WQ97427 (w) Tabled on 19/09/2025

How is the tackling disaffection and community schools central budgets expenditure lines in the education main expenditure group of the Welsh Government Budget 2025-26 due to be spent over the current financial year?

Answered by Cabinet Secretary for Education | Answered on 30/09/2025

Mae gan gyllideb Llywodraeth Cymru gyfanswm o £3.699m ar gyfer 2025-26 i fynd i'r afael â dadrithiad. Mae'n cynnwys cyllid i gefnogi gweithgareddau sy'n ymwneud â phresenoldeb, ymddygiad, gwaharddiadau, diogelu, gwrth-fwlio, cyfoethogi ac addysg yn y cartref.

Eleni, mae hynny'n cynnwys y costau sy'n gysylltiedig â'r Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad, gwaith ymgysylltu â rhieni, dysgwyr ac ymarferwyr, gwaith ymchwil, adnoddau ar gyfer ysgolion, ymgyngoriadau, diwygio rhai canllawiau, rhoi canfyddiadau adroddiadau thematig Estyn ar bresenoldeb ac ymddygiad ar waith, a chostau rhaglenni mewnol.

Mae gan linell wariant y gyllideb ar gyfer ysgolion cymunedol gyfanswm o £376,000 ar gyfer 2025-26. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi ein gwaith ar Ysgolion Bro, gan gynnwys datblygu dysgu proffesiynol, cynlluniau treialu, ymchwil, gwerthuso a chostau rhaglenni mewnol cysylltiedig. Mae hefyd yn cynnwys costau cynhadledd a gynhelir mewn partneriaeth â'r Cyngor Prydeinig sy'n rhoi sylw i arferion rhyngwladol.