Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/03/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones.

Deallusrwydd Artiffisial

1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o fusnesau lleol yng Ngorllewin De Cymru i fanteisio ar bŵer deallusrwydd artiffisial? OAQ53610

Diolch. Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cydnabod y rôl hollbwysig y bydd technolegau digidol yn ei chwarae yn y dyfodol, gyda digideiddio ac arloesi yn themâu allweddol yn y galwadau i weithredu. Rydym yn parhau i ymgysylltu â’r byd busnes i annog mabwysiadu technolegau, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial.

Ddirprwy Weinidog, mae gan ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol rym i drawsnewid busnesau bach, ac eto nid yw'r mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn gwybod sut i harneisio ei bŵer. Nid ar gyfer cwmnïau technoleg mawr yn unig y mae dysgu peirianyddol; gall y caffi lleol ei ddefnyddio, i helpu i brosesu taliadau, ffurflenni TAW, ac awtomeiddio nifer fawr o dasgau. Gyda'r mwyafrif o offer yn ffynhonnell agored, hyd yn oed y data llais Cymraeg—diolch i brosiect Common Voice Mozilla—nid oes fawr o rwystrau rhag mynd i mewn i'r maes. Yr hyn sydd ei angen yw i fusnesau gael eu pwyntio i'r cyfeiriad iawn. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo manteision deallusrwydd artiffisial a sicrhau ein bod yn arfogi perchnogion busnes yn y dyfodol â sgiliau i fanteisio ar dechnoleg i helpu eu busnesau?

Diolch ichi am y cwestiwn. Mae'r Aelod yn pregethu wrth y cadwedig ar hyn—rwy'n llwyr gydnabod manteision deallusrwydd artiffisial, ar y pen arloesol uchel, ond hefyd ar y pen llai dyrchafedig, bob dydd o redeg busnes a sefydliadau. Ac ers dod i'r gwaith, gwnaeth y gweithgaredd sy'n digwydd argraff fawr arnaf, wedi'i gyfarwyddo gan brifysgolion a busnesau eu hunain, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Credaf fod yna le inni gael trafodaeth ynghylch beth yw rôl y Llywodraeth, oherwydd mae'r arloesi'n digwydd er gwaethaf y Llywodraeth mewn llawer o achosion, ac nid o'i herwydd. Ond ceir pethau pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i geisio cynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar y technolegau hyn, ac rydym yn disgwyl yr adroddiad ar yr adolygiad gan yr Athro Phil Brown cyn bo hir i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud.

Ond rwyf am ddyfynnu un enghraifft i'r Aelod, i'w sicrhau bod arferion da'n bodoli eisoes o fewn ei rhanbarth, sef Aurora International Consulting ym Mhort Talbot, sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer rheoli adeiladu. Maent wedi datblygu prosiect, a lansiwyd y mis diwethaf, i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer y dadansoddiad risg a'r dadansoddiad o'r datganiad dull, a gynhyrchir yn awtomatig bellach, ac mae hynny nid yn unig yn cynhyrchu gwelliannau o ran diogelwch a chywirdeb, ond mae'n arbed 95 y cant o gost cydymffurfio, a bellach maent yn edrych i weld sut y gallant gyflwyno hyn yn rhyngwladol. Felly, mae angen inni edrych ar sut y gellir cymhwyso hyn yn ddomestig, ond hefyd ar sut y gall cwmnïau domestig ei ddatblygu yma a'i allforio dramor.

Yn wir, mae aros ar flaen y gad o ran arloesi technolegol yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant busnes yng Nghymru, ac mae deallusrwydd artiffisial yn un o'r meysydd brwydr sy'n dod i'r amlwg o ran cystadleuaeth busnes, ac ar y llwyfan byd-eang, mae cwmnïau fel Sony yn cydnabod hyn. Ond yma yn ne Cymru, mae canolfan dechnoleg Sony UK ym Mhen-coed sydd wedi ennill gwobrau yn arwain y ffordd mewn perthynas â hyn ac mewn llawer o ffyrdd eraill, gan gynnwys mynd i'r afael â heriau gweithgynhyrchu modern a gwella prosesau drwy ddefnyddio'r dechnoleg rhyngrwyd pethau ddiweddaraf, gan ddwyn cynhyrchiant gweithgynhyrchu ynghyd mewn proses ddi-dor—yn un gweithrediad llyfn. Y llynedd, Weinidog, lansiwyd cyfleuster ymchwil a datblygu AMROC ym Mhen-coed, mewn cydweithrediad â phencadlys Sony a chyfleusterau eraill yn Japan. Ac fel y dywedodd Steve Dalton, y rheolwr gyfarwyddwr, ar y pryd,

Mae cael ein dewis i wneud y gwaith ymchwil hanfodol hwn fel partner cydweithredol gyda'n pencadlys yn rhoi Sony UK TEC ar y map, nid yn unig yng Nghymru, ond ar y llwyfan gweithgynhyrchu byd-eang, sy'n rhywbeth yr ydym yn haeddiannol falch ohono... Mae hefyd yn deyrnged i'n gweithlu medrus iawn sydd wedi gosod eu hunain ar wahân, diolch i'w gwybodaeth a'u galluoedd digyffelyb.

Felly, tybed a fyddai'r Dirprwy Weinidog, neu'r Gweinidog, neu'r ddau, yn derbyn gwahoddiad i ymweld â chanolfan dechnoleg Sony UK sydd wedi ennill gwobrau i weld sut y mae'r tîm anhygoel yn rhoi Cymru ar flaen y gad bellach yn y byd gweithgynhyrchu a thechnoleg fodern.

Diolch ichi am y cwestiwn. Mae'r Gweinidog newydd fy hysbysu ei fod eisoes wedi derbyn gwahoddiad i fynychu'r ffatri; byddai'n bleser mawr gennyf innau ddod hefyd. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr Aelod yn hyrwyddwr gwych i bresenoldeb Sony ym Mhen-coed. Credaf fod yna gyfle gwirioneddol gyffrous. Mae'n un o'r pethau rwyf am geisio canolbwyntio arnynt yn y portffolio hwn—sut i harneisio'r arferion da sy'n bodoli yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Oherwydd yn ne Cymru mae gennym ffynonellau gwych o ddata cyfoethog—yn y DVLA, yn Nhŷ'r Cwmnïau, yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol—yng Nghymru, ochr yn ochr â'r enghraifft y mae'r Aelod newydd gyfeirio ati yn Sony, ac mewn mannau eraill. Sut y gallwn ddod â hwy at ei gilydd i harneisio'r pŵer hwnnw ar y cyd er mwyn rhoi rhyw fath o fantais yn y maes i Gymru? Felly, byddem wrth ein bodd yn dod, rwy'n siŵr, ac edrychaf ymlaen at drafod ymhellach gyda'r Aelod pa gyfleoedd eraill a allai godi.

13:35

Soniasoch yn gynharach, Ddirprwy Weinidog, beth yw rôl y Llywodraeth yn hyn, ac efallai mai un rôl yw rhoi sicrwydd. Rwyf wedi siarad â darparwyr rhyngrwyd am gysylltedd 5G yn yr ychydig fisoedd diwethaf yng nghyd-destun bargen ddinesig bae Abertawe, ac maent yn gwneud y pwynt fod y sector preifat a'r sector cyhoeddus angen creu galw am 5G, megis dulliau o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, er mwyn iddynt ymrwymo i fuddsoddi yn y dechnoleg sydd ei hangen. Ddoe ddiwethaf gwelais ddarn yn y cyfryngau ynglŷn â sut y gall deallusrwydd artiffisial ddehongli sganiau diagnostig canser yn fwy cywir ac yn gyflymach na meddygon ac wrth gwrs, iechyd a lles yw un o brif themâu y fargen ddinesig. Gyda'r adolygiad rydym newydd ei gael, credaf efallai fod yna ychydig o risg y bydd yn ergyd i hyder y sector preifat ar adeg pan ydym o ddifrif yn ceisio manteisio i'r eithaf ar gyfle euraid i fasnacheiddio deallusrwydd artiffisial. Felly, sut y gallwch sicrhau'r arloeswyr ym maes deallusrwydd artiffisial fod fy rhanbarth, gyda'i ddwy brifysgol wych, yn dal i fod yn lle da i fuddsoddi a masnacheiddio?

Byddwn yn trafod hyn ymhellach y prynhawn yma, rwy'n gwybod, ond gadewch inni ddatgysylltu'r fargen ddinesig oddi wrth yr agenda ddigideiddio ehangach. Nid yw'r ddau yr un peth. Mae un yn ffordd tuag at nod, a gadewch i ni ganolbwyntio ar y pen ehangach. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, nid yw 5G yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu ar raddfa fawr. Rydym wedi comisiynu Innovation Point i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gallwn fanteisio arno. Ceir pethau llawer llai dyrchafedig y gallwn eu gwneud i wneud i'r technolegau weithio. Er enghraifft, gellir pweru rhyngrwyd pethau drwy rwydwaith LoRaWAN, sef rhwydwaith amledd isel sy'n llawer mwy cyffredin a dydd i ddydd na 5G. Felly, mae yna bethau y gallwn eu gwneud yn awr gan ddefnyddio teclynnau llawer llai uwch-dechnoleg na 5G a gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud tra ydym yn darganfod i ble mae hyn yn mynd nesaf, oherwydd mae'n amgylchedd sy'n newid yn gyflym.

Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y cafodd ystyriaethau amgylcheddol eu hystyried wrth ddatblygu cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ53615

Wrth gwrs. Mae'r amgylchedd wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu cynllun gweithredu economaidd. Mae amcanion allweddol y cynllun yn cynnwys yr ymgyrch tuag at dwf cynaliadwy, yr angen i wrthsefyll newid hinsawdd a hyrwyddo newid i economi carbon isel, glanach. Bydd cyflawni hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Ychydig dros bythefnos yn ôl, cefais fy ngwahodd i siarad yn nigwyddiad Extinction Rebellion Caerdydd y tu allan i lyfrgell Caerdydd. Maent hwy, yn ogystal â'r streicwyr ysgol, yn ymgyrchu dros ddatgan ei bod hi'n argyfwng ar yr hinsawdd, ymhlith pethau eraill, i sicrhau bod yr holl bolisïau cyfredol ac yn y dyfodol yn gyson ag atal newid hinsawdd a dirywiad ecolegol. Rwy'n cefnogi amcanion yr ymgyrch—newid hinsawdd yw'r argyfwng mwyaf difrifol sy'n ein hwynebu yn y byd heddiw.

Weinidog, mae gan bolisi economaidd ran fawr i'w chwarae yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu, ac mae eich ochr eich hun wedi dweud bod methiant y Llywodraeth hon i gyflawni targedau allyriadau yn siomedig. Mae ynni'n rhan hanfodol o'n heconomi ac mae datgarboneiddio cyflym yn hanfodol. Nawr, cafwyd cynigion amrywiol ledled y byd ar gyfer bargeinion newydd gwyrdd. A ydych yn derbyn y dylai eich cynlluniau economaidd fod wedi bod yn fargen newydd werdd?

Wel, rwy'n credu bod y fargen newydd werdd fel teitl prosiect wedi ennyn diddordeb nid yn unig yn y DU, ond ledled y byd. Ond yma yng Nghymru, rydym eisoes yn cyflawni yn erbyn cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf cynaliadwy, ac mae'r cynllun gweithredu economaidd yn bendant yn fargen newydd werdd. Rydym yn cyflawni, a chredaf ei bod yn werth i'r Aelod gydnabod rhywfaint o'r manylion a geir yn y cynllun gweithredu economaidd, gan gynnwys ein hymrwymiad i fysiau allyriadau sero. Mae hynny'n dangos sut rydym yn cyflawni, gan gynnwys ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy 100 y cant ar gyfer y gwasanaeth metro—gan ddangos ein hymrwymiad unwaith eto.

Credaf hefyd ei bod yn bwysig cydnabod sut y mae ein buddsoddiadau mewn busnesau ledled Cymru yn cyfrannu at ddatgarboneiddio, gan gynnwys galwadau newydd i weithredu o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac mae un o ddim ond pump ohonynt yn ymwneud â datgarboneiddio. Nawr, buaswn yn gobeithio bod yr Aelod wedi mynegi ei safbwyntiau a'i syniadau ynglŷn â sut yr awn i'r afael â newid hinsawdd, gan fanteisio ar yr ymgynghoriad ar y cynllun drafft addasu i newid hinsawdd, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori ym mis Rhagfyr. Os nad yw'r Aelod eisoes wedi mynegi ei barn ar hynny, rwy'n siŵr fod yna gyfle o hyd i wneud hynny, er bod y dyddiad cau wedi mynd heibio. Ond rwyf hefyd yn falch iawn o ddweud, Lywydd, y bydd y Prif Weinidog yn lansio 'Cymru Carbon Isel' yfory, sef ein cynllun datgarboneiddio statudol cyntaf.

13:40

Yn fy rhanbarth i, Ysgrifennydd y Cabinet—neu Weinidog fel y'ch gelwir yn awr—mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r cynlluniau datblygu ar gyfer ffordd newydd o gyffordd 34 i Sycamore Cross ym Mro Morgannwg. Mae llawer o drigolion yn yr ardal honno'n cefnogi gwelliannau ffyrdd yn y seilwaith presennol, ond ni allant ddeall o gwbl pam eich bod yn argymell adeiladu traphontydd a ffyrdd newydd ar draws rhai o'r ardaloedd mwyaf sensitif i fyd natur ym Mro Morgannwg. A allwch egluro wrthyf fel y gallaf fynd yn ôl at fy etholwyr a deall, pan fyddwch yn ystyried yr amgylchedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi adnoddau tuag at brosiect a fyddai'n cael effaith ddinistriol ar y manteision amgylcheddol yn yr ardal benodol honno?

Wel, a gaf fi sicrhau'r Aelod sydd hefyd yn cefnogi ffordd liniaru'r M4, un rhaglen hanfodol y mae'r Llywodraeth yn ei hystyried ar hyn o bryd—y mae'r Prif Weinidog yn ei hystyried ar hyn o bryd—? A dylwn ddweud bod yn rhaid asesu pob ffordd. Rhaid i bob ffordd a adeiladir, Lywydd, gael ei hasesu yn erbyn proses ddiweddaraf yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, proses a gefnogir gan y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac wrth gwrs, mae rhaglenni fel yr un a nodwyd gan yr Aelod yn agored i ymgynghoriad â'r cyhoedd ac rwy'n mawr obeithio y bydd aelodau o'r cyhoedd yn ardal fy nghyd-Aelod yn cyflwyno'u safbwyntiau pan fydd yr ymgynghoriad yn digwydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Nawr, yn ddiweddar rhoddodd Masnach a Buddsoddi Cymru sylw i'r costau cyflog a oedd 30 y cant yn is yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ers hynny mae'r Llywodraeth wedi tynnu cyfeiriadau at gyflogau is oddi ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati, a gallaf ddeall yn iawn pam y byddech am ymbellhau oddi wrth eich camgymeriad eich hun, ond a gaf fi ofyn beth yw'r camgymeriad a wnaed yma? Ai dim ond eich bod wedi dweud hyn? Oherwydd mae'n ymddangos bod cred fod cynnig cyflogau isel yn beth da yn dal i fod wrth wraidd meddylfryd y Llywodraeth.

Dim o gwbl. Os caf atgoffa'r Aelod na fûm yn gyfrifol am Masnach a Buddsoddi Cymru ers yr ad-drefnu ym mis Rhagfyr, ond gallaf ddweud wrth yr Aelod nad oedd unrhyw Weinidog yn cymeradwyo'r trydariad hwnnw. Roedd yn annerbyniol. Nid yw'n cynrychioli meddylfryd y Gweinidogion. Yn wir, lluniwyd y cynllun gweithredu economaidd i hybu twf cyflogau ac ansawdd swyddi ledled Cymru, a dyna'n union y ceisiwn ei wneud.

Yn anffodus, wrth gwrs, gollyngwyd y gath o'r cwd ac roedd awgrymu bod cyflogau isel yng Nghymru yn rhywbeth i'w ddathlu yn sarhad ar weithwyr Cymru, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cyflogau yng Nghymru wedi aros ar lefel rhy isel ers yn llawer rhy hir. Nid wyf yn credu bod hynny'n adlewyrchu'n dda ar 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur. Ond un offeryn, yn sicr, ar gyfer codi cyflogau yng Nghymru yw'r ymgyrch i gyflwyno'r cyflog byw yn ehangach. Mae'r sector cyhoeddus yn ymgysylltu mewn modd cadarnhaol. Credaf fod cynghorau, a arweinir gan fy mhlaid i a'ch un chi, wedi rhoi camau cadarnhaol ar waith ar gyflwyno'r cyflog byw, ond mae economi gref yng Nghymru yn galw am sector preifat cryf, a gallai'r sector preifat elwa yn sicr o gael mwy o weithwyr ar y cyflog byw. Onid y gwir amdani, yn y sector preifat yng Nghymru, yw ein bod yn llusgo ymhell ar ôl rhannau eraill o'r DU o ran gweithredu'r cyflog byw?

Ac a gaf fi ddweud mai dyna'n union pam y gwnaethom gyflwyno'r contract economaidd fel rhan ganolog o'r cynllun gweithredu economaidd, i sicrhau bod gwaith teg yn ystyriaeth allweddol mewn unrhyw benderfyniad a wneir ynglŷn ag a ddylai busnes sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru? O'r pedwar maen prawf yn y contract economaidd hwnnw, mae gwaith teg yn elfen allweddol. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg yn cwblhau ei waith ar hyn o bryd. Byddwn yn mabwysiadu'r argymhellion. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y cyflog byw wedi bod yn ystyriaeth allweddol yn eu gwaith.

Ond gadewch i ni edrych ar y ffeithiau sy'n ymwneud â'r economi ers datganoli. Gadewch i ni ystyried cyflogaeth—mae ar lefelau uwch nag erioed. Gadewch i ni ystyried y gyfradd gyflogaeth—unwaith eto, mae ar lefelau uwch nag erioed a chynyddodd yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU dros gyfnod datganoli; mae 9.7 y cant yn uwch o'i gymharu â 4.2 y cant. Mae anweithgarwch yn yr economi bellach yn is yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd—mae honno'n record a dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Ar fusnesau â phencadlys yng Nghymru—oherwydd mae llawer o bobl yn dweud yn aml nad oes gennym bencadlysoedd yma—y ffaith amdani yw bod gennym nifer uwch nag erioed o fusnesau wedi'u sefydlu yma yng Nghymru gyda'u pencadlysoedd yma, ac yn wir, mae wedi cynyddu bron 15,000 yn ystod y chwe blynedd diwethaf yn unig. Mae cyfradd dechrau busnesau yn uwch yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd. Ar ymchwil a datblygu mentrau busnes—gan fod llawer o bobl yn dweud yn aml nad ydym yn buddsoddi digon yn hynny—mewn gwirionedd, rhwng 1995 a 2017, roedd y cynnydd cyfartalog blynyddol yng Nghymru yn 8 y cant, ac mae hynny'n ddwywaith y gyfradd gyfartalog ar draws y DU. Mae allforion wedi codi. Mae cyfoeth aelwydydd wedi codi. Yn ddiamheuaeth, mae economi Cymru wedi gwella ers datganoli, ac yn enwedig yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae hynny'n rhywbeth y credaf y dylai Edwina Hart gael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth amdano oherwydd fe fuddsoddodd amser ac egni enfawr i wneud yn siŵr ein bod yn symud oddi wrth ddad-ddiwydiannu drwy ganolbwyntio ar waith o ansawdd uwch sy'n talu'n dda. Nid yw'r gwaith hwnnw ar ben eto, a dyna pam y mae'r cynllun gweithredu economaidd mor hollbwysig.

