WQ97423 (w) Tabled on 19/09/2025

How is the teacher development and support central budgets expenditure line in the education main expenditure group of the Welsh Government Budget 2025-26 due to be spent over the current financial year?

Answered by Cabinet Secretary for Education | Answered on 30/09/2025

Mae'r llinell wariant hon yn y gyllideb yn ariannu rhaglenni a mentrau i ddatblygu a chefnogi'r gweithlu addysgu, gan gynnwys:

  • Rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy'n cynnwys darparu llwybrau AGA amgen (rhan-amser ac i athrawon ar gyflog), Iaith Athrawon Yfory, Cynlluniau Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth ac ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, ac ymgyrch gyfathrebu Addysgu Cymru.
  • Dysgu, y corff cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, a nifer o raglenni dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, gan gynnwys Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) a Gradd Meistr a Doethuriaeth mewn Addysg.
  • Datblygu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg.
  • Gwaith i feithrin gallu’r gweithlu Cymraeg mewn addysg, gan gynnwys y Cynllun Sabothol, rhaglen pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, cynllun grant i feithrin gallu, a chyllid ar gyfer Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG).
  • Cyllid ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg, gan gynnwys cyllid ar gyfer Ysgrifenyddiaeth Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), hyrwyddo gyrfaoedd, rhaglenni cynefino, pasbort dysgu proffesiynol, a chyfraniad at ffioedd cofrestru.

Mae llinell wariant hon y gyllideb hefyd yn ariannu gwaith ymchwil, y Rhaglen Addysg Ryngwladol, a'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid.