WQ97792 (w) Tabled on 26/11/2025

Will the Cabinet Secretary respond to the 49 suggested actions outlined in the National Behaviour Summit's final report, published in July 2025 and if so, when?

Answered by Cabinet Secretary for Education | Answered on 04/12/2025

Roedd adroddiad yr Uwchgynhadledd Ymddygiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yn nodi 47 o gamau gweithredu: canolbwyntiodd 25 ohonynt ar weithredu camau mewn ysgolion a 22 ohonynt ar roi cymorth i ddarparwyr addysg bellach. Er eu bod wedi'u grwpio yn ôl sector, mae cyfleoedd amlwg ar gyfer cydweithredu ar draws meysydd a chydgysylltu strategol yn bodoli. 

 

Mae sawl cam gweithredu sy'n canolbwyntio ar ysgolion yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r pum blaenoriaeth bennaf a gyhoeddwyd ar ôl yr Uwchgynhadledd, gan greu sylfaen glir ar gyfer gwneud cynnydd. Bydd cyflawni'r camau gweithredu mwy cymhleth yn gofyn am feithrin cysylltiadau cryf a sicrhau cydweithredu cyson â phartneriaid allweddol.

 

Roedd y Datganiad Llafar ar Bresenoldeb ac Ymddygiad mewn Ysgolion a gyflwynais yr wythnos diwethaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn dilyn yr Uwchgynhadledd. Rwy'n parhau i flaenoriaethu'r pum cam gweithredu pennaf, i gryfhau'r cymorth i wella ymddygiad mewn ysgolion gan gynnwys:

 

·       Creu strwythurau i gefnogi gweithio aml-asiantaethol

·       Diweddaru'r canllawiau i ysgolion

·       Sefydlu system ar gyfer rhannu arferion gorau

·       Datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol ynghylch ymddygiad

·       Sicrhau bod diffiniadau cyson o ddigwyddiadau a'u bod yn cael eu cofnodi mewn ffordd gyson, ynghyd â set ddata glir ar lefel awdurdod lleol a Chymru.

 

Rydym yn datblygu ymateb polisi amlasiantaethol i fynd i'r afael ag ymddygiad a'i effeithiau ehangach, ac yn gweithio gyda phob un o'r pedwar Heddlu yng Nghymru i gryfhau'r cydweithredu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a'r heddlu drwy'r Rhaglen Ysgolion Bro.

 

Rydym yn diweddaru'r canllawiau yn gyflym i sicrhau eglurder a chysondeb ledled Cymru, ac mae fforymau rhanddeiliaid yn gweithio i adnewyddu polisïau ar wahardd a chadw disgyblion, ac ar ffonau symudol, gan gynnwys sicrhau cymorth newydd i ysgolion.

 

Rydym yn datblygu system gadarn i rannu arferion gorau rhwng ysgolion—yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar wersi gwerthfawr a ddysgwyd am ddulliau atal trais sy'n cael eu profi ar hyn o bryd. 

 

Er mwyn gwella dysgu proffesiynol, ar ddechrau'r tymor roeddem wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd ar ymddygiad sy'n cynnig adnodd cyfoethog o ymchwil ac arweiniad ymarferol i ysgolion. Bydd gwaith cydgysylltu ehangach ag ymarferwyr sy'n lansio'r tymor hwn, dan arweiniad partneriaid Sefydliadau Addysg Uwch, yn llywio cynnig ar gyfer rhaglen ddysgu proffesiynol strwythuredig, a fydd yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Dysgu. 

 

Rydym yn gweithio i sicrhau diffiniadau cyson a ffyrdd cyson o adrodd ar ddigwyddiadau. Bydd hyn yn ein helpu i greu set ddata glir a dibynadwy ar lefel awdurdod lleol ac yn genedlaethol. Mae'r camau hyn wedi'u seilio ar ymrwymiad cryf i wrando, dysgu, a chyd-greu atebion gyda'r rhai hynny sydd fwyaf pwysig—ein hymarferwyr, ein dysgwyr a'n teuluoedd. 

 

Mae gwaith eisoes ar y gweill i arwain cydweithrediad ystyrlon, i ddatblygu atebion ymarferol ar y cyd. Yn ogystal â phrosiectau dan arweiniad sefydliadau addysg uwch ag ysgolion, mae ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a rhieni yn cael ei gefnogi'n weithredol drwy bartneriaethau allweddol â Senedd Ieuenctid Cymru, Plant yng Nghymru, y Comisiynydd Plant a Cyswllt Rhieni Cymru. 

 

Mae gennym fwy i'w wneud, ond rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid ar draws y sector, gan gynnwys yr undebau, yr awdurdodau lleol a'r gweithlu eu hunain i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Nid oes atebion cyflym, ond yn aml mae'r rhesymau dros ymddygiad gwael yn yr ysgol yn deillio o ffactorau allanol y tu allan i'r ysgol. Mae mynd i'r afael â'r materion ehangach hynny yn anodd ac mae'n golygu bod angen inni gynnwys y llywodraeth gyfan a'r sector cyhoeddus ehangach.

 

Byddaf yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn y gwanwyn i roi diweddariad arall ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni camau gweithredu'r Uwchgynhadledd, cyn diwedd Tymor y Senedd. (In Welsh only)