13:45

Roedd honno'n rhestr hir iawn, ac nid wyf yn siŵr a oeddech yn ceisio cadarnhau yr hyn roeddwn yn ei ddweud, ond nid oedd lefelau cyflog yng Nghymru yn unman ar y rhestr honno. Wrth gwrs ei bod hi'n braf fod lefelau diweithdra yn gostwng, ond nid yw'n dangos y darlun cyfan. Mae gostyngiadau mewn cyfraddau anweithgarwch economaidd i'w croesawu, ond nid yw hynny'n dangos y darlun cyfan. Mae fy nghwestiynau heddiw'n ymwneud â lefelau cyflogau yng Nghymru, a gwyddom eu bod wedi bod yn rhy isel ers yn rhy hir, ac mae gennym y dathliad ymddangosiadol hwn o gyflogau isel yn y trydariad hwnnw, sydd bellach wedi'i ddileu.

Ond i ddychwelyd at y cyflog byw, dyma'r ffigurau: yn yr Alban yn awr, mae 3,000 o gyflogwyr wedi cofrestru fel cyflogwyr cyflog byw. Yn Lloegr, mae'r nifer yn 4,000. Yng Nghymru, mae'r gwahaniaeth yn go syfrdanol mewn gwirionedd: dim ond 120 o gwmnïau sydd gennym—y ffigurau mwyaf diweddar sydd gennyf yma—wedi'u cofrestru fel cwmnïau cyflog byw. Nawr, un gwahaniaeth, yn sicr, rhwng y sefyllfa yng Nghymru a'r Alban a Lloegr yw bod ganddynt sefydliadau wedi'u hariannu yn yr Alban a Lloegr sy'n mynd allan i ddarbwyllo ac annog cwmnïau sector preifat i gyflwyno'r cyflog byw, a dangos iddynt y byddai'n dda i'w busnesau pe baent yn dod yn gyflogwyr cyflog byw.

Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru fuddsoddi go iawn? A gyda llaw, mae'n galonogol wrth gwrs fod yna gontractau y byddwch yn ymrwymo iddynt yn uniongyrchol, drwy gaffael yng Nghymru, fod cwmnïau'n cael eu hannog yn y ffordd honno, a'u cyfarwyddo, mewn gwirionedd, i dalu cyflog byw i weithwyr. Ond beth am yr holl gwmnïau eraill nad ydynt yn rhan o gontractau uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru? Onid yw'n bryd i chi fuddsoddi mewn sefydliadau fel Citizens UK yn Lloegr, Poverty Alliance yn yr Alban i wneud yn siŵr fod y neges yn mynd allan i gwmnïau yng Nghymru y byddai'n dda iddynt hwy, yn ogystal ag i weithwyr Cymru, pe bai mwy ohonynt yn talu'r cyflog byw?

Dylwn ddweud nad wyf yn meddwl fod gwahaniaeth barn rhwng yr Aelod a minnau ar gyfraddau cyflog: mae angen iddynt wella, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Y ffordd yr awn ati i wneud hynny yw trwy gyflwyno'r contract economaidd yn fwy eang fel egwyddor ac yn ymarferol fel modd o wella ansawdd y gwaith a'r cyflog.

Nawr, nododd yr Aelod rai cyfryngau mewn mannau eraill sy'n cynyddu'r nifer sy'n derbyn y cyflog byw. Yma yng Nghymru, mae gennym Busnes Cymru gyda mwy na 200,000 o fusnesau o fewn eu cyrraedd—dyna wasanaeth rwyf wedi'i ddefnyddio'n bersonol yn ddiweddar. Rwyf wedi ysgrifennu at bob busnes ar ddau achlysur ynglŷn â Brexit, wedi cysylltu â 200,000, ond mae Busnes Cymru bellach yn gweithredu fel yr asiantaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru i annog cymaint â phosibl yn y sector preifat i fabwysiadu'r cyflog byw.

Ond yn hytrach nag anogaeth yn unig, rwy'n credu bod rhaid ichi gynnig rhywbeth. Rhaid i chi gynnig rhywbeth, a'r rhywbeth hwnnw yw cyllid y Llywodraeth, a chymhwyso'r egwyddor o rywbeth am rywbeth yw'r modd mwyaf effeithiol o bell ffordd o newid ymddygiad a gwella cyfraddau cyflog. A dyna a welwn yng Nghymru, a dyna pam y mae incwm aelwydydd ar gynnydd yng Nghymru. Ond buaswn yn derbyn bod angen gwneud mwy o hyd. Dechreuasom o linell sylfaen ofnadwy ganol i ddiwedd y 1990au. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol, ond drwy'r cynllun gweithredu economaidd a'r contract economaidd, byddwn yn mynd ymhellach eto.

Diolch, Lywydd. Y mis diwethaf, comisiynwyd Actica Consulting gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd i gynnal adolygiad cyflym dan arweiniad annibynnol o drefniadau ar gyfer darparu bargen ddinesig bae Abertawe, gwerth £1.3 biliwn. Rwy'n troi fy mhen yn awr at y Dirprwy Weinidog gan y gallaf weld mai dyna'r ffordd y mae'r drafodaeth yn mynd. Gwnaeth yr adroddiad saith argymhelliad i wella'r gallu i gyflawni canlyniadau'r fargen, a tybed, Ddirprwy Weinidog, a allech ddarparu crynodeb o'ch asesiad o ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.

Wel, am gyfle. Ceir cyfle pellach yn ddiweddarach gyda'r cwestiwn brys ar yr union bwnc hwn i fynd i'r afael â'r pethau hynny, felly efallai y caf roi crynodeb byr i chi a gallwn ei archwilio ychydig ymhellach.

Dyma adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae Alun Cairns a minnau'n cytuno ar y mater hwn, o leiaf. Ceir beirniadaeth o'r holl chwaraewyr yn y ddau adroddiad, ac yn hytrach nag oedi gyda hynny, credaf fod angen inni ailfeddwl a chanolbwyntio ar ble i fynd â hyn o'r fan hon. Ond mae yna amrywiaeth o argymhellion manwl defnyddiol iawn i bob ochr ynglŷn â sut y gallwn ail-raddnodi’r berthynas hon i gyflawni'r hyn yr hoffem iddi ei gyflawni.

13:50

Diolch i chi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog, ac nid wyf yn anghytuno â dim a ddywedasoch. Rwyf am geisio nodi beth oedd eich asesiadau cychwynnol o'r argymhellion hynny ac efallai y gallech ymdrin â hynny. O ddarllen yr adroddiad fy hun, nodais fod yr argymhellion allweddol yn amlinellu'r angen am weithredu dros y pedwar mis nesaf. Nawr, camau i'r fargen ddinesig eu cyflawni yw'r rhain, ond tybed sut rydych chi a Llywodraeth Cymru yn mynd i gynorthwyo'r fargen ddinesig i gyflawni'r argymhellion hynny.

Yn sicr, cyfarfu Alun Cairns a minnau ag arweinwyr yr awdurdodau lleol eisoes ddydd Gwener. Cefais gyfarfod pellach ddydd Llun gyda'r ASau Cymreig a chyfarfod y bore yma ag Aelodau Cynulliad Cymru i roi gwybod iddynt beth y bwriadwn ei wneud nesaf.

Ein blaenoriaeth gyntaf yw adfer peth momentwm i'r prosiect hwn, felly rydym yn gweithio'n agos gyda'r fargen ddinesig i geisio cael dau o'r prosiectau dros y llinell cyn gynted â phosibl, sef ail gam Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac ardal ddigidol y glannau yn Abertawe. I wneud hynny, mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd yn bennaf ar y dinas-ranbarth; hwy fydd yn gorfod datblygu'r achos busnes a'i gael wedi'i gymeradwyo gennym ni a Llywodraeth y DU. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda hwy fel partneriaid, nid yn unig fel plismyn, sef y ffordd y sefydlwyd y fargen, i geisio cydweithio a gwneud yn siŵr ein bod yn cael y sicrwydd sydd ei angen i ryddhau'r arian ar gyfer y prosiectau hyn.

Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi ac Alun Cairns yn gweithio gyda'ch gilydd ar hyn, ac rwy'n falch eich bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau lleol am bethau yn ogystal. Ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau, efallai drwy ddatganiadau, oherwydd mae gan bawb ohonom ddiddordeb yn hyn. Rwy'n falch fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y cyfraniad cadarnhaol y gall y fargen ei wneud i hybu'r economi yn y rhan hon o Gymru. Rwy'n credu yn y fargen ddinesig fel dull o weithredu ac rwy'n falch ein bod yn symud tuag at sefyllfa lle bydd pob rhan o Gymru o fewn ôl-troed bargen twf.

Ond wrth symud ymlaen, Weinidog—ac efallai mai dyma pam y gofynnais i'r holl Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf ar hyn—sut y byddwch yn sicrhau bod y materion a godwyd yn yr adroddiad hwn yn mynd i gael sylw gyda bargeinion twf eraill hefyd? Yr hyn rwy'n ei ofyn, Weinidog, yw bod yna faterion yn codi a heriau wedi'u hamlinellu yng nghyswllt bargen ddinesig bae Abertawe ac rwyf am sicrhau bod y Llywodraeth yn defnyddio ei dylanwad i sicrhau nad yw'r un camgymeriadau'n digwydd mewn bargeinion twf eraill. Rwy'n meddwl yn benodol am fargen twf canolbarth Cymru, sy'n datblygu, wrth gwrs.

Wel, roedd nifer o bwyntiau yno. Rydym wedi briffio Aelodau: cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig llawn iawn gennym ddydd Gwener, cyhoeddwyd y ddau adroddiad ac fel y dywedais, rhoddwyd y papur briffio yn ei le ac rwy'n ateb cwestiynau arno y prynhawn yma. Os hoffai unrhyw Aelod gael rhagor o wybodaeth, rwy'n fwy na pharod i'w cyfarfod i'w briffio ar yr hyn rydym yn ei wneud. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig inni fod yn agored ar hyn, a dyna pam rydym wedi cyhoeddi'r adroddiadau llawn, er eu bod yn feirniadol o bob ochr.

O ran y gwersi a ddysgwyd ar gyfer prosiectau eraill, sefydlwyd y fargen ddinesig hon mewn ffordd nad oedd yn union yr un fath â bargeinion dinesig eraill, a chredaf mai dyna un o'r problemau a nodwyd gan yr adroddiadau: ymdrin â hyn ar sail prosiect, yn hytrach na rhoi ymreolaeth i'r dinas-ranbarth fabwysiadu dull rheoli portffolio. A thrwy fynnu bod pob prosiect yn gweithio drwy fodel pum achos y Trysorlys, maent wedi gosod bar llawer uwch i awdurdodau lleol ei oresgyn nag mewn prosiectau a ariannwyd yn gonfensiynol, naill ai drwy eu refeniw eu hunain neu drwy Lywodraeth Cymru. Mae rhai o'r awdurdodau lleol, a'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd, wedi cael anhawster i gael y sgiliau a'r capasiti i allu mynd drwy'r model achos busnes trylwyr hwnnw, ac mae hynny wedi bod yn un o'r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad. Felly, ar un ystyr, mae wedi'i sefydlu mewn ffordd a'i gwnaeth yn feichus ac yn anodd iddynt.

Sut y cymhwyswn hyn ar gyfer rhanbarthau eraill—. Gan fod y cyfrifoldeb dros y bargeinion dinesig bellach wedi symud o Swyddfa'r Cabinet, a'r rôl blismon honno, i'n hadran, rydym yn benderfynol y gallwn chwarae mwy o rôl partneriaeth. Mae'r Gweinidog a minnau'n benderfynol—ac rydym eisoes wedi cyfarfod â chadeiryddion yr holl fargeinion dinesig i wneud y pwynt hwn—ein bod yn awr, o dan y cynllun gweithredu economaidd, am ddatblygu strategaethau economaidd rhanbarthol. Rydym am wneud hynny mewn ysbryd o bartneriaeth a chydgynhyrchu, a dylem gymryd y bargeinion dinesig fel man cychwyn ar gyfer sut y datblygwn strategaeth ranbarthol gadarn gyda'n gilydd ar gyfer pob rhan o Gymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn dysgu'r gwersi'n llawn o'r ddau adroddiad ac o sgyrsiau eraill.

Diolch, Lywydd. A allai Gweinidog y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am gynnydd parc uwch-dechnoleg Blaenau Gwent?

Gallaf. O ran menter y Cymoedd Technoleg yn gyffredinol, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n gweithio agos iawn gyda'n gilydd i sicrhau bod y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol yn cael ei datblygu mor gyflym ag y bo modd, ein bod yn denu mwy o gwmnïau technoleg fodurol yn arbennig i mewn i'r ardal, a'n bod yn defnyddio'r £100 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg er lles gorau'r ardal.

13:55

Diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ateb. Fodd bynnag, ers y cyhoeddiad ar y parc a'r safle uwch-dechnoleg fodurol, tua 18 mis yn ôl, nid oes yr un uned ddiwydiannol wedi'i hadeiladu. A wnaiff y Gweinidog roi dyddiad pendant i bobl Blaenau Gwent a Glynebwy yn awr ar gyfer dechrau gwaith, a ffrâm amser hyd yn oed ar gyfer creu swyddi ar y safle o bosibl?

Wel, rydym eisoes wedi cymeradwyo datblygiad safle Rhyd-y-Blew. Rydym wedi cymeradwyo busnes ychwanegol ac unedau diwydiannol ysgafn yn The Works yng Nglynebwy. Bydd gwaith ailosod Techboard yn dechrau eleni. Ac rwy'n falch o allu dweud heddiw ein bod ar y blaen i'r proffil gwariant ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg gwerth £100 miliwn, yn bennaf oherwydd y buddsoddiad yn y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol, a allai fod wedi mynd i unrhyw le yn y byd—i Singapôr, i'r Almaen—ond yn lle hynny, dewisodd Thales ddod i Gymru.

Mae hynny'n iawn, Lywydd. Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ond yn sgil canslo Cylchffordd Cymru, rwy'n nodi mai 179 o swyddi roedd ardal fenter Glynebwy yn gyfrifol amdanynt yn ystod y saith mlynedd y bu mewn bodolaeth. Does bosibl felly, Weinidog y Cabinet, nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi seilwaith yn ei le fel mater o frys—seilwaith ffisegol a gofodol—i greu swyddi a rhagolygon hirdymor mewn ardal y dywedir ei bod yn un o'r rhai tlotaf yng Nghymru, a'r DU yn wir. Yn dilyn ymlaen o hyn, Weinidog y Cabinet, a allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â'r cynhyrchwyr ceir, TVR, a'u bwriad i ddefnyddio'r safle?

Gallaf. Rwy'n falch o ddweud bod TVR yn gwneud cynnydd mawr ar geisio cymorth cyfalaf ar gyfer eu prosiect. Ac o ran seilwaith ffisegol, mae'r Aelod yn llygad ei le: mae JLL a llawer o rai eraill wedi nodi angen brys—nid yn unig yng Nglynebwy a Blaenau Gwent, ond ar draws Cymru—am unedau diwydiannol, yn rhannol o ganlyniad i'r ffaith bod cynifer o'r unedau a ddatblygwyd ac a adeiladwyd yn y 1980au yn cyrraedd diwedd eu hoes ddefnyddiol. Ac felly, dyna pam rydym yn buddsoddi cyfran enfawr o'r £100 miliwn mewn unedau diwydiannol sy'n briodol ar gyfer y mathau o fusnesau sydd eisiau lleoli yn y Cymoedd Technoleg. Dylwn ddweud wrth yr Aelod hefyd, mewn perthynas â'r ardal fenter, fy mod yn falch ein bod bellach wedi newid i strwythur llywodraethu newydd—bwrdd cynghori'r Cymoedd Technoleg—sy'n edrych yn benodol ar y cyfleoedd, nid yn unig o fewn y sector modurol, ond yn yr amgylchedd technoleg a digidol ehangach, i ddatblygu swyddi ym Mlaenau Gwent.

Hyrwyddo'r Sector Modurol

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r sector modurol? OAQ53630

Wel, rydym yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo sector modurol Cymru, ledled y DU a thramor, yn enwedig ar yr adeg heriol hon i'r diwydiant, gan ei bod yn hanfodol i economi Cymru ei fod yn parhau, ac yn tyfu yn y dyfodol, yn wir.

O'r gorau. Diolch. Weinidog, gwn eich bod wedi hyrwyddo'r sector diwydiannol modurol yn gadarn, a thanlinellir hynny o fewn y cynllun gweithredu economaidd, ac mae'n ddiwydiant pwysig yng Nghymru sy'n cynnwys tua 150 o gwmnïau, yn cyflogi bron 19,000 o bobl, yn hollbwysig—13 y cant o weithlu gweithgynhyrchu Cymru—yn creu dros £3 biliwn o refeniw, ac yn gweithgynhyrchu 30 y cant o'r 2.7 miliwn o injans a gynhyrchir yn y DU gyfan. Felly, Weinidog, pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu'r diwydiant modurol yng Nghymru wrth inni ymdopi â'r heriau ansicr a digynsail sy'n gysylltiedig ag anhrefn Brexit Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n dra niweidiol i weithgynhyrchu yng Nghymru?

A gaf fi ddiolch i Rhianon Passmore am ei chwestiwn a chydnabod ei diddordeb brwd yn y sector modurol yn ogystal? Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau ddechrau mis Mawrth a ddisgrifiai'r gweithgarwch parhaus i gefnogi'r sector modurol yng Nghymru. Ynghyd â fforwm modurol Cymru, rydym yn datblygu nifer o gamau gweithredu i gefnogi cynhyrchwyr ceir ledled Cymru, ac yn wir, yn gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac adrannau eraill Llywodraeth y DU yn San Steffan i edrych ar gyfleoedd. Er bod hon yn adeg hynod o heriol i'r sector modurol yng Nghymru, mae'n werth cydnabod yn y pum mlynedd diwethaf, ein bod wedi gallu helpu busnesau yng Nghymru i fuddsoddi mwy na £200 miliwn i gefnogi mwy na 12,000 o swyddi, wrth i'r sector ymateb yn gyflym i ddadeni'r sector ceir yn y DU. Fodd bynnag, wrth gwrs, mae Brexit yn fygythiad mawr i'r camau breision a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, a dyna pam yr ydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i negodi cytundeb a fydd yn sicrhau mynediad parhaus, llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl.

