Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
02/12/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Hoffwn hefyd atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr â'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Cyn i mi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gwestiynau, hoffwn roi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi derbyn dau gais am ddadl frys heddiw ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd a fydd yn dod i rym ddydd Gwener—un cais gan Andrew R .T. Davies, ac un arall gan Adam Price. Mae'r rheoliadau sy'n llywodraethu'r cyfyngiadau hynny yn dal heb eu cyhoeddi heddiw. Nid yw dadl frys yn unol â Rheol Sefydlog 12.69 yn mynd rhagddi ar sail cynnig. O'r herwydd, ni fyddai'r Senedd wedi cael cyfle i bleidleisio ar y mater heddiw. Gallaf roi gwybod i’r Senedd fod y Llywodraeth wedi cyflwyno cynnig i’w drafod ddydd Mawrth nesaf ar yr un mater. Bydd y cynnig yn rhoi cyfle i'r Senedd gynnal pleidlais ystyrlon ar y cynnig ac unrhyw welliannau a gyflwynir. Rwy'n disgwyl i'r bleidlais honno ddylanwadu ar barhad y rheoliadau ai peidio. Bydd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau'n cael ei ymestyn tan 4 p.m. ddydd Gwener. Gan fod gan y Senedd gyfle, felly, i ddadlau a phleidleisio ar y mater hwn yn ystod y Cyfarfod Llawn nesaf, nid wyf yn bwriadu galw'r naill Aelod na'r llall i gynnig dadl frys i'w chynnal heddiw. Fodd bynnag, rwyf am eu gwahodd i wneud rhai sylwadau ar y cofnod nawr. Andrew R. T. Davies.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ystyried y cynnig a gyflwynwyd ar gyfer heddiw. Rwy'n deall bod yn rhaid i chi fel Llywydd bwyso a mesur wrth benderfynu sut i fwrw ymlaen â’r pethau hyn. Credaf ei fod yn gyfle a gollwyd. Clywaf yr hyn a ddywedwch am y Llywodraeth yn cyflwyno eu cynnig ddydd Mawrth nesaf i ni bleidleisio arno, ond mae hwn yn fater o gryn ddiddordeb i’r cyhoedd, ac yn sicr o fy mewnflwch, mae’r diddordeb hwnnw wedi’i fynegi’n rymus iawn, byddwn yn awgrymu, yn fy ardal etholiadol. Edrychaf ymlaen at weld yr hyn sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud yr wythnos nesaf, a chan ei fod yn gynnig y gellir ei ddiwygio, edrychaf ymlaen at weld gwelliannau’n cael eu cynnig. Ond yn ei ddatganiad ddoe, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yr wrthblaid wedi cyflwyno unrhyw gynigion amgen. Wel, os nad ydym yn cael cyfle i ddadlau, mae braidd yn anodd cyflwyno'r cynigion hynny, gan mai diben datganiad Llywodraeth yw holi Gweinidogion ynghylch y datganiad y maent wedi'i roi gerbron y tŷ hwn. Rydym yn Senedd, rydym yn seneddwyr; os ydym am gael ein cymryd o ddifrif, dylem gael ein parchu a dylem gael cyfle i drafod y materion hyn a chynrychioli'r bobl sydd wedi ein rhoi yma. Ond rwy'n ddiolchgar am eich ystyriaeth, Lywydd, a chredaf mai'r Llywodraeth sydd wedi colli'r cyfle yma, ac yn yr achos arbennig hwn, wedi dangos amarch tuag at Senedd Cymru yn fy marn i.
A Siân Gwenllian, ar ran Adam Price.
Diolch, Llywydd. Erbyn dydd Mawrth nesaf, wrth gwrs, fe fydd y rheoliadau newydd yma ar waith. Felly, pa bwysau pellach fedrwch chi fel Llywydd ei ddwyn ar y Llywodraeth i sicrhau ein bod ni yn cael pleidlais ar yr egwyddor o gyflwyno'r rheoliadau newydd yma cyn iddyn nhw ddod i rym ddydd Gwener? Fe osodwyd cynsail i hyn efo'r cyfnod clo byr—y firebreak—pan gafwyd cyfle i bleidleisio cyn i hynny ddod i rym. Mae'r newidiadau yma a ddaw i mewn ddydd Gwener yn rhai sylweddol, ac rydyn ni hefyd angen gweld y dystiolaeth sydd wedi arwain at eu cyflwyno nhw. Felly, fe fyddwn i'n gofyn i chi a oes yna unrhyw ffordd y gallwch chi ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddod â'r ddadl yma ymlaen cyn dydd Gwener.
Rwy'n derbyn yr holl ddadleuon a gafwyd gan y ddau Aelod. A’r gwir amdani yw nad oedd ateb cydamserol perffaith yn bosibl i mi. Ar ôl pwyso a mesur, felly, rwy'n ystyried mai'r hyn sydd orau i’r Senedd yw cael pleidlais ystyrlon ar y cyfle cyntaf yr wythnos nesaf, yn hytrach na chael dadl heb bleidlais ar gyfle cynharach heddiw.
Awn ymlaen yn awr gyda'r busnes fel y'i nodir ar y papur trefn. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a daw’r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.
1. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i fyrddau iechyd lleol ar atal achosion o COVID-19 mewn ysbytai? OQ55951
Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau cynhwysfawr i gynorthwyo byrddau iechyd i atal achosion o COVID-19 rhag digwydd mewn ysbytai, a chyfyngu ar ledaeniad a difrifoldeb yr achosion pan fyddant yn digwydd.
Ddiwedd mis Gorffennaf, cysylltodd etholwr â mi i ddweud bod ei gŵr, a oedd yn dioddef o gyflwr nad oedd yn COVID, wedi cael gwybod gan nyrsys fod tri chlaf wedi cael diagnosis o COVID ar ei ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Dim ond ar ôl i mi ymyrryd y cafodd ei symud i ward ochr un gwely gyfagos. Ni ddaliodd COVID-19. Y mis diwethaf, cysylltodd etholwr â mi i nodi bod ei dad, a oedd yn dioddef o gyflwr nad oedd yn COVID, wedi cael ei roi yn yr un ward am dri diwrnod a hanner, a heb yn wybod i'w dad a'i deulu, fod gan rai cleifion ar y ward honno COVID-19, a bod ei dad wedi cael ei drosglwyddo wedyn i Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt, Gobowen, lle cafodd ganlyniad positif i brawf COVID-19, ac roedd wedi datblygu peswch a oedd yn gwaethygu ac yn peri pryder. Sut felly rydych chi'n ymateb i'r mab a ofynnodd: ‘Pam fyddech chi'n rhoi dyn oedrannus â phroblemau orthopedig ar ward gyda chleifion y gwyddoch fod ganddynt COVID-19? Pam na wnaethant ei ynysu er mwyn atal y risg o drosglwyddo’r feirws i ysbyty cyfagos yn Swydd Amwythig, ac er bod staff y rheng flaen yn cyflawni gwyrthiau, pam na all ystafell gefn y bwrdd iechyd reoli croes-halogi, iechyd a hylendid, a hefyd diogelwch a rheolaeth y cleifion y maent yn gyfrifol am eu diogelu?’
Wel, yn anffodus, fel y gŵyr yr Aelod, nid wyf yn gyfarwydd â'r amgylchiadau unigol, nac yn wir, fel y deallaf o'r hyn a ddywedodd, gan i’r etholwr brofi’n bositif yn ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt, nid wyf yn siŵr i ba adeg y gellir olrhain yr haint. Ond mae pwynt ehangach yma y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud, ac mae’n ymwneud â pha mor llwyddiannus yw ein hysbytai yn rheoli'r cleifion sydd wedi profi’n bositif, a phan fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am gleifion COVID a gofal COVID, dyna pam fod gennym adferiad wedi’i gadarnhau lle gwnaethant brofi'n bositif, mae gennym gategori ar gyfer achosion posibl, oherwydd er nad oes gennym brawf positif ar y pwynt hwnnw, mae’r ffordd y cânt eu trin a'u rheoli i geisio atal y risg o haint i bobl sydd wedi cael prawf negyddol ar gyfer COVID yn bwysig, ac mae gennym gategori o bobl sydd wrthi’n gwella hefyd.
Y rheswm pam fod ein grŵp trosglwyddiad nosocomiaidd—sef trosglwyddiad rhwng staff gofal iechyd ac eraill—wedi cyfarfod ac yn cael ei arwain gan ein prif swyddog nyrsio a’n dirprwy brif swyddog meddygol yw oherwydd ein bod yn cydnabod y risgiau sy'n bodoli. Ac os oes gan Aelodau enghreifftiau lle maent yn pryderu nad yw hynny wedi’i roi ar waith yn iawn, dylent godi hynny gyda'u bwrdd iechyd lleol wrth gwrs, ac os nad ydynt yn cael ateb boddhaol, dylent roi'r manylion i mi, ac rwy’n fwy na pharod i ymchwilio i’r mater.
Rwy'n clywed pryderon gwirioneddol am anawsterau staffio mewn ysbytai yn fy rhanbarth, gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Philip a phroblemau penodol yng Nglangwili yng Nghaerfyrddin. Dywedir wrthyf—ac mae hyn yn anecdotaidd, Weinidog, felly ni allaf fod yn siŵr a yw hyn yn wir—fod nyrsys a meddygon yn mynd yn sâl gyda’r coronafeirws, ac aelodau o'r cyhoedd yn pryderu p'un a ydynt yn ei ddal yn yr ysbyty, a ydynt mynd yn sâl yn yr ysbyty, neu a ydynt yn ei ddal yn y gymuned. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod ein staff yn gweithio'n anhygoel o galed; maent wedi gwneud gwaith ardderchog hyd yn hyn. A oes unrhyw beth arall y teimlwch fod angen ei wneud i sicrhau nad yw staff yn agored i heintiau mewn ysbytai—yn amlwg, nid yw o fewn eich rheolaeth chi na'r bwrdd iechyd p’un a ydynt yn cael eu heintio yn y gymuned—ac a oes unrhyw gefnogaeth neu ganllawiau pellach y gallwch eu darparu i'r byrddau iechyd yn hynny o beth mewn perthynas â salwch staff?
Ar y pwynt olaf, mae canllawiau penodol pellach y mae'n rhaid i'r Llywodraeth eu rhoi i fwrdd iechyd Hywel Dda. Maent yn ymwybodol o'r cyngor eithaf manwl sydd wedi’i ddarparu ar sawl achlysur. Cyhoeddwyd y canllawiau diweddaraf a ddaeth gan y grŵp trosglwyddiad nosocomiaidd hwnnw ar 6 Tachwedd. Ond mae'r rhain yn heriau anodd iawn i'w rheoli. Yn gyffredinol, mae oddeutu 3 y cant o’r achosion o’r coronafeirws sydd wedi'u cadarnhau yn dod o drosglwyddiad o fewn gofal iechyd. Yr her, serch hynny, yw y gwyddom fod hwn yn grŵp o'r boblogaeth sy’n agored i niwed, lle mae pobl yno i gael triniaeth ar gyfer cleifion mewnol. Felly, mae'r niferoedd yn isel, ond mae'r effaith yn sylweddol, ac mae'r un peth yn wir wrth edrych ar drosglwyddiad mewn lleoliadau caeedig eraill fel cartrefi gofal a charchardai yn benodol. Unwaith eto, mae poblogaethau carcharorion a phreswylwyr cartrefi gofal yn grŵp llai iach o fewn y boblogaeth yn gyffredinol. Ac mae hyn yn rhan o'n her—y gwahaniaeth rhwng trosglwyddiad cymunedol a staff sy'n byw yn y cymunedau hynny a hefyd yn agored i drosglwyddiad o bosibl yn y cymunedau hynny ac yna'n cyflwyno’r feirws o bosibl, yn ogystal â throsglwyddiad nosocomiaidd.
Er hynny, rwy'n gobeithio cadarnhau beth fydd ein sefyllfa gyda phrofion pellach ar gyfer staff, nid yn unig gyda’r profion wedi'u targedu rydym wedi'u cynnal pan fydd achosion yn codi, sy'n dal i fod yn rhan o'n dull gweithredu, ond p’un a allwn gael dull mwy cyffredinol o brofi, ac rwy'n gobeithio gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf. A bydd fy swyddogion ac arweinwyr y gwahanol fyrddau iechyd yn cyfarfod yfory, a hoffwn fod mewn sefyllfa i roi diweddariad i’r cyhoedd ac i'r Senedd yn yr ychydig dyddiau wedyn.
Weinidog, mae'n amlwg y bydd cyflwyno brechlyn o fewn y dyddiau nesaf, fel y dywedir wrthym, yn bwysig iawn ar gyfer rheoli'r feirws yn amgylchedd yr ysbyty. Wrth gwrs, un agwedd ar y brechlyn penodol hwn yw bod rhaid ei gadw ar -70 gradd canradd, sy'n golygu y bydd ei reoli a storio’r brechlyn yn dasg dechnegol anodd dros ben. A yw'n debygol y bydd brechu mewn ysbytai yn un o'r blaenoriaethau mwyaf pan fydd modd cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru? A allwch roi mwy o wybodaeth inni ynglŷn â hyn?
Gallaf. Bydd y broses o gyflwyno'r brechlyn yn sicr yn helpu i atal rhai mathau o drosglwyddiad nosocomiaidd. Byddai hefyd o gymorth gyda thrigolion mewn cartrefi gofal o ran ein gallu i amddiffyn staff sy'n mynd i'r cartrefi gofal hynny a'r preswylwyr sy'n symudol. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi darparu cyngor y mae’r pedwar prif swyddog meddygol wedi’i gymeradwyo, a chyfarfu Gweinidogion iechyd mewn galwad gynnar ben bore heddiw gyda swyddogion cyfatebol o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ac rydym wedi cytuno, unwaith eto, i ddilyn y cyngor y mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi'i roi ar flaenoriaethu. Yn y cyngor hwnnw, mae preswylwyr cartrefi gofal a phobl wirioneddol agored i niwed ar frig y rhestr, a’r grŵp nesaf yw pobl dros 80 oed a staff rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais heddiw, rwyf wedi nodi, oherwydd priodoleddau penodol brechlyn Pfizer, nad ydym yn credu y bydd modd inni fynd ag ef yn ddiogel i gartrefi gofal. Golyga hynny y bydd gennym nifer lai o ganolfannau brechu y bydd angen inni fynd â phobl iddynt. Nawr, yn ymarferol, ni fydd rhai preswylwyr cartrefi gofal felly yn cael y brechlyn hwnnw yn ystod wythnosau cyntaf y broses o’i gyflwyno. Mae angen inni ddeall y data diogelwch mewn perthynas â symud y brechlyn hwnnw o gwmpas mewn amser real mewn mwy o leoliadau, cyn y gallwn edrych, o bosibl, ar fynd ag ef i rywle arall. Nawr, mae hynny'n her, a golyga na fydd modd inni fynd â'r brechlyn at breswylwyr cartrefi gofal, sydd ar frig y rhestr o bobl agored i niwed. Byddant yn cael rhywfaint o amddiffyniad gennym drwy ein gallu i flaenoriaethu staff sy'n gweithio yn yr amgylcheddau hynny, yn ogystal â'n staff gofal iechyd rheng flaen. Felly, rwy'n dal i fod yn obeithiol y bydd y brechlyn hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ond dyna pam rwyf wedi dweud ar goedd a dywedaf eto fod brechlyn Rhydychen yn rhoi llawer mwy o allu inni ei ddosbarthu gan ei fod yn frechlyn y gallwch ei storio mewn oergell yn y bôn, felly ceir llawer llai o heriau logistaidd wrth ei gyflwyno.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau diagnostig ledled Cymru? OQ55970
Mae gwasanaethau diagnostig yn rhan sylfaenol o'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd. Amlinellir ein hymrwymiad i'r gwasanaethau hynny yn y datganiadau o fwriad ar gyfer delweddu a phatholeg, cynllun gweithredu Cymru ar endosgopi a'r strategaeth genedlaethol ar gyfer genomeg. Cefnogir y rhain oll gan nifer o raglenni cenedlaethol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, bythefnos yn ôl, cyhoeddodd y grŵp trawsbleidiol ar ganser ei adroddiad ar y llwybr canser sengl ac effaith COVID-19 ar wasanaethau canser, ac un o'r argymhellion amlwg oedd buddsoddi mewn gwasanaethau diagnostig, mewn offer, mewn lleoliadau ac mewn pobl—pobl y mae eu hangen yn fawr. Mae Cymorth Canser Macmillan hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i lefelau gwasanaethau diagnostig ddychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig, ac i lefelau uwch na chyn y pandemig mewn gwirionedd, fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw ôl-groniad sydd wedi'i greu o ganlyniad i COVID-19. Nawr, er mwyn gwneud hyn oll, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo adnoddau i'r gwaith o gyflawni hynny. A wnewch chi ymrwymo ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cyllid ar gael i gynyddu adnoddau ar ffurf offer a gweithlu i wasanaethau diagnostig yng Nghymru?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Wrth gwrs, trafodwyd rhywfaint o hyn gennym yr wythnos diwethaf yn y ddadl fer ar adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ganser. Hoffwn ddiolch unwaith eto, nid yn unig i’r Aelod, ond i Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi tynnu sylw at y mater. Mae'n fater pwysig iawn—sicrhau bod gennym yr offer cywir, a hefyd, y staff cywir i allu defnyddio'r offer hwnnw i ofalu am bobl yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi dros £30 miliwn yn y tair blynedd diwethaf mewn offer diagnostig mawr a buddsoddwyd oddeutu £15 miliwn dros y flwyddyn hon mewn diagnosteg. Hefyd, wrth gwrs, agorais Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ym Mhencoed, ac mae honno'n ein helpu'n fawr nid yn unig i hyfforddi cenhedlaeth newydd o bobl, ond i'w cadw yng Nghymru hefyd. Yn y dyddiau nesaf, byddaf yn cadarnhau ffigurau hyfforddi ar gyfer nifer o feysydd ar gyfer staff ar draws y gwasanaeth iechyd, a bydd hynny'n cynnwys materion yn ymwneud â diagnosteg hefyd. Rwyf hefyd yn disgwyl bod mewn sefyllfa yn y dyddiau nesaf i gadarnhau ble rydym arni gyda'r camau pellach ar y cynllun gweithredu cenedlaethol ar endosgopi hefyd. Nid yw'n fater o os byddwn yn buddsoddi yn nyfodol diagnosteg; mae'n ymwneud â faint y byddwn yn ei fuddsoddi. Ac rwyf am ailadrodd yr ymrwymiad a roddais i'r Aelod yr wythnos diwethaf y byddwn yn ymateb yn briodol ac yn ysgrifenedig i adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ganser, gan gynnwys yr adrannau ar y gweithlu diagnostig.
Weinidog, byddwch wedi clywed o'r blaen am y potensial am ddiagnosteg gynnar rydym wedi’i weld yn ysbyty Baglan, er enghraifft, pan ydym yn sôn am ganserau. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad y cyfeiria David ato yn sicrhau bod y gwaith yno'n parhau yn gyflym. Ond roeddwn am ofyn i chi’n benodol heddiw am rôl deintyddion, gan fod eu rôl yn sylwi ar ganserau posibl yn y geg yn ystod triniaethau arferol yn dra hysbys. Mae'n ddealladwy fod y canllawiau cyfredol i ddeintyddion yn gyfyngol, ond a ydych yn gwybod i ba raddau y mae'r ffigurau canfod cychwynnol ar gyfer canserau'r geg wedi cael eu heffeithio ers mis Mawrth, ac a fyddech yn ystyried adolygu'r canllawiau pe bai gostyngiad amlwg wedi bod?
Na, nid oes gennyf ffigur penodol ar gyfer y gostyngiad yn y nifer o ganserau'r geg a gaiff eu canfod, ond rwy'n cydnabod bod deintyddion yn gwneud mwy o lawer na chyfrif faint o ddannedd sydd gennych a rhoi llenwadau. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i hylendid y geg mewn ystod o feysydd, gan gynnwys helpu gyda rhybuddion cynnar o ganser y geg. Felly, mae'n faes sy'n peri pryder. Credaf fod pwynt pwysig iawn i bob un ohonom sy’n ymwneud â’r hyn a ddaw ar ôl COVID, gan y gwyddom fod niwed sylweddol wedi'i wneud eisoes. Gwyddom fod angen inni gymryd camau pellach i gadw mwy ohonom yn fyw ar gyfer y dyfodol. Ond gwyddom hefyd ein bod yn gohirio ac y bydd yn rhaid inni ymdrin â nifer sylweddol o heriau gofal iechyd ar ôl y pandemig. Felly, mae hwn yn un o'r meysydd hynny, ac nid ydym yn deall hyd a lled hynny eto, pryd y bydd angen inni gynllunio ar ei gyfer a chyflawni yn ei herbyn. Pryd bynnag y bydd yn ddiogel ac yn briodol i wneud hynny wrth gwrs, byddwn yn galluogi ac yn annog gofal iechyd pellach i gael ei ddarparu. Nid wyf am golli golwg ar y pwynt a wnaethoch am y gwaith a wnaed yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar symptomau amhenodol, a'r un peth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r hyn rwy’n disgwyl inni ei ddatblygu a’i gyflawni yn y dyfodol, ynghyd â chyngor gan ein clinigwyr yn y rhwydwaith canser.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae heddiw yn ddiwrnod mor galonogol o ran y cyhoeddiad bod y brechlyn cyntaf wedi cael sêl bendith. Y ffordd dwi'n ei gweld hi ydy ein bod ni ar ddechrau—nid diwedd, ond dechrau—y bennod olaf yn y pandemig yma. Ond rŵan, wrth gwrs, wrth inni symud tuag at y golau ym mhen draw y twnnel, gobeithio, mae eisiau dosbarthu'r brechlyn yma. Rydyn ni wedi clywed yn barod gyfeiriad at y ffaith bod grŵp sydd ar frig y rhestr o flaenoriaethau, ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal, sef pobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal, yn methu â chael brechlyn oherwydd rhesymau ymarferol. Mae hynny yn fy mhryderu fi, mae'n rhaid dweud. Ydy'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder i bod gosod blaenoriaeth a dweud, yn syth bin, bod dim modd gwireddu yr amcan o gyrraedd y grŵp blaenoriaeth yna yn syth yn tanseilio, braidd, yr hyder y gall pobl ei gael yn y broses ar gyfer dosbarthu'r brechlyn yma?
Na, nid wyf yn derbyn pwynt yr Aelod o gwbl; credaf ei bod yn hynod bwysig ein bod yn dilyn nid yn unig y cyngor proffesiynol ond y cyngor ar ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn. Ac mae'n bwysig nodi, unwaith eto, ein bod yn siarad am yr un brechlyn hwn, brechlyn Pfizer sydd wedi'i gymeradwyo i gael ei gyflenwi heddiw, brechlyn y mae angen ei storio ar -70 gradd canradd. Wedyn, wrth ei dynnu allan, ac wrth i chi ei drosglwyddo, os na chaiff ei gadw o dan yr amodau hynny, mae'n dechrau dadmer. A'r broblem yno yw mai nifer cyfyngedig o gyfleusterau storio sy'n bodoli, ac mae ei drosglwyddo o'r cyfleuster storio i ganolfan ddosbarthu a chyflenwi'n golygu ei fod yn dadmer wrth i chi ei symud. Os ydym wedyn yn ceisio’i symud i fwy na 1,000 o gartrefi gofal ledled Cymru, ni allwn fod yn sicr y bydd yn dal i fod yn effeithiol i'w ddefnyddio ym mhob un o'r cartrefi hynny, ac nid yw'n rhywbeth y gallwch drosglwyddo cyfeintiau bach ohono. Felly, yr her wedyn yw sut y gallwn ei ddanfon yn ddiogel i gymaint o bobl â phosibl, yn unol â'r blaenoriaethau sy'n bodoli. A dyna'n union rydym yn ei wneud.
Dyma hefyd pam rwyf wedi dweud yn glir fod cryn dipyn o obaith wedi'i fuddsoddi ym mrechlyn Rhydychen, oherwydd os caiff hwnnw ei gymeradwyo i gael ei gyflenwi hefyd, mae hwnnw’n rhywbeth y gallwch ei ddarparu mewn ffordd sy’n fwy cyfarwydd i ni. Felly pan fyddaf yn cael fy mrechlyn ffliw, rwy'n mynd i fferyllfa gymunedol, rwy'n cael pigiad yn fy mraich, a dyna ni. Nid oes proses storio gymhleth; mae’r un peth yn wir gyda meddygfeydd a mannau eraill. Gellir storio a symud brechlyn Rhydychen o dan yr amgylchiadau hynny, ac felly byddai hwnnw'n sicr yn gwneud gwahaniaeth mwy o lawer, nid yn unig i breswylwyr cartrefi gofal, ond i grwpiau eraill o bobl sy'n gaeth i'w cartrefi a fydd ar frig y rhestr o bobl agored i niwed. Mae'n ymwneud â diogelu'r bobl hynny, a dyna pam ein bod wedi tynnu sylw at yr her ymarferol, o byddwn yn parhau i fod yn onest ac yn agored gyda phobl ym mhob un o'r dewisiadau a wnawn.
Diolch am yr ateb yna. Does yna neb yn gwadu, wrth gwrs, yr heriau sy'n codi o'r amgylchiadau mae'n rhaid cadw'r brechiad ynddyn nhw. Mae fy ail gwestiwn i yn ymwneud â'r her ddosbarthu yna; mae o ynglŷn â sicrhau bod yna gyfle cyfartal i bobl, lle bynnag maen nhw yng Nghymru, i gael y brechiad. Mae hi wedi cael ei awgrymu i mi mewn briefings gan swyddogion efallai nad y brechlyn yma ydy'r un mwyaf addas i ardaloedd mwy anodd i'w cyrraedd—ardaloedd gwledig, er enghraifft. Ond, wrth gwrs, dim ond hwn sydd gennym ni wedi cael sêl bendith ar hyn o bryd. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd pobl yn cael eu trin yn yr un ffordd o ran eu gallu i gael y brechlyn, os ydyn nhw yn y grŵp targed penodol, p'un a ydyn nhw yn Wrecsam neu Risga neu Aberdaron neu Aberdâr?
Ydw, rwy'n fwy na pharod i roi sicrwydd i'r Aelod y bydd tegwch ar draws y boblogaeth, ar draws y ddaearyddiaeth, i sicrhau bod cyfleoedd i bobl ddod i gael eu brechu. A chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig arall—i ddod i gael eu brechu. Felly, bydd y GIG yn cysylltu â phobl ac yn eu gwahodd i ddod i ganolfan frechu. Felly, ni ddylai pobl ffonio fferyllfeydd na meddygon teulu na’r clinigydd sy'n eu trin i ofyn pryd y byddant yn ei gael; bydd y GIG yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i ddod ac yn rhoi’r cyfle i chi. Mae’r swp cyntaf yn 800,000 dos, felly 400,000 o bobl ledled y DU. Byddwn yn cael ein cyfran o hynny ar sail poblogaeth, ac yna rydym yn disgwyl y bydd sypiau pellach yn cael eu cyflenwi cyn diwedd eleni, gyda set arall yn y flwyddyn newydd hefyd. Unwaith eto, cafodd hyn ei ategu yn ein sgwrs rhwng y pedair gwlad y bore yma. Felly, bydd tegwch o fewn y DU mewn perthynas â’n cyflenwad. Rydym hefyd wedi cytuno ein bod am ddechrau brechu ar yr un pryd, a gallwn symud ymlaen i sicrhau y ceir tegwch ar draws y wlad, a dyna'n union beth fydd ein cynlluniau yng Nghymru yn ei gyflawni, fel y byddech yn ei ddisgwyl.
Diolch am y sicrwydd ar y pwyntiau yna. Mae hynny'n bwysig—hynny ydy, sicrhau bod Cymru'n cael ei siâr o bob batsh, nid o'r holl archeb, a bod y gwahanol wledydd yn y Deyrnas Unedig yn gallu dechrau ar y broses yr un pryd.
Rydyn ni yn aros am sêl bendith o leiaf ddau frechlyn arall yn y tymor byr, rydyn ni'n gobeithio. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod bod y cwestiwn o ddibynadwyedd brechlyn Rhydychen—AstraZeneca—wedi bod yn destun cryn ddadlau yn ddiweddar. Rydyn ni'n mawr obeithio, yn sicr, y bydd o yn ddigon effeithiol i gael ei gymeradwyo, ond efallai na fydd o'r un mor effeithiol â'r brechiadau eraill. Ond—ac mae hyn yn allweddol—efallai y bydd o'n rhatach. A gawn ni sicrwydd na fydd penderfyniad ar ba frechlyn sy'n cael ei ddefnyddio yn lle, o ran gwahanol lefydd daearyddol neu wahanol gyd-destunau, yn cael ei wneud ar sail cost?
Bydd yr unig ddewisiadau y byddwn yn eu gwneud ynglŷn â chyflenwadau’r brechlyn a ddaw i Gymru yn cael eu gwneud ar sail sut y cânt eu darparu'n effeithiol i ddiogelu pobl ar draws y boblogaeth, a threfn y flaenoriaeth yn erbyn anghenion a budd clinigol pobl, gan ystyried yr heriau ymarferol sydd ynghlwm wrth ddarparu’r brechlyn hwnnw. Fel rydym newydd sôn, mae brechlyn Pfizer yn creu her benodol. Byddwn yn aros i weld beth sydd gan y rheoleiddiwr i'w ddweud am y brechlynnau eraill. Er ei fod yn addawol, rydym wedi bod yn ofalus iawn ac yn glir iawn er mwyn peidio â cheisio rhoi'r argraff i bobl y bydd popeth yn cael ei ddatrys a bod yr holl beth yn anochel. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y broses reoleiddio yn cael ei gwneud mewn ffordd sy’n golygu bod pobl yn credu yn niogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn, a byddwn yn eglur gyda'r cyhoedd ynglŷn â’r pethau hynny. Mae'n bwysig iawn bod yn eglur nad gwleidyddion sy’n penderfynu a yw brechlyn yn ddiogel; mae rheoleiddiwr annibynnol yn gwneud hynny. Gan wleidyddion a'n gwasanaeth iechyd gwladol wedyn y mae'r cyfrifoldeb am ddarparu'r brechlyn hwnnw'n deg ar draws y boblogaeth i sicrhau'r dyfodol y mae pob un ohonom am ei gael y tu hwnt i'r pandemig cyfredol hwn, gobeithio.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae heddiw’n ddiwrnod newyddion da, diolch byth, ar ôl llawer o ddyddiau tywyll, a dweud y lleiaf. Rwy'n canmol pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu'r brechlyn, neu’r brechlynnau, gan y bydd rhai eraill, gobeithio, yn dod i’r amlwg yn y dyfodol heb fod yn rhy bell. Diolch am eich datganiad y bore yma hefyd; roedd yn ddatganiad manwl ac ystyriol iawn, yn fy marn i, ac fe ychwanegodd lawer o wybodaeth fuddiol y gallem, fel Aelodau etholedig, ei rhoi i’n hetholwyr. Pwynt yr hoffwn ei godi gyda chi yw'r derminoleg rydych wedi'i defnyddio, ac y mae'r wasg eisoes wedi dechrau ei defnyddio yn anffodus, pan fyddwch yn sôn am y math o gerdyn credyd a fydd yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn cael eich apwyntiad cyntaf ac a fydd yn cynnwys manylion ynglŷn â’r math o frechlyn rydych wedi'i gael a'r dyddiad y byddwch yn cael eich adalw am ail bigiad. Fel rwy'n dweud, rwy'n nodi bod y wasg eisoes wedi dechrau ei alw’n gerdyn adnabod. A allwch gadarnhau nad cerdyn adnabod yw hwn, ac nad oes ganddo unrhyw statws cyfreithiol, ac mai cerdyn gwybodaeth yn unig ydyw a fydd yn cynorthwyo'r unigolyn sy’n cael eu brechu i gael y brechlyn dilynol, yn amlwg, a phan fydd y brechlyn dilynol wedi'i roi, ni fydd ganddo unrhyw statws cyfreithiol pellach?
Nid cerdyn adnabod mo hwn. Nid oedd unrhyw fwriad erioed iddo fod yn gerdyn adnabod. Nid yw gwneud hynny o fewn ein pwerau. Mae a wnelo'n syml ag atgoffa pobl pryd i ddychwelyd i gael eu dos nesaf o'r brechlyn, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol. Ac wrth gwrs, bydd yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl y dônt i gysylltiad â hwy. Felly, nid oes agenda arall yma o gwbl. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r brechlyn a'r cyfle y mae'n ei ddarparu i bob un ohonom.
Rwy'n ddiolchgar am eich eglurhad, oherwydd yn sicr, rwy’n ei ystyried yn gerdyn apwyntiad, yn hytrach na cherdyn adnabod. Ond fel y dywedais, mae rhai rhannau o’r cyfryngau eisoes yn cyfeirio ato fel cerdyn adnabod, a chredaf fod hynny'n destun gofid. O'ch ateb, rwy’n cymryd na fydd gan y cerdyn hwn unrhyw statws cyfreithiol.
Os caf symud ymlaen at ddyrannu, fe sonioch chi am rai o'r pwyntiau ynghylch dyrannu wrth y siaradwr blaenorol, ond bydd y swp cyntaf hwn a ddaw i ni yn cynnwys oddeutu 40,000 dos i Gymru, a fydd, o'i dorri yn ei hanner, gan ei fod yn frechlyn dau bigiad wrth gwrs, yn brechu 20,000 o unigolion. Man cychwyn bach iawn yw hwnnw, yn amlwg, ond mae’n fan cychwyn i'w groesawu. Sut y bydd y Llywodraeth yn penderfynu sut y bydd y nifer hwnnw’n cael ei wasgaru ledled Cymru? Rwyf wedi clywed am y grwpiau blaenoriaeth, ac rwy'n derbyn rhesymeg y grwpiau blaenoriaeth, ond gyda 20,000 dos yn unig ar gael, nid yw hynny hyd yn oed yn mynd i gyffwrdd â'r ochrau o ran ymdrin â'r grwpiau blaenoriaeth hynny, heb sôn am y gwasgariad daearyddol y mae angen ei ystyried hefyd. Felly, a allwch egluro’r syniadau y tu ôl i'r rhesymeg ar gyfer pennu sut y caiff yr 20,000 dos cyntaf eu dyrannu? Yn bwysig, gan y gwyddom y bydd y gyfran gyntaf yn gyfanswm o 800,000 dos ledled y DU, gyda’n dyraniad ninnau, fel y dywedais, oddeutu 40,000, pryd fydd y dyraniad nesaf yn cael ei ryddhau ar gyfer y brechlyn penodol hwn? Rwy'n cymryd y bydd hynny’n digwydd yn y flwyddyn newydd, ond a ydym yn gwybod faint, a beth rydym yn ymdrin ag ef?
O ran yr 800,000, rydych yn llygad eich lle y bydd ein cyfran ar sail poblogaeth ychydig o dan 40,000 dos, felly gellir diogelu ychydig o dan 20,000 o bobl, gan fod angen dau bigiad arnynt. Bydd hynny’n digwydd yn unol â maint y boblogaeth ar draws y byrddau iechyd. Cytunwyd ar hynny gan fwrdd y rhaglen frechu yng Nghymru. Felly, unwaith eto, ni fyddwn yn dweud, er enghraifft, y bydd gogledd Cymru yn cael y gyfres gyntaf o'r brechlyn i gyd, ac y gall gweddill y wlad aros. Felly, bydd pob rhan o'r wlad yn cael rhywfaint o ddosau.
Mae Llywodraeth y DU yn caffael y brechlyn ar gyfer y DU gyfan, ac rydym wedi cytuno, mewn perthynas â chyfrannau teg, ar y gyfran ar sail poblogaeth sy'n mynd i fformiwla Barnett ar gyfer pob gwlad yn y DU. Felly, byddwn yn cael cyfran ganrannol warantedig o unrhyw gyflenwad i'r DU. Y cadarnhad heddiw, unwaith eto, ar ôl y swp cyntaf o 800,000, yw ein bod yn disgwyl wedyn y bydd mwy o frechlynnau yn cael eu darparu ym mis Rhagfyr. Nid ydym wedi cael yr union ffigurau eto, ond ceir arwyddion y gallwn ddisgwyl y bydd sawl miliwn yn cael eu darparu ym mis Rhagfyr. Ond fel y gwyddoch, gan fod angen dau bigiad arnoch i gael eich diogelu, gyda phoblogaeth o oddeutu 60 miliwn yn y DU, hyd yn oed os cawn 2 filiwn, dyweder, ni fydd hynny’n ddigon ar gyfer y boblogaeth gyfan, a dyna pam fod angen inni fod yn wirioneddol glir fod angen brechlynnau lluosog arnom, ac i fwy o frechlynnau gael eu darparu i'r DU er mwyn inni allu diogelu'r boblogaeth gyfan.
Mae hyn yn dibynnu hefyd, wrth gwrs, ar y gwaith o weithgynhyrchu’r brechlyn yng Ngwlad Belg, ac ni waeth beth sy’n digwydd ar ddiwedd y flwyddyn ac sy’n effeithio ar fasnachu a chysylltiadau eraill, mae Llywodraeth y DU wedi dweud, os bydd unrhyw broblemau mewn perthynas â throsglwyddo a phorthladdoedd, y byddant yn hedfan y brechlyn yma hefyd, ac y byddant yn ysgwyddo’r gost am hynny. Nawr, mae hynny'n bwysig hefyd, gan y credaf y bydd pobl yn poeni fel arall am y cyflenwad posibl o'r brechlyn. Rydym yn disgwyl i gryn dipyn ohono ddod i'r wlad yn gyffredinol, ac yna rydym yn disgwyl deall ble rydym arni gyda brechlyn Rhydychen hefyd. Felly, rydym yn ystyried yr holl wahanol agweddau hynny ar ein cyfran yng Nghymru a sut y gellir ei dosbarthu ledled Cymru. Pryd bynnag y daw unrhyw gyflenwad newydd i mewn, byddwn yn cael cyfran ohono, ac wrth iddo ddod yma, rwy'n llwyr ddisgwyl gallu diweddaru'r Aelodau a'r cyhoedd ynglŷn â faint o gyflenwad rydym yn ei gael.
Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog iechyd, yn enwedig eich sicrwydd y bydd miliynau o ddosau ychwanegol yn dod i'r Deyrnas Unedig erbyn diwedd mis Rhagfyr. Yr hyn yr hoffwn ei archwilio gyda chi hefyd yw gwytnwch y GIG ar gyfer ymdrin â'r rhaglen frechu a'i waith bob dydd. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom dreulio cryn dipyn o amser yn edrych ar amseroedd aros, ac rydym yn ymwybodol o’r ôl-groniad o ran amseroedd aros. A allwch roi sicrwydd inni, yn amlwg, fod gan y GIG gapasiti i gyflawni'r rhaglen frechu uchelgeisiol hon ac na fydd yn ymyrryd â’r angen i'r GIG drin pobl Cymru gyda’u anghenion bob dydd? Credaf y dylai fod gennym Weinidog brechu yma yng Nghymru. Rwy'n derbyn mai mater i'r Prif Weinidog ei benderfynu yw hynny. Nid wyf yn rhoi'r sylw hwnnw i chi, ac nid wyf yn beirniadu eich perfformiad. Nid yw'n bwynt rwy'n ceisio’i sgorio yn eich erbyn mewn unrhyw ffordd, ond credaf fod maint yr hyn rydym yn sôn amdano a faint o amser y bydd y rhaglen hon yn ei gymryd i’w chyflawni yn golygu y bydd angen ffocws manwl yn ogystal â ffocws pwrpasol ar y GIG a'r sefyllfa y mae ein GIG ynddi ar hyn o bryd. Felly, hoffwn ddeall pa wytnwch sydd gan y GIG i gyflawni'r rhaglen frechu hon heb iddi darfu ar y dasg bwysig o leihau'r rhestrau aros yma yng Nghymru.
