WAQ78347 (w) Tabled on 05/06/2019

Further to WAQ78296, what advice did the Bilingual Resources Stakeholders Group and the Wales Resources Strategic Group give the Welsh Government regarding the actions required to ensure that Welsh medium textbooks and learning resources are available at the same time as corresponding English medium resources?

Answered by First Minister | Answered on 17/06/2019

Rhoddwyd y cyfle i bob aelod o’r Grŵp Rhanddeiliaid Adnoddau Dwyieithog lywio’r ffordd newydd o weithio er mwyn cynhyrchu adnoddau dwyieithog i gefnogi’r cwricwlwm a’i gymwysterau. Yn dilyn llawer o drafod cytunodd y Grŵp ar gynnig drafft yn ystod eu cyfarfod ym mis Rhagfyr 2018. Mae’r cynnig hwn yn cael ei brofi ymhellach gan Grŵp Strategol Adnoddau Cymru. Trafododd y Grŵp hefyd, a gyfarfu ar 11 Mehefin, y gofynion o ran adnoddau dwyieithog a nodwyd gan weithgorau’r cwricwlwm ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd y Gweinidog Addysg yn ystyried ymhellach y camau gweithredu arfaethedig hyn a byddaf yn gofyn iddi roi gwybod i chi am y datblygiadau. Mae’r Gweinidog, fodd bynnag, wedi dweud yn glir iawn ei bod yn ymrwymedig i sicrhau bod adnoddau ar gael ar yr un amser yn y ddwy iaith.