni am effaith y cysylltiad ag Ysbyty Athrofaol newydd Y Faenor yn Llanfrechfa. Felly, tybed a allech roi diweddariad i ni ar unrhyw drafodaethau rydych chi neu'ch swyddogion wedi'u cael gyda'r tirfeddiannwr, unrhyw waith adfer pellach sy’n mynd rhagddo neu sydd yn yr arfaeth, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr y bydd problemau'r darn hwn—darn pwysig—o'r rhwydwaith cefnffyrdd yn cael eu datrys dros y tymor canolig fel y gall pobl fod yn hyderus fod y cysylltiad â'r ysbyty newydd mewn sefyllfa gadarn?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn a chynnig diweddariad a gwybodaeth am yr A4042 yn Llanelen? Gwnaethom waith draenio, fel y gŵyr yr Aelod, yn ôl ym mis Mai 2020, i wella'r draenio presennol. Mae hyn wedi helpu gydag amser adfer ac ailagor cyflymach ar gyfer yr A4042 pan fo llifogydd ar y ffordd. Ac fel y dywedodd Nick Ramsay, yn gwbl gywir, yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed gwelliannau draenio ar y tir cyfagos hefyd, sydd wedi bod o gymorth i leihau amlder a maint y llifogydd ar y darn hwn o'r ffordd. Nawr, gallaf ddweud bod y gwelliannau diweddar i systemau draenio tir yn y lleoliad hwn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd i weld pa mor effeithiol oeddent i ymdrin â digwyddiadau llifogydd diweddar, a gallaf roi sicrwydd i’r Aelodau, pan fydd y wybodaeth hon ar gael, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny o fewn yr wythnosau nesaf, y bydd swyddogion wedyn yn penderfynu a oes angen gwaith lliniaru pellach.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy set o gwestiynau, gan mai hon yw’r set olaf o gwestiynau y byddaf yn eu gofyn i'r Gweinidog, drwy ddiolch iddo unwaith eto am y ffordd adeiladol y mae wedi ymgysylltu â mi a’r gwrthbleidiau eraill drwy gydol yr argyfwng. Yn sicr, rwyf wedi gwerthfawrogi hynny'n fawr, a theimlaf fod hynny wedi ein helpu i ymgysylltu'n adeiladol ac i helpu i gefnogi busnesau hyd eithaf ein gallu ar yr adeg anodd hon.
Os caf ddechrau gyda rhai pwyntiau ynghylch cymorth busnes cyfredol, soniodd y Gweinidog yn ei ymateb i Paul Davies am gronfa ddewisol llywodraeth leol. Fe fydd yn ymwybodol fod rhai cydweithwyr mewn llywodraeth leol wedi dweud wrthyf fod eu hadran gyllid yn pryderu ynghylch arfer disgresiwn yn llawn rhag ofn y bydd hyn yn creu problemau maes o law drwy'r broses archwilio. Tybed a all y Gweinidog roi diweddariad i ni ar unrhyw sgyrsiau pellach a gafodd gyda llywodraeth leol i roi sicrwydd iddynt na fydd y broses archwilio yn effeithio'n negyddol arnynt os ydynt yn arfer disgresiwn yn llawn i gyrraedd cymaint o fusnesau â phosibl.
Os caf droi yn awr at y gronfa newydd ar gyfer busnesau lletygarwch a fydd yn agor yr wythnos nesaf, rwy’n amlwg yn croesawu’r cymorth wedi’i dargedu ar gyfer y busnesau hynny yr effeithir arnynt waethaf, ond rwy’n pryderu ei bod yn ymddangos mai dim ond i fusnesau sy’n cyflogi 10 o weithwyr neu fwy y mae’r gronfa hon ar gael. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw a yw hynny’n golygu 10 gweithiwr cyfwerth ag amser llawn neu 10 unigolyn, gan y bydd yn ymwybodol iawn fod llawer o bobl sy'n gweithio ym maes lletygarwch yn gweithio mewn rolau rhan-amser. Ac a all egluro beth yw'r cynlluniau ar gyfer busnesau llai, gan nad yw llawer o fusnesau lletygarwch, yn sicr, yn cyflogi 10 gweithiwr cyfwerth ag amser llawn?
Ac yn olaf, a oes unrhyw risg y bydd peth o'r arian sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cymorth busnes yn cael ei golli os na chaiff ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ac a yw'r Gweinidog yn hyderus fod gan ei adran gapasiti i ddosbarthu’r arian hwnnw er mwyn sicrhau bod busnesau'n cael cymorth mewn modd amserol, ond hefyd i sicrhau nad oes unrhyw arian a fwriedir ar gyfer busnesau Cymru yn cael ei golli?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau? Ac yn gyntaf oll, rwy'n croesawu'r geiriau caredig iawn ar ddechrau ei set o gwestiynau heddiw. Credaf fy mod wedi bod yn ffodus iawn yn fy nghyfnod yn y rôl hon o gael llefarwyr hynod adeiladol yn y gwrthbleidiau, gan gynnwys Helen Mary Jones. Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd adeiladol y mae llefarwyr y gwrthbleidiau, ac yn wir, Aelodau ar draws y Siambr, wedi gallu gweithio gyda mi a fy swyddogion dros y pum mlynedd diwethaf, ac rydym wedi ceisio estyn allan, yn yr un modd ag y gwn fod Gweinidogion eraill wedi ceisio estyn allan, er mwyn cael y syniadau gorau posibl o bob rhan o'r Siambr, gan nad oes gennym fonopoli ar syniadau da, a daw'r canlyniadau gorau weithiau pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys Helen Mary Jones, am berthynas mor adeiladol yn fy nghyfnod yn y swydd hon.
Ac os caf ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf, ac mae hwnnw’n ymwneud â pha mor gyflym y mae angen i arian gyrraedd busnesau er mwyn osgoi sefyllfa lle mae buddsoddiad heb ei wario. Mae cyflymder wedi bod yn ffactor allweddol yn y ffordd rydym wedi datblygu systemau cymorth, ac mae awdurdodau lleol, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru, wedi gwneud gwaith aruthrol yn sicrhau bod arian yn cyrraedd cyfrifon busnesau cyn gynted â phosibl. Felly, rhydd hynny hyder inni allu dweud y byddwn yn gwario'r arian sydd wedi'i ddyrannu i gymorth busnes, sef oddeutu £400 miliwn yn fwy na'r hyn rydym wedi'i gael mewn cyllid canlyniadol sy’n ymwneud â busnes wrth gwrs, gan ddangos yr ystyriaeth ddifrifol iawn a roddwyd gennym i niwed economaidd y pandemig.
Rwyf hefyd yn croesawu’r cyfle y mae Helen Mary Jones wedi’i roi imi egluro’r £30 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau sy’n gysylltiedig â gweithwyr cyfwerth ag amser llawn. Ond wrth gwrs, ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun, oherwydd pe bai cyfyngiadau'n cael eu hymestyn yn yr adolygiad ar 12 Mawrth, bydd y £150 miliwn sydd wedi’i ddarparu yn golygu y bydd pob busnes yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, a’r sectorau dianghenraid, yn cael taliad ychwanegol o hyd at £5,000, ni waeth faint o weithwyr cyflogedig sydd ganddynt. Felly, bydd amddiffyniad a chymorth yn cael eu rhoi i fusnesau o bob maint.
Ac yn olaf, rydym yn cefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i arfer y disgresiwn sydd ei angen arnynt er mwyn cefnogi busnesau. Felly, hoffwn roi sicrwydd i awdurdodau lleol y dylent allu defnyddio’r meini prawf ac arfer eu disgresiwn ym mhob achos er mwyn sicrhau bod busnesau'n cael cymorth drwy'r cyfnod ofnadwy hwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei atebion. Wrth gwrs, yn anffodus, ac yn anochel, mae'n debyg, rydym yn dechrau clywed am swyddi'n cael eu colli o Gymru. Bydd y Gweinidog wedi clywed yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ddoe am y 27 swydd yn Joloda Hydraroll Ltd a allai gael eu symud o Gaerwen ac Ynys Môn. Fe fydd hefyd yn ymwybodol o'r 99 o swyddi gweithgynhyrchu sydd mewn perygl yn AIM Altitude yn Llanelli sy'n cynhyrchu rhannau mewnol cabanau awyrennau. Yn amlwg, enghreifftiau'n unig yw’r rhain. A all y Gweinidog roi sicrwydd i ni heddiw, wrth ymdrin â’r ymateb brys i COVID, fod gan ei adran gapasiti o hyd i ymateb i'r mathau hyn o sefyllfaoedd? Efallai nad yw nifer y swyddi a gollwyd a grybwyllwyd gennyf heddiw yn swnio’n enfawr, ond yn y cymunedau yr effeithir arnynt, maent yn wirioneddol bwysig, ac mae problemau gyda llinellau cyflenwi hefyd.
Ac wrth edrych tua’r dyfodol, a yw'r Gweinidog yn credu y bydd ei adran yn gallu datblygu capasiti i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar wybodaeth er mwyn nodi, wrth inni ddod allan o argyfwng COVID, pa gwmnïau yng Nghymru sydd mewn perygl o weld colli swyddi fel y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu camu i mewn yn gynharach ac efallai ymyrryd i gefnogi'r busnesau hynny, a'u hannog i gadw gwaith yma yng Nghymru, cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng, lle mae pobl yn aml yn teimlo, er bod ymgynghori'n digwydd, fod y penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau unwaith eto, a dweud y byddwn yn cytuno’n llwyr fod cyflogwr bach neu ganolig mewn cymuned fach iawn yn gyflogwr hynod bwysig? Felly, wrth weithio i sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau o bob maint ledled Cymru, mae'r genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn nodi sut y byddwn yn buddsoddi £270 miliwn yn ychwanegol drwy Fanc Datblygu Cymru yn nhwf busnesau, busnesau bach a chanolig yn bennaf, yn y tymor canolig a’r tymor hir yng Nghymru.
A gallaf roi sicrwydd i bob Aelod fod gennym gapasiti yn y Llywodraeth i ymdrin â'r angen ar unwaith i ymateb i fusnesau sy’n cau a busnesau mewn sefyllfa o argyfwng, nid yn unig ar sail unigol, ond gan ein bod bellach yn gweithio mor gydweithredol gyda'n partneriaid rhanbarthol hefyd. A bydd yr Aelodau'n ymwybodol, er enghraifft, fod gennym dimau ymateb rhanbarthol sy'n edrych ar ragolygon cyflogaeth ac argyfyngau busnes ledled Cymru, ac maent yn gwneud gwaith anhygoel mewn cyfnod hynod heriol. Ac rydym hefyd yn defnyddio uned wybodaeth Banc Datblygu Cymru, sy'n hynod ddefnyddiol wrth nodi’r heriau y mae rhai sectorau a busnesau unigol yn eu hwynebu, fel y gallwn roi’r ymyrraeth gynnar honno ar waith cyn gynted â phosibl.
Rwy'n ddiolchgar unwaith eto i'r Gweinidog am ei atebion. Gan edrych ychydig ymhellach i’r dyfodol, rydym ni, yn fy mhlaid, yn cefnogi’r pwyslais yn y ddogfen genhadaeth ar ddatgarboneiddio, ac yn wir, hoffem weld y Gweinidog yn mynd ymhellach. Mae'n mynd i fod yn hanfodol wrth inni ailadeiladu ein heconomi. Ond drwy'r broses honno o ddatgarboneiddio diwydiant, fe fydd yn ymwybodol fod yna ofnau gwirioneddol y bydd pobl yn colli yn ogystal â phobl yn ennill. Er enghraifft, fe fydd yn ymwybodol o bryderon gweithwyr yn y diwydiant dur. Nawr, mae’n rhaid i'r newid hwn ddod, ond rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r cyfnod pontio—y newid i ddatgarboneiddio—fod yn gyfiawn ac yn gymdeithasol flaengar.
Tybed a all roi diweddariad i ni heddiw ar unrhyw drafodaethau pellach y mae wedi gallu eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol dur yng Nghymru a sut y gellir buddsoddi i alluogi ein diwydiant dur i ddatgarboneiddio. Ac a fyddai’n cefnogi creu pwyllgor pontio cyfiawn yn y Senedd nesaf i graffu ar Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol, yn enwedig i’r rhai mwyaf economaidd fregus yn ein cymunedau, yn sgil y camau sy’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu cymryd er mwyn datgarboneiddio ein heconomi?
Wel, yn sicr, credaf ei bod yn werth ystyried yr awgrym olaf hwnnw. Bydd yn benderfyniad ar gyfer y weinyddiaeth nesaf, ond credaf ei fod yn syniad rhagorol, gan ei fod yn cydnabod bod yn rhaid inni sicrhau adferiad gwyrdd a chyfiawn a theg, ac felly, byddai craffu ar y Llywodraeth ar y sail honno’n gwneud synnwyr.
Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau heddiw fod cyngor dur y DU wedi'i drefnu yn nes ymlaen yr wythnos hon. Siaradais â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gynharach yr wythnos hon ynghylch dur a'r angen i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cefnogi busnesau dur y DU i bontio’n ddiogel i economi carbon isel, gyda’r pwyslais ar 'yn ddiogel’—nid ydym am weld swyddi lu’n cael eu colli yn y diwydiant dur. Rydym am sicrhau bod y newid hwnnw, sy'n angenrheidiol fel y dywedodd Helen Mary Jones, yn cael ei wneud yn ddiogel o ran sicrwydd cyflogaeth, a’n bod yn sicrhau bod cymaint â phosibl o’r bobl â'r sgiliau uwch a gyflogir ar hyn o bryd yn niwydiannau dur Cymru yn cael eu cadw yn y dyfodol, ac os oes angen, yn cael eu huwchsgilio neu eu hailsgilio.
Llefarydd y Ceidwadwyr nawr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf finnau ddweud ei bod wedi bod yn bum mlynedd o gyflwyno cwestiynau i chi yn ystod cwestiynau’r llefarwyr, ac a gaf fi ddiolch i chi, yn yr un modd ag y gwnaeth Helen Mary, am y ffordd adeiladol rydym wedi gweithio gyda'n gilydd, yn enwedig yn ystod y pandemig? Credaf mai dyna fyddai'r cyhoedd yn disgwyl i ni ei wneud a diolch i chi am hynny.
Gyda hynny, Weinidog, rwyf am ddefnyddio fy set olaf o gwestiynau i wneud yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud sef craffu ar eich penderfyniadau chi a phenderfyniadau'r Llywodraeth. Y bore yma, fe gyhoeddoch chi y bydd swm enfawr o arian trethdalwyr yn cael ei ddarparu i Faes Awyr Caerdydd, oddeutu £130 miliwn. Nawr, o’r hyn a welaf, mae'r pandemig wedi taro'r sector hedfanaeth yn aruthrol, ac mae angen i lywodraethau ledled y byd gefnogi'r diwydiant—nid oes unrhyw amheuaeth gennyf ynghylch hynny. Ond o’m safbwynt i, rydym wedi gweld miloedd o bunnoedd o arian trethdalwyr eisoes yn cael ei fuddsoddi gan eich Llywodraeth, ac mae llawer o ddyled Maes Awyr Caerdydd wedi’i dileu, ac roedd hynny cyn y pandemig, hyd yn oed.
Felly, credaf mai'r cwestiwn a fydd gan fusnesau bach ledled Cymru yw: a yw’r cydbwysedd yn gywir gennych o ran y cymorth iddynt o’i gymharu â’r symiau enfawr o arian sydd wedi'u rhoi i’r maes awyr ac sydd wedi'u dileu yn y ffordd honno hefyd? Gofynnaf y cwestiwn yn ysbryd hyn—gofynnais gwestiwn ysgrifenedig i chi yr wythnos diwethaf: pryd y mae disgwyl i bedwerydd cam y gronfa rhyddhad economaidd agor? A chefais ateb tua diwedd yr wythnos diwethaf a ddywedai fod Llywodraeth Cymru wrthi’n archwilio opsiynau pellach ar gyfer cefnogi busnesau. Wel, bydd angen i fusnesau wybod pryd y bydd y rownd nesaf o'r gronfa cadernid economaidd yn digwydd. Dyna'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt.
Ac yn olaf, os caf ofyn i chi mewn perthynas â'r cwestiwn cyntaf hwn, mae gennyf eich maniffesto ar gyfer 2016 o fy mlaen: pa ymrwymiadau yn eich maes portffolio na chyflawnwyd yn ystod y tymor pum mlynedd hwn?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Ni allaf gredu bod Russell wedi bod yn craffu ar fy ngwaith ers pum mlynedd, fel llefarydd y Ceidwadwyr. Mae amser wedi hedfan yn wir, ond mae ei graffu wedi bod yn gadarn ond yn gyson deg ac adeiladol. Felly, hoffwn ddiolch iddo am y rôl y mae wedi'i chwarae yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i gyfrif am y penderfyniadau y mae wedi’u gwneud a minnau, fel Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth.
Bydd Russell George a’r Aelodau eraill yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y mae'r pandemig wedi'i chael ar y diwydiant hedfan ledled y byd. Yn ddiweddar, nododd Maes Awyr Heathrow golled o £2 biliwn. Rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn darparu £100 miliwn i rai meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr. Rydym wedi gweld Llywodraeth yr Alban yn darparu £17 miliwn i feysydd awyr yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon, yn yr un modd, yn darparu £10 miliwn i'w meysydd awyr hwy. Felly, mae’n dangos sut y mae pob llywodraeth yn ymyrryd. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw mai Llywodraeth Cymru—pobl Cymru—sy’n berchen ar faes awyr rhyngwladol Caerdydd. Mae'n ased cenedlaethol i bobl Cymru.
Wrth ateb y cwestiwn ynglŷn ag a yw cydbwysedd y cymorth yn briodol ai peidio, hoffwn atgoffa’r Aelodau fod maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn cynnal mwy na 5,000 o swyddi yn anuniongyrchol ac yn cynnal 2,400 o swyddi hedfanaeth. Mae hynny'n cyfateb i oddeutu 4.4 y cant o gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n ased economaidd enfawr, a heb gymorth Llywodraeth Cymru, yn fy marn i, byddai wedi methu. Ac felly, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn cefnogi’r maes awyr fel galluogydd twf ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint. Ac mae gan y maes awyr ragolygon gwych ar gyfer y dyfodol, pan fyddwn wedi cefnu ar y pandemig hwn.
Os edrychwn ar y cyfnod cyn y pandemig, roedd y twf yn y maes awyr yn eithaf syfrdanol. Roedd niferoedd teithwyr wedi cynyddu dros 50 y cant yn ystod y cyfnod ers i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddod yn berchen ar, neu ers i bobl Cymru ddod yn berchen ar y maes awyr. A chyda'r cynlluniau uchelgeisiol a nodwyd o dan yr uwchgynllun, ac yn enwedig gyda'r cynlluniau uchelgeisiol mewn perthynas â lleihau carbon, credaf y bydd y maes awyr yn faes awyr rhagorol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt o ran teithiau awyr carbon isel.
Ac yn olaf, wrth ymateb i’r cwestiwn olaf a ofynnodd Russell George i mi, yr ateb amlwg yw na wnaethom fwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4—. Ni wnaethom fwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4 am resymau y mae’r Prif Weinidog, a minnau ac eraill wedi'u hailadrodd wrth yr Aelodau'n rheolaidd, sef bod yr amgylchiadau wedi newid yn eithaf dramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd yr ydym ni ar draws y Siambr yn gyfrifol am ei gydnabod ac ymateb iddo, ac wrth gwrs, bu modd inni sefydlu comisiwn Burns i gynhyrchu set amgen o argymhellion a gwaith, a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar welliannau i'r seilwaith rheilffyrdd, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael cyfle i deithio drwy ddulliau ar wahân i geir preifat.
Diolch am eich atebion. Weinidog, ar y cwestiwn olaf hwnnw a ofynnais i chi, rhoesoch sylw i ffordd liniaru’r M4. Roedd hwnnw’n ymrwymiad ym maniffesto Llafur 2016, a ysgrifennwyd, wrth gwrs, gennych chi. Ond mae'r maniffesto hwn gennyf o fy mlaen yn awr, a gallaf weld ei fod yn dweud,
‘Byddwn yn cyflawni band eang cyflym i bob eiddo yng Nghymru’.
Mae eich Dirprwy Weinidog yn ein hatgoffa’n barhaus, pan fydd yn gyfleus iddo wneud hynny, nad mater i Lywodraeth Cymru yw hwn, ond mae wedi’i gynnwys yma ym maniffesto Llywodraeth Cymru. Mae'n sôn am gynlluniau’r metro yng ngogledd a de Cymru. Rydym yn sôn nad yw ffordd liniaru’r M4 yn mynd yn ei blaen, ond ceir ymrwymiad ynddo i wneud gwelliannau i’r A55 a gwelliannau i'r A40 hefyd, nad ydym wedi'u gweld chwaith. Ac mae’n sôn hefyd am fastiau 4G, yn ogystal â thocynnau integredig. Mae cymaint yn y maniffesto sy’n rhan o’ch maes portffolio ac nad yw wedi’i gyflawni, a deallaf fod rhai pethau'n newid. Fe newidioch chi eich safbwynt ar ffordd liniaru’r M4; nid wyf yn cytuno â hynny, ond mae hwnnw’n benderfyniad rydych chi fel Llywodraeth wedi'i wneud. Fy nghwestiwn yw hwn: sut y gall pobl Cymru a'r busnesau bach ymddiried yn eich dull gweithredu wrth symud ymlaen, yn ystod y pandemig ac i mewn i'ch maniffesto nesaf wrth i chi ei ddatblygu cyn yr etholiadau ym mis Mai, pan fo cymaint heb ei gyflawni yn eich maniffesto ar gyfer 2016?
Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf ei bod ond yn deg fy mod yn cael cyfle i dynnu sylw at rai o lwyddiannau mawr Llywodraeth Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf mewn perthynas â thrafnidiaeth a seilwaith a'r economi? Cyn y pandemig, roedd gennym y gyfradd gyflogaeth uchaf erioed. Roedd gennym y nifer uchaf o fusnesau yn bodoli yng Nghymru ers datganoli, a chyn datganoli, mae’n rhaid dweud. Roedd anweithgarwch economaidd, yn rhyfeddol, yn prysur agosáu at gyfartaledd y DU, ac roedd ein gwerth ychwanegol gros, ein cynhyrchiant, yn gwella'n gyflymach na chyfartaledd y DU hefyd.
Yn ystod y pandemig, rydym wedi canolbwyntio ar swyddi a swyddi a mwy o swyddi, ac o ganlyniad i'r ffocws hwnnw, mae gennym bellach gyfradd ddiweithdra yng Nghymru sy'n is na chyfartaledd y DU. Mae ffordd bell i fynd o hyd, ond mae gennym gyfradd ddiweithdra sy'n is na chyfartaledd y DU, a hynny am fod gennym Lywodraeth ddatganoledig sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth. Mae'r gwahaniaeth rhwng cyfartaledd y DU a chyfradd ddiweithdra Cymru yn dangos gwerth ein buddsoddiad o £2 biliwn mewn busnesau, ac mae hynny, yn ei dro, drwy ddiogelu mwy na 140,000 o swyddi, yn cynrychioli 10 y cant o weithlu Cymru. Mae'n llwyddiant syfrdanol.
Rydym hefyd wedi sefydlu Banc Datblygu Cymru, a gafodd ei addo yn y maniffesto, a chredaf ei fod bellach yn cael ei gydnabod fel un o'r asedau pwysicaf sydd gennym yng Nghymru. Fe wnaethom hefyd sefydlu Trafnidiaeth Cymru. Rydym wedi gwladoli'r rheilffyrdd. Rydym yn bwrw ymlaen yn raddol â’r rhaglenni metro, ond ni fu bwriad erioed i gyflwyno’r rhaglenni metro mewn un tymor; mae'r rhain yn amcanion hirdymor. Ni chafodd Rhufain ei hadeiladu mewn diwrnod ac ni fydd metros Cymru'n cael eu hadeiladu yn nhymor un weinyddiaeth. Ond rydym yn dechrau'r broses o'u cyflwyno, yng ngogledd Cymru a de Cymru, ac yn raddol hefyd yn ne-orllewin Cymru.
Ar y band eang cyflym, mae'n gwbl gywir nodi bod hwn yn fater a gedwir yn ôl, ond rydym wedi bod yn ymyrryd gyda buddsoddiad y tu hwnt i'r hyn a gawn gan Lywodraeth y DU, a chafwyd gwelliannau sylweddol. Ac mae gwelliannau sylweddol yn parhau i gael eu gwneud i'n rhwydwaith cefnffyrdd, gan gynnwys ar yr A55. Bydd llawer o'r Aelodau yng ngogledd Cymru yn cydnabod y buddsoddiad a wnaed yno, gyda mwy i ddilyn. Ond bydd ein ffocws o ran trafnidiaeth, fel y nodwyd yn strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn symud tuag at hybu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau, wrth inni fuddsoddi mewn seilwaith sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n tyfu economi deg a mwy cyfartal.
Diolch, Weinidog. Rydych wedi symud yr ateb yn fedrus iawn oddi wrth y cwestiynau a ofynnais, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r meysydd nas cyflawnwyd ym maniffesto 2016.
O ran cyhoeddiadau Llywodraeth y DU heddiw a dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi gweld symiau enfawr o arian yn cael eu cyhoeddi gan y Canghellor a fydd yn gallu cefnogi’r twf economaidd yma yng Nghymru o Gaergybi i Bort Talbot, ac rydym wedi gweld cyhoeddiadau'n cael eu gwneud ar gymorth busnes. Felly, gobeithio y gallwch gadarnhau y bydd y seibiant ardrethi busnes hwnnw’n berthnasol yng Nghymru, ac mai dyna fyddwch chi'n ei roi ar waith hefyd. Rydym hefyd wedi gweld symiau enfawr o arian o ran y £12 biliwn gan fanc seilwaith y DU, a fydd, wrth gwrs, o fudd i Gymru hefyd. Felly, symiau enfawr o gymorth wedi'i gyhoeddi gan Ganghellor Llywodraeth y DU.
O ran sicrhau bod economi Cymru yn gweithredu ar ei gorau, af yn ôl at fy mhwyntiau cynharach ynglŷn â bod yn adeiladol yma a’r pleidiau’n cydweithio, ac awgrymodd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd y dylem sefydlu corff hyd braich fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud nid gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, ond drwy hyrwyddo Cymru ledled y byd gan sefydliad trydydd parti, fel Awdurdod Datblygu Cymru. Rydych wedi bod yn agored i'r awgrym hwnnw yn y gorffennol; credaf yn gryf mai dyna'r dull cywir, gan y credaf fod angen inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein heconomi'n gweithredu ar ei gorau. Tybed a fyddech hefyd yn cytuno bod hwn yn faes pwysig i’w ddatblygu wrth inni ddatblygu economi Cymru. Mae gennym y biliynau o bunnoedd hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu ar gyfer y DU, gan gynnwys Cymru, ac un ffordd o wneud hynny yw drwy'r corff hyd braich y soniwyd amdano yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei set olaf o gwestiynau a dweud ein bod wedi bod yn hynod uchelgeisiol yn ystod tymor y weinyddiaeth gyfredol? Fe wnaethom sefydlu Banc Datblygu Cymru—y banc datblygu rhanbarthol mawr cyntaf yn y Deyrnas Unedig—ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Felly, nid ydym yn ofni sefydlu cyrff newydd i hybu ffyniant. Rwy'n croesawu gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn craffu ar economi a strwythurau Cymru ar gyfer buddsoddi a datblygu economaidd.
Byddwn yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn y misoedd i ddod gyda'r bwriad o ymateb yn fanwl i'r argymhellion. Rwy'n agored i syniadau ac rwyf wedi bod yn agored i syniadau dros y pum mlynedd diwethaf, ond mae'n rhaid inni sicrhau nad yw datblygiad unrhyw asiantaethau neu gyrff newydd yn dyblygu'r hyn sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd ac a gyflawnir yn y dyfodol. Rwy'n credu felly fod yn rhaid inni ystyried rôl y cyd-bwyllgorau corfforedig sy'n cael eu sefydlu, sy'n dod ag awdurdodau lleol ynghyd ar sail ranbarthol. Maent yn ddatblygiad pwysig tu hwnt ac ni fyddwn yn dymuno gweld eu llwyddiant yn cael ei amharu na'i beryglu drwy ddatblygiad cyflym rhyw hanner syniad ynghylch asiantaethau datblygu rhanbarthol. A dyna pam ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried yn ofalus yr hyn y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi'i argymell, ac yn ystyried a fyddai angen asiantaethau o'r fath yng ngoleuni’r cyd-bwyllgorau corfforedig, ac os felly, a fyddent yn ddymunol. Ac mae'n rhaid inni wneud hynny mewn partneriaeth gymdeithasol ag awdurdodau lleol, gyda busnes, gyda'r undebau a chyda rhanddeiliaid allweddol.
3. Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi Maes Awyr Caerdydd pan ddaw'r cyfyngiadau symud i ben? OQ56353
Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyfyngedig a’u bwrdd gweithredol i werthuso effaith y coronafeirws ar y maes awyr, gan gynnwys, wrth gwrs, camau gweithredu yn y dyfodol mewn perthynas ag opsiynau adfer, ac rydym yn bwriadu dweud mwy am hynny yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Nid oes amheuaeth gennyf, fel y dywedais wrth Russell George, fod gan y maes awyr ddyfodol disglair tu hwnt.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe wyddoch fod Wizz Air, am resymau nad oes angen eu disgrifio, yn gohirio gweithrediad eu gwasanaethau newydd o Faes Awyr Caerdydd. Bydd y rhain yn wasanaethau rheolaidd newydd pwysig iawn pan fyddant yn cychwyn, a hoffwn gael sicrwydd y bydd pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad yn sicrhau bod y llwybrau hyn, yn bennaf i Sbaen, Portiwgal a Gwlad Groeg, yn cael eu nodi ar gyfer blaenoriaeth, er enghraifft os bydd angen inni sefydlu coridorau diogelwch i gysylltu gwledydd sydd â COVID dan reolaeth. Yn amlwg, bydd angen asesu wedyn a yw COVID dan reolaeth yn y gwledydd hynny, ond nid wyf am weld llawer o oedi oherwydd biwrocratiaeth. Mae'n gwbl amlwg fod rhai gwledydd yn debygol o fod yn agored i ni, fel partneriaid hedfan, yn gynt nag eraill.
Byddwn yn cytuno â David Melding ein bod eisiau sicrhau bod gan faes awyr rhyngwladol Caerdydd y rhagolygon gorau posibl er mwyn manteisio ar unrhyw amgylchiadau gwell mewn perthynas â hedfan. Mae David Melding wedi tynnu sylw'n briodol at y llwyddiant y mae maes awyr rhyngwladol Caerdydd wedi'i fwynhau'n ddiweddar o ran denu Wizz Air, a byddant yn gweithredu o fis Mai 2021 ymlaen; byddant yn gweithredu naw llwybr hedfan i wahanol gyrchfannau gwyliau. Mae galw aruthrol am deithio hamdden rhyngwladol—teithio gwyliau. Rydym eisiau sicrhau bod maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn elwa o hynny a bod ei gwmnïau hedfan hefyd yn elwa ohono, gan gynnwys KLM, Vueling, Ryanair ac eraill.
Rydym yn gweithio gyda'r maes awyr i ddenu mwy o gwmnïau awyrennau ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â pholisi hedfanaeth. Mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ymateb i ni mewn ffordd deg pan ofynnwn i rai pethau gael eu datganoli, gan gynnwys y doll teithwyr awyr, ein bod yn rhan o unrhyw ystyriaethau'n ymwneud â phecynnau cymorth a allai fod ar gael i'r sector hedfanaeth, a'n bod yn rhan lawn o unrhyw benderfyniadau ynglŷn â chyfyngiadau y gellid eu llacio i alluogi teithio rhyngwladol.
Weinidog, a gaf fi groesawu'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r maes awyr, gan ddiogelu'r cannoedd o swyddi sy'n ddibynnol ar y maes awyr hwnnw, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn ardal Pontypridd a Thaf Elái? A ydych yn cytuno â mi fod y maes awyr yn bwysig i'r sector hedfanaeth a'r swyddi sydd gennym yn y sector hedfanaeth yn ardal ehangach de Cymru, ond yn enwedig mewn lleoedd fel Nantgarw ac ardal Pontypridd a Thaf Elái? A allech ymhelaethu ychydig efallai ar y cynlluniau ar gyfer y maes awyr yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â’r syniad o'i ymgorffori'n rhan o'n system drafnidiaeth integredig gyhoeddus i'w wneud yn fwy hygyrch ac mor effeithiol â phosibl wrth sicrhau twf economaidd yn y cyfnod ar ôl COVID?
A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn? Rwy'n croesawu ei gefnogaeth i'r maes awyr yn fawr. Mae'n iawn: mae cannoedd o swyddi yn ei etholaeth ac mewn etholaethau cyfagos yn dibynnu'n uniongyrchol ar y maes awyr, ac mae llawer mwy'n dibynnu'n anuniongyrchol ar fodolaeth y maes awyr. Rwyf eisoes wedi rhoi'r ffigur: mae cyfanswm o 5,200 o swyddi'n cael eu cefnogi gan y maes awyr, gyda 2,400 o swyddi'n gysylltiedig â hedfanaeth. Ni ellir ond dychmygu faint o'r swyddi hynny a'r cyflogwyr allweddol hynny yn ne-ddwyrain Cymru yn y diwydiannau awyrofod a hedfanaeth sy'n dibynnu'n uniongyrchol ar fodolaeth maes awyr rhyngwladol Caerdydd. Dyna pam rwy’n benderfynol o sicrhau ei fod yn goroesi'r her hon yn y tymor byr a bod ganddo'r rhagolygon gorau posibl ar gyfer llwyddiant hirdymor.
O ran y rhagolygon ar gyfer y dyfodol, yn amlwg, mae'r maes awyr yn awyddus i fod yn batrwm o deithio awyr carbon isel. Ym mis Medi 2019, lansiodd y maes awyr lwybr hedfan amgylcheddol—taith tuag at fod yn garbon niwtral. Mae'n uchelgeisiol iawn, ac fe'i croesawyd yn fawr gennym. Mae prif gynllun y maes awyr ar waith ac mae'n cyflawni yn erbyn nodau’r prif gynllun. Ynddo, ceir awydd i weld trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy integredig yn gwasanaethu un o'n hasedau cenedlaethol tra phwysig. Byddwn yn gweithio gyda'r maes awyr a chyda'n rhanddeiliaid llywodraeth leol i sicrhau y gall trafnidiaeth gyhoeddus, mewn ffordd integredig, ddiwallu anghenion y maes awyr a'r cyhoedd sy'n teithio.
A gaf fi ategu diolch Helen Mary Jones a Russell George i'r Gweinidog am fy nghynnwys yn ei drafodaethau drwy gydol y pum mlynedd diwethaf, fel llefarydd ac ar ôl hynny? A gaf fi ddweud bod gennyf barch mawr tuag at eich galluoedd a'ch ymrwymiad i'ch dyletswyddau fel Gweinidog? Fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd i strategaeth ymyrraeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Maes Awyr Caerdydd. Cyn COVID, roedd y strategaeth honno'n talu ar ei chanfed, gyda ffigurau teithwyr yn codi'n sylweddol a chwmnïau awyrennau newydd yn cael eu denu i'r maes awyr. Felly, byddwn yn eich annog i barhau i gefnogi'r maes awyr, nid yn unig ar ôl y cyfyngiadau symud ond yn y dyfodol. Mae maes awyr rhyngwladol bywiog sy'n tyfu yn hanfodol er mwyn hyrwyddo Cymru i weddill y byd, ac wrth gwrs, mae'n gyfleuster hanfodol i deithwyr a busnesau o Gymru. Ni allwn anwybyddu’r modd y mae arian a fuddsoddir yn y maes awyr yn rhaeadru i gynnal twf busnesau a diwydiannau cysylltiedig. Rwy'n argyhoeddedig y bydd yn ad-dalu buddsoddiad y Llywodraeth cyn gynted ag y daw teithio'r byd yn normal unwaith eto.
A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau a hefyd am ei eiriau caredig ynglŷn â'r amser a dreuliodd fel llefarydd gwrthblaid ac fel Aelod o'r Senedd sydd wedi craffu ar fy ngwaith yn deg iawn? Heriol iawn ar adegau, ond yn deg iawn. Mae wedi bod yn bleser cael y briff hwn gyda llefarwyr mor adeiladol yn y gwrthbleidiau a chyda Siambr o Aelodau o’r Senedd sydd mor angerddol am yr economi a thrafnidiaeth yng Nghymru. Gallaf sicrhau David Rowlands fod y weinyddiaeth hon wedi ystyried Maes Awyr Caerdydd yn ased cenedlaethol eithriadol o bwysig. Rwy’n gobeithio y bydd y weinyddiaeth nesaf—. Os caiff ei harwain gan y Blaid Lafur, bydd yn sicr yn fater allweddol i ni yn y blynyddoedd i ddod. Ac mae David Rowlands yn iawn; mae gan y maes awyr botensial enfawr i gefnogi swyddi ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Mae ganddo botensial enfawr i gario'r faner dros economi Cymru a dangos pa mor uchelgeisiol yr ydym. Mae ôl troed gwerth ychwanegol gros y maes awyr yn eithaf syfrdanol, gan ddangos bod ganddo botensial enfawr i gynhyrchu ffyniant mawr i Gymru. Dyna pam, unwaith eto, nad wyf yn ymddiheuro am sicrhau bod y maes awyr yn goroesi.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau lletygarwch yng ngogledd Cymru yn ystod y pandemig? OQ56345
Mae ein cronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros 22,000 o grantiau i fusnesau gogledd Cymru, gwerth cyfanswm o dros £69.5 miliwn, ac mae ein cronfa lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n benodol i'r sector hefyd wedi darparu £12.7 miliwn hyd yma i bron i 1,500 o fusnesau. Yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cyhoeddais £30 miliwn arall ar gyfer y gronfa honno.
