What is the Welsh Government doing to improve and protect the water quality of the River Taff?
Mae Llywodraeth Cymru yn gwella ac yn diogelu ansawdd y dŵr yn Afon Taf drwy waith partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill.
Mae CNC wedi nodi bod dalgylch Taf/Elái yn ddalgylch cyfle drwy eu Datganiad Ardal ar gyfer Canol De Cymru. Mae hyn yn cefnogi dull hirdymor sy’n seiliedig ar ddalgylch, wedi’i alinio â’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd, sy’n amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella ansawdd dŵr a statws ecolegol drwy ddod â rheoleiddwyr, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, rheolwyr tir, sefydliadau amgylcheddol a chymunedau lleol ynghyd i fynd i’r afael â llygredd dŵr yn y tarddle, gwella ansawdd dŵr, adfer prosesau naturiol a chynyddu gwydnwch ecosystemau a lleihau’r risg o lifogydd.
Mae gwella ansawdd dŵr afonydd yn her gymhleth, gyda phwysau’n dod o nifer o ffynonellau. Ni all unrhyw sefydliad sengl fynd i’r afael â’r heriau hyn ar ei ben ei hun, ac er mwyn gwneud gwelliannau parhaol bydd angen camau cydgysylltiedig gan lywodraeth, rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, rheolwyr tir a chymunedau lleol. Er bod heriau’n parhau i fod, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau gwelliannau pellach i ansawdd dŵr yn Afon Taf ac afonydd ledled Cymru.