WAQ71985 (w) Tabled on 01/02/2017

Will the Cabinet Secretary make a statement on the closure of Llandrindod Wells Minor Injuries Unit at night during February 2017? W

Answered by Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport | Answered on 10/02/2017

Bydd uned mân anafiadau Ysbyty Llandrindod yn cael ei gau dros dro rhwng hanner nos a 7am rhwng 1 – 28 Chwefror. Bydd yr uned yn parhau ar agor rhwng 7am a hanner nos, saith diwrnod yr wythnos yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r bwrdd iechyd wedi hysbysu'r cyhoedd am y bwriad i gau'r uned dros dro, yn ogystal ag am y gwasanaethau amgen fydd ar gael bryd hynny.

Mae hwn yn fater gweithredol i'r bwrdd iechyd, ac rwyf wedi cael cadarnhad bod y Cyngor Iechyd Cymuned wedi cael ei gynnwys yn llwyr ym mhenderfyniad y bwrdd iechyd a'i fod yn cefnogi'r penderfyniad i gau'r uned dros dro. Cafodd Aelodau'r Cynulliad, cynghorwyr a'r cyhoedd hefyd wybod am y bwriad i gau'r uned fel rhan o'r cynllun cyfathrebu.

Mae Unedau Mân Anafiadau'n rhoi dewis arall yn lle mynd i'r adrannau brys. Gallant roi cymorth drwy drin amryw o anafiadau a salwch gan gynnwys toriadau syml, mân anafiadau i'r pen, llosgiadau a briwiau. Er hyn, nid yw pob un o'r adrannau'n cynnig yr ystod gyfan o wasanaethau. Cynghorir cleifion i gysylltu â'u huned leol os ydynt yn ansicr a yw'n addas iddynt fynd i'r uned i drin eu hanaf neu eu cyflwr.