Bob tro y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth ariannol i helpu busnesau lletygarwch i oroesi'r pandemig, mae wedi eithrio busnesau gwely a brecwast nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach oherwydd rheolau y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â hwy. Maent wedi'u heithrio rhag grantiau busnesau bach, yn wahanol i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban, ac wedi’u heithrio o bob cylch o'r gronfa cadernid economaidd. Ar bob achlysur, mae busnesau gwely a brecwast bach pryderus wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydynt yn gallu deall pam eich bod wedi gwrthod cymorth i'r rhan hanfodol hon o economïau twristiaeth lleol. Ar bob achlysur, rwyf wedi codi hyn gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys chi eich hun, ond mae pob ymdrech wedi bod yn ofer. Sut felly y gwnewch chi ymateb i'r negeseuon e-bost dilynol a ddaeth i law eleni gan fusnesau gwely a brecwast sy'n cael trafferth yng ngogledd Cymru, ac sy'n dweud, 'Mae'n ymddangos, unwaith eto, fod cyllid diweddaraf y Llywodraeth wedi'i wrthod i fusnesau fel ein busnes ni', 'Unwaith eto, mae meini prawf y gronfa cadernid economaidd yn nodi nad ydym yn gymwys' a 'Beth rydym i fod i'w wneud am gyllid yn awr? A allwch chi gysylltu â Llywodraeth Cymru i ddarganfod pam nad yw busnesau fel ein busnes ni'n gallu cael cymorth grant er bod gofyn i ni gau?'
Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn a hoffwn atgoffa'r Aelodau eto ein bod yn buddsoddi mwy na £2 biliwn mewn busnesau yng Nghymru. Dyna £400 miliwn yn fwy nag a gawsom mewn symiau canlyniadol sy'n gysylltiedig â busnes, ac mae'n dangos ein bod yn cynnal y pecynnau cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ond wrth gwrs, mae'r pecyn cymorth hwnnw'n ychwanegol at gynlluniau Llywodraeth y DU—y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig a'r cynllun cadw swyddi—a ddylai fod yn berthnasol i lawer o'r busnesau sydd wedi cysylltu â Mark Isherwood. Dylent fod yn cael arian drwy'r llwybr hwnnw.
Ein rôl ni yw sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth a sicrhau bod costau gweithredu'n cael eu talu i fusnesau. I'r rhai y mae Mark Isherwood wedi'u nodi wrth gwrs, mae'r gronfa grant dewisol ar gael i awdurdodau lleol ei defnyddio i gefnogi busnesau lleol, ac mae'r gronfa cymorth dewisol hefyd, sydd wedi'i chwyddo'n sylweddol iawn yn ystod y pandemig hwn, gan gydnabod bod llawer o unigolion yn dioddef o ganlyniad i golli incwm neu golli cyflogaeth. Dyna'r union fath o gronfa y byddwn yn annog Mark Isherwood i gyfeirio'r busnesau hynny tuag ati.
Weinidog, rydym wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am y modd y mae'r diwydiant lletygarwch yn un o'r rhai mwyaf diogel rhag COVID yn ôl pob tebyg. Mae ffigyrau'n dangos bod pobl yn fwy tebygol o ddal COVID mewn ysbyty nag mewn tafarn neu fwyty. Weinidog, cafwyd buddugoliaeth i synnwyr cyffredin pan gollodd Llywodraeth y DU achos a gyflwynwyd gan ddiwydiant lletygarwch Manceinion mewn perthynas â'r cyfyngiadau a osodwyd ar y diwydiant. Sut y bydd y dyfarniad hwnnw'n effeithio ar eich dull chi o ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn a dweud bod gennym broses ar waith, proses adolygu 21 diwrnod, sy'n ein galluogi i benderfynu sut y gallwn ailagor yr economi'n ddiogel? Ac rydym yn awyddus i sicrhau y gall lletygarwch, twristiaeth a hamdden ailagor cyn gynted â phosibl, ond mae'n rhaid iddynt wneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel sy'n bosibl hefyd. Ni waeth pa mor fach ydyw, mae gan bob sector, yn anffodus, ffactor sy'n cyfrannu at gyfraddau trosglwyddo. Felly, er eu bod yn gweithredu mewn ffordd sy'n ddiogel iawn rhag COVID, mae perygl o hyd ar hyn o bryd, pe baent yn ailagor yn rhy gynnar, y gallai busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden gyfrannu at gynnydd sylweddol yn nifer y derbyniadau posibl i ysbytai, a fyddai yn ei dro yn rhoi ysbytai dan bwysau aruthrol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau'n gallu agor mewn ffordd ddiogel cyn gynted ag y gallant, ac mae gennym drefn reolaidd yr adolygiadau 21 diwrnod i sicrhau y gallwn agor y gymdeithas a'r economi yn y ffordd fwyaf diogel sy'n bosibl.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad busnesau yng ngogledd Cymru? OQ56348
Wel, yn ychwanegol at fy ateb i Mark Isherwood, yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi darparu £44.1 miliwn o gymorth i dros 2,500 o fusnesau o dan gamau 1 a 2 y gronfa cadernid economaidd, gan ddiogelu dros 20,000 o swyddi. Yng ngogledd Cymru hefyd, rydym wedi darparu £1.1 miliwn i 472 o fusnesau newydd.
Diolch, Weinidog, ac a gaf fi ddweud diolch am eich ymatebion bob tro rwyf wedi gofyn cwestiynau craff a heriol i chi, a hefyd am eich ymagwedd deg? Bob tro rwyf wedi codi unrhyw faterion gyda chi ynghylch trafnidiaeth neu faterion eraill yn Aberconwy, rydych bob amser wedi bod yn deg iawn.
Nawr, bydd rownd ddiweddaraf y gronfa cadernid economaidd yn gweld £30 miliwn yn cael ei dargedu at fusnesau lletygarwch gyda 10 neu fwy o weithwyr. Ac fel y dywedodd ein cyd-Aelod Helen Mary, mae'n 10 neu fwy o weithwyr—a chododd Mark Isherwood hyn hefyd—beth am y rhai sydd â phump neu chwech o weithwyr? Sut y gwnaethoch chi dynnu'r llinell? Hefyd, a allwch chi esbonio'r gwahaniaeth rhwng busnes sy'n cyflogi naw o bobl a busnes sy’n cyflogi 10 o bobl, ac yn enwedig y dryswch sydd wedi digwydd?
Rwyf wedi cael sawl fforwm twristiaeth, Weinidog, ac mae rhywfaint o ddryswch ynglŷn â'r £150 miliwn ychwanegol a fydd ar gael drwy grantiau ardrethi annomestig. Rydych wedi cadarnhau hyd yma mai dim ond os caiff cyfyngiadau eu hymestyn ar 12 Mawrth y caiff hyn ei ymestyn, ac mae hynny'n achosi ansicrwydd mawr gyda'r busnesau hynny. Mae gwir angen iddynt wybod yn awr a oes unrhyw debygolrwydd y byddant yn agor dros y Pasg, neu a fydd hi'n fis Ebrill neu a fydd hi'n fis Mai? Oherwydd mae gwir angen i'r busnesau hyn gynllunio. Mae sôn wedi bod y byddwn yn symud i lefel rhybudd 3 ar ôl 12 Mawrth, a lefel 3, wrth gwrs, yw cyfradd achosion wedi'i chadarnhau o fwy na 150 achos ym mhob 100,000 o bobl. Ond y cyfartaledd saith diwrnod diweddaraf yw 57 achos ym mhob 100,000. Mae hyn yn gosod disgwyliad enfawr ar y perchnogion busnes hyn yn awr. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech wneud datganiad clir ar hynny.
A fy mhwynt olaf yw hwn: mae llawer o rethreg gwrth-ymwelwyr wedi bod, mae arnaf ofn, ac yn ein diwydiant twristiaeth, daw 80 y cant o'u diwydiant, busnes twristiaeth, o dros y ffin yn Lloegr, a dyna pam eu bod eisiau gweld lefelau ailagor yr un fath. Pa gamau y gallwch eu cymryd, Weinidog, gan weithio gyda Croeso Cymru, i sicrhau bod y negeseuon hynny'n cael eu dileu'n llwyr a phan fyddwn yn ailagor ar gyfer busnes, ein bod yn groesawgar iawn wrth unrhyw un sy'n dod o dros y ffin yma i ogledd Cymru ac i Aberconwy i fwynhau eu gwyliau?
A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei geiriau caredig iawn a dweud fy mod wedi mwynhau gweithio gyda hi yn fawr? Efallai ei bod yn Aelod o'r wrthblaid, ond yn yr un modd, mae wedi bod yn adeiladol ac yn deg iawn yn y ffordd y mae wedi craffu ar fy ngwaith ac wedi gofyn am atebion i gwestiynau.
Yn amlwg, cynhelir yr adolygiad 21 diwrnod nesaf yr wythnos nesaf, felly bydd busnesau yn y sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden yn cael clywed a fyddant yn gallu ailagor mewn pryd ar gyfer y Pasg. Ond fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn blaenorol, yr hyn sy'n hanfodol yw bod unrhyw fusnes sy'n ailagor yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Ac os bydd angen defnyddio'r £150 miliwn i gefnogi busnesau, bydd hynny'n digwydd y tu hwnt i'r wythnos nesaf. Bydd yn rhoi gwarant i fusnesau o bob maint y byddant yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru gyda grantiau o hyd at £5,000 sydd ar gael ar eu cyfer. Ac mae hynny'n rhoi sicrwydd i mi, beth bynnag fo canlyniad yr adolygiad yr wythnos nesaf, y bydd yna incwm, naill ai ar ffurf grant gan Lywodraeth Cymru, neu drwy gynhyrchu busnes dros yr wythnosau nesaf.
Byddwn hefyd yn cytuno â Janet Finch-Saunders na ddylid cael rhethreg gwrth-ymwelwyr. Y neges gan Croeso Cymru drwy gydol y pandemig hwn yw, 'Hwyl fawr. Am y tro.' Pan fydd hi'n ddiogel i bobl ymweld â Chymru eto, rydym yn awyddus i sicrhau y byddwn yn croesawu'r cyfle i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae cymunedau sy'n dibynnu ar yr economi ymwelwyr am gyflogaeth wedi dioddef yn eithriadol o wael yn ystod y pandemig hwn, a dyna pam ein bod wedi bod mor awyddus—ac mae Dafydd Elis-Thomas, fel y Gweinidog twristiaeth ardderchog wedi bod mor awyddus i sicrhau ein bod yn cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Ac os caf dynnu sylw at gymhariaeth rhwng Cymru a Lloegr: os edrychwch ar uchafswm y grant sydd ar gael i bob busnes yn Lloegr sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000, mae'n £6,000; os edrychwch ar yr hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i dwristiaeth a lletygarwch, fe fydd oddeutu £10,000. Ac mewn gwirionedd, nid yw hynny'n cynnwys y £180 miliwn unigryw a'r £30 miliwn o arian ychwanegol sydd ar gael i fusnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Felly, yng Nghymru, rydym wedi gweithredu dau gylch o'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau ers mis Rhagfyr, ochr yn ochr â dwy gronfa sy'n benodol i'r sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ac wrth gwrs, cyn hynny, roedd y gronfa datblygu busnes—mae'r holl gronfeydd hyn ar gael ac yn cael eu defnyddio gan fusnesau gwych yn y sector twristiaeth.
Mae llawer o gariad yn cael ei rannu yn y sesiwn gwestiynau hon heddiw; gobeithio y bydd yn parhau—llawer o garedigrwydd. Jack Sargeant, eich cwestiwn chi sydd nesaf.
Diolch yn fawr, Lywydd, a hoffwn ategu canmoliaeth Aelodau'r gwrthbleidiau i'ch gwaith ar yr economi, Weinidog, a'ch ymrwymiad tuag at ogledd Cymru'n arbennig, ac rwy'n eich canmol am hynny. Nawr, mae angen inni adeiladu nôl yn gryfach ac yn fwy gwyrdd, a bod yn uchelgeisiol yn ein cynlluniau ar gyfer adfer er mwyn creu swyddi yng Nglannau Dyfrdwy. Eleni, mae Shotton Steel yn 125 oed, ac rwyf eisiau iddo fod yn tyfu ac yn cyflogi pobl am y 125 mlynedd nesaf. Nawr, mae'n rhaid i hwn fod yn gyflogwr pwysig i genedlaethau'r dyfodol. Rwyf eisiau sicrhau mai Shotton Steel fydd ffatri carbon niwtral gyntaf y DU, ac rwyf eisiau iddi gynhyrchu'r dur ar gyfer cynnyrch gwyrdd y dyfodol. Felly, Weinidog, a wnewch chi barhau â'ch sgyrsiau gyda Tata Shotton am eu hyb logisteg i gyflenwi adeiladau modiwlaidd gwyrdd y dyfodol, a'u cefnogi i wneud y safleoedd yn garbon niwtral?
Wel, a gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau, ac am ei sylwadau caredig hefyd? Mae'n wir fod yr Aelodau'n garedig iawn heddiw. Mae'n gwneud i mi feddwl tybed a oes cynllwyn, a yw'r holl Aelodau'n gwybod rhywbeth am fy nhynged ar 6 Mai gyda'r geiriau a'r teyrngedau caredig hyn sy'n cael eu gwneud, ond mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r Aelodau dros y pum mlynedd diwethaf yn ystod fy amser yn y rôl hon, ac wrth gwrs, mae hynny wedi cynnwys ffocws ar ogledd Cymru fel Gweinidog gogledd Cymru.
Prin yw'r cwmnïau sydd cystal â Tata yn Shotton o ran rhagolygon cyflogaeth a datblygu'r gweithlu, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru, gan gynnwys Tata Steel yn Shotton, ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'r busnesau hynny i ddatblygu cynlluniau a fydd yn cyrraedd ein targedau di-garbon. Ac mae ein cynllun gweithgynhyrchu newydd, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn nodi rhai o'r camau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio diwydiant. Rwy'n falch ein bod eisoes yn cymryd rhan yn y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol gwerth £315 miliwn, sy'n buddsoddi cyfalaf mewn prosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Gwahoddwyd Tata i gymryd rhan—rwy'n falch o ddweud—mewn astudiaeth sy'n gwerthuso anghenion sgiliau diwydiannau sylfaen yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatgarboneiddio, ac mae Innovate UK yn cydlynu hyn fel rhan o fenter gwerth £150 miliwn i drawsnewid diwydiannau sylfaen y DU. Felly, mae Tata yn dangos penderfyniad clir i sicrhau y gallant bontio'n ddiogel.
Ac o ran cyfleoedd eraill i Shotton Steel, yn amlwg roeddwn yn siomedig o glywed nad yw gwaith hyb logisteg Heathrow yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd. Gwn fod Tata Steel yn edrych ymlaen at weithio ar hwnnw. Fodd bynnag, rydym yn llwyr gefnogi uchelgais Tata Steel i ddatblygu ei hyb logisteg ei hun yn Shotton, ac mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r cwmni i archwilio'r opsiynau ar gyfer agor y drydedd ffordd fynediad, a fydd mor bwysig wrth ddatblygu hyb.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi adferiad economaidd canol dinas Caerdydd yn sgil y pandemig? OQ56358
Fel rhan o'n dull Trawsnewid Trefi, mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid mewn llywodraeth leol wedi mabwysiadu'r egwyddor 'canol y dref yn gyntaf' sydd mor bwysig ar hyd a lled Cymru. Mae Cyngor Caerdydd wedi cael dros £3.5 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi hyd yma. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys buddsoddiadau mewn technoleg ddigidol, seilwaith gwyrdd, eiddo preswyl a masnachol a theithio llesol.
Diolch am hynny, a hoffwn innau hefyd ychwanegu fy sylwadau caredig am y ffordd wych rydych wedi targedu adnoddau cyfyngedig i ategu'r hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau fel gyrwyr tacsis a gweithwyr llawrydd fel cerddorion, rhywbeth sydd wedi cael ei werthfawrogi'n fawr.
Ond gan droi'n ôl at yr heriau sy'n wynebu canol dinas Caerdydd, yn amlwg, mae gennym lawer o bwyntiau gwerthu unigryw, fel stadiwm y mileniwm, fel yr amrywiaeth o leoliadau perfformio gwych gyda'r siopau, y bwytai a'r caffis cyfagos, a dyna pam y mae pobl yn hoffi dod i ganol y ddinas. Mae BT Openreach wedi fy sicrhau bod gennym fand eang ffeibr cyflym iawn dros y rhan fwyaf o ganol y ddinas, felly gallwn feddwl am hybiau gweithio o bell. Ond mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn cynnwys y ffaith bod cwmnïau fel Debenhams a Howells wedi cael eu prynu gan gwmnïau nad oes ganddynt ddiddordeb mewn masnachu ar y stryd fawr, ac mae angen i ni addasu'r adeiladau hyn at ddibenion gwahanol er mwyn cynnal teimlad bywiog a chlos canol y ddinas. Ac eto, rydym yn dal i foddi mewn cynigion gan ddatblygwyr adeiladau uchel iawn a allai waethygu gorgyflenwad posibl o swyddfeydd a siopau. Felly, rwyf wedi bod yn siarad gyda FOR Cardiff, sy'n arwain yr ardal gwella busnes, a chydag etholwyr, ynglŷn â sut y gallwn ailadeiladu'r bywiogrwydd hwnnw i fod yn wyrddach, yn decach ac yn gynaliadwy. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i sicrhau bod pa gyfalaf bynnag sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i gyflawni ein hamcanion datblygu cynaliadwy i adeiladu nôl yn decach?
A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn heddiw, a hefyd am yr ymgyrchoedd niferus y mae wedi'u harwain yn ystod y tymor hwn, ac yn arbennig yn ystod y pandemig hwn? Mae'r ffordd y mae wedi cefnogi a dadlau achos gyrwyr tacsis a gweithwyr llawrydd, yn enwedig gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol sy'n gwneud cymaint dros Gaerdydd—rwyf o'r farn mai rhai o'r dinasoedd mwyaf creadigol ar y blaned hon yw'r lleoedd mwyaf deniadol i fyw ynddynt, ac felly mae gan y diwydiannau creadigol rôl enfawr yn creu lleoedd a gwella awyrgylch, estheteg ac atyniad ein lleoedd.
Ar y cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone, yn amlwg, drwy'r fenter Trawsnewid Trefi y mae Hannah Blythyn yn ei harwain, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae'n cefnogi'r gwaith o drawsnewid canol trefi a dinasoedd yn lleoedd sy'n fwy deniadol, sy'n fwy addas ar gyfer gweithgareddau hamdden a gweithgareddau cymdeithasol, mewn ffordd nad yw'n dibynnu ar fanwerthu yn unig, ond sy'n ategu manwerthu. Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn o beth hefyd. Mae cyngor dinas Caerdydd wedi bod yn eithaf anhygoel yn y ffordd y mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chydag awdurdodau lleol partner ar draws y rhanbarth i hyrwyddo'r ymdeimlad hwnnw o lesiant yn ein cymunedau trefol. Felly, rydym yn awyddus, a byddwn yn parhau i fod yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ganddynt y seilwaith cywir ar waith i hyrwyddo datblygiad economaidd mewn ffordd gynaliadwy, gan gynnwys seilwaith digidol, a'u bod yn datblygu eu mannau trefol mewn ffordd sy'n hyrwyddo adferiad gwyrdd. Mae hynny'n cynnwys gwneud ein hamgylchedd yn fwy gwyrdd, mae'n cynnwys cynllunio defnydd tir yn well, wedi'i integreiddio â chynllunio seilwaith trafnidiaeth, a dyma'r math o ddatblygiad rydym eisiau ei weld ledled Cymru.
7. Pa gymorth economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i ganol dinas Casnewydd yn ystod pandemig COVID-19? OQ56372
Rwy'n falch o ddweud bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael tua £7 miliwn o gyllid grant a benthyciad i gefnogi ei raglen Trawsnewid Trefi. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys £1.2 miliwn tuag at brosiect gwerth £2.9 miliwn i wella Arcêd y Farchnad yng nghanol y ddinas.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi clywed am frandiau mawr y stryd fawr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ledled y DU, ac mae'r cyfyngiadau, cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref wedi cael effaith enfawr ar ganol ein dinasoedd. Mae'r pandemig eisoes wedi taro canol ein dinasoedd yn galed, a bydd yn newid y ffordd y mae pobl yn eu gweld yn barhaol. Mae'n rhaid inni feddwl yn wahanol am y ffordd rydym yn eu cefnogi a'u datblygu i ddenu ymwelwyr. Rwyf wedi bod yn falch o weld y cynlluniau cyffrous yng Nghasnewydd ar gyfer ardal wybodaeth, sy'n cynnwys symud Coleg Gwent i ganol y ddinas, sefydlu canolfan hamdden newydd sbon ac ailddatblygu'r farchnad, fel rydych wedi'i grybwyll. Bydd angen i ni sicrhau bod canol ein dinasoedd yn fannau diogel lle gall pobl weithio, byw a siopa, mannau y bydd pobl eisiau treulio amser ynddynt. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu parhau i helpu a chefnogi canol ein dinasoedd wrth i ni adfer, a pha gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'n busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau annibynnol, fel y gallant ffynnu a bod wrth wraidd ein cynllun adfer ar gyfer canol ein dinasoedd?
Diolch i Jayne Bryant am ei chwestiwn heddiw ac am fod mor gyson ac mor angerddol wrth hyrwyddo Casnewydd. Rwy'n credu bod cyffro mawr yn ardal Casnewydd a'r cyffiniau am y rhagolygon ar gyfer y ddinas yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol i gyflawni rhai o'r cynlluniau hynod uchelgeisiol hynny y mae Jayne wedi'u nodi. Yn ogystal, gallaf hysbysu'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu strategaeth fanwerthu bosibl a fydd yn mynd i'r afael â'r newid cyflym tuag at fanwerthu digidol yn ogystal ag effaith uniongyrchol coronafeirws ar ein strydoedd mawr. Byddwn yn gweithio gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru i ddatblygu'r strategaeth honno, a byddwn hefyd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr undebau llafur mewn partneriaeth gymdeithasol i sicrhau y gellir cadw cynifer o bobl â phosibl o fewn y sector, hyd yn oed os yw'n golygu uwchsgilio neu ailsgilio er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi'r genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi, ac o fewn y genhadaeth honno, ceir pum llusern. Mae un o'r llusernau hynny'n mynd i'r afael â phryderon y mae Jayne Bryant wedi'u nodi heddiw, dyfodol y stryd fawr. Mae angen cryfhau'r sylfaen honno yn ein heconomi, a bydd honno'n llusern allweddol wrth wella'r rhagolygon ar gyfer canol trefi a chanol dinasoedd yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd y dull 'canol y dref yn gyntaf', sydd wedi'i groesawu mor gryf gan awdurdodau lleol, busnesau ac ardaloedd gwella busnes ledled Cymru, yn parhau, ac mae buddsoddiad ychwanegol wedi'i gyhoeddi ar gyfer y fenter Trawsnewid Trefi. Ac yna ceir y grantiau datblygu busnes a oedd yn rhan o gylch blaenorol o'r gronfa cadernid economaidd ac sydd mor bwysig i sicrhau bod busnesau yn y sector manwerthu a'r sector lletygarwch a thwristiaeth yn gallu edrych ar gyfleoedd tymor canolig a hirdymor, yn hytrach nag ymdrin â'r presennol yn unig. Ac yn y cyfamser, yn y presennol, rydym wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol wrth gwrs ar gyfer y gronfa honno sy'n benodol i'r sector, a fydd mor bwysig i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, yng Nghasnewydd, a ledled Cymru yn wir.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad economaidd canol trefi ym Merthyr Tudful a Rhymni? OQ56361
Mae £3 miliwn o gyllid ar gael i drefi ledled Cymru yn dilyn astudiaeth gan Centre for Towns. Dyfarnwyd £834,549 i Ferthyr Tudful i ddarparu cynllun grant i fusnesau, a fydd yn cefnogi gyda gwelliannau'n fewnol ac yn allanol i gynorthwyo masnach busnesau mewn ymateb i'r pandemig.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddodd y Gweinidog Ken Skates y genhadaeth i ailadeiladu economi Cymru, roeddwn yn falch iawn ei bod yn ymgorffori'r egwyddor o ganol y dref yn gyntaf. Nawr, rwy'n arbennig o awyddus i sicrhau dyfodol digidol sydd wedi'i gysylltu'n well a fydd yn cyd-fynd â datblygiadau fel yr orsaf fysiau newydd, gwasanaethau metro, gwelliannau i ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac yn y blaen. Felly, a allwch chi gadarnhau, fel rhan o'r newid hwn, y byddwn yn helpu i ddarparu stryd fawr ddigidol, gan sicrhau y gall cyfleusterau masnachol, hamdden a lletygarwch ddarparu'r cynnig digidol gorau i ategu'r defnydd hyblyg ac amlweddog y bydd ei angen ar drefi ein Cymoedd yn y blynyddoedd i ddod?
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n credu bod darpariaeth ddigidol yn rhan bwysig iawn o'r ffordd rydym wedi adfywio canol trefi a sut rydym yn creu dull polisi sy'n seiliedig ar ddata. Felly, mae cefnogaeth eisoes wedi bod i'r dref a galluogi trefi. Er enghraifft, mae canol tref Rhymni wedi cael grant o £30,000 i alluogi Caerffili, i'w galluogi i gyflwyno darpariaeth Wi-Fi am ddim yng nghanol y dref. Rydym bellach yn gwneud hyn ar draws y wlad. Ac yn hollbwysig, yn ogystal â darparu Wi-Fi am ddim, rydym yn darparu seilwaith ar gyfer cysylltedd 'rhyngrwyd pethau', y rhwydwaith LoRaWAN, fel y'i gelwir, sydd wedi cael ei dreialu'n llwyddiannus iawn yn Aberteifi ac ar draws gogledd-orllewin Cymru, lle gallwn weld data ar nifer yr ymwelwyr—pryd y mae pobl yn dod, pryd y byddant yn siopa, am ba hyd y maent yn aros—sy'n rhoi gwybodaeth i fasnachwyr fel y gallant ystyried eu horiau agor. Felly, er enghraifft, mae'r data'n dangos bod pobl yn aml yn aros yng nghanol trefi yn hwyrach gyda'r nos nag y mae siopau ar agor, felly gall ardaloedd gwella busnes ac eraill ddefnyddio'r wybodaeth honno i deilwra'r cynnig y maent yn ei wneud. Felly yn ogystal â'r seilwaith ffisegol, rydym yn awyddus hefyd i'w galluogi i ddeall y data, dehongli'r data, a gweithredu ar y data. Felly, byddwn yn cyhoeddi pecyn pwysig yn fuan i gyflwyno hynny ymhellach.
Yn ogystal, i gyngor Merthyr, rydym wedi darparu, drwy dasglu'r Cymoedd, £200,000 o gyllid ar gyfer uwchgynllun canol y dref, a fydd yn bwysig ar gyfer cynllunio rôl canol y dref yn y blynyddoedd i ddod. A byddwn hefyd yn ychwanegu, y tu hwnt i ganol y dref, rwy'n awyddus iawn i gefnogi prosiect Crucible sy'n cael ei ddatblygu ym mharc Cyfarthfa, sydd eisoes yn borth i barc rhanbarthol y Cymoedd. Credaf fod gan hwnnw botensial enfawr i ddenu pobl o bob rhan o'r wlad i Ferthyr, gan greu atyniad o'r radd flaenaf i ymwelwyr. Ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu cyllid cychwynnol pwysig i roi hwnnw ar waith.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd mewn perthynas â'i gyfrifoldebau am bontio Ewropeaidd. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden eto.
1. Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y UE a'r DU ar Gymoedd de Cymru? OQ56362
Cyhoeddais ddadansoddiad yn ddiweddar o oblygiadau'r cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r berthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd a negodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi ein busnesau dan anfantais, yn cyfyngu ar hawliau ein dinasyddion i fyw a gweithio dramor, a gallai ei gwneud yn anos recriwtio gweithwyr ar gyfer ein gwasanaethau hanfodol, ac mae'n bygwth buddsoddiad yn ein cymunedau.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. A fyddech yn cytuno felly fod ymffrost Boris Johnson am ei gytundeb Brexit heb ddim tariffau, cwotâu na rhwystrau heblaw am dariffau bellach yn groes i brofiad busnesau gweithgynhyrchu bach yn y Cymoedd, ac mae'r hyn a arferai fod mor syml â masnachu gyda Bryste neu Birmingham, dyweder, bellach yn fwy cymhleth na masnachu gyda Japan neu Ganada? Weinidog, heddiw lansiais arolwg o gwmnïau lleol yn fy etholaeth i gasglu tystiolaeth fanylach. Ac er y gallai fod yn rhy gynnar o hyd i wybod y canlyniad terfynol, a fyddech yn cytuno bod y trefniadau masnachu newydd yn llyffethair ar economi Cymoedd de Cymru ar hyn o bryd?
Lywydd, hoffwn ddweud fy mod wedi gweld yr arolwg yn cael ei lansio ar-lein gan Dawn Bowden yn gynharach heddiw. Ac rwy'n credu ei fod yn enghraifft o'r union fath o ymgysylltiad â busnesau mewn etholaethau y credaf ei fod yn hanfodol yn fy ardal i o ganlyniad i adael y cyfnod pontio. Felly, cymeradwyaf y fenter honno'n gryf iawn. Ac rwy'n cytuno â Dawn Bowden fod yr amodau i'n busnesau wedi newid yn sylweddol ddiwedd mis Rhagfyr, a bydd yn parhau i gael effaith negyddol sylweddol, mae arnaf ofn, gan weithredu, yn y ffordd roedd Dawn Bowden yn ei ddweud, fel llyffethair ar rai o'n heconomïau, gan gynnwys yng Nghymoedd de Cymru. Er bod y cytundeb yn honni ei fod yn darparu trefniadau dim tariff a dim cwota, mae hyn wrth gwrs yn amodol ar allu cynhyrchion i gydymffurfio â rhwystrau eraill heblaw am dariffau mewn perthynas â rheolau tarddiad ac i gyfrif am TAW, mewn ffordd y gwelwn eisoes ei bod yn achosi heriau sylweddol i lawer o'n hallforwyr. Bellach, ceir llawer o gynhyrchion na ellir eu hallforio o gwbl i'r UE, gan gynnwys mewn rhai meysydd cynhyrchu bwyd. Felly, credaf yn bendant mai'r hyn a welwn—ac ofnaf mai'r hyn y gwêl hithau o'i harolwg—yw y bydd goblygiadau real iawn i'r economi ac i fusnesau, ac yn hollbwysig, i swyddi a bywoliaeth pobl.
2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU? OQ56363
8. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin? OQ56370
Llywydd, dwi'n deall eich bod chi wedi rhoi'ch caniatâd i gyfuno cwestiynau 2 ac 8.
Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw fanylion o hyd am y gronfa ffyniant gyffredin, bedair blynedd ar ôl ei chrybwyll am y tro cyntaf. Ond yr hyn sy'n amlwg yw ei bod yn bwriadu anwybyddu datganoli, yn ogystal ag anwybyddu gwaith caled rhanddeiliaid ledled Cymru yn creu ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Rwy'n deall trwy Twitter fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi heddiw y bydd rhywbeth tebyg i £4.8 biliwn o gyllid ar gael, ond nid yw'n dweud a yw hynny ar gyfer Cymru; mae'n awgrymu ei fod ar gyfer Cymru, ond nid yw'n dweud a yw ar gyfer Cymru neu'r DU, ac nid yw'n rhoi amserlen ar gyfer y gwariant hwnnw.
Weinidog, mae pobl ym Mlaenau Gwent yn poeni'n fawr y byddwn yn colli mynediad at y cyllid hwn. Addawyd inni, cawsom addewid go iawn gan Lywodraeth Geidwadol y DU, na fyddai Brexit yn golygu colli unrhyw gyllid—na fyddem yn colli unrhyw fuddsoddiad, na fyddem yn colli buddsoddiad mewn seilwaith, mewn pobl, mewn cymunedau. Mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn achubiaeth i gymunedau fel Blaenau Gwent, lle mae wedi helpu i gefnogi gwaith, pan gaeodd y gwaith dur yng Nglynebwy, ac i greu dadeni, os hoffwch, ar y safle hwnnw; buddsoddiad ym mhrosiect deuoli'r A465; buddsoddiad mewn prentisiaethau; buddsoddiad mewn pobl ac addysg ledled y fwrdeistref.
Weinidog, rwy'n pryderu ein bod yn mynd i golli mynediad at hyn. Rwy'n pryderu y byddwn yn gweld prosiectau'n cael eu dewis a'u dethol er mwyn bodloni uchelgeisiau'r Blaid Geidwadol yn hytrach nag anghenion Cymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sefyll dros Gymru yn hytrach na chaniatáu i'r Torïaid gael rhwydd hynt i ganu clodydd Llundain?
Wel, mae'r Aelod yn iawn. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn mynd ati'n fwriadol i danseilio'r math o ddull cynlluniedig, strategol, wedi'i gyd-ddatblygu o weithredu datblygu rhanbarthol a ffafriwyd gennym yma yng Nghymru o blaid disgresiwn gwleidyddol i bob pwrpas. Ac rydym wedi gweld effaith hynny yng nghronfa'r trefi yn Lloegr, sydd wedi cael ei beirniadu'n llym am amrywiaeth o ddiffygion gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd, boed yn ddiffyg tryloywder neu ragfarn wleidyddol neu ddiffyg gallu i gyflawni. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am yr holl heriau hyn yn sgil ei dull o weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin, a, mentraf ddweud, yr hyn y mae wedi'i galw'n gronfa codi'r gwastad hefyd, maes o law.
Nid yw'r cynigion, yn y ffordd y mae cwestiwn yr Aelod yn awgrymu, wedi'u datblygu gyda rhanddeiliaid o Gymru, nac yn adlewyrchu buddiannau busnesau Cymru a chymunedau Cymru, naill ai ledled Cymru neu ar sail ranbarthol. Maent yn brin o dryloywder. Nid oes modd eu hintegreiddio â ffynonellau cyllid eraill, ac rwy'n gobeithio'n fawr na fydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y profiad ofnadwy o reoli'r gronfa drefi, yn dilyn yr un trefniadau gyda'r cronfeydd hyn.
Yn y pen draw, nid dadl gyfansoddiadol syml yw'r rheswm pam ein bod yn galw am ymdrin â'r rhain yn unol â'r setliad datganoli, ond yn hytrach, am fod hynny'n arwain at ganlyniadau gwell, tecach i Gymru, ac yn adlewyrchu blaenoriaethau busnesau Cymru, cymunedau Cymru a phobl Cymru yn well.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Mae pryder cynyddol ynglŷn ag agwedd Gweinidog Torïaidd Llywodraeth y DU tuag at fater y £4.8 biliwn i sbarduno adfywiad ledled y DU a weinyddir gan Whitehall. Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru barhau i sefyll yn rymus dros ddatganoli yng Nghymru, pwysigrwydd Senedd Cymru fel corff democrataidd, ac mai ni fel gwleidyddion a etholwyd yn uniongyrchol yng Nghymru a ddylai oruchwylio sut y caiff arian a glustnodwyd ar gyfer Cymru ei wario er budd pobl Cymru? Mae'r pandemig byd-eang wedi dangos yn glir beth yw canlyniadau peryglus y tlodi endemig sy'n bodoli ledled y DU—tlodi endemig sy'n ganlyniad i bolisïau creulon, ideolegol y Blaid Geidwadol ers i Thatcheriaeth ddinistrio cymunedau ledled Cymru ar ôl 1979. Weinidog, beth yw'r peryglon a welwch i Gymru ar y llwybr y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei ddilyn ar gyfer Cymru?
A gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn hwnnw? Fe fydd yn cofio, wrth gwrs, fel finnau, pan ddigwyddodd yr adolygiad o wariant ym mis Tachwedd, fod swm canlyniadol Barnett wedi'i addo i Gymru mewn perthynas â'r gronfa codi'r gwastad, fel y gellid ei gweinyddu yn y ffordd y mae hi'n ei disgrifio, yn unol ag atebolrwydd democrataidd Llywodraeth Cymru i'r Senedd hon. Nid dyna sydd wedi digwydd, ac yn y ffordd y mae hi'n awgrymu, mae hyn yn gwbl groes i drefniadau cyfansoddiadol y setliad datganoli, ond mae i hyn ganlyniad ymarferol ym mywydau pobl yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n dda iawn â'r trydydd sector, y sector preifat, busnesau, prifysgolion, llywodraeth leol ac eraill ledled Cymru i ddatblygu dull sy'n gweithio i Gymru, ac yn ein barn ni, dyna'r ffordd orau ymlaen, nid cronfa ddewisol ganolog. Y mathau o flaenoriaethau y mae pobl ledled Cymru wedi dangos eu bod am eu gweld yw cymorth i fusnesau cystadleuol, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd, mynd i'r afael â'r newid i economi ddi-garbon, a chymunedau iachach, tecach a mwy cynaliadwy. Dyna'r math o raglen, wedi'i datganoli i'r rhanbarthau yng Nghymru, y credwn ei bod er lles gorau Cymru, a galwn ar Lywodraeth y DU i barchu'r cydweithio hwnnw ledled Cymru a sicrhau bod arian ar gael drwy'r fframwaith hwnnw.
[Anghlywadwy.]—ar gyfer rhaglenni peilot yn unig y rhoddwyd cyllid y Trysorlys a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin y DU, a nodwyd yn glir o'r cychwyn cyntaf y byddai mwy o gyllid i ddilyn. Fel y dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin fis diwethaf:
Rydym eisoes wedi'i gwneud yn glir iawn ac wedi dangos y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin i fodolaeth yn union yr un fath â'r swm o arian a gâi ei wario yng Nghymru o'r Undeb Ewropeaidd, neu fwy na hynny.
Mae wedi'i gofnodi'n dweud yn Nhŷ'r Cyffredin hefyd y bydd Llywodraeth y DU
yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth i ni ddatblygu fframwaith buddsoddi'r gronfa ar gyfer ei gyhoeddi.
Pa gam, felly, y mae ei hymgysylltiad wedi'i gyrraedd erbyn hyn? Ac o ystyried y newyddion y bydd y gronfa ffyniant gyffredin hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda chynghorau Cymru, y deellir eu bod wedi croesawu hyn, pa ymgysylltiad sydd rhyngoch a hwy ynglŷn â hyn?
Diolch i'r Aelod am roi cyfle arall imi ddisgrifio diffygion y gronfa, ond mae'n disgrifio parhad ymgysylltiad fel pe bai ymgysylltu o sylwedd wedi bod. Holl bwynt y broses hon yw na fu unrhyw ymgysylltiad o'r fath. A phan ofynnwch—. Pan fo'r Aelod yn gofyn imi beth a wnawn gyda llywodraeth leol yng Nghymru, byddwn yn parhau â'r gwaith partneriaeth cydweithredol sydd wedi arwain at gynllunio'r fframwaith, rhywbeth nad yw'n nodwedd o ymagwedd Llywodraeth y DU. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrtho ei fod i'w weld yn hynod o ddigyffro ynglŷn â Chymru'n colli gwerth blwyddyn gyfan o gyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin, ac os yw'n credu bod hynny'n ganlyniad derbyniol i'r broses hon, rwy'n anghytuno'n sylfaenol ag ef, ac nid wyf yn credu bod ei sicrwydd a'i ddibyniaeth ar weniaith amhenodol ynglŷn â chamau gweithredu yn y dyfodol yn adlewyrchu buddiannau pobl yng Nghymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod angen i ni roi hwb i dwf economaidd ôl-Brexit yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn cydweithio â'r gweinyddiaethau datganoledig i sefydlu o leiaf un porthladd rhydd ym mhob gwlad yn y DU. Yma, yng ngogledd Cymru wrth gwrs, rydym yn ffodus o gael Virginia Crosbie, AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig dros Ynys Môn, yn arwain Consortiwm Cais Porthladd Rhydd Ynys Môn, ochr yn ochr ag M-SParc, Prifysgol Bangor, Stena Line, Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Fel yr unig gais yng Nghymru i gynnwys prifysgol, gallai'r porthladd rhydd ddenu cyflogwyr newydd mawr, gan ddod â chyflogaeth barhaol i hybu'r gadwyn gyflenwi ar draws y rhanbarth cyfan. Mae'n amlwg, o'ch 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020', fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phorthladdoedd a'r awdurdodau lleol perthnasol i ystyried anghenion porthladdoedd unigol. Felly, a fyddech yn cofnodi eich bod yn llwyr gefnogi Caergybi fel y prif ymgeisydd i fod yn borthladd rhydd yng Nghymru fel ffordd o ddefnyddio'r porthladd ar ôl Brexit?
Wel, rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am nodi anghenion porthladdoedd, a'r economïau sy'n agos at borthladdoedd, fel rhai sydd angen cymorth penodol o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n sicr yn wir, ac yn sicr ddigon, ein dull gweithredu fel Llywodraeth yw'r un a ddisgrifiodd yn ei chwestiwn, sef gweithio gyda phorthladdoedd, awdurdodau porthladdoedd, cludwyr a busnesau a'r Llywodraethau, wrth gwrs, i hyrwyddo eu buddiannau. Os yw Llywodraeth y DU yn ceisio cefnogi datblygiad porthladd rhydd yng Nghymru, wrth ddarparu cyllid ar gyfer hynny, tybed a yw'n cytuno na ddylai hynny fod yn seiliedig ar swm canlyniadol Barnett, a fyddai'n sicrhau tua 5 y cant o gyfanswm y gost, ond ar sail buddsoddiad llawer mwy sylweddol o tua 10 y cant, sef tua un porthladd allan o nod Llywodraeth y DU o 10 ledled y DU. Felly, byddwn yn falch pe bai'n cadarnhau ei bod o'r farn bod gweithredu ar sail swm canlyniadol Barnett yn annigonol ar gyfer datblygu'r math o gynnig y mae'n ei gefnogi.
Gwnsler Cyffredinol, diolch, ond rhaid imi anghytuno â chi ar y pwynt hwn oherwydd roeddwn yn hapus i ddarllen heddiw mewn gwirionedd y bydd £8 miliwn yn dod i Gymru i helpu gyda'n menter porthladd rhydd. Nawr, Ynys Môn fyddai'r lle delfrydol gan fod ganddi un o'r gwerthoedd ychwanegol gros isaf yng Nghymru—£1,050 o'i gymharu ag £11,769 yng Nghaerdydd. Ac yn rhy aml yma, fel Aelod etholedig yng ngogledd Cymru, rwyf wedi cael llond bol ar bobl sy'n poeni am y rhaniad rhwng y gogledd a'r de.
Nawr, gan aros gyda phorthladdoedd, efallai y cofiwch ichi ddatgan y canlynol yn eich cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio:
'Rydym yn gweithio i sicrhau cyn lleied o amharu â phosibl ar y rhwydwaith trafnidiaeth, y porthladdoedd a’r cymunedau lleol yng Nghymru.'
Nawr, rydym ein dau'n ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu ein sector pysgod cregyn a'r £23 miliwn y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi ein hallforwyr bwyd môr. Ond credwn y gallech fod yn gwneud mwy i leihau'r tarfu hwn. Mae rhai pysgotwyr o Gymry yn gwario £15,000 ar fan oergell i gludo cregyn bylchog byw yr holl ffordd i Plymouth. Gallai Llywodraeth Cymru atal hynny i gyd drwy gymryd un cam pendant: cyflwyno cymhellion ariannol i ddatblygu gweithfeydd puro yma yng ngogledd Cymru. Felly, a wnewch chi weithio gyda physgotwyr Cymru sy'n chwilio am y gefnogaeth honno a gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi'r sector pysgod cregyn ar ôl Brexit drwy fynd ati'n gyflym i ddatblygu gweithfeydd puro ger ein porthladdoedd yng Nghymru?
Wel, rwy'n falch ei bod wedi aros gyda thema porthladdoedd. Ni ddeallais o'i rhesymeg pam ei bod yn credu y byddai'n briodol i borthladdoedd Cymru gael eu hariannu ar gyfradd is na phorthladdoedd mewn rhannau eraill o'r DU, felly rwyf am ofyn iddi fy helpu gyda hynny pan fydd yn gofyn ei chwestiwn nesaf. Rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o sefyll dros borthladdoedd Cymru.
O ran allforion pysgod cregyn, fel y gŵyr o'n trafodaethau blaenorol mewn perthynas â hyn, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi sefyll dros fuddiannau pysgotwyr ac felly wedi argymell dull gwahanol iawn o weithredu i'r un y dewisodd Llywodraeth y DU ei fabwysiadu yn ei negodiadau, yn anffodus. Ac rwy'n ofni bod yr heriau sylweddol iawn sy'n wynebu'r sector yng Nghymru yn rhai y gellir eu olrhain yn uniongyrchol i'r dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn y negodiadau hynny. Ac nid wyf yn credu bod ceisio celu'r realiti hwnnw'n helpu neb mewn gwirionedd. Yr hyn y byddwn yn ei wneud fel Llywodraeth yw parhau â'n cefnogaeth i'r sector mewn unrhyw ffordd y gallwn, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw newid y dirwedd yma mewn ffordd a all gefnogi'r sector pysgod cregyn a physgodfeydd yn gyffredinol. Byddwn yn parhau i fod yn gydweithredol a gweithio ar y cyd â hwy er budd pob sector yng Nghymru sydd wedi'u difrodi gan y math o negodi a wnaed gan Lywodraeth y DU, ond yn y pen draw, mae rhai o'r pethau hyn yn nwylo Llywodraeth y DU ac mae angen iddynt weithredu mewn ymateb i hynny.
Lywydd, mae'n ddrwg gennyf, ond mae'n rhaid i mi wrthod yr hyn a ddywed y Cwnsler Cyffredinol eto. Mae'r £8 miliwn sy'n dod i Gymru i'n helpu gyda'n porthladdoedd rhydd yn newyddion da, ac mae'n flinderus gorfod parhau i glywed y cwyno a'r griddfan cyson ynghylch pryd y mae arian ar gael i ddod yma i Gymru. Pam na wnewch chi ddweud 'diolch' wrth Lywodraeth y DU?
Nawr, byddai datblygu gweithfeydd puro yng Nghymru yn newyddion da. Yn wir, byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn cydweithredu â chi, gan fy mod yn siŵr y byddai fy nghynnig yn cyd-fynd yn dda â'r nod o foderneiddio'r diwydiant pysgota. Felly, er y byddwn yn falch o glywed ymrwymiad gennych i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn am unwaith, mae'n ymddangos bod gennych alergedd at fuddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghymru. Ddydd Iau diwethaf, gwnaethoch ymuno â'r Gweinidog Cyllid i gwyno bod Llywodraeth y DU yn bwriadu dyrannu cyllid yn uniongyrchol ar gyfer datblygu rhanbarthol a lleol yng Nghymru drwy gronfa codi'r gwastad. Rydych yn cyhuddo Llywodraeth y DU, ac rwy'n dyfynnu, o
'[f]ynd ati'n fwriadol i gymryd arian oddi wrth Gymru'.
Bydd arian yn mynd yn uniongyrchol i gynlluniau yma yng Nghymru, felly rhowch y gorau i'r straeon newyddion ffug hyn. Rhowch y gorau i geisio creu brwydr gyfansoddiadol ddi-angen am na allwch oddef Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n adeiladu ar ei hanes cadarn o gyflawni dros Gymru, gan gynnwys diogelu bron i 400,000 o swyddi, cefnogi mwy na 100,000 o bobl hunangyflogedig a thros 50,000 o fusnesau ers dechrau'r pandemig. Pam na wnewch chi ddangos rhywfaint o'r caredigrwydd a ddangoswyd yn gynharach gyda Gweinidogion eraill a dweud am unwaith, 'Diolch, Lywodraeth y DU'? Diolch, Lywydd.
Nid wyf yn siŵr fy mod yn cydnabod bydolwg yr Aelod, lle dylai pobl Cymru fod yn ddiolchgar am gael buddsoddiad o'u trethi eu hunain yng Nghymru, ond mae'n debyg ei bod hi'n fydolwg. Mae'n well gennyf fi sicrhau bod dau beth yn digwydd. Yn gyntaf, ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, fod Llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i wneud cam â Chymru, felly boed yn seilwaith ynni neu seilwaith digidol neu seilwaith rheilffyrdd, byddai'n dda pe bai Llywodraeth y DU yn buddsoddi ar sail gymaradwy yng Nghymru. Ar faterion sydd wedi'u datganoli, fel y soniais yn gynharach, mae arnaf ofn mai symiau bach o arian yw'r rhain, ac nid ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n adlewyrchu buddiannau Cymru. Nid gwneud pwynt cyfansoddiadol rwyf i, fel mae'n digwydd; rwy'n gwneud pwynt am fuddsoddi effeithiol yn economi Cymru, a dyna'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru gyda busnesau Cymru, ac mae arnaf ofn nad oes dim o'r gwaith y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud wedi elwa o hynny. Rwy'n croesawu buddsoddiad yng Nghymru. Byddwn yn croesawu llawer mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, i'w ddefnyddio ar feysydd a gadwyd yn ôl yn fwy effeithiol ganddynt ac ar feysydd datganoledig gan Lywodraeth Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud pa mor bleserus bob amser yw dilyn Janet Finch-Saunders yng nghwestiynau'r llefarwyr? Roeddwn i'n mynd i ddechrau gyda chodi'r gwastad hefyd, Weinidog, a barn wahanol efallai. Fis Gorffennaf diwethaf, fe gofiwch, gofynnais i chi beth roeddech chi'n ei wneud i ymladd yn erbyn Bil marchnad fewnol Llywodraeth y DU, Bil sy'n cipio pŵer. Ym mis Rhagfyr, gofynnais beth roeddech chi'n ei wneud i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli yn y negodiadau Brexit. Fe fyddwch yn cofio hynny hefyd. Fis diwethaf, gofynnais beth rydych yn ei wneud i sicrhau nad oedd Cymru ar ei cholled fel rhan o gynigion cronfa ffyniant gyffredin y DU, ac rydym wedi clywed mwy am hynny heddiw. Aeth wythnos arall heibio a dyma ni eto'n trafod ymgais ddiweddaraf y Torïaid yn San Steffan i danseilio democratiaeth Cymru. Felly, fel y gwyddoch, cyhoeddwyd y gronfa codi'r gwastad gan San Steffan y llynedd, cronfa y dywedir ei bod yn agored i bob ardal yn Lloegr. O dan gynlluniau blaenorol, byddai Cymru'n cael ein cyfran o'r £800 miliwn drwy fformiwla Barnett a byddem yn ei wario'n unol â'n blaenoriaethau yma. Mae Trysorlys San Steffan bellach wedi cyhoeddi y byddant yn penderfynu sut y caiff yr un £800 miliwn ei wario yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ni chaiff cyllid i Gymru ei neilltuo. Rwy'n cofnodi hynny, Weinidog, i'ch helpu yma. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, yn hytrach na chodi'r gwastad, fod y cynigion diweddaraf hyn yn gwasgaru adnoddau'n deneuach, gan fynd â'n harian o lle mae ei angen fwyaf, a bod codi'r gwastad, i Gymru, yn golygu bod ar ein colled?
Rwy'n cytuno â Dai Lloyd, o ran maint y cyllid a'r ffaith nad yw wedi'i neilltuo i Gymru, fod y syniad mai cronfa codi'r gwastad yw hon yn ddisgrifiad anghywir. Mae ffordd well o wneud hyn. Mae arian sylweddol ar gael yn amlwg, ond mae yna ffordd o'i wneud sy'n adlewyrchu anghenion busnesau a chymunedau yng Nghymru mewn gwirionedd ac fel y dywedais yn gynharach wrth ateb cwestiynau cynharach, ffordd sy'n adlewyrchu'r dull rydym wedi ceisio'i ddilyn fel Llywodraeth o weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu fframwaith ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, yn hytrach na chael rhywbeth sy'n ddewisol yn yr ystyr honno.
Byddwn yn dweud wrtho fy mod yn credu bod y ffordd y dechreuodd ei gwestiwn yn iawn, os caf ddweud, i gydnabod mai Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw hon sy'n mynd ar drywydd y dull hwn. Credaf ei bod yn bosibl gwneud i hyn weithio ar sail y DU gyfan gydag ewyllys wleidyddol mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru'n well o lawer, a dyna'r weledigaeth sydd gennym ni fel Plaid Lafur Cymru a Llywodraeth a arweinir gan Lafur Cymru ar gyfer cyllid rhanbarthol yn y dyfodol.
Diolch ichi am hynny, Weinidog, ac yn amlwg, mae eich datganiad mewn ymateb, pan gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, yn ogystal â'r hyn rydych wedi'i ddweud heddiw, eich ymateb i'r llanast diweddaraf hwn, wedi'i eirio'n gryf ac yn condemnio'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Ond unwaith eto, mae ychydig yn brin o nodi camau ymarferol ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddiogelu buddiannau Cymru yn awr, oherwydd rydym yn wynebu brwydr yma braidd o ran colli arian a cholli pwerau, ac nid dyma'r enghraifft gyntaf, fel yr awgrymais ar ddechrau'r cwestiwn cyntaf. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa gamau ymarferol rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw Cymru'n cael ei thanseilio ac ar ei cholled unwaith eto gyda'r gronfa codi'r gwastad hon?
Fel y soniais yn gynharach, rydym wedi mynegi gweledigaeth wahanol iawn ar gyfer sut y dylai cyllid rhanbarthol weithio yng Nghymru, ac mae honno'n ddadl rydym yn parhau i'w gwneud. Credwn fod honno'n ffordd lawer mwy rhesymegol o gefnogi economi Cymru ar lefel Cymru gyfan ond rhanbarthau Cymru hefyd, a datganoli'r broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd gynhyrchiol a mwy effeithiol. Bydd yn gwybod, o ystyried y rhestr o eitemau a ddarllenodd ar ddechrau ei gwestiwn cyntaf, ein bod wedi cymryd pob cam a allwn i sefyll dros Gymru fel Llywodraeth, gan gynnwys dwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'r Ddeddf. Er nad oes modd herio'r eitem hon ynddi ei hun, mae'r Ddeddf yn destun adolygiad barnwrol ar hyn o bryd, neu rydym yn ceisio adolygiad barnwrol yn y llysoedd. Felly, fe fydd yn gwybod ein bod, fel Llywodraeth, yn rhoi pob cam sy'n agored inni ar waith er mwyn amddiffyn hawliau'r Senedd a hawliau pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at ddiwrnod pan fydd gennym Lywodraeth yn San Steffan sydd â diddordeb go iawn mewn sicrhau bod pob rhan o'r DU yn ffynnu mewn undeb diwygiedig, a gorau po gyntaf y cawn hynny drwy ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Os caf droi yn fy nghwestiwn olaf at Brexit a phorthladdoedd, rydym wedi clywed tipyn, ond gyda gogwydd ychydig yn wahanol. Yn amlwg, tan fis Rhagfyr, ac nid yw hynny ond deufis yn ôl, Caergybi oedd y porthladd fferi gyrru mewn ac allan prysuraf ond un yn y Deyrnas Unedig ar ôl Dover. Roedd tua 450,000 o lorïau'n gyrru drwodd bob blwyddyn ar eu ffordd i Ddulyn, gyda chargo cig, cynnyrch amaethyddol, ceir ail-law ac eitemau ar gyfer silffoedd archfarchnadoedd Iwerddon, i gyd yn llifo drwy Gaergybi. Mae ymadawiad y DU â'r UE wedi newid hynny i gyd, yn amlwg. Mewn cwta saith wythnos, mae cyfeintiau nwyddau wedi gostwng 50 y cant. Mae perchennog y porthladd, Stena Line, yn rhybuddio y gallai'r cwymp fod yn barhaol, ac rydym yn gweld llwybrau môr newydd yn agor. Yn amlwg, bydd y Gweinidog wedi astudio'r mapiau, fel finnau. Mae gennym Ddulyn, Rosslare a Cork ar y naill ochr, a llwybrau môr newydd yn agor i Roscoff, Cherbourg a Dunkirk ar yr ochr arall, gan osgoi Cymru'n gyfan gwbl. Felly, a gaf fi ofyn, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ymhellach fod hyn yn dangos bod y problemau sy'n codi yng Nghaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru'n dangos bod Brexit yn cael effaith wirioneddol andwyol ar economi Cymru ac nad problemau cychwynnol a dros dro yn unig mo'r rhain?
Rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid diystyru'r rhain fel problemau cychwynnol. Maent yn broblemau i'w hystyried o ddifrif, ac rydym yn gwneud hynny fel Llywodraeth oherwydd y rhesymau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu yn ei gwestiwn. Rydym yn glir iawn fod y bont dir rhwng Iwerddon a thir mawr Ewrop yn bwysig iawn i ni yn strategol, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i ddatrys hyn. Fel y gŵyr yr Aelod, o ran yr hyn sydd wedi'i gadw'n ôl a'i ddatganoli yn y gofod hwn, mae'r materion penodol sy'n achosi'r heriau yn rhai a gadwyd yn ôl mewn gwirionedd. Ond rydym wedi gweithio, ac rydym yn parhau i weithio, gyda Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Iwerddon ac eraill i geisio datrys hyn, gan weithio'n fwy eang hefyd gyda'r ystod o randdeiliaid perthnasol i ddatblygu cynllun gweithredu pendant i geisio datrys rhywfaint o hyn. Rwyf am fod yn glir iawn ein bod yn ystyried hwn yn faes pwysig i'w ddatrys, a'r neges allweddol a gawn gan randdeiliaid yw ei bod yn costio llawer mwy mewn rhai achosion i deithio ar y llwybrau uniongyrchol rhwng Iwerddon ac Ewrop. Felly, mae'n ymddangos i ni fod cyfle pwysig i ni yno i ddod o hyd i ateb i hyn fel y gallwn adfer y bont dir fel y prif lwybr tramwy yn y ffordd y byddai pawb ohonom yn dymuno ei gweld.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r potensial i ddenu busnesau rhyngwladol i Gymru nawr bod y DU wedi gadael yr UE? OQ56357
Mae’r cytundeb masnach a chydweithredu wedi mynd i’r afael â rhywfaint o’r ansicrwydd sydd wedi atal buddsoddiad ers y refferendwm yn 2016. Ond nid yw Cymru a’r DU bellach yn cynnig mynediad di-rwystr at farchnad sengl o 450 miliwn o bobl, a gallai hynny amharu, i ryw raddau, ar fewnfuddsoddiad o dramor.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol, ond nid wyf yn synnu, mewn gwirionedd, gan eich bod o blaid aros. Ers i gytundeb gyda'r UE gael ei roi ar waith, rydych wedi dweud bod problemau gyda masnach ryngwladol am fod Llywodraeth y DU wedi rhoi sofraniaeth o flaen llesiant. Y ddelwedd o Gymru roeddech am ei rhoi i bobl oedd gwlad a fyddai'n anodd cyflawni busnes ynddi a chyda hi, ac na allai hyd yn oed ofalu am iechyd ei phobl ei hun gan nad ydym yn yr UE. Serch hynny, dyma ni, y DU yn arwain y byd ar frechu yn erbyn COVID, yn ail i Israel yn unig, a chyda mwy na 1,000 o fusnesau’r UE yn agor swyddfeydd yn y DU am y tro cyntaf erioed. Er eich bod yn dethol newyddion i awgrymu y bydd Amsterdam rywsut yn disodli Llundain fel prifddinas cyllid Ewrop drwy siarad am fasnachu cyfranddaliadau yn unig, mae pobl fusnes go iawn fel pennaeth Barclays, Jes Staley, yn dweud y bydd Brexit o fudd i'r DU oherwydd ein gallu i ddenu cyfalaf byd-eang. Mae hyd yn oed papur newydd The i, a oedd yn gryf o blaid aros, yn cytuno ag ef.
Does bosibl nad ydych yn ymwybodol fod honni'n gyson ein bod wedi cael cytundeb gwael am nad oedd yn gytundeb Brexit-mewn-enw-yn-unig fel roeddech yn dymuno’i gael, a bychanu dyfodol a photensial Cymru am eich bod yn dymuno aros yn yr UE, yn gwneud unrhyw beth ond annog pobl i beidio â buddsoddi yma. Oni fyddech yn cytuno mai'r dechrau gorau wrth ddenu busnesau rhyngwladol i Gymru, yn enwedig yng ngoleuni'r newyddion fod 1,000 o gwmnïau cyllid ar fin agor swyddfeydd yn y DU, yn aml am y tro cyntaf, fyddai newid cyfeiriad a dechrau canolbwyntio ar y llu o fanteision a chyfleoedd y mae Brexit wedi eu rhoi i ni, a sut y bydd hynny o fudd i gwmnïau sy'n buddsoddi yma, yn hytrach na pharhau i ymladd refferendwm sydd wedi'i benderfynu ers amser maith?
Felly, pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddenu rhai o'r 1,000 o fusnesau hyn i agor swyddfeydd yng Nghymru, a pha mor effeithiol fydd hynny pan fydd Llywodraeth y DU yn parhau i siarad yn gadarnhaol am ddyfodol gweddill y DU, tra bo’ch Llywodraeth chi'n parhau i fod yn negyddol mewn perthynas â Chymru?
Fe geisiaf gysylltu fy ymateb â rhywfaint o'r dystiolaeth, sy'n debyg o fod yn ffordd ddefnyddiol o edrych ar hyn yn fy marn i. Y gwir amdani yw y bu dirywiad sylweddol mewn mewnfuddsoddiad yn dilyn refferendwm 2016. Drwy ymdrechion da llawer iawn o bobl, rwy'n falch o ddweud y bu cynnydd o'r lefel is honno y llynedd, felly mae hynny'n gadarnhaol ac rydym yn croesawu hynny'n llwyr. Ond mae'n gadarnhaol ar ôl cael cwymp o ganlyniad i'r ansicrwydd hwnnw, nad ydym fel Llywodraeth yn ei groesawu, yn sicr, ac nid oedd busnesau'n gyffredinol yng Nghymru yn ei groesawu chwaith.
Drwy gydol y pandemig yn enwedig rydym wedi ymgymryd â rhaglen ymgysylltu sylweddol iawn, gyda'n mewnfuddsoddwyr cyfredol i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ond hefyd i nodi cyfleoedd eraill, mewn ffordd sydd wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Mae'r strategaeth ryngwladol yn nodi'n glir iawn y sectorau lle rydym yn teimlo y gallwn wneud cynnig gwirioneddol ddeniadol, os mynnwch, ar gyfer mewnfuddsoddiad—ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, yn y maes ynni adnewyddadwy, yn y maes technoleg ariannol y soniodd amdano, ac mewn gwyddorau bywyd—ac rydym wedi datblygu cyfres gynhwysfawr a soffistigedig iawn o gynigion yn y meysydd hynny, ac mae ein gwaith ymgysylltu â chlystyrau, rhanddeiliaid a sianeli marchnad amrywiol yn y sectorau hynny wedi dwyn ffrwyth. Rwy'n croesawu hynny, a hoffwn weld hynny’n parhau.
Ond credaf ei bod hefyd yn bwysig i'r Aelod gydnabod pa mor anffodus yw canlyniad y negodi a wnaed gan Lywodraeth y DU a'u hymagwedd tuag at y negodiadau, oherwydd pe byddent wedi mabwysiadu ymagwedd fwy adeiladol, byddai pethau hyd yn oed yn well.
Daeth Awdurdod Datblygu Cymru â nifer o weithfeydd cydosod sylfaenol yma—a elwir yn aml yn 'weithfeydd sgriwdreifer'—o bob cwr o'r byd. Daeth llawer ohonynt yma, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen mewnfuddsoddiad arnom a fydd yn dod â chyflogaeth o ansawdd uchel a chyflogaeth uwch-dechnoleg a fydd yn para, ni waeth o ble y daw, ac mai'r peth olaf rydym ei eisiau yw nifer o fuddsoddiadau blwch swyddfa bost, lle maent yn talu i gael blwch swyddfa bost yng Nghymru heb gyflogi unrhyw un?
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn pwysig iawn? Credaf ei fod yn nodi mater pwysig iawn ac yn gosod y cyfeiriad teithio cywir yn ei gwestiwn. Drwy'r strategaeth ryngwladol y soniais amdani gynnau, rydym wedi dweud yn glir iawn mai'r hyn rydym yn ei geisio yw buddsoddiad sy'n ychwanegu gwerth, os mynnwch, i economi Cymru, yn y ffordd y soniodd Gweinidog yr economi amdani yn ei gwestiynau yn gynharach. Byddwn yn parhau â'r gwaith o fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo'r rhan o'r economi a all ein helpu i gyflawni hynny. Ac yn ychwanegol at rai o'r sectorau y soniais amdanynt eisoes yn fy ymateb i Michelle Brown, boed yn ynni’r môr neu dechnoleg feddygol, ceir nifer o feysydd lle gallwn ddenu buddsoddiad, ac rydym yn parhau i fod yn awyddus i wneud hynny, ond yn y ffordd yr awgryma ei gwestiwn, er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw'n ychwanegu gwerth, ac felly'n gallu cyflawni gweithgarwch economaidd hirdymor, cynaliadwy a chynhyrchiol yng Nghymru a swyddi da.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu hawliau cerddorion i weithio a theithio ar draws yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt? OQ56359
Ni ddylid diystyru’r problemau sy'n wynebu cerddorion a pherfformwyr fel problemau cychwynnol; maent yn ganlyniad i’r cytundeb masnach a chydweithredu a negodwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cymru Greadigol a grwpiau rhanddeiliaid eraill i ddeall yr effeithiau’n iawn ac i ymateb iddynt.
Diolch. Rwy'n falch iawn o Gaerdydd, a ddaeth yn ddinas gerddoriaeth gyntaf—a'r unig un o bosib—yn y DU, gan ei bod yn ganolog i'n heconomi yn ogystal â'n diwylliant. Gan fod pob cerddor yn weithiwr llawrydd, os nad ydynt yn ennill unrhyw arian, nid ydynt yn bwyta, felly yn ogystal â'r pandemig, mae gadael yr UE wedi creu rhwystrau newydd i gerddorion rhag teithio. Nawr, rwy’n falch o ddeall bod Undeb y Cerddorion wedi negodi gostyngiadau ar y trwyddedau y mae'n rhaid iddynt eu cael bellach i fynd â'u hoffer dramor i rannu eu doniau mewn mannau eraill, ond yn amlwg, ni fydd hynny o fudd i gerddorion sydd am ddod i berfformio yng Nghaerdydd. Y perygl yw na fyddwn yn rhywle lle bydd perfformwyr am ddod iddo mwyach, a byddant yn mynd i rywle arall yn Ewrop ac yn anwybyddu’r DU a Chaerdydd yn gyfan gwbl. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i atal y llanastr hwn a wnaed gan y DU rhag dod yn broblem sylweddol i gerddorion?
Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol hwnnw ac rwy’n cydnabod yr holl waith y mae'n ei wneud i gefnogi'r sector cerddoriaeth a'r sector cerddoriaeth fyw yn enwedig, sydd mor bwysig, yn amlwg, yn ei hetholaeth hi, ond i Gymru yn gyffredinol. Rydym ni fel Llywodraeth yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cerddorion a'r diwydiannau creadigol ehangach i Gymru, ac mae effeithiau cyfunol gadael yr Undeb Ewropeaidd a COVID wedi bod yn heriau anhygoel o anodd i'r sector.
Rydym yn gwneud yr hyn a allwn gyda rhanddeiliaid i geisio ymateb i hyn, ond yn hollbwysig, rydym hefyd yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, gan fod rhai o'r ysgogiadau hyn yn eu dwylo hwy, i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol, drwy'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn benodol, o effaith y trefniadau newydd hyn yng Nghymru. Lle mae gennym allu i wneud hyn, rydym yn rhoi ein camau ein hunain ar waith, felly'n gweithio gydag eraill drwy fenter beilot Gwybodfan Celf y DU i geisio cefnogi'r sectorau celfyddydol mewn perthynas â chwestiynau ynghylch symudedd a rhai o'r heriau ymarferol sy'n codi o ganlyniad. Ond fel y dywed, rydym yn awyddus i sicrhau y gall artistiaid deithio o Gymru i rannau eraill o Ewrop, ond hefyd y gallwn barhau i ddenu'r dalent y sonia amdani yn ei chwestiwn, mewn ffordd sy'n wirioneddol bwysig i gynnal yr economi fywiog, ysgogol a chreadigol y mae pob un ohonom yn ei mwynhau ac y mae pob un ohonom yn elwa ohoni mewn nifer fawr o ffyrdd.
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch gallu pobl Cymru i astudio dramor ar ôl i'r DU ymadael â'r UE? OQ56360
Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector addysg. Maent wedi nodi'n glir eu pryderon ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chymryd rhan yn Erasmus+ a diffygion Cynllun Turing fel rhywbeth i gymryd ei le, a'r niwed y bydd hyn yn ei wneud i allu pobl Cymru i astudio dramor.
Diolch. Roeddwn yn meddwl y byddem yn cael llai o dristwch ac anobaith, ond dyna ni. A dweud y gwir, rwy’n eithaf hapus â chyllideb Llywodraeth y DU heddiw, ac roeddwn wedi meddwl y gallem fod wedi rhannu peth o'r hapusrwydd hwnnw.
Nawr, fel y gobeithiaf y byddwch yn cytuno, roedd y cyhoeddiad am y Cynllun Turing newydd gwerth £110 miliwn yn newyddion gwych. Bydd y prosiect arloesol yn cynorthwyo myfyrwyr o bob rhan o'r DU ac o bob cefndir i fanteisio ar fanteision astudio a gweithio dramor o fis Medi 2021. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU mor ymrwymedig i helpu i godi'r gwastad gyda chyfleoedd i bobl ledled y wlad fel y bydd y cynllun yn ceisio targedu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Mae Llywodraeth y DU wedi ein symud o ganolbwyntio ar yr UE i fod ag agenda addysg fyd-eang ragweithiol.
Fel y dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Colegau,
Mae cynllun Turing yn agor drws y byd i leoliadau gweithio ac astudio ar gyfer myfyrwyr coleg.
Nawr, yn eich cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, rydych yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru
‘yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau parhad y cyfranogiad yn Erasmus+ o 2021-22 ymlaen’.
A wnewch chi adolygu'r safbwynt hwn yn awr, a chefnogi ein myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru drwy ddefnyddio Cynllun Turing i estyn allan i'r byd? Ac a wnewch chi ddechrau edrych yn awr, Gwnsler Cyffredinol, ar fod yn fwy blaengar? Diolch.
Wel, yn sicr, rwy’n rhannu uchelgais unrhyw un sy’n dymuno gweld myfyrwyr o Gymru yn gallu manteisio i'r eithaf ar y mathau o gyfleoedd rhyngwladol a oedd ar gael iddynt o dan Erasmus ac a fyddai ar gael ar sail ehangach fyth o dan y cynllun a fydd yn cymryd ei le. Credaf ei fod yn rhan bwysig iawn o'n diwylliant ac yn rhan bwysig iawn o'n safbwynt rhyngwladol, os caf ddweud. Ond credaf mai'r gwir amdani yw bod Cynllun Turing wedi'i danariannu'n sylweddol o'i gymharu ag Erasmus, a'r gwir amdani yw y bydd, mewn gwirionedd, yn lleihau cyfleoedd.
Nid tristwch ac anobaith yw hyn, fel y mae'r Aelod yn fwyfwy hoff o nodi; y gwir amdani yw na fydd Cynllun Turing yn darparu'r un cyfleoedd i bobl mewn addysg bellach neu mewn ysgolion, ac mae'n anwybyddu'r sector ieuenctid bron yn llwyr. Roedd cynllun Erasmus+ yn welliant sylweddol iawn o ran ei allgymorth i gyfranogwyr mwy difreintiedig, ac ni fydd y trefniadau newydd cystal â'r cynllun hwnnw yn fy marn i. Ni chredaf fod esgus bod y mathau hyn o gynlluniau yn rhyw fath o ddewis amgen gogoneddus o fudd i unrhyw un; nid yw hynny’n wir. Nawr, mae Cynllun Turing yn sawl peth, ond yn sicr, nid yw’r math o gynllun a ddisgrifiodd yr Aelod yn ei chwestiwn, sef un sy'n cynnig y mathau o gyfleoedd y mae myfyrwyr Cymru wedi arfer â hwy.
Ymddiheuriadau i Vikki Howells, methais gwestiwn 4. Fe ofynnaf i Rhun ap Iorwerth ofyn ei gwestiwn 7, ac fe af yn ôl wedyn at gwestiwn 4 ar ôl y cwestiwn nesaf. Ymddiheuriadau am hynny.
Cwestiwn 7, felly, Rhun ap Iorwerth.
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar draffig fferi drwy Borthladd Caergybi? OQ56354
Mae colli cludiant llwythi o'r llwybr rhwng Caergybi a Dulyn i borthladdoedd yng Ngogledd Iwerddon ac i lwybrau hirach ond mwy uniongyrchol o Iwerddon i gyfandir Ewrop yn peri pryder i ni. Canlyniad y cytundeb masnach a chydweithredu yw hwn, ac rŷn ni'n pwyso ar Lywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio lleihau'r problemau y mae cludwyr yn eu hwynebu.
Diolch. Mae'r cwymp mewn masnach drwy'r porthladd yn sicr yn dal yn achos pryder mawr i fi. Fel y dywedodd un erthygl ar thejournal.ie cwpwl o ddyddiau yn ôl:
Wrth wynebu dewis rhwng busnes yn mentro ar lwybr cyflymach a allai wynebu oedi am oriau yn y pen draw, neu lwybr arafach a fydd yn sicr o gyrraedd mewn pryd, mae busnesau—hyd yn hyn—wedi bod yn dewis sicrwydd.
Mae busnes yn licio sicrwydd. Mae'r un erthygl hefyd yn sôn am y costau ychwanegol sy'n bodoli rŵan sy'n effeithio ar fusnesau a'u cwsmeriaid. Mi wnaeth un cwmni o Fiwmares ddweud wrthyf i y byddai'r gost o fewnforio gwerth £1,500 o nwyddau £200 yn fwy rŵan nag y byddai wedi bod. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn trafodaethau â Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Iwerddon hefyd i geisio dylanwadu—y cyfan y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud, mewn difri—ar lefel y gwaith papur a'r costau sy'n gysylltiedig â mewnforion ac, yn allweddol, allforion ar draws Môr Iwerddon, ac i annog gwell llif o fasnach, eto a fyddai'n dda i Gaergybi?
