Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
26/08/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:33 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i adalw'r Senedd o dan Reol Sefydlog 34.9. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma.
Yr eitem gyntaf, felly, ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r datganiad ar y coronafeirws gan y Prif Weinidog, felly dwi'n galw ar y Prif Weinidog.
Llywydd, diolch yn fawr. Yn fy natganiad heddiw byddaf yn diweddaru Aelodau am y rheoliadau coronafeirws yng Nghymru ac am ddatblygiadau eraill pwysig a welwyd dros y dair wythnos diwethaf.
Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaraf o'r cyfyngiadau yr wythnos diwethaf, ac fe gyhoeddais ein penderfyniadau yn sgil yr arolwg hwnnw ddydd Gwener. O ran lledaeniad y coronafeirws, rwy'n falch o allu dweud bod y feirws yn parhau i gael ei atal yn effeithiol yng Nghymru. Ond er y datblygiadau calonogol hyn, rhaid inni barhau i fod yn ofalus.
Ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf ar 5 Awst, gwnaed cyhoeddiadau pwysig yn ymwneud â chanlyniadau arholiadau, cefnogaeth ar gyfer llywodraeth leol a'r sector amaeth, a sefydlu cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol.
Llywydd, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu rheoliadau'r coronafeirws bob tair wythnos. Y prynhawn yma, byddaf yn amlinellu'r cyd-destun iechyd cyhoeddus y cynhaliwyd yr adolygiad hwnnw oddi mewn iddo ar gyfer yr Aelodau a chrynhoi'r newidiadau allweddol a wnaed i reoliadau.
Mae'r broses adolygu bob amser yn dechrau drwy ddwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf am gyflwr COVID-19 yng Nghymru. Ers codi cyfyngiadau'r coronafeirws yn ofalus am y tro cyntaf ym mis Mai, rwyf wedi gallu adrodd am ostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o'r feirws a'r gallu dilynol i leihau'r cyfyngiadau ymhellach. Rwy'n falch o adrodd bod y patrwm hwn yn amlwg unwaith eto yr wythnos diwethaf. Gostyngodd nifer y bobl yn yr ysbyty o ganlyniad i'r clefyd yn is na 200 am y tro cyntaf. Ni nodwyd unrhyw farwolaethau ar bum diwrnod yn olynol. Arhosodd nifer yr heintiau dyddiol a'r gyfradd gadarnhaol yn isel yng Nghymru.
Fodd bynnag, fel y gŵyr yr Aelodau, mae cyd-destun ehangach y DU wedi bod yn fwy heriol, gyda niferoedd yn cynyddu a chyfyngiadau wedi'u hailosod ar draws ynys Iwerddon ac yn yr Alban a Lloegr. Y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau i'w gwneud yn ofynnol i unigolion yn dychwelyd i Gymru o Croatia, Awstria, a Thrinidad a Tobago o 4.00 a.m. ddydd Sadwrn 22 Awst roi eu hunain o dan gwarantin. Ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, roedd yr un gofynion yn gymwys i'r rhai yn dychwelyd o Ffrainc a'r Iseldiroedd o ddydd Sadwrn 15 Awst.
Diben hyn i gyd, Llywydd, yw dim ond bod yn glir na ellir cymryd y sefyllfa a wynebwyd yng Nghymru yr wythnos diwethaf yn ganiataol. Yn sicr, nid yw Cymru'n ddiogel rhag achosion o anhawster mewn mannau eraill. Yn wir, rydym eisoes wedi wynebu cynnydd sydyn mewn heintiau mewn gwahanol rannau o Gymru ers i fesurau cyfyngiadau symud gael eu llacio. Hyd yn hyn, mae'r rhain wedi cael eu hatal i bob pwrpas drwy lwyddiant ein system profi, olrhain, diogelu. Bydd Aelodau wedi gweld y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf. Maen nhw'n cadarnhau, ers cychwyn y rhaglen y cysylltwyd â 90 y cant o'r holl achosion cymwys yng Nghymru, a 90 y cant o'u cysylltiadau, yn eu tro, yn cael eu holrhain yn llwyddiannus. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd £32 miliwn ychwanegol i gryfhau ein system brofi ymhellach eto i fynd i'r afael â'r galwadau ychwanegol y gwyddom y byddan nhw'n dod pan ddaw y gaeaf.
Llywydd, mae hyn i gyd yn ein gwneud yn ffyddiog y gellir cymryd camau lleol yn effeithiol i ymateb i achosion o'r feirws yng Nghymru. Mae'r cynllun rheoli'r coronafeirws, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf, yn nodi'r ffyrdd ymarferol y gellir parhau i gyflawni hynny. Mae cyfraniad llywodraeth leol i'r cynllun yn ganolog, ac, ar 10 Awst, cytunodd fy nghyd-Aelod Julie James ar swm ychwanegol arall o £264 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon. Bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
O hyn i gyd, gobeithiaf y bydd gan gyd-Aelodau ymdeimlad o'r gwaith cydbwyso sy'n sail i'r penderfyniadau a wnaed ar ddiwedd y cyfnod tair wythnos diwethaf. Cafodd hyn ei grynhoi gan y prif swyddog meddygol yn y cyngor y mae'n ei roi i'r Llywodraeth ac a gyhoeddir gennym yn rhan o'r broses honno. Dywedodd Dr Atherton:
'Ymddengys fod y cyfraddau trosglwyddo yng Nghymru'n parhau'n isel a sefydlog ond rwy'n dal yn bryderus ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion yng ngwledydd eraill y DU, yn Ewrop ac yn rhannau eraill y byd.'
Mae hyn yn fy arwain:
'i gredu mai ychydig iawn o le sydd gennym ar gyfer rhagor o lacio ar hyn o bryd'
ac:
'mae hyn yn bwysig o gofio'n cynlluniau i ailagor ysgolion cyn hir; symudiad a ddylai gael blaenoriaeth uchel iawn yng Nghymru.'
Wel, Llywydd, yn sgil y cyngor hwnnw gan y prif swyddog meddygol, penderfynodd y Cabinet yr wythnos diwethaf i gadw'r rhan fwyaf o'r hyblygrwydd sydd ar gael i ni i helpu i ailagor ysgolion yng Nghymru yn ddiogel ac yn llwyddiannus o 1 Medi ymlaen, gan adeiladu ar ein profiad llwyddiannus o gael ysgolion yn agored yng Nghymru ym mis Mehefin a mis Gorffennaf. Bydd yr Aelodau wedi gweld y datganiad ar y cyd dilynol rhwng—[Anghlywadwy.]
Ai fi yw'r unig un nad yw'n clywed y Prif Weinidog? Na, nid fi yw'r unig un. Ymddengys ein bod wedi colli'r cysylltiad â'r Prif Weinidog. Gallaf weld bod y Gweinidog iechyd yn mynd i chwilio am y Prif Weinidog. Fe wnawn ni oedi am ychydig eiliadau.
Mae'r Prif Weinidog bellach ar gyfrifiadur y Gweinidog iechyd. A ellir ei ddad-dawelu? Gellir. Prif Weinidog, a allwch chi ein clywed ni?
Gallaf. Diolch ac ymddiheuriadau am y problemau technegol parhaus hyn. Roeddwn i newydd grynhoi cyngor y prif swyddog meddygol ac eglurais i'r Aelodau sut yr oedd y Cabinet, gan ystyried y cyngor hwnnw, wedi penderfynu defnyddio'r hyblygrwydd sydd gennym ni yng Nghymru i ganolbwyntio ar ailagor ysgolion yng Nghymru yn ddiogel ac yn llwyddiannus o 1 Medi ymlaen.
Yn ogystal â'r mesurau hynny, cafodd y mesurau llacio canlynol eu cynnwys hefyd yn adolygiad yr wythnos diwethaf o'r rheoliadau: o ddydd Sadwrn diwethaf, mae hyd at bedair aelwyd yn cael dod at ei gilydd i ffurfio un aelwyd estynedig, gan ddod ag ystod ehangach o deulu a ffrindiau ynghyd; o'r un diwrnod, mae pryd o fwyd mewn lleoliad dan do a reoleiddir ar gyfer hyd at 30 o bobl nawr yn bosibl i'r rhai sy'n dathlu priodas neu bartneriaeth sifil neu'n nodi angladd; o ddydd Sadwrn nesaf, 29 Awst, ar yr amod bod y feirws yn parhau i gael ei atal yn effeithiol, bydd ymweliadau dan do mewn cartrefi gofal hefyd yn bosibl unwaith eto. Bydd yn rhaid i amodau caeth fod ynghlwm wrth y datblygiad hwn, o ystyried y risgiau dan sylw, ac rwy'n ddiolchgar i swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn ac i Fforwm Gofal Cymru am gymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu'r canllawiau angenrheidiol. Bydd casinos yng Nghymru hefyd yn cael ailagor o ddydd Sadwrn nesaf ymlaen, yn amodol ar y gyfres o fesurau lliniaru sydd bellach yn gyfarwydd.
Yn olaf, dros y tair wythnos hyn, Llywydd, byddwn yn treialu tyrfaoedd yn yr awyr agored ar gyfer digwyddiadau ym meysydd y celfyddydau a chwaraeon, gan ddod â hyd at 100 o bobl ynghyd. Fel bob tro, yng Nghymru, dull gweithredu'r Llywodraeth fu cynllunio, treialu ac yna, os yn bosibl, ymestyn y rhyddid y gallwn ei adfer. Cyn belled â bod y digwyddiadau arbrofol yn llwyddiannus a bod y feirws yn parhau i gael ei atal, ein nod fydd ehangu ymgynnull yn awyr agored o'r math hwn yn fwy cyffredinol yn y dyfodol.
Fel yn y cylchoedd blaenorol, byddwn hefyd yn defnyddio'r tair wythnos bresennol i edrych ymlaen. Byddwn yn ystyried galwedigaethau sy'n digwydd o fewn aelwydydd unigol, megis gwersi cerddoriaeth. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gellid cynnal cyfarfodydd bach dan do, er enghraifft, mewn canolfannau cymunedol at ddibenion megis dosbarthiadau colli pwysau a chlybiau llyfrau. A byddwn yn dysgu o gynlluniau treialu sy'n digwydd mewn mannau eraill mewn chwaraeon proffesiynol, wrth i ni barhau i weithio gyda'r sector digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Llywydd, fel y dywedais yn gynharach, nid yw argyfwng y coronafeirws wedi diflannu. Bydd y misoedd i ddod yn gosod llawer o heriau. Er y gall y Llywodraeth gynllunio, paratoi a darparu, gweithredoedd pob un ohonom ni, dinasyddion unigol, sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae'r mwyafrif sylweddol o bobl yng Nghymru yn parhau i ymddwyn yn ofalus iawn er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Mae lleiafrif bach nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Mae eu gweithredoedd yn achosi niwed y gellir ei osgoi. Maen nhw'n ychwanegu at y pwysau a deimlir gan ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau ac maen nhw'n tanseilio popeth y mae pawb arall wedi gweithio mor galed i'w gyflawni. Wrth i ni fynd i mewn i gyfnod mwy heriol yr hydref a'r gaeaf, mae angen i bawb yng Nghymru chwarae eu rhan i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch yn fawr.
Diolch, Prif Weinidog. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch. Prif Weinidog, mae profi wedi bod yn nodwedd allweddol o'r ymateb i'r pandemig coronafeirws yn fyd-eang. Pythefnos yn ôl, sicrhaodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Iâl gymeradwyaeth frys Y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau ar gyfer eu prawf COVID-19 sy'n seiliedig ar boer. Nawr, mae dwy brif fantais i brawf poer: mae'n llai mewnwthiol, ac eto'n debyg o ran cywirdeb i'r prawf presennol; ac mae'n costio cyn lleied â £1 y sampl. Felly mae hynny'n golygu, nawr, am y tro cyntaf, fod gennym ni ffordd syml, gyflym a rhad o gynnal profion torfol rheolaidd ar y boblogaeth. Hyd yn oed yn fwy cyffrous yw'r prawf papur a ddatblygwyd gan Brifysgol Harvard sy'n gallu rhoi canlyniadau mewn munudau ac y gellir ei wneud gartref heb orfod ei anfon i labordy. Profion yw'r rhain sydd wedi'u cynllunio'n arbennig i ganfod pobl sy'n heintus. Fel y mae'r epidemiolegydd Michael Mina wedi ei ddyfynnu'n eithaf lliwgar, mae'r adran dân eisiau canfod rhywun yn cerdded y strydoedd gyda gwn fflam, nid rhywun sy'n tanio matsien yn ei dŷ. Gallai profion torfol arferol ar bawb yng Nghymru unwaith yr wythnos fod yn gwbl drawsnewidiol, ond eto'n fforddiadwy iawn, yn enwedig pan fyddwn yn ei gymharu â chostau cymdeithasol ac economaidd parhaus cyfyngiadau symud. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i edrych i mewn i'r posibilrwydd newydd cyffrous hwn?
Wel, Llywydd, gallaf sicrhau Mr Price a'r Aelodau eraill bod Llywodraeth Cymru yn parhau i edrych i mewn i'r holl bosibiliadau hyn. Rydym yn cymryd rhan mewn arbrofion yma yng Nghymru sy'n ymwneud â nifer o brofion antigen a allai ddarparu canlyniadau'n gyflymach o lawer na'r ystod bresennol o brofion, ond gwneud hynny mewn ffordd sydd, fel y dywedodd Adam Price, Llywydd, yn debyg o ran cywirdeb i'r drefn brofi sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Mae Adam Price yn iawn, Llywydd, i dynnu sylw at y ffaith fod llawer o wahanol bosibiliadau yn dod i'r amlwg yn y maes hwn. Mae'n ddyfarniad pwysig i'r Llywodraeth ei wneud wrth benderfynu pa un i'w gymeradwyo, a pheidio â gwario llawer o arian ar bosibilrwydd sy'n cael ei oddiweddyd yn gyflym gan rywbeth sy'n dod i'r amlwg yn rhywle arall, a dyna pam yr wyf i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Mr Price am sicrhau ein bod yn parhau i sganio'r holl wahanol bosibiliadau hyn. Pa un bynnag a fydd, yn y pen draw, y mwyaf addawol, bydd yn bwysig iawn ei fod yn cael cymeradwyaeth reoleiddiol briodol yma yn y Deyrnas Unedig, fel y gall dinasyddion fod yn ffyddiog bod y prawf y gofynnir iddyn nhw ei ddefnyddio yn destun craffu dilys, bod ei ddiogelwch yn gadarn, y gellir dibynnu ar y canlyniadau y mae'n eu darparu ac, wrth gwrs, o safbwynt economi Cymru, pan fyddwn yn y sefyllfa honno ac yn gallu profi pobl yn gyflym, yn gywir ac yn ddiogel, yna bydd yn sicr o gael effaith gadarnhaol o ran pa mor gyflym y gellir ailagor yr economi.
Prif Weinidog, mae'r cyfyngiadau symud wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cael cartref diogel. Mae Shelter Cymru yn amcangyfrif bod 42 y cant o denantiaid preifat yng Nghymru yn agored i gael eu troi allan heb fai, ac fe addawsoch chi yn eich anerchiad yng nghynhadledd y llynedd y byddech yn gwahardd hyn. Hefyd, wrth gwrs, yn sgil y pandemig, amcangyfrifir bod 40 y cant o rentwyr yng Nghymru ar ei hôl hi o ran talu eu rhent. Wrth gwrs, byddai gadael pobl yn ddigartref ar unrhyw adeg yn anfaddeuol, ond byddai gwneud hynny yng nghanol pandemig byd-eang yn arbennig o niweidiol. Yn yr Alban, bydd estyniad o chwe mis i'r gwaharddiad ar droi rhentwyr allan yng nghanol pandemig COVID-19, ac eto yng Nghymru, ar hyn o bryd, nid oes ymrwymiad tebyg, er bod Shelter yn galw am estyniad. A gaf i annog Llywodraeth Cymru i wneud dau beth: yn gyntaf, ymestyn y gwaharddiad ar droi allan, beth bynnag yw amgylchiadau'r tenantiaid, tan fydd y pandemig ar ben, ac, yn ail, efelychu dull yr Alban a deddfu i roi terfyn ar droi allan heb fai yn gyfan gwbl, fel mai dim ond oherwydd ymddygiad annerbyniol neu anghyfreithlon, mewn cyfnod arferol, y ceir troi tenant allan?
Llywydd, gadewch imi ddechrau drwy ddweud y bydd yr Aelod yn ymwybodol o bopeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ymdrin â sefyllfa pobl ddigartref ar ddechrau argyfwng y coronafeirws a'r llwyddiant rhyfeddol y mae awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector wedi ei gael o ran gallu ymateb i anghenion tai'r rhai hynny sydd yn y sefyllfa anoddaf. Ac, wrth gwrs, nid ydym ni eisiau gweld y bobl hynny, nac eraill mewn mathau eraill o ddeiliadaeth, dan fygythiad o ddigartrefedd yma yng Nghymru; mae mwy nag un ffordd i fynd i'r afael â'r broblem hon. Bydd Adam Price yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cyfnod rhybudd i chwe mis yma yng Nghymru, sydd mewn sawl ffordd ymarferol yn cael yr un effaith â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth yr Alban; mae mwy nag un llwybr i ddatrys y broblem. Rydym yn cytuno bod angen datrys y broblem, ac rydym ni eisoes wedi cymryd rhai camau yma yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i'r Senedd yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn. Bydd yn ymdrin â'r achosion gwaethaf o droi allan heb fai sy'n amlygu eu hunain, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gyflwyno deddfwriaeth ychwanegol, os byddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny, yn nhymor nesaf y Senedd i gwblhau'r gwaith hwnnw. Ac edrychaf ymlaen at gefnogaeth plaid yr Aelod i sicrhau, o dan yr amgylchiadau heriol iawn y mae'r Senedd yn ogystal â Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth graffu ar ddeddfwriaeth yn ystod y misoedd sydd ar ôl o'r tymor hwn, ein bod yn gweithredu gyda'n gilydd i roi'r ddeddfwriaeth honno ar y llyfr statud er mwyn darparu amddiffyniadau i bobl a fyddai fel arall yn canfod eu hunain yn cael eu troi allan heb fai.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i ni nesáu at ddiwedd y mis hwn, bydd cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan Llywodraeth y DU yn dod i ben, cynllun sydd wedi cael ei groesawu gan bawb yn y diwydiant lletygarwch ac sydd wedi helpu i gefnogi busnesau a chadw busnesau ar agor ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Wrth gwrs, wrth i ni fynd i mewn i fisoedd yr hydref a'r gaeaf, mae'n hanfodol bod cefnogaeth o hyd i fusnesau lletygarwch ledled Cymru, yn enwedig gan y bydd llawer yn wynebu llai o werthiannau wrth i deuluoedd ddychwelyd i'r gwaith a phlant yn dychwelyd i'r ysgol. Prif Weinidog, mae'n ddigon posibl y bydd diwydiant lletygarwch Cymru yn ei chael hi'n anodd ac yn gorfod ystyried gwneud penderfyniadau anodd, ac efallai bydd ei weithwyr yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o gael eu diswyddo.
Gwyddom eisoes o arolwg diweddaraf Llywodraeth Cymru fod gan ddwy ran o dair o fusnesau twristiaeth aelodau staff ar ffyrlo o hyd, ac nad yw hanner y busnesau'n gweithredu'n llawn eto. Yn wir, nid yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn helpu'r diwydiant wrth ddweud wrth bobl y dylai rhai mathau o gymdeithasu traddodiadol fod yn perthyn i'r gorffennol, ar adeg pan fo cynifer o fusnesau a swyddi'n dibynnu ar gwsmeriaid yn dod drwy eu drysau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa strategaeth sydd gan Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer cefnogi diwydiant lletygarwch Cymru dros y tymor byr ac, yn wir, y tymor canolig? Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni pa gyllid ychwanegol a fydd ar gael i'r sector lletygarwch i helpu i gefnogi busnesau a swyddi dros yr ychydig fisoedd nesaf?
Llywydd, rwy'n cytuno ynghylch pwysigrwydd y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu gweithio'n agos gyda'r diwydiant wrth iddo ailagor yn ddiogel ac, rwy'n credu, ar y cyfan, yn llwyddiannus yng Nghymru. Gwn fod llawer o fusnesau a oedd wedi cael cyfnod heriol iawn yn rhan gyntaf y flwyddyn wedi gallu manteisio ar fusnes sydd wedi dod i'w rhan yn y cyfnod ers i'r cyfyngiadau ar y diwydiant gael eu codi.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywed arweinydd yr wrthblaid am yr heriau sydd eto i ddod. Disgwyliwn i Lywodraeth y DU beidio â dod â'i chynllun ffyrlo i ben yn ddisymwth. Mae angen cymorth parhaus; cymorth wedi'i dargedu, nid parhad y cynllun fel y'i rhagwelwyd yn wreiddiol, ond lle ceir diwydiannau na allan nhw ailddechrau fel y byddai wedi bod yn bosibl o'r blaen, yna mae mwy o gymorth gan Lywodraeth y DU yn bwysig.
Byddwn yn parhau i gefnogi'r diwydiant i ymestyn y tymor yma yng Nghymru. Dyna un o'r ffyrdd y gallwn ni helpu'r diwydiant i oroesi drwy'r flwyddyn anodd iawn hon. Ar ôl bod ar eu colled ar ddechrau'r tymor, bydd unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i berswadio pobl i barhau i ymweld a pharhau i gymryd gwyliau yn y Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru yn benodol, drwy fis Medi ac i mewn i fis Hydref, ac ymestyn y tymor mewn ffyrdd eraill hefyd, yn fy marn i, yn rhan o fformiwla y bydd y diwydiant yn ei datblygu ochr yn ochr â'r Llywodraeth, er mwyn gallu pontio rhwng yr amgylchiadau anodd iawn eleni a'r hyn a fydd yn bosibl, gobeithio, ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod ei fod yn gwneud camgymeriad mawr, yn fy marn i, wrth feirniadu'r hyn a ddywedwyd gan fy nghyd-Aelod Vaughan Gething. Dim ond cyfeirio at y dystiolaeth sydd gennym ni yng Nghymru am achosion o coronafeirws yn codi'n sydyn sy'n cael eu hachosi gan ymddygiad pobl mewn lleoliadau lle mae eu cyfyngiadau arferol a'u hymddygiadau da arferol o ran atal coronafeirws yn diflannu. Nid yw hynny er budd y sector lletygarwch ac yn sicr nid yw er budd iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a chafodd y rhybuddion eu mynegi'n dda iawn a dylid yn sicr gwrando arnynt .
Wrth gwrs, er bod nifer yr achosion yng Nghymru yn parhau'n gymharol isel, fel y cyfeiriwch yn eich datganiad, Prif Weinidog, mae'n rhaid i ni sicrhau, pan fo hynny'n bosibl, bod gwasanaethau a thriniaethau arferol y GIG y gellir eu cynnal, yn cael eu cynnal. Mae pobl ledled Cymru yn aros yn daer am lawdriniaethau a thriniaethau a allai, pe bydden nhw'n cael eu dal yn ôl, gael effaith sylweddol ar y ffordd y maen nhw'n byw eu bywydau, ac mae'n gwbl hanfodol bod pob llwybr posibl yn cael ei archwilio i sicrhau eu bod yn cael triniaeth mor ddiogel â phosibl mewn modd prydlon. Er enghraifft, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd pryderus yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth am fwy na 36 wythnos a mwy na 52 wythnos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bwrdd iechyd sydd dan eich rheolaeth chi yn uniongyrchol. Mae'r rhain yn bobl go iawn, Prif Weinidog, yn aros yn daer am driniaeth, ac mae llawer ohonyn nhw yn anghysurus ac mewn poen ddifrifol.
Nawr, mae'n destun pryder bod arolwg tracio diweddaraf Cymdeithas Feddygol Prydain o feddygon wedi dangos bod 60 y cant o feddygon wedi dweud nad oedd ganddyn nhw lawer o ffydd neu ddim ffydd o gwbl yn eu heconomi iechyd leol neu eu gwasanaethau cymunedol i ateb y galw wrth i wasanaethau arferol y GIG ailddechrau, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys. A wnewch chi, felly, ddweud wrthym ni pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau y bydd y bobl hynny sy'n aros am driniaeth ledled Cymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau cyn gynted ag sy'n bosibl? A pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r proffesiwn meddygol ynghylch y ffordd orau o gefnogi'r rhai sy'n gweithio yn y GIG i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o lawdriniaethau a thriniaethau ledled Cymru?
Wel, Llywydd, mae'r GIG yng Nghymru wedi bod yn ailagor nawr dros wythnosau lawer, a phob tro y deuwn at ddiwedd cylch tair wythnos, rydym ni'n trafod gyda'r prif swyddog meddygol ac eraill i ba raddau y gallwn ni ddefnyddio unrhyw hyblygrwydd sydd gennym ni i ganiatáu i'r gwasanaethau hynny barhau i gynyddu'n ddiogel, ac ni ellir gwneud i'r gwaith hwnnw ddiflannu drwy hud a lledrith gyda sylwadau am yr angen i wella pethau. Bydd y gwasanaeth iechyd yn wynebu'r cyfyngiadau a osodir gan y coronafeirws am fisoedd lawer i ddod. Mae'r angen i lanhau theatr rhwng pob llawdriniaeth a gynhelir yn effeithio'n sylweddol ar gynhyrchiant mewn theatrau, ac ni waeth faint yr hoffem iddo fod yn well na hynny, mae'r mesurau hynny'n gwbl hanfodol i sicrhau diogelwch cleifion a staff yn y gwasanaeth iechyd.
Felly, er ein bod yn parhau i gynyddu faint o driniaeth sydd ar gael fel mater o drefn, o ran llawdriniaethau wedi'u cynllunio, o ran triniaethau canser, o ran gofal sylfaenol, ni fydd dim o hynny'n cynnig llwybr syml i ni yn ôl i'r man lle yr oedd y gwasanaeth iechyd cyn coronafeirws. Rydym yn trafod hynny drwy'r amser gyda'n staff meddygol a gyda'n sefydliadau i geisio dod o hyd i well ffyrdd o ailddechrau gwasanaethau i fwy o bobl yn fwy amserol, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn blaen wrth yr Aelod ac wrth eraill, y bydd hynny'n frwydr barhaus i wasanaeth iechyd Cymru ac i'r holl wasanaethau iechyd eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Arweinydd grŵp Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog. Fe ddywedasoch chi fod coronafeirws, yng Nghymru, wedi'i atal yn effeithiol. Aethoch ymlaen wedyn i gyferbynnu hynny â chyd-destun ehangach y DU, gan ddweud ei fod wedi dod yn fwy heriol, gyda niferoedd yn cynyddu a chyfyngiadau wedi'u hailosod ar draws ynys Iwerddon, a gynhwyswyd yng nghyd-destun y DU, ac yn yr Alban a Lloegr. A yw'n wir mai Wrecsam sydd wedi cael y gyfradd heintio uchaf o unrhyw le yn y DU? Os felly, nid oedd hynny'n glir o'ch datganiad. Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ynglŷn â hynny os yw'n wir?
O ran mygydau yn yr ysgol, a'i gwneud hi'n ofynnol i rai plant ysgolion uwchradd wisgo'r rheini o bosibl mewn rhai sefyllfaoedd, beth yw'r sefyllfa yng Nghymru? Deallaf fod y pwyllgor yn cyfarfod neithiwr i gynghori, ond siawns pan ein bod yn cael y Cyfarfod Llawn hwn, a'ch bod chi fel Prif Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, onid yw'n iawn i chi ddweud wrthym ni beth a fwriedir o ran gwisgo mygydau mewn ysgolion uwchradd ai peidio, fel y gall Aelodau'r Senedd eich cwestiynu a chraffu arnoch ynghylch hynny?
Fe wnaethoch chi sôn am ymestyn y tymor o ran twristiaeth, ac yn sicr byddai hynny i'w groesawu, er yn ddibynnol ar y tywydd. Onid yw'n wir, serch hynny, fod y neges wedi mynd ar led yn rhy aml nad oes croeso i bobl yng Nghymru neu fod Cymru wedi cau am fwy o amser neu'n fwy caeth, ac oni fydd hynny'n gwneud i bobl ailfeddwl cyn dod yma ar gyfer ein diwydiant twristiaeth o bosibl?
Croesawaf y duedd eangfrydig gyffredinol o ddiwygio rheoliadau. Rwy'n credu ein bod yn pleidleisio ar dri o'r rheini yn ddiweddarach, a bwriadwn eu cefnogi, ac eithrio gwelliant Rhif 4. Yn amlwg, mae'n dda gweld pyllau nofio ac amrywiol gyfleusterau eraill yn ailagor, ond os caiff y feirws ei atal i bob pwrpas yng Nghymru, fel y dywedasoch, pam y mae'n angenrheidiol neu'n gymesur i roi pwerau ychwanegol i swyddogion gorfodi fynd ati i gyflwyno hysbysiadau gorfodi a chau ac unwaith eto ceisio microreoli a gorchymyn ledled Cymru beth fydd pob busnes yn ei wneud, fel pe byddai Llywodraeth Cymru yn ffynhonnell pob gwybodaeth, yn hytrach na chredu a phrofi a chaniatáu i fusnesau sy'n adnabod eu busnesau ddefnyddio eu synnwyr cyffredin, ac i'r bobl sy'n eu defnyddio ddod i benderfyniadau synhwyrol? Rydym yn cwestiynu pa un a oes gennych chi'r cydbwysedd cywir yn y maes hwnnw.
Fe wnaethoch sôn, er y bu rhywfaint o gynnydd mewn achosion ledled y DU, ar sail y DU a Chymru, bod y duedd yn well o lawer o ran marwolaethau, ond hefyd o ran derbyniadau i'r ysbyty ac i unedau gofal dwys, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth yw eich asesiad chi o hynny. Ai mater o'r garfan yn unig ydyw, o natur y bobl, y math o bobl ac yn enwedig oedran y rheini sy'n cael eu profi a'u canfod mewn rhai achosion i fod yn bositif, neu a oes datblygiadau mwy addawol—rhywfaint o welliant yn y driniaeth sydd gennym? A oes unrhyw bosibilrwydd bod y feirws yn mynd yn llai angheuol neu'n llai niweidiol a faint yn hwy y bydd yn rhaid i ni weld cyfraddau marwolaeth yn parhau mor isel â hyn, o ystyried y gyfradd achosion, cyn i chi ddechrau credu tybed a allai hynny fod yn wir?
Yn olaf, yn y gymhariaeth yr ydych yn ei gwneud ledled Ewrop, gyda llawer o wledydd yr UE bellach yn uwch na'r DU, ni wnaethoch chi sôn am Sweden, sydd, wrth gwrs, wedi gweld gostyngiad ac sydd bellach â nifer o achosion sy'n sylweddol is nag mewn llawer o'r gwledydd Ewropeaidd a osododd gyfyngiadau symud llym iawn. Onid yw hynny'n dangos manteision ymddiried mewn synnwyr cyffredin pobl, yn hytrach na cheisio microreoli popeth o'r canol, ac a yw'n bosibl fod eich cyfyngiadau a'ch rheolaeth ar y coronafeirws yn cael yr effaith o wneud i'r pandemig rygnu ymlaen am gyfnod hwy? Diolch.
Llywydd, roedd nifer fawr o gwestiynau yn y fan yna. Fe geisiaf ymdrin â nhw'n fyr, pob un ohonyn nhw.
Cyfeiriais at ynys Iwerddon oherwydd bod y cynnydd mewn achosion y coronafeirws ac ailosod cyfyngiadau wedi digwydd yn y Weriniaeth ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd ac mae'n anochel bod cydadwaith rhwng cylchrediad y feirws mewn un rhan o Iwerddon a rhan arall.
O ran Wrecsam, mae'r niferoedd yn Wrecsam wedi gostwng yn sylweddol yr wythnos hon. Credaf fod gostyngiad o 70 y cant yn nifer yr achosion newydd yn Wrecsam yr wythnos diwethaf. Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd wedi bod yn un o ganolbwyntiau niferoedd cynyddol yn gynharach, mae bellach yn 21 diwrnod ers i un aelod o staff yn yr ysbyty fynd yn sâl â haint coronafeirws a gafodd yn amgylchedd gofal iechyd, ac mae'n 18 diwrnod ers i'r claf diwethaf fynd yn sâl yn yr un ffordd. Datganwyd yn ystod dydd Gwener yr wythnos diwethaf fod y digwyddiad o achosion yn Rowan Foods wedi dod i ben, gan y bu 28 diwrnod ers y bu unrhyw achos yno. Felly, er bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod Wrecsam wedi bod yn destun pryder, mae'r ddarlun yn gwella'n gyflym yno.
O ran gorchuddion wyneb mewn addysg, credaf i ni ddweud ddoe y byddem yn gwneud datganiad cyn diwedd heddiw. Mae hynny'n dal yn wir. Rydym yn parhau i drafod gydag amrywiaeth o elfennau pwysig sydd â buddiant—awdurdodau lleol, undebau athrawon, y comisiynydd plant yma yng Nghymru. Ond dywedaf hyn wrth yr Aelod: bydd y dull y byddem yn ei ddefnyddio yn gyson â'r dull a nodwyd gennym yn ein cynllun cyfyngiadau symud lleol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'n bosibl bod rhan i'w chwarae gan orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd mewn cyd-destun lleol lle mae'r niferoedd yn codi uwchlaw trothwy penodol, lle nad yw adeiladau penodol yn caniatáu i bobl ifanc fynd o amgylch yr ysgol yn ddiogel. Mae'n benderfyniad i'w wneud yn lleol mewn cyfres o amgylchiadau penodol a'r rhai sydd agosaf atyn nhw sydd â'r gallu gorau i wneud asesiad o'i gymharu â chanllawiau y byddwn yn eu darparu iddyn nhw.
Mae'n ddrwg gennyf os yw'r Aelod yn teimlo nad oes croeso i bobl ddod i Gymru; nid dyna fu neges Llywodraeth Cymru erioed, yn sicr. Mae croeso mawr i bobl ddod i Gymru ac yna i'n helpu ni i gyd i gadw Cymru yn ddiogel drwy ymddwyn yn gyfrifol pan eu bod yma, a dyna'r ffordd y mae bron pawb sy'n ymweld â Chymru yn ymddwyn. Ac mewn gwirionedd, nid wyf i'n credu bod y ffigurau'n adlewyrchu pryder yr Aelod, oherwydd mae Cymru wedi bod yn llawn iawn yn wir o ymwelwyr yn ystod y cyfnod gwyliau ysgol hwn, gyda llawer o bobl o Gymru a thu hwnt yn dod i fwynhau popeth sydd gennym ni i'w gynnig.
Nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynghylch pwerau gorfodi; er bod y mwyafrif helaeth o fusnesau'n ymddwyn yn gyfrifol iawn ac yn gwneud yr holl bethau cywir, nid yw'n iawn fod eraill yn gallu manteisio'n annheg ar draul y busnesau da hynny mewn ffordd fyrbwyll gan anwybyddu'r rheoliadau, ac rydym wedi gweld gormod o enghreifftiau o hynny i ni beidio â gweithredu. Nid Llywodraeth Cymru fydd yn gweithredu; awdurdodau lleol sydd wedi cael y pwerau. Ac yn ardal Wrecsam, y soniodd yr Aelod amdani, rydym wedi cael enghraifft yr wythnos hon lle bu'n rhaid cyflwyno hysbysiad gorfodi i fusnes lleol oherwydd bod y ffordd yr oedd yn cael ei gynnal wedi cyfrannu at gynnydd sydyn mewn achosion o coronafeirws ymhlith ei gwsmeriaid. A phan fod hynny'n wir—ac rwyf eisiau bod yn gymesur ac rwyf eisiau iddo gael ei dargedu, ond pan fo angen—mae'n iawn fod gan awdurdodau lleol y pwerau y mae arnyn nhw eu hangen i weithredu.
Mae'n bwynt diddorol a phwysig y mae'r Aelod yn ei godi am y gostyngiad yn nifer y bobl mewn gwelyau gofal dwys yng Nghymru o ganlyniad i glefyd coronafeirws, a'm barn i fy hun yw y bydd cymysgedd o resymau am hynny. Yn rhannol, efallai mai'r rheswm am hynny yw bod yr achosion diweddar wedi bod yn fwy ymhlith pobl iau yn hytrach na phobl hŷn, a bod natur y salwch yn debygol o fod yn llai arwyddocaol. Ond mae hefyd oherwydd bod clinigwyr wedi dysgu, dros fisoedd y coronafeirws, ffyrdd mwy effeithiol o drin y cyflwr yn gynharach. Rydym ni wedi cael cyfradd lai o dderbyniadau i'r ysbyty yn cael eu gyrru i welyau unedau gofal dwys nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig drwy holl fisoedd y coronafeirws, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y ffordd y mae clinigwyr wedi rhoi ffyrdd o ymateb iddo ar waith.
Sylwaf fod yr Aelod yn mabwysiadu achos ei gyn-gydweithiwr Mr Hamilton o ran ystyried Sweden yn fodel i'r rheini sydd ar ochr dde y sbectrwm gwleidyddol yma yng Nghymru. Rwy'n croesawu unwaith eto ei dröedigaeth hefyd i achos democratiaeth gymdeithasol, ond yn anffodus, nid yw achos Sweden yn cadarnhau ei honiadau. Mae nifer y bobl sydd wedi marw o'r coronafeirws yn Sweden ar lefel na welwyd gan ei chymdogion agosaf a gymerodd gamau gweithredu gwahanol. Ac er fy mod wedi astudio achos Sweden yn ofalus, nid yw'n fy arwain i gredu bod ganddyn nhw fformiwla a fyddai wedi bod yn iawn i ni ei defnyddio yng Nghymru.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae methiant rhai archfarchnadoedd yng Nghymru i gadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol wedi bod yn destun pryder parhaus i mi a'm hetholwyr. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi ymdrechion awdurdodau lleol i orfodi'r rheoliadau hyn, hoffwn ofyn i chi am y wybodaeth ddiweddaraf heddiw am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyfleu'r neges honno yn gryf i archfarchnadoedd, yn enwedig y rhai mwy o faint fel Tesco, sydd fel petaen nhw wedi anghofio ein bod mewn pandemig—neu felly mae'n ymddangos.
Hoffwn hefyd holi, Prif Weinidog, am iechyd meddwl. Heddiw, mae Mind Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar effaith y pandemig ar iechyd meddwl yng Nghymru ac mae ei ddarllen yn brofiad sobreiddiol iawn, nid yn unig o ran yr effaith ar bob un ohonom ni yng Nghymru, ond hefyd am nad oedd un rhan o chwech o oedolion a thraean o bobl ifanc yn gallu cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt yn ystod y cyfyngiadau symud, ac mae hynny er bod Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir iawn i fyrddau iechyd y dylai iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth. Wrth i ni fynd i mewn i hydref a gaeaf anodd iawn o bosibl, a allai gael mwy fyth o effaith ar iechyd meddwl pob un ohonom, pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd pobl y bydd angen cymorth arnyn nhw yn ystod y cyfnod hwn yn ei gael? Diolch.
Llywydd, diolch i Lynne Neagle am y ddau bwynt yna. Rwyf innau hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y pryderon a godwyd yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru gan bobl sy'n teimlo bod rhai archfarchnadoedd wedi cefnu yn rhy gyflym ar rai o'r mesurau diogelu a oedd ganddyn nhw yn gynharach yn y pandemig. Nid yw'n ddarlun cyffredinol o bell ffordd; mae llawer o archfarchnadoedd yn parhau i weithio'n galed iawn i sicrhau bod eu hadeiladau wedi eu trefnu'n briodol gyda staff wrth law i gynorthwyo ac atgoffir pobl o'r angen i ymddwyn mewn ffordd nad yw'n peryglu pobl eraill. Ond mae'n amlwg nad yw hynny'n gyffredinol o ystyried y bag post a welais a'r pwyntiau y mae Lynne Neagle wedi eu gwneud. O ganlyniad i hynny, ysgrifennodd ein cyd-Aelod Lesley Griffiths unwaith eto at archfarchnadoedd ddechrau'r wythnos hon yn eu hatgoffa o'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith yma yng Nghymru. Fel y gŵyr yr Aelod, mae'n dipyn o frwydr barhaus i atgoffa rhai sefydliadau sy'n gweithredu y tu hwnt i Gymru y gall y gyfraith yng Nghymru fod yn wahanol, a bod eu rhwymedigaethau cyfreithiol yma yn union yr un fath ag y bydden nhw pe byddai'r rheoliadau hynny wedi cael eu gwneud mewn mannau eraill. Mae gan Lesley Griffiths gyfarfod—un o'i chyfarfodydd rheolaidd—gyda'r grŵp archfarchnadoedd yr ydym yn gweithio gydag ef yma yng Nghymru yn ddiweddarach y prynhawn yma, a bydd yn atgyfnerthu'r pwyntiau hynny gyda nhw unwaith eto bryd hynny.
O ran iechyd meddwl, rwyf wedi cael cyfle byr i edrych ar arolwg Mind Cymru. Mae'n ddogfen sobreiddiol gyda thros 900 o bobl yn ymateb iddi, ac fel yr ydym ni wedi ei ddweud droeon yn y sesiynau hyn, mae mwy nag un math o niwed sy'n dod o'r clefyd coronafeirws. Mae'n sicr bod y mesurau yr ydym wedi gorfod eu cymryd er mwyn atal ei gylchrediad wedi cael effaith ar iechyd meddwl a lles pobl sydd wedi gorfod ysgwyddo'r baich hwnnw o ran ynysu a chyfyngiadau ac ati. Cyn y gaeaf—a chytunaf â Lynne Neagle, mae cyfnod heriol yn dod—yr hyn yr ydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru yw ceisio atgyfnerthu'r gwasanaethau haen 0 a haen 1 hynny sydd ar gael yn rhwydd iawn, gan gynnwys cryfhau llinell gymorth iechyd meddwl y Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol, lansio pecyn cymorth iechyd meddwl y person ifanc ac yna gweithio gyda'n gwasanaethau iechyd, a wnaeth eu gorau glas i gynnal cymaint o wasanaeth iechyd meddwl ag y gallent yn ystod y pandemig, er bod hynny mewn gwahanol ffyrdd. Gwn fod absenoldeb trafodaethau wyneb yn wyneb yn arbennig o heriol i rai pobl â chyflyrau iechyd meddwl, ond rydym yn gweithio gyda'n byrddau iechyd lleol i weld sut y byddan nhw'n gallu cynnal y gwasanaethau hanfodol hynny yn ogystal â pharatoi eu hunain ar gyfer yr hyn a allai fod yn alwadau iechyd meddwl ychwanegol wrth i effeithiau hirdymor ymateb i'r feirws ddod yn fwy eglur.
Ac mewn ymadrodd y bydd yr Aelod yn ei adnabod yn dda iawn, mae'n rhaid i ni wneud hyn yn fusnes i bawb. Ni ellir ei adael i'r gwasanaeth iechyd yn unig. Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb, bydd gan ysgolion gyfrifoldeb, mae gan bob un ohonom ni rywfaint o gyfrifoldeb yn ein bywydau ein hunain i feddwl am iechyd meddwl a lles meddyliol ein cyd-ddinasyddion a darparu rhywfaint ar eu cyfer, yn enwedig y rhai sydd wedi gweld hwn fel y profiad anoddaf gyda'r straen mwyaf o unrhyw brofiad.
A yw'r Prif Weinidog yn cydnabod bod y sector addysg bellach yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd annerbyniol wrth i fyfyrwyr ddychwelyd ar gyfer y tymor newydd? Er enghraifft, nid yw'n glir sut y cânt yr adnoddau i gyfateb i'r gost ychwanegol i allu addysgu myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr galwedigaethol, yn ddiogel mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol, a'r bil cyflog ychwanegol posibl o £10 miliwn y bydd colegau'n ei wynebu os rhoddir dyfarniadau cyflog heb unrhyw sicrwydd ynghylch sut y caiff hynny ei dalu.
A yw'r Prif Weinidog yn derbyn nad yw hyn yn cyd-fynd yn dda â'r rhethreg gyson gan ei blaid am barch cydradd rhwng dysgu galwedigaethol ac academaidd? Ac a wnaiff ef ymrwymo heddiw i drafod ar frys gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau yr eir i'r afael â'r materion uniongyrchol hyn fel mater o frys ac mai dyma'r tro olaf, o dan ei arweiniad, i'r sector addysg bellach gael ei adael ar ôl?
Wel, Llywydd, nid wyf yn cytuno â llawer o'r pwyntiau yna. Mae'r Aelod yn cyfeirio at ddyfarniadau cyflog yn y sector addysg bellach; nid yw Llywodraeth Cymru yn taro bargeinion o ran dyfarniadau cyflog yn y sector addysg bellach. Y sector ei hun sy'n gyfrifol am ei fil cyflog ei hun. Ni all gytuno ar ddyfarniad ac yna credu mai Llywodraeth Cymru sydd rywsut yn gyfrifol am ei weithredoedd ei hun. Mae'n rhaid cael ymdeimlad o gyfrifoldeb yn y sector, nid dim ond meddwl y gall bob amser bwyntio bys at rywun arall pan fydd pethau'n heriol, ac mae pethau'n heriol.
Mae ansicrwydd, mae arna i ofn, yn rhan o brofiad beunyddiol yr holl wasanaethau cyhoeddus yng nghyd-destun y coronafeirws. Nid yw hi'n bosibl i'r Llywodraeth ddyfeisio ffyrdd o waredu'r gwasanaethau hynny rhag pob ansicrwydd. Rydym ni yn sicr yn gweithio'n agos gyda'r sector addysg bellach. Llwyddais i gwrdd, fy hunan, ag arweinyddion colegau addysg bellach, ochr yn ochr â'r Gweinidog addysg, rai wythnosau yn ôl. Fe wnaeth eu penderfyniad i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn argraff fawr arnaf i.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r sector hwnnw, oherwydd rwyf yn credu'n gryf iawn ei bod hi'n hynod bwysig bod cydraddoldeb rhwng addysg y bobl ifanc hynny sy'n dewis llunio eu dyfodol drwy addysg bellach, ochr yn ochr â phobl ifanc sy'n gwneud dewisiadau eraill. Ni chaiff hynny ei gyflawni dim ond drwy feddwl y gall Llywodraeth Cymru ddileu'r anawsterau a wynebir yn sgil argyfwng pandemig. Gweithio gyda'r sector yw'r ffordd y byddwn yn mynd i'r afael â hyn; allwn ni ddim cyfnewid lle ag ef.
Prif Weinidog, tybed a allwch chi egluro rhywbeth i mi, os gwelwch yn dda. O gofio bod ein prif gynghreiriau pêl-droed yma yng Nghymru bellach wedi cael dyddiadau i ailafael ynddi a dechrau gemau, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, a allech chi roi gwybod i ni am y dyddiadau y gall gweddill y byd pêl-droed, pêl-droed ar lawr gwlad—rydym ni'n sôn am ein cynghreiriau is a phêl-droed plant—ddychwelyd i chwarae gemau a dechrau eu tymhorau hefyd, os gwelwch yn dda?
Ni allaf ddeall y rhesymeg nad yw hyn wedi'i gyhoeddi eto pan fo'n prif gynghreiriau—ac mae ein cynghreiriau is i gyd yn chwaraewyr rhan-amser, ac, wrth gwrs, mae ein plant yn dychwelyd i'r ysgol ac eto ddim yn cael chwarae gemau yn yr awyr agored. O gofio bod popeth yn dechrau'n fuan dros y ffin yn Lloegr, nid wyf yn deall y sefyllfa. Mae'n hollbwysig nawr ein bod yn rhoi sêl bendith cyn gynted â phosibl i bobl allu dechrau chwarae gemau pêl-droed, hyd yn oed cyn cyhoeddi dyddiadau'r tymor, fel y gallan nhw baratoi a chynllunio a bod yn barod ar gyfer y tymor sydd o'u blaenau. Ac a gaf i hefyd wneud ple, Prif Weinidog, na wneir hyn y diwrnod cynt—nad ydyn nhw'n cael diwrnod o rybudd? Fel cyn ysgrifennydd clwb pêl-droed iau, mae'n cymryd cryn amser i gynllunio ar gyfer y tymhorau sydd o'n blaenau. Felly, a allwch chi roi, gyda digon o rybudd, cyn gynted â phosibl, sêl bendith i'r gemau hyn gychwyn yma, os gwelwch yn dda? Diolch.
Llywydd, nid wyf yn credu y gellir fy nal i'n gyfrifol am ddiffyg dealltwriaeth yr Aelod. Cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel bosibl i ailagor rhannau o'r tymor pêl-droed a gwahanol gynghreiriau yng Nghymru, byddwn yn gwneud hynny. Mae'n rhaid i'r Aelod ddeall, siawns, fod iechyd y cyhoedd yn bwysicach na phêl-droed ac na fyddwn yn caniatáu—. Rwy'n gweld yr Aelod yn ystumio arnaf. Mae'n ddrwg gennyf nad yw ei diffyg dealltwriaeth wedi'i gywiro eto.
Pan fydd clwb pêl-droed uwch-gynghrair yn ailddechrau, mae ganddo'r holl adnoddau y gall clwb uwch-gynghrair eu defnyddio. Mae ganddo holl natur reoleiddiol y lleoliadau y maen nhw'n gweithredu ynddynt; nid oes dim o hynny'n wir gyda rhai agweddau ar y byd pêl-droed y cyfeiriodd hi atyn nhw. Nid oes strwythur yn bodoli y gallwch chi ddibynnu arno yn y ffordd honno i fod yn ffyddiog y gellir ailddechrau'r holl weithgarwch hwnnw mewn ffordd nad yw'n peryglu chwaraewyr, swyddogion a'r cyhoedd. Dyna fydd bob amser flaenaf ym meddwl y Llywodraeth Cymru hon. Efallai nad dyma sydd flaenaf yn ei meddwl hi, ond dyna sydd flaenaf i ni, a phan fydd yn ddiogel gwneud hynny, yna byddwn yn ailddechrau gweithgarwch yn y maes hwnnw ac ni fyddwn yn gwneud hynny cyn hynny. Pan fydd yn ddiogel, byddwn wedi'i drafod gyda'r sector; wrth gwrs y byddwn ni wedi llunio cynlluniau ar y cyd â nhw—ni fydd yn syndod iddyn nhw. Yn wahanol i Lywodraeth o'i phlaid hithau mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, y ffordd o weithio yng Nghymru erioed fu cynllunio'n gyntaf ac yna cyhoeddi, nid cyhoeddi ac yna meddwl tybed sut y bydd hi'n bosibl cyflawni hynny.
Rwy'n sylweddoli bod y pandemig wedi bod yn drasiedi ofnadwy i lawer o deuluoedd, ond mae hefyd yn gyfle i bob un ohonom ni ailystyried y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau. Yn union fel nad yw pandemig y coronafeirws wedi diflannu, nac yn wir yr argyfwng yn yr hinsawdd na'r argyfwng gordewdra. Felly, rwy'n falch iawn y bydd cwmni o'r enw GOiA yn treialu e-sgwteri yng Nghaerdydd yn fuan iawn, a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl sy'n byw yn ucheldiroedd fy etholaeth i gael dewis amgen gwirioneddol o deithio yn hytrach na'r car modur. Ond dylai pobl ifanc fod yn ddigon egnïol i ddringo'r rhiwiau eu hunain, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn i gynorthwyo sefydliadau'r trydydd sector i helpu pobl i drwsio hen feiciau sy'n gorwedd yn segur mewn garejys a gerddi cefn. Ond nid pawb sydd â'r moethusrwydd hwnnw, ac rwy'n falch iawn bod o leiaf un ysgol uwchradd yn fy etholaeth i wedi ceisio prynu cyfran helaeth o feiciau bob dydd i'w disgyblion, ond wedi gweld bod hyn yn gwbl amhosibl oherwydd bod cymaint o brinder beiciau. Dywed gweithgynhyrchwyr y stryd fawr, cyn gynted ag y daw beic yn ôl am nad yw'n foddhaol, y caiff ei werthu ar yr un diwrnod. Mae amseroedd aros sylweddol ar gyfer beiciau a weithgynhyrchwyd dramor oherwydd y pandemig ac oherwydd oedi wrth gyflenwi.
Felly, roeddwn i'n meddwl tybed beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu pobl i newid y ffordd y maen nhw'n gweithredu mewn gwirionedd. A gan bod disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r 'daith ysgol', fel y gelwir hi, er mwyn cynyddu nifer y bobl sy'n cerdded, yn beicio, neu yn mynd ar sgwter i'r ysgol?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna? Diolch yn arbennig iddi hi am yr hyn a ddywedodd ar ddechrau ei chwestiwn. Mae bob amser yn fy mhoeni, oherwydd yn y sesiynau hyn rydym yn canolbwyntio ar y ffaith bod pethau wedi gwella yma yng Nghymru, fel nad ydym weithiau'n oedi i gofio'r teuluoedd hynny y mae'r coronafeirws wedi bod yn drasiedi uniongyrchol iawn iddyn nhw. Ac er bod nifer y bobl sy'n marw o'r coronafeirws yng Nghymru wedi lleihau'n sylweddol, mae teuluoedd o hyd, bob wythnos, yn wynebu'r gyfres honno o amgylchiadau, a diolchaf i'r Aelod am ein hatgoffa i oedi eiliad a meddwl am hynny i gyd a beth fydd hynny'n ei olygu, nid yn unig nawr ond ar gyfer dyfodol y teuluoedd hynny hefyd.
Rwy'n falch o groesawu'r hyn a ddywedodd am y cwmni o Gwm Cynon sy'n gwneud e-sgwteri. Nid yw'r ddeddfwriaeth ar gyfer sgwteri preifat wedi'i datganoli mewn gwirionedd a'r Adran Drafnidiaeth yn y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am drwyddedu a rheoleiddio eu defnydd. Ond rydym ni wedi gweithio gydag Adran Drafnidiaeth y DU i hyrwyddo'r posibilrwydd o arbrofi gyda nhw yma yng Nghymru. Mater i awdurdodau lleol yw mynegi diddordeb mewn dewis bod yn rhan o'r arbrofion hynny, a buom yn gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth i sicrhau bod hynny'n cael ei hyrwyddo—y posibilrwydd hwnnw—yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae'r hyn a ddywed Jenny Rathbone, Llywydd, yn gywir: mae beiciau'n anodd iawn cael gafael arnyn nhw, ac mae'n un o'r elfennau mwy cadarnhaol o'r holl brofiad fod pobl wedi meithrin mwy o ddiddordeb mewn teithio llesol. Rydym ni wedi cyhoeddi'r buddsoddiad mwyaf erioed yn hynny o beth yma yng Nghymru: mae £5 miliwn o'r £38 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan fy nghyd-Aelod Lee Waters yn benodol ar gyfer llwybrau mwy diogel mewn cymunedau, ac mae hynny wedi ei fwriadu'n benodol ar gyfer llwybrau i ysgolion, ac mae £2 filiwn o'r £15.4 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer teithio yn unol â chanllawiau COVID hefyd wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer cynlluniau sy'n canolbwyntio ar ysgolion. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pobl yn dal i fod â diddordeb mewn dulliau teithio mwy llesol, bod ysgolion yn manteisio ar y cyfle sy'n bodoli, ac y gall Llywodraeth Cymru wneud ein rhan drwy sicrhau bod cyllid ar gael a, thrwy'r pethau eraill y byddwn yn eu gwneud—cyfeiriodd yr Aelod at yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i gefnogi ailgylchu beiciau—ein bod yn gwneud ein rhan i sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl yn hynny o beth hefyd.
Prif Weinidog, mae Shelter wedi canfod bod 15,000 o denantiaid yng Nghymru yn wynebu colli eu cartrefi oherwydd ôl-ddyledion rhent a gronnwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae'r dyledion hyn wedi cronni heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, ac mae ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol yn eu plagio. Mae'n rhyfeddol ei bod hi'n dal yn bosibl yng Nghymru troi rhywun allan a'u gwneud yn ddigartref. Roeddwn i'n falch, wrth gwrs, bod tenantiaid wedi cael pedair wythnos arall o sicrwydd na ellir eu troi allan, ond nid yw hynny'n ddigon. Mae'r pedair wythnos hynny yn bedair wythnos arall o ofid, pan fydd pobl anobeithiol yn meddwl tybed a fydd ganddynt do uwch eu pennau pan ddaw'r hydref.
Rydym ni wedi clywed yn gynharach fod eich plaid wedi pleidleisio i wahardd troi allan a throi allan heb fai, ac eto nid ydych chi wedi gwahardd hynny eto. Mae eich Llywodraeth wedi gwneud llawer o waith da i fwy neu lai dileu digartrefedd yn ystod y cyfyngiadau symud, ond mae perygl i'ch diffyg gweithredu o ran cefnogi tenantiaid ddadwneud yr holl waith hwnnw. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi weithredu nawr i wahardd troi pobl allan a'u gwneud yn ddigartref, i roi sicrwydd a chysur i'r miloedd o denantiaid sy'n poeni mai dim ond aros i gael eu troi allan y maen nhw, ac y rhoddir addewid iddyn nhw eu bod yn ddiogel yn eu cartrefi? A wnewch chi ymuno â mi a Phlaid Cymru i gadarnhau y dylai tai fod yn hawl ddynol?
Wel, Llywydd, rwy'n meddwl fy mod wedi ateb y cwestiynau hyn yn gynharach pan wnaeth arweinydd ei phlaid yr un sylwadau i mi ar ddechrau'r trafodion. Amlinellais yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei wneud i atal troi pobl allan a'u gwneud yn ddigartrefedd yma yng Nghymru, ac atgoffais yr Aelodau bryd hynny fod gan Lywodraeth Cymru ddeddfwriaeth y byddwn yn ei hyrwyddo drwy'r Senedd yn ystod gweddill y tymor hwn a fydd yn cael effaith sylweddol ar droi allan heb fai, ac edrychaf ymlaen at gefnogaeth yr Aelodau hynny sydd wedi siarad yn rymus ar y mater hwn y prynhawn yma.
Diolch, Prif Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n synnu braidd, gan mai dyma gyfarfod ffurfiol cyntaf y Senedd, nad ydych chi wedi dewis ymddiheuro'n ffurfiol ar y cofnod am y llanast a fu gyda'r arholiadau dim ond wythnos yn ôl nawr, a byddwn yn eich gwahodd i ddefnyddio'r cyfle hwn i ymddiheuro'n ffurfiol ar y cofnod. Mewn ymateb i'm cyd-Aelod Laura Anne, rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn cynllunio gyntaf ac wedyn yn gweithredu. Ni roesoch chi lawer o gynllun ar waith i atal llawer o blant, athrawon a rhieni rhag dioddef llawer o ofid oherwydd y trefniant a ddefnyddiwyd gennych chi. Felly, a gaf i eich gwahodd i ymddiheuro ar y cofnod?
Ac, yn ail, a gaf i eich gwahodd i roi ateb i ni o ran sut yr ydych chi'n gweithio gyda chyfleusterau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach hefyd ynghylch sut y byddan nhw'n sicrhau digon o le ar gyfer myfyrwyr ychwanegol a fydd nawr yn ymgeisio am leoedd gwerthfawr yn y sefydliadau hynny? Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, maen nhw wedi sefydlu gweithgorau arbennig rhwng y Llywodraeth a'r sefydliadau addysgol i helpu i hwyluso'r camau hyn.
Wel, Llywydd, ailgynulliwyd y Senedd hon yn benodol i mi adrodd ar y rheoliadau ynghylch y coronafeirws. Dyna wnes i. Mae materion eraill wedi cael eu trafod yn helaeth. Rwyf i wedi gwneud nifer o ddatganiadau, fel y gwnaeth y Gweinidog addysg, ac mae popeth yr ydym ni wedi ei ddweud eisoes yno ar y cofnod ac nid wyf i'n credu bod angen eu hailadrodd y prynhawn yma.
O ran addysg uwch, yna wrth gwrs rydym yn parhau i drafod yn agos iawn â'n sefydliadau addysg uwch. Mae'r nifer fwyaf erioed o bobl ifanc o Gymru yn gallu mynd i sefydliadau addysg uwch y flwyddyn nesaf, yng Nghymru a thu hwnt. Ac mae'r nifer fwyaf erioed o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig wedi sicrhau lleoedd mewn prifysgolion, a gwn y bydd yr Aelod wedi croesawu hynny i gyd.
Rydym ni nawr yn gweithio gyda'r sector i sicrhau ei fod yn gallu darparu'n ddiogel ar gyfer y nifer fawr o bobl ifanc a fydd yn dychwelyd i brifysgolion yng Nghymru. Ac mae hwnnw'n fater pwysig. Mae gennyf gryn barch at yr hyn y mae sefydliadau addysg uwch yn ei wneud i sicrhau y gellir gofalu'n ddiogel am bobl ifanc a’u bod yn gallu ymgymryd â'u hastudiaethau'n ddiogel. Rydym yn gweld mewn rhai rhannau eraill o'r byd y gall y ffordd y gall pobl ifanc ymddwyn y tu allan i'r lleoliad hwnnw lle mae rheoliadau ar waith, pan nad ydyn nhw yn yr ystafell ddosbarth ac nad ydyn nhw mewn neuadd breswyl ac yn y blaen—y gall y demtasiwn o fod yn ôl gyda'i gilydd eto arwain pobl ifanc i ymddwyn mewn ffyrdd sydd wedyn yn peri iddyn nhw ac eraill gael eu heintio gan y feirws. Felly, mae'n rhaid i'n trafodaethau gyda'r sector fynd y tu hwnt i'r pethau y maen nhw'n uniongyrchol gyfrifol amdanynt ac i ni gydweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyngor gorau posibl fel, pan eu bod yn dod yn ôl i'r coleg, eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n ychwanegu'n anfwriadol at yr anawsterau y bydd y coronafeirws yn eu creu i bob un ohonom ni yn ystod yr hydref a'r gaeaf.
Prif Weinidog, mae Newport Live, yr ymddiriedolaeth gwasanaethau hamdden, yn darparu llawer iawn o fudd yng Nghasnewydd o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn wir, maen nhw wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o helpu cleifion COVID-19 i wella ar bod yn wael. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn. Diolch byth, maen nhw bellach yn dychwelyd i'w dosbarthiadau a'u gweithgareddau, ac mae hynny'n chwarae rhan bwysig iawn o ran cynyddu ansawdd bywyd pobl leol. Ond mae pryder ynghylch y canllawiau sydd ar y gweill ac eglurhad o hynny, Prif Weinidog, o ran cyfleusterau fel felodrom Casnewydd, sydd ag 16 o gyrtiau ac sy'n fan agored eang iawn. Maen nhw'n poeni y gall rhai o'r cyfyngiadau, megis cyfyngu grwpiau o bobl i 30, fod yn berthnasol i'r man cyfan hwnnw, yn hytrach na'i fod yn cael ei ystyried o ran ei rannau cyfansoddol. Tybed a oes unrhyw beth y gallech chi ei ddweud heddiw o ran y pryderon hynny a sut y caiff y felodrom ei ystyried yn ymarferol o ran y lle sydd ganddo.
Wel, Llywydd, a gaf i gytuno'n gyntaf â'r hyn a ddywedodd John Griffiths am bwysigrwydd adsefydlu? Rydym ni'n dysgu llawer am y llwybr hir at wella o'r coronafeirws i lawer o bobl. Mae wedi dod yn amlwg nad yw'n salwch yr ydych chi o reidrwydd yn gwella ohono'n gyflym neu'n hawdd. Mae fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, ym mis Medi, yn bwriadu cyhoeddi dogfen a fydd yn amlinellu ein paratoadau ar gyfer y gaeaf yma yng Nghymru, a gwn y bydd adsefydlu yn ganolbwynt penodol iawn i'r cynllun hwnnw.
O ran y felodrom ei hun, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, Llywydd, byddwn yn rhoi cynnig ar dri arbrawf yn ystod y tair wythnos hyn ym maes celfyddydau a chwaraeon, lle gall hyd at 100 o bobl ddod at ei gilydd. Cyn belled ag y gellir gwneud hynny'n llwyddiannus, yna rydym ni eisiau gwneud mwy o hynny. Ond, yn y ffordd yr eglurais hynny wrth ateb cwestiwn yn gynharach, y ffordd o'i wneud yng Nghymru yw arbrofi, dysgu o hynny, a phan fyddwn yn llwyddiannus, gwneud mwy. Rydym ni wedi gwneud hynny drwy gydol yr argyfwng.
Ar yr un pryd, rydym ni hefyd yn dysgu o rai cynlluniau arbrofol sydd i'w hailddechrau dros y ffin. Byddwch yn cofio bod cynlluniau ar y gweill i ganiatáu i fwy o bobl ddychwelyd i gemau criced, gemau pêl-droed ac i rasio ceffylau. Roedd Llywodraeth y DU wedi dynodi nifer o gynlluniau arbrofol y bu'n rhaid iddi eu gohirio wedyn oherwydd yr anawsterau yng ngogledd Lloegr. Mae'r rheini'n cael eu hailddechrau erbyn hyn; mae gennym ni aelod o staff Llywodraeth Cymru yn rhan o grŵp sy'n goruchwylio'r cynlluniau arbrofol hynny ac, unwaith eto, os ydyn nhw'n llwyddiannus ac y gallwn ni wneud mwy yn ddiogel yng Nghymru i ailagor lleoliadau, yna dyna y fyddwn ni'n dymuno ei wneud, gan gynnwys y felodrom. Ond, unwaith eto, y pwyslais ar iechyd y cyhoedd fydd y pwyslais cyntaf, ac, os ydym ni'n fodlon y gallwn ni wneud rhywbeth mewn ffordd nad yw'n peryglu cyfranogwyr ac aelodau staff, yna byddwn yn ceisio gwneud mwy yn y meysydd hynny hefyd.
Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr nad yw gofalwyr ei mab yn cael eu profi fel mater o drefn. Mae ei mab yn agored iawn i niwed ac mae hi wedi cymryd pob rhagofal i sicrhau ei fod yn cael ei amddiffyn rhag y feirws, ond mae angen cefnogaeth ei ofalwyr arnyn nhw. Mae hi'n poeni y gallai un ohonyn nhw drosglwyddo COVID yn ddiarwybod. Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn y sector gofal yn cael eu profi'n rheolaidd, o gofio'r cyfraddau uchel o drosglwyddo asymptomatig o'r feirws SARS-CoV-2 yr ydym ni wedi ei weld yn y gorffennol? Prif Weinidog, a wnewch chi warantu mai ehangu profion fydd prif flaenoriaeth eich Llywodraeth?
Gwyddom nad yw'r rhan fwyaf o'r boblogaeth wedi bod yn agored i'r feirws hwn, a gwyddom hefyd y gall y rhai heb unrhyw symptomau ledaenu'r feirws. Felly, heb brofion rheolaidd ar hap, mae gan y clefyd hwn y potensial i fynd yn rhemp. Prif Weinidog, a allwch chi warantu eich bod yn gwneud popeth y gallwch chi o ran profi er mwyn ymladd COVID-19? Diolch.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Caroline Jones am y cwestiynau pwysig yna? Bydd yn gwybod bod fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi £32 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi ehangu ein gallu i brofi wrth i'r gaeaf ddod ar ein gwarthaf, lle bydd yn sicr o dan fwy o bwysau oherwydd ei bod hi mor anodd gwahaniaethu rhwng symptomau annwyd, ffliwiau a'r coronafeirws. Rwy'n credu bod ein system Profi, Olrhain, Diogelu wedi dangos ei llwyddiant yma yng Nghymru—cysylltwyd â 90 y cant o achosion cyfeirio yn llwyddiannus, ac fe lwyddwyd i olrhain 90 y cant o'u cysylltiadau hwythau hefyd yn llwyddiannus—ond mae'n rhaid i ni adeiladu ar hynny a sicrhau ein bod mewn sefyllfa i wneud mwy pan fydd y pwysau'n cynyddu.
O ran profi gofalwyr, deallaf yn llwyr pam mae pobl sy'n gyfrifol am ofalu am unigolion sy'n agored i niwed yn bryderus ynghylch y rhai sy'n dod i ddarparu'r gofal hwnnw. Gobeithio y gallan nhw gael rhywfaint o gysur o'r ffaith ein bod ni wedi profi gofalwyr yng Nghymru fel mater o drefn, a chyfradd y gofalwyr yng Nghymru y canfuwyd bod y feirws arnyn nhw yn ystod y cyfnod diwethaf oedd 0.2 y cant. Mae'r feirws yn cael ei atal yn effeithiol iawn yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae'r atal hwnnw wedi ymestyn i ofalwyr hefyd, ac mae ein cyfundrefn brofi, rwy'n credu, wedi dangos hynny. Dyna pam yr ydym ni wedi gallu dechrau profi gofalwyr bob pythefnos mewn cartrefi gofal preswyl, ac mae gan ein system brofi allu nawr i wneud mwy dros y rhai sy'n teimlo bod angen gwneud mwy yn y maes hwnnw oherwydd natur eu gwaith neu natur y gofal a gânt.
Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chithau, Prif Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu eich geiriau'n fawr heddiw, ac rwy'n gwybod fod y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent yn dal yn eithriadol o gefnogol i sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu. Mae dau faes lle yr hoffwn ofyn cwestiynau pellach i chi, Prif Weinidog. Y cyntaf yw eich agwedd at orchuddion wyneb a mygydau. Mae'n amlwg bod pobl yn symud o gwmpas mwy ac yn cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau cyhoeddus a chymdeithasol nag yr oedden nhw rai misoedd yn ôl. Rydym ni'n deall bod tystiolaeth anghyson, o'i roi felly, ynglŷn â defnyddio gorchuddion wyneb a mygydau, ond rydym ni ar adeg dyngedfennol. Rydym ni ar adeg dyngedfennol nawr, wrth i ni symud y tu hwnt i'r haf i mewn i'r hydref, pan fydd mwy o'r gweithgareddau hyn yn digwydd dan do. Rwyf yn cytuno'n llwyr â'r sylw a wnaethpwyd yn gynharach yn y sesiwn hon gan Lynne Neagle, fy nghyd-Aelod yn Nhorfaen, am yr hyn sy'n digwydd mewn archfarchnadoedd. Ai dyma'r amser nawr i ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ar orchuddion wyneb a mygydau, ac ymestyn y defnydd o fygydau mewn mannau cyhoeddus caeedig?
Yr ail gwestiwn yw hwnnw am ddyfodol corau. Dylwn ddweud fy mod i'n llywydd côr meibion Beaufort ym Mlaenau Gwent, ac mae gan Flaenau Gwent, wrth gwrs, lawer iawn o gorau meibion a chorau cymysg, y mae pob un ohonyn nhw wedi'u hatal rhag cyfarfod i raddau helaeth dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n mynd i ymarfer awyr agored gyda Beaufort yr wythnos nesaf ym Mharc Eugene Cross yng Nglynebwy. Ond ni fyddwn yn gallu gwneud hynny ym mis Tachwedd, ac mae'n annhebygol y byddwn yn gallu gwneud hynny drwy'r hydref, ac roeddwn i eisiau gofyn i'r Prif Weinidog a yw wedi rhoi ystyriaeth bellach i sefyllfa corau a'r traddodiad corawl sydd gennym ni yng Nghymru i alluogi corau i ymarfer unwaith eto ac yna efallai i gynnal digwyddiadau wrth i ni symud ymlaen. Diolch.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Alun Davies am y ddau gwestiwn pwysig yna? Rydym ni yn parhau i ystyried mater gorchuddion wyneb drwy'r amser. Tra bod y feirws yn cael ei atal i bob pwrpas yng Nghymru, nid yw'n ymddangos yn gymesur ei gwneud hi'n orfodol i bobl wisgo gorchuddion wyneb mewn ffordd gyffredinol. Yn dros hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru yr wythnos diwethaf nid oedd yr un achos o goronafeirws. Sut mae hi'n gymesur ei gwneud hi'n ofynnol i bobl wisgo gorchuddion wyneb pan fo'r feirws mor isel â hynny? Ond yn ein cynllun cyfyngiadau symud lleol, fel y bydd Alun Davies wedi'i weld, rydym yn dweud yn benodol iawn fod gorchuddion wyneb yn rhan o'r drefn lle ceir cynnydd lleol ac mae'n rhaid i chi ymyrryd i'w atal yn y ffordd leol honno. Felly, dyna yw ein safbwynt ni o hyd. Mae'n rhan o'r drefn. Rydych chi yn ei ddefnyddio lle mae ei angen yn hytrach na gorfodi, mewn ffordd gyffredinol, gofyniad i wisgo gorchudd wyneb pan nad yw'r dystiolaeth o sefyllfa bresennol y feirws yng Nghymru yn gwneud hynny'n gymesur.
Rwy'n poeni llawer am gorau am yr holl resymau y mae Alun Davies wedi eu dweud. Rwyf wedi darllen rhai llythyrau dirdynnol iawn gan bobl sydd wedi mynychu angladdau yng Nghymru yn ystod y coronafeirws, ac mae naws cadarnhaol iawn iddyn nhw ar y cyfan. Mae pobl yn deall y cyd-destun ac maen nhw'n gwerthfawrogi pethau sy'n cael eu gwneud i ganiatáu cynnal angladdau, ond mae angladd yng Nghymru heb ganu Calon Lân yn rhywbeth sy'n anodd iawn i bobl. Rywsut, nid yw'n ymddangos yn iawn i bobl. Ac mae'r llythyrau yr wyf i wedi eu darllen yn gwneud y pwynt hwnnw mewn ffordd rymus iawn.
Dywedais yn fy natganiad agoriadol, Llywydd, y byddwn yn defnyddio'r tair wythnos hyn i weithio gyda chanolfannau cymunedol ac eraill i weld a allwn ni ailddechrau rhai cyfarfodydd o dan do ar raddfa fach wrth i'r hydref ddod ar ein gwarthaf am yr union resymau y mae Alun Davies wedi'u dweud—na fydd pethau y gall pobl eu gwneud yn yr awyr agored nawr yn bosibl erbyn i ni gyrraedd mis Tachwedd. Mae'n rhaid i ni wneud ein gorau i ddod o hyd i ffyrdd y gall rhai gweithgareddau cymdeithasol o dan do ailddechrau oherwydd yr holl niwed ychwanegol y cyfeiriodd Lynne Neagle ato yn ei chwestiwn. A fydd hynny'n ymestyn i gorau yn gallu ymarfer a pherfformio dan do—mae arnaf i ofn ei bod hi'n anodd bod yn gadarnhaol. Mae'r weithred o ganu ynddo'i hun yn cynyddu'r cyflymder y gellir lledaenu'r feirws, a chafwyd rhai enghreifftiau difrifol mewn mannau eraill yn y byd. O ystyried oedran a'r cyflyrau iechyd sylfaenol y gwyddom sydd gan lawer o aelodau côr yng Nghymru, ac er ein bod yn parhau i geisio cyngor ac yn parhau i edrych ar y dystiolaeth sy'n esblygu mewn mannau eraill, mae arnaf i ofn na allaf swnio'n gadarnhaol ynghylch pa mor gyflym y bydd modd i'r math hwnnw o weithgarwch ailddechrau dan do.
Diolch i'r Prif Weinidog, ac ymddiheuriadau i bawb dwi wedi methu eu galw y prynhawn yma oherwydd cyfyngiad amser.
Rŷn ni'n symud ymlaen felly i'r cynigion ar reoliadau diogelu iechyd, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig o dan eitemau 2, 3 a 4, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020, eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân, ac os nad oes unrhyw un yn gwrthwynebu i hynny—a dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i'r grwpio hynny—fe awn ni ymlaen i alw ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno'r eitemau yma.
Felly'r Gweinidog iechyd, Vaughan Gething.
Cynnig NDM7368 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Gorffennaf 2020.
Cynnig NDM7369 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 07 Awst 2020.
Cynnig NDM7370 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Awst 2020.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y tair cyfres o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi. Fel gyda'r rheoliadau sydd wedi'u rhagflaenu, mae'r rheoliadau hyn sy'n cael eu trafod heddiw wedi'u cyflwyno o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi sut rydym ni'n mynd i'r afael â'r coronafeirws yma yng Nghymru. Wrth i nifer yr achosion o'r coronafeirws leihau, rydym ni wedi parhau i adolygu'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gorfodi ar unigolion, busnesau a sefydliadau eraill i reoli'r argyfwng eithriadol hwn o ran iechyd y cyhoedd. Mae'r adolygiad parhaus o'r rheoliadau yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod, lle mae angen i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion o leiaf bob 21 diwrnod.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod ni wedi ceisio lliniaru'n raddol yr ystod o gyfyngiadau sy'n berthnasol yng Nghymru wrth i'r amgylchiadau ganiatáu inni wneud hynny. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw yn parhau â'r broses honno. Mae'r holl newidiadau a gyflwynir gan y rheoliadau hyn unwaith eto yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a chyngor iechyd y cyhoedd. Ar y sail honno, ystyriwn gyfyngiadau y mae hi'n ddiogel inni eu dileu neu eu lliniaru gan warchod ar yr un pryd rhag unrhyw gynnydd pellach yn lledaeniad y feirws yma yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae'r tair cyfres o reoliadau wedi dileu llawer o'r cyfyngiadau cyfreithiol sy'n weddill ar fywyd bob dydd a'r economi. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, ar adegau, rydym ni hefyd wedi gorfod cymryd camau lliniarol i gadw rheolaeth ar y feirws.
Daeth rheoliadau diwygio Rhif 3 i rym ar 3 Awst. Roeddent yn caniatáu i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored; i dafarndai, bariau, caffis a bwytai ailagor dan do; ac alïau bowlio, neuaddau bingo a thai arwerthiant i ailagor. Roedd rheoliadau gwelliant Rhif 4, a ddaeth i rym ar 10 Awst, yn caniatáu llacio'r cyfyngiadau coronafeirws ymhellach drwy ganiatáu i amrywiaeth o safleoedd eraill ailagor, gan gynnwys pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, cyfleusterau sba i'r graddau nad oeddent eisoes ar agor, canolfannau hamdden a mannau chwarae dan do. Roeddent hefyd yn ehangu'r gweithgareddau y gellid eu cynnal mewn canolfannau cymunedol.
Yn yr amserau eithriadol hyn, daw rhyddid gyda chyfrifoldebau. Rhoddodd y rheoliadau hyn bwerau newydd i awdurdodau lleol sicrhau bod adeiladau'n dilyn y gyfraith ac yn cymryd pob cam rhesymol i liniaru lledaeniad y coronafeirws. Rhoddwyd pwerau i swyddogion gorfodi yr awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau gwella, neu yn yr enghraifft ddiwethaf hon i'w gwneud hi'n ofynnol i safleoedd gau. Deallaf fod pedwar hysbysiad gwella wedi'u cyflwyno hyd yma ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n awyddus i wneud popeth sydd ei angen, felly ni ddylai camau o'r fath fod yn angenrheidiol yn y mwyafrif helaeth o achosion. Ein nod fu cefnogi'r mwyafrif helaeth o fusnesau a chyflogwyr cyfrifol drwy sicrhau bod chwarae teg i bawb.
Dylwn gydnabod un amryfusedd a wnaed yn y rheoliadau hynny lle'r oeddem yn honni rhoi'r pŵer i lysoedd ynadon osod dedfryd o garchar am dorri'r gofynion. Fel y nodwyd yn gywir gan y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ni ellir rhoi pŵer o'r fath o dan y pwerau hyn. Felly, aethom ati yn brydlon ac yn uniongyrchol i wneud y cywiriad sy'n ofynnol yn y gyfres derfynol o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, a ddaeth i rym ar 17 Awst. Deallaf, rhwng 10 Awst a gwneud y cywiriad hwn, na chyhoeddodd yr un llys ddedfryd o garchar ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am godi'r mater hwn.
Yn olaf, mae rheoliadau gwelliant Rhif 5 a ddaeth i rym ar 17 Awst yn ei gwneud hi'n orfodol mewn lleoliadau risg uchel i gasglu manylion cyswllt y rhai sy'n ymweld â'r safle. Mae hynny'n golygu, os gellir olrhain achos neu glystyrau yn ôl i dafarn, caffi neu leoliad arall penodol, fel sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU, y bydd gennym ni gofnod wedyn o bwy oedd yno ar y pryd, ffordd o gysylltu â nhw yn gyflym, er mwyn sicrhau eu bod nhw a'u haelwydydd yn hunanynysu, a rhoi cyfle i atgyfnerthu'r angen i gael prawf yn ôl y gofyn. Mae hyn yn rhagofal synhwyrol i'w gymryd ar hyn o bryd yng ngoleuni cyngor y prif swyddog meddygol bod misoedd yr hydref a'r gaeaf yn debygol o ddod â heriau newydd ac ychwanegol o ran rheoli'r coronafeirws yma yng Nghymru.
Llywydd, mae'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws wedi bod yn ddigynsail. Mae'r gyfraith yn glir, fodd bynnag, mai dim ond cyhyd ag y maent yn angenrheidiol ac yn gymesur y gellir cadw'r cyfyngiadau hynny ar waith. Addawodd ein canllaw, a gyhoeddwyd ar 15 Mai, ddull gofalus a chydlynol o liniaru'r cyfyngiadau drwy newidiadau rheoleiddiol graddol dros amser. Credaf fod y rheoliadau y mae Aelodau'n pleidleisio arnyn nhw heddiw wedi helpu i anrhydeddu'r addewid hwnnw ac anogaf y Senedd i'w cefnogi.
Galwaf ar Dai Lloyd nawr i siarad ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n siarad fel Cadeirydd dros dro, felly, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel rydych chi newydd nodi.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ydy'r prif reoliadau ar y coronafeirws yng Nghymru. Cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hyn ar 5 Awst eleni, ynghyd â dwy set o reoliadau diwygio. Ar 24 Awst, gwnaethom adrodd ar dair set arall o reoliadau diwygio, sef y rheoliadau sy'n destun y ddadl yma heddiw. Roedd rheoliadau diwygio Rhif 3 yn caniatáu i fwytai, caffis, bariau a thafarndai agor dan do ac yn caniatáu i neuaddau bingo, aleau bowlio a thai ocsiwn agor hefyd. Fodd bynnag, rhaid cymryd mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r feirws. Fe wnaeth rheoliadau diwygio Rhif 3 hefyd lacio ar y cyfyngiad ar gynulliadau fel y caniateir cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl, pa un a yw'n ymwneud â gweithgareddau yn yr awyr agored sydd wedi eu trefnu ai peidio. Tynnodd ein hadroddiad ar reoliadau diwygio Rhif 3 sylw at y ffaith na chafwyd ymgynghoriad cyhoeddus nac asesiad effaith rheoleiddiol ar y rheoliadau, a hynny o ganlyniad i'r amgylchiadau presennol, yn amlwg.
Roedd rheoliadau diwygio Rhif 4 yn caniatáu i ganolfannau cymunedol, pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, campfeydd, sbaon, canolfannau hamdden, a mannau chwarae o dan do i agor hefyd. Unwaith eto, fodd bynnag, rhaid cymryd mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r coronafeirws yn y fangre. Maent hefyd yn rhoi pwerau newydd i swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol i sicrhau y cymerir mesurau er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad efo'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd eraill sydd ar agor.
Gwnaethom godi pwyntiau technegol a phwyntiau rhinweddau mewn perthynas â rheoliadau diwygio Rhif 4. Yn gyntaf, o ran y pwyntiau technegol, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau yn cynnwys cosb bosibl o chwe mis o garchar mewn perthynas â throseddau newydd sy'n ymwneud efo hysbysiadau cau mangre. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog newydd ddweud. Fodd bynnag, byddai hyn yn afreolaidd, wrth gwrs, gan fod y Ddeddf y mae'r rheoliadau yn ddarostyngedig iddi, sef Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn darparu na ellir cosbi troseddau o'r fath trwy garcharu. Er ein bod yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi sylw i'r mater hwn yn rheoliadau diwygio Rhif 5 trwy wneud yn glir mai dim ond trwy ddirwy y gellir cosbi troseddau o'r fath, roedd y ddarpariaeth yn ymwneud â charcharu mewn grym rhwng 10 Awst 2020 a 17 Awst 2020. Felly, rydym yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn iddo gadarnhau na chafodd y ddarpariaeth honno unrhyw effaith ymarferol yn ystod y cyfnod hwnnw. Eto, dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud heddiw.
Yn ein hadroddiad, gwnaethom ofyn hefyd am eglurder ynghylch y broses o gymhwyso rheoliad 18(7), sy'n ymwneud efo'r wybodaeth y gall swyddog gorfodi ofyn amdani, a sut y gellir ei defnyddio mewn achos. O ran y pwyntiau rhinweddau, mae ein hadroddiad yn ceisio eglurder ynghylch dull gorfodi Llywodraeth Cymru, a hefyd ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda swyddogion gorfodi mewn awdurdodau lleol, o ystyried bod y cyfyngiadau sy'n berthnasol i unigolion a busnesau yng Nghymru bellach wedi'u gwneud ac wedi eu diwygio 17 o weithiau. Mae hwn yn bwynt pwysig gan fod amlder y newidiadau a wnaed at ddibenion adlewyrchu natur newidiol y pandemig yn ei gwneud hi'n anodd i unigolion a busnesau ddilyn yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei wneud. Yn ei dro, mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch sut mae'r cyfyngiadau wedi cael eu gorfodi.
Rydym hefyd yn gofyn am wybodaeth ynghylch yr adnoddau y mae eu hangen i gyflawni'r gweithgarwch gorfodi hwn. Yn ein barn ni, byddai wedi bod yn ddelfrydol pe bai gwybodaeth am y gyfundrefn orfodi wedi cael ei chynnwys yn y memorandwm esboniadol.
Er na godwyd unrhyw bwyntiau gennym yn ein hadroddiadau ar reoliadau diwygio Rhif 5, byddwn yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn sgil y ffaith bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar reoliadau Rhif 5 wedi dod i'n sylw ers hynny. Yn benodol, mae'r canllawiau yn dweud bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar y sector lletygarwch, sinemâu, campfeydd ac ati i gasglu a chadw gwybodaeth am gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n dweud bod yn rhaid i bob busnes, mangre agored, gweithle ac ati, gan gynnwys y sector lletygarwch, sinemâu a champfeydd, gymryd mesurau rhesymol i ymdrin â'r feirws. Ym mwyafrif helaeth yr achosion, efallai ei bod hi'n rhesymol i'r sector lletygarwch a champfeydd ac ati gasglu a chadw gwybodaeth, fodd bynnag, nid ydym yn credu bod hyn yn gyfystyr â rhwymedigaeth gyfreithiol gyffredinol. Dylid gwneud penderfyniad ar bob achos ar sail y ffeithiau perthnasol, ac, fel y gwyddom ni, ni ellir datgan y gyfraith mewn canllawiau. Y gyfraith yw'r hyn a nodir yn y rheoliadau eu hunain.
Trof yn awr at y pwynt olaf ar reoliadau Rhif 5. Ymddengys bod y canllawiau'n dweud y gellir casglu a chadw gwybodaeth am gwsmeriaid er mwyn lleihau'r risg y bydd unrhyw berson
'sydd wedi bod ym mangre rhywun'—
dwi'n dyfynnu yn y fan yna—yn lledaenu'r feirws. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau yn dweud y gellir casglu gwybodaeth am gwsmeriaid at y diben gwahanol o leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws 'yn y fangre'. Ac, eto, dwi'n dyfynnu eto.
Byddaf yn ddiolchgar, felly, i orffen, pe bai'r Llywodraeth yn gallu egluro a oes unrhyw anghysondeb rhwng y canllawiau a'r rheoliadau ar y pwynt yma. Diolch yn fawr iawn i chi.
Gweinidog, diolch ichi am eich diweddariad am y rheoliadau a byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliadau fel y'u cyflwynwyd gan y Llywodraeth y prynhawn yma. Hoffwn ofyn am ddau bwynt o eglurder gennych chi os oes modd, os gwelwch yn dda.
Yn eich diweddariad, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y pedwar hysbysiad gwella a gyflwynwyd o dan y rheoliadau. A ydych chi mewn sefyllfa i ddweud wrthym ni beth oedd angen cyflwyno'r hysbysiadau gwella arnynt? Ai lleoliadau lletygarwch oedden nhw, ai gweithleoedd oedden nhw, ac a oedd lleoliadau daearyddol penodol lle'r oedd hi'n anoddach gweithredu'r gyfraith? Felly, a oedd hyn yn rhywbeth a oedd yn effeithio ar fusnesau neu letygarwch yn y gogledd neu ai yn y de, neu ai dim ond mater cyffredinol ydoedd ledled Cymru?
Ac, yn ail, crybwyllodd y Prif Weinidog hyn yn ei ddatganiad heddiw, a gan ein bod yn edrych ar y rheoliadau, rwy'n synnu nad ydych chi wedi crybwyll gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysgol yma heddiw. Dywedir wrthym ni y bydd cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw, ond mae hwn yn gyfarfod ffurfiol o Senedd Cymru, byddwn wedi tybio, fel Aelodau, y byddai wedi bod yn ddigon cwrtais i ddweud wrthym ni yn union beth oedd meddylfryd Llywodraeth Cymru ynghylch hyn, a byddai hwn yn gyfle delfrydol i chi wneud hynny. Fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog at y ffaith ei bod hi'n ddigon posib y byddai angen y gofynion hyn yn lleol mewn ysgolion addysgol, prifysgolion a cholegau addysg bellach er mwyn gwisgo mygydau wyneb, a allwch chi ein goleuo ni yma heddiw o ran eich barn am y mesurau hyn, a phryd y gallwn ni glywed newyddion mwy pendant gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellid datblygu hyn?
Er fy mod yn croesawu llacio'r cyfyngiadau, fy ngwrthwynebiad i'r rheoliadau hyn yw nad ydynt yn mynd yn ddigon pell. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad yn gynharach at yr angen i gynnal cydbwysedd wrth wneud penderfyniadau am lacio—mae'r un peth yn wir am eu gorfodi yn y lle cyntaf. Er bod costau'r cyfyngiadau hyn yn ymddangos yn eithaf hawdd i'w mesur, gwyddom y bu gostyngiad o un rhan o bump yn ein hincwm cenedlaethol yn y chwarter diwethaf, a gwyddom hefyd y gost i'r cyhoedd mewn ffyrdd eraill drwy ganslo neu ohirio llawdriniaethau mewn ysbytai, a nifer y marwolaethau a fu o ganlyniad i gyflyrau eraill oherwydd y flaenoriaeth a roddir i drin cleifion sydd â'r coronafeirws arnyn nhw. Ond, mae'n llawer anoddach mesur manteision y cyfyngiadau, ar y llaw arall.
Gwyddom o gymariaethau rhyngwladol nad oes cymaint â hynny o wahaniaeth, mewn gwirionedd, rhwng gwledydd sydd wedi gosod cyfyngiadau symud llym a'r rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn gynharach at achos Sweden, y dywedodd ei fod wedi edrych arno, ac eto, os edrychwch chi ar brofiad Sweden, mae costau eu hymateb i'r coronafeirws yn llawer is na'r costau yr ydym ni wedi'u hysgwyddo. Ac nid yw Sweden wedi dioddef fel a wnaethom ni oherwydd y clefyd chwaith. Ar hyn o bryd yn Sweden, dim ond 21 o bobl—21 o bobl—sydd mewn cyflwr difrifol neu dyngedfennol oherwydd coronafeirws. Y ffigur ar gyfer y DU yw 72. Mae nifer fach iawn o bobl mewn gwirionedd yn dioddef canlyniadau sylweddol o ddod i gysylltiad â'r clefyd.
Gwyddom mai prif nodwedd COVID yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn dioddef unrhyw effeithiau gwael o gwbl; maen nhw'n asymptomatig neu dim ond math ysgafn iawn o'r feirws sydd ganddyn nhw. Y cyfartaledd symudol saith diwrnod ar gyfer marwolaethau yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yw rhwng 14 a 10. Mae llawer o achosion eraill o farwolaeth sy'n uwch na'r ffigurau hynny, ac eto nid ydym ni yn gosod cyfyngiadau symud llym er mwyn eu gwrthweithio. Y ffigur ar gyfer Sweden yw dim ar hyn o bryd—dim marwolaethau.
Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog efallai ailystyried agwedd Llywodraeth Cymru at y rheoliadau hyn a bod yn fwy beiddgar nag y buont. Er bod llacio, fel y dywedais, i'w groesawu, mae angen llacio cyflymach arnom ni, llacio ehangach, oherwydd mae'r manteision o ran y costau'n llawer mwy na pha ddifrod bynnag y gellid ei wneud.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Ni allaf glywed y Gweinidog ar hyn o bryd. A gawn ni—? Ydw, rwy'n credu ei fod yn iawn nawr. Ewch ymlaen.
Diolch, Llywydd, a diolchaf i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl, y ceisiaf ymdrin â nhw yn eu tro.
Diolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad ar ran y pwyllgor. Nodais y cywiriad sy'n ofynnol yn fy sylwadau agoriadol a chadarnheais nad oedd unrhyw effaith ymarferol ar y mater yr oedd angen ei gywiro. Nid wyf yn credu bod anghysondeb rhwng y canllawiau a'r rheoliadau, ond byddaf yn hapus i roi sylw pellach i hyn o ystyried y manylion ychwanegol y mae'r Aelod wedi'u darparu.
O ran sylwadau Andrew R.T. Davies, un o'r pedwar mater sydd yn hysbys i'r cyhoedd i raddau helaeth am yr hysbysiadau gwella a gyflwynwyd yw Wetherspoon yn Wrecsam lle bu clwstwr o achosion a fu'n gysylltiedig â'r dafarn benodol honno. Mae'n ymwneud yn bennaf â diffyg cadw pellter cymdeithasol yn yr ardaloedd staff, a dyna ddiben yr hysbysiad gwella a gyflwynwyd gan gyngor Wrecsam. Mae'n bwysig cydnabod bod hyn yn ymwneud â sut mae busnesau'n gofalu am eu cwsmeriaid, ond hefyd eu staff yn ogystal. Ac nid oedd hynny oherwydd ei bod hi'n amhosib i aelodau staff gadw pellter cymdeithasol, roedd mewn gwirionedd oherwydd nad oedd y gofynion eu hunain yn cael eu dilyn. Ac i fod yn deg, mae'r cyflogwr wedi cydnabod bod angen ailedrych ar y canllawiau a'r hyfforddiant sydd gan staff i sicrhau bod ymlyniad priodol yn y dyfodol.
O ran y sylw a wnaethpwyd am y lleoliadau addysgol, clywais ef yn gwneud yr un sylw i'r Prif Weinidog hefyd, ac wrth gwrs rydym yn trafod y rheoliadau sydd eisoes wedi'u pasio yn hytrach na'r gwaith sydd heb ei orffen eto o ddatrys ac adolygu unrhyw gyngor a roddwn ni ynghylch gorchuddion wyneb ac addysg. Fel y dywedais, nid ydynt yn rhan o'r rheoliadau, ac fel y dywedais ddoe, rwy'n disgwyl i ni wneud datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw. Byddai'n well gennyf fod mewn sefyllfa i wneud hynny nawr, ond mae'n bwysig ein bod yn gwneud pethau'n iawn pan fyddwn yn gwneud hynny, a phan fyddwn yn gwneud hynny bydd hynny ar ffurf datganiad ffurfiol i'r Aelodau a byddwn yn amlwg yn ateb cwestiynau yn gyhoeddus amdano.
O ran sylwadau Neil Hamilton, nid wyf yn cytuno â'i wrthwynebiad cyson i unrhyw fesurau gan Lywodraeth Cymru yr ydym ni wedi'u gweithredu ar y sail ein bod yn cadw Cymru'n ddiogel. Nid wyf yn cytuno â'i apêl i ddileu'r holl fesurau rheoli a bod y manteision yn drech na'r difrod. Dywedais yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth fod o leiaf 2,557 o bobl yng Nghymru wedi colli eu bywydau o ganlyniad i'r coronafeirws. Dyna'r math o ddifrod yr ydym yn sôn amdano, a heb unrhyw fesurau rheoli, credaf y byddai llawer mwy o deuluoedd wedi dioddef colled, byddai llawer mwy o bobl wedi cael niwed hirdymor i'w hiechyd. Mae hwn yn fygythiad newydd sy'n achosi marwolaethau sylweddol o fewn ein poblogaeth. Nid wyf yn credu y byddai'n gydwybodol o gwbl i Lywodraeth Cymru wrthod gweithredu i gadw ein dinasyddion yn ddiogel, ac rwy'n falch o'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o bleidiau'r Senedd wedi cydnabod yr angen i'r Llywodraeth hon weithredu yn ystod y pandemig.
Felly, mae'r holl reoliadau a drafodwyd heddiw yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus ynglŷn â'r ffordd orau o gydbwyso rhyddid â rheoli bygythiad parhaus y feirws. Rydym ni wedi ystyried barn amrywiaeth o bartneriaid, busnesau, awdurdodau lleol ac, yn wir, cyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid ac undebau llafur mewn trafodaethau eraill.
Rydym yn parhau i geisio paratoi ein hunain ar gyfer yr hydref a'r gaeaf sydd ar ddod a siarad, lle y bo'n bosib, â chyd-Aelodau mewn gweinyddiaethau eraill. Ac yn hynny o beth, wrth weithredu agweddau ar ein fframwaith gorfodi, mae eraill, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban, bellach yn ceisio dysgu o'r hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ochelgarwch parhaus Llywodraeth Cymru, yn enwedig am ganiatáu i bobl gymysgu'n rhydd mewn mannau dan do na ellir eu rheoleiddio. Mae'n siŵr bod pob un ohonom ni yn ddiamynedd i ymweld â ffrindiau a theulu yn eu cartrefi, a thrwy ymestyn maint posibl aelwyd estynedig, rwy'n gobeithio y byddwn yn helpu mwy o bobl i wneud hynny'n ddiogel. Ond, fel ag erioed, rhaid cymryd un cam ar y tro. Byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth arsylwi'r dystiolaeth a chwilio am gyfleoedd i liniaru ymhellach cyn gynted â phosib, mor ddiogel â phosib. Ond, yn y cyfamser, cymeradwyaf y rheoliadau i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly dwi'n gohirio'r eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gohirio'r bleidlais unwaith eto ar eitem 3.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac wedyn y cwestiwn olaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu eitem 4? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly dwi'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud cyn cynnal y cyfnod pleidleisio. Bydd y tîm cymorth technoleg gwybodaeth wrth law i helpu gydag unrhyw faterion yn ystod y cyfnod yma, ac felly dwi'n gohirio'r cyfarfod am bum munud.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:07.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:16, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n ailgychwyn nawr, felly, drwy gynnal y pleidleisiau ar y rheoliadau. Mae'r bleidlais gyntaf ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 2 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020: O blaid: 39, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, dau yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 3 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020: O blaid: 37, Yn erbyn: 2, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem olaf i bleidleisio arno yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig ar y rheoliadau hynny. Dwi'n agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig ar y rheoliadau yna wedi ei gymeradwyo hefyd.
Eitem 4 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020: O blaid: 39, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ddod â ni at ddiwedd ein gwaith am y dydd heddiw. Prynhawn da ichi gyd.
Daeth y cyfarfod i ben am 15:18.