Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
03/03/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rhagolygon cyflogaeth y rhai sy'n gadael yr ysgol yng Nghymru? OAQ55168
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn.
Yn ystod y tymor Senedd hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn creu 100,000 o brentisiaethau newydd o ansawdd uchel, gan gryfhau'r gyfres o gamau yr ydym ni'n eu cymryd i helpu'r rhai sy'n gadael yr ysgol ac eraill i gael gwaith medrus.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae ffigurau'n dangos bod oddeutu 10 y cant o bobl ifanc 16 i 18 oed yng Nghymru nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant. Yn Lloegr, mae'n rhaid i bobl astudio neu hyfforddi tan eu bod yn 18 oed, gan naill ai fynd i'r coleg neu'r chweched dosbarth, gwneud prentisiaeth neu astudio'n rhan-amser tra eu bod yn gweithio neu'n gwirfoddoli. Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn dweud y dylid cyflwyno gofyniad dysgu dwy flynedd gorfodol tebyg, gyda chyfranogiad sgiliau craidd, yng Nghymru. Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno i astudio'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i weld a fydd cymryd y camau y maen nhw'n eu hargymell wir yn gwella rhagolygon y bydd ein plant a'n pobl ifanc yn cael gyrfaoedd o ansawdd da ar ôl gadael yr ysgol yng Nghymru os gwelwch yn dda?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar yr holl dystiolaeth, ac mae hon yn ddadl hirsefydlog iawn yr ydym ni wedi ei chael dros flynyddoedd lawer, o ran pa un ai gorfodaeth yw'r ffordd orau i sicrhau llwybrau gwell at gyflogaeth i bobl ifanc ai peidio, neu ai atyniad y cynnig yw'r hyn y dylem ni ddibynnu arno. A bob tro yr ydym ni wedi cael y ddadl hon, rydym ni wedi dod i'r casgliad ei bod hi'n well canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod yr amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc yn ddigon cymhellol i wneud i'r bobl ifanc hynny fod eisiau dilyn y gwahanol lwybrau i waith.
Ac rwy'n credu y gallwn ni hawlio rhywfaint o lwyddiant ar gyfer y dull hwnnw, Llywydd. Nid ydym ni'n gorfodi pobl ifanc i wneud hyn, ond mae ein cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn uwch na'r rhai ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn uwch na'r lleoedd hynny lle mai'r dull a ddefnyddir i sicrhau'r canlyniadau hynny yw gorfodaeth. Rwyf i eisiau i'r rhaglenni yr ydym ni'n eu cynnig yng Nghymru fod mor dda fel y bydd pobl ifanc bob amser yn dod o hyd i rywbeth a fydd yn eu cynorthwyo i newid eu bywydau o'r fan lle maen nhw heddiw i'r man lle y byddan nhw'n dymuno bod yn y dyfodol. Ac er y byddwn ni'n astudio tystiolaeth, wrth gwrs, am nawr, mae'n dal i fod yn well gennym ni'r ffordd honno o gynorthwyo pobl ifanc.
Fel y gwyddoch, £3.90 yw'r isafswm cyflog cenedlaethol presennol ar gyfer prentisiaethau blwyddyn gyntaf, ac mae hyn yn isel iawn a gall lesteirio pobl sydd â phryderon ynghylch cyflogadwyedd, a fydd eisiau cymryd neu efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd swyddi eraill yn ogystal â gwneud prentisiaeth. Rwy'n deall y bu amharodrwydd yn y gorffennol i ddilyn argymhellion ar gyfer grant cymorth byw neu fwrsari ar gyfer prentisiaethau incwm isel, yn ymwneud â phryderon y bydd yn cael ei ystyried yn fudd-dal trethadwy. Ond, o ystyried bod y rhan fwyaf o brentisiaid blwyddyn gyntaf ymhell o dan drothwy'r gyfradd dreth sylfaenol, ni fyddwn i wedi meddwl y byddai hyn yn ormod o broblem i chi ddechrau ei hystyried fel Llywodraeth Cymru.
Felly, beth fyddech chi'n gallu ei wneud yn hyn o beth, ac a allwch chi ymrwymo i ymchwilio i'r mater hwn, oherwydd mae llawer o brentisiaid wedi codi hyn gyda mi fel rheswm pam weithiau y byddan nhw'n rhoi'r gorau i ddilyn y llwybr addysg penodol hwn?
Wel, Llywydd, fel Llywodraeth, rydym ni eisiau ymdrin ag unrhyw rwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu o ran manteisio ar gynigion y maen nhw'n credu fydd yn fanteisiol iddyn nhw. Dyna pam yr ydym ni wedi cadw lwfansau cynhaliaeth addysg yma yng Nghymru, pan eu bod nhw wedi cael eu diddymu mewn mannau eraill. Rwy'n gyfarwydd â'r dadleuon technegol a fu ynglŷn â pha un a fyddai prentisiaid, pe byddech chi'n eu talu mewn ffordd benodol, yn canfod eu hunain yn colli'r arian hwnnw gan y byddai rhan wahanol o'r system yn ei adfachu. Wrth gwrs, rydym ni'n dal i adolygu hynny, ac rwy'n hapus iawn i gymryd golwg arall arno yng ngoleuni'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud y prynhawn yma.
Prif Weinidog, mae'r gweithgynhyrchydd trenau Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles yn fy etholaeth i yn ychwanegiad i'w groesawu i'r economi leol, ac mae wedi bod yn bleser ymweld â nhw a siarad â'r rheolwyr am ddyfodol y gwaith. Mae ganddyn nhw un rhwystredigaeth—wel, efallai fod ganddyn nhw fwy nag un, ond un rhwystredigaeth yw'r diffyg menywod a merched sy'n dod ymlaen i gymryd swyddi peirianneg yn y gwaith. Yng Ngwlad y Basg, rwy'n credu mai menywod yw tua hanner eu peirianwyr, ond dim ond nifer fach sydd yn y gwaith yng Nghasnewydd. Maen nhw'n gweithio gydag ysgolion a cholegau lleol, ond rwy'n meddwl tybed beth allech chi ei ddweud o ran uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn fwy agored i'n merched a'n menywod, ac yn wir bod gan gyflogwyr gronfa dalent ehangach i fanteisio arni.
Diolchaf i John Griffiths am y pwyntiau pwysig yna. Roedd yn bleser cyfarfod, gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates, â holl fwrdd CAF pan ddaethant i Gymru yn ail hanner y llynedd. Daethant i'n cyfarfod ni yn syth o fod wedi cyfarfod â'r gweithlu yng Nghasnewydd, ac roedden nhw'n awyddus iawn i bwysleisio cymaint o argraff yr oedd safon y bobl a recriwtiwyd i weithio iddyn nhw yng Nghasnewydd wedi ei wneud arnyn nhw, ymrwymiad y bobl hynny i sicrhau llwyddiant menter newydd CAF yno. Ond, wrth gwrs, mae'r pwynt y mae John Griffiths yn ei wneud yn un mwy cyffredinol. Rydym ni'n gwneud cynnydd o ran yr agenda hon, Llywydd. Pan gefais gyfarfod gyda Tata yn Shotton yn ddiweddar, a chydag Airbus ym Mrychdyn, i gyfarfod eu prentisiaid ifanc, roedd peirianwyr benywaidd ifanc ym mhob grŵp y gwnaethom ni ei gyfarfod. Ond maen nhw'n dal i fod yn lleiafrif. Mae llawer mwy o ddynion ifanc sy'n eu canfod eu hunain yn dilyn y llwybr hwnnw o hyd. Rydym ni wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol i hysbysu menywod ifanc am y posibiliadau hynny, eu gwneud yn hygyrch i fenywod ifanc, bod esiamplau yno y gallan nhw eu gweld, ac y gallwn nhw eu dilyn, a'i gwneud yn eglur iddyn nhw bod gyrfaoedd yn y rhan hon o'r sbectrwm cyflogaeth mor agored iddyn nhw yng Nghymru ag y bydden nhw i unrhyw berson arall.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r cymoedd gogleddol? OAQ55186
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn dod â phwerau a buddsoddiadau ar draws ein cyfrifoldebau ynghyd i gefnogi'r broses o adfywio lleoedd a chreu cyfleoedd i bobl ar draws y Cymoedd gogleddol.
A chyda hynny mewn golwg, rwy'n falch o ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi llunio ei uwchgynllun ardal adfywio Blaenau'r Cymoedd, a fydd yn mynd i'r afael â heriau twf a ffyniant yn y Cymoedd gogleddol, mewn ardaloedd fel Bargoed, Nelson, Senghennydd, a'r lleoedd hynny sy'n anodd eu cyrraedd. Maen nhw'n cyfeirio yn eu hadroddiad at fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, metro de Cymru, a thasglu'r Cymoedd, y mae'n rhaid i bob un ohonyn nhw fod yn gysylltiedig. Ac mae cyngor Caerffili hefyd wedi neilltuo £24.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn ar gyfer prosiectau cyfalaf. Dylai'r holl bethau hyn gysylltu â pholisi Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall lleoedd fel Bargoed a Rhymni fod yn ganolfannau strategol yn y dyfodol ar gyfer twf a datblygiad, fel bod pobl yn teithio i'r gogledd i weithio, ac nid dim ond i'r de i weithio. Sut gall y Prif Weinidog gefnogi hynny? Pa ddeialog y mae wedi ei chael gyda chyngor Caerffili ynglŷn â'u huwchgynllun, a pha gynlluniau fydd gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i gyd-fynd â'r twf uchelgeisiol hwn sydd gan gyngor Caerffili?
Llywydd, a gaf i ddechrau trwy longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar yr uchelgais y mae wedi ei nodi yn ei uwchgynllun ar gyfer ardal adfywio'r Cymoedd? Gwn fod ymgynghoriad ar y cynllun hwnnw'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac y bydd ar agor am weddill y mis hwn. Ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â swyddogion yng nghyngor Caerffili i wneud yn siŵr, fel y dywedodd Hefin David, bod y mentrau a gynigir gan yr awdurdod lleol ei hun yn cael eu cysylltu â'r mentrau niferus y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cychwyn ar gyfer y Cymoedd gogleddol. Soniodd Hefin David, Llywydd, am drafnidiaeth yn benodol. Bydd ef yn gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi gostwng prisiau tocynnau gan hyd at 14 y cant yn y Cymoedd gogleddol, yn ei adolygiad o brisiau ddechrau mis Ionawr, ac union ddiben hynny yw gallu meithrin y math o uchelgeisiau a nodwyd gan yr Aelod lleol dros Gaerffili, fel bod mwy o bobl yn gallu teithio i'r gwaith lle mae cyfleoedd yn bodoli, a bod pobl yn gallu teithio o'r tu allan i'r ardaloedd hynny i gyfleoedd sy'n bodoli yn y cymoedd gogleddol hynny—cyfleoedd yr ydym ni'n eu cefnogi gyda rhaglen gwerth £100 miliwn y Cymoedd Technoleg a thrwy'r agenda trawsnewid trefi. Fe'i trafodwyd gennym ni yma yn y Cynulliad yn ystod yr wythnosau diwethaf, ein huchelgais i wneud yn siŵr bod gan y trefi hynny ar draws y Cymoedd gogleddol y seilwaith sydd ei angen arnyn nhw, uchelgais o'r math a nodir yn uwchgynllun cyngor Caerffili ac yna i gefnogi hynny gyda'r camau y mae'r awdurdod lleol yn eu cymryd a'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o'i wneud yn yr ardaloedd hynny.
Prif Weinidog, o ran fy rhanbarth i, mae'n amlwg bod cam olaf ffordd Blaenau'r Cymoedd wrth westy Baverstock yn ddarn pwysig o'r jig-so i wneud yn siŵr bod y ffordd gyfan yn ffordd ddeuol. Rydym ni'n gwybod bod yr oediadau ar yr ochr ddwyreiniol yn amlwg wedi cael effaith ar bwysau cost y prosiect penodol hwnnw. Rydych chi wedi nodi model ariannu newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i ariannu'r cam olaf hwn. A allwch chi roi ymrwymiad, beth bynnag fo'r model ariannu, y bydd yr amserlenni a ragwelir ar gyfer adeiladu yn cael eu bodloni y tro hwn, ac na fyddwn ni'n gweld yr oediadau yr ydym ni wedi eu gweld ar ran ddwyreiniol y prosiect penodol hwn?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn iawn i ddweud y bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r rhannau sy'n weddill o ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac mae'n rhan bwysig iawn o uchelgais y Llywodraeth hon i'r Cymoedd gogleddol bod ffordd ddeuol ar hyd holl Flaenau'r Cymoedd fel bod trafnidiaeth yn dod yn un o alluogwyr yr economi leol honno. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn dosbarthu risg mewn ffordd wahanol rhwng yr ariannwr—Llywodraeth Cymru—a'r contractwr. Ac mae'r risgiau o fethu â chwblhau a llithriadau amser yn llawer mwy gyda'r contractwr yn y model buddsoddi cydfuddiannol ac, am y rhesymau hynny, gallwn fod yn ffyddiog y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn brydlon ac yn unol â'r gyllideb yn wir, oni bai fod materion annisgwyl yn codi yn ystod y cyfnod adeiladu.
Prif Weinidog, mae adfywio'r Cymoedd gogleddol yn gofyn am fwy na dim ond datblygu economaidd a gwell cysylltiadau trafnidiaeth. Mae'n rhaid i ni adfywio'r amgylchedd a sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn lleoedd y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddyn nhw.
Prif Weinidog, yng ngoleuni'r sylwadau gan y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol bod y difrod a achoswyd gan storm Dennis yn rhagflas o'r hyn sydd i ddod gan y disgwylir i Gymoedd y de weld 50 y cant yn fwy o law dros y 10 mlynedd nesaf, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn fwy cydnerth. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu cydnerthedd? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Glo am gyflwr y meysydd glo?
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd. Rwy'n hapus o hysbysu, yn dilyn cwestiynau yr wythnos diwethaf, bod cyfarfod pellach rhwng swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod lleol a'r Awdurdod Glo wedi ei gynnal ers y cyfarfod a gadeiriais gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r ddau ohonom ni'n disgwyl adroddiad erbyn diwedd yr wythnos hon, a fydd yn darparu'r wybodaeth ychwanegol yr oeddem ni'n chwilio amdani yn y cyfarfod hwnnw, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, rwy'n gobeithio, ynglŷn â chyflwr presennol diogelwch mewn tomenni glo, ond a fydd yn mynd y tu hwnt i hynny, yn y ffordd y mae'r Aelod wedi awgrymu, i ddarparu asesiad cychwynnol o leiaf o'r hyn y mae angen ei wneud i sicrhau bod y safleoedd hynny'n ddiogel ar gyfer y dyfodol. Ac os ydym ni'n mynd i weld lefel gwahanol o lawiad a gwahanol ddwysedd o ran digwyddiadau tywydd, yna mae'n bosibl na fydd y safonau y dyfarnwyd diogelwch yn eu herbyn yn ystod y degawd diwethaf yn ddigonol ar gyfer y degawd nesaf. A bydd yr adroddiad y byddwn yn ei weld—bydd yn adroddiad cychwynnol erbyn diwedd yr wythnos hon—yn dechrau rhoi rhywfaint o gyngor i ni ar y mater hwnnw a bydd hynny'n rhan o adolygiad tymor hwy o gyfres gyfan o faterion sy'n deillio o'r digwyddiadau ledled Cymru yn ystod y pythefnos neu dair wythnos diwethaf, y byddwn yn ei arwain trwy Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod ein seilwaith ffisegol yn gadarn ar gyfer y dyfodol a'n bod ni'n gwneud popeth y gallwn i ddiogelu'r cymunedau hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Fel y sefyllfa waethaf posibl, gallai hyd at 80 y cant o boblogaeth yr Alban ddal coronafeirws COVID-19 a 250,000 o bobl angen triniaeth yn yr ysbyty, yn ôl eu prif swyddog meddygol. Ddoe, Prif Weinidog, dywedasoch fod eich Llywodraeth chi yn gweithio ar gyfer y gorau ac yn paratoi ar gyfer y gwaethaf. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r sefyllfa waethaf posibl yma? A beth yw'r ffigurau cyfatebol ar gyfer Cymru?
Wel, Llywydd, mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr wedi cadarnhau'r ffigur o 80 y cant y bore yma. Disgwylir i'r amrediad fod yn y rhan o'r sbectrwm rhwng 50 ac 80 y cant a byddai 80 y cant yn uwch na'r boblogaeth yn nhalaith Tsieina sydd wedi cael ei heffeithio'n fwyaf difrifol, felly mae'r rhain yn sefyllfaoedd achos gwaethaf realistig. Pe byddai'r gwaethaf yn digwydd, yna byddai hyd at 80 y cant o boblogaeth Cymru yn cael ei heffeithio hefyd, felly dyna'r ffigur y mae'r broses gynllunio yn ei ddefnyddio drwy ein prif swyddog meddygol a'r trefniadau cydgysylltu brys sydd gennym ni. Nid yw'n rhagfynegiad, nid dyna'r ydym ni'n credu fydd yn digwydd; rhagdybiaeth at ddibenion cynllunio yw bod y ffigur hwnnw o 80 y cant a grybwyllwyd yn yr Alban, a gadarnhawyd heddiw yn Llundain, yr un ffigur ag yr ydym ni'n gweithio'n unol ag ef yma yng Nghymru.
Diolch. Mae cynllun gweithredu'r pedair gwlad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos nad yw Cymru wedi rhoi rhai mesurau ar waith eto. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r feirws yn cael ei ystyried yn glefyd hysbysadwy erbyn hyn. Pam nad yw yma? Yn Lloegr, mae pwerau brys eisoes ar waith i ganiatáu i'r heddlu gyfarwyddo a chadw person nad yw'n cydymffurfio â chais i gael ei ynysu os amheuir ei fod yn cario'r feirws, a bydd y pwerau hynny'n cael eu hymestyn i weithwyr meddygol ac iechyd cyhoeddus proffesiynol. A fydd hyn yn digwydd yma? Ac a allwn ni gael diweddariad cyhoeddus dyddiol yn hytrach nag wythnosol, fel sy'n digwydd yn yr Alban, o nifer y profion coronafeirws positif a negyddol?
A gaf i, Llywydd, yn gyntaf oll sicrhau'r Aelod bod diweddariad dyddiol yn cael ei ddarparu yng Nghymru—yn cael ei ddarparu bob dydd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru—ac rydym ni'n bwriadu i hynny barhau? Cyn belled ag y mae'r pwerau cadw yn y cwestiwn, rydym ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon ar ddeddfwriaeth bosibl y gallai fod angen ei chyflwyno, fel pe byddai'r gwaethaf yn digwydd, y byddai gan y Llywodraethau y pwerau angenrheidiol i allu ymateb i glefyd sydd wedi symud y tu hwnt i'r cyfnod cyfyngu ac oedi. Byddwn yn adrodd hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y fan yma, wrth gwrs, ac yn gwneud yn siŵr bod cyfleoedd i'r Aelodau graffu ar y pwerau hynny, pe bydden nhw'n dod yn angenrheidiol.
Rydym ni'n adrodd drwy'r amser, Llywydd, ar nifer y bobl sydd wedi cael eu profi yma yng Nghymru. Mae'n gannoedd o bobl erbyn hyn. Mae'r trefniadau sydd gennym ni yn gadarn iawn. Mae gennym ni ddull gweithredu penodol yma yng Nghymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn fy marn i, o drin pobl yr amheuir bod ganddyn nhw coronafeirws yn y gymuned, ac mae 95 y cant o'r profion yng Nghymru yn cael eu cynnal yng nghartrefi pobl. Caiff hynny i gyd ei gofnodi, caiff hynny i gyd ei gyhoeddi. Mae'r wybodaeth yn gadarn ac mae'r dull o ymateb i angen, yn fy marn i, wedi bod yn llwyddiannus.
Asesiad diweddaraf Llywodraeth y DU yw y gallai hyd at un ran o bump o'r gweithlu fod yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch yn ystod yr anterth mewn epidemig. Cynyddodd nifer y bobl ar gontractau dim oriau yng Nghymru rhwng Mehefin 2018 a Gorffennaf 2019 gan 35 y cant, a dim ond un o bob saith ohonyn nhw sy'n cael tâl salwch. Pa gronfeydd y mae'r pedair Llywodraeth yn bwriadu eu sefydlu i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl ar gontractau o'r fath—staff asiantaeth yn y GIG a hawlwyr budd-dal cynhwysol—orfod dewis rhwng eu hiechyd a thalu eu biliau?
Mae'n bwynt pwysig mae'r Aelod yn ei godi, wrth gwrs. Yn y cyfarfod yr oeddwn i a'm cyd-Weinidog Vaughan Gething yn bresennol ynddo ddoe o gyfarfod cenedlaethol COBRA, trafodwyd materion yn ymwneud â thâl salwch, a gwn fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r ffordd y mae'r system honno'n gweithio, fel pe byddai'r gwaethaf yn digwydd, na fyddai pobl yn eu canfod eu hunain yn y sefyllfa o deimlo bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r gwaith, oherwydd os nad ydyn nhw yn y gwaith, nid oes unrhyw incwm ar gael iddyn nhw.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich sesiwn friffio ar yr argyfwng coronafeirws y bore yma? Rwy'n falch o weld Llywodraethau ac asiantaethau yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r feirws hwn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol bwysig bod asiantaethau a Llywodraethau yn parhau i weithio gyda'i gilydd er budd y cyhoedd.
Nawr, mae'n hollbwysig, wrth gwrs, bod ein gwasanaethau gofal sylfaenol yn gallu ymdopi ag unrhyw alw newydd o ganlyniad i'r datblygiad hwn, ac fel y gwyddoch, mae gormod o bwysau braidd ar wasanaethau ledled Cymru, wrth i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ddangos bod cynlluniau i fynd i'r afael â phwysau mewn gofal sylfaenol wedi bod yn dameidiog ac araf. Wrth ymateb i ddadl cyllideb ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru, mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon hefyd wedi ei gwneud yn glir bod angen mwy o eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer gofal sylfaenol a gweithgarwch cymunedol mewn rowndiau cyllideb yn y dyfodol fel y gallwn sicrhau bod lefel yr adnoddau sy'n cyrraedd gwasanaethau gofal sylfaenol rheng flaen yn ddigonol. Gan fod yr achos cyntaf o coronafeirws yng Nghymru wedi ei gadarnhau erbyn hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r datblygiadau ynghylch lledaeniad coronafeirws i sicrhau bod pobl Cymru yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa un a ydych chi'n ffyddiog fod gan y sector gofal sylfaenol yng Nghymru y gallu a'r adnoddau angenrheidiol sydd eu hangen os bydd nifer yr achosion yn cynyddu'n sylweddol, ac a oes unrhyw hyblygrwydd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru fel y gellid dyrannu adnoddau ychwanegol yn effeithlon pe byddai coronafeirws yn lledaenu ac yn dod yn broblem iechyd cyhoeddus llawer ehangach yn y dyfodol?
Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna. O ran lledaeniad, mae cyngor eglur ar gael i gleifion yng Nghymru ac, o heddiw ymlaen, bydd unrhyw glaf sydd angen cyngor yn gallu defnyddio'r rhif 111 i gael cyngor ar goronafeirws heb godi tâl ar yr unigolyn hwnnw. Y cyngor yw, os ydych chi'n credu eich bod yn agored i niwed o gwbl, peidiwch â mynd at y meddyg teulu, peidiwch â mynd i adran damweiniau ac achosion brys, ond cymerwch gyngor drwy'r rhif hwnnw yn y lle cyntaf.
O ran yr un unigolyn sydd wedi cael ei nodi yng Nghymru, wrth gwrs mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynd ati ar unwaith i olrhain cysylltiadau, fel y'i gelwir, i wneud yn siŵr bod unrhyw un a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r unigolyn hwnnw ac felly wedi cael ei amlygu i risg hefyd yn hysbys, eu bod yn cael eu profi, a'u bod yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw.
Mae Paul Davies yn gwneud pwynt pwysig iawn am ofal sylfaenol. Pe byddai coronafeirws yn symud i gyfnod lle'r oedd oedi a lliniaru, fel y mae'r cynllun yn awgrymu, yn cael ei gyflwyno fel y prif ymateb, yna bydd gofal sylfaenol ar y rheng flaen i geisio lliniaru'r angen i bobl fynd i'r ysbyty. Ddoe, trafododd y Gweinidog iechyd, y prif swyddog meddygol a minnau ffyrdd y gallem ni gael gwared ar rai o'r gofynion y mae gofal sylfaenol yn gweithredu yn unol â nhw ar hyn o bryd. Felly, yn aml, o ganlyniad i ddadleuon yma ar lawr y Cynulliad hwn, mae meddygon teulu yn gwneud gwaith monitro mater o drefn ar lawer o gyflyrau—diabetes, er enghraifft—pan fo pobl yn cael eu galw i mewn, yn cael eu monitro ac yn y blaen. Os bydd hon yn dod yn sefyllfa fwy brys, efallai y bydd yn rhaid i ni ohirio rhywfaint o'r gwaith mwy arferol hwnnw y mae meddygon teulu yn ei wneud ar hyn o bryd er mwyn rhyddhau eu hamser i allu ymateb i anghenion mwy taer. Fel yr awgrymodd Paul Davies, ceir canlyniadau cyllidebol i hynny, gan fod meddygon teulu yn cael eu talu ar sail cyflawni'r math hwnnw o weithgarwch. Dyna natur y contract sydd gennym ni gyda nhw, felly byddai'n rhaid i ni allu gwneud yn siŵr bod ein meddygon teulu yn gwybod, trwy beidio â gwneud pethau yr ydym ni'n eu disgwyl ganddyn nhw ar hyn o bryd i ryddhau eu hamser ar gyfer pethau mwy brys, na fydden nhw o dan anfantais ariannol o ganlyniad, a cheir hyblygrwydd yn ein cyllidebau i wneud yn siŵr y gallwn ni wneud hynny.
Wrth gwrs, mae'n arbennig o bwysig bod Llywodraeth Cymru hefyd mewn trafodaethau gyda'r holl leoliadau gofal iechyd i sicrhau bod y sector iechyd a gofal cymdeithasol cyfan mor wybodus â phosibl ac yn deall yn union sut y gall drin y rhai sydd dan ei ofal yn y modd gorau. Nawr, rydym ni'n gwybod o'r argyfwng coronafeirws, er enghraifft yn Seattle, ei fod wedi ysgogi galwadau am fesurau ataliol yng nghartrefi nyrsio a lleoliadau gofal cymdeithasol America, lle mae preswylwyr mewn mwy o berygl o gymhlethdodau difrifol o'r feirws, oherwydd bygythiad deuol oedran ac amodau byw clos. Wrth gwrs, mae'r un peth yn wir am y preswylwyr hynny sy'n byw mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael yn benodol gyda darparwyr a chontractwyr gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, a pha gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd i ddiogelu'n well y rhai sy'n byw mewn lleoliadau gofal cymdeithasol rhag coronafeirws?
Wel, unwaith eto, diolch i chi am y pwynt pwysig yna, oherwydd yr hyn yr ydym ni yn ei wybod am y feirws yw bod ei effaith yn fwy sylweddol ymhlith pobl hŷn a phobl y mae eu systemau imiwnedd eisoes wedi eu peryglu oherwydd cyflyrau eraill. A cheir crynodiadau uwch o'r bobl hynny mewn cartrefi gofal preswyl a nyrsio. Felly, mae Paul Davies yn llygad ei le i dynnu sylw at anghenion penodol y sector hwnnw. Wrth gwrs, mae'r system eisoes yn effro i hynny, mae cyngor yn cael ei ddarparu drwy'r dulliau clinigol arferol a'r ffyrdd eraill o gysylltu â'r sector. Byddwn yn gwneud mwy i wneud yn siŵr ein bod ni'n denu'r arweinwyr allweddol hynny yn y sector—Fforwm Gofal Cymru, er enghraifft—i mewn i'r sgyrsiau hyn.
Ceir her arbennig yma yng Nghymru. Ar draws ein ffin, fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, darperir gofal preswyl i raddau helaeth gan nifer fach o gwmnïau mawr iawn. Yng Nghymru, nid yw'r patrwm felly. Er bod gennym ni rywfaint o ddarpariaeth gan ddarparwyr corfforaethol, mae gennym ni sector sy'n cael ei ddominyddu o hyd gan berchenogion bach un neu ddau o gartrefi gofal preswyl. Mae cyfleu negeseuon i bobl yn fwy o her pan fydd gennych chi fwy o bobl dan sylw a phobl efallai nad ydyn nhw mor gyfarwydd o reidrwydd ag ymdrin â gofynion â chwmnïau mawr sydd wedi eu trefnu a'u paratoi'n dda i wneud hyn.
Felly, rydym ni'n effro iawn i'r heriau penodol y gallem ni eu hwynebu yma yng Nghymru ac rydym ni'n cymryd camau eisoes i wneud yn siŵr bod gan bobl ar y rheng flaen honno yr holl wybodaeth orau a'u bod yn gallu ymateb i ledaeniad y feirws hwn, pe byddai hynny'n digwydd, i mewn i'r sectorau hynny.
Prif Weinidog, yn sgil y gred y bydd y bygythiad o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru yn cynyddu dros amser, mae'n hanfodol bod GIG Cymru wedi'i staffio mor llawn â phosibl i drin unrhyw un sydd â symptomau o'r feirws. Yn anffodus, rydym ni eisoes yn gwybod bod y GIG yn wynebu heriau recriwtio sylweddol, felly a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion recriwtio yn y GIG yng Nghymru fel mater o frys? A allech chi ddweud wrthym ni hefyd a yw Llywodraeth Cymru yn edrych ar gofrestriad brys gweithwyr iechyd sydd wedi ymddeol fel ffordd o gynyddu nifer y bobl a all helpu i drin y rhai sy'n cael eu heffeithio gan y coronafeirws, ac, os felly, pa fesurau diogelu y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith ar gyfer y meddygon hynny sydd wedi ymddeol, o gofio y byddant hwythau hefyd yn agored i'r feirws, o ystyried eu hoed, ac a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno yswiriant indemniad brys, yn gyffredinol, i weithwyr gofal iechyd ddarparu gwasanaethau gofal neu ddiagnostig?
Wel, Llywydd, mae mwy o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru heddiw nag erioed o'r blaen yn ei hanes, a hyd yn oed yn ystod degawd o gyni cyllidol, mae nifer y bobl sy'n gweithio yn GIG Cymru wedi cynyddu gan 10 y cant yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, er bod heriau recriwtio, wrth gwrs, ac mewn meysydd penodol hefyd, yn gyffredinol mae'r GIG yng Nghymru yn recriwtio'n dda iawn, ac mae wedi ei staffio'n dda iawn.
Cyfeiriais yn fy ateb i Adam Price at ddeddfwriaeth frys sy'n cael ei thrafod rhwng y pedair Llywodraeth, ac nid yw'r trafodaethau hynny wedi eu cwblhau. Ond rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r Aelod bod y trafodaethau hynny'n cynnwys ail-gofrestriad brys staff sydd wedi ymddeol neu adael y proffesiwn yn ddiweddar—ac mae hynny'n cynnwys nyrsys ac eraill, yn ogystal â meddygon—er mwyn perswadio'r bobl hynny i ddod yn ôl a helpu mewn argyfwng. Mae'n bwysig cynnig cyfres o amddiffyniadau iddyn nhw, na fydd eu pensiynau yn cael eu heffeithio, y bydd yswiriant indemniad ar gael ar eu cyfer, ac y gallai fod angen ailhyfforddi, hyd yn oed os yw'n gyflym ac yn ddwys, i wneud yn siŵr bod sgiliau pobl ar lefel lle byddan nhw'n hyderus i ymarfer eto.
Mae'r holl faterion hynny'n cael eu trafod yn weithredol rhwng y Llywodraethau a rhwng y cymdeithasau proffesiynol, ac ailadroddaf yr ymgymeriad a roddais i Adam Price, sef pe byddai'r trafodaethau hyn yn aeddfedu'n ddarn o ddeddfwriaeth—a safbwynt Llywodraeth Cymru yw y byddai'n well cael un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, i'r graddau y mae hynny'n bosibl, yn hytrach na darnau o ddeddfwriaeth ar wahân mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig—byddwn serch hynny yn sicrhau bod canlyniad y trafodaethau hynny'n cael ei adrodd yn briodol i'r Senedd, a bydd Aelodau yma yn cael cyfle i graffu arnyn nhw.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Pan gawsoch chi eich penodi'n Brif Weinidog, dywedodd 60 y cant o bobl a holwyd gan YouGov nad oedden nhw'n gwybod pwy oeddech chi. Pan ofynnodd YouGov eto ar ôl i chi fod yn Brif Weinidog am flwyddyn, nid oedd hanner y bobl yng Nghymru yn gwybod pwy oeddech chi o hyd, nac ag unrhyw farn amdanoch chi. Pan gawsant eu holi yng Nghymru fis yn ôl ynghylch pwy fyddai'n gwneud y Prif Weinidog gorau, atebodd 8 y cant o bobl 'Mark Drakeford', atebodd 71 y cant 'Ddim yn gwybod'. Prif Weinidog, i roi bywyd newydd i ddemocratiaeth Cymru, onid yw'n bryd i ni ethol y Prif Weinidog yn uniongyrchol?
Llywydd, nid yw'n gam yr wyf i'n credu bod rhinwedd iddo.
Diolch am eich ateb cryno, Prif Weinidog. Yn y refferendwm lai na 10 mlynedd yn ôl, gofynnwyd i bobl Cymru a oedden nhw'n cytuno i bwerau deddfu gael eu datganoli mewn 20 maes penodedig. Felly, sut ydych chi'n cyfiawnhau nawr bod yr holl bwerau wedi'u datganoli, ac eithrio'r rhai a gedwir yn San Steffan? Y prynhawn yma, rydym ni'n pleidleisio ar gyfraddau treth incwm Cymru; ac eto, yn y refferendwm hwnnw, addawyd i bobl Cymru—fe'i hysgrifennwyd ar y papur pleidleisio ei hun—na all y Cynulliad ddeddfu ar dreth, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais. Pasiwyd y ddeddfwriaeth yn 2006, rwy'n credu, ar gyfer y bleidlais honno. Pam y torrwyd yr addewid hwnnw? Pam oedd eich maniffesto yn 2016, cyn pasio Deddf Cymru 2017, yn cyfeirio at 'pan' fydd pwerau treth incwm yn cael eu datganoli, o gofio bod Deddf Cymru 2014 yn dweud bod refferendwm yn ofynnol? A pham, o gofio bod eich rhagflaenydd ac, mae'n ymddangos, aelodau eich meinciau cefn yn cyfeirio at hwn fel addewid a dorrwyd gan y Ceidwadwyr, y gwnaethoch chi gytuno iddo?
Llywydd, torrwyd yr addewid gan y Blaid Geidwadol, y blaid yr oedd yn aelod dros dro ohoni ar y pryd, ac rwy'n siŵr ei fod yn ei chefnogi pan newidiodd y blaid honno ei meddwl. Roedd y Llywodraeth hon yn cytuno â'r cynnig gwreiddiol, sef pe byddai'r dreth incwm yn cael ei datganoli i Gymru, y dylai fod yn destun refferendwm. Y Blaid Geidwadol a newidiodd ei meddwl am hynny. Newidiodd y Blaid Geidwadol a oedd mewn grym yn San Steffan, gyda'i gefnogaeth ef, ei meddwl am y mater. Nawr, nid wyf i'n dweud nad oedd dadl dros wneud hynny; gwnaed y ddadl honno gan y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd. Ond mae'r Aelod yn gofyn i mi am weithred yr oedd ef yn gyfrifol amdani.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hunan-niweidio yng Nghymru? OAQ55171
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae achosion o hunan-niweidio yn gymhleth ac yn gofyn am ymateb aml-asiantaeth. Rydym ni'n parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i leihau hunan-niwed yng Nghymru wrth i ni fwrw ymlaen â'r camau gweithredu a nodwyd yn y strategaeth 'Siarad â fi 2 a 'Chynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod nifer yr achosion o hunan-niwed yn cael ei chynyddu'n aruthrol gan y rhai sy'n dioddef profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod. Gall hynny fod yn esgeulustod neu gall fod yn gam-drin—boed yn gam-drin corfforol, yn gam-drin emosiynol neu'n gam-drin rhywiol—neu'n gartref camweithredol, a all gynnwys pob math o bethau, fel pethau sy'n digwydd mewn cartref sydd wedi chwalu neu garchariad aelodau agos o'r teulu a hyd yn oed pethau fel ysgariad. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu ffigurau sy'n dangos bod y rhai sy'n dioddef pedwar neu fwy o'r profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael teimladau hunanladdol neu o fod wedi dioddef o hunan-niwed, a lle ceir chwech neu fwy o'r profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod, mae'r perygl o hunanladdiad yn cael ei gynyddu o gyfran enfawr o 35 o weithiau.
Bydd ef yn ymwybodol bod Ymddiriedolaeth WAVE yn elusen sy'n ymdrin â'r mathau hyn o broblemau, a'u bod wedi cynnig cyflwyno targed i Lywodraeth Cymru leihau nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan 70 y cant erbyn 2030. Mae pob un Aelod o'r Cynulliad hwn, ac eithrio Gweinidogion y Llywodraeth, wedi ymrwymo i hyn—ac eithrio'r Gweinidog Addysg, sydd wedi ymrwymo iddo—a yw e'n credu ein bod ni i gyd yn anghywir? Oni fyddai'n fanteisiol gallu cael targed? Oherwydd er bod rhywun yn derbyn nad yw'r Llywodraeth bob amser yn cyrraedd eu targedau, yn aml nid hwy sydd ar fai am y ffaith eu bod nhw'n methu â'u cyrraedd. Ond serch hynny, mae targed yn bwysig i anelu ato, ac mae'n rhoi mwy o frys i ddatrys y problemau yr ydym ni i gyd eisiau ymdrin â nhw.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae'r rhai yna i gyd yn bwyntiau pwysig ac, yn sicr, ceir tair prif elfen i ddull Llywodraeth Cymru o geisio lleihau nifer yr achosion o hunan-niwed: mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yw un ohonyn nhw; y dull ysgol gyfan sydd gennym ni i ymdrin â phobl ifanc yn yr ysgol sy'n hysbysu am hunan-niwed; a mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl, sydd hefyd yn cael effaith mor fawr ar bobl ifanc sy'n teimlo eu bod mewn sefyllfa iechyd meddwl anodd, ac y gall hunan-niweidio ddeillio ohoni.
Ai targed yw'r ffordd orau o hoelio sylw arno? Rwyf i o blaid targedau dim ond pan eu bod nhw'n wirioneddol benodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac amserol, ac ar ôl rhoi cynnig ar ffyrdd eraill o wneud gwahaniaeth ac y canfuwyd nad oedden nhw'n effeithiol. Mae cymaint o wahanol bethau'n cael eu cyfrif yn y cwmpas profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; ychydig iawn ohonyn nhw sydd wedi'u datganoli ac yn nwylo Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod gwerth targed y mae gennych chi gyn lleied o reolaeth drosto o ran pa un a ellir ei gyrraedd ai peidio, yn amheus.
Rwyf i eisiau gweld llai o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, wrth gwrs. Dyna pam yr ydym ni wedi buddsoddi yn y maes hwn, a dyna pam yr ydym ni wedi sefydlu ffynhonnell o arbenigedd yn y maes hwn; i wneud yn siŵr bod y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n dod i gysylltiad â phlant yn deall yr hyn y gallai'r bobl ifanc hynny fod wedi ei ddioddef ac ymateb iddo yn y ffordd gywir. Gosod targed—nid wyf i wedi fy argyhoeddi hyd yn hyn y byddai'n gwneud y gwahaniaeth yr ydym ni i gyd eisiau ei weld.
Prif Weinidog, yn ystod wyth wythnos gyntaf y flwyddyn hon, rwyf i eisoes wedi ymdrin â phedwar set wahanol o rieni sydd wedi dod ataf yn amddifad, mewn dagrau, ddim yn gwybod beth i'w wneud, gan fod eu plentyn wedi dechrau hunan-niweidio neu wedi bod yn hunan-niweidio ers cryn amser. Ac wrth gwrs, mae weithiau'n rhagflaenydd sy'n arwain at anhwylderau bwyta, ac yn y blaen. Yr hyn sy'n ymddangos yn anodd iawn iddyn nhw ddod o hyd iddo yw cefnogaeth a dealltwriaeth gwirioneddol, felly maen nhw'n troi at y rhyngrwyd i geisio darllen amdano. Rwyf i wedi eu pwyntio a'u cyfeirio at elusennau yr wyf i'n gwybod amdanyn nhw. Rwy'n sylweddoli bod llawer yn cael ei wneud mewn ysgolion ac yn amgylchedd yr ysgol i addysgu'r plant. Rydym ni'n aros i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed ddod i'r adwy, neu rydym ni'n aros am ymyraethau iechyd meddwl eraill.
Ond tybed a allai eich Llywodraeth chi droi ei meddwl at adolygu a gweld a allwn ni wella'r cymorth y gall rhieni a gofalwyr ei gael. Oherwydd mae'n dir peryglus i gynifer ohonyn nhw nad ydyn nhw'n gyfarwydd ag ef, ac maen nhw wedi dychryn yn llwyr; dydyn nhw ddim eisiau dweud y peth anghywir, i'w annog drwy gamgymeriad, i ddweud, 'Dewch, gadewch i ni gael rhywbeth', ac iddo arwain at dristwch gwaeth a gwaeth a gwaeth yn y plentyn ifanc neu'r person ifanc, ac at broblemau iechyd meddwl mwy. Felly, mwy o gymorth i rieni, neu gymorth haws ei gael, oherwydd hyd yn oed gyda'r adnoddau sydd gen i yn y Cynulliad, nid wyf i'n eglur o hyd am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i gefnogi rhieni a gofalwyr.
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Angela Burns wedi ei ddweud am y trallod y mae rhieni'n ei deimlo wrth geisio ymdrin â pherson ifanc sy'n arddangos y mathau hyn o anawsterau, a'r synnwyr o ddiffyg grym a ddim yn gwybod sut orau i helpu, ac yn y blaen. Dyna ran o'r rheswm pam yr ydym ni'n rhoi £0.5 miliwn ychwanegol eleni at fynd i'r afael â materion hunanladdiad a hunan-niwed; oherwydd mai hunanladdiad a hunan-niwed, i'n hatgoffa ni i gyd o deitl yr adroddiad pwyllgor yn y maes hwn, yw 'Busnes Pawb'. Mae hynny'n golygu dod o hyd i ffyrdd y gellir helpu rhieni a gofalwyr, fel y gallan nhw deimlo'n fwy hyderus naill ai'n cynorthwyo pobl ifanc yn uniongyrchol neu eu cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth.
Rydym ni hefyd yn noddi Prifysgol Abertawe, Llywydd, ers mis Rhagfyr y llynedd, mewn astudiaeth newydd i edrych ar wasanaethau sydd wedi bod mewn cysylltiad sylweddol â phobl ifanc cyn i'r bobl ifanc hynny fod â thueddiad o hunan-niweidio, i weld a oedd unrhyw beth y gallem ni ei wneud yn y ffordd ataliol honno, fel yr ydym ni'n ei drafod yn y fan yma—ceisio cyflwyno pethau'n gynharach yn y system fel nad yw pobl ifanc yn canfod eu hunain yn y sefyllfa honno. Mae hynny'n golygu gwella sgiliau staff, ond gall hefyd fod yn ffordd o wneud yn siŵr bod rhieni yn gallu cael gafael ar wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw eu hunain, ond hefyd y ffyrdd ymarferol y gallen nhw eu hunain fod yn fwy o gymorth. Oherwydd dyna'n gyffredinol y mae rhieni yn chwilio amdano: beth arall allan nhw ei wneud. Efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw i wneud hynny, ond maen nhw eisiau peidio â theimlo, fel y maen nhw'n aml, yn ddiymadferth yn wyneb rhywbeth ofnadwy sy'n digwydd y tu mewn i'w teulu eu hunain.
Nododd yr adolygiad diweddar o farwolaethau plant a phobl ifanc yn sgil hunanladdiad a hunanladdiad tebygol bod gwell rheolaeth o hunan-niwed ymhlith plant a phobl ifanc yn gyfle allweddol i atal hunanladdiad. Nawr, mae canllawiau y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal eglur ar waith ar gyfer rheoli hunan-niwed, ond mae'r adolygiad yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gweithredu'r rheini'n llawn ledled Cymru a'u harchwilio hefyd, yn enwedig o ran presenoldeb mewn adrannau achosion brys, asesiadau seicogymdeithasol yno, ac atgyfeirio a chyfeirio o bresenoldebau o'r fath. Beth arall allwn ni ei wneud, Prif Weinidog, i sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael gwasanaeth priodol pan fyddan nhw'n cael eu derbyn i adran damweiniau ac achosion brys oherwydd hunan-niweidio yng Nghymru?
Rwy'n cytuno'n llwyr bod y profiad y mae person ifanc, neu unrhyw un sydd wedi cael profiad o hunan-niwed neu wedi ceisio cyflawni hunanladdiad, mewn adran damweiniau ac achosion brys yn wirioneddol hollbwysig i'w allu i wella ar ôl hynny. Dyna pam, dros y pum mlynedd diwethaf, yr ydym ni wedi buddsoddi mwy mewn presenoldeb iechyd meddwl arbenigol wrth ddrws ffrynt adrannau achosion brys, fel bod pobl sydd fel arall yn treulio eu hamser yn ymdrin â'r anhwylderau corfforol sy'n dod drwy'r drws yn gallu cael cymorth arbenigol yn y fan a'r lle pan fyddan nhw'n gwybod eu bod nhw'n ymdrin ag achos sydd wedi'i wreiddio mewn anhapusrwydd ac achosion iechyd meddwl. A gwneud yn siŵr bod y staff hynny'n gallu cael gafael ar y cymorth arbenigol hwnnw eu hunain, wedi eu hyfforddi i adnabod achosion o hunan-niwed, a gallu ymateb i hynny mewn ffordd gefnogol, mewn ffordd nad yw'n awgrymu bai, nad yw'n awgrymu bod pobl rywsut yn rhwystro pobl eraill sydd yn fwy o angen cymorth—rydym ni i gyd wedi darllen y cyfrifon yn yr adroddiad hwnnw ac mewn mannau eraill—gwneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i'r afael â hynny drwy hyfforddiant a thrwy gymorth arbenigol ychwanegol wrth ddrws ffrynt ysbytai yw'r ffyrdd yr ydym ni wedi ceisio cryfhau gwasanaethau.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cynlluniau i symud gweithrediadau'r Cynulliad i ogledd Cymru am wythnos? OAQ55184
Llywydd, nid cyfrifoldeb y Weithrediaeth yw gwneud asesiad o fwriadau deddfwrfa, ond mae eich swyddogion yn parhau i gynnal trafodaethau â swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch y cynlluniau ar gyfer Senedd Clwyd.
Ie, rwy'n deall y gwahaniad rhwng y Weithrediaeth a'r Cynulliad, ond i'r cyhoedd y tu allan arian cyhoeddus yw hyn i gyd. Mae'n ymddangos i mi bod y cynnig hwn yn wastraff enfawr ar arian cyhoeddus ac yn ddim mwy na stỳnt cysylltiadau cyhoeddus. Nid yw wythnos yn y gogledd yn mynd i wneud iawn am 20 mlynedd o esgeulustod. Nawr, mae'r Prif Weinidog yn galw ar Lywodraeth y DU i roi arian i ddioddefwyr llifogydd, ond nid yw'n mynd i wneud unrhyw sylw ar wario'r holl arian cyhoeddus hwn ar wleidyddion yn mynd ar daith i fwynhau eu hunain. A yw e'n cytuno â mi y dylai pob Aelod wrthwynebu'r gwastraff arian hwn a pheidio â chymryd rhan yn nhrafodion yr wythnos honno?
Llywydd, nid yw'r un o'r rhai yna'n faterion i mi. Rwy'n anghytuno'n llwyr â'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, dim ond fel Aelod o'r Senedd, gan fy mod i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael ein gweld, ein bod ni'n weladwy, ein bod ni'n dangos i bobl ym mhob rhan o Gymru berthnasedd yr hyn sy'n digwydd yn y fan yma i'w bywydau. Gwn fod y Comisiwn yn cynllunio, yn trefnu ac y bydd yn rheoli trafodion Senedd Clwyd, a deallaf, Llywydd, eich bod chi'n bwriadu cyhoeddi rhagor o fanylion am y digwyddiad yn ddiweddarach y mis hwn. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at fod gydag Aelodau eraill yn y gogledd ym mis Mehefin.
Prif Weinidog, er ei bod hi'n amlwg y bydd rhywfaint o drafodaeth gyhoeddus ynghylch pa un a yw hi'n briodol adleoli'r Senedd i'r gogledd ar gyfer wythnos o fusnes, rwy'n credu ei bod hi'n fwy priodol i mi gyfeirio fy nghwestiynau atoch chi ynghylch cyfrifoldebau eich Llywodraeth.
Roeddwn i'n falch iawn o weld eich bod chi wedi ymweld â Llanfair Talhaearn yn fy etholaeth i yr wythnos diwethaf i gyfarfod â dioddefwyr llifogydd yno y mae eu cartrefi wedi gorlifo deirgwaith mewn wyth mlynedd. A gaf i ofyn i chi barhau i ymgysylltu ag etholwyr yng Ngorllewin Clwyd ac mewn mannau eraill yn y gogledd? A pha gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i fynd â rhagor o adrannau'r Llywodraeth i'r gogledd yn y dyfodol ac i symud mwy o'r swyddi hynny yn y gwasanaeth sifil sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd ar hyn o bryd allan i'r rhanbarthau?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn ei etholaeth yr wythnos diwethaf ac roeddwn i'n falch iawn o fod gydag arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, ac o gael y cyfle i gyfarfod yn uniongyrchol â phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ac i glywed ganddyn nhw am syniadau yr oedden nhw'n gallu eu cyfrannu o ran sut y gellir cryfhau amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y pentref hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn y gogledd yn hynod o reolaidd. Rwy'n edrych o'r fan hon hyd at ddiwedd y rhes—mae pob aelod o'r Cabinet yr wyf i'n ei weld o'r fan hon hyd at Gweinidog y Gymraeg wedi bod yn y gogledd yn yr wythnosau diwethaf. Bydd y digwyddiad y mae'r Senedd hon yn bwriadu ei gynnal ym mis Mehefin yn gyfle i holl Weinidogion y Llywodraeth fod yn bresennol nid yn unig yn y digwyddiadau y bydd y Senedd yn eu cynnal, ond i fod ym mhob rhan o'r gogledd, yn gwrando, yn dysgu, yn siarad ac yn gweld sut y gallwn ni gryfhau'r berthynas rhwng trigolion y gogledd a gwaith y Llywodraeth sy'n ceisio eu gwasanaethu.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OAQ55173
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Wrth wneud y gwaith hwnnw, rydym ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws y Llywodraeth, y cyhoedd a'r trydydd sector i gefnogi'r nod hwnnw. Mae mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc hefyd yn cael ei lywio gan ein hymgysylltiad â'r ymgyrch End Youth Homelessness.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Byddin yr Iachawdwriaeth, fel yr asiantaeth arweiniol sy'n ymuno â Chymdeithas Tai Taf a Byddin yr Eglwys, i greu partneriaeth llety â chymorth i bobl ifanc Caerdydd, a lansiwyd yn y Pierhead yr wythnos diwethaf. Comisiynwyd y bartneriaeth hon gan Gyngor Caerdydd, fel enghraifft o arfer gorau rwy'n credu, fel partneriaeth newid system sy'n deall bod gan bob person ifanc anghenion ac arddulliau cyflwyno unigol. Rydym ni angen i lety â chymorth ymateb i lawer o'r rhain a bwriedir cael 106 o unedau yng Nghaerdydd. Ac yn ganolog iddo mae'r cysyniad o ddim troi allan i ddigartrefedd, sy'n hanfodol yn fy marn i, a chynnig dylanwad a rheolaeth i bobl ifanc dros eu hanghenion tai. Felly, rwy'n llongyfarch pawb, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, am ddod at ei gilydd. Onid dyma'r math o ddull partneriaeth y dylech chi fod yn ei annog ar draws Cymru gyfan?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac am y ffordd y mae wedi hyrwyddo, dros gynifer o flynyddoedd, achos pobl ifanc mewn trallod mewn cymaint o agweddau ar eu bywydau? Ac o weld ei gyhoeddiad yr wythnos diwethaf—bydd colled ar ôl ei gyfraniad ar y materion hyn yn y Senedd hon yn y dyfodol.
Hoffwn gytuno â'r hyn y mae wedi ei ddweud, wrth gwrs. Mae Cymdeithas Tai Taf yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerdydd, ac nid yw fy swyddfa i'n gannoedd o lathenni oddi wrth eu rhai nhw, felly mae gennym ni gyfle da iawn yn y fan honno i glywed am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i ddod â'r ymateb ffisegol i ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc ynghyd, gyda'r anghenion gofal a chymorth sydd eu hangen yn aml ar bobl ifanc sy'n canfod eu hunain yn y sefyllfa ofnadwy honno hefyd. Ac mae'r cynllun y mae'n cyfeirio ato yn enghraifft dda iawn o hynny, gan wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc le addas i fyw ynddo, ond nad ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi cael eu rhoi o'r neilltu, a'u bod nhw'n gwybod na fyddan nhw ar wahân ac ar eu pennau eu hunain, ond y bydd ganddyn nhw rwydwaith o sefydliadau y gallan nhw droi atyn nhw fel bod y busnes anodd o ofalu amdanoch eich hun a bod yn gyfrifol am eich tynged eich hun—. Nid yw'r rhan fwyaf ohonom ni byth ar ein pennau ein hunain; mae gennym ni deuluoedd ac eraill y gallwn ni droi atyn nhw, ac rydym ni'n gwybod nad oes gan bobl ifanc sy'n canfod eu hunain yn ddigartref ddim o hynny yn aml. Felly, mae rhoi'r pethau hynny ar waith trwy Fyddin yr Iachawdwriaeth, Byddin yr Eglwys a'r pethau y gall Cymdeithas Tai Taf eu gwneud yn llenwi'r holl fwlch hwnnw. Cymeradwyaf, fel y gwnaeth yntau, y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae'r pwynt a wnaeth tua diwedd ei gwestiwn am yr egwyddor honno o beidio â throi allan i ddigartrefedd yn un cwbl ganolog y gwn fod fy nghyd-Aelod Julie James, fel y Gweinidog tai, yn ei phwysleisio yn yr holl drafodaethau y mae'n eu cael gyda darparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru.
Prif Weinidog, pan ddaw'n fater o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, siawns bod yn rhaid i ni fynd ati ar sail tystiolaeth. Rydym ni'n gwybod bod y cynllun Tai yn Gyntaf yn y Ffindir wedi cael canlyniadau ardderchog ers ei lansio dros ddegawd yn ôl, ac mae cynllun yr Alban, a lansiwyd y llynedd, eisoes wedi cartrefu 216 o bobl. Nawr, gall y cynllun hwnnw fod yn arbennig o effeithiol i'r rhai sy'n gadael gofal pan fydd eu cymorth gan wasanaethau cymdeithasol yn diflannu yn 18 oed. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu cynlluniau arbrofol drwy sefydliadau gwych fel grŵp Pobl yng Nghasnewydd, yn Rhydaman ac yn Rhondda Cynon Taf. Rwy'n clywed gan y sector fod y cynlluniau hyn yn cyflawni canlyniadau gwych, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl. Ond, Prif Weinidog, o ystyried ein bod ni eisoes yn gwybod bod Tai yn Gyntaf yn gweithio, byddwn i'n cwestiynu a oes angen i ni ei dreialu yma. Oni ddylem ni fwrw ati i'w gyflwyno ledled Cymru gyda chyllid cynaliadwy fel y gallwn gynorthwyo pobl ddigartref a'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref pan fyddan nhw'n ifanc, ac o bob oed, ym mhob cwr o'r wlad i gael llety diogel, nid dim ond y bobl hynny sy'n ddigon ffodus i fyw yn ardaloedd y cynllun arbrofol presennol?
Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, ynglŷn â phwysigrwydd tystiolaeth yn y maes hwn. Rwy'n credu ei bod hi ychydig yn annheg i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd yn Tai yn Gyntaf i bobl ifanc fel treial. O'r £4.8 miliwn yr ydym ni wedi ei gyfrannu at y gronfa arloesi ar gyfer pobl ifanc ddigartref, mae chwe chynllun Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc yn weithredol eisoes, ac maen nhw eisoes mewn saith o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Felly, rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi mynd y tu hwnt i gynllun arbrofol syml.
Wrth gwrs, rydym ni eisiau dysgu o dystiolaeth camau'r saith awdurdod lleol cyntaf hynny, fel y dywedodd Delyth Jewell, oherwydd, er bod profiad y Ffindir yn gymhellol, un o'r pethau yr ydym ni'n sicr wedi ei ddysgu yw na allwch chi godi'n syml rhywbeth sydd wedi digwydd, hyd yn oed mewn un rhan o Gymru, a'i ollwng mewn rhan arall o Gymru a meddwl y bydd yn ymwreiddio yn yr un ffordd. Rydym ni'n addasu profiad a thystiolaeth y Ffindir fel bod hynny yn gweithio yng nghyd-destun Cymru. Dyna beth mae'r chwe chynllun hynny'n ei wneud, ac yna, wrth gwrs, byddwn ni eisiau dysgu o hynny i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ymestyn y tu hwnt i hynny i rannau eraill o Gymru.
6. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella'r broses o reoli llifogydd yn Nyffryn Conwy yn dilyn stormydd diweddar? OAQ55155
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau i leihau llifogydd yn nyffryn Conwy, fel yr ydym ni wedi ei wneud dros y degawd diwethaf. Rydym ni hefyd yn darparu 100 y cant o arian grant i awdurdodau lleol i drwsio seilwaith llifogydd a ddifrodwyd gan stormydd diweddar.
Iawn, diolch. Nawr, fel y gwyddoch, mae etholaethau ar draws Aberconwy wedi cael eu distrywio, yn arbennig, gan storm Ciara. Nawr, mae diffyg presenoldeb a dull mwy cadarn a rhagweithiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achosi cryn bryder yn fy etholaeth i, a byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi cynnal cyfarfod ddydd Sadwrn, ac rydym ni'n sefydlu—. Rwy'n credu bod 121 wedi dod draw, yn bryderus dros ben, yn ofidus dros ben ac yn ddig dros ben gyda Llywodraeth Cymru. Yr hyn a ddywedwyd oedd—ac roedd yn farn gan y mwyafrif llethol—nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'w ddiben, neu y dylai'r llythrennau blaen Saesneg, NRW, sefyll am 'no real work'. Nawr, mae nifer cynyddol o bobl yn Aberconwy sy'n credu bod angen ymchwiliad i lifogydd yn Llanrwst, ac eto dywedodd y Gweinidog, dair neu bedair wythnos yn ôl, ei bod wedi cael sicrwydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai cynlluniau lliniaru llifogydd cyfredol sydd ar waith yn golygu bod Llanrwst yn weddol ddiogel. Wel, rwy'n credu bod storm Ciara wedi profi ei bod hi'n anghywir y tro hwnnw.
Nawr, yn y byrdymor, mae angen gweithredu ar frys arnom i helpu i atal digwyddiadau yn y dyfodol. Yn y cyfarfod, codwyd nifer o bryderon am agweddau sylfaenol ar reoli llifogydd, fel y ffaith na allen nhw gael bagiau tywod. Nawr, cyn i chi feio'r awdurdod lleol, mae'n rhaid i chi gofio mai eich Llywodraeth chi sydd wedi rhoi cyllid truenus o annigonol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy—[Torri ar draws.]
Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn dod at ei chwestiwn. Rwyf i wedi bod yn hael iawn, felly os gallwch chi ofyn eich cwestiwn—
Mi ydwyf. Byddai llidiardau ar gyfer eiddo a effeithiwyd wedi bod yn ddull da iawn o liniaru risg, ac maen nhw'n gofyn amdanyn nhw ar gyfer y dyfodol. Felly pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd nawr i helpu i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud ei waith mewn gwirionedd ac yn dal y cyfrifoldeb hwnnw'n bwysig iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru, i weithio law yn llaw â'n hawdurdodau lleol, a dim ond i fabwysiadu dull mwy rhagweithiol? Pe byddai hynny wedi digwydd, ni fyddai nifer o adeiladau yn Llanrwst wedi cael eu heffeithio.
Llywydd, nid wyf i'n mynd i feio'r awdurdod lleol o gwbl. Pan siaradais â'r arweinydd, arweinydd Ceidwadol cyngor Conwy, cefais gyfrif eglur iawn o'r ymdrechion aruthrol a wnaeth yr awdurdod lleol dros y dyddiau anodd hynny. Ac ni ddylai hithau ychwaith. Rwyf i wir yn credu ei bod hi'n gwbl anghywir iddi feirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru pan fo'r bobl sy'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru, ym mhobman yr wyf i wedi mynd iddo yng Nghymru, wedi gwneud gwaith arwrol, benwythnos ar ôl penwythnos, i amddiffyn pobl a chartrefi rhag dyfodiad y llifogydd hynny. Mae ei chlywed hi'n beirniadu'r bobl hynny a oedd allan yno yn achub bywydau, yn achub eiddo, o gysur ei sedd yn y Cynulliad hwn—nid yw wir yn unrhyw glod iddi.
Pan roeddwn i yng Nghonwy yn siarad â thrigolion, roedden nhw'n siarad â mi am eu diolchgarwch enfawr i weithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru a safodd yno yn y glaw hwnnw ac yn y llifogydd hynny yn clirio draeniau â llaw ac yn clirio amddiffynfeydd i wneud yn siŵr na fyddai cartrefi'n dioddef llifogydd. Rwy'n deall, wrth gwrs fy mod i'n deall, bod pobl y mae eu cartrefi a'u heiddo wedi cael eu heffeithio yn ddig am hynny, a'u bod eisiau i rywbeth gael ei wneud yn well yn y dyfodol. Nid yw'n gwneud dim daioni o gwbl iddyn nhw ddim ond ceisio atodi'r dicter hwnnw i feio sefydliad a wnaeth bopeth y gallai i'w hamddiffyn nhw a'u heiddo. Bydd ymchwiliadau, wrth gwrs. Cyfrifoldeb statudol yr awdurdod lleol, o dan Ddeddf 2010, yw cynnal ymchwiliad nawr i'r hyn a ddigwyddodd yn Llanrwst ac mewn mannau eraill. Siaradais ag arweinydd y cyngor am hynny a gwn y byddan nhw'n rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hynny. Mae'n ymddangos bod ganddyn nhw syniad llawer mwy cytbwys o'r hyn a aeth o'i le a'r hyn y mae angen ei wneud na'r Aelod sy'n eu cynrychioli nhw yn y fan yma yn ôl pob golwg.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr heriau sy'n wynebu trigolion Gorllewin Caerdydd ar hyn o bryd o ganlyniad i waith sy'n gysylltiedig â chynllun datblygu lleol Caerdydd? OAQ55150
Mater i'r awdurdod lleol yw gweithredu cynllun datblygu lleol. Gellir defnyddio amodau cynllunio a chytundebau adran 106 i fynd i'r afael ag effaith datblygiad a chreu cyfleusterau newydd mewn ardaloedd yr effeithir arnyn nhw.
Mae hwnna'n ymateb braidd yn siomedig. Dim ond ar gam 1 o gynllun datblygu lleol pum cam ydym ni ac mae'r problemau eisoes yn ddi-baid. Mae cau Heol Pant-y-gored yn achosi problemau enfawr ar hyd Church Road, a phe byddech chi neu eich staff wedi trafferthu dod i gyfarfod yn ddiweddar, y cawsoch eich gwahodd iddo, yna byddech chi'n gwybod am hynny. Yn llythrennol, ni all pobl symud oherwydd traffig. Mae'r llygredd aer sy'n deillio o hynny yn bryder gwirioneddol, a gyda'r llifogydd yn ddiweddar, mae'n peri mwy fyth o ofid bod yr union dir sy'n amsugno'r dŵr ar hyn o bryd yn mynd i gael ei adeiladu arno.
Pan godais y materion hyn yn ôl yn 2012, fe wnaethoch chi ddweud fy mod i'n codi bwganod. Wel, mae pawb yn gwybod y gwir nawr, onid ydyn nhw? Pryd ydych chi'n mynd i ymddiheuro am gamarwain pobl Gorllewin Caerdydd yn ôl bryd hynny a gwneud bron dim am y problemau a wynebwyd gan bobl yng ngorllewin y ddinas hon?
Llywydd, rwy'n berffaith fodlon bod y sawl a etholwyd gan drigolion Gorllewin Caerdydd i'w cynrychioli yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ymwybodol o'r holl wybodaeth angenrheidiol, ac yn cymryd yr holl gamau sy'n ofynnol.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu yn Islwyn? OAQ55189
Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith newydd i drin deunyddiau nad ydyn nhw'n cael eu hailgylchu'n eang ar hyn o bryd, er mwyn dod â phwyslais newydd ar ailgylchu gwastraff, cyfarpar trydanol ac electronig, a chyflwyno rheoliadau newydd i wella ailgylchu gan fusnesau.
Diolch. Mae pobl Islwyn, yn haeddiannol, yn falch o'u cyfraniad at enw da Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu, a'n hawydd i symud Cymru tuag at fod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050. Prif Weinidog, yn dilyn y llifogydd dinistriol diweddar a effeithiodd ar Gymru, cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gasglu eiddo sydd wedi ei ddifrodi gan lifogydd. Pa fesurau a sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr nad yw'r ymdrech ddinesig yn cael effaith negyddol ar y targedau a'r mesurau ailgylchu y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei farnu ynglŷn â nhw, a sut y mae Llywodraeth Llafur Cymru yn rhagweld y bydd y strategaeth 'Mwy Nag Ailgylchu' yn gwneud yr economi gylchol yn realiti blaengar yn Islwyn a ledled Cymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau atodol yna. Llywydd, a gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, i ymateb i effaith llifogydd ar eu trigolion lleol? Rwy'n ymwybodol o'r pwynt y mae awdurdodau lleol wedi'i godi—y nifer fawr o awdurdodau lleol hynny sydd wedi rhoi rhyddhad yn syth i ddeiliaid tai, darparu sgipiau am ddim, heb yr angen am drwyddedau ac ati, a'r pryder y gallai hynny gael effaith ar eu cyfraddau ailgylchu. Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i'r awdurdodau lleol hynny y prynhawn yma na fyddan nhw'n cael eu cosbi oherwydd eu bod nhw wedi gwneud y peth iawn; pan fo costau wedi bod yn gysylltiedig, byddan nhw'n gallu adennill y costau hynny oddi wrth Lywodraeth Cymru, drwy'r cynllun cymorth ariannol brys, ac, o ran enw da, pan fo awdurdodau lleol yn bryderus y bydd eu cyfraddau ailgylchu yn ymddangos fel eu bod wedi gostwng, rydym ni'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i allu cofnodi effaith gwastraff sydd wedi ei effeithio gan lifogydd mewn ffordd wahanol, fel y gellir lliniaru'r niwed i enw da.
O ran y camau y gallwn eu cymryd drwy'r economi gylchol, Llywydd, mae cyfres o gamau gweithredu yn y cynllun yr ydym ni'n ymgynghori arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae fy nghydweithiwr, Hannah Blythyn, ym mhob rhan o Gymru, yn cynnal cyfarfodydd gydag aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau sydd â budd yn hyn. Dyma ddim ond tair ffordd o gynorthwyo trigolion Islwyn gyda'r ymdrechion y maen nhw eisoes yn eu gwneud i wneud cymaint o ailgylchu â phosib: rydym ni'n mynd i ddarparu seilwaith newydd, fel y bydd modd ailgylchu yn y dyfodol deunydd nad oes modd ei ailgylchu ar hyn o bryd; rydym ni'n mynd i roi pwyslais newydd ar ailgylchu offer trydanol ac electronig, sy'n gallu bod yn anodd ei gasglu ar hyn o bryd ac yn anodd ei ailgylchu—mae'r cynllun economi gylchol yn rhoi pwyslais newydd ar hynny; a byddwn yn sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cael eu trin yn yr un modd ag y mae deiliaid tai, fel y gellir ailgylchu gwastraff masnachol, diwydiannol ac adeiladu a gaiff ei wahanu gan y busnesau hynny yn y modd y gellir ailgylchu gwastraff y cartref, a rhoi hwb ychwanegol i'r enw da sydd gan Gymru eisoes fel y wlad sydd ar flaen y gad am ailgylchu yn y Deyrnas Unedig, yr ail yn Ewrop, a'r trydydd ar draws y byd i gyd.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf? OAQ55158
Rwyf yn falch o ddweud bod 14 o brosiectau yn Rhondda Cynon Taf wedi elwa ar gyfanswm o £1.67 miliwn o arian cyfalaf ers agor y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn 2015.
Dirprwy Weinidog, mae'r gronfa gymunedol wedi bod yn hollbwysig o ran datblygu nifer o gyfleusterau cymunedol yn fy etholaeth i, gan gynnwys cyfleuster Glowyr Dyffryn Elái, gan adfer hwnnw i fod yn barc chwaraeon defnyddiol ar gyfer y gymuned leol, a llawer o brosiectau eraill hefyd. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae gennym gymunedau sydd wedi eu difrodi gan lifogydd, gan gynnwys llawer o'n cyfleusterau cymunedol hefyd, ardaloedd cymunedol, adnoddau cymunedol ac yn y blaen. A tybed a oes unrhyw bosibilrwydd o edrych ar system ariannu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol i weld a oes digon o hyblygrwydd i alluogi'r cyfleusterau cymunedol hynny yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan y llifogydd i gael eu cynorthwyo drwy'r gronfa cyn gynted â phosibl, os gellir trefnu hynny, er mwyn cynorthwyo nid yn unig â'r dinistr i gartrefi pobl, ond hefyd y dinistr sydd wedi dod i'w cymunedau a'u cyfleusterau cymunedol o ganlyniad i'r llifogydd diweddar.
Diolch i'r Aelod dros Bontypridd am y cwestiwn hynod bwysig yna. Gallaf ddweud fy mod i eisoes wedi cymryd camau i sicrhau y bydd y rhaglen cyfleusterau cymunedol yn ymdrin ar garlam ag unrhyw geisiadau a fydd yn dod gan gyfleusterau cymunedol sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau yn y fan yma y gall y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, fel y'i gelwir, ddarparu grantiau bach o hyd at £25,000 i helpu i liniaru'n gyflym y problemau uniongyrchol a all atal, er enghraifft, cyfleusterau cymunedol rhag agor ar gyfer busnes. Ond hefyd wrth gwrs ceir grantiau llawer mwy, y mae eich etholaeth chi wedi elwa arnyn nhw, o hyd at £250,000 i wneud gwaith adnewyddu mawr. Ond fe wnes i roi'r neges hon ddydd Gwener, pan ymwelais â Sefydliad Glowyr Llanhiledd ym Mlaenau Gwent—un o'r nifer fawr o gyfleusterau cymunedol a oedd yn rhan o'r ymateb cymunedol gwych. Ac rwy'n falch o allu rhoi'r neges honno eto heddiw, ynglŷn a'r rhaglen cyfleusterau cymunedol.
Ond byddwch chi hefyd, wrth gwrs, yn ymwybodol o gronfa llywydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru—a adnabyddir erbyn hyn fel cronfa Cymorth Cymru. Maen nhw'n dosbarthu cyllid sydd wedi ei godi trwy ymgyrch GoFundMe eu Llywydd, Michael Sheen. A gall mudiadau trydydd sector sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd wneud cais am hyd at £5,000 i'w helpu i ailadeiladu. Wrth gwrs, mae hynny drwy dîm grantiau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r gymuned Nigeraidd yng Nghymru? OAQ55142
Rydym yn gweithio'n helaeth gyda grwpiau amrywiol ledled Cymru, ac yn ariannu rhaglen ymgysylltu â BAME Cymru gyfan i gynorthwyo cymunedau i eirioli ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw. Rydym ni hefyd wedi ariannu canolfan amlddiwylliannol arloesol a arweinir gan y gymuned yn Abertawe, sy'n cynnwys y gymdeithas Nigeraidd.
Diolch. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ganolfan amlddiwylliannol honno, sy'n boblogaidd iawn. Ond mae aelod o'r gymuned Nigeraidd yn dweud wrthyf ei fod yn tyfu, yn enwedig yn Abertawe a Chaerdydd, ac maen nhw wedi gofyn i mi ofyn pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu ar gyfer creu canolfan gymdeithasol a chymunedol ar gyfer y gymuned Nigeraidd.
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna. Ac rwyf wedi ymateb i ohebiaeth gan yr Aelod i gydnabod pwysigrwydd y gymuned hon sy'n tyfu yng Nghymru. Rwyf wedi tynnu sylw, wrth gwrs—fel yr wyf i wedi ei grybwyll yn gynharach—at y grant cyfleusterau cymunedol, ond hefyd ceir cynllun grantiau bach Cymru o Blaid Affrica. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod wedi darparu cyllid o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol i Race Council Cymru ar gyfer yr hyb diwylliannol a digidol hwnnw yn Theatr y Grand, Abertawe, sy'n cynnwys y gymdeithas Nigeraidd yn Abertawe, ynghyd ag oddeutu 20 o sefydliadau diwylliannol eraill, ac fe wnaethom ni gyfarfod â chyfarwyddwr y Gymdeithas Nigeraidd yng Nghymru, Mrs Patience Bentu, i drafod eu hanghenion ychwanegol.
3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i annog y sector gwirfoddol i geisio am dendrau'r sector cyhoeddus? OAQ55172
Rydym yn darparu cymorth, anogaeth ac arweiniad drwy ddatganiad polisi caffael Cymru a'n cynllun trydydd sector. Mae ein polisi buddiannau cymunedol hirsefydlog yn darparu fframwaith hyblyg sy'n galluogi caffaelwyr y sector cyhoeddus i ddatblygu dulliau caffael sy'n ystyriol o'r trydydd sector.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Efallai eich bod chi wedi clywed yn gynharach fy mod i wedi gofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog am bartneriaeth llety â chymorth pobl ifanc Caerdydd, sy'n cael ei harwain gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, ond mae Cymdeithas Tai Taf yn rhan ohoni, a Byddin yr Eglwys hefyd. A chafodd hynny ei annog, y dull partneriaeth hwnnw, gan Gyngor Caerdydd. Ac mae'n ymddangos i mi fod hynny'n enghraifft dda iawn o arfer gorau, gan ddefnyddio adnoddau'r sector gwirfoddol, ac, yn yr achos hwn, hefyd yn ymwneud â dull ffydd gymunedol. Ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym eisiau ei ddatblygu, yn enwedig pan fyddan nhw'n cysylltu, fel yn yr achos hwn, gyda rhyw fath o asiantaeth sector cyhoeddus—gwn fod cymdeithas dai yn y parth braidd yn llwyd hwnnw. Ond mae hyn yn ymddangos i mi fel y math o waith yr ydym ni eisiau ei annog.
Ydy. Hoffwn hefyd ychwanegu gair o ddiolch i David Melding am ei stiwardiaeth o'r trydydd sector. Daeth y ddau ohonom o'r trydydd sector pan ddaethom ni yma ym 1999, 21 mlynedd yn ôl. Ond mae mor bwysig eich bod chi wedi hyrwyddo'r trydydd sector ac mae'r bartneriaeth hon yr ydych chi wedi ei disgrifio y prynhawn yma yn rhagorol. Mae'n ymgysylltu gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector, ac a gaf i, wrth ymateb ar unwaith i'r cwestiwn hwnnw, ddweud bod hyn yn gysylltiedig iawn â chod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu'r trydydd sector? Mae'n nodi'r egwyddorion hynny ar gyfer cyrff cyhoeddus, megis awdurdodau lleol, ar sut y dylen nhw gydymffurfio o ran sicrhau bod cyfleoedd ar gael i'r trydydd sector. Ac rwyf yn awr yn mynd i roi'r pwynt hwn ar agenda nesaf is-bwyllgor ariannu a chydymffurfiad cyngor partneriaeth y trydydd sector.
Clywais yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog mewn ymateb i David Melding am y gefnogaeth bresennol, ond bydd hi'n ymwybodol ein bod ni, dros y misoedd diwethaf, wedi gweld cymdeithasau tai lleol llai, sydd wedi gwreiddio'n dda iawn yn eu cymunedau, yn aflwyddiannus mewn ceisiadau am gyllid a cholli'r dydd i sefydliadau mwy nad ydynt efallai wedi gwreiddio yno cystal. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol bod sefydliadau lleol yn y trydydd sector a arweinir gan fenywod yn dioddef yn sgil sefydliadau llawer mwy, sydd efallai heb y lefel honno o wybodaeth ac arbenigedd lleol, o ran darparu cymorth cam-drin domestig. Yn fy etholaeth i fy hun, rydym wedi gweld mudiad gwirfoddol bach lleol sy'n darparu gwasanaeth arbenigol iawn i blant sydd wedi dioddef oherwydd trawma mawr yn colli cyllid i sefydliad mawr sydd wedi'i leoli mewn prifysgol yn Lloegr.
Felly, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog a wnaiff hi ystyried ailedrych ar y canllawiau y mae eisoes wedi'u crybwyll i David Melding a chael trafodaethau pellach hefyd gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod yr arfer ariannu yn cael ei gymhwyso'n gyson bob tro. Oherwydd ymddengys i mi, a minnau'n cynrychioli rhanbarth mawr iawn, fod gwahaniaethau rhanbarthol rhwng cynghorau sir ac, er na fyddwn yn dymuno awgrymu, Llywydd, i'r Dirprwy Weinidog fod y sefydliadau llai bob amser yn well, rwy'n credu ein bod mewn perygl o golli'r arbenigedd lleol hwnnw pan nad oes gan sefydliadau y sgiliau i wneud ceisiadau am y tendrau masnachol cystadleuol iawn hynny.
Wel, rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am godi'r pwynt yna a'r enghraifft yna. Wrth gwrs, rydym ni bellach wedi cael canllawiau statudol ynglŷn â chomisiynu cyllid ar gyfer VAWDASV—trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—ac rydym yn y dyddiau cynnar o sicrhau bod y canllawiau hynny'n galluogi'r sefydliadau arbenigol hynny, yn enwedig, fel y dywedwch, i sicrhau chwarae teg, ac, yn wir, y dylem fod yn edrych, lle y gallwn, ar brofiad a thystiolaeth sefydliadau yng Nghymru. Ac rydym yn ymwybodol iawn o rai o'r sefydliadau o'r tu allan i Gymru hynny sydd wedi dod i mewn a gwneud ceisiadau llwyddiannus. Mae hyn yn allweddol, nid yn unig i'r trydydd sector, ond yn arbennig mewn ymateb i'r cwestiwn hwn, ond hefyd i fusnesau a mentrau cymdeithasol eraill yng Nghymru.
Ac rwy'n falch iawn bod y materion hyn yn cael sylw drwy lwybrau'r economi sylfaenol, a bod gennym rai enghreifftiau da lle yr ydym ni ar hyn o bryd, drwy waith yr economi sylfaenol, gan sicrhau ein bod yn gallu cael swyddi yn nes at adref a chontractau yn nes at adref hefyd. Ond mae hynny'n berthnasol i'r trydydd sector hefyd, sy'n cynnwys, wrth gwrs, mentrau cymdeithasol a chymdeithasau tai.
4. Pa gamau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cymryd i wella cydlyniant cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ55143
Rydym wedi ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol ledled Cymru, gan fuddsoddi £1.52 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd. Mae'r timau cydlyniant rhanbarthol yn sicrhau bod llywodraeth leol, y trydydd sector a chymunedau lleol yn cydweithio i feithrin cymunedau cydlynus.
Diolch am yr ateb, Gweinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â cynrychiolwyr grŵp Trigolion Peterstone yn erbyn Datblygu Amhriodol i drafod eu pryderon am yr effaith y mae safleoedd Teithwyr anghyfreithlon yn ei chael ar wastadeddau Gwynllŵg rhwng Casnewydd a Chaerdydd ger yr ardal arfordirol. Dywedir wrthyf fod tua 21 o safleoedd heb awdurdod ac anghyfreithlon ar y gwastadeddau. O ganlyniad, mae taflu gwastraff a'r tipio anghyfreithlon wedi cynyddu. Mae difrod yn cael ei wneud i adnodd gwlypdiroedd pwysig ac mae tensiwn rhwng y trigolion lleol a'r Teithwyr. Dirprwy Weinidog, a wnewch chi gytuno i gwrdd â mi a chynrychiolwyr y trigolion i drafod eu pryderon a mynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â'r safleoedd anghyfreithlon hyn, er mwyn gwella cysylltiadau cymunedol yn yr ardal?
Mae cysylltiadau cymunedol yn hanfodol bwysig ac, wrth gwrs, rwyf yn ymwybodol o ymgysylltiad partneriaethau Tros Gynnal yn y materion hyn yn y gymuned. Rwyf yn ymwybodol iawn eu bod yn eirioli ar ran Teithwyr a Sipsiwn, ac yn cydnabod eu hanghenion o ran eu hamgylchiadau teithio, ac yn sicr mae hon yn adeg lle byddwn i'n dweud wrth yr Aelod fod angen i ni gydnabod ein cyfrifoldebau. Yn wir, rwy'n ymateb i ymgynghoriad ar hyn—cyfrifoldebau, anghenion a hawliau teithwyr, Sipsiwn a phobl Roma yng Nghymru. A byddwn yn dweud hefyd fod gennym ni ffordd bell i fynd o hyd gyda rhai o'n hawdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn cael safleoedd. Dyna'r pwynt hollbwysig—ein bod yn cael safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a'r gymuned Roma. Ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r grŵp trawsbleidiol yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod hyn.
Ac yn olaf, cwestiwn 5, Mark Isherwood.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddoli a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru? OAQ55153
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r cynghorau gwirfoddol sirol i gefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddoli ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys grant Gwirfoddoli Cymru sy'n galluogi prosiectau gwirfoddoli i recriwtio, cynorthwyo, hyfforddi a lleoli gwirfoddolwyr newydd.
Mae Cronfa'r Teulu wedi rhoi gwybod am ostyngiad pellach yn y cyllid y maen nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, er gwaethaf y lefelau uchel o angen a welant mewn teuluoedd sy'n magu plant anabl. Mae Cyngor Cymru i'r Deillion wedi rhybuddio bod y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi symud i ffwrdd o'r model cyllid craidd o ariannu prosiectau yn golygu bod cynaliadwyedd sefydliadau ambarél yng Nghymru yn wynebu bygythiad uniongyrchol.
Yn ei ymateb i'r setliad arian sefydlog ar gyfer y grant cymorth tai yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru—toriad mewn termau real—rhybuddiodd Cymorth i Ferched Cymru, Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru fod gwasanaethau sy'n atal digartrefedd ac yn cefnogi byw'n annibynnol wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, a dywedodd darparwr gwasanaeth byw â chymorth yn y gogledd wrthyf mai'r canlyniadau fyddai mwy o bwysau ar y GIG, adrannau damweiniau ac achosion brys, a'r gwasanaethau golau glas. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r galwadau hyn ac wedi rhewi'r grant cymorth tai o fewn ei chyllideb derfynol.
Pam mae Llywodraeth Cymru yn dal i fynd ar ôl yr arbedion ffug hyn, sy'n amddifadu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal, a ddarperir gan y sector gwirfoddol, o arian, gan ychwanegu miliynau at y pwysau costau ar wasanaethau statudol, yn hytrach na dysgu o hyn, gweithio gyda'r sector, yn wirioneddol gyd-gynhyrchiol, i wario'r arian hwnnw'n well, cyflawni mwy, ac yn wir, arbed mwy o gyllideb Llywodraeth Cymru hefyd?
Wel, rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â ni ar y meinciau hyn i gefnogi'r gyllideb derfynol y prynhawn yma, sydd mewn gwirionedd yn cynnwys, rwy'n credu, dros £6 miliwn i gymeradwyaeth y gyllideb derfynol. O ran grant Gwirfoddoli Cymru, mae £1.3 miliwn wedi'i ddyrannu i'w weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Soniais yn gynharach am y cod ymarfer ar gyllid ar gyfer y trydydd sector sy'n rhan o gynllun y trydydd sector. Edrychaf ymlaen at gefnogi Llywodraeth Cymru y prynhawn yma, o ran y gyllideb, sy'n rhoi blaenoriaeth i gyfiawnder cymdeithasol, anghenion tai a chynnal y gwasanaethau sydd mor bwysig i bobl, gan gynnwys gwirfoddoli. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, byddem mewn lle gwell o lawer pe na byddem wedi dioddef y 10 mlynedd o gyni cyllidol o ganlyniad i Lywodraeth Geidwadol y DU.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Y datganiad nesaf yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad yn fuan ar y coronafeirws, ac o ganlyniad mae'r datganiad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei ohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch y canllawiau sy'n cael eu rhoi i awdurdodau lleol o ran polisi derbyn i ysgolion? Ar hyn o bryd, nid yw adran derbyn i ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd ond yn derbyn tystiolaeth feddygol a ddarperir gan feddyg ymgynghorol er mwyn i blentyn neu berson ifanc gael ei ystyried ar gyfer ysgol benodol pan fydd angen i'r awdurdod lleol ddefnyddio meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar y GIG. Ymddengys bod aros am apwyntiad i weld meddyg ymgynghorol, ac yn dilyn hynny, cael adroddiad gan feddyg ymgynghorol, yn ddiangen, ac mae'n mynd ag amser gwerthfawr y meddyg ymgynghorol pan fo gan y plentyn neu'r person ifanc eisoes ddiagnosis meddygol. Gweinidog, mae'n peri pryder mawr i mi fod y polisi'n caniatáu i'r awdurdodau lleol ddiystyru barn a diagnosis unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol arall, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ar y mater pwysig hwn, os gwelwch yn dda?
Yn y lle cyntaf, byddwn i'n annog Mohammad Asghar i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg gyda'i bryderon ynghylch polisïau derbyn i ysgolion a'r canllawiau cysylltiedig sy'n cyd-fynd â hynny, oherwydd mae'r cwestiwn yr ydych chi wedi'i ofyn yn eithaf manwl ac yn haeddu ateb manwl.
Rwy'n deall bod Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymweld â Ffynnon Taf y bore yma i siarad â phobl sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd. Yr wythnos diwethaf gofynnais i i'r Gweinidog ddod i'r Rhondda gyda mi i siarad â'r trigolion am eu profiadau, ac rwyf eisiau cyfleu neges i'ch Llywodraeth chi gan un o drigolion Ynyshir yn y Rhondda. Mae Mr Cameron, yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae'r llifogydd wedi effeithio ar tua 14 o dai yn Ynyshir, ynghyd â thua 13 o gerbydau, sy'n golled lwyr. Fe wnaethoch chi fy ngweld i a mab un o fy nghymdogion yn yr afon, yn ymdrechu'n daer i geisio clirio'r argae â llif cyn bod y glaw trwm a ragwelwyd yn cyrraedd. Unwaith eto, cawsom ein gadael i roi trefn ar bethau ein hunain. Rwyf wedi cael gwybod na allaf fynd yn ôl i fyw yn fy myngalo i am naw i 12 mis. Rwyf wedi colli popeth yn y byngalo a'r garej, ac yn y bôn rwy'n ddigartref ac yn ddi-gar. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl eraill mewn sefyllfa debyg ac yn waeth hyd yn oed. Y peth lleiaf y gall Gweinidog yr amgylchedd ei wneud, ynghyd â chadeirydd ac uwch reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, yw dod gyda chi i weld drostynt eu hunain y dinistr y maent wedi ei achosi. Er gwybodaeth, nid yw'r dŵr wedi gorlifo dros bont Avon Terrace ers 100 mlynedd, ac ni fyddai wedi gwneud hynny ar 16 Chwefror pe bai Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud yr hyn yr oedden nhw i fod i'w wneud a chadw'r afonydd yn glir o sbwriel.'
Roedd pobl yn Ynyshir wedi dioddef llifogydd oherwydd y sbwriel a oedd wedi cronni o dan bont dros yr afon. Nawr, rwyf hefyd wedi cael ceisiadau i siarad â'r Gweinidog gan y bobl sy'n byw ym Mhentre, yn ogystal â phobl sy'n byw yn y Porth, sydd wedi colli waliau gerddi a oedd yn arfer amddiffyn rhag yr afon ac sydd hefyd yn pryderu bod coed a sbwriel yn cronni ar bontydd ger eu cartrefi. Gan nad yw'n debyg bod y Gweinidog yn gallu ymateb i'r ceisiadau hyn am ymweliad a chwestiynau eraill yr oeddwn i wedi'u holi yn y Siambr hon, a wnewch chi, fel Gweinidog busnes, ofyn iddi hi a'i swyddogion amserlennu ymweliad â'r Rhondda gyda mi cyn gynted ag y bo modd fel y gall werthfawrogi graddfa'r broblem yn llawn, yn ogystal â chryfder y teimladau yn y cymunedau amrywiol y mae'r llifogydd yn y Rhondda wedi effeithio arnyn nhw?
Rwy'n cofio, mewn ymateb i'ch sylwadau i'r Gweinidog ar y mater penodol hwn, ei bod yn fodlon ymweld â'r Rhondda. Rwy'n gwybod iddi fod yn Rhondda Cynon Taf yn fwy cyffredinol ar ddau achlysur yn barod, ac mae'r Aelodau ar draws y Llywodraeth wedi bod yn ymweld â phobl sydd, wrth reswm, yn ofidus iawn oherwydd y llifogydd. Rwyf wedi siarad â phobl yn fy etholaeth i yng Ngŵyr. Rwyf wedi siarad â phobl yng Ngorseinon a Thre-gŵyr sydd wedi cael eu llorio gan yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw. Felly, mae'n dorcalonnus. Rwy'n credu ei bod yn deg cydnabod, ar hyn o bryd, ei bod yn rhy gynnar i lunio barn gyflawn ar yr hyn a achosodd y llifogydd i eiddo unigol. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw bod dyletswydd statudol nawr i gynnal ymchwiliad, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig gadael y rhan hon i'r arbenigwyr o ran deall a phenderfynu ar achosion y llifogydd a hefyd yr hyn y byddai'n bosib ei wneud i'w hatal rhag digwydd eto.
A gawn ni ddatganiad, Gweinidog, o ran y sylwadau ynghylch y cwricwlwm addysg newydd gan nifer o academyddion ac addysgwyr? Yn bennaf ymhlith y rhain y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru. Mae'r ddwy gymdeithas hyn yn dadlau bod yr her o weithredu'r cwricwlwm newydd yn enfawr. Mae hyn yn dilyn Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru hefyd yn ymuno â CLlLC i ddweud na fydd disgyblion yn cael eu haddysgu digon am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad hefyd ar sylw Estyn fod trawsnewid y system addysg yn ei gyfanrwydd yn dasg gymhleth a hirdymor ac yn un yr amcangyfrifir y bydd yn cymryd o leiaf ddegawd? O ystyried sylwadau o'r fath, pa ryfedd bod recriwtio athrawon i ysgolion cynradd wedi gostwng 10 y cant a recriwtio i ysgolion uwchradd 40 y cant? Yn wir, mae recriwtio mewn pynciau fel cemeg, TGCh, mathemateg a ffiseg wedi gostwng cymaint â 50 y cant. O ystyried yr ystadegau hyn, sut mae modd dweud y bydd y cwricwlwm newydd hwn yn addysgu pobl ar gyfer y byd modern pan na allwn recriwtio athrawon i groesawu'r cwricwlwm newydd hwn? Does dim dwywaith amdani fod llawer o athrawon wedi drysu ynghylch beth i'w addysgu ym meysydd dysgu a phrofiad er mwyn cyflawni rhagofynion y pedwar diben. Faint o'r cwricwlwm presennol y gellir ei ddefnyddio? A gawn ni ymateb hefyd gan y Gweinidog, o gofio y gall ysgolion unigol benderfynu sut i roi'r cwricwlwm newydd ar waith i gyflawni'r pedwar diben? Felly, rydym yn dueddol o gael cymysgedd o ganlyniadau ledled Cymru, a allai gael effaith andwyol ar wella rhwygiadau yn ein cymdeithas.
