Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/05/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Ysbytai Cymunedol yn y Gogledd

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ysbytai cymunedol yn y Gogledd? OAQ53824

Diolch, Llywydd. Mae symud gwasanaethau o leoliadau acíwt i leoliadau cymunedol yn ganolog i ddyfodol yr NHS yng Nghymru. Yn y gogledd, mae hyn yn golygu ailfeddwl ac ailfodelu cyfraniad ysbytai cymunedol. Enghraifft o hyn yw’r cynllun i fuddsoddi £40 miliwn mewn ysbyty newydd i ogledd sir Ddinbych yn y Rhyl.

Wel, fyddech chi'n cytuno â fi bod ysbyty preifat sydd ar fin cael ei adeiladu yn ardal Llanelwy yn dangos bod cau ysbytai cymunedol yn ôl yn 2013 wedi bod yn gamgymeriad? Oherwydd mi gollwyd rhyw 50 o welyau pan gaewyd yr ysbytai cymunedol yn y Fflint, yn Llangollen, ym Mhrestatyn ac ym Mlaenau Ffestiniog. Nawr, mi rybuddiodd nifer ohonom ni, a meddygon teulu ac eraill, ar y pryd fod angen y ddarpariaeth step-up, step-down yna, yn enwedig gyda phoblogaeth sy'n heneiddio yn y gogledd, wrth gwrs. Ond mi fynnodd y bwrdd iechyd, a'ch Llywodraeth chi, fwrw ymlaen i gau yr ysbytai. A nawr, wrth gwrs, rŷm ni'n gweld ysbyty preifat, 63 gwely, am gael ei adeiladu nepell o Ysbyty Glan Clwyd, yn union i lenwi y bwlch yna sydd wedi cael ei adael ar ôl. Ac nid fi sy'n dweud hynny; y datblygwyr eu hunain sy'n dweud hynny. Felly, beth rŷn ni'n ei weld, i bob pwrpas, yw preifateiddio haen arall o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru oherwydd cau yr ysbytai cymunedol. Nawr, onid yw hynny yn sgandal, ac oni ddylech chi a'r bwrdd iechyd esbonio i bobl gogledd Cymru pam rydych chi wedi gadael i hyn ddigwydd?

Wel, Llywydd, dwi ddim yn cytuno o gwbl â beth mae'r Aelod wedi ei ddweud. Mae'n hanfodol i ddyfodol y gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru i foderneiddio ac i symud gwasanaethau yn agosach at bobl a ble mae'n nhw'n byw, a, ble rŷm ni'n cadw gwasanaethau yn y gymuned, i'w moderneiddio nhw, fel rŷm ni wedi ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog, er enghraifft, ble mae nifer fwy o wasanaethau ar gael i bobl leol nawr nag oedd pan oedd plaid yr Aelod yn trial stopio beth oedd y bwrdd lleol yn trial ei wneud. Ac nid yw'r ffaith bod ysbyty preifat wedi rhoi cais mewn i'r gogledd yn golygu dim byd am breifateiddio gwasanaethau rŷm ni'n eu darparu yn y gogledd. Os yw ysbyty preifat eisiau trial adeiladu yn y gogledd, mae hi lan i'r bobl sy'n cefnogi'r ysbyty preifat yna. Ond dyw'r ysbyty preifat yna ddim yn dibynnu ar waith sy'n dod o'r sector cyhoeddus, achos rŷm ni'n rhoi gwasanaethau drwy wasanaethau'r NHS yng ngogledd Cymru, a'r gwasanaethau rŷm ni'n eu rhoi yw'r gwasanaethau sydd agosaf i ble mae pobl yn byw, a gwasanaethau sy'n mynd i lwyddo yn y dyfodol.

Prif Weinidog, mae ysbytai ar bob lefel, gan gynnwys ein hysbytai cymuned, yn dibynnu ar dimau o staff gweithgar sydd, fel y gwyddoch, yn wynebu cynnydd ychwanegol o ran pwysau. Rwy'n drist iawn o fod yn sefyll yma heddiw, er hynny, yn nodi bod staff yn wynebu her arall. Yn frawychus, mae Wales Online wedi darganfod bod ymosodiadau ar staff ysbyty wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru, gydag ymosodiadau'n digwydd 10 gwaith bob un dydd ar gyfartaledd. Prif Weinidog, adroddwyd 3,805 o ymosodiadau corfforol yn erbyn staff gan fyrddau iechyd Cymru yn 2017-18, ac roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 70 y cant ers 2010. Pa gamau wnewch chi eu cymryd i gynorthwyo'r rhai sydd eisoes wedi eu heffeithio gan ymosodiadau pan oedden nhw yn y gweithle, yn gweithio yn ein hysbytai? A hefyd, sut gwnewch chi gynorthwyo ein gweithwyr iechyd rheng flaen i amddiffyn eu hunain rhag risgiau pellach o ran trais, yn y dyfodol?

Llywydd, a gaf i ddechrau trwy gytuno â'r hyn y mae Janet Finch-Saunders wedi ei ddweud am y sefyllfa gwbl annerbyniol o bobl yn wynebu ymosodiadau yn rhan o'u gwaith beunyddiol? Ac mae'r ffigurau hynny'n frawychus. Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cytuno â mi mai'r rheswm amdanyn nhw, yn rhannol, yw bod pobl yn fwy parod i hysbysu am y digwyddiadau hynny a'u cofnodi, efallai y bydden nhw wedi eu derbyn yn y gorffennol yn rhan o natur y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Nid oedd hynny'n iawn erioed. A chefnogwyd y camau a gymerwyd ar draws y Siambr, i'w gwneud yn gwbl eglur bod pobl sy'n gweithio yn ein GIG yn haeddu gwneud y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud heb y perygl o ddioddef ymosodiadau gan bobl. Mae'n ffaith, rydym ni'n deall, bod staff y GIG yn aml yn ymdrin â phobl mewn trallod. Efallai eu bod yn ymdrin â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, efallai y byddan nhw yn ymdrin â phobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, ac weithiau mae ymddygiad pobl yn anrhagweladwy yn ei hanfod. O dan yr amgylchiadau hynny, mae staff bob amser, mi wn, eisiau gweithio gyda phobl i ddatrys yr anawsterau hynny. Ond mae staff hefyd yn wynebu anawsterau gan bobl sydd wedi bod yn yfed, sy'n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys, er enghraifft, wedi meddwi, ac, o dan yr amgylchiadau hynny, mae polisi o ddim goddefgarwch o ymddygiad sy'n arwain at yr anawsterau hyn yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag ef yn y GIG. Rydym ni'n ymdrin ag ef gyda'n partneriaid yng ngwasanaeth yr heddlu, gyda'n cydweithwyr yn y mudiad undebau llafur, oherwydd mae'n gwbl sicr mai adrodd, cofnodi ac yna ymateb i'r digwyddiadau hynny yw'r ffordd yr ydym ni eisiau gweld y digwyddiadau hynny'n cael eu dileu.

13:35
Cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid yr UE ar gyfer Cymru? OAQ53823

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Cymru wedi bod yn fuddiolwr hirdymor o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n parhau hyd heddiw, pan fo dros 90 y cant o'n dyraniad cronfeydd strwythurol presennol wedi ei fuddsoddi bellach mewn mesurau sgiliau a seilwaith, gan gynnwys enghreifftiau hynod lwyddiannus yn etholaeth yr Aelod ei hun.

Diolch, Prif Weinidog, a gallwn edrych o gwmpas nifer o etholaethau lle gwelwn seilwaith pwysig iawn a phrosiectau eraill a fu er budd pobl Cymru o ganlyniad i gyllid yr UE. Mae'r cyllid werth oddeutu £650 miliwn y flwyddyn i Gymru. Mae hynny'n golygu, dros gyfnod o bum mlynedd, bod £3.25 miliwn yn dod i mewn i Gymru. A, hyd yma, nid oes gennym unrhyw sicrwydd hirdymor gan y Torïaid. Mae Swyddfa Cymru yn dawedog, mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn dawedog, ac mae'r Torïaid Cymreig yn parhau i fod yn dawedog. Prif Weinidog, beth yw canlyniadau'r Torïaid yn methu â chyflawni'r addewidion hynny na fyddai Cymru yn dioddef ceiniog yn llai o ganlyniad i Brexit?

Llywydd, efallai fod y Blaid Geidwadol a'r Ysgrifennydd Gwladol yn dawedog nawr ynghylch sicrwydd hirdymor, ond nid oedden nhw'n dawedog o gwbl yn y cyfnod cyn y refferendwm yn 2016, pan gynigiodd arweinydd y blaid Geidwadol ar y pryd yma yng Nghymru sicrwydd pendant—ei derm ef yw hwnnw—sicrwydd pendant na fyddai Cymru yr un geiniog ar ei cholled o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna pam mae'n gwbl briodol i ni ddal y Blaid Geidwadol a'r Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU i'r addewidion hynny. Daw'r arian y mae Cymru yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd i Gymru gan ein bod ni'n gymwys i'w dderbyn ar sail ein hanghenion. Ni fydd yr anghenion hynny wedi diflannu y diwrnod ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, os mai dyna fydd yn digwydd. Ac mae'n rhaid i'r arian i ymateb i'r anghenion hynny ddod gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Byddai'n neges ryfedd iawn yn wir, Llywydd, oni fyddai, i bobl a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd eu bod nhw ar eu colled o ganlyniad i'w haelodaeth o'r Deyrnas Unedig nag yr oedden nhw wedi bod o ganlyniad i'w haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae hwnnw'n fater i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ag ef. Mae'n rhaid i'r arian ddod i Gymru, dim un geiniog yn llai, a heb golli unrhyw rym ychwaith, Llywydd, oherwydd mae angen i'r penderfyniad ynglŷn â sut i ddefnyddio'r arian hwnnw, fel y mae Mick Antoniw wedi ei ddweud, gael ei wneud yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, lle mae wedi cael ei wneud ers dechrau'r cyfnod datganoli.

Prif Weinidog, rydym ni'n clywed llawer o glochdar ar y meinciau Llafur am arian Ewropeaidd ar ôl Brexit, ond, wrth gwrs, y gwir amdani yw nad arian Ewropeaidd yw hwn, ond ein harian ni sydd wedi cael ei anfon i'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n cael ei anfon yn ôl i'r wlad hon ar ôl i gyfran ohono gael ei gymryd. A ydych chi'n derbyn, ar ôl Brexit, bod gan Gymru gyfle i allu buddsoddi mewn ardaloedd sydd y tu allan i'r rhaglen ariannu Ewropeaidd ar hyn o bryd oherwydd eu lleoliad ac eto'n haeddu rhywfaint o fuddsoddiad? Felly, a ydych chi'n croesawu'r cyfleoedd y gellid eu cynnig i Gymru o ganlyniad i gronfa ffyniant gyffredin y DU, fel y gall y cymunedau difreintiedig hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd gael y gefnogaeth y maent hwythau hefyd yn ei haeddu?

Nid wyf i mor frwd â'r Aelod am gronfa ffyniant y DU gan ein bod ni'n gwybod y nesaf peth i ddim am yr hyn y mae'r gronfa honno'n ei gynnig. Rydym ni'n gwybod y nesaf peth i ddim am yr arian. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn fy hysbysu, pan wahoddwyd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i roi tystiolaeth i bwyllgorau'r Cynulliad fel y gallwn gael y manylion sydd eu hangen arnom, ei fod yn gwrthod dod yma i ateb y cwestiynau hynny. Felly, nid wyf i mor frwd â'r aelod o bell ffordd. Gadewch i mi ddweud hyn: rydym ni'n gweithio'n galed o fewn Llywodraeth Cymru, a thrwy grŵp sy'n cynnwys pobl y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, i wneud yn siŵr ein bod ni'n barod ar gyfer y diwrnod pan fydd yr arian hwnnw'n parhau i ddod i Gymru, a lle ceir cyfleoedd, os oes rhai, i ddefnyddio'r arian hwnnw mewn ffyrdd newydd a mwy hyblyg a mwy effeithiol, wrth gwrs, y byddwn yn barod i achub ar y cyfleoedd hynny. Ond nid ydym yn gwybod dim am yr arian, nid ydym ni'n gwybod dim am leoliad y pwerau, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwneud yn siŵr bod y ddau beth hynny'n llifo i Gymru ac yn aros yng Nghymru yn y dyfodol.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a oes gennych chi ffydd yn eich Gweinidog iechyd?

Mae cyflawniad y Gweinidog iechyd o'i gyfrifoldebau wedi bod yn gwbl glodwiw, yn enwedig yn y mater diweddar, y gwn sy'n sail i gwestiwn yr Aelod, o ran yr anawsterau sylweddol a wynebwyd yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf. Ac fel y dywedais ar lawr y Cynulliad yr wythnos diwethaf, oherwydd y Gweinidog iechyd ac oherwydd y camau a gymerodd yn yr hydref y llynedd, wrth i'r materion hyn ddod i sylw, i sefydlu ymchwiliad annibynnol, i gyhoeddi'r ymchwiliad annibynnol hwnnw yn llawn, i ateb cwestiynau ar lawr y Cynulliad hwn a thu hwnt, yr ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle gall y Bwrdd weithredu ar sail yr argymhellion y mae wedi eu cael a gwneud yn siŵr bod gwasanaethau i'r mamau hynny yn y dyfodol, ac i fabanod yn ardal Cwm Taf, o'r safon y mae ganddyn nhw ac mae gennym ninnau yr hawl i'w disgwyl.

Wel, nid wyf i'n siŵr pa a oes gan y Prif Weinidog ffydd yn y Gweinidog iechyd oherwydd ni wnaeth ef ateb cwestiwn syml. Ond gadewch i ni edrych ar y ffeithiau a gadewch i ni edrych ar hanes eich Gweinidog, ie? Bu catalog o fethiannau ers i Vaughan Gething ddod yn Weinidog iechyd yn 2014. Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig neu ymyraethau wedi'u targedu. Nid yw'r targed amser aros ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys o 95 y cant o gleifion yn cael eu gweld mewn pedair awr erioed wedi cael ei gyrraedd ers ei gyflwyno yn 2009. O dan arweiniad Vaughan Gething, mae nifer y cleifion sy'n cael eu gweld o fewn pedair awr, yn syfrdanol, wedi gostwng o 86 y cant pan gafodd ei benodi yn 2014, i 78 y cant gwarthus nawr. Methwyd amseroedd aros am ambiwlansys, ac yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb a gwella amseroedd ymateb, cafodd y targedau eu diddymu a symudwyd y pyst.

Ac yna, yr wythnos diwethaf, codais gyda chi yr adroddiad damniol ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf, er i bryderon ffurfiol gael eu codi saith mlynedd yn ôl, ac, fel y gwyddom, mae 43 o achosion yn cael eu hadolygu erbyn hyn. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog, o ystyried y rhestr hon o fethiannau, pam mae gennych chi ffydd yn y Gweinidog iechyd?

Wel, Llywydd, mae'r hyn yr ydym ni'n ei glywed, fel arfer, yn grynodeb cwbl unochrog a gwyrdröedig o hanes y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Oherwydd penderfyniadau a wnaeth y Gweinidog iechyd am amseroedd aros ambiwlansys y mae amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru wedi cael eu bodloni a'u rhagori ym mhob un o'r 12 mis diwethaf, a pham mae'r model a ddatblygwyd yma yng Nghymru yn cael ei efelychu gan wasanaethau iechyd eraill erbyn hyn, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd lle mae ei blaid ef wrth y llyw, mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Oherwydd pwyslais y Gweinidog iechyd ar amseroedd aros canser, er enghraifft, mae mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu trin heddiw yn gyflymach ac yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen yn ein hanes.

A phan aiff pethau o chwith, fel y byddant yn anochel mewn system o'r maint a'r math sydd gennym ni, yna, yn yr achos y mae arweinydd yr wrthblaid yn tynnu sylw ato eto y prynhawn yma, dywedaf wrtho eto mai oherwydd y camau pendant a gymerodd y Gweinidog i fynnu bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o ddarganfod anawsterau yng Nghwm Taf yr ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn o gael yr argymhellion sydd eu hangen arnom ni, y trefniadau sydd ar waith, a'r posibilrwydd gwirioneddol y bydd y gwasanaethau hynny yn gwella ac yn ôl ar waith fel y byddem ni'n dymuno eu gweld ar waith mor gyflym ag y mae'n bosibl gwneud hynny.

Mae'n gwbl eglur, Prif Weinidog, y bu methiannau difrifol o dan stiwardiaeth eich Gweinidog iechyd o'r GIG. Nawr, mae pôl piniwn gan YouGov a gyhoeddwyd heddiw i nodi ugain mlynedd ers sefydlu'r lle hwn wedi canfod bod 29 y cant o bobl Cymru yn teimlo bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi arwain at ddirywiad i safonau'r GIG. Cafwyd diffyg arweinyddiaeth gan Lywodraethau Llafur Cymru olynol, ac mae'n gwbl eglur nad datganoli sydd wedi gwneud cam â Chymru, ond mai Llafur Cymru sydd wedi gwneud cam â datganoli.

Nawr, mae eich Gweinidog iechyd wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddo gael ei wneud yn destun mesurau arbennig bedair blynedd yn ôl i'r mis nesaf. Ers hynny, mae 29 y cant o gleifion yn ardal Betsi Cadwaladr yn aros mwy na phedair awr i gael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; mae 43 y cant o gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; a, dyma'r gwaethaf yng Nghymru, mae 38 o bobl wedi marw mewn digwyddiadau anesboniadwy neu anfwriadol tra'r oeddent yng ngofal Betsi Cadwaladr—adroddwyd 38 o farwolaethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, y gellid bod wedi eu hosgoi. Mae hyn yn fwy na'r holl fyrddau iechyd eraill gyda'i gilydd.

A nawr—a nawr—rydym ni'n gweld sgandal gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf, lle mae 27 o fabanod wedi marw. Ac fe'i gwnaed yn gwbl eglur yn adroddiad yr wythnos diwethaf bod diffyg llywodraethu ac arweinyddiaeth weithredol. Felly, beth mae'n ei gymryd mewn gwirionedd i bobl gymryd cyfrifoldeb am y methiannau hyn, Prif Weinidog? Felly, unwaith eto, o ystyried y catalog hwn o fethiannau, pam nad ydych chi wedi diswyddo eich Gweinidog iechyd?

13:45

Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n credu bod y sylw diwethaf yna yn bychanu pwysigrwydd y materion y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn gwbl briodol yn gynharach yn ei gwestiwn. Ers i'r materion hyn ddod i'r amlwg, mae ein pwyslais wedi bod ar y menywod dewr hynny a ddaeth ymlaen yng Nghwm Taf ac a fynnodd bod eu straeon yn cael eu hadrodd, sydd—fel y gwyddom—wedi dioddef niwed sylweddol yn eu bywydau, a fydd yn rhywbeth a fydd yn byw gyda nhw am flynyddoedd lawer iawn i ddod, a'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ymateb o ddifrif i'r sefyllfa honno, nid ymateb o geisio ymddiswyddiadau. A dyma'r camau difrifol y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd, a bydd y camau hynny'n parhau, oherwydd bydd yn cael ei hysbysu am unrhyw gamau pellach y mae angen eu cymryd i wella gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, o ganlyniad i'r trefniadau y mae wedi eu rhoi ar waith. Mae hwnnw'n ymateb o ddifrif i sefyllfa wirioneddol ddifrifol, a dyna'r math o wasanaeth iechyd a dyna'r math o Lywodraeth y credaf fod gan bobl yng Nghymru yr hawl i'w gweld a pharhau i'w gweld yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd. Mae 29 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Ydy'r Prif Weinidog yn credu bod hynny yn dderbyniol? 

Wrth gwrs dyw hynny ddim yn dderbyniol, Llywydd. Yn y degawd cyntaf o ddatganoli, roedd nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn mynd lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Beth rŷn ni'n siarad amdano yw'r cyfnod o gyni, y cyfnod ble mae penderfyniadau'r Deyrnas Unedig wedi creu sefyllfa ble mae fwy o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yn codi bob blwyddyn. Dyw hwnna ddim yn dderbyniol. Rŷn ni'n gwneud popeth rŷn ni'n gallu fel Llywodraeth, ond mae'r cyfrifoldeb yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, achos y pethau maen nhw wedi eu gwneud ym maes budd-daliadau, er enghraifft. Dyna beth sy'n creu nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. 

Dwi yn cytuno ei fod o'n annerbyniol. Dwi hefyd yn cofio bod cyfres o Lywodraethau fan hyn wedi bod yn methu eu targedau ar daclo tlodi plant ers dechrau datganoli. Mae hwn yn un o'r pethau all godi fel pwnc trafod wrth nodi 20 mlynedd o ddatganoli. Ac ar yr ugeinfed penblwydd yna, mae pobl yn gallu ystyried dau beth, dwi'n meddwl. Yn gyntaf, mi allan nhw ddathlu'r ffaith bod gennym ni Senedd genedlaethol a bod dewis sefydlu Senedd wedi bod yn gam pwysig ymlaen o ran ein haeddfedrwydd ni fel cenedl. Mae'r Cynulliad, wrth gwrs, yn fforwm i bawb, i bob plaid. Mae o'n sefydliad gall pawb fod yn falch ohono fo. Ond, ar yr un pryd, mae yn naturiol bod pobl yn gofyn 'Pa mor effeithiol fu Llywodraethau Cymru dros yr 20 mlynedd yna?' A Llafur sydd wedi arwain pob un ohonyn nhw. Y Prif Weinidog yma ydy'r pedwerdydd Prif Weinidog Llafur. 

Felly, yn ôl â ni at y ffigurau tlodi yna. Mewn ychydig wythnosau, mi fydd y Cynulliad yma yn trafod cynnig wedi'i arwyddo gan Aelodau o sawl plaid, yn cynnwys plaid y Llywodraeth, yn galw am strategaeth i daclo tlodi efo cyllideb a chamau gweithredu pendant. Onid ydy hi'n sgandal, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur, ein bod ni'n dal i fod mewn sefyllfa lle mae teimlad bod angen cael strategaeth o'r fath. Mae Aelodau meinciau cefn yn eiddgar i weithredu. Mae'r Cynulliad, felly, os liciwch chi, yn eiddgar i weithredu, ond Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi methu dro ar ôl tro, yn yr un ffordd ag yr ydych chi wedi methu â datrys problemau'r gwasanaeth iechyd. 

13:50

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddod o hyd i rywbeth i gytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod, oherwydd mae'r ffaith bod y fforwm hwn gennym ni, a bod y fforwm yn rhan sefydledig o'r tirlun democrataidd yma yng Nghymru, wrth gwrs, yn un o lwyddiannau mawr yr 20 mlynedd diwethaf ac mae'n darparu fforwm lle gellir cynnal dadleuon o'r math hyn. Mae'r Aelod yn cyfeirio at y ffaith fod Llafur, mewn un ffordd neu'r llall, wedi ffurfio'r Llywodraeth yma yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond mae rheswm dros hynny, Llywydd, sef oherwydd, ym mhob etholiad ers creu'r Cynulliad, dyna'r penderfyniad y mae'r bobl sy'n pleidleisio yng Nghymru wedi ei wneud. Ac rwy'n llwyr ddeall nad oes gan yr un blaid unrhyw hawl i ddisgwyl i neb bleidleisio drosti, a bod yn rhaid i'm plaid i ennill pob un pleidlais ym mhob un etholiad yr ydym ni'n ddigon ffodus i'w denu, a byddwn yn parhau i wneud hynny a chyflwyno'r ddadl honno i bobl yng Nghymru wrth i ni agosáu at etholiad arall.

Mater i bobl Cymru, wedyn, fydd penderfynu pa un ai'r hyn y maen nhw ei eisiau yw strategaeth arall, pa un a ydyn nhw eisiau'r math o gamau ymarferol y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'w cymryd ym maes tlodi plant—yn y pethau yr ydym ni wedi eu gwneud i fwy na dyblu'r grant gwisg ysgol; yn y miliynau ychwanegol o bunnoedd yr ydym ni wedi dod o hyd iddyn nhw i gynnig prydau ysgol am ddim i filoedd mwy o blant yng Nghymru; y ffaith, hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn o gyni cyllidol, mai Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd â dull cenedlaethol o fynd i'r afael â newyn yn ystod y gwyliau, ac rydym ni bron wedi dyblu'r swm o arian y byddwn yn ei gyfrannu at hynny yn ystod yr haf nesaf. Cyfrifoldeb pobl yng Nghymru yw penderfynu a fyddai'n well ganddyn nhw gael strategaeth arall neu a fyddai'n well ganddyn nhw Lywodraeth sy'n gwneud y pethau ymarferol hynny, sy'n defnyddio'r pwerau sydd gennym ni bob dydd i weithio i wella bywydau plant yng Nghymru.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud mai cyfrifoldeb pobl Cymru yw penderfynu ar ba un a ydyn nhw eisiau strategaeth arall. Y pwynt yw bod aelodau eich meinciau cefn eich hun yn credu nad oes gennych chi strategaeth o gwbl pan ddaw i fynd i'r afael â thlodi, ar adeg pan fo bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi.

Nawr, mae datganoli wedi datblygu o fewn fframweithiau Ewropeaidd, ac rwyf i a Phlaid Cymru o'r farn mai aros yn yr Undeb Ewropeaidd fydd y ffordd orau o esblygu gwlad fach fel Cymru, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf ac ymhell y tu hwnt i hynny. Mae ein safbwynt ni ar hynny yn gwbl eglur. Yn dilyn methiannau'r sefydliad Prydeinig dros y tair blynedd diwethaf, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid caniatáu erbyn hyn i bobl Cymru gael pleidlais ar delerau unrhyw gytundeb ar adael yr UE, a chael y dewis o aros, fel bod grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo'r bobl mewn gwirionedd, pa un a wnaethon nhw bleidleisio i aros neu adael dair blynedd yn ôl ar yr egwyddor o adael yr UE, neu a yw'n gobeithio y gall Jeremy Corbyn a Theresa May ddod i ryw fath o gytundeb glyd—neu dwyll, fel y byddai rhai'n ei ddweud—a fydd yn gallu gyrru Brexit yn ei flaen heb fod angen pleidlais arall?

Wel, safbwynt Llywodraeth Cymru, Llywydd, yw'r un yr wyf i'n ei ailadrodd bob wythnos gerbron y Cynulliad, a dyna'r safbwynt y cytunodd plaid yr Aelod iddo pan gyhoeddwyd 'Diogelu Dyfodol Cymru' gennym ar y cyd. Rydym ni wedi credu erioed bod bargen i'w tharo a fyddai'n diogelu economi Cymru a swyddi Cymru pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Os na ellir taro bargen o'r math hwnnw, yna wrth gwrs—rydym ni wedi dweud dro ar ôl tro y bydd yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl i'r bobl. Dyna ein polisi, dyna yw ein polisi o hyd. Dyma'r polisi y cytunodd ei blaid ei hun iddo nid mor bell â hynny yn ôl.

Roeddwn i hiraeth ar eich ôl yr wythnos diwethaf.

Diolch. Prif Weinidog, os caf i godi gyda chi y mater o'r dreth gyngor, rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ein bod ni, y mis hwn, yn nodi 20 mlynedd o Gynulliad Cymru, oherwydd ni fu'r cyfnod hwn o 20 mlynedd yn arbennig o dda i dalwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Os edrychwn ni ar y ffigurau, mae cyfraddau treth gyngor band D yng Nghymru wedi cynyddu gan 244 y cant ers 1996. Mae hyn yn llawer uwch na'r gyfradd gyffredinol o chwyddiant yn y cyfnod hwnnw. Prif Weinidog, a ydych chi'n meddwl bod cynnydd sy'n codi'n gyflym i'r dreth gyngor yn bris gwerth ei dalu yng Nghymru i fwynhau manteision Llywodraeth Llafur Cymru yn rhedeg Cynulliad Cymru yn barhaol?

13:55

Wel, y rheswm pam mae Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad, Llywydd, fel y mae'r Aelod yn gwybod, yw, pryd bynnag y cafwyd etholiad ers datganoli, dyna'r penderfyniad a wnaed gan ddinasyddion Cymru. Dyna'r rheswm pam. Nid yw'n rhyw fath o weithred gan Dduw; ni wnaethom ni ei ennill mewn raffl. Gwnaethom ni ei ennill drwy fod ar garreg y drws a pherswadio pobl i bleidleisio dros y Blaid Lafur.

Cyn belled ag y mae'r dreth gyngor yn y cwestiwn, penderfyniadau i awdurdodau lleol ledled Cymru eu gwneud yw'r rheini. Maent hwythau hefyd yn atebol i'w poblogaethau lleol. Maent hwythau hefyd yn wynebu etholiadau lle gall poblogaethau lleol wneud dyfarniad ar yr awdurdodau lleol hynny. Ac, mewn cyfnod o gyfyngu difrifol ar wariant cyhoeddus, lle mae'r Aelodau Cynulliad mewn gwahanol bleidiau yn galw bob wythnos i fwy o arian gael ei wario ar wasanaethau awdurdodau lleol—ni ellir gwario mwy o arian ar wasanaethau heb godi'r arian hwnnw o rywle, ac mae'r dreth gyngor a'r pwysau arni yn adlewyrchiad o'r ffaith nad oes gennym ni arian yn dod i Gymru i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny yn y modd yr hoffem ni ei weld, ac mae awdurdodau lleol yn canfod eu hunain ar y rheng flaen o ran rhywfaint o'r anhawster hwnnw, a chaiff penderfyniadau ynghylch y dreth gyngor eu gwneud yn y cyd-destun hwnnw.

Ie, diolch am yr ateb yna. Rwy'n falch eich bod chi'n cydnabod nad gweithred Duw yw'r weithred o bleidleisio yn y blwch pleidleisio, mae'n rhywbeth y mae pobl â barn hyddysg yn ei wneud mewn gwirionedd, ac felly rydych chi'n cymryd sylw o'r penderfyniadau, oherwydd nid dyna'r safbwynt yr ydych chi'n ei fabwysiadu yn gyffredinol ar bleidlais y bobl yng Nghymru yn ystod y refferendwm Brexit.

Nawr, gan fynd yn ôl at union fater y dreth gyngor, ydy, wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn atebol i'r etholwyr—mae hwnnw'n ymateb yr ydych chi yn yr arfer o'i roi i mi pryd bynnag y byddaf yn codi materion llywodraeth leol gyda chi yma yn y Cynulliad. Ond, Prif Weinidog, nid yw'n mynd i gael argraff fawr ar bobl Cymru os oes gennym ni Gynulliad a'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yw defnyddio'r Siambr i osgoi problemau ac osgoi cymryd cyfrifoldeb am feysydd polisi sy'n amlwg yn rhan o'ch cyfrifoldeb chi fel Prif Weinidog. Nawr, os edrychwn ni ar y mater hwn o'r dreth gyngor, mae'n rhaid i chi dderbyn ei bod hi'n sefyllfa hurt pan fo trethdalwr yng Nghymru sy'n berchen ar gartref gwerth £220,000 yng Nghastell-nedd yn talu mwy o dreth gyngor na pherchennog plasty gwerth £85 miliwn yn Kensington, fel sy'n wir eleni.

Wel, Llywydd, nid yw cyfraddau'r dreth gyngor yn cael eu pennu ar lawr y Siambr Cynulliad hon. Mae'r Cynulliad yn gyfrifol erbyn hyn am benderfyniadau trethiant mawr yr ydym ni'n eu gwneud bob blwyddyn, ond nid yw pennu'r dreth gyngor yn un ohonyn nhw. O ganlyniad i gamau y cytunwyd arnynt yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn y mae gennym ni gynllun budd-dal treth gyngor genedlaethol yng Nghymru o hyd, fel nad yw'r bobl sydd â'r lleiaf yn gorfod talu unrhyw dreth gyngor o gwbl, tra bo'r teuluoedd tlotaf yn y wlad yn y rhan o'r Deyrnas Unedig y mae'r Aelod yn cyfeirio ati yn talu £200 y flwyddyn ar gyfartaledd erbyn hyn o fudd-daliadau sydd wedi cael eu rhewi ers 2015 tuag at filiau'r dreth gyngor, ac, yng Nghymru, nid yw'r teuluoedd hynny, rwy'n falch iawn o ddweud, yn talu dim byd o gwbl. Felly, pan ein bod ni'n gallu gweithredu a phan fo gennym ni gyfrifoldeb i weithredu, rwy'n credu bod y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi gweithredu gyda'i gilydd i amddiffyn y teuluoedd hynny sydd angen yr amddiffyniad hwnnw fwyaf, gan barchu'r atebolrwydd democrataidd ar wahân bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau y maen nhw'n gyfrifol am eu gwneud.

O ran parchu penderfyniadau democrataidd, rwy'n nodi'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai polisi ei blaid ef yw y dylem ni gael trydydd refferendwm nawr ar ba un a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol barhau i fodoli, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi cael dau refferendwm yma, a'r ddau ohonyn nhw—y cyntaf ohonyn nhw yn dod â'r Cynulliad hwn i fodolaeth, a'r ail yn cadarnhau ei fodolaeth ac yn cryfhau ei bwerau drwy fwyafrif cwbl bendant.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ53803] yn ôl, ac felly cwestiwn 4, Mark Reckless. 

Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd

4. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar weithredu'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE? OAQ53801

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi parchu canlyniad y refferendwm erioed, ond nid yw erioed wedi credu bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid niweidio eu dyfodol economaidd eu hunain a dyfodol economaidd eu plant. Dyna sail ein polisi o hyd.

14:00

Pleidleisiodd pobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'r penderfyniad hwnnw, ond onid oes angen iddo ei barchu? A welodd ef y canlyniadau yn yr etholiadau lleol yn Lloegr yr wythnos diwethaf ac, yn arbennig, bod y canlyniadau gwaethaf o bell ffordd i'r blaid Lafur ar draws cyn-gymunedau'r maes glo? A yw'n cytuno â'r Aelodau sy'n cynrychioli Blaenau Gwent, lle y pleidleisiodd 62 y cant i adael, neu Torfaen, lle y pleidleisiodd 60 y cant i adael, y dylai'r etholwyr gael eu hanwybyddu a'u gorfodi i bleidleisio eto gan nad ydyn nhw'n parchu eu hetholwyr na'r penderfyniad a wnaed ganddynt?

Wel, Llywydd, nid yw erioed wedi bod yn bolisi gan Lywodraeth Cymru i anwybyddu'r hyn y mae pleidleiswyr yn ei ddweud. Nid wyf i'n credu bod unrhyw aelod o Lywodraeth Cymru wedi sefyll dros un blaid ac yna wedi anwybyddu barn y bobl a bleidleisiodd drostyn nhw a phenderfynu ymuno â phlaid arall yma ar lawr y Cynulliad, felly nid wyf i'n meddwl bod angen llawer o bregethau arnom ni ar yr ochr yma i'r Cynulliad ar barchu penderfyniadau democrataidd.

Fel y dywedais yn fy ateb i'r Aelod, rydym ni wedi canolbwyntio erioed ar ffurf yn hytrach na ffaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gan ein bod ni'n parchu'r ffaith y bu pleidlais gan bobl yng Nghymru, ac mae'n bleidlais yr oeddem ni'n ei gresynu oherwydd ein bod ni wedi ymgyrchu dros y canlyniad cyferbyniol. Rwyf i wedi credu erioed, fel yr wyf i'n cofio Steffan Lewis, ein cyd-Aelod, yn dweud y diwrnod ar ôl y refferendwm, er efallai bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, nad oedd neb yng Nghymru wedi pleidleisio i golli arnynt eu hunain. A byddai'n weithred o golli arnom ein hunain i syrthio allan o'r Undeb Ewropeaidd, i adael ar y math o delerau y mae'r Aelod yn eu hargymell yn barhaus, gan y byddai'r rheini'n gwneud niwed economaidd a chymdeithasol difrifol i Gymru, ac ni wnaiff Llywodraeth Cymru sefyll o'r neilltu a gweld hynny'n digwydd.

Prif Weinidog, fel y dywedasoch yn gywir ddigon, ni phleidleisiodd pobl Blaenau Gwent o blaid llai o wasanaethau, ni wnaethon nhw bleidleisio o blaid llai o swyddi, ni wnaethon nhw bleidleisio i fod yn dlotach, ni wnaethon nhw bleidleisio i weld gostyngiad i wariant ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol. Pleidleisiodd pobl Blaenau Gwent yn erbyn cyni cyllidol, fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn polisi'r Torïaid sy'n rhwygo'r galon o'n cymunedau, pa un a yw rhai pobl yn cydnabod hynny ai peidio. Ar y sail ein bod ni'n cael ein hethol i warchod buddiannau'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli ac i frwydro'n galed dros y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli, a allwch chi fy sicrhau, Prif Weinidog, y byddwch chi'n parhau i frwydro'n galed dros refferendwm na fydd yn cael ei ymladd ar sail celwydd y refferendwm blaenorol ond ar sail gwir realiti yr hyn sy'n ein hwynebu o ran Brexit caled, Brexit heb gytundeb, Brexit dall a Brexit a fydd yn tanseilio ein heconomi a'n gallu i ddarparu gwasanaethau?

Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod am y rhesymau cymhleth hynny a oedd yn sail i'r penderfyniadau a wnaeth pobl yn y bleidlais yn ôl yn 2016, ac yn arbennig y rhannau hynny o Gymru a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu dal yn ôl, yn teimlo eu bod wedi eu torri i ffwrdd o'r ffyniant yr oedd eraill yn gallu ei fwynhau ac a oedd wedi teimlo y gofynnwyd iddyn nhw ysgwyddo baich cyni cyllidol cwbl annheg. Y bobl hynny—cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud: ni wnaeth yr un o'r bobl hynny bleidleisio i gael dyfodol gwaeth iddyn nhw eu hunain nac i'w teuluoedd. Os na ellir taro bargen o'r math sy'n diogelu dyfodol y bobl hynny, sy'n bodloni'r chwe phrawf y mae'r Blaid Lafur wedi eu hamlinellu, yna mae mynd yn ôl at y bobl am benderfyniad pellach a therfynol yn ymddangos yn anochel i mi. Fel Llywodraeth, fel yr wyf i wedi ei ddweud lawer gwaith, pe byddai'r sefyllfa honno yn digwydd, nid oes dim yr ydym ni wedi ei weld yn y bron i dair blynedd sydd wedi mynd heibio ers y refferendwm hwnnw wedi ein harwain i gredu bod y cyngor a roesom yn ôl yn 2016 yn gyngor anghywir, a byddwn yn dweud eto wrth bobl yng Nghymru, os cânt y cyfle hwnnw, bod ein dyfodol yn fwy diogel a bod eu dyfodol nhw a dyfodol eu teuluoedd yn fwy diogel trwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Egwyddorion Cydweithredol

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i sefydlu egwyddorion cydweithredol ar lefel leol a chenedlaethol ledled Cymru? OAQ53795

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at economi Cymru. Ymhlith mesurau eraill, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ymgorffori egwyddorion cydweithredol drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a thrwy ein cynllun gweithredu economaidd.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth i ni ddathlu ugeinfed pen-blwydd y sefydliad democrataidd hwn, mae hefyd yn gyfle i ddathlu'r twf o ran Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad, yn wir, dros yr 20 mlynedd hynny sy'n gyd-weithredwyr ac yn aelodau o'r Blaid Gydweithredol yn ogystal â'r Blaid Lafur. Mewn gwirionedd, er bod y Blaid Gydweithredol, wrth gwrs, yn chwaer-blaid i'r Blaid Lafur, mae hefyd yn digwydd bod yr ail grŵp gwleidyddol mwyaf, Llywydd, er nad ydym yn fursennaidd ynghylch hynny o gwbl. Felly, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno Gweinidog cydweithrediad ar draws y Llywodraeth ac i Lee Waters am ei ymgysylltiad â'r grŵp gydag agenda gydweithredol.

Yn y maniffesto ar gyfer 2016 gan Blaid Gydweithredol Cymru, fe wnaethom annog rheilffyrdd i gael eu rhedeg mewn partneriaeth â theithwyr a staff, mynd i'r afael â'r argyfwng tai trwy dai cydweithredol, rhoi llais i gefnogwyr chwaraeon yn y clwb y maen nhw'n ei gefnogi, undebau credyd fel y ffordd orau o gynorthwyo trefniadau ariannu personol a chymunedol cryf a llythrennedd ariannol, a mwy a mwy. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog beth yw ei farn ar y cynnydd nawr yn erbyn y nodau hyn a nodau cydweithredol eraill—nodau a rennir: yr ymgyrchoedd presennol ar gyfiawnder bwyd, ar fanc cymunedol cenedlaethol a all fod yn fanc gwirioneddol hygyrch i bob un o'n cymunedau ledled Cymru, ac, yn wir ymrwymiad plaid Lafur y DU ar ddyblu maint yr economi gydweithredol?

Nawr, rwy'n siŵr na fydd yn gallu ateb yr holl gwestiynau hyn heddiw, felly efallai y caf i ofyn iddo a fyddai'n ystyried cyfarfod â'r grŵp a gyda Lee Waters, ar ryw adeg, fel y gallwn gael trafodaeth wirioneddol adeiladol ynghylch y nodau cyffredin hynny sydd gennym ar gyfer sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a gweithio gyda'n gilydd er lles pawb.

14:05

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am yr hyn a ddywedodd heddiw a'r gwaith y gwn ei fod yn ei wneud drwy'r amser i hyrwyddo'r mudiad cydweithredol, i siarad o blaid egwyddorion cydweithredu a phartneriaeth? Mae'n hollol iawn i dynnu sylw at nifer Aelodau Cynulliad y Blaid Gydweithredol yng Nghymru yma yn y Siambr. Roeddwn i'n falch iawn o ofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ganolbwyntio'n benodol ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar yr economi gydweithredol. Byddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r aelod ac eraill sydd â diddordeb yn hyn, oherwydd mae gwaith ar gynifer o'r pethau y cyfeiriodd atynt yn ei gwestiwn atodol yr ydym yn benderfynol o'i wneud yma yng Nghymru.

Mae cronfa olyniaeth rheoli Cymru o £25 miliwn, a sefydlwyd gan fy nghyd-Aelod, Ken Skates, trwy Fanc Datblygu Cymru, yn enghraifft gwbl ymarferol o'r ffordd yr ydym ni eisiau i berchenogaeth cyflogeion dyfu yma yng Nghymru. Rydym ni wedi cefnogi rhaglen ar raddfa fwy yn ddiweddar ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned, ar y cyd â ffederasiwn Nationwide, i ddatblygu tai cydweithredol yma yng Nghymru, ac mae'r posibilrwydd o fanc cymunedol, rwy'n credu, yn un o'r posibiliadau mwyaf cyffrous sydd gennym ni yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod cymunedau cyfan lle nad yw bancio confensiynol yn gweithredu ar y stryd fawr ac yn y cymunedau hynny mwyach, ac mae gennym ni gyfle yma yng Nghymru, gan weithio gydag eraill, i ddatblygu gwahanol fath o fodel a fydd yn dychwelyd bancio i graidd y cymunedau hynny, a fydd yn cynnig gwasanaeth i fusnesau bach—microfusnesau yn arbennig—a'i wneud ar sail yr egwyddorion cydweithredol hynny y mae'r mudiad cydweithredol yn eu henghreifftio.

Rwyf i wedi cael nifer o sgyrsiau diddorol gydag Alun Davies a Mike Hedges dros yr wythnosau diwethaf am y mudiad cydweithredol. Wel, roeddwn i'n meddwl eu bod nhw'n ddiddorol, beth bynnag; mae'n debyg eich bod chi'n grwgnach pan fyddwch chi'n fy ngweld i'n dod tuag atoch chi yn yr ystafell de. Ond mae'n gysyniad diddorol, ac mae'n gysyniad sydd wedi ei wreiddio yng Nghymru ers blynyddoedd lawer iawn erbyn hyn. Mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn sôn yn aml am fanteision cyd-gynhyrchu yn y Siambr hon, a gellir ystyried cyd-gynhyrchu fel un agwedd ar yr agenda gydweithredol.

A allwch chi ddweud wrthym ni—? Fel y gwyddoch, Prif Weinidog, mae cyd-gynhyrchu yn troi defnyddwyr gwasanaeth o fod yn dderbynwyr goddefol gwasanaethau cyhoeddus i bobl sy'n llunio'r gwasanaethau hynny yn weithredol ac yn llunwyr eu tynged eu hunain yn y dyfodol, rhywbeth yr wyf i'n credu y byddai aelodau o bob ochr i'r Siambr hon yn ymrwymo iddo. A allwch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n ymgorffori'r egwyddorion hynny o gyd-gynhyrchu yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn enwedig ar lefel leol, fel y soniodd Huw Irranca yn ei gwestiwn agoriadol?

Hoffwn gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am yr egwyddorion cyd-gynhyrchu—y ffaith bod pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hystyried yn bobl sydd ag asedau i'w cyfrannu yn hytrach na'u bod yn broblemau i'w datrys mewn model cyd-gynhyrchu. A thrwy nodi cryfderau pobl a'r pethau y maen nhw'n eu cynnig, rydym ni'n gallu cynllunio gwasanaethau nad ydyn nhw wedi eu trefnu ar sail y cwestiwn sy'n dechrau trwy ofyn i bobl, 'Beth sy'n bod arnoch chi heddiw?'—cwestiwn sy'n canolbwyntio'n anochel ar ddiffygion pobl—ond rydym ni'n dechrau'r sgyrsiau hynny trwy ddweud wrth bobl, 'Beth sy'n bwysig i chi heddiw?' Oherwydd os gallwn ni wneud hynny, yna gallwn dynnu eu cyfraniad i mewn i'r sgwrs honno, a chynllunio canlyniadau ochr yn ochr â'r bobl hynny sy'n cyflawni eu blaenoriaethau. Ac o ran ei wneud yn lleol, gadewch i mi atgoffa'r Aelod am ymweliad a wneuthum â Rhaglan yn ei etholaeth ef, lle'r oedd ef yn bresennol hefyd, i weld yr egwyddor gyd-gynhyrchu honno ar waith ym maes gofal cymdeithasol, lle, yn hytrach na chael rhestr o ymweliadau a benderfynwyd ymlaen llaw gydag amser wedi'i neilltuo ar gyfer pob ymweliad, roedd y gweithiwr yn gallu siarad â'r bobl yr oedd yn ymweld â nhw a phenderfynu gyda nhw am ba hyd yr oedden nhw'n credu yr oedd angen ymweliad, i fod yn hyblyg gan fod yr anghenion hynny'n newid dros amser ac i gyd-gynhyrchu'r gwasanaeth yr oedden nhw'n ei gael mewn ffordd a oedd yn uchel iawn ei barch, ymhlith y bobl a oedd yn darparu'r gwasanaeth, ond hefyd, yn yr ymweliad a wneuthum y diwrnod hwnnw, ymhlith trigolion Rhaglan, a oedd yn teimlo eu bod wir yn cymryd rhan yn y gwasanaeth yr oedden nhw'n ei gael, yn hytrach na dim ond ei dderbyn.

14:10
Athrawon Cyflenwi

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y telerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi sy'n gweithio yng Nghymru? OAQ53827

Diolchaf i Hefin David am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith athrawon cyflenwi. Rydym ni wedi cefnogi gwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sydd ar gamau olaf fframwaith newydd ar gyfer cyflogi athrawon dros dro ac athrawon cyflenwi yma yng Nghymru.

Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth honno a hefyd y newyddion a gyhoeddwyd ar 6 Ebrill y byddai athrawon cyflenwi yng Nghymru yn cael hwb gan gyfradd tâl dyddiol ofynnol wedi ei mandadu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr.

Rwy'n credu ei fod, yn rhannol, yn deyrnged i waith caled Sheila Jones, sy'n un o etholwyr Caerffili, sy'n gyn-athrawes gyflenwi, ac erbyn hyn hi yw cynrychiolydd athrawon cyflenwi Undeb Cenedlaethol Addysg Cymru. Siaradais â hi'n gynharach heddiw a dywedodd bod ganddi rai pryderon o hyd. Mae'n dweud bod llawer o ddisgresiwn yn dal i gael ei adael i ysgolion unigol o ran pa un a ydyn nhw'n cyflogi athrawon cyflenwi â statws athro cymwysedig a pha un a ydyn nhw'n cyflogi athrawon cyflenwi drwy asiantaethau ai peidio. Mae ganddi bryderon dirfawr ynghylch y dull y mae asiantaethau yn mynd i'w fabwysiadu mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Ac mae ganddo oblygiadau o ran pensiynau i'r athrawon cyflenwi hynny hefyd.

Mae etholwr arall wedi cysylltu â mi hefyd yn pryderu na fydd y fframwaith cyflogau yn berthnasol i athrawon cyflenwi mewn addysg bellach, gan na fydd ganddyn nhw'r statws athro cymwysedig. Felly, o ran y materion hynny, a wnaiff y Prif Weinidog eu cadw mewn cof, a hefyd, gyda'r Gweinidog Addysg, ymrwymo i ragor o drafodaethau parhaus gydag athrawon llanw er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn?

Diolchaf i Hefin David am y pwyntiau pwysig yna. Roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod ei etholwr, Sheila Jones, pan oeddwn i'n Weinidog cyllid yn gyfrifol am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac yn bennaf o ganlyniad i'r pwyntiau pwysig iawn a wnaeth hi a'i chydweithwyr y gwnaethom ni ailystyried y fframwaith a oedd ar waith ar y pryd. Bydd gennym ni 30 o asiantaethau llwyddiannus ar y fframwaith erbyn hyn ac mae 22 o'r asiantaethau hynny yn gyflenwyr o Gymru. Mae Hefin David yn llygad ei lle, Llywydd, i ddweud y bydd yn rhaid i athro neu athrawes cyflenwi a gaiff ei recriwtio drwy asiantaeth fod â statws athro cymwysedig. Dyna'n union fel y dylai hi fod; mae'n un o ofynion y fframwaith newydd, fel y bydd cyfraddau tâl gofynnol ar gyfer athrawon cymwysedig, fel y bydd diddymu rhanddirymiad Sweden, a oedd yn rhywbeth penodol yr oedd Sheila a'i grŵp yn weithredol yn ei gylch. Bydd disgresiwn. Bu disgresiwn erioed ar lefel ysgolion i ysgolion naill ai defnyddio'r fframwaith neu i recriwtio athrawon y tu allan i'r fframwaith, a chredaf fod hwnnw'n rhyddid hanfodol yr ydym ni'n ei gydnabod yn y fframwaith ac yn awyddus i'w gynnal.

Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am athrawon cymwysedig mewn addysg bellach, ac mae'n iawn, wrth gwrs, nad oes ganddyn nhw statws athro cymwysedig ac felly na ellir eu recriwtio fel athrawon cyflenwi o dan y fframwaith. Ond un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ac mae'r Gweinidog addysg wedi ei wneud yw cyflwyno cyrsiau rhan-amser newydd sy'n golygu bod rhywun sydd wedi cymhwyso fel athro neu athrawes addysg bellach sydd eisiau cymhwyso gyda statws addysgu cymwysedig—y gallan nhw o fewn un tymor erbyn hyn, gymryd y camau sydd eu hangen i newid eu hunain o fod yn athro neu athrawes AB i fod yn athro neu athrawes dosbarth gyflawn, ac yna, wrth gwrs, byddan nhw ar gael i fanteisio ar yr holl bethau newydd y bydd y fframwaith newydd yn eu darparu.

14:15
Parthau Ugain Milltir yr Awr

7. Beth yw barn Llywodraeth Cymru am y defnydd o barthau 20 mya yng Nghymru? OAQ53821

Diolchaf i'r aelod. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai 20 mya ddylai fod y terfyn cyflymder rhagosodedig ar gyfer ardaloedd preswyl. Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn bwrw ymlaen â gwaith i nodi'r camau ymarferol y mae angen eu cymryd er mwyn gweithredu terfynau cyflymder o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru.

A gaf i longyfarch y Prif Weinidog am wneud fy nghwestiwn atodol yn gwbl ddiangen? [Chwerthin.] Oherwydd roeddwn i'n mynd i alw am yr union safbwynt rhagosodedig hwnnw. Mae'n rhesymegol ein bod ni'n gosod y terfyn safonol mewn ardaloedd adeiledig yn 20 mya ac yna mae gan gynghorau'r grym i'w osod yn 30 mya ar gyfer y llwybrau mwy uniongyrchol hynny drwy eu hardaloedd trefol.

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwyf i wedi ei glywed yn siarad o'r blaen o blaid terfyn cyflymder rhagosodedig o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac, wrth gwrs, ar draws y tymor Cynulliad cyfan hwn, mae fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi darparu cannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer parthau 20 mya dros bellteroedd bach. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud nawr yw mynd y tu hwnt i hynny. Credaf fod dinas Caerdydd yn enghraifft dda o'r hyn y gellir ei wneud. Fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, Llywydd, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gael disgresiwn i gadw parthau 30 mya ar brif lwybrau allweddol, ond y tu allan i hynny, ac mewn ardaloedd preswyl, rydym ni'n gwybod bod parthau 20 mya yn lleihau cyflymder traffig, yn lleihau damweiniau, yn enwedig damweiniau i blant, ac rydym ni eisiau gweld hynny'n dod yn sefyllfa ragosodedig ledled Cymru.

Rwy'n croesawu'n fawr sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen, Prif Weinidog, rwy'n credu, i gydnabod lefel gref iawn o gefnogaeth drawsbleidiol i'r polisi hwn ac ymgyrch gref iawn a gynhaliwyd ar draws y DU gan 20's Plenty, ac rydym ni wedi cael rhai digwyddiadau pwysig yng Nghymru i hyrwyddo'r ymgyrch honno. A fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn, yn ogystal â'r manteision yr ydych chi wedi eu crybwyll, o ran galluogi bywyd cymunedol i gryfhau, gan y bydd pobl hŷn yn teimlo'n hapusach os ydynt yn gallu cerdded ar hyd y strydoedd â therfynau 20 mya ar waith a bydd rhieni yn teimlo'n hapusach o lawer yn caniatáu i'w pobl ifanc chwarae yn yr awyr agored? Bydd yn galluogi teithio llesol—cerdded a beicio—i raddau mwy helaeth, felly mae ganddo lawer iawn o fanteision, ac rwy'n falch eu bod nhw'n cael eu cydnabod yn gryf gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn.

Wel, diolchaf i John Griffiths, wrth gwrs, am hynna. Mae'n iawn, mae gan y grŵp gorchwyl a gorffen ran bwysig iawn i'w chwarae, gan ei fod yn dod ag awdurdodau lleol o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth Cymru i ystyried y ffyrdd ymarferol y gallwn wneud i hyn ddigwydd. Ceir cyfres helaeth o fanteision, gan gynnwys yr holl rai y mae'r Aelod wedi sôn amdanyn nhw, gan gynnwys yr ansawdd aer gwell yr ydych chi'n ei gael trwy gyflymder traffig arafach. Yn y jargon, Llywydd, sonnir am y materion y mae John Griffiths wedi cyfeirio atyn nhw fel 'gwahanu ardaloedd o bobtu'r ffordd', y ffaith bod traffig sy'n symud yn gyflym trwy gymuned yn gwahanu un rhan o'r gymuned oddi wrth un arall, yn ddaearyddol—ond gwyddom fod yr effeithiau hynny yn wahanol i bobl, pa un a ydyn nhw'n bobl hŷn, yn blant, yn bobl heb geir ac yn y blaen, ac felly, mae parthau 20 mya yn caniatáu llai o'r gwahanu ardaloedd o bobtu'r ffordd hwn, ac mae honno'n fantais gymdeithasol wirioneddol bwysig arall sy'n dod o'r polisi.

Cefnogi'r Sector Manwerthu

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector manwerthu? OAQ53807

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae manwerthu yn sector sylfaenol yn ein cynllun gweithredu economaidd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi cynyddu'r rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y stryd fawr, wedi ehangu'r rhaglen ardal ar gyfer gwella busnes wrth i ni weithio gyda'r sector mewn cyfnod sydd, heb amheuaeth, yn anodd, fel yr ydym yn ei gydnabod.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Ond mae'r ffigurau a ddatgelwyd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru yn dangos bod 1,100 yn llai o siopau yng Nghymru yn 2018 nag a oedd yn 2010—gostyngiad o bron i 9 y cant. Aethon nhw ymlaen i ddweud bod ardrethi busnes yn rhannol i'w beio am yr achosion hyn o gau a bod cwmnïau yng Nghymru wedi wynebu'r cynnydd mwyaf i ardrethi busnes ym Mhrydain yn ddiweddar. Prif Weinidog, o ystyried bod llai o bobl yn ymweld â chyrchfannau siopa Cymru a bod lefelau siopau gwag ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig, pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad yn sector manwerthu Cymru?

14:20

Wel, Llywydd, gadewch imi ddechrau drwy egluro bod ardrethi busnes yn cael eu codi am resymau da iawn, oherwydd mae'r busnesau sy'n gweithredu ar y stryd fawr yn cael yr holl fanteision a ddaw yn sgil gwasanaethau cyhoeddus: mae'r cyhoedd yn talu am y ffyrdd y mae pobl yn gyrru arnynt; mae'r cyhoedd yn talu am y palmentydd y bydd pobl yn cerdded arnynt; y cyhoedd sy'n talu am yr addysg a ddarperir i'w gweithwyr; mae'r cyhoedd yn talu am y gwasanaeth iechyd sy'n gofalu am eu gweithwyr pan fyddant yn sâl. Mae ardrethi busnes yn gyfraniad y mae busnesau'n ei wneud i'r gwasanaethau sy'n caniatáu i'r busnesau hynny ffynnu. Yma yng Nghymru rydym bellach yn buddsoddi mwy mewn rhyddhad ardrethi busnes nag ar unrhyw adeg yn holl gyfnod datganoli. Mae mwy na thri chwarter y rhai sy'n talu ardrethi busnes yng Nghymru yn elwa o'r gwahanol fathau o ryddhad ardrethi sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £23,600,000 ychwanegol yn benodol mewn rhyddhad ardrethi ar y stryd fawr.

Nawr, nid yw hynny'n dweud am eiliad nad oes heriau gwirioneddol yn wynebu'r stryd fawr. Gwyddom fod siopa ar gyrion trefi a siopa ar-lein yn gwneud gwahaniaeth mawr ar y stryd fawr. Gwyddom fod patrymau ymddygiad defnyddwyr yn newid. Ac wedi 10 mlynedd o gyni, mae cyflogau wedi'u dal yn ôl i'r pwynt lle mae diffyg galw effeithiol yn yr economi i brynu'r nwyddau sy'n cael eu cyflenwi ar y stryd fawr. Felly, mae'r heriau'n rhai gwirioneddol.  Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Chonsortiwm Manwerthu Prydain a chyda'i aelodau yng Nghymru i sicrhau bod y cymorth y mae'r pwrs cyhoeddus yn ei roi i'r busnesau hynny mor effeithiol ag y gallwn ei wneud.

Effaith Amgylcheddol Cynlluniau Datblygu Lleol

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol cynlluniau datblygu lleol? OAQ53816

Mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol gydymffurfio â gofynion cyfreithiol Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, y gyfarwyddeb asesiad amgylcheddol strategol 2001 a'r rheoliadau cysylltiedig wrth baratoi cynllun datblygu, gan gynnwys effeithiau amgylcheddol.

Prif Weinidog, yn drahaus, ni roesoch ateb i'm cwestiwn y tro diwethaf—

Nid oes unrhyw drahauster gan y Prif Weinidog nac unrhyw aelod arall o'r Cynulliad hwn. Peidiwch â dechrau—

Gyda pharch, Llywydd, dywedais 'y tro diwethaf'—'y tro diwethaf '.

Mae parch bob amser yma. Nid oes trahauster. Gofynnwch eich cwestiwn a chraffu ar waith y Prif Weinidog.

Y tro diwethaf, yn drahaus, Brif Weinidog, ni roesoch ateb i'm cwestiwn—

Na. [Anglywadwy.] Mae'r meicroffon wedi'i ddiffodd ac rydych wedi fforffedu eich hawl i ofyn y cwestiwn.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes yw'r eitem nesaf. Diolch i'r Prif Weinidog am ei atebion. Felly, dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am ddyfodol rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru? Dyfynnwyd ysgrifennydd clwb rygbi iau yn ddiweddar yn dweud bod rygbi ar lawr gwlad, yn ei eiriau ef, yn  'marw ar ei draed' wrth i dimau amatur frwydro i ddenu chwaraewyr. Dywedodd fod tua 30 y cant o dimau yn yr ail a thrydedd adran amatur wedi gohirio gemau'r tymor hwn oherwydd prinder chwaraewyr. Dywedodd fod 80 y cant, wyth allan o bob 10—wedi gorfod gohirio o leiaf un gêm gan na allai'r gwrthwynebwyr ffurfio tîm. A gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog am ba drafodaethau y mae wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch sicrhau bod gan rygbi ar lawr gwlad ddyfodol hyfyw yng Nghymru? A pheidiwch ag anghofio: dwi'n meddwl mai rygbi yw Cymru a Chymru yw rygbi. Diolch.

Diolch yn fawr iawn am hynny, a byddwn yn sicr yn cytuno â chi o ran y pwysigrwydd a roddwn yng Nghymru i'n camp genedlaethol. Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â Chwaraeon Cymru a chyda chydweithwyr yn Undeb Rygbi Cymru i drafod materion sy'n ymwneud â chwaraeon ar lawr gwlad yn eu cyfanrwydd, ond yn benodol i gefnogi rygbi ar lawr gwlad, a gofynnaf iddo ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth am ei drafodaethau diweddaraf.

14:25

Trefnydd, mae adroddiad a gyflwynwyd yn ddiweddar i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi bygwth tynnu'n ôl o Fargen Ddinesig Bae Abertawe os na wneir digon o gynnydd dros y misoedd nesaf. Bydd yr Aelodau yn gweld cyffelybiaethau yma â bygythiad tebyg i'r consortiwm addysg, ERW, gan yr un awdurdod. Serch hynny, mae'n amlwg na fyddai croeso i golli cefnogaeth awdurdod lleol o'r fargen ddinesig, gyda'r ansicrwydd a'r cynnwrf fyddai'n deillio o hynny, yn enwedig o gofio'r anawsterau diweddar. Mae'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan Brif Weithredwr y Cyngor, Steve Phillips, hefyd yn sôn am ailfodelu tri o'r pedwar prosiect y mae'n eu harwain ar hyn o bryd yn rhan o'r Fargen Ddinesig honno.

Yn bersonol, ni allaf weld pam y byddai unrhyw awdurdod lleol yn dymuno gwrthod cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a allai helpu i sicrhau twf economaidd yn eu hardal. Yn amlwg, fel Aelod Cynulliad rhanbarthol, byddwn yn awyddus i weld Castell-nedd Port Talbot yn manteisio ar y cyllid Bargen Ddinesig sydd ar gael, fel y gall geisio mynd i'r afael â'r gyfres o amgylchiadau economaidd heriol iawn y mae'n eu hwynebu. Gyda Chastell-nedd Port Talbot ar fin gwneud penderfyniad terfynol ar eu haelodaeth o'r Fargen Ddinesig erbyn diwedd y flwyddyn hon, a wnaiff y Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y maent yn ei wneud gyda Chastell-nedd Port Talbot ar y mater hwn? Byddwn hefyd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau pe bai Castell-nedd Port Talbot yn tynnu'n ôl o'r Fargen Ddinesig, y byddai awdurdodau lleol eraill o fewn y rhanbarth wedyn yn gallu cael gafael ar y cyllid a oedd ar gael er budd Castell-nedd Port Talbot.

Wel, mater i arweinwyr y pedwar awdurdod lleol yn y pen draw, wrth gwrs, yw penderfynu ymysg ei gilydd sut y maent am gryfhau swyddfa rheoli rhaglenni'r rhanbarth mewn ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mater iddyn nhw hefyd yw ystyried swyddogaethau eu pwyllgorau a blaenoriaethu'r cynlluniau a'r rhaglenni a'r prosiectau y byddant yn eu cyflwyno. Mae'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi ailadrodd ei ymrwymiad i Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn ddiweddar, ac rydym yn barod, wrth gwrs, i ryddhau arian i brosiectau sy'n dangos yn hyderus eu bod yn addas i'w diben ac yn gallu rhoi gwerth am arian cyhoeddus. Ond, a gaf i awgrymu eich bod yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog gyda'ch pryderon penodol, a phan fydd mewn sefyllfa i wneud hynny, y bydd yn ymateb o ran y camau penodol y gallai Castell-nedd Port Talbot eu cymryd, ai peidio?

Ddydd Iau, bydd Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi eu hadroddiad,  'Datrys Heriau Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru', a bydd yn cael ei lansio yng nghyfarfod brecwast ddydd Iau o'r grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion yr wyf yn gadeirydd arno. Mae gwahoddiad i'r holl Aelodau i fod yno, a disgwylir eu presenoldeb. Noda'r adroddiad fod ein poblogaeth yma yng Nghymru yn hŷn yn gyffredinol nag yn Lloegr a'r Alban. Hefyd mae gandddi lefelau is o gymwysterau. Mae'r Aelodau wedi sôn llawer yma am effaith bosibl awtomatiaeth a dyfodol gwaith yng Nghymru, a sut y byddai hyn yn effeithio ar fywoliaeth pobl yn gyffredinol, a'u cyflogadwyedd yn benodol.

Cwestiwn allweddol y mae adroddiad Prifysgol Cymru yn ei ofyn yw: sut y gallwn gael mwy o bobl o bob oed yn uwch i fyny'r ysgol sgiliau? Bydd hynny'n destun trafodaeth yn y grŵp trawsbleidiol. A fyddai'r Trefnydd felly'n barod i ymrwymo i ddadl ar y pwnc hwn yn amser Llywodraeth Cymru, fel y gallwn glywed barn y Gweinidog Addysg a'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a chael cynllun manwl o ran yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud a sut y maent yn bwriadu ymateb i'r adroddiad hwnnw?

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghydweithwyr yn y Llywodraeth yn edrych yn ofalus iawn ar yr adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau'r wythnos hon, ac rwy'n sicr yn disgwyl presenoldeb da ar gyfer eich digwyddiad hefyd. O ran y materion yr ydych wedi'u codi, rydym yn ymateb i lawer ohonynt drwy'r dull gweithredu yr ydym yn ei ddilyn drwy'r rhaglen gyflogadwyedd, sy'n mynd ati mewn ffordd wahanol i'r un a fu gennym o'r blaen, a oedd yn aml yn ymwneud ag ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod pobl yn cael y dechrau gorau o ran eu gyrfa. Ond, mewn gwirionedd, rydym yn gwybod bod angen cymorth ar bobl drwy gydol eu gyrfa i uwchsgilio a symud ymlaen i swyddi uwch, a bod ar bobl o bob oed angen y math o gymorth y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei ddarparu. Credaf fod hynny wedi'i grisialu yn y cynllun cyflogadwyedd, ond bydd fy nghyd-aelodau wedi clywed eich cais am ddatganiad a'r cyfle i gael dadl arno yn y Siambr.

A gaf i alw am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â chymorth i bobl anabl sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod ar y cyd rhwng y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd ac ar drais yn erbyn menywod a phlant, gan edrych ar effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar fenywod anabl. Lluniwyd adroddiad gennym—neu, yn bwysicach, lansiwyd adroddiad gennym—adroddiad a luniwyd ar y cyd gan Anabledd Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru ar gefnogi pobl anabl yn y meysydd hyn. Mae tystiolaeth yn parhau i ddangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o brofi trais, cam-drin a thrais rhywiol yn y meysydd hyn. Ond eto i gyd, mae'r cymorth a'r adnoddau ar eu cyfer yn dal yn gyfyngedig. Gwnaed cyfres o argymhellion—nid oes gennyf amser yn awr i'w rhestru i gyd, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar yr argymhellion hynny ac ymateb yn unol â hynny.

Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am adroddiad ar gymorth i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw yng Nghymru? Oherwydd mae'r wythnos hon yn  Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar—6 i 12 Mai. Rydym yn gwybod, er enghraifft, bod ymgyrch Hyderus o Ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn annog cyflogwyr Hyderus o Ran Anabledd i hybu ymwybyddiaeth o fyddardod drwy edrych ar ganolfan cyflogwyr 'Action on Hearing Loss'. Gwyddom fod gwaith a rhaglen iechyd Remploy Cymru yn cynnwys pobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw sydd angen cymorth arnynt. Cysylltwyd â mi'r penwythnos hwn gan COS, y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, sydd wedi'i lleoli ym Mae Colwyn ac sy'n cael ei chefnogi gennyf i, yn siarad am eu prosiect ar ymwybyddiaeth o fyddardod i blant, a'r llu o weithgareddau y maent yn eu trefnu ar draws y Gogledd yr wythnos hon. Ac rydym hefyd yn gwybod—ychydig wythnosau yn ôl, cawsom ddadl ar ddeiseb DEFFO!, llais pobl ifanc fyddar yng Nghymru, pan wnaethant nodi yn 2003 fod Llywodraeth y DU ac yn 2004, y lle hwn, fod y Cynulliad yn cydnabod iaith arwyddion Prydain fel iaith yn ei rhinwedd ei hun. Ond 16 mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi gwneud llawer o gynnydd mewn rhai meysydd, ac mae ein haddysg yn gyffredinol, genhedlaeth yn ddiweddarach, yn dal i wneud cam â'n pobl ifanc fyddar. Rhaid rhoi diwedd ar hyn, a rhaid inni wneud rhywbeth am y peth. O ystyried yr holl feysydd hyn, y cynnydd a wnaed, y newyddion da, gwaith y trydydd sector, ond hefyd y problemau sy'n parhau i gael eu hamlygu, galwaf am ddatganiad i gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod yn unol â hynny. 

14:30

Diolch ichi am godi'r materion hynny. O ran y trais yn erbyn menywod, ac yn enwedig yn erbyn menywod anabl, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhannu copi o'r adroddiad y cyfeiriasoch ato gyda mi, a byddaf yn sicr y gall y Gweinidog perthnasol, felly, archwilio'r adroddiad ac edrych ar yr argymhellion i Lywodraeth Cymru sydd ynddi. Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi dweud y byddai'n fodlon ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw ar yr holl faterion yr ydych wedi sôn amdanynt yn eich cwestiwn heddiw.

Rwyf i, fel llawer o bobl eraill, yn pryderu am y modd y caiff pobl ddigartref eu trin yn y wlad hon. Roeddwn yn arswydo o weld Cyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn troi pobl ddigartref allan o barcdir yn Rhodfa'r Amgueddfa. Efallai fod pobl wedi gweld un dyn digartref yn gweiddi gan fod ei eiddo wedi'i daflu i gefn fan, a phwy a ŵyr i ble yr aeth honno. 'Maen nhw wedi cymryd fy myd i, yn y bôn' oedd ei ymateb. Nawr, gwn nad oedd y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddigartrefedd yn hapus â'r dull o gosbi a gymerodd ei chyd-aelodau yn y Blaid Lafur ar Gyngor Caerdydd wrth fynd i'r afael â digartrefedd yng nghanol y ddinas. Mae'n debyg ei bod hi, fel minnau, yn meddwl tybed pam yr oeddent fel petai'n cymryd cyngor gan gynghorydd Torïaidd a ddywedodd, 'Tynnwch y pebyll yng nghanol y ddinas i lawr'. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymuno â mi i gondemnio'r camau a gymerwyd gan Gyngor Caerdydd? Ac a gawn ni hefyd ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu arfer dda a thosturiol o ran ymdrin â phobl ddigartref, sydd ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac, wrth gwrs, sy'n cynyddu mewn niferoedd? Byddai gweithredu mewn modd tosturiol wrth fynd i'r afael â digartrefedd hefyd yn golygu diddymu Deddf Crwydradaeth 1824. Oherwydd eu hymreolaeth ychwanegol, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi diddymu'r ddeddfwriaeth hynafol hon, sy'n barnu bod cysgu allan a chardota yn drosedd. Allwn ni ddim aros i San Steffan gael gwared ar ddeddfwriaeth sydd wedi bodoli ers bron 200 o flynyddoedd. Mae hwn yn rheswm arall eto pam mae angen datganoli ein system cyfiawnder troseddol yn llawn, er mwyn inni allu datblygu deddfau ymarferol, tosturiol a seiliedig ar dystiolaeth sy'n mynd i'r afael â'r problemau sydd gennym mewn cymdeithas ac nid yn caniatáu ychwanegu atynt.

Rydym yn cydnabod yn glir y cydbwysedd cymhleth ac anodd y mae awdurdodau lleol yn gorfod ei sicrhau rhwng cefnogi unigolion a hefyd ymateb i faterion ehangach sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol, ac mae'r rheini'n heriau y mae'n rhaid i'r heddlu eu hwynebu hefyd. Nid yw cefnogi'r rhai sy'n cysgu allan ar y strydoedd a sicrhau llety iddynt bob amser yn hawdd, ond rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol a gwasanaethau, gan gynnwys yr heddlu, fynd ati i wneud hynny ar sail gwybodaeth am drawma, a sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd unrhyw gamau a gymerir.

