Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/02/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 12:45 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd-fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, ac yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau o'r ddwy Senedd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

1. Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Felly, heddiw mae'n bleser gen i alw'r Senedd ar y cyd i drefn, a hynny am yr eildro yn ein hanes ni—y ddwy sefydliad yn cwrdd gyda'n gilydd. Dwi eisiau estyn croeso arbennig i'r Aelodau o'r Senedd Ieuenctid sydd yn ymuno â ni heddiw ar gyfer y sesiwn arbennig yma sy'n nodi diwedd tymor cyntaf ein Senedd Ieuenctid ni. Mae'r tymor cyntaf yma o ddwy flynedd wedi bod yn arloesol wrth i chi fynd ati i drafod a deall y materion sy'n agos at galonnau pobl ifanc ein gwlad. Rŷch chi wedi cynrychioli llais eich cyfoedion yn angerddol, yn effeithiol ac yn aeddfed, ac yn enwedig yn ystod y pandemig sy'n dal i effeithio ar ein bywydau ni oll.

Ar ddiwedd eich tymor, rydych wedi cwblhau tri adroddiad a llu o argymhellion, ac wedi'u trafod a'u cyflwyno i Gadeiryddion ein pwyllgorau ni yn y Senedd a hefyd i Weinidogion y Llywodraeth. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr heddiw i glywed mwy am hyn ac am eich profiadau fel unigolion, fel Aelodau Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru. Felly, heb oedi mwy brynhawn yma, dwi'n galw ar y cyfrannydd cyntaf, Sandy Ibrahim, Aelod etholedig partner dros EYST Cymru, i ddechrau'r sesiwn. Sandy Ibrahim. 

Os cawn aros am feicroffon Sandy Ibrahim. Ie, dyna chi—mae popeth yn barod ar eich cyfer, Sandy.

Mae rhai adegau mewn bywyd yn emosiynol iawn a phan mae’n anodd disgrifio teimladau mewn ychydig eiriau. Ar ôl dwy flynedd o weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru, mae’n bryd ffarwelio. Cefais i a phob un o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru y fraint o weithio gyda phob unigolyn ifanc ac oedolyn rydym wedi cyfarfod â hwy ar y siwrnai fythgofiadwy hon, a diolch yn fawr iawn am hynny. Yn bersonol, cefais y fraint o gael fy nghyflwyno gennych i’r wlad hon o Gyprus, sef fy mamwlad, i Gymru. Cefais amser hyfryd i weithio, ac roedd yn bleser datblygu fy Saesneg, fy sgiliau ac yn bwysicaf oll, fi fy hun fel unigolyn, gyda phob un ohonoch wrth fy ochr.

Pan gefais wybod am Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru fy ymateb cyntaf oedd, ‘Nid oes gobaith gennyf o fod yn rhan ohoni', gan fy mod yn dal yn newydd i'r wlad hon, nid oeddwn yn gyfarwydd iawn â’r iaith, ac nid oeddwn yn adnabod llawer o bobl. Felly, roeddwn yn meddwl na fyddai hyn yn digwydd. Ond gyda chefnogaeth fy mam a chefnogaeth ac anogaeth Jenny, maent wedi fy nghefnogi i newid fy meddwl yn llwyr, i gredu ynof fy hun, ac yn olaf, i gyflwyno fy enw ar gyfer etholiad. Bryd hynny, roedd hwn yn gam mor fawr i mi, ond diolch byth, fe lwyddais.

Drwy gydol y cyfnod a gawsom i ddechrau dod o hyd i bobl ifanc i bleidleisio drosom fel y gallem gael ein dewis, bûm dan gryn dipyn o straen gan nad oedd gennyf syniad sut i ddod o hyd i’r pleidleisiau hyn. Ond diolch byth, unwaith eto, roedd gennyf lawer o bobl wrth fy ochr—sef Jenny, Carol, Anna, Shahab ac un o fy athrawon arbennig iawn, Miss Bamsey. Fe wnaethant eu gorau glas i fy nghynorthwyo i gymryd y cam hwn yn llwyddiannus. Rwy'n diolch yn arbennig iawn i bob un ohonynt, oherwydd pe na baent wedi bod wrth fy ochr, ni fyddwn wedi bod yma heddiw.

Mae pob un o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn teimlo’n falch iawn ein bod yn rhan o rywbeth gwych a wnaeth sicrhau bod lleisiau pobl ifanc ledled Cymru wedi cael eu clywed ar y lefel uchaf. Mae pob un ohonom wedi cyfarfod â phobl anhygoel ac wedi gwneud ffrindiau am oes. Ac ni ddylem anghofio staff Senedd Ieuenctid Cymru, sef y rheswm pam y cafodd pob un ohonom brofiad anhygoel—diolch am bob munud y buoch yn ymwneud â ni. Rwy'n dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol a phob hwyl gydag uchelgeisiau a breuddwydion pob un ohonoch. Gobeithio y daw dydd y gallwn i gyd gyfarfod eto. Diolch.

Diolch yn fawr, Sandy. Y siaradwr nesaf fydd Jonathon Dawes, Dyffryn Clwyd.

12:50

Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle anhygoel hwn i siarad yn y ddadl heddiw. Nawr, heddiw, wrth baratoi ar gyfer yr araith hon, siaradais â llawer o fy nghyd-Aelodau sydd, wrth gwrs, yn eistedd yma heddiw, ond hefyd â phobl ifanc o bob rhan o Gymru sydd wedi dilyn fy ngwaith yn agos dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac roedd y neges yn glir: mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi ailfywiogi ymgysylltiad pobl ifanc â gwleidyddiaeth ledled Cymru ac wedi sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ar y lefel uchaf yn y Senedd, gyda chymaint o’r Aelodau yn eistedd yma heddiw. Mae Senedd Ieuenctid Cymru hefyd wedi dangos y pŵer sydd gan bobl ifanc i lywio’r agenda bolisi yng Nghymru—ar y Gymraeg, iechyd meddwl, newid hinsawdd, y bleidlais i bobl 16 oed, ac wrth gwrs, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, rydym wedi gallu cael effaith.

Ond o'r holl sgyrsiau a gefais, roedd un yn sefyll allan i mi, ac roedd y sgwrs honno gyda rhywun a oedd yn yr ysgol gyda mi, y gallaf ei chofio’n dweud wrthyf dro ar ôl tro ei bod yn casáu gwleidyddiaeth. A dywedodd wrthyf, Lywydd, ‘Jonathon, mae dy angerdd di ac ymroddiad Senedd Ieuenctid Cymru yn ei chyfanrwydd wedi dangos y dylanwad y gall pobl ifanc ei gael yn eu cymuned, ac mae wedi fy ysbrydoli i wneud gwahaniaeth’. Ond nawr, yn fwy nag erioed, credaf fod y dyfyniad hwnnw’n dangos nid yn unig fod ein gwaith wedi ailfywiogi gwleidyddiaeth Cymru o ran ymgysylltiad pobl ifanc, ond ei fod wedi cysylltu’r rheini a arferai deimlo eu bod wedi’u difreinio â’r dadleuon hanfodol hyn sydd, yn y pen draw, yn mynd i effeithio ar eu dyfodol.

Nawr, er fy mod mor falch o'r holl waith rydym wedi'i wneud, yn enwedig fy ngwaith yn cynrychioli Dyffryn Clwyd, ac wrth gwrs, lleisiau'r bobl ifanc mewn addysg drwy fy ngwaith yn hyrwyddo sgiliau achub bywyd, ac wrth gwrs, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, maes lle credaf fel grŵp ein bod wedi dangos cryfder ac undod yw yn ystod y pandemig COVID-19. O ddosbarthu parseli bwyd i sefydlu un o fy hoff bodlediadau, Young, Female & Opinionated—gwn fod y sylfaenydd ar yr alwad hon ac y bydd yn siarad yn nes ymlaen—drwy gydol y pandemig, mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi dod ynghyd i wasanaethu eu cymuned. Rydym hefyd wedi cael cyfle drwy gydol y pandemig i godi materion sydd o bwys i bobl ifanc, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, iechyd meddwl a'r adferiad gwyrdd i greu swyddi’r dyfodol, gyda llawer o'r Gweinidogion yma heddiw, gan roi llais i bobl ifanc, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill sydd wedi rhoi amser inni godi'r materion hyn.

Nawr, Lywydd, mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint anhygoel i mi fel unigolyn wasanaethu Dyffryn Clwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hoffwn ddiolch o galon a thalu teyrnged i bawb sydd wedi cefnogi fy ngwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn arbennig i chi, arwyr di-glod anhygoel tîm Senedd Ieuenctid Cymru, y bobl ifanc yma heddiw, a llawer o'r Aelodau yn y Siambr wrth gwrs. O drefnu sesiynau casglu sbwriel lleol i fod yn brif siaradwr yn nigwyddiad Cymru'n Cofio ochr yn ochr â chi, Lywydd, mae wedi bod yn bleser. Ond wrth gwrs, mae’n rhaid imi roi sylw arbennig i'r panel pleidleisio yn 16 y bu'r ddau ohonom yn eistedd arno ym mis Mehefin a fu, mae'n rhaid imi ddweud, yn brofiad ardderchog o'r dechrau i'r diwedd.

Nawr, dyma'r geiriau yr hoffwn gloi gyda hwy. Credaf ei bod yn deg dweud, fel grŵp o unigolion, fod gan bob un ohonom ein gwahaniaethau gwleidyddol, rhai yn fwy nag eraill, ond yn y pen draw, nid wyf erioed wedi cyfarfod â grŵp mwy ymroddedig, angerddol a phositif o unigolion na fy nghyd-Aelodau sy’n eistedd wrth fy ymyl heddiw. Mae eu hymrwymiad nid yn unig i gynrychioli pobl ifanc Cymru, ond i gynrychioli eu hetholaeth, yn rhagorol, a chredaf fod hynny’n sicr yn gosod cynsail i Seneddau Ieuenctid Cymru am flynyddoedd i ddod.

Nawr, drwy gydol y ddwy flynedd, rydym wedi rhoi ein gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu ac wedi canolbwyntio ar y materion sy'n ein huno yn hytrach na'n rhannu, gan roi buddiannau pobl ifanc yn gyntaf bob amser, a dyna'r gwaddol rydym yn ei adael—undod yn hytrach nag ymraniad, a'r llall, sef pan fydd pobl ifanc wir yn defnyddio eu lleisiau ac yn sôn am y materion sy'n bwysig iddynt, gallant ysbrydoli newid gwirioneddol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Diolch.

Diolch, Jonathon. Sophie Billinghurst sydd nesaf, a hi yw Aelod partner y Senedd Ieuenctid ar gyfer Talking Hands. Sophie Billinghurst.

Prynhawn da. Fy enw i yw Sophie Billinghurst a fi yw’r Aelod partner etholedig sy’n cynrychioli Talking Hands, sef yr elusen sy'n cefnogi pobl ifanc trwm eu clyw a'u teuluoedd yn Abertawe. Mae bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi cael effaith fawr ar fy nealltwriaeth o wleidyddiaeth; cyn dod yn Aelod, prin oedd gennyf unrhyw ddealltwriaeth o wleidyddiaeth, ond bellach mae gennyf fwy o lawer. Roedd cael Aelodau o wahanol gefndiroedd a chanddynt safbwyntiau gwahanol yn golygu bod amrywiaeth ehangach o bobl yn gallu dweud eu dweud. Gweithiodd hyn yn dda, gan ei fod wedi caniatáu i gymunedau gael eu clywed pan nad oeddent yn cael eu clywed o'r blaen o bosibl, oherwydd pethau fel rhwystrau cyfathrebu yn y gymuned fyddar, ond roedd cael Aelodau etholedig fel fi yn golygu y gallem leisio eu barn.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi clywed llawer o areithiau pwerus a chymaint o straeon pwerus gan Aelodau eraill anhygoel. Mae pob un ohonom wedi gweithio gyda'n gilydd nid yn unig i gynrychioli gwahanol rannau o Gymru, ond i gynrychioli'r gwahanol sefydliadau yng Nghymru, i wneud gwahaniaeth mewn tri phwyllgor. Gobeithiaf y bydd gweld y gwaith rydym wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn grymuso pobl iau i ddal ati ac i wneud gwahaniaeth i'r genhedlaeth iau yng Nghymru. Diolch am wrando.

12:55

Diolch, Sophie. Angel Ezeadum yw'r siaradwr nesaf. Angel yw'r Aelod dros sefydliad partner Race Council Cymru. Angel Ezeadum.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn fynegi fy niolch personol i’r Senedd Ieuenctid am fod mor gynhwysol drwy gydol ein tymor. Fel lleiafrif ethnig, mae'r gynrychiolaeth sydd gennym yn isel, ac o'r ychydig gynrychiolaeth a gawn, rydym yn aml yn cael ein portreadu mewn modd negyddol yn y cyfryngau a'r gymdeithas. Fodd bynnag, o'r llu o gyfleoedd a roddwyd i mi ac i Aelodau eraill a etholwyd o sefydliadau partner i gynrychioli ein grwpiau ar y cyrion, rydym wedi gallu gwneud cynnydd a sicrhau bod lleisiau lleiafrifoedd yn dal i gael eu clywed a'u gwerthfawrogi i’r un graddau â'r mwyafrif.

Ystyriwch y pandemig—roedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn sgil y feirws, felly roedd yn hynod bwysig dod o hyd i atebion ac i weithio ar y cyd ag aelodau o'r gymuned i fynd i'r afael â'r broblem. Cefais gyfle i dderbyn cwestiynau gan fy sefydliad partner, Race Council Cymru, ac yn benodol y fforwm ieuenctid BAME cenedlaethol, ynglŷn â phryderon pobl ifanc a lleiafrifoedd ethnig ynghylch COVID-19 i’w gofyn i'r Prif Weinidog. Roedd gallu cael trafodaeth bersonol â ffigwr mor bwysig yn wirioneddol wych, a phwysleisiodd bwysigrwydd a'r angen i sicrhau bod pob math o bobl, ni waeth beth fo'u hil, crefydd, rhywedd, oedran ac ati, yn rhan o drafodaethau dylanwadol sy'n effeithio ar eu bywydau.

Gan fy mod wedi sôn yn flaenorol am bwysigrwydd cynrychiolaeth gadarnhaol, rwy'n dyheu, un diwrnod, am weld Senedd Cymru fwy amrywiol. Mae cymaint o bobl yn penderfynu rhoi’r gorau iddi cyn cychwyn, gan nad oes ganddynt unrhyw hunan-gred am nad ydynt yn gallu dychmygu eu hunain mewn rôl wleidyddol, yn anghredadwy, a dyna pam fod menter y sefydliad partner mor bwysig. Yn union fel rydym ni fel Aelodau yn amrywiol, felly hefyd y mae’r pynciau rydym wedi'u trafod. Rwyf wedi bod yn falch o wneud areithiau angerddol a rhoi sylw i ddarnau ar bynciau fel Mae Bywydau Du o Bwys a Mis Hanes Pobl Dduon, yr amgylchedd a throseddau cyllyll, ond ni fyddwn wedi gallu cyflawni dim o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni heb waith cynnal llwyddiannus y staff.

Roedd gennyf ddau brif nod pan wneuthum ymgeisio i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru: darparu ar gyfer pawb a rhoi llais i’r rheini sydd heb lais, ac rwy'n gobeithio'n fawr fy mod wedi cyflawni hynny dros fy nhymor ac y gellir parhau â’r gwaith rydym wedi’i wneud yn y blynyddoedd i ddod er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer Cymru fwy cynhwysol ac amrywiol. Diolch.

Diolch, Angel. Ffion Griffith yw'r siaradwr nesaf—Ffion Griffith o Islwyn.

Diolch, Lywydd. O ddechrau ein hamser fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, rydym wedi gweld pwysigrwydd ac arwyddocâd iechyd meddwl ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru, gyda 36 y cant o'r bobl ifanc a ymatebodd i'n harolwg cyntaf un yn nodi cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel un o'u prif flaenoriaethau. Gyda chefnogaeth dros ddwy ran o dair o Senedd Ieuenctid Cymru, gwnaethom ffurfio ein pwyllgor cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar ôl ein cyfarfod preswyl cyntaf, ac mae'n cynnwys 26 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru o bob rhan o Gymru. Ers sefydlu'r pwyllgor, rydym ni fel Aelodau wedi ymgysylltu â phobl ifanc, elusennau iechyd meddwl, arbenigwyr a gwleidyddion, gyda'r nod o bwysleisio'r angen am well cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae ein cyfarfodydd preswyl wedi rhoi cyfleoedd inni gael trafodaethau gyda rhai o'r bobl fwyaf dylanwadol ym maes iechyd meddwl yng Nghymru, ac maent hefyd wedi caniatáu inni glywed am y gwaith pwysig a wneir gan y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Yn ogystal, rhoddodd y cyfarfodydd hyn le inni gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda phobl ifanc i dynnu sylw at yr angen am sgyrsiau ynghylch iechyd meddwl. Yna, bu modd inni barhau â'r drafodaeth hon wrth inni gynnal ein digwyddiad Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl yn ystod Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc rannu eu barn ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Bu’r wybodaeth hon, ynghyd â chanlyniadau ein harolygon cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a gwblhawyd gan dros 1,400 o bobl ifanc ledled Cymru, o gymorth i lywio ein cyfarfodydd rhanbarthol a’n pwyllgorau. Ar draws pob un o'r pedwar rhanbarth, amlygwyd themâu allweddol stigma, hyfforddiant, gofal ataliol a chyfathrebu, gan ddangos yr angen am ddatblygiad a thwf o ran iechyd meddwl yng Nghymru. Yn y pen draw, ffurfiodd y themâu hyn sylfaen i’n hadroddiad a'n hargymhellion, a gyhoeddwyd ar 9 Hydref 2020.

Wedi'i rannu'n ddau gategori, un yn ymwneud â gwybodaeth ac ymwybyddiaeth a'r llall yn ymwneud â rhwystrau i gymorth, mae adroddiad ein pwyllgor, ‘Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl’, yn adleisio barn a phryderon pobl ifanc ledled Cymru. O wella ansawdd gwybodaeth i gynnig mwy o wasanaethau cymorth anhysbys a gwasanaethau gwell, mae ein hargymhellion yn cydnabod bod gan bob unigolyn ifanc iechyd meddwl. Er ein bod yn credu bod pob un o'n hargymhellion yr un mor bwysig o ran gwella iechyd meddwl ac iechyd emosiynol yng Nghymru i bobl ifanc, mae rhai argymhellion allweddol yr hoffem dynnu sylw atynt fel pwyllgor.

Mae ein pedwerydd argymhelliad yn crynhoi'r angen am siop un stop o wybodaeth, adnoddau a chymorth ynghylch iechyd meddwl. Rydym ni fel pwyllgor yn falch iawn o glywed am ymdrech Llywodraeth Cymru i ddatblygu hyn dros blatfform Hwb, gan ein bod yn credu bod hynny’n dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Serch hynny, hoffem bwysleisio ymhellach yr angen i hyrwyddo'r adnodd hwn yn well, gan sicrhau bod pob plentyn ledled Cymru nid yn unig yn ymwybodol o'i fodolaeth, ond yn teimlo'n gyfforddus i ddod o hyd i'r wybodaeth.

Hoffem dynnu sylw hefyd at ein chweched argymhelliad: yr angen i addysgu iechyd meddwl yn gyson ledled Cymru a gwneud hynny'n fwy mynych. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyfle i addysg iechyd meddwl ddod law yn llaw â datblygiad y cwricwlwm newydd, ond rydym yn pryderu ynghylch pa mor gyson y bydd y ddarpariaeth honno. Mae'n hanfodol fod gan bobl ifanc ledled Cymru fynediad at addysg iechyd meddwl o’r un ansawdd, ni waeth beth yw eu lleoliad neu eu cefndir, ac mae’n rhaid inni gwestiynu, felly, sut y gellir sicrhau bod hyn yn digwydd o fewn y cwricwlwm newydd. Mae’n rhaid i gysondeb fod wrth wraidd addysg iechyd meddwl ledled Cymru.

Yr argymhelliad olaf yr hoffem dynnu sylw ato yw'r angen am adolygiad brys o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl eraill. Unwaith eto, mae'n wych clywed bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn gweithio ar y mater hwn, gan roi £8 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i wella gwasanaethau CAMHS. Fodd bynnag, rydym ni fel pwyllgor yn galw am adolygiadau a diweddariadau cyson mewn perthynas â’n gwasanaethau iechyd meddwl yma yng Nghymru. Mae'n hanfodol nad ydym yn llaesu dwylo. Ni cheir un ateb syml i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ac felly, mae dadansoddi ac adolygu cyson yn wirioneddol hanfodol i helpu i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru.

Mae gan bob unigolyn ifanc iechyd meddwl, ac mae'n hanfodol fod polisïau ein Llywodraeth a'n Senedd yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn. Mae'n rhaid inni barhau i baratoi'r ffordd ar gyfer gwell cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru, ac fel pwyllgor, gobeithiwn y bydd gwaith Senedd Ieuenctid nesaf Cymru, Aelodau'r chweched Senedd a Llywodraeth newydd Cymru yn blaenoriaethu’r mater hwn. Diolch.

13:00

Diolch, Ffion. Ffion-Hâf Davies sydd nesaf. Ffion-Hâf Davies, Aelod Gŵyr.

Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror 2019, gwnaethon ni fel Senedd Ieuenctid ddewis sbwriel a gwastraff plastig fel un o'n prif faterion. Rydym ni fel Aelodau wedi bod yn siarad o fewn ein hetholaethau gyda sefydliadau partner, mewn eisteddfodau ac o fewn y cyfarfodydd preswyl a rhanbarthol i geisio deall barn pobl ifanc am y broblem. Yn anffodus, gwthiodd COVID bopeth ar-lein ac felly fe gasglom ni'n holl ddata yn ogystal â chreu'r adroddiad yn ystod y pandemig. Er gwaethaf hyn, fe wnaethom ddyfalbarhau yn rhithiol gyda digwyddiadau megis Wythnos y Senedd Ieuenctid, a bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ein helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Ym mis Tachwedd 2020, fe gyhoeddom ein hadroddiad fel pwyllgor a oedd yn cynnwys 10 argymhelliad. Galwom am fwy o bwyslais ar addysgu pobl ifanc ar draws Cymru am effeithiau negyddol sbwriel a gwastraff plastig, a sut gallai pobl ifanc helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Credwn y dylai awdurdodau lleol adolygu eu prosesau caffael er mwyn sicrhau bod y meini prawf sydd ar waith i ddewis cyflenwyr yn adlewyrchu amcanion amgylcheddol a llesiant. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, er mwyn sicrhau y gall sefydliadau addysg gefnogi’r gwaith o gyflawni targedau cynaliadwyedd. Y nod yn y pen draw fydd i leihau cymaint o wastraff plastig untro â phosib. Galwn hefyd ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau sylweddol ar frys i roi diwedd ar gynhyrchu plastigau untro, gyda rhai eithriadau hanfodol, ac ystyried dulliau gweithredu fel gwahardd cynhyrchu plastigau untro megis cynllun dychwelyd ernes.

Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog dros yr amgylchedd am ei hymateb i’n hargymhellion. Dengys hyn i bobl ifanc ar draws Cymru bod ein lleisiau wir yn cael eu cymryd o ddifri. Er hyn, mae’r broblem blastig yn amlwg ddim drosodd, felly mae angen symud ymlaen efo'r agenda a sicrhau ei fod yn fater o bwys i'r Senedd nesaf. Mi fyddai hefyd yn wych i weld Senedd ddi-blastig—rhywbeth a fyddai eto'n pwysleisio pwysigrwydd ein gwaith ac a fyddai'n gosod esiampl i sefydliadau eraill ein dilyn. Galwn am weithredu pendant ac ar frys, o fewn y chwe mis i'r flwyddyn nesaf.

Yn olaf, hoffem hefyd alw ar y Senedd Ieuenctid nesaf i barhau i alw am newidiadau yn ôl ein hargymhellion ni. Rydym ond wedi cael tymor o ddwy flynedd, ond, yn yr amser hwn, rydym wedi sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a bod y broblem blastig yn cael ei chymryd o ddifri. Ein hunig obaith nawr yw eich bod chi i gyd yn parhau i wella’r broblem a chadw ein gwaith yn fyw. Diolch.
 

13:05

Diolch, Ffion-Hâf. Harrison Gardner yw'r siaradwr nesaf—Harrison Gardner o Orllewin Clwyd.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel Aelod o bwyllgor sgiliau bywyd yn y cwricwlwm Senedd Ieuenctid Cymru, yn ffodus, bu modd inni gwblhau'r rhan fwyaf o'n gwaith cyn i'r pandemig daro. Gwnaethom ymgynghori â dros 2,500 o bobl ifanc, rhieni ac addysgwyr mewn sioeau haf a digwyddiadau pwyllgor Senedd Ieuenctid Cymru ledled Cymru, gan gyhoeddi ein canfyddiadau a’n hargymhellion yn ein hadroddiad, ‘Sgiliau Bywyd, Sgiliau Byw’. Gyda'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar y ffordd, cynigiodd ein hymgynghoriad gipolwg ar y ffordd y mae sgiliau bywyd ac addysg bersonol a chymdeithasol yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.

Tynnodd ein hymgynghoriad sylw at sawl anghysondeb ym mhrofiadau pobl ifanc o ddysgu am bynciau pwysig, megis addysg wleidyddol, addysg rhyw, addysg ariannol a chymorth cyntaf, i enwi ond ychydig. Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i fireinio'r cwricwlwm newydd, roedd ein hargymhellion yn nodi y dylent ddarparu rhestr gynhwysfawr i addysgwyr yng Nghymru o'r sgiliau bywyd y mae'n rhaid eu dysgu o fewn y chwe maes dysgu a phrofiad; sicrhau bod gan ysgolion ym mhob rhan o Gymru adnoddau i weithredu'r cwricwlwm newydd i'w lawn botensial; a sicrhau bod athrawon yn cael yr hyfforddiant cywir i allu addysgu nifer o bynciau newydd a fydd yn newydd iddynt fel rhan o'r cwricwlwm newydd.

Ers cyflwyno ein hargymhellion i’r Gweinidog Addysg yn y Siambr ym mis Hydref 2019, rydym wedi gallu parhau â’n gwaith craffu mewn cyfarfodydd gyda swyddogion y Llywodraeth, addysgwyr sy’n datblygu’r meysydd dysgu a phrofiad, a swyddogion yn Cymwysterau Cymru sy’n diwygio’r strwythur asesu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi helpu i ddatblygu’r adnoddau addysgol ar gyfer pleidleisio yn 16 oed cyn etholiad y Senedd eleni.

Er ein bod ni, fel pwyllgor, yn gwerthfawrogi ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion a'r rhesymau a roddwyd dros beidio â derbyn rhai ohonynt, hoffem achub ar y cyfle hwn i bwysleisio’r pryderon eraill sydd gennym. Rydym yn derbyn dadl Llywodraeth Cymru ei bod yn mynd yn groes i ysbryd y cwricwlwm newydd i gyhoeddi rhestr orfodol o bynciau i athrawon eu haddysgu, ac rydym yn cydnabod pryder Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn gam yn ôl i'r hen gwricwlwm ‘ticio blychau’ y mae’r cwricwlwm newydd yn ceisio ymbellhau oddi wrtho.

Fodd bynnag, rydym yn dal i bryderu fel pwyllgor y gallai diffyg arweiniad clir arwain at fwy o anghysondebau, a bod llwyddiant y meysydd dysgu a phrofiad fel y maent ar hyn o bryd yn rhy ddibynnol ar sut y mae ysgolion unigol yn eu dehongli. Yn ychwanegol at hynny, mae tlodi digidol yng Nghymru wedi dod yn fater amlwg oherwydd y pandemig—mater a fydd ond yn gwaethygu ac yn lleihau effaith y cwricwlwm newydd heb ymyriadau priodol. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y mater hwn ymhellach wrth iddi gwblhau gwaith terfynol ar y cwricwlwm newydd.

Rydym hefyd yn eu hannog i ymrwymo cyllid i sicrhau bod disgyblion ym mhob rhan o Gymru yn cael cyfle i brofi pob elfen o'r cwricwlwm, ac i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac adnoddau canolog i athrawon. Credwn yn gryf y byddai hyn yn arwain at brofiad dysgu ystyrlon i bob disgybl. Diolch.

Diolch, Harrison. Y siaradwr nesaf yw Gwion Rhisiart—Gwion Rhisiart o Ganol Caerdydd.

Diolch, Llywydd. Mae’n fraint gallu cynrychioli pobl ifanc Canol Caerdydd unwaith eto, ac mae’n eithaf anodd credu bod dwy flynedd wedi mynd heibio ers ein cyfarfod cyntaf cenedlaethol, lle dewison ni ein tair blaenoriaeth. Ers hynny, rydyn ni wedi codi nifer o faterion sydd o bwys i bobl ifanc er mwyn gallu gwneud Cymru yn lle gwell i dyfu lan fel person ifanc. 

Fodd bynnag, ni fyddem ni wedi gallu gwneud hyn yn y pandemig heb help Aelodau’r Senedd a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Dros y misoedd diwethaf, mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Addysg, y Gweinidog iechyd a’r Cwnsler Cyffredinol i gyd wedi rhoi amser i gwrdd â ni yn rhithiol nifer o weithiau. Mae’r gallu i gwrdd â Gweinidogion a Chadeiryddion pwyllgorau, ynghyd â’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, wedi bod yn werthfawr iawn.

Mae’r gallu i ni fel Aelodau gwestiynu’r rhai sy’n ein cynrychioli am arholiadau, am gefnogaeth iechyd meddwl ac am gyfleoedd swyddi yn y pandemig yn meddwl ein bod ni'n gallu rhoi atebion i bobl ifanc sy’n bryderus am y dyfodol. Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi rhoi cymaint o’i hamser er mwyn trafod goblygiadau gohirio arholiadau, ynghyd â chasglu ein barn ar ddysgu ar-lein. Eto, mae gallu lleisio barn pobl ifanc i Aelodau’r Senedd ac i Weinidogion yn galluogi eu barn i gael ei hystyried pan fod dewisiadau'n cael eu cymryd. Ar ran holl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, diolch o galon am eich amser.

Rydyn ni, fel Aelodau, hefyd wedi bod yn ffodus iawn i ymddangos ar gyfryngau amrywiol Cymru. Drwy gydol ein hoes fel Aelodau, fe wnes i a fy nghyd-Aelodau ymddangos ar Radio Cymru er mwyn trafod ein gwaith, o’n hargymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd i gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'n gwaith, ac er mwyn trafod materion gyda disgyblion, athrawon a rhieni o bob cwr o Gymru. Yn ogystal â hyn, mi roeddwn i'n hynod o lwcus i gael ymddangos ar Wales Live gyda Hannah Blythyn ac Andrew R.T. Davies er mwyn trafod pleidleisio yn 16 a chynrychiolaeth pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth. Yn olaf, mi wnes i a Betsan Angell fynd ar Heno pan wnaethon ni rhyddhau ein hadroddiad sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Roedd yn fraint gallu trafod ein hargymhellion a'n gobeithion ar gyfer y cwricwlwm newydd. 

Felly, i gloi, hoffwn i ddiolch i'r holl newyddiadurwyr ac Aelodau'r Senedd sydd wedi helpu codi ymwybyddiaeth o'n gwaith. Rydym ni wir yn ei werthfawrogi. Gyda'n gilydd, rydym wedi llwyddo gweithredu er mwyn gwella bywydau pobl ifanc yng Nghymru wrth i ni adfer o'r cyfnod cythryblus yma. Diolch yn fawr iawn.

13:10

Diolch, Gwion. A'r siaradwr olaf o'r Senedd Ieuenctid fydd Maisy Evans o Dorfaen.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n fraint, unwaith eto, i siarad gyda chi i gyd.

Mae pobl yn aml yn gofyn i mi a fyddwn yn newid unrhyw beth pe bawn yn gallu mynd yn ôl mewn amser. Ac yn syml, na fyddwn. Ddim o gwbl. Byddwn yn sefyll etholiad, a byddwn yn bachu ar bob cyfle dro ar ôl tro. Rwyf wir yn ei olygu pan ddywedaf mai'r ddwy flynedd ddiwethaf yn fy mywyd fu'r rhai gorau eto. Drwy gyfnodau da a rhai cyfnodau gwael, rwyf wedi cyfarfod â phobl anhygoel, wedi datblygu cyfeillgarwch y byddaf yn ei thrysori am byth gyda gwahanol bobl ac wedi cael profiadau bythgofiadwy.

Mae eleni wedi bod yn her fawr i bob un ohonom, yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae COVID-19 wedi effeithio ar ein bywydau i raddau mwy nag y gallai unrhyw un fod wedi'i ddychmygu. A heb os, mae wedi bod yn anodd. Ond serch hynny, mae ein Senedd Ieuenctid Cymru—y gyntaf o'i bath—wedi dangos bod pobl ifanc yn rym er daioni yn ein gwlad ni a thu hwnt.

Hoffwn ddefnyddio’r foment hon i ddiolch i bob un ohonoch, fy nghyd-Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, y staff y tu ôl i'n gwaith, y staff y tu ôl i'r dechnoleg hyd yn oed—ac yn enwedig heddiw—ac yn bwysicaf oll, pob un ohonoch chi, Aelodau ein Senedd.

Ar 26 Mehefin 2019, cynhaliwyd ein sesiwn gyntaf ar y cyd yn y Siambr, ac yn y sesiwn honno, cefais y fraint o roi’r sylwadau agoriadol, a darllenais ddatganiad i chi a fyddai’n siapio, ac sydd wedi siapio, ein perthynas. Rwy'n sicr y byddaf yn cofio’r diwrnod hwnnw am byth, ac mae'n foment rwy’n ymfalchïo'n fawr ynddi, a gwn y byddaf yn parhau i wneud hynny.

Unwaith eto, hoffwn dynnu eich sylw at rai o'r pwyntiau a amlinellir yn y datganiad hwnnw. Mae'n nodi y bydd Senedd Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ein gwaith yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, ac y bydd Senedd Cymru yn ymrwymo i hawliau pobl ifanc ac yn gweithredu ar egwyddorion didwylledd a thryloywder.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Aelodau o'r Senedd sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu â ni, ac nid yn unig i glywed ein lleisiau, ond i wrando arnom. Yn ystod ein tymor, rydym wedi darparu llawer o argymhellion realistig i chi ar sicrhau bod pobl ifanc wedi'u paratoi ar gyfer eu bywydau, ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, ac ar ddiogelu ein hunig blaned.

Mae'n hanfodol eich bod chi, fel Senedd Cymru, yn parhau i weithio gyda phobl ifanc o bob cwr o'r wlad. Gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru, mae'n ddyletswydd arnoch i wrando ar ein barn. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn dystiolaeth o'ch ymrwymiad i erthygl 12, sy'n nodi bod gan bobl ifanc hawl i fynegi eu barn yn rhydd, ac i'w barn gael ei hystyried o ddifrif.

Rwy'n ddiolchgar am gael y platfform i rannu fy marn, a hyd yn oed yn fwy diolchgar am y cyfle i ddylanwadu ar newid go iawn ar y lefelau uchaf posibl. Gyda'r oedran pleidleisio wedi cael ei ostwng i 16, gall pobl ifanc yng Nghymru wneud yn union hynny—dylanwadu ar newid go iawn. Mae'n gyffrous, bobl. Rwy'n annog pob person ifanc 14 oed ac yn hŷn i fynd ar-lein a chofrestru i bleidleisio, mewn munudau yn unig, achos, o'r diwedd, mae gennych chi'r cyfle i ddefnyddio'ch llais.

Wrth i Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru ddod i ben, gobeithio eich bod chi i gyd yn barod i gwrdd â'r garfan nesaf o arweinwyr ifanc. A pheidiwch ag erioed anghofio ein bod ni, fel pobl ifanc, nid yn unig yn arweinwyr y dyfodol, ond yn arweinwyr heddiw. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch chi, mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd pob tro. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Maisy, a diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi siarad eisoes, ac sydd wedi cyfrannu mor enfawr yn ystod cyfnod y Senedd Ieuenctid. 

Dwi'n galw nawr ar y Prif Weinidog i gyfrannu at y drafodaeth yma. Prif Weinidog. 

Wel, Llywydd, diolch i holl Aelodau'r Senedd Ieuenctid am eich cyfraniadau y prynhawn yma, ond hefyd, fel dywedodd y Llywydd, am y cyfan yr ydych wedi ei wneud i sefydlu'r Senedd mewn ffordd mor llwyddiannus. Rydw i wedi elwa o gwrdd â nifer ohonoch yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn eithriadol hon. Mae clywed penllanw eich gwaith y prynhawn yma wedi bod yn bleser ac yn gyfle i ni i gyd i ddysgu. Mae eich cyfnod yn y swydd bellach yn dod i ben, fel y mae cyfnod y Senedd ei hun. Rwy'n siŵr bod pob Aelod o'r Llywodraeth yn dymuno'n dda i chi yn yr hyn sy'n dod nesaf yn eich bywydau, ac y bydd y camau nesaf hynny yn fwy llwyddiannus byth oherwydd y profiad unigryw yr ydych wedi ei gael fel sylfaenwyr y Senedd Ieuenctid.

Lywydd, nid wyf yn mynd i geisio ymateb i'r holl wahanol siaradwyr a glywsom, ond roedd Sandy yn llygad ei lle yn y cyfraniad cyntaf un, fod unrhyw ddiwedd yn adeg emosiynol yn ei hanfod, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n wir am yr holl Aelodau o’r Senedd Ieuenctid. Rhannodd Sandy ei stori gyda ni, a chredaf fod pob un ohonom yn falch o'i chlywed. Mae Cymru yn ffodus o'ch cael yma, yn union fel rydym wedi bod yn ffodus gyda'r holl bobl ifanc sydd wedi chwarae eu rhan yn y Senedd gyntaf un hon.

A gaf fi ganolbwyntio'n fyr ar dri pheth i mi eu nodi o'r holl gyfraniadau a glywsom? Yn gyntaf, y graddau y mae’r agendâu wedi gorgyffwrdd o ran y pethau rydych wedi bod yn sôn amdanynt yn y Senedd Ieuenctid a'r pethau rydym yn sôn amdanynt bob wythnos ar lawr y Senedd ei hun: iechyd meddwl, newid hinsawdd, addysg, y cwricwlwm newydd, sut y byddwn yn creu dyfodol sy'n well i bob un ohonom. Yn ail, pwysigrwydd plwraliaeth ac amrywiaeth: y ffordd y mae clywed gwahanol brofiadau a gwahanol leisiau yn newid natur y sgwrs, yn ei chyfoethogi, wrth gwrs, ond hefyd yn golygu ein bod yn gweld pethau mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n amlwg iawn mewn cyfres o gyfraniadau. Ac yn olaf, yn y gwaith rydych yn ei wneud a'r gwaith rydym ni’n ei wneud, nid yw'r gwaith byth yn dod i ben. Nid ydym byth yn cyrraedd diwedd y dydd a gallu tynnu llinell o dan yr hyn rydym wedi bod yn ei drafod a meddwl, 'Wel, dyna hynny wedi’i wneud.' Mae'r gwaith bob amser yn parhau, mae heriau i’w cael bob amser nad ydym wedi meddwl amdanynt, mae cyfleoedd newydd bob amser i hyrwyddo achosion sy'n bwysig i ni fel unigolion ac fel cenedl. Ac wrth glywed am waith y pwyllgorau, rwy'n falch iawn fod cymaint o'r hyn rydych wedi'i gynnig wedi'i dderbyn gan y Llywodraeth, ac nid wyf yn synnu clywed bod pethau eraill y byddech yn awyddus i barhau i’w hyrwyddo, i ddadlau drostynt, a cheisio sicrhau newidiadau pellach yn y dyfodol.

So, diolch yn fawr unwaith eto i bob un ohonoch chi am bopeth rydych chi wedi'i wneud ac am y cyfle unwaith eto i gwrdd ac i glywed oddi wrthych chi i gyd y prynhawn yma.

13:15

Diolch, Lywydd. Mae'n fraint dweud ychydig eiriau ar ran yr wrthblaid swyddogol, grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn cyfraniadau mor huawdl a meddylgar gan bob un o'n Haelodau etholedig o’r Senedd Ieuenctid.

Rwy'n teimlo cysylltiad cryf ag Aelodau ein Senedd Ieuenctid, gan mai fi oedd seneddwr ieuengaf y DU pan gefais fy ethol i'r Senedd, Cynulliad Cymru ar y pryd, yn ôl yn 2003 a minnau’n 24 oed. I mi, sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru yw cyflawniad mwyaf amlwg y tymor seneddol hwn a bydd yn sefyll allan fel un o lwyddiannau mawr Cymru ers 1999.

Yn ystod yr ychydig dros ddwy flynedd ddiwethaf, mae Aelodau’r Senedd Ieuenctid wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ond yn fwy gweladwy na hynny, maent wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar ddeddfu yn y Senedd hon. Pan fuom yn trafod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y cyfraniadau mwyaf pwerus oedd y rhai gan bobl ifanc eu hunain, gennych chi, gan rai fel Jonathon, y gallaf ei weld ar fy sgrin yn awr. Mae eich gwaith craffu a'ch ymgyrchu ar rôl sgiliau bywyd yn y cwricwlwm wedi bod yn arbennig o symbylol, ac mae fy ngrŵp yn cytuno'n llwyr y dylid cynnwys sgiliau allweddol, fel cymorth cyntaf ac iaith arwyddion Prydain, yn y cwricwlwm.

Ar fater gwastraff plastig, fel yr amlinellwyd gan Ffion-Hâf, rydych wedi siarad dros gynifer o bobl ifanc sy'n galw am newid, ac wedi cynnig awgrymiadau rhagorol. Cawsom ein cymell gan ofid ynghylch yr hyn y mae bodau dynol yn ei wneud yn raddol i'r blaned hon. A ddoe ddiwethaf, dywedodd Syr David Attenborough ein bod eisoes yn rhy hwyr mewn rhai ffyrdd i atal rhai o effeithiau mwyaf newid hinsawdd, felly mae gwir angen inni weithredu nawr, ac rydych wedi gwneud hynny'n gwbl glir.

Fel yr amlinellwyd gan Ffion, rydych wedi gwneud ymyriadau ystyrlon ac wedi codi cwestiynau pwysig ar fater iechyd meddwl pobl ifanc hefyd, rhywbeth sydd wedi bod yn fater tabŵ ers gormod lawer o amser. Mae hwn yn destun cryn bryder i bob un ohonom nawr, fel y gwelwch o'n cyfraniadau yn y Senedd ar draws y pleidiau, wrth inni boeni am yr effaith y mae cyfyngiadau symud hirfaith, cau ysgolion a’r anallu i gymdeithasu â ffrindiau yn ei chael ar bobl ifanc.