Rŷn ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun pum pwynt sydd wedi ffocysu ar y gallu i gymryd camau penodol i geisio ateb rhai o'r problemau hynny y mae'r cludwyr wedi bod yn eu disgrifio wrthym ni i gyd. Rŷn ni'n gobeithio gallu cyhoeddi'r cynllun hwnnw ar y cyd cyn diwedd y mis, felly gobeithio y bydd camau ymlaen yn digwydd yn sgil hynny. Fel y mae'r cwestiwn yn ei ddisgrifio, mae llawer o'r camau penodol yma wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth San Steffan, ond mae'n bosib i ni geisio—ac rŷn ni wedi llwyddo—dylanwadu ar hynny. Lle mae gennym ni ein penderfyniadau a'n cyfrifoldebau ein hunain sydd, efallai, ddim yn uniongyrchol yn rhan o'r sialens hon—er enghraifft, ynglŷn â lleoli canolfannau gwirio rheoliadol ar gyfer y dyfodol—rŷn ni'n sicr fel Llywodraeth ein bod ni'n moyn gwneud hynny mewn ffordd sydd ddim yn mynd i gynyddu'r ansicrwydd a chynyddu'r anghyfleustra i bobl sy'n cludo drwy Gaergybi. Felly, rŷn ni'n sicr eisiau lleoli'r rheini mor agos i'r porthladd ag sydd yn bosib i wneud y siwrnai yn haws i'r cludwyr hynny, ac rwy'n gobeithio dweud mwy am hynny yn y dyddiau nesaf.
Y tu ôl ymlaen, braidd, cwestiwn 4, Vikki Howells.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am leoliadau gwaith tymor byr i ddysgwyr o rannau eraill o Ewrop sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit? OQ56350
Yn ogystal â thrafodaethau rheolaidd ar faterion mewnfudo ac Erasmus+ yn is-bwyllgor y Cabinet, yn ddiweddar ysgrifennais at y Gweinidog mewnfudo gan dynnu sylw penodol at effaith y rheolau newydd ar ddysgwyr galwedigaethol o'r UE ar leoliadau gwaith yn y DU fel rhan o raglen Erasmus+.
Diolch, Weinidog. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n poeni y bydd y costau a'r amserlenni arfaethedig ar gyfer dysgwyr galwedigaethol o'r UE sy'n dymuno gwneud profiad gwaith di-dâl byr yn y DU yn gwneud lleoliadau o'r fath yn anodd iawn. Os ydynt ar waith ar gyfer dysgwyr yr UE sy'n dymuno dod i'r DU, gallent hefyd fod ar waith ar gyfer dysgwyr o Gymru sy'n dymuno mynd ar leoliad yn Ewrop. Gwnsler Cyffredinol, byddwn yn croesawu eich barn ar y sefyllfa hon ac ar unrhyw drafodaethau rydych wedi'u cael i sicrhau nad yw hyn yn wir, ac y gall y mathau hyn o leoliadau barhau.
Diolch i Vikki Howells am godi'r cwestiwn gwirioneddol bwysig hwn. Rydym yn rhannu awydd i sicrhau y gall y lleoliadau gwaith hyn ddigwydd mewn ffordd syml iawn sy'n cefnogi eu cyflawniad. Mae ColegauCymru yn gywir i ddweud bod natur y cytundeb masnach a chydweithredu yn golygu bod darparwyr addysg a hyfforddiant yn ymdrin, yn amlwg, â threfniadau fisa a mewnfudo newydd a goblygiadau hynny o ran cost hefyd, fel yr awgryma. Mae hynny'n berthnasol i drefniadau cyfnewid naill ai eleni neu'r flwyddyn nesaf gan ddefnyddio cyllid Erasmus+, lle cawsant eu cymeradwyo cyn gadael y cyfnod pontio. Er mwyn cynorthwyo'r DU i barhau i fod yn opsiwn deniadol ac yn lle croesawgar i ddysgwyr yr UE, a chynnal y dwyochredd hwnnw, os mynnwch, ar draws yr Undeb Ewropeaidd y mae sawl Aelod wedi sôn amdano heddiw hefyd, ein barn ni fel Llywodraeth yw ei bod hi'n wirioneddol hanfodol fod Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r hyn sy'n gyfyngiad amlwg, os mynnwch, ar symudedd dysgwyr.
Ni chafwyd unrhyw ymgysylltiad gweinidogol â'r Llywodraethau datganoledig ers mis Gorffennaf 2019. Roeddem yn teimlo, fel Llywodraeth, ar ôl cael cyfleoedd cyn hynny i gyfarfod fel pedair Llywodraeth i drafod y materion hyn, fod honno'n ffordd gynhyrchiol o weithio, er ei fod yn faes a gedwir yn ôl. Nid ydym wedi gweld unrhyw gynnydd—credaf imi ysgrifennu ddiwedd y llynedd—mewn perthynas â'r mater hwn. Rwyf wedi ysgrifennu eto yn awr at Kevin Foster, y Gweinidog mewnfudo, i dynnu sylw at rai o'r materion a godwyd gan yr Aelod heddiw, ond hefyd i geisio adfer y patrwm o gydweithio rhwng y pedair Llywodraeth, fel y gallwn helpu i ddylanwadu ar rai o'r pethau hyn mewn ffordd sy'n atal y materion a nodwyd gan yr Aelod heddiw rhag codi.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Ni dderbyniwyd unrhyw rai o'r cwestiynau amserol heddiw.
Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Rwyf am sôn am John Hughes. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn Abertawe, rydym wedi bod yn dathlu 'Calon Lân’, gyda geiriau gan Daniel James, sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Gwyrosydd. Heb fychanu pwysigrwydd geiriau'r emyn, mae'n rhaid inni beidio ag anghofio pwysigrwydd y dôn. Wrth wrando ar Radio Wales ddechrau mis Chwefror, clywais rywun yn America yn ceisio cofio emyn o’u plentyndod. Nid oeddent yn cofio'r geiriau, ond gallent gofio'r dôn, ac roedd yn hawdd adnabod honno fel 'Calon Lân’ pan gafodd ei hymian. Cafodd y dôn ei chreu gan John Hughes, cyfansoddwr a Chymro sy'n fwyaf adnabyddus am 'Calon Lân', ond nid dyna'r unig beth a wnaeth. Ysgrifennodd nifer o emyn-donau eraill ar gyfer cymanfaoedd canu yn ardal Abertawe. Ysgrifennodd y dôn ar gyfer 'Calon Lân' wedi i Gwyrosydd ofyn iddo, gan fod hwnnw’n gwybod cystal cyfansoddwr tonau ydoedd. Roedd yn hanu o Sir Benfro'n wreiddiol, ac mae plac ar y tŷ lle cafodd ei eni. Mae plac coffa hefyd yn Nhreboeth. Bu’n gweithio drwy gydol ei yrfa yng ngwaith dur Dyffryn yn Nhreforys, gan gychwyn fel bachgen swyddfa, a gorffen fel rheolwr marchnata. Teithiodd yn rhyngwladol gyda'r cwmni, a dysgodd chwe iaith iddo'i hun ar wahân i Gymraeg, ei famiaith. Mae wedi’i gladdu yng nghapel Caersalem yn Nhreboeth, ac mae ganddo wyres sy'n dal i fyw yn Ynysdawe. Er nad yw ei enw'n adnabyddus i bawb, ni ellir dweud hynny am ei dôn.
Roeddwn yn disgwyl clywed y dôn yn cael ei hymian, Mike Hedges. Gallwch gadw hynny tan ryw dro arall, efallai.
Nesaf, Bethan Sayed.
Cefais fy nhemtio, ond ddim heddiw.
Yr wythnos hon, rydym yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2021. Rwyf wedi ymgyrchu ar y mater hwn ers blynyddoedd lawer, ac ers imi gael fy ethol gyntaf yn 2007, mae hwn yn fater rwyf wedi’i flaenoriaethu. Yn yr amser hwn, rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd, yn enwedig ar ymwybyddiaeth ac ar ehangu dealltwriaeth o'r holl faterion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Yn rhy aml, rydym yn gweld cyflyrau sy'n gofyn am wybodaeth arbenigol yn cael eu camddeall, gyda phobl yn dweud mai deiet wedi mynd o'i le ydyw, neu ddewis ffordd o fyw. Mae hyn wedi bod yn wir mewn perthynas ag anhwylderau bwyta, ac yn gwbl wir am orfwyta mewn pyliau, sef thema'r wythnos ymwybyddiaeth anhwylderau bwyta eleni.
Gan mai hon, mae'n debyg, fydd yr Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta olaf i mi ei threulio fel Aelod etholedig, dros y 14 mlynedd diwethaf, rydym wedi arwain ar yr agenda hon ac wedi sicrhau unwaith ac am byth fod hwn yn faes y mae'n rhaid i ni ei flaenoriaethu a sicrhau ei fod yn cael ei hyrwyddo pan fyddaf yn gadael y Senedd a phan fydd y grŵp trawsbleidiol hwnnw'n parhau. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda Beat a’r grŵp trawsbleidiol, gyda goroeswyr a chyda gweithwyr proffesiynol, i sicrhau ein bod yn codi’r mater hwn i frig yr agenda wleidyddol. Rwy’n mawr obeithio y bydd y newidiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi ar waith yn cael eu cyflwyno yn nhymor y Senedd nesaf ac y darperir cyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth hollbwysig hwn.
Anhwylder gorfwyta mewn pyliau yw'r mwyaf cyffredin, ond yn aml, hwnnw y mae pobl yn ei ddeall leiaf. Mae'n arbennig o anodd i bobl gael gafael ar driniaeth, ac mae cynghorwyr y llinell gymorth yn elusen Beat yn clywed yn gyson fod pobl ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau yn teimlo cryn dipyn o gywilydd ac ofn wrth ofyn am gymorth. Mae pobl ag anhwylderau gorfwyta mewn pyliau yn aml yn teimlo nad oes ganddynt reolaeth ar sut y maent yn bwyta, ac maent yn teimlo'n ofidus wedyn. Mae'n salwch meddwl difrifol, a gall effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran, rhyw, ethnigrwydd neu gefndir. I gloi, hoffwn ofyn i Lywodraeth nesaf Cymru roi’r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta yn 2018 ar waith yn llawn, gan gynnwys argymhelliad 12, sy’n ymwneud â nodi, atgyfeirio a thrin pobl ag anhwylderau gorfwyta mewn pyliau, cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r cynnig hynny. Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM7576 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a osodwyd gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2021, yn cael eu dirymu.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau, efallai, drwy chwalu ychydig o fythau. Nid yw Plaid Cymru o blaid derbyn y status quo ar ansawdd dŵr. Rydym yn cefnogi camau gweithredu a rheoliadau cryfach ar lygredd. Felly, mae unrhyw un sydd am ddisgrifio'r ddadl hon mewn ffordd sy'n awgrymu fel arall yn camarwain pobl yn fwriadol. Rydym yn llwyr gefnogi'r angen i fynd i'r afael â llygredd dŵr, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau i wneud hynny. Y broblem yma, serch hynny wrth gwrs, yw nad y rheoliadau hyn a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yw'r ateb cywir.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Mae'r rheoliadau hyn yn anghymesur. Cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru—cyngor yr arbenigwyr, wrth gwrs—i Lywodraeth Cymru oedd dynodi 8 y cant o Gymru yn barth perygl nitradau. Mae'r Llywodraeth wedi anwybyddu hynny ac wedi mynd am ffigur o 100 y cant. Pam fod hynny'n broblemus? Wel, am eich bod yn cosbi pawb, y diwydiant cyfan, gyda’r gofyniad i ffermydd ym mhob rhan o Gymru, hyd yn oed y rhai nad ydynt wedi torri unrhyw reolau, mewn dalgylchoedd nad ydynt efallai wedi cael unrhyw ddigwyddiadau llygredd, dalu degau o filoedd o bunnoedd, arian nad yw ganddynt mewn gwirionedd, ar seilwaith nad yw, i rai, yn angenrheidiol pan edrychwch ar y dystiolaeth.
Bydd canlyniadau amgylcheddol anfwriadol hefyd wrth gwrs. Mae defnyddio dyddiadau’r calendr yn hytrach nag amodau tywydd i bennu pryd y gellir gwasgaru slyri yn hurt. Mynegodd y Gweinidog ei hun bryder ynghylch y dull hwn ychydig fisoedd yn ôl pan ofynnais iddi amdano. Ac mae eraill, fel yr amgylcheddwr amlwg Tony Juniper, sy'n cadeirio Natural England—mae wedi dweud nad yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n gynnig afresymol a fydd yn achosi cynnydd enfawr mewn nitradau ar adegau penodol o'r flwyddyn, a allai wedyn, wrth gwrs, arwain at broblemau llygredd newydd mewn ardaloedd lle nad oes problemau ar hyn o bryd.
Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, bydd y costau cyfalaf ymlaen llaw i’r diwydiant ffermio allu cydymffurfio â'r rheoliadau hyn rywle rhwng £109 miliwn a £360 miliwn. Mae'r £360 miliwn hwnnw £30 miliwn yn fwy na chyfanswm cyllideb polisi amaethyddol cyffredin blynyddol Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae hyd yn oed amcangyfrif isaf Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai’r gost i ffermydd Cymru yn 42 y cant o gyfanswm incwm ffermio Cymru yn 2019. Mae llawer o ffermydd eisoes yn gweithredu ar y nesaf peth i ddim, a bydd hyn yn eu gwthio dros y dibyn. Mae colli'r ffermydd hyn yn golygu colli rhywfaint o'n capasiti cynhyrchu bwyd wrth gwrs, sy'n golygu lefelau uwch o fewnforio bwyd, gyda chost amgylcheddol bellach ynghlwm wrth hynny. Dywed un prosesydd llaeth fod eu dadansoddiad yn dangos y bydd traean o’u ffermydd llaeth o bosibl yn rhoi’r gorau i gynhyrchu. Bydd colli'r ffermydd teuluol bach a chanolig hynny’n golygu twf yn nifer yr unedau ffermio mawr, gan arwain at fwy o ffermio llaeth ar raddfa ddiwydiannol. Sawl gwaith y mae'r Aelodau yn y Senedd hon wedi dadlau yn erbyn hynny?
Wrth gwrs, nid ffermwyr yn unig fydd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn; mae 1,000 o ffermydd cyngor yng Nghymru, a bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddod o hyd i hyd at £36 miliwn i dalu am y seilwaith newydd angenrheidiol. Ddoe ddiwethaf, bu’n rhaid i gyllideb y Llywodraeth ddod o hyd i fwy o arian ar gyfer cronfa galedi’r awdurdodau lleol. A yw cynghorau mewn difrif yn mynd i allu dod o hyd i ddegau o filiynau o bunnoedd o arian ychwanegol, pan fo'r Llywodraeth eisoes yn gorfod camu i mewn i dalu am wasanaethau craidd? Felly, gwyddom beth fydd yn digwydd; bydd mwy o ffermydd cyngor yn cael eu gwerthu, gan leihau ymhellach y cyfle i bobl ifanc a newydd-ddyfodiaid ddechrau ffermio.
Nid yw dynodi Cymru gyfan yn barth perygl nitradau yn ateb syml. Mae adroddiad monitro gan CNC wedi dangos mai dau yn unig o 11 o safleoedd parthau perygl nitradau dynodedig sydd wedi dangos gwelliant mewn lefelau llygredd. Ac mae tystiolaeth o wledydd eraill yn gymysg, a dweud y lleiaf. Mae 100 y cant o Ogledd Iwerddon wedi bod yn barth perygl nitradau ers degawd, ond hyd yn oed heddiw, mae ansawdd eu dŵr yn salach na’n dŵr ni. Felly, y cwestiwn y dylem fod yn ei ofyn i'n hunain yma yw pam fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu rheoliadau yma nad ydynt yn cyflawni canlyniadau yn rhywle arall, yn enwedig pan wyddom fod dulliau eraill yn cael effaith gadarnhaol. Un cynllun o'r fath yw cynllun y faner las. Roedd y Gweinidog yn ymwybodol ohono sawl blwyddyn yn ôl, ond mae bellach, yn hwyr iawn, yn dangos diddordeb. Mae'r rhaglen honno wedi bod ar waith ers pum mlynedd. Mae wedi llwyddo i leihau, ar gyfartaledd, dros 1 dunnell y fferm o'r nitradau sy'n gadael ffermydd y rheini sy'n rhan o'r cynllun, ac mae hynny'n llawer gwell na gwaith modelu‘r parthau perygl nitradau, sy’n nodi y gellid sicrhau gostyngiad o 10 y cant yn lefel y nitradau. Pam y mae Llywodraeth Cymru yn bodloni ar ddull torri a gludo yma mewn perthynas â pharthau perygl nitradau, yn hytrach nag adeiladu ateb a wnaed yng Nghymru, wedi'i deilwra ar gyfer ein hamgylchiadau ein hunain?
Gwyddom fod cyfreithwyr NFU Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ddoe, yn nodi eu pryderon ynghylch cyfreithlondeb y penderfyniad i gyflwyno'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog wneud sylwadau ar hynny am resymau cyfreithiol, ond credaf ei fod yn rhoi rheswm arall i Lywodraeth Cymru gymryd cam yn ôl ac ailedrych ar ei chynigion. Er mwyn sicrhau mwy o gonsensws a deddfwriaeth fwy effeithiol ar y mater pwysig hwn, credaf y dylai'r rheoliadau hyn, am y tro, gael eu tynnu'n ôl gan y Llywodraeth neu eu dirymu gan y Senedd. Os bydd hyn yn digwydd, rwy’n addo amser ac ymrwymiad fy mhlaid i weithio gyda’r Llywodraeth ar gyflwyno set fwy soffistigedig o reoliadau wedi’u targedu cyn diwedd y flwyddyn. Mae pob un ohonom eisiau mynd i'r afael â llygredd dŵr. Mae pob un ohonom eisiau mynd i’r afael â phroblem y mae angen mynd i’r afael â hi unwaith ac am byth, ac mae angen inni reoleiddio er mwyn gwneud hynny. Ond nid y set benodol hon o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, am y rhesymau rwyf wedi'u hamlinellu, yw'r ffordd orau o gyflawni hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy nghynnig. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Mick Antoniw, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 22 Chwefror 2021, ac wrth wneud hynny nodwyd bod y cynnig a drafodir heddiw eisoes wedi'i gyflwyno. Un pwynt teilyngdod a gynhwyswyd yn ein hadroddiad, ac fe amlinellaf hwnnw'n fyr ar gyfer yr Aelodau.
Mae rheoliad 30 o'r rheoliadau yn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson wneud gwaith neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad. Gellir apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiadau rheoliad 30. Pan wneir apêl o'r fath, mae rheoliad 31(6) yn datgan bod y cyfnod cydymffurfio yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru, a gall cyfarwyddyd o'r fath gynnwys estyniad i'r cyfnod hwnnw.
Credwn fod hyn yn bwysig oherwydd, pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod angen gwaith, rhagofalon neu gamau eraill, mae'n ymddangos bod amgylchiadau lle mae'n ofynnol i apelyddion gymryd camau o'r fath ar yr un diwrnod ag y daw canlyniad eu hapêl yn hysbys. Gall hyn olygu nad yw apelwyr yn gallu cydymffurfio â'r penderfyniad mewn pryd. Os yw ein hasesiad yn gywir, mae'r pŵer i Weinidogion Cymru ymestyn y cyfnod cydymffurfio yn bwysig er mwyn lleihau'r risg y bydd hyn yn digwydd.
Gofynasom i Lywodraeth Cymru ymateb i'n hasesiad. Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau, wrth benderfynu a ddylent arfer eu pŵer i arfer disgresiwn ai peidio, y bydd Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i'w dyletswydd cyfraith gyhoeddus i weithredu'n rhesymol. Mae ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad hefyd yn nodi bod y mecanwaith yn darparu amddiffyniad digonol i apelyddion rhag gorfod gwneud gwaith neu weithredu o fewn amserlen annigonol pan ddaw canlyniad eu hapêl yn hysbys. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch i fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, am gyflwyno'r cynnig hwn i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn dadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf, ac mae'n deg dweud bod y bleidlais yn y ddadl honno'n agos iawn wir. Nawr, Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi, rydym wedi dadlau, rydym wedi trafod, yn y Siambr ac yn y pwyllgor. Rydym wedi gofyn i chi wneud yn union yr hyn y mae Llyr Gruffydd wedi'i ddweud—naill ai dirymu, neu i ddod i gasgliadau eraill yn sicr, a pheidio â chosbi ein ffermwyr fel hyn.
Nawr, fel y dywedoch chi wrthyf yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fis diwethaf, yr hyn y mae'n rhaid ichi ei ddeall yw bod llawer iawn o ffermwyr nad ydynt yn llygru. Felly, sut rydych yn credu y mae'r nifer fawr o ffermwyr hynny bellach yn teimlo, gan wybod eich bod: un, yn eu cosbi gyda rheoliadau nad ydynt yn gymesur; dau, yn cynnig cyn lleied â 3.6 y cant o'r arian sydd ei angen i dalu'r costau cyfalaf ymlaen llaw; tri, yn eu gwthio i sefyllfa lle gallent fod yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar gollfarn, ar dditiad i ddirwy? Pam eich bod wedi dewis peidio ag ymateb i argymhellion is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol, gan gynnwys 4.4, sy'n galw'n benodol am archwilio'r dulliau mwyaf effeithiol o reoli maethynnau, cynllunio ar raddfa fawr a chyflymder, a 4.11, sy'n galw am adolygiad o gyllid?
Mae gweithredu cyfarwyddeb nitradau 30 mlwydd oed yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf Brexit, yn ddiangen ac yn gwbl annerbyniol. Dengys tystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru y dylai arwynebedd y tir fod yn 8 y cant, nid 100 y cant. Addawodd is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru weithio ar nodi cynhyrchion sy'n bodoli eisoes a allai helpu i leihau llygredd, megis weed wipers, rheoli porthiant manwl, sgwrwyr, systemau rinsio clyfar, systemau amsugno, gwahanyddion slyri mewn cafnau caeau, ffensys glannau afon a gwelyau cyrs—pob mesur rhesymol y gellid ei gymryd yn lle hynny. Gallech fod yn cefnogi dull y faner las, sef dull partneriaeth o dan arweiniad ffermwyr, ac ymateb i'r fframwaith dŵr drafft a'r safon dŵr, a rannwyd gyda chi ym mis Mawrth 2020.
Yn ôl y memorandwm esboniadol, mae potensial am effaith negyddol ar les meddyliol ein ffermwyr. Maent yn wynebu anobaith ynghylch hyfywedd hirdymor eu busnesau, eu cartrefi teuluol, a'n cyflenwad bwyd. Mae pryderon iechyd meddwl yn y sector yn cynyddu'n gyflym, felly pam rydych yn cyflwyno'r rheoliadau er gwaethaf y rhybudd iechyd meddwl yn eich memorandwm esboniadol eich hun? Mae Caws Glanbia wedi tynnu sylw at bryderon difrifol am effaith y rheoliadau ar ddiogelwch y cyflenwad llaeth yng Nghymru. Mae cyfreithwyr Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi nodi eu pryderon ynghylch cyfreithlondeb y penderfyniad hwn. Dylai pawb ohonom bleidleisio o blaid dirymu heddiw, Aelodau, gan fod y rheoliadau'n debygol o niweidio ffermydd Cymru a llesiant cymunedau. Does bosibl mai fi yw'r unig Aelod o'r Senedd sydd wedi cael cannoedd a channoedd o negeseuon e-bost gofidus oddi wrth ein cymuned ffermio. Hoffwn ofyn ichi wrando arnynt hwy y tro hwn, pob un o'ch etholwyr, gwrandewch arnynt. Weinidog, rwy'n dweud wrthych, fel y dywedais yr wythnos diwethaf: mae'n cymryd person mawr i ddweud, 'Wyddoch chi beth? Roeddwn i'n anghywir ynglŷn â hyn.' Yn wir, rydych chi yn anghywir—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn. Rydych chi'n anghywir. Gwrth-drowch y penderfyniad hwn heddiw. Diolch.
Byddaf fi a fy ngrŵp yn cefnogi cynnig Plaid Cymru. Yn ystod fy mhum mlynedd fel Aelod o'r Senedd, nid wyf erioed wedi cael cynifer o negeseuon e-bost ar unrhyw bwnc. Nid yn unig fod y gohebwyr yn erbyn y mesurau hyn, roeddent yn daer iawn am eu dirymu, oherwydd roeddent yn poeni beth fyddai'n digwydd i'w bywoliaeth pe baent yn dod yn gyfraith.
Bydd llawer o fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn dyblygu'r ffeithiau, y ffigurau a'r dadleuon a gyflwynwyd gennyf yn nadl y Ceidwadwyr yr wythnos diwethaf, ond nid wyf yn ymddiheuro am hynny oherwydd mae pob un ohonynt yn haeddu cael eu hailadrodd. Unwaith eto, mae'r diwydiant ffermio cyfan yng Nghymru, undebau, sefydliadau a ffermwyr eu hunain, yn credu bod y rheoliadau hyn, sy'n gweithredu set gyffredinol o reoliadau slyri ar gyfer diwydiant ffermio Cymru yn ei gyfanrwydd, yn gwbl anghymesur â'r broblem o ran cost a gweithrediad. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio bod y cod gwirfoddol sydd bellach ar waith wedi arwain at ostyngiad o 24 y cant yn nifer yr achosion o lygredd dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'r cynigion hyn yn fawr o wobr am yr ymdrech enfawr a wnaed gan bawb yn y diwydiant ffermio. Efallai fod un digwyddiad llygredd yn un digwyddiad yn ormod, ond nid ceisio atal y llygredd drwy niweidio'r diwydiant ffermio yn ei gyfanrwydd yw'r ateb. Mae'n ffaith syml y bydd llawer o ffermwyr yn gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd na fyddant yn gallu fforddio'r gost o weithredu.
Mae hyn yn arbennig o wir am ein ffermydd mynydd sydd eisoes mewn trafferthion. Rwy'n disgwyl llythyr gan Dylan Jones, swyddog caffael llaeth ar gyfer Caws Glanbia, y cynhyrchydd caws mozzarella mwyaf yn Ewrop, sydd wedi'i leoli yn Llangefni. Maent yn defnyddio 300 miliwn litr o laeth y flwyddyn, a daw'r cyfan, bron, gan ffermwyr Cymru. Dywed ei fod yn teimlo y bydd y rheoliadau hyn yn arwain at fethiant llawer o'i gyflenwyr, sy'n golygu y bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i'w llaeth o fannau eraill. Mae'r ffigur a neilltuwyd—£22 miliwn ar gyfer Cymru gyfan—yn gwbl annigonol ar gyfer maint y buddsoddiad sydd ei angen, o gofio bod ffigurau a nodwyd gan y Llywodraeth ei hun yn nodi costau cyfalaf llawn ymlaen llaw o £360 miliwn. Mae'r diwydiant ffermio ynghanol newid enfawr, gyda Brexit a'r aflonyddwch a achosir gan COVID. Sut y mae'r Llywodraeth yn disgwyl i ffermwyr ymdopi â'r gost ychwanegol enfawr hon?
Amcangyfrifir mai £300 miliwn yw'r ffigur cost a budd dros yr 20 mlynedd nesaf, yn erbyn buddsoddiad o £800 miliwn. Sut y gellir cyfiawnhau hyn pan nad oes ond 113 o 953 dalgylch yn methu? Does bosibl na fyddai targedu'r ardaloedd hyn yn llawer mwy costeffeithiol. Os bydd y mesurau llym hyn yn mynd rhagddynt, byddwn yn gweld llawer o'n ffermwyr sydd eisoes yn dlawd yn methu. Dywed y Gweinidog ei bod wedi ymgysylltu â'r diwydiant ffermio, ond mae'r diwydiant yn dweud bod bron bopeth a ddywedant wedi cael ei anwybyddu. Rwy'n ailadrodd eto: ffermwyr Prydain yw'r ffermwyr mwyaf gweithgar ac arloesol yn Ewrop, ac mae eu safonau hwsmonaeth yn well nag yn unman arall. Mae Brexit yn creu cyfle enfawr i'n ffermwyr lenwi'r bwlch yn y gadwyn fwyd. Rwy'n siŵr y byddant yn ymateb i'r her, fel bob amser. Mae'n golygu y byddwn yn bwyta bwydydd mwy iachus sydd wedi'u cynhyrchu'n well. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth i helpu'r diwydiant, yn hytrach na chreu rhwystrau i'w hatal rhag goroesi. Rwy'n annog yr Aelodau Llafur i ddangos dewrder moesol personol, nid ymlyniad gwasaidd at bolisi'r Llywodraeth, a phleidleisio o blaid y cynnig hwn. Mae'n ddeddfwriaeth wael. Dylech gefnogi'r diwydiant ffermio, a pheidio ag ymroi i wleidyddiaeth plaid. Mae'r cyfan yn y fantol i'r diwydiant ffermio. Ac yn arbennig, rwy'n annog Kirsty Williams a Dafydd Elis-Thomas i bleidleisio yn erbyn y cynigion llym hyn. Diolch.
Nid wyf am ymroi i wleidyddiaeth plaid ar hyn, ond yr hyn rwyf am ei wneud yw mynegi rhywfaint o'r meddwl rwyf wedi'i wneud ar y mater hwn, a rhai o'r safbwyntiau a fynegwyd wrthyf gan etholwyr hefyd. Ond yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru am gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf. Cawsom gyfarfod awr o hyd, ac rydym wedi bod mewn trafodaethau ar y mater hwn y llynedd, ac mae'n sicr bod pryder gwirioneddol yn y gymuned ffermio mewn perthynas â'r rheoliadau hyn, yn enwedig o ran yr angen i gadw cynllun rheoli maethynnau, y cyfyngiadau ar wasgaru, a fydd galw am gyfleusterau storio y mae rhai ffermydd yn pryderu y byddant eu hangen i storio slyri—yn enwedig ffermydd bach na allant amsugno'r gost. Nawr, rwyf wedi codi hyn, o ganlyniad i'r sgyrsiau hynny gyda Llywodraeth Cymru, ac rwyf wedi cael ymateb, a hoffwn i'r Gweinidog ymhelaethu arno yn ei hateb i'r ddadl hon.
Yn gyntaf oll, dywedodd ymateb Llywodraeth Cymru fod y gofynion yn y rheoliadau yn sylfaenol ac nad oes angen cynnal profion pridd, fel y mae'n rhaid ei wneud yn yr Alban, a'u bod yn gydnaws â meddalwedd rheoli maethynnau a ddefnyddir gan y diwydiant fel mater o drefn. Darperir gwerthoedd safonol ar gyfer cynnwys maethynnol tail ac mae offer cam wrth gam ar gael. Gall dulliau llawer mwy soffistigedig o reoli maethynnau fod yn rhywbeth y gall y cynllun ffermio cynaliadwy ei ddarparu. Nid oes angen cyflogi ymgynghorwyr, yn enwedig ar ffermydd bach, oherwydd gall Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ddarparu cyngor annibynnol pwrpasol ac arbenigol, ac mae cyllid ar gael ar gyfer hynny hefyd drwy Cyswllt Ffermio.
Ac roedd y mater arall a godais yn ymwneud â gwasgaru'r slyri, lle dywedasant nad oes angen storio ar fferm fach ym mhob amgylchiad, gan y gallwch ei drin fel tail, y caniateir ei wasgaru o hyd o dan y rheoliadau newydd. Nid yw'r cyfnodau hynny'n berthnasol i dail buarth, y gellir ei storio mewn cae, yn ddarostyngedig i amodau penodol ar gyfer lleihau'r risg o lygredd. Os ydynt yn cynhyrchu mwy o slyri, byddai hyn yn risg sylweddol o lygredd ac ni fyddai'n cydymffurfio â'r rheoliadau presennol.
Nawr, dyna'r ymateb rwyf wedi'i gael ynghylch pryderon rwyf wedi'u dwyn i sylw Llywodraeth Cymru. Hoffwn pe bai'r Gweinidog yn gallu dweud wrthym, pe bai'r pryderon a fynegwyd gan y siaradwyr blaenorol yn cael eu gwireddu, y bydd hyblygrwydd o fewn y cynllun i fynd i'r afael â hynny, a rhoi cymorth i'r ffermwyr a allai gael eu heffeithio'n ormodol mewn ffyrdd nad yw Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried yn eu hateb i mi.
Felly, mae wedi bod yn rhywbeth rwyf wedi'i ystyried yn ofalus iawn, ac mae angen i mi ddod yn ôl at fy etholaeth. Mae fferm laeth o faint diwydiannol yng Ngelli-gaer yn fy etholaeth i. Mae'n fferm enfawr, a chafwyd adroddiadau—. Mae'n debyg eich bod wedi gweld adroddiad ar WalesOnline a oedd yn dweud mai Gelli-gaer yw'r pentref sy'n drewi drwy gydol y flwyddyn. Nawr, gwn fod hyn yn gysylltiedig â llygredd afonydd, ond er hynny, mae arogleuon yn broblem enfawr mewn perthynas â gwasgaru slyri. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda thrigolion ac CNC. Dywedodd CNC wrthyf—. Pan siaradais â hwy o'r blaen, roeddent yn dweud, 'Nid oes gennym bwerau i ymdrin â hyn. Mae arogl cryf ac annymunol yng Ngelli-gaer, ac nid oes gennym bwerau i ymdrin â hyn.' Pan siaradais ag CNC yr wythnos diwethaf, roeddent yn dweud y bydd y rheoliadau hyn yn rhoi pwerau iddynt ymdrin â hynny; bydd hyn yn rhoi'r pwerau iddynt. Yn wir, roeddent yn dweud y byddent yn mynd ymhellach, a sicrhau bod cynllun ffosffad wedi'i gynnwys ynddo hefyd. Nid yw'r Llywodraeth yn mynd mor bell â hynny.
Mae pobl yng Ngelli-gaer, Pen-y-bryn, Nelson ac Ystrad Mynach wedi dioddef yn rhy hir gyda phroblemau'n ymwneud â'r fferm honno yng Ngelli-gaer, a'r rheoliadau sydd ar fai, nid y fferm, ac mae angen rheoliadau cryfach arnom o dan yr amgylchiadau hynny. Felly, o dan yr amgylchiadau hynny, byddwn yn galw am barth perygl nitradau ar gyfer fy ardal i, ar gyfer y gymuned honno. Mae pobl Gelli-gaer, Ystrad Mynach, Nelson a Phen-y-bryn eisiau mwy o reoliadau ffermio, nid llai. Maent eisiau mwy o reoleiddio gweithgarwch, nid llai, oherwydd nid oes ganddynt ddigon o bwerau ar hyn o bryd i ymdrin â'r pryderon sydd ganddynt—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—ynglŷn â gweithgarwch yn eu cymuned. Felly, gyda hynny mewn golwg, mae wedi bod yn benderfyniad anodd i'w wneud, ond o dan yr amgylchiadau yn fy nghymuned i, amgylchiadau a welais drosof fy hun, mae'n rhaid imi gefnogi'r rheoliadau hyn.
A gaf fi ddiolch i'r nifer o bobl sydd wedi gohebu â mi, nifer o ffermwyr, y clywais ganddynt ar y pwnc hwn? Efallai mai'r agwedd fwyaf brawychus ar hyn yw'r nifer o weithiau yr addawodd y Gweinidog, ar gofnod ac yn y lle hwn, na fyddai'n cyflwyno'r mathau hyn o gynigion ynghylch parth perygl nitradau nes bod y pandemig COVID wedi dod i ben. Ac eto, dyma hi'n gwneud hynny. Mae wedi torri addewid, oni bai fy mod wedi camddeall rhywbeth yma, ond rwy'n credu bod hyn yn bradychu'r hyn a addawyd mewn modd brawychus.
Rwyf hefyd wedi fy nharo gan y ffordd y mae wedi trin CNC. Rydym wedi gwario symiau enfawr ar y sefydliad hwn, sydd i fod yn gorff hyd braich i roi cyngor iddi, ac mae hwnnw wedi gwneud adroddiad mawr, gyda llawer o waith yn sail iddo, sy'n dweud, 'Dylem gynyddu'r arwynebedd yng Nghymru o 2.5 y cant i tua 8 y cant.' Ac eto, yma mae hi'n ei godi i 100 y cant. Beth yw diben cael y corff hwn, o ystyried y ffordd y mae hi wedi'i drin?
Nawr, hoffwn ddyfynnu un o'r rhai sydd wedi gohebu â mi, rhywun sydd wedi bod yn rhedeg fferm laeth ers 45 mlynedd i'r gorllewin o'r Gelli Gandryll, ac sydd wedi ennill gwobrau Ffermwr Llaeth y Flwyddyn a Ffermwr Glaswelltir y Flwyddyn yn y gorffennol. Ac un pwynt y mae'n ei wneud yw ei fod, ar ei fferm, wedi llwyddo i leihau'r defnydd o wrtaith cemegol 20 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf drwy ddefnyddio slyri'n fwy amserol. Ac mae hefyd yn pwysleisio costau cynyddol cyfnod storio o bum mis a'r baich ychwanegol o gadw cofnodion, rhywbeth y mae'n erfyn arnom i beidio â'i ddiystyru. Efallai ei bod yn hawdd i ni mewn Llywodraeth neu wleidyddiaeth—efallai nad yw llenwi ffurflenni ychwanegol yn waith mor galed â hynny, ond i'r rheini sydd â busnesau gwahanol ac nad ydynt wedi arfer gwneud hynny, neu nad ydynt yn hoffi gwneud hynny, mae'n faich sylweddol iawn, ac rwy'n credu bod angen inni ddeall hynny.
Y prif reswm rwyf eisiau dyfynnu'r unigolyn penodol hwn yw bod ganddo fab sy'n ffermio yng Ngwlad yr Haf, ac mae dau ddalgylch yno. Mae un yn barth perygl nitradau ond nid yw'r llall, ac mae'r hyn sydd angen ei wneud yn dibynnu ar lefel y llygredd. Ac mae gan y dalgylch sy'n barth perygl nitradau is-afon yn y rhan uchaf a dynnwyd allan o'r parth pan gafodd gwelliannau eu gwneud. Pam na allwn gael system fel honno, sy'n sensitif i anghenion lleol, yn hytrach nag un polisi i bawb ledled Cymru, ddim ond i fod yn wahanol i Loegr ac yn groes i'r addewidion a wnaed? Dros ein ffin, gwelwn fod 58 y cant o ardaloedd yn cael eu trin yn y ffordd hon, ond mae'n bosibl hefyd iddynt wneud cais i gynyddu faint o slyri y gellir ei wasgaru o 170 kg i 240 kg neu 250 kg yr hectar, yn dibynnu ar yr ardal ac yn dibynnu a yw hynny'n briodol o ystyried yr amgylchedd ar y pryd. Does bosibl na fyddem yn llawer gwell ein byd gyda sensitifrwydd o'r fath i anghenion lleol, yn hytrach na'r polisi lletchwith hwn ledled Cymru gyfan.
Clywsom gan Jenny Rathbone yr wythnos diwethaf yn dweud na allwch reoleiddio siop gigydd yn wahanol ar un ochr i'r hyn a wnewch ar yr ochr arall. Sut ar y ddaear y mae honno'n gymhariaeth sy'n dweud felly bod yn rhaid rheoleiddio Cymru gyfan fel un uned? Ac roeddwn yn teimlo, o'i sylwadau, a rhai eraill a gawsom gan Aelodau'r Blaid Lafur, mai gwir amcan hyn yw gwthio gwartheg oddi ar y tir, ac mae'n ymwneud â newid hinsawdd a lleihau allyriadau a'r ffaith nad yw'r Blaid Lafur yn deall nac yn cefnogi ein ffermwyr. Rwy'n credu ei bod yn anghywir sefydlu'r parth perygl nitradau hwn ar draws Cymru gyfan. Dylem gael dull mwy cymesur, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu, a chredaf y dylem bleidleisio dros y cynnig hwn i ddirymu a dyna fydd fy mhlaid i, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, yn ei wneud.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffths?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Bydd sicrhau Cymru fwy gwyrdd yn dibynnu ar ymrwymiad ac arbenigedd ein ffermwyr. Mae ganddynt rôl unigryw yn cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ar yr un pryd â diogelu cynefin, amddiffyn ein priddoedd gwerthfawr, dal carbon a glanhau ein haer a'n dŵr er budd iechyd pobl, ac iechyd ein planed wrth gwrs. Mae'r angen a welwn am y rheoliadau llygredd amaethyddol hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i degwch. Mae'n fater o degwch i genedlaethau'r dyfodol, fel bod ganddynt fynediad at eu treftadaeth naturiol, yr ymddiriedir ynom i'w diogelu. Mae'n fater o degwch i'r ffermwyr sydd eisoes yn mynd y tu hwnt i ofynion rheoleiddio, gan feithrin enw da i'r sector am gynnal y safonau amgylcheddol uchaf. Ni fu'r enw da hwn erioed yn bwysicach nag y mae ar hyn o bryd, er mwyn bodloni disgwyliadau ein partneriaid masnachu rhyngwladol a'n cwsmeriaid yn y DU.
Mae'r enw da hwn a'n treftadaeth naturiol dan fygythiad o ganlyniad i lygredd amaethyddol. Rwy'n anghytuno â Janet Finch-Saunders sy'n dweud bod y rheoliadau'n cosbi ffermwyr. Fe ddywedaf wrthi pwy sy'n cael eu cosbi: ffermwyr sydd eisoes yn ymgymryd ag arferion da o ran rheoli maethynnau, atal llygredd o'u ffermydd eu hunain, ac sy'n gorfod gwylio wrth i eraill wneud y lleiafswm posibl, gyda chost unrhyw ddifrod yn cael ei drosglwyddo i eraill—costau trin dŵr yn cael eu hychwanegu at filiau cwsmeriaid, y gost i enw da'r sector, a'r pris rydym i gyd yn ei dalu yn sgil colli pysgod, pryfed, cynefinoedd sensitif a chymeriad ein cefn gwlad. Mae hyn wedi bod yn falltod ar enw da ffermio yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Ers imi ddod i'r swydd, rwyf wedi ceisio creu cyfle i'r diwydiant amaethyddol ac eraill gamu ymlaen a mynd i'r afael â'r broblem heb reoleiddio pellach. Yn anffodus, ni fu gostyngiad cyson mewn llygredd amaethyddol. Ers 2001, cafodd bron i 3,000 o achosion o lygredd acíwt yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth eu cadarnhau ledled Cymru, gan barhau ar gyfradd gyfartalog o fwy na thri achos bob wythnos dros y tair blynedd diwethaf. Yn 2020, pan ymchwiliwyd i lai o ddigwyddiadau yr adroddwyd yn eu cylch oherwydd pandemig COVID, roedd nifer yr achosion yn dal yn uwch nag yn 2015, 2016 a 2017. Cofnodwyd mwy o ddigwyddiadau yn 2018 nag unrhyw flwyddyn arall yn yr 20 mlynedd diwethaf. Hyd yn oed gyda'r sylw presennol yn y cyfryngau ers imi gyhoeddi'r rheoliadau hyn ar 27 Ionawr, mae CNC wedi derbyn 49 o adroddiadau llygredd yn ymwneud ag amaethyddiaeth, ac ar 1 Mawrth, roedd 20 ohonynt wedi'u cadarnhau. Dyma'r digwyddiadau a gadarnhawyd lle mae CNC wedi gallu cadarnhau digwyddiadau yr adroddwyd wrthynt yn eu cylch. Fodd bynnag, digwyddiadau llygredd acíwt yw'r enghraifft fwyaf gweladwy o lygredd amaethyddol. Mae llygredd gwasgaredig yn digwydd dros amser ac mae'n niweidio ansawdd dŵr, yn cyfrannu at lygredd aer ac yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae gwybodaeth anghywir am y rheoliadau wedi bod yn achosi straen diangen i ffermwyr, a bydd llawer ohonynt, ymhell o gael eu gorfodi allan o fusnes fel y mae'r wrthblaid wedi'i honni, mewn sefyllfa dda i fodloni'r safonau rheoleiddio newydd ac elwa o reoli maethynnau yn well ar eu ffermydd. Gall ffermwyr sy'n ansicr sut y gallant gydymffurfio ofyn am gymorth a chyngor drwy wasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sut i gael gafael ar y cymorth ariannol sydd ar gael. Mae'r rheoliadau wedi'u targedu at weithgareddau sy'n peri risg o lygredd, lle bynnag y maent yn digwydd.
Yn hytrach na safon sylfaenol, dywed y gwrthbleidiau y dylem fabwysiadu un dull o fynd i'r afael â llygredd ffosfforws yn y naw ardal cadwraeth arbennig afon, dull gwahanol i'r cyrff dŵr sy'n methu cyrraedd safonau'r gyfarwyddeb fframwaith dŵr, un arall ar gyfer trothwyon nitradau, ac un arall eto ar gyfer dalgylchoedd yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau llygredd acíwt ac yn y blaen—prosbectws ar gyfer dryswch ac oedi. Ni fyddai dull gweithredu o'r fath yn gwneud dim i wella llygredd aer na lleihau allyriadau; nid ydynt yn ddewisiadau amgen ymarferol nac ystyrlon. Mae gosod safon sylfaenol yn golygu y gall y disgwyliadau fod yn glir, gan ei gwneud yn haws i ffermwyr fod yn hyderus eu bod yn cydymffurfio, a'i gwneud yn haws i wasanaethau cynghori a'r rheoleiddiwr gynorthwyo ffermwyr i gydymffurfio. Lle mae gweithgareddau'n rhai risg isel, megis mewn perthynas â ffermio defaid, mae'r gofynion yn fach iawn. Bydd y gofynion yn cael eu cyflwyno dros amser, a'r cam cyntaf fydd ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr ddilyn arferion da o ran pryd a ble i wasgaru slyri, fel y mae llawer eisoes yn ei wneud.
Yn nadl y Torïaid yr wythnos diwethaf, ceisiais ddod o hyd i gonsensws gyda phleidiau eraill, o ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur, y gallem gydnabod mai'r cam cyntaf, fel y nodir yng nghyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, fyddai gwneud yr arferion da presennol yn safonau sylfaenol ledled Cymru. Ni allai Plaid Cymru na'r Torïaid dderbyn yr angen i weithredu, gan ddangos eu diffyg ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau'r cyhoedd. Byddai'n well ganddynt anwybyddu'r cyngor gwyddonol a chaniatáu i Gymru fod yn lloches olaf i lygredd amaethyddol. Rwy'n ddiolchgar i'r ffermwyr sy'n cefnogi'r camau rydym yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth, ac i randdeiliaid eraill, fel yr Ymddiriedolaeth Natur a grwpiau genweirio, sydd wedi mynegi'r hyn y gellir ei gyflawni, a pham ei fod mor bwysig, mewn ffordd mor glir.
Mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol yn un cam, ond yn gam pwysig iawn, yn y daith tuag at afonydd glanach, aer glanach, a sicrhau mai yng Nghymru y ceir y ffermio mwyaf ystyriol o natur a'r hinsawdd yn y byd. Ar ôl heddiw, bydd llawer mwy i'w wneud o hyd i gyflawni ein huchelgeisiau i sicrhau economi sero-net, sy'n gadarnhaol o ran natur, lle caiff buddion ein treftadaeth naturiol gyfoethog eu rhannu'n deg. Gobeithio y bydd yr holl Aelodau o'r Senedd heddiw yn dangos eu hymrwymiad i'r uchelgeisiau hynny yn y penderfyniad a wnânt. Pleidleisiwch yn erbyn y cynnig i ddirymu, pleidleisiwch yn erbyn gostwng safonau amgylcheddol yng Nghymru, pleidleisiwch yn erbyn gohirio ein hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, a phleidleisiwch yn erbyn llygredd amaethyddol yng Nghymru. Diolch.
Diolch ichi am hynny. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sy'n dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl. Llyr.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mi wnes i gychwyn y ddadl yma drwy annog Aelodau i gydnabod y ffaith nad oedd y cynnig yma yn rhyw fath o alwad inni beidio â gweithredu, a dyw'r cynnig yma'n sicr ddim yn alwad arnom ni i beidio â chyflwyno rheoliadau ac i anwybyddu'r broblem. Yn anffodus, mae sylwadau'r Gweinidog wrth gloi'r ddadl wedi dangos ei bod hi heb wrando gair ar beth ddywedais i, ac mae hynny'n siom i mi. Rôn i'n meddwl gwell ohoni, a bod yn onest. Ac i daflu rhyw fath o honiadau o'r fath i fy nghyfeiriad i, dwi'n cymryd hynny fel insult difrifol, a dwi yn drist ei bod hi wedi teimlo bod angen gwneud hynny. Dwi ddim yn gwybod faint o weithiau dwi yn gorfod dweud fy mod i o ddifrif ynglŷn â gweithredu ar y broblem yma. Yr her i fi, wrth gwrs, yw dyw yr hyn sydd ger ein bron ni ddim yn fy marn i yn mynd i gyflawni'r canlyniadau rŷn ni eisiau eu gweld.
Nawr, mi ddywedodd y Gweinidog ei bod hi wedi rhoi cynnig i'r diwydiant i ddod â datrysiadau gerbron. Wel, efallai bydd hi'n cofio bod y diwydiant wedi cyflwyno dau adroddiad iddi yn cynnwys argymhellion ynglŷn â'r ffordd ymlaen—yn yn Ebrill 2018, un ym Mawrth y flwyddyn diwethaf. Mae'n nhw'n dal i aros am ymateb gan y Gweinidog i'r cynigion hynny. Felly, peidied hi â dweud ei bod hi wedi rhoi cyfle i'r sector i ymateb. Dyw hi ddim, ac mae hynny yn gamarweiniol, oherwydd mae hi wedi anwybyddu'r hyn sydd wedi cael ei gynnig iddi.
Nawr, mi fuaswn i yn cefnogi'r rheoliadau yma petawn i'n credu eu bod nhw am weithio, ond mae yna gymaint o gwestiynau am y canlyniadau amgylcheddol anfwriadol ddaw yn eu sgil nhw, am yr effaith andwyol y byddan nhw'n eu cael ar ddyfodol ffermydd yng Nghymru, y tebygrwydd y bydd e yn arwain at golli rhai o'n ffermydd teuluol ni a'r effaith ehangach y bydd hynny'n ei gael, wrth gwrs, ar yr economi wledig ac ar gymdeithas yng nghefn gwlad. Dyw portreadu'r ddadl yma fel dewis rhwng rheoleiddio neu beidio â rheoleiddio ddim yn disgrifio yn deg y dewis sydd o'n blaenau ni mewn gwirionedd y prynhawn yma. Yr hyn fyddai cefnogi'r cynnig yma yn ei wneud yw sicrhau bod y Llywodraeth yn cymryd cam yn ôl i edrych ar yr opsiynau amgen fydd yn dod â gwell canlyniadau i'r amgylchedd a llai o ddinistr i'r economi a chymunedau gwledig. Dwi'n barod i chwarae fy rhan i yn hynny o beth. Y cwestiwn yw: ydych chi?
Diolch ichi am hynny. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiadau, felly pleidleisiwn ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon 'Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2—Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Dai Lloyd.
Cynnig NDM7610 Dai Lloyd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dyma ein hail adroddiad ar effaith COVID-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar iechyd meddwl a llesiant. Yn ogystal ag argymhellion manwl, daethom i un casgliad cyffredinol, sef mae’n bwysicach nawr nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol a nodwyd yn ein hadroddiad yn 2018 ar atal hunanladdiad ac yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Cadernid Meddwl’.
Mae COVID-19 wedi achosi sawl her o ran ei effeithiau corfforol, ond hefyd o ran ei effaith ar lesiant meddyliol ac emosiynol pobl. Mae bod heb gyswllt efo'ch teulu, eich ffrindiau a rhwydweithiau cymorth eraill am gyfnodau hir o amser wedi cael effaith sylweddol. Rydym yn gwybod bod mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Rydym hefyd yn hynod bryderus am lesiant preswylwyr cartrefi gofal, yn enwedig y bobl sydd efo dementia. Mae niwed sylweddol yn cael ei achosi gan fod ar wahân am gyfnodau hir yn sgîl y cyfyngiadau parhaus ar ymweliadau efo chartrefi gofal. Rydym yn deall y pryderon sy'n wynebu rheolwyr cartrefi gofal, wrth gwrs, ond rhaid cydbwyso'r risg o niwed yn sgîl y coronafeirws â'r risg i iechyd a llesiant preswylwyr sy'n deillio o fod ar wahân oddi wrth eu hanwyliaid am gyfnod mor hir.
Mae’r pandemig hefyd wedi cael effaith ddwys ar benderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys ffactorau economaidd, ffactorau cymdeithasol, ffactorau amgylcheddol a ffactorau addysgol. Mae wedi amlygu a dwysáu'r anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Bydd llawer o amser yn mynd heibio cyn y deallir effaith lawn y pandemig ar iechyd meddwl ac iechyd emosiynol y genedl. Roedd yn amlwg bod gwasanaethau iechyd meddwl o dan bwysau sylweddol cyn COVID-19 hyd yn oed, a dim ond cynyddu a wnaiff y galw hwnnw.
Bydd anghenion pobl yn wahanol. Mae'r pandemig wedi gwaethygu'r ffactorau risg sy'n hysbys ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio, fel unigrwydd, unigedd, diffyg ymdeimlad o berthyn a diffyg galwedigaeth ystyrlon. Efallai na fydd rhai pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl parhaus wedi gallu cael gafael ar eu gwasanaethau arferol ers cryn amser, a bydd mwy o angen arnyn nhw nawr nag erioed o’r blaen. Bydd rhai pobl wedi cael profedigaethau yn ystod y pandemig, neu o ganlyniad iddo. Nid yw colli anwyliaid byth yn hawdd, ond mae’n siŵr bod mynd drwy hyn ar adeg pan na allwch fod gyda nhw ar ddiwedd eu hoes, ac nad oes modd bod yng nghwmni teulu a ffrindiau i gael cefnogaeth, yn effeithio ar allu pobl i ddygymod efo’u colled.
Efallai yr effeithir ar bobl eraill nad ydynt erioed wedi cael problemau iechyd meddwl o’r blaen gan y trawma ar lefel y boblogaeth yn gyffredinol. Teimladau o bryder, tristwch a cholled, mae’r rhain yn ymatebion naturiol i sefyllfa frawychus ac mae’n bwysig peidio â’u hystyried yn or-feddygol. Rhaid bod cefnogaeth briodol, fodd bynnag, ar gael i bawb sydd ei hangen. Rhaid i hyn gwmpasu’r amrywiaeth o anghenion iechyd meddwl, o gymorth lefel isel i gymorth ymyrraeth gynnar, i wasanaethau mwy arbenigol a gofal mewn argyfwng. Dylai hefyd gynnwys gwasanaethau hygyrch o ansawdd da mewn profedigaeth.
Rhaid i’r gwasanaeth a’r gefnogaeth gywir hefyd fod ar waith ar gyfer staff iechyd, gofal cymdeithasol a staff rheng flaen eraill sydd wedi gweld llwyth gwaith cynyddol, prinder staff, trawma yn y gweithle a cholli ffrindiau, cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Heb gefnogaeth eu hunain, maent mewn perygl o fynd yn sâl oherwydd straen neu anawsterau iechyd meddwl eraill o ganlyniad i gael eu llethu’n gorfforol neu yn emosiynol.
Nawr, fel pwyllgor, rydym wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at yr angen am gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Cyn y pandemig roeddem yn pryderu nad oedd cynnydd digonol yn cael ei wneud yn hyn o beth, ac rydym yn ofni na fydd COVID-19 ond yn ei rwystro ymhellach. Os ydym am sicrhau cydraddoldeb, rhaid i iechyd meddwl fod yn ystyriaeth allweddol wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer adferiad. Mae hyn yn gofyn am ddull ar sail iechyd cyhoeddus o ymdrin ag iechyd meddwl sy’n ymwneud â hyrwyddo llesiant, atal salwch meddwl ac ymyrraeth gynnar, ac sy’n rhychwantu adrannau’r Llywodraeth a phob sector o’r gymdeithas. Mae angen inni weld cydweithio gwell a chyd-ddealltwriaeth glir ar draws y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ynghylch pwysigrwydd iechyd meddwl y cyhoedd a model cyllido sy’n cefnogi hyn.
Rydyn ni'n diolch i’r Gweinidog am ei hymateb i’n hadroddiad ni fel pwyllgor. Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod ein holl argymhellion wedi’u derbyn, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, fel sy’n digwydd yn aml gydag ymatebion Llywodraeth Cymru, mae’r naratif yn dweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud eisoes yn hytrach na mynd i’r afael â’n hargymhellion penodol. Mewn ymateb i’n galwad am ddiweddariad ysgrifenedig ar weithredu ein hargymhellion ac argymhellion y pwyllgor plant, dywed yr ymateb, a dwi'n dyfynnu:
'bydd y Pwyllgor yn deall bod gweithredu’r argymhellion eang yn rhaglen waith sylweddol, a bod angen cydbwyso hynny â gweithredu ein hymatebion i adroddiadau cysylltiedig eraill y Pwyllgor a’r ymrwymiadau a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl—Cynllun Cyflawni. Dylid cydnabod bod y rhaglen waith i gyflawni’r gwelliannau yn mynd y tu hwnt i’r tymor hwn.'
Diwedd y dyfynnu.
Pan ddaw, rhaid i’r diweddariad ysgrifenedig fynd i’r afael â’n hargymhellion penodol. Rhaid iddo hefyd ddarparu amserlenni manwl fel y gallwn gael ymdeimlad clir o’r hyn a gyflawnwyd a beth arall sydd angen ei wneud, ac erbyn pryd. Byddem yn annog yn benodol i waith y grŵp gorchwyl a gorffen ar gadw golwg ar ddata atal hunanladdiad gael ei ddatblygu fel blaenoriaeth frys.
Rydym yn cydnabod bod y rhain yn amseroedd anodd iawn, ac nad tasg fach yw gweithredu rhai o’n hargymhellion, ond ni allwn fforddio peidio â gwneud hyn. Mae wedi bod yn amlwg ers amser maith beth sydd angen inni ei wneud i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni nawr wneud newidiadau er mwyn osgoi rhagor o ddioddefaint a marwolaethau diangen y gall fod modd eu hatal. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddechrau drwy ganmol y pwyllgor? Nid wyf yn aelod ohono, ond rwy'n credu bod hwn yn adroddiad rhagorol, fel yr un blaenorol, ac rwyf hefyd yn cymeradwyo aelodau'r pwyllgor am y ffordd y maent wedi ceisio gweithio ar draws y sectorau a chael dull integredig iawn, a chredaf fod hynny wedi'i ddangos yn glir yn yr argymhelliad cyntaf, sy'n cyfeirio'n rymus iawn at adroddiad y pwyllgor plant, 'Cadernid Meddwl'. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor plant ychwaith, ond yn fy marn i, rwy'n credu mai adroddiad 'Cadernid Meddwl', o'r holl adroddiadau rhagorol a gwblhawyd gan bwyllgorau yn y pumed Senedd, oedd y mwyaf dylanwadol a chredaf eich bod yn llygad eich lle yn cyfeirio ato.
Credaf y bydd effaith tymor byr a hirdymor y pandemig ar iechyd meddwl yn sylweddol tu hwnt, a diolch i'r pwyllgor am ganolbwyntio ar faterion fel gofal profedigaeth. Credaf fod gennym lawer o blant yn awr na welodd eu neiniau a'u teidiau yn eu dyddiau diwethaf, a fyddai wedi ei chael hi'n anodd iawn prosesu ffeithiau'r colledion hynny hyd yn oed, a bydd hynny gyda hwy am flynyddoedd lawer, a bydd yn effeithio arnynt wrth iddynt ddod yn oedolion ac yn eu hagweddau at faterion byw a marw a marwolaeth. Rwy'n credu y bydd gofyn gwneud llawer o waith gofalus i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y lefel o gymorth y byddant ei heisiau, a daw hyn â ni at ddull iechyd y cyhoedd o weithredu; rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol.
Credaf hefyd ei bod yn iawn i'r pwyllgor bwysleisio'r angen am gymorth llesiant i staff rheng flaen, yn enwedig staff y GIG, a gwn y byddai llawer o gyd-Aelodau yn y Senedd wedi cael eu diweddariadau briffio gan y gwahanol fyrddau iechyd. A phan oeddem yn cael—neu'n sicr yn fy rhanbarth i, roeddem yn gwasgu'n galed ar y bwrdd iechyd i amlinellu'r hyn roedd yn ei wneud i gefnogi staff, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith y maent wedi'i wneud, ond rwy'n credu y bydd hyn yn parhau gan fod COVID gyda ni am lawer o'r degawd nesaf, yn ôl pob tebyg, ac wrth inni ei reoli, efallai y cawn obeithio'n realistig y bydd yn llai difrifol, ond mae'n dal yn mynd i fod yn ffactor ac yn fygythiad gwirioneddol.
Rwy'n credu bod rhai pethau ehangach o ran y dull iechyd cyhoeddus hefyd, fel ffactorau cymdeithasol eraill, pwysigrwydd ymarfer corff, argaeledd neu fynediad at fannau agored, ac mae llawer o gymunedau heb fannau o'r fath; mae'r rhain wedi bod yn bethau niweidiol iawn i lesiant ac iechyd meddwl pobl. Yn ein gwaith cynllunio trefol a'n gwaith adfywio, rhaid inni sicrhau bod y mathau hyn o fylchau'n cael eu llenwi. Credaf mai atal hunanladdiad yw'r dull cywir o ran pwysleisio y gallwn atal llawer o'r achosion o hunanladdiad sy'n digwydd. Mae'r rhai sy'n dioddef yn sgil hunanladdiad yn haeddu'r math hwn o ddull, a hyd nes y gwnawn hynny, mae arnaf ofn y byddwn yn dioddef lefel o hunanladdiad sy'n adlewyrchu ar wasanaethau ehangach, ond hefyd ar y ffaith nad yw dull iechyd cyhoeddus o'r fath mor llawn ag y mae arnom angen iddo fod.
A gaf fi orffen drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am dderbyn yr holl argymhellion? Ond roeddwn yn cytuno i raddau â rhai o sylwadau Dai Lloyd ar y diwedd, o ran beth yw dyfnder yr ymrwymiad, ac rwy'n cyfeirio at argymhelliad 12, lle mae'r pwyllgor yn argymell bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, sydd newydd ei chyhoeddi, yn dangos ymrwymiad cryf i wella iechyd meddwl y cyhoedd yng Nghymru. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond wedyn, o dan 'goblygiadau ariannol', dywed Llywodraeth Cymru, 'dim yn ychwanegol'. Gyda'r sylw hwnnw, fe ddof â fy sylwadau i ben.
Diolch. Lynne Neagle.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd gwneud cyfiawnder ag adroddiad mor eang yn y ddadl hon. Roeddwn am fynd ar drywydd rhai materion; yn gyntaf, y cyswllt clir iawn a wnaed yn yr adroddiad â'r angen parhaus i weld gweithredu ar 'Busnes Pawb', adroddiad atal hunanladdiad y pwyllgor iechyd, ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Roeddwn am gofnodi fy niolch eto i Dr Dai Lloyd am y bartneriaeth gref sydd wedi'i sefydlu rhwng y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a fy mhwyllgor i. Mae'n gwbl hanfodol nad ydym yn tynnu ein traed oddi ar y sbardun am eiliad ar gyflawni amcanion y ddau adroddiad. Mae'r ddau yn adroddiadau nodedig. Ymgynghorwyd yn eang ar y ddau, nid yn unig gyda phobl â phrofiad bywyd, ond â rhanddeiliaid arbenigol, a chredaf fod y ddau adroddiad wedi ennyn llawer iawn o gefnogaeth. Felly, byddwn yn annog pob cam posibl i barhau i flaenoriaethu'r ddau ohonynt.
Roeddwn am ganolbwyntio ar ddau argymhelliad penodol, mewn gwirionedd, sef argymhelliad 6 ac argymhelliad 7. Mae'r rhain yn ymdrin â'r ffaith bod y pwyllgor yn pryderu'n fawr fod yna ddiffyg cysylltiad rhwng y sicrwydd a roddwyd i'r pwyllgor fod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau yn ystod y pandemig a'r hyn a glywsom ar lawr gwlad. Dywedodd Gweinidogion a phennaeth y GIG yng Nghymru wrthym yn gyson fod gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u dynodi'n wasanaethau hanfodol. Ond yr hyn a glywsom gan randdeiliaid ar lawr gwlad oedd bod pobl wedi cael trafferth cael mynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chanfyddiadau'r pwyllgor fod gwir angen i Lywodraeth Cymru ymchwilio i hyn a sicrhau bod y dulliau sy'n cael eu defnyddio i wneud yn siŵr bod pobl yn cael gwasanaethau yn cynrychioli profiad bywyd pobl ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Rwy'n talu teyrnged i sefydliadau fel Mind Cymru, sy'n gwneud llawer o waith ar gasglu profiadau bywyd, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd am eu profiad yn ystod y pandemig.
Fel rydym wedi dweud wedyn yn argymhelliad 7, rydym wedi galw am flaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl. Un o nodau cyson y ddau bwyllgor oedd sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Ac eto, yr hyn a welsom yn y pandemig, sy'n eithaf dealladwy mewn argyfwng iechyd corfforol, oedd newid i wasanaethau iechyd meddwl ar unwaith, oherwydd symudodd popeth ar-lein, ac nid yw ar-lein yn gweithio i bawb. Nid yw galwadau ffôn yn gweithio i bawb, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol wrth symud ymlaen ein bod yn sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl yn ddigon gwydn i sicrhau'r cydraddoldeb hwnnw yn y math o argyfwng a wynebwn.
Roeddwn eisiau dweud rhywbeth am ofal mewn argyfwng, oherwydd mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at yr adolygiad o fynediad brys, sy'n ddogfen ddiddorol iawn, 'Tu hwnt i'r alwad', a byddwn yn annog yr Aelodau i edrych arni. Mae'n disgrifio'r oddeutu 900 o alwadau y dydd a wneir i'r heddlu, damweiniau ac achosion brys, a gwasanaethau brys eraill i bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl. Ond yr hyn y byddwn yn ei annog gan y Llywodraeth yw gweithredu brys ar ran arall y jig-so hwnnw, oherwydd os yw pobl yn ffonio'r heddlu ac yn mynd i'r adrannau damweiniau ac achosion brys mewn niferoedd o'r fath, rydym wedi methu'n druenus gyda darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer pobl yn gynharach. Ni allwn ddibynnu ar—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
—y gwasanaethau brys hynny i godi'r darnau, felly hoffwn pe gallai'r Gweinidog ddweud rhywbeth yn ei hymateb ynglŷn â pha bryd y mae'n disgwyl i'r rhan arall o'r adolygiad hwnnw, gwaith argyfwng y GIG a gwasanaethau gofal, gael ei chwblhau a'i gweithredu. Diolch yn fawr.
Rydw innau'n falch iawn o fod wedi gallu chwarae rôl yn yr ymchwiliad pwysig iawn, iawn yma. Mae'r pandemig wedi achosi niwed ehangach na dim ond niwed corfforol, uniongyrchol COVID-19 ei hun, a dwi'n meddwl y gallwn ni ddisgwyl i effaith y pandemig ar iechyd meddwl i bara, o bosib, yn hirach na'r effaith ar iechyd corfforol. Mi glywsom ni yn yr ymchwiliad yma am effaith uniongyrchol y pandemig a'r cyfyngiadau ar iechyd meddwl pobl, o golli anwyliaid heb allu bod efo nhw ar yr oriau tyngedfennol, y teimladau yna o unigrwydd, teimladau o fod yn ynysig, a phobl yn methu â bod â rôl ystyrlon yn ystod y cyfnod yma.
Ond hefyd, wrth gwrs, mae yna effaith wedi bod ar fynediad pobl at wasanaethau iechyd meddwl, weithiau oherwydd cyfyngiadau a phwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd, dro arall pobl ddim yn siŵr iawn lle i droi yn ystod y pandemig—ddim yn gyfforddus i siarad efo pobl ar y platfformiau digidol newydd yma am bethau sydd yn eu poeni nhw. Mi oedd yna hyd yn oed ansicrwydd ar y dechrau ynglŷn â pha wasanaethau oedd i fod i gael eu cynnig. Mi gawsom ni'r digwyddiad syfrdanol yna yn y gogledd pan gafodd bron iawn i 1,700 o bobl glywed eu bod nhw’n cael eu tynnu oddi ar y rhestrau aros am ofal iechyd meddwl. Do, mi gyfaddefwyd mai camgymeriad oedd hynny, ond mae o'n dweud rhywbeth bod rhywun yn rhywle wedi meddwl am eiliad y byddai hi'n dderbyniol i ddweud wrth bobl oedd ar y rhestrau aros am ofal iechyd meddwl y byddent yn gorfod cael eu tynnu oddi ar y rhestrau hynny.
Rydyn ni wedi trafod yn ystod yr ymchwiliad yma hefyd y ffaith nad oes angen gorfedicaleiddio, os liciwch chi, pethau bob amser, bod angen bod yn ystyrlon o bethau sydd yn ymatebion naturiol, emosiynol—galar, tristwch, pryderon ynglŷn â'r sefyllfa gyffredinol, ac ati—a bod angen meddwl am ffyrdd eraill o edrych ar lesiant pobl. Dwi wedi bod yn awyddus iawn i wthio'r Llywodraeth i wneud popeth posib i ganiatáu ymarfer corff yn yr awyr agored, i ganiatáu i bobl fynd allan am awyr iach, y pethau yma sy'n feddal ond yr un mor bwysig.
Mi edrychom ni ar yr effaith ar rai grwpiau yn benodol. Dwi'n ddiolchgar iawn i Bethan Sayed am y gwaith mae hi wedi'i wneud yn pwysleisio yr angen i feddwl am lesiant rhieni newydd. Mae hynny'n bwysig iawn. Ond mi wna i gloi jest drwy siarad yn sydyn iawn am ddau o'r grwpiau y gwnaethom ni edrych arnyn nhw yn benodol. Un yw'r gweithlu rheng flaen. Mae eisiau inni gofio amdanyn nhw, a'r dystiolaeth a glywsom ni'n glir iawn yw y bydd llawer yn teimlo effeithiau tebyg i PTSD, hyd yn oed, am gyfnod i ddod oherwydd hyn. Mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog sylwadau'n benodol ynglŷn â'r camau fydd yn cael eu cymryd i sicrhau y math yna o gefnogaeth hirdymor i weithwyr iechyd a gofal sydd wedi bod drwy gymaint, ac wedi bod mor anhunanol yn ystod y cyfnod yma.
Y llall ydy'r effaith ar bobl hŷn a pha gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i'w cefnogi nhw—ie, y rhai sydd mewn cartrefi gofal, o bosib rhai sydd â'u hanwyliaid mewn cartrefi gofal. Mae'r unigrwydd sydd wedi cael ei deimlo gan lawer yn rhywbeth sydd yn mynd i olygu cefnogaeth a'r angen am gefnogaeth am amser hir i ddod. Ydy, mae hwn wedi bod yn argyfwng iechyd meddwl, yn ogystal ag iechyd corfforol. Mae'n bwysig bob amser ein bod ni'n cofio hynny.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am gymryd yr amser i ystyried y pwnc pwysig yma? Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r canfyddiadau sydd ynddo. Dwi'n cefnogi ac yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor holl argymhellion y pwyllgor. Mae lot fawr yn yr adroddiad, a dwi ddim yn meddwl y caf amser i fynd drwy bob peth y prynhawn yma, ond dwi eisiau cymryd y cyfle nid yn unig i ddiolch i chi, ond hefyd i ddiolch i'r holl staff ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i drin a gofalu am nid yn unig y rheini sydd wedi bod yn dioddef o COVID-19, ond hefyd y rhai sy'n gofalu am gleifion eraill oedd ag anghenion brys, ac hefyd pobl eraill yn y sector iechyd oedd yn gofalu am y bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau ni.
Mae'r 11 mis diwethaf wedi bod yn ddi-baid, ac mae'r pandemig yn amlwg wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau ni, ein cleifion a'n staff ni, a dwi'n cydnabod yn llawn y gofynion corfforol ac emosiynol anhygoel sydd wedi codi o ganlyniad i hyn. Rydym ni'n deall yn union yr effaith aruthrol sydd wedi bod ar iechyd meddwl y genedl, ond mae'n glir nad oes darlun llawn gennym ni eto o beth fydd yr effeithiau hirdymor a allai godi o ganlyniad i'r pandemig yn y maes iechyd meddwl. Dwi'n llwyr ddeall bod rhaid i effaith iechyd meddwl sy'n deillio o'r pandemig fod yn ganolog i'n hymateb ni i'r cynlluniau adfer, ac mae'n amlwg hefyd fod rhai wedi dioddef lot fwy nag eraill yn y sefyllfa yma, ac mae'n rhaid i ni fod yn sensitif i hynny hefyd.
Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi rhoi trefniadau ar waith i ddeall y newidiadau yn y gofynion iechyd meddwl er mwyn datblygu ein gwaith cynllunio yn y maes hwn, ac mae'r trefniadau hyn yn cynnwys adolygiadau rheolaidd o'r dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys arolygon poblogaeth, cyfarfodydd wythnosol gyda byrddau iechyd a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r trydydd sector. Ond rwy'n cydnabod ac yn derbyn y pwynt a wnaeth Lynne Neagle am y datgysylltiad posibl a welsom, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn pryderu'n fawr amdano—gan glywed un peth gan bobl o'r trydydd sector, a chlywed rhywbeth arall o ran y ffigurau a gewch mewn rhyw fath o ddogfen oer.
Mae'n bwysig iawn i mi fy mod yn cael gwell ymdeimlad o sut y mae'n edrych ar lawr gwlad. Rwyf wedi gwneud ymdrech wirioneddol i wrando ar y trydydd sector, i wrando ar bobl ifanc. Gwrandewais ar grŵp o bobl ifanc yr wythnos hon o Platfform. Fe wyddoch fy mod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y sefyllfa mewn perthynas â CAMHS—diweddariadau wythnosol ar hynny—ac mae'n amlwg yn rhywbeth sy'n eitem sefydlog ar ein hagenda yn y grŵp gorchwyl a gorffen. Felly, rwy'n ceisio cael gwell ymdeimlad o ble rydym arni. Os gall pobl barhau i roi enghreifftiau i mi o ble nad yw'n gweithio, rwy'n credu bod hynny'n bwysig; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn cael clywed am hynny fel y gallwn fynd i'r afael go iawn â'r broblem gyda'r systemau os mai dyna lle mae pethau'n methu.
