WAQ75808 (w) Tabled on 31/01/2018

As regards the 6 per cent of the education workforce who speak Welsh fluently but do not teach through the medium of Welsh, what steps will the Cabinet Secretary take to encourage them to do so?

Answered by First Minister | Answered on 07/02/2018

Fel y nodwyd yn Y Gymraeg mewn Addysg: Cynllun Gweithredu 2017-21, byddwn yn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr yng Nghymru i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes, a fydd yn parhau i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg. Byddwn hefyd yn eu helpu i gael yr wybodaeth a’r arbenigedd i ddarparu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu’r Gymraeg fel pwnc.

 

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cydweithio â phartneriaid allweddol i sicrhau bod gennym ddealltwriaeth glir o sgiliau Cymraeg y gweithlu a, lle bo’n berthnasol, eu gallu i addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn llywio’r gwaith o gynllunio’r gweithlu, a hynny ar sail data cadarn.

 

Ar sail y data hwn, byddwn yn cydweithio â’r consortia rhanbarthol i ddatblygu a darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol rhanbarthol a chenedlaethol, er mwyn datblygu dysgu ac addysgu effeithiol ar gyfer y Gymraeg fel pwnc a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn hefyd yn ystyried sut i annog mwy o athrawon i addysgu yn Gymraeg