Drwy gydol y pandemig hwn, mae plant a phobl ifanc wedi aberthu cymaint, yn bennaf er mwyn cadw pobl hŷn a phobl fwy agored i niwed yn ddiogel. Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth inni gefnu ar y pandemig hwn, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i ad-dalu'r ddyled honno a gwneud mwy o lawer i gefnogi pobl ifanc a diwallu eu hanghenion yn well. Mae gennym ni fel Aelodau o’r Senedd gyfrifoldeb i weithredu ar y materion sydd o bwys i chi, ein cenhedlaeth ieuengaf.

I gloi, Lywydd, hoffwn ddymuno'n dda i 60 Aelod Senedd Ieuenctid Cymru ym mha gyfeiriad bynnag y mae eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn mynd â hwy, a diolch o galon iddynt am bopeth y maent wedi'i wneud. Maent yn gynrychiolwyr rhagorol i’w cenhedlaeth. Dylai pob un ohonoch fod mor falch o'ch cyflawniadau mewn cwta ddwy flynedd. Mae pob un ohonom fel Aelodau o’r Senedd o bob plaid yn falch o bob un ohonoch. Mae'n amlwg fod gennych oll ddyfodol disglair o'ch blaenau, ac rydych i gyd wedi rhoi gobaith i ni, ac edrychwn ymlaen at gyfraniadau Seneddau Ieuenctid yn y dyfodol. Diolch.

13:20

'Llais democrataidd i bobl ifanc Cymru ar lefel genedlaethol ac yn eu grymuso i greu newid.'

Dyna sut roeddech chi, Llywydd, wedi disgrifio'r weledigaeth ar gyfer y Senedd Ieuenctid wrth ei lansio. A heb os, mae'r Senedd Ieuenctid wedi llwyddo i ymgyraedd â'r nod hwnnw a llawer mwy, a dwi'n falch iawn o gael cynnig cefnogaeth fy mhlaid i'r gwaith sydd wedi'i gyflawni hyd yma, a rhoi fy nghefnogaeth lwyr i'r Senedd Ieuenctid flodeuo ymhellach yn ystod oes y Senedd nesaf.

Wrth edrych ymlaen at y Senedd nesaf, wynebu'r dyfodol fyddwn ni. Ac mae'r ddadl heddiw ar sail y pynciau buoch chi'n rhoi sylw iddyn nhw yn ein gwahodd i edrych tua'r dyfodol tu hwnt i COVID, ac yn hoelio sylw ar heriau mawr ein gwlad a'n byd ac argyfyngau niferus ein hoes: yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, fel dŷn ni wedi clywed; gweddnewid y system addysg er mwyn sicrhau trawsnewidiad cymdeithas a gwireddu potensial pawb sydd yn aelod ohoni; a newid agweddau tuag at a chryfhau darpariaeth iechyd meddwl. Ar sail eich llwyddiant chi fel pobl ifanc dros y blynyddoedd diwethaf, dwi'n ffyddiog y byddwn ni gyd yn llwyddo i adeiladu Cymru well. Eich pwysau chi fel pobl ifanc sydd wedi gwneud y gwahaniaeth i sicrhau bydd llesiant meddyliol wedi'i wreiddio fel mater o gyfraith gwlad ym mhob agwedd o'r cwricwlwm newydd.

Mae pobl ifanc wedi arwain newid ar draws y byd, ac yng ngwleidyddiaeth Cymru hefyd dros y blynyddoedd diwethaf—yr argyfwng hinsawdd a'r streiciau hinsawdd yn enghraifft o hyn, a'r sawl protest a gorymdaith a welon ni ar draws Cymru, gan gynnwys un wnaeth orffen ar risiau adeilad y Senedd ei hun. Mae newid yn bosib os mynnwn newid: dyna neges obeithiol greiddiol democratiaeth, a phobl ifanc, yn aml iawn, sydd yn arwain y newid hwnnw. Fe ddangosoch chi hynny unwaith eto ym mis Awst y llynedd, gan orfodi'r Llywodraeth i gydnabod yr amgylchiadau digynsail o ran effaith COVID ar eich addysg. Ac ar annibyniaeth, sef y newid mwyaf radical un, pobl ifanc Cymru sydd eto yn arwain y gad. Dwi yn mawr obeithio y bydd nifer ohonoch ryw ddydd yn cynrychioli'ch cenhedlaeth unwaith eto yn Senedd annibynnol y dyfodol—eich dyfodol chi fydd hi. Ac ar sail yr ysbryd o undod a chreadigaeth a phositifiaeth yr ydych chi wedi dangos, mae yna le i bob un ohonom ni gredu y bydd y dyfodol hynny yn un disglair iawn i ni gyd.

Mae'n wirioneddol ysbrydoledig gallu croesawu cynrychiolwyr y Senedd Ieuenctid i’r Cyfarfod Llawn hwn. Rwy'n siŵr y bydd rhai ohonoch yn dyheu am ddod yn wleidyddion y dyfodol. Felly, efallai y gallaf gynnig ychydig eiriau o rybudd os gwnewch hynny. Yn gyntaf, pa ymdrechion bynnag y byddwch yn rhan ohonynt, ceisiwch gadw meddwl agored bob amser. Ni waeth pa athroniaeth wleidyddol rydych yn ei mabwysiadu, byddwch yn barod bob amser i archwilio safbwyntiau a syniadau gwleidyddol eraill. Yn anad dim, rwy’n eich annog i wneud eich ymchwil. Peidiwch â bodloni ar dderbyn datganiadau’r prif gyfryngau neu hyd yn oed y cyfryngau cymdeithasol—ymchwiliwch yn ddyfnach a cheisiwch ymdrin â phob syniad a chynnig mor effeithiol â phosibl.

Mae'n rhaid imi longyfarch pob un ohonoch ar y gwaith rydych wedi'i wneud. Rydych wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r ffordd y mae'r Senedd wedi gweithredu yn ystod dwy flynedd eich bodolaeth, ac rydych wedi gwneud yn gwbl sicr na fyddwn byth yn gallu anwybyddu llais pobl ifanc Cymru eto. Drwy greu'r sefydliad hwn, credaf fod Senedd Cymru wedi agor cyfle i bobl ifanc y wlad hon gymryd rhan ystyrlon mewn materion sy'n effeithio arnoch, ond peidiwch â chael eich siomi os caiff rhai o'ch awgrymiadau a'ch syniadau eu gwrthod neu os na chânt eu rhoi ar waith. Weithiau, ni ellir cyflawni'r hyn rydym yn dymuno’i wneud. Fodd bynnag, rwy'n teimlo y gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd y Senedd yn parchu ac yn ystyried yr holl safbwyntiau ac awgrymiadau rydych wedi'u cyflwyno. Wedi'r cyfan, dyna pam y cychwynnodd y Senedd Ieuenctid yn y lle cyntaf. Diolch i bob un ohonoch am gymryd rhan yn Senedd Cymru, ac rwy'n dymuno'n dda i chi ym mha yrfa bynnag y dewiswch ei dilyn. Diolch yn fawr, Lywydd.

13:25

Lynne Neagle sydd nesaf, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lynne Neagle.

Diolch yn fawr, Lywydd. Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd oedd y cyfle i wylio'r Senedd Ieuenctid yn datblygu. Mae gweithio gyda'i Haelodau ar y gwaith craffu a wnawn fel pwyllgor ac fel Senedd wedi bod yn fraint wirioneddol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth nad yw sefydlu'r Senedd Ieuenctid wedi cyfoethogi'r ddadl ar bynciau pwysig yn ystod y bumed Senedd.

Heddiw, rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan y seneddwyr ieuenctid am bopeth y maent wedi'i gyflawni ers cael eu hethol. Nid yw’n ddigon ei alw’n drawiadol. Fel y clywsom, mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi ceisio dylanwadu ar feysydd polisi allweddol, gan gynnwys diwygio'r cwricwlwm, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a thaflu sbwriel a gwastraff plastig. Nid yw'r rhain yn faterion bach na hawdd. Mae fy mhwyllgor wedi mynd i’r afael â dau o’r pynciau hyn, felly yn sicr, gallaf ddweud hynny o brofiad. Rydym wedi bod yn hynod ddiolchgar am fewnbwn a mewnwelediad ymholiadau ac adroddiadau'r Senedd Ieuenctid yn y meysydd hyn.

Yr un mor rhyfeddol, serch hynny, fu ei gallu i ddarparu cyfraniadau ymatebol ac amserol i faterion sy'n datblygu. Er enghraifft, cyfrannodd y Senedd Ieuenctid safbwyntiau pwysig i'n gwaith craffu ar y Bil cosb resymol, a gwyddom eich bod wedi bod yn llais pwysig yn y trafodaethau parhaus ynglŷn â sut rydym yn rheoli ac yn adfer wedi’r pandemig.

Dro ar ôl tro, rydym fel pwyllgor wedi pwysleisio pwysigrwydd clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau. Blaenoriaeth allweddol i ni oedd sicrhau bod dull o weithredu yn seiliedig ar hawliau plant yn cael ei fabwysiadu ar gyfer pob agwedd ar bolisi, deddfwriaeth a chyllid. Fel y dywedodd Maisy Evans, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn adlewyrchiad o hawliau plant ar waith. Mae effaith COVID-19 wedi pwysleisio’n gryfach nag erioed yr angen i sicrhau bod gan ein plant a’n pobl ifanc lais a bod y llais hwnnw’n cyrraedd pob agwedd ar fywyd cyhoeddus a gwneud penderfyniadau.

Hoffwn gloi fy sylwadau gyda thri phwynt terfynol. Yn gyntaf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i'n 60 seneddwr ieuenctid yng Nghymru. Rydych wedi gosod esiampl a fydd yn anodd ei dilyn, ond rwy'n hyderus y bydd yn ysbrydoli eraill i ymgysylltu a chymryd rhan yn y dyfodol. Yn ail, hoffwn annog unrhyw blant a phobl ifanc sy'n gwrando i ystyried ymgeisio i fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Fel y clywsoch heddiw, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn olaf, hoffwn gofnodi fy niolch i dîm y staff yn y Senedd ac yn y sefydliadau partner sydd wedi gweithio mor galed i sefydlu a chefnogi gwaith y bobl ifanc hynod hyn. Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn her i bawb ym mhob ffordd, ond mae'r gwytnwch a ddangoswyd gan ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys Aelodau ein Senedd Ieuenctid gyntaf yng Nghymru, yn ysbrydoliaeth ac yn destun balchder i bob un ohonom. Diolch o galon ichi i gyd.

13:30

Diolch, Lynne. Ac yn union fel chi, Lynne, mae'r Senedd Ieuenctid wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy nhymor fel Llywydd. Rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn ein Senedd ar hyn o bryd yn trafod pigiadau mewn breichiau; mae'r Senedd Ieuenctid wedi bod yn bigiad o obaith yn fy mraich i dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi dwli ar amrywiaeth eich cefndiroedd ac amrywiaeth eich safbwyntiau gwleidyddol, ond gan ddod at eich gilydd i geisio dod o hyd i dir cyffredin er budd eich cymunedau, eich cyfoedion, a’ch cenedl. Nid oes amheuaeth gennyf nad hwn fydd y cyfarfod Senedd olaf i rai ohonoch—bydd rhai ohonoch yn ôl ar ryw bwynt Ond yn y cyfamser,

diolch i chi am bopeth ŷch chi wedi ei gyfrannu.

Diolch am bopeth rydych wedi'i gyflawni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a bydd eich gwaddol yn parhau yn y Senedd Ieuenctid nesaf, a thu hwnt.

Felly, diolch yn fawr iawn.

Rwy'n dod â'r rhan hon o'r cyfarfod i ben, ac fe wnawn ni atal y cyfarfod am ychydig funudau, cyn inni ailgychwyn yn ffurfiol fel un Senedd yn unig.

Diolch, bawb.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:31.

Ailymgynullodd y Senedd am 13:34, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd i ddilyn nawr. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.

Parafeddygon a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi parafeddygon a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru? OQ56334

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ystod o fentrau i gefnogi parafeddygon a’r gwasanaeth ambiwlans, gan gynnwys buddsoddiad o £1.6 miliwn i ehangu’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, a £10.9 miliwn ar gyfer cerbydau gweithredol newydd, sydd wrth gwrs yn wyrdd a byddant yn lleihau ôl troed carbon y sefydliad.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn gyfnod anhygoel o anodd i bawb yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, o'r parafeddygon sydd wedi bod ar y rheng flaen i'r staff ymroddedig yn yr ystafelloedd rheoli a'r staff sy'n cynnal y gwasanaeth. Yn anffodus, gwelsom yn gynharach y mis hwn fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi colli pedwerydd aelod o staff i’r coronafeirws: Kevin Hughes, 41 oed o Ynys Môn. Mae llawer o aelodau staff wedi blino’n gorfforol ac yn feddyliol oherwydd y pwysau cynyddol ar wasanaeth sydd eisoes yn brysur. Mae angen cymorth a diogelwch, megis cyflenwad o gyfarpar diogelu personol, buddsoddiad mewn cerbydau ac offer, ynghyd â buddsoddiad yn y gweithlu.

A all y Gweinidog amlinellu beth arall y gellir ei wneud i gefnogi gweithlu ein gwasanaeth ambiwlans, dros y misoedd nesaf, ac wrth inni gefnu ar y pandemig?

13:35

Ie, diolch. Rwyf wedi amlinellu'r buddsoddiad cynyddol mewn cerbydau newydd yn fy ymateb cychwynnol. Rydym yn parhau i edrych ar y fflyd i sicrhau ei bod yn addas, ar gyfer ochr y gwasanaeth argyfwng, ond hefyd ar ochr gofal brys a chludo cleifion y gwasanaeth hefyd.

O ran llesiant, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol, felly ein cyflogwyr ac undebau llafur GIG Cymru, i ddarparu cynnig llesiant amlhaen ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys parafeddygon yn arbennig hefyd. Felly, mae llinell wrando gyfrinachol gan y Samariaid a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn arbennig ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru. Mae gennym nifer o apiau cymorth iechyd a llesiant rhad ac am ddim, fel Mind, Sleepio a SilverCloud. Mae gennym ystod o wahanol adnoddau, ac ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ceir rhestr ddefnyddiol o’r holl adnoddau hynny. Ac mae'n fater rwy'n ei drafod yn rheolaidd gyda'r undebau llafur yn fy sesiynau diweddaru rheolaidd gyda hwy, yn ogystal â'r trefniadau partneriaeth sydd ar waith.

O ran cyfarpar diogelu personol, rydym yn parhau i ddarparu cyfarpar diogelu personol i'n gweithwyr rheng flaen. Mae’r mwyafrif helaeth o gyfarpar diogelu personol a ddarparwyd—darparwyd dros 647 miliwn o eitemau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i iechyd a gofal cymdeithasol—daeth y mwyafrif helaeth yn uniongyrchol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gyda’r holl gontractau a roddwyd yn ddarostyngedig i lywodraethu cadarn. Mae hynny'n cynnwys amddiffyniad rhag cyfarpar diogelu personol ffug neu ansafonol. Felly, yng Nghymru, ar gaffael cyfarpar diogelu personol, ni chafwyd unrhyw ffafriaeth bleidiol, dim llwybr ar gyfer pwysigion, na ffrindocratiaeth. Rwy'n credu y dylai pawb yng Nghymru ymfalchïo yn y ffordd rydym wedi parhau i ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen.

Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ategu fy niolch i'r gwasanaeth ambiwlans cyfan am bopeth a wnânt mewn amgylchiadau mor ddirdynnol ac anodd. Weinidog, y mis diwethaf, cafwyd adroddiadau fod pryderon wedi eu mynegi fod rhai staff ambiwlans rheng flaen yn gwrthod cael eu brechu rhag y coronafeirws. Mae hyn yn creu risgiau amlwg wrth gwrs. Cadarnhaodd cyfarwyddwr gweithlu a datblygu sefydliadol gwasanaeth ambiwlans Cymru fod rhai staff wedi gwrthod y brechlyn, ond nad oedd y niferoedd yn cael eu cofnodi. A allwch ddweud wrthym, Weinidog, pam nad yw'r wybodaeth bwysig hon ar gael, ac a allwch roi gwybod i ni pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon y staff ambiwlans sy'n gyndyn o gael y brechlyn? Diolch.

Nid oes gennyf ffigur unigol wrth law heddiw o ran nifer y staff rheng flaen nad ydynt wedi manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn. Gwyddom fod lefelau anhygoel o uchel o’n staff rheng flaen wedi’i gael, gan gynnwys yn y gwasanaeth ambiwlans. Gwyddom hefyd, yn anffodus, fod yna garthffos o wybodaeth wrth-frechu sy'n ymwneud yn arbennig â phobl o oedran gweithio, gyda rhai honiadau arbennig o warthus yn cael eu gwneud am ffrwythlondeb dynion a menywod. Felly, rydym yn deall bod gan rai pobl bryderon gwirioneddol am y wybodaeth anghywir honno.

Hefyd, bydd gan grŵp cyfyngedig o bobl resymau meddygol pam nad yw'r brechlyn yn briodol ar eu cyfer hwy. Mae honno’n nifer fach iawn o bobl, ond rwy'n disgwyl i'r mater gael ei ddatrys nid yn unig gan y cyflogwr a'r undebau llafur yn gweithio gyda'i gilydd, ond gyda'r anogaeth gadarnhaol i bobl gael y brechlyn. A dylwn ddweud fy mod yn eich ategu chi, a Jayne Bryant hefyd, gyda’i chydnabyddiaeth o'r hyn y mae parafeddygon wedi'i wneud ac ym mhob rhan o'r gwasanaeth ambiwlans. Mae'n sefydliad llawer mwy eang na phen brys y system, ac mae'r ffordd y maent wedi cael cymorth gan y fyddin i gyflawni eu tasg, a sicrhau bod cerbydau'n barod, mae wedi bod yn ymdrech ‘tîm Cymru’ go iawn, a chredaf y dylai pawb, fel y dywedaf, ymfalchïo yn yr hyn y maent yn parhau i'w wneud yn yr amgylchiadau hynod heriol hyn.

Cwestiwn 2 i'w ofyn gan Mike Hedges ac i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol. Mike Hedges.

Pobl sy’n Byw ar eu Pennau eu Hunain

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain yn ystod y pandemig COVID-19 i osgoi’r perygl o unigrwydd ac unigedd? OQ56300

Rydym wedi cymryd nifer o gamau i gynorthwyo pobl i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y trydydd sector a llywodraeth leol, ac ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth emosiynol. Mae ein rheoliadau hefyd yn caniatáu i bobl ffurfio aelwyd estynedig os ydynt yn byw ar eu pen eu hunain.

13:40

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? A gwn ei bod yn rhannu fy mhryder ynghylch pobl sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig. Ni ddylai unrhyw un fynd ddiwrnod heb siarad â rhywun, ond yn anffodus, mae llawer yn gwneud hynny. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen inni sicrhau naill ai cyswllt cyfan neu gyfarfodydd rhithwir ar gyfer y rheini sy'n byw ar eu pen eu hunain nad oes ganddynt unrhyw deulu y gallant ffurfio swigen gyda hwy, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i ymdrin â hwy, yn enwedig pan fyddant yn hunanynysu a bod rhaid iddynt gadw draw oddi wrth bobl beth bynnag? Bydd argyfwng COVID yn dod i ben yn y pen draw, ond oni roddir camau ar waith, bydd pobl yn dal i deimlo'n unig ac yn ynysig. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen inni roi camau ar waith i sicrhau bod pobl yn dod i gysylltiad â rhywun bob dydd?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Mike. Ac a gaf fi ddiolch i chi am godi materion sy’n ymwneud ag unigrwydd yn gyson yn y Siambr hon, yn ogystal â materion sy’n ymwneud â phobl hŷn? Oherwydd gwn eich bod yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn, a fynychais yn ddiweddar, felly diolch yn fawr iawn am hynny.

Ie, credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gysylltu â phobl sy'n unig. Credaf ein bod yn gwybod, yn y pandemig hwn, fod y bobl a oedd eisoes yn unig yn fwy unig o lawer bellach, a bod grwpiau penodol yn debygol o fod yn unig, gan gynnwys pobl hŷn, ond wrth gwrs, mae pobl iau hefyd, a grwpiau eraill, fel pobl anabl, yn dioddef o unigrwydd yn enwedig.

Rwyf wedi ymateb, mewn cwestiynau tebyg, gan gyfeirio at fenter Ffrind Mewn Angen, a drefnwyd gan Age Cymru, sy'n gwarantu galwad ffôn bob wythnos i bobl hŷn sy'n unig, sef y math o fenter y credaf y byddai Mike Hedges yn ei chefnogi, gan ei bod yn darparu’r cyswllt hwnnw. Felly, rydym yn rhoi £400,000 i Age Cymru i gyflawni'r fenter honno. Ac rwyf wedi cymryd rhan yn un o'r sesiynau, a gallaf weld faint y mae'n ei olygu i unigolyn unig allu siarad am yr wythnos gyda gwirfoddolwr, sy'n aml yn unigolyn hŷn eu hunain, ond sydd wedi cael eu hyfforddi’n benodol i gymryd rhan yn y prosiect hwn. Felly, ydy, mae hynny'n cyrraedd nifer fach o bobl, ond credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i gynnal mentrau fel hynny, a'r mentrau eraill y cyfeiriais atynt yn fy ateb cyntaf, yn y pandemig hwn.

Diolch am eich atebion, Weinidog. Ychydig iawn y gallaf ei ychwanegu at y pwyntiau rhagorol sydd newydd gael eu gwneud gan Mike Hedges yn ei gwestiwn, heblaw am ailadrodd rhai o'r materion hynny. Fel y dywedasoch, roedd y peryglon i iechyd a ddeilliai o deimlo'n unig ac yn ynysig yn bodoli cyn y pandemig. Felly, mewn sawl ffordd, mae'r pandemig wedi gwaethygu'r problemau hynny, ac nid i bobl hŷn yn unig, ond ar draws rhan ehangach o'r gymdeithas yn ôl pob golwg. Felly, wrth inni ddod drwy’r cyfnod anodd hwn, a gweld y realiti hwn i bobl nad ydynt wedi’i brofi o'r blaen, pa strategaeth rydych yn ei datblygu i helpu pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl, gan y gwyddom fod hynny ar gynnydd, a hefyd, yn benodol, i fynd i'r afael ag elfen unigrwydd y problemau hynny?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Nick. Cytunaf yn llwyr ei bod yn broblem eang. Credaf ein bod yn tueddu i feddwl mai pobl hŷn sy'n dioddef o unigrwydd, ond mae’n cynnwys pobl iau yn benodol, ac fel y dywedais yn gynharach, pobl anabl, pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anos byth iddynt hwy. Felly, rydym yn sicr wedi cydnabod hyn drwy'r cyllid rydym wedi'i ddarparu, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl—£42 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl yn ein cyllideb ddrafft i gefnogi hyn—gan ein bod yn sicr yn disgwyl i effeithiau'r pandemig hwn barhau y tu hwnt i gyfnod y pandemig, a bydd gan bobl greithiau y bydd yn rhaid inni barhau i weithio gyda hwy. Felly, fel y dywedaf, rydym yn darparu arian ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i barhau â rhywfaint o'r cymorth hwn i bobl sydd wedi dioddef unigrwydd, a rhai ohonynt mewn ffordd nad ydynt wedi’i phrofi o'r blaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch, Llywydd. Weinidog, mi fyddwch chi'n ymwybodol bod grŵp o sefydliadau wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ynglŷn â mesurau i warchod gweithwyr iechyd a gofal rhag y feirws. Maen nhw'n dweud bod camau i leihau trosglwyddiad o'r feirws drwy'r awyr wedi bod yn annigonol ac maen nhw'n galw am wella safon awyru ac am newid canllawiau PPE er mwyn gwarchod y gweithlu. A wnewch chi fod yn rhagweithiol wrth ymateb i'r galwadau yna a chydnabod bod ein dealltwriaeth ni o drosglwyddiad drwy'r awyr wedi newid yn fawr iawn dros y flwyddyn ddiwethaf ac y dylai negeseuo iechyd cyhoeddus, yn ogystal â chanllawiau gwarchod staff, newid i adlewyrchu hynny, yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd awyr iach?

13:45

Rwy'n hapus i ddweud ein bod, mewn negeseuon rheolaidd gan Lywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at bwysigrwydd awyru da, a chaiff hynny ei wneud nid yn unig mewn cynadleddau i'r wasg a digwyddiadau eraill a wnaf, ond gan eraill—gan y prif swyddog meddygol, y dirprwy brif swyddog meddygol ac yn wir y Prif Weinidog, sydd wedi tynnu sylw at hyn hefyd. Gwn fod hynny wedi'i ystyried yn ymarferol. Er enghraifft, rydym wedi sicrhau bod gan fy mab haen ychwanegol o ddillad oherwydd bod ffenestri yn ei ystafell ddosbarth ar agor pan ddychwelodd i'r ysgol. Felly, mae'r neges yn cael ei lledaenu ar awyru mewn modd llawer mwy arwyddocaol a chyson nag y byddai wedi bod ar ddechrau'r pandemig, a bod yn deg.

Pan ddaw'n fater o adolygu pa mor ddigonol yw cyfarpar diogelu personol, mae hwnnw'n fater rydym yn ei adolygu'n rheolaidd. Y sawl sy'n arwain ar hynny yw'r dirprwy brif swyddog meddygol, yr Athro Chris Jones. Mae'n ymgysylltu'n rheolaidd â chymheiriaid eraill ledled y DU i sicrhau bod ein canllawiau'n cael eu diweddaru. Deallaf y pryderon sydd gan rai pobl o ran p'un ai fersiwn gyfredol o'r cyfarpar diogelu personol yw'r fersiwn gywir o gyfarpar diogelu personol, o gofio bod gennym amrywiolyn mwy trosglwyddadwy o'r feirws—amrywiolyn Caint—yn lledaenu fel yr amrywiolyn mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond mae'r adolygiad diweddaraf yn dangos bod ein safonau presennol yn briodol, ac fel arfer, cânt eu hadolygu'n barhaus.

Diolch. Dwi am droi nawr at effaith hirdymor COVID-19. Mae'n wych bod y broses frechu yn datblygu'n dda, ond bydd yna lawer, wrth gwrs, yn aros yn hir iawn cyn cael brechiad, yn cynnwys pobl ifanc, ac mae hwythau yn agored i risg acíwt , difrifol, fel rydyn ni wedi'i weld yn y ffordd fwyaf poenus yn Ynys Môn dros y dyddiau diwethaf yn sgil marwolaethau dau ŵr ifanc, Kevin Hughes a Huw Gethin Jones. Dwi'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran y Senedd i gyd wrth anfon ein cydymdeimlad at eu teuluoedd nhw heddiw. Ond i'r rheini fydd yn ddigon ffodus i beidio â datblygu salwch difrifol, rydyn ni'n dod i ddeall mwy a mwy o hyd am beryglon COVID hir. 

Mi wnes i gyfarfod yr wythnos yma efo mudiad Long Covid Wales a thrafod yr angen am lawer mwy o fuddsoddiad mewn gofal COVID hir, sy'n wahanol i rehab ôl-COVID. Mae eisiau gofal iechyd i ddioddefwyr COVID hir. Dwi'n nodi heddiw, mae'n digwydd bod, bod yna £750,000 ychwanegol wedi'i glustnodi yn yr Alban ar gyfer gofal COVID hir. A gawn ni ymrwymiad o fwy o adnoddau i gynnig y gofal yma ac, yn allweddol, i sicrhau ei fod ar gael ym mhob rhan o Gymru? Achos ar hyn o bryd, rydych chi yn llawer mwy tebygol o gael unrhyw fath o ofal os ydych chi'n byw yn y de-ddwyrain. 

Mae hwn yn fater rwy'n ei ystyried yn bwysig iawn. Gyda hyn, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor iechyd mewn ymateb i lythyr y Cadeirydd ar ran y pwyllgor ar COVID hir gyda chyfres o gwestiynau. Byddwn yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud a'r gwaith rydym yn ei wneud ar y llwybr COVID hir rydym wedi cytuno arno hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall, pan fyddwn yn sôn am COVID hir, ein bod yn sôn am amrywiaeth o effeithiau, oherwydd nid yw hwn yn gyflwr cyffredinol ei natur, yn yr ystyr y gallai'r symptomau amrywio. Efallai fod gennych bobl nad ydynt wedi bod yn yr ysbyty, ond nad ydynt wedi gwella'n llwyr ac sy'n profi symptomau cyson sy'n effeithio ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Efallai y bydd gennych hefyd bobl sy'n dioddef o effaith lawer mwy sylweddol ac efallai y bydd pobl yn dioddef niwed i wahanol organau, gyda chanlyniadau tymor hwy yn ogystal. Rydym yn awyddus i gael dull sy'n ystyried y gwahanol effeithiau ar wahanol bobl ac rydym yn cydnabod y bydd hyn yn galw am ddull amlddisgyblaethol o weithredu.

Mae'n rhan o'r rheswm pam rydym wedi gweithio gyda chymheiriaid mewn gofal sylfaenol, yn ogystal â gofal eilaidd, i ddeall sut i lunio llwybr ac i sicrhau bod gan gymheiriaid gofal sylfaenol allu i atgyfeirio pobl at y rhan briodol o'r llwybr hwnnw hefyd. Bydd hynny'n bwysig iawn ar gyfer y dyfodol, oherwydd y gwir amdani yw nad oes gennym ddigon o ddealltwriaeth heddiw i sefydlu llwybr triniaeth diffiniol a fydd yn gwneud y tro ar gyfer popeth ac unrhyw beth yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ddysgu, a dyna pam ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn ymchwil ar COVID hir. Dyna pam y bydd angen i'r Llywodraeth nesaf ailasesu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth beth bynnag fydd yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf o fis Mai ac unwaith eto, bydd angen iddi ddychwelyd at y llwybr presennol sydd gennym ar waith i sicrhau ei fod yn dal yn briodol ac i ddeall pan fydd datblygiadau pellach mewn gofal a thriniaeth yn cael eu darparu. Felly, mae hwn yn ddarlun sy'n newid ond mae'n un rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd ato, oherwydd rwy'n cydnabod y bydd hon yn un o effeithiau mwy hirdymor COVID. Mae'r ffaith bod cynifer o bobl wedi gwella yn arwydd o lwyddiant, ond bydd natur yr adferiad hwnnw'n amrywio a bydd nifer o bobl yn dioddef cyfnodau mynych o salwch. 

13:50

Mae yna dal diffyg dealltwriaeth, dwi'n meddwl, o ba mor galed mae COVID yn gallu taro pobl. Hyd yn oed os nad ydy pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty, mae'n gallu cymryd wythnosau lawer i rai pobl ddod dros y symptomau cychwynnol. Dwi wedi clywed am un ddynes yn benodol yn cael ei bygwth efo camau disgyblu gan ei chyflogwr oni bai ei bod hi nôl yn y gwaith o fewn pythefnos. Mae hi'n digwydd bod yn well erbyn hyn, ond mi gymerodd fis iddi. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn bod yn gyfrifol, ond efo pob math o straeon i'w clywed am weithwyr yn cael cais i ddefnyddio gwyliau blynyddol i hunanynysu neu i anwybyddu cais i hunanynysu yn llwyr, a wnewch chi fod yn gwbl gadarn ar y mater hwn a gwthio am gamau erlyn os oes angen—a allai fod mor ddifrifol â corporate manslaughter hyd yn oed, yn yr achosion mwyaf difrifol—os oes yna dystiolaeth glir bod cyflogwyr neu eraill yn gweithredu mewn ffordd sydd yn cyfrannu at ledaeniad y feirws?

Mae dau bwynt penodol yno. Yn gyntaf, nid yw Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau erlyn. Ceir gwahanu pwerau eglur. Mae'n debyg ei fod yn beth da i bawb nad wyf, fel Gweinidog iechyd, mewn sefyllfa i gyfarwyddo'r gwasanaethau cyfiawnder troseddol i gynnal erlyniadau neu i beidio â gwneud hynny. Fodd bynnag, o ran y gyfraith a'n disgwyliadau, rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae'n gorff a gadwyd yn ôl, ond maent yn glir iawn ynghylch pa ofynion cyfreithiol sydd mewn grym yma yng Nghymru a beth y mae hynny'n ei olygu mewn perthynas â busnesau nad ydynt yn cydymffurfio wrth ddilyn y rheolau hynny, boed hynny'n weithgareddau manwerthu neu weithgareddau eraill hefyd. Mae'r canllawiau a gyhoeddir gennym yn effeithio'n wirioneddol ar sicrhau bod gweithleoedd yn weithleoedd diogel yng ngoleuni'r ffaith bod salwch heintus yn dal i ledaenu'n eang ym mhob cwr o'r wlad. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud mewn gwirionedd, ynglŷn â sicrhau bod neges glir gan y Llywodraeth am safonau ymddygiad disgwyliedig gan gyflogwyr ac i beidio ag oedi cyn cefnogi'r camau a gymerir, boed hynny gan sefydliadau iechyd yr amgylchedd, safonau masnach neu'n wir, mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli, er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cadw'n ddiogel.  

Rydym yn cael y sgyrsiau hyn yn rheolaidd, nid yn unig yn y bartneriaeth gymdeithasol ond hefyd yn y fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol sydd wedi'i greu. Credaf ein bod yn glir iawn ynglŷn â'n disgwyliadau ar gyfer cyflogwyr mewn perthynas â sut y mae angen iddynt gadw eu busnesau'n ddiogel er mwyn cadw eu gweithwyr a'u cwsmeriaid yn ddiogel. Bydd angen i ni ddychwelyd at hyn eto, wrth i'n tystiolaeth, ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o COVID newid yn y dyfodol. Wrth i ni wella a chefnu ar argyfwng y pandemig, rwy'n gobeithio y byddwn yn sicrhau nad ydym yn llaesu dwylo mewn perthynas â'r mater hwn. Oherwydd ni fyddwn ychwaith am weld cyflogwyr yn rhoi camau byrbwyll ar waith yn erbyn pobl y byddwn o bosibl yn fy mywyd blaenorol wedi dwyn achos o gamwahaniaethu yn eu herbyn os yw'r rhain yn bobl yr effeithir yn sylweddol ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd gan salwch mynych. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n disgrifio llawer iawn o'r hyn y mae COVID hir yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl sydd â'r cyflwr a'r tebygolrwydd o salwch yn y dyfodol. Gobeithio bod pob cyflogwr yn mabwysiadu ymagwedd lawer mwy ystyriol, oherwydd mae'r rhain yn faterion lle bydd ein dealltwriaeth yn parhau i ddatblygu ac rydym am i bobl ddychwelyd i'r gwaith a chyfrannu at ddyfodol ein heconomi. 

Prynhawn da, Weinidog. Pryd rydych yn gobeithio cyflwyno cynllun cenedlaethol ar gyfer ymdrin â phroblem y rhestrau aros sydd gennym yma yng Nghymru?

Rwy'n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi cynllun adfer y GIG cyn diwedd mis Mawrth. Rwyf wedi nodi hyn o'r blaen. Bydd angen inni edrych ar adferiad yn gyffredinol, felly nid gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio a gwasanaethau dewisol yn unig ond yn fwy cyffredinol hefyd. Mae angen inni ddisgrifio'r dull rydym yn ei gymryd a beth fydd hynny'n ei olygu i roi rhywfaint o gyd-destun i bawb am raddfa'r dasg fel y mae ac yna nodi sut rydym eisoes yn gweithio i'w gynllunio ac yna i allu ei gyflawni. Yr her o hyd fydd ein bod, erbyn diwedd mis Mawrth, yn annhebygol o fod â set ddiffiniol o gynlluniau cyflawni gan nad ydym yn rhagweld y byddwn yn ailagor ein holl wasanaethau o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol erbyn yr adeg honno, a bydd hynny'n effeithio ar raddfa'r broblem y bydd yn rhaid i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol ei hwynebu a'i datrys. Ond rydym yn disgwyl y gallwn ddarparu canllawiau llawer cliriach ynglŷn â sut olwg fydd ar yr adferiad.

Rydych yn sôn am adferiad mewn ffordd gyffredinol, ac rwy'n derbyn hynny. Deallaf fod yn rhaid ichi edrych ar y GIG yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n pryderu'n benodol am yr amseroedd aros am driniaeth. Bellach mae gennym dros 538,000 o bobl—dyna un o bob pump o'n poblogaeth—yn aros am ryw fath o driniaeth. Mae'n ddigon posibl nad oes cymaint o frys am bob un o'r triniaethau hyn—er y gallai'n hawdd fod brys i'r unigolyn sydd eu hangen—ond ceir llawer iawn o bobl, yn amrywio o bobl yn aros am driniaeth ddiagnostig i fenywod sy'n aros am driniaeth gynaecolegol, pobl sydd angen triniaeth ar gyfer eu llygaid fel nad ydynt yn colli eu golwg; mae'r rhain i gyd yn bobl y gallai aros am driniaeth yn hawdd effeithio'n ddifrifol ar ansawdd eu bywydau ac ar eu canlyniadau yn y pen draw. Rwy'n deall y sefyllfa rydym ynddi—rydym wedi bod drwy uffern ar y ddaear dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf—ond rwy'n awyddus iawn i gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd cynllun wedi'i dargedu yn cael ei anelu'n benodol at hyn.

Y rheswm pam rwy'n gofyn i chi, Weinidog, yw oherwydd fy mod yn clywed byrddau iechyd yn dweud wrthyf eu bod yn mynd i gymryd hyd at ddegawd i ymadfer a dychwelyd at lle roeddent cyn i'r pandemig ddigwydd. Rwy'n ymwybodol fod llawer o fyrddau iechyd yn defnyddio byrddau iechyd eraill i ddarparu rhai gwasanaethau. Oni bai bod cynllun cenedlaethol unedig ar waith, gallai fod yn anodd iawn cael yr holl wasanaethau i ddechrau gweithredu ar eu gorau ar yr un pryd. Er enghraifft, yn Hywel Dda, nid oes triniaeth ar gyfer ceratoconws; rhaid ichi fynd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Os nad yw'r bwrdd hwnnw'n penderfynu gwella'r broses mewn pryd, bydd pobl yn Hywel Dda yn parhau i aros. A allwch roi sicrwydd inni eich bod yn mynd i edrych ar hyn yn benodol, ac a allwch roi rhyw syniad inni sut y gallwch fynd i'r afael â'r broblem honno? Fel y dywedais, rwy'n deall yn iawn ei bod yn her sylweddol, ond mae angen inni hefyd fod yn ymwybodol o gyllid ac adnoddau. A ydych chi'n gallu rhoi unrhyw syniad i ni?

13:55

Pan fyddwn yn cyhoeddi cynllun adfer y GIG, byddwn yn mynd i'r afael o'i fewn â'r ffaith y bydd angen adnoddau ar gyfer hyn nid yn unig mewn blwyddyn, ond dros y tymor cyfan. Rwyf wedi nodi o'r blaen fy mod yn credu y bydd yr adferiad yn cymryd tymor seneddol llawn fan lleiaf. Dyna faint y broblem sydd gennym. Mae'n debyg nad yw'n llawer o gysur i bobl yma yng Nghymru, ond fe welwch raddfa enfawr yr her ym mhob rhan o'r DU, oherwydd y flwyddyn ddiwethaf rydym i gyd wedi byw drwyddi. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud nid yn unig am y cynnydd yn y niferoedd a'r ôl-groniad sydd wedi datblygu, ond y ffaith y gallai hynny olygu fod niwed na ellir ei wrthdroi yn cael ei achosi. Mae hynny'n rhan o'r anhawster o orfod gwneud dewisiadau drwy'r pandemig hwn ac am bwyso a mesur a chydbwyso'r effaith ar wahanol bobl.

Fodd bynnag, dylwn ddweud nad yw'n wir fod un o bob pump o bobl Cymru ar restr aros. Bydd nifer o'r bobl sy'n aros yn cael apwyntiadau ar wahanol restrau, ac mae'n rhan o'r her o gael trafodaeth gywir am y raddfa. Y niferoedd y mae'r Aelod yn eu dyfynnu yw nifer yr apwyntiadau sydd eto i'w cynnal mewn amrywiaeth o feysydd, fel y nodwyd ganddi, o gleifion allanol i weithgaredd mwy difrifol hefyd. I mi, mae hynny'n atgyfnerthu pwysigrwydd parhau i ymladd y coronafeirws a pheidio â cholli rheolaeth ar y feirws eto, oherwydd byddai hynny'n golygu aflonyddu pellach a mwy fyth o niwed ac ôl-groniad. Ond fe allwch ddisgwyl cynllun sy'n cwmpasu amrywiaeth o wahanol feysydd, gan gynnwys cydbwysedd rhwng dewisiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Efallai nad fi fydd y Gweinidog sy'n gorfod gwneud y dewisiadau cenedlaethol hynny, ond bydd angen i bwy bynnag sy'n dychwelyd fel Gweinidog iechyd ar ôl yr etholiad ym mis Mai fod yn barod i wneud dewisiadau cenedlaethol i adeiladu ar y cynllun a gyhoeddir erbyn diwedd mis Mawrth, oherwydd bydd hyn, fel y dywedais, yn ymrwymiad sylweddol i'r wlad gyfan.

I ddychwelyd at yr ystadegau hynny, fe ddaethant o wybodaeth y Llywodraeth, ond rwy'n fodlon mynd yn ôl i adolygu hynny, oherwydd roedd yn eithaf clir mai un o bob pump ydoedd. Un o'r meysydd a welodd gynnydd astronomegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw maes gwasanaethau gynaecolegol. Roedd gennym lai na 1,000 o fenywod yn aros dros 36 wythnos; nawr mae gennym dros 13,000 o fenywod yn aros am ryw fath o driniaeth. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd â ni ôl at anghydraddoldebau iechyd, onid yw? Bydd pob un o'r pleidiau wedi derbyn llythyr yn ystod yr wythnos ddiwethaf gan Goleg Brenhinol y Meddygon ar ran 30 o sefydliadau yn sôn am anghydraddoldebau iechyd. A fydd y Llywodraeth yn gallu gwneud unrhyw ymrwymiad nad dull cyffredinol o weithredu yn unig a geir yn y cynllun adfer hwn, ond y byddwch yn edrych ar anghydraddoldebau iechyd allweddol i sicrhau bod grwpiau fel menywod, sydd yn draddodiadol wedi dioddef anghydraddoldeb iechyd mewn grŵp eang o feysydd, yn cael eu cynnwys ar yr un pryd? Nid menywod yn unig wrth gwrs; mae llawer o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn profi anghydraddoldebau iechyd penodol. A fyddwch yn gwrando'n astud iawn ar y sylwadau sy'n cael eu gwneud gan Goleg Brenhinol y Meddygon a'u tebyg i geisio sicrhau nad ydym yn caniatáu i'r pandemig hwn ehangu'r anghydraddoldebau iechyd sydd gennym eisoes yma yng Nghymru?

14:00

Os caf ymdrin â'r pwynt am y ffigurau yn gyntaf, ac ymdrin wedyn â'ch pwynt am anghydraddoldebau iechyd, ar y ffigurau, mae'r ffigurau'n gywir o ran nifer yr apwyntiadau sydd eto i'w cynnal, ond nid oes un rhan o bump o'r bobl yn aros am apwyntiad oherwydd bydd rhai o'r rheini'n unigolion ar fwy nag un rhestr, a dyna'r pwynt rwy'n ei wneud. O ran nifer y bobl sy'n aros mewn gwirionedd, nid yw'n un o bob pump o'r boblogaeth mewn gwirionedd. Mae'r ffigur a ddyfynnwch yn ffigur cywir ar gyfer nifer yr apwyntiadau unigol. Gwn fy hun y gallwn fod ar ddwy restr aros o bosibl, at ddibenion y ddadl, pe bawn yn glaf newydd gyda'r ddwy broblem unigol y mae'r GIG yn rhoi gofal rheolaidd i mi gyda hwy. Felly, dyna'r pwynt rwy'n ei wneud o ran cael trafodaeth gywir am faint yr her sy'n ein hwynebu.

Ar eich pwynt am anghydraddoldebau gofal iechyd, rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau gofal iechyd ac wedi eu gwneud hyd yn oed yn fwy amlwg nag yr oeddent o'r blaen. Mae lefel y niwed, y niwed gwahanol sydd wedi'i greu gan y coronafeirws—. Nid yw'n taro pawb i'r un graddau. Y realiti yw bod niwed yn digwydd i'r cymunedau, i'r teuluoedd, i'r unigolion gyda'r nifer fwyaf o anghydraddoldebau iechyd ar ddechrau'r pandemig hwn.

Rhaid inni sicrhau bod yr adferiad yn rhoi ystyriaeth briodol i hynny yn y ffordd rydym yn blaenoriaethu pobl sydd â'r angen clinigol mwyaf, y ffordd rydym yn cyrraedd y bobl hynny'n gyntaf, a'r ffordd rydym yn sicrhau nad yw ein hadferiad yn gwaethygu, unwaith eto, yr anghydraddoldebau gofal iechyd sy'n bodoli. Mae hynny'n golygu na all fod mai'r lleisiau mwyaf croch sy'n gwthio drwy'r system gyflymaf. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut rydym yn mynd ati'n fwriadol i gynllunio adferiad sy'n ystyried yr holl anghydraddoldebau gofal iechyd, a bydd hynny'n anodd oherwydd maint yr her sydd gennym. Ond rwy'n credu y bydd ein dull gofal iechyd darbodus a gofal iechyd sy'n seiliedig ar werthoedd yn ein helpu i wneud hynny, i'w gynnwys yn ein system. Mae hyn i gyd yn gwbl gyson â'r dull 'Cymru Iachach' sydd gennym, lle byddwch, wrth gwrs, yn cofio o ddechrau'r tymor hwn, o'r adolygiad seneddol i gael 'Cymru Iachach', fod anghydraddoldebau gofal iechyd wrth wraidd y cynllun hwnnw yn bendant iawn, a bydd angen iddynt fod wrth wraidd ein dull adfer hefyd.

Triniaeth Orthopedig

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer triniaeth orthopedig yng ngogledd Cymru? OQ56314

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu eu cynlluniau orthopedig a'u cefnogi i addasu eu darpariaeth i ddiwallu'r anghenion newidiol a achoswyd gan COVID-19, gan gynnwys y cynnydd sylweddol yn yr amseroedd aros am driniaeth orthopedig.

Diolch. Mae hyn yn dilyn cyfraniad fy nghyd-Aelod Angela Burns mewn gwirionedd, a'r pryderon ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd gyda thriniaeth. Felly, rwyf wedi bod yn cysylltu â phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn gynharach y mis hwn, anfonodd lythyr ataf a oedd yn datgan, a dyfynnaf,

gyda'r nifer fach o lawdriniaethau dewisol rydym wedi gallu eu cyflawni dros y 12 mis diwethaf, mae amseroedd aros wedi cynyddu'n sylweddol.

Roeddwn yn ysgrifennu ati am etholwr a fu'n aros yn hir mewn poen aruthrol. Dywedodd fod gan un meddyg ymgynghorol, Mr Ganapathi, fwy na 450 o gleifion yn aros am driniaeth erbyn hyn, ac yn ôl y prif weithredwr, mae dros 350 o'r rhain wedi aros yn hwy na fy etholwr a atgyfeiriwyd—gwrandewch ar hyn—i gael dau ben-glin newydd ym mis Tachwedd 2017, ymhell cyn ein pandemig, Weinidog. Felly, er ein bod yn cydnabod y pwysau a achoswyd gan COVID-19 ac yn croesawu'r newyddion fod uned gofal ôl-anaesthesia newydd wedi agor yn Ysbyty Gwynedd, mae'r dystiolaeth yn glir fod triniaeth orthopedig yn wynebu argyfwng yma yng ngogledd Cymru. Felly, rhowch wybod pa gamau rydych yn eu cymryd i helpu i hwyluso mwy o lawdriniaethau achosion dydd a chleifion mewnol, ac a ellir ystyried cynyddu partneriaeth y bwrdd iechyd ag ymddiriedolaethau yn Lloegr, a dod i drefniant gyda mwy na dim ond dau, fel bod modd cynnig llawdriniaeth i gleifion y tu allan i'r bwrdd iechyd hwn. Diolch.

Rwy'n credu bod sawl peth yno. Y cyntaf yw cydnabod bod her eisoes gyda'r ddarpariaeth orthopedig yng ngogledd Cymru cyn y pandemig. Roeddem yn gweld cynnydd mewn gweithgaredd yng ngogledd Cymru, ond roedd yn arafach na'r galw, felly roedd rhestrau'n mynd yn hwy ar gyfer triniaeth orthopedig at ei gilydd. Ni ellir gwadu hynny.

Yr ail bwynt serch hynny yw bod hynny wedi'i waethygu hyd yn oed ymhellach yn ystod y pandemig. Fel y gŵyr yr Aelodau, gwelwyd tarfu sylweddol ar ofal a thriniaeth arferol, felly mae'r rhestr aros orthopedig wedi tyfu hyd yn oed ymhellach yn ystod y pandemig, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled y wlad gyfan. Ein her yw sut y mae cyrraedd system gynaliadwy a sut rydym yn ymdrin â'r ôl-groniad mawr sydd wedi datblygu. Gyda phob parch, nid wyf yn credu bod partneriaethau ag ymddiriedolaethau'r GIG yn Lloegr yn debygol o fynd i'r afael â mater yr ôl-groniad na gwasanaeth cynaliadwy. Y rheswm am hynny yw bod angen i'r system yn Lloegr gyrraedd pwynt lle mae'n fwy cytbwys hefyd. Ni fyddwn yn gallu prynu ein ffordd drwy hyn drwy gyflawni mwy o weithgarwch yn y sector preifat yn unig. Bydd angen inni gael dull gweithredu priodol y credaf ei fod yn gyson â gwerthoedd y GIG yma yng Nghymru.

Mae'n werth ystyried bod Lloegr hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu rhestrau aros orthopedig; ni fydd capasiti yn y GIG yn Lloegr i ni wneud defnydd ohono am beth amser i ddod. Felly, mae hynny'n golygu bod angen inni ddod o hyd i ddull gweithredu yma yng Nghymru sy'n deall natur ein her, sut y mae cyrraedd system sy'n gynaliadwy ac ar yr un pryd, o ran staff sy'n mynd i fod wedi ymlâdd erbyn pan ddaw argyfwng y pandemig i ben yn y diwedd, sut y gallwn gynhyrchu mwy fyth o weithgaredd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Nid yw hon yn her syml i'w goresgyn, a bydd angen i ni symud y tu hwnt i atebion gor-syml 'gweithio'n galetach' neu 'wario mwy o arian'. Bydd angen inni arloesi gyda'r ffordd y mae ein GIG yn parhau i weithredu gwasanaeth cyhoeddus sy'n cyflawni yn erbyn yr heriau enfawr sy'n ei wynebu.  

14:05

Fel y dywedodd y ddau siaradwr blaenorol, Weinidog, mae rhestrau aros ar lefelau nad ydym wedi'u gweld ers blynyddoedd. Bydd nifer ar y rhestrau aros hynny'n cael eu derbyn fel achosion argyfwng i'r ysbyty cyn bo hir ar ôl i'w hansawdd bywyd gael ei ddinistrio gan boen ac anabledd. Mae etholwyr yn adrodd am wasanaeth iechyd nad yw'n ofal COVID sy'n dameidiog ac anwastad iawn ar draws y rhanbarth, gan awgrymu ein bod yn wynebu math gwahanol iawn o argyfwng i'r GIG, ond argyfwng serch hynny. Rydych wedi dweud bod yna gynllun, fod gennych chi gynllun. Pryd y gwelwn y cynllun hwn i allu craffu arno, a pha bryd y dechreuir ei weithredu? Diolch.

Fel y dywedais, rydym yn disgwyl cyhoeddi cynllun adfer y GIG cyn diwedd mis Mawrth. Byddwn am i Aelodau allu gweld y cynllun hwnnw cyn inni symud i gyfnod yr etholiad. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond yn fwy na hynny, o ran gweld y gweithgaredd hwnnw'n gwella, mae hynny'n dibynnu mewn gwirionedd ar drywydd y pandemig. Pan fo gennym unedau gofal critigol o hyd sydd ar 115 y cant o'u capasiti, pan fo gennym niferoedd sylweddol o gleifion COVID yn ein hysbytai o hyd, nid yw'n rhesymol disgwyl i'r GIG ailgynhyrchu'r un lefel o weithgarwch dewisol arferol ag yr arferem ei weld fwy na blwyddyn yn ôl.

Mae gennym hefyd y gofynion ychwanegol ar gyfer cyfarpar diogelu personol y cyfeiriodd Jayne Bryant atynt—cyflenwi cyfarpar diogelu personol—yn ei chwestiwn cyntaf. Mae hynny'n golygu na allwn gyflawni cymaint o weithgarwch yn yr un diwrnod. Felly, mae gennym nifer o anfanteision gwirioneddol i'r GIG mewn perthynas â chadw ein staff a'n pobl yn ddiogel wrth gyflawni gweithgarwch. Felly, bydd hyn yn anodd. Y cynllun, fel y dywedais—y cynllun adfer—gallwch ddisgwyl iddo gael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth. Wrth gwrs, bydd y pandemig yn helpu i benderfynu pryd y gallwn ddechrau cyflawni rhywfaint o hyn, yn ogystal â'r gwaith y mae ein sefydliadau GIG eisoes yn ei wneud i gynllunio a chyflawni'r gweithgarwch pellach hwnnw.

Y Rhaglen Frechu

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y rhaglen frechu yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56298

Diolch. Llwyddasom i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf i gynnig brechiad i'r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu erbyn canol mis Chwefror. Rydym yn y sefyllfa ffodus o fod y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Rydym yn gwneud cynnydd da tuag at y garreg filltir nesaf, sydd, yn amodol ar gyflenwad, i gynnig brechiad i grwpiau 5 i 9 erbyn canol mis Ebrill. Yn Alun a Glannau Dyfrdwy, rwy'n falch o ddweud bod pob practis meddyg teulu yn helpu i gyflawni ein rhaglen frechu lwyddiannus.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog, a'r wybodaeth bwysig ynddo. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod gan yr Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i weithredu fel arweinwyr yn eu cymunedau, ac ers dechrau'r rhaglen frechu, rwyf wedi ceisio gweithio gyda'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru drwy fy ymgyrch i frechu Sir y Fflint er mwyn cynorthwyo a chefnogi'r broses o gyflwyno'r brechlyn lle gallaf wneud hynny. Nawr, roedd gan Aelodau eraill o'r Siambr hon lawer i'w ddweud yn ystod y dyddiau cyntaf, a bron yn mynnu gwybod pam nad oedd y boblogaeth wedi cael ei brechu ar unwaith. Nawr, ers peth amser, dan arweiniad gwych ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig ac ar draws Ewrop, ac mae beirniaid y dyddiau cynnar wedi distewi. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn llongyfarch yn gyhoeddus a rhoi anogaeth i bawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu?

14:10

Ydw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pawb, waeth beth fo'u gwleidyddiaeth, yn cydnabod y llwyddiant gwych y mae rhaglen frechu Cymru wedi'i gael. Mae gwaith caled, ymroddiad, sgiliau ac arbenigedd ein staff, ein partneriaid yn y lluoedd arfog, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol wedi dangos ein bod wedi gwneud defnydd da o'r wythnosau cyntaf, pan oedd ein cyfradd gyflenwi'n arafach na gwledydd eraill y DU, er mwyn cynllunio ar gyfer gallu mynd yn llawer cyflymach. Dyna pam ein bod ar frig y tabl yn y pedair gwlad ar hyn o bryd o ran y ganran gyffredinol o'r boblogaeth sydd wedi cael eu brechlyn a nifer yr oedolion sydd wedi cael eu brechlyn hefyd, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael eu cyflwyno ymhellach yn llwyddiannus yng ngrwpiau 5 i 9, ac yna i weddill y boblogaeth oedolion. Gobeithio y bydd y bobl a oedd yn feirniadol yn rhoi eu cefnogaeth lwyr yn awr ac yn rhoi clod i'r Llywodraeth hon a'n gwasanaeth iechyd gwladol gwych am lwyddiant rhyfeddol y rhaglen frechu yng Nghymru.

Roedd y strategaeth frechu genedlaethol hyd at 14 Chwefror yn cynnwys staff cartrefi gofal, ond dywedodd Fforwm Gofal Cymru yr wythnos diwethaf fod penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i seilio ffioedd cartrefi gofal ar dalu'r isafswm cyflog i hanner y staff yn sarhad ar weithwyr gofal sy'n rhoi eu bywydau eu hunain yn y fantol ac sydd wedi gwneud eu gorau glas mewn modd arwrol i ddiogelu eu preswylwyr rhag pandemig marwol y coronafeirws. Wrth ymateb, dywedodd cyngor Sir y Fflint wrthyf, 'Nid mater lleol yw hwn ac rydym yn gweithio yn ôl fformiwlâu ariannu rhanbarthol wrth ddyrannu cyllid, a chytunasom ar y codiadau blynyddol ar y cyd â darparwyr comisiynu.' Wrth ymateb i hyn, fodd bynnag, dywedodd Fforwm Gofal Cymru wrthyf, 'Nid wyf yn credu y dowch o hyd i un darparwr cartref gofal annibynnol a fyddai'n cytuno bod y cynnydd yn ffioedd Sir y Fflint ar gyfer 2021-22 wedi'i gytuno ar y cyd â darparwyr.' Sut rydych yn ymateb felly i'w cwestiwn pam fod ffioedd gogledd Cymru wedi mynd o frig y gynghrair i'r gwaelod erbyn hyn, pan fo pob tystiolaeth yn dangos bod dibyniaeth preswylwyr mewn cartrefi gofal yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, ac yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi cynyddu'n sylweddol?

Wel, rwy'n hyderus iawn nad oes a wnelo'r cwestiwn dilynol ddim â llwyddiant y rhaglen frechu yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ond fel y gwyddoch, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddyfodol mwy hirdymor i adolygu nid yn unig y ffordd y trefnir y sector gofal cymdeithasol ond sut rydym yn ei ariannu, sut rydym yn gwobrwyo ein staff. Edrychaf ymlaen at weld pob plaid yn cyflwyno eu ffyrdd amgen o ariannu gofal cymdeithasol yn briodol yn y dyfodol yn y maniffestos nesaf y byddwn i gyd yn eu rhoi gerbron pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i'r Siambr hon cyn diwedd y tymor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal, ac edrychaf ymlaen at weld Aelodau Ceidwadol yn dod o hyd i ffyrdd newydd o roi adnoddau ychwanegol tuag at ein system gofal cymdeithasol yn hytrach na mynnu adnoddau ychwanegol heb nodi o ble y dylai'r arian hwnnw ddod.

Ymwelwyr Iechyd

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio ymwelwyr iechyd yng Nghymru? OQ56331

Gwnaf. Darparodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar ddarparu rhaglen Plant Iach Cymru gan ymwelwyr iechyd yn ystod y pandemig, er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael eu gweld a bod teuluoedd yn cael eu cefnogi cyn belled ag y bo modd. Rydym yn ymwybodol y gallai ymwelwyr iechyd fod wedi'u hadleoli i feysydd acíwt eraill os oedd niferoedd y gweithlu'n caniatáu pan oedd y pandemig ar ei waethaf. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'n digwydd ar hyn o bryd.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Rwyf wedi codi'r cwestiwn hwn ar sawl achlysur oherwydd fy mod wedi cynnal arolwg o famau newydd yn ystod y pandemig, lle roeddent yn lleisio nifer o bryderon ynghylch mynediad at ymwelwyr iechyd yn ystod y cyfnod pwysig hwn. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, ddoe, ar ôl cyfarfod â'r Gweinidog iechyd meddwl—a diolch eto am y cyfarfod hwnnw—fel y dywedoch chi, Weinidog, cafodd rhai eu hadleoli yn ystod cyfnodau cyntaf y pandemig ond eu bod bellach wedi dychwelyd i'w rôl. Dywedwyd wrthym hefyd, serch hynny, oherwydd rhai o broffiliau'r aelodau staff hynny, fod nifer wedi bod yn gwarchod eu hunain neu fod nifer wedi bod yn absennol oherwydd salwch. Felly, hoffwn ddeall sut rydych yn mynd i ddiogelu'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol a rhoi'r lefel berthnasol o gymorth y mae'r gwasanaeth hanfodol hwn ei angen. Mae'n achubiaeth i lawer o rieni newydd—mamau sy'n chwilio am y cyngor cychwynnol a'r cymorth hwnnw ar ddechrau bywyd babi.

Credaf fod sawl pwynt i'w wneud yno. Yn gyntaf, o ran y dyfodol mwy hirdymor, mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'n buddsoddiad yn nyfodol y gweithlu, a bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi ceisio cynyddu nifer yr ymwelwyr iechyd sy'n cael eu hyfforddi yn sylweddol ac yna eu cadw yn y gwasanaeth hefyd. Bydd hon yn her i'r gwasanaeth cyfan wrth edrych tua'r dyfodol, oherwydd rydym yn rhagweld y bydd rhai aelodau o staff am newid gyrfa GIG o bosibl. Bydd angen inni gadw pobl yn y gwasanaeth. Dyna pam, unwaith eto, fod cwestiynau cyntaf Jayne Bryant am wasanaethau llesiant a chymorth i barafeddygon yr un mor berthnasol i ymwelwyr iechyd a phawb arall ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr ail bwynt y credaf ei bod hi'n bwysig ei wneud yw ei fod yn ymwneud â mwy na dim ond safbwynt polisi Llywodraeth ynglŷn â chydnabod pwysigrwydd ymwelwyr iechyd—felly, mae ein buddsoddiad yn Dechrau'n Deg yn y dyfodol yn dibynnu ar gael niferoedd da o ymwelwyr iechyd brwdfrydig o ansawdd uchel ac rwyf wedi bod yn falch iawn o'r gwaith y maent yn ei wneud—ond hefyd o safbwynt personol. Cofiaf yn dda iawn yr effaith a gafodd yr ymwelydd iechyd pan gawsom ein plentyn ninnau hefyd; mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, mae symud y bobl hynny yn ôl i'w rolau ledled y wlad yn eithriadol o bwysig, ac yna i ailfeddwl am y modd rydym yn gofalu am ein gweithlu presennol, oherwydd mae dyfodol y GIG eisoes yma mewn niferoedd helaeth—mae'r gweithwyr ymhen 10 mlynedd bron i gyd gyda ni eisoes o ran niferoedd cyffredinol—ond sicrhau hefyd ein bod yn parhau i hyfforddi a chael cenhedlaeth newydd o ymwelwyr iechyd yn dod i mewn yn y niferoedd cywir, ac mewn ffordd lle bydd eu rolau'n newid o ran y cymorth y maent mewn sefyllfa dda i'w ddarparu oherwydd y berthynas sicr y mae'r rhan fwyaf o ymwelwyr iechyd yn ei meithrin gyda'r menywod a'r teuluoedd y maent yn gweithio gyda hwy. Felly, mae heriau o'n blaenau, ond credaf y bydd nid yn unig y Llywodraeth hon ond unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol yn parhau'n ymrwymedig i ddyfodol ein gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn y niferoedd cywir, gyda'r sgiliau cywir.

14:15
Profion Asymptomatig yn y Gweithle

6. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno profion asymptomatig yn y gweithle yng Nghymru? OQ56326

Diolch. Yn ein strategaeth brofi ddiwygiedig, rydym wedi nodi ein cynlluniau i gefnogi profion asymptomatig mewn gweithleoedd er mwyn diogelu'r rhai sy'n agored i niwed, a chynnal gwasanaethau allweddol. Rwyf wedi cadarnhau heddiw y bydd profion asymptomatig yn y gweithle'n cael eu cyflwyno'n ehangach i rai sy'n cyflogi mwy na 50 o bobl.

Diolch, Weinidog. Mae'r sector awyrofod yn werth mwy nag £1.4 biliwn yng Nghymru ac mae'n cyflogi dros 11,000 o weithwyr, gan gynnwys llawer o bobl o Dorfaen. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID wedi'i daro'n wael iawn, ac mae'n ddigon posibl nad oes gan y gweithleoedd hynny adnoddau na gallu i gynnal eu profion eu hunain yn y gweithle. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd y strategaeth newydd a gyhoeddwyd gennych heddiw yn blaenoriaethu gweithleoedd fel hyn y mae gwir angen inni eu cadw ar gyfer swyddi medrus iawn o ansawdd uchel yng Nghymru?

Credaf y bydd pedwaredd elfen y strategaeth brofi, profi i gynnal, yn berthnasol yma. Ac rydym yn cydnabod ein bod eisiau blaenoriaethu, nid yn unig y cyflogwyr mwy o faint sydd â 50 neu fwy o weithwyr, ond yn enwedig y gweithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref y gallai fod angen iddynt weithio'n agosach at bobl eraill. Credaf y dylai hyn helpu busnesau'n fwy cyffredinol yn y sector, nid yn unig y cyflogwr rydych chi'n ei nodi. Ac rydym yn awyddus i gael dull gweithredu gyda'r canllawiau rydym wedi'u cyhoeddi nid yn unig er mwyn sicrhau bod y profion hynny ar gael yn ehangach, ond i gael dull sy'n dod â'r cyflogwr ac undebau llafur y gweithle at ei gilydd i gael dealltwriaeth gyffredin o sut y caiff y profion hynny eu defnyddio, sut y cânt eu gweinyddu a sut y byddant yn diogelu'r busnes a'r swyddi, ac iechyd y gweithlu cyfan wrth gwrs, gyda'r rhybudd cynnar y bydd yn ei roi gyda dyfeisiau llif unffordd a chanlyniad prawf cyflym a gallu disgwyl canlyniad prawf cadarnhau PCR os bydd rhywun yn profi'n bositif. Credaf fod hyn yn newyddion da, a gobeithio y bydd y busnes yn eich etholaeth yn manteisio ar y cynnig ac yn siarad â'u tîm lleol ynglŷn â sut i gael gafael ar y profion hyn a sut i wneud hynny mewn ffordd sy'n ennyn cefnogaeth y gweithlu hefyd.

Weinidog, tybed a allech roi rhyw syniad inni o'r hyn sydd wedi'i ddysgu o geisio cynnal profion mewn ysgolion. Oherwydd, fel y soniais o'r blaen, yn fy rhanbarth i yn sicr, roedd datgysylltiad pendant ar un adeg rhwng staff ysgolion ac arweinwyr y GIG ynglŷn â phwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am weinyddu profion llif unffordd. Felly, tybed a allwch roi syniad inni nawr pwy ddylai arwain yn y gweithle—ym mha sector bynnag sydd dan sylw? A sut yr adleolir gweithwyr na allant neu nad ydynt yn dymuno cael prawf?

Wel, mater i gyflogwyr yw eich ail gwestiwn mewn gwirionedd, dyna pam y mae'n bwysig eu bod yn gweithio drwy hynny gyda'u cynrychiolwyr yn y gweithle, gan gynnwys, yn hollbwysig, undebau llafur. Oherwydd mae'r profion yno fel arf i helpu i ddiogelu'r gweithlu, i'n helpu i gael rhybudd cynnar o ba bobl sydd heb symptomau. Ac yn ôl yr hyn a ddeallwn, nid yw tua thraean o bobl yn arddangos symptomau clasurol, ond serch hynny mae ganddynt y coronafeirws. Gwyddom hefyd fod profion llif unffordd yn rhoi canlyniadau cyflym, ond nid ydynt mor gywir â phrawf PCR—dyna pam y dylai unrhyw un sy'n profi'n bositif gael prawf PCR hefyd wedyn, ond mae angen iddynt fynd adref ac ynysu o'r pwynt y maent yn profi'n bositif gyda phrawf llif unffordd. Wrth inni weld gostyngiad yn y lefelau trosglwyddo a nifer yr achosion o'r feirws, mae cywirdeb y profion llif unffordd—credaf fod ail brawf gyda PCR hyd yn oed yn bwysicach wedyn hefyd.

Yna, o ran sut i weinyddu'r profion, mae rhan o'r cynnig i fusnesau'n ymwneud â'r hyfforddiant ar gynnal y profion hynny. Nid ydym yn mynd i fod mewn sefyllfa i gael gweithwyr gofal iechyd yn mynd i mewn a gweinyddu'r lefel o brofion rydym yn ei darparu. Bydd oddeutu chwarter miliwn o'r profion presennol rydym wedi'u darparu i'r blynyddoedd cynnar ac addysg ac iechyd a gofal yn cael eu darparu bob wythnos. Nid oes gennym staff gofal iechyd yn awr i gyflawni'r holl brofion hyn. Rydym wedi gorfod cael cymeradwyaeth gan y rheoleiddiwr, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, ar sut y gall unigolion gynnal profion, ond mae'r hyfforddiant i gynnal y rheini, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni yn y modd priodol, yn bwysig iawn.

Wrth ei ddarparu fel hyn, rydym yn derbyn mai'r un yw'r her y mae pob gwlad arall yn y DU yn ei hwynebu hefyd, ond hyd yn oed os derbyniwn na fydd pob prawf yn cael ei wneud yn y ffordd orau, byddwn yn nodi amrywiaeth o bobl sy'n asymptomatig na fyddem wedi'u nodi fel arall. Bydd yn helpu i symud achosion positif na fyddent fel arall wedi cael eu nodi allan o weithleoedd ac atal lledaeniad. Bydd yr hunanynysu yn helpu i leihau trosglwyddiad y feirws.

Felly, nid oes neb yn esgus bod hwn yn ddull perffaith, heb unrhyw gamgymeriadau, naill ai yng Nghymru nac mewn unrhyw ran arall o'r DU, ond mae'n rhan o'r broses o leihau nifer yr achosion o'r feirws a chael mwy o bobl i hunanynysu'n briodol er mwyn lleihau'r niwed y mae coronafeirws wedi'i achosi yn economaidd ac o ran gofal iechyd. 

14:20
Gwasanaethau Deintyddol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ56306

Rydym yn parhau i ailsefydlu gwasanaethau deintyddol y GIG yn ddiogel ac yn raddol. Mae practisau deintyddol bellach yn darparu ystod lawn o driniaethau i gleifion. Gan fod COVID-19 yn dal i ledaenu, mae angen mesurau iechyd y cyhoedd o hyd er mwyn sicrhau amgylchedd diogel. Bydd hyn yn golygu bod llai o gleifion yn cael eu trin ym mhob sesiwn glinigol.

Weinidog, fel y gwn eich bod chi'n gwybod, mae deintyddion lleol yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi am eu bod yn teimlo'n rhwystredig am y diffyg cefnogaeth y maent wedi'i brofi yn ystod y pandemig, wrth iddynt wynebu costau sylweddol yn trin cleifion lleol a helpu i wrthbwyso argyfwng posibl ym maes iechyd y geg drwy ddarparu gofal hanfodol i bobl leol.

Gwn ein bod wedi gohebu ar y mater hwn ychydig o weithiau dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n derbyn o'ch llythyr diweddaraf fod gan fyrddau iechyd hyblygrwydd i dalu 80 y cant i 100 y cant o werth eu contract deintyddol blynyddol i gontractwyr y GIG. Ond yn amlwg, o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda deintyddion, nid yw hynny i'w weld yn digwydd.

O ystyried ei bod yn bwysig sicrhau y gall deintyddion oroesi yn ystod y pandemig hwn, ac os oes gan fyrddau iechyd hyblygrwydd i gefnogi deintyddion fel y soniwyd, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y mater hwn er mwyn sicrhau bod cysondeb ledled Cymru gyfan? A allwch ddweud wrthym hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu cynaliadwyedd y sector ar gyfer y dyfodol, fel bod pobl sydd angen triniaeth yn gallu ei chael yn eu cymunedau lleol?

Rwy'n credu bod sawl peth gwahanol yno. Yn gyntaf, mae gwahaniaeth rhwng gwasanaethau deintyddol y GIG a'r rhai sy'n bractisau cwbl breifat. Mae pwynt am gymorth busnes i bractisau preifat sy'n gweithredu o fewn proses a gweithdrefn sy'n ystyried iechyd a diogelwch y claf yn ogystal ag aelodau o staff. Mae hynny'n cyfeirio'n ôl at gwestiynau cynharach am gyflogwyr yn gwneud y peth iawn.

O ran practisau'r GIG, mae'n debyg y byddai'n well os caf ysgrifennu atoch ynglŷn â'r dull y mae Hywel Dda yn ei ddilyn, eu sgyrsiau â swyddfa'r prif swyddog deintyddol a sut y mae hyblygrwydd i ddarparu cymorth ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG yn cael ei ddarparu, oherwydd gwn fod gennych bryderon a leisiwyd wrthych gan bobl sy'n darparu gwasanaethau deintyddol yn yr ardal.FootnoteLink

Ar y cymorth pellach rydym wedi'i ddarparu, rydym wedi darparu cymorth cyllid awyru i helpu i sicrhau bod gwell awyru wedi caniatáu i ystod bellach o weithgarwch gael ei chyflawni. Ar y dyfodol mwy hirdymor, rydym yn awyddus i barhau â'n rhaglen i ddiwygio contractau. Felly, gwyddom fod y newidiadau sylweddol i gontractau wedi cael croeso yn gyffredinol gan y gwasanaeth deintyddol, gydag oddeutu 40 y cant o'r holl bractisau yn rhan o'r rhaglen ddiwygio cyn iddi gael ei hatal cyn y pandemig.

Felly, mae gennym raglen sylweddol i ddiwygio contractau i ddychwelyd ati pan fydd y pandemig ar ben, a dylai hynny olygu bod gennym ffordd fwy hirdymor a mwy cynaliadwy o ddarparu'r gwasanaeth, o ran yr amlen ariannol sydd gennym i wneud hynny, ond hefyd o ran y gwerth y bydd gwasanaethau deintyddol yn ei gynnig i'r claf yn y ffordd newydd o weithio sydd, fel y dywedais, wedi'i chefnogi gan ymarferwyr deintyddol yn gyffredinol.

14:25
Darparu’r Brechlyn COVID-19 i Grwpiau Blaenoriaeth 6 i 9

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu’r brechlyn COVID-19 i grwpiau blaenoriaeth 6 i 9 yng Nghymru fel y nododd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu? OQ56312

Ar ôl cyrraedd ein targed i gynnig brechiad i grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu erbyn canol mis Chwefror, rydym yn gwneud cynnydd da ar ddarparu brechlynnau i grwpiau 5 i 9. Nid yn unig ein bod yn gwneud cynnydd da eisoes, ond heddiw fe fyddwch yn gwybod bod y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu wedi cyhoeddi cyngor wedi'i ddiweddaru mewn perthynas â grŵp 6 ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Rwy'n disgwyl cyhoeddi canllawiau yn ddiweddarach heddiw, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac yn wir ar gyfer gofalwyr di-dâl, i egluro sut y cânt eu gwahodd a sut y byddant yn cael eu brechlynnau o fewn grŵp blaenoriaeth 6.

Fel rhiant i blentyn ag anabledd dysgu, rwy'n datgan buddiant ac yn croesawu'r penderfyniad hwnnw. Rydych wedi sôn am y canllawiau rydych chi'n mynd i'w cyhoeddi heddiw, ond y mater allweddol y mae gofalwyr di-dâl yn gofyn i mi yn ei gylch yw: sut y cânt eu galw? Ac rwy'n deall y bydd hynny yn y canllawiau, os gallwch egluro hynny. A allwch roi cyfle inni egluro, yma yn y Senedd hon—? A gaf fi roi cyfle i chi egluro sut y gelwir ar y gofalwyr di-dâl hynny i gael eu brechu?

Felly, rydym wedi gweithio gyda sefydliadau gofalwyr cenedlaethol i geisio nodi ac egluro sut rydym yn mynd y tu hwnt i'r safbwynt cychwynnol cul iawn a ddarparodd y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu am bobl sy'n derbyn budd-daliadau i ofalwyr. Credaf fod canllawiau'r cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu wedi edrych ar system yn Lloegr yn bennaf ynglŷn â nodi gofalwyr ar restrau meddygon teulu. Mae gennym ddull gweithredu gwahanol yma yng Nghymru, fel y gwyddoch, gyda'n deddfwriaeth gofalwyr. Felly, os yw pobl wedi cael asesiadau gofalwyr, bydd gan yr awdurdodau lleol syniad pwy yw'r bobl hynny. Bydd gennym hefyd bobl na fyddant wedi cael asesiad gofalwyr ffurfiol na fyddant ar restr yn unman, ond sy'n gwneud dyletswyddau gofalwyr di-dâl. Felly, rydym yn awyddus i weld sut rydym yn deall pwy yw'r bobl hynny a sut rydym yn casglu'r wybodaeth honno ar gyfer system imiwneiddio Cymru er mwyn anfon eu hapwyntiadau atynt. Nid ydym wedi dilyn y dull y mae Lloegr yn ei ddefnyddio drwy gael pobl i gysylltu â'u meddygon teulu i fynd ar gofrestr. Credaf y byddai dweud wrth ofalwyr di-dâl gysylltu â'u meddyg teulu'n creu risg wirioneddol o orlethu practis cyffredinol sydd dan bwysau. Felly, rydym wedi gweithio gyda sefydliadau gofalwyr cenedlaethol i geisio nodi pwy yw'r gofalwyr hynny, ac i sicrhau y gellir darparu'r wybodaeth honno wedyn i system imiwneiddio Cymru. Rwy'n credu y bydd y canllawiau'n nodi'n gliriach sut olwg fydd ar hynny er mwyn rhoi'r eglurder i bobl y gwn eu bod eisiau gwybod sut y gallant gael y brechiad sy'n bwysig iddynt, ac yn hollbwysig, i'r person y maent yn gofalu amdanynt, a'r risg bosibl y bydd COVID yn cyrraedd y gofalwr, a beth y mae hynny'n ei olygu i'r person agored i niwed y maent yn gofalu amdanynt. Felly, yn ddiweddarach heddiw mae angen i mi lofnodi'r canllawiau pan fyddaf wedi gorffen y cwestiynau, a dylent fynd allan yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Gallwch fynd i'w llofnodi yn awr, Weinidog. Dyna ddiwedd eich cwestiynau ar gyfer y prynhawn yma.

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg

Felly, mae'r cwestiynau nesaf i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.

Cymorth Iechyd Meddwl

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth iechyd meddwl? OQ56299

Member
Eluned Morgan 14:28:17
Minister for Mental Health, Well-being and Welsh Language

Diolch. Ein blaenoriaeth gyntaf yw gweithio gyda phartneriaid i ymateb i anghenion iechyd meddwl sy'n newid oherwydd y pandemig. Mae ein cynllun cyflawni diwygiedig 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2019-22 yn nodi ystod o gamau gweithredu penodol, wedi'u hategu gan y £42 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl yn ein cyllideb ddrafft i gefnogi hyn.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, gwyddom y gall digwyddiadau trawmatig difrifol gael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl hirdymor, ac rwyf wedi nodi fy mhryderon o'r blaen nad ydym yn cyrraedd pobl nad ydynt o bosibl yn gofyn am gymorth drwy'r llwybrau rhagnodedig arferol, a dylwn ddweud nad oes unrhyw fai arnynt hwy am hynny. Felly, gyda hynny mewn golwg, sut yr awn ati'n rhagweithiol i gefnogi pobl yn fy etholaeth sydd wedi dioddef trawma llifogydd yn ddiweddar, ac na fyddant o bosibl yn adnabod nac yn sylwi hyd yn oed ar yr arwyddion fod angen cymorth arnynt?

Diolch yn fawr iawn, Jack, a hoffwn ddweud yn glir fy mod yn ymwybodol iawn fod y mathau hynny o drawma sy'n effeithio ar fywydau pobl yn rhywbeth sydd wedi dod i'm rhan yn glir iawn yn ystod fy amser yn y swydd hon. Ac mae'n rhywbeth na fydd yn ymddangos ac yna'n diflannu; mae'n rhywbeth a all bara am amser hir. Felly, mae dull o ymdrin ag iechyd meddwl wedi'i lywio gan drawma yn gwbl ganolog i'r hyn y mae angen inni fod yn ei wneud. Gwn fod Mick Antoniw wedi ysgrifennu adroddiad ar y llifogydd yn ardal Pontypridd, ac roeddwn yn falch iawn o allu dod i gysylltiad ynglŷn â'r mater hwnnw gyda'r awdurdod iechyd i sicrhau eu bod yn darparu cymorth yno. Gwneuthum yr un peth i Dai Rees pan gafwyd llifogydd yn ei ardal ef. Ac wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i wneud yr un peth i chi.

Ond rwy'n credu ei bod yn werth nodi, mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod wedi anfon cylchlythyr at bob cymuned, ac maent wedi rhoi rhif canolfan alwadau yn y cylchlythyr hwnnw—ein llinell gymorth—a rhif iddynt gysylltu â Mind, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n iau efallai, y dylent fod yn cysylltu â Meic, sef ein canolfan gymorth i bobl iau. Felly rydym wedi annog byrddau iechyd hefyd i sicrhau eu bod yn gweithio gydag asiantaethau lleol i sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael. Ond os oes unrhyw faterion penodol rydych am i mi fynd ar eu trywydd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny, Jack, fel rwyf wedi'i wneud dros eraill.

14:30

Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, a ydych yn credu ei bod yn bosibl i ni wneud mwy—i Lywodraeth Cymru wneud mwy—i gyrraedd pobl sy'n dioddef, neu sydd o bosibl yn dioddef, o broblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig? Wrth imi eistedd yma yn awr, drwy ryfeddod Zoom, gallaf weld pobl yn cerdded heibio'r ffenest yn fy mhentref. Ond siaradais ag etholwr yn gynharach sy'n byw yn un o ardaloedd mwy gwledig fy etholaeth, ac nid yw wedi gweld unrhyw un yn cerdded heibio ers misoedd, oherwydd cyfyngiadau'r pandemig. Felly, mae'n ymddangos i mi fod yna bobl nad ydynt efallai'n cael eu cyrraedd i'r graddau y gallent fod. Gwn fod eich strategaeth ar iechyd meddwl wedi bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyrraedd y bobl hyn, felly a allech chi roi pwyslais arbennig ar iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig?

Diolch yn fawr iawn, Nick. A byddaf yn gwneud araith ar yr union fater hwn yng ngŵyl Dewi Sant a fydd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnosau nesaf. Felly, rwy'n hapus iawn i roi sylw i'r mater hwn, oherwydd rwy'n credu bod yna broblemau ychydig yn wahanol gyda iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig i ddynion canol oed. Felly, yn aml iawn, yr hyn a welwn yw nad ydynt yn arbennig o awyddus i fynd at feddygon teulu, er enghraifft, oherwydd bod pawb yn adnabod ei gilydd yn yr ardaloedd hyn. Felly, er mai'r broblem mewn dinasoedd yn aml iawn yw'r diffyg cysylltiad, mae yna gysylltiad, yn aml iawn, mewn ardaloedd gwledig lle mae pawb yn gwybod busnes ei gilydd ac weithiau nid ydynt eisiau i bobl ddod i wybod am y pethau hynny.

Y peth arall rwyf wedi bod yn ei wneud yw cysylltu'n helaeth iawn â llawer o'r cymunedau ffermio. Rwy'n ymwybodol iawn fod problem arbennig yn y gymuned ffermio, lle mae llawer o bobl wrth gwrs wedi arfer gweithio ar eu pen eu hunain—ac wrth gwrs rydym i gyd yn mynd drwy lawer o'r profiadau y mae ffermwyr wedi gorfod eu dioddef ers blynyddoedd lawer. Ond mae problem benodol yno y credaf fod angen i ni ganolbwyntio arni hefyd. Ond rwy'n cytuno'n llwyr fod angen i ni sicrhau bod y mesurau hynny ar waith. Wrth gwrs, maent yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau y gall pawb arall eu defnyddio, o ran canolfannau galwadau, cymorth ar-lein, ond rwy'n ymwybodol iawn fod yna gymuned hŷn a allai fod eisiau'r cymorth wyneb yn wyneb hwnnw. Ac wrth gwrs, byddwn yn ceisio sicrhau, pan fydd y cyfyngiadau symud llym iawn hyn yn dod i ben, y bydd cyfleoedd ar gael, drwy ein cynnydd yn y cyllid i'r trydydd sector, ac y bydd cyfleusterau iddynt eu defnyddio yno.

Cwestiwn 2, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ac i'w ofyn gan Huw Irranca-Davies.

Safleoedd Gwersylla a Safleoedd Carafannau Domestig

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran a fydd modd bodloni’r galw am safleoedd gwersylla a safleoedd carafanau domestig â chyfleusterau sydd wedi’u diogelu rhag COVID yng Nghymru yng ngwanwyn/haf 2021? OQ56302

Diolch yn fawr, Huw, am gwestiwn mor amserol. Rydym ni'n cadw mewn cysylltiad â’r sector—a hynny'n golygu pob sector twristiaeth—drwy’r tasglu twristiaeth, sydd yn cwrdd yn wythnosol, ac mae'r cyfarfod nesaf ddydd Gwener sy'n dod. Ac mae gyda ni hefyd, wrth gwrs, y fframwaith pedwar fforwm rhanbarthol. Mi fydd y baromedr twristiaeth yn cael ei gyhoeddi yn gynnar fis nesaf, a dwi am sicrhau bod yr wybodaeth angenrheidiol am y galw am wersylla ac am garafanau domestig yn cael ei chydnabod fel rhywbeth sy'n allweddol bwysig ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Credaf y byddwch yn cydnabod na fydd llawer o bobl o deuluoedd sy'n gweithio yn ein cymunedau yn rhuthro i drefnu gwyliau tramor drud eleni—byddant yn chwilio am gyfleoedd awyr agored rhad a hwyliog ond da ym maes twristiaeth yn y wlad hon. Ac mae'n gyfle, mewn gwirionedd, i sicrhau bod ein darparwyr twristiaeth ym mhob rhan o Gymru, sydd wedi ei chael hi'n anodd dros y flwyddyn ddiwethaf, yn cael pigiad i'w groesawu yn y fraich—nid y brechiad, ond pigiad i'r fraich mewn ystyr economaidd—ond hefyd fel y gall rhai o'r teuluoedd hynny gyrraedd y safleoedd hyn.

Nawr, yn y trafodaethau hynny, Weinidog, tybed a allech ofyn i rai o'r gweithredwyr llai, yn enwedig safleoedd gwersylla a charafanio, a oes ganddynt ddigon o gyfleusterau sy'n ddiogel rhag COVID, oherwydd gwn o brofiad y llynedd nad oedd rhai o'r safleoedd llai yn gallu agor am nad oedd ganddynt bethau syml fel y gallu i ddarparu cawodydd i bobl aros dros nos a'i wneud mewn ffordd sy'n ddiogel rhag COVID ac yn y blaen. Syml iawn. Felly, efallai fod rhywfaint o gyfle yno hyd yn oed i gael rhywfaint o gymorth grant neu fenthyciadau meddal i alluogi rhai o'r safleoedd llai mewn rhannau o Gymru i agor hefyd.

14:35

Diolch, Huw. Mae'r awgrym hwnnw'n ddeniadol iawn, ac yn wir, mae Croeso Cymru eisoes yn gweithio ar y gwersi a ddysgwyd o ailagor y llynedd gyda'r awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud. Ceir rhai problemau cynllunio diddorol ac anodd wrth gwrs. Mae'r rheol 28 diwrnod eisoes yn caniatáu i dirfeddianwyr ddefnyddio tir ar gyfer gwersylla pebyll yn unig heb ganiatâd cynllunio ffurfiol, ond rwy'n awyddus iawn i edrych eto—yn amlwg mae hwn yn fater i'w drafod gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cynllunio—ar y ffordd y gallwn wneud ein system gynllunio'n amgylcheddol gadarn, ond hefyd yn agored i'r galw a fydd yn codi am ddefnyddio mannau awyr agored a chefn gwlad.

Weinidog, gwrandewais yn astud iawn ar eich ateb i Huw Irranca-Davies yn awr. Fel y gwyddoch, yng Nghonwy a Sir Ddinbych, rydym yn dibynnu'n drwm ar dwristiaeth fel diwydiant, ac mae gennym rai o'r safleoedd carafannau gwyliau a gwersylloedd gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan. Maent yn dweud wrthyf ei bod yn bwysig iawn eu bod yn deall yn glir pa bryd y gallant ailagor eto, ac yn amlwg, os bydd yr ailagor yn digwydd yn raddol, mae angen bod yn ymwybodol o'r ffaith bod llawer o bobl yn berchen ar y carafannau ar y safleoedd unigol hynny ac y byddant eisiau manteisio ar y cyfleusterau y maent yn talu amdanynt. Felly, a allwch chi ddweud wrthym heddiw ar ba ddyddiadau y rhagwelwch y bydd y parciau carafannau gwyliau hyn yn enwedig yn gallu ailagor eu busnesau, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r perchnogion carafannau hynny, a pherchnogion y safleoedd, y byddant yn gallu mwynhau eu gwyliau unwaith eto yma yng Nghymru?

Wel, rwy'n credu y byddwch yn gwybod o'r adegau eraill rwyf wedi siarad am hyn mai fi yw'r person olaf i ofyn iddo am ddyddiadau mewn perthynas â materion iechyd cyhoeddus, oherwydd, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi mabwysiadu'r ymagwedd gadarn iawn fod yn rhaid i bopeth a wnawn fod yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. Rwy'n ymwybodol fod y Llywodraeth dros y ffin yn Lloegr wedi penderfynu cyhoeddi dyddiadau. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dyddiadau, ac yn sicr nid wyf yn bwriadu cyhoeddi unrhyw ddyddiadau y prynhawn yma. Ond byddaf yn sicr yn ystyried eich pwynt y dylem sicrhau bod ein holl fusnesau sy'n darparu ffordd mor werthfawr o fwynhau cefn gwlad Cymru, fel sy'n cael ei ddarparu gan y safleoedd carafannau a gwersylla hyn—fod yr holl fusnesau hyn yn cael gwybod mewn da bryd pryd y byddant yn cael ailagor.

Weinidog, defnyddiwyd y slogan 'Hwyl fawr. Am y tro.' yn effeithiol iawn y llynedd. Mae'r rhai sy'n defnyddio carafannau yng Nghymru yn aml yn bobl sy'n berchen ar eu carafannau eu hunain, fel y dywedodd Darren, ac mae dod i Gymru yn teimlo fel dod adref iddynt hwy. Rwy'n pryderu'n fawr er hynny am y rhethreg wrth-Seisnig, wrth-ymwelwyr a ddefnyddir yng Nghymru, a hefyd yn yr Alban. Mae llawer o berchnogion carafannau wedi sylwi arni, ac maent yn dweud nad ydynt yn teimlo bod croeso iddynt ac maent yn ystyried gadael yn gyfan gwbl. A wnewch chi gondemnio rhethreg o'r fath, a rhoi sicrwydd y bydd ymwelwyr, pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny, yn cael y croeso cynnes y maent wedi dod i'w ddisgwyl dros y blynyddoedd? Diolch.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding. 

Diolch yn fawr, Gadeirydd. Weinidog, yn ein sesiwn ar y cyd â'r Senedd Ieuenctid, byddwch wedi clywed y pwyslais y maent yn ei roi ar lesiant ac iechyd meddwl da. Bydd llawer ohonynt yn ymuno â'r gweithlu cyn bo hir, felly hoffwn ofyn pa gynlluniau sydd ar waith, wrth inni symud tuag at ddiwedd y cyfyngiadau symud, i gefnogi gweithleoedd sy'n hyrwyddo llesiant ac iechyd meddwl da.

14:40

Diolch yn fawr iawn, David. Gallaf eich sicrhau ein bod wedi gwneud llawer o waith—. Yn benodol, mewn perthynas â'r gweithlu sydd ar y rheng flaen, rydym wedi sicrhau ein bod wedi darparu llawer o amddiffyniad ar eu cyfer, ond rydym wedi mynd lawer ymhellach na hynny o ran Cymru'n Gweithio. Felly, mae gennym raglen, Cymru'n Gweithio. Credaf fod tua 35 y cant o fusnesau a meysydd sector cyhoeddus wedi cefnogi hyn, ac maent wedi ymrwymo i gefnogi eu gweithlu i sicrhau eu bod yn cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac maent yn addasu'r hyn sy'n digwydd yn y gofod hwnnw mewn perthynas â COVID. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod hynny'n digwydd.

Ac wrth gwrs, y peth arall rydym wedi'i wneud yw parhau i ariannu Amser i Newid, sy'n wahanol iawn i'r hyn sydd wedi'i wneud yn Lloegr, yn anffodus. Credaf fod y Llywodraeth Geidwadol wedi gwneud camgymeriad enfawr yn torri'r cyllid ar gyfer Amser i Newid yng nghanol pandemig. Roedd yn drueni mawr, oherwydd, mewn gwirionedd, un peth rydym wedi'i wneud yn y pandemig hwn yw siarad am iechyd meddwl mewn ffordd sydd bellach wedi'i derbyn yn llwyr. Mae pawb yn deall ei fod yn fater cymdeithasol y mae'n rhaid i bob un ohonom fod o ddifrif yn ei gylch, ac rwy'n falch iawn o weld hynny'n digwydd, ac rwy'n falch bod cymorth yn y gweithle yn cael ei hyrwyddo ochr yn ochr â'r prosiect sydd gennym yn Llywodraeth Cymru.

Wel, Weinidog, rwy'n cymeradwyo'r newid agwedd sydd wedi bod. Siaradaf fel rhywun sydd wedi gweithio gyda chyflwr iechyd meddwl ers blynyddoedd lawer—mewn gwirionedd, drwy gydol fy ngwasanaeth yma. Ac a fyddech fel finnau'n cymeradwyo elusennau fel Mind, ac yn arbennig mynegai llesiant yn y gweithle Mind? Ymddengys i mi fod hwnnw'n arf allweddol ar gyfer gweithleoedd iach.

Rwyf am newid ffocws yn awr. Gan fod llawer o bobl i ffwrdd o'u swyddi—maent wedi bod ar ffyrlo ers cyfnodau hir, ac yn anffodus mae rhai bellach wedi colli eu swyddi ac maent yn dioddef y straen sy'n deillio o deimlo'n ynysig. Gan y rhagwelir y bydd cyfraddau diweithdra'n codi, er fy mod yn gwybod ein bod wedi gweld gostyngiad yn ddiweddar—a gadewch inni obeithio y bydd hwnnw'n parhau, ond yr hyn a ragwelir yw y bydd diweithdra'n cynyddu yn y flwyddyn neu ddwy nesaf—pa fesurau fydd ar waith i hybu iechyd meddwl a llesiant mewn hyfforddiant a rhaglenni dychwelyd i'r gwaith?

Diolch yn fawr iawn, David. Hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith anhygoel y mae Mind wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd, ac rydym yn falch iawn o fod yn ariannu Mind i gynnal llawer o'r prosiectau rydym yn ymwneud â hwy yng Nghymru—. Ac rwy'n talu teyrnged yn arbennig i Sara Moseley, a fydd yn gadael y sefydliad yn ystod yr wythnosau nesaf, am yr holl waith y mae wedi'i wneud gyda ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wrth gwrs, mae iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle yn rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom fod o ddifrif yn ei gylch. Credaf fod y ffaith bod pobl i ffwrdd o'u gwaith, fel rydych newydd sôn, yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod o ddifrif yn ei gylch. Mae gennyf ddiddordeb mawr ar hyn o bryd—. Rwy'n darllen llyfr am gysylltiadau coll gan Johann Hari, ac rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y mae angen i ni ei ddeall. Y cysylltedd sydd mor bwysig mewn perthynas ag iechyd meddwl.

Un peth y gallaf eich sicrhau, David, yw ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ymwybodol iawn nad mater iechyd yn unig yw hwn, fod yr un berthynas yn union rhwng iechyd meddwl a materion economaidd-gymdeithasol. Ac rydym yn ofni dirywiad posibl yn yr economi a'r cynnydd posibl y gallai hynny ei achosi mewn problemau iechyd meddwl. A dyna pam rydym yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau ledled Cymru sy'n rhoi cymorth yn hynny o beth i sicrhau, pan fyddwn yn rhoi cyngor mewn perthynas â chyflogaeth, ein bod hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi cyngor ac yn tynnu sylw at ble y gall pobl fynd i gael cyngor ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny, a byddwn yn annog pobl i sicrhau eu bod yn ffonio ein llinell gymorth neu'n defnyddio ein cyfleuster ar-lein, SilverCloud.

Wel, diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Credaf y bydd llawer o waith i'w wneud mewn gwahanol raglenni hyfforddi a dychwelyd i'r gwaith yn y dyfodol, oherwydd mae llawer o bobl wedi dioddef trawma gwirioneddol ar ôl cael eu gorfodi i adael y gweithle neu ar ôl colli eu gwaith arferol.

Mae fy nghwestiwn olaf, fodd bynnag, yn ymwneud â'r ffaith bod COVID hefyd wedi newid patrymau gwaith, a hynny'n barhaol weithiau, mae'n ymddangos i mi, ac rydym wedi gweld llawer o hyn yn y sector cyhoeddus. Ac rwy'n meddwl tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru, wrth i'r gwasanaeth sifil ac asiantaethau cyhoeddus newid i fwy o weithio gartref er enghraifft, yn sicrhau nad yw hyn yn lleihau lefel y cymorth a'r oruchwyliaeth adeiladol sydd eu hangen i gynnal iechyd meddwl a llesiant da yn y gweithle. Rydym wedi gweld newid cymdeithasol yn y maes hwn, mae'n ymddangos i mi, ond mae'n un y mae angen ei reoli'n ofalus os ydym eisiau sicrhau'r llesiant gorau posibl.

14:45

Diolch yn fawr iawn, David. Yn sicr, rwy'n credu bod y patrwm gweithio hwnnw wedi newid am byth; nid wyf yn credu y byddwn yn dychwelyd at y patrymau a oedd gennym o'r blaen ac yn sicr, fel Llywodraeth Cymru, mae gennym ymrwymiad yn awr i weithio tuag at sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu'n gweithio gartref. Felly, mae hwnnw'n newid sylweddol. Ac rydych yn llygad eich lle: nid yw'r ffaith bod pobl yn gweithio gartref yn golygu nad oes angen cymorth arnynt. Yn wir, efallai y bydd angen mwy o gymorth arnynt am eu bod yn llai cysylltiedig. Felly, rydym yn sicrhau, yn sicr o safbwynt Llywodraeth Cymru, ein bod yn cynnig y gefnogaeth honno. Yr hyn sydd wedi fy nghalonogi'n fawr, serch hynny, yw bod y sector preifat wedi dechrau deall hyn yn awr. Maent wedi deall, mewn gwirionedd, y bydd cynhyrchiant eu gweithlu yn gostwng os oes gan bobl broblemau iechyd meddwl a dyna pam eu bod hwythau'n rhoi cymorth ar waith hefyd.

Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod yn ddiweddar â grŵp o gyflogwyr o'r sector preifat, sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar y mater hwn, gan sicrhau bod y math o gymorth y maent yn ei roi ar waith i'w gweithwyr yn gwrando ar anghenion pobl mewn gwirionedd. Felly, credaf fod yn rhaid inni hefyd fod yn sensitif i'r ffaith y gallai fod rhai pobl yn ei chael hi'n anghyfforddus iawn i weithio gartref. Rydych yn meddwl am rai pobl yn arbennig, efallai mewn sefyllfaoedd lle ceir cam-drin domestig, a gallai fod yn anodd iawn iddynt hwy. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn cadw'r llinellau cyfathrebu hyn ar agor i bobl ac yn darparu'r opsiwn i ddychwelyd i swyddfa, os mai dyna maent yn dymuno ei wneud yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig?

Wel, rŷn ni wedi gwneud yn siŵr bod y mynediad yna ar gael, ei fod yn dal i gael ei weld fel rhywbeth sydd yn essential service ar gyfer yr NHS. Wrth gwrs, mae'r galw ar gyfer gwasanaethau wedi cynyddu yn ystod y cyfnod yma a dyna pam rŷn ni wedi rhoi lot mwy o arian i mewn i'r ardal yma. Rŷn ni wedi rhoi £1.5 miliwn yn ychwanegol i rili anelu'r help at help yn y gymuned, trwy'r trydydd sector. Dwi'n meddwl fod hwnna, i fi, yn bwyslais newydd y mae'n rhaid inni ei roi ar sicrhau ein bod ni'n cymryd y pwysau, os ŷn ni'n gallu, oddi wrth yr NHS a rhoi'r gofal lle bydd hi'n fwy cynaliadwy yn y tymor hir, y tu fewn i'r gymuned.

Dwi'n falch, wrth gwrs, o glywed y Gweinidog yn dweud bod gwasanaethau a mynediad atyn nhw yn gwbl, gwbl hanfodol. Rydyn ni i gyd yn gytûn ar hynny, ond mae'n glir bod llawer o bobl yn cael trafferth cael mynediad at y gefnogaeth y maen nhw ei hangen. Os edrychwch ar ddata gan Stats Wales, rydyn ni'n gweld bod y nifer a gafodd eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl lleol wedi gostwng dros chwarter yn y naw mis at fis Rhagfyr o'i gymharu efo'r flwyddyn gynt. Mi wnaeth niferoedd asesiadau ostwng o ryw chwarter hefyd ac mi wnaeth niferoedd yr ymyriadau therapiwtig ostwng ryw 10 y cant yn yr un cyfnod. Felly, er ein bod ni'n clywed bod y rhain yn wasanaethau hanfodol, mae yna ormod o bobl sy'n methu â chael mynediad atyn nhw. Felly, pa gamau ychwanegol gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wneud yn siŵr bod y bobl sydd angen y gefnogaeth yna yn gallu ei chael hi?

Diolch. Mae'r data sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn dangos ein bod ni dim ond jest wedi methu ein targed ni o 80 y cant o asesiadau yn cael eu gwneud—78 y cant wnaethom ni gyrraedd. Felly, dwi yn meddwl ei fod yn dda ein bod ni wedi gallu cyrraedd y lefel yna er bod y gofyn wedi cynyddu yn aruthrol. Yr un peth sydd yn fy mhoeni i yw bod y data yn cyfeirio at y rheini sydd o dan 18 islaw'r targed ac mae hynny'n rhywbeth rŷn ni'n poeni amdano, ond wrth gwrs rŷn ni wedi rhoi lot o fesurau mewn lle nawr i roi lot mwy o gefnogaeth y tu fewn i'n hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, mi fyddwn ni, yn yr haf, yn rolio allan system newydd lle bydd yna ymyrraeth yn gynnar er mwyn cynnal a helpu pobl ifanc. Felly, dwi yn gobeithio y byddwn ni'n canolbwyntio ar y rheini, yn arbennig pobl ifanc, oherwydd mae 80 y cant o broblemau, rŷn ni'n gwybod, o ran iechyd meddwl, yn dechrau pan fo pobl o dan 18.

14:50

Ie, a dwi'n falch eich bod chi wedi cyfeirio at bobl ifanc achos, fel rydych chi yn ei ddweud, mae'r ystadegau'n dangos bod pobl ifanc yn dioddef mwy. Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith ddofn iawn ar iechyd meddwl pobl a bod pobl ifanc wedi dioddef mwy na neb. Ac mae’r mynediad cyflym at ofal i bobl ifanc yn arbennig o bwysig er mwyn trio atal problemau rhag datblygu yn rhai mwy dwys maes o law. Dyna pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn sôn am gael y rhwydwaith yma o ganolfannau llesiant i bobl ifanc lle maen nhw’n gallu cael mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl yn syth.

Felly, rydych chi wedi cyfeirio at y data. A wnewch chi ymrwymo i edrych yn fanwl ar sut y gallwn ni newid y data yna ar gyfer y tro nesaf y byddan nhw’n cael eu cyhoeddi a rhoi cynllun clir iawn mewn lle i ddynodi pa gefnogaeth ddylai fod ar gael a sut i gael mynediad ato fo, a hefyd sicrhau, ar ben yr arian ychwanegol sydd wedi cael ei glustnodi dros y flwyddyn ddiwethaf, fod gwasanaethau iechyd meddwl, mewn gofal sylfaenol yn benodol, yn cael yr adnoddau sydd eu hangen er mwyn ymdopi â’r galw rŵan ac yn y dyfodol?

Diolch, Rhun. Wel, wrth gwrs, roedd y ffigurau a ddaeth mas o’r arolwg yna wnaeth y comisiynydd plant yn dangos—. Roedd hwnna yn codi gofidion mawr i ni, y ffaith bod 67 y cant o blant o 12 i 18 yn dweud eu bod nhw’n drist rhan neu drwy’r amser, ac felly mae hwnna wrth gwrs yn codi pryder mawr i ni. Dyna pam rŷn ni wedi anelu lot o’n gwaith ni yn ystod y misoedd diwethaf at hyn, a dwi eisiau talu teyrnged i'r pwyllgor plant sydd wedi gwneud cymaint o waith yn y maes yma ac wedi ein helpu ni o ran y trywydd y dylem ni fod yn ei gymryd.

Dwi yn meddwl bod yr help ychwanegol yna a’r arian ychwanegol fydd yn mynd mewn i helpu tu mewn i ysgolion—dwi yn gobeithio y bydd hynny'n helpu—ond mae’n rhaid inni sicrhau bod hwnna yn cysylltu â'r early help and enhanced support yna. Felly, mae fframwaith newydd yn mynd i ddod mewn, yn yr haf, fydd yn sicrhau ein bod ni’n cydgysylltu'r cynnig sydd ar gael yn yr ysgol â’r cynnig sydd ar gael y tu mewn i’n cymunedau, ddim o reidrwydd trwy’r NHS, achos dwi’n keen iawn i sicrhau ein bod ni’n defnyddio'r trydydd sector i helpu yn y maes yma hefyd.

Iechyd Meddwl Gweithlu’r GIG a Gofal Cymdeithasol

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo iechyd meddwl gweithlu’r GIG a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig? OQ56313

Wel, hoffwn gydnabod y diddordeb gwirioneddol y mae Jayne Bryant wedi'i ddangos yn y mater hwn. Rwy'n gwybod ei bod newydd ofyn cwestiwn ar bwnc tebyg i'r Gweinidog iechyd, ac rwy'n credu ei bod yn hollol iawn i ganolbwyntio ar hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y galwadau corfforol ac emosiynol anhygoel sy'n wynebu ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol, ac rydym yn monitro'r effaith yn agos iawn ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth ychwanegol uniongyrchol i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fis diwethaf, gallais gynnal dadl fer i dynnu sylw at y pwysau ar ein staff GIG a gofal cymdeithasol rheng flaen a'r hyn y maent wedi'i brofi dros y flwyddyn ddiwethaf. Cefais y fraint o ddarllen datganiadau pwerus ac emosiynol gan nyrsys, cynorthwywyr theatr, parafeddygon ac ymarferwyr ynglŷn â realiti wynebu'r feirws. Mae staff wedi ymlâdd, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac mae gan lawer deimladau o alar ac euogrwydd. Mae'n amlwg y bydd canlyniadau COVID yn cael eu teimlo gan y rhai ar y rheng flaen am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'n debygol o esgor ar broblemau iechyd meddwl a phobl yn cwestiynu a ydynt yn dal i fod eisiau, neu'n gallu, aros yn y swydd oherwydd lludded. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'n GIG a'n gweithlu gofal cymdeithasol fel ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ofalu am y rhai sy'n gofalu amdanom ni?

Diolch yn fawr iawn, Jayne. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn ein bod wedi gallu rhoi £1 filiwn ychwanegol i wella cefnogaeth y rhaglen sydd gennym, Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru, a'r gefnogaeth seicolegol honno, sy'n cynnwys llinell gymorth. Mae'r Samariaid yno'n benodol i helpu pobl; mae meddyg ar gael a fydd yn gallu ffonio'n ôl o fewn 24 awr. A'r hyn sy'n wirioneddol wych yw ein bod yn gwybod bod ymateb da iawn wedi bod i'r ddarpariaeth hon.

Ers y ddadl honno, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac roeddent yn amlwg iawn yn ceisio disgrifio'r math o drawma y mae pobl ar y rheng flaen wedi bod yn ei brofi, ac maent yn gwybod nad yw hwnnw'n drawma y gallwch ei wthio i'r cyrion, mae'n rhywbeth—. Nid ydynt wedi cael cyfle i brosesu'r hyn y maent wedi'i brofi ar y rheng flaen, ac maent yn ymwybodol iawn, o ran y profiad dwys y maent yn byw drwyddo ar hyn o bryd, pan fydd ganddynt amser i brosesu hwnnw, dyna pryd y gallai'r effaith eu taro. Ac felly roeddent yn awyddus iawn i bwysleisio na fydd beth bynnag rydym yn ei roi ar waith yn awr yn gallu cael ei dynnu'n ôl, oherwydd y trawma mwy hirdymor y mae'n rhaid inni ei ystyried, bydd yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth honno ar gyfer y tymor hwy, felly rwy'n falch iawn o weld hynny. Yn ogystal, rwy'n falch iawn o weld bod Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r gefnogaeth a roddwn i Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru.

14:55

Weinidog, yn y pwyllgor iechyd y bore yma, clywodd Jayne Bryant a minnau am yr effaith iechyd meddwl ar staff nyrsio, a'r angen iddynt gael cyfle i orffwys ac ymadfer. Ac felly mae nifer yn gweithio oriau hir, llawer mwy na'r hyn y dylent fod yn ei wneud, gan eu bod yn teimlo'r cyfrifoldeb i wneud hynny, ond mae angen iddynt gael seibiant a gofalu amdanynt eu hunain. Ond yn ogystal â hyn, ac fel rhan o ymateb GIG Lloegr, maent wedi creu hybiau. Mae'r hybiau hyn yn rhad ac am ddim ac yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol i staff y GIG sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi gofalu am filiynau o bobl â'r coronafeirws, tra'n cynnal gwasanaethau hanfodol fel mamolaeth, iechyd meddwl a gofal canser. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i astudio'r mesurau hyn i weld a allai camau tebyg fod o fudd i staff y GIG yma yng Nghymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Laura. Wel, nid ydym yn sefydlu'r rhaglenni hyn heb ymgynghori â phobl i ofyn iddynt beth y maent ei eisiau, beth sy'n ystyrlon ac yn ddefnyddiol iddynt. Un o'r grwpiau rwyf wedi bod yn siarad â hwy—. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw ein bod wedi darparu llawer o gymorth, ond roeddwn yn clywed nad oes gan rai pobl amser i wneud defnydd o'r cymorth hwnnw. Felly, os ydynt yn cyrraedd yn y bore, maent yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddal ati i wneud eu gwaith yn ystod y dydd, ac erbyn diwedd eu shifft maent wedi ymlâdd. Felly, pryd y gallant wneud defnydd o'r cymorth rydym yn ei gynnig iddynt? Felly, rydych yn llygad eich lle: mae angen inni sicrhau bod rhywfaint o le i ganiatáu i bobl ddefnyddio'r cymorth ar adeg sy'n gyfleus iddynt hwy. Wrth gwrs, mae gennym ddewisiadau eraill; mae gennym gymorth ar-lein y gallant gael mynediad ato hefyd. Ond rwy'n credu y bydd yn rhaid inni feddwl yn ofalus iawn, pan welwn ostyngiad yn y niferoedd mewn perthynas â'r feirws, er gwaethaf y pwysau a nododd Angela yn gynharach heddiw—nifer y bobl sy'n aros—mae'n rhaid inni feddwl am ofalu am y staff rheng flaen a sicrhau eu bod yn cael rhyw fath o seibiant. Rwy'n credu y bydd yn rhaid inni ofyn i'r cyhoedd yng Nghymru fod ychydig yn amyneddgar i roi amser i'r bobl hyn anadlu fel y gallant fwrw ymlaen â'u gwaith, oherwydd y peth olaf rydym eisiau ei weld yw'r bobl hyn yn gadael y GIG.

'Cymraeg 2050'

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn Cymraeg 2050? OQ56311

Diolch yn fawr, Vikki. Ers lansio 'Cymraeg 2050', mae'r naratif sy'n gysylltiedig â'r iaith wedi newid yn sylweddol. Mae angen inni adeiladu ar y momentwm newydd yma er mwyn sicrhau mwy o fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae angen inni agor mwy o leoliadau blynyddoedd cynnar ar ben y 40 sydd wedi'u cynllunio i agor. Mae angen inni barhau hefyd i gynnig cyfleoedd cyffrous i bobl i glywed ac i ddefnyddio'r iaith.

Diolch, Weinidog. Mae ffigurau diweddar wedi dangos mai Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer fwyaf o ddisgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r holl ardaloedd cyngor yn ardal Consortiwm Canolbarth y De, gydag ychydig o dan 19 y cant o ddysgwyr. Gwneir llawer iawn o waith i wella'r cynnig cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon ymhellach eto drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, gydag Ysgol Gyfun Rhydywaun yn cael £12.1 miliwn ar gyfer ehangu, a fydd yn ei galluogi i ddarparu ar gyfer 187 o ddisgyblion ychwanegol, a £4.5 miliwn i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr i'w galluogi i gynnig 48 o leoedd ychwanegol. Weinidog, sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru a'n partneriaid mewn llywodraeth leol i wella'r ddarpariaeth a'r nifer sy'n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg?

15:00

Diolch yn fawr, Vikki. Dwi eisiau yn gyntaf talu teyrnged i'r gwaith arbennig maen nhw’n ei wneud yn y cyngor yn y Rhondda. Mae'n anhygoel, y ffordd mae pobl wedi cydio yn y gallu i ddysgu Cymraeg, ac mae'n dda i weld bod 19 y cant o blant eisoes yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, wrth gwrs, yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae'n rhaid inni weld cynnydd yn y niferoedd yna hefyd, a dyna pam rŷn ni wedi, fel Llywodraeth, rhoi mwy o arian cyfalaf i sicrhau bod yr ysgolion ar gael i helpu'r projectau yna. Bydd disgwyl i Rondda Cynon Taf yn ystod y 10 mlynedd nesaf gynyddu'r niferoedd yna i tua 27 y cant o'r boblogaeth. Wrth gwrs, i wneud hynny, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna bibell yn dod o'r plant ieuengaf, a dyna pam rydym ni wastad yn canolbwyntio i ddechrau ar gynyddu'r niferoedd sy'n mynychu ysgolion meithrin fel eu bod nhw wedyn yn dilyn y llwybr i addysg Gymraeg. Dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gweld y cynnydd yna. Mae e'n anhygoel i weld y gwahaniaeth yna a dwi'n falch iawn ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi'r arian ychwanegol yna a hefyd wedi cynyddu'r capasiti yn ysgol Dolau. Mae yna syniadau hefyd i gynyddu ac i newid categori ysgol Penderyn i fod yn ysgol Gymraeg. Felly, dwi'n gobeithio y bydd hwn i gyd yn arwain at ddathliad mawr yn yr ardal yna ar gyfer yr Eisteddfod yn 2024. 

Siŵr o fod bydd cyn-bennaeth ysgol Penderyn yn falch iawn i glywed y newyddion yna. Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i sefydlu cronfa Gymraeg ddigidol i gefnogi mwy o ddefnydd o Gymraeg bob dydd yn y gofod digidol? Fel y gwyddoch, rwy'n awyddus i weld Cymraeg bob dydd yn cael ei normaleiddio mewn sefyllfaoedd bob dydd. Mae hon yn iaith i bawb, nid dim ond i rai cymunedau neu rhai rolau yn y sector cyhoeddus, ac, wrth gwrs, mae'r byd digidol yn rhan gynyddol o'n bywyd bob dydd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn mynd i gynnwys rhywbeth o'r fath yn ein maniffesto i annog a chefnogi hwyluso ei defnydd ar-lein, a gobeithio eich bod chi'n cytuno â'r syniad.

Dŷn ni ddim jest yn cytuno â'r syniad, Suzy; mae gyda ni raglen Cymraeg a thechnoleg sydd eisoes wedi dechrau. Mi wnes i roi update ar hwn jest cyn y Nadolig, i ddangos pa mor bell rŷn ni wedi mynd gyda'r cynllun technoleg yna. Mae'n gwbl amlwg yn ystod y pandemig bod angen inni ddeall bod ein cymdeithas ni wedi symud i raddau helaeth ar-lein a bod yn rhaid inni gydnabod bod angen inni ystyried y Gymraeg yn y trafodaethau yna ynglŷn â sut rŷn ni'n cyfathrebu ar-lein. Dyna pam rydym ni wedi bod yn gwthio Microsoft, er enghraifft, i weld os gallan nhw wneud mwy i sicrhau y gallwn ni ddefnyddio Cymraeg ar Teams. Maen nhw wedi dweud nawr eu bod nhw'n awyddus i weld hynny'n digwydd, ac rydym ni'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei gyflwyno efallai yn yr hydref. Maen nhw wedi cymryd sbel, ond rydym ni'n gobeithio nawr y byddwn ni'n gweld gwahaniaeth yn y maes yna.

Cefnogi'r Rhai sy'n Camddefnyddio Sylweddau

5. Pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, cynghorau ac elusennau i gefnogi'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau? OQ56328

Yn ystod y pandemig, rŷn wedi gweithio’n agos iawn gyda byrddau cynllunio ardal a phartneriaid eraill. Diolch i ymdrechion rhagorol ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd yn y rheng flaen, a gwasanaethau eraill, rŷn wedi rhoi rhagor o arweiniad a chymorth, gan gynnwys cynnig opsiynau newydd o ran triniaeth a darparu cyllid i ddiwallu anghenion cymhleth y grŵp yma.

Mae sefydliadau fel Kaleidoscope, sy'n gweithio fel rhan o brosiect cyffuriau ac alcohol Gwent, yn pryderu am yr anawsterau i sicrhau bod nifer dda o ddefnyddwyr gwasanaethau'n manteisio ar frechiadau. Mae gan eu gweithwyr rheng flaen berthynas gref iawn o ymddiriedaeth â'r defnyddwyr gwasanaeth hynny. Maent mewn cysylltiad rheolaidd â hwy ac yn deall anawsterau ffyrdd o fyw cythryblus. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod y gweithwyr rheng flaen hynny mewn sefyllfa dda i ddarparu'r brechiadau mewn gwirionedd, o ystyried eu hyfforddiant a'u cefndiroedd a'u parodrwydd i gyflawni unrhyw hyfforddiant ychwanegol a allai fod yn angenrheidiol? Byddai caniatáu iddynt wneud hynny yn un ffordd o sicrhau bod y grŵp hwn sy'n agored iawn i niwed yn manteisio ar y brechlyn.

15:05

Diolch am eich cefnogaeth a'ch diddordeb yn y maes sensitif iawn hwn. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â grŵp Datblygu Cymru Ofalgar, ac wrth gwrs, roedd Kaleidoscope yno fel rhan o'r gynrychiolaeth honno o bobl sy'n gofalu am bobl yn y sefyllfaoedd anodd iawn hyn. Yn y cyfarfod hwnnw, clywais am y cynnig y byddent yn hoffi ei wneud o ran cynnig brechu rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau y maent wedi meithrin rhywfaint o ymddiriedaeth gyda hwy, fel y dywedwch. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi trosglwyddo'r wybodaeth honno i'n tîm brechu. Hefyd, o ran y grwpiau blaenoriaeth eraill, fe welwch heddiw ein bod yn bwriadu cyhoeddi canllawiau newydd—mae newydd gael ei gyhoeddi, am 3 o'r gloch—mewn perthynas â phobl â chyflyrau iechyd meddwl difrifol. Credaf y bydd rhai sy'n ymwneud â'r bobl sy'n gweithio gyda Kaleidoscope yn y categori hwnnw o bosibl. Rydym wedi gofyn i'r byrddau iechyd sicrhau eu bod yn gweithio gyda'r trydydd sector, gyda sefydliadau fel Kaleidoscope, i sicrhau y gallwn gyrraedd y grwpiau mwy agored i niwed hyn na fyddent, efallai, yn dod i gysylltiad â'r system arferol.

Hunanladdiadau

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio atal cynnydd mewn hunanladdiadau o ganlyniad i bandemig COVID-19? OQ56336

Rydym wedi sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig ac wedi buddsoddi mewn amrywiol ddulliau er mwyn gwella cymorth. Mae atal hunanladdiad yn fater cymhleth ac mae’n galw am ymateb amlasiantaeth. Rydym wedi cryfhau trefniadau, felly, i wella’r ffordd y mae camau gweithredu’n cael eu cydlynu gyda’n partneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. 

Mae hwn yn bwnc eithriadol o anodd a sensitif, fel y gŵyr pawb sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad, ond teimlaf ei bod yn bwysig inni siarad amdano fel y gallwn fod yn siŵr y gellir gwneud popeth i atal marwolaethau. Tynnwyd fy sylw at y mater yr wythnos ddiwethaf ar ôl gwylio adroddiad newyddion ITV a oedd yn cynnwys cyfweliad ag arweinydd cyngor RhCT. Dywedodd fod y gyfradd hunanladdiad wedi dyblu yn yr ardal yn ystod y pandemig, ac rwyf wedi clywed straeon pryderus ledled Cymru. Roedd y sefyllfa eisoes yn peri pryder cyn COVID, gyda data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod hunanladdiadau ar eu huchaf ers 20 mlynedd yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer, sef 2019. Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, sydd i'w chroesawu'n fawr wrth gwrs, ond a allech chi roi mwy o fanylion i mi, Weinidog, ynglŷn â sut y mae effeithiau'r pandemig wedi cael eu hystyried wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn, ac a wnewch chi nodi'r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl sy'n dioddef o iselder yn ystod y cyfyngiadau symud fel y gall pobl wybod ble y gallant gael cymorth?

Gydag arian ychwanegol, rydym wedi gallu penodi cydlynydd atal hunanladdiad cenedlaethol, ac erbyn hyn mae gennym dri chydlynydd rhanbarthol i sicrhau ein bod yn cryfhau'r gwaith partneriaeth hwnnw. Mae'n sefyllfa ryfedd iawn, oherwydd un o'r pethau rydym wedi ceisio'i wneud yw sicrhau ein bod yn dilyn gwybodaeth amser real. Mae hunanladdiad yn faes anodd iawn, oherwydd mewn gwirionedd mae'n rhaid i chi aros nes bod cwest i gael dealltwriaeth ffurfiol o beth yn union sydd wedi digwydd. Mae hynny'n creu problem i ni, ond yn hytrach nag aros i hynny ddigwydd, mae gennym bellach y sefydliadau hyn, gan gynnwys yr heddlu, i sicrhau eu bod wedi bwydo i mewn i waith y grŵp gorchwyl a gorffen gyda ni a'r heddlu i wneud yn siŵr ein bod yn deall beth sy'n digwydd ar lawr gwlad.

Rwy'n dyfalu mai un o'r pethau calonogol yw bod The BMJ wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar i ddweud nad oedd unrhyw dystiolaeth o gynnydd cyson mewn cyfraddau hunanladdiad yn ystod camau cynnar y pandemig. Felly, dyna'r darlun y maent hwy wedi'i weld, ac wrth gwrs, byddwn yn cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn y gofod hwn, oherwydd wrth gwrs, dyma'r sefyllfa fwyaf trasig ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn asesu hynny. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd roi gwybod am farwolaethau annisgwyl cleifion o fewn 24 awr, ac mae disgwyl y bydd ymchwiliad o fewn 60 diwrnod, felly mae'r elfen amser real yn rhywbeth rydym yn cadw llygad arni.

15:10
Anghenion Iechyd Meddwl a Lles Gweithwyr y Sector Cyhoeddus

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl a lles gweithwyr y sector cyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56327

Rydym yn ystyried bod iechyd a llesiant ein gweithlu yn hollbwysig ac yn annog cyflogwyr i ddarparu ystod o gymorth ychwanegol yn ystod y pandemig. Rydym yn monitro'r effaith yn ofalus ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth ychwanegol ar unwaith i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl.

Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar eich sylwadau wrth ateb Jayne Bryant a David Melding, rwy'n credu. Mae'n ymwneud ag iechyd meddwl a sut y gallwn gadw ein llygaid ar agor am bobl sy'n dioddef. Fe wyddoch gystal â mi fod sefydliadau fel Mind wedi cynnal arolygon diddiwedd sy'n dangos bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn dioddef yn anghymesur, yn cymryd mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith, a bod ganddynt fwy o broblemau iechyd meddwl, a hynny ledled Cymru. Rwyf wedi cael nifer o negeseuon e-bost gan weithwyr y sector cyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn dweud pa mor anodd yw hi i ddod i ben yn ystod cyfyngiadau symud, i ymdopi â hwy, fel cynifer ohonom. Roeddwn yn meddwl tybed a oes unrhyw raglenni y gallwn eu rhoi ar waith neu a oes unrhyw ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru annog sefydliadau'r sector cyhoeddus i geisio cyrraedd y rhai sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, wedi'u hynysu gartref neu efallai mewn cartref prysur iawn lle maent yn ei chael hi'n anodd iawn gwneud eu gwaith oherwydd yr holl sŵn o'u cwmpas. Efallai fod ganddynt blant ifanc gartref nad ydynt yn yr ysgol a bod y sefyllfa yn mynd yn drech na hwy. Oherwydd os oes gennych berson o'ch blaen neu yn y swyddfa drws nesaf, gallwch gael syniad llawer gwell o sut y maent yn teimlo. Mae'n anodd iawn dweud pan fyddwch ar alwad Zoom gyda rhywun unwaith yr wythnos. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn rhagweithiol i helpu cyflogwyr y sector cyhoeddus i ofalu am y gweithwyr hynny?

Yn sicr. Nid wyf am sôn am gymorth i weithwyr iechyd proffesiynol, oherwydd mae honno'n rhaglen benodol sydd gennym ar waith, ond mae gennym Cymru Iach ar Waith, wrth gwrs, sy'n rhaglen y mae llawer o sefydliadau'r sector cyhoeddus eisoes wedi ymrwymo iddi. Rwy'n gwybod bod pob un o'r saith bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyn, a llawer o awdurdodau lleol, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys. Felly, mae llawer o sefydliadau eisoes wedi ymrwymo i honno. Cafwyd cyngor cryfach o fewn y rhaglen honno er mwyn deall cyd-destun newydd y pandemig. Yr hyn sy'n bwysig hefyd yw bod nifer o raglenni a sefydliadau yn ardal Hywel Dda yn gallu helpu yn hyn o beth. Mae gennym lawer o wahanol raglenni, gan gynnwys y gronfa iach ac egnïol. Os gallwn gael pobl i ddeall y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a gweithgarwch corfforol, credaf ei bod yn bwysig iawn inni annog pobl i wneud hynny, a gwn fod prosiectau ar draws y gorllewin Cymru'n ddefnyddiol yn yr ystyr honno. Felly, mae digon o leoedd y gall pobl fynd i gael cyngor. Y peth cyntaf i'w wneud, rwy'n credu, yw mynd ar wefannau'r byrddau iechyd. Rydym bellach wedi gofyn iddynt ddiweddaru eu cyngor ar y rheini i'w gwneud yn llawer mwy hygyrch, yn llawer haws i'w darllen, ac mae pob un o'r byrddau iechyd bellach wedi gwneud hynny. Dylai fod yn haws i bobl eu defnyddio yn awr a dylent gael y cyngor lleol a allai fod yn addas ar gyfer eu hardal.

Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhun ap Iorwerth, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog.