Credaf fod sawl pwynt gwahanol yno. O ran yr alwad y gwn i chi ei gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol am Weinidog brechu, oni bai fod y Prif Weinidog yn penderfynu fel arall, fi yw hwnnw. Mae hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd, mae hon yn rhaglen imiwneiddio, byddech yn disgwyl iddi gael ei darparu drwy’r lle hwn. Nid yw'n syndod mai'r prif swyddog meddygol yw'r uwch-swyddog, ynghyd â Gill Richardson, sy'n uwch-gynghorydd proffesiynol i'r prif swyddog meddygol ac yn gyn-gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a'u bod yn arwain o safbwynt gweision sifil ac yn dod â phobl ynghyd mewn byrddau iechyd a fydd wedyn yn cyflawni. Ac rwy'n ddiolchgar iawn—dylwn wneud y pwynt hwn eto—am y ffordd y mae cynllunwyr milwrol wedi ymroi i gynorthwyo ein gwasanaeth iechyd gwladol. Drwy gydol y pandemig, mae'r lluoedd arfog wedi chwarae rhan ragorol yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ein hamcanion i helpu i gadw Cymru'n ddiogel, ac maent yn rhan fawr o'r dull tîm Cymru o gyflenwi’r brechlyn.
Gyda phob parch, drwy'r gaeaf, gyda'r holl bwysau arferol, a chyda heriau cyfradd heintio gynyddol y coronafeirws yn dal i fod yn sylweddol, a’r holl niwed a ddaw yn sgil hynny, mae arnaf ofn nad wyf yn credu ei fod yn ddisgwyliad realistig i ddweud y gallem fod yn disgwyl rhaglen frechu sylweddol yn ogystal â gallu mynd i’r afael â'r ôl-groniad yn yr amseroedd aros. Rydym yn ymgymryd â’r gwaith ofnadwy o flaenoriaethu, ac os na allwn adfer rheolaeth a brwydro yn erbyn y coronafeirws, hyd yn oed os nad ydym yn brechu pobl ar yr un pryd, efallai y bydd yn rhaid inni wneud mwy o ddewisiadau ynghylch gweithgarwch dianghenraid, ac mae hynny hefyd yn arwain at niwed, ac rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Felly dyna'r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, gyda rhaglen frechu ar ben hynny. Mae’n amlwg fod hon yn flaenoriaeth hollbwysig, felly bydd rhaid inni ymdrin â'r blaenoriaethau angenrheidiol hynny. Rwy'n gobeithio, serch hynny, ei fod yn cadarnhau i'r cyhoedd yr angen i ystyried y rhaglen frechu a fydd yn cychwyn yn y dyfodol agos iawn fel cyfle i gyrraedd y dyfodol hwnnw yn un darn, ac i beidio â gollwng gafael ar yr holl aberthau a wnaed hyd yn hyn, a pheidio â gweithredu cyn y daw’r brechlyn fel pe na bai angen parhau â'r cyfyngiadau anffodus ac annymunol rydym yn byw gyda hwy, gyda'r mesurau cadw pellter cymdeithasol a'r ffordd na allwn gael y cyswllt dynol sydd mor bwysig i bob un ohonom. Ond os gallwn ddal ati a dygnu arni, dilyn y cyfyngiadau, a gwneud yr hyn y dylem ei wneud am ychydig fisoedd yn rhagor, fe gawn ddyfodol gwahanol ac yn sicr bydd gennym ôl-groniad sylweddol i fynd i'r afael ag ef yma yng Nghymru, ac yn wir, ym mhob gwlad yn y DU.
Cwestiwn 3, Mike Hedges.
Nid wyf yn gweld Mike Hedges, felly symudaf ymlaen at gwestiwn 4.
Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OQ55950].
Cwestiwn 4, Mark Reckless.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd trafodaethau rhynglywodraethol ynghylch yr ymateb i COVID-19? OQ55979
Rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gyda fy nghyd-Weinidogion iechyd, gan gynnwys un am 06.30 y bore yma, ledled y DU ers i'r pandemig ddechrau. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir yr hoffai gael rythm rheolaidd, dibynadwy o gyfarfodydd rhwng y pedair gwlad fel y gallwn ddysgu mwy o ymateb pob Llywodraeth i’r pandemig.
Mae'n dda clywed am ddechrau cynnar y Gweinidog heddiw. A gaf fi nodi wrtho fod nifer o fy etholwyr wedi bod mewn cysylltiad i ddweud pa mor falch ydynt fod y pedair Llywodraeth ledled y DU wedi rhannu’r un dull o fynd ati ar gyfer cyfnod y Nadolig mewn perthynas â’r cyfyngiadau COVID, a’u bod yn meddwl tybed pam na ellir cael ymateb o'r fath ar sail y DU gyfan yn fwy cyffredinol?
Rydym wedi ceisio cael mwy o ymatebion ar sail y DU gyfan na pheidio, ac nid oes modd inni alw cyfarfodydd COBRA, mae arnaf ofn. Gwn fod Mr Reckless yn ceisio honni’n rheolaidd mai'r broblem wirioneddol gyda pheidio â chael dull sy’n canolbwyntio i raddau mwy ar y pedair gwlad yw bod Llywodraeth Cymru’n rhedeg i ffwrdd yn fwriadol oddi wrth y cytundeb sydd yno pe byddem ond yn ei gymryd. Mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, ag ymgysylltu ar draws y pedair gwlad. Felly, mae Gweinidogion iechyd wedi cyfarfod yn rheolaidd, ond y cyfarfodydd arweinyddiaeth rhwng y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU: dyna'r dewis y mae Prif Weinidog y DU wedi'i wneud, peidio â galw'r cyfarfodydd hynny. Mae Michael Gove wedi cadeirio'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd COBRA rydym wedi'u cael yn ddiweddar. Credaf y dylai Prif Weinidog y DU egluro pam ei fod wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y broses honno, sy'n anghyffredin yn fy marn i, o ystyried effaith y pandemig y mae pob un ohonom yn byw drwyddo, ond edrychwn ymlaen at sgwrs aeddfed a pharhaus rhwng y pedair gwlad, gan y credwn fod gan yr undeb lawer o gryfderau os ydym yn barod i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Weinidog, rwy'n cytuno y dylem fabwysiadu ymagwedd pedair gwlad lle gallwn wneud hynny wrth gwrs, ond weithiau rwy'n falch nad ydym yn gwneud hynny, gan inni synnu wrth ddarllen casgliadau adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar y diffyg tryloywder yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi caffael cyfarpar diogelu personol a chontractau allweddol eraill yn ystod y coronafeirws, a’r datgeliadau wedi hynny ynglŷn â chytundebau gwerth miliynau o bunnoedd heb fawr ddim archwiliadau sydd wedi arwain at elw annisgwyl yn sgil COVID i gyfeillion Gweinidogion y Llywodraeth a chyfeillion ASau’r blaid sy'n llywodraethu. Felly, rwy'n croesawu eich datganiad yn ddiweddar ynglŷn â sut y mae cyfarpar diogelu personol wedi’i gaffael yma yng Nghymru, ac a gaf fi ofyn am eich sicrwydd na fyddwn ni, yng Nghymru, yn cael ein tynnu i mewn i unrhyw weithgarwch amheus na chyllid cyflym i ffrindiau, fel rydym wedi’i weld yn ôl pob tebyg yn San Steffan?
Cyhoeddais ddatganiad yr wythnos diwethaf yn nodi’n glir iawn ein bod wedi caffael cyfarpar diogelu personol yn llwyddiannus ac yn unol â'r rheolau a chyda’r uniondeb priodol. Mae cwestiynau amlwg wedi’u gofyn—nid gan gyhoeddiadau asgell chwith, ond gan 'The Times' ac eraill, a bydd yn rhaid ateb y rheini. Rwy’n llwyr ddisgwyl nid yn unig y bydd rhagor o sylw’n cael ei roi iddo gan adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gyfer Lloegr, ond credaf y bydd mwy o bobl yn croesawu’r sicrwydd y gallaf ei roi nad oes unrhyw weithgarwch amheus wedi bod o ran cyfarpar diogelu personol yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae tîm Cymru—yn enwedig ein tîm cydwasanaethau—wedi mynd ati i gaffael cyfarpar diogelu personol yn llwyddiannus ac mewn ffordd gwbl dryloyw i wasanaethu anghenion ein staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am driniaeth colli golwg yng ngogledd Cymru? OQ55966
Drwy gydol y pandemig, mae practisau optometreg ac adrannau gofal llygaid ysbytai wedi bod ar agor ar gyfer gofal llygaid hanfodol a brys. Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi effeithio ar y gwasanaethau. Mae byrddau iechyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod cleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg yn cael eu trin mewn modd mor amserol â phosibl.
Diolch. Mae deg mis wedi mynd heibio heb i ddata misol ar gleifion allanol offthalmoleg gael ei gyhoeddi. Bedwar diwrnod yn ôl, datgelodd BBC Wales fod Mrs Helen Jeremy wedi’i mynd yn ddall ar ôl i’w thriniaeth gael ei gohirio oherwydd y pandemig. Mae Mrs Jeremy yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond mae llawer yn wynebu argyfwng ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nawr, mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall wedi rhybuddio bod miloedd yn rhagor o bobl yng Nghymru mewn perygl o golli eu golwg yn barhaol oherwydd yr oedi i driniaethau. Canfu cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Wales i bob bwrdd iechyd fod mwy na 33,000 o bobl sydd mewn perygl o golli eu golwg yn aros yn rhy hir am driniaeth. Roedd 40 y cant o gleifion ffocysau goradlewyrchol yn aros y tu hwnt i'w dyddiad targed clinigol ddiogel ym mis Mai 2020, ac mae nifer y bobl sy'n aros dros naw mis am lawdriniaeth cataractau wedi cynyddu bedair gwaith. Felly, Weinidog, a wnewch chi weithredu yn unol â galwadau cyfarwyddwr RNIB Cymru a darparu digon o adnoddau i sicrhau bod y bobl hyn yn cael eu gweld a bod eu golwg yn cael ei achub?
Rwy'n cydnabod y gall oedi o ran triniaethau gofal llygaid arwain at golli golwg yn barhaol. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'r gallu i wella neu fod angen triniaeth fwy radical i wella; mae’n bosibl y gall rhywun golli eu golwg, ac ni allwch ei wrthdroi. Fel y gwyddoch, cyn y pandemig, roeddem wedi dechrau ar broses ddiwygio nid yn unig mewn perthynas â’r mesurau, ond wedyn i hybu gwell ymddygiad a blaenoriaethu clinigol, a chredaf fod hyn wedi tynnu sylw at ddealltwriaeth fwy agored o'r hyn y mae ein rhestrau’n ei ddangos, oherwydd o’r blaen, gallech fod wedi cyflawni targed heb gyrraedd y bobl â'r angen mwyaf o reidrwydd, neu’r bobl yn y perygl mwyaf o golli eu golwg. Felly, mae ein bwrdd gofal wedi'i gynllunio eisoes yn dod â phobl ynghyd, gan gynnwys yr RNIB, a chredaf ei bod yn deg dweud bod yr her a wnânt yn gyhoeddus yn un y maent yn ei gwneud hefyd yn y cyfarfodydd a gânt gyda swyddogion. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda hwy ar wella gwasanaethau colli golwg, a bydd hon yn her sylweddol iawn drwy gydol y pandemig ac ar ei ôl hefyd.
Yn anad dim, mae'r pandemig wedi pwysleisio'r angen i ddiwygio ein system gofal iechyd gyda bwriad pendant. Y diwygiadau rydym wedi'u cychwyn, rwy’n credu, yw'r rhai cywir o hyd, ond mae'n ymwneud â sut rydym yn eu gyrru ymlaen gydag ymdeimlad hyd yn oed yn fwy o gyflymder a brys, ac mae angen i’r ysbryd brwdfrydig sydd wedi amlygu ac wedi bod yn nodwedd o ymateb y gwasanaeth iechyd gwladol yn ystod y pandemig barhau yn y cyfnod adfer. Felly, edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r RNIB, ac rwy'n siŵr y byddant yn parhau i herio drwy eu hymrwymiadau preifat yn ogystal â'u sylwebaeth gyhoeddus, fel y byddech yn ei ddisgwyl.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthu brechlynnau COVID-19 ledled Cymru? OQ55958
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae byrddau iechyd Cymru yn paratoi ar gyfer cyflwyno'r don gyntaf o frechlynnau COVID-19? OQ55972
Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 6 a 7 gael eu grwpio.
Mae’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio’r gwaith o ddarparu'r brechlynnau COVID-19 ers mis Mai. Bydd grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu yn derbyn y brechlyn nawr, ond derbyniwyd cymeradwyaeth gan y rheoleiddiwr, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn eich datganiad y bore yma, yn amlwg, fe dynnoch chi sylw at yr hyn a fydd yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r rhaglen frechu, pa frechlyn bynnag a fydd—sef y staff a'r unigolion sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith ar lawr gwlad. Fe ddywedoch chi fod ymarferion hyfforddi wedi'u cynnal gyda staff amrywiol ledled Cymru. A allwch roi sicrwydd inni fod yr ymarferion hynny wedi ystyried y gwahaniaethau amrywiol rhwng y brechlynnau? Beth yw'r adborth cychwynnol ynghylch maint y gweithlu a allai fod yn ofynnol i gyflwyno rhaglen frechu genedlaethol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf?
Wel, ni allaf roi ffigur i chi, gan y byddai hynny'n golygu tynnu ffigur allan o'r awyr ar gyfer maint y gweithlu cyfan, ond yr hyn rydym yn ei gydnabod yw y credwn y bydd modd inni gyrraedd sefyllfa lle gallwn hyfforddi pobl nad ydynt yn staff gofal iechyd i allu darparu rhai o'r brechlynnau, ac ydy, mae'r hyfforddiant yn ystyried priodoleddau pob brechlyn, oherwydd fel rwyf wedi’i ddweud, mae priodoleddau'r brechlynnau’n wahanol, a bydd yr hyfforddiant yn ymwneud â’u trosglwyddo a’u storio yn ogystal â’u darparu. Felly, credaf y gallwch gael sicrwydd drwy lefel y manylion yn y datganiad sy'n tynnu sylw at y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan weithwyr proffesiynol ar draws y sector, ac y bydd hyn yn flaenoriaeth hollbwysig.
Byddech yn disgwyl y gallai datganiadau tebyg gael eu gwneud gan Lywodraethau eraill y DU, oherwydd mewn gwirionedd, mae’r pedwar GIG, y pedair Llywodraeth, wedi bod yn rhannu llawer o wybodaeth ynglŷn â’r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni. Felly, nid yn unig fy mod yn obeithiol, ond rwy’n sicr, â chyda phob rheswm yn fy marn i, ynglŷn â'n gallu i gyflwyno rhaglen frechu ac i ddechrau o fewn dyddiau ar yr un pryd â gweddill y DU, ac i allu ei chyflwyno’n llwyddiannus ar draws y boblogaeth. Yr her i ni wedyn fydd sut rydym yn llwyddo i ddod â’r brechlyn i mewn i'r wlad ac yna pa mor gyflym y gallwn ymateb i gyflymder y galw, gan y credaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn awyddus iawn i gael eu diogelu gan y brechlyn.
Weinidog, yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn wir am eich datganiad y bore yma. Roedd yn addysgiadol iawn, un o'r datganiadau gorau i mi eu gweld ers amser maith gan y Llywodraeth a dweud y gwir, ac mae wedi ateb nifer enfawr o'r cwestiynau a oedd gennyf. Ond mae gennyf un neu ddau o bwyntiau bach roeddwn yn awyddus i’w codi gyda chi. Y cyntaf oedd eich bod, yn eich datganiad, yn dweud bod angen pedair wythnos rhwng y brechlynnau. Ddydd Gwener, roeddwn gyda grŵp o bobl eraill a oedd wedi cael sicrwydd mai cyfnod o dair wythnos ydoedd mewn gwirionedd. Felly, a allwch egluro hynny, os gwelwch yn dda?
A allech roi ychydig mwy o fanylion inni hefyd ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli'r system adalw ar gyfer yr ail ddos? Oherwydd er fy mod yn deall bod gwasanaeth imiwneiddio Cymru yn dod yn ei flaen yn dda, mae'n dal i fod, yn ôl y wybodaeth a roddwyd i mi, yn dameidiog; nid yw’n barod yn ei gyfanrwydd eto. Yna, mae’n rhaid inni recriwtio llawer iawn o staff a sicrhau bod y wybodaeth honno'n gweithio'n dda iawn ac y gallwn berswadio pobl i ddod yn ôl am yr ail frechlyn.
Ac yn olaf, rwy'n deall bod profion diweddar brechlyn AstraZeneca Rhydychen wedi canfod bod cael hanner dos wedi'i ddilyn gan ddos llawn yn llawer mwy effeithlon na chael dau ddos llawn. Bydd hyn, wrth gwrs, yn cynyddu faint o’r brechlyn sydd ar gael i Gymru ac i'r DU, a tybed a oes gennych unrhyw ddiweddariad neu unrhyw sylwadau y gallech eu hychwanegu at hynny? Diolch yn fawr iawn.
Credaf fod tri chwestiwn yno, y cyntaf ynglŷn â’r cyfnod rhwng dosau. Y cyngor rwyf wedi'i gael yw pedair wythnos. Byddwn yn parhau i archwilio a ellir ei fyrhau er mwyn ein galluogi i ddosbarthu dau ddos brechlyn cyfredol Pfizer, sydd wedi’i gymeradwyo i gael ei gyflenwi, yn gyflymach.
O ran gwasanaeth imiwneiddio Cymru, fel y dywedais yn y datganiad, gall hwnnw drefnu ail ddosau ac anfon llythyrau apwyntiad yn awtomatig, ac felly byddwn yn gallu anfon y nodyn atgoffa hwnnw at bobl. Ac wrth gwrs, bydd ganddynt rywbeth diriaethol i’w hatgoffa hefyd, fel y bûm yn ei drafod gyda'ch cyd-Aelod, gyda cherdyn apwyntiad. Felly, bydd yna gyfleoedd i atgoffa pobl. Ac unwaith eto, gan fod hwn yn mynd i fod yn ymarfer mor sylweddol, credaf y bydd yn anodd iawn osgoi'r cyfathrebu cyhoeddus ehangach ynghylch realiti cyflwyno'r brechlyn, ac rwy'n hyderus, nid yn unig yn yr ychydig bobl gyntaf a fydd yn cael y brechlyn, ond yn yr ychydig bobl gyntaf a fydd yn dod yn ôl wedyn am eu hail ddos, bydd ganddynt ddiddordeb yn y rheini, ac yna, yn yr wythnos ganlynol, pan ddylent fod wedi’u diogelu a’u hamddiffyn i’r graddau mwyaf posibl, i ddeall beth y mae hynny wedi’i olygu i'r gwasanaethau y maent naill ai'n gweithio ynddynt, neu sut y gallant fyw eu bywydau.
Mae'n ddrwg gennyf, ymddengys fy mod wedi anghofio'ch trydydd cwestiwn, gan i chi ofyn tri yn olynol.
Brechlyn Rhydychen a’r ffaith ei fod yn un dos a hanner.
Brechlyn Rhydychen, ie. Mae brechlyn Rhydychen—wel, unwaith eto, rydych wedi gweld y newyddion cyhoeddus am hyn. Fe'i darparwyd ar ddamwain. Ar un cam o'r treial, fe wnaethant ddarparu hanner pigiad ar ddamwain, ond gwelsant fod hynny, yn ôl pob tebyg, wedi rhoi lefel uwch o effeithiolrwydd, lefel uwch o imiwnedd, sy'n newyddion da, ac weithiau, bydd pethau ffodus yn digwydd yn hytrach na'r hyn a gynlluniwyd, ac ymddengys bod hwn yn un o'r rheini. Felly, mae hynny'n rhan o'r data diogelwch y bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn edrych arno. A bydd her wahanol ynghlwm wrth hynny, serch hynny, oherwydd er bod maint y cyflenwad yn golygu y dylent allu creu mwy o’r brechlyn, efallai y bydd yn newid y ffordd y mae'n rhaid iddynt becynnu a darparu pethau. Ond mae'r rhain yn heriau ymarferol y gallwn eu datrys, rwy’n siŵr, gyda gweithgynhyrchwyr ledled y DU hefyd. Ac unwaith eto, y brechlyn hwnnw, os yw ar lefel uwch ei botensial o ran ei effeithiolrwydd, gellir ei gyflwyno mewn ffordd sy'n ei wneud nid yn unig yn rhatach ond yn llawer haws i'w gyflenwi ledled y wlad. Mae hynny'n rhywbeth a fyddai o gryn gymorth o ran diogelu cymaint o’r boblogaeth â phosibl, ond rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith bod gennym newyddion i'w groesawu heddiw, ac unwaith eto, gofynnaf i bobl aros gyda'r anawsterau y mae pob un ohonom yn byw drwyddynt am ychydig fisoedd yn rhagor, ac yna gallwn fwynhau llawer mwy o normalrwydd yn y dyfodol.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau diogelu iechyd ym Mlaenau Gwent? OQ55955
Yn ychwanegol at y canllawiau cenedlaethol a gyflwynwyd yn dilyn y cyfnod atal byr, mae'r tîm rheoli digwyddiadau ledled Gwent wedi datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer ymyrraeth gymunedol. Mae pob un o'n partneriaid ar lawr gwlad yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i leihau cyfraddau heintio, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i'w cefnogi gyda’u hymdrechion.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog, ac rwy'n ymuno â naws y trafodaethau y prynhawn yma, lle mae pob un ohonom yn croesawu'r newyddion y bydd y brechlyn ar gael, ac edrychwn ymlaen at weld hynny’n newid y sefyllfa iechyd ym Mlaenau Gwent a mannau eraill yn sylweddol. Ond yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym wedi gweld niferoedd yr haint heddiw sy'n dangos bod Blaenau Gwent ar frig y cyfraddau hyn yng Nghymru unwaith eto. Ac rwy’n cydnabod yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud gyda rheoliadau, a buom yn trafod hynny ddoe; byddwn yn ei drafod eto yr wythnos nesaf. Ond ni chredaf y bydd rheoliadau ynddynt eu hunain yn ddigon i gyflawni'r math o ostyngiad sydd ei angen arnom yn y niferoedd ym Mlaenau Gwent i gadw pobl yn ddiogel.
A hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa ystyriaeth y mae'n ei rhoi i'r math o brofi torfol a welwn dros ein ffiniau sirol yng Nghynon ac ym Merthyr Tudful, a mwy o orfodaeth hefyd. Credaf mai un o'r rhwystredigaethau sydd wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf yw bod pobl yn gweithio'n galed iawn i gydymffurfio â'r rheoliadau, i sicrhau eu bod yn cadw pobl yn ddiogel, ond nid yw'r orfodaeth yn digwydd mewn modd digon trylwyr i sicrhau bod pawb yn gwneud hynny. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gennym ymagwedd fwy cyfannol tuag at bolisi mewn lleoedd fel Blaenau Gwent?
Rydym yn sicr yn ceisio mabwysiadu ymagwedd gyfannol gyda'r holl offer a chapasiti sydd ar gael i ni, a'r gwir amdani yw bod cyfyngiadau ar y capasiti hwnnw mewn gwahanol leoedd. Felly—ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto—gwn fod swyddogion iechyd yr amgylchedd, gweithwyr llywodraeth leol, wedi bod yn rhan enfawr o’r gwaith o gadw Cymru’n ddiogel. Maent wedi bod ar y rheng flaen o ran gorfodi, ond maent hefyd wedi ymgysylltu â busnesau, i helpu i'w cefnogi i wella eu harferion. Nifer cyfyngedig o swyddogion iechyd yr amgylchedd sy'n bodoli, a phe gallem, byddem yn ehangu'r gweithlu’n sylweddol, ond nid oes llawer o bobl ychwanegol i'w cael.
Yr hyn a wnaethom—a phob clod i arweinwyr llywodraeth leol a'r Gweinidog, Julie James—oedd cytuno i gael proses lle roedd pobl yn cytuno i recriwtio pobl ychwanegol gyda'i gilydd i geisio sicrhau nad oedd 22 awdurdod yn cystadlu â'i gilydd i gael yr un bobl. Ond hyd yn oed gyda hynny, mae'r swyddogion hynny wedi ymlâdd—nid ydynt wedi stopio. Felly, rwy'n ddiolchgar iddynt, ond rwy'n cydnabod na allwn fynnu cael mwy ohonynt a dweud wrthynt am ddal ati ac i redeg yn gyflymach am fod arnom angen iddynt wneud hynny. Felly, mae her yno o ran yr hyn y gallwn ei wneud, a chredaf eich bod yn llygad eich lle pan ddywedwch nad yw'r rheolau a'r rheoliadau’n ddigon ar eu pen eu hunain—yn sicr, nid ydynt yn ddigon, a dyna pam fod y dewisiadau a wnawn mor bwysig. Felly, bydd y dewisiadau a wnewch o ran sut rydych yn byw eich bywyd, y dewisiadau y mae eich etholwyr chi a fy etholwyr innau’n eu gwneud ynglŷn â phwy y maent yn eu gweld, pa mor aml y maent yn eu gweld, ym mha amgylchedd y maent yn eu gweld, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran ein gallu i helpu i ostwng y cyfraddau hynny, nid yn unig ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Merthyr Tudful a Chynon, ond ledled y wlad, gan fod cyfradd gyffredinol Cymru dros 220 heddiw, a dylai hynny fod yn destun gwir bryder i bob un ohonom. Mae'n sicr yn destun cryn bryder i mi.
A chredaf y byddwn yn dysgu mewn modd cadarnhaol gan Ferthyr Tudful a Chynon. Mae'r prif swyddog meddygol eisoes wedi gofyn am rywfaint o waith myfyriol ar y profiad cynnar, beth a ddysgasom o Lerpwl a Sheffield. Gwyddom eisoes fod mwy o bobl yn dod o'r poblogaethau mwy breintiedig—mae'r grwpiau cyfoethocach o bobl yn dod mewn niferoedd a chyfrannau mwy—felly mae angen inni wneud rhywbeth am hynny o hyd i sicrhau nad ydym yn gweld, os mynnwch, y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn digwydd o'n blaenau.
Ond rwyf hefyd yn wirioneddol awyddus i ddysgu o'r profi mewn perthynas ag ysgolion, gan fod y tair ysgol uwchradd ym Merthyr Tudful wedi bod yn awyddus iawn i'w myfyrwyr a'u staff gael eu profi, felly byddwn yn cael rhan fwy cyflawn o’r boblogaeth gyda’r profion hynny, a'r coleg addysg bellach hefyd. Unwaith eto, gall pobl ddysgu o hynny. Rwyf wedi siarad gyda'r bwrdd iechyd ac eraill ynglŷn â’r posibilrwydd, pe bai profi torfol yn parhau, y gallai Blaenau Gwent a Thorfaen gael eu profi nesaf, ond rydym yn disgwyl y brechlyn ymhen dyddiau. Ein dyddiad targed yw yr hoffem fod mewn sefyllfa i ddechrau'r imiwneiddio erbyn dydd Mawrth nesaf. Felly, rydym yn mynd i weld gobaith yn dod ar hyd y ffordd tuag atom, ond golyga hynny fod angen i bob un ohonom wneud y peth iawn am ychydig fisoedd yn rhagor, ac os gallwn wneud hynny, gallwn edrych ymlaen at ddyfodol llawer gwell, i ddysgu mwy am y cyfnod o amser y bydd y brechlynnau’n ei roi inni. Ond pan fyddwn wedi darparu ar gyfer y boblogaeth gyfan unwaith, bydd gennym fwy o hyder ynghylch ei wneud eto, gyda'r adferiad hir ac anodd sy'n wynebu pob un ohonom pan fydd y pandemig drosodd o'r diwedd.
Weinidog, mae tafarndai a bwytai wedi gwneud yn anhygoel wrth addasu a chyflwyno mesurau diogelu iechyd yn eu busnesau a gwneud hynny’n gyflym yn ystod y pandemig hwn, fel hylif diheintio dwylo, mesurau cadw pellter cymdeithasol a chofnodi gwybodaeth tracio ac olrhain. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddynt am y gwaith caled y maent wedi'i wneud i sicrhau bod pob un ohonom yn fwy diogel? Ac a ydych yn cytuno y bydd gwahardd gwerthu alcohol yn yr amgylcheddau cymharol ddiogel hyn yn gorfodi pobl i brynu alcohol mewn archfarchnadoedd, ac yfed gartref, mewn niferoedd mwy na chanllawiau Llywodraeth Cymru o bosibl, gyda’r risg o ledaenu'r feirws ymhellach?
Wel, rwy'n hynod ddiolchgar i bobl ar draws y diwydiant lletygarwch am y ffordd y maent wedi newid ac addasu. Ac rwy’n cydymdeimlo'n fawr â hwy oherwydd yr amser ofnadwy o anodd y maent yn ei wynebu. Roeddem yn awyddus i adael y cyfnod atal byr gyda phatrwm a fyddai’n para hyd at ddiwedd y flwyddyn, ond fel y dywedodd y Prif Weinidog, dywedais efallai y byddai angen inni weithredu eto pe bai’r cyfraddau’n newid. Ac fel rwyf newydd ddweud mewn ymateb i gwestiwn Alun Davies, mae'r cyfraddau yng Nghymru heddiw dros 220 ym mhob 100,000. Felly, nid yw'r cyfle i gyrraedd diwedd y flwyddyn heb ymyrraeth bellach ar gael inni, a bu’n rhaid inni benderfynu beth i wneud.
Edrychwch, gwn nad yw'n hawdd gwneud elw yn y sector lletygarwch. Gwn fod y rhain yn aml yn fusnesau bach, busnesau teuluol, ac mae gan bobl gysylltiad personol iawn â'u busnes. Gwn hefyd fod hwn yn sector sy'n cyflogi llawer o bobl iau y mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lawer o'r ffyrdd y maent yn byw eu bywydau ac yn mwynhau eu bywydau, ac nid yw'n ddewis y mae Gweinidogion wedi’i wneud yn rhwydd neu’n ddiofal. Mae Eluned Morgan, sydd gyda ni yn y Siambr heddiw, wedi cael llawer o'r sgyrsiau hynny gyda'r sector lletygarwch. Hi yw ein Gweinidog arweiniol wrth weithio gyda'r sector, ac mae'n anodd. Ac mae pob un ohonom yn deall pam eu bod mor ofidus, a pham na fyddent? Mae cyfyngiadau sylweddol wedi’u cyflwyno yn y sector hwnnw, a gwyddom y bydd hynny'n peri niwed. Ac eto, gwyddom nad yw gwneud dim yn opsiwn. Y dystiolaeth sydd gennym yw mai cyfyngiadau tebyg i gyfyngiadau haen 3 yn Lloegr a'r Alban sydd â'r gobaith gorau o reoli’r coronafeirws. Y gwahaniaeth arwyddocaol o ran lle mae Cymru heddiw a haen 3 yn Lloegr neu'r Alban yw lletygarwch. A byddwch wedi clywed y prif swyddog meddygol ar y radio’r bore yma yn sôn am y ffaith bod Cymru, ar hyn o bryd, yn unigryw yn yr ystyr fod ganddi ymagwedd fwy hael o lawer o ran lletygarwch ac alcohol, ac nid oedd modd parhau yn y ffordd honno. Ac mae'r dystiolaeth yno, o brofiad o fewn ynysoedd Prydain—felly, Llywodraethau a gwledydd y gallwn gymharu ein hunain â hwy’n llawer haws—lle mae'r cyfyngiadau hynny wedi cael effaith. Gwnaethom rannu'r wybodaeth honno gyda hwy; gwn fod Eluned Morgan wedi treulio amser yn siarad â hwy, nid yn unig dros yr wythnosau diwethaf, ond dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, wrth drafod y dystiolaeth gyda hwy. Mae amharodrwydd yno, oes, a pham na fyddent yn amharod? Ond mae rhywfaint o ddealltwriaeth yno hefyd fod angen inni weithredu.
Nid wyf yn mwynhau sefyll a dadlau dros gyfyngiadau ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau a'r ffordd y mae busnesau'n gweithredu, ond mae arnaf ofn fod y dystiolaeth yno, pe na baem yn gwneud hyn, pe na baem yn mabwysiadu tystiolaeth o'r hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r DU, byddem yn cael sgwrs wahanol mewn ychydig wythnosau ynglŷn â pham fod y Llywodraeth, er gwaethaf y dystiolaeth honno, er gwaethaf y dystiolaeth gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a'r papur y byddwn yn ei gyhoeddi cyn bo hir gan ein cell cyngor technegol ein hunain—pam y gwnaethom ddewis peidio â gweithredu. Bydd cost wahanol inni edrych arni bryd hynny, ac nid yw'n un rwy’n barod i’w thalu.
Ac yn olaf, cwestiwn 9—Joyce Watson.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda swyddogion iechyd lleol a chynghorwyr sir ynghylch cyfraddau achosion COVID-19 yng ngorllewin Cymru? OQ55982
Mae fy swyddogion yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar y sefyllfa gan y timau rheoli digwyddiadau lleol ac maent mewn cysylltiad rheolaidd â’r gweithwyr proffesiynol diogelu iechyd sy'n cefnogi'r rhanbarth hwn. Rwyf fi a’m cyd-Weinidogion yn derbyn diweddariadau rheolaidd drwy'r sianeli hyn. Mae gweinidogion yn cymryd rhan mewn penderfyniadau lleol lle bo angen. Rwyf innau hefyd, wrth gwrs, yn cyfarfod â phobl o bob rhan o'r gwasanaeth iechyd yn rheolaidd, ac rwy'n cael cyfle hefyd i ymuno â'r Gweinidog llywodraeth leol yn rhai o'i sgyrsiau rheolaidd ag arweinwyr llywodraeth leol.
Diolch am eich ateb. Mae nifer o ddigwyddiadau diweddar wedi dangos pa mor ansefydlog yw'r sefyllfa hon, pa mor gyflym y gall digwyddiadau orlethu gwasanaethau iechyd lleol, a pham fod camau gweithredu cadarn i reoli'r feirws yn hanfodol. Bu’n rhaid i fwy na dwsin o ysgolion, meithrinfeydd a champws coleg gau yn Sir Benfro a Cheredigion ar ôl cynnydd lleol yn nifer yr achosion, ac mae nifer o gleifion wedi profi’n bositif am COVID-19 yn ysbytai dyffryn Aman a Llanymddyfri. Ar y sefyllfa honno, deallaf fod cryn dipyn o staff ar y ddau safle hefyd wedi profi’n bositif ac yn hunanynysu, ac mae hynny wedi arwain at gyfyngiadau sylweddol ar y gweithlu hwnnw. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny os gwelwch yn dda, a helpu i roi sicrwydd i fy etholwyr fod y ddau safle'n parhau i ddarparu gofal diogel i'w cleifion?
Gallaf. A bod yn deg, mae'r Aelod wedi codi hyn gyda mi o'r blaen, a diolch iddi am y cyfle i ddweud rhywbeth ar y cofnod heddiw. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi y byddant yn trosglwyddo cleifion sy’n cael eu trin yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri ar hyn o bryd i Ysbyty Dyffryn Aman. Maent wedi cymeradwyo'r mesur dros dro ar ôl ystyried nifer o opsiynau a gweithio gyda rhanddeiliaid, meddygon teulu lleol, y cyngor iechyd cymuned a swyddogion etholedig. Ar ôl hynny, ni fydd unrhyw gleifion mewnol yn Llanymddyfri. Bydd hynny'n caniatáu iddynt nid yn unig lanhau'r safle’n drylwyr ond hefyd ei ailagor fel safle gwyrdd. Felly, maent yn mynd ati’n rhagweithiol i ystyried sut y gall yr ysbytai ddarparu'r gofal cadarnhaol gorau i bobl â COVID-19 a'r bobl nad oes ganddynt COVID-19. Rwy’n disgwyl y bydd yr Aelod, yn rhinwedd ei swydd fel Aelod rhanbarthol, yn cael diweddariad uniongyrchol gan y bwrdd iechyd gyda mwy o fanylion am y cynlluniau hynny. Os na fydd hynny'n digwydd, dewch yn ôl ataf ac fe wnaf yn siŵr ei fod yn digwydd.
Diolch i'r Gweinidog am yr atebion hynny.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yn ne Cymru? OQ55956
Diolch, Lywydd. Mae angen ymagwedd amlasiantaethol a thrawslywodraethol er mwyn gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Mae ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ ar gyfer 2019-22, a gafodd ei adnewyddu yn ddiweddar yng ngoleuni COVID-19, yn nodi sut y byddwn yn gweithio ar hyn gyda'n partneriaid.
Diolch, Weinidog. Rwy'n falch i chi grybwyll y strategaeth honno a'r angen i ddiweddaru polisïau gyda'r pandemig parhaus. Mae'n amlwg fod y cyfyngiadau symud wedi cael effaith gynyddol ar iechyd meddwl pobl, gan gynnwys pobl ifanc. Yn ôl adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan y Samariaid yn Lloegr ym mis Hydref, mae pobl sy'n hunan-niweidio yn wynebu rhwystrau afresymol rhag cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, ac maent yn cael eu dal rhwng cael eu hystyried yn risg rhy uchel ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol, er nad ydynt yn ddigon sâl i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Gwyddom fod hyn yn wir yng Nghymru hefyd, ac mae'n effeithio'n anghymesur ar y genhedlaeth iau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda grwpiau fel y Samariaid, a rhanddeiliaid eraill yn y maes hwn, a pha gynlluniau rydych yn mynd i'w rhoi ar waith i sicrhau yr eir i’r afael â'r broblem gynyddol hon?
Diolch, Nick. Hoffwn ei gwneud yn glir ein bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru, sy'n gynrychiolwyr y trydydd sector mewn perthynas ag iechyd meddwl, ac wrth gwrs, maent yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y sefyllfa ar lawr gwlad. Ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr fod gennyf ail olwg ar yr hyn sy'n digwydd; yn amlwg, rwy'n cael y wybodaeth yn uniongyrchol gan ein byrddau iechyd, ond rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod y wybodaeth honno'n cael ei chroesgyfeirio a'i chroeswirio mewn perthynas â phrofiad bywyd go iawn pobl.
O ran y cymorth haen 4, un o'r pethau rydym yn glir yn ei gylch yw bod angen inni weld gwelliannau yn y maes hwnnw. A dyna pam rwyf wedi sicrhau bod ein swyddogion yn cyfarfod bob pythefnos i wirio beth yw'r wybodaeth, beth yw'r wybodaeth sydd wedi'i diweddaru, o ran nifer y bobl sy'n gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw, a'r rheini, yn bwysicach, nad ydynt yn gallu cael gafael arno. Rwyf wedi bod yn gofyn am ddiweddariad wythnosol gan fy swyddogion i sicrhau bod y sefyllfa honno'n rhywbeth y gallwn fod yn ymwybodol ohoni. O ran y cymorth haen 4, yr wythnos hon, deallaf mai un person yn unig sydd wedi methu cael gafael ar y cymorth haen 4.
Mae ein pobl ifanc wedi wynebu cymaint o straen eleni, gydag ansicrwydd ynghylch arholiadau, methu gweld ffrindiau, eu trefn arferol yn diflannu, a gwyddom, fel y dywedwyd, y bydd y pandemig wedi cael effaith anochel ar eu hiechyd meddwl. Ond mae'r ffigurau diweddaraf ar wariant y GIG ar gyfer 2018-19 yn dangos bod llai nag 1 y cant o gyllid y GIG wedi'i wario ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Fesul y pen o'r boblogaeth, £18.17 yn unig a gafodd iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y flwyddyn honno, a hyn i gyd er bod Mind wedi dweud y bydd un o bob pedwar o bobl yn profi problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol. Yn amlwg, mae pobl ifanc angen llawer mwy o fuddsoddiad yn eu llesiant. Felly, a wnewch chi fy sicrhau bod cyllideb arfaethedig Cymru yn ymrwymo adnoddau a fydd yn bodloni'r graddau a'r uchelgais sydd eu hangen i wella gwasanaethau a chymorth?