Soniasoch am y dull tosturiol hwnnw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn hyfforddiant sy'n seiliedig ar seicoleg ar gyfer gweithwyr tai proffesiynol yn y rheng flaen, a byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol hefyd fynd ati i weithredu ar sail gwybodaeth am drawma o ran pob gwasanaeth cyflawni. Bydd gwasanaethau rheng flaen yn aml yn ymdrin ag unigolion sy'n agored iawn i niwed, yn enwedig pobl sy'n cysgu allan, ac os yw'r mater dan sylw yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddefnyddio cyffuriau, mae cynorthwyo'r unigolyn hwnnw i gael y cymorth y mae ei angen arno'n ganolog i unrhyw ymateb. Gwn fod y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn cymryd diddordeb mawr yn hyn ac yn dangos arweiniad cryf yn y maes hwn. Mae wedi sefydlu tasglu gyda Chyngor Caerdydd a'r gwasanaeth carchardai, a fydd yn ceisio cynnig llety i bobl sydd yn y sefyllfaoedd bregus iawn hyn, drwy'r model tai cyntaf yng Nghaerdydd.

14:35

Yr wythnos diwethaf cefais y pleser o gwrdd â'r Fforwm 'Go Girls, Go Brothers,' pobl, rhieni a phobl ifanc Casnewydd i drafod wyneb yn wyneb am eu profiadau gyda chredyd cynhwysol. Siaradwyd yn rymus am yr effaith ar eu bywydau eu hunain. Un pwynt allweddol a drafodwyd oedd bod rhieni dan 25 oed ar eu colled o £66 y mis ers cyflwyno'r cynllun hwn. Nawr, nid ystadegau ar ddarn o bapur yn unig yw'r teuluoedd hyn, ac mae'n boenus o amlwg bod y polisi niweidiol ac annheg hwn gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn cosbi ac yn caethiwo'r bobl ifanc hyn. A gawn ni ddatganiad a diweddariad ynglŷn â pha bwysau y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar Lywodraeth y DU i newid y polisi hwn, ac a wnewch chi ymuno â mi i ganmol y Fforwm Go Girls, Go Brothers, pobl, rhieni a phobl ifanc Casnewydd am eu hymgyrch benderfynol? Yn sicr, maent yn garfan hynod effeithiol.

Yn sicr, ymunaf â chi i ganmol y sefydliadau hynny am y gwaith a wnânt i rannu eu profiadau real eu hunain a'r heriau y maent yn eu hwynebu, ac i siarad mor agored am y pethau hynny gyda phobl y maent yn gobeithio y byddant yn gallu gwneud gwahaniaeth  iddynt. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ein cyswllt â Llywodraeth y DU ar yr holl faterion sy'n ymwneud â diwygio lles yn aml yn codi amryw o bryderon ynghylch credyd cynhwysol. Byddaf yn siŵr o sicrhau bod y materion sy'n ymwneud yn benodol â phobl ifanc—a'r ffaith eu bod yn waeth eu byd yn awr, ac, fel y dywedwch, eu bod yn cael eu cosbi a'u caethiwo yn eu sefyllfaoedd presennol— yn faterion a godir gyda Llywodraeth y DU, ac fe ofynnaf i'r Gweinidog roi gwybod ichi am y sylwadau diweddaraf a wnaed.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu eglurhad Gweinidogol yn sicr? Mae un yn ymwneud â'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yr wyf wedi'i ofyn i chi a'ch rhagflaenwyr tua 101 o weithiau am losgydd y Barri. Yr ydym mewn tymor newydd, yr wyf yn byw mewn gobaith—mae Duw o blaid y rhai sy'n ymdrechu— ac yr wyf wedi gwneud hynny gyda'm holl egni am amser hir yn y Siambr hon i geisio cael unrhyw ymateb gan y Gweinidog am hyn. Mae trigolion y Barri a thu hwnt yn awyddus iawn i ddeall pam nad yw'r Gweinidog wedi ymgymryd â'r hyn a ddywedodd oedd ei hoff opsiwn, ac a ddywedodd y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal ar gyfer y safle penodol hwn. Deallaf iddo fod yn ceisio eglurhad cyfreithiol a chyngor cyfreithiol. Yr ydym bellach 15 mis—15 mis— ar ôl nodi'r parodrwydd hwnnw gan y Gweinidog mewn cwestiynau i Weinidogion yn ôl ym mis Chwefror y llynedd. Siawns na all y Llywodraeth gyflwyno safbwynt ar hyn ar ôl 15 mis.  

Ac yn ail, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a materion gwledig, a gaf i geisio rhyw fath o amserlen pryd y bydd hi'n ymateb i hyn—credaf mai eich gweithgor chi ydoedd eleni, Weinidog, yn mynd i'r afael â llygredd amaethyddol? Yr oedd yn grŵp amrywiol iawn o unigolion a sefydliadau a ddaeth at ei gilydd i gyflwyno argymhellion i'r Gweinidog fel y gallai ddeall sut y gellid mynd i'r afael â llygredd amaethyddol heb orfod troi'n ôl at y cynigion parthau perygl nitradau y mae'r Gweinidog wedi'u cyflwyno ar hyn o bryd. Mae disgwyl i'r cynigion hynny gael eu deddfu ar 1 Ionawr 2020. Mae'n ymddangos braidd yn rhyfedd i mi nad oes ymateb ffurfiol wedi bod, o leiaf i'r argymhellion ar gyfer y Llywodraeth sydd yn yr adroddiad hwn. Felly, a allwn gael syniad ynghylch pryd y bydd y Gweinidog efallai'n ymateb i'r argymhellion hynny? Mae'n ymddangos eu bod wedi cael cefnogaeth eang gan yr holl gyrff a'u lluniodd, lle'r oedd pob plaid yn barod i gyfaddawdu, i gyflwyno glasbrint na fyddai'n troi'n ôl at ddeddfwriaeth. Felly, os gallwn ni ddeall sut mae hynny'n mynd rhagddo, byddwn yn ddiolchgar iawn.

Diolch ichi am godi'r ddau fater hyn, ac fe fyddai'n well gen i beidio gorfod trafod llosgydd y Barri gyda chi mewn datganiad busnes wythnos ar ôl wythnos, ond, gwaetha'r modd, nid oes gennym eto'r eglurhad cyfreithiol sydd ei angen inni allu datrys hyn.

Ar fater llygredd amaethyddol, mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yn cyflwyno datganiad cyn diwedd y tymor hwn.

14:40

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae nifer o ddisgyblion yn cael eu rhoi o dan anfantais am nad ydy llyfrynnau adolygu rhai o'r pynciau TGAU ar gael drwy'r Gymraeg, a hynny wythnosau yn unig cyn yr arholiadau. Yn benodol, dwi'n sôn am fathemateg uwch a busnes. Does yna ddim pwynt o gwbl iddyn nhw gyrraedd mewn pryd i'r arholiad, fel mae CBAC yn ei ddatgan heddiw.

Yr haf y llynedd, fe gyhoeddwyd adroddiad ar yr union bwnc yma gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, efo nifer o argymhellion cynhwysfawr i geisio rhoi trefn ar y sefyllfa, ond dyma ni unwaith eto yn trafod y broblem. Mi fyddai'n ddefnyddiol iawn i Aelodau'r Cynulliad gael gwybod beth ddigwyddodd i'r argymhellion hynny, a pha weithredu fu arnyn nhw. Ac felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn nodi hynny, a hefyd pa gamau fydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i wneud yn siŵr na fyddwn ni ddim yn trafod hyn yn fan hyn eto y flwyddyn nesa. Mae'n bryd i hyn gael ei sortio, ac mae'n bryd i bobl ifanc yng Nghymru gael chwarae teg llawn ym mha bynnag iaith maen nhw'n dewis gwneud eu cyrsiau. 

Gan droi at bwnc arall: mae naw o awdurdodau lleol yng Nghymru bellach o'r farn bod angen i'r Llywodraeth ddileu'r anomali yma sy'n golygu nad ydy rhai perchnogion tai gwyliau yn talu unrhyw drethi. A dwi'n llongyfarch y naw awdurdod yma sydd wedi datgan hynny yn glir wythnos diwethaf. Dwi yn cyfarfod eich swyddogion chi i drafod hyn cyn bo hir, ond mae angen yr arweiniad gwleidyddol. Felly, a gaf i ofyn i chi am ddatganiad ar ba gamau mae eich Llywodraeth chi yn eu hystyried er mwyn datrys y sefyllfa anfoddhaol hon? Mi allai'r £2 filiwn sy'n cael ei cholli o goffrau Cyngor Gwynedd oherwydd hyn—. Mi fyddai'r arian yna yn medru cael ei ddefnyddio i ddiwallu'r angen am dai yn y maes cymdeithasol ac i gynyddu'r stoc tai ar gyfer pobl leol.

Diolch yn fawr iawn. O ran y mater cyntaf yn ymwneud â'r adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi cymwysterau CBAC, gallaf ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, sef ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adnoddau perthnasol ar gael i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn buddsoddi dros £2.7 miliwn bob blwyddyn i sicrhau'r ddarpariaeth hon. Yn 2018-19, dyfarnwyd swm o £1.1 miliwn o arian grant i CBAC i ddarparu fersiynau Cymraeg o werslyfrau, gan gynnwys deunyddiau adolygu a gyhoeddir yn fasnachol gan gyhoeddwyr yn Lloegr. Byddwn yn cynyddu'r arian grant hwn yn 2019-20 i £1.25 miliwn, a bydd hynny'n cyfateb i 50 o deitlau newydd eraill. Cymerwyd camau cadarnhaol y llynedd gan CBAC a'r cyhoeddwyr i leihau'r amser paratoi rhwng cynhyrchu gwerslyfrau Saesneg a phryd mae'r fersiynau Cymraeg ar gael i ysgolion, ac o dan y cwricwlwm newydd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu seilwaith newydd yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu adnoddau perthnasol yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn y dyfodol.  

O ran y cartrefi sy'n symud o dalu'r dreth gyngor i geisio talu ardrethi busnes, wrth gwrs fe anfonais lythyr eithaf manwl atoch yn nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n falch eich bod yn gallu manteisio ar y cyfle i gael sesiwn friffio gyda swyddogion o ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Rydym yn cydnabod bod problem o bosibl ac y dylid cael mesurau diogelu ar waith, yn yr ystyr fod yn rhaid i dai neu gartrefi fod ar gael i'w rhentu am nifer penodol o ddyddiau'r flwyddyn. Ond os oes yna unigolion sy'n ceisio gweithredu o amgylch y rheolau hynny, yna efallai fod angen inni edrych ar ffyrdd o fynd rhagddi i dynhau'r rheolau hynny.  

Trefnydd, yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i ymweld â fferyllfa gymunedol yng Nghaergwrle yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy. Ac mae'n gwneud gwaith gwych ac yn arwain y ffordd ar y cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf yng Nghymru. Mae wedi cael canlyniadau gwych eisoes drwy leihau'n sylweddol nifer y meddyginiaethau a ragnodir a lleihau'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu lleol. Felly, a wnaiff y Gweinidog Iechyd gyflwyno datganiad a diweddariad am y cynllun peilot hwn, oherwydd credaf y byddai o fudd mawr i Gymru ac i'n gwasanaethau meddygon teulu gyflwyno hyn, er mwyn bod ymhell ar y blaen, cyn inni wynebu pwysau'r gaeaf eleni?

Yn ail, Llywydd, yng Nghymru, fel y gŵyr llawer o bobl, rydym yn dathlu 20 mlynedd o ddatganoli. Rwy'n edrych ymlaen yn wir at eich anerchiad chi a'r Prif Weinidog i Siambr y Senedd yn nes ymlaen. Ond, gyda'ch caniatâd chi, a gaf i dalu teyrnged bersonol i bob un o'r Aelodau Cynulliad hynny, gan gynnwys fy nhad, sydd ddim gyda ni mwyach? Mae'n ddeunaw mis yn ôl i heddiw ers inni golli dad yn anffodus, a gwn y byddai wrth ei fodd yn cael bod yma gyda ni. Felly, a gaf fi ddweud 'Diolch' wrth yr holl Aelodau Cynulliad hynny nad ydynt yma bellach ar ran Cymru, i'w teuluoedd hefyd, am eu hymroddiad a'u gwaith caled dros eu cymunedau a phobl Cymru? [Cymeradwyaeth.]

14:45

Diolch yn fawr iawn, Jack. O ran fferyllfeydd cymunedol, gwn fod y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd. Gwn fod datganiad ysgrifenedig wedi ei chyflwyno ychydig amser yn ôl yn ymwneud â fferylliaeth gymunedol, ond byddwch yn sicr yn gwylio'r cynllun peilot hwnnw'n agos iawn, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ystyried pryd fydd y tro nesaf y bydd yn briodol siarad am hynny.FootnoteLink

Byddwn yn llwyr gefnogi popeth yr ydych wedi'i ddweud, ar ran Llywodraeth Cymru, o ran dathlu'r cyfraniad a chofio cyfraniad holl Aelodau'r Cynulliad nad ydynt yma mwyach.

Gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phrosesau ymgynghori'r Llywodraeth, oherwydd bydd nifer ohonom ni, dwi'n siwr, weid cael tipyn o fraw o ddeall yn ddiweddar fod yna ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau yn y Cynulliad yma, er bod yna filoedd lawer o enwau arni hi, dim ond 12 y cant o'r enwau hynny oedd â chyfeiriadau yng Nghymru? Ac, felly, roedd hynny'n codi cwestiwn, a mater i'r Pwyllgor Deisebau yw hynny, ond, wrth gwrs, mi gododd e yn fy meddwl i wedyn, 'Wel, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn ymatebion maen nhw'n eu derbyn i ymgynghoriadau? Sut gallwn ni, fel Aelodau fan hyn, fod yn sicr bod y Llywodraeth yn rhoi weighting addas i ymatebion o Gymru, oherwydd mi fydd deisebau yn cael eu cyflwyno fel rhan o ymatebion i ymgynghoriadau?' Mi fydd ymatebion sy'n cael eu cynhyrchu ar y we gan grwpiau, mudiadau ymgyrchu a lobio hefyd yn cyfrannu at yr ymgynghoriadau hynny. A dwi'n meddwl, o ran tryloywder, a wnewch chi, fel Llywodraeth, ystyried cyhoeddi pa ganran o bob ymgynhoriad rŷch chi'n derbyn—a ddim restrospectively efallai, ond o hyn ymlaen—eich bod chi'n cyhoeddi pa ganran o bob ymateb neu o bob ymgynghoriad sydd â'r ymatebion yn dod o Gymru, fel ein bod ni'n gallu bod yn glir bod y Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth lawn i'r ymatebion hynny sy'n dod gan etholwyr Cymreig. 

Byddaf yn sicr yn rhoi ystyriaeth i'r hyn yr ydych wedi'i ddweud ac yn ysgrifennu atoch gydag ymateb o ran ein dull ni o ymdrin â'r wybodaeth a gyhoeddwn a sut rydym yn ystyried y pwysoliad hwnnw mewn termau cymharol gan y bobl sy'n ymateb o Gymru ac o fannau eraill.

Roeddwn am ddiolch i Lywodraeth Cymru, ac i'r Gweinidog dros faterion rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg yn benodol, am ysgrifennu llythyr ar fy nghais i yr wythnos diwethaf at Jeremy Hunt, yn gofyn iddo ymyrryd yn achos fy etholwr, Imam Sis. Roedd hwn yn ymyriad a groesewir yn fawr ac rwyf yn wirioneddol ddiolchgar amdano. Efallai fod yr Aelodau yn gwybod bod Imam Sis bellach yn ddifrifol wael. Mae wedi bod ar streic newyn am 142 diwrnod. Mae ei gyflwr yn ddifrifol iawn. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y siambr hon am ddatblygiadau diweddar a, hefyd, i ysgrifennu at y Pwyllgor Ewropeaidd er atal artaith gan dynnu sylw at achos Abdullah Öcalan, fel y cyfarwyddwyd i'w wneud gan y lle hwn ar 20 Mawrth?

Diolch yn fawr iawn am godi mater eithriadol o bwysig, un y mae llawer o bobl yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, fel y gwelsom, fe gredaf, yma yn y ddadl a gawsom yn y Cynulliad. Fel y dywedwch, mae'r Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt, ac amgaeodd gopi o'r llythyr, lle nododd yn glir iawn ddifrifoldeb y sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd. Roedd hefyd wedi cynnwys dolen i drawsgrifiad o'r ddadl a gawsom yma yn y Cynulliad fel y gellid ystyried yr holl gyfraniadau i'r ddadl honno. Ac roedd hi'n glir iawn, o ystyried traddodiad cryf Llywodraeth y DU o wrthwynebu cam-drin hawliau dynol, y byddai'n ddiolchgar iawn pe bai modd i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion yr ymdriniwyd â nhw yn benodol yn y ddadl ac yn eich gohebiaeth. Ac rwyf yn siŵr y bydd hi'n rhannu copi o'r ymateb cyn gynted ag y bydd yn ei dderbyn.

14:50

Trefnydd, rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd wedi cael ein llorio gan yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan y 450 o arbenigwyr ar eu gwaith ar gyflwr natur y byd a'r ffaith bod bron miliwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Gwyddom fod rhywogaethau brodorol wedi diflannu o'n tir, ein moroedd a'n glannau, a bod cnydau mewn perygl oherwydd y dirywiad mewn pryfed peillio. Gwyddom fod y rhywogaeth ar waelod y gadwyn fwyd, sef pryfed, yn achosi dirywiad trychinebus i fywyd adar, ac yn gyffredinol mae'n rhybudd i bob un ohonom  weithredu. Felly, tybed a allem gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y byddwn yn ailfeddwl yn llwyr am ein defnydd o'n tir a'n moroedd ac, yn benodol, y ffordd yr ydym yn cynhyrchu ein bwyd, oherwydd, yn syml, nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn o gwbl i'r hinsawdd drychinebus hon a'r trychineb amgylcheddol naturiol. Gwn y bydd targedau byd-eang yn cael eu gosod yn Tsieina'r flwyddyn nesaf, ond siawns na ddylai Cymru fod ar y blaen o ran newid ein hymddygiad er mwyn ceisio osgoi'r trychineb sy'n ein hwynebu ni i gyd.

Fel y dywedwch, roedd yr adroddiad hwnnw'n peri pryder mawr, a gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr Amgylchedd wedi gofyn i'w swyddogion ei astudio a rhoi cyngor ynghylch beth ymhellach y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn y maes penodol hwn. Mae'r Gweinidog hefyd wedi gwneud datganiad yn ddiweddar, rwy'n credu, ar 'Brexit a'n Moroedd', neu'n bwriadu gwneud hynny—

Mae'n mynd allan i ymgynghoriad.

Mae'n mynd allan i ymgynghoriad ar y mater penodol hwnnw yn fuan iawn, a bydd llawer o'r materion hynny, rwy'n credu, yn croesi i'r ymgynghoriad hwnnw, a'r ffordd yr ydym yn ceisio rheoli ein hardaloedd morol ar ôl Brexit. Ond mae'n broblem yn sicr, ac mae'r adroddiad yn fater y mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono ac y bydd yn ceisio dysgu ohono.

Mi hoffwn i wneud cais am ddadl ar ddeintyddiaeth. Mae yna sawl haen o’n gwasanaeth deintyddol ni sydd angen trafodaeth a dwi’n meddwl y byddai dadl yn fodd o wyntyllu hynny. Yn gyntaf, mae pryderon difrifol ynglŷn â’r system cytundeb UDA—units of dental activity—lle mae yna, dwi’n argyhoeddedig, disincentive, os liciwch chi, i ddeintyddion ddelio â phroblemau lluosog, yn cynnwys yng nghegau plant sydd, dwi’n gwybod, yn methu â chael triniaeth.

Yn ail, mae angen inni gael trafodaeth ynglŷn â’r ddarpariaeth, yr argaeledd, sydd yna o ofal ar y gwasanaeth iechyd. Mi wnaeth syrjeri yn fy etholaeth i, Bridge Street Dental Practice ym Mhorthaethwy, gyhoeddi yn ddiweddar y bwriad i gau—problem cael gafael ar staff a oedd wrth wraidd hynny. Mi ysgrifennais i at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gofyn beth mae’r cleifion fod i’w wneud. Yr ateb ges i oedd, ‘Dywedwch wrthyn nhw ffonio o gwmpas i chwilio am ddeintyddfa sydd yn cynnig gwasanaeth NHS’. Dwi’n gwybod mai prin iawn ydy’r cyfleon i bobl gael mynediad at wasanaeth NHS, ac yn wir, ar restr ddiweddar, Caergybi, yn fy etholaeth i, oedd y lle lle oedd disgwyl i bobl deithio bellaf i gael gwasanaeth deintyddol—59 milltir, yn ôl a blaen, i’r ddeintyddfa agosaf, mae’n debyg.

Ac yn drydydd, fel y dywedais i, methiant i recriwtio deintyddion newydd oedd y broblem wrth wraidd penderfyniad Bridge Street Dental ym Mhorthaethwy. Fel ag y gwnaethom ni lwyddo efo'n hymgyrch i gael hyfforddiant meddygol ym Mangor, dwi’n meddwl y byddai’r ddadl hon hefyd yn fodd o wyntyllu’r angen am hyfforddiant deintyddol hefyd i ddatblygu oddi ar gefn yr hyfforddiant meddygol sydd yn dechrau yno’n fuan.

Fe gofiwch fod y Gweinidog Iechyd wedi gwneud datganiad yn ddiweddar iawn ar fynediad at wasanaethau deintyddol. Yn y datganiad hwnnw roedd ffocws cryf ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, o ran canlyniadau a mynediad at wasanaeth. Bydd y Gweinidog wedi clywed eich cais am ddadl lawnach ar ddeintyddiaeth, sy'n cwmpasu recriwtio ac ati, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth iddo.FootnoteLink

Hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y bwriad i gau dwy ysgol Gymraeg ym Mhontypridd. Mae Rhondda Cynon Taf o dan y blaid Lafur am gau ysgol Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn i adeiladu ysgol Gymraeg sydd filltiroedd i ffwrdd—milltiroedd i ffwrdd —o'r disgyblion. Mae yna blant mor ifanc â thair oed y bydd disgwyl iddynt deithio hyd at chwe milltir i fynd i'r ysgol. Mae'n anodd iawn i rieni sy'n mynd â'r plant i'r ysgol. Mae rhai yn dweud wrthyf y bydd yn amhosibl. Felly, yr hyn sydd gennym yma, er gwaethaf y targed o filiwn o siaradwyr, yw cyngor dan reolaeth Llafur yn gosod rhwystrau i gymunedau dosbarth gweithiol i gael mynediad i'r Gymraeg yn eu cymunedau eu hunain. Mae ysgolion yn fwy na brics a morter; maent yn gonglfeini i gymunedau, ac mae'r hyn sy'n digwydd yma yn Rhondda Cynon Taf yn warth llwyr. Felly, hoffwn wybod beth sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud am y peth.

14:55

A gaf i eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog addysg yn mynegi eich pryderon? Wrth gwrs, mater i'r awdurdod lleol fydd penderfynu ymhle mae'n lleoli ei ysgolion ac ymhle mae'n buddsoddi yn ei ysgolion o fewn ardal yr awdurdod lleol. Ond rwy'n siŵr eich bod wedi mynegi eich pryderon gyda'r awdurdod lleol o ran unrhyw effaith y gallai hynny ei gael ar y gallu i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddwn yn eich annog chi i sôn am y pryderon hynny gyda'r Gweinidog addysg.

3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg

Yr eitem nesaf o fusnes, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad, Julie James.  

Diolch, Llywydd. Ym mis Mawrth 2017, eglurodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad gwaith teg. Ers hynny, mae llawer iawn o waith adeiladol wedi cael ei wneud mewn partneriaeth gymdeithasol deirochrog rhwng y Llywodraeth a'n cydweithwyr mewn busnes ac undebau llafur i ddechrau gwireddu'r ymrwymiad hwnnw'n ymarferol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rhoddais wybod i bawb ohonoch chi ym mis Gorffennaf y llynedd ein bod wedi penodi'r Comisiwn Gwaith Teg, dan gadeiryddiaeth Athro Linda Dickens, i ystyried a gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol i wneud argymhellion ar sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. Roeddem ni'n teimlo ei bod yn bwysig i'r comisiwn fod yn annibynnol ar y Llywodraeth er mwyn iddo fod yn wrthrychol ac yn ddiflewyn ar dafod. Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio gan y Comisiwn, yn rhydd o fewnbwn golygyddol gan swyddogion Llywodraeth Cymru, a gofynnwyd i'r comisiwn adrodd erbyn mis Mawrth. Roedd y Prif Weinidog a minnau wrth ein boddau o gael yr adroddiad pan wnaethom ni gyfarfod â'r Comisiynwyr ddiwedd mis Mawrth, a phleser mawr yw cael cyhoeddi'r adroddiad hwnnw heddiw.

Dirprwy Lywydd, hoffwn gofnodi bod Llywodraeth Cymru yn diolch i'r Comisiwn am ei ymrwymiad i'r hyn sydd, yn amlwg, wedi bod yn ddarn trylwyr o waith dros nifer o fisoedd. Mae'n tystio i rinweddau'r Comisiwn ei fod nid yn unig wedi adrodd ar amser ond ei fod wedi cynhyrchu adroddiad rhagorol ac ystyriol. Fel y cydnabu'r Comisiwn yn ei adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i waith teg fel ffordd o greu economi sy'n gryfach, yn fwy cydnerth ac yn fwy cynhwysol.

Rwy'n cytuno â'r Comisiwn pan ddywed fod gwaith teg yn cyd-fynd â thraddodiadau sy'n hirsefydlog yng Nghymru, sef cydsafiad cymdeithasol a chydlyniant cymunedau. Mae'n hanfodol inni fynd i'r afael â'r heriau o ran anghydraddoldeb, tlodi a lles yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf i o'r farn fod y Comisiwn wedi datblygu argymhellion cyraeddadwy sy'n cynnig llwybr ymarferol i sicrhau'r gwaith teg hwnnw yng Nghymru. Mae'n adeiladu ar y seiliau cadarn yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi eu llunio eisoes, sy'n cynnwys y cod moesegol ar gaffael mewn cadwyni cyflenwi a'n contract economaidd, sy'n hyrwyddo gwaith teg a thwf cynhwysol.

Mae'r Comisiwn wedi gwneud cyfanswm o 48 o argymhellion mewn wyth maes ar gyfer eu gweithredu. Yn gyntaf, mae wedi ceisio mynegi pam mae angen clir inni anwesu, hyrwyddo a hybu gwaith teg ar draws pob sector yng Nghymru, y pryder cynyddol am ansawdd swyddi, y cynnydd mewn swyddi isel eu cyflog sy'n gofyn sgiliau isel ac o natur ansicr, a chanlyniadau hyn o ran cynhyrchiant isel, dyled, anghydraddoldeb a thlodi mewn gwaith. Mae'r Comisiwn wedi datblygu diffiniad o waith teg lle caiff gweithwyr eu gwobrwyo, eu clywed a'u cynrychioli'n deg, lle mae sicrwydd, ac y gallant ddod yn eu blaenau mewn amgylchedd sy'n iach a chynhwysol lle perchir hawliau. Bydd y diffiniad hwn nid yn unig yn helpu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl ysgogiadau i hyrwyddo a hybu gwaith teg, ond bydd yn ystyrlon hefyd i gyflogwyr a gweithwyr.

Er ein bod yn cydnabod bod cyfyngiadau ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o fewn y setliad datganoli presennol, gofynnwyd i'r comisiwn ystyried y camau ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys y potensial ar gyfer deddfwriaeth newydd. Mae'r Comisiwn wedi argymell sut y gallem ddefnyddio'r cymhwysedd sydd gennym i hybu gwaith teg, ac rwy'n falch ei fod wedi cymeradwyo'r ymrwymiad a wnaethom eisoes yn Llywodraeth Cymru i roi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol er mwyn gwreiddio partneriaeth gymdeithasol yn fwy cadarn.

Mae'r adroddiad wedi awgrymu mewn ffordd ddefnyddiol sut y gallem ddylanwadu ar y maes polisi hanfodol hwn mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli, sy'n fater o bwys arbennig wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir, wrth adael yr UE, na ddylid gwanhau hawliau cyflogaeth presennol, y dylai cytundebau masnach newydd ddiogelu safonau cyflogaeth, ac y dylai deddfwriaeth cyflogaeth y DU yn y dyfodol fod yn gydradd â chyfraith gyflogaeth flaengar yr UE.

Y pedwerydd maes a ystyriwyd gan y Comisiwn oedd y defnydd o gymhellion economaidd i hyrwyddo gwaith teg. Mae eu cynigion yn cyd-fynd ag ethos cyfnewid iach yng nghontract economaidd Llywodraeth Cymru. Rydym eisoes yn gallu cyfeirio at nifer o enghreifftiau o fusnesau o bob lliw a llun yn gwneud cyfiawnder ag ystyr gwaith teg. Ac rwy'n falch o weld sut y mae'r Comisiwn yn ein helpu ni i ystyried sut y gellir ymestyn yr arfer hwnnw ledled Cymru gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd gennym ni.

Mae rhan 5 yr adroddiad yn ystyried pwysigrwydd undebau llafur a bargeinio ar y cyd ar gyfer gwaith teg yn yr economi. Mae tystiolaeth ymchwil y Comisiwn yn dangos yn gyson fod amcanion pwysig o ran gwaith teg yn cael eu gwasanaethu gan bresenoldeb undebau a chydfargeinio yn y gweithle. Mae'r Comisiwn yn mynegi bod presenoldeb undebau llafur yn bwysig wrth wreiddio, monitro a gorfodi safonau cyfreithiol mewn arferion yn y gweithlu ac wrth helpu i orfodi hawliau cyflogaeth yn effeithiol. Rydym yn cefnogi asesiad sylfaenol y Comisiwn fod undebau llafur a chydfargeinio yn cyfrannu at gynhyrchiant a thwf economaidd, tra bod gwendid neu absenoldeb undebau llafur yn cyfrannu at anghydraddoldeb.

Mae'r Comisiwn wedi ystyried hefyd sut y gallem gymryd camau i ennyn diddordeb, brwdfrydedd a chyfranogiad i'r agenda o ran gwaith teg yng Nghymru ac argymhellodd y camau y gallem eu cymryd i gynorthwyo a chefnogi cyflogwyr ewyllysgar i fod yn sefydliadau gwaith teg. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn. Mae gwaith teg yn rhan hanfodol o economi fodern, gystadleuol ac nid oes dim ynddo i godi dychryn ar neb. Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn barod i weithio ar y cyd gyda busnesau a sefydliadau o bob maint i ddatblygu economi fodern, gystadleuol a chynhyrchiol i'r unfed ganrif ar hugain.

Mae Rhan 7 yn adroddiad y Comisiwn yn edrych ar y gallu i fwrw ymlaen â'r gwaith yng Nghymru ac mae'n awgrymu y dylid gwella'r sefydliadau a'r mecanweithiau presennol a chreu mecanweithiau ychwanegol, ac mae wedi gwneud argymhellion ynglŷn â sut i  wneud hyn. Yn adran olaf yr adroddiad, mae'r Comisiwn yn ystyried sut y gallem wella a chasglu data i fesur cynnydd, y bydd angen i'n gwasanaeth gwybodaeth a dadansoddi eu hystyried yn fanwl.

Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n bwriadu mynd ar ôl y manylder hwnnw heddiw, cyn inni roi ein hymateb ffurfiol, ar wahân i ddweud y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio ein syniadau ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n defnyddio'r pwerau a'r dulliau sydd ar gael inni ar gyfer gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru. Fel y nododd y Comisiwn, mae gwaith teg yn gofyn am weithredu y tu hwnt i gwmpas unrhyw bortffolio gan Weinidog unigol. Bydd Gweinidogion nawr yn trafod yr adroddiad, ei argymhellion a'i oblygiadau i feysydd eu portffolio gyda'u swyddogion i borthi'r ymateb ehangach gan Lywodraeth Cymru.

Er hynny, gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y chwe argymhelliad blaenoriaethol a ddatblygwyd gan y Comisiwn. Maen nhw'n cyd-daro â'n hymrwymiad fel Llywodraeth i ysgogi gwaith teg. Yr argymhellion yw y daw holl Weinidogion a swyddogion Cymru i fod yn gyfrifol am waith teg; y bydd y diffiniad arfaethedig o waith teg yn cael ei fabwysiadu a'i ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru ac wrth hyrwyddo gwaith teg; y bydd canfyddiadau'r Comisiwn yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol arfaethedig a sut y gallai Llywodraeth Cymru hyrwyddo undebau llafur a chyd-fargeinio drwy ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid; y caiff strwythur ei sefydlu ac y caiff ei ariannu'n ddigonol o fewn Llywodraeth Cymru i gydgysylltu a llywio gweithgareddau gwaith teg; ac y bydd Gweinidogion yn monitro sut mae gwaith teg yn cael ei ddatblygu yn eu hardaloedd nhw i lywio adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar waith teg yng Nghymru.

Mae'r Comisiwn wedi gwahodd ein partneriaid cymdeithasol i roi ymatebion ffurfiol. Byddwn yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru a fydd yn adlewyrchu eu barn nhw ym mis Mehefin. Ac, yn olaf, fel y dywedodd y Comisiwn, bydd ein partneriaid cymdeithasol yn allweddol wrth barhau ag agenda gwaith teg. Byddwn yn ymgynghori'n llawn â nhw ynglŷn â gweithredu argymhellion y Comisiwn ar sail deirochrog a byddwn yn cynnal cynhadledd gwaith teg ym mis Mehefin i ddatblygu dull y cytunir arno. Diolch.

15:00

Wel, 38 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n cymryd rhan mewn thesis yn y brifysgol gyda dau fyfyriwr arall ar ddemocratiaeth ddiwydiannol, coeliwch neu beidio, ac yn edrych ar lawer o'r meysydd a'r arbrofion a'r cynigion hyn bryd hynny. Ond, yn y bôn, roeddem yn cydnabod bod sefydliad llwyddiannus yn gwrando ar ei gwsmeriaid, yn allanol ac yn fewnol fel ei gilydd, a bod sefydliad sy'n gwneud y mwyaf o'i gynhyrchiant a llwyddiant yn cydnabod y gweithwyr, yn rhoi cyfrifoldeb iddynt, yn cydnabod eu cryfderau, ond hefyd yn datblygu eu potensial—. Sut, o fewn hyn, felly, yr ydych chi'n bwriadu cydnabod yr angen ar draws pob sector, nid y sector preifat yn unig, i fanteisio i'r eithaf ar botensial rheoli perfformiad effeithiol? Yn rhy aml o lawer, rydym yn clywed, pan ddefnyddir y term hwn, am werthuso yn unig, yr hyn a ddylai fod yn giplun o flwyddyn yn unig ac nid yn gyfle i roi pregeth i'r gweithiwr, pryd y dylid rhoi llais i'r unigolyn drwy gydol y flwyddyn i gytuno ar ei anghenion, i gynnig ei syniadau ei hun a chytuno ar fodelau a chynlluniau gweithredu i fwrw ymlaen â hynny, gan gynnwys y sgiliau hyfforddi a'r ymgysylltiad sydd eu hangen er budd pawb? Unwaith eto, mae'n ymddangos bod hynny'n rhywbeth na allwn dynnu sylw ato yn yr adroddiad hyd yma.

Rydych chi'n dweud bod gwaith teg yn cyd-fynd â thraddodiadau hirsefydlog yng Nghymru o gydsafiad cymdeithasol a chydlyniant cymunedol. Ac, yn amlwg, mae'n siomedig mai gan Gymru, ddau ddegawd ar ôl datganoli, y mae'r ganran uchaf o weithwyr heb gontractau parhaol, y lefelau uchaf o ddiweithdra ac—unwaith eto—wrth gwrs, y lefelau isaf o gyflog ledled y DU.

Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n glir na ddylid gwanhau'r hawliau cyflogaeth presennol wrth adael yr UE, ac rwyf innau, wrth gwrs, yn cytuno â chi yn hynny o beth. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych i'r cytundeb tynnu'n ôl gwirioneddol rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'r Undeb a'r Cyngor Ewropeaidd, lle cyfeirir, er enghraifft, at hawliau'r gweithiwr, yr hawl i beidio â gwahaniaethu yn ei erbyn ar sail cenedligrwydd, yr hawl i driniaeth gyfartal o ran amodau cyflogaeth a gwaith, a hawliau ar y cyd ac yn y blaen. Mae hefyd yn datgan y dylai'r Deyrnas Unedig sicrhau nad yw hawliau, mesurau diogelu na chyfle cyfartal yn cael eu lleihau, fel y cânt eu nodi yng nghytundeb 1998 a elwir yn 'Hawliau, Mesurau Diogelu a Chyfle Cyfartal', yn digwydd yn sgil tynnu'n ôl o'r undeb.

