WQ97789 (w) Tabled on 25/11/2025

Further to WQ97682, will the Cabinet Secretary confirm the membership of the working group?

Answered by Minister for Mental Health and Wellbeing | Answered on 04/12/2025

Mae aelodaeth y gweithgor y cyfeiriais ato yn fy ymateb i WQ97682, yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, arweinydd clinigol a rheolwr rhwydwaith y Rhwydwaith Iechyd Menywod, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ymarferwyr iechyd a fferyllfa gymunedol, ac aelodau Triniaeth Deg i Fenywod Cymru. 

Mae’r gweithgor yn cefnogi cyflawni camau’r Cynllun Iechyd Menywod yn ymwneud â Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Mae’n nodi pwyntiau cyswllt posibl lle gellir gwneud y mwyaf o drafodaethau am iechyd menywod, fel y menopos, a chanfod cyfleoedd i rymuso menywod drwy addysg a gwybodaeth. 

Bydd camau gweithredu’n cael eu hadrodd drwy’r cylch adrodd blynyddol ar gyfer y Cynllun Iechyd Menywod. (In Welsh only)