Wrth gwrs, mae ymateb i anghenion iechyd meddwl yn galw am ddull amlasiantaethol ac amlochrog o weithredu, ac nid yw'n rhywbeth y gall neu y dylai'r GIG ei wneud ar ei ben ei hun. Yr hyn a wnaethom oedd cryfhau ein camau gweithredu ar draws y Llywodraeth yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', gyda phwyslais mwy ar yr agweddau cymdeithasol a'r agweddau economaidd sy'n rhaid inni eu cadw mewn cof drwy'r amser—felly, edrych ar bethau fel iechyd a dyled a thai, addysg a chyflogaeth. Mae'r gêm hon ymhell o fod drosodd. Ni wyddom beth sy'n mynd i ddigwydd pan ddaw ffyrlo i ben. Sut olwg fydd ar hynny? Mae pobl yn pryderu'n fawr ynglŷn â beth fydd eu hamgylchiadau economaidd, a gwyddom fod cydberthynas uniongyrchol rhwng diweithdra a phroblemau iechyd meddwl, felly mae'n rhaid i ni fod yn sensitif i'r hyn a allai ein hwynebu. Cefais gyfle'n ddiweddar i drafod hyn gyda fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet—effaith economaidd-gymdeithasol y pandemig ar iechyd meddwl—ac roeddem i gyd yn cytuno bod yn rhaid inni gael dull cydweithredol ar draws y Llywodraeth i atal yr hyn a allai fod yn ymchwydd posibl yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl.
Un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w wneud yw rhoi mwy o bwyslais a mwy o gefnogaeth a mwy o arian i gymorth haen 1, cymorth haen 0, a chefnogi'r trydydd sector o ddifrif, gan ddadfeddygoli'r problemau sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl lle gallwn wneud hynny. Rydym wedi bod yn rhoi mesurau eraill ar waith, fel therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, ac mae'n wych gweld bod dros 9,000 o bobl eisoes wedi gwneud defnydd o'r math hwn o gymorth. Roedd Rhun yn gofyn i ble mae pobl yn mynd am wybodaeth.
Mae hwn yn rhywbeth roeddwn i'n rili keen i'w wneud. Roeddwn i'n awyddus iawn i weld beth fyddwn i'n ei wneud yn y sefyllfa yna. Ble byddech chi'n mynd os nad oeddech chi'n deall y system? Felly, rŷm ni wedi sicrhau bod pob awdurdod iechyd nawr wedi gorfod dangos yn glir ar eu gwefannau yn union beth yw'r gwasanaethau sydd ar gael yn y maes yma.
Rydych wedi clywed bod ymrwymiad ychwanegol wedi'i wneud o £42 miliwn. Mae'n ddrwg gennyf, David, nad oedd hynny'n cael ei gydnabod yn yr effaith ariannol, ond roedd yno, felly mae'r arian yno ac mae hynny'n golygu ein bod bellach yn gwario cyfanswm o oddeutu £783 miliwn yn flynyddol ar iechyd meddwl. Mae hynny'n bwysig iawn i mi. Rwy'n profi ar hyn o bryd i weld a ydym yn ei wario yn y mannau cywir. Rwy'n pryderu braidd fod angen i ni edrych o ddifrif i weld a ydym yn gwario'r arian hwnnw yn y mannau cywir. Byddwn yn sicr am weld pwyslais cliriach—gan wybod bod 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant a phobl ifanc, hoffwn weld ailgydbwyso cyllid yn mynd i'r perwyl hwnnw.
Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor cyn bo hir am y cynnydd ar gyflawni ein hymateb ar iechyd meddwl amenedigol ac atal hunanladdiad, felly nid af i fanylion hynny yma. Ond rwyf wedi cydnabod y gwaith sylweddol sy'n mynd rhagddo eisoes ar draws Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'n rhaglen 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Un o'r pethau rwyf am ei wneud yw cadw llygad ar gyflawniad. Dai, roeddech yn gofyn ynglŷn â chyflawniad—wyddoch chi, beth yw ein hamserlen. Yr hyn rwyf wedi'i wneud yn awr yw cynnull bwrdd cyflawni a throsolwg gweinidogol i Gymru, ac fe wnaethom gyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf. Dyna beth rwy'n ceisio'i wneud—cael ymdeimlad llawer gwell o'r hyn sy'n mynd i gael ei wneud ar ba bwynt ac a ydym ar y trywydd iawn. Oherwydd nid oes unrhyw bwynt datblygu rhaglen newydd oni bai ein bod wedi cyflawni'r rhaglen hon. Felly—
Mae angen i'r Gweinidog dynnu ei sylwadau i ben, os gwelwch yn dda.
Diolch. Mae gennyf gymaint mwy y gallwn ei ddweud, ond rwyf am ddweud rhywbeth am y gweithlu i gloi. Rydym wedi rhoi llawer o fesurau ar waith. Rwy'n bryderus iawn—rwyf wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol y Nyrsys, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a chyda meddygon teulu, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sefyll gyda'r bobl hyn sydd wedi bod ar y rheng flaen. Fel yr awgrymodd Rhun, mae pobl wedi bod drwy drawma yma ac mae angen inni sefyll gyda hwy ac efallai y bydd yn cymryd amser i hynny i gyd ddod drwodd. Felly, mae angen inni fod yno ar eu cyfer.
Ond os caf orffen drwy ddweud diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am y gwaith hwn ac i roi sicrwydd i chi ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gyflawni yn yr amgylchiadau gwirioneddol anodd hyn.
Diolch. Nid oes gennyf Aelod sydd wedi dweud eu bod am wneud ymyriad. Felly, gofynnaf i Dai Lloyd ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, dyma ddadl wych. Buaswn i, fel y mae eraill wedi ei grybwyll, wedi hoffi petai'r ddadl yn gallu mynd ymlaen yn hirach, ond rydyn ni lle rydyn ni, fel rydym yn ei ddweud. Mae hwn wedi bod yn adroddiad manwl iawn; roedd yna gryn dipyn o waith wedi mynd i mewn i'r adroddiad yma a'r adroddiadau eraill yr oedden ni wedi cyfeirio atyn nhw—adroddiadau blaenorol y pwyllgor iechyd, yn enwedig ar atal hunanladdiad, ac, wrth gwrs, yr adroddiadau bendigedig gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o dan gadeiryddiaeth fendigedig Lynne Neagle. Hoffwn dalu teyrnged i waith Lynne Neagle fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Mae'r cydweithio wedi bod yn arbennig a dwi'n credu bod y ddau bwyllgor wedi gallu cyflawni llawer mwy na'r ddau bwyllgor ar wahân, megis, wrth gydweithio yn yr un un meysydd, ond gyda gwahanol oedrannau. Achos doedd yna ddim modd, y rhan fwyaf o'r amser, i'r pwyllgor iechyd ymgymryd â gwaith i wneud efo phlant a phobl ifanc. Roedd hi'n bwysig bod rhywun yn gwneud hynna, a dwi'n ddiolchgar iawn i Lynne Neagle a'i phwyllgor am hynna.
Wrth gwrs, mae'r her iechyd meddwl, o ganlyniad i'r pandemig yma, yn her enfawr—rydyn ni'n deall hynna. Ond mae eisiau pwysleisio hynna, achos dydyn ni ddim wedi gweld ei hanner e mor belled. Yn ogystal, wrth gwrs, mae yna lefel o bryder naturiol mewn unrhyw gymdeithas sy'n deillio o ryw drychineb torfol sydd wedi digwydd. Dyna beth rydyn ni'n ei wynebu rŵan; mae yna drychineb torfol yn dal i ddigwydd. Yn naturiol, mae yna lefel o bryder mewn unrhyw unigolyn, sydd ddim, o reidrwydd, yn mynd ymlaen i aflonyddu ar ei iechyd meddwl, ond mae angen delio efo fo ta beth, a'r ffordd naturiol o wneud hynny, fel mae eraill wedi'i ddweud—a diolch i David Melding am ei gyfraniad urddasol, aeddfed ynglŷn ag edrych yn ehangach yn nhermau iechyd cyhoeddus, ymarfer corff, ac ati—yw i ddelio efo'r lefel o bryder yna sydd ddim yn cwympo i mewn i ddiffiniad 'afiechyd meddwl' hefyd. Mae pawb yn teimlo hynna. Dwi'n diolch i Rhun ap Iorwerth hefyd am ei gyfraniad doeth, fel arfer, ac am bob cefnogaeth fel aelod o'r pwyllgor.
I grynhoi ac i gloi, dwi'n diolch i Eluned Morgan, y Gweinidog, am ei chyfraniad ac am ei doethineb hithau hefyd wrth ymateb mor ystyrlon i'n hargymhellion ni. Dwi hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, yn croesawu ei phenodiad hi yn y lle cyntaf, sydd yn adlewyrchiad o bwysigrwydd yr agenda hon. Mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael efo'r holl heriau. Gaf i gloi drwy ddiolch i'n clercod a'n hymchwilwyr am eu gwaith dygn a manwl, diflino bob amser? Mynd i'r afael—mae'r casgliadau hynny'n barod o'n hadroddiadau blaenorol ni fel pwyllgor, a phwyllgor Lynne Neagle, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Diolch yn fawr iawn i bawb. Cefnogwch y cynnig.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar ddeisebau ynghylch rhaglen frechu COVID-19. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7608 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â’r rhaglen frechiadau COVID-19:
a) Deiseb P-05-1117 'Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth' a gasglodd 10,879 o lofnodion;
b) Deiseb P-05-1119 'Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19' a gasglodd 16,288 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i'r ceisiadau am ddadleuon y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'u gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'n deg dweud eu bod wedi cael gwaith anodd iawn, o ystyried nifer y dadleuon sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer gwneud ceisiadau a nifer y deisebau a ddaeth i law gyda niferoedd mawr iawn o lofnodion.
Nawr, bydd y ddadl hon, y gyntaf o ddwy i'w cynnal gan ein pwyllgor y prynhawn yma, yn ymdrin â dwy ddeiseb fawr yn ymwneud â blaenoriaethu proffesiynau allweddol yn ystod rhaglen frechu COVID-19. Mae'r gyntaf yn gofyn am roi'r brechiad COVID-19 i swyddogion yr heddlu fel blaenoriaeth, tra bo'r ail ddeiseb yn galw am roi blaenoriaeth i athrawon a staff ysgolion a gofal plant.
Dwy yw'r rhain o nifer o ddeisebau a gyflwynwyd i'r Senedd ynghylch materion o'r fath, deisebau sydd hefyd wedi cynnwys rhai'n galw am ystyried blaenoriaethu eraill, megis staff manwerthu, peirianwyr telathrebu, gwasanaethau brys gwirfoddol—i bob un ohonynt gael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer brechu. Mae pwysigrwydd cael y rhaglen frechu'n iawn yn glir i bob un ohonom, ac mae gan bob un o'r grwpiau hyn achos dilys pam y gellid cynnig y brechlyn iddynt yn gynnar.
Rwyf am gyflwyno'n fyr yr achosion sydd wedi'u cyflwyno yn y ddwy ddeiseb benodol sydd dan sylw heddiw. Cyflwynwyd y gyntaf, 'Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth', gan Graham Bishop gyda 10,879 o lofnodion. Er iddi gael cefnogaeth ehangach gan ffederasiwn yr heddlu ac eraill, roedd y rhesymau dros y ddeiseb hon yn bersonol.
Mae mab y deisebydd yn swyddog heddlu a ddaliodd COVID. Cafodd hyn effaith ganlyniadol ar ei deulu, wrth i'r feirws gael ei drosglwyddo i'w wraig, a oedd yn feichiog ac a esgorodd ar efeilliaid yn gynnar tra oedd yn yr ysbyty oherwydd y feirws. Wedi hynny, mae ei fab hefyd wedi profi effeithiau gwanychol COVID hir. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi ein dymuniadau gorau i'r deisebydd a'i deulu yn dilyn y set anodd iawn hon o amgylchiadau.
Aelodau, mae pob un o'n gweithwyr brys rheng flaen yn peryglu eu hunain bob dydd wrth gyflawni eu dyletswyddau, rhywbeth y mae COVID-19 wedi'i amlygu a'i ddwysáu. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi parhau i gyflawni eu swyddogaethau drwy'r pandemig ofnadwy hwn, weithiau ar gost bersonol sylweddol, gan gynnwys ein swyddogion heddlu, sydd, wrth gwrs, yn gwasanaethu'r cyhoedd mor ardderchog.
Nawr, cyflwynwyd yr ail ddeiseb, 'Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19', gan Jonathan Môn Hughes gyda chyfanswm o 16,288 o lofnodion. Mae'r ddeiseb hon yn tynnu sylw at risgiau mewn perthynas â lledaeniad asymptomatig COVID-19 mewn ysgolion a'r risg y gallai rhai athrawon ei wynebu o ddal y feirws, yn ogystal â nifer y diwrnodau addysgu a gollir oherwydd cau ysgolion a chyfnodau o hunanynysu.
Hoffwn innau hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i nodi fy niolch i'r holl staff mewn unrhyw leoliad addysg, a chynnwys hefyd ein lleoliadau gofal plant, sydd wedi parhau i ddarparu cymorth ac addysg hanfodol i'n plant ifanc drwy gydol y pandemig anodd hwn.
Mae mater brechiadau wedi cael llawer o sylw wrth gwrs, ac mae undebau athrawon ac eraill wedi'i godi dro ar ôl tro, yn enwedig yng nghyd-destun disgyblion yn dychwelyd i ysgolion. Mae dadleuon dros fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at frechu staff ysgolion wedi cynnwys, yn gyntaf, darparu mwy o amddiffyniad i staff sy'n dod i gysylltiad agos â disgyblion ac yn ail, y budd posibl o leihau faint o amser addysgu a gollir gan ddisgyblion.
Gan fod amser yn brin, rwyf am adael i gyfranwyr eraill drafod rhinweddau, neu fel arall, yr achosion a gyflwynir gan y deisebau hyn. I gloi, mae'n bwysig cyfeirio at y penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddiwedd yr wythnos diwethaf, sy'n berthnasol iawn i'r trafodion hyn. Ar ôl parhau i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch y rhaglen frechu, daethant i'r casgliad y dylid parhau i'w chyflwyno ar sail oedran a ffactorau meddygol eraill, yn hytrach na blaenoriaethu ar sail galwedigaeth. Rwy'n tybio y bydd y Gweinidog am ddweud mwy am y penderfyniad hwn a'r goblygiadau i gyflwyno brechlynnau yng Nghymru ar ddiwedd y ddadl hon. Rwyf am gydnabod, wrth gwrs, y bydd hon yn ergyd i'r rheini a gyflwynodd y deisebau hyn. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau eraill yn ystod gweddill y ddadl hon. Diolch yn fawr.
Fel y dywed y ddeiseb ar swyddogion yr heddlu, maent mewn swyddi risg uchel. Wrth siarad yma ym mis Ionawr, tynnais sylw at alwadau gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru i blismona gael ei ystyried ar gyfer rhywfaint o flaenoriaeth ar raglen frechu COVID-19. Fel y dywedasant,
O ddydd i ddydd, mae swyddogion yr heddlu'n peryglu eu diogelwch, eu hiechyd a'u lles eu hunain wrth iddynt ein diogelu ni i gyd. Yn anffodus, yng Ngogledd Cymru, rydym wedi gweld llawer o gydweithwyr yn mynd yn sâl gyda Covid-19, a rhai angen triniaeth yn yr ysbyty, a llawer mwy yn gorfod hunanynysu.
Ac roeddent yn mynegi pryder fod pobl mewn grwpiau nad ydynt yn cael blaenoriaeth yn cael y brechlyn cyn swyddogion rheng flaen yr heddlu. Pan godais hyn gyda'r Gweinidog iechyd, fe wnaeth osgoi'r cwestiwn drwy gyfeirio'n hytrach at yr effaith ar grwpiau blaenoriaeth. Dywedodd e-bost dilynol gan un o swyddogion rheng flaen Heddlu Gogledd Cymru:
Mae yna bob amser ymdeimlad o sioc a dryswch pan fyddaf yn siarad â phobl ac yn eu hysbysu nad yw'r Heddlu'n cael eu hystyried yn grŵp blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn.
Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi blaenoriaeth i blismona—
lle—
Mae'n rhaid i ni ddiogelu'r diogelwyr sy'n ein diogelu ni i gyd yn y pen draw.
A dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf eu bod wedi clywed gan
ffynonellau dibynadwy iawn sy'n gweithio yn y canolfannau brechu yn dweud bod ysgrifenyddion ysbytai a hyd yn oed gweithwyr cymdeithasol—sy'n gweithio gartref—yn cael y brechlyn ond nid ystyrir bod plismona rheng flaen yn creu risg o hyd ac nid ydynt yn cael defnyddio unrhyw frechlynnau sbâr/nas defnyddiwyd hyd yn oed—
ac ychwanegodd—
Hyd yn oed pe gallem gael swyddogion heddlu rheng flaen ar restr wrth gefn, fel sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Loegr.
Wrth siarad yma ym mis Chwefror, gofynnais i'r Prif Weinidog pam nad oedd hyn yn digwydd yng Nghymru. Unwaith eto, roedd yr ymateb yn ymwneud â grwpiau blaenoriaeth, gan gyfuno dau fater gwahanol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Chwefror:
Ni fydd unrhyw frechlynnau'n cael eu gwastraffu gan ein bod yn defnyddio rhestr wrth gefn a grëwyd yn unol â'r grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol.
Fel y dywedais yma, pan glywn am yr enghreifftiau niferus o bobl nad ydynt yn y grwpiau blaenoriaeth sy'n cael brechlynnau dros ben, does bosibl na ddylai unrhyw restr wrth gefn flaenoriaethu pobl fel swyddogion heddlu rheng flaen ac athrawon. O ystyried bod pobl nad oeddent mewn grwpiau blaenoriaeth yn cael y brechlyn, pam na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyfaddef hynny ac yn hytrach yn blaenoriaethu ar restrau wrth gefn y rhai y mae eu gwaith yn golygu eu bod yn wynebu'r risg o ddod i gysylltiad â phobl sydd wedi'u heintio â COVID pan fyddai brechlynnau'n cael eu gwastraffu fel arall?
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod bellach wedi cwblhau a chytuno ar restr wrth gefn o staff y gelwir arnynt os bydd unrhyw frechlynnau'n dod ar gael ar ddiwedd dydd, gan gynnwys staff Heddlu Gogledd Cymru, yn dilyn cyngor ac arweiniad cenedlaethol. Ond fel y dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf wedyn, 'Mae'n dal i fod ymhell o fod yn berffaith, ond rydym yn cyrraedd yno'n araf.'
Mae gennym ni ddwy ddeiseb o'n blaenau ni heddiw—y naill yn apêl am flaenoriaeth i swyddogion yr heddlu am frechiad COVID, y llall am flaenoriaethu staff ysgolion a gofal plant. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi codi y materion hyn efo fo ar sawl achlysur erbyn hyn. Rhyw gwyno oedd o yn y pwyllgor iechyd y bore yma fy mod i wedi codi'r mater dair gwaith mewn ychydig ddyddiau. Ond mae'n ddrwg gen i, fel yna mae scrutiny yn gweithio. Dwi'n falch o gael codi rhai o'r cwestiynau y prynhawn yma eto wrth gefnogi a chydymdeimlo efo'r deisebwyr. Y rheswm dwi'n cefnogi a chydymdeimlo efo'r alwad yma i sicrhau bod yna drefn yn cael ei rhoi mewn lle i frechu pobl mewn swyddi sy'n wynebu'r cyhoedd—ac mi allwn i ychwanegu eraill hefyd—ydy nid mod i'n amau rhestr flaenoriaeth y JCVI fel y cyfryw; mae'n gwneud perffaith synnwyr mai'r hynaf neu'r mwyaf bregus ydy rhywun, y mwyaf tebyg ydy eu bod nhw yn mynd yn sâl neu yn waeth. Ond dwi'n dal yn grediniol bod exposure yn cyfrannu at y risg hefyd, beth bynnag ydy oed rhywun. Mi gafodd gweithwyr iechyd a gofal eu blaenoriaethu—wrth gwrs eu bod nhw wedi cael eu blaenoriaethu. Maen nhw wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd o risg ryfeddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein diolch ni iddyn nhw yn fawr iawn, iawn.
Ond, ar lefel is, mae yna swyddi eraill lle mae pobl yn wynebu risg o ddod i gyswllt â'r feirws, lawer mwy na phobl fel chi a fi. Dwi wedi bod yn falch iawn o allu chwarae rôl fach iawn fel gwas cyhoeddus dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dal y Llywodraeth i gyfrif, ond dwi wedi gwneud hynny o fan hyn. Y rheswm dwi wedi bod yn gweithio o adref ydy i drio atal lledaeniad y feirws ac i fy nghadw i a fy nheulu'n ddiogel, ond dydy eraill ddim yn gallu gweithio o adref.
Rydym ni i gyd eisiau i ysgolion allu ailagor, ond mae hynny'n golygu mwy o risg i rai o'r bobl sydd yn gysylltiedig â hynny, yn cynnwys staff mewn ysgolion. Dwi'n deall bod yna ddigwyddiad wedi bod yn y dyddiau diwethaf yn Ynys Môn, lle gwnaeth rywun boeri ar heddwas a phrofi yn bositif maes o law. Mae angen adfer hyder pobl bod popeth posib yn cael ei wneud i ymateb i'r gwahanol lefelau o risg. A gwnaf, mi wnaf i gefnogi yn llwyr y Gweinidog a'i ymdrech i fynd drwy'r rhestr flaenoriaethau, fel mae o wedi cael ei nodi gan y JCVI, yn ôl oedran cyn gynted â phosib. Ond siawns bod yna fodd, ochr yn ochr â hynny, i sicrhau bod gweision cyhoeddus eraill, pobl mewn swyddi allweddol sydd yn wynebu risg o ddydd i ddydd, yn gallu cael eu blaenoriaethu hefyd. Dydy hynny ddim yn golygu dadflaenoriaethu eraill, er fy mod i, fel dwi wedi'i ddweud o'r blaen, oherwydd fy mod i'n gweithio yn fan hyn, yn fodlon i gael fy nadflaenoriaethu er mwyn i bobl sydd yn wynebu'r cyhoedd allu cael eu brechu o fy mlaen i.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth gwrs, nid oes amheuaeth ym meddwl unrhyw un ynglŷn â chyfraniad gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig. Y bobl sydd wedi ein cadw i fynd drwy gydol y pandemig ar ei waethaf yn y gwahanol ffyrdd rydym wedi'u profi—gweithwyr nid yn unig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ond ym maes gweithgynhyrchu, yr heddlu, y lluoedd arfog, addysg, trafnidiaeth, cyfleustodau, Llywodraeth leol a chenedlaethol, gweithwyr post, manwerthu hanfodol, cynhyrchu a darparu bwyd, mae'r holl bobl hyn wedi ein bwydo, gofalu amdanom, ein haddysgu, ein cadw mewn cysylltiad ac yn ddiogel. Ac maent yn haeddu ein diolch a'n cydnabyddiaeth, nid yn unig nawr ond y tu hwnt i'r pandemig, ac mae brechu yn rhan o'r ffordd allan o'r cyfnod anodd hwn a'r cyfyngiadau angenrheidiol sydd wedi'u gosod ar ein bywydau bob dydd. Ac mae'r arwyddion yn galonogol, gyda'r ymchwil a gyhoeddwyd gan Public Health Scotland yr wythnos diwethaf, a Public Health England, yn dangos effaith gadarnhaol sylweddol o frechu, ac astudiaeth AstraZeneca-Rhydychen hefyd ar arwydd calonogol fod y brechlyn yn lleihau trosglwyddiad.
Nawr, byddai'n wych pe gallwn roi'r amddiffyniad hwn i bawb dros nos, ond gwyddom na allwn wneud hynny a'n bod yn wynebu'r angen i flaenoriaethu. Ac fel y gwyddom i gyd, roedd cam cyntaf y broses o gyflwyno'r brechlyn yn galw am frechu'n bennaf yn ôl oedran a gwendid clinigol. Erbyn diwedd cam 1, ymhen tua saith wythnos, byddwn wedi diogelu'r grwpiau lle mae 99 y cant o'r holl farwolaethau wedi digwydd hyd yma. Gwn fod llawer o alwadau wedi bod am flaenoriaethu'r brechlyn ar gyfer grwpiau galwedigaethol penodol yn y cam nesaf, yn enwedig yr heddlu ac athrawon, ond eraill hefyd, fel y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cydnabod. A deallaf y rhesymau pam y mae achos yn cael ei wneud dros frechu'r grwpiau hynny neu weithwyr allweddol eraill. Yn ddiweddar, dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol ac arbenigol:
Mae brechiadau'n atal pobl rhag marw a'r strategaeth bresennol yw blaenoriaethu'r rhai sy'n fwy tebygol o gael canlyniadau difrifol a marw o COVID-19.
Dyna yw prif nod ein rhaglen frechu COVID o hyd. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—y JCVI—wedi adolygu'r dystiolaeth er mwyn deall y cysylltiad rhwng galwedigaeth a risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 a niwed yn sgil hynny, a cheir ffactorau risg penodol ar gyfer mwy o risg o niwed difrifol, ac maent yn cynnwys oedran hŷn, gorgynrychiolaeth o rai cyflyrau iechyd isorweddol mewn rhai mathau o swyddi, amddifadedd economaidd-gymdeithasol, maint aelwydydd ac anallu i weithio gartref. Mae risg alwedigaethol sy'n gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth gyda COVID-19 wedi effeithio'n bennaf, yn y dystiolaeth a ystyriodd JCVI, ar ddynion rhwng 40 a 49 oed, o blith yr holl bobl y tu allan i'r naw grŵp blaenoriaeth presennol. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cyfuniad o ffactorau, nid galwedigaeth yn unig, yn arwain at ganlyniadau gwaeth mewn rhai grwpiau. Dylem atgoffa ein hunain fod y canlyniadau gwaeth hynny'n cynnwys pobl yn marw; rydym wedi gweld lefelau marwolaeth sylweddol hyd yma.
Tynnodd cyngor y JCVI sylw hefyd at y ffaith y byddai darparu rhaglen sy'n targedu grwpiau galwedigaethol yn gymhleth. Mae'r GIG yn gwybod pa mor hen ydych chi, ond nid yw'n debygol o wybod pa swydd rydych chi'n ei gwneud gyda'r un lefel o gywirdeb. Mae'r JCVI wedi dod i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i gynghori pedair Llywodraeth y DU i flaenoriaethu rhai grwpiau galwedigaethol yng ngham nesaf y rhaglen frechu. Nodwyd mai model sy'n seiliedig ar oedran oedd y cyflymaf ar gyfer cyflwyno'r brechlyn a diogelu'r nifer fwyaf o bobl yn y cyfnod byrraf. A'n dealltwriaeth gyffredinol yw bod tua hanner y gweithwyr allweddol nad ydynt wedi cael eu brechu eto yn y grŵp oedran 40 i 49. Mae'n anodd anghytuno'n wrthrychol â rhaglen sydd wedi'i chynllunio i frechu'r nifer fwyaf o bobl yn y cyfnod byrraf er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu diogelu. A'r hyn na ddylem ei anghofio yw bod y JCVI, ar gyfer cam cyntaf y rhaglen, eto wedi cynghori y dylid blaenoriaethu yn seiliedig ar oedran a gwendid clinigol. Mabwysiadwyd y cyngor hwnnw gan bob un o bedair gwlad y DU—pedair Llywodraeth wahanol yn y DU, pedwar Gweinidog iechyd gwahanol, ag iddynt gefndir a theyrngarwch gwleidyddol gwahanol iawn, ond rydym i gyd wedi cytuno ar natur y cyngor a gawn a sut i ddarparu'r effaith fwyaf ar gadw ein poblogaethau'n ddiogel. Ac mae llwyddiant y rhaglen frechu yn anwadadwy ac yn amlwg yn nata Public Health Scotland a Public Health England a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Nawr, rwy'n cydnabod rhai o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn sylwadau. Nid oeddwn yn cytuno'n llwyr â'r modd y cyflwynodd Mr Isherwood ei fersiwn o'r hyn sydd wedi digwydd, oherwydd mewn gwirionedd, mae swyddogion yr heddlu wedi bod ar restrau diwedd dydd ar gyfer darparu brechlyn. Yn wir, rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu mewn rhannau eraill o Gymru sydd wedi nodi bod gan Heddlu Gogledd Cymru niferoedd uwch o bobl wedi eu brechu yn y cyflenwad diwedd dydd hwnnw. Ac rydym wedi egluro'r sefyllfa i'w gwneud yn glir y gall cyflenwad diwedd dydd—i sicrhau nad yw'r brechlyn yn cael ei wastraffu, y gall heddlu a gweithwyr allweddol eraill wrth gwrs gael hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n fater dadleuol nawr. Ac mae—. Bydd Mr Isherwood, wrth gwrs, yn ffurfio'i farn ei hun, ond nid wyf yn credu bod y ffeithiau'n cefnogi ei fersiwn ef o bethau.
Hefyd, mae angen imi wneud y pwynt hwn yn gyffredinol. Nid mater o ofyn i bobl flaenoriaethu rhywfaint yw hyn, oherwydd os ydych yn blaenoriaethu unrhyw grŵp, rydych yn dadflaenoriaethu pobl eraill. Ac mae swyddog heddlu yn eu 20au mewn llai o berygl yn gyffredinol na heddwas yn eu 40au, yn union yr un fath ag athro yn eu 20au, o'u cymharu ag athro yn eu 40au, neu weithiwr swyddfa bost yn eu 20au neu yn eu 40au. Rydym yn ymdrin â'r dystiolaeth ar sut i ddiogelu pobl rhag niwed, a byddai angen tystiolaeth gref a diamheuol arnaf i wyro rhag cyngor y JCVI annibynnol ac arbenigol. Credaf fy mod yn gwneud yr hyn y dylai ac y byddai unrhyw Weinidog iechyd cyfrifol yn ei wneud i gadw eu gwlad yn ddiogel ynghanol pandemig sy'n dal i fod gyda ni: dilyn y dystiolaeth, y wyddoniaeth a'r cyngor iechyd cyhoeddus i achub cynifer o fywydau â phosibl. Dyna'n union y byddaf yn parhau i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda thîm rhagorol o bobl ledled y wlad i helpu i gadw Cymru'n ddiogel a chyflawni'r rhaglen frechu hon cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, felly gofynnaf i Janet Finch-Saunders ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, ac Aelodau, am eich sylwadau yma heddiw. Fel y nodwyd eisoes, bydd y cyngor diweddar gan y JCVI wedi bod yn siomedig i lawer o bobl sydd wedi ymgyrchu dros roi blaenoriaeth i swyddogion yr heddlu, athrawon, staff gofal plant ac eraill, oherwydd y gwaith a wnânt. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd yr ymrwymiad sy'n cael ei ddangos yng Nghymru a ledled y DU i ddarparu'r rhaglen frechu'n gyflym, a'r cynnydd sy'n cael ei wneud i ddiogelu pobl, yn gysur mawr hefyd.
Rwyf am gloi'r ddadl hon drwy longyfarch pawb sy'n rhan o'r rhaglenni hynny am yr ymdrechion anhygoel sydd ar y gweill ar hyn o bryd i frechu ein poblogaeth cyn gynted ag sy'n bosibl. Yn olaf, hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr am ddefnyddio ein proses ddeisebau i dynnu sylw at y materion pwysig hyn? Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r deisebau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, nodwyd y deisebau.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar ddeisebau ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7609 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre:
a) Deiseb P-05-1001 'Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig' a gasglodd 5,348 o lofnodion;
b) Deiseb P-05-1018 'Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol' a gasglodd 11,392 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Unwaith eto, ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i drefnu'r ddadl hon. Fel yr un rydym newydd ei chynnal, mae'r ddadl hon hefyd yn seiliedig ar ddwy ddeiseb. Mae'r rhain yn ymwneud â'r cynnig ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnig adeiladu canolfan newydd ar dir i'r gogledd o'i safle presennol yn yr Eglwys Newydd, gogledd Caerdydd. Byddai'n cymryd lle ei gyfleusterau presennol, sydd wedi bod yn weithredol ers 60 mlynedd. Mae'r ymddiriedolaeth wedi datgan nad oes gan y ganolfan bresennol
gyfleusterau na lle i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o bobl sy'n cael diagnosis o ganser.
Eu bwriad ar gyfer yr adeilad newydd yw darparu cyfleusterau modern i drin mwy o gleifion a helpu pobl i fyw'n hwy gyda chanser. Yn amodol ar gymeradwyaeth a chyllid, disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2022 a bydd y ganolfan newydd yn weithredol o 2024. Nawr, mae'r cynlluniau wedi wynebu gwrthwynebiad a chefnogaeth sylweddol yn lleol. Derbyniwyd deisebau'n mynegi'r ddau safbwynt. Felly, fe amlinellaf fanylion y ddwy yn fyr yn awr.
Cyflwynwyd y ddeiseb gyntaf gan Amelia Thomas ar ran Ymgyrch Achub y Dolydd Gogleddol. Casglodd 5,348 o lofnodion ac mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer Canolfan Ganser newydd arfaethedig Felindre. Mae'r grŵp y tu ôl i'r ddeiseb hon wedi mynegi nifer o bryderon ynglŷn â'r cynigion. Wrth agor y ddadl hon, nid oes gennyf amser i gyfeirio at bob un ohonynt, ond gellir eu crynhoi'n ddwy brif elfen, ac mae'r ddwy ohonynt yn ymwneud â lleoliad arfaethedig y ganolfan.
Yr elfen gyntaf sy'n peri pryder i'r deisebwyr yw colli man gwyrdd a adwaenir yn lleol fel y dolydd gogleddol. Dyma lle mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cynnig adeiladu'r ganolfan ganser newydd, yn agos at eu safle presennol. Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro sy'n berchen ar y tir ac mae cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio amlinellol o'r blaen ar gyfer tai ar y safle. Mae'r deisebwyr yn mynegi pryder ynglŷn â cholli mannau gwyrdd am resymau ecolegol ac amgylcheddol, yn ogystal ag mewn perthynas â'r effeithiau ar drigolion lleol. Maent hefyd wedi nodi pryderon ynglŷn â llifogydd.
Mae'r ail brif bryder yn ymwneud ag ai safle pwrpasol yw'r model cywir ar gyfer gwasanaethau canser yn y dyfodol. Mae'r deisebwyr, yn ogystal â rhai clinigwyr, wedi dadlau y byddai'r ganolfan yn well o'i chydleoli ar safle ysbyty acíwt. Maent yn tynnu sylw at ddatblygiad parhaus triniaethau canser cymhleth, y dywedant eu bod yn golygu bod cydleoli yn fodel hirdymor mwy addas, gyda thriniaethau anlawfeddygol yn cael eu darparu yn yr un lleoliad â gofal acíwt a llawdriniaethau. Yn y pen draw, mae'r deisebwyr wedi galw am i'r cynnig fod yn destun adolygiad clinigol annibynnol cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cefnogi'r achos busnes dros y ganolfan newydd.
Rwy'n symud yn awr at yr ail ddeiseb. Mae hon yn cefnogi'r cynigion ar gyfer y ganolfan newydd ac fe'i cyflwynwyd mewn ymateb i'r ddeiseb gyntaf. Mae'n galw ar y Llywodraeth i gefnogi'r cynlluniau i adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, ac fe'i cyflwynwyd gan Natasha Hamilton-Ash gyda chyfanswm o 11,392 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at y manteision y bydd ysbyty newydd yn eu cynnig i gleifion, gan ddweud bod ei angen ar frys i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau. Maent yn dadlau y bydd mewn lleoliad haws ei gyrraedd ar gyfer y mwyafrif llethol o gleifion, yn ogystal â gallu darparu gwasanaethau addas i'r diben i nifer gynyddol o gleifion mewn cyfleuster modern. Maent wedi dadlau y bydd y lleoliad arfaethedig, mewn man gwyrdd gyda gwell mynediad, yn ffactor cadarnhaol ac y bydd yn helpu cleifion i wella, oherwydd y lleoliad naturiol a'r bensaernïaeth iachaol.
Yn gyffredinol, y brif farn a fynegwyd yn gryf gan y rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon yw'r angen am ganolfan newydd cyn gynted â phosibl, gan dynnu sylw at gyfleusterau a maint annigonol y safle presennol. Mae'r deisebwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynlluniau presennol a chefnogi Ymddiriedolaeth GIG Felindre i adeiladu'r ganolfan cyn gynted â phosibl.
Nawr, ceir llawer mwy o fanylion yn sail i'r ddwy ddeiseb, ond mae'r amser sydd ar gael inni yn mynnu y dylwn dynnu'r sylwadau agoriadol hyn i ben yn awr. Rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau eraill bwyntiau y maent am eu gwneud am ddwy ochr y ddadl hon. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw am y sefyllfa bresennol yn ei ymateb i'r ddadl. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn ymwybodol fod cyfyngiadau'n ei atal rhag cynnig barn ehangach ar y datblygiad, o ystyried ei rôl yn gwneud penderfyniadau terfynol ar y cynnig hwn. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddai pawb sy'n gysylltiedig â hyn yn croesawu unrhyw wybodaeth neu eglurder pellach ynglŷn â pha bryd a sut y gwneir y penderfyniadau hynny. Diolch.
Rwy'n edrych ar adroddiad Nuffield sy'n ymwneud â'r ddwy ddeiseb sy'n gwrthdaro, ac mae'n ei gwneud yn glir na allwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn mewn adeilad ysbyty sy'n llawer rhy hen i'r diben. Os ydym am wella cyfraddau goroesi canser ar gyfer poblogaeth de-ddwyrain Cymru, mae gwir raid inni symud pethau yn eu blaenau yn awr, ac ni allwn barhau i ohirio penderfyniadau.
Rhaid iddo fod—. Rhaid i ailddatblygu fod yn gyfrwng ar gyfer ail-lunio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion cleifion yn well, gan gynnwys cael eu trin yn nes at adref, ond gan barhau i ganolbwyntio'r arbenigedd hwnnw mewn canolfan Felindre. Mae rheswm pam y mae Felindre'n ymddiriedolaeth annibynnol. Nid yw'n rhan o fwrdd iechyd, oherwydd rhaid iddi gael diwylliant sy'n hollol wahanol. Mae'r gair 'canser' yn unig yn achosi arswyd ym meddyliau llawer o bobl, felly un o'r pethau pwysicaf y mae Felindre yn ei wneud yw rhoi tawelwch meddwl i gleifion nad dedfryd marwolaeth yw canser yn y rhan fwyaf o achosion. Ond nid proses fecanyddol yw trin canser, ac mae agwedd gadarnhaol a ffocws ar ansawdd bywyd yn rhan hanfodol o'r driniaeth a'r broses ofal. Ac mae angen cefnogi cleifion a'u teuluoedd gyda'r penderfyniad sy'n iawn iddynt hwy yn eu hamgylchiadau hwy.
Felly, nid gwasanaeth i Gaerdydd yn unig yw hwn ond gwasanaeth i dde-ddwyrain Cymru yn gyfan. Ac er bod y rhan fwyaf o'i wasanaethau naill ai'n gemotherapi symudol, y gellir, ac a gaiff yn ôl yr hyn a ddeallaf, ei ddarparu mewn mannau eraill, mae ei wasanaethau radiotherapi, ar hyn o bryd, yn cael eu darparu yn Felindre, oherwydd bod y gost o adeiladu'r cyflymyddion llinellol hyn—fe'u gelwir yn LINACs, mae'n debyg—yn fuddsoddiad cyfalaf enfawr, yn ddrud iawn ac mae'n rhaid ei adeiladu mewn byncer concrid enfawr. Felly, hyd yn hyn, mae'r holl LINACs hyn wedi bod yn Felindre. Ond nodaf fod cynllun newydd Felindre'n cynnwys un LINAC yn Nevill Hall, ac wrth gwrs mae hynny'n bwysig iawn i gleifion, oherwydd mae'n lleihau'r baich teithio i gleifion a'u gofalwyr, a phan fyddwch yn sâl, mae hynny'n bwysig iawn. Ac mae hefyd yn rhan o'n hymdrech i fynd i'r afael â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal.
Yn amlwg, mae'n bwysig iawn na ddylai hyn gael ei lyncu gan unrhyw ysbyty cyffredinol, ac i mi, mae'r syniad o adeiladu ar safle'r Mynydd Bychan ar hyn o bryd yn ymddangos yn gwbl amhosibl. Mae safle'r Mynydd Bychan yn anhygoel o brysur. Tan yn ddiweddar, câi ei ddefnyddio fel llwybr osgoi traffig i gymudwyr, ac mae adroddiad Nuffield yn gwbl glir nad yw hwn yn opsiwn ar hyn o bryd. Pan fydd gennym Ysbyty Athrofaol newydd yng Nghymru, efallai y gallech weld rhyw fath o ymgorfforiad ar yr un safle, ond ni all cydleoli olygu amsugno. Felly, mae'n ymddangos i mi, os yw Prifysgol Caerdydd am adeiladu canolfan ymchwil canser newydd, nid wyf yn deall pam nad ydynt yn ystyried ei chydleoli gyda Felindre, rhywbeth nad yw'n bosibl ei wneud ar safle'r Mynydd Bychan ar hyn o bryd. Ni allwch ddarparu canolfan newydd Felindre tra byddwch hefyd yn darparu gofal cleifion i bobl sâl, felly mae'n ymddangos i mi fod cau ysbyty'r Eglwys Newydd yn gyfle euraid i adeiladu nôl yn well ar ffurf canolfan ragoriaeth sy'n sensitif i'r amgylchedd yn unol â rhai o'r pwyntiau a wnaed—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—gan y deisebwyr. Felly, nid wyf yn credu y bydd y drafodaeth hon yn cael ei datrys heddiw, ond mae angen ei datrys yn weddol fuan, mae llawer o arian ynghlwm wrth hyn ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ei gael yn iawn.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Mae'n un anarferol gan ei bod yn dwyn ynghyd dwy ddeiseb sy'n gwrth-ddweud ei gilydd, dwy farn wrthgyferbyniol ar yr un mater. Ac mae'n fater pwysig iawn, dyfodol gwasanaethau canser yn ne-ddwyrain Cymru, a beth bynnag fo'r materion penodol sydd ar waith yma, waeth pa mor gryf yw'r farn am nifer o wahanol agweddau ar hyn, mae ansawdd y gwasanaethau canser hynny o'r pwys mwyaf.
Gwasanaethais ar y Pwyllgor Deisebau am gyfnod, ond mae hynny beth amser yn ôl, felly nid wyf wedi cael unrhyw ymwneud uniongyrchol â'r deisebau hyn fel y cyfryw, ond dros y misoedd diwethaf, yn fy rôl fel Gweinidog iechyd a gofal yr wrthblaid ar ran Plaid Cymru, rwyf wedi cael fy lobïo gan ddwy ochr y ddadl, rwyf wedi siarad â phobl, wedi gwrando ar ddadleuon gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynnig sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, ac rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr clinigol ac uwch reolwyr yn Felindre. Byddwn i'n dweud fy mod wedi ceisio dysgu cymaint ag y gallaf am y materion sydd yn y fantol yma.
Felly i ba gasgliad y deuthum iddo? Rwyf eisoes wedi nodi fy marn, mewn gwirionedd, mewn gohebiaeth â nifer o bobl sydd wedi cysylltu â mi yn y cyfnod cyn y ddadl hon, ond yn gyntaf, rwyf am nodi beth nad wyf am wneud sylwadau yn ei gylch: nodaf yr ymgyrch yn lleol ar y cynnig i ddatblygu ar y darn hwnnw o dir a elwir yn ddolydd gogleddol, ond yn fy rôl iechyd a gofal, nid wyf yn credu mai fy lle i yw gwneud sylwadau ar y mater cynllunio, os mynnwch, a'r effaith ar amwynder lleol a'r math hwnnw o beth; materion i'r boblogaeth leol yw'r rheini. Rwyf hefyd wedi nodi gwahanol ddadleuon amgylcheddol cysylltiedig a gyflwynwyd. Unwaith eto, deallaf fod y rheini'n bwysig iawn i lawer o bobl, ond nid ydynt yn rhai y dylwn i wneud sylwadau arnynt mewn gwirionedd.
Felly, mae fy niddordeb yma yn nyfodol gwasanaethau canser a sicrhau bod y gwasanaethau gorau posibl yn cael eu datblygu, y canlyniadau gorau posibl yn cael eu ceisio, a'u cydbwyso â pha mor gyflym y gellir cyflawni gwelliannau, ac rwy'n sicr yn gobeithio y gall pawb gytuno mai dyna sydd bwysicaf yma.
Mae'r gwasanaethau a ddarperir yn Felindre a gwaith y staff, eu hymroddiad a'u sgiliau, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac yn sicr nid wyf am eiliad yn amau cred arweinwyr clinigol yn Felindre fod y cynllun sydd ganddynt ar y bwrdd yn un cadarn, ei fod yn rhan o'r hyn a allai drawsnewid gwasanaethau canser yn y rhanbarth. Rwyf wedi siarad â hwy am y cynlluniau; ni fyddent yn cefnogi cynlluniau nad oeddent yn credu y byddent yn gweithio, ac maent yn bobl sydd wedi rhoi eu bywydau proffesiynol i ymladd canser, ac yn bobl rwy'n eu parchu'n fawr.
Ar yr un pryd, rwyf hefyd wedi clywed a darllen digon o bryderon ac wedi cael digon o ohebiaeth gan bobl—gan gynnwys clinigwyr a gweithwyr iechyd, yn y gorffennol a'r presennol—i ddeall bod pryderon gwirioneddol ynglŷn â'r dewis o fodel clinigol, fod achosion angerddol yn cael eu gwneud mewn perthynas â'r ddadl honno rydym wedi'i chlywed yn cael ei hamlinellu am ddarpariaeth bwrpasol yn erbyn cydleoli gyda gwasanaethau acíwt. Codwyd amheuon ynghylch gwahanol rannau o'r broses a ddilynwyd, ynglŷn â thryloywder ar nifer o adegau yn y broses, ynghylch elfennau o'r ffordd y mae'r cynnig wedi'i ariannu, ac o'u cymryd gyda'i gilydd, credaf fod yr anghydweld sylfaenol ar strategaeth ar un lefel a drwgdybiaeth ar lefel arall yn niweidiol i'r uchelgais cyffredinol rwyf am i bawb ei gefnogi, fel y dywedais, os yw hynny'n bosibl. Yn y cyd-destun hwnnw, credaf o ddifrif y dylai'r Llywodraeth gamu i mewn i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu hymchwilio'n gyflym iawn, mewn ffordd y gwelir ei bod yn wirioneddol annibynnol, a dylid gwneud hynny'n ddi-oed, fel y dywedais.
Mae canser yn cyffwrdd â phawb ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau canser y gorau y gallant fod o fudd i bawb ble bynnag yr ydym yng Nghymru. Yr hyn rwyf am ei weld yma yw prosiect sy'n rhoi gwasanaethau Felindre ar sylfaen gadarnach ar gyfer y dyfodol yn cael ei gyflymu, ac yn bendant nid ei arafu.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ni allaf wneud cyfiawnder yn y ddadl hon â'r nifer fawr o negeseuon twymgalon i gefnogi cynigion Felindre o bob rhan o fy etholaeth, ond credaf y gallai un llythyr gan Richard Case yn Llanharan helpu. Mae Richard yn ysgrifennu fel hyn:
Fel gyda'r mwyafrif o bobl yn ne-ddwyrain Cymru, mae gan Ganolfan Ganser Felindre le arbennig iawn yn fy nghalon. Treuliais lawer gormod o amser yn eu hadeiladau tra'n cefnogi fy ngwraig a dreuliodd flwyddyn yn cael triniaeth ar gyfer canser y fron,
a hefyd am y radiotherapi a gafodd Cian, ei fab annwyl iawn.
Fodd bynnag, fe wnaeth y staff anhygoel, yn ogystal â'r dechnoleg ddiweddaraf, wella fy ngwraig a galluogi Cian i gael dwy flynedd arall gyda ni. Nid yw'n swnio'n llawer, ond estynnodd ei ddisgwyliad oes o draean a sicrhau y gallem fwynhau'r atgofion anhygoel a adawodd ar ei ôl yn ystod y cyfnod hwnnw—atgofion a fydd bob amser yn cael eu trysori gan y rhai ohonom a adawodd ar ôl.
Mae safle presennol Felindre wedi tyfu'n fwy na gallu ei leoliad presennol i'w gynnal. Mae taer angen mwy o le a moderneiddio pellach. Er ei bod yn ganolfan gwbl weithredol gyda chanlyniadau rhagorol, nid dyma'r olygfa fwyaf croesawgar o ran ei hamgylchedd, ac mae mynediad i'r safle o ran cysylltiadau trafnidiaeth a chyflymder y traffig sy'n mynd drwy bentref yr Eglwys Newydd yn aml yn gwneud y daith yn anghyfleus ac yn straen i bobl Ogwr sydd angen triniaeth.
Felly, nid yw adeiladu canolfan newydd ar dir presennol neu ar leoliad tir llwyd fel Ysbyty'r Eglwys Newydd yn ymarferol. Byddai angen cynlluniau cyfaddawdol i geisio gosod gwasanaethau ar safle sydd eisoes yn anaddas i'r diben. Mae'r safle sy'n eiddo i Felindre ac sydd wedi'i argymell ar gyfer y datblygiad yn ddelfrydol ar gyfer anghenion y gwasanaethau hanfodol y bydd yn eu cartrefu. Nid wyf am weld rhagor o fannau gwyrdd yn cael eu datblygu lle nad oes angen, ond o edrych ar y cynlluniau, mae'n ymddangos bod pob ystyriaeth ecolegol wedi cael sylw, a bydd yn gwneud y mannau gwyrdd sy'n weddill yn fwy ymarferol a gweithredol ar gyfer y gymuned.
Yr opsiwn arall a grybwyllwyd fyddai cynnwys Felindre fel rhan o safle GIG acíwt a allai gynnig gwasanaethau iechyd ychwanegol, a mynediad at wasanaethau a darpariaethau brys. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hwn yn opsiwn synhwyrol gan fod cyfran fawr o bobl sy'n cael gofal oncoleg yn derbyn triniaeth imiwnoataliol neu ag imiwnedd gwan. Mae'n bosibl y gallai cael y cleifion hyn yn cymysgu â chleifion eraill sydd â chlefydau trosglwyddadwy fod yn broblem fawr.
Cawsom broblemau ac ystyriaethau tebyg gyda Cian, ac yn ogystal ag ystyriaethau iechyd, mae gwir angen moderneiddio safle Ysbyty Athrofaol Cymru hefyd, mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn ofnadwy ac nid oes lle yno. Felly, ni all ddarparu ar gyfer unrhyw wasanaethau pellach, a phe penderfynid creu safle acíwt newydd, byddai hynny'n cymryd cryn dipyn o amser i'w gyflawni ac mae'n siŵr y byddai'n creu pryderon tebyg os nad rhai mwy, yn debyg i'r rhai sydd gan y bobl sy'n protestio yn erbyn safle Felindre. Nid oes rhagor o amser i'w gael. Rhaid rhoi diwedd ar ohirio, a darparu gwasanaethau.
Lywydd, gallwn fod wedi defnyddio geiriau Lindsey o Faesteg neu Heather o Gilfach Goch neu Jean o Sarn neu rai cynifer o bobl eraill o Bencoed a Chefn Cribwr a Blaengarw ac ar draws Ogwr sydd wedi ysgrifennu ataf gyda'u straeon personol yn mynegi eu cefnogaeth gref i gynnig Felindre. Ond rwy'n credu bod Richard wedi siarad yn dda dros bawb a ysgrifennodd ataf, a gofynnaf i bawb sy'n cymryd rhan yn y ddadl heddiw barchu'r safbwyntiau hynny a phawb fydd yn gorfod gwneud penderfyniad yn y pen draw ar y prosiect hwn wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n siarad heddiw mewn dadl sydd wedi ennyn llawer o ddiddordeb a llawer o angerdd ar y ddwy ochr. Mae'r deisebau ger ein bron yn dystiolaeth o hyn, ac mae ychydig dros 17,000 o bobl i gyd wedi'u llofnodi, ac mae nifer fawr o unigolion a grwpiau wedi cysylltu ag Aelodau i gyflwyno eu hachos. Fodd bynnag, o edrych ar bobl yn fy etholaeth i, mae'r duedd yn fawr iawn tuag at gefnogi deiseb P-05-1018, sy'n cefnogi'r cynlluniau presennol. Llofnododd llawer mwy o fy etholwyr y ddeiseb hon, yn hytrach na'r llall. Yn wir, roedd bron i 12 gwaith cymaint yn cefnogi'r cynlluniau presennol.
Yn ogystal, mae fy mag post ar y mater hwn gan etholwyr wedi bod yn unochrog dros ben. Nid yw'n fy synnu, gan fod Felindre yn rhan bwysig o fywydau ac atgofion llawer gormod o fy etholwyr. Mae'n fan lle mae bywydau'n cael eu hachub, lle mae ein staff GIG gweithgar yn ymroi i ddarparu triniaeth a chymorth i bobl sy'n brwydro yn erbyn canser, man sy'n cynnig gobaith. Ysgrifennodd un etholwr am yr ysbyty llawn gobaith a gwirioneddau caled. A gan ein bod yn sôn am ddadl a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Pwyllgor Deisebau, mae'n gwneud synnwyr i archwilio eu barn.
Mae etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn glir eu cefnogaeth i'r prosiect o ran ei botensial i wella diagnosis, triniaeth a chanlyniadau, i ddarparu adeilad newydd sy'n addas at y diben, ac i wneud hynny o fewn amserlen dderbyniol, ar gyfer cyfleuster arbenigol sy'n darparu cymorth canser i'r un o bob dau ohonom a fydd yn datblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau. Ac mae'n gwneud hynny mewn lleoliad cyfleus sy'n lleihau'r pwysau ar bobl sy'n gorfod teithio o'r Cymoedd, fel fy etholwyr i.
Roeddwn yn ffodus i ymweld â'r cyfleuster presennol ychydig flynyddoedd yn ôl gyda'r AS dros Islwyn ac er fy mod yn cydnabod yr enw rhagorol sydd gan yr ysbyty, mae'r angen am gyfleuster newydd a all ddiwallu anghenion cleifion heddiw yn glir. Mae gennyf gydymdeimlad â phryderon y rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau. Gwnaed pwyntiau sy'n rhaid inni eu hystyried yn gydymdeimladol am fynediad, darpariaeth a phwysigrwydd y dolydd gogleddol, ond credaf eu bod yn cael eu hateb yn llawn gan y ffordd y mae'r amgylchedd yn rhan mor bwysig o'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae hwn yn bwynt a wnaed yn argyhoeddiadol gan awduron P-05-1018, gydag awydd am bensaernïaeth iachaol sy'n cyfuno gofal meddygol â natur. Yn wir, dywedir wrthyf y bydd 60 y cant o'r mannau gwyrdd yn cael eu cadw i'w defnyddio gan gleifion canser a thrigolion lleol. Mae angen inni wella canlyniadau i bobl y mae canser yn cyffwrdd â'u bywydau. I bobl yn fy etholaeth i, mae'r cynlluniau presennol yn ymyrraeth o'r fath sydd ei hangen yn daer, ac rwy'n hapus i'w cefnogi heddiw. Diolch.
Lywydd, y tro diwethaf imi siarad ar fater fel hwn oedd i gadw'r adran damweiniau ac achosion brys ar agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Roedd yr ymgyrch honno'n llwyddiannus. Heddiw, rwy'n siarad o blaid cefnogi agor ysbyty sydd ei angen yn ddybryd. Ond a gaf fi ddechrau drwy fynegi fy nghefnogaeth i'r gwaith gwych y mae Felindre wedi'i wneud yn gofalu am gynifer o fy etholwyr dros y blynyddoedd, ac am garedigrwydd a phroffesiynoldeb y staff? Ac rwy'n deall y gall fod teimladau cryf ar faterion yn ymwneud â lleoliad a model, ond rwy'n siarad heddiw'n unswydd ar ran fy etholwyr yn ardal Pontypridd a Thaf Elái, ac rwy'n gwybod bod y teimladau hyn yn cael eu hadlewyrchu'n helaeth ar draws Rhondda Cynon Taf.
Rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan etholwyr sy'n gleifion, yn aelodau teuluol, yn staff a chlinigwyr yn Felindre. Mae pob un ohonynt wedi galw arnaf i annog cefnogaeth—a rhywfaint ohono'n eithaf emosiynol, fel y clywsom gan Huw Irranca—i ysbyty newydd Felindre ac iddo fynd yn ei flaen cyn gynted â phosibl, a rhoi diwedd ar yr oedi diddiwedd. Nid prosiect i Gaerdydd yn unig yw hwn, ond i dde Cymru gyfan, ac mae'n hanfodol bwysig i les fy etholwyr. Mae eu neges i mi'n glir, felly fe'i rhoddaf i'r Senedd hon ar eu rhan.
Maent yn dweud wrthyf fod yr oedi wedi mynd rhagddo'n ddigon hir. Maent yn dweud wrthyf na allant aros i'r cyfleuster newydd fynd yn ei flaen. Lywydd, maent yn dweud wrthyf fod yr amser ar gyfer oedi ar ben. Mae fy etholwyr am inni fwrw ymlaen â'r ysbyty newydd hwn, inni gael y cyfleusterau canser ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain rydym eu hangen ac yn eu haeddu, ac i lawer ohonynt, mae'n fater o fywyd a marwolaeth. A dylem fanteisio ar y cyfle i fwrw ymlaen yn awr. Credaf fy mod yn siarad am fwyafrif llethol fy etholwyr. Diolch, Lywydd.
Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei waith yn ystyried y deisebau hyn ac am eu cyflwyno i'w trafod heddiw. Er bod y deisebau'n amlwg yn gwrthdaro, gwn y bydd pob un ohonom yn cydnabod natur ddilys y pryderon sy'n cael eu codi, a'r angerdd dealladwy sy'n sail iddynt. Rydym i gyd am weld pobl y mae canser yn effeithio arnynt yn cael y gofal a'r canlyniadau gorau posibl. Mae'r angen am ysbyty canser newydd yn ne-ddwyrain Cymru i wasanaethu cymuned ehangach wedi ei gydnabod yn eang ac mae gan y Llywodraeth ymrwymiad maniffesto i helpu i ddarparu un. Felly, nid oes amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd gwella canlyniadau canser a'r angen i hyn gynnwys canolfan ganser newydd. Yr hyn sydd dan sylw yw pa ran y mae ysbyty canser newydd yn ei chwarae yn cyflawni'r canlyniadau gwell hynny a lle sydd orau i'w leoli er mwyn cyflawni'r cyfraniad hwnnw.
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r corff statudol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau oncoleg anlawfeddygol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre gyda'i byrddau iechyd comisiynu. Bu'n broses hir a chymhleth a alwai am lawer iawn o waith gan bawb a oedd yn gysylltiedig â hi. Mae hynny'n dod at benderfyniad terfynol yn awr. Rôl Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yw asesu cryfder yr achos a wneir drwy ein proses graffu ffurfiol, a gwneud penderfyniad ynglŷn â chymeradwyo ac ariannu. Yn y pen draw, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad hwnnw ar sail y dadansoddiad a'r argymhellion a wnaed gan ein swyddogion a'u cynghorwyr, a fydd wedi craffu'n fanwl iawn ar y gwaith a wnaed gan Felindre a'r cyngor a ddarperir gan Nuffield ac eraill. Mae'r broses graffu honno bellach wedi'i chwblhau, ac rwy'n disgwyl ystyried y cyngor yn ddiweddarach yr wythnos hon. Felly, ni allaf wneud sylw penodol am y materion a godwyd yn y deisebau, gan y gallai hyn amharu ar unrhyw benderfyniadau sydd i'w gwneud yn y dyddiau nesaf ar yr achosion busnes sydd gerbron Gweinidogion Cymru wrth gwrs.
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod yn deall y diddordeb yn y cynlluniau a'r pryderon a fynegir gan y ddwy ddeiseb. Byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol iddynt wrth wneud penderfyniad, ac wrth gwrs, pan fydd y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud, fe gaiff ei gyhoeddi. Diolch, Lywydd.
Janet Finch-Saunders, y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, ac i'r Gweinidog am ei ymateb, er ei fod yn nodi bod ganddo fuddiant rhagfarnus. Roeddwn yn dal yn ddiolchgar am y wybodaeth a gyflwynodd. Wrth gloi, serch hynny, mae'n destun gofid fod mater mor bwysig wedi dod yn un mor ymrannol yn yr ardal leol a thu hwnt. Rydym i gyd yn deall bod hwn yn fater emosiynol iawn i bawb, ac yn sicr mae'r sylwadau hyfryd sydd wedi'u gwneud am yr ysbyty yn ei gyfanrwydd wedi bod yn galonogol iawn i wrando arnynt. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn dangos y bydd y penderfyniad cywir yn cael ei wneud yn y pen draw, ac y gall dwy ochr y ddadl ddod at ei gilydd. Mae'n amlwg fod safbwyntiau cryf ar y ddwy ochr. Gwn y bydd y bobl sydd wedi cefnogi'r ddwy ddeiseb, yn ogystal â'r Pwyllgor Deisebau ei hun, yn aros am benderfyniadau pellach gyda diddordeb. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r deisebau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld nac yn clywed gwrthwynebiad i hynny, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Mark Isherwood. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Mae'r ddadl nesaf gan grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, a'r ddadl honno ar fuddsoddi mewn ysgolion. Dwi'n galw ar Caroline Jones i gyflwyno'r cynnig. Caroline Jones.
Cynnig NDM7606 Caroline Jones
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y diffyg buddsoddi mewn seilwaith ysgolion dros y degawdau diwethaf wedi golygu nad yw llawer o ysgolion yn addas at y diben.
2. Yn croesawu buddsoddiadau diweddar fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond yn gresynu at y ffaith bod awdurdodau lleol yn eu defnyddio fel cyfrwng i uno ysgolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar greu ysgolion mawr iawn sy'n niweidiol i brofiad dysgu pobl ifanc;
b) sicrhau nad yw awdurdodau addysg lleol yn defnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion cymunedol; ac
c) cyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i sicrhau nad oes rhaid i ddisgyblion ysgol deithio mwy na 15 munud mewn car neu ar gludiant cyhoeddus i fynychu eu hysgol agosaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. O oedran ifanc, dysgais wers werthfawr—nad yw mwy bob amser yn well. Efallai fy mod yn 12 oed pan gafodd fy ysgol gymunedol fach ei huno ag un lawer mwy o faint. Collasom y berthynas bersonol gyda'n hathrawon, a dod yn wyneb arall yn y môr o wynebau. Diolch byth, yn ôl bryd hynny, roedd uno o'r fath yn ddigwyddiad prin, a châi ysgolion cymunedol barhau i gynnig addysgu personol o safon. Yn anffodus, methodd Llywodraethau olynol o bob lliw gwleidyddol fuddsoddi yn yr ysgolion hynny, gan ganiatáu i lawer gormod ohonynt ddadfeilio. Er ein bod yn croesawu'r buddsoddiad diweddar drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, nid yw'n ddigon, ac mae'n rhy hwyr i lawer o'r ysgolion cymunedol a orfodwyd i gau nid am eu bod yn cynnig addysg wael—ddim o gwbl—ond am ei bod yn fwy costeffeithiol eu cau a throsglwyddo eu disgyblion i ysgol fawr.
Yn fy rhanbarth i, aeth cyngor Castell-nedd Port Talbot ati, gyda'u rhaglen strategol gwella ysgolion, sy'n deitl chwerthinllyd, i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan ac ysgolion cynradd yng nghwm Afan i greu ysgol gydaddysgol newydd i 1,200 o ddisgyblion rhwng tair ac 16 oed. Aeth y cyngor yn groes i ddymuniadau disgyblion, rhieni a swyddogion etholedig. Ymladdodd y Cynghorwyr Scott Jones, Ralph Thomas a Nicola-Jayne Davies yn galed dros eu cymunedau. Aeth rhieni â'r cyngor i'r Uchel Lys hyd yn oed, a gwrthodwyd eu hachos, nid am nad oedd iddo unrhyw rinwedd, ond am fod y barnwyr wedi dyfarnu nad adolygiad barnwrol oedd y ffordd briodol o orfodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nid yw uno ysgolion fel hyn yn ymwneud â gwella addysg pobl ifanc; yn anad dim, maent yn ymwneud ag arbed arian. Caniatawyd i awdurdodau lleol rwygo'r galon o lawer o gymunedau er mwyn diogelu cyllidebau ac i atal gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o waith atgyweirio rhag cronni. Mae'r ysgolion mawr hyn fel arfer yn bell o lawer o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan orfodi disgyblion i gymudo am amser maith. Nid yw'n anarferol i ddisgyblion wynebu dwy awr o deithio bob dydd. Mae hyn yn niweidiol i les pobl ifanc a gall effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol, ac mae hefyd yn gorfodi disgyblion i roi'r gorau i deithio llesol. Os yw'n cymryd awr mewn car neu fws, sut y gellid disgwyl i bobl ifanc gerdded neu feicio? Ac rydym mewn argyfwng hinsawdd, ond unwaith eto, rydym yn rhoi economeg o flaen yr amgylchedd. Er mwyn arbed costau, rydym yn gorfodi mwy a mwy o bobl ifanc i ddibynnu ar gludiant cerbydau, yn hytrach na theithio llesol sy'n ystyriol o'r blaned. Pa neges y mae hynny'n ei rhoi i genedlaethau'r dyfodol?
Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau a gyflwynwyd ac i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn.
[Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i'n siarad ffwl-pelt, ond roeddwn i ar miwt ar y pwynt yna. Felly, jest i ddweud bod yna ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg, felly, yn ffurfiol i gynnig gwelliant 1.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.
2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.
3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.
4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;
b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;
c) yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a
d) yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch. Fe wnaethoch i mi boeni braidd am funud, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Dwi'n galw ar Suzy Davies, felly, nawr, i gyflwyno gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood.
Gwelliant 2—Mark Isherwood
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar danariannu disgyblion yng Nghymru;
b) darparu cyllid teg i awdurdodau lleol i ddiogelu ysgolion gwledig;
c) cyflwyno prosiectau yng ngham B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif i ddechrau ailadeiladu Cymru;
d) sicrhau bod pob ysgol newydd yn cael ei chynllunio mewn ffordd sy'n ymwybodol o anabledd;
e) gwrthsefyll creu ysgolion mawr iawn a sicrhau nad oes unrhyw ysgol yn cael ei chau yn erbyn dymuniadau'r gymuned;
f) sicrhau na all awdurdodau addysg lleol ddefnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion lleol; a
g) cynnal archwiliad ledled Cymru o gyflwr yr ystâd bresennol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Nid fûm erioed mewn ysgol a gafodd ei huno, fel Caroline Jones, ond bûm mewn rhai a gafodd eu llosgi, ac mae hynny'n sicr yn ffordd o gael ysgol newydd—nid fy mod yn ei hargymell, wrth gwrs.
A gaf fi ddiolch i grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio am gyflwyno'r ddadl heddiw? Fel y gwelwch o'n gwelliant ein hunain, rydym yn cytuno â chryn dipyn o'r cynnig, ac mewn gwirionedd, dim ond 3(c) o'r cynnig sy'n peri trafferth i ni. Rwyf am ddweud o'r cychwyn ein bod yn gefnogol iawn i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond mae gennym ni, fel y grŵp hwn, rai cwestiynau ynglŷn â'r modd y caiff ei gweithredu mewn rhai achosion. Hoffwn ddweud fy mod yn credu bod y gofyniad na ddylai disgyblion deithio mwy na 15 munud yn freuddwyd gwrach mewn rhannau o'r Gymru wledig heddiw, heb sôn am y dyfodol. Ond rwy'n credu y dylem edrych ar y profiad hwnnw i sicrhau nad yw ei anfanteision yn cael eu hailadrodd mewn ardaloedd mwy poblog.
Rwyf finnau'n rhannu drwgdybiaeth Caroline ynglŷn â sut y gellir defnyddio ceisiadau i'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain fel ymateb i gyllid cynnal a chadw annigonol i gynghorau, a hyd yn oed agendâu eraill, megis starfio darpariaeth chweched dosbarth. Gwelsom rywbeth tebyg i hynny gyda Sant Joseff ym Mhort Talbot—ysgol ffydd a oedd wedi cadw ei chweched dosbarth mewn bwrdeistref lle câi'r holl addysg Saesneg ôl-16 arall ei darparu mewn colegau addysg bellach.
Mae cymunedau a'u hanghenion yn newid oherwydd datblygiadau preswyl a'r ymgyrch dros fwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, felly mae angen ysgolion newydd wedi'u lleoli'n strategol, ond mae hynny'n effeithio ar gyllidebau awdurdodau lleol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, ceir temtasiwn i adael i rannau mwy anodd o'r ystâd bydru'n araf, sy'n golygu lleihau costau cynnal a chadw, oherwydd mae ased cyfalaf newydd a ariennir yn rhannol yn swnio fel tipyn o wobr. Ac yna, yn ail, gall 22 awdurdod lleol sy'n ceisio cynllunio ar gyfer eu hôl troed eu hunain, ni waeth beth fo'r ymdrechion i gydweithio, ysgogi ymddygiad andwyol ac atal penderfyniadau mwy strategol ac effeithlon. Rwy'n meddwl yn benodol eto am gwm Afan, lle'r arweiniodd ad-drefnu at greu ysgol gynradd o 400 o ddisgyblion, a hynny heb fod mewn adeilad newydd hyd yn oed.
Nid oes amheuaeth y gall adeilad modern sydd wedi'i gynllunio'n dda gynorthwyo dysgu. Mae'n ddigon posibl y bydd dysgu cyfunol yn ystyriaeth ar gyfer cynllunio yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i chi allu fforddio'r athrawon hefyd. Bydd yr Aelodau wedi clywed y Ceidwadwyr Cymreig yn galw droeon ar y Llywodraeth i wynebu'r her o ddiwygio cyllid. Gan fynd yn ôl at gynllunio a phwynt (d) ein gwelliant, rwy'n sylweddoli y dylai hygyrchedd fod yn rhan o gynllunio eisoes, ond tybed a yw rhai o'r atria gyda'r nenfydau uchel a welwn yn yr ysgolion newydd hyn mor wych â hynny i blant byddar. Ar bwynt gwahanol, darpariaeth toiledau—faint o feddwl a roddir i breifatrwydd ac urddas a nifer yr unedau, yn enwedig i ferched? 'Na' mawr i doiledau dirywedd fel mater o drefn.
Mae lleoliad yn cyfrif lawn cymaint â chynllun. Mae ysgol fawr Bae Baglan yn adeilad gogoneddus, ond bydd David Rees yn cofio'n dda y llwybr cerdded ofnadwy hwnnw i'r ysgol newydd o Gwrt Sart, nad oedd yn unrhyw fath o gymhelliad i deithio llesol. Ac yn olaf, ysgolion cyfrwng Cymraeg—maent yn aml yn cael eu gadael i feddiannu adeiladau llawer uwch eu cost, naill ai adeiladau o droad y ganrif neu rai sy'n syrthio'n ddarnau, fel Ysgol y Ferch o'r Sgêr yng Nghorneli yn fy rhanbarth i. Mae hynny'n ddatgymhelliad i deuluoedd sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg ac mae'n haeddu sylw blaenoriaethol yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch, Lywydd.
Dwi'n ofni bod y cynnig a gwelliant y Ceidwadwyr yn cymryd rhai materion yn ganiataol, heb dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae yna nifer o ysgolion mawr yn fy etholaeth i sydd yn cynnig addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae yna nifer o ysgolion bach yn fy etholaeth i sydd hefyd yn darparu addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae'n wir hefyd bod maint ysgol yn gallu cael effaith negyddol neu effaith gadarnhaol ar ansawdd addysg. Dwi wedi gweld ysgolion mawr yn cael eu trefnu mewn ffordd effeithiol iawn, yn creu gofodau bychain ac yn hyblyg yn y ffordd y mae sgiliau eu staff yn cael eu defnyddio yn llawn er lles disgyblion. Dwi wedi gweld ysgolion bach yn gwneud gwaith ardderchog er gwaethaf y problemau a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu. Mae yna lawer iawn o ffactorau yn effeithio ar ansawdd addysg, ac mi fyddwn i'n dadlau bod athrawon ardderchog sy'n ysbrydoli disgyblion ac yn codi eu disgwyliadau yn ffactor hollbwysig. Mae hynny'n gallu digwydd mewn ysgolion mawr a bach fel ei gilydd.
Dwi'n mynd i droi rŵan at fater arall sy'n cael sylw yn y cynnig, sef y daith o'r cartref i'r ysgol. Mae gwelliant y Llywodraeth yn crybwyll bod yna adolygiad yn digwydd o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae adran 10 y Mesur teithio yn cynnwys dyletswydd gyffredinol fod yn rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu mynediad at addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddan nhw'n arfer swyddogaethau o dan y Mesur. Yn y ddogfen ganllaw a gyhoeddwyd yn 2014, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod angen i awdurdodau lleol weithredu eu dyletswydd i hybu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg wrth benderfynu ar yr ysgol agosaf addas. Ond, mae'r awgrym bod yr ysgol agosaf yn gallu bod yn addas, er nad ydy hi'n darparu'r cyfrwng iaith o ddewis, yn gyfeiliornus, ac yn deillio o'r ffaith bod y cysyniad o 'ysgol addas' yn cael ei ddiffinio yn gul yn y Mesur, mewn ffordd sydd ddim yn cyfeirio o gwbl at addasrwydd o ran cyfrwng iaith yr addysg sy'n cael ei darparu. Mae hwn yn ymddangos fel gwendid sylfaenol wrth geisio pennu'r dyletswyddau sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth. Felly, mae angen i unrhyw adolygiad sydd yn digwydd gymryd ystyriaeth lawn o hynny, a hefyd o'r dyfarniadau llys diweddar ynglŷn ag addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Dwi'n nodi bod cwmpas gwreiddiol yr adolygiad yma wedi cael ei ehangu bellach i gynnwys y grŵp oedran 4 i 16 mlwydd oed yn ogystal ag ôl-16, felly mae yna gyfle yn y fan hyn i wneud gwahaniaeth. Mae'n debyg, erbyn hyn, mai mater i'r Senedd nesaf fydd unrhyw newidiadau yn deillio o'r adolygiad, ac mae hi yn siomedig na fu cynnydd ar hyn y tymor yma. Felly, diolch yn fawr am y cyfle i gynnig y sylwadau yna, ac er ein bod ni yn cytuno efo elfennau o'r cynnig a'r gwelliannau, mae yna elfennau ynddyn nhw i gyd na fedrwn ni ddim eu cefnogi hefyd, ac felly mi fyddwn ni'n pleidleisio yn eu herbyn nhw heddiw. Diolch, Llywydd.
Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Addysg i gyfrannu at y ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yw'r buddsoddiad mwyaf yn ein hystâd addysg ers y 1960au, ar ôl gweld buddsoddiad o £1.5 biliwn eisoes i wella'r amgylchedd dysgu i'n plant a'n pobl ifanc. Ac ers ei lansio yn 2014, fe'i gwelwyd yn cyflawni 170 o brosiectau newydd neu brosiectau adnewyddu o dan y don gyntaf o fuddsoddiad, ac mae 200 o brosiectau eraill wedi'u cynnig o dan yr ail don o fuddsoddiad, a ddechreuodd yn 2019. Yn wir, y flwyddyn ariannol hon—2020-21—o dan yr amgylchiadau anoddaf, gwelwn y gwariant blynyddol uchaf hyd yma o dan y rhaglen, sef bron i £300 miliwn o fuddsoddiad yn ein hysgolion a'n colegau.
A gaf fi ddechrau drwy groesawu'r pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian am ragoriaeth ym mhob math o ysgol—ysgolion bach, ysgolion mawr, cynradd, uwchradd ac yn ein hysgolion pob oed? A'r arweinyddiaeth honno ac addysgu rhagorol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Ond byddwn yn dadlau bod gallu gwneud hynny mewn adeilad sy'n addas i'r diben hefyd yn bwysig iawn, ac yn anfon neges glir iawn i'n hathrawon a'n plant fod eu haddysg a'r gwaith sy'n digwydd yn yr adeiladau hynny yn eithriadol o bwysig i ni.
Nawr, nododd Caroline Jones fater cyllidebau cynnal a chadw awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion. A gaf fi ddweud, Caroline, uwchlaw a thu hwnt i raglen yr unfed ganrif ar hugain, bob blwyddyn y bûm yn Weinidog Addysg, rydym wedi gallu rhoi gwerth miliynau o bunnoedd o arian cynnal a chadw ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru allu cefnogi eu hysgolion? Yn wir, ddydd Llun yr wythnos hon yn unig, cyhoeddais fuddsoddiad o £50 miliwn i'w rannu rhwng awdurdodau lleol Cymru ar gyfer yr union ddiben hwn, sef cynnal a chadw ysgolion.
Nawr, mae llwyddiant rhaglen yr unfed ganrif ar hugain yn adlewyrchiad o'r gwaith partneriaeth sy'n allweddol i'w gyflawniad, ac mae'n bwysig fod ein rhanddeiliaid allweddol, awdurdodau lleol a cholegau yn strategol yn eu buddsoddiad, ac yn darparu'r ysgolion a'r colegau cywir yn y mannau cywir i ddiwallu anghenion cymunedol lleol. Ac mae'n bwysig fod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud er budd cymunedau lleol, a dyna pam nad ydym wedi bod yn rhagnodol, gan y gall modelau darparu ysgolion amrywio o un gymuned i'r llall. Fel y gwyddoch yn iawn, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion i sicrhau bod gan eu plant a'u pobl ifanc yr amgylchedd gorau posibl i ddysgu ynddo, a bydd pob un o'r penderfyniadau'n unigryw i'r cymunedau hynny, a chredaf mai ein awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall beth sy'n gweddu i anghenion eu dysgwyr.
Mae'r cod trefniadaeth ysgolion yn gosod safon uchel ar gyfer ymgynghori os oes newidiadau i'r patrwm darparu, ac mae gan bawb sydd â diddordeb gyfle i sicrhau bod eu barn yn hysbys ac yn cael ei chlywed, ac iddi gael eu hystyried pan argymhellir unrhyw newidiadau mawr i ysgolion. Mae'r cod yn sicrhau bod ystod o ffactorau'n cael eu hystyried, a buddiannau dysgwyr yn flaenaf yn eu plith, ond mae pellter teithio hefyd yn ffactor. Gwn fod yr Aelodau wedi mynegi pryderon fod rhai awdurdodau lleol yn cynnal ymgynghoriadau o dan y cod trefniadaeth ysgolion yn ystod y pandemig hwn, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at ganllawiau ychwanegol a gynhyrchwyd gennym i awdurdodau lleol ar sut y dylent fynd ati i gynnal ymgynghoriadau o'r fath yn ystod y pandemig hwn.
Nododd Siân Gwenllian fater y Mesur teithio gan ddysgwyr, ac mae'n iawn i dynnu sylw at yr adolygiad. Mae'n nodi mater diddorol o ran yr hyn a ystyrir yn ysgol addas a sut na chaiff iaith ei nodi yn yr adrannau penodol hynny. A gaf fi ddweud, roeddwn yn ddigon ffodus i fod ar y pwyllgor a edrychodd ar y Mesur hwnnw pan ddaeth gerbron y Cynulliad ar y pryd? Rwy'n credu bod y Dirprwy Lywydd ar y pwyllgor gyda mi bryd hynny, ac rwy'n siŵr y gallai'r Dirprwy Lywydd gadarnhau bod y mater hwn wedi'i drafod yn helaeth fel dull posibl o weithredu ond fe'i gwrthodwyd gan y Gweinidog ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, fel rhywbeth amhriodol, ond mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn rhoi cyfle i ni ailedrych ar y penderfyniadau hynny.
Nawr, mae cod trefniadaeth ysgolion nid yn unig yn cydnabod y potensial ar gyfer cau ysgolion ond ar gyfer y sefyllfaoedd lle dylai ysgolion aros ar agor, ac mewn rhai amgylchiadau, mae'n fwy priodol i ysgolion presennol gael eu hadnewyddu, eu hailfodelu neu eu hymestyn, ac mae'r holl bethau hynny'n bosibl o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi rhoi trefniadau arbennig ar waith, pan gaiff ysgolion gwledig eu hystyried, i sicrhau bod y penderfyniadau gorau'n cael eu gwneud ar gyfer dysgwyr yn y lleoliadau hynny.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglen yr unfed ganrif ar hugain, rydym hefyd wedi ymgorffori ffrydiau sy'n edrych ar gyfleusterau gofal plant, darpariaeth cyfrwng Cymraeg—ac mae Suzy Davies yn gywir: pan feddyliaf am hanes datblygu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn nhref Aberhonddu, cawsant eu symud i ysgol a oedd wedi'i barnu'n anaddas ac wedi'i gadael gan y disgyblion cyfrwng Saesneg, a dyna lle roeddent. Nawr, yn ffodus, mae ganddynt adeilad newydd, ac yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog, rydym wedi darparu cyllid cyfalaf o 100 y cant i awdurdodau lleol adeiladu mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg. Roedd mwy o alw nag y gellid darparu ar ei gyfer am y gronfa honno, ac rwy'n ystyried a allwn ddarparu cymorth pellach o'r math hwn i gefnogi ein nod i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae gennym hefyd ffrwd sydd wedi ceisio lleihau maint dosbarthiadau babanod a chefnogi addysg ffydd, a lle bo'n bosibl, cefnogi datblygiad canolfannau cymunedol ar safleoedd ysgolion. Ni cheir un model ariannu sy'n addas i bawb, felly mae gennym amrywiaeth o ffyrdd o gefnogi datblygiadau.
Rydym eisoes wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae ysgolion cynradd ac uwchradd newydd ac wedi'u hadnewyddu wedi'i chael ar ddysgwyr, gan wella eu profiad dysgu yn fawr. Ac rydym hefyd wedi gweld bod ysgolion pob oed yn fuddiol mewn rhai lleoliadau cymunedol, gan ganiatáu ar gyfer un tîm arwain a rheoli, i ddarparu mwy o gysondeb dysgu ac addysgu, a mwy o barhad ac agosrwydd i'r dysgwr. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod angen canllawiau polisi i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch creu ysgolion pob oed, a'r agweddau ar addysgeg sy'n gysylltiedig â hwy, sef llesiant ac arweinyddiaeth. Mae angen ystyried, cydnabod a chefnogi'r holl bethau hynny'n ofalus, a dyna pam rydym yn cefnogi'r rhwydwaith ysgolion pob oed i gyflawni ymchwil mewn ysgolion, ac wedi gwneud hynny ers 2019, ac arolwg thematig gan Estyn o ysgolion pob oed i ganolbwyntio ar fanteision a heriau'r model oedran hwnnw. Felly, nid ydym yn bwrw yn ein blaenau'n ddall; mae'r rhain yn fodelau newydd diddorol sy'n cael eu datblygu gan awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda hwy i gael ymchwil, i ddeall manteision a heriau modelau o'r fath.
Gan fy mod yn cynrychioli etholaeth wledig, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae teithiau hir yn ei chael ar ein plant a'n disgyblion, ond am amryw o resymau, nid ystyrir bod cyflwyno terfyn uchaf ar amser teithio yn arbennig o ymarferol, fel yr awgrymodd Suzy Davies. Mae'n annhebygol iawn y bydd yr hyn a allai fod yn amser teithio damcaniaethol priodol mewn un awdurdod lleol yn berthnasol i bawb. Mae buddsoddi mewn ysgolion yn ymwneud â mwy na darparu adeiladau'n unig; mae'n ymwneud â'u gwneud yn addas i'r diben o ddarparu'r amgylchedd dysgu gorau, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae buddsoddiad hyd yma wedi gwella cyfleusterau ac wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu, addysgu a diwallu anghenion cymunedau lleol. Ac rwy'n falch iawn fod y dull partneriaeth, gyda'n hawdurdodau lleol a chyda'n colegau, yn gweithio'n dda ac yn rhoi hyblygrwydd iddynt nodi'r atebion dysgu gorau ar gyfer eu hardaloedd hwy. Ond diolch yn fawr am y cyfle i ddathlu llwyddiant rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw nawr ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Ie, diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Ond fel bob amser, anwybyddir y dadleuon a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Caroline Jones i raddau helaeth. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i economi ddi-garbon yng Nghymru a bod teithio llesol i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni eu nodau, ond bydd polisi o ganoli ysgolion, fel y nododd Caroline Jones, bron yn ddi-os yn negyddu gallu ein plant ysgol i gymryd rhan naill ai mewn cerdded neu feicio i'r ysgol. Rydym nid yn unig yn canoli ein hysgolion, rydym yn canoli rhannau o ysgolion, gyda chyflwyno colegau chweched dosbarth—polisi a wrthwynebir yn chwyrn gan lawer o'r gymuned addysgu. Ymhlith pethau eraill, mae'n dileu'r elfen hanfodol a gyflwynir yn aml i amgylchedd yr ysgol wrth i ddisgyblion chweched dosbarth weithredu fel modelau rôl. Unwaith eto, mae'n gwbl groes i egwyddorion amgylcheddol polisi Llywodraeth. Yn fy etholaeth i, sef Torfaen, gwelsom sefydlu coleg chweched dosbarth yng Nghwmbrân, a fynychir gan ddisgyblion o drefi fel Blaenafon, tua 10 milltir i ffwrdd yng ngogledd y fwrdeistref. Ceir ansicrwydd ychwanegol y gallai tywydd garw ym misoedd y gaeaf amharu'n sylweddol ar bresenoldeb yn yr ysgol. Mae Blaenafon yng ngogledd y sir yn cael llawer mwy o eira na de Torfaen.
Ydy, mae'n wir dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwario llawer iawn o arian ar wella llawer o'r ysgolion ledled Cymru. Fodd bynnag, byddwn yn cwestiynu a yw'r arian hwnnw wedi'i wario'n ddoeth. Fel y mae Caroline wedi awgrymu, mae symud i sefydliadau addysgu mawr—mawr iawn—yn golygu bod ein plant ysgol yn colli'r rhyngweithio personol â'u hathrawon, a hyd yn oed â'u cyd-ddisgyblion. Nid yw ysgolion o 1,200 o ddisgyblion neu fwy yn ddim llai na sefydliadau dysgu batri, lle nad yw athrawon yn adnabod ei gilydd, heb sôn am eu disgyblion. Mae bron bob ysgol fawr yn Nhorfaen yn methu yn ôl safonau Estyn, gyda'r rhan fwyaf mewn mesurau arbennig. Mae bwlio yn broblem ddifrifol yn yr ysgolion hyn, gan achosi trallod i filoedd o'n plant ysgol. Mae'n bryd atal y newid i'r mega-ysgolion hyn a chanolbwyntio ar unedau llai, mwy personol lle gall y berthynas rhwng disgybl ac athro feithrin ymddiriedaeth yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth. Diolch, Lywydd.
Diolch. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly fe gymerwn ni doriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais. Diolch yn fawr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:42.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:47, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llyr Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 27, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Eitem 5 - Cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: O blaid: 27, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio ar fuddsoddiad mewn ysgolion, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, agor y bleidlais. Pawb wedi pleidleisio. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig saith, tri yn ymatal, 47 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Eitem 9 - Dadl y Grŵp Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 47, Ymatal: 3
Gwrthodwyd y cynnig
Pleidleisiwn yn awr ar y gwelliannau. Felly, galwaf am bleidlais ar y gwelliant. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 30, dau'n ymatal, 25 yn erbyn. Gan hynny, derbynnir gwelliant 1.
Eitem 9 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 30, Yn erbyn: 25, Ymatal: 2
Derbyniwyd y gwelliant
Felly, mae gwelliant 2 wedi'i ddad-ddethol.
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Felly, pleidleisiwn yn awr—galw am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7606 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.
2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.
3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.
4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;
b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;
c) yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a
d) yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 29, tri'n ymatal, 25 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Eitem 9 - Dadl y Grwp Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 25, Ymatal: 3
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef y ddadl fer, a galwaf ar Nick Ramsay i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn, unwaith eto, o allu codi mater clefyd niwronau motor—MND—yn y Senedd, ac rwyf wedi cytuno i Mark Isherwood a Dai Lloyd gael munud o fy amser.
Yn 2014, cynhaliais ddadl fer ar drafferthion pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor a galwais ar Lywodraeth Cymru i gydnabod rhai o'r heriau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu ac edrych ar ffyrdd y gall gefnogi'r gymuned MND yn well. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ac am hynny gwn fy mod i a phobl sy'n byw gydag MND yn ddiolchgar iawn, mae llawer mwy y gellir ac y dylid ei wneud o hyd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud yn benodol â'r angen i gefnogi pobl sy'n byw gydag MND drwy addasu'r broses bresennol a'i gwneud yn haws iddynt hwy a'u teuluoedd addasu eu cartrefi mewn ymateb i fyw gyda'r cyflwr.
Yn ddiau, mae MND yn glefyd creulon. Mae'n un sy'n amddifadu pobl o'u hurddas ac yn anffodus, mae'n llythrennol yn ddedfryd o farwolaeth. Ac felly os llwydda'r ddadl hon i gyfleu un neges, y ffaith bod amser yn hollbwysig i bobl sy'n byw gydag MND yw honno. Credir bod MND yn lladd traean o bobl o fewn blwyddyn a mwy na hanner o fewn dwy flynedd, ac felly mae amser mor bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn gallu byw mewn cartref diogel ac addas. Mae angen i addasiadau tai a'r broses o'u gwneud fod yn gyflymach, yn fwy cydgysylltiedig ac yn y pen draw mae angen cydnabod pwysigrwydd gweithredu cyflym i sicrhau bod pobl sy'n byw gydag MND yn gallu byw mor gyfforddus â phosibl.
Nawr, yn 2018, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad pwysig iawn ar addasiadau tai yn fwy cyffredinol, a thynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at nifer o faterion arwyddocaol. Yn wir, mae'r adroddiad hwnnw'n datgan bod boddhad defnyddwyr ag addasiadau tai yn celu system adweithiol ac anghyfartal hynod gymhleth nad yw'n cyflawni ar gyfer pawb y gallai fod ei hangen, ac nad yw cyrff cyhoeddus yn manteisio ar gyfleoedd i wella gwerth am arian. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod y system bresennol ar gyfer cyflawni addasiadau yn atgyfnerthu anghydraddoldebau i rai pobl anabl a phobl hŷn, ac mae mynd i'r afael ag angen yn cael ei gymhlethu gan y gwahanol ffynonellau cyllid. Ac mae pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn sicr yn dod o dan ymbarél pobl sy'n byw gyda phroblemau niwrolegol cymhleth sy'n ei chael hi'n anodd addasu eu cartrefi'n ddigon cyflym.
Nawr, yn dilyn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a gadeirir gennyf fi, ymchwiliad byr i addasiadau tai er mwyn canolbwyntio ar rai o'r themâu a'r ffyrdd sefydledig y gallem helpu i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i wella ei phrosesau. Yr hyn a ganfu'r pwyllgor oedd bod cynifer o ffynonellau cyllid a pholisïau ar gyfer addasiadau fel bod pobl anabl a phobl hŷn yn cael gwasanaeth o safon wahanol ac felly roedd angen i Lywodraeth Cymru osod safonau ar gyfer pob addasiad er mwyn sicrhau bod pobl anabl a phobl hŷn yn cael yr un safon o wasanaeth ni waeth ble maent yn byw, pwy yw perchennog eu heiddo, ac a ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain yn wir.
Nawr, er clod i Lywodraeth Cymru, mae peth gwaith pwysig iawn wedi'i wneud i adolygu a gweithredu newidiadau i'r broses o gyflawni addasiadau, ac rwy'n llawn sylweddoli, ac mae'r Gymdeithas MND yn llawn sylweddoli, fod hon yn broses a fydd yn cymryd amser. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu safonau gwasanaeth sy'n berthnasol i bob addasiad ni waeth beth fo'r math o ddeiliadaeth, y darparwr neu'r ffynhonnell ariannu, ac mae hynny wedi bod mewn grym ers mis Ebrill 2019. Yn ail, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio adolygu'r polisi ar brofion modd a gweithredu newidiadau, a gwn fod peth gwaith wedi'i wneud gyda'r grŵp llywio ar addasu tai, a edrychai ar sut na ddylid cymhwyso profion modd ar gyfer addasiadau bach a chanolig llai cymhleth neu unigolion sy'n derbyn gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Yna, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddatblygu hyn, gan gynnwys ymgysylltu'n sylweddol ag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID-19 presennol wedi golygu bod y gwaith wedi'i ohirio, ac nid yw'r ymchwil a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi gallu symud ymlaen yn ôl y bwriad. Yn y cyfamser, mae pobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor a chyflyrau niwrolegol eraill yn parhau i'w chael hi'n anodd cael addasiadau wedi'u gwneud i'w cartrefi'n gyflym, ac o ganlyniad, mae rhai'n byw mewn cartrefi nad ydynt yn ddiogel nac yn addas ar eu cyfer. Ac mae hyn yn cael effaith uniongyrchol iawn ar iechyd a llesiant, a all arwain at unigedd, diffyg gweithgarwch corfforol, ymddieithrio oddi wrth deulu a chymuned, ac amgylcheddau anniogel sy'n cyfrannu at ddamweiniau a chwympiadau.
Nawr, rwy'n siŵr bod y Gweinidog a'r Aelodau sy'n gwrando heno yn deall y gall addasiadau i'r cartref helpu i liniaru'r risgiau hyn a sicrhau bod gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni. I bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor, mae'r addasiadau hyn yn amrywio o gymhorthion llai, megis addasiadau sylfaenol iawn, rheiliau neu rampiau, sy'n gyffredin, i newidiadau drutach, mwy cymhleth, megis ystafelloedd gwlyb, lifftiau grisiau neu hyd yn oed lifftiau o un llawr i'r llall y dyddiau hyn.
Wrth gwrs, gall cynlluniau fel y grantiau cyfleusterau i'r anabl, sy'n cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol, roi cymorth hanfodol i bobl sydd angen addasu eu cartrefi ond na allant fforddio gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID-19 wedi golygu bod gwaith bellach wedi'i ohirio ac mae'r cynnydd a wnaed ar hyn cyn y pandemig wedi'i atal. Nawr, wrth gwrs, rwy'n derbyn yn llawn—mae'n ddealladwy—fod coronafeirws wedi cael effaith aruthrol ar waith Llywodraeth Cymru, ond y realiti yw bod pobl ledled Cymru, yn y cyfamser, yn byw gyda chlefyd niwronau motor mewn eiddo nad yw wedi'i gyfarparu i'w helpu i fyw eu dyddiau olaf yn gyfforddus ac yn ddiogel, ac wrth gwrs, rydym yn sôn yma am salwch terfynol, felly gall yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth yn yr wythnosau a'r misoedd olaf o oes rhywun wneud gwahaniaeth anhygoel i ddioddefwyr a'u teuluoedd.
Wrth i raglen frechu Llywodraeth Cymru barhau i fynd o nerth i nerth ledled Cymru, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau dychwelyd at ei gwaith ar y materion hyn, fel na chollir y cynnydd a wnaed cyn y pandemig. Nid oes gan bobl sy'n byw gydag MND amser i aros. Oherwydd bod MND yn datblygu'n gyflym, nid oes gan bobl sy'n byw gyda'r cyflwr amser i aros misoedd diddiwedd i addasiadau gael eu gwneud. Yn fwy na hynny, gall diffyg gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael, beth i'w ddisgwyl o'r broses a phwy i siarad â hwy, ychwanegu anawsterau i bobl ag MND, eu teuluoedd a'u gofalwyr, wrth iddynt geisio rheoli eu bywydau sy'n aml yn newid yn gyflym.
Dair blynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol, gyda'r nod o sicrhau gwelliannau yn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'r cyfeiriadau at dai yn amwys yn gyffredinol, ac yn dweud y dylai pobl allu cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio eu gwasanaethau eu hunain. Yn anffodus, nid oes dim am yr angen i weithredu drwy ddarparu addasiadau fel y gall pobl fyw'n fwy cyfforddus gydag MND a chyflyrau niwrolegol eraill. A daw hynny â mi at wraidd fy nadl fer heno, sy'n cefnogi ymgyrch y Gymdeithas MND dros addasu cartrefi Cymru nawr ar gyfer MND, a gafodd ei lansio yng Nghymru yn gynharach heddiw, a gobeithio y bydd yr Aelodau o'r Senedd yn ymuno â mi i gefnogi'r ymgyrch honno. Mae'n galw am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, fel bod mwy o bobl sydd ag anghenion hygyrchedd yn cael eu cynorthwyo i fyw mor ddiogel ac annibynnol â phosibl. Ar lefel leol, rhaid i gynghorau sefydlu proses llwybr carlam nad yw'n seiliedig ar brawf modd i helpu i sicrhau bod addasiadau effeithiol, cost isel, yn cael eu darparu mewn modd amserol i bobl sy'n byw gydag MND.
Mae manteision cymdeithasol ac economaidd buddsoddi mewn tai hygyrch yn glir i bawb eu gweld: mae Gofal a Thrwsio Cymru, sy'n darparu mân addasiadau yng Nghymru, yn amcangyfrif, am bob £1 a werir, yr arbedir cost o £7.50 i iechyd a gofal, felly mae hynny'n rhywbeth y dylem anelu tuag ato. Ond yn ogystal ag addasu cartrefi sy'n bodoli eisoes, mae angen adeiladu mwy o gartrefi newydd gyda safonau hygyrchedd uwch yn ddiofyn, a rhaid adeiladu o leiaf 10 y cant sy'n cydymffurfio â safonau uwch o ran hygyrchedd cadeiriau olwyn, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2018.
Gan y gallai mwy o bobl fyw'n hwy gyda chyflyrau niwrolegol—er bod y dyfodol yn dal i fod yn eithaf llwm o ran MND—mae angen inni sicrhau bod mwy o gartrefi'n cael eu hadeiladu'n barod i gefnogi'r rheini yr amharwyd ar eu symudedd. Yn 2019, sefydlodd Llywodraeth Cymru safon gwasanaeth addasu tai i nodi lefel y gwasanaeth y gall defnyddwyr gwasanaethau ei disgwyl ar gyfer cyflawni a gosod addasiadau tai, ni waeth beth fo'u lleoliad na'u math o ddeiliadaeth.
Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu mesurau o ganlyniadau priodol ar gyfer ymarfer da, i amseru'r broses o osod addasiadau, ac i fonitro ac adrodd ar ganlyniadau yn erbyn yr offeryn cyflawni hwn. Mae honno'n ffordd gymhleth iawn o ddweud ein bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu hyn fel bod addasiadau'n fwy hygyrch, yn fwy amserol a bod pobl sy'n byw gyda gofal diwedd oes, a thuag at ddiwedd eu hoes, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywyd yn fwy cyfforddus. Os yw'r safonau gwasanaeth i fod yn ystyrlon o gwbl, mae angen i ni allu barnu cynnydd o ran sicrhau'r hyn sydd ei angen ar bobl. Mae gan bobl sy'n byw gydag MND a'u gofalwyr ddigon i boeni amdano heb orfod llywio drwy systemau cymhleth i sicrhau'r addasiadau hyn, felly mae gennym ddyletswydd i ddarparu atebion tai yn gyflym i'r rhai sydd fwyaf o'u hangen.
Wrth gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn didwylledd y ddadl heddiw ac yn cyfleu'r neges fod amser yn hollbwysig a bod taer angen gweithredu i gefnogi pobl sy'n byw gydag MND yng Nghymru. Gadewch inni wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn, a chyflyrau niwrolegol eraill yn wir, yn byw misoedd ac wythnosau olaf eu bywydau mor gyfforddus ac mor ddiogel â phosibl. Diolch.
Yn ogystal â chartrefi diogel a hygyrch, mae gofalwyr yn allweddol i gynnal annibyniaeth, urddas ac ansawdd bywyd pobl sy'n byw gydag MND. Fel y nodwyd gan Gofalwyr Cymru, mae gofalwyr di-dâl yn arbed £33 miliwn i Lywodraeth Cymru bob dydd o'r pandemig, ond daw hyn ar gost bersonol ac economaidd uchel. Canfu adroddiad gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor fod traean o ofalwyr MND yn treulio mwy na 100 awr bob wythnos yn darparu gofal, mwy na dwbl yr wythnos waith gyfartalog. Ni chafodd 45 y cant ohonynt unrhyw fudd-daliadau o gwbl, ac mae lleihau neu gau llawer o wasanaethau lleol oherwydd y pandemig wedi gwneud sefyllfa wael yn llawer gwaeth. Mae gofalwyr di-dâl o dan bwysau cynyddol i ddarparu mwy o ofal gyda llai o seibiant a chymorth ffurfiol. Felly, rhaid inni gydnabod a buddsoddi mewn sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau cymorth allweddol i ofalwyr di-dâl, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Pan fydd dyletswyddau awdurdodau lleol wedi eu hadfer yn llawn, mae'n bwysig eu bod yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn cefnogi hawliau gofalwyr drwy gynnig asesiad i bob gofalwr di-dâl i weld pa becynnau cymorth a allai fod ar gael iddynt, gan gynnwys gofal seibiant. Diolch.
A gaf fi ganmol Nick Ramsay a chefnogi popeth y mae wedi'i ddweud am addasiadau tai amserol? Gydag MND, mae amser yn hanfodol. Ac rwy'n llongyfarch y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor ar ei holl waith, yn enwedig eu hymgyrch Adapt Now yn y cyd-destun hwn.
Yn gyffredinol, mae angen cryn dipyn o ofal cymhleth ar unigolyn sy'n byw gydag MND, yn enwedig o ran gofal iechyd parhaus. Rhan o hynny yw'r addasiadau, ond mae'n fwy na hynny hefyd. Gall gofal iechyd parhaus tuag at ddiwedd eu hoes wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ond i ormod o bobl, nid yw'r system gofal iechyd parhaus yn gweithio. Dyna oedd canlyniad adroddiad gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn 2019. Felly, mae'r heriau mewn perthynas â staffio i alluogi'r pecyn gofal iechyd parhaus i lwyddo yn parhau, fel sy'n amlwg yn wir am amseroldeb addasiadau i'r cartref. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Nick Ramsay, yr Aelod dros Fynwy, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heno. Fel y dywedodd, mae clefyd niwronau motor yn glefyd dinistriol. Yn y math mwyaf cyffredin o glefyd niwronau motor, mae disgwyliad oes fel arfer yn ddwy i bum mlynedd o ddechrau'r symptomau, felly cytunaf yn llwyr ag ef fod angen inni wneud rhywbeth yn gyflym iawn i alluogi pobl i fyw gyda salwch mor wanychol. Fel y dywedodd hefyd, ar hyn o bryd ni ellir atal na gwrthdroi clefyd niwronau motor, ond gall therapïau, offer a meddyginiaeth helpu i reoli symptomau ochr yn ochr ag addasiadau i gartrefi pobl i'w gwneud mor ddiogel a hygyrch â phosibl.
Mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gydag MND ar unrhyw un adeg. Diolch byth, nid yw'n glefyd cyffredin, ond i bobl sy'n cael diagnosis o MND, wrth gwrs, nid yw hyn yn gysur o gwbl. Yn gwbl briodol, mae pobl sy'n dioddef o MND, eu partneriaid, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn disgwyl i ni wneud ein gorau glas i'w helpu i gadw'n annibynnol a byw eu bywydau gydag urddas. Er bod y ffocws heddiw ar bobl ag MND, ceir cyflyrau gwanychol a dirywiol eraill hefyd, fel y dywedodd Nick Ramsay. Os gallwn wella'r ffordd y mae'r system yn gweithio i bobl ag MND, bydd hynny'n amlwg o fudd i'r grŵp ehangach hwnnw o bobl hefyd.
Mae gennym eisoes raglen addasiadau gynhwysfawr iawn yng Nghymru. Mae'n cynnwys llywodraeth leol, cymdeithasau tai lleol, ac asiantaethau gofal a thrwsio ledled Cymru. Gyda'i gilydd, cyfanswm ein gwariant blynyddol yw tua £60 miliwn. Mae'n ofynnol i bob darparwr gadw at safonau gwasanaeth addasiadau tai a gyhoeddwyd gennym yn 2019. Mae'r rhain yn cynnwys amseroedd aros targed ar gyfer gwahanol fathau o addasiadau. Rydym bellach yn adrodd yn flynyddol ar berfformiad darparwyr hefyd, a chyn bo hir byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad ar gyfer 2019-20, a fydd yn cynnwys cymariaethau â blynyddoedd blaenorol am y tro cyntaf.
Rwyf am ddweud ar y pwynt hwn fy mod yn deall, wrth gwrs, fod y pandemig wedi arafu hyn, fel y dywedodd Nick. Ond i fod yn glir, rydym wedi bod yn annog pobl lle bo hynny'n bosibl o gwbl i barhau ag addasiadau gofal ac atgyweirio drwy gydol y pandemig. Wrth gwrs, cafwyd mannau lle mae rhywun yn hunanynysu neu os nad yw'r unigolyn wedi bod yn hapus i waith ddigwydd yn ei gartref, ond i fod yn glir, rydym wedi bod yn annog y gwaith i barhau yr holl ffordd drwodd.
Rydym yn parhau i fireinio a gwella'r gwaith o fonitro data. Rwyf wedi cyfarfod â Gofal a Thrwsio yn bersonol nifer o weithiau i drafod pa ddata rydym yn ei gasglu, ac o'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd gennym ddigon o ddata i symud at ddangosfwrdd, a fydd yn amlygu tueddiadau allweddol yn glir, gan gynnwys amseroedd aros.
Unwaith eto, fel y dywedodd Nick, mae addasiadau'n fach ar y cyfan. Y grŵp mwyaf sylweddol o addasiadau yn ôl eu gwerth yw addasiadau canolig eu maint. Mae'r rhain yn cynnwys yr addasiadau mwyaf cyffredin a grybwyllwyd hefyd—lifftiau grisiau, cawodydd cerdded i mewn, ystafelloedd gwlyb ar y llawr isaf a rampiau mawr, neu gyfuniadau o'r mathau hynny o addasiadau. Ar gyfartaledd, mae addasiad canolig yn cymryd tua phedwar mis i'w gwblhau.
Dim ond nifer fach o addasiadau mawr iawn a wneir bob blwyddyn. Maent yn cynnwys newidiadau sylweddol i'r eiddo, gan gynnwys estyniadau y mae angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Nid yw'n syndod, felly, fod y rhain yn cymryd mwy o amser i'w cwblhau oherwydd y cymhlethdod, a'r cyfartaledd yw tua 40 wythnos. I lawer o bobl, mae hon yn amserlen dderbyniol ar gyfer newidiadau mawr i'w cartref, ond gallaf ddeall yn iawn, yn achos unigolyn sydd wedi cael diagnosis o MND, y gall 40 wythnos fod yn amser hir iawn wir.
Darperir y rhan fwyaf o addasiadau canolig a mawr ar hyn o bryd drwy'r grant cyfleusterau i'r anabl gorfodol, a weinyddir, fel y dywedodd Nick, gan awdurdodau lleol o'u setliad cyllid cyfalaf. Yn 2018-19, gwariodd awdurdodau lleol tua £22 miliwn ar grantiau cyfleusterau i'r anabl, gan ddarparu gwelliannau i ychydig dros 4,000 eiddo. Mewn dros 90 y cant o'r achosion, roedd y grant yn talu cost y gwaith yn llawn. Mae grantiau cyfleusterau i'r anabl yng Nghymru yn fwy hael nag yng ngweddill y DU. Yng Nghymru, y terfyn uchaf y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol ei ariannu yw £36,000. Mae hyn yn cymharu â £30,000 mewn rhannau eraill o'r DU. Os yw'r addasiad yn costio mwy na £36,000, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn eisoes i ddarparu arian ychwanegol o'u harian eu hunain. Yn 2018-19, gwnaeth dwy ran o dair ohonynt hynny, gan wario dros £2 filiwn. Gall awdurdodau lleol wneud taliadau ychwanegol hefyd o grant Hwyluso Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi £4 miliwn ychwanegol o hyblygrwydd iddynt bob blwyddyn.
Mae'n bosibl mai'r achosion mwyaf cymhleth a chostus fydd y rhai mwyaf dwys, lle ceir y brys mwyaf, megis adeiladu estyniad i alluogi rhywun ag MND i barhau i fyw'n annibynnol. Fodd bynnag, oherwydd y symiau mawr o arian sydd ynghlwm wrth hynny a'r pwysau ariannol ar deuluoedd mewn angen, gall yr achosion hyn fod yn anodd hefyd a chymryd llawer o amser i'w datrys. Fel y dywedodd Nick yn gywir, mae hyn yn erbyn yr hyn rydym i gyd yn ceisio'i gyflawni. Felly, oherwydd hynny, diwygiais ganllawiau rhaglen gyfalaf y gronfa gofal integredig ar gyfer 2021-22 a gyhoeddais ym mis Ionawr. Bellach, gall y byrddau partneriaeth rhanbarthol ddefnyddio'u disgresiwn i dalu costau ychwanegol addasiadau sy'n costio mwy na £36,000.
Byddaf yn monitro faint o ddefnydd a wneir o'r hyblygrwydd hwn wrth i ni symud ymlaen ond fel y gŵyr pawb ohonom, nid yw grantiau cyfleusterau i'r anabl bob amser yn rhedeg mor llyfn ag y gallent, ac mae hyn wedi bod yn destun pryder parhaus. Er enghraifft, gwyddom y gall y prawf modd arwain at oedi, er mai dim ond 307 o dros 4,000 o grantiau cyfleusterau i'r anabl yn 2018-19 a arweiniodd at ddeiliaid tai yn gwneud unrhyw gyfraniad. Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn ag a oes cyfiawnhad dros gynnal prawf modd yn y mwyafrif llethol o achosion. Felly, mae'r ymchwil a gomisiynais wedi dod i law yn ddiweddar ar y prawf modd a'r grant cyfleusterau i'r anabl y soniodd Nick amdano. Bydd yr ymchwil yn cael ei chyhoeddi'n fuan iawn, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn am y camau y gallwn eu cymryd o ganlyniad i'r ymchwil i fynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Dywedir bod cynllunio hefyd yn peri oedi, ond dim ond ar gyfer yr addasiadau mwyaf nad ydynt yn dod o dan hawliau datblygu a ganiateir y bydd angen caniatâd cynllunio. Ar gyfer y rhan fwyaf o addasiadau mawr, dylid rhoi caniatâd cynllunio fel arfer o fewn wyth wythnos, ond gwyddom y gall gymryd mwy o amser ac mae rhai cynghorau'n perfformio'n well nag eraill. Felly, os yw pobl sy'n dioddef o MND yn cael problemau penodol gyda chynllunio ar hyn o bryd, byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth am hynny. Felly, Nick, os oes gennych unrhyw wybodaeth am achosion o'r fath, rhowch wybod imi ar unwaith i ni gael gweld a allwn eu symud yn eu blaenau ar gyfer yr achosion penodol hynny. Rydych yn llygad eich lle, nid yw'r canllawiau i awdurdodau lleol ar grantiau cyfleusterau i'r anabl wedi'u diweddaru ers peth amser, a byddaf yn ymgynghori ar ganllawiau diwygiedig cyn bo hir i sicrhau eu bod yn ymdrin â'r materion rydych wedi'u codi ar gyfer y dyfodol.
A gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn hynod ddiolchgar i Nick am ddod â'r pwnc pwysig hwn, unwaith eto, i lawr y Senedd? Hoffwn anfon fy nymuniadau gorau at yr holl bobl yng Nghymru sydd â chlefyd niwronau motor ac at eu teuluoedd, a dweud ein bod yn ddiolchgar iawn fod hyn wedi'i godi heno, ac rydym yn llawn fwriadu sicrhau bod pobl ag MND yn gallu byw gweddill eu bywydau mewn cysur a diogelwch gyda'r addasiad gorau y gallwn ei wneud. Felly, diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:10.