14:00

Weinidog, mae ymchwiliad a gynhaliwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dangos y gallai Cymru elwa'n fawr o fwy o ddefnydd o geir trydan. Fodd bynnag, mynegodd y pwyllgor bryderon fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn dangos arweiniad ar y mater hwn. Aethant ymlaen i ddweud—neu'r cwestiwn yn hytrach yw, a yw'r £2 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar i wella'r seilwaith ar gyfer pwyntiau gwefru ceir trydan yn hwb ariannol digon mawr. Beth yw eich ymateb, Weinidog, i'r pryderon hyn a godwyd gan y pwyllgor? A pha sicrwydd y gallwch ei roi fod cymorth Llywodraeth Cymru yn ddigonol i hyrwyddo'r rhan hon o'n sectorau modurol?

Wel, mae gennym ddyletswydd i sicrhau nad yw pwrs y wlad ond yn buddsoddi mewn meysydd lle na cheir methiant yn y farchnad yn y cyswllt hwn, a'n bod yn buddsoddi mewn seilwaith priodol. Nawr, mae'n debygol iawn, yn y blynyddoedd i ddod, y byddwn yn gweld pwyntiau gwefru drwy anwythiad yn cael eu cyflwyno, a byddai hynny, wrth gwrs, yn datrys y broblem mewn perthynas â llawer o strydoedd lle ceir tai teras. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar beth yw'r broblem heddiw, mewn meysydd lle na fydd y farchnad yn ymateb, a'n bod ninnau wedyn yn ymyrryd, a dyna'n union y mae ein cytundeb â Phlaid Cymru yn ceisio'i wneud.

Ond buaswn yn dweud fy mod yn credu bod Llywodraeth Cymru, ac yn wir, sector modurol Cymru ar flaen y gad o ran ymateb i'r cyfleoedd y mae'r newid i gerbydau trydan yn eu cynnig. Gadewch inni ystyried Aston Martin Lagonda, er enghraifft, ac rwy'n falch iawn o ddweud y byddant yn datblygu eu cerbydau trydan yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ei hyrwyddo a'i ganmol, ac mae hefyd yn rhywbeth sydd wedi digwydd o ganlyniad i weithio mor agos gyda Llywodraeth Cymru.

Darpariaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y Dyfodol

4. Pa ddefnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r modd o ganfod teithiau y rhai sy'n cymudo i Gasnewydd a Chaerdydd yn y car fel ffordd o lywio darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol? OAQ53618

Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod ein bod wedi defnyddio data ffonau symudol i lywio gwaith modelu trafnidiaeth. Rydym wedi comisiynu Trafnidiaeth Cymru i ddarparu diweddariad i'r data blaenorol, i ategu ffynonellau eraill, megis data tagfeydd, llif traffig a niferoedd teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hyn yn gymorth inni ddeall patrymau teithio a datblygu ymyriadau amlfoddol ledled de Cymru, a thu hwnt yn wir.

Mae hynny'n ddiddorol iawn, ac rwy'n falch iawn o glywed ein bod yn defnyddio'r data sydd ar gael i olrhain yr anghenion trafnidiaeth yn y dyfodol ar gyfer yr ardal i'r dwyrain o Gaerdydd, rhwng Caerdydd a Chasnewydd, oherwydd yn amlwg, rydym yn wynebu problem fawr o ran tagfeydd yn y ddwy ddinas, ac ar hyn o bryd, ceir bwlch yn y map metro i'r gogledd-ddwyrain a'r dwyrain o Gaerdydd lle mae'n amlwg y bydd angen darpariaeth arnom yn y dyfodol. Ac yn eich ateb i Leanne Wood, dywedasoch, yn amlwg, fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud hyn. Felly, ar ôl cael yr holl ddata pwysig hwn o'r ffonau symudol, sut yn union rydych yn ei ddefnyddio i gomisiynu gwaith gan Trafnidiaeth Cymru a prifddinas-ranbarth Caerdydd i roi'r drafnidiaeth sydd ei hangen arnom ar waith ar unwaith i gael pobl allan o'u ceir, fel nad ydynt yn gwenwyno pob un ohonom â llygredd aer?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Dylwn ddweud mai un ffynhonnell yn unig o wybodaeth a ddefnyddiwyd gennym i lywio ein gwaith modelu trafnidiaeth yw'r data ffonau symudol, ac nid yn unig gwaith modelu trafnidiaeth mewn perthynas â buddsoddiadau yn y ffyrdd a'r rheilffyrdd, ond hefyd mewn perthynas â gwasanaethau bysiau. Daw data arall a ddefnyddiwn o gyfweliadau ochr y ffordd, ac fel y dywedais yn gynharach, o arolygon teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn wir, o ddata tocynnau bysiau a threnau.

Rydym yn ei ddefnyddio i asesu faint y gellir ymestyn y metro ac i sicrhau bod y buddsoddiad mewn gwasanaethau estynedig yn cael ei fuddsoddi yn y lle cywir ar gyfer teithwyr a allai ac a fyddai'n defnyddio gwasanaethau metro yn hytrach na char preifat. Ond rydym hefyd yn defnyddio'r data hwnnw i gynllunio gwasanaethau bysiau yn y dyfodol ac i sicrhau bod y gwasanaethau bysiau presennol yn bodloni anghenion y teithwyr presennol.

Dylwn ddweud, fodd bynnag, yng Nghasnewydd—gwn nad oes yr un o'r ddau Aelod lleol yma eu hunain, ond maent wedi dweud wrthyf ar sawl achlysur na fydd annog pobl i newid o ddefnyddio ceir i fysiau yng Nghasnewydd ynddo'i hun yn lleihau tagfeydd ar yr M4, oherwydd i raddau helaeth, nid yw'r tagfeydd yng Nghasnewydd yn digwydd o ganlyniad i bobl yn defnyddio eu car preifat yn hytrach na'r bws, ond oherwydd na allant ddibynnu ar wasanaethau bysiau mewn llawer o achosion, gan fod gormod o dagfeydd yng Nghasnewydd, ac yn wir, ceir cred fod pobl sy'n defnyddio'r M4 ar hyn o bryd yn dod o dde neu ogledd Casnewydd ac yn defnyddio'r M4 i gyrraedd yr ochr arall. Nid yw hynny'n wir ychwaith, a dangosir hynny gan beth o'r gwaith modelu a'r data rydym wedi gallu ei gasglu.

14:05

Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi dysgu'r wers honno, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd. O ran Caerdydd, credaf fod metro de Cymru yn cynnig cyfle gwych i gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na char gan fod mwy a mwy o swyddi wedi'u lleoli yng nghanol Caerdydd. Ond yng Nghasnewydd, ceir nifer anghymesur o swyddi mewn parciau busnes ar hyd yr M4 fel y mae ar hyn o bryd, ac onid yw'r Gweinidog yn gywir i awgrymu, o leiaf, mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i helpu pobl i fynd i'r gwaith o gwmpas Casnewydd, mewn car neu ar fws, yw bwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu ffordd liniaru'r M4?

Ynghyd â datblygiad y metro, a sicrhau bod gennym hefyd barcffyrdd digonol sy'n gallu gwasanaethu'r ddau beth. Credaf fod y buddsoddiad a wnawn yn Llan-wern, ac yn wir, ym mharcffordd Caerdydd yn dangos ein bod yn benderfynol o ddiwallu anghenion modurwyr a phobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac i annog newid moddol lle bynnag a phryd bynnag y bo modd.

Yr Economi Sylfaenol

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision canolbwyntio ar yr economi sylfaenol? OAQ53627

Gwnaf. Bydd ffocws ar yr economi sylfaenol yn cefnogi ein hamcanion ehangach ar gyfer twf cynhwysol, yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd sy'n seiliedig ar le ac yn helpu i hyrwyddo cwmnïau gwreiddiedig a chyfrifol.

Cwmnïau gwreiddiedig a chyfrifol—a gellir ymgorffori'r cwmnïau gwreiddiedig a chyfrifol hynny yn y strategaeth a grybwyllodd Leanne Wood yn gynharach mewn perthynas â budd amgylcheddol, yn enwedig lle byddant yn tyfu cadwyni cyflenwi lleol, o darddiad lleol, yn y sector sylfaenol, a all leihau olion traed carbon. Daeth cwmni tai Redrow i gyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, a gofynasom iddynt a oeddent wedi gwneud unrhyw asesiad o'r effaith ar gadwyni cyflenwi lleol, a dywedasant nad oeddent wedi gwneud unrhyw asesiad o gwbl o'u heffaith ar gadwyni cyflenwi lleol. Felly, onid yw'n wir y gall cwmnïau sylfaenol, cwmnïau o darddiad lleol, gael effaith gadarnhaol iawn ar bolisi twf gwyrdd?

Diolch. Mae'n rhaid imi gydnabod rôl yr Aelod yn hyrwyddo cysyniad yr economi sylfaenol. Credaf ei bod yn bwysig hefyd ei fod yn canolbwyntio ar yr agwedd hon, nad yw'n agwedd a drafodir yn aml, ond credaf fod cryn botensial i'w gael.

Felly, ceir tair colofn wahanol i'n gwaith ar yr economi sylfaenol. Un yw'r gronfa arbrofol rydym wedi cytuno arni gyda Phlaid Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb, lle rydym yn edrych i weld a allwn gynyddu swm yr arian sydd ar gael ar ei chyfer. Yr ail yw twf cwmnïau gwreiddiedig a llenwi'r canol sydd ar goll. A'r drydedd, felly, yw prif ffrydio drwy'r sector cyhoeddus y gwersi o Preston a thu hwnt drwy gaffael, a dyna lle credaf y gallwn wneud cynnydd go iawn yn hyn o beth, oherwydd, drwy ddefnyddio'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gallwn eu herio i helpu'r agenda hon a fydd yn rhoi ystyr i holl egwyddorion ac ymagweddau Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Rydym hefyd wedi sefydlu is-grŵp i'r bwrdd cynghori gweinidogol i'n herio ac i'n profi wrth inni ddatblygu ein syniadau ynglŷn â'r economi sylfaenol, a byddwn yn derbyn papur penodol ar dwf amgylcheddol a bioamrywiaeth yn ein cyfarfod nesaf, i weld sut y gallwn ymgorffori'r egwyddorion hynny yn y gwaith a wnawn. Buaswn yn croesawu cefnogaeth barhaus a mewnbwn a her gan yr Aelod wrth inni ddatblygu'r agenda hon.

Rhwng eich ateb chi, Weinidog, a chwestiwn Hefin David, credaf eich bod wedi sôn am bob agwedd ar fy nealltwriaeth o'r economi sylfaenol. Soniasoch am gaffael ar y diwedd, ac yn ystod cwestiynau'r llefarwyr yr wythnos diwethaf, gofynnais i'r Gweinidog Cyllid a chaffael ynglŷn â rôl werthfawr caffael wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol a thyfu economi sylfaenol Cymru, os yw hwnnw'n ymadrodd rydym am ei ddefnyddio. Felly, a allwch ddweud ychydig yn fwy wrthym, ymhelaethu rhywfaint, ar ran olaf eich ateb a dweud sut y bwriadwch sicrhau bod polisi caffael Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiannau lleol hyn, y diwydiannau gwyrdd hyn, gobeithio, sy'n ddiwydiannau ar gyfer heddiw ond hefyd yn ddiwydiannau ar gyfer y dyfodol?

Ie, mae'r Gweinidog Cyllid a minnau'n gweithio'n agos gyda'n gilydd ar hyn. Mae adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar waith ar hyn o bryd, ac wrth inni geisio ail-lunio hwnnw, rydym am sicrhau bod egwyddorion yr economi sylfaenol yn cael eu hymgorffori yn yr hyn a ddaw nesaf, ac rydym yn siarad â'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ynglŷn â sut y gallant dreialu dulliau gwahanol, gan adeiladu ar brofiad Preston ac ardaloedd eraill lle cafwyd—rwyf wedi anghofio'r ymadrodd a ddefnyddiant. Mae wedi mynd o fy mhen—[Torri ar draws.] Adeiladu cyfoeth cymunedol—diolch yn fawr—gan weithio'n agos gyda'r Gweinidog yn ogystal â'r Gweinidog Cyllid. [Torri ar draws.] Yn hollol—di-dor. Adeiladu cyfoeth cymunedol, sy'n—. Defnyddir y ddau ymadrodd am ei gilydd—yr economi sylfaenol ac adeiladu cyfoeth cymunedol. Mae gan adeiladu cyfoeth cymunedol ffocws ychydig yn ehangach, gan y gall ganolbwyntio nid yn unig ar gaffael, ond ar eiddo a'r gweithlu ac agweddau eraill a fydd yn wahanol mewn ardaloedd gwahanol.

14:10
Trosglwyddo i Gymdeithas Ddigidol

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff trosglwyddo i gymdeithas ddigidol ar drigolion yn y canolbarth? OAQ53598

Mae'r buddsoddiad rydym wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud mewn seilwaith digidol yn golygu y bydd trigolion ledled canolbarth Cymru yn gallu manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gyflwynir gan gymdeithas ddigidol.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae'r grŵp defnyddwyr Which? wedi tynnu sylw'n ddiweddar at fater mynediad at arian parod ledled Cymru ac wedi nodi bod Cymru wedi colli 3 y cant o'i rhwydwaith peiriannau codi arian parod am ddim rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd y llynedd. Ac wrth inni newid tuag at fod yn gymdeithas fwyfwy digidol, teimlaf fod pobl yn fy etholaeth wledig yn cael eu hanghofio ar y daith honno—yn enwedig ym Machynlleth, er enghraifft, lle gwelsom y banc olaf yn cau y llynedd, a'r rhan fwyaf o'r peiriannau codi arian parod gydag ef. Dau beiriant codi arian parod sydd ar ôl bellach—un yn y Co-op a'r llall yn y siop Spar leol. Felly, buaswn yn dweud bod mynediad at arian parod yn dal i fod yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y miloedd o dwristiaid sy'n ymweld â chanolbarth Cymru bob blwyddyn, a tybed pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau ein bod yn rheoli'r newidiadau hyn i gymdeithas ddigidol mewn ffordd gynaliadwy? A beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ynghyd ag eraill hefyd, rwy'n derbyn hynny, i ymyrryd pan fo angen er mwyn diogelu arian parod fel dull o dalu hefyd?

Diolch am y cwestiwn. Rydych wedi codi mater pwysig iawn. Nid yw hyn yn gyfyngedig i ganolbarth Cymru—mae'r broblem hon yr un mor fawr yn Llanelli ag y mae yn Sir Drefaldwyn. Dyma un o'r rhesymau pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau i ddatblygu banc cymunedol, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau bancio i gymunedau o hyd. Ac er bod y farchnad fasnachol wedi tynnu allan o'r gofod hwnnw, mae angen i'r Llywodraeth ymyrryd er mwyn llenwi'r bwlch yn sgil methiant y farchnad tra bo'r gymdeithas wrthi'n newid. Felly, rydym yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd, a gobeithiwn, drwy hynny, y bydd modd inni sicrhau bod rhai cyfleusterau bancio cymunedol yn dychwelyd i'r stryd fawr, ac rwy'n fwy na pharod i wrando ar unrhyw syniadau sydd gan yr Aelod ynglŷn â pha waith pellach y dylem ei wneud.

Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ53628] yn ôl. Cwestiwn 8, felly—David Rees.

Adfywio Economi Cwm Afan

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfywio economi Cwm Afan? OAQ53624

Mae ein hymagwedd gyffredinol at ddatblygu economaidd yng nghwm Afan a ledled Cymru wedi'i nodi yn y cynllun gweithredu economaidd, ond a gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'n fawr y newyddion ddoe ynghylch caniatâd cynllunio ar gyfer parc antur cwm Afan?

Diolch am eich ateb, Brif Weinidog, ac rydych wedi mynd â rhan o fy nghwestiwn yn barod. Fel y gwyddoch, o bosibl, mae cwm Afan yn cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac mae'r economi yno wedi dioddef yn sgil colli swyddi a busnesau. Nawr, fel roeddech yn llygad eich lle i'w nodi, hoffwn longyfarch cyngor Castell-nedd Port Talbot ar eu penderfyniad i gymeradwyo'r cais amlinellol ar gyfer parc gwyliau cwm Afan, prosiect a fydd yn dod â chyffro i'r gymuned. Bwriedir iddo ddefnyddio busnesau lleol a chyflogi pobl leol. Felly, gobeithio y bydd yn adfywio un agwedd ar y cwm, a chwm Llynfi gerllaw hefyd. Ond mae'r prosiect hwnnw hefyd yn seiliedig ar barc antur. Un o'r gweithgareddau mwyaf y gallwn eu cael yw beicio, ac fel y gwyddoch, mae cwm Afan hefyd yn cynnwys y cysylltiad rhwng twnnel y Rhondda, sy'n cysylltu'r ddau gwm a chwm Rhondda. Ond mae cwestiwn mawr i'w ddatrys o hyd ynghylch perchnogaeth y twnnel hwnnw fel y gallant geisio sicrhau cyfleoedd ariannu er mwyn dechrau ar y prosiect hwnnw, gan y byddai'n atyniad enfawr a fyddai'n cysylltu â pharc gwyliau cwm Afan. Nawr, Highways England sy'n berchen ar y twnnel hwnnw o hyd. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Highways England a'r awdurdodau lleol i gymryd perchnogaeth ar y twnnel hwnnw fel y gallwn fwrw ymlaen â'n prosiect?

Credaf fod trafodaethau'n mynd rhagddynt. Yn wir, maent yn cynnwys swyddogion fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod—y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Mewn perthynas â pharc antur cwm Afan a thwnnel y Rhondda, credaf fod gan y ddau ohonynt gryn botensial i fod yn gyfleoedd busnes cynaliadwy. Ond yn ychwanegol at hynny, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fod Llywodraeth Cymru, drwy Busnes Cymru, ers mis Ebrill 2015, wedi cefnogi bron i 1,000 o fentrau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Yr union ffigur yw 980. Mae hynny wedi cynhyrchu buddsoddiad cyfunol o £7.4 miliwn a £33.8 miliwn mewn allforion, ac wedi creu mwy na 678 o swyddi newydd a mwy na 161 o fentrau newydd. Felly, mae ein cymorth i ardal fy nghyd-Aelod yn sicr, a byddwn yn parhau i weithio gyda chefnogwyr a hyrwyddwyr twnnel y Rhondda a pharc antur cwm Afan er mwyn sicrhau eu bod yn gynigion hyfyw.

14:15
Helpu i Fynd i'r Afael â Thlodi

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr economi sylfaenol o ran helpu i fynd i'r afael â thlodi ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53607

Gwnaf. Mae gan yr economi sylfaenol rôl bwysig i'w chwarae o ran ein hymagwedd ehangach tuag at ddatblygu economaidd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, rydym yn dal i wynebu heriau economaidd sylweddol yn ein cymunedau yn y Cymoedd, ac mae'r problemau a achosir gan dlodi yn parhau i fod yn gyson o ystyfnig mewn rhannau o fy etholaeth. Er bod diddordeb gennyf yn yr ateb a roesoch yn gynharach i Hefin David ynglŷn â'r economi sylfaenol, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod yn benodol sut y gallai hyn helpu i ddarparu'r newid sylweddol yn yr amodau economaidd mewn ardaloedd fel cwm Rhymni uchaf, sydd wedi bod yn ystyfnig o ymwrthol i unrhyw fath o adfywiad economaidd. Rwy'n meddwl, er enghraifft, am waith Llywodraeth Cymru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, lle rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid gofal yng nghwm Rhymni uchaf, ac a ydych yn ymwneud â'r gwaith hwnnw ac yn ystyried hynny fel rhan o drawsnewidiad cyffredinol yr economi sylfaenol y gallwn edrych arno yn y cymunedau hynny yn y Cymoedd.

Diolch. Rwyf wedi bod yn ofalus i osgoi termau fel 'trawsnewid' a 'newid sylweddol' mewn perthynas â'r economi sylfaenol. Credaf y bydd yr economi sylfaenol yn helpu. Bydd yn gwneud pethau'n well. Bydd yn cadw arian—arian sy'n bodoli eisoes—yn y cymunedau hynny ac yn ei atal rhag diferu allan. A bydd yn caniatáu inni harneisio grym gwario cyhoeddus yn enwedig i wella gwead y cymunedau hynny a'r profiad o fyw yno. Ni ddylem fod o dan unrhyw gamargraff o ran y math o broblemau economaidd anodd sy'n ein hwynebu yn y cymoedd hynny, ac ni fydd unrhyw ymyriad unigol yn darparu newid sylweddol yn fy marn i. Felly, credaf y dylem fod yn gymedrol o ran y rethreg a ddefnyddiwn mewn perthynas â hynny, ond credaf y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

A'r hyn sy'n dda amdano yw bod gennym bwerau i wneud hynny. Mae gennym yr adnoddau i wneud y gwaith hwn at ein defnydd, a dyna pam fod angen inni fwrw ymlaen â gwneud hynny. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn uno mentrau sy'n bodoli eisoes gyda'i gilydd. Felly, mae gennym dasglu'r Cymoedd, ac rwy'n falch iawn fod Dawn Bowden wedi derbyn fy ngwahoddiad i ymuno â thasglu'r Cymoedd er mwyn cyfrannu at ei waith. Mae gennym hefyd brosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref, a bellach mae gennym waith yn mynd rhagddo o dan yr economi sylfaenol—y tair elfen wahanol a grybwyllais—gan gynnwys tyfu busnesau gwreiddiedig. Nid yw hon yn agenda ar gyfer y sector cyhoeddus yn unig; mae'n ymwneud â thyfu cwmnïau lleol cyfrifol a gwreiddiedig hefyd. A thrwy ddwyn yr holl elfennau gwahanol hynny ynghyd—. Cefais gyfarfod â swyddogion y bore yma ynglŷn â sut rydym yn cydlynu'r gwaith hwnnw o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn gydgysylltiedig, ac yn gwneud hynny mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.

Fel rhan o waith tasglu'r Cymoedd, rwy'n cyfarfod ag arweinwyr pob awdurdod lleol a hoffwn ddefnyddio tasglu'r Cymoedd i geisio nodi arferion da sydd eisoes yn bodoli a'u hefelychu ar raddfa fwy. Rydym yn dweud yn aml nad yw arferion gorau yn teithio'n dda yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle i nodi arferion da. Er enghraifft, yn Rhondda Cynon Taf, maent wedi bod yn gweithio ar ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, ac mae hwnnw'n brosiect y gallem ei efelychu ar raddfa fwy ar draws y Cymoedd gan ddefnyddio'r dull hwn o weithredu, ac o wneud hynny mewn modd deallus, defnyddio llafur lleol, busnesau bach a chanolig lleol—o bosibl, gallem edrych ar ôl-osod er mwyn gwella safonau amgylcheddol a sgiliau wrth inni wneud hynny. Felly, credaf fod hon yn agenda gyffrous ac y gall gael effaith wirioneddol ar ein cymunedau.

Gwerthuso Gwaith Tasglu'r Cymoedd

10. Sut y bydd y Gweinidog yn gwerthuso gwaith Tasglu'r Cymoedd? OAQ53622

Bydd gwaith y tasglu'n cael ei fesur drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddangosyddion allweddol, megis data cyflogaeth a dangosyddion sy'n ymwneud ag effeithiau ar iechyd a lles. Bydd gwerthuso ymrwymiadau allweddol a ddatblygir gan y tasglu a'u heffaith ar bobl ym mhob rhan o'r Cymoedd hefyd yn cyfrannu at y gwaith gwerthuso.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. A all ddweud wrthyf p'un a yw'r tasglu bellach yn cynnwys dyffryn Aman a chwm Gwendraeth ai peidio? Bydd y Gweinidog yn gwybod, gystal â minnau, fod y sgwrs yn barhaus, ac y gall y cymoedd gorllewinol gael eu hanghofio weithiau. Mae hyn yn peri cryn bryder, yn amlwg, oherwydd, er y gall fod rhai gwahaniaethau diwylliannol, mae'r problemau cymdeithasol ac economaidd ym mhen uchaf dyffryn Aman yn debyg iawn i'r hyn a geir ym mhen uchaf cwm Rhymni, er enghraifft. Felly a all y Gweinidog ddweud wrthyf sut y bydd dyffryn Aman a chwm Gwendraeth yn cael eu cynnwys yn nhasglu'r Cymoedd, a sut yn benodol y bydd y gwaith hwnnw'n gwerthuso ac yn ymwneud â'r cymunedau hynny?

14:20

Wel, drwy fabwysiadu'r dull o weithredu a grybwyllais o ran mabwysiadu ymagwedd thematig ac edrych ar sut y gallwn efelychu'r arferion gorau presennol ar raddfa fwy, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr economi sylfaenol fel rhan o dasglu'r Cymoedd, rwy'n gobeithio y gallwn ledaenu'r manteision y tu hwnt i'r canolfannau'n unig, ac i ben uchaf y Cymoedd ac ar hyd a lled y Cymoedd. Felly, er enghraifft, drwy waith ar yr economi sylfaenol, ni fydd hynny'n gyfyngedig i ôl troed presennol tasglu'r Cymoedd. Ac mae'n bwysig nad oes ffiniau caled i'r ôl troed. Felly, i ateb y cwestiwn penodol ynglŷn â dyffryn Aman a chwm Gwendraeth, mae hynny'n rhywbeth y gofynnais i fy swyddogion ddarparu cyngor i mi yn ei gylch yn ddiweddar. Mae gennyf fuddiant etholaethol yn hyn, felly ni fydd modd imi wneud penderfyniad terfynol ar y mater, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn sicrhau eglurhad yn ei gylch cyn bo hir, gobeithio.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Brexit, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhianon Passmore.

Effaith Brexit ar Sector y Celfyddydau yn Islwyn

Diolch, Lywydd. Weinidog, o ran—. Roedd yn amlwg, mae'n ddrwg gennyf, o'r Siambr hon yr wythnos diwethaf, ar ôl—

Mae angen ichi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn, os gwelwch yn dda.

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar sector y celfyddydau yn Islwyn? OAQ53632

Mae Llywodraeth Cymru a'i hasiantau yn asesu effaith a goblygiadau posibl Brexit ar bob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru yn barhaus, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal o Gymru, gan gynnwys Islwyn, ar ei cholled o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE.

Diolch. Roedd yn glir o'r Siambr hon yr wythnos diwethaf, yn dilyn y datganiad pwysig gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, fod consensws clir a beirniadol i'w gael yn y lle hwn a'r tu allan i'r anghytuno anhrefnus yn San Steffan fod yn rhaid i Gymru barhau, fel yr addawyd gan y rheini gyferbyn, i dderbyn yr un lefel o gyllid ag y byddai wedi'i chael pe bai'r DU wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd—yr un geiniog yn llai. A bydd pob un ohonom yn monitro hyn yn eiddgar. Pa drafodaethau, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i ailadrodd wrthynt pa mor bwysig yw parhau cyllid i'r celfyddydau yn Islwyn?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. Gwn fod llawer o sefydliadau yn ei hetholaeth wedi elwa o gyllid yr UE, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed Duon a sefydliadau eraill. Rydym wedi mynnu'n gyson y dylai Llywodraeth y DU gadw at ei haddewid na fyddai Cymru'n colli ceiniog o'r incwm y mae'n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE ar ôl inni adael, ac mae hynny yr un mor wir o ran cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant ag y mae ar gyfer unrhyw agwedd arall ar y rhaglenni cyfredol.

Nid yw'n glir ar hyn o bryd, er enghraifft, mewn perthynas ag Ewrop Greadigol a rhaglenni eraill, a fyddwn yn parhau fel y DU i fod yn gymwys am hynny yn y tymor hwy. Pe ceid cytundeb, mae'n bosibl y gallai prosiectau barhau, ond nid yw'n sicr o gwbl yng nghyd-destun diffyg cytundeb y ceir mynediad at y rhaglenni hynny yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn darparu cyllid sylweddol i'r celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac maent wedi gwneud eu dadansoddiad eu hunain o effaith Brexit ar sector y celfyddydau yng Nghymru. Ac mae'n ymwneud i raddau ag arian, wrth gwrs, ond ceir agweddau eraill sydd yr un mor bwysig mewn llawer o ffyrdd, yn ymwneud â chydweithredu Ewropeaidd, symudedd artistiaid, ac effaith rheoliadau ffiniol a thariffau ar bartneriaethau celfyddydol a diwylliannol trawsffiniol ledled yr Undeb Ewropeaidd.

Paratoadau ar Gyfer Brexit heb Gytundeb

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb? OAQ53629

Byddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, ond rydym yn gweithio hyd eithaf ein gallu ar barodrwydd, gan adeiladu ar y trefniadau a adroddwyd i'r Cynulliad ar 22 Ionawr. Mae hyn yn cynnwys cymorth i sefydliadau o'r gronfa bontio Ewropeaidd, gyda'r £1.7 miliwn yn ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer cydnerthedd busnes.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac yn wir, fe fyddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, a dyna un o'r rhesymau pam y byddaf yn falch o orymdeithio ddydd Sadwrn dros bleidlais y bobl, i geisio atal trychineb pellach. [Torri ar draws.] Na, na; pleidlais y bobl ar fargen Brexit, gydag opsiwn i aros.

Fel y gwyddoch, un o fy mhrif bryderon mewn perthynas â Brexit yw'r effaith ar y cannoedd lawer o'n swyddi modurol yn Nhorfaen, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai'r dewis gorau inni er mwyn diogelu'r swyddi modurol hynny yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, rwy'n deall wrth gwrs ei bod yn ddoeth paratoi ar gyfer 'dim bargen'. Felly, gyda hynny mewn golwg, a gaf fi ofyn pa gamau penodol rydych wedi bod yn eu cymryd fel Llywodraeth nid yn unig i weithio gyda Ford a Nissan a'u tebyg, ond i weithio gyda chwmnïau, fel y rhai yn fy etholaeth i, sy'n gweithio'n galed iawn i gynhyrchu rhannau ar gyfer ein cwmnïau modurol ar draws yr Undeb Ewropeaidd?

14:25

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. Mae wedi codi'r mater hwn gyda mi sawl gwaith yn y Siambr. Gwn pa mor hanfodol yw'r sector modurol yn ei hetholaeth ac mewn rhannau eraill o Gymru. Ceir llif cyson iawn o gyfathrebu—cyfathrebu dwy ffordd—rhwng Llywodraeth Cymru, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a swyddogion gyda chwmnïau sy'n gynhyrchwyr ceir, ond hefyd yn y cadwyni cyflenwi ledled Cymru. Fe fydd yn gwybod bod cyllid wedi'i ddarparu ar gyfer hyfforddiant sgiliau i rai o'r cyflogwyr mwy o faint yn y sector modurol. Manteisiais ar y cyfle mewn cyfarfod yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ar barodrwydd ledled y DU i dynnu sylw at y ffaith, er ein bod yn gweld cwmnïau, cynhyrchwyr ceir, yn Lloegr—er enghraifft, Honda yn Swindon—yn gwneud penderfyniadau i ddadfuddsoddi, caiff effaith y math hwnnw o benderfyniad ei theimlo ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, gan nifer o'r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo i mewn i'r cwmni hwnnw. Ac mae nifer o gwmnïau'n dibynnu'n helaeth ar y math hwnnw o gadwyn gyflenwi ar gyfer eu busnes a phroffidioldeb.

Bydd wedi sylwi bod cyhoeddiad tariffau Llywodraeth y DU yn ystod yr wythnos neu 10 diwrnod diwethaf mewn perthynas â Brexit 'dim bargen', a ddisgrifiwyd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a llawer o undebau fel siom fawr iawn, yn amlwg yn dweud rhywbeth penodol ynglŷn â chydrannau ceir. Mewn gwirionedd, dylid canolbwyntio ar rwystrau di-dariff hefyd, fel y gall cwmnïau yng Nghymru a ledled y DU barhau i allforio cydrannau ceir mewn cadwyni cynhyrchu a chyflenwi sy'n fwyfwy cymhleth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Weinidog Brexit, gyda phwy y cytunwch ynglŷn ag a ddylid cynnal ail refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd—y Prif Weinidog neu'r Gweinidog iechyd?

Roedd y Prif Weinidog yn glir iawn ddoe yn y Siambr ynghylch polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Brexit. Rydym o'r farn fod dau opsiwn ar gael ar gyfer y dyfodol. Un yw'r math o gytundeb rydym wedi bod yn ei ddisgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ers dros ddwy flynedd, ac yn niffyg hynny, refferendwm.

Wel, roedd honno'n ymdrech dda i osgoi, ond ni wnaethoch ateb y cwestiwn mewn gwirionedd. Rydych yn gwbl iawn i ddweud bod y Prif Weinidog wedi dweud y byddai cynnal ail refferendwm yn peri rhwyg ac efallai na fyddai'n derfynol, a dywedodd yn gwbl glir nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi ail refferendwm o gwbl ar hyn o bryd. Ond wrth gwrs, mae hynny'n wahanol iawn i'r datganiadau gan y Gweinidog iechyd heddiw, sydd bellach yn ymgyrchu'n weithredol, mae'n ymddangos, dros bleidlais y bobl, fel y'i gelwir, i'r graddau ei fod yn trefnu dau fws o Lundain i Gaerdydd. A allwch ddweud wrthym ble mae hyn yn gadael cyfrifoldeb cyfunol Llywodraeth Cymru, a ydych o'r farn y dylai Gweinidog sy'n mynd yn groes i safbwynt y Llywodraeth ymddiswyddo, oherwydd yn amlwg—[Torri ar draws.]—yn amlwg, efallai fod y Gweinidog iechyd—[Torri ar draws.]—efallai fod y Gweinidog iechyd yn awyddus i drefnu bysiau, ond nid yw ar yr un bws â Llywodraeth Cymru?

Wel, mae hynny'n gamddisgrifiad llwyr o safbwynt y Gweinidog iechyd, trafodaeth y Prif Weinidog ddoe yn y Siambr a pholisi Llywodraeth Cymru, sydd, fel y dywedaf, yn hollol glir ac fe'i eglurwyd eto yn y Siambr ddoe gan y Prif Weinidog. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod refferendwm yn un o'r opsiynau ar gyfer datrys hyn. Rydym hefyd wedi disgrifio'r math o gytundeb y credwn y dylem ei geisio, ac yn niffyg hynny, refferendwm yw'r ffordd o'i ddatrys. Rydym wedi galw am wneud paratoadau ar y sail honno. Nid oes unrhyw broblem yma; roedd y Prif Weinidog yn glir iawn ynglŷn â pholisi'r Llywodraeth ddoe.

Mae'r Prif Weinidog, fel roeddwn yn gwbl iawn i'w ddweud, yn gwbl glir ynghylch y mater hwn, ond ymddengys nad oes diddordeb gan y Gweinidog iechyd yn y mater hwn o gyfrifoldeb cyfunol. Ac a dweud y gwir, dylai unrhyw un nad yw'n barod i gadw at gyfrifoldeb cyfunol mewn unrhyw Lywodraeth ymddiswyddo. [Torri ar draws.] Gadewch imi—[Torri ar draws.] Gadewch imi eich atgoffa—[Torri ar draws.] Gadewch imi eich atgoffa o'r sefyllfa bresennol mewn perthynas ag ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Senedd y DU wedi gwrthod ail refferendwm, wedi gwrthod 'dim bargen', ac wedi gwrthod aelodaeth o unrhyw fath o undeb tollau yn llwyr. Un cytundeb yn unig a negodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd: y cytundeb ymadael a negodwyd gan Brif Weinidog y DU. Mae'r cytundeb hwnnw'n cyflawni canlyniad y refferendwm, mae'n diogelu swyddi, mae'n diogelu trefniadau diogelwch ledled yr UE, ac yn wir, mae'n diogelu uniondeb y Deyrnas Unedig. Felly, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn deffro, yn derbyn y sefyllfa fel y mae, yn cefnogi Prif Weinidog y DU, fel rhan o dîm y DU, fel y gallwn gyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig o'i blaid?

14:30

A gaf fi roi ychydig bach o gyngor i'r Aelod? Os yw'n mynd i ddewis ymosod arnom ar sail cysondeb, awgrymaf ei fod yn edrych ychydig yn nes adref. A chredaf y byddai ychydig mwy o ffocws ar y lles cenedlaethol, yn hytrach na dim ond lles y blaid, wedi golygu na fyddai'r wlad hon yn y sefyllfa y mae ynddi yn awr, o dair blynedd o wastraffu amser, pan nad oedd ei Brif Weinidog yn gallu cynnig cytundeb sy'n ennyn cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin, na chefnogaeth ei Chabinet, neu roi Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn sefyllfa lle gall bleidleisio'n gyson â'i record bleidleisio ei hun—gan bleidleisio dros ac yn erbyn 'dim bargen'. Cwbl anghyfrifol.

Weinidog, a ydych chi'n bersonol yn credu fod y Gweinidog iechyd yn iawn i alw am yr ail bleidlais?

Wel, fel rwyf newydd ei nodi, rwy'n gwbl glir fod polisi'r Llywodraeth ar hyn yn glir iawn. Mae Prif Weinidog Cymru a'r Gweinidog iechyd wedi ymateb ynglŷn â hyn. Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch polisi'r Llywodraeth ar hyn, fel y dywedais sawl gwaith yn barod heddiw.

Weinidog, rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn cymeradwyo Mr Gething am ei ddewrder, ac am fod yn barod i roi ei swydd yn y fantol er mwyn sefyll dros beth sydd orau i Gymru, ac i'r DU gyfan. Wrth gwrs, er mwyn gallu cynnal refferendwm, neu'n wir o ran safbwynt Prif Weinidog Cymru ynghylch dod i gytundeb, bydd angen ymestyn erthygl 50. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym am ba hyd y cred Llywodraeth Cymru y dylid ymestyn erthygl 50, ac i ba ddiben?

Wel, rwy'n falch o weld yr Aelod bellach yn glir iawn ynghylch ei pholisi. Mae Plaid Cymru wedi arddel tri gwahanol bolisi mewn tri mis ar y cwestiwn hwn, felly mae'n dda ei chael yn egluro ei safbwynt. Credaf ei bod yn siomedig fod Prif Weinidog y DU wedi gofyn am estyniad hyd at ddiwedd mis Mehefin, ac yn amlwg mae hi'n mynd ar drywydd strategaeth sy'n gwbl anghyfrifol, o fwrw ymlaen doed a ddel. Rydym wedi nodi'n glir mai'r hyn a ddylai ddigwydd yn awr—ac rwyf wedi bod yn glir y bore yma, mewn sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU mai'r hyn sydd angen ei weld yn digwydd yw newid strategaeth yn sylfaenol, fel bod y Prif Weinidog yn ceisio consensws llawer ehangach yn y Senedd, i adlewyrchu'r mathau o egwyddorion a amlinellwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', un sy'n ymwneud â thrafodaethau trawsbleidiol, heb unrhyw linellau coch. Mae hynny'n golygu ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol a fyddai'n bosibl, pe bai'n mynd ar drywydd hynny, o fewn y ffrâm amser gyfredol sydd ar ôl ganddi ar gyfer estyniad. Ond heb newid strategaeth o'r fath, ni chredaf y bydd y ffrâm amser y mae hi wedi gofyn amdani yn ei llythyr at Donald Tusk heddiw yn ein harwain i unrhyw sefyllfa well nag yr ydym ynddi heddiw.

Weinidog, rhaid imi ddweud nad wyf yn deall pam y mae Llafur Cymru yn sefyll yn etholiadau'r Cynulliad os nad oes gan y blaid unrhyw awydd ffurfio polisi cydlynol ar fater mawr y dydd pan fyddant mewn Llywodraeth. Fe fyddwch yn gwybod bod yr UE wedi dweud nad yw ond yn fodlon caniatáu estyniad i erthygl yn 50 os yw diben gwneud hynny'n gwbl glir, ac mae hynny'n galw am amserlen sy'n gwneud synnwyr. Nawr, oni bai fy mod wedi'i fethu yn eich ateb, ni ddywedoch yn union pa mor hir y credwch y dylid ymestyn erthygl 50. Mae The Times wedi adrodd bod y Comisiwn Ewropeaidd yn annhebygol o dderbyn estyniad byr, oherwydd byddai'n frith o anawsterau cyfreithiol a gwleidyddol, ac mae Ffrainc yn annhebygol o gydsynio â hynny, sy'n golygu, os bydd Llafur yn galw—fel yr adroddir yn awr—am oedi byr yn unig, byddai hynny'n gwneud gadael yr UE mewn 11 diwrnod heb gytundeb yn ganlyniad tebygol iawn.

Weinidog, mae eich sefyllfa'n afresymegol, yn afreolaidd ac yn anghyfrifol. Ac rwy'n meddwl tybed a ydych o ddifrif ynghylch cynnig strategaeth synhwyrol allan o'r llanastr hwn, neu ai gwir nod Llafur yma yw gweithredu strategaeth tir llosg, drwy hwyluso Brexit 'dim bargen' trychinebus fel modd o roi Jeremy Corbyn mewn grym. Mae Plaid Cymru yn hollol glir ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd yn awr. Dylid ymestyn erthygl 50 am 21 mis fel y gellir cynnal refferendwm ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan fyddwn yn gwybod beth y bydd hynny'n ei olygu—rhwng pa gytundeb bynnag a negodir yn y cyfamser, ac aros yn yr UE. Byddai hyn yn osgoi'r bygythiad o drychineb 'dim bargen', ac yn caniatáu amser i roi trefn ar y llanastr hwn, unwaith ac am byth, fel y mae Mr Gething yn amlwg yn ei ddeall. Ddoe, cyhuddodd Prif Weinidog Cymru Lywodraeth y DU o fethu darparu

unrhyw arweiniad, cyfrifoldeb cyfunol nac unrhyw reolaeth

dros Brexit. Weinidog, a yw'r un peth yn wir am eich Llywodraeth chi?

14:35

Wel, fe wnaf y pwynt yn glir i'r Aelod eto: yr hyn a ddywedais y bore yma wrth Lywodraeth y DU mewn cynhadledd ffôn yw bod angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn edrych ar y cwestiwn hwn. Mae'r hyn a wnânt yn gwbl anghyfrifol. Os mai 30 Mehefin yw graddau'r estyniad, i'w ystyried gan yr UE—. Gyda llaw, wrth inni sefyll yma heddiw, nid yw'n glir fod hynny'n dderbyniol i'r Undeb Ewropeaidd hyd yn oed, felly gadewch i ni beidio â bod yn ddifater ynghylch y posibilrwydd o adael heb gytundeb ddiwedd yr wythnos nesaf. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni barhau i ganolbwyntio arno. Ond os mai dyna yw maint yr estyniad sydd ei angen, mae'n sicr yn bosibl ailnegodi datganiad gwleidyddol yn y ffrâm amser honno. A phe baem yn gwneud hynny, byddem yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r egwyddorion y mae ei phlaid hi hefyd wedi'i gefnogi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a chredaf yn gryf, ac mae Llywodraeth Cymru'n credu bod mwyafrif o blaid hynny yn y Senedd ac yn sicr, ceir brwdfrydedd o blaid hynny yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel y dywedais, ac fel y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud dro ar ôl tro: os nad yw hynny'n bosibl, byddai angen refferendwm arall i ddatrys yr anghytundeb hwnnw.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, bellach mae Prif Weinidog y DU wedi gwneud cais ffurfiol i'r UE i ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE tan 30 Mehefin, ond a fyddai'n cytuno nad penderfyniad gwleidyddol yn unig yw'r penderfyniad sydd i'w wneud, ond bod iddo oblygiadau cyfreithiol hefyd, ac mai'r cyngor a dderbyniodd y Comisiwn Ewropeaidd, os caniateir y DU i ymestyn ei haelodaeth y tu hwnt i 22 Mai, yw y bydd yn ofyniad cyfreithiol felly fod Prydain yn cymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop? Ac o gofio bod 148 o etholaethau Llafur wedi pleidleisio dros adael yn y refferendwm a dim ond 84 wedi pleidleisio dros aros, a yw'n ddigynnwrf ynghylch y posibilrwydd hwnnw?

Yn sicr, mae'r cwestiwn ynghylch goblygiadau cyfreithiol estyniad yn un ystyriaeth y gwn ei bod yn fyw ym meddyliau partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn amlwg, mae yna bwynt pan fydd cyfansoddiad y Senedd newydd ar ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf, yn peri newid sylweddol iawn yn yr amgylchedd. A cheir pryderon, rwy'n credu, ynglŷn ag os yw'r DU yn aelod y tu hwnt i'r pwynt hwnnw heb fod wedi ethol Aelodau o Senedd Ewrop, gallai fod her i gyfansoddiad y Comisiwn newydd ac ati, sy'n teimlo i mi fel risg y byddent yn gyndyn iawn i'w chreu yn ymarferol. Felly, ceir cyfyngiadau go iawn i'r cwestiwn y buom yn ei drafod dros y 10 neu 15 munud diwethaf ynglŷn â'r estyniad a allai fod yn bosibl.

Pa gyngor a roddodd i Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn? Ai ei farn gyfreithiol os yw aelodaeth Prydain yn ymestyn y tu hwnt i 22 neu 23 Mai, yw y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i gymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop a fydd yn digwydd ym mhob un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE ledled Ewrop?

Wel, nid wyf yn ateb cwestiynau yn rhinwedd fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, ond rwyf am ddatgan y fraint rwy'n tueddu i beidio â'i defnyddio fel arfer a hoffwn ei atgoffa nad wyf yn datgelu cyngor a roddaf i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ateb nad yw'n cynnig unrhyw oleuni, wrth gwrs. Ond os caf ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnodd Lynne Neagle yn gynharach am effaith 'dim bargen' ar y diwydiant modurol yn ei hetholaeth hi, fel yr honnodd hi beth bynnag, a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi gweld heddiw, yn wir, fod Toyota wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i ddechrau cynhyrchu cenhedlaeth newydd o geir hybrid yn eu ffatri yn Swydd Derby y flwyddyn nesaf, er gwaethaf y dirywiad yn y diwydiant ceir yn fyd-eang, ac y bydd y ceir hyn a gaiff eu hadeiladu ar gyfer Suzuki hefyd yn defnyddio injans a gynhyrchir yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy yng Nghymru—y cyfan er gwaethaf Brexit, wrth gwrs? Yn y cyfamser, mae Ford hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn torri 5,000 o swyddi yn yr Almaen, sydd, wrth gwrs, â dim i'w wneud â Brexit, ac felly, beth sy'n digwydd yn y byd, yn sicr yn y byd modurol, yw bod y platiau tectonig yn newid a bod Ewrop, yn ei chyfanrwydd, yn mynd i ddioddef yn sgil ei dibyniaeth ar or-reoleiddio ac agweddau amddiffynnol mewnblyg, a phe baem ni ar y tu allan i'r gyfundrefn tollau a'r tariff allanol cyffredin, byddai gennym gyfle i fanteisio ar yr 85 y cant o'r economi fyd-eang nad yw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n ehangu, yn wahanol i'r Undeb Ewropeaidd, sy'n crebachu'n economaidd.

Wel, rydym yn byw mewn economi fyd-eang, sy'n newid yn drawiadol iawn. Dyna'r union bwynt. Dyna pam y credwn bod y farn sydd gan yr Aelod ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb yn arbennig o drychinebus. Ar adeg pan fo pawb ohonom yn rheoli newid byd-eang, byddai ceisio'r math o newid trawmatig y mae ef yn ei argymell yn gwbl anghyfrifol. Lle bu—[Torri ar draws.] Lle bu enghreifftiau o fuddsoddi, fel y noda, maent yn deillio o waith dygn gan Lywodraeth Cymru, gan Ysgrifennydd yr economi, dros gyfnod hir o amser i sicrhau bod cwmnïau'n deall lefel yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w wneud i gyflogwyr sylweddol yng Nghymru. A'r gwaith paratoi hwnnw yw'r union waith y mae angen iddo ddigwydd a pharhau i ddigwydd ar draws y DU er mwyn inni sicrhau bod effeithiau aflonyddgar Brexit yn cael eu lleihau, a lle gallwn annog busnesau i fuddsoddi, ein bod yn gallu gwneud hynny.

14:40
Blaenoriaethau Allweddol yn y Cyfnod cyn Brexit

3. Beth yw blaenoriaethau allweddol y Cwnsler Cyffredinol yn y cyfnod cyn Brexit? OAQ53597

Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn parhau'n ddigyfnewid. Rhaid i Lywodraeth y DU gael gwared ar 'dim bargen' ymyl dibyn a cheisio perthynas agos â'r UE a nodwyd gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda chyfranogiad mewn undeb tollau a'r farchnad sengl ynghyd ag aliniad deinamig â safonau cymdeithasol ac amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â'i safonau ar gyfer y farchnad lafur.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ond rwyf am droi at flaenoriaeth arall. Ar Question Time ar y BBC yr wythnos diwethaf a nos Sul ar raglen Wales Live y BBC ac mewn sgyrsiau ar y strydoedd ac yn y caffis a'r tafarndai a chlybiau ledled Cymru ac â theuluoedd a chymdogion ac ar y cyfryngau gwrth-gymdeithasol, yn aml ceir agwedd fwy llym, mwy creulon a gwirioneddol afiach weithiau i'r ddadl ynghylch Brexit. Nawr, fel y gwelwn yma heddiw yn y Siambr, gwyddom fod angerdd yn perthyn i ddadl o'r fath pan fo cymaint yn y fantol, ond gallwch deimlo a chyffwrdd â'r dicter y mae pobl ar bob ochr i'r ddadl yn ei deimlo bellach—y rhai sy'n awyddus iawn i weld Brexit, y rhai sy'n awyddus iawn i osgoi ymyl dibyn, y rhai sy'n awyddus iawn i weld ail refferendwm. Mae'n deg dweud bod rhai i'w gweld yn hapus i gefnogi'r posibilrwydd o anghydfod sifil, sy'n gwbl anghyfrifol yn fy marn i ac yn drosedd yn ôl pob tebyg. Byddwch yn ofalus ynglŷn â'r hyn a ddymunwch.

Yn y wlad hon ac yn y DU, rydym yn datrys y materion hyn drwy ddulliau democrataidd, oherwydd, er mor ddiffygiol yw ein holl ddemocratiaethau, maent yn well o lawer na dewisiadau eraill fel anarchiaeth neu unbennaeth. Felly, fy nghwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol, a thrwyddo ef, i'r Llywodraeth gyfan, yw hwn: beth bynnag fo canlyniad yr wythnosau a'r misoedd nesaf, beth allwn ni a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i atgyweirio'r rhaniadau cyrydol sydd wedi agor bellach yn ein cymunedau, i iachau'r berthynas a ddifrodwyd rhwng yr etholedig a'r  etholwyr ac i ailadeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol yng Nghymru y gall pawb ohonom ei chefnogi? Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen y weledigaeth, yr uchelgais a'r arweinyddiaeth a all uno holl bobl Cymru.

Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn hynod bwysig, os caf ddweud. Credaf fod y dadleuon ynghylch Brexit yn aml yn cymryd un o ddau lwybr gwahanol, onid ydynt? Un yw gwleidyddiaeth uchel yr hyn sy'n digwydd yn y Senedd, beth sy'n digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd; a'r llall yw'r cwestiwn o baratoi ar gyfer canlyniadau gwahanol ac agweddau ymarferol ym mywydau bob dydd pobl ynglŷn â'r hyn sydd angen iddynt ei wneud, os ydynt yn rhedeg busnesau ac ati, i edrych ar hynny. A'r darn sy'n aml ar goll yw'r darn yn y canol sy'n disgrifio'r math o wlad rydym am fod ar ei ddiwedd, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom oll mewn swyddi arweiniol ag iddynt amlygrwydd cenedlaethol i gyfrannu at y darlun o ran sut yr hoffem i Gymru fod ar ôl Brexit.

Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r agwedd ymarferol. Felly, mae'r Llywodraeth yn rhoi cyllid tuag at gefnogi cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol ledled Cymru, sy'n darparu ymyriadau ymarferol i leddfu pryderon, yn aml iawn, ar y pwynt hwn. Rydym wedi rhyddhau arian ar gyfer rheoli mentrau rhagweld troseddau casineb ac ati—felly, y pethau ymarferol. Ond hefyd ceir her arweiniad cenedlaethol i bob un ohonom, onid oes, i wneud yn siŵr ein bod yn ceisio cynnal y ddadl mewn ffordd sy'n dangos parch ac yn cydnabod y gall angerdd a theyrngarwch fod yn ddwfn, ond hefyd ein bod bob amser yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr fod pawb sy'n byw yng Nghymru neu sydd am ddod i Gymru yn cydnabod ein bod, nid yn unig yn gymdeithas gynhwysol ond ein bod yn dathlu'r gwerth hwnnw fel elfen sylfaenol o'r hyn ydym fel cenedl.

Ni allwn gytuno mwy â'r teimladau a fynegwyd gan yr Aelod dros Ogwr. Nid oes yr un ohonom eisiau gweld sefyllfa o aflonyddwch sifil yn digwydd. Mewn ymateb i'r cwestiynau gan lefarydd y Ceidwadwyr, y credwn eu bod yn ddilys iawn, er tegwch, gallwn ddadlau ynghylch beth sy'n digwydd ar ben arall yr M4, ond cwestiynau'r Cynulliad yw'r rhain, a'r bore yma mae dau safbwynt wedi datblygu o fewn Llywodraeth Cymru, a chi yw Gweinidog Brexit, ac mae'n bwysig ein bod yn deall pa un yw'r safbwynt yr ydych chi fel Gweinidog Brexit yn ei gefnogi. A ydych yn cefnogi safbwynt Prif Weinidog Cymru, fel y'i nodwyd ddoe, y byddai ail bleidlais yn creu rhwyg, neu a ydych yn cefnogi'r Ysgrifennydd iechyd, sy'n dweud mai ail bleidlais yw'r hyn sydd ei angen, a geilw'r Aelod dros Flaenau Gwent hynny'n 'arweinyddiaeth egwyddorol'? Oherwydd os ydych yn darllen y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd iechyd heddiw, mae'n procio'r Prif Weinidog i'w ddiswyddo o'r Llywodraeth oherwydd mae'n dweud nad yw'n siŵr a fydd yn y Llywodraeth ai peidio os yw'n cyflawni ei weithred ddydd Sadwrn. Felly, a allwch egluro heddiw pwy sy'n iawn—Prif Weinidog Cymru neu'r Ysgrifennydd iechyd? Mae'n gwestiwn eithaf syml.

14:45

Amlinellodd y Prif Weinidog bolisi Llywodraeth Cymru ddoe ac fe wnaf ei ailadrodd eto os nad yw'r Aelod yn glir beth ydyw. Mae'r Ysgrifennydd iechyd wedi dweud ei fod yn cefnogi refferendwm arall. Mae hynny'n rhan o safbwynt polisi Llywodraeth Cymru: os na allwn gael y cytundeb y buom yn dadlau drosto, refferendwm yw'r ffordd o ddatrys yr anghytundeb hwnnw.

Felly, rydych yn dweud bod Prif Weinidog Cymru yn anghywir.

Dyfodol Cymwysterau Safonol yn Ewrop

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch dyfodol cymwysterau safonol yn Ewrop? OAQ53590

Mae'r Gweinidog Addysg yn llwyr gefnogol i ailgyfeirio cyfredol fframwaith credydau a chymwysterau Cymru i'r fframwaith cymwysterau Ewropeaidd ochr yn ochr â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, er mwyn sicrhau cymharedd a chludadwyedd parhaus cymwysterau, ac er mwyn hwyluso symudedd dysgwyr a cheiswyr gwaith i ac o Gymru.

Rwy'n cytuno'n gyfan gwbl. Mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r hyn yr oeddwn am ei ddweud ar hynny—fod angen inni wneud yn siŵr fod gan bobl gymwysterau cyfwerth, y gall pobl symud o wlad i wlad er mwyn cyflawni gwaith medrus a bod y cymwysterau'n cael eu trin yn gyfartal. Mae hynny'n hynod o bwysig. Sut y mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r Gweinidog Addysg neu'r Llywodraeth yn San Steffan, yn mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd? Hynny yw, ni allwn fod yn sicr ein bod yn mynd i gadw'r holl enwau bwyd daearyddol sy'n cael eu diogelu ar ôl inni ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn gobeithio y bydd yn digwydd; ni allwn warantu y byddwn yn eu cadw. Ni allwn warantu y byddwn yn eu cadw os gwnawn gytundebau ag Unol Daleithiau America. Ond y pwynt rwy'n ceisio ei wneud yw: sut y gallwn warantu bod ein cymwysterau—câi cymwysterau City & Guilds eu hystyried ymhlith y gorau yn y byd gan lawer iawn o bobl—yn dal i gael eu hystyried yn Ewrop fel rhai cyfwerth â chymwysterau Ewropeaidd?

Wel, ar hyn o bryd, mae Cymwysterau Cymru yn gweithio ar adroddiad mewn perthynas â hyn. Fe'i cyflwynir i'r Gweinidog Addysg, y gwn y bydd yn gwneud cyhoeddiadau ar y pwynt hwnnw. Credaf fod bwriad ar hyn o bryd i gyhoeddi'r adroddiad terfynol dros yr haf. Ond o ran y trefniadau yn y dyfodol, yn amlwg mae hyn yn rhan o'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, fel gyda llawer o'r pethau hyn, mae'n dibynnu a oes cytundeb ai peidio. Yn amlwg, yng nghyd-destun cytundeb, mae yna fframwaith y gellir ei barhau yn y tymor byr fan lleiaf. Mewn senario 'dim bargen', mae'n fater o sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion yr aelod-wladwriaeth unigol mewn perthynas â chydnabyddiaeth i gymwysterau, ac rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno y byddai honno'n sefyllfa y byddem eisiau gallu ei hosgoi am y rhesymau sy'n sail i gwestiwn yr Aelod.

Hoffwn ddod at hyn o'r ochr arall, os caf, oherwydd, ar hyn o bryd wrth gwrs, gall athro neu athrawes wedi cymhwyso sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd weithio yma heb fod angen unrhyw hyfforddiant pellach, ond yn y bôn, mae angen i athrawon sydd wedi cymhwyso o rannau eraill o'r byd ailhyfforddi. Pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna gwestiwn gwirioneddol yn codi wedyn ynglŷn ag a fydd yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn athrawon wedi cymhwyso o wledydd eraill. Rwy'n meddwl tybed beth fyddai eich barn ar hyn ac a fyddwch yn siarad gyda'r Gweinidog Addysg, efallai, am yr angen i adolygu'r sefyllfa honno, yn enwedig o ystyried y cwricwlwm newydd, lle gallai cymwysterau'r athrawon eraill hynny o dramor fod yn fwy perthnasol nag y maent ar hyn o bryd?

Mae'n amlwg yn waith arwyddocaol mewn perthynas â chyfansoddiad cymwysterau gweithlu'r sector cyhoeddus ledled Cymru yn gyffredinol, gan gynnwys y sector addysg, a dyna oedd sail llawer o'r sylwadau a gyflwynwyd gennym yng nghyd-destun Brexit yn enwedig i Lywodraeth y DU a thu hwnt. Ond mae hwn yn faes lle mae gwaith yn bendant ar y gweill ar hyn o bryd. Gwn fod y Gweinidog Addysg yn gweithio ar y cwestiynau hyn ar hyn o bryd.

14:50
Cyllid Strwythurol yr UE

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad am ddyfodol cynlluniau sydd bron â chael eu cwblhau ac sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid strwythurol yr UE? OAQ53617

Mae’r cyfnod cyflawni ar gyfer prosiectau sy’n cael eu hariannu drwy raglenni presennol cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, fel y gwyddoch chi, yn 2023, felly rydyn ni tua hanner ffordd i gyflawni’r rhaglenni. Felly, mae’r rhan fwyaf o’r prosiectau yn dal i fynd yn eu blaen ar hyn o bryd.

Mae yna gryn bryder am ddyfodol prosiect arloesol Ffarm Moelyci yn fy etholaeth i. Mae ymddiriedolaeth Cwm Harry dros ddwy flynedd i mewn i brosiect tair blynedd sy’n cael ei arwain gan brifysgol yn yr Almaen fel rhan o raglen INTERREG, sy’n cynnwys 11 partner mewn pump o wledydd yn Ewrop. Mae’r prosiect wedi archebu peiriant prosesu biomas mawr ac ar fin gwario degau o filoedd o bunnau yn yr economi leol. Fel yr oeddech chi’n ei ddweud, mi oedd yna addewid y byddai prosiectau sydd wedi cael eu cymeradwyo yn cael arian petai Brexit yn digwydd. Ond mae Cwm Harry yn dweud wrthyf fi fod yr holl brosiect ym Moelyci o dan gwmwl oherwydd maen nhw wedi cael ar ddeall nad ydy’r sicrwydd yna ddim yno bellach. A fedrwch chi roi eglurder am y sefyllfa? Oes yna brosiectau eraill dan fygythiad, a beth fedrwch chi fel Llywodraeth ei wneud i helpu?

Diolch am y cwestiwn pellach hwnnw. Rwyf yn gwybod bod yr Aelod wedi ysgrifennu’n benodol ataf i ynglŷn â’r cwestiwn penodol hwnnw. Mae'r swyddogion ar hyn o bryd yn edrych mewn i fanylion y sefyllfa honno, a byddaf i’n ysgrifennu nôl atoch chi maes o law am hynny’n benodol.

Ond yn fwy cyffredinol, yng nghyd-destun gadael heb gytundeb, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnig garantî o ariannu unrhyw brosiect sydd wedi cael ei gadarnhau cyn diwedd y flwyddyn nesaf, ac felly bydd cyfle i wario y tu hwnt i hynny tuag at 2023. Felly, mewn egwyddor, petasem ni’n gadael heb gytundeb neu gyda chytundeb, dylai fod dim newid o fewn y trefniadau presennol i’r rheini sydd yn barod yn derbyn arian o fewn cyfnodau y rhaglenni sydd wedi cael eu derbyn yn barod.

Mae trafodaethau ar hyn o bryd yn digwydd rhwng y Llywodraeth yma, rhwng y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r manylion sut mae’r garantî hynny’n gweithio yn ymarferol. Un o’r pethau rŷn ni’n sicr eisiau sicrhau yw bod yr un hyblygrwydd yn perthyn i’r ymroddiad dros gyfnod o flynyddoedd ag sy’n berthnasol ar hyn o bryd. Ond o ran yr hyn mae’r Aelod yn gofyn amdano’n benodol, rwyf yn hapus i ateb y llythyr sydd eisoes wedi’i anfon ataf.

Gweinidog, dwi’n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod prosiectau yn sir Benfro sydd wedi derbyn arian Ewropeaidd yn brosiectau amrywiol sydd yn amrywio’n enfawr, o fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc a chefnogi arloesedd arbenigol ymhlith busnesau bach, i brosiectau seilwaith ac ehangu’r diwydiant twristiaeth. Mae'n bwysig bod unrhyw raglenni ariannu olynol yn galluogi cymunedau i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau gwario. Ond a all y Gweinidog gadarnhau y bydd unrhyw gynlluniau newydd yn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu at feysydd penodol, neu a oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth benodol mewn golwg i ailffocysu ar agweddau eraill o bolisi cyhoeddus?

Wel, diolch i’r Aelod am y cwestiwn hynny a'r gydnabyddiaeth bod cymunedau ar draws Cymru wedi manteisio ar ariannu o’r Undeb Ewropeaidd dros ein cyfnod fel Aelodau. Mae’r cyfraniad i’n heconomi a’n cymdeithas ni, a sectorau ar draws Cymru, o’r arian hyn wedi bod yn bwysig iawn. O ran yr hyn a ddigwyddith yn y dyfodol, mae cwestiwn ar hyn o bryd o beth yw ymroddiad a phenderfyniadau’r Llywodraeth yn San Steffan ar hyn. Rŷn ni, wrth gwrs, fel bydd yr Aelod yn gwybod, yn gwasgu am ymroddiad penodol y bydd y penderfyniadau ar y math o gynlluniau yma’n dal i gael eu cymryd yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac na fydd llai o arian ar gael ar gyfer hynny. Er gwaethaf pwyso am hynny ers amser ar bob cyfle rŷn ni’n ei gael, dyw’r ddau addewid hynny ddim wedi cael eu rhoi yn ddiflewyn ar dafod. Felly, mae’r cwestiwn yna’n dal yn un rŷn ni’n gwthio amdano fe.

Ond, wrth gwrs, mae’r cwestiwn o gefnogaeth ranbarthol ychydig yn ehangach na hynny—y shared prosperity fund mae’r Llywodraeth San Steffan yn ei alw fe. Mae amryw o ffynonellau eraill, felly mae’r cwestiwn o beth ddaw yn olynol ar hyn o bryd o dan ystyriaeth. Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu pwyllgor llywio, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, sy’n edrych ar delivery mechanisms ar gyfer y dyfodol—yr union fath o gwestiwn mae'r Aelod yn ei ofyn: sut y gallwn ni ddelifro pethau ar lawr gwlad mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol? Efallai ei fod e hefyd yn gwybod bod y Llywodraeth wedi comisiynu prosiect o'r OECD sy'n edrych ar sut mae hyn yn digwydd mewn gwledydd eraill a chael arfer orau rhyngwladol er mwyn inni gael tystiolaeth, o dan y strwythur, ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol. Bydd rhan o'r gwaith hwn yn adrodd eleni a rhan, rwy'n credu, y flwyddyn nesaf.

14:55
Paratoadau Brexit Llywodraeth Leol

6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o baratoadau Brexit llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ53605

Fe gafodd y Prif Weinidog, Gweinidogion eraill a finnau gyfarfod gydag arweinwyr llywodraeth leol ym mis Ionawr i weld sut oedd awdurdodau lleol yn paratoi ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ym mhob sefyllfa bosib. Mae cyfarfodydd eraill wedi bod rhwng Gweinidogion ac arweinwyr yr wythnos hon. Rhaid i awdurdodau lleol, ar ben hyn, hefyd asesu eu paratoadau eu hunain. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, wedi asesu’r sector cyhoeddus yn gyffredinol. 

Yn ddiweddar ysgrifennais at nifer o awdurdodau lleol yn gofyn iddynt am fanylion eu cynlluniau Brexit, ac yn arbennig, pa asesiad yr oeddent wedi'i wneud o effaith Brexit 'dim bargen' ar eu gwariant, eu darpariaeth o wasanaethau a materion perthnasol eraill. Mewn ymateb, dywedodd un cyngor wrthyf, a dyfynnaf yn uniongyrchol, mai'r ateb byr yw,

dim, neu ddim o unrhyw sylwedd o leiaf.

Mae cynghorau eraill ar gam mwy datblygedig, gyda chabinetau eisoes wedi derbyn ac wedi trafod adroddiadau Brexit, fel y dywedwch. Felly a ydych yn pryderu bod rhai awdurdodau lleol i'w gweld ar ei hôl hi? Pa fecanweithiau monitro sydd gennych ar waith? Ar yr adeg hwyr hon, pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol mor barod ag y gallant fod?

Wel, dyna gwestiwn da iawn. Wrth gwrs, roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod y gwaith yr oeddent wedi'i wneud ddiwedd y llynedd yn dangos rhywfaint o amrywioldeb rhwng awdurdodau lleol. Rhaid imi ddweud, nid wyf yn siŵr mai dyna yw'r darlun yn awr, felly rwy'n bryderus i glywed yr ymateb hwnnw y cyfeiriodd yr Aelod ato.

Mae yna nifer o heriau yma. Drwy gronfa bontio'r UE, rydym wedi darparu arian i gronfeydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—symiau cymharol fach, a bod yn onest—ar gyfer darparu rhyw fath o rannu arferion gorau ac i ddatblygu pecyn cymorth fel bod awdurdodau unigol yn gallu asesu drostynt eu hunain pa mor barod ydynt, ac mae honno'n wybodaeth gyhoeddus o ran y dangosfyrddau a roesant at ei gilydd.

Mewn perthynas ag adnoddau awdurdodau unigol, cyhoeddodd y Gweinidog llywodraeth leol ragor o arian yr wythnos diwethaf i bob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn cynyddu eu capasiti o ran parodrwydd ar gyfer paratoadau Brexit yn gyffredinol. Yn y pen draw mae'n gwestiwn i awdurdodau lleol fodloni eu hunain yn ei gylch wrth gwrs, ond o gadw mewn cof yr hyn a nododd Swyddfa Archwilio Cymru yn yr adroddiad hwnnw, un o'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd mewn ymateb i hynny yw cefnogi gweithgareddau rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r academi i adeiladu capasiti ar gyfer craffu ar y penderfyniadau gwleidyddol a wneir mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Roedd ei gwestiwn yn ymwneud â gweithrediadau, ond roedd hefyd yn ymwneud ag arweiniad gwleidyddol a chraffu gwleidyddol. Mae sioeau teithiol wedi'u cynnal, neu ar fin cael eu cynnal ar gyfer awdurdodau yn Abertawe ac mewn dau leoliad arall—fe atgoffaf fy hun o'r ddau leoliad arall—ac maent ar y gweill ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gobeithio'n fawr y bydd hynny'n cynyddu capasiti'r rhai sy'n craffu ar benderfyniadau gwleidyddol mewn llywodraeth leol ynghylch y penderfyniadau hyn.

Efallai mai'r enghraifft de facto orau o baratoadau llywodraeth Leol ar gyfer Brexit yng Nghymru yw bargen twf gogledd Cymru a chais twf gogledd Cymru, yn seiliedig ar gyllid uniongyrchol ac anuniongyrchol gan y ddwy Lywodraeth, ond hefyd datganoli mewnol i fod yn gyfwerth â'r hyn a ddatganolwyd gan Lywodraeth y DU i Bwerdy Gogledd Lloegr. Deallwyd y byddai penawdau telerau'n cael eu cytuno rhwng y Llywodraethau a'r bwrdd twf erbyn diwedd mis Chwefror, ond ni chlywyd dim yn gyhoeddus ers hynny. A allwch roi'r newyddion diweddaraf, felly, ar y sefyllfa bresennol yn hynny o beth?

Mae arnaf ofn na allaf wneud hynny, ond fe ysgrifennaf at yr Aelod ynglŷn â hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Masnach rhwng Cymru a Iwerddon

7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn Iwerddon ynghylch effaith unrhyw setliad Brexit ar fasnach gyda Chymru yn y dyfodol? OAQ53619

Rwyf wedi trafod pwysigrwydd cynnal masnach ddilyffethair rhwng Cymru ac Iwerddon gyda Gweinidogion o Weriniaeth Iwerddon, gan gynnwys yn y cyfarfod diwethaf o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gobeithiaf yn fawr iawn y caf gyfarfod â fy swyddog cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon i adeiladu ar y berthynas agos sy'n bodoli'n barod rhwng Cymru ac Iwerddon.

15:00

Darllenais fod yna besimistiaeth enfawr ar y ddwy ochr i ffin Iwerddon, ac rwy'n bryderus ynglŷn ag edrych gyda chi beth allai'r effaith bosibl fod ar ein masnach ag Iwerddon oherwydd gwyddom ein bod yn allforio gwerth dros £1 biliwn o nwyddau i Iwerddon, a daw'r rhan fwyaf o allforion Iwerddon drwy Abergwaun, Penfro a Chaergybi i rannau eraill o Ewrop. Felly, mae honno'n un agwedd enfawr ar y sefyllfa, ei bod yn anodd iawn deall sut y bydd y cyfan yn gweithio, o gofio bod 'dim bargen' yn bosibilrwydd, neu gytundeb ateb cyflym, cytundeb swyddi a'r economi, neu os yw'r cyhoedd yn penderfynu peidio â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn hynod bwysig ein bod yn parhau i gynnal perthynas fasnach dda a chysylltiadau eraill da gyda'n cymydog agosaf. Roeddwn yn meddwl tybed pa mor anodd yw hynny, o gofio ei bod yn ymddangos nad oes gan Lundain fawr o syniad lle mae Cymru nac Iwerddon.

Wel, mae'r cwestiwn yn ymwneud ag ansicrwydd mewn perthynas â'r hyn a fydd yn digwydd nesaf, a dyna, yn amlwg,yw'r cyd-destun cyffredinol ar gyfer yr holl drafodaethau a'r holl fyfyrio. Roeddwn yng Nghaergybi ychydig wythnosau yn ôl, yn siarad â'r awdurdodau porthladd yno. Yn amlwg, un o'r newidynnau mwyaf yn yr hyn a fydd yn digwydd iddynt ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd yw'r ymateb yn Nulyn, yn y porthladd yno, o ran seilwaith ac archwiliadau'r ffin ac ati. Mae hwnnw'n fater o bwys, fel y mae'r cwestiwn yn amlwg yn ei gydnabod.

Wrth gwrs, mae yna ddimensiynau eraill i hyn. Fel y soniais yn fy ymateb i gwestiwn cynharach, gwelsom gyhoeddi cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer tariffau pe baem yn cael Brexit 'dim bargen' ac mae iddynt ddimensiwn sy'n effeithio ar fasnach ag Iwerddon, yn benodol mewn perthynas â mewnforion cig eidion, ac mae'r polisi hwnnw, wrth gwrs, hefyd yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau na fydd unrhyw archwiliadau tollau ar y ffin â'r Weriniaeth, sy'n awgrymu i mi nad yw'n drefniant hirdymor cynaliadwy mewn cyd-destun lle nad oes perthynas dollau ehangach fel arall, ac wrth gwrs, gall fod yn her bosibl i ni yma yng Nghymru. Os yw'n haws cludo nwyddau o'r Weriniaeth i Ogledd Iwerddon heb dariffau ac oddi yno i Brydain, gall hynny fod yn her i'r llwybr masnach uniongyrchol o Iwerddon i Gymru. Felly, credaf fod angen i'r dimensiynau hyn fod—. Ceir llawer o ganlyniadau anfwriadol i rai o'r penderfyniadau polisi hyn, felly rydym yn effro iawn i rai o'r heriau posibl a allai ein hwynebu yn y cyd-destun hwnnw.

O ystyried adroddiadau bod Grŵp Protest a Gweithredu Uniongyrchol Brexit, a arweinir gan ffigurau a gymerodd ran ym mhrotestiadau tanwydd 2000, yn bygwth amharu ar fasnach Iwerddon drwy yrru'n araf ar yr A55 ddydd Gwener a gwarchae yng Nghaergybi a Doc Penfro ddydd Sadwrn, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cyn lleied o aflonyddu â phosibl?

Gwn fod y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymwneud â'r mater hwn eisoes mewn perthynas â'r pryderon a godwyd gan yr Aelod.

Diogelu Gwasanaethau Iechyd a Gofal rhag Effaith Brexit heb Gytundeb

8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch trefniadau i ddiogelu gwasanaethau iechyd a gofal rhag effaith Brexit heb gytundeb? OAQ53623

Cynhaliwyd trafodaethau rheolaidd ar bob agwedd ar gynllunio ar gyfer Brexit 'dim bargen', sy'n cynnwys Gweinidogion, swyddogion Llywodraeth Cymru, ac arweinwyr sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Cafwyd ymgysylltu rheolaidd hefyd â phartneriaid allweddol a Llywodraethau ar draws y DU.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae gennyf bryderon penodol ynglŷn â'r gweithlu gofal a chanran y staff a gyflogir mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, byddant yn cael caniatâd i aros, ond mae yna gwestiynau gwirioneddol o ran y croeso y byddant yn ei deimlo a ph'un a fyddant yn dewis parhau i wneud hynny, yn enwedig ar ôl Brexit 'dim bargen' a'r amgylchedd gelyniaethus posibl y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato yn gynharach.

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â sut y gallwn roi sicrwydd i'r rhan hon o'r gweithlu y bydd croeso mawr iddynt yma yng Nghymru o hyd, ond hefyd ynglŷn â'r posibilrwydd o recriwtio o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd os oes rhaid, mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a chydlynol nag a wnaethom yn y gorffennol? Yn y gorffennol, cawsom wahanol fyrddau iechyd yn mynd, er enghraifft, i Ynysoedd y Philipinos i recriwtio nyrsys a chystadlu yn erbyn ei gilydd, ac nid yw hynny i'w weld yn gwneud llawer o synnwyr. Felly, a yw'n gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw fod yna feddwl hirdymor ar waith ynglŷn â sut y diogelwn y gweithlu gofal, yn enwedig, o ran sicrhau, fel y dywedais, fod y bobl sydd gyda ni ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael croeso, ond hefyd o ran meddwl sut y gallai fod angen i ni gael gweithwyr yn eu lle os bydd Brexit caled yn digwydd?

15:05

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg mae'n bwynt pwysig iawn.

O ran y gweithlu gofal cymdeithasol yn gyffredinol, mae cyfansoddiad y gweithlu hwnnw, yn amlwg, wedi bod yn un o'r problemau y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi canolbwyntio arnynt. Rydym wedi cyflawni gwaith ymchwil i ganfod beth yw'r lefelau cyflogaeth tebygol o fewn y sector o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, maent yn weddol sylweddol. Mae'n un o'r sectorau lle rydym, yn fy nhrafodaethau uniongyrchol gyda chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, ac yn y sylwadau ffurfiol y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud i Lywodraeth y DU, wedi nodi problem y gweithlu gofal cymdeithasol fel un sy'n galw am ddull penodol o weithredu o ran amddiffyniad drwy'r polisi mewnfudo. Nid yw'r cynigion presennol yn y Papur Gwyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyflwyno yn gwneud dim i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae hynny'n bwysig o safbwynt y gweithlu, ond mae hefyd yn bwysig o safbwynt cynaliadwyedd y gweithlu ac felly, darpariaeth gwasanaethau i bobl sy'n aml yn agored iawn i niwed.

Hefyd, mae trafodaethau'n mynd rhagddynt mewn perthynas â'r ffordd orau o sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gallu deall y mecanwaith ar gyfer ennill statws preswylydd sefydlog o dan gynnig Llywodraeth y DU. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod arian ar gael i Gymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar y cynlluniau ar gyfer cydnerthedd yn y gweithlu yn fwy cyffredinol yn y tymor hwy.

O ran sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol o'r UE yn teimlo bod croeso iddynt, yn sicr, mae hwnnw'n ddimensiwn hanfodol bwysig i hyn i gyd, ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn manteisio ar y cyfle hwn i'w gwneud yn gwbl glir i weithwyr, ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus, sy'n byw yma ac sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd, ein bod yn eu croesawu, ac y byddwn yn parhau i'w croesawu fel rhan bwysig o wasanaethau cyhoeddus Cymru a'r gymdeithas Gymreig.

Rheoli'r Broses o Ymadael â'r UE heb Gytundeb

9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gapasiti Llywodraeth Cymru i reoli'r broses o ymadael â'r UE heb gytundeb? OAQ53626

Er nad yw'n bosibl lliniaru effeithiau gadael heb gytundeb yn llwyr, rydym yn gwneud popeth a allwn i baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn. Mae staff ar draws y sefydliad wedi cael cyfarwyddiadau i flaenoriaethu'r gwaith hwn, ac rydym wedi llenwi 127 o swyddi ychwanegol sy'n gysylltiedig â Brexit, gyda 53 pellach i ddilyn.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol.

Nawr, tra ein bod ni yma, naw niwrnod sydd ar ôl cyn y dyddiad cyfreithiol rydym i fod i adael yr UE, ac eto nid ydym yn gwybod a fyddwn yn gadael yr UE gyda chytundeb, heb gytundeb, neu estyniad efallai. Ac rwy'n siŵr fod y llanastr rydym yn ei weld yn deillio o Lywodraeth anhrefnus yn San Steffan. Ond mae'n rhaid i chi, fel Llywodraeth Cymru, reoli'r llanastr hwnnw yma yng Nghymru. Nawr, rydych newydd ddweud bod gennych 124 o weithwyr ychwanegol, gydag oddeutu 50 arall y tu hwnt i hynny; a yw hynny'n mynd i fod yn ddigon ar gyfer dydd Gwener nesaf os byddwn yn gadael heb gytundeb? Beth fydd goblygiadau hynny i waith arall Llywodraeth Cymru? A allwn sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaethau y bydd pobl Cymru eu hangen ac yn parhau i fod eu heisiau yn dilyn Brexit heb gytundeb? Oherwydd, yn anffodus, o ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd, y llanastr rydym yn ei weld, mae hwnnw'n bosibilrwydd cryf iawn.

Wel, mae'r Aelod yn fy ngwahodd i ddweud, 'Peidiwch â phoeni, bydd popeth yn iawn ar y diwrnod', ac nid wyf am ddweud hynny, oherwydd nid ydym mewn sefyllfa i gynnig y lefel honno o sicrwydd. 

Mewn perthynas â pharodrwydd yn gyffredinol, rydym wedi bod yn ofalus i fod yn benodol ynglŷn â'r hyn y credwn yw'r sefyllfaoedd mewn perthynas â lefelau gwahanol o barodrwydd, oherwydd credaf mai dyna'r ffordd fwyaf defnyddiol o roi dealltwriaeth i bobl Cymru o'r hyn rydym yn ei wneud, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, a beth yw ein disgwyliadau, er enghraifft, os ydych yn berchennog busnes. Felly, rydym wedi ceisio bod yn benodol iawn mewn perthynas â'r cyngor rydym yn ei roi.

Ar fater adnoddau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, mae adnoddau'r Llywodraeth yn amlwg dan bwysau mewn perthynas â pharatoi ar gyfer Brexit. Mae hynny'n wir yng Nghymru; mae'n wir ym mhob rhan o'r DU, oherwydd mae hwn yn faich ychwanegol nad ydym, yn sicr yma yng Nghymru, yn ei groesawu. O fewn y cyd-destun o wneud hynny, rydym wedi bod yn recriwtio, fel y bydd yn gwybod yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y pwyllgor perthnasol, niferoedd sylweddol—yn amlwg, llawer llai nag mewn rhannau eraill o'r DU, am resymau amlwg. A yw hynny'n golygu cadw pobl rhag gwneud pethau pwysig eraill? Ydy. A fyddai'n well gennym beidio â gorfod gwneud hynny? Byddai. Ond yn y cyd-destun rydym ynddo, hyd nes y byddwn yn gwybod nad yw 'dim bargen' yn ganlyniad posibl—ac yn sicr nid ydym yn agos at hynny wrth i mi sefyll yma heddiw—bydd yn rhaid i ni barhau i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym i sicrhau ein bod yn gallu lliniaru eithafion gwaethaf 'dim bargen' lle gallwn geisio wneud hynny. Ond hoffwn bwysleisio i'r Aelod ein bod wedi bod yn glir nad yw'n bosibl lliniaru effaith 'dim bargen' yn gyfan gwbl yn y tymor byr na'r tymor hir.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf heddiw yn cael ei ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Joyce Watson.

Cwmni Adeiladu Dawnus

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? 288

Ie, diolch. Mae hwn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'r cwmni, i'r gweithlu, eu cleientiaid a chadwyn gyflenwi ehangach adeiladu yng Nghymru. Rydym yn barod i wneud popeth a allwn i gefnogi'r gweithwyr drwy waith tasglu rwyf wedi galw am ei sefydlu ar unwaith.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond rwy'n gofidio fwyaf am y gweithlu a'u teuluoedd, a'r rheini sydd ar eu colled drwy'r gadwyn gyflenwi gyfan. Mae'n rhaid ei fod yn gyfnod gofidus iawn iddynt. Hefyd, mae angen sicrhau bod unrhyw brentisiaid sydd wedi cael eu dal yn hyn i gyd yn cael eu cefnogi, ac mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi nodi eu bod yn barod i helpu, ac maent wedi helpu mewn sefyllfaoedd eraill tebyg.

Pan fo cwmni mawr fel Dawnus yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae'n rhoi busnesau lleol, llai o faint mewn perygl, a gallai gael effaith ddinistriol ar yr economïau lleol hynny. Gwyddom eu bod yn cyflogi 700 o bobl yn uniongyrchol, ac mae hwnnw'n nifer mawr ynddo'i hun, ond mae yna nifer bosibl sy'n llawer mwy o fewn yr ardal leol, fel rwyf newydd ei ddisgrifio. Nid niferoedd o bobl yn unig yw'r rhain, ond teuluoedd go iawn sy'n cael eu heffeithio gan y methiant hwn. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i'r holl gwmnïau a gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y newyddion gofidus hwn.

Hefyd, ar yr ochr arall i hyn, yn fy etholaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru, roedd Dawnus dan gytundeb i adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ar gyfer 360 o ddisgyblion ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer 150 o ddisgyblion yn y Trallwng, yn ogystal â'r ysgol newydd yn lle Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth. Roedd disgwyl i ysgol gynradd cyfrwng Saesneg y Trallwng gael ei chwblhau ym mis Medi eleni. Ond roeddent hefyd dan gytundeb yn fy ardal i ddarparu ffordd gyswllt Chimneys gwerth £1.1 miliwn a chynllun datblygu yn Abergwaun, ac mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i ohirio. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r diwydiant i sicrhau y bydd y prosiectau hyn a grybwyllais yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a'r rhai eraill a gontractiwyd i Dawnus, yn cael eu parhau'n llwyddiannus, fel y gallwn dawelu meddyliau'r bobl sy'n disgwyl i'r prosiectau hynny gael eu cyflawni, a'r rhai sy'n disgwyl cael eu cyflogi ganddynt?

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau ac ymuno â hi i gydymdeimlo'n ddwys â'r nifer fawr o bobl, y nifer fawr o deuluoedd yr effeithir arnynt gan y newyddion gofidus hwn, ac a fydd yn cael cymorth gan y tasglu? Mae gennym hanes profedig o gynnull tasgluoedd ar gyfer Virgin, Schaeffler, Tesco a busnesau eraill sydd wedi colli adnoddau dynol, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu dod o hyd i lawer o gyfleoedd gwaith mewn mannau eraill yn y sector.

Cododd yr Aelod nifer o bwyntiau pwysig, gan gynnwys dyfodol prentisiaid a busnesau a gâi eu cyflogi gan brosiectau amrywiol drwy'r gadwyn gyflenwi. Nawr, gallaf gadarnhau ein bod wedi ymgysylltu â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ac y byddwn yn gweithio gyda hwy i nodi lleoliadau newydd ar gyfer cynifer o'r prentisiaid â phosibl, fel y gallant gwblhau eu fframweithiau a mynd ymlaen i gael gwaith hirdymor cynaliadwy o fewn y sector.

Hefyd, gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig iawn pan ddywedodd nad de Cymru yn unig sy'n cael ei effeithio gan yr her hon, ond canolbarth Cymru a gogledd Cymru, y Gymru drefol a'r Gymru wledig yn ogystal. Felly, mae'r her yn un genedlaethol, a dyna pam y bydd y tasglu'n mynd i'r afael â hyn drwy ymyriadau ar draws y wlad os bydd angen.

Byddwn yn gweithio gyda'r gweinyddwr yn ogystal ag asiantaethau partner a'r sector preifat i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i bawb yr effeithiwyd arnynt. Byddwn hefyd yn gweithio gyda llywodraeth leol ar y nifer o raglenni ysgolion, cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau seilwaith i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei amddiffyn a'n bod yn gallu datblygu cynifer o'r prosiectau â phosibl drwy is-gontractwyr neu drwy drefniadau amgen. Mae hwn yn gyfnod gofidus iawn i lawer o fusnesau a llawer o deuluoedd, ond mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, wrth gwrs, yn barod i helpu lle bynnag y gallwn.

15:15

Diolch yn fawr am y sylw olaf hwnnw, oherwydd un o'r cwestiynau roeddwn am eu gofyn, wrth gwrs, oedd bod hyn yn wahanol i Tesco neu Virgin—mae hwn yn gwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddo, ac felly, drwy alluogi Dawnus i fodoli am ddwy neu dair blynedd arall, rhaid gofyn a ydych wedi caniatáu iddynt ymrwymo i rai cytundebau, yn sgil y ffaith bod y cwmni wedi'i ganiatáu i fodoli ac i ymrwymo i'r cytundebau hynny.

Ond rwyf am ddechrau gyda rhai cwestiynau ynghylch benthyciad Llywodraeth Cymru a'r £1.5 miliwn sy'n weddill ar hwnnw. Rydym yn sôn am weinyddiaeth yma, nid diddymiad, felly bydd yn cymryd cryn dipyn o amser a gorchymyn llys cyn y byddwch yn gallu cael eich arian allan ohono. A allwch gadarnhau mai taliad sefydlog sydd gennych yn hytrach na thaliad arnawf, a gwerth yr asedau y gwarantwyd hwnnw yn eu herbyn, er mwyn inni gael syniad bras o faint sydd ar gael ar gyfer credydwyr eraill pan fyddwch chi a'r banciau wedi cael eich talu.

Yn ein datganiad ysgrifenedig cynharach, fe gyfeirioch chi at wanhau sefyllfa ariannol Dawnus. A ydym yn gwybod faint o arian sy'n ddyledus i'r cwmni? A pham, yn benodol, fod yr hyder a ddangoswyd ynddynt mewn cynllun adfer yn 2016 wedi profi'n ddi-sail? Oherwydd, yn ôl pob tebyg, roedd hynny'n dibynnu, i ryw raddau, ar sicrhau bod unrhyw ddyledion a oedd yn ddyledus ar y pwynt hwnnw'n cael eu talu'n gyflym a bod unrhyw ddyledion yn y dyfodol yn cael eu talu'n gyflym. Yn ôl pob tebyg, credaf y bydd elfen o'r hyder y mae cyrff cyhoeddus eraill, megis cynghorau, wedi'i ddangos yn y cwmni hwn yn seiliedig yn rhannol ar y golau gwyrdd a roesoch i Dawnus yn ôl yn 2016, ac rwy'n meddwl tybed a ydych yn cytuno bod hynny'n wir neu a ddylai pob corff cyhoeddus ddibynnu 100 y cant ar eu diwydrwydd dyladwy eu hunain, yn hytrach na disgwyl i Lywodraeth Cymru roi arwydd o hyder mewn cwmnïau penodol.

A allwch chi gadarnhau, yn benodol, nad yw cyllid Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer datblygiad Kingsway yn Abertawe wedi cael ei effeithio? Gwn fod y cyngor yn chwilio am gontractwr newydd, yn amlwg, i ymgymryd â'r gwaith, ond os yw'r cyllid hwnnw mewn perygl mewn unrhyw ffordd, mae hwnnw'n fater eithaf difrifol.

Ac yna, fy nghwestiwn olaf, a oedd yn ymwneud â'r gweithlu a chadwyni cyflenwi: soniasoch y gallai'r banc datblygu gamu i mewn os bydd angen, ond a fyddwch yn gofyn i gwmnïau'r gadwyn gyflenwi edrych ar eu banciau eu hunain yn gyntaf, neu a yw hwn yn gynnig agored, i bob pwrpas, ar gyfer cwmnïau sydd â phroblemau'n ymwneud â llif arian parod yn unig? Nid wyf yn gofyn i chi eu hachub os nad ydynt yn gwmnïau cynaliadwy, ond a yw hwnnw'n gynnig agored neu a yw'n gynnig amgen i'r hyn y gallai'r banciau fod yn barod i'w wneud?

Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Er tegwch i'r busnesau is-gontractio sydd ynghlwm wrth hyn drwy'r gadwyn gyflenwi, credaf fod llawer ohonynt eisoes wedi ymgysylltu â'u banciau, ond bydd Banc Datblygu Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru drwy'r tasglu i ganfod unrhyw angen ychwanegol a allai godi.

Ni allaf wneud sylwadau ar y dyledwyr eraill ar hyn o bryd, ond mewn perthynas â'r cwestiwn penodol ar y prosiect Kingsway, deallaf nad effeithir ar gyllid Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Fodd bynnag, byddaf yn ceisio sicrwydd ar hynny, ac yn amlwg, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddaf wedi cael cadarnhad.

O ran y buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru drwy'r benthyciad masnachol o £3.5 miliwn, rhoddwyd £3.5 miliwn o arian cyfatebol gan fanc y busnes ei hun,  o dan yr un telerau ac amodau, yn ogystal â'r un lefel o sicrwydd a chymorth er mwyn helpu'r busnes a'i weithwyr, fel y dywedais eisoes, drwy gyfnod anodd iawn mewn perthynas â'i lif arian parod. Nawr, hyd yma, rydym wedi derbyn £2 miliwn yn ôl, ac rydym yn hyderus y bydd telerau'r benthyciad yn golygu y bydd yr arian sy'n weddill yn cael ei ad-dalu maes o law. Ond credaf ei bod yn hollol gywir, ar hyn o bryd, y dylem ganolbwyntio ar y gweithwyr ac ar is-gontractwyr a chyflenwyr sydd, yn ddiau, wedi'u heffeithio'n wael gan y datblygiadau yn Dawnus. Felly, rydym yn amlwg yn canolbwyntio ein sylw ar sicrhau bod cyn lleied o effeithiau â phosibl yn deillio o dranc y cwmni, o ran cymunedau lleol a'r economi genedlaethol. Credaf ei bod yn bwysig dweud, o ran cymorth blaenorol Llywodraeth Cymru—ac nid wyf am ymddiheuro am gefnogi'r cwmni yn y gorffennol i sicrhau y gallent gyflawni prosiectau ac i sicrhau y gallent fynd ymlaen i gyflogi 700 o bobl—fod proses diwydrwydd dyladwy estynedig a dwys yn digwydd cyn bod contractau'n cael eu llofnodi, ac rwy'n hyderus iawn fod y contractau hynny wedi cael eu llofnodi'n ddidwyll ac yn y gred y gallai'r cwmni eu cyflawni a'u cwblhau.

15:20

Ni fyddaf yn ailadrodd y cwestiynau a godwyd eisoes, ond dywedaf eto fy mod yn rhannu'r pryderon a godwyd am y gweithlu ac ati. Roedd hwn yn gwmni pwysig iawn, wrth gwrs, yng Nghymru. Cwmni Cymreig balch, enw Cymraeg cryf, sy'n adlewyrchu'r doniau gwirioneddol a oedd yn bodoli o fewn y cwmni. Yr hyn sydd yn bennaf ar ein meddyliau heddiw yw galwad am bob cymorth i'r doniau o fewn y cwmni, a'r rheini sy'n gysylltiedig ag ef fel is-gontractwyr. Mae pryderon wedi'u codi gan fy nghyd-Aelodau, Bethan Jenkins a Dai Lloyd yn ne-orllewin Cymru lle roedd y cwmni wedi'i leoli, ond rydych yn iawn, mae'r pryderon yn rhai sy'n cyffwrdd â Chymru gyfan, ac roedd Dawnus yn gysylltiedig â rhai contractau allweddol yn fy etholaeth i yn ogystal.

Felly, rydym yn pryderu am y staff a gyflogir yn uniongyrchol, ac mae miliynau o bunnoedd yn ddyledus i'r is-gontractwyr wrth gwrs. Rwyf wedi siarad gydag un, cwmni da iawn yn fy etholaeth, ac mae £175,000 yn ddyledus iddo. I gwmni bach, mae hynny'n llawer o arian. Os gallwch esbonio, naill ai yn awr neu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau'r swm mwyaf o arian y gellir ei ad-dalu i'r is-gontractwyr hynny, a hefyd y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr is-gontractwyr hynny'n cael cymorth i barhau â'r prosiectau roedd Dawnus yn gysylltiedig â hwy mewn gwahanol rannau o Gymru—. Cwestiwn allweddol arall i mi wrth symud ymlaen yw beth sy'n cael ei wneud i edrych ar y posibilrwydd o ganiatáu i'r gweithwyr a gyflogwyd yn uniongyrchol gan Dawnus gael eu trosglwyddo—yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981—i gontractwyr a fydd yn parhau â'r gwaith ar gytundebau amrywiol mewn gwahanol rannau o Gymru, oherwydd, wrth gwrs, byddai hynny'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i'r gweithwyr hynny.

Ychydig o gwestiynau allweddol wrth edrych yn ôl: rydych wedi cadarnhau eich bod wedi gweithio gyda'r banc a Dawnus ei hun pan ddaethoch yn ymwybodol fod y cwmni'n wynebu anawsterau. A allech ddisgrifio'r hyn a ddigwyddodd tuag at y diwedd, a pham nad oedd yn bosibl i chi rannu mwy o wybodaeth a allai fod wedi galluogi amryw o gyrff cyhoeddus ac eraill i baratoi ychydig mwy? Hefyd, efallai y gallech gadarnhau a oedd yna fuddsoddwr a oedd yn barod i gamu i mewn a buddsoddi yn Dawnus a allai, o bosibl, fod wedi achub y cwmni.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Deallaf fod yna fuddsoddwr, o bosibl, a oedd yn barod i gamu i mewn. Fodd bynnag, er gwaethaf pob ystyriaeth a chredaf ei bod yn deg dweud, ymdrechion gorau pawb, roedd Dawnus wedi'i dynghedu i fethu. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion yn awr ar sut y gallwn sicrhau bod y busnesau a allai gael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn yn cael eu cefnogi drwy gyfnod cythryblus iawn a sut y gallwn sicrhau bod cynifer â phosibl o aelodau o staff yn dod o hyd i waith amgen.

Bydd y tasglu'n ymdrin â mater trosglwyddo gweithwyr yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981. Mewn perthynas â rhai o'r contractau hynny a rhai o'r busnesau hynny a allai gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan dranc Dawnus, mae dadansoddiad cychwynnol o gredydwyr y gadwyn gyflenwi yn dangos bod oddeutu 455 o gyflenwyr Cymru wedi cael eu heffeithio. Mae cyfanswm y gwerth sy'n ddyledus i'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru oddeutu £6 miliwn. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro ac adolygu wrth i wybodaeth newydd gan y gweinyddwr ddod i law. Ond mae'n dangos pa mor hanfodol bwysig yw sicrhau bod y banc datblygu yn rhan annatod o waith y tasglu wrth symud ymlaen.

15:25

Roedd Dawnus yn fy etholaeth i mewn gwirionedd, yn Abertawe. Roedd yn fusnes adeiladu canolig ei faint, ac rydym angen busnesau preifat canolig eu maint yng Nghymru. Roedd y ffaith ei fod yn cyflogi 700 yn ei wneud yn gyflogwr mawr, yn Nwyrain Abertawe o leiaf. Ac os edrychwch ar y rhestr o gwmnïau yng Nghymru, cafodd ei enwi yn rhestr y 50 uchaf yn y Western Mail hyd nes y rhestr ddiwethaf. Bydd yn ergyd drom i economi Dwyrain Abertawe, ond rwy'n ymwybodol o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ac fel y gwyddoch, gofynnais i chi am y lefel honno o gefnogaeth dros 12 mis yn ôl, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi'i darparu, hyd yn oed os nad oedd yn ddigon yn y pen draw. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn ceisio diogelu cwmnïau Cymreig cynhenid, canolig eu maint, ac ni allech gael cwmni mwy Cymreig na Dawnus.

Hoffwn gytuno â phopeth a ddywedodd Joyce Watson am y gweithlu, ac nid wyf am ei ailadrodd. Mae gennyf ddau gwestiwn. Soniasoch am roi cymorth; a fydd yr un lefel o gymorth ag a ddarperir i Virgin Media ar hyn o bryd, ac a ddarparwyd i staff Tesco, yn cael ei ddarparu i staff presennol Dawnus? Gwn nad yw mor syml â phe bai pawb ar yr un safle, ond lle bynnag y maent, bydd angen y cymorth hwnnw arnynt. Ac a dalwyd yr holl arian a oedd yn ddyledus iddo i Dawnus yn y pen draw am y gwaith a wnaeth yn Sierra Leone?

Ni allaf wneud sylwadau ar y pwynt olaf a godwyd gan yr Aelod, ond buaswn yn hapus i ysgrifennu ato pan fydd y wybodaeth ar gael fel y gallwn ateb y cwestiwn hwnnw, ond gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y tasglu'n cynnig yr un lefel o gymorth i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau diweddaraf yn Dawnus ag a gynigiwyd i staff Tesco, Virgin a chwmnïau eraill sydd wedi cael eu cefnogi gan wahanol dasgluoedd.

Nawr, mae'r Aelod yn gwneud pwynt hynod bwysig, ac rwy'n credu y dylem gydnabod am eiliad fod y cwmni yn un o'n mentrau canolig eu maint mwyaf balch yng Nghymru ac am y rheswm hwnnw, unwaith eto, nid wyf yn ymddiheuro am yr holl ymdrech a aeth i sicrhau bod y cwmni'n gweithredu'n gryf. Ond mae heddiw'n adeg hynod o drist i'r rheini a gâi eu cyflogi gan Dawnus ac rwy'n siŵr fod meddyliau pawb gyda'r gweithwyr, ac yn wir, gyda'r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Bydd yr ail gwestiwn amserol y prynhawn yma yn cael ei ateb gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Suzy Davies.

2. A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig bae Abertawe, yn dilyn cyhoeddi adolygiad annibynnol bargen ddinesig bae Abertawe? 290

Diolch. Mae'r adroddiad yn darparu sylfaen gadarn sy'n golygu y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'r partneriaid rhanbarthol, fwrw ymlaen yn gyflym â'r gwaith o gyflwyno'r fargen ddinesig. Byddwn yn cydweithio'n agos ag arweinwyr pob awdurdod lleol i ystyried sut y gellir gweithredu'r argymhellion.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio, mae bron i ddwy flynedd bellach ers y cyhoeddiad gwreiddiol, a byddwch yn cofio bod Aelodau eraill, gan gynnwys Mike Hedges a minnau, wedi codi nifer o weithiau yn y Siambr hon i ddweud pa mor anodd yw hi wedi bod i ni, fel Aelodau Cynulliad—yr Aelodau Cynulliad perthnasol, sydd â buddiant yn hyn—i sicrhau unrhyw ddeialog ystyrlon gydag aelodau'r hyn a oedd yn fwrdd cysgodol ar y pryd. Nid yw hynny'n cyd-fynd yn llwyr ag egwyddorion craidd y fframwaith llywodraethu da mewn llywodraeth leol. Felly, rwy'n croesawu'r adolygiad hwn, sydd wedi tawelu rhai o'r pryderon roeddem ni, yr Aelodau Cynulliad sydd â buddiant, yn clywed amdanynt ers peth amser heb unrhyw ffordd realistig o'u hegluro neu'n wir, eu herio. Mae pawb ohonom eisiau i'r fargen hon weithio, felly mae hon wedi bod yn ddogfen ddefnyddiol iawn heddiw.

Croesawaf y cadarnhad a roesoch yn gynharach eich bod yn credu bod rhan 2 Yr Egin a phrosiect digidol glannau Abertawe bron â chroesi'r llinell, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd yn awr i sicrhau bod hynny'n digwydd. Tybed a allwch roi syniad i ni o amserlen a fydd yn gam i wrthdroi unrhyw hyder a gollwyd mewn prosiectau portffolio yn ddiweddar—nid o reidrwydd yn gysylltiedig â'r ddau brosiect hwn.

Mae fy mhrif gwestiynau, fodd bynnag, yn ymwneud â llywodraethu, ac unwaith eto, mae'r oedi cyn cael model llywodraethu cydlynol at ei gilydd wedi bod yn destun ambell i gwestiwn yn y Siambr hon. Mae'n ymddangos bod diffygion ynghlwm wrth y model hwnnw o hyd, gyda'r pedwar arweinydd cyngor yn aelodau o'r bwrdd strategaeth yn ogystal â'r cyd-bwyllgor heb y waliau Tsieineaidd angenrheidiol a'r gwiriadau a'r archwiliadau i'w diogelu, mewn gwirionedd, rhag cyhuddiadau o wrthdaro buddiannau. Mae'n ymddangos nad oes gan y cyngor arweiniol, Sir Gaerfyrddin, gapasiti i ymdrin â'r gwaith, felly tybed a allwch chi ddweud wrthym beth y byddwch yn ei ddisgwyl oddi wrth y cyfarwyddwr newydd, a fydd yn cael ei benodi i ymgymryd â'r rôl arweinyddiaeth hon. A fydd yn gyfarwyddwr annibynnol? Pa fath o gefndir a phrofiad y byddwch yn disgwyl iddynt eu cael? Ac a allwch gadarnhau na fydd yr un Lywodraeth yn cymryd rhan yn y broses benodi ar gyfer y swydd honno—ac mai'r bwrdd fydd gwneud hynny? A hefyd, o gofio'r hyn a ddywedasoch mewn ymateb i gwestiynau gan Russell George yn gynharach, ynglŷn â'r ffaith nad yw pob model yr un fath, a allwch gadarnhau pam eich bod wedi dewis rhyw fath o fodel Caerdydd, gyda chyfarwyddwr, er mwyn ceisio datrys y broblem a nodwyd yn yr adolygiad? Nid wyf yn dweud ei fod yn benderfyniad gwael, ond mae gennyf ddiddordeb yn eich ateb i'r cwestiwn hwnnw.

Mae argymhelliad 3 yn dweud y dylid sefydlu cynllun integredig sicrwydd a chymeradwyaeth arfer gorau yn eithaf cyflym. Felly, hoffwn wybod pa brosesau risg a sicrwydd sydd ar waith ar hyn o bryd. Oherwydd, drwy gyd-ddigwyddiad, ymddengys bod adolygiad mewnol wedi cael ei wneud—yn ôl cyfarwyddiadau'r bwrdd, mae'n debyg. Oherwydd rydym yn sôn am bedwar arweinydd cyngor yma; ni ddylai'r cysyniad o risg a sicrwydd fod yn newydd iddynt. Felly, pa resymau a roddwyd i'r rhai a gynhaliodd yr adolygiad annibynnol am y methiant i gael—wel, yr hyn sy'n ymddangos fel methiant i gael—proses risg a sicrwydd synhwyrol ar waith ar hyn o bryd? Ac yn arbennig, pa broses a ddefnyddiwyd i benodi aelodau'r bwrdd strategaeth a sut y cafodd risg y broses honno ei hasesu? Pam fod diffyg eglurder ynghylch faint y bydd angen i'r cynghorau ei fenthyca? Beth oedd y problemau a nodwyd wrth baratoi cynllun ariannol? Un o'r rhesymau nad yw'r Llywodraethau wedi cymeradwyo'r cynllun gweithredu yw oherwydd nad oes cynllun ariannol. A chredaf fod rôl y sector preifat—hwy yw'r prif arianwyr yn hyn, wedi'r cyfan—yn parhau i fod yn rhy fach a heb fawr o ddylanwad, ac eithrio, yn ôl pob golwg, yn yr un man lle cawsom gwestiwn ynghylch gwrthdaro buddiannau. Os gallwch ddefnyddio'r cwestiynau enghreifftiol hynny i egluro eich safbwyntiau ar y system gyfredol ar gyfer risg a sicrwydd, buaswn yn ddiolchgar. Diolch.

15:30

Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Credaf mai'r peth gorau fyddai cyfeirio nifer ohonynt tuag at y dinas-ranbarth. Mae hwn, wedi'r cyfan, yn brosiect lleol. Nid yw hwn yn brosiect y mae Llywodraeth Cymru wedi'i noddi. Mae'n brosiect sydd wedi dod o'r rhanbarth, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei ariannu ar y cyd, ac maent wedi rhoi sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei wario'n dda ac y cydymffurfir â'r strategaeth. Felly, mae llawer o'r cwestiynau manwl rydych yn eu holi ynghylch penodi'r bwrdd strategaeth a'r cynllun ariannol ac ati yn rhai nad wyf mewn sefyllfa i'w hateb; rheini yw'r cwestiynau y mae'r fargen ddinesig ei hun i'w hateb. Oherwydd, os ydym o ddifrif eisiau gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar leoedd, rhaid i'r cyfrifoldeb a'r atebolrwydd aros yn lleol. Er ei fod wedi bod yn wahanol iawn tan nawr, credaf fod angen i'n rôl newid, fel y nodais yn gynharach, i fod yn fwy o bartneriaeth ac yn llai o rôl plismon. Ond nid yw'r fargen ddinesig, fel y mae wedi'i chyfansoddi ar hyn o bryd, fel y'i cynlluniwyd gan Lywodraeth y DU, yn rhoi'r rôl honno i ni'n benodol.

O ran yr amserlen, rydym yn gobeithio'n fawr y gallwn gael y prosiectau hyn dros y llinell. Ond fel y dywedais, mae'n rhaid i hyn ddod gan y dinas-ranbarth ei hun. Mae Alun Cairns a minnau wedi mynegi ein gobaith wrth arweinwyr y cynghorau—a chyfarfuom â hwy yr wythnos diwethaf—y byddem yn hoffi llif o brosiectau, gyda momentwm. Felly, os gallwn gael y ddau gyntaf dros y llinell cyn diwedd mis Ebrill fan bellaf, hoffem gael mwy cyn yr haf a chyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod yr adolygiad annibynnol a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi'r holl brosiectau ar lefel risg goch. Nawr, mae hwn yn ganfyddiad arwyddocaol iawn, wedi'i nodi ar ddiwedd yr atodiad yn yr adroddiad, ond tynnodd fy sylw yn sicr. Felly, nid wyf yn credu y gallwn gadarnhau unrhyw derfynau amser yn gyfrifol hyd nes y gallwn fod yn sicr y gall y cyd-fwrdd ddysgu gwersi, ac y bydd yr achosion yn ddigon cadarn i fodloni'r profion sydd gennym ar waith.

Gofynasoch am rôl y cyfarwyddwr a phwy fydd yn penodi i'r swydd honno, a rôl Llywodraeth Cymru. Ac rydych yn hollol gywir—mae hwn yn benodiad lleol; nid yw hon yn rôl ar gyfer Llywodraeth Cymru. Buaswn yn gobeithio ac yn disgwyl iddynt hysbysebu'r rôl honno, a chredaf fod y person a gaiff ei benodi i'r rôl honno yn hanfodol bwysig. Mae'r adolygiad annibynnol yn ei gwneud yn glir y dylai'r person hwn fod yn rhywun o statws cyfartal i brif weithredwr er mwyn herio a chraffu. Ac i fod yn deg, o'r tri adroddiad sydd bellach wedi'u cyhoeddi—adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a'r adroddiad annibynnol, a gomisiynwyd ar y cyd gan y pedwar awdurdod lleol ac a gyflawnwyd gan eu harchwilwyr mewnol eu hunain—credaf mai hwnnw yw'r adroddiad mwyaf trwyadl ohonynt a'r mwyaf llym ei feirniadaeth. Ac rwy'n credu bod angen rhoi rhywfaint o glod i'r dinas-ranbarth am gomisiynu hwnnw eu hunain—y sector cyhoeddus a gyflawnodd hwnnw, nid ymgynghorwyr sector preifat—ac maent wedi'i gyhoeddi. Felly, maent wedi bod yn gwbl agored yn eu beirniadaeth ohonynt eu hunain, ac mae ei ddarllen yn brofiad anghysurus, ond i roi'r clod y maent yn ei haeddu iddynt, rwy'n credu eu bod wedi gwneud hynny a bellach mater iddynt hwy yw dysgu'r gwersi o'r adroddiad hwnnw yn llawn a'u rhoi ar waith. Felly, gobeithiaf fy mod wedi atebais y cwestiynau a ofynnodd yr Aelod.

15:35

Nid wyf am ailadrodd yr hyn a drafodwyd eisoes, ond fel y soniais ddoe yn ystod y datganiad busnes, o'm safbwynt i, mae'n peri pryder fod argymhelliad cyntaf yr adolygiad annibynnol hwn yn ceisio annog, a dyfynnaf, 'sgrysiau wyneb yn wyneb uniongyrchol a rheolaidd' rhwng y rhanbarth, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn bethau sylfaenol, onid ydynt? A ydych yn siomedig ei bod wedi cymryd tîm adolygu i ddweud hynny wrthych? Fel y mae, ni luniwyd strwythur y fargen ddinesig a'r berthynas rhwng y rhanbarth, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni. Mae'n llawer rhy fiwrocrataidd, fel y clywsom, ac mae'n ymddangos yn wrthwynebus ar adegau. A ydych yn cytuno â'r asesiad hwnnw hefyd?

Fel rydych wedi'i ddweud, rydym angen gweld llawer mwy o ddull partneriaeth lle mae'r Llywodraethau'n gweithio gyda thîm y fargen ddinesig i weithio drwy unrhyw broblemau, oherwydd clywsom—yn sicr, fe glywais i—arweinwyr awdurdodau lleol yn y rhanbarth yn mynegi eu rhwystredigaethau ar eu hochr hwy. Mae tîm y fargen ddinesig wedi galw'n gyson am ryddhau arian gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer y ddau brosiect mwyaf datblygedig: datblygiad glannau Abertawe a datblygiad Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae'r adolygiad yn adleisio'r farn honno, gan argymell y dylai ddigwydd ar unwaith.

Mae angen i ni sicrhau felly fod cyllid Llywodraeth yn llifo cyn gynted â phosibl. Mae'n sefyllfa chwerthinllyd lle mae datblygiad Yr Egin yng Nghaerfyrddin eisoes wedi'i adeiladu, wedi'i agor yn swyddogol a bron â bod wedi'i lenwi, ac eto nid yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau'r cyllid. Mae'r cyllid roeddent yn bwriadu ei flaenlwytho bellach mewn perygl o beidio â chael ei ôl-lwytho hyd yn oed. Mae tîm y fargen ddinesig, yn ddealladwy, yn dweud, 'Faint yn fwy o brawf sydd ei angen arnoch? Rhyddhewch yr arian'. Ond yