Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
09/12/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 12:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Dechreuodd y cyfarfod drwy barhau â busnes o gyfarfod dydd Mawrth, 8 Rhagfyr.
Croeso nôl i bawb ac rydym ni nawr yn ailddechrau ar agenda cyfarfod ddoe, a gafodd ei ohirio oherwydd problemau technegol.
Parhad o ddadl 8 Rhagfyr.
Cynigiwyd y cynnig canlynol ar 8 Rhagfyr:
Cynnig NDM7497 Jeremy Miles
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Felly, rydyn ni'n ailddechrau gydag eitem 7 o ddoe, sef y cynnig ar y cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Y cyfrannydd cyntaf, felly, i'r ddadl heddiw fydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser gen i i siarad yn y ddadl yma ar ran y pwyllgor, ac o ystyried arwyddocâd y ddeddfwriaeth yma, fe wnaethom ni fel pwyllgor archwilio'r ystyriaethau ariannol sydd ynghlwm wrth y Bil gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac fe ddaeth y pwyllgor i'r casgliad mwyafrifol y byddai'r goblygiadau cyfansoddiadol ac ariannol a fyddai'n deillio o basio'r Bil marchnad fewnol ar ei ffurf wreiddiol yn tanseilio'r setliad datganoli, gan arwain at y posibilrwydd hefyd o leihau'r cyllid sydd ar gael trwy grant bloc Cymru.
Nawr, er ein bod ni wedi croesawu approach Llywodraeth Cymru o geisio cefnogaeth drwy Dŷ'r Arglwyddi ar gyfer eu gwelliannau enghreifftiol i'r Bil, fe wnaethon ni dynnu sylw at ein pryder y gallai newidiadau a wnaethpwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi gael eu newid yn ôl ar ôl i'r Bil ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, a dyna'n wir ddigwyddodd pan adferwyd gan Dŷ'r Cyffredin rai o agweddau ariannol y Bil a gafodd eu newid gan Dŷ'r Arglwyddi.
Mae gennym ni, felly, nifer o bryderon am y Bil fel y mae'n sefyll, ac mi restraf i rai ohonyn nhw nawr yn fy nghyfraniad i y prynhawn yma. Yn gyntaf, mae'r posibilrwydd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwario mewn meysydd datganoledig, a hynny mewn ffordd, wrth gwrs, sydd ddim yn gydnaws â bwriadau strategol Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni y byddai modd defnyddio'r pwerau cymorth ariannol yn y Bil at ddibenion eang iawn, gan gynnwys o fewn meysydd datganoledig. Fe wnaeth yr Arglwyddi ddileu'r cymal hwn, ond, wrth gwrs, mae e wedi ei adfer yn Nhŷ'r Cyffredin erbyn hyn. Ein barn ni yw nad yw'r pwerau hyn yn angenrheidiol, ac rŷn ni'n credu y byddan nhw'n tanseilio penderfyniadau gwariant sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru.
Roedd Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ariannu unrhyw berson yn uniongyrchol ar ystod eang o faterion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig ar hyn o bryd. Roedd y pwyllgor yn poeni am oblygiadau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn meysydd datganoledig i grant bloc Cymru a'r posibilrwydd pryderus y bydd y gwariant hwn yn cael ei ariannu trwy 'top-slice-o' y grant bloc. Er y cytunwyd ar welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi i dynnu cymal 42 o'r Bil, mae pryderon yn parhau ynghylch bwriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cenhedlodd datganoledig.
Mae gan y Pwyllgor Cyllid bryderon ynghylch cadw cymorth gwladwriaethol a rheolaeth cymorthdaliadau heb gytundeb y gwledydd datganoledig. Fe wnaeth yr Arglwyddi, unwaith eto, gael gwared ar y cymal sy'n cadw cymorth gwladwriaethol, ond fe’i rhoddwyd yn ôl wedyn gan Dŷ'r Cyffredin. Dywedodd Llywodraeth y DU fod angen y cymal gan ei bod yn angenrheidiol i Senedd y DU gadw’r hawl i ddeddfu ar gyfer system i reoleiddio darpariaeth cyrff cyhoeddus o gymorthdaliadau sydd, neu a allai fod, yn ystumiol neu'n niweidiol ac i osgoi'r risg o reoleiddio cymorthdaliadau o'r fath yn anghyson yng ngwahanol rannau'r DU. Clywsom fod Llywodraeth Cymru bob amser wedi dadlau nad yw cymorth gwladwriaethol wedi'i gadw o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a chredwn fod yn rhaid cynnal trafodaethau â'r gwledydd datganoledig ynghylch y materion hyn.
Ceir diffyg eglurder ynglŷn ag effaith y Bil o ran rheolaeth cymorthdaliadau ar ddatganoli trethi a'r posibilrwydd y gallai rhai polisïau treth yng Nghymru fod yn gyfyngedig neu'n agored i her. Credwn y dylid mynd i'r afael â'r diffyg eglurder ynghylch effaith y Bil ar ddatganoli trethi i sicrhau na cheir unrhyw ganlyniadau anfwriadol pan fo gwahanol ddulliau o drethu yn cael eu rhoi ar waith mewn gwahanol rannau o'r DU.
Yn olaf, Lywydd, mae'n siomedig, mor agos â hyn at ddiwedd cyfnod pontio'r UE, nad oes eglurder o hyd ar siâp na ffurf cronfa ffyniant gyffredin y DU, dair blynedd ar ôl ei chyhoeddi. Gwnaethom adrodd fel pwyllgor yn ôl yn 2018 ar ddarpariaeth cyllid i Gymru yn lle cyllid yr UE, ac ar yr adeg honno roedd pryderon ynghylch y diffyg ymgysylltu gan Lywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, clywsom fod y sefyllfa hon yn dal i fod yn 'eithriadol o wael’. Ychydig o wybodaeth a gafwyd am y gronfa yn adolygiad o wariant y Canghellor a gyhoeddwyd ar 25 Tachwedd, a ddywedai y byddai manylion pellach yn cael eu nodi mewn fframwaith buddsoddi ar gyfer y DU gyfan a gyhoeddir y gwanwyn nesaf. Mae rôl bwysig gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael digon o adnoddau drwy'r gronfa, ac mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraethau datganoledig eraill ar y mater hwn ar frys. Gyda'r sylwadau hynny, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau gan eraill i'r ddadl hon. Diolch.
Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon fy mod yn codi i gefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Mae Llafur, Plaid Cymru ac eraill yn y Siambr hon wedi gwneud popeth yn eu gallu i geisio atal y DU rhag cyflawni mandad democrataidd pobl Cymru. Yn gyntaf, fe wnaethant geisio ein hatal rhag gadael yr UE, yna fe wnaethant geisio ymestyn y cyfnod pontio, a heddiw maent yn ceisio tanseilio Bil marchnad fewnol y DU.
Mae siaradwyr eraill yn y ddadl hon hyd yma, ddoe a nawr, wedi rhybuddio bod y ddeddfwriaeth hon yn lladrata pwerau datganoledig ac yn ymgais i ganoli'r broses o wneud penderfyniadau yn Llundain. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir. Mae'n ddeddfwriaeth a chanddi ddau brif nod: yn gyntaf, sicrhau bod pwerau’n cael eu trosglwyddo’n drefnus o Frwsel i'r DU o ganlyniad i'n hymadawiad â'r UE; ac yn ail, diogelu cyfanrwydd marchnad fewnol y DU ei hun. Bydd y mesurau sydd wedi’u cynnwys ynddi’n sicrhau, pan ddaw'r cyfnod pontio i ben, y bydd busnesau ledled Cymru’n parhau i allu elwa o'r fasnach ddi-dor y maent eisoes yn ei mwynhau gyda gweddill y DU. Mae sicrhau parhad y fasnach hon a'r busnesau a'r swyddi y mae'r fasnach honno'n eu gwarchod yn bwysicach fyth o ystyried effaith y pandemig coronafeirws ar economi Cymru.
Mae'r Bil yn ailddatgan bod y DU yn cynnwys pedair gwlad, ac y bydd cyfle cyfartal i fusnesau werthu eu nwyddau a’u gwasanaethau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ni waeth ym mha wlad y maent wedi’u lleoli. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnal safonau uchel cyfredol ledled y DU ar ystod o bynciau, gan gynnwys hylendid bwyd, lles anifeiliaid a materion eraill. Ni fydd yn lleihau unrhyw un o'r safonau hynny o gwbl, gan gynnwys ar gyflogaeth. Bydd o fudd, wrth gwrs, i ffermwyr Cymru hefyd, wrth inni achub ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu drwy adael y polisi amaethyddol cyffredin, gan ein galluogi i greu system newydd sy'n blaenoriaethu buddiannau ein ffermwyr yma yng Nghymru.
Yn wahanol i'r hyn y byddai rhai yn Senedd Cymru am i chi ei gredu, mae'r Bil yn parchu ac yn cryfhau'r setliad datganoli. O ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon, bydd llu o bwerau'n cael eu trosglwyddo i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 1 Ionawr, ac ni fydd unrhyw bŵer yn cael ei dynnu ymaith. Bydd pwerau mewn llu o feysydd polisi newydd a arferai fod ym Mrwsel yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw bŵer yn cael ei dynnu ymaith. A chyfeiriaf at eich sylwadau ar gymorth gwladwriaethol ddoe, Weinidog. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod cymorth gwladwriaethol yn cael ei lyffetheirio yma yng Nghymru o ganlyniad i'r UE ar hyn o bryd. Felly, ymddengys i mi fod trosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny i Lywodraeth y DU yn gwbl synhwyrol.
Lywydd, mae'r Bil yn cyflawni addewidion Boris Johnson i sicrhau Brexit ac i ddatganoli pwerau newydd i'r Senedd o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Ac mae'r angen i wella'r ddeddfwriaeth hon yn bwysicach nag erioed yn awr. Mae Cymru’n gwerthu mwy i weddill y DU na gweddill y byd gyda'i gilydd, felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r cydweithrediad a'r bartneriaeth economaidd hon rhwng y pedair gwlad, gan mai hynny'n unig fydd yn ein helpu i adfer wedi COVID-19.
Bydd y Bil hefyd yn helpu'r adferiad economaidd drwy baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru, drwy bwerau gwario newydd. Ar hyn o bryd, mae llawer o benderfyniadau buddsoddi yn y DU yn cael eu gwneud gan fiwrocratiaid Ewropeaidd anetholedig, ond o ganlyniad i'r Bil hwn, bydd Llywodraeth y DU yn mabwysiadu'r pwerau gwariant sy'n cael eu harfer gan yr UE ar hyn o bryd. Bydd hynny'n galluogi Llywodraeth y DU i wario arian trethdalwyr y DU a'i fuddsoddi mewn cymunedau a busnesau ledled y DU. Onid yw hynny'n syndod? Byddai'r gwariant hwnnw'n sicrhau cyllid ychwanegol i Gymru ar ben yr hyn sydd ar gael i Lywodraeth Cymru drwy grant bloc Cymru. Dylai pob un ohonom yn y Siambr hon groesawu buddsoddiad posibl mor sylweddol yng Nghymru, ac eto, yn rhyfedd ddigon, mae Gweinidogion Llafur yn gwrthwynebu. Maent yn gwrthwynebu bod Llywodraeth y DU yn mabwysiadu pwerau o'r fath, ac eto, roeddent yn fwy na pharod i'r biwrocratiaid anetholedig diwyneb ym Mrwsel arfer y pwerau hynny. Byddai'n anghredadwy pe na bai'n wir. Pam ar y ddaear y byddai unrhyw un yn y Siambr hon yn gwrthwynebu mwy o fuddsoddiad mewn datblygu economaidd, mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith ledled y wlad? Yn hanfodol, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn gwbl glir y bydd y lefel o gyllid y bydd Cymru’n ei chael wedi diwedd y cyfnod pontio yn gyfwerth neu'n fwy na'r cyllid a gawn ar hyn o bryd drwy gynlluniau'r UE.
Felly gadewch imi atgoffa Gweinidogion Llafur ac Aelodau’r Senedd heddiw o wirionedd anghyfleus iawn y maent yn ceisio’i anghofio: pleidleisiodd pobl Cymru’n glir yn 2016 o blaid Brexit, yn enwedig yng nghefn gwlad a'ch etholaeth chi. Maent yn dymuno gweld Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi’r gwaith o gyflawni Brexit. Maent am gael Senedd y DU a Senedd sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfreithiau a gwariant a arferai gael eu gwneud ym Mrwsel, ac maent am i economi Cymru adfer yn gyflym wedi’r pandemig rydym ar ei ganol ar hyn o bryd. Mae'r Bil hwn yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny, felly gadewch inni ei gefnogi, gadewch inni gyflawni Brexit, a gadewch inni fanteisio ar y cyfleoedd y mae'n eu cyflwyno.
Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil marchnad fewnol heddiw. Yn y bôn, mae'r Bil hwn yn ceisio chwalu democratiaeth Gymreig, gan danseilio'r setliad datganoli yn llwyr drwy gipio pwerau yn ôl mewn meysydd datganoledig a chyfyngu'n ddifrifol ar allu'r Senedd hon i greu unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn y dyfodol nad yw'n cyd-fynd â chynlluniau San Steffan. O ganlyniad i bleidlais refferendwm Brexit a'r ymgyrchu croch ac ymrannol a grëwyd yn sgil hynny, a'r ymbil cyson i barchu canlyniad y refferendwm hwnnw a'r ffaith bod Cymru wedi pleidleisio o blaid 'gadael', rydym wedi gweld pwerau yn cael eu lleihau’n raddol ers 2016. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i barchu canlyniadau refferenda 1997 a 2011, pan bleidleisiodd pobl Cymru o blaid pwerau yma yng Nghymru yn y lle cyntaf ac yn ysgubol o blaid mwy o bwerau yn 2011.
Ond nid ydym yn disgwyl unrhyw beth yn wahanol gan y Ceidwadwyr. Fe wnaethom ddechrau colli pwerau o dan Ddeddf Cymru 2017. Dadleuodd Plaid Cymru'n gryf, a chawsant ein gwawdio gan Lafur a’r Ceidwadwyr bryd hynny. Ar ymadael â’r UE, gwrthwynebodd y Blaid Lafur gynllun Plaid Cymru a’r diweddar Steffan Lewis am Fil parhad i ddiogelu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd wrth inni ymadael â’r UE, a dibynasant ar gytundebau rhynglywodraethol â Llywodraeth Geidwadol y DU yn lle hynny. Wel, prin y gellid galw hynny'n llwyddiant: bellach, mae tri o bwyllgorau’r Senedd wedi dod i'r casgliad fod y Bil marchnad fewnol yn dinistrio’r setliad datganoli yn llwyr. Naw wfft i ddiogelu cytundebau rhynglywodraethol, naw wfft i fframweithiau cyffredin yn seiliedig ar gydlywodraethu yn lle'r Bil parhad. Nid economaidd yn unig yw'r Bil marchnad fewnol, mae'n drychinebus o gyfansoddiadol. Ni fu unrhyw broblem gyda masnachu rhwng Cymru a Lloegr yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae hyd yn oed Tŷ’r Arglwyddi wedi condemnio'r Bil marchnad fewnol yn llwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei gwthio i'r cyrion a'i hanwybyddu dro ar ôl tro yn ystod y negodiadau gadael yr UE dros y pedair blynedd diwethaf. Gwrthodwyd cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil ymadael â’r UE gan yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ond aeth y Torïaid yn eu blaenau beth bynnag. Nawr, yng nghanol pandemig COVID, gyda thrafodaethau Brexit yn barod i’w pobi, fel y cytundeb hawsaf yn y byd—mae hynny'n mynd yn dda—fel pe na bai hyn oll yn ddigon, mae'r Bil marchnad fewnol yn cael ei orfodi arnom. Bil sy’n torri cyfraith ryngwladol, gan arwain at gynddaredd yn Iwerddon a mannau eraill. Ein cyllid Ewropeaidd, y gronfa ffyniant gyffredin—fel y'i gelwir—wedi’i gwagio, heb fod geiniog ar ein colled, heb golli unrhyw bŵer; nid yw hynny’n mynd yn dda, ydy e? Mae'r Bil marchnad fewnol yn golygu colli pwerau, colli cyllid, colli rheolaeth ar gyllid, a pharlysu gallu'r Senedd i wneud deddfau gwahanol ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Mae'r Bil marchnad fewnol yn ein tynnu i mewn i Loegr, confensiwn Sewel wedi mynd, cytundebau rhynglywodraethol yn jôc—mae'n cael ei orfodi arnom.
Gyda Bil pysgodfeydd a Bil masnach a Bil amaethyddiaeth ar y gweill ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn dal i ddibynnu ar gytundebau rhynglywodraethol ac addewidion a wneir ar lawr Senedd y DU—sydd mor wag ag y maent yn ddiystyr. Eto i gyd, mae Llafur yn parhau i lynu wrth uniad teyrnas fwyfwy anunedig er mawr niwed i Gymru, yn cwyno am yr anghyfiawnderau ond yn rhan o’r broblem. Dros wyth canrif, mae brenhinoedd Lloegr ac elitiaid San Steffan naill ai wedi gormesu neu esgeuluso pobl Cymru, neu'r ddau. Mae pobl yn gwneud hwyl am fy mhen pan fyddaf yn sôn am hanes Cymru, ond nid oes angen inni gofio Llywelyn Ein Llyw Olaf, brad y llyfrau gleision, boddi Tryweryn, nac unrhyw frad hanesyddol arall, gan fod yr enghreifftiau modern yn dal i ddod un ar ôl y llall, pan fo Llywodraeth y DU yn gasympio Llywodraeth Cymru ar gitiau profi, neu'n cyfeirio cyfarpar diogelu personol i Loegr yn hytrach na Chymru, neu’n tanariannu’r seilwaith rheilffyrdd yn ddifrifol yng Nghymru, neu Lywodraeth y DU yn chwalu ffyniant cyffredin, yn dinistrio incwm ffermydd, ac yn datgymalu Cymru’n wleidyddol drwy'r Bil marchnad fewnol. Brad ar ôl brad ar ôl brad, ac mae Llafur yn dal yn falch o fod yn unoliaethol. Mae Torïaid y DU yn chwerthin ar Lywodraeth Cymru ac yn chwerthin ar Gymru gan fod modd ein cadw'n ufudd bob amser. Cyn bo hir, bydd yr Alban yn rhydd o'r siarâd hwn; dim ond Cymru a Lloegr fydd ar ôl. Dim DU, felly. Cawn gip ar y dyfodol dystopaidd a gerir gan y lleiafrif maleisus, cyfeiliornus hwnnw sy’n dymuno cael gwared ar y Senedd a chael gwared ar Gymru. Mae angen i Lafur fod ar ochr gywir hanes wrth symud ymlaen, yn hytrach nag ochri â grymoedd sy’n chwerthin ar ben Cymru. Rhoi cydsyniad deddfwriaethol i chwalu fy nghenedl? Lywydd, i gloi, rydych chi ac eraill yn fy adnabod fel rhywun sy’n dadansoddi materion cyfansoddiadol mewn modd diduedd, ystyriol a phwyllog, ac rwyf i, hyd yn oed, yn dweud y dylid pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.
Diolch, Lywydd. Bydd fy ngrŵp yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, ac rydym yn anghytuno â chasgliadau llawer o bobl fod y Bil marchnad fewnol yn tanseilio datganoli yn llwyr. Byddwn yn dadlau i'r gwrthwyneb—heb ymagwedd synhwyrol tuag at fasnachu nwyddau a gwasanaethau rhwng y gwledydd cartref gallem weld symudiad rhydd nwyddau yn dod i ben, a allai arwain at chwalu'r Deyrnas Unedig.
Roedd llawer o'r bobl sy’n gwrthwynebu yn barod iawn i dderbyn marchnad fewnol yr UE, felly pam ddylai marchnad fewnol y DU fod yn wahanol? Nid yw fel pe na bai llais gennym yn y broses o bennu’r rheolau. Wedi'r cyfan, onid oes gan Gymru 40 Aelod Seneddol i gynrychioli ein gwlad yn Senedd y DU? Yr hyn na allwn ei gael yw ffrwgwd lle mae un wlad yn cystadlu yn erbyn y llall, ac yn y rhyfel masnach hwnnw, bydd pawb yn colli. Byddai hynny'n arbennig o wir yn ein hachos ni. Sut y gallai ein cenedl fechan o 3 miliwn o bobl obeithio cystadlu â chenedl o 56 miliwn o bobl? Ac i gymhlethu pethau, rydym yn dibynnu ar ewyllys da a threthi’r 56 miliwn o bobl hynny i ariannu ein gwasanaeth iechyd a’n hysgolion. Oni bai amdanynt hwy, byddai ein trethi gymaint yn uwch a'n cenedl gymaint yn dlotach. Mae'n rhaid inni fabwysiadu ymagwedd synhwyrol sy’n canolbwyntio ar y pedair gwlad i sicrhau bod ein nwyddau a'n gwasanaethau mor safonol, diogel ac effeithiol ag y bo modd, a’n cael eu cynhyrchu o dan y safonau llafur a lles uchaf. Dyma'r unig ffordd o gynnal symudiad rhydd nwyddau a gwasanaethau ar draws Teyrnas Unedig heb ffiniau i bob pwrpas.
Felly, ar hyn o bryd, mae angen cyd-ddibyniaeth ar Gymru. Fodd bynnag, pe bai’r cyhoedd yng Nghymru yn awchu am annibyniaeth yn y dyfodol, ni fyddai hynny’n bosibl yn ariannol am flynyddoedd lawer, oherwydd seilwaith gwael Cymru, sydd angen cryn dipyn o fuddsoddiad, ac ni waeth pa Lywodraeth sydd wedi bod mewn grym yn San Steffan, mae'n ddrwg gennyf ddweud bod Cymru bob amser wedi cael ei thanariannu a'i thrin fel aelod tlawd o’r teulu—nid oes un blaid wedi bod yn well na'r llall—ac mae Cymru wedi'i gadael ar ôl. Am y rhesymau hyn, byddwn yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, gan mai nawr, ar ôl Brexit, yw'r amser am newid ac i Gymru ffynnu, ac mae buddsoddiad yn ein heconomi yn hynod bwysig.
Felly, mae'n rhaid i'r ddwy Lywodraeth ddechrau gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru, yn hytrach nag ymladd yn erbyn ei gilydd. Peidiwch ag anghofio, ceisiodd oddeutu 85 y cant o bobl yn y Senedd danseilio canlyniad refferendwm Brexit, ac nid yw hyn yn iawn. Mae arnom angen democratiaeth, yn hytrach nag unbennaeth. Pobl Cymru sy'n penderfynu beth sydd orau iddynt hwy, a dyna gloi fy nadl. Diolch.
Ac mae pobl Cymru, wrth gwrs, wedi penderfynu beth sydd orau iddynt hwy, ac maent wedi ethol y Senedd hon.
Mae'r Bil hwn, y gobeithiaf—[Torri ar draws.]—y gobeithiaf y bydd y Senedd hon yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol iddo, yn un o’r enghreifftiau mwyaf anonest a dinistriol o ddeddfwriaeth i mi fod yn ddigon anffodus i'w darllen yn fy amser yn y byd gwleidyddol. Maent yn nodi dau amcan clir ar gyfer y ddeddfwriaeth hon: cynnal y farchnad sengl, a galluogi busnesau i weithredu ledled y Deyrnas Unedig. Yna dywedant fod arnom angen y Bil hwn er mwyn buddsoddi yng Nghymru a'r Alban. Nawr, nid yw'r amcanion hynny'n amcanion y byddai unrhyw un yma, ar unrhyw ochr i’r Siambr hon, yn eu gwrthwynebu. Rydym am weld busnes yn croesi ffiniau Cymru. Rydym am weld buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, ac nid oes angen y Bil hwn arnoch i gyflawni unrhyw un o'r amcanion hynny. Nid yw'n ymwneud â'r amcanion hynny, nid yw'n ymwneud â'r farchnad sengl, ac nid yw'n ymwneud â buddsoddiad. A dywedaf wrth Darren Millar, a wnaeth ei orau drwy ei ddannedd yn gynharach i gyfiawnhau'r sothach hwn—ei bod yn bosibl i Lywodraeth y DU fuddsoddi yng Nghymru heddiw. Ystyriwch gyllid rheilffyrdd, er enghraifft. Gallent fuddsoddi mewn cyllid rheilffyrdd heddiw, ond nid ydynt yn gwneud hynny, ac nid yn unig nad ydynt yn buddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ond maent yn newid y fformiwla i olygu y byddant yn buddsoddi llai yn y dyfodol. Felly, pe baent am fuddsoddi yn ein—[Torri ar draws.] Mae'n ffaith. Pe baent am fuddsoddi yn ein seilwaith, gallent wneud hynny heddiw, gallent wneud hynny yfory, gallent fod wedi gwneud hynny ddoe. Fe wnaethant ddewis peidio â gwneud unrhyw un o'r pethau hynny. Ac mae'r adolygiad o wariant a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl yn dilyn blynyddoedd o danariannu o'r fath.
Addawyd y gronfa ffyniant gyffredin inni. Nid ydym wedi’i gweld o hyd. Nid ydym wedi gweld ceiniog o'r punnoedd a addawyd i Gymru. Nid yw'r sail y’i crëwyd arni’n eglur o hyd i unrhyw un ohonom, a dywedaf wrth Darren Millar fy mod i’n un o'r Gweinidogion a negododd gyllid Ewropeaidd ym Mrwsel, a bod y broses honno'n llawer mwy tryloyw, yn llawer mwy agored, yn llawer mwy democrataidd na'r hyn sydd gennym heddiw, pan fo Senedd y DU yn gorfodi ei hewyllys ar y Senedd hon i bob pwrpas. Os oes unrhyw un yma’n credu bod y toriadau mewn taliadau amaethyddol a welsom yr wythnos diwethaf yn gwneud unrhyw beth heblaw dinistrio'r diwydiant yn llwyr, mae angen iddynt wrando ar yr hyn y mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru yn ei ddweud.
Gadewch imi ddweud hyn ynglŷn â’r farchnad sengl: mae hwn yn ateb sy’n chwilio am broblem. Nid oes unrhyw broblem gyda busnesau’n masnachu'n drawsffiniol—dim o gwbl. Gellir rheoli'r farchnad sengl yn hawdd gan bedair Llywodraeth sy'n gweithio gyda'i gilydd o fewn y fframweithiau cyffredin o dan oruchwyliaeth pedair deddfwrfa. Mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd, gallai ddigwydd yn y dyfodol, ond yr hyn na fyddai'n digwydd o dan y system honno, wrth gwrs, yw na fyddai'r Torïaid yn cael yr hyn y maent yn ei ddymuno. Ni fyddent yn cael eu ffordd eu hunain, oherwydd mewn democratiaeth mae angen iddynt ennill etholiadau, ac yng Nghymru, maent wedi bod yn brin o lwyddiant gyda hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Pan fo pobl Cymru’n cael cyfle i bleidleisio, nid ydynt yn ethol Llywodraeth Geidwadol, ac ni chredaf y byddant byth yn gwneud hynny.
Gwrandewais ar Laura Anne Jones. Safodd ym Mlaenau Gwent flwyddyn yn ôl, a llwyddo i gael 18 y cant o'r bleidlais. Os yw'n dymuno sefyll ym Mlaenau Gwent ym mis Mai, rwy'n fwy na pharod i'w thywys o gwmpas yr etholaeth, ond gallaf ddweud wrthych nawr na fydd pobl Blaenau Gwent yn ethol Tori ym mis Mai nac ar unrhyw adeg arall.
Ac yn olaf, gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Ac yn olaf, gadewch imi ddweud hyn: nid oes a wnelo hyn â'r farchnad sengl, nid oes a wnelo hyn â busnes, nid oes a wnelo hyn â Brexit, nid oes a wnelo hyn â buddsoddiad y DU; mae'n ymwneud ag un peth ac un peth yn unig—mae'n ymwneud â gorfodi pŵer gwleidyddol i danseilio democratiaeth Gymreig. Dyna hanfod y Bil hwn, a dyna mae'r Bil hwn yn ceisio'i gyflawni. Ac mae hyn yn hollbwysig i ni. Dywedaf hyn wrthych, Lywydd: mae'n bwysig fod pob un ohonom, ni waeth ble rydym yn eistedd yn y Siambr hon, yn cynnal hawliau a breintiau'r Senedd hon, ac yn cynnal buddiannau'r hyn y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio i'r Senedd hon gael y pwerau hyn. Mae'r pwerau hyn yn cael eu cipio oddi wrth y Senedd hon heb gyfeirio at y Senedd hon, a dywedaf hyn wrth fy mainc flaen fy hun: bydd datganoli wedi marw os bydd hwn yn cyrraedd y llyfr statud, gan fod datganoli’n dibynnu ar Senedd y DU yn cydnabod ac yn parchu mandadau’r Seneddau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Os bydd y pwerau’n cael eu cipio oddi wrthym heb ein cydsyniad, ac os bydd y Bil hwn a'i ddarpariaethau'n cael eu gorfodi ar bobl Cymru heb eu cydsyniad hwythau, mae'n amlwg i mi nad yw strwythurau democrataidd y Deyrnas Unedig, y strwythurau democrataidd datganoledig rydym wedi eu mwynhau dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn gynaliadwy mwyach, ac nad yw democratiaeth y Deyrnas Unedig yn gynaliadwy mwyach. A chredaf y dylid tynnu’r Bil hwn yn ôl, ni ddylem roi ein cydsyniad ar ei gyfer, ac os bydd y Torïaid yn bwrw ymlaen ac yn tanseilio ein democratiaeth, mae angen inni ddod o hyd i setliad cyfansoddiadol ar gyfer y dyfodol sy’n diogelu nid yn unig hawliau’r Senedd hon, ond hawliau’r bobl a'i hetholodd.
Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a'r rheswm rwy'n siarad yw fy mod am gymeradwyo adroddiad y pwyllgor. Hoffwn bwysleisio nad wyf yn erbyn egwyddor y Bil marchnad fewnol, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod yr un ger ein bron wedi’i ruthro a heb ei gynllunio’n dda, yn nodweddiadol o ystyried ei oblygiadau cyfansoddiadol. Yn wahanol i'r siaradwr blaenorol a rhai o’r Aelodau eraill sydd wedi siarad, credaf fod hon yn ymgais frysiog a thrwsgl, yn hytrach nag ymgais ddifrïol i danseilio egwyddorion datganoli, ond hyd yn oed os yw'r egwyddorion hynny'n cael eu tanseilio'n anfwriadol, mae'n dal i greu perygl cyfansoddiadol difrifol iawn, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn gobeithio y byddai fy mhlaid fy hun yn ei ystyried.
O ran ei effaith ar y gweinyddiaethau datganoledig, credaf ei bod yn bwysig nodi yma fod y Bil mewn perygl o’i gwneud yn llawer anoddach i arfer pwerau datganoledig, ac wrth eu harfer y mae pwerau'n arwyddocaol. Gallant fodoli'n dybiannol, ac mae llawer o bobl wedi cyfeirio at y 70 o bwerau ychwanegol yn ôl pob sôn a fydd yn dod inni wrth iddynt gael eu symud o Frwsel, ond os na ellir arfer y pethau hyn oherwydd fframwaith cyffredinol maes polisi penodol, neu am ei bod yn anoddach arfer polisïau sy'n bodoli'n barod—er enghraifft, sut rydym yn rheoleiddio'r farchnad dai a darpariaeth gwasanaethau gan landlordiaid, er enghraifft, neu asiantau landlordiaid—mae hynny'n dangos yn glir sut y gall gael effaith wrth lunio polisïau domestig.
Credaf y byddai’n well pe bai Llywodraeth y DU wedi trin y Bil hwn fel y cyntaf o nifer o Filiau cyfansoddiadol a allai fod yn angenrheidiol i gryfhau cyfanrwydd y DU. Gresynaf nad hyn fu ei ffocws. Wrth gwrs, i fod yn llwyddiannus, mae angen i Fil cyfansoddiadol fod wedi’i ddrafftio gan weinyddiaethau datganoledig sy’n cydweithio, neu o leiaf, eu bod wedi cael pob cyfle i ymuno â’r ymdrech honno. Nawr, nid wyf yn ddigon naïf i dybio bod Llywodraeth yr Alban erioed yn debygol o’i gefnogi, ac mae rhesymau clir am hynny, ond gallent fod wedi cyfrannu o hyd at broses nad oeddent yn cytuno'n llwyr â hi neu’n barod i’w chefnogi yn y pen draw. Ond ni ddylid diystyru gwrthwynebiad gan Lywodraeth Lafur Cymru unoliaethol ar chwarae bach. Mae'n canu larwm.
Lywydd, mewn sawl ffordd, roedd Brexit yn ymwneud â'r ymateb i'r farchnad sengl a’r broses o'i rheoleiddio, a'r cyhuddiad fod y rheoliadau hynny'n aml yn rhwystro sofraniaeth ddomestig rhag cael ei harfer. Serch hynny, yr hyn rydym wedi'i gynnig heddiw yw marchnad fewnol sy'n llawer mwy canolog na'r farchnad sengl Ewropeaidd, a heb egwyddorion sybsidiaredd a chymesuredd sy'n rhoi cwmpas llawn i’r gwaith o wneud penderfyniadau lleol dilys o fewn marchnad sengl—neu gwmpas mor llawn â phosibl. Nid ydym yn mynd i gael hynny, a chredaf ei bod yn eironig fod uwch aelodau o fy mhlaid a gefnogodd Brexit gyda'r fath frwdfrydedd a llwyddiant bellach yn cymhwyso ac yn lluosi'r egwyddorion a gondemniwyd ganddynt yng nghyd-destun y farchnad sengl Ewropeaidd.
A gaf fi gloi drwy ddweud bod y Bil hwn, drwy baratoi'r ffordd i dorri cyfraith ryngwladol, yn amlwg yn anghydnaws? Nawr, rwy'n deall, er gwaethaf penderfyniad Tŷ'r Cyffredin i ailgyflwyno’r cymalau sy'n caniatáu torcyfraith rhyngwladol—dywed Tŷ’r Cyffredin fod yn rhaid eu hailgyflwyno ar ôl i Dŷ’r Arglwyddi eu tynnu allan—deallaf fod y Llywodraeth wedi nodi nawr na fydd yn gwrthwynebu i Dŷ’r Arglwyddi dynnu'r cymalau hynny eto, ac felly bydd y staen hwnnw, o leiaf, wedi’i ddileu o'r Bil hwn. Ond credaf fod yn rhaid bod y ffaith i'r bygythiad hwnnw gael ei wneud erioed yn peri cryn bryder i'r gweinyddiaethau datganoledig, a gallu Llywodraeth Prydain i negodi mewn ffordd sy'n ennyn ymddiriedaeth ac yn llawn ac na allai gyflawni’r bygythiadau sylfaenol hyn. Yn hyn o beth yn unig, credaf fod y Bil hwn ar y tu allan i draddodiadau'r Blaid Geidwadol yn rhyfedd ddigon pan edrychwch ar Churchill a Maxwell Fyfe, a wnaeth gymaint i sefydlu normau cyfraith ryngwladol ar ôl yr ail ryfel byd. Gyda chryn anfodlonrwydd, Lywydd, mae'n rhaid imi ddweud wrth y Siambr a fy mhlaid fy hun y byddaf yn pleidleisio yn erbyn rhoi ein cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil hwn.
Mae arnaf ofn fod yn rhaid imi anghytuno'n llwyr â fy ffrind David Melding, yn enwedig mewn perthynas â'r pwyntiau y mae newydd eu gwneud ynglŷn â chyfraith ryngwladol, y dof atynt yn nes ymlaen yn fy araith.
Ymddengys i mi fod gwrthwynebwyr y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn anwybyddu realiti sylfaenol pam ein bod yn dadlau hyn heddiw—fod pobl y Deyrnas Unedig a phobl Cymru, bedair blynedd a hanner yn ôl, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, a chawsom etholiad cyffredinol fis Rhagfyr diwethaf lle safodd y Blaid Geidwadol ar slogan i gyflawni Brexit ac etholwyd Prif Weinidog y DU, neu etholwyd ei blaid, gyda mwyafrif o 80 yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn y wal goch yng ngogledd Lloegr ac yng Nghymru, cwympodd y ceyrydd Llafur a oedd wedi ethol Aelodau Llafur ers degawdau i’r Torïaid—collwyd pum sedd Geidwadol yng Nghymru.
Nid yw'r cytundeb ymadael yn cyflawni Brexit. Roedd yn gynnyrch cyfnod eithaf poenus i'r Blaid Geidwadol o dan arweinyddiaeth fyrhoedlog Theresa May. Mae'n arwydd o ildio i negodydd yr UE, Monsieur Barnier, gan Brif Weinidog gwaethaf y DU ers Ramsay MacDonald o leiaf. Ond wrth gwrs, nid oedd gan Theresa May fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin. Bellach, mae gennym Lywodraeth a chanddi fwyafrif mawr yn Nhŷ’r Cyffredin, ac felly gall gyflawni’r math o Brexit y pleidleisiodd y bobl o’i blaid bedair blynedd a hanner yn ôl. Mae Boris Johnson yn awyddus i gyflawni Brexit ac mae'r Bil hwn yn gynhwysyn hanfodol i gyflawni hynny. Felly, mae popeth wedi newid.
Ond wrth gwrs, nid oes unrhyw beth wedi newid i'r Blaid Lafur; hwy yw Bourboniaid y Brydain fodern, gan nad ydynt wedi dysgu unrhyw beth nac wedi anghofio unrhyw beth. Fel y nododd Darren Millar, nid yn unig eu bod wedi gwrthwynebu Brexit—digon teg; mae ganddynt hawl i wneud hynny wrth gwrs—ond fe wnaethant ddeddfu hefyd i atal y Deyrnas Unedig rhag gadael yr UE heb gytundeb ymadael, ac yna fe wnaethant bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael ei hun. Roeddent am gael ail refferendwm i wyrdroi'r refferendwm cyntaf cyn i ganlyniad y refferendwm cyntaf gael ei wireddu. Maent wedi gwneud popeth yn eu gallu dros y pedair blynedd diwethaf i danseilio safbwynt negodi Prydain. Ac mae arnaf ofn fod y Cwnsler Cyffredinol yn dal wrthi. Mae wedi bod yn gynorthwyydd bach brwd i Monsieur Barnier drwy gydol y cyfnod hwn—gwas ffyddlon y technocratiaid ym Mrwsel sy’n awyddus i wneud i Brydain ddioddef am fod yn ddigon hy i fynnu adfer ei sofraniaeth genedlaethol. Ac wrth gwrs, yr amcan arall nad ydynt yn sôn amdano yw cadw pawb arall yn yr UE yn ufudd, rhag ofn iddynt gael eu temtio i ddilyn y llwybr y mae Prydain wedi dewis ei ddilyn.
Credaf fod y cytundeb ymadael yn mynd yn gwbl groes i gytundeb Gwener y Groglith, ac felly mae cyfiawnhad llwyr dros gadw'r cymal y mae David Melding newydd roi gwybod i ni fod y Llywodraeth bellach yn barod o bosibl i’w weld yn cael ei dynnu allan. Oherwydd o dan y cytundeb ymadael, dywedai na ddylai statws Gogledd Iwerddon newid heb gydsyniad pobl Gogledd Iwerddon—o dan gytundeb Gwener y Groglith, yn hytrach, gyda chaniatâd pobl Gogledd Iwerddon yn unig y gellir newid statws Gogledd Iwerddon. Mae Deddf Uno 1801, a’n hunodd yn Deyrnas Unedig yn nodi yn erthygl 6
ym mhob cytuniad… gydag unrhyw bŵer tramor, bydd deiliaid ei Fawrhydi yn Iwerddon…yn gyfartal â deiliaid ei Fawrhydi ym Mhrydain Fawr.
Ac wrth gwrs, mae'r cytundeb ymadael yn chwalu hynny’n llwyr, gan ei fod yn creu ffin drwy ganol môr Iwerddon ac yn ei gwneud yn ofynnol i bobl yn Lloegr ac yng Nghymru sy'n allforio i Ogledd Iwerddon lenwi dogfennau allforio, ac fel arall o Ogledd Iwerddon i'r cyfeiriad arall. Nawr, dywed protocol Gogledd Iwerddon yn erthygl 4 y cytundeb ymadael,
Mae Gogledd Iwerddon yn rhan o diriogaeth dollau'r Deyrnas Unedig.
Y cyfan y mae'r Bil marchnad fewnol yn ei wneud yw sicrhau y bydd hyn yn parhau ar ôl ein cyfnod pontio allan o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae'r Undeb Ewropeaidd yn awyddus i ddiogelu ei farchnad sengl wrth gwrs, ond mae’r un peth yn wir amdanom ni yn y Deyrnas Unedig. Ac mae diogelu marchnad sengl y Deyrnas Unedig yn llawer pwysicach i bobl Cymru nag y bu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd erioed, nac y gallai fod yn wir.
Nawr, ni allwch ymwrthod â rhan o gytuniad mewn cyfraith ryngwladol, ond wrth gwrs, gallwch ymwrthod, mewn rhai amgylchiadau, â chytuniad yn ei gyfanrwydd. Ac os na cheir cytundeb, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymwrthod â’r cytundeb ymadael yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y trefniadau ariannol y mae’r cytundeb ymadael yn eu cynnwys, a’r materion masnach a ildiwyd yn gyfeiliornus i’r Undeb Ewropeaidd yn y negodiadau. O dan Gonfensiwn Fienna ar Gyfraith Cytuniadau, pe ceid newid sylfaenol yn yr amgylchiadau o gymharu â phan negodwyd y cytundeb, mae'n gyfreithlon i wladwriaeth ymwrthod â’i delerau ac—
Mae angen ichi ddod â'ch sylwadau i ben nawr, Neil Hamilton. Mae eich amser ar ben.
Fe wnaf hynny, Lywydd. Nid oedd y cytundeb ymadael erioed i fod yn barhaol; roedd i fod i bontio. Os na fyddwn yn pasio'r Bil hwn heddiw, yr hyn y byddwn yn ei wneud i bob pwrpas yw cynnal y ffin i lawr canol môr Iwerddon, gan ymrannu’r Deyrnas Unedig, a dyna'r perygl mwyaf oll.
Mae'r Bil marchnad fewnol yn gwneud un peth, ac un peth yn unig—mae'n ceisio gwyrdroi canlyniad y refferendwm ac anwybyddu ewyllys y bobl. Yn 2011—ac mae ambell un wedi cyfeirio at hyn heddiw—gofynnwyd cwestiwn uniongyrchol i ddinasyddion Cymru, sef,
'A ydych yn dymuno i'r Cynulliad—'
fel y’i gelwid bryd hynny—
'allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?'
Dywedodd bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr 'ydw'. Golygai’r canlyniad y gallai'r Cynulliad hwn lunio deddfau ar bob mater yn y meysydd pwnc hynny heb fod angen cytundeb Senedd y DU. Byddai'r Bil marchnad fewnol yn gwrthdroi’r penderfyniad hwnnw ac yn tanseilio gallu Llywodraeth Cymru a’r Siambr hon i ddeddfu.
Mae’r newyddion o Rif 10 ddoe yn awgrymu y gallai Llywodraeth San Steffan gael gwared ar y cymalau o’r Bil sy’n torri cyfraith ryngwladol os gellir dod i gytundeb gyda’r UE. Ond fel y saif pethau, mae'r Bil marchnad fewnol yn gwneud Brexit 'heb gytundeb' yn fwy tebygol. Yn Sir Benfro, rydym eisoes wedi cael ergyd yn sgil Brexit. Mae’r cwmni llongau o Ddenmarc, DFDS, wedi cyhoeddi fferi uniongyrchol newydd o Iwerddon i Ffrainc, gan osgoi ein porthladdoedd. Mae honno'n ergyd enfawr i'r economi leol ac mae'n arwydd gofidus o’r hyn sydd o’n blaenau.
Byddai Brexit 'heb gytundeb' yn drychineb ac yn addewid arall y mae’r Torïaid wedi’i dorri. Ni fu cytundeb parod i'w bobi erioed; roedd yn syniad hanner pan, yn union fel ymrwymiad maniffesto'r Ceidwadwyr i ffermwyr Cymru a addawodd, ac rwy'n dyfynnu,
warantu cyllideb flynyddol bresennol y Polisi Amaethyddol Cyffredin i ffermwyr ym mhob blwyddyn yn y Senedd nesaf.
Yn lle hynny, maent wedi dwyn £95 miliwn oddi ar ffermwyr Cymru. Ceisiodd Aelodau Ceidwadol roi sglein ar y ffaith a cheisio taflu llwch i lygaid eu hetholwyr, ond diwedd y gân—ac mae cyfrifiadau Undeb Amaethwyr Cymru yn profi hyn—yw bod hyn—[Torri ar draws.]
Arhoswch am funud, Joyce. Mae'n ddrwg gennyf dorri ar eich traws. Darren Millar, nid oes rhaid ichi wneud sylwadau ar bopeth y mae pawb yn ei ddweud yn y ddadl hon. Rydych wedi cael eich cyfle i siarad. Caniatewch i bobl eraill gyfrannu nawr. Joyce Watson.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diwedd y gân—ac mae cyfrifiadau Undeb Amaethwyr Cymru yn profi hyn—yw bod hyn yn fflangellu'r economi wledig, ac mae hynny'n arwydd o'r hyn sydd i ddod.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn rhybuddio bod y Bil marchnad fewnol yn agor y drws i Lywodraeth y DU leihau’r cyllid a ddaw i Gymru drwy'r grant bloc. Mae'n rhoi pwerau i San Steffan benderfynu beth sydd orau i Gymru, ac nid oes ganddynt unrhyw fandad i wneud hynny—yma mae'r mandad hwnnw. Am dair blynedd, mae Llywodraeth y DU wedi methu cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer darparu cyllid yn lle cyllid buddsoddi strwythurol yr UE drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU. Rwy'n dechrau meddwl ei bod yn gronfa rithiol. Rwy'n dechrau meddwl nad yw'n bodoli. Naill ai nid ydynt wedi gwneud y cyfrifiadau hynny, neu nid ydynt am eu rhannu gyda'r gweinyddiaethau datganoledig.
Mae'r Bil marchnad fewnol yn creu risg uniongyrchol i ddatganoli, fel y mae llawer o sylwebyddion wedi’i ddweud heddiw, a thrwy hynny, i sefydlogrwydd y DU. Mae’n mynd yn groes i ewyllys sefydlog pobl Cymru. Nid yw'n ddim llai na lladrad, ac ar yr un pryd, mae’n mynd yn groes i gyfraith ryngwladol fel y mae ar hyn o bryd.
Diolch i Joyce Watson am ei haraith; cyfeiriodd yn ôl at refferendwm 2011 a deddfu yn yr 20 maes hyn. Wrth gwrs, roedd hynny'n ddarostyngedig i brif gyfraith yr Undeb Ewropeaidd—nid oedd yn gwrthwynebu hynny, ond mae'n gwrthwynebu cyfyngiadau llai ar lefel y DU. Hefyd, ni wnaeth ein hatgoffa bod y papur pleidleisio yn y refferendwm hwnnw'n nodi, 'Ni all y Cynulliad hwn ddeddfu ar drethiant, beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon'. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog a thri Chadeirydd y pwyllgorau—a Dai Lloyd yn benodol, os caf—am eu hareithiau, am fy atgoffa a phwysleisio pa mor dda yw’r Bil hwn? Rwyf mor falch o’i gefnogi heddiw. Ceir tri maes craidd, rwy'n credu; soniodd y Gweinidog am bump, ond rwyf am gyfyngu fy hun i dri.
Yn gyntaf, mae Llywodraeth y DU yn mynd i gael caniatâd penodol i wario arian mewn mwy o feysydd yng Nghymru; rhaid bod hynny'n beth da. Mae eraill yn gwrthwynebu gan y gallai gyfyngu, mae'n debyg, ar y ffordd y maent yn rheoli polisïau. Efallai y bydd Llywodraeth y DU yn ariannu ysgolion rhydd neu academïau ac yn caniatáu i rieni a'u plant gael mwy o ddewis o ran addysg yng Nghymru. Mae rhai Aelodau'n cyfeirio at barchu ymrwymiadau maniffesto, ond wrth gwrs, ni allai gwariant Llywodraeth y DU mewn perthynas â ffordd liniaru’r M4 wneud dim ond cyflawni ymrwymiad a wnaeth Llywodraeth Cymru cyn ei dorri. Credaf y dylem groesawu'r posibilrwydd o fwy o wariant gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys o'r gronfa ffyniant gyffredin.
Yn ail, mynediad at y farchnad a chydnabyddiaeth gilyddol—egwyddorion rhagorol. Rwy’n anghytuno â David Melding a’i gyfeiriadau at wrthwynebiadau’r Torïaid i farchnad sengl yr UE a’u dyblygu drwy’r ddeddfwriaeth hon. Y gwrthwyneb sy'n wir. Yr hyn a welsom yn yr Undeb Ewropeaidd oedd deddfwriaeth marchnad sengl a arweiniodd at gysoni rheolau o'r brig i lawr ym mhob un o'r 27 gwlad, gan ddweud na allwch werthu rhywbeth oni bai ei fod yn cadw at un rheoliad canolog. Yr hyn y mae'r Bil marchnad fewnol yn ei wneud yw dychwelyd at ddull llawer gwell a weithredwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ei hun o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop 1979 yn Cassis de Dijon, sef, yn y bôn, os bydd rhywbeth yn bodloni rheoliadau'r wladwriaeth lle cafodd ei wneud, yna gellir ei werthu ym mhob aelod-wladwriaeth—mynediad at y farchnad ac egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol. Credaf fod hynny i’w groesawu’n fawr, ac os yw'n arwain at fethu deddfu i wahardd pobl yng Nghymru rhag prynu pethau y gall pobl yn Lloegr eu prynu, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu hefyd.
Mae'r trydydd maes, sef cymorth gwladwriaethol a mesur o reolaeth dros gymorth gwladwriaethol gan Lywodraeth y DU, unwaith eto'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Yn gyffredinol, rydym wedi cael llai o gymorth gwladwriaethol yn y DU nag sy'n arferol ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn siŵr pam ei fod yn gymaint o faen tramgwydd i'r Undeb Ewropeaidd yn y trafodaethau hyn. Rwy’n clywed llawer o bobl yn y Siambr hon, yn enwedig ymhlith siaradwyr Llafur a Phlaid Cymru, yn cwyno am unrhyw drosolwg gan y DU ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran cymorth gwladwriaethol, yn yr un modd ag y gwnaeth Joyce Watson ynghylch deddfwriaeth yn yr 20 maes hynny, ond ni wnaethant erioed ei wrthwynebu pan oedd yn dod o'r UE. I mi, mae hynny'n dangos bod llawer o bobl sy'n dod o'r traddodiadau gwleidyddol hynny, a dweud y gwir, yn gwrthwynebu’r DU i’r un graddau ag y maent o blaid yr UE, a chredaf fod hynny wedi'i amlygu ddoe gan sylwadau gwarthus gan Weinidog y Llywodraeth wrth ymosod ar Ddug a Duges Caergrawnt. Mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru a gweithredoedd y Senedd hon sy'n bygwth y Deyrnas Unedig, nid y Bil marchnad fewnol, ac os bydd, i ryw raddau, am y tro cyntaf, yn gwthio rhai pwerau y gallent fod wedi’u datganoli fel arall yn ôl i lefel y DU, mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu, a chredaf y bydd pobl Cymru’n ei groesawu.
Byddaf yn pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Mewn rhai ffyrdd, serch hynny, os byddaf yn colli’r bleidlais honno, bydd hynny ynddo'i hun yn beth da, gan y byddwn wedyn yn gweld Llywodraeth y DU yn gorfodi’r Bil hwn a byddwn, gobeithio, yn gallu cefnu ar gonfensiwn Sewel.
Heddiw, bydd y Senedd hon yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil marchnad fewnol, gan wybod ymlaen llaw na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu confensiwn Sewel. Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnig ar y funud olaf i ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig cyn defnyddio pwerau dirprwyedig. Mae’n rhaid eu bod yn meddwl ein bod yn ffyliaid os ydym yn credu hynny, gan eu bod eisoes wedi’i gwneud yn glir y byddant yn anwybyddu’r gwrthod cydsyniad ar yr union Fil y maent bellach yn dweud y byddant yn ei addasu. Mae'r diffyg parch sydd gan Lywodraeth y DU tuag at y Senedd hon, a'i hymagwedd ystyfnig at ddemocratiaeth—nad yw’n cyfrif oni bai eu bod yn cytuno—wedi datgelu gwir natur yr undeb.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad cryf, a hefyd am ei waith fel Gweinidog Brexit dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn y pen draw, methodd ei strategaeth i geisio diogelu'r Senedd hon drwy gydweithredu, ond nid oedd hynny oherwydd diffyg ymdrech ar ei ran. Ceisiodd ei orau glas oherwydd awydd gwirioneddol i wneud yr hyn a gredai oedd orau i Gymru, ond cafodd gam gan Lywodraeth yn San Steffan nad oedd ganddi unrhyw ddiddordeb mewn cydweithredu, un a oedd yn benderfynol o chwalu datganoli.
Mae tri o bwyllgorau’r Senedd wedi argymell gwrthod cydsyniad deddfwriaethol. Ymhlith y pryderon mae'r gwrthdaro buddiannau amlwg pe bai Llywodraeth y DU yn pennu rheolau cymorthdaliadau’r DU pan nad ydynt ond yn gyfrifol am bolisi economaidd Lloegr, ac y byddai'r Bil yn cael effaith ddwys ar y setliad datganoli. Mae'r neges yn glir: mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldebau tuag at ei phedair gwlad gyfansoddol, ond ei pholisi bellach yw hyrwyddo buddiannau Lloegr ar draul Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
O ran yr hyn y mae'r Bil yn ceisio'i gyflawni, mae rhai o'r pwerau mwyaf niweidiol yn cynnwys y cymalau cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu sydd wedi'u cynllunio i wanhau pŵer y Senedd i ddeddfu. Bydd cymal 46 yn grymuso Llywodraeth San Steffan i wario’n uniongyrchol yng Nghymru heb gydsyniad y lle hwn, ac mae’n amlwg mai’r rheswm dros y mesur hwn yw nad ydynt yn hoff o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau. Ni ellir gwadu'r mandad democrataidd ar gyfer lleoli’r pwerau hyn yng Nghymru. Mae dinasyddion Cymru wedi cymeradwyo datganoli 14 gwaith mewn dau refferendwm a thrwy sicrhau mwyafrif o blaid datganoli mewn 12 etholiad. Nid oes mandad yn erbyn datganoli yn bodoli. Pan fo Boris Johnson yn dweud ei fod yn cyflawni ewyllys y bobl, mae'n amlwg nad yw'n siarad am ewyllys pobl Cymru.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch hefyd i Dafydd Wigley am weithio ar sail drawsbleidiol yn Nhŷ’r Arglwyddi i geisio gwyrdroi agweddau mwyaf niweidiol y Bil hwn. Ceisiodd un gwelliant llwyddiannus a gefnogodd, yn enw'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, ddileu'r darpariaethau a oedd yn galluogi Llywodraeth y DU i wario mewn meysydd datganoledig. Nawr, cefnogwyd hyn gan y Blaid Lafur yn Nhŷ’r Arglwyddi, ond cefais fy synnu bod Llafur wedi ymatal rhag pleidleisio ar y gwelliant hwn yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cofnodi ei gondemniad o'i gymheiriaid Llafur yn San Steffan am danseilio ei safbwynt a methu cefnogi gwelliant sy'n adlewyrchu polisi ei Lywodraeth.
Rydym bellach wedi cael 10 mlynedd o Lywodraethau Torïaidd y DU sydd wedi ymosod yn gyson ar les dinasyddion Cymru, 10 mlynedd o gyni dinistriol, pedair blynedd o anhrefn cyfansoddiadol ac oes o addewidion wedi’u torri. Dywedodd Alun Cairns wrth un o bwyllgorau’r Senedd nad oedd agenda i’w chael o ran diddymu pwerau neu dynnu pwerau yn ôl oddi wrth Lywodraeth Cymru. Nawr, mae rheolau ynghylch defnyddio iaith seneddol yn fy atal rhag defnyddio'r term amlwg i ddisgrifio hyn, ond gŵyr pob un ohonom beth y mae gwahaniaeth clir rhwng addewid a gweithred yn ei olygu. Ac nid wyf wedi sôn hyd yn oed am yr addewidion a gafodd eu torri mewn perthynas â'r gronfa ffyniant gyffredin.
Lywydd, mae democratiaeth Cymru’n cael ei datgymalu. Strategaeth Llywodraeth Cymru oedd ceisio amddiffyn buddiannau Cymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU. Methodd y strategaeth honno, nid oherwydd diffyg ymdrech, ond am fod eu partner anfodlon yn Llywodraeth dwyllodrus a chanddi awydd nihilaidd am ddinistr.
Mae heddiw'n ddiwrnod hanesyddol, Lywydd, ac nid am y rhesymau y dylai fod. Heddiw ddylai fod y diwrnod rydym yn atal y Bil marchnad fewnol drwy wrthod ein cydsyniad. Yn lle hynny, heddiw yw’r diwrnod pan fydd San Steffan yn ailddatgan ei goruchafiaeth dros Gymru drwy rym. Mae'r hen ffyrdd wedi methu. Yr unig opsiwn sydd ar ôl i ddiogelu ein democratiaeth a buddiannau pobl Cymru yw annibyniaeth.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud, yn gyntaf, fy mod yn falch fod Delyth Jewell wedi ein hatgoffa o'r ymdrech drawsbleidiol, yn y Senedd ond hefyd yn y Siambr hon, i gefnogi'r safbwynt a fynegais ar ddechrau'r ddadl hon—boed hynny ar feinciau'r Llywodraeth, meinciau Plaid Cymru, ac mewn araith graff iawn, os caf ddweud, gan David Melding, roedd yn dda clywed llais Ceidwadol yn amddiffyn egwyddorion democratiaeth yng Nghymru.
A gaf fi ddechrau drwy gytuno â sylwadau Alun Davies a Mick Antoniw? Rydym yn cefnogi'r egwyddor o farchnad fewnol ar y meinciau hyn; credwn ei bod yn bwysig ar gyfer gweithrediad effeithlon ac effeithiol yr economi yn y DU. Ond nid yn unig fod y Bil hwn yn ddiangen fel ffordd o gyflawni hynny, mae'n niweidiol iawn hefyd i'r setliad datganoli yng Nghymru.
Hoffwn fyfyrio ar bwynt David Rees, pan wnaeth ein hatgoffa o'r gwahaniaeth rhwng y cenhedloedd y mae'r Bil hwn yn ei ddyfnhau. Ie, gwahaniaeth economaidd, a soniodd Llyr Gruffydd am hynny hefyd, ond mae hynny, ar un ystyr, yn un o ffeithiau bywyd gyda'r economi. Yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei greu yw gwahaniaeth cyfansoddiadol. Mae'n atal y Senedd hon rhag gallu cyffwrdd â'r ddeddfwriaeth hon yn y dyfodol, hyd yn oed pan fydd yn ymdrin â materion datganoledig. Nid yw Senedd y DU wedi'i chyfyngu yn yr un modd wrth weithredu ar ran Lloegr. Nawr, gwn nad ydynt yn gefnogol ar y meinciau gyferbyn i'r cae chwarae gwastad rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, ond byddwn wedi gobeithio o ddifrif y gallent o leiaf gefnogi'r egwyddor na ddylid lefelu'r cae chwarae yn erbyn eu cenedl eu hunain, ac maent wedi methu gwneud hynny yn y ddadl hon heddiw.
Cawsom ein hatgoffa gan Mick Antoniw, a Dai Lloyd a David Melding hefyd, fod y Bil hwn yn cael ei orfodi. Nid yw'n ddeddfwriaeth sydd wedi'i datblygu ar y cyd gyda'r Llywodraethau datganoledig.
Gwrandewais ar araith Darren Millar. Mae peth amser wedi bod ers imi glywed araith mor sinigaidd yn y lle hwn. Popeth a ddywedodd, bron â bod, pob brawddeg, roeddwn yn teimlo mai'r gwrthwyneb oedd yn wir. Roedd yn araith ar gyfer dadl arall. Nid oes a wnelo'r ddadl hon â Brexit, mae'n ymwneud â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Soniodd Darren Millar am y mandad democrataidd. Y mandad democrataidd y dylem fod yn ei gynnal yw'r un y mae Cymru wedi'i fynegi mewn dau refferendwm i sefydlu'r Senedd hon ac i ehangu ei phwerau, fel y gwnaeth Joyce Watson a Dai Lloyd ein hatgoffa. Fe gynhaliodd Darren Millar y myth fod y Bil hwn yn ymestyn pwerau'r Senedd. Rwyf wedi gofyn i Weinidogion y Llywodraeth yn San Steffan fy nghyfeirio at y cymal sy'n gwneud hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ildio'r llawr nawr os gall wneud hynny heddiw.
Na, ni fydd y llawr yn cael ei ildio o dan yr amgylchiadau presennol, mae'n ddrwg gennyf.
Wel, nodaf iddo fethu fy nghyfeirio at y cymal hwnnw yn ei araith, Lywydd.
Cyfraniad Dai Lloyd—rwy'n cytuno â'i wrthodiad o'r Bil. Nid wyf yn cytuno â'i ddisgrifiad o waith y Blaid Lafur, ond rwy'n cytuno â'i wrthodiad o'r Bil. Dyma amser ar gyfer cynghreiriau trawsbleidiol. Rydym wedi llwyddo i weithio gyda Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, er bod gennym flaenoriaethau cyfansoddiadol gwahanol iawn. Rydym mewn gwahanol leoedd ar sbectrwm diwygio, ond gadewch inni heddiw, o leiaf, siarad ag un llais o'r Siambr hon.
Cawsom ein hatgoffa gan Dai o'r hanes y dylai pob un ohonom ei gofio. Gwnaeth areithiau Caroline Jones a Neil Hamilton fy atgoffa nad hanes yw'r unig beth sy’n sicr o ailadrodd ei hun, ac roedd y ddau ohonynt yn rhannu hoffter Darren Millar o'r fytholeg rydym wedi'i chlywed yn rhy aml yn y lle hwn.
Clywais Mark Reckless a’i gyfraniad. Nawr, i'r rhai sydd am ddiddymu'r Senedd, mae'r Bil hwn yn drysor cyfansoddiadol. Y gwir amdani yw bod yr egwyddorion sy'n sail i'r Bil hwn yn grymuso pobl fel Mark Reckless, ac nid yw hynny'n ymwneud â diddymu'r Senedd; yn ei achos ef, mae'n ymwneud â diddymu Cymru.
Rwyf am gloi, os caf, gyda sylwadau Alun Davies, lle dechreuais. Mae'r siarâd fod y Bil hwn yn rhoi gallu pellach i Lywodraeth y DU ariannu yng Nghymru yn un o'r pethau mwyaf rhyfeddol. Yr hyn sy'n atal Llywodraeth y DU rhag ariannu mwy o seilwaith yng Nghymru yw'r ffaith nad oes ganddynt awydd gwneud hynny, nid am nad oes ganddynt bŵer i wneud hynny. Cefais fy atgoffa o addewid Paul Davies i bobl Cymru, y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn dadariannu’r hyn nad yw wedi'i ddatganoli. Nid oedd hynny’n anodd i mi ei gredu. Maent wedi treulio'r 10 mlynedd diwethaf yn dadariannu’r hyn nad yw wedi'i ddatganoli, boed yn rheilffyrdd, neu ynni, neu ddigidol, mae'r rheini oll wedi cael eu dadariannu, ac roedd hynny’n ddewis Ceidwadol. Felly, gadewch inni beidio â chael pwerau cymorth ariannol yn y Bil; gadewch inni'n syml gael mwy o gymorth ariannol.
Mae'r Bil hwn, Lywydd, yn ymosodiad gwarthus ar y Senedd genedlaethol hon a Llywodraeth Cymru, a gofynnaf i'r Aelodau amddiffyn hawliau a phwerau democrataidd y Senedd hon, i wrthod y cynnig a gwrthod rhoi cydsyniad iddo.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu, felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yna.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud hynny'n ffurfiol.
Cynnig NDM7500 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7501 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol, felly, y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig gweithdrefnol nesaf, felly, i ganiatáu'r eitem nesaf o fusnes i gael ei ohirio. Rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig hynny eto'n ffurfiol.
Cynnig
Cynnig bod Senedd Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.32, yn gohirio'r ddadl ar gyfyngiadau Coronafeirws newydd tan ddydd Mercher, 9 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig gweithdrefnol? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig gweithdrefnol wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac felly mae'r eitem ar y ddadl ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd yn cael ei symud i'r cyfarfod nesaf, sydd yn hwyrach heddiw, ac fe fydd yn cael ei gynnwys ar yr agenda fel eitem 7, a bydd cynnig i grwpio'r ddadl yna gyda phleidleisiau ar wahân, ynghyd â dadl y Ceidwadwyr ar goronafeirws.
Mae eitem 9 wedi ei ohirio, sef yr adolygiad blynyddol ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Ac felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio o'r diwedd, a dwi'n atal y cyfarfod nawr dros dro er mwyn i ni gael paratoi ar gyfer y bleidlais yma. Atal y cyfarfod, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:27.
Ailymgynullodd y Senedd am 13:30, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y bleidlais, felly, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi cael ei wrthod.
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Rydyn ni nawr yn cau'r cyfarfod yma, ac fe fyddwn ni'n ailymgynnull ar gyfer gweddill y busnes i'w gwblhau heddiw. Felly, cau'r cyfarfod am nawr a chymryd toriad.
Gorffennodd y trafodaethau ar fusnes cyfarfod dydd Mawrth, 8 Rhagfyr.
Dechreuodd y trafodaethau ar fusnes cyfarfod dydd Mercher, 9 Rhagfyr am 13.40, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Croeso i bawb i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, rwyf am nodi ychydig o bwyntiau. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy fideogynadledda. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn deg. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir gan ddefnyddio fideogynadledda yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn drafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn berthnasol ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw a nodir y rhain yn yr agenda, a hoffwn atgoffa'r Aelodau fod Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn mewn Cyfarfodydd Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod hwn, a'r un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr a'r rhai sy'n ymuno â ni’n rhithwir.
Gyda hynny, symudwn at eitem 1, sef cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a daw'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer datblygu busnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56003
Prynhawn da, Angela. Diolch am y cwestiwn. Roedd cam 3 o'n cronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru yn unig yn cynnwys £100 miliwn o grantiau datblygu busnes gyda'r nod penodol o helpu busnesau i addasu i fywyd ôl-COVID y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs, mae £20 miliwn o'r gronfa hon wedi'i glustnodi’n benodol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod £340 miliwn arall ar gael trwy gam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau newydd i reoliadau COVID-19.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae pawb bob amser yn ddiolchgar am unrhyw arian y gellir ei ddarparu i fusnesau. Ond roeddwn i eisiau gofyn yn benodol i chi ynglŷn â busnesau nad yw COVID-19 yn effeithio arnynt mewn gwirionedd, ac mae yna lawer o fusnesau yn bodoli sy’n masnachu mewn ffyrdd gwahanol iawn ac sy’n dal i fod angen tyfu, datblygu, prynu safleoedd newydd, cyflogi staff newydd, dechrau rhaglenni hyfforddi, a bûm yn siarad â dau neu dri ohonynt ac maent yn ei chael hi'n anodd cael eu traed tanynt.
Cyn COVID, wrth gwrs, roedd llwybr clir i mewn i'r Llywodraeth, ffordd glir o allu ymgeisio am grantiau, ffordd glir o allu cysylltu â phobl ynghylch pa wybodaeth oedd ei hangen. Ond wrth gwrs, gyda'r ffocws ar COVID, yr hyn rwy'n ei ofyn i chi mewn gwirionedd yw, a allwch chi roi trosolwg i ni o ba arian sydd ar gael i fusnesau nad yw'r pandemig COVID yn effeithio arnynt? Sut y gallant gael mynediad at staff sy’n amlwg o dan bwysau aruthrol yn ceisio datrys materion COVID? Oherwydd os ydym yn mynd i geisio tyfu ar ôl i hyn ddod i ben, mae angen inni annog y busnesau sy'n gryf nawr i ddod yn gryfach fyth ac i barhau â'u busnes fel arfer.
Wel, a gaf fi ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn atodol? Rwy’n cytuno’n llwyr y dylid rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen i fusnesau nad yw COVID wedi effeithio arnynt, er mwyn iddynt allu ymadfer yn gryf wedi’r pandemig, ac i dyfu, er gwaethaf yr hyn rydym wedi’i wynebu gyda’n gilydd fel gwlad. Mae cefnogaeth 'busnes fel arfer' ar gael i fusnesau gan Busnes Cymru, gan gynnwys y rhaglen twf carlam yn bwysig iawn, a chyngor a chymorth ar gyfer busnesau newydd, ac felly hefyd y gefnogaeth 'busnes fel arfer' gan Fanc Datblygu Cymru. O fewn y Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithredu cronfa dyfodol yr economi, sydd wedi'i chynllunio, os mynnwch, i wefru diwydiannau yfory—y rhai sydd â photensial mawr i dyfu—gan sicrhau bod ein cyllid yn cyd-fynd â'n galwadau i weithredu, gan gynnwys buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu ac yn hanfodol bwysig wrth gwrs, datgarboneiddio. Ond byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion cynhwysfawr a nodwyd ganddi am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau.FootnoteLink
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn natblygiad economaidd trefi ym Mlaenau'r Cymoedd? OQ56004
Diolch. Ein strategaeth yw gosod sylfaen gref ar gyfer newid ledled y rhanbarth. Rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ddoe ar y cynnydd a wnaethom gyda thasglu’r Cymoedd. Yn ogystal â hynny, mae'r rhaglen Cymoedd Technegol wedi gwneud ymrwymiadau o dros £22 miliwn i helpu i greu 600 o swyddi cynaliadwy, ac mae ffocws cryf ar Flaenau’r Cymoedd yn ein rhaglen trawsnewid trefi £90 miliwn hefyd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y diweddariad hwnnw, ac roeddwn yn ddiolchgar iddo am ei ddatganiad ddoe. Mae'r coronafeirws wedi effeithio ar ein cymunedau a'n bywydau mewn ffyrdd gwahanol iawn ac mae wedi gwneud i ni herio llawer o ragdybiaethau rydym wedi'u derbyn dros nifer o flynyddoedd. Un o effeithiau posibl dwysaf a mwy hirdymor y coronafeirws yw'r her i'r syniad a'r cysyniad y bydd dinasoedd yn parhau i ddatblygu, ac mai canol dinasoedd yw'r unig leoedd lle gellir cyflawni busnes yn iawn. Am y tro cyntaf mewn degawdau lawer, mae hyn yn golygu bod gennym gyfle i sicrhau dadeni ar gyfer trefi a phentrefi a chymunedau, ac os rhywbeth, cenedl o drefi bach yw Cymru. Ddirprwy Weinidog, rwy’n gobeithio y gallwn greu strategaeth yn sail i ddadeni'r trefi ym Mlaenau'r Cymoedd. Pan fyddaf yn meddwl am fy etholaeth fy hun, fy nhref enedigol fy hun, Tredegar, a Glynebwy, Bryn-mawr, Abertyleri, Nant-y-glo a Blaenau, rydym i gyd wedi gweld adegau anodd iawn dros ddegawdau lawer, ac mae hwn yn gyfle y mae gwir angen i Lywodraeth Cymru ei fachu a’i hyrwyddo dros y blynyddoedd i ddod.
Wel, rwy'n cytuno â hynny. Rwy'n credu bod trefi'n wynebu newid mawr. Nid oes amheuaeth fod aflonyddwch digidol wedi cael effaith enfawr, roedd eisoes yn digwydd cyn y pandemig, ac mae'r pandemig yn sicr wedi ei gyflymu. Ond ar y llaw arall, fel y noda Alun Davies yn gywir, ceir cyfleoedd wrth newid agweddau ac ymddygiad. Mae’n un o'r rhesymau pam rydym wedi nodi cyfle ochr yn ochr â hyn, pan wnaethom osod ein targed i 30 y cant o bobl weithio gartref ar ôl y pandemig, i osod rhai o'r gweithwyr yng nghanol trefi mewn canolfannau gweithio craidd. Ni fydd yn rhaid i bobl deithio i gymudo i'r gwaith mwyach. Bydd llawer yn dewis gwneud hynny, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gymysgedd o weithio o bell a gweithio hyblyg, ond yn sicr mae cyfle i drefi gael rôl wahanol, a chredaf mai dyna fyddwn i'n ei ddweud yma—fod gan bawb sy'n ymwneud â’r ymdeimlad o le a rôl canol trefi gyfrifoldeb i ailfeddwl beth yw pwrpas trefi. Rydym yn sicr yn rhoi cryn dipyn o fuddsoddiad seilwaith ar waith. Rydym wedi ymrwymo £6 miliwn i Flaenau Gwent yn unig o dan y gronfa trawsnewid trefi, a fydd yn rhyddhau £4 miliwn arall. Dyna botyn gwerth £10 miliwn i adfywio'r trefi ym Mlaenau Gwent yn unig. Rydym wedi mabwysiadu egwyddor canol y dref yn gyntaf mewn penderfyniadau buddsoddi sector cyhoeddus. Yn sicr, drwy brosiectau'r economi sylfaenol, gwyddom y gall y sector cyhoeddus fod â rôl angori yng nghanol trefi i ddenu gweithgaredd arall i mewn. Ond mae'n iawn—mae angen i bob un ohonom feddwl yn strategol ynglŷn â sut i drefnu'r grymoedd hyn er budd trefi.
Y mis diwethaf, gwelodd Cymru y cynnydd mwyaf mewn diweithdra yn y DU oherwydd effeithiau’r pandemig coronafeirws. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl yn rhanbarth tasglu'r Cymoedd sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra—er enghraifft, cynyddodd nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra 68 y cant ym Mlaenau Gwent rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020, 71 y cant yn Nhorfaen, a 65 y cant ym Merthyr Tudful a Rhymni. Mae'r gyfradd swyddi gwag mewn manwerthu yng Nghymru hefyd wedi cynyddu o 15.9 y cant i 18 y cant yn nhrydydd chwarter eleni, y naid fwyaf yn unrhyw ran o'r DU. O ystyried mai'r ffordd orau o wella bywydau pobl, nid yn unig yn y Cymoedd, ond yng Nghymru gyfan wrth gwrs, yw trwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy a swyddi medrus hirdymor, pa gymorth penodol wedi'i dargedu y byddwch chi'n ei ddarparu i drefi'r Cymoedd, a pha gynlluniau sydd gennych i ymestyn nifer yr ardaloedd menter yn y mannau hyn?
Mae'r dystiolaeth ar ardaloedd menter yn gymysg, ac yn sicr roedd adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau arnynt ychydig flynyddoedd yn ôl yn atgyfnerthu hynny. Ddoe gwnaethom nodi’r gweithgareddau, yn benodol yn ardal tasglu’r Cymoedd, ar ystod eang o ymyriadau’n ymwneud â chreu lleoedd, ac rydym wedi nodi cefnogaeth ariannol sylweddol i fusnesau sy’n dioddef oherwydd y pandemig. Rydym hefyd wedi nodi cynllun adfer i wneud yn siŵr, pan fyddwn yn cefnu ar y pandemig, ein bod yn rhoi pwyslais ar ail-wneud ein heconomi mewn ffordd well.
Mae’r mater a godwyd gan yr Aelod yn bwysig iawn. Mae gennyf gwestiwn am flaenoriaethau ar gyfer cyllid yn yr ardal, oherwydd mae trawsnewid canol trefi a darparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus yn amlwg yn allweddol. Rwyf wedi bod yn mynegi pryderon wrth y Llywodraeth ynglŷn â chost deuoli darn o ffordd 11 milltir ar yr A465, sydd wedi cynyddu o'r amcangyfrif gwreiddiol o £428 miliwn i £1.2 biliwn yn bennaf oherwydd y penderfyniad i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol. Fel y dywedais bob tro rwyf wedi crybwyll hyn, rwy'n croesawu buddsoddiad yn ein cymunedau, ond rwy'n cwestiynu a oes modd cyfiawnhau gwario £1.2 biliwn ar 11 milltir o goncrit pan fo cymaint o bobl yr ardal yn byw mewn tlodi. Bydd cost flynyddol yr ad-daliad yn fwy na chyllideb flynyddol Cymunedau yn Gyntaf, cynllun gwrth-dlodi blaenllaw Llywodraeth Cymru, a ddaeth i ben heb i ddim gael ei roi yn ei le. Felly byddwn yn gofyn i'r Gweinidog pa asesiad a wnaed gan y Llywodraeth, os o gwbl, o ffyrdd eraill o wella'r darn hwn o ffordd a fyddai wedi gwella diogelwch ar y ffyrdd heb gostio'r holl arian hwnnw?
Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn fy rhoi mewn sefyllfa anodd yn fwriadol, gan ei bod yn gwybod yn iawn beth yw fy marn ar fuddsoddi mewn ffyrdd yn erbyn trafnidiaeth gynaliadwy, ac yn sicr yn ein strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru rydym wedi nodi ein bod, yn y dyfodol, am symud ein pwyslais tuag at newid moddol. O ran y prosiect penodol hwn, fel y gŵyr ac fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrthi, mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn ddull mwy soffistigedig nag y mae hi'n ei ddisgrifio, ac mae'r ffigur a ddyfynnir yn cynnwys y costau cynnal a chadw gydol oes, sy'n sylweddol. Ond mae hi'n iawn i ddweud, o ran mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth i rai o'r cymunedau sy'n wynebu'r amgylchiadau mwyaf heriol yn y wlad, mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud mwy yn y dyfodol i helpu pobl nad oes ganddynt gar, yn hytrach na chadarnhau dibyniaeth ar geir.
Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr yn awr, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o sut y bydd y cyfyngiadau ar y sector lletygarwch mewn perthynas â chyfnod y Nadolig yn effeithio ar economi Cymru?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn cyntaf a manteisio ar y cyfle hwn, gan mai dyma fy sesiwn gwestiynau'r llefarwyr olaf eleni, i ddymuno'r gorau i Russell a phob Aelod yn y Siambr am Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon? Ac o ran lletygarwch, rydym yn llwyr gydnabod y sefyllfa hynod o anodd y mae llawer o fusnesau ledled Cymru yn ei hwynebu o ganlyniad i'r niferoedd cynyddol o ddioddefwyr coronafeirws. Ond rydym wedi rhoi pecyn cymorth digynsail ar waith, y mwyaf hael a chynhwysfawr yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, gyda £340 miliwn o gymorth yn benodol ar gyfer busnesau ym maes twristiaeth, lletygarwch a hamdden yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac am eich dymuniadau da ar gyfer y Nadolig i bob un ohonom. O'm safbwynt i, Weinidog, mae busnesau wedi gwneud eu gorau glas i gydymffurfio ag unrhyw beth y gofynnwyd iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod eu busnesau'n ddiogel rhag COVID i'w staff a'u cwsmeriaid. Mae rhai busnesau bach wedi gwario miloedd o bunnoedd cyn cyfnod y Nadolig i wneud yn union hynny. Ac i roi rhywfaint o gyd-destun i hyn, mae'r diwydiant yn cyflogi tua 140,000 o bobl gyda degau o filoedd o bobl ychwanegol yn bellach ar hyd y gadwyn gyflenwi. Y realiti, yn anffodus, yw y bydd rhai busnesau bach yn mynd i'r wal os na chodir cyfyngiadau ar 17 Rhagfyr ac os cânt eu hatal rhag masnachu'n ddiogel dros gyfnod y Nadolig. Rwy'n credu mai'r sefyllfa waethaf iddynt hwy yw peidio â gwybod a gânt ailagor ai peidio. Felly, a allwch roi rhywfaint o eglurder yn awr i fusnesau ledled Cymru ynglŷn â beth yw'r meddylfryd presennol fel y gallant naill ai gynllunio i ailagor ac archebu'r stoc angenrheidiol, neu gynllunio i gau drwy gydol cyfnod y Nadolig? Ac a wnewch chi ystyried cyflwyno'r cymorth ariannol y sonioch chi amdano yn gynt, oherwydd bydd mis Ionawr yn rhy hwyr i rai?
A gaf fi ddiolch i Russell am ei gwestiynau pellach? Roedd nifer o elfennau i'w gyfraniad. Yn bennaf oll, o ran y cyfyngiadau a'r cyfnod y byddant yn weithredol, dylwn ddweud bod pob cyfyngiad a roddwyd ar waith yn helpu i achub bywydau pobl, ond rydym yn ymwybodol iawn hefyd o'r angen i achub bywoliaeth pobl, a dyna pam rydym yn darparu symiau mor sylweddol o gymorth ariannol. Rydym yn monitro cyfraddau heintio'n gyson. Ar hyn o bryd, mewn rhai rhannau o Gymru, mae'r niferoedd hynny'n eithriadol o uchel ac rydym yn awyddus i'w gostwng mor gyflym ag y gallwn, a golyga hynny fod rhaid i bob un ohonom fel dinasyddion ystyried nid yn unig yr hyn y cawn ei wneud yn gyfreithlon, ond yr hyn y dylem ei wneud i helpu i leihau cyfraddau heintio.
Nawr, o ran y cyfnod pan gynigir cymorth ariannol, bydd unrhyw fusnes a gafodd gymorth ariannol yn ystod y cyfnod atal byr ac sy'n gweithredu o fewn y sector lletygarwch yn cael yr ail daliadau hynny y mis hwn, ac yna bydd y cymorth costau gweithredu a gymhwysir drwy'r gronfa cadernid economaidd ar gael ym mis Ionawr, gan sicrhau, dros gyfnod o ddau fis, fod gan fusnesau fynediad at gymorth ariannol hanfodol a all dalu eu costau gweithredu a mynd i'r afael â'r diffyg trosiant dros yr oddeutu chwe wythnos y bydd y cyfyngiadau hyn yn weithredol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Byddai unrhyw fusnesau yn y sector lletygarwch eisoes wedi prynu stoc ar ddiwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr er mwyn diwallu anghenion y cyfnod hwn a rhwng nawr a'r Nadolig. Felly, i lawer o fusnesau, dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fo llif arian ar ei dynnaf iddynt, a byddwn yn dweud bod cael cyllid ym mis Ionawr, neu hyd yn oed i mewn i fis Chwefror, yn rhy hwyr. Ac os nad yw'n rhy hwyr, bydd yn rhy hwyr i'r cadwyni cyflenwi sy'n llifo o'r busnesau hynny, a dyna’n sicr fyddai fy marn gadarn i.
Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud, Weinidog, yw bod y dull un maint i bawb sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn niweidio busnesau ledled Cymru sydd â chyfraddau heintio a chyfraddau trosglwyddo cymharol isel, a hynny'n ddiangen yn fy marn i. Fe wnaethoch nodi yn eich ateb diwethaf eich bod yn monitro—yn gywir hefyd—lle mae cyfraddau heintio yn arbennig o uchel, ond mae hynny'n amlwg yn golygu bod rhai ardaloedd yng Nghymru lle mae'r cyfraddau'n arbennig o isel. Felly, byddwn yn awgrymu bod angen ymyrraeth wedi'i thargedu arnom wedi’i chefnogi gan wyddoniaeth ac sy'n adlewyrchu'r gwahanol lefelau o risg mewn gwahanol rannau o'r wlad. Felly, a gaf fi ofyn fy nghwestiwn olaf, Weinidog? Pam y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fynnu gweithredu dull ar gyfer Cymru gyfan sy’n effeithio ar fywoliaeth pobl mewn rhannau o Gymru sydd â rhai o'r cyfraddau heintio isaf yn y DU gyfan, ac a yw hyn yn rhywbeth y byddwch chi’n ei ailystyried nawr, cyn cyfnod y Nadolig sydd o'n blaenau yn awr?
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod bob amser yn ystyried mesurau amgen y gellid eu gweithredu, ond wrth gwrs, mae'r dull cenedlaethol yn cynnwys ffordd syml iawn o gyfathrebu â'r cyhoedd ledled Cymru. Ond fel y dywedaf, rydym yn agored i ddulliau amgen o fynd i’r afael â chyfraddau heintio coronafeirws os ydynt yn wahanol iawn ledled y wlad. Nawr, ym mhedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd, rydym wedi ceisio rhoi sylw i'r her y mae llawer o fusnesau yn ei hwynebu yn sgil colli stoc sydd eisoes wedi'i harchebu, ac rydym hefyd wedi gallu gweithredu o fewn—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, fel rwy'n dweud, roeddem hefyd yn gallu rhoi sylw ym mhedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd i'r angen i gefnogi'r gadwyn gyflenwi hefyd, a dyna pam y bydd busnesau yng nghadwyn gyflenwi lletygarwch, megis gwasanaethau glanhau, yn gallu gwneud cais am gymorth.
Ac wrth gwrs, yn union fel y dywed Russell George yn gywir, i lawer o fusnesau ym maes lletygarwch, dyma adeg bwysicaf o'r flwyddyn. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan ellir sicrhau'r lefel uchaf o drosiant. Yn yr un modd, dyma'r adeg yn 2020 pan fo COVID yn fwyaf bygythiol i fywydau pobl ac i'r gwasanaethau iechyd. Rydym yn wynebu heriau enfawr ar draws gwasanaethau'r sector cyhoeddus, ac o fewn yr economi ar hyn o bryd ar ddiwedd 2020, a dyna pam, mewn perthynas â'r economi, ein bod yn sicrhau bod £340 miliwn ar gael—swm enfawr o arian—i helpu busnesau i oroesi hyd at 2021, ac erbyn hynny rydym yn gobeithio y bydd modd defnyddio'r amrywiaeth o frechlynnau mewn ffordd sy'n galluogi'r economi i ddychwelyd at rywbeth tebyg i normalrwydd yn ystod 2021.
Diolch. Trof at lefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ehangu, gyda'r Gweinidog, ar rai o'r materion sy'n ymwneud â lletygarwch a dechrau trwy ddweud ein bod ni ar y meinciau hyn yn glir, gyda Llywodraeth Cymru, fod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd o'r pwys mwyaf. Rydym yn deall hynny ac rydym yn rhannu pryderon y Llywodraeth ynghylch cynnydd COVID. Ond rwy'n ei chael hi'n anodd, Ddirprwy Lywydd, i egluro i fusnesau lletygarwch union natur y cyfyngiadau hyn a beth y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y byddant yn ei gyflawni. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd deall pam ei bod hi’n dderbyniol i bobl o bedair aelwyd gyfarfod amser cinio, ond ni allwch gael pobl o bedair aelwyd yn cyfarfod mewn tafarn ar ôl 6 o'r gloch er y gallent fod ymhellach oddi wrth ei gilydd yn gorfforol nag eraill. Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog fod hyn yn arbennig o anodd i bobl sy'n gweithio. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, rwy'n siŵr, fod llawer o ddynion sy’n gweithio yn ei etholaeth yn mynd am un peint yn rheolaidd ar ddiwedd diwrnod gwaith. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y mae eu hymddygiad yn debygol o fod yn fwy peryglus nag ymddygiad pedwar o bobl yn cael cinio gyda'i gilydd. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog, gan dderbyn mai dyma lle rydym yn awr tan 17 Rhagfyr—ac wrth gwrs, nid ei benderfyniadau ef yn unig yw rhai o'r penderfyniadau iechyd cyhoeddus—a wnaiff roi peth ystyriaeth i ychydig o hyblygrwydd yn yr argymhellion? A allai ystyried caniatáu, er enghraifft, i fusnesau lletygarwch werthu ychydig bach o alcohol ar ôl yr 17eg, a chyfyngu i un neu ddau ddiod yr un? A fyddai’n bosibl ystyried caniatáu, fel y mae’n gwybod bod Plaid Cymru yn ei gynnig, i fusnesau lletygarwch weini tan 7.00 p.m. ac aros ar agor tan 8.00 p.m.? Newidiadau bach yw'r rhain. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld—er fy mod i'n siŵr y bydd y Gweinidog yn fy nghywiro os ydw i'n anghywir—ond rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y byddent yn cael effaith enfawr ar waethygu lledaeniad—
A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben?
—a byddent, wrth gwrs, yn achubiaeth i rai busnesau.
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn a dweud ar y dechrau fod gennyf bob cydymdeimlad â phobl sy'n dioddef ar hyn o bryd o ganlyniad i’r coronafeirws, nid yn unig y rhai sydd â'r coronafeirws ei hun, ond hefyd y bobl sy'n teimlo, oherwydd y cyfyngiadau, fod eu cadernid meddwl a'u gwytnwch emosiynol wedi’i wanhau? Mae'r anallu i gymdeithasu fel y gallem o’r blaen wedi gwneud i lawer o bobl deimlo'n hynod o rwystredig, ac mae gennyf bob cydymdeimlad â dinasyddion yng Nghymru ar hyn o bryd o ganlyniad i'n penderfyniad i osod cyfyngiadau eithriadol o werthfawr i achub bywydau pobl ac i achub y GIG.
Nawr, gallaf sicrhau Helen Mary Jones fy mod i a chyd-Aelodau yn y Cabinet yn ystyried pob gwelliant posibl y gallwch eu dychmygu i'r cyfyngiadau, ond cawn ein cyngor yn bennaf oll gan arbenigwyr iechyd, ac fel y dywedais wrth Russell George, mae pob cyfyngiad a orfodir yn helpu i achub bywydau pobl, a rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i ni ar hyn o bryd—yn union fel y nododd Helen Mary Jones yn gywir, iechyd y cyhoedd yw blaenoriaeth Rhif 1. Ond wrth gwrs, fel y dywedais wrth Russell George ychydig yn gynharach hefyd, i gefnogi'r cyfyngiadau angenrheidiol ar weithgareddau busnes, rydym yn darparu'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr nad oes yr un ohonom yn cenfigennu at y penderfyniadau sy’n rhaid i’r Llywodraeth eu gwneud. Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog, yn ei ymateb i Russell George, yn cyfeirio at fusnesau cadwyni cyflenwi. Ac fe fydd yn ymwybodol, er enghraifft, o'r heriau i Castell Howell, busnes cyflenwi wedi'i leoli yn Crosshands, sy'n dibynnu ar letygarwch ar gyfer 70 y cant o'u busnes. Wrth i Lywodraeth Cymru adolygu cymorth wrth fynd i mewn i'r flwyddyn newydd, a yw'n gallu ein sicrhau y bydd y busnesau cyflenwi hynny’n parhau i gael eu diogelu?
A gaf fi awgrymu i'r Gweinidog fod anghysondeb yn y cyfyngiadau presennol, lle gall archfarchnadoedd a siopau eraill werthu alcohol tan 10.00 p.m., ond rhaid i fusnesau lletygarwch orffen gwneud hynny am 6.00 p.m.? Tybed a yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder y gallai hynny greu perygl o annog pobl i gymdeithasu gartref, ac a wnaiff ystyried p'un a oes modd cyfyngu ymhellach ar y fasnach fanwerthu?
Wrth inni nesu at y flwyddyn newydd, a dechrau gallu gweld pethau'n gwella, gobeithio, bydd y Gweinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, nad yw mis Ionawr a mis Chwefror byth yn adegau arbennig o dda i letygarwch, hyd yn oed pe baent yn agor, a bydd angen cymorth hirdymor. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i roi ystyriaeth bellach i ba gymorth mwy hirdymor a allai fod ar gael i fusnesau i'w helpu i ymadfer, oherwydd, ar ôl colli'r Nadolig, mae hynny'n ddifrifol iawn? A ellid ystyried rhyw fecanwaith, er enghraifft, i leihau costau trwyddedu, sy'n gostau sylweddol, i fusnesau?
Credaf fod llawer o rinwedd yn perthyn i awgrym Helen Mary Jones a byddwn yn sicr yn ystyried hynny ochr yn ochr â mathau eraill o gymorth a allai gynnig manteision strategol i fusnesau wrth inni edrych tuag at adferiad. Roeddwn wedi gobeithio erbyn hyn y byddwn yn gallu amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer ac ailadeiladu'r economi. Fodd bynnag, o ystyried bod coronafeirws yn dal i fod gyda ni ar ffurf mor ddinistriol, roeddwn yn teimlo bod angen cadw fy sylw a fy ffocws ar gymorth brys i fusnesau. Ond yn bendant rydym yn mynd i fod yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod natur ffyniannus hirdymor busnesau yn cael ei diogelu drwy ein gwaith adfer ac ailadeiladu economaidd.
Credaf fod Helen Mary Jones yn gwneud y pwynt pwysig fod busnesau—cyflogwyr o gryn bwys yng Nghymru—o fewn y gadwyn gyflenwi ar gyfer lletygarwch wedi ei chael hi'n anodd, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r busnesau hynny yn ystod yr wythnosau nesaf i sicrhau bod unrhyw gymorth yn y dyfodol yn cael ei deilwra i ddiwallu eu hanghenion ac anghenion eu gweithwyr hefyd. Ac wrth gwrs, mae ymddygiad pobl yn hanfodol bwysig—yn enwedig ar yr adeg enbyd hon wrth inni nesáu at y Nadolig. Ac mae cyfyngiadau ar waith; bydd rhywfaint o ymlacio dros gyfnod y Nadolig, ond fel y dywedais eisoes, mae'n gwbl hanfodol fod pobl yn gofyn beth y dylent ac na ddylent ei wneud er mwyn diogelu bywydau—o ran ymddygiad, sut y gallant sicrhau bod eu hanwyliaid, eu ffrindiau, yn cael eu diogelu—a'r ffordd orau o wneud hynny yw cymryd cyfrifoldeb personol a sicrhau nad ydych chi, na'ch anwyliaid, mewn perygl o drosglwyddo neu o ddal coronafeirws.
Credaf fod y Gweinidog yn iawn i oedi cyn cyhoeddi'r gwaith ailadeiladu a'r cynlluniau ailddatblygu ac i ganolbwyntio ar yr argyfwng ar hyn o bryd. Ond wrth inni symud tuag at y cam hwnnw, tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno fod y penderfyniad siomedig a gyhoeddwyd gan Ineos ddoe yn dangos bod gwir angen inni ailffocysu ein cymorth i fusnes ar fusnesau lleol er mwyn galluogi ein busnesau bach i dyfu'n rhai canolig eu maint. Rydym wedi gweld gormod o achlysuron lle rydym wedi buddsoddi i geisio denu busnesau i mewn ac maent wedi ein siomi. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddai'n cytuno y gallai fod elfen Brexit i'r penderfyniad hwn.
Felly, wrth iddo ailarchwilio ei gynlluniau ailadeiladu, a all fy sicrhau y bydd ffocws cryf ar fusnesau lleol ac ar dyfu'r rheini a sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt? A all roi rhyw syniad inni pa gynlluniau a allai fod ar gyfer y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ei bod bellach yn bendant fod Ineos wedi troi eu cefnau?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau eto a dweud ei bod yn siomedig iawn fod Ineos wedi penderfynu symud i Ffrainc gyda'u rhaglen Grenadier? Mae hwn, wrth gwrs, yn gerbyd eiconig i'r Deyrnas Unedig, ac mae'n ergyd ddinistriol yn fy marn i i gefnogwyr y Defender gwreiddiol, a oedd yn gobeithio y byddai'r Grenadier yn cael ei weithgynhyrchu ar yr ynysoedd hyn. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, daeth safle ar gael yn Ffrainc a oedd yn gweddu i anghenion Ineos, ac wrth gwrs, mae Brexit yn fater na all llawer o weithgynhyrchwyr ei anwybyddu. Felly, gwnaeth Ineos y penderfyniad ac fel y dywedais, roeddem yn siomedig iawn pan glywsom amdano.
Ond mae potensial enfawr i'r safle hwn yn ne Cymru. Rydym yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol a chydag arbenigwyr tasglu Ford yr ymgysylltwn â hwy'n rheolaidd, er bod y tasglu ei hun bellach wedi rhoi'r gorau i'w weithgarwch. Rydym yn obeithiol y gallwn ddenu swyddi o ansawdd uchel i'r safle penodol hwnnw.
Rhaid i mi gytuno â Helen Mary Jones yn ei honiad fod yn rhaid inni gryfhau ein hymdrechion i dyfu cwmnïau bach a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i ddod yn fusnesau canolig eu maint, ac i sicrhau eu bod wedi'u hangori'n gadarn yng Nghymru. Ni allaf fanylu gormod heddiw—ni ddylwn fanylu gormod heddiw—ynglŷn â'r genhadaeth ailadeiladu ac adfer a fydd yn cael ei hamlinellu, ond gallaf ddweud wrth yr Aelodau y bydd pump o elfennau wedi'u cynnwys ynddi, a bydd o leiaf un o'r elfennau hynny'n ateb y diben o gefnogi cwmnïau bach cynhenid Cymru, gan eu galluogi i fod yn fwy diogel a gwydn ac i dyfu i ddod yn ganolig eu maint a chyflogi mwy o bobl Cymru.
Diolch. Dychwelwn at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3—Mandy Jones.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y llwybr coch yn sir y Fflint? OQ56006
Gwnaf, wrth gwrs. Mae ymchwiliadau amgylcheddol ar y gweill ar hyd y llwybr ac rydym yn bwrw ymlaen â'r broses o gaffael cynllunydd i ddatblygu'r cynllun yn fanylach. Yn dibynnu ar y prosesau statudol, gallai'r gwaith cynllunio manwl a'r adeiladu ddigwydd o 2024 ymlaen.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi cael cannoedd—yn llythrennol, cannoedd—o negeseuon e-bost am y llwybr coch, ac ysgrifennais atoch yn yr haf am hyn; diolch i chi am eich ateb. Gwn eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn llythyr ym mis Hydref. Mae etholwyr yng ngogledd Cymru'n dal i fynegi eu pryderon hyd yn oed heddiw. Pa eiriau o gysur y gallwch eu rhoi iddynt i'w sicrhau y bydd y cynllun mor ystyriol â phosibl o'n bywyd gwyllt a'n hecosystemau? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno bod yna bryderon rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â hwy drwy gynnal yr arolygon manwl hynny, drwy ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid sydd wedi mynegi pryderon, ac wrth gwrs, rydym yn ymgysylltu â'r cymunedau yn yr ardal. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol ac at gynghorwyr, ac at y rhai sy'n byw o fewn 500m i'r llwybr, i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n digwydd.
Mae'r cynllun penodol hwn yn hanfodol bwysig i weledigaeth metro gogledd Cymru hefyd, gan sicrhau y gallwn symud traffig oddi ar briffordd allweddol yr A494/A55 i'n galluogi i lunio llwybrau bysiau pwrpasol, lonydd bysiau a llwybrau teithio llesol hefyd, na allant fodoli ar hyn o bryd am nad oes lle yno i'w darparu.
Weinidog, rydych yn ymwybodol fy mod yn gefnogwr i'r llwybr coch, ond rwy'n croesawu hefyd eich ymgysylltiad â'r rhai sydd â phryderon ynghylch y llwybr coch—y materion amgylcheddol—a chredaf eich bod yn gweithio'n dda ar fynd i'r afael â'r rheini. Rydych wedi sôn am bwysigrwydd y prosiect hwn i fetro gogledd Cymru, ond tybed a allech amlinellu pa fudd y byddai'n ei gyfrannu i economi leol gogledd-ddwyrain Cymru.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn a dim ond ychwanegu at y pwyntiau roeddwn yn eu gwneud yn sgil cwestiwn Mandy Jones fod y prif bryder ar hyn o bryd ynglŷn â'r effaith amgylcheddol yn ymwneud â'r effaith y gallai ei chael ar goed Leadbrook? Nawr, byddai'n llai na 5 y cant o effaith ofodol, ond wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda grwpiau rhanddeiliaid. Rydym yn ceisio ymgysylltu gymaint ag y gallwn â hwy i edrych ar ffyrdd o liniaru ymhellach yn erbyn yr effaith ac yn wir, yn mynd y tu hwnt i hynny a gwneud iawn drwy gynyddu faint o goedwig sy'n bodoli yn yr ardal benodol honno o Gymru.
Ac o ran yr economi, rwy'n siŵr y bydd Jack Sargeant yn ymwybodol o'r gefnogaeth gref i'r cynllun gan weithwyr busnes proffesiynol Glannau Dyfrdwy a chyngor busnes gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Credaf fod cymhareb cost a budd hyn yn fwy na dau, a fyddai'n golygu y câi ei ystyried yn fuddsoddiad gwerth uchel.
Ond wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mwy na sicrhau bod gennym lwybr mwy gwydn i mewn i ogledd Cymru—yn bennaf, mae'n ymwneud â darparu metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen inni leihau'r traffig ar y coridor presennol, yr A55/A494. Rhagwelir y bydd y cynllun hwn yn lleihau traffig ar y coridor penodol hwnnw rhwng 25 y cant a 35 y cant, gan ein galluogi i weithredu coridorau bysiau pwrpasol, llwybrau bysiau, cludiant cyflym ar fysiau. Byddai hefyd yn ein galluogi i gael gwared ar y llwybr tarw yn ardal Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n siŵr fod Jack Sargeant yn ymwybodol iawn o hwnnw, a byddai'n ein galluogi i ddefnyddio'r gofod y gellid ei gaffael i weithredu mwy o lwybrau teithio llesol.
Ar sawl adeg dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi dwyn pryderon etholwyr i'ch sylw ynglŷn â'r llwybr coch arfaethedig i'r A55 yn Llaneurgain, gan nodi problemau, yn cynnwys effaith amgylcheddol ar gynefinoedd, dolydd a choetir hynafol. Rydych hefyd, fel y clywsom, wedi cael sylwadau helaeth ynglŷn â hyn i gefnogi'r llythyr agored gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a anfonwyd atoch chi a'r Prif Weinidog, yn gofyn i chi roi'r gorau i'r cynigion, ac wedi clywed galwad y Pwyllgor Deisebau i atal y cynllun nes bod newidiadau i lif traffig, oherwydd newidiadau mewn patrymau cymudo, yn cael eu hystyried.
Ym mis Hydref, fe ysgrifennoch chi eich bod yn gweld y buddsoddiad yn y cynllun hwn yn rhan hanfodol o'r gwaith ehangach i wella'r seilwaith trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru. Felly pa waith ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid rydych chi'n ei gynllunio nawr ynglŷn â hyn, wedi iddo gael ei ohirio gan COVID? A pham eich bod wedi diystyru atebion amgen eraill a awgrymwyd i leddfu tagfeydd ar goridor yr A55, yr A494 a choridor yr A548 yng Nglannau Dyfrdwy?
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau ynglŷn â'r cynllun penodol hwn? Dylwn nodi hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod cynyddu'r gofod ffordd sydd ar gael yng ngogledd Cymru ar yr A55 yn nodwedd allweddol ym maniffesto Plaid Geidwadol y DU wrth gwrs, felly dylid cydnabod bod plaid Mark Isherwood ei hun yn cefnogi mesurau a fyddai'n gweld mwy o draffig yng ngogledd Cymru ar y briffordd honno, y ffordd gyflym. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud gyda'r llwybr coch yw mynd â'r traffig presennol oddi ar briffordd allweddol a'i roi ar briffordd arall, fel y gallwn greu ateb trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol sy'n gynaliadwy ar gyfer ardal fwyaf trefol gogledd Cymru.
Mae Mark Isherwood yn iawn i ddweud bod COVID-19 wedi cael effaith o ran ymgysylltu â'r gymuned. Ein bwriad oedd cynnal digwyddiadau gwybodaeth i'r cyhoedd yn ystod y gwanwyn eleni. Ond wrth gwrs, ni allai hynny ddigwydd o ganlyniad i'r pandemig, ond rydym yn adolygu ein gweithgarwch ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid yn barhaus er mwyn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ac yn ddiogel wrth gwrs, wrth i'n gwaith ar y cynllun hwn gyflymu.
O ran rhai o'r awgrymiadau amgen sydd wedi'u codi, rydym wedi ymchwilio i bob awgrym arall a gafodd eu dwyn i'n sylw—rhai cynlluniau amgen eithaf enfawr, ac eraill yn gynlluniau llai a gynlluniwyd i fynd i'r afael â mannau cyfyng. Ond penderfynwyd mai'r llwybr oedd y mwyaf addas ar gyfer yr her sy'n ein hwynebu yn yr ardal benodol honno o Gymru.
Ac o ran arolygon traffig a thrafnidiaeth, cânt eu cynnal yn rheolaidd. Cynhelir arolygon trafnidiaeth a thraffig pellach, yn enwedig ar gyfer asesu sut y gallai coronafeirws fod wedi effeithio ar drafnidiaeth a phrysurdeb traffig yn y tymor hir. Ond dylid nodi, yn yr un modd, fod traffig ar yr A55 wedi cynyddu'n ôl i lefelau cyn COVID ym mis Awst eleni, gan ddangos bod yr A55 yn wahanol iawn i'r M4 gan fod llawer mwy o draffig sy'n gysylltiedig â'r economi ymwelwyr yn rhedeg ar hyd-ddi a thraffig cludo nwyddau hefyd, ac wrth gwrs, traffig sy'n gysylltiedig â diwydiannau gweithgynhyrchu, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, diwydiannau na all canolfannau gweithio o bell ddarparu ar eu cyfer i'r un graddau ag y gellir ei wneud gyda gwaith clerigol, yn anffodus. Felly, mae'n brosiect unigryw ar gyfer problem unigryw.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol gwaith dur Trostre yn Llanelli? OQ56005
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn? Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Tata Steel, gyda Llywodraeth y DU a'r undebau ar ddyfodol y busnes yn y DU. Siaradodd y Prif Weinidog a minnau â Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel, ar 13 Tachwedd. Rwyf hefyd wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ers hynny, a chynrychiolwyr undebau llafur wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Pan fyddwn yn trafod y diwydiant dur yng Nghymru, rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar Bort Talbot, ac yn amlwg, mae hynny'n hollbwysig. Ond a gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi ei sicrwydd personol i ddinasyddion Llanelli a'r gweithwyr yn Nhrostre, pan fydd yn cael y trafodaethau hyn—ac rwyf mor falch o glywed ei fod—y bydd yn cofio ei fod yn fater sy'n ymwneud â mwy na Phort Talbot yn unig, ac y gallai penderfyniadau a wneir am ddyfodol Port Talbot effeithio ar ddyfodol posibl yr hyn sy'n waith pwysig iawn, ond mewn niferoedd llawer llai? I ardal teithio i'r gwaith Llanelli ac wrth gwrs, i'w cadwyni cyflenwi, maent yn swyddi pwysig iawn o ansawdd da.
Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Yn wir, mae'n rhywbeth a geisir yn rheolaidd gan fy nghyd-Aelod a'r Aelod lleol dros Lanelli, Lee Waters. I gydnabod bod maint yr her y mae Tata yn ei hwynebu yn rhywbeth na all ond Llywodraeth y DU gynorthwyo ag ef, mae ef a Llywodraeth Cymru, ar wahân, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd i weithredu mewn ffordd gyfrifol. Deallaf fod oddeutu 630 o bobl hynod fedrus yn cael eu cyflogi yng ngwaith Trostre, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod ganddynt ddyfodol gloyw, ochr yn ochr â'r gweithwyr ffyddlon yn safleoedd eraill Tata ledled Cymru.
Rydym wedi trafod y berthynas gynhenid rhwng Trostre a Phort Talbot droeon yn y Siambr hon, ac nid cynrychiolwyr Llanelli yn unig oedd yn ofni colli Trostre pan oedd sôn am uno gyda Thyssenkrupp. Rydym hefyd wedi ailadrodd y camau y gallai'r ddwy Lywodraeth eu cymryd i wneud cynhyrchiant dur Cymru yn fwy cystadleuol. Beth bynnag fydd yn digwydd yn ystod y dyddiau nesaf, Weinidog, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd Llywodraeth y DU yn ein clymu'n barhaol at reolau cymorth gwladwriaethol yr UE, felly yn ogystal â chwilio am farchnadoedd newydd ar gyfer cynnyrch dur Cymru, faint o gyfle a gewch, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, i gysylltu cymorth uniongyrchol y Llywodraeth yn y dyfodol i gefnogi proffidioldeb i weithgynhyrchwyr dur sydd â thargedau datgarboneiddio penodol?
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Mae'n gwestiwn hynod ddiddorol; mae potensial enfawr yn y maes hwn. Wrth gwrs, mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn arwain arno yn bennaf, ond rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn edrych ar bob cyfle i roi'r dyfodol gorau posibl i'r sector dur yng Nghymru ac yn wir, ar draws y DU. O ran Trostre, wrth gwrs, mae'n cynhyrchu cynnyrch dur yn bennaf at ddibenion pecynnu bwyd, ac rydym yn buddsoddi'n helaeth iawn mewn cyfleusterau ymchwil a datblygu, yn enwedig i'r sector dur, yn yr ardal o amgylch Abertawe a mannau eraill mewn perthynas â phecynnu bwyd. Rwy'n credu bod ganddo ddyfodol cadarnhaol iawn. Ond mae'r awgrymiadau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn rhai dilys iawn, ac maent yn awgrymiadau rydym yn gweithio arnynt gyda swyddogion Llywodraeth y DU.
Weinidog, nododd Helen Mary Jones yn gywir fod gwaith Trostre a gwaith Port Talbot wedi'u cysylltu'n agos iawn; mae'r ddau'n aelodau o grŵp Tata. Mae Trostre yn gleient i lawr y gadwyn i Tata Port Talbot, ac felly mae dyfodol Port Talbot wedi'i gysylltu'n glir â dyfodol Trostre yn yr ystyr hwnnw. Rydych wedi nodi eich bod wedi cael trafodaethau gyda Gweinidogion, ond pan godwyd hyn gennym yn y cyhoeddiad a wnaeth Tata am wahanu elfen ddur y DU oddi wrth Tata Europe, nododd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi gofyn am gyfarfod â Phrif Weinidog y DU, neu drafodaeth dros y ffôn. A ydych yn ymwybodol p'un a yw'r drafodaeth honno wedi digwydd gyda Phrif Weinidog y DU, ac a ydych wedi cael trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes, Alok Sharma, i edrych ar ddyfodol dur? Mae datgarboneiddio yn un agenda, ond bydd ffwrneisi arc yn golygu y bydd Port Talbot yn colli llawer iawn o weithwyr a swyddi—nid gweithwyr uniongyrchol yn unig, ond cyflenwyr hefyd.
Mae Dai Rees yn gwneud y pwynt pwysig fod rhaid i newid i dechnolegau amgen ddigwydd dros gyfnod o amser sy'n caniatáu i gynifer â phosibl o weithwyr medrus gael eu cadw. Mewn ymateb uniongyrchol i'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn, rwyf wedi gofyn am gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS; yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd eto. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn ymgysylltu'n rheolaidd iawn â Nadhim Zahawi, sydd wedi bod yn hynod o ymatebol i'n galwadau. Byddai angen i mi edrych, ond hyd y gwn i, yn anffodus nid yw Prif Weinidog y DU wedi ymateb i gais Prif Weinidog Cymru am drafodaeth. Ond fe edrychaf i weld ynglŷn â hynny ac fe wnaf yn siŵr fod yr Aelodau'n cael gwybod beth oedd canlyniad y llythyr a anfonwyd gan Brif Weinidog Cymru.FootnoteLink
5. Pa effaith y bydd argymhellion yr adroddiad Un Rhanbarth, Un Rhwydwaith, Un Tocyn gan Gomisiynydd Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn ei chael ar wasanaethau rheilffordd yn Islwyn? OQ56017
Rydym yn croesawu'n fawr y cyfeiriad y mae'r adroddiad yn mynd iddo ac rydym yn ystyried yr argymhellion yn fanwl. Mae angen i welliannau i reilffordd Glynebwy fod yn rhan o'r pecyn o welliannau ac estyniadau i seilwaith rheilffyrdd ar draws y rhanbarth.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod ar flaen y gad ers tro yn y gwaith o drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn Islwyn. Yn 2008, ailagorodd Llywodraeth Lafur Cymru wasanaeth rheilffordd teithwyr Glynebwy i Gaerdydd sy'n gwasanaethu cymunedau Islwyn yn Crosskeys, Trecelyn, a Rhisga a Phontymister. Mae wedi profi'n un o lwyddiannau trafnidiaeth mawr datganoli yng Nghymru, felly rwy'n falch o weld bod yr Arglwydd Burns yn argymell, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi gwneud sylwadau yn ei gylch yn y Siambr hon, y dylai'r rheilffordd hon gynnwys gwasanaeth bob awr nawr i wasanaethu fy etholwyr a dinas Casnewydd hefyd. Rydych wedi nodi'n briodol, Weinidog, fod y math o deithiau sy'n llenwi'r ffordd hon ac yn achosi tagfeydd yn rhai y gellid eu gwasanaethu'n hawdd gan drafnidiaeth gyhoeddus, pe bai'n gystadleuol o ran cost, amser teithio a chyfleustra. Felly, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau ymhellach fod cost teithiau trên yn cael ei chadw'n isel, fod amseroedd teithio'n gyflym a bod gwasanaeth rheolaidd a chyfleus i fy etholwyr yn Islwyn?
Yn gyntaf, ar y gost, o fis Ionawr ymlaen, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru—mis Ionawr eleni—fod pris tocynnau'n cael ei ostwng ganran, sydd wedi bod yn mynd yn groes i'r duedd. Yn amlwg, yr ateb go iawn i docynnau fforddiadwy dros amser yw sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gyhoeddus lwyddiannus sy'n cael ei defnyddio'n helaeth, a bod gennym fuddsoddiad parhaus ynddi. O ran rheilffordd Glynebwy, fel y gŵyr yr Aelod, rydym wedi datblygu cynllun drwy Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwasanaeth ychwanegol bob awr i weithredu rhwng Crosskeys a Chasnewydd o fis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, ac rydym yn mynd ar drywydd cyllid y DU i'n helpu i ymestyn hynny. Rydym wedi cyflwyno cais i gronfa syniadau carlam Adfer eich Rheilffordd Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid i ddatblygu'r gwaith o ailagor cangen Abertyleri, felly rydym bellach yn aros am benderfyniad ar y cais penodol hwnnw. Mae seilwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn bwnc nad yw wedi'i ddatganoli, ac fel y dywedasom o'r blaen, nid ydym wedi bod yn cael ein cyfran yn ôl maint y boblogaeth o arian seilwaith rheilffyrdd. Ceir diffyg o oddeutu £5 biliwn sydd wedi bod yn ein hatal rhag mynd ar drywydd y math o fuddsoddiadau y mae Rhianon Passmore, yn briodol iawn, yn ein gwthio i'w gwneud.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ56015
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym wedi darparu, a byddwn yn parhau i ddarparu, cymorth ariannol sylweddol i sicrhau bod y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt yn parhau i weithredu, gan alluogi mynediad cynaliadwy at swyddi, addysg a gwasanaethau.
A yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn iawn i Lywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, fod yn berchen ar orsafoedd Henffordd, Amwythig a Chaer a'u gweithredu, ac os felly, faint o arian y bydd trethdalwyr Cymru yn ei fuddsoddi ynddynt dros y blynyddoedd nesaf?
Mae'r gorsafoedd hynny'n rhan o rwydwaith Cymru a'r gororau ac mae'r buddsoddiad sydd wedi digwydd yn y gorsafoedd hynny, wrth gwrs, ynghlwm wrth y setliad a gawn gan Lywodraeth y DU. Mae'r gorsafoedd hynny'n aml yn cael eu defnyddio gan gymudwyr Cymru hefyd, gan gydnabod natur fân-dyllog y ffin. Ond rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol cydnabod, gyda threfniadau'r fasnachfraint bellach yn dod i berchnogaeth gyhoeddus, y byddwn yn chwilio am werth am arian o'r gwasanaethau a ddarperir a'r buddsoddiad sy'n digwydd yn y gorsafoedd hynny, ond yn yr un modd rydym yn benderfynol o sicrhau bod pobl yn cael y profiad gorau y gallant ei gael pan fyddant yn teithio ar drên ar fasnachfraint Cymru a'r gororau o un pen i'r llall.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi strategol mewn trafnidiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OQ56009
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn buddsoddi ym mhob dull i greu system drafnidiaeth integredig sy'n cyfrannu at fetro de-ddwyrain Cymru ac sy'n dod â manteision i ardal Merthyr a Rhymni a'r rhanbarth ehangach.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn wahanol i rai eraill sydd wedi gwneud sylwadau ar gam olaf y gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, rwy'n edrych ymlaen at y manteision niferus a fydd yn codi yn fy etholaeth, yn amrywio o'r gwaith o'i hadeiladu i wella diogelwch ar ddarn peryglus iawn o ffordd a'r gwelliant dilynol i seilwaith, gan wneud y rhan hon o'r Cymoedd gogleddol yn gynnig mwy deniadol ar gyfer buddsoddi a datblygu economaidd. Yn ogystal, mae'r buddsoddiadau trên a bws i'r metro hefyd yn ffyrdd pwysig o gael swyddi a phobl o Gaerdydd a mannau eraill i fyw a gweithio yn y Cymoedd. Yn amlwg, fel y nodwyd eisoes, bydd y seilwaith trafnidiaeth hwn yn hanfodol i economi'r Cymoedd gogleddol yn arbennig, ond mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd mewn gwelliannau pellach i gysylltedd digidol yn fy etholaeth i a choridor ehangach Blaenau'r Cymoedd. Felly, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r cysylltedd digidol hwnnw yn ogystal â'r buddsoddiad trafnidiaeth sydd i'w groesawu'n fawr?
Wrth gwrs, mae cysylltedd digidol yn gwbl hanfodol yn yr oes fodern, ac rydym bob amser wedi bod o'r farn yn Llywodraeth Cymru y dylid trin band eang cyflym fel cyfleustod allweddol ac y dylai fod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol briodol ar waith. Ond wrth gwrs, fel y gŵyr Dawn Bowden, nid yw polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ond rydym wedi camu i mewn dro ar ôl tro. Rydym yn camu i mewn unwaith eto i gyflwyno ffeibr i 39,000 o adeiladau eraill ledled Cymru. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda thechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu, technolegau amgen, i wella cysylltedd, gan gynnwys defnyddio technoleg celloedd bach. Ac wrth gwrs, byddwn wedi clywed yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU am ei chynlluniau uchelgeisiol i ddarparu band eang ffeibr llawn i bob cartref yn y DU ac i bob busnes yn y DU. Maent wedi addo gwario £5 biliwn rhwng nawr a 2033 ar y cynllun penodol hwnnw, ac rydym yn ceisio sicrwydd o gyllid digonol i Gymru. Dylai'r cyllid digonol hwnnw gydnabod anghenion cartrefi, topograffeg Cymru a busnesau Cymru, a'r heriau anhygoel sy'n ein hwynebu gyda'i ddarparu yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog pontio Ewropeaidd. Daw cwestiwn 1 y prynhawn yma gan David Rowlands.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin? OQ56010
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin y DU ar y setliad datganoli? OQ55988
Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am y gronfa ffyniant gyffredin wedi torri pob addewid i bobl Cymru, gan gynnwys na fyddem yn waeth ein byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn parhau i herio unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddargyfeirio materion sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Mae'n ddrwg gennyf, a gaf fi ofyn—? A yw'r Llywodraeth wedi cytuno i grwpio hwn gyda chwestiwn 6?
Maddeuwch i mi, Ddirprwy Lywydd. Do, yn wir. Maddeuwch i mi.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, David.
Diolch. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, rwy'n cefnogi Brexit yn frwd. Fodd bynnag, rwyf bob amser wedi dadlau y dylai pob cymhwysedd a ddychwelir i Lywodraeth y DU sy'n gymhwysedd datganoledig gael ei drosglwyddo i'r Llywodraethau datganoledig yn ei gyfanrwydd. Mae hyn hefyd yn wir am unrhyw fuddion ariannol sy'n deillio o adael yr UE. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn amlygiad o'r budd ariannol hwnnw. Felly, rwy'n annog y Cwnsler Cyffredinol i bwysleisio i Lywodraeth y DU y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennych i hyn gael ei weithredu yn y fath fodd fel mai Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ble y caiff yr arian hwnnw ei wario.
Wel, diolch i David Rowlands am y cwestiwn pellach hwnnw. Pe baem yn dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, o fis Ionawr ymlaen, byddai Cymru wedi cael dyraniad blwyddyn lawn o tua £375 miliwn, yn ogystal â'r taliadau sydd eisoes yn cael eu gwneud drwy'r rhaglenni presennol. Fel y gŵyr, yn lle hynny nawr bydd cronfa gwerth £220 miliwn ledled y DU, ac nid oes manylion o hyd ynglŷn â sut y caiff yr arian hwn ei ddosbarthu. Rwy'n falch o allu dibynnu ar ei gefnogaeth i’n hymgyrch barhaus dros ewyllys pobl Cymru fod arian yn cael ei roi yn lle'r holl arian hwn, a bod materion sy'n ymwneud â'r cronfeydd hynny yn cael eu datganoli i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy niddordeb yn y rôl ddi-dâl o gadeirio grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, ond mae fy nghwestiwn y tu hwnt i waith y grŵp hwnnw. Rwyf wedi derbyn sylwadau, Weinidog, gan gynrychiolwyr o'r sector addysg uwch yng Nghymru, gyda'u pryderon ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU a chynigion Llywodraeth y DU. A nodant y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn dechrau fel rhaglen beilot, gyda chyfanswm o £200 miliwn ar gyfer y DU gyfan, tra bod Cronfa Trefi Lloegr, mewn cyferbyniad—Lloegr yn unig—wedi cael £4 biliwn ac wedi’i sefydlu'n gyflym. Ac maent yn nodi'r gwahaniaeth rhwng addewid y Blaid Geidwadol ym maniffesto 2019, sy'n dweud,
Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn...mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ym mhob un o'n pedair gwlad.
Ac
o leiaf—
dyma'r geiriau—
yn cyfateb i faint y cronfeydd hynny ym mhob gwlad.
Nid ydynt yn deall yr anghysondeb rhwng addewid y maniffesto a manylion yr adolygiad. Felly, Weinidog, a allech chi ein helpu ni a'n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i ddeall yr anghysondeb clir rhwng yr hyn a addawyd a'r hyn sydd ar gael nawr?
A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am y gwaith y mae wedi'i wneud, gydag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru, yn cadeirio'r grŵp a wnaeth, i helpu'r Llywodraeth i ddyfeisio'r fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, a gyhoeddwyd hanner ffordd drwy'r mis diwethaf? Roedd yn gynnyrch cydweithredu a chreadigrwydd mawr, ac mae'n adlewyrchu buddiannau amrywiaeth o randdeiliaid gwahanol, ym mhob sector yng Nghymru, gan gynnwys y rhai y mae'n sôn amdanynt yn ei gwestiwn. Bydd yn gwybod gystal â minnau mai'r hyn y mae pobl a sefydliadau a busnesau a sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ei eisiau yw cyllid teg a thryloyw, yn hytrach na gwleidyddiaeth pot mêl. Ac rwy'n credu mai dyna pam y maent wedi dangos eu cefnogaeth i’r fframwaith y mae wedi ein helpu i'w ddyfeisio.
Nawr, mae dwy elfen i hyn. Un ohonynt yw'r elfen gyfansoddiadol—ac rydym eisoes wedi trafod honno heddiw, a gwn ei fod yn rhannu fy marn ei bod yn warthus, mewn gwirionedd, mai'r dull y mae Llywodraeth y DU wedi’i fabwysiadu yw osgoi hynny. Ond mae manteision ymarferol iawn i hyn hefyd, fel y gwn ei fod yn gwybod. Rhan o'r weledigaeth sydd gennym fel Llywodraeth yw galluogi'r cronfeydd hyn i gael eu hintegreiddio â chronfeydd eraill sydd ar gael o wahanol ffynonellau, i'w cyflenwi ar lawr gwlad drwy'r rhwydwaith cyflenwi sydd gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid yng Nghymru eisoes, a'u hadeiladu a'u dyfeisio ar sail cydweithredu, gweithio ar y cyd, ymgynghori a chydgynllunio. Nid oes yr un o'r rheini'n nodweddion o'r hyn a ddeallwn yw dull Llywodraeth y DU o weithredu, ac mae pob un ohonynt yn nodweddion o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld yn y dyfodol.
Gwnsler Cyffredinol, rydym wedi gweld Llywodraeth Dorïaidd y DU yn siarad dro ar ôl tro am ei hagenda lefelu am i fyny, ond prin oedd y dystiolaeth o hynny yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ddiweddar mewn perthynas â Chymru. A nawr, wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod pontio, mae'r addewid mynych na fyddem geiniog yn waeth ein byd ar ôl Brexit yn edrych yn go dila, wrth i'r Canghellor roi rhagor o fanylion am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o'r gronfa ffyniant gyffredin, sut y bydd yn cyflawni ei haddewid fel cronfa addas a phriodol yn lle cronfeydd strwythurol yr UE, yn enwedig mewn ardaloedd fel fy un i?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw. Hoffwn fod mewn sefyllfa i roi asesiad iddi o'r gronfa ffyniant gyffredin, ond nid yw'r manylion prin a roddodd y Canghellor i ni yn yr adolygiad o wariant yn ein galluogi i wneud hynny'n hyderus. Nawr, bydd yn gwybod, fel rwyf fi, fod rhaglenni a busnesau a sefydliadau, sefydliadau mewn cymunedau ledled Cymru a fydd wedi gobeithio y byddai rhaglenni ar waith ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd, er mwyn parhau i gyflawni’r manteision i gyflogadwyedd, twf, pontio i fod yn ddi-garbon, a'r holl fanteision eraill rydym wedi'u cael o gyllid hyd yma. Ac nid ydynt yn y sefyllfa honno gan nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu manylion am raglenni sydd i ddod, a gwyddom eisoes y bydd cyllid y flwyddyn nesaf yn gyfran fach iawn o'r hyn y byddem wedi'i ddisgwyl fel arall, a'r hyn a addawyd i bobl Cymru yn wir. Mae'n un o restr hir o addewidion a dorrwyd gan y Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch Porthladd Caergybi ar ôl i gyfnod pontio'r UE ddod i ben? OQ55989
Rwyf wedi trafod effaith diwedd y cyfnod pontio ar borthladd Caergybi gydag amryw o bobl, gan gynnwys Llywodraeth y DU, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i gyflawni ei rhwymedigaethau yng nghyd-destun yr amserlen dynn iawn sydd wedi'i gorfodi arnom.
Diolch. Mae ‘Cynlluniau Traffig wrth Gefn ar Ddiwedd y Cyfnod Pontio—Caergybi’, datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn cyfeirio at waith gyda phartneriaid ledled gogledd Cymu, sy'n dda, ond mae'n hepgor cyfeiriad at ei waith gyda Llywodraeth y DU, a chyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi—CThEM—ac at y rôl allweddol sy'n cael ei chwarae gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie. Bythefnos yn ôl, dywedodd perchennog y porthladd, Stena Line, y bydd y broses, ac rwy’n dyfynnu, yn 'llyfn'. Mae Llywodraeth y DU a CThEM wedi datgan eu bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r porthladd ar hyn. Yr wythnos diwethaf, cawsom wybod bod Roadking Truckstop Caergybi wedi'i sicrhau fel man tollau newydd, a ddoe, daeth y DU a'r UE i gytundeb ar archwiliadau ar y ffin â Gogledd Iwerddon, gan sicrhau mynediad dirwystr i nwyddau sy'n dod o Ogledd Iwerddon i rannau eraill o'r DU, gyda nifer fach o archwiliadau rhagofalus ar fwyd a chynhyrchion anifeiliaid sy’n mynd i Ogledd Iwerddon.
Felly, pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael mewn gwirionedd â Llywodraeth y DU a CThEM ynglŷn â'r materion allweddol hyn?
Wel, rwyf wedi adrodd i'r Siambr hon droeon am y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU a CThEM mewn perthynas â pharatoadau ar gyfer Caergybi. Mae'n dechrau gyda'r sylw fod unrhyw darfu yn ganlyniad dewisiadau gwleidyddol y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud mewn gwirionedd. Nawr, yr hyn rydym yn ei wneud, gyda hwy a chydag eraill, yw ceisio lleihau effaith dewisiadau y mae ei Lywodraeth yn San Steffan wedi'u gorfodi ar bobl gogledd Cymru. Dyna yw’r cefndir i hyn. A'r hyn rydym yn ei wneud yw cydweithio'n gydweithredol â Llywodraeth y DU, CThEM, y cyngor, a phartneriaid eraill, er mwyn lliniaru'r difrod hwnnw.
Fel y gwyddoch, hyd yma mae Llywodraeth y DU wedi arwain ar y cwestiwn o geisio lleoliad ar gyfer y pwynt gwirio, fel petai. Y bwriad yw y bydd y gwaith tollau a rheoli ffiniau yn cael eu lleoli yn agos at ei gilydd er mwyn lleihau'r anghyfleustra i gludwyr nwyddau. Mae trafodaethau masnachol yn mynd rhagddynt mewn perthynas â safle, felly ni fyddaf yn gwneud sylw pellach ynglŷn â hynny. Ond y gwir amdani yw, ac rwy'n dweud hyn fel mater o ffaith, y dylai'r penderfyniadau hyn fod wedi'u gwneud yn ôl ym mis Mawrth, ym mis Ebrill, a gellid bod wedi'u gwneud bryd hynny, ac yn hytrach maent yn cael eu gwneud yn erbyn pwysau amser aruthrol. A'r bobl a fydd yn ysgwyddo baich hynny yw'r cludwyr nwyddau, y masnachwyr, pobl gogledd-orllewin Cymru, wrth inni wneud popeth yn ein gallu i geisio lliniaru'r effaith, ac rydym yn gwneud hynny mewn ffordd gydweithredol, er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol.
Fel y dywedaf, hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi arwain ar hynny fel rhan o raglen porthladdoedd y DU gyfan. Fe wnaethom geisio ymgysylltu'n gynnar iawn, ac roedd yn hwyr ar hynny’n digwydd, ond yn erbyn y cefndir hwnnw, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod cymaint ag sy'n bosibl o'r difrod a'r tarfu'n cael ei liniaru.
Mae'r rhestr o bryderon am y diffyg paratoadau yng Nghaergybi yn frawychus—loriau i gael eu stacio ar yr A55, y potensial am anghyfleustra mawr, yn enwedig o ystyried bod y system electronig ar gyfer allforion o 1 Ionawr yn dal ddim wedi cael ei dreialu eto; y diffyg darparu isadeiledd ffiniau mewn da bryd ar gyfer mewnforion o Orffennaf y flwyddyn nesaf, wnaeth arwain at Lywodraeth Prydain yn cymryd safle Roadking, a dwi'n nodi y ffaith rydym ni wedi clywed rŵan bod y Ceidwadwyr, yn cynnwys Aelod Seneddol San Steffan Ynys Môn, fel petai nhw'n dathlu'r ffaith bod 28 o bobl yno'n colli'u swyddi jest cyn y Nadolig. Safle newydd oedd ei angen yng Nghaergybi. Y peryg y bydd unrhyw waith papur wrth gludo nwyddau o Gaergybi drwy'r weriniaeth i'r gogledd yn risg ychwanegol i gwmnïau cludiant. Ac o gymryd popeth efo'i gilydd, y peryg y bydd unrhyw rwystr i lif masnach yn cynnig cymhelliad i fasnachwyr beidio defnyddio porthladd Caergybi, a'r ffaith bod hynny yn tanseilio swyddi.
Rŵan, ar yr unfed awr ar ddeg, rydym ni angen camau lliniaru brys ar gyfer y cyfnod yn union o'n blaenau. Felly, pa drafodaethau sy'n digwydd ar hynny?
Ac, yn yr hir dymor, pa drafodaethau fydd yn digwydd ar sicrhau buddsoddiad yng Nghaergybi, er mwyn gwneud iawn am y llanast a'r difrod sy'n cael eu hachosi gan ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn benodol rŵan y diffyg paratoi am hynny?
Wel, diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn. Mae e'n iawn i ddweud bod yr aflonyddwch sy'n dod yn sgil hyn, wrth gwrs, yn deillio o'r cytundebau a'r trafodaethau sy'n digwydd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd. Dyw e ddim yn rhywbeth rŷm ni eisiau ei weld, fel Llywodraeth. Dŷn ni ddim eisiau gweld unrhyw effaith economaidd ar y porthladd. Dŷn ni eisiau gweld masnach yn parhau ar y lefelau mae e nawr, ac yn cynyddu, wrth gwrs. Ond mae'n iawn i ddweud bod newidiadau ynglŷn â'r ffyrdd o fasnachu o Ogledd Iwerddon a'r llwybr, y route o Ogledd Iwerddon drwy'r Weriniaeth—mae risg bod y nwyddau sy'n dod drwy'r ffordd honno yn cael eu delio gyda nhw mewn ffordd sy'n llai o fantais na'r ffyrdd uniongyrchol. Rydyn ni'n edrych ar beth sydd wedi cael ei gytuno yn y diwrnodau diwethaf i ddeall yn sicr, pan gawn ni access at y manylion hynny, pa impact geith hynny ar y ffyrdd masnach.
Ond, o ran isadeiledd, fel mae'n dweud, ar ddechrau'r flwyddyn newydd, dyw ein cyfrifoldebau ni, fel Llywodraeth, ddim yn cychwyn, mwy neu lai, tan ganol ffordd drwy'r flwyddyn nesaf. Felly, yn y cyfnod byr o chwe mis cyntaf yma, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n arwain ar y cwestiwn isadeiledd dros dro, fel petai. Ond, a gaf i jest ddweud yn glir, mae'r oedi sydd wedi bod yn digwydd ar ddewis lleoliad, ac mae'n rhaid edrych ar ddewisiadau'r Llywodraeth yn San Steffan ar gyfer dechrau Ionawr, ac ein rhai ni wedyn, yn dilyn ar ôl hynny, ym mis Rhagfyr—mae'r oedi ar wneud y penderfyniadau ar gyfer mis Ionawr wedi golygu bod gohirio wedi bod yn y broses, ac rŷm ni'n poeni'n ddirfawr na fydd hi'n bosib, efallai, hyd yn oed, cyrraedd y dyddiad o fis Gorffennaf. Rŷm ni'n gwneud y gorau gallwn ni, ond mae'n sicr bod risg i hynny.
Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ran rôl Llywodraeth Cymru yn y cytundeb Brexit, mae'n amlwg fod llawer o weithgarwch prysur iawn—rydym i gyd wedi gweld hynny ar ein sgriniau teledu yn ystod y dyddiau diwethaf, y swper olaf heno ac yn y blaen—a gaf fi ofyn serch hynny, o safbwynt y Gweinidog, yn ystod y dyddiau a'r oriau olaf hyn, Weinidog, a allech chi amlinellu pa rôl rydych wedi'i chael ar ran Llywodraeth Cymru yn bwydo i mewn i'r sefyllfa sy'n mynd rhagddi i sefyll dros fuddiannau Cymru, neu a ydych wedi cael eich gwthio i'r ymylon eto?
Wel, yn fwyaf diweddar, mynychais gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, ddydd Iau diwethaf, lle gwneuthum y pwynt ynglŷn â'n blaenoriaethau fel Llywodraeth ar ran pobl Cymru, yn ogystal â chodi cwestiynau am lefelau cynnydd mewn perthynas â gwahanol agweddau ar negodi. Gwneuthum y pwynt mai'r peth hanfodol ar hyn o bryd, i'r ddwy ochr gyda llaw, oedd dangos hyblygrwydd, ond yn benodol, gan mai rhwymedigaeth Llywodraeth y DU yw gofalu am fuddiannau economaidd pobl y DU, y dylent roi'r flaenoriaeth i swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru, yn hytrach nag ar gysyniad afreal sofraniaeth.
Diolch ichi am hynny, ac os symudaf ymlaen yn awr at y gronfa ffyniant gyffredin, y cyfeiriwyd ati fwy nag unwaith heddiw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, eich bod wedi cyhoeddi fframwaith newydd yn ddiweddar ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, fframwaith a fydd ar waith erbyn i gronfeydd yr UE ddechrau diflannu ddiwedd eleni. Weinidog, daeth eich datganiad diweddar ynglŷn â hyn i'r casgliad canlynol, ac rwy’n dyfynnu:
'mae ein gwaith o gyflawni'r Fframwaith hwn yn dibynnu ar ymgysylltu cadarnhaol â Llywodraeth y DU—rhywbeth sydd heb ei ganiatáu inni hyd yma. Rhaid i Gymru gael cyllid llawn sy’n parchu ein setliad datganoli.'
O ystyried lefel y mewnbwn a gawsoch felly, neu’r diffyg mewnbwn yn hytrach, yn rhan o broses negodi cytundeb Brexit dros y blynyddoedd, beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd y sefyllfa yma'n wahanol yn y pen draw?
Wel, rwy'n gobeithio na fydd yr Aelod gweld gormod o hyder yn fy natganiad, oherwydd yn anffodus, mae'r profiad o geisio cael gwybodaeth am y meddylfryd sy'n sail i'r gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn un anodd. Fel Llywodraeth, fel y mae ei gwestiwn yn ei gydnabod rwy’n credu, rydym wedi ceisio dyfeisio trefniadau olynol mewn cydweithrediad â phobl yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny, o gofio pa mor bwysig ydynt, mae sylfaen eang o gefnogaeth i'r dull rydym yn ei hyrwyddo. Yn bersonol, pan fydd Llywodraeth y DU yn gallu darllen a dadansoddi'r darpariaethau a'r argymhellion yn y fframwaith hwnnw, credaf y byddant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i gynigion na fyddent eisiau eu cefnogi ynddo a bod yn onest oherwydd bod eu ffocws ar annog busnesau cynhyrchiol, cefnogi cyflogaeth, ac yn y blaen, a gwn fod y pethau hynny ar eu rhestr hwy o flaenoriaethau hefyd. Felly, byddwn yn dweud y dylai Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod yr addewidion a wnaed i bobl Cymru yn cael eu cadw, o ran sut y caiff yr arian ei wario, ond hefyd, yn hollbwysig, o ran beth yw'r arian hwnnw. Wrth i ni sefyll yma heddiw, mae'r addewidion hynny wedi'u torri, ond nid yw'n rhy hwyr i gymryd cam yn ôl a rhoi trefniadau ar waith sy'n bodloni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi droi i orffen at y Bil marchnad fewnol rydym newydd fod yn ei drafod? Yn amlwg, pleidleisiodd y Senedd i atal ei chydsyniad i'r Bil hwn yn gynharach. Mae San Steffan yn annhebygol o wrando. Mae ganddi hanes o beidio â gwrando arnom fel Senedd pan fyddwn yn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol. Felly, y cwestiwn sy'n codi yw: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd nesaf i ddiogelu datganoli ac amddiffyn democratiaeth Cymru—[Anghlywadwy.]—setliad datganoli dros y misoedd diwethaf? Os na, a fyddai'n agored i wneud hynny nawr?
Ni chlywais y cwestiwn cyfan, ond rwy'n credu ei fod yn gofyn i mi pa gamau y byddem yn eu cymryd, ac rwyf wedi bod yn glir iawn y byddwn yn cymryd pob cam sydd ar gael i ni yn gyfreithiol i ddiogelu pwerau'r Senedd hon. Credaf na ddylem dybio—. Wel, ni ddylem ganiatáu'r argraff fod bwrw ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad y deddfwrfeydd datganoledig yn y DU yn ffordd dderbyniol i Lywodraeth y DU weithredu. A bod yn onest, fe wyddom fod angen ailwampio confensiwn Sewel o ran sut y mae'n gweithredu, ond wrth ei wraidd mae'r egwyddor na ddylid herio penderfyniadau'r Seneddau datganoledig heblaw mewn sefyllfaoedd eithafol iawn. Ac yn sicr nid yw'r amgylchiadau hyn yn cyrraedd y bar uchel iawn hwnnw, ac rwy'n ei ddisgrifio fel bar uchel iawn oherwydd gwn mai dyna sut y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ei ddisgrifio hefyd.
Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU ynghylch cytundebau masnach y tu allan i'r UE?
Gwnaf, yn sicr. Y prynhawn yma, tua 4 o'r gloch, byddaf yn mynychu cyfarfod nesaf y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, ac rwy'n disgwyl trafod ystod eang o faterion gyda'r Gweinidog perthnasol yn y fforwm hwnnw.
Rwy'n falch iawn eich bod yn cymryd rhan yn y fforwm hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi sefydlu llawer o gytundebau masnach y tu hwnt i'r UE ym mhob cwr o'r byd, yn amrywio o wledydd fel Periw a Japan i Israel a De Korea. Yn ogystal â hynny, mae ymgysylltu'n parhau gyda dwsin o wledydd eraill, gan gynnwys Mecsico, Singapore a Thwrci, ac mae'n amlwg iawn fod cytundebau masnach ar ôl Brexit yn cael eu paratoi i gyflawni disgwyliadau pobl pan wnaethant bleidleisio dros Brexit yn ôl yn 2016. Ac rwy'n obeithiol iawn y gallwn ni yma yng Nghymru fanteisio ar y cytundebau hynny.
Gwn fod y cyn-Weinidog cysylltiadau rhyngwladol wedi cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi hefyd yn parhau â'r gwaith hwnnw. Mae'r cyn-Weinidog a oedd yn gyfrifol am y portffolio masnach rhyngwladol wedi cydnabod yr ymgysylltiad, yr ymgysylltiad cadarnhaol, a ddigwyddodd ar y cytundebau masnach hyn. A gaf fi ofyn ichi: pa waith rydych yn ei wneud ar draws y Llywodraeth i sicrhau y gall Cymru fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r cytundebau masnach hyn yn eu cynnig ar 1 Ionawr?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'n gywir i ddweud, rwy'n credu, fod tua 22 o gytundebau wedi'u llofnodi, mae tua phump ar y gweill, ac mae tua 12 i'w datblygu o hyd. Yr hyn sy'n nodwedd gyffredin ym mhob un yw eu bod yn gytundebau parhad. Felly, i bob pwrpas, maent yn waith sylweddol iawn i gynnal y sefyllfa bresennol. Felly, mae'n bwysig ac yn hanfodol ein bod yn gallu eu cynnal, ond mae hefyd yn ymdrech enfawr i gynnal y trefniadau hynny sy'n bodoli'n barod. A gwn ei fod hefyd yn dymuno gweld cyfleoedd ar ben y rheini hefyd, ac yn amlwg rydym eisiau gweld hynny hefyd.
Ein gweledigaeth yw sicrhau ein bod yn cynrychioli buddiannau allforwyr Cymru yn ein trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, fel y gallwn sicrhau bod y rheini'n cael eu hystyried yn y negodiadau hynny. Rwy'n credu y bydd wedi gweld, efallai, yr asesiad a gyhoeddais ddoe mewn perthynas ag effaith cytundeb Japan ar economi Cymru, er enghraifft. Felly, bydd wedi gweld y dystiolaeth yn y fan honno, rwy'n credu, o'n dadleuon ni fel Llywodraeth. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr economi, hefyd yn buddsoddi ymhellach mewn cynghorwyr masnach rhyngwladol, fel y gall busnesau ac allforwyr yng Nghymru gael y cyngor gorau i'w cefnogi pan nad ydynt yn cael y cymorth hwnnw'n fewnol. Wrth gwrs, rhan o'u rôl fydd cynorthwyo ein hallforwyr sy'n wynebu biwrocratiaeth newydd o ganlyniad i'r trefniadau masnachu y mae Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno, ac yn amlwg unwaith eto, mae hwnnw'n waith sy'n rhedeg er mwyn aros yn yr unfan yn yr ystyr hwnnw, ond wrth edrych y tu hwnt i hynny, bydd cymorth ar gael gan y Llywodraeth i allforwyr lle bynnag y dymunant allforio.
Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod y gwaith cadarnhaol, fel y dywedais, ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod yn cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud nid yn unig i ymgysylltu â'r gwledydd hynny lle mae gennym drefniadau masnach drwy'r trefniadau parhad ar gyfer masnach, ond hefyd y gwledydd newydd y byddwn yn masnachu â hwy ar sail masnach rydd ar ôl 1 Ionawr. Roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthyf am sefyllfa Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chytundebau masnach â Chanada, Seland Newydd ac Awstralia yn y dyfodol. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed a ydych wedi gwneud unrhyw waith i nodi buddiannau Cymreig penodol mewn perthynas ag unrhyw gytundebau masnach y gellid eu gwneud, ac unrhyw sylwadau y gallech fod wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Fel y gwyddoch, cafwyd cefnogaeth sylweddol ymhlith y cyhoedd ar draws y DU i gytundeb masnach tebyg i CANZUK. Mae llawer o arweinwyr busnes wedi galw am y math hwnnw o gytundeb masnach, ac mae llawer o wleidyddion wedi'i gefnogi ar sail drawsbleidiol hefyd. Felly, o ystyried bod hwnnw'n gytundeb masnach posibl y gallem ei weld yn y dyfodol, byddai'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol nawr ac yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ef. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa fath o drafodaethau sydd wedi'u cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â manteision posibl masnach ar ffurf CANZUK?
Mae Llywodraeth y DU yn arwain ar drafodaethau masnach rhyngwladol, fel y gwn y byddai'n derbyn, ac fel y byddwn yn dychmygu y byddai'n ei gefnogi. Felly, ein tasg fel Llywodraeth yw bwydo safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran economi Cymru, a busnesau Cymru, allforwyr Cymru, i'r trafodaethau hynny. Dyma'r mathau o bethau a fydd ar agenda'r drafodaeth heddiw.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar hyn yn y cyd-destun byd-eang. Byddwn eisiau sicrhau y bydd unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol o'r math y mae'n eu disgrifio yn sicrhau'r budd mwyaf posibl i allforwyr yng Nghymru, ond hefyd i fusnesau a chynhyrchwyr sydd eisoes yng Nghymru. Felly, er enghraifft, ceir penderfyniadau anodd sy'n codi wedyn yng nghyd-destun cynnal negodiadau masnach gydag allforwyr amaethyddol pwysig, ac mae Awstralia a Seland Newydd yn y categori hwnnw. Felly, mae'r penderfyniadau'n eithaf anodd eu gwneud yn aml, ond ein blaenoriaeth fel Llywodraeth yw sicrhau'r cyfle mwyaf i Gymru, i economi Cymru.
Ond rwy'n credu fy mod eisiau ei roi yn y cyd-destun y byddai hyd yn oed Llywodraeth y DU yn dweud bod effaith economaidd y negodiadau masnach hynny i'r DU yn debygol o fod yn ffracsiynau o 1 y cant. Nid yw hynny'n golygu na ddylid mynd ar eu trywydd, dylid mynd ar eu trywydd yn sicr, ond nid wyf yn credu y byddai'n iawn inni annog pobl i ddisgwyl y gall y cytundebau masnach hynny ynddynt eu hunain wneud iawn am absenoldeb perthynas fasnachu dda â'n bloc masnachu mwyaf ar draws y sianel, gan ein bod yn siarad am wahanol raddfeydd yma, fel y gwn y bydd yn ei dderbyn.
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith paratoadau Brexit ar Ferthyr Tudful a Rhymni? OQ56011
Bydd gadael y cyfnod pontio, hyd yn oed gyda chytundeb, yn arwain at oblygiadau dwfn i fusnesau a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhymni. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth i baratoi, ac mae ein cynllun gweithredu ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yn nodi'r materion a wynebwn a'r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi Cymru. Byddwn yn annog pawb yng Nghymru i ymweld â gwefan Paratoi Cymru i gael cyngor ar sut i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Ac ers cryn dipyn o amser, rydym i gyd wedi bod yn aros am fanylion hanfodol bwysig cytundeb parod i'w bobi y Prif Weinidog, nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd, fel y mae pawb ohonom yn gwybod bellach. Ac fel y nodwyd eisoes, rydym yn dal i aros am fanylion ynglŷn â sut y bydd Cymru'n elwa'n benodol o'r gronfa ffyniant gyffredin ddi-ddal.
Yn fy etholaeth i, fel llawer o rai eraill yng Nghymru, mae gennyf gyflogwyr mawr sy'n masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn dibynnu ar gyflenwadau sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd i Ferthyr Tudful a Rhymni. Wrth i 2020 ddirwyn i ben, a fyddech yn cytuno nid yn unig ein bod yn wynebu sefyllfa draed moch, ond dyfodol ansicr iawn hefyd i lawer o swyddi yn ein cymunedau, oherwydd bod Prif Weinidog y DU wedi dweud celwydd wrth bobl y wlad hon? Ac a allwch chi ddweud wrthyf beth yw'r sylwadau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau nad yw etholaethau fel fy etholaeth i yn cael eu gadael ar ôl yn llanastr Brexit?
Credaf fod cwestiwn Dawn Bowden yn mynd i wraidd y mater yma. Rydym yn wynebu sefyllfa heddiw, lai na mis cyn diwedd y cyfnod pontio, pan nad oes yr un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod ar ba sail y byddwn yn cynnal ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr. Gwn fod busnesau a sefydliadau'n gweiddi am y sicrwydd hwnnw yn ei hetholaeth a ledled Cymru, ac yn ofni'r canlyniad, yn arbennig, o adael heb unrhyw fath o berthynas fasnachol. Yr aflonyddwch enfawr a'r niwed economaidd a ddaw yn sgil hynny; mae'n anodd goramcangyfrif y risgiau y byddwn yn eu hwynebu. Bydd cyflogwyr yn ei hetholaeth, yn fy etholaeth i, ac mewn etholaethau eraill yn gwybod eisoes y byddant yn wynebu costau ychwanegol am ddatganiadau tollau, gwaith papur tollau a biwrocratiaeth newydd, ond maent yn aros i gael gwybod a fydd yn rhaid iddynt dalu tariffau nawr, sut y caiff eu cynnyrch ei drin, sut y bydd rhannau cydrannol yn y cadwyni cyflenwi y soniodd amdanynt yn cael eu trin, a sut y caiff safonau eu trin yn eu trefniadau masnach rhyngwladol. Mae'r rheini i gyd yn hanfodol i'r ffordd y mae busnesau'n ymddwyn ac yn hollbwysig, yn gosod costau sylweddol ar y ffordd y mae busnesau a chyflogwyr yn masnachu. Felly, rwy'n gwybod y byddai'n gobeithio, fel finnau, y gellir cytuno ar berthynas fasnachu, ond bydd hefyd yn gwybod, fel y gwn i, na fydd y berthynas fasnachu honno o'r ansawdd sydd ei angen ar y pwynt hwn i roi cyflogwyr ac allforwyr yng Nghymru yn y sefyllfa orau bosibl.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddatblygu ei pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd a'r aelod-wladwriaethau ar ôl Brexit? OQ55999
Bydd perthynas gadarnhaol â'r UE yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru beth bynnag fydd canlyniad negodiadau'r UE a'r DU, fel y mae ein strategaeth ryngwladol yn ei nodi'n glir. Rydym yn parhau i'w meithrin drwy ymgysylltu â sefydliadau, aelod-wladwriaethau, rhanbarthau a rhwydweithiau'r UE, ac yn arbennig drwy ein swyddfa ym Mrwsel.
Roedd aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig manteision mawr i Gymru, gan gynnwys galluogi ein gwlad i chwarae rhan bwysig ar y llwyfan Ewropeaidd yng Nghyngor y Gweinidogion, Senedd Ewrop, Pwyllgor y Rhanbarthau a grwpiau cysylltiedig. Y tu allan i'r UE, credaf y dylem sicrhau'r berthynas agosaf bosibl â'r Undeb Ewropeaidd, a dylai hynny gynnwys y rhanbarthau, y bu gennym berthynas gref â hwy ers amser maith, a hefyd Aelodau o'r Senedd, a all ychwanegu at waith Gweinidogion Llywodraeth Cymru wrth gynnal proffil Cymru. Credaf y dylem roi ystyriaeth ofalus i sefydliadau a grwpiau Ewropeaidd y gallwn gyfrannu'n fuddiol iddynt.
[Anghlywadwy.]—gyda chwestiwn atodol John Griffiths, rydym yn manteisio ar bob cyfle i gynnal y cysylltiadau hynny. Ym mis Medi, er enghraifft, cyfarfu'r Prif Weinidog, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ar y pryd a minnau â llysgennad yr UE i'r DU. Mae hwnnw'n amlwg yn benodiad newydd, ond daeth y llysgennad UE hwnnw i Gaerdydd. Rydym hefyd wedi bod yn cadeirio Menter Vanguard yn llwyddiannus drwy gydol 2020, sef grŵp rhyngranbarthol arwyddocaol sy'n canolbwyntio ar arbenigo deallus ar sail gydweithredol i hybu diwydiannau arloesol. A bydd yn gwybod—soniodd yn ei gwestiwn am rôl seneddwyr yn hynny, ac mae gan grŵp cyswllt y DU ar gyfer Pwyllgor y Rhanbarthau gynrychiolwyr o'r Senedd hon: David Rees, a Russell George fel y dewis amgen. Mae'r rheini i gyd yn ffyrdd pwysig o gynnal y rhwydwaith hwnnw o gysylltiadau, ar lefel aelod-wladwriaeth, ar lefel seneddol, ond hefyd ar lefel ranbarthol. A bydd yn gwybod o'r strategaeth ryngwladol fod ymgysylltu ar lefel ranbarthol â Llydaw, Gwlad y Basg a Fflandrys yn arbennig yn rhan hanfodol o'n rhwydwaith cyfathrebu pwysig ar draws yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y dyfodol.
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar ei chynlluniau mewnfudo yn ei chael ar Gymru? OQ55995
Mae i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â'i chynlluniau ar gyfer system fewnfudo sydd wedi newid yn radical yn ystod y pandemig hwn yn ymddangos yn fyrbwyll, fel roedd eu penderfyniad i wrthod argymhelliad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo ar gyfer rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder i Gymru'n unig, a fyddai'n gwneud rhywfaint i leihau effaith andwyol polisïau mewnfudo newydd Llywodraeth y DU ar Gymru.
Ers i'r Llywodraeth Lafur agor y llifddorau i fudo torfol yn 2004, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod ein bod wedi bod yn ychwanegu bron i draean o filiwn o bobl at boblogaeth y DU bob blwyddyn. Mae hyn wedi cael effaith lesteiriol ar gyflogau, yn enwedig i'r rheini mewn swyddi heb sgiliau ar gyflogau isel, ac mae hefyd yn gwaethygu'r prinder tai gwirioneddol sydd gennym ledled y Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru yn wir. Onid yw'n derbyn bod system rheoli mewnfudo deg a chytbwys bellach yn hanfodol er budd y rhai sydd yn y sefyllfa fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas? Ac a yw hefyd yn derbyn bod rhethreg anghyfrifol Llywodraeth Lafur Cymru ar Gymru fel cenedl noddfa wedi bod yn anogaeth uniongyrchol i fudo anghyfreithlon?
Nid wyf yn derbyn dim o hynny. Felly, nid wyf yn derbyn yr iaith y mae'r Aelod yn ei defnyddio, sy'n ymfflamychol yn fy marn i, ac wedi'i chynllunio i fod yn ymfflamychol. Rwy'n credu y dylem gael polisi mewnfudo teg a chytbwys—sef yr un sydd gennym nes bydd Llywodraeth y DU yn rhoi rhywbeth arall yn ei le.
Roedd cwestiwn 6 [OQ55988] wedi'i grwpio, felly cwestiwn 7, Mark Reckless.
7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch effaith proses Brexit ar pa mor gyflym y caiff brechlynnau COVID-19 gymeradwyaethau rheoleiddiol? OQ56016
Mae'n newyddion da iawn fod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi gallu cymeradwyo'r cyflenwad o'r brechlyn Pfizer/BioNTech. Mae wedi gallu gwneud hynny gan ddefnyddio darpariaethau o dan y gyfraith Ewropeaidd, a fydd yn gymwys tan 1 Ionawr 2021.
Yr wythnos diwethaf, roedd erthygl ar dudalen flaen y Financial Times yn pwysleisio i ba raddau roedd yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, pan oedd wedi'i lleoli yn Canary Wharf, yn pwyso ar ein Hasiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd am gymorth gyda llawer o'i gwaith. Mae hefyd wedi wynebu heriau gwirioneddol, o dystiolaeth y FT o leiaf, ers adleoli i Amsterdam am nad oedd cymaint o uwch staff eisiau adleoli o Lundain. A fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cefnogi ac a all weld unrhyw ffordd efallai y gallai ein rheolyddion gynnig cyd-gymorth a chefnogaeth i'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd i'w cefnogi gyda'r gofynion rheoliadol sydd angen eu cyflawni fel bod yr Undeb Ewropeaidd, gobeithio, yn cyflymu brechlynnau ar eu cyfer hwy yn ogystal â ninnau?
Mae gallu'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i weithredu'n gyflym, fel y gwnaeth, wedi bod o fewn fframwaith rheoliadau presennol yr Undeb Ewropeaidd, fel y gŵyr yr Aelod. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn cyfeirio at gydweithrediad rhyngwladol yn y gofod hwn, a chredaf ei bod yn bwysig cydnabod bod datblygu'r brechlynnau wedi bod yn ymdrech ryngwladol anhygoel mewn gwirionedd. Ar un ystyr, nid wyf yn credu mai edrych ar amgylchedd cystadleuol rhwng rheoleiddwyr yw'r ffordd fwyaf defnyddiol o edrych arno o reidrwydd. Mae hanes proses brechlyn Pfizer/BioNTech wedi bod yn un o gydweithrediad Ewropeaidd mawr a buddsoddiad Ewropeaidd sylweddol, ac mae hynny'n beth cadarnhaol iawn. Yn gyffredinol, bydd proses Brexit yn andwyol i nifer o'n trefniadau presennol mewn perthynas â chyd-gymorth iechyd, fel y mae'n ei ddisgrifio, mewn perthynas â systemau rhybuddio cynnar yn ogystal â rhwystrau rheoleiddio. Felly, mae'r rhwystrau newydd a fydd yn cael eu rhoi yn lle cyd-gymorth a chydweithredu yn y dyfodol yn peri gofid i mi.
8. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi trafod trefniadau ar gyfer cefnogi allforio cynnyrch o Gymru ar ôl Brexit gyda'i gydweithwyr gweinidogol? OQ55993
Do'n wir. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ar oblygiadau masnach ryngwladol ar ôl cyfnod pontio'r UE, ac mae'r rhain yn cynnwys cyfarfodydd is-bwyllgor y Cabinet ar bontio Ewropeaidd a masnach.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Wrth i 1 Ionawr a Brexit ddod yn agosach, mae'n amlwg yn bwysig fod y DU'n datblygu cymaint o gytundebau masnach â phosibl a bod rhan i Gymru yn y rheini. Fel y gwyddoch, yn ddiweddar, lluniodd Llywodraeth y DU gytundeb masnach gyda Japan, sy'n cynnwys amddiffyniadau daearyddol pwysig a fydd, gobeithio, o fudd i amrywiaeth o fusnesau yng Nghymru. Tybed a allech ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi cael rhan o gwbl yn y broses o sicrhau amddiffyniadau a chyflwyno safbwynt Cymru ar hynny mewn perthynas â'r cytundeb masnach hwnnw a hefyd unrhyw gytundebau masnach eraill a allai fod yn yr arfaeth. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, er mai'r DU sy'n sofran yn y materion hyn, ei bod hi'n bwysig fod gan Lywodraeth Cymru lais a'n bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y byd mawr newydd y tu hwnt i 1 Ionawr.
Hoffwn ei sicrhau, o ran y cytundeb masnach gyda Japan yn benodol y soniodd amdano yn ei gwestiwn, ein bod wedi cymryd rhan dda yn hynny. Yr wythnos hon, cyhoeddais asesiad o effaith y cytundeb masnach ar economi Cymru yn gyffredinol. Yn fras, mae'n efelychu'r trefniant presennol, ond ceir rhai ffyrdd lle mae'n ymestyn cyfleoedd, sy'n amlwg yn gadarnhaol iawn. Credaf mai ymgysylltu rhagweithiol, yn amlwg, yw'r dull rydym wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny mewn perthynas â'r holl gytundebau masnach eraill y mae Llywodraeth y DU yn ceisio eu negodi.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. Rydym wedi mynd drwy'r holl gwestiynau ar y papur trefn, felly da iawn.
Eitem 3, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac ni ddaeth yr un i law yr wythnos hon.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r wythnos hon, dyma Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Llongyfarchiadau, Mr Church. Mae staff ein hysgolion wedi gwneud eu gorau glas mewn blwyddyn heriol iawn. I rai, mae eu rhinweddau ychwanegol arbennig wedi arwain at gydnabyddiaeth arbennig i'w gwaith, ac un ffigur o'r fath yw David Church—yr athro addysg grefyddol gyda'r enw priodol iawn yn Ysgol Gyfun Aberpennar. Bu'n athro yn yr ysgol am dros 20 mlynedd, ac mae Mr Church yn enwog am ei natur ofalgar, ei ymrwymiad i'r gymuned, a'i ethos cymdeithasol tosturiol. Cyfarfûm â Mr Church pan oeddwn yn feirniad yn rownd derfynol First Give Ysgol Gyfun Aberpennar, ac roedd hi'n amlwg fod Mr Church yn un o'r athrawon mwyaf arbennig hynny a oedd yn byw ei swydd, athro a âi y tu hwnt i'r galw, athro roedd ei fyfyrwyr yn ymddiried ynddo, yn ei barchu ac yn cael eu hysbrydoli ganddo. Mae ein llwybrau wedi croesi droeon, ac ar bob achlysur, byddai'n rhoi 110 y cant i brosiectau sy'n grymuso ei ddisgyblion i ymgysylltu â'u cymuned leol. Ac eto, mae hefyd yn ehangu eu gorwelion. Gyda'i gymorth ef, enillodd disgyblion ysgoloriaethau i helpu i adeiladu ysgol yn India—profiad i newid bywydau pawb. Felly, roedd hi'n bleser gweld Mr Church yn ennill gwobr gyntaf y disgyblion am yr athro gorau yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2020. Nododd y panel beirniadu fod Mr Church
yn ymgnawdoliad o rinweddau unigryw athro gwych,
ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae rhai pobl wedi cael eu geni i addysgu, ac yn newid bywydau drwy eu gwaith, ac fe'u cofir am oes. Mae Mr Church yn un o'r rhain.
Diolch. Rydym yn atal y trafodion yn awr er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n gyflym, a bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:07.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:15, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n ailddechrau, felly. Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar gymorth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19. Dwi'n galw ar Lynne Neagle i gyflwyno'r ddadl—Lynne Neagle.
Cynnig NDM7462 Lynne Neagle, Bethan Sayed, Leanne Wood
Cefnogwyd gan Alun Davies, Dai Lloyd, David Rees, Dawn Bowden, Helen Mary Jones, Huw Irranca-Davies, Jack Sargeant, Jayne Bryant, Jenny Rathbone, Joyce Watson, Neil McEvoy, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwy oed, yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad cryf rhwng cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol, cynnydd yn y gwaith a gwell iechyd corfforol a meddyliol.
2. Yn nodi, ers yr achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod rhieni'n wynebu pwysau digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.
3. Yn nodi bod arolwg Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi nodi mai iechyd meddwl rhieni oedd y prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y cant o rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio ar eu baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc.
4. Yn nodi bod ymchwil New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros hanner y 257 o ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y pandemig.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd i sicrhau y gall menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod ymweliadau ysbyty yn ystod beichiogrwydd.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i gyd-gyflwynwyr y ddadl heddiw, Leanne Wood a Bethan Sayed. Rwy'n gwybod bod swyddfa Bethan wedi cyhoeddi ymchwil werthfawr iawn i'r maes hwn, ond mae hi hefyd yn dod â phersbectif personol hanfodol i'r pwnc hwn ar ôl cael babi ei hun yn ystod y cyfyngiadau. Rwyf hefyd am gydnabod y gefnogaeth gan Aelodau ar draws y Siambr a hefyd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant am eu sesiwn friffio ragorol ar gyfer y ddadl heddiw.
Mae angen llais ar fabanod a'u rhieni yng Nghymru, nawr yn fwy nag erioed. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi clywed llawer iawn am yr anawsterau sy'n wynebu gwahanol ddiwydiannau ac effaith COVID ar ein heconomi, ac eto nid oes digon wedi'i ddweud am y gwaith pwysicaf a mwyaf anodd y bydd unrhyw un ohonom yn ei wneud byth, sef bod yn rhiant da. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi clywed mwy am alcohol nag a glywsom am fabanod. Ydy, mae hyn yn anodd i bawb, ond gadewch inni gael ein blaenoriaethau'n iawn, oherwydd yr hyn y bydd y ddadl heddiw'n ei ddangos yw bod bywyd i'r mwyafrif llethol o rieni newydd a darpar rieni wedi mynd yn llawer anoddach.
Mae'r ymchwil gynyddol i ofal amenedigol yn ystod y pandemig yn llwm ac yn peri pryder mawr. Mae lleisiau mamau newydd yn arbennig yn canu larymau. Rydym yn clywed straeon am orbryder, ynysigrwydd a rhwystrau newydd i ofal a chymorth priodol. Ydy, mae'r pandemig wedi creu heriau newydd a digynsail, ond mae hefyd wedi taflu goleuni ar y craciau a oedd eisoes yn bodoli mewn cymdeithas.
Mae hynny i'w weld gliriaf yn y ffordd rydym yn methu blaenoriaethu babanod wrth wneud penderfyniadau. Nid oes modd esbonio hyn, o ystyried bod ein dyfodol yn dibynnu ar y rhai a ddaw i'r byd heddiw ac yfory; nid oes modd ei esbonio o ystyried faint rydym yn ei wybod am bwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn; nid oes modd ei esbonio o ystyried faint rydym yn ei wybod am effaith iechyd meddwl rhieni ar les babanod.
Cyflawnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad mawr i iechyd meddwl amenedigol yn 2017. Clywsom dro ar ôl tro gan dystion am bwysigrwydd cymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol. Fel y dywedodd Dr Witcombe-Hayes o'r NSPCC a Chynghrair Iechyd Meddwl Mamau wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:
Credwn fod y dechrau gorau hwn mewn bywyd mor bwysig oherwydd gwyddom fod y 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad plant. Felly, mae ein profiadau cynnar yn effeithio ar ddatblygiad strwythur yr ymennydd, sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer ein holl ddysgu, ymddygiad ac iechyd yn y dyfodol. Yn union fel y mae sylfaen wan yn peryglu ansawdd a chryfder tŷ, gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynnar mewn bywyd a methu diwallu anghenion plentyn nawr amharu ar strwythur yr ymennydd, gydag effeithiau negyddol sy'n para ymhell i mewn i fywyd fel oedolyn.
Ni yw'r genhedlaeth gyntaf o ddeddfwyr sydd â'r wybodaeth hon. Mae potensial enfawr i Lywodraethau wneud gwahaniaeth gwirioneddol yma i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu heddiw ac y byddant yn eu hwynebu yfory ac ymhen 20 mlynedd, ac eto gwyddom fod bylchau sylweddol eisoes cyn y pandemig mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, er gwaethaf buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda byrddau iechyd yn methu cyrraedd safonau amenedigol, diffyg unedau mamau a babanod ar gyfer teuluoedd sydd angen cymorth arbenigol i gleifion mewnol, a bylchau sylweddol mewn timau'n arbenigo ar y berthynas rhwng rhieni a babanod ledled Cymru. Gadewch inni beidio ag anghofio mai hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth o hyd ymhlith mamau yn y flwyddyn gyntaf o fywyd babi.
Felly, dyma'r seilwaith amenedigol a oedd gennym ar ddechrau'r pandemig, ac erbyn hyn mae pethau hyd yn oed yn anoddach i lawer. Mae dwy ran o dair o ymatebwyr Cymru i'r adroddiad 'Babies in Lockdown' yn dweud mai iechyd meddwl rhieni oedd eu prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud, ac eto dim ond chwarter a ddywedodd eu bod yn hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth pe bai ei angen arnynt. Yn ôl astudiaeth Born in Wales, adroddodd y rhan fwyaf o fenywod am brofiad negyddol o feichiogrwydd, gan deimlo'n ynysig, yn unig, yn bell a heb gefnogaeth.
Gwrthodir lefel sylfaenol o urddas i rieni. Gofynnwyd i famau e-bostio lluniau i'w meddygfa o bwythau heintiedig. Mae'r rhai sy'n cael trafferth bwydo ar y fron yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar alwadau Zoom am gymorth. Mae'n anochel fod canlyniadau i'r pwysau hwn.
Un o'r prif ffynonellau straen a phryder i famau beichiog oedd pryder ynglŷn ag a gâi eu partneriaid fod yn bresennol pan fyddent yn esgor, felly, yn sicr mae cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar lacio cyfyngiadau ar ymweld i'w groesawu. Mae'r hyblygrwydd i fyrddau iechyd wneud penderfyniadau ar sail eu hamgylchiadau yn bendant yn gwneud synnwyr, ond gallai dull o'r fath hefyd arwain at anghydraddoldebau i rieni mewn gwahanol rannau o Gymru, a byddai'n ddefnyddiol gwybod gan y Gweinidog sut y caiff hyn ei fonitro a pha drefniadau sydd ar waith ar gyfer rhannu arferion gorau. Byddai hefyd yn ddefnyddiol rhoi arweiniad clir i rieni babanod cynamserol neu sâl, yn unol â'r ymchwil a'r argymhellion a gyflwynwyd gan Bliss. Mae'r cyfyngiadau presennol wedi cael effaith ddinistriol ar allu gormod o rieni i sefydlu cwlwm agosrwydd gyda'u babanod.
Mae'r dystiolaeth yn glir—mae'r pandemig, y cyfyngiadau symud a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol dilynol wedi cael effaith anghymesur ar y rhai sy'n feichiog, yn rhoi genedigaeth, neu gartref gyda baban neu blentyn bach. Ac unwaith eto, mae'r effaith fwyaf wedi bod ar y rhai sydd eisoes yn byw'r bywydau anoddaf—coronafeirws yn dyfnhau anfantais unwaith eto. Mae'r rhai mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn dangos lefelau uwch o unigrwydd yn gyson ac maent yn llai tebygol o fod wedi gweld cynnydd mewn cymorth cymunedol.
Rwyf wedi gweld y llythyr gan y prif swyddog nyrsio at y comisiynydd plant, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch rôl ymwelwyr iechyd, ond mae angen gwneud mwy. Mae babanod wedi bod yn anweledig i raddau helaeth o ganlyniad i'r pandemig, a dylai hynny fod yn ofid i bob un ohonom. Heb gysylltiad anffurfiol â ffrindiau a theulu, grwpiau galw heibio, a llai o gysylltiadau ag ymwelwyr iechyd, mae perygl gwirioneddol nad oes neb yn gwybod pa deuluoedd sy'n cael trafferth. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn gallu ymweld wyneb yn wyneb ym mhob achos lle mae'n ddiogel ac yn bosibl iddynt wneud hynny. Mae cymaint yn cael ei golli dros y ffôn neu hyd yn oed mewn apwyntiadau rhithwir. Clywn dro ar ôl tro am yr anallu i nodi pwy sy'n cael trafferth heb y cyswllt dynol hwnnw.
Er mwyn deall yr hyn sydd eisoes wedi'i golli a sut y mae angen inni ymateb, mae'n hanfodol fod y Llywodraeth yn cyflwyno data cadarn am nifer yr ymweliadau sy'n digwydd, faint sy'n cael eu colli a sut y mae'r archwiliadau hynny'n cael eu cynnal. Mewn ateb diweddar yn Nhŷ'r Cyffredin, nid oedd un o Weinidogion iechyd y DU yn gallu rhoi sicrwydd na fyddai ymwelwyr iechyd yn cael eu hadleoli i waith ar ddarparu brechlynnau. Gobeithio y gall y Gweinidog roi sicrwydd i rieni Cymru heddiw na fydd ymwelwyr iechyd yn cael eu hadleoli yng Nghymru. Yn hytrach na symud adnoddau o ofal amenedigol, mae arnom angen mesurau brys i roi cefnogaeth well i ddarpar rieni a rhieni newydd a'u babanod.
Mae angen i ni flaenoriaethu anghenion babanod yn awr wrth wneud penderfyniadau am ymateb i COVID-19 a'r adferiad yn ei sgil, sicrhau bod staff allweddol a gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn cael eu diogelu rhag cael eu hadleoli, rhoi arweiniad clir ar sut y gellir cynnal apwyntiadau ymwelwyr iechyd wyneb yn wyneb yn ddiogel ac yn effeithiol, a darparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw o ganlyniad i COVID-19. Mae'r dewisiadau a wnawn heddiw ynglŷn â sut rydym yn cefnogi rhieni a babanod drwy'r pandemig yn ddewisiadau y byddwn yn byw gyda hwy am ddegawdau i ddod. Bydd methiant i roi cefnogaeth ac adnoddau priodol i iechyd amenedigol yn bwrw cysgod hir dros Gymru. Diolch yn fawr.
Ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Rydym wedi derbyn deiseb P-05-1035, 'Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth'. Cyflwynwyd hon gan Hannah Albrighton, ar ôl casglu 7,326 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn nodi:
'Oherwydd COVID-19, mae cyfyngiadau mewn llawer o ysbytai ar bresenoldeb partneriaid genedigaeth ar gyfer sganiau, esgor a genedigaeth.'
Ac a gaf fi ddweud, cyn i mi fynd ymhellach, pa mor hyfryd yw gweld ein cyd-Aelod Bethan Jenkins yma? Rwyf wedi bod mewn cysylltiad—a gweld bod eich teulu bach newydd yn gwneud yn dda—ac mae'n wych eich gweld chi yma heddiw.
Mae'r testun yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'n ymddangos yn annheg ac yn sarhad ar deuluoedd newydd eu bod yn cael sefyll 2 fetr oddi wrth ddieithriaid llwyr ar y traeth neu mewn siop hyd yn oed, ond nid ydynt yn cael partner na phartner genedigaeth yn bresennol i rannu profiadau tro cyntaf megis gweld sgan, clywed calon y babi, esgor a genedigaeth.'
Trafododd y pwyllgor y ddeiseb yn ei gyfarfod ar 3 Tachwedd, gan ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd pob Aelod yn llwyr gefnogi'r ddeiseb hon a'r angen i ddatrys y sefyllfa i rieni newydd a phobl yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, nodwn y bydd y sefyllfa'n arbennig o anodd lle nad yw profiadau pobl o feichiogrwydd neu enedigaeth yn syml, yn ogystal â lle mae angen cymorth ychwanegol ar ôl genedigaeth. Nododd y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor fod etholwyr yn cysylltu â hwy i ddweud bod y cyfyngiadau hyn wedi effeithio arnynt, yn anffodus iawn.
Nawr, er ein bod yn deall ac yn mynegi dealltwriaeth o'r dewisiadau anodd sy'n cael eu gwneud gan ein gwasanaethau iechyd lleol, ein byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, rydym yn mynegi ein gobaith y dylai ac y gall penderfyniadau a wneir fod yn sensitif i amgylchiadau unigol ac y dylid llacio'r rheolau nawr cyn gynted ag y bo modd. Dywedodd y Gweinidog wrthym cyn y cyfarfod hwnnw fod y canllawiau perthnasol yn cael eu hadolygu a'i fod yn aros am gymeradwyaeth bryd hynny. Rwy'n ymwybodol fod y canllawiau diweddaredig wedi'u cyhoeddi ar 30 Tachwedd, ac rwy'n croesawu hyn. Fodd bynnag, o ystyried nifer y llofnodion a gasglwyd gan y ddeiseb, byddem wedi ystyried ymhellach yn ein trafodaethau pwyllgor nesaf a ddylid cyfeirio'r ddeiseb at ddadl. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn fod dadl o'r fath yn cael ei chynnal heddiw. Rydym wedi hysbysu'r bobl a lofnododd y ddeiseb ynglŷn â'r ddadl hon ac yn gobeithio y bydd yn darparu rhai o'r atebion y mae'r rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon wedi bod yn chwilio amdanynt. Diolch.
Mae COVID wedi cyflwyno heriau i bawb, ac er y byddai pob un ohonom yma yn cytuno bod rhaid gwneud popeth i gadw rhieni, babanod a staff yn ddiogel, rhaid i ni hefyd wneud beth bynnag a allwn i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bawb. Rhaid inni ddechrau drwy gydnabod mai profiadau plant ifanc, babanod a'u teuluoedd eleni oedd rhai o'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau. Wrth gwrs, er bod y cyfyngiadau hyn wedi bod yn angenrheidiol, ni allwn anwybyddu'r niwed y maent wedi'i achosi ac yn parhau i'w achosi. Ar ryw adeg efallai y byddwn am ystyried a fyddai'r cyfnodau o gyfyngiadau symud wedi bod yn angenrheidiol pe bai Llywodraethau wedi gweithredu'n gynharach i ddileu trosglwyddiad cymunedol, pe baem wedi sefydlu system brofi ac olrhain a oedd yn gweithio'n iawn, a phe baem wedi gosod y math o fesurau rheoli ar y ffin a'r cyfleusterau cwarantin canolog sydd wedi golygu bod llawer o wledydd ym mhob cwr o'r byd wedi gweld llai o gyfyngiadau symud a chyfyngiadau llai llym. Byddwn yn byw gyda chanlyniadau hyn am ddegawdau, ac oherwydd hynny, rhaid i'n hadferiad ddechrau gyda ffocws ar fabanod a phlant—ffocws sydd wedi bod ar goll hyd yma.
Ddydd Llun diwethaf yn unig y cyhoeddodd y Llywodraeth y byddent yn rhoi cymorth ariannol i rieni plant sy'n gorfod ynysu. Pam na chafodd y mater ei ystyried cyn hynny? Onid yw'n dweud llawer, ar wahân i faterion addysg, mai dyma'r ddadl gyntaf lle mae plant a babanod wedi'u gosod yn y canol? Mae dod yn rhiant yn her pan nad oes pandemig; ni ellir anwybyddu'r hanesion am y pwysau ychwanegol y mae pob un ohonom wedi'u clywed, rwy'n siŵr. Rydym yn gwybod, ac rydym eisoes wedi clywed, pa mor bwysig yw'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn. Pan fydd rhieni'n ynysig, yn cael trafferth ar eu pen eu hunain, neu hyd yn oed mewn cyplau, mae'r risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn cynyddu. Fel y dywedodd un fam newydd wrthyf, 'Rwyf wedi gweld yr ymwelydd iechyd ddwywaith. Mae hi'n gefnogol, ond mae'n rhaid i mi fynd yno ar fy mhen fy hun ac rwy'n anghofio llawer o'r hyn a ddywedwyd.' Dywed un arall, 'Dylem ganiatáu rhywfaint o gymorth swigod ychwanegol ar gyfer babanod o dan flwydd oed, byddai hynny wedi gwneud lles i fy iechyd meddwl. Ni welodd fy mabi neb ond fi a fy ngŵr rhwng mis Mawrth a mis Awst.'
Gall ymdrin â phethau arferol ar eich pen eich hun fod yn straen, ond mae hyd yn oed yn waeth pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae rhai o'r straeon mwyaf dirdynnol a glywais wedi dod gan fenywod sydd wedi gorfod prosesu'r newyddion gwaethaf y gellir ei ddychmygu ar eu pen eu hunain, tra bod eu partner yn aros y tu allan yn y coridor neu'n gorfod eistedd yn y car. Mae'r mater hwn yn haeddu mwy o sylw gwleidyddol; rydym yn cronni problemau hirdymor fel arall.
Mae'r gweithlu mamolaeth yn haeddu cael ei ddiogelu a'i ymestyn. Fel y dywedodd un fenyw, 'Roedd y staff yn dda iawn, ond gan nad oedd partneriaid yn cael ymweld, byddech yn meddwl y byddai ganddynt staff ychwanegol, ond na'. Felly, mae arnom angen adnoddau ychwanegol ar gyfer hyn, mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, ac i alluogi ymweliadau diogel. Yn gyffredinol, rhaid inni weld mwy o gefnogaeth i rai o'n dinasyddion a fydd yn byw hwyaf gyda chanlyniadau COVID-19, yn ogystal â'r rhieni a fydd yn eu helpu i gyrraedd yno.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan. Mae COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy ar bob un ohonom, ac fel y mae'r cynnig hwn yn ei nodi'n briodol, mae wedi gosod beichiau ofnadwy ar ysgwyddau rhieni newydd i blentyn a anwyd yn ystod y pandemig hwn. Mae'n werth ailadrodd fod y cyfnod o feichiogi i 2 oed yn gyfnod tyngedfennol, pan osodir sylfeini datblygiad plentyn. Os bydd corff ac ymennydd plentyn yn datblygu'n dda, mae eu cyfleoedd mewn bywyd yn gwella. Gall bod yn agored i straen neu adfyd yn ystod y cyfnod hwn olygu y bydd datblygiad plentyn yn llusgo ar ôl. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod roi plant mewn mwy o berygl o ganlyniadau iechyd gwael, ac maent yn gwneud hynny. Gall tlodi plant, er nad yw'n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod ynddo'i hun, roi plant mewn mwy o berygl o brofi un neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ofnadwy ar yr economi—un a fydd yn cymryd degawdau i wella ohono. Mae hyn wedi golygu bod llawer gormod o bobl yn colli eu swyddi ac yn wynebu'r posibilrwydd o ddiweithdra hirdymor. Rydym wedi gweld miloedd o bobl yn ymgeisio am bob swydd isafswm cyflog ers dechrau'r pandemig, mae banciau bwyd wedi gweld cynnydd dramatig yn y galw am eu gwasanaethau ers mis Ebrill, ac mae bywoliaeth pobl wedi'i dinistrio heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, ond oherwydd y feirws. Mae'r rhai sy'n wynebu sefyllfaoedd o'r fath yn sôn am yr effaith y mae'n ei chael ar eu hiechyd meddwl. Mae'r effeithiau hyn yn cael eu chwyddo'n helaeth i rieni newydd a rhai sydd ar fin dod yn rhieni.
Rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth a roddir yn draddodiadol yng Nghymru i ddarpar rieni, a hynny'n briodol. Fodd bynnag, gydag argyfwng COVID, mae'n ymddangos bod hynny i gyd wedi'i anghofio. Ac er bod y rhan fwyaf o fyrddau iechyd wedi cadw gwasanaethau cynenedigol ac ôl-enedigol, maent wedi bod yn dameidiog ac wedi crebachu'n fawr oherwydd gwahardd partneriaid. Yn ôl yr elusen gwasanaethau mamolaeth AIMS, mae gwasanaethau mamolaeth dan straen enfawr gyda'r pandemig COVID-19. Mae hyn yn peri i fenywod gael negeseuon cymysg am y gwasanaethau sydd ar gael, gyda gwahanol awdurdodau iechyd yn gwneud penderfyniadau gwahanol, ac mae llawer o famau wedi gweld y gefnogaeth i eni yn y cartref yn cael ei thynnu'n ôl.
Mae cynnwys y ddau riant yn hanfodol, yn enwedig i iechyd meddwl y fam. Mae'r pandemig wedi gweld llawer o famau beichiog a mamau newydd yn cael eu gadael heb rwydwaith cymorth. Dywedodd naw o bob 10 mam eu bod yn teimlo'n fwy pryderus o ganlyniad i fesurau COVID a'r cyfyngiadau symud. Mae iselder ôl-enedigol wedi saethu i fyny ers mis Mawrth, ac yn anffodus, mae mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl, wedi lleihau ers dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth. Mae mynediad at y gwasanaethau hyn yn bwysicach nag erioed oherwydd lleihau rhwydweithiau cymorth traddodiadol. Mae llawer o famau newydd yn methu galw ar fam neu nain i helpu oherwydd ofn hollbresennol coronafeirws.
Felly, mae'n bwysig—yn hanfodol bwysig—fod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar unwaith. Hoffwn ofyn i Weinidogion warantu na fydd partneriaid yn cael eu gwahardd rhag mynychu gwasanaethau mamolaeth a genedigaeth eu baban am weddill y pandemig. Oni weithredwn yn awr, mae perygl y byddwn yn niweidio cyfleoedd bywyd cenhedlaeth gyfan. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r rhai a gyflwynodd y ddadl bwysig hon, ac roeddwn yn fwy na pharod i'w chefnogi. Rwyf am ganolbwyntio ar un maes penodol yn fy nghyfraniad. Gwyddom i gyd fod pandemig COVID wedi cael effaith enfawr ar rieni a'u babanod, ond yn arbennig y rhai sydd angen gofal arbenigol mewn unedau newyddenedigol. Ers dechrau'r pandemig, mae mynediad llawer o rieni wedi'i gyfyngu, yn aml gyda dim ond un rhiant yn cael eu gadael i mewn ar y tro—mae ychydig o bobl eisoes wedi sôn am hynny heddiw.
Mewn amgylchiadau arferol, gwyddom fod y ddau riant fel arfer yn cael mynediad 24 awr i'r uned, fel y gellir eu cynnwys yn llawn yng ngenedigaeth eu baban. Fel y nodwyd eisoes, cafwyd arolwg gan Bliss, elusen flaenllaw'r DU ar gyfer babanod a aned yn gynamserol neu'n sâl, ac mae'r canfyddiadau'n syfrdanol mewn gwirionedd. Teimlai dwy ran o dair o rieni fod cyfyngiadau mynediad i'r uned yn effeithio ar eu gallu i fod gyda'u baban gymaint ag y dymunent, ac roedd y ffigur hwnnw'n codi i 74 y cant ar gyfer rhieni roedd eu babanod wedi treulio mwy na phedair wythnos mewn gofal newyddenedigol. Mae'n werth meddwl am hynny. Dyma bedair wythnos gyntaf bywyd babi lle mae'n rhaid i un rhiant ddibynnu ar y rhiant arall i roi unrhyw wybodaeth, unrhyw newyddion, ac efallai ychydig o luniau iddynt. Mae hynny'n gwbl amlwg yn mynd i gael effaith ar lesiant y rhiant nad yw'n gallu bod yn bresennol, a'u lles meddyliol.
Mae'r effaith arall y bydd hynny'n ei gael—a dywedodd 70 y cant y byddai'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant—yw'r cwlwm agosrwydd rhyngddynt a'r baban. Nid yn unig bydd tarfu ar y cysylltiad â'r baban ar yr adeg honno, mae hefyd yn galw am fewnbwn sylweddol, ar y pryd ac wrth symud ymlaen, i atal unrhyw anawsterau neu unrhyw effaith hirdymor ar y rhieni neu'r babi yn eu perthynas yn y dyfodol. Felly, byddwn yn awyddus iawn i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda byrddau iechyd ynglŷn â sut y gallant helpu a hwyluso cymaint o fynediad i rieni ag sy'n bosibl. Mae canllawiau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain yn nodi, a dyfyniad yw hwn,
mae'n hanfodol nad yw'r fam a'i phartner byth yn cael eu hystyried yn ymwelwyr o fewn yr uned newyddenedigol—maent yn bartneriaid yng ngofal eu baban a dylid annog a hwyluso eu presenoldeb gymaint ag sy'n bosibl.
Felly, gofynnaf yn ddiffuant i'r Llywodraeth ddilyn yr argymhelliad hwnnw gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain a gwneud eu gorau glas i'w sicrhau. Diolch.
Y Gweinidog iechyd i gyfrannu i'r ddadl. Vaughan Gething.
Nid ydym—. Rwy'n credu efallai eich bod yn iawn nawr. Parhewch.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwyf am ailddatgan fy ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn cael y gofal a'r cymorth y maent eu hangen i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae'r pandemig wedi arwain at heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen ar draws ein holl wasanaethau, ac rwyf eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i'n staff am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb parhaus yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru.
Rydym yn parhau i ymdrechu i ddarparu'r dechrau gorau posibl i blant yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n ddiwyd gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, partneriaid yn y trydydd sector, darparwyr addysg, ac o fewn Llywodraeth Cymru, i geisio ailgynllunio ein system blynyddoedd cynnar fel ei bod yn gydgysylltiedig ac wrth gwrs, fel bod buddiannau plant yn ganolog yn y system honno. Yn gefndir i hyn, mae'r gwaith a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf y mae nifer o'r Aelodau wedi sôn amdani—y sylfaen dystiolaeth honno ar gyfer yr hyn y mae angen inni ei wneud yn gyson i sicrhau gwelliannau i ragolygon bywyd plant a'u teuluoedd.
Ein ffocws drwy gydol y pandemig fu cefnogi dull hyblyg ac ymarferol o helpu plant a theuluoedd, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed lle nad yw teuluoedd wedi teimlo bod y cymorth hwnnw wedi'u cyrraedd. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd ac yn darparu cymaint o gymorth ag sy'n bosibl o fewn y cyfyngiadau presennol rydym yn byw gyda hwy, ac wrth wraidd hyn mae'r ddarpariaeth gyffredinol o wasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd. Rwy'n dal i fod yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gafodd fy nheulu fy hun gan staff mamolaeth ac ymwelwyr iechyd pan grëwyd ein teulu ni.
Mae angen inni sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir ar gael i gefnogi plant a'u teuluoedd. Yn ystod y pandemig, mae gwasanaethau mamolaeth bob amser wedi'u dynodi'n wasanaethau hanfodol ac ni chafodd unrhyw staff eu hadleoli. Felly, mae bydwragedd ac obstetregwyr wedi parhau i ddarparu'r cymorth emosiynol a chlinigol y bydd ei angen ar bob menyw, gan ddefnyddio cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhithwir. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfle i rieni greu cwlwm agosrwydd gyda'u baban a sicrhau bod y fam yn cael ei chefnogi drwy ei beichiogrwydd a'r enedigaeth.
Mae'r feirws wedi ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd am bartneriaid yn mynychu ysbytai. Cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig, a nodaf fod Lynne Neagle wedi'u croesawu, ar gyfer ymweliadau ag ysbytai ddiwedd mis Tachwedd. Felly, bydd ymweld â gwasanaethau mamolaeth bellach yn seiliedig ar ddull asesu risg. Bydd hwnnw'n ystyried ffactorau lleol ac amgylcheddol megis maint ystafelloedd, y gallu i gadw pellter cymdeithasol ac atal a rheoli heintiau er mwyn galluogi partneriaid i fod gyda menywod beichiog a mamau newydd yn ddiogel. Bydd pob menyw yn cael ei chefnogi gan o leiaf un partner i fod gyda hi yn ystod yr esgor, yr enedigaeth a'r cyfnod yn syth ar ôl geni, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Mae'r canllawiau ymweld diweddar yn dal i gyfyngu ymweliadau babanod newydd-anedig i un rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr wrth y gwely ar y tro. Mae hynny'n hanfodol er mwyn cadw pellter corfforol mewn mannau newyddenedigol, a lleihau'r risg o haint ac i gadw'r babanod hyn sy'n agored i niwed yn ddiogel. Gellir ystyried amgylchiadau unigol lle mae'r manteision i lesiant y claf neu'r ymwelydd yn drech na'r risgiau rheoli heintiau, ond mae'r risgiau hynny'n real iawn, fel y gwyddom i gyd. Pan fyddant gartref, mae bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn parhau i ddarparu cymorth parhaus a byddant yn gweithio gyda menywod i asesu eu hanghenion yn unigol. Mae bwydo ar y fron yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth allweddol ac mae cymorth wedi parhau mewn gwahanol ffyrdd yn ystod y pandemig. Roeddwn yn falch o weld bod y data bwydo ar y fron a gyhoeddwyd ddiwedd mis Tachwedd yn dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer y chwarter wedi cynyddu ar enedigaeth, 10 diwrnod, chwe wythnos a chwe mis oed.
Mae gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn parhau i ddarparu rhaglen gymorth gyffredinol drwy raglen Plant Iach Cymru. Gwnaethom gyhoeddi canllawiau penodol i bob bwrdd iechyd ym mis Mawrth mewn ymateb i'r amgylchiadau digynsail hyn. Roedd y canllawiau ar y ddarpariaeth yn cynghori gostyngiad dros dro yn nifer y cysylltiadau. Ym mis Awst, cawsant eu diweddaru, gyda'r disgwyliad y bydd pob bwrdd iechyd yn cynnig yr ystod lawn o gysylltiadau Plant Iach Cymru yn ddieithriad. Ar anterth y don gyntaf, roedd angen i rai byrddau iechyd adleoli ymwelwyr iechyd â sgiliau arbenigol i ardaloedd acíwt. Rydym wedi cael sicrwydd bod yr ymwelwyr iechyd hyn bellach wedi dychwelyd i'w rolau, a disgwyliwn i fyrddau iechyd gynllunio'r gweithlu i barhau i fodloni gofynion rhaglen Plant Iach Cymru.
Yn ystod y cyfyngiadau lleol mwy diweddar a'r cyfnod atal byr, parhaodd y gwasanaethau ymwelwyr iechyd i gefnogi teuluoedd a chynyddu cysylltiadau â hwy. Maent yn dal i weithio'n agos gyda theuluoedd ac yn darparu cyswllt wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl. Ond os nad yw cyswllt wyneb yn wyneb yn ymarferol—ac mae nifer o deuluoedd wedi dymuno peidio â chael cyswllt wyneb yn wyneb—maent yn gallu cynnig cyswllt rhithwir gan ddefnyddio Attend Anywhere i drefnu apwyntiadau sy'n addas i'r rhieni. Drwy gydol y pandemig, dyma un o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi'i godi droeon. Mae fy swyddogion, dan arweiniad y brif nyrs, wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr gwasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o bethau ac i roi sicrwydd ynglŷn â darparu gwasanaethau. Mae hynny wedi rhoi cyfle i rannu dysg a dull 'unwaith i Gymru' o ddod o hyd i atebion. Felly, rydym yn dal i anelu ar gael arweinyddiaeth broffesiynol uniongyrchol a rhannu dysg a phrofiad ledled y wlad.
Mae Dechrau'n Deg yn parhau i gael ei ddarparu, ac rwy'n hynod falch, fel cyn Weinidog a oedd yn gyfrifol am Dechrau'n Deg. Cadarnhaodd y canllawiau a gyhoeddwyd gennym ar 21 Hydref y dylid darparu'r ystod lawn o raglen Plant Iach Cymru a chyd-destun estynedig Dechrau'n Deg. Ceir enghreifftiau gwych o blant a theuluoedd yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd arloesol, gan gynnwys cymorth ar-lein, cyrsiau rhyngweithiol i rieni a phecynnau adnoddau plant a theuluoedd.
Un o'r datblygiadau arloesol allweddol yn ystod y pandemig hwn fu'r defnydd o dechnoleg rithwir. Gwyddom nad yw rhai byrddau iechyd wedi cael yr offer i ddefnyddio pob rhaglen, ond mae ein swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd i nodi eu gofynion fel y gallant gefnogi menywod a'u teuluoedd yn iawn. Rwy'n cydnabod ei bod yn ddigon posibl y bydd rhieni yn teimlo'n ynysig oddi wrth deuluoedd a ffrindiau ar hyn o bryd, a gallai hynny gael effaith negyddol ar iechyd meddwl amenedigol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, nid yn unig yn dilyn y buddsoddiad rydym wedi'i wneud yn gyson ers 2015, ond ein hymrwymiad parhaus, gan gynnwys yn ystod y pandemig hwn. Roedd yr arian a ddarparwyd gennym ar gyfer gwella gwasanaethau yn ystod y pandemig, a'r arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu, yn unol â'r blaenoriaethau yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn benodol.
Byddwn yn parhau i fonitro'r dystiolaeth sydd ar gael i ddeall effaith gynyddol COVID-19 ar iechyd meddwl. Bydd hyn yn cynnwys arolygon poblogaeth yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir gan ein GIG. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol i ddeall yr effaith ac i gytuno sut y mae angen i ni ymateb iddi. Mae'n hanfodol bwysig, serch hynny, fod teuluoedd yn gwybod bod gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar gael o hyd, ac na ddylent osgoi gofyn am ofal iechyd angenrheidiol. Mae ein timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru yn parhau i ddangos arloesedd ac ymroddiad, ac maent wedi symud i amrywiaeth o wahanol ffyrdd o gefnogi teuluoedd lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n deall pa mor bwysig y gall cymorth gan gymheiriaid fod i rieni newydd, a bod grwpiau rhieni, babanod a phlant bach yn gallu helpu i leihau ynysigrwydd, a chefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol rhieni. Mae'r rheoliadau coronafeirws presennol yn cadarnhau y gellir cynnal y sesiynau hyn. Maent yn ddarostyngedig i'r un gofynion sy'n berthnasol i weithgareddau sy'n cael eu trefnu ar gyfer datblygiad neu lesiant plant. Mae'r canllawiau wedi'u cyhoeddi ac maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Fel y nododd Lynne Neagle, mae COVID-19 wedi, ac yn dal i gael effaith negyddol ar fywydau ein teuluoedd mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, lle mae rhai gwasanaethau wedi'u rhewi neu eu lleihau oherwydd y pandemig. Sefydlwyd y gronfa datblygiad plant i ddarparu cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y cyfyngiadau symud, er mwyn mynd i'r afael â phryderon ynglŷn ag oedi datblygiadol mewn meysydd allweddol megis lleferydd, iaith, cyfathrebu, sgiliau echddygol a datblygiad personol a chymdeithasol.
Rwy'n cydnabod bod yn rhaid inni barhau i ddatblygu cynnig cynhwysfawr ar gyfer y blynyddoedd cynnar, symleiddio'r dirwedd bresennol, a darparu system blynyddoedd cynnar wirioneddol integredig. Rhaid inni wneud hynny drwy ystyried y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effaith COVID-19 ar blant, a gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod plant a theuluoedd yn parhau i gael cymorth dros y cyfnod eithriadol rydym yn parhau i fyw drwyddo. Gwyddom nad ydym mewn sefyllfa berffaith yn awr, ac mae llawer mwy inni ei ddysgu o brofiadau bywyd rhieni. Felly, nid wyf yn bychanu unrhyw un o'r profiadau y mae Aelodau wedi tynnu sylw atynt yn y ddadl hon; mae'n rhaid inni barhau i ddysgu, datblygu a gwella gyda'n gilydd. Diolch, Lywydd.
Galwaf nawr ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl. Ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, mae'n hyfryd dy weld di yma; rŷn ni'n edrych ymlaen i'r diwrnod pan byddwn ni'n gallu croesawu Idris bach yma hefyd i'r Senedd. Felly, llongyfarchiadau i chi gyd. Bethan Sayed.
Diolch, Llywydd, a diolch am y geiriau caredig.
Diolch, Lynne Neagle a Leanne Wood am gyflwyno'r ddadl hon gyda mi. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn fy nghais i fod yn rhan ohoni—nid oeddwn eisiau colli'r cyfle hwn—ac am gyfleu straeon bywyd menywod ledled Cymru mewn ffordd mor angerddol heddiw. Diolch i bawb a gyfrannodd, ac yn enwedig i Hannah Albrighton, y deisebydd, sydd ei hun wedi cael babi yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw'n syndod ei bod wedi cymryd tri gwleidydd benywaidd i'r ddadl hon ddigwydd mewn gwirionedd, i wthio Llywodraeth ffeministaidd honedig i weithredu. Dywed Lynne Neagle yn glir fod babanod wedi bod yn anweledig yn ystod y pandemig hwn i raddau helaeth, ac mae'n pwysleisio'n fawr y ffaith bod hyn wedi effeithio ar gyfraddau marwolaethau mamau a chyfraddau hunanladdiad yma yng Nghymru. Dywedodd Leanne ein bod wedi colli'r ffocws ar fabanod hyd yma, ac ail-bwysleisiodd y mater rwy'n angerddol yn ei gylch, sef creu'r swigen o gefnogaeth i rieni newydd fel nad oes rhaid iddynt ymdopi ar eu pen eu hunain yn y dyfodol, fel y bu'n rhaid i mi, a llawer o rieni eraill, ei wneud.
Cyn i mi barhau, hoffwn ddiolch yn gyflym i Sarah Rees, sy'n llenwi ar fy rhan yn ystod fy nghyfnod mamolaeth a fy rheolwr cymunedol, am ymgyrchu mor ddiwyd ac angerddol ar y mater hwn ar fy rhan. Ni allwn fod wedi gobeithio cael rhywun gwell i wneud gwaith AS yn fy lle. Pan roddais enedigaeth yn ystod y pandemig hwn, rwy'n rhyfeddu sut y llwyddais i, a miloedd yn yr un sefyllfa â mi, i ymdopi. Nid yw'n cael ei ddweud ddigon yn y Siambr hon nac yn unman arall yn y byd, o ran hynny: fenywod, rwy'n canmol eich dewrder, am gyflawni un o brofiadau mwyaf, os nad y mwyaf, gwerth chweil, ond gwirioneddol boenus, eich bywyd, a hynny ar eich pen eich hunain bron ac wedi eich ynysu oddi wrth anwyliaid yn ystod y profiad penodol hwn.
Rwy'n sylweddoli bod heriau i'r Llywodraeth hon yn ystod y cyfnod hwn. Rwyf wedi bod yn gwylio'r cyfan o'r ymylon, ac rwy'n sylweddoli nad yw'n hawdd cydbwyso'r hyn sydd ei angen ar bobl a'r hyn y mae'n rhaid i gymdeithas ei wneud i fynd i'r afael â lledaeniad y feirws hwn. Ond aeth pobl i fwytai i gael bwyd gyda ffrindiau, tra bod menywod yn yr ysbyty yn eistedd am bedwar diwrnod, fel y gwneuthum innau, yn aros iddynt brysuro'r geni, gan frwydro drwy boenau geni aruthrol hyd nes i esgor 'gweithredol' ddechrau a bu'n rhaid i wŷr ruthro o'u cartrefi, gan weddïo na fyddent yn colli genedigaeth eu plentyn. Ond aeth pobl i dafarndai ac eistedd o gwmpas yn sgwrsio, tra dywedwyd wrth bartneriaid geni, ar ôl i wraig gael llawdriniaeth fawr, llawdriniaeth gesaraidd, marw-enedigaeth, fod yn rhaid iddynt ei gadael awr yn unig ar ôl iddi roi genedigaeth. Y fenyw ar ei phen ei hun yn yr ysbyty yn erthylu, profiad yr awdur Caroline Criado-Perez fel y dywedodd wrthym heddiw, a chael ei gadael i alaru ar ei phen ei hun. Eraill wedi'u llethu, fel fi, wrth orfod bwydo a newid a gofalu am fabi newydd, pan ydych yn cael trafferth symud yn rhwydd, a phan fyddwch yn gwneud hynny, mae gwaed yn llifo allan ohonoch fel rhaeadr, rydych yn rhuthro i'r toiled ynghlwm wrth gathetr tra bod eich babi'n sgrechian ac yn sgrechian i chi ddychwelyd. Ond aeth pobl i siopa, tra bod bydwragedd 'shero' wedi'u gorweithio, mamau'n gwasgu'r botwm coch wrth ochr eu gwely, yn daer eisiau cymorth, yn crio'n dawel wrth i'w babanod grio yn y nos, mamau'n helpu ei gilydd mewn ysbryd cymunedol na allwn ond breuddwydio ei weld yn parhau y tu hwnt i'r argyfwng COVID hwn. Ond roedd pobl yn mynychu campfeydd, tra bod partneriaid gartref, yn aros yn flinedig am yr alwad WhatsApp i weld eu plentyn newydd-anedig, yn methu helpu mam, gwraig neu bartner newydd sy'n fregus yn feddyliol—mae'n ddrwg gennyf. Tadau yn methu creu cwlwm agosrwydd yn ystod y camau cyntaf hollbwysig hynny—mae'n ddrwg gennyf—yn methu rhoi eu breichiau o amgylch eu hanwyliaid pan fo baban yn cael ei golli. Dyna realiti geni yn ystod COVID.
Wrth gwrs, mae'r canllawiau wedi nodi drwy gydol cyfnod y pandemig y gall menywod gael partneriaid geni mewn llawer o amgylchiadau penodol, ond gan eu bod yn agored i'w dehongliadau eu hunain, mae byrddau iechyd unigol, ar y cyfan, wedi gwahardd tadau, partneriaid geni a theulu ehangach rhag bod yn bresennol ar adegau allweddol yn ystod y beichiogrwydd a genedigaeth, ac fe wnaeth rhai tadau a gysylltodd â mi golli'r enedigaeth bron yn gyfan gwbl. Mewn cyhoeddiadau diweddar, llaciodd Llywodraeth Cymru eu canllawiau a'i gwneud yn gliriach y gall menywod gael partneriaid geni a chefnogaeth, ond mae gennym dystiolaeth eisoes nad yw hyn yn cael ei weithredu gan fyrddau iechyd o hyd. Ysgrifennodd rhywun at fy swyddfa yr wythnos hon yn amlinellu ei phrofiad diweddar iawn yn Betsi Cadwaladr yn y cyfnod ers i Lywodraeth Cymru ddiweddaru'r canllawiau ar ddiwedd mis Tachwedd. Mae ei phrofiad yn rhywbeth rydym i gyd yn gyfarwydd ag ef. Mae'n byw yn un o'r ardaloedd sydd â'r cyfraddau trosglwyddo isaf yn y DU, ac roedd yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r rheol fympwyol fod yn rhaid i geg y groth agor 4 cm cyn y caniateid iddi gael partner geni, ond dim ond am awr ar ôl iddi roi genedigaeth, wedyn roedd ar ei phen ei hun. Mae hyn yn cynnwys menywod sy'n cael llawdriniaethau cesaraidd, ac ni chafwyd unrhyw ymweliadau o gwbl ar ôl yr enedigaeth.
Yn Lloegr, yn haen 3, a deallaf mai honno yw'r haen fwyaf difrifol, caniateir partneriaid geni a thadau drwy gydol y broses o esgor ac am 12 awr wedyn. Heb ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar hyn, mae'n amlwg y bydd menywod yn dal i gael eu gadael ar eu pen eu hunain heb gefnogaeth briodol.
Clywais y Gweinidog yn sôn hefyd am esgor gweithredol yn ei gyhoeddiad diweddaraf, wel, nid yw hynny wedi newid. Caniateir i ddynion neu bartneriaid ddod i mewn yn ystod esgor gweithredol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod partneriaid geni yn cael bod yn bresennol am fwy na hynny fel nad yw menywod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain, ac fel nad ydynt yn gorfod dioddef y boen ar eu pen eu hunain, drwy'r dydd, bob dydd.
Dylem hefyd ystyried beth sy'n digwydd pan fydd menywod yn gadael yr ysbyty. Mewn ymchwil a gyflawnwyd gan fy swyddfa, fel y crybwyllodd Lynne Neagle yn garedig iawn, ni chafodd 60 y cant unrhyw archwiliadau ôl-enedigol, ac roedd chwarter eisiau cymorth iechyd meddwl amenedigol, gyda'r rhan fwyaf yn teimlo nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth iechyd meddwl amenedigol o gwbl.
Mewn unrhyw archwiliad a fynychais gyda fy mab, Idris, nid ydynt erioed wedi gofyn sut ydw i. Maent yn gofyn sut mae Idris, sy'n bwysig iawn, ond nid ydynt erioed wedi gofyn i mi sut ydw i. Hefyd, y newyddion diweddaraf ar hyn, mae'r arolwg a wnaethom yn y cyfnod cyn y ddadl yr wythnos hon yn dangos bod 85 y cant o'r rhai a gysylltodd â ni wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi effeithio'n ddifrifol arnynt oherwydd y diffyg cyswllt â'u hymwelydd iechyd.
Ac nid yw hwn yn fater sy'n ymwneud â menywod yn unig. Mae'n rhaid i ni ystyried sut y mae hyn oll yn effeithio ar dadau a phartneriaid newydd. Gallai amddifadu tadau o brofiadau bywyd fod yn negyddol iawn i iechyd meddwl rhywun, felly rydym wedi gweithio gydag ymgyrchwyr fel Mark Williams yn fy rhanbarth, sy'n ymgyrchu'n frwd er mwyn tynnu sylw at iechyd meddwl tadau yn ehangach.
Hoffwn gloi drwy sôn am rywbeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i honni droeon yn y gorffennol, fel y dywedais ar y dechrau: bod yn Llywodraeth ffeministaidd. Mae hwnnw'n nod canmoladwy, ond mae'n amlwg i mi, a bydd yn amlwg i eraill, fod camau gweithredu neu ddiffyg camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn dinistrio'r honiad hwnnw. Mae menywod a rhieni, yn enwedig llawer o rieni am y tro cyntaf, wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth Cymru drwy'r flwyddyn am yr effaith negyddol y mae'r rheolau hyn wedi'i chael arnynt, ond yn ofer. Rydym bellach wedi diweddaru canllawiau gan Lywodraeth Cymru, ond eto ni welwn ddigon o symud gan fyrddau iechyd unigol i wneud y newidiadau angenrheidiol hynny. Rydym angen arweiniad ac egni i ddwyn y byrddau iechyd hynny i gyfrif er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud yr asesiadau risg hynny, ie, nid ydym eisiau rhoi unrhyw un mewn perygl, ond eu bod yn gwneud hynny'n ddiwyd a newid y rheolau fel y gallwn sicrhau bod pawb yn ddiogel a sicrhau bod bywydau'r babanod hynny'n dechrau mewn ffordd hapus ac adeiladol.
Er ein bod yn symud tuag at gyfnod lle gall cynifer o bobl â phosibl gael y brechlyn, gobeithio, efallai na fydd y sefyllfa hon yn yr ysbyty'n newid am gyfnod hir eto, ac mae angen iddi newid nawr. Rwy'n gobeithio'n fawr fod y Gweinidog a'r Llywodraeth wedi clywed llais fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig ar y mater hwn, fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, sydd wedi gwneud yr un peth, ac eraill yn y Siambr hon sydd wedi clywed straeon gan eich etholwyr. Gwrandewch arnynt, Vaughan Gething, fel Gweinidog, a newidiwch y rheolau fel na fydd gennym argyfwng iechyd meddwl ymysg ein rhieni mewn misoedd neu flynyddoedd i ddod oherwydd y ffordd y cawsant eu trin yn ystod y pandemig hwn. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe fydd y bleidlais ar hynna'n cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar ddeiseb P-05-1010, 'Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7502 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu’ a gasglodd 6,017 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod y prynhawn yma wedi casglu 6,017 o lofnodion ac mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd ofnadwy a welwyd yn gynharach eleni. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan y Cynghorydd Heledd Fychan, sy'n cynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ym mis Chwefror 2020 gwelwyd rhai o'r llifogydd gwaethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru. Ar 16 a 17 Chwefror, achosodd Storm Dennis lifogydd eang, gan effeithio ar fwy na 1,000 o gartrefi a busnesau yn ôl pob sôn, a hynny yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Yn anffodus, nid digwyddiad ynysig ydoedd oherwydd gwelodd yr ardal lifogydd pellach ddiwedd mis Chwefror ac eto ym mis Mehefin.
Nawr, fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth sydd hefyd wedi cael ei tharo'n wael gan lifogydd yn ddiweddar, mae gennyf bob cydymdeimlad â phobl y mae'r digwyddiadau hyn, sydd bellach yn digwydd yn aml iawn, wedi effeithio ar eu cartrefi a'u busnesau, ac rwy'n awyddus i helpu i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.
Nawr, pan drafodasom y ddeiseb, gwnaeth y straeon personol torcalonnus a gawsom argraff ar aelodau'r Pwyllgor Deisebau, a helpodd hynny i gyfleu'r effaith bersonol enfawr y mae digwyddiadau fel y rhain yn ei chael. Wrth gwrs, mae aelod o'n pwyllgor, fy nghyd-Aelod, Leanne Wood AS, wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o gefnogi ei hetholwyr y mae'r digwyddiadau trasig hyn wedi effeithio arnynt. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Mick Antoniw, gyda'r Aelod Seneddol Alex Davies-Jones AS, hefyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad eu hunain yn ddiweddar ar effaith y llifogydd, sy'n dangos bod y rhain yn faterion trawsbleidiol y mae angen mynd i'r afael â hwy.
Mae'r ddeiseb yn galw am ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i'r llifogydd. Mae'n dadlau bod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd fel y gellir atal difrod tebyg yn y dyfodol. Mewn ymateb, ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor Deisebau i ddweud nad yw'n teimlo bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai cyfrifoldeb yr awdurdod rheoli perygl llifogydd lleol yw cynhyrchu adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 yn dilyn unrhyw achosion o lifogydd. Amlinellodd y gwaith ymchwilio sydd eisoes yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf i asesu achosion y llifogydd ac i wneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir lleihau perygl llifogydd. Deallaf mai safbwynt Llywodraeth Cymru felly yw ei bod yn dymuno ystyried yr adroddiadau statudol cyn penderfynu a oes angen unrhyw ymchwiliad neu adolygiad pellach. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog heddiw'n gallu ymhelaethu ar y safbwynt hwn yn nes ymlaen yn y ddadl.
Fel y nodais yn gynharach, mae'r Pwyllgor Deisebau hefyd wedi cael sylwadau pellach gan y deisebwyr, gan gynnwys nifer fawr o dystebau personol a gasglwyd gan drigolion lleol. Mae'r rhain yn manylu ar y costau personol a'r costau economaidd sy'n cael eu talu gan y bobl a'r busnesau'n uniongyrchol. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill eisiau ymdrin ag effaith y llifogydd ar eu hetholwyr. Felly, defnyddiaf weddill y sylwadau hyn i gyfeirio at rai o'r prif bwyntiau a amlinellwyd gan y deisebwyr.
Yn gyntaf, mae'r deisebydd yn dadlau bod cyfyngiadau sylweddol ar broses adrodd adran 19. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn i awdurdodau lleol ymchwilio iddynt eu hunain, o ystyried y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn atal llifogydd yn lleol, ac oherwydd bod nifer gyfyngedig o gyfleoedd i bobl leol fod yn rhan o'r prosesau hynny. Yn ail, mae'r deisebwyr yn credu y dylid mabwysiadu persbectif ehangach. Maent o'r farn y byddai ymchwiliad annibynnol yn gallu ystyried materion a gwersi ehangach, gan gynnwys datgan argyfwng hinsawdd, a'r effaith y mae'r digwyddiadau hyn wedi'i chael ar yr economi leol ac iechyd a lles trigolion. Yn gyffredinol, mae'r deisebwyr yn cwestiynu a yw cwmpas yr adroddiadau presennol y cyfeiriwyd atynt gan y Gweinidog yn ddigon mawr i archwilio'r materion hyn yn llawn, ac i lywio gwaith atal llifogydd yn y cymunedau hyn, a ledled Cymru yn wir.
I gloi'r sylwadau agoriadol hyn, mae'r Pwyllgor Deisebau yn edrych ymlaen nawr at glywed cyfraniadau gan Aelodau eraill y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y ddadl hon, ac fe ddychwelaf i roi ystyriaeth bellach i'r ddeiseb yng ngoleuni'r rhain. Mae'r deisebwyr wedi dweud yn glir iawn mai adolygiad neu ymchwiliad annibynnol yw'r unig ffordd o ddysgu'r gwersi a fydd yn sicr yn helpu i atal y mathau hyn o lifogydd rhag digwydd eto, ac i roi'r sicrwydd y mae cymunedau yn Rhondda Cynon Taf ei angen ac yn ei haeddu. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi esboniadau pellach y prynhawn yma mewn ymateb i'r pwynt hwn a phwyntiau eraill a fydd yn codi yn ystod y ddadl. Rwy'n croesawu'r holl gyfraniadau y mae Aelodau eraill am eu gwneud. Diolch, Lywydd.
Codaf i gefnogi'r hyn y mae'r ddeiseb yn ei ddweud, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr ymarfer gwersi a ddysgwyd wedi'i gwblhau a'i fod yn ystyried yr holl agweddau y mae trigolion, busnesau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ofnadwy hyn ym mis Chwefror 2020, a digwyddiadau llifogydd eraill a'i dilynodd, yn cael eu dysgu, oherwydd roedd maint y llifogydd yn wahanol i ddim a welwyd cyn hynny. Gallaf gofio ymweld ag ardaloedd amrywiol a gweld dinistr llwyr, boed yn eiddo domestig, boed yn fusnesau, neu ddim ond y rhandiroedd y gallwch eu gweld oddi ar yr A48 yn etholaeth Pontypridd, wedi'u golchi ymaith yn llwyr, gan ddangos grym y dŵr a maint y difrod. Ac nid dŵr yn unig sy'n taro'r eiddo preswyl hynny ond y carthion amrwd sy'n codi drwy'r draeniau ac sy'n difetha'r eiddo fel na ellir byw ynddo hyd nes eu bod yn cael eu trwsio a'u hatgyweirio'n drylwyr.
Yn amlwg, yr hyn sydd gennym yma yw llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus sydd wedi gwneud eu gorau; heb amheuaeth, maent wedi gwneud eu gorau yn y cyfnod a ddilynodd i wneud yr hyn a allent i helpu'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, boed hynny yn y Rhondda neu unrhyw ran arall o Ganol De Cymru, ond mae gwersi i'w dysgu yma. Methodd y system rybuddio mewn llawer o achosion, fel y gwyddom o rai o'r adroddiadau cynnar gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac os na allwch gael y system rybuddio sylfaenol yn iawn, pa obaith sydd gennych o sicrhau bod y newidiadau mwy strwythurol y mae angen i chi eu gwneud i fesurau atal llifogydd yn cael eu rhoi ar waith, megis glanhau'r ffosydd a sicrhau bod y dyfrffyrdd yn glir? Dyma rai o'r pethau sylfaenol roedd asiantaethau a byrddau afonydd yn arfer eu gwneud pan oeddent yn bodoli tua 20, 30 mlynedd yn ôl, pethau a gâi eu cymryd yn ganiataol ar y pryd, a phethau a oedd yn caniatáu i ddŵr lifo'n gymharol rydd.
Mae'n ffaith y byddwn yn gweld mwy o ddigwyddiadau fel hyn. Mae'n ffaith bod llifogydd wedi bod yn digwydd erioed ond mae'n bosibl nad yw llawer o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau ym mis Chwefror, a digwyddiadau eraill drwy 2020, erioed wedi gweld llifogydd o'r blaen. Felly, ceir rhai materion gweinyddol y mae angen eu harchwilio, gwaith dilynol sydd angen ei wneud, ac ymchwiliad yw'r unig beth a fydd yn mynd at wraidd y materion hynny, a'r Llywodraeth sydd â'r pŵer i greu'r ymchwiliad hwnnw, a holi a dwyn ynghyd y cyrff cyhoeddus hynny o'r awdurdodau lleol, y byrddau iechyd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r effaith economaidd, yn enwedig yn y cymunedau hynny lle cafodd busnesau eu dinistrio i'r fath raddau, yn ogystal â'r mannau byw domestig a gafodd eu hysgubo ymaith i lawer o unigolion a theuluoedd. Gallwn i gyd gofio llun y tirlithriad a ddigwyddodd, ac mae llawer o waith i'w wneud o hyd yn yr ardal benodol honno, a dyna lle mae angen i'r ddwy Lywodraeth, Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, gydweithio i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw.
Felly, dyna pam rwy'n codi i gefnogi'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd credaf mai ymchwiliad cyhoeddus, a phwysau adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw, yw'r unig ffordd y gallwn wneud y newidiadau y bydd eu hangen, myfyrio ar yr hyn a wnaeth weithio, ond yn ddieithriad, gallwn ystyried ac unioni'r pethau na weithiodd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn fwy cadarnhaol, yn hytrach na dim ond dweud eu bod yn dal i aros am wahanol adroddiadau gweinyddol gan yr holl sefydliadau amrywiol sy'n marcio eu gwaith cartref eu hunain. Ni fydd hynny'n ddigon da i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli yng Nghanol De Cymru, a galwaf ar y Llywodraeth i weithredu'n fwy cadarnhaol mewn ymateb i'r cais hwn gan y ddeiseb heddiw.
Mae ein cynnig yn gofyn am rywbeth syml iawn—rhywbeth rwy'n rhyfeddu ond nid yn synnu bod Gweinidogion yn rhedeg rhagddo: ein bod yn cael ymchwiliad i ddysgu'r gwersi o'r llifogydd,... i ddiogelu mwy o gartrefi a busnesau... edrych ar... yswiriant fforddiadwy... a... thaliadau amserol, ymchwiliad i ba fesurau sydd eu hangen gan y Llywodraeth i ariannu amddiffyniadau llifogydd a mesurau rheoli dalgylchoedd i fyny'r afon a darparu adnoddau ar gyfer ymatebion brys.
Nid fy ngeiriau i yw'r rheini—geiriau'r AS Llafur dros Plymouth ydynt. Roedd yn siarad mewn dadl ym mis Mawrth eleni am lifogydd yn Lloegr. Yn y ddadl honno, nododd yr AS y gallent fod wedi bod yn gwbl wleidyddol, ac ymosod ar y Llywodraeth am eu methiannau, neu, ac rwy'n dyfynnu,
Dewisodd Llafur godi uwchlaw'r ddadl bleidiol honno, a dyna pam y dylai pob Aelod o'r Tŷ deimlo y gall gefnogi ein cynnig. Sut nad yw dysgu'r gwersi o ddigwyddiad—mewn adolygiad o ba gamau a ddigwyddodd, pa gamau na weithiodd cystal ag y gobeithiwyd a ble y gellid gwneud gwelliannau—yn gam synhwyrol a chymesur i'w gymryd ar ôl argyfwng cenedlaethol fel y llifogydd diweddar?
Pleidleisiodd pob AS yn y Cymoedd i gefnogi ymchwiliad i lifogydd yn Lloegr, ac eto, yng Nghymru, lle mae gan Lafur bŵer i ddechrau un, y safbwynt oedd gwrthwynebu ymchwiliad. Gwnaethant bleidleisio yn ei erbyn yn yr awdurdod lleol ac mae Gweinidogion Llafur yn y Llywodraeth hon wedi'i wrthwynebu hefyd. Ym mis Mehefin eleni, yn ystod cyfweliad gydag ITV Wales, disgrifiodd un AS Llafur ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn y Rhondda fel
y syniad mwyaf hurt a glywais.
Efallai ei fod wedi anghofio ei fod wedi pleidleisio dros ymchwiliad i lifogydd yn Lloegr gwta dri mis ynghynt.
Nid yw'n syndod nad oes gan bobl hyder mewn proses lle mae awdurdodau'n archwilio eu hunain. Maent wedi gweld digon o drosglwyddo cyfrifoldeb, a gwahanol sefydliadau'n gwrthod ysgwyddo cyfrifoldeb. Gall pobl yn y Rhondda gofio cael gwybod dro ar ôl tro yn ystod y 1990au gan y cyngor Llafur fod safle tirlenwi Nant-y-Gwyddon yn ddiogel. Cwynodd trigolion am flynyddoedd fod y domen honno'n achosi afiechydon, a chefnogodd Plaid Cymru y trigolion hynny yn eu hymgyrch. Argymhellodd ymchwiliad wedyn y dylid cau'r domen honno, ac ni fyddem wedi cael y fath ganlyniad heb y cyfuniad hwnnw o bŵer pobl a phwysau gwleidyddol.
Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu ymchwiliad annibynnol yn dadlau y byddai'n cymryd gormod o amser ac y byddai'n rhy ddrud. Nid oes angen iddo fod yr un o'r pethau hynny. Ni allwch roi pris ar ddiogelu pobl a'u cartrefi. Ni allwch ychwaith roi pris ar roi tawelwch meddwl i bobl, tawelwch meddwl sydd wedi bod yn absennol i gynifer o bobl ers mis Chwefror eleni. Y fenyw o Dreorci sydd wedi dioddef llifogydd dro ar ôl tro ac na all gysgu bellach pan fydd yn bwrw glaw yn y nos—ceir cynifer o straeon fel hyn, a byddai ymchwiliad yn cyrraedd yr achosion sylfaenol, a dyna fyddai ein gobaith gorau o gael atebion parhaol.
Rwy'n erfyn ar holl Aelodau'r Senedd hon, ond yn enwedig y rheini ohonoch nad oeddech yn bwriadu cefnogi ymchwiliad hyd yma, nad yw'n rhy hwyr i wneud y peth iawn. Nid yw'n rhy hwyr i roi'r bobl y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt yn gyntaf. Bydd pleidlais o blaid y cynnig hwn heddiw yn cryfhau'r achos dros ymchwiliad a fydd yn nodi'r hyn a aeth o'i le a pham. Dyna sut y caiff pleidlais o blaid y cynnig hwn ei dehongli yn y Rhondda. Gall ymchwiliad nodi faint o gyllid sydd ei angen, gall nodi lle mae angen inni fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a mesurau atal llifogydd yn y dyfodol. Gwyddom y rhagwelir y bydd tywydd eithafol yn digwydd yn amlach oherwydd yr argyfwng hinsawdd, ac mae angen inni fod yn barod. Yr unig ffordd o sicrhau ein bod yn barod yw deall yn llawn yr hyn a ddigwyddodd eleni, a beth sydd angen digwydd i unioni pethau.
Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth a chynrychiolwyr lleol i weithio gyda ni i gefnogi ymchwiliad i lifogydd heddiw, nid er fy mudd i, nid er budd Plaid Cymru, ond i'r nifer o bobl yn ein cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd eleni. Ni ddylai fod rhaid iddynt fynd drwy'r trawma hwnnw eto. Diolch.
Galwaf ar Weinidog—. O, na. Mae'n ddrwg gyda fi. Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon gan y Pwyllgor Deisebau heddiw, oherwydd mae'n gyfle i siarad am y llifogydd a drawodd RhCT ym mis Chwefror, a Phontypridd, fy etholaeth i, oedd yr ardal yr effeithiwyd arni waethaf yn Rhondda Cynon Taf. Felly, mae'n fater rwyf wedi gofyn cwestiynau yn ei gylch yn gyson i'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill, oherwydd, er bod llawer wedi'i wneud eisoes, mae llawer mwy i'w wneud o hyd, ac nid wyf yn bwriadu caniatáu i'r cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd yn fy etholaeth gael eu hanghofio.
I bob un o'r 321 o gartrefi a dwsinau o fusnesau a ddioddefodd lifogydd difrifol ym Mhontypridd, ac i'r 1,800 o gartrefi yr effeithiwyd arnynt fel arall, gweithredu yw'r gair allweddol. Mae'r gaeaf yma ac mae bron iawn yn flwyddyn ers y llifogydd. Mae'n ddealladwy fod pobl yn bryderus ar gyfer y dyfodol, ac mae ofn llifogydd pellach yn drawmatig ac ni ddylid ei fychanu. Felly, ni chredaf fod fy etholwyr am i ddim rwystro'r cynnydd rydym eisoes yn ei wneud, a'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Mae lle i ymchwiliadau cyhoeddus, ond mae ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, ymchwiliad statudol, yn ddrud, mae'n cymryd llawer o amser ac mae'n broses fiwrocrataidd iawn, a gwn o brofiad ymarferol y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd blwyddyn fan lleiaf—o leiaf 18 mis yn ôl pob tebyg—ac na fyddai'n debygol o ychwanegu llawer at yr hyn a wyddom eisoes am y wybodaeth sydd gennym eisoes o adroddiad yr ymchwiliad a gyhoeddwyd eisoes gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu'r hyn y byddwn yn ei wybod, yn sicr yn fy etholaeth i, o'r wyth o adroddiadau ymchwiliadau adran 19 rydym yn eu disgwyl rywbryd ar ddechrau mis Ionawr. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael cyfle i ystyried yr adroddiadau hynny, oherwydd byddant yn ein galluogi i gymryd camau ar unwaith ar ben y camau sydd eisoes ar y gweill.
Rwy'n deall y galwadau a fwriadwyd yn dda am ymchwiliad cyhoeddus, ond ni fydd yn newid yr hyn sydd angen ei wneud. Yn fy marn i, ni fydd ymchwiliad cyhoeddus ond yn oedi'r hyn sydd angen ei wneud nawr, a phe bawn yn meddwl y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn sicrhau unrhyw fudd i'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, byddwn yn ei gefnogi. Ar hyn o bryd, nid dyma'r cam cywir. Efallai y bydd yn briodol ystyried hynny pan gawn yr adroddiadau adran 19, ond nid ar hyn o bryd.
Felly, fel y dywedais, rhaid inni ganolbwyntio ar weithredu, ac mae cynnydd wedi bod. Gwnaed gwaith atgyweirio sylweddol gan gyngor RhCT, Dŵr Cymru a CNC. Mae cyngor RhCT, ynghyd â Llywodraeth Cymru, hefyd wedi bod yn archwilio'r potensial ar gyfer cynllun yswiriant busnes lleol, ac rwyf am weld hynny'n datblygu. Ac rwy'n ddiolchgar i Weinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths, sydd wedi ymrwymo miliynau o bunnoedd o adnoddau Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall y gwaith paratoi sy'n cael ei wneud gan gyngor RhCT fynd rhagddo tra byddwn yn aros am benderfyniad Llywodraeth y DU i wireddu ei haddewid o £70 miliwn i £80 miliwn o gyllid i atgyweirio seilwaith allweddol. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i elusen Moondance, a gyfrannodd rodd hael o £100,000 i helpu i gefnogi dros 100 o'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol yno. Hefyd, rwy'n ddiolchgar iawn am ymyriadau diweddar gan y Gweinidog iechyd meddwl, Eluned Morgan, am ei gwaith gyda bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg mewn perthynas â sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth ar gael i'r gymuned leol.
A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r holl gynghorwyr a gweithwyr cymunedol a thrigolion a wnaeth gymaint yn ystod y llifogydd? Nawr, yn union ar ôl y llifogydd, ymwelais â'r cymunedau gyda'r Prif Weinidog a'r AS lleol ym Mhontypridd, Alex Davies-Jones. Rydym wedi cynnal dros 30 o gyfarfodydd cyhoeddus a phreifat gyda thrigolion a busnesau lleol. Roedd y diweddaraf yr wythnos hon. Nodir barn a phrofiadau'r preswylwyr mewn adroddiad manwl iawn sydd wedi'i ddosbarthu ymhlith pawb yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y llifogydd. Fy mhryder mwyaf uniongyrchol yw na ddylid atal unrhyw gartref a fyddai'n elwa'n rhesymol o fesurau gwrthsefyll llifogydd, megis llifddorau er enghraifft, rhag eu cael oherwydd y gost, ac rwy'n falch fod y Gweinidog, mewn ymateb i gwestiynau gennyf fi, wedi cadarnhau bod cyllid ar gael. Rwy'n falch hefyd fod cyngor RhCT eisoes wedi cael cadarnhad fod eu cais am gyllid a bod trafodaethau gyda CNC ar gynllun tebyg ar gyfer mesurau tebyg mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd yn cael ei drafod gyda'r Gweinidog, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny.
Nawr, mae llawer i'w wneud o hyd. Mae yswiriant yn broblem wirioneddol, gyda busnesau a ddioddefodd ddifrod gwerth degau o filiynau'n ei chael hi'n anodd cael yswiriant, a rhaid inni ddal Llywodraeth y DU at ei haddewid o gymorth ariannol, ac rwy'n gobeithio bod pob Aelod yma mor benderfynol â minnau o'u gweld yn gwneud hynny. Rhaid inni symud ymlaen ar frys i gyflwyno mesurau atal llifogydd, megis llifddorau, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a datblygu materion pwysig eraill a nodwyd yn ein hadroddiad ar lifogydd ym Mhontypridd. Mae system rhybudd llifogydd well o'r fath yn bwysig, a chyflwyno cenhadon llifogydd cymunedol, yn ogystal â chyflwyno driliau llifogydd rheolaidd. Dyma'r camau y mae'r cymunedau ym Mhontypridd wedi'u codi gyda mi ac rwyf am ganolbwyntio arnynt, a gallaf eu sicrhau mai'r amcanion hyn fydd fy mlaenoriaeth o hyd. Diolch, Lywydd.
Galwaf nawr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r ddeiseb hon, yn gofyn am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf. Gwelais drosof fy hun effeithiau dinistriol y llifogydd hyn, a heb weithredu cyflym gan ein hawdurdodau rheoli risg a'n gwasanaethau brys, rwy'n sicr y byddem wedi gweld hyd yn oed mwy o gartrefi'n dioddef llifogydd. Rhaid inni gydnabod hefyd sut y diogelodd ein rhwydwaith o amddiffynfeydd filoedd o eiddo, a phwysigrwydd cadw'r strwythurau hyn mewn cyflwr da. Rwyf fi wrth gwrs yn cydnabod yr effaith ar les preswylwyr, yn ogystal â'r effaith ar eu cartrefi a'u busnesau. Mae gwybod sut y bu'n rhaid i'r cymunedau hynny ymdopi wedyn â COVID-19 yn dorcalonnus, ac mae wedi cryfhau fy mwriad i wneud popeth yn ein gallu i helpu i leihau risg yn y dyfodol.
Gweithredodd y Llywodraeth hon yn gyflym ac yn bendant yn ein hymateb i wneud yr atgyweiriadau a'r gwelliannau angenrheidiol. Yn union ar ôl stormydd mis Chwefror, rhoddais gyfle i bob awdurdod rheoli risg wneud cais am gymorth ariannol i wneud gwaith atgyweirio brys ar asedau. Darparais gyllid 100 y cant ar gyfer hyn, sef cyfanswm o £4.6 miliwn. Yn ogystal, darparwyd pecyn ariannu i gefnogi busnesau ac aelwydydd yn uniongyrchol. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.2 miliwn ledled Cymru. Yn RhCT, dyfarnais £1.6 miliwn o gyllid brys i atgyweirio asedau llifogydd a ddifrodwyd, ac roedd hyn yn ychwanegol at y £2.1 miliwn o gyllid grant tuag at amddiffynfeydd a chynlluniau llai ledled y sir.
Rwyf hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer mesurau cydnerthedd eiddo, megis llifddorau, a hyd yma, rwyf wedi dyfarnu dros £1 filiwn ledled Cymru i fod o fudd i hyd at 594 eiddo. Mae hyn yn cynnwys dyfarniad diweddar o dros £300,000 i RhCT ar gyfer 357 o gartrefi.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi cymorth refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol eleni, gan ddarparu hyd at £95,000 yn ychwanegol i bob awdurdod i gefnogi eu gweithgareddau perygl llifogydd ac i helpu i sicrhau bod asedau'n parhau i fod yn wydn dros y gaeaf. Mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol gyda rhagor o fanylion.
Ym mis Hydref, cyhoeddais ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer llifogydd ac mae hon yn cryfhau rolau a chyfrifoldebau ac yn nodi amcanion newydd mewn perthynas â chyfathrebu, cynllunio ac atal. Mae'n annog rheoli llifogydd yn naturiol ac addasu, yn ogystal â mwy o gydweithredu i greu cynlluniau cynaliadwy sy'n sicrhau manteision lles ehangach. Mae'n strategaeth uchelgeisiol ac yn ailddatgan y pwyslais a roddwn ar reoli perygl llifogydd a bygythiad cynyddol newid hinsawdd. Mae hyn yn dilyn newidiadau i'r cyllid a gyhoeddais i roi mwy o gymorth a hyblygrwydd i'n hawdurdodau rheoli risg, gan gynnwys cymorth 100 y cant ar gyfer prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol ac i baratoi achosion busnes ar gyfer cynlluniau llifogydd ac arfordirol newydd.
Rwy'n cytuno'n gryf â chyfraniadau Aelodau o'r Senedd sy'n dweud bod rhaid inni ddysgu'r gwersi o lifogydd mis Chwefror. Rhaid craffu ac ymgysylltu ymhellach â chymunedau yr effeithir arnynt a phawb sy'n wynebu risgiau hinsawdd yng Nghymru. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i lunio adroddiadau sy'n ymchwilio i achosion llifogydd a chyflwyno argymhellion i leihau risg ymhellach, ac mae'r adroddiadau hyn yn ddogfennau cyhoeddus ac yn cael eu paratoi gan dimau o unigolion medrus iawn. Mae'n ymddangos o gyfraniadau gan rai Aelodau nad oes ganddynt hyder yn uniondeb proffesiynol y bobl a fydd yn paratoi'r adroddiad ac nad oes ganddynt hyder yn eu gallu eu hunain a gallu cymunedau i graffu ar eu canfyddiadau. Ond nid wyf yn rhannu'r farn honno, ac mae gennyf hyder llwyr ym mhroffesiynoldeb staff awdurdodau lleol a'u hymrwymiad i ddiogelwch a lles y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Ac os oes gan Aelodau dystiolaeth a fyddai'n bwrw amheuaeth ar y gred honno, mae ganddynt gyfrifoldeb i'w chyflwyno, ond nid wyf wedi clywed unrhyw dystiolaeth o'r fath yn cael ei chynnig hyd yma.
Mae gan yr holl Aelodau o'r Senedd hon rôl i graffu'n fanwl ar yr adroddiadau hynny cyn gynted ag y byddant ar gael a sicrhau bod barn a buddiannau eu hetholwyr yn cael eu cynrychioli. Ac mae gan y Senedd hon rôl i sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi o'r adroddiadau hynny ac yn eu cymhwyso mewn polisi cenedlaethol ac ymarfer gweithredol lleol i gadw Cymru'n ddiogel. Credaf y bydd yr adroddiadau a baratowyd yn broffesiynol ac sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan awdurdodau lleol yn caniatáu inni wneud hynny.
Mae Aelodau etholedig lleol yn RhCT wedi mynd y tu hwnt i hyn i gynhyrchu eu hadroddiad eu hunain, fel y clywsom gan Mick Antoniw, a'i cyd-ysgrifennodd gydag Alex Davies-Jones, yr AS. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir fod trigolion yn gweld nifer o feysydd penodol i'w gwella ac atebion y gallwn eu hystyried nid yn unig i leihau'r perygl o lifogydd, ond i helpu i gefnogi lles ehangach. Mae cyfraniadau o'r math hwn i'w croesawu ac maent yn dangos yn glir y ffyrdd y gall trigolion lleol graffu ar y materion a chyflwyno atebion creadigol ac adeiladol sy'n gweithio iddynt hwy. A gobeithio y bydd Aelodau eraill yn ystyried sut y gallant hwy gefnogi'r cymunedau yn yr un modd i allu gwrthsefyll bygythiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd ac i gymryd mwy o ran yn y materion dan sylw.
Mae CNC, yn ogystal â'i gyfrifoldeb statudol i gynhyrchu ymchwiliadau i lifogydd, wedi cyhoeddi adolygiad llawn ym mis Hydref, gyda chyfres o adroddiadau sy'n rhoi disgrifiad manwl o'r heriau o ran eu hymateb a'u rhagolygon, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n credu y bu ymdrech i fychanu'r heriau a'r meysydd i'w gwella i ddarllen yr adolygiad hwnnw. Mae'n dangos nid yn unig yr ystod o heriau sy'n ein hwynebu a'u difrifoldeb, ond yn fy marn i, ymrwymiad llwyr y sefydliad i fanteisio ar y cyfle nawr i graffu'n gyhoeddus ar yr heriau hyn, i weithio gyda chymunedau i ddod o hyd i atebion gwell ar gyfer y dyfodol. Daethant i'r casgliad clir iawn, nid y dylai'r adroddiad fod yn ddiwedd y sgwrs, ond yn hytrach, fod rhaid i'r sgwrs barhau, a dal ati i ddysgu gwersi'r llifogydd dinistriol a gafwyd ym mis Chwefror ac ystyried yn fwy cyffredinol sut, fel cymdeithas, rydym yn paratoi ar gyfer hinsawdd sy'n newid a'i heffaith ar ein cymunedau yng Nghymru, ac mae hwnnw'n gasgliad rwy'n cytuno'n bendant ag ef ac yn gobeithio y byddai'r Senedd hefyd yn ei gymeradwyo.
Felly, edrychaf ymlaen at weld craffu pellach ar adroddiad yr ymchwiliad i'r llifogydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau o'r Senedd, ynghyd â phartneriaid awdurdodau lleol a chymunedau i ddysgu gwersi llifogydd ofnadwy mis Chwefror ac i baratoi ein hunain yn well ar gyfer yr heriau cynyddol y mae Cymru'n eu hwynebu yn sgil hinsawdd sy'n newid. Diolch.
Galwaf nawr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr a'r holl bobl eraill sydd wedi tynnu sylw at eu profiadau personol eu hunain o'r llifogydd dinistriol ac wedi rhannu'r rhain nid yn unig gyda'n Pwyllgor Deisebau, ond gyda'n Haelodau yma heddiw. Diolch am holl gyfraniadau'r Aelodau ar fater mor bwysig.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb a'i chydnabyddiaeth o'r cyllid sydd ar gael i helpu gydag amddiffynfeydd, cynlluniau bach, llifddorau, a'r gefnogaeth i 357 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf. Ysgrifennwyd at bob awdurdod lleol, a materion yn ymwneud â sôn am amddiffynfeydd llifogydd naturiol yn y strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae'r ddadl hon wedi ein galluogi i roi sylw i faterion pwysig. Byddwn yn ystyried y ddeiseb hon yn y flwyddyn newydd ac rydym yn sicr yn croesawu unrhyw ymatebion pellach a ddaw gan y deisebydd. Diolch yn fawr, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyn inni dorri am yr egwyl nawr, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y cynigion ar gyfer dadl y Llywodraeth ar gyfyngiadau coronafeirws newydd a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y coronafeirws, cyfyngiadau mis Rhagfyr, yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân. A oes gwrthwynebiad i hynny? Na, dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad na chlywed gwrthwynebiad, felly bydd yr eitemau yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. Rydym ni'n cymryd egwyl fer nawr i wneud rhai newidiadau yn y Siambr, felly egwyl.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:27.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:35, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Rydym yn ailymgynnull yn awr.
Detholwyd y gwelliannau canlynol i gynnig NNDM7501: gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Darren Millar, gwelliant 10 yn enw Caroline Jones, a gwelliannau 11, 12, 13, 14, 15, 16 a 17 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 7, 8 a 9 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i cynnig NDM7505.
Cytunwyd bod dadl y Llywodraeth ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau coronafeirws mis Rhagfyr yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno cynnig y Llywodraeth—Vaughan Gething.
Cynnig NNDM7501 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi:
a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru;
b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac
c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r gronfa cadernid economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig y Llywodraeth ger ein bron a byddaf yn mynd i'r afael â phob un o elfennau cynnig y Llywodraeth yn ei dro.
Yn anffodus, mae coronafeirws yn cyflymu ledled Cymru, gan erydu'r enillion a gafwyd o'r cyfnod atal byr. Mae cyfradd dreigl saith diwrnod y coronafeirws ledled Cymru wedi codi i dros 320 o achosion ym mhob 100,000. Ar 7 Rhagfyr, roedd 1,085 o bobl gydag achosion o'r coronafeirws wedi'i gadarnhau yn ein hysbytai. Bellach mae gennym dros 400 yn fwy o bobl yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin ar gyfer coronafeirws o'i gymharu â'r uchafbwynt ym mis Ebrill. Ni ellir gwadu bod y sefyllfa'n ddifrifol. Mae'n galw am ymateb difrifol a chyfrifol gennym i gyd.
Roedd datganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn nodi'r her gynyddol sy'n ein hwynebu. Nododd yr angen dybryd i gymryd camau pellach wedi'u targedu i ddiogelu iechyd pobl a lleihau cyflymder a lledaeniad y feirws. Dylem gofio bod hwn yn feirws sy'n heintus iawn; mae'n ffynnu pan ddown at ein gilydd. Ac mae perygl amlwg, wrth i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu'r Nadolig, y byddant yn dal neu'n lledaenu'r feirws. Felly, yn unol â'r hyn a ddywedodd y prif swyddog meddygol heddiw, yn y cyfnod cyn 23 Rhagfyr, rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod cyfraddau heintio'n gostwng ac i leihau ein cysylltiadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddar gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE), ac yn enwedig eu cyfarfodydd ar 11 a 19 Tachwedd fel rydym wedi dweud. Amlygodd y rhain effeithiau cadarnhaol mesurau yn system lefel 3 yr Alban a chyfyngiadau haen 3 Lloegr. Roedd gennym lawer o'r rhain eisoes ar waith yng Nghymru ac rydym wedi addasu mesurau eraill ar gyfer Cymru. Dyna pam, o 6 o'r gloch ddydd Gwener, y cyflwynwyd cyfyngiadau cenedlaethol newydd ar gyfer lletygarwch ac atyniadau dan do. Felly, mae'n rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau am 6 p.m. ac ni chânt weini alcohol. Ar ôl 6 p.m. dim ond gwasanaethau tecawê y cânt eu darparu. Mae mesurau tebyg yn berthnasol i haen 3 yn yr Alban. Rhaid cau lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau dan do i ymwelwyr; mae atyniadau awyr agored ar agor ar hyn o bryd. Mae gweddill ein mesurau cenedlaethol yn aros yr un fath, ond nid yw ein neges genedlaethol erioed wedi bod yn bwysicach: mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae os ydym am wrthdroi llif cynyddol y coronafeirws.
Mae rhan olaf cynnig y Llywodraeth yn ymwneud â'r pecyn cymorth pellach gwerth £340 miliwn i fusnesau rydym yn ei wneud drwy'r gronfa cadernid economaidd. Mae hyn yn cynnwys £180 miliwn wedi'i dargedu at fusnesau lletygarwch a thwristiaeth. Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth y DU. Cafwyd nifer fawr o welliannau i gynnig y Llywodraeth ac ni fydd yn bosibl i mi roi sylw manwl i bob un ohonynt, ond rwyf am drafod y themâu y maent yn eu codi.
Ceir tystiolaeth wyddonol ac arsylwadol gynyddol sy'n amlygu rôl lletygarwch yn trosglwyddo clefyd. Cynigiwyd briffiau i lefarwyr iechyd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yr wythnos diwethaf gyda'r prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd. Yn ogystal â hyn, ceir tystiolaeth gynyddol o ymddygiad sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys herio'r rheolau. Mae cyfraddau heintio yn codi ledled Cymru mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol heddiw. Rydym wedi cael cyngor eglur dro ar ôl tro gan y grŵp cynghori technegol mai dull gweithredu cenedlaethol sydd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol ar hyn o bryd. Ddydd Llun, cyhoeddwyd adroddiad pellach gan y grŵp cynghori technegol, gyda chyngor a lywiodd benderfyniad y Llywodraeth i gyflwyno'r cyfyngiadau lletygarwch newydd ledled Cymru. Dylwn ddweud ar y pwynt hwn y byddwn yn cefnogi gwelliannau 5 a 6.
Mae gwelliannau Plaid Cymru i raddau helaeth yn ymdrin â manylion y cyfyngiadau lletygarwch. Mae'r cyfyngiadau ar y sector lletygarwch, gan gynnwys gwerthu alcohol, yn elfen allweddol o'r ymyriadau y mae SAGE yn ystyried eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar y feirws. Er bod y cyfyngiadau ar archfarchnadoedd a siopau diodydd sy'n gwerthu alcohol ar ôl 10 p.m. yn parhau ar waith, nid wyf yn credu ei bod yn gymesur gosod cyfyngiadau pellach ar allu pobl i brynu alcohol i'w yfed yn eu cartrefi eu hunain, ond mae'r negeseuon gan y Llywodraeth ynglŷn â sut rydym yn gofyn i bobl ymddwyn, i wneud y peth iawn, yn parhau'n glir.
Mewn ymateb i welliannau 16 a 17, dylwn ddweud bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi dod â rheoliadau i'w trafod a'u penderfynu i'r Senedd yn unol â rheolau'r Senedd hon. O ystyried pwysigrwydd ymateb yn gyflym i'r bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd, bygythiad sy'n newid, bydd angen inni barhau i weithredu'n gyflym, pryd bynnag y bydd angen, i gadw Cymru'n ddiogel. Er fy mod yn gwrthod y gwelliannau sy'n gysylltiedig â lletygarwch, nid wyf yn bychanu'r effaith negyddol iawn y bydd y cyfyngiadau hyn yn ei chael ar fusnesau ledled Cymru. Dyna pam ein bod wedi darparu'r pecyn mwyaf hael o fesurau yn unrhyw ran o'r DU. Rwy'n cydnabod y gwaith caled yn y sector i gyflwyno mesurau lliniaru, ond yn anffodus, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau anodd ac annymunol iawn i gyflwyno cyfyngiadau pellach. Mae'r penderfyniadau a wnaed gennym wedi'u cefnogi gan gyngor SAGE a'r grŵp cynghori technegol, y cyfeiriais ato'n gynharach, a datganiadau cyhoeddus a chyngor ein prif swyddog meddygol ein hunain.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw am yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel 'dull wedi'i dargedu', heb nodi'n glir beth fyddai hynny na'r cyngor a'r dystiolaeth sy'n sail i'r alwad honno am ddull amgen. Yr hyn a glywsom mewn datganiadau cyhoeddus gan y Ceidwadwyr yw'r awydd i gael mwy o gyfyngiadau ar grwpiau unigol o bobl, yn enwedig pobl hŷn. Gwrthodwyd y cyngor hwnnw fel un anymarferol nid yn unig gan SAGE, ond gan ein grŵp ein hunain, y grŵp cynghori technegol. Gwrthodwyd y cyngor hwnnw ac ni chafodd ei ddilyn gan Weinidog iechyd Plaid Genedlaethol yr Alban yn yr Alban, Gweinidog iechyd Unoliaethwyr Ulster yng Ngogledd Iwerddon a'r Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol dros iechyd sy'n gweithredu dros Loegr. Mae hefyd yn ddull sydd wedi'i wrthod gan bob un o'r pedwar prif swyddog meddygol ledled y DU. Mater i'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yw a ydynt yn dal i ddymuno hyrwyddo'r dull gweithredu hwnnw, ond nid yw'r Llywodraeth hon yn credu ei bod yn ffordd gywir o weithredu i gadw Cymru'n ddiogel.
Roedd pob un ohonom yn gobeithio y byddai'r cyfnod atal byr, a mesurau cenedlaethol wedyn, yn rhoi llwybr i ni hyd at y Nadolig. Yn anffodus, mae'n amlwg nad yw hynny wedi digwydd. Dyna pam y mae angen inni gymryd camau pellach yn awr fel cenedl i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Rwy'n gobeithio y bydd y ffigurau sobreiddiol, cythryblus a difrifol iawn yn ddi-os yn ystod y dyddiau diwethaf wedi gwneud i bob Aelod oedi ac ystyried. Wrth inni wynebu'r posibilrwydd o fwy o niwed, wrth inni wynebu'r posibilrwydd o aeaf caled, anodd ac angheuol o'n blaenau heb newid pellach, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau, yn wyneb y posibilrwydd hwnnw, yn ystyried a ddylai'r Senedd hon bleidleisio heddiw i lacio'r cyfyngiadau. Credaf y bydd gwneud hynny'n sicr o achosi mwy fyth o niwed, ac yn sicr o arwain at farwolaethau y gellir eu hosgoi ymhlith y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Ni chredaf fod hwnnw'n ddewis cyfrifol, gan fod yn rhaid i bob un ohonom daro'r cydbwysedd rhwng y niwed o weithredu a'r niwed llawer mwy o wneud dim. Rwy'n gwneud y cynnig a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth heddiw.
Rwyf wedi dethol gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6, a gwelliannau 10 i 17, sydd wedi'u cyflwyno i gynnig y Llywodraeth. Galwaf yn awr ar Darren Millar i gyflwyno cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gwelliannau 2 i 6 i gynnig y Llywodraeth. Darren.
Cynnig NDM7505 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.
2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a
b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Gwelliant 2 i NNDM7501—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw dull gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Gwelliant 3 i NNDM7501—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur.
Gwelliant 4 i NNDM7501—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.
Gwelliant 5 i NNDM7501—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.
Gwelliant 6 i NNDM7501—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar y papur trefn heddiw a'r holl welliannau a gyflwynwyd i gynnig y Llywodraeth sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. A gaf fi gofnodi ar ddechrau'r ddadl hon ein bod ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gydnabod difrifoldeb yr argyfwng iechyd cyhoeddus, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU ac yn rhyngwladol, a'n bod hefyd yn cydnabod yr angen i weithredu i leihau cyfraddau heintio coronafeirws?
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cyfyngiadau newydd ar y sector lletygarwch yn y cyfnod cyn y Nadolig, daeth yn amlwg iawn i ni fod angen dadl ar yr effaith y byddai'r penderfyniad hwn yn ei chael ac i roi cyfle i Senedd Cymru ddweud ei dweud. Ond er gwaethaf hyn, gwrthododd Llywodraeth Cymru hwyluso dadl cyn dechrau'r rheoliadau ddydd Gwener. A bod yn onest, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn warthus nad yw Llywodraeth Cymru wedi galluogi'r Senedd i gynnal pleidlais ystyrlon ar y cyfyngiadau tan heddiw, nifer o ddyddiau ar ôl eu gosod. Y Blaid Lafur yw'r blaid gyntaf i gwyno yn San Steffan os yw'r DU yn cyflwyno rheoliadau cyn pleidlais, beth sy'n wahanol yma? Mae angen iddynt arfer yr hyn y maent yn ei bregethu a sicrhau ein bod yn cael cyfle i bleidleisio yn y Senedd hon pryd bynnag y bydd newidiadau sylweddol yn ei dull o reoli'r coronafeirws. Rhaid inni sicrhau bod pob newid sylweddol yn destun pleidlais cyn ei osod.
Credwn nad yw'r penderfyniad i osod cyfyngiadau difrifol ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant ledled Cymru yn gymesur nac yn rhesymol. Nid yw'r dull gweithredu ledled Cymru a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi unrhyw ystyriaeth i'r ffaith bod y feirws yn cylchredeg ar gyfraddau gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru. Prin yw'r dystiolaeth mai'r diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do sy'n gyfrifol am y cynnydd sylweddol yn y cyfraddau heintio mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae'n ymddangos nad yw'r dystiolaeth yn bodoli fod atal pobl rhag cael diod alcoholig cyn 6 o'r gloch gyda phryd o fwyd yn fwy peryglus na chael diod feddal gyda'r pryd hwnnw. Ymddengys hefyd nad oes fawr o gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i bwysigrwydd hanfodol y sector lletygarwch i economi Cymru.
Nawr, rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud am annigonolrwydd cymorth ariannol, ac rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y gwelliant a gyflwynwyd gennym yn cael cefnogaeth y Llywodraeth. Nid yw'n syndod, o ystyried y diffyg cymorth ariannol digonol gan Lywodraeth Cymru, mai ar nifer gyfyngiedig iawn o achlysuron y gwelwyd Ken Skates yn y dyddiau diwethaf. Yn wir, gwelwyd mwy o—[Torri ar draws.] Gwelwyd cathod mawr yn amlach—er gwaethaf y ffaith iddo ddod i ateb cwestiynau heddiw, gwelwyd cathod mawr yn amlach yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru a bod yn onest nag y gwelwyd Gweinidog yr economi.
Nawr, gwyddom na fydd y rhan fwyaf o'r pecyn cymorth ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gael tan fis Ionawr yn anffodus, ac rwy'n gresynu y bydd llawer o gwmnïau ledled Cymru—a nifer fawr ohonynt eisoes wedi bod yn ei chael hi'n anodd goroesi o ganlyniad i'r cyfyngiadau teithio difrifol—wedi mynd i'r wal erbyn hynny. Drwy gydol y pandemig, mae'r Llywodraeth, ar sawl achlysur, wedi ei chael hi'n anodd esbonio i'r cyhoedd sut y mae wedi cydbwyso ei chyfrifoldebau i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl. Wrth gwrs, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau cymesur sy'n rhesymol, ac mae ganddynt rwymedigaeth foesol i ddangos sut y maent wedi bodloni'r profion hynny i bobl Cymru. Ond mae arnaf ofn eu bod wedi methu dangos eu bod wedi bodloni'r profion hynny mewn perthynas â'r mesurau hyn. Mae'r ardaloedd o Gymru megis gogledd Cymru yn arbennig, lle mae'r cyfraddau heintio yn llawer is nag mewn rhannau eraill o'r wlad, lle mae'n ymddangos eu bod yn mynd allan o reolaeth, i'w gweld yn awgrymu bod arnom angen dull gweithredu gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am Weinidogion Llywodraeth y DU yn gwrthod y math o ddull rydym wedi'i awgrymu yma yng Nghymru. Rydych yn anghofio bod ganddynt ddull haenog yn yr Alban a Lloegr, maent yn mabwysiadu dull gwahanol sydd wedi'i dargedu at wahanol rannau o'r wlad oherwydd bod gwahanol gyfraddau o'r feirws yn cylchredeg. Dyna pam y mae ganddynt yr haenau hynny yn eu system.
Mae'r cyfraddau heintio a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn awgrymu bod gan Wynedd gyfradd gylchredeg o'r feirws, cyfradd bositif, o 37.7 o achosion positif ym mhob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf, ac mae'r gyfradd honno'n gostwng. Pan gymharwch hynny â Chastell-nedd Port Talbot yn ne Cymru, lle mae gennym 693.6 achos ym mhob 100,000 yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae'n eithaf clir fod arnom angen dull gweithredu gwahanol yn y ddwy ardal honno. Yn wir, Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfradd heintio waethaf yn y DU gyfan, ac mae naw o'r 10 awdurdod lleol sydd ar y brig o ran y cyfraddau heintio yng Nghymru, a chredaf fod honno'n sefyllfa dorcalonnus sy'n galw am ddull gweithredu wedi'i thargedu'n well o ran yr awdurdodau lleol sydd â risgiau mor fawr yn gysylltiedig â hwy. Nid yw'r gwahaniaethau'n fach, maent yn enfawr, a dyna pam rydym am weld dull gwahanol yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hyn, nid y dull cyffredinol ledled Cymru sydd gennym ar hyn o bryd.
Ac yna, ceir yr aelodau o'r cyhoedd sy'n gwneud y peth iawn—maent yn golchi eu dwylo, maent yn gwisgo masg, maent yn aros gartref, maent yn cadw pellter cymdeithasol—a chredwn y dylid eu gwobrwyo am y gwaith caled hwnnw pan fydd gennym sefyllfa lle mae'r feirws dan reolaeth well, ac eto mae Gweinidogion wedi dewis gosod cyfyngiadau difrifol ar bob person yn y wlad oherwydd lleiafrif bach yn rhai o'n cymunedau na fydd byth yn ufuddhau i'r rheolau, ni waeth beth ydynt.
Mae'r diffyg tystiolaeth gan y Llywodraeth hefyd mewn perthynas â'r diwydiant lletygarwch yn peri gofid. Rwy'n nodi, wrth gwrs, fod gwybodaeth bellach wedi'i rhannu yr wythnos hon. Credaf ei bod yn ymwneud â thystiolaeth o fis Ebrill, a oedd yn amlwg yn amser llawer cynharach yn ystod y pandemig ac mae'n debyg ei bod wedi dyddio. Ond nid yw'r dogfennau cyngor diweddaraf hynny a gyhoeddwyd gan Weinidogion yn galw am y math o gyfyngiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eu gosod. Nid ydynt yn cyfeirio at y rheol fympwyol 6 p.m. ar gyfer cau safleoedd wedi'u rheoleiddio, na gwahardd gwerthu alcohol. Ac nid yw canlyniadau anfwriadol y rheolau hynny, megis pobl yn cymysgu yng nghartrefi pobl ac yn yfed gyda'i gilydd, gan achosi mwy fyth o heintiau, yn cael eu nodi o gwbl yn y dogfennau hynny.
Mae prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, Syr Patrick Vallance, wedi cydnabod yr wythnos hon nad oes tystiolaeth gadarn i gyfiawnhau cyrffyw lletygarwch. Ac roedd y Gweinidog yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai gwahaniaethau yn ymagwedd y Ceidwadwyr Cymreig o gymharu â Llywodraeth y DU. Dyna hanfod datganoli, oherwydd rydym am gael ateb i Gymru, nid ateb i Loegr, fel y mae Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn gorfod ei osod. Ond yn wyneb yr holl dystiolaeth hon, neu'r diffyg tystiolaeth, mae'r cyfyngiadau newydd yn fwy chwerw fyth, yn enwedig i'r busnesau lletygarwch sydd wedi cael trafferth i oroesi'r pandemig hyd yma ac sydd wedi gweithio'n galed iawn ac wedi gwario miloedd lawer o bunnoedd i weithredu amgylcheddau diogel rhag COVID ar eu safle er mwyn cadw eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel.
Ofnaf fod angen atgoffa'r Llywodraeth o'r cyfraniad enfawr y mae'r sector penodol hwn yn ei wneud i'n heconomi a'n cymunedau bob blwyddyn. Mae'r sector lletygarwch yng Nghymru yn cyfrannu £3 biliwn y flwyddyn i'n heconomi. Mae'n cyflogi dros 140,000 o bobl yng Nghymru yn uniongyrchol, a 40,000 arall yn anuniongyrchol. Ac yn ôl prif weithredwr UKHospitality Cymru, y sector lletygarwch yng Nghymru yw'r cyflogwr sector preifat mwyaf ond dau. Mae hynny'n fwy na'r diwydiannau fferyllol, modurol ac awyrofod yng Nghymru gyda'i gilydd. Felly, o ystyried y ffeithiau hyn, mae'n anodd iawn deall pam y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis targedu'r diwydiant penodol hwn yn y ffordd y gwnaeth. Byddai unrhyw un sy'n mynychu tafarndai, bwytai a chaffis yn deall y niwed sylweddol y mae'r cyfyngiadau hyn yn ei achosi, felly pam nad yw Llywodraeth Cymru i'w gweld fel pe bai'n deall? Ac mae'n gas gennyf ei ddweud, ond ni allaf beidio â theimlo, pe bai'r cyfyngiadau hyn yn fygythiad mawr i swyddi yn y diwydiant dur, y byddai ymagwedd wahanol iawn gan Weinidogion.
Yn olaf, ar gymorth busnes, mae arnaf ofn ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Rhy ychydig gan na fydd yn agos at fod yn ddigon i dalu am golli refeniw ar gyfer cyfnod y Nadolig i'r bobl sy'n dioddef nawr, ac yn rhy hwyr, oherwydd ni fydd pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt tan fis Ionawr, ac erbyn hynny bydd llawer o fusnesau wedi mynd i'r wal a bydd miloedd lawer o swyddi wedi'u colli.
Felly, wrth gloi, rydym yn deall yr angen i reoli'r feirws ac i ddiogelu bywydau. Dyna pam ein bod wedi cefnogi—ac rwyf am bwysleisio hyn—y rhan fwyaf o'r rheoliadau coronafeirws a osodwyd gerbron y Senedd hon. Ni fyddech yn meddwl hynny pan fyddwch yn gwrando ar y Llywodraeth, ond mae'n ffaith. Rydym wedi cefnogi'r cyfyngiadau hynny oherwydd eu bod wedi'u seilio ar dystiolaeth ac am eu bod yn gymesur, ac wedi'u targedu, ond yn anffodus nid yw hynny'n wir am y rhain, a dyna pam ein bod yn galw am eu hatal ar unwaith ac eisiau dull mwy cymesur wedi'i dargedu, wrth symud ymlaen. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol y gwelliannau a gyflwynwyd i gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf yn awr ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 10 i gynnig y Llywodraeth, a gyflwynwyd yn ei henw ei hun. Caroline.
Gwelliant 10 i NNDM7501—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu:
a) at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;
b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;
c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 10.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi symud ymlaen i ymdrin â'r cynnig ei hun, rhaid imi gofnodi fy siom ynglŷn â'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi cael ei drin. Etholwyd y Senedd hon i ddeddfu er budd gorau pobl Cymru, ond oherwydd y dirmyg a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, mae galw arnom unwaith eto i amenio penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Cawsom ein hethol i gynrychioli ein hetholwyr, sy'n colli eu swyddi a'u busnesau o ganlyniad i'r penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ac eto, ni chawsom bleidleisio ar y cyfyngiadau cyn iddynt ddod i rym. Yn hytrach, cawn bleidleisio ar gynnig di-fflach. Nid democratiaeth yw hyn; mae bellach yn unbennaeth etholedig, ac nid yw'n syndod bod y sector cyhoeddus a busnes ehangach yn colli ffydd yn y sefydliad hwn.
Gan symud ymlaen at fy ngwelliant—gwelliant rwy'n ei gynnig yn ffurfiol—nid ydym yn cefnogi penderfyniadau Llywodraeth Cymru, ond o'r blaen, cofnodais fod y Prif Weinidog wedi cael fy nghefnogaeth i reoliadau, ond bellach, yn anffodus, mae'r Prif Weinidog wedi ein gosod ar lwybr a fydd yn effeithio'n fawr ar ein sector lletygarwch, ac na fydd yn cael fawr o effaith ar y pandemig yma yng Nghymru. A bydd y camau gweithredu hyn, a allai gael effaith gyfyngedig ar ledaeniad COVID-19 neu beidio, yn dinistrio'r sector lletygarwch yng Nghymru heb unrhyw amheuaeth. Caeodd llawer o dafarndai eu drysau nos Wener am y tro olaf, a gorffennodd llawer gormod o staff eu sifft olaf gan wynebu'r Nadolig heb swydd, ac mae rhai busnesau wedi dweud wrthyf eu bod yn dal i aros am gymorth ariannol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud. Ac rwy'n ofni bod Cymru'n gweld marwolaeth araf ein heconomi mewn ymdrech ofer i atal y pandemig. Felly, er gwaethaf mesurau sydd wedi difetha rhannau helaeth o'n sectorau twristiaeth a lletygarwch, yn ogystal â manwerthwyr nad ydynt yn gwerthu bwyd, mae gennym y cyfraddau heintio gwaethaf yn y DU. Nid wyf yn arddel yr athroniaeth 'gadewch iddo redeg ei gwrs', oherwydd gall y feirws hwn ddinistrio bywydau, ac mae'n gwneud hynny. Ac eto, ar yr un pryd, ni allwn gau popeth nes bod gennym ddigon o gyflenwadau o'r brechlyn.
Gallai'r effaith hirdymor fod yn llawer gwaeth nag effaith uniongyrchol COVID-19. Faint o gyfleoedd bywyd sydd wedi'u difetha o ganlyniad i'r camau hyn? Faint o bobl fydd yn cael eu condemnio i fywyd o dlodi gan y bydd yn cymryd degawdau i'n heconomi wella? Nid yw heintiau'n cael eu lledaenu mewn sefydliadau lletygarwch, sefydliadau sydd wedi gwario miliynau o bunnoedd i wneud eu lleoliadau'n ddiogel rhag COVID ac sy'n sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae'n cael ei ledaenu mewn digwyddiadau mawr dan do gan bobl sy'n credu nad yw'r rheolau ar eu cyfer hwy, crynoadau mawr o 20 o bobl a mwy, yn chwarae ym meysydd parcio archfarchnadoedd; dim masgiau, dim cadw pellter cymdeithasol, ac eto, yn mynd adref at eu teuluoedd wedyn.
Mae llawer o bobl yn cwyno am y negeseuon cymysg nad ydynt yn eu deall; mae pobl yn cael eu drysu gan y rheolau ac yna'n penderfynu anwybyddu'r rheolau'n gyfan gwbl. Maent yn dweud, 'Os yw'n iawn i gyfarfod â phedwar ffrind yn y dafarn, pam ddim gartref?' Rhaid inni gael mwy o eglurder a llai o ddryswch, oherwydd mae rhai pobl yn torri'r rheolau'n anfwriadol. Dylem fod yn anfon neges glir y dylai pobl osgoi pob cysylltiad â phobl nad ydynt yn rhan o'u haelwyd hyd nes y cawn stociau digonol o'r brechlyn. Mae arnom angen system profi, olrhain a diogelu sy'n cynnal profion rheolaidd ar draws y boblogaeth ac yn ynysu'r rhai sydd wedi'u heintio. Pam ein bod yn methu mynd i'r afael â phobl sy'n torri'r rheolau'n fwriadol, ac yn defnyddio'r sector lletygarwch fel bwch dihangol ynghyd â'r bobl sy'n cydymffurfio â'r gyfraith? Ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant. Diolch yn fawr. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 11 i 17 i gynnig y Llywodraeth, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian?
Gwelliant 11 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno, er y gall lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.
Gwelliant 12 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylai'r terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch.
Gwelliant 13 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm.
Gwelliant 14 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu
a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a
b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.
Gwelliant 15 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.
Gwelliant 16 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.
Gwelliant 17 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.
Cynigiwyd gwelliannau 11, 12, 13, 14, 15, 16 a 17.
Diolch yn fawr, Dirprwy Llywydd.
Rydym ar adeg dyngedfennol arall yn stori'r pandemig hwn; mae hynny'n glir. Dylai clywed am uwch weithredwyr iechyd neu feddygon yn siarad am eu hofn ynglŷn â'r hyn sydd o'n blaenau beri pryder i bob un ohonom. Gallem dreulio llawer o amser yn edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd. Mae'r Ceidwadwyr, rwy'n gwybod, wedi dadlau yr wythnos hon er enghraifft, fod y cyfnod atal byr wedi methu. Nid wyf i'n credu bod y cyfnod atal byr wedi methu mewn gwirionedd. Yr hyn a aeth o'i le oedd diffyg strategaeth newydd ar gyfer ar ôl y cyfnod atal byr, a llacio llawer rhy sydyn wedi'r cyfnod atal byr. Nawr, yn anffodus, rydym yn ymdrin â chanlyniadau hynny, ond gadewch inni ganolbwyntio ar edrych ymlaen.
Rwy'n sicr yn sylweddoli bod y Llywodraeth yn gweithio mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yma, ond daw ein gwaith craffu'n bwysicach ar adeg fel hon. Mae'n ymwneud â cheisio annog gwell penderfyniadau, felly gadewch imi fynd drwy ein gwelliannau i gynnig y Llywodraeth. Mae'r tri cyntaf yn ymdrin â'r meysydd sydd wedi bod yn fwyaf o dân ar groen rhan sylweddol o'r farn gyhoeddus—y rheolau ynghylch lletygarwch. I fod yn glir, ni fyddwch yn fy nghlywed i, nac unrhyw un o fy nghyd-Aelodau'n dweud y dylai'r cyfnod cyn y Nadolig fod yn unrhyw beth tebyg i normal. Nid wyf yn clywed y sector lletygarwch yn dweud hynny ychwaith, a chyda lefelau heintio a chyfraddau profion positif yn codi fwy neu lai ym mhobman, mae'n rhaid inni edrych ar sut y mae pob agwedd ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau yn effeithio ar ledaeniad y feirws, o waith i deithio i hamdden ac ie, y ffordd rydym yn rhyngweithio â'r sector lletygarwch ac yn ei fwynhau. Mae cyfyngu ar gyswllt personol a chysylltiad posibl rhwng pobl, yn enwedig yn hwyr yn y nos pan fo'r hwyliau'n well, gadewch i ni ddweud, yn gwneud synnwyr mewn sawl ffordd.
Ond graddau'r cyfyngiadau rydym yn eu cwestiynu yma. Rydym yn cwestiynu a yw'r Llywodraeth wedi gwneud pethau'n iawn. Mae'r gwaharddiad llwyr ar alcohol, er enghraifft, wedi gwneud i lawer o bobl gwestiynu'r rhesymeg, a gall hynny arwain at danseilio ymddiriedaeth. Gall unigolion o bedair aelwyd gyfarfod am goffi. Ni all hyd yn oed un unigolyn gael peint tawel yn yr un sefydliad. Nawr, rwy'n gwybod nad pobl sy'n cael peint tawel yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn poeni amdano, ond maent yn dal i gael eu heffeithio hefyd, ac mewn cyferbyniad llwyr, gall archfarchnadoedd ddal i werthu cymaint o alcohol ag y maent yn ei ddymuno tan yn hwyr gyda'r nos. Unwaith eto, gall pobl o bedair aelwyd gael cinio, ond ni all pâr sy'n byw gyda'i gilydd gael pryd o fwyd gyda'r nos. Rydym yn awgrymu efallai nad oes angen gwaharddiad llwyr ar alcohol. Gellir caniatáu prydau gyda'r nos hyd at 8 o'r gloch, dyweder, gan ganiatáu i rywfaint o fasnach ddigwydd. A chofiwch fod y sector cyfan wedi gweithio'n galed tu hwnt ac wedi buddsoddi'n helaeth hefyd, i geisio gweithio'n ddiogel rhag COVID.
Ond dyma'r allwedd—a chyfeiriaf at ein gwelliant arall: beth yw'r dystiolaeth, y dystiolaeth benodol, ar y niwed a achosir gan fwytai er enghraifft? Ar y rheswm pam y mae cau'r holl letygarwch am 6 o'r gloch yn cyfrannu at y nodau cyffredinol, yn hytrach nag amser diweddarach efallai? Beth yw'r nodau hynny—yr amcanion penodol? Beth yw'r trothwyon y gallwn edrych ymlaen atynt ar gyfer llacio mesurau? Mae ein gwelliant 15 yn dweud,
'y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.'
Mae hyn mor bwysig, ac mae wedi bod yn dda clywed galwadau am gyhoeddi tystiolaeth yn amserol oddi ar feinciau ochr y Llywodraeth hefyd.
Cyfeiriaf hefyd at welliant 17. Rydym yn gwneud rhai awgrymiadau heddiw yn seiliedig ar ymchwil, onid ydym? Ar arfer gorau mewn mannau eraill, ac yn y blaen. Ond rydym yn gofyn yma am allu cael modelau gan wyddonwyr a chynghorwyr y Llywodraeth ar ein cynigion amgen. Mae'n amlwg fod hwn yn welliant yn yr ysbryd o sicrhau, neu geisio cyflawni, y canlyniadau gorau i Gymru—rhywbeth y dylem i gyd fod yn ei geisio.
Mae apêl i'r Ceidwadwyr yno hefyd: dewch â'ch cynigion at y bwrdd. Nid yw siarad gwag a brygowthan yn gwneud y tro yn y pandemig hwn, ac mae bychanu risgiau i iechyd yn cynyddu risgiau i iechyd. Gwae chi os gwnewch chi hynny. Byddwn yn pleidleisio o blaid eich gwelliannau heddiw. Mae nifer ohonynt, fel ein rhai ni, yn galw am fwy o dystiolaeth er enghraifft, ond rwy'n rhoi un cafeat mawr. Rydym yn pleidleisio dros welliant 2 oherwydd ein bod yn gweld yr angen i ymateb mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o Gymru, ond gall hynny fynd y ddwy ffordd. A dweud y gwir, ar hyn o bryd mae hynny'n debygol o olygu'r angen am fesurau ychwanegol mewn rhai mannau, mwy o gymorth i hunanynysu, mwy o adnoddau i helpu cymunedau lle ceir nifer uchel o achosion o'r feirws.
Byddwn yn ymatal ar gynnig dadl y Ceidwadwyr ei hun. Rwy'n credu ein bod wedi mynegi ein safbwynt yn eithaf clir yn y ffordd rydym yn pleidleisio ar y gwelliannau eraill, ac er ein bod yn gytûn ar rai elfennau rwyf wedi'u hamlinellu yno, ni all hyn ymwneud ag atal cyfyngiadau'n gyfan gwbl. Nid wyf yn meddwl bod neb ym maes lletygarwch hyd yn oed, fel y dywedais, yn galw am hynny mewn gwirionedd. Yr hyn rydym ei eisiau yw ailfeddwl ynglŷn â rhai elfennau, ac mae'n amlwg y byddai awgrymu codi'r holl gyfyngiadau nawr yn niweidiol i iechyd. Nid dyma'r adeg, fel y clywsom rai ar feinciau'r Ceidwadwyr yn awgrymu, i esgus bod rhannau o Gymru rywsut yn ddiogel rhag y feirws hwn—nid yw hynny'n wir—a diolch byth, mae rhannau o'r wlad yn gwneud yn well nag eraill, gan gynnwys fy etholaeth i, ond mae atal yn well na gwella yn amlach na pheidio.
A wnewch chi ddechrau dirwyn i ben?
I orffen felly, fodd bynnag, credwn fod y Llywodraeth yn anghywir am elfennau o'r cyfyngiadau cenedlaethol hyn, felly rydym yn gofyn iddynt ailfeddwl. Ac mae'n teimlo'n anghywir iawn, rwy'n meddwl, mewn rhannau o Gymru lle mae llai o achosion o'r feirws. Rydym yn galw am ailfeddwl ynglŷn â rhai elfennau. Rydym yn gofyn eto, ar bob cam o'r stori hon, i chi ddangos yn glir i ni a'r cyhoedd yng Nghymru ar ba sail y gwneir penderfyniadau.
Diolch. Mae gennyf nifer o siaradwyr yn y ddadl hon, neu'r ddwy ddadl sydd wedi'u grwpio, felly os gwnaf apêl i chi i gyd ystyried eich cyd-Aelodau ac os gallwch dorri rhai eiliadau neu rai brawddegau o'ch cyfraniad, efallai y gelwir ar eich holl gyd-Aelodau eraill. Os na, nid wyf yn credu y bydd gennym ddigon o amser. Felly, gadawaf hynny i gydwybod pawb gyda'r Nadolig ar y ffordd. Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a byddaf yn sicr o nodi'r hyn rydych wedi'i ddweud. Rydym yn wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus go iawn wrth gwrs, ac nid oes yr un ohonom wedi profi ei debyg o'r blaen, ond credaf fod gennym argyfwng hefyd o ran sut rydym yn ymdrin â'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae gennym argyfwng hefyd o ran sut rydym yn trafod ac yn cyfathrebu â'n gilydd. Ddirprwy Lywydd, rydym yn trafod llawer o faterion yma yn y Senedd hon, ond mae gennym gyfrifoldebau sylweddol yn y materion penodol hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud mai anaml yn y blynyddoedd y bûm yn eistedd yma y teimlais bwysau'r cyfrifoldeb hwnnw mor drwm ar ein hysgwyddau ag y mae heddiw ac yn y cyfnod hwn.
Mae'n amlwg i mi fod y feirws yn lledaenu'n gyflym ac felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael rhyddid i gymryd camau o'r fath. Clywaf yr hyn a ddywed Aelodau amdanom yn pleidleisio ar y materion hyn, ac rwyf bob amser wedi bod gyda'r mwyaf awyddus i amddiffyn hawliau'r Senedd hon, ond rhaid i'r Llywodraeth allu gweithredu pan fo angen hefyd.
A dywedaf hyn wrth y Ceidwadwyr: gwrandewais ar lefarydd y Ceidwadwyr a'm siomodd am yr eildro heddiw, mae arnaf ofn. Yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, gofynnais i'r Llywodraeth ynglŷn â'r cyngor y maent yn ei ddilyn ar gyfer gwneud penderfyniadau ar letygarwch. Gwneuthum ymyriad ar y Prif Weinidog i ddweud bod angen inni sicrhau bod y cyngor hwn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r penderfyniad. Mae'r cyngor hwnnw wedi'i gyhoeddi ac yn wahanol i'r Ceidwadwyr, rwyf wedi cymryd peth amser i ddarllen y cyngor hwnnw a'i ddarllen yn fanwl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud hyn: mae'r cyngor gan y gymuned wyddonol, y cyngor gan y gymuned feddygol i'r Llywodraeth yn sicr yn cyfiawnhau'r penderfyniadau y mae'r Llywodraeth wedi'u gwneud. Mae'r cyngor hefyd yn glir iawn nad oedd y dull rhanbarthol a brofwyd yn gynharach eleni yn cael yr un effaith â rheoliadau cenedlaethol. Roedd hynny hefyd yn y cyngor. Roedd y cyngor hefyd yn glir iawn yn yr hyn a ddywedai am letygarwch. Rwyf wedi rhannu'r cyngor hwn gyda thafarnwyr yn fy etholaeth fy hun. Maent wedi rhoi amser i'w ddarllen ac maent yn ei ddeall. Nid yw'n ormod gofyn, Ddirprwy Lywydd, i'r brif wrthblaid yma wneud yr un peth.
Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi a rhoi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl i'r cyhoedd ar yr adeg y mae'n gwneud penderfyniadau ar reoliadau. Mae pobl Blaenau Gwent yn wynebu un o'r sefyllfaoedd anoddaf y mae ein cymuned wedi'i hwynebu. Rydym yn gweld ac yn deall difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae ystadegau heddiw yn dweud wrthym fod 574 o achosion ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd wrthym yr wythnos diwethaf gan y bwrdd iechyd. Dywedodd y bwrdd iechyd wrthym fod ein hysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn wynebu argyfwng gwirioneddol. Mae'r bobl rydym yn dibynnu arnynt ac yn ymddiried ynddynt i staffio'r ysbytai hynny dan fwy o bwysau heddiw nag y buont ar unrhyw adeg. Mae mwy o bobl heddiw yn yr ysbyty yng Ngwent o ganlyniad i'r coronafeirws nag a fu ar unrhyw adeg dros y naw mis diwethaf. Nid yw'r rhain yn faterion y gallwn gael gwared arnynt drwy ddymuno hynny'n unig, ac nid ydynt yn faterion y gallwn eu hanwybyddu oherwydd ei bod yn wleidyddol hwylus inni wneud hynny. Roedd y bwrdd iechyd yn glir, wrth siarad â ni fel cynrychiolwyr etholedig, eu bod yn cefnogi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac mewn gwirionedd maent am i Lywodraeth Cymru symud ymhellach yn gyflymach. Mae'n bryd inni wrando ar yr hyn y mae'r meddygon a'r staff meddygol a'r gymuned wyddonol yn ei ddweud wrthym. Mae gan unrhyw un sy'n ceisio swydd etholedig, ac unrhyw un sy'n ceisio llywodraethu'r wlad hon, gyfrifoldeb arbennig i wrando ar y cyngor hwn, ac ymateb iddo a'i ddilyn.
Mae pobl Blaenau Gwent yn teimlo hyn yn drwm iawn. Rwy'n siarad ac maent yn deall beth sy'n digwydd yma yng Nghymru. Maent hefyd yn deall y cyfyngiadau sy'n digwydd mewn mannau eraill ar draws yr Undeb Ewropeaidd a ledled y Deyrnas Unedig. Maent yn deall y cyfyngiadau haen 3 yn Lloegr. Maent yn deall beth y mae lefel 3 a beth y mae lefel 4 yn yr Alban yn ei olygu. Maent yn gwybod beth rydym ni yn ei wynebu. Rhaid i'r Llywodraeth weithio gyda hwy i esbonio a chyhoeddi'r wybodaeth, a rhaid i'r gwrthbleidiau gefnogi'r hyn sy'n iawn a pheidio â cheisio sgorio pwyntiau mewn dadl wleidyddol ddiffrwyth. Mae'n bryd i ni fel gwlad sefyll gyda'n gilydd, ac mae'n bryd i ni fel gwlad ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol, nid curo dwylo'n unig, ac mae hynny'n golygu pleidleisio dros y penderfyniadau anodd y cafodd pawb ohonom ein hethol i'w gwneud.
Fel y dywed ein cynnig, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu dull mwy cymesur ac wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru. Maent yn datgan bod eu gweithredoedd yn seiliedig ar gyngor y grŵp cynghori technegol, ond er bod datganiad y grŵp ar 2 Rhagfyr yn cydnabod ymdrechion y diwydiant i greu amgylcheddau sy'n ddiogel rhag COVID, mae'n canolbwyntio yn lle hynny ar gamau gorfodi yn erbyn y gyfran fach iawn o safleoedd lletygarwch yng Nghymru sy'n torri'r cyfyngiadau. Felly, er bod ymyriadau wedi'u targedu o'r fath yn gweithio, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull bras a llym o weithredu.
Fel y clywsom yng ngrŵp trawsbleidiol mis Hydref ar gwrw a'r dafarn, mae tafarndai yng Nghymru mewn cyfnod anodd tu hwnt. Mae eu hyder i fasnachu yn fregus iawn, mae nifer eu staff eisoes wedi gostwng dros chwarter yn ystod y pandemig, maent yn hyderus bod rheolaethau COVID ar waith yn eu hadeiladau, ac mae angen i lunwyr polisi edrych ar y dystiolaeth sy'n dangos mor isel yw cyfraddau heintio COVID-19 mewn safleoedd trwyddedig. Fel y dywedodd Sefydliad Tafarnwyr Prydain y mis hwn,
Roedd ein tafarndai ymhlith lleoliadau lletygarwch a groesawodd 60 miliwn o ymwelwyr yr wythnos yn ddiogel drwy gydol yr haf, heb unrhyw effaith amlwg ar gyfraddau heintio cenedlaethol. Yna, creodd mis Medi storm berffaith i dafarndai... gyda thafarndai a lletygarwch yn cael eu beio'n annheg.
Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn bedair wythnos yn ôl, tynnais sylw at arolwg twristiaeth gogledd Cymru ar effaith cyfyngiadau symud ar y sectorau twristiaeth, lletygarwch, manwerthu a hamdden a'u cadwyni cyflenwi yng ngogledd Cymru, a ganfu y byddai 39 y cant o fusnesau twristiaeth, lletygarwch, manwerthu a hamdden yng ngogledd Cymru'n rhoi'r gorau i fasnachu pe bai unrhyw gyfyngiadau symud cenedlaethol neu leol pellach. Pwysleisiais eu galwad ar Lywodraeth Lafur Cymru i ymgysylltu'n ystyrlon, yn rhanbarthol ac yn lleol â busnesau cyn gosod rhagor o gyfyngiadau symud—ac eto cawsant eu hanwybyddu.
Ar ôl ymyriadau blaenorol y Prif Weinidog, Cymru oedd yr unig ran o'r DU lle nad oedd heintiau'n gostwng ar ddiwedd mis Tachwedd. Yr wythnos diwethaf, anfonwyd llythyr agored at y Prif Weinidog gan Gyngor Busnes Gogledd Cymru Mersi a'r Ddyfrdwy ar ran dros 150 o fusnesau ledled gogledd Cymru. Fel y dywed, fel busnesau ledled Cymru a'r DU ehangach,
Mae ein busnesau... wedi... buddsoddi cryn dipyn o amser ac arian i wneud eu lleoliadau a'u busnesau'n ddiogel rhag Covid ac mae'n ymddangos nad oes enghreifftiau'n bodoli o dystiolaeth uniongyrchol fod cysylltiad rhyngddynt ag unrhyw raddau sylweddol o drosglwyddiad Covid-19.... Yn yr ychydig ddyddiau ers cyhoeddi cyfyngiadau ychwanegol yng Nghymru, bu'n rhaid i nifer fawr o fusnesau ganslo archebion gwerth degau o filoedd o bunnoedd iddynt, gan ddileu unrhyw obaith gwirioneddol o ffynhonnell olaf o refeniw ar ddiwedd blwyddyn drychinebus, gan ddisgwyl rhagor o'r un peth ar gyfer y misoedd i ddod.
Mae llythyr gan gyfreithiwr sy'n cynrychioli busnes lletygarwch yn nodi bod busnesau mewn ardaloedd gwledig yn cael eu rhoi dan anfantais oherwydd gwrthodiad Llywodraeth Cymru i ystyried system haenau neu fesurau mwy lleol i ymladd COVID-19 a'i reoli. Ysgrifennodd Cynllun Gwylio Tafarndai Gorllewin Conwy at y Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu:
Mae eich penderfyniad diweddaraf i gadw tafarndai Cymru ar agor heb ganiatáu i ni weini alcohol yn jôc llwyr nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae'r ffaith eich bod wedi cael caniatâd, wedi eich annog hyd yn oed, i wneud hyn yn ffiaidd.
Dywedodd tafarndai yn Wrecsam a Sir y Fflint fod gweithredoedd y Prif Weinidog yn cyfleu'r neges i'r cyhoedd, 'Peidiwch ag yfed yng Nghymru i achub bywydau, ond teithiwch i Loegr ychydig dros y ffin oddi wrthym, am beint a sglodion yn lle hynny, gan amddifadu economi Cymru ar adeg niweidiol o'r flwyddyn a'i drosglwyddo i economi Lloegr.' Fel y dywedodd un, y broblem yw'r strategaeth o dargedu lletygarwch yn ei gyfanrwydd, ac rydym wedi rhoi cymaint o amser, arian a phwyslais ar gadw pellter cymdeithasol, glanweithdra a goruchwyliaeth. Fel y dywedodd un arall, ac rwy'n dyfynnu:
Mae Llywodraeth Mr Drakeford wedi colli cysylltiad, yn anghyson ac yn ymylu ar unbennaeth.
Dyfyniadau a gafwyd gan feddygon yw fy sylwadau terfynol. Meddygon a wnaeth y sylwadau hyn:
Bydd rheoleiddio cynyddol gaeth nad yw'n seiliedig ar dystiolaeth yn dieithrio'r rhai sy'n deall yr angen am rai cyfyngiadau a newidiadau i fywyd am gyfnod, ac yn eu hannog i anwybyddu'r cyfyngiadau.
Un arall:
Gwyliais y diweddariad y prynhawn yma. Am ddatganiad di-fflach, anwybodus ac yn amlwg wedi arfer gwneud esgusodion. A oes gan Lywodraeth Cymru gynllun?
Ac:
Yn hytrach na chosbi pobl weithgar, mae angen i'r Prif Weinidog wrando ar eu galwadau ac adolygu ei fesurau didrugaredd ar frys cyn y bydd hi'n rhy hwyr arnynt.
Meddygon sy'n dweud hyn wrthyf.
Hoffwn siarad yn bennaf am ein gwelliannau 11, 12 a 13, ac rwyf am ddechrau, os gallaf, gyda gwelliant 12. Mae'n ymddangos i ni fod cymaint o reswm, os nad mwy, dros bryderu am ledaeniad y feirws yng nghartrefi pobl os oes llawer iawn o alcohol yn cael ei yfed, nag sydd o reswm dros boeni am ledaeniad y feirws mewn lleoliadau lletygarwch. Nid oes neb am gael ymateb anghymesur i'r argyfwng, rwy'n siŵr, ond rwy'n teimlo, ac rydym yn credu, fod achos dros gyfyngu—. Os oes achos dros gyfyngu ar werthu alcohol yn gyfan gwbl mewn safleoedd trwyddedig, lle mae pobl o leiaf yn bwyta bwyd ac yn yfed alcohol dan oruchwyliaeth o bosibl, fel y mae eraill wedi dweud, mae angen ystyried a ddylem geisio sicrhau bod modd osgoi'r senario lle mae pobl yn cael eu potel o win gyda swper ac yna'n penderfynu mynd i siop y gornel i brynu dwy neu dair arall. Gallaf ddeall amharodrwydd Gweinidogion i ymyrryd yn anghymesur yn ymddygiad pobl yn eu cartrefi eu hunain—rwy'n deall hynny—ond os ydym yn dweud wrth ein busnesau lletygarwch fod angen iddynt ddioddef ergyd anghymesur ar hyn, credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried o bosibl a ddylai'r ergyd honno gael ei gwasgaru'n fwy cyfartal os yw ein pryderon—. Mae'n debyg mai un o'n pryderon—a dof at hyn mewn munud—ynglŷn â chyfyngu'r holl werthiannau alcohol mewn lletygarwch yw y bydd yn mynd i mewn i gartrefi pobl lle mae llai o allu i reoli faint o alcohol a yfir ac felly'r risg o leihau ataliad a hyrwyddo'r lledaeniad.
Dylwn ddweud, cyn imi fynd ymlaen at welliannau 11 a 13, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, nid oes neb ar y meinciau hyn, nid oes neb ym Mhlaid Cymru yn bychanu pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa hon ac nid oes neb yn awgrymu y dylem ddileu'r holl gyfyngiadau. Ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto i weld pwy y mae'r cyfyngiadau penodol hyn yn effeithio arnynt. Ac wrth wneud hynny, gadewch imi ddweud wrthych am Phillip. Plymwr yw Phillip. Cyfarfûm ag ef a chawsom sgwrs gan gadw pellter cymdeithasol ar y stryd yn Llanelli ddydd Sadwrn diwethaf. Mae'n hunangyflogedig, mae'n byw ar ei ben ei hun ac ni fydd yn treulio'r Nadolig hwn gyda'i rieni oedrannus oherwydd eu bod wedi gorfod penderfynu pa rai o'u plant a phlant eu plant y gallant fod gyda hwy, ac mae gan frodyr a chwiorydd eraill Phillip wyrion y mae eu rhieni am eu gweld. Felly, mae wedi penderfynu'n hapus—wel, yn derbyn—na fydd yn gallu eu gweld. Ddwy neu dair gwaith yr wythnos, weithiau bedair gwaith, ar ei ffordd adref o'r gwaith, mae Phillip yn aros yn y dafarn am un, efallai dau beint o gwrw—anaml iawn y caiff fwy na hynny oherwydd mae'n rhaid iddo godi'n gynnar yn y bore. Ni all wneud hynny nawr. Gan nad yw ei dafarn leol yn cael gwerthu alcohol, nid yw'n ymarferol iddynt agor, ac oherwydd bod yn rhaid iddi gau am 6 o'r gloch a'i fod ef yn gorffen gweithio am hanner awr wedi pump, nid oes amser iddo gyrraedd adref, ymolchi a chyrraedd yno. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru, pan fyddant yn adolygu'r cyfyngiadau, i feddwl pwy mae'r cyfyngiadau hynny'n effeithio arnynt a pha effaith y maent yn ei chael ar fywydau'r bobl hynny.
Mae Phillip yn ofalus iawn i gadw ei bellter pan fydd yn gweithio yng nghartrefi pobl. Byddai llawer o'i gyswllt cymdeithasol yn y gorffennol wedi cynnwys sgwrsio gyda'i gwsmeriaid yn ogystal â dweud helo mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol wrth ei ddau neu dri ffrind yn y dafarn. Mae bellach mewn sefyllfa lle na all gael dim o hynny. Felly, gall menywod sy'n ciniawa, nad ydynt yn y gwaith ac sy'n gallu mynd allan i gael eu pryd o fwyd amser cinio, o leiaf gwrdd â'i gilydd, hyd yn oed os na allant gael diod pan fyddant yn cwrdd â'i gilydd. Ond ni all Phillip weld neb, ac eithrio ar benwythnosau, oherwydd y ffordd y mae ei waith wedi'i strwythuro. Nawr, nid wyf yn meddwl am funud fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi pobl fel Phillip mewn sefyllfa lle maent yn fwy unig, ond rwy'n eu hannog i ystyried sut y mae pobl yn byw eu bywydau ac i feddwl, pan fyddant yn edrych ar y cyfyngiadau eto, a allem ganiatáu i un neu ddau o ddiodydd alcoholig gael eu hyfed, fel sydd wedi'i wneud mewn gwledydd eraill. A allem ganiatáu i letygarwch agor am awr neu ddwy ar ôl i'r rhan fwyaf o bobl orffen gweithio, fel y gall pobl fel Phillip, gyda llawer ohonynt yn ddynion sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn gwirionedd, gael y lefel honno o gyswllt cymdeithasol?
Nid wyf am funud yn awgrymu, Ddirprwy Lywydd, fod unrhyw un o'r dewisiadau hyn yn hawdd, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fy mod wedi adnabod Phillip ers tipyn ac mae wedi dilyn y rheolau i'r llythyren. Wyddoch chi, mae'n camu naill ochr fel y gall ei frodyr a'i chwiorydd dreulio amser gyda'u rhieni dros y Nadolig. Gofynnodd imi ofyn pam—pam y mae'r rheoliadau wedi'u strwythuro fel y maent. Er bod tystiolaeth o ledaenu'r feirws mewn lletygarwch, nid wyf yn siŵr a oes tystiolaeth fod y feirws yn lledaenu o fewn lletygarwch mewn tafarndai a reoleiddir yn briodol fel tafarn leol Phillip, gyda phobl yn cael un neu ddau o ddiodydd yn gynnar gyda'r nos. Mae'n wir, fel y mae eraill wedi dweud, fod lleiafrif bach o dafarnwyr yn y sector lletygarwch wedi caniatáu ymddygiad amhriodol. Mae'n wir bod rhai unigolion wedi bod yn anghyfrifol, ond mae llawer mwy o unigolion wedi cadw at y rheolau ac maent wedi'i chael hi'n anodd. Rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth ystyried—
A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen gyda hyn: gofynnaf i'r Llywodraeth ystyried a allwn amrywio'r bobl y mae'r cyfyngiadau hyn yn effeithio arnynt, oherwydd mae gan rai pobl fwy o opsiynau a mwy o ddewisiadau nag eraill. Y cyfan y mae angen inni ei wneud yw dangos ychydig o drugaredd ac ychydig o ddealltwriaeth ynglŷn â sut y mae pobl yn byw eu bywydau, yn ogystal â blaenoriaethu camau i leihau lledaeniad y feirws, wrth gwrs.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw ac i gefnogi'r camau pellach sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gadw pobl yn ddiogel yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail hwn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros y rhai yn y diwydiant lletygarwch sydd wedi gweithio'n galed i geisio gwneud eu safleoedd yn ddiogel rhag COVID, ond rwy'n credu, fel y gwneuthum drwy gydol y pandemig hwn, mai diogelu iechyd y cyhoedd yw'r brif flaenoriaeth. Fel y dywedodd Alun Davies, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Ngwent yn llwm ac mae'r pwysau ar ein GIG yn aruthrol. Ar hyn o bryd mae mwy o gleifion yn yr ysbyty yng Ngwent nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig. Ceir heriau staffio enfawr, gydag absenoldeb staff bron yn 10 y cant. Golyga hynny fod tua 1,250 o bobl bob dydd heb fod ar gael i weithio. Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddatgan digwyddiad o bwys yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae'r sefyllfa hon yn debygol o waethygu os bydd heintiau'n parhau ar eu llwybr presennol. Rydym yn gweld nifer uchel a chynyddol o heintiau mewn cartrefi gofal ledled Gwent. Yn yr ail don hon, mae fy etholaeth i, sef Torfaen, wedi cael ei tharo'n wael, gyda 271 o achosion mewn cartrefi gofal. Y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny mae teulu wedi'i effeithio gan COVID. Rydym i gyd wedi adnabod pobl sydd wedi colli pobl yn drasig i COVID yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy. Yn onest, ni allaf ddychmygu dim sy'n anoddach na cholli rhywun annwyl heb fod yno i ddal eu llaw.
Rhaid inni beidio byth ag anghofio effaith barhaus yr argyfwng hwn ar staff ein GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio dan bwysau anhygoel ers mis Mawrth. Mae gennym ddyletswydd gofal i'r rheini y gofynnwn iddynt weithio ar y rheng flaen yn yr argyfwng hwn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i'r holl staff GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n ddiflino ac sydd wedi aberthu cymaint yn y pandemig hwn. Nid yw'r aelodau hynny o staff angen Aelodau o'r Senedd sy'n fodlon clapio ar garreg eu drws. Nid ydynt angen Aelodau o'r Senedd sy'n barod i chwarae gwleidyddiaeth gyda'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf a welsom ers 100 mlynedd. Maent angen Aelodau o'r Senedd sy'n barod i wneud y penderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel.
Gan ein bod hefyd yn trafod cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, hoffwn ddweud ychydig eiriau amdanynt. Gwn fod llawer o'r Aelodau yn y blaid gyferbyn yn cydnabod ein bod yn wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus na welwyd ei debyg o'r blaen ac sydd am weithio'n adeiladol ar draws pleidiau gwleidyddol i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn ystyried bod ymagwedd arweinydd yr wrthblaid a pharodrwydd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig i chwarae gwleidyddiaeth gydag iechyd y cyhoedd yn ddychrynllyd yn ddiweddar. Ddoe ddiwethaf roedd arweinydd yr wrthblaid yn trydar bod preswylwyr mewn cartrefi gofal wedi cael eu hanwybyddu yn ymgyrch frechu COVID Llywodraeth Cymru, er ei fod yn gwybod yn iawn fod gofynion storio'r brechlyn Pfizer yn golygu na allwn ddarparu'r brechlyn yn ddiogel mewn cartrefi gofal eto. Felly, gyda phob parch, hoffwn atgoffa arweinydd yr wrthblaid, nad yw wedi dileu'r trydariadau hynny, fod y gwirionedd yn nwydd hanfodol mewn argyfwng iechyd cyhoeddus.
Ddoe, gyda dechrau'r rhaglen frechu, cawsom lygedyn o obaith ym mhen draw'r twnnel hir a thywyll rydym i gyd wedi bod ynddo—gobaith y bydd bywyd yn edrych yn wahanol iawn y flwyddyn nesaf, nid ar unwaith efallai, ond yn y gwanwyn neu'r haf. Ar ddechrau'r hyn sydd, gobeithio, yn ddechrau'r diwedd ar y pandemig hwn, a ydym mewn gwirionedd am golli bywydau y gallem eu hachub drwy wneud penderfyniadau anodd nawr? Yn sicr, nid wyf fi eisiau hynny, a dyna pam rwy'n cefnogi'r Llywodraeth heddiw.
Nid yw'r penderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud yng Nghymru ynghylch rheoli'r ymateb i'r pandemig yn rhai du a gwyn. Yn fy marn i, nid yw'n ymwneud â bywydau neu fywoliaeth, ond yn hytrach, bywydau a bywoliaeth, ac mae fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn ceisio gwyntyllu'r farn honno. Nid oes amheuaeth nad yw COVID-19 yn ddinistriwr. Mae'r holl broses o heintio, iechyd yn dirywio a mynd i'r ysbyty wedi rhoi straen pellach ar ein systemau GIG a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan straen, ac mae natur heintus y clefyd yn golygu bod nifer o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ffwrdd o'r gwaith am eu bod yn sâl neu am fod yn rhaid iddynt ddilyn mesurau hunanynysu rhagataliol. Felly, rwy'n deall y pwysau a deimlir gan y gwasanaethau iechyd a gofal.
Ond i'r rhai sy'n llwyddo i ddianc rhag cyrhaeddiad COVID, neu sy'n ei ddal ond yn gwella, mae yna edefyn arall yr un mor bwysig i wead pethau—y gallu i ennill bywoliaeth, i fod â phwrpas, i allu parhau â bywyd sydd, rhaid cyfaddef, wedi newid. Mae gweithio gartref, mesurau cadw pellter cymdeithasol, gwahanol ddulliau teithio, ufuddhau i reoliadau, dilyn canllawiau, cyfyngu ar weithgareddau, siopa'n wahanol, diheintio erwau o Perspex i gyd yn dod yn rhan annatod o'n bywydau arferol. Ac er clod mawr i'r ddynoliaeth, rydym wedi ceisio achub bywydau. Mae gwyddonwyr wedi gwneud eu gorau, mae cymunedau wedi cydweithio, ac mae llawer o unigolion wedi camu i'r adwy, wedi dod yn fwyfwy arloesol, ac wedi gofalu am eu cymydog, eu ffrind a'r dieithryn i lawr y ffordd.
Ond mae'n rhaid i ni hefyd geisio cynnal bywoliaeth pobl, a hynny am nifer o resymau: canlyniadau macro-economaidd cael economi sydd wedi methu; lliniaru baich y cymorth gan y Llywodraeth, a fydd yn cael llawer o alwadau eraill am arian; cadw swyddi, gyrfaoedd a chyflogau pobl; sefydlogi'r sylfaen drethi; galluogi cyfle i gael synnwyr o bwrpas, ar gyfer addysg a hyfforddiant a hunangyflawniad; ac yn anad dim, cydnabod bod gennym yng Nghymru nifer anghymesur o uchel o fusnesau sy'n perthyn i'r categori micro neu'r categori BBaChau—busnesau sy'n aml yn cael eu rhedeg gan deuluoedd neu sy'n cynnwys gweithwyr o ardal ddaearyddol dynn, a phan fydd y busnesau hynny wedi mynd, bydd yn anodd iawn cael rhai newydd yn eu lle. Gwyddom eisoes fod cynnydd o 41 y cant wedi bod mewn diweithdra yng Nghymru, o'i gymharu â dim ond 18 y cant yn Lloegr. Felly, mewn termau real, mae hynny'n golygu bod 20,000 o bobl ychwanegol yn chwilio am waith yng Nghymru. Mae ar fusnesau angen yr amgylchedd iawn, ac os yw'r amgylchedd hwnnw'n mynd yn anghynaliadwy, ni fydd yn cynnal busnes, nid colli diwrnod o gyflog neu ychydig wythnosau o gyflog fydd pobl, ond eu swydd gyfan neu eu buddsoddiad mewn busnes, eu cynilion oes, y morgais ar y tŷ a dyfodol i'r plant. Mae'r sector lletygarwch yn crisialu'n berffaith y cydbwysedd y mae angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo rhwng sicrhau bod COVID-19 yn cael ei lethu heb lethu ein bywyd economaidd. Ond rwy'n credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn eto.
Cafodd y cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do o 4 Rhagfyr eu cyfarch â sioc a dicter gan lawer o'r busnesau yn fy etholaeth—busnesau sydd wedi gwario arian ac wedi treulio amser yn sicrhau eu bod wedi glynu at bob canllaw a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Teimlant fod y rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd yn anghymesur ac yn afresymegol. Maent yn gofyn, 'Ble mae'r dystiolaeth?' Ble, yn wir? Weinidog, mae eich Llywodraeth wedi methu darparu tystiolaeth yn sail i'r cyfraddau trosglwyddo yn y diwydiant lletygarwch. Wrth ddarparu tystiolaeth ar gyfer ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol y Llywodraeth, ysgrifennodd y grŵp cynghori technegol y byddai cau bariau, tafarndai, caffis a bwytai yn cael effaith ganolig, gyda gostyngiad posibl mewn cyfraddau trosglwyddo R o 0.1 i 0.2.
Nawr, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn nodi, a hynny'n briodol, fod nifer yr achosion yn codi ledled Cymru, ac felly'r angen am fesurau cenedlaethol. Ond gadewch i ni fod yn glir: ceir amrywiadau enfawr o hyd, ac nid wyf yn credu ei bod y tu hwnt i'r dadansoddiad i edrych ar sut i gyflwyno cyfyngiadau symud wedi'u targedu i ymdrin â mannau problemus, gan ganiatáu i'r ardaloedd â rhifau R isel barhau i fasnachu mewn modd mwy cyfannol. Ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gofio bod y diwydiant lletygarwch hanfodol hwn, sy'n bodoli ar gymaint o ffurfiau arloesol, yn cefnogi cadwyn gyflenwi sydd hefyd wedi'i distrywio.
Mae llawer yn siarad am y diffyg sicrwydd cronig yn y sector lletygarwch. Hoffent gael gwell golwg ar y dyfodol nag ychydig wythnosau ar y tro. Bydd gan lawer o fusnesau archebion ar gyfer y flwyddyn newydd a bydd angen iddynt gynllunio, yn enwedig o ran staffio a chysylltu â chyflenwyr. Mae busnesau hefyd yn codi mater iechyd meddwl staff, gan fod llawer yn poeni'n ddyddiol a fydd angen iddynt ddod i'r gwaith yr wythnos nesaf. Ac wrth gwrs, mae methiant Llywodraeth Cymru i roi cymorth i'r diwydiant lletygarwch cyn mis Ionawr yn arwydd pellach mai ffrind tywydd teg yw Llywodraeth Cymru i'r gymuned fusnes.
Weinidog, gadewch i ni fod yn glir. Roedd y ffordd y cafodd y grant datblygu ei gyflwyno ym mis Tachwedd yn drychinebus. Mae angen dysgu gwersi a bydd angen i fusnesau gael gafael ar y cyllid hwn mewn ffordd deg a chyfartal. Rydym wedi gweld misoedd o ansicrwydd, penderfyniadau munud olaf a'r modd gwael y cyflwynwyd cyllid gan y Llywodraeth. Mae angen gwell cydbwysedd yn ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Mae angen i Lywodraeth Cymru warchod bywydau a bywoliaeth pobl, Weinidog, ac rwy'n annog y Senedd i gefnogi ein cynnig.
Nawr, mae hinsawdd y pandemig COVID yma wedi newid cryn dipyn dim ond yn y dyddiau diwethaf yma, ac mae'r sefyllfa yn ddifrifol iawn rŵan. Mae yna dros 2,000 o achosion newydd heddiw, ac mae'r sefyllfa yn bryderus iawn yma ym Mae Abertawe, gyda lefelau uchel o achosion yng Nghastell Nedd Port Talbot a hefyd yma yn Abertawe, gyda'r lefelau'n cynyddu'n gyflym ac yn berig o fynd allan o bob rheolaeth, a nifer fawr ohonyn nhw mewn ysgolion. Felly, buaswn i'n hoffi gofyn i'r Llywodraeth: beth yn ychwanegol mae'r Llywodraeth yn ei wneud am hyn? Sut maen nhw'n edrych ar ysgolion nawr, yn enwedig wrth wynebu y Nadolig a'r lefelau cynyddol o achosion yn gysylltiedig ag ysgolion, gyda'r holl ddisgyblion yn gorfod cael eu hanfon gartref? Mae 700 o staff bwrdd iechyd Bae Abertawe sydd ddim yn y gwaith achos COVID.
Ac, wrth gwrs, y farn feddygol ydy taw cymysgu â phobl eraill yn y cartref, yn y stryd, yn y gwaith, efo ffrindiau ac efo pobl ddieithr—dyna sy'n gyrru'r cynnydd yn y COVID. Felly, dydy'r cyngor sylfaenol ddim wedi newid. Hynny yw: arhoswch gartref os gallwch chi, ymbellhau yn gymdeithasol, golchi'ch dwylo yn gyson, gwisgo mygydau, ac osgoi cymysgu â phobl eraill.
Peidiwch â chymysgu—dyna'r cyngor meddygol syml. Dyna a glywsom gan swyddogion ddoe. Peidiwch â chymysgu; ceisiwch aros gartref. Mae ffigurau COVID yn codi eto ac mae'n ymddangos eu bod allan o reolaeth. Mae meddygon rwy'n siarad â hwy wedi'u dychryn yn wirioneddol gan y sefyllfa; dyma bobl nad ydynt fel arfer yn cael braw. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i fynd am brofion torfol, fel y gwnaeth Slofacia. I'r rhan fwyaf o'i phoblogaeth—dros 3 miliwn—cynhaliwyd profion mewn un penwythnos. Mae Slofacia wedi gweld gostyngiad dramatig o 60 y cant yn yr achosion o COVID—gyda chymorth, yn amlwg, neu fel arall ni fydd pobl yn cael prawf os na allant ynysu. Felly, hefyd, mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu ynysu â chymorth ar lefel lawer mwy radical nag y gwnaeth hyd yma, neu fel arall ni all pobl hunanynysu.
Mae angen i'r Llywodraeth ystyried tlodi fel cyflwr sy'n bodoli'n barod sy'n arwain at ganlyniadau andwyol mewn COVID, yn debyg iawn i glefyd yr ysgyfaint, clefyd y galon a'r gweddill i gyd. Rydym bob amser wedi gwybod, os ydych chi'n dlawd, fod y strôc a gewch yn waeth os ydych chi'n dlawd na phe na baech chi'n dlawd; os cewch drawiad ar y galon, mae'r trawiad ar y galon a gewch yn waeth os ydych yn dlawd na phe na baech yn dlawd. Mae hynny'n wir am COVID hefyd, a dyna pam y mae angen ynysu â chymorth arnom. Gall y Llywodraeth wneud rhywbeth nawr ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi yn y pandemig hwn, drwy sicrhau y gall pobl hunanynysu er lles pob un ohonom. Gallai'r Llywodraeth gynnig llety am ddim a chyflogau di-dor i bobl sydd â thlodi'n gyflwr sy'n bodoli'n barod allu hunanynysu. Mae llawer o westai'n wag. Meddyliwch am hyn fel sbardun economaidd, yn ogystal â chynnig cymorth ystyrlon i fynd i'r afael â'r tlodi isorweddol ac yn y pen draw, i achub bywydau rhag COVID. Gadewch i ni gael ynysu â chymorth priodol, fel y mae sawl gwlad arall eisoes wedi'i wneud, er lles pob un ohonom. Diolch yn fawr.
Rwy'n dechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy gydnabod dewrder personol y Prif Weinidog dros y chwe mis diwethaf yn cyflwyno deddfwriaeth, y gwyddai y byddai, ar y cyfan, yn amhoblogaidd iawn gyda'r cyhoedd yng Nghymru. Lle rwy'n anghytuno ynglŷn â dull y Prif Weinidog o weithredu yw'r wyddoniaeth, neu'r hyn a elwir yn wyddoniaeth, y mae wedi gweithredu arni. [Torri ar draws.] Ond gadewch i mi wneud hyn yn glir: nid wyf yn seilio fy ngwrthwynebiad ar fy ngallu personol i ddehongli effaith y feirws COVID-19, ond ar farn a safbwyntiau carfan fawr iawn o wyddonwyr sydd yr un mor gymwys â'r rhai y mae ef yn dilyn eu cyngor, ac mae'n wir dweud bod eu barn yn gwbl groes i farn cynghorwyr y Prif Weinidog. [Torri ar draws.] Fe ddywedaf hyn: mae'n ymddangos bod llawer o gynghorwyr y Prif Weinidog ymhlith y rhai a fynegodd farn ar ganlyniadau enbyd pandemigau eraill, megis ffliw adar, ffliw moch a SARS, lle dywedwyd bod gan bob un duedd i fynd drwy'r boblogaeth fel rhyw fath o bla canoloesol. Ni all yr un gwyddonwyr esbonio hyd yn oed heddiw pam y daethant i ben heb ddim o'r canlyniadau enbyd a ragwelwyd, heb yr ymyriadau enbyd rydym wedi'u profi ar gyfer COVID-19. I gyfran fach iawn o'r boblogaeth y mae coronafeirws yn bygwth bywyd. Mae bron bawb sydd wedi marw o'r salwch hwn dros 80 mlwydd oed, a'r rhan fwyaf ohonynt ag afiachedd hirsefydlog. [Torri ar draws.] Mae'r Gweinidog yn dweud bod 400 o achosion COVID yn ein hysbytai; mae miloedd yn fwy yn ein hysbytai gyda symptomau ffliw difrifol. Mae'r ffliw yr un mor farwol â COVID i'r rhai sy'n hen ac yn eiddil.
[Torri ar draws.] Os cawn droi yn awr at y rheoliadau a'r cyfyngiadau diweddaraf sy'n targedu'r sector lletygarwch yn bennaf.
Mae'n ddrwg gennyf, rhaid i bobl gael eu clywed. Mae'n ddrwg gennyf.
Ar ba ddata gwyddonol y mae cynghorwyr y Prif Weinidog yn dibynnu? Mae prif weithredwr bragdy Brains, y mwyaf yng Nghymru, yn dweud, o'r 100 a mwy o dafarndai y mae'n berchen arnynt, mai dim ond tri sydd wedi bod yn rhan o'r fenter profi ac olrhain. Ni fu unrhyw achosion pellach ar ôl cyflawni mesurau glanhau dwfn ar y tafarndai hynny. Aeth ymlaen ymhellach i ddweud, o'r 150,000 neu fwy o gwsmeriaid a wasanaethwyd, mai dim ond chwech y nodwyd bod ganddynt COVID. Brif Weinidog, mae'r diwydiant lletygarwch wedi bod yn rhagorol yn cynnal y rheolau a'r rheoliadau a osodwyd dros y chwe mis diwethaf. Yn amlwg, nid hwy yw prif ffynhonnell heintiau. Mae'r gwaharddiad ar werthu alcohol, nad yw'n wahanol iawn i'r rhai a osodwyd yn America yn y 1930au, yn wirioneddol hurt pan fo alcohol ar gael yn rhwydd yn ein harchfarchnadoedd. Gall unrhyw un gael faint bynnag a ddymunir o alcohol, mynd ag ef adref, a gwahodd ffrindiau i yfed alcohol heb unrhyw reoliadau ar waith. [Torri ar draws.] Rydym yn cydnabod bod lleiafrif bach iawn sy'n anufuddhau i reoliadau pan fyddant wedi yfed llawer iawn o alcohol, ond a yw hynny'n golygu bod angen atal rhywun rhag cael gwydraid o win gyda phryd o fwyd mewn bwyty? Nid ydym yn chwarae gwleidyddiaeth plaid; yn syml iawn, rydym yn gwrthwynebu cyfyngiadau symud hurt. [Torri ar draws.]
Brif Weinidog, fel y dywedais, rydych wedi dangos dewrder yn eich dull o weithredu yn ystod yr argyfwng COVID, nawr dangoswch yr un dewrder, a gostyngeiddrwydd efallai, drwy godi'r cyfyngiadau dinistriol diweddaraf hyn ar y sector lletygarwch.
Nid wyf yn credu bod unrhyw fater wedi achosi cymaint o ddadlau â hyn ers amser maith, y gwaharddiad hwn ar alcohol mewn tafarndai a bwytai. Cefais lu o negeseuon e-bost a galwadau ffôn am hyn dros y dyddiau diwethaf, a gwn fod llawer o'r Aelodau o'r Senedd wedi bod mewn sefyllfa debyg. A gaf fi ddechrau drwy ei gwneud yn glir fy mod yn llwyr ddeall difrifoldeb y sefyllfa y mae Cymru'n ei hwynebu, oherwydd gwn fod rhai Gweinidogion wedi codi hynny ddoe, a'r Prif Weinidog. Ac rwy'n cydnabod hefyd nad oes unrhyw benderfyniadau hawdd yn y sefyllfa hon. Nid oes atebion hawdd yma. Felly, nid yw'n ymwneud â gwrthwynebu'r holl fesurau sy'n cael eu cyflwyno, neu gefnogi'r holl fesurau a gyflwynir yn wir. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar y cyngor y mae'n ei gael gan arbenigwyr. Mae hynny'n glir. Rhaid iddi edrych ar y dystiolaeth a gwneud penderfyniadau cytbwys sy'n ystyried cyfraddau trosglwyddo a'r effeithiau ar yr economi. Dyna waith Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, ein gwaith ni fel yr wrthblaid yw craffu ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif am y penderfyniadau hynny a nodi ble y credwn y gellid gwneud pethau'n well.
Ond ffactor allweddol arall yn hyn oll, wrth gwrs, yw mynd â'r cyhoedd gyda ni—a dywedaf 'ni', oherwydd nid Llywodraeth Cymru yn unig y mae pobl yn eu dwyn i gyfrif am y rheoliadau a'r rheolau hyn wrth gwrs, ond pob un ohonom fel Aelodau o'r Senedd. Dyna sut y mae'r cyhoedd yn meddwl. At ei gilydd, digwyddodd gyda'r cyfyngiadau symud cyntaf a hyd yn oed y cyfnod atal byr, ond mae'n ymddangos bod y cyhoedd wedi colli ffydd y tro hwn, heb sôn am y mater cau'n gynnar, heb sôn am y gwaharddiad ar werthu alcohol. Felly, beth aeth o'i le? Rwy'n credu mai'r broblem yw nad yw'n cyd-fynd â chanfyddiad y cyhoedd o synnwyr cyffredin. Pam y dylai cael gwydraid o win neu gwrw gyda chinio a dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a rheolau a chanllawiau hylendid eraill er enghraifft, fod mewn mwy o berygl o drosglwyddo'r feirws na phe bai pobl yn yfed diodydd meddal? Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn credu bod y dystiolaeth yno i gefnogi hyn, felly rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ei gweld. Gwn fod Alun Davies wedi galw am hyn, ac mae Aelodau eraill o'r Senedd wedi gwneud hynny hefyd. Mae angen sicrwydd ar berchnogion bwytai a thafarndai sydd wedi gweld elw'n disgyn yn enbyd dros yr wythnosau diwethaf ac mewn llawer o achosion yn gorfod aros ar gau nad yw'r camau hyn yn anghymesur, ac y byddant yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19, yn enwedig cyn y Nadolig, os yw'r cyfyngiadau'n mynd i gael eu llacio dros gyfnod y Nadolig.
Nawr, mae'r Gweinidog wedi gwneud rhai dadleuon da dros y gwaharddiad fel ffordd o gydbwyso anghenion busnesau â mynd i'r afael â phandemig COVID-19, ond y ffaith amdani yw nad yw llawer o dafarndai a bwytai, yn sicr yn fy etholaeth i ac yn etholaethau Aelodau eraill hefyd, rwy'n gwybod, yn gweld unrhyw ddewis ond cau oherwydd y broblem elw. Yn lleol, yr Angel yn y Fenni, y Black Bear ym Metws Newydd, y Raglan Arms yn Llandenni, y Star yn Llan-soe; gallwn fynd ymlaen. Dyma dafarndai, gwestai a bwytai a allai aros ar agor yn gyfreithiol a gweini bwyd ond nid alcohol, ond maent wedi penderfynu nad yw'n hyfyw. Yn achos yr Angel yn y Fenni, maent yn aros ar gau tan ganol mis Ionawr, oherwydd mae'n rhaid iddynt wneud eu harchebion ymhell ymlaen llaw. Felly, mae hwn yn bris trwm i'w dalu, a dyna pam y mae angen sicrwydd arnom mai dyma'r ffordd gywir o weithredu.
A wnewch chi, neu a wnaiff Llywodraeth Cymru neu'r Gweinidog ymrwymo i ddal ati i adolygu hyn? O leiaf, credaf fod angen inni weld mwy o dystiolaeth sy'n ei gefnogi. Gwn fod rhai o'r Aelodau o'r Senedd wedi dweud eu bod wedi gweld y dystiolaeth a'u bod wedi cael sicrwydd ganddi, ond allan yno, credaf nad yw pobl y byddaf yn siarad â hwy'n ymwybodol fod y dystiolaeth honno'n bodoli neu'n cynnig cyfiawnhad angenrheidiol dros y camau sy'n cael eu cymryd. Hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn iawn ar hyn, ac nid oes gennyf reswm i amau nad yw Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn cymryd y camau cywir yma, y perygl yw y bydd y cyhoedd yn colli hyder, a chredaf fod David Rowlands wedi sôn am hyn. Os bydd y cyhoedd yn colli hyder yn y mesurau ac yn esgeuluso'r canllawiau fwyfwy, bydd hynny'n caniatáu i'r feirws gael troed yn y drws a bydd yn ymestyn y cyfnod y mae'n ei gymryd i ostwng y cyfraddau trosglwyddo. Gwyddom fod y sefyllfa, yn Abertawe, wedi'i disgrifio fel un 'drychinebus', felly mae'n amlwg fod problem iechyd cyhoeddus enfawr yma y mae angen mynd i'r afael â hi, ac mae angen mynd i'r afael â hi drwy ganllawiau, ond os nad ydym yn mynd â'r cyhoedd gyda ni ar hyn, mae perygl y byddwn yn cronni mwy o broblemau ar gyfer y dyfodol. A gadewch i ni beidio ag anghofio, mae gennym frechlyn nawr, rownd y gornel gobeithio, i ymdrin â'r pandemig, felly nid ydym am wneud pethau'n waeth nawr.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod angen datrys hyn. Rwy'n credu bod angen adolygu'r penderfyniad. Mae angen inni weld y dystiolaeth a nodwyd ar gyfer y mesurau hyn. Mae angen inni fynd â'r cyhoedd gyda ni, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, os ydym am lacio'r mesurau hynny dros gyfnod y Nadolig, fel y gallwn i gyd ddod at ein gilydd a chanolbwyntio ar ymladd y pandemig ac adeiladu nôl yn well.
A gaf fi ddiolch i chi am fy ngalw, Ddirprwy Lywydd? Er na allwn fynd yn ôl, roedd caniatáu i Ŵyl Cheltenham a Lerpwl yn erbyn Atlético Madrid fynd yn eu blaen yn gynharach eleni yn gamgymeriad difrifol iawn gan Lywodraeth San Steffan, a fyddai wedi arwain at ymddiswyddiadau gweinidogol mewn cyfnod gwleidyddol arferol. Rwy'n mynd i ddyfynnu o bapur a adolygwyd gan gymheiriaid yn The Lancet:
Mae syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yn achosi COVID-19 ac mae'n cael ei ledaenu o berson i berson drwy gysylltiad agos... Mae canfyddiadau'r adolygiad a'r meta-ddadansoddiad systematig hwn yn cefnogi mesurau cadw pellter corfforol o 1m neu fwy ac yn darparu amcangyfrifon meintiol ar gyfer modelau ac olrhain cysylltiadau i lywio polisi. Dylai'r defnydd gorau posibl o fasgiau wyneb... yn gyhoeddus... gael ei lywio gan y canfyddiadau a'r ffactorau cyd-destunol hyn.
Dangosodd y canfyddiadau ostyngiad yn y risg o 82 y cant gyda phellter corfforol o 1m mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol. Mae pob metr ychwanegol o ymwahaniad yn mwy na dyblu'r diogelwch cymharol. Mae'r dystiolaeth hon yn bwysig i gefnogi canllawiau cadw pellter corfforol yn y gymuned ac mae'n dangos bod lleihau risg yn ymarferol drwy fesurau cadw pellter corfforol.
Yn y bôn, pe bai pawb yn cadw 2m o bellter, yn gwisgo masgiau mewn siopau a mannau eraill lle dônt i gysylltiad posibl ag eraill, yn golchi eu dwylo ac yn diheintio'n rheolaidd, byddai cynnydd sylweddol yn cael ei wneud tuag at ddileu'r feirws hwn. Pe bai pobl yn hunanynysu pan ddywedir wrthynt am wneud hynny, unwaith eto byddai cynnydd yn cael ei wneud. Rydym yn gweld y gwrthwyneb. Mae'r gyfradd heintio, yn enwedig ymhlith pobl iau, yn cynyddu, ac felly hefyd y gyfradd farwolaethau, yn anffodus. Er y bydd rhai o'r Ceidwadwyr yn anghytuno â mi, credaf fod pob marwolaeth gynamserol a achosir gan COVID yn drasiedi. Un o anawsterau COVID-19 yw ei fod yn effeithio ar bobl yn wahanol, o beidio â chael unrhyw symptomau o gwbl i salwch difrifol a marwolaeth.
Ble mae pobl yn ymgynnull yn agos am gyfnod hir? Yn gyntaf, yn y gweithle, ac er bod Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl i weithio gartref os yw'n bosibl, nid yw pob cyflogwr yn gadael i'w staff wneud hynny. Yn ôl yr Evening Post, heintiwyd nifer fawr o weithwyr y DVLA yn Abertawe. Mae rhai'n mynd yn sâl oherwydd straen; maent yn honni nad yw mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn ar y safle. Nid yw'r gegin a'r ystafelloedd ymolchi a rennir yn cael eu glanhau'n ddwfn ar ôl i achos gael ei nodi, dim ond eu glanhau. Y mis diwethaf, roedd mwy na 40 o weithwyr yn hunanynysu yn y DVLA ar ôl i gydweithwyr brofi'n bositif am coronafeirws. Cefais bump o bobl yn ffonio fy swyddfa ddoe, nifer ohonynt yn eu dagrau, yn ofni mynd i'r gwaith ac yn ofni colli eu swydd yn y DVLA. Sefydliad y Llywodraeth yw hwn, er nad yw'n un o sefydliadau Llywodraeth Cymru. Os na allwn gadw pobl yn ddiogel mewn sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan y Llywodraeth, pa obaith sydd gennym gyda'r sector preifat?
Rwyf hefyd wedi cael cwynion gan bobl sy'n gweithio mewn canolfannau galwadau, cwmnïau cludo nwyddau, a nifer o unedau gweithgynhyrchu, lle mae pobl yn gweithio o fewn metr i'w gilydd, lle nad yw masgiau'n cael eu gwisgo. Mae hyn yn rhoi pobl mewn perygl. Rwy'n teimlo dros y bobl hyn. Fel y dywedodd un fenyw a ffoniodd ddoe wrthyf, 'Mae gennyf ddau ddewis: gallaf naill ai golli fy swydd neu beryglu fy mywyd'. Ac rwy'n credu bod honno'n sefyllfa drist iawn rydym yn rhoi pobl ynddi, neu'n caniatáu i bobl gael eu rhoi ynddi.
Yn ail, ysgolion. Pwy sy'n cofio pan oedd y cyngor gwyddonol yn dweud nad oedd plant dan 11 oed yn gallu cael COVID? Mae ysgolion yn sicr yn cael achosion, gan gynnwys dosbarthiadau meithrin a derbyn. A gaf fi ymuno â'r rhai sy'n gofyn i ysgolion gau wythnos ynghynt, pe bai ond i amddiffyn perthnasau hŷn dros y Nadolig?
Y trydydd maes yw lletygarwch. Dyna'r maes y mae'r Llywodraeth yn ei gau, a gallaf ddeall pam. Ond os yw'r sector a reoleiddir—h.y. pobl sy'n yfed mewn tafarndai a chlybiau—ar gau, beth fydd yn cael ei wneud am gynulliadau heb eu rheoleiddio? Sut y gellir atal hynny?
Y pedwerydd maes yw cynulliadau ar y stryd y mae pobl ifanc yn bennaf yn cymryd rhan ynddynt. Bydd llawer o'r rhain yn asymptomatig ond gallant drosglwyddo COVID i eraill.
Mae gennyf nifer o geisiadau: cau ysgolion wythnos yn gynnar; ailagor tafarndai a bwytai cyn gynted â phosibl, ond bod unrhyw un sy'n torri rheolau diogelwch yn cael eu cau am o leiaf fis; pennu uchafswm sy'n cael ymgynnull ar strydoedd a gwasgaru niferoedd mwy; gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i orfodi gweithwyr y sector cyhoeddus i weithio gartref os oes modd; gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ymweld â chwmnïau sector preifat lle mae pryderon yn cael eu mynegi; ac yn olaf, dal ati i hyrwyddo'r 2m, golchi dwylo a diheintio, a gwisgo masg. Rhaid ichi barhau i wneud hynny. Pan fydd y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'w ddweud, mae pobl yn meddwl nad oes raid iddynt wneud hynny mwyach. Ni allwch ddweud hynny'n rhy aml. A gaf fi annog y Llywodraeth i barhau i gyfleu'r neges honno? Oherwydd mae yna bobl sydd heb ei chlywed ers wythnos neu bythefnos sydd bellach yn meddwl bod y neges honno wedi mynd.
Rydym mewn sefyllfa wirioneddol anodd. Byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth oherwydd maent yn mynd i'r afael ag un o'r pethau sy'n achosi trosglwyddiad, ond a gawn ni ddechrau ymdrin â chyflogaeth? Yn enwedig cyflogaeth mewn swyddfeydd sector cyhoeddus, lle mae pobl yn aml ddim ond hanner metr ar wahân yn llythrennol.
A gaf fi ychwanegu fy llais at y rhai sydd wedi dweud ein bod, wrth gwrs, yn deall difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru? Rydym yn siarad â'n byrddau iechyd ac rydym yn darllen y dystiolaeth—pan gawn ei gweld. Deallwn hefyd nad yw penderfyniadau i reoli'r feirws hwn yn hawdd i'w gwneud, ond ein dyletswydd ni yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif pan gredwn eu bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir, a dyna a wnawn. Roedd ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Laura Anne Jones ddoe mor bell ohoni fel ei fod yn fy nharo fel arwydd o'r lludded yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a phan fydd pobl wedi blino'n lân, gallant wneud camgymeriadau.
Nawr, Alun Davies, byddech am i ni gredu y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn taflu poblogaeth gyfan Cymru i bwll calch er mwyn cael pennawd. Rwy'n credu bod angen i chi ystyried y cyhuddiad hwnnw, oherwydd er ei fod yn amlwg yn anghywir wrth gwrs, mae'n safbwynt peryglus iawn i blaid sy'n Llywodraeth ei arddel pan fo'n ceisio perswadio pobl Cymru fod y Llywodraeth honno'n haeddu parch ac ymddiriedaeth. Mae unrhyw blaid sy'n Llywodraeth sy'n dweud ei bod yn amharod i dderbyn bod eu penderfyniadau'n agored i graffu yn cymryd y risg honno.
Rwy'n cydnabod y rhwystredigaeth. Mae'r Llywodraeth wedi rhoi cynnig ar bob math o ffyrdd ymlaen, a'r rhan fwyaf ohonynt wedi cael cefnogaeth, ac eto mae'r feirws yn parhau i ledaenu. Heb roi pob un ohonom dan glo hyd nes y daw ein hapwyntiad brechu drwodd, ni fyddwn yn ei guro. Gan ein bod i gyd yn cydnabod na allwn fyw yn y ffordd honno, rhaid inni fyw gyda'r feirws mewn ffordd sy'n cydbwyso'r risg o haint gyda'n hiechyd meddwl, ein bywoliaeth, addysg barhaus ein plant a'r modd o greu cyfoeth i gadw ein gwasanaethau cyhoeddus i fynd. Bydd etholwyr yn derbyn rheoliadau pan welant y cysylltiad rhwng gweithredu a diben—cadw pawb yn ddiogel. Cafwyd penderfyniadau y maent wedi'u derbyn yn ddigalon, ond y maent yn credu ynddynt. Ond ers hynny cawsom y rheol 5 milltir, y cyhoeddiad am nwyddau nad ydynt yn hanfodol, amseroedd cau ar hap, y cyfyngiadau cyffredinol pan nad yw'r feirws yn ymddwyn yn yr un ffordd ledled Cymru, ac yn awr, wrth gwrs, hurtrwydd y gwaharddiad ar werthu alcohol, oherwydd mae'n debyg fod un gwydraid o seidr amser cinio yn ddigon grymus i'ch amddifadu o'ch pwyll, tra bod gwydraid o lemonêd yn creu rhyw fath o faes grym sy'n cadw eich dwylo'n lân a 2m oddi wrth eich ffrindiau. Nid yw hynny'n swnio'n wyddonol iawn i mi.
Oes, mae yna bobl sy'n diystyru'r rheolau—weithiau'n fwriadol, weithiau ddim. Mae pobl wedi blino, fel y mae'r Prif Weinidog wedi deall wrth iddo geisio egluro lledaeniad y clefyd. Ond mae angen i chi feddwl nawr sut i fynd i'r afael â dau fygythiad newydd, sef anghrediniaeth a drwgdeimlad. Nawr, wrth gwrs, roedd etholwyr yn anghrediniol ynglŷn â'r gwaharddiad ar alcohol, nid am ein bod yn genedl o yfwyr, ond oherwydd bod y brif ffynhonnell elw wedi'i thorri i fusnesau bach sydd eisoes wedi cael eu taro, a hynny heb gyfiawnhad gwyddonol, tra'n gwobrwyo'r archfarchnadoedd unwaith eto. Ni welwyd pwl o sobreiddiwch a chadw pellter cymdeithasol o ganlyniad—yn hytrach, cafwyd newid herfeiddiol braidd i gyfarfod dan do â ffrindiau na ddylent fod yno, driphlith-draphlith, a'r alcohol lleiaf poblogaidd yn y tŷ fydd y glanweithydd.
Yna ceir y drwgdeimlad. Mae'n amlwg fod y gair 'cosb' wedi peri anifyrrwch i'r Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n siŵr nad yw'n bwriadu cosbi neb. Gadewch imi wneud hynny'n glir. Ond ni cheir cydnabyddiaeth wirioneddol i sut y mae etholwyr yn teimlo am yr hyn y maent bellach yn ei weld fel datgysylltiad rhwng nod, gweithrediad a chyflawniad. Ac nid dim ond y rhai sydd wedi gwneud eu gorau i ddilyn y rheolau, er eu bod wedi'u hamddifadu o'r cyswllt sydd wedi golygu cymaint iddynt, ond yn benodol y busnesau lletygarwch sy'n cydymffurfio â mesurau COVID y mae eraill eisoes wedi sôn amdanynt heddiw. Weinidog, gwn y byddwch yn cyfeirio at y cymorth ariannol yn eich ymateb. Mae'n sicr yn cael ei werthfawrogi, ond fel y clywsom eisoes, nid yw'n ddigon, ac nid dyna beth y mae'r busnesau hyn a'u cleientiaid yn credu sy'n gweithio nawr. Maent am allu cyflogi pobl a masnachu'n ddiogel.
Rwyf am sôn am un dafarn yn fy rhanbarth, tafarn a brynwyd gan ei pherchnogion gydag arian diswyddo'r gŵr a morgais pan gaeodd ei bwll glo. Nid yw'n lle mawr crand, ond maent wedi gwario arian arno, ac wrth gwrs maent wedi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â mesurau COVID 100 y cant. Mae'n dafarn leol sy'n boblogaidd gyda'i mynychwyr rheolaidd hŷn, a llawer ohonynt yn byw ar eu pennau eu hunain. Credaf fod Helen Mary Jones wedi sôn am bobl mewn sefyllfa debyg. Maent wedi cael un grant, ac roeddent yn ddiolchgar amdano. Maent wedi gwneud cais am gyllid y gronfa cadernid economaidd ac maent yn dal i aros i glywed a ydynt yn mynd i'w gael. Maent wedi gofyn am gyllid dewisol gan y cyngor lleol, ond mae enw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lleol am fod yn hwyrfrydig ac am eu gofynion rhwystrol ar gyfer y math hwn o ryddhad. Maent wedi defnyddio eu cynilion, a nawr maent ar gau am nad ydych chi'n gadael iddynt werthu eu cynnyrch. Nid ydynt yn hyderus eu bod yn mynd i ailagor. A'r dafarn hon yw eu cartref hefyd. Felly, beth sy'n digwydd os bydd y banc yn blaen-gau? Beth sy'n mynd i ddigwydd i'r pâr hwn yn eu chwedegau? Dyna pam y credaf fod y cydbwysedd yn anghywir yma, Weinidog. Nid ydym eisiau i bobl ledaenu COVID—wrth gwrs nad ydym—ond nid ydym eisiau iddynt gael eu gwneud yn ddigartref chwaith.
Llawn yw uffern o fwriadau da, ac os arhoswch gyda hyn, mae pobl yn mynd i roi'r gorau i wrando arnoch, bydd y gwelyau GIG yn parhau i lenwi a, Lynne, ni fydd iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu.
Rwyf am fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu'r sector lletygarwch, yn benodol y cau am 6 p.m. a gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a chlybiau a bwytai, gan wybod, a dweud y gwir, eu bod wedi bod i uffern ac yn ôl eleni. Cawsant eu cau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, yna fe wnaethant ailagor ac roeddent yn gweithio yn ôl rheoliadau newydd, fe wnaethant fuddsoddi mewn mesurau diogelwch COVID a chyfarpar diogelu personol a mannau awyr agored newydd, ac yna fe wnaethant gau eto yn ystod y cyfnod atal byr yn yr hydref ac mae llawer ohonynt ar gau i bob pwrpas ar hyn o bryd. Felly, mae eu pryderon yn real ac yn ddealladwy, a rhaid eu cyfleu yn Siambr y Senedd heddiw.
Ond dylid cyfleu'r rhesymau sy'n sail i'r mesurau llym hyn hefyd a'r risg i fywydau ac i'n GIG hebddynt. O heddiw ymlaen, mae gan Gastell-nedd Port Talbot, yr etholaeth sy'n ffinio â fy etholaeth i, 693 o achosion ym mhob 100,000 yn ystod yr wythnos ddiwethaf; dyma'r uchaf yng Nghymru. Mae'r sir hefyd yn un o'r pedair ardal cyngor sydd â chyfradd uwch na 20 y cant o achosion positif. Ond mae 11 awdurdod lleol arall, o Geredigion i Sir Fynwy, hefyd â chyfradd uwch nag erioed o achosion positif. Mae 21 o'r 22 awdurdod lleol yn codi'n beryglus, a Chaerau—Caerau fach ger fy nghartref ym Maesteg—sydd â'r gyfradd uchaf o achosion lleol, bron 1,780 ym mhob 100,000 am y saith diwrnod diwethaf, a 126 o achosion. Ac mae sir ehangach Pen-y-bont ar Ogwr yr oedd Suzy yn sôn amdani hefyd wedi cyrraedd ei chyfradd uchaf o achosion.
Ddydd Mawrth, dywedodd cynghorwyr Llywodraeth Cymru fod nifer y bobl yng Nghymru a oedd yn marw gyda'r feirws yn uwch na'r hyn a oedd ganddynt fel senario waethaf. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob cynrychiolydd etholedig cyfrifol yn y Siambr hon i ymgodymu'n onest â'r dystiolaeth wyddonol a meddygol, i beidio â chwarae i'r oriel boblyddol, ac i fod yr un mor benderfynol a difrifol ynghylch diogelu bywydau eu hetholwyr yn ogystal â'u bywoliaeth. Ac mae'n rhaid i bob Aelod yma, gan gynnwys Aelodau'r gwrthbleidiau, gydnabod bod y cyngor a roddir i Weinidogion gan SAGE a chan y gell cyngor technegol a chan y prif gynghorwyr meddygol a gwyddonol yn llwm—y byddai unrhyw beth llai na'r mesurau sydd bellach ar waith yn arwain at berygl o golli rhwng 1,000 a 1,700 o fywydau.
Marwolaethau y gellir eu hatal yw'r rhain, marwolaethau diangen, marwolaethau ein hetholwyr, ein cymdogion, ein teuluoedd a'n ffrindiau. Felly, pa un ohonom sy'n barod i fynd yn ôl at ein hetholwyr, sydd hefyd wedi bod i uffern ac yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, a dweud yr anwybyddwn y cyngor meddygol a gwyddonol a pheryglu eu bywydau, a chysgu'n sownd wedyn ar ôl gwneud hynny? Nid tafarndai a chlybiau ac adeiladau trwyddedig yw'r unig fannau lle ceir risg wrth gwrs, ac nid yw atal gwerthu alcohol ar ei ben ei hun yn ateb hud. Ond nid dim ond model neu ragolwg o'r hyn a allai ddigwydd yw'r dadansoddiad a ddogfennwyd o'r risg o drosglwyddo yn y sector lletygarwch, dadansoddiad sydd ar gael i'r cyhoedd—mae'n archwilio'r hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n dweud yn hollol glir, ac rwy'n dyfynnu,
Y darlun cyffredinol yn y DU (a thramor) yw na fu modd cael R o dan 1 yn gyson heblaw mewn mannau lle bu cyfyngiadau sylweddol ar letygarwch. Canfu dadansoddiad SAGE o haenau, cyfnodau atal byr ac ymyriadau eraill ym mhedair gwlad y DU fod epidemigau'n crebachu ym mhob ardal sy'n ddarostyngedig i Haen 3/3+ yn Lloegr neu gyda'r cyfyngiadau cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon. Dilynwyd pob ymyrraeth arall gan ddarlun mwy cymysg.
Yn ogystal, mae dadansoddiad gwyddonol manwl ar wahân o'r gwahanol ymyriadau ym mhedair gwlad a rhanbarth y DU dros gyfnod yr hydref yn dangos eto pa mor effeithiol yw'r mesurau llym yn unig wrth fynd i'r afael â thwf a lledaeniad y feirws. A hyn er gwaethaf yr ymdrechion anhygoel sy'n cael eu gwneud gan gynifer yn y sector trwyddedig i wneud eu lleoliadau'n ddiogel rhag COVID. Yn anffodus, mae'r dystiolaeth yn dangos bod lleoliadau lletygarwch, a'r ymddygiad cyhoeddus sydd weithiau'n deillio o alcohol yn y lleoliadau hyn, yn cyfrannu at y risg uwch o drosglwyddo.
Weinidog, mae fy nhafarndai a fy nghlybiau a fy mwytai eisiau gwybod mwy yn awr am y cymorth sydd ar gael iddynt, gan gydnabod bod graddau'r cymorth yng Nghymru, ar £340 miliwn, ymhell y tu hwnt i'r swm o £40 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer Lloegr gyfan. Maent am wybod: pa mor gyflym y gellir talu'r arian hwn? Pa mor syml y gellir gwneud y gweithdrefnau ar eu cyfer? Pa gymorth y gellir ei roi iddynt i nodi'r ffrwd ariannu gywir ac i lenwi'r ffurflenni ar-lein angenrheidiol? A ydynt yn cael apelio os cânt eu gwrthod neu os ydynt yn gwneud camgymeriad syml? A fydd mwy o gymorth ariannol ar gael ar gyfer costau trwyddedu neu ardrethi busnes? Weinidog, beth arall y gellir ei wneud i helpu'r busnesau hyn i ddod trwy'r argyfwng?
Ac yn olaf, a gaf fi dalu teyrnged i'r tafarndai a'r clybiau a'r bwytai, yn fy ardal i ac yng Nghymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i weithredu eu busnesau'n ddiogel a chadw swyddi i fynd er gwaethaf y feirws? Gofynnaf i Lywodraeth Cymru barhau i roi pob mesur posibl ar waith i gefnogi'r sector fel bod y swyddi a'r busnesau hyn yn dal yno pan fyddwn wedi troi'r llanw ar y feirws hwn a gallwn gyfarfod eto, cyn gynted â phosibl, dros beint—neu efallai fwy na hynny.
Diolch. Rwy'n gwneud yr apêl eto. Mae gennym nifer fawr o bobl o hyd sydd am allu siarad, felly hoffwn ofyn i chi, hyd yn oed os mai dim ond 10 eiliad fyddwch chi'n mynd dros yr amser, nid oes ond angen i rai ohonoch fynd 10 eiliad dros yr amser a byddwn yn colli amser, felly os yw pawb ohonoch am gael eich galw, a gaf fi ofyn i chi feddwl am hynny o ddifrif? Laura Anne Jones.
Diolch am fy ngalw, heddiw. Nid oeddwn yn ei ddisgwyl, oherwydd roeddech chi'n ceisio cael pawb arall i mewn, ond mae hynny'n wych—diolch yn fawr iawn. Cefais fy nigalonni braidd gan ymateb y Prif Weinidog ddoe, a drodd yn ymosodiad personol arnaf, yn hytrach nag ateb cwestiwn syml—cwestiwn rhesymol—i ofyn iddo ddarparu'r dystiolaeth y seiliwyd y cyfyngiadau diweddaraf arni. Dyna yw ein gwaith ni. Rydym yn Aelodau o'r gwrthbleidiau. Rydym mewn democratiaeth, a'n gwaith ni yw craffu ar y Llywodraeth a'i dwyn i gyfrif. Dyna roeddwn yn ei wneud. Nid wyf yn deall pam y byddech yn gwylltio ynglŷn â hynny mewn pandemig cenedlaethol, pan fo'n fwy hanfodol nag erioed ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif a thrafod y cyfyngiadau hyn sy'n dod yn weithredol a sicrhau mai dyma'r cyfyngiadau gorau posibl i gael yr effaith fwyaf bosibl.
Roedd Nick Ramsay yn llygad ei le'n gynharach; mae angen inni fynd â'r cyhoedd gyda ni. Mae'n wirioneddol hanfodol. Ond drwy wneud cyfyngiadau heb eu cefnogi gan dystiolaeth, nid ydym yn mynd i fynd â'r cyhoedd gyda ni. Nid ydym yn mynd â'r cyhoedd gyda ni, ac mae hynny'n beryglus, oherwydd bydd pobl yn parhau i yfed mewn niferoedd mawr yn eu tai, efallai, ac rydych yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol; rwy'n siŵr fod pawb arall wedi'i weld. Dyma'r math o beth sy'n digwydd. Dyma sy'n gyfrifol am rywfaint o'r cynnydd yn y niferoedd o bosibl. Pwy â ŵyr? Rydym eto i weld y dystiolaeth sy'n dangos a yw'r cyfyngiadau diweddaraf hyn yn gweithio ai peidio, a'r effaith.
Ond mae'n rhaid cael rhyw fath o wiriad i weld a yw'r cyfyngiadau hyn yn gweithio. Maent mor niweidiol i'n busnesau, sydd wedi gweithio mor galed i wneud eu busnesau'n ddiogel i bawb ddod i fwynhau pryd o fwyd a gwydraid neu ddau o win. Pam cosbi'r lluoedd oherwydd yr ychydig bobl sy'n diystyru'r rheolau? Nid dyma'r ffordd o fynd ati, yn fy marn i. Nid wyf yn credu bod y cyfyngiadau hyn yn gwneud synnwyr. Gofynnaf i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog edrych eto ar y cyfyngiadau hyn, a naill ai eu cyfiawnhau drwy roi tystiolaeth gadarn, a chael cefnogaeth y cyhoedd a'r busnesau, neu efallai feddwl am eu newid, a meddwl eto, a meddwl beth sydd orau i'n gwlad.
Rydym i gyd yn pryderu'n fawr wrth gwrs am y niferoedd cynyddol ledled fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, ledled Cymru gyfan, ledled y DU. Mae'n gyfnod pryderus iawn, ac mae'r brechiadau'n dod, ond rhaid inni barhau i ledaenu'r neges fod angen i bobl gadw'n ddiogel, golchi dwylo, cadw pellter, gwisgo masgiau, a'r math hwnnw o beth, ond ar wahân i hynny, mae'n rhaid i'r cyfyngiadau fod yn rhesymol. Mae'n Nadolig. Mae pobl eisiau gweld ei gilydd. Wrth gwrs eu bod, ac rwy'n gwybod bod pobl eisiau cyfarfod a chael cwtsh, a hyn a'r llall, ond maent yn deall, ac rwy'n siŵr fod y rhan fwyaf o bobl yn deall, na allant wneud hynny. Maent yn gwybod nad mynd yn wirion ac yfed llawer o alcohol yw'r ffordd ymlaen. Bydd rhai pobl bob amser yn diystyru'r rheolau, ond nid yw'r mwyafrif yn gwneud hynny a'n busnesau, ar adeg cyn y Nadolig pan allant wneud rhywfaint o'r arian yn ôl, fel y dywedwyd eisoes, ar adeg o'r flwyddyn sy'n adeg dda o'r flwyddyn iddynt—. Nid wyf yn gweld pam fod angen cosbi'r busnes lletygarwch fel hyn, ac rwy'n defnyddio'r gair 'cosbi'—nid wyf yn credu eich bod yn bwriadu eu cosbi, fel y dywedodd Suzy, ond rydych yn eu cosbi ac nid ydynt wedi gwneud dim byd heblaw cadw at y rheolau a gwneud popeth yn wych yn fy marn i, gan roi llawer iawn o arian, amser ac ymdrech i geisio achub eu busnesau.
Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n gofyn i chi unwaith eto: Weinidog, a wnewch chi ddarparu'r dystiolaeth gadarn pam oedd yr union gyfyngiadau hyn mor angenrheidiol? Diolch.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, eisoes wedi ein rhybuddio, fel Aelodau o'r Senedd, ar 1 Rhagfyr, fod arbenigwyr gwyddonol a meddygol wedi datgan yn glir—ac rwy'n ailadrodd—y gallai cyfanswm nifer y bobl â COVID yn yr ysbyty godi i 2,200 erbyn 12 Ionawr oni bai ein bod yn ymateb nawr. Ychwanegodd y Prif Weinidog y gallai fod rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y gellid eu hatal dros y gaeaf. Felly, mae cyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru—y cyfyngiadau newydd—yn llym ac maent yn llym oherwydd bod angen iddynt fod. Ac er bod y golau ym mhen draw'r twnnel hwn i'w weld erbyn hyn, fel y mae llawer wedi sôn, rydym yn dal i fod yn y twnnel, a chyda'r tywyllwch hwnnw ym mhobman, ni fydd y Nadolig hwn fel Nadoligau eraill yn ystod cyfnod o heddwch yng Nghymru, ond ar ôl y Nadolig sy'n peri'r pryder enfawr, a gallai hynny'n hawdd, heb weithredu, ymestyn hyd y twnnel COVID hwn yn fawr.
Tanlinellir difrifoldeb y sefyllfa hon ymhellach gan grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru sy'n datgan, ac rwyf am ei ddweud yn araf, os gall pobl osgoi gweld eraill dros gyfnod y Nadolig, gan ohirio dathliadau tan yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf o bosibl neu gyfarfod o bell, rydym yn cynghori hyn yn gryf. Am neges sobreiddiol a sobr sy'n rhaid i bob un ohonom ei hystyried y Nadolig hwn.
Felly, i grynhoi a bod yn fyr, Ddirprwy Lywydd, mae'r cyfyngiadau hyn yn deillio o dystiolaeth wyddonol, yn gymesur, yn gyfreithlon ac yn gytbwys iawn, ac maent yn ymdrechu'n ddewr i wrthsefyll y peryglon digynsail ac amlochrog y mae ein gwlad yn eu hwynebu. Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ni allaf ddeall—rwy'n methu deall—pam na fyddai unrhyw berson ymwybodol yn y lle hwn yn cefnogi diogelwch y bobl y maent yn eu cynrychioli, ac ymwrthod yn lle hynny â phrif ddyletswydd, dyletswydd gyntaf un llywodraeth, sef cadw ein pobl yn ddiogel. Diolch.
Rwy'n credu ei bod yn dda ein bod yn cael y ddadl hon o'r diwedd. Un o broblemau'r pandemig yw ein bod yn cael mesurau wedi'u pasio'n gyson gan Lywodraeth Cymru nad ydynt erioed wedi cael eu cymeradwyo gan y Siambr hon. Gwnaeth Caroline Jones y pwynt ein bod ni yma yng Nghymru, yn ein sefydliad datganoledig, ymhell o fod yn ddemocratiaeth, a'n bod yn dod yn unbennaeth etholedig mewn gwirionedd.
Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y pwynt hwn yn ei ddatganiad agoriadol. Mesurau brys yw'r rhain, ond rhaid bod rhagdybiaeth ein bod yn trafod yn gyntaf cyn cyflwyno rheolau dadleuol. Ar y pwynt hwnnw, rydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi gwelliant 16 Plaid Cymru heddiw. Rydym hefyd yn cefnogi'r rhan fwyaf o bwyntiau'r Ceidwadwyr.
Nawr, ar y mesurau penodol rydym yn eu trafod, nid wyf wedi dweud llawer am y cyfyngiadau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno. Fy mhrif fyrdwn oedd pwysleisio mai dull cydgysylltiedig ledled y DU fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin â'r argyfwng cenedlaethol hwn. Byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU arwain hyn, wrth gwrs. Nawr, mae llawer o bobl yng Nghymru yn amau bod y Prif Weinidog yn defnyddio'r pandemig fel ffordd o wthio ei agenda ei hun o blaid datganoli. Mae llawer o bobl y tu allan i'r lle hwn wedi dweud wrthyf eu bod yn credu mai dyma y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud. Nid wyf yn cynnig unrhyw farn i'r bobl hyn, dim ond gwrando. Dywedant wrthyf fod y Prif Weinidog yn benderfynol o wneud pethau'n wahanol yng Nghymru yn syml am ei fod yn cael gwneud hynny. Maent yn awgrymu wrthyf mai'r rheswm am hyn yw ei fod am roi cyhoeddusrwydd a chael mwy o gefnogaeth gyhoeddus i'w ymerodraeth ei hun yma ym mae Caerdydd, ac maent yn dweud wrthyf eu bod wedi cael mwy nag ychydig o lond bol arno.
Ond beth y mae ei benderfyniadau wedi arwain ato mewn gwirionedd? Cymru sydd â'r gyfradd heintio uchaf o bell ffordd o bedair gwlad y DU. Mae'r cyfnod atal byr fel y'i gelwir, y bwriadwyd iddo gynnig achubiaeth i fusnesau a allai obeithio masnachu'n llwyddiannus yn y cyfnod cyn y Nadolig, wedi bod yn fethiant llwyr. Gallai'r cau newydd hwn fod yn hoelen olaf yn yr arch i lawer o dafarndai a bwytai. Yr hyn sy'n waeth yw bod tafarndai wedi gwario miloedd o bunnoedd yn cydymffurfio â rheoliadau blaenorol COVID, ac eto cânt eu gorfodi yn awr i gau eu drysau eto. Mae arnaf ofn fod y syniad y gallant aros ar agor tra'n cael eu gwahardd rhag gweini alcohol yn jôc sâl. Pwynt gwerthu unigryw tafarn yw ei bod yn gwerthu alcohol; os nad yw'n gwneud hynny, prin ei bod yn dafarn.
Nawr, dywedir wrthym yn ddiddiwedd gan y Prif Weinidog fod yr holl fesurau y mae'n eu cyflwyno yn gorfod digwydd; nid oes unrhyw ddewis arall. Ymddengys bod y Prif Weinidog yn dweud bod unrhyw un sy'n anghytuno naill ai'n siarlatan, yn gelwyddgi neu'n ffŵl. Pan ofynnodd Laura Jones gwestiwn hollol ddilys iddo ddoe, dywedodd fod ei hymddygiad, ac ymddygiad y Ceidwadwyr, yn warthus. Mae'n ymddangos ei fod yn dweud wrthym mai ef yn unig sy'n gwybod beth yw'r ffordd gywir oherwydd mai ef yn unig sy'n gwybod beth yw'r cyngor gwyddonol. Y broblem yw bod y cyngor gwyddonol hwn mor gymhellol fel nad yw hyd yn oed yn ei rannu â ni.
Yr hyn a wyddom o'r ystadegau sydd ar gael yw bod llai na 5 y cant o heintiau COVID yn digwydd mewn tafarndai neu mewn safleoedd lletygarwch; mae llawer mwy yn digwydd mewn archfarchnadoedd mewn gwirionedd. Pe bai'r Prif Weinidog wedi caniatáu i dafarndai barhau i weini cwrw nes cau eu drysau am 6.00, byddai hynny wedi gwneud rhywfaint o synnwyr. Ond mae'r Prif Weinidog yn dweud bod pobl yn dechrau ymddwyn mewn modd mwy diofal ar ôl yfed alcohol. Mae'n ymddangos ei fod yn meddwl bod pobl mewn tafarndai'n gwegian ar eu traed ar ôl peint neu ddau o gwrw. Efallai y dylai ymweld â thafarn un diwrnod fel y gall weld nad yw'r ddelwedd hon sydd ganddo o yfwyr cwrw yn ddarlun cywir mewn gwirionedd.
Nid yw pobl ifanc, a allai fod yn fwy tebygol o fod eisiau parti, yn mynd allan cyn 6 o'r gloch at ei gilydd. Felly, byddai'r mwyafrif llethol o bobl sy'n yfed mewn tafarndai yn y prynhawn yn gwneud hynny'n synhwyrol. Felly, gallem fod wedi caniatáu i dafarndai barhau i weini cwrw yn y prynhawn; mae synnwyr cyffredin yn dweud hynny wrthym, ond nid oes synnwyr cyffredin gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Bydd pobl yn parhau i brynu cwrw mewn archfarchnadoedd a bydd mwy o bobl nawr yn mynd ag alcohol adref ac yn ei yfed mewn lleoliadau preifat, heb reolaeth, sy'n debygol o arwain at gyfradd heintio uwch.
Fel y dywedodd Tim Martin o gadwyn JD Wetherspoon, mae'r Prif Weinidog yn siarad rwtsh. Ble mae'r dystiolaeth? Ble mae'r rhesymeg? Nid yw'n ateb ei feirniaid mewn unrhyw ffordd synhwyrol. Y cyfan mae'n ei ddweud yw ei bod yn gywilyddus ein bod yn codi'r materion hyn; dyna mae bob amser yn ei ddweud. Ond os yw'n gywilyddus ein bod yn codi'r cwestiynau hyn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mae llawer iawn o bobl gywilyddus allan yno yng Nghymru sy'n gofyn yr un cwestiynau'n union. Diolch yn fawr iawn.
Mae trigolion Aberconwy yn iawn i holi sut y mae'n deg fod sir Conwy, gyda chyfradd y 100,000 sydd bron naw gwaith yn is na Chastell-nedd Port Talbot, yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau gwaharddol. Yn wir, mae gwelliant Darren Millar yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith nad yw dull gweithredu ar gyfer Cymru gyfan yn rhesymol nac yn gymesur o ystyried bod COVID yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Nawr, cafwyd ceisiadau am dystiolaeth, a rhaid imi ategu'r sylwadau ynglŷn â pha mor anghwrtais, ymosodol ac amddiffynnol oedd y Prif Weinidog yn ei ymateb i Laura Anne Jones ddoe. Nawr, y dystiolaeth rydym i gyd wedi bod yn gofyn amdani, cawsom ein cyfeirio at y gell cyngor technegol. Mae hon yn eich hysbysu bod niferoedd uchel o achosion yn parhau i gael eu cofnodi yn bennaf mewn cartrefi gofal preswyl ac ysgolion.
Ysgrifennodd y Cynghorydd Sam Rowlands, sydd â'i fys ar y pwls fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, at Lywodraeth Cymru, yn esbonio bod:
lledaeniad y feirws rydym yn ei weld ar hyn o bryd yn digwydd drwy drosglwyddiad yn y cartref,
—yr un trosglwyddiad yn y cartref rydych bellach yn ceisio ei gynyddu oherwydd eich bod yn gyrru pobl o fusnesau lletygarwch sy'n cydymffurfio â mesurau COVID ac sy'n cael eu rheoleiddio. Nid yw'r awdurdod lleol na'r gell gyngor wedi cyfeirio at unrhyw dystiolaeth fod niferoedd uchel o ddigwyddiadau'n parhau i ledaenu oherwydd y sector lletygarwch a hamdden. Yn wir, yr hyn y mae'r rheoliadau wedi llwyddo i'w wneud yw gyrru rhai o fy etholwyr a thrigolion eraill Cymru i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i groesi'r ffin i Loegr i fwynhau gwydraid o win neu gwrw gyda'u pryd bwyd. Mae eich camau gweithredu chi'n llenwi pocedi busnesau lletygarwch dros y ffin ac yn gadael ein rhai ni'n wynebu ansicrwydd economaidd difrifol, a phryderon iechyd meddwl posibl. Ddoe, dadleuodd y Prif Weinidog yn ei amddiffyniad fod iechyd a lles a bywoliaeth fy mherchnogion busnes i'w hystyried yn ddibwys ac yn ymylol. Wel, rwy'n gwrthod y farn honno.
Yr wythnos hon, mae Lee Waters AS wedi dweud bod y Cabinet wedi trafod dull gweithredu rhanbarthol—felly, mae rhywfaint o synnwyr yno—gan ystyried lefelau is yng ngogledd-orllewin Cymru a siroedd fel Sir Benfro. Yn ôl yr hyn a ddywed ef hyd yn oed, mae dull rhanbarthol yn parhau'n opsiwn. Mae hefyd wedi'i ddyfynnu yn y cyfryngau yn dweud bod Aelodau Llafur gogledd Cymru, Ken Skates, Lesley Griffiths a Hannah Blythyn yn gofyn cwestiynau ynglŷn â dull rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru drwy'r amser. Felly, mae'n debyg nad yw Llywodraeth Cymru yn fyddar. Felly, a yw'n wir fod eich tri Aelod rhanbarthol yng ngogledd Cymru o bosibl yn cefnogi dull gweithredu haenog rhanbarthol, neu a fyddant yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw?
Mae llythyr digynsail wedi'i lofnodi gan fwy na 150 o fusnesau o bob rhan o ogledd Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod eu busnesau ar draws y rhanbarth wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac arian i wneud eu lleoliadau a'u busnesau yn ddiogel rhag COVID. Mae'r llythyr yn glir fod problemau difrifol gyda'r pecyn cymorth ariannol sy'n cael ei gynnig. Yna cawsom y drafferth gyda'r amseru, gyda Busnes Cymru yn dweud na fydd busnesau'n dechrau cael taliadau drwy gronfa gyfyngiadau'r gronfa cadernid economaidd tan fis Ionawr, ac ni ellir gwneud ceisiadau am gymorth i sectorau penodol y gronfa cadernid economaidd tan ganol mis Ionawr. Mae fy musnesau a busnesau eraill ledled Cymru yn colli arian wrth inni siarad, gan wynebu ansicrwydd a methdaliad o bosibl.
Gwn am un gwesty yn Aberconwy sydd wedi gweld colled net o £490,000 o drosiant ers 1 Hydref. Yn amlwg, dylem i gyd gefnogi'r galwadau i chi sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol. Felly, a wnewch chi ddarparu gwybodaeth i'n busnesau fel eu bod yn gwybod beth y gallant ac na allant ei wneud dros gyfnod y Nadolig? Mae gennyf westai ar hyn o bryd lle mae gwesteion yn ffonio i ofyn, 'A gaf fi wydraid o win gyda fy nghinio Nadolig?', ac oherwydd yr ansicrwydd, maent yn canslo'u harchebion nawr. Rhowch rywfaint o gyngor inni, fel y gallant o leiaf wneud y cynlluniau hynny. Eglurwch pam eich bod yn canolbwyntio ar letygarwch, er bod y cyngor a roddwyd i chi'n tynnu sylw at gartrefi gofal preswyl ac ysbytai fel y mannau lle mae niferoedd uchel o achosion yn parhau i gael eu cofnodi.
Mae arnom angen dull lleol sy'n adlewyrchu'r gwahaniaethau enfawr yn y cyfraddau yn ardaloedd yr awdurdodau lleol. Erfyniaf ar bob Aelod i fod yn rhesymol ac i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ar ran Llywodraeth Cymru: pa mor hyderus ydych chi i ddefnyddio arian trethdalwyr i amddiffyn eich gweithredoedd mewn perthynas â fy awdurdod lleol pe bai adolygiad barnwrol ar ei ffordd? Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Pwy fyddai wedi meddwl yr haf diwethaf y byddai dinasyddion y DU yn cael caniatâd y Llywodraeth i ymgynnull mewn grwpiau teuluol ar gyfer Nadolig 2020? Ac yma yng Nghymru, pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn cael gwybod beth y gallem ei brynu, ble, ac na allwn aros mewn tafarn neu fwyty ar ôl 6 p.m. a chael diod alcoholig gyda'n pryd bwyd cynnar? Y cyfyngiadau diweddaraf hyn yw testun y ddadl hon.
Y siom a deimlir gan berchnogion busnes sydd wedi gwneud eu gorau glas i fod yn ddiogel rhag COVID, sydd wedi llwyddo i ddal eu gafael o drwch blewyn, ac eto sydd wedi cael ergyd enfawr arall gan y Llywodraeth hon. Mae'r teimladau yng ngogledd Cymru mor gryf fel bod grŵp o fusnesau wedi gwahardd y Prif Weinidog o'u sefydliadau, ac ni allaf eu beio. Bydd llawer mwy yn gwneud hynny hefyd. Er fy mod yn nodi'r pwyslais yn y cynnig ddoe ar y cymorth ariannol sydd ar gael, mae pobl yn y sector am gael yr urddas o ennill eu bywoliaeth eu hunain heb fynd drwy'r straen pellach o orfod cyfiawnhau eu hunain, eu hincwm a'u gwariant, a defnyddio porth anhrefnus a allai gau mewn rhai oriau oherwydd galw gormodol.
A'r cyhoedd: mae'r ymateb yno i'w weld ar unrhyw bostiad neu drydariad gan Lywodraeth Cymru. Yn groes i farn rhai yn y Siambr hon, nid yw'r cyhoedd yng Nghymru allan ar sesiwn yn barhaus, ac angen eu gwarchod. Weinidog, rydych wedi creu hinsawdd o ofn yng Nghymru. Mae'r ffocws ar y cyfrif marwolaethau dyddiol yn destun tristwch, am bob un annwyl a gollwyd, ie, ond hefyd y pwyslais ar farwolaethau COVID: mae pobl yn marw yn eu miloedd bob wythnos ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn marw o COVID. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â COVID yn gwella mewn gwirionedd. Pam nad ydych chi'n canolbwyntio ar y niferoedd hynny?
Gwrandewais gyda siom ar yr iaith a ddefnyddiodd y Gweinidog iechyd yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, pan ddywedodd wrthym yn y bôn fod angen inni fihafio, neu ni fydd Nain yn gallu dathlu nos Calan am y bydd hi wedi marw. Mae cynnig y Ceidwadwyr yn sôn am gymesuredd ac ymyriadau wedi'u targedu; yn sicr, nid yw cau'r lleoedd sydd â'r lefel isaf o achosion COVID yn gymesur. Rydych yn fwy tebygol o ddal y feirws mewn archfarchnad neu ysbyty nag mewn tafarn neu fwyty, oni bai bod y Llywodraeth wrth gwrs yn gallu darparu tystiolaeth i'r gwrthwyneb.
Ym mis Hydref—dyma rywfaint o dystiolaeth i chi, Weinidog, os ydych am nodi peth—gwnaeth cennad COVID arbennig Sefydliad Iechyd y Byd apêl i Lywodraethau roi'r gorau i ddefnyddio cyfyngiadau symud fel ffordd o geisio rheoli'r feirws. Cawsom gyfnod atal byr; mae'n amlwg na weithiodd. Felly pam y mae'r Llywodraeth hon, i bob pwrpas, yn gwneud yr un peth ac yn disgwyl canlyniad gwahanol? Mae'n bryd ymddiried yn ein dinasyddion i wneud yr hyn sy'n iawn iddynt hwy, eu hanwyliaid, a'u hamgylchiadau unigryw. Mae'n bryd diogelu'r rhai sy'n agored i niwed, os ydynt eisiau cael eu diogelu. Ac mae'n bryd caniatáu i fusnesau cyfrifol agor a ffynnu unwaith eto. Diolch.
Diolch. Ac yn olaf, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae'r cyfyngiadau un maint addas i bawb hyn yn amlwg yn afresymol ac nid ydynt wedi'u seilio ar unrhyw dystiolaeth ystadegol gredadwy. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llawer iawn o gamgymeriadau polisi yn yr wyth mis diwethaf, ac mae'r rhagfynegiadau a wneuthum pan feirniadais bob un ohonynt i gyd wedi dod yn wir. Ni weithiodd y cyfnod atal byr, ac ni allai weithio ychwaith—y cyfan y gallai ei wneud oedd gohirio trosglwyddiad y clefyd ar y gorau. A bydd y cyfyngiadau symud hyn yn union yr un fath. Os mai'r cyfiawnhad dros y cyfyngiadau symud hyn yw bod rhaid i ni gael achub bywydau yn brif amcan, ni ddylem fod yn agor eto ar gyfer y Nadolig; yn wir, ni ddylem fod yn agor eto o gwbl nes bod gennym frechlyn effeithiol y profir ei fod yn gweithio. Ond yn amlwg, ni allwn gau'r economi gyfan, neu fel arall bydd cynifer o broblemau eraill yn deillio o hynny. Ond pam ein bod yn canolbwyntio ar fesurau sy'n amlwg yn mynd i gael cyn lleied o effaith, os o gwbl, ar drosglwyddo'r feirws, gan fod pawb sydd wedi siarad yn y ddadl hon yn erbyn y rheoliadau wedi dweud yn rymus mai tafarndai ac amgylcheddau eraill a reoleiddir yw'r amgylcheddau lleiaf tebygol y bydd y clefyd yn cael ei drosglwyddo ynddynt? A'r dewis arall yw yfed gartref ac mewn amgylchiadau eraill lle ceir risg uwch o drosglwyddiad. Fel arfer, mae'r Llywodraeth yn defnyddio gordd i dorri cneuen.
Bob wythnos, yn ne-orllewin Cymru rydym yn cael cyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Yr wythnos diwethaf, roedd 89 o bobl yn yr ysbyty yn y tair sir, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, 89 yr wythnos cynt, ac 85 yr wythnos cyn honno. Ble mae'r dystiolaeth ystadegol fod angen y mesurau hyn yn yr ardaloedd hynny? Ddeuddydd yn ôl, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru restr o'r 22 awdurdod yng Nghymru a'r cyfraddau heintio a'r cyfraddau marwolaethau a'r cyfraddau canrannol o brofion positif. A beth yw'r synnwyr cyffredin y tu ôl i bolisi sy'n trin Gwynedd, gyda chyfradd o 40 o bobl ym mhob 100,000 wedi'u heintio gan COVID, yn yr un ffordd â Chastell-nedd Port Talbot, gyda chyfradd o 621 ym mhob 100,000? Mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn ffactor o 15. Yn amlwg, nid oes sail resymegol dros bolisi sy'n cymhwyso'r un cyfyngiadau'n union i ardaloedd lle ceir angen cynyddol i roi rhai mesurau ar waith ac ardaloedd lle nad oes angen amlwg o gwbl.
Ac mae'r gwaharddiad ar alcohol mewn tafarndai a bwytai cyn 6 o'r gloch yn amlwg yn gwbl hurt ac yn mynd yn groes i synnwyr cyffredin, sydd, fel y nododd llawer o'r Aelodau yn y ddadl hon, yn dangos pam fod rhwystredigaeth gynyddol ynghylch anallu Llywodraeth Cymru i ymateb naill ai i'r apeliadau a wneir ar ran y busnesau niferus a fydd yn mynd i'r wal o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud parhaus hyn neu'n wir, y cyhoedd sydd am gael rhyw fath o fywyd cymdeithasol sy'n cyd-fynd â rheoli'r feirws, neu fesurau rheoli rhesymol ar gyfer y feirws.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ac mae'r tafarndai a'r bwytai wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnoedd ar geisio sicrhau bod eu busnesau'n cydymffurfio â mesurau COVID, ac erbyn hyn mae'r holl arian hwnnw wedi'i wastraffu. Ac os bydd yn rhaid iddynt aros am fisoedd er mwyn cael unrhyw fath o iawndal ariannol, bydd hynny'n cynyddu nifer y rhai a fydd yn mynd i'r wal.
Mae'n amlwg mai tafarndai ar y ffin, neu o fewn pellter rhesymol i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, sydd o dan yr anfantais fwyaf a beth yw'r budd yng ngogledd-ddwyrain Cymru neu'r holl ffordd i lawr ardaloedd y ffin—i lawr i Gas-gwent—o gau pob sefydliad ar un ochr i'r ffin pan fyddant yn dal i fod ar agor ar yr ochr arall? Mae'n amlwg yn syniad hurt fod rhaid i ni gael un polisi sydd yr un mor berthnasol i bob rhan o'r wlad er gwaethaf y gwahaniaethau amrywiol a gwahanol rhwng y ffordd y trosglwyddir y clefyd ac yn wir y lleoedd y caiff ei drosglwyddo ynddynt.
Oherwydd na roddodd Llywodraeth Cymru fawr o rybudd, mae'n amhosibl i fusnesau gynllunio ymlaen llaw er mwyn ceisio lliniaru effeithiau'r cyfyngiadau symud. Mae wedi bod yn amhosibl i fusnesau gynllunio ym maes lletygarwch oherwydd bod cwrw'n troi ac felly, os na allwch ei werthu, rhaid i chi gael gwared arno, ac rydym wedi gweld hynny. Yn ôl y sôn, mae'r Glamorgan Brewing Company, sydd wedi'i leoli yn Llantrisant, wedi arllwys 40,000 peint o gwrw i lawr y draen yr wythnos diwethaf, ac mae llawer o rai eraill yn yr un sefyllfa'n union. Mae cadeirydd yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn wedi dweud nad oes unrhyw dystiolaeth y bydd gwaharddiad llym ar alcohol yn atal lledaeniad COVID-19. Yr hyn sy'n amlwg yw bod ein diwylliant tafarn yn cael ei ddefnyddio fel bwch dihangol cyfleus o ran lledaeniad y pandemig.
Ac wrth gwrs, mae'n ymddangos bod gan Lafur Cymru hanes da o ddinistrio busnesau lleol o blaid cwmnïau rhyngwladol mawr. Yr un person yn y byd sydd wedi gwneud fwyaf yn sgil COVID yw Mr Jeff Bezos, oherwydd mae Amazon wedi cynyddu ei fusnes yn sylweddol o ganlyniad i'r pandemig. Bydd y gwaharddiad ar alcohol mewn tafarndai a bwytai a bariau lleol ond o fudd i'r archfarchnadoedd ac yn anfanteisiol i fusnesau annibynnol yng Nghymru. Nid yw'n syndod fod ein Prif Weinidog wedi'i wahardd o dros 100 o dafarndai ledled Cymru a heb amheuaeth, bydd llawer mwy'n gwneud yr un peth.
Mae'r Prif Weinidog wedi symud y pyst gôl ar gyfer y tafarndai sydd wedi treulio llawer o amser a miloedd o bunnoedd ar wneud eu safleoedd yn ddiogel rhag COVID. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth dafarndai y gallent agor pe baent yn gwneud eu safle yn ddiogel rhag COVID, ond cyn gynted ag y cawsant ganiatâd i agor, cawsant eu cau eto dros y cyfnod atal byr o bythefnos. Ac ar ôl i hynny gael ei godi, caeodd Llywodraeth Cymru dafarndai'n llechwraidd, drwy osod mesurau heb unrhyw dystiolaeth, a'i gwnâi'n anymarferol i lawer o dafarndai agor. Felly, ni fyddaf yn petruso rhag pleidleisio yn erbyn y mesurau hyn unwaith eto heddiw, gan fy mod yn credu y dylid cael—
Mae angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr. Rwyf wedi bod yn hael iawn, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Os yw rheoliadau i gael eu cyflwyno, credaf y dylai fod rhyw sail ystadegol gadarn iddynt, ac felly, mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i gyhoeddi hynny. Ac oherwydd fy mod yn credu nad oes sail o'r fath—
Gofynnais ichi ddod â'ch sylwadau i ben. Un frawddeg olaf, os gwelwch yn dda.
Ac ar y sail honno, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn.
Diolch. Andrew R.T. Davies i ymateb ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl hon? Credaf fod y nodyn gan y Dirprwy Lywydd, a gadeiriodd y cyfarfod, wedi dweud bod cyfanswm o 17 o gyfranogwyr yn y ddadl i gyd. Felly, ni allwn wneud cyfiawnder â phawb a gymerodd ran, ond diolch i chi i gyd, a chredaf y dylai'r Llywodraeth nodi'r lefel honno o ryngweithio sydd wedi digwydd yma y prynhawn yma. Ac yn benodol—ac mae hon yn apêl y credaf y dylai'r Llywodraeth wrando arni—wrth ddod â'r rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad fel y gallwn bleidleisio arnynt, dyna un o'r pethau mawr y cysylltodd llawer o etholwyr â mi yn eu cylch—. A gallwch ddadlau a yw'r rheoliadau'n iawn neu'n anghywir, ond ni allant ddeall o gwbl pam na fu pleidlais ar y rheoliadau hyn.
A'r Gweinidog, yn ei sylwadau agoriadol—ac nid wyf yn anghytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaeth a'i angerdd yn eu cyflwyno, oherwydd rydym i gyd yn cytuno ei fod yn epidemig iechyd cyhoeddus. Rydym i gyd yn pryderu am y niferoedd cynyddol. Gadewch inni ei wynebu, wrth inni sefyll yma heno—wrth inni sefyll yma heno—Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, hi sydd â'r gyfradd heintio uchaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ac fel y dywedodd Darren Millar, a agorodd y ddadl, o'r 10 awdurdod lleol sydd â'r nifer fwyaf o achosion ledled y Deyrnas Unedig, mae naw ohonynt yma yng Nghymru.
Felly, nid oes neb, o unrhyw blaid wleidyddol, yn anghytuno ynglŷn â difrifoldeb yr hyn y mae'r wlad yn ei wynebu, ond mae'n gwbl resymol inni ddod i'r Siambr hon a thrafod dewisiadau amgen a chynnig dewisiadau amgen, oherwydd pan edrychwn ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyflwyno dro ar ôl tro i'r Siambr hon—a phe bawn yn mynd drwy reoliadau'r hydref yn ystod y 12 wythnos diwethaf a ddygwyd i'r Siambr hon—rydym wedi cael cyfyngiadau yn ôl ardaloedd cynghorau wedi'u rhoi ar waith, heb iawndal ariannol i fusnesau, gallwn ychwanegu; rydym wedi cael y cyfyngiadau teithio rhwng Cymru a Lloegr; rydym wedi cael y cyfyngiadau symud/cyfnod atal byr a oedd yn mynd i wneud gwahaniaeth mor enfawr ac mae'n amlwg nad yw wedi gwneud hynny. Ar ôl y cyfnod atal byr, cawsom deithio digyfyngiad ar sail Cymru gyfan, felly ni wnaeth unrhyw wahaniaeth beth oedd y gyfradd heintio ym mha ran bynnag o Gymru rydych chi'n dod ohoni; gallech deithio neu beth bynnag roeddech am ei wneud. Bellach mae lletygarwch wedi'i gau, ond eto gallech neidio i mewn i'ch car oherwydd yr wythnos diwethaf codwyd y cyfyngiadau teithio a gallech fynd draw i Loegr i ardal haen 2 neu haen 1 a chael peint o gwrw a mwynhau lletygarwch yn yr ardaloedd hynny a dychwelyd i Gymru. A nawr mae'r cyfyngiadau'n llacio ar gyfer y Nadolig, a dywedir wrthym mewn datganiadau gan y Gweinidog iechyd a'r Prif Weinidog, a phawb arall sy'n cynghori, y bydd cyfyngiadau dramatig ar y wlad pan ddaw'r Nadolig. A oes ryfedd fod hyder y cyhoedd yn yr hyn y mae'r gwleidyddion yn ei ddweud yn lleihau?
Rwyf am holi'r Gweinidog iechyd am ei gyfeiriad at y briff a gafodd Rhun ap Iorwerth a minnau yr wythnos diwethaf. Dyna'r briff uniongyrchol cyntaf i lefarwyr a gynigiwyd i mi gan y Gweinidog iechyd ers i mi ymgymryd â'r rôl hon ym mis Gorffennaf. Dyna'r tro cyntaf. Nawr, pan fyddaf yn cymharu'r rhyngweithio'n wleidyddol rhwng y Llywodraeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a'r gwrthbleidiau i'w hysbysu—. Os cymerwch y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd yn Lloegr, cafwyd trafodaethau cynhwysfawr rhwng y gwrthbleidiau a rhannu gwybodaeth. Mae'n ddigon posibl y bu anghytundeb, ond o leiaf roedd pobl yn deall beth oedd yn digwydd. Heddiw, yma yng Nghymru, rhaid inni edrych ar y gynhadledd i'r wasg sy'n digwydd am 12:30 neu 12:15 ar ddydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener, yn hytrach na chael datganiadau yn y Senedd hon. A'r Senedd a ddylai fod â rôl benderfynu yn unrhyw rai o'r cyfyngiadau y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno.
Ni allaf weld pam na allai neb bleidleisio dros y cynnig y mae'r Ceidwadwyr wedi'i roi ar y papur trefn heddiw, oherwydd credaf fod pob Aelod, gan gynnwys Aelodau'r Llywodraeth, yn codi eu hanesmwythyd ynghylch y cyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar y sector lletygarwch. Y cyfan rydym yn galw amdano yw atal y cyfyngiadau presennol a gweithredu rheoliadau mwy cymesur yn eu lle. Credaf fod pob un Aelod—. Dywedodd Mike Hedges o Abertawe ei fod am i'r tafarndai agor cyn gynted â phosibl, ond mae am i gamau gael eu cymryd yn erbyn y rhai sy'n camdrin y system. Credaf y byddem i gyd yn cytuno â hynny, ac rydym i gyd am sicrhau, lle mae arferion gwael yn cael eu gweithredu, fod yr arferion hynny'n cael eu dileu, oherwydd yr union ffigurau y soniais amdanynt yn fy sylwadau agoriadol—y cyfraddau marwolaeth uchaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y cyfraddau heintio uchaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae'r rheini'n broblemau go iawn y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy, ac ni allwn droi ein cefnau ar y gweision cyhoeddus ymroddedig sy'n gweithio'n ddiflino yn ein systemau iechyd a gofal ac yn ein hawdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cymunedau neu mor ddiogel ag y gallant fod.
A bydd yn dibynnu ar bobl yn ysgwyddo eu cyfrifoldebau'n unigol ac yn bod o ddifrif yn eu cylch, oherwydd er ei fod yn teimlo fel pe bai hyn wedi bod yn digwydd ers canrifoedd, rydym o fewn pellter cyffwrdd, gyda'r brechlyn nawr, i ddyfodol mwy gobeithiol. Roedd yn braf gadael y tŷ y bore yma gyda'r newyddion brecwast yn llifo o bob cwr o'r byd yn nodi'r ffaith mai Prydain, y Deyrnas Unedig, oedd y wlad gyntaf i frechu ei phoblogaeth gyda brechlyn cymeradwy sydd wedi mynd drwy dreialon meddygol. Mae honno'n stori newyddion gadarnhaol y dylem fod yn ei chroesawu. Ond mae'r rheoliadau hyn y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar y bwrdd ers wythnos diwethaf sy'n cosbi rhan bwysig o'n heconomi—rhan o'n heconomi sydd wedi codi ei gêm, wedi mabwysiadu'r cyfyngiadau ac wedi buddsoddi i greu amgylchedd diogel i bobl gael cysur lletygarwch a rhyngweithio mewn amgylchedd wedi'i reoleiddio—wedi mynd yn rhy bell, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw.
Cefais fy meirniadu gan yr Aelod dros Dorfaen am wleidyddoli sefyllfa COVID. Nid wyf yn ymddiheuro am roi dewis arall pan gredaf fod y Llywodraeth yn anghywir. Rwyf wedi amlinellu yn fy sylwadau fy mod yn credu bod y Llywodraeth yn anghywir, a chyfeiriaf at y ffaith bod y bwrdd iechyd sy'n eich gwasanaethu chi a minnau, pan gefais fy sesiwn friffio gyda hwy'n ddiweddar, wedi tynnu sylw at y ffaith mai wyth o bobl a oedd mewn uned gofal dwys ar gyfer 88. Pan oeddwn yn dod i mewn i'r Siambr hon ac yn cael gwybod fy mod yn gwneud anghymwynas â'r GIG—. Gyda phob parch, ni fyddwn yn dweud bod unrhyw un yn y Siambr hon yn gwneud anghymwynas â'r GIG. Gall pobl roi dewisiadau amgen, oherwydd democratiaeth yw hi, ac rwy'n gresynu at y sylwadau a gyfeiriodd ataf fel Gweinidog iechyd yr wrthblaid ac at arweinydd yr wrthblaid heddiw. Mae democratiaeth yn dda i unrhyw wlad, a dyna pam ein bod yn trafod y pwyntiau hyn, a dyna pam rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi'r cynnig ar y papur trefn heddiw yn hytrach na dweud bod pobl yn gwneud pwyntiau gwleidyddol rhad, oherwydd nid ydynt yn gwneud hynny, a gwyddom ei werth. A gallaf eich gweld yn dweud ein bod, a byddwn yn falch o ddadlau ar unrhyw lwyfan a ddymunwch.
Galwaf ar y Gweindiog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl ar ran y Llywodraeth—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Fe geisiaf fynd i'r afael â phrif fyrdwn y dadleuon a gyflwynwyd gan grwpiau o bobl yn hytrach nag yn unigol, o ystyried nifer y bobl a siaradodd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud yn gyson yn ystod y ddadl hon eu bod yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Yr hyn y gwnaethant ofyn i'r Senedd hon ei wneud wedyn yw pleidleisio i lacio'r cyfyngiadau yn wyneb llif cynyddol o heintiau coronafeirws. Nid yw hwnnw'n safbwynt rhesymegol na chynaliadwy i'w fabwysiadu. Maent wedi mynnu mwy o dystiolaeth yn rheolaidd; maent wedi mynnu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, ac mae arnaf ofn, fel y gwnaeth Alun Davies a Huw Irranca-Davies wrth ystyried y dystiolaeth honno a dyfynnu ohoni, ei bod yn ymddangos bod bron pob siaradwr Ceidwadol wedi dewis peidio ag ymwneud â'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r dystiolaeth honno'n dystiolaeth rydym wedi'i hystyried ac rydym bellach yn ei chymhwyso i Gymru, ac mae'n ddrwg gennyf nad yw Aelodau eraill yn credu bod honno'n gymhellol, ond nid yw'r dystiolaeth gan SAGE, nid yw'r dystiolaeth gan y grŵp cynghori technegol i'w hanghofio na'i gwthio o'r neilltu am nad yw Aelodau eraill yn cytuno â hi. Ac yn y bôn, safbwynt mainc flaen yr wrthblaid swyddogol yw y dylid ymddiried yn Darren Millar, Paul Davies ac Andrew R.T. Davies i roi cyngor i'r wlad ar iechyd y cyhoedd, ond ni ddylai ein grŵp cynghori technegol, ni ddylai SAGE, ac ni ddylai pob prif swyddog meddygol yn y Deyrnas Unedig wneud hynny. Dylid rhoi'r cyngor hwnnw o'r neilltu o blaid cynigion nad ydynt wedi'u nodi mewn unrhyw ffordd ystyrlon yn y ddadl heddiw. Ni chredaf fod hwnnw'n safbwynt rhesymol a chyfrifol i'r Llywodraeth hon ei gymryd.
Ac o ran yr her a nodwyd gan Andrew R.T. Davies ar ddiwedd ei sylwadau, roedd yn ymddangos i mi fod adegau yn ystod y ddadl hon pan oedd fel pe na bai argyfwng iechyd cyhoeddus yn bodoli mewn gwirionedd, mewn amryw o'r sylwadau a wnaed gan siaradwyr Ceidwadol yn bennaf, yn y galwadau am lacio mwy ar gyfyngiadau, yn yr honiadau nad oes angen arfer y dull hwn o weithredu, ac yna yn yr honiad nad oes elfen o wleidyddiaeth yn hyn. Ond pan ddywedodd arweinydd yr wrthblaid ddoe fod Llafur wedi anwybyddu preswylwyr cartrefi gofal ar gyfer y brechlyn yma yng Nghymru, gallaf ddweud wrthych nad oedd y datganiad hwnnw'n wir, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn gwybod nad yw'r datganiad hwnnw'n wir. Nid yn unig y mae'n gwneud anghymwynas â'r Ceidwadwyr Cymreig fod eich arweinydd yn gwneud datganiadau anwir—bwriadol anwir—mae'n gwenwyno ymddiriedaeth y cyhoedd. Ac yn yr argyfwng sy'n ein hwynebu, mae angen inni gael gonestrwydd ac uniondeb rhyngom, hyd yn oed wrth inni anghytuno. Ac nid wyf yn anghytuno â hawl Aelod i anghytuno â'r Llywodraeth, ond mae angen i bob un ohonom fod yn gyfrifol yn y ffordd yr awn ati i wneud hynny.
Er fy mod yn nodi sylwadau Rhun ap Iorwerth—ac edrychwch, rwy'n anghytuno â safbwynt Plaid Cymru—credaf fod tystiolaeth SAGE yn glir. Mae'n glir ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, mae'n glir ynglŷn â'r mesurau sydd wedi gweithio yn yr Alban ac yn Lloegr, mae'n glir ynglŷn â'r dystiolaeth o'r hyn sydd wedi gweithio yng Ngogledd Iwerddon, ac ni allwn lunio polisi drwy ddewis a dethol. Rydym yn edrych ar yr hyn sydd wedi gweithio, rydym yn edrych ar y dystiolaeth o sut y mae hynny wedi gweithio, ac rydym yn ei gymhwyso. Ac rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth sylweddol yn sail i'r safbwynt rydym wedi'i gymryd, ac mewn gwirionedd, fel y gwyddoch, yn yr Alban, mae'r Llywodraeth yno a arweinir gan Blaid Genedlaethol yr Alban wedi mabwysiadu'r un mesurau ag y gwnaethom ni eu cyflwyno fwy neu lai, y mesurau rydym yn eu trafod heddiw.
Mae'r grŵp cynghori technegol—unwaith eto, mae hwn yn bwynt a wnaed gan nifer o'r Aelodau—wedi rhoi cyngor dro ar ôl tro inni ar symud o gyfyngiadau lleol a oedd gennym cyn y cyfnod atal byr at set symlach o fesurau cenedlaethol. Dyna'r sefyllfa rydym ynddi. Efallai y bydd dull rhesymol yn bosibl yn y dyfodol, ond y cyngor clir ar hyn o bryd yw cadw at set symlach o fesurau cenedlaethol. A byddwn yn parhau i gyhoeddi'n agored y cyngor a gawn gan y gell cyngor technegol. Rydym wedi gwneud hynny ers dechrau'r pandemig. Roedd hwnnw'n benderfyniad cynnar a wneuthum o fewn y Llywodraeth, gyda chefnogaeth pob Gweinidog yn y Llywodraeth, oherwydd rydym am gael cyflenwad rheolaidd o wybodaeth y gellir ymddiried ynddi i'r cyhoedd ei gweld yn agored, gweld y wybodaeth a'r cyngor a gawn, a gwneud dewisiadau ynglŷn â sut rydym am gadw'r wlad yn ddiogel.
Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod nifer o'r Aelodau wedi cyfeirio at y briffiau a gawsant gan fyrddau iechyd a difrifoldeb y sefyllfa—difrifoldeb y sefyllfa, boed yn Aneurin Bevan, Cwm Taf, Hywel Dda neu'n wir, yn Betsi Cadwaladr hefyd.
Ni ddylem fod yn fodlon â chyfraddau coronafeirws mewn unrhyw ran o'r wlad. Fe'n hanogir yn rheolaidd i wrando ar amrywiaeth o bobl, rhywbeth y cyfeiriodd siaradwyr eraill ato. Rwy'n credu y dylai pobl wrando ar Dave ac ar Lisa, yr ymgynghorydd gofal critigol a'r nyrs arweiniol a siaradodd ar newyddion Channel 4 neithiwr am y sefyllfa yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Rhan o'r hyn y mae'n rhaid inni berswadio ein gwlad i'w wneud yw helpu ein GIG i'n helpu ni. Mae hynny'n ymwneud â newid ymddygiad, byw ein bywydau'n wahanol, a chydnabod nad yw'n fater o'r effaith ar nifer y gwelyau sy'n cael eu llenwi gan gleifion coronafeirws yn unig, mae'n ymwneud â'r effaith uniongyrchol ar ein staff, yr hyn y maent wedi mynd drwyddo eleni, a'r effaith a gaiff hynny arnynt hwy a'u parodrwydd a'u gallu i barhau i'n gwasanaethu am flynyddoedd yn y dyfodol.
Nid wyf am roi sylw difrifol i'r sylwadau mewn Senedd ddemocrataidd am y Llywodraeth yn gweithredu fel unbennaeth; mae rhywfaint o eironi yno nad wyf yn credu bod y rhai a grybwyllodd y gair yn ei ddeall fel y cyfryw.
O ran targedu'r cyfyngiadau symud—y sylwadau a wnaeth Angela Burns—a bod yn deg, ar ôl iddi adael y briff iechyd, mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu'n fras y mesurau rydym wedi'u cyflwyno ac wrth gwrs, cyngor y grŵp cynghori technegol ar fesurau cenedlaethol. A gallaf ddweud bod y cydbwysedd rhwng bywydau a bywoliaeth pobl yn parhau i fod yn sail i'n dull o weithredu. Dylwn ddweud bod Andrew R.T. Davies wedi cyfeirio at gael un sesiwn friffio iddo ef a Rhun ap Iorwerth fel llefarwyr; rwyf wedi darparu sesiynau briffio rheolaidd i'r pwyllgor iechyd ers peth amser bellach, ac mae'n ffaith bod Andrew R.T. Davies wedi dewis peidio â mynychu mwy na hanner y sesiynau briffio hynny. Prin y gall gwyno am beidio â chael mynediad at wybodaeth gennyf fi, y prif gynghorydd gwyddonol a'r prif swyddog meddygol os yw'n dewis peidio â bod yn bresennol. I fod yn deg â Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd ac aelodau eraill o'r pwyllgor, maent yn mynychu ac yn cymryd rhan yn y sesiynau briffio hynny'n rheolaidd.
Rwy'n falch fod Dai Lloyd wedi sôn am elfen economaidd-gymdeithasol COVID—mae hynny'n wir iawn. Mae'n fater o ffaith bod gennym, dros y mis diwethaf, gyfraddau marwolaethau ychwanegol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae hynny'n sicr yn wir, ac mae hynny'n sail i ddifrifoldeb ein safbwynt a pham ein bod yn gweithredu a pham y gallai fod angen inni roi mwy o gamau ar waith yn y dyfodol. Ond mewn gwirionedd, yn ystod y pandemig hwn, byddech wedi disgwyl i Gymru fod wedi cael cyfraddau marwolaeth uwch na Lloegr oherwydd, o'i chymharu â Lloegr gyfan, mae Cymru'n hŷn, yn dlotach ac yn fwy sâl—pethau sydd oll yn ffactorau arwyddocaol yn y marwolaethau COVID. Ac eto, mewn cyfraddau marwolaethau ychwanegol yn ystod y pandemig, ceir gwahaniaeth sylweddol, gyda Chymru â chyfradd marwolaethau ychwanegol is na Lloegr, a dyna realiti holl gwrs y pandemig hwn. Ac unwaith eto, rhan o'r rheswm dros weithredu yw sicrhau nad oes gennym lanw cynyddol o farwolaethau ychwanegol dros aeaf hir ac anodd.
Teimlwn fod y sylwadau gan David Rowlands yn beryglus, yn anghyfrifol, ac roedd bron bob ffaith neu honiad a wnaeth yn anghywir. Un o'r rhai allweddol i dynnu sylw ati yw bod COVID yn llawer mwy marwol na'r ffliw, ac mae honiadau i'r gwrthwyneb yn gwbl anghywir.
Rwy'n croesawu sylwadau difrifol at ei gilydd Suzy Davies a Nick Ramsay. Nid oes atebion hawdd, fel y soniodd Nick Ramsay. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrando ar gyngor arbenigol ac yna'n penderfynu, fel rydym ni wedi'i wneud. Rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth y grŵp cynghori technegol, a dylid ystyried honno ac nid ei diystyru. O ran y dystiolaeth a gawn, daw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, pob cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus a'n prif swyddogion meddygol a'r grŵp cynghori technegol ei hun.
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaeth Huw Irranca-Davies am y dadansoddiad a'r marwolaethau y gellir eu hatal. Gwn ei fod yn siarad fel rhywun sy'n gyn-drwyddedai, felly rhywun sy'n deall llawer am y fasnach a'r sefyllfa anodd y mae llawer o bobl ynddi. Rydym yn gwneud mwy—a Ken Skates, yn gwneud mwy—am y gwaith rydym yn ei wneud i gael taliadau awtomatig, ar y cyd â'r Gweinidog llywodraeth leol, ac mae trefniadau ar waith i wneud hynny. Roeddwn yn meddwl ei fod yn bwynt arbennig o isel yn y ddadl pan ddewisodd Darren Millar fod yn bersonol sarhaus wrth Ken Skates, sy'n gweithio'n eithriadol o galed, fel y mae Gweinidogion eraill, yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Dylwn dynnu tua'r terfyn, Lywydd, oherwydd er bod yr Aelodau i gyd wedi cael gwneud cyfraniadau, rwy'n credu ei bod yn deg dweud na fydd neb yn y Senedd, ar unrhyw ochr i'r ddadl hon, yn croesawu'r cyfyngiadau newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys y rhai ar y sector lletygarwch. Mae'r cyfyngiadau'n dangos yr hyn roeddem i gyd yn ei ofni: na fydd y cyfnod cyn y Nadolig eleni yn normal. Mae hwn yn benderfyniad anodd iawn, ond rwy'n glir mai cyflwyno'r cyfyngiadau newydd hyn oedd y penderfyniad cywir. Nid yw'n benderfyniad rwyf fi nac unrhyw Weinidog arall wedi'i fwynhau ar unrhyw adeg, oherwydd rydym yn deall yr effaith, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion mewn ffordd y mae SAGE yn ei hargymell yn glir, yn seiliedig ar ystyriaeth o'r dull yn Lloegr a'r Alban o'r hyn sydd wedi gweithio mewn gwirionedd. Ac wrth ailystyried y difrifoldeb, gadewch i ni atgoffa ein hunain eto: y gyfradd heddiw yng Nghymru yw 348 ym mhob 100,000. Mae 400 yn fwy o welyau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yn trin pobl â'r coronafeirws o gymharu ag uchafbwynt mis Ebrill.
Gwn y bydd y cyfyngiadau ar fusnesau'n achosi niwed a rhwystredigaeth, ac fel Gweinidog iechyd, gwn fod y niwed hwnnw'n real iawn, ac nid wyf byth yn anghofio'r realiti y bydd niwed economaidd yn arwain at niwed i iechyd. Dywedodd Angela Burns efallai na fydd busnesau'n dod yn ôl, ac mae hi'n iawn. Fodd bynnag, y cydbwysedd y mae'n rhaid inni ei daro yw'r realiti mai'r cyngor clir a gawn yw y bydd llawer o fywydau'n cael eu colli os na fyddwn yn gweithredu, bywydau nad oes angen eu colli, bywydau na allwn eu cael yn ôl, yn wahanol i fusnesau.
Rydym yn ystyried yn rheolaidd ac yn agored beth fydd effaith pob un o'n cyfyngiadau ar wahanol bobl—nid yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn unig y gwnawn hynny, ond o ran yr ystod o bobl a gweithgareddau, a'r ymyrraeth a wnawn ym mywydau pobl. Daw niwed ynghlwm wrth bob dewis. Rhaid i Weinidogion ddewis, fel y mae'n rhaid i'r Senedd ddewis—ac fe ddof i ben yma, Lywydd—ac rwy'n meddwl yn arbennig o ofalus am sylwadau Alun Davies am deimlo pwysau'r cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau fel Aelod o'r Senedd hon, a gallaf ddweud wrthych fod hwnnw'n bwysau y mae pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yn ei deimlo wrth ddeall effaith y dewisiadau a wnawn ar y bywydau rydym yn ceisio eu hachub, a cheisiwn berswadio pobl i ymddwyn yn wahanol. Wrth i'r brechlyn ddod ar gael i helpu i achub bywydau ac i ddiogelu pobl, dylai'r amser y bydd hynny'n ei gymryd gryfhau ein hymrwymiad cyfunol ledled y wlad i wneud yr hyn y dylem ei wneud i gadw ein hunain a'n gilydd yn ddiogel drwy'r cyfan y dylem ei wneud i gadw Cymru'n ddiogel. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth heddiw.
Y cwestiwn cyntaf yw: a ddylid derbyn gwelliant 2 i gynnig y Llywodraeth o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly mae pob pleidlais o dan eitem 7 yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn cynnig y Ceidwadwyr Cymreig o dan eitem 8 heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld a chlywed y gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r eitem yna wedi ei gohirio hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y ddadl nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 03-20, a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM7503 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-20 a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cadarnhau’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi’i thorri.
3. Yn penderfynu ar y canlynol am gyfnod o 21 diwrnod, ac eithrio yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 21 Ionawr 2021:
a) bydd hawliau a breintiau’r Aelodau a’i fynediad i’r Senedd a Thŷ Hywel yn cael eu tynnu’n ôl o dan Reol Sefydlog 22.10 (ii);
b) caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.10(iii); ac
c) ni fydd yr Aelod yn cael hawlio cyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae paragraffau a. a b. uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad hwn gan y cyn gomisiynydd safonau ym mis Hydref 2019. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â chŵyn a wnaed yn erbyn Neil McEvoy AS, yn honni ei fod wedi torri'r cod ymddygiad ar gyfer yr Aelodau drwy fod yn ymosodol yn gorfforol ac ar lafar tuag at Aelod arall. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd a chytunodd â chasgliad y comisiynydd fod tramgwydd wedi'i ganfod.
Mae ein hadroddiad yn nodi dyfarniad y pwyllgor ynglŷn â'r sancsiwn sy'n briodol yn yr achos hwn. Manteisiodd yr Aelod dan sylw ar y cyfle a gynigiwyd iddo drwy'r weithdrefn gwyno i ddarparu tystiolaeth lafar i'r pwyllgor. Cyflwynodd apêl i'r adroddiad hwn hefyd, a gafodd ei ystyried a'i wrthod gan berson cymwys yn gyfreithiol. Mae adroddiad yr apêl wedi'i gyflwyno, yn ogystal ag adroddiad y pwyllgor. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rheswm y pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.
Rwy'n codi i wrthwynebu'r adroddiadau, ac rwy'n mynd i gael fy atal am rywbeth nad wyf wedi'i wneud. Mae'r teledu cylch cyfyng heb ei olygu yn profi bod datganiadau naill ai wedi'u gorliwio neu'n syml wedi'u creu. Gwrthododd y pwyllgor safonau wylio'r teledu cylch cyfyng. Fe wnaethant wrthod caniatáu imi gael tystion hefyd, felly cyhoeddais y teledu cylch cyfyng. Os edrychwch ar y fersiwn heb ei golygu o'r Senedd, nid oedd unrhyw bwyntio bys, nid oeddwn yn wyneb Mick Antoniw; nid oedd hynny'n wir. Honnodd Mick Antoniw fy mod wedi mynd tuag ato'n ymosodol mewn modd ymosodol. Wel, mae'r teledu cylch cyfyng yn dangos na ddigwyddodd hynny. Daliais y drws ar agor i Mick Antoniw mewn gwirionedd. Honnodd Mick Antoniw fy mod wedi mynd ar ei ôl a rhwystro ei lwybr i'r Siambr hon, ond unwaith eto mae'r teledu cylch cyfyng—mae yno i bawb ei weld—yn dangos na ddigwyddodd hynny. Roedd yn honiad anwir.
Ond nid yw'r gwirionedd yn bwysig yma, ydy e? Mae'n ymwneud â'r adroddiad hwn. Gwyddom bellach fod swyddogion y cyn gomisiynydd safonau wedi trafod ar ba sail i fy erlid cyn i unrhyw ddatganiadau gael eu cyflwyno. Byddai hyn yn anghredadwy pe na bai'n wir. Byddai'n anghredadwy pe na bai'n wir. A hefyd heb edrych ar y teledu cylch cyfyng. Nawr, casglwyd y datganiadau gan yr aelod o staff a gyfeiriodd ataf fel math o anifail. Disgrifiodd fi fel math o anifail, a chaniatawyd i'r person diduedd hwnnw fynd i gasglu'r datganiadau ar ôl iddynt benderfynu sut i fy erlid. Felly, yn amlwg, dim rhagfarn yno.
Roedd recordiad arall, y gwrandewais arno, a chyn imi wneud fy apêl—mae hyn yn wych; mae angen i'r cyhoedd wrando ar hyn—cyn imi wneud fy apêl, trafododd swyddogion sut i sicrhau bod fy apêl yn methu. Ac roedd aelod uchel iawn o'r Senedd hon, uwch swyddog uchel iawn, yn eithaf agored i hynny—yn eithaf agored i'r peth. Felly, cyn imi wneud fy apêl, cyn imi wneud yr apêl—. Mae'n ddrwg gennyf, nid yn agored, yn sympathetig. Y gair oedd 'sympathetig'. Roedd y swyddog yma'n sympathetig i sicrhau bod fy apêl yn methu.
Felly, yr hyn sydd gennym yma yw Senedd o safonau dwbl. Collais yr apêl, yn amlwg. Roeddwn bob amser yn mynd i golli'r apêl. Mae gennym safonau dwbl yma, yn yr adeilad hwn. Rwyf wedi cael dau AS yn gweiddi'n gorfforol yn fy wyneb—yn gorfforol. Ni wneuthum ymateb. Ni wnaed dim. Mae pobl wedi fy rhegi. Ni wnaed dim. Rwyf wedi cael fy sarhau'n rheolaidd yn y Siambr hon. Rwyf wedi cael fy ngalw'n hiliol, yn rhywun sy'n casáu gwragedd—beth bynnag y gallwch feddwl amdano, cefais fy ngalw'n hynny. Nid yw byth yn cael ei glywed, ac nid oes dim yn cael ei wneud. Pryd bynnag y byddaf yn cwyno, nid oes dim yn cael ei wneud. Mae fy staff, ac rwyf am ganmol fy staff gwych nawr, mae wedi'i gofnodi—mae wedi'i gofnodi—eu bod wedi cael eu bwlio yn y lle hwn gan wleidyddion a chan staff gwleidyddion.
Rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn ei weld yn ddiddorol ei fod yn cael ei ystyried yn fater mwy difrifol i alw gwleidydd Llafur yn Dori coch mewn ffordd ymosodol, na chyflawni troseddau. Rwy'n cael cosb fwy llym yma am ddweud rhywbeth wrth gyd-wleidydd mewn coridor, mwy o gosb na phobl sydd wedi cyflawni troseddau fel Aelodau o'r Senedd hon. Syfrdanol. Syfrdanol. Ond rwy'n credu ei fod yn iawn, mewn gwirionedd, oherwydd, fel person lliw—a byddwch chi i gyd allan yno, pob un ohonoch chi bobl liw allan yno, yn gwybod beth rwy'n ei ddweud yma—rwyf wedi arfer â'r driniaeth hon. Dyma'r ffordd y mae pethau.
Ymhen chwe mis, ni fydd yr un o'r bobl hyn yma'n bwysig, a mater i chi allan yno fydd hynny. Mae gennych ddyfodol Cymru yn eich dwylo. Nid oes ots heddiw fy mod i'n mynd i gael fy nhaflu allan am dair wythnos, oherwydd ymhen chwe mis mae gennym bleidlais ac mae 59 o benolau ar seddi yma y gallwch chi eu pleidleisio o'u swyddi. Felly, rwy'n eich annog i gyd i gefnogi Plaid y Genedl Gymreig a chael y maen i'r wal. Diolch yn fawr.
Mae bwlio o unrhyw fath yn ymddygiad ffiaidd. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i'w ddileu ym mhob un o'i ffurfiau. Efallai nad yw'r hyn y cyhuddwyd Neil ohono yn dderbyniol, ond nid yw o reidrwydd yn effeithio mwy ar y dioddefwr na'r bwlio a wneir yn y Siambr, lle mae ymlid o'r fath yn digwydd yn rheolaidd. Dylem i gyd fod yn gyfarwydd â herio a heclo yn y lle hwn, ond mae'r llinell rhwng hynny a cham-drin yn aml yn cael ei chroesi. Rwy'n siŵr y bydd rhai Aelodau'n esgusodi eu hymddygiad fel 'herian'. Wel, mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng herian cyfeillgar a'r ymosodiad sy'n aml yn wynebu unrhyw un yn y lle hwn sydd â barn wahanol. Nid herian yw hynny; mae'n fodd o dawelu a gwahardd safbwyntiau gwahanol, fel y mae rhai Aelodau o'r lle hwn yn ymfalchïo mewn anwybyddu Aelodau eraill. A phan wrthwynebais un neu ddau ohonynt a dweud wrthynt am gau eu cegau am fod eu hymlid mor ymwthiol, fi oedd yn cael cais i ymddiheuro, nid hwy. Fel arfer mewn diwylliant bwlio, roedd y bwlis yn darlunio eu hunain fel y rhai a gafodd gam.
Mae Aelodau o'r lle hwn wedi siarad llawer o eiriau ffugdduwiol am fwlio a pha mor niweidiol ydyw, ac wrth gwrs, mae llawer o'r Aelodau'n bobl ddymunol, broffesiynol, neu o leiaf maent yn ddigon cwrtais i wrando, hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno. Faint o'r Aelodau o'r lle hwn sy'n condemnio Neil McEvoy nawr, sydd wedi ceisio gwneud rhywbeth am y bwlio sy'n digwydd? Faint ohonoch sydd wedi siarad amdano neu ei wrthsefyll pan fydd yn digwydd?
Heddiw yw'r tro cyntaf inni drafod achos posibl ohono'n digwydd—pam? Mae'r lle hwn i fod i ymwneud â chydraddoldeb, ac eto yr unig beth sy'n gyfartal yn ei gylch yw bod nifer yr adegau y mae bwlio wedi'i adael heb ei drin yn hafal i'r nifer o weithiau y mae wedi digwydd. Os pleidleisiwn dros y cynnig hwn, rwy'n pryderu mai'r canfyddiad fydd ein bod yn mynd i'r afael â bwlio yn y lle hwn, ac mai dyma'r unig achos a geir ohono'n digwydd. Byddai hynny'n ystumio'r gwirionedd yn aruthrol, i'r graddau y byddai'n gwbl anonest. Mae bwlio'n digwydd yn aml yma ac eto, yr unig dro y mae wedi'i godi fel achos o dorri polisi neu safonau gwrth-fwlio yw ar adeg pan fo'r gŵyn wedi'i hysgogi gan enillion gwleidyddol. Ac mae angen i unrhyw un sy'n credu nad yw bwlio'n digwydd yma addysgu eu hunain ynglŷn â beth yw bwlio goddefol-ymosodol mewn gwirionedd. Os ydym o ddifrif am i Gymru gael ei llywodraethu gan bobl o drawstoriad mwy cynrychioliadol o gymdeithas, yn hytrach na Llywodraeth sy'n cynnwys pobl o'r dosbarth gwleidyddol sydd gennym heddiw i raddau helaeth, rhaid inni weithredu yn erbyn bwlio bob tro y mae'n digwydd, nid dim ond ar yr adegau pan fydd ychydig o bobl yn barnu ei bod yn wleidyddol fanteisiol i wneud hynny. Diolch.
Lywydd, nid fy nymuniad na'm bwriad oedd siarad yn y ddadl ar yr adroddiad hwn gan y pwyllgor safonau. Ar achlysuron arferol, ar fater mor ddifrifol â hyn, byddai'r Aelod y canfuwyd ei fod yn torri safonau'r Senedd hon yn dangos y cwrteisi a'r uniondeb i fanteisio ar y cyfle i ymddiheuro i'r Senedd ac i bobl Cymru, a dyna fyddai'r peth priodol i'w wneud. Fodd bynnag, ni allaf aros yn dawel ar y mater hwn. Mae'r Aelod wedi ymosod yn gyhoeddus ar onestrwydd adroddiad y pwyllgor, y tystion annibynnol a minnau hefyd. Mewn arddull Trumpaidd bron yn ei gyfryngau cymdeithasol, mae'n awgrymu bod y pwyllgor yn ei erlid am fod yn berson lliw a aned yng Nghymru. Mae hon yn ymgais gwbl anwir a gresynus i dynnu sylw oddi wrth ei ymddygiad ei hun.
Lywydd, rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor ar fater sydd wedi bod yn hongian uwch fy mhen ers dros 18 mis. Credaf fod y casgliadau y daethpwyd iddynt yn gwbl gywir ac yn gyson â thystiolaeth tyst annibynnol. Lywydd, ni ellir rhoi lle i fwlio na hyd yn oed y bygythiad o drais corfforol yn y lle hwn. Ni ddylid byth ganiatáu i ymddygiad o'r fath gael ei normaleiddio. Dyna pam yr euthum ar drywydd y gŵyn. Nid oedd yn bleser gennyf wneud hynny, ond ni ellir bychanu difrifoldeb y digwyddiad, fel sy'n amlwg o dystiolaeth tyst annibynnol. [Torri ar draws.] Am fisoedd ar ôl hynny, am fisoedd ar ôl—[Torri ar draws.] Am fisoedd ar ôl hynny, roeddwn bob amser—[Torri ar draws.]
Neil McEvoy, gwrandawyd arnoch yn dawel. A wnewch chi ganiatáu i Mick Antoniw gael ei glywed mewn tawelwch?
Am fisoedd ar ôl hynny, byddwn bob amser yn sicrhau, wrth gerdded i'r Siambr, fy mod yng nghwmni pobl eraill neu'n effro i'r gofod o fy nghwmpas, rhag ofn i'r Aelod ddod ataf neu ymosod arnaf. Dyma roeddwn yn ei ddisgwyl gan Aelod o'r Senedd hon a ddywedodd wrthyf y byddai'n 'fy nghael i', bygythiad rwy'n ei gymryd o ddifrif. Nid dyma'r amgylchedd roeddwn yn disgwyl gweithio ynddo pan sefais i gael fy ethol i'r swydd gyhoeddus hon, ac ni ddylid caniatáu iddo gael ei normaleiddio mewn unrhyw ffordd.
Lywydd, mae gennyf bryder ehangach. Mae'r Aelod hwn wedi'i atal o ddyletswyddau cyhoeddus fel cynghorydd yng Nghaerdydd ar ddau achlysur gwahanol am fwlio ac ymddygiad bygythiol. Mae'r rhain yn faterion a gofnodwyd yn gyhoeddus. Dyma'r trydydd achlysur. Fy mhryder i yw bod Neil McEvoy yn gwrthod derbyn y gwir. Y gwir amdani yw ei fod yn fwli cyfresol ac yn berson ymosodol y mae ei ymddygiad yn dwyn anfri ar y lle hwn. Lywydd, mae ymddygiad yr Aelod hwn hefyd wedi cael effaith andwyol ar gyflogeion unigol y lle hwn, fel y gwelir o dystiolaeth y tyst. Yn fy marn i, ni ellir caniatáu i'r math hwn o ymddygiad barhau.
Diolch i'r pwyllgor a'i staff a holl staff swyddfa'r comisiynydd safonau am eu diwydrwydd yn y ffordd y maent wedi cyflawni eu dyletswyddau'n briodol.
Galwaf ar Jayne Bryant i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl. Hoffwn gofnodi nad ydym, fel pwyllgor, yn gwneud y penderfyniadau hyn yn ysgafn mewn unrhyw ffordd, ac rydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'n rôl. Mae'n adroddiad pwyllgor trawsbleidiol unfrydol. Hoffwn hefyd gofnodi'r ffaith bod y pwyllgor yn glir nad oes lle i ymddygiad amhriodol yn y Senedd. Rydym wedi arddel safbwynt pendant ar y mater drwy'r Senedd gyfan, a gallaf sicrhau'r holl Aelodau y byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwy'n hynod ddiolchgar i Michelle Brown am godi'r mater yn ymwneud â bwlio. Yn amlwg, ni allwn ond ymdrin â'r adroddiadau sydd o'n blaenau fel pwyllgor. Ond byddwn yn annog pob Aelod i gymryd rhan yn yr ymgyrch Hawl i Herio sy'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn, gan nad oes lle i fwlio yn y sefydliad hwn. Mae'n fater difrifol.
I orffen, i atgoffa'r Aelodau, nid ail-wneud yr ymchwiliad a gwblhawyd gan y comisiynydd yw diben y cam pwyllgor. Ei ddiben yw ystyried yr hyn a gyflwynir yn yr adroddiad a dod i gasgliad ynghylch a ydym o'r farn fod yr hyn a ddigwyddodd yn torri'r cod ymddygiad a pha sancsiwn, os o gwbl, sy'n briodol. Ystyriodd yr apêl annibynnol y broses a ddilynwyd gan y pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad hwn, gan gynnwys ein penderfyniad i beidio â gwylio'r teledu cylch cyfyng, a chanfu fod y pwyllgor wedi dilyn y weithdrefn fel y'i nodwyd. Yr apêl annibynnol a gynhaliwyd gan Syr John Griffith Williams oedd honno. Rwy'n annog y Senedd i gefnogi adroddiad y pwyllgor hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Un mater arall cyn y cyfnod pleidleisio hynny—cynnig gweithdrefnol i ohirio'r ddadl fer tan ddydd Mercher nesaf. Dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.
Cynnig
Cynnig bod Senedd Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.32, yn gohirio’r ddadl fer a gyflwynwyd yn enw Andrew R.T. Davies.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig gweithdrefnol? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, rydyn ni'n derbyn y cynnig gweithrefnol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, byddwn ni'n atal nawr dros dro er mwyn cynnal y bleidlais. Atal y cyfarfod, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:03.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:10, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni felly yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Os ydy pawb yn barod ar gyfer y bleidlais, fe fydd y bleidlais gyntaf ar y ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gymorth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Lynne Neagle, Bethan Sayed a Leanne Wood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 12 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod Covid-19: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r pleidleisiau nesaf ar ddadl y Llywodraeth ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2 yn gyntaf a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 2 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 3 yw'r gwelliant nesaf, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 3 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf—gwelliant 4 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 4 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 5 wedi ei gymeradwyo.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 5 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 6 wedi ei gymeradwyo.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 6 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 10 yw'r gwelliant nesaf, y gwelliant hwnnw yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 10 (cyflwynwyd yn enw Caroline Jones): O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 11 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hynny yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 11 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 24, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 12 yw'r gwelliant nesaf—gwelliant 12 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais.
Cau'r bleidlais.
O blaid 16, pedwar yn ymatal, 32 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 12 wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 12 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 16, Yn erbyn: 32, Ymatal: 4
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 13. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 13, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, pump yn ymatal, 31 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 13 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 16, Yn erbyn: 31, Ymatal: 5
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 14 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, un yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 14 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 15 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, un yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 15 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 16 nesaf, a'r gwelliant hynny yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, dau yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 16 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 17 sydd nesaf, hwnnw eto yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, mae yna un yn ymatal a 31 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 17 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 20, Yn erbyn: 31, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Y cynnig wedi'i ddiwygio sydd nesaf, a'r cynnig hynny yn enw Rebecca Evans.
Cynnig NDM7501 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi:
a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru;
b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac
c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, 10 yn ymatal, naw yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Dadl y Llywodraeth - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 33, Yn erbyn: 9, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar goronafeirws a chyfyngiadau mis Rhagfyr. Mae'r bleidlais gyntaf a'r unig bleidlais ar y ddadl yma yn bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, naw yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Coronafeirws - Cyfyngiadau Mis Rhagfyr: O blaid: 17, Yn erbyn: 27, Ymatal: 9
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 03-20. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, dau yn ymatal, chwech yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-20: O blaid: 45, Yn erbyn: 6, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ni'n dod at ddiwedd ein gwaith ni am y dydd. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:23.