Y tu hwnt i hynny, yn eich datganiad, rydych yn cyfeirio at gydfargeinio a swyddogaeth hynny o ran twf economaidd. O edrych yn sydyn ar wefan Llywodraeth y DU: mae'n dweud y bydd angen ichi weithio gyda'r undebau i drafod newidiadau yn nhelerau ac amodau'r gweithwyr, ond pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael neu y byddwch yn eu cael gyda chyflogwyr—y sector preifat, y trydydd sector a'r sector statudol—i edrych ar y goblygiadau posibl sydd gan wahanol fodelau o ddirwyn hyn i ben? Fel y gwyddoch chi, ar hyn o bryd, mae bargeinio yn y sector preifat yn cael ei wneud yn bennaf ar lefel y cwmni neu'r gweithle. Ond mae cytundebau ar draws y diwydiant neu gytundebau ar draws y sefydliad yn fwy cyffredin yn y sector cyhoeddus. Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau bod llais cyflogwyr, yn ogystal â chynrychiolwyr gweithwyr, yn rhan o'r gwaith o gynyddu cyflogaeth a chynhyrchiant i'r eithaf a lleihau absenoldeb a throsiant gweithwyr wrth inni fwrw ymlaen â hyn?

Wrth gwrs, ar lefel y DU, comisiynodd Llywodraeth y DU adroddiad gan Matthew Taylor ar weithio modern i sicrhau bod hawliau cyflogeion yn cael eu diogelu a'u huwchraddio wrth i ni adael yr UE a bod marchnad lafur y DU yn llwyddiannus ac yn gystadleuol wrth iddi esblygu. Mae'r cynllun 'Gwaith Da' sy'n deillio o hynny yn rhan o strategaeth ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU ac mae'n cynnwys ac yn uwchraddio hawliau miliynau o weithwyr i sicrhau ein bod ni'n elwa ar waith teg a pharchus. Felly, pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o gynllun 'Gwaith Da' Llywodraeth y DU a'r cyfleoedd y mae'n eu cynrychioli ar gyfer gwella marchnadoedd, amodau a thelerau cyflogeion yng Nghymru mewn meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau datganoledig amdanyn nhw? Pa gynlluniau a wnaeth Llywodraeth Cymru i addasu amcanion strategol busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru o ran hyrwyddo bargeinio ar y cyd? Pa fesurau ymarferol a gymerodd Llywodraeth Cymru ei hun i gefnogi gwaith teg, neu'r cynllun 'Gwaith Da', o bosibl, gyda chyflogaeth yng Nghymru? Pa asesiad—yn olaf—a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â faint o arian cyhoeddus a gaiff ei ddefnyddio i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad, er enghraifft, ei awgrym y dylai Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi yng nghyswllt Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, a hyrwyddo gwaith teg drwy fesurau eraill fel yr awgrymir, gan gynnwys datblygu strategaeth cyfathrebu a marchnata i greu ymwybyddiaeth eang o'r agenda? Diolch yn fawr.  

15:05

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cyfraniad cynhwysfawr hwnnw. Rwy'n credu imi glywed hyd at 24 o gwestiynau i gyd. Nid wyf yn credu y gallaf ateb pob un ohonyn nhw heddiw. Efallai fy mod i'n anghywir, efallai fod yna 27—fe gollais i gyfrif ar un pwynt—ond, serch hynny, campwaith o ran rhai o'r materion a godwyd.

Yn anffodus, bydd yn rhaid imi siomi'r Aelod a phlesio'r Dirprwy Lywydd efallai drwy ddweud mai'r cyfan a wnawn ni heddiw, wrth gwrs, yw cyhoeddi adroddiad a derbyn cyrhaeddiad eang yr argymhellion. Mae llawer o'r manylion y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw wedi eu cynnwys yn rhannau mwy manwl yr adroddiad ac, fel y dywedais i, mae'r Comisiwn yn gofyn am ymatebion i'w adroddiad—ac efallai yr hoffai'r Aelod ystyried gwneud felly—gan bartneriaid cymdeithasol ac eraill ledled Cymru. Bydd y Llywodraeth yn ymateb tua diwedd mis Mehefin, ac yna byddwn yn cynnal cynhadledd gwaith teg i symud ymlaen â hyn gyda gweithgarwch tairochrog.

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi tynnu sylw at gryn dipyn o bethau yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw, ond efallai fod ei ogwydd ef ychydig yn wahanol i'r un sydd gennyf i. Roedd yr adroddiad, yn fy marn i, yn un cytbwys iawn. Cafodd groeso eang gan y cyflogwyr gyda'r un brwdfrydedd â'r undebau llafur. Felly, hoffwn fanteisio unwaith eto ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Comisiwn am y gwaith gwirioneddol drylwyr a wnaeth. Hoffwn hefyd groesawu cyfraniad yr Aelod, a dweud, pe bai'n dymuno cyflwyno ymateb i'r cyfeiriad hwnnw, byddem yn hapus iawn i'w ystyried pan fyddwn yn ymateb yn ffurfiol maes o law.

15:10

A gaf i groesawu adroddiad y Gweinidog ar gyhoeddiad yr adroddiad gan y Comisiwn Gwaith Teg? Wrth gwrs, ar yr ochr hon, yma ar feinciau Plaid Cymru, fel y mynegwyd gennym yn weddol ddiweddar, mae gennym ffydd yn yr agenda gwaith teg oherwydd yr holl gefndir a amlinellwyd gan y Gweinidog yn ei datganiad—y pryder cynyddol am ansawdd swyddi, y twf mewn swyddi â chyflog isel, o sgiliau isel ac o natur ansicr, a chanlyniadau hynny o ran cynhyrchiant isel, dyledion, anghydraddoldeb a thlodi mewn gwaith.

Felly, hoffwn groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn. Rwy'n croesawu'r ffaith yn arbennig y bydd y Llywodraeth nid yn unig yn ymgynghori â'r rhanddeiliaid perthnasol, gan ei bod yn allweddol i gael eu cydsyniad nhw yn hyn o beth, ond hefyd y ffaith y bydd hyn yn gyfrifoldeb ar holl Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Nawr, yn amlwg, wrth symud ymlaen, ein gwaith ni ar yr ochr hon i'r Siambr yw sicrhau bod yr agenda gwaith teg yn cael ei gweithredu, a'i bod yn cael ystyriaeth gyson mewn deddfwriaeth a gaiff ei drafftio gan y Llywodraeth hon. Oherwydd, fel y gwelsom yn y gorffennol, ac fel y mynegodd cyn aelod o'r Cabinet mewn sesiwn o'r Pwyllgor Cyllid, gall Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol gael ei hanwybyddu, ac mae hynny wedi digwydd, wrth ddrafftio cyllideb, dyweder, ac mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth hefyd. Felly, a gaf i ofyn yn gyntaf i gyd i'r Gweinidog roi sicrwydd inni y rhoddir sylw dyledus i ddarpariaethau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol wrth inni symud ymlaen gyda'r agenda gwaith teg?

Yn ogystal â hynny, a gaf i ofyn: sut y caiff darpariaethau'r gwaith gan y Comisiwn gwaith teg eu hadlewyrchu mewn caffael cyhoeddus i'r dyfodol? Rydym wedi clywed, mae'n amlwg, fod llawer o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd, a phwysleisiodd y Gweinidog yr holl waith sy'n digwydd nawr sy'n cyd-fynd ag agenda'r Comisiwn gwaith teg. Ond beth fydd yn newid i'r dyfodol gan fod gennym adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg—sut wnaiff hynny hwyluso unrhyw newid, yn enwedig o ran darpariaeth caffael cyhoeddus i'r dyfodol? Ac yn olaf, a gaf i gadarnhad o'r llinell amser pan gawn weld rhywfaint o'r agenda gwaith teg yn cael ei gweithredu mewn gwirionedd? Diolch yn fawr.  

Ie wir, diolch yn fawr am y pwyntiau hynny, Dai Lloyd. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn bwriadu sicrhau gyda gofal mawr ein bod ni'n gwella Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol pan fyddwn ni'n gwneud y gwaith hwn ac, yn wir, pan fyddwn ni'n gwneud gwaith  arall. Byddwch yn gwybod fy mod i, yn fy mhortffolio blaenorol, wedi bod yn allweddol o ran cael darn o waith ymchwil i wneud yn siŵr nad ydym, yn anfwriadol, yn gwanhau'r Ddeddf honno drwy ddeddfwriaeth ddilynol, ac rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n dwyn hynny ymlaen i'r Ddeddf hon hefyd. Os bydd raid, bydd angen inni ddiwygio'r Ddeddf honno i'w chryfhau hi, ond bydd hynny'n rhan o'r ystyriaeth wrth fwrw ymlaen â'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol.

O ran caffael cyhoeddus, mae'r adroddiad yn gwneud rhai argymhellion manwl iawn ynghylch defnyddio arian cyhoeddus fel trosoledd i gael ymatebion o fathau arbennig. Bydd hynny'n un o'r pethau y byddwn ni'n eu hystyried yn ofalus iawn. Mae'r adroddiad eisoes wedi cael ei drafod gyda phartneriaid cymdeithasol ac yn y blaen, felly'r amserlen yw y byddwn ni'n ymateb ddiwedd mis Mehefin pan fydd yr holl bartneriaid cymdeithasol, ac unrhyw un arall sydd am wneud cyfraniad, wedi cael cyfle i wneud hynny. Mae honno'n amserlen dynn iawn mewn un ffordd, ond, ar un ystyr, rydym wedi datblygu hyn mewn partneriaeth gymdeithasol, ac felly mae hi'n amserlen y mae pobl yn hapus â hi ac yn hapus i fwrw ymlaen â hi. Bydd gennym gynhadledd wedyn ym mis Mehefin, a byddwn yn gwahodd ystod eang o randdeiliaid iddi, er mwyn ei llunio ar gyfer mynd yn ein blaenau.

Holl ddiben hyn, wrth gwrs, yw mynd â'r sector preifat, y sector cyhoeddus, yr undebau llafur a'r Llywodraeth, gan gynnwys pawb ohonom ni yma, ar hyd yr un llwybr tuag at ein nod cyffredin. Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg fod yna nodau cyffredin yma. Y cwestiwn mawr fydd sut y gallwn ni gael y dylanwad mwyaf ar gyfer cyflawni'r nodau cyffredin hynny, ac rwy'n credu y byddwch chi, yn briodol felly, yn ein dal ni i gyfrif o ran pa mor gyflym y byddwn ni'n gwneud hynny.  

A gaf i'n gyntaf groesawu'r adroddiad amserol iawn hwn ac un cynhwysfawr iawn hefyd ar waith teg? Mewn cyfnod pan mai'r ddwy her fawr sydd gennym ni yn ein cymdeithas ac yn fyd-eang, mewn gwirionedd, yw'r argyfwng newid hinsawdd a'r angen i fynd i'r afael â hynny, ond hefyd y ffactor mawr arall o ansefydlogrwydd cymdeithasol, sef yr anghydraddoldeb o ran cyfoeth ac incwm—. Ac, yn y DU, mae 60 y cant o'r holl gyfoeth wedi cael ei etifeddu; ni chafodd ei ennill, ni chafodd ei greu, mae'n gyfoeth a etifeddwyd, ac rydym yn gwybod am ganlyniadau hynny. Rydym hefyd yn gwybod, flwyddyn ar ôl blwyddyn, am y 10 mlynedd diwethaf, fod incwm y 10 y cant tlotaf mewn cymdeithas wedi gostwng a bod incwm y 10 y cant uchaf wedi cynyddu. Y ffigurau ar gyfer 2018 yw bod y 10 y cant tlotaf wedi gostwng ychydig yn is na 2 y cant; a chynnydd o bron 5 y cant yn y pumed ran gyfoethocaf, ac mae hynny wedi bod yn duedd ledled Ewrop mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod hyn yn achosi ansefydlogrwydd.

Mae llawer o agweddau ar yr adroddiad hwn sy'n bwysig iawn. Rwy'n credu bod hyn yn ychwanegu cefnogaeth at ymrwymiad y Prif Weinidog i gyflwyno Deddf partneriaeth gymdeithasol amserol iawn, a bydd hynny'n rhoi sail statudol i bartneriaeth gymdeithasol rhwng undebau llafur, busnesau a Llywodraeth Cymru. Ond a gaf i dynnu sylw at un peth yr wyf i'n falch iawn ohono yn yr adroddiad? Mae'n cydnabod y cysylltiad rhwng bargeinio ar y cyd, aelodaeth o undebau llafur a thlodi. Ac rydym yn gweld hyn mewn gwirionedd ledled Ewrop. Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol wedi cyhoeddi gwybodaeth anhygoel o werthfawr yn ddiweddar, ac mewn gwirionedd mae'n dangos lle ceir bargeinio ar y cyd, lle mae gan bobl sy'n gweithio lais gwirioneddol o fewn yr hyn sy'n digwydd o fewn y diwydiant, o fewn cymdeithas, mae eu telerau a'u hamodau gwirioneddol yn well a hefyd y bwlch cyfoeth—nid ydyn nhw'n cael eu gosod yn erbyn ei gilydd ac yn gostwng yn raddol i'r lefel gyffredin isaf.

Ac a gaf i awgrymu bod yna dri maen prawf allweddol mewn Deddf partneriaeth gymdeithasol? Un yn amlwg yw rhoi sylfaen ddeddfwriaethol i'r bartneriaeth honno. Yr ail yw defnyddio ein caffaeliad o £5 biliwn i £6 biliwn y flwyddyn. Os yw cwmnïau yn awyddus i gael cyfran o'r arian cyhoeddus hwnnw, mae'n sicr nad yw'n afresymol inni sefydlu a gosod safonau gwaith moesegol. Oherwydd os oes un egwyddor sylfaenol y gallwn ni ei gwarantu yn y Cynulliad hwn, yng Nghymru, yn y DU a'r tu hwnt, dyma hi: os bydd rhywun yn gweithio'n galed mewn wythnos waith lawn, yna dylai fod ganddo'r hawl ddiymwad i fywoliaeth o safon weddol. Dyna ddylai'r safon ofynnol fod, ac mae'n ymddangos i mi mai defnyddio ein pŵer caffael i wneud hynny yw'r peth iawn i'w wneud. Ac yna'r pwynt sylfaenol sy'n dilyn o hynny—a'r rheswm am y Ddeddf—yw bod yn rhaid i fonitro a gorfodi ddigwydd. Rydym ni wedi gweld gweithredu'r isafswm cyflog yn cael ei ddiystyru, ac ni ddylem wneud y camgymeriad hwnnw. Felly, mae'n ymddangos i mi fod hynny'n bwysig iawn.

Felly, o ran y tri chwestiwn yr hoffwn eu gofyn i chi, mae un yn ymwneud ag amserlen bosibl ar gyfer cyflwyno'r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol a addawyd. Yn ail, a ydych chi'n credu y gallai fod cyfle o fewn honno i ymgorffori rhywfaint o gonfensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar waith teg? Ac, yn drydydd, llinell amser o bosibl yng nghyswllt yr ymrwymiad hefyd—yr ymrwymiad gwerthfawr iawn—i weithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y mae'r Torïaid yn San Steffan wedi gwrthod ei gweithredu, ond a fyddai'n ein galluogi ni i gymryd camau pellach i hyrwyddo dyletswydd economaidd gymdeithasol yn ein cymdeithas.

15:15

Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud. Mae'r adroddiad, rwy'n falch iawn o ddweud—ac rwyf i am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r comisiynwyr gwaith teg, sef, Dirprwy Lywydd, yr Athro Linda Dickens MBE, athro Emeritws cysylltiadau diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick; Sharanne Basham-Pyke, cyfarwyddwr ymgynghorol Shad Consultancy Ltd; Athro Edmund Heery, athro cysylltiadau cyflogaeth yn Ysgol Fusnes Caerdydd; a Sarah Veale CBE, a oedd yn bennaeth adran hawliau cydraddoldeb a chyflogaeth y TUC hyd nes iddi ymddeol yn 2015. Rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud darn aruthrol o waith mewn cyfnod byr iawn o amser. Roeddem wedi pennu cyfyngiadau mawr iawn o ran amser, gyda pheth anesmwythder, mae'n rhaid imi ddweud. Rwyf wrth fy modd gyda'r darn o waith y maen nhw wedi ei gynhyrchu, ond cafodd yr amserlen ei llywio gan ein hawydd i gael y Ddeddf yn ei lle a'i hamseru o fewn tymor y Cynulliad. Felly, dyna'r amserlen, i bob pwrpas.

Cynhyrchwyd y darn hwnnw o waith; darn da iawn o waith ydyw. Bydd ein hymateb swyddogol i hwnnw'n dod yn gyflym iawn, ac yna'r gynhadledd ym mis Mehefin i fwrw ymlaen â hyn yn y bartneriaeth gymdeithasol deirochrog—oherwydd dyna graidd y mater, wrth gwrs—gyda golwg ar gael Deddf ddrafft ar lawr y Cynulliad cyn gynted ag y mae hynny'n ymarferol bosibl ei reoli yn nhymor yr hydref nesaf. Bydd Mick Antoniw mor gyfarwydd â mi o leiaf, os nad yn fwy cyfarwydd, â pha mor bell y mae'n rhaid ichi ddod yn ôl o gyflwyniad Deddf er mwyn gallu cael y cyfarwyddyd yn iawn, felly mae amser yn hanfodol. Felly, rydym ni'n eiddgar i gael hynny i mewn.

Bydd y Ddeddf honno, yn fy marn i, yn rhoi pŵer i'r cod ymarfer caffael moesegol sydd gennym ni fel y bydd pobl yn cael eu gwobrwyo am gydymffurfio ag ef ac am ymuno ag ef, a bydd yn rhaid ystyried a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud pan fydd pobl yn ei dorri ar ôl ymrwymo iddo ac yn y blaen. Rwy'n credu bod cyfres gyfan o bethau yn yr adroddiad—gwn fod yna gyfres gyfan o bethau yn yr adroddiad ynglŷn â sut y gallwn gynnwys cydfargeinio priodol ar draws haenau gweithredu yn ein heconomi, nid yn unig gyda chyflogwyr unigol ac yn y blaen. Bydd ef yn gwybod cymaint â hynny o leiaf, os nad yn well na mi, faint o fargeinio rhwng undebau llafur o'r math hwnnw a sbardunodd nid yn unig lefelau cyflog—oherwydd nid oes a wnelo hyn â lefelau cyflog yn unig; mae hyn yn ymwneud â lefelau cydraddoldeb a chyfranogiad yn y cynhyrchiant y mae eich llafur chi yn ei gynhyrchu. Mae'r adroddiad yn gryf iawn yn hynny o beth, yn fy marn i; roeddwn i'n falch iawn o ddarllen hynny.

Hoffwn i bwysleisio, ar hyn o bryd, nad yw hyn yn achosi unrhyw broblem i'n partneriaid cymdeithasol. Dyna pam y gallaf ddweud bod hyn yn gytûn ac yn bendant iawn yn unol â thraddodiadau Cymru; rwy'n falch iawn o hynny. Ac yna, o ran dyletswydd i'r Ddeddf Cydraddoldeb, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd ef. Bydd yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn bwrw ymlaen â'r darn o waith ymchwil i'r ffordd orau o gwmpasu'r agenda hawliau o fewn ein deddfwriaeth, gan adeiladu ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a sicrhau ein bod yn gweithredu dyletswydd adran 1 yn y ffordd orau bosibl a sut y bydd hynny'n arwain tuag at y Ddeddf newydd hon yr ydym yn ei chynnig.

Hoffwn ddweud un peth terfynol yn unig am hyn: nid yw hyn yn ymwneud yn unig â chaffael, er bod gwariant caffael yn bwysig iawn ac yn cynrychioli biliynau o bunnoedd yn ein heconomi; mae hwn yn ymwneud â holl gyllid y Llywodraeth. Felly, byddwn yn ystyried pa gyfryngau y gallwn ni eu defnyddio i gael gwaith teg ledled yr economi yng Nghymru, gan ddefnyddio holl ddulliau ariannu'r Llywodraeth, ac maen nhw'n llawer mwy amlweddog na'r gwariant caffael yn unig.

15:20

Hoffwn i groesawu'r adroddiad gan y Comisiwn sydd, yn fy marn i, yn fanwl ac yn gynhwysfawr iawn, Gweinidog, ac mae'n amlwg ei fod yn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar lawer iawn o bobl ledled Cymru. A dweud y gwir, fe wnes i gyfarfod â'r Comisiwn fel rhan o'r casglu tystiolaeth fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldebau, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac roeddwn i'n falch iawn o'r ymrwymiad a ddangoswyd ganddyn nhw yn y cyfarfod hwnnw. Roedd ymrwymiad clir i lunio cynigion a fyddai'n ymarferol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sef yr union beth yr oeddwn i'n dymuno ei weld. Ac, wrth gwrs, mae'r Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio wedi cynnal ymchwiliadau sy'n berthnasol iawn, yn enwedig yr ymchwiliad i wneud cyflog isel yn beth llai cyffredin ledled Cymru, a hefyd ar rianta a chyflogaeth, 'Wrth eich Gwaith'. Mae'n braf iawn, unwaith eto, fod llawer o'r argymhellion a wnaed gennym ni yn cyd-daro â gwaith ac argymhellion y Comisiwn, ac rydym ni'n falch iawn o weld hynny.

Yn benodol, mae'r Comisiwn wedi gwneud argymhellion yn nodi cyflog byw gwirfoddol fel yr isafswm cyflog gwaelodol ar gyfer pob gwaith teg ac yn ceisio sefydlu isafswm oriau gwarantedig yn sefyllfa ddiofyn ar gyfer cyflogaeth. Roedd y ddau beth hyn yn argymhellion gan fy mhwyllgor cydraddoldebau i. Ac mae'n galonogol iawn eu bod nhw'n dweud na ddylai fod unrhyw gyfaddawd o ran nodweddion gwaith teg, gan dynnu sylw at y rhyngweithio rhwng lefelau cyflog a nifer a sicrhad oriau, sydd, yn fy marn i, yn wirioneddol bwysig ac, unwaith eto, yn rhywbeth yr ydym yn tynnu sylw ato yn 'Gwneud i'r economi weithio i bobl ar incwm isel'.

Gweinidog, o ran yr argymhellion a wnaed gennym yn y ddau adroddiad hynny, mae'r Llywodraeth wedi dweud nad oedd yn gallu rhoi ymatebion manwl tra'r oedd y Comisiwn gwaith teg yn ymgymryd â'i waith. Gan fod yr adroddiad wedi cael ei gyhoeddi erbyn hyn, a gaf i ofyn a fydd y Llywodraeth yn rhoi ymateb manylach nawr i'm Pwyllgor i o ran yr argymhellion perthnasol hynny. Argymhellion 18, 20, 21 a 22 yn 'Gwneud i'r economi weithio' oedd y rhain ac argymhellion 9, 12, 28 a 34 yn yr adroddiad ar rianta a chyflogaeth. Diolch.

Wel, rwy'n fwy na pharod i wneud yr ymrwymiad hwnnw, oherwydd dyna'n union a ddywedwyd gennym: roeddem eisiau gweld beth oedd gan y Comisiwn gwaith teg i'w ddweud. Wrth ddatblygu ein hymateb i adroddiad y Comisiwn gwaith teg ar bartneriaethau cymdeithasol, rwy'n falch iawn o wneud yr ymrwymiad i ymateb yn fanwl i adroddiad eich pwyllgor chi. Rydych chi'n llygad eich lle wrth dynnu sylw at y ffaith ei bod yn braf gweld y gyfatebiaeth o ddarllen y ddau. Rydym yn wir ar yr un dudalen, fel petai, ac felly rwy'n hapus iawn i wneud yr ymrwymiad hwnnw. Gallwn wneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried yr holl dystiolaeth a ystyriwyd gan y Pwyllgor hefyd wrth ymlwybro tua'r gynhadledd ym mis Mehefin, yr wyf i'n gobeithio y byddwch chi'n gallu bod yn rhan ohoni.

Rydym yn llefaru ystrydebau yma, bron iawn. Mae'n hollol amlwg i mi, beth bynnag—ac yn wir, o'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood, ar draws y Siambr, hyd yma—y dylech chi allu ennill digon o arian yn eich gweithle fel nad oes angen unrhyw fath o fudd gan y Llywodraeth arnoch chi, oherwydd fel arall, nid yw'r gwaith yr ydych yn ei wneud yn amlwg yn talu'n deg ac nid ydych chi'n debygol o fod mewn gweithle sy'n sicr. Nid yw hynny'n cyfrannu at unrhyw un o'r pethau yr ydym ni'n eu coleddu—cydlyniant teuluol neu gymunedol, twf economaidd, strwythurau gyrfa priodol mewn Llywodraeth ac yn y blaen. Ond hefyd, o safbwynt busnes, nid yw hynny'n cyfrannu at y ffaith eu bod nhw'n endid economaidd sy'n hyfyw ac sy'n debygol o dyfu. Os na allwch gynnig tâl teg i'ch gweithwyr, nid yw'n debygol y bydd gennych gynllun busnes da yn ei le a fydd yn caniatáu i'ch busnes dyfu'n iawn. Dwy ochr i'r un geiniog yw'r pethau hyn ac mae gwir angen inni allu helpu ein busnesau i gyrraedd y pwynt lle maen nhw'n gweld hynny.

Dyna pam yr wyf mor falch ein bod ni'n bwrw ymlaen â hyn mewn partneriaeth gymdeithasol. Ac mae ein partneriaid cymdeithasol yn derbyn hynny i raddau helaeth iawn. Felly, nid oes unrhyw anghytundeb wedi bod yn hyn o beth. Ac wrth inni ddatblygu ein hymateb manwl i'r argymhellion, nid wyf yn rhagweld unrhyw daro'n ôl yn sgil hynny. Mae angen inni dywys ein cyflogwyr gyda ni ar hyd y daith hon, fel y gallan nhw hefyd ddatblygu i fod y busnesau bywiog a hyfyw sydd eu hangen arnom i sicrhau bod gan ein gweithwyr swyddi diogel â thegwch economaidd.

15:25
4. Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig—Jane Hutt.

Cynnig NDM7041 Rebecca Evans, Darren Millar, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi:

a) yn galonnog y frwydr fyd-eang i ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o bob math; a

b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil.

2. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso'r gwaith o lunio datganiad trawsbleidiol, yn crynhoi egwyddorion Diddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil mewn ymgynghoriad â'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf priodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A hithau'n ugain mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad, rwy'n falch o agor y ddadl hon i fynd i'r afael â hiliaeth, i gael gwared ar ideoleg hiliol ac i adolygu ein hymrwymiad i Gonfensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol. Rwy'n diolch i Blaid Cymru ac i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno cynnig ar y cyd i'n huno heddiw yn yr ymrwymiadau y byddwn ni'n eu gwneud o ganlyniad i'r ddadl hon.

Bu farw 50 o bobl yn yr ymosodiadau terfysgol yn Christchurch ar 15 Mawrth a 250 arall yn Sri Lanka ar 21 Ebrill 2019. Ar 27 Ebrill 2019, ar ddiwrnod olaf y Pasg Iddewig, o ganlyniad i'r saethu mewn synagog ar gyrion San Diego bu farw un ddynes ac anafwyd tri arall. Digwyddodd y saethu yn union chwe mis ar ôl saethu mewn synagog yn Pittsburgh, lle lladdwyd 11 o bobl yn yr ymosodiad a laddodd y mwyaf o Iddewon yn hanes UDA. Bu'r ymateb byd-eang i'r ymosodiadau terfysgol hyn yn rymus ac yn ysbrydoliaeth. Yn sgil ymosodiad Seland Newydd, galwodd y Prif Weinidog Jacinda Ardern am ymdrech fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth a rhagfarn. Mae ei datganiad angerddol,

Ni ydyn nhw. Nid felly'r sawl sydd wedi parhau â'r trais hwn yn ein herbyn,

yn rhoi rheidrwydd ar bob un ohonom ni i edrych arnom ni ein hunain a'n cyfrifoldebau yn bersonol ac yn wleidyddol. Dywedodd os ydym ni eisiau gwneud yn siŵr yn fyd-eang ein bod yn fyd diogel, goddefgar a chynhwysol, yna ni allwn ni feddwl yn nhermau ffiniau cenedlaethol. Dywedodd fod yn rhaid i ni gael gwared ar hiliaeth lle mae'n bodoli a gwneud yn siŵr nad ydym ni byth yn creu amgylchedd lle gall ffynnu. Heddiw, mae gennym ni gyfle i ategu'r galwadau am gytgord, heddwch a chyfiawnder hiliol. Rhaid inni gondemnio'n gyhoeddus, hiliaeth, Islamoffobia, Affroffobia a gwrth-Semitiaeth lle bynnag y mae'n digwydd, a rhaid inni wneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol sy'n bodoli yn ein gwlad ein hunain. Gwyddom fod hynny'n golygu bod yn rhaid inni weithredu yma yng Nghymru.

Rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd mawr. Hanner can mlynedd yn ôl eleni ar 7 Mawrth 1969, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol, gan ymrwymo i gondemnio a chael gwared ar bob math o wahaniaethu ar sail hil, ac i wneud gweithredoedd o drais neu gymell trais yn erbyn pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn drosedd. Mae gennym ni bellach ddeddfwriaeth sy'n adlewyrchu safonau'r Confensiwn, gan wahardd gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith ac wrth ddarparu gwasanaethau megis gofal iechyd, tai, cyflogaeth ac addysg. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n gweithio'n effeithiol yma yng Nghymru. Yng Nghymru, ystyrir bod y systemau sydd gennym ni ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb a chynorthwyo dioddefwyr gyda'r gorau yn y byd. Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, lle mae dyletswydd arnyn nhw i hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau mewn cymdeithas.

Roedd yr ail ar hugain o Ebrill, Dirprwy Lywydd, yn nodi chwe blynedd ar hugain ers marwolaeth Stephen Lawrence a diwrnod cenedlaethol cyntaf Stephen Lawrence. Dathlwyd ei fywyd a chyflawniadau ei deulu, sydd wedi creu gwaddol pwysig i'w ddiogelu ac i adeiladu arno. Y llynedd, yma yn y Senedd, buom yn gweithio gyda phobl hŷn cymuned Windrush o Gyngor Hil Cymru i ddathlu cyfraniad cenhedlaeth Windrush i fywyd Prydain a Chymru. Roedd hwnnw'n ddigwyddiad mor rymus, teimladwy a llawen fel y byddwn ni'n cynnal digwyddiadau tebyg ledled Cymru, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru eleni, ac, rwy'n gobeithio, am flynyddoedd i ddod.

Gadewch inni fod yn gwbl sicr, mae hiliaeth bob dydd, hiliaeth strwythurol a throseddau hiliol yn dal i gael effaith ddofn ar fywydau a chanlyniadau bywyd pobl yng Nghymru. Mae hi'n annerbyniol bod llawer o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y wlad hon wedi dod i'r casgliad bod angen iddyn nhw oddef hiliaeth bob dydd. Yn 2017, dangosodd arolwg agweddau cymdeithasol Prydain fod chwarter y bobl wedi cyfaddef eu bod fymryn yn rhagfarnllyd, neu'n rhagfarnllyd iawn, tuag at bobl o hil arall. Mae hiliaeth strwythurol a sefydliadol yn real iawn hefyd. Rydym ni'n gwybod fod hyn yn wir hefyd, oherwydd y bylchau cyflog sy'n bodoli a phrinder pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi uwch reoli neu arweinyddiaeth.

Yn yr un modd, ceir tystiolaeth sylweddol bod llawer o'n plant a'n pobl ifanc du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu bwlio'n hiliol mewn ysgolion. Bydd rhai ohonom ni wedi clywed y straeon yn uniongyrchol. Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cael effaith fawr mewn ysgolion. Mae eu staff ymroddedig a phrofiadol yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc, er mwyn amlygu'r materion a newid agweddau.

Mae Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth hefyd yn faterion real iawn yng Nghymru heddiw, gyda grwpiau eithafol yn sbarduno casineb a lledaenu celwydd. Rhaid inni dorchi llewys drachefn yng Nghymru, fel y gallwn ni sicrhau dyfodol mwy heddychlon a mwy cynhwysol, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit. Dyna pam, er enghraifft, ein bod ni'n buddsoddi £2.4 miliwn i ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol rhanbarthol, er mwyn adnabod a lliniaru tensiynau cymunedol.

Mae sawl her arall yn ein hwynebu, ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru drwy ein rhaglen ymgysylltu Cymru gyfan ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sy'n cael ei rhedeg gan Y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, yn ogystal â thrwy Fforwm Hil Cymru. Mae'r rhaglen ymgysylltu wedi rhoi argymhellion inni ar gyfer gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth a'r anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny. Fe allwn ni wneud rhywbeth am hyn.

Themâu'r rhaglen yw cynrychioli pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol fel thema allweddol—sydd eisoes yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac i mi'n bersonol. Rwy'n cydnabod bod hyn yn hanfodol i bopeth arall sydd arnom ni eisiau ei wneud. Nid yw hyn yn ymwneud â symboleiddiaeth na chyflawni rhifau. Mae angen cynrychiolaeth amrywiol ar Gymru o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, menywod a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill yn ein prif swyddi rheoli ac yn ein gwleidyddiaeth. Mae angen i ni newid prosesau a diwylliant sefydliadau. Ni fyddwn yn llwyddo nes bod gennym ni leisiau newydd a safbwyntiau newydd yn ein cyrff cyhoeddus Cymreig, yn siambrau'r cynghorau, ystafelloedd bwrdd ac ar y byrddau uchaf, ac wrth gwrs yn y Siambr hon.

O ran yr ail thema, cyflogaeth ac anghydraddoldeb cymdeithasol-economaidd, ceir amrywiaeth rhwng ac o fewn gwahanol leiafrifoedd ethnig, ond mae'r darlun cyffredinol yn ddigon clir: mae pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn gyson ym marchnad lafur Cymru.

Ac yn drydydd, mae'r rhaglen ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi gwneud 13 o argymhellion pellgyrhaeddol ynglŷn â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol mewn ysgolion. Rwyf i a'r Gweinidog Addysg yn benderfynol o fynd ati i roi sylw i bob math o anghydraddoldeb hiliol mewn ysgolion a gwella canlyniadau. Mae hynny'n hanfodol fel bod y genhedlaeth nesaf yn cyflawni hyd ei heithaf ac yn dod yn ddinasyddion Cymru a'r byd sy'n ymwybodol o hil, sy'n hyddysg a moesegol, ac sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd pwysig sydd gennym ni drwy'r cwricwlwm newydd, ein canllawiau gwrth-fwlio, a'n buddsoddiad mewn dysgu proffesiynol ar gyfer gweithlu'r ysgolion.

Yn olaf, ond nid yn lleiaf, nid yw mynd i'r afael â digwyddiadau hiliol, troseddau casineb, a hiliaeth strwythurol wedi bod yn fwy o frys nag yw ar hyn o bryd: mae 68 y cant o'r holl droseddau casineb yn cael eu cymell oherwydd hil. Ac ni allwn ni fforddio chwaith anwybyddu effaith eithafiaeth asgell dde yng Nghymru. Efallai fod y niferoedd yn fach, ond gall gweithgareddau grwpiau o'r fath, ar-lein ac yn lleol, gael effaith anghymesur ar ein cymunedau, ac maen nhw'n warth ar ein cymdeithas yn gyffredinol.

Felly, yn olaf, wrth agor y ddadl hon, rhaid inni barhau i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol, lle mae pobl o bob hil, ffydd a lliw yn cael eu gwerthfawrogi am eu cymeriad a'u gweithredoedd. Rydym ni eisiau creu gwlad heddychlon a chytûn lle gall ein plant a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu. Mae'n hanfodol bod annog pobl i roi gwybod am droseddau, cynorthwyo dioddefwyr, dwyn tramgwyddwyr i gyfrif, yn parhau i fod yn flaenoriaethau pwysig. Ugain mlynedd ers datganoli, mae'n rhaid inni wneud hyn yn ymrwymiad o'r newydd i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn, ac edrychaf ymlaen at y ddadl hon.

15:35

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn gytundeb rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1965 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r Confensiwn yn cwmpasu hawliau pob unigolyn i fwynhau hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, disgyniad neu darddiad cenedlaethol neu ethnig. Cadarnhaodd y DU hyn ym 1969, 50 mlynedd yn ôl.

Diffinnir trosedd casineb fel trosedd y mae'r dioddefwr yn ystyried ei fod wedi ei gymell gan elyniaeth tuag at ei hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol. Gall gynnwys cam-drin geiriol, codi ofn, bygwth, aflonyddu, ymosod a bwlio, yn ogystal â difrod i eiddo. Er bod profiad pobl o droseddau casineb, y ceir cipolwg arnyn nhw yn arolwg troseddu Cymru a Lloegr, wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf, mae troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi mwy na dyblu ers 2012-13, pan gofnodwyd 42,255 o droseddau o'r fath. Yn rhannol, mae hyn o ganlyniad i welliannau a wnaed gan yr heddlu o ran nodi a chofnodi troseddau ac, yn rhannol, oherwydd bod mwy o bobl yn rhoi gwybod am y rhain. Fodd bynnag, bu achosion o gynnydd hefyd mewn troseddau casineb.

Wrth siarad yn y digwyddiad Dathlu Diwrnod Integreiddio Rhyngwladol fis Hydref diwethaf yn y Deml Heddwch, a drefnwyd gan NWAMI, Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru, cyfeiriais at Integreiddio drwy gyfrwng Cerddoriaeth a Chelf, sef digwyddiad wedi ei drefnu gan y Cynulliad a gynhaliais fis Mai diwethaf gydag NWAMI a chyda KIRAN o Gwmbrân, y rhwydwaith cysylltiadau rhyng-Gymunedol seiliedig ar wybodaeth. Yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Llywydd Anrhydeddus NWAMI, rwyf wedi gweithio gyda'r mudiad ers blynyddoedd lawer. Mae NWAMI yn ymrwymedig i adeiladu cymuned gydlynol a chymdeithas integredig yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, ac i gyflawni hyn drwy hybu dealltwriaeth a pharch tuag at amrywiol ddiwylliannau'r wlad hon, drwy ymgysylltu a rhyngweithio diwylliannol, addysg a hyfforddiant, trefnu perfformiadau diwylliannol ar ffurf cerddoriaeth, dawns a ffurfiau celfyddydol eraill, yn ogystal â gweithgareddau yn cynnwys sesiynau siaradwyr a gweithdai.

Yn y de, nod KIRAN, sydd wedi ei leoli yng Nghwmbrân, yw hyrwyddo addysg a chodi ymwybyddiaeth o wahanol grwpiau hiliol a gwahanol leoliadau cymdeithasol a diwylliannol.  

Rydych chi'n disgrifio gwaith da iawn ar ran rhai sefydliadau gwirioneddol dda yng Nghymru. Ond a ydych chi'n derbyn fod eu gwaith yn llawer anoddach pan fo gwleidyddion, fel Boris Johnson o'ch plaid chi, yn cyfeirio at fenywod Mwslimaidd fel blychau llythyrau, er enghraifft?

Nid wyf yn mynd i wneud sylwadau am sylwadau pleidiol digyswllt, gan fy mod i eisiau i hon fod yn ddadl unedig gyda neges unedig. Rwy'n hapus os ydym ni eisiau cael dadl bleidiol ar faterion i gymryd rhan ynddi ar y sail honno ond nid y ddadl hon.

Yn y de, mae KIRAN eisiau hyrwyddo gwybodaeth a chyd-ddealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau hil a chynhyrchu gweithgareddau i feithrin dealltwriaeth rhwng pobl o gefndiroedd amrywiol gyda'r amcan o annog goddefgarwch o amrywiaeth gymdeithasol a hwyluso ymgysylltu ystyrlon rhwng aelodau o wahanol gymunedau.

Fis Mai diwethaf, cefais gyfarfod yn y Cynulliad gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru a'r gwasanaeth cymorth personol CAIS, i drafod sut y gallwn ni gydweithio i chwalu rhwystrau a chynyddu dealltwriaeth o ddiwylliannau ein gilydd. Mae'n rhaid inni gydnabod y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud gan fudiadau rheng flaen yn y gymuned a'r trydydd sector i hybu integreiddio amlddiwylliannol yng Nghymru.

Fel y dywedodd Cadeirydd a sylfaenydd NWAMI, Dr Sibani Roy,

Mae rhai o'r bobl yn meddwl, wrth sôn am integreiddio, eich bod yn golygu cymathu. Rhaid inni egluro wrth bobl nad cymathu yw integreiddio. Mae'n rhaid i ni barchu cyfraith a diwylliant y wlad.

Ychwanegodd:

Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw addysgu pobl a dweud, "Rydym ni i gyd yn fodau dynol, rydym ni'n gyfeillgar ac fe ddylem ni geisio deall diwylliannau ein gilydd." Pan fyddan nhw'n dysgu am ddiwylliannau eraill, yna mae'n bosib y byddan nhw'n datblygu cyfeillgarwch. Bydd newid yn digwydd yn araf, ond nid llygad am lygad yw'r ffordd i newid pobl. Drwy siarad â phobl ac addysgu pobl, yn y pen draw drwy eu hargyhoeddi nad yw bodau dynol yn ddrwg i gyd.

Dywedodd hi:

Does dim ots. Mae a wnelo hyn ag unigolion a dyna'r hyn yr wyf wedi ei gredu fy hun erioed, ein bod yn trin pobl fel unigolion. Does dim ots beth yw'r cefndir, eu ffydd na'u lliw.

O ran Brexit, pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE, roedden nhw'n pleidleisio dros reoli ac nid eithafiaeth. Fodd bynnag, fel y cyfeiriodd y Gweinidog ato, mae rhai eithafwyr wedi ceisio herwgipio Brexit at eu dibenion annymunol eu hunain. Ond ar yr adeg dyngedfennol hon mae'n rhaid i ni gofio nad yw hyn ynglŷn â Brexit meddal na Brexit caled, ond Brexit agored sy'n sicrhau bod y DU yn dod yn eangfrydig a'i bod yn ymgysylltu mwy â'r byd nag erioed o'r blaen. Rhaid i ni adeiladu cymdeithas gymunedol ac integredig gydlynus yng Nghymru yn y ganrif hon. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni hybu dealltwriaeth a pharch o ddiwylliannau amrywiol Cymru drwy ymgysylltu a rhyngweithio diwylliannol, addysg a hyfforddiant. Rydym ni felly'n cefnogi'r alwad am ddatganiad trawsbleidiol yng Nghymru sy'n ymgorffori egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol, ac, fel y dywedais sawl gwaith, mae hyn yn ymwneud â dathlu ein hamrywiaeth odidog gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.

15:40

Caiff fy nghymuned ei chyfoethogi gan bresenoldeb amrywiaeth gyfoethog o genhedloedd, crefyddau a diwylliannau, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hybu cytgord hiliol yn ein cymunedau drwy'r de a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol.

Ym maes addysg, er enghraifft, gallwn weld y gwahaniaethau gwirioneddol a gafwyd pan fo canlyniadau addysgol gwahanol grwpiau ethnig wedi cael eu dileu bron o ran gwahaniaethau. Os rhywbeth, mae lleiafrifoedd ethnig bellach yn gwneud yn well na'n cymuned wen frodorol. Yr eithriad, wrth gwrs, yw'r gymuned Roma, Sipsiwn a Theithwyr y mae ei chyrhaeddiad a'i chymwysterau yn amrywio'n fawr iawn o'u cymharu â'r cyfartaledd, ac mae llawer o waith eto i'w wneud i fynd i'r afael â hynny.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o waith rhagorol sy'n cael ei wneud mewn ysgolion i hybu cydlyniant cymunedol, ac mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, mewn ysgolion ac ar y terasau. Rwyf wedi sylwi ar ymateb llawer mwy cadarn o ran rhoi terfyn ar iaith hiliol yn yr ysgolion yr wyf yn ymwneud â nhw, yn ogystal â'r rhan fwyaf o ysgolion, gobeithio. Bellach ymdrinnir â sylwadau a gai eu hanwybyddu neu eu diystyru yn flaenorol ac eir i'r afael â nhw. Mae troseddwyr mynych yn destun gweithdrefnau disgyblu, gan gynnwys gwahardd, a hynny'n gwbl briodol.

Yn anffodus, mae hyn yn erbyn cynnydd cyson o ddigwyddiadau hiliol y tu allan i'r ysgol. Mae dadansoddiad diweddar gan Cytûn yn cyfeirio at gynnydd o 40 y cant mewn troseddau casineb crefyddol, sydd wedi dyblu dros dair blynedd. Cymunedau Islamaidd yw'r rhai a dargedwyd fwyaf, ac wedyn cymunedau Iddewig. A dylai cynnydd yr asgell dde eithafol fod yn destun pryder i ni i gyd. Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i un o'm hetholwyr fy hun gyflawni trosedd alaethus, drwy yrru yr holl ffordd i Lundain er mwyn anelu ei gerbyd at addolwyr diniwed wrth iddyn nhw ymgynnull y tu allan i'w man addoli. Nid oedd y dyn hwn erioed wedi cwrdd ag unrhyw un o'r bobl hyn, nac yn gwybod dim amdanyn nhw. Dylanwadwyd ar ei weithredoedd, dywedodd ei gyn-gymar yn y llys, gan y negeseuon casineb a ddarllenodd ar-lein gan Stephen Yaxley-Lennon a phobl eraill ar yr adain dde eithafol. Mae'r ymosodiadau ar addolwyr yn Christchurch yn Seland Newydd ym mis Mawrth yn ein hatgoffa nad dim ond problem yw hon a achosir gan ddyn penodol sydd bellach ar gyflogres UKIP. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi caniatáu i'r adain dde eithafol ddatblygu amlygrwydd byd-eang. Mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud gan ein cyd-Aelodau yn San Steffan i sicrhau bod y rhai sy'n hwyluso lledaenu'r negeseuon hyn yn atebol am eu cyhoeddi drwy roi eu caniatâd.

Yng ngoleuni'r digwyddiadau yn Seland Newydd, nid deufis yn ôl hyd yn oed, rwy'n pryderu ynghylch arafwch ymateb y Swyddfa Gartref, oherwydd maen nhw wedi bod yn araf iawn yn cyflwyno'r cyllid i gryfhau diogelwch mewn addoldai Islamaidd. Cafwyd cyhoeddiad o'r diwedd ar ddydd Gwener y Groglith, ond nid oedd ond yn gofyn i bobl fynegi diddordeb, ac ni fydd unrhyw arian ar gael mewn gwirionedd i wneud unrhyw beth tan fis Gorffennaf, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid iddyn nhw brosesu'r ceisiadau cyn iddyn nhw fynd ati mewn gwirionedd i benderfynu pwy sy'n mynd i gael beth. Gobeithio nad ailadroddiad fydd hyn o'r hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er nad oedd unrhyw fan addoli yng Nghymru, yn ôl a ddeallaf, yn cael y cyllid hwn gan y Swyddfa Gartref, ac mae hynny'n destun pryder sylweddol.

Ond o ran y mater ehangach, hoffwn fynegi rhai pryderon ynghylch y ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag agwedd arall ar gynnydd mewn troseddu, sy'n ymwneud â stopio a chwilio. Mewn ymateb i gynnydd mewn troseddu â chyllyll—a oedd, ar un adeg, yn fy marn i, yn broblem Lundeinig yn bennaf, ond sydd bellach wedi lledu, yn anffodus, i'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr eraill ledled y DU—ym mis Mawrth eleni, cynyddodd Mr Javid, yr Ysgrifennydd Cartref, bwerau'r heddlu i stopio a chwilio, a gradd swydd y rhai sy'n gallu gwneud hynny. Mae'n destun pryder sylweddol dweud bod y cynnydd hwn mewn stopio a chwilio hefyd wedi arwain at gynnydd yn y nifer o bobl o hiliau lleiafrifol sy'n cael eu targedu. Mae pobl dduon bellach saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio na phobl wyn yn y de, a dim ond yn y flwyddyn ddiwethaf y mae hynny, pryd y mae wedi cynyddu i fod yn 4.5 y cant yn fwy tebygol. Ac rwy'n credu bod angen inni oedi ennyd a myfyrio, ar ôl dysgu popeth yr ydym ni wedi'i ddysgu o adroddiad Stephen Lawrence am y ffordd yr oedd pobl dduon yn cael eu stopio a'u chwilio'n amhriodol a bod hynny'n atal y gymuned ddu rhag dod ymlaen. Mae'n rhaid inni sicrhau nawr na wneir hynny mewn ffordd sy'n gwahaniaethu yn erbyn cymuned benodol. Nid yw hyn wedi'i ddatganoli ond mae'n fater y gobeithiaf y gall y Dirprwy Weinidog ei drafod gyda'r Swyddfa Gartref.

15:45

Mae'n anodd gweld sut y gallai unrhyw un anghytuno ag ail ran y cynnig hwn, sef bod angen inni ddileu gwahaniaethu ar sail hil yn ein cymdeithas. I mi, mae hynny'n eithaf amlwg. Ar wahân i leisiau ynysig ar yr adain dde eithafol, ychydig fyddai'n dadlau y gallai rhywun fod yn llai teilwng oherwydd lliw eu croen, er gwaethaf y ffaith bod llawer o bobl yn sicr yn coleddu'r farn honno'n breifat. Ond dyma'n union pam mae'n rhaid i ni roi systemau ar waith sy'n herio hiliaeth a gwahaniaethu strwythurol yn uniongyrchol. Nid yw atal pobl rhag siarad o blaid hiliaeth yn ddigon. Atal pobl rhag gweithredu arno yw'r hyn sy'n hanfodol. Dyna pam ei bod hi'n hanfodol, yn fy marn i, i bob un ohonom ni fod yn rhan o'r hyn y mae'r cynnig hwn yn ei alw'n

frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol.

Gwyddom fod yr adain dde eithafol ar gynnydd, ac mae'n rhaid inni, ar raddfa fyd-eang, herio'r sarhau a'r sylwadau rhagfarnllyd sy'n gwenwyno ein dadl wleidyddol ac yn achosi niwed i bobl. Ond nid yw herio hyn ond yn ddefnyddiol os ydym ni'n treiddio'n ddyfnach ac yn herio'r ideoleg o hiliaeth gynnil sy'n rhan o'n trafodaethau gwleidyddol a'n cymdeithas, oherwydd ni ddaeth yr adain dde eithafol i'r amlwg o unman. Mae beio ymfudwyr, ceiswyr lloches a thwristiaid iechyd am y dirywiad mewn safonau byw wedi dod yn beth safonol, ond eto achoswyd y problemau hyn gan gyni. Gosodwyd y seiliau ar eu cyfer drwy greu amgylchedd gelyniaethus bwriadol ar gyfer pobl o ddiwylliannau a gwledydd eraill. Rhaid rhoi terfyn ar sylwadau tebyg i ddatganiad Islamoffobaidd Boris Johnson y cyfeiriais ato'n gynharach, ac mae'n rhaid ichi dderbyn hynny. Gosodwyd y seiliau ar eu cyfer pan gynhyrchodd y Blaid Lafur fygiau ymgyrchu a oedd yn addo rheoli mewnfudo ar yr union aded yr oedden nhw'n fwy na pharod i bleidleisio dros fesurau cyni andwyol. Pa un ai'r chwalfa ariannol ac ariangarwch y bancwyr neu'r cyni a ddefnyddiwyd wedyn i gosbi pobl sy'n gweithio, mae'n amlwg mai'r dosbarth gwleidyddol ac ariannol sydd ar fai am ein sefyllfa bresennol, nid mewnfudwyr. Nid yw'n syndod y gall yr adain dde eithafol ffynnu dan yr amodau hyn. Nawr, efallai'n wir fod gan Lafur arweinyddiaeth newydd ers y mygiau bondigrybwyll hynny, ond rwy'n dweud hyn heddiw oherwydd nid yw'n ddigon da. Mae'r fersiwn asgell-chwith honedig newydd hon o Lafur hefyd bellach yn addo rheolaethau tynn ar y ffin a rhoi terfyn ar ryddid i symud yn rhan o weithredu Brexit. Sut mae hynny'n wahanol i'r mwg? Ymgais i blesio ydyw, a gellir dadlau mai'r celwydd gwleidyddol hynaf yn y byd yw dweud nad eich elît cartref sydd ar fai am eich amodau byw a gweithio: 'Y bobl wahanol hynny, y bobl eraill draw fan acw, sydd ar fai.' Mae rhoi'r bai ar eraill am ein problemau yn foesol ac yn wleidyddol ddiog, ond mae'n cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro fel strategaeth gan ei fod yn effeithiol iawn.

Mae hiliaeth yn rhan o'n hanes. Er bod ein gwlad wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hanes dan reolaeth Llundain, rydym ni hefyd wedi bod yn rhan o'r ymerodraeth wladychol Brydeinig a oedd yn gyfrifol am ryfeloedd dirifedi a sawl hil-laddiad o bobl nad oedden nhw'n bobl wyn. Yn aml cyfiawnhawyd y tra-arglwyddiaethu byd-eang hwn gan y syniad bod eraill yn israddol i ni bobl wyn, ac mae gweddillion y meddylfryd hwnnw yn dal i ymguddio yn y cefndir heddiw. Y dreftadaeth hon sy'n ei gwneud hi mor hawdd credu bod pobl eraill ar draws y byd rywsut yn wrthwynebwyr problematig y mae'n rhaid i ni naill ai eu gwastrodi neu eu cadw allan.

Mae arnaf i ofn nad wyf yn gallu anghofio am y gorffennol, oherwydd dyna pam yr ydym ni yn y sefyllfa hon. Ond rwyf yn croesawu'r ffaith bod o leiaf rhyw ewyllys gwleidyddol gan rai pleidiau gwleidyddol yma yn y Senedd hon i weithio gyda'n gilydd i frwydro yn erbyn hiliaeth ac i fynd i'r afael â throseddau casineb, ac rwy'n cefnogi'r cynnig hwn ar y cyd ar y sail honno.

15:50

Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr iawn ar adeg pan fo hiliaeth ac anoddefgarwch yn waeth nag y gallaf ei gofio ers amser maith, ac rwyf yn croesawu ymhellach gefnogaeth Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr hefyd. Mae'r cynnydd gofidus yr asgell dde eithafol ledled Ewrop, gan gynnwys Prydain, yn ymddangos fel pe bai'n normaleiddio iaith ac ymddygiadau hiliol ac, fel y dywedodd Leanne Wood, yn beio pobl o grefyddau gwahanol am bob un o broblemau ein gwlad. Yn y cyfamser, mae'r ffasgydd Stephen Yaxley-Lennon yn cael ei gyflogi gan UKIP mewn arddangosfa warthus o frawdoliaeth asgell dde eithafol, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n syndod nad oes unrhyw aelod o UKIP yma heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon.

Dylai ein trafodaethau gwleidyddol presennol fod yn ofid ac yn bryder i bob person iawn a theg ei feddwl yn y wlad hon. Ond, Llywydd, fel y gwyddom ni i gyd, nid oes neb yn cael ei eni'n hiliol. Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddysgu a'i addysgu. Dyna pam ei bod hi mor bwysig inni fuddsoddi amser ac arian mewn addysg wrth-hiliol, a pham fy mod i eisiau treulio ychydig funudau'n adeiladu ar sylwadau'r Dirprwy Weinidog a Jenny Rathbone a siarad ychydig am y gwaith sydd wedi ei wneud gyda phobl ifanc yma yng Nghymru gan yr elusen addysg wrth-hiliol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

Gan fynd yn ôl bron 20 mlynedd, cefais fy nghyflwyno am y tro cyntaf i'r sefydliad newydd ar y pryd gan fy nghyfaill ac yna fy nghydweithiwr yn Unsain, Sanjiv Vedi, a oedd yn gweithio i sefydlu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru wedi iddo gael ei sefydlu yn Newcastle upon Tyne ym 1996, pan roddodd gôl-geidwad Newcastle United, Shaka Hislop, £50 i elusen addysg wrth-hiliol sy'n cael ei rhedeg gan y dyn sydd bellach yn brif swyddog gweithredol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Ged Grebby. Gan weithio mewn partneriaeth ag Unsain, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru ac eraill, penododd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru ei aelod staff llawn amser cyntaf, Sunil Patel, ac mae e'n dal i weithio gyda nhw. Mae'r sefydliad hwnnw wedi mynd o nerth i nerth.

Daw ei lwyddiant o weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a chlybiau pêl-droed a chwaraeon lleol, ac mae'r gwaith hwn wedi dangos sut y gellir cyfleu'r neges wrth-hiliol drwy ddefnyddio sêr chwaraeon enwog yn enghreifftiau. I ddechrau, roedd hyn gyda phêl-droedwyr fel Shaka Hislop, Ryan Giggs, Ian Wright, Sol Campbell, Brendon Batson a Thierry Henry, i enwi dim ond rhai. Ond trodd wedyn at chwaraeon eraill, gan gynnwys rygbi'r undeb, a bu'n gweithio gyda phobl fel Colin Charvis. Wrth gwrs, rwyf wastad yn falch pan fyddaf i'n gweld chwaraewyr Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yn gwisgo crysau-t Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

Ond yn bwysicaf oll, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gweithio mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i gynnig ystod o hyfforddiant addysgol, gweithdai, adnoddau a gweithgareddau wedi'u cynllunio i addysgu pobl ifanc am achosion a chanlyniadau hiliaeth. Mae eu gwaith yn helpu i sicrhau bod y bobl ifanc y maen nhw'n gweithio gyda nhw, hyd at 18,000 y flwyddyn ledled Cymru, yn cael y cyfle i ddysgu am oddefgarwch ac amrywiaeth wrth fynd i'r afael â hiliaeth.

Yn anffodus, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn dweud bod y sefyllfa yn ein hysgolion wedi bod yn gwaethygu—a dyna pam fy mod i hefyd yn croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i ymgais Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm newydd. A gwyddom fod digwyddiadau hiliol mewn chwaraeon wedi cynyddu. Yn wir, yn ddiweddar cafwyd nifer o ddigwyddiadau annifyr amlwg ar lefel uchaf pêl-droed, sydd bron yn sicr yn gysylltiedig â'r hyn a ddywedais ar ddechrau fy nghyfraniad am gynnydd yr adain dde eithafol. Dyna pam ei bod hi mor bwysig i'w gwaith barhau.

Felly, gobeithiaf fod y Llywodraeth yn edrych ar lwyddiant Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, eu bod yn cael gwrandawiad teg ac, yn bwysicach, eu bod yn cael cyfran deg o arian pan ddyrennir cyllid, oherwydd mae ganddyn nhw fodel llwyddiannus y gallwn ni adeiladu arno, ac mae'r neges wrth-hiliol y cawsant eu sefydlu i'w hyrwyddo yn bwysicach nawr nag erioed.

15:55

Rwy'n cynrychioli Dwyrain Casnewydd, sy'n ardal amlddiwylliannol, a chefais fy magu ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd, yng Ngorllewin Casnewydd, sy'n amlddiwylliannol iawn, yn fwy felly nawr nag yr oedd pan oeddwn i'n cael fy magu yno. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, roedd hi wastad yn brofiad cadarnhaol iawn imi o ran cyfoeth diwylliannol, cerddoriaeth, dawns, dillad, bwyd. Roedd hi'n brofiad cyfoethog iawn o ran yr amrywiaeth yna, ac roedd dysgu am ddiwylliannau a gwledydd pobl eraill yn ddiddorol iawn, ac rwy'n dal i feddwl bod hynny'n ddiddorol iawn heddiw. Ond, wrth gwrs, roedd sawl problem yno, problemau cymdeithasol ac economaidd, fel ardal, ac mae hynny'n dal i fod yn wir am Bilgwenlli, ac yn Nwyrain Casnewydd, fel y gwn i y byddai fy nghyd-Aelod Jayne Bryant yn dweud hefyd.

Felly, mae llawer o faterion y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw, ac mae llawer ohonyn nhw yn rhai economaidd, ansawdd y swyddi sydd gan bobl, y cyfleoedd sydd ganddyn nhw, ac, yn eu tro, mae llawer o hynny yn deillio o'r system addysg a phrofiad addysgol.

Rwyf bellach yn Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hil yn y Cynulliad. Nid ydym ni wedi cyfarfod eto, ond byddwn yn cyfarfod yn fuan. Cyngor Hil Cymru sy'n darparu'r ysgrifenyddiaeth, ac mae gennyf o'm blaen, Dirprwy Lywydd, yr adroddiad ar anghydraddoldebau hiliol yng Nghymru yn 2019 gan aelodau'r grŵp trawsbleidiol hwnnw. Ac mae'n gynhwysfawr iawn, ac mae'n ymdrin, yn anffodus, â'r ystod eang o brofiadau negyddol a rhagfarnllyd, y gwahaniaethu y mae lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn ei wynebu, wyddoch chi, o ran cyflogaeth, penodiadau cyhoeddus, chwaraeon, fel y dywedodd Dawn Bowden, ysgolion ac, wrth gwrs, bywyd bob dydd. Fel y dywedodd Leanne Wood, rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn gyffredinol yn deall pwysigrwydd yr hyn a ddywedir a, phan glywant bobl yn dweud pethau na ddylen nhw fod yn eu dweud, eu bod yn mynegi eu barn yn glir ac yn herio'r hyn a ddywedir. Mae'n aml yn cael ei ddweud, onid yw, mai'r cyfan sydd ei angen i ddrygioni gario'r dydd yw i bobl dda wneud dim? A chredaf yn yr oes sydd ohoni, bod angen i bob un ohonom ni arddel y neges honno'n gryf iawn, ac yn enwedig y rheini ohonom ni sy'n wleidyddion rheng flaen ac sydd â chyfle i siarad yn gryf ac yn glir.

Diolch yn fawr iawn, John. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn helpu i addysgu ein plant, drwy ysgolion, sut i fod yn wylwyr cadarnhaol, sut i godi llais yn effeithiol ac ymyrryd pan fyddwch chi'n gweld rhywbeth yn mynd o'i le? Oherwydd fe all hi fod yn anodd iawn, rwy'n credu, pan fo gennych chi bwysau gan gyfoedion, efallai bod gennych chi grŵp o bobl, ac mae'n anodd iawn i chi fod yr un llais sy'n dweud, 'Peidiwch', boed hynny am rywiaeth, hiliaeth neu beth bynnag. Felly, credaf ei bod hi'n bwysig iawn, wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd, bod yr elfen honno o ddinasyddiaeth dda—ein bod yn gweithio ar roi'r sgiliau hynny i'r bobl ifanc hynny, gyda dealltwriaeth glir os bydd yn digwydd mewn sefydliad fel ysgol, y cânt eu cefnogi.

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n credu bod llawer yn ein system addysg heddiw sy'n ymwneud â thosturi ac uniaethu, onid oes? A llawer am amrywiaeth, deall amrywiaeth, a'i pharchu. Rwy'n siŵr bod Kirsty Williams wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn adeiladu ar hynny.

Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am gydlyniant cymunedol a'r strategaeth, oherwydd credaf fod hynny'n bwysig iawn, iawn, a byddai'n wych cael rhagor o fanylion am hynny—wyddoch chi, pryd ellir ei disgwyl, beth yw'r amseroedd, ac efallai o bosib ychydig yn fwy am y cynnwys, ac a allai fod elfen o ymgyrchu o ran agweddau'r cyhoedd.FootnoteLink Oherwydd rwyf yn credu, o ran herio rhai o'r safbwyntiau negyddol a'r stereoteipiau, fod angen yr ymgyrch gyhoeddus honno arnom ni, i'w gwneud hi'n gwbl glir beth ddylai Llywodraeth Cymru ei ddweud a'r hyn y mae'r mwyafrif llethol o Aelodau'r Cynulliad yn credu y dylai pobl ei ddweud a'i wneud a pheidio â'i ddweud a pheidio â'i wneud. Rwy'n credu y byddai ymgyrch yn ymwneud â hynny ac yn rhoi eglurder ynglŷn â hynny yn ddefnyddiol iawn yn wir.

Peth pwysig iawn hefyd, yn fy marn i, ac efallai yn rhan o gydlyniant cymunedol, Gweinidog, yw rhai o'r digwyddiadau y byddai llawer ohonom ni'n gyfarwydd â nhw yn ein cymunedau, sy'n dod â phobl at ei gilydd, sy'n caniatáu rhannu'r profiad hwnnw, ac sy'n cyfoethogi profiad o wahanol ddiwylliannau, cerddoriaeth, dawns, bwyd, diod, ac yn y blaen. Un sydd wedi ei gynnal ers blynyddoedd lawer yn Nwyrain Casnewydd yw gŵyl Maindee. Mae'n orymdaith ac yn ddiwrnod o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n dod ag Aelodau ynghyd o wahanol rannau o'r gymdeithas. Rwy'n credu o ran ystyried sut rydym ni'n bwrw ymlaen â chydlyniant cymunedol, ei bod hi'n bwysig iawn cefnogi a gwerthfawrogi digwyddiadau fel hynny.

Yn ddiweddar, ynghyd â'r ddau AS dros Gasnewydd, cyfarfu fy nghyd-Aelod Jayne Bryant a minnau â'r gymuned Bwylaidd yng Nghasnewydd, ac roedden nhw'n dweud, 'sut allwn ni rannu ein diwylliant, ein profiad? Sut allwn ni ddatblygu cysylltiadau ag eraill a bod yn rhan fwy integredig o'r gymuned leol?' Roeddem yn gallu dweud wrthyn nhw y byddai un cyfle ym mis Gorffennaf eleni gyda Gŵyl Maendy, lle y gallwch chi gael stondin, gallwch chi ddawnsio, gallwch chi ddarparu rhywfaint o gerddoriaeth—beth bynnag rydych chi'n credu sy'n briodol—ond mae'n llwyfan ac yn gyfle i chi. Credaf yn wir fod angen inni werthfawrogi'r digwyddiadau diwylliannol hynny.

16:00

Diolch am roi amser imi siarad ar y mater pwysig iawn hwn. Mewn gwirionedd, dechreuodd y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn 1965, ac mae'n gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd, hil, dosbarth, lliw a chred. Nid yw hynny'n digwydd bron. Ers 1973, mae Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig wedi gwario miliynau a miliynau o bunnoedd ar gysylltiadau hiliol. Heddiw, a ydym ni wedi cyflawni hynny mewn gwirionedd? Hynny yw, mae'n rhaid inni ofyn y cwestiwn i'r holl wleidyddion yn Llundain ac yma. Nid yw hynny'n digwydd. Islamoffobia, gwrth-Semitiaeth ac yn y blaen—a grybwyllwyd yma gan ambell gyd-Aelod ynghylch lleiafrifoedd du ac ethnig—y sector swyddi, teuluoedd, ysgolion a phlant. Nid yw'r genhedlaeth ifanc wedi ei haddysgu am gredoau pobl eraill. Dyna'r broblem. Mae'n rhaid i ni ddeall. Nawr, dyma'r bedwaredd neu'r bumed genhedlaeth o leiafrifoedd ethnig, ac rydym ni'n dal i'w galw'n lleiafrifoedd ethnig. Mae'n fy synnu, oherwydd erbyn hyn mae fy mhlentyn yn bedwaredd cenhedlaeth. Prydeinwyr ydym ni. Nid yw'r Prydeindod hwnnw'n cael ei gydnabod—neu nid yw'r Cymreictod hwnnw'n cael ei gydnabod.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud am Islamoffobia. A ydych chi felly yn rhannu fy mhryderon ynghylch sylwadau Boris Johnson am fenywod Mwslimaidd, yn eu galw yn flychau llythyrau ac yn cyfrannu at wneud y broblem hon hyd yn oed yn waeth? A oes gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am hynny?

Yn Islam, fel yr wyf yn dweud wrthych chi yn awr, Leanne, rhaid ichi gofio mai ein cred ni yw pan fyddwch chi'n byw mewn gwlad wahanol fel Mwslim, eich bod yn byw fel nhw. Nid wyf yn dweud fy mod i'n cytuno nac yn anghytuno â Boris. Mae barn bersonol yn wahanol. Efallai iddo weld menyw yn byw gyda 'purdah' neu 'hijab' mewn ffordd wahanol. Ond mae yna ddewis personol. Y fenyw hon neu unrhyw un sy'n defnyddio 'purdah'—ydw, rwy'n cytuno â hynny os oes mater o ddiogelwch. Nawr, ni wyddai neb 20 mlynedd yn ôl am eithafiaeth. Mae'n rhan o'r drafodaeth yma ynglŷn â chydraddoldeb nawr. Mae eithafiaeth wedi deillio o'r holl ffwlbri yma am wledydd y trydydd byd, neu'r dwyrain canol lle ddechreuodd y broblem. Mae Islamoffobia wedi dod yn norm i eraill, ac mae pobl yn cymryd un cam yn ôl o Islam. Nid hwnna yw e. Mae cred Islamaidd yn garedig iawn ac yn gariadus iawn. Mae yna bobl yn y Siambr yma—fel mae John Griffiths newydd sôn, mae'r mosg mwyaf yng Nghymru yng Nghasnewydd, yn ei etholaeth.

Mae 'purdah' yn gred grefyddol. Gadewch i bobl feddwl beth maen nhw'n ei gredu, ond nid wyf i am fynd yn groes i unrhyw beth, oherwydd rhaid inni gadw—. Nid yw'n groes i gyfraith yn y wlad hon eto, felly pam rydym ni'n trafod hynny? Os ydych chi'n llunio cyfraith, iawn, deuaf a siarad â chi am hynny. Ond y ffaith yw, Dirprwy Lywydd, mae cysylltiadau hil yn fater tyngedfennol iawn iawn i'n cenhedlaeth nesaf. Pa ddeddfau ydym ni'n mynd i'w gwneud nawr? Rydym ni wedi bod yn siarad am hyn dros y 12 mlynedd diwethaf, ers i mi fod yma. Edrychwch ar yr ystadegau go iawn. A ydym ni wedi cyflawni unrhyw beth mewn gwirionedd? Mae'n rhaid inni wneud rhywfaint yn awr yn ôl y gyfraith, neu gyda chymunedau gyda'i gilydd, er mwyn sicrhau ein bod yn un genedl. Anghofiwch hil, lliw, crefydd, ffydd—un genedl ydym ni, a dylai hynny ddechrau gyda'r teulu.

Addysg sydd bwysicaf. Os dechreuwn ei wneud yn awr, yn 2019, gall gymryd 15 i 20 mlynedd arall i wneud yn siŵr y bydd ein cenhedlaeth ifanc yn deall ei gilydd mewn ffordd ddymunol. Dyna fy mhwynt, Dirprwy Lywydd: mae'n rhaid inni addysgu ein plant i wneud yn siŵr—. Rydym ni wedi methu. Methodd pob un ohonom ni â sicrhau'r cydraddoldeb hwn o ran hil. Rydym ni wedi methu. Rwy'n cytuno â hynny. Ond, er mwyn gwneud ein dyfodol yn well, rhaid i ni wneud rhai rheolau a rheoliadau gwell yn y Siambr hon. Addysg, addysg, addysg. Rhaid i ddealltwriaeth a chred grefyddol beidio â gwahaniaethu. Rydym ni newydd glywed bod person du—bod yr heddlu'n eu gwirio'n eithaf aml, yn fwy nag eraill. Gwahaniaethu yw hynny. Maen nhw i gyd yn Brydeinwyr. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaeth rhyngddo ef a hi—neu ddu, gwyn, melyn, gwyrdd neu beth bynnag ydyw.

Felly, y pwynt sydd gennyf yw: os gwelwch yn dda, yn y Siambr hon, mae'n rhaid inni wneud rheolau fel y bydd yn rhaid dysgu cenedlaethau ifanc mewn ffordd nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn y dyfodol. Bydd yn cymryd 15 i 20 mlynedd cyn i'r genedl hon gael ei thrawsnewid yn bendant.

16:05

Rwy'n credu bod datganiadau am ein hegwyddorion fel sefydliad a chynrychiolwyr y cyhoedd sy'n pleidleisio yn bwysig. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol yn y cyfnod hwn ein bod yn ei gwneud hi'n gwbl glir beth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i'r Cynulliad hwn gefnogi egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol.

Mae rhan gyntaf y cynnig yn cyfeirio at y frwydr fyd-eang i ddileu hiliaeth ac ideoleg hiliol. Gwyddom ei bod hi'n hawdd y dyddiau hyn i wangaloni am y don gynyddol o boblyddiaeth gyda'i hapêl hiliol, ond credaf y dylai rhai ohonom ni lynu at y farn gadarnhaol eang a amlygwyd gan yr Arlywydd Obama mewn rhai o'i areithiau. A rhywbeth fel hyn oedd hynny: os na fyddech chi'n gwybod ble yn y byd y byddech chi'n cael eich geni, na'ch rhyw, na'ch hil, na pha mor gyfoethog fyddech chi, pryd mewn hanes dynol y byddech chi'n dewis byw? Ac mae'n ymddangos mai'r ateb yn bennaf fyddai 'nawr'. Ar gyfartaledd, ledled y byd, mae unigolyn a anwyd heddiw yn fwy tebygol o fod yn fwy diogel, iach, cyfoethog ac addysgedig nag ar unrhyw adeg arall. Ond, nid yw hynny'n gwadu nad oes gwahaniaethau mewn rhannau gwahanol o'r byd neu bobl wahanol o fewn y byd.

Felly, mae hynny, yn gyffredinol, yn newyddion da. Ond, mae'r cynnig yn parhau i'n hymrwymo i geisio creu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb hiliol, ac ni allwn ni anwybyddu'r boblyddiaeth sydd ar gerdded fel y crybwyllwyd. Bydd yr etholiadau sydd i ddod yn arwydd o'r sefyllfa fyddwn ni ynddi. Mae gennym ni blaid a gynrychiolir yn y Siambr hon sy'n cefnogi ymgeisydd, Carl Benjamin, sy'n dweud ei fod o'r farn bod jôcs hiliol yn ddoniol. Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw, nid bod twpsod fel Carl Benjamin yn meddwl hynny, ond bod plaid wleidyddol yn cefnogi ac yn hyrwyddo ei farn benodol yn agored. Dyna sy'n fy mhoeni. Ac mae'n destun pryder i mi hefyd fod y safbwyntiau hynny wedi cael eu traethu yn y Siambr hon.