Busnesau Twristiaeth

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau twristiaeth Ynys Môn? OQ56318

Dwi'n ymwybodol o'r sefyllfa a'r pwysau sydd ar y diwydiant yn Ynys Môn. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr y berthynas sydd rhyngom ni fel Llywodraeth a llywodraeth leol Ynys Môn dan arweiniad cadarn, fel y mae o, ac mae'n dda gen i ddweud ein bod ni'n parhau i chwilio am ffyrdd o gydweithio a hefyd o geisio cyllid digonol yn ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.  

15:15

Diolch. Yn sicr, mae'r sector angen rhagor o gefnogaeth. Maen nhw'n dal yn fusnesau sydd dim ond yn cael ychydig o gefnogaeth, neu brin ddim o gwbl—pobl sy'n hunan-gyflogedig, y rhai sydd ddim yn talu staff trwy PAYE, busnesau sydd wedi agor yn rhy agos at ddechrau'r cyfnod clo gwreiddiol, y rhai sydd yn cael y cymhorthdal incwm hunan-gyflogaeth, ac felly ddim wedi cael gwneud ceisiadau am grants o'r gronfa gymorth benodol i'r sector. Mae yna ddryswch—un gronfa yn edrych ar elw masnachu wrth weithio allan y trothwy am gymorth, ac un arall ar drosiant. Dwi wedi cael cyswllt heddiw, yn digwydd bod, gan gwmni yn rhedeg sawl bwyty, ac mae'r staff ar ffyrlo, ond dydy'r perchnogion ddim yn gallu talu nhw eu hunain, achos does yna ddim elw i gymryd dim byd allan ohono fo.

Maen nhw'n straeon cyffredin iawn, iawn. Dwi eisiau'r sector yma fod yn ffit ac yn iach i allu ailddechrau. Felly, gaf i ofyn beth ydych chi'n mynd i wneud rŵan i drio ceisio cau'r bylchau yma o hyd? Ac efo 'normal' yn mynd i fod yn wahanol iawn i sut oedd pethau cynt, pan mae pethau'n ailagor—llai o gwsmeriaid mewn bwytai, cwmni bysys yn methu gweithio am yn hir iawn, mae'n siŵr—sut ydych chi'n gobeithio helpu busnesau wrth ailagor fesul cam? Pryd gawn ni'r math o gynllun adfer y bydd yn adfer hyder y sector yn y dyfodol?

Wel, mae'r cyfan rydyn ni'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru wedi'i fwriadu i adfer y sector dwristiaeth, a sectorau eraill. Rydyn ni wedi sicrhau bron i £3 miliwn ar gyfer bron i 200 o fusnesau twristiaeth ar Ynys Môn. Mae hynny'n ychwanegol at y grantiau dewisol sydd wedi cael eu dyrannu'n effeithiol iawn gan yr awdurdod lleol. Mi fydd hynny yn sicr yn parhau.

Dwi'n dal i gwrdd yn gyson gyda Gweinidogion twristiaeth gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yna bwysau clir yn cael ei roi ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig gan fy nghyd-Weinidog yn Lloegr, oherwydd ei fod o'n cynrychioli ardal wledig â thwristaidd, digon tebyg i beth sydd gyda ni yng Nghymru. Fel yna rydyn ni'n ceisio gweithio.

Mi garwn i gael mwy o wybodaeth am unrhyw un sydd yn cael anhawster fel hyn, lle maen nhw'n syrthio rhwng y cynlluniau sydd gan y Deyrnas Unedig a'r cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mi wnawn ni ymchwilio iddyn nhw.

4. Cwestiynau Amserol

Felly, cwestiwn amserol sydd i'w hateb nesaf, gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Y cwestiwn i'w ofyn gan Adam Price.

Llifogydd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn dilyn y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio cymunedau ar draws Cymru? TQ541

Diolch. Ar 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid pellach o £6.5 miliwn i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymateb i ddigwyddiadau tywydd garw. Mae hyn yn cynnwys cymorth i aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi neu sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi, gyda thaliadau o hyd at £1,000 wedi'u gweinyddu gan awdurdodau lleol.

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb. Ydy'r Gweinidog hefyd yn gallu dweud a ydy'r busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd mwyaf diweddar yma yn gallu cael mynediad at y gronfa o'r cynllun grant cymorth llifogydd i fusnesau a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni? O edrych ar y cymunedau hynny sydd wedi cael eu heffeithio yn ddiweddar gan y llifogydd, yn fy etholaeth i ac etholaethau cyfagos, a fyddan nhw nawr yn cael mwy o fuddsoddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn adeiladu amddiffynfeydd a chynlluniau atal llifogydd?

Yn benodol, o ran blaenori'r cymunedau hynny, rwy'n deall bod yna drothwy, onid oes, Gweinidog, ar gyfer yr hyn a elwir yn adroddiadau adran 19, lle mae llifogydd wedi bod? Ac mae'r trothwy tua 20 adeilad wedi cael eu heffeithio. Mewn sawl cymuned wledig, nifer fechan sydd yna, ond maen nhw'n cael eu heffeithio'n gyson. Felly, rwy'n ymwybodol yn fy etholaeth i ym Mhontargothi, er enghraifft, o wyth adeilad wedi cael llifogydd nawr tair gwaith mewn tri mis. Felly, oes modd edrych ar effaith cronnus llifogydd mewn cymunedau eithaf gwledig lle mae yna lai o adeiladau, ond wrth gwrs, allwch chi ddychmygu fel mae'r trigolion yn yr adeiladau hynny yn teimlo ar ôl wynebu y fath ddifrod mewn amser cymharol fyr. 

15:20

Diolch, Adam Price, ac os cawn ganolbwyntio ar Bontargothi, yn gyntaf oll, fel y gwyddoch, cyfarfuom ag amrywiaeth o bartneriaid yng nghyswllt y llifogydd anffodus a ddigwyddodd yn eich etholaeth. A dylwn ddweud nad oes trothwy wedi'i osod mewn statud mewn perthynas ag adroddiad adran 19. Pe bai 20 o dai wedi dioddef llifogydd byddem yn disgwyl y byddai'r awdurdod lleol hwnnw, neu'r awdurdod rheoli perygl llifogydd hwnnw, wedyn yn cyflwyno adroddiad adran 19, ond gallent ddewis cael trothwy is ac asesu hynny mewn perthynas â phob digwyddiad. Felly, byddwn yn sicr yn trafod hynny gyda'r awdurdod lleol mewn perthynas â'ch etholaeth eich hun.

Rydym wedi gweld llifogydd digynsail dros y flwyddyn ddiwethaf, fel y gwyddoch, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn nid yn unig wrth CNC ond wrth bob awdurdod rheoli risg bod cyllid ar gael, a dylent gyflwyno cynlluniau i ni eu hystyried. Mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli ac ymateb yn rhagweithiol i berygl llifogydd ledled Cymru ac mae'n parhau i wneud hynny. Erbyn diwedd tymor y Llywodraeth, sydd yn amlwg ond ychydig wythnosau i ffwrdd yn awr, rydym wedi buddsoddi £390 miliwn yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd. Felly, mae'r cyllid ar gael—mae cyllid ar gael o hyd—a phryd bynnag y ceir digwyddiad, mae angen i'r awdurdod lleol neu CNC edrych ar y digwyddiad hwnnw, fel y dywedais, ac mae'r cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw ynglŷn ag amddiffynfeydd rhag llifogydd. Fel y gŵyr pob Aelod, rwy'n credu, mae'r llifogydd wedi achosi heriau mawr mewn cymunedau gwledig, gan gynnwys y rhai yn fy etholaeth i, a hoffwn dalu teyrnged i'r rheini yn y cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd ac wedi cefnogi'r rhai a gafodd eu heffeithio waethaf gan y llifogydd. A gaf fi eich holi ynglŷn â phentrefi yn Sir Fynwy, lle mae'r llifogydd eisoes wedi gwaethygu problemau capasiti sylfaenol yn y rhwydwaith draenio a charthion, ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Dŵr Cymru mewn perthynas â nifer o achosion yn yr etholaeth? Maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn. A ydych chi fel Llywodraeth yn cysylltu ag awdurdodau lleol a Dŵr Cymru hefyd i sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei fonitro'n iawn, a'i fod yn cael ei uwchraddio yn ôl yr angen fel ei fod yn addas i'r diben, fel na fydd y problemau lawn mor wael pan fydd llifogydd yn taro yn y dyfodol?

Yn sicr. Mae Dŵr Cymru yn bartner gwerthfawr mewn perthynas â'r gwaith hwn, a phryd bynnag y cawn—. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Adam Price fy mod wedi cyfarfod ag ef ac amrywiaeth o bartneriaid, ac roedd Dŵr Cymru yn rhan o hynny. Ond mae'n bwysig iawn, ar ôl unrhyw lifogydd, ein bod yn gwybod pa mor dorcalonnus—. Os yw eich cartref yn dioddef llifogydd, mae'n drawmatig iawn ac yn achosi straen mawr. Felly, pryd bynnag y bydd unrhyw lifogydd, mae'n bwysig iawn ein bod yn darganfod achos y llifogydd hynny, ac weithiau gall fod yn rhywbeth y gellir ei gywiro ar unwaith yn amlwg, weithiau mae'n galw am ateb mwy hirdymor, ac mae'n bwysig iawn fod ein partneriaid yn gweithio gyda ni, gydag awdurdodau lleol, yr holl bartneriaid gyda'i gilydd, i edrych ar yr atebion posibl hynny. A gallai ateb fod yn llawer mwy hirdymor, a gallai fod yn amddiffynfeydd rhag llifogydd newydd, felly rhywle rhwng rhywbeth syml ac fel y dywedaf, gwaith adeiladu newydd. Felly, mae'n bwysig iawn fod pawb yn gweithio gyda'i gilydd, a gwn fod hynny wedi digwydd yn Nhrefynwy.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

5. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf yr wythnos hon mae Dawn Bowden.

Diolch, Lywydd. Ar 21 Chwefror, gwnaethom nodi un o'r nifer o ddyddiau arwyddocaol yn hanes rhyfeddol Merthyr Tudful a Rhymni. Ar y diwrnod hwn ym 1804 y gwnaeth injan stêm Trevithick ei thaith reilffordd gyntaf erioed, naw milltir o Benydarren i gamlas Merthyr-Caerdydd. Golygai'r daith hon mai Richard Trevithick, ac nid George Stephenson, oedd tad go iawn y rheilffyrdd. Roedd meistr haearn Cyfarthfa, Richard Crawshay, mor amheus nes iddo osod bet o 500 gini gyda Samuel Homfray o waith Penydarren na fyddai'r trên yn gallu cludo 10 tunnell o haearn i Abercynon. Collodd ei fet.

Heddiw, drwy ein treftadaeth y cofiwn y digwyddiad hwn drwy arbrawf Trevithick ac wrth gwrs—ac rwy'n atgoffa'r Dirprwy Weinidog diwylliant o hyn—mae'r atgynhyrchiad o injan Trevithick yn Abertawe, nid ym Merthyr Tudful. Erbyn hyn mae cynlluniau sylweddol i ddatblygu profiad Cyfarthfa o dan frand prosiect Crucible. Yn fy marn i, dylai Richard Trevithick a'r hyn a wnaeth ym Merthyr Tudful ar 21 Chwefror 1804 fod yn rhan bwysig o'r stori honno. Fel y dywed Amgueddfa Genedlaethol Cymru:

'Allwn ni ddim gorbwysleisio pwysigrwydd locomotif Trevithick. Ym 1800, ar garlam wrth farchogaeth oedd y cyflymaf y gallai dyn deithio dros dir. Ganrif yn ddiweddarach roedd rhwydwaith reilffordd yn cyrraedd cyfran helaeth o'r byd gyda threnau'n teithio'n gyson ar gyflymder o chwe deg milltir yr awr.'

Cafodd y trawsnewidiad rhyfeddol hwn

'a weddnewidiodd y byd'

ei gychwyn yn fy etholaeth ym mis Chwefror 1804. Diolch.

15:25

Roedd dydd Llun 22 Chwefror yn nodi dechrau Pythefnos Masnach Deg, mudiad pwysig o fewn y wlad, o gofio mai Cymru oedd y Genedl Fasnach Deg gyntaf a digwyddodd hynny ar 6 Mehefin 2008. Wrth wraidd masnach deg mae lleoliaeth, ac rwy'n falch o fod yn aelod o Fforwm Masnach Deg y Fenni, sy'n dîm bywiog a brwdfrydig. Sefydlwyd y fforwm yn 2007 ac mae wedi bod yn weithgar iawn ers hynny. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn anrhydedd cael fy ngwahodd i agor digwyddiadau amrywiol yn y Fenni, fel diweddglo Pythefnos Masnach Deg, a drefnwyd gan y pâr lleol, David a Martha Holman, o'r elusen Love Zimbabwe. Fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau presennol, bu'n rhaid canslo pob digwyddiad cyhoeddus, megis y brecwast masnach deg a'r bore crempog. Mae gan y fforwm nifer o ddigwyddiadau ar-lein, sydd i'w gweld ar dudalen Facebook y grŵp. Mae gan Masnach Deg Cymru nifer o weithgareddau ar-lein eraill hefyd, sydd i'w gweld ar eu gwefan. Thema eleni, a bennwyd gan y Sefydliad Masnach Deg yw 'cyfiawnder yr hinsawdd' a'r heriau a ddaw yn sgil newid hinsawdd i ffermwyr a'u gweithwyr ym mhedwar ban byd—rhywbeth y gwn ei fod yn peri pryder mawr i'r Aelodau yma, a gwn y byddwch yn gwbl gefnogol iddo. Rwy'n falch bod y Senedd wedi ymrwymo i ddefnyddio te, coffi, siwgr a bisgedi masnach deg ar ystâd y Senedd, ac er na allwn fod yno ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi gartref i ddathlu'r pythefnos gyda chwpanaid o de neu goffi masnach deg.

Dr Julian Tudor Hart oedd un o feddygon mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig yr ugeinfed ganrif. Roedd yn feddyg teulu a ddechreuodd ei yrfa yn fuan ar ôl genedigaeth y gwasanaeth iechyd gwladol, a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith fel meddyg teulu yn gwasanaethu'r gymuned lofaol ddifreintiedig yng Nglyncorrwg, yn fy etholaeth i, sef Aberafan. Yma, gallodd fwrw ymlaen â'i ymchwil, gan gyfuno ei hyfforddiant mewn iechyd cyhoeddus â gofalu am ei gleifion. Gallodd astudio effeithiau gofal wedi'i gynllunio a'i rag-gynllunio dros nifer o ddegawdau, ac felly roedd yn eiriolwr cryf dros gamau ataliol i osgoi'r angen am driniaeth. Deallodd fod gofal sylfaenol effeithiol yn dibynnu ar sylfaen gadarn o ymddiriedaeth a pharhad ar ran pawb a oedd ynghlwm wrtho. Arweiniodd y gwaith ymchwil hwn at gynhyrchu ei bapur ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal, a gyhoeddwyd yn The Lancet am y tro cyntaf ar 27 Chwefror 1971, sef hanner canrif yn ôl i'r penwythnos hwn. Daeth gwaith Dr Tudor Hart i'r casgliad fod gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig gyfraddau marwolaeth uwch oherwydd bod gan bobl ragdueddiad tuag at salwch o ganlyniad i amgylchiadau neu ddiffyg triniaeth gywir. Roedd yn ysbrydoledig, a daeth yn adnabyddus ledled y byd fel darn pwysig o waith ar anghydraddoldebau iechyd, gan ddweud bod argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio'n wrthgyfartal ag anghenion y boblogaeth a wasanaethir. Roedd y papur o'r farn bod dosbarthiad gofal meddygol yn y farchnad yn gyntefig a hen ffasiwn.

Ni ddylai grymoedd y farchnad bennu gofal iechyd cymunedau. Dylai fod yn seiliedig ar angen ac nid statws. Mae gennyf gredoau sosialaidd cryf ac nid wyf yn credu mai cyfrifoldeb un blaid wleidyddol yw'r angen i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd: mae'n gyfrifoldeb a rennir gan bawb. Rydym yn aml yn canmol ein staff GIG gwych wrth iddynt ofalu am bobl ledled Cymru, ond os ydym eisiau sicrhau nad oes angen i lawer o bobl gael gofal yn y lle cyntaf, rhaid inni barhau i fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd gan Dr Tudor Hart yn ei bapur 50 mlynedd yn ôl. Mae'n destun pryder fod y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn parhau i fod mor berthnasol heddiw ag yr oedd 50 mlynedd yn ôl. Rhaid i bob un ohonom ymrwymo i sicrhau nad yw'n parhau i fod yn berthnasol dros y 50 mlynedd nesaf.

Mae iechyd da yn rhywbeth rydym i gyd yn dymuno'i gael, ac yn aml rydym yn ei gymryd yn ganiataol. Pan fydd ein plentyn yn cael ei eni, rydym yn gobeithio am fabi iach gyda'r nifer gywir o fysedd ar eu dwylo a'u traed. Wrth inni fynd yn hŷn, disgwyliwn y bydd datblygiadau meddygol yn parhau'n gyfochrog â'n hanghenion, a phe bai'r gwaethaf yn digwydd, byddem yn disgwyl i'n system gofal iechyd, gyda'i thoreth o waith ymchwil, ymyriadau meddygol, cyffuriau, ac yn anad dim, opsiynau, allu ysgafnhau'r ergyd. Ond i'r rhai sy'n cael diagnosis o glefyd prin, nid yw hynny'n wir bob amser. Mae ymchwil i gyflyrau amddifad yn aml yn cael ei hariannu'n wael, mae opsiynau'n gyfyngedig, ac mae triniaethau fel arfer yn anhygoel o ddrud, ac ar sail costau a diffyg galw amdanynt, yn cael eu gwrthod yn aml gan reoleiddwyr a Llywodraethau. Gyda hynny mewn golwg, dychmygwch fod yn SWAN (syndrome without a name): rhywun y mae eu cyflwr mor brin fel na all yr holl wyddoniaeth yn y byd nodi'n iawn beth ydyw—syndrom heb enw.

Ond mae gobaith. Heddiw, daeth pob un o bedair gwlad y DU at ei gilydd, yn yr wythnos rydym yn nodi Diwrnod Clefydau Prin, i drafod y cynnydd a wnaed gan wledydd unigol ar weithredu fframwaith clefydau prin y DU. Yng Nghymru, cafwyd rhai gwelliannau eithriadol, ond er hynny, mae mynediad at driniaethau a chymorth i'r gymuned clefydau prin yn cael ei adael, yn y bôn, i lond llaw o glinigwyr angerddol ac ymroddedig ac ymdrechion diflino ymgyrchwyr a sefydliadau fel Genetic Alliance UK, Rare Disease UK a SWAN UK. Ond mae gennym gyfle, ac mae'r gwaith sylfaenol yn ei le. Felly, gofynnaf i Lywodraeth nesaf Cymru fanteisio ar y cyfle a gwneud iddo ddigwydd. Pwy bynnag fyddwch chi, mae gennych allu i wella os nad gweddnewid bywydau—os gwelwch yn dda, derbyniwch yr her.

15:30
6. Dadl: Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Eitem 6 ar ein hagenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol Aelod ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Ac rwy'n falch o ddweud y bydd y ddadl hon yn cael ei dehongli'n fyw mewn BSL i'r rhai sy'n gwylio Senedd.tv heddiw. A galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark.

Cynnig NDM7478 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;

b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;

c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a

d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Yn seiliedig ar ystadegau swyddogol, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn credu bod 7,200 o bobl yng Nghymru yn defnyddio BSL, a bod 4,000 ohonynt yn fyddar. Ym mis Hydref 2018, cafwyd galwadau yng nghynhadledd 'Clust i wrando' gogledd Cymru 2018 am ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, gan edrych ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015, a'u cynllun BSL cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, yn sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol gan gynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu eu hiaith gyntaf. Er bod Deddf Cymru 2017 yn cadw cyfle cyfartal yn ôl i Lywodraeth y DU, mae cyfreithwyr y Senedd wedi cadarnhau y byddai Bil BSL (Cymru) yn cydymffurfio pe bai'n ymwneud â'r eithriadau a restrir ynddi.

Pasiwyd Deddf BSL (Yr Alban) ar 17 Rhagfyr 2015, gan nodi cyfnod newydd yn ymgyrch y gymuned fyddar i gydnabod BSL yn gyfreithiol ledled y DU. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi ailddechrau gwaith deddfwriaethol rhagarweiniol yn ddiweddar ar ieithoedd arwyddion Prydain ac Iwerddon. Mae fy Mil BSL arfaethedig i Gymru yn ceisio sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl drwm eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau, gyda chamau gweithredu yn cynnwys sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL yng Nghymru.

Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthyf fod fy Mil arfaethedig yn bwysig iawn i'w haelodau byddar a'u cefnogwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn ymgyrchu dros Ddeddf BSL yng Nghymru ers sawl blwyddyn. Er eu bod wedi cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu siarter BSL newydd i Gymru, maent yn dweud wrthyf fod fy Mil BSL arfaethedig, rwy'n dyfynnu, 'yn gam enfawr ymlaen, ac os yw'n unrhyw beth tebyg i'r Bil BSL yn yr Alban, fe fydd yn cael cefnogaeth unfrydol a llwyr yr holl bleidiau.' 'Mae'n fuddugoliaeth ym mhob ffordd', dywedant. Roeddent yn ychwanegu eu gobaith y bydd y Senedd yn croesawu'r cynnig hwn yn wresog ac yn argyhoeddi Llywodraeth Cymru i sefydlu gweithgor trawsbleidiol, gan fod dod at ei gilydd a chydweithio yn y ffordd hon yn ffactor hollbwysig yn llwyddiant y Bil BSL yn yr Alban.

Byddai fy Mil arfaethedig yn gwneud darpariaeth i annog defnydd o BSL yng Nghymru ac yn gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Yn 2019, cyflwynodd Deffo!, fforwm ieuenctid byddar Cymru, ddeiseb i'r Senedd i wella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Maent yn datgan eu siom nad oes dim wedi digwydd ers hynny ac mai un o'r pethau pwysicaf yw bod BSL yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar ac yn parhau drwy'r holl ddatblygiad addysgol. Ar gyngor y gymdeithas genedlaethol i blant byddar—neu NDCS—Cymru, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp cynghori ar fynediad at y cwricwlwm newydd i ddefnyddwyr BSL a datblygu canllawiau, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd adolygiad annibynnol o'r cyfleoedd i deuluoedd plant ifanc byddar ddysgu iaith arwyddion, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cadarnhau barn yr NDCS fod y cyfleoedd yn llawer rhy gyfyngedig, a bod llawer o deuluoedd plant byddar am ddysgu iaith arwyddion i'w cynorthwyo i gyfathrebu â'u plentyn byddar, ond eu bod yn teimlo na allant wneud hynny. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) yn dweud bod gwendidau yng nghyfrifiad 2011 wedi golygu na chafodd llawer o bobl sy'n defnyddio BSL mo'u cyfrif. Maent yn dweud bod profiad o'r Alban wedi dangos bod eu grŵp cynghori cenedlaethol wedi ei chael hi'n anodd cael awdurdodau lleol i ymgysylltu â'u cynlluniau BSL a'u datblygu, gan awgrymu bod yn rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru yn y dyfodol osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chael ei gorfodi'n ddigonol. Fel y dywedant, ni fyddai Bil BSL yn fodd i gyrraedd y nod ynddo'i hun, ond byddai'n gweithredu fel llwyfan i sicrhau gwell gwasanaethau i'r gymuned fyddar a phobl drwm eu clyw, ac yn gwella'r cymorth a gynigir ar hyn o bryd, fel y gall pobl chwarae rhan lawn mewn pethau fel cyflogaeth ac addysg. Fel y dywedant hefyd, dylai'r Bil gael ei ystyried yn ddeddfwriaeth alluogi, er mwyn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar wella sgiliau BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â chymorth cyfathrebu, fel nad yw'r bobl sydd angen help ychwanegol i oresgyn y rhwystrau a wynebir gan bobl F/fyddar a thrwm eu clyw yn gorfod ysgwyddo'r costau, pan fo cost dosbarthiadau BSL mor uchel.  

Mae staff RNID am weld gwell mynediad at addysg a dysgu gydol oes, cyflogaeth, gwirfoddoli, y cyfryngau a newyddion a'r celfyddydau, diwylliant a hamdden. Mae'r Senedd o'r farn y byddai Bil ar Iaith Arwyddion Prydain yn debyg i Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015 o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac mae geiriad fy nghynnig deddfwriaethol wedi'i ddrafftio gyda hwy i gyflawni hyn. Yr unig broblem bosibl fydd p'un a fyddai'r Bil hwn yn dod o dan gyfle cyfartal a gadwyd yn ôl o dan baragraff 187, Atodlen 7A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ym mis Ionawr 2004, cydnabu Llywodraeth Cymru BSL fel iaith yn ei hawl ei hun. Mae hepgor iaith yn y diffiniad o gyfle cyfartal a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn awgrymu na fyddai cyfle cyfartal fel mater a gadwyd yn ôl yn berthnasol. Mae'r Alban hefyd yn ddarostyngedig i gyfle cyfartal fel mater a gadwyd yn ôl, ac mae Deddf BSL yr Alban yn darparu cynsail da i Gymru, lle nad yw gwasanaethau cyfreithiol y Senedd yn ymwybodol o unrhyw her gyfreithiol i'r Ddeddf gan y llysoedd. Fel y dywedodd etholwr B/byddar wrthyf, 'Mae'r Bil BSL hwn yn bwysig. Mae BSL yn iaith yn ei hawl ei hun, gyda'i gramadeg a'i geirfa ei hun, sy'n galluogi llawer o'n dinasyddion byddar, byddar a dall, a thrwm eu clyw i ddysgu, gweithio, bod yn greadigol, byw bywyd i'r eithaf a gwneud eu cyfraniad i'n diwylliant a'n heconomi.'

Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi fy nghynnig yn unol â hynny. Diolch. 

15:35

Yn gyntaf oll, a gaf fi gofnodi bod fy chwaer yn hollol fyddar ac yn defnyddio iaith arwyddion? Byddaf yn cefnogi cynnig deddfwriaethol yr Aelod heddiw, ond rydym mor agos at ddiddymu'r Senedd fel ei fod yn annhebygol iawn o lwyddo i ddod yn gyfraith cyn i ni ddiddymu. Ond nid yw hynny'n rheswm dros beidio â'i gefnogi. Yn 2018, cynhyrchodd y Pwyllgor Deisebau bedwar argymhelliad, ac roeddwn yn cytuno â phob un ohonynt. Os ydych chi eisiau gwybod sut beth yw bod yn fyddar, rhowch y teledu ymlaen, gwyliwch ddrama a diffodd y sain, oherwydd dyna'r bywyd y maent yn ei fyw. Dyna sut beth yw gwylio teledu i bobl sy'n fyddar. 

Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer iawn o bobl fyddar. Oherwydd mae'n rhaid i chi gofio bod gennym dair iaith gyntaf yng Nghymru, ac mae Iaith Arwyddion Prydain yn un ohonynt. A chyn i rywun ddweud, 'Beth am iaith arwyddion Cymraeg?', oherwydd y ffordd y mae iaith arwyddion yn bodoli, mae'n llawer mwy tebyg i Japanaeg a Tsieinëeg ac ieithoedd eraill sy'n seiliedig ar luniau ac arwyddion, yn hytrach na geirfa. 

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg plant a phobl ifanc fyddar. Mae angen i bobl fyddar gael eu haddysgu drwy iaith arwyddion, oherwydd dyna maent yn ei ddeall. Credwn—a dyma a ddywedodd y Pwyllgor Deisebau—y byddai siarter wedi'i seilio ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn galluogi awdurdodau lleol i gynllunio a chefnogi adnoddau, gyda fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol i sicrhau trefniadau cyson ledled Cymru—nid yw'r ddarpariaeth yn gyson; mae rhai ardaloedd yn well nag eraill—a phwysigrwydd iaith arwyddion i gyfleu gwybodaeth. Croesawodd y Pwyllgor Deisebau y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei hystyried yn y cwricwlwm newydd. Mae angen iddi fod yn rhan o'r cwricwlwm, nid yn unig i blant byddar, ond i blant nad ydynt yn fyddar, fel y gallant siarad a chyfathrebu â phlant sy'n fyddar.

Gellir dysgu cryn dipyn o iaith arwyddion sylfaenol yn gymharol gyflym, fel y gellir dysgu llawer o'r rhan fwyaf o ieithoedd yn gyflym iawn. Mae'n mynd yn llawer anos gydag amser, ond mae'n debyg y byddai dros 50 neu 60 o arwyddion yn mynd â chi'n eithaf pell. Felly, mae'n bwysig iawn. Ac wrth ddweud hynny, dylem gael TGAU mewn iaith arwyddion. Nid yw hynny i'w weld yn unman—'Y rheswm yw nad oes llawer o ymgeiswyr na darpar ymgeiswyr.' Rwyf wedi edrych drwy rai pynciau y mae CBAC yn eu cefnogi. Mae gan nifer ohonynt dan 100 o bobl yn eu hastudio bob blwyddyn. Felly, nid yw hynny'n esgus. Mae hyn yn galw, ac rwy'n pwyso'n galed am hyn, am rywun i ymgymryd â hyn a dangos arweiniad ac uchelgais i'w wneud ar ran y gymuned fyddar yng Nghymru. 

Fan lleiaf, mae angen inni gyflwyno safon ofynnol o gymhwyster BSL ar gyfer cynorthwywyr dysgu sy'n cefnogi plant a phobl ifanc fyddar. Nid oes safon o'r fath ar gael. Gallwn i weithio fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgol gyda phlant byddar oherwydd fy mod yn gwybod ychydig bach o iaith arwyddion. Nid wyf yn meddwl y byddwn yn addas. Rwy'n siŵr nad ydych chi'n meddwl y byddwn i'n addas chwaith. 

Yn olaf, rydym wedi cael deisebau, rydym wedi cael dadleuon, o'r blaen, ond yn anffodus, deuthum i'r casgliad mai'r unig ffordd y gwelwn weithredu yw drwy ddeddfwriaeth. Felly, byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn, er fy mod yn amheus y gallwn ei wneud cyn inni dorri ym mis Mawrth.  

15:40

Dwi'n falch iawn o allu cefnogi cynnig Mark Isherwood, sydd yn gofyn inni nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.

Nawr, dros y blynyddoedd, fel meddyg teulu, ac, yn y blynyddoedd diwethaf hyn, fel cadeirydd y grŵp amlbleidiol ar faterion byddardod, dwi'n ymwybodol o'r llu o heriau sy'n wynebu pobl fyddar, ynghyd â'r ystod o wahanol atebion i'r heriau hynny, ac mae Mike Hedges wedi sôn yn dda iawn am hynny jest rŵan. Mae iaith arwyddion Prydain yn un o'r atebion yma.

Nawr, mewn byd delfrydol, byddai'r mwyafrif o'n pobl, yn naturiol, yn parchu hawliau unrhyw leiafrif, gan gyfrif pawb, yn naturiol, yn gyfartal. Ond, fel y gwyddom, nid yw hynny'n digwydd yn aml, gyda disgwyl y bydd y lleiafrif yn cydymffurfio efo blaenoriaethau'r mwyafrif am bob math o resymau. Felly, rhaid diogelu hawliau'r lleiafrif drwy gyfraith. Ni allwn ddibynnu ar ewyllys da'r mwyafrif. Cyfraith sydd yn galluogi newid agweddau, fel mae Mike newydd ddweud. Rydym ni wedi gweld hyn mewn sawl maes eisoes. Ac, yn y cyd-destun ieithyddol, rydym ni wedi gweld deddfu ym maes yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau hawliau a gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith honno yng Nghymru. Wel, felly'n union, buaswn i'n dadlau, ydy'r angen efo Iaith Arwyddion Prydain. Rhaid cael deddf. Mae Mark Isherwood eisoes wedi amlinellu'r achos. Mae yna angen, fel mae sawl un o'm hetholwyr i wedi dweud wrthyf i yn y dyddiau diwethaf yma, ar ôl iddyn nhw ddarganfod bod y ddadl yma yn digwydd heddiw.

Nid yw Bil neu Ddeddf yn mynd i drawsnewid pethau dros nos, yn amlwg, ond mae yn fodd i ddangos parch a rhoi hygrededd i safbwyntiau dilys ynglŷn â'r angen dybryd i ddatblygu mwy o hyfforddiant, mwy o gyfleon gwaith, gwell cyfathrebu ac, yn gyffredinol, cyfoethogi bodolaeth unigolyn byddar yn ein gwlad. Er taw iaith arwyddion Prydain ydy unig iaith nifer o bobl fyddar Cymru, nid oes statws cyfreithiol iddi. Cefnogwch y cynnig yma heddiw i newid hynny. Diolch yn fawr.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno cynnig deddfwriaethol a fyddai'n ein helpu i greu Cymru well. Mae'n ffaith drist, fodd bynnag, fod y gymuned BSL yn parhau i wynebu heriau o'r fath, hyd yn oed ar ôl y ddeiseb a gyflwynwyd gan Deffo!, a oedd yn galw ar y pryd ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL i wella ansawdd bywyd pobl F/fyddar o bob oed. Nid yw ein gwlad wedi cyflawni ac rwy'n cytuno'n llwyr â chyflwyno'r gofyniad i gyrff cyhoeddus gydgynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth, hyfforddiant a gwell mynediad at wasanaethau rheng flaen.

Fel Aelodau o'r Senedd, rydym yn cynrychioli trigolion sy'n defnyddio BSL, felly roeddwn yn meddwl ei bod yn hanfodol fod tîm fy swyddfa a minnau'n ymdrechu i ddysgu. Dylai hyn fod yn wir ar draws cyrff rheng flaen sy'n ymwneud â'r cyhoedd yng Nghymru, fel bod gwasanaethau o leiaf yn ceisio bod yn hygyrch i'r oddeutu 7,500 o bobl sydd nid yn unig yn defnyddio BSL, ond sy'n dibynnu arni yng Nghymru. Rhaid inni rymuso'r gymuned hon. Nawr mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni gael Llywodraeth Cymru sy'n gweithredu ar ganfyddiadau Comisiynydd Plant Cymru fod diffyg cefnogaeth amlwg i sicrhau y gall aelodau o'r teulu ddefnyddio BSL. Gyda diffyg sgiliau cyfathrebu, mae hyn, felly, yn gosod rhwystr diangen ac annheg rhwng defnyddwyr BSL a'u teuluoedd.

Nawr, rhaid i Lywodraeth sy'n mynd i'r afael â'r ffaith ofnadwy mai dim ond hanner yr holl gyrsiau BSL i oedolion a gafodd eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, rhaid i hynny newid; ymrwymiad i fynd i'r afael â'r canfyddiad gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar nad yw'r holl adnoddau dysgu ar-lein yn hygyrch, er ei bod yn ofynnol i ysgolion sicrhau bod darpariaethau ar gael o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; a deddfwriaeth sy'n helpu i fynd i'r afael â'r ffaith annerbyniol bod lefelau'r cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol yn amrywio, ni allaf weld unrhyw ffordd well o gyflawni hyn na thrwy'r Bil arfaethedig hwn a sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL. Yn wir, gallem fynd mor bell â chefnogi awgrym yr Athro Graham Turner o Senedd sy'n arwyddo, i hybu ymgysylltiad a sicrhau newidiadau cadarnhaol ledled Cymru. Mae angen inni weld cynnydd, felly rwy'n gobeithio y byddai'r Bil hefyd yn galw'n benodol am gyhoeddi adolygiadau perfformiad BSL.

Rwy'n ategu'r holl sylwadau a wnaed gan siaradwyr blaenorol heddiw. Rwy'n falch o bleidleisio o blaid cynnydd a'r cynnig penodol hwn, ac rwy'n gofyn i fy holl gyd-Aelodau yn y Senedd wneud yr un peth. Diolch. 

15:45

Fel y mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthym yn eu llythyr lobïo, mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gyd wedi ymrwymo i gefnogi Deddf Iaith Arwyddion Prydain yn eu maniffestos etholiad cyffredinol, felly gobeithio y bydd y cynigion hyn yn cael cefnogaeth lawn heddiw. Fel Janet, dysgais rywfaint o Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf. Mae'n ddrwg iawn gennyf, rwyf eisoes wedi anghofio cymaint, ond mae gwylio'r arwyddo yng nghynadleddau COVID Llywodraeth Cymru i'r wasg yn gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig ydyw ac mae hefyd yn gwneud i mi sylwi ar ei habsenoldeb yn sesiynau briffio'r DU ac rwy'n credu ei bod hi'n werth i mi dynnu sylw at hynny, fel Ceidwadwr.

Fel yr awgrymais yn fy nadl fer ar ieithoedd tramor modern ychydig wythnosau'n ôl, mae defnyddio dewis iaith neu iaith angenrheidiol person arall yn mynd ymhellach o lawer na chyfnewid gwybodaeth syml; mae'n gwneud i chi ofyn cwestiynau am eraill a chwestiynau amdanoch eich hun. Fel y dywed Mike, nid yw hynny'n wahanol yn achos Iaith Arwyddion Prydain ychwaith. Ac mae'n rhywbeth y mae'r cwricwlwm newydd yn ei groesawu, ac rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y bydd athrawon yn ei gael yn ddigon cyffrous i fod eisiau ei addysgu, oherwydd mae'n rhywbeth llawer mwy nag y mae pawb ohonom yn ei ddisgwyl efallai. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, nid iaith yn unig yw BSL, mae'n borth i ddysgu, yn llwybr tuag at ymdeimlad o hunaniaeth fyddar a'r modd y mae pobl fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed, ac mae'n siŵr y dylai hynny fod o ddiddordeb i bob un ohonom. Os yw ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ymwneud o ddifrif â'r unfed ganrif ar hugain, yn sicr dylai ymwybyddiaeth o fyddardod gael ei gynnwys ym mhob cynllun newydd.

Os yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon awyddus i edrych ar yr Alban am ysbrydoliaeth ar gyfer isafswm pris alcohol a'r cwricwlwm newydd, rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud yr un peth yma. Mae'r Ddeddf y mae Mark eisoes wedi'i chrybwyll wedi arwain at welliannau cadarnhaol yn y gwasanaethau a ddarperir i ddefnyddwyr BSL yn yr Alban, gyda'r Ddeddf yn uwchraddio BSL, fel y clywsom, o fod yn iaith leiafrifol i fod yn iaith yn ei hawl ei hun. Ond rwy'n credu mai'r peth allweddol yw bod gwasanaethau cyhoeddus wedi dechrau talu sylw. Mae Cyngor Dinas Glasgow yn creu cyfle secondiad i ddefnyddiwr BSL byddar o sefydliad arall gynorthwyo gyda'u gwaith BSL. Mae gan Gyngor Dinas Dundee berson byddar fel prentis—dechrau rhywbeth gwirioneddol gyffrous. Mae Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban wedi creu rolau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer pobl fyddar. Ac mae 20 o golegau a phrifysgolion eisoes wedi datblygu'n dda o ran hygyrchedd i'w gwefannau, eu prosesau ymgeisio a'u gweithgareddau myfyrwyr, yn ogystal â darparu hyfforddiant BSL i staff a myfyrwyr, a gwelwyd gwelliannau yn y prifysgolion a'r colegau eraill o ran darparu dehongli hefyd. Mae GIG yr Alban, byrddau iechyd yr Alban, wedi gwneud llawer o waith yn helpu i weithredu'r Ddeddf, er eu bod yn dal i gwyno am ddiffyg cynrychiolaeth BSL fyddar ac maent yn ceisio unioni hynny.

Felly, mae'n gwbl briodol fod rhai heriau'n parhau; nid yw deddfwriaeth yn datrys popeth. Mae'r cynghorau gwledig yn yr Alban yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar ddehonglwyr BSL, er enghraifft. Ond mae'r angen am hyfforddiant ymwybyddiaeth a grymuso BSL, yn ogystal â chydweithredu ar draws y sector cyhoeddus, yn rhywbeth y gall deddfwriaeth ei ddatrys, ac mae hynny'n arwain yn ehangach wedyn, fel magnet, os hoffwch, at wneud mwy i rymuso pobl fyddar drwy gyflogaeth. Felly, nid yw'n berffaith, ond maent o leiaf wedi dechrau yn yr Alban, felly mae angen i ni wneud hynny hefyd. Diolch.

15:50

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol pwysig hwn gan Aelod ac am gyfraniadau ysbrydoledig a phwysig gan Aelodau ar draws y Siambr i'r ddadl y prynhawn yma? Hefyd, hoffwn ddweud pa mor bwysig yw holl ddibenion Bil o'r fath a gyflwynwyd gennych heddiw yn eich cynnig, Mark Isherwood, ac rwyf am ymateb i'r rheini i gyd, yn ogystal â nodi eich cynnig wrth gwrs.

Rwy'n falch iawn o ddweud mai fi oedd y Gweinidog yn ôl yn 2004, credwch neu beidio, y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a alluogodd ac a gefnogodd safbwynt Llywodraeth Cymru y byddem yn cydnabod Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun. Roedd hynny yn ôl yn 2004 a bydd rhai o'r Aelodau, a oedd yma ar y pryd, yn cofio hynny. A dweud y gwir, hoffwn dalu teyrnged i chi, Ann Jones AS, gan eich bod chi gyda chyn gyd-Aelod, Karen Sinclair, yn weithgar iawn bryd hynny yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymateb. Roedd hynny yn 2004—amser maith yn ôl—a bryd hynny roeddem yn torri tir newydd, ac rwyf bob amser yn cofio Karen Sinclair, fel y gwnaethoch fy atgoffa y bore yma, Ann, yn siarad, fel y byddem yn ei wneud ar lawr y Siambr, a rhywun yno'n arwyddo ar yr achlysur hwnnw yn 2004. Felly, dyna ddim ond un o'r pethau rydych yn eu gadael ar ôl o'ch cyfnod yma yn y Senedd hon, Ann Jones.

Ond roedd yn bwysig gwneud y datganiad hwnnw'n ôl bryd hynny yn 2004, ac ers hynny rydym wedi cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwys yng Nghymru, ac wedi sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth, y polisïau a'r rhaglenni ledled Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch. Rwy'n croesawu'n fawr fod gennym arwyddwr yma heddiw. Hefyd, diolch, Suzy Davies, am gydnabod bod ymwybyddiaeth yn cael ei chodi mewn gwirionedd drwy gael dehonglwr BSL yng nghynhadleddau i'r wasg COVID-19 Llywodraeth Cymru. Yn wir, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud hyn, ac mae'n gwneud datganiad clir, ond mae'n sicrhau bod yr iaith yn hygyrch.

