Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
08/12/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso i bawb i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd, ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr â'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Felly, y prynhawn yma yr eitem gyntaf ar yr agenda yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yng Nghaerffili? OQ55992
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bwriad y rheoliadau yng Nghaerffili yw atal a lleihau nifer yr achosion o'r coronafeirws o'i lefel uchel bresennol ac sy'n cynyddu o 447 o bobl fesul 100,000 yn y boblogaeth, a gwrthdroi'r cynnydd i gyfraddau positif o'i lefel bresennol yng Nghaerffili o dros 17 y cant.
Hoffwn dalu teyrnged eto i bobl Caerffili, y mae llawer ohonyn nhw'n cadw mewn cysylltiad â mi am y problemau y maen nhw'n eu hwynebu o ganlyniad i'r cyfnod anodd iawn hwn. Ac mae gen i barch aruthrol mor aml at y mesurau y mae pobl yng Nghaerffili yn eu cymryd er mwyn rheoli ac atal y feirws. Mae nifer o etholwyr wedi bod mewn cysylltiad â mi ynglŷn â pherthnasau mewn cartrefi gofal, llawer ohonyn nhw'n dioddef o ddementia. Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu hatal rhag ymweld â'r perthnasau hynny oherwydd polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydym ni wedi holi cyngor Caerffili am hyn, ac mae wedi dweud wrthym ni bod mesurau yn cael eu rhoi ar waith i baratoi cartrefi gofal ar gyfer ailddechrau ymweliadau dan do, ond maen nhw'n aros am lythyr gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau newid i'r canllawiau. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn eglur ac, felly, rwy'n disgwyl i'r Prif Weinidog fy helpu gyda hyn a dod o hyd i ffordd drwy'r hyn sy'n ymddangos yn rhwystr o fiwrocratiaeth er mwyn cynorthwyo pobl i ymweld â pherthnasau mewn cartrefi gofal.
Byddwn hefyd yn dweud, wrth sôn am hynny, bod y ddyfais llif ochrol arbrofol a'r podiau i alluogi ymweliadau i'w croesawu, ac yn enwedig lle gall ymwelwyr ddefnyddio'r cyfleusterau hyn nawr i ymweld â pherthnasau mewn cartrefi gofal, gan gydbwyso yn erbyn y risg honno o COVID. Ond yn yr achos penodol hwn, a allai'r Prif Weinidog roi rhywfaint o gefnogaeth i mi i fynd yn ôl at gyngor Caerffili a galluogi'r ymweliadau hynny i ailddechraupan fo hynny yn ddiogel ac yn bosibl?
Llywydd, diolchaf i Hefin David am hynna. Mae'n cyfeirio at un o'r penblethau mwyaf dybryd yn holl bandemig y coronafeirws, sef yr angen i berthnasau allu ymweld â phobl mewn cartrefi gofal ond eto pa mor eithriadol o agored i niwed yw'r boblogaeth cartrefi gofal. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau rheolaidd drwy gydol y pandemig, gan gyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, Albert Heaney, a thrwy'r Gweinidog, Julie Morgan. Mae ein cyfarwyddyd yn eglur, yn fy marn i. Rydym ni'n dweud wrth awdurdodau lleol ei bod hi'n bwysig osgoi dull cyffredinol diangen o gyfyngol o ran ymweliadau, bod angen ei raddnodi yn yr amgylchiadau unigol sy'n wynebu'r awdurdod lleol, ond sydd hefyd yn wynebu'r cartref gofal ei hun. Yn amlwg, ni fyddai neb yn dymuno gweld ymweliadau â chartref gofal os yw cartref gofal ei hun wrthi'n ymdrin ag achosion o coronafeirws ymhlith ei boblogaeth. Ond rydym ni'n dal mewn sefyllfa, Llywydd, lle mae bron i hanner cartrefi gofal Cymru heb gael yr un achos o coronafeirws.
Bydd arbrawf y ddyfais llif ochrol sy'n cael ei gynnal yng Nghymru ar hyn o bryd yn helpu i ganiatáu mwy o ymweliadau. Ond hoffwn bwysleisio'r ffaith, yma yng Nghymru, yr holl ragofalon eraill y byddem ni'n disgwyl eu gweld—gwisgo cyfarpar diogelu personol, cadw pellter cymdeithasol, y mesurau arbennig y mae cartrefi gofal wedi eu rhoi ar waith—rydym ni'n dal i ddisgwyl gweld hynny i gyd yn digwydd hyd yn oed os yw rhywun wedi profi'n negyddol drwy ddyfais llif ochrol. A'r 30 pod y cyfeiriodd Hefin David atyn nhw, maen nhw wedi'u darparu erbyn hyn. Byddan nhw ar gael ar gyfer y Nadolig, a gwn fod fy nghyd-Weinidog Julie Morgan yn gobeithio cael rhywbeth i'w ddweud yn fuan iawn am gymorth i'r darparwyr hynny sydd wedi gallu dod o hyd i'w podiau ymwelwyr eu hunain, unwaith eto mewn ymdrech i ganiatáu ymweliadau lle gellir taro yn briodol y cydbwysedd hwnnw rhwng yr angen am gyswllt dynol ag aelodau teulu a nifer yr achosion o'r feirws.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn cydnabod bod achosion yn cynyddu ar draws y de-ddwyrain a Chymru, a difrifoldeb hynny, a bod yn rhaid i iechyd a diogelwch y cyhoedd ddod yn gyntaf. Ond a ydych chi'n cydnabod dicter a rhwystredigaeth busnesau ledled Cymru sydd wedi ymdrechu yn galed iawn i sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid dim ond i gael eu cosbi gan y cyfyngiadau niweidiol diweddaraf hyn gan y Llywodraeth? Gwariodd Brains £500,000 ar gyfarpar diogelu personol, gan sicrhau ei ymrwymiad i ddiogelu ei gwsmeriaid. A wnewch chi gytuno i gyhoeddi'r data, i sicrhau tryloywder, fel y gall pobl weld y dystiolaeth y seiliwyd y penderfyniadau hyn arni?
Wel, Llywydd, mae gen i ofn bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru mewn sefyllfa warthus o ran y mater hwn, a dangoswyd y gwarth hwnnw yn dda iawn yng nghwestiwn yr Aelod i mi. Yn wyneb y niferoedd yr ydym ni'n eu gweld yma yng Nghymru, a gafael argyfwng y coronafeirws yng Nghymru, mae hi'n osgoi yn gyson, ac felly hefyd ei phlaid, eu cyfrifoldeb nhw am wynebu hynny ac yn hytrach eisiau gwneud honiadau hurt dros ben am sectorau o'r economi yn cael eu cosbi yng Nghymru. Mae'r sector hwnnw yn cael gwerth £340 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, tra bod ei phlaid hi yn San Steffan yn darparu £40 miliwn i Loegr gyfan. Yma yng Nghymru, rydym ni'n gweithio gyda'r sector, rydym ni'n gwneud ein gorau glas i'w helpu i ymdrin â chanlyniadau'r argyfwng hwn. Ond mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac mae'n bryd i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru gydnabod hynny mewn gwirionedd.
Bu'n rhaid i'r Prif Weinidog a'i gyd-Weinidogion wneud penderfyniadau eithriadol o anodd yn ystod y pandemig, ac mae pob un ohonom ni yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa bellach yng Nghaerffili ac ar draws y de-ddwyrain. Rwyf i newydd wrando ar y drafodaeth rhyngoch chi a Laura Anne Jones, Prif Weinidog. Credaf fod diffyg cysylltiad rhwng difrifoldeb y sefyllfa a rhai agweddau cyhoeddus tuag at hyn, ac rwy'n meddwl tybed a allai hyn fod oherwydd rhai methiannau mewn cyfathrebu. Rwy'n teimlo y gallai'r cyfyngiadau sydd newydd gael eu trafod gyda'r sector lletygarwch, a gyflwynwyd ddydd Gwener diwethaf, fod wedi cael llai o wrthwynebiad pe byddai amser arweiniol hirach wedi bod, a fyddai wedi rhoi amser i fusnesau gynllunio o ran staffio a stoc, oherwydd arweiniodd y methiant i ganiatáu'r amser hwnnw at fusnesau yn gorfod cau ar fyr rybudd ac arllwys cwrw i lawr y draen. Rwy'n ymwybodol o un busnes, sydd yn sir Caerffili, a anfonodd neges at yr Aelodau yn dweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi terfyn ar rai gwasanaethau tan ganol mis Ionawr gan nad oedd ganddyn nhw hyder yng ngallu'r Llywodraeth i ymrwymo i amserlen ddibynadwy o lacio cyfyngiadau erbyn y dyddiad terfyn a addawyd. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa sicrwydd y gallech chi ei roi i'r sector lletygarwch y byddwch chi'n rhoi cymaint o amser â phosibl iddyn nhw baratoi yn y dyfodol, o ran llacio a gorfodi cyfyngiadau?
Wel, Llywydd, cyhoeddais ddydd Gwener y byddai'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar y dydd Gwener canlynol. Pan ddarperir cyngor i Llywodraeth gan ei phrif swyddog meddygol ac eraill bod angen cymryd camau, ac y bydd pa mor gyflym y cymerir y camau hynny yn cael effaith uniongyrchol ar effeithiolrwydd y mesurau hynny, a'r effaith ar fywydau pobl, rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i weithredu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ar sail y dystiolaeth honno. A'r hiraf y byddwch chi'n aros, y mwyaf o fywydau sy'n cael eu colli. Felly, mae'n fater anodd iawn o sicrhau cydbwysedd rhwng rhoi'r amser i fusnesau sydd ei angen arnyn nhw—ac rwy'n cydnabod bod y pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn gwbl deg yn hynny o beth—a chaniatáu i'r busnesau hynny baratoi yn erbyn y wybodaeth sicr bod diwrnod heb y cyfyngiadau yn ddiwrnod yn llai i gael effaith ar bandemig y coronafeirws sy'n ein hwynebu. Nawr, darparwyd wythnos lawn o rybudd ymlaen llaw gennym ni. Ar y dydd Llun canlynol, fe wnaethom ni ddarparu holl fanylion yr hyn a fyddai'n ofynnol. Nid wyf i'n gwadu am funud bod hwnnw yn gyfnod byr o amser i fusnesau allu ymateb, ond fe wnaethom ni roi iddyn nhw yr hyn yr oeddwn i'n ei gredu oedd yr hwyaf y gallem, yn gyson â'r cyngor a gawsom fod angen cymryd camau, bod angen gwneud hynny cyn gynted â phosibl a bod pob diwrnod yr oeddem ni'n oedi yn golygu bod y coronafeirws yn mynd i waethygu ac y byddai'r effaith ar ein gwasanaeth iechyd ac ar fywydau pobl yn waeth hefyd.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar drawma o ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus mwy caredig? OQ55996
Diolchaf i Jack Sargeant, Llywydd, am hynna. Mae mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar drawma yng Nghymru yn cael ei ddatblygu yn bennaf drwy waith y ganolfan profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'n gweithio i ymwreiddio egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar drawma ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Bydd yr Aelodau yn ymwybodol, o gofio fy ymrwymiad parhaus i ddod â gwleidyddiaeth fwy caredig yma i Gymru, fy mod i wedi galw o'r blaen am wasanaethau cyhoeddus mwy caredig—gwasanaethau sy'n cydnabod amgylchiadau unigol ac nad ydyn nhw'n defnyddio un dull rhagnodol addas i bawb. Prif Weinidog, roeddwn i eisiau rhannu rhywbeth cadarnhaol gyda chi heddiw. Mae'r Wallich, gyda chefnogaeth canolfan ACE, wedi datblygu rhaglen adsefydlu sy'n seiliedig ar drawma, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwych. Mae'n helpu unigolion sydd wedi dioddef profiadau niweidiol lluosog yn ystod plentyndod i weddnewid eu bywydau, ac mae hefyd yn helpu i dorri'r cylch troseddu sy'n pontio'r cenedlaethau. Mae hyn o ddaioni i ddefnyddwyr gwasanaethau a'r trethdalwr. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ganmol y dull hwn sy'n seiliedig ar drawma ac ymrwymo i barhau i gefnogi canolfan ACE i helpu i ddarparu gwasanaethau dynol, mwy caredig?
Wel, Llywydd, diolchaf i Jack Sargeant am ddod â darn o newyddion da i ni ei ddathlu ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Rwy'n credu fy mod i wedi darllen ei fod ef ei hun wedi cyfarfod yn ddiweddar â'r Wallich i glywed am eu gwaith a'r ffordd y maen nhw'n defnyddio'r dull sy'n seiliedig ar drawma a arloeswyd drwy'r ganolfan ACE i wneud gwahaniaeth yn eu gwaith. Gwn y bydd Jack Sargeant yn gwybod bod ein glasbrintiau—ein glasbrintiau troseddau menywod a throseddau ieuenctid—yn seiliedig ar ddull sy'n seiliedig ar drawma i unioni pethau ym mywydau pobl sydd wedi mynd o chwith yn llawer cynharach yn eu bywydau.
Ac o ran ei alwad am wasanaeth cyhoeddus mwy caredig, rwyf i wedi ei glywed yn siarad yn y fan yma yn huawdl ar lawr y Senedd i'w gefnogi, bydd wedi gweld, rwy'n siŵr, bod y pecyn cymorth y mae'r ganolfan wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar i helpu gweithwyr i wneud y cysylltiad rhwng iechyd corfforol a meddyliol ac i adnabod arwyddion a symptomau trawma yn dechrau drwy ddweud. 'Gall dangos caredigrwydd, tosturi a gwrando fod yn ffactorau amddiffynnol i'r rhai sydd wedi profi adfyd.' Felly, mae gan garedigrwydd, sy'n werth mynd ar ei drywydd ynddo'i hun, y fantais ymarferol honno hefyd o wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, ac rwy'n falch iawn o ymuno â Jack Sargeant i nodi a dathlu gwaith y Wallich a'r holl bobl eraill hynny y mae eu gwaith wedi ei lywio gan waith y ganolfan. A bydd ef yn gwybod bod fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi ymrwymo £0.25 miliwn i sicrhau bod gwaith y ganolfan yn parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf wrth i ni adolygu'r holl waith sy'n cael ei wneud yng Nghymru yn y maes hwn.
Wel, Prif Weinidog, wrth gwrs, mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod anodd i lawer iawn, gan gynnwys disgyblion a myfyrwyr. Bydd pob un wedi gweld effaith ar eu dysgu, ond bydd rhai wedi gweld rhywfaint ar eu hiechyd meddwl hefyd, fel yr ydym ni i gyd wedi ei glywed dros y misoedd diwethaf. I rai, wrth gwrs, bydd yn rhywbeth dros dro, gobeithio, ond i eraill gallai sbarduno rhywbeth llawer dyfnach a mwy hirhoedlog. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf i pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod ysgolion a cholegau yn dysgu am drawma? A faint o'r ysgolion a'r colegau yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi gallu cael gwasanaeth llysgennad ACE o'r ganolfan ACE? Diolch.
Wel, allaf i ddim rhoi ffigur penodol i'r Aelod ar gyfer ei hardal ei hun. Gallaf ddweud wrthi, drwy ganolfan ACE, bod hyfforddiant cynhwysfawr wedi cael ei ddarparu i dros 600 o ysgolion yng Nghymru a bod gwaith y llysgenhadon wedi bod yn hanfodol i hynny. Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod ni wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion a bod cwnselwyr mewn ysgolion hefyd yn rhan o'r grŵp o weithwyr sector cyhoeddus sy'n cael eu llywio gan waith canolfan ACE, fel y mae gweithwyr ieuenctid a gweithwyr tai a phob ymwelydd iechyd yma yng Nghymru. Mae'r cyllid ychwanegol, felly, yr ydym ni wedi ei gyfrannu at gwnsela mewn ysgolion yn tynnu ar y gwaith hwnnw, yn caniatáu i fwy o gymorth gael ei roi i amrywiaeth ehangach o oedrannau yn ein system ysgolion, a mwy o bobl ifanc sydd wedi—. Mae Suzy Davies yn dweud, ac fe'i hatgyfnerthwyd i mi mewn cyfarfod a gynhaliais gyda'r Senedd Ieuenctid, dan gadeiryddiaeth y Llywydd, dim ond yr wythnos diwethaf, bod yr effaith ar y synnwyr o lesiant ac iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru yn y pandemig wedi bod yn sylweddol ac y bydd gyda ni, mae arnaf i ofn, nid yn unig tra bo'r pandemig yn para, ond bydd cyfnod o wella a fydd yn parhau ymhell y tu hwnt i hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ymchwilwyr yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain wedi canfod bod profion torfol yn Slofacia, yr ydym ni wedi eu trafod o'r blaen, ynghyd â mesurau eraill—cymorth ychwanegol i bobl sy'n hunanynysu—wedi gostwng y gyfradd heintio gan 60 y cant, sy'n sylweddol uwch nag effaith y cyfyngiadau symud diweddar, er enghraifft, y cyfnod atal byr, yn Lloegr. Canfu'r astudiaeth, oherwydd natur y prawf a ddefnyddiwyd yn Slofacia, eu bod fwy na thebyg wedi canfod 90 y cant o'r bobl a brofwyd ac a oedd wedi eu heintio yn y cyfnod hwnnw, tra bod y dystiolaeth yn Lerpwl yn awgrymu bod profion cyflym wedi methu 50 y cant o'r holl heintiau a 30 y cant o'r rheini â llwyth feirysol uchel. Mae cyngor y gell cyngor technegol a gyhoeddwyd heddiw yn dweud, er bod technolegau newydd a fydd yn galluogi profion cyflymach, nid ydyn nhw'n fwled arian, ond mae cyngor y gell cyngor technegol yn rhagflaenu'r dystiolaeth newydd hon yr wyf i wedi cyfeirio ati. Felly, a allwch chi ofyn i'r gell cyngor technegol edrych eto a gwneud gwaith modelu i asesu effaith debygol rhaglen profi torfol debyg i'r un yn Slofacia yng Nghymru fel ffordd fwy effeithiol o atal y feirws ac fel dewis yn hytrach na mynd i mewn ac allan o gyfyngiadau uwch?
Llywydd, rwy'n hapus iawn i ofyn i'r grŵp cyngor technegol i wneud hynny. Maen nhw, beth bynnag, yn diweddaru eu cyngor yn gyson yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, ac yn enwedig tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a adroddir mewn cyfnodolion gwyddonol ag enw da iddyn nhw o'r math y cyfeiriodd Adam Price ato. Mae gennym ni ein rhaglen profion torfol sy'n parhau o hyd ym Merthyr Tudful, wedi'i hehangu, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, i Gwm Cynon dros y penwythnos; rydym ni'n dysgu llawer ein hunain o'i wneud. Rwy'n credu ei bod hi'n eithaf pwysig, Llywydd, gwahaniaethu rhwng y dyfeisiau llif ochrol hynny yr ydym ni'n eu defnyddio, sydd, yn y bôn, yn canfod pobl sy'n heintus i eraill. Felly, maen nhw'n canfod pobl ychydig ddyddiau cyn i'r symptomau ddechrau, ac maen nhw'n parhau i ganfod pobl sy'n heintus am tua phum diwrnod y tu hwnt i hynny. Nid pobl sy'n heintus y mae'r profion PCR yn eu canfod, ond pobl sy'n heintus ac wedi'u heintio, a gallwch chi gael eich heintio am hyd at wyth wythnos y tu hwnt i'r pwynt pan oeddech chi'n heintus i unrhyw un arall. Mae profion PCR yn canfod gweddillion olaf coronafeirws a allai fod yn dal i gylchredeg yn system rhywun. Felly, mae'n bwysig bod yn eglur ynglŷn â beth yw diben y prawf. Rwy'n dal i fod yn siŵr, yn bersonol, bod gan y dyfeisiau llif ochrol yr ydym ni'n eu defnyddio yng Nghymru ran i'w chwarae, ar yr amod bod dealltwriaeth ofalus ohonyn nhw a'u bod yn cael eu graddnodi yn briodol.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Yng nghyngor y gell cyngor technegol yr wyf i newydd gyfeirio ato, maen nhw yn dweud y gallai cyfnod cyn-ynysu i deuluoedd â phlant, o ganlyniad i gau ysgolion, leihau lefel y cymysgu cymdeithasol cyn y cyfnod rhwng 23 a 28 Rhagfyr, ac felly cael effaith fuddiol o ran achub bywydau. A ydych chi'n ystyried hyn fel opsiwn, Prif Weinidog, ac os ydych chi, a allech chi ddweud pryd y byddech chi'n bwriadu ei gyhoeddi? A pha fesurau lliniaru fyddech chi'n eu rhoi ar waith, ar ffurf dysgu cyfunol, parhau i weithredu ysgolion hyb, er enghraifft, i leihau niweidiau ehangach, ac a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol na ddylai addysg na lles ehangach unrhyw blentyn fod o dan anfantais annheg o ganlyniad i hyn? A allwch chi roi sicrwydd na ddylid rhoi'r gweithwyr allweddol yn y GIG a sectorau eraill yn y sefyllfa annymunol o orfod dewis rhwng dod i'r gwaith neu ofalu am eu plant yn ystod y cyfnod hwn?
Llywydd, y pwyntiau olaf a wnaeth Adam Price yw'r union reswm pam yr wyf i eisiau cymeradwyo yn gryf iawn heddiw y datganiad ar y cyd a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n annog ysgolion i aros ar agor tan ddiwrnod olaf y tymor, gan gydnabod y bydd cyfresi unigol o amgylchiadau lle na fydd hynny'n bosibl. Wrth gwrs, mae Mr Price yn iawn—rwyf i wedi dod â'r ddogfen gyda mi y prynhawn yma yn disgwyl y byddai cyfeiriad ati yn y fan yma—y byddai cyfnod o ataliaeth am 10 diwrnod cyn cyfnod y Nadolig er budd pob teulu. Y broblem wirioneddol yw nad oes gennym ni ffydd, o'r dystiolaeth ymddygiadol, os nad yw plant yn yr ysgol, y bydden nhw'n cael eu cadw gartref a'u cadw i ffwrdd o'r cysylltiadau a fyddai fel arall yn creu mwy o risg. Yr ofn yw y bydd plant nad ydyn nhw yn yr ysgol mewn amgylcheddau mwy peryglus fyth.
Gwn y bydd gan Adam Price ddiddordeb bod y gyfradd bositif yn y profion torfol o ysgolion ym Merthyr—a chofiwch ein bod ni'n profi pob plentyn mewn ysgolion uwchradd yno—yn llai nag 1 y cant, felly, yn llawer is na'r gyfradd bositif yn y boblogaeth gyffredinol, sy'n awgrymu bod bod yn yr ysgol yn ddiogel iawn i blant a phobl ifanc mewn gwirionedd. Pe byddwn i'n meddwl y byddai'r bobl ifanc hynny wir yn aros gartref, wir yn hunanynysu, wir yn creu'r cyfnod hwnnw cyn y Nadolig i'w cadw'n ddiogel, byddwn i'n cael fy nenu at y syniad. Rwy'n ofni mai'r risgiau yw na fyddai hynny yn digwydd, y byddai'r plant hynny yn gwneud pethau mwy peryglus nag y bydden nhw yn yr ysgol. Mae'n well iddyn nhw fod yn yr ysgol. Yn arbennig, rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth Adam Price tua'r diwedd am yr angen i blant agored i niwed barhau i gael cynnig addysg hyd at ddiwedd tymor yr ysgol ac i blant gweithwyr allweddol gael cynnig y gwasanaeth hwnnw hefyd.
Dim ond i fod yn eglur, o ran y pwynt cyn-ynysu felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor ehangach i deuluoedd ynghylch cyfnod cyn-ynysu?
Yn olaf, ddydd Llun, rhybuddiodd eich cyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, y gallai fod angen cyfyngiadau pellach mewn ymateb i'r cynnydd i nifer yr achosion. Ychydig wythnosau yn gynharach, dywedodd Dirprwy Weinidog yr economi hefyd y byddai ail gyfnod atal byr yn y flwyddyn newydd yn debygol. Wrth edrych i'r dyfodol, mae adroddiad y gell cyngor technegol hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal cefnogaeth y cyhoedd, oherwydd, fel arall, gallai hynny arwain at lefelau is o gydymffurfiad ymhlith y cyhoedd, ac mae'r cyngor yn dweud, yn ddelfrydol, bod angen i'r polisi a'r rheolau fod yn syml, yn ddealladwy ac yn gyraeddadwy, wedi'u hategu gan resymeg eglur â dechrau a diwedd y cytunwyd arnyn nhw. A fyddech chi'n derbyn, Prif Weinidog, bod diffyg eglurder ym meddyliau rhai pobl ar hyn o bryd ynglŷn â'n trywydd rhwng nawr a'r gwanwyn? Beth yw'r strategaeth ar gyfer adennill rheolaeth, ailagor yn y pen draw ac yna adfer? Ac onid dyma'r amser, Prif Weinidog, yng ngoleuni'r sefyllfa sy'n newid, i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun gaeaf newydd?
Wel, Llywydd, rydym ni ar drothwy rhyfedd, onid ydym ni, yng ngyrfa coronafeirws? Heddiw mae gennym ni bobl yn cael eu brechu am y tro cyntaf yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni, gobeithio, y posibilrwydd y bydd brechlyn arall yn cael ei ystyried nawr gan y rheoleiddwyr. Gobeithiwn y bydd yn cael cymeradwyaeth reoleiddiol a bydd hynny yn rhoi dewis arall i ni y mae ei angen arnom. Ond, ar yr un pryd, o ran y sefyllfa sydd gennym ni nawr, mae gennym ni sefyllfa anodd iawn yng Nghymru.
Mae pob awdurdod lleol ond un yng Nghymru heddiw yn dangos niferoedd sy'n cynyddu. Mae gennym ni awdurdodau yng Nghymru sydd â dros 600 a thros 500 fesul 100,000 o bobl sydd wedi eu heintio â'r feirws, a chyfraddau positifrwydd o 25 y cant mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'r rhain yn ffigurau eithriadol o ddifrifol. Bydd yr Aelodau yn y fan yma wedi gweld y bu'n rhaid i wasanaeth ambiwlans Cymru ddatgan digwyddiad mawr un diwrnod yr wythnos diwethaf, yn enwedig yn y de-ddwyrain, gan fod ein hysbytai mor llawn o bobl sydd eisoes yn dioddef o'r feirws fel nad oedden nhw'n gallu cael cymorth i bobl yn y ffordd y byddem ni eisiau ei gweld, y ffordd brydlon y byddem ni eisiau ei gweld, ar gyfer cyflyrau difrifol eraill.
Rwy'n cytuno ag Adam Price ynglŷn â'r ymdrech i sicrhau cydsyniad cyhoeddus i rai o'r mesurau sy'n angenrheidiol, ac rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i ni ddibynnu ar bobl yn gweld drostyn nhw eu hunain y ffaith nad yw'r gwasanaeth iechyd yn gallu gwneud yr hyn yr ydym ni angen iddo ei wneud cyn i bobl ddeall yr angen dybryd i weithredu. Rydym ni'n parhau i geisio egluro hynny bob dydd i bobl: bod y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd yn gymesur â maint yr anhawster sy'n ein hwynebu, bod yn rhaid i ni weithredu gyda'n gilydd, pob un ohonom ni yn ein bywydau ein hunain, i wneud y pethau iawn a fydd yn dod â'r feirws dan reolaeth, ac yna bydd gennym ni lwybr i'r flwyddyn nesaf sy'n wahanol, a fydd yn caniatáu i ni ddefnyddio'r dyfeisiau llif ochrol, y profion torfol, y brechiad a fydd yn rhoi gwahanol 2021 i ni i'r flwyddyn yr ydym ni ynddi. Yn y cyfamser, ni ddylai neb—neb—beidio â rhoi ystyriaeth ddigonol i ddifrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu yng Nghymru.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pan wnaethoch chi gyhoeddi'r cyfyngiadau symud ar gyfer y cyfnod atal byr ym mis Hydref, dywedasoch mai dyma oedd ein cyfle gorau i adennill rheolaeth dros y feirws ac osgoi cyfyngiadau symud cenedlaethol llawer hwy a llawer mwy niweidiol. Er hynny, cadarnhawyd ddoe mai Cymru oedd yr unig ran o'r DU lle nad oedd y ffigurau yn gostwng ddiwedd mis Tachwedd. Prif Weinidog, cyn ystyried cyflwyno unrhyw gyfyngiadau pellach, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiadau sydd wedi eu cynnal o ran cyfyngiadau symud cyfnod atal byr Llywodraeth Cymru, o gofio nad yw'r ffigurau wedi gostwng yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU?
Wel, Llywydd, mae asesiadau wedi eu cynnal o'r cyfnod atal byr, cyfnod, wrth gwrs, y gwrthododd ei blaid ef ei gefnogi yma yn y Senedd. Roedd yn llwyddiannus; rhoddodd y 17 diwrnod hynny yrfa coronafeirws yn ôl dair wythnos yn gynharach na 23 Hydref. Fe ataliodd y rhif R yma yng Nghymru am gyfnod o dair wythnos. Gwnaeth yr hyn yr oeddem ni wedi gobeithio y byddai'n ei wneud. Mae'r problemau yr ydym ni wedi eu hwynebu wedi bod yn y cyfnod ar ôl y cyfnod atal byr, lle mae'r feirws wedi cylchredeg yn gyflymach ac ymhellach nag y byddai'r modelu wedi ei awgrymu, ac dyna pam mae angen cymryd camau pellach unwaith eto nawr.
Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod cyfraddau heintio yng Nghymru 70 y cant yn uwch na phan wnaethom ni ddechrau'r cyfnod atal byr ym mis Hydref, ac mae cyfraddau wedi cynyddu gan 82 y cant ers diwedd cyfyngiadau symud y cyfnod atal byr. Yn wir, y ffaith yw bod mwy na 1,800 o gleifion sy'n gysylltiedig â choronafeirws mewn ysbytai ledled Cymru erbyn hyn, sef y nifer uchaf ers dechrau'r pandemig, ac mae'n dangos bod rhywbeth wedi mynd o'i le yn ddifrifol iawn. Ac rydym ni'n gwybod bod problem o hyd mewn ysbytai, ac yn amlwg, mae angen gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â heintiau sy'n deillio o ysbytai, a cheir pryderon hefyd ynghylch cyfraddau trosglwyddo ar aelwydydd, yr ydych chi fel Llywodraeth wedi bod yn ei ddweud drwy gydol y pandemig hwn, wrth gwrs.
Ddoe, fel y dywedwyd eisoes, rhybuddiodd y Gweinidog iechyd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried a fyddai angen mesurau pellach i atal y feirws hwn, ond gwrthododd y Gweinidog iechyd roi unrhyw fanylion pellach i bobl Cymru am sut y byddai'r cyfyngiadau hynny yn edrych ac a fydden nhw'n canolbwyntio ar sectorau ac amgylcheddau penodol, ac a fydden nhw'n gyfyngiadau cenedlaethol. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau yn union pa fesurau pellach sy'n cael eu hystyried erbyn hyn, ac a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau pellach cyn cyfyngiadau cyfnod y Nadolig, neu ai'r bwriad yw cyflwyno mesurau pellach ar ôl y Nadolig?
Wel, Llywydd, yr holl ffeithiau a ffigurau hynny y dechreuodd arweinydd yr wrthblaid â nhw yw'r ffeithiau a'r ffigurau a roddais i iddo yr wythnos diwethaf pan wrthododd gefnogi'r mesurau a gymerwyd gennym ni o ran lletygarwch; mesurau na allai neb wadu yr wythnos hon, rwy'n credu, eu bod nhw'n iawn ac yn angenrheidiol. Mae angen i ni roi cyfle i'r mesurau hynny wneud gwahaniaeth. Rydym ni angen iddyn nhw gael eu hategu gan gamau y gall pobl eu cymryd yn eu bywydau eu hunain i gynorthwyo cymunedau ledled Cymru i gael y feirws hwn yn ôl—y niferoedd yn gostwng unwaith eto. Nid wyf i'n credu bod hynny'n golygu y byddwn ni'n cymryd camau pellach yr ochr hon i'r Nadolig. Ond yr ochr arall i'r Nadolig, mae'r cyngor yn adroddiad y gell cyngor technegol a gyhoeddwyd ac y cyfeiriwyd ato gan Adam Price yn eglur ynglŷn â hyn hefyd: y bydd cyfnod o lacio dros y Nadolig yn arwain at gynnydd pellach—cynnydd pellach eto, y tu hwnt i'r ffigurau a nodwyd gan yr Aelod yn ei gwestiwn ychwanegol i mi. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i unrhyw Lywodraeth gyfrifol feddwl am y mesurau y gallai fod eu hangen er mwyn diogelu'r gwasanaeth iechyd fel ei fod yn gallu parhau i wneud popeth arall y mae'n rhaid iddo ei wneud ar yr adeg y mae fwyaf dan bwysau mewn unrhyw flwyddyn, ac atal marwolaethau y gellir eu hosgoi.
Edrychaf ymlaen, Llywydd, at gefnogaeth y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru i fesurau a fydd yn angenrheidiol, oherwydd hyd yma, mae'r gefnogaeth honno wedi bod yn drawiadol oherwydd ei habsenoldeb.
Nid yw hynny'n wir, Prif Weinidog, oherwydd y gwir amdani yw, mae'r ochr hon i'r Siambr wedi cefnogi'r rhan fwyaf o'ch rheoliadau coronafeirws a gyflwynwyd ers diwedd mis Mawrth. Felly, nid yw'n wir i ddweud nad ydym ni wedi cefnogi eich rheoliadau coronafeirws ar y cyfan. Ond yr hyn sydd ei angen ar bobl Cymru nawr, Prif Weinidog, yw gobaith: gobaith ar ddiwedd blwyddyn sydd wedi bod yn anodd iawn.
Mae heddiw yn nodi adeg nodedig wrth i frechiadau coronafeirws ddechrau cael eu cyflwyno yng Nghymru, ac rwy'n falch bod dull pedair gwlad ledled y DU wedi gallu caffael brechlynnau ar gyfer pob rhan o'r wlad. Nawr, rwy'n deall bod y DU wedi archebu 40 miliwn dos o frechlyn Pfizer ac, o ganlyniad, bydd gan Gymru 40,000 dos o'r brechlyn, sy'n cyfateb i ddigon i bron i 20,000 o bobl ledled y wlad. Wrth gwrs, mae'n hynod bwysig bod digon o gapasiti yn y GIG i gyflwyno'r brechlyn yn effeithiol, ac, yn rhan o roi capasiti ac adnoddau ar gael, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y rhan y gall fferyllwyr cymunedol ac efallai hyd yn oed clinigwyr sydd wedi ymddeol ei chwarae o ran helpu i roi'r brechlyn ledled Cymru mewn modd mor ddidrafferth â phosibl. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau strategol sy'n cael eu cynnal gyda byrddau iechyd ledled Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti a staff ar gael i gyflwyno'r brechlyn yn effeithiol? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda chlinigwyr sydd wedi ymddeol ac yn wir gweithwyr meddygol proffesiynol eraill am y rhan y gallen nhw ei chwarae o ran helpu â'r cyflwyno? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gyda fferyllwyr cymunedol ynglŷn â'r rhan y gallen nhw ei chwarae o ran rhoi'r brechlyn mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru?
Llywydd, gadewch i mi ddod â'r rhan hon o'n trafodion i ben drwy gytuno ag arweinydd yr wrthblaid. Mae hon yn adeg lle mae gobaith yn wirioneddol bwysig i bobl. Mae hon wedi bod yn flwyddyn mor hir ac anodd ym mywydau cynifer o bobl yma yng Nghymru, a heddiw, pan fo'r brechlyn yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf, mae'n rhoi'r llygedyn hwnnw o olau i ni ar ddiwedd yr hyn sy'n dal yn dwnnel hir o'n blaenau. Mae'r ffaith ein bod ni wedi gallu cytuno ar hyn i gyd ar sail pedair gwlad yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'w groesawu. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'r cytundeb ar sut y dylid dosbarthu'r brechlyn. Gwn fod fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething wedi cyfarfod â'r Gweinidogion iechyd eraill yn wythnosol drwy fis Tachwedd ac wedi cyfarfod unwaith eto ddoe i wneud yn siŵr bod gennym ni synnwyr cyffredin o'r hyn y gall y brechlyn hwn ei wneud, y ffordd orau o'i ddefnyddio. A'r 40,000 dos yr ydym ni'n eu cael o'r swp cyntaf o'r brechlyn yw ein cyfran ohono ar sail poblogaeth.
Nawr, rydym ni wedi bod yn rhan o waith cynllunio ar hyn, Llywydd, ers mis Mehefin eleni, pan sefydlwyd y bwrdd rhaglen Cymru gyfan cyntaf ar gyfer brechu, ac rydym ni, yn fy marn i, wedi bo mor barod ar ei gyfer ag y gallem ni fod. Rwy'n cytuno, wrth i'r broses frechu dyfu, y bydd angen i ni ddenu mwy o bobl i'r gronfa o bobl sy'n gallu brechu. Mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau i recriwtio pobl i'r gronfa honno i wneud yn siŵr eu bod nhw wedi eu hyfforddi yn briodol, eu bod nhw wedi eu hachredu yn briodol, a bod eu gwaith yn cael ei oruchwylio gan glinigwyr profiadol. Fel y mae'n digwydd, mi wn hefyd fod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, yn cyfarfod â Fferylliaeth Gymunedol Cymru yr wythnos nesaf, felly bydd cyfleoedd yn sicr i sôn am y cyfraniad y gall fferylliaeth gymunedol ei wneud yn y maes hwn. Ond, yn fy marn i, gall lefel y gwaith paratoi sydd gennym ni yng Nghymru, yr ymrwymiad a ddangoswyd gan staff presennol sydd wedi dod ymlaen i gynnig eu gwasanaethau fel darparwyr brechlynnau, ychwanegu at y synnwyr hwnnw o obaith y gallwn ni ei gynnig i bobl yma yng Nghymru heddiw y bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn wahanol i'r un yr ydym ni i gyd wedi ei chael yn 2020.
Cwestiwn 3, Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. Cefais fy ail-dawelu gan yr awdurdodau sydd ohoni yn y fan yna.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddiaeth yn ystod pandemig COVID-19? OQ56018
Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am hynna. Rydym ni'n parhau i weithredu proses ailsefydlu gwasanaethau deintyddol yn ddiogel a fesul cam. Mae'r rhan fwyaf o bractisau deintyddol yn darparu ystod lawn o driniaethau i gleifion yng Nghymru erbyn hyn. Fodd bynnag, mae mesurau iechyd cyhoeddus COVID-19 gofynnol yn parhau i fod yn angenrheidiol. Mae ystyriaethau diogelwch yn golygu y gellir trin llai o gleifion mewn unrhyw un sesiwn glinigol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon y bydd rhethreg, naïfrwydd ac anfedrusrwydd llwyr cefnogwyr Brexit yn Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn llawer anoddach i ni recriwtio deintyddion a staff eraill ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn a thu hwnt?
Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna. Mae yn llygad ei le—ym maes deintyddiaeth, mae 17 y cant o'r holl ddeintyddion sydd wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar hyn o bryd yn dod o Ewrop. Mae'r ganran honno yn uwch yn y cwmnïau corfforaethol mwy sy'n cyflenwi canran fawr o wasanaethau deintyddol. Amcangyfrifir bod deintyddion sy'n cael eu recriwtio o'r Undeb Ewropeaidd yn darparu cymaint â 30 y cant o holl driniaeth ddeintyddol y GIG yma yng Nghymru, ac mae'r bobl hynny eisoes wedi rhoi'r gorau i ddod, Llywydd. Dyna'r pwynt, a dweud y gwir? Nid ydyn nhw'n credu y bydd croeso iddyn nhw yn y Deyrnas Unedig o'r math y byddai Mr Reckless yn dymuno ei chreu. Byddai'n well ganddo pe na bydden nhw yma ac maen nhw'n clywed y neges honno ganddo ef ac, o ganlyniad, maen nhw wedi rhoi'r gorau i ddod. Nid oedd ganddyn nhw unrhyw sicrwydd ynghylch eu cyflogaeth, nid oedd ganddyn nhw unrhyw sicrwydd ynghylch eu preswylfa, roedden nhw'n wynebu gostyngiad i werth y bunt o ganlyniad i'r ffordd y mae Brexit wedi ei lywio gan y Llywodraeth hon.
Rwy'n credu i mi gyfeirio y tro diwethaf, Llywydd, at gyfarfod yr oeddwn i'n bresennol ynddo, o dan arweiniad y Prif Weinidog ar y pryd. Roedd yn ei swyddfa ef gyda'r Ysgrifennydd Gwladol cyntaf dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, David Davis. Gwnaeth y Prif Weinidog ar y pryd gyfres o bwyntiau pwysig iawn i'r Ysgrifennydd Gwladol am y ffin yn Iwerddon, am borthladdoedd Cymru, am recriwtio i wasanaethau cyhoeddus. Cyfeiriodd Carwyn Jones yn ei gwestiwn atodol at anfedrusrwydd a naïfrwydd. Wel, roedd i'w weld yn eglur y diwrnod hwnnw. Dywedwyd wrthym ni mai dyma fyddai'r trafodaethau hawsaf yr oeddem ni erioed wedi bod yn rhan ohonyn nhw, bod y Deyrnas Unedig yn gwybod beth yr oeddem ni'n ei wneud ac y byddai'r tramorwyr hynny yn mynd ar chwâl cyn gynted ag y byddem ni'n rhoi ein gofynion ar y bwrdd. Pa mor anghywir oedd hynny fel y gwelwn ni erbyn hyn.
Prif Weinidog, mae deintyddiaeth yn bwnc llosg iawn yn etholaeth Gorllewin Clwyd ar hyn o bryd o ganlyniad i gyhoeddiad gan Bupa Dental Care UK y byddan nhw'n yn cau eu clinig ym Mae Colwyn. Mae hynny yn mynd i effeithio ar tua 12,000 o bobl yn fy etholaeth i, ac mae'r bwrdd iechyd lleol wedi eu hysbysu y dylen nhw geisio cofrestru gyda deintyddion eraill y GIG yn ardal y gogledd. Ar ôl iddyn nhw gysylltu â'r deintyddion hynny, dywedir wrthynt nad ydyn nhw'n derbyn cleifion ychwanegol. Clywais yr hyn a ddywedasoch wrth ymateb i gwestiynau Carwyn Jones, ond y realiti yw y dylech chi fod wedi bod yn hyfforddi mwy o ddeintyddion dros y degawd diwethaf; ni ddylech chi fod yn gorfod dibynnu ar ddeintyddion yn dod i mewn o dramor. Pe byddem ni wedi hyfforddi niferoedd digonol—a chi sydd wedi bod yn gyfrifol am gynllunio'r gweithlu dros yr 20 mlynedd diwethaf—yna ni fyddem yn y llanastr yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd, gyda phrinder deintyddion ledled Cymru.
Nawr, rwyf i wedi gofyn am gyfarfod gyda'ch Gweinidog iechyd a'r prif swyddog deintyddol i drafod y sefyllfa ym Mae Colwyn, ac maen nhw wedi gwrthod derbyn fy nghais am gyfarfod. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod gennym ni ddigon o ddeintyddion yn cael eu hyfforddi yng Nghymru nawr i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru yn y dyfodol? A sut y gallwch chi sicrhau pobl ym Mae Colwyn y bydd gwasanaethau deintyddol y GIG ar gael iddyn nhw pan fyddan nhw eu hangen yn y dyfodol?
Wel, mae'r llanastr yr ydym ni ynddo, fel y dywedodd yr Aelod, yn bodoli oherwydd y cyngor a roddwyd ganddo ef a'i debyg i bobl yng Nghymru y byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac na fydden nhw'n gweld unrhyw anfanteision o gwbl yn eu bywydau. Ac eto, yr hyn y maen nhw'n ei ddarganfod yw bod ei gyngor ef a chyngor pobl yn ei blaid ef wedi arwain at y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu ym Mae Colwyn heddiw, lle nad yw corff corfforedig mawr, a oedd yn gallu darparu'r gwasanaethau hynny, yn gallu denu'r staff sydd eu hangen erbyn hyn. Mae honno'n sefyllfa ddifrifol yn y gogledd, fel yr archwiliodd Siân Gwenllian gyda mi yn y fan yma bythefnos yn ôl. Esboniais bryd hynny y camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd—yr uned addysgu deintyddol a fydd yn cael ei sefydlu ym Mangor a fydd yn denu rhagor o staff i'r ardal; gwaith y dirprwy brif swyddog deintyddol, yr Athro Paul Brocklehurst, o ran rhoi cyngor yn uniongyrchol i'r bwrdd iechyd.
Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedodd Darren Millar am ddyfodol deintyddiaeth. Nid yw'r dyfodol yn fater o ddibynnu'n llwyr ar fwy o ddeintyddion—mae'n fater o ehangu'r proffesiwn deintyddol, mae'n fater o wneud gwell defnydd o aelodau eraill o'r tîm deintyddol, a gwneud yn siŵr y gall y gweithgareddau hynny a gyflawnir amlaf y mae angen i ddeintyddion eu cyflawni gael eu cyflawni gan bobl sydd wedi eu hyfforddi i wneud hynny, ond nad ydyn nhw angen yr hyfforddiant hir iawn a'r arbenigedd prin iawn y mae deintyddion eu hunain yn ei gynrychioli.
Mae'n rhaid i fi ddweud dwi'n bryderus bod yna ddiffyg cynllunio gwasanaeth deintyddol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dwi wir yn bryderus am sefyllfa deintyddiaeth yn fy etholaeth i. Mae cau deintyddfeydd preifat yn ddiweddar ar y tir mawr wedi gwaethygu eto'r anhawster mae pobl yn ei gael i gofrestru efo ac i ddarganfod deintydd sy'n gwneud gwaith NHS. Mae'r camau dwi wedi eu cymryd efo deintydd yn Ynys Môn i gynyddu capasiti yn wynebu rhwystr ar ôl rhwystr, a ninnau wedi llwyddo i ddenu dau ddeintydd i mewn, ond yn methu â chael y bwrdd i gytuno i gynyddu'r contract. Ar ben hynny, mae gen i bryder mawr am beth sy'n digwydd i wasanaethau deintyddol arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, efo colli gwasanaethau a methiant i recriwtio yn gwneud i fi feddwl bod yna gynllun i israddio gwasanaethau. A gawn ni adolygiad llawn o wasanaethau deintyddol yn fy etholaeth i, ac yn wir yn y gogledd-orllewin yn ehangach?
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda Rhun ap Iorwerth am y problemau sy'n wynebu pobl yn y gorllewin, yn y de ac yn y gogledd hefyd. Mae hynna yn gwaethygu, achos mae yna'r problemau dwi wedi eu hesbonio prynhawn yma. Wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad gyda'r Gweinidog i weld os oes yna fwy o fanylion rydym ni'n gallu eu rhoi i'r Aelodau, ac i fod yn glir gyda phobl am y camau mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn eu cymryd i dreial i ddelio â'r problemau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd.FootnoteLink
4. Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru? OQ56000
Diolchaf i John Griffiths. Llywydd, mae nifer yr achosion yng Nghymru, a gynrychiolir gan y cyfartaledd treigl saith diwrnod, wedi bod yn cynyddu bob dydd am y 18 diwrnod diwethaf. Oni bai y gellir atal a gwrthdroi'r duedd hon, byddwn yn gweld twf cyflymach a chyflymach i goronafeirws ledled Cymru.
Prif Weinidog, mae'n sefyllfa sy'n peri pryder mawr, ac ymhlith y ffactorau dan sylw sy'n golygu ei fod yn bryder mawr yw'r cynnydd cynyddol i nifer yr achosion o COVID hir, y credaf y gallai'r gwasanaeth iechyd fod yn ymdrin ag ef am rai blynyddoedd i ddod yn anffodus. Fisoedd ar ôl dal y feirws, mae dioddefwyr yn cael amrywiaeth o symptomau, gan gynnwys diffyg anadl, niwl yr ymennydd, poen a blinder. Mae'n wanychol i lawer, ac mae ofnau yn tyfu y gallai fynd ymlaen i effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl ledled y DU. Yn Lloegr, maen nhw'n agor clinigau arbenigol i drin COVID hir, ac yn yr Alban maen nhw'n ariannu prosiectau ymchwil cyflym ac yn llunio canllawiau triniaeth newydd. Prif Weinidog, byddwn yn ddiolchgar am eich cyngor ar gamau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bygythiad sylweddol hwn i iechyd ein cenedl.
Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn atodol pwysig yna, Llywydd. Mae gennym ni 1,100 o bobl â coronafeirws wedi ei gadarnhau mewn gwelyau ysbyty yng Nghymru heddiw. Bydd angen i dros chwarter ohonyn nhw fod yn yr ysbyty am dair wythnos neu hwy. Mae hwn yn feirws nad yw gwellhad cyflym yn ganlyniad i lawer iawn o bobl sy'n ei ddal, ac nid yn unig y mae hynny'n golygu bod mwy a mwy o bobl yn cael eu cadw mewn gwelyau ysbyty, ond bod cyfnod gwella maith i lawer o bobl. Gwn y bydd John Griffiths yn ymwybodol bod y Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hyn ar 23 Hydref. Cyhoeddwyd ein fframwaith cenedlaethol ar gyfer adsefydlu yn dilyn coronafeirws ym mis Mai eleni. Rydym yn canolbwyntio ar geisio darparu gwasanaethau i'r bobl hynny sy'n dioddef effeithiau hirdymor coronafeirws mor agos i'w cartrefi â phosibl. Nid yw'n fodel sy'n dibynnu ar bobl sydd eisoes yn sâl ac yn dioddef yr ôl-effeithiau hynny yn gorfod teithio i'r ysbyty i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Felly, ein bwriad yw cael timau amlddisgyblaeth sy'n gweithredu yn y gymuned a dim ond pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol o wasanaethau adsefydlu cleifion mewnol. Mae hwnnw'n fodel gwahanol i'r un sy'n cael ei fabwysiadu mewn rhai lleoedd eraill, ond rydym ni'n credu y bydd yn cynnig gwell gwasanaeth i fwy o bobl, yn fwy cyfleus ac yn cydweddu'n well â natur yr effaith coronafeirws y maen nhw'n ei ddioddef.
O ran treialon clinigol ac ymchwil, yna rydym ni, ein hunain, yn union fel y mae'r Alban, yn ymwneud â nifer o wahanol astudiaethau. Rydym yn cymryd rhan yn y datblygiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, o ddiffiniad clinigol o COVID hir a fydd yn helpu gyda rhoi diagnosis ohono a gofal ar ei gyfer, ac rydym ni'n cymryd rhan, Llywydd, yn astudiaeth COVID-19 ôl-ysbyty y DU. Mae honno'n astudiaeth a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a'r Cyngor Ymchwil Feddygol ar lefel y DU. Mae'n cynnwys 10,000 o gyfranogwyr ac fe'i disgrifiwyd fel astudiaeth sy'n arwain y byd o ran llywio datblygiad y llwybrau gofal hynny y bydd eu hangen i helpu cleifion i wella mewn modd mor llwyr â phosibl a chyn gynted â phosibl, ar ôl dioddef effaith hynod wanychol y clefyd.
Cwestiwn 5, Janet Finch-Saunders.
Mae'n ddrwg gen i, Llywydd, roedd oedi gyda'r dad-dawelu. Diolch.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ar sir Conwy? OQ56007
Llywydd, effaith y rheoliadau diwygiedig fydd caniatáu teithio parhaus rhwng sir Conwy a rhannau eraill o Gymru. Bydd y rheoliadau yn helpu i achub bywydau dinasyddion Conwy a fyddai fel arall yn cael eu colli, gan ddiogelu'r gwasanaethau iechyd lleol ar yr un pryd. Bydd y rheoliadau yn cael eu hadolygu nesaf ar 17 Rhagfyr.
Diolch, Prif Weinidog. Nawr, wrth gwrs, bu'n rhaid i mi godi pryderon am hyn, oherwydd rhwng 28 Tachwedd a 4 Rhagfyr, roedd gan Gonwy 62.3 achos fesul 100,000; yn amlwg, cymharwch hynny â Chastell-nedd Port Talbot sydd â 621.7—10 gwaith yn fwy difrifol na sir Conwy. Nawr, yn ôl adroddiad adolygu COVID-19 bob pythefnos diweddaraf yr awdurdod lleol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, 26.9 oedd y gyfradd fesul 100,000 ymhlith y rhai sy'n 60 oed neu'n hŷn yng Nghonwy. Nawr, pe byddai gennym ni system haenau ar waith, fel yn Lloegr, byddai Conwy yn haen 1. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r cannoedd o alwadau gan etholwyr a'r rhai sydd mewn busnes am system haenau i Gymru, ac a wnewch chi gymryd camau ar sail y galwadau hyn? Ac a allwch chi esbonio sut yn y byd yr ystyrir ei bod yn gytbwys neu'n gymesur i Gonwy fod yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau â Chastell-nedd Port Talbot?
Fy mhwynt olaf i yw bod llawer o'r rhai sydd yn y diwydiant lletygarwch yn pryderu'n fawr erbyn hyn am y cyfyngiadau rhwng 17 Rhagfyr a thros gyfnod y Nadolig, ynghylch pa un a fyddan nhw'n gallu masnachu fel arfer a gweini alcohol gyda'u bwyd. Felly, a wnes i eich clywed chi'n iawn yn gynharach yn dweud y bydd y cyfyngiadau hyn yn dod i ben ar yr ail ar bymtheg, gan ganiatáu i'r busnesau lletygarwch, tafarndai a bwytai ac ati, allu mynd yn ôl a gwneud busnes fel arfer? Diolch.
Llywydd, yn sicr ni chlywodd yr Aelod fi'n dweud y bydd y cyfyngiadau yn dod i ben ar 17 Rhagfyr. Dywedais y bydden nhw'n cael eu hadolygu ar 17 Rhagfyr a bydd yn rhaid i'r adolygiad hwnnw gymryd i ystyriaeth mai'r ffigur yng Nghonwy heddiw yw 73.4 o bobl fesul 100,000, ac yn sicr ni fydd hynny yn rhoi Conwy yn haen 1 yn system neb. A'r ffigur hwnnw, nid yn unig y mae'n 73.4, Llywydd, ond mae'n codi bob dydd. Mae dros 120 o bobl wedi colli eu bywydau yn etholaeth yr Aelod o ganlyniad i'r coronafeirws. Mae'r gyfradd bositif yn ardal ei hawdurdod lleol hi dros 5 y cant heddiw. Bydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus a pham y bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn achub bywydau yng Nghonwy a phob rhan arall o Gymru. Ni fyddaf yn canolbwyntio, fel y mae'r Aelod, ar faterion eraill—ac yn y cyd-destun hwnnw, rhai mwy ymylol.
Mae angen i'r Blaid Geidwadol—. Roedd yn ymddangos bod arweinydd yr wrthblaid yn awgrymu mai dyma lle'r oedd y Blaid Geidwadol eisoes. Ond mewn gwirionedd, heddiw, nid yw'r holl gwestiynau a ddaeth i law gan ei aelodau o'r meinciau cefn wedi bod am y coronafeirws o gwbl, maen nhw wedi ymwneud â'r diwydiant lletygarwch, fel pe byddai hwnnw'n fater pwysicach. Ac fe ddigwyddodd eto yn y cwestiwn atodol gan Janet Finch-Saunders. Mae'r sefyllfa yn ei hetholaeth hi—yn ei hetholaeth hi—yn gwaethygu bob dydd. Mae angen iddi gydnabod hynny a byddai'n dda iawn yn wir cael ei chefnogaeth hi, ar ran ei hetholwyr, i'r mesurau sy'n angenrheidiol i ddiogelu eu bywydau.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi teuluoedd y dywedir wrthynt am hunanynysu? OQ56022
Yn ogystal â'r cymorth presennol i deuluoedd, rydym ni wedi cyflwyno cynllun cymorth hunanynysu, sy'n gwneud taliadau o £500 i bobl sydd mewn perygl o galedi ariannol oherwydd eu bod nhw'n hunanynysu. Mae'r cynllun hwn bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddyn nhw hunanynysu.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna ac am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa cymorth hunanynysu i rieni? Mae hwnnw yn amlwg yn un o'r pryderon a godwyd gyda mi yn fy etholaeth. Gofynnwyd i lawer o blant hunanynysu yn eu hysgolion, ac mae rhieni sengl yn arbennig yn wynebu cyfnod anodd o ran gallu gwneud hynny. A yw'n gallu cadarnhau i mi y bydd y cyllid hwnnw yn gweithio ar fwy nag un achlysur, oherwydd mae llawer o rieni—mae fy wyres i fy hun wedi cael ei hanfon adref fwy nag unwaith o'r ysgol gyda chyfarwyddyd i hunanynysu, felly mae'n bwysig eu bod nhw'n ymwybodol o hynny?
A all ef hefyd weithio gyda'r ymgyrch sy'n cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, gyda Chyngres yr Undebau Llafur, i wneud yn siŵr bod cyflogeion yn gwybod beth yw eu hawliau a'u cyfrifoldebau, ac yn ehangu hynny a gweithio gyda'u cyflogwyr i wybod beth yw eu cyfrifoldebau nhw? Felly, mewn sefyllfaoedd lle mae rhieni'n gorfod cymryd amser i ffwrdd, efallai ar fwy nag un achlysur, bod cyflogwyr yn ymddwyn mewn modd cyfrifol a thosturiol i sicrhau bod gan y rhieni hynny yr hawl a'u bod yn cael eu hatgoffa y cânt ddychwelyd i'r gwaith ac nad yw eu gwaith mewn perygl? A allan nhw hefyd sicrhau, os bydd cyflogwyr yn penderfynu gofyn i rywun aros gartref oherwydd y coronafeirws, eu bod nhw hefyd yn ymddwyn yn gyfrifol i sicrhau bod yr unigolion hynny yn cael eu cynorthwyo'n ariannol gan y cyflogwr?
Llywydd, diolch i David Rees am y pwyntiau pwysig yna. Fe wnaethom ni drafod y materion hyn yn y cyfarfod diwethaf o gyngor y bartneriaeth gymdeithasol gyda chynrychiolwyr cyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â'r undebau llafur a oedd yn bresennol. Rwy'n falch iawn bod yr ymgyrch yr ydym ni wedi ei lansio ac yn ei rhedeg ar hyn o bryd yn un a gefnogir gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, yn ogystal â TUC Cymru. Mae yno i wneud yn siŵr bod cyflogwyr, yn ogystal â gweithwyr, yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau ac yn eu cyflawni.
Mae'r rheswm dros ymestyn taliadau hunanynysu i rieni a gofalwyr plant wedi cael sylw yn y fan yma ar lawr y Senedd; rwy'n credu bod Helen Mary Jones wedi ei godi gyda mi yr wythnos diwethaf. Ond, hefyd, y mwyaf yw nifer yr achosion o'r coronafeirws, y mwyaf o bobl y gofynnir iddyn nhw hunanynysu. Yn Heddlu De Cymru yn unig, gofynnwyd i 350 o staff a swyddogion yr heddlu hunanynysu yn ystod y saith diwrnod diwethaf. Dyna effaith y coronafeirws ar ein cymunedau ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Dyna pam mae'n gwbl hanfodol ac yn ddiamwys bod yn rhaid i ni gymryd y camau yr ydym ni'n eu cymryd. Pan mae pobl yn tanseilio hyn, yn gofyn am lacio cyfyngiadau ac ymddwyn fel pe na byddai cyfyngiadau yn angenrheidiol i iechyd y cyhoedd, mae'r ffigur hwn yn dweud, oni bai ein bod yn dod â hyn o dan reolaeth ac yn cydweithio i gyflawni hynny, bod yr effaith yn gwbl real, nid yn unig yn y gwasanaeth iechyd ond mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.
Fe ofynnodd David Rees sawl gwaith y mae'n bosibl hawlio'r taliad. Rwy'n credu ein bod ni'n caniatáu hynny ar dri gwahanol achlysur ar hyn o bryd. Os bu angen i leoliad ofyn i bobl hunanynysu dair gwaith yn olynol, yna credwn ei bod yn iawn i oedi a chanfod beth sy'n digwydd yn y lleoliad hwnnw, oherwydd, fel y dywedodd David Rees, weithiau mae angen i ni unioni achos y broblem yn y gweithle, yn hytrach na dim ond ymdrin â'r canlyniadau bob tro.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn sgil effaith COVID-19? OQ56008
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae COVID-19 wedi bod yn brofiad anodd iawn i Faes Awyr Caerdydd a'r sector hedfanaeth cyfan. Er ein bod ni'n parhau i gefnogi cyllid y maes awyr, mae'r dewisiadau wedi eu cyfyngu gan reolau cymorth gwladwriaethol a chan yr ansicrwydd parhaus ynghylch unrhyw gytundeb Brexit.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad dewr pan brynodd Faes Awyr Caerdydd. Roedd yn ymddangos bod y penderfyniad hwnnw wedi'i gyfiawnhau, o ystyried perfformiad y maes awyr yn y blynyddoedd cyn yr argyfwng COVID. Er gwaethaf rhywfaint o wrthwynebiad yn y Siambr hon, rwy'n credu bod maes awyr o ansawdd gwirioneddol ryngwladol yn elfen sylweddol, hanfodol hyd yn oed, os ydym ni eisiau galw ein hunain yn genedl fyd-eang. O ystyried y ffydd y mae'r diwydiant yn ei ddangos ym Maes Awyr Caerdydd, a fynegwyd yr wythnos diwethaf gan y cludydd cost isel Wizz yn cyhoeddi y bydd yn defnyddio'r maes awyr ar sail hirdymor, a dychweliad Ryanair cyn COVID, heb sôn am hen ffrind y maes awyr, KLM, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i sicrhau y bydd yr arian a'r holl ymyraethau defnyddiol yn parhau ar gyfer y maes awyr hyd nes y bydd y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn digwydd, yn gallu gwerthu ei chyfranddaliad yn yr ased hanfodol hwn ar elw?
Llywydd, diolchaf i David Rowlands am ei gefnogaeth gyson i'r maes awyr ac am dynnu sylw y prynhawn yma at y cyhoeddiad sydd i'w groesawu'n fawr yr wythnos diwethaf y bydd naw llwybr newydd yn hedfan o'r maes awyr, wedi'u darparu gan Wizz Air—bydd 3,500 o seddi ar gael, 40 o swyddi uniongyrchol a 250 o swyddi anuniongyrchol, wedi eu cefnogi gan y cyhoeddiad newydd hwnnw. Rwyf wedi cyfarfod â swyddogion yn rheolaidd gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, a gydag awdurdodau'r maes awyr ynghylch yr argyfwng hwn i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i'w cefnogi.
Rydym wedi ein cyfyngu, Llywydd, gan ddehongliad Llywodraeth y DU o reolau cymorth gwladwriaethol. Mewn gwladwriaethau eraill yn yr UE, gan gynnwys Ffrainc a'r Almaen, mae polisïau yn caniatáu cymorth mesurau diogelwch ar gyfer yr hyn a elwir yn 'gymorth a ganiateir' at ddibenion cymorth gwladwriaethol. Nid yw Llywodraeth y DU yn caniatáu hynny. Mae hynny'n cyfyngu ar ein gallu i roi cymorth i'r maes awyr, sydd ond yn gymorth teg—cymorth sy'n caniatáu iddyn nhw gystadlu'n deg â'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill yn Ewrop. Byddai o gymorth mawr i ni pe byddai Llywodraeth y DU yn adolygu ei safbwynt ar y mater hwnnw. A byddai o gymorth arbennig i ni yn yr hysbysiad cymorth gwladwriaethol am niwed COVID-19, yr ydym ni wedi ei lansio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, ac yr ydym ni'n gobeithio y bydd o gymorth i'n galluogi ni i ddarparu cymorth pellach i'r maes awyr yn y cyfnod anodd hwn, fel ei fod yno i ailddechrau adferiad llwyddiannus, fel y gwelsom ers iddo ddod i berchnogaeth gyhoeddus yn 2013.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Dawn Bowden.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn COVID-19 ym Merthyr Tudful a Rhymni? OQ56023
Diolch i Dawn Bowden am hynna. Mae cynlluniau ar waith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddefnyddio'r brechlyn ar unwaith, yn unol â'r amserlen ar gyfer darparu brechlynnau a chyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Cyn i mi symud ymlaen at y brechlyn, a gaf i ddiolch unwaith eto i'r rhai a gymerodd ran yn her logistaidd enfawr y rhaglen arbrofol profi torfol ym Merthyr Tudful? Mae'r profion hyd yma wedi nodi tua 22,000 neu fwy o bobl asymptomatig drwy'r rhaglen brofi, a nodwyd oddeutu 280 o achosion positif—pobl na fyddan nhw yn y gymuned yn lledaenu'r feirws mwyach. Felly rydym ni'n credu bod hynny tua 50 y cant o'r boblogaeth gymwys, ac yn fy marn i, mae hynny'n dangos bod y cynllun arbrofol hwn wedi bod yn llwyddiant mawr.
Ond wrth i ni symud ymlaen at gyflwyno'r brechlyn, roeddwn i eisiau pwysleisio pa mor bwysig yw dysgu o'r gorffennol ym maes gofal iechyd a bod angen i ni, wrth gyflwyno'r brechlyn, osgoi'r hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato'n aml fel 'y ddeddf gofal gwrthgyfartal'. Nawr, er ei bod yn iawn i flaenoriaethu staff iechyd a gofal rheng flaen a dinasyddion agored i niwed ledled y wlad yn nhonnau cyntaf y brechiadau, byddwn yn symud ymlaen i'r boblogaeth gyffredinol wedyn. Rwy'n gobeithio yn y rhaglen frechu y cydnabyddir bod angen rhoi sylw arbennig i'r ardaloedd hynny, fel fy etholaeth i, sydd wedi cael eu taro galetaf gan COVID, o ran nifer yr achosion, ond hefyd o ran effaith economaidd. Felly, a wnewch chi gadarnhau y rhoddwyd ystyriaeth i hyn yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ac a wnewch chi sicrhau na fydd y rhaglen yn mynd yn groes i'r ddeddf gofal gwrthgyfartal?
Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am hynna. A gaf innau, hefyd, ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech wych honno ym Merthyr o ran y profion torfol, ond hefyd y prynhawn yma, Llywydd, yn arbennig, hoffwn i ddiolch i'r holl bobl hynny yn ein gwasanaeth iechyd sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen frechu? Mae gwaith enfawr wedi ei wneud yn gyflym iawn dros yr wythnosau diwethaf i ddarparu'r cymorth logistaidd, y cludiant, y man storio, y ddarpariaeth ymlaen o'r brechlyn, a heddiw rydym yn gweld ffrwyth hynny ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr ac o bell heddiw yn dymuno diolch i'r rhai sydd wedi gwneud hynny'n bosibl.
Diolchaf i Dawn Bowden am godi'r pwynt pwysig hwnnw am y ddeddf gofal gwrthgyfartal. Bydd hi'n gwybod mai brechu yw un o rannau cymharol brin y byd iechyd sydd â nodweddion gwrthgyferbyniol i'r ddeddf gofal gwrthgyfartal. Rwy'n cofio pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd, a'r Aelod yn cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, cyflwynwyd y brechlyn HPV gennym ar gyfer menywod ifanc 14 oed a hŷn. Roedd y niferoedd mwyaf a fanteisiodd arno yng Nghymru gyfan ym Merthyr Tudful a'r niferoedd isaf oll yn Sir Fynwy. Ac, yn rhyfedd iawn, mae'r ffigurau hynny yn parhau hyd heddiw. Yn sir Fynwy mae 77 y cant yn manteisio ar HPV ac mae 91 y cant yng Nghwm Taf Morgannwg yn manteisio ar HPV. Felly, mae brechu yn un o'r pethau cymharol brin hynny lle nad yw'n ymddangos bod y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol. Mae'n bwysig iawn nad yw'n berthnasol o ran y brechlyn hwn. Mae'r ffaith bod amserlen y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar gyfer cyflwyno'r brechlyn yn canolbwyntio ar oedran a bregusrwydd clinigol yn golygu, rwy'n credu, y caiff yr effaith ei theimlo gyflymaf yn y rhannau hynny o Gymru lle mae gennym ni grynodiadau uwch o boblogaethau hŷn, tlotach a mwy sâl. Ac mae hynny'n golygu, gobeithio, y byddwn ni'n gweld niferoedd uwch o'r poblogaethau hynny, gan gynnwys yn yr etholaeth a gynrychiolir gan Dawn Bowden—y byddan nhw'n gweld mantais y brechlyn hwn yn gyntaf. Ac, o gofio'r nodweddion, ac o gofio cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, dyna ddylai ddigwydd hefyd.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn cynnig cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi'r Senedd i drafod y cyfyngiadau coronafeirws newydd. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, rwyf wedi lleihau amseriad y datganiad ar dasglu'r Cymoedd a'r ddadl ar adolygiad blynyddol cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r ddadl ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 wedi'i gohirio. Ac yn olaf, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bore yma i symud y ddadl yfory ar adroddiad y pwyllgor safonau i'r eitem olaf cyn pleidleisio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Ar 23 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen beilot ar gyfer cefnogi ymweliadau â chartrefi gofal yng Nghymru. Rwy’n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth i deuluoedd ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal y Nadolig hwn. Dywedodd datganiad Llywodraeth Cymru eich bod chi'n cynnig profion i ymwelwyr cartrefi gofal ar draws nifer fach o gartrefi gofal, gyda'r bwriad o baratoi ar gyfer cyflwyno hyn i fwy o gartrefi gofal yng Nghymru i ddechrau ar 14 Rhagfyr. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd preswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr yn cael ymweliadau dan do gan deulu a ffrindiau y Nadolig hwn os ydyn nhw'n profi'n negyddol o ran COVID-19 oni bai bod achos yn y cartref gofal. A bydd dros 1 miliwn o brofion llif ochrol cyflym yn cael eu hanfon i gartrefi gofal fel cam cyntaf rhaglen gyflwyno genedlaethol yn Lloegr i alluogi ymweliadau erbyn y Nadolig. Cefais e-bost gan un o'm hetholwyr, ac rwy'n ei ddyfynnu 'Mae cynnal profion ar berthnasau yn Lloegr a mwy a mwy o bobl yn cael mynd i mewn i'r cartrefi gofal a chofleidio eu hanwyliaid yn hyfryd, ond beth am Gymru? Pam rydym ni bob amser ar ddiwedd y ciw? Er mwyn Duw, cyflwynwch hyn yma a gadewch i drigolion Cymru gael yr un achubiaeth â Lloegr'. Galwaf am ddatganiad a'r wybodaeth ddiweddaraf yn unol â hynny.
Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn cydnabod y cydbwysedd anodd iawn y mae'n rhaid inni ei daro er mwyn cadw preswylwyr mewn cartrefi gofal yn ddiogel rhag COVID, ond yna hefyd gan gydnabod bod ganddyn nhw anghenion lles ac iechyd meddwl pwysig hefyd. Ac rydym ni'n ceisio taro'n cydbwysedd anodd iawn hwnnw. Roedd y datganiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau cymdeithasol yn cyfeirio at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn hyn o beth. Roedd yn cyfeirio at ddefnyddio profion i alluogi mwy o ymweliadau ac yn ogystal â hynny at y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn podiau i ganiatáu'r ymweliadau diogel hynny hefyd. Rwy'n gwybod bod llawer o ddiddordeb yn yr agenda benodol hon yn parhau, a hynny'n gwbl briodol, felly byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd yn hyn o beth.
Hoffwn i ofyn am nifer o ymyriadau gan y Llywodraeth, er fy mod i'n deall bod yr amser sydd ar gael i'r Senedd eleni yn gyfyngedig. Mae'r cyntaf yn ymwneud â thaliadau ar gyfer hunanynysu. Rwyf wedi cael nifer o athrawon cyflenwi, ymysg eraill, sydd wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydyn nhw'n gymwys i gael y taliad hwn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y gallwch ymestyn y cymhwysedd i'w gwneud yn llawer haws i bobl allu hunanynysu? Unwaith eto, rwy'n gofyn am ddatganiad ar gadw'r rhai sy'n agored i niwed yn glinigol yn ddiogel. Mae angen i bobl gael yr hawl i aros i ffwrdd o'r gwaith ac nid yw'n iawn nad oes gan bobl sy'n agored i niwed yn glinigol yng Nghymru yr un amddiffyniadau â'r rhai sydd ganddyn nhw dros y ffin. Ac yn olaf, a wnaiff y Llywodraeth ystyried blaenoriaethu staff ysgolion ar gyfer brechu? Rwyf eisoes wedi sôn am yr angen i gael profion torfol mewn ysgolion, oherwydd rydym ni'n gwybod bod COVID yn lledaenu mewn ysgolion. Mae'r gweithwyr addysg rheng flaen hyn yn haeddu'r holl amddiffyniad y gallwn ni ei roi iddynt, felly maent yn haeddu statws blaenoriaeth pan ddaw'n fater o frechu.
Diolch i Leanne Wood am godi'r holl faterion pwysig hynny y prynhawn yma. Ar y mater olaf, sy'n ymwneud â blaenoriaethu gwahanol grwpiau i'w brechu, fe fydd hi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chynghori gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, fel y mae pob un o bedair Llywodraeth y DU. Ac mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae'r blaenoriaethu y mae'n ei gynghori ar gyfer brechu yn cael ei wneud ar sail ei ddealltwriaeth o'r anghenion a'r risgiau y mae pobl yn eu hwynebu. Rwy'n deall yn llwyr y gwahanol grwpiau sy'n ymgyrchu'n angerddol y dylen nhw fod ar flaen y rhestr ar gyfer y brechiadau hynny, ac mae ganddyn nhw eu rhesymau rhagorol, ond nid wyf yn credu y dylai hyn fod yn benderfyniad gwleidyddol; dylai fod yn benderfyniad sy'n seiliedig ar y cyngor gorau gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio. Rwy'n gwybod eu bod yn ystyried yr holl sylwadau y mae Llywodraethau ar draws y pedair gwlad yn eu cael yn hyn o beth. O ran taliadau hunanynysu, fe fyddaf i'n gofyn i Leanne Wood ysgrifennu at y Gweinidog, Julie James, ynglŷn â'r achosion penodol a ddisgrifiodd—y staff sy'n gweithio mewn ysgolion—fel y gallwn ddeall yr heriau yno'n well. Ac eto, byddaf i'n codi'r mater pwysig hwnnw o beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod staff sy'n agored i niwed yn glinigol yn cael eu cadw'n ddiogel a bod cyflogwyr yn arfer eu cyfrifoldebau i'w staff i'w cadw'n ddiogel. Byddaf i'n mynd ar drywydd hynny ymhellach gyda'r Gweinidog Iechyd.
Trefnydd, a gaf i ofyn ichi am un datganiad? Gallai fod yn ddatganiad ar ôl i'r Gweinidog Iechyd gyfarfod â'r sector fferylliaeth gymunedol yr wythnos nesaf. Gallai fod yn ddatganiad ysgrifenedig os yw'n newyddion da. Os yw'n ddatganiad llafar, efallai y byddai modd inni ei gael ar y llawr fel y gallem ei gwestiynu. Mae'n ymwneud â swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol wrth ymateb i'r her yn ystod y pandemig coronafeirws hwn. Pan orfodwyd y meddygon teulu ar ddechrau'r pandemig hwn i ddod ag ymweliadau wyneb yn wyneb â'r cyhoedd i ben, y fferyllwyr cymunedol ddaeth i'r adwy. Fe wnaethon nhw gamu i mewn pan nad oedd modd i wasanaethau ffisiotherapi, optegol a deintyddol allu perfformio ac fe wnaethon nhw gamu i mewn i helpu mewn argyfwng hefyd. Ac maen nhw wedi cyflawni hyn yn wyneb heriau gwirioneddol gyda'u staff eu hun, rai ohonyn nhw wedi bod yn gorfod gwarchod eu hunain. Felly, a fyddai'n bosibl cael datganiad sy'n ystyried sut mae fferyllfeydd cymunedol wedi ein gwasanaethu yn ystod y pandemig hwn ac, yn wir, sut y byddai modd eu talu am y costau ychwanegol a gafwyd? Rwy'n ymwybodol bod Fferylliaeth Gymunedol yr Alban, a'r rhai yn Iwerddon a Lloegr hefyd, wedi bod yn rhoi cefnogaeth. Byddai'n wych, ar ôl y cyfarfod â'r Gweinidog Iechyd yr wythnos nesaf, i weld pecyn tebyg yn cael ei gyflwyno gennym ni i gydnabod pobl fel Gareth Rowe o fferyllfeydd Nantymoel ac Ogwr Vale, ac eraill, a gamodd i'r adwy yn ystod yr argyfwng hwn.
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r mater penodol hwn. Rwy'n cytuno hefyd fod fferyllfeydd cymunedol wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i gefnogi eu cymunedau mewn llawer o achosion. Gallaf ddweud wrth Huw Irranca-Davies fod trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi bod yn digwydd ers i Fferylliaeth Gymunedol Cymru gyflwyno cais yn ôl ym mis Ebrill am dreuliau ychwanegol a oedd wedi codi oherwydd y pandemig. Rydym ni, wrth gwrs, fel y dywedais, yn cydnabod ei fod wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i fferylliaeth gymunedol, ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi nodi'n glir ei fwriad i ddarparu adnoddau ychwanegol, yn amodol ar y trafodaethau hyn. Cafodd nifer o gynigion eu gwneud, ond maen nhw wedi'u gwrthod, ac mae cynnig terfynol wedi'i wneud yn yr wythnosau diwethaf. Hyd yn hyn, ni fu'n bosibl dod i gytundeb â Fferylliaeth Gymunedol Cymru, ond mae'r cyfarfod yr wythnos nesaf yn bwriadu dod i benderfyniad ar hyn. Dylwn i ychwanegu ein bod ni wedi darparu cyllid ychwanegol o £1.5 miliwn ym mis Mawrth i gefnogi parhad busnes. Hefyd, fe wnaethom ohirio am y tro amrywiaeth o wasanaethau mewn fferyllfeydd, ond rydym ni'n dal i ddarparu'r cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny. Unwaith eto, roedd hynny oherwydd ein pryderon am barhad busnes a bodloni'r costau ychwanegol ar gyfer gwasanaethu cleifion sy'n gwarchod eu hunain, er enghraifft. Felly, rydym yn cydnabod y materion hynny hefyd. Ond byddaf i'n siŵr o sicrhau bod y Gweinidog Iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y trafodaethau hynny cyn gynted ag y bydd yn gallu gwneud hynny.
Hoffwn i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Addysg ynghylch addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae llawer o rieni pryderus wedi cysylltu â mi sy'n teimlo bod y cwricwlwm newydd arfaethedig yn mynd yn rhy bell. Maen nhw hefyd yn bryderus iawn na all rhieni eithrio eu plant o wersi o'r fath mwyach. Mae miloedd o rieni'n credu'n briodol fod addysg rhyw yn dechrau ac yn gorffen yn y cartref, y dylai'r rhieni hynny sydd eisiau i'w plant gael eu haddysgu am ryw a pherthynas ddatblygiadol fod yn rhydd i wneud hynny, ac y gall y plant optio allan o wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae llawer o'r pryder a'r dicter yn canolbwyntio ar y deunyddiau, a rannwyd â mi gan athrawon pryderus, a fydd yn cael eu dangos i blant mor ifanc â phedair oed. Mae plentyn pedair oed yn dal i fod yn fabi yn fy llygaid i, ac ni ddylai, o dan unrhyw amgylchiadau, gael ei addysgu am ryw a mastyrbio. Gadewch i blant gael bod yn blant. Mae'r pryder wedi bod yn cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae angen datganiad gan y Gweinidog i ddatgan yn bendant na fydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol ac yn sicr na chaiff ei addysgu i blant mor ifanc â phedair oed. Diolch yn fawr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar y Bil cwricwlwm ac asesu, y mae'r mater y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio yn rhan ohono, ers amser maith, ac rydym ni wedi ymgynghori'n helaeth ar y mater penodol hwn. Rwy'n gwahodd Caroline Jones i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg gyda'r enghreifftiau hynny sydd wedi'u rhannu â hi, oherwydd mae'r Gweinidog Addysg bob amser wedi bod yn gwbl bendant y dylai unrhyw addysgu sy'n cael ei ddarparu i blant, yn y maes penodol hwn, fod yn gwbl briodol i'w hoedran. Felly, pe gallai Caroline Jones rannu'r pryderon a godwyd gyda hi, fe wn y bydd y Gweinidog yn awyddus i weld y disgrifiadau hynny.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg, os gwelwch yn dda, i fynd i'r afael â phroblem yn ein hysgolion sydd bellach wedi gwaethygu ers y tro diwethaf imi siarad â chi? Rwyf eisiau croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach—fod datganiad wedi dod y bore yma yn dweud y bydd llywodraeth leol ac ysgolion nawr yn aros ar agor tan ddiwedd y tymor hwn. Yn ddiddorol, dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod plant mewn mwy o berygl gartref nag mewn ysgolion. Yn hynny o beth, rwy'n siŵr y bydd yn rhannu fy mhryderon i fod grwpiau blwyddyn gyfan mewn rhai o'n hysgolion nawr yn dal i aros gartref o'r ysgol oherwydd un achos o coronafeirws fesul grŵp oedran. Er enghraifft, mewn ysgol yn fy ardal i, yn fy rhanbarth i, mae dau grŵp blwyddyn wedi bod i ffwrdd o'r ysgol am bythefnos ac wedi bod yn ôl yn yr ysgol am bedwar diwrnod cyn iddyn nhw gael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ynysu eto am bythefnos eto, ac mae hyn i gyd, mae'n debyg, oherwydd un achos yn unig fesul grŵp oedran. Gweinidog, rwy'n ymwybodol iawn, yn amlwg, fel y trafodwyd heddiw eisoes, fod yr achosion yn codi'n gyflym a bod yn rhaid i iechyd a diogelwch y cyhoedd ddod yn gyntaf, a bod ysgolion yn gwneud y gorau o ran y cyngor y maen nhw'n ei gael, ond mae yna rywbeth sydd ddim yn gweithio ar hyd y ffordd. Mae gwahaniaethau enfawr rhwng ardaloedd cynghorau o ran sut mae COVID yn cael ei drin yn ein hysgolion. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o ymreolaeth leol wedi'i rhoi ar y materion hyn yn bwrpasol, ond, o edrych ar y canlyniadau hyn, onid ydych chi'n credu ei bod yn bryd i ni gael rheolaeth dros hyn? Mae plant yn gorfod aros i ffwrdd o'r ysgol yn llawer rhy reolaidd erbyn hyn. Mae angen i'r Llywodraeth annerch y Siambr hon ar frys a nodi sut mae'n mynd i ymdrin â'r anghysondeb hwn a sut mae'n mynd i sicrhau y gall pawb nawr fanteisio ar addysg gartref ar lefel sy'n agos at gael addysg yn yr ystafell ddosbarth. Ac rwy'n cael adroddiadau nad ydy hynny'n hollol—
Mae angen ichi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr. Diolch.
—a phenaethiaid yn cyfaddef bod plant yn parhau i fethu â chael defnydd o offer. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â sut y mae hi'n bwriadu mynd i'r afael nawr â phroblem unigedd cyson? Mae effaith hynny—
Dyna ni, dyna ddigon nawr. Fe ofynnais chi ddod â'ch cyfraniad i ben. Fe roddais i ddigon o amser ichi. Y Gweinidog i ymateb.
Diolch. Mae gweld grwpiau blwyddyn gyfan yn cael eu hanfon adref i hunanynysu yn siom pan fyddwch chi'n edrych ar ysgolion eraill sy'n rheoli'r sefyllfa yn llawer gwell na hynny, i bob golwg. Fe wn i fod yr Aelod wedi codi'r mater hwn gyda mi, ynghyd ag un neu ddau o gwestiynau eraill sy'n benodol i addysg yn ddiweddar, ac rwyf wedi gofyn i'r Gweinidog Addysg anfon llythyr yn ymateb. Byddaf yn sicrhau ei bod hi'n adolygu trawsgrifiad heddiw i wneud yn siŵr bod y sylwadau a wnaethoch yn cael eu crybwyll yn yr ymateb ysgrifenedig hwnnw hefyd.
Yr wythnos hon mae'r brechlyn wedi dechrau cael ei gyflwyno ac mae gobaith ar y gorwel i nifer o bobl. Ond rydyn ni'n dal i wynebu ychydig o fisoedd heriol, a bydd yr ifanc a'r hen yn teimlo hyn yn arbennig. Yn wir, Drefnydd, efallai mai'r ddau grŵp yma, yr ifanc a'r hen, sydd cael eu heffeithio fwyaf gan unigrwydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, gan golli allan ar brofiadau a chwmni eu ffrindiau a'u perthnasau. Yn ddiweddar, fe fu i grŵp o Aelodau lansio grŵp trawsbleidiol newydd ar undod rhwng cenedlaethau, a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r comisiynwyr ar gyfer pobl hŷn, plant a chenedlaethau'r dyfodol i dynnu sylw at feysydd policy ac ymarfer y gellid eu cofleidio i feithrin cysylltiadau rhwng cenedlaethau ac i ddod â phobl yn ôl at galon eu cymunedau. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd gweithio rhwng y cenedlaethau i fynd i'r afael ag unigrwydd, a hoffwn hefyd ofyn i Weinidog o'r Llywodraeth gwrdd ag aelodau o'r grŵp trawsbleidiol newydd fel y gallwn ni drafod pa gamau y gellid eu rhoi ar waith cyn yr etholiad nesaf.
Rwy'n hynod falch o weld ffurfio grŵp trawsbleidiol newydd ar undod rhwng cenedlaethau. Rwy'n credu bod llawer o dir i'w ennill eto yn y maes hwnnw, ac rwy'n credu y gall pob un ohonom ni feddwl am rai enghreifftiau ardderchog o bethau sy'n digwydd yn lleol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ar ddau begwn oedran a meithrin gwell dealltwriaeth fel hyn rhwng y cenedlaethau. Ond efallai fod yr enghreifftiau hyn yn fwy ynysig nag y byddem ni'n hoffi iddyn nhw fod. Felly, pan fydd y grŵp trawsbleidiol yn cyflwyno ei gynigion o ran meysydd polisi y gellid eu datblygu yn y maes hwn, fe wn i y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i weld yr awgrymiadau a'r syniadau hyn yn cael eu cyflwyno gan y grŵp trawsbleidiol.
Trefnydd, a gaf innau fynegi fy marn i fel y gwnaeth Laura Anne Jones am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar y pwnc yr oedd hi'n ei drafod? Ni allwn gael 300 o blant yn cael eu hanfon adref o'r ysgol oherwydd un achos cadarnhaol, a rhai plant wedi bod yn mynychu'r ysgol am bum diwrnod yn unig ers dechrau mis Medi.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â myfyrwyr a'r hyn sy'n cael ei gynnig iddyn nhw o ran y profion cyn iddynt fynd adref? Efallai ichi sylwi eu bod nhw wedi cael eu hannog i gadw iddyn nhw eu hunain yn ystod y cyfnod rhwng cael y ddau brawf, ac os yw hynny'n golygu hunanynysu, rwy'n credu bod angen i fyfyrwyr wybod mai dyna mae hynny'n ei olygu. Rwy'n credu bod angen ychydig mwy o wybodaeth arnom hefyd ynghylch a fydd angen dau brawf negyddol ar fyfyrwyr cyn y bydden nhw'n cael caniatâd i ddychwelyd i brifysgol ym mis Ionawr ar gyfer gwaith wyneb yn wyneb?
Fe hoffwn i grybwyll hefyd fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos mai dim ond wyth myfyriwr mewn rhaglen dreigl saith diwrnod sydd wedi cael prawf cadarnhaol o COVID? Felly, mae rhywbeth yn gweithio'n iawn yn y prifysgolion ac fe fyddai'n fuddiol inni gael gwybod beth yw'r rheswm am hynny. Diolch.
Diolch i Suzy Davies am godi'r mater yna. Fe fyddaf i'n sicr o siarad â'r Gweinidog Addysg i ofyn am rywfaint o eglurder ynglŷn â'r cwestiynau penodol hynny sy'n ymwneud â rhai o agweddau ymarferol trefniadau myfyrwyr wrth iddyn nhw adael i fynd adref dros y Nadolig, ond hefyd o ran y trefniadau ar gyfer dychwelyd i'r campws. Felly, fe fyddaf i'n siŵr o wneud hynny.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar argymhellion Burns—y camau nesaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog, felly, i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Fe gyhoeddwyd adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ar 26 Tachwedd, gan gwblhau ei adolygiad manwl ac annibynnol o'r ffyrdd cynaliadwy o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Fe hoffwn i roi ar gofnod fy niolch i Arglwydd Burns a'i dîm o gomisiynwyr am baratoi darn o waith rhagorol ar sail tystiolaeth.
I'r bobl leol y bu'n rhaid iddyn nhw ddioddef effaith andwyol y tagfeydd, ac i'r busnesau a'r unigolion sydd angen rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy a chadarn, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn rhoi cynllun cydlynol a realistig i'r coridor hanfodol hwn yng Nghymru. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i roi ystyriaeth i'r adroddiad. I mi, y canfyddiad mwyaf trawiadol oedd ei ymchwiliad i'r egwyddorion cyntaf ar gyfer y defnydd a wneir o'r ffordd hon yn benodol. Mae'r rhan fwyaf o deithiau arni rhwng 10 a 50 milltir o bellter, yn cychwyn o Gasnewydd, Caerdydd, a Bryste neu'n diweddu yn un o'r lleoedd hynny. Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos yn eglur mai her ranbarthol yw hon sy'n gofyn am ymateb ledled y rhanbarth. Mae cyfran uchel o'r teithiau yn cael eu gwneud gydag un unigolyn yn y car, ac mae'r tagfeydd ar eu mwyaf difrifol yn ystod oriau brig y bore a chyda'r nos. Mae'r dystiolaeth yn dangos mai mater i gymudwyr yw hwn, nid un a achosir gan deithiau lleol o gwmpas Casnewydd. Mae'r math o deithiau sy'n llenwi'r ffordd hon ac sy'n achosi tagfeydd yn rhai y gellid eu gwneud yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus pe bai hynny'n gystadleuol o ran y gost, amser y daith a chyfleustra. O ystyried daearyddiaeth a thopograffeg yr ardal, mae'n hanfodol bod gan y coridor pwysig hwn i Gymru system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol o ansawdd uchel sy'n rhoi gwasanaeth da ac yn cynnig dewisiadau gwirioneddol o ansawdd uchel i bobl ar draws yr holl ddulliau a fydd yn ysgafnu'r baich sydd ar y ffordd.
Rwyf i o'r farn fod ein strategaeth drafnidiaeth newydd ni i Gymru, 'Llwybr Newydd', yn ategu'r argymhellion sydd yn adroddiad Burns. Gyda'i gilydd, rwy'n credu y gallan nhw ail-lunio ein dull ni o ystyried sut y gall pobl deithio o gwmpas y de-ddwyrain ac, yn wir, y tu hwnt i'r fan honno. Mae'r strategaeth drafnidiaeth yn dadlau'n gryf o blaid newid. Mae argymhellion Burns yn lasbrint ar gyfer sut y gellir cyflawni'r newid hwnnw yn y de-ddwyrain, gan adeiladu ar y gwaith metro sylweddol sy'n mynd rhagddo eisoes. Mae Arglwydd Burns yn galw am wella prif lein de Cymru ac am chwe gorsaf newydd arni hefyd. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r seilwaith hwn, wrth gwrs, ac fe fydd angen iddyn nhw fod â rhan yn y drafodaeth y mae'n rhaid inni ei chael ynglŷn â gwireddu'r cynllun hwn. Ar 23 Tachwedd, fe gyhoeddais i fy natganiad ar adolygiad cysylltedd yr undeb, ac mae fy swyddogion i'n paratoi cyflwyniad sylweddol ar hyn o bryd i waith Syr Peter Hendy. Rwy'n credu y bydd hwn yn gyfrwng i Lywodraeth y DU ddarparu ymrwymiad cynnar i gyflawni argymhellion Burns mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli.
Mae argymhellion Burns yn nodi rhesymau cadarn pam mae angen i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhanbarth hwn gael ei godi i fod ar lefel debyg i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bu Cymru ar ei hôl hi'n llawer rhy hir wrth aros am fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn seilwaith rheilffyrdd, ac mae hwn yn gyfle cadarnhaol i Lywodraeth y DU wneud cyfiawnder am y tanfuddsoddiad a fu. Y tanfuddsoddiad hwnnw mewn gwirionedd sydd wedi achosi'r problemau a welwn ni yng Nghasnewydd nawr, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw i unioni'r cam hwnnw a chyflawni gweledigaeth Burns.
Mae Arglwydd Burns yn argymell gwella'r seilwaith bysiau a theithio llesol yn sylweddol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau ac, yn drawiadol iawn yn fy marn i, mae dull yr adroddiad hwn o dynnu sylw at yr anghyfiawnder cymdeithasol sydd yng Nghasnewydd pan fo cyfran uchel iawn o deithiau mewn car preifat, ac eto yn y fan honno y mae rhai o'r cyfraddau isaf sydd i'w cael yn unman yn y wlad o ran bod yn berchen ar gar. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru yn nodi'r anghenion strategol, mae'n llawer gwell penderfynu ar y manylion yn lleol, wrth gwrs. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd i lywio'r ffordd ymlaen gyda'n gilydd ar gyfer mesurau teithio ar fysiau a theithio llesol yn y ddinas, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Rydym wedi rhoi camau tymor byr ar waith i helpu i gefnogi unigolion, cymunedau a busnesau i ymdrin ag effeithiau uniongyrchol y coronafeirws. Er hynny, mae Arglwydd Burns, a hynny'n briodol, yn cyflwyno glasbrint ar gyfer y tymor hwy, sy'n ystyried y rhagolygon twf sylweddol sydd i'r rhanbarth hwn. Ac mae'r twf hwnnw, ynghyd â'n hamcanion ni i annog newid moddol, yn cyfiawnhau creu system teithio torfol sy'n gynaliadwy ledled y rhanbarth.
Fe fyddaf yn trafod yr argymhellion sy'n ymwneud â chynllunio defnydd tir gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i weld sut y gallwn ni gydweithio i'w cefnogi nhw. Mae integreiddio rhwng trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir yn hanfodol. Mae'n bwysig bod datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu yn y lleoliadau priodol, sydd â chysylltedd eang a hygyrchedd da o ran trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y rhan hon o Gymru lle mae datblygiad radical clasurol yn fwy heriol.
Mae'r argymhellion yn ymestyn ar draws pob agwedd ar bolisi a darpariaeth trafnidiaeth. Fe fydd angen cydweithio a chydweithrediad agos rhwng partneriaid, ac mae gwaith ar y gweill i sefydlu uned gyflawni, a fydd yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Casnewydd a Thrafnidiaeth Cymru i helpu i wneud cynnydd o ran argymhellion yr adroddiad, ac rwy'n disgwyl i'r uned honno gyfarfod am y tro cyntaf yn ystod y mis hwn. Fe fydd yr uned yn gyfrifol i ddechrau am adolygu pob un o 72 o argymhellion comisiwn Burns a phenderfynu pa gamau nesaf y bydd angen eu cymryd. Ar gyfer argymhellion newydd, fe fydd yr uned ddatblygu yn fy nghynghori i a'n partneriaid ni mewn awdurdodau lleol a Network Rail ynglŷn â'r ffordd orau o weithio i ddatblygu a llywio penderfyniadau pellach.
Mewn rhai ardaloedd, rydym wedi dechrau eisoes. Mae'r gorsafoedd rheilffordd newydd a argymhellir yn Llaneirwg, ar gyrion Caerdydd, ac yn Llanwern eisoes ar y camau cynllunio. Rydym wedi cymryd camau hefyd i ddod â'r rhwydwaith rheilffyrdd sydd gennym ni i Gymru a'r gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus. Fe gafodd y rhaglen i ddiwygio bysiau ei sefydlu mewn ymateb i effaith COVID-19, ac rydym yn datblygu cynlluniau tymor hwy ar gyfer diwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio, eu hariannu a'u darparu. Rydym wedi rhoi'r buddsoddiad mwyaf a fu erioed i gyllid teithio llesol. Mae hynny'n creu llwybrau teithio diogel a gwell cysylltiadau yn ein trefi a'n dinasoedd ni, sy'n rhyngweithio â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, gan leihau'r ddibyniaeth ar geir. Mae mwy i'w wneud eto yng Nghasnewydd, nid oes unrhyw amheuaeth o hynny, ac, yn wir, ledled Cymru hefyd.
I gloi, rwyf i'n croesawu canfyddiadau adroddiad Burns yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ein gweledigaeth graidd ni ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru: system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy sydd o fudd i bobl a chymunedau, o fudd i'r amgylchedd, o fudd i'n heconomi ac o fudd i fangreoedd. Rwyf i o'r farn y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn ein helpu ni i gyflawni'r uchelgais hwnnw. Ond ni ddaw hynny, wrth gwrs, oni bai i'r adroddiad hwn fod yn rhywbeth mwy na dogfen ddisglair sy'n cael ei gadael ar y silff. Mae'n rhaid i'r adroddiad arwain at newid gwirioneddol a deinamig, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU ymysg eraill i helpu i wireddu hynny.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma ac a gaf innau hefyd, fel y gwnaethoch chi, ddiolch i Arglwydd Burns a'i gydweithwyr ef am gynhyrchu'r adroddiad hwn a gwneud argymhellion yn y fath fodd? Fe hoffwn i ddiolch i Arglwydd Burns hefyd am iddo ef ei hunan roi briff i mi yn ddiweddar. Rwy'n croesawu'r argymhellion yn gyffredinol. Rwyf i o'r farn ei fod yn ddarn o waith gloyw, ac argymhellion da ynddo. Yn amlwg, mae angen rhoi ystyriaeth bellach i rai o'r argymhellion hynny, ond fe geir rhai argymhellion ynddo yr wyf i'n sicr yn teimlo y gallaf eu cefnogi nhw ar unwaith, o ran, er enghraifft, cydlynu amserlenni bysiau a rheilffyrdd mewn cyfnewidfeydd allweddol. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn argymhelliad synhwyrol iawn.
Gweinidog, fe ddaeth eich datganiad chi i ben drwy sôn am beidio â chaniatáu i hon fod yn ddogfen ddisglair sy'n cael ei gadael ar y silff, i bob pwrpas. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael rhywfaint o'r cyd-destun ynghylch y cwestiynau'r prynhawn yma. Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru ddogfen ddisglair ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ac fe adawyd honno ar y silff am gyfnod maith iawn, yn hel llwch, ac yna, wrth gwrs, fe daflodd y Prif Weinidog y ddogfen ddisglair honno i'r bin, ac roedd gennym ni Lywodraeth yng Nghymru a oedd wedi cyflwyno ei chynigion ei hun ar gyfer ffordd liniaru'r M4, yr edrychwyd arnyn nhw'n annibynnol, ac ar ôl gwario miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr fe ddilëwyd y cynigion hynny, a dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Nawr, o'm safbwynt i, rwy'n credu bod diffygion ffordd liniaru bresennol yr M4 o amgylch Casnewydd yn amlwg i bawb eu gweld. Fe gynlluniwyd y ffordd gyntaf yn y 1950au, nid fel traffordd ond fel ffordd osgoi i Gasnewydd, ac mae'n ddiffygiol iawn yn ôl safonau traffyrdd modern, gyda lonydd yn lleihau, lleiniau caled bob hyn a hyn, aliniad anfoddhaol, a chyffyrdd mynych. Dyna fy marn bendant i. Rwy'n gwybod mai honno yw eich barn chithau hefyd oherwydd rwyf newydd ddefnyddio eich geiriau chi, fel y gwnaethoch chi ynghynt.
Nawr, yn y cyd-destun hwnnw, tybed a wnewch chi, Gweinidog, efallai roi ychydig mwy inni nag a wnaethoch yn eich datganiad o ran eich barn gychwynnol am yr argymhellion. Ni wnaethoch ddweud llawer iawn am hynny yn y datganiad ei hun. Ond, er enghraifft, pa feysydd ydych chi'n barnu y gallwch chi gytuno arnyn nhw? Rwyf wedi amlinellu rhai argymhellion yr wyf i o'r farn y gallwn ni eu cefnogi. Pa argymhellion y gallwch chi eu cefnogi nhw'n llwyr, ac a oes yna unrhyw argymhellion yr ydych yn cael mwy o anhawster gyda nhw? Nid wyf yn gwybod a allwch chi roi ychydig mwy i ni'r prynhawn yma o ran y canfyddiadau cychwynnol.
Rydych wedi siarad eto am yr uned ddatblygu. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd hynny'n gweithio yn ymarferol. Hefyd, o ran yr adroddiad, gan roi'r argymhellion o'r neilltu efallai ac ystyried y casgliadau eu hunain, o fewn yr adroddiad, a pha wybodaeth newydd a gasglwyd o'r adroddiad hwnnw na chafodd ei chyflwyno efallai drwy gynigion gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ac yn ystod y cam hwnnw o ymchwiliad cyhoeddus? Pa bethau newydd sydd wedi digwydd o ran y casgliadau hynny? Er enghraifft, rwy'n gwybod ichi sôn am y man cychwyn o 10 i 15 milltir sy'n diweddu yng Nghasnewydd, Caerdydd neu Fryste. Pa eitemau newydd eraill a gasglwyd o'r adroddiad, ac nid o gynigion gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4? Rydych chi eich hun wedi dweud bod y cyfnod arfarnu 60 mlynedd yn dod â mwy na £2 o fuddiant am bob punt a gaiff ei gwario ar gynllun ffordd liniaru'r M4. Felly, a ydych chi'n rhagweld yr un gyfradd o elw yn dod o fuddsoddiad o'r argymhellion? Ac os nad ydych chi'n gwybod yr ateb i hynny, a yw'n rhywbeth y bydd yr uned ddatblygu yn ei ystyried?
Nawr, rwyf wedi dweud fy mod i'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyffredinol. Mae yna un argymhelliad sy'n peri pryder imi, ac nid wyf yn teimlo y gallaf ei gefnogi. Mae'n ymwneud â'r ardoll ar barcio yn y gweithle. I mi, y ffordd i newid patrymau teithio pobl yw sicrhau bod gennym drafnidiaeth gyhoeddus hwylus am brisiau rhesymol, a'n bod ni'n gwneud hynny yn hytrach na threthu pobl. Felly, gyda'r pandemig, wrth gwrs, yn cael cymaint o effaith ar yr economi, tybed, Gweinidog, a ydych chi o'r farn ei bod yn briodol inni godi trethi yn y ffordd y mae'r adroddiad yn ei nodi? Ac os na allwch chi warantu bod—. Neu, yn hytrach, a allwch chi warantu na fydd yna ardoll ar barcio yn y gweithle yn cael ei gweithredu dan eich gwyliadwriaeth chi, Gweinidog? Diolch.
A gaf i ddiolch yn fawr iawn i Russell George nid yn unig am ei gyfraniad heddiw, ond am ei gyfraniadau adeiladol yn ystod y broses dan arweiniad Arglwydd Burns? Ac yn wir, fe hoffwn i ddiolch i bob Aelod o'r Senedd am fod mor adeiladol, parod a brwdfrydig o ran y drafodaeth ag Arglwydd Burns a'r comisiwn, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi teimlo eu bod nhw'n hyddysg yn y mater o ganlyniad i barodrwydd Arglwydd Burns i ymgysylltu â nhw'n uniongyrchol. Rwy'n falch iawn bod Russell George yn croesawu'r adroddiad, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu fod yna laweroedd o argymhellion y mae ef a minnau'n cytuno arnyn nhw, yn enwedig o ran cydgysylltu, gwell cydgysylltu ac integreiddio gwasanaethau a thocynnau. Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n creu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n ddymunol, sy'n hygyrch ac yn cynnig dewis arall sy'n well na'r car, ac mae integreiddio gwasanaethau yn allweddol wrth wneud yr union beth hwnnw.
Un o atebion ddoe oedd y cynnig am ffordd liniaru i'r M4. Ateb oedd hwn yn yr oes cyn i'r argyfwng hinsawdd gael ei ddatgan gan y Senedd. Mae'r dyfodol bellach yn golygu trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel a theithio llesol gwell, llai o ddibyniaeth ar ddefnyddio ceir, a chymunedau mwy bywiog sy'n cael eu gwasanaethu gan ganolfannau gweithio o bell ac economi sylfaenol gryfach o ganlyniad i gadw cyfleoedd ar gyfer ffyniant o fewn cymunedau.
O ran fy marn gychwynnol i, mae'n rhaid imi ddweud y bydd yr uned gyflawni, yn gyntaf oll, yn asesu'r argymhellion i gyd, ac fe fydd yr uned gyflawni honno, os hoffech chi, yn gwbl unplyg fel roedd Arglwydd Burns yn awyddus i'w hyrwyddo, sy'n cynnwys yr holl asiantau cyflawni a'r cyrff gwneud penderfyniadau allweddol. Ond fe fydd yr uned gyflawni yn cynnal asesiad o'r argymhellion i gyd. Serch hynny, o ran fy meddyliau cyntaf i ynglŷn â rhai o'r argymhellion allweddol, fe fyddwn i'n gefnogol iawn i wella seilwaith y rheilffyrdd a theithio llesol, a'r defnydd o wasanaethau bysiau hefyd, drwy gyflwyno mwy o goridorau pwrpasol. Yn benodol, rwyf i o'r farn fod yr angen i uwchraddio prif lein de Cymru i gynnig cyfle am fwy o wasanaethau cymudo yn rhywbeth y byddai pawb, bron iawn, yn y de-ddwyrain yn ei groesawu.
Yr hyn a nododd yr adroddiad oedd bod tagfeydd ar yr M4 yn broblem i gymudwyr, a'r datrysiad gorau i gymudwyr yw darparu trafnidiaeth gyhoeddus fel sydd gan y gwledydd gorllewinol mwyaf datblygedig eisoes, a hynny drwy systemau metro datblygedig. Nawr, fe fydd ein gweledigaeth ni o'r metro sy'n werth £700 miliwn a mwy yn cyflawni hynny, ond mae hwnnw'n seiliedig ar deithio o'r gogledd i'r de i raddau helaeth. Yr hyn a ychwanegwyd gan Arglwydd Burns yw gweledigaeth ar gyfer teithio o'r dwyrain i'r gorllewin hefyd, gan gyfuno pob math o symudiad ar draws y de-ddwyrain. Fe fyddwn i'n gefnogol iawn i ychwanegu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y metro at y weledigaeth arall ar gyfer teithio llorweddol rhwng y dwyrain a'r gorllewin rhwng ein dinasoedd allweddol ni ac, yn wir, Bryste.
O ran rhai o'r canfyddiadau allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad, fe gefais i fy nharo'n arbennig—ac roedd hynny'n mynd yn ôl at egwyddorion cyntaf gwaith Arglwydd Burns—gan ganfyddiadau sy'n ymwneud â'r hyn sy'n brif achos y tagfeydd yn ystod oriau brig, sef y bobl sy'n teithio rhwng 10 a 50 milltir. Cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi clywed nifer o bobl yn rhagdybio mai achos y broblem yng Nghasnewydd a'r cyffiniau oedd teithiau lleol a phobl leol. Yr hyn sy'n amlwg nawr yw nad yw hynny'n hollol wir. Teithiau pellach yw'r rhai sy'n achosi tagfeydd.
Wrth gwrs, fe fydd gwerth am arian yn ystyriaeth allweddol. Dim ond heddiw fe gefais i e-bost gan y Gweinidog Cyllid yn fy atgoffa i fod yn rhaid i werth am arian fod yn rhan annatod o'n proses ni o wneud penderfyniadau. Er hynny, fe hoffwn i ychwanegu hefyd, os ydym eisiau ysbrydoli newid moddol a chynnig cyfleoedd i bobl wneud defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, yna mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn awr ac i'r dyfodol, o ran y seilwaith sydd ei angen, ond hefyd o ran y cymhorthdal sydd ei angen er mwyn iddo fod yn ddewis amgen cost-effeithiol i ddefnyddio ceir preifat.
Ac yna, yn olaf, at y pwynt pwysig a gododd Russell George, sef y cynigion ar gyfer yr ardoll ar barcio yn y gweithle a gaiff eu gweinyddu a'u pennu gan awdurdodau lleol. Rwy'n credu mai'r pwynt hollbwysig i'w wneud yma yw bod Arglwydd Burns dim ond yn awgrymu'r ardoll hon ar y sail bod y gwelliannau hynny i ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus amgen eisoes wedi eu cyflwyno. Felly, rwy'n credu ei fod yn awgrym defnyddiol iawn, ond mae'n amlwg ei fod yn seiliedig ar yr angen i weithredu'r argymhellion eraill i ddechrau o ran darparu dewisiadau amgen deniadol a chost-effeithiol yn hytrach na defnyddio ceir preifat.
Helen Mary Jones.
Delyth Jewell.
O, iawn. Nid dyna sydd gen i, ond, ie, Delyth Jewell.
Mae'n flin gen i, Llywydd.
Popeth yn iawn. Delyth Jewell.
Diolch. Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a mynegi ar goedd hefyd fy niolch i Arglwydd Burns a'i dîm ef am eu gwaith nhw wrth gwblhau'r adroddiad. Mae cymudwyr ar yr M4 a'r cymunedau o amgylch y rhan hon o'r M4 yn haeddu gweld camau gweithredu ar ôl blynyddoedd o drafod a ddechreuodd, wrth gwrs, yn y 90au.
Nawr, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu argymhellion yr adroddiad hwn. Ers cryn amser, mae Plaid Cymru wedi dweud mai'r ateb i ddatrys problem tagfeydd Bryn-glas yw buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o amgylch Casnewydd. Ni fyddai cael ffordd newydd yn datrys y mater, ac rwy'n falch o weld cynifer o argymhellion yn adlewyrchu hyn yn yr adroddiad. Fe fyddai unrhyw un sydd ag unrhyw ddealltwriaeth o alw a ysgogwyd yn gwerthfawrogi hyn.
Rydym yn byw, wrth gwrs, yng nghanol argyfwng hinsawdd hefyd. Os ydym o ddifrif wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hwnnw, y casgliad rhesymegol o ran trafnidiaeth yw buddsoddi mewn dulliau cynaliadwy o drafnidiaeth gyhoeddus. Fe ellid gweithredu argymhellion ar gyfer datrys problemau tagfeydd ar yr M4 ar unwaith, wrth gwrs, pe bai gan Gymru bwerau dros seilwaith y rheilffyrdd. Mae comisiwn Burns wedi argymell, fel y nodwyd, y gellid targedu materion tagfeydd gyda buddsoddiad o tua £600 miliwn i £800 miliwn mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Fel yr amlinellwyd gennych chi, Gweinidog, fe allai hyn gynnwys adeiladu chwe gorsaf drenau newydd, uwchraddio cledrau sy'n bodoli eisoes, ac yn y blaen, ond ni chafodd seilwaith y rheilffyrdd ei ddatganoli, sy'n golygu y byddai rhai o'r prif argymhellion hyn yn gofyn am gytundeb a chefnogaeth gan Lywodraeth y DU i'w gweithredu, fel yr ydych chi newydd ei fynegi. Nawr, mae hyn yn peri pryder i mi. Fe ddangosodd adolygiad diweddar o wariant Llywodraeth y DU ostyngiad enfawr yn y cyllid trafnidiaeth cymharol a gaiff Cymru o San Steffan, gan fod HS2 wedi ei ddynodi'n brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr, sy'n awgrymu nad yw gwella rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU.
Gadewch inni gofio bod y buddsoddiad gofynnol a nodwyd gan Burns yn fach iawn o'i gymharu ag HS2 ac ar gyfradd lai nag 1 y cant o gost y prosiect hwnnw ac, yn wir, mae'n llai na swm y cynnydd sydd wedi bod yng nghost HS2 ers mis Medi diwethaf. Ac mae'n cynrychioli gwerth rhagorol am arian, gan ddarparu trafnidiaeth a manteision amgylcheddol ehangach i ranbarth sydd wedi cael ei esgeuluso i'r fath raddau ers llawer gormod o amser.
Nawr, Gweinidog, yn drist iawn, y realiti yw hyn. Pe bai Llafur a'r Torïaid wedi cefnogi datganoli'r rheilffyrdd yn rhan o'r broses Dydd Gŵyl Dewi, fe allai Llywodraeth Cymru fod wedi dechrau ar y gwaith o weithredu'r argymhellion hyn ar unwaith. Ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae'n rhaid inni obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn, sy'n sefyllfa ansicr iawn i fod ynddi hi, a dweud y lleiaf. Felly, mae cymudwyr yr M4, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, yn haeddu gweld camau gweithredu ar ôl cymaint o drafod â hyn. Fe fyddwn i'n annog Llywodraeth y DU, fel y gwnaethoch chi ddweud, i gwrdd â chi a Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl i drafod sut y byddan nhw'n gweithredu'r argymhellion, oherwydd os byddan nhw'n gwrthod gwneud hynny, fe fyddai hynny'n brawf eto nad yw San Steffan byth yn gweithio i Gymru. Ond Gweinidog, rwyf i am orffen drwy ofyn i chi: pa mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a pha gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi y gallwch eu rhoi ar waith os nad ydyw San Steffan yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r argymhellion hyn?
A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chwestiynau hi? Rwy'n hynod o falch yn wir fod croeso wedi bod i adroddiad Arglwydd Burns gan y llefarydd a chan Blaid Cymru. Yn amlwg, pan edrychwn ni yn ôl ar y dadleuon a gynhaliwyd droeon yn y Siambr ynghylch y cynigion ar gyfer ffordd liniaru, fe gefnogodd rhai pleidiau'r llwybr glas, fe gefnogodd pleidiau eraill y llwybr du. Rwyf i'n gobeithio nawr, Llywydd, y bydd pob plaid yn cefnogi llwybr Burns ar gyfer lleddfu tagfeydd ar yr M4, sy'n cynnig dewis amgen dichonadwy a chynaliadwy yn hytrach na defnyddio ceir preifat ar lwybr sy'n llawn tagfeydd ar amseroedd brig. Ac rwy'n credu bod Delyth Jewell yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at yr angen i ni naill ai godi un lefel gwirioneddol yn uwch o ran buddsoddi mewn rheilffyrdd neu, ac yn ddelfrydol, gael cyfrifoldebau datganoledig ar gyfer seilwaith rheilffyrdd a model ariannu teg ar ei gyfer a allai fod yn seiliedig ar fethodoleg ariannu'r Alban.
Nawr, o ran y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Syr Peter Hendy—ac mae hwnnw'n waith pwysig iawn, oherwydd mae'n cynnig cyfrwng ar gyfer hyrwyddo argymhellion Burns i Lywodraeth y DU—rwyf i wedi cyfarfod â Syr Peter Hendy eisoes. Rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau heddiw fod adroddiad Burns yn cael ei ystyried yn ofalus ganddo ef yn rhan o adolygiad cysylltedd yr undeb. Ac mae Delyth Jewell yn llygad ei lle i dynnu sylw at y symiau cymharol fach o fuddsoddiad y byddai eu hangen gan Lywodraeth y DU i gyflawni argymhellion Burns yn llawn, yr amcangyfrifir eu bod rhwng £390 miliwn a £540 miliwn, ar gyfer meysydd cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn unig. Mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r seilwaith rheilffyrdd. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â'r tangyllido hanesyddol sydd wedi bod yn digwydd am nifer o flynyddoedd—ac nid pwynt gwleidyddol pleidiol yw hwn, ond tynnu sylw at ffaith—drwy Lyfr Gwyrdd y Trysorlys, mae ardaloedd y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr wedi bod dan anfantais ers degawdau ar ddegawdau hyd at rywbeth tebyg i £2.1 biliwn rhwng 2000 a 2030.
Felly, mae yma gyfle gyda'r adolygiad o'r Llyfr Gwyrdd, gydag adolygiad cysylltedd yr undeb, gyda phenderfyniad cyhoeddus Llywodraeth y DU i godi lefel yn uwch, iddyn nhw ddefnyddio adroddiad Burns yn gyfle cyntaf efallai i fuddsoddi y tu allan i'r de-ddwyrain mewn ffordd sy'n decach ac yn fwy cyfiawn ac, wrth wneud hynny, i ddatrys y broblem yn ne-ddwyrain Cymru sydd wedi bod gyda ni ers degawdau. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU eisoes. Fel y dywedais, rwyf wedi cyfarfod â Syr Peter Hendy hefyd. Rwy'n synhwyro bod diddordeb mawr iawn yn argymhellion Arglwydd Burns, a pharodrwydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu nid yn unig ar yr atebion i'r tymor byr a'r tymor canolig, ond yr atebion i'r tymor hwy. Yn y pen draw, parodrwydd Llywodraeth y DU i godi lefel yn uwch, a pharodrwydd i fuddsoddi mewn ffordd sy'n mynd yn groes i gyfyngiadau traddodiadol Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, fydd yn pennu pa mor llwyddiannus y gall argymhellion Arglwydd Burns fod. Ond rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn eu croesawu yn hytrach na'u gwrthod nhw.
Diolch i chi am eich datganiad chi heddiw, Gweinidog. Mae adroddiad comisiwn Burns yn rhoi amlinelliad o'r sefyllfa yng Nghasnewydd fel un o dagfeydd a llygredd. Mae hynny'n hawdd i'w adnabod i'r rhai ohonom ni sy'n byw yma ac yn teimlo effaith yr M4 sy'n llifo drwy ganol ein dinas ni. Ers llawer gormod o amser, mae Casnewydd a'r cyffiniau wedi gweld dewisiadau gwael o ran trafnidiaeth gyhoeddus.. Mae'r cynlluniau a amlinellwyd gan Burns yn bendant yn gyffrous i Gasnewydd, ac fe fyddan nhw'n trawsnewid ein system drafnidiaeth gyhoeddus ni yn wasanaeth sy'n addas i'r diben, yn gynaliadwy ac yn gyfeillgar â chymudwyr.
Fe fydd cynnydd dramatig yn nifer y trenau sy'n defnyddio'r lleiniau rhyddhad presennol, gyda nifer o orsafoedd ychwanegol ar draws y ddinas mewn ardaloedd fel Maesglas a Pharc Tredegar, ynghyd â chysylltiadau deniadol, sy'n gweithio ac yn integredig â Chaerdydd a Bryste—mae i'w groesawu yn fawr. Mae hon yn system y profwyd ei bod hi'n gweithio mewn dinasoedd ledled y byd, ac fe all hi weithio yn y fan hon. Hon yw'r system drafnidiaeth gyhoeddus y mae Casnewydd yn ei haeddu. Fel y gŵyr y Gweinidog, ers gwneud y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r ffordd, rwyf i wedi galw drwy'r amser ar y Prif Weinidog ac yntau fod yn rhaid dod o hyd i ateb. Nid yw gwneud dim byd yn ddewis. Rydym ni, yng Nghasnewydd, wedi bod yn y fan hon o'r blaen. Mae angen gwneud cynnydd, ac mae angen gwneud hynny ar fyrder. Yr hyn sy'n allweddol i'w lwyddiant yw gwireddu'r weledigaeth. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlen gyntaf? Pryd ydym ni'n mynd i ddechrau gweld newidiadau gwirioneddol a fydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth?
Fe fydd neilltuo ardaloedd ar gyrion dinasoedd ar gyfer dewisiadau amgen i yrru ceir yn hanfodol i lwyddiant cyffredinol y datrysiad. Er fy mod i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ailsefydlu'r cyswllt rheilffordd hanesyddol rhwng Glynebwy a Chasnewydd, rwyf i wedi bod yn ymgyrchu am hynny ers amser maith, ac mae angen inni weld hynny'n digwydd. Mae Casnewydd wedi cael ei hanwybyddu ers gormod o amser. Fe allaf i sicrhau'r Gweinidog y byddaf i'n parhau â'm galwadau ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu gorsaf a gwasanaeth rheilffordd yng Nghaerllion. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd ef yn edrych dros y gwaith a wnaed dros y blynyddoedd, a chomisiwn Burns, ynglŷn ag ailsefydlu'r gwasanaeth hwn yng Nghaerllion?
Rwy'n llwyr sylweddoli nad Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y newidiadau hyn, ond rwy'n annog Llywodraethau Cymru a'r DU i fwrw ati. Mae'r adroddiadau yn nwylo'r ddwy Lywodraeth. Ni ellir anwybyddu hynny. Mae angen troi geiriau teg yn weithredoedd. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw bwrw ymlaen â hyn, ac fe wnaf innau'r cyfan a allaf i i'w gefnogi. Mae angen gwireddu hyn.
Wel, a gaf i ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiynau hi ac am ei sylwadau ynglŷn â'r adroddiad a'r problemau hanesyddol sy'n gysylltiedig â'i hetholaeth a'r heriau y mae ei hetholwyr yn eu hwynebu bob dydd? Mae Jayne Bryant wedi bod yn dadlau yn gryf dros fuddsoddi mwy yng nghymuned Casnewydd a'r cylch, ac rwy'n croesawu ei chyfraniad hi heddiw'n fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud bod Arglwydd Burns, mewn cyfnod byr iawn, wedi saernïo gweledigaeth o drafnidiaeth integredig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer y de-ddwyrain, a'n penderfyniad ni nawr yw symud ymlaen i weithredu'r argymhellion ar yr un cyflymder. Mae hynny'n ofynnol ar gyfer diwallu anghenion a gofynion a dyheadau a gobeithion y bobl sy'n byw yn etholaeth Jayne Bryant a'r bobl hynny sy'n byw ledled rhanbarth y de-ddwyrain.
Nawr, o ran rhai o'r heriau a wynebodd Arglwydd Burns yn ystod ei waith ef, un ohonyn nhw oedd y dybiaeth a amlinellais i ychydig amser yn ôl, fod y rhan fwyaf o'r tagfeydd yn cael eu hachosi gan deithiau lleol. Nid yw hynny'n wir, ac mewn gwirionedd mae mwy na 90 y cant o'r teithiau ar yr M4 yn deithiau sy'n mynd o un awdurdod lleol i un arall, sy'n amlygu pam mae angen ateb rhanbarthol, ac mai dyna pam mae'n rhaid inni feddwl yn unplyg, yr uned gyflenwi honno, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, a fydd yn cyfarfod y mis hwn i sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol, pob partner allweddol, yn cydweithio i'r un perwyl. Ac o ran rhai o'r enillion cynnar, wel, mae Jayne Bryant yn ymwybodol bod rhaglen ddatblygu i wella prif lein de Cymru ar y gweill eisoes, ein bod ni'n datblygu'r coridorau beicio bws a chymudwyr cyflym eisoes, bod treialon yn cael eu cynnal ynghylch gwasanaethau bysiau cyflym a dewisiadau amgen i wasanaethau traddodiadol, ein bod ni'n ystyried coridorau beicio i gymudwyr hefyd, ac yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae'r gwaith hwnnw ynglŷn â datblygiad cyfnewidfa canol dinas Casnewydd yn cael ei wneud ar garlam.
Nawr, o ran gwaith cynnar hefyd, fe fydd cynlluniau teithio i'r gweithle yn cael eu gwneud i liniaru tagfeydd ar yr M4. Ac o ran gwasanaeth Glynebwy a chynyddu amlder y teithiau sydd arno, wel, mae Trafnidiaeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod rwy'n siŵr, wedi datblygu cynnig ar gyfer gwasanaeth ychwanegol dros dro fesul awr i fod ar waith rhwng Pont-y-cymer a Chasnewydd, ac o bosibl y tu hwnt i Gaerloyw, tra byddwn ni'n aros am y gwaith seilwaith na chaiff ei gwblhau tan 2023. Nawr, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn ymhellach a galluogi'r gwasanaeth i fod yn weithredol o'r flwyddyn nesaf a pharhau i redeg hyd nes y gellir cyflwyno'r gwasanaeth llawn, fel y dywedais i, yn 2023. Rydym ni'n ceisio cyflwyno hyn cyn gynted ag y bo modd, a hynny'n amlwg yn amodol ar newidiadau i'r amserlen reolaidd y mae'n rhaid iddynt ddigwydd. Yn amlwg, ar gyfer cynyddu capasiti eto ar reilffordd Glynebwy, fe fydd angen cyllid arnom hefyd oddi wrth Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am y seilwaith ar reilffordd Glynebwy a phrif reilffordd de Cymru. Ac rydym wedi cyflwyno cais eisoes i gronfa syniadau carlam Adfer Eich Rheilffordd o eiddo Llywodraeth y DU i sicrhau'r cyllid i ddatblygu'r gwaith o ailagor cangen Abertyleri. Felly, rydym ni'n aros am benderfyniad ar y cais arbennig hwnnw.
O ran Caerllion, wel, roeddwn wrth fy modd fod Arglwydd Burns wedi cefnogi ein cynigion hir sefydlog ni i gael gorsaf yng Nghaerllion, ac, wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn i ddatblygu'r gorsafoedd posibl a argymhellodd Arglwydd Burns, rwyf am ofyn i Drafnidiaeth Cymru sicrhau y rhoddir yr ystyriaeth briodol i orsaf newydd yng Nghaerllion. Ond mae'n rhaid imi bwysleisio hefyd y bydd datblygu a gweithredu hyn yn dibynnu ar gefnogaeth ac ymrwymiad gan Network Rail.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Arglwydd Burns a'i dîm am yr adroddiad cynhwysfawr hwn ac am yr argymhellion arloesol, yn aml, a gynhwysir ynddo. Mae pob un ohonom ni'n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw'r M4 nid yn unig i'r de-ddwyrain, ond fel mynedfa i'r de i gyd, o gofio bod yr M4 yn cysylltu pob un o dair dinas fawr y rhanbarth. Rydym ni'n ymwybodol hefyd bod angen dybryd am ymateb i'r problemau difrifol oherwydd y tagfeydd yn nhwneli Bryn-glas.
O gofio nad yw ffordd liniaru newydd yn ddewis mwyach, mae'n rhaid inni dderbyn bod yn rhaid dod o hyd i ateb strategol a chyfannol newydd. Rwyf i o'r farn fod y dull a ddefnyddir gan Arglwydd Burns yn ddewis realistig i ffordd newydd, ac wrth galon yr adroddiad mae'r dyhead i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'r car preifat. Mae awduron yr adroddiad yn credu y bydd hyn yn ysgafnhau'r tagfeydd ym Mryn-glas, o gofio mai ceir, o bell ffordd, yw'r elfen fwyaf yn y problemau o ran tagfeydd. Ond mae'n rhaid inni dderbyn bod hyn yn galw am uno nifer o wahanol foddau trafnidiaeth â'i gilydd, ac mae'n rhaid i'r trosglwyddiad o un modd i'r llall fod yn un llyfn.
I hyn fod yn bosibl, fel y dywed yr adroddiad, mae'n rhaid cael un rhanbarth, un rhwydwaith ac un tocyn. Fe wyddom ni i gyd fod y dechnoleg ar gael i wneud i hyn ddigwydd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n rhaid i hon fod yn flaenoriaeth wrth wireddu'r rhwydwaith trafnidiaeth newydd hwn. A wnaiff y Gweinidog roi amcan inni o unrhyw gynnydd sydd wedi bod i wireddu'r elfen bwysig hon?
I ymdrin â'r argymhellion ynglŷn â rheilffyrdd yn gyntaf, mae'r adroddiad yn nodi'r angen am orsafoedd ychwanegol ar reilffordd liniaru'r de rhwng cyffordd twnnel Hafren a Chasnewydd, ac un arall yn Llaneirwg. A gaf i, yn awr, grybwyll a llongyfarch Grŵp Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd, sydd eisoes wedi datblygu cynlluniau ar gyfer gorsaf ym Magwyr? Eto i gyd, o gofio bod y llinell hon yn parhau i fod dan reolaeth Network Rail, gwaetha'r modd, pa mor hyderus y mae'r Gweinidog, hyd yn oed o ystyried addewidion Chris Grayling ar ôl canslo trydaneiddio'r rheilffordd hyd Abertawe, a datganiad Network Rail bod y materion hyn yn flaenoriaeth, y byddan nhw'n cyflawni a hynny yn ôl yr amserlen a gaiff ei rhagweld? Y datrysiad gorau, wrth gwrs, fyddai i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth o'r lein hon, ac rwy'n annog y Gweinidog i barhau i bwyso am hynny.
Nodir bod bysiau hefyd yn ddarn pwysig o'r jig-so trafnidiaeth. Fe fyddai'r argymhellion manwl o ran rhwydweithiau bysiau, gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio newydd yn ymyl go'n gyfan gwbl. Nid yw trên yn gadael gorsaf Casnewydd bum munud cyn i fws cymudo gyrraedd o'r Coed Duon yn dderbyniol mwyach.
Un o'r dyheadau eraill yn yr adroddiad yw ceisio cael pobl i ystyried y beic yn ddull dewisol o deithio. Rwyf i'n sicr o'r farn fod hyn yn yn bosibl mewn ardaloedd dinesig gyda pharhad ehangu lonydd beicio diogel, er y bydd yn llawer llai hwylus i'r rhai sy'n byw yn ardaloedd y Cymoedd gymudo i'r gwaith. Un ateb posibl i hyn fyddai sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus ar gyfer beiciau a hynny mewn ffordd sydd mor syml a fforddiadwy â phosibl. Fe ellir cyflawni hyn drwy gael parciau beiciau diogel, sy'n cael eu gwarchod, mewn gorsafoedd rheilffordd a bysiau. Fe ddylid cael ardaloedd dynodedig hefyd ar drenau yn arbennig, ond, os oes modd, ar fysiau hefyd, fel y gellid defnyddio'r beic ar y naill ben neu'r llall o'r daith i'r gwaith. A all y Gweinidog ddweud a yw rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried?
Fe ddywedais i ar ddechrau fy nghyflwyniad, Llywydd, fod hwn yn adroddiad cynhwysfawr, ac rwyf i o'r farn ei fod yn amlinellu dull gwirioneddol gyfannol, ond mae llawer o elfennau ynddo y bydd yn rhaid eu hintegreiddio'n llwyr er mwyn iddo weithio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud ei rhan i helpu i ariannu'r prosiect uchelgeisiol hwn. Diolch, Llywydd.
Llywydd, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau a'i gwestiynau? Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd David am yr adroddiad a'r argymhellion amrywiol sydd ynddo ef yn fawr iawn, a'r angen i Lywodraeth y DU fod â rhan weithredol ac, yn wir, yr angen i wahanol grwpiau, gan gynnwys grŵp gweithredu Magwyr, fod â rhan wrth gynllunio datrysiadau yn y gymuned o ran trafnidiaeth. Fe ddywedais i yn fy natganiad y bydd angen gwneud rhyw gymaint o'r penderfyniadau yn lleol, ac rwy'n credu y bydd gan grwpiau fel grŵp gweithredu Magwyr, yr wyf i wedi cyfarfod â nhw yn y gorffennol, gyda John Griffiths a Jessica Morden, swyddogaeth hollbwysig wrth helpu i gynllunio datrysiadau i'r problemau sy'n wynebu Casnewydd a'r cyffiniau.
Wrth gwrs, mae David Rowlands yn gwneud y pwynt pwysig bod yr M4 yn wythïen allweddol i economi'r de, ond ni all honno fod yn unig wythïen, a bod angen gwythïen trafnidiaeth gyhoeddus i ategu'r M4 ac, yn wir, i gynnig dewis amgen effeithiol i ddefnyddio'r M4, yn enwedig mewn cerbyd preifat. Mae integreiddio, fel y nododd David Rowlands yn briodol, yn hollbwysig. I sicrhau hyn, rydym yn bwriadu sefydlu'r uned gyflenwi honno, rydym wedi ymrwymo i femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r awdurdod lleol, ac mae gan Drafnidiaeth Cymru swyddogaeth fwy o ran integreiddio trafnidiaeth bysiau a theithio llesol a rheilffyrdd hefyd. Yn wir, mae Trafnidiaeth Cymru, yn gyfredol eleni, yn cynnal ymarfer mapio mawr o ran darparu gwasanaethau bysiau wrth inni geisio cyflwyno, yn y tymor Seneddol nesaf, ddeddfwriaeth i gymryd mwy o reolaeth dros ddarparu gwasanaethau bysiau fel y gallwn ni eu hintegreiddio nhw'n wirioneddol gyda gwasanaethau rheilffyrdd a darparu seilwaith o ran teithio llesol.
Mae cyflawni o ran datganoli seilwaith a chyllid rheilffyrdd yn eithriadol o bwysig. Rwy'n cytuno'n llwyr â David Rowlands mai'r ateb delfrydol i hyn fyddai datganoli seilwaith rheilffyrdd a'r cyllid teg i gyd-fynd â hynny. Yn absenoldeb y parodrwydd i wneud hynny, rydym y disgwyl i adolygiad cysylltedd yr undeb ac adolygiad Williams gynnig cyfryngau i Lywodraeth y DU gyflawni ar agenda codi lefel sy'n gofyn am fuddsoddiad ychwanegol a sylweddol yng Nghymru, yn enwedig o ran uwchraddio prif leiniau, yn y de ac yn y gogledd.
Rwy'n credu bod David Rowlands yn gywir hefyd i amlinellu pwysigrwydd hygyrchedd o ran datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig o ran sicrhau eu bod nhw â chysylltiadau addas â seilwaith teithio llesol. Rwy'n falch o ddweud fod yna arwydd eglur iawn yn deillio o'r adolygiad. Pe caiff yr holl argymhellion eu cyflawni a'u gweithredu yn gymwys, fe fyddai 90 y cant o bobl y rhanbarth yn byw o fewn un filltir yn unig i goridor bysiau neu ganolfan reilffordd. Fe fyddai hwnnw'n newid enfawr o ran cyflwyno hygyrchedd llawn i boblogaeth y de-ddwyrain, ac, wrth gwrs, fe wyddom y gall y filltir olaf honno fod yn hanfodol bwysig o ran annog pobl i ymgymryd â theithio llesol er mwyn eu hiechyd a'u lles nhw. Felly, rwy'n croesawu'r pwynt a wnaeth David Rowlands ynghylch hygyrchedd yn fawr iawn.
Ac, yn olaf, rwy'n cytuno â'i bwynt ef hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio'n agos iawn â'i gilydd i gyflawni ar adroddiad ac argymhellion Burns, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU.
Wel, Gweinidog, cytunaf â'r Aelod dros Orllewin Casnewydd fod angen gweithredu arnom ni, nid posibiliadau, oherwydd gwyddom fod hon yn broblem wirioneddol ddifrifol, ac mae llawer o bethau fydd yn mynd â'n sylw, yn enwedig y cwest nodedig i farwolaeth Ella Kissi-Debrah, a allai ganfod mai llygredd aer oedd prif achos ei marwolaeth. Ac mae gennym ni lefelau anghyfreithlon tebyg o lygredd aer yn fy etholaeth i, a dyna pam mae gwir angen inni fwrw ymlaen â darparu dewisiadau amgen difrifol i'r car modur ar gyfer cymudo bob dydd i'r ysgol ac i'r gwaith
Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i lwybr Burns. Rwyf wedi awgrymu ers tro mai un o'r allweddi i liniaru'r tagfeydd hyn ar y ffordd ar hyn o bryd yw'r pedair rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt. Ac, felly, hoffwn ganolbwyntio yn fy sylwadau ynglŷn â sut y cawn ni'r cynnydd hwnnw nawr ar yr agweddau canolog hynny o gynigion Burns. Rwy'n sylweddoli eich bod yn gobeithio y bydd adolygiad syr Peter Hendy o gysylltedd yn rhoi terfyn ar y ffordd gwbl annheg bresennol o ariannu trafnidiaeth ledled y Deyrnas Unedig. Gadewch inni atgoffa ein hunain na fyddwn yn cael dim o'r £2 biliwn sydd i'w fuddsoddi yn HS2, er y bydd yn cael effaith andwyol ar economi Cymru. Ni fyddwn yn cael dim i wella ein rheilffyrdd o hynny, felly mae angen i hynny newid. Ond ni allwn ni aros tan adroddiad Hendy i siarad â Network Rail am yr hyn y gallem ni fod yn ei wneud nawr i ryddhau dwy o'r pedair rheilffordd hynny i sicrhau y gallwn ni wneud cynnydd sylweddol yn barod, gan adeiladu ar Laneirwg a Llanwern a'r gorsafoedd lleol eraill. Oherwydd mae'r sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda Julie James ynglŷn â pheidio â chaniatáu i bobl adeiladu tai mewn ardaloedd nad ydynt wedi'u cysylltu yn gynigion hirdymor, ond rwy'n credu bod angen i ni wneud pethau nawr er mwyn sicrhau bod pobl yn sylweddoli ein bod yn gwneud rhywbeth ynghylch (a) y tagfeydd hyn, a (b) yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gael pobl allan o'u ceir. Felly, tybed a allwch chi ddweud pa sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael gyda Network Rail ynglŷn â hyn. Rwy'n sylweddoli bod a wnelo hyn ag arian, ond nid yw o'r un cymhlethdod â cheisio rhyddhau tir i greu llinellau cangen, ac ati.
[Anghlywadwy.]
Allaf i ddim clywed, yn anffodus. Mae ei feicroffon wedi ei dawelu.
Ni allwn ni eich clywed chi, Gweinidog. Rydym ni wedi colli dechrau eich cyfraniad, Gweinidog. A wnewch chi ddechrau eto? Rhowch gynnig arall arni, dywedwch rywbeth.
Allwch chi fy nghlywed i nawr, Llywydd?
Gallwn, fe allwn ni. Ewch ymlaen. Dechreuwch eto.
Diolch. Ymddiheuriadau. Croesawaf yn fawr y datganiad a wnaethpwyd gan Jenny Rathbone, yn enwedig ei sylwadau am fioamrywiaeth ac ansawdd aer. Ar dudalennau 79 ac 80 o'r adroddiad, gwneir rhai datganiadau cryf iawn ynghylch manteision gweithredu'r argymhellion o ran ansawdd aer a bioamrywiaeth, yn enwedig ar dudalen 80, a dyfynnaf:
Byddai ein hargymhellion yn helpu i liniaru'r problemau hyn ac yn cyfrannu at gydymffurfio â'r safonau ansawdd aer
yn yr ardaloedd allweddol hynny lle mae lefelau nitrogen deuocsid wedi bod yn ormodol. Ac, wrth gwrs, os ydym ni eisiau hyrwyddo'r newid tuag at fathau eraill o drafnidiaeth, byddem hefyd yn gweld rhai o'r ceunentydd carbon hynny, fel y cyfeirir atyn nhw yn aml, yng Nghaerdydd ei hun, gyda chrynodiadau llai o allyriadau a gronynnau gwenwynig. Ac, felly, mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn cyflwyno achos grymus iawn dros weithredu'r argymhellion, ar sail nid yn unig lliniaru tagfeydd, ond hefyd o ran gwella ansawdd aer.
Ac o ran bioamrywiaeth, unwaith eto, mae paragraff 366, ar dudalen 80, yn nodi:
Nid ydym yn rhagweld y byddai unrhyw un o'n hargymhellion yn amharu ar unrhyw un o'r safleoedd amgylcheddol dynodedig yn y rhanbarth.... I'r gwrthwyneb, dylai lleihau effaith ceir ac allyriadau cerbydau ar yr ardaloedd hyn ddod â manteision i fioamrywiaeth a'r amgylchedd dŵr.
Fy marn i yw bod yr adroddiad yn cyflawni'n dda o'i gymharu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o ran y ffyrdd o weithio, o ran yr angen i gydnabod arwyddocâd yr amgylchedd, yr angen i sicrhau ein bod yn gwneud ein cyfraniad llawn at herio'r argyfwng hinsawdd. Ac yn ogystal, mae'r adroddiad hefyd yn cyflwyno sawl dadl rymus iawn o ran mynd i'r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol yn y rhanbarth, drwy fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
O ran y rheilffordd, fel y disgrifiodd Jenny Rathbone—ac mae'n ddisgrifiad addas iawn—mae hyn eisoes wedi'i grybwyll droeon wrth Network Rail. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, a byddaf yn sôn bod angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn yr argymhellion ar gyfer ei huwchraddio yn ddiweddarach yr wythnos hon, pan fyddaf yn cymryd rhan yn y cyfarfod pedairochrog gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU a chyda chymheiriaid o'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Fel y dywedais wrth siaradwyr eraill, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn yr adroddiad hwn a'r argymhellion gyda diddordeb mawr. Fy mhenderfyniad i yw bod y diddordeb hwnnw'n cael ei droi'n ymrwymiad, ymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yn y de-ddwyrain ac i alluogi'r pedair llinell drac hynny i wasanaethu nid yn unig teithiau hir sy'n cysylltu dinasoedd â'i gilydd, ond hefyd gwasanaethau cymudo rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste.
Mae ein hamser ar ben ar gyfer yr eitem hon. Bydd angen cyfraniadau byrrach arnaf o ddim mwy na munud gan y siaradwyr sy'n weddill, os ydw i am gynnwys pawb sydd wedi gofyn am gael siarad. Nick Ramsay.
Diolch. Wna i ddim cymryd hynny'n bersonol, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi cyfraniad cryno gennyf. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i'r Arglwydd Burns am y darn gwerthfawr hwn o waith. Nid oes amheuaeth o gwbl fod angen ateb i'r tagfeydd ar hyd coridor yr M4 arnom ni o amgylch Casnewydd, ac, fel y dywedoch chi, buom angen un ers peth amser. A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod yn credu bod yr amser ar gyfer adolygiadau a chomisiynau—er bod croeso iddyn nhw—yn amlwg ar ben nawr, a bod pobl Casnewydd a'r de-ddwyrain eisiau gweld gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn cyn gynted â phosib? Felly, a gaf i ofyn ichi wneud hynny?
Mae'r seilwaith bysiau a rheilffyrdd yn y rhan honno o'r byd wedi bod yn is na'r safon ers amser maith, ac yn sicr nid yw'n cyfateb i safon dinas-ranbarth. Felly, a allwch chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydych chi'n bwriadu gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, a hefyd i ddatblygu'r system metro? Gwn eich bod, yn y gorffennol, wedi siarad am y posibilrwydd o ganolfan metro yn y Celtic Manor. Gyda Chanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru bellach wedi'i chwblhau, credaf fod nawr yn gyfle da i ailedrych ar hynny, a gweld a allwn ni gael y ganolfan honno, gyda breichiau'n mynd allan tua'r gorllewin i orsaf Casnewydd a hefyd hyd at Drefynwy yn fy etholaeth i, fel y gallwn ni wella'r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hynny.
Ac yn olaf, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi safbwynt Llywodraeth Cymru o ran ffordd liniaru, ac rwyf hefyd yn sylweddoli bod yr argymhellion hyn yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf braidd yn bryderus, wrth ddatblygu ceir trydan—yn enwedig gyda therfynau amser y Llywodraeth nawr o ran diddymu ceir petrol yn raddol erbyn 2030—y byddwn yn gweld cynnydd mewn ceir trydan, ac mae hynny'n golygu y bydd y ceir yn dal i gael eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Felly, credaf y byddai'n anghywir anghofio am welliannau i goridor presennol yr M4. Oes gennych chi unrhyw gynlluniau i ystyried ffyrdd y gellir gwella'r rhan honno o'r ffordd, efallai y gellid ei throi'n draffordd glyfar? Efallai fod lle i wella yn nhwneli Bryn-glas eu hunain—gwn y bu rhai gwelliannau i oleuadau a gwelliannau i gamerâu dros y misoedd a'r blynyddoedd. Ond rwy'n credu bod angen trafnidiaeth gyhoeddus ac ateb arnom i'r rhan bresennol o'r M4 sy'n ystyried y mater o ran peirianneg, gan gydweithio i geisio gwella'r problemau trafnidiaeth yn y de-ddwyrain.
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gyfraniad ac am y cwestiynau a gododd? Byddwn yn cytuno â'i sylw olaf na allwn ni ystyried yr ateb trafnidiaeth gyhoeddus ar ei ben ei hun, ond rhaid i ni hefyd gydnabod bod angen ymyraethau ar yr M4 ei hun. A dyna pam, yn y gyfres gyntaf o argymhellion, yr argymhellodd yr Arglwydd Burns nifer fach o'r hyn a ddisgrifiwyd fel 'enillion cyflym', i geisio gwella llif y traffig ar hyd yr M4, ac roedd hynny'n cynnwys arwyddion ychwanegol, er enghraifft. Hoffem flaenoriaethu ein buddsoddiad mewn ffyrdd drwy gynnal yr ased, sy'n un sylweddol iawn ledled Cymru, sy'n werth tua £17 biliwn. Mae heriau o ran traffyrdd clyfar. Ni fyddwn i byth yn diystyru datblygu traffordd o'r fath, ond rhaid inni ddysgu o rai o'r damweiniau ofnadwy, ofnadwy sydd wedi digwydd yn Lloegr wrth ddatblygu'r cylch cynnar o draffyrdd clyfar. Collwyd bywydau o ganlyniad i'r ymyrraeth benodol honno. Felly, mae'r defnydd o arwyddion digidol, defnyddio gwybodaeth fyw am draffig, defnyddio systemau monitro o bell i gyd yn dda iawn, ond rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf—diogelwch y cyhoedd sy'n teithio. Ac, felly, er fy mod yn parhau i fod yn agored iawn i ddefnyddio technoleg uwch i sicrhau bod traffig yn llifo'n esmwyth, ni fyddwn eisiau dilyn yr hyn a ddigwyddodd yng nghamau cynnar datblygu traffyrdd clyfar yn Lloegr, lle collwyd bywydau, yn anffodus.
Gallai ceir trydan, fel y dywedodd Nick Ramsay, arwain at gyfaint tebyg o draffig ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae technoleg uwch sy'n destun ymchwil ynghylch cerbydau sy'n gyrru eu hunain a allai, yn y dyfodol, ymhell yn y dyfodol, arwain at gerbydau sydd angen llai o le o bosibl. Yn y gyfres gyntaf o gerbydau sy'n gyrru eu hunain mae'n debygol y byddai angen mwy o le arnyn nhw. Ond, wrth gwrs, ein prif bryder yw sicrhau, drwy gyflawni argymhellion Burns, ein bod yn cynnig dewis amgen i ddibynnu ar y car, a'n bod yn darparu dewis arall sy'n gost-effeithiol, a bod hynny'n gynaliadwy a bod hynny'n hygyrch.
A chredaf, o ran yr adroddiad, fod pobl yng Nghasnewydd a'r tu allan iddi, ac ar draws y de-ddwyrain, yn eithaf sicr mai'r adroddiad yw'r ateb i'r broblem hon sydd wedi ein herio ers degawdau lawer. Ac, wrth gwrs, mae Nick Ramsay yn gywir y bydd defnyddio gwasanaethau bysiau yng Nghasnewydd ei hun yn eithriadol o bwysig. Rydym ni eisoes wedi arbrofi gyda'r gwasanaeth Fflecsi, yn hytrach na gwasanaethau traddodiadol wedi eu hamserlennu. Mae'r adroddiad ei hun yn amlinellu argymhellion sy'n ymwneud ag integreiddio gwasanaethau bysiau cyhoeddus â'r ddarpariaeth o deithio llesol, ac rydym yn awyddus i sicrhau y caiff y gwaith ei ddatblygu mor gyflym â phosib, gan weithio drwy'r uned gyflenwi sydd wedi'i sefydlu ac, wrth gwrs, sicrhau ein bod yn parhau i ddefnyddio technoleg uwch, wrth iddi ddatblygu ac wrth iddi ddod i'r amlwg, i wella'r ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus a pha mor rhwydd yw ei defnyddio.
Croesawaf yn fawr eich datganiad heddiw, Gweinidog, a gwaith y comisiwn ar gyfer y system drafnidiaeth integredig, hygyrch a chynaliadwy hon ar gyfer Casnewydd a'r cyffiniau. Mae wedi bod yn hirddisgwyliedig ac mae'n rhaid i ni nawr ei wireddu. Mae'r uned gyflawni yn hanfodol i hyn, Gweinidog, ac mae'n dda clywed y bydd yn cyfarfod y mis hwn. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a fydd gan yr uned gyflawni honno gyllideb benodol, a gaiff ei harwain gan rywun penodol ac a fydd ganddi gylch gwaith wedi'i nodi'n fanylach nag yr ydych chi wedi'i grybwyll heddiw.
O ran bysiau, fel y dywedwch chi, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan bwysig iawn o'r hyn y mae angen inni ei weld yn digwydd yng Nghasnewydd, a byddai unrhyw enillion cynnar ynghylch llwybrau bysiau, coridorau bysiau pwrpasol, yn bwysig iawn. A fyddai'n bosib efallai cael cynllun arbrofol gyda theithio am ddim ar fysiau, a fyddai'n helpu gyda'r hygyrchedd hwnnw ac yn rhoi sylfaen dda iawn i ddefnyddio mwy ar fysiau?
Clywais yr hyn a ddywedoch chi am Fagwyr. Mae'n galonogol iawn, Gweinidog, yn enwedig cynnwys y grŵp wrth gynllunio'r hyn sy'n digwydd. Byddwch yn gwybod eu bod wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd gyda Llywodraeth y DU o ran y gronfa gorsafoedd newydd, a chlywaf yr hyn a ddywedoch chi neu beth sydd yn y datganiad am Laneirwg a Llanwern yn y camau cynllunio. Mae cryn dipyn wedi digwydd eisoes o ran mynd drwy gyfnodau Llywodraeth y DU gyda Magwyr, felly tybed a allech chi ychwanegu hynny at y ddau arall o ran datblygiadau cynnar y gallem eu gweld.
O ran teithio llesol, mae'r datganiad yn dweud bod mwy i'w wneud yng Nghasnewydd, sy'n sicr yn wir. Tybed, unwaith eto, pe gallech chi ddweud ychydig mwy am sut y gallem ni gael rhai enillion cynnar o ran teithio llesol. Mae'n rhan mor bwysig a chyffrous o'r agenda gyffredinol, sy'n cyflawni cymaint o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, o ran iechyd a ffitrwydd, yn ogystal â'r manteision trafnidiaeth ac amgylcheddol.
Yn olaf, o ran Glynebwy, hoffwn ategu yr hyn a ddywedodd Jayne Bryant. Rydym ni wedi aros cyhyd i weld cynnydd ar y rheilffordd honno yng Nglynebwy, ac mae pobl yn ddiamynedd iawn, iawn a byddai'n weithred enfawr o ewyllys da pe gellid cyflymu'r broses o sefydlu'r rheilffordd honno i deithwyr.
Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau. Bydd yr uned gyflawni honno'n hanfodol bwysig, fel yr amlinellodd John Griffiths, ac mae costau llywodraethu a rhaglenni'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. O ran gwasanaethau bysiau yng Nghasnewydd a thu hwnt, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal ymarfer mapio ledled Cymru, a bydd hynny'n hysbysu Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ynghylch lle y gallai fod angen llwybrau a gwasanaethau ychwanegol a mathau newydd o wasanaethau. Wrth gwrs, rydym yn awyddus i sicrhau bod Casnewydd yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd o'r fath. Bydd integreiddio'n gwbl hanfodol wrth ddarparu atebion trafnidiaeth fforddiadwy i'r cyhoedd. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn datblygu systemau tocynnau sy'n debyg i'r systemau datblygedig iawn sy'n bodoli yn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt, gan gynnwys, er enghraifft, yn Lerpwl, lle mae mathau fforddiadwy iawn o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael i'r cyhoedd. Rwy'n gwybod bod grŵp gweithredu Magwyr wedi gweithio'n ddiflino i hyrwyddo gorsaf newydd yn eu cymuned, ac rydym ni yn awyddus i fynd ati i weithio gyda nhw drwy'r broses ddatblygu i sicrhau bod y darn hwnnw o seilwaith ar waith fel yr argymhella'r Arglwydd Burns. Ac o ran teithio llesol, ar dudalen 82 o'r argymhellion, bydd yr Aelodau'n gweld y gallai cyflwyno adroddiad Burns yn gynnar arwain at gyflwyno cynllun llogi beiciau Casnewydd. Byddwn yn croesawu cynllun o'r fath yn fawr, gan y byddai'n rhoi cyfle i bobl logi beiciau yn yr un modd ag y mae dinasoedd eraill ledled Cymru a'r DU wedi'u mwynhau yn ddiweddar.
Hoffwn weld adeiladau ffordd liniaru'r M4 fel yr addawyd, ond canolbwyntiaf yn fy sylwadau ar yr adroddiad. Mae gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau gwahanol yma drwy'r gyfraith, ond tybed a yw'n ddull gwell i gael tîm prosiect ar y cyd, lle mae'r ddwy ochr yn ariannu hynny ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu ateb y cytunwyd arno, fel gyda Crossrail, lle gwelsom yr Adran Drafnidiaeth a Transport for London? Oni ddylem ni edrych ar y model ar y cyd hwnnw yn hytrach na dim ond rhannu cyfrifoldebau? Soniodd y Gweinidog ar y dechrau am y 10 i 50 milltir a Chaerdydd, Casnewydd a Bryste, ac yna dywedodd fod angen ateb rhanbarthol. Ond roedd y sylwadau'n canolbwyntio ar ranbarth de-ddwyrain Cymru. Beth gaiff ei wneud i gysylltu hyn a chael dull sy'n cynnwys y galw i deithio yn ôl a blaen i Fryste o'r rhannau hyn o'r de hefyd? Pan oeddwn yn siarad â Ted Hand a grŵp Magwyr, yr wyf yn eu llongyfarch hefyd, rwyf wedi pwysleisio sut y maen nhw yn ategu'r hyn sy'n digwydd ym mharcffordd Caerdydd, neu Laneirwg, a hefyd yn Llanwern, oherwydd os oes gennych chi dair neu erbyn hyn chwe gorsaf newydd o bosib, yna bydd hynny i gyd yn newid y ffordd y mae trafnidiaeth yn gweithio, ac mae llawer mwy o fudd o gael y rheini i gyd yn hytrach na dim ond un. Ond ar y ffigur o 4.4 yn yr adroddiad, y pedwar trên yr awr sy'n teithio drwy'r chwe gorsaf hynny, ni ddangosir bod yr un ohonyn nhw yn mynd ymlaen i Fryste. Ai dyna sut yn union y cafwyd y ffigur penodol, ynteu a yw hynny'n awgrymu, mewn gwirionedd, na fydd yr un o'r gwasanaethau hynny sy'n aros mewn sawl gorsaf yn gwasanaethu cymudwyr sy'n teithio i Fryste?
A gaf i ddiolch i Mark Reckless a dweud mai'r olaf sy'n gywir? Mae'r gwasanaethau ychwanegol hynny wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r anghenion a'r galw presennol yn ardal dinas Casnewydd. Ond hefyd, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir, o ran y crynodeb, hoffem weld mwy o wasanaethau dros y ffin. Mae llawer o'r adroddiad wedi'i neilltuo mewn gwirionedd i drafnidiaeth drawsffiniol ac mae'n gwneud argymhellion ynghylch darparu gwasanaethau rheilffyrdd yn well rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr ac, yn wir, i dde-ddwyrain Lloegr. O ran y cynnig ar gyfer tîm prosiect ar y cyd, wel, mae'r uned gyflawni yn dîm prosiect ar y cyd, sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, o ystyried y swyddogaeth arwyddocaol y bydd gan Network Rail a Llywodraeth y DU yn hyn o beth, yna byddai hi yn sicr yn bosib iddyn nhw gyfrannu at uned gyflenwi o'r fath i sicrhau y darperir y buddsoddiad hwnnw y mae ei angen ar fyrder o ran seilwaith rheilffyrdd yn y de-ddwyrain cyn gynted â phosib. Felly, byddwn yn croesawu'n fawr petaen nhw'n cyfrannu yn gynnar at uned o'r fath, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn dwyn sylw'r Gweinidogion ato eto yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Arglwydd Burns a'r comisiwn ac i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mae'r Gweinidog, wrth ateb y cwestiynau, wedi cyfeirio at ddatblygiadau ar reilffordd cwm Ebwy, ac yn enwedig seilwaith newydd yn Abertyleri a'r cyffiniau. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf yn amlinellu beth yn union yw'r buddsoddiadau hynny a pha fath o ymrwymiad y mae'n ei weld yn y datblygiadau hynny dros y blynyddoedd nesaf.
Ond y sylw yr hoffwn ei wneud yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma yw pwysigrwydd y dull rhanbarthol ehangach hwnnw. Mae'r ddadl ynghylch yr M4 wedi canolbwyntio'n ormodol ar ardal denau iawn ar draws coridor yr M4 ei hun, neu'r 5 km i'r gogledd ohono. Yr hyn yr hoffai llawer ohonom ni ei weld—ac mae hwn yn un peth yr oeddwn yn falch iawn o'i weld yn yr adroddiad—yr ymagwedd ranbarthol ehangach honno, fel bod pobl sy'n dymuno teithio i Gasnewydd, neu drwy Gasnewydd i Gaerdydd, yn gallu gwneud hynny, a gwneud hynny gyda dewis o wasanaethau trafnidiaeth ar gael iddyn nhw, fel bod gennych y rheilffordd sy'n darparu'r cyswllt o Flaenau'r Cymoedd i ddinasoedd y de, a hefyd gwasanaethau bysiau a fydd yn gwasanaethu cymunedau ar draws de-ddwyrain y wlad.
Y sylw olaf y byddwn yn ei wneud yw hyn: wrth gynllunio gwasanaethau newydd, mae angen inni gadw mewn cof bob amser ddiben y gwasanaethau hyn. Cynlluniwyd rheilffordd cwm Ebwy nid fel gwasanaeth cymudo i ddinasoedd a chymunedau coridor yr M4, ond fel gwasanaeth rhyngdrefol, gan gysylltu Blaenau'r Cymoedd â chanol y ddinas yma. Ac mae perygl bob amser—ac nid wyf yn beio neb am hyn; y byddwn i gyd yn ymgyrchu dros ein hetholaethau ein hunain—wrth inni ychwanegu mwy o arosfannau yn rhan ddeheuol y llwybr hwnnw, ein bod yn arafu'r gwasanaeth ac nad ydym yn ei wneud yn wasanaeth dichonadwy i bobl Blaenau Gwent. Felly, mae'n bwysig, o ran sicrhau ein bod yn datblygu ac yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwasanaethu cymunedau dwyrain Caerdydd, Casnewydd a'r gweddill, nad ydym yn gwneud hynny ac yn amddifadu pobl Blaenau'r Cymoedd yn anfwriadol o'r gwasanaeth a gynlluniwyd er mwyn cysylltu'r gymuned honno â'r cymunedau yma yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei sylwadau ac am y cwestiynau a holodd? Os caf i, fe roddaf grynodeb o rai o feysydd gwario Llywodraeth Cymru ers 2001 o ran seilwaith rheilffyrdd. Mae rheilffordd Bro Morgannwg yn ailagor, rheilffordd cwm Ebwy yn ailagor, ac mae gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu neu eu hadeiladu ar hyn o bryd yn cynnwys Bow Street, tref Ebwy a Pye Corner—mae rhai wedi'u cwblhau, wrth gwrs. Rydym ni wedi buddsoddi mewn trenau amlach ym Merthyr, ac wrth gwrs, rydym ni wrthi yn buddsoddi yn natblygiad gwelliannau rhwng Wrecsam a Chaer ar y lein yn y gogledd. Ac, wrth gwrs, rydym ni yn buddsoddi'n helaeth iawn mewn trawsnewid rheilffyrdd craidd y Cymoedd. Felly, fel yr amlinellodd Alun Davies, ni ellir amau ein buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd. Yr hyn y mae arnom ni ei angen nawr yw cyflawni argymhellion Burns, ac, er mwyn cyflawni hynny, buddsoddiad Llywodraeth y DU.
Mae Alun Davies yn llygad ei le bod yn rhaid cael dewisiadau amgen fforddiadwy a deniadol yn lle defnyddio'r car preifat, ac o ran gwneud dewisiadau amgen yn ddeniadol, rhaid iddyn nhw fod yn rheolaidd, rhaid iddyn nhw fod yn gyflym a rhaid iddyn nhw fod yn ddibynadwy. A dyna pam mae'r pedwar trên yr awr ar reilffordd Ebwy yn nod mor bwysig i Lywodraeth Cymru, a dyma pam yr ydym ni mor benderfynol o sicrhau y caiff pedwar trên yr awr eu darparu. Derbyniaf yn llwyr y sylw y dylid lleihau nifer yr arosfannau er mwyn sicrhau bod gwasanaeth yn gyflym ac y gall bobl deithio o A i B mewn llai o amser nag y bydden nhw wrth ddefnyddio eu cerbyd eu hunain, ond, yn amlwg, mae'r cydbwysedd hwnnw y mae angen ei gyflawni hefyd o ran sicrhau bod gan bobl ar draws rhanbarth cyfan drafnidiaeth gyhoeddus sy'n hygyrch iddyn nhw, a'n bod yn gallu derbyn digon o arian drwy werthu tocynnau er mwyn gwneud y gwasanaethau hynny'n gynaliadwy.
O ran y gwelliannau yng Nglynebwy sy'n ofynnol, yn amlwg, i ddarparu pedwar trên yr awr, bydd angen buddsoddiad eithaf sylweddol gan Network Rail, ond rydym ni yn gweithio tuag at sicrhau y gall hynny ddigwydd. Oherwydd bod pobl yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig a phellennig yng Nghymru, fel yn y DU gyfan, wedi cael eu gwasanaethu'n wael gan fuddsoddiad rheilffyrdd, y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr, yn rhy hir o lawer. Mae angen mynd i'r afael â hynny fel rhan o'r agenda gydraddoldeb ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf, felly, yw'r toriad. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr tra bod newidiadau yn cael eu gwneud yn y Siambr. Felly, byddwn ni nôl mewn ychydig funudau.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:55.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:03, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Felly, rydym yn ailymgynnull gydag eitem 4, sy'n ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: diweddariad ar dasglu'r Cymoedd, a galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.
Diolch. Fy menter gyntaf ar ddod yn gadeirydd tasglu'r Cymoedd ddwy flynedd yn ôl oedd edrych ar draws y Cymoedd am yr arferion da presennol i'w rhannu. Roedd amheuaeth ddealladwy pan sefydlwyd y tasglu am y tro cyntaf yn 2016, bod pobl wedi gweld mentrau i drawsnewid y Cymoedd yn mynd a dod. Nid oedd unrhyw awydd am ragor o fentrau llawn bwriadau da gan bobl o'r tu allan, a gwnaed ymdrechion mawr i'r fenter hon fod yn wahanol. Gan adeiladu ar y rhaglen helaeth o gyfarfodydd agored ac ymgynghori a gynhaliwyd gan fy nghyd-Aelod Alun Davies a Gweinidogion eraill, cyfarfûm â phob arweinydd awdurdod lleol yn ardal y tasglu i ofyn iddyn nhw ddynodi mentrau llwyddiannus a oedd wedi tarddu o'u hardaloedd y gallem eu lledaenu ar draws awdurdodau cyfagos.
Roedd Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â malltod eiddo gwag. Penderfynodd y tasglu ehangu'r fenter ar draws y Cymoedd. Neilltuwyd £10 miliwn gennym ni ar gyfer pobl â thai a oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis i wneud cais am grant i'w hadfer yn gartrefi eto. Penderfynwyd hefyd ychwanegu at y prosiect gwreiddiol drwy sicrhau bod grant ychwanegol ar gael ar gyfer mesurau arbed ynni.
Fe wnaethom ni gyd-ddylunio cynllun a oedd yn mynd i'r afael â malltod, diffyg tai fforddiadwy, ac a helpodd i sicrhau datgarboneiddio, ac fe wnaethom ni hynny mewn ffordd a oedd yn cefnogi'r economi sylfaenol, gyda chwmnïau adeiladu lleol bach yn elwa o'r gwariant adfywio y mae'r prosiect hwn wedi'i ryddhau. Hyd yn hyn, derbyniwyd dros 500 o geisiadau. Yn anochel, mae'r pandemig wedi achosi oedi ond rwy'n falch bod awdurdodau lleol y Cymoedd wedi ymrwymo i wneud y cynllun hwn yn llwyddiant—cynllun wedi'i gynllunio a'i ddarparu yn y Cymoedd, ac un sy'n cynnig esiampl i weddill Cymru.
Mae'r pandemig wedi dangos swyddogaeth hollbwysig gwasanaethau bob dydd a gweithwyr allweddol. Ac mae ymrwymiad ehangach i gefnogi sylfeini economi'r Cymoedd wedi bod wrth wraidd dull gweithredu'r tasglu. Y llynedd, lansiais brosiect arbrofol cronfa her economi sylfaenol i arbrofi gyda gwahanol ddulliau. O'r 52 prosiect arbrofol, mae 27 yn y Cymoedd. Drwy'r prosiectau hyn, rydym ni wedi ymrwymo i arbrofi a dysgu o wahanol ymyraethau i feithrin cymunedau lleol a newid eu perthynas â'u heconomi leol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn meithrin cydnerthedd yn wyneb yr ergydion allanol yr ydym yn eu gweld, fel COVID, Brexit, awtomeiddio a newid hinsawdd.
Mae atal cyfoeth rhag llifo o'r ardal yn allweddol i hyn. Rwy'n falch bod y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol, a wnaeth waith pwysig gyda Chyngor Dinas Preston i brofi'r cysyniad, bellach yn gweithio gyda phob corff cyhoeddus mawr yn y Cymoedd i fanteisio i'r eithaf ar rym y bunt gyhoeddus. Maen nhw i gyd bellach yn gweithio drwy eu contractau i ddeall ble y gallan nhw ailgyfeirio gwariant i gynnal yr economi leol. Bydd y gwaith penodol hwn yn y Cymoedd hefyd yn llywio gwaith yng ngweddill Cymru.
Mae'r un peth yn wir am rai o'n mentrau busnes. Arbrofodd tasglu'r Cymoedd gyda rhwydwaith cymorth cydfuddiannol rhwng busnesau fel y gallai sylfaenwyr busnesau lleol fynd i'r afael â phroblemau cyffredin. Rydym ni bellach yn ei ymestyn, ac mae Busnes Cymru yn ystyried sut y gellir ei ymgorffori mewn mentrau cymorth busnes ledled Cymru.
Rydym hefyd wedi treialu'r rhaglen gyflogadwyedd i ddarparu sgiliau gwaith a datblygiad personol i bobl sydd wedi dod yn ddi-waith. Mae hefyd wedi profi'n llwyddiant mawr ac mae bellach yn cael ei ehangu ledled Cymru yn rhan o raglen ReAct.
Rydym ni wedi lledaenu arferion da drwy brosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Fe wnaethom ni addasu ein cynllun gwreiddiol fel bod ceidwaid parciau yn dilyn esiampl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o warcheidwaid cymunedol. Bellach mae gennym ni rwydwaith o warcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd sydd ar waith ym mhob un o'r safleoedd darganfod sy'n gweithredu fel porth i'n mannau gwyrdd. Maen nhw nid yn unig yn cadw llygad ar y parciau ond yn cysylltu â mentrau rhagnodi cymdeithasol a mentrau cymunedol hefyd. Ym Mharc Gwledig Bryngarw, lle'r ydym ni wedi ariannu canolfan addysg newydd, mae'r gwarcheidwaid yn datblygu rhaglenni profiad natur ar gyfer rhieni sy'n dysgu eu plant gartref. Mae cysylltu cymunedau â'r byd natur sydd o'u cwmpas fel hyn yn allweddol i ateb heriau newid hinsawdd. Mae cyllid ar gyfer rheoli'r parc rhanbarthol bellach ar waith tan 2023. Ac er mwyn helpu i gefnogi rheolaeth hirdymor y dirwedd, caiff y parciau eu llywodraethu bellach o dan strwythur y dinas-ranbarthau.
Prosiect cyffrous arall a allai roi hwb i Barc Rhanbarthol y Cymoedd yw prosiect y Crucible ym Merthyr. I'w helpu i fwrw gwreiddiau, rydym ni wedi cyfrannu £80,000 at astudiaeth archifol i helpu i greu'r glasbrint ar gyfer y prosiect nodedig hwn.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi bod Llyn Llech Owain yng nghwm Gwendraeth a choedwig Afan yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi derbyn cyllid ar gyfer gwelliannau i ddod yn safleoedd porth darganfod. Yn ogystal, bydd Llyn Llech Owain a Pharc Bryn Bach ym Mlaenau Gwent yn dod yn ganolfannau gweithio o bell. Yn hytrach na thaith hir i'r gwaith, gall pobl weithio o swyddfa fodern yn eu parc lleol, a chymryd seibiant yng nghanol byd natur ar eu hawr ginio. Rydym ni yn ariannu prosiectau gweithio ategol o bell yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, a fydd yn profi'r cysyniad yng nghanol trefi llai hefyd. Bydd y rhain hefyd yn llywio ein gwaith i annog 30 y cant o bobl i weithio o bell.
Ar ben hyn, rydym ni wedi gwahodd trefi a phentrefi llai i wneud cais i gronfa dasglu gwerth £3 miliwn i'w helpu i wella o effaith COVID-19. Bydd yr arian yn cwmpasu gwelliannau ffisegol yn ogystal â digidol. Bydd hyn yn cynnwys rhwydwaith o byrth LoRaWAN i gefnogi'r gwaith o ddatblygu datblygiadau arloesol 'y rhyngrwyd o bethau'. Yn yr achos hwn, dod â datblygiadau arloesol i'r Cymoedd o ran defnyddio data ar nifer yr ymwelwyr o Aberteifi ac o'r gogledd-orllewin, oherwydd dylai arferion gorau deithio'r ddwy ffordd.
Ym maes trafnidiaeth rydym ni wedi arloesi hefyd, ac roedd hwn yn un o'r meysydd a godwyd yn aml yn ein digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd niferus, yr angen am drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a dibynadwy. Daeth y gwasanaeth bws lleol ar alw, Fflecsi, sydd bellach yn destun arbrawf ledled Cymru, o drafodaethau tasglu'r Cymoedd. Ac mae gennym ni gyhoeddiadau pellach i'w gwneud yn ystod yr wythnosau nesaf. Unwaith eto, mae'r rhain i gyd yn fentrau o'r Cymoedd ar gyfer y Cymoedd, ond gyda'r potensial i gael eu cymhwyso ledled Cymru. Dirprwy Lywydd, nid oes neb yn gwadu bod Cymoedd y de yn parhau i wynebu llawer o heriau, ond mae'r tasglu wedi dangos o leiaf fod yr atebion i'w problemau i'w canfod yn y Cymoedd eu hunain.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw ac rwy'n ei groesawu'n gyffredinol. Sefydlwyd tasglu'r Cymoedd yn 2016 i ganolbwyntio adnoddau ar gymunedau difreintiedig yng Nghymoedd y de, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr. Mae'r cymunedau hyn wedi wynebu materion economaidd a chymdeithasol sydd wedi cael effaith andwyol ar eu llesiant. Yn anffodus, mae gwaith tasglu'r Cymoedd wedi'i lesteirio'n sylweddol gan haint y coronafeirws. Ym mis Mehefin, Dirprwy Weinidog, fe wnaethoch chi gadarnhau bod nifer o brosiectau wedi'u gohirio oherwydd pryderon iechyd a diogelwch a chyfyngiadau ar gapasiti. Fe wnaethoch chi hefyd ofyn i swyddogion gynnal adolygiad o bob un o saith blaenoriaeth rhaglen bresennol tasglu'r Cymoedd. O ystyried hyn, a wnewch chi amlinellu dyfodol tasglu'r Cymoedd yn ystod gweddill y rhaglen, a pha brosiectau a gaiff eu blaenoriaethu neu eu dileu i roi sicrwydd i randdeiliaid a'r cymunedau?
Er gwaethaf ei fwriadau da, nid yw tasglu'r Cymoedd wedi cyflawni'r newid trawsnewidiol yr oedd ei angen ar Gymoedd y de i wella ffyniant cymunedau lleol. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dywed Sefydliad Bevan fod ganddyn nhw bryderon o hyd am strategaeth, graddfa ac effaith y tasglu. Mae Sefydliad Bevan yn nodi bod y tasglu ei hun wedi helpu i ddal sylw ar y materion economaidd-gymdeithasol sy'n wynebu cymunedau'r Cymoedd. Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn feirniadol o ddiffyg arweinyddiaeth a chyfeiriad Llywodraeth Lafur Cymru wrth sefydlu ac adnabod y tasglu.
Maen nhw hefyd yn beirniadu targed Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur i gael 7,000 o bobl i mewn i waith erbyn 2021, sy'n nifer pitw o'i gymharu â'r 67,000 o swyddi yr amcangyfrifir bod eu hangen i ddiwallu anghenion swyddi'r ardal. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 4,500 o bobl wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglenni cyflogaeth gymunedol ers mis Gorffennaf 2017. Fodd bynnag, mae'r cynnydd hwn yn debygol o fod wedi'i wrthbwyso gan golli swyddi o ganlyniad i bandemig COVID-19. Sut ydych chi'n ymateb, Dirprwy Weinidog, i'r dystiolaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid bod tasglu'r Cymoedd wedi'i gyfyngu gan ddiffyg uchelgais gan Lywodraeth Lafur Cymru, a bod dull braidd yn anghyson o adfywio economaidd-gymdeithasol wedi arwain at ddarparu rhy ychydig o adnoddau a buddsoddiad ar draws y rhanbarth?
Mae nifer yr eiddo gwag yn rhanbarth y Cymoedd yn dal yn uchel. Dengys amcangyfrifon diweddar fod 994 eiddo gwag ym Mlaenau Gwent, sy'n cyfateb i 3 y cant o gyfanswm nifer yr anheddau yn yr ardal; 2,212 eiddo gwag yn Rhondda Cynon Taf, sy'n cyfateb i 2 y cant o gyfanswm nifer yr anheddau; a 520 eiddo gwag ym Merthyr Tudful, sy'n cyfateb i 1.9 y cant o gyfanswm yr anheddau yn yr ardal.
Canfu mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn 2019 fod trefi yng Nghymoedd y de yn fwy tebygol o brofi mwy o amddifadedd incwm ac amddifadedd iechyd na rhannau eraill o Gymru. Rwy'n gwybod eich bod wedi cyflwyno grant cartrefi gwag i fynd i'r afael â chartrefi gwag a diffaith yn rhanbarth y Cymoedd, ond daw'r cynllun hwn i ben ym mis Chwefror 2021. Mae angen buddsoddiad a chymorth wedi'u teilwra ar frys ar y Cymoedd i helpu cymunedau i adeiladu'n ôl yn well. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn defnyddio ei hadnoddau sydd heb eu dyrannu yn rhan o'r £5 biliwn ychwanegol o gyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Geidwadol y DU i helpu'r Cymoedd i wella ar ôl y pandemig? Diolch.
Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, ers yn rhy hir o lawer, bu'r ddadl ynghylch y Cymoedd yn dipyn o sioe Pwnsh a Jwdi, gyda phobl yn tynnu sylw'n briodol at effaith dad-ddiwydiannu ac effaith Llywodraeth Thatcher, ac rwyf wastad wedi bod yn amharod i gymryd yr abwyd yna, ond roedd y cyfraniad hwnnw gyda'r mwyaf chwerthinllyd i gyd, mae'n rhaid imi ddweud. I Laura Anne Jones dynnu sylw at fwlch o 67,000 o swyddi yn y Cymoedd a beio Llywodraeth Cymru amdano, rwy'n credu fod hynny yn ymestyn hygrededd y tu hwnt i'w derfynau. Ac mae'r £5 biliwn tybiedig hwnnw y mae Laura Anne Jones wedi cyfeirio ato y mae Llywodraeth y DU wedi'i bod mor hael yn ei roi i ni prin yn diwallu costau cynyddol y GIG ac yn gadael ein harian cyhoeddus dan bwysau sylweddol; yn anad dim, nid ydym yn cael y gyfran Barnett briodol ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd ac ar gyfer HS2, a allai, pe bai gennym ni'r rheiny, arwain at fuddsoddiad pellach yn y Cymoedd. Felly, credaf fod y sylwadau di-sylwedd hyn yn gwbl ddi-fudd, o ystyried maint yr her yr ydym yn ei hwynebu. Felly, nid af ymhellach i mewn i'r sioe Pwnsh a Jwdi benodol honno, ond mae digon y gallwn i ei ddweud pe hoffwn i.
I droi at rai o'i sylwadau mwy synhwyrol, o ran sut y gallwn ni wneud y rhaglen eiddo gwag yn hunangynhaliol, o gofio, fel y dywedodd yn gywir, maint yr her yn y Cymoedd—Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, sydd â'r ail nifer fwyaf o gartrefi gwag yn y DU gyfan—credaf mai un o'r pethau da am y cynllun a ddatblygodd y Cynghorydd Andrew Morgan a'i gydweithwyr yn Rhondda Cynon Taf oedd y byddai hyn yn hunangynhaliol. Rydym ni wedi sicrhau, gan ein bod wedi cynllunio hyn gyda'r awdurdodau, eu bod wedi buddsoddi i gyfateb i'n buddsoddiad ni, ac, yn dilyn esiampl Rhondda Cynon Taf, gofynnwyd iddyn nhw gynyddu'r dreth gyngor ar gartrefi gwag, fel eu bod yn creu rhywfaint o refeniw a all wedyn gynyddu'r cylch nesaf o grantiau y gellir eu dyfarnu. Ac wrth gwrs, grantiau yw'r rhain y mae'n rhaid eu had-dalu os bydd pobl yn gwerthu eu heiddo neu'n symud o fewn pum mlynedd. Felly, yr hyn yr ydym ni yn gobeithio yw, drwy gael awdurdodau lleol i gydweithredu fel hyn a chydweithio, y byddwn yn agor eu llygaid i'r posibilrwydd o'r hyn y mae Rhondda Cynon Taf wedi'i wneud a lledaenu hynny, ac y byddan nhw wedyn yn buddsoddi eu hadnoddau eu hunain ac yn gweld y budd i'w cymunedau eu hunain. Wedi'r cyfan, dechreuodd Rhondda Cynon Taf hyn oherwydd eu bod yn cael problem gyda swyddogion iechyd cyhoeddus yn cael eu galw i ymdrin â llygod mawr mewn tai. Felly, roedd problem y bu'n rhaid iddyn nhw ymdrin â hi, ac fe wnaethon nhw gynnig ateb arloesol, yr ydym ni wedi'i raddio.
Dydw i ddim yn derbyn y feirniadaeth bod diffyg uchelgais i'r prosiect. Ni fyddai byth yn bosibl gwrthdroi cenedlaethau o amgylchiadau economaidd heriol mewn cyfnod mor fyr, ond yr hyn yr wyf yn gobeithio y mae fy natganiad wedi'i ddangos yw, drwy arbrofi a thrwy ddulliau gweithredu gwahanol mewn gwahanol leoedd, ar y cyd ag awdurdodau lleol—felly, nid yw ynglŷn â phobl yn cyflwyno atebion; mae ynglŷn â chynnig atebion gyda'n gilydd—byddwn yn rhoi hwb cychwynnol i adfywio y bydd ei fwrlwm yn parhau y tu hwnt i oes y tasglu.
Diolch. Mae'r Rhondda, fy etholaeth i, fy nghartref i, yn lle sydd wedi gweld trafferthion ers degawdau. Nawr, er y byddai llawer o bobl yn hoffi dianc, ni allwn ni ddianc rhag y ffaith, ers dechrau'r gwahanol raglenni cau pyllau glo, ond yn enwedig ers ymosodiad Margaret Thatcher ar ein cymunedau yn y 1980au, heb unrhyw gynllun i gymryd lle'r swyddi coll hynny, y bu bywyd yn frwydr fawr i lawer o bobl, ac mae'r problemau sy'n wynebu pobl wrth gwrs yn economaidd yn bennaf.
Nid ydym ni yn unigryw yn hyn o beth. Mae'r rhan fwyaf o'n hen ardaloedd diwydiannol wedi gweld trafferthion ers cenedlaethau, ond mae'r Rhondda mewn sefyllfa arbennig o ansicr. Mewn astudiaeth o'r trefi yng Nghymru a Lloegr sydd fwyaf agored i effeithiau economaidd COVID-19, enwyd dau o'r Rhondda yn yr 20 uchaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at lifogydd dinistriol. Gallai'r Rhondda yn wir wneud gyda rhywfaint o gymorth ar hyn o bryd, ond, yn anffodus, ychydig sydd wedi dod o gyfeiriad tasglu'r Cymoedd. Oes, mae gennym ni'r prosiect Skyline, y mae'r bobl anhygoel yn Croeso i'n Coedwig yn arloesi ynddo, ac, oes, mae gwaith da yn mynd rhagddo o ran cartrefi gwag. Ond nid yw hyn yn ddigon. Mae'n rhaid inni greu mwy o swyddi.
Cymerwch yr enghraifft glasurol o'r cwmni cydweithredol sy'n cynnwys cyn-weithwyr Burberry, a geisiodd ddechrau arni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Bu llawer o siarad, ond, hyd yma, ychydig iawn o gefnogaeth bendant a gafwyd, dim contractau, a dim cymorth ariannol i'r grŵp hwn. Mae cwmni cydweithredol Burberry yn gyfle i fanteisio ar sgiliau gweithgynhyrchu dillad o'r radd flaenaf sy'n dal i fodoli yn ein cymuned yn dilyn ymadawiad Burberry â Threorci 13 mlynedd yn ôl. Gallasai fod yn llwyddiant ysgubol ac eiconig—ond eto dim byd. Yng nghynllun cyflawni gwreiddiol y tasglu, mae tair prif flaenoriaeth: swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, gwell gwasanaethau cyhoeddus a chymuned. Byddai enghraifft gweithwyr Burberry yn y Rhondda—y cwmni cydweithredol hwnnw'n cydweddu'n berffaith â'r flaenoriaeth gyntaf, a byddai'n bodloni'r ddau arall hefyd. Mae cymaint o fentrau da yr ydym ni wedi'u gweld, ond faint o amser fydd hi cyn yr eir i'r afael mewn gwirionedd â'r problemau economaidd-gymdeithasol sy'n plagio ein cymunedau?
Nawr, rwyf wedi gofyn y cwestiwn hwn droeon ond nid wyf wedi cael ateb o sylwedd eto, felly fe'i gofynnaf eto: sut y mae'r Rhondda wedi elwa, o ran creu swyddi, yn fwy nag etholaethau eraill o ganlyniad i waith tasglu'r Cymoedd? Pa gynnydd economaidd mesuradwy a allwch chi ei ddangos yn fy etholaeth i o ganlyniad i dasglu'r Cymoedd? Rwyf fi a llawer o bobl eraill eisiau gweld mentrau fel tasglu'r Cymoedd yn cyflawni'r hyn y mae yn ei addo i gymunedau fel fy un i yn y Rhondda ond, hyd yma, mae'r cynnydd wedi bod yn siomedig a dweud y lleiaf.
Rwy'n siomedig ond nid wyf wedi fy synnu gan y cyfraniad yna. Credaf fod yr honiad y dylai'r Rhondda elwa'n fwy nag ardaloedd tasglu'r Cymoedd yn mynd at wraidd problem y cyfraniad. Mae'n chwilio'n gyson am gŵyn i gydio ynddi a manteisio arni, yn hytrach nag edrych mewn ysbryd o gydweithredu i weld sut y gall yr holl awdurdodau gydweithio.
Soniodd Leanne Wood eto am enghraifft cwmni cydweithredol Burberry Treorci, ac rwyf wedi cyfarfod â nhw ac wedi esbonio iddi'n faith y broses yr aethom drwyddi, gan weithio gyda'r cwmni cydweithredol hwnnw, a gweithio gyda'r ymddiriedolwyr, i gynnig cymorth iddyn nhw i ennill contractau ar eu pen eu hunain. Nawr, mae cyfrifoldeb ar y ddwy blaid i gydweithredu yma, a gwn ei bod yn siomedig na ddaeth y fenter gydweithredol a sefydlwyd gennym ni yng Nglynebwy i'r Rhondda, ond, fel y dywedais, mae angen i'r prosiectau hyn fynd i wahanol leoedd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac roedd y dadansoddiad o dystiolaeth a wnaethom ni ar gyfer meini prawf y prosiect hwnnw a chael lleoliad a oedd yn addas, yn agos at drafnidiaeth gyhoeddus, yn agos at bobl a fu allan o waith ers amser maith, yn ffafrio Glynebwy yn yr achos penodol hwn.
Ymddengys nad yw Leanne Wood yn gallu symud y tu hwnt i hynny, er ein bod, fel y dywedais, yn parhau i fod yn agored i weithio gyda'r cwmni cydweithredol. Rydym ni wedi estyn allan dro ar ôl tro at y cwmni cydweithredol. Sefydlwyd y gronfa her yr economi sylfaenol gennym ni, y gallen nhw fod wedi gwneud cais iddi. Felly, nid wyf yn siŵr beth arall y mae'n disgwyl i ni ei wneud, heblaw rhoi contract mawr iddyn nhw, na allwn ni ei wneud yn sicr. Ond rydym yn parhau i fod yn fodlon gweithio gyda nhw, oherwydd eu hamcanion nhw yw fy amcanion i. Eu hamcanion nhw yw amcanion yr economi sylfaenol, busnes cymdeithasol a mentrau cymdeithasol, yr ydym ni yn eu hyrwyddo. Ond mae'n drueni—mae hi'n dal i fynd ymlaen am yr enghraifft hon a minnau wedi esbonio cyfyngiadau'r dull gweithredu hwnnw iddi, ond, unwaith eto, dywedaf yn ddiffuant ein bod yn parhau i fod yn agored i weithio gyda nhw i weld a allwn ni ganfod ffordd o gael y maen i'r wal.
Gofynnodd eto sut y bu i'r Rhondda elwa, ac roedd fy araith yn amlinellu cyfres o fentrau yr oedd y Rhondda wedi elwa arnyn nhw, ochr yn ochr â rhannau eraill o'r Cymoedd. Unwaith eto, mae'r prosiect cartrefi gwag, sydd yn benodol yn y Rhondda, wedi elwa'n sylweddol ar gyllideb tasglu'r Cymoedd, ac mae hynny'n helpu pob rhan o'r Cymoedd.
Yn benodol ynglŷn â'r cynlluniau arbrofol ar gyfer mannau cydweithio, rydym ni yn rhoi £300,000 i gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer datblygu llys Llwynypia ac ar gyfer datblygu man cydweithio yng Nghymdeithas Tai Rhondda. Mae llawer i'w ganmol ynghylch y prosiect i ailddatblygu'r llys, sef datblygu'r hen lys ynadon gynt i greu strwythur amlbwrpas, a fyddai â chaffi, campfa'n llawn offer, yn ogystal â man i bobl weithio fel y gallan nhw fod o fudd i ganol eu tref leol, yn hytrach na mynd ymhellach i ffwrdd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma, ond rwyf hefyd eisiau ei longyfarch ar y gwaith y mae wedi'i wneud ers cymryd cyfrifoldeb am y portffolio hwn ac fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd. Mae bob amser yn anodd i gyn-Weinidog, wrth gwrs, ofyn cwestiynau i'r un a gymerodd ei le yn y Llywodraeth, ac rwy'n derbyn hynny, ond rwyf eisiau ei longyfarch ar y gwaith y mae wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf; rwy'n credu bod hynny yn dyst i ymrwymiad gwirioneddol ddwfn a gweledigaeth. Mae'r gwaith a wnaeth yn arbennig i sicrhau cadwyn gyflenwi ar gyfer cyfarpar diogelu personol dros y flwyddyn ddiwethaf yn dyst i ymagwedd seiliedig ar werthoedd tuag at wleidyddiaeth y byddai'n werth i Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon fyfyrio arni, ac, yn sicr, mae'r gwaith o gefnogi'r fenter gydweithredol yng Nglynebwy yn rhywbeth a werthfawrogir yn fawr, nid yn unig yn y dref ond yn ysbytai a chartrefi gofal Cymru hefyd.
Hoffwn ofyn i'r Gweinidog a wnaiff, cyn diddymiad y Senedd, sicrhau ein bod yn gallu gweld pendraw, os mynnwch chi, y darn hwn o waith—bod y targedau a'r amcanion a gyhoeddais pan oeddwn yn Weinidog ar y pryd yn cael eu hystyried. Roedd yr Aelod Ceidwadol dros y de-ddwyrain yn anghywir yn ei thybiaethau ynghylch y targedau a'r amcanion hynny—roedden nhw'n deillio mewn gwirionedd o sgyrsiau hir a manwl iawn gyda nifer o wahanol sefydliadau yn y Cymoedd, a gosodwyd y targedau a'r amcanion hynny at ei gilydd. Ni chawsant eu gorfodi ar y Cymoedd, daethant o'r Cymoedd, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn a gollwyd. Ond mae'n bwysig o ran ymddiried yn y Llywodraeth ein bod yn gallu dweud, 'Fe wnaethom ni ddweud y byddem yn gwneud hyn, a dyma a gyflawnwyd gennym ni.'
Y mater arall yr hoffwn ei godi—
Yn fyr iawn, felly, oherwydd mae eich amser ar ben.
—yr hoffwn i ei godi, yn gyflym, gyda'r Gweinidog, yw ein Cymoedd Technoleg. Mae hwn yn fuddsoddiad o £100 miliwn ym Mlaenau Gwent a gyhoeddwyd gennyf fi fel Gweinidog a hefyd Gweinidog yr economi a menter. Mae'n bwysig ein bod yn gallu cyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Roedd yn ymrwymiad cadarn, a roddwyd i bobl Blaenau Gwent ar adeg eithriadol o anodd. Credaf fod gan bobl Blaenau Gwent hawl absoliwt i sicrhau a disgwyl i'r Llywodraeth hon gyflawni'r addewid hwnnw. Diolch.
Diolch am y sylwadau hael. Byddaf, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â'i sylw ynglŷn â sut rydym ni wedi cyrraedd y targedau, ac rwy'n ffyddiog y byddwn wedi gwneud hynny, er gwaethaf yr amgylchiadau hynod heriol. O ran y prosiect Cymoedd Technoleg, mae hwn yn bwnc yr ydym ni wedi mynd i'r afael ag ef yn y Siambr hon o'r blaen. Rwy'n ffyddiog y bydd gennym ni—. Yn amlwg, mae'n brosiect 10 mlynedd, ond erbyn diwedd tymor y Senedd hon, bydd gennym ni glwstwr technoleg yn dechrau yng Nglynebwy. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn eiddo, oherwydd dyna un o'r pethau y mae'r awdurdod lleol a bwrdd Cymoedd Technoleg wedi'i nodi fel problem wirioneddol yn ardal Blaenau'r Cymoedd. Felly, rydym ni yn buddsoddi mewn eiddo newydd ac yn adfywio eiddo sy'n bodoli eisoes i greu cynnig. Rydym ni wedi creu, gyda lleoliad Thales ar hen safle'r gwaith dur, capasiti seiber. Rwy'n obeithiol y byddwn yn gallu cael 5G ar y safle. Rydym yn gweithio'n galed iawn ar hynny ac wedi gweld datblygiadau sylweddol, ond nid ydym ni wedi cael y maen i'r wal yn llwyr o ran hynny hyd yn hyn. Ond, unwaith y bydd y pethau hynny ar waith gennym ni, rwy'n credu y bydd cynnig technoleg gwirioneddol yng Nglynebwy sy'n gwneud i Lynebwy a'r cyffiniau yn atyniadol, a chredaf y gall ddechrau anrhydeddu'r addewid a gwireddu'r potensial y soniasom ni amdanyn nhw gyda chyhoeddi'r prosiect hwnnw. Ond fe ddywedaf i hefyd wrth Alun Davies yr hoffem ni edrych y tu hwnt i Lynebwy i holl ardal Blaenau'r Cymoedd, gan gydnabod mai ecosystem economaidd yw hon. Rydym ni yn gwneud gwaith, yn enwedig, i gefnogi cwmnïau sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na dim ond ceisio denu cwmnïau newydd i'r fro. Buom yn gweithio i wella cynhyrchiant a chydnerthedd cwmnïau sydd wedi ymwreiddio yn yr ardal, ac rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud yn hynny o beth.
Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl nad yw'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y dasg o adfywio hen gymunedau glofaol Cymoedd y de yn unigolyn gwirioneddol ymroddedig, gydag awydd gwirioneddol i lwyddo lle mae eraill yn amlwg wedi methu. Fy mhryder i yw'r nifer fawr o sefydliadau a chyrff sydd â'r dasg o gychwyn a datblygu rhaglenni tasglu'r Cymoedd. Yn gyntaf, mae gennym ni, wrth gwrs, Lywodraeth Cymru ei hun, yna awdurdodau lleol a'u hawdurdodau addysg lleol. Yna mae gennym ni brifddinas-ranbarth Caerdydd a bargeinion dinesig bae Abertawe—heb sôn am barth menter Blaenau Gwent, prosiect parc rhanbarthol y Cymoedd, a chynllun Dyffryn Taf. At hyn gallwn ychwanegu byrddau iechyd lleol, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, Trafnidiaeth Cymru, ac, yn olaf ond nid yn lleiaf, mae gennym ni gyrff y trydydd sector, ynghyd â nifer fawr o bartneriaid yn y sector preifat. Rhaid gofyn y cwestiwn: sut fydd y cyrff gwahanol hyn yn cyfuno i greu'r canlyniadau a ddymunir? O gofio mai'r canlyniad a ddymunir yw creu o leiaf 7,000 o swyddi newydd medrus ar draws rhanbarth y Cymoedd, sut ydym ni'n mynd i fonitro a yw'r rhain yn swyddi gwirioneddol newydd, cynhyrchiol, yn hytrach na swyddi gweinyddol? Cofiaf y ffigurau ar gyfer prosiect Cymunedau yn Gyntaf Merthyr Tudful. O'r £1.5 miliwn a ddyrannwyd, aeth £1.25 miliwn ar hynny'n union—swyddi gweinyddol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa fesurau y mae'n eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw hyn yn digwydd i'r prosiect cynhwysfawr hwn? Os edrychwn ni yn fyr iawn ar rai manylion—
A allwch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda? Mae eich amser ar ben.
Gwnaf yn wir. Iawn, mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Weinidog, nid oes amheuaeth nad yw'r cynlluniau a'r prosiectau a amlinellir yn yr adroddiad yn uchelgeisiol ac yn ddymunol, ond os ydym ni eisiau lliniaru'r anfodlonrwydd cynyddol, nid yn unig gyda Llywodraeth Cymru ond gyda sefydliad y Senedd yn ei chyfanrwydd, ni chaiff y dyluniadau mawreddog hyn—gan mai dyna ydyn nhw—fethu. Rhaid iddyn nhw gyflawni, neu, a feiddiwn ni ddweud, mwy na chyflawni, eu hamcanion. Mae pobl—[Anghlwyadwy.]— rhanbarthau'r Cymoedd wedi aros yn rhy hir o lawer am welliannau gwirioneddol i'w ffordd o fyw.
Nid wyf yn adnabod y darlun a gyflwynodd David Rowlands, ac rwy'n cydnabod y byddai wedi drafftio ei sylwadau cyn iddo gael cyfle i wrando ar fy nghyfraniad. Efallai wrth ei ddarllen eto, y caiff gyfle i adlewyrchu nad ydym ni yn mynd ar drywydd swyddi gweinyddol, rydym ni yn mynd ar drywydd swyddi go iawn a gwelliant economaidd gwirioneddol. Ac o ran ei sylw bod gormod o sefydliadau yn difetha hyn, nid wyf yn credu bod hynny'n iawn ychwaith. Mae'n disgrifio Llywodraeth ganolog a llywodraeth leol i bob pwrpas, ac wrth gwrs mae gan fargen ddinesig Caerdydd ran gan fod y Cymoedd yn rhan o ranbarth economaidd ehangach, felly mae'n iawn eu bod wedi'u cynnwys mewn rhan o'r cynlluniau ehangach. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod yn ceisio gwneud rhywbeth o ddim.
Rwyf wedi ymgyrchu ers tro byd dros adfer llwybr coedwig hardd Cwm-carn er mwyn i bobl Cymru a'r byd ei fwynhau. Mae'n fan lle cefais fy unig wyliau pan oeddwn yn blentyn bach a lle mae fy nhad wedi ei beintio ers iddo fod yn blentyn. Mae ei adfywiad hefyd, yn ganlyniad i bobl hynod ymroddedig Islwyn, sydd wedi ymgyrchu dros ei hadfer dros flynyddoedd lawer bellach. Hefyd oherwydd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru mae bellach wedi'i wneud yn rhan annatod o dasglu'r Cymoedd fel safle porth allweddol ym mharc rhanbarthol y Cymoedd. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi gallu cyhoeddi bod gennym ni bellach rwydwaith o warcheidwaid parciau rhanbarthol y Cymoedd sydd ar waith ym mhob un o'r safleoedd darganfod sy'n gweithredu fel porth i'n mannau gwyrdd.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynlluniau i ailddatblygu wyth safle hamdden ar hyd y llwybr coedwig saith milltir yn ogystal â'r mannau chwarae a oedd yn cynnwys cerfluniau pren a thwneli synhwyraidd, yn ogystal â nifer o lwybrau pob gallu a mannau picnic a seddi newydd. Dirprwy Lywydd, er bod pandemig y coronafeirws wedi arafu'r gwaith hwn, nid yw wedi'i atal. Yn gynharach eleni, gwnaed gwaith helaeth a oedd yn cynnwys atgyweirio gwasanaethau ffyrdd, tirlunio, tair ardal chwarae newydd, wyth toiled di-ddŵr a safle gwersylla swyddogol arobryn. Felly, bydd penllanw'r prosiect arloesol hwn yn foment allweddol i'm hetholaeth i—etholaeth yn y Cymoedd—i'n twristiaeth a'n lletygarwch ar ôl COVID. A nawr, Gweinidog, mae angen inni, mi gredaf,—
Mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi gyflwyno eich casgliadau, os gwelwch yn dda?
[Anghlywadwy.]—Islwyn, yn gweithio o fewn ymgyrch sgiliau prentisiaeth, addysg a hyfforddiant cyfannol. Felly, fy nghwestiwn i, Gweinidog: pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru a thasglu'r Cymoedd yn eu hystyried i sicrhau gwell integreiddio hyd yn oed rhwng cymunedau Islwyn ac un o ryfeddodau naturiol Cymru? A pha gamau y gall tasglu'r Cymoedd eu cymryd i fanteisio ar greadigrwydd diwylliannol Islwyn a rhaglenni gŵyl a pherfformiad awyr agored yn y dyfodol o fewn hynny?
Wel, a gaf i dalu teyrnged i Rhianon Passmore am hyrwyddo Llwybr Coedwig Cwm-carn a gwneud achos cadarn iawn dros fuddsoddi yno yn ei hetholaeth? Rwy'n credu bod y pandemig a'r cyfyngiadau symud wedi dangos i ni pa mor bwysig fu cael cyfleusterau tirwedd ac amgylcheddol o safon ar garreg ein drws i gynifer o bobl yn ystod cyfnod anodd iawn. Rwy'n credu y bu Llwybr Coedwig Cwm-carn yn esiampl, mewn gwirionedd, o ran sut y mae pobl wedi gallu defnyddio'r awyr agored i feithrin eu llesiant, yn ogystal â chreu perthynas wahanol rhwng pobl a natur. Ac mae'n bwysig ein bod yn gweld rhwydwaith parciau rhanbarthol y Cymoedd fel ochr ategol pwyslais economaidd y ddinas-ranbarth. Mae angen i'r ddau weithio law yn llaw, ac yn sicr dyna oedd enghraifft Stuttgart, lle profodd mudiad y ddinas-ranbarth ei werth mewn gwirionedd, a gwn ei fod yn lle yr ymwelodd Alun Davies ag ef pan oedd yn Weinidog i gael ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau'r porth.
Dyna pam rwy'n credu ei bod hi mor bwysig bod y parc rhanbarthol bellach o dan ymbarél y fargen ddinas ac Anthony Hunt, yn wir, arweinydd yr awdurdod, yw arweinydd y grŵp sy'n edrych ar y parc rhanbarthol i sicrhau bod y pwynt y mae hi'n ei wneud am wireddu'n llawn y potensial economaidd sydd yna o hyd o'r buddsoddiad cychwynnol hwn.
Mick Antoniw. Rhaid i'r meic gael ei ddi-dawelu. Dyna ni.
Gweinidog, a gaf i groesawu'n fawr iawn yr ymagwedd gadarnhaol yn eich datganiad tuag at y newidiadau a'r mentrau? Un o'r peryglon yr wyf wedi'i ganfod bob amser yw po fwyaf y byddwch yn dibrisio ardal, y mwyaf y daw'n broffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun. Pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad dros Bontypridd am y tro cyntaf, oedais cyn ymweld â busnesau a dweud, 'Sut mae pethau?' oherwydd byddech wedyn yn cael araith lem. Ond rydym ni wedi siarad yn frwdfrydig am Bontypridd, sy'n dref graidd i'r Cymoedd, a chyda'r mentrau gan Lywodraeth Cymru a chyda'r cyngor lleol, gallwch weld y trawsnewid economaidd sy'n digwydd.
O ystyried yr amser cyfyngedig sydd gennyf, a gaf i ofyn hyn, Gweinidog? Un o'r agweddau allweddol ar adfywio yw trafnidiaeth yn amlwg. Mae gennym ni rai systemau trafnidiaeth reilffyrdd effeithiol iawn sy'n datblygu ac yn cael eu gwella, ond mae cydgysylltu bysiau â'n system drafnidiaeth yn gwbl sylfaenol. Mae gormod o'n cymunedau heb fynediad angenrheidiol at gyflogaeth na mathau eraill o ymgysylltu, ac mae hynny'n allweddol i adfywio economaidd. Sut ydych chi'n gweld y system drafnidiaeth yn dod yn rhan o fenter y Cymoedd ac yn cyflawni'r amcanion hynny yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld yn digwydd?
Wel, un elfen bwysig o'r hyn a wnaeth y tasglu, sydd wedi bod y tu ôl i'r llenni mewn gwirionedd, oedd dod â gwahanol ddarnau o weithgarwch y Llywodraeth ar ôl troed y Cymoedd ynghyd i sicrhau bod gennym ni ddull integredig, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n cyrraedd datganiad gweinidogol mewn gwirionedd, ond credaf y bu hynny yn un o'i gyfraniadau allweddol o fewn y Llywodraeth. Mae'r enghraifft y mae Mick Antoniw yn ei dyfynnu yn enghraifft dda iawn o hynny.
Mae'r dwyn ynghyd drwy uwch gynlluniau ar gyfer Caerffili, Merthyr ac, mi gredaf, Pontypridd, wedi bod yn ddatblygiad hirdymor pwysig iawn ar gyfer llunio lle bydd datblygiadau'r metro, a bydd gan Bontypridd ased enfawr o gael gwasanaeth trên fwy neu lai bob pum munud, cyn gynted ag y bydd y gwasanaeth metro ar waith yn llawn. Gallwn weld y datblygiad eisoes yn digwydd, ac mae pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn y dref yn enghraifft wirioneddol o hynny. Unwaith eto, bydd tynnu'r adeiladau hyll yng nghyffiniau'r orsaf drenau i lawr yn creu lle a photensial ar gyfer ailddatblygu pellach. Felly, credaf y bu trafnidiaeth ac uwch-gynllunio hynny, a chyfuno hynny â mentrau eraill y Llywodraeth yn llwyddiant gwirioneddol i'r tasglu, ond efallai na fydd yn bosibl gweld ffrwyth eu llafur am flwyddyn neu ddwy eto.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.
Mae eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma wedi ei gohirio.
Felly, symudwn at eitem 6, sef Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, dyna sut y caiff ei ysgrifennu. A allaf nawr alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig? Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7498 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019, yn uniongyrchol a thrwy ddiwygiadau i Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae diwygiadau rheoliadau 2020 yn gweithredu penderfyniadau Prydain Fawr ar gyfatebiaeth deunydd atgenhedlol coedwigoedd a gynhyrchir mewn gwledydd y tu allan i Brydain Fawr ac yn nodi'r gofynion diwygiedig sy'n berthnasol yng Nghymru. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cynnal safonau deunydd atgenhedlol coedwigoedd a fewnforiwyd a bioddiogelwch cysylltiedig. Mae angen y diwygiadau hyn i adlewyrchu sefyllfa Cymru o fewn Prydain Fawr ar ôl y cyfnod pontio yn sgil y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac i sicrhau cysondeb â'r gyfraith yn Lloegr a'r Alban. Mae'r gwelliannau'n dechnegol eu natur heb unrhyw newidiadau i bolisi.
Daw rheoliadau 1, 2, 3 a 5 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu y'i diffinnir yn adran 39 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 fel 11 p.m. ar 31 Rhagfyr 2020. Daw rheoliadau 4 a 6 i rym ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr ac nid oes gennyf neb sydd eisiau gwneud ymyriad. Felly, Gweinidog, nid wyf yn credu bod angen ateb, oherwydd nid ydym ni wedi cael y ddadl. Felly, y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dydw i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig. Jeremy Miles.
Cynnig NDM7497 Jeremy Miles
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi dal yn ôl tan yr hyn oedd yn ymddangos fel yr eiliad olaf bosib i drefnu'r ddadl hon, yn y gobaith y byddai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi cydnabod cryfder y gwrthwynebiad i'r Bil hwn ac wedi cyflwyno rhai cynigion i gyfaddawdu ar hynny. Yn anffodus, fel y gwyddom, prif nodwedd y weinyddiaeth bresennol yw ei haerllugrwydd ac, felly, dyw hynny ddim wedi digwydd. Felly, ni ddylem ni synnu ei bod, wrth ystyried gwelliannau Tŷ'r Arglwyddi, wedi defnyddio ei mwyafrif yn Nhŷ'r Cyfredin i wydroi'r holl welliannau yr oedd y croesfeinciau a'r gwrthbleidiau wedi eu pasio yn ystod dyddiau lawer o archwiliad fforensig.
Hoffwn, os caf i, dalu teyrnged i'r ffordd y mae arglwyddi o bob rhan o'r Tŷ wedi bod yn barod i weithio'n galed gyda ni i amddiffyn y setliad datganoli, y mae Llywodraeth y DU yn ymddangos yn barod i'w chwalu. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, y Farwnes Finlay o Landaf, yr Arglwydd Wigley a'r Arglwydd Bourne o Aberystwyth, yn ogystal â meinciau blaen yr wrthblaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae'n ymddangos yn sicr y bydd y Bil a gyflwynir i gael Cydsyniad Brenhinol ymhen ychydig ddyddiau yn niweidiol iawn i'r Senedd hon ac i'n cenedl. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid i gyd wedi cydnabod yn eu hadroddiadau effaith niweidiol iawn y Bil hwn ar ddatganoli, i'r graddau bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi torri cynsail i argymell na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad.
Gadewch imi roi pum rheswm yn unig pam, fel Llywodraeth, y credwn ni y dylai pob Aelod o'r Senedd hon bleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Yma, hoffwn yn arbennig gyfeirio fy sylwadau at feinciau'r Ceidwadwyr. Yn gyntaf, pam fyddai unrhyw Aelod o'r Senedd hon a etholwyd i wneud penderfyniadau ar faterion datganoledig sy'n adlewyrchu barn y rhai sy'n eu hethol yn cytuno i ddeddfwriaeth sy'n ysbaddu eu gallu i wneud yr union beth hwnnw? Mae egwyddorion mynediad i'r farchnad yn golygu y gellir gwerthu unrhyw gynnyrch yn gyfreithlon sy'n cael ei werthu'n gyfreithlon mewn unrhyw ran o'r DU; p'un a yw'n cydymffurfio â safonau yma yng Nghymru ai peidio, mae'n rhaid iddi fod yn bosibl i'w roi ar y farchnad yma. Ni allwn hyd yn oed fynnu ei fod yn cael ei labelu'n wahanol.
Nid yw hyn yn ymwneud ag achosion damcaniaethol yn unig. Fel y gŵyr Aelodau, rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar wahardd naw math o blastig untro yng Nghymru. Nid ydym ni wedi cwblhau'r dadansoddiad o'r ymatebion eto, felly ni fyddwn yn rhagfarnu pethau, ond pe byddem yn penderfynu—neu'r Llywodraeth newydd yn nhymor newydd y Senedd, yn fwy tebygol—eu bod yn dymuno gwneud hynny, ni allai hynny ddigwydd yn ystyrlon pe bai'r Bil hwn yn cael ei ddeddfu.
Gadewch imi ddyfynnu Gweinidog y Llywodraeth, yr Arglwydd True, yn Nhŷ'r Arglwyddi bythefnos yn ôl:
Bydd cyfyngiadau newydd ar werthu nwyddau, gan gynnwys nwyddau a wneir o blastig a gynhyrchir mewn un rhan o'r DU neu a fewnforir i un rhan o'r DU, yn ddarostyngedig i'r egwyddor cydnabod cydfuddiannol ar gyfer nwyddau oni bai fod gwaharddiad yn berthnasol.
Ni cheir nwyddau a werthir yn gyfreithlon mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig eu rhwystro rhag cael mynediad i rannau eraill o farchnad y DU oni bai fod gwaharddiad yn berthnasol. Wrth gwrs, nid yw'n ofynnol i ddefnyddwyr eu prynu.
Mae'n osgoi'r pwynt i raddau bod angen gwybodaeth ar ddefnyddwyr i wneud dewisiadau, a byddai'r cyfyngiadau yn erbyn labelu yn y Bil, wrth gwrs, yn atal hynny.
Yn ail, ystyriwch y pwerau cymorth ariannol sydd wedi'u gwthio i mewn i'r Bil, yr unig beth sy'n gyffredin rhyngddyn nhw a'r rhannau sy'n weddill yw eu bod yn adlewyrchu'r un bwriad o danseilio datganoli. Mynegodd y Pwyllgor Cyllid bryderon difrifol am y darpariaethau hyn yn huawdl. Bydden nhw'n galluogi Gweinidogion y DU i ariannu ymyriadau yng Nghymru mewn meysydd polisi cwbl ddatganoledig mewn ffyrdd sy'n osgoi, neu hyd yn oed yn gwbl groes, i'r agenda wleidyddol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.
Hoffwn ddyfynnu Ceidwadwr arall, yr Arglwydd Dunlop, cyn-Weinidog Swyddfa'r Alban a Swyddfa Gogledd Iwerddon:
os yw'r pŵer yn y Bil i fod yn gwbl effeithiol, bydd yn bwysig i Lywodraeth y DU weithio mewn partneriaeth, nid gwrthdaro, gyda Gweinyddiaethau datganoledig a chynrychiolwyr cymunedau lleol ledled y gwledydd datganoledig. Byddai'n gam yn ôl...pe bai Gweinidogion yn ceisio disodli blaenoriaethau lleol â blaenoriaethau'r canol, heb eu llywio gan safbwyntiau lleol. Yn fy mhrofiad i, nid yw'r ddihareb 'Y dyn yn Whitehall sy'n gwybod orau' byth yn un boblogaidd, ac yn sicr ni fydd yn boblogaidd iawn yn yr Alban,
dywedodd. Nac yng Nghymru ychwaith, dywedaf i.
Mae digon o ffyrdd y bydd Llywodraeth Geidwadol eisiau rhwystro blaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru, ond dychmygwch Lywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn y Senedd hon—nid syniad yr wyf yn ei hoffi—eisiau cymryd camau a Llywodraeth fwy rhyddfrydol yn San Steffan yn gwrthod yr agenda honno. Rwy'n siŵr na fyddai Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ystyried hynny'n dderbyniol.
Yn drydydd, mae Llywodraeth y DU wedi honni nad yw'r Bil yn cynnwys cyfyngiadau newydd, ac, yn wir, ei fod yn creu pwerau datganoledig newydd. Hoffwn adrodd i'r Siambr fy mod yn dal i aros i rywun ddangos i mi pa gymal sy'n cryfhau pwerau'r Senedd hon. Ni fydd aelodau'n synnu o glywed nad yw hynny wedi'i nodi. Mae cymal 50 yn gosod yn benodol mater newydd a gedwir yn ôl o ran cymorth gwladwriaethol a chymorthdaliadau yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—cyfyngiad newydd a ffres ar bwerau'r Senedd hon.
Yn bedwerydd, Dirprwy Lywydd, nid yw fel pe baem ni heb geisio cyflwyno dull amgen o sicrhau'r farchnad fewnol mewn ffordd greadigol sy'n ystyried unrhyw bryderon dilys. Rydym ni wedi cynnig dull sy'n rhoi'r fframweithiau cyffredin wrth wraidd y farchnad fewnol, ond sy'n rhoi'r hawl i Lywodraeth y DU ofyn i Senedd y DU gyflwyno egwyddorion mynediad i'r farchnad yn y gyfres gul o amgylchiadau fel cam wrth gefn pan fo'r pedair Llywodraeth wedi methu dod i gytundeb. Ceir fframweithiau cyffredin i alinio, parchu datganoli, wrth alluogi marchnad fewnol gystadleuol. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y dull hwn yn dystiolaeth huawdl o'r ffaith nad oes gan eu cymhelliant i gyflwyno'r Bil hwn, a pharhau yn wyneb gwrthwynebiad mor eang, fawr ddim i'w wneud â phryderon busnesau a phopeth i'w wneud â'r awydd i ganoli grym a chloffi rhyddid y Senedd hon i wneud y gwaith y cafodd ei hethol i'w wneud.
A dyma'r pumed rheswm: y cliw cliriaf sydd ei angen i ddangos bod y ddeddfwriaeth hon wedi'i bwriadu nid yn gymaint fel rheoleiddiad y farchnad, ond yn hytrach deddfwriaeth gyfansoddiadol, yw'r gwaharddiad cyffredinol ar draws y Bil cyfan drwy'r cymalau deddfu gwarchodedig—eithrio pŵer y Senedd hon i addasu unrhyw agwedd arni, p'un a yw wedi'i datganoli ai peidio. Nid yw'n gyfyngiad, wrth gwrs, sy'n berthnasol i Senedd y DU. Mae'n eithriad gwirioneddol i Fil yn ei gyfanrwydd gael ei roi y tu hwnt i gyrraedd y Senedd. Mae'n Fil sy'n honni ei fod yn ymwneud ag egwyddorion y farchnad, ond sydd mewn gwirionedd yn ymosodiad llechwraidd ar y cyfansoddiad. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod hynny'n warthus.
Dirprwy Lywydd, mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar ddatganoli, nid oes ganddo le o ran rheoleiddio'r farchnad fewnol, nid oes ganddo le yng nghyfansoddiad modern, datganoledig y Deyrnas Unedig, a bydd yn cyflymu'r broses o chwalu'r undeb os daw'n gyfraith. Anogaf holl Aelodau'r Senedd i wrthod y cynnig a gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cynnal dadansoddiad manwl o'r Bil hwn ac wedi gofyn am dystiolaeth gan amrywiaeth o arbenigwyr. Yn dilyn y gwaith hwnnw, daeth i'r casgliad na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn.
Daethom i'r farn hon oherwydd i ni ganfod (1) nad oes angen y Bil ar gyfer rheoli marchnad fewnol y DU; (2) bydd y Bil yn lleihau cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; (3) bydd y Bil yn lleihau effaith llawer o gyfreithiau a basir yn y Senedd yn y dyfodol, gan gyfyngu ar allu'r Senedd i gyflawni blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru; a (4) bod y Bil yn ceisio gosod ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru mewn ffordd sy'n ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur. Mae dewisiadau polisi amgen clir i'r dull a gymerwyd gan Lywodraeth y DU, ac ni chyflwynwyd achos argyhoeddiadol dros lunio'r Bil.
Cyn symud i egluro'r rhesymau y tu ôl i'n casgliadau ni, hoffwn bwysleisio nad oes gennym ni wrthwynebiad i ddatblygu modd i reoli marchnad fewnol y DU. Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r dulliau hyn gael eu datblygu ar y cyd gan Lywodraethau a deddfwrfeydd pedair gwlad y DU ar sail cyd-ddylunio, cydsynio a pharchu'r setliadau datganoli. Os yw'r Senedd yn cytuno i atal ei chydsyniad heddiw, a bod Llywodraeth y DU yn mynd rhagddi, yna byddai'r Bil hwn yn cynrychioli'r weithred o osod dewisiadau polisi un genedl ar wledydd eraill yn erbyn eu hewyllys—yn amlwg diffyg parch at y sefydliad hwn ac at ddatganoli yn ei gyfanrwydd. Daethom i'r casgliad nad oes angen y Bil oherwydd bod amrywiaeth o ddulliau eisoes ar gyfer rheoli ymwahanu polisiau ar ôl gadael y cyfnod pontio, gan gynnwys y rhaglen fframweithiau cyffredin, dyletswyddau rhwymedigaeth ryngwladol yn y setliadau datganoli, a phwerau a ddarparwyd gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mewn cysylltiad ag effeithiolrwydd deddfwriaethol y Senedd ar ôl cyflwyno'r Bil hwn, mae'n ddatganiad o ffaith y bydd y Bil yn lleihau cymhwysedd y Senedd mewn dwy ffordd: mae'r Bil yn ceisio mewnosod mater newydd a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol, ac mae darpariaeth yn y Bil yn ceisio gwneud hynny, unwaith y bydd yn Ddeddf, yn ddeddfiad gwarchodedig, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl i'r Senedd ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae hefyd yn ffaith nad yw'r Bil yn darparu unrhyw bwerau newydd i'r Senedd. Cadarnhawyd hyn gan un o uwch swyddogion Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU yn ein cyfarfod ar 12 Tachwedd, a oedd yn bresennol i gefnogi'r Arglwydd True, Gweinidog Gwladol Swyddfa'r Cabinet. Efallai fod yr effeithiau mwyaf arwyddocaol ar ddatganoli yn deillio o oblygiadau Rhannau 1 i 3 o'r Bil ar fynediad i'r farchnad, a fydd yn gosod terfyn ymarferol newydd ar effaith deddfwriaeth ddatganoledig. Cadarnhawyd hyn gan Lywodraeth y DU yn ei nodiadau esboniadol gwreiddiol i'r Bil, a ddywedodd y bydd y Bil, a dyfynnaf:
yn creu terfyn newydd ar effaith deddfwriaeth a wneir drwy arfer cymhwysedd deddfwriaethol neu weithredol datganoledig.
Mae'r darpariaethau yn y Bil yn fwy cyfyngol na'r egwyddorion presennol o ran mynediad i'r farchnad ym marchnad sengl yr UE, gan leihau'r rhyddid sydd gan y deddfwrfeydd datganoledig ar hyn o bryd i ddatblygu polisïau unigryw ac arloesol. Bydd effaith ymarferol cyfreithiau a basiwyd gan y Senedd yn cael ei lleihau, gan leihau gallu'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru.
Ein pedwerydd rheswm dros argymell bod y Senedd yn atal ei chydsyniad yw bod y Bil yn ceisio gorfodi ewyllys Llywodraeth y DU ar Gymru mewn ffordd sy'n ffafrio buddiannau Lloegr yn anghymesur. A beth a olygwn ni wrth hynny? Wel, mae maint marchnad Lloegr o'i gymharu â chenhedloedd eraill y DU yn golygu y byddai effaith egwyddorion mynediad i'r farchnad yn ffafrio dewisiadau polisi Lloegr yn anghymesur dros rai gwledydd eraill y DU. Mae gwneud y Bil yn ddeddfiad gwarchodedig yn golygu na all y deddfwrfeydd datganoledig ddiwygio darpariaethau'r Bil gan eu bod yn berthnasol i'r cenhedloedd. Ond nid yw Llywodraeth y DU, gan weithredu fel y mae ar ran Lloegr mewn meysydd polisi datganoledig, wedi'i chyfyngu i wneud newidiadau i'r Bil drwy Senedd y DU yn y dyfodol. Mae'r Bil yn rhoi pwerau eang i Weinidogion y DU wneud newidiadau sylweddol i'r Bil pan fo'n ddeddf, ac, yn dilyn hynny, y farchnad fewnol, drwy is-ddeddfwriaeth heb fawr o graffu seneddol.
I gael cyngor annibynnol ar fonitro marchnad fewnol y DU, mae Rhan 4 o'r Bil yn creu'r swyddfa ar gyfer y farchnad fewnol sy'n rhan o'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnad. Nawr, adran anweinidogol Llywodraeth y DU yw hon, gyda chadeirydd ac aelodau bwrdd yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a'r Strategaeth Ddiwydiannol. Unwaith eto, ni allwn ni anghofio mai dim ond mewn meysydd polisi datganoledig y mae Llywodraeth y DU yn gweithredu dros Loegr, ac eto mae'n cadw pwerau i addasu'r rheolau a phenodi'r rhai sydd â'r dasg o fonitro'r cais.
O ran Rhan 5, pwerau cymorth ariannol—ac rwy'n siŵr bod adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn pwysleisio hyn—mae'r Bil yn rhoi pwerau newydd i Lywodraeth y DU ariannu gweithgarwch mewn meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru. Ni welwn unrhyw gysylltiad rhesymegol rhwng y gofynion ar gyfer pwerau o'r fath a gweithrediad marchnad fewnol y DU. At hynny, mae goblygiadau'r pwerau hyn ar grant bloc Cymru yn parhau i fod yn aneglur. Unwaith eto, mae anghydbwysedd cynhenid yn y trefniant hwn, gyda Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth y DU a'r Llywodraeth de facto ar gyfer meysydd datganoledig Lloegr yn unig.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw—. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod wedi rhewi, ond roedd ei amser ar ben beth bynnag. Felly, rwy'n mynd i symud ymlaen. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gennym ni lawer iawn o siaradwyr, ac nid ydych chi i gyd yn mynd i gael cyfle, ac mae hynny'n cynnwys pobl yn gorfod cadw at amseroedd caeth iawn. Felly, os caf i alw—. Mick Antoniw o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond mae'n ymddangos nad yw Zoom yn gweithio. Felly, a gawn ni doriad technegol o ddwy funud, wrth inni edrych i weld beth sydd wedi digwydd i Zoom, os gwelwch yn dda?
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:52.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:57, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Fe wnawn ni ailymgynnull. Os caf ofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad am ei gyfraniad—Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn ddarn o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol a fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i ddatganoli a sefydlogrwydd y DU ac yn hoelen olaf yn arch confensiwn Sewel. Fe'i hyrwyddir gan Lywodraeth y DU fel Bil sy'n economaidd ei natur yn unig. Mae hwn yn ddisgrifiad ffug a chamarweiniol. Mae'r Bil yn ddarn o ddeddfwriaeth ganoli sy'n tanseilio datganoli ac yn caniatáu i Weinidogion Llywodraeth y DU ddiystyru cyfrifoldebau datganoledig. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y pwyllgor fod y Bil yn dechrau o'r safbwynt anghywir, ac rydym yn cytuno. Mae'r Bil yn torri'r egwyddorion ar gyfer sefydlu fframweithiau cyffredin i ddarparu ar gyfer marchnad fewnol yn y DU y cytunwyd arnyn nhw ym mis Hydref 2017 gan bob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gan na fu bron dim ymgysylltu nac ymgynghori priodol â'r Llywodraethau datganoledig cyn cyhoeddi, mae'n 'gudd-ymosodiad cyfansoddiadol' fel y'i disgrifiwyd yn ddiweddar mewn sesiwn dystiolaeth i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi.
Rydym ni i gyd yn cydnabod yr angen am farchnad fewnol yn y DU ar ôl gadael yr UE. Fodd bynnag, dim ond pedwar mis cyn diwedd y cyfnod pontio y cyflwynwyd y Bil, gyda Llywodraethau datganoledig wedi'u heithrio o'r gwaith paratoi cychwynnol. Mae wedi ei ruthro'n ddifeddwl ac mae'n llawdrwm. Bydd y Bil yn cael effaith negyddol ar y Senedd pan fydd yn ceisio deddfu mewn meysydd newydd mewn cysylltiad â nwyddau a gwasanaethau. Tynnwyd sylw at effaith y Bil ar bwerau'r Senedd gan adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, a nododd y bydd y goblygiadau i gymhwysedd datganoledig yn dibynnu'n drwm ar y safonau gofynnol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn Lloegr fel rhan economaidd gryfaf y Deyrnas Unedig. Bydd y Bil yn ei gwneud yn anos penderfynu'n hawdd a yw'n ymarferol i ddeddfu. Nid yn unig hynny, ond mae'r Bil yn cyflwyno cymhelliant gwrthnysig i Lywodraeth Cymru a'r Senedd i osgoi arloesi wrth lunio polisïau a'r gyfraith. Bydd, i bob pwrpas, yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ganfod cytundeb deddfwriaethol cyn cyflwyno deddfwriaeth, hyd yn oed os oes ymrwymiad maniffesto gan y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth o'r fath. Yn ddi-os, byddai hefyd yn cyfyngu'n fawr ar allu'r Senedd i ddatblygu rhaglen ddeddfwriaethol gydlynol a chynhwysfawr heb gydsyniad Llywodraeth y DU. Cadarnhawyd y pwynt hwn gan y nodiadau esboniadol gwreiddiol i'r Bil, a oedd yn nodi:
mae darpariaethau'r Bil yn creu terfyn newydd ar effaith deddfwriaeth a wneir drwy arfer cymhwysedd deddfwriaethol neu weithredol datganoledig.
Wrth gwrs, mae'r un dadleuon hyn yn berthnasol i is-ddeddfwriaeth ddatganoledig a wneir yng Nghymru hefyd, ac maen nhw hefyd yn berthnasol i Aelodau'r meinciau cefn sy'n ceisio cyflwyno eu cynigion deddfwriaethol eu hunain, naill ai drwy gyflwyno gwelliannau i Filiau sydd wedi'u cyflwyno yn y Senedd, neu drwy ennill y bleidlais ar gyfer Bil Aelod. Mae'n ymddangos yn sylfaenol ddiffygiol i ni y bydd y Senedd yn cael ei darbwyllo i bob pwrpas rhag pasio cyfreithiau o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol ei hun yn rhinwedd y Bil hwn, hyd yn oed pan fydd y cyfreithiau newydd hynny wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion penodol Cymru a'i dinasyddion, ac mae'n ychwanegu rhwystr diangen i allu'r Senedd i wneud ei chyfreithiau ei hun.
Terfyn pellach ar allu'r Senedd i ddeddfu yw gwneud cymorth gwladwriaethol yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Mae gweithredu cymorth gwladwriaethol yng Nghymru wedi bod yn rhan bwysig o bolisi datganoledig Cymru ers blynyddoedd lawer. Yr hyn sy'n peri'r un pryder sylweddol yw'r darpariaethau yn y Bil a fyddai'n caniatáu i'r DU wario arian ac ariannu prosiectau mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Maen nhw'n bwerau eithriadol o eang a mewnwthiol heb unrhyw gysylltiad rhesymegol â gweithrediad y farchnad fewnol ac maen nhw'n sicr o greu dryswch, ac, wrth gwrs, nid yn unig—[Anghlywadwy.]
Iawn. Unwaith eto, mae'n ymddangos bod y cysylltiad wedi torri. Iawn, felly bydd yn rhaid i ni gael seibiant byr arall wrth i'r tîm technoleg edrych ar hyn. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:02.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:27, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Iawn, fe geisiwn ni ailymgynnull eto. Fel y dywedaf, af yn ôl at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw, sydd â munud o'i amser siarad ar ôl. Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel pwyllgor cyfansoddiadol trawsbleidiol, ein swyddogaeth yw asesu cywirdeb ac effaith gyfansoddiadol y Bil hwn, felly fel pwyllgor anaml y byddwn yn argymell i'r Senedd pa un a ddylai roi cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Y tro hwn, rydym o'r farn bod rhwymedigaeth arnom ni i wneud argymhelliad penodol i'r Senedd. Rydym ni wedi dod i'r casgliad y byddai'r Bil yn cael effaith ddofn ar y setliad datganoli ac yn peri risg i ddatganoli. Am y rheswm hwnnw, rydym yn argymell na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad i'r Bil ar ei ffurf bresennol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i alw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma'r prynhawn yma, ac o ystyried arwyddocâd y ddeddfwriaeth hon, wrth gwrs, fe wnaethom ni fel pwyllgor archwilio'r ystyriaethau ariannol sydd ynghlwm wrth y Bil gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd. Fe ddaeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad mwyafrifol y byddai'r goblygiadau cyfansoddiadol ac ariannol a fyddai'n deillio o basio'r Bil marchnad fewnol ar ei ffurf wreiddiol yn tanseilio'r setliad datganoli, gan arwain at y posibilrwydd hefyd o leihau'r cyllid sydd ar gael drwy grant bloc Cymru.
Er ein bod ni wedi croesawu approach Llywodraeth Cymru o geisio cefnogaeth drwy Dŷ'r Arglwyddi ar gyfer eu gwelliannau enghreifftiol i'r Bil, fe wnaethom ni dynnu sylw at ein pryder y gallai newidiadau a wnaethpwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi gael eu newid yn ôl ar ôl i'r Bil ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, a dyna yn wir ddigwyddodd ddoe, pan adferwyd gan Dŷ'r Cyffredin rhai o agweddau ariannol y Bil a gafodd eu newid gan Dŷ'r Arglwyddi.
Mae gennym ni nifer o bryderon am y Bil fel mae'n sefyll, ac mi af i drwy rai ohonyn nhw yn fy nghyfraniad i nawr. Yn gyntaf, y posibilrwydd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwario mewn meysydd datganoledig, a hynny mewn ffordd sydd ddim yn gydnaws â bwriadau strategol Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni y byddai modd defnyddio'r pwerau cymorth ariannol yn y Bil at ddibenion eang iawn, gan gynnwys o fewn meysydd datganoledig. Fe wnaeth yr Arglwyddi ddileu'r cymal hwn, ond fe'i hadferwyd ddoe wedyn yn Nhŷ'r Cyffredin. Ein barn ni yw nad yw'r pwerau hyn yn angenrheidiol, ac rŷm ni'n credu y byddan nhw'n tanseilio penderfyniadau gwariant sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru.
Roedd Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ariannu unrhyw berson yn uniongyrchol ar ystod eang o faterion sydd o fewn—[Anghlywadwy.]
Mae'n ddrwg iawn gennyf i am hyn. Mae angen i'r technegwyr ddychwelyd ac mae angen i ni weld beth sy'n digwydd.
Gohiriwyd y Cyfarfod Llawn am 17:45.