Pan soniasom ni ein bod eisiau bod yn genedl noddfa—

A gaf fi ddweud cymaint yr wyf yn cytuno â'r sylw yr ydych chi newydd ei wneud yma? Rwy'n credu ein bod i gyd yn sylwi nad yw'r blaid honno'n cael ei chynrychioli yn y Siambr hon yn ystod y ddadl bwysig hon.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi.

Pan wnaethom ni gytuno, y rhan fwyaf ohonom ni, y byddem ni'n dod yn genedl noddfa ac y byddai hynny'n gadarnhaol, dywedodd aelodau o UKIP na allai fod yn gam cadarnhaol o gwbl gan mai'r cyfan yr oeddem yn mynd i'w wneud oedd agor y llifddorau fel y gallai pawb ddod draw, gan awgrymu bron y byddai Cymru'n cael ei goresgyn gan—ac ni allaf ddefnyddio'u geiriau fel y byddent yn mynegi nhw ac yn eu disgrifio. Nid wyf ond yn credu bod hynny'n gwyntyllu tân hiliaeth, mewn gwirionedd. Felly, yn y Cynulliad, rydym ni wedi symud ymlaen, ac rwyf eisiau dweud ychydig o eiriau am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a beth yw ein hymrwymiadau.  

Yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gomisiynydd Cydraddoldeb y Cynulliad, rwy'n falch bod rhwydwaith pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ein Cynulliad, REACH, yn rhoi cyngor ar sut y gallwn ni gefnogi staff o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well a sut y gallwn ni ddenu mwy o dalent. Hoffwn roi sylw arbennig i'n tîm adnoddau dynol a'r rhwydwaith REACH sydd wedi cydweithio ar ymgyrch recriwtio i ddewis y prentisiaid diweddaraf y byddwn yn eu derbyn. Roedd y pwyslais ar ddenu ymgeiswyr o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a mabwysiadwyd nifer o ddulliau i gyflawni hynny, gan gynnwys dileu holl fanylion adnabod o geisiadau a chydweithio gyda phartneriaid allanol i hyrwyddo'r cynllun mewn cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, cynnal gweithdai, a helpu ymgeiswyr gyda'r ceisiadau hynny a'u helpu i ddeall y sefydliad a'i waith yn well. Ac, o ganlyniad, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod ni wedi cael y nifer mwyaf o geisiadau a ddaeth i law erioed, a bod 13 o'r 14 ymgeisydd o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi'u gwahodd i'r cam asesu, a'u bod wedi llwyddo i lenwi dwy o'r tair prentisiaeth a oedd ar gael. Nawr, pethau fel hynny sy'n creu integreiddio, rhywbeth y mae Oscar ac eraill yma wedi sôn amdano heddiw. Oherwydd mae'n amlwg mai ofn y llall sy'n cymell casineb a hiliaeth yn bennaf. 

Rwy'n mynd i orffen, oherwydd rwy'n gallu gweld y cloc. Nid wyf yn credu bod hanes yn mynd i'n trin ni'n dda. Pan fyddwn yn troi cychod llawn ffoaduriaid yn ôl, pan fyddwn ni rywsut wedi creu mynwent ym moroedd a chefnforoedd y byd am nad oeddem ni'n syml yn fodlon cynnig lloches na noddfa i'r bobl yr oedd eu hangen mor daer—credaf mai dyna lle mae angen inni ddechrau edrych o ddifrif calon ar rai o'n gweithredoedd.  

16:10

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n ffaith drist bod yn rhaid inni gyflwyno dadl o'r fath yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid oes lle i hiliaeth yn ein cymdeithas, ond yn anffodus mae elfennau hiliol yn bodoli o hyd.

Cadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn y 1960au, ar adeg pan roedd y mudiad hawliau sifil ar ei anterth yn yr Unol Daleithiau, yn ceisio rhoi terfyn ar arwahanu hiliol. Mae'r byd wedi gweld cynnydd aruthrol yn y degawdau ers hynny, ond mae hiliaeth yn parhau i fod yn broblem.

Ledled Ewrop, rydym ni wedi gweld pleidiau gwleidyddol asgell dde eithafol yn codi. Caiff Hwngari ei llywodraethu gan Lywodraeth asgell dde; enillodd Plaid Pobl y Swistir bron i draean o'r bleidlais yn y Swistir; yn Awstria, enillodd y Blaid Rhyddid chwarter y bleidlais; ac yn Nenmarc, enillodd Plaid Pobl Denmarc dros 20 y cant o'r bleidlais.

Wn i ddim a wyf i wedi glanio mewn bydysawd amgen yn y fan yma. Oni chawsoch chi eich ethol yn aelod o blaid asgell dde ac onid ydych chi wedi cyfarfod â Nigel Farage yn ddiweddar?

Mae'n ddrwg gennyf—? Do, rydw i wedi. Do, mi wnes i. [Torri ar draws.]

Mae pleidiau asgell dde wedi ennill rhwng 10-20 y cant o'r pleidleisiau yn Sweden, y Ffindir, Estonia, yr Iseldiroedd a nifer o wledydd eraill. Ac, yn nes at adref, rydym ni wedi gweld UKIP yn symud i'r dde eithafol. Pan ymunais ag UKIP, fe wnaeth yr arweinyddiaeth hi'n glir nad oedd lle yn y blaid i hilgwn, ac roedd hi'n dweud ar y ffurflen gais hyd yn oed i fod yn aelod na allech chi ymaelodi os oeddech chi wedi bod yn aelod o blaid asgell dde eithafol. A newidiodd hyn pan ddaeth Gerard Batten yn arweinydd. Ac roedd hi'n ffiaidd pan rannodd Gerard Batten a Neil Hamilton lwyfan gyda Tommy Robinson, a dirywio ymhellach fu hanes y blaid pan fu iddi groesawu Carl Benjamin, Mark Meechan a Paul Joseph Watson i'r blaid. [Torri ar draws.] Dim un arall, mae'n ddrwg gennyf. Roedd hi'n amlwg fod arweinyddiaeth y blaid yn cofleidio'r asgell dde eithafol, a phenderfynais adael a chyn bo hir roedd eraill a oedd yr un mor ddig ag yr oeddwn i yn gwneud yr un peth. Sut allai arweinydd y DU ac arweinydd Cymru oddef hiliaeth a rhagfarn lwyr? Sut allen nhw rannu llwyfan gyda phobl a oedd yn dathlu gwerthoedd y Natsïaid, os nad oedden nhw'n arddel y credoau hynny?

Nid oes lle i wrth-Semitiaeth ychwaith mewn cymdeithas, ac mae llawer o sylwadau a wnaed yn rhai annymunol ac wedi ennyn casineb a therfysgoedd. Ac ni ddylai bod lle mewn swydd gyhoeddus i unrhyw un sy'n credu ei bod hi'n briodol gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, iaith neu grefydd. Rhaid inni sicrhau nad yw'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau neu mewn rhannau eraill o Ewrop yn digwydd yma. Mae'n rhaid inni gael gwared ar ideoleg y dde a'r chwith eithafol sy'n credu ei bod hi'n iawn gwahaniaethu ar sail hil neu grefydd. Nid oes ond un hil—yr hil ddynol—ac mae'n rhaid i bawb fod yn rhydd rhag erledigaeth, a chael addoli pa bynnag dduw a ddewisant, a bydd hyn ond yn digwydd os byddwn yn cael gwared ar hiliaeth a rhagfarn, ac mae integreiddio yn hyn o beth o'r pwys mwyaf.

Rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig fel cam tuag at ddileu casineb o bob math. Ac roedd fy nhaid wastad yn dweud, mae eich ysgrifbin yn ysgrifennu yr un fath i bawb, ac mae fy ysgrifbin i bob amser yn gwneud.    

16:15

Rwy'n croesawu y dylai Cymru gael rhyw fath o ddatganiad am ddileu gwahaniaethu ar sail hil, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig. Fel democratiaeth sy'n datblygu a chenedl yn ein hawl ein hunain, mae hyn yn beth da i'w wneud. Cymru yw'r lle priodol i fod yn gwneud hyn. Roedd Caerdydd, Casnewydd a dinasoedd eraill yma ymhlith y rhai cyntaf yn Ewrop i groesawu pobl o ddiwylliannau eraill. Rydym ni i gyd wedi clywed am Tiger Bay, dociau Caerdydd, lle'r oedd pobl yn dod o bob rhan o'r byd i ymgartrefu.  

Ond mae ein ffordd groesawgar o fodoli o dan fygythiad, a gallwn deimlo hyn. Bu mewnfudo mawr i Gymru dros ganrifoedd, yn enwedig yn ystod y chwyldro diwydiannol, a daeth llawer o'r mewnfudo hwnnw o Loegr pan symudodd cannoedd o filoedd o bobl yma am waith. Ond mae gennym ni ddiwylliant yng Nghymru sy'n ddigon cryf a deniadol fel y cafodd hynny ei gofleidio gan bobl. Rwyf i'n brawf o hynny fy hun, gyda chefndir Yemeni/Gwyddelig/Saesnig, ac os ewch chi ymhellach yn ôl, mae tras Swistir, Groegaidd, Ffilipino, Bantu a du De Affrica, ond eto rwy'n sefyll yma fel Cymro yn siarad â chi heddiw, ac yn Gymro balch.

Rwy'n blino ar bopeth yn cael ei feio ar fewnfudwyr. Wn i ddim sut y gall pobl edrych ar y GIG a beio problemau ar fewnfudwyr a mewnfudo, oherwydd maen nhw'n cadw ein GIG yng Nghymru i fynd, a phenderfyniadau gwleidyddol sy'n achosi problemau gyda'r GIG. Pan fydd pethau'n mynd yn anodd, does dim rhaid i ni droi ar ein cymdogion, oherwydd dyna beth mae gormod o wleidyddion anghyfrifol yn ei wneud y dyddiau hyn. Ac nid yw hi mor syml chwaith a dweud, 'pobl hiliol-drwg, pobl nad ydynt yn hiliol-da', oherwydd rydym i gyd wedi cael ein cymdeithasoli mewn cymdeithas, ac weithiau mae angen i ni i gyd gydnabod ein rhagfarnau ein hunain y mae angen eu goresgyn drwy reswm.

Felly, rwy'n croesawu'r cynnig hwn, ond gobeithio yn y dyfodol y gallwn ni weld rhywfaint o weithredu sy'n seiliedig ar ganlyniadau hefyd. Wrth edrych ar ddemocratiaeth Gymreig, hoffwn weld mwy o bobl o gefndiroedd lleiafrifol yn cymryd rhan. Credaf fod NWAMI gyda Dr Sibani Roy yn gwneud gwaith gwych i annog integreiddio—nid cymathu, ond integreiddio, dealltwriaeth—a hoffwn weld mwy o gefnogaeth i'r elusen honno. Mae arnom ni angen mwy o bobl liw i weithio fel newyddiadurwyr i graffu ar y Llywodraeth hon. Mae arnom ni angen mwy o bobl liw i ymwneud â gwleidyddiaeth.

A ydych chi'n credu bod y cyfryngau yn un maes lle gallwn ni wneud y defnydd gorau ohono i wneud yn siŵr bod cytgord ymysg y cymunedau?

Rwy'n credu bod gan y cyfryngau gyfrifoldeb i hyrwyddo rhyngweithio cadarnhaol rhwng pobl o bob cefndir, o bob lliw a phob hil. Rwy'n credu bod arnom ni angen mwy o bobl yn ymwneud â'r gyfraith—mwy o gyfreithwyr, mwy o farnwyr—i weithredu'r cyfreithiau yr ydym ni'n eu llunio yn y fan yma. Byddai'n wych gweld mwy o bobl o wahanol gefndiroedd yn y proffesiynau hynny. Rwy'n credu bod angen i ni gael Bil hawliau i Gymru i amddiffyn lleiafrifoedd yn ychwanegol at y datganiad hwn.

Ond allwn ni ddim ond brwydro yn erbyn hiliaeth, oherwydd mae'n rhaid i ni hefyd frwydro yn erbyn tlodi a dosbarth. Mae'r cyfyngiadau a'r tanseilio a ddaw yn sgil tlodi hefyd yn atal pobl rhag cael lle yn y Cynulliad hwn a gwireddu eu potensial. Fel yr Aelod Cynulliad lliw cyntaf o Gymru a etholwyd erioed i'r lle hwn, gallaf ddweud wrthych chi fod bod yn ddosbarth gweithiol wedi gwneud pethau yr un mor anodd i mi.

Croesawaf y datganiad i ddileu gwahaniaethu ar sail hil. Gobeithio y gallwn ni yn awr ehangu hynny i feysydd eraill o wahaniaethu a chyflwyno camau gweithredu pendant. Diolch.

16:20

Diolch. A gaf i alw'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn awr i ymateb i'r ddadl? Jane Hutt.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i'r holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon am eich sylwadau, eich myfyrdodau a'ch ymrwymiad. Ac rwy'n credu mai'r ymrwymiad sydd wedi amlygu ei hun heddiw, sy'n dangos bod yn rhaid i ni ysgogi'r agenda hon mewn difrif. Rydym ni'n ceisio cefnogaeth drawsbleidiol i weithredu ar faterion yn ymwneud â hil. Mae'n rhaid i ni ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r maes polisi hwn, ac mae'n ein helpu ni yn Llywodraeth Cymru i gyflwyno ymateb ffurfiol i argymhellion rhaglen ymgysylltu Cymru gyfan ar gyfer Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Er gwaetha'r cynnydd, mae'n gwbl amlwg bod llawer i'w wneud eto, ac mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus a thorchi ein llewys er mwyn sicrhau nad ydym ni'n llithro'n ôl nac yn colli unrhyw gynnydd a wnaed. Mae peryglon gwirioneddol o hynny ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid inni ddyblu'n hymdrechion a'n hymrwymiadau.

Rwy'n diolch i Mark Isherwood yn gyntaf am ddal sylw ar waith cyrff y trydydd sector, ond yn enwedig y mudiadau hynny sy'n rhwydweithio yn y gogledd ac yn y de, ac fe wnaethoch chi sôn am ddigwyddiadau y buoch chi ynddyn nhw sydd wedi effeithio ar integreiddio drwy gyfrwng digwyddiadau diwylliannol ac artistig. Wrth gwrs, tynnodd John Griffiths sylw ar hyn hefyd, ac yn enwedig ar swyddogaeth gwyliau. Fydda i ddim yn anghofio Mis Hanes Pobl Dduon y llynedd, a oedd yn wych—roedd yn fwy na mis—a'r mudiad a drefnodd hynny drwy Gymru gyfan. Rwyf eisoes wedi sôn am y gefnogaeth i gofio am genhedlaeth Windrush. Gwyddom o ran y prosiect Fusion ers 2015, ein bod wedi cefnogi hynny gyda phartneriaeth y sector diwylliannol a threftadaeth ac mae'n rhaid i ni feddwl mwy am hyn o ran pob agwedd ar bolisi a chyllid y Llywodraeth. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi mwy o arian i'r rhaglen cydlyniant cymunedol rhanbarthol, oherwydd gall y rhaglen honno adnabod lle mae angen inni ganfod ble mae'r tensiynau a hefyd gweld cyfleoedd o ran cydlyniant cymunedol. Felly, mae'r rheini i gyd yn bwyntiau pwysig.

Cyfeiriodd Mark Isherwood hefyd at Gyngor Ffoaduriaid Cymru, sefydliad mor bwysig—y gynghrair o sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru. Cawsom ddigwyddiad, Noddfa yn y Senedd, ar 3 Ebrill, ac roeddwn yn falch o gael siarad yn y digwyddiad hwnnw, gan ddweud—ac rwy'n credu bod hyn yn wir—fod ffoaduriaid wedi cael y fath groeso yng Nghymru, a chredaf ei bod hi yn rhoi hyder inni ddweud bod ysbryd y Cymry wedi ei ddiffinio gan gydymdeimlad a chyfeillgarwch, nid gan wahaniaeth neu eithrio. Mae angen ymfudo ar Gymru ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r cyfraniadau y mae pobl sy'n ceisio lloches yn eu gwneud i'n cymdeithas. Ac, wrth gwrs, dywedais i yno, fel yr ydym ni'n dweud ar bob cyfle, nad oes lle o gwbl yng Nghymru i eiriau o gasineb neu hiliaeth.

Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniadau ac yn arbennig am dynnu sylw at hil a chydraddoldeb mewn ysgolion ac at wella canlyniadau, yn enwedig i blant Sipsiwn/Teithwyr. Gwyddom fod Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhlith y rhai mwyaf ymylol yn ein cymdeithas. Ein cyfrifoldeb moesol ni yw sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru'n cael eu trin yn deg. Ac, wrth gwrs, o ran Sipsiwn, Roma a Theithwyr, dyna ble mae'n rhaid i ni wrthweithio'r safbwyntiau a'r camsyniadau negyddol sy'n cael eu gwyntyllu amdanynt.

Rwy'n diolch hefyd i Jenny am ddweud pa mor bryderus yw hi am arafwch cyflwyno'r cynllun amddiffyn mannau addoli, sef cynllun y Swyddfa Gartref. Yn wir, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref gynnydd yn y cynllun hwnnw ym mis Mawrth, ond ni chaiff ei weithredu tan fis Gorffennaf, ac fel Jenny, mae llawer ohonom ni wedi ymweld â'n mosgiau yn yr wythnosau diwethaf. Ymwelais â'm mosg lleol, a chomander rhanbarthol yr heddlu a ddywedodd mewn gwirionedd na allai gredu sut deimlad yw teimlo'n ofnus yn eich lle o addoli o ran ansicrwydd. Hoffwn ar hyn o bryd dalu teyrnged i bob Mwslim yng Nghymru yn ystod Ramadan. Mae'n amser i weddïo, myfyrio ac ymprydio, ac rwy'n credu y bydd pawb yn y Cynulliad hwn eisiau talu'n teyrnged. Ramadan Kareem. Mae'n rhan o'n byd ni yma yng Nghymru, ac rydym ni eisiau cefnogi hynny.

Yn ddiweddar bûm yn cadeirio cyfarfod o'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar droseddau casineb, ac roeddwn hefyd yn cyd-gadeirio'r bwrdd plismona gyda'r Prif Weinidog. Yn y cyfarfodydd hyn, rydym ni wedi trafod diogelwch mosgiau ac rydym ni wedi sôn am fonitro troseddau casineb ym mhob rhanbarth—mae hynny'n cynnwys adroddiadau gan bob un o luoedd yr heddlu. Wrth gwrs, rydym ni hefyd wedi trafod troseddau cyllyll, a byddaf yn trosglwyddo'r sylwadau a'r cwestiynau hynny i'r Swyddfa Gartref.

Ond rwy'n credu bod Leanne Wood a Dawn Bowden wedi crybwyll materion pwysig ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn o ddifrif, ac rwyf yn tynnu sylw at y Confensiwn. Os edrychwch chi ar y Confensiwn rhyngwladol, credaf fod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar hynny heddiw. Mae'n ymwneud â chael gwared ar bob math o wahaniaethu ar sail hil—[Torri ar draws.]

16:25

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Gweinidog. Diolch. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cefnogi datganiad trawsbleidiol, fel y mae'r cynnig yn galw amdano, ond er mwyn rhoi'r confensiwn ar waith, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod angen i ni fynd ymhellach na hynny. A gaf i ofyn ichi roi sicrwydd inni heddiw, wrth inni edrych ar y posibilrwydd, a allai fod ar ôl Brexit, pryd y byddwn, o bosibl, yn colli amddiffyniadau cydraddoldeb yr UE—ac mae rhai ohonom yn gobeithio na fydd hynny'n digwydd—y byddwn yn cynnwys y confensiwn hwn wrth inni ystyried ymgorffori'r Confensiynau Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gyffredinol, fel yr ydym wedi'i wneud gyda'r confensiwn ar hawliau'r plentyn, yng nghyfraith Cymru?

Yn bendant, gallaf eich sicrhau chi ynghylch hynny; mae hwn yn gyfle. Rydym wedi cael seminar ar sut y gallwn ymgorffori hawliau, ac, wrth gwrs, mae'n adeiladu ar y gwaith yr oedd Jeremy Miles wedi'i wneud y llynedd, a byddaf yn sicr yn rhoi'r ymrwymiad hwnnw ichi.

Yn olaf, i gloi, rwy'n credu bod hwn yn gyfle. Rydym wedi sôn llawer am addysg ac, yn wir, wedi derbyn holl argymhellion y grŵp ymgysylltu â phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a soniais am 13 o argymhellion ar addysg. Mae'r ffaith bod Cyngor Hil Cymru wedi cael cyfarfod yn ddiweddar â swyddogion y cwricwlwm, a bod Kirsty ei hun wedi bod yn bresennol yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn ystyried hyn yn rhan annatod o'n cwricwlwm, yn ein hysgolion a'n haddysg.

Ond rwyf hefyd, yn olaf, yn falch iawn bod yna grŵp trawsbleidiol ar gydraddoldeb hiliol, sy'n mynd i gael ei gadeirio gan John Griffiths. Felly, yn olaf, galwn am gefnogaeth ar draws y Cynulliad hwn ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso datblygiad y datganiad traws-bleidiol hwnnw i Gymru, sy'n ymgorffori egwyddorion y confensiwn rhyngwladol ac sy'n atgyfnerthu, yn ailfywiogi ein hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru i lwyr gefnogi'r frwydr fyd-eang i ddileu hiliaeth ac ideoleg hiliol.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl: Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5 yn enw Darren Millar. 

Mae eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma'n ddadl ar y model gofal sylfaenol i Gymru, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig NDM7042 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r camau a gymerir i drawsnewid gwasanaethau yn unol â’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ger ein bron. Ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach' yw bod pawb yn cael bywyd hirach, iachach a hapusach, a'n bod ni'n gallu aros yn heini ac yn annibynnol yn ein cartrefi ein hunain am gyhyd â phosibl. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn gofyn am ddull o weithredu system gyfan ar gyfer trawsnewid. Dull o weithredu system gyfan yw'r model gofal sylfaenol i Gymru; system iechyd a lles pan gaiff pobl fynediad at ystod o ofal a chymorth di-dor yn eu cartrefi, neu'n agos at eu cartrefi, yn seiliedig ar eu hanghenion unigryw a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Nod ein dull gweithredu yw darparu system effeithiol i gefnogi pobl i ofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain. Felly, byddwn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth gywir, cymorth sy'n canolbwyntio ar atal, gweithredu'n gynharach a lles ehangach yn ogystal â thriniaeth ar gyfer afiechyd.

Mae'r model newydd yn golygu newidiadau yn ein gweithlu gofal sylfaenol, gan ddod ag ystod ehangach o weithwyr proffesiynol at ei gilydd i ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau yn uniongyrchol i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, neu'n agos atyn nhw. Yn raddol ac yn gyson, caiff gwasanaethau eu darparu gan dimau amlbroffesiynol sydd â phractis cyffredinol sefydlog yn ganolog iddyn nhw. Rwyf wedi rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad droeon am y camau sylweddol yr ydym ni'n eu cymryd i ddatblygu practis cyffredinol amlbroffesiynol ac i hyfforddi a recriwtio rhagor o feddygon teulu. Arweiniodd y weithred hon at lenwi 98 y cant o leoedd hyfforddi meddygon teulu y llynedd, ac roedd yn arbennig o lwyddiannus o ran llenwi swyddi gwag mewn ardaloedd a oedd wedi cael trafferth recriwtio cyn hynny. Yn gwbl groes i hynny, yn Lloegr, mae nifer y meddygon teulu wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yng Nghymru, mae'r sefyllfa wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. O ystyried hynny, a'r trafodaethau ynghylch y contract â meddygon teulu sy'n mynd rhagddynt, ni ddylai beri syndod na fyddwn yn cefnogi unrhyw un o welliannau'r Ceidwadwyr.

Mae ein dull o weithredu yn hybu gweithio di-dor rhwng partneriaid ar lefel gymunedol, drwy ein clystyrau gofal sylfaenol, gan ddarparu system iechyd a lles sy'n canolbwyntio ar anghenion eu poblogaeth leol. Mae ein clystyrau yn dwyn ynghyd y Bwrdd Iechyd, yr awdurdodau lleol a gwasanaethau yn y gymuned i wella iechyd a lles ar y cyd, nid gwasanaeth sydd wedi'i ganolbwyntio ar y GIG yn unig. Ac mae hynny'n newid sylweddol i'r ffyrdd blaenorol o weithio. Mae'n gofyn bod practisau'n gweithio gyda'i gilydd a chyda'r gymuned ehangach o ddarparwyr gwasanaethau i wneud y defnydd gorau o adnoddau, a darparu'r gofal cydgysylltiedig hwnnw ar sail anghenion pobl a chymunedau.

Rydym ni wedi gweld bod ein syniadau wedi ennyn diddordeb ymhlith eraill. Efallai y bydd o ddiddordeb i Aelodau wybod bod y cynllun 10 mlynedd ar gyfer GIG Lloegr a gyhoeddwyd ym mis Ionawr yn mabwysiadu rhywbeth hynod o debyg i'n dull o weithredu ar sail clwstwr, ond ni welaf unrhyw glod yn cael ei roi am y syniadau gwreiddiol a gymerwyd ac a weithredwyd yma yng Nghymru. Os siaradwch â phobl sy'n darparu gofal sylfaenol ar draws y ffin yn Lloegr, maen nhw'n cydnabod eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru, a dylai hynny fod yn rhan gadarnhaol o ddatganoli wrth inni ddathlu 20 mlynedd—i ddathlu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ac yn ei arwain yn hyn o beth, i edrych ar le mae rhannau eraill o'r DU yn manteisio arno, ac, yn yr un modd, i fod â meddwl agored ynghylch gwelliannau y gallem ni eu gwneud yma, drwy ddysgu oddi wrth rannau eraill o'r DU.

Felly, mae gwaith clwstwr yn parhau i ddatblygu yma yng Nghymru. Pan drafododd y Cynulliad hwn glystyrau ym mis Ionawr y llynedd, eglurais fod ein dull o weithredu yn gofalu nad oedd yn rhy gyfarwyddol. Felly, seilir ein model ni yng Nghymru ar arferion arloesol, wedi'u cynllunio'n lleol ac wedi'u cytuno'n genedlaethol gan yr holl randdeiliaid ar ein bwrdd gofal sylfaenol, gan ddwyn ynghyd pobl o fferylliaeth, pobl o gefndiroedd gofal cymdeithasol ac, wrth gwrs, pobl o faes ymarfer meddygol hefyd. A'r ystod honno o randdeiliaid sydd wedi cytuno ar ffordd newydd ymlaen. Felly, rydym ni'n defnyddio ein rhaglen o ddiwygio contractau gofal sylfaenol i gefnogi fferyllwyr cymunedol i fod yn aelodau o glystyrau, ac i wasanaethau meddygol mwy cyffredinol gael eu cynllunio a'u darparu ar lefel clwstwr. Ac edrychaf ymlaen at ddarparu adroddiad i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd o ran diwygio contractau'n ehangach ym maes gofal sylfaenol yn ystod yr Hydref.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu £10 miliwn y flwyddyn yn uniongyrchol i glystyrau i wneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch ble i fuddsoddi o ran eu hanghenion gofal iechyd lleol. Disgwyliaf yn y dyfodol y bydd mwy o benderfyniadau'n cael eu gwneud ar lefel y clwstwr. Rwyf wedi egluro sawl tro fy mod yn disgwyl graddfa a chyflymder ym mhob rhan o Gymru, o ran mabwysiadu ac addasu dull trawsnewidiol ar gyfer gofal sylfaenol. Er mwyn helpu i barhau i ysgogi hyn, byddaf yn gosod cerrig milltir cyflawni cenedlaethol ar gyfer trawsnewid a gwella gofal iechyd lleol, er mwyn dwyn i gyfrif yr arweinyddiaeth o fewn ein gwahanol bartneriaid iechyd.

Ym mis Mawrth, lansiais safonau cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gallu defnyddio gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn bryder allweddol o Arolwg Cenedlaethol Cymru o ran gofal sylfaenol. Ymwelais â chanolfan iechyd Ffynnon Taf pan lansiais y safonau hynny, ac yr oeddwn yn falch o weld drosof fy hun y defnydd ardderchog o'u gwasanaethau i gleifion. Mae wedi bod yn cynnal rhannau helaeth o'r model gofal sylfaenol ers sawl blwyddyn, ac mae'r amser aros ar gyfer apwyntiad arferol yn y practis hwnnw yn un neu ddau ddiwrnod. Dyna'n huchelgais sydd i'w gwireddu ar draws y wlad.  

Ym mis Mawrth cyhoeddais hefyd fod cofrestr locwm wedi'i chreu ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn yn darparu ffordd, y mae ei hangen yn ddirfawr, i reoli a deall trefniadau ar gyfer meddygon teulu locwm—un o brif bryderon partneriaid ym maes ymarfer cyffredinol. Ac rwy'n falch o allu cadarnhau, yn barod, ers y lansiad, fod gennym bellach 508 o feddygon locwm yn rhan o'r gofrestr hon, a mwy yn mynegi eu diddordeb mewn cymryd rhan. Rydym ni newydd lansio cyfnod fferylliaeth yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' a byddwn yn ymestyn yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd er mwyn helpu i gyflawni ein hymrwymiad parhaus i gefnogi gwaith tîm amlbroffesiynol o fewn ac ar gyfer ein cymunedau. Yn ganolog i'n dull o weithredu yng Nghymru yw'r egwyddor o wasanaethau sydd yn cael eu cynllunio a'u darparu dros y cyfnod 24/7. Yn naturiol, mae hynny'n cynnwys trawsnewid gwasanaethau y tu allan i oriau a chyflwyno'r gwasanaeth 111, a gwn fod yr adran cyfrifon cyhoeddus wedi cymryd diddordeb yn y rhan honno o'n gwasanaethau—eto, cam sylweddol ymlaen ac yn wahanol i'r ffordd yr oedd rhai gwasanaethau wedi eu darparu yn y gorffennol.

Mae enghreifftiau eraill o'n blaenoriaethau yn y rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol yn cynnwys system genedlaethol i nodi pobl sydd mewn mwy o berygl o angen gofal heb ei drefnu; system ar gyfer monitro pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau; adolygiad gan gymheiriaid ar gyfer gofal brys o safbwynt gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned; templed newydd ar gyfer cynlluniau clwstwr i symud ymlaen; cefnogaeth genedlaethol ar gyfer sgyrsiau â'n cyhoedd ynghylch sut y mae gwasanaethau lleol yn newid ac, yn hollbwysig, pam. Byddwn yn gwerthuso ac yn adrodd yn gyhoeddus ar effaith y model gofal sylfaenol newydd ym mhob rhan o Gymru. Y nod yw cael gwell gwaith i'n staff i'w gyflawni ac, yn hollbwysig, gwell gwasanaeth gyda, ac ar gyfer y cyhoedd. Disgwylir i'r bwrdd gofal sylfaenol cenedlaethol gadarnhau cynlluniau gweithredu manwl sy'n sail i'n dull o weithredu yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae hynny yn golygu, ynghyd â'r arweiniad cenedlaethol hwnnw, fod arweinyddiaeth leol ac arloesi'n hanfodol ar gyfer gweddnewid. Mae mwyfwy o bractisau cyffredinol yn datblygu timau amlbroffesiynol, gan gyflwyno systemau i gyfeirio pobl at wasanaethau lleol a blaenoriaethu pobl ag anghenion clinigol, fel eu bod yn gweld y person cywir ar yr adeg gywir, y tro cyntaf. Mae mwyfwy o feddygfeydd yn cofleidio swyddogaeth gwasanaethau lles anghlinigol. Er enghraifft, mae practis cyffredinol yn Wrecsam yn cydweithio â gwasanaethau cymunedol ar gyfer pobl sy'n ddigartref, ac rwyf wedi bod i bractis meddyg teulu yng Nghaerdydd sydd wedi datblygu gardd gymunedol—budd dwbl yno wrth wella undod cymunedol a helpu pobl i fynd i'r afael â phroblemau megis unigrwydd, unigedd, pryder a straen. Ac fel y clywsom ni yn gynharach yn ystod cwestiynau, mae llawer o weithgarwch yn digwydd mewn fferylliaeth gymunedol. Mae fferyllfeydd cymunedol bellach yn cynnig triniaeth ar gyfer amryw o anhwylderau cyffredin heb fod angen presgripsiwn—eto, mae arloesi'n digwydd yma yng Nghymru yn gyntaf. Mae fferyllwyr yn parhau i hyfforddi ar gyfer rhoi presgripsiwn am feddyginiaeth yn ogystal â gweinyddu a chynghori.

Mae cronfa trawsnewid 'Cymru Iachach' a grëwyd gennyf, wrth gwrs, yn treialu modelau gofal a chymorth newydd, ar raddfa fwy. Er enghraifft, mae clwstwr Cwm Tawe yn gwella iechyd a lles y boblogaeth drwy gryfhau hunanofal a meithrin cydnerthu cymunedol. Ar draws ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, mae timau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y gymuned yn trawsnewid i fod yn gynllun rhyddhau o'r ysbyty 24/7. Mae pobl yn gallu cyrraedd adref yn gynt gyda'r pecyn gofal cywir ac yn y lle iawn iddyn nhw. Mae gogledd Cymru yn gweithredu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau cymunedol cydgysylltiedig sydd wedi'u cynllunio ar sail yr egwyddor a drafodwyd gennym yn gynharach o ran yr hyn sy'n bwysig i, ac ar gyfer y dinesydd, a ddylai fod yn ganolog i'n cynllun i ailgynllunio ein gwasanaethau.

Nawr, mae amser yn brin, felly ni allaf nodi pob cam yr ydym yn ei gymryd i drawsnewid gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r dull o weithredu yr wyf wedi'i nodi yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth 'Cymru Iachach' a'r dyfodol hirdymor ar gyfer canlyniadau iechyd, gofal a lles i'r bobl yr ydym i gyd yn eu cynrychioli. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau at y ddadl heddiw.

16:35

Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliannau 1 i 5 a gyflwynwyd yn ei enw. Darren.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y bydd rhai o'r nodau yn y model gofal sylfaenol ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cael eu tanseilio gan yr argyfwng recriwtio presennol o ran meddygon teulu.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod heriau o ran recriwtio meddygon teulu wedi arwain at gau practisau meddygon teulu, practisau'n cael eu rheoli gan fyrddau iechyd lleol, dibyniaeth gynyddol ar feddygon locwm a bylchau yn rotas gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw Cymru yn hyfforddi nifer digonol o feddygon teulu newydd i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r anghydfod parhaus rhwng cynrychiolwyr meddygon teulu a Llywodraeth Cymru ynghylch indemniad meddygon teulu a'r effaith niweidiol bosibl y gallai hyn ei chael ar recriwtio meddygon teulu.

Gwelliant 5—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru;

b) cynyddu cyfran cyllideb y GIG a ddyrennir i ofal sylfaenol; ac

c) mynd i'r afael â phryderon cyrff sy'n cynrychioli meddygon teulu ynghylch indemniad meddygon teulu.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf yn cynnig y gwelliannau yr wyf wedi'u cyflwyno. Wrth wrando ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, byddech chi'n dychmygu bod popeth yn fendigedig yn ein gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru, ond, wrth gwrs, dim o'r fath beth. Mae'r model gofal sylfaenol i Gymru wedi'i seilio, mewn gwirionedd, ar wasanaethau meddygon teulu sef y gwasanaethau iechyd rheng flaen y mae llawer o bobl yn eu defnyddio, ond, wrth gwrs, gwyddom ni fod argyfwng sylweddol o ran recriwtio meddygon teulu ar hyn o bryd a fydd yn tanseilio'r broses o ddarparu'r model gofal sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w ddarparu. Nawr, rydym ni wedi bod yn rhybuddio ynghylch yr argyfwng meddygon teulu hwn, ynghyd â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ers blynyddoedd lawer. Roeddem ni'n dweud wrthych am gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi bron i ddegawd yn ôl, ac eto yr ydych wedi methu gwneud hynny tan yn ddiweddar. Hyd yn oed nawr, hyd yn oed gyda'r prinder parhaus, rydym ni'n dal mewn sefyllfa lle mae mwy o unigolion yn gwneud cais am y cyrsiau hynny ac yn gymwys ar gyfer y cyrsiau hynny, o ran y gallu i hyfforddi ym maes arbenigedd meddygon teulu, ac eto rydych chi'n eu rhwystro nhw. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod gennym ni, yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, 24 o bractisau meddyg teulu wedi cau ledled Cymru, 29 sy'n cael eu rheoli gan y Bwrdd Iechyd a 85 sydd mewn perygl. Ni all y sefyllfa hon barhau. Mae angen i chi hyfforddi mwy o feddygon teulu a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant cyn gynted â phosibl.

Ar ben hynny, canfu Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, yn ei arolwg diweddaraf, fod 23 y cant o feddygon teulu wedi dweud eu bod yn annhebygol o fod yn gweithio ym maes ymarfer cyffredinol ymhen pum mlynedd. Mae hynny bron i chwarter y gweithlu meddygon teulu. Mae 72 y cant yn dweud wrthym ni eu bod yn disgwyl y bydd gweithio mewn practis cyffredinol yn gwaethygu yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac mae 42 y cant yn dweud ei bod yn anghynaliadwy yn ariannol i gynnal eu practisau. Felly, credaf fod pethau'n llawer llai gobeithiol nag y mae'r Gweinidog wedi ceisio'i gyflwyno heddiw. Gwyddom ni hefyd fod practisau a reolir, sy'n un o'r pethau y mae'r Llywodraeth wedi tynnu sylw ato fel rhywbeth y mae hi eisiau gweld mwy ohonyn nhw yn y gymysgedd, yn llawer drutach mewn gwirionedd—traean yn ddrutach na swydd y contractwr meddyg teulu, y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu gweld fel y meddygon teulu traddodiadol yn eu cymunedau lleol. Nawr, petaech chi'n darparu'r adnoddau hynny yr ydych chi ar hyn o bryd yn eu rhoi i'r practisau sy'n cael eu rheoli, i'r practisau meddygon teulu sydd mewn perygl, rwy'n credu y byddech chi'n gweld na fyddai llawer o bractisau meddygon teulu mewn perygl mwyach ac y bydden nhw'n ymdopi'n eithaf da, diolch yn fawr.

O ran y ceisiadau—yn y gogledd yn unig, gyda llaw, rydym ni wedi gweld practisau yn cau yn Wrecsam ac mewn mannau eraill yn y gogledd, gan gynnwys yn fy etholaeth i, ac eto yr oedd 50 y cant yn fwy o ymgeiswyr na nifer yr unigolion a gafodd leoedd hyfforddi yn arbenigedd y meddyg teulu dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, roedd ffigurau 2017 yn awgrymu bod 22 o ymgeiswyr, ac eto dim ond saith a gafodd gynnig lle yn Wrecsam; 24 o ymgeiswyr ym Mangor, ond 12 yn unig a gafodd leoedd—ac mae hyn er gwaetha'r ffaith bod gennym ni brinder ofnadwy o feddygon teulu. Felly, credaf fod angen ichi edrych yn ofalus iawn ar niferoedd y meddygon teulu, neu fel arall, a bod yn onest, nid yw'ch cynllun gofal sylfaenol yn mynd i weithio.

Ar ben hynny, rydych chi hefyd yn ei gwneud hi'n llai deniadol i ddod i weithio yng Nghymru ac i fod yn ymarferydd cyffredinol, oherwydd y sefyllfa o ran indemniad, prin ichi grybwyll hyn yn eich sylwadau agoriadol. Nid yw'n syndod ichi roi cyn lleied o sylw i hyn, wrth gwrs, oherwydd yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn gwirionedd yw brigdorri incwm practisau meddygon teulu, gan gymryd £11 miliwn o'r arian sydd ar gael i gefnogi'r practisau hynny er mwyn cyflwyno cynllun indemniad meddygon teulu, a hynny'n lled wahanol i'r sefyllfa bresennol yn Lloegr lle maen nhw wedi cael cynnydd sylweddol—[Torri ar draws.]—lle y maen nhw wedi cael cynnydd sylweddol—[Torri ar draws.] Nid ydych yn gwrando arnaf fi—lle y maen nhw wedi cael cynnydd sylweddol yn yr incwm sydd ar gael iddyn nhw yn yr un flwyddyn ag y maen nhw wedi cael eu cynllun yswiriant indemniad. Cofiwch, nid fi sy'n dweud hyn; y meddygon teulu eu hunain sy'n cysylltu â mi ac sy'n cysylltu â chi, ac mae'n siŵr yn cysylltu â phawb arall yn y Siambr hon. Dywedodd Dr Philip Banfield, cynrychiolydd o gyngor Cymdeithas Feddygol Prydain yn fy etholaeth i: 

bod morâl meddygon teulu yn y gogledd yn chwalu'n ddi-oed ac mewn modd trychinebus.

Mae Dr Conor Close, sydd hefyd yn feddyg teulu yn fy etholaeth i, yn dweud o ran ei feddygfa ef, bod y toriad yn gam yn rhy bell, ac fe ddyfynnaf;

Lleihau'r swm craidd yw'r ergyd olaf o bosibl o ran hyfywedd hirdymor y practis.

Fe wnaethoch chi sôn am y sefyllfa o ran rhestrau locymiaid. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae hyn yn mynd i ychwanegu gwahaniaethu newydd rhwng Cymru a Lloegr, ac, ar ben hynny, rydych yn dweud eich bod yn mynd i dalu am yr yswiriant ar gyfer y meddygon locwm. Nid ydych yn mynd i frigdorri eu hincwm, sy'n mynd i lusgo mwyfwy o bobl i waith locwm ac i ffwrdd o'r ffordd lai costus o gynnal pethau yn eu practisau meddygon teulu. Felly, mae angen dull o weithredu sylfaenol wahanol arnom ni.

Un pwynt olaf, os caf, Madam Ddirprwy Lywydd, ac mae hynny'n ymwneud â'r gyfran o fuddsoddiad fel cyfanswm y gyllideb gyfan yn y GIG. Mae gan Gymru'r ganran isaf o gyllideb y GIG wedi'i buddsoddi yn ei gwasanaethau gofal sylfaenol  nag unrhyw ran arall o'r DU: 7.64 y cant, yn ôl yr ystadegau sydd gennyf fi, o gymharu â 9.51 y cant yn Lloegr yn cael ei wario ar ofal sylfaenol, 7.75 y cant yn yr Alban, a 9.51 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Yn amlwg, yr hyn yr ydych yn ei wneud yw amddifadu ein gwasanaethau gofal sylfaenol ar adeg pan fo angen buddsoddiad sylweddol arnyn nhw a byddwn yn eich annog i ddatblygu strategaeth wahanol, ac anogaf bobl i gefnogi'r gwelliannau yr ydym wedi'u cyflwyno.

16:40

Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon ar y model gofal sylfaenol i Gymru. Nid wyf i'n gwybod a wyf i wedi crybwyll o'r blaen fy mod i'n digwydd bod yn feddyg teulu fy hun, ond—[chwerthin.] Yn amlwg, nid yw gofal sylfaenol yn ymwneud â meddygon teulu yn unig. Gadewch imi ddweud hynny'n awr. Mae'n ymwneud â nyrsys practis, mae'n ymwneud â fferyllwyr, â nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd, deintyddion. Nawr, rwy'n ei chyfrif hi'n fraint cael bod yn feddyg teulu ers cryn amser bellach, ac, yn amlwg, mae 90 y cant o'r cysylltiadau â chleifion yn dal i fod ar lefel sylfaenol a chymunedol, ar ddim ond 7.6 y cant o'r gyllideb. Mae clystyrau, a bod yn deg, yn cael arian. Mae angen i'r arian hwnnw, serch hynny, er mwyn annog hyd yn oed mwy o'r arloesedd aruthrol sy'n digwydd, fod yn arian hirdymor ac yn strategaeth briodol, yn hytrach na photiau tymor byr y mae'n rhaid gwneud cais amdanyn nhw'n rheolaidd. Felly, er mwyn sicrhau newid sylweddol ym mherfformiad clystyrau, mae angen yr arian hwnnw arnyn nhw yn y tymor hir.

Ac mae practisau meddygon teulu unigol angen arian hefyd. Nid ydyn nhw'n cael unrhyw arian ychwanegol nawr. Mae'r cyfan yn mynd i glystyrau. Mae'n system sydd dan bwysau. Mae'n gwneud gormod, ond er hynny, mae gwaith gwych yn cael ei wneud, ac mae arloesi'n digwydd. Mae meddygon teulu yn gweld, ar gyfartaledd, 60 o gleifion y dydd, heb gyfrif yr holl waith y mae ein nyrsys practis a nyrsys ardal ac ymwelwyr iechyd yn ei wneud hefyd. Un bore Llun diweddar yn y feddygfa yn Nhregŵyr, yn fy meddygfa, fe gawsom ni 700 o alwadau ffôn gan gleifion. Nawr, mae'n rhaid cael ffordd o ymdrin â 700 o alwadau ffôn, a brysbennu yw hynny. Cewch eich cyfeirio at y gweithwyr iechyd proffesiynol gorau i ymdrin â'ch mater penodol chi, ac nid y meddyg teulu yw hynny o reidrwydd. Yn sicr, yn fy achos i, ar gyfer llawer iawn o broblemau, nid y meddyg teulu yw hynny o reidrwydd. Ond mae hynny'n broblem ac mae'n her y mae'n rhaid i rai pobl ymgyfarwyddo â hi.

Gan fod ymgynghorwyr ysbytai wedi dod yn fwy arbenigol dros y blynyddoedd—mae nhw'n edrych ar ddarnau o'r corff yn unig nawr—mae'r cysyniad o'r meddyg ymgynghorol cyffredinol wedi diflannu, ac rydych chi'n gofyn nawr: pwy yw'r meddyg ymgynghorol cyffredinol y dyddiau hyn? Wel, y meddyg teulu. Mae'r agwedd honno wedi dod o'r ysbyty. Mae wedi dod i'r gymuned. Felly, rydych chi'n gofyn nawr: pwy sy'n gwneud gwaith y meddyg teulu traddodiadol, felly? Wel, nyrs y practis nawr. Felly, mae'r newid hwnnw wedi digwydd yn anorfod, ond byddem ni'n hoffi gweld rhywfaint o'r cyllid hwnnw'n dilyn. Mae pob un o'r clinigau diabetig a'r clinigau asthma ac ati a arferai fod yn yr ysbyty'n cael eu cynnal bellach gan ein cydweithwyr yn y maes gofal sylfaenol, sef ymarferwyr nyrsio a nyrsys practis.      

Mae'r fferyllydd hefyd yn allweddol i drin y math o fân-glefydau yr oeddem ni'n arfer gweld fel meddygon teulu, ond, gan ein bod ni nawr yn gweld yr achosion cymhleth mewn pobl oedrannus—. Dyna i gyd dwi'n ei weld rŵan, ac mae hynny'n deg, ydy'r bobl sâl hynny sydd angen gweld meddyg teulu yn unig. Wrth gwrs, mae yna fwy o ofyn i eraill gamu i mewn fel aelodau llawn o'r tîm gofal cynradd, fel dwi wedi sôn: y fferyllydd, yr optegydd, y deintydd ac wrth gwrs y ffisiotherapyddion cymunedol—rŷm ni eisiau gweld mwy ohonyn nhw—a'r therapyddion lleferydd cymunedol—rŷm ni eisiau gweld mwy ohonyn nhw—a therapyddion galwedigaethol yn y gymuned—hyn i gyd, rŷm ni eisiau gweld llawer mwy ohonyn nhw. Mae hyn yn her sylweddol i hyfforddi mwy o'r staff gwerthfawr yma er mwyn cadw'r tîm i fynd yn y gymuned.

Felly, mae sawl her fawr, yn ogystal â'r angen am fwy o recriwtio a chadw gweithwyr iechyd proffesiynol yn gyffredinol. Mae'r ystad gofal sylfaenol—cyflwr ffisegol yr adeiladau—yn gofyn am fuddsoddiad enfawr. Mae'n dechrau digwydd nawr ar ôl i ddim byd mawr ddigwydd dros flynyddoedd lawer, ond mae her yn bodoli o hyd o ran adeiladau nad ydyn nhw ar eu gorau. 

Ac mae angen gweddnewid gofal cymdeithasol yn sylweddol. Nid yw hi bellach yn foddhaol gwneud mân newidiadau'n unig. Byddwn i'n dadlau bod angen trefnu gofal cymdeithasol fel gofal iechyd—fel gwasanaeth gwladol y telir amdano gan drethiant cyffredinol, gyda gweithwyr cymorth gofal, cymwysedig a chofrestredig ar gyflog yn darparu gofal nyrsio o ansawdd uchel, gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu cyd-leoli, yn cydweithio mewn canolfannau gofal sylfaenol. Mae'n dechrau digwydd, ond mae cymaint mwy i'w wneud.

Felly, yn olaf, mae'n fraint enfawr imi fod wedi ymwneud â bywydau cannoedd o bobl dros 35 mlynedd yn Abertawe yn feddyg teulu. Mae'n rhoi boddhad aruthrol, a gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae gofal sylfaenol yn ganolog i'r GIG cyfan. Fel arall, bydd pawb a phopeth angen gofal eilaidd, sydd wedi'i reoli'n amhriodol ac yn eithriadol o gostus, fel yn Unol Daleithiau America. Ond, mae gofal cymdeithasol hefyd yn hollbwysig. Ni all y Llywodraeth sefyll ar y cyrion mwyach a dweud: 'Mae hyn yn rhy fawr, mae'n rhy gymhleth. Mae yn y drôr "rhy anodd"'. Mae'n rhaid i gyfiawnder i'n trigolion oedrannus ein gorfodi i weithredu. Nid ydym ni'n gwerthu ein tai i ariannu gofal iechyd, ac ni ddylem ni chwaith i ariannu gofal cymdeithasol.

16:45

A gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron? Mae'n hanfodol bod y newidiadau hyn yn cael eu gweld yn rhan o'r brif ffrwd o ddarparu ein gwasanaethau gofal iechyd, nid rhywbeth sy'n digwydd ar y cyrion yn unig.

Y llynedd, Llywydd, treuliais gryn amser yn edrych yn fanylach ar y darpariaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fy etholaeth i, ac ar rywfaint o'r arloesi mewn ardaloedd cyfagos fel Cwm Cynon. Gwnaethpwyd argraff arnaf gan lawer o'r gwaith a oedd yn digwydd, gwaith y mae'r Gweinidog ac eraill wedi manylu ar elfennau ohono. Ym Merthyr, roedd clystyrau meddygon teulu'n cyflogi swyddogion cymorth meddygon teulu, ac roedden nhw'n lleihau'r pwysau ar feddygfeydd a oedd yn aml yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion anfeddygol a oedd yn peri pryder i gleifion, ac felly'n rhyddhau amser meddygon teulu. A hefyd y gwaith o ddatblygu parthau cynllunio cymdogaethau yng Nghwm Rhymni uchaf. Yn sicr, clywais adborth calonogol iawn ynghylch gwaith y ward rithwir yn Aberdâr, lle maen nhw wrthi'n ddygn yn gwneud gwaith allgymorth i helpu cleifion mewn perygl. A chlywais ganmoliaeth fawr i'r timau nyrsio cymunedol yn Hirwaun.

Mae rhai o'r mentrau hyn yn bwysig iawn, gan eu bod yn lleihau'r pwysau ar feddygon teulu, fel y dywedais, ond hefyd, yr un mor bwysig, maen nhw'n gwella ansawdd y profiad gweithio i'r gweithlu ehangach. Roedd honno'n neges glir iawn gan y tîm nyrsio cymunedol yn Hirwaun, lle'r oedden nhw'n defnyddio technoleg i ddyrannu achosion ac yn gallu cynnwys egwyliau, amser hyfforddi a chyfarfodydd tîm fel eu bod, heb leihau eu llwyth gwaith, yn gallu rheoli eu hamser yn fwy effeithiol.

Felly, mae'r holl fentrau trawsnewid hyn, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn bwrw ymlaen â nhw, yn darparu gwell gofal i gleifion, ond maen nhw hefyd yn lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac yn gwella ansawdd profiad y claf ar yr un pryd. Ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Mae'n rhan o'r gwaith rheoli gweithlu effeithiol y mae ei angen arnom ni yn y dyfodol. Oherwydd rwy'n gwybod o'm gwaith yn fy etholaeth bod gallu defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau'n flaenoriaeth bwysig i lawer o gleifion. Ein tasg ni yw sicrhau eu bod yn cael y math priodol o gymorth cyn gynted ag y bo modd—y pwynt rwy'n credu yr oedd Dai Lloyd yn ei wneud—ac, wrth gwrs, mae bellach yn cael ei gydnabod yn gyffredinol nad y meddyg teulu yw hynny o reidrwydd; mae hefyd yn golygu, fel y gwnaethoch chi sôn, Gweinidog, y fferyllydd cymunedol. Mae'n golygu'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, y therapyddion galwedigaethol, y ffisiotherapyddion ac yn y blaen, yn ogystal â'r rheini sy'n cael presgripsiynau cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl llai dwys. 

Eto hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hyn o drawsnewid, byddaf yn cofio'r gwersi y mae modd eu dysgu o gylchoedd blaenorol o ddiwygiadau yn y GIG yng Nghymru, ac wrth gymharu newidiadau megis rhaglen de Cymru, y wers sy'n amlwg i mi yw bod y newidiadau'n cymryd gormod o amser i'w gweithredu. Er enghraifft, rwyf ar hyn o bryd yn ymdrin ag enghraifft ynghylch gwasanaethau dementia mewn ysbytai yn ward 35 yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Er gwaethaf penderfyniadau a wnaethpwyd tua phum mlynedd yn ôl—ac rwy'n credu bod hynny'n golygu dau Weinidog iechyd yn ôl—nid yw'r ddarpariaeth amgen yn yr ardal ar gael eto. Felly, rwy'n dod yn gynyddol fwy anniddig â'r Bwrdd Iechyd ynghylch y gweddill sy'n dal i ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw.

O'm rhan i, rwy'n glir bod cefnu ar y gwasanaeth hwnnw sydd wedi ei leoli yn yr ysbyty yn welliant o ran y cymorth i'r cleifion hynny. Ond, yn wahanol i rai gwasanaethau eraill, wrth ymdrin â dementia, mae angen dewis arall yn yr ardal leol, nid yn unig ar gyfer cleifion, ond hefyd er budd gwŷr a gwragedd oedrannus a'r teulu ehangach, y mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gael eu hystyried wrth wneud y newid hwnnw. Ac, fel y gwnaethom ni ddysgu'r wythnos diwethaf, mewn gwasanaethau mamolaeth, gall fod gwrthwynebiad proffesiynol i gynlluniau a gymeradwywyd, ac o ganlyniad, gohiriwyd y newidiadau a oedd â'r bwriad o ddarparu gwelliannau yr oedd eu dirfawr angen mewn gofal.

Felly, teimlaf yn gryf mai un wers y gallai'r rhaglen drawsnewid ei dysgu'n fuan yw mabwysiadu newidiadau hanfodol yn gyflymach. Yn fyr, mae angen gweddnewid er mwyn llwyddo, mae angen i ddewisiadau eraill fod ar gael wrth i'r newidiadau ddigwydd, ac mae angen i'r newid hwnnw ddigwydd yn gyflymach.

16:50

Fel eraill, ac eithrio, efallai, llefarydd y Ceidwadwyr, rwyf eisiau croesawu cyhoeddi'r cynllun hwn, ac mae llawer i'w groesawu ynddo. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n codi arswyd ar Darren Millar yw maint yr uchelgais ynghyd â'r weledigaeth o sector gofal iechyd sylfaenol sy'n gydlynol ac sy'n trin ystod o gyflyrau ac afiechydon ar y lefel fwyaf lleol. Dyma sydd yn rhaid i ni allu ei wneud.

Cytunaf ag ehangder y dull gweithredu hwn, ond hefyd ei bwyslais—pwyslais ar les rhagweithiol, system gyfan sydd wedi'i gwreiddio yn y pwyslais hwnnw, a'r elfen o rymuso gwybodaeth y mae'r model yn ceisio ei disgrifio. Fodd bynnag, mae angen inni gyflawni hynny, ac mae'r pwynt a wnaed gynnau gan fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ferthyr a Rhymni, yn sôn am yr amser y mae'n ei gymryd i wireddu'r weledigaeth hon. Ac rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu cyflawni hyn mewn ffordd amserol.

Rwy'n siarad ag etholwyr yn rheolaidd sy'n pryderu ac yn gofidio am gefnu ar feddygfa gyfarwydd, unigol a chael yn ei lle y ganolfan draws-ddisgyblaethol ar gyfer gofal sylfaenol. Rwyf yr un mor bryderus a gofidus â nhw. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cyflwyno'r achos a wnaeth Dai Lloyd yn dda iawn—nad y meddyg teulu yw'r unig ateb, ond gallu cael y math o ofal sylfaenol sy'n briodol ar gyfer eu hanghenion nhw. Mae hyn yn gofyn—ac mae'r cynllun yn cydnabod hyn—bod angen cyhoedd gwybodus, a'r hyn y mae'r cynllun yn ei ddisgrifio fel cymunedau grymus yn sail i wireddu'r weledigaeth honno. Mewn gwirionedd, mae cyhoedd gwybodus yn cael ei ddisgrifio fel elfen sy'n hanfodol i lwyddiant y weledigaeth gyffredinol.

Rwy'n cytuno â hyn, ond byddwn i'n mynd ymhellach. Byddwn i'n dweud fod cael ffydd yn y system, a ffydd pobl a chymunedau yn y gwasanaethau a dderbyniant, hefyd yn hanfodol i wireddu'r weledigaeth, ac yn hanfodol i ddarparu system les ragweithiol ac nid system salwch adweithiol yn unig. Yn rhy aml o lawer, gwelwn bobl nad ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth a grym i allu cael y gwasanaethau hyn yn hawdd. Cyhoedd nad yw'n deall y newidiadau sy'n cael eu gwneud a'r rhesymau am y newidiadau hynny. Mae'r diffyg dealltwriaeth yma yn dadrymuso pobl ac yn tanseilio ffydd yn y newidiadau a'r buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud.

Nawr, mae hwn yn gyfnod ym Mlaenau Gwent lle'r ydym ni'n gweld buddsoddiad gwych yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym ni wedi gweld canolbwyntio ar system iechyd athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, ac rwy'n ei chefnogi'n llwyr, ac, fel y gŵyr y Gweinidog, credaf y bydd y newidiadau'n gweddnewid iechyd yn rhanbarth y de-ddwyrain. Ond mae angen i ni hefyd weld, ac rydym ni wedi gweld buddsoddiad ym Mrynmawr, a'r cynlluniau ar gyfer canolfan les newydd ar safle'r ysbyty cyffredinol yn Nhredegar. Rwy'n credu ei bod hi'n wych cael trafod buddsoddi mewn gofal yr unfed ganrif ar hugain ar safle'r hen ysbyty bwthyn a sefydlwyd gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar ychydig dros ganrif yn ôl. Yn yr un modd ag y daeth hwn yn fodel i'r GIG, felly mae angen i'r model gofal newydd hwn ddod adref i Dredegar. Roedd Bevan eisiau 'Tredegareiddio' Prydain; nawr mae'n bryd i bobl Tredegar gael yr un cydlyniad ac ansawdd gofal ag yr oeddem ni eisiau ei rannu â phobl Prydain 70 mlynedd yn ôl.

Ond mae'n rhaid inni fod yn ffyddiog, Gweinidog, y bydd y buddsoddiad hwnnw'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yn arwain at gynnydd yn ansawdd y gofal. Gwyddom nad yw hyn wedi digwydd ym Mrynmawr. Gwyddom nad yw pobl, os na allan nhw gael gafael ar y meddyg, neu gael apwyntiad gyda'r system gofal sylfaenol, yn teimlo'u bod yn cael eu grymuso—maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu dadrymuso, ac nid oes ganddyn nhw ffydd yn y system. Mae angen inni sicrhau—. Mae'n flynyddoedd lawer—. Siaradodd Dawn Bowden am nifer y Gweinidogion iechyd a fu yn ystod y cyfnod y mae system De Cymru wedi bod yn destun adolygiad, ond rwyf i'n ddigon hen i gofio Syr Jeremy Beecham a gwasanaethau yn canolbwyntio ar y dinesydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni gyflawni'r rhain, yn hytrach na dim ond darparu'r gweledigaethau a'r areithiau. Felly, rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny.

Y pwynt olaf yr hoffwn i ei wneud yw hyn: mae'n ymwneud â chydraddoldeb a gallu defnyddio gwasanaethau. Fe wnaethom ni golli Julian Tudor Hart y llynedd, a cholli ei weledigaeth ynghylch y ddeddf gofal gwrthgyfartal, ond gobeithio nad ydym ni wedi colli golwg ar hyn. Rwy'n awyddus i sicrhau—. Rydym ni'n deall fod tlodi'n effeithio ar ganlyniadau iechyd, a gwyddom hefyd ei fod yn sail i rai o'r problemau iechyd mewn unrhyw gymuned. Rwyf hefyd eisiau sicrhau ei fod yn sail gwariant, ei fod yn cymell y buddsoddiad a welwn ni. Rwyf eisiau sicrhau, ac rwyf eisiau deall bod gennym ni'r meddygon teulu, fod gennym ni'r cyfleusterau iechyd yn y cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Mae angen inni gael cydraddoldeb a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau, a chydraddoldeb o ran dosbarth ac o ran daearyddiaeth. Yn rhy aml o lawer, nid wyf yn credu ein bod ni'n sylweddoli hynny.

Felly, edrychaf ymlaen at foderneiddio gofal sylfaenol. Rwy'n llwyr gefnogi gweledigaeth y Llywodraeth a'r weledigaeth sydd wedi'i hamlinellu gan y Gweinidog heddiw. Gobeithio mai'r hyn a welwn ni yw gwireddu'r weledigaeth hon a meithrin hyder yn y cymunedau yr ydym ni'n ceisio'u gwasanaethu.

16:55

Nid wyf yn credu ein bod ni'n synnu pan fo Dr Dai Lloyd yn ein hatgoffa ni ei fod e'n feddyg teulu, oherwydd fy mod yn credu bod llawer ohonom ni wedi cael ymgynghoriadau anffurfiol rhwng dadleuon yn yr ystafell de, wedi gofyn ei gyngor, a chyngor da iawn oedd hwnnw.

A minnau'n Aelod Cynulliad dros etholaeth—ac wrth gwrs rhaid parchu cyfrinachedd meddyg-claf yma hefyd—cefais alwad gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan tua dwy flynedd yn ôl yn dweud wrthyf fod y meddyg mewn un o'r prif feddygfeydd sy'n gwasanaethu Bargoed, Neuadd Bargoed, yn cau oherwydd bod y doctor yno yn ymddeol, ac roedden nhw yn mynd i resymoli a gwneud yr achos busnes dros resymoli yn un feddygfa ym Mryntirion. Dyma alwad, rwy'n credu, nad oes neb ohonom fel Aelodau Cynulliad eisiau ei chlywed, sef bod meddygfa leol yn cau, oherwydd fe wyddoch fod pobl yn deyrngar i'r feddygfa honno ac fe wyddoch y bydd trosglwyddo i feddygfa arall yn mynd i fod yn anodd.

Yn wir, yr oedd yn anodd, gan mai meddygfa Bryntirion yw'r feddygfa arall ym Margoed ar West Street, ac nid oedd y feddygfa honno'n cael ei rhedeg mor effeithiol ag y gallasai fod. Yn wir, arweiniodd cau Neuadd Bargoed at werthusiad gorfodol o'r gwasanaeth ym Mryntirion, nad oedd yn darparu'n effeithiol ar gyfer cleifion. Yn wir, roedd y meddyg yno yn lleihau ei oriau dros amser hefyd. Felly, roeddem ni'n gweld y feddygfa fawr arall ym Margoed yn gwanhau.

Roeddwn yn wirioneddol ddiolchgar i'r Gweinidog Iechyd, bryd hynny Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, a ddaeth i Fryntirion i sôn am rai o'r problemau hynny a sut yr oedd cleifion yn mynd i gael eu trosglwyddo i'r feddygfa honno. Yn dilyn hynny, cefais gyfres o gyfarfodydd gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a arweiniodd yn union at y drafodaeth hon ynghylch model gofal newydd a ddisgrifir yn y model gofal sylfaenol, a dyna a baratowyd ar gyfer meddygfa Bryntirion i ymgorffori gwelliannau. Mae hwnnw'n ddarn o waith sy'n mynd rhagddo, ond rydym ni wedi gweld y gwelliannau hynny.

Fodd bynnag, nid wyf yn siarad â chleifion am fodel gwell o ofal sylfaenol, gan nad wyf yn credu bod hynny'n disgrifio'n dda iawn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw yn gyflym a chan yr arbenigwr priodol. Dyna'r hyn yr ydym yn sôn amdano o ran practisau meddygon teulu ac rwy'n credu mai dyna oed llawer o'r hyn a amlinellodd Dr Dai Lloyd.

Rwyf yn llwyr ddeall y pwynt a wnaethpwyd bod angen inni fuddsoddi 11 y cant o'r gyllideb mewn gwasanaethau meddygon teulu, fel y dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ond mae'n rhaid ichi ofyn, 'i ble mae hynny'n mynd?' Ac aeth ym Mryntirion, aeth cyllideb fwy ym Mryntirion, i recriwtio meddyg arweiniol, Dr Mark Wells, a fyddai wedyn yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gynllunio'r practis, cynllunio'r practis ei hun, ac yna ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros ei redeg. A dyna a wnaethant. Buont yn llwyddiannus yn recriwtio Dr Wells ac mae bellach yn rhedeg y practis hwnnw ym Mryntirion. Hoffwn wahodd y Gweinidog iechyd i ddod i weld y practis hwnnw eto a gweld rhai o'r gwelliannau sydd wedi digwydd.

Os edrychwch ar fy ffrwd Twitter, ac ni fyddwn i fel arfer yn eich argymell chi i wneud hynny, ond os edrychwch ar fy ffrwd Twitter heddiw, fe welwch fideo a gynhyrchais i, recordiad, cyfweliad, gyda Dr Mark Wells, lle y disgrifiodd dri pheth allweddol y credai a oedd yn newidiadau mawr ym meddygfa Bryntirion. Gwella mynediad ar y dydd oedd y peth cyntaf. Yr hyn a wnaethant oedd gosod canolfan alw yn yr adeilad yn ddigon pell o ddesg y dderbynfa, lle gall cleifion ffonio mewn preifatrwydd a chael eu neilltuo a'u symud i'r gwasanaethau cywir. Mae ganddyn nhw fynediad agored i wasanaethau eraill. Mae hynny'n golygu gwasanaethau estynedig, yr union fathau o wasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau ffisiotherapi, nyrsys practis, a'r arbenigwyr penodol hynny nad ydyn nhw o reidrwydd yn feddygon teulu, er y gallwch weld y meddyg teulu o hyd os yw hynny'n angenrheidiol. Dyna oedd yr ail: mynediad agored i wasanaethau eraill. Yn olaf, dywedodd eu bod yn gweld gwell dilyniant gofal. Felly, o'r adeg y gwelwch eich gweithiwr iechyd proffesiynol am y tro cyntaf, oherwydd y gwasanaeth symlach hwn, ceir cofnod cryfach a chedwir cofnod haws o'r cynllun sydd gan bob claf.

Byddai hefyd yn hoffi, un diwrnod, ac un diwrnod cyn bo hir, i'r practis fod yn bractis addysgu. Pam nad ellir cael practisau meddygon teulu'r Cymoedd yn bractisau addysgu? Mae'n ffordd wych o fynd ati i ddysgu eich crefft mewn cymuned wych yn y Cymoedd, ac mae Bargoed yn brydferth mewn gwirionedd. Os oes unrhyw feddyg teulu ar gael, mae'n lle gwych i ymarfer eich crefft.

Felly, rwyf eisiau gweld y newidiadau hyn yn digwydd. Os ydw i'n mynd i fod yn feirniadol—. Wel, nid wyf am fod mor feirniadol â Darren Millar, oherwydd rwy'n credu iddo baentio darlun llwm iawn, a darlun wedi ei orliwio o ran rhai o'r problemau. Yn wir, rydym ni'n gweld newid cadarnhaol. Ond, yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw, yn y dyfodol, dylai gwasanaethau gael eu hailgynllunio a'u hailfodelu drwy gynllun sydd gan y Llywodraeth ac nid o reidrwydd, fel y digwyddodd ym Mryntirion ym Margoed.

17:00

Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n ddiddorol clywed amrywiaeth o safbwyntiau heddiw ynghylch y ffordd yr ydym ni eisiau gweld gwelliant yn y gwasanaethau iechyd a gofal yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae llawer o hynny'n ymwneud â sefydlogrwydd craidd meddygon teulu, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol.

Mae'n bleser gennyf ail-gadarnhau bod 96 y cant o leoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru wedi'u llenwi yn y rownd gyntaf. Mae hynny'n cyferbynnu’n llwyr â'r sefyllfa yn Lloegr, lle cafodd 80 y cant o'r lleoedd eu llenwi. Felly mae ein cyfradd lenwi ni yn llawer gwell o'i chymharu â'r sefyllfa yn Lloegr. Gyda dwy rownd i ddod, rwyf hefyd wedi cytuno i roi mwy o hyblygrwydd i lenwi mwy o leoedd nag a gynlluniwyd i fanteisio ar y capasiti sydd gennym ni yn ein system. Ac, fel rwyf wedi'i gyhoeddi'n flaenorol, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn adolygu'r angen a'r niferoedd ar gyfer lleoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, mae'n bosib y bydd lleoedd hyfforddi meddygon teulu yn ehangu'n barhaol, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Trof at rai o'r sylwadau a wnaeth Darren Millar, ac rwyf yn fodlon ailgadarnhau ei fod, o ran indemniad, yn gwbl anghywir. Nid yw ei ganmoliaeth o gytundeb indemniad Lloegr yn dal dŵr, ac edrychaf ymlaen at ddod i gasgliad ynglŷn â'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol i feddygon teulu. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau mewn ewyllys da rhwng partneriaid, a chredaf fod gwell cynnig ar y bwrdd yma yng Nghymru na'r un a dderbyniwyd yn Lloegr. Mae'r holl bartneriaid yn y trafodaethau hynny—y GIG, Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru—yn awyddus i gwblhau'r trafodaethau yn y dyfodol agos, er mwyn i'r meddygon teulu eu hunain weld y manylion, ond yn hanfodol, bydd yn ein helpu ni i fuddsoddi rhagor mewn gofal iechyd lleol.

Ac o ran rhai o'r sylwadau mwy cyflawn a wnaed yn y ddadl, rydych chi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, ac roedd sylw Dai Lloyd ei fod wedi gweithio mewn practis cyffredinol am dros 30 mlynedd yn newydd i mi. [Chwerthin.] Ond o ran y pwynt ehangach a wnaed mewn cyfraniadau eraill am y tîm ehangach mewn gofal iechyd lleol, cofiaf yn blentyn imi fynd i'r practis cyffredinol a'r meddyg yn gwneud bron popeth, o dynnu gwaed i ystod eang o fân bethau na fyddech yn disgwyl i feddyg teulu eu gwneud eu hunain heddiw. A dyna'r pwynt: gweld y cynnydd hwnnw'n parhau, ond yn parhau'n fwy cyson ac yn gyflymach. Ac roeddwn yn falch iawn o glywed Dai Lloyd yn cydnabod bod buddsoddi yn yr ystâd gofal iechyd leol, ac mae'n broblem wirioneddol o ran ansawdd y gofal, ond hefyd o ran sicrhau bod pobl yn dymuno parhau i ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd lleol hefyd.

Wrth gwrs, o ran gofal cymdeithasol, mae Dai Lloyd yn gwybod fy mod i'n cadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal. Ond roedd un o'r pwyntiau a wnaeth Dai, Dawn, Hefin ac Alun yn ymwneud â chael y tîm ehangach hwnnw o bobl—yn arbennig sylw Dawn Bowden ynglŷn â'r ffaith bod angen i bethau newid ynghynt. A dyna yw'r hyn yr wyf i'n benderfynol o'i wneud. Nid ein bod yn cytuno bod ffordd well o redeg y gwasanaeth yn unig, ond gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd, fel bod pobl yn gweld nad yw'r dyfodol yn rhywle arall yng Nghymru, ond ei fod yn wasanaeth y maen nhw'n ei gael sydd wedi newid ac er gwell, oherwydd rwyf innau hefyd, yn rhannu'r rhwystredigaeth wirioneddol o ran pa mor gyflym yr ydym ni'n llwyddo i newid y gwasanaeth iechyd.

Ni yw rhan o hynny a dweud y gwir, oherwydd o fod yn wleidyddion lleol, rydym ni bob amser o dan bwysau i gefnogi'r achos dros gadw'r hyn sydd gennym ni, yn hytrach na gweld beth y gallem ni, ac y dylem ni ei gael pe bai gennym ni'r arferion gorau mewn gwirionedd yn ac ar gyfer ein cymunedau. Ac mae hynny'n aml yn golygu gwella'r hyn sydd gennym ni a'i newid. A dyna'r pwynt a wnaeth Alun Davies hefyd, oherwydd mae pobl sydd wedi eu grymuso ac sydd â'r wybodaeth ddigonol yn tueddu i wneud gwahanol ddewisiadau, a byddai hynny'n mynd â'n gwasanaethau i gyfeiriad gwahanol.

17:05

Na wnaf.

Ac rwyf hefyd yn falch o nodi, o ran gofal gwrthgyfartal, fod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a hen Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn cymryd yr awenau i fynd i'r afael â hynny i wneud yn siŵr bod gennym ni degwch a safon ym mhob rhan o'n system iechyd a gofal.

Yn olaf, gan droi at sylwadau Hefin David—nad yw'n ddoctor meddygol—cofiaf ymweld â Neuadd Bargoed a Bryntirion gyda chi ddwy flynedd yn ôl, lle'r oedd ofn a phryder gwirioneddol, nid yn unig oherwydd y byddai newid, ond y byddai'r gwasanaeth yn cael ei golli a dim i'w ddisodli. Ac mae hynny'n rhan o'r her, oherwydd wrth i bobl weld newid, y pryder bob amser yw, nid y daw rhywbeth gwell, ond bydd yr hyn sydd ganddyn nhw yn diflannu. A dyna'n rhannol pam fy mod i'n falch iawn, pan ddisgrifiodd Aelodau enghreifftiau lleol lle bu newid a'i fod yn darparu gwasanaeth gwell. Ac nid yw'r gwasanaeth gwell hwnnw o fudd i'r cyhoedd yn unig, mae'n beth da i'n staff—swydd well, lle maen nhw'n fwy tebygol o recriwtio mwy o bobl yn y dyfodol, ac yn fwy tebygol o roi'r ansawdd gofal y mae pob un ohonom ni'n ei haeddu. Gwneud pethau'n fwy hwylus i'r cyhoedd, gan ddarparu'r gofal cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. A byddwn i'n hapus iawn i ymweld a gweld beth sydd wedi newid ddwy flynedd yn ddiweddarach ac i weld drosof fy hun yr hyn y dylai pob cymuned ei weld yn digwydd yn gyflymach ac yn fwy cyson wrth i ni barhau i ddarparu model newydd ar gyfer gofal sylfaenol yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw a ddylid derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] [Anhyglyw.] Iawn, ond fe glywais i 'gwrthwynebu' gan rywun arall, felly, rwyf am dderbyn hynny yn wrthwynebiad dilys. Iawn, felly gohiriaf y pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, trof yn awr yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Rydych chi'n dymuno i'r gloch gael ei chanu. A gaf i weld tri Aelod yn dangos eu bod o blaid canu'r gloch? Mae gennyf i fwy na thri. Canwch y gloch os gwelwch yn dda.

17:10

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

17:15
6. Cyfnod Pleidleisio

A gaf i alw Aelodau i drefn? Mae'r amser a roddir i aros ar ôl canu'r gloch ar ben, ac felly rydym ni'n mynd i symud i'r cyfnod pleidleisio.

Mae'r pleidleisiau y prynhawn yma yn ymwneud â'r ddadl ar y model gofal sylfaenol yng Nghymru. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM7042 - Gwelliant 1: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 22, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

NDM7042 - Gwelliant 2: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM7042 - Gwelliant 3: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 15, saith yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.

NDM7042 - Gwelliant 4: O blaid: 15, Yn erbyn: 28, Ymatal: 7

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Nid ydych chi'n gwneud yn dda iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.

NDM7042 - Gwelliant 5: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 41, wyth yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

NDM7042 - Dadl: Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru: O blaid: 41, Yn erbyn: 1, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig

7. Anerchiad gan y Llywydd i nodi ugain mlynedd ers datganoli

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n credu y dechreuaf i heno drwy ofyn i bob Aelod ymatal rhag codi llaw ar bobl yn yr oriel gyhoeddus. [Chwerthin.] Hefin David, daliais chi wrthi. [Chwerthin.]

A gaf i ddechrau’n ffurfiol yr eitem yma heno drwy groesawu pawb i’r Senedd heno? Mae’n bleser cael cwmni pawb yma yn yr oriel gyhoeddus ac yn ymuno â ni hefyd yn yr adeilad ar gyfer wythnos mor nodedig yn ein Senedd genedlaethol ni wrth inni ddathlu ein penblwydd yn 20 oed.

Mi oedd nifer ohonon ni yno ar y cychwyn, ym mis Mai 1999, mewn Siambr arall, mewn canrif arall, a chyffro, nerfusrwydd a chyfrifoldeb yn ein nodweddu ni oll ar y dydd cyntaf hwnnw yn ethol ein Llywydd cyntaf a'n Prif Ysgrifennydd cyntaf. Teg yw dweud bod y cyfnod ers ethol yr Aelodau cyntaf hynny ym 1999 wedi cynnig ei siâr o heriau i Senedd ifanc fel hon. Yn wir, dechrau o brin ddim oedden ni bryd hynny.

Ond gyda’r newydd-deb hynny daeth y cyfle hefyd i dorri ein cwys ein hunain. O’r cychwyn, Senedd gwbl ddwyieithog oedd hon, a Senedd gynhwysol, gyda chydraddoldeb yn ein nodweddu o’r cychwyn cyntaf. Menywod oedd 24 o'r 60 Aelod a etholwyd i'r Cynulliad cyntaf hwnnw. Dros nos, cyflwynwyd 24 o fenywod i wleidyddiaeth gynrychioladol Cymru, gan gofio taw dim ond saith Aelod Seneddol benywaidd o Gymru a etholwyd i San Steffan yn yr 80 mlynedd cyn hynny. Erbyn hyn, mae 62 o fenywod wedi eu hethol yn Aelodau Cynulliad ac 80 o ddynion: 142 ohonom, yn greaduriaid prin, yn Aelodau Cynulliad, heddiw a ddoe.

Pinacl ein cyrhaeddiad, wrth gwrs, o gydraddoldeb oedd 2003, pan etholwyd 30 menyw a 30 dyn yn Aelodau Cynulliad a'n gwneud y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd rhywedd. Ac o fy nghwmpas i heddiw, mae 47 y cant o’n Haelodau Cynulliad ni'n fenywod—y gyfran uchaf drwy holl Senedd-dai gwledydd Prydain o hyd. Ac mae'n cyflawniad o ran cynhwysedd a chydraddoldeb yn ymestyn y tu hwnt i gynrychiolaeth etholedig. Mae’r Cynulliad yma ymysg y pum cyflogwr gorau drwy Brydain gyfan o ran staff LGBT am y bumed flwyddyn yn olynol, ac wedi ennill gwobr aur am ein cynllun amrywiaeth a chynhwysedd ymysg ein gweithlu.

Mi oedd 2006 yn flwyddyn nodedig ar ein taith, blwyddyn a welodd agoriad swyddogol adeilad godidog Richard Rogers, y Senedd yma, a phan basiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a roddodd yr hawl i Aelodau’r Cynulliad lunio deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf drwy gyfundrefn yr annwyl LCO.

Mae taith ddeddfwriaethol boenus, lafurus yr LCO cig coch—y red meat LCO—wedi ei saernïo ar fy nghof i am byth. Ac mae Ann Jones yn dal o'r farn taw ei chosb fwyaf llym erioed gan Chwip Llafur oedd ei gosod ar bwyllgor yr LCO cig coch. [Chwerthin.] Ond fe'n rhyddhawyd o gyfundrefn orthrymus yr LCO gan bobl Cymru yn refferendwm 2011, pan bleidleisiodd 63.5 y cant o blaid pwerau deddfu llawn—carreg filltir hanesyddol a oedd yn cynrychioli creu Senedd go iawn i Gymru. Ychwanegwyd at ein pwerau fis Ebrill, gyda Chymru’n gyfrifol, am y tro cyntaf yn yr oes fodern, am godi cyfran o’r arian mae’r Llywodraeth yn ei wario ar ffurf grymoedd trethiant.

Darn wrth ddarn, mae’r gwaith o adeiladu Senedd, o adeiladu cenedl, wedi mynd rhagddo, ac erbyn heddiw, rydym yn sefyll ar seiliau cadarn penseiri cynnar datganoli. Ond mae cymaint eto i'w wneud, ac mae un ffaith sy'n ddigyfnewid, er cymaint y newid yn ein cyfrifoldebau. Ar y diwrnod cyntaf un, mi oedden ni'n 60 Aelod Cynulliad, a heddiw, 7,301 o ddiwrnodau yn ddiweddarach, rydyn ni'n dal ond yn 60 Aelod.

Os ydym am wireddu unrhyw uchelgais i gynyddu pwerau’r Senedd hon, neu i chwistrellu mwy o greadigrwydd a gwreiddioldeb mewn at ddefnydd o’r pwerau sydd eisoes gennym, mae angen cynyddu ein capasiti. Does dim mwy o oriau yn y dydd, does dim posib bod mewn dau le, neu mewn dau bwyllgor, ar yr un pryd, ac felly, i gynrychioli pobl Cymru ar ein gorau, yna mae bellach yn anorfod bod angen mwy o Aelodau.

Nid gwleidyddion yn pleidleisio am fwy o wleidyddion yw hyn, ond cydnabyddiaeth bod pobl Cymru angen cynrychiolaeth deg a chymesur yn eu Senedd genedlaethol. Ac mae dyletswydd arnom ni, fel gwleidyddion y genhedlaeth yma, i beidio â chyfyngu ar allu a dyheadau gwleidyddion y dyfodol i gyflawni ar ran Cymru.

Oes, felly, mae llawer i’w wneud, ond mae digonedd i’w ddathlu hefyd. Eisoes yn y pumed Cynulliad rydym wedi torri tir newydd drwy ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru. Roedd eistedd yn yr union fan yma, yn y sedd yma, a chadeirio Cyfarfod Llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, ym mhresenoldeb rhai o bobl ifanc dewraf, mwyaf angerddol a mwyaf huawdl ein cenedl yn brofiad fydd yn aros gyda fi am byth. Dyma dyst i’r ffaith bod gan bobl ifanc ddiddordeb yn ein democratiaeth a'u bod yn haeddu llais yn y drafodaeth fydd yn llunio eu dyfodol nhw gymaint ag unrhyw un.

Ac wrth inni ddathlu ein hugeinfed flwyddyn, edrych i'r dyfodol sydd fwyaf pwysig, a dyna pam y byddwn yn cynnull Cynulliad y Bobl, Citizen's Assembly, yr haf yma. Mi fyddwn yn rhoi'r cyfle a'r hawl i gynrychiolaeth o bobl Cymru gyflwyno eu dyheadau am yr 20 mlynedd nesaf yng Nghymru—ffynhonnell syniadau gwreiddiol i siapio ein gwaith a'n blaenoriaethau i'r dyfodol.

Ac yna, ym mis Medi, mi fyddwn yn cynnal ein gŵyl ddemocratiaeth gyntaf erioed—gŵyl a fydd yn wledd o drafod materion o bwys i bobl Cymru, o chwaraeon i dechnoleg, i’r celfyddydau, gyda’r bwriad o ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Senedd yn y Bae. Ond er bod ein Senedd yn ein prifddinas, mae'n Senedd yn perthyn ac yn cynrychioli pob cymuned yng Nghymru. Dros yr 20 mlynedd, mae'n pwyllgorau wedi mynd i bob cwr o Gymru, a Senedd@ wedi bod yn fenter deithiol o'n gwaith. Ond y fenter fwyaf un fyddai cynnal Cyfarfodydd Llawn o'r Senedd yn y gogledd, y gorllewin neu yn y Cymoedd—carafán o Gynulliad yn ymestyn allan yn ein cyfanrwydd i gymunedau Cymru, nid newid aelwyd bob yn eilddydd, ond bob yn eilflwydd, o bosib.

Er bod hon yn wythnos o ddathlu, gadewch inni hefyd oedi, fel y gwnaethom ni yn gynharach y prynhawn yma, i gofio am ein cyd-Aelodau nad ydyn nhw gyda ni bellach: Val Feld, Brynle Williams, Phil Williams, Peter Law, a'n cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan. Roedd eu colli yn golled enfawr i'w teuluoedd, i'w cydweithwyr ac i'r wlad hon. Ac, wrth gwrs, ein colledion diweddaraf, Carl Sargeant a Steffan Lewis—dau aelod o'r Cynulliad a oedd wedi ymrwymo i'w pleidiau a'u hetholwyr ac a oedd yn meddu ar ddiffuantrwydd a barodd iddyn nhw ymdrin yn angerddol â materion a oedd yn agos at eu calonnau. Pwy all anghofio rhai o gyfraniadau dewr ac ingol Steffan yn y Siambr hon, pan ddywedodd wrthym ni:

Mae bywyd yn rhy fyr o lawer i beidio â dweud yr hyn yr ydych chi'n ei gredu a chredu'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud

ynghyd â geiriau Jack Sargeant, mab Carl, sydd wedi olynu ei dad yn y Siambr hon gyda'r fath urddas, y dylai ei gri am wleidyddiaeth fwy caredig fod yn ganllaw i ni i gyd? Dau o'n lleisiau ieuangaf erioed, gyda'r doethaf o eiriau.

Ychydig dros deugain mlynedd sydd wedi mynd heibio ers i'r syniad o Gynulliad Cenedlaethol gael ei wrthod yn llwyr gan etholwyr Cymru. Mewn cyferbyniad llwyr, erbyn 1999, roedd y penseiri cynnydd yr ydym ni i gyd yn ddyledus iddyn nhw wedi ennill calonnau a meddyliau, ac wedi gosod cerrig sylfaen cyntaf y Gymru newydd. Rydym ni, Aelodau Cynulliad etholedig a staff, wedi goruchwylio adeiladu ein democratiaeth newydd dros yr 20 mlynedd diwethaf, a seneddwyr ifanc heddiw ac eraill fydd yma i barhau â'n gwaith. Nid ydyn nhw erioed wedi byw mewn Cymru heb ei Senedd ei hun. Iddyn nhw, bydd datganoli un diwrnod yn atgof pell sy'n perthyn i gyfnod cyn i lywodraethu ein materion ein hunain ddod yn gyflwr naturiol i'n cenedl, yn union fel y mae i bob cenedl.

Fe orffennaf i drwy ddwyn y bore hwnnw i gof unwaith eto, y bore da hwnnw, y bore da iawn hwnnw yng Nghymru. Wel, nid yw hi hyd yn oed yn amser cinio eto, ac mae gan y diwrnod llawer mwy ar ein cyfer. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]

Diolch yn fawr i chi. Dwi'n galw nawr ar y Prif Weinidog.

17:25

Diolch, Llywydd. Mae’n fraint, wrth gwrs, cael cyfle heddiw i gofnodi 20 mlynedd ers dechrau’r Cynulliad hwn. Heddiw, rydym ni yn dathlu cymaint sydd wedi ei gyflawni, ac ar yr un pryd yn cydnabod pa mor fawr yw’r her sydd o’n blaenau. Efallai, yn fwy nag erioed, rydym ni’n ymwybodol pa mor werthfawr yw’r adnoddau sy gyda ni yma yng Nghymru, a pha mor fawr yw’r cyfrifoldeb arnom ni i warchod a gwella Cymru i’r cenedlaethau i ddod.

Llywydd, rwyf wedi bod yn ceisio, wrth baratoi rhywbeth i'w ddweud heddiw, dwyn i gof 1999, ac wrth imi edrych o gwmpas yr oriel, mae'n ymddangos yn dasg anos fyth i geisio cofio'r pethau a oedd yn bwysig inni bryd hynny. Ac ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, mae hyn, yn anochel, yn ennyd i fyfyrio ar ein hanes cyffredin. Yr hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud yw, drwy fyfyrio ar faterion o safbwynt 1999, ceisio nodi rhai o'r pethau hynny y credaf y byddem ni wedi cael ein siomi ar yr ochr orau ynddyn nhw pe baem ni'n gwybod bryd hynny beth a oedd yn mynd i ddigwydd dros yr 20 mlynedd hynny. Ond byddaf yn meddwl hefyd am y pethau hynny y byddem ni wedi bod yn siomedig yn eu cylch dros yr 20 mlynedd diwethaf ac, yn olaf, yn edrych ymlaen at rai heriau newydd, ac yn arbennig heriau y credaf na fyddem ni efallai wedi rhagweld 20 mlynedd yn ôl y byddai'n rhaid inni eu hwynebu yn y Gymru gyfoes. A, Llywydd, gan fod rhai ohonom ni 20 mlynedd yn hŷn hefyd, rwy'n mynd i gynnig pum myfyrdod ym mhob un o'r tri chategori hynny, yn bennaf oherwydd y byddan nhw'n fy helpu i'w cofio nhw, ond yn rhannol oherwydd fy mod i'n gobeithio y bydd hi'n haws dilyn rhywfaint o hyn hefyd.

Rwyf am ddechrau os caf i, gydag un arsylwad personol yn unig. Cyrhaeddais yma yn y Cynulliad Cenedlaethol cyn i flwyddyn gyntaf datganoli ddod i ben, ac mae'n hawdd anghofio pa mor sigledig yn wir oedd y cychwyn hwnnw—canlyniad agos y refferendwm ac ethol yn 1999 gweinyddiaeth leiafrifol ansicr. Erbyn i mi gyrraedd yma, roedd tri o'r pedwar arweinydd plaid a oedd wedi dechrau yn y flwyddyn gyntaf honno o ddatganoli eisoes wedi eu disodli. Roedd un wedi ei drechu ar lawr y Cynulliad, roedd un wedi ei ddisodli gan gyd-Aelodau ac roedd un yn ymddangos gerbron llys y Goron Kingston—[chwerthin.]—mewn achos yn cynnwys, fel y cofiaf, pizza ac, yn ôl y sôn, eisiau treulio mwy o amser gyda theuluoedd pobl eraill na'i deulu ei hun.

Llywydd, rwy'n credu ei bod yn rhyfedd pa mor aml, mewn gwirionedd, y mae pizza wedi chwarae rhan yn hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn fuan, bydd myfyriwr doethuriaeth o ddifrif yn ceisio cyfweld ag Aelodau yma i drafod arwyddocâd pepperoni yn hanes datganoli. Ond byddant yn gwneud hynny oherwydd, yn y cyfnod cynharaf oll hwnnw, fy atgof i o ddod yma yng ngwanwyn y flwyddyn 2000, oedd bod llwyddiant y sefydliad yn bell o fod yn sicr, a'i fod yn ymddangos bod y lle yn y fantol. Mae popeth rwy'n ei ddweud am yr 20 mlynedd a ddilynodd wedi'i seilio ar fy marn i fod y ffaith bod y sefydliad hwn yn rhan o ddarlun gwleidyddol Cymru a gymerir yn ganiataol erbyn hyn, yn gyflawniad ynddo'i hun, ac ni fyddai neb, 20 mlynedd yn ôl, wedi teimlo mor hyderus am hyn.

Felly, hoffwn i ddechrau gyda phum pwynt rwy'n credu y byddai'r rhai hynny a fu'n gysylltiedig yn y dyddiau cynnar hynny—. Pe byddech wedi dweud wrthyn nhw bryd hynny y byddai hyn yn digwydd dros 20 mlynedd, bydden nhw wedi meddwl bod yr holl bethau hyn yn syndod dymunol. Rwy'n credu, pe byddech chi wedi dweud wrth bobl 20 mlynedd yn ôl, y byddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr adeg hon yn ein hanes ni, yn Senedd a chanddo bwerau deddfu llawn, fod y pwerau deddfu hynny wedi'u cymeradwyo mewn ail refferendwm a bod y refferendwm hwnnw wedi'i ennill yn gwbl bendant, byddai'r bobl hynny a oedd yn enwog am dreulio'u hamser yn dadlau'r Gorchymyn Tatws o'r Aifft llai, rwy'n credu, wedi eu synnu'n fawr iawn o gael gwybod am ystod a dyfnder y cyfrifoldebau a oedd wedi'u huno yn yr 20 mlynedd hynny o ran y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Rwy'n credu, yn ôl ym 1999, y byddai pobl wedi synnu pe byddent wedi dysgu y byddai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, o fewn dau ddegawd, yn arfer cyfrifoldebau cyllidol cwbl newydd, nid am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd, ond, fel y gwyddom ni, am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd yma yng Nghymru, fod y tâl 'Senedd arian poced' hwnnw a fyddai'n cael ei godi ar y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y degawd cyntaf—ein bod yn gorff y rhoddwyd arian iddo gan rywun arall i'w wario ond heb unrhyw gyfrifoldeb dros godi'r arian hwnnw—o fewn 20 mlynedd, y byddai hynny wedi dod i ben a bod y £5 biliwn o drethiant a godir yma yng Nghymru yn cael ei godi oherwydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud bob blwyddyn yma ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Rwy'n sicr yn credu, yn fy nhrydydd pwynt, pe byddech wedi dweud wrth bobl ym 1999 y byddai lefelau anweithgarwch economaidd yng Nghymru o fewn 20 mlynedd yn is na gweddill y Deyrnas Unedig, y byddai pobl yn ei chael yn anodd iawn credu hynny. Oherwydd roedd 1999 yn cyd-daro â'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd yma yng Nghymru, ac roedd y bwlch rhwng anweithgarwch economaidd yma a gweddill y Deyrnas Unedig ar ei fwyaf. Rwy'n credu pe byddai pobl wedi meddwl, mewn 20 mlynedd, yn fwy na dileu'r bwlch hwnnw, y byddai hyd yn oed wedi troi'n sefyllfa lle'r oeddem i fod yn well na gweddill y Deyrnas Unedig, y byddai pobl wedi cael eu synnu'n fawr iawn ar yr ochr orau.

Ac rwy'n credu, yn fy mhedwerydd pwynt, pe byddech wedi disgrifio'r newidiadau diwylliannol sylweddol a oedd wedi digwydd mewn dau ddegawd, y byddai wedi bod yn anodd argyhoeddi pobl ym 1999 y gallai'r holl bethau hyn fod wedi digwydd hefyd. Pe byddech wedi dweud wrth bobl bryd hynny y byddai ysmygu wedi diflannu o fannau cyhoeddus caeedig ym mhob man yng Nghymru—oherwydd, ym 1999 roedd pobl yn ysmygu ym mhob man. Roedden nhw'n ysmygu mewn ystafelloedd caeedig. Roedden nhw hyd yn oed yn ysmygu mewn bwytai. Roedden nhw'n ysmygu lle'r oedd plant yn bresennol. A heddiw, pe byddech yn gweld hynny'n digwydd yma yng Nghymru byddai'n frawychus, dim ond 20 mlynedd yn ddiweddarach.

Pe byddech wedi dweud y byddai gan Gymru y gyfradd ailgylchu orau ond dau ledled y byd i gyd, a hynny o fewn 20 mlynedd, pe byddem wedi dweud y byddem wedi newid y gyfraith yn sylfaenol mewn cysylltiad â rhoi organau i fod â'r cyfraddau rhoi organau gorau yn y Deyrnas Unedig, pe byddech wedi dweud wrth bobl y byddem wedi pasio'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'n bod wedi ymrwymo i 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn oes llawer o bobl yn y Siambr hon, nid wyf i'n credu y byddai'r rhai oedd yma ym 1999, o glywed y gellid gwneud yr holl bethau hynny, a hynny o fewn 20 mlynedd, nid wyf i'n credu y bydden nhw wedi cwyno am ddiffyg uchelgais yma yng Nghymru.

Ac yn olaf, o ran y pethau a fyddai, yn fy marn i, wedi bod yn destun syndod i bobl bryd hynny, pe byddech wedi dweud wrth bobl y byddai datganoli, o fewn 20 mlynedd, wedi datblygu i'r fath raddau fel bod gennym bortffolio Cabinet sy'n ymroddedig i gysylltiadau rhyngwladol yn rhan o Lywodraeth Cymru, rwy'n credu y byddai hynny wedi bod yn rhywbeth anodd iawn i bobl yn ôl ar ddechrau'r datganoli fod wedi ei ddychmygu. Am yr holl resymau hynny, rwy'n credu bod cymaint o bethau yn yr 20 mlynedd diwethaf i ymfalchïo ynddyn nhw a'r hyn sydd wedi'i gyflawni yma ar draws y Cynulliad Cenedlaethol.

Ond yn ogystal â phethau sy'n destun syndod dymunol, yn fy marn i, o'r safbwynt hwnnw ym 1999, bu rhai siomedigaethau a rhai ergydion hefyd. Rwy'n credu y byddem wedi ein siomi, Llywydd, fel y gwnaethoch chithau ddweud yn eich cyfraniad chi, bron 20 mlynedd ar ôl Comisiwn Richard—Comisiwn Richard a ddywedodd wrthym yn y tymor Cynulliad cyntaf hwnnw fod angen 80 o Aelodau ar y Cynulliad i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd ganddo—rwy'n credu y byddai pobl wedi eu siomi i feddwl, ymhen 20 mlynedd, mai dim ond 60 o Aelodau sydd yma o hyd, sy'n ymdrin erbyn hyn â lefel wahanol iawn o gyfrifoldeb i Gynulliad Cenedlaethol 1999. Rwy'n credu, Llywydd, ac efallai mai dim ond fy marn i yw hyn, y byddem wedi ein siomi ym 1999 o weld pa mor bell yr ydym wedi gwyro oddi wrth yr addewidion cynharach hynny y byddai datganoli yn ffordd newydd o gyflawni gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, bod llai o bwys i rwystrau a ffiniau traddodiadol ac y byddai'n haws gweithio ar draws y rhaniadau hynny. Llywydd, mae'n ymddangos i mi ein bod ni wedi symud cryn bellter o'r ddelfryd honno dros yr 20 mlynedd hyn.

Yn wir, rwy'n credu ei bod yn anodd dychmygu hynt Mesur iechyd meddwl y trydydd Cynulliad yn cael ei efelychu'n hawdd heddiw. Mesur iechyd meddwl a basiwyd gyda Gweinidog Iechyd Llafur mewn Llywodraeth glymblaid â Phlaid Cymru, yn gweithio gyda Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd o'r Ceidwadwyr i gyflwyno gwasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol newydd sbon, i roi hawliau newydd i gleifion mewn ysbytai meddwl, cymryd cam cynnar o ran cyd-lunio cynlluniau gofal a thriniaeth, a gwneud hynny mewn ffordd a oedd wedi'i gwreiddio mewn consensws cryf o ran ei ddiben ar draws Siambr y Cynulliad. Nawr, mae gwleidyddiaeth y tu allan i'r Siambr hon wedi mynd yn fwy rhwygol ac ymosodol, ac efallai na fydd yn peri syndod mawr fod hynny wedi effeithio ar y lle hwn, ond nid hwn yw'r uchelgais y sylfaenwyd y sefydliad hwn arno. Rwy'n credu y byddem wedi ein siomi, ym 1999, o fod wedi edrych ymlaen at y ffordd y mae rhai o'r gobeithion cynnar hynny wedi fferru, ac rwy'n credu y byddem yn iawn i gael ein siomi hefyd.

Mae fy nhrydydd pwynt, Llywydd, yn un y gwnaethoch chithau ymdrin ag ef yn dda iawn yn eich cyfraniad chi, oherwydd yn ôl ar y bore balch, os nad cwbl hyderus hwnnw, ym 1999, fe wnaethom ni danbrisio, rwy'n credu, yr heriau a ddaw o fod yn sefydliad mor newydd, lle mae popeth yn digwydd inni am y tro cyntaf, lle'r ydym bob amser yn creu ein hanes ein hunain. Mae gobaith enfawr wrth drosglwyddo rheolaeth i bobl dros eu tynged eu hunain, ond mae'r broses honno'n arwain yn anochel at frifo hefyd.

Rydym wedi cael ein hatgoffa, fel y gwnaethoch chi ddweud, Llywydd, dro ar ôl tro am hynny y tymor hwn. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd dwy flynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth y Prif Weinidog a fu'n tywys y Cynulliad Cenedlaethol drwy'r rhan fwyaf o'r degawd cyntaf hwnnw o ddatganoli. Nid oes llawer mwy na blwyddyn ers marwolaeth ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, ac mae'n llai na blwyddyn ers marwolaeth Steffan Lewis, un o obeithion disgleiriaf y pumed Cynulliad hwn. Mae yna dristwch a galar yn ein hanes byr ni. Ac, er fy mod i'n siŵr bod hynny'n rhan o'r ffordd y mae unrhyw sefydliad yn aeddfedu, nid wyf i'n siŵr ein bod ni wedi disgwyl hynny mor sydyn ar ddechrau'r daith ddatganoli.

Llywydd, yn fy mhedwerydd maes siomedigaeth, yn ddigon sicr, nid oeddem wedi disgwyl ym 1999 y byddai ein hanes ariannol yn gymaint o gêm ddwy ran. Yn ystod y tymor Cynulliad cyntaf, cynyddodd cyllideb Llywodraeth Cymru 10 y cant mewn termau arian parod ym mhob un flwyddyn—pob un flwyddyn, 10 y cant yn fwy i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nag a gawsom yn y flwyddyn flaenorol. Yn ystod yr ail dymor Cynulliad, tyfodd ein cyllidebau 5 y cant bob blwyddyn mewn termau arian parod. Hyd yn oed yn ystod y trydydd tymor Cynulliad, tyfodd ein cyllidebau mewn termau real dros y tymor cyfan hwnnw.

Nawr, ers hynny, bu tywyllu dramatig i'r sefyllfa ariannol. Ni wnes i gyfarfod â neb yn y dyddiau cynharaf hynny a oedd ag unrhyw syniad y byddem ni, erbyn diwedd ein hail ddegawd, wedi bod trwy'r cyfnod hiraf a gwaethaf o gyfyngu ar wariant cyhoeddus nid ers 20 mlynedd, ond ers 200 mlynedd. Ac, fel y dywedwyd yn gynharach yn nhrafodion y prynhawn yma, yn ystod degawd cyntaf datganoli, gostyngodd tlodi plant yng Nghymru yn gyson—nid yn ddigon cyflym, nid yn ddigon pell i lawer ohonom, ond gostyngodd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, bydd 50,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru nag yn 2010. Rwy'n credu ei bod yn anodd dod o hyd i wrthgyferbyniad cryfach rhwng degawd cyntaf ac ail ddegawd y tymor Cynulliad hwn.

Ym 1999, Llywydd, nid wyf i'n credu ein bod wedi clywed y term 'banc bwyd'. Byddem yn sicr wedi dychryn o weld pobl yn cardota ar ein strydoedd am fwyd, neu ddigartrefedd ar y stryd ar gynnydd mor sydyn. Ni allem fod wedi rhagweld yr effaith y byddai degawd o gyni wedi'i chael ar wead ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas, ond rwy'n credu y byddem wedi synnu o feddwl y byddai'n rhaid inni wynebu'r peth cyn ein hugeinfed pen-blwydd.

Yn olaf, Llywydd, mae'n syndod llwyr i'r rhai hynny ohonom a ymgyrchodd dros ddatganoli yn y blynyddoedd hir hynny ar ôl 1979 ein bod wedi symud mewn dau ddegawd o sefyllfa lle'r oedd 'llais cryfach yn Ewrop' yn slogan a oedd yn uno'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i sefyllfa lle mae Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu pe byddech wedi dweud hynny wrth rywun ym 1999, y bydden nhw wedi credu y byddai hynny'n annhebygol iawn o fod yn wir.

Felly, Llywydd, hoffwn i orffen drwy edrych i'r dyfodol a meddwl am y mathau o heriau yr ydym yn dal i'w hwynebu ac y byddwn yn eu hwynebu dros yr 20 mlynedd nesaf, rhai, rwy'n credu, na allem ni erioed fod wedi'u rhagweld ar y dechrau. Rwy'n gobeithio, dros yr 20 mlynedd nesaf, y byddwn wedi gwneud mwy i gyflwyno'r math o wleidyddiaeth garedicach y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich rhagymadrodd; y byddwn wedi derbyn yr her i ddangos yn y Cynulliad hwn ei bod yn bosibl o hyd i drin ein gilydd â pharch wrth barhau i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau gwirioneddol sydd rhyngom—y gwahaniaethau cywir a phriodol sydd rhyngom mewn unrhyw ddemocratiaeth—o ran ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru.

Rwy'n gobeithio, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, y gallwn ddweud y bydd gwleidyddiaeth flaengar wedi'i chynnal yma yng Nghymru, ei bod yn dal i fod yn fan lle caiff atebion eu saernïo ar y cyd i fod yn broblemau cyfunol, a lle caiff systemau eu newid i gyrraedd bywydau'r rhai hynny â'r lleiaf, nid dim ond y rhai sydd â'r mwyaf, a'n bod yn gallu dangos, fel yr ydym ni'n ei wneud yn y tymor Cynulliad hwn, nad yw'r duedd gynyddol honno yng ngwleidyddiaeth Cymru yn dod i ben o bell ffordd.

Fis diwethaf, diddymwyd y drefn o garcharu pobl am beidio â thalu'r dreth gyngor. Y mis hwn, rydym wedi cyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad o gosbi plant yn rhesymol yn ei ystyriaeth Cyfnod 1. Fis nesaf, byddwn yn cyflwyno Bil i ymestyn yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a sicrhau bod y broses ddemocrataidd ar gael yn fwy i bawb yng Nghymru.

Mae'r ymdeimlad hwnnw o agenda cyfiawnder cymdeithasol gynyddol i Gymru wedi bod yn nodwedd o'n 20 mlynedd gyntaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau yn ystod yr 20 mlynedd nesaf hefyd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn dangos nad yw'r daith ddatganoli ar ben eto, nad diwedd datganoli yw'r pethau yr ydym ni wedi'u hychwanegu at ein cyfrifoldebau yn ystod yr 20 mlynedd gyntaf. Mae gennym gomisiwn Thomas ynghylch cyfiawnder troseddol. Mae gennym fwy o ddiddordeb yn y pumed Cynulliad hwn nag ar unrhyw adeg arall wrth feddwl am yr hyn y gallai rhannau o'r system fudd-daliadau ganiatáu inni ei wneud pe bydden nhw'n gyfrifoldeb y Cynulliad hwn.

Mae'n iawn ac yn briodol, yn fy marn i, y bydd datganoli'n parhau ar ei daith i'r 20 mlynedd nesaf, ac, ar yr un pryd, y byddwn yn defnyddio ein hymdrechion i fynd i'r afael â mater sy'n fwy o frys heddiw nag y gwnaethom erioed ei gydnabod 20 mlynedd yn ôl. Mae ein hymwybyddiaeth o argyfwng yr hinsawdd, yr effaith ar ein hamgylchedd, sydd wedi tyfu y tu hwnt i unrhyw beth y byddem ni wedi gallu ei ddychmygu 20 mlynedd yn ôl, ledled y byd ac yma yng Nghymru hefyd. Rydym ar flaen y gad mewn rhai ffyrdd, trwy ein treth ar fagiau plastig, trwy ein cyfraddau ailgylchu, ond mae cymaint y mae'n rhaid inni ei wneud i greu cyfiawnder amgylcheddol yma yng Nghymru, gan wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a manteisio ar y buddion enfawr sydd gan Gymru i ddefnyddio technoleg ynni adnewyddadwy y dyfodol.

Ac, yn olaf, ac efallai'n fwyaf oll, mae'n ymddangos i mi, yn ystod yr 20 mlynedd nesaf y bydd yn rhaid inni wynebu'r her o ran cydraddoldeb, yr her sydd wrth wraidd Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol, i wneud Cymru'n lle mwy cyfartal yn y dyfodol. Ym 1976, Llywydd, y Deyrnas Unedig oedd y gymdeithas fwyaf cyfartal yn Ewrop. Heddiw, rydym yn un o'r mwyaf anghyfartal. Ac yn sgil hynny daw'r holl effeithiau difäol hynny sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb ar y raddfa honno. Mae cymdeithas fwy cyfartal yn well yn economaidd, yn well o ran iechyd, ac mae ganddi fwy o ymdeimlad o gydlyniant cymunedol. Dyna sydd i'w ennill o fod yn Gymru sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhwng ac ar draws y cenedlaethau, ac mae'n her ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, hyd yn oed yn fwy sylweddol nag y bu yn ein hanes cyntaf.

Llywydd, i gloi, mae datganoli wedi rhoi cyfle i ni yng Nghymru i gymryd cyfrifoldeb am ein dyfodol, yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth gwrs, ond i weithredu yn ôl ein blaenoriaethau ni. Wrth edrych ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf, rwy’n hyderus y bydd Cymru yn parhau i ddangos y ffordd ymlaen—dangos y ffordd at gymdeithas mwy llewyrchus, mwy cyfartal, mwy gwyrdd, a chymdeithas sy’n deg i bawb. Llywydd, diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

17:45

Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog am ei gyfraniad, a dyna ddiwedd ar ein sesiwn ffurfiol yn nodi ein hugainmlwyddiant. Diolch i bawb am eu cyfraniad hyd yn hyn, ac, yn neges y dydd, mae mwy i ddod. Diolch yn fawr iawn i chi.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:49.