Mae David Rowlands yn holi nifer o gwestiynau mewn cysylltiad â diwygio'r cwricwlwm. Rwy'n gwybod fod y Gweinidog Addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn gwahanol ffyrdd i gyd-Aelodau o ran diwygio'r cwricwlwm, sydd, yn fy marn i, yn deg i'w gydnabod yn ddarn o waith hirdymor, ac mae'n sicr yn ddarn cymhleth o waith.
Roedd gan David Rowlands bryderon penodol ynghylch recriwtio a phynciau STEM yn benodol, felly byddwn yn ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn amlinellu'r gyfres honno o bryderon sydd ganddo, ac rwy'n siŵr y caiff ymateb.
A allem ni gael dadl ar ddathlu diwylliant, treftadaeth a harddwch naturiol Cymoedd y de, a sut y gall y rhain gyfrannu at ansawdd bywyd trigolion a hefyd fod yn atyniad i ymwelwyr dydd a thwristiaid fel ei gilydd? Ddydd Gwener diwethaf roeddwn yn falch o fod yn bresennol mewn digwyddiad yng nghlwb bechgyn a merched Nant-y-moel, sydd, diolch i bartneriaeth rhwng clwb bechgyn a merched Nant-y-moel a Chyngor Cymuned Cwm Ogwr, o dan gadeiryddiaeth Leanne Hill, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac eraill, wedi'i adfywio'n llwyr gyda dros £300,000 o fuddsoddiad, ac mae bellach yn ganolfan gymunedol a threftadaeth i'r cwm, yn ogystal â'r gweithgareddau parhaus a gynhelir i'r hen a'r ifanc yn y ganolfan a'r caffi sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, a llawer mwy. Ond dathlodd y digwyddiad waith y rheini a chymdeithas hanes lleol Cwm Ogwr, sy'n gweithio'n galed iawn, a llawer o bartneriaid eraill, i ddatblygu'r ganolfan hon a dwsin o fyrddau dehongli ar hyd llwybr beicio hardd Cwm Ogwr o bentref tlws Melin Ifan Ddu i fynyddoedd syfrdanol y Bwlch, gan adrodd straeon ein pobl a'n cymunedau.
Yr hyn sy'n fy nharo, Gweinidog, yw pa mor aml caiff Cymoedd Morgannwg, sef Cwm Garw, Cwm Ogwr a'r Gilfach eu hanwybyddu yn y llyfrynnau twristiaeth a'r hyrwyddiadau sgleiniog, ac eto maen nhw o ddiddordeb mawr i bobl leol ac i ymwelwyr, ac mae ganddyn nhw'r modd i ddatblygu balchder yn y fan o le yr ydym yn dod, a swyddi hefyd gan bobl sy'n dod i seiclo, cerdded ac anadlu'r awyr iach, ac aros ychydig, wrth i ni adrodd straeon dirgel wrthynt am Iolo Morgannwg, y bardd a'r eisteddfodwr o Forgannwg, a Lynn 'the leap' Davies, a enillodd record byd yn y naid hir yng ngemau Olympaidd Tokyo ym 1964, gan ddefnyddio ei gyfarwydd-dra â'r amodau erchyll o wynt a glaw i ennill pencampwyr y byd ar y pryd. Byddai dadl yn caniatáu i ni, Gweinidog, ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o botensial cymdeithasol ac economaidd y gwythiennau dwfn hyn o hanes a chwedlau, a sut y gall Llywodraeth Cymru ein helpu i adrodd hanes y Cymoedd i gynulleidfa lawer ehangach, er budd i ni ac er budd i Gymru hefyd.
Diolch i Huw Irranca-Davies am y darlun hyfryd yna o'r pethau sy'n digwydd yn ei gymuned i ddathlu'r dreftadaeth leol ac, wrth gwrs, yr amgylchedd naturiol prydferth yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Soniodd hefyd am bwysigrwydd treftadaeth leol o ran ein harlwy twristiaeth, o ran hybu ein heconomïau lleol, a hefyd y potensial cymdeithasol a ddaw yn ei sgil o ran dod â chymunedau at ei gilydd. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth wedi bod yma i glywed eich cyfraniad, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r cais am ddadl, ac yn ystyried hefyd y sylwadau a wnaethoch chi am bwysigrwydd sicrhau bod gan eich ardal ei lle ar y map, fel sy'n gwbl briodol.
Diolch i'r Trefnydd.
Mae eitem 3 wedi ei gohirio.
Felly yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: y wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws. Galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf, cadarnhaodd Cymru ei hachos cyntaf o'r coronafeirws newydd, a elwir yn COVID-19, a gafodd ei ddal pan oedd y person hwnnw yng ngogledd yr Eidal. Mae gwledydd eraill yn y DU yn parhau i adrodd am achosion wedi'u cadarnhau, gan gynnwys yr achos cyntaf o drosglwyddo cymunedol yn Lloegr. Ar draws y DU, rydym ni nawr wedi cyrraedd pwynt allweddol o ran lledaeniad y feirws hwn. Rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ar ynysu a chyfyngu i helpu i atal neu ohirio lledaeniad y clefyd.
Mae'r cyngor ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. Mae natur y sefyllfa sy'n datblygu a phwysigrwydd ymateb yn gymesur yn golygu bod canllawiau penodol i deithwyr sy'n dychwelyd o ardaloedd penodol o'r byd. Gallwch weld y cyngor diweddaraf ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth gwrs, yn cael ei diweddaru am 3 o'r gloch bob dydd.
Gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yw'r ffynhonnell awdurdodedig o gyngor teithio i'r cyhoedd ym Mhrydain. Mae'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yn parhau i gynghori: nad yw pobl yn teithio i dalaith Hubei yn Tsieina; i deithio i dir mawr Tsieina dim ond os yw hynny'n hanfodol; ac i deithio dim ond os yw hi'n hanfodol i nifer fach o ardaloedd penodol mewn rhai gwledydd, gan gynnwys 11 o drefi bach penodol yng ngogledd yr Eidal. Mae'r cyngor teithio hwnnw yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cyfyngiadau mynediad sydd gan rai gwledydd ar gyfer teithwyr diweddar i'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Caiff y cyngor teithio hwn ei adolygu'n gyson a dylai pobl edrych yn rheolaidd ar yr wybodaeth ar gyfer gwledydd penodol ar wefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad.
Hoffwn bwysleisio eto na ddylai unrhyw un sydd wedi teithio'n ôl o ardal yr effeithiwyd arni, neu sydd â phryderon eu bod yn gyswllt agos i rywun y cadarnhawyd fod y cyflwr arno, fynd i'w feddygfa deulu nac i adrannau achosion brys ysbytai. Dylai pobl edrych ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Lywodraeth Cymru i gael y cyngor diweddaraf. Os oes, ar ôl ystyried y canllawiau ar-lein, gan bobl bryderon ynghylch y coronafeirws, gallant bellach ffonio'r rhif 111 am ddim o unrhyw le yng Nghymru. Bydd gwneud hyn yn golygu y gall pobl gael eu hasesu gan staff cywir y GIG ac, ar yr un pryd, gyfyngu'r lledaeniad posib yr haint i bobl eraill.
Rwy'n gofyn i bobl fod yn amyneddgar a chydnabod y pwysau ychwanegol y mae'r sefyllfa hon yn ei rhoi ar wasanaethau sydd eisoes o dan bwysau. Ni ddylai pobl gynhyrfu wrth aros am gymorth. Penderfynir a oes angen asesiad yn seiliedig ar asesiad o ba mor debygol yw hi fod yr haint ar rywun. Mae angen i ni gofio bod dros 450 o brofion wedi'u cynnal hyd yma, gyda dim ond un achos o gludo'r haint i Gymru wedi ei gadarnhau o'r niferoedd a brofwyd. Rydym hefyd yn gwybod, hyd yn oed pan gaiff achosion eu cadarnhau, bod gan y rhan fwyaf o bobl symptomau ysgafn neu ddim symptomau gwirioneddol. Mae ar bobl yng Nghymru angen cymorth achub bywyd brys gan ein GIG bob dydd am ystod o afiechydon sydyn, cyflyrau hirdymor neu ddamweiniau. Bydd y GIG, a hynny'n briodol, yn parhau i flaenoriaethu sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd.
Mae GIG Cymru eisoes wedi datblygu prawf ar gyfer y feirws ac wedi profi cannoedd o unigolion hyd yn hyn, fel y crybwyllais. Mae'r prawf hwn bellach wedi'i ychwanegu at ein rhaglen bresennol ar gyfer arolygu clefydau yng Nghymru. Bydd hyn yn golygu y bydd rhai meddygfeydd teulu yn cyflwyno samplau i'w profi yn ogystal â phrofion sy'n cael eu cynnal yn rhai o'n hunedau gofal dwys. Dylai hyn sicrhau ein bod yn gallu canfod yn gyflym unrhyw ledaeniad o'r haint sydd heb ei ddarganfod ymysg y boblogaeth.
Mae'r unedau asesu a phrofi cymunedol a sefydlwyd gan fyrddau iechyd, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi golygu bod y mwyafrif helaeth o bobl wedi cael eu profi yn eu cartref eu hunain. Un o nodweddion pwysig ein hymateb yng Nghymru yw bod dros 90 y cant o'r profion wedi'u cynnal yng nghartref yr unigolyn hwnnw. Mae'r dull hwn wedi bod yn hollbwysig o ran galluogi ein GIG i barhau i ymateb i'r gwasanaethau a ddarparant a'r galw cynyddol a welwn ni yn ystod y gaeaf.
Rydym ni eisoes wedi gofyn i fyrddau iechyd ddynodi ardaloedd ar wahan i adrannau achosion brys lle gellir asesu unigolion heb beryglu cleifion eraill. Bwriad y dull hwn yw cyfeirio unigolion oddi wrth adrannau achosion brys ac osgoi'r risg bosib o heintio pobl eraill. Does arnom ni ddim eisiau i bobl fynd i'r ysbyty o gwbl i gael asesiad cychwynnol os ydynt yn poeni fod y coronafeirws arnyn nhw, neu fod symptomau arnyn nhw ar ôl teithio i un o'r ardaloedd penodol lle mae perygl o ddal yr haint.
Mae rhagor o waith cynllunio a gwaith ataliol ar y gweill. Mae gennym ni eisoes ein cynlluniau ar gyfer pandemig ffliw, a gofynnwyd i sefydliadau o bob un o'n fforymau cydnerthedd lleol yng Nghymru, yn ogystal â'n GIG, ystyried y cynlluniau hynny. Rydym ni eisiau i'n holl bartneriaid argyfyngau sifil fod yn barod i weithredu os bydd y sefyllfa bresennol yn gwaethygu. Mae'r cynlluniau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sefyllfaoedd posib, gan gynnwys y sefyllfaoedd gwaethaf posib o ran achosion. Hwn, wrth gwrs, yw'r dewis cyfrifol i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid. Rydym ni'n paratoi ar gyfer y gwaethaf er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa ymarferol orau i ddiogelu iechyd pobl Cymru.
Cymerodd y Prif Weinidog a minnau ran yng nghyfarfod COBRA ddoe. Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig cenedlaethol eraill ar gynllunio i fynd i'r afael â'r coronafeirws. Cafodd cynllun gweithredu ar y cyd ar gyfer y DU ei gyhoeddi'n gynharach heddiw, wrth gwrs. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Gweinidogion ym mhob un o bedair Llywodraeth y DU yn ystyried a oes angen pwerau cyfreithiol cryfach i ffrwyno neu liniaru effaith bosib y feirws hwn. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar sylfaen paratoadau'r Bil pandemig ffliw blaenorol. Ein nod yw cael un darn cyson o ddeddfwriaeth i'r DU gyfan, os oes angen deddfwriaeth. Byddai nifer o faterion yn cael eu cadw'n ôl, ond rhaid i'r pwerau datganoledig, wrth gwrs, barhau i gael eu harfer gan Lywodraethau datganoledig cenedlaethol.
Mae rhai digwyddiadau cyhoeddus mawr wedi cael eu canslo neu eu gohirio. Gwnaed hyn yn nodweddiadol i gyfyngu ar y risg o drosglwyddo'r coronafeirws lle mae niferoedd mawr o bobl wedi ymgasglu. Mae nifer o ysgolion wedi cau mewn gwledydd eraill am resymau tebyg. Nawr, mae'r rhain yn ddewisiadau posib yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi cyrraedd y cam hwnnw. Dylai ysgolion aros ar agor. Mae yna, wrth gwrs, ganllawiau clir i ysgolion yma yng Nghymru sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae trefniadau monitro gwell ar waith ym meysydd awyr Heathrow, Gatwick, Manceinion a Birmingham. Mae'r hediadau uniongyrchol yn dod i'r meysydd awyr hyn o'r rhan fwyaf o'r ardaloedd yr effeithir arnynt. Mae gan faes awyr Caerdydd a'n porthladdoedd allweddol eraill ddeunyddiau ymwybyddiaeth gyhoeddus ar waith ar hyn o bryd. Gellir gweithredu trefniadau monitro gwell ar gyfer maes awyr Caerdydd ar fyrder, os bydd eu hangen. Mae angen i'r ymateb fod yn gymesur. Mae'n bwysig cydnabod bod cyfyngiadau sylweddol i unrhyw sgrinio pobl sy'n cyrraedd o ran canfod achosion posib.
Mae'r penderfyniadau hyn yn gymhleth, ac mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall ledled y DU, yn cael eu cynghori gan arbenigwyr gwyddonol ac wrth gwrs gan y pedwar prif swyddog meddygol. Mae angen sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng diogelu iechyd a gwneud mwy o niwed, o bosib, o ganlyniad i gyflwyno cyfyngiadau. Mae'r cyfnod o amser y byddai angen i unrhyw gyfyngiadau fod mewn grym er mwyn atal lledaeniad y feirws yn effeithiol yn un o'n prif ystyriaethau. Mae goblygiadau sylweddol yn eu rhinwedd eu hunain o gau gwasanaethau fel ysgolion neu gyfyngu ar deithio a gallant wrthbwyso'r fantais o ohirio lledaeniad y feirws.
Y gwir amdani, fodd bynnag, yw mai'r pethau syml, yn aml, yw'r rhai pwysicaf. Gall pawb helpu i ddiogelu eu hunain ac eraill. Y ffordd orau o arafu lledaeniad firysau anadlol yw cario hancesi papur bob amser, eu defnyddio wrth besychu a thisian, eu rhoi yn y bin, ac yna golchi eich dwylo gyda sebon a dŵr. 'Ei ddal, ei daflu, ei ddifa', fel rwy'n siŵr y clywch chi fi a llawer o bobl eraill yn dweud am ddyddiau bwygilydd.
Yn anffodus, mae rhai pobl yng Nghymru, yn union fel yng ngweddill y DU, wedi dioddef sylwadau hiliol a rhagfarnllyd. Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw'r Llywodraeth hon yn goddef nac yn esgusodi'r hiliaeth a'r rhagfarn yr ydym ni wedi'u gweld a'u clywed. Nid yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang hwn yn gwahaniaethu rhwng gwahanol hil a ffydd. Ni ddylai ein pobl ddefnyddio'r argyfwng byd-eang hwn ym maes iechyd y cyhoedd fel esgus i wneud hynny.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i'n staff. Mae staff y GIG a Llywodraeth Cymru wedi gweithio oriau hir bob dydd i'n helpu i'n paratoi ar gyfer effaith bosib y coronafeirws. Mae ein partneriaid ym maes llywodraeth leol a'r gwasanaethau brys eisoes dan bwysau mawr oherwydd yr ymateb brys presennol a pharhaus i ddigwyddiadau llifogydd sylweddol ledled y wlad. Rwyf yn ddiolchgar am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb rhyfeddol a pharhaus. Diogelwch y cyhoedd yw eu prif flaenoriaeth, yn union fel y mae i'r Llywodraeth hon. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd yn rheolaidd.
Mae gennyf dri maes allweddol yr hoffwn eu crybwyll yn gyflym, ac yna cyfres o gwestiynau. Yn gyntaf oll, Gweinidog, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am yr holl gyfathrebu â mi, y galwadau ffôn, a'r cyfarfodydd a gynigwyd i'r holl wrthbleidiau, gennych chi a'r Prif Weinidog, i roi'r newyddion diweddaraf inni. Yn ail, hoffwn ddiolch i staff y GIG yng Nghymru, ac wrth gwrs i'r prif swyddog meddygol, am ddeall, yn y bywyd prysur iawn sydd ganddyn nhw eisoes, bod angen iddyn nhw bellach fynd gam ymhellach a pharatoi ar gyfer unrhyw beth a allai neu na allai ddigwydd. Yn drydydd, hoffwn annog pob un ohonom ni i fod yn gyfrifol ac yn gymesur. Oherwydd, a bod yn onest, haint gwaeth yw ofn. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn synhwyrol. Mae angen i ni 'Ei ddal, ei daflu, ei ddifa.' Rwy'n credu y byddant yn arwyddeiriau i bob un ohonom ni.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ofyn i chi: beth allwn ni ei wneud i gyfleu neges iechyd y cyhoedd yn uchel ac yn glir? Yn eich datganiad heddiw, rydych chi'n cyfeirio at wahanol sefydliadau, adrannau amrywiol, gwefan iechyd y cyhoedd. Wel, a bod yn blwmp ac yn blaen, dydw i ddim yn credu y bydd llawer o aelodau cyffredin y cyhoedd yn rhuthro i ymgynghori â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel cam cyntaf. Felly, tybed a ddylem ni ystyried y teledu neu'r radio, a hyrwyddo'r neges honno 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa' a'r negeseuon ynglŷn â golchi dwylo.
A allwch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi a'r Gweinidog Addysg wedi'i wneud o ran plant ysgolion cynradd ac uwchradd—oherwydd, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod y gall unrhyw haint o unrhyw fath ledu fel tân gwyllt o amgylch ysgolion—er mwyn cyfleu'r neges iddyn nhw? Oherwydd, rydym ni hefyd yn gwybod bod dylanwad pobl ifanc yn wych; byddan nhw, yn eu tro, yn mynd yn ôl ac yn dweud wrth rieni, ffrindiau a pherthnasau am y neges 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa', ac wrth gwrs y neges ynglŷn â golchi dwylo'n briodol ac yn gywir heb frysio, nid rhoi ambell fys yn sydyn o dan dap.
A allwch chi hefyd, efallai pan soniwch chi am ymgyrch wybodaeth iechyd y cyhoedd, dawelu meddyliau pobl ynghylch y feirws ei hun a pha mor hir y gall fyw? Gan fy mod i wedi cael pobl yn dweud wrthyf i, 'Rydw i wedi archebu rhywbeth gan gwmni manwerthu ar-lein mawr iawn'—na chrybwyllaf i mo'i enw—'oes feirws ar y pecyn am ei fod yn rhywbeth o Tsieina?' Neu, rwyf wedi cael busnesau'n codi pryderon am bethau y maen nhw'n eu mewnforio. Ble mae'r feirws? A yw'n un o'r rhain a all fyw am gyfnod estynedig o amser? Ni allaf ddeall hyn, ond unwaith eto mae'n ymwneud â hyrwyddo'r neges honno fel nad yw pobl yn dechrau poeni a meddwl ei bod hi'n ddiwedd y byd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.
Rydych chi'n sôn yn eich datganiad y gall pobl nawr ffonio rhif 111 y GIG. A gaf i fod yn hollol glir ynghylch hyn? Oherwydd, wrth gwrs, dim ond mewn rhai ardaloedd o Gymru yr oedd gwasanaeth 111 ar gael am gyfnod hir pan oedd yn cael ei dreialu a'i gyflwyno. A ydych chi nawr yn dweud, drwy Gymru gyfan, os oes unrhyw bryderon gan unrhyw un, y dylent ffonio 111 ac fe gânt eu cyfeirio i'r lle cywir, neu a oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r dewis arall a oedd yno yn y lle cyntaf?
A allwch chi hefyd roi gwybod inni, ledled y GIG a'r maes gofal cymdeithasol, pa wybodaeth sydd wedi'i hanfon at y llu o wahanol weithwyr, o lanhawyr i ymgynghorwyr? Oherwydd unwaith eto, rwyf wedi cael rhai pobl yn dweud eu bod yn gwybod beth i'w wneud, ac rwyf wedi cael pobl eraill yn dweud nad ydynt mewn gwirionedd wedi clywed llawer gan y sefydliadau sy'n eu cyflogi. Os oes gennych chi wybodaeth am hynny? Felly, mae a wnelo hynny i gyd â'r wybodaeth gyhoeddus.
Hoffwn droi fy sylw'n fyr iawn at ddeddfwriaeth. Tybed a wnewch chi roi mwy o fanylion inni am yr amserlen ar gyfer deddfwriaeth a chadarnhau'n gyhoeddus, a'i gofnodi, y byddai'r pwerau a fyddai'n cael eu rhoi ar y llyfr statud yn rhai ar gyfer argyfyngau iechyd cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol, a bod ganddyn nhw gylch gwaith penodol iawn? A allwch chi hefyd sicrhau'r Senedd, er ei bod hi'n ymddangos mai un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer y pedair gwlad yw'r hyn a ffefrir, y bydd materion datganoledig yn parhau i fod wedi'u datganoli, er mwyn i'r holl genhedloedd allu defnyddio'r ddeddfwriaeth er lles gorau eu gwledydd nhw? Efallai na fydd yn rhaid inni ddefnyddio llawer, oherwydd mewn gwirionedd, efallai er enghraifft, mai ychydig iawn o achosion fydd gennym ni.
A allwch chi roi unrhyw amserlenni deddfwriaethol? Sut y bydd Aelodau'r Cynulliad yn gallu craffu ar Fil sy'n ymlwybro drwy San Steffan? Deallaf fod y manylion yn cael eu paratoi, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich bwriad i ganiatáu i ni—llefarwyr y gwrthbleidiau ac, fe gredaf, y pwyllgor—edrych ar hyn lle bynnag y bo'n bosib. A yw COBRA hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r wybodaeth ynghylch iechyd y cyhoedd y byddai'n rhaid ei chyflwyno gydag unrhyw ddeddfwriaeth, yn enwedig os yw hi'n cynnwys pethau fel y pŵer i gadw cleifion mewn man penodol, y pŵer i rwystro cleifion rhag gadael rhywle, y pŵer i atal teithio, i atal torfeydd cyhoeddus, i wneud unrhyw rai o'r pethau hyn? Oherwydd rydym ni'n byw mewn cymdeithas ryddfrydol iawn, ac mae'n bosib y bydd ein democratiaeth yn gweld yr union fesurau hynny yn dipyn o sioc, ac yn anodd eu derbyn.
Rwy'n ymddiheuro, Llywydd, mae hwn yn fater mor bwysig fel yr hoffwn i barhau am ychydig. Staff rheng flaen—a wnewch chi amlinellu beth sydd wedi ei wneud i ddiogelu staff rheng flaen y GIG a'r gwasanaethau brys os yw hyn yn parhau i ddatblygu? Hefyd, er ein bod ni'n profi pobl, a diolch byth y canfyddir nad yw'r haint arnyn nhw, tra yr ydym ni'n eu profi, nid ydym yn gwybod hynny eto. Byddem yn gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion pan fo hynny'n bosib—sylweddolaf na allwch chi wneud hynny heddiw efallai—ynghylch gallu'r maes gofal sylfaenol i ymdopi. Ac a fyddwch chi'n ystyried mesurau megis, er enghraifft, un o'r pethau sy'n fy nharo i mewn gwirionedd yw y dylem ni, efallai, fynnu bod pob meddygfa deulu yn brysbennu dros y ffôn, oherwydd, wrth gwrs, gallwn ddal i wneud apwyntiadau mewn nifer o feddygfeydd meddygon teulu ar-lein, a phan fyddwch chi'n gwneud apwyntiad ar-lein, allwch chi ddim dweud beth sydd efallai o'i le ar yr unigolyn yna. Felly, tybed a allwch chi ystyried hynny.
A wnewch chi ymhelaethu ar ateb y Prif Weinidog i arweinydd yr wrthblaid ar eitemau megis cofrestru gweithwyr iechyd proffesiynol, addasrwydd i ymarfer, costau indemniad, ac ati mewn argyfwng? A ydych chi'n rhoi unrhyw gyngor penodol i bobl sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n gorfod gweld eu meddygon teulu'n rheolaidd, sy'n gorfod casglu presgripsiynau'n rheolaidd neu gael profion gwaed? Mae'r rhain yn bobl sydd â chyflyrau cronig, megis clefyd siwgr, lle mae'n rhaid iddyn nhw fynd i weld y meddyg yn rheolaidd, ond a oes unrhyw ffordd o osgoi hynny, i'w cadw rhag niwed am gyhyd ag y bo modd? A allwch chi gadarnhau, yn Llywodraeth Cymru, a oes swyddog ym mhob portffolio sy'n arwain ar y mater hwn—er enghraifft, yn y portffolio busnes? Oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o bryderon gan yr holl gymunedau gwahanol a gynrychiolir gan eich cyd-Aelodau yn y Cabinet sy'n eistedd o amgylch y bwrdd gyda chi.
Yn olaf, hoffwn ddweud, a dweud y gwir, da iawn chi. Ni all neb gynllunio ar gyfer y gwaethaf drwy'r amser. Nid ydym eisiau bod yn cynnal y muriau trwy'r amser, naill ai fel Llywodraeth yn y fan yma, Llywodraeth y DU neu yn wir ym mha bynnag ran o'r GIG, ac mae'n anodd gweithredu pob un o'r mesurau hyn ar unwaith, felly rwy'n gwybod y bu rhai sylwadau anffafriol gan rai carfannau o gymdeithas yn dweud y dylem ni gael hyn llall ag arall, ond unwaith eto, dychwelaf at yr hyn a ddywedais, Llywydd, ar y cychwyn cyntaf—mai ofn yw'r pandemig gwaethaf. Credaf fod y Llywodraethau wedi ymddwyn mor gyfrifol a chyflym ag y gallant. Rwyf eisiau gweld deddfwriaeth a chraffu'n iawn arni i sicrhau ei bod yn addas i'w diben, ac rwy'n arbennig o awyddus, beth bynnag sy'n digwydd, ein bod yn ceisio amddiffyn staff rheng flaen ein GIG gymaint â phosib, oherwydd yn y pen draw nhw yw ein hamddiffyniad cyntaf, ac mae arnom ni angen iddyn nhw fod mor iach â phosib. Diolch yn fawr, Gweinidog.
Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Ceisiaf wneud yn siŵr fy mod yn ymateb i bob un ohonynt a cheisio bod yn gryno wrth wneud hynny, Llywydd.
Elfen o hyn yw bod pob un ohonom ni yn hyrwyddo ac yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth y gellir ymddiried ynddyn nhw—felly, yr wybodaeth a roddir gan y prif swyddog meddygol, yr wybodaeth y mae gwefan Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Maen nhw'n ffynonellau gwybodaeth y gellir ymddiried ynddyn nhw y dylem ni i gyd fod yn ceisio eu hyrwyddo i helpu gyda'r negeseuon syml, sef parhau i ailadrodd y neges 'Ei ddal, ei daflu, ei ddifa', a chredaf y down ni i'r sefyllfa lle bydd dealltwriaeth eang o hynny, oherwydd disgwyliaf weld bron pob llefarydd yn ailadrodd hynny ar wahanol adegau yn eu hymddangosiadau cyhoeddus, a gallwch hefyd ddisgwyl cael negeseuon rheolaidd yn y cyfryngau gan amrywiaeth o bobl. Ond yn benodol, bydd y pedwar prif swyddog meddygol o wahanol rannau'r DU, a'r Gweinidogion iechyd, wrth gwrs, yn arwain ar yr ymdrech ychwanegol honno. Os yw'r coronafeirws yn dod yn bryder mwy sylweddol, gallwch ddisgwyl clywed oddi wrthyf nid yn unig yn y fan yma, ond yn gyhoeddus hefyd. Felly, rwy'n credu y byddai'r elfen negeseuon cyhoeddus yn eithaf anodd ar hyn o bryd—i gael ymgyrch iechyd y cyhoedd ar wahân o gofio'r sylw sylweddol a roddir bob dydd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyflwr. Hyd yn hyn, rwy'n sicr yn credu bod ein cyfryngau darlledu wedi bod yn eithaf cyfrifol ynghylch eu hymagwedd, ac wrth hyrwyddo'r negeseuon hanfodol a sylfaenol hynny ynglŷn ag iechyd y cyhoedd. Wrth gwrs, mae'r canllawiau i ysgolion yr ydym ni wedi'u cyhoeddi, sydd, unwaith eto, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, yn ailadrodd y cyngor am yr hyn y dylai pobl ei wneud, nid agor neu gau ysgolion o reidrwydd—y neges eto oedd, eu cadw ar agor—ond gyda hylendid sylfaenol da mewn gwirionedd; rydym ni eisiau i ysgolion ddilyn ac ailadrodd y negesau hynny gyda'u poblogaethau eu hunain hefyd.
O ran cwestiynau am fusnesau, nid oes unrhyw gyngor nac awgrym o gwbl y dylai pobl newid y ffordd y maen nhw'n archebu nwyddau yn y DU neu'r tu allan iddi. Mae'r cyngor hwnnw'n dal ar waith fel y byddai wedi bod o'r blaen.
O ran 111, rwy'n hapus i gadarnhau bod yna bellach wasanaeth coronafeirws Cymru gyfan drwy'r rhif 111, am ddim. Dyna newid yr ydym ni wedi'i wneud yn fwriadol i gael un ffynhonnell, un rhif, felly nid ydym yn gofyn i bobl fynd i wahanol leoedd mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Mae sgyrsiau eisoes yn cael eu cynnal yn y Llywodraeth, ac mae sgyrsiau'n dechrau ymysg sefydliadau sy'n cyflogi ynghylch y cymorth sydd ei angen arnynt, neu'n wir negeseuon ynghylch sut y maen nhw'n gofalu am eu gweithluoedd eu hunain hefyd. Nid mater i wasanaethau cyhoeddus yn unig yw hyn—mae effaith fwy sylweddol o bosib. Un o'r materion a drafodwyd gennym ni wrth inni ymwneud â phob un o'r pedair Llywodraeth yw newidiadau i'r ffordd y mae'r tâl salwch statudol yn gweithredu, oherwydd nid ydym eisiau i bobl aros tan y trydydd diwrnod o salwch cyn iddyn nhw ystyried wedyn bod yn rhaid iddyn nhw gymryd peth amser o'u gwaith. Felly, rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithredu ar hynny. Rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol arwydd o hynny pan oedd yn ateb cwestiynau yn Nhŷ'r Cyffredin gyda llefarydd Llafur heddiw.
O ran deddfwriaeth, fel y dywedais yn y datganiad, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o ddeddfwriaeth. Pe bai angen i ni ddeddfu, gan gofio'r cyngor yr ydym ni wedi'i gael gan y pedwar prif swyddog meddygol a chan SAGE—grŵp y dychwelaf ato cyn bo hir. Nid perlysieuyn yw SAGE yn yr achos hwn—ond y 'Scientific Advisory Group for Emergencies'—ac mae hwnnw'n adnodd allweddol sy'n darparu cyngor gwyddonol i bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Pe baem yn gweld y math o uchafbwynt o ran y feirws, sy'n bosib, gallai hynny ddechrau tua mis Mai/Mehefin, pan allech chi weld uchafbwynt. Pe bai angen pwerau brys arnom ni, byddai angen inni eu rhoi ar waith cyn hynny, a fyddai'n golygu, i fod yn realistig, y byddai angen inni fod wedi pasio'r ddeddfwriaeth honno cyn toriad Pasg y seneddau ledled y DU. Mae hynny'n golygu, o'n safbwynt ni, pe baem ni'n cael un darn o ddeddfwriaeth i'r DU gyfan, byddai wedi bod angen inni ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol cyn y toriad ei hun. Felly, nid oes cyfnod sylweddol o amser, ond yn y sgyrsiau rwyf wedi'u cael, gyda llefarwyr iechyd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, rwyf wedi dweud, cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i fod yn fwy pendant ynghylch hynny, y byddaf yn cadarnhau hynny. Byddaf yn sicrhau bod gwybodaeth dechnegol ar gael. Rwyf eisoes wedi cynnig cyfle i Gadeirydd y pwyllgor iechyd gael sesiwn friffio gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru—diweddariad ehangach ar y sefyllfa. Ac os byddwn ni'n cyrraedd y sefyllfa pryd yr ydym ni'n credu mai deddfwriaeth yw'r ateb cywir, a bod gennym ni ffurf hynny, yna byddaf yn ceisio sicrhau bod briff technegol ar gael gan y Prif Swyddog Meddygol a'r swyddogion ynglŷn â'r hyn y bydd y Bil yn ei gynnwys a'r rhesymeg y tu ôl iddo hefyd. Ond eto, i ailadrodd fy mhwynt mai'r disgwyliad clir iawn yw bod pwerau datganoledig yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Weinidogion yn y tair Llywodraeth ddatganoledig genedlaethol.
Nawr, o ran sut i arfer y pwerau hynny, rydym yn glir iawn ein bod eisiau cael ein harwain gan y wyddoniaeth a'r cyngor a gawn ni gan y prif swyddog meddygol o ran pa bwerau y gall fod angen eu harfer. Yn y pen draw, y Gweinidogion sydd i benderfynu o hyd. Ac yn yr un modd, pan nad oes angen y pwerau hynny bellach hefyd. Ond pe bai yna ddeddfwriaeth, rwy'n siŵr y byddai pobl ym mhob un o'r seneddau yn y DU eisiau deall pryd y byddai pwerau'n dechrau, ond hefyd pryd y byddent yn dod i ben. Yn y Bil Paratoadau Sifil, er enghraifft, mae angen i'r pwerau gael eu hadolygu a'u hadnewyddu bob saith diwrnod. Efallai na fydd hynny'n briodol os wynebwn ni bandemig a allai barhau am nifer o fisoedd. Ond mae'n sylw pwysig, ac rwy'n disgwyl y caiff sylw priodol wrth graffu hefyd. Ac mae'r sylw yn un priodol.
O ran gofalu am ein staff, wel mae gennym ni offer amddiffynnol ar gyfer staff sy'n profi a thrin, ac mae gennym ni'r offer amddiffynnol priodol ar gael i staff barhau i wneud hynny. Rydym yn cymryd lles staff o ddifrif, ond hefyd pe byddai her sylweddol, yna os oes nifer sylweddol o bobl yn y gweithle sy'n absennol o'r gwaith am eu bod yn sâl, byddai hynny'n effeithio ar ran o weithlu ein gwasanaeth iechyd hefyd. Felly, rydym yn ystyried sefyllfaoedd posib pryd, os oes llai o weithlu, bod angen gwneud mwy na dim ond rhoi'r cyfle i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sydd wedi ymddeol sy'n barod i ddychwelyd i wneud hynny os ydynt yn fodlon, a beth mae hynny'n ei olygu o ran rheoleiddio, yn nhermau rhifau. Oherwydd efallai na all arian roi llawer o aelodau staff ychwanegol inni—mae'n ymwneud mewn gwirionedd â pharodrwydd pobl sydd â'r gallu i ddychwelyd a chael y cliriad rheoliadol priodol i wneud hynny.
O ran gofal sylfaenol, rydych chi eisoes wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ein bod eisoes yn ystyried a oes modd lleihau rhai o'r trefniadau adrodd, a dylai hynny fod yn gyfarwydd. Rwy'n credu mai dau aeaf yn ôl y penderfynais wneud hynny yn ystod y gaeaf ar gyfer gofal sylfaenol er mwyn ysgafnhau'r pwysau. Rhoddodd hynny fwy o amser iddyn nhw, ac fe allwn ni hefyd gael dulliau rheolaidd a dealladwy i sicrhau y byddent yn parhau i gael swm rhagweladwy ar gyfer gwneud hynny.
O ran eich sylw am gyngor rheolaidd i bobl â chyflyrau cronig y gallai fod angen iddynt fynd i'w meddygfa, nid ydym ni wedi cyrraedd adeg pryd mae angen i'r bobl hynny wneud unrhyw beth yn wahanol, ond efallai y down i'r adeg pryd bydd hynny'n un o'r pethau y byddwn yn eu hystyried. Nid oes angen i'r bobl hynny boeni yn awr, ond pe bai trosglwyddiad cymunedol mwy sylweddol o'r coronafeirws, bydd angen i ni ystyried ac o bosib rhoi cyngor pellach bryd hynny.
Mae swyddogion ym mhob portffolio yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Rydym ni wedi cynyddu ein trefniadau brys ein hunain. Cafodd y Cabinet frîff gennyf—rydym ni wedi sôn amdano o'r blaen, ond cafwyd sesiwn friffio benodol ddoe. Bydd y Cabinet yn cyfarfod eto yn ddiweddarach yr wythnos hon i ystyried hyn yn benodol, a byddwn yn edrych ar drefniadau rhwng Gweinidogion i gynyddu ein trefniadau brys ein hunain yn effeithiol. Rwy'n credu mai EWCC yw'r byrfodd, ond i'w roi mewn termau mwy dealladwy, mae ein trefniadau COBRA Cymru ein hunain yn barod hefyd.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r ddau ohonoch chi am eich cefnogaeth ac am eich agwedd adeiladol yn ein sgyrsiau blaenorol ac yn y fan yma. Wrth gwrs, bydd cwestiynau y byddwch wastad eisiau eu holi, ond credaf ei bod hi'n bwysig ein bod yn ceisio mynd ati mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac aros mor ddigynnwrf ag yr ydym ni eisiau i'r cyhoedd aros yn wyneb bygythiad newydd i iechyd y cyhoedd ledled y DU.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Gaf innau ddiolch am y datganiad y prynhawn yma a diolch hefyd am y sesiynau briffio sydd wedi cael eu darparu i ni fel gwrthbleidiau, ddydd Sul ac yn gynharach heddiw? Dwi'n edrych ymlaen at weld y math yna o ddeialog yn parhau, achos dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn bod yr hyder yna yn y cyhoedd bod y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd yn rhai cyfrifol i'w cymryd, ac mae sut mae hynny'n cael ei gyfathrebu efo ni a'r cyhoedd yn bwysig iawn, wrth reswm. Mi allwn i ofyn cannoedd o gwestiynau ichi y prynhawn yma, ond gwnaf i ddim. Dwi'n gwybod y cawn ni ddigon o gyfleoedd i ofyn y cwestiynau hynny, ond mae yna ambell i beth yn fy nharo i, a gwnaf i ddefnyddio'r cyfle yma i ofyn y rheini.
Yn gyntaf, cwestiwn a gafodd ei ofyn yn gynharach gan Adam Price, ac mae yna gyffwrdd wedi bod arno fo eto, sef y wybodaeth sy'n cael ei rannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a pha mor aml mae'r wybodaeth honno'n cael ei rhannu. Mi ddywedodd y Prif Weinidog, neu mi awgrymodd y Prif Weinidog bod data yn cael eu rhannu yn ddyddiol. Rydych chithau wedi awgrymu hynny: bod y wybodaeth yn cael ei rhannu am 3 o'r gloch bob prynhawn. Yn ôl yr hyn dwi'n ei deall ac yn ôl gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, er bod yna wybodaeth yn cael ei rhannu'n ddyddiol, dydy'r data ynglŷn â faint o brofion sydd wedi cael eu cymryd, p'un ai'n brofion negyddol neu bositif, ddim yn cael eu rhannu ond yn wythnosol. Tybed a allwch chi gadarnhau beth ydy'r sefyllfa a gofyn a wnaiff Iechyd Cyhoeddus Cymru sicrhau bod y data, yn ogystal â'r naratif dyddiol, fel petai, yn cael eu diweddaru o ddydd i ddydd, yn hytrach nag wythnos wrth wythnos?
O ran 111, dwi'n falch iawn bod hwnnw, rŵan, yn rif sy'n gallu cael ei gyrraedd ym mhle bynnag mae pobl yng Nghymru. A allwn ni gael syniad o'r adnoddau ychwanegol sydd wedi cael eu paratoi er mwyn galluogi hynny i ddigwydd, rŵan? Ac fel cwestiwn ymylol, o bosib, ydy hyn yn ddechrau ar ddarparu 111 ym mhob rhan o Gymru—rhywbeth dwi'n gobeithio bydd yn digwydd? A ninnau ar ddiwrnod y gyllideb, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi ychydig o sylwadau ehangach ynglŷn â'r adnoddau ychwanegol yr ydych chi wedi eu sicrhau neu yr ydych chi'n ceisio eu sicrhau gan y Gweinidog Cyllid er mwyn sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa gryfaf posib fel gwlad i ymateb i COVID-19.
Gaf i ofyn hefyd: mae yna gynlluniau cychwynnol yn cael eu datblygu yn ôl dwi'n ei ddeall, i, o bosib, agor y drws i feddygon sydd wedi gadael y proffesiwn neu sydd wedi ymddeol i ddod yn ôl, pe bai yna bwysau ar weithlu'r gwasanaeth iechyd. Pa gyngor sydd yna i'r gweithwyr iechyd hynny sydd yn barod yn y sefyllfa anodd yma i wneud y gwaith ychwanegol i gefnogi'r cyhoedd o ran ein gwasanaeth iechyd? Pa gyngor sydd yna iddyn nhw ar sut y gallan nhw gofrestru ymlaen llaw, os liciwch chi, cyn i'r manylion gael eu cwblhau, fel ein bod ni'n gallu cryfhau'r gweithlu iechyd pe bai angen hynny?
Cwpwl o bwyntiau ar fater o egwyddor. Mi wnaethoch chi, yn gywir iawn, gondemnio'r rhagfarn a'r sylwadau hiliol sydd wedi cael eu clywed mewn cysylltiad ag ymlediad yr haint yma. A allwn ni ofyn i chi wneud sylw ehangach ynglŷn â'r angen i drin pobl sydd mewn self-isolation, os liciwch chi, efo urddas a pharch? Achos mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwybod pa fath o lefel o driniaeth y dylen nhw allu disgwyl ei gael gan y wladwriaeth, gan gymuned, a hwythau yn teimlo, wrth gwrs, mewn sefyllfa fregus iawn o fod wedi cael eu rhoi mewn self-isolation.
Mae wedi dod i'r amlwg hefyd bod Mako Vunipola bellach ddim yn mynd i fod yn gallu chwarae yn y gêm chwe gwlad rhwng Cymru a Lloegr y penwythnos yma oherwydd ei fod o wedi mynd i mewn i self-isolation. Tybed beth ydych chi'n—. Wel, yn gyntaf, pa fath o drafodaethau sydd yn digwydd efo cyrff fel Undeb Rygbi Cymru, a chlybiau pêl droed ac ati, o gwmpas digwyddiadau mawr fel hyn sy'n dod â phobl at ei gilydd? Ond yn fwy pwysig o bosib, beth mae'r ffaith bod Mako Vunipola wedi mynd i self-isolation, ac yntau ddim yn dangos arwyddion o'r haint, ond wedi bod mewn sefyllfa lle gall fod yna beryg—dwi'n deall ei fod o wedi hedfan drwy Hong Kong—beth mae hynny yn ei ddweud wrthym ni am yr angen i bobl fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallan nhw fod wedi cael eu heintio, ac i gymryd camau synhwyrol i'w diogelu eu hunain, ac eraill o'u cwmpas nhw, tra'n balansio hynny, wrth gwrs, efo'r angen, fel rydych chi'n ei ddweud, i bobl beidio mynd i ryw fath o gonsyrn mawr yn gyffredinol?
Ac yn olaf, eto'n cyfeirio at sylwadau a godwyd gan Adam Price yn gynharach heddiw yma, o ran y cyfrifoldeb ar gyflogwyr. Dwi wedi codi hyn efo chi o'r blaen fel Llywodraeth, yn gofyn i chi roi cyfarwyddyd clir o'ch disgwyliadau chi gan gyflogwyr cyfrifol yng Nghymru. Dydy deddfwriaeth cyflogaeth ddim wedi cael ei ddatganoli, ond dwi'n meddwl bod yna gyfeiriad neu ddisgwyliad a allai gael ei osod gan Lywodraeth Cymru o ran ymddygiad cyflogwyr. Mi allai cyflogwyr anghyfrifol, gweithleoedd lle mae disgwyl i bobl droi fyny i'r gwaith beth bynnag eu cyflwr iechyd nhw, fod yn peryglu iechyd pobl eraill. Felly, a fyddwch chi yn gwneud datganiadau rŵan, neu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, ynglŷn â'ch disgwyliadau chi ynglŷn â'r angen i gyflogwyr, fel pawb arall o fewn y gymuned, gymryd y camau synhwyrol hynny sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn cael ei warchod?