Wrth gwrs, gwyddom fod angen gwneud mwy. Rydym wedi bod yn archwilio opsiynau i ddatblygu siarter BSL genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac i ddarparu adnoddau i blant a phobl ifanc fyddar a'u teuluoedd, ac mae hynny wedi cael ei gyfleu'n gryf iawn yn y ddadl ac yng nghynnig Mark Isherwood. Yn ddiweddar, cytunais ar gyllid i Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain gynnal archwiliad o'n polisïau a'n darpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru. Mae'r archwiliad yn hanfodol i ddangos i ble rydym yn mynd, ble mae'r bylchau a beth sydd angen i ni ei wneud. Mae'r gwaith hwnnw newydd ddechrau. Daw i ben ym mis Gorffennaf eleni; bydd yn arwain at adroddiad; bydd yn asesu polisïau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru, a daw argymhellion o hynny i lywio cynllun gweithredu a chynigion ar gyfer ymgysylltu'n barhaus â'r gymuned fyddar. Er bod y cynnig ar gyfer y Bil BSL, fel y dywedais, yn cael ei nodi a'i gydnabod yn briodol, mae angen i ni adolygu hyn ar y cam hwnnw, pan fydd archwiliad ac argymhellion Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar wasanaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru wedi'u cwblhau.

Yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi mecanwaith da iawn ar waith lle clywir safbwyntiau ein rhanddeiliaid. Mae ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl a gadeirir gennyf yn cynnwys aelodau o ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Cyngor Cymru i Bobl Fyddar a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar. Mae'r fforwm yn rhoi cyfle i'r holl bartneriaid gynghori a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru ar y materion allweddol sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru, sy'n gynyddol bwysig yn ystod COVID-19, ac mae'r fforwm wedi cyfarfod yn aml, gan sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed.

Fis Mehefin diwethaf, fe wnaethom sefydlu'r grŵp cyfathrebu hygyrch i oresgyn rhwystrau a gwella mynediad at wybodaeth yn ystod y pandemig COVID-19. Mae canlyniad gwaith y grŵp yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Ceir ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru gyda hyn i ddarparu mwy o wybodaeth mewn nifer o fformatau cyfathrebu, gan gynnwys BSL.

Fel rhan o broses archwilio BSL, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn trefnu nifer o ddigwyddiadau gyda'r gymuned fyddar yng Nghymru i sicrhau bod pobl fyddar yn cael cyfle i fynegi barn a rhannu eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn sicrhau bod cynifer o bobl fyddar â phosibl yn cymryd rhan yn y camau cynllunio a gweithredu fel rhan o'n gwerthoedd cydgynhyrchu, a gwn y bydd Mark Isherwood yn croesawu hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ganllawiau anstatudol BSL y Cwricwlwm i Gymru. Fel gydag agweddau eraill ar y Cwricwlwm i Gymru, datblygwyd y canllawiau drafft hyn drwy broses o gydadeiladu. Caiff y canllawiau eu mireinio i adlewyrchu adborth o'r ymgynghoriad; fe'i cyhoeddir yn hydref 2021 fel rhan o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Fel y gwyddom, wrth gwrs, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno o 2022 ymlaen.

Hefyd, comisiynwyd y Sefydliad Dysgu a Gwaith gan swyddogion yn ddiweddar i gynnal digwyddiad bord gron ym mis Mawrth 2021 i ymgysylltu â'r gymuned fyddar a rhanddeiliaid ehangach ar argymhellion yr adolygiad annibynnol ar gyfer y ddarpariaeth BSL i oedolion yng Nghymru, ac mae'r annibyniaeth honno'n hollbwysig er mwyn inni gael hyn yn iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y galw am BSL, yn ystyried sut y cyflwynir y ddarpariaeth ar hyn o bryd, pa welliannau y gellid eu gwneud, a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth a mynediad. Bydd hynny, wrth gwrs, yn llywio ystyriaethau polisi pellach ar gyfer darpariaeth BSL i oedolion yng Nghymru.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym yr archwiliad BSL a digwyddiad ymgysylltu â'r ymgynghoriad ar BSL, sy'n sail gref i ystyried ein gwasanaethau cymorth BSL yng Nghymru, sut y gellid eu gwella a sut y gellir gwella sgiliau ledled Cymru. Pan fydd y broses archwilio ar ben, rhagwelwn y byddwn yn ymuno â siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Fel sefydliad, bydd hyn yn ein galluogi i arwain drwy esiampl a hyrwyddo arferion da, ac i ystyried y cyfleoedd sydd gennym, fel rydych wedi'u cyflwyno heddiw, Mark Isherwood.

Hoffwn ddweud i orffen, yr wythnos nesaf, wrth gwrs, wrth inni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, y bydd côr BSL yn arddangos Cymru i'r byd. Gobeithio y gwnewch chi nodi hynny wrth inni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Diolch yn fawr. 

15:55

Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, felly gofynnaf i Mark Isherwood ymateb yn fyr i'r ddadl. Mark.

Diolch. Wel, diolch i Mike Hedges am ei sylwadau: 'Nid yw agosrwydd yr etholiad yn rheswm dros beidio â chefnogi'r cynnig hwn; mae arnom angen arweiniad i wneud rhywbeth ar ran y gymuned fyddar yng Nghymru.' Dai Lloyd: 'Mae angen y ddeddfwriaeth hon; rhaid inni ddiogelu hawliau lleiafrif drwy'r gyfraith.' Dywed Janet Finch-Saunders, 'Bydd y ddeddfwriaeth hon yn ein helpu i greu Cymru well, gan wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl sy'n dibynnu ar BSL yng Nghymru.' Dywed Suzy Davies nad iaith yn unig yw BSL, ond ymdeimlad o hunaniaeth, a dylid darparu ymwybyddiaeth o fyddardod ym mhob ysgol. Fe'n hatgoffwyd gan y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, fel y dywedais yn fy araith, fod Llywodraeth Cymru yn 2004 wedi cydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun, ond fel y mae pobl F/fyddar ym mhob rhan o Gymru wedi dweud wrthyf, er bod hyn yn angenrheidiol, nid yw'n ddigon.

Nid nam deallusol yw byddardod, ac eto mae cyrhaeddiad addysgol dysgwyr B/byddar yn is yn gyffredinol na phlant sy'n clywed. Mae hynny'n gywilyddus. Nododd Comisiynydd Plant Cymru ddiffyg cefnogaeth i sicrhau y gall aelodau o'r teulu ddefnyddio BSL—cywilyddus. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain,

Nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu, yn llwybr tuag at ymdeimlad o hunaniaeth Fyddar, a'r modd y mae pobl Fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed.

Byddai rhoi statws cyfreithiol llawn i BSL yng Nghymru yn sicrhau ei bod yn cael yr un amddiffyniad â'r Gymraeg. Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn diwallu anghenion defnyddwyr BSL na'r gymuned F/fyddar ehangach. Fel y dywedodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn yr Alban, mewn tystiolaeth a gafwyd gan Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd yr Alban ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015, mae Deddf Cydraddoldeb y DU 2010

yn rhoi hawliau i unigolion i'w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ond nid yw'n diogelu nac yn hyrwyddo BSL fel iaith.

Mae'r un peth yn wir am ddeddfwriaeth bresennol Cymru. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn yn unol â hynny.

16:00

Y cwestiwn yw a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly byddwn yn pleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Parth perygl nitradau Cymru gyfan

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Eitem 7 ar ein hagenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar barth perygl nitradau Cymru gyfan a galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7599 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan.

2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Weinidog, mae'n wirionedd trist fod eich mesurau parth perygl nitradau didostur rydych yn eu cyflwyno yn creu amheuaeth ynghylch gonestrwydd ac uniondeb eich Llywodraeth. Yn wir, o leiaf wyth gwaith rydych wedi addo peidio â gwneud unrhyw beth tra'n bod ynghanol pandemig COVID. Wrth ymateb i mi yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Chwefror, fe wnaethoch honni bod y cynllun gwirfoddol roeddech wedi gweithio gyda NFU Cymru i'w gyflawni wedi methu. Nid yw hynny'n wir. Yn wir, ni chafodd y dull ffermio baner las ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru pan wnaeth ffermwyr gais am gyllid drwy gynllun rheoli cynaliadwy'r cynllun datblygu gwledig.

Er bod canlyniadau prosiectau a safonau dŵr wedi cael eu rhannu mewn llythyrau atoch chi a'r Prif Weinidog ym mis Mawrth 2020, gan gynnwys argymhellion ar gyfer y camau nesaf a chyhoeddi ymateb gan swyddogion yn datgan y rhoddir ystyriaeth fanwl i'r safon dŵr, yn ôl yr hyn a ddeallaf mae'n warthus fod NFU Cymru yn dal i aros am ateb pellach. Er bod sefydliadau'r diwydiant yn ymrwymo i is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol a bod y grŵp wedi cyflwyno adroddiad cynnydd i chi gyda 45 o argymhellion ym mis Ebrill 2018, erbyn dechrau'r mis hwn nid oeddech wedi ymateb na hyd yn oed wedi cyfarfod â'r grŵp arbenigol. Yn amlwg, rydych wedi diystyru'r dull gwirfoddol ymhell cyn rhoi cyfle priodol iddo.

Yn gynharach y mis hwn, honnodd y Prif Weinidog nad ydym wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol. Nid yw hynny eto'n gywir. Rydych chi eich hun wedi cydnabod y bu cynnydd dros y pedair blynedd ddiwethaf. Roedd cyfarwyddwr gweithredol tystiolaeth, polisi a thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi sôn am leihad cyson mewn digwyddiadau llygredd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a gwelwyd tuedd glir ar i lawr o 28 y cant dros y tair blynedd ddiwethaf. Wrth geisio cyfiawnhau'r rheoliadau hyn, rydych wedi fy nghyfeirio at brosiect llaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedwyd wrth y Senedd hon nad yw 50 y cant o'r ffermydd llaeth yr ymwelwyd â hwy yn cydymffurfio. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn ichi egluro pa gamau a gymerodd swyddogion i archwilio'r rhesymau dros beidio â chydymffurfio. Gwnaethoch ymateb ddydd Llun yn dweud y byddwch yn dadansoddi'r canlyniadau'n drylwyr pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau. Rwy'n credu eich bod yn gwybod i ble rwy'n mynd gyda hyn. Efallai y cofiwch hefyd yn y pwyllgor y mis hwn i chi ddweud wrthyf, ac rwy'n dyfynnu,

O ran y costau sy'n gysylltiedig â'r llygredd amaethyddol, fel y dywedais, mae cost uwch os na wnawn unrhyw beth.

Unwaith eto, rydych chi'n anghywir. Mae eich asesiad effaith rheoleiddiol eich hun yn amcangyfrif y gallai costau cyfalaf ymlaen llaw parth perygl nitradau fod yn £360 miliwn. Mae hynny £347 miliwn yn fwy na'r cymorth rydych yn ei gynnig mewn gwirionedd, £99 miliwn yn fwy na chyfanswm diweddaraf incwm ffermio yng Nghymru. Yn wir, yn ôl yr asesiad effaith rheoleiddiol, dros 20 mlynedd, mae cyfanswm y gost yn fwy na £1 biliwn i'n sector amaethyddol. Pam eich bod yn gwneud i ffermwyr wario'r symiau hurt hyn, arian nad oes ganddynt, rhwng nawr a 2040, am fuddion gwerth £153 miliwn? Mae'r costau £950 miliwn yn fwy na gwerth gwirioneddol y buddion. Yn wir, gallai bwlch enfawr Griffiths rhwng cost a budd fod hyd yn oed yn fwy, fel y dywed y memorandwm esboniadol, ac rwy'n dyfynnu:

Oherwydd yr ystod eang o gostau amgylcheddol posibl sy'n gysylltiedig â'r llygryddion hyn a'r amrywiaeth o fathau o ffermydd ac arferion, ni ellir bod yn sicr o'r gymhareb cost a budd.

Pam eich bod yn honni bod y rheoliadau hyn yn gymesur? Pam cynyddu nifer y daliadau y mae parthau perygl nitradau yn effeithio arnynt i dros 24,000, pan na fu unrhyw ddigwyddiadau mewn rhannau helaeth o Gymru yn ystod y degawd diwethaf? Pam gwawdio Brexit a datganoli drwy ddewis opsiwn Ewropeaidd pan ddylem fod yn edrych ar weithio gyda ffermwyr i ddatblygu ateb gwirfoddol i Gymru? Pam mynd ar drywydd parth perygl nitradau pan fo astudiaeth gan eich annwyl Gomisiwn Ewropeaidd wedi canfod nad oedd tua hanner y safleoedd monitro nitradau Ewropeaidd yn dangos unrhyw newid sylweddol, a bod 26.6 y cant arall yn cyflwyno tueddiadau cynyddol o nitradau? Pam gwthio Cymru i barth perygl nitradau tiriogaeth gyfan pan fo Denmarc ac Iwerddon wedi gwneud cais am randdirymiad?

Er mwyn ffermio yng Nghymru, ac yn wir, i'n ffermwyr a cheidwaid ein cefn gwlad, mae angen inni atal cynnydd ar hyn. Weinidog, rwy'n eich parchu'n fawr, ac yn sylweddoli ei fod yn bortffolio mawr sy'n wynebu anawsterau. Mae un achos o lygredd yn un achos yn ormod. Ond rwy'n dweud wrthych, yn gwbl onest, ac o ddifrif: nid yw y tu hwnt i rywun i allu dweud, 'Rwy'n gwrando ar fy ffermwyr, rwy'n gwrando ar bobl Cymru, rwy'n gwrando ar fy nghyd-Aelodau etholedig yn y Senedd.' Newidiwch eich meddwl ar y penderfyniad hwn, Weinidog, a gadewch inni droi'r diffyg ymddiriedaeth yn barch yn awr. Diolch.

16:05

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a gofynnaf i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un achos yn ormod.

Yn cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio.

Yn derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU.

Yn cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Mi fydd Aelodau’n ymwybodol fy mod i wedi gosod cynnig i ddiddymu y rheoliadau yma, a fydd yn cael ei ddadlau a’i bleidleisio arno yr wythnos nesaf, ond mae’n dda cael cyfle i wyntyllu’r dadleuon wrth inni baratoi ar gyfer y bleidlais fawr honno. Wrth gwrs, mi fyddwn ni’n cefnogi'r cynnig yma heddiw.

Dwi’n gwrthwynebu’r rheoliadau yma nid am nad oes yna broblem ansawdd dŵr mewn rhai rhannau o Gymru; dwi’n gwrthwynebu y rheoliadau yma oherwydd nid y rheoliadau yma yw’r ateb cywir i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’r rheoliadau yn anghymesur, maen nhw yn mynd i gael canlyniadau anfwriadol ar yr amgylchedd, ac, wrth gwrs, maen nhw’n mynd i danseilio hyfywedd nifer o ffermydd Cymru. Pam eu bod nhw’n anghymesur? Wel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, wedi argymell dynodi 8 y cant o Gymru ar gyfer yr NVZs yma, yn targedu y rhannau hynny o Gymru lle mae yna broblem. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu hynny a mynd am 100 y cant o Gymru, hyd yn oed yr ardaloedd sydd heb weld unrhyw achosion o lygredd amaethyddol dros y ddegawd ddiwethaf. Rŷn ni’n gwybod bod y trend ar draws Cymru wedi disgyn pan ŷch chi’n edrych ar yr achosion—flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y tair blynedd diwethaf, lawr 28 y cant yn y cyfnod hwnnw. Felly, ie, targedwch lle mae angen targedu, gosodwch reoliadau lle mae angen rheoleiddio, ond nid gosod y baich afresymol yma ar bob un ffarm yng Nghymru ac ar bob un erw o dir Cymru hyd yn oed lle dyw e ddim yn fater sydd yn peri gofid. Mae angen i’r Llywodraeth yma fod yn llawer mwy soffistigedig ac yn llai cyntefig ar y mater yma. Dilynwch y data, dilynwch y wyddoniaeth—dyna yw mantra'r Llywodraeth pan mae'n dod i COVID. Wel, da chi, gwnewch yr un peth yn y cyd-destun yma.

Mi fydd yna ganlyniadau anfwriadol i'r amgylchedd. Mae chwalu tail yn ôl y calendr yn wirion bost, ac mi roedd y Gweinidog ei hun wedi cydnabod gyda fi rhai misoedd yn ôl ei bod hi yn ei chael hi'n anodd derbyn mai dyna yw'r approach gorau. Wythnosau cyn y bydd y cyfnod i beidio â chwalu yn dod, ac wythnosau ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, mi fydd yna sbeics eithriadol yn lefelau nitradau yn y tir ac ar y dŵr wrth i bob ffarmwr yng Nghymru glirio'u storfeydd ar yr un pryd. Mi fydd hynny yn creu problemau llygru mewn ardaloedd lle does dim problemau llygredd ar hyn o bryd. A'r unig opsiwn, wrth gwrs, i nifer o ffermydd, yn enwedig yn yr ardaloedd llai ffafriol, sydd efallai'n cadw rhyw 20 neu 30 o wartheg, yw mynd allan o wartheg oherwydd y gost, ac mi fydd hynny'n golygu y byddwn ni'n colli'r cyfraniad amgylcheddol y mae pori'r gwartheg yna yn ei wneud o safbwynt cynefinoedd a bioamrywiaeth, yn enwedig yn yr ucheldir. Ac o golli'r gwartheg yna, beth welwch chi wedyn, wrth gwrs, yw ffermwyr yn gorfod cyflwyno mwy o ddefaid ar y tiroedd hynny, fydd yn pori'n galetach ac felly'n creu difrod i'r cynefinoedd hynny. Os ydych chi'n cadw, dywedwch, 20 o wartheg, mae'r gost o dalu am y seilwaith yma i storio gwerth tri neu bedwar mis o dail yn mynd i fod yn gwbl y tu hwnt i'ch cyrraedd chi. Mae'r Llywodraeth yn mynd i ddweud, 'Rŷn ni'n rhoi rhyw £11 miliwn i gynorthwyo'; wel, mae hynny'n chwerthinllyd. Mae hynny'n llai na £1,000 i bob daliad amaethyddol yng Nghymru. Dwi'n gwybod am un fferm sydd wedi quote o £300,000 i osod tŵr slyri ar y fferm i gwrdd â'r rheoliadau yma. Does dim unrhyw ffordd yn y byd y gall y ffarm yna fforddio'r buddsoddiad hwnnw, hyd yn oed petai'r Llywodraeth yn cyfrannu hanner y gost.

Fe wnaf i gloi gyda hyn—

16:10

Ocê. Maen nhw'n rheoliadau anymarferol, maen nhw'n rheoliadau na ellir eu cyflawni heb greu difrod amgylcheddol na dinistr economaidd i'r ffermydd ar draws Cymru, ac maen nhw'n dod i rym wythnos cyn dyddiad gwreiddiol diddymu y Senedd yma. Mae etholiad mewn mater o wythnosau; peidiwch â rhuthro'r rheoliadau yma drwodd yn fyrbwyll. Cymerwch gam yn ôl ac ailystyriwch.

A gaf fi atgoffa'r holl Aelodau mai dadl 30 munud yw hi, a thair munud yw'r cyfraniadau? Mewn gwirionedd, mae gennym ormod o siaradwyr, felly bydd rhai ohonoch yn cael eich siomi. Jenny Rathbone.

Credaf fod hon yn ddadl bwysig i sicrhau bod pobl yn sylweddoli yn y gymuned ffermio ein bod yn gwrando arnynt, ond credaf fod rhywfaint o orliwio wedi bod ynglŷn â beth yw'r broblem o ran yr hyn rydym yn ei ofyn gan ffermwyr. Rydym yn gofyn i ffermwyr beidio â llygru'r tir a pheidio â llygru'r afonydd, ac mae hwnnw'n ofyniad hollol resymegol a gwareiddiedig. Ni allwn barhau i gael bron i 3,000 o ddigwyddiadau llygredd yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fel sydd wedi digwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi cael mwy na thri digwyddiad bob wythnos yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae llawer iawn o drafod wedi bod rhwng y Gweinidog a chynrychiolwyr ffermwyr dros y pum mlynedd ddiwethaf, ac yn syml iawn nid yw'r gymuned ffermio wedi cynnig yr ateb y mae angen inni ei weld. Ni allwn gael parthau lle mae gennym reoliadau a pharthau heb reoliadau. Ni fyddech yn disgwyl gweld hynny mewn siop cigydd neu ysbyty—'Fe gawn ychydig o reoleiddio yma ond nid yno.' Mae'n ymddangos i mi fod angen inni wrando ar ein ffermwyr wrth gwrs, ond credaf eu bod wedi cael eu gwneud yn or-bryderus, ac nid yw gwneud dim yn opsiwn.

Mae'r Arglwydd Deben, sy'n cadeirio'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yn dod i siarad â'r pwyllgor newid hinsawdd yma yfory, a byddai'n cael syndod mawr pe na baem yn gwneud popeth sydd angen inni ei wneud i leihau ein hallyriadau. Dyma un o'r ffyrdd y gallwn ei wneud. Mae arian ar gael i helpu ffermwyr bach i osod lleoedd addas ar gyfer storio'r tail y mae angen iddynt ei storio. Ceir ymadrodd fod yna bob amser arian i'w wneud o faw, ac nid wyf yn deall pam nad yw'n bosibl ei wneud yn nwydd y gellir ei farchnata er mwyn cyfoethogi'r tir a'i wneud yn well ac yn haws tyfu cnydau arno. Mae hwn i'w weld yn fater pwysig iawn i mi, a chredaf y bydd gor-arbenigedd mewn ffermio gyda'r ffermydd llaeth enfawr hyn yn ffynhonnell bwysig i'r broblem yma. Mae angen inni sicrhau bod yr economi gylchol yr un mor berthnasol i ffermio ag i boteli plastig.

Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ddod o hyd i ateb i fanylion y broblem hon, ond mae'n debyg na ellir gwneud hynny mewn dadl 30 munud. Mae angen inni edrych ar hyn yn y pwyllgor newid hinsawdd i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau na fydd ffermwyr bach yn methu o ganlyniad i gydymffurfio â'r rheoliadau presennol, heb sôn am unrhyw beth y cred y Gweinidog fod angen inni ei wneud i'w gwella. Rhaid inni gofio bod hyn i gyd yn cael ei wneud yng nghyd-destun cael rhybudd fod traean o'r holl bysgod ac infertebratau dŵr croyw yn ein dyfroedd ffres yn mynd i gael eu difa yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, ac felly, rhaid inni weithredu yn awr i ddiogelu ein hamgylchedd, diogelu natur a sicrhau bod gennym ffermio cynaliadwy nad yw'n tanseilio agweddau eraill ar ein heconomi.

16:15

Weinidog, rwyf am fod yn glir ar y mater hwn, rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru, ond ni chredaf mai dyma ydyw. Gan gydnabod yr angen i ddiogelu ein hamgylchedd, ar ddechrau hyn oll, cefnogais y galwadau am gyfres gymysg o ddulliau i ffermwyr allu eu defnyddio i leihau lefelau nitradau ar ffermydd. Roeddwn yn cydnabod nad un ateb addas i bawb fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen yn amgylcheddol na'r fwyaf sefydlog yn ariannol, ac rwy'n ei chael yn rhyfeddol eich bod wedi penderfynu cyflwyno parth perygl nitradau ar gyfer Cymru gyfan, er gwaethaf y dystiolaeth gymhellol a ddaeth ger eich bron. Hoffwn dynnu sylw'r siaradwr blaenorol at y ffaith bod gennym barthau perygl nitradau eisoes mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae fy ardal i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn un, ac nid oes angen i chi ei gael dros y wlad gyfan.

Dangosodd ymatebion gan ffermwyr a rheolwyr tir na fyddent yn gallu fforddio'r parth perygl nitradau Cymru gyfan arfaethedig, ac nid yw'r mwyafrif helaeth o ffermwyr yn defnyddio fawr iawn o wrtaith nitradau mewn gwirionedd. Nid oes gan 73 y cant o ffermydd sy'n cynhyrchu slyri ddigon o le storio ar eu ffermydd sy'n gallu bodloni'r gofynion arfaethedig i gael lle storio am ddau fis a hanner. Nid yn unig y bydd cost y gofyniad hwn yn golygu y bydd rhai ffermydd yn methu, bydd hyd yn oed y rhai a fydd yn penderfynu y gallant ei gyflawni yn wynebu problemau gyda chyllid, gyda chynllunio—ceisiwch gael caniatâd cynllunio—a'r gwaith ffisegol o'i wneud yn y cyfnod pontio byr. A chofiwch, Weinidog, mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar ffermwyr sydd eisoes dan bwysau ac sy'n ymdopi â cholli arian oherwydd COVID-19 ac ansicrwydd ynghylch y cynlluniau ôl-Brexit.

Wedyn ceir y cyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru. Fel y bydd unrhyw ffermwr yn dweud wrthych, ni allwch ffermio yn ôl y calendr, rydych yn ffermio yn ôl yr amodau tywydd. Felly, er enghraifft, dyma ni ar ddiwedd mis Chwefror ac yn ddamcaniaethol gallai ffermwyr fod yn gwasgaru slyri mewn tywydd gwlyb iawn, ond ni fyddant wedi gallu manteisio ar yr holl gyfnodau sych rhwng 15 Hydref a 15 Ionawr. Canlyniad terfynol y gofyniad hwn fydd risg uchel iawn o lygredd cyn ac ar ôl y cyfnod gwaharddedig, rhywbeth sy'n gyffredin iawn yn Iwerddon.

Credaf mai'r prif faes arall rwyf am ei grybwyll yn fyr yw mater dim rhanddirymiadau ar gyfer terfyn N a gynhyrchir ar y fferm. Mae ffermwyr yn dweud wrthyf mai dyma'r broblem fwyaf gyda'r rheoliadau. Mae'r rheoliad yn pennu na all fferm fynd dros 170 kg N N/h. Ym mhob un o wledydd eraill y DU, cynigir rhanddirymiad sy'n codi'r ffigur hwn i 250 kg i ffermydd lle mae 80 y cant o'r fferm yn seiliedig ar borfa. Roedd yn y rheoliadau drafft, ond mae wedi mynd ar goll.

Gallwn sôn am y ffaith fy mod yn credu mai cwota ar gynhyrchu fesul hectar yw hyn ac y bydd yn effeithio ar bris tir a chanlyniadau i fusnesau yn y gadwyn sy'n deillio o ffermydd. Hoffwn i ni siarad am y materion iechyd meddwl, hoffwn siarad am anawsterau cadw cofnodion, ond rwy'n credu fy mod am orffen gyda fy rhwystredigaeth llwyr, oherwydd rwyf wedi eich lobïo chi a Gweinidogion blaenorol ar fynd i'r afael â'r pechaduriaid. Gallech fod wedi defnyddio ffon dafl a chael y bobl sy'n chwerthin, yn mynd i'r banc, yn chwerthin ar ben CNC, yn anwybyddu CNC, yn talu eu dirwyon, yn sathru ar eu cymunedau lleol a dal ati i wneud yr un peth. Yn hytrach, rydych wedi defnyddio gordd i dorri cneuen. Nid wyf yn credu mai dyma'r ffordd ymlaen, Weinidog, a chredaf y dylech wrthdroi eich penderfyniad. 

Byddaf fi a fy ngrŵp yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr. Mae'r rheoliadau sy'n gweithredu set gyffredinol o reoliadau slyri ar gyfer diwydiant ffermio Cymru gyfan yn gwbl anghymesur, o ran cost a chyflawniad. Mae'n ymddangos unwaith eto fod y mwyafrif yn cael eu cosbi am weithredoedd y lleiafrif. Mae'n bosibl hefyd, hyd yn oed gyda'r lleiafrif, nad oedd modd osgoi'r rhan fwyaf o ddamweiniau llygredd neu eu bod, fel mewn bywyd yn gyffredinol, yn ddim ond mater o gamgymeriadau syml. Mae hyd yn oed y rhain, fel y dywedwyd o'r blaen, wedi gostwng dros 24 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi neilltuo £22 miliwn i helpu ffermwyr i weithredu'r newidiadau sydd eu hangen, ond bydd hyd yn oed cipolwg sydyn ar gost y seilwaith sydd ei angen yn dangos bod y swm yn gwbl annigonol. Amcangyfrifir mai tua £80,000 yw cost gyfartalog adeiladu cyfleusterau storio slyri. O ystyried bod 24,000 o ffermydd yng Nghymru y gallai'r rheoliadau hyn effeithio arnynt, cawn flas ar ba mor annigonol yw'r ffigur a neilltuwyd. 

Mae'n amlwg mai'r ffermwyr eu hunain fydd yn ysgwyddo baich y gost o weithredu. Nid yw'r ffigur o £80,000 ond yn cynrychioli'r gost gychwynnol ar gyfer y seilwaith angenrheidiol. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun o'r costau'n rhoi ffigur o £360 miliwn ar gyfer costau cyfalaf ymlaen llaw a chostau blynyddol parhaus o tua £22 miliwn, ac nid yw hyn yn cynnwys y taliad untro amcangyfrifedig o £7.5 miliwn o ffioedd caniatâd cynllunio. O ystyried bod y diwydiant ffermio ynghanol newid enfawr mewn perthynas â Brexit, heb sôn am yr aflonyddwch a achosir gan COVID, sut y mae'r Llywodraeth yn disgwyl i ffermwyr ymdopi â'r gost ychwanegol enfawr hon? Dywedir bod y banciau'n amharod i roi benthyciadau am y gost am nad ydynt yn effeithio'n gadarnhaol ar incwm ffermydd.

Mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain felly: beth yw'r manteision a gyflawnir dros yr 20 mlynedd nesaf? Wel, mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud y bydd oddeutu £300 miliwn, wedi'i osod yn erbyn cost o dros £800 miliwn ar gyfer ei weithredu. Unwaith eto, o'r 953 o'r dalgylchoedd dŵr a nodwyd ledled Cymru, dim ond 113, 12 y cant, oedd yn methu o ganlyniad i arferion ffermio. Ffordd lawer mwy cymesur a chosteffeithiol, does bosibl, o reoli'r problemau llygredd fyddai targedu'r ardaloedd sy'n methu.

Os bydd y mesurau llym hyn yn mynd rhagddynt, credaf y gwelwn lawer o'n ffermwyr sydd eisoes yn dlawd yn mynd i'r wal. Mae un ffermwr wedi dweud wrthyf y bydd yn rhaid haneru ei fuches odro os aiff y mesurau hyn yn eu blaen. Dywed y Gweinidog y bu ymgynghori helaeth â'r diwydiant ffermio, ond dywed y diwydiant ffermio wrthym fod bron bob un o'u hawgrymiadau a'u mewnbwn wedi'u hanwybyddu. O gofio mai ffermwyr Prydain yw rhai o'r ffermwyr mwyaf gweithgar ac arloesol yn Ewrop a'u safonau hwsmonaeth ymhlith yr uchaf yn y byd, dylem wneud popeth i helpu'r diwydiant, nid creu rhwystrau i'w goroesiad. Mae'n ymddangos bod y ffermwyr yn cael eu haberthu ar allor nodau amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:20

Yn sicr, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau a fydd yn gweld Cymru gyfan yn cael ei dynodi'n barth perygl nitradau o 1 Ebrill wedi achosi llawer iawn o rwystredigaeth a phryder i ffermwyr yn fy etholaeth. Mae nifer y negeseuon e-bost rwyf wedi'u cael ar y mater hwn yn dangos hynny. Fel rhywun o deulu ffermio fy hun ac fel rhywun sydd wedi priodi i deulu ffermio llaeth, hoffwn feddwl fy mod yn ymwybodol iawn o'r effaith y bydd y cynigion hyn yn ei chael nid yn unig ar hyfywedd ariannol llawer o ffermydd ond hefyd ar iechyd meddwl ffermwyr, sy'n wynebu'r rheoliadau hyn yn ystod pandemig byd-eang. Yn wir, mae'r union ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dal ati i hongian y mater hwn uwchben y sector ffermio ers sawl blwyddyn bellach wedi achosi llawer o bryder, ansicrwydd, a rhwystredigaeth yn wir, ac mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cyflwyno'r rheoliadau hyn, yn enwedig pan wnaethant addo peidio â gwneud hynny yn ystod pandemig. Ni fydd y baich gormodol y bydd y rheoliadau hyn yn ei osod ar ffermwyr yn gwneud dim i ddenu pobl i ffermio, ac felly credaf y bydd yn niweidio'r diwydiant yn ddifrifol yn y tymor hir. Yn wir, mae'r negeseuon e-bost niferus rwyf wedi'u cael yn dweud wrthyf y bydd llawer o ffermwyr, yn anffodus, yn cael eu gorfodi i roi'r gorau iddi oherwydd y rheoliadau hyn.

Nawr, dywed Llywodraeth Cymru wrthym fod angen y rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd dŵr, ond mae'r porth sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, a anfonwyd ataf gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau, yn dangos mai dim ond hyd at 15 y cant o'r achosion o lygredd a achoswyd gan ddigwyddiadau amaethyddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fel y dywedodd Angela Burns, mae'r rheoliadau hyn yn ordd i dorri cneuen. Nawr, mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru hefyd yn methu ystyried peth o'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan ffermwyr ledled Cymru. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, mae prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch afon Cymru yn enghraifft o gynllun gwirfoddol llwyddiannus iawn a gafodd dderbyniad da gan ffermwyr. Roedd cynllun gwrthbwyso a gâi ei weithredu'n llwyddiannus gan grŵp o ffermwyr First Milk yn nalgylch Cleddau, dan arweiniad y ffermwyr lleol, Will Pritchard a Mike Smith, hefyd yn darparu dewis ymarferol arall i sicrhau gostyngiadau mesuradwy mewn nitradau. Felly, roedd yn siomedig iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio adeiladu ar y gweithgaredd hwn a datblygu ateb sy'n gweithio gyda'n sector ffermio ac nid yn ei erbyn.

Nawr, fel y byddech yn disgwyl, mae ffermwyr lleol yn sir Benfro wedi codi sawl mater gyda'r rheoliadau, er enghraifft, nid yw'r cyfnodau gwaharddedig, fel y clywsom eisoes, ar gyfer gwasgaru yn ystyried amodau tywydd y mae'n rhaid i ffermwyr weithio gyda hwy, ac mae'r cyfnod hir o dywydd gwlyb yn effeithio ar y gallu i wasgaru a storio slyri. Fel y dywedwyd eisoes, mae pryderon hefyd ynghylch y rheoliad sy'n pennu na all ffermydd yng Nghymru wasgaru mwy na mesur penodol o nitrogen yr hectar, tra bo'r terfynau'n llawer mwy hyblyg mewn rhannau eraill o'r DU. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae un busnes wedi dweud yn glir y bydd yn rhaid iddynt naill ai ddod o hyd i 125 erw arall o dir i gynnal eu nifer bresennol o stoc neu leihau eu lefelau stoc, a fydd yn effeithio'n sylweddol ar eu hallbwn ac felly ar eu busnes. Dengys hyn yr effaith wirioneddol y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar ffermwyr, a sut y caiff rhai ohonynt eu gorfodi yn awr i wneud penderfyniadau enfawr a fydd yn effeithio ar eu bywoliaeth.

Ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol i ffermwyr er mwyn eu helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau, ond nid yw'r £13 miliwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ffermio'n ddigonol, ac nid oes sôn yn natganiadau Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth y dylai Llywodraeth Cymru ei darparu i fusnesau sydd wedi gorfod lleihau eu lefelau stoc oherwydd y rheoliadau hyn. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog fanteisio ar y cyfle heddiw i nodi'n union pa gymorth a gynigir i ffermwyr sydd wedi gorfod lleihau stoc neu gael tir ychwanegol i gydymffurfio â'r rheoliadau hyn.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, credaf y bydd y rheoliadau hyn yn niweidio dyfodol y sector yn y tymor hir, ac ni wnânt fawr ddim i ddenu'r genhedlaeth iau i ffermio, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl ganlyniadau ehangach hyn a dod o hyd i ddull o fynd i'r afael â llygredd dŵr sydd nid yn unig yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gymesur ond sy'n gweithio gyda'r diwydiant yn y pen draw, dull nad yw'n dadsefydlogi ei ddyfodol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig.

16:25

A gaf fi alw yn awr ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rydym yn cefnogi uchelgais ffermwyr Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd tuag at natur a'r hinsawdd, gan adeiladu ar enw da am safonau lles anifeiliaid uchel, safonau amgylcheddol uchel ac ansawdd uchel y bwyd y maent yn ei gynhyrchu. Mae'r uchelgais hwn dan fygythiad oherwydd y niwed ecolegol a'r niwed i enw da a achosir gan lygredd eang yn deillio o arferion amaethyddol gwael.

Er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i ffermio yng Nghymru bydd rhaid gallu manteisio ar alw cynyddol yn y wlad hon ac yn rhyngwladol am gynnyrch gwirioneddol gynaliadwy. Credaf fod gan ein ffermwyr arbenigedd a phenderfyniad i gyflawni hyn, a chredaf fod y cyhoedd am i'r gefnogaeth sylweddol iawn a roddwn i'r sector ffermio ar eu rhan ganolbwyntio ar sicrhau'r cynaliadwyedd hwnnw i'r economi wledig ac i dreftadaeth naturiol Cymru. Rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o wybodaeth anghywir wedi bod ynghylch bwriadau'r Llywodraeth wrth ymdrin â llygredd amaethyddol, a bod rhai wedi ystyried mai eu rôl oedd creu gorbryder ac ansicrwydd ymhlith cymunedau ffermio, yn hytrach na chraffu'n ofalus, cyflwyno syniadau adeiladol, a hysbysu'r cyhoedd yn gyfrifol am y materion sy'n codi. Cyfeiriodd Jenny Rathbone at y gorliwio ynghylch gofyn i ffermwyr beidio â llygru. A gawn ni gofio mai eu dyletswydd statudol yw peidio â llygru? Yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n croesawu'r cyfle ar gyfer y ddadl hon yn y Senedd fel y gallwn geisio dod i gonsensws ar yr angen am newid ac ar yr angen i gefnogi'r sector i weithredu mesurau ymarfer da presennol fel cam cyntaf tuag at wneud ein sector ffermio a'n hamgylchedd naturiol yn fwy gwydn.

Yn gynharach y mis hwn, gwneuthum reoliadau gerbron y Senedd i osod targed allyriadau sero-net yng Nghymru mewn cyfraith. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y Senedd hon yn rhannu'r uchelgais hwn ar gyfer ymateb brys a chynyddol i'r argyfwng hinsawdd. Gwn fod undebau ffermio Cymru'n cefnogi'r uchelgais yn gryf, ac maent hwy eu hunain wedi gosod nod sero-net ar gyfer y sector. Mae'r dystiolaeth wyddonol yn glir: mae maint yr her sero-net yn golygu na allwn fforddio gohirio tan yfory y gostyngiadau mewn allyriadau y gallwn eu cyflawni heddiw. Nid yw'n gredadwy i'r gwrthbleidiau ddweud eu bod yn cefnogi'r nod sero-net os nad ydynt yn fodlon dilyn y cyngor gwyddonol ar y mesurau y mae angen inni eu cymryd i'w gyflawni a'r amserlenni y mae'n rhaid inni weithio o'u mewn, lle nad oes lle i oedi neu wrthdroi. Y cyfan a glywais gan Aelodau'r gwrthbleidiau y prynhawn yma yw galwad i beidio â gweithredu; mae'r Llywodraeth hon yn un sy'n gweithredu.

Mae gweithredu arferion da ym maes rheoli maetholion yn golygu cynllunio ble, pryd a sut i wasgaru slyri mewn ffordd sy'n lleihau'r colledion i'r amgylchedd sydd fel arall yn cynyddu ein hallyriadau i lefelau anghynaliadwy. Mae gan y sector ffermio gyfraniad eang iawn i'w wneud i ddarparu'r atebion sydd eu hangen arnom i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae codi safonau rheoli maetholion fel mai'r safon dda y mae llawer eisoes yn ei chyrraedd yw'r safon ofynnol yn un o'r camau pwysicaf a mwyaf uniongyrchol y gallant eu cymryd, a gobeithio y gall y Senedd gyfan gytuno bod angen y camau hyn yn awr. 

Yn anffodus, oherwydd diffygion yn y modd y rheolir maetholion mewn rhai rhannau o'r sector ffermio, mae'n dal i fod yn wir ein bod yn parhau i weld llawer gormod o achosion o lygredd amaethyddol y gellir eu hatal. Hyd yn oed ar drothwy'r ddadl hon, cefais wybod neithiwr am achos sylweddol o lygredd slyri ar afon ac aber yn sir Benfro. Ni hunanadroddwyd am y digwyddiad ac felly mae ymchwiliadau ar y gweill gan CNC. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod un digwyddiad yn ormod; wel, gadewch imi ddweud wrthych fod dros 100 bob blwyddyn am dros 20 mlynedd yn ormod o lawer. Mae'r digwyddiadau hyn yn lladd bywyd gwyllt, maent yn gwenwyno ein haer, ein pridd a'n dŵr. Maent yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac maent yn niweidio enw da ffermio yng Nghymru. Rwy'n gobeithio, felly, y gall yr holl Aelodau o'r Senedd gytuno â mi a'r rhai yn ein cymunedau ffermio a'r cyhoedd yn ehangach sy'n dweud ein bod wedi cael digon ar y digwyddiadau hyn; nid ydym am dderbyn yr arferion gwael sy'n eu hachosi mwyach. Ac rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders—mae un achos o'r fath yn un achos yn ormod.

16:30

Diolch. Rwy'n galw yn awr ar yr Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad o hyd at funud. Llyr Gruffydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am fynd ar drywydd yr honiad fod Llywodraeth Cymru yn darparu digon o arian i ffermwyr allu ymateb i'r gofynion newydd hyn. Rwy'n credu bod oddeutu £11.5 miliwn yn cael ei ddarparu. Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, byddai hynny'n ddigon i dalu am anghenion Ynys Môn yn unig, heb sôn am weddill Cymru. Mae'r amcangyfrifon senario cost isel gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod angen £109 miliwn, a'r senario cost uchel yn £360 miliwn, ac rydych yn darparu £11.5 miliwn, rwy'n meddwl. Felly, gadewch inni beidio â chredu'r hyn a glywsom gan rai o'r Aelodau yn y ddadl hon—fod y Llywodraeth yn darparu'r cymorth sydd ei angen.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn sôn am weithredu; wel, mae'r gymuned ffermio, Weinidog, am eich gweld chi'n gweithredu. Nawr, yr unig faes y gallaf gytuno yn ei gylch y siaradoch chi amdano y prynhawn yma, Weinidog—a Jenny Rathbone—oedd bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y gwaith o wella ansawdd dŵr. Mae hynny'n gywir—mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, yn cynnwys busnesau a ffermwyr, ac mae ffermwyr yn derbyn y rôl honno. Ond mae'n rhaid i unrhyw reoliadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur ac wedi'u targedu, ac nid yw'r rheoliadau rydych wedi'u cynnig ac a gaiff eu cyflwyno yr wythnos nesaf yn ddim o'r pethau hynny. Weinidog, mae'n ymddangos y byddwch yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yr wythnos nesaf i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan, ac wrth wneud hynny, rydych wedi torri eich ymrwymiad i ffermwyr Cymru a'r Senedd hon na fyddech yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yn ystod y pandemig, ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd yn cadarnhau ein bod yn dal i fod ynghanol y pandemig.

Nawr, clywais gyfraniadau Jenny Rathbone. Cefais fy synnu. Mae'n sôn am orliwio. Mae'n sôn am fethu cyflwyno parthau. Dyna pam y cânt eu galw'n barthau perygl nitradau. Gwneir hyn ym mhob rhan o Ewrop. Ni allaf gredu'r cyfraniad hwnnw gan Jenny Rathbone. 

O ran yr Aelodau eraill, tynnodd Janet Finch-Saunders a Llyr ac eraill sylw at yr effaith ddinistriol ar ffermwyr a'r busnesau niferus a fydd yn dibynnu ar y busnesau ffermio hynny, y dulliau cymhleth o gadw cofnodion rheoliadau a fydd yn destun trawsgydymffurfio, arolygu a'r gosb, gan adael fawr o ddewis heblaw troi at ymgynghoriadau costus na all busnesau ffermio eu fforddio. Fel y nododd Janet Finch-Saunders ac eraill, mae eich asesiadau effaith eich hun yn sôn am y costau ymlaen llaw o £360 miliwn i'r diwydiant, ac yna ceir y dystiolaeth sy'n dangos bod llawer o ddalgylchoedd ledled Cymru heb weld unrhyw achosion o lygredd amaethyddol dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae Llyr, wrth gwrs, yn cyfeirio'n gywir hefyd at dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cefnogi hynny.

Dros y 48 awr ddiwethaf, cefais gannoedd o negeseuon e-bost gan ffermwyr ar draws fy etholaeth yn Sir Drefaldwyn, yn fy annog i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau yr wythnos nesaf. Weinidog, rydych wedi clywed gan y gwrthbleidiau, rydych wedi clywed gan undebau ffermwyr, rydych wedi clywed gan y gymuned ffermio, a'ch ymateb yw, 'Rwy'n mynd i anwybyddu hynny a dal ati', sydd mor siomedig. Cyfarfûm â—

16:35

Diolch, Lywydd. Cyfarfûm â Ffermwyr Ifanc Maldwyn neithiwr, ac roeddent yn gwneud llawer o'r pwyntiau y credaf fod Paul Davies ac Angela—Angela Burns—wedi'u gwneud ar y goblygiadau i iechyd a diogelwch o ruthro mewn perthynas â rheoli slyri a'r amserlen sydd ynghlwm wrth hynny.

Wrth ddod i ben, Ddirprwy Lywydd, rwy'n eich annog chi, Weinidog, i ailfeddwl ynglŷn â hyn. Hoffwn annog aelodau o feinciau cefn Llafur i archwilio'r dystiolaeth, i archwilio pa mor gymesur ydyw, i archwilio a yw'r dull wedi'i dargedu yn gywir ai peidio. A hoffwn annog Dafydd Elis-Thomas fel Aelod annibynnol o'r Llywodraeth i feddwl yn annibynnol iawn pan fydd yn pleidleisio yr wythnos nesaf, ac annog Kirsty Williams i wrando—

Mae angen i'r Aelod ddod i ben. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiadau, felly pleidleisiwn o dan yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Cymhwystra prydau ysgol am ddim

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Symudwn yn awr at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar gymhwystra prydau ysgol am ddim. A galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig. Siân.

Cynnig NDM7598 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mater o egwyddor, mi ddylai bob plentyn dderbyn pryd ysgol am ddim. I gyrraedd at hynny, mae'n rhaid cynllunio gam wrth gam. Y cam cyntaf ydy dechrau cynnwys y 70,000 o blant sy'n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru, a dyna ydy'n cynnig ni heddiw. Maen nhw'n colli allan ar hyn o bryd, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni nhw mewn swyddi sydd â chyflog isel. Wrth gefnogi'n cynnig, mi fyddwch chi hefyd yn cefnogi'r 6,000 o blant yng Nghymru sydd ddim yn gymwys am ginio am ddim oherwydd nad oes gan eu teuluoedd nhw unrhyw arian cyhoeddus. 

Heddiw, felly, rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod peth o'r adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys bob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol, ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddyn nhw. 

Yn ôl cyfrifiadau gan Lywodraeth Cymru ei hun, y gost o wneud yr hyn rydym ni'n ei alw amdano fo, y gost o ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol, fyddai rhwng £33 miliwn a £101 miliwn—y ffigur isaf petai ond un plentyn ym mhob teulu a'r ffigur uchaf pe bai tri ym mhob teulu. Erbyn hyn, mae'n glir bod Cymru am dderbyn mwy o arian o San Steffan. Yr wythnos diwethaf, cafwyd cyhoeddiad am symiau canlyniadol Barnett pellach o £650 miliwn y gellir ei gario ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Mae hyn ar ben y £350 miliwn o gyllideb sbâr eleni y mae modd hefyd i'r Llywodraeth gario drosodd i'r flwyddyn nesaf. Felly, does yna ddim esgus bellach i beidio ag ehangu cymhwysedd. Mae arian ar gael i'w ddyrannu ar gyfer y pwrpas yr ydym ni yn ei nodi yn y cynnig. 

Ac o ran proses y gyllideb, heddiw ydy'r cyfle olaf i'r Senedd gael pleidlais ystyrlon ar fater ehangu prydau ysgol am ddim. Mae disgwyl y gyllideb derfynol wythnos nesaf gael ei chyhoeddi ar 2 Mawrth, a'i thrafod eto ar 9 Mawrth. Felly, mae'n hanfodol bod holl Aelodau'r Senedd yn gwneud eu dymuniad yn glir i'r Llywodraeth drwy gefnogi'n cynnig ni heddiw er mwyn i'r addasiadau cyllidol priodol gael eu gwneud. 

Mae'n wirioneddol siomedig i weld bod y Llywodraeth wedi gosod gwelliant i'n cynnig ni heddiw sydd yn dileu ein cynnig ni, ac yn hytrach yn nodi ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern fod plant yn dal i fynd heb fwyd. Cytuno. Ond dydy gwelliant sydd yn nodi hynny ond yn gwrthod gwneud dim byd amdano fo yn dda i ddim oll ar gyfer plant tlawd sy'n colli allan ar ginio ysgol am ddim. Ar ben hyn, mae'n siomedig iawn gweld y Llywodraeth yn anwybyddu eu hadolygiad tlodi plant nhw eu hunain. Roedd yr adroddiad yma yn nodi taw ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc ydy'r un peth a fyddai'n helpu efo trechu tlodi plant—yr un peth fyddai'n helpu—ac eto mae'r Llywodraeth yn parhau i ymwrthod, er bod arian ar gael. Siomedig a chwbl anhygoel, a dweud y gwir.

16:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y realiti ydy bod Cymru yn darparu llai o brydau wedi eu coginio am ddim i'w phlant ysgol ar hyn o bryd nag unrhyw genedl arall y Deyrnas Unedig. Yn yr Alban a Lloegr, mae pob plentyn oedran ysgol yn nhair blynedd cyntaf eu haddysg yn derbyn prydau ysgol am ddim, beth bynnag fo incwm y teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r trothwy enillion i'r sawl sy'n derbyn credyd cynhwysol wedi'i osod yn llawer uwch, gan helpu i gefnogi mwy o deuluoedd sy'n gweithio. Mi fyddai darparu pryd cytbwys, maethlon, lleol yn yr ysgol yn gwella iechyd plant ac yn hybu cyrhaeddiad dysgu ac addysgol. Mae pryd ysgol digonol yn helpu cynyddu lefelau canolbwyntio drwy gydol y dydd, ac yn rhoi cyfle i blant brofi bwyd newydd. Byddai ehangu cymhwyster, ac, yn y dyfodol, hefyd symud ymlaen i gyflwyno dull cyffredinol—mi fyddai hynny yn lleihau anghydraddoldeb sy'n ymwneud ag addysg ac iechyd a meysydd eraill. Mi fyddai fo'n fodd o gefnogi'r economi sylfaenol neu gylchol y mae'r Llywodraeth hon mor daer i'w hannog. Creu gwaith yn lleol, cefnogi ffermwyr i fynd â bwyd o'r fferm i'r fforc, cefnogi busnesau lleol, creu cadwyni bwyd lleol, a chyfrannu at leihau newid hinsawdd—hyn oll a darparu bwyd maethlon i blant Cymru. Dwi'n erfyn arnoch chi i gefnogi ein cynnig ni heddiw.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i symud y gwelliant hwnnw yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn.

2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;

b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;

c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;

d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;

e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;

f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddechrau drwy ofyn pam mai dyma'r trydydd tro i ni drafod safbwynt Plaid Cymru ar brydau ysgol am ddim mewn cynifer o fisoedd. Mae'r cynnig hwn yn ailadrodd gwelliant i'r ddadl ar y gyllideb ar 9 Chwefror, bythefnos yn ôl yn unig. Yn ôl ym mis Rhagfyr, fe wnaethom gytuno, os nad oedd cyllid cyhoeddus ar gael i chi, na ddylech orfod poeni hefyd am ddibynnu ar ddisgresiwn rhywun er mwyn i'ch plentyn allu bwyta, ac roeddem hefyd yn cydnabod bod rhai teuluoedd na fyddent efallai wedi cael anhawster i dalu am fwyd eu plant mewn amgylchiadau arferol wedi ei chael hi'n anos yn ystod y pandemig, a'n bod yn cefnogi'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn y ddarpariaeth cinio ysgol am ddim i gynnwys cyfnod gwyliau tra'n bod ynghanol hyn i gyd. Ond dywedais hefyd na ddylem lithro'n dawel i gynnig hynny am byth yma, ac nad oeddem yn cytuno â chynigion ar ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb, ac a bod yn deg, roedd Helen Mary yn ddigon graslon i gydnabod mai mater o athroniaeth wahanol oedd hyn, yn ymwneud â'r ffordd orau o fynd i'r afael â thlodi plant, yn hytrach nag amharodrwydd i wynebu'r her a gweithredu arni.  

Mae prydau ysgol am ddim i bawb yn cynnwys brecwast, ac rydym yn gwrthod hynny am y rhesymau a nodwyd gennyf ym mis Rhagfyr, sy'n golygu na allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, ond ar ôl dweud hynny, rydym yn cytuno â pharagraff 1 o'r gwelliant hwnnw, ac yn cydnabod eto ymateb y Llywodraeth i COVID ar brydau ysgol am ddim, yn ogystal â dymuno'n dda iddi gyda'i hadolygiad. Ond byddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio. Yn gynharach y mis hwn, cytunasom y dylai unrhyw gyllideb sydd heb ei gwario eleni gael ei thargedu mewn ffordd dros dro ar helpu teuluoedd sy'n cael credyd cynhwysol. Ceir teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol am y tro cyntaf oherwydd bod COVID wedi eu hamddifadu o'u swyddi, teuluoedd a fydd yn parhau ar gredyd cynhwysol am y rhan ragweladwy o'r flwyddyn i ddod am na allant ddod o hyd i waith na gwaith am gyflog gwell. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, Blaid Cymru, roeddem o fewn dim i beidio â chefnogi'r cynnig fel y mae, unwaith eto, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu ein sylw at adroddiad y Sefydliad Polisi Addysg yn ei gwelliant ei hun, a'r hyn y mae'n ei ddweud am benderfyniadau gwario'r pedair gwlad ar addysg yn ystod y pandemig. Mae £174 yn cael ei wario ar adfer addysg pob disgybl yn Lloegr, ond dim ond £88 y disgybl yng Nghymru, er i Gymru gael y £5.2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU y clywsom amdano. Yma hefyd y cafwyd y nifer isaf o oriau dysgu gartref, yn enwedig mewn teuluoedd mwy difreintiedig, er mai'r teuluoedd hynny sydd wedi dioddef fwyaf ledled y DU wrth gwrs. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llai hael hyd yma hefyd gyda'i chefnogaeth i gyllid gofal plant ac anghenion dysgu ychwanegol fesul disgybl. A dylai hynny fod yn destun pryder i bob un ohonom sy'n credu bod addysg yn rhan hanfodol o'r llwybr allan o dlodi, wrth weld yr anghysondeb enfawr hwn yn y buddsoddiad dal i fyny, sy'n golygu y bydd gormod o rieni yfory yn dal i ddibynnu ar brydau ysgol am ddim, ni waeth faint o ffidlan y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â'r meini prawf. Diolch.

16:45

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ennill bri mawr ar fater prydau ysgol am ddim yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r ddarpariaeth wedi bod yn ad hoc, heb arweinyddiaeth ddigon clir. Ers dechrau'r pandemig, mae fy nhîm wedi ymgyrchu i sicrhau bod plant yng Ngorllewin De Cymru yn cael mynediad cyfartal at y lwfans prydau ysgol am ddim, ac mae pob awdurdod lleol ond tri ledled Cymru wedi dewis darparu arian parod neu dalebau gwerth £19.50 i dalu am bum brecwast a chinio. Dyma'r dull cywir o weithredu.

Yng Nghymru, mae nifer fach iawn o awdurdodau wedi parhau i lynu at wasanaeth dosbarthu parseli bwyd, megis Pen-y-bont ar Ogwr, gan gyfiawnhau hyn mewn nifer o ffyrdd nad ydynt wedi cael eu cefnogi gan awdurdodau eraill yma yng Nghymru. Yn Lloegr, fel y gwyddom i gyd, cafwyd protest, a hynny'n briodol, am yr amrywio o ran ansawdd a gwerth am arian parseli bwyd, a arweiniodd at ymateb gan y Llywodraeth i sicrhau mynediad at arian parod neu dalebau. Ni ddigwyddodd hyn yng Nghymru. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi rhannu lluniau o barseli bwyd yn cael eu dosbarthu a'r lefelau amrywiol o ansawdd. Cafodd y parseli sy'n cael eu dosbarthu i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan y cyflenwr ym Mryste, The Real Wrap Company, eu beirniadu'n fawr. Mae arian yn cael ei wneud o dlodi a newyn, gan fod y parseli hyn, ar gyfartaledd, yn £10 neu £11 o'u cymharu â phris prynu mewn archfarchnad. Mewn ymateb i fy llythyr yn amlinellu fy mhryderon, cyfeiriodd y Gweinidog Addysg at luniau o fwyd yn cael ei ddosbarthu i deuluoedd yng Nghaerffili a'i gymharu â'r hyn sy'n cael eu darparu yn Lloegr. Wel, dyma lun o barsel bwyd a ddosbarthwyd i'r rhai ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Llun nad yw wedi'i gynnwys yn yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg. Tybed pam? Nid yw'n cyd-fynd â'u sbin, oherwydd nid yw'n ddigon da. Does bosibl nad yw rhieni mewn gwell sefyllfa i siopa dros eu teuluoedd a diwallu anghenion maethol eu plentyn o fewn cyllideb arian parod neu dalebau.

Nid yw'r pecynnau hyn yn adlewyrchu'r amrywiaeth o fwyd y gall teuluoedd ddewis coginio ag ef, nac yn adlewyrchu gofynion dietegol amrywiol. Neu beth am roi'r dewis i bobl o leiaf? Y gwir amdani yw y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi mandadu arian parod neu dalebau fel opsiwn i bawb yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori awdurdodau lleol i ddefnyddio nifer o systemau ochr yn ochr, ond mae'r cyngor dan arweiniad Llafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i barseli bwyd fel eu hunig ddewis. Yn y cyfamser, gwelais lawer o gynghorwyr, AoSau ac ASau Llafur yn beirniadu Llywodraeth y DU ar y cyfryngau cymdeithasol am y ffordd y maent yn trin plant sy'n byw mewn tlodi yn Lloegr, pan fo Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig yr un peth. Dywedodd teuluoedd wrthym eu bod yn cael eu trin fel plant, yn cael dognau unigol o jam i'w fwydo i'w plant, ac ar adegau, yn cael ffrwythau a llysiau sy'n pydru hyd yn oed, fel y gwelwch o'r llun yma: orennau wedi pydru.

Mae ymatebion gan yr awdurdod lleol wedi effeithio ar iechyd meddwl etholwyr. Rhaid rhoi diwedd ar y ffordd y caiff teuluoedd sy'n byw mewn tlodi eu stereoteipio fel rhai esgeulus. Awgrymodd un cynghorydd wrthyf hyd yn oed nad oeddent am gyflwyno talebau nac arian rhag ofn nad oedd y rhieni'n gwario'r arian ar fwyd mewn gwirionedd. A ydynt mor amharchus â hynny o fwriadau rhieni, na fyddent yn gwario'r arian neu'r talebau ar fwyd i'w plant eu hunain?

Mae bron i chwarter Cymru'n byw mewn tlodi, ac mae ymchwil gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi dangos mai Cymru, o'r pedair gwlad yn y DU, sydd â'r ddarpariaeth leiaf hael o brydau ysgol am ddim. Nid ystryw wleidyddol yw'r ddadl hon. Yr hyn sydd gennym yw gwlad yn y byd datblygedig lle mae plant yn mynd heb fwyd, a Llywodraeth sydd â'r pŵer i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei fwydo, ond nad ydynt yn defnyddio'r pŵer hwnnw. Mae angen inni sicrhau y caiff y mater hwn sylw er budd ein holl blant yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

16:50

[Anghlywadwy.]—oherwydd yn ystod y pandemig COVID hwn, yr hyn rydym wedi'i weld yn cael ei ddatgelu yw'r anghydraddoldebau enfawr sy'n dal i fodoli yn ein cymdeithas a'r effaith y maent wedi'i chael ar ansawdd bywyd, iechyd ac addysg rhai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas.

A gaf fi ddechrau drwy ganmol y rheini yn ein cymunedau sydd wedi gwneud cymaint yn ystod y pandemig i sicrhau, yn ogystal â'r cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, eu bod serch hynny wedi codi arian i ddarparu a dosbarthu blychau bwyd i'r teuluoedd hynny i sicrhau nad oedd y plant yn mynd heb fwyd? Yn Nhonyrefail, paratôdd a dosbarthodd Leanne Parsons a'i thîm o wirfoddolwyr yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail gannoedd o flychau bob dydd yr holl ffordd drwy'r haf; y Cynghorwyr Maureen Webber a Carl Thomas, ymgyrchwyr cymunedol lleol yn Rhydyfelin a'r Ddraenen Wen, a'r holl fanciau bwyd lleol sydd wedi bod mor hanfodol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae prydau ysgol yn eiconig. O dan drefn flaenorol y cymorth incwm, roedd yr hawl i gael prydau ysgol am ddim yn glir, ond ers cyflwyno credyd cynhwysol, cafwyd maen prawf cymhwysedd ariannol newydd o £7,400 net o dreth ac eithrio unrhyw fudd-daliadau a dderbynnir, ac mae angen inni adolygu hynny yn awr. Yng Nghymru, rydym wedi sicrhau bod bron i 86,000 o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim neu gyfwerth â £19.50 yr wythnos. Wrth i fwy o ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol ac wrth i fwy o deuluoedd ddod yn ddibynnol ar gredyd cynhwysol, rhaid inni warantu egwyddor y credaf y gallwn i gyd gytuno â hi yn y Senedd hon: na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fynd heb fwyd.

Nawr, hoffwn ganmol y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi arwain y ffordd yn y DU drwy ddarparu £50 miliwn o gyllid i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau a'r £23 miliwn pellach sydd wedi'i neilltuo ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth hon.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn amserol iawn, er yn rhy amhenodol yn fy marn i, oherwydd nid yw'n rhoi'r sicrwydd clir rydym am ei weld ac am anelu ato, ac y gellir ei gyflawni.  Mae'r gwelliant yn sefydlu'r egwyddor ei bod yn annerbyniol i unrhyw blentyn fynd heb fwyd. Adran olaf y gwelliant yw'r bwysicaf, oherwydd dyma'r ymrwymiad cliriaf i weithredu. Mae'n ymrwymo'r Senedd a Llywodraeth Cymru i adolygu'r holl ffynonellau ac opsiynau polisi, gan gynnwys y trothwy incwm, sy'n hanfodol i gyflawni'r egwyddor hon.

Gwyddom i gyd y gallai'r gost fod oddeutu £100 miliwn y flwyddyn, felly yn yr adolygiad hwnnw mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar holl achosion tlodi yn ein cymunedau ac yn sicrhau nad yw unrhyw ailgyfeirio cyllid yn effeithio ar brosiectau hanfodol eraill, megis rhaglen brecwast am ddim mewn ysgolion Llywodraeth Cymru, sydd yr un mor bwysig ar gyfer sicrhau nad yw ein plant yn mynd heb fwyd pan ddeuant i'r ysgol a thra'u bod yn yr ysgol.

Lywydd, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn arddel yr egwyddor y bydd prydau ysgol rhyw ddydd yn dod yn fudd cyffredinol i bawb fel rhan o'r system addysg. Tan hynny, er gwaethaf y cyni ariannol Torïaidd rydym yn debygol o'i wynebu unwaith eto, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ymestyn yr hawl mewn perthynas â'r egwyddor hon fel na fydd unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd. Mae hwn yn fater o bwys mawr i bob un ohonom ar ochr Lafur y Senedd ac ym mhob plaid arall, rwy'n siŵr. Rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gallwn i gyd anelu ato ac uno o'i gwmpas, felly rwy'n croesawu'r ymrwymiad clir hwn gan Lywodraeth Cymru i'n galluogi i gyflawni hyn. Diolch, Lywydd.

Er ein bod yn cytuno â'r teimlad sy'n sail i gynnig Plaid Cymru, ni allwn ei gefnogi. Mae angen inni roi diwedd ar newyn plant, ond ni wnawn hynny drwy ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn, sef pen draw rhesymegol y cynnig sydd ger ein bron. Mae ein hadnoddau'n gyfyngedig a rhaid eu targedu at y rhai mwyaf anghenus. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru.

Rwy'n siŵr bod pob un ohonom yn dymuno gwneud popeth yn ein gallu i roi diwedd ar falltod plant llwglyd. Mae'r DU yn gartref i 54 o biliwnyddion, gwlad lle mae'r cyfoethog iawn yn gwneud mwy mewn munud neu awr nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ennill mewn blwyddyn, ac eto mae traean o'r plant yn byw mewn tlodi. Mae llawer gormod o blant yn mynd i'r gwely'n llwglyd a phrydau ysgol am ddim yn aml yw eu hunig ffynhonnell ddibynadwy o faeth. Rwy'n croesawu buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru mewn prydau ysgol am ddim, ac am fod y wlad gyntaf yn y DU i ymestyn yr hawl i brydau am ddim yn ystod y gwyliau. Ac rwyf hefyd yn croesawu eu hymrwymiad i adolygu'r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim. Rhaid inni beidio â chaniatáu i unrhyw blentyn yng Nghymru fynd heb fwyd.

Fodd bynnag, rhaid inni hefyd roi sylw i'r eliffant yn yr ystafell: y cynnydd mewn gordewdra ymhlith plant a diffyg maeth. Yn ôl y Sefydliad Bwyd, mae 94 y cant o blant yn bwyta llai na thair i bum cyfran o lysiau y dydd, ac mae Cymru'n un o wledydd gwaethaf y DU am fwyta ffrwythau a llysiau. Nid yw'n syndod pan ystyriwn fod bwydydd iach deirgwaith yn ddrutach na bwydydd llai iach am y nifer cyfatebol o galorïau. Byddai angen i'r pumed tlotaf o aelwydydd y DU wario tua 40 y cant o'u hincwm gwario ar fwyd i fodloni canllawiau Eatwell. Rhaid inni sicrhau felly fod prydau ysgol yn bodloni ac yn rhagori ar ganllawiau Eatwell. Rwyf hefyd yn annog Llywodraethau ledled y DU i weithio gyda'i gilydd i wneud bwyd iach yn rhatach. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi ymateb i heriau digynsail y pandemig COVID-19, gan sicrhau nad yw'r rhai sy'n dibynnu ar brydau ysgol am ddim wedi gorfod mynd hebddynt pan nad ydynt yn yr ysgol?

Rydym bellach wedi darparu hyd at £60.5 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn ariannol hon ar gyfer prydau ysgol am ddim, ac i adeiladu ar hyn byddwn yn darparu £23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol ar gyfer 2021-22 ar ei hyd. Mae darparu prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol, a'n nod yw sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau i fod ar gael i deuluoedd sydd ei angen fwyaf.

Yn 2019, roeddem yn amcangyfrif, pe na bai trothwy cyflog yn cael ei roi ar waith erbyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno'n llawn, y byddai tua hanner disgyblion Cymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, o'i gymharu ag 16 y cant yn 2017. Heb fod arian ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru, byddai hyn wedi golygu bod angen gwneud dewisiadau ariannu anodd iawn mewn mannau eraill o fewn y portffolio addysg a'r Llywodraeth ehangach, ac nid ydym eto wedi clywed beth y mae pobl yn credu y dylid ei dorri i allu fforddio newid o'r fath.

Yn ystod y pandemig, bu cynnydd sylweddol yn nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar hawl i brydau ysgol am ddim oherwydd yr argyfwng economaidd y mae COVID wedi'i greu, ac mae nifer y disgyblion sydd bellach yn cael y ddarpariaeth wedi cynyddu mewn ychydig fisoedd yn unig o tua 91,000 i dros 105,000 erbyn hyn. Bydd yr Aelodau'n cofio inni gyfrifo, ym mis Rhagfyr, y byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni'n cael credyd cynhwysol yn costio £67 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mae gwaith pellach wedi'i wneud i ddiweddaru'r ffigurau hyn, gyda'r cyfrifiadau diweddaraf bellach yn dangos y byddai'r gost ychwanegol rhwng £85 miliwn a £100 miliwn, hyd yn oed cyn ystyried effaith y pandemig.

Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i gyd-Aelodau yn y Siambr beidio ag anghofio bod cynyddu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim hefyd yn cael effaith ganlyniadol ar feysydd polisi eraill. Er enghraifft, byddai amcangyfrif bras o gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn teuluoedd sy'n hawlio credyd cynhwysol yn arwain at gost ychwanegol i'r grant datblygu disgyblion o rhwng £220 miliwn a £250 miliwn. Wrth gwrs, efallai mai bwriad Plaid Cymru yw dileu'r grant datblygu disgyblion neu dorri gwerth y grant i bob disgybl unigol, ond erys y ffaith mai amcangyfrif bras yw y gallai'r polisi hwn gostio £350 miliwn ychwanegol y flwyddyn.

Mewn dadl debyg ym mis Rhagfyr, dywedodd Plaid Cymru mai hwn fyddai'r cam cyntaf tuag at eu polisi o gynnig prydau ysgol am ddim i bawb, a'r cwestiwn sydd gennyf heddiw yw'r cwestiwn oedd gennyf bryd hynny: ble rydych chi'n disgwyl dod o hyd i'r arian hwn? Oherwydd mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw'n dal dŵr fod yr arian hwn yn dod o'r cyllid ychwanegol y mae cyllideb eleni yn ei gynnwys. Beth am y blynyddoedd i ddod? Arian untro yw'r arian y cyfeiriwyd ato. Byddai'n dal i fod angen inni ddod o hyd i gannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. I fod yn glir, mae hynny'n golygu toriadau mewn mannau eraill. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd prydau ysgol am ddim i gefnogi plant a theuluoedd wrth gwrs. Pe na bawn i'n cydnabod hynny, ni fyddem wedi cymryd y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd. Roedd y newidiadau a oedd yn angenrheidiol pan gyflwynwyd y trothwy gennym yn eithriadol o gymhleth, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynnal adolygiad cyflym o'r trothwy pan fydd data newydd ar gael.

Mewn perthynas â rhannau eraill o'r cynnig heddiw, yn galw am i'r meini prawf gynnwys teuluoedd nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, rwy'n cytuno bod hyn yn bwysig iawn. Er fy mod yn cydnabod nad yw pawb nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt ar incwm isel, i lawer iawn o'r teuluoedd nad oes arian cyhoeddus ar gael iddynt rwy'n cydnabod yn ddi-os fod angen cymorth ar lawer o'r teuluoedd hynny. Gallaf gadarnhau felly y byddwn yn ystyried gwneud gwelliannau ffurfiol i'r ddeddfwriaeth gymhleth hon pan fydd effaith COVID-19 wedi lleddfu. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog pob awdurdod lleol yn gryf i arfer eu disgresiwn i ganiatáu i blant y teuluoedd hyn elwa o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. Rwy'n derbyn bod awdurdodau lleol bob amser yn poeni am eu cyllidebau unigol eu hunain, ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir wrth bob awdurdod lleol y prynhawn yma: gallant hawlio costau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn cymryd y cam hwn ymlaen i gefnogi'r teuluoedd hyn.

Lywydd, i orffen, mae hyn yn ymwneud â dewisiadau, ac mae lle dylem dargedu ein hadnoddau bob amser yn gwestiwn rydym ni fel Llywodraeth yn ei herio'n gyson ac yn ei ofyn i ni'n hunain. Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol i ymestyn cynllun mynediad ein grant datblygu disgyblion i fod yn werth dros £10 miliwn erbyn hyn. Dyma gyllid a fydd yn cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig ac yn helpu mwy o deuluoedd gyda chostau gwisg ysgol, offer ysgol, a dyfeisiau electronig erbyn hyn. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn ni yma yn y Llywodraeth hon, o fewn y gyllideb gyfyngedig a ddarperir inni gan Lywodraeth y DU, yn parhau i sicrhau bod adnoddau'n cael eu gwario yn y ffordd orau bosibl sy'n targedu yn y modd gorau. Diolch.

17:00

Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Nid yw amser yn caniatáu imi ymateb i holl gyfraniadau pob Aelod, ond mae yna rai pwyntiau y teimlaf fod angen imi eu gwneud, yn enwedig mewn ymateb i Mick Antoniw ac i'r Gweinidog.

Wrth gwrs, byddem i gyd yn cymeradwyo'r gwaith gwirfoddol y mae Mick Antoniw yn ei ddisgrifio, ond a yw'n credu mewn gwirionedd y dylai'r teuluoedd hyn a'u plant fod yn dibynnu ar elusen? Go brin fod hynny'n gyson ag egwyddorion sosialaidd rhywun. Dywed ein bod i gyd yn cytuno â'r egwyddor na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn mynd heb fwyd. Wel, rhaid imi ddweud bod y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, gyda chefnogaeth Sefydliad Bevan a'r fagwrfa gwleidyddiaeth genedlaetholgar honno, yr Undeb Addysg Cenedlaethol, yn amcangyfrif bod 70,000 o blant yn mynd heb fwyd heddiw. Felly, nid oes unrhyw ddiben i ni siarad am yr egwyddor. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw un yn yr ystafell hon nac unrhyw un yng Nghymru i bob pwrpas yn credu, mewn egwyddor, na ddylid bwydo plant, ond nid yw'r plant hynny'n cael eu bwydo heddiw. Fe ailadroddaf yr hyn y mae Aelodau eraill eisoes wedi'i ddweud: mae ymchwil gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru brawf modd tynnach o ran mynediad at brydau ysgol am ddim, a darpariaeth lai hael yn gyffredinol i blant oedran babanod na gwledydd eraill y DU. Nid ni sy'n dweud hynny, ond y cyrff ymchwil a dylanwadu mwyaf uchel eu parch yn y maes.

Roeddwn yn falch iawn, rhaid imi ddweud, o glywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am y rheini nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, a chredaf ei bod yn ddefnyddiol iawn ei bod wedi ailadrodd y bydd awdurdodau lleol sy'n gwneud y penderfyniadau dewisol hynny'n cael eu had-dalu. Roedd hynny'n glir o'r blaen; mae'n braf ei glywed yn cael ei ailadrodd. Ond ar wahân i hynny, rhaid imi ddweud wrthi nad yw'r ddadl hon yn ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, mae'n ymwneud â'r hyn nad yw'r Llywodraeth wedi'i wneud. Mae'n ddiddorol bob tro y cawn y ddadl hon—ac rwy'n derbyn pwynt Suzy Davies, rydym wedi sôn am hyn droeon, ond byddwn yn dal i siarad amdano nes i rywbeth gael ei wneud. Os edrychwch ar gywair gwelliant y Llywodraeth y tro hwn, mae'n fwy cymedrol na gwelliant y Llywodraeth y tro diwethaf. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ddal ati i siarad am fod eisiau bwydo plant llwglyd; bûm yn gwneud hynny ers 40 mlynedd ac rwy'n bwriadu dal ati hyd nes y gallwn.

Mae'r Llywodraeth yn newid y cyfrif ariannol am yr hyn rydym yn ei gynnwys bob tro y byddwn yn trafod hyn, a'r risgiau, ac mae honno'n ffordd ddilys iddynt ymateb i'r ddadl. Wrth gwrs, mae safbwynt Kirsty Williams yn un anrhydeddus a chyson; nid yw Kirsty'n honni bod yn sosialydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau Llafur yn y Siambr hon a'r ASau Llafur sydd wedi bod yn gwneud datganiadau am hyn heddiw na allwch edrych y ddwy ffordd ar hyn. Ni fydd pobl Cymru'n cael eu twyllo. Ni fyddant yn eich credu pan ddywedwch, 'Rydym am ymestyn y meini prawf, ond ni allwn wneud hynny', oherwydd fe wyddom fod yr arian yno bellach. Ni allwch barhau i edrych y ddwy ffordd ar y mater hwn a disgwyl cael rhwydd hynt i wneud hynny. A thra'ch bod yn edrych y ddwy ffordd ar y mater, ni fydd 70,000—wel, 76,000 os cynhwyswn y rheini nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt—yn cael eu hariannu.

Rwy am ailadrodd, Lywydd: y prawf modd tynnaf a'r ddarpariaeth leiaf hael i blant oedran babanod o gymharu ag unrhyw wlad yn y DU. A yw hyn yn rhywbeth y gall yr un ohonom yn y Siambr hon ymfalchïo ynddo, ac a yw'n rhywbeth y mae Aelodau Llafur yn barod i'w oddef? Wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â blaenoriaethau, a gallaf sicrhau'r Siambr hon heddiw y bydd bwydo'r plant llwglyd hynny—plant y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cydnabod eu bod yn dlawd ac angen cymorth am fod eu teuluoedd yn cael credyd cynhwysol—yn flaenoriaeth i Lywodraeth Plaid Cymru. Ac os na wnewch chi eu bwydo, mae'n bryd symud o'r ffordd a gwneud lle i Lywodraeth a fydd yn gwneud hynny.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond cyn hynny, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio'n llawn. Toriad, felly.  

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:06.

17:10

Ailymgynullodd y Senedd am 17:10, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf heno ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, sef Bil Iaith Arwyddion Prydain, BSL. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Eitem 6: Dadl: Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL): O blaid: 37, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y parth perygl nitradau Cymru gyfan. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, dau yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1. Gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, pedwar yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.

Eitem 7 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 28, Yn erbyn: 21, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Dwi nawr yn galw, felly, am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM7599 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un achos yn ormod.

2. Yn cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio.

3. Yn derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU.

4. Yn cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr.

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 12 yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 28, Yn erbyn: 13, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar gymhwystra prydau ysgol am ddim. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, dau yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 20, Yn erbyn: 31, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, tri yn ymatal, 19 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

17:15

Eitem 8 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 31, Yn erbyn: 19, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7598 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn.

2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;

b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;

c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;

d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;

e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;

f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, tri yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 8 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 31, Yn erbyn: 19, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd y pleidleisiau am y dydd heddiw, ond nid dyna ddiwedd y busnes, felly rydyn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer. 

10. Dadl Fer: Adolygiad Cumberlege: gwersi ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn y GIG

Mae dwy ddadl fer y prynhawn yma, ac mae'r cyntaf o'r rheini yn cael ei chyflwyno gan David Melding. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi rhywfaint o fy amser i Hefin David ac i Angela Burns.

Testun fy nadl fer yw adolygiad Cumberlege—gwersi ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn y GIG. Hoffwn ddechrau drwy ganmol yr awdurdod a threiddgarwch yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Farwnes Cumberlege, o'r enw 'First Do No Harm'. Dyna egwyddor hynaf meddygaeth foesegol, a chredaf ei bod yn briodol inni gadw hynny mewn cof pan ystyriwn y materion sydd ger ein bron yn y ddadl hon. Er iddo gael ei gomisiynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU a'i fod yn canolbwyntio'n bennaf ar y GIG yn Lloegr, cymerwyd tystiolaeth yng Nghymru a'r Alban, ac yn wir, mae'n debyg fod llawer ohonom wedi bod â rhywfaint o waith achos gan dystion a roddodd dystiolaeth yng Nghymru; fe gefais i waith achos o'r fath yn sicr. 

Ymchwiliodd yr adolygiad i'r hyn a ddigwyddodd mewn perthynas â dwy feddyginiaeth ac un ddyfais feddygol, sef profion beichiogrwydd hormonaidd, a waharddwyd o'r farchnad ar ddiwedd y 1970au ac y credir eu bod yn gysylltiedig â namau geni a chamesgoriad; sodiwm falproat, cyffur gwrthepileptig effeithiol, sy'n achosi camffurfiadau corfforol, awtistiaeth ac oedi datblygiadol mewn llawer o blant pan gaiff ei gymryd gan eu mamau yn ystod beichiogrwydd; a mewnblaniadau rhwyll y pelfis a ddefnyddir mewn llawdriniaethau i atgyweirio prolaps organau'r pelfis ac i reoli anymataliaeth straen wrinol y cysylltwyd eu defnydd â chymhlethdodau andwyol sy'n newid bywydau. Fodd bynnag, cydnabuwyd yn eang fod yr adolygiad yn berthnasol a bod modd ei gymhwyso i ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn gyffredinol. 

Un o'r pethau y gofynnwyd i'r adolygiad ei ystyried oedd sut i gryfhau llais y claf, nad oedd yn cael ei glywed ac a oedd yn arwain at ddewisiadau a chanlyniadau gwael. Un o argymhellion canolog yr adroddiad yw sefydlu comisiynydd diogelwch cleifion. Fel y dywed yr adroddiad, ac rwy'n dyfynnu,

Roedd straeon y cleifion yn ysgytwol.... Gwnaethant adrodd eu hanesion gydag urddas a huodledd, ond hefyd gyda thristwch a dicter, i dynnu sylw at themâu cyffredin a chymhellol.

A'r thema—y thema gryfaf, gellid dadlau—rwyf am ei harchwilio heddiw yw'r diffyg gwybodaeth i allu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ac felly i roi cydsyniad ar sail gwybodaeth. 

Mae arloesi mewn gofal meddygol wedi dod â rhyddhad mawr i filiynau ac wedi achub llawer o fywydau, ond fel y dywed yr adroddiad, heb brofion cynhwysfawr cyn eu cyflwyno i'r farchnad a goruchwyliaeth ar ôl eu cyflwyno i'r farchnad a monitro canlyniadau yn hirdymor, gall arloesi fod yn beryglus. Mae'r diffyg gwybodaeth sylfaenol yn syfrdanol. Nid yw'r GIG yn gwybod faint o fenywod sydd wedi cael llawdriniaethau rhwyll, nid yw'n gwybod faint o fenywod beichiog a gymerodd y cyffur gwrthepileptig sodiwm falproat. Fel y casgla'r adroddiad, 

Yn niffyg gwybodaeth o'r fath, mae'n amhosibl gwybod faint o fenywod fyddai wedi dewis math gwahanol o driniaeth... mae'n drueni na fyddent wedi cael y wybodaeth roeddent ei hangen i wneud dewis ar sail y wybodaeth lawn.

Ac rwy'n credu bod hwnnw'n gasgliad damniol. 

17:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn wir, ni ellir dibynnu ar y system iechyd i nodi canlyniadau andwyol sy'n deillio o feddyginiaeth neu ddyfais benodol yn gyflym. Nid yw'r cynllun cerdyn melyn lle gall meddygon roi gwybod am adweithiau andwyol i driniaethau yn addas i'r diben. Fel y noda Cumberlege, ceir tangofnodi dybryd ac mae ein systemau cwyno yn rhy gymhleth ac yn rhy wasgaredig i ganiatáu ar gyfer canfod arwyddion yn gynnar, ac rwy'n credu bod hynny'n destun pryder mawr. Ac arweiniodd at argymhelliad 7, sy'n galw am gronfeydd data ar bob dyfais, i ganiatáu ar gyfer adnabod cleifion ac archwilio canlyniadau. Mae diffyg gwybodaeth a chronfeydd data yn gwneud y system yn anhryloyw.

Gwendid arall yw'r cyfle i wrthdaro buddiannau godi yn y proffesiwn meddygol. Mae hyn yn arbennig o bwysig, fel y noda'r adroddiad,

lle mae gan feddygon gysylltiadau ariannol a chysylltiadau eraill â'r cwmnïau fferylliaeth a dyfeisiau meddygol. Ar hyn o bryd nid oes cofrestr ganolog o fuddiannau ariannol ac anariannol clinigwyr.

Arweiniodd hyn at argymhelliad 8, sy'n galw ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gynnwys rhestr o fuddiannau ariannol ac anariannol. Ac rwy'n falch bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi nodi nad yw'r trefniadau presennol i gofnodi a rheoli buddiannau yn darparu digon o dryloywder a sicrwydd i gleifion. Yn wir, dylwn nodi bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi dangos diddordeb yn y ddadl fer hon a chredaf eu bod wedi sicrhau bod nodyn briffio defnyddiol iawn ar gael i'r Aelodau ac rwy'n croesawu hynny.

Gadewch inni ddychwelyd at lais cleifion. Dyma ychydig o leisiau cleifion a ddyfynnir yn yr adroddiad:

Rwyf wedi gorfod brwydro'n gyson i gael y cymorth a'r driniaeth roeddwn eu hangen gyda'r cymhlethdodau gyda fy rhwyll. Ymddengys bod diwylliant "dibwyllo" a "gwneud esgusodion" yn rhemp.

Ac rwy'n cofio mai claf hŷn a ddywedodd hyn, mae'n debyg, ond defnyddir y term 'dibwyllo' pan fydd rhywun sydd â phŵer yn awgrymu bod y person yn colli ei gof. Rhaid bod y claf wedi mynd drwy brofiad ofnadwy. Claf arall:

mae'r person yr arferwn fod ar un adeg wedi mynd ac nid yw'n ymddangos bod neb yn gallu fy helpu. Nid oes neb yn gwrando.

Claf arall:

Byddent yn dweud wrthych nad oes dim o'i le arnoch chi ac mai dim ond menyw hysterig ydych chi.

Am beth i fod wedi'i awgrymu wrth glaf sy'n dioddef cymhlethdodau yn sgil llawdriniaeth benodol. Ac yn olaf:

Pe bawn i wedi sylweddoli goblygiadau llawn y feddyginiaeth hon, ni fyddwn byth wedi'i chymryd.

Yn achos nodedig Montgomery v Bwrdd Iechyd Lanarkshire, a gynhaliwyd yng Ngoruchaf Lys y DU, barnwyd bod angen i gydsyniad gael ei fframio gan y wybodaeth sydd ei hangen ar glaf unigol. Hawl y claf yw cael gwybod pa wybodaeth bynnag sydd angen iddynt ei gwybod ac mewn modd y gallant ei ddeall fel y gallant wneud penderfyniadau ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â llawdriniaeth neu feddyginiaeth benodol ai peidio. Mewn geiriau eraill, mae angen cydraddoldeb gwirioneddol, partneriaeth wirioneddol yn y broses o wneud penderfyniadau rhwng cleifion a'r meddygon sy'n eu trin. Ond nid yw hyn yn golygu toreth o wybodaeth ar lu o daflenni gwybodaeth i gleifion gan arwain at ddryswch heb fawr o gefnogaeth i'w dehongli, ond yn hytrach, cymhorthion penderfynu effeithiol i gleifion. Mae cymhorthion penderfynu i gleifion yn annog cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau. Maent yn ei gwneud yn haws i gleifion a'r proffesiynau drafod opsiynau triniaeth, a gwneir hyn drwy wybodaeth a thystiolaeth glinigol, trafod manteision, risgiau ac ansicrwydd, cydnabod dewisiadau cleifion, a all fod yn eithaf dwys mewn nifer o feysydd ymarfer meddygol, cymorth i gleifion, fel y cânt eu tywys drwy'r broses o wneud penderfyniadau a chael cyfle i'w deall yn llawn, a chofnodi a gweithredu'r penderfyniadau hyn a wneir ar y cyd. Ac nid ymgynghoriad untro mohono ond yn hytrach, proses sy'n caniatáu amser i gleifion ystyried a deall, a dyna pam y mae angen cofnodi, a gwneud hynny bellach drwy ddefnyddio gwahanol dechnolegau—sain a fideo.

Hoffwn gloi yn awr drwy ofyn i'r Gweinidog yn ei ymateb i ymdrin â'r canlynol: a fydd gan y comisiynydd diogelwch cleifion sydd bellach wedi'i sefydlu gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr rôl yng Nghymru, ac a fydd o bosibl yn benodiad ar gyfer Cymru a Lloegr, neu a fydd swydd debyg yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru, ac os na, pam ddim, a sut y caiff adolygiad Cumberlege yn hyn o beth ei weithredu yng Nghymru; a wnaiff adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn GIG Cymru, ac yn enwedig y defnydd o gymhorthion penderfynu i gleifion, a'u gwella a'u cymhwyso'n gyffredinol fel mater o ymarfer cyffredin; ac yn olaf, a fydd cronfeydd data'n cael eu cadw ar ddyfeisiau, fel y gallwn gael archwiliad priodol a gwerthuso canlyniadau.

Rwy'n gorffen drwy ganmol gwaith y Farwnes Cumberlege unwaith eto a hefyd drwy dalu teyrnged i'r tystion niferus o Gymru a roddodd dystiolaeth. Mae'n bryd inni weithredu ar yr adolygiad rhagorol hwn. Mae ynddo lawer o wersi inni eu dysgu yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

17:25

Diolch i David Melding. Un o'r rhesymau y gofynnais am gael cyfrannu heddiw oedd er mwyn talu teyrnged i waith fy etholwr Jo Cozens, sy'n gadeirydd yr elusen, y Gymdeithas Syndrom Gwrthepileptig, neu OACS. Ers sawl blwyddyn, mae Jo wedi ymgyrchu'n ddiflino ar ran teuluoedd ledled y DU sydd wedi'u heffeithio gan syndromau gwrthepileptig y ffetws. Mae Jo yn gwneud hyn yn sgil profiad uniongyrchol, ar ôl cael sodiwm falproat i drin epilepsi y cafodd ddiagnosis ohono yn ei harddegau. Yn ddiweddarach, ar gyngor meddyg ar y pryd, parhaodd i gymryd y feddyginiaeth hon tra'n feichiog gyda'i mab Tomas. Mae Tomas bellach yn ei arddegau ac mae wedi wynebu heriau iechyd lluosog drwy gydol ei oes, ar ôl cael diagnosis o effeithiau niwroddatblygiadol falproat y ffetws, a thrwy ei gwaith gydag OACS y darganfu Jo fod llawer o deuluoedd eraill wedi cael eu heffeithio fel hithau, wedi i famau gymryd sodiwm falproat pan oeddent yn feichiog.

Mae Jo wedi'i gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod Llywodraethau ledled y DU yn deddfu fel nad yw profiadau fel ei phrofiad hi, a theuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt, byth yn digwydd eto, a dyna pam ei bod hi eisiau gweld argymhellion adolygiad Cumberlege yn cael eu gweithredu. Byddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog, fel y dywedodd David Melding, os gall roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw ynglŷn â ble rydym arni gyda hyn yng Nghymru. Fe fydd yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu ato ynglŷn â hyn, a bod Jo wedi cyfarfod â'i swyddogion, er na ddigwyddodd hynny ers mis Medi diwethaf. Rydym yn awyddus iawn i weld cynnydd ar hyn, er budd Jo, Tomas a phawb yr effeithiwyd arnynt yn yr un modd.

Hoffwn ddiolch i David Melding am gyflwyno hyn, oherwydd mae adroddiad Cumberlege yn ddarn mor hanfodol o dystiolaeth wrth geisio symud meddygaeth i fenywod yn ei blaen. Mae gennyf ddau bwynt rwy'n awyddus iawn i'w gwneud. Un o'r pethau a ddywedodd Cumberlege yn glir iawn oedd nad yw'r system, y system fawr, yn dda am sylwi ar dueddiadau mewn ymarfer a chanlyniadau sy'n arwain at bryderon diogelwch. Gallwn edrych ar hyn, gallwn edrych ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf—nid oes ots, beth bynnag ydyw. Nawr, pe bai gennych awyren yn disgyn o'r awyr, nid ydynt yn mynd i anfon yr awyren nesaf i fyny hyd nes y byddant nid yn unig yn gwybod beth aeth o'i le, ond hefyd yn gallu sicrhau na fydd byth yn digwydd eto—mae lefelau diogelwch yn rhagorol mewn pethau fel y diwydiant awyrennau. Ond nid ydym yn cymhwyso'r un math o egwyddorion i'r hyn a wnawn yma ar lawr gwlad yn y GIG, boed yng Nghymru neu'r DU. Rhaid inni gael y math hwnnw o ymdrech i sicrhau ein bod yn cadw llygad ar arloesedd, ein bod yn ei brofi'n dda cyn ei gyflwyno i'r farchnad, ein bod yn mynd ar drywydd y canlyniadau ac yn sicrhau nad yw'n gwneud unrhyw niwed.

Y peth cyntaf yr hoffwn ei ofyn, Weinidog, yw hyn: a gawn ni ddechrau edrych ar ddatblygu system gadarn i sicrhau ein bod yn dysgu o'n camgymeriadau? Rydym bob amser yn mynd i wneud camgymeriadau—mae'n digwydd—ond rhaid inni ddysgu o bob un. A fy sylw olaf yw hwn—a rhaid i mi ei ddweud eto: gogwydd o ran rhyw. Mae gogwydd o ran rhyw mor gryf wrth ddatblygu meddyginiaethau, treialu meddyginiaethau. Nid oes ond angen i chi edrych ar yr holl adroddiadau sydd wedi'u hysgrifennu amdano, a sut y dangosir gogwydd o ran rhyw mewn triniaeth gardiofasgwlaidd a rheoli syndrom coluddyn llidus, dim ond gogwydd risg hyd yn oed i ddweud, 'Fe wnawn ni adael i'r ddyfais hon gael ei chyflwyno'. Ac mae angen i ni edrych ar sut rydym yn newid y paradeim hwnnw yn yr ymchwil. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn i bob Llywodraeth, mae'n debyg—nid wyf yn anelu hyn at Lywodraeth Cymru—ond ceir gogwydd o ran rhyw mewn darpariaeth ac ymchwil feddygol, ac mae angen i ni weithio ein ffordd yn araf tuag at gydbwyso hynny. Tuedda menywod a phlant i beidio â chael yr un sylw o ran rhai o'r manylion. Nid fi sy'n ei ddweud; mae adroddiad ar ôl adroddiad a ddarllenais yn dweud hynny, a chredaf fod angen inni ei ystyried. 

17:30

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl hon, Vaughan Gething?

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i David Melding, Angela Burns a Hefin David am eu cyfraniadau heddiw, am natur feddylgar y cyfraniadau hynny, a'r modd y cawsant eu rhoi ar bwnc sy'n anodd, yn peri gofid ac yn newid bywydau. Ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae Angela Burns wedi'i ddweud am y gogwydd a'r heriau sy'n ymwneud ag iechyd menywod, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ar bynciau eraill. Credaf fod gennym her arbennig gyda hanes ein GIG sy'n dal gyda ni; roedd hynny'n rhan o'r rheswm pam y sefydlais y grŵp iechyd menywod, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu materion lle mae angen gwelliant.

A chomisiynwyd yr adolygiad annibynnol o ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, a adwaenir yn awr yn gyffredinol fel adroddiad Cumberlege, ac a gyhoeddwyd, fel y dywedodd David Melding, ym mis Gorffennaf y llynedd, sef 'First Do No Harm', gan yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU, ond cymerodd yr adolygiad hwnnw dystiolaeth o bob rhan o'r DU, ac mae llawer o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud yn berthnasol yma yng Nghymru.  

O ran y tri mater, y profion beichiogrwydd megis Primodos, effaith sodiwm falproat yn enwedig, fel y dywedwyd, ar blentyn cyn ei eni yn ystod beichiogrwydd, a dyfeisiau meddygol oedd y materion penodol a arweiniodd at yr adroddiad, ond mae llawer i'w ddysgu'n fwy eang yma, a chredaf ei bod yn gwbl briodol fod David Melding wedi canolbwyntio ar gydsyniad ar sail gwybodaeth.

Roedd ffocws yr adolygiad yn edrych yn fwy cyffredinol ar ddiogelwch cleifion er mwyn adeiladu system sy'n gwrando, yn clywed ac yn gweithredu gyda chyflymder, tosturi a chymesuredd. Dyna lawer o'r hyn a ddywedwn am ein GIG ar ei orau—pa mor gyflym y caiff triniaethau newydd eu cyflwyno, tosturi ein staff a her dull sy'n seiliedig ar risg o ddarparu gofal a thriniaeth, ac rydym yn byw drwy lawer o hynny yn awr. Ond pan fyddwch yn cael hynny'n anghywir, rydym hefyd yn gwybod y gall yr effaith fod yn sylweddol i'r sawl sy'n cael triniaeth.

Nododd yr adroddiad gydsyniad fel thema gyffredinol, a nododd y cyfleoedd a gollwyd lle gellid bod wedi atal niwed y gellid ei osgoi, ac y dylid mynd i'r afael ag ef. Ac mae'n nodi y dylai cleifion gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar ffurf y gallant ei deall i wneud penderfyniadau, gan gynnwys ar lawdriniaethau, triniaethau, yr opsiynau sydd ar gael, yn cynnwys dim triniaeth, y risgiau yn y tymor hir a'r tymor byr o ganlyniadau andwyol, a'r triniaethau adferol amgen sydd ar gael. Fel y nododd David Melding, mae'n cydnabod yr angen am daflenni gwybodaeth clir, cyson ac ystyrlon er mwyn osgoi dryswch, a'r angen am un cymorth penderfynu i gleifion ar gyfer pob llawdriniaeth lawfeddygol neu ymyrraeth feddygol. Roedd hefyd yn argymell mwy o ddefnydd o ffynonellau gwybodaeth nad ydynt yn rhai ysgrifenedig.

Er hynny, nid yw'r gofyniad i glinigwyr ofyn am gydsyniad ar sail gwybodaeth neu gydsyniad ystyrlon yn gyflym yn deillio o adroddiad Cumberlege. Mae iddo hanes hirsefydlog yn ein GIG, gan gynnwys yma yng Nghymru. Cyhoeddodd llywodraeth flaenorol Cymru ganllawiau i glinigwyr yn 2008 ar y pwnc hwn. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol at glinigwyr eto ar y mater yn 2014, pan gafwyd yr arwyddion cyntaf fod rhai a oedd wedi cael mewnblaniadau rhwyll yn profi cymhlethdodau.

Atgyfnerthwyd canllawiau Llywodraeth Cymru i adlewyrchu dyfarniad achos Montgomery v Swydd Lanarkshire yn 2015, achos y cyfeiriodd David Melding ato, ac unwaith eto symudodd hynny ffocws cydsyniad tuag at angen penodol y claf. Nawr, aeth hwnnw drwy'r pwyntiau fod archwiliadau a thriniaeth yn cael eu rhannu rhwng clinigwyr a chleifion, a chroesawodd yr egwyddor o ofal sy'n canolbwyntio ar y claf a chydgynhyrchu—yr un math o bethau a welwn yn ein dull gofal iechyd darbodus ac yn ganolog yn ein cynllun, 'Cymru Iachach'. Rydym wedi bod â model o bolisi cydsyniad ar sail gwybodaeth ers 2017, wedi'i gefnogi gan gylchlythyr iechyd yng Nghymru, a chanllawiau, a oedd yn ymgorffori dyfarniad Montgomery, ac a gâi eu cefnogi gan glinigwyr ym mhob un o'n byrddau iechyd.

Mae cydwasanaethau cronfa risg GIG Cymru yn cydlynu grŵp cydsyniad Cymru gyfan i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dull unedig ar draws yr holl fyrddau iechyd ar faterion cydsynio. Mae'r grŵp hwnnw wedi cynhyrchu pecynnau hyfforddiant ac addysg wedi'u hadnewyddu ar gyfer clinigwyr ledled Cymru, gan gynnwys system e-ddysgu, cyfres o weminarau, a chyflwyniadau. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i sicrhau bod clinigwyr yn cael yr hyfforddiant diweddaraf ar faterion cyfreithiol ac arferion cydsyniad da. Galwodd adolygiad Cumberlege yr ystod eang a nifer y taflenni gwybodaeth i gleifion yn 'ddryslyd' ac yn 'ffynhonnell dryswch mawr'. Unwaith eto, tynnodd David Melding sylw at hyn yn ei gyfraniad. Er mwyn osgoi hyn, mae cronfa risg Cymru wedi mabwysiadu dull mwy safonol ac wedi comisiynu ymgyrch glir ar gyfer Cymru gyfan, wedi'i hawdurdodi'n broffesiynol, a'i hadolygu'n glinigol, a ddylai gefnogi taflenni gwybodaeth i gleifion, ac mae cronfa risg Cymru wedi comisiynu rhaglen beilot o blatfformau cydsyniad digidol yn ddiweddar o fewn nifer o sefydliadau GIG Cymru. Os bydd yn llwyddiannus, ac rwy'n disgwyl y bydd, fe fydd yn arwain at gyflwyno ymarfer caffael i Gymru gyfan i'w gyflwyno i holl fyrddau iechyd Cymru, ac nid mater o ddewis fydd hynny. Gwneir penderfyniad, a bydd hwnnw'n blatfform cenedlaethol y bydd yn rhaid i bawb ei ddefnyddio.

Dylai'r platfform newydd roi mynediad at wybodaeth i gleifion sy'n dioddef gwahanol fathau o gydafiachedd a fydd yn cwmpasu eu gofynion triniaeth unigol, er mwyn symud oddi wrth y ffynonellau gwybodaeth generig a nodwyd ac a feirniadwyd gan adroddiad Cumberlege. Dylai'r platfform newydd gefnogi newid o gydsyniad ar sail gwybodaeth i ddull o wneud penderfyniadau ar y cyd, lle mae cleifion yn gyfranogwyr gweithredol ac nid yn dderbynwyr yn unig: cyfranogwyr gweithredol gyda chlinigwyr yn y broses o benderfynu ar eu triniaeth yn y dyfodol, yn seiliedig ar fynediad at gyngor a gwybodaeth berthnasol, a chyswllt â phobl sydd wedi profi llawdriniaethau clinigol tebyg o bosibl. A dyma'r hyn y mae Cumberlege yn ei alw'n bartneriaeth wirioneddol gydradd. Yn olaf, mae'r gronfa risg yn bwriadu cynnal adolygiad cenedlaethol o'r trefniadau ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth, i sefydlu eu heffeithiolrwydd, nodi meysydd i'w datblygu, a phennu cyfeiriad yn y dyfodol. Mae'r adolygiad wedi'i ohirio gan y pandemig, ond bydd yn dechrau ym mis Ebrill eleni a disgwylir iddo adrodd i'r Llywodraeth newydd.

Rwyf am orffen drwy ymdrin â rhai o'r cwestiynau a'r pwyntiau a godwyd, ac ar wella diogelwch cleifion a gwella canlyniadau cleifion, ar ddyfeisiau, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi cydsynio i system ledled y DU i gyflwyno cofrestr dyfeisiau. Dylai hynny ganiatáu ar gyfer olrhain yn ôl i ddeall diogelwch dyfeisiau'n gliriach, a chredaf y bydd yn gam sylweddol ymlaen o ran diogelwch cleifion, a deall canlyniadau cleifion ar gyfer gwahanol ddyfeisiau. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud, a gallwch ddisgwyl ymateb llawnach yn y tymor hwn cyn i'r Senedd ddod i ben, i ddatblygu sut y mae modd i welliant cyfatebol i'r hyn a ragwelwyd gan y comisiynydd diogelwch cleifion a argymhellwyd yn Lloegr gael ei wneud yma yng Nghymru. Mae ein system wedi'i sefydlu mewn ffordd wahanol, ac felly bydd ein hateb ychydig yn wahanol ond mae'r nod yr un fath: sut y mae gwella diogelwch cleifion yn ymarferol a chael ffordd fwy gweladwy o sicrhau'r diogelwch hwnnw?

Mae fy sylw olaf yn adlewyrchu'r tristwch a'r dicter i bobl sydd wedi cael eu siomi: y bobl na wrandawyd arnynt, y bobl a gafodd eu niweidio, a'r amser y mae wedi'i gymryd i ymateb. Nid yw'r ymateb hwnnw wedi'i gwblhau eto, ond rwy'n cadarnhau y byddwn yn gwneud mwy yn y tymor hwn, a bydd gan bwy bynnag a fydd yn y Llywodraeth nesaf fwy i'w wneud eto â'r newidiadau y bwriadwn eu gwneud i sicrhau eu bod yn cyflawni'r gwelliant nid yn unig o ran cydsyniad ond o ran canlyniadau cleifion a diogelwch cleifion.

17:35
11. Dadl Fer: Pa ddyfodol sydd i'r diwydiant pysgota morol?

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 11, sef yr ail ddadl fer y prynhawn yma, a galwaf ar Llyr Gruffydd i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Llyr.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer yma ar ddyfodol y diwydiant pysgota môr yng Nghymru, a dwi wedi cytuno rhoi munud o fy amser i Janet Finch-Saunders i gyfrannu i'r ddadl yma hefyd.

Cyn dechrau'r drafodaeth yma ar ddyfodol y diwydiant pysgota yng Nghymru, mi hoffwn i gymryd ennyd fach jest i gofio am y tri pysgotwr o ogledd Cymru sydd yn parhau ar goll heddiw, a'u teuluoedd nhw sydd mewn galar. Fe ddiflannodd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath, ynghyd â'u cwch y Nicola Faith, ym mis Ionawr oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mi hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad i, ac rwy'n siŵr, y Senedd yma, i'w teuluoedd a nodi ein bod ni yn meddwl amdanyn nhw yn eu galar.

Mae gan Gymru, wrth gwrs, hanes hir a balch o bysgota ar y môr. Mae'r traddodiad yn mynd yn ôl sawl milenia, gyda bwyd o'r môr wedi bod yn rhan ganolog o ddeiet pobl yn y rhan yma o'r byd ar hyd y canrifoedd hynny. Mae gwaith archeolegol yn dangos pentyrrau o gregyn pysgod a fwytawyd yn mynd yn ôl i'r oes Mesolithig ym Mhrestatyn, a dŷn ni'n gwybod am drapiau pysgod hynafol ar hyd a lled arfordir Cymru, fel sydd i'w gweld ar lan yr afon Menai. Felly, mae pysgota a bwyd y môr wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad Cymru, a heddiw, mae'r sector yn parhau i wneud cyfraniad pwysig, yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol, ac yn ddiwylliannol hefyd. Mae yna gannoedd o gychod bach o dan 10 metr yn pysgota allan o borthladdoedd Cymru, ac yn cynnal bywoliaeth yn uniongyrchol i filoedd o bobl a'u teuluoedd, ac yn anuniongyrchol, wrth gwrs, i filoedd yn rhagor. Ac mae'r bobl yma sydd yn y diwydiant yn gweld eu hunain fel stiwardiaid i'n moroedd ni a'r cyfoeth o fwyd sydd yn y moroedd hynny sy'n amgylchynu Cymru. Fel ffermwyr ar y tir, mae'r pysgotwyr yma yn adnabod gwely'r môr, a sut mae patrymau'r tymhorau yn effeithio ar y gwahanol ardaloedd hynny. 

Felly, beth yw dyfodol y sector hanesyddol a phwysig yma? Wel, fel pob sector, wrth gwrs, maen nhw'n wynebu amryw o heriau, ond mae yna dair brif her sydd yn bygwth pysgotwyr morol Cymru, a'r dair yma, wrth gwrs, yn heriau sy'n wynebu cymdeithas yn ehangach heddiw yn ogystal, sef, yn y lle cyntaf, newid hinsawdd, Brexit hefyd wedi dod â heriau, ynghyd, wrth gwrs, â COVID-19. Mae newid hinsawdd wedi golygu bod y moroedd wedi mynd yn llawer mwy tymhestlog yn ystod y gaeafau. Rŷn ni'n gweld stormydd llawer cryfach, a nifer mwy o stormydd na'r hyn efallai sydd wedi ei weld yn y gorffennol, ac mae hyn yn fygythiad go iawn, yn enwedig, wrth gwrs, gan gofio mai cychod bychain yw'r cychod sydd gennym ni yma yng Nghymru. 

Mae Brexit yn golygu bod un o'r prif farchnadoedd y mae'r sector wedi dibynnu arno fe dros y 40 mlynedd ddiwethaf wedi newid dros nos, wrth i rai mathau o bysgod oedd yn cael eu hallforio yn ddyddiol, fel y cregyn gleision wrth gwrs, gael eu hatal gan nad yw'r wladwriaeth yma bellach o fewn ffiniau yr Undeb Ewropeaidd. Ac yna, mae COVID-19 wedi dod â'r sector lletygarwch i stop, sector, wrth gwrs, yr oedd y diwydiant yn ddibynnol arno fe am werthu eu cynnyrch adref yma yn y farchnad ddomestig. Felly, dyna rai o'r heriau sy'n wynebu'r sector.

Yr her COVID yw'r un amlwg sy'n pwyso fwyaf efallai yn y tymor byr ar y diwydiant. Droeon, rŷn ni'n clywed llefarwyr ar ran y Llywodraeth yn datgan sut mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth mwy hael i fusnesau yma yng Nghymru nag unrhyw Lywodraeth arall yn y Deyrnas Gyfunol, ond nid dyna yw barn y pysgotwyr dwi wedi siarad â nhw, y rhai sy'n teimlo eu bod nhw bron iawn wedi cael eu hanwybyddu yn ystod yr argyfwng yma. Nawr, mae yna un taliad, wrth gwrs, grant o hyd at £10,000 i'r cwch wedi ei gynnig, a hynny'n seiliedig ar gyfartaledd y costau penodol—yr average fixed costs, ac mae hynny i'w groesawu, wrth gwrs ei fod e. Ond dyna’r oll, wrth gwrs. Mewn blwyddyn gyfan. Ac mae'n wir dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cyfrannu rhai miliynau yn fwy diweddar i allforwyr bwyd môr, ond dylai hynny ddim golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i wrando ar lais y sector ac i ymateb i'r hyn maen nhw'n ei glywed er mwyn sicrhau nad yw'r sector yn crebachu yn sgil yr argyfwng presennol. 

Mae Llywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon, ac Ynys Manaw wedi cynnig cymorth ychwanegol i'r sector, ond nid felly fan hyn yng Nghymru. Felly, un galwad dwi am ei wneud yn y ddadl hon heddiw yw gofyn i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth ychwanegol i'r sector yma, yn enwedig, wrth gwrs, oherwydd yr amgylchiadau presennol, a dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn bositif i hynny wrth ymateb i'r ddadl yma. 

Yna, wrth gwrs, mae effaith Brexit. Yn hanesyddol, dim ond dau gwch o'r Undeb Ewropeaidd oedd yn pysgota moroedd Cymru, er bod gan hyd at 10 yr hawl i wneud hynny. Ond o dan awdurdod dynodi sengl newydd y Deyrnas Gyfunol, y single issuing authority, yr awgrym yw y bydd hyd at 76 o gychod nawr yn cael caniatâd i bysgota ym moroedd Cymru. Wrth gwrs, mae hyn yn codi cwestiynau mawr ynghylch cynaliadwyedd pysgota ein moroedd ni ar yr un llaw, heb sôn, wrth gwrs, am y posibilrwydd y bydd y diwydiant cynhenid yma yng Nghymru yn cael ei wasgu allan o'n moroedd ymhellach. A ydy hyn wir yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? Ydy e'n gydnaws â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016? Felly, dwi eisiau clywed y prynhawn yma pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau na fydd hyn yn digwydd. Pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth San Steffan, gan sicrhau bod llais y diwydiant yng Nghymru yn cael ei glywed yng nghoridorau Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

Rŷn ni oll, bellach, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r llanast y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i wneud wrth ymdrin â'r diwydiant pysgod cregyn. Does dim angen ailadrodd yr hanes trist yna, ond mae e yn effeithio, wrth gwrs, yn andwyol ar hyfywedd y sector yma yng Nghymru. Cyn Brexit, byddai pysgotwyr pysgod cregyn Cymru yn gallu allforio eu cynnyrch i'r Iseldiroedd, dyweder, er mwyn iddyn nhw gael eu paratoi yno ar gyfer y brif farchnad, sef gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. O dan y gyfundrefn newydd, wrth gwrs, dyw hynny ddim yn bosib. O ganlyniad, mae un o brif farchnadoedd y sector wedi crebachu bron yn llwyr, a hynny dros nos. Mae'n rhaid, felly, inni ddatblygu marchnad newydd ar gyfer y cynnyrch yma, sydd yn cyfrannu degau o filiynau o bunnoedd i'r economi Gymreig bob blwyddyn ac yn cynnal miloedd o swyddi a theuluoedd y rheini, wrth gwrs, sy'n gweithio yn y sector hefyd. Mae'n rhaid edrych i hyrwyddo a hybu y cynnyrch yn y farchnad ddomestig Brydeinig, ond hyd yma does dim arwydd fod y Llywodraeth yn cymryd y camau ychwanegol rhagweithiol yna sydd eu hangen er mwyn gwireddu hynny.

Fel rhan o hynny, mae angen, wrth gwrs, cynyddu y gallu i brosesu'r bwyd yma. Mae'n rhaid cael mwy o gynnyrch i mewn i fwydydd parod ac ar silffoedd y farchnad yma ar ein stepen drws ni yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Mae yna botensial aruthrol i ddatblygu'r sector. Ydy, mae'r sector ar hyn o bryd yn gymharol fychan, ond er gwaethaf ei maint, neu efallai oherwydd hynny, fe all Cymru arwain a dod yn enghraifft o sut fath o beth yw pysgodfeydd sy'n cael eu rheoli yn gynaliadwy, ond mewn ffordd sy'n gweithio i'r amgylchedd, ond hefyd yn gweithio i bysgotwyr. Oherwydd mae pysgodfeydd cynaliadwy yn allweddol i ddiwydiant pysgota cynaliadwy. Mae adroddiad gan Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar bysgodfeydd yn cynnig rhai syniadau ac yn rhoi rhyw fath o lasbrint inni, efallai, ar sut y gellir datblygu gwaith a pholisïau'r Llywodraeth yn y maes yma. Ond pa waith sydd wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth i ystyried rhai o'r cynigion yma gyda'r sector? Ac mae'r adroddiad ei hun, wrth gwrs, yn dweud yn glir bod yn rhaid cael cydweithrediad gyda'r sector os yw unrhyw gynlluniau am lwyddo.

Os caf i orffen gydag un ystadegyn reit frawychus a dweud y gwir a rannwyd gyda mi gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru, byddai mantolen o economi Cymru yn dangos bod y sector yma'n werth tua £250 miliwn i'r economi, ac mae'r gwerth diwylliannol a chymdeithasol llawer yn fwy, wrth gwrs, ond mae'n anodd adlewyrchu hynny ar fantolen mewn ffordd, efallai, sy'n gwneud cyfiawnder â'r cyfraniad hwnnw. Ond fe ddylem ni edrych y tu hwnt i'r ffigur moel yna, wrth gwrs, oherwydd amcangyfrifir bod tua 83,000 o dunelli o gynnyrch yn cael ei lanio o foroedd Cymru bob blwyddyn, ond dim ond tua 10 y cant o hwnnw—rhwng 5,000 a 10,000 tunnell y flwyddyn—sy'n cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru. Nawr, mi wnes i sôn mewn cyfraniad arall ddoe i'r Senedd am sut mae dros hanner llaeth Cymru yn mynd dros y ffin i gael ei brosesu, a sut mae'r colli lladd-dai wedi arwain, dros y blynyddoedd, at fwy a mwy o gig yn cael ei brosesu y tu allan i Gymru. Wel, mae ein heconomi fwyd ni yn economi echdynnol—yn extractive economy.

Wel, fe allwn ni ychwanegu bwyd o'r môr i'r rhestr honno hefyd, wrth gwrs. Mae economi Cymru yn colli allan ar 90 y cant o'r cynnyrch sy'n dod o foroedd Cymru. Mae hyn yn amlygu'r potensial aruthrol sydd, wrth gwrs, oddi ar ein harfordir ni i greu diwydiant hyfyw yng Nghymru ac i dyfu cyfraniad y sector hwnnw yn aruthrol. Petai'r addewidion gafodd eu gwneud yn ystod y ddadl ar Brexit wedi'u gwireddu, a bod gennym ni fwy o reolaeth ar ein moroedd—'take back control' oedd y gri, wrth gwrs—yna mi fyddai cyfle i adeiladu dyfodol gwahanol iawn. Ond breuddwyd gwrach oedd hynny, wrth gwrs, a chytundeb trychinebus Boris Johnson yn gwneud y sefyllfa yn fawr gwell.

Yn wir, yn lle'r addewid o fedru lleihau faint o bysgod sy'n cael eu tynnu allan o'r môr gan bysgotwyr tramor, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod y sector gynhenid yn cael mwy o reolaeth o'r moroedd—rhywbeth fyddai wedi bod yn well i'n hamgylchedd morol ni, efallai, ac i'r economi yng Nghymru—yr hyn gawsom ni yw sefyllfa nawr fydd yn arwain at ddifrodi'r amgylched morol yng Nghymru a thanseilio ein heconomi ni, a dwi ddim yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigonol i'r sefyllfa honno, nac wedi dangos digon o awydd nac uchelgais i wneud unrhyw beth adeiladol ynglŷn â hynny, a dyna pam dwi wedi dod â'r ddadl fer yma gerbron y Senedd y prynhawn yma. Mae'n gyfle i'r Gweinidog a'r Llywodraeth i ddangos yr uchelgais y mae'r sector yn awchu i'w glywed—yn wir, yr uchelgais sydd yn rhaid ei gael erbyn hyn er mwyn sicrhau bod y sector yn goroesi: buddsoddi yn y sector, creu seilwaith ar gyfer prosesu, ac adeiladu marchnad ddomestig newydd, ynghyd, wrth gwrs, â datrys yr heriau a fydd yn sicrhau bod mynediad ar gael i farchnadoedd tramor yn y dyfodol. Hyd yn oed heb argyfwng hinsawdd, heb Brexit a heb COVID-19, mi fyddai achos cryf i'r Llywodraeth yma droi pob carreg i greu dyfodol mwy cynaliadwy i'n sector bysgota ar y môr yma yng Nghymru. Yn lle bodloni ar weld y cyfoeth hwnnw'n llifo allan o Gymru, mae angen sicrhau bod y llanw'n troi a bod y cyfoeth hwnnw yn llifo yn ôl i'n cymunedau arfordirol. Diolch.

17:50

Diolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl fer hon ar fater mor bwysig. A hoffwn adleisio ei eiriau caredig iawn a'i gydymdeimlad â theuluoedd Carl, Alan a Ross yn yr amgylchiadau trist a thrasig iawn hyn. Ac wrth weithio'n agos gyda'r teulu yn awr, mae angen inni ddarganfod yn union beth a ddigwyddodd ar y diwrnod ofnadwy hwnnw pan aethant ar goll.

Nawr, Weinidog, fel y gwyddoch o bosibl, o dan yr is-ddeddfau arfaethedig a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghori yn eu cylch gan Sefydliad Rheoli Morol Prydain, byddai treillrwydo môr-waelodol, sy'n llusgo rhwydi a phwysau dros wely'r môr, wedi'i wahardd mewn pedair ardal forol warchodedig yn Lloegr. Ystyrir bod gweithredu o'r fath yn gosod cynsail yn awr i'r gweinyddiaethau datganoledig. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â chyfyngu ar, neu wahardd treillrwydo môr-waelodol oddi ar arfordir Cymru?

A chan droi at bysgod cregyn, er fy mod yn siŵr y byddwch i gyd yn ymuno â mi i groesawu'r newyddion fod Llywodraeth y DU wedi ehangu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y gronfa £23 miliwn i dargedu busnesau sy'n dal a dyframaethu pysgod cregyn, o fewn y diwydiant maent yn teimlo bod camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â chraidd y broblem. A wnewch chi archwilio i weld a ellir cynnal adolygiad o ddosbarthiadau dŵr er mwyn sefydlu a ellir categoreiddio ardaloedd yn rhai 'A'? Oherwydd mae'n destun gofid fod y dyfroedd hynny, yn afon Menai, yn rhai 'A' yn flaenorol a'u bod bellach yn rhai 'B', ac felly fod angen eu puro. Pa gynlluniau sydd gennych ar gyfer datblygu gallu puro yma yng Nghymru? Fe siaradaf â chi eto wedi'r ddadl hon ynglŷn â chael uned buro, ond mae cynigion yn cael eu cyflwyno gan gwmni sydd am symud ymlaen, gan weithio gyda chi. Hoffwn feddwl y gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ar y pwynt olaf hefyd, yn enwedig gan y bydd sector pysgota a bwyd môr y DU hefyd yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth, gyda chronfa o £100 miliwn i helpu, er enghraifft, i foderneiddio'r diwydiant prosesu pysgod.

Fel cefnogwr Brexit brwd, credaf ein bod mewn sefyllfa dda yn awr i fanteisio ar Brexit a symud ymlaen gyda'n gilydd gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Diolch, a diolch, Llyr.

Diolch. Galwaf ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Llyr, am gyflwyno'r pwnc hwn i'w drafod yn y ddadl fer heddiw. A hoffwn innau hefyd, unwaith eto, gydymdeimlo â theuluoedd criw'r Nicola Faith ar yr adeg anodd hon.

Wrth sôn am ddyfodol y diwydiant pysgota morol, mae'n amhosibl anwybyddu'r problemau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Mae ein diwydiant bwyd môr wedi cael ei daro'n ddifrifol ar nifer o lefelau o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r effeithiau i'w teimlo ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan yng Nghymru, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU bellach wedi gwrando o'r diwedd ar fy ngalwadau niferus i sicrhau bod y sector cyfan yn cael cymorth ariannol. Mae'n anffodus ei bod wedi cymryd chwe wythnos ers i mi ysgrifennu gyntaf a chyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig cyn iddo weithredu. Fy ngobaith yw y bydd y cymorth hwn yn cyrraedd busnesau mewn angen cyn ei bod yn rhy hwyr.

Mae hefyd yn destun gofid nad yw Llywodraeth y DU yn dangos unrhyw barch at y setliad datganoli wrth ddewis gweinyddu'r cynllun yn uniongyrchol yn hytrach na chyllido yn y ffordd arferol, gyda symiau canlyniadol perthnasol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig. Fel y dangoswyd gan ein grant pysgodfeydd yng Nghymru, gwyddom y gallwn weinyddu arian i bysgotwyr yn gyflym, yn effeithlon ac yn effeithiol. Rhaid i Lywodraeth y DU wneud yr un peth yn awr neu gallai pysgotwyr Cymru wynebu caledi pellach, wedi'i sbarduno gan oedi ac anfedrusrwydd.

Nos Lun, mewn cyfarfod gyda George Eustace, ailadroddais ei bod yn ymddangos ei fod bellach yn benderfynol o erydu blynyddoedd o ffyrdd cydweithredol da o weithio rhwng pob gweinyddiaeth pysgodfeydd yn y ffordd y mae wedi ymateb i'r cytundeb masnach a chydweithredu ers dechrau'r flwyddyn hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ac yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau eraill i ddod o hyd i atebion, lle bo modd, i'r problemau presennol. Fodd bynnag, mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn llai o lawer na'r hyn a addawodd Llywodraeth y DU, ond rydym yn ceisio gwneud y gorau ohono a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i'n pysgotwyr. Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ei bod yn hanfodol fod pysgotwyr Cymru yn cael eu cyfran deg o'r cwota ychwanegol cymedrol a ddarperir gan y cytundeb masnach a chydweithredu. 

Rydym yn parhau i ymateb i anghenion uniongyrchol y diwydiant, ac er ei bod yn amlwg fod Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei haddewidion niferus ar bob lefel i'n pysgotwyr am fôr o gyfleoedd i'r diwydiant, gallwn ni yng Nghymru ddatblygu dyfodol disglair i'r diwydiant—un sy'n seiliedig ar ecosystemau, sydd â chynaliadwyedd yn ganolog iddo, ac sy'n seiliedig ar ddull rheoli addasol, wedi'i gydgynllunio â'r diwydiant.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni polisi pysgodfeydd ôl-UE i Gymru, wedi'i gynllunio gyda rhanddeiliaid i adlewyrchu anghenion sector pysgodfeydd modern Cymru, ac i reoli'r effaith ar yr amgylchedd. Wrth wraidd hyn ceir polisi pysgodfeydd sy'n cydnabod yr angen i gael mwy o fudd i'n cymunedau arfordirol, gan sicrhau ar yr un pryd y gall ein stociau barhau i ddarparu manteision i genedlaethau'r dyfodol, gan feithrin cydnerthedd yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol, nid yn unig er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rheoli ein stociau'n gynaliadwy, ond hefyd i feithrin cryfder a gwydnwch yn ein diwydiant a'r marchnadoedd sydd ar gael iddynt. Mae hyn mor bwysig ag erioed, wrth inni helpu'r diwydiant i wella o effeithiau pandemig COVID-19, yn ogystal ag effeithiau gadael yr UE. 

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi y llynedd, ac mae'r canlyniadau a'r safbwyntiau yn ymgynghoriad 'Brexit a'n Moroedd' yn dal i fod mor ddilys a phwysig ag erioed. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli ein pysgodfeydd mewn ffordd gynaliadwy, darparu ar gyfer diwydiant pysgota ffyniannus, yn ogystal â chynnal bioamrywiaeth ein moroedd ac ystyried effeithiau newid hinsawdd. Mae'r angen i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gadarn yn glir hefyd. Yn ogystal â physgodfeydd sy'n cael eu rheoli'n dda, mae angen inni edrych hefyd ar ba seilwaith sydd ei angen i gefnogi ein diwydiant a helpu i wella mynediad at farchnadoedd i'n bwyd môr gwych yng Nghymru, yma yn y DU ac yn rhyngwladol. O ystyried y problemau y mae'r diwydiant yn eu profi ar hyn o bryd, mae hyn yn bwysicach nag erioed er mwyn diogelu ac adeiladu gwydnwch i'n diwydiant yn y tymor hir.

Wrth i ni symud ymlaen gyda chamau nesaf ein polisi pysgodfeydd yn y dyfodol, fel y dywedais eisoes, bydd cydgynhyrchu â rhanddeiliaid yn egwyddor graidd. Rwy'n awyddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i helpu i lunio'r dyfodol rydym am ei weld ar gyfer ein diwydiant pysgota yng Nghymru, ac yn bwysig, y modd y byddwn yn ei gyflawni. Ar lefel y DU, bydd y cyd-ddatganiad pysgodfeydd yn nodi polisïau ar gyfer cyflawni neu gyfrannu at gyflawni amcanion y pysgodfeydd fel yr amlinellir yn Neddf Pysgodfeydd 2020. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r amcanion—dyna yw conglfeini rheolaeth fodern ar bysgodfeydd. Maent yn gosod cynaliadwyedd ar y blaen ac yn y canol, ac ynghyd â'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, maent yn rhoi cyfeiriad clir inni ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd yn gynaliadwy. Bydd y cyd-ddatganiad pysgodfeydd hefyd yn nodi ein defnydd arfaethedig o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, sy'n arf pwysig i gyflawni'r amcanion. Gallwn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor drwy gydbwyso'r holl amcanion. Gan adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid ar y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, sefydlwyd cymuned fuddiant ledled y DU, ac rwy'n croesawu cyfraniad cadarnhaol rhanddeiliaid o Gymru hyd yma i helpu i lywio datblygiad y datganiad. 

Rydym wedi cymryd y camau cyntaf tuag at bolisi pysgodfeydd i Gymru yn y dyfodol, ond rwyf am fod yn glir: nid ateb cyflym yw hwn; nid yw'n bolisi y gellir ei ddatblygu dros nos. Bydd yn cymryd amser ac ymdrech i gyrraedd lle rydym am i'n sector fod, ac mae angen inni fod yn glir fod yn rhaid i ni ganolbwyntio yn awr ar argyfwng deublyg COVID-19 a gadael yr UE. Ond yn amlwg, mae dyfodol pysgota yng Nghymru yn gadarnhaol, ac mae gennym gyfle i ddatblygu ein sector yn un ffyniannus, cynaliadwy sy'n cefnogi ein cymunedau arfordirol. Diolch.

17:55

Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:59.