Diolch yn fawr, Delyth. Hoffwn ei gwneud yn glir ein bod eisoes yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth iechyd—£700 miliwn y flwyddyn. Ac wrth gwrs, mewn ymateb i COVID rydym wedi ychwanegu bron i £10 miliwn at hynny, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i'r pwysau y gwyddom ei fod yn bodoli ymhlith pobl ifanc yn benodol. Rydym wedi clywed y wybodaeth a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru, ond hefyd mae'r Senedd Ieuenctid wedi rhoi cipolwg defnyddiol iawn i ni ar lefelau'r gorbryder y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. A dyna pam ein bod wedi canolbwyntio'n benodol ar y dull ysgol gyfan hwnnw yn gyntaf oll, lle rydym wedi rhoi £5 miliwn ychwanegol eleni i wneud yn siŵr y gallwn sicrhau'r ymyrraeth gynnar honno, er mwyn atal y problemau rhag cronni. Yn ogystal â hynny, rydym yn ceisio sicrhau nawr fod y dull ysgol gyfan yn cyd-fynd â dull systemau cyfan ehangach, fel y gall gysylltu â'r GIG. Y peth allweddol o'm rhan i, ac yn sicr mewn perthynas â'r wybodaeth a gawsom gan ganolfan Wolfson, sef y ganolfan arbenigol ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arbenigo ym maes iechyd meddwl pobl ifanc, yw eu bod yn dweud wrthym fod 80 y cant o'r problemau mewn perthynas ag iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn ifanc neu pan fyddant yn blant. Felly, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi'r pwyslais hwnnw yn y lle cywir, gyda chymorth ymyrraeth gynnar iawn haen 0 a haen 1.
Weinidog, gwn y byddwch yn ymwybodol o'r pwysau enfawr sydd ar CAMHS, y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae wedi bod fel hyn ers sawl blwyddyn, cyn y pwysau ychwanegol a roddwyd ar ein pobl ifanc yn ystod y pandemig. Mae llawer o hyn oherwydd bod pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at y system pan fo'u hanghenion iechyd meddwl yn ysgafn neu'n gymedrol, sef yr adeg fwyaf synhwyrol a phwysig wrth gwrs i geisio atgyfeiriadau am gymorth, ond mae'n broblem i'r system CAMHS oherwydd ei bod wedi'i chynllunio i gefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn unig. Felly, a allech chi roi rhagor o wybodaeth inni am yr ymyriadau cynnar hynny y cyfeiriwyd atynt yn eich ateb blaenorol i Delyth Jewell, a sut y gall yr ymyriadau cynnar hynny sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn ffordd amserol a phriodol i sicrhau nad yw eu hiechyd meddwl yn dirywio ymhellach?
Wel, diolch, Vikki. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn nad yw pob mater iechyd meddwl yn fater meddygol. Mae llawer o faterion sy'n deillio o broblemau cymdeithasol, pobl yn dioddef problemau mewn perthynas, a chredaf mai'r hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn ymyrryd yn gynnar iawn, fel rydych yn ei awgrymu, i sicrhau bod gan bobl ifanc allu i ymdrin â'r sefyllfaoedd anodd hynny. Ac nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ymyrraeth feddygol, a dyna pam mai'r dull ysgol gyfan yw'r ffordd gywir o fynd ati i wneud hyn yn fy marn i.
Fe fyddwch yn ymwybodol fod pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc bellach wedi'i gyhoeddi ar Hwb, ac mae hwnnw'n rhoi cymorth gwirioneddol i bobl ifanc i sicrhau y gallant ganolbwyntio go iawn ar y materion sy'n bwysig iddynt—gorbryder, hwyliau isel, profedigaeth, a gwybodaeth am y coronafeirws hyd yn oed. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd ein bod yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r llinellau cymorth sydd ar gael, mae llinell gymorth C.A.L.L. ar gael, wrth gwrs, ond mae gennym hefyd bellach, i'r rhai sydd dros 16 oed, SilverCloud, sef dull ar-lein o ddarparu therapi ymddygiad gwybyddol, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle. Weithiau, efallai nad ydynt eisiau i bobl wybod am eu problemau, a gallant wneud hynny mewn ffordd nad yw'n denu sylw eu hathrawon. Gallant wneud hynny'n dawel ac yn breifat, ac mae'r opsiwn hwnnw ar gael iddynt bellach hefyd.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ynghylch rheoliadau COVID-19? OQ55978
Bydd angen i'r Dirprwy Weinidog i 'unmute-o' ei hunan.
A yw'n bosibl agor meicroffon Dafydd Elis-Thomas? A all unrhyw un ein helpu gyda hyn?
Iawn. Dirprwy Weinidog, chi'n gallu siarad nawr, diolch.
Diolch yn fawr. Sefydlodd fy nghyd-Weinidog a minnau dasglu twristiaeth ar ddechrau'r pandemig, gan gyfarfod yn wythnosol i drafod yr holl eitemau sy'n effeithio ar y diwydiannau, gan gynnwys effaith rheoliadau COVID. Mae gennym gyfres gyfochrog o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid lletygarwch, digwyddiadau a phriodasau.
A oes perygl y gallai rhai o'n mesurau—tafarndai nad ydynt yn cael gweini alcohol—ac yn arbennig, gorfodi ffin i atal pobl o Loegr rhag dod i Gymru, hyd yn oed ar adegau pan oedd gennym lefelau uwch o achosion o bosibl, gael effaith dros flynyddoedd i ddod ar bobl a allai fod yn llai parod neu â llai o ddiddordeb mewn ymweld â Chymru yng ngoleuni hynny? A beth y gallwn ei wneud i geisio lliniaru unrhyw effaith o'r fath?
Wel, rwy'n lliniaru hyn yn wythnosol, oherwydd rwy'n cyfarfod â fy nghyd-Aelodau yn y DU ym mhob un o'r sectorau y mae gennyf gyfrifoldeb amdanynt. Mae Croeso Cymru wedi gweithio'n agos iawn gydag UKHospitality, Cynghrair Twristiaeth Cymru a Chydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru. Mae'r holl gyrff cynrychiadol hyn yn y maes twristiaeth yng Nghymru mewn cysylltiad rheolaidd â gweddill y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb brwd iawn yn yr hyn y mae Gogledd Iwerddon a'r Alban a Lloegr yn ei wneud yn y meysydd hyn, ond rwyf hefyd yn gweithio o fewn y ddeddfwriaeth ddatganoledig a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru rwy'n falch o fod yn Weinidog ynddi.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y camau cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, neu ddim yn eu cymryd, mewn ymateb i ddyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver v. Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?
Diolch, Siân. Gallaf gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd safiad ar yr achos Driver sydd yn digwydd yn ardal Rhondda Cynon Taf. FootnoteLink
Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi ar y cofnod heddiw na fyddwch chi yn herio sail 2(g) y dyfarniad. Mi fydd o'n rhyddhad i ddisgyblion, athrawon a rhieni Rhondda Cynon Taf sydd wedi brwydro am yr hawl i barhau ar daith addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter rhesymol i'w cartref. Dwi'n gobeithio bydd y cyngor hefyd yn ailystyried. Mae'r dyfarniad yma yn gam mawr ymlaen. Byddwn i'n goffi clywed gennych chi, felly, sut rydych chi'n mynd i fynd ati, rŵan bod hyn yn dod ar waith, i hysbysu cyrff cyhoeddus ac eraill am y cynseiliau sy'n codi o'r dyfarniad, fel bod cyrff yn gweithredu yn gyson â gweledigaeth y Llywodraeth yn y dyfodol.
Ac, os caf i jest aros yn y maes addysg, mae strategaeth 'Cymraeg 2050' yn glir bod angen gweddnewid sut mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu ym mhob ysgol er mwyn cyrraedd targedau'r strategaeth, gan gynnwys, wrth gwrs, mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac mae hyn yn allweddol. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw at y ffaith nad oes yna ddim llawer o waith wedi bod yn digwydd ynglŷn â'r continwwm iaith Gymraeg, ac, fel datrysiad, mae o wedi argymell bod yna ofyniad yn cael ei gynnwys yn y Bil cwricwlwm sydd ar waith ar y funud i Weinidogion Cymru gyflwyno cod ymarfer ar addysgu'r Gymraeg. A ydych chi'n cefnogi'r argymhelliad yna?
Diolch yn fawr. Jest i'w gwneud hi'n glir bod gofyniad ar bob rhan o lywodraeth leol i sicrhau eu bod nhw yn cymryd ystyriaeth o'r angen i gryfhau beth sy'n cael ei gynnal ac yn cael ei gynnig o ran addysg Gymraeg yn eu hardaloedd, ac felly dwi'n gobeithio bydd yr holl lywodraethau lleol ar draws Cymru'n deall y cyfrifoldeb hwnnw. A jest i'w wneud hi'n glir, o ran dysgu mewn ysgolion sydd ddim yn dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf, dwi yn derbyn bod angen lot o waith yn yr ardal yma, a dyna pam dwi'n cael cyfarfodydd wythnosol gyda fy nhîm i, ac mae hwn yn rhywbeth sydd ar yr agenda yn wythnosol, achos dwi yn meddwl bod angen i ni symud ar hwn.
Beth rydym ni wedi ei wneud yn ddiweddar, jest i fod yn glir, yw gweithio a chael trafodaethau gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dwi'n meddwl bod lot o brofiad gyda nhw, yn enwedig nawr gyda'r coronafeirws, o ran dysgu ar-lein, a dwi'n meddwl bod yna bethau gallwn ni ddysgu yn y fan yna, yn arbennig os na fydd y sgiliau rŷn ni'n gobeithio eu gweld yn yr ysgolion yna ar gael, a dwi yn meddwl bod yn rhaid i ni fanteisio ar y gallu yna sydd yn bodoli yn y ganolfan. A dyna pam mai beth rydym ni'n gobeithio ei wneud yw gweithio gyda nhw, a dwi wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog Addysg ynglŷn â hyn hefyd.
Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi eich clywed chi yn cadarnhau eich bod chi o blaid cyflwyno cod ymarfer yn sgil y Bil cwricwlwm, ond mi ddown ni yn ôl at y pwnc yma ar ryw adeg arall, dwi'n ffyddiog o hynny. Mi fyddai cyflwyno cod ymarfer ar addysgu'r Gymraeg yn y cwricwlwm yn gam pwysig ymlaen, dwi'n credu. A dwi'n meddwl bod yna gonsensws yn datblygu ar draws y pleidiau dros yr angen am god statudol, a gobeithio gallwn ni weithio efo'n gilydd i sicrhau hynny.
I gloi, buaswn i'n hoffi cyffwrdd ar sefyllfa fregus dau o'n sefydliadau cenedlaethol pwysig ni, sef yr Urdd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r Urdd wedi cyhoeddi ddoe y byddan nhw'n parhau i weithredu ac arloesi, gorau gallan nhw, o ran eisteddfod genedlaethol, ond na fydd yna un yn digwydd yn y ffordd arferol. Ac, yn y cyfamser, mae meysydd gwaith eraill yr Urdd, fel y gwersylloedd, yn amlwg yn parhau i fod ar stop ac yn achosi colli incwm. Yn ôl tystiolaeth yr Urdd i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu mae'r mudiad wedi colli hanner ei weithlu ac fe allai wynebu dyledion o hyd at £18 miliwn. Dwi yn gwybod bod eich Llywodraeth chi wedi rhoi £3.1 miliwn o gefnogaeth ariannol i'r Urdd, ond a ydy hynny yn ddigon, ydy fy nghwestiwn i.
Ac, yn achos y llyfrgell genedlaethol, mi dderbyniodd £0.25 miliwn o gymorth gan y Llywodraeth yn ddiweddar, ond hynny ar ôl i chi gymryd £200,000 oddi arno fo ar ddechrau'r pandemig. Pa asesiad ydych chi fel Gweinidog wedi'i wneud fod cefnogaeth ariannol y Llywodraeth yn ddigon i gynnal y mudiadau hollbwysig yma? Ac ydych chi'n cytuno na fedrwn ni ddim gadael i gyrff sydd wedi cyfrannu cymaint i fywyd cenedlaethol a ieithyddol Cymru fethu?
Wel, diolch yn fawr. A gaf i jest ddweud yn glir, dwi'n ymwybodol iawn o'r trafferthion y mae'r Urdd ynddyn nhw? Beth sy'n drueni mawr, wrth gwrs, yw bod yr Urdd wedi gwneud popeth rŷn ni wedi gofyn iddyn nhw dros y blynyddoedd i stopio bod yn ddibynnol ar arian y Llywodraeth. Maen nhw wedi mynd ati, maen nhw'n gwybod sut i hel arian, ond jest ddim yng nghanol coronafeirws. A dyna pam rŷn ni eisoes, fel rŷch chi wedi crybwyll, wedi rhoi arian mawr iddyn nhw i'w helpu nhw drwy'r cyfnod anodd yma. Ond, wrth gwrs, mae cyfnod anodd i ddod, a dyna pam mae'n drueni eu bod nhw wedi, unwaith eto, gorfod canslo Eisteddfod yr Urdd. Ond, os dwi'n gwybod unrhyw beth am y ffordd y mae'r Urdd yn gweithio, mi wnân nhw greu rhywbeth hollol newydd a fydd yn codi ysbryd y genedl yn ystod y cyfnod y bydden nhw fel arfer wedi cynnal Eisteddfod yr Urdd. Ac, wrth gwrs, mi wnawn ni gadw ein meddyliau ar agor o ran beth sy'n bosibl o ran help ymarferol yn y dyfodol.
Mae'r un peth yn wir am y llyfrgell genedlaethol. Wrth gwrs fod hwn yn sefydliad sy'n hollbwysig i'r genedl. Dwi'n meddwl bod y llyfrgell yn ymwybodol bod gwaith ganddyn nhw i'w wneud o ran aildrefnu'r ffordd maen nhw'n gweithredu, ond rŷn ni'n cydnabod, yn arbennig ar ôl yr adroddiad yn ddiweddar, fod y sefyllfa gyllidebol yn un anodd dros ben ac, wrth gwrs, bydd y gyllideb yn dod allan cyn bo hir ac mi gawn ni weld beth sy'n digwydd yn y fan hynny. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch. Weinidog, yn dilyn cwestiwn i'r Gweinidog iechyd yn awr, roedd yn galonogol iawn clywed eich bod yn mynd allan i siarad â busnesau bach yn rhinwedd eich swydd. Hoffwn siarad â chi am iechyd meddwl a llesiant, yn enwedig mewn perthynas â'n perchnogion busnesau bach ar hyn o bryd sydd wedi bod drwy'r felin yn ystod y pandemig hwn, gan achosi gorbryder eithafol a phryderon iechyd meddwl. Maent wedi camu i'r adwy ac wedi addasu eu busnesau a'u gwneud yn ddiogel rhag y coronafeirws, ac eto rydym bellach yn eu gweld yn cael eu cosbi unwaith eto gan y rheoliadau diweddaraf hyn sy'n dod i rym ddydd Gwener yma. O edrych ar negeseuon e-bost a sgyrsiau rwyf wedi'u cael gyda pherchnogion busnesau bach, tafarndai, bariau a bwytai ar draws de-ddwyrain Cymru yn fy rhanbarth i, mae yna orbryder ac iselder mawr, ac mae hynny'n glir iawn ac yn amlwg iawn yn y negeseuon e-bost a'r sgyrsiau rwyf wedi'u cael, sy'n peri pryder mawr i mi, ac i chi rwy'n siŵr. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu nad yw'r bobl hyn yn gofyn am gymorth. Felly, pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd, a chithau, Weinidog, i estyn allan at y perchnogion busnes hyn yn ystod y cyfnod arbennig o anodd hwn i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth iechyd meddwl y maent ei angen? Diolch.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa iechyd meddwl ac rydym wedi darparu cymorth sylweddol, yn enwedig i gefnogi gweithwyr. Ond rydych yn llygad eich lle fod angen inni feddwl am y perchnogion busnes sydd wedi rhoi eu harian yn y fantol, sydd wedi rhoi eu bywoliaeth yn y fantol ac maent yn eu gweld yn cael eu bygwth gan y coronafeirws.
Rydym wedi trafod hyn yng nghyswllt y diwydiant twristiaeth ac o ganlyniad i hynny, trafodais hyn gyda Gweinidog yr economi i weld a allem roi rhywbeth penodol ar waith. Ond fel y dywedwch, rhan o'r broblem yma—ac mae arnaf ofn, yn aml iawn, mai dynion sy'n gyndyn i ofyn am gymorth—yw bod angen inni sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y mannau hyn. Felly, byddaf yn parhau â fy nhrafodaethau gyda Gweinidog yr economi i weld sut y gallwn ledaenu'r wybodaeth hon. Ond fe fyddwch yn ymwybodol fod taflen wedi'i hanfon at bob cartref yng Nghymru yn ddiweddar ac roedd peth gwybodaeth ar y daflen honno am y cymorth iechyd meddwl a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Diolch i chi am hynny, Weinidog. Credaf mai'r diffyg arian yw un o achosion sylfaenol llawer o broblemau iechyd meddwl, fel y gwyddom.
Hoffwn siarad â chi am iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ysgolion yn gweithredu fel lefelwyr, maes chwarae gwastad, lle mae plant, lle bynnag y bo modd, yn gyfartal yn yr amgylchedd hwnnw o ran offer, y dillad y maent yn eu gwisgo a mynediad at wybodaeth. Fel y gwyddoch eisoes, mae pobl ifanc wedi bod cael eu hanfon adref mewn grwpiau blwyddyn cyfan yn ddiweddar, yn enwedig ar draws fy rhanbarth mewn rhai ardaloedd cyngor, felly maent yn dibynnu'n drwm ar addysg gartref. Rwy'n bryderus yn dilyn sgwrs a gefais gydag un o benaethiaid ysgol gyfun yn fy rhanbarth, pan dynnodd sylw at y ffaith bod nifer o blant yn dal i fethu cael mynediad at ddyfais gartref i'w galluogi i ddysgu ar-lein a chael eu gwersi gartref. Mae hyn yn amlwg yn peri pryder mawr ac mae'n cael effaith ar iechyd meddwl y plant hynny. Mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, wedi rhoi llawer o arian i gynghorau er mwyn iddynt allu darparu dyfeisiau i blant, ond mae'n amlwg nad ydynt yn cyrraedd y plant iawn o hyd, neu nad ydynt yn cyrraedd digon o blant, fel yr amlinellodd y pennaeth wrthyf ddoe, ac mae hyn yn rhwystr iddynt allu dysgu gartref fel y bydd angen pan na allant fynd i'r ysgol, am resymau iechyd a rhesymau diogelwch wrth gwrs. A allech chi edrych ar hyn, Weinidog, ochr yn ochr â'r Gweinidog Addysg, oherwydd, yn amlwg, bydd iechyd meddwl a gorbryder disgyblion yn cael eu heffeithio yn sgil hyn? Diolch.
Diolch. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn gyfnod pryderus iawn i unrhyw berson ifanc, yn enwedig o ran gwaith ysgol ac yn benodol, y rhai a oedd yn bwriadu sefyll arholiadau. Wrth gwrs, rydym wedi rhoi cefnogaeth sylweddol fel Llywodraeth i awdurdodau lleol, a thrwyddynt hwy, i ysgolion, a'r bobl nad ydynt wedi gallu cael mynediad at addysg ar-lein. Rhan o'r broblem ychwanegol, wrth gwrs, yw y gallwch ddarparu caledwedd i bobl ond mewn gwirionedd, mae angen i chi sicrhau bod y ddarpariaeth band eang ar gael a'u bod yn gallu cael mynediad at gymorth yn y ffordd honno. Felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa, ac os oes gennych enghreifftiau o fannau lle nad yw'n bosibl i bobl gael mynediad ato, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol anfon y rheini ymlaen at y Gweinidog Addysg.
Iawn, diolch, Weinidog. Un peth cyflym iawn, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn olaf: mewn ysgol yn ne-ddwyrain Cymru, roeddent yn anfon holiaduron rheolaidd i weld beth oedd y rhwystr mwyaf i ddysgu gartref, a darganfuwyd mai dyfeisiau, nid band eang ac yn y blaen, oedd y broblem fwyaf mewn gwirionedd, oherwydd pan fydd rhiant gartref, neu frawd neu chwaer gartref, yn defnyddio dyfeisiau hefyd, maent heb ddyfais fel petai. Felly, mae'n ymwneud â darparu dyfeisiau i'r bobl hynny yn enwedig, ond rwy'n hapus i anfon rhagor o wybodaeth atoch.
Wrth sôn am ddarparu cymorth, hoffwn siarad â chi am ddarparu cymorth i'r rhai sydd ei angen yn fawr. Ceir rhaglen mentora cymheiriaid—nid wyf yn siŵr a ydych yn ymwybodol ohoni—sydd bellach wedi profi y gall sicrhau manteision. Mae rhaglen o'r fath ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan ac mae hi wedi cael llawer o lwyddiannau. Mae mor galonogol i bobl o bob math sydd â phob math o broblemau iechyd meddwl allu siarad â rhywun sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg, fel y maent hwy wedi'i wneud. A dyna yw hanfod y rhaglen hon. Hefyd, wrth siarad â'r nyrsys a'r cleifion, gwelais fod y teuluoedd wedi elwa'n fawr o siarad â phobl a oedd wedi cael profiadau tebyg ac roedd yn galonogol iawn gweld bod y cleifion hynny wedi dod allan yr ochr draw. Mae angen mawr iawn am ganolfan adsefydlu galw heibio yng Nghymru gyda'r mathau hyn o wasanaethau a chyfleuster ar-lein, yn enwedig ar adegau fel hyn pan fo fwyaf o'i hangen a phan na allwn gyrraedd pobl fel y gwnawn fel arfer. Mae mwy o waith yn mynd rhagddo ar hyn yn Lloegr, ond rwy'n credu bod angen inni edrych arno ymhellach yng Nghymru oherwydd ceir tystiolaeth yn awr ei fod yn llwyddiannus iawn. Arian y loteri yw'r prif ffynhonnell cyllid ar hyn o bryd, Weinidog, ac rwy'n meddwl tybed a allech chi ymchwilio i hyn fel rhywbeth y byddech yn fodlon bwrw ymlaen ag ef a gweithio gyda'r Llywodraeth arno efallai. Diolch.
Nid wyf yn credu bod rhaglenni mentora cymheiriaid yn newydd; credaf fod enghreifftiau o hynny'n digwydd, mewn gwahanol ffyrdd, mewn llawer o wahanol sectorau. Rwy'n credu'n gryf fod hyn yn rhywbeth lle gall pobl gefnogi ei gilydd ac y gall y profiad hwnnw fod yn drawsnewidiol—mae gwybod nad ydych ar eich pen eich hun pan fyddwch mewn lle tywyll yn rhywbeth defnyddiol iawn ynddo'i hun. Credaf fod y cymorth mentora sydd ar gael i rieni yn ogystal â phobl ifanc, fel bod rhieni'n deall yr hyn y mae eu plant yn mynd drwyddo, hefyd yn rhywbeth y credaf y gallwn ei annog, ac yn rhywbeth rydym eisoes yn ei annog. A cheir enghreifftiau, fel y dywedwch, o arferion gorau y gallwn eu dysgu, ac yn sicr mae'r model mynydd iâ a welsom yng Ngwent, sy'n cael ei arwain i raddau helaeth gan Liz Gregory, yn rhywbeth rydym yn gobeithio y gallwn ei gyflwyno i rannau eraill o Gymru.
3. Pa effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru? OQ55961
Mae COVID-19 wedi bod yn amser anodd iawn i bobl awtistig yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, i gefnogi pobl awtistig drwy gydol y pandemig hwn. Byddwn yn parhau â'r gwaith ar y cyd i leihau effaith mwy hirdymor y feirws ar fywydau pobl awtistig.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi bod yn gwrando ar leisiau rhai o fy etholwyr, sy'n pryderu am broffil pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ac anableddau dysgu eraill drwy gydol y pandemig hwn. Yn ein dadleuon yn y Senedd, rydym yn gyfarwydd â chwestiynau am grwpiau sy'n agored i niwed ac fel y gwelir yn aml yn y cyfryngau, mae'r sylw'n troi'n syth at ein dinasyddion hŷn ac at gartrefi gofal. Ond mae grwpiau eraill angen ein sylw hefyd, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn llety preswyl a llety â chymorth. Mae angen i'w teuluoedd glywed ac yna gweld bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod fel blaenoriaeth wrth i Lywodraeth Cymru wneud cynlluniau i ddarparu rhaglen frechu. Rwy'n clywed am bobl mewn lleoliadau gofal sydd wedi bod yn colli cysylltiad â theuluoedd, gan nad ydynt yn deall perthnasedd na budd technolegau fel Zoom yn llawn. Felly, a allwch chi fy sicrhau, Weinidog, fod pobl sy'n byw gydag awtistiaeth, ac anableddau dysgu eraill, a'u teuluoedd, yn cael ystyriaeth briodol yn eich cynlluniau?
Wel, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi, Dawn. Hoffwn ei gwneud yn glir, o ddechrau'r pandemig, pan oeddem yn gofyn i bobl beidio â gadael eu cartrefi, fe wnaethom, ar y dechrau un, roi eithriadau i bobl ag awtistiaeth oherwydd ein bod yn deall bod angen iddynt ddilyn patrymau penodol a bod angen iddynt fynd allan yn rheolaidd. Felly, o'r dechrau un, rydym wedi bod yn sensitif i'r anghenion hynny ac wrth gwrs, wrth i ni edrych ymlaen yn awr at gyflwyno'r brechlyn, mae honno'n enghraifft o faes y mae angen i ni feddwl amdano, o ran sut y mae pobl ag awtistiaeth yn debygol o ymateb. Mae canllawiau'n cael eu datblygu i baratoi ar gyfer cyflwyno'r brechlyn hwnnw, a bydd y wybodaeth honno ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru.
Y peth arall i fod yn glir yn ei gylch ar hyn yw ein bod yn awyddus iawn i sicrhau bod pobl sy'n byw gydag awtistiaeth yn cael y cymorth hwnnw, nid yn unig wrth gyflwyno'r brechlyn, ond hefyd o ran rhyngweithio mwy cyffredinol â'r GIG.
Mae'r adroddiad 'Left Stranded', a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a phartneriaid, yn dangos bod pandemig y coronafeirws, yn ogystal â gwaethygu'r heriau hirsefydlog y mae pobl awtistig yn eu hwynebu yn sylweddol, wedi cael effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl awtistig a'u teuluoedd. Mae'r amseroedd aros am wasanaethau asesu a diagnosis a oedd eisoes yn hir yn waeth byth gyda dim ond un o bob pedwar plentyn a pherson ifanc yng ngogledd Cymru'n cael asesiad awtistiaeth gan dimau niwroddatblygiadol lleol o fewn chwe mis i gael eu hatgyfeirio, a nifer yn aros yn hwy o lawer.
Mae'r pandemig hefyd wedi amlygu'r diffyg dealltwriaeth o awtistiaeth yn ein system addysg, sydd hefyd yn effeithio'n ddifrifol ar iechyd meddwl disgyblion awtistig. Pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei roi felly i'r gwasanaethau hyn nawr i leihau'r amseroedd aros hir hyn, er mwyn rhoi'r cymorth y mae pobl ei angen cyn gynted â phosibl? Ac o ystyried ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob athro'n cael hyfforddiant gorfodol mewn awtistiaeth fel rhan o hyfforddiant cychwynnol i athrawon, rhywbeth sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed, a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflawni hyn?
Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwyf wedi darllen yr adroddiad 'Left Stranded', ac rwy'n credu ei fod yn ddiddorol iawn, a byddaf yn edrych ymlaen at drafod hwnnw gyda phrif weithredwr y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol pan fyddaf yn cyfarfod â hi yr wythnos nesaf.
O ran mynediad at wasanaethau yn ystod COVID-19, mae gwasanaethau'n dod at ei gilydd i gyfnewid arferion da ac mae cymorth yn cael ei gynnig yn rhithwir, wrth gwrs, lle bynnag y bo modd. Y peth arall rydym yn ei wneud yw sicrhau bod offeryn asesu ar-lein yn cael ei ddatblygu, a fydd yn bodloni canllawiau cydymffurfio'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cod ymarfer yn digwydd ar hyn o bryd—mae'n mynd rhagddo yn awr—ac rydym yn disgwyl i hwnnw ddod i ben ar 14 Rhagfyr.
Rydych hefyd yn siarad am yr hyfforddiant sydd ei angen mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac fe fyddwch yn ymwybodol y bydd y rhaglen hyfforddi newydd yn cynnwys ymdrech i sicrhau bod yna ddealltwriaeth o'r system anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hwnnw'n cael ei ailwampio'n llwyr, fel y gwyddoch, a'r gobaith yw y bydd y cod a'r rheoliadau mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror.
4. Pa strategaethau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod modd cadw siaradwyr Cymraeg ifanc yn y gymuned leol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig? OQ55976
Diolch, Adam. Dwi wedi sefydlu bwrdd crwn ar yr economi a'r iaith y llynedd a dwi wedi sicrhau ein bod ni'n trafod fanna yr heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg a gwledig. Un o'r themâu ŷn ni'n edrych arnynt fanna yw allfudo pobl ifanc, ac mae rhaglen Arfor hefyd wedi peilota prosiectau sydd wedi’u targedu ar gyfer cefnogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau nhw.
Dywedodd Jeremy Miles wrth un o bwyllgorau'r Senedd fod y Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad o effaith deuol COVID a Brexit ar y Gymraeg a chymunedau gwledig, a'ch bod chithau fel Llywodraeth ar sail yr asesiad hwnnw yn derbyn bod yna le i bryderu, yn arbennig oherwydd yr argyfwng tai a'r cynnydd mewn niferoedd o bobl sy'n prynu tai o'r tu allan i'r ardal. A wnewch chi gyhoeddi'r asesiad yna? Ydych chi'n gallu rhoi yr amserlen ar gyfer camau nesaf gwaith Simon Brooks ar ail gartrefi? Gan fod yr argyfwng tai yn digwydd nawr a bod Cyngor Sir Gâr, er enghraifft, wedi amlinellu mesurau y gellir eu cymryd nawr, allwch chi ddweud beth mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud o ran cynllun brys yr ochr yma i'r etholiad?
Wrth gwrs, rŷn ni hefyd fel adran wedi sicrhau ein bod ni wedi cario mas arolwg ar effaith COVID ar y Gymraeg yn ein cymunedau, a bydd hwnna yn cael ei gyhoeddi yn ystod y pythefnos nesaf. Ar ben hynny, bydd Simon Brooks yn cyhoeddi ei bapur e ar ail gartrefi yn ystod y pythefnos nesaf. Felly, mae'r data yna yn dod at ei gilydd, a bydd hwnna'n help inni ddadansoddi ble mae angen inni dargedu'r gwaith hwnnw.
O ran beth ŷn ni yn ceisio ei wneud yn ymarferol, un o'r pethau ŷn ni wedi bod yn eu trafod yn arbennig wrth weithio gyda llywodraeth leol yn y bwrdd crwn yr wythnos diwethaf oedd ein bod ni'n edrych ar, er enghraifft, brosesau caffael, sut allwn ni wneud mwy i ddefnyddio caffael yn yr adran gyhoeddus i sicrhau ein bod ni'n cynyddu y defnydd yn ein cymunedau ni. Rŷn ni eisiau prif-ffrydio'r Gymraeg a materion cefn gwlad i raglenni Llywodraeth Cymru, felly rwyf fi wedi dod â'r swyddogion sydd â'r cyfrifoldeb dros yr economi i sicrhau eu bod nhw'n deall ble mae eu cyfrifoldeb nhw yn y maes yma hefyd. Ac rŷn ni hefyd yn edrych ac yn gobeithio dilyn ethos Llwybro a chanolbwyntio ar y themâu neu'r sectorau penodol. Peth arall sydd werth inni danlinellu yw'r ffaith bod mwy o bobl nawr yn gweithio o gartref, ac efallai bod yna gyfle yn fanna i drio denu mwy o bobl i fyw gartref yn ein cymunedau cefn gwlad ni.
Rwy'n falch i glywed am y ford gron. Y cwestiwn hanfodol yw pam nad yw polisi economaidd Llywodraeth Cymru wedi arwain at swyddi â chyflog gwell mewn ardaloedd gwledig i helpu cadw pobl ifanc ac i'w helpu i fforddio tai. Ond o ran cadw twf y Gymraeg yn y gymuned, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o ddefnyddio'r gofyniad sylw dyledus ar awdurdodau cynllunio i ystyried effaith eu penderfyniadau ar yr iaith? Pa mor aml y defnyddir hynny i gefnogi twf, nid yn unig amddiffyn y sylfaen gyfredol? Er enghraifft, faint o awdurdodau sydd wedi defnyddio amodau deiliadaeth leol diffiniedig a arferai redeg ochr yn ochr â thargedau tai fforddiadwy neu weithiau a oedd yn gydgysylltiedig â nhw? A hefyd, wrth gwrs, mae yna syniad o Help to Buy ar gyfer tai gwag yn lle tai newydd.
Diolch. Dwi'n meddwl bod yna lot o bethau mae'n rhaid inni eu hystyried fan hyn, pan mae'n dod at dai a chadw pobl yn ein cymunedau ni. Mae'n broblem ddyrys ac mae'n gymhleth. Rydyn ni'n edrych ar bob sefyllfa ac rydyn ni'n gobeithio gweld beth mwy y gallwn ni ei wneud, achos rydyn ni wedi gwneud mwy yma yng Nghymru nag yn unrhyw ardal arall yn y Deyrnas Unedig. Un o'r pethau rydyn ni wedi ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau ein bod ni wedi adeiladu 20,000 o dai yn ystod y cyfnod yma—tai fforddiadwy, fydd yn helpu cadw pobl yn eu cymunedau nhw. A phan mae'n dod i gynllunio, mae angen i bobl ystyried yr effaith ar y Gymraeg. Un o'r problemau sydd wedi bod oedd bod y tŵl i wneud hynny, i fesur hynny, ddim yn ddigonol, a dyna pam mae fy adran i wedi sicrhau eu bod nhw wedi gwneud lot fwy i wella'r tŵl yna i sicrhau ein bod ni'n gallu mesur yr effaith yn well.
5. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo gwydnwch gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ55968
Rydym wedi buddsoddi bron i £10 miliwn o gyllid ychwanegol eleni i gefnogi iechyd meddwl, ac mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mewn cymorth haen 0 i helpu i leihau'r angen i gael mynediad at wasanaethau'r GIG. Rydym hefyd yn mabwysiadu dull trawslywodraethol ac amlasiantaethol o leihau effaith ehangach y pandemig ar iechyd meddwl.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. A wnaiff hi ategu fy nghanmoliaeth i'r ymchwil a wnaed gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ac a gyhoeddwyd fis diwethaf yn y cyfnodolyn uchel ei barch Frontiers in Psychiatry? Mae'n astudiaeth un wlad, sy'n myfyrio ar arolwg cynharach a gynhaliwyd yn 2018-19, ac yna'n cymharu sut roedd pobl yn teimlo yn ystod y pandemig. Dangosodd gynnydd o deirgwaith neu bedair gwaith y nifer o achosion o drallod meddyliol, gyda 50 y cant o'r boblogaeth yn adrodd lefelau trallod clinigol arwyddocaol a thua 20 y cant yn dangos effeithiau difrifol. Roedd yr effaith yn arbennig o amlwg mewn pobl iau, ac roeddem yn sôn yn gynharach am drafferthion pobl iau a'u trallod seicolegol. Yn gwbl amlwg, mae pwysau enfawr ar wasanaethau iechyd meddwl nawr, a byddwn yn sicr yn dioddef ar ôl y cyfnod hwn, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y lefel briodol o adnoddau yn cael eu defnyddio a'r amser priodol yn cael ei dreulio yn datblygu polisi fel bod gennym y gwasanaethau iechyd meddwl gorau posibl, yn y gymuned, ac yn y sector acíwt hefyd, yn anffodus.
Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, David. Mae'r holl dystiolaeth a welsom yn awgrymu y bydd problem wirioneddol yn ein haros oni bai ein bod yn mynd i'r afael â hyn yn gynnar iawn. A dyna'n union beth rydym yn ceisio'i wneud. Rydym wedi darparu £2.7 miliwn o gyllid ychwanegol i ddarparu mynediad ar unwaith i ystod eang iawn o gymorth iechyd meddwl lefel isel. Ac mae'n amlwg fod sawl math gwahanol o orbryder, a'i fod yn cael ei achosi gan lawer o wahanol bethau. Un o'r pethau hynny yw'r sefyllfa economaidd, ac ni fydd honno'n gwella'n fuan. Gwyddom fod cydberthynas uniongyrchol rhwng problem economaidd a nifer yr achosion o salwch meddwl, ac felly bron y gallwn fapio'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yn y dyfodol, a dyna pam rwy'n credu mai mynd i'r afael â'r mater cyn iddo dyfu'n broblem fawr mewn gwirionedd yw'r ffordd o wneud hyn.
Rydym wedi dweud, o ddechrau'r pandemig, fod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau hanfodol felly ni ddylai fod unrhyw leihad yn y cymorth yno. Rydym yn gwneud ein gorau i leihau'r effeithiau economaidd-gymdeithasol, yn fwyaf diweddar mewn perthynas â lletygarwch. Mae llawer o bobl ifanc yn gweithio yn y sector hwn, ac mae'n bosibl fod llawer o'r rheini ar gontractau dim oriau ac felly ni fyddant yn cael Nadolig gwych yn awr o ganlyniad i'r ffaith ein bod ni, yn anffodus, wedi gorfod rhoi camau eithaf llym ar waith. Ond y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw sefyll gyda hwy a sicrhau bod cymorth iddynt mewn perthynas ag iechyd meddwl. A'r peth arall yw sicrhau ein bod yn rhagweld ac yn edrych ar yr hyn sy'n debygol o fod ei angen yn y dyfodol, a'n bod yn cefnogi byrddau iechyd i sicrhau y gallant ddechrau paratoi ar gyfer dull gweithredu gwahanol iawn yn y dyfodol.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar i ofyn am yr asesiadau effaith ar iechyd meddwl a gynhaliwyd, does bosibl, cyn gwneud penderfyniadau mor aruthrol a hirdymor i ddileu ein hawliau sifil. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro y bydd yr effaith ar ein hiechyd meddwl cyfunol yn enfawr. Rwy'n pryderu'n benodol am ein pobl ifanc, felly pa drafodaethau rydych yn eu cael mewn gwirionedd gyda'r sector addysg ynglŷn ag atal problemau iechyd meddwl yn ein hysgolion? Diolch.
Diolch. Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw un nad yw wedi dioddef rhywfaint o orbryder yn ystod y pandemig hwn, ond fel y dywedwch, mae'n broblem arbennig yng nghyd-destun pobl ifanc. A dyna pam rydym wedi mabwysiadu dull newydd radical iawn o gefnogi pobl ifanc a phlant mewn ysgolion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae rhaglen gwerth £5 miliwn yn cael ei chefnogi gan fy nghyllideb i a chyllideb y Gweinidog Addysg, ac mae'n edrych ar wella mynediad at bethau fel cymorth i ysgolion, gan roi mynediad i'r nyrsys yn yr ysgolion hynny, rhoi'r ddarpariaeth honno, a hyfforddi'r athrawon yn iawn. Felly, mae llawer o waith wedi bod yn mynd rhagddo mewn ysgolion, ac fel y dywedais yn gynharach, rydym bellach yn ehangu hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â darpariaeth gymdeithasol ehangach hefyd, lle byddwn yn darparu ymyrraeth gynnar i sicrhau bod y cymorth hwnnw'n cael ei roi yn yr ysgol yn ogystal ag yn fwy eang yn y gymuned.
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl y tu allan i oriau arferol? OQ55980
Rydym wedi comisiynu dau adolygiad ar wahân i gefnogi gwelliannau i'n gwasanaethau gofal argyfwng y tu allan i oriau arferol. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i wella'r ymateb amlasiantaethol sydd ei angen i gefnogi pobl mewn argyfwng.
Diolch, Weinidog. Rwyf mor falch fod gwasanaeth Noddfa Gyda'r Hwyr bellach ar waith yn Sir Benfro. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn darparu lloches ddiogel i oedolion sy'n profi trallod meddwl yn yr oriau tyngedfennol pan fydd gwasanaethau cymorth eraill ar gau. Mae'n dilyn llwyddiant y prosiect hwnnw yn Llanelli. Fel gwasanaeth ataliol, mae'n darparu mynediad cynnar at gymorth, ac mae hynny'n gwneud llawer i leihau dibyniaeth ar wasanaethau iechyd meddwl craidd, a thrwy hynny'n lleddfu'r straen ar y system yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn i bobl. Felly, a fyddwch yn monitro'r cynllun i weld a ellir ymestyn a chyflwyno'r cynllun peilot tri mis ledled y wlad?
Diolch yn fawr, Joyce. Wrth gwrs, mae hon yn rhaglen sydd wedi'i chyflwyno o ganlyniad i'r peilot a ddigwyddodd yn Llanelli, felly mae'n dda gweld bod hwnnw wedi gweithio'n dda, a chredaf fod rhaid i ni gydnabod nad yw pobl ond yn cael argyfyngau iechyd meddwl rhwng naw a phump, a dyna pam y mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaeth 24 awr hwnnw ar gael. Yr hyn sydd wedi bod yn wych yw bod y grŵp concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl wedi dod ag ystod eang o grwpiau at ei gilydd. Eir i'r afael â materion cymdeithasol a lles yno, ond wrth gwrs, mae'r heddlu a'r awdurdodau lleol yn rhan annatod o sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hyn yn y ffordd gywir. Mae uned gyflenwi'r GIG yn cynnal adolygiad manwl o wasanaethau argyfwng a chyswllt a bydd yr is-grŵp yn cael ei sefydlu nawr i sicrhau ein bod yn edrych ar gasgliadau'r grŵp concordat hwnnw a'n bod yn rhoi'r rheini ar waith dros y flwyddyn nesaf.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth iechyd meddwl yn Llanelli? OQ55977
Bwrdd iechyd Hywel Dda sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn diwallu anghenion y gymuned leol, gan gynnwys iechyd meddwl. Rydym yn parhau i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl nag ar gyfer unrhyw ran arall o'r GIG.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Yn ddiweddar, cynhaliodd comisiynydd heddlu a throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, ddigwyddiad cyllidebu cyfranogol diogelwch cymunedol llwyddiannus iawn, gan wahodd pobl o'r gymuned i flaenoriaethu cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol i hyrwyddo diogelwch cymunedol. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Mind Cymru—sy'n digwydd bod yn gymdogion i mi, drws nesaf i fy swyddfa yn Stryd Thomas yn Llanelli—yn un o'r grwpiau llwyddiannus hynny. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod gan sefydliadau trydydd sector a chymunedol rôl gwbl hanfodol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â materion iechyd meddwl. Yn aml, gall fod yn haws cael mynediad atynt, gallant fod yn llai brawychus yn aml, bydd pobl yn llai ofnus o stigma; ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol iawn nad yw llawer o'r sefydliadau hynny ar sylfaen gadarn iawn yn ariannol. Felly, pa waith pellach y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod grwpiau gwirfoddol a chymunedol mor hanfodol yn cael eu hariannu'n gynaliadwy ac yn ddiogel ar gyfer y dyfodol?
Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn teg, oherwydd os edrychwch ar enghreifftiau fel Noddfa Gyda'r Hwyr, talwyd am y rhaglen honno gan y gronfa drawsnewid, felly yr hyn y mae angen inni ei wneud yw edrych ar yr hyn sy'n gweithio a cheisio ei brif ffrydio wedyn. Felly, mae honno'n sicr yn neges rwyf wedi bod yn ei mynegi'n glir iawn i fy swyddogion, fod gwir angen inni ymgorffori'r cymorth haen 0 a haen 1 hwn, sy'n aml yn cael ei roi a'i ddosbarthu a'i wasanaethu'n well o lawer gan y trydydd sector. Yn sicr, gwn fod iechyd meddwl Mind yn Llanelli yn gwneud gwaith gwych. Cyfarfûm â rhywun o Mind yr wythnos diwethaf a oedd yn sôn am y pwysau enfawr y maent yn ei wynebu nawr mewn perthynas â materion iechyd meddwl oherwydd y dirywiad yn yr economi yn yr ardal honno. Felly, yn sicr, dyna yw fy mwriad—sicrhau y gallwn edrych ar fframwaith mwy hirdymor lle gallant ddeall y bydd yr arian yno ar gyfer y tymor hwy. Oherwydd mae angen i ni gadw'r sgiliau y mae pobl yn eu datblygu yn y cymunedau hynny hefyd.
8. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i glybiau rygbi a phêl-droed cymunedol sydd wedi cael eu gorfodi i gau eu cyfleusterau oherwydd COVID-19? OQ55960
Diolch yn fawr, Huw. Rydyn ni’n darparu cymorth ariannol sylweddol i glybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol ar draws Cymru, yn arbennig drwy gyfrwng y prif asiantaeth yn y maes yma, y corff cyhoeddus Chwaraeon Cymru.
Diolch, Weinidog. Rwy'n gwybod bod llawer o gefnogaeth wedi'i roi yn barod. Mae'n debyg fy mod wedi bod ym mhob clwb, ac wedi sefyll ar linellau ystlys pob clwb, o Gilfach i Gaerau i Bont-y-clun y tu mewn a'r tu allan i fy etholaeth dros y blynyddoedd, a gwn nad clybiau chwaraeon yn unig ydynt, ond maent wrth gwrs yn garreg sylfaen i'r gymuned hefyd. Maent yn gwneud cymaint o ran cymorth cymunedol, gan gynnwys, rai ohonynt, yn ystod argyfwng COVID. Ond er gwaethaf y gefnogaeth honno, ac yn enwedig gyda'r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd, maent yn ei chael yn anodd iawn nid yn unig i gynnal gweithgareddau ar y cae, ond yn eu darpariaeth ategol hefyd, eu cyfarfodydd, eu bariau ac yn y blaen. Wrth symud ymlaen i adfer o'r argyfwng, a ydych yn credu bod rôl i Lywodraeth Cymru ddod a'r cyrff llywodraethu, Cyngor Chwaraeon Cymru ac eraill at ei gilydd i weld beth arall fydd angen ei wneud i sicrhau bod y clybiau hyn sydd â threftadaeth hir iawn yn gallu goroesi a ffynnu yn y dyfodol?
Diolch, Huw. Rydych wedi rhoi her i mi ac ni allaf ddweud 'na' wrthi, oherwydd un o fy mhrif genadaethau drwy gydol yr argyfwng hwn yw sicrhau ein bod yn chwilio am bwyntiau adfer, pwyntiau ymateb creadigol, ac os gallwn gael hynny ym maes chwaraeon, byddai hynny mor bwysig.
Mae'r ffigurau presennol yn dda iawn. Mae clybiau rygbi'r undeb cymunedol yn cael dros £188,000, mae clybiau pêl-droed cymunedol yn cael dros £500,000, ac mae cronfa Cymru Actif yn dal i fod ar agor, lle mae Chwaraeon Cymru yn prosesu ceisiadau cyn gynted ag y gallant. Ond rwy'n derbyn eich her, a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn fy helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn cyn diwedd y Senedd hon.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac i'w ofyn gan Llyr Gruffydd.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau'r toriadau i gyllid amaethyddol Cymru a gyhoeddwyd yn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar 25 Tachwedd 2020? TQ512
Diolch. Mae Llywodraeth y DU wedi gadael Cymru £137 miliwn yn brin o'r arian a ddisgwylir y flwyddyn nesaf. Maent yn defnyddio cyllid yr UE i sybsideiddio eu hymrwymiad maniffesto, ac er gwaethaf eu honiadau croch, bydd yr arian hwn yn cael ei golli. Ni fyddai hyn wedi digwydd pe baem wedi aros yn Ewrop, ac mae'n bradychu cymunedau gwledig.
Dywedodd maniffesto etholiad y Ceidwadwyr, wrth gwrs, y byddai'n gwarantu cyllideb flynyddol bresennol y polisi amaethyddol cyffredin i ffermwyr ym mhob blwyddyn yn y Senedd hon, ac eto lai na 12 mis yn ddiweddarach, wrth gwrs, mae Boris Johnson wedi torri ei addewid gyda thoriad anferthol, fel rydych wedi'i egluro, mewn cymorth cyllid amaethyddol i Gymru. Nawr, mae ffermwyr rwyf wedi siarad â hwy yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain, maent yn teimlo eu bod wedi cael eu twyllo, a'i fod yn frad llwyr—nid fy ngeiriau i, ond geiriau undebau'r ffermwyr, wrth gwrs—ac os bydd y Ceidwadwyr yn torri eu haddewid ar hyn, pa obaith sydd yna y bydd yr holl gyllid newydd yn lle cyllid yr UE a addawyd gan Lywodraeth y DU ar un adeg yn cael eu talu'n llawn i Gymru?
Wrth gwrs, mae hyn wedi digwydd yn rhannol oherwydd y tanwariant yn y cynllun datblygu gwledig yng Nghymru. Mae'r rheol N+3 yn golygu, wrth gwrs, fod gennych berffaith hawl i wario'r arian hwnnw hyd at 2023, ond mae llawer ohonom wedi eich rhybuddio bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu'r arian hwnnw mewn modd mwy amserol, ac yn awr, wrth gwrs, rydych wedi llosgi eich bysedd. Felly, a fyddech yn cytuno bod hyn yn tanlinellu, unwaith eto, yr angen am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â'r cynllun datblygu gwledig yng Nghymru? A lle mae hyn yn gadael eich argymhellion ar gyfer cynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd mae llawer ohonom wedi bod yn rhybuddio ers amser maith hefyd eich bod wedi bod yn datblygu eich cynlluniau ar gyfer y cynllun cymorth newydd heb wybod faint o gyllid fyddai ar gael i chi? Yn sicr, nid yw'r toriad hwn gan y Torïaid yn argoeli'n dda i gefn gwlad Cymru, felly a allwch chi egluro i ni efallai sut y gallai'r gostyngiad hwn yn y cyllid effeithio ar eich cynlluniau ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy?
Ac yn olaf, gan gofio eich bod wedi cadarnhau yn flaenorol y byddai cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei gynnal ar gyfer 2021, a allwch chi gadarnhau heddiw y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei gynnal ar ei lefelau cyllido presennol?
Diolch. O ran eich cwestiynau am y cynllun datblygu gwledig, nid wyf yn derbyn bod trosglwyddiadau hanesyddol o golofn i golofn yn gyfrifol am oedi gwariant drwy gynllun datblygu gwledig yr UE, ac mae ein proffil gwariant yn union lle byddem yn disgwyl iddo fod. Gwnaethom benderfyniadau dilys ynghylch sut i broffilio ein gwariant cynllun datblygu gwledig mewn ffordd a oedd yn gweddu i Gymru, a chyflawni amcanion ein rhaglen. Ni ddylem gael ein cosbi am y penderfyniadau hyn. Ni fyddem byth wedi gallu rhagweld y byddai Llywodraeth y DU yn arddel agwedd mor wallus tuag at gyllid newydd. Mae ein cynllun datblygu gwledig ar y trywydd cywir. Mae lefel y gwariant, lefel yr ymrwymiad drwy'r rhaglen, yn cyd-fynd â'r cyfartaledd Ewropeaidd. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau dro ar ôl tro eu bod yn fodlon iawn gyda'n rhaglen, a deallaf fod hyn wedi'i fynegi mor ddiweddar â phythefnos yn ôl yng nghyfarfod diweddaraf y pwyllgor monitro rhaglenni. Felly, nid wyf yn derbyn yr hyn rydych yn ei ddweud o gwbl.
O ran y penderfyniad cyllideb ar gynllun y taliad sylfaenol, yng ngoleuni'r setliad ariannu, rwyf wrthi'n ystyried lefel y taliad sylfaenol a fydd ar gael yn 2021. Rwy'n derbyn y brys am y penderfyniad hwn i ffermwyr ac yn amlwg byddaf yn nodi fy mwriadau y mis hwn; mae'n rhywbeth y byddaf yn sôn amdano wrth gwrs. Cyfarfûm â'r ddau undeb ffermio dros yr wythnos ddiwethaf mewn perthynas â hyn.
Roeddech yn gofyn am 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Fel y gwyddoch, byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn y mis hwn, ac yn amlwg byddwn yn ystyried popeth.
Cyn yr adolygiad hwn o wariant, ysgrifennais lythyr brys at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn egluro fy marn y dylai Llywodraeth y DU gadw at yr ymrwymiad maniffesto i warantu'r gyllideb flynyddol bresennol i ffermwyr ar gyfer pob blwyddyn o'r Senedd nesaf. Rhoddodd ymateb yr Ysgrifennydd Gwladol lawer o eglurder i mi, a gadewch inni fod yn glir: nid yw'r ymrwymiad maniffesto hwn wedi cael ei dorri. Yr amlen flynyddol gyffredinol yw £337 miliwn i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ynghylch ariannu yn y dyfodol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae'r cytundeb ymadael yn nodi y bydd y DU yn parhau i gymryd rhan ym mhob un o raglenni'r UE a ariennir gan fframwaith ariannol amlflwydd 2014-2020 hyd nes eu bod yn cau. Mae hyn yn sicrhau mynediad parhaus at gyllid yr UE i sawl rhaglen wledig, gan gynnwys y polisi amaethyddol cyffredin, colofn 2, cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop hyd nes iddynt gael eu cwblhau. Mae Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad i ariannu gweddill ymrwymiadau colofn 2 y polisi amaethyddol cyffredin sydd y tu hwnt i gwmpas y cytundeb ymadael.
Yn ail, mae Trysorlys Ei Mawrhydi wedi mabwysiadu dull cyson, gan ychwanegu cyllid trysorlys at dderbyniadau'r UE hyd at lefel yr ymrwymiad maniffesto. Mae'r sgandal go iawn yma. Mae gan Lywodraeth Cymru oddeutu £160 miliwn heb ei wario o gynlluniau datblygu gwledig 2014 i 2020. Nawr, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw: er fy mod yn derbyn yr hyblygrwydd +3, a wnewch chi ddatgan pam na wariwyd cyllideb y cynllun datblygu gwledig rhwng 2014 a 2020? Beth sydd gennych i'w ddweud wrth ein ffermwyr sydd, ers 2014, wedi canfod bod y cyfnodau ymgeisio wedi bod yn ysbeidiol a heb ddigon o adnoddau, ac sydd wedi gorfod troi at dalu cynghorwyr ac ymgynghorwyr i gynorthwyo, a hyd yn oed y rhai hynny y mae eu ceisiadau am gymorth wedi'u gwrthod, oherwydd eich bod, yn syml, yn cronni'r cyllid hwn?
Hyd at ddiwedd mis Awst 2019, 41 y cant yn unig o gyllid y cynllun datblygu gwledig a wariwyd. Roedd yn rhywfaint o syndod, felly, i Archwilydd Cyffredinol Cymru pan ganfu fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £53 miliwn o gronfeydd datblygu gwledig heb sicrhau y byddai'r grantiau'n sicrhau gwerth am arian hyd yn oed. Rydych wedi methu rheoli'r gyllideb yn effeithiol, ac o'r herwydd, a wnewch chi gytuno yn awr i adolygiad annibynnol brys o'r cynllun datblygu gwledig? Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru, a Llyr Gruffydd yn arbennig, yn adleisio galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig am adolygiad annibynnol o'r cynllun datblygu gwledig. Diolch, Lywydd.
Os yw Janet Finch-Saunders yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud yn ddi-gwestiwn ac yn dweud wrthyf ei bod yn deall cynllun datblygu gwledig 2014 i 2020 N+3, mae hynny'n egluro nad yw'n ei ddeall mewn gwirionedd oherwydd yr holl resymau rwyf wedi'u hegluro yn fy ateb i Llyr Huws Gruffydd.
Dywedais fod ein cynllun datblygu gwledig ar y trywydd cywir. Mae lefel y gwariant a'r ymrwymiad yn unol â'r cyfartaledd Ewropeaidd. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn fodlon ac wedi cadarnhau dro ar ôl tro eu bod yn fodlon ar ein rhaglen, ac roedd hynny hyd at bythefnos yn ôl. Felly, mae'r hyn rydych yn ei ddweud yn gwbl anghywir. Nid wyf yn derbyn mai trosglwyddiadau hanesyddol o golofn i golofn sy'n gyfrifol am oedi gwariant drwy gynllun datblygu gwledig yr UE. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i bawb sy'n byw mewn cymunedau gwledig. Mae cymorth i ffermwyr yn gwbl hanfodol, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn cefnogi datblygu gwledig ehangach, ac mae hynny'n cyflawni ein blaenoriaethau, gan gynnwys diogelu'r amgylchedd a galluogi cymunedau i ffynnu, a dyna'n union y mae'r cynllun datblygu gwledig yn ei wneud.
Mae Llywodraeth y DU wedi torri ei hymrwymiad maniffesto. Dywedasant wrthym na fyddem yn colli ceiniog—yr un geiniog—ac rydym yn awr yn colli cynifer o filiynau am yr holl resymau rwyf wedi'u hegluro. Ac mae'n rhaid imi ddweud, os edrychwch ar rai o sylwadau eich cyd-Aelodau, Janet Finch-Saunders, ac yn sicr, ym mis Medi, gofynnodd Andrew R.T. Davies i mi gadarnhau y byddwn yn diogelu'r gyllideb datblygu gwledig gyda 100 y cant o'r gyllideb yn cael ei hymrwymo a'i gwario. Croesawodd Angela Burns y cyhoeddiad am ddyraniad ein cyllid datblygu gwledig. Felly, a ydynt yn dweud nad oeddent yn deall addewid maniffesto'r Ceidwadwyr? Maent yn dweud nawr, 'Dylai fod yn amlwg.' Wel, nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Felly, awgrymaf eich bod yn mynd yn ôl at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn egluro'r hyn rwy'n ei ddweud wrthych nawr.
Nid oes gennym y fath beth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae gennym Ysgrifennydd Gwladol y Blaid Dorïaidd, oherwydd o'm rhan i, nid yw erioed wedi sefyll dros Gymru, a chwaraeodd ei ragflaenydd yr un gêm. Felly, y peth cyntaf y byddwn yn gofyn i'r Ceidwadwyr yma heddiw ei wneud yw gofyn am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, un sy'n edrych ar ôl buddiannau Cymru.
Fel y dywedodd y Gweinidog, gofynnwyd i ni yma, gan Andrew R.T. Davies yn gyntaf oll, i ddiogelu'r gyllideb honno gydag ymrwymiad i wario 100 y cant ohoni, ac eto gan Angela Burns ym mis Mai 2020, wrth groesawu'r cyhoeddiad. Felly, mae dryswch gwirioneddol yn eich plaid ac mae angen i chi ei ddatrys, oherwydd naill ai nid oeddech yn deall beth oedd yn digwydd, neu nid oeddech yn gallu deall o gwbl beth oedd yn digwydd, a chredaf fod angen i chi ateb y cwestiynau hynny o fewn eich grŵp. Ac rwy'n credu y byddai'n syniad da iawn yma i sefyll dros Gymru, nid y Blaid Geidwadol, a chyflwyno hawliad go iawn yn hytrach na dim ond derbyn y llythyr, oherwydd rwyf wedi cael ambell un ganddo ef hefyd, a brwydro dros Gymru mewn gwirionedd. Oherwydd mae'r ffermwyr yma wedi dweud yn berffaith glir y bydd hyn yn niweidiol iddynt o ran eu gallu i oroesi yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi, Weinidog, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi, ofyn i Ysgrifennydd Gwladol y Blaid Dorïaidd droi'n ôl i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Diolch, Joyce Watson. Credaf mai un o'r pethau sy'n peri pryder gwirioneddol i mi yw'r diffyg ymgysylltu gan y Trysorlys yn Llundain, lle rwyf wedi ceisio cael cyfarfodydd, ac yn sicr, gyda fy nghymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, cyn gynted ag y gwnaethom sylweddoli'r broblem y byddai hyn yn ei chreu, ac fe wnaethant wrthod ymgysylltu â ni; nid ydym wedi cael dim ond tawelwch. Ac felly, ceisiais gael cyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'i is-Weinidog. Llwyddais i gael hwnnw—ar ôl llawer o berswadio ar fy rhan i—y diwrnod cyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Ac roeddwn yn credu bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi deall fy mhryderon mewn gwirionedd, a dywedodd y byddai'n mynd yn syth at y Trysorlys i drafod hynny ar fy rhan. Yn anffodus, y diwrnod wedyn, gwelsom yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, wythnos yn ôl, a lefel y tanariannu sydd gennym nawr. Ond byddaf yn parhau i fynd ar ei drywydd. Byddaf yn parhau i frwydro yn erbyn hyn, dros ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig. Mae fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi ysgrifennu at y Trysorlys ar y mater hwn; mae gennyf gyfarfod grŵp rhyngweinidogol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddydd Llun, lle byddaf yn parhau i fynd ar ei drywydd.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Mike Hedges.
Mike Hedges.
Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi bod yn cael problemau cyfrifiadurol drwy'r prynhawn. Diolch i chi, Lywydd.
Cydlynwyr ardal leol yn Abertawe yw arwyr di-glod pandemig COVID-19, a'u cenhadaeth yw helpu unrhyw un sydd angen cymorth yn y gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Mae cydlynwyr ardal leol wedi ymateb i dros 20,000 o ymholiadau yn ystod y pandemig. Pan ddechreuodd y cyfyngiadau lleol yn Abertawe, ehangwyd tîm y cydlynwyr ardal leol yn gyflym i gynnwys pob rhan o'r ddinas, gyda rhai o staff y cyngor yn cael eu hadleoli dros dro. Ers hynny, maent wedi helpu i gydlynu'r ymateb yn Abertawe, gyda chymdogion yn cynorthwyo cymdogion i gael bwyd neu siopa, casglu meddyginiaeth, neu wneud galwad ffôn gyfeillgar pan fydd ei hangen fwyaf. Maent hefyd wedi helpu i gysylltu pobl hŷn â garddwyr lleol, wedi helpu i gludo anifeiliaid anwes at filfeddygon, wedi helpu i ymdrin ag achosion o dipio anghyfreithlon, dosbarthu prydau ysgol am ddim, cynorthwyo teuluoedd sydd angen dillad a hanfodion eraill, ac wedi estyn allan at deuluoedd sy'n ceisio lloches, gan gynnig cymorth.
Ni fyddai llawer o'r ymateb wedi bod yn bosibl heb y 2,500 o bobl a wirfoddolodd i gynnig cymorth i gymdogion, ac mae llawer o'r rhwydweithiau hyn yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys grwpiau cymunedol sydd newydd eu sefydlu ar Facebook a chyfryngau cymdeithasol eraill. Drwy gydol y pandemig, mae cyngor Abertawe hefyd wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a phartneriaid eraill, yn ogystal â grwpiau cymunedol, a darparwyd gwybodaeth i 9,000 o bobl y dywedwyd wrthynt am warchod ynglŷn â sut y gallent barhau i gael cymorth.
Rwy'n falch iawn fy mod yn dod o Abertawe, a hoffwn ddiolch i'r cydlynwyr ardal leol a'u byddin o wirfoddolwyr lleol am yr hyn y maent wedi'i wneud i helpu ein cymuned.
Y datganiad nesaf gan Ann Jones.
Diolch, Lywydd. Yfory, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, a'r thema eleni yw 'Nid yw pob anabledd yn weladwy'. Ac yn enwedig mewn blwyddyn na welsom ei thebyg o'r blaen, dylai'r thema hon ein rhybuddio i fod yn fwy ymwybodol o'r anableddau cudd niferus sy'n bodoli, a sut y dylem fod yn fwy agored i helpu pawb drwy'r cyfnod anodd hwn. Felly, fel gwleidydd ag anabledd, rwyf wedi ceisio siarad ar faterion sy'n effeithio ar lawer o bobl, ond y gellid mabwysiadu ateb syml ar eu cyfer—nid oes angen deddfwriaeth bob amser. Er enghraifft—a dyma fy enghraifft glasurol—gall canllaw ar ddwy ochr grisiau neu rampiau wneud cymaint o wahaniaeth i berson sydd â phroblem symudedd er mwyn caniatáu iddynt ddod yn fwy annibynnol.
Yn ddiweddar, cefais fy ethol yn un o'r naw hyrwyddwr rhanbarthol i helpu i arwain gwaith Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a gwnaf fy ngorau i dynnu sylw at y gwaith a wnaed gennym yma yn ein Senedd. Mae llawer mwy i'w wneud o hyd ar hyn, wrth gwrs. Ac felly, wrth inni ddathlu'r diwrnod pwysig hwn, mae angen inni gryfhau ein hymdrechion i weld cymdeithas lawer mwy cyfartal. A dyma'r hyrwyddiad—rwy'n cadeirio trafodaeth panel rhithwir y Senedd nos yfory ar y thema 'Gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy cyfartal'. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch i gyd yn ymuno â mi yn y digwyddiad cyffrous hwnnw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Ann Jones.
Reit. Felly, yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. A dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig— Jayne Bryant.
Cynnig NDM7493 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, Adroddiad 02-20, a osodwyd gerbron y Senedd ar 25 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Dai Lloyd AS, ynghylch defnydd amhriodol o ystâd y Senedd. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ynglŷn â'r sancsiwn sy'n briodol yn yr achos hwn.
Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros yr argymhelliad, wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.
Diolch, Llywydd. Rwy'n derbyn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion yn llawn. Mae'n hanfodol i rediad llyfn y Senedd, ac i sicrhau democratiaeth fywiog, fod gofod diogel i grwpiau gwleidyddol gael trefnu a thrafod eu gwaith mewn ffordd sy'n cydnabod y cyd-destun pleidiol. Mae ble mae'r ffin rhwng gwaith pleidiol a'r gwaith seneddol yn gallu bod yn aneglur. Yn wir, mae'r comisiynydd ei hun yn cydnabod nad oedd y cod ymddygiad na'r canllawiau, fel ag yr oedden nhw ar y pryd ar adeg y cyfarfod dan sylw, yn ôl yn haf 2017, sydd dair blynedd a hanner yn ôl bellach, yn rhoi unrhyw ganllawiau ar beth yw gweithgarwch priodol Aelodau mewn perthynas â defnyddio ystafelloedd, nac yn rhoi canllawiau ar ystyr 'dibenion pleidiol wleidyddol', i ddyfynnu union eiriau y comisiynydd.
Er hynny, rwy'n derbyn dyfarniad y comisiynydd, yn yr achos penodol hwn, nad oedd defnydd yr ystafell o fewn y rheolau. Rwyf yn awyddus i achub ar y cyfle i bwysleisio, serch hynny, nad yw'r tramgwydd hwn yn ymwneud â chamddefnydd arian cyhoeddus mewn unrhyw ffordd.
Wrth edrych ymlaen, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Comisiwn bellach wedi diweddaru'r canllawiau yn ymwneud â defnydd ystafelloedd ac adnoddau'r Senedd yn fwy cyffredinol. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Comisiwn wedi nodi parodrwydd i gadw'r canllawiau dan adolygiad, fel nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn codi ohonynt. Rwy'n gobeithio y bydd hyn oll yn hwyluso cydymffurfiaeth Aelodau â'r rheolau yn y dyfodol, ac y bydd yn ein galluogi ni i gynnal ein gwaith yn briodol. Diolch yn fawr.
Hoffwn gofnodi fy mod yn cefnogi'r adroddiad, a chefnogaf argymhellion yr adroddiad, ond fel cynrychiolydd y Ceidwadwyr ar y pwyllgor hwn, er trylwyredd, credaf y dylai'r holl bapurau fod wedi'u darparu i'r adroddiad—wedi'u hatodi wrth yr adroddiad. Collais y bleidlais ar hynny, ac rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw. A dyna pam y bydd y grŵp Ceidwadol yn ymatal ar yr adroddiad hwn, oherwydd credwn y dylai'r papurau a oedd ger ein bron fod wedi bod ar gael yn eu cyfanrwydd yn yr adroddiad.
Jayne Bryant, y Cadeirydd, a ydych chi eisiau ymateb?
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r ddau Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw a chofnodi eu pwyntiau, a chredaf y bydd hynny'n glir i bawb ei weld, a diolch i'r Aelodau am gymryd rhan heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. A nawr fe fyddwn ni yn cymryd toriad byr er mwyn gwneud ambell newid yn y Siambr. Toriad byr, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:38.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:46, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Rydym yn ailymgynnull ar eitem 6, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.
Cynnig NDM7491 Helen Mary Jones
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Medi 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar newyddiaduraeth ac ar gyfryngau lleol. Hoffwn ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, i'n tîm gwych o staff ac i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig.
Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno ei bod yn hanfodol i ddemocratiaeth fod gennym wasg a chyfryngau ffyniannus a all graffu ar bob un ohonom. Rwy'n siŵr y byddem i gyd hefyd yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd hanfodol gwybodaeth fanwl gywir ar adeg o argyfwng mewn cyfnod mor beryglus. Mae ein hadroddiad yn edrych ar dri maes yn hyn o beth. Gwelsom fod yr argyfwng wedi gwaethygu ac wedi tynnu sylw at heriau parhaus i gyfryngau Cymru a chyfryngau lleol, ac wedi dangos methiant parhaus rhai elfennau o gyfryngau'r DU i adrodd yn gywir ar faterion datganoledig. Edrychwyd ar natur a chywirdeb gwybodaeth am yr ymateb i'r pandemig, effaith y bygythiad o ddiswyddiadau ar wasanaethau newyddion allweddol a chefnogaeth hirdymor i newyddiaduraeth a chyfryngau lleol. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am dderbyn pob un ond un o'n hargymhellion.
Daeth adrodd ar faterion datganoledig yn fater problemus yn gyflym ar ddechrau'r pandemig. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar wasanaethau newyddion y DU am eu newyddion wrth gwrs, boed yn ddarlledwyr neu'n bapurau newydd. Roedd yn aml yn wir nad oedd darparwyr newyddion y DU yn ei gwneud yn glir fod rheolau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ar draws y pedair gwlad. Mae'n wir dweud bod adrodd ar faterion datganoledig wedi dechrau'n wael iawn a thrwy gyfnod y pandemig, fe wnaeth wella, a daeth yn amlwg fod mwy a mwy o bobl yn ymwybodol fod y rheolau'n wahanol yma. Yn raddol, gwelsom symud o adrodd am reoliadau Lloegr fel pe baent yn berthnasol i'r DU gyfan i adrodd ar Loegr a'r Alban, ac yn y pen draw, i adrodd ar y pedair gwlad.
Mae'n hanfodol ar yr adeg anodd hon fod pobl ledled y DU yn gwybod pa reolau sy'n berthnasol iddynt hwy, a dyma pam y gwnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i annog y Swyddfa Gyfathrebu i sicrhau bod darlledwyr yn parhau i fod yn ddiduedd ac yn gywir wrth adrodd ar bob un o bedair gwlad y DU yn gyfartal fel mater o drefn. Rydym yn falch fod Ofcom wedi ysgrifennu at ddarlledwyr i'w hatgoffa o hyn ac o'r cod darlledu. Rydym wedi gweld rhywfaint o welliant ers hynny, ond mae'n dal i fod yn wir fod hyn yn rhywbeth y mae angen atgoffa darlledwyr a newyddiadurwyr ohono o hyd. Mae'r pwyllgor wedi teimlo rhwystredigaeth yn hyn o beth, yn enwedig gydag elfennau o ddarlledu sector cyhoeddus.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Reach plc, sef y cwmni sy'n berchen ar rai o'n gwasanaethau newyddion cenedlaethol a'n gwasanaethau newyddion lleol pwysicaf, fod bron i 90 o swyddi newyddiadurwyr mewn perygl. Gallasom gymryd tystiolaeth gan y cwmni a chan undebau'r newyddiadurwyr. Roeddem yn pryderu'n fawr am y perygl o golli swyddi, a gofynnwyd ar y pryd i Lywodraeth Cymru gyfarfod â chynrychiolwyr o'r sector i gael dealltwriaeth o ba gymorth y gallai fod ei angen a'r hyn y gallent ei wneud bryd hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu dweud wrthym a yw wedi gallu datblygu'r gwaith y cytunodd i'w wneud gyda rhanddeiliaid allweddol.
Un ffynhonnell hanfodol o gymorth i wasanaethau newyddion lleol yw refeniw hysbysebu wrth gwrs. Gwnaethom argymell yn gryf iawn y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y dylai hysbysiadau statudol, sy'n ffynhonnell refeniw wych ac sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, gael eu cyhoeddi gan ddarparwyr hyperleol ac ar-lein, yn ogystal â'r cyfryngau mwy. Ac unwaith eto, byddai'n dda clywed gan y Dirprwy Weinidog i ba raddau y mae hynny'n cael ei fonitro ac i ba raddau y mae hynny wedi digwydd.
Ar y pryd, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun cadw swyddi, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch iawn fod y cynllun hwnnw wedi'i ymestyn.
Fel y dywedais, mae'r pandemig wedi cyflymu problemau a oedd eisoes yn wynebu ein cyfryngau lleol a chenedlaethol yng Nghymru, a bu'r gostyngiad yng ngwerthiant papurau newydd yn enfawr, ac mae'n parhau wrth gwrs. Ar anterth y pandemig, prin y gwerthid papurau newydd ffisegol o gwbl. Clywsom lawer o dystiolaeth am anhawster moneteiddio cyfryngau newyddion ar-lein—pa mor anodd yw hi i gwmnïau wneud elw. Ar yr un pryd ag y mae'r Senedd wedi ennill pwerau pellach, mae'n eironig mewn rhai ffyrdd fod newyddiaduraeth lles y cyhoedd yn cael ei rhoi dan fygythiad yng Nghymru ac o bosibl yn cael ei gorfodi i encilio.
Galwasom ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i annog newydd-ddyfodiaid i'r farchnad ac i gefnogi dulliau arloesol o ddarparu newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru. Roeddem yn falch o glywed gan y Dirprwy Weinidog, yn y pwyllgor ar 17 Medi, ei fod wedi gofyn i Cymru Greadigol ystyried a allai weithredu fel corff hyd braich i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol uniongyrchol i wasanaethau newyddion lleol allweddol yng Nghymru, ac unwaith eto rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog ar hynny.
Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n awyddus iawn i glywed gan yr Aelodau eraill, aelodau'r pwyllgor ac eraill a fydd am gyfrannu yn y ddadl hon. Rwy'n ddiolchgar eto i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, a gobeithio y gallwn i gyd gytuno ei bod yn hanfodol i ddyfodol ein democratiaeth ifanc fod newyddiadurwyr yn adrodd yn gywir ar y ddemocratiaeth honno, fel y gall pobl ddod yn ymwybodol o'r penderfyniadau pwysig a wneir yn y lle hwn sy'n effeithio arnynt. Diolch yn fawr.
Ceisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau rhagorol a wnaeth Helen Mary, ond hoffwn eu hategu'n llawn. Byddwn yn dweud hyn, serch hynny, am y gwelliant yn y sylw a roddir i faterion datganoledig, fod Mark Drakeford wedi dod yn dipyn o ffigwr cwlt ledled y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn ddatganiad di-bolisi ar fy rhan i, ond mae wedi cael proffil, mae wedi cael ei broffilio hefyd ar Radio 4 gan Nick Robinson, a chlywsom i gyd am ei fagwraeth yn Sir Gaerfyrddin a'i gariad at Glwb Criced Sir Forgannwg a'i ymweliadau â Sain Helen, a aeth â mi'n ôl i fy arddegau innau hefyd, rhaid i mi ddweud. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd felly y dylai fod—dylai pobl sylweddoli ein bod bellach yn wladwriaeth ddatganoledig. Ac ar rai pethau mae'n hollbwysig. Er enghraifft, roedd y Financial Times ychydig fisoedd yn ôl yn cynnwys un neu ddwy o erthyglau diddorol ar brofi ac olrhain, ac roedd yn cymharu dull Cymru â'r dull o weithredu mewn rhannau eraill o'r DU, yn enwedig Lloegr, a dywedodd mai'r cysylltiad rhwng iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol yng Nghymru oedd y ffordd y dylid gwneud pethau. Nawr, mae'r dystiolaeth ar gael, ac mae'r FT wedi ffurfio ei farn ei hun, ond roeddwn yn meddwl bod hynny'n ddiddorol.
Gadewch i mi wneud dau bwynt penodol iawn. Yn gynharach yr hydref hwn, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Global Satisfaction with Democracy' gan Brifysgol Caergrawnt. Roedd iddo gyrhaeddiad rhyngwladol. Rwy'n meddwl y gallaf ddweud yn ddiogel yr ystyrir bod iddo gryn awdurdod. Rhybuddiai fod effaith y cyfryngau cymdeithasol yn gyrru pobl yn y gymdeithas i mewn i seilos, lle ceir dau lwyth sy'n gwrthwynebu ei gilydd, yn enwedig mewn gwledydd Eingl-Sacsonaidd, ac mae hyn yn adlewyrchu'r system ddwy blaid. Mae'n debyg y gallem ddweud yn fras ei fod yn dal i fodoli o ran dewis Llywodraeth ar lefel y DU, hyd yn oed os nad yw'n bodoli'n llwyr yn yr Alban ac yng Nghymru bellach. Ond rwy'n credu bod problem wirioneddol gyda phobl yn cael llawer o'u prif wybodaeth wleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol. Fel arf cyflenwol sy'n rhoi llais i gynifer o bobl, rwy'n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn wych, ond fel prif ffynhonnell mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn. A gan ein bod ar fin dechrau rhaglen frechu, a fydd yn agored i'r boblogaeth gyfan o fewn yr oddeutu chwe mis nesaf, mae'n ein hatgoffa o ba mor bwysig yw ffynonellau gwybodaeth ym maes iechyd y cyhoedd, oherwydd ceir llawer o newyddion ffug mewn perthynas â llawer o'r materion hyn.
Fy ail bwynt, af yn ôl i'r 1830au a'r damcaniaethwr mwyaf ar ddemocratiaeth mae'n debyg, Alexis de Tocqueville, y Ffrancwr a aeth i America ac a ysgrifennodd y llyfr enwog, Democracy in America. Credai fod un o'r pethau allweddol a oedd yn caniatáu democratiaeth, a rhywbeth yn agosáu at ddemocratiaeth dorfol, o ran y bleidlais i ddynion beth bynnag, yn digwydd am y tro cyntaf yn y byd—ni lwyddodd y Groegiaid hyd yn oed i fynd yn agos at hynny—yn America yn y 1830au, ac roedd yn credu mai'r hyn oedd ei angen oedd gwasg rydd, a chystadleuaeth mewn gwasg rydd. Ac os caf ddyfynnu un o'r pethau a ddywedodd Tocqueville:
Efallai y gellid edrych, gan hynny, ar sofraniaeth y bobl a rhyddid y wasg fel pethau sy'n perthyn i'w gilydd.
Mae angen y ddau arnoch, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw pwerus iawn.
Ac rwyf am orffen gyda'r darn hwn o dystiolaeth a gawsom; roeddwn yn meddwl mai dyma'r peth mwyaf pwerus a glywsom gan y newyddiadurwyr proffesiynol. Rydym yn colli newyddiadurwyr proffesiynol bob dydd ac mae'n crebachu ein democratiaeth. Ond pwysleisiwyd wrthym mai'r golled fwyaf yw nad yw'r newyddiadurwyr proffesiynol a arferai fyw yn y cymunedau lleol roeddent yn ysgrifennu amdanynt yno mwyach, ac mae hynny'n bryder mawr ac mae'n rhaid inni ddod o hyd i fodel busnes sy'n gallu mynd i'r afael â hynny.
Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond roedd gennyf lawer iawn o ddiddordeb yn yr adroddiad hwn, yn enwedig gan fy mod yn defnyddio dwy ffynhonnell o newyddiaduraeth o ansawdd da iawn—nid y rhai mawr—sef Senedd Home, a ddarparir gan Owen Donovan, ac sy'n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl fel llafur cariad. Dyma'r crynodeb gorau o'r dadleuon hyn a welwch yn unrhyw le, a byddwn yn argymell i unrhyw Aelod o'r Senedd—rwy'n gwybod fy mod wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog am hyn o'r blaen—ddefnyddio'r ffynhonnell honno ar gyfer darganfod beth sydd wedi digwydd ar ôl dadleuon, gan mai dyma'r crynodeb gorau a welwch, heb fynd i ddarllen drwy'r Cofnod cyfan eich hun, ac nid yw hynny'n bosibl wrth gwrs. Ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael ei grybwyll yn ei grynodeb hefyd, ac nid dyna pam rwy'n ei ddweud, Ddirprwy Weinidog. Y mater arall, serch hynny, yw nad yw hysbysiadau cyhoeddus yn berthnasol iddo oherwydd ei fod yn wasanaeth ar-lein. Felly, mae problem yn codi o ran cyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus.
Y ffynhonnell arall a ddefnyddiaf—ac mae Senedd Home yn gwbl annibynnol ac yn cefnogi annibyniaeth—yw'r Caerphilly Observer, ac mae'r Caerphilly Observer yn waith syfrdanol. Dechreuodd yn 2009 fel ffynhonnell ar-lein ac erbyn hyn mae ganddo gylchrediad print ar draws bwrdeistref Caerffili. Mae'n gwbl annibynnol, a gwn hynny am fod straeon ynddo sydd wedi fy ngyrru o 'nghof. Ond rwy'n gwybod hefyd fod yna straeon ynddo sydd wedi gyrru Plaid Cymru o'u cof. Ac mewn gwirionedd, mae'n dda gweld bod pobl Plaid Cymru yng Nghaerffili yn mynnu ei fod yn bapur Llafur ac mae'r bobl Lafur yn mynnu ei fod yn bapur Plaid Cymru, felly rydych chi'n gwybod yn iawn—a phe bai unrhyw Geidwadwyr yng Nghaerffili, rwy'n siŵr y byddent yn dweud yr un peth am bleidiau eraill. Ac mae'n ffynhonnell dda iawn o wybodaeth annibynnol. Gan fod ganddynt gylchrediad print, gallant redeg hysbysiadau cymunedol mewn print, fel eu bod yn cael cymhorthdal drwy'r llwybr hwnnw. Siaradais â'r cyhoeddwr neithiwr; cefais sgwrs gyda Richard Gurner, y gŵr a'i dechreuodd, a'i waith ef ydyw, ac un o'r pethau a ddywedodd oedd, os ewch ar hyd llwybr cymhorthdal uniongyrchol, y broblem yw atebolrwydd. O leiaf os ydych yn gwneud yr hysbysiadau cyhoeddus, mantais hysbysiadau cyhoeddus yw bod yna wasanaeth cyhoeddus y cewch eich talu amdano'n uniongyrchol. Ac rwy'n gwybod bod yr holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn fy nghymuned, y prif bleidiau gwleidyddol, yn hysbysebu yn y Caerphilly Observer. Ceir math arall o gymhorthdal cyhoeddus, a hynny heb ofn na ffafriaeth. Felly, credaf mai dyna'r llwybr gorau o ran—credaf mai argymhelliad 7 ydyw. Nid yw'r adroddiad gennyf wrth law, ond rwy'n credu mai argymhelliad 7 oedd hwnnw, Gadeirydd.
Ond nid yw'n celu'r problemau hirdymor enfawr y mae'r diwydiant yn eu hwynebu. Mae newyddion manwl gywir, safonol, da, wedi'i ymchwilio'n drylwyr yn llawer anos i'w foneteiddio na deunydd sy'n abwyd ar gyfer denu rhywun i glicio. Dyna'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r diwydiant ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod ein bod i gyd yn mynd ar Facebook ac yn darparu ein gwybodaeth mor gywir ag y gallwn, ni waeth beth fo'n plaid. Rwyf wedi gweld Aelodau ar draws y Siambr yn darparu gwybodaeth dda ar Facebook, ond mae yna lanw sy'n ein llethu i gyd, a'r perygl yw y bydd y llanw hwn yn llethu rhai fel y Caerphilly Observer. Felly, y broblem a wynebir hefyd yw nad yw busnesau sy'n hysbysebu yn eu rhifyn print ar hyn o bryd, wrth i gyfryngau electronig ddod yn fwyfwy poblogaidd, nid yw'r busnesau mwy newydd eisiau defnyddio'r argraffiad print ychwaith. Ar hyn o bryd maent yn cadw incwm da drwy hysbysebu mewn print, ond nid yw hynny'n debygol o gael ei gynnal yn hirdymor.
Felly, dywedodd cyhoeddwr y Caerphilly Observer wrthyf fod ganddo ddau beth yn ateb i hyn: parhau â'r cymhorthdal gwasanaethau cyhoeddus rydym wedi'i grybwyll; ond hefyd—ac fe ddefnyddiaf ei eiriau ef—'yr ateb yw datblygu cynulleidfaoedd ar-lein ymgysylltiol iawn sy'n barod i dalu am eu gwybodaeth, ond i'r wybodaeth honno fod ar gael i bawb hefyd'. 'Gwn nad yw pob un o fy nghynulleidfaoedd', meddai Richard Gurner o'r Caerphilly Observer, 'yn barod i wneud cyfraniad ariannol, ond os oes digon yn gwneud hynny, gallai arwain at fodel busnes cynaliadwy nad yw'n dibynnu ar hysbysebu. Mae'n gofyn llawer, ond nid yw'n amhosibl'. Ac fe ddywedaf hyn wrthych, os ewch i siop yng Nghaerffili a'ch bod yn sôn am ddigwyddiad diweddar, mae rhywun yn debygol o ddweud wrthych, 'O, gwelais hynny yn yr Observer.' Nid yr Observer ar ddydd Sul a olygant ond y Caerphilly Observer. Mae pobl yn siarad am y papur hwnnw, oherwydd mae'n ffynhonnell ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi, ac mae Richard yn dechrau gweld budd hynny drwy fod pobl yn tanysgrifio.
Y peth olaf a ddywedodd wrthyf oedd bod Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad wrth gefnogi'r sector annibynnol drwy'r gronfa newyddiaduraeth gymunedol annibynnol. Roedd hyn yn ei helpu i gadw i fynd, ond hoffai weld hynny'n cael ei ehangu. Felly, byddai'n bwysig iawn gweld hynny'n cael ei ehangu drwy'r sector annibynnol. Er ei fod yn dod yn ôl at fater cymhorthdal y wladwriaeth, mae'n gymhorthdal hyd braich i raddau, sy'n fuddiol. Felly, dyna lle mae fy niddordeb i. Rwyf am weld newyddiaduraeth hyperleol o ansawdd da; hyd yn oed os nad yw ar fy ochr i, rwyf am ei weld. Ac rwy'n credu mai'r ddwy enghraifft ddisglair a nodais heddiw—Senedd Home a'r Caerphilly Observer—yw'r rhai sy'n arwain y ffordd.
Diolch yn fawr i'r pwyllgor am adroddiad byr a phwysig arall, ac hefyd argymhellion synhwyrol ar gyfer y tymor byr a'r tymor hwy ar gyfer cynnal a datblygu newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol. Bob tro rydyn ni'n trafod y maes yma, dwi yn datgan diddordeb, gan mai newyddiadurwr ydw i, ac aelod o undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, ers bron i 40 mlynedd erbyn hyn. Does dim dwywaith bod tirwedd newyddiaduraeth wedi newid yn sylweddol dros y cyfnod hwnnw, yn enwedig, efallai, yn yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae'r newid wedi cyflymu'n ddiweddar oherwydd COVID-19, fel rydyn ni'n gwybod. Fodd bynnag, byddwn i'n cytuno efo'r sylwadau mae eraill wedi'u gwneud, sef bod yna rôl sylfaenol ar gyfer newyddiaduraeth yn ein democratiaeth ni, a'r rôl honno'n sylfaenol ar gyfer cynnal democratiaeth iach.
Mae yna awydd enfawr am newyddion yn ystod y pandemig, ac mae hi wedi bod yn bwysicach nag erioed sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at newyddion sy'n gywir ac yn berthnasol iddyn nhw, nid yn unig er lles ein democratiaeth, ond er lles iechyd cyhoeddus. Ond, fel mae eraill wedi sôn, mae'r pandemig wedi amlygu'r heriau sy'n wynebu newyddiaduraeth, yn enwedig newyddiaduraeth leol a phrint.
Gaf i jest sôn wrthych chi am rai o syniadau Plaid Cymru? Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn hybu'r cyfryngau Cymreig sydd yn cynrychioli pobl Cymru, a'r hyn sydd o bwys iddyn nhw. Mi fyddem ni yn creu comisiwn cyfryngau Cymreig annibynnol i ariannu rhwydwaith newyddion digidol cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, fyddai hynny ddim ar draul newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg; mae angen sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i Golwg360 ac yn y blaen os ydyn nhw am ddatblygu ymhellach. Mae angen plwraliaeth yn ein newyddiaduraeth; mae angen dybryd am hynny yng Nghymru.
Mae angen mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd presennol sydd yn deillio o wendidau hanesyddol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan y cyfryngau wrth addysgu pleidleiswyr 16 ac 17 mlwydd oed wrth inni agosáu at yr etholiad. Ond mae yna ddiffyg democratiaeth ar draws ystod oedrannau, a dwi'n ddiolchgar i Delyth Jewell am godi'r pryderon hynny yn ddiweddar yn y Senedd. Dim ond 6 y cant o bobl Cymru sy'n darllen papurau Cymreig; 46 y cant ydy'r ffigwr ar gyfer yr Alban. Onid ydy hi'n bryd cael un papur newydd cenedlaethol i Gymru, tra'n derbyn, wrth gwrs, mai newyddiaduraeth a chyfryngau digidol ydy'r dyfodol a'r ffordd ymlaen?
Mae angen edrych ar sefydlu cynllun neu gronfa ar gyfer newyddiadurwyr amlgyfrwng i weithio mewn ardaloedd sydd heb bapur newydd—nid pawb sydd mor lwcus â chael Caerphilly Observer a Caernarfon and Denbigh Herald a phapurau felly. Mi fedrid modelu'r cynllun yma ar y cynllun gohebwyr democratiaeth leol sydd ar waith yn barod, ond ehangu ar hwnnw i gynnwys pob math o newyddion. Ac mae sicrhau mynediad rhwydd at y diwydiant newyddiadura yn hollbwysig hefyd. Mae newyddiadurwyr yn wynebu ystod eang o rwystrau, gan gynnwys, yn aml, gorfod cwblhau sawl interniaeth sy'n aml yn ddi-dâl neu ar gyflog isel, a bellach mae disgwyl i newyddiadurwyr fod â gradd baglor o leiaf. Mi ddylai'r Llywodraeth fod yn edrych ar ffyrdd amrywiol ac amgen, drwy gynlluniau prentisiaeth, efallai, i ddenu newyddiadurwyr newydd o gefndiroedd sydd heb eu cynrychioli yn ddigonol.
I gloi, mae gan y cyfryngau rôl bwysig iawn i'w chwarae yn y misoedd nesaf yma. Wrth i newyddion ynghylch brechiadau gael ei gyhoeddi, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna gynllun cadarn i hyrwyddo brechiadau ac i daclo'r camwybodaeth, y fake news sy'n cael ei rannu gan rai ar hyn o bryd. Mae gan newyddiaduriaeth rôl fawr i'w chwarae yn hynny, ac mae angen i'r Llywodraeth weithio yn agos efo'r sector i sicrhau bod yna ymgyrch iechyd cyhoeddus fawr newydd yn cael ei datblygu i addysgu'r boblogaeth ar y pwysigrwydd o gael brechiad yn ogystal â phwysleisio bod brechiadau yn ddiogel. Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am eu gwaith trwyadl unwaith eto.
Roedd hen faner Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn cynnwys fel ei brif logo, 'Knowledge is power', ac nid yw'r ymadrodd hwnnw erioed wedi bod yn fwy gwir. Nid oherwydd eu cariad at newyddiaduraeth, cariad at y gair printiedig neu'r cyfryngau yw'r rheswm pam y mae cynifer o biliwnyddion, miliwnyddion ac oligarchiaid am fod yn berchen ar y cyfryngau, ond yn hytrach oherwydd eu bod yn gwybod ei fod yn rhoi pŵer iddynt, a rhaid inni gydnabod bod rheoli'r wybodaeth honno a'r pŵer hwnnw'n effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd ein democratiaeth.
Rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau a wnaed eisoes. Rwy'n croesawu hefyd, o'r dystiolaeth a gawsom yn ystod y pwyllgor hwn, y gwelliannau yn ansawdd darlledu o ran dechrau cydnabod datganoli, hyd yn oed i'r graddau fod gennym bellach Weinidogion Llywodraeth y DU sydd hefyd yn ymwybodol o ddatganoli ac sy'n cyfeirio'n benodol yng nghyd-destun eu cyfrifoldebau hwy, yn hytrach na chyfrifoldebau datganoledig. Credaf fod hynny'n gam arwyddocaol iawn ymlaen.
Hoffwn wneud ychydig o sylwadau am agweddau ar dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg ynglŷn â chyflwr y cyfryngau yng Nghymru, ac mae'n broblem hirdymor. Mae COVID wedi gwaethygu, crisialu a rhoi ffocws, rwy'n meddwl, i'r problemau penodol sydd gennym: y symud ar-lein o'r cyfryngau print, rheoli hynny, a hefyd, un o'r pryderon gwirioneddol a godwyd yn y pwyllgor rwy'n credu yw'r pwynt a wnaeth David Melding am golli newyddiaduraeth gymunedol. Byddwn hefyd yn dweud colli newyddiaduraeth ymchwiliol arbenigol. Rydym wedi gweld newyddiaduraeth ragorol yn ddiweddar, er enghraifft gan Martin Shipton ar WalesOnline, ond prin yw'r meysydd hynny o newyddiaduraeth ymchwiliol, ac yn aml, pan gânt eu gwneud, nid ydynt yn cael eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd polisi'r ffordd y mae'r cyfryngau'n gweithredu yng Nghymru. Hefyd, ceir pryderon ynglŷn â'r ffordd y mae'r cyfryngau'n dod fwyfwy o'r tu allan i Gymru, gyda'r holl sicrwydd a roddir rhaid cyfaddef, ond nid wyf yn credu bod llawer iawn o hyder gan bobl yn y sicrwydd hwnnw.
A gaf fi orffen gyda rhai sylwadau am y ffordd y mae radio cymunedol wedi dechrau dod yn effeithiol? Yn sicr, yn fy etholaeth i, mae GTFM yn wasanaeth radio cymunedol sy'n cael ei redeg yn broffesiynol iawn—gwasanaeth hanfodol, er enghraifft, a oedd gennym yn ystod y llifogydd fis Chwefror diwethaf, yn hysbysu cymunedau am yr hyn oedd yn digwydd a ble i gael cymorth, ond nawr hefyd yn ystod COVID. Un o'r ffyrdd y gall y Llywodraeth gefnogi radio cymunedol yw drwy bethau fel darlledu gwasanaeth cyhoeddus. A gaf fi ddweud ei fod yn well nag y bu? Ond rwy'n credu ei fod yn dal yn anghyson.
Roedd yna adeg pan nad oedd llawer o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a gâi ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar ymgyrchoedd Cymru yn mynd ar radio cymunedol. Mae hynny'n newid, ond mae'n ymddangos i mi fel mater o drefn—. Er enghraifft, gyda'r wybodaeth gyhoeddus am frechu y byddwn yn ei chael, un o'r ffynonellau allweddol ar gyfer mynd i mewn i'n cymunedau yw'r defnydd o radio cymunedol. Ac yn y tymor hwy, credaf y dylem weld radio cymunedol yn gyfle gwirioneddol ar gyfer darparu gwybodaeth ddiduedd o safon i'n cymunedau am yr hyn sy'n digwydd yn y lle hwn, am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid inni ei gefnogi. Mae'n cael ei redeg ar y nesaf peth i ddim, mae'n amrywiol iawn ledled Cymru, a chredaf y dylem ei weld bellach fel ased democrataidd o safon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am baratoi adroddiad cynhwysfawr mewn amser byr ar fater sydd o bwys allweddol i ni i gyd mewn argyfwng iechyd cyhoeddus fel rydyn ni ynddo fo ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad yn dangos yr heriau sydd yn wynebu sector y cyfryngau yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig fyd-eang. Mae o hefyd yn ein hatgoffa ni o broblemau sydd wedi bod gyda ni ar hyd y blynyddoedd ynglŷn â sut y mae pobl Cymru yn gallu cyfathrebu â'i gilydd drwy gyfrwng y drefn sydd gyda ni ar hyn o bryd yn y cyfryngau. Fe garwn i gyfeirio yn benodol, gan fy mod i wedi derbyn pob un argymhelliad ond argymhelliad oedd yn ymwneud â'r BBC, at y rheswm pam ein bod ni wedi cymryd y safbwynt yma. Ac mi garwn i esbonio mai rheswm cyfansoddiadol yn unig ydy hyn ac ein bod ni'n awyddus iawn, yn enwedig o weld y datganiadau diddorol unwaith eto o ran rheolaeth y BBC yn ganolog, lle bydd Cymru yn chwarae rhan amlwg yn nyfodol y BBC yn ganolog, bod yna gyfle i gael trafodaeth o'r newydd gyda'r BBC ynglŷn â'r modd y gall y cyfrwng cyhoeddus hwnnw fod yn adlewyrchu datganoli yn llawer iawn cliriach.
Hefyd, fe garwn i ddiolch i'r pwyllgor am y modd y cysylltwyd yn effeithiol â rhanddeiliaid a rhoi pwyslais clir ar yr angen i gyfryngau Cymreig fod yn adlewyrchu ac yn cynhyrchu, oherwydd dwi'n meddwl mai un gwendid mawr ynglŷn â sawl trafodaeth am y cyfryngau ydy'r syniad mai dim ond adlewyrchu beth sy'n digwydd mae'r cyfryngau. Mae'r cyfryngau hefyd yn llewyrchu a hyd yn oed yn tywyllu. Hynny yw, os nad ydy materion yn cael y sylw taladwy, does dim democratiaeth yn bosib. A dyna oedd y tu ôl i'r cais a wnes i i Cymru Greadigol i ystyried eu rôl nhw mewn perthynas â chryfhau'r cyfryngau yng Nghymru. Ac mae'n dda gen i ddweud bod bwrdd Cymru Greadigol bellach wedi cyfarfod.
Yn anffodus, dwi ddim wedi cael cyfle i ymuno â nhw eto, ond yn y cyfarfod cyntaf y byddaf i yn mynd iddo fel Dirprwy Weinidog yn gyfrifol am y maes yma, fe fyddaf i yn trafod y modd y gallan nhw ein cynorthwyo ni i ddatblygu'r egwyddor yma o gael gwell cyfathrebu ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys hefyd, gobeithio, y gallwn ni ddatblygu partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yma, fel bod y materion—dwi'n gwybod bod hwn wedi bod yn fater o gonsyrn i Aelodau ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, nad ydyn ni ddim wedi cael y ddealltwriaeth ddigonol o'n gweithgaredd ni. A dwi'n meddwl bod yna le i Gomisiwn y Senedd, a dwi'n deall eu bod nhw'n barod i wneud hynny, i gydweithio mewn model o gyfathrebu ac o ddatblygu cyfathrebu yng Nghymru sydd yn fwy digonol.
Beth sydd yn bwysig i ni yw bod unrhyw gorff sydd yn cyllido cyfathrebu o unrhyw fath, a newyddiaduraeth o unrhyw fath, yn gweithredu'r egwyddor hyd braich, sydd wedi gweithio mor effeithiol yn y meysydd celfyddydol. A dwi'n sicr ei bod hi'n bosib i ni gael modd o weithredu hyd braich sy'n cynnal annibynniaeth newyddiadurol tra'n gofalu bod gallu pobl Cymru i gyfathrebu â'i gilydd a gallu Cymru i fod yn wlad ddealladwy yn y byd yn cael eu cadarnhau. Diolch yn fawr.
Nid oes gennyf Aelod sydd wedi gofyn am gael ymyriad, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Credaf fod ehangder y drafodaeth yn dangos pa mor bwysig yw'r materion hyn i Aelodau ar draws y Siambr ac nid i Aelodau ein pwyllgor yn unig. Wrth gwrs, nid oes gennyf amser i ymateb i sylwadau pawb, ond ceisiaf nodi rhai o'r prif rai.
Credaf fod sylwadau David Melding am y risg o lwythgarwch yn y cyfryngau cymdeithasol, sut y byddwn yn clywed yr hyn rydym eisiau ei glywed yn y pen draw; hynod bwysig, ac mae hynny'n atgyfnerthu'r angen am newyddiaduraeth brofedig, ac fel y dywedodd, newyddiadurwyr sy'n byw yn eu cymunedau, yn deall eu cymunedau. Ac wrth gwrs, heb wasg rydd a heb wybodaeth gywir, mae'n llygad ei le fod democratiaeth yn amhosibl, ac mae hwnnw'n bwynt y cyfeiriwyd ato gan sawl Aelod.
Rwyf am dreulio ychydig funudau'n ymateb i Hefin David, a oedd, yn fy marn i, yn gwneud rhai pwyntiau da iawn. Rwy'n defnyddio llawer ar Senedd Home hefyd ac nid wyf bob amser yn cytuno â'r hyn y mae'n ei ddweud, ond mae'n hynod o fanwl, ac yn y pwyllgor, credaf inni wneud argymhellion ar hyn, ynglŷn â'r mathau hynny o wefannau'n gallu cael arian sy'n dod drwy hysbysiadau cyhoeddus; fod ganddynt rôl hollbwysig i'w chwarae, ac mae honno, fel y dywed Hefin David, yn ffordd effeithiol iawn i'r sector cyhoeddus gefnogi newyddiaduraeth leol—neu newyddiaduraeth genedlaethol yn wir yn yr achos hwn, Senedd Home—ond heb y math o risgiau y mae'n tynnu sylw'n briodol atynt a ddaw yn sgil cyllid uniongyrchol, ond dof yn ôl at hynny mewn munud.
Mae'n ddiddorol, mewn sesiwn arall a gawsom, fod y Caerphilly Observer wedi'i ddisgrifio i ni fel enghraifft dda iawn o sut y gallodd rhywfaint o gyllid sbarduno drwy newyddiaduraeth leol gychwyn pethau a'i bod bellach yn fenter fasnachol lwyddiannus. Er hynny, dywedwyd wrthym yn y sesiwn honno hefyd na fyddai hynny'n gweithio ym mhob cymuned, a bod angen unigolyn arbennig arnoch i'w yrru.
Felly, dyna un model, o fath. Ond cawsom ein hargyhoeddi gan y dystiolaeth y bydd angen mwy o gymorth cyhoeddus uniongyrchol, a daw hynny'n ôl at bwynt y Gweinidog ynglŷn â'r angen i wneud hynny hyd braich. Wrth gwrs, mae yna gynsail: mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny ar gyfer Golwg360. Nid yw'n swm enfawr o arian, ond fe wnaeth helpu i'w gael yn weithredol a'i wneud yn gynaliadwy. Credaf mai un o'r pethau a ddaeth drwodd oedd yr angen am amrywiaeth o fodelau, a phwynt Hefin David am fodelau tanysgrifio ar gyfer newyddiaduraeth ar-lein. Yn ein trafodaethau gyda Reach, roeddent yn amheus ynglŷn â hynny, ond credaf ein bod ni fel pwyllgor yn teimlo y dylent ei archwilio ymhellach. Roeddwn yn mynd i ddweud nad oeddent wedi ymdrechu'n ddigon caled, ond mae'n debyg nad yw hynny'n deg. Ond y dylid ymchwilio ymhellach i hynny, ac wrth gwrs, mae arloeswyr yn y sector yng Nghymru yn edrych ar yr union fath hwnnw o fodel ar gyfer newyddiaduraeth genedlaethol. Felly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Hefin David am ei gyfraniad oherwydd rwy'n credu ei fod yn un gwerthfawr iawn.
Diolch i Siân Gwenllian hefyd. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith nad yw'r heriau hyn i'r sector yn newydd ond fel y clywsom yn ein tystiolaeth, tynnodd y pandemig sylw atynt a'u gwneud yn waeth. Roeddwn yn meddwl bod y pwynt a wnaeth yn benodol ar fynediad i ystod ehangach o bobl ifanc at gyfleoedd proffesiynol mewn newyddiaduraeth yn un da iawn ac efallai fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd ar ei drywydd.
Roedd Mick Antoniw yn iawn i'n hatgoffa fod gwybodaeth yn bŵer, ac mae ei frwdfrydedd dros radio cymunedol yn hirsefydlog ac yn gwbl deilwng. Ac unwaith eto, y pwyntiau ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio hysbysebu sector cyhoeddus.
Fe ddof â fy ymatebion i ben cyn gynted ag y gallaf, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Rwy'n falch ei fod yn bwriadu cael y trafodaethau hynny gyda Cymru Greadigol ynglŷn â sut y gallent greu math o fodel hyd braich i ddarparu cymorth, yn enwedig cymorth efallai i gael newyddiaduraeth leol yn weithredol. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu dod yn ôl at y pwyllgor yn fuan ar hynny, oherwydd yr hyn a glywsom yn ein tystiolaeth oedd bod gwasanaethau'n diflannu, mae newyddiadurwyr yn diflannu o un wythnos i'r llall ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny ar frys. Mae'n amlwg fod hwn yn fater y bydd y pwyllgor yn parhau i fod eisiau ei adolygu.
A dof i ben drwy ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod un peth y gall pob un ohonom ei wneud wrth gwrs, a gallwn brynu ein papur lleol. Gallwn ni, y rhai ohonom sy'n gallu ei fforddio, danysgrifio i wasanaethau sy'n gwneud hynny'n bosibl ac roedd y gwaith hwn yn sicr yn fy atgoffa na ddylwn bob amser fynd ar WalesOnline a dylwn fod yn prynu'r Western Mail. Felly, diolch i bawb unwaith eto am gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac yn y ddadl hon, ac mae'r rhain yn faterion y gwn y byddwn yn dychwelyd atynt. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Senedd.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Datgarboneiddio trafnidiaeth', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig hwnnw, Russell George.
Cynnig NDM7494 Russell George
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad: Datgarboneiddio trafnidiaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynir yn fy enw i.
Canolbwyntiodd yr ymchwiliad hwn ar ba mor realistig oedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau trafnidiaeth, ac a oedd ei chynlluniau datgarboneiddio yn ddigon uchelgeisiol ac arloesol. Edrychwyd ar dechnolegau a'r modelau ariannu sydd ar gael. Mae'n bwysig edrych hefyd, wrth gwrs, fel y gwnaethom, ar yr hyn oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a nodi bylchau cyn yr ymgynghoriad ar y strategaeth drafnidiaeth newydd y gobeithiwn ddylanwadu arni wrth gwrs. Gwnaethom orffen casglu tystiolaeth ym mis Ionawr, ymhell cyn y cyfyngiadau symud, ac fe wnaethom adrodd ym mis Gorffennaf, felly mae ein hadroddiad yn adlewyrchu materion a oedd yn codi ar ddechrau'r pandemig.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod nad yw popeth wedi'i ddatganoli, ond roedd yn cynnwys digon o dystiolaeth am yr ysgogiadau sydd dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog, Ken Skates, am roi diweddariad pellach i ni ym mis Tachwedd i'w ymateb gwreiddiol ym mis Awst, gan adlewyrchu newidiadau diweddar unwaith eto.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod y potensial ar gyfer newid diwylliant yn ymddygiad teithio pobl yn dilyn cyfyngiadau symud mis Mawrth. Dangosodd ffigurau mis Medi o'r Adran Drafnidiaeth fod y defnydd o gerbydau modur wedi codi yn eu hôl yn gyflym iawn, ond nad oedd y defnydd o fysiau a rheilffyrdd wedi gwella'n dda o gwbl. Felly, mae digon o ansicrwydd a phryder o hyd ynghylch hyfywedd y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Roedd cynlluniau rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru i roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol dros weithrediadau bysiau wedi'u bwrw o'r neilltu gan y pandemig wrth gwrs, ond mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru bellach yn gweld y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau fel cyfle i ddylanwadu ar ymdrechion datgarboneiddio. Gofynnodd ein hadroddiad hefyd sut y byddai Llywodraeth Cymru yn alinio cyllid adfer COVID-19 â'i hagenda ddatgarboneiddio ac yn manteisio ar y buddion. Edrychaf ymlaen at ragor o fanylion, fel yr addawyd, wrth inni fynd i mewn i 2021.
Roedd yr adroddiad yn nodi tystiolaeth am fecanweithiau ariannu posibl, ac roeddem yn cefnogi galwad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am fwy o eglurder ynglŷn â sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cefnogi datgarboneiddio. Mae cost cyfalaf uchel buddsoddi mewn cerbydau trydan yn rhwystr gwirioneddol i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol, gyda'r angen am fwy o gymorth gan y Llywodraeth, felly gofynnwyd pa ystyriaeth roedd Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ôl-osod bysiau diesel dros brynu rhai trydan newydd fel y cynigiodd rhai, ond eto gyda rhywfaint o anfantais. Felly, rydym yn croesawu'r cynllun cymorth sy'n cael ei ddatblygu i helpu i gyflawni targed 2028 ar gyfer fflydoedd trydan.
Gofynasom hefyd, Ddirprwy Lywydd, am sicrwydd ynghylch y seilwaith gwefru a chapasiti'r rhwydwaith ynni i fynd yn drydanol, ac i ailgylchu batris trydan yn gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth ar wefru cerbydau trydan heddiw, fel mae'n digwydd, felly rwyf eisoes wedi cael golwg cyflym arni, ond byddaf yn falch o edrych ar hynny'n fanylach. Ond mae rhai o'r farn y dylai'r Llywodraeth helpu i lenwi'r bylchau na all, neu na fydd y farchnad yn eu llenwi, megis, yn enwedig, ardaloedd gwledig wrth gwrs. Pan drafodasom strategaeth drafnidiaeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn ychydig wythnosau'n ôl, dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai blaenoriaeth penderfyniadau buddsoddi yn cael ei hystyried fel rhan o'r cynllun cyflawni hwnnw.
Dywedodd y sector trafnidiaeth gymunedol a thacsis a hurio preifat fod angen mwy o gymorth arnynt i ddatgarboneiddio, ac mae'r ymateb i argymhelliad 6 yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi'r sector trafnidiaeth gymunedol. Rydym yn croesawu ymdrechion parhaus y Llywodraeth i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi gyrwyr tacsis, gan gynnwys y cynlluniau peilot 'rhoi cynnig arni cyn prynu' ar gyfer tacsis gwyrdd, ac edrychwn ymlaen at y diweddariad pellach a addawyd ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Gwnaethom gefnogi'r Bartneriaeth Cerbydau Carbon Isel a alwai am ddull ledled y DU o ddiffinio safonau cerbydau er mwyn helpu i annog buddsoddi mewn technoleg newydd, ac roeddem hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiadau yn hynny o beth.
Ar newid moddol, roedd yn dda gweld cyllid COVID-19 ar gyfer mesurau lleol i annog mwy o deithio llesol, ond rwy'n sicr yn credu bod angen cynlluniau manwl i reoli a bodloni'r galw ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y tymor hwy. Ac er i brif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, a siaradodd â'r pwyllgor bythefnos yn ôl, ddweud ei fod yn eithaf ffyddiog ynglŷn â chynhyrchu refeniw yn y dyfodol ar y rhwydwaith rheilffyrdd a'r cyfleoedd i gydgysylltu bysiau a rheilffyrdd yn well, a oedd yn gadarnhaol i'w glywed, bydd y pwyllgor yn archwilio manteision ac anfanteision uchelgais y Llywodraeth i 30 y cant o weithwyr Cymru barhau i weithio o bell. Yn sicr, rydym wedi wynebu heriau ar y pwyllgor gyda rhai Aelodau'n gweld hynny'n anos nag eraill, ond yn sicr nid yw'n gweithio i bawb. Fel y dywedais, gwelsom hynny fel pwyllgor, ond gwelsom rai manteision tymor byr yn deillio o orfod lleihau'r defnydd o geir, megis ansawdd aer gwell.
Yn olaf, nododd ein hadroddiad rai bylchau yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio'r sector cludo nwyddau, a'r rôl y dylai Maes Awyr Caerdydd ei chwarae yn ein barn ni. Felly, mae'n galonogol y bydd cynlluniau bach yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y gwahanol sectorau trafnidiaeth a dulliau trafnidiaeth i gyflawni'r strategaeth drafnidiaeth newydd. Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed barn cyd-Aelodau o amgylch y Siambr, a'r Dirprwy Weinidog wrth gwrs, a fydd yn ymateb i'r Senedd heddiw rwy'n credu. Ac wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd.
Diolch. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw mor fuan, ond rwy'n falch iawn o gyfrannu ar y dechrau. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Russell ac aelodau'r pwyllgor—
Gallwn bob amser alw ar rywun arall.
Na, peidiwch â gwneud hynny; peidiwch â meddwl ddwywaith am hyn. Wrth fy modd gyda'r adroddiad a'r argymhellion pellgyrhaeddol, y byddaf yn troi at rai ohonynt mewn munud, ond rwyf hefyd am fynd ychydig ymhellach hefyd i weld beth y mae'r pwyllgor yn ei feddwl, beth y mae Russell yn ei feddwl, a hefyd y Gweinidog ynglŷn â rhai cynigion eraill yn ogystal sy'n ymwneud â datgarboneiddio yng Nghymru.
Yn gyntaf oll, rwy'n falch iawn o weld y cynigion mewn perthynas ag argymhelliad 3, ynghylch mesurau dros dro a'r gefnogaeth i'r addasiadau hynny i hyrwyddo teithio llesol. Mae Russell a fi ein dau'n aelodau o'r grŵp teithio llesol, ac mae wedi bod yn ddiddorol gweld y datblygiadau arloesol hynny nid yn unig yn y rhai sy'n cael cyhoeddusrwydd da yng Nghaerdydd, ond yn cynnwys lleoedd fel Pen-y-bont ar Ogwr ac mewn mannau eraill. Bydd yn ddiddorol clywed syniadau'r pwyllgor wrth symud ymlaen ynglŷn â sut y gellir ymgorffori'r rheini, a sut hefyd y gallant fod yn rhan o'r gwaith wrth symud ymlaen, lle gallwn, yn gynyddol, dreialu syniadau dros dro am fesurau dros dro, nid mewn perthynas â COVID, ond i weld a ydynt yn gweithio yn ein gwahanol amgylcheddau a gwahanol gymunedau. Os ydynt yn gweithio ac os ydynt yn boblogaidd, yna cadwch hwy. Dyma a wnânt yn Sweden. Dyma maent yn ei wneud mewn mannau eraill. Maent yn rhoi cynnig ar y pethau hyn, ac os yw pobl yn eu hoffi ac yn dweud, 'Wyddoch chi? Rydym yn hoff iawn o amgylchedd tawelach o amgylch y siopau. Rydym yn hoffi'r syniad y gallwn gerdded a beicio yn hytrach na chael mygdarth traffig ym mhobman', byddant yn dweud, 'Iawn, nawr fe wnawn iddynt aros.' Felly, rwy'n hoffi argymhelliad 3, ond rwy'n meddwl y gallem fynd ymhellach hyd yn oed.
Ar argymhellion 11 a 12 ar gludo nwyddau, rwy'n croesawu'n fawr y ffocws rydych wedi'i roi ar hynny, Russell a'r pwyllgor. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld a edrychoch chi ar botensial rheilffordd de Cymru i symud rhywfaint o nwyddau ar honno, ac yn enwedig o ran cyflenwi i ac o ganol dinasoedd, wyddoch chi, y filltir olaf honno. Nawr, byddai hynny'n galw am fuddsoddiad sylweddol mewn depos hen deip, lle gallech all-lwytho mewn porthladdoedd, gallech ddod â phethau i lawr y rheilffordd, ac yna rydych yn gyrru'r filltir neu ddwy olaf, neu rydych yn ei roi ar ba fath bynnag o gludiant i'w gael i ganol y ddinas. Mae gwir gyfle ac mae arbenigedd yn y diwydiant rheilffyrdd i gyflawni hyn. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn meddwl am hynny fel rhan o'i datgarboneiddio wrth symud ymlaen, ac efallai'n gosod y safon yng Nghymru ar gyfer yr hyn y gallem ei wneud i wthio nwyddau ar y rheilffyrdd. Mae'n swnio fel hen ddull Fictoraidd—nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd. Gallwch wneud hynny nawr gyda chyflenwadau paled ar olwynion, yr un fath ag y maent yn ei wneud mewn porthladdoedd.
Ond y peth rwy'n awyddus iawn i gyffwrdd arno yw argymhellion 14 a 15 ar Faes Awyr Caerdydd. Nawr, gadewch i mi ddweud ar y dechrau, rwy'n gefnogwr mawr i Faes Awyr Caerdydd, rwy'n gefnogwr mawr i gael buddsoddiad nid yn unig i'r maes awyr, ond i gael pobl o Gymru, ac yn enwedig de a chanolbarth Cymru, ac o Fryste, i hedfan o'r maes awyr hwnnw. Ond mae'n rhaid inni hefyd ymdrin â datgarboneiddio awyrennau, er nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Rhaid inni wneud hynny mewn gwirionedd. A byddai gennyf ddiddordeb mewn profi syniadau'r pwyllgor, syniadau Russell, syniadau Gweinidogion ynglŷn â ble rydym yn mynd gyda hyn. Nawr, mae digon o sôn am hedfan cynaliadwy. Roeddwn yn arfer rhoi darlithoedd ar y mater 20 mlynedd yn ôl. Rydym wedi bod yn siarad am hyn ers blynyddoedd—tanwydd hedfan cynaliadwy, teithiau hedfan mwy economaidd ac yn y blaen. Yn araf, yn raddol, mae'r dechnoleg yn symud ymlaen, ond yn araf iawn. Ac mewn gwirionedd, eleni, ar danwydd hedfan cynaliadwy ei hun, cymerodd gam yn ôl, yn y flwyddyn cyn COP26. Ond rwy'n credu y dylem edrych ar syniadau eraill.
O adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gwyddom mai 1 y cant o'r bobl hynod gyfoethog—y bobl eithriadol o gyfoethog—yn y byd, sy'n hedfan hanner yr holl deithiau hedfan, sy'n cyfrannu hanner yr allyriadau hedfan. Nid rhywun y tu allan i fy swyddfa yw hyn, rhywun sy'n byw mewn fflat uwchben y siopau, yn mynd ar un daith awyren y flwyddyn i Malaga. Pobl yw'r rhain sy'n gwneud yr hyn sy'n cyfateb i dair taith awyren hir y flwyddyn, neu un daith awyren fer bob mis o'r flwyddyn. Nawr, mae'n rhaid i ni feddwl am hyn a sut rydym yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd i ddweud wrth bobl, 'Ie, gadewch i ni wneud y materion cydraddoldeb ar gyfer hyn hefyd, felly, os oes angen eich taith fer, dyna'r lle i fynd. Os oes angen eich un hir, nawr ac yn y man—.' Ond rwy'n credu y byddai gennyf ddiddordeb yn safbwynt Llywodraeth Cymru, yn yr amser cyn COP26, ynglŷn â ble rydym arni ar bethau fel ardollau i'r teithwyr mynych hynny sy'n gwario arian fel pe bai eu bywyd yn dibynnu ar hynny ac sydd hefyd yn llosgi ein hallyriadau ninnau hefyd.
Yn olaf, wrth groesawu'r adroddiad hwn, ac wrth edrych ymlaen at adroddiad y Llywodraeth, hoffwn ddweud fy mod yn credu ein bod newydd weld enghraifft dda iawn o ddatgarboneiddio ar waith yn ymarferol, oherwydd nid yw ymateb y Llywodraeth i gynigion Burns wedi dweud, 'Adeiladwch fwy o ffyrdd', maent wedi dweud, 'Symudwch y newid moddol oddi yno; gadewch i ni daflu'r arian at bethau eraill ac annog pobl', fel fi, 'i beidio â defnyddio eu ceir, ond i deithio drwy ddulliau eraill.' Diolch yn fawr iawn, Russell, a phawb sydd wedi cyfrannu. Mae'n adroddiad da.
Er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor, roeddwn am ddweud ychydig eiriau, gan fy mod yn credu bod y materion a godwyd yn yr adroddiad o ddiddordeb i bob un ohonom. Mae'r busnes yma yn y Siambr ar hyn o bryd wrth gwrs yn canolbwyntio ar COVID, yn ddealladwy felly, ac efallai mai mynd i'r afael â'r pandemig yw'r pryder uniongyrchol. Ond y tu hwnt i'r pandemig, dros y tymor hwy, mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn parhau i fod yn her allweddol, a gellid dadlau mai dyna her allweddol ein hoes, a rhaid i ddatgarboneiddio fod wrth wraidd hyn.
Mae'r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad yn amlygu'r angen am fwy o gapasiti yn y rhwydwaith ynni, os ydym am gyflawni'r uchelgais o newid i gerbydau trydan dros yr ychydig ddegawdau nesaf. Mae cerbydau trydan yn fwy effeithlon a glanach, fel y gwyddom, ond wrth gwrs, mae angen trydan i'w rhedeg, yn hytrach na phetrol neu ddiesel, ac mae'n rhaid cynhyrchu hwnnw rywsut, o ynni adnewyddadwy yn ddelfrydol, i'n hatal rhag gwneud dim mwy na symud y broblem allyriadau o'n trefi a'n dinasoedd i'n gorsafoedd pŵer.
Ac yna, wrth gwrs, down yn ôl at gwestiwn oesol y seilwaith gwefru trydan, mater rydym yn ei drafod dro ar ôl tro yn y Siambr hon a'r tu allan. Nodir hynny yn argymhelliad 2. Yn amlwg, mae'r seilwaith presennol yn annigonol ar gyfer y fflyd ceir trydan presennol yng Nghymru, heb sôn am fod yn addas i'r diben ar gyfer ehangu yn y dyfodol. Mae gwir angen inni weld newid sylweddol yn y ffordd y darperir y seilwaith gwefru, a bydd hynny'n galw am weithio ar draws portffolios, gan gynnwys newidiadau i'r system gynllunio.
Flwyddyn neu ddwy yn ôl yn unig, gwrthodwyd cais cynllunio ar gyfer gorsaf wefru cerbydau trydan arloesol gerllaw'r A40 yn Nhrefynwy yn fy etholaeth, ar sail torri canllawiau nodyn cyngor technegol 15 ar lifogydd. Nawr, rwy'n derbyn bod meddwl da y tu ôl i lawer o'r canllawiau hyn, ond ar yr un pryd, mae angen inni sicrhau bod hyblygrwydd yn y system os ydym am gael unrhyw obaith o gyrraedd y math o nifer o orsafoedd gwefru sydd eu hangen.
Ac mae'n ymwneud â mwy na cheir. Gan droi at fysiau, mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU wedi awgrymu bod y targedau allyriadau ar gyfer bysiau yn uchel iawn—yn rhy uchel—ac na ellir eu cyflawni heb fuddsoddiad sylweddol. Maent yn gofyn, 'Ble mae'r costau? Ble mae'r manylion?' Fel y dywedodd y Gynghrair Werdd, mae costeffeithiolrwydd trydaneiddio'r fflyd fysiau a'r seilwaith cysylltiedig yn y depo yn dibynnu ar duedd ar i fyny yn y defnydd o fysiau—tuedd nad yw yno ar hyn o bryd yn ystod y pandemig yn sicr, a gellid dadlau nad oedd yno yn y cyfnod cyn hynny ychwaith. Felly, mae yna ffactorau sy'n cymhlethu ar gyfer y diwydiant bysiau hefyd.
Sylwaf ar dudalen 30 yr adroddiad fod James Price, ar ran Trafnidiaeth Cymru, wedi dweud bod modelu trafnidiaeth a'r agenda integreiddio yn allweddol i ddatrys yr holl faterion hyn. Wel, unwaith eto, mae integreiddio yn y system trafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth y buom yn sôn amdano cyhyd ag y gallaf gofio yn y Siambr hon. Mae'n syniad gwych mewn egwyddor. Cofiaf yn ôl i'r adeg pan ddaeth James Price i'r—pan oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, ac fe ddaeth, ac ni allaf gofio pa dyst ydoedd, ond dywedodd un ohonynt fod integreiddio'n syniad gwych mewn egwyddor, ond yn drybeilig o anodd ei gyflawni'n ymarferol. Wel, dyma ni, rai blynyddoedd ar ôl hynny, ac nid ydym wedi cyflawni'r integreiddio hwnnw o hyd, y system debyg i Oyster sydd ganddynt yn Llundain y buom yn edrych arni yma unwaith. Gobeithio, un diwrnod, y byddwn yn llwyddo i integreiddio. Mae'n amlwg o ddarllen yr adroddiad hwn fod hynny'n hanfodol, ac yn rhan o'r ateb er mwyn llwyddo i ddatgarboneiddio a datrys problem newid hinsawdd.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni ymdrechu i integreiddio, ynghyd â thrydaneiddio trafnidiaeth breifat a thrafnidiaeth gyhoeddus—sy'n allweddol i ddatgarboneiddio. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i'r Siambr heddiw ac rwyf am ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a'r pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar hyn. Mae wedi bod yn ddeunydd darllen diddorol fel un nad yw'n aelod o'r pwyllgor. Mae llawer o bethau diddorol yma sy'n rhaid eu gwthio ymlaen os ydym am gyflawni ein nodau, cyrraedd targedau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a sicrhau dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy.
Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan gymerwyd tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn, felly rwyf wedi mwynhau darllen y gwaith a thrafod yn anffurfiol gyda chyd-Aelodau, ac mae'n sicr yn ddarn trawiadol o waith, sy'n herio Llywodraeth Cymru lle mae angen ei herio, ond yn ei chefnogi hefyd lle roedd y pwyllgor yn teimlo ei bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.
Nid wyf am ailadrodd y sylwadau y mae eraill wedi'u gwneud, Ddirprwy Lywydd, dim ond tynnu sylw at un neu ddau o faterion. Hoffwn ddychwelyd at y pwyntiau y soniwyd amdanynt eisoes yn fyr am bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Nawr, gwn y bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud—neu rwy'n dychmygu y bydd yn dweud, a byddai'n llygad ei le—fod angen inni sicrhau newid moddol wrth gwrs. Nid ydym am gael gwared ar fflyd gyfan o geir diesel a phetrol gyda phobl yn dal i ddefnyddio ceir trydan i'r un graddau. Ond bob amser bydd amgylchiadau unigol pobl, neu gymunedau lle bydd rhedeg trafnidiaeth gyhoeddus ar raddfa fawr—wyddoch chi, llawer o ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru rwy'n ei chynrychioli, nid yw hynny'n mynd i fod yn ddichonadwy. Ac rwyf braidd yn rhwystredig ynglŷn â pha mor araf rydym wedi cyflwyno'r pwyntiau gwefru trydan. Gwn am lawer o bobl yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli a fyddai wrth eu bodd yn gallu ystyried cerbyd trydan ac ni allant wneud hynny, oherwydd nid oes unman o fewn y teithiau y maent yn eu gwneud lle gallant ei wefru ar wahân i gartref.
Felly, mae gennym lawer o waith i'w wneud yno, a chredaf ei bod yn bwysig nad yw hynny ar draul buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddi mewn newid moddol, ond mae'n dal yn rhan bwysig o'r agenda ddatgarboneiddio. Oherwydd, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud unwaith neu ddwy yn y Siambr yn ddiweddar, efallai ein bod yn y gorffennol wedi tanamcangyfrif pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth, a byddwn yn sicr yn cytuno ag ef yno nad dyma'r peth cyntaf y bydd rhywun yn meddwl amdano o reidrwydd pan fyddant yn meddwl am yr agenda werdd, ond wrth gwrs, mae'n eithriadol o bwysig.
Hoffwn roi sylwadau byr ar yr agenda integreiddio. Mae Nick Ramsay yn iawn pan ddywed ein bod wedi bod yn siarad am hyn ers blynyddoedd, ond byddwn hefyd yn dweud wrtho mai'r strwythur deddfwriaethol ar gyfer bysiau a rheilffyrdd a'u cadwodd yn y sector preifat sydd wedi gwneud peth o'r integreiddio hwnnw'n anodd iawn ei gyflawni. A bydd rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag sy'n ei ffurfio, roi ystyriaeth ddifrifol i fynd yn ôl at y ddeddfwriaeth fysiau a mynd ymhellach o bosibl—yn amlwg, ni allai'r ddeddfwriaeth honno fynd rhagddi oherwydd COVID, ond mynd yn ôl at y ddeddfwriaeth honno, a mabwysiadu ymagwedd hyd yn oed yn gliriach o bosibl. Oherwydd mae'r Llywodraeth ar hyn o bryd yn edrych ar ddefnyddio contractio gyda chwmnïau preifat i hyrwyddo integreiddio, ond yn y pen draw, mae risg barhaus os nad ydynt yn gwneud digon o elw y byddant yn troi eu cefnau ar hyn. Ac os edrychwn ar systemau integredig llwyddiannus, yn enwedig ar gyfandir Ewrop, rhai sector cyhoeddus yw'r rheini fel arfer. Felly, rhaid inni gydnabod nad bai Llywodraethau olynol yng Nghymru yn unig yw'r diffyg cynnydd o ran integreiddio, ond bai'r fframwaith y maent yn gweithio ynddo.
Hoffwn ddychwelyd at bwynt y cyfeiriodd Russell George ato'n fyr, sef peth o waith cynllun 10 pwynt comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd a oedd yn sôn sut y dylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys yr agenda ddatgarboneiddio. Mae'n argymell yn gryf, a byddwn yn cytuno, fod gwir angen inni allu gweld—. Er mwyn gallu craffu'n llwyddiannus ar Lywodraeth Cymru gyda'r agenda hon, mae angen inni allu gweld sut y mae'r arian yn cael ei wario. Os yw datgarboneiddio'n flaenoriaeth, sut y mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru, yn enwedig y gyllideb—sut y mae hynny'n dilyn yr agenda honno?
Nawr, ni fyddwn yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog fod yn gyfrifol am gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru, oherwydd ni fyddai hynny'n deg, ond hoffwn ofyn iddo heddiw, o fewn cyllideb yr economi a thrafnidiaeth, i ba raddau y gall y Llywodraeth, ar y cam hwn, olrhain eu gwariant yn erbyn yr agenda werdd a'r agenda ddatgarboneiddio yn ehangach. A oes unrhyw beth pellach y mae angen ei wneud i sicrhau bod hynny'n digwydd? A oes cyngor pellach y mae angen iddo ofyn amdano?
Oherwydd rydym—. Ddirprwy Lywydd, yn Gymraeg mae gennym ddywediad, 'Diwedd y gân yw'r geiniog'—ac rydym yn dweud, 'Dilynwch yr arian', onid ydym? Gallwn siarad am yr hyn sy'n bwysig yn ein barn ni, ond o ran gwariant cyhoeddus a lle mae'r arian yn mynd mewn gwirionedd, credaf ei bod yn bwysig iawn i bwyllgor olynol i'r pwyllgor economi a thrafnidiaeth allu gweld, pan fydd yn edrych ar y gyllideb, sut y mae'r cyllidebu'n cyfateb i uchelgeisiau'r Llywodraeth, ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth fel yn y drafodaeth heddiw, ond yn fwy cyffredinol mewn perthynas â'r agenda werdd.
Felly, hoffwn ddiolch, unwaith eto, i aelodau'r pwyllgor a gasglodd y dystiolaeth ac i'r Cadeirydd a'r holl staff—gwaith pwysig iawn ac edrychaf ymlaen at y cyfraniadau eraill i'r ddadl, ac yn enwedig at glywed yr hyn sydd gan y Dirprwy Weinidog i'w ddweud.
Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch y pwyllgor ar adroddiad rhagorol? Mae'n astudiaeth fanwl sy'n cynnwys llawer o awgrymiadau cadarnhaol. A gaf fi hefyd gydnabod ymateb cwbl gadarnhaol y Llywodraeth i'r adroddiad? Mae'n rhaid ei fod yn un o'r ymatebion Llywodraeth cyntaf i adroddiad i mi ei weld nad yw'n cynnwys 'derbyn mewn egwyddor'.
O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru ddi-garbon, mae cynnwys yr adroddiad yn arbennig o bwysig er mwyn cyflawni hyn o fewn yr amserlen a ragwelir. Mae'n codi llawer o gwestiynau, wrth gwrs—yr un faint o gwestiynau ag o atebion—ond mae'n rhoi cynllun o'r hyn sy'n rhaid ei wneud i gyflawni nodau'r Llywodraeth, oherwydd bydd trafnidiaeth, yn ei holl ffurfiau, yn chwarae rhan hollbwysig wrth greu economi ddi-garbon.
O ystyried natur gynhwysfawr yr adroddiad, cyfyngaf fy hun i rai agweddau ar y casgliadau a amlinellir ynddo. Yn gyntaf, os ydym am gynyddu'n aruthrol y defnydd o geir trydan, rhaid inni sicrhau capasiti grid yn gyntaf i ddarparu ar gyfer y cynnydd enfawr yn y galw am drydan a fydd yn digwydd yn anochel wrth i nifer y cerbydau trydan gynyddu. Yn ail, rhaid inni gyflwyno'r cyfleusterau gwefru i fod ar gael ledled y wlad—mae Aelodau eraill wedi sôn am hyn droeon yn y ddadl hon. Dyma senario iâr ac wy wrth gwrs, gan fod rhaid inni ddarparu'r cyfleusterau i ddenu pobl i ddewis cerbydau trydan, hyd yn oed os nad yw'r cyfleusterau'n mynd i gael eu defnyddio'n llawn am beth amser. Byddwn yn rhagweld y byddai'r sector preifat yn rhan o'r broses o'u cyflwyno. A allai'r Gweinidog roi rhyw syniad inni sut y mae'r broses hon o'u cyflwyno'n mynd rhagddi?
Yr elfen hollbwysig a amlinellir yn yr adroddiad yw na fyddwn yn gallu cyflawni'r newid moddol sydd ei angen oni bai fod gennym y cyfleusterau a'r seilwaith ar waith i ddenu'r boblogaeth i roi'r gorau i'r car. Mae'n rhaid dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau breision i wella'r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf, ond wrth gwrs, mae COVID wedi tarfu ar y nifer sy'n manteisio ar y capasiti cynyddol. Gwn ein bod i gyd wedi ein calonogi gan gynlluniau'r metro a phenderfyniad y Llywodraeth i wneud cysylltedd rhwng y gwahanol fathau o drafnidiaeth mor ddi-dor â phosibl. A allai'r Gweinidog amlinellu unrhyw gynnydd sy'n cael ei wneud ar gyfleusterau tocyn bws a thrên?
Yn olaf, a gaf fi roi sylw i'r angen i newid darpariaeth cyfleusterau bysiau yn sylfaenol efallai, o gofio mai hwy sy'n cludo'r nifer fwyaf o bobl o bell ffordd? Mae'n rhaid rhoi'r gorau i ddefnyddio bysiau 50 a mwy o seddi i gario ond ychydig o deithwyr mewn cyfnodau tawel. Rhaid annog gweithredwyr bysiau i gael gwared ar fflydoedd mawr o fysiau o'r fath a chael cynnig llawer mwy cymysg yn eu lle—hynny yw, mwy o gaffael a defnydd o gerbydau llai. Dylai'r newid o ddiesel i drydan roi cyfle iddynt wneud y newidiadau hyn. Felly, a allai'r Gweinidog amlinellu cynlluniau'r Llywodraeth i wneud y newid moddol hwn? Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Mae'r adroddiad pwysig hwn gan bwyllgor Senedd Cymru yn bwysig ac yn amserol. Mae'r materion brys sy'n effeithio ar ein byd yn dal i fod gyda ni, yn ychwanegol at COVID ac nid ar wahân iddo, ac mae'r argyfwng hinsawdd yn dal i fod gyda ni. Mae angen i doriadau carbon ddigwydd, ac mae angen iddynt ddigwydd yn gyflym. Unwaith eto, daeth rhybudd enbyd gan y Cenhedloedd Unedig, ac mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Gudaeares, yn annog pobl ym mhob cwr o'r byd i roi'r gorau i ymladd yr hyn y mae'n ei alw'n 'rhyfel hunanladdol' yn erbyn natur, fel y gwna cynifer o wyddonwyr, asiantaethau a dylanwadwyr amlwg a gydnabyddir yn fyd-eang, megis Greta Thunberg a'n Ella Daish ein hunain, a fu'n ymgyrchu'n hir i gael Tampax ac eraill i newid i gynhyrchion mislif nad ydynt yn blastig.
Daw'r rhybuddion diweddaraf hyn wrth i Sefydliad Meteorolegol y Byd ddweud mai eleni fydd y drydedd boethaf a gofnodwyd, ychydig y tu ôl i 2016 a 2019. Ac er gwaethaf yr holl lygredd a ataliwyd yn sgil COVID, mae cynhesu byd-eang yn dal i gynyddu. Y chwartel chwe blynedd o 2015 hyd nawr fydd y poethaf a gofnodwyd ers 1850. Ac mae 2020 wedi gweld effeithiau mwyaf difrifol y cynhesu hwn yn y DU, gyda'r llifogydd marwol ym mis Chwefror, y gwanwyn cynhesaf a gofnodwyd, gyda 30 o stormydd wedi'u henwi, ac yn cynnwys y tanau gwyllt sy'n dinistrio cymunedau ledled yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
Felly, mae'n iawn inni weld Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd yn mynd i'r afael â phwnc datgarboneiddio trafnidiaeth, ac mae'n galonogol gweld ymateb cadarnhaol Llywodraeth Lafur Cymru hefyd i argymhellion yr adroddiad a'i gamau gweithredu eisoes wedi'u cofnodi. Yn benodol, fe'm trawyd gan argymhelliad 3, sy'n galw'n gryf am annog pobl i beidio â defnyddio ceir preifat. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai ychydig wythnosau'n ôl yn unig y cawsom yr argymhellion terfynol, 'Un rhanbarth, un rhwydwaith, un tocyn', gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Burns.
Mae creu gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn fater y bûm yn ymgyrchu drosto yn y Senedd hon ers 2016, ac rwy'n falch iawn o weld y caiff ei wireddu nawr, yn ein hymdrechion i ddarparu dulliau amgen o deithio moddol. Mae adroddiad Burns yn argymell cwblhau'r gwaith o uwchraddio rheilffordd Glynebwy, gan gynnwys y gangen i orsaf newydd yn Abertyleri, fel y cynigiwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru, i ganiatáu pedwar trên yr awr ar hyd y lein ac i ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol i Gasnewydd. A mesurau ymarferol fel y rhain fydd yn gwasanaethu fy etholwyr yn dda yn Islwyn, yn nhrefi rheilffordd Crosskeys, Rhisga a Threcelyn.
Ond mae llawer i'w wneud o hyd, ac er bod taith allweddol wedi cychwyn, mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn orsaf bellach sydd i'w chroesawu tuag at ein cyrchfan, a'r hyn y mae'r Senedd hon yn ei ddymuno'n uchelgeisiol nawr, gan gynnwys rhai nad oedd yn arfer credu mewn datgarboneiddio, yw dyfodol carbon niwtral i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?
Diolch yn fawr iawn, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau a'r pwyllgor am y ddadl a'r adroddiad? Mae pandemig coronafeirws yn ein hatgoffa'n rymus ein bod yn dal i fod yn ddarostyngedig i natur, ac mae hefyd yn dangos bod gan y ffordd rydym yn trin y byd naturiol allu i effeithio ar bob un ohonom, mewn ffordd ddwys a phersonol iawn hefyd.
Gellid dadlau bod newid hinsawdd yn fwy o fygythiad na'r pandemig, er dros gyfnodau hwy o amser, ac mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn hynod bwysig i'r Llywodraeth hon, ac rydym eisoes wedi cymryd camau beiddgar, cynnar i ddatgan argyfwng hinsawdd a gosod targedau ar gyfer datgarboneiddio. Mae gan drafnidiaeth yn arbennig rôl fawr i'w chwarae i'n harwain at lwybr carbon is, ac rwy'n gwerthfawrogi'r her a'r gwaith o graffu ar yr adroddiad, a bydd angen mwy ohono os ydym, gyda'n gilydd, yn mynd i wynebu'r heriau y mae datgarboneiddio'r system drafnidiaeth yn eu cyflwyno, a bydd yn cymryd blynyddoedd o ymdrech.
Yn ffodus, nid yw'n gwbl ddiobaith—mae cyfleoedd yma hefyd. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn rhagweld y bydd trosglwyddo i sylfaen technoleg dim allyriadau ar draws pob dull trafnidiaeth yn arbed arian mewn gwirionedd, nid yn costio arian—mwy na £200 miliwn rhwng nawr a 2050 yng Nghymru yn unig. Ac mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi nodi bod Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed allyriadau a nodir yn ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf un. Rydym bellach yn datblygu ail fersiwn o'r cynllun y byddwn yn ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf i gyd-fynd â COP26, ac mae angen i ni wneud cynnydd gwell i sicrhau bod trafnidiaeth yn chwarae ei rhan.
Roedd Helen Mary Jones yn ein herio'n briodol i ddangos sut rydym yn olrhain ein cyllidebau carbon gyda'r targedau datgarboneiddio rydym wedi'u gosod i ni ein hunain, a chredaf mai dyna'r her iawn. Fel rhan o waith strategaeth drafnidiaeth Cymru, rydym wedi comisiynu Arup a Transport for Quality of Life i lunio dadansoddiad manwl o'r cyfraniad sy'n rhaid i drafnidiaeth ei wneud i'n targedau cyffredinol, fel y gallwn wybod, pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am gynlluniau ffyrdd unigol er enghraifft, neu ymyriadau trafnidiaeth eraill, faint o le sydd gennym o fewn y targedau a osodwyd gennym i ni allu gwneud penderfyniadau gwybodus, rhywbeth nad ydym yn gallu ei wneud ar hyn o bryd. Credaf y bydd hwnnw'n gam pwysig iawn ymlaen ar gyfer llywio penderfyniadau Gweinidogion trafnidiaeth yn y dyfodol.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein huchelgeisiau a'n targedau ar wefru cerbydau trydan a'n cynllun aer glân. Mae'r strategaethau a'r cynlluniau hyn yn gosod y fframwaith ar gyfer cyflawni dros y blynyddoedd nesaf ac rydym wedi dechrau'n rhesymol, gan ddyrannu cyllid eleni o'r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn i gefnogi 34 o bwyntiau gwefru cyflym ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn ninas-ranbarth Caerdydd; hyb gwefru cyflym cyntaf Cymru yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin; pwyntiau gwefru ar Ynys Môn; a bysiau trydan yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Camau cyntaf cymedrol yw'r rhain ond rhai pwysig serch hynny.
Ac er y bydd angen buddsoddiad pellach sylweddol iawn i lwyddo i ddatgarboneiddio, bydd angen rhai elfennau o newid ymddygiad hefyd, a bydd hynny'n galw am ddewisiadau gwleidyddol anodd ac arweinyddiaeth gref, nid yn unig ar lefel Llywodraeth ond ar lefel leol hefyd. Ac mae angen i'r Aelodau o'r Senedd yn eu rolau arweinyddiaeth leol eu hunain ddangos dewrder ac arweiniad i wneud y penderfyniadau hyn hefyd. Er enghraifft, pa rôl y gallai codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ei chwarae? Fel y gwnaethom egluro bythefnos yn ôl, nid oes gan Lywodraeth Cymru farn benodol ar hyn eto, ond mae gennym gyfrifoldeb i ystyried sut y gellid ei ddefnyddio i sicrhau newid ymddygiad mewn ffordd deg, mewn ffordd gyfiawn. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod arnom angen abwyd a ffon i gyflawni'r newidiadau y bydd eu hangen arnom.
Dylem fod yn ymwybodol o rôl Llywodraeth y DU hefyd a'r ysgogiadau a gadwyd yn ôl ganddynt. Er enghraifft, rheolaeth dros seilwaith rheilffyrdd Cymru, rhai pwerau rheoleiddio a gadwyd yn ôl, a phwerau i osod cymhellion ar gyfer cerbydau trydan, ac rydym yn aros i'w cynllun datgarboneiddio trafnidiaeth cyntaf gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Dangosodd Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddar ein hymrwymiad parhaus i ymateb i'r argyfwng hinsawdd mewn modd cydweithredol, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod canlyniadau polisi yn gweithio i Gymru.
Mae'n adeg bwysig, Ddirprwy Lywydd. Mynd i'r afael â newid hinsawdd fydd her ddiffiniol ein cenhedlaeth ac mae gan Gymru gyfle gwych i fod yn arweinydd. Er mwyn manteisio ar hyn, mae angen inni weithredu'n gyflym a chanolbwyntio ein hymdrechion fwyfwy ar ddatgarboneiddio, a rhoi'r gorau i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud erbyn 2050 a meddwl beth arall y gallwn ei wneud nawr. Mae'r dadleuon yn syml: datgarboneiddio, mater o pryd, nid os, ydyw. Po gyflymaf y gweithredwn, y lleiaf fydd yr effaith a'r mwyaf fydd y manteision, a byddwn yn annog y pwyllgor yn gryf i barhau i'n gwthio. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf Aelod sydd wedi dweud eu bod am wneud ymyriad, ac felly galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan heddiw? Credaf inni gael cryn dipyn o drafod ar newid hinsawdd yn bennaf—Nick Ramsay a Rhianon Passmore yn arbennig rwy'n credu. Ac yn ddiddorol, gwnaeth Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddatganiad ar hyn heddiw mewn perthynas â phwysigrwydd gwaith y Cenhedloedd Unedig yn y maes pwysig hwn.
Diolch i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad. Diolch iddo am ei waith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol. Gwrandewais yn astud ar ei syniadau. Rwy'n croesawu'r cynnig a wnaeth ynglŷn â phrofi prosiectau teithio llesol; credaf fod hynny i'w groesawu hefyd wrth gwrs. Byddwn yn dweud o ran hynny na wnaethom edrych yn fanwl ar gludo nwyddau, Huw, ond y tu allan i'r pwyllgor rwyf wedi gwneud gwaith ar hynny fy hun—mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y maes hwnnw. Ond rwy'n credu yn yr achos penodol hwnnw efallai y gall Llywodraeth Cymru nodi ei syniadau ynglŷn â'i chynllun cyllideb carbon isel. A'r hediadau carbon isel y soniodd Huw Irranca-Davies amdanynt hefyd. Ni wnaethom gymryd tystiolaeth ar hynny ychwaith yn y gwaith penodol hwn, ond rydym wedi cymryd tystiolaeth ar y mater ers hynny, mewn gwaith ar yr adferiad COVID. Yr hyn rydym wedi'i glywed yw bod Cymru mewn lle da i allu arwain yn gadarnhaol ar awyrennau hydrogen, ond bydd angen buddsoddiad mawr ar gyfer hynny wrth gwrs, ond credaf y gall hyn yn sicr fod yn rhan o adferiad COVID ehangach.
Tynnodd Helen Mary Jones sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach ar ddeddfwriaeth bysiau a chymorth ac integreiddio. Rwy'n credu, wrth gwrs, mai mater i Lywodraeth nesaf Cymru nawr fydd bwrw ymlaen â hyn yn glir. Ac wrth gwrs, mae'n berthnasol hefyd er mwyn i bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd ystyried maniffestos eu pleidiau eu hunain. Ond rwyf wedi gwneud nodyn, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar hynny yng nghyd-destun ein hadroddiad etifeddiaeth, ac yn gwneud yr argymhellion hynny i bwyllgor yn y dyfodol wneud rhagor o waith arnynt.
Cyfeiriodd David Rowlands at gapasiti'r grid, ac mae hynny'n rhywbeth y gwnaethom edrych arno yn y pwyllgor, ac yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo fy hun. Beth arall sydd gennym yma? Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei sylwadau. Gallaf ddweud, wyddoch chi, ei fod unwaith eto wedi methu'r pwynt am y cynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, ac mae'n debyg y byddwn yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y pwyllgor yn parhau i herio'r Llywodraeth yn hynny o beth.
O ran gweddill y pwyntiau eraill a gafodd eu gwneud, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein dadl? Diolch, wrth gwrs, i bawb a roddodd dystiolaeth—tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar—i'n hymchwiliad. A gaf fi ddiolch i dîm y pwyllgor—y tîm clercio a'r tîm integredig—am eu holl gymorth hefyd? Credaf fod datgarboneiddio'n her y mae Llywodraethau ledled y byd yn mynd i'r afael â hi, a chredaf efallai fod y pandemig wedi creu cyfleoedd a heriau yn hyn o beth, gyda'r cynnydd mewn telegyfathrebu, ond hefyd yr angen i dawelu meddwl pobl fod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel—credaf mai dyna'r her sydd o'n blaenau o bosibl. Ond rwy'n credu bod ffurfio strategaeth drafnidiaeth a chynlluniau cyflawni newydd i Gymru yn gyfle i sicrhau rhai o'r manteision o'r hyn sy'n parhau i fod yn sefyllfa gynyddol anodd. Felly, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan, a'r rhai a gyfrannodd at ein gwaith? Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rydym yn mynd i atal y trafodion yn awr er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym? Bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn, a gofynnir i'r Aelodau aros nes i'r gloch honno gael ei chanu cyn mynd i mewn i'r Siambr. Felly, rydym yn gohirio am seibiant yn awr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:58.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:06, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Dadl Plaid Cymru ar y sector bwyd sydd nesaf. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM7495 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd y sector bwyd i ystod eang o agendâu polisi yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, yr economi a thlodi;
2. Yn gresynu at y diffyg aliniad i ddarparu polisi bwyd cenedlaethol cydlynol o fewn strategaethau a chynlluniau gweithredu bwyd Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf;
3. Yn cydnabod bod pandemig COVID-19 wedi amlygu gwendidau ein system fwyd bresennol.
4. Yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn y broses o gadw ein silffoedd wedi stocio.
5. Yn deall bod argyfyngau'r hinsawdd, natur a bioamrywiaeth yn cynyddu'r tebygolrwydd o dywydd eithafol a fydd yn effeithio'n sylweddol ar y system fwyd fyd-eang.
6. Yn nodi bod 14 y cant o deuluoedd â phlant yn y DU wedi profi ansicrwydd bwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020, a bod Ymddiriedolaeth Trussell wedi dosbarthu 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) symud tuag at ddull mwy cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru drwy ddod â chomisiwn system fwyd traws-sector at ei gilydd a rhoi iddo’r dasg o ddatblygu cynllun i ddarparu system fwyd sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol;
b) sicrhau bod systemau bwyd yn gallu gwrthsefyll ffactorau allanol yn y tymor hir, fel yr argyfwng hinsawdd;
c) datblygu gallu prosesu lleol ledled Cymru;
d) cynyddu faint o fwyd a diod o Gymru a gaiff ei gaffael drwy wasanaethau cyhoeddus.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig yma yn enw Plaid Cymru y prynhawn yma. Fel mae'r cynnig yn ei gydnabod, wrth gwrs, mae'r sector bwyd yn un pwysig ac yn un arwyddocaol iawn inni yma yng Nghymru. Ond mae yn deg i ddweud fod y pandemig wedi amlygu gwendidau yn y system fwyd presennol, gwendidau efallai sydd wedi bod yna, wrth gwrs, ers talwm ond wedi dod fwyfwy i'r amlwg, efallai, yn y flwyddyn ddiwethaf yma. Ac mae hynny yn ei dro hefyd wedi tanlinellu i nifer ohonon ni sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru o safbwynt bwyd wedi tueddu i weithredu mewn rhigolau, neu seilos. Mae lot o ffocws ar effaith economaidd y sector, ac mae hynny'n ddealladwy, ond dim cymaint, efallai, ar effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, iechyd ac eraill y system fwyd ehangach.
Cymhelliad y ddadl yma y prynhawn yma, felly, yw'r angen inni feddwl am y system fwyd mewn ffordd fwy cyfannol, mwy holistaidd. Mae angen system bwyd arnon ni yng Nghymru sy'n cysylltu yn well y cynhyrchu bwyd, y gweithgynhyrchu a phrosesu, manwerthu, defnydd bwyd—consumption—ac addysg hefyd; dod â'r rheini at ei gilydd yn well. Un approach integredig ar draws y system fwyd, o'r fferm i'r fforc a thu hwnt. A'r hyn rydyn ni'n ei olygu, wrth gwrs, wrth 'system fwyd' yw'r holl rhanddeiliaid yna, yr holl berthnasoedd—y relationships—sy'n ymwneud â thyfu bwyd, cynhyrchu, prosesu, cyflenwi a defnyddio bwyd, ac mae'n cwmpasu amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cynhyrchu bwyd, fel roeddwn i'n sôn, manwerthu, gwasanaethau bwyd, bwyta bwyd, a gwastraff bwyd hefyd, wrth gwrs, ar ben arall y sbectrwm.
Mae'n cynnwys ffactorau cymdeithasol ac economaidd sy'n gyrru dewisiadau bwyd, ac mae'n torri ar draws pob agwedd ar bolisi, wrth gwrs, yn cynnwys yr economi, yr un amlwg, yr amgylchedd hefyd, wrth gwrs, yn amlwg i raddau, busnes hefyd, addysg, lles, iechyd, trafnidiaeth, masnach, cynllunio, llywodraeth leol—mae'n berthnasol bron iawn i bawb. Ac mae nawr, wrth gwrs, y foment hon, yn gyfle inni allu adeiladu nôl yn well, fel y mae pobl yn ei ddweud, ond gyda COVID-19 wedi amlygu ac wedi dwysáu nifer o'r gwendidau sy'n bodoli yn ein system fwyd ni, mae adeiladu system fwy gwydn a mwy cynaliadwy yn mynd i fod yn rhan bwysig o'r gwaith i atal argyfyngau tebyg i'r hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar wrth inni symud ymlaen. Ac mae'n mynd i fod yn rhan allweddol o'n llwybr ni tuag at adferiad gwyrdd ac adferiad cyfiawn.
Mae Plaid Cymru am weld Cymru lle mae gan bawb fynediad wrth gwrs—mynediad urddasol—at ddigon o fwyd, at fwyd maethlon, bwyd wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy, mewn ffordd sy'n sicrhau incwm teg i ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd. Gall ein system fwyd gyfrannu'n sylweddol at ffyniant cyfunol Cymru pan gaiff ei llunio drwy lens economeg llesiant ac egwyddorion yr economi gylchol a'r economi sylfaenol. Ac wrth gwrs, mae economeg llesiant yn ymwneud ag ystyried ansawdd bywyd yn hytrach na chyfraddau twf cynnyrch domestig gros neu werth ychwanegol gros gwlad yn unig. Mae arnom angen gweledigaeth gyffredin sy'n seiliedig ar yr egwyddorion hynny ar draws holl adrannau'r Llywodraeth, ynghyd â rhanddeiliaid ehangach y system fwyd, fel y gallwn sicrhau bod pob agwedd ar y system fwyd yn cael ei hystyried a'i hintegreiddio. Rwy'n credu'n angerddol fod system fwyd sy'n gweithio'n dda yn hanfodol i ddyfodol ein cenedl, mae'n ganolog i'n hiechyd a'n lles, i'n diwylliant, i'n cymdeithas, yr amgylchedd wrth gwrs, a'r economi. Ac er mwyn darparu system fwyd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol gyda'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth system fwyd ar gyfer Cymru.
Felly, beth sydd o'i le ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? Wel, gallwn edrych ar ddetholiad o'i strategaethau a'i pholisïau ynghylch amaethyddiaeth, bwyd a diod, a cheir llu ohonynt: mae gennym 'Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru: Strategaeth Fwyd i Gymru', y cynllun gweithredu bwyd a diod, cynllun gweithredu strategol diwydiant cig coch Cymru, cynllun gweithredu strategol garddwriaeth, strategaeth y sector llaeth, cynllun gweithredu twristiaeth bwyd Cymru, strategaeth bwyd môr Cymru, ac yn y blaen. Maent i gyd yn iawn yn eu hawl eu hunain wrth gwrs; maent i gyd yn nodi amcanion a chamau gweithredu pwysig. Ond ble, neu ar ba bwynt, y dônt i gyd at ei gilydd? Ble mae'r aliniad sydd yn y pen draw ac ar y cyd yn darparu polisi cenedlaethol?
Gofynnodd y cyn Weinidog Cyfoeth Naturiol a'r cyn Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru roi cyngor ynglŷn ag a oedd strategaeth fwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cynhwysfawr a diweddar, a gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion, ac mae'n ymddangos, yn anffodus, fod y rheini wedi'u hanwybyddu i raddau helaeth. Yn yr adroddiad, dônt i'r casgliad—ac rwy'n dyfynnu—
Mae gwendidau a rhwystrau yn y modd y llywodraethwyd polisi bwyd yng Nghymru ers 2010, ynghyd â gwell dealltwriaeth bellach o'r gwendidau rhyng-gysylltiedig sy'n sail i systemau bwyd cynaliadwy, yn golygu bod angen dybryd i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth newydd a chlir ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.
Ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu mwy nag ailysgrifennu'r strategaeth bwyd a diod; mae angen iddo fynd yn llawer ehangach ac yn llawer dyfnach na hynny.
Felly, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn system fwyd traws-sector. Rydym yn ychwanegu ein llais at y rhai sy'n galw am i'r comisiwn hwn gael y dasg o ddatblygu cynllun tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y gŵyr yr Aelodau rwy'n siŵr, roedd hwnnw'n un o alwadau allweddol y gwaith sylweddol a gomisiynwyd gan y WWF ar hyn, gyda chefnogaeth Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ac eraill, sydd am i'r cynllun arfaethedig ystyried chwe blaenoriaeth yn benodol. Yn gyntaf, fod bwyd yn hygyrch, a bod Cymru'n dod yn wlad gyntaf i ddileu'r angen am fanciau bwyd, a bod gan bawb yng Nghymru fynediad urddasol at y bwyd sydd ei angen arnynt i fyw bywyd iach. Ac mae hynny'n arwain at yr ail flaenoriaeth wrth gwrs, sef bwyd ar gyfer iechyd y cyhoedd, gan adeiladu ar strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo deietau iach a chytbwys drwy sicrhau bod y llysiau a argymhellir ganddo i'w bwyta yn cael eu cynhyrchu'n gynaliadwy yng Nghymru, sy'n golygu cynnydd mawr mewn garddwriaeth ddomestig a thyfu llysiau yng Nghymru. Nesaf mae'r angen am system fwyd carbon sero-net, sy'n hunanesboniadol, fel y mae'r angen i fabwysiadu egwyddorion mwy amaethecolegol ar draws y system fwyd gyfan, er mwyn atal a gwrthdroi colledion natur, ac wrth gwrs i gynyddu gallu i wrthsefyll newid hinsawdd. Mae sicrhau bwyd môr cynaliadwy yn un arall o'r blaenoriaethau a amlinellir, a phennu terfynau ar gyfer daliadau sy'n galluogi i stociau pysgod gael eu hadfer a'u cynnal uwchben lefelau biomas sy'n darparu'r cynnyrch cynaliadwy mwyaf posibl, ac yn olaf blaenoriaeth i greu swyddi a bywoliaeth gynaliadwy yn y sector bwyd; dylai pawb sy'n ennill eu bywoliaeth o fewn y system fwyd dderbyn neu allu derbyn o leiaf y cyflog byw neu elw teg am eu gwaith, a gwaith sydd hefyd yn rhydd o arferion camfanteisiol wrth gwrs.
Un wers y mae'r pandemig wedi'i dysgu i ni yw na ddylem byth eto gymryd ein gweithwyr iechyd a gofal yn ganiataol, ac ni ddylem ychwaith gymryd y rhai sy'n cynhyrchu ac yn cyflenwi'r bwyd a fwytawn yn ganiataol. Mae COVID-19 wedi tanlinellu gwerth cael sylfaen gynhyrchu sylfaenol frodorol, yn enwedig mewn byd lle mae cadwyni cyflenwi mor gymhleth wrth gwrs, yn gweithredu ar sail mewn union bryd ac eithaf hawdd tarfu arnynt, fel y gwelwyd yn ddiweddar a hyd yn oed cyn diwedd cyfnod pontio Brexit. Mae gwarchod y cadwyni cyflenwi hynny rhag ergydion yn her wirioneddol, ac un ffordd o gyflawni hyn yw drwy fyrhau ein cadwyni cyflenwi, sy'n golygu mwy o brosesu lleol. Ac mae gan fwy o brosesu lleol rôl enfawr i'w chwarae yn helpu i greu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru.
Y realiti, serch hynny, yw bod ystadegau diweddar AHDB yn awgrymu nad oes gan Gymru gapasiti i brosesu hanner y llaeth a gynhyrchwn. Mae'r rhan fwyaf o'r llaeth a gynhyrchir yng Nghymru, un o'r meysydd llaeth mwyaf yn Ewrop, yn cael ei gludo allan o Gymru i'w brosesu. Caiff miliynau o alwyni o laeth hylif ei gludo allan bob blwyddyn, ac mae cannoedd o filoedd o dunelli o gynnyrch llaeth yn cael ei gludo'n ôl i mewn. Wel, faint o filltiroedd bwyd yw hynny, tybed? A chanfu adolygiad o'r sector cig eidion yng Nghymru yn 2014 fod 72 y cant o wartheg Cymru wedi'u lladd y tu allan i Gymru. Caiff 31 y cant o ddefaid Prydain eu magu yng Nghymru, ond dim ond 24 y cant sy'n cael eu lladd yng Nghymru. Felly, mae hyn i gyd yn golli gwerth, colli incwm a swyddi i economi Cymru, heb sôn am y gost enfawr ar ffurf allyriadau carbon a ddaw yn sgil hynny. Mae'n rhaid i hyn newid.
Nawr, yr ateb amlwg i hyn yw cynyddu capasiti prosesu Cymru yn gyffredinol, sy'n golygu nid yn unig atal ond gwrthdroi tueddiadau o ran nifer y lladd-dai bach yng Nghymru, sydd wedi haneru dros y 25 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu mai dim ond tua 18 sy'n dal i fodoli, ac ar gyfer prosesu llaeth, rwy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru wrth gwrs, ac rydym wedi gweld yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf sut rydym wedi colli Arla yn Llandyrnog, Tomlinsons yn Wrecsam—proseswyr llaeth mawr yma yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Felly, byddai gwrthdroi colli'r ddarpariaeth hon yn gam cadarnhaol i'r cymunedau sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, byddai'n dda i les anifeiliaid hefyd wrth gwrs, gan nad ydych yn symud cymaint o anifeiliaid o amgylch y wlad, byddai'n dda ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, ac yn dda i'r economi wledig. Dyna, wrth gwrs, yw'r lens economeg llesiant a grybwyllais yn gynharach—yr olwg fyd-eang newydd y credwn fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod i'w hymgorffori ym maes polisi cyhoeddus Cymru.
Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n ymhelaethu ar agweddau eraill y mae angen mynd i'r afael â hwy yn y ddadl hon, megis rôl caffael cyhoeddus, pwysigrwydd prynu bwyd lleol, rôl bwyd yn yr adferiad gwyrdd, tlodi bwyd ac effeithiau bwyd ar iechyd, a byddaf yn mynd i'r afael â gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau eraill yn fy sylwadau cloi ar ôl gwrando ar gyfraniadau pobl eraill. Mewn amgylchiadau arferol, wrth gwrs, yr wythnos hon byddai llawer ohonom wedi mynychu ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru, un o'r sioeau stoc gorau yn Ewrop, sy'n denu torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau, siopa Nadolig a chyfle gwych i arddangos y bwyd gorau sydd gennym i'w gynnig o Gymry wrth gwrs.
Ond ceir problemau systemig o fewn y system fwyd ehangach yng Nghymru sy'n galw am sylw ar frys. Ceir gormod o bobl yng Nghymru na allant fforddio bwyta deiet iach. Mae'r system fwyd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, ar iechyd y cyhoedd, ac ar ein lles economaidd, ac mae hyn i gyd yn llesteirio ein gallu i ffynnu fel cenedl. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno polisi bwyd mwy cydlynol yng Nghymru a hynny ar frys. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau o bob ochr i'r Siambr. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. Gweinidog.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.
2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;
b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;
c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;
d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
'Yn ffurfiol'. Rwy'n ddarllenydd gwefusau da. Gallwn ddarllen yr 'yn ffurfiol' gan y Gweinidog. Galwaf yn awr ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 2. Janet Finch-Saunders.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 7:
cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig o ffynonellau lleol a helpu i hyrwyddo'r cynllun i ddefnyddwyr;
datblygu strategaeth dwristiaeth i hyrwyddo llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ledled Cymru;
gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Rwy'n amlwg yn sefyll i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan Darren Millar, ac i ddiolch i Llyr Gruffydd am gyflwyno'r ddadl hon ar ran Plaid Cymru. Nawr, gyda'r wythnos hon yn ein gweld yn nodi ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru, rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cynnal y ddadl hon, ond rwy'n cytuno â Llyr ei bod hi'n drist na allwn ddod at ein gilydd wyneb yn wyneb yn y digwyddiad gwych hwnnw.
Nawr, mae'n gwbl briodol ein bod yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn cadw ein silffoedd wedi'u stocio. Roedd graddau'r prynu panig yn y gwanwyn yn golygu bod defnyddwyr y DU wedi trosglwyddo gwerth £1.5 biliwn o fwyd i'r cartref mewn llai na mis. Mae'r pandemig hefyd wedi amlygu gwendidau ein system fwyd bresennol, a bod ffermwyr yn agored i gyfran anghymesur o risg. Gwelsom ddinistr yn ein diwydiant llaeth. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod bron i 50 y cant o fusnesau llaeth yng Nghymru wedi cael eu heffeithio'n fawr o ganlyniad i'r pandemig, ond dim ond 10 y cant oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth llaeth.
Mae'r pandemig hefyd wedi sbarduno newid mewn polisi bwyd cenedlaethol. Mae Rwsia, Ukrain ac India wedi rhoi camau ar waith i gyfyngu ar allforio bwydydd strategol bwysig fel gwenith. Nawr, os bydd rheolaethau allforio'n digwydd yn amlach, gallai fod effaith wirioneddol ar gyflenwadau bwyd byd-eang. Felly, yn fwy nag erioed, mae angen inni gynorthwyo ffermwyr Cymru i gynnal cynhyrchiant. Fodd bynnag, dylai hyn gael ei gadw mewn cof gan y Gweinidog wrth iddi gyflwyno ei Phapur Gwyn, a hefyd dylai ystyried yn ofalus wrth drafod y galwadau yn adroddiad WWF Prifysgol Caerdydd am weld egwyddorion amaethecolegol yn dod yn ganolog i bolisi bwyd. Mae'r adroddiad yn rhoi enghraifft o fferm organig gymysg. Mae perygl i Gymru os yw'n dod yn 100 y cant organig, oherwydd mae'r astudiaeth wedi canfod mewn gwirionedd y byddai hyn yn cynhyrchu hyd at 40 y cant yn llai o fwyd, gan arwain at gynyddu mewnforion a chynnydd net mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Felly, mae angen inni sicrhau'r cydbwysedd cywir nad yw'n tanseilio cynhyrchiant bwyd lleol o ansawdd uchel, na'r hinsawdd yn wir.
Nawr, mae adroddiad WWF yn argymell y gallai anelu at neilltuo 2 y cant o'r arwynebedd tir i gynhyrchiant garddwriaethol fod yn arf polisi. Dyma sy'n ofynnol er mwyn i Gymru gynhyrchu'r llysiau sydd eu hangen i gyflawni pum dogn y dydd, ond credaf y dylai'r cynnydd mewn garddwriaeth ddod o ganlyniad i arferion prynu lleol. Mae cynlluniau a chamau gweithredu y gallwn fwrw ymlaen â hwy: meithrin mwy o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd; datblygu rhwydwaith o hybiau bwyd; creu gerddi perlysiau a llysiau cymunedol; gwneud perllannau o fannau gwyrdd segur sy'n eiddo i'r cyhoedd; cefnogi datblygiad proseswyr bwyd yng Nghymru; cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig lleol ac i helpu i hyrwyddo cynllun o'r fath i ddefnyddwyr; a datblygu llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ar gyfer ein holl etholaethau yma yng Nghymru. Caiff lleoliaeth ei hyrwyddo yn adroddiad y WWF hefyd.
Ffordd wych arall o gyflawni hyn yw drwy gaffael cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn methu olrhain tarddiad cynnyrch yn eu hofferyn cofnodi caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dychmygwch y gwahaniaeth y byddai gwariant caffael blynyddol o tua £78 miliwn ar fwyd a diod yn ei wneud pe bai'r eitemau a brynir yn tarddu o Gymru. Yn wir, mae fy mholisi a fy angerdd sy'n rhoi bwyd o Gymru a lleoliaeth yn gyntaf yn cymryd eu lle'n dda yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol. Er enghraifft, drwy ail-leoleiddio ein cynhyrchiant a'n defnydd o fwyd, a hyrwyddo cadwyni cyflenwi byrrach, gallwn ddod yn gyfrifol yn fyd-eang. Gallwn helpu diwylliant ac iaith Cymru i ffynnu, a gallwn greu Cymru iachach.
Yn ystod seminar ffair aeaf NFU Cymru, roedd hi'n amlwg fod potensial enfawr i hybu busnes hefyd drwy werthu ein cynnyrch cynaliadwy i'r byd. Mae enghreifftiau, wrth gwrs, yn cynnwys allforio i Tsieina, sydd, o ganlyniad i brinder protein yn eu deiet, bellach mewn sefyllfa dda i fewnforio cig oen o Gymru. Mae potensial allforio yn un rheswm pam ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor. Gallai Llywodraeth Cymru helpu'n fawr drwy gyflwyno targed statudol ar gyfer gwella oes silff cig oen o Gymru, fel y gall gystadlu'n well â Seland Newydd.
Yn olaf, rwy'n rhoi croeso gofalus i'r galwadau am gomisiwn, ond hoffwn i Blaid Cymru egluro pam na ddylem droi at fwrdd y diwydiant bwyd a diod fel modd o arwain ar strategaeth system fwyd. Yn bwysig, gallai'r naill ddull neu'r llall alluogi'r weledigaeth i gael ei chydgynhyrchu rhwng y Llywodraeth, ffermwyr, busnesau bwyd a rhanddeiliaid eraill. Fodd bynnag, mae hon yn enghraifft arall eto o broblem fawr yn y Senedd a'r Llywodraeth hon: trafod a pheidio â chyflawni. Nid yw 'Bwyd o Gymru, Bwyd i Gymru 2010-2020' erioed wedi cael ei weithredu'n llawn. Yn 2018—
Bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cyfraniad i ben.
Yn 2018, daeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'r casgliad fod angen gweledigaeth strategol ar gyfer sector bwyd Cymru. Byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, a gobeithiwn y byddwch yn cefnogi ein gwelliannau. Diolch.
Credaf fod yn rhaid inni gofio pwysigrwydd enfawr y diwydiant bwyd a diod sydd yma yng Nghymru bellach. A dim ond i roi ychydig o enghreifftiau, mae gan y diwydiant fel y mae—a gallem wneud cymaint mwy wrth gwrs—drosiant o £22.1 biliwn ac mae'n cyflogi 229,000 o weithwyr yn uniongyrchol, ac mae peth tuedd, weithiau, i feddwl nad yw'r rheini i gyd yn swyddi o ansawdd da ac nad yw'n sector i fod eisiau gyrfa ynddo, ond nid yw hynny'n wir, er bod llawer y gallwn ei wneud i wella ansawdd peth o'r gwaith hwnnw. Gall y diwydiant bwyd a diod fod yn lle gwych i bobl ifanc adeiladu gyrfa, a chredaf fod angen inni anfon y neges honno'n glir, a hynny ar draws y diwydiant, o'r cychwyn cyntaf, lle mae'r cynnyrch yn tarddu ar y fferm, yr holl ffordd drwodd i'r man lle rydym yn ei werthu. Fel y dywedodd Llyr, mae'n rhan hanfodol o'n heconomi, ond mae gymaint yn fwy na hynny hefyd.
Mae argyfwng COVID wedi dangos i ni i gyd, rwy'n meddwl, pa mor bwysig y gall cyflenwad bwyd lleol fod, a sut y mae'r system fwyd ddiwydiannol bresennol yn methu. Mae'n gwneud cam â chynhyrchwyr, mae'n gwneud cam â phroseswyr ac mae'n gwneud cam â'r rheini ohonom sy'n bwyta ac yn yfed y bwyd.
Cafwyd llawer o straeon adeg COVID, Lywydd, sydd wedi bod yn dorcalonnus i bob un ohonom, ond un a'm gofidiodd yn fawr oedd galwad ffôn gan ffermwr yn yr Hendy yn Sir Gaerfyrddin ar ddechrau'r argyfwng COVID, yn dweud ei fod yn gorfod arllwys ei laeth i lawr y draen am mai'r busnes lletygarwch oedd ei gwsmeriaid yn bennaf—siopau coffi ac yn y blaen—y tu allan i Gymru, ac roeddent wedi dweud wrtho nad oedd angen ei laeth arnynt. Ac roedd natur eu contract o'r fath fel ei bod yn eithaf anodd iddo ei werthu i unrhyw un arall. Ac yn waeth iddo ef a'i deulu, ychydig filltiroedd i fyny'r ffordd yn Llanelli, roedd teuluoedd yn colli gwaith, gyda mwy a mwy o deuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd, ac eto, ni allai hyd yn oed roi'r llaeth hwnnw am ddim i neb, am nad oedd unrhyw gapasiti i'w werthu ymlaen.
Wel, edrychodd teulu Beynon-Thomas yn hir ar hynny a phenderfynu na allent oddef hynny, ac mewn amser byr iawn, fe wnaethant droi un o'u hadeiladau allan yn ganolfan basteureiddio ar raddfa fach ac maent yn gwerthu llaeth drwy beiriant gwerthu llaeth, sydd yn rhywbeth nad oeddwn erioed wedi clywed amdano o'r blaen, rhaid i mi ddweud. Ac mae cymaint o fanteision i hynny. Gall pobl leol brynu cynnyrch lleol, ffres iawn, ac mae'r holl elw'n mynd yn ôl i'r fferm ac yna'n cael ei wario'n lleol. Dywedodd tad Ifan Beynon-Thomas, y ffermwr ifanc a sefydlodd y fenter hon, ei fod yn credu bod ei fab yn wallgof pan ddechreuodd siarad am beiriant gwerthu llaeth, ond nawr, gall ei dad weld yr elw'n mynd yn syth i'r fferm wrth gwrs. Maent wedi gwneud cystal fel eu bod bron â bod wedi talu eu dyled o fewn ychydig fisoedd ac maent ar fin creu swydd newydd oherwydd bod y galw wedi bod mor fawr fel na all Ifan ddal i fyny â hynny a'i holl gyfrifoldebau ffermio eraill. Ac mae hyn, i mi, yn enghraifft wych o'r hyn y gallem ei wneud, ar raddfa fach, ond mae'r galw wedi bod yn enfawr ac erbyn hyn mae'n gwerthu i fusnesau lleol hefyd, a gall ehangu ei gapasiti pasteureiddio. Ac mae'n cael rhoi llaeth am ddim; nid oes raid gwastraffu dim. Un enghraifft fach leol yw honno o'r hyn y gallwn ei wneud a'r hyn y mae angen i ni fuddsoddi ynddo.
Y mater arall a amlygwyd drwy argyfwng COVID yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yw pwysigrwydd caffael cyhoeddus a chaffael cyhoeddus lleol. Rydym i gyd yn cofio—soniais am hyn yn y Siambr o'r blaen—y blychau bwyd ar gyfer ein cyd-ddinasyddion sy'n gwarchod a oedd yn cael eu prynu gan gwmni mawr ledled y DU. Roedd rhywfaint o'r bwyd yn anaddas a pheth ohono wedi pydru hyd yn oed. Pan oedd yr ail rownd—ac nid wyf yn beio'r Llywodraeth yn yr argyfwng am fynd am un cyflenwr mawr—ond pan oedd ail rownd y blychau bwyd hynny'n gallu mynd allan, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gallu defnyddio Castell Howell, cyflenwr bwyd lleol yn Cross Hands; roedd ansawdd y cynnyrch yn llawer gwell ac roedd yn llawer mwy priodol i'r bobl yn y cymunedau hynny ac wrth gwrs, mae'r holl arian hwnnw wedyn yn cael ei ailgylchu mewn swyddi lleol ac yn y gymuned leol. Rhaid inni—ac mae eraill wedi crybwyll hyn—atal gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd rhag llifo allan. Mae 45 y cant o'r hyn y mae ein sector cyhoeddus yn ei wario ar fwyd yng Nghymru—ac fel y mae eraill wedi dweud, mae'n swm o dros £70 miliwn y flwyddyn—yn mynd allan o Gymru. Rhaid inni allu lleihau hynny.
Lywydd, nid yw'r system fwyd ddiwydiannol yn gweithio fel y mae. Mae'n gadael pobl mewn tlodi bwyd. Rwy'n llawn canmoliaeth i'r hyn y mae'r gwirfoddolwyr mewn banciau bwyd lleol yn ei wneud, ond rwy'n llawn cywilydd fod yn rhaid i bobl ddibynnu ar fanciau bwyd yn un o wledydd cyfoethocaf y byd, ac mae Llyr Gruffydd wedi crybwyll tlodi bwyd. Mae ein cynhyrchwyr bwyd yn aml yn fregus fel busnesau; yn aml, ni allant werthu ar y gyfradd—ni allant hyd yn oed wneud elw. Ac rydym yn wynebu budrelwa gan rai o'r cwmnïau mawr iawn, a phan edrychaf ar yr hyn y mae rhai o'r archfarchnadoedd a rhai o'r cyfanwerthwyr mawr eraill yn ei dalu i'n ffermwyr, nid wyf yn ymddiheuro am ddefnyddio'r gair 'budrelwa'.
Fel y dywedodd Llyr, mae'n rhaid inni alinio'r holl fentrau bwyd. Mae pob un ohonynt yn gadarnhaol ynddi'i hun, ond mae angen iddo fod yn gyson. Mae angen comisiwn traws-sector i ddatblygu cynllun tuag at bolisi bwyd cynhwysfawr sy'n cyflawni i bob un ohonom.
Hyd yn hyn, mae pawb wedi siarad cryn dipyn am COVID a'r hyn y mae wedi'i ddweud wrthym, ond nid oes neb wedi sôn am yr eliffant yn yr ystafell, sef diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, sy'n digwydd mewn llai na mis. Yn yr amser byr hwnnw, mae'n bosibl y byddwn yn wynebu'r chwyldro mwyaf aruthrol yn ein cadwyni cyflenwi bwyd, a fydd yn gwneud i giwiau archfarchnadoedd mis Mawrth edrych fel te parti mewn cymhariaeth.
Felly, rwy'n glir fod cynllun gweithredu diwedd cyfnod pontio Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod ffrwythau a llysiau yn debygol o gael eu tarfu—rydym yn hoffi meddwl am Brydain fel gwlad werdd a dymunol, ond caiff y rhain eu mewnforio'n bennaf o'r UE, yn enwedig yn y gaeaf. Ni fyddwn yn newynu, ond bydd y dewis yn gyfyngedig, mae prisiau bron yn sicr o godi, ac ysbytai, cartrefi gofal ac ysgolion, yn ogystal â'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, sydd hefyd wedi cael eu heffeithio waethaf gan y pandemig, yw'r rhai sy'n debygol o ddioddef fwyaf o brinder bwyd ffres.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau glas i weithio gyda busnesau bwyd i osgoi argyfwng, dywedir wrthym, ac rwy'n siŵr yr hoffem wybod llawer mwy am hynny. Rwyf wedi ceisio cael gwybodaeth gan y pedair archfarchnad fwyaf yn y wlad, ond dywedant fod cyfrinachedd masnachol—neu dyna mae Tesco yn ei ddweud o leiaf—yn eu hatal rhag dweud wrthym beth yn union yw eu cynlluniau, o gofio nad yw eu model 'mewn union bryd' yn mynd i weithio yn y senario hon o gwbl.
Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi rhybuddio, er bod cynnydd wedi bod yn adrannau Llywodraeth y DU, ei bod yn dal yn debygol y bydd tarfu eang yn digwydd o 1 Ionawr. Mae Tŷ'r Arglwyddi wedi rhybuddio yn yr un modd; mae cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y DU wedi rhybuddio hyn. Llywodraeth y DU a benderfynodd beidio â gofyn am estyniad i'r cyfnod pontio, oherwydd ei bod yn ymddangos bod y Maöyddion yn Llywodraeth y DU yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r newid mwyaf yn ein perthynas fasnachu yn yr amgylchiadau mwyaf anffodus, yng nghanol y gaeaf ac yng nghanol pandemig. Y brwdfrydedd hwnnw dros yr hyn y maent yn ei alw'n 'doriad glân' yw'r hyn a allai eu gweld eto'n mynd â ni dros ymyl y dibyn i adael yr UE heb gytundeb.
Gyda phedair wythnos i fynd cyn diwedd y cyfnod pontio, mae masnachwyr a darparwyr logisteg yn dal i aros am lawer o'r wybodaeth ac eglurder gan y Llywodraeth, ac maent wedi'u syfrdanu lawn cymaint ynglŷn â'r diffyg cysondeb ym mholisi'r Llywodraeth. Mae Duncan Buchanan, cyfarwyddwr polisi'r Gymdeithas Cludo Nwyddau, wedi dweud ei fod, o fis Ionawr ymlaen, yn disgwyl rhywbeth 'rhwng arswydus a thrychinebus.' Gallai gymryd hyd at wyth wythnos i nwyddau ddod i mewn ar lorïau pan fyddwn yn adfer rheolaeth ar ein ffiniau, ac mae'r holl dystiolaeth yn dynodi y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio beio pawb ond eu hunain am y sefyllfa hon.
Mae llythyr a ddatgelwyd yn answyddogol gan Weinidog Swyddfa'r Cabinet, Michael Gove, at sefydliadau logisteg, yn rhoi'r bai arnynt hwy ac yn dweud mai'r cwmnïau sydd ar fai am giwiau o hyd at 7,000 o lorïau drwy beidio â bod wedi paratoi. Mae'n tybio, pan fydd cerbydau nwyddau trwm yn sylweddoli y bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â'r rheoliadau newydd, y bydd y ciwiau'n diflannu dros amser. Mae'n siŵr mai dyna pam y maent yn adeiladu parc lorïau 27 erw yng Nghaint.
Mae'r rhybuddion hyn wedi dod gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach. Disgrifiodd un arbenigwr bwyd wrthyf, 'Nid oes dim yn barod, ni fydd dim yn gweithio. Disgwylir y bydd system gyfan mewnforio ac allforio'n chwalu, ac ar ben tywydd gwael a COVID, bydd yn drychineb a grewyd gennym ni ein hunain.'
Felly, mae'n rhaid canolbwyntio ar hyn nawr. Mae rhai awgrymiadau rhagorol yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y WWF, ond rhaid inni wneud rhywbeth nawr. Rhaid inni sicrhau ein bod yn cynyddu ein garddwriaeth yn aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau bach o rhwng £3,000 a £12,000 i wneud hynny, ac mae Gweinidog yr economi wedi darparu dros £400,000 o grant economi sylfaenol ar gyfer tyfu mewn amgylchedd rheoledig, a elwir hefyd yn hydroponeg. Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r union fath o beth sydd angen i ni ei ddatblygu nawr.
Mae angen inni atal awdurdodau lleol rhag gwerthu ffermydd sirol, sy'n un o'r ffyrdd y down o hyd i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth, oherwydd mae arnaf ofn fy mod yn anghytuno â Janet Finch-Saunders y gallwn ddal ati gyda'r un hen system sydd gennym ar hyn o bryd, a sicrhau na all pobl fod mewn unrhyw ffordd—. Mae angen iddynt—. Mae angen i ffermwyr gynnal cynhyrchiant; ni allwn danseilio hynny. Mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn gwneud pethau, oherwydd ein hargyfwng natur heb sôn am unrhyw beth arall, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym fwyd lleol i bobl leol, er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr enillion iechyd cyhoeddus y mae angen i ni eu gweld yn ystod y cyfnod nesaf.
Felly, bydd y materion hyn yn cael eu trafod ymhellach yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd yfory, ac yn amlwg, byddwn yn awyddus iawn i weld unrhyw un ohonoch sy'n gallu dod draw, a sicrhau bod gennym bolisi bwyd gwell ar gyfer ymdrin â'r materion hyn yn y chweched Senedd.
Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r sector bwyd, ond yr hyn yr hoffwn siarad amdano yn gyntaf yw'r effaith y mae diffyg bwyd yn ei chael ar ormod o bobl yn ein cymdeithas. Oherwydd, er mai'r DU yw'r seithfed economi gyfoethocaf yn y byd, mae gormod o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd fforddio'r bwyd sydd ei angen arnynt i gadw'n iach, ac mae hynny'n effeithio nid yn unig ar iechyd corfforol pobl, eu bywiogrwydd a'u cryfder, ond hefyd eu hiechyd meddwl, eu gorbryder, eu lefelau straen a'u hwyliau.
Rhwng 2017 a 2018, roedd 20 y cant o bobl Cymru yn poeni ynglŷn â mynd yn brin o fwyd, a bu'n rhaid i 14 y cant fynd yn brin o fwyd yn y lle cyntaf cyn y gallent fforddio prynu mwy. Mae arnaf ofn fod y ffigurau hyn yn debygol o fod wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd effaith y feirws ar lefelau cyflogaeth. Rydym eisoes wedi clywed yn y ddadl hon am yr angen i sicrhau bod cadwyni cyflenwi'n dal i weithio fel bod y sector yn addas i'r diben. Rhaid inni hefyd ystyried effaith gadwyn cyflenwadau nad ydynt yn mynd yn ddigon pell. Mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a darparodd Ymddiriedolaeth Trussell 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni. Nawr, rwy'n diolch i Ymddiriedolaeth Trussell a'u gwirfoddolwyr am yr hyn y maent yn ei wneud, ond fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones, mae rhywbeth gofidus iawn am gymdeithas lle ceir dibyniaeth ar fanciau bwyd neu lle mae angen parseli bwyd brys. Dyna pam y byddem ni ym Mhlaid Cymru yn darparu taliadau wedi'u targedu i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi, gan gyflwyno taliad plentyn o £35 yr wythnos ar gyfer y 65,000 o blant yng Nghymru sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Lywydd, rwyf wedi siarad yma am yr enghreifftiau mwyaf eithafol, er ei bod yn sefyllfa sy'n ddinistriol o gyffredin—hynny yw, pobl sy'n ei chael hi'n anodd fforddio bwyta digon. Ond i aelwydydd eraill, mae'r mater yn ymwneud mwy â gallu fforddio bwyd maethlon o ansawdd da. Mae'r Sefydliad Bwyd wedi canfod bod 160,000 o blant yng Nghymru yn byw ar aelwydydd lle mae deiet iach yn anfforddiadwy. Gwn fy mod yn dyfynnu ystadegau o'r adroddiad sydd wedi'u dyfynnu sawl gwaith eisoes yn y ddadl hon, ond mae 28 y cant o blant yn ordew ac nid yw 94 y cant yn cael pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Mae'r problemau wedi cael eu hailadrodd o'r blaen—caiff bwydydd rhad sydd wedi'u prosesu'n helaeth eu hyrwyddo'n eang, ac rwy'n gweld—. Mae strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru wedi dechrau ceisio mynd i'r afael â hyn, ond mae'n mynd i'r afael ag ef mewn seilos—y pwynt y rhybuddiodd Llyr Gruffydd yn ei gylch ar ddechrau'r ddadl hon. Nid yw'n edrych ar effaith marchnata a hysbysebu bwyd, cynhyrchu na chostau byw. Rhaid inni fynd i'r afael â'r malltod hwn er lles teuluoedd ledled Cymru. Ond mae'n mynd yn llawer ehangach na hyn. Fel y dywed yr adroddiad a gomisiynwyd gan y WWF y buom yn ei ddyfynnu, mae problemau yn y system fwyd yn effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd, ar iechyd y cyhoedd a lles economaidd, ac yn hollbwysig, ac rwy'n dyfynnu, maent yn llesteirio
ein gallu i ffynnu fel cenedl yn awr ac yn y dyfodol.
Mae system fwyd sy'n gweithio'n dda, sy'n canolbwyntio ar gynnyrch lleol a chadwyni cyflenwi moesegol tynn, yn hanfodol er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ddiogelu eu hiechyd, diogelu eu bywoliaeth, heb sôn am ddiogelu ein planed. Ond ar hyn o bryd, mae'r system fwyd fyd-eang yn frith o rwystrau ac fel y dywed yr adroddiad unwaith eto, ac rwy'n dyfynnu,
mae arferion cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio camweithredol...yn peryglu iechyd, yn cyfrannu at argyfwng natur ac argyfwng hinsawdd ac ansicrwydd bwyd.
Nawr, Lywydd, rwy'n gwybod fy mod eisoes wedi sôn am bwysigrwydd peidio ag edrych ar fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd drwy seilos; mae'r un egwyddor yn wir am sut y dylem edrych ar gynhyrchu bwyd. Mae ein system fwyd wedi'i hintegreiddio ledled y DU a thrwy fasnach, mae gennym gysylltiadau rhyngwladol. Nawr, mae Jenny Rathbone wedi nodi sut y mae hyn ar y naill law yn creu llawer o heriau oherwydd rhagolygon Brexit, a Brexit 'heb gytundeb' yn enwedig, ac yn wir, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gadw mewn cof yn y ddadl hon. Ond fel y nododd Llyr hefyd, mae natur integredig y system yn rhoi cyfle i ni. Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gallwn ddefnyddio hyn i arwain y byd gyda pholisïau bwyd sy'n gynaliadwy ac yn gyfrifol yn fyd-eang.
Mae wedi codi'n anochel yn y ddadl wrth gwrs, fel gyda chymaint o faterion—mae pandemig COVID-19 wedi gwneud yr angen i wneud y newidiadau hyn i'n system fwyd hyd yn oed yn fwy hanfodol. Mae gennym gyfle nawr i greu system yng Nghymru sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, system sy'n foesegol ac sy'n adeiladu ar ein statws fel Cenedl Masnach Deg. Gallwn fuddsoddi yn sgiliau ein cymunedau i gefnogi cynhyrchiant bwyd lleol; gallwn greu Cymru fwy cyfartal i sicrhau bod pob dinesydd yn gallu bwyta'n iach. Mae gennym y cyfle hwn, Lywydd, i adeiladu system gynhyrchu a dosbarthu bwyd sy'n diwallu anghenion pawb heb ddwyn oddi ar fyrddau cenedlaethau'r dyfodol—gadewch inni ddefnyddio'r cyfle hwnnw nawr.
A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cymryd rhan yn y ddadl hon? Credaf fod y cyfraniadau cyn fy un i wedi bod yn rhagorol; gobeithio y gallaf ychwanegu rhywbeth atynt. Ond mae yna rywbeth rwyf wedi cytuno ag ef yng nghyfraniad pawb hyd yn hyn. Ceir rhai pethau rydym yn anghytuno yn eu cylch, ac rwyf am fynd ar drywydd y pwynt sydd newydd gael ei wneud. Ceir rhai rhannau da yng nghyfraniad fy nghyd-Aelod Ceidwadol, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith y dylem wneud mwy na chanolbwyntio ar gynhyrchiant yn unig. Mae cynhyrchiant yn bwysig o ran tir fferm, ond nid dyna'r stori lawn. Rwyf am droi hyn wyneb i waered i raddau, a chanolbwyntio ar yr hyn rydym yn ceisio'i gyflawni â bwyd a'r system fwyd. Rhaid imi ddweud, cafwyd rhai syniadau a strategaethau a chynlluniau gwirioneddol gryf dros nifer o flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi meddu ar rai o'r cynlluniau integredig, mwyaf arloesol a chydlynol gorau—Llywodraeth flaenorol Cymru, gyda llaw—ond ni wnaed gwaith dilynol trylwyr arnynt, a chaiff rhai pethau eu tynnu i gyfeiriadau gwahanol. Felly, gadewch i mi ddweud y dylem droi hyn wyneb i waered i ryw raddau.
Gadewch i ni ddechrau o'r hyn rydym yn ceisio'i wneud gyda'r system fwyd gyfan, ac mae siaradwyr eraill wedi sôn am hyn hefyd. Sut beth yw gweledigaeth gyfannol o fwyd? Nawr, byddwn yn dweud bod rhai pethau a all fod yn sail i hyn, a bod digon o bethau da wedi'u hysgrifennu a'u trafod ar hyn, yn enwedig yma yng Nghymru, rhaid imi ddweud. Dylai ymwneud â hawl absoliwt i fwyd da. Wyddoch chi, drwy ddweud hynny mewn gwirionedd—a chyda llaw, mae pwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu'r DU am beidio ag ymgorffori'r hawl hon yn neddfwriaeth y DU—efallai y gallwn wneud rhywbeth yma yng Nghymru. Ond os ydych yn rhoi hawl i fwyd da i bawb—bwyd da, fforddiadwy, ecogyfeillgar a chynaliadwy—mae'n gyrru newid o fewn y system fwyd mewn gwirionedd. Yn sydyn iawn, mae gennych y pethau y mae pobl wedi bod yn sôn amdanynt, sef rhwydweithiau bwyd lleol lle mae'r wobr yn mynd i weithwyr yn y caeau ac i ffermwyr lleol ac i ffermydd cymunedol a dosbarthwyr lleol, ac yna rydych yn gyrru caffael lleol o'i gwmpas.
Os oes gennych hawl i fwyd da, yr hyn sydd gennych yw plant sy'n gadael yr ysgol wedi cael mwy na gwers neu ddwy ar sut i wneud pizzas ac yn y blaen, ac sy'n deall o ddifrif o ble y daw'r bwyd a sut i'w ddefnyddio, ac yna maent yn tyfu i fyny yn gallu defnyddio'r bwyd a'r cynnyrch sy'n dod o'r ardal o'u cwmpas, ac yn bwysig, byddwch yn datblygu diwylliant bwyd yma yng Nghymru sy'n wahanol iawn i rannau o'r diwylliant bwyd sydd gennym ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, rydym yn sgitsoffrenig braidd. Mae gennym beth o'r bwyd gorau yn y byd yma yng Nghymru, rhai o'r brandiau gorau, peth o'r cynnyrch lleol gorau, ac mae gennym y dull mecanyddol diwydiannol mawr hefyd. Nawr, os oes gennym yr hawl honno i fwyd, yr hyn y mae'n ei yrru yw balchder yn y bwyd lleol hwnnw, o ble y daw, a'r ffaith ei fod yn ymddangos ar eich bwrdd. Os edrychwch ar yr hyn a wnânt mewn lleoedd fel yr Eidal a Ffrainc, lleoedd fel yr Eidal—gogledd yr Eidal, o lle daw rhan o fy nheulu—mae'n gwbl sicr fod yn rhaid i'r bwyd a ddarperir ar fyrddau'r ysgol ac yn yr ysbytai ac yn y cyrff cyhoeddus fod yn fwyd ffres, lleol, heblaw lle nad oes modd ei ddarparu, ac felly gallant fynd i rywle arall. Mae wedi'i gynnwys yn y ddeddfwriaeth ac yn y blaen.
Felly, yr hyn y byddwn yn ei awgrymu yw bod rhan o hyn—caiff sylw yn rhan o brif gynnig Plaid Cymru, fe'i nodir ym mhrif gynnig y Llywodraeth hefyd—yn edrych ar beth yw'r weledigaeth gyffredin. Un peth y byddwn yn ei ddweud yn gryf iawn yw fy mod yn hoffi'r syniad sy'n sôn am ddod â ffermwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, cymdeithas sifil, ffermydd cymunedol, tyfwyr cymunedol at ei gilydd, fel ein bod yn gweld diwedd ar fwyd anfforddiadwy nad yw'n faethlon yn cael ei gludo o ben draw'r byd, bwyd sydd â phob math o ychwanegion ynddo, a'n bod yn datblygu gweledigaeth wahanol iawn ohono ac yna'n adeiladu ar hynny.
Hyn i gyd—a dyma fy mhwynt olaf—pe baem am wneud hyn, ac fe allem yng Nghymru, oherwydd rydym wedi dechrau gwneud rhannau ohono eisoes, fy mhryder i yw y gallai rhai o'r argymhellion ynghylch cynigion marchnad fewnol y DU a rhywfaint o'r diffyg eglurder ynghylch cyllid sydd i ddod i ni ar ôl yr UE lesteirio ein gallu i wneud hyn, oherwydd mae angen tipyn o arian yn y banc i wneud y math hwn o newid o ran y ffordd rydym yn defnyddio ein tir, yn gwobrwyo nwyddau cyhoeddus ar y tir, ac mae angen gallu arnoch hefyd i wneud pethau'n wahanol i wledydd eraill yn y DU i arwain y ffordd. Felly, rwy'n poeni ychydig ein bod ar fin cael ein tanseilio o ran ein gallu i greu patrwm gwahanol, ond fe allwn ei wneud yma yng Nghymru.
Mae cynigion y WWF yn dda iawn. Byddwn hefyd yn argymell y maniffesto bwyd i Gymru, sef agwedd dinasyddion tuag at ddatblygu bwyd, ac mae'n sôn am yr amgylchedd, y rôl rydym yn ei chwarae ar y llwyfan byd-eang yng Nghymru, y ffaith bod ffermwyr a thyfwyr yn ymateb i alw lleol, y ffaith bod y Llywodraeth yn cydnabod gwerth pwysigrwydd bwyd yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol, y rheini i gyd. Mae gennym y syniadau, os gallwn ddod â hwy at ei gilydd mewn gweledigaeth wedi'i chydgynhyrchu, bydd yn gyrru'r strategaethau hynny, ac os na wnawn hynny nawr am nad ydym yn credu bod gennym amser, gadewch inni ei wneud yn y Llywodraeth nesaf.
Y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i siarad, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl ar ran y Llywodraeth heddiw ac yn croesawu'r cyfraniadau niferus i'r adroddiad a welwyd yn y ddadl heddiw. Y mis diwethaf, cynhaliwyd sawl sesiwn fywiog ar bwnc bwyd yn ystod Wythnos Hinsawdd gyntaf Cymru, ac rydym wedi gweld ystod eang o gynigion yn ymwneud â bwyd yn cael eu cyflwyno yng ngwaith Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gychwyn camau gweithredu i gefnogi adferiad gwyrdd. Bydd angen cynghreiriau eang i greu atebion ar gyfer bwyd teg a chynaliadwy yng Nghymru er mwyn llywio strategaeth system fwyd newydd Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar ymgynghoriad y llynedd. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n agos ag unrhyw grŵp yng Nghymru sy'n dod at ei gilydd i geisio cyflawni'r nod hwnnw.
Mae sawl Aelod wedi cyfeirio at dlodi bwyd a'r defnydd a welsom o fanciau bwyd, yn enwedig yn ystod y pandemig, ac mae dewisiadau gwleidyddol a wnaed gan Lywodraeth y DU wedi tanseilio cadernid y system fwyd yma yng Nghymru, ac mae eu polisi diwygio wedi cynyddu'r defnydd o fanciau bwyd. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o gefnogi'r banciau bwyd hynny ochr yn ochr â chymunedau a busnesau ledled Cymru, yn enwedig y rhai a gafodd eu llethu gymaint yn ystod y pandemig, a lle roedd amheuaeth ynglŷn â'u gallu i ateb y galw.
Yr wythnos diwethaf, penderfynodd Llywodraeth y DU amddifadu Cymru o fwy na £200 miliwn o gyllid datblygu gwledig, gan aberthu incwm a rhagolygon ein cymunedau gwledig. Rwy'n cytuno â Janet Finch-Saunders, dylem gefnogi ein ffermwyr a'n heconomïau a'n cymuned wledig, ac rwy'n gobeithio y bydd hi a'i chyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yn ddigon dewr i ymuno â ni i alw am wrthdroi'r penderfyniad hwnnw.
Er gwaethaf y cyd-destun heriol hwn, gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau cynhyrchiant bwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru a dosbarthiad tecach o fanteision bwyd iach o ansawdd uchel y gall, ac y mae Cymru'n ei gynhyrchu. Ein hased cenedlaethol mwyaf pwerus wrth ymestyn cynhyrchiant a defnydd o fwyd i'r eithaf yng Nghymru yw ein ffermwyr, sy'n rheoli'r rhan fwyaf o'r tir yma yng Nghymru, ac fel y nododd yr Aelodau, byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn ar ddyfodol ffermio yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae rhai'n dadlau y dylem barhau â'r polisi taliadau sylfaenol o ran cymorth fferm, er nad yw wedi llwyddo i feithrin diwydiant neu amgylchedd amaethyddol gwydn, a dysgasom yr wythnos hon am gynlluniau Llywodraeth y DU lle na fydd angen dim mwy na'r safonau gofynnol isaf o reolaeth ar dir ar y lefel mynediad. Felly mae'n gynllun taliad sylfaenol mewn gwirionedd ym mhob dim ond enw.
Felly rydym yn dadlau nad yw'r cynigion hyn—a gwn eu bod yn cael eu cefnogi gan rai yn y Senedd—yn agos at fod yn ddigon. Nid ydynt yn dangos y difrifoldeb sydd ei angen i ateb heriau'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, ac nid oes ganddynt yr uchelgais sydd ei angen arnom i'n cynhyrchwyr bwyd gryfhau eu henw da rhyngwladol eithriadol mewn amgylcheddau masnachu heriol ac ansicr. Felly dyna pam, yn wahanol i rai, ein bod yn cynnig, nid parhau â chynllun y taliad sylfaenol, ond toriad radical, fel y nododd Huw Irranca-Davies, fel bod yr holl arian cyhoeddus a fuddsoddir yn y sector yn eu cynorthwyo i gyflawni mwy dros yr amgylchedd naturiol a gwneud eu busnesau fferm yn fwy cynhyrchiol a gwydn.
Rydym yn gweld enghreifftiau o arloesedd ym mhobman, ac fel Helen Mary Jones, eleni gwelais beiriant gwerthu llaeth am y tro cyntaf, allan yng ngorllewin Cymru. Credaf ei fod yn un gwahanol i'r un y cyfeiriodd ato, ond mae'n wych gweld y math hwnnw o arloesedd, yn enwedig gan ein ffermwyr ifanc ledled Cymru. Roedd yn agoriad llygad i weld ymdrechion busnesau bwyd yn ystod y pandemig, nid yn unig i ddod o hyd i ffyrdd dychmygus o barhau i fasnachu mewn ffyrdd sy'n ddiogel rhag COVID, ond hefyd i gyfrannu'n uniongyrchol at yr ymdrech i ymladd y feirws, darparu bwyd i'n gweithwyr allweddol a hyd yn oed addasu eu gweithgarwch at ddibenion gwahanol er mwyn cyfrannu cyflenwadau hanfodol eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £32 miliwn i gefnogi busnesau bwyd ers mis Mawrth. Lansiwyd ymgyrch Caru Cymru Caru Blas, a oedd yn cynnwys cannoedd o fusnesau'n dathlu cynnydd eithriadol y sector yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau cynnydd o 38 y cant yn y trosiant rhwng 2014 a 2020. Un o'r ffyrdd rydym wedi cefnogi twf y sector yw drwy sefydlu'r rhwydwaith clystyrau bwyd, y rhwydwaith mwyaf o'i fath yn y DU, sy'n cysylltu busnesau ar hyd pob rhan o'r gadwyn werth. Rydym wedi creu mentrau gwerthoedd brand cynaliadwy, i gryfhau unwaith eto ymrwymiad y sector i faterion amgylcheddol ac i les gweithwyr a gwaith teg. Ceir llawer o fusnesau bwyd yng Nghymru sy'n enghreifftiau o'r math o system fwyd sydd ei hangen arnom yng Nghymru: cadwyni cyflenwi lleol, gweithluoedd cynyddol fedrus ac amrywiol, sy'n cyfrannu cymaint mwy i'n cymdeithas na'r bwyd o ansawdd uchel y mae Cymru'n datblygu ei henw da rhyngwladol yn gynyddol am ei gynhyrchu.
Yn ogystal â newid yn y sectorau bwyd a ffermio, rydym hefyd am ddenu mwy o bobl i dyfu a rhannu bwyd yn eu cymuned leol, a chyfeiriodd Jenny Rathbone at y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i arddwriaeth. Mae gennym ddwy her gyda chyfnod pontio'r UE yn dod i ben a COVID-19, ond rydym wedi parhau i gefnogi pobl, oherwydd gwelsom gynnydd yn ystod y pandemig yn nifer y bobl sy'n ymddiddori mewn natur ar garreg eu drws. Ac rydym wedi cefnogi dros 100 o fentrau tyfu bwyd cymunedol, mawr a bach, i ehangu'r ddarpariaeth o fwyd cymunedol sy'n tyfu ym mhob rhan o Gymru.
Cyfeiriodd Llyr Huws Gruffydd at wastraff bwyd yn ei sylwadau agoriadol, a'r mis diwethaf cyhoeddais fuddsoddiad ychwanegol o £13 miliwn drwy ymestyn cronfa'r economi gylchol ymhellach, a bydd y cyllid hwnnw'n cefnogi datblygiad cyfleusterau canol y dref, sy'n rhan o ymgyrch ehangach tuag at fwy o ailddefnyddio ac atgyweirio. Byddwn yn parhau i weithio i ddargyfeirio bwyd o wastraff ac annog datblygu rhwydweithiau bwyd a rhannu sgiliau lleol. Mae'r prosiectau hyn, y ceir llawer o enghreifftiau ohonynt yng Nghymru eisoes, yn gwneud bwyd iach yn fwy hygyrch a fforddiadwy, gan hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, galluogi gweithredu ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol, adfywio canol trefi, adeiladu ar ein cyflawniad ailgylchu sy'n arwain y byd a lleihau effaith amgylcheddol ein bwyd. Felly mae'n bwysig iawn ein bod yn dwyn ynghyd y safbwyntiau a'r elfennau gwahanol niferus mewn perthynas â system fwyd Cymru, a dylai mesur llwyddiant gynnwys edrych ar sut y mae'r rhain wedyn yn trosi'n newid gwirioneddol ar lawr gwlad.
Mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn cael eu harwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i ffordd o weithio, ac mae'r Ddeddf a'r nodau llesiant wedi'u hymgorffori mewn ymgynghoriad a gawsom y llynedd. Ac mae'r ddogfen gweledigaeth a chenhadaeth yn mynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd yn ystod y ddadl hon. Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders hefyd at fwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru, ac maent wedi bod yn bartner allweddol wrth inni roi cymorth i'r sector bwyd a diod.
Felly mae'r system fwyd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei chefnogi yn un lle mae ein cymunedau'n chwarae mwy o ran yn y broses o'i llunio drostynt eu hunain. Mae angen newid er mwyn diogelu treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru a dosbarthu manteision yr amgylchedd naturiol cyfoethog yng Nghymru mewn ffordd sy'n decach nawr, heddiw, yn ogystal ag ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd yn awr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael trafodaeth adeiladol mewn ysbryd da, ond un sydd yn amlwg wedi tynnu sylw at nifer fawr o faterion sydd angen delio â nhw, a dwi'n falch iawn o'r cyfraniadau gan bawb.
Mi wnaf i jest ddelio â'r gwelliannau i ddechrau. Dwi'n ofni bod gwelliant y Llywodraeth wedi ein colli ni wrth gwrs ar ôl y ddau air cyntaf—sef 'dileu popeth'—sy'n biti, oherwydd, mae yna gymalau yn y gwelliant dwi'n cytuno yn llwyr â nhw, ond dwi ddim yn cytuno â nhw ar draul cynnig gwreiddiol Plaid Cymru, felly fyddwn ni ddim yn cefnogi hwnnw. Fydd hynny ddim yn syndod i'r Llywodraeth, dwi'n siŵr. Ond mae yna eironi hefyd fod y Llywodraeth yn gosod gwelliant yn galw ar y Llywodraeth i wneud rhai pethau, ond dyna ni; dyna yw natur y gwelliannau yma, am wn i.
Mi fyddwn ni'n hapus i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n iawn bod angen pwyslais ar gefnogi bwyd a diod lleol a cydnabod rôl twristiaeth a hefyd hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor—mae hynny wrth gwrs yn allweddol—ond mae yna eironi yn hynny o beth, wrth gwrs, fod y Ceidwadwyr ar un llaw yn galw am hyrwyddo bwyd a diod tramor, tra ar yr un pryd wedyn yn ein tynnu ni allan o'r farchnad dramor fwyaf sydd gennym ni. Ond dyna ni, mae ambell Aelod arall wedi cyfeirio at Brexit yng nghwrs y ddadl.
Mae Janet Finch-Saunders yn iawn; mae ffermwyr yn agored i gyfran anghymesur o risg o fewn y system fwyd, ond eto, pa gyfran o risg Brexit fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru ei hysgwyddo? Ond tynnodd sylw at alwadau am neilltuo 2 y cant o'r tir i arddwriaeth; rwy'n credu ei fod yn 0.1 y cant o gyfanswm arwynebedd ffermydd ar hyn o bryd. Ond unwaith eto, gwelsom 82 y cant yn fwy o alw am gynlluniau blychau bwyd y DU na'r hyn oedd ar gael yn ystod y pandemig diweddar, gyda rhestrau aros cyfartalog o 160 o bobl, felly mae gennym yr hinsawdd, mae gennym y pridd ffrwythlon, mae gennym agosrwydd at ardaloedd poblog iawn. Credaf fod potensial enfawr yn hyn, ac mae angen inni wneud mwy.
Cyfeiriodd Helen Mary Jones at enghraifft yr Hendy o werthu llaeth yn uniongyrchol. Mae'n debyg ei fod yn cyfateb i'r blwch llysiau ym maes cynnyrch llaeth, onid yw? Ac mae'n ymwneud â chadw'r bunt leol honno, a ddaeth â ni at gaffael cyhoeddus, a gwneuthum y gyfatebiaeth o'r blaen fod ein heconomi leol yn rhy aml fel bwced sy'n gollwng, gyda nifer o dyllau ynddo, lle mae'r holl werth lleol yn llifo allan o'r gymuned leol, ac mae angen inni lenwi'r tyllau hynny gystal ag y gallwn, ac yn sicr mae gan fwyd ran fawr i'w chwarae yn hynny.
Fe'n hatgoffwyd eto gan Jenny am Brexit hefyd, ac mae 96 y cant o allforion cig coch yn mynd i'r UE. Ac fe'n hatgoffwyd gan Kevin Roberts, cadeirydd Hybu Cig Cymru, yn y seminar y soniodd Janet amdani'n gynharach y byddai canlyniad 'dim cytundeb' yn golygu cwymp o 30 y cant yn y prisiau wrth gât y fferm. Felly, mae'r cyfan yn y fantol ac mae amser yn brin; 28, 29 diwrnod o nawr, ac nid ydym yn gwybod o hyd beth sydd o'n blaenau.
Diolch i Delyth hefyd. Mae'n ystadegyn llwm iawn, onid yw, fod traean o blant yn byw mewn tlodi? Gadewch i ni oedi a meddwl am hynny. Traean o blant yn byw mewn tlodi. Mae sicrhau bod ganddynt fwyd yn un peth, ond mae sicrhau bod ganddynt fwyd iach yn her arall ar ben hynny. Ac wrth iddi siarad, cefais fy atgoffa o erthygl yn y British Medical Journal ychydig flynyddoedd yn ôl yn rhybuddio bod yr argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf—yn amlwg heb wybod bod coronafeirws ar ei ffordd—ond gallai'r argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf yn hawdd ymwneud â maethiad plant. Yn y DU. Nawr mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym am y math o gymdeithas rydym yn byw ynddi ar hyn o bryd, onid yw, a'r math o her sydd o'n blaenau mewn perthynas â bwyd?
Huw, credaf eich bod wedi taro'r hoelen ar ei phen mewn gwirionedd: beth rydym yn ceisio'i gyflawni o'r system fwyd? Efallai na ddylai fod wedi cymryd 20 mlynedd o ddatganoli i ni ofyn y cwestiwn hwnnw i ni'n hunain, ond rydym yn ei ofyn, ac rydych yn iawn, fe gafwyd mentrau, ond efallai nad ydynt mor gynhwysfawr, ac nad ydym yn mynd ar eu trywydd mor frwd ag y dylem fod wedi gwneud. Wel, gadewch i'r ddadl heddiw nodi'r foment pan wnawn y penderfyniad hwnnw, pan wnawn yr addewid hwnnw i bobl Cymru, i'r traean o blant sy'n byw mewn tlodi, y byddwn yn mynd i'r afael â hynny. Ac os yw'n golygu hawl i fwyd da i bawb, boed hynny fel y bo: gadewch i ni wneud hynny. Gadewch i ni ei wneud. Ac rwy'n rhannu ei bryderon am effaith y Bil marchnad fewnol a chyllid ar ôl yr UE hefyd, a allai ein llesteirio, ond credaf fod angen inni fod yn fwy penderfynol a sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i gyflawni hyn.
Mae angen system fwyd ar Gymru sy'n cysylltu'r dotiau'n well rhwng yr holl wahanol agweddau y mae'r Aelodau wedi cyfeirio atynt heddiw. Mae'n dasg gymhleth; nid oes neb yn gwadu hynny. Nid yn unig fod angen dull gweithredu cydgysylltiedig o fewn y Llywodraeth—dull gweithredu mwy cydgysylltiedig o fewn y Llywodraeth—ond hefyd ym mhob rhan o'r system fwyd. Rwy'n credu y gallai comisiwn bwyd helpu i lunio hynny neu fynegi'r ffordd orau y gallem wneud i hynny ddigwydd, ond wrth gwrs, po gyntaf y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef, y cynharaf y gallwn ddod â mwy o fanteision cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, iechyd ac amgylcheddol i bobl Cymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Fe fyddwn ni nawr yn cymryd pum munud o doriad er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio. Toriad, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:00.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:05, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 02-20. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, naw yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-20: O blaid: 40, Yn erbyn: 1, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar y sector bwyd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, dau yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi cael ei wrthod.
Dadl Plaid Cymru: y sector bwyd - cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1, ac os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Dadl Plaid Cymru - gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2—. Na, ddim gwelliant 2, felly. Mae gwelliant 2 wedi cwympo. Felly, rŷn ni'n pleidleisio ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7495 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.
2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;
b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;
c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;
d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ailddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Dadl Plaid Cymru - cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. Bydd y ddadl fer yn dilyn nawr, mewn ychydig eiliadau.
Y ddadl fer, felly, sydd nesaf, ac mae dadl heddiw i'w chyflwyno gan Darren Millar ar fywyd gwyllt eiconig Cymru—helyntion y wiwer goch yng Nghymru. Dwi'n galw ar Darren Millar i gyflwyno'r pwnc.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Rhun ap Iorwerth.
Fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yma yn y Senedd, rwy'n falch o siarad am yr anifeiliaid anhygoel hyn, a diolch i Dduw fod Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi fy mharu â symbol mor annwyl ac eiconig o fywyd gwyllt Cymru. Gallaf gofio wynebau cyd-Aelodau wrth i'w rhywogaethau gael eu datgelu yn y Senedd yn ôl yn 2016. Cafwyd gwên gan Paul Davies wrth iddo gael ei benodi'n hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y pâl, rhyddhad gan Janet Finch-Saunders wrth iddi gael ei pharu â'r llamhidydd, y cegau agored wrth i Kirsty Williams gael ei pharu â'r brithyll brown, ac ymdeimlad o anghyfiawnder wrth i Jeremy Miles gael ei benodi'n hyrwyddwr y llyffant dafadennog.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ond mae bod yn hyrwyddwr rhywogaethau yn rhywbeth rwyf wedi bod o ddifrif yn ei gylch, ac i mi o leiaf, mae wedi cynnau diddordeb gwirioneddol yn nhrafferthion bywyd gwyllt Cymru. Yn fyd-eang, statws cadwraeth gwiwerod coch Ewrasiaidd yw 'dan ddim bygythiad' ond wrth gwrs, nid yw hyn yn wir yma yng Nghymru, oherwydd mae'r wiwer goch yn ffynnu mewn mannau eraill ledled Ewrop—mewn gwirionedd, mor bell i'r gorllewin â Sbaen, a'r holl ffordd draw i Siberia yn y dwyrain—ond yma yng Nghymru mae'r wiwer goch wedi bod dan fygythiad ers dros ganrif.
Fel yr unig rywogaeth o wiwer frodorol yng Nghymru, mae'r wiwer goch yn symbol eiconig o fywyd gwyllt Cymru a'n treftadaeth naturiol. Ers dros 10,000 o flynyddoedd, mae gwiwerod coch wedi poblogi'r mwyafrif llethol o ynysoedd Prydain. Mor ddiweddar â 1945, y wiwer goch oedd y rhywogaeth fwyaf ac amlycaf o wiwerod ym Mhrydain, gan gynnwys yma yng Nghymru, ac eto heddiw mae poblogaeth y wiwer wedi gostwng yn eithafol, ac mae dau brif reswm dros y dirywiad dychrynllyd hwn: colli cynefin a dyfodiad y wiwer lwyd i Brydain yn y 1800au. Ceir cofnodion ohonynt yn cael eu rhyddhau, gyda'r rhan fwyaf ohonynt o gasgliadau preifat neu anifeiliaid anwes, yn dyddio mor bell yn ôl â 1828, pan ryddhawyd un wiwer, mae'n debyg, ger Neuadd Llantysilio yn Sir Ddinbych. Mae cofnod hefyd o bum gwiwer o Woburn yn cael eu rhyddhau yn Wrecsam yn 1903, a nifer o Sw Llundain yn cael eu rhyddhau yn Aberdâr yn 1922. Ac o'r dechreuadau bach hyn, collodd gwiwerod coch dir yn gyflym i'w cefndryd Americanaidd mwy o faint a mwy ymosodol, gan na allent gystadlu am gynefin na bwyd. Ac ar ben hyn, daeth y gwiwerod llwyd â chlefyd—brech y wiwer. Profodd y clefyd cymharol ddiniwed hwn i wiwerod llwyd, a oedd wedi magu imiwnedd dros ddegau o filoedd o flynyddoedd, yn ddinistriol ac yn angheuol i'n gwiwerod coch brodorol, nad oes ganddynt imiwnedd naturiol i'r feirws, ac mae wedi lladd llawer.
Nid yw'n syndod, felly, fod y wiwer lwyd wedi cytrefu yng Nghymru i raddau helaeth erbyn y 1980au. Yn anhygoel, mae poblogaethau'r wiwer goch ym Mhrydain wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i boblogaeth gyfredol amcangyfrifedig o ddim ond 120,000. Wrth inni nesáu at ddiwedd y mileniwm, roedd yr unig wiwerod coch a oedd ar ôl yng Nghymru wedi'u cyfyngu i dri lle yn unig. Llwyddodd llai na 50 i oroesi ar Ynys Môn, roedd rhai cannoedd ar ôl yn Sir Ddinbych ac roedd rhai cannoedd wedi goroesi yn groes i'r disgwyl yng nghanolbarth Cymru hefyd. Erbyn diwedd y 1990au, bernid bod y canolfannau poblogaeth hyn mewn perygl sylweddol, a heb amheuaeth roedd dyfodol y wiwer goch yn llwm.
Ond mae rhywfaint o obaith. Yn 1998, dechreuodd y frwydr i'w chael yn ôl. Dechreuwyd yr ymdrechion cadwraeth cychwynnol ar Ynys Môn. Cawsant eu harwain gan Menter Môn gyda chyllid yr UE a grantiau treth tirlenwi yn ddiweddarach. Ac mae'n ddigon posibl mai Ynys Môn yw'r llwyddiant mwyaf calonogol i unrhyw gadwraethwr sy'n edrych ar droi'r llanw yn achos rhywogaethau sy'n dirywio. Pan ddechreuodd yr ymdrechion cadwraeth ar Ynys Môn, dim ond tua 40 o wiwerod oedd ar ôl ar yr ynys, ond oherwydd arweinyddiaeth Craig Shuttleworth ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, mae'r ymdrechion hyn wedi talu ar eu canfed. Gyda'i gilydd, heddiw, mae tua 800 o wiwerod coch ar yr ynys honno'n unig, ac mae'r boblogaeth mor fawr fel bod nifer o wiwerod coch wedi dianc o Ynys Môn hyd yn oed, gan groesi afon Menai, i ffurfio poblogaeth fechan yn ardal Bangor. Erbyn 2013, roedd yr holl wiwerod llwyd wedi cael eu symud o'r ynys, ac erbyn 2015 datganwyd ei fod yn barth di-wiwer lwyd. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw ymdrech gadwraeth, cafwyd rhai methiannau. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae saith gwiwer lwyd wedi'u dal ar yr ynys, a phe na bai'r gwiwerod hynny wedi'u dal gan y cadwraethwyr ymroddedig, byddai eu hymdrechion i amddiffyn ein cyfeillion blewog wedi cael eu difetha.
Rwy'n falch o allu dweud bod fy etholaeth i hefyd yn gartref i un o'r tair lloches ar gyfer gwiwerod coch yng Nghymru. Ar ddiwedd y 1990au, roedd coedwig Clocaenog yn Sir Ddinbych i'w gweld yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch yn y wlad. Ond erbyn 2011, daeth yn eithaf clir fod y niferoedd wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i boblogaeth gynyddol o wiwerod llwyd yn yr ardal. Roedd yn amlwg fod y wiwer goch yng nghoedwig Clocaenog dan fygythiad a bod rhaid gwneud rhywbeth.
Rwy'n falch o ddweud bod ymdrechion cadwraeth a arweiniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gefnogwyd gan Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru wedi gweld llwyddiant mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Drwy reoli coedwigoedd yn ofalus a thrwy ryddhau gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed i'r ardal i gryfhau'r boblogaeth frodorol, rydym wedi gweld adferiad araf a chyson yn nifer y gwiwerod coch yn yr ardal. Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog wedi helpu'r gwaith hwn, ac mae'n rhaid i mi ddatgan fy aelodaeth o'r ymddiriedolaeth honno. Mae wedi meithrin perthynas a phartneriaeth gref gyda CNC ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru er mwyn troi'r llanw ar ffawd yr anifeiliaid bendigedig hyn.
Y partneriaethau cryf hyn rhwng grwpiau cadwraeth, asiantaethau'r Llywodraeth a gwirfoddolwyr sydd wedi gosod glasbrint mor gadarn ar gyfer ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr niferus y cyfarfûm â hwy wrth ymweld â choedwig Clocaenog, gan gynnwys Chris Bamber, cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Dave Wilson a Vic Paine. Mae eu hymdrechion cadwraeth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Ac wrth gwrs, nid yw'r ymdrechion cadwraeth wedi'u cyfyngu i Ynys Môn nac i Sir Ddinbych. Maent hefyd ar y gweill yng nghoedwig Tywi yng nghanolbarth Cymru. Mae tua 300 o wiwerod coch bellach yn galw'r goedwig yn gartref iddynt, diolch i ymdrechion prosiect Red Squirrels United—rhaglen gadwraeth dair blynedd a ariennir gan gronfa dreftadaeth y loteri. Mae cymaint o waith wedi'i wneud i warchod ein poblogaeth o wiwerod coch, ond wrth gwrs, rydym ymhell iawn o fod wedi gorffen. Mae gan ddyfodol cadwraeth gwiwerod coch botensial i fod yn feiddgar ac yn fywiog—fel gwiwer o fywiog yn wir.
Yng ngogledd Cymru, mae'r prosiect Mamaliaid Hudolus ar fin dechrau. Prosiect pum mlynedd yw hwn sy'n cael ei ddatblygu i ddod â CNC, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru at ei gilydd i ffurfio ymdrech gadwraeth flaenllaw yn fy etholaeth i ac o'i hamgylch. Ond nid yw'r ymdrechion cadwraeth hyn wedi'u cyfyngu i goedwigoedd yn unig; mae'r gwaith yn mynd rhagddo mewn mannau eraill hefyd. Fel hyrwyddwr y wiwer goch ac yn noddwr balch ac aelod oes o Sw Mynydd Cymru, rwy'n hynod falch o raglen fridio'r wiwer goch sydd wedi'i lleoli ym Mae Colwyn. Yn 1989, dechreuodd y sw ei brosiect cadwraeth hiraf, sydd hyd heddiw yn ymrwymedig i warchod gwiwerod coch ar draws ynysoedd Prydain. A thrwy weithio ledled y DU, mae'r rhaglen fridio honno wedi arwain ymchwil hanfodol ar ailgyflwyno bywyd gwyllt ac effaith brech y wiwer. Chwaraeodd ein sw genedlaethol ran flaenllaw a chynnar yn y gwaith o ailgyflwyno rhan eiconig o fywyd gwyllt Cymru ar Ynys Môn ac yng Nghaeaenog, ac rwyf am achub ar y cyfle i dalu teyrnged i'r sw am yr holl waith cadwraeth y mae wedi'i wneud gyda gwiwerod coch, a rhywogaethau eraill yn wir, oherwydd nid oes amheuaeth, heb ein sw genedlaethol, byddai ein bywyd gwyllt yn llai amrywiol ac yn llai cyfoethog nag y mae.
Yn ogystal â'r rhaglenni bridio sy'n digwydd mewn caethiwed, mae dulliau cadwraeth eraill hefyd wedi bod yn llwyddiannus. Rhwng 2015 a 2017, rhyddhaodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent dros 50 o feleod ger Pontarfynach yng Ngheredigion. Fel ysglyfaethwr naturiol i'r wiwer lwyd, mae cyflwyno'r beleod wedi helpu i gadw'r boblogaeth o wiwerod llwyd i lawr a than reolaeth. Mae angen inni fabwysiadu ymdrech gadwraethol gyfannol o'r fath os yw poblogaeth y wiwer goch ledled Cymru a gweddill y DU i wella ymhellach. Yn ogystal â bygythiad gwiwerod llwyd, mae cwympo coed hefyd yn fygythiad hirdymor sylweddol i'n ffrindiau blewog. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, diolch byth, mae nifer o amddiffyniadau cyfreithiol gan y wiwer goch. Mae'n anghyfreithlon i ladd neu achosi anaf i wiwer goch yn fwriadol, mae'n anghyfreithlon i aflonyddu ar neu rwystro nythod gwiwerod sy'n cael eu defnyddio, ac wrth gwrs, mae'n anghyfreithlon i darfu ar wiwer tra mae yn ei nyth. Ac er bod croeso mawr i'r amddiffyniadau hyn, nid ydynt yn ddigon, oherwydd er bod y gyfraith yn diogelu coed unigol sy'n gartref i wiwerod rhag cael eu cwympo, nid yw'n diogelu'r cynefin cyfagos, sydd, wrth gwrs, yr un mor bwysig ar gyfer goroesiad hirdymor y rhywogaeth. Mae angen i reolwyr cynefinoedd coedwigoedd fod wrth wraidd yr ymdrech gadwraeth hon, ac er cymaint y mae CNC eisiau diogelu ein bywyd gwyllt, mae arnaf ofn nad oes ganddynt ddigon o bwerau ar hyn o bryd i allu gwneud hynny.
Fel y mae pethau, yr unig reswm y gall CNC wrthod trwydded cwympo coed yw am resymau'n ymwneud ag arferion rheoli coedwigoedd gwael. Nid yw'r gyfraith yn caniatáu i CNC wrthod trwydded, hyd yn oed os gwyddys y bydd y drwydded honno'n achosi niwed sylweddol i gynefin naturiol gwiwerod coch. A gwn, Weinidog, fod hyn yn rhywbeth rydym wedi gohebu arno yn y gorffennol mewn perthynas â'r trefniadau presennol hyn. Rwy'n eu hystyried yn anghywir, ac nid wyf yn credu eu bod yn adlewyrchu'r gwerth y mae pobl ledled Cymru yn ei roi ar ein bywyd gwyllt, ac ar y wiwer goch yn arbennig. Felly, rwy'n eich annog chi, a'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, i gyflwyno model trwyddedu gwahanol a fyddai'n caniatáu i CNC allu gwrthod trwyddedau cwympo coed sy'n cael effaith andwyol annerbyniol ar gynefin bywyd gwyllt. Mae hyn yn digwydd eisoes yn yr Alban, a chredaf fod hwnnw'n fodel y dylem ei fabwysiadu.
Ddirprwy Lywydd, mae trafferthion y wiwer goch, a rhywogaethau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, wedi mynd o dan y radar yn rhy hir. Heb y camau priodol i ddiogelu ein bywyd gwyllt yma yng Nghymru, mae perygl inni achosi niwed na ellir ei unioni i'n treftadaeth naturiol. Yma yng Nghymru, rydym wedi cael ein bendithio â chefn gwlad bendigedig a bywyd gwyllt gwych, a'n dyletswydd i genedlaethau'r dyfodol yw pasio'r cyfoeth toreithiog hwnnw a etifeddwyd gennym mewn gwell cyflwr nag y'i cawsom. Yng ngeiriau'r Prif Weinidog gwych, Margaret Thatcher,
Nid oes gan yr un genhedlaeth rydd-ddaliad ar y ddaear hon. Y cyfan sydd gennym yw tenantiaeth oes—gyda les atgyweirio lawn.
Ac rwyf am annog holl Aelodau'r Senedd, a Llywodraeth Cymru, i anrhydeddu'r denantiaeth oes honno. Ein dyletswydd yw diogelu ein hamgylchedd a chefnogi'r wiwer goch a bywyd gwyllt eiconig arall yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Darren Millar am gynnig y wiwer goch fel testun i'r ddadl yma. Fel rydyn ni wedi clywed, mae o'n anifail sy'n cael ei gysylltu'n agos iawn efo Ynys Môn. Mae o'n eicon yn Ynys Môn, ac mae'n werth i mi fod yn onest, dwi'n sensitif iawn ynglŷn â'r ffaith nad Aelod Ynys Môn gafodd ei ddewis i fod yn bencampwr y wiwer goch. Ond, yn digwydd bod, mae gennym ni sawl anifail eiconig yn Ynys Môn, felly dwi'n browd iawn o fod yn bencampwr y frân goesgoch, y chough. Felly edrych ar ôl y wiwer, Darren.
Ond mae yna bwyntiau pwysig iawn wedi cael eu gwneud yn fan hyn. Nid ar ddamwain mae'r wiwer goch wedi cael ei achub. Mae wedi cael ei achub drwy waith caled. Dwi'n ddiolchgar i Craig Shuttleworth a'i dimau o gadwraethwyr, a dwi'n ddiolchgar i Menter Môn, ond mae angen gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu dyfodol y wiwer hefyd, mewn deddfwriaeth lle mae hynny'n bosib, a drwy sicrhau cyllid ar gyfer gwaith parhaol mewn blynyddoedd i ddod. Ond diolch am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau, a dwi'n edrych ymlaen am sicrwydd o'r gefnogaeth yna i barhau gan y Gweinidog heddiw.
Galwaf yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i Darren Millar am ddewis y pwnc hwn ar gyfer ei ddadl fer, a Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad. Nid wyf am fynd i ddadlau pwy sy'n hyrwyddo pa rywogaethau, ond rwy'n credu y byddai'r frân goesgoch hefyd yn destun da ar gyfer dadl fer.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y wiwer goch wrth gwrs fel eicon yn ein cefn gwlad, ac yn anffodus, fel symbol o golli ein bioamrywiaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf. Fel y dengys yr adroddiad 'Cyflwr Mamaliaid', a lansiais yr wythnos diwethaf, mae traean o'n mamaliaid brodorol mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae hynny'n cynnwys colledion parhaus llawer o'n rhywogaethau mwyaf eiconig, megis y wiwer goch. Fodd bynnag, mae ymyriadau lleol wedi troi'r llanw mewn rhai lleoliadau, lle mae poblogaethau lleol yn gwella, gan ddefnyddio dulliau sydd bellach wedi'u profi. Fel y nodwyd, y bygythiad allweddol i'r wiwer goch yw clefyd feirysol a elwir yn frech y wiwer, ac nid yw'n gwneud fawr o niwed i'r gwiwerod llwyd goresgynnol anfrodorol, ond fel arfer mae'n angheuol i wiwerod coch. Gall gwiwerod llwyd heintio gwiwerod coch yn hawdd lle daw poblogaethau i gysylltiad â'i gilydd.
Cynefin naturiol gwiwerod coch yw coetir collddail brodorol Cymru. Fodd bynnag, mae llawer ohono wedi'i boblogi'n drwm yn awr gan wiwerod llwyd. Maent yn niweidio coed gan eu gwneud yn fwy agored i glefydau, ac felly maent yn fygythiad difrifol i'n coetiroedd brodorol a masnachol, gan leihau eu gallu i adfywio a'u gwerth fel cynefin, a hefyd ar gyfer pren. Mae planhigfeydd conwydd anfrodorol yn ffafrio gwiwerod coch dros rai llwyd, ond mae'r rhain yn niweidiol i lawer o agweddau eraill ar gadwraeth natur, gan gynnwys ansawdd y dŵr yn ein hafonydd sy'n cael eu bwydo o ardaloedd conwydd. Mae poblogaeth y wiwer goch ar Ynys Môn yn gwella'n gryf, ac mae unigolion bellach yn lledaenu i dir mawr Cymru, a hefyd yn gwasgaru drwy Arfon. Diolch yn bennaf i ymdrechion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Cymru, sydd wedi cael gwared ar wiwerod llwyd i raddau sylweddol o goedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, coedwig gonwydd yn bennaf, ac wedi atgyfnerthu poblogaeth weddilliol y wiwer goch drwy gyflwyno gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed o fannau eraill. Yn dilyn amrywiaeth o weithrediadau ar y tir mawr i reoli gwiwerod llwyd, mae gwiwerod coch o Ynys Môn bellach yn gwasgaru i'r coedwigoedd ar y tir mawr. Ac ymhellach i'r de, o dan stiwardiaeth Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, mae poblogaeth y wiwer goch yng nghanolbarth Cymru, a oedd i'w gweld yn agos at ddiflannu, hefyd wedi sefydlogi ac o bosibl yn cynyddu.
Derbyniodd y prosiect Cochion Iach tair blynedd o hyd presennol ychydig o dan £0.25 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac ychydig o dan £50,000 drwy gynllun cymunedol treth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru i barhau â'r nod o fonitro poblogaethau o wiwerod coch a chodi ymwybyddiaeth. Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn cryfhau niferoedd isel yn y goedwig drwy ryddhau gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed. Fe'u cefnogir gan Sw Mynydd Cymru, a cheir rhywfaint o dystiolaeth gynnar fod gwiwerod coch o Glocaenog yn gwasgaru i'r dirwedd ehangach. Mae rheoli gwiwerod llwyd yn hanfodol ar gyfer iechyd gwiwerod coch a'u cynefin naturiol brodorol. Fodd bynnag, mae gweithgarwch rheoli yn amhoblogaidd ymhlith rhai pobl sy'n caru anifeiliaid, gan eu bod yn cynnwys trapio a difa gwiwerod llwyd. Nid yw gwiwerod llwyd yn cael eu saethu gan sefydliadau cadwraeth neu sefydliadau coedwigaeth mawr, ond mae'n hysbys fod nifer o unigolion yn defnyddio'r dull hwn, yn bennaf ar gyfer diogelu pren. Mae beleod yn ysglyfaethwyr apig cyffredinol y gwyddys eu bod yn lleihau poblogaethau gwiwerod llwyd, ac mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent wedi llwyddo i ailgyflwyno nifer o feleod i ganolbarth Cymru. Gall y gostyngiad dilynol yn nifer y gwiwerod llwyd greu cyfleoedd i'r wiwer goch ailgytrefu'n naturiol neu gael ei hailgyflwyno. Trafodwyd camau pellach i fridio gwiwerod coch mewn caethiwed yn fforwm gwiwerod diwethaf Cymru, ar 7 Hydref. Anogodd fy swyddogion Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ac aelodau eraill o'r fforwm i lunio cynigion, gan gynnwys nodi safleoedd rhyddhau posibl ymhellach i'r de, yn dilyn protocol bridio a thrawsleoli Cytundeb Gwiwerod y DU. Er nad oes cynnig wedi dod i law eto, rwy'n deall ei fod ar y gweill.
Drwy gydol y pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i flaenoriaethu camau gweithredu i gefnogi creu rhwydweithiau ecolegol gwydn a fydd o fudd i amrywiaeth o rywogaethau, fel y nodir yn y diweddariad o'r cynllun gweithredu adfer natur ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn darparu mwy o gynefinoedd wedi'u cysylltu'n well er mwyn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys gwiwerod coch a mamaliaid eraill. Ac rydym wedi lansio cynllun grant, sy'n canolbwyntio ar gamau gweithredu i helpu i adfer ein cynefinoedd pwysicaf, a rhwydwaith Natura 2000, a sefydlwyd i sicrhau bod ein cynefinoedd a'n rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn goroesi'n hirdymor. Bydd ein rhaglen fforest genedlaethol yn creu ac yn gwella coetiroedd ledled Cymru, gan helpu unwaith eto i wella a chysylltu coetiroedd a chynefinoedd eraill. Bydd hyn hefyd yn galluogi gwiwerod coch i wasgaru i ardaloedd newydd, ac yn mynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â darnio cynefinoedd a phoblogaethau. Fodd bynnag, mae angen inni wneud mwy i wella ein tystiolaeth a'n dealltwriaeth, a sefydlu camau trawsnewidiol ar gyfer bioamrywiaeth ar draws pob sector. I'n helpu gyda hyn, bydd gan y bartneriaeth Natur am Byth a sefydlwyd yn ddiweddar, partneriaeth rwy'n ei chefnogi, raglen gyfathrebu ar raddfa fawr a fydd yn dathlu ystod eang o rywogaethau prin a bregus ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'n werth nodi na fydd y prosiect yn cynnwys y wiwer goch yn ei restr o tua 70 o rywogaethau targed oherwydd y cyfoeth o bartneriaethau a mentrau, y clywsom am rai ohonynt heddiw, sy'n bwrw ati i weithredu dros y rhywogaeth hon yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:28.