Byddaf, diolch am y cwestiynau. O ran y data y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ddarparu, maen nhw'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y sefyllfa yng Nghymru, i weld a oes unrhyw newid yn y canllawiau sydd ar gael, bob dydd am 3 o'r gloch. Mae Public Health England yn cyhoeddi, ar ran y DU, ffigurau bob dydd, gan gynnwys achosion wedi'u cadarnhau. O ran y dull gweithredu a nodais y byddwn yn ei fabwysiadu yma yng Nghymru, mae angen i ni feddwl a yw'n gymesur a defnyddiol i ddarparu data bob dydd ar nifer y profion a gynhelir. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod yr her sy'n ymwneud â chadarnhau achosion yn gwbl wahanol i nifer y profion sy'n cael eu cynnal. Ac mae ansicrwydd yn dal i fod ynghylch elfennau o hynny. Rwyf yn credu bod yr achosion a gadarnhawyd, ac ymhle maen nhw—. Ac, er enghraifft, pe bai newid yn y ffordd yr ydym yn darparu triniaeth i bobl, pe baem yn cyrraedd adeg pryd mae'r capasiti presennol lle mae pedair gwlad y DU wedi cytuno i ganolbwyntio ar bedwar lle yn Lloegr sy'n trin pobl y cadarnhawyd fod yr haint arnyn nhw, pe bai hynny'n newid, mae'n amlwg y byddai angen i ni ddarparu hynny hefyd. Ond dydw i ddim yn hollol siŵr y bydd darparu gwybodaeth feunyddiol am y profion a gynhelir yn fuddiol o ran darparu gwybodaeth ddefnyddiol i'r cyhoedd, yn hytrach na chanlyniadau'r profion hynny. Ond mae hynny'n fater yr wyf yn hapus i'w ystyried, ond mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Lloegr mewn gwirionedd yn darparu data ar gyfer y DU gyfan ynghylch nifer yr achosion a gadarnhawyd, ac fe gaiff honno ei diweddaru bob dydd.
O ran adnoddau, mae'r adnoddau ar hyn o bryd yn ymwneud mwy â phobl nag arian. A dyna sut yr ydym ni'n defnyddio'r adnodd sydd ar gael i ni, yn y Llywodraeth ac yn nheulu'r GIG a'r asiantaethau sy'n bartneriaid i ni. Felly, nid wyf yn gofyn am swm penodol o arian gan y Gweinidog Cyllid, sydd yn ddefnyddiol iawn newydd ddychwelyd. Mae hynny'n rhannol am na allwn ni ragfynegi'n derfynol yr effaith ar yr ystod gyfan o weithgarwch o fewn y Llywodraeth, ac yn wir, gyda phartneriaid. Mae'n bosib y ceir effaith ariannol sylweddol; efallai na fydd hynny'n wir. Mae hynny'n rhannol oherwydd na allwn ni ar hyn o bryd ragfynegi gyda'r cywirdeb angenrheidiol beth allai'r effaith honno fod, a sut y gallai arian helpu i wneud hynny. Fodd bynnag, mae'n rhan o'n trafodaethau mewn gwirionedd ym mhob un o alwadau COBRA, ynghylch a oes angen chwistrelliad ariannol i wneud y mesurau ychwanegol sy'n angenrheidiol i iechyd y cyhoedd.
Nawr, mae'r Canghellor eisoes wedi dweud ei fod wedi gofyn i'w swyddogion edrych ar effaith bosib y coronafeirws cyn cyhoeddi cyllideb y DU ar 11 Mawrth. Rwy'n credu mewn gwirionedd y bydd angen i ni weld beth sy'n angenrheidiol o ran cronfeydd wrth gefn, ac edrych nid yn unig, os mynnwch chi, ar gyfran syml o fformiwla Barnett ar gyfer popeth a allai ddigwydd neu beidio, ond i feddwl mewn gwirionedd am effaith wirioneddol y cyflwr. Oherwydd efallai y bydd gwahanol rannau o'r DU yn gweld effaith wahanol. Gallai Cymru fod yn ffodus a dianc ag effeithiau cymharol ysgafn o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU, neu gallai'r effaith fod yn wahanol, neu gallai'r effaith fod yn gyfartal ar draws pob un o'r pedair gwlad. A dweud y gwir, fy safbwynt i yw fy mod eisiau gweld adnoddau'n mynd i le mae angen i'r adnoddau hynny fynd. Ac wrth gyfeirio'r angen, unwaith eto, bydd hynny'n seiliedig ar gyngor gwyddoniaeth, ond hefyd ar gyngor ein prif swyddog meddygol, ynghylch ble a sut y gwnawn y gwahaniaeth mwyaf.
O ran cyflymu dychweliad staff sydd wedi ymddeol i'r maes, byddai angen newid deddfwriaeth y DU i wneud hynny. Mae hynny'n fater sy'n cael ei ystyried yn ddwys, gyda Bil posib. Ac wrth gwrs, rydym ni'n dal i ystyried y rhan fwyaf o faterion cofrestru o safbwynt pedair gwlad. Felly maen nhw'n faterion ar gyfer y DU—pwerau wedi eu cadw'n ôl yw'r rhain, ac maen nhw'n bethau y byddem ni'n eu cefnogi mewn gwirionedd; dyna pam ei fod yn y cynllun gweithredu ar y cyd y mae pob un o'r pedair Llywodraeth wedi ymrwymo iddo, fel mater i'w ystyried.
Cytunaf yn llwyr â'ch sylw ynglŷn ag urddas i bobl sydd wedi ynysu eu hunain. Mae rhywbeth i'w ddweud ynghylch sut mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ymddwyn os yw rhywun yn hunanynysu, a rhai pethau i'w dweud am ragfarn a phryder pobl, ond yr un mor berthnasol yw'r cyswllt o bell y gall pobl ei gael o hyd tra bod pobl mewn cyfnod o hunanynysu. I'r rhan fwyaf ohonom ni, gall y syniad o fod gartref am 14 diwrnod swnio'n eithaf deniadol i ddechrau, ond, mewn gwirionedd, 14 diwrnod ar eich pen eich hun, yn y cartref, heb allu gwneud pethau arferol, rwy'n credu ei fod yn eithaf anodd i bobl. A hyd yn oed pan oeddem ni wedi rheoli sefyllfaoedd o ynysu mwy torfol ar gyfer y ddwy awyren gyntaf yn ôl o Tsieina, er enghraifft, mae hynny wedi bod yn anodd i bobl sydd wedi mynd drwy hynny, ac mae angen i ni ddeall hynny.
O ran y sylwadau am ganllawiau ar gyfer digwyddiadau mawr, gwyddom fod y chwe gwlad wedi cymryd hyn o ddifrif. Mae awdurdodau pêl-droed eisoes yn meddwl ymlaen llaw at rowndiau terfynol FIFA, a'r effaith bosib ar hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n digwydd ar draws dwsin o ddinasoedd yn Ewrop. Ac os byddwn ni'n dal i fod mewn cyfnod o ynysu, yna gallai hynny effeithio ar y ffordd y mae rhai o'r digwyddiadau hynny'n digwydd neu ddim yn digwydd. Rydym ni eisoes wedi gweld y penderfyniad a wnaed am y gêm rhwng yr Eidal ac Iwerddon hefyd. Felly mae yna sgyrsiau a all ddigwydd. Rydym ni eisiau sicrhau na fyddwn yn arwain y sgyrsiau drwy wneud cyhoeddiad cyn i sgwrs gael ei chynnal gyda chyrff chwaraeon Cymru, neu unrhyw ddigwyddiad mawr arall, ynghylch beth yw'r cyngor priodol, ond eto i wneud hynny ar sail briodol cyngor a roddir. A hoffwn ofyn am gyngor uniongyrchol ein prif swyddog meddygol ynghylch a ddylid gofyn i bobl beidio â chynnal digwyddiadau dan yr amgylchiadau hynny, ac wedyn efallai y byddwn yn ystyried a fyddai angen pwerau gweinidogol i wneud hynny. Ond byddai hynny'n rhan o sgwrs am y Bil, ac, unwaith eto, byddai'n rhaid i'r gofynion ar gyfer arfer unrhyw bwerau, pe baent yn bodoli, fod yn seiliedig ar y ffaith bod sefyllfa o argyfwng gwirioneddol yn y wlad yn gyffredinol.
Ynglŷn â chyngor o ran teithio, unwaith eto, mae gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yn ffynhonnell awdurdodedig o arweiniad ar deithio. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd hynny, ac wedi cyfeirio at y wefan yn ein canllawiau ein hunain, sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae hynny hefyd yn cael ei ailadrodd drwy'r wybodaeth y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei darparu, am arferion pobl ar hyn o bryd, ond hefyd yn y dyfodol hefyd.
Ac o ran eich sylw am gyflogwyr—. Mae pwynt eilaidd yr wyf eisiau ei wneud am fenthycwyr. Ond, o ran cyflogwyr, unwaith eto, fel y dywedaf, rydym ni wedi crybwyll rhai pethau, rhwng swyddogion, ond hefyd yn ystod sgyrsiau Gweinidogion, am dâl salwch statudol, ac am yr awydd i weld hwnnw'n cael ei dalu o'r diwrnod cyntaf. Oherwydd byddai hynny'n golygu nad yw pobl y mae angen iddyn nhw ddilyn cyngor i hunanynysu yn poeni am yr her bosib iddyn nhw a'u teulu os nad ydyn nhw'n gwneud hynny—bod colled ariannol o wneud hynny. Ond hefyd, gofynnodd fy nghyd-Aelod Llafur Jonathan Ashworth i Matt Hancock yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach am y posibilrwydd y gallai deddfwriaeth ystyried nid yn unig y bobl hynny sy'n weithwyr annibynnol, ond y bobl hynny sydd ar gytundebau dim oriau, i geisio gwneud yn siŵr os oes mesurau y gellid eu cymryd i sicrhau nad ydynt yn dioddef colli incwm a allai eu gweld fel arall yn parhau i fynd i'w gwaith, yn hytrach na dilyn y cyngor priodol i hunanynysu.
Mae'r pwynt olaf yn ymwneud nid yn unig â chyflogwyr, ac, os mynnwch chi, y pŵer meddal y gall y Llywodraeth ei arfer wrth sgwrsio â sefydliadau'r cyflogwyr hynny, ond mae a wnelo â benthycwyr hefyd, a, petaem yn cyrraedd sefyllfa lle y byddai'r coronafeirws yn cael effaith lawer ehangach ar y ffordd y mae pobl yn cynnal bywyd cyhoeddus—boed yn fusnesau bach, canolig neu fawr—ynghylch dymuno peidio â gweld benthycwyr yn gweithredu'n fyrbwyll mewn modd a allai beri i fusnes cymharol lwyddiannus fel arall, a ddylai barhau, i chwalu oherwydd y problemau posibl a allai ddod yn sgil y coronafeirws. Mae'r rheini'n sgyrsiau sy'n cael eu cynnal, o ran yr hyn y gall pob Llywodraeth ei wneud yn unigol, ond yn enwedig gallu'r Canghellor, ar lefel y DU, i gael rhai o'r sgyrsiau hynny am y ffordd y mae benthycwyr eu hunain yn ymddwyn.
Felly, gallwch weld nad yw hwn yn fater sy'n ymwneud ag iechyd yn unig: bydd yn cael effaith bosib ar yr holl Lywodraeth, ar gymdeithas gyfan, os symudwn i'r cyfnod pryd byddwn yn cyrraedd statws pandemig. Ond, ar hyn o bryd, heddiw, dylai pobl ymgymryd â'u dyletswyddau beunyddiol a chadw at eu harferion arferol, ac, i ailadrodd y cyngor a roddwyd o'r blaen, 'ei ddal, ei ddifa a'i daflu' a chymryd o ddifrif y cyngor a'r arweiniad a roddir i bobl gan awdurdodau iechyd y cyhoedd.
A gaf i groesawu'r datganiad heddiw a'r datganiad ysgrifenedig byr a'i rhagflaenodd, ond hefyd croesawu'r cynllun gweithredu o ran y coronafeirws, y mae gweinyddiaeth y DU wedi cytuno arno, ond hefyd, wrth gwrs, yr holl weinyddiaethau datganoledig hefyd? Ac, yn unol â'r cywair a osodir yma gan y Gweinidog heddiw, sy'n bwyllog ond sydd hefyd yn bwrpasol iawn, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r dogfennau hyn yn ei ddangos i ni yw nad ydym ni'n dechrau'n llwyr o'r dechrau. Mae llawer o brofiad a chynllunio ac arbenigedd eisoes wedi cyfrannu at y gwaith o gynllunio ar gyfer argyfwng, ac i baratoi rhag ofn i firysau ledaenu hefyd. Felly, nid ydym yn dechrau o'r dechrau.
Ond mae fy nghwestiynau'n ymwneud yn bennaf â chyfathrebu, Gweinidog. Rydych chi wedi sôn ychydig am yr agweddau hyn, felly ceisiaf beidio ag ailadrodd pethau sydd wedi cael sylw yn barod. Yn gyntaf oll, rwy'n credu mai'r neges fwyaf inni o'r fan yma heddiw, ynghylch y neges am iechyd y cyhoedd, yw pwysleisio pwysigrwydd y gwasanaeth 111 a'r angen i bobl ddefnyddio hwnnw.
Ond, o ran yr wybodaeth am y porth, yr wybodaeth ar-lein, na fydd pawb mor gyfarwydd ag yr ydym ni o ran ei ddefnyddio, mae wedi cyfeirio at safle Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr wyf wedi edrych arno. Mae'n dda iawn; mae'n weddol hawdd ei ddefnyddio; mae'n cysylltu â gwefannau eraill. Mae yna hefyd wefan Llywodraeth Cymru, mae yna hefyd, ar gyfer teithwyr, safle'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad hefyd. A allai wneud yn siŵr bod rhywfaint o gysylltiad rhwng y gwahanol wefannau hyn, fel y gall pobl, sydd naill ai'n pryderu am eu hunain neu am eu teulu neu am gydweithwyr busnes, fynd at y ffynhonnell gywir o wybodaeth yn rhwydd, a bod honno'n wybodaeth gyfredol hefyd? Mae'n wych clywed y caiff safle Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ddiweddaru bob dydd am 3 o'r gloch. Ond mae angen i bob un o'r safleoedd hyn gysylltu'n hawdd iawn â'i gilydd er budd pobl nad ydynt yn gyfarwydd iawn â chwilio drwy'r rhyngrwyd hefyd.
Yn ail, o ran cyfathrebu, a gaf i ofyn, pa fath o ymgysylltu y mae nid yn unig Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond hefyd y rhwydwaith o fusnesau yr ydym yn ymwneud â nhw, o ran busnesau mawr a bach? Mae wedi sôn am y ffaith os yw'r sefyllfa yn gwaethygu mewn gwirionedd, a sylwaf fod y ddogfen yn cyfeirio at rywfaint o'r asesiad sydd wedi'i wneud ar y sefyllfa realistig waethaf un, ond os bydd y sefyllfa'n gwaethygu, yna fe fydd rhai busnesau mwy, sydd yn wir â chynlluniau parhad busnes a ddatblygwyd yn dda iawn, ond rhai o'r busnesau llai, rhai o'r busnesau yn y gadwyn gyflenwi, y busnesau hynny sy'n cadw silffoedd ein harchfarchnadoedd yn llawn a'n cypyrddau'n llawn ac yn cadw'r lorïau nwyddau ar y ffyrdd—. Pa gyfathrebu a wnaed i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud hefyd, a sut maen nhw'n parhau i fasnachu, o safbwynt llif arian ac o safbwynt y gadwyn gyflenwi, ond hefyd o ran gwybodaeth maen nhw'n ei rhannu gyda'u staff a'u gweithwyr?
A dyna fy sylw olaf ar gyfathrebu. Pa ymgysylltu ydym ni'n ei wneud gyda'r Llywodraeth gyfan ac a ydym ni'n defnyddio'r rhwydweithiau sydd gennym ni sydd wedi hen fwrw gwreiddiau gyda gweithwyr rheng flaen, er enghraifft, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mewn gwasanaethau brys, mewn llywodraeth leol, ond hefyd gweithwyr hanfodol eraill sy'n cadw'r wlad ar ei thraed? Pa drafodaethau ydym ni wedi eu cael â'r undebau hefyd, yn uniongyrchol, fel bod ganddynt negeseuon clir y gallant eu cyfleu i'w haelodau hefyd? Felly, y caiff popeth ei wneud, nid yn unig o ran rhoi gwybod iddyn nhw am yr wybodaeth ddiweddaraf, ond hefyd i sicrhau y cânt hwy a'u teuluoedd eu diogelu hefyd. A fy sylw olaf ar gyfathrebu, felly, Gweinidog, fyddai hwn: mae gan bob un ohonom ni fel aelodau o'r Senedd hon gryn dipyn o ddylanwad ein hunain o ran yr hyn y gallwn ni ei gyfathrebu, a byddwn yn dweud—peidiwch â thanbrisio hynny. Os gellir cyflwyno'r wybodaeth yn dda, yna gallwn hefyd helpu mewn modd amserol drwy gyfeirio pobl i'r mannau cywir, boed yn fusnesau neu'n weithwyr, neu'n bobl sy'n pryderu am eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu teuluoedd. Gallwn ddefnyddio hefyd ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefannau o ran cyfeirio pobl yn briodol hefyd.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Hoffwn ddechrau gyda sylw am fusnes. Felly, mae a wnelo hyn â rhai o'r pwerau meddal sydd, fel y dywedais, gan y Llywodraeth, ac rydym ni eisoes yn ystyried estyn allan, wrth imi siarad â gwahanol sefydliadau ynghylch hynny. Ond, rydych chi'n iawn, mae yna wahaniaeth, weithiau, rhwng rhai busnesau, ac yn arbennig busnesau mwy—er nid yn unig busnesau mwy—a allai fod yn fwy abl i ymdopi ag absenoldeb gwahanol neu yn wir a allai gynnig y posibilrwydd o weithio o bell; busnesau eraill, mae'n rhaid i bobl fod yn bresennol i wneud gwaith. Ac mae a wnelo hynny â chyngor cymorth busnes, ond, yn yr un modd, pan fydd y Llywodraeth yn cefnogi busnesau yn uniongyrchol, am y ffordd yr ydym yn ymddwyn, ac nid dim ond troi at fenthycwyr y sector preifat i geisio cael sgwrs am eu harferion eu hunain, ac ymdrin â busnesau y bydd effaith arnynt efallai os daw'r coronafeirws yn her fwy sylweddol i ni.
Mae gwasanaeth 111 yn fwriadol yno i ddarparu pwynt cyswllt cyson i bobl. Mae'n hawdd ei gofio a'i ailadrodd. Ond i fynd yn ôl at eich pwynt olaf—y modd y gall Aelodau unigol fod yn rhan o hyn hefyd, ac ailadrodd a chyfeirio at ffynonellau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad y gellir ymddiried ynddynt, a byddwn yn sicr yn gofyn i Aelodau wneud hynny, i wneud hynny drwy ailadrodd ffynonellau gwybodaeth yr ymddiriedir ynddynt a bod yn ofalus iawn na chawn ni ein cyflyru i hyrwyddo rhai o'r elfennau mwy cynllwyngar o sylwebaeth sydd bob amser, ysywaeth, yn bodoli mewn gwahanol rannau o fywyd cyhoeddus ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae cyfrifoldeb gwirioneddol ar bob un ohonom ni i fod yn gyfrifol.
O ran ymgysylltu â sefydliadau eraill, a'r fforymau cydnerthedd—fel y dywedais, rwy'n cynnal ymarfer eisoes a byddaf yn fwy na pharod i ddarparu mwy o wybodaeth dros yr wythnosau nesaf am natur y paratoadau ar gyfer y sefyllfa sydd ohoni. Ond mae ein trefniadau eisoes wedi cael eu profi yn yr wythnosau diwethaf ac felly mae'r berthynas yn dda ac yn adeiladol yma yng Nghymru.
O ran eich sylw ehangach am ymgysylltu ag ystod o wahanol bobl, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi siarad â'r Cynghorydd Huw David—sydd nid yn unig yn arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ond yn llefarydd gofal cymdeithasol ac iechyd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—ddoe. Rwyf wedi siarad â llefarydd iechyd y ddwy brif wrthblaid i wneud yn siŵr y caiff gwybodaeth ei throsglwyddo rhwng y Llywodraeth ac yna drwy'r Siambr yma hefyd. Rydym yn cyfarfod aelodau'r Cabinet o bob rhan o'r maes gofal cymdeithasol dros y dyddiau nesaf. Rwy'n cyfarfod ag aelodau o golegau brenhinol ledled Cymru yfory. Rwyf hefyd yn cyfarfod â'r undebau llafur a chyflogwyr yn y gwasanaeth iechyd yr wythnos hon pan fyddaf yn y gogledd. Ac rwyf hefyd yn manteisio ar y cyfle i gyfarfod â chyfarwyddwyr meddygol o bob sefydliad GIG yma yng Nghymru yr wythnos hon, ac rwy'n cyfarfod â nhw ynghyd â'r prif swyddog meddygol. Felly, rydym ni yn sicrhau nid yn unig y darperir canllawiau o bell, ond mewn gwirionedd y ceir sgwrs wyneb-yn-wyneb uniongyrchol gydag amryw o'r bobl hynny a fydd yn ddylanwadol mewn gwirionedd nid yn unig o ran ymdrin â barn, ond hefyd yn ein helpu i baratoi ar gyfer yr hyn a allai fod ei angen yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Yn olaf, Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig cynharach am y cynllun gweithredu ar y cyd. Hoffwn ganmol y gwaith sy'n cael ei wneud gennych chi, eich swyddogion, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'n staff anhygoel yn y GIG wrth baratoi ar gyfer COVID-19. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y gwasanaeth 111 bellach ar gael ym mhob rhan o Gymru. Ac ynghylch y gwasanaeth hwn a'r posibilrwydd o gynyddu'r defnydd a wneir ohono oherwydd y feirws, pa adnoddau ychwanegol eraill ydych chi wedi ystyried eu rhoi i'r gwasanaeth hwn?
Rydych chi yn llygad eich lle yn dweud bod hwn yn glefyd cwbl newydd. Nid ydym yn sicr o bwy neu beth yn benodol sy'n cludo'r haint hwn. Mae ein dealltwriaeth bresennol yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hyn a wyddom ni am bob coronafeirws tebyg. Beth allwch chi ei ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda—gyda'r cymunedau anodd eu cyrraedd, pa ystyriaeth ychwanegol a roddwyd i'r cymunedau anodd eu cyrraedd hyn, fel eu bod yn ymwybodol o'r coronafeirws a'r symptomau?
Mae cyfraddau heintio wedi cynyddu ar draws y byd ac mae ein hymdrechion, yn briodol ddigon, yn canolbwyntio ar leihau lledaeniad y clefyd hwn. Mae'n briodol ein bod yn paratoi ar gyfer achosion eang. Gallwn weld o ogledd yr Eidal pa mor gyflym mae'r coronafeirws arbennig hwn yn lledu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd un o'r bygythiadau mwyaf yw panig eang a lledaeniad gwybodaeth anghywir. Mae yn ein gallu i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd hwn os ydym i gyd yn cymryd rhagofalon syml. Fel gyda phob haint anadlol, gallwn gymryd camau i atal lledaeniad COVID-19. Mae angen i bob un ohonom ni yn y Siambr hon atgyfnerthu'r neges 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa' ac arfer hylendid dwylo effeithiol rheolaidd.
Gweinidog, fel y dywedais, rwy'n cymeradwyo'n llwyr sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati, ac felly mae gennyf ychydig o gwestiynau ar ôl. Cafwyd adroddiadau am brinder cyfarpar amddiffynnol personol mewn meddygfeydd teulu. Felly, Gweinidog, a allwch chi sicrhau bod digon o gyfarpar amddiffynnol personol ar gael i ddarparwyr gofal sylfaenol ym mhob cwr o Gymru? Sylweddolaf fod hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd byd-eang, a bydd yn arwain at heriau o ran caffael. Fodd bynnag, a wnewch chi bopeth yn eich gallu, ynghyd â chydweithwyr ar draws y DU, a gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw costau uwch ac argaeledd cyflenwadau ac offer yn effeithio ar ein gwasanaethau iechyd?
Yn olaf, Gweinidog, un o effeithiau anffodus yr achosion o coronafeirws yw'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n ceisio elwa ar ddioddefaint pobl eraill, a cheir adroddiadau bod busnesau diegwyddor yn chwyddo prisiau deunyddiau hylendid sylfaenol yn aruthrol. Roedd un hysbyseb ar gyfer potel o olchydd llaw alcohol 600 ml yn nodi pris o £37, pump neu chwe gwaith yn fwy na'r pris arferol. Yn anffodus, nid yw hyn yn unigryw. Felly, Gweinidog, a wnewch chi weithio gydag awdurdodau lleol a Gweinidogion y DU i wneud yr hyn a allwch chi i gael gwared ar yr arfer yma?
Diolch unwaith eto am eich diweddariadau rheolaidd a gobeithiaf, wrth i bob un ohonom ni wneud ein rhan, y gallwn ni osgoi difrod gwaethaf COVID-19.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Hoffwn ddechrau efallai gyda'ch sylw olaf a'r sylw a wnaethoch chi yn gynharach am y ffordd y gallwn ni ddewis ymddwyn. Yn anffodus, mae bob amser rhai pobl sy'n barod i geisio manteisio ar sefyllfa sy'n peri problem a gwneud elw ariannol. Rydym ni'n ei weld mewn ystod eang o feysydd ac, yn anffodus, disgwyliaf y bydd pobl yn ceisio gwneud hynny yn y sefyllfa hon. Mae'r rhan fwyaf o bobl, fodd bynnag, yn ymateb mewn modd mwy anhunanol ac un sy'n estyn allan ac yn dangos bod pobl yn gofalu am eu cymdogion, a phobl nad ydynt yn eu hadnabod cystal. A dyna'r elfen honno eto am gynhyrfu a pheidio â chynhyrfu, a pheidio â lledaenu gwybodaeth anghywir am y sefyllfa wirioneddol.
Felly, os cysylltir â phobl am gyngor neu arweiniad ac y gofynnir pris mawr am hynny, ond cynigir cymorth, fe ddylen nhw ailfeddwl. Os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae hynny bron yn sicr yn wir, ac os yw pobl yn gofyn am symiau sylweddol o arian am yr hyn y credwch y dylai fod ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yna, unwaith eto, cymerwch gam yn ôl, ac i ddychwelyd at y sylw am dderbyn arweiniad o ffynhonnell o wybodaeth ac arweiniad y gellir ymddiried ynddo. Mae prif swyddog meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth i bobl eu dilyn. A gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn defnyddio eu sianeli cyfryngau cymdeithasol eu hunain i hyrwyddo hynny.
Mae'r gwasanaeth 111 bellach wedi cael adnoddau i ddarparu gwasanaeth i Gymru gyfan i ymdrin â'r coronafeirws. Os oes angen ystyried adnoddau ariannol ychwanegol sy'n mynd y tu hwnt i allu'r adran iechyd i wneud hynny, yna, wrth gwrs, bydd y Llywodraeth gyfan yn trafod hynny. Mae'n bosib hefyd, wrth gwrs, y bydd ar adrannau eraill eisiau adnoddau, nid dim ond yr adran iechyd. Mae hynny'n dibynnu ar yr angen ac ar yr hyn y gallai fod angen i'r Llywodraeth ei wneud rywbryd yn y dyfodol.
O ran ymwybyddiaeth, rwy'n credu ei bod hi'n anodd rhagweld nifer y bobl na fyddent yn ymwybodol bod y coronafeirws yn fater cyfredol sy'n wynebu'r DU a'r byd ehangach. Rwy'n credu mai prin yw'r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud y tu hwnt i'r hyn sy'n cael ei wneud eisoes i hyrwyddo neges ymwybyddiaeth gyhoeddus o ynghylch y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Mae lansio'r cynllun gweithredu ar y cyd heddiw yn ddigwyddiad na welwyd mo'i debyg o'r blaen, yn sicr yn fy amser i ym myd gwleidyddiaeth, a byddwn yn ceisio sicrhau y caiff y negeseuon hynny yn y cynllun hwnnw, nid yn unig yn ymwneud â'r dyfodol ond yn ymwneud â heddiw, yn cael eu hatgyfnerthu'n gyson ac yn barhaus, gan gynnwys, wrth gwrs, y neges 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa', yn enwedig o ran golchi eich dwylo'n effeithiol.
O ran offer amddiffynnol ym maes gofal sylfaenol neu, yn wir, ym maes gofal eilaidd, rydym ni wedi gwneud popeth rwy'n credu sy'n rhesymol, nid dim ond i sicrhau fod y cyfarpar hwnnw ar gael, ond wedyn i'w ddarparu lle mae'n angenrheidiol. Felly, nid mater o gadw offer yn unig mo hyn; nid yw hynny'n angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae angen i bobl, gan gynnwys y rhan fwyaf o weithwyr y gwasanaeth iechyd, fynd ynghylch eu dyletswyddau yn y ffordd arferol.
Yna, yn olaf, i ailadrodd y sylw hwn nad yw'n ymwneud â'r Siambr hon yn unig, ond â phedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig—rwyf wedi gwneud y sylw hwn o'r blaen. Dylai roi rhywfaint o gysur i bobl fod pedair Llywodraeth wahanol sydd â phedair blaenoriaeth wleidyddol wahanol ar amrywiaeth o bethau, gyda phedwar Gweinidog iechyd gwahanol a phedair plaid wahanol, yn dal i ddod at ei gilydd i weithio ar sail y DU gyfan, ac i wneud hynny ar sail y cyngor gorau sydd ar gael i bob un ohonom ni, ac, wrth gwrs—[Anghlywadwy.]—y cyngor a'r arweiniad a roddir i ni gan y pedwar prif swyddog meddygol i gadw'r cyhoedd mor ddiogel â phosib.
Diolch i chi. Russell George, rydych chi'n dymuno gofyn cwestiwn.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, roeddech chi'n sôn yn eich datganiad chi y gellid gwella monitro ym maes awyr Caerdydd a chael hynny i ddod i rym ar fyr rybudd o bosib. Rwy'n deall nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, ond beth a fyddai'n ysgogi hynny?
Ac os caf, Dirprwy Lywydd, rwyf am ofyn un cwestiwn arall yn gyflym—diolch. Mae pryder ynghylch y gadwyn gyflenwi. Mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch cymorth i fusnesau, ond o ran—. Fe gysylltodd un busnes â mi i ddweud bod rhannau o'r byd fel Tsieina, yn benodol, yn effeithio ar y gadwyn gyflenwi. Mae'r ffatrïoedd yno ar gau am gyfnod cyfyngedig, ac mae hynny'n effeithio ar y gadwyn gyflenwi ar hyn o bryd, er y gall y ffatrïoedd hynny fod wedi ailagor erbyn hyn. A phryder pwysicach efallai yw'r cadwyni cyflenwi ar gyfer cyflenwadau meddygol, nad ydyn nhw'n gysylltiedig â'r coronafeirws ei hun efallai, ond cyflenwadau meddygol i'r GIG o ganlyniad i oedi wrth i nwyddau gyrraedd y wlad hon. A yw hynny'n bryder gennych chi hefyd, ac a yw'r mater hwnnw hefyd yn cael sylw o fewn y GIG?
Wel, ynglŷn â'r pwynt olaf am effaith gweithgarwch yn Tsieina a phwysigrwydd hynny nid o fewn economi Tsieina'n unig, ond yr effaith economaidd fyd-eang—mae hwn yn fater y mae'r Gweinidogion yn pryderu amdano ledled y DU. Mae hyn wedi bod yn rhan o'r drafodaeth yng nghyfarfodydd COBRA. Yr her yw faint o allu sydd gyda ni i gamu i mewn a gwneud rhywbeth yn wahanol. Efallai fod gan y Llywodraeth hon rywfaint o ysgogiadau, ond nid wyf i am gymryd arnaf y gallwn liniaru'n llwyr yr effeithiau posib ledled Tsieina—wrth gwrs, ni fyddwn yn gweld rhai o'r effeithiau hyn am fisoedd neu flynyddoedd lawer—boed hynny ynglŷn â'r gallu i ddod o hyd i ffynonellau eraill ar gyfer nwyddau neu wasanaethau, nid yn unig o fewn y gwasanaethau iechyd, ond yn ehangach. Felly, dyna pryd y bydd angen inni weld beth sy'n digwydd wrth iddo ddigwydd, yn ogystal â cheisio rhagweld sut y gallem helpu busnesau, pe byddai hynny'n bosib. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r bobl hynny sy'n rhedeg ac yn rheoli'r busnesau hynny a'u gallu nhw i gael ffynonellau i rai o'u nwyddau nhw eu hunain. Mae'n wir yn aml eu bod nhw mewn sefyllfa well i wneud hynny na Gweinidog yn y Llywodraeth.
O ran maes awyr Caerdydd a'r angen i gamu ymlaen o ran y trefniadau—wel, byddai hynny'n dibynnu ar y cyngor a roddir inni ynghylch a yw hynny'n beth effeithiol i'w wneud, a yw honno'n strategaeth effeithiol o ran cynnwys coronafeirws a'i ledaeniad, neu, yn wir, o ran arafu hynny. Efallai y byddwn ni'n cyrraedd rhyw bwynt, serch hynny, pan na fyddai unrhyw gyfyngiadau ar deithio'n gallu bod yn effeithiol. Fe fydd yn rhaid i hyn gael ei dywys gan y wyddoniaeth, a dyna pam mae grŵp cynghorwyr gwyddonol SAGE o bwys mawr, eu modelau nhw o ran yr her ynghylch trosglwyddiad coronafeirws, ac, yn wir, y cyngor yr ydym ni'n ei gael gan y pedwar prif swyddog meddygol. Felly, os bydd angen inni wneud hynny, byddem yn egluro'r seiliau a fyddai gennym ni ar gyfer trefniadau ychwanegol ym maes awyr Caerdydd ac effeithiau disgwyliedig hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n parhau i fod mor dryloyw â phosibl am unrhyw gamau yr ydym ni'n dewis eu cymryd a bod gennym sylfaen briodol ar gyfer gwneud hynny fel Gweinidogion.
Diolch, Gweinidog.
Eitem 5 ar yr agenda yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020. Ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7279 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ac rwy'n cynnig y cynnig. Daeth y Rheoliadau hyn i rym am 11.00 p.m. ar 31 Ionawr ac maen nhw'n yn diwygio dwy gyfres o reoliadau: Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014, a'r Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015.
Mae Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 yn darparu ar gyfer gweithredu rheoliadau'r UE sy'n ymwneud â gweinyddu'r PAC. Maent yn cynnwys darpariaethau ar orfodi rheoli o ran taliadau a roddir yn uniongyrchol i ffermwyr. Maen nhw'n cynnwys gofynion hefyd ar y rhai sy'n derbyn taliadau uniongyrchol a thaliadau datblygu gwledig penodol sy'n ymwneud â chynnal safonau da o ran amgylchiadau amaethyddol ac amgylcheddol.
Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 yn gwneud darpariaeth o ran gweinyddu taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ôl cynlluniau cymorth y PAC. Mae'n nodi nifer o reolau y mae'n rhaid i ffermwyr eu dilyn ar gyfer cadw tir amaethyddol mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer pori neu dyfu cnydau. Diwygiadau mân yw'r rhai a wneir gan y Rheoliadau hyn, ond maen nhw'n angenrheidiol i sicrhau bod y mecanwaith ar waith i wario hyd at £243 miliwn ar gyfer cynllun taliad sylfaenol i ffermwyr yn 2020, a fydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Mae hefyd yn sicrhau uniondeb ac effeithlonrwydd y llyfr statud yng Nghymru pan fydd y DU yn ymadael â'r UE. Diolch.
Ni fyddwn yn pleidleisio yn erbyn hyn, ond mae yna ychydig o gwestiynau sydd wedi cael eu codi, a dweud y gwir, ac rwy'n credu y byddai gennyf ddiddordeb i glywed eich ymateb chi i'r rhain cyn inni bleidleisio. Gwn fod rhai yn y sector, er enghraifft, wedi holi a oes angen talu arian i ffermwyr mewn gwirionedd, neu a allai'r gwledydd datganoledig ddefnyddio'r arian ar gyfer rhywbeth arall, pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny. Pe byddai hynny'n digwydd, rwy'n llwyr o'r farn y byddai gan rai ohonyn nhw broblem—ac ni fyddai rheoliadau'r UE wedi caniatáu i hynny ddigwydd, wrth gwrs. Ond mae yna gwestiwn ynghylch a yw'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn sicrhau neu'n mynnu bod yr arian yn mynd i'r ffermwyr a fyddai, wrth gwrs, yn cael yr arian hwnnw pe byddem ni'n ddarostyngedig i reoliadau'r UE sydd wedi bod yn weithredol cyn hyn.
Ar ben hynny, mae yna bryder ymysg rhai bod y Bil yn ystyried argymhellion adolygiad Bew, y mae rhai wedi bod yn feirniadol iawn ohonyn nhw, yn enwedig y ffaith bod amaethyddiaeth yr Alban, yn un o'i argymhellion, wedi derbyn swm sy'n cyfateb i £1,300 i bob ffermwr ar gyfartaledd, o'i gymharu â £150 i bob ffermwr yng Nghymru ar gyfartaledd, sy'n golygu bod y taliad cyfartalog i bob fferm yn yr Alban tua 175 y cant o'r taliad cyfartalog yng Nghymru. Nawr, mae'r Bil i bob pwrpas yn agor y drws i wahaniaeth llawer mwy rhwng ffermwyr yr Alban a ffermwyr mewn mannau eraill yn y DU. Ac unwaith eto, fe fyddai gan reolau'r UE rywbeth i'w ddweud am hynny. Felly, fe fyddwn i'n falch o gael eich ymateb chi i'r posibilrwydd hwnnw hefyd, gan ei fod yn codi cwestiynau ehangach ynghylch y trefniadau ariannu hirdymor a fydd gennym ni a sut y caiff taliadau eu gweinyddu yn y blynyddoedd i ddod a sut y caiff cyllid ei ddyrannu i'r gwledydd datganoledig. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n dweud wrthym mai rhywbeth untro yw hwn ar gyfer eleni, rhywbeth dros dro i raddau helaeth iawn—nid oes gennyf i reswm i amau hynny—ond, wrth gwrs, dyna a ddywedon nhw wrthym ni am fformiwla Barnett, ac edrychwch ar ein sefyllfa ni ynglŷn â hynny.
Gweinidog, a wnewch chi ymateb?
Diolch i chi, Llŷr, am y cwestiynau yna. Fy nealltwriaeth i yw mai rhywbeth untro fydd hyn. Rydych chi'n ymwybodol iawn, fel y gwn i o'n trafodaethau ni, mai taliad hanesyddol mewn cysylltiad â'r Alban oedd hwnnw. Cyn belled ag y gwn i, nid wyf wedi cael unrhyw gyngor ynghylch adroddiad Bew, yn sicr, o ran y ddeddfwriaeth hon. Ond pe na fyddai wedi cael ei ddiwygio ac yn weithredol yn union cyn y dyddiad gadael, fe fyddai yna berygl na fyddai Gweinidogion Cymru yn gallu cyflawni eu dyletswyddau i wneud taliadau i ymgeiswyr am gyfanrwydd y cynllun 2020 yma. Felly, rwy'n hapus i egluro hynny. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar gyfraddau treth incwm Cymru 2020-2021, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7285 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru 2020-21 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c;
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru. Fe gafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ym mis Ebrill y llynedd a'u cymhwyso i drethdalwyr treth incwm sy'n byw yng Nghymru. Fe gyhoeddwyd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y gyllideb ddrafft. Yn unol ag ymrwymiadau blaenorol, ni fydd unrhyw newidiadau i gyfraddau treth incwm Cymru yn 2020-21. Fe fydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fe fydd hyn yn parhau i roi sefydlogrwydd i drethdalwyr mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd a chyni parhaus.
Ynghyd â'r grant bloc, mae trethi Cymru yn hollbwysig i helpu i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae llawer mewn cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw. Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac wrth i realiti proses Brexit ddod i'r amlwg, fe all diogelu'r gwasanaethau hyn fynd yn fwy heriol. Eleni, mae'r ffaith fod cyllideb y DU yn anarferol o hwyr yn golygu nad yw cynlluniau treth Llywodraeth y DU ar gyfer 2020-21 a thu hwnt yn hysbys ar hyn o bryd, sy'n anfantais yng nghyd-destun ein cynlluniau ni ar gyfer trethiant yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n monitro cyllideb y DU ar gyfer nodi unrhyw effeithiau posibl ar Gymru.
Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn parhau i weinyddu treth incwm yng Nghymru, ac mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod â chyfrifoldeb llawn o ran trethiant incwm ar gynilion a difidendau. Mae fy swyddogion i'n parhau i weithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar y trefniadau manwl o ran gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru, ac maen nhw yn y broses ar hyn o bryd o drosglwyddo i fodel llywodraethu 'busnes fel arfer', yn dilyn cyfnod gweithredu llwyddiannus. Mae'r cod C cywir bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tua 97 y cant o'r trethdalwyr, ac mae fy swyddogion i'n gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi i gynyddu'r gyfran honno eto.
Rwy'n falch o hysbysu'r Siambr, yn rhan o ymgyrch ymgysylltu cost isel ehangach ar y cyfryngau cymdeithasol, a llythyr gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi a oedd yn cynnwys taflen gan Lywodraeth Cymru i bob trethdalwr sy'n byw yng Nghymru, fod yr ymwybyddiaeth o CTIC wedi cynyddu ar draws pob grŵp oedran, grwpiau economaidd-gymdeithasol a rhanbarthau yng Nghymru, gyda chynnydd o 14 pwynt canran rhwng mis Mehefin 2018 a mis Mehefin 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fonitro ymwybyddiaeth a chynyddu ein hymdrechion i ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â'n system drethu ni yng Nghymru. Rwy'n falch o dynnu sylw hefyd at ymchwiliad parhaus y Pwyllgor Cyllid, gan edrych ar effeithiau posibl gwahanol gyfraddau treth incwm dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac fe fyddaf i'n mynd i sesiwn graffu gyda'r pwyllgor ym mis Mawrth. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn y pwyllgor ar y mater hwn.
Fe ofynnir i'r Senedd gytuno heddiw ar y penderfyniad ar y gyfradd Gymreig, a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm yng Nghymru ar gyfer 2020-21, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.
Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rwy'n deall mai cynnig byr yw hwn, ond mae'n un pwysig iawn, yn un hanesyddol: pennu cyfraddau treth incwm—CTIC—am y tro cyntaf yng Nghymru. Wedi misoedd lawer, blynyddoedd lawer, o siarad am y broses hon, rydym ni ynddi nawr. Mae'n rhaid cyfaddef mai dim ond disodli'r rhan o drethiant sydd wedi ei dileu yn y DU a wna'r cyfraddau sy'n cael eu hystyried heddiw, fel rhan o'r cyfnod pontio. Felly, roeddem bob amser yn gwybod, mewn gwirionedd, bod y cyfraddau treth incwm sy'n cael eu pennu heddiw yn mynd i fod ar y lefel honno ac ni fydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i bobl ar lawr gwlad ac yn eu cartrefi sy'n talu'r gyfradd Gymreig o dreth incwm—ar hyn o bryd, beth bynnag.
Gweinidog, mae angen i drethdalwyr Cymru fod yn hyderus y bydd y cyfraddau treth hyn yng Nghymru yn aros yn gystadleuol yn y dyfodol. A wnewch chi roi sicrwydd i ni—nid eleni'n amlwg, oherwydd bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, ond wrth edrych y tu hwnt i 2020-21—y gwneir pob ymdrech i sicrhau nid yn unig fod cyfraddau treth yng Nghymru yn parhau i fod yn gystadleuol, ond y gwneir ymdrechion hefyd i gynyddu sylfaen drethu Cymru? Oherwydd, yn amlwg, os oes gennym sylfaen drethu yng Nghymru sy'n ehangach a bod gennym fwy o drethdalwyr ar gyfradd uwch yng Nghymru, yna fe fydd y baich yn cael ei ysgwyddo gan nifer uwch o bobl. Felly, fe allwch chi gasglu mwy o dreth mewn gwirionedd drwy beidio â chodi cyfraddau treth, ond drwy drethu'r nifer uwch honno o bobl ar gyfradd uwch. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd yn rhaid ichi weithio gyda'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi i'w gyflawni.
A wnewch chi egluro hefyd a gafodd y problemau a godwyd gyda'r Pwyllgor Cyllid beth amser yn ôl, o ran nodi holl drethdalwyr Cymru—rwy'n credu y bu cynnig i ddefnyddio codau post ar un adeg—eu datrys yn llwyddiannus? Sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod rhagolygon mor gywir ag y gallen nhw fod, ac fel y mae angen iddyn nhw fod yn y dyfodol i sicrhau, pan ddaw'n fater o benderfynu ar newidiadau yng nghyfraddau treth y dyfodol—gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol—fod y penderfyniadau hynny'n seiliedig ar ddata economaidd sydd mor gadarn â phosibl?
Jest cwpl o sylwadau gen i. Mi fyddwn ninnau hefyd yn cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw. Dyddiau cynnar iawn ydy'r rhain, wrth gwrs, wedi i gyfran o gyfraddau treth incwm gael ei datganoli y llynedd, ac mae'n bwysig iawn bod hyder yn cael ei ennill ymhlith y cyhoedd, ymhlith trethdalwyr yng Nghymru yn y trefniadau newydd datganoledig sydd yn eu lle. Mi fydd rhaid i ni yn y blynyddoedd i ddod, fel pleidiau gwleidyddol, fel seneddwyr yn y lle hwn, wneud penderfyniadau anodd dwi'n siŵr, a dewr, gobeithio, ynglŷn â chyfraddau. Ond mae yna synnwyr mewn mynd drwy'r cyfnod cychwynnol yma gan gadw cysondeb yn y trefniadau trethiannol.
Yr un peth ddywedaf i ydy hyn: mae angen arnom ni fel seneddwyr, mae angen ar y cyhoedd yng Nghymru, i weld bod Llywodraeth Cymru yn cael ei sbarduno gan y ffaith bod rheolaeth ganddyn nhw bellach dros gyfran o'n treth incwm ni, a'u bod nhw yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn cael eu gyrru ymlaen i sicrhau ein bod ni yn cynyddu'r sylfaen dreth sydd gennym ni yng Nghymru. Achos mae hwn yn gyfle gwirioneddol, allwn ni ddim cael busnes fel arfer. Gwastraff ydy datganoli pwerau trethi os mai dyna ydy'r agwedd. Ond am y tro, mae yna synnwyr, fel dwi'n dweud, mewn cadw'r ddysgl yn gymharol wastad.
Fe gyfeiriodd y Gweinidog at y cyfraddau hyn fel rhai sy'n berthnasol i drigolion Cymru. Dim ond cywiriad bach iawn: rwy'n credu bod hynny'n golygu trigolion Cymru a Neil Hamilton.
Y dewrder y cyfeiriwyd ato gynnau—. Byddai wedi bod yn ddewr pe byddai Aelodau, yn arbennig ar feinciau'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur, wedi sefyll i gael eu hethol ar sail datganiad clir yn y maniffesto—'Os pleidleisiwch chi drosom ni, fe fyddwn ni'n datganoli'r cyfraddau hyn ac yn caniatáu i bobl yng Nghymru gael treth wahanol i bobl yn Lloegr'—ond ni wnaethant hynny. Yn etholiad San Steffan 2015, ni ddywedodd Llafur air am ddatganoli treth incwm, ac fe ddywedodd y Ceidwadwyr y byddai hynny'n digwydd dim ond pe byddai'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn cynnal refferendwm. Yna, yn etholiad y Cynulliad 2016, fe ddywedodd Llafur 'pan' maen nhw wedi cael eu datganoli, er bod y gyfraith yn parhau i nodi bod angen cynnal refferendwm. Roedd gan y Ceidwadwyr ryw fath o amwysedd yn eu maniffesto nhw, nad oedd yn egluro'r sefyllfa, ac yna fe ddywedon nhw mewn dadl bod y gyfraith yn dweud ei bod yn rhaid cael refferendwm ond ni ddywedwyd dim am sut yr oedden nhw'n bwriadu dileu'r gofyniad hwnnw am refferendwm. Ac ni ddaeth hynny ond yn y mis wedi etholiad y Cynulliad, pan gyhoeddwyd yr hyn a ddaeth yn Ddeddf Cymru 2017.
Yn 2014, roeddwn i yn Nhŷ'r Cyffredin pan drafodwyd Deddf Cymru y flwyddyn honno. Rwy'n cofio, rwy'n credu, yr Ail Ddarlleniad ym mis Mawrth, ac wedyn fe gawsom ni, rwy'n credu—yn y diwedd, erbyn hynny, roeddwn i'n AS UKIP—ar 10 Rhagfyr 2014, ddadleuon ar welliannau'r Arglwyddi, pan ddiddymwyd y cam clo. Ac mewn gwirionedd, fel AS yn San Steffan, yr argraff fwyaf a gefais i o ystyr yr holl ddadleuon hynny oedd eu bod nhw'n ymwneud â'r cam clo ac ymgeisyddiaeth ddeuol. Ond mewn gwirionedd, roeddwn i'n cefnogi'r ddeddfwriaeth honno, ar y sail y byddai refferendwm cyn i hynny gael ei gyflwyno; eto i gyd, fe ddilëwyd y gofyniad hwnnw. Ar ddiwedd y ddadl, Stephen Crabb oedd y Gweinidog ar y pryd, rwy'n credu, ac fe gyfeiriodd ef yn 2014, yn y sylwadau olaf ar y Ddeddf honno, fod y Blaid Lafur wedi rhoi cymaint o glwydi uchel yn ffordd datganoli treth incwm fel ei fod yn teimlo ei bod wedi ei hysbrydoli gan Colin Jackson o Gaerdydd . Felly, dyna fy argraff i o gyfeiriad taith Llafur i'r fan hon.
Ond y realiti yw nad ydych chi wedi sefyll etholiad ar y mater hwn. Felly, dyna pam rwyf i'n gwrthwynebu pennu'r cyfraddau treth incwm hyn, oherwydd rhoddwyd addewid i bobl Cymru mewn refferendwm—ar y papur pleidleisio—na fyddai'r rhain yn cael eu datganoli oni bai fod yna refferendwm, ac rydych chi i gyd wedi torri eich gair.
Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans.
Rwy'n gwerthfawrogi'r eironi, wrth gwrs, ym mhrotestiadau Mark Reckless am fethu ag ymladd etholiad ar sail rhywbeth sydd mewn maniffesto. Ond rwy'n credu y byddaf i'n ymateb i'r pwyntiau hynny sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r rheoliadau a roddir gerbron yr Aelodau heddiw.
Rwy'n cytuno â Nick Ramsay, a oedd yn awgrymu mai cynnig byr iawn yw hwn mewn gwirionedd ar gyfer rhywbeth sy'n hynod o bwysig. Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n parhau i gydnabod hynny yn y Senedd. Mae ef yn iawn hefyd i ddweud na fydd pobl, yn gyffredinol, yn sylwi ar unrhyw newid, yn yr ystyr y byddan nhw'n parhau i dalu'r un gyfradd o dreth incwm, ond yr hyn y byddan nhw'n sylwi arno yw'r cod C wrth eu rhif yswiriant gwladol nhw. Mae tua 97 y cant o drethdalwyr yn defnyddio'r cod cywir erbyn hyn, ac wrth gwrs mae gan gyllid a Thollau ei Mawrhydi raglen addysg a chydymffurfiaeth sy'n mynd rhagddi i fynd i'r afael â'r problemau hyn â'r cod C. Mae yna erthyglau yn ei fwletinau rheolaidd i gyflogwyr, er enghraifft, ac mae'n gwneud llawer iawn o waith. Mae'n hyderus y dylai nifer y gwallau leihau eto cyn y sgan nesaf, a fydd yn digwydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rydych chi'n iawn i ddweud mai cynnig byr yw hwn, ac rwy'n gallu deall hynny, o ystyried nad oes fawr ddim am newid eleni. Rwy'n dychmygu, mewn cynigion ar dreth incwm yn y dyfodol, pe byddai newidiadau yn y cyfraddau treth, mae'n debyg y bydd yna ddadl fwy tanbaid ac mae'n debyg y bydd angen ychydig mwy o amser. Mae'n siŵr mai neges yw honno sy'n fwy perthnasol i chi'r Trefnydd nag i chi'r Gweinidog Cyllid.
Rwy'n siŵr, yn y dyfodol, y bydd llawer iawn o ddadlau ynghylch cyfraddau treth incwm yng Nghymru oherwydd, wrth gwrs, er mai addewid oedd hon i beidio â chodi treth incwm yn ystod y tymor Seneddol hwn, fe fydd yn sicr yn fater o ddiddordeb arbennig, yn fy marn i, wrth inni sefyll gerbron yr etholwyr ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd, o ran pennu'r hyn y gallai ein gwahanol bleidiau ei gynnig i bobl Cymru.
Fe godwyd y pwynt unwaith eto pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n gweithio i ddatblygu sylfaen dreth i Gymru. Wrth gwrs, nid mater i'r Gweinidog Cyllid yn unig yw hwnnw, mewn gwirionedd; mae'n fater i bawb ohonom ni yn y Llywodraeth i gyd. Felly, mae yna waith pwysig i'w wneud ym maes tai, o ran sgiliau, ac mewn meysydd eraill o Lywodraeth i sicrhau ein bod ni'n gosod y sylfaen dreth honno ledled Cymru.
Hefyd, mae'n bwysig cydnabod y gwaith pwysig a wnawn ni o ran rhagolygon. Gwn fod hwn wedi bod yn fater o ddiddordeb i'r Pwyllgor Cyllid. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi bod yn ymgymryd â rhywfaint o waith, ac fe ddisgwylir i'r rhagolwg a gyhoeddir ochr yn ochr â'n cyllideb derfynol ni, sy'n gosod y cyfraddau ar 10c i bob band, godi £2.2 biliwn yn 2020-21. Ac wrth gwrs, fe fydd gennym ni'r ffigurau alldro terfynol wedyn ymhen blynyddoedd i ddod, ac fe fyddai unrhyw daliadau cysoni yn cael eu gwneud bryd hynny. Felly, dim ond megis dechrau taith gyffrous iawn yw hyn, ac fe fyddaf i'n ddiolchgar am gefnogaeth gan yr Aelodau i'r rheoliadau hyn heddiw.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn ni'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r ddadl ar gyllideb derfynol 2020-21, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7282 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 25 Chwefror 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21 y prynhawn yma. Ers inni gael dadl ar y gyllideb ddrafft yn y Siambr fis yn ôl, rydym wedi ystyried argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid a rhai pwyllgorau eraill y Senedd yn ofalus. Yn unol â'r ymrwymiad a wnaethom ni yn dilyn craffu'r llynedd, rwy'n falch ein bod wedi gallu ymateb i'r holl adroddiadau erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, ac fe ymatebais i'n ffurfiol ac yn gadarnhaol i'r 27 o argymhellion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Cyllid.
Ar yr adeg hon ym mhroses y gyllideb, fe fyddem ni fel arfer yn ystyried unrhyw addasiadau sylweddol yn deillio o gyllideb y DU yn y gyllideb derfynol. Fe wyddom, serch hynny, fod y flwyddyn hon ymhell o fod yn un arferol, o gofio natur anrhagweladwy Llywodraeth y DU. Rydym wedi gweld addewid o adolygiad aml-flwyddyn o wariant, a oedd yn golygu cylch gwariant am flwyddyn, a chyllideb hydref y DU a fydd bellach ar 11 Mawrth—yn rhy hwyr inni ei hystyried wrth gyhoeddi ein cynigion ni ar gyfer y gyllideb derfynol. Nid yn unig y cawsom ein llyffetheirio yn y modd hwn, ond fe roddodd Llywodraeth y DU, yn hwyr yn y flwyddyn ariannol hon, ergyd arall inni drwy dorri mwy na £100 miliwn oddi ar ein cyfalaf trafodion ariannol ni, ac yn agos at £100 miliwn oddi ar ein cyfalaf traddodiadol ni.
Yn syml, mae Llywodraeth y DU yn cymryd £200 miliwn oddi wrthym mewn cyfnod heriol. Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys gan wrthwynebu'r newidiadau hyn yn gryf am iddyn nhw gael eu gwneud mor hwyr. Rydym ni'n chwilio am eglurhad, a chyn gynted ag y bydd yr eglurder hwnnw gennyf, fe fyddaf i'n ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid gyda'r manylion. Dyma enghraifft arall eto o'r angen inni gwblhau'r gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i adolygu a gwella'r polisi o ran datganiad cyllid, sy'n rhan annatod o'n gallu ni i gynllunio a rheoli cyllidebau. Ac mae hwn yn bwynt y byddaf i'n ei bwysleisio, ynghyd â Gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon, mewn cyfarfod pedairochrog o'r Gweinidogion cyllid yr wythnos nesaf.
Ers i ni gael dadl ar y gyllideb ddrafft fis yn ôl, mae yna lawer o gymunedau yng Nghymru wedi dioddef effeithiau digynsail a dinistriol stormydd Ciara a Dennis. Mae timau o fewn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio o fore gwyn tan nos gydag awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru i roi'r cymorth gorau posib i'r rhai a gafodd eu heffeithio ganddyn nhw. Ac fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn eto i fynegi ar goedd ein diolch ni i'r gwasanaethau brys a'r gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru, sydd wedi gweithio mor ddiflino yn ystod yr wythnosau diwethaf.
I gefnogi'r gwaith adfer cychwynnol, rydym wedi cyhoeddi y bydd hyd at £10 miliwn ar gael ar unwaith. Rydym wedi gallu defnyddio'r cyllid hwnnw yn y tymor byr drwy reoli ein hadnoddau'n ofalus iawn a thrwy dynnu arian o bob rhan o'r Llywodraeth. Fe ysgrifennais i at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf, gan nodi sut yr ydym yn bwriadu sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael yn gyflym, o ystyried pa mor gyflym y daw diwedd y flwyddyn ariannol.
Ond gwyddom mai dim ond crafu'r wyneb yw hyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio darlun clir o faint y difrod, a nodi'r cymorth a fydd ei angen yn y tymor hwy.
Rydym ni'n disgwyl i'r costau sy'n gysylltiedig ag adferiad yn y tymor hwy fod yn rhai sylweddol. Yn dibynnu ar y raddfa, mae'n annhebygol y gallwn ni, yn ôl pob rheswm, amsugno cost y gwaith sy'n ofynnol o fewn y cyllidebau presennol, yn enwedig o ystyried y £100 miliwn o ostyngiad yn y cyfalaf cyffredinol yr ydym ni newydd ei weld. Dyna pam rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn gofyn am gymorth ariannol ychwanegol y tu allan i'r broses Barnett arferol. Rwy'n croesawu'r awgrym y bydd cyllid ychwanegol ar gael i Gymru gan Lywodraeth y DU, ond fe arhoswn ni i weld y manylion llawn o ran pa gymorth a gaiff ei roi'n ymarferol. Fe fyddwn i'n disgwyl gwneud dyraniadau pellach i ategu'r adferiad wedi'r llifogydd yn y gyllideb atodol gyntaf.
Mae'r stormydd a welsom yn ystod yr wythnosau diwethaf yn amlygu canlyniadau sylweddol y newid yn yr hinsawdd. Drwy gydol y broses hon o graffu ar y gyllideb ddrafft, mae'r Aelodau wedi mynegi pryder am effaith newid hinsawdd. Yn ddiamau, mae ymdrin ag argyfwng yr hinsawdd yn flaenoriaeth i holl Lywodraeth Cymru. Ym mis Mai y llynedd, y Senedd hon oedd y Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Yn dilyn hynny, fe wnaethom ni fabwysiadu, a hynny'n ffurfiol, gyngor ein hymgynghorydd statudol ar newid hinsawdd, Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru 95 y cant dros y 30 mlynedd nesaf.
Dyma'r gyllideb gyntaf ers inni ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae'n darparu ar gyfer pecyn newydd o fwy na £140 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi ein huchelgais ni i ddatgarboneiddio ac amddiffyn ein hamgylchedd gogoneddus. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol a fflyd o fysiau trydan; ffyrdd newydd o adeiladu tai; gwella ein safleoedd ecolegol pwysicaf; a datblygu coedwig genedlaethol, i ymestyn o Fôn i Fynwy. Mae'r pecyn hwn o fuddsoddi yn gam pwysig ymlaen ar ein taith ni tuag at Gymru wyrddach.
Yn y gyllideb ddrafft, roeddem ni'n cydnabod mai'r perygl mwyaf i'n cymunedau ni, yn sgil newid hinsawdd, yw'r stormydd, y llifogydd a'r erydu arfordirol mwyaf dyrys yr ydym ni eisoes yn eu gweld. Yn y gyllideb hon, rydym yn ymrwymo £64 miliwn yn 2020-21 i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau mwyaf difrifol ac uniongyrchol newid hinsawdd, ac fe fyddwn ni'n adolygu'r cyllid yn rheolaidd ac yn sicrhau bod mwy o arian ar gael pe byddai angen.
Mae'n dal yn aneglur ar hyn o bryd beth fydd cyllideb y DU ar 11 Mawrth yn ei roi i Gymru. Os na welwn ni unrhyw ostyngiad mewn cyllid refeniw o gyllideb y DU, fe fyddaf i'n ceisio gwneud nifer fechan o ddyraniadau pellach yn 2020-21 yn y gyllideb atodol gyntaf. Er bod adnoddau prin yn cyfyngu arnyn nhw, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y meysydd hynny lle mae'r dystiolaeth yn dangos y gallwn gael yr effaith fwyaf. Yn ystod y gwaith craffu, mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch cyllid i'r grant cymorth tai a digartrefedd. Mae tai yn un o'n wyth maes blaenoriaeth trawsbynciol ni. Yn y gyllideb hon, fe ddyrannwyd £175 miliwn ychwanegol i gefnogi ein hanghenion ni o ran tai. Rydym yn dymuno cael cartref i bawb sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus. Dyna pam yr wyf i'n dymuno rhoi arwydd nawr y byddaf i'n sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer y ddau faes hyn y flwyddyn nesaf, os byddaf i mewn sefyllfa i wneud hynny ar ôl cyllideb y DU. Dyma hefyd pam rydyn ni'n bwrw ymlaen â'n cynlluniau ni ar gyfer is-adran tir newydd yn Llywodraeth Cymru, a fydd yn hyrwyddo cydweithio rhwng cyrff y sector cyhoeddus i ddatgloi posibiliadau ein tir cyhoeddus ni ar gyfer datblygiadau tai.
Mater pwysig arall a godwyd yn ystod y craffu oedd cyllid ar gyfer bysiau. Mae gwasanaethau bysiau ledled Cymru yn bwysig o ran bod addysg, hyfforddiant, gwaith a gofal iechyd yn hygyrch i bobl ac yn caniatáu i bobl fwynhau cael mynd am dro ar y bws. Maen nhw'n gyswllt hanfodol rhwng ein cymunedau ni ac yn offeryn pwysig i gefnogi economi ffyniannus. Mae hyn yn arbennig o wir yn ein cymunedau gwledig ni ac i'r bobl hynny sy'n dibynnu fwyaf ar y gwasanaethau hyn. Fel y dywedais yn y Pwyllgor Cyllid, fe fyddwn ni'n parhau i adolygu hyn ac fe fyddaf i'n ystyried gwneud dyraniadau ychwanegol yn y maes hwn yn sgil ein setliad terfynol ar gyfer 2020-21.
Gan gydnabod ei bod yn hanfodol datgarboneiddio trafnidiaeth ffyrdd i gyflawni ein nod sero net, rydym yn cymryd camau i'w gwneud hi'n haws i bobl wneud llai o deithiau mewn car a defnyddio dulliau eraill o deithio. Yn ogystal â buddsoddi mewn mathau newydd o drafnidiaeth, mae angen inni gyflawni ein rhwymedigaethau statudol hefyd i gynnal ein hasedau presennol ni o ran ffyrdd, i ganiatáu i bobl a nwyddau fynd a dod yn ddiogel, i atal y risg o ddamweiniau, i wella cysylltedd a hygyrchedd addysg, sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae'r gyllideb cynnal a chadw o fwy na £150 miliwn yn cynnwys £15 miliwn yn ychwanegol yn 2020-21. Fodd bynnag, mae degawd o gyni ariannol Llywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar gynnal a chadw rhwydwaith ffyrdd y DU. Yng Nghymru, mae tagfeydd traffig ar y ffyrdd wedi gwaethygu oherwydd £1 biliwn o danariannu'r seilwaith trafnidiaeth gan Lywodraeth y DU, a'r methiant i drydaneiddio'r prif reilffyrdd yn y gogledd a'r de, gan arwain at fwy o draffig ar ein cefnffyrdd ni. Felly, rwy'n ystyried bod cynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd ni'n flaenoriaeth arall i gyllid ychwanegol, yn enwedig am y rhesymau o ran diogelwch a amlinellais.
Felly, i gloi, mae'r gyllideb derfynol hon yn cyflawni'r addewidion a wnaethom ni i bobl Cymru. Mae'n codi ein buddsoddiad ni yn GIG Cymru hyd at £37 biliwn yn ystod y tymor Seneddol hwn, ac yn rhoi buddsoddiad newydd i helpu i ddiogelu dyfodol ein daear ni. Er gwaethaf yr heriau y gwnaethom ni eu hwynebu o ganlyniad i natur anrhagweladwy ac anhrefn Llywodraeth y DU, rwy'n falch ein bod ni wedi sefyll yn gadarn o blaid ein cynlluniau ni i wireddu ein haddewidion i bobl Cymru a darparu sicrwydd ariannol. Ac rwy'n cymeradwyo'r gyllideb derfynol i'r Senedd.
Diolch. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llŷr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch iawn o’r cyfle i allu cyfrannu jest ychydig o sylwadau cryno yn y ddadl yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Dwi’n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor pob un o argymhellion y pwyllgor, a dwi’n arbennig o falch bod y Gweinidog wedi cytuno i ystyried sut y gallwn ni gynnwys nawr dadl ar y blaenoriaethau gwariant yn amserlen y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod. Dwi’n edrych ymlaen i weithio gyda’r Gweinidog ar hyn, a dwi'n meddwl y bydd e'n gyfle ardderchog i Aelodau i gael ychydig bach mwy o ddweud eu dweud ac ychydig bach mwy o ddylanwad yng nghyfnod ffurfiannol cynnar cyllidebau y dyfodol, yn hytrach nag ymateb i rywbeth sydd yn cael ei gyhoeddi ymhellach lawr y lein.
Yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, fe wnaeth y Siambr yma hefyd, wrth gwrs, gydnabod yr ansicrwydd ynghylch y cylch cyllidebol hwn, a bod y gyllideb wedi’i chyflwyno mewn amgylchiadau eithriadol, fel roedd y Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw yn ei sylwadau hi, o ystyried yr etholiad cyffredinol a Brexit. Mewn gwirionedd, rŷn ni’n dal i aros am gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe allai hynny, fel y clywsom ni, gael effeithiau sylweddol ar gyllid Llywodraeth Cymru.
Yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, fe wnaethon ni argymell y dylai’r Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y bydd cyllideb y Deyrnas Unedig yn ei chael ar Gymru cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl 11 Mawrth. Dwi’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad ni, ac wedi ymrwymo i ddarparu datganiad cynnar ar oblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig ar ragolygon treth a manylion am y symiau canlyniadol i Gymru.
Mae diffyg cyllideb y Deyrnas Unedig wedi golygu, wrth gwrs, bod rhagolygon treth Cymru yn seiliedig ar ragolygon economi a chyllidol y Deyrnas Unedig gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yr OBR, o fis Mawrth y llynedd, 2019, ond mae’n braf gweld bod y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael yng Nghymru a data alldro i ddiweddaru eu rhagolygon treth. Mae’r gyllideb derfynol hon yn dangos cynnydd net mewn refeniw arian parod a dyraniadau cyfalaf o £4 miliwn, sef 0.02 y cant.
Nawr, fe adawon ni’r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, ar 31 Ionawr, ond mae ansicrwydd o hyd ynghylch y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Fe ofynnon ni am sicrwydd ynghylch y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i’r diwydiant amaethyddol, ac mae ymateb y Gweinidog wedi nodi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cadarnhad o gyllid ar gyfer y cynllun taliad sylfaenol yn 2020, ond ni fydd gwybodaeth bellach ar gael tan ar ôl yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, yr rŷm ni’n ei ddisgwyl yn ddiweddarach eleni.
Er ein bod ni yma heddiw yn trafod y gyllideb derfynol yma, mae’n amlwg y bydd cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd ar y gweill, yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, a thrafodaethau ar y trefniadau cyllido yn dilyn Brexit i gyd yn cael effaith ar gyllideb 2020-21, ac felly mi fydd hi, mi fuaswn i'n tybio, yn addas ac yn ofynnol i ni ystyried ymhellach y newidiadau hynny maes o law, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni fel pwyllgor yn awyddus iawn i'w wneud. Diolch.
Diolch i chi. Nick Ramsay.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei sylwadau agoriadol hi ynghylch llifogydd, ac fe hoffwn ychwanegu fy ngeiriau innau o ddiolch i'r gwasanaethau brys hefyd am eu holl waith caled nhw a'u hymroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwnnw, nad ydyw efallai, wrth gwrs, wedi dod i ben eto?
Rwy'n falch, Gweinidog, eich bod chi wedi agor eich cyfraniad chi gyda mater llifogydd a newid hinsawdd. Gallaf gofio fy mod i'n feirniadol yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft am nad oedd yr amgylchedd a newid hinsawdd yn ymddangos yn uwch ar yr agenda o ran y rhestr yn eich araith chi. Felly, fe wnaethoch chi a'ch swyddfa wrando'n astud ar un o'm pwyntiau i yn ystod y ddadl honno a gweithredu, yn fy marn i, yr hyn a oedd yn newid iach a phwysig iawn, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod rhoi'r hinsawdd a'r amgylchedd yn uchel ar ddechrau'r gyllideb yn rhan o bennu cyllideb werdd. Rwy'n credu, yn rhy aml, ein bod ni'n sôn am bwysigrwydd cyllidebu gwyrdd a gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn ganolog i bopeth a wnawn, hynny yw ar yr wyneb, ond nid dyna'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol mewn gwirionedd. Felly, rydym ni, rwy'n gobeithio, yn troi'r gornel honno ac fe fydd pob plaid yn sylweddoli pa mor bwysig yn canolbwyntio ar yr amgylchedd.
Mae cyllideb werdd yn galw am seilwaith gwyrdd, ac mae angen dybryd gweld mwy o'r seilwaith hwnnw. Fe wnaethoch chi grybwyll rhywfaint o hyn, ac, yn amlwg, mae'r sefyllfa o ran llifogydd wedi gofyn am ystyriaeth fanwl o'r seilwaith. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod angen rhwydwaith o bwyntiau trydanol sy'n gwefru'n gyflym i geir sy'n golygu bod pawb o fewn o leiaf 30 milltir o leiaf i orsaf gwefru EV. Fe fydd yr Aelodau hynny o'r Senedd a'r cyhoedd a'r staff yma sydd â cheir trydan, yn gwybod ei bod hi'n iawn eu defnyddio nhw ar hyn o bryd ar gyfer teithiau byr, ond pan geisiwch chi eu defnyddio nhw ar gyfer unrhyw beth dros bellter neu wrth deithio i'r canolbarth neu'r gogledd, rydych chi'n cymryd eich bywyd trydanol yn eich dwylo chi eich hun wrth geisio gwneud hynny. Felly, fe hoffwn i weld mwy yn y gyllideb ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n cyflwyno cynigion i wella'r seilwaith gwyrdd hwn mewn gwirionedd.
O dan gynnig David Melding, Papur Gwyn y Ceidwadwyr Cymreig, fe fyddai gan bob tŷ newydd yng Nghymru bwynt gwefru trydan hefyd. Un newid bach i'r ddeddfwriaeth, ond mae'n rhywbeth a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr hirdymor ar lawr gwlad.
Gan droi at weddill y gyllideb, Gweinidog, ac ni fydd yn syndod ichi wybod na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gyllideb hon—[Torri ar draws.] Nid oeddwn i'n credu y byddai hynny o unrhyw syndod i chi. Rydym yn croesawu'r ffaith bod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, siŵr.
A fyddwch chi'n cyflwyno cyllideb amgen?
Rwy'n cofio Gordon Brown yn cyflwyno cyllideb amgen flynyddoedd lawer yn ôl, ac rwy'n credu i'r Blaid Lafur fod allan o lywodraeth am flynyddoedd lawer wedi hynny. Nid Gordon Brown oedd hwnnw, mae'n ddrwg gennyf, rwy'n tynnu hynny'n ei ôl—fe fydd Mike Hedges yn fy nghywiro i— John Smith oedd hwnnw. Y broblem gyda chyflwyno cyllideb amgen yw, fel y gŵyr y Gweinidog, fod y sefyllfa economaidd yn symud yn gyflym, ac, mewn gwirionedd, mater i'r Llywodraeth yw cyflwyno cyllideb. Gwaith Llywodraeth yw cyflwyno cyllideb a gwaith y pleidiau eraill yw dweud ymhle y dylid gwneud gwelliannau iddi. Ac os mai honno yw ffordd y Blaid Lafur o ddweud eich bod chi'n awyddus i blaid arall gyflwyno cyllideb, wel, fe ddywedaf i hyn wrthych chi, fe fyddai fy nghyd-Aelodau i yma, Janet Finch-Saunders, Mohammad Asghar a Mark Isherwood, yn falch iawn o ddod ymlaen a chyflwyno cyllideb ar eich cyfer chi, ac rwy'n siŵr y bydd pobl Cymru yn edrych ymlaen at weld ambell newid. Ond fe adawn ni hynny tan rywbryd arall.
Nid ydym yn cefnogi'r gyllideb hon. Rydym yn croesawu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru fwy o arian o'r diwedd a £600 miliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Mae oes y cyni'n dod i ben. Ond fe fydd trethdalwyr yng Nghymru yn iawn i amau nifer o benderfyniadau gan Lywodraeth Cymru o ran buddsoddi yn economi Cymru a llunio Cymru well yn sgil Brexit. Beth ydym ni wedi ei weld? Dros £100 miliwn ar ymchwiliad cyhoeddus ar yr M4; £20 miliwn ar brosiect Cylchdaith Cymru; yr hyn sydd yn ei hanfod yn gyfystyr â siec wag ar gyfer Maes Awyr Caerdydd—nid fy ngeiriau i, ond geiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sef fi, wrth gwrs, felly fy ngeiriau i ydyn nhw—gwall golygyddol. [Chwerthin.]
Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £37 biliwn yn y GIG yng Nghymru ers 2016—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. A'i bod yn cyhoeddi gwariant ychwanegol o £400 miliwn ar iechyd. Mae hynny i'w groesawu. Mae hynny'n newyddion da gan Lywodraeth Cymru, ond rydym yn awyddus i weld mwy o arian yn cael ei roi i weddnewid pethau. Rwy'n ildio i'r cyn-Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio. Roeddwn i mewn cyfarfod briffio gyda Maes Awyr Caerdydd y bore 'ma, fel yr oedd ei gyd-Aelod, Russell George, ac roedd yn amlwg nad yw Maes Awyr Caerdydd yn cael unrhyw gymhorthdal refeniw. Mae benthyciadau wedi bod ar sail fasnachol gan Lywodraeth Cymru, swm bach iawn o arian, yn enwedig o gofio'r ffaith fod gan Faes Awyr Bryste fenthyciadau sy'n cyfateb i fwy na £500 miliwn.
Ni chlywais i'r cwestiwn ar ddiwedd hynny, ond o ran y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rydym wedi bod yn edrych ar sefyllfa Maes Awyr Caerdydd o ran benthyciadau, ac mae peth dryswch yno y mae angen ei ddatrys ar y pwyllgor. Rwy'n credu mai'r hyn y byddem ni'n ei ofni yw hyn, ie, mae'n iawn rhoi benthyciadau i brosiect, ond ni ddylai'r benthyciadau hynny olygu siec wag. Ni ddylai'r benthyciadau hynny fod yn ddiddiwedd ac fe ddylai'r benthyciadau hynny fod ynghlwm wrth weledigaeth i'r dyfodol a strategaeth y bydd pawb yn ei derbyn ac a fydd yn golygu arian yn ôl i'r trethdalwr ar ddiwedd y dydd. Ond, wrth gwrs, rwy'n derbyn bod angen benthyciadau o ryw fath arnyn nhw.
I gloi, Dirprwy Lywydd, oherwydd gwn nad oes gennyf i fwy o amser, fe fyddwn i'n dweud, beth am y gogledd? Beth am y gogledd? Ar wahân i £20 miliwn ar gyfer metro gogledd Cymru, beth am fuddsoddiadau a gwaith uwchraddio i'r A55, sef conglfaen economi'r gogledd? Rwy'n credu bod rhai cyfleoedd wedi eu cymryd yn y gyllideb hon ond mae llawer o gyfleoedd wedi eu colli. Rwy'n credu, yn y dyfodol, fod angen inni weld cyllideb sy'n cyflawni ar gyfer Cymru gyfan, nid ar gyfer y de'n unig, ac y bydd yr Aelodau yn y gogledd yn gweld buddsoddiad, buddsoddiad gwyrdd, a buddsoddiad yn y seilwaith gwyrdd, hefyd, sy'n darparu ar gyfer pawb ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ofni mai cyfle a gollwyd yw'r gyllideb hon i ryw raddau ac mae'n ergyd ddwbl hefyd. Mae'n gyfle a gollwyd gan Lywodraeth Lafur yng Nghymru i gael newid cyfeiriad o'r newydd, mwy dynamig a radical, ac yn gefndir iddo mae'r cyd-destun o ddegawd a mwy o doriadau dwfn gan Lywodraeth Geidwadol galon galed y DU.
O ran maint y toriadau yr ydym wedi eu hwynebu, ydw, rwy'n cydymdeimlo â safbwynt Llywodraeth Cymru wrth ymgymryd â'r gyllideb derfynol hon, ac ydw, rwy'n condemnio'r £200 miliwn o adfachu'n ddirybudd gan y Trysorlys hefyd. Ond mewn sefyllfa anodd iawn fel honno, rwy'n credu bod angen ichi weld Llywodraeth sy'n barod i feddwl yn wahanol, ac rwy'n ofni nad ydym wedi gweld digon o hynny o bell ffordd. Ac, wrth gwrs, heb gyhoeddi cyllideb gynhwysfawr yn y DU eto, mae gwneud newidiadau i'r gyllideb derfynol braidd yn anodd o hyd; rwy'n cyfaddef hynny. Mae'n fwy fel pe bai dewin yn hytrach na changhellor yn rhagfynegi'r gyllideb wirioneddol inni ar gyfer 2020-21. Ond hyd yn oed yn y cyd-destun anfoddhaol hwnnw, nid oes unrhyw amheuaeth gennyf fod gan Lywodraeth Cymru gyfle i feddwl yn wahanol.
Mae'r Llywodraeth yn dweud bod hon yn gyllideb ar gyfer adeiladu Cymru fwy llewyrchus, sy'n fwy cyfartal ac yn fwy gwyrdd. Ond er mwyn i'r math hwnnw o brosiect adeiladu cenedlaethol ddigwydd, mae angen sylfeini cadarn a chynllun clir i'ch arwain chi, ac nid ydym yn gweld digon o dystiolaeth i'r naill beth na'r llall. I'r manylion, felly.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yr un cwestiwn â Nick Ramsay: a oes gennych chi gyllideb amgen?
Oes yn wir, ac rydym ni'n edrych ymlaen at ei gweithredu pan fyddwn ni mewn grym yn y fan hon. Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn awyddus i lunio Cymru newydd.
Gadewch imi droi at lywodraeth leol yn gyntaf. Rydym yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith bod cyllideb llywodraeth leol wedi codi 4.3 y cant, ond mae lefelau cyllid ein cynghorau ni’n dal yn 13 y cant yn is mewn termau real o’u cymharu â chyllideb 2010-11, ac mae’r cynnydd yn is, wrth gwrs, na’r hyn yr oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei ddweud oedd ei angen ar awdurdodau lleol ond i sefyll yn eu hunfan a chynnal gwasanaethu. Felly, mae ein gwasanaethau’n mynd i ddioddef eto, ac mae’r pwysau ar dreth gyngor yn parhau, ac rydym yn gwybod mai’r tlotaf mewn cymdeithas sy’n cael eu taro fwyaf caled.
Mae’n siomedig hefyd mai prin iawn ydy’r newid rhwng y gyllideb ddrafft a’r cynlluniau terfynol sydd rŵan o’n blaenau ni. Yn y gyllideb ddrafft, mi oedd yna ychydig dros £100 miliwn o gyllid adnoddau ffisgal—'unallocated fiscal resource funding’. Onid oedd hwn yn gyfle rŵan i roi cyfran o hwn i lywodraeth leol ar ben y cynlluniau drafft? Ac, wrth gwrs, mae llywodraeth leol yn chwarae rhan cwbl, cwbl allweddol mewn gwasanaethau ataliol, popeth o addysg i adnoddau hamdden a chwaraeon, gwasanaethau cymdeithasol—y pethau yna sydd yn ein galluogi ni i drio cadw pobl allan o’r gwasanaeth iechyd mwy drud ac atal problemau mwy hirdymor rhag datblygu.
At dlodi nesaf. Mae lefelau tlodi yng Nghymru’n dal yn gywilyddus o uchel, a dwi’n methu â gweld y dystiolaeth o newid gêr yn agwedd y Llywodraeth yn fan hyn. Ac nid yn unig mae o y peth iawn i’w wneud, i roi camau cyllidol gwirioneddol arloesol mewn lle i daclo tlodi, ond rydym ni’n amcangyfrif bod delio â thlodi yn costio rhyw £3.6 biliwn yn flynyddol i Lywodraeth Cymru. Felly, mae e’n gwneud synnwyr economaidd i daclo tlodi hefyd, yn ogystal â bod yn iawn yn foesol. Wrth gwrs, nid gan Lywodraeth Cymru mai’r holl lifers sydd eu hangen i waredu tlodi, ond mae yna lawer y gall gael ei wneud, ac mae’r gyllideb yn arf allweddol.
Does gen i ddim amser i fynd i gymaint o fanylion ag yr hoffwn i, ond er enghraifft, rydym ni’n gweld y Llywodraeth yn cefnogi, mewn egwyddor, gwaith y Comisiwn Gwaith Teg, ond dwi ddim yn gweld tystiolaeth yn y gyllideb yma o le mae hynny’n cael ei weithredu yn ymarferol. Mae methiannau'r wladwriaeth les, wrth gwrs, yn ffactor arall mewn cynnal tlodi. Ydy, mae hwnnw'n faes sydd heb ei ddatganoli, ond os ydyn ni'n edrych ar rywbeth fel tai, mae tai yn sicr wedi eu datganoli. Ac rydym ni'n gweld diffyg parodrwydd i fod yn progressive, os liciwch chi, yn y gyllideb yma pan mae'n dod at dai.
Mewn trafnidiaeth, er enghraifft, rydyn ni'n gweld £179 miliwn i drenau Trafnidiaeth Cymru, sy'n grêt ynddo fo'i hun, ond mae hynny dair gwaith cymaint â sydd yn mynd i fysus. Yn yr un modd, mae rhoi £62 miliwn i Gymorth i Brynu ar gyfer nifer gymharol fach o bobl, sy'n help mawr i'r bobl hynny a does dim byd yn bod efo'r syniad, mae hwnnw'n ymddangos yn lot fawr o'i gymharu efo dim ond £188 miliwn mewn grant tai cymdeithasol ar gyfer yr holl filoedd o bobl sydd wir angen help.
Mi wnaf i gloi, achos rydw i'n ymwybodol bod y cloc yn fy erbyn i, drwy droi at yr argyfwng hinsawdd hefyd. Do, mi wnaeth y Gweinidog droi at newid hinsawdd a'r llifogydd ac ati ar ddechrau ei haraith hi, ond does yna'n dal ddim digon o dystiolaeth, dwi'n meddwl, fod yna newid cyfeiriad sydd wirioneddol yn adlewyrchu'r argyfwng hinsawdd yr ydym ni i gyd, fel Senedd a chithau fel Llywodraeth, wedi ei ddatgan yn fan hyn. Unwaith eto, methiant i weld os ydy'r arian sy'n cael ei wario yn cael ei wario mor effeithiol â phosib. Hynny ydy, £29 miliwn i fflyd o fysus trydan. Rydw i'n frwd iawn dros gerbydau trydan, fel rydych chi'n ei wybod, ond rydyn ni'n methu gweld os mai dyna'r ffordd orau o wario £29 miliwn fel rhan o'r ymdrech i daclo'r argyfwng hinsawdd.
I gloi, gadewch imi ofyn hyn: a yw'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn credu y bydd y gyllideb hon yn newid bywydau pobl Cymru mewn modd arwyddocaol erbyn cyfnod y gyllideb nesaf? Ai hon yw'r gyllideb sy'n mynd i ddechrau gwyrdroi pethau i Gymru? Mae arnaf i ofn na fydd hynny'n wir; dyna pam y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon heddiw. Mae angen cyllideb arnom ni, mae angen Llywodraeth arnom ni, sy'n ceisio gwella bywydau pobl Cymru yn sylweddol ac yn faterol, a dyna sy'n ysgogi Plaid Cymru.
Roeddwn i'n cytuno, gynnau, â'r disgrifiad o hyn yn gyfle wedi'i golli. Rydym wedi gweld diwedd ar gyni a'r cyfle i gael cynnydd yn y gyllideb o swm sylweddol, ac yn hytrach na blaenoriaethu ac anfon neges allweddol o ran lle y mae'n mynd gyda hynny, y duedd, rwy'n credu yn y gyllideb hon yw rhoi cynnydd cymharol debyg ledled nifer fawr o feysydd er bod rhai meysydd bach wedi'u blaenoriaethu o fewn hynny.
Yr hyn yr hoffwn i ei wneud, fodd bynnag, yw canmol y Gweinidog Cyllid ar y ffordd y cyflwynodd y gyllideb derfynol gynnau. Rwyf wedi gwneud y pwynt ar sawl achlysur ei bod hi wedi defnyddio llawer o gyn areithiau i gwyno'n faith am Brexit ac am gyni ac, a dweud y gwir, ni chlywais y naill na'r llall o gwbl heddiw, a chadwodd at eu gwau, os gaf i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw, o ran beth yw cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu y dylem ni gymeradwyo hynny.
Beirniadodd Lywodraeth y DU am fod yn chwit-chwat o ran y cylch cyllideb hwn. Rwy'n credu, a bod yn deg, nad bai Llywodraeth y DU ei hun oedd rhywfaint o'r natur chwit-chwat honno, yn enwedig amseriad yr etholiad pan wnaeth Tŷ'r Cyffredin bleidleisio dros hynny o'r diwedd. Fodd bynnag, rwy'n cefnogi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud am y £200 miliwn o doriadau funud olaf i wariant cyfalaf a thrafodion ariannol, ac rwy'n credu ei bod yn anfoddhaol iawn i'r rheini ddod mor hwyr yn y dydd. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth y DU, hyd yn oed os caiff ei chyhoeddi'n ffurfiol yn ddiweddarach, o leiaf allu cysylltu'n anffurfiol â Llywodraeth Cymru eto ynghylch newidiadau posib o'r fath a bod mwy o amser yn cael ei rhoi iddyn nhw.
Y sylwadau ynghylch amddiffyn rhag llifogydd—rwy'n cytuno â'r rheini hefyd. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru—yn deg iawn o Lywodraeth y DU i ofyn iddynt, ' Pam ydych chi'n gofyn? Beth mae'r arian hwn yn mynd i'w wneud?' Rwy'n credu bod yr ymateb, 'A dweud y gwir, mae angen mwy o amser i'r llifogydd gilio i arolygu a phenderfynu ar yr hyn sydd ei angen' yn ymateb teg iawn hefyd. Mae'n faes sydd wedi'i ddatganoli, ond rwy'n croesawu Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth y DU am arian yn y maes hwn a'r dull partneriaeth hwnnw, a gobeithio y bydd yn cael ei ailadrodd mewn meysydd eraill.
Yn enwedig o ran llifogydd, rwy'n credu, cefais fy nenu amser cinio gan gyfarfod o Confor wedi'i gadeirio gan Andrew R.T. Davies, a oedd yn ymwneud â rhai o'r mentrau plannu coed a'r cysylltiadau â llifogydd, yn enwedig y clefyd coed ynn, a chawsom wybod mai honno yw'r goeden, o bosib, sy'n amsugno mwy o ddŵr nag unrhyw beth arall. Hefyd, y llifogydd yr ydym ni wedi'u gweld gydag Afon Hafren, yn enwedig yn swydd Henffordd a Chaerwrangon, lle mae dŵr wedi dod oddi ar fynyddoedd Cymru, ond aneddiadau yn Lloegr yn bennaf sydd wedi dioddef llifogydd. Un awgrym, eto, yn y cyfarfod Confor hwnnw oedd—tybed a fyddai'n bosib inni blannu mwy o goed ar ben bryniau, lle y bydden nhw'n gallu tyfu, lle mae'r uchder yn briodol? Nid yw'n ymddangos bod hynny'n digwydd gan fod categoreiddio'r tirweddau hynny fel math arbennig o dirwedd yn golygu ei bod yn anodd, felly, i drefnu i blannu coed. Os oes argyfwng hinsawdd, os ydych chi wir yn awyddus i newid polisi yn y maes hwn, edrychwch ymhellach ar sut i hwyluso, o ddiddordeb preifat mewn plannu coed o'r fath heb gymhorthdal mawr yn y gyllideb.
Roeddech wedi sôn, Gweinidog Cyllid, 2020-21—y gyllideb atodol gyntaf. A fyddwn ni'n gorfod aros am y gyllideb atodol gyntaf cyn ichi wneud datganiad ar eich ymateb chi i gyllideb y DU ar 11 Mawrth, neu a fydd datganiad o flaen llaw? Ac a wnewch chi ddweud wrthym pryd yr ydych chi'n disgwyl i'r gyllideb atodol gyntaf honno gael ei chyflwyno?
Buom yn siarad llawer am Faes Awyr Caerdydd. Yn ddewr iawn, mae'r Llywodraeth, yn cael dadl ar hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddaf yn cadw fy sylwadau tan hynny.
O ran uwchraddio'r A55, mae Nick Ramsay yn dweud wrth Lywodraeth Cymru, 'Pam nad ydych chi wedi'i wneud?' Rwy'n ei atgoffa, mewn gwirionedd, fod maniffesto ei blaid yn y DU ym mis Rhagfyr wedi nodi y bydden nhw'n uwchraddio'r A55 ar gyfer y gogledd pe bai nhw’n cael eu hethol ar lefel San Steffan. Mae'n llwybr radical ar gyfer datganoli, ond dyna yr oeddech chi wedi'i ddweud yn eich maniffesto.
Yn olaf, a gaf i groesawu'r newidiadau y mae'r Gweinidog yn dweud y byddwn ni'n eu gweld yn y gyllideb, er nad ydym yn eu cael heddiw, ar gyfer y gyllideb atodol, a bwrw bod gennym rywfaint mwy o hyblygrwydd gyda chyllideb y DU? Rwy'n credu, o ran tai a digartrefedd ac yn enwedig, os caf i, dim ond oherwydd ei fod yn faes yr wyf i wedi siarad amdano ar bob cyfle, y gwasanaethau bysiau yn ogystal â'r bysiau trydan newydd, yr wyf yn derbyn eu bod yn mynd—mae rhai yn mynd—i Gaerffili a Chasnewydd yn ogystal â Chaerdydd, ond rwy'n credu ei bod yn ardderchog os ydym yn mynd i weld cynnydd mewn cymhorthdal bysiau. Rwy'n credu y bydd hynny'n dangos i'r Aelodau a'r rhanddeiliaid bod Llywodraeth Cymru o leiaf yn gwrando ac yn ymgysylltu â phroses y gyllideb hon, ac rwy'n credu bod hynny i'w groesawu.
Yn olaf, yr arian ychwanegol ar gyfer ffyrdd a chynnal a chadw ffyrdd—croesawaf hynny hefyd, er nad oeddwn i'n gwbl glir a oedd y Gweinidog Cyllid yn dweud bod hynny'n rhan o'r categori newid hinsawdd a gyflwynwyd ganddi. Diolch.
I Rhun ap Iorwerth, a gaf i ddweud: a wnewch chi gyhoeddi eich cyllideb, os oes gennych gyllideb amgen? O gofio, wrth gwrs, bod gennych chi'r un faint yn union o arian, ac ar gyfer pawb sy'n cael mwy o arian, mae'n rhaid ichi dynnu peth arian i ffwrdd.
Er y byddaf i'n cefnogi'r cynnig cyllidebol, rwyf eisiau roi sylw i'r ffordd y caiff arian ei wario, oherwydd mae'r cynnydd i'w groesawu, ond mae sut y caiff ei wario mewn adrannau o leiaf yr un mor bwysig. Mae'n bosib rhannu swyddogaethau'r Llywodraeth yn feysydd iechyd a llesiant, diogelwch a'r economi. Gan ddechrau gydag iechyd a llesiant, ac rwyf wedi rhoi'r ddau gyda'i gilydd oherwydd fy mod yn credu eu bod yn mynd gyda'i gilydd, yn hytrach na dim ond sôn am iechyd—nid yw iechyd yn ymwneud ag ysbytai yn unig y fwy nag yw cynnal a chadw ceir yn ymwneud â thrwsio ceir mewn garejys. Mae iechyd a llesiant pobl yn dechrau gyda chartref cynnes a diogel sy'n dal dwr, gyda digon o faeth, ac nid yw'r pethau hynny ar gael i nifer fawr o bobl Cymru. Bydd atal pobl rhag mynd yn ddigartref, a darparu llety â chymorth, yn cadw llawer o bobl allan o'r ysbytai. Rwyf eisiau tynnu sylw at ddau faes pwysig. Cyn hynny, hoffwn i groesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog Cyllid ynglŷn â thai. Rwy'n credu mai tai yw un o'r pethau pwysicaf sydd gennym ni, a hoffwn atgoffa pobl o'r Llywodraeth orau a gafodd y wlad hon erioed—Llywodraeth 1945 y Blaid Lafur. Roedd iechyd a thai gyda'i gilydd o dan Nye Bevan.
Mae darparu tai cymdeithasol a darparu ar gyfer Cefnogi Pobl yn hynod bwysig. Pobl mewn tai o ansawdd gwael, neu'r digartref—[Torri ar draws.] Yn sicr.
A fyddwch chi'n cyflwyno cyllideb amgen?
Gallaf i roi cyllideb amgen i chi, oherwydd byddwn i'n rhoi mwy o arian i addysg, mwy o arian i dai. Ni fyddwn i'n cefnogi Cymorth i Brynu—y cyfan y mae'n ei wneud yw chwyddo prisiau tai—ac ni fyddwn i'n gwario cymaint o arian ar bortffolio'r economi. Byddwn i'n ei wario ar addysg, a fyddai'n helpu'r economi. Felly, er fy mod yn cefnogi'r gyllideb ac y byddaf i'n pleidleisio o'i blaid, mewn gwirionedd, byddai gennyf un amgen.
O ran y ddarpariaeth iechyd, mae fy mhryderon ynghylch maint ardaloedd daearyddol byrddau iechyd yn hen gyfarwydd. Mae angen cynyddu'r cyllid ar gyfer gofal sylfaenol, ac mae angen i gleifion gael y cyfle i weld meddyg ar y diwrnod cyntaf y maen nhw'n cysylltu. Yr hyn sy'n digwydd yw nad yw pobl yn gallu cael apwyntiad gyda'u meddyg teulu ac yna maen nhw'n mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Yn aml, y sefyllfa ddiofyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yw eu cadw am 24 awr er mwyn eu harsylwi, pan fyddan nhw'n cyrraedd gyda symptomau amhenodol. Nid yw adrannau damweiniau ac achosion brys yn ymwneud â damweiniau ac achosion brys mwyach, ond yn aml yr unig le y gall rhywun fynd iddo er mwyn gweld meddyg, er efallai y bydd yn rhaid aros 12 awr i wneud hynny. O ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty—sicrhau bod fferyllfa'r ysbyty'n darparu'r feddyginiaeth mewn da bryd fel y gall y claf fynd adref yn hytrach na disgwyl iddo gael ei ddarparu drannoeth neu'r diwrnod wedyn. A pham mae cynifer o bobl sy'n mynd i'r ysbyty ac yn gallu gofalu amdanynt eu hunain, yn cael eu rhyddhau naill ai i gartrefi nyrsio neu i becyn gofal sylweddol? Er bod hynny'n ddealladwy o ran cleifion strôc, mae'n llai dealladwy ar gyfer cleifion sy'n cael llawdriniaeth i osod clun a phen-glin newydd. Hefyd, mae hynny i gyd yn digwydd os caiff fwy o lawfeddygon ymgynghorol eu cyflogi, ac os nad oes digon o welyau mewn unedau dibyniaeth uchel, yna ni fydd rhagor o lawdriniaethau'n cael eu cynnal. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yr holl arian sy'n cael ei ddarparu ar gyfer iechyd yn cael ei wario er mantais iddo.
O ran yr economi, gallwn naill ai geisio gwneud cynnig gwell na phawb arall i ddenu is-ffatrïoedd, neu fe allwn ni gynhyrchu gweithlu medrus iawn. Y dewis arall yw creu ein sectorau diwydiannol ein hunain, a bod cyflogwyr yn dod yma oherwydd ein cymysgedd o sgiliau, yn hytrach na'n cymhelliad ariannol. Faint maen nhw'n talu i bobl fynd i Gaergrawnt? Faint maen nhw'n talu i gwmnïau fynd i Silicon Valley? Nid oes raid iddyn nhw—mae pobl eisiau mynd yno oherwydd y sgiliau. Dylem ni fod yr un fath—pobl yn dymuno dod yma oherwydd addysg a sgiliau ein pobl. Mae arian sy'n cael ei wario ar addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn fuddsoddiad yn economi Cymru a thwf economaidd.
Gan droi at feysydd yr amgylchedd, ynni a materion gwledig, rydym wedi datgan argyfwng newid hinsawdd. Mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd rydym yn derbyn erbyn hyn bod gennym broblem ddifrifol o ran yr hinsawdd. Mae'r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i dlodi tanwydd. Ac er bod llawer o waith da'n cael ei wneud, mae pobl yn dal i fyw mewn tai lle nad oes gwydr dwbl a lle nad oes ganddyn nhw wres canolog. Ac yn sicr, byddai hynny'n fan cychwyn da. Er bod gennym ddiffiniad o dlodi tanwydd, weithiau nid yw'n cynnwys yr holl bobl sydd mewn tlodi tanwydd—maen nhw'n cadw eu tai'n oer, maen nhw'n mynd i'r gwely'n gynnar, oherwydd nid ydynt yn gallu fforddio gwario'r swm o arian a fyddai'n eu rhoi mewn tlodi tanwydd. A dweud y gwir, gallai gwneud gwaith da beidio â'u symud allan o dlodi tanwydd, ond bydd yn eu cadw'n gynnes. Ac rwy'n credu bod rhaid i'r rhain fod yn flaenoriaethau uchel.
Mae gennym ni Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym newydd weld y llifogydd hyn. Mae pobl yn gwybod fy marn i, ond fe wnaf ei ailadrodd, yn fyr iawn—mae angen mwy o orlifdiroedd arnom, mae angen inni greu pyllau a mannau y gall dŵr fynd iddyn nhw. Mae angen inni blannu coed. Mae angen inni atal pobl rhag adeiladu ar orlifdiroedd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn lleihau maint y llifogydd. Ac mae angen inni ledu'r afonydd, mae angen inni sicrhau eu bod yn ymdroelli, fel nad oes ganddynt y pŵer wrth ddod i lawr. Mae angen inni sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn mynd i ddiogelu ein hamgylchedd, a byddwn i'n gobeithio, pan fyddwn ni'n cyrraedd y cam nesaf, a bod arian yn cael ei wario gan Lywodraeth Cymru, mai dyna fydd yn digwydd mewn gwirionedd.
Rwy'n codi i gefnogi cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer 2020-21. Er gwaethaf degawd o gyni llym a thoriadau wedi'u hachosi yng Nghymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn Llundain, mae Llywodraeth Lafur Cymru yma yn parhau i weithredu fel wal dân yn erbyn grant bloc Cymru sydd wedi crebachu a'i dwf wedi'i lesteirio ac absenoldeb cronig gwariant seilwaith y DU. Mae'n bwysig, gyda'r newid yn yr hinsawdd, fod hyn yn newid.
Ac mae hyn ar wahân, yn ychwanegol at y £200 miliwn annisgwyl y mae Llywodraeth y DU wedi'i gymryd o gyllid Cymru. Yn wir, mae cyni yn edrych yn debygol—ac rwy'n anghytuno â Mark Reckless—o barhau yn y blynyddoedd i ddod. Ym mis Hydref 2018, dywedodd y Prif Weinidog Theresa May y byddai cyni yn dod i ben yn 2019. Ac ym mis Medi 2019, roedd y Canghellor ar y pryd Sajid Javid wedi datgan bod y Torïaid wedi troi'r dudalen o ran cyni. Mae'n 2020, ac ystyriwch chi beth sydd wedi digwydd iddyn nhw. Ac eto, mae cyni yn dal i ddifetha cymunedau ledled Cymru— ac rwy'n eich gwahodd chi i weld rhai ohonyn nhw—yn gorfodi teuluoedd i fynd at fanciau bwyd, ac i fynd o gartrefi i fod yn ddigartref.
Felly, rwy'n falch mai gwasanaeth iechyd gwladol Cymru, addysg a gwasanaethau cyhoeddus sydd wrth wraidd cyllideb Lafur Cymru. A minnau'n gyn-gynghorydd sir, rwy'n gwybod mai'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n cael eu cynnal o'n neuaddau dinas a thref a'n cymunedau gwledig ledled Cymru yw'r canolfannau darparu gwasanaethau a'r peiriannau sy'n cynnal Cymru mewn gwirionedd. Mae'r gyllideb hon yn gweld cynnydd mewn termau real i bob awdurdod, ac mae'r gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud mewn gwirionedd yn sylweddol. I drigolion Islwyn, mae hyn yn caniatáu i'r toriadau arfaethedig llym o £8.5 miliwn—y gwir sefyllfa—gael eu gostwng i £3 miliwn, ond mae hyn yn dal i fod yn £3 miliwn yn llai. I drigolion Islwyn, mae hyn yn golygu bod modd i'r cynnydd angenrheidiol yn y dreth gyngor gael ei leihau, ac i gynghorwyr Llafur—byddan nhw'n parhau i sefyll dros les eu dinasyddion a'r gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr nad ydyn nhw'n dymuno'u torri. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i'w cefnogi'n ariannol, hyd yn oed gyda'r anialwch y mae polisïau cyni a thoriadau'r Torïaid yn ei greu ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.
Pan gefais fy ethol i'r Senedd hon, dywedais i mai un o'r prif resymau dros fy nghymhelliant gwleidyddol oedd awydd i fynd i'r afael â thlodi. Yn hyn o beth, rwy'n croesawu'r ffaith bod elfen bwysig o gyllideb Llywodraeth Lafur Cymru yn canolbwyntio ar y mater hollbwysig hwnnw, sef mynd i'r afael â thlodi drwy wariant ataliol, ac rwy'n croesawu hefyd fwriad y Llywodraeth o ran Cefnogi Pobl a'r cymhorthdal bysiau.
Mae bron i £1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi eisoes mewn amrywiaeth eang o fesurau sy'n cyfrannu at drechu tlodi, gan gynnwys cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n darparu disgowntiau ar gyfer un o bob pum aelwyd, gyda chefnogaeth £244 miliwn bob blwyddyn; £1 miliwn ar gyfer y gronfa cymorth dewisol; £2.7 miliwn ar gyfer cyfoethogi gwyliau ysgol; £6.6 miliwn ar gyfer ein pobl ifanc dlotaf; a chynlluniau treialu ar gyfer clybiau brecwast am ddim i ysgolion uwchradd. Gallaf i fynd ymlaen: £0.25 miliwn ar gyfer prosiectau glanweithiol drwy fanciau bwyd a sefydliadau; £3.1 miliwn yn y gyllideb hon i awdurdodau lleol a cholegau i gyflenwi cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim, gan anelu at atal tlodi tawel y mislif, sy'n effeithio ar bresenoldeb a chyrhaeddiad rhai o'n pobl ifanc.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o dan reolaeth Llafur, wedi arwain y ffordd yng Nghymru ar y mater hwn, ac wedi darparu cynhyrchion y mislif 100 y cant di-blastig i fenywod ifanc ledled y fwrdeistref. Mae hyn yn dystiolaeth o'r gwahaniaeth y gall cyngor sir radical o dan reolaeth Lafur mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ei wneud i wella bywydau ei ddinasyddion, gan weithio gyda'i gilydd dros Gymru werdd, lân. Rwy'n dal i ymgyrchu i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddilyn yr esiampl hon a darparu cynhyrchion mislif di-blastig. Ar ôl cyfarfod â'r ysbrydoledig Ella Daish, ymgyrchydd brwd sy'n ymgyrchu i roi terfyn ar gynhyrchion mislif plastig ledled y DU, hoffwn i dalu teyrnged iddi hi. Rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i arwain y ffordd yn y maes hwn, fel y mae'r gyllideb radical hon yn dangos yn glir.
Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n annog pob Aelod sy'n credu mewn Cymru deg, sy'n dymuno Cymru gyfiawn ac sy'n dyheu am Gymru well i gefnogi'r gyllideb gref a sefydlog hon gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer 2020-21. Diolch.
Rwy'n falch o allu cefnogi'r gyllideb derfynol hon heddiw, cyllideb sy'n rhoi blaenoriaeth briodol i'n GIG ac sydd hefyd yn cynnig rhaglen ariannu barhaus i sicrhau dyfodol ein gwlad. Wrth gyflwyno'r gyllideb heddiw, mae Gweinidogion wedi cyflawni eu haddewidion nhw i bobl Cymru ac wedi sicrhau bod blaenoriaethau'r Llywodraeth yn cyd-fynd â rhai ein dinasyddion ni. Caiff gwasanaethau eu diogelu a'u gwella, er iddyn nhw orfod ymdrin ag effaith cyni diangen, wedi'i yrru gan ideoleg, yn ystod degawd a aeth yn wastraff.
Ar gyfer fy nghyfraniad i, rwyf eisiau canolbwyntio ar ddau brif faes polisi yn unig, y mae'r ddau ohonyn nhw, rwy'n teimlo, wedi'u cysylltu'n annatod â dyfodol ein cymunedau. Y cyntaf yw'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnwys yn y gyllideb ynghylch mynd i'r afael â thlodi plant. Yn ôl data diweddar, mae gan Benrhiwceibr yn fy etholaeth y lefelau uchaf o dlodi plant yng Nghymru. Erbyn hyn, mae Penrhiwceibr yn gymuned wych, ac roeddwn i'n falch iawn bod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gallu ymuno â mi y llynedd i gael cyfarfod bwrdd crwn, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am y gwaith a ddaeth allan o hynny ar dlodi plant, ar lefel llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.
Mae achosion tlodi plant yn gymhleth ac nid yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u datganoli, ond rwyf i'n falch bod mynd i'r afael â thlodi plant wedi bod yn flaenoriaeth erioed i Lywodraethau Llafur Cymru olynol yn yr ardaloedd y gallan nhw ddylanwadu arnyn nhw. Yn wir, ar draws portffolios, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi bron £1 biliwn mewn amrywiaeth o ymyriadau i fynd i'r afael â thlodi, a bydd y gyllideb sydd o'n blaenau heddiw yn gwella'r ddarpariaeth honno. Er enghraifft, mae'n cynnwys buddsoddiad ychwanegol o £6.6 miliwn yn y grant amddifadedd disgyblion blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn golygu, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, er gwaethaf y toriad termau real mewn cyllid, y bydd Cymru wedi mwy na dyblu'r grant amddifadedd disgyblion blynyddoedd cynnar. Mae ymyriad sylweddol i gefnogi cyllidebau aelwydydd yn cael ei gyflawni gan fynediad at y grant amddifadedd disgyblion, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru, eleni, yn dyrannu £3.2 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21 i ymestyn y cynllun i fwy o grwpiau blwyddyn. Hefyd i'w groesawu yw'r hwb ariannol o £2.7 miliwn ar gyfer rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol. Bellach, mae'n bosibl cefnogi plant ychwanegol drwy'r cynllun rhagorol hwn. Dro yn ôl, fe wnes i lwyddo i ymweld ag ysgol gynradd ym Mhenywaun i weld yr effaith yr oedd hyn wedi'i gael. Yn yr un modd, mae'n gadarnhaol nodi'r £450,000 sydd wedi'i neilltuo i lansio cynllun treialu ar gyfer clwb brecwast am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd.
Mae fy ail faes polisi yr hoffwn i siarad amdano heddiw yn ymwneud ag ymdrin ag effaith y llifogydd sydd wedi effeithio ar Gymru, gan gynnwys llawer o Rondda Cynon Taf, yn ystod yr wythnosau diwethaf. Dywedais i ei fod yn gysylltiedig â dyfodol ein cymunedau, ac mae hynny'n ffaith. Mae'r ystadegyn yr ydym ni i gyd wedi bod yn sôn amdano yn y Siambr heddiw, o'r Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol—y bydd y Cymoedd yn gweld 50 y cant fwy o law yn ystod y degawd nesaf—yn dangos bod wir angen mwy o fuddsoddi arnom ni i sicrhau y gallwn ni leihau effaith hyn ar ein cymunedau. Mae angen sicrhau hefyd bod cyllid ar gael yn rhwydd ar gyfer rhoi pethau'n iawn pan fyddan nhw'n mynd o chwith. Bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'r llythyr, nad oeddwn i ond yn un o'r rhai a oedd wedi'i lofnodi a aeth at Ganghellor y Trysorlys yr wythnos diwethaf yn gofyn am gyfraniad untro o £30 miliwn i helpu i drwsio ac i wneud gwaith adfer yn RhCT. Ledled Cwm Cynon a ledled Cymru, mae'r ymateb cymunedol a'r haelioni mewn ymateb i'r llifogydd wedi bod yn aruthrol, ond gall hynny dim ond mynd mor bell â hyn a hyn, a bydd angen i'r Llywodraeth ar bob lefel fod yn ymwybodol o'i rhwymedigaethau. Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weinidog y DU:
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio'n ddi-baid gyda Gweinyddiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cymorth llifogydd sydd ei angen arnyn nhw. Bydd, wrth gwrs bydd yr arian parod hwnnw yn sicr yn cael ei anfon drwodd yn hwylus.
Nawr, rydym ni bron wythnos yn ddiweddarach mewn cyfnod o argyfwng, a does dim byd wedi digwydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod ei chyfrifoldeb dros ddarparu rhagor o arian, o ystyried effaith ddwys ac anghymesur llifogydd ar Gymru, felly mae angen iddi gyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw ar frys. Fel arall, mae'n enghraifft arall o eiriau gwag gan Brif Weinidog y DU, ac mae'n annheg y bydd yn rhaid i'm hetholwyr i ynghyd ag eraill ddioddef o ganlyniad. Diolch.
Y Gweinidog Cyllid i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu’r cyfle i gael y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Fel yr oeddwn i wedi'i amlinellu yn fy natganiad agoriadol, mae hon yn gyllideb sydd wedi digwydd ymhlith ansicrwydd ac amgylchiadau sy'n datblygu ac, wrth gwrs, rydym ni'n disgwyl i'r rheini barhau y tu hwnt i gyllideb DU y Canghellor ar 11 Mawrth. Mae'n gwbl briodol fy mod i'n cofnodi fy niolch i'n swyddogion yn Llywodraeth Cymru, o fewn Trysorlys Cymru a fy swyddogion cyllid, ond hefyd swyddogion cyllid yn gweithio hyd a lled adrannau yn y Llywodraeth sydd wedi gwneud gwaith rhagorol o dan amgylchiadau anodd iawn eleni. Rwy'n hynod ddiolchgar iddyn nhw.
Rwy'n bwriadu gwneud datganiad mor gynnar â phosibl yn dilyn y gyllideb ar y goblygiadau i ni yma yng Nghymru. Yn fy sylwadau agoriadol, fe wnes i fanteisio ar y cyfle i amlygu lle y byddwn ni'n ceisio rhoi arian ychwanegol, pe bai ar gael, neu o leiaf os na fydd ein cyllid yn cael ei leihau o ganlyniad i gyllideb y DU. Cyfeiriodd Nick Ramsay yn ei sylwadau at y ffaith fy mod i'n gwrando yn ystod proses y gyllideb. Wel, gallaf i warantu fy mod wedi bod yn gwrando, a dyma'r rhesymau pam yr wyf wedi amlygu'r meysydd hynny ar gyfer cyllid ychwanegol.
Felly, mae'n amlwg bod llifogydd yn flaenoriaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd arian ychwanegol ar gael i Gymru, ac yn sicr, rydym ni'n awyddus i ddefnyddio cyllid ychwanegol i gefnogi'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt mor wael. Ac fel yr ydym ni wedi clywed nifer o weithiau yn ystod yr wythnos ddiwethaf, nid ydym ni'n gwybod eto maint y difrod a chyfanswm y cyllid y bydd ei angen er mwyn mynd i'r afael â'r llifogydd, ond yn sicr bydd hynny'n flaenoriaeth gan edrych tuag at y flwyddyn nesaf. A digartrefedd a'r grant cymorth tai—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Rwy'n falch y buoch yn gwrando, Gweinidog, ac wedi ystyried pethau. A fyddech chi'n cytuno â mi, o ystyried pwerau cynyddol y lle hwn a'r datganoli cyllidol cynyddol, efallai fod y ddadl hon ei hun—y ddadl derfynol ar y gyllideb—yn rhywbeth y byddai modd ei hystyried o ran cwmpas y ddadl? Teimlais i heddiw fod gan lawer o Aelodau, efallai nid i gyd yn ymwneud â'r gyllideb, bethau eraill y bydden nhw wedi hoffi eu dweud, ond roedd cyfyngiadau amser sef slotiau pum munud. Tybed, o ran faint o bethau yr ydym ni'n ceisio gwneud lle ar eu cyfer nhw yn y ddadl hon, a fyddai'n bosibl yn y dyfodol efallai, yn y Cynulliad nesaf, i'r ddadl ar y gyllideb derfynol fod ychydig yn fwy eang.
Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn i'n fodlon ei godi gyda fy nghydweithwyr rheoli busnes yn y gwahanol bleidiau er mwyn ei drafod, o bosibl yn y Pwyllgor Busnes.
Ond rwy'n credu bod y pwynt yr oedd Llyr wedi'i godi yn ei sylwadau ynghylch pwysigrwydd cael trafodaeth gynnar yn bwysig, a dyna pam yr oeddwn i mor falch o weld ac ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad hwnnw gan y Pwyllgor Cyllid sef y dylem ni gael dadl ar flaenoriaethau gwariant yn gynnar yn y flwyddyn. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl honno maes o law.
Yr ail faes, fodd bynnag, fe wnes i dynnu sylw ato fel maes ar gyfer cyllid ychwanegol, fyddai digartrefedd a'r grant cynnal tai. Rwy'n gwybod bod hwnnw'n faes sy'n peri pryder gwirioneddol i'r Aelodau ac yn sicr mae'n cyd-fynd yn agos iawn â'n pryder ynghylch atal a'n pryder ynglŷn â gofalu am y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, byddai hynny'n un arall o'r meysydd hynny lle byddwn i'n ceisio darparu cyllid ychwanegol.
Ac unwaith eto, rwy'n credu bod yr un peth yn wir am wasanaethau bysiau. Roedd honno'n neges a oedd yn amlwg iawn yn y gwaith craffu gan y pwyllgor ac yn y dadleuon yr ydym ni wedi'u cael yn y Siambr. Eto, yn sicr, mae'n faes sy'n bwysig iawn i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yng Nghymru. A'r mater o gynnal a chadw ffyrdd, er efallai nad yw'n lle y byddai rhywun yn reddfol yn ystyried rhoi cyllid ychwanegol, mewn gwirionedd, mae hynny mor bwysig o ran diogelwch ar y ffyrdd ac o ran gofalu am yr asedau i sicrhau eu bod yn addas i'r diben. Felly, mae hwnnw'n faes arall yr wyf i wedi'i nodi.
Mae'r rheswm nad wyf i'n barod i wneud dyraniadau ar hyn o bryd yn ymwneud yn rhannol â'r ansicrwydd, ond hefyd, mae cychwyn ar flwyddyn ariannol newydd gyda dim ond tua £100 miliwn wrth gefn, rwy'n credu, yn rhywbeth i'w gadw mewn cof hefyd. Hynny yw, os yw'r mis diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y lefel honno o arian wrth gefn ar gael. Rydym ni wedi gweld y llifogydd. Rydym ni wedi gweld yr heriau ar hyn o bryd gyda'r cyllid posibl y bydd ei angen i ymdrin â coronafeirws, yn dibynnu ar sut mae'r sefyllfa honno'n datblygu. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig i gychwyn ar flwyddyn ariannol gyda lefel o arian wrth gefn. Byddai'n anghyfrifol, rwy'n meddwl, i fynd â phethau ymhell y tu hwnt i'r £100 miliwn hynny o ystyried yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu yn ddiweddar. Felly, rwy'n credu ein bod yn cychwyn ar y flwyddyn nesaf gyda lefel briodol o gyllid wrth gefn.
Un maes penodol a gafodd ei godi yn y ddadl, ac rwy'n credu ei fod yn thema drwy'r holl gyfraniadau, oedd pwysigrwydd mynd i'r afael â thlodi. Daeth hynny'n amlwg iawn yn rhai o'r cyfraniadau, yn enwedig gan Vikki Howells, Mike Hedges a Rhianon Passmore hefyd—y pryderon yr oeddyn nhw wedi'u codi ynghylch mynd i'r afael â thlodi. Byddwch chi'n gweld cymaint yn y gyllideb hon sydd â'r nod o fynd i'r afael â thlodi; mae tua £1 biliwn yn y gyllideb hon â'r nod o wneud yr union beth hwnnw. Mae'n bwysig cydnabod y bydd yna unigolion a theuluoedd sy'n £2,000 yn well eu byd—arian yn eu poced—o ganlyniad uniongyrchol i'r penderfyniadau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gwneud.
Mae'n ffaith bod pobl yn gallu dod i arfer â phethau. Efallai nad yw pobl o reidrwydd yn sylweddoli, mewn gwirionedd, mai'r rheswm bod ganddyn nhw yr arian ychwanegol hwnnw yn eu pocedi a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yw oherwydd bod Llywodraeth Lafur yn blaenoriaethu pethau, fel: arian mynediad y grant datblygu disgyblion i sicrhau bod plant yn cael y nwyddau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer yr ysgol; yr arian yr ydym ni'n ei gyfrannu at brydau ysgol am ddim; y dull gweithredu newydd yr ydym ni'n ei ddilyn ar gyfer brecwast am ddim mewn ysgolion uwchradd; mae gennym ni'r cynllun llaeth ysgol; rhaglenni cyfoethogi gwyliau ysgol; y cynllun treialu ar gyfer Gwaith Chwarae: Llwgu yn ystod y Gwyliau, yr ydym ni hefyd yn ei gynnal; ac yna rydym ni wedi clywed am y gwaith ar dlodi'r mislif hefyd. Dyna ddim ond rhai o'r meysydd yr ydym ni'n gweithio ynddyn nhw.
Rwy'n gweld fod fy amser yn dirwyn i ben. Rwy'n gwybod bod gennym ni'r ddadl nesaf y prynhawn yma ar y setliad i lywodraeth leol, felly bydd cyfle yno, rwy'n credu, i ystyried yr arian yr ydym ni wedi'i ddarparu ar gyfer awdurdodau lleol. Mae CLlLC wedi dweud yn glir ei bod yn teimlo ei fod yn setliad eithriadol o dda, mewn gwirionedd, ond rwy'n credu ein bod yn derbyn pwynt CLlLC nad yw un flwyddyn o setliad da yn gwneud yn iawn am ddegawd o doriadau. Ond yn sicr, ein bwriad cadarn yw cefnogi awdurdodau lleol gymaint ag y gallwn ni, a byddwch chi wedi gweld hynny fel un o'n blaenoriaethau, ynghyd â'r GIG, drwy gydol y gyllideb derfynol.
Felly, rwy'n gobeithio fy mod i wedi ceisio ymateb i rai o'r pwyntiau hynny; fel y dywedodd Nick Ramsay, mae'n anodd iawn ymateb i bopeth yn yr amser sydd ar gael i ni. Ond hoffwn i gymeradwyo'r gyllideb derfynol i fy nghyd-Aelodau a gobeithio y byddan nhw'n rhoi cefnogaeth iddi y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae'r ddadl nesaf ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM7283 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Setliad Terfynol—Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyflwyno setliad llywodraeth leol 2020-21 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru i'r Cynulliad. Cyn i mi ddechrau heddiw, rwy'n siŵr y gwnaiff y Senedd ymuno â mi i ddiolch i'r sector lywodraeth leol am y gwaith hanfodol y mae yn ei wneud. Rydym ni wedi gweld dros y tair wythnos diwethaf y rhan y mae llywodraeth leol, ynghyd â'r gwasanaethau brys a'r cymunedau eu hunain, wedi'i chwarae yn yr ymateb i'r llifogydd digynsail ledled Cymru o ganlyniad i stormydd Ciara, Dennis a nawr Jorge.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl gynghorwyr a staff yr awdurdodau lleol sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi'r unigolion, busnesau a chymunedau yr effeithiwyd arnynt. Mae'r digwyddiad hwn wedi cael effaith enfawr mewn nifer o gymunedau. Bydd ein hadferiad yn cymryd peth amser. Y tu hwnt i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, mae staff awdurdodau lleol hefyd yn gweithio dros eu cymunedau drwy gydol y flwyddyn, yn dimau sbwriel ac ailgylchu, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion tai a wardeiniaid traffig.
Eleni, rwy'n falch o gael cynnig i'r Senedd hon, yn 2020-21, y bydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i lywodraeth leol yng Nghymru yn 4.3 y cant. Dyma'r cynnydd cyfatebol mwyaf mewn 13 mlynedd. Rwyf yn llawn sylweddoli'r pwysau y mae llywodraeth leol yn parhau i'w wynebu yn dilyn degawd o gyni. Nid yw un setliad da yn gwrthdroi effaith blynyddoedd o gyni. Fodd bynnag, mae'r setliad hwn yn rhoi i lywodraeth leol y sefydlogrwydd mwyaf y gallaf ei gynnig ar gyfer pennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'n ymateb i'r pwysau y mae llywodraeth leol wedi bod yn ei ragweld ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn cynnig cyfle i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn hytrach na brwydro yn erbyn y presennol
Clywsom yn y ddadl gynnar ar y gyllideb derfynol y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 yn dal i fod yn sylweddol is nag yn 2010-11 mewn termau real. Hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU, ni fyddwn yn gallu gwario cymaint ag yr oeddem yn ei wneud degawd yn ôl. Eleni, rydym ni wedi ymdrechu i wella ymhellach ein partneriaeth â llywodraeth leol a sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddyrannu'r swm a bennwyd ar gyfer adnoddau sydd ar gael.
Wrth baratoi ar gyfer y setliad hwn, mae'r Llywodraeth wedi sicrhau bod llywodraeth leol wedi gallu trafod y pwysau sydd arni drwy gydol proses y gyllideb drwy is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth. Mae fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet a minnau wedi ystyried y sefyllfa yn gyffredinol gydag arweinwyr llywodraeth leol, ac o ran gwasanaethau allweddol megis addysg a gofal cymdeithasol. Byddwn yn parhau â'r trafodaethau strategol eang hyn yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn paratoi ar gyfer adolygiad gwariant cynhwysfawr.
Yn y flwyddyn ariannol nesaf hon, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael bron i £4.5 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Roedd ein penderfyniadau ynglŷn â lefel gyffredinol y cyllid i lywodraeth leol yn rhoi sylw penodol i'r angen i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu cyllid i ysgolion, gan gydnabod effaith cynnydd mewn costau y tu hwnt i'w rheolaeth ar gyflogau a phensiynau athrawon. Er nad yw'r awdurdodau wedi neilltuo'r arian hwn at unrhyw ddefnydd penodol, mae dosbarthu'r cyllid ar gyfer costau ychwanegol sy'n deillio o newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i gyfraniadau pensiwn cyflogwyr wedi cael ei gyfeirio'n fwriadol i faes gwasanaeth addysg y system ddosbarthu.
Rydym ni hefyd wedi cyfeirio cyllid digonol ar gyfer y costau ychwanegol sy'n deillio o'r cytundeb cyflog athrawon 2019-20 am weddill y flwyddyn academaidd, yn yr un modd drwy elfen addysg y fformiwla setliad. A thu hwnt i hyn, rydym ni wedi cynnwys cyllid i gydnabod effeithiau'r dyfarniad cyflog athrawon yn y flwyddyn academaidd nesaf, a ddaw i rym o fis Medi 2020.
Rydym ni hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein cynigion ar gyfer meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, o gofio'r oedi parhaus wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno credyd cynhwysol.
Rydym ni wedi ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yn 2020-21, gan gynnwys dyrannu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r setliad llywodraeth leol i roi rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol a threthdalwyr eraill i ymateb i faterion lleol penodol.
Gwn fod rhai awdurdodau wedi gwneud sylwadau am yr amrywiant rhwng y cynyddiadau uchaf ac isaf. Drwy'r setliad hwn, bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd cyfatebol o 3 y cant o leiaf dros 2019-20. Y tro diwethaf y cafodd unrhyw awdurdod gynnydd cyfatebol o 3 y cant yn ei setliad oedd 10 mlynedd yn ôl.
Mae awdurdodau'n profi cynnydd mwy neu lai nag eraill o ganlyniad i'r fformiwla, sydd wedi'i chynllunio i ymateb i angen cymharol drwy'r data mwyaf cyfredol posibl. Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau cymharol yn niferoedd y boblogaeth a nifer y disgyblion, er enghraifft, yn cael eu hadlewyrchu mewn lefelau gwahanol o gynnydd. Cytunwyd ar y newidiadau hyn drwy'r is-grwpiau dosbarthu a chyllid, gan gynnwys newid y data am y boblogaeth yn raddol, a helpodd i liniaru rhai o'r effeithiau dosbarthiadol mwy rhwng awdurdodau.
Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi ystyried yn ofalus y posibilrwydd o gynnwys cyllid gwaelodol ar gyfer y setliad hwn. Egwyddor cyllid gwaelodol yw sicrhau nad oes unrhyw awdurdod yn dioddef newid na ellir ei reoli o un flwyddyn i'r llall. Rwyf wedi penderfynu peidio â chynnwys cyllid gwaelodol yn yr achos hwn.
Mae'r fformiwla ddosbarthu yn ymdrech ar y cyd rhwng CLlLC a Llywodraeth Cymru, a chytunir ar newidiadau drwy weithgorau sefydledig. Mae'r fformiwla ddosbarthu yn parhau i ddefnyddio'r data mwyaf priodol a chyfredol, ac mae rhaglen waith barhaus i'w mireinio ac i archwilio datblygiad yn y dyfodol. Mae llywodraeth leol yn cynnig newidiadau i'r fformiwla ddosbarthu, neu elfennau ohoni, drwy'r trefniadau llywodraethu ar y cyd sydd wedi'u sefydlu gennym. Mae unrhyw fformiwla'n golygu enillwyr a chollwyr. Os yw llywodraeth leol yn dymuno adolygu'r fformiwla yn llawnach ar y cyd, rwyf wrth gwrs yn agored i hynny. Byddwn yn dweud, fodd bynnag, y dylem gofio faint o amser a gymerodd hi i'r adolygiad cyllido teg yn Lloegr esgor ar gysyniad tebyg i'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yng Nghymru.
Gwn y bydd Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon yn dod i'r ddadl hon yn barod i ddadlau dros hyd yn oed mwy o adnoddau i'w hawdurdodau lleol penodol. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yma'n hoffi dyrannu mwy o arian i'n cymunedau, fel y byddem yn ei wneud ar gyfer y GIG a llawer o wasanaethau eraill. Rwy'n llwyr ddeall hynny, wrth gwrs, ond, yn anffodus, mae'n rhaid inni wario o fewn ein gallu. Felly, er mwyn gallu rhoi mwy o arian i lywodraeth leol, byddai'n rhaid inni gymryd mwy o arian oddi wrth faes arall. Mae'r ddadl yr ydym newydd ei chael ar y gyllideb yn ei chyfanrwydd yn dangos mor anodd y gall y dewisiadau hynny fod.
Yn ogystal â'r arian craidd heb ei neilltuo a ddarperir drwy'r setliad, rwy'n ddiolchgar bod fy nghydweithwyr yn y Cabinet wedi darparu gwybodaeth ddangosol yn gynharach am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2020-21. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cyfateb i dros £1 biliwn o refeniw, a £580 miliwn o gyfalaf, ac mae ganddynt ran benodol i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau penodol. Rydym yn parhau i weithio i gyfuno grantiau lle mae'n gwneud synnwyr ac i ddefnyddio fframweithiau canlyniadau i fesur llwyddiant.
Gan droi at gyfalaf, mae'r cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2020-21 yn cynyddu £178 miliwn. Ar ben hyn, byddwn yn parhau i ddarparu £20 miliwn ar ffurf grant penodol er mwyn adnewyddu priffyrdd cyhoeddus. Gobeithiaf y bydd awdurdodau'n ystyried sut y gallant ddefnyddio'r arian hwn i ymateb i'r angen brys i ddatgarboneiddio yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru a llawer o gynghorau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
A minnau wedi bod yn rhan o bennu cyllideb cyngor fy hun, gwn am yr heriau y bydd awdurdodau lleol yn dal i orfod eu hwynebu wrth bennu eu cyllidebau. Byddwn yn annog Aelodau yn y Siambr hon nad ydynt wedi gweld hyn yn digwydd i fynd i'w cynghorau lleol a gweld drostynt eu hunain sut y gwneir y penderfyniadau hynny, a'r dewisiadau anodd iawn y bydd yn rhaid eu gwneud yng ngoleuni setliadau'r gyllideb.
Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau ac, yn ei thro, y dreth gyngor, a bydd awdurdodau'n ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau a wynebant wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd yr awdurdodau'n cydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau a thrawsnewid gwasanaeth gyda'r pwysau ariannol ar drigolion lleol. Dim ond nawr y mae lefelau cyflog ar y lefel yr oeddent cyn yr argyfwng ariannol, a bydd unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn cael ei ystyried yn ofalus yn y cyd-destun hwnnw.
Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, nid oes neb yn camu i fyd gwleidyddiaeth yn awchu i dorri gwasanaethau, a dyna pam yr wyf yn ddiolchgar unwaith eto am allu cynnwys y cynnydd cyfatebol mwyaf mewn 13 blynedd yn y setliad hwn. Wrth gwrs, mae gennym ni ansicrwydd o hyd ynghylch Brexit a heriau o ran y newid yn yr hinsawdd, ond os yw Llywodraeth y DU yn iawn fod cyni wedi dod i ben, edrychwn ymlaen at weld Cymru'n cael y cyllid y mae'n ei haeddu yn y blynyddoedd i ddod. Gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig. Diolch, Llywydd.
O dan fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, cafodd naw o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru gynnydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod dangosyddion amddifadedd yn dylanwadu'n drwm ar ei fformiwla. Ar y cyd â sir y Fflint, roedd y cynghorau a oedd â'r toriadau mwyaf eleni o 0.3 y cant yn cynnwys Conwy ac Ynys Môn—wel, maen nhw ymysg y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle mae bron i draean neu 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael cyflogau llai na'r cyflog byw gwirfoddol. Lefelau ffyniant y pen yn Ynys Môn yw'r isaf yng Nghymru—ychydig yn llai na hanner y rheini yng Nghaerdydd—a Chonwy sydd â'r gyfran uchaf o bobl hŷn yng Nghymru, ac eto mae talwyr y dreth gyngor yn Ynys Môn a Chonwy yn wynebu cynnydd o 9.1 y cant. Cwtogwyd ar gyllideb Wrecsam hefyd, er bod ganddi dair o'r pedair ward sydd â'r cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru.
Wynebodd talwyr y dreth gyngor yn sir y Fflint gynnydd o 8.1 y cant, er bod cynghorwyr sir y Fflint wedi lansio ymgyrch, #BackTheAsk, a oedd yn tynnu sylw at rwystredigaeth drawsbleidiol ynglŷn â'r cyllid a gânt gan Lywodraeth Lafur Cymru. Gofynnodd yr ymgyrch yn benodol am gyfran deg o arian gan Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith mai sir y Fflint oedd un o'r cynghorau a ariannwyd lleiaf fesul pen o'r boblogaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol gan bob plaid ar y cyngor—cyngor dan arweiniad Llafur.
O dan setliad terfynol llywodraeth leol Cymru ar gyfer 2020-21, unwaith eto, yr un awdurdodau yn y gogledd yw pedwar o'r pum awdurdod lleol a welodd y cynnydd lleiaf mewn cyllid, sef Conwy, Wrecsam, sir y Fflint ac Ynys Môn, tra bod Sir Fynwy yn dal ar y gwaelod. Er bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwadu bod ganddi unrhyw fwriad i greu rhaniad rhwng y gogledd a'r de, efallai ei bod yn gyfleus o hyd, o dan ei fformiwla o ariannu llywodraeth leol 20 mlwydd oed, fod pedwar o'r pum awdurdod sy'n gweld y cynnydd mwyaf yn 2020-21 unwaith eto, yn gynghorau a redir gan Lafur yn y de.
Er bod y Gweinidog llywodraeth leol yn dweud bod yr effaith fwyaf ar ddosbarthiad y setliad ar draws awdurdodau yn deillio o'r newid cymharol yn y boblogaeth a'r poblogaethau o oedran ysgol yn gyffredinol ar draws ardal pob awdurdod lleol, nid yw dadansoddiad o'r ystadegau swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer pob un o'r rhain yn creu darlun clir yn hyn o beth o'r naill na'r llall. Mae'r Gweinidog llywodraeth leol hefyd yn dweud y caiff y setliad llywodraeth leol ei rannu rhwng awdurdodau lleol yn unol â phrosesau democrataidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fodd bynnag, fel y mae uwch gynghorwyr yn y gogledd wedi dweud wrthyf, ar draws y pleidiau, nid yw'r rhai sy'n cael leiaf eisiau herio'r fformiwla ariannu yn agored oherwydd, er mwyn cael mwy, byddai'n rhaid i gynghorau eraill gael llai. Felly, gyda'r agwedd 'nid yw'r tyrcwn yn pleidleisio dros y Nadolig', ni fyddent yn cael unrhyw gefnogaeth allanol.
Serch hynny, anfonwyd llythyr a lofnodwyd gan bob arweinydd cyngor yn y gogledd at arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn datgan nad yw manteision y setliad hwn yn cael eu rhannu'n ddigon teg ac yn gadael y rhan fwyaf o'r cynghorau yn y gogledd â setliad sy'n sylweddol is na chost net pwysau, chwyddiant a newid demograffig. Fe wnaethon nhw hefyd ysgrifennu at y Gweinidog llywodraeth leol, yn gofyn iddi am gyllid gwaelodol o 4 y cant yn y setliad cyllid llywodraeth leol yng ngoleuni'r heriau parhaus ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21. Fel y dywedasant wrth y Gweinidog, mae pedwar o'r pum cyngor isaf yn dod o'r gogledd a heb gyllid gwaelodol, bydd y rhan fwyaf o gynghorau'r gogledd yn wynebu'r her fwyaf o ran ceisio cwtogi gwasanaethau. Ychwanegasant y byddai cyllid gwaelodol yn helpu i amddiffyn gwasanaethau ac yn gweithio yn erbyn codiadau uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor yn y chwe chyngor isaf, gan gynnwys Blaenau Gwent.
Er gwaethaf y datganiad trawsbleidiol clir hwn, mae'r Gweinidog wedi diystyru eu cynrychiolaeth swyddogol ac wedi gwrthod cyllid gwaelodol yn y setliad terfynol. Fel y dywedodd un o'r arweinwyr hyn wrthyf, 'Mae'n amlwg i mi mai prin iawn yw'r ddealltwriaeth o hyd o'r pwysau a'r galwadau cynyddol y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu, a chof byr cyfleus o ymrwymiad maniffesto 2016 ei Llywodraeth sy'n datgan y byddent yn darparu cyllid i osod cyllid gwaelodol ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol.' Ychwanegwyd eu bod hefyd yn siomedig nad yw'r Gweinidog wedi penderfynu pontio'r rhaniad rhwng y de a'r gogledd, gan y bydd pedwar o'r pum cyngor isaf yn y setliad ariannu yn y gogledd.
Fel y dywedodd preswylydd pryderus o sir y Fflint a ffoniodd fi yr wythnos diwethaf yma, 'Ni allwn ymdopi os bydd ein treth gyngor yn codi oddeutu 5 y cant arall ar ôl 27 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Roedd hyn yn arfer bod yn ardal Llafur, ond nid ydynt yn gwrando.' Diolch yn fawr.
Mae baich toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi disgyn yn bennaf ar lywodraeth leol ers dechrau cyni dros 10 mlynedd yn ôl. Bydd cyllid llywodraeth leol a dderbynnir oddi wrth Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r gyllideb hon 13 y cant yn is nag yr oedd yn 2010, yn ôl tîm dadansoddi cyllidol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae pob un ohonom ni yma'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r toriadau hyn wedi'i chael ar y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.
Mae'r toriadau wedi bod mor ddifrifol fel bod yr hyn a elwir yn wasanaethau nad ydynt yn hanfodol—er ein bod yn gwybod nad ydynt felly o gwbl—wedi'u torri i'r asgwrn a chyllid ar gyfer gwasanaethau cyfannol gwirioneddol werthfawr, fel y rhai a ddarperir gan Ganolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd yng Nghaerffili, o dan fygythiad. Mae toriadau mewn cyllid hefyd wedi arwain at gau llyfrgelloedd, sydd wedi wynebu toriad o 38 y cant ers 2010, heb sôn am wasanaethau hamdden, sydd wedi cael toriad o 45 y cant, a thai'n cael toriad o 24 y cant. Nawr, efallai bod y niferoedd hynny'n ymddangos yn fychan, ond mae hynny wedi arwain at gau canolfannau pwysig ar raddfa eang o amgylch y wlad, fel y ganolfan hamdden ym Mhontllanfraith, ar adeg pan fo angen y gwasanaethau hynny a ddarparant yn fwy nag erioed.
Nawr, er bod y cynnydd o £184 miliwn a gynhwyswyd yng nghyllideb eleni yn gam i'r cyfeiriad cywir—nid oes neb ar y meinciau hyn yn mynd i wadu hynny—mae'n dal i fod £70 miliwn yn llai na'r £254 miliwn a ddywedodd CLlLC y mae awdurdodau lleol ei angen dim ond i gadw pethau fel y maen nhw. Gan nad yw Plaid Cymru yn credu y gall neu y dylai llywodraeth leol wynebu'r diffyg hwn, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y setliad heddiw.
Gwyddom i gyd y bydd cynghorau'n ceisio llenwi'r bwlch hwn drwy gynyddu'r dreth gyngor. Mae'n rhywbeth y cyfeiriwyd ato eisoes. Gwyddom hefyd mai'r dreth gyngor yw un o'r mathau mwyaf atchweliadol o drethiant sydd gennym, gan fod y rhai lleiaf cefnog yn talu cyfran uwch o'u hincwm o'i gymharu â threthi eraill, ac felly mae hwn yn faich a fydd yn disgyn ar y rhai lleiaf abl i'w fforddio.
Nid yw toriadau i lywodraeth leol yn gwneud fawr o synnwyr wrth ystyried lles ein heconomi a lles y bobl y mae i fod i'w gwasanaethu. Soniais yn gynharach mai gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol, fel y'u gelwir, yw'r rhai cyntaf i fynd. Yn aml iawn, nhw yw'r glud sy'n dal realiti cymhleth bywydau pobl at ei gilydd ac maen nhw'n atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Er enghraifft, mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod gwasanaethau cyhoeddus yn arbed arian pan fo digartrefedd yn cael ei atal neu ei liniaru'n gyflym, o'i gymharu â gadael iddo ddigwydd, ond eto mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i atal digartrefedd yn dod o lywodraeth leol ac mae rhai awdurdodau lleol wedi ystyried lleihau eu cyllidebau, a fydd ond yn arwain at wario mwy o arian yn gyffredinol ar ganlyniadau digartrefedd, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr i neb.
Nododd adroddiad y Swyddfa Archwilio ar y system gynllunio fod toriadau mawr i ddatblygiadau cynllunio yn arwain at lofnodi cytundebau adran 106 annigonol. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cael y symiau o dai fforddiadwy y dylem eu cael, y cyfleusterau cymunedau y dylem eu cael, neu'r cyfraniadau addysgol y dylem eu cael. Yn yr un modd, mae gofal cymdeithasol da yn hanfodol i sicrhau bod y GIG yn rhedeg yn esmwyth ac mae gwasanaethau tai ac amgylcheddol da hefyd yn hanfodol i atal pobl rhag gorfod defnyddio'r GIG yn y lle cyntaf. Nid yw'n gwneud dim synnwyr i dorri arian ar gyfer gwasanaethau ataliol gan ei fod yn ychwanegu at y baich ariannol y bydd yn rhaid i'r GIG ei ysgwyddo yn y pen draw. A gwyddom i gyd fod osgoi problemau'n llawer, llawer rhatach nag y mae i'w trin, pan fyddant yn mynd mor wael yn y pen draw fel bod rhaid cael triniaeth ddrud.
Mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei adlewyrchu gan yr hyn y bu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn awyddus i'w bwysleisio. Dywedodd fod:
'darparu gwasanaethau ataliol,'
ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma,
'addysg, chwaraeon a chyfleusterau cymunedol, llecynnau awyr agored o safon a gwasanaethau cefnogi cymunedol...yn chwarae rhan bwysig mewn atal pobl rhag mynd yn sâl neu ddatblygu problemau cymdeithasol mwy hirdymor.'
Mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi tynnu sylw at y £100 miliwn o'r cyllid adnoddau cyllidol sydd heb ei neilltuo yn y gyllideb hon. Pe bai tua thri chwarter o'r arian hwn yn cael ei roi i lywodraeth leol, yna byddai'n cyfateb i'r swm a ddywedodd CLlLC y mae awdurdodau lleol ei angen i gynnal y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol, a fyddai'n caniatáu i ni ystyried cefnogi'r setliad cyllido.
Mae'n hen bryd inni gael dulliau strategol tymor hir o bennu cyllidebau gan Lywodraeth Cymru, a dyna pam y byddai Plaid Cymru yn rhoi lles wrth galon ein cyllidebau, os mai ni fydd yn gwneud y penderfyniadau hyn yn y dyfodol.
Felly, i gloi, Llywydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Gyda hynny mewn golwg, a fyddai hi'n croesawu felly, yn enwedig gyda'r hyn a ddywedodd am lesiant, yr £0.5 miliwn bron sy'n mynd i gael ei wario ar barciau sglefrio ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn enwedig yr un ym Margoed?
Diolch ichi am yr ymyriad yna. Byddwn, yn sicr, nid wyf yn dweud, o bell ffordd, nad oes darpariaethau na fyddem yn eu croesawu. Rwy'n credu ar y cyfan, fod gormod o golli cyfleoedd yma yn ein tyb ni. Ond, wrth gwrs, bydd rhai pethau, fel y rhai y sonioch amdanynt, y byddem yn eu croesawu.
Felly, i gloi, Llywydd, mae cynnydd yn setliad eleni, ond er ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, nid yw'n ddigon hyd yn oed i gynnal darpariaeth bresennol awdurdodau lleol, yn dilyn degawdau o doriadau, a dyna pam yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn teimlo nad oes gennym ddewis ond i bleidleisio yn erbyn y setliad cyllid llywodraeth leol heddiw.
Byddaf yn cefnogi'r gyllideb. Credaf fod angen mwy o arian ar lywodraeth leol, ond credaf fod angen mwy o arian ar y sector cyhoeddus i gyd yng Nghymru. Ond rwyf eisiau trafod y rheswm dros y cyllid allanol cyfanredol, yr hyn yr arferem ei alw'n setliad cyllideb Llywodraeth Cymru, ac yna trafod setliad eleni.
Mae'r cyllid allanol cyfanredol yn gyfuniad o'r hyn yr arferai'r grant cynnal ardrethi fod ar arfer o rannu'r ardreth annomestig genedlaethol a gesglir yng Nghymru. Mae'r grant cynnal ardrethi yn gymorth ar gyfer y dreth gyngor, a arferai fod yn ardrethi a gasglwyd gan awdurdod lleol, fel y câi pob un ei ariannu yn ôl ei asesiad gwariant safonol, ar ôl ychwanegu'r dreth gyngor, ond dim ffioedd na thaliadau. Po fwyaf yw'r gallu i gasglu'r dreth gyngor yn lleol, lleiaf yw'r angen i Lywodraeth Cymru gefnogi cyngor.
Mae nifer yr eiddo ym mhob band o'r dreth gyngor yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau lleol. Mae gan rai megis Blaenau Gwent dros hanner ei eiddo ym mand A. Mae gan Sir Fynwy o'i gymharu ychydig dros 1 y cant o'i heiddo ym mand A ac mae ganddi bron i 6 y cant yn y ddau fand uchaf. Yn Sir Fynwy, mae mwy o eiddo yn y band uchaf nag sydd ym mand A. Felly, mae ychwanegu £1 at dreth gyngor Band E yn Sir Fynwy yn codi mwy o lawer—bron i 100 y cant yn fwy—na'r hyn a gewch chi o wneud yn union yr un fath ym Mlaenau Gwent.
Byddem felly'n disgwyl i'r cynghorau sy'n cael y cymorth mwyaf y pen gan Lywodraeth Cymru, fod y rhai hynny sydd â'r gallu lleiaf i godi refeniw'r dreth gyngor, sef Blaenau Gwent, sy'n cael ei reoli'n annibynnol, Merthyr, sy'n cael ei reoli'n annibynnol, a Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei reoli gan Lafur. Felly, yn sicr nid yw'n gyllideb sy'n cefnogi Llafur. Byddem wedyn yn disgwyl mai'r tri isaf fyddai Bro Morgannwg, sy'n cael ei reoli gan leiafrif Llafur, Mynwy, sy'n cael ei reoli gan y Ceidwadwyr, a Chaerdydd, sy'n cael ei reoli gan Lafur—oherwydd bod y cynllun yn seiliedig ar wneud iawn am y gallu i gasglu'r dreth gyngor. Gwelwn yn setliad refeniw llywodraeth leol Cymru fod y gefnogaeth fwyaf y pen yn mynd i Flaenau Gwent, Merthyr a Rhondda Cynon Taf, a'r lleiaf i Fynwy, Bro Morgannwg a Chaerdydd.
O ran eiddo band I, y band uchaf, mae 5,510 yng Nghymru ac mae 3,020 ohonyn nhw mewn tri awdurdod: Mynwy, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae hynny'n dweud wrthym ymhle mae gennych chi fwy o allu i godi arian drwy'r dreth gyngor. O flwyddyn i flwyddyn, y newidiadau yn y boblogaeth yw'r prif ysgogwr o ran arian ychwanegol o flwyddyn i flwyddyn. Nid dyma'r unig ysgogwr, mae'r boblogaeth yn newid, mae elfen yn seiliedig ar hyd ffyrdd a phethau eraill ond yn bennaf, y boblogaeth.
Mae'n anffodus, er bod Llywodraeth Cymru yn dangos y swm o dan bob rhan o gyfrifiad y grant cynnal ardrethi, er mwyn dangos faint mae pob awdurdod lleol yn ei gael ar gyfer pob cyfran ohono, nid yw'n cyhoeddi'r cyfrifiadau a fyddai'n dangos sut y maen nhw wedi cyfrifo'r ffigurau hynny. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai pobl weld y rhifau sy'n sail i'r cyfrifiadau yn hytrach na'r canlyniad yn unig.
Wrth gwrs, gellir newid y fformiwla. Gallai fod yn swm y pen o'r boblogaeth yn unig, a byddai pobl yng Nghaerdydd ac Abertawe'n gwneud yn dda iawn, ond byddai'n drychinebus i Ferthyr, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Gall newid y fformiwla achosi pendiliadau mawr mewn cyllid yn sgil mân newidiadau. Cafwyd newid yn y cyllid ar gyfer ffyrdd o 52 y cant o boblogaeth a 48 y cant o hyd ffyrdd i 50 y cant ar gyfer y ddau, nad oedd yn ymddangos yn newid mawr iawn ac a ymddangosai'n weddol resymol, ond symudodd gannoedd o filoedd o bunnoedd o Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd i Bowys, Ceredigion ac ardaloedd eraill â phoblogaeth denau. Gall newidiadau bach yn y fformiwla yn y pen draw gynhyrchu newidiadau na fyddech eu heisiau efallai cyn i chi newid y fformiwla.
O edrych ar gyllideb eleni o'i chymharu â'r llynedd, dyma'r setliad gorau ers degawd ac mae'n pennu cyllid refeniw craidd o £4.474 biliwn i lywodraeth leol. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd cynnydd cymharol o 4.3 y cant yn y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2020-21 o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Pe bai hynny wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf, ni fyddem yn cael dadl a phobl yn dweud, 'Mae angen mwy o arian ar lywodraeth leol.' Byddai angen mwy o arian arno o hyd, oherwydd ni all llywodraeth leol fyth gael digon o arian, fel y rhan fwyaf o wasanaethau eraill, ond byddai mewn sefyllfa lle y byddai'n gallu ymdrin â'r rhan fwyaf o'i phroblemau.
Bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd o 3 y cant o leiaf. O ran y ffigurau a gyhoeddwyd yn nhabl 4 o 'Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2020-21 (Y Setliad Terfynol—Cynghorau)' mae'n dangos yr asesiadau gwariant safonol y pen ar gyfer pob cyngor, ac yn dangos mai Sir Ddinbych â £2,155 yw'r uchaf yng Nghymru. Mae Ynys Môn, Gwynedd a Phowys i gyd yn uwch na'r cyfartaledd, a Chonwy yn union ar y cyfartaledd.
Yn olaf, beth am roi'r un cynnydd canrannol i bob cyngor? Gan y byddai'n rhoi mwy o anfantais i'r rhai y mae eu poblogaeth yn tyfu o'u cymharu ag eraill, a byddai o fantais i'r rheini â mwy o allu i godi arian drwy'r dreth gyngor. Mae'r setliad yn ymddangos yn deg. Dwi'n credu bod gwir angen i ni ganfod beth yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Rydym yn ceisio cefnogi llywodraeth leol, ond rydyn ni'n ceisio gwneud hynny yn y fath fodd fel bod pob awdurdod yn gallu gwneud yr un peth. Dyna beth yw hanfod yr asesiad o wariant safonol.
Yn olaf, dim ond ple arall, a all Llywodraeth Cymru ddangos eu cyfrifiadau? Oherwydd mae dangos y canlyniad terfynol yn unig yn gwneud i bobl feddwl efallai eu bod nhw'n anghywir—neu efallai nad ydyn nhw'n eu hoffi. Os byddwch mewn gwirionedd yn dangos y ffigurau sy'n sail i'r cyfrifiadau hynny, byddai'n caniatáu i bobl eu gwirio nhw eu hunain.
Roedd cyngor Caerffili dan bwysau braidd gan yr oedi a achoswyd yn y gyllideb gan yr etholiad cyffredinol, ac er hynny aeth ymlaen ag ymgynghoriad. Mewn gwirionedd, cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn ystod yr etholiad cyffredinol. Rwy'n dal i feddwl tybed a oedd hynny'n hollol ddoeth, i ymgynghori ar gyllideb na wyddech chi ddim amdani yn ystod etholiad cyffredinol. Ond y newyddion da yw, o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Cymru, bod yr arbedion arfaethedig a oedd eu hangen wedi gostwng o £8.5 miliwn i £3 miliwn. Mae'n dangos bod cyllideb gyfrifol yn gwbl bosibl ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o ganlyniad i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru.
Fe wnaethoch chi sôn am gyni, a bob tro yr ydych yn gwneud hynny mae Janet Finch-Saunders—nid bob tro, ni wnaeth hynny gynnau fach—ond pan soniwch chi am gyni, mae tueddiad gan Janet Finch-Saunders i weiddi a chwyno, ond y ffaith yw bod y gyllideb hon heddiw yn dal i fod yn gyllideb mewn cyfnod o gyni a'i wreiddiau yn y ffaith mai'r adeg waethaf bosibl i dorri fel y gwnaethant oedd yn 2010—Cameron ac Osborne—pan wnaethant hynny yn nyfnder dirwasgiad. Dyma'r adeg waethaf bosib i ddechrau rhaglen o gyni, ac felly bydd yn cymryd blynyddoedd lawer i ail godi ar ein traed ar ôl hynny, oherwydd canlyniadau'r dewisiadau hynny a wnaethpwyd bryd hynny. Dyna pam y ceir anawsterau gyda'r gyllideb, oherwydd y dewis economaidd a wnaethpwyd yn 2010 ac sy'n dal i gael ei deimlo heddiw.
Ond rydym yn gweld camau bach yn ôl ar y llwybr. Rwy'n dal i gredu ein bod yn gweld cyni; dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi gweld diwedd ar gyni o bell ffordd. Ond mae'r hyn yr ydym yn ei weld, drwy gyllideb Llywodraeth Cymru, yn gamau bach ymlaen, ac mewn termau real, bydd cyngor Caerffili bellach £11.1 miliwn ar ei ennill yn y flwyddyn ariannol nesaf o'i chymharu â'r flwyddyn hon, oherwydd y setliad da hwn. Ac mae rhai o'r pethau a gyhoeddwyd fel toriadau posibl pe bai'r cyfnod anodd hwn wedi parhau, ac fe'u cyhoeddwyd yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, erbyn hyn wedi eu harbed—pethau fel, oherwydd Llywodraeth Cymru, ni fydd Cyngor Caerffili yn cael ei orfodi i dorri cyllidebau ysgolion; ni fydd yn cael ei orfodi i golli hebryngwyr croesfannau ysgol; ni fydd yn cael ei orfodi i leihau nifer y camerâu teledu cylch cyfyng; ni fydd yn cynyddu prisiau prydau ysgol; ac ni fydd yn rhaid iddo leihau'r gyllideb cynnal a chadw priffyrdd. Ac rwy'n falch o ddweud na fydd unrhyw benderfyniad i gau canolfannau ailgylchu yn fy etholaeth yn cael ei weithredu bellach. Hefyd, yn ogystal â hynny, mae treth gyngor cyngor Caerffili, o'i chymharu â threth y ddau awdurdod cyfagos—Blaenau Gwent a Merthyr, ill dau wedi'u rheoli'n annibynnol—gryn dipyn yn llai. Yn wir, mae pobl ym mand B yng Nghaerffili yn talu £400 yn llai bob blwyddyn nag yn yr awdurdodau cyffiniol hynny, ac mae Caerffili yn y chwartel isaf o ran cyfraddau'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae hynny oherwydd gweithredoedd y Gweinidog llywodraeth leol a gweithredoedd y Gweinidog Cyllid dros y misoedd diwethaf.
Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod y llifogydd a ddigwyddodd hefyd wedi rhoi baich ariannol annisgwyl ac annioddefol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda rhywfaint o'r atgyweiriadau y bydd eu hangen yn y dyfodol. Mae'r cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi'i groesawu'n fawr. Yn ogystal â'r £500 y pen a roddwyd gan yr awdurdod lleol, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi £500 y pen, a £500 ychwanegol i'r rhai nad oes ganddynt yswiriant. Hynny yw, bydd gan bawb y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt rhwng £1,000 a £1,500 os effeithiwyd ar eu heiddo, o ganlyniad, unwaith eto, i weithredoedd y Llywodraeth a'r cyngor.
Mae effaith y llifogydd, er hynny, ar seilwaith y fwrdeistref sirol yn cael ei chyfrifo'n gost o tua £4 miliwn ar hyn o bryd, a disgwylir i hyn ddyblu dros yr wythnosau nesaf wrth gyfrifo gwerth difrod llawn y storm. Ac mae cost gwelliannau angenrheidiol pellach i'r seilwaith a wnaed yn rhai fwyfwy brys gan y llifogydd yn cyrraedd cyfanswm o rhwng £75 miliwn a £85 miliwn yng Nghaerffili—hynny yw, cysylltu ffyrdd yn y Cymoedd gogleddol yn etholaeth Dawn Bowden. Mae angen cymorth ariannol ar yr awdurdod lleol hefyd i wneud yn siŵr bod rhai o'r 234 o domenni glo sy'n bodoli yn y fwrdeistref yn ddiogel. Gall wneud gwaith ar y 104 y mae'n berchen arnynt, ond mae hefyd 130 dan berchnogaeth breifat y mae gennym bryderon yn eu gylch. Felly, i'r perwyl hwnnw, cydlofnodais lythyr gyda Rhianon Passmore, Dawn Bowden a'r tri Aelod Seneddol, at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU, yn galw am gymaint o gymorth â phosib i gynorthwyo gydag atgyweirio'r seilwaith a hefyd gwneud y tomenni glo yn ddiogel. Rwy'n ffyddiog y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cymaint â phosib; nid ydym ni eto wedi clywed dim byd ystyrlon gan Lywodraeth y DU, ac mae hynny'n destun pryder.
Felly, ar y cyfan, credaf mai hon yw'r gyllideb orau a ellid bod wedi'i llunio ar gyfer llywodraeth leol, ac mae wedi rhoi sicrwydd i llywodraeth leol yng Nghymru na roddwyd yn Lloegr, ac mae hynny oherwydd Llywodraeth Cymru a, felly, cymeradwyaf y ddadl hon heddiw.
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Rwyf eisiau ymateb i'r sylwadau ar ddigonolrwydd y setliad.
Mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod y blaenoriaethau a'r pwysau yr ydym ni a llywodraeth leol yn eu hwynebu drwy'r setliad a'r cyllid ehangach sydd ar gael i lywodraeth leol. Hoffwn ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau o ble'r ydym ni arni ar ôl y cylch cyllideb hwn. Nid oes gennym ni gyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru y tu hwnt i 2020-21 o hyd. Rydym yn dal i ddisgwyl i Lywodraeth y DU lunio ei chyllideb ar gyfer 2020-21 gyda rhagolygon cyllidol wedi'i diweddaru a'i hadolygiad cynhwysfawr o wariant, gyda rhagolygon ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Nid ydym yn gwybod o hyd pa berthynas fydd gennym ni â'r Undeb Ewropeaidd yn y flwyddyn nesaf. Yr unig beth yr ydym yn ei wybod yw bod cryn ansicrwydd yn wir. Rwy'n deall her ansicrwydd i awdurdodau lleol. Gobeithiaf y bydd adolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhoi'r gallu inni roi'r sicrwydd hwnnw iddynt. Byddwn yn edrych ar ba mor ymarferol yw cais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyflwyno setliad aml-flwyddyn yn rhan o'r her honno.
Mae'r setliad terfynol hwn yn welliant sylweddol. Mae'r Llywodraeth a minnau'n cydnabod nad yw'r setliad, er ei fod yn gadarnhaol o ran arian yn gyffredinol, yn gwneud iawn am y toriadau mewn termau real y mae awdurdodau lleol wedi'u gweld yn ystod y degawd diwethaf o gyni a orfodwyd gan y Ceidwadwyr. Gobeithiaf, er gwaethaf y dewisiadau caled y mae cynghorau wedi gorfod eu gwneud, gallant nawr edrych i'r dyfodol i weld sut y gellir gwneud y defnydd gorau o'r cyllid hwn; parhau i ymgysylltu â'u cymunedau ac ymateb i'w hanghenion a'u huchelgeisiau; i weddnewid gwasanaethau, eu cadw, ac ymateb i anghenion a disgwyliadau sy'n newid; neu, lle bo angen, dewis sut i'w lleihau gan gadw'r cyhoedd ar eu hochr. A hefyd penderfynu faint o dreth gyngor y byddant yn ei chodi i adlewyrchu'r dewisiadau hynny.
Rydym i gyd yn cydnabod y bydd heriau mewn rhai gwasanaethau, ond credaf fod y rhain yn heriau y gall llywodraeth leol yng Nghymru eu cyflawni gyda'i gilydd. O glywed sylwadau Mark Isherwood, gyferbyn, byddech yn credu bod cyni i lywodraeth leol yn bolisi a wnaed yma yng Nghymru. Blaenoriaeth y Llywodraeth nawr ac erioed yw ceisio amddiffyn cynghorau rhag y gwaethaf o'r toriadau a drosglwyddwyd inni gan Lywodraeth y DU. Adlewyrchir hyn yn y setliad ar gyfer 2020-21 a gyflwynais i chi heddiw.
Gwnaeth Mike Hedges y pwynt yn blaen, rwy'n credu, fod y rhan fwyaf ar y meinciau gyferbyn yn canolbwyntio ar y newid ymylol, ond nid oes neb yn edrych ar y dosbarthiad gwirioneddol. Y gwir amdani yw bod y gogledd yn y canol, fel y dylai fod, oherwydd y modd y codir refeniw'r dreth gyngor ledled Cymru, fel y crisialodd Mike Hedges yn fedrus iawn. Felly, mae'r tri chyngor isaf yn y de ac mae'r tri chyngor uchaf yn y de. Felly, mae Caerdydd yn is na Wrecsam a sir y Fflint. Felly, Mark, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych: peidiwch byth â gadael i'r ffeithiau rwystro dadl dda, oherwydd nid yw'r ffeithiau, fel y gwnaethoch chi eu cyflwyno nhw, yn ffeithiau.
Yma yn Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i sicrhau fod pobl yn gwbl gymwys i elwa ar ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ar gyfer 2020-21, ac rydym unwaith eto yn darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn. Rydym ni wedi ymrwymo o hyd i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed ac ar incwm isel, er gwaethaf y diffyg yn yr arian a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU yn dilyn diddymu budd-dal y dreth gyngor. Penderfynir ar y trefniadau ar gyfer 2021-22 ymlaen fel rhan o'n hystyriaethau ehangach ynglŷn â sut i wneud y dreth gyngor yn decach.
Rwyf i a'm cydweithwyr yn y Cabinet wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu hyblygrwydd, lle bo hynny'n bosibl. Rwyf wedi ymrwymo i ystyried sut y gallai llywodraeth leol fod yn fwy grymus ac yn gryfach. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ymrwymo i weithio'n rhanbarthol; bod yn rhaid cael mwy o gydweithio gyda byrddau iechyd a'r consortia addysg i sicrhau gwell canlyniadau a mwy o gydnerthedd. Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau gyda llywodraeth leol ar ein cydnabyddiaeth gyffredin o'r angen i fuddsoddi yn y cyflenwad tai.
Dylai buddsoddi mewn tai cymdeithasol leihau'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol ac ar wasanaethau digartrefedd. Gall buddsoddi mewn tai hefyd gefnogi economi Cymru ac economïau lleol. Tynnodd Delyth Jewell sylw at hynny; roeddwn yn siomedig o weld na fyddai hi, serch hynny, yn cefnogi'r setliad gan fod y cynghorau ledled Cymru, mewn gwirionedd, wedi croesawu'r setliad yn y maes hwnnw'n fawr iawn. Rwyf yn gobeithio y gall y setliad—cyfalaf a refeniw—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rwyf dim ond yn ymateb i'ch sylw ynghylch Wrecsam, Caerdydd a sir y Fflint. Yn ffeithiol, mae Wrecsam yn cael cynnydd o 3.5 y cant, sir y Fflint 3.7 y cant, sy'n is na'r terfyn gwaelodol o 4 y cant y gwnaethant ofyn amdano, ond mae Caerdydd yn 4.2 y cant—
Wel, dyna'r newid ymylol.
—sy'n uwch na'r terfyn gwaelodol y gofynnon nhw amdano.
Ie, ond y pwynt yr wyf yn ei wneud yna yw, rydych yn canolbwyntio ar y newid ymylol nid y swm cyffredinol a roddwyd iddynt, ac o ran y cyfanswm cyffredinol a roddir i gynghorau, mae Caerdydd yn is na Sir y Fflint a Wrecsam. Felly, rydych yn canolbwyntio ar y newid ymylol, nid y setliad cyffredinol, sef y pwynt yr oeddwn yn ei wneud.
Fel yr oeddwn yn dweud, gall buddsoddi mewn tai hefyd gefnogi economi Cymru ac economïau lleol, a gobeithiaf y gall y setliad hwn—cyfalaf a refeniw—gefnogi awdurdodau i adeiladu mwy o dai cymdeithasol ynghynt ledled Cymru.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod y gwaith cadarnhaol parhaus ar y fformiwla ddosbarthu gyda llywodraeth leol. Eleni, yn ogystal â'r wybodaeth a gyhoeddwyd ar y cyd â'r setliad dros dro, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r is-grŵp dosbarthu i lunio tabl sy'n ceisio egluro'r amrywiaethau yn y dyraniadau. Mae'r rhain wedi cael eu cyhoeddi ar y cyd â'r setliad terfynol er mwyn i bob awdurdod allu gweld ac egluro eu dyraniadau. Rwyf yn derbyn pwynt Mike Hedges, a byddaf yn ystyried a allwn ni gyhoeddi'r cyfrifiadau eu hunain hefyd, oherwydd credaf, po fwyaf y tryloywder, yna gorau i gyd.
Cytunir ar y newidiadau blynyddol i'r fformiwla bob blwyddyn rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol drwy'r is-grŵp cyllid. Mae hyn yn golygu ein bod yn ffyddiog ein bod yn dosbarthu'r cyllid sydd ar gael mewn ffordd deg a gwrthrychol. Rwyf eisiau sicrhau pob rhan o Gymru nad oes rhagfarn nac annhegwch bwriadol yn y fformiwla, fel y nododd Mike Hedges yn fedrus iawn, wrth egluro pa awdurdodau a gafodd y cynydd mwyaf a lleiaf yn eu setliad, ac mae awgrymu hynny'n annheg i'r rhai sy'n gweithio mor gadarnhaol i'w gyflawni.
Rwyf eisoes wedi cynnig y cyfle i Aelodau'r Cynulliad fynd i sesiynau briffio technegol y mae fy swyddogion yn eu cynnal er mwyn deall sut mae fformiwla'r setliad yn gweithio'n ymarferol. Mae'r nifer sydd wedi manteisio ar y cynnig hwn hyd yma wedi bod yn siomedig o isel. Rwy'n fwy na pharod i ail-gynnig hyn i'r Aelodau yn y Siambr er mwyn sicrhau y gallwn ni drafod y mater dan sylw mewn modd adeiladol yn hytrach na chamddehongli manylion technegol y setliad a'r hyn y mae'n ei wneud neu nad yw'n ei wneud. Cymeradwyaf y setliad da iawn hwn i'r Cynulliad.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans.
Eitem 9 ar yr agenda yw dadl ar ail gyllideb atodol 2019-20. Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig a'r gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7284 Rebecca Evans
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn unol â Rheol Sefydlog 20.37, yn cytuno bod yr adnoddau sy’n cronni ac sydd i’w cadw gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan Ran 3 o Atodlen 4 o Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 a’r Grynodeb o’r Gofynion Adnoddau a Chyfalaf ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ar dudalen 6, yn cael ei ddiwygio o £14,825,000 i £14,775,000, fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Cyllid i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2020; ac yn cytuno hefyd gyda’r newid cyfatebol i Atodlen 7 ar dudalen 29 fel bod Taliadau o Ffynonellau Eraill £50,000 yn fwy, a’r Symiau a Awdurdodwyd i’w Cadw gan Weinidogion Cymru a Chyrff a Ariennir yn Uniongyrchol £50,000 yn llai.
Cynigiwyd y cynnig a gwelliant 1.
Mae'r gyllideb hon yn rhoi cyfle olaf i wella'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, gan ganiatáu diwygio'r cynlluniau cyllido a gwariant a gymeradwywyd yn flaenorol, ailflaenoriaethu o fewn portffolios, trosglwyddo cyllidebau rhwng portffolios, a dyraniadau o gronfeydd wrth gefn. Mae'n cyfochri adnoddau â blaenoriaethau'r Llywodraeth. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn parhau i ddarparu'r sylfaen sy'n arwain ein proses gyllidebol. Mae'r gyllideb hon yn gwneud dyraniadau o'n cronfeydd adnoddau cyllidol wrth gefn i gefnogi'r broses o reoli pwysau'r gaeaf yn ein gwasanaeth iechyd, y dyfarniad cyflog i athrawon a'r cynnig gofal plant, sy'n brif ysgogiad ar gyfer newid yn y sector gofal plant. Mae'r dyraniadau cyfalaf, yn ogystal â'r trafodiadau cyffredinol ac ariannol yr ydym wedi eu gwneud yn darparu buddsoddiadau ychwanegol mewn tai, addysg a'r system drafnidiaeth.
Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant i'r cynnig hwn, sy'n cywiro lefel yr incwm y gall Swyddfa Archwilio Cymru ei chadw. Oherwydd amryfusedd gweinyddol, cafodd y swm hwn ei orddatgan gan £50,000 yn y cynnig cyllidebol. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod lefel yr incwm yn cyfateb i'r hyn a geir o fewn Memorandwm Esboniadol Swyddfa Archwilio Cymru, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Cyllid.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar yr ail gyllideb atodol hon, ac rwy'n bwriadu derbyn pob un o'i bum argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru, a byddaf yn ymateb iddyn nhw yn fanwl maes o law. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant a'r cynnig.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Cyllid. Fe gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 18 Chwefror i drafod ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Mae ein hadroddiad ni yn gwneud nifer o argymhellion, ac mi fyddaf i'n trafod jest rhai o'r rhain yn fras iawn y prynhawn yma.
Fel y nodwyd yn ein dadl gynharach ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21, fe wnaeth y pwyllgor gydnabod y gallai cyllideb ddisgwyliedig y DU ar 11 Mawrth effeithio ar gyllid Llywodraeth Cymru. Yn ein hadroddiad ar yr ail gyllideb atodol hon, rŷn ni wedi ailadrodd ein hargymhelliad blaenorol y dylai manylion fod ar gael i’r pwyllgor cyn gynted â phosib ar ôl cyllideb y DU, ac yn benodol mewn perthynas â’r cyllid, wrth gwrs, ar gyfer 2019-20.
Rŷn ni wedi gwneud nifer o argymhellion o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys parhau i geisio cynnydd yn y swm sy'n cael ei ddwyn ymlaen yn flynyddol o'r cyfalaf trafodion ariannol, ac er nad yw'n benodol i'r gyllideb atodol hon, rŷn ni hefyd wedi gofyn am ddiweddariad ynglŷn ag unrhyw gyllid canlyniadol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch HS2.
Fe ystyriodd y pwyllgor sut mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae ganddi gronfeydd cyfalaf a refeniw, ac mae cyllid hefyd yn nwylo adrannau unigol ar gyfer argyfyngau yn ystod y flwyddyn. Rŷn ni wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad alldro er mwyn cael dealltwriaeth well o’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, a’r newidiadau a wnaed ers y gyllideb atodol hon.
Er bod y gyllideb atodol yn cynnwys trosglwyddiadau allan o risg llifogydd a rheoli dŵr, mae'r pwyllgor yn nodi bwriad y Gweinidog i ddarparu cynllun rhyddhad brys i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar. Mae'r pwyllgor yn cydnabod gweithredoedd y Gweinidog o ran rhoi cymorth ariannol, a byddai'n gefnogol i'r angen i ddefnyddio pwerau adran 128 pe bai angen hyn i adlewyrchu unrhyw gefnogaeth ariannol ychwanegol yn 2019-20.
Gofynnon ni am y diweddaraf ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â chyllid Brexit. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni ei bod yn disgwyl gallu cael mynediad at swm sy’n cyfateb i gyfanswm y cyllid y mae gan Gymru hawl iddo gan yr Undeb Ewropeaidd. Roedd ein hadroddiad blaenorol ar baratoi ar gyfer llenwi’r bwlch o ran cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am weinyddu a rheoli’r gronfa ffyniant gyffredin yng Nghymru. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni fod Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen o ran sut y byddai'n datblygu a gweinyddu cynllun o'r fath.
Yn fyr, fe gawsom ni ddau gais ynghylch y gyllideb atodol, un gan Gomisiwn y Cynulliad ac un gan yr archwilydd cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru. Er ein bod yn fodlon â'r ddau, rŷn ni wedi gwneud un argymhelliad i Swyddfa Archwilio Cymru, a hynny ynglŷn ag incwm ffioedd.
Yn olaf, rŷn ni wedi nodi gwelliant y Gweinidog i’r cynnig heddiw, a gan fod y pwyllgor wedi ystyried y nodyn esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn cynnwys y ffigur cywir ar gyfer adnoddau sy’n cronni, rŷn ni'n fodlon â'r gwelliant arfaethedig.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi ymdrin i raddau helaeth iawn â phob agwedd o'r gyllideb atodol y cyfeiriwyd ati. A gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaeth Llyr Gruffydd ynghylch mater cyllid HS2? Rwy'n bredu bod hynny'n rhywbeth yr oedd y pwyllgor yn awyddus i'w wybod: beth oedd yr union sefyllfa o ran cyllid i Gymru. Rwy'n gwybod nad yw'n gweithio yr un fath gyda Chymru ag y mae gyda'r Alban. Yr oedd hynny'n destun pryder i'r pwyllgor, felly yr oedd y pwyllgor eisiau gweithio i ddod o hyd i ateb i hynny.
Mae i fyny i'r Llywodraeth yn San Steffan. Gallan nhw roi swm canlyniadol Barnett i ni, gallan nhw roi symiau o arian i ni amdano, neu gallan nhw roi dim byd i ni. Eu penderfyniad nhw yw hwnnw, a byddwn i'n gobeithio y byddech chi'n ymuno â phob un ohonom ni wrth ddweud y dylen nhw fod yn rhoi o leiaf rhywfaint ohono i ni.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid a chan siarad ag un llais, ydw, rwy'n cytuno â chi ar hynny, Mike Hedges, ac rwy'n credu, pryd bynnag y bydd seilwaith mawr—. Wel, mae'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithio, pryd bynnag y bydd prosiect seilwaith mawr yn digwydd ar lefel y DU sydd o fudd i un ardal, fel Crossrail, er enghraifft, yn fanteisiol i Lundain, yna rwy'n credu bod dadl cyfiawnder naturiol i Gymru gael rhyw fath o gyllid, boed drwy Barnett ai peidio. Felly, rwy'n cytuno â chi.
Yn ail, fe wnaeth y Cadeirydd sôn am gronfeydd ac arian wrth gefn. Roedd yn eithaf tebyg i Yes Minister yn y pwyllgor pan oeddem ni'n ceisio cael ateb gan rai o'r swyddogion ynglŷn â beth oedd y gwahaniaeth. Gallaf weld y Gweinidog yn chwerthin, ond doeddwn i ddim yn cyfeirio at y Gweinidog hwn, gyda llaw. Pryd mae cronfa wrth gefn yn gronfa wrth gefn a phryd mae'n arian wrth gefn? Yn y pen draw, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn hoffi bod â llawer mwy o eglurder ynghylch faint yn union o gronfa wrth gefn y mae ei hangen mewn unrhyw sefyllfa benodol. Roeddwn i'n sôn yn gynharach am bwerau ariannol cynyddol y lle hwn, ac rwy'n credu y bydd angen, yn y dyfodol, ychydig mwy o eglurder arnom ynghylch y meysydd hynny. Ond rwy'n credu fod yr adroddiad wnaeth y pwyllgor edrych arno yn un da iawn, ac rwy'n falch o fod yn rhan o hynny, a gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried ein pryderon ynghylch y gyllideb atodol.
Byddwn ni'n ymatal ar y gyllideb, gyda llaw, ar yr ochr hon i'r Siambr, gan nad ydym yn cefnogi'r gyllideb wreiddiol, ond mae agweddau da eraill yno.
Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl?
Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniadau gan y ddau aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am waith y Pwyllgor Cyllid ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb mewn manylder i'r argymhellion hynny a'u derbyn. Roedd un o'r argymhellion yn ymwneud â sicrhau bod manylion unrhyw effeithiau ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gael cyn gynted â phosibl yn dilyn cyllideb mis Mawrth y DU, ac mae'n rhywbeth a archwiliwyd gennym yn y ddadl ar y gyllideb derfynol heddiw ac, wrth gwrs, byddwn i'n hapus iawn i ddarparu'r diweddariad cyn gynted ag y gallaf wneud hynny.
Codwyd HS2 yn ystod y drafodaeth ar ail gyllideb atodol 2019-20 ac, wrth gwrs, byddem ni'n disgwyl derbyn ein cyfran deg o unrhyw gyllid ychwanegol a ddyrennir i HS2 yn y blynyddoedd i ddod. Byddem yn disgwyl i'r trafodaethau hynny ddarparu rhywfaint o oleuni o leiaf drwy'r broses gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, a fydd yn digwydd wrth inni symud ymlaen eleni. Ar ben hynny, mae angen rhaglen gwella rheilffyrdd ar Gymru sydd wedi'i datblygu'n briodol a'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU, yn debyg i'r hyn sydd ganddyn nhw yn Lloegr. Mae hynny, ynghyd â datganoli rheolaeth dros y rhwydwaith, yn hanfodol, mewn gwirionedd, i ni allu gwireddu potensial llawn ein rheilffyrdd yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bydd gennym ni gyfleoedd eraill i drafod hynny.
Crybwyllwyd mater cronfeydd wrth gefn ac arian wrth gefn hefyd. Wrth gwrs, mae gennym ni gronfa wrth gefn Cymru, sy'n helpu Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb dros flynyddoedd ariannol, ond yna mae gennym ni rywfaint o arian wrth gefn hefyd er mwyn ein helpu i ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl dros flwyddyn ariannol. Mae cadw lefel briodol o gronfeydd wrth gefn ar gyfer amgylchiadau annisgwyl yn bwysig, gan hefyd wneud y defnydd gorau o'r adnoddau ar gyfer buddsoddiad wedi'i gynllunio. Mae'n gydbwysedd anodd i'w gael yn gywir, ond rydym yn ffyddiog ein bod wedi taro cydbwysedd priodol drwy gydol y flwyddyn ariannol ddiwethaf, neu flwyddyn ariannol 2019-20, ond wedi adlewyrchu eto yn y ddadl a gawsom yn gynharach y prynhawn yma wrth inni symud ymlaen.
Felly, mae'r gyllideb hon yn darparu ar gyfer nifer o bethau, fel y byddai cyllideb atodol. Mae'n cyfrif am addasiadau a wnaed ers y gyllideb atodol gyntaf yn 2019-20. Felly, mae'n cynnwys unrhyw beth a gâi ei dynnu o gronfa wrth gefn Cymru, dyraniadau i ac o'r cronfeydd wrth gefn, newidiadau y cytunwyd arnyn nhw rhwng adnoddau a chyfalaf, trosglwyddiadau rhwng ac o fewn y prif grwpiau gwariant, diwygiadau i ragolygon trethi datganoledig a'r addasiad i'r grant bloc, a newidiadau i'r terfyn gwariant adrannol, gan gynnwys y cyllid canlyniadol, cyllid canlyniadol negyddol, ac addasiadau eraill sy'n deillio o benderfyniadau Trysorlys EM. Ac yna hefyd, y rhagolwg diweddaraf o'r gwariant a reolir yn flynyddol y cytunwyd arno gyda Thrysorlys EM yn rhan o amcangyfrifon atodol Llywodraeth y DU ym mis Ionawr.
Felly, mae'r ail gyllideb atodol hon yn darparu ar gyfer y gwelliannau olaf i'n cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn parhau i gefnogi cynnydd ar flaenoriaethau ac ymrwymiadau'r Llywodraeth hon. Ac rwy'n cynnig y gwelliant a'r cynnig, ac yn ei gymeradwyo i'r Senedd.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio, felly.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar a gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian.
Eitem 10 ar ein hagenda yw dadl ar y cynnydd o ran mynd i'r afael â throseddau casineb, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig—Jane Hutt.
Cynnig NDM7281 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno nad oes lle i droseddu casineb yng Nghymru.
2. Yn nodi ymdrechion Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i fynd i’r afael â throseddu casineb drwy roi mwy o hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen, gwella’r ffordd y cofnodir troseddau casineb, a gweithio gyda chymunedau i atal troseddu casineb yn y dyfodol.
3. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyngor a gofal pwrpasol.
4. Yn cydnabod bod mynd i’r afael â throseddu casineb yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o arwain y ddadl bwysig hon ar fynd i'r afael â throseddau casineb er mwyn amlinellu'r ymyriadau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith, yn ogystal â siarad yn erbyn casineb, sef neges bwerus ymgyrch Jo Cox. Ni allwn anwybyddu'r nifer uchel o naratifau rhwygol sydd yn y cyfryngau yn ogystal â mewn trafodaeth wleidyddol, yn y DU a ledled y byd, felly mae'n ddyletswydd arnom fel cynrychiolwyr etholedig i ddatgan yn bendant nad oes lle i gasineb yng Nghymru, a dyna beth y mae'r cynnig heddiw yn ei gynnig.
Wrth gwrs, mae atal yn allweddol i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ac felly'n ganolbwynt i lawer o'n gwaith. Mae ein rhaglen cydlyniant cymunedol yn rhan annatod o'n gwaith atal, gan gyflawni prosiectau sy'n canolbwyntio ar greu cenedl amrywiol ac unedig drwy feithrin amgylcheddau lle y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd, yn ogystal â byw a gweithio gyda'n gilydd yng Nghymru. Mae byw mewn cymunedau croesawgar lle mae pobl yn ddiogel o fudd i bawb. Gall arian y Llywodraeth helpu cymunedau i ffynnu ac ni ddylai fod angen ei wario ar fynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol sy'n deillio o gasineb.
Rydym wedi buddsoddi £1.52 miliwn o gyllid ychwanegol yn y rhaglen cydlyniant cymunedol i ehangu timau cydlyniant ledled Cymru. Yn ystod y misoedd diwethaf mae eu cyswllt rheng flaen â chymunedau, gan gynnwys cyflawni prosiectau i annog integreiddio, wedi bod yn hollbwysig o ran meithrin cysylltiadau da a chefnogi'r rhai y mae rhagfarn yn effeithio arnyn nhw. Rydym yn darparu £480,000 o gyllid dros ddwy flynedd trwy ein grant troseddau casineb cymunedau lleiafrifol, ac mae'r grant yn ariannu sefydliadau'r trydydd sector sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol y mae trosedd casineb yn effeithio arnyn nhw.
Roeddem wrthi'n dyfarnu'r cyllid ar adeg y ddadl ddiwethaf, felly fe wnaf i roi trosolwg byr o'r prosiectau sydd ar waith ledled Cymru bellach: Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru, sy'n darparu hyfforddiant troseddau casineb i staff a myfyrwyr ym mhob coleg addysg bellach yng Nghymru; Women Connect First, sy'n darparu hyfforddiant cyfiawnder adferol a sesiynau codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn y de-ddwyrain; BAWSO, sy'n hyfforddi eiriolwyr cymunedol yn y gogledd i helpu aelodau'r gymuned i adnabod digwyddiadau casineb ac annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau; mae Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru yn datblygu prosiect hyfforddi'r hyfforddwr yn ymwneud â throseddau casineb ar gyfer plant ysgol, athrawon a chynorthwywyr addysgu gyda staff iechyd rheng flaen a staff y sector cyhoeddus yn y de-orllewin a'r canolbarth; mae NWREN, rhwydwaith cydraddoldeb hiliol gogledd Cymru, yn darparu hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o droseddau casineb a deddfwriaeth cydraddoldeb i gyfarwyddwyr addysg awdurdodau lleol, uwch dimau arwain mewn ysgolion a staff addysgu ledled y gogledd a'r canolbarth; mae Race Equality First yn darparu gweithgareddau mewn ysgolion, a hyfforddiant achrededig, gan gynnwys sesiynau adsefydlu carcharorion ac allgymorth yn y gymuned ledled y de-ddwyrain; mae Race Council Cymru yn darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb trwy gymunedau lleiafrifoedd ethnig, ac yn hybu ymwybyddiaeth ehangach o hawliau a chydraddoldeb yn y gogledd a'r de-orllewin; ac mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn hyfforddi llysgenhadon troseddau casineb ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gynnal sesiynau ymwybyddiaeth o droseddau casineb ledled Cymru.
Mae'r prosiectau hyn yn eu camau cynnar, ond rydym eisoes wedi gweld cynnydd da. Trwy ddefnyddio cysylltiadau profiadol a sefydledig y sefydliadau hyn, gallwn weithio gyda phartneriaid ar lefel llawr gwlad cymunedau a darparu cymorth yn uniongyrchol i'r rhai sydd ei angen. Nod hirdymor ein prosiect troseddau casineb gwerth £350,000 mewn ysgolion—hynny yw £350,000 o gyllid—dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yw codi ymwybyddiaeth trwy addysg i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu am gryfderau a manteision cyd-fyw a chyd-ddysgu mewn cymunedau amrywiol. Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn mwy na 100 o ysgolion ledled Cymru, a bydd yn rhoi sgiliau meddwl yn feirniadol i'r disgyblion i'w galluogi i adnabod gwybodaeth anghywir a naratifau atgas.
Rydym yn cydnabod bod hyrwyddo cyfathrebu cadarnhaol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o atal troseddau casineb, yn enwedig trwy atgyfnerthu'r neges nad oes croeso i gasineb yng Nghymru. Yr hydref hwn, rydym ar y ffordd i lansio ymgyrch aml-gyfrwng, Cymru gyfan i atal troseddau casineb, ac yn ymgysylltu â phartneriaid, gan gynnwys dioddefwyr. Mae hyn yn mynd rhagddo'n dda, ac mae gennym adborth da sy'n cefnogi'r broses o greu'r ymgyrch hon, sy'n annog pobl i adrodd am droseddau casineb ac yn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o droseddau casineb.
Yn ychwanegol at y gwaith a nodais eisoes o weithio i gefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig, rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliad Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i ariannu cyfres o weithdai gyda rhwydweithiau lleol o oedolion ag anableddau dysgu ym mhob rhan o Gymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod troseddau casineb yn erbyn pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael eu camddeall yn aml ac nid ydynt yn cael eu hadrodd i raddau helaeth. Nod y gwaith hwn yw ceisio gwella ein gwybodaeth, gan ein galluogi i feithrin dealltwriaeth o faint a natur y math hwn o drosedd casineb, a'n helpu i nodi ffyrdd o fynd i'r afael ag ef. Yn aml, mae'r rhain yn lleisiau nad ydyn nhw'n cael eu clywed, ond rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn cyfrannu at ddatblygiad yr ymgyrch sydd i ddod a'r polisi troseddau casineb yn y dyfodol.
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i wella negeseuon gwrth-gasineb. Fe wnaethom ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflwyno gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth yng Nghymru, ac roedd hyn yn cynnwys datblygu'r wefan Sefyll Gyda'n Gilydd a chymryd rhan yn y prosiect celfyddyd 75 o Fflamau Coffa sy'n cael ei arddangos ar hyn o bryd ar yr Aes yng Nghaerdydd. Rydym yn gweithio i ehangu cyrhaeddiad ymgyrch gyfathrebu Cymru agored a byd-eang, a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol y de-ddwyrain ac a arweinir gan Gyngor Caerdydd. Maen nhw'n datblygu ymgyrch cydlyniant cymunedol ac atal troseddau casineb, sy'n seiliedig ar y neges ein bod ni'n genedl groesawgar a byd-eang. Bydd ein buddsoddiad yn sicrhau bod yr ymgyrch yn weladwy ledled Cymru.
Daeth ein dadl ddiwethaf wythnos ar ôl cyhoeddi ystadegau troseddau casineb 2018-19 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r cynnydd yn y cofnodion o droseddau casineb yn adlewyrchu'r drafodaeth negyddol gynyddol yn y gymdeithas ehangach. Fodd bynnag, dylem hefyd gydnabod yr ymdrech yr ydym yn ei gwneud gyda'n partneriaid i annog dioddefwyr i roi gwybod am achosion o droseddau casineb.
Rydym yn ceisio atal troseddau casineb a mynd i'r afael â nhw, ac mae dioddefwyr yn ganolog i'n hymateb. Felly, y llynedd, fe wnes i gyhoeddi £360,000 o gyllid ychwanegol yn y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, sy'n cael ei rhedeg gan yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. A bydd yr arian ychwanegol hwn, ar ben y cyllid blynyddol, yn cynyddu cymorth ac eiriolaeth y ganolfan i ddioddefwyr troseddau casineb.
Nid ydym yn dal yr holl ysgogiadau i fynd i'r afael â'r materion ehangach, ac rydym yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth o ran deddfwriaeth troseddau casineb yn y DU. Mae cyfreithiau troseddau casineb yn y DU wedi datblygu mewn sawl cam dros y degawdau diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at y sefyllfa lle nad yw'r pum nodwedd warchodedig mewn deddfwriaeth troseddau casineb—hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd—yn cael eu trin mewn ffordd gyson. Ac mae hyn yn fater y mae Comisiwn y Gyfraith yn archwilio iddo yn rhan o adolygiad i droseddau casineb yn y DU.
Hoffwn i gloi trwy ddweud bod mis Chwefror wedi bod yn wythnos hanes LGBT+, pan gawsom gyfle yma yn y Senedd i ddathlu cyfraniadau'r cymunedau LGBT+ i fywyd a diwylliant Cymru. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr troseddau casineb LGBT+, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i annog yr aelodau hynny o'n cymuned i adrodd am droseddau casineb.
Felly, rydym yn ddiolchgar i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth a'u harbenigedd yn y maes gwaith hwn. Diolch i'r timau cydlyniant cymunedol rhanbarthol sy'n chwarae rhan hollbwysig wrth weithio gyda llywodraeth leol, cymunedau a'r trydydd sector i feithrin cydlyniant. I gefnogi'r tri gwelliant a gyflwynwyd heddiw, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno bod hwn yn gyfle inni uno, cytuno a chefnogi ystod o waith sydd wedi ei wneud mewn cysylltiad â throseddau casineb. Mae'n dangos ein bod yn rhoi blaenoriaeth uchel barhaus i sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hyder i adrodd, cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, a cheisio atal nifer yr achosion o droseddau casineb yn y dyfodol.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cynllun gweithredu troseddau casineb Llywodraeth y DU sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru y llynedd, o'i gymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr gyfan.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch. Fel y dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, troseddau casineb yw unrhyw droseddau sy'n cael eu targedu at berson oherwydd gelyniaeth neu ragfarn o ran anabledd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, oedran, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol y person hwnnw. Gallai hyn fod yn erbyn person neu eiddo. Maen nhw'n dweud nad oes yn rhaid i ddioddefwr fod yn aelod o'r grŵp y mae'r elyniaeth wedi'i thargedu ato; yn wir, gallai unrhyw un fod yn ddioddefwr trosedd casineb.
Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ei datganiad ar droseddau casineb fis Hydref diwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ystadegau troseddau casineb 2018-19 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 15 Hydref. Mae'r ystadegau yn dangos cynnydd o 17 y cant yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o'i gymharu â 2017-18. Mae hyn yn cymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr gyfan. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 2, sy'n gresynu at y cynnydd o 17 y cant yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru y llynedd o'i gymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ledled Cymru a Lloegr gyfan.
Felly mae angen inni ddeall yn well pam y mae'r gwahaniaeth hwn yn bodoli, yn enwedig pan fo Llywodraeth Cymru yn datgan bod yr ystadegau yn adlewyrchu'r gwaith caled sy'n cael ei wneud ledled Cymru gan heddluoedd, y trydydd sector a'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth, sy'n cael ei rhedeg gan yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, i gynyddu hyder dioddefwyr a'u hannog i adrodd am y digwyddiadau hyn. Roedd rhyw 76 y cant o'r troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn gysylltiedig â hil—gan ddisgyn i 68 y cant o'r 3,932 o droseddau casineb a gofnodwyd ar draws pedair ardal heddlu Cymru—ac roedd 19 y cant yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol, 11 y cant yn ymwneud ag anabledd, 5 y cant yn ymwneud â chrefydd, a 3 y cant yn ymwneud â hunaniaeth drawsryweddol.
Trwy ddefnyddio dadleuon tebyg i Lywodraeth Cymru, mae'r Swyddfa Gartref yn datgan y credir bod y cynnydd yn y troseddau casineb yr adroddwyd amdanynt dros y pum mlynedd diwethaf wedi ei lywio gan welliannau i'r drefn cofnodi gan yr heddlu a'r ymwybyddiaeth gynyddol o droseddau casineb, yn ogystal â chynnydd tymor byr yn dilyn digwyddiadau penodol fel refferendwm yr UE 2016. Wrth gwrs, beth bynnag yw ein barn am Brexit, mae'n realiti erbyn hyn, ac mae'n rhaid inni gyd weithio gyda'n gilydd dros Gymru gynhwysol o fewn DU sy'n edrych tuag allan ac yn fyd-eang.
Ystyrir bod arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn ddangosydd mwy dibynadwy o dueddiadau troseddu hirdymor na'r gyfres troseddau a gofnodir gan yr heddlu. Mae profiad o droseddau casineb a gofnodir yn yr arolwg troseddu wedi gostwng yn gyson dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn eironig, mae'n uwch na ffigurau'r heddlu ar y cyfan, ond mae'n dangos gostyngiad yn hytrach na chynnydd. Felly, yn ôl yr arolwg troseddu, roedd achosion o droseddau casineb yn 184,000 y flwyddyn ar gyfartaledd, rhwng 2015 a 2018, sy'n cynrychioli tua 3 y cant o'r holl droseddau a gofnodwyd yn yr arolwg, o'i gymharu â 2 y cant yn unig o droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu. A rhwng 2015 a 2018, adroddwyd am 53 y cant o'r achosion o droseddau casineb a gofnodwyd gan yr arolwg troseddu, felly nid adroddwyd am 47 y cant o'r achosion.
Rwy'n cynnig gwelliant 1, gan nodi cynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar droseddau casineb, sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae 'Action Against Hate: The UK Government's plan for tackling hate crime—"two years on"' yn adlewyrchu'r cyfrifoldebau polisi datganoledig yng Nghymru, gan ddatgan:
bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Troseddau Casineb i Gymru, sy'n cynnwys gweithgareddau sy'n berthnasol yn benodol i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru.
Fel y dywed cynllun Llywodraeth y DU:
Bydd gweithredu i atal a mynd i'r afael â throseddau casineb hefyd yn cefnogi ein huchelgais i greu cymunedau integredig, cryf.
Mae'n mynd yn ei flaen i ddweud:
Rydym yn dymuno adeiladu cymunedau lle mae pobl—beth bynnag yw eu cefndir—yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn cymdeithasu gyda'i gilydd, yn seiliedig ar hawliau, cyfrifoldebau a chyfleoedd a rennir. Mae troseddau casineb yn tanseilio'r weledigaeth hon, gan ledaenu ofn a rhwystro pobl rhag chwarae rhan lawn yn eu cymunedau.
Fel y dywedais o'r blaen, mae'n rhaid inni gydnabod y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud gan sefydliadau cymunedol a thrydydd sector rheng flaen i hyrwyddo integreiddio amlddiwylliannol yng Nghymru. Fel y dywedodd cadeirydd a sylfaenydd Rhwydweithio dros Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Integreiddio Amlddiwylliannol, Dr Sibani Roy:
Mae rhai o'r bobl yn credu pan fyddwch yn sôn am integreiddio, eich bod yn golygu cymathu. Mae'n rhaid i ni esbonio wrth bobl nad cymhathu yw integreiddio. Mae'n rhaid inni barchu cyfraith a diwylliant y wlad.... Yr hyn y mae angen ei wneud yw addysgu pobl a dweud mai bodau dynol ydym ni oll, rydym yn gyfeillgar a dylem geisio deall diwylliant ein gilydd.... Trwy siarad â phobl ac addysgu pobl—yn y pen draw trwy eu hargyhoeddi nhw nad yw bodau dynol yn ddrwg i gyd...rydym yn eu trin fel unigolion—nid oes ots beth yw eu cefndir, eu ffydd na'u lliw.
Ac, fel y dywedodd yr wythnos diwethaf, rydym ni'n dîm, ac mae angen inni weithio ar y cyd tuag at yr achos clodwiw o integreiddio a lleihau troseddau casineb.
Rwy'n gadael y gair olaf iddi hi.
Diolch. Rwy'n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Leanne.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod atal troseddau casineb yn sbardun strategol allweddol yn y broses o gynllunio a chreu system gyfiawnder i Gymru.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch. Rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gydnabod problem troseddau casineb heddiw, yn ogystal â darparu'r gofod hwn i drafod. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw drwy sôn am ddwy enghraifft o achosion, sy'n helpu i dynnu sylw at y ffaith bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ei holl ffurfiau cynnil a sinistr.
Mae'r achos cyntaf yn un o'r Rhondda a ddaeth i fy sylw y llynedd. Ymosodwyd yn rhywiol ar ferch 14 oed. Plediodd y troseddwr yn euog a chafodd ddedfryd o 24 mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd fis Medi diwethaf. Gwnaed gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd a chafodd ei gofrestru hefyd yn droseddwr rhyw am 10 mlynedd. O ganlyniad i'r ddedfryd ohiriedig, mae'r pedoffilydd hwn sydd wedi ei euogfarnu, wedi cael dychwelyd i'w gartref, sy'n llai na 300 troedfedd i ffwrdd o gartref teuluol y goroeswraig hon yn ei harddegau. Mae ei bresenoldeb parhaus yn gwneud i'r teulu cyfan, ond yn enwedig y ferch ifanc yn ei harddegau sy'n agored i niwed, deimlo ofn, yn anniogel ac yn methu â symud ymlaen. Mae'r teulu cyfan yn derbyn gwasanaeth cwnsela ac yn cael cymorth iechyd meddwl i ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd, ond mae'r atgoffa trawmatig dyddiol parhaus yn golygu ei bod bron yn amhosibl gwella. Nid cyfiawnder yw hyn; mae hyn yn warth.
Mae achosion o ymosod rhywiol a threisio wedi eu seilio ar bŵer, ac mae honno'n nodwedd sy'n gyffredin i'r rhan fwyaf o droseddau casineb. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthyf fod rheoli ac asesu risg ar ôl dedfryd yn gyfrifoldeb y gwasanaeth prawf, ac felly mae'n rhan o'r system gyfiawnder nad yw wedi ei datganoli. Fodd bynnag, ni allaf i dderbyn nad oes dim y gellir ei wneud mewn achos fel hwn. Sut y mae hyn yn cyd-fynd, er enghraifft, â'r geiriau yng nghynnig y Llywodraeth ynglŷn â chynyddu hyder dioddefwyr neu sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyngor a gofal pwrpasol? Oherwydd achosion fel hyn yr wyf i'n awyddus i weld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli. Oni fyddem ni'n rhoi diogelu'r dioddefwr, diogelu plant a diogelwch y cyhoedd yn ganolog i system cyfiawnder troseddol a gaiff ei rhedeg yng Nghymru? Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae'r system yn greulon ac yn achosi mwy o niwed. Mae Comisiwn Thomas yn dweud y cyfan:
'Yn sgil datganoli cyfiawnder yn ddeddfwriaethol, dylai Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad gyflwyno diwygiadau sylweddol a fyddai'n gwneud cyfraniad pwysig at greu Cymru gyfiawn, gyfartal, amrywiol a llewyrchus.'
Yr ail achos yr hoffwn i ei godi yw achos Christopher Kapessa, bachgen du 13 oed y cafwyd hyd i'w gorff yn afon Cynon, ger Fernhill, y llynedd. Nid ydym yn gwybod a oedd hon yn drosedd casineb, ond cafodd Christopher ei wthio i'r afon ac fe foddodd. Dim ond pedwar o'r 14 o bobl a oedd yn y lleoliad y cyfwelodd yr heddlu â nhw. Mae mam Christopher wedi cyhuddo Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron o hiliaeth sefydliadol dros fethiant i erlyn unrhyw un mewn cysylltiad â marwolaeth ei mab, er bod:
digon o dystiolaeth i gefnogi cyhuddiad o ddynladdiad anghyfreithlon.
Unwaith eto, ni allaf dderbyn na all Llywodraeth Cymru wneud dim yn yr achos hwn. Nawr, rwy'n ymwybodol y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn fuan ynglŷn â hyn ac rwy'n annog y Llywodraeth i gymryd rhan. Os gwelwch yn dda, peidiwch â sefyll o'r neilltu a gwylio. Mae angen i'r holl bobl sy'n byw yma fod yn ddiogel, ac yng ngoleuni'r achos hwn nid yw hyn yn wir i lawer o bobl groenddu yn ein cymunedau.
Fel y mae llawer ohonom yn ymwybodol iawn, mae'r adain dde eithafol wedi magu cryn hyder ar hyn o bryd. Er bod pob lleiafrif mewn perygl, mae grwpiau penodol o bobl sy'n arbennig o agored i niwed yn sgil eu hymosodiadau. Mae'n ymddangos i mi fod menywod Mwslimaidd, ac yn enwedig menywod o'r ffydd Fwslimaidd sy'n dewis gorchuddio eu hunain yn llwyr neu wisgo fêl, a phobl draws, yn enwedig menywod traws, ar reng flaen y rhyfeloedd diwylliant honedig. Dylai America Trump fod yn rhybudd i ni. Bydd yr anoddefiaeth sydd yn y fan yna yn teithio i'r fan yma. Ym mis Tachwedd, adroddodd yr FBI fod troseddau casineb treisgar yn yr Unol Daleithiau wedi cyrraedd eu lefelau uchaf mewn 16 mlynedd, ac y bu cynnydd yn nifer yr ymosodiadau a welwyd yn erbyn Mwslimiaid, Latinos, Sikhiaid, pobl ag anableddau a phobl drawsryweddol. Dywedodd Brian Levin, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Casineb ac Eithafiaeth:
Po fwyaf y cawn ni'r ystrydebau niweidiol hyn yn cael eu darlledu i'r ether, y mwyaf o bobl sy'n mynd i anadlu'r gwenwyn hwnnw.
Mae effaith ddomino y casineb eang hwn yn glir, ac mae hawliau y tybiwyd eu bod wedi eu hymgorffori'n dda yn cael eu peryglu; hawliau fel hawliau erthylu, hawliau dinasyddiaeth. Mae'n hollbwysig ein bod yn cydnabod bod trosedd casineb yn erbyn rhai ohonom ni yn drosedd casineb yn erbyn pob un ohonom ni; ni ellir ei oddef ar unrhyw gost. Mae'r gerdd enwog hon gan Martin Niemöller yn fy atgoffa pam mae'n rhaid i ni gyd sefyll gyda'n gilydd yn erbyn pob trosedd casineb yn ei holl ffurfiau:
First they came for the socialists, and I did not speak out— / Because I was not a socialist. / Then they came for the trade unionists, and I did not speak out— / Because I was not a trade unionist. / Then they came for the Jews, and I did not speak out— / Because I was not a Jew. / Then they came for me—and there was no one left to speak for me.
Mae'n rhaid i ni ddysgu o hyn.
Diolch. Jenny Rathbone.
Mae honno yn neges bwerus iawn y mae Leanne wedi ei gadael i ni. Rwyf i'n falch o gynrychioli un o'r etholaethau mwyaf amrywiol yng Nghymru, lle mae'r gymuned yn ei chyfanrwydd yn croesawu ceiswyr lloches ac yn ymrwymo i fod yn ddinas noddfa a gwlad noddfa rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd yn dyheu amdani. Ond, rydym ni'n gwybod bod y cynnydd yng ngrwpiau'r adain dde eithafol yng Nghymru yn achos pryder arbennig i'r heddlu.
Ar draws y DU, rydym ni'n gwybod am yr adroddiad 'Gobaith nid casineb' a gyhoeddwyd yn ystod y dyddiau diwethaf bod 12 o ymgyrchwyr yr adain dde eithafol wedi eu cael yn euog o gollfarnau yn ymwneud â therfysgaeth y llynedd, a bod 10 arall yn mynd ar brawf eleni. Roedd adroddiad 2019 y Community Services Trust, 'Hidden hate: What Google searches tell us about antisemitism today', yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer y chwiliadau gwrthsemitaidd ar y rhyngrwyd—[Torri ar draws]. Esgusodwch fi—[Torri ar draws.] Rwy'n credu fy mod i'n mynd i orfod—[Torri ar draws.]
Ydych chi'n mynd i—? Ydych chi eisiau—? Popeth yn iawn, byddaf yn symud ymlaen a byddaf yn dod yn ôl atoch chi. Mandy Jones.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl yn bwyllog, ac nid oes dim yn y cynnig na'r gwelliannau na all fy ngrŵp eu cefnogi. Er nad ydym efallai yn cytuno â datganoli cyfiawnder, wrth gwrs, os enillir pwerau yn y maes hwn yn y dyfodol, mae'n rhaid bod atal troseddu o bob math yn well nag ymdrin â'r canlyniadau. Rwy'n dweud 'pwyllog' oherwydd ei bod yn peri tipyn o ddigalondid i mi ein bod ni hyd yn oed yn trafod hyn yma eto heddiw. Unwaith eto, byddwn i'n croesawu'n bwyllog gynnydd yn nifer y bobl sy'n adrodd, gan ei bod yn dangos erbyn hyn bod pobl yn gwybod eu hawliau ac na fyddan nhw'n derbyn yr ymddygiad sydd wrth wraidd y drosedd mwyach.
Yn gwbl briodol, mae'r nodweddion gwarchodedig wrth wraidd y mater hwn. Fodd bynnag, fel sylw cyffredinol, rwy'n credu bod parch—neu ddiffyg parch—o ran ein gwahaniaethau, yn ffactor pwysig, ac anwybodaeth neu ddiffyg gwybodaeth yn yr un modd. Fodd bynnag, hoffwn i nodi ein bod ni ein hunain yn gyfrifol am greu amgylchedd o barchu gwahaniaethau barn, o wleidyddiaeth, o safbwyntiau, ac rwy'n credu mai'r pumed Cynulliad hwn fu'r mwyaf rhanedig a mwyaf tanbaid hyd yma.
Ymddengys erbyn hyn fod hyn yn wir yn y gymdeithas ehangach hefyd. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae ei rhan gan eu bod yn gallu dangos yr ochr waethaf o bobl na fydden nhw byth, byth yn dweud yn bersonol yr hyn y maen nhw'n fodlon ei deipio mewn trydariad. Mae pobl yn eistedd yn yr oriel yma. Maen nhw'n gweld ein hymddygiad, yn clywed tôn ein dadl a'r geiriau yr ydym ni'n eu defnyddio. Maen nhw'n clywed y gweiddi ar draws ac yn gweld wynebau'r bobl sy'n dangos yn union beth yw ein barn am ein gilydd yn y Siambr hon. Beth yn union ydym ni'n ei osod ar gyfer Cymru?
Ychydig wythnosau'n ôl, codais bwynt o drefn amdanaf i fy hun yn cael fy ngalw'n hiliol gan Aelod arall. Er i hynny gael ei gadarnhau, nid oedd yn glir a yw gweiddi 'hiliol', 'rhywiaethol', 'de caled', 'ffasgaidd' yn dderbyniol yn y Siambr hon. Maen nhw'n cael eu defnyddio yn llawer rhy aml ac, yn fy marn i, mae angen rhoi'r gorau iddi yn wirioneddol. Maen nhw'n dermau difrïol, wedi eu llenwi â chamargraffiadau ac, ie, rhagfarn. Rwyf i'n dweud nad oes lle iddyn nhw yma, gan mai'r unig beth y mae termau o'r fath yn ceisio ei wneud yw cau'r ddadl a'r gallu i gyfnewid barn. Dim ond trwy gyfnewid barn, a'r profiadau bywyd sydd wedi helpu i'w creu, a fydd yn caniatáu i ni, fel pobl, gydnabod yr hyn sy'n gyffredin rhyngom.
A nodyn o rybudd tra bo gen i'r llawr: rwy'n gweld bod yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn dal yn dadlau dros ddiffiniad gwrthsemitiaeth, ac mae hyn yn destun siom. Hefyd, mae'n debyg bod Plaid Cymru newydd sefydlu rhywun â safbwyntiau gwrthsemitaidd fel ymgeisydd. Felly, yn y cyfraniad byr hwn, byddaf yn ymrwymo cefnogaeth fy ngrŵp i'r cynnig hwn ac rwy'n awgrymu bod angen newid tôn a bod angen i dderbyn ddechrau yma a bod angen iddo ddechrau yn awr.
Diolch. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n gwrando ar gyfraniad Mandy Jones y tu allan, a diolch i chi am fy ngalw i yn ôl. Roeddwn i eisiau dim ond ychwanegu nad oes lle i laesu dwylo yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod mai yng Nghymru y cafwyd y nifer uchaf o chwiliadau gwrthsemitaidd ar y rhyngrwyd. Mae'n tynnu sylw at y ffaith mai yr un rhai yn aml sy'n ceisio cadarnhau eu rhagfarn gwrthsemitaidd, ynghyd â'u rhagfarn hiliol yn ogystal â chasineb at fenywod, gan ei fod yn ffaith bod menywod Iddewig sy'n wleidyddion yn derbyn llawer mwy o negeseuon casineb na dynion Iddewig sy'n wleidyddion. Felly, ceir cymysgedd cyfoethog o gasineb y mae angen i ni fod yn brwydro yn ei erbyn, ac mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n cael ein parlysu gan y casineb hwn.
Yn wir, mewn llawer o achosion, y rhai hynny sydd wedi bod yn destun rhagfarn sydd ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r sefyllfa ac estyn allan at eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Er enghraifft, dathlodd yr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Cymunedol Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb fis Hydref diwethaf drwy gofio Sipsi o'r enw Johnny Delaney, a lofruddiwyd yn Ellesmere Port yn 2003 dim ond oherwydd ei fod yn dod o gymuned y Teithwyr Gwyddelig. Serch hynny, gwrthododd y barnwr yn y treial llofruddio dderbyn dyfarniad yr heddlu mai ymosodiad hiliol oedd hwn. Ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwahaniaethu y mae'r gymuned hon yn ei ddioddef yn rheolaidd, yn enwedig oherwydd methiant nifer o awdurdodau lleol i ddarparu unrhyw safle i Deithwyr yn eu hardal, yn groes i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Roedd René Cassin yn gyfreithiwr, athro a barnwr Ffrengig Iddewig a gyd-ddrafftiodd y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym 1948. Enillodd y Wobr Heddwch Nobel am ei waith. Dywedodd:
Ni fydd byth heddwch ar y blaned hon cyn belled â bod hawliau dynol yn cael eu torri mewn unrhyw ran o'r byd.
Fe wnaeth ei waith ysbrydoli creu sefydliad Iddewig yn y DU yn ei enw, ac roeddwn i wrth fy modd yn darllen y bydd René Cassin yn cynnal Seder i fenywod yr wythnos nesaf i goffáu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Un o'r siaradwyr yw Laura Marks, un o'r aelodau a sefydlodd Nisa-Nashim, y rhwydwaith menywod Mwslimaidd Iddewig a gafodd ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl i frwydro yn erbyn anwybodaeth a chamsyniadau ynghylch menywod yn y ddwy gymuned. A soniodd Leanne am y casineb y mae llawer o fenywod yn ei wynebu dim ond oherwydd eu bod nhw'n gwisgo'n wahanol i bobl eraill, ac mae hyn yn gwbl anoddefgar. Fel y dywedodd Mark Isherwood, mae angen i ni esbonio i bobl, dim ond oherwydd bod pobl yn wahanol i ni, nad yw hynny'n golygu ein bod ni eisiau iddyn nhw gael eu cymhathu ac i bawb edrych yn union yr un fath. Mae'n rhan o gyfoeth ein cymuned bod gennym ni bobl o wahanol gefndiroedd, ac nid oes lle i laesu dwylo.
Rydym ni'n gwybod bod Brexit wedi rhyddhau'r ochr dywyll mewn llawer o bobl, a chafodd llawer o'r ddadl yn y refferendwm ei chreu drwy bwyntio bys a beio pobl eraill, dim ond oherwydd bod pobl yn dioddef trallod economaidd a dryswch cymdeithasol. Mae wir rhaid i ni weithio'n galed iawn i sicrhau ein bod ni'n clodfori'r daioni mewn pobl. Er enghraifft, y bobl a chanddynt ychydig iawn sydd wedi estyn allan mewn undod at y bobl nad oes ganddyn nhw ddim byd o ganlyniad i'r llifogydd y maen nhw wedi eu dioddef. Mae hynny yn fynegiant gwych o undod.
Ond mae'n rhaid i ni gofio hefyd y gallai'r clefyd coronafeirws—os bydd yn datblygu i fod mor ddifrifol ag y gallai—greu rhagor o elyniaeth yn erbyn aelodau o'r gymuned Tsieineaidd yng Nghymru a'r DU. Yn wir, roedd aelod o fy nheulu fy hun yn teithio gyda'i gariad i'r Eidal y diwrnod o'r blaen—roedd y cariad yn destun cam-drin hiliol dim ond oherwydd ei bod hi'n digwydd bod o dras ethnig Tsieineaidd. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael yn barhaus â'r ofn y mae pobl yn ei deimlo pan fyddan nhw dan fygythiad, ac mae angen i ni gofio bod Dr Martin Stern, a oroesodd yr Holocost, ac a siaradodd yn nigwyddiad coffáu'r Holocost yng Nghaerdydd ar 27 Ionawr, wedi ein hatgoffa nad yw'n ddigon i gofio troseddau gwarthus y Natsïaid, ond i fyfyrio ar ba mor gyffredin oedd y bobl a wnaeth hynny, a'r ffaith y bu 50 o holocostau ers diwedd yr ail ryfel byd, gan gynnwys Rwanda a Srebrenica. Nid oes lle i laesu dwylo. Mae'r byd mewn cythrwfl ofnadwy ac mae angen i ni weithio'n galed iawn ar gydlyniant cymunedol.
Rwy'n codi i siarad am y pwnc troseddau casineb, a phan fydd pobl yn meddwl am droseddau casineb, yn aml iawn, byddan nhw'n meddwl am droseddau casineb mewn termau hiliol ac maen nhw'n iawn i wneud hynny, oherwydd yn 2018-19, roedd 68 y cant o'r holl droseddau casineb yn rhai hiliol, ar draws Cymru ac ar draws yr holl droseddau. Ac rwyf i'n canmol y gwaith sydd wedi ei wneud i roi hyder i bobl ddod ymlaen, ac mae hynny'n golygu pob un o'r 3,932 ohonyn nhw sydd wedi dod ymlaen. Ond mae troseddau casineb eraill, sef: cyfeiriadedd rhywiol, crefyddol a thrawsryweddol. Ond rwyf i eisiau canolbwyntio heddiw ar droseddau casineb anabledd.
Mae gan Lywodraeth Cymru fframwaith gweithredu a lansiwyd yn 2014, ac mae'n ystyried troseddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a'u nodweddion gwarchodedig. Rwyf i'n ei chael hi braidd yn frawychus—ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn rhannu fy mraw—bod 120 o droseddau casineb wedi eu hadrodd gan ddioddefwyr anabl. A dyna yn wir yw'r peth mwyaf arswydus i mi, wrth sôn am bobl sydd eisoes yn wynebu heriau enfawr mewn bywyd dim ond er mwyn llwyddo i fyw eu bywyd bob dydd, yn cael eu gwawdio gan bobl abl, dim ond oherwydd nad ydyn nhw'n edrych fel nhw. Felly, mae thema gyffredin glir iawn, ac fe wnaeth Jenny yn dda iawn i ddisgrifio hynny, oherwydd yr hyn y mae trosedd casineb yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd yw, 'Nid wyt ti'n un ohonom ni'. Mae'n ymwneud â chadw pobl ar yr ymylon. Mae'n ymwneud â'u rhoi mewn bocs fel eu bod nhw'n edrych yn wahanol i chi, ac mae'n rhaid i ni gydnabod y realiti hwnnw, oherwydd heb gydnabod y realiti hwnnw, ni fyddwn ni byth yn dod trwodd a chyrraedd yr ochr arall.
Felly, dyna pam yr wyf i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £350,000 o gyllid mewn ysgolion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ac y bydd hynny'n cael ei gyflawni gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn canllawiau gwrth-fwlio ar gyfer ysgolion. Gan fy mod i o'r farn mai ein gobaith gorau ar gyfer y dyfodol—ac weithiau, ein hunig obaith ar gyfer y dyfodol—yw i bobl ifanc dderbyn a chydnabod nad yw gwahaniaeth yn rhywbeth i ymosod arno; ei fod yn rhywbeth i'w groesawu—ein bod ni i gyd yn wahanol, diolch byth, a'n bod ni'n rhannu dynoliaeth gyffredin. Dyna pwy ydym ni mewn gwirionedd, a dyna'r hyn yr ydym ni'n wirioneddol awyddus i'w gydnabod. Ac rwy'n credu y bydd addysgu plant drwy'r rhaglen hon y gallan nhw herio camwybodaeth ac y gallan nhw adnabod areithiau casineb, yn sicr yn helpu'r bobl ifanc hynny i dyfu i fyny ac i fod yn unigolion cytbwys—[Torri ar draws.] Mewn munud. Ond rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y bobl sydd yn adrodd amdano—ac rwy'n sôn yn fan yma am bobl ifanc, yn enwedig pan ein bod yn sôn am blant ysgol—eu bod yn cael eu nodi ac yn cael cynnig rhywfaint o gwnsela, oherwydd y trawma y maen nhw wedi ei ddioddef, fel eu bod nhw eu hunain yn gallu dod drwy hynny. Ac rwyf i'n credu y bydd y bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb sydd wedi ei sefydlu, yn galluogi'r gwaith rhwng y partneriaid, gan gynnwys heddluoedd Cymru, ond yr holl asiantaethau eraill hefyd, er mwyn i ni allu bwrw ymlaen a chydnabod pob agwedd ar droseddau casineb. Diolch.
[Torri ar draws.] Yn amlwg ddim. Mae'n ddrwg gen i am hynny.
O, fe wnes i anghofio.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau heddiw am eu holl gyfraniadau a'u cefnogaeth ar draws y Siambr hon. Rwy'n credu bod hon wedi bod yn ddadl bwysig iawn y mae angen inni fyfyrio arni.
Rwyf wedi cefnogi'r holl welliannau oherwydd mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ac yn edrych i'r dyfodol, hefyd, o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau. Wrth gwrs rydym yn croesawu ac yn annog camau gweithredu gan Lywodraeth y DU ac yn gweithio gyda'n gilydd, pan fo'n bosibl, i fynd i'r afael â throseddau casineb. Nid yw rhai o'r ysgogiadau polisi allweddol sy'n ymwneud â mynd i'r afael â throseddau casineb wedi'u datganoli, megis plismona a chyfiawnder. Ond rydym yn chwarae ein rhan ym mwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb. Rwy'n dod â phartneriaid yr heddlu at ei gilydd, ac rwy'n gadeirydd, wrth gwrs, ar y bwrdd partneriaeth plismona. Rydym wedi gweithio ar agweddau ar hyn, ein cynllun ni, gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli—ac ar eu cynllun nhw hefyd—ac yn cael ei hystyried wrth ddatblygu a gweithredu ei pholisi troseddau casineb.
Enghraifft o hyn yw cynllun ariannu camau diogelu mannau addoli Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod am hyn. Rwy'n ymwybodol nad ydym mewn gwirionedd wedi cael cymaint â hynny o arian y Swyddfa Gartref eto yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda chymunedau ffydd i nodi rhwystrau a mynd i'r afael â nhw, ac rydym yn gobeithio y byddwn yn gweld rhai ymgeiswyr llwyddiannus.
Yn amlwg, o ran ystadegau troseddau casineb, mae unrhyw gynnydd yn achos i bryderu a chraffu, ond fel y pwysleisiais yn fy araith agoriadol, bu cryn dipyn o waith ac ymdrech yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a rhoi hyder i ddioddefwyr i ddod ymlaen ac adrodd am droseddau casineb. A gwyddom fod troseddau casineb yn cael eu tangofnodi'n sylweddol, gyda data o'r arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer y blynyddoedd 2015-16 i 2017-18 yn dangos mai dim ond 53 y cant o ddigwyddiadau sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu, fel y dywedwyd. Ac mae mor bwysig bod y neges o heddiw ymlaen yn neges unedig bod dioddefwyr yn parhau i ddod ymlaen.
Nawr, rwyf wedi crybwyll, o ran hil, bwysigrwydd ein grant cymunedau lleiafrifoedd ethnig ar gyfer troseddau casineb, a byddwn yn gweld effaith hwnnw. Ond rwyf hefyd yn dymuno talu teyrnged i Fforwm Hil Cymru. Mae'n adnodd hanfodol o arbenigedd a chyngor, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i adolygu'r cylch gorchwyl, gan edrych ar ffyrdd o ddylanwadu ar bolisi yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Ddoe, ymwelais â'r Eglwys Gristnogol Tsieineaidd yng Nghaerdydd ar Heol Llandaf—efallai fod rhai ohonoch yn ymwybodol ohoni. Roedd yn gyfle i gyfarfod ag aelodau o'r eglwys a'r gymuned Tsieineaidd i ddeall beth oedd eu barn nhw ynghylch peth o'r effaith yn gysylltiedig â coronafeirws. Rydym wedi gweld rhai ystadegau sy'n peri pryder. Ond roedden nhw mewn gwirionedd eisiau dweud, 'Diolch am ddod i'n gweld ni.' Ac mae hyn yn ymwneud â'r ffordd y mae'n rhaid inni estyn allan at bobl.
Mae hyn yn bwysig, hefyd, fel y crybwyllwyd, o ran ystadegau troseddau casineb ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n dangos cynnydd o 80 y cant mewn troseddau casineb trawsrywiol, y mae Leanne Wood wedi sôn amdanyn nhw, a chynnydd o 12 y cant mewn troseddau casineb pan fo cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor ysgogol. Mae hyn wedi digwydd oherwydd bod troseddau casineb wedi'u tangofnodi mewn blynyddoedd blaenorol neu heb gael eu cydnabod a'u cofnodi'n well gan yr heddlu. Ond rydym yn ystyried sut y gallwn roi mwy o gefnogaeth i'r aelodau hyn o'n cymuned. Ac mae'n hanfodol, felly, ein bod yn croesawu adolygiad parhaus Comisiwn y Gyfraith o ddigonolrwydd a chydraddoldeb yr amddiffyniad a gynigir gan ddeddfwriaeth troseddau casineb.
Rydym ni, Lywodraeth Cymru, wrth gwrs wedi mabwysiadu diffiniad gweithio Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddiamod, ac rydym yn annog aelodau'r gymuned i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau. Os oes unrhyw un yn y gymuned yn dyst neu'n ymwybodol o ymddygiad amheus neu fygythiol neu droseddau casineb, mae'n rhaid iddyn nhw roi gwybod amdanyn nhw, cysylltu â'r heddlu neu'r ganolfan genedlaethol ar gyfer adrodd am droseddau a chael cymorth, sy'n cael ei gweithredu gan Cymorth i Ddioddefwyr. Ac rwy'n annog pobl i edrych ar y prosiect 75 Memorial Flames. Mae wyth grŵp cymunedol o Gymru wedi creu darnau o waith celf—ac ymunodd llawer ohonom yn hyn—i gofio am bawb a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost. Maen nhw'n cael eu harddangos yn yr Aes yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Hoffwn ddiolch hefyd i Leanne Wood am dynnu sylw at yr achosion penodol hynny o bryder a gododd—ac mae hi, wrth gwrs, wedi codi'r rheini gyda mi o'i hetholaeth hi—a dweud fy mod yn cwrdd â Mrs Alina Joseph yr wythnos nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ymuno â ni. Mae'r achos y rhoddodd wybod inni amdano ac yr ydym ni'n ymwybodol ohono, am Christopher, yn drasig, ac mae gan y teulu gwestiynau difrifol sy'n dal i fod heb eu hateb am yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw ac rwy'n siŵr bod ein meddyliau ni i gyd gyda theulu a chyfeillion Christopher. Felly, mae'r cyfarfod yr wythnos nesaf, eto, yn ymwneud â chwrdd, siarad a chwalu'r rhwystrau.
Yn olaf, fe ddywedaf hefyd fy mod yn cefnogi gwelliant 3. Mae atal troseddau casineb yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru, a bydd yn parhau i fod yn nod allweddol wrth inni geisio datblygu a chyflawni newidiadau i'n system gyfiawnder er mwyn unioni'r problemau a nodwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ac mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: rydym ni o'r farn y dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli ac rydym ni'n falch bod y comisiwn wedi datgan yr achos hwn mor argyhoeddiadol.
Does dim lle i laesu dwylo. Mae'n rhaid inni estyn allan at y daioni mewn pobl. Mae'n rhaid inni rannu ymateb ar y cyd. Mae'n rhaid n ni groesawu'r ymatebion cadarnhaol gwych yr ydym wedi'u cael yn ein cymunedau dros yr wythnosau diwethaf o ran llifogydd. Adlewyrchir hyn yng Nghymru gan ei bod yn genedl noddfa, yn Gymru groesawgar, ac rwy'n ddiolchgar am dôn y ddadl heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais tan yr amser pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu mynd yn syth i'r cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.] Canu'r gloch? Mae'n rhaid i dri Aelod ddangos eu bod am i'r gloch gael ei chanu. Diolch. Canwch y gloch felly, os gwelwch yn dda.
Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.
Os gall yr Aelodau ddod i drefn, mae'r amser a neilltuwyd i'r gloch gael ei chanu i bobl ddod yn ôl i'r Siambr wedi mynd heibio, ac rydym yn symud nawr at y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2020-21, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 43, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
NDM7285 - Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2020-2021 : O blaid: 43, Yn erbyn: 1, Ymatal: 6
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn nawr at y ddadl ar gyllideb derfynol 2020-21, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 27, un yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
NDM7282 - Dadl: Cyllideb Derfynol 2020-2021 : O blaid: 27, Yn erbyn: 22, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Pleidlais nawr ar setliad llywodraeth leol 2020-21, ac unwaith eto rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 27, pedwar yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae'r setliad llywodraeth leol wedi'i dderbyn.
NDM7283 - Dadl: Y Setliad Llywodraeth Leol 2020-2021 : O blaid: 27, Yn erbyn: 19, Ymatal: 4
Derbyniwyd y cynnig
Rydym yn symud yn awr i bleidlais ar y ddadl ar ail gyllideb atodol 2019-20, a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 31, 16 yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.
NDM7284 - Gwelliant 1: O blaid: 31, Yn erbyn: 3, Ymatal: 16
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Cynnig NDM7284 fel y'i diwygiwyd:
1. Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 4 Chwefror 2020.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 20.37, yn cytuno bod yr adnoddau sy’n cronni ac sydd i’w cadw gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan Ran 3 o Atodlen 4 o Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 a’r Grynodeb o’r Gofynion Adnoddau a Chyfalaf ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ar dudalen 6, yn cael ei ddiwygio o £14,825,000 i £14,775,000, fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Cyllid i’w ystyried yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2020; ac yn cytuno hefyd gyda’r newid cyfatebol i Atodlen 7 ar dudalen 29 fel bod Taliadau o Ffynonellau Eraill £50,000 yn fwy, a’r Symiau a Awdurdodwyd i’w Cadw gan Weinidogion Cymru a Chyrff a Ariennir yn Uniongyrchol £50,000 yn llai.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 27, 20 yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM7284 - Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2019-20 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 3, Ymatal: 20
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn nawr i bleidlais ar y cynnydd o ran mynd i'r afael â throseddau casineb, a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 49, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.
NDM7281 - Gwelliant 1: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 42, saith yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 2.
NDM7281 - Gwelliant 2: O blaid: 42, Yn erbyn: 1, Ymatal: 7
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 35, pedwar yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.
NDM7281 - Gwelliant 3: O blaid: 35, Yn erbyn: 11, Ymatal: 4
Derbyniwyd y gwelliant
Pleidleisiwn nawr ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Cynnig NDM7281 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno nad oes lle i droseddu casineb yng Nghymru.
2. Yn nodi ymdrechion Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i fynd i’r afael â throseddu casineb drwy roi mwy o hyder i ddioddefwyr ddod ymlaen, gwella’r ffordd y cofnodir troseddau casineb, a gweithio gyda chymunedau i atal troseddu casineb yn y dyfodol.
3. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cyngor a gofal pwrpasol.
4. Yn cydnabod bod mynd i’r afael â throseddu casineb yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.
5. Yn nodi cynllun gweithredu troseddau casineb Llywodraeth y DU sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.
6. Yn gresynu at y cynnydd o 17 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru y llynedd, o'i gymharu â chynnydd cyffredinol o 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr gyfan.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod atal troseddau casineb yn sbardun strategol allweddol yn y broses o gynllunio a chreu system gyfiawnder i Gymru.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 37, pedwar yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM7281 - Dadl: Cynnydd ar fynd i'r afael â Throseddau Casineb - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 9, Ymatal: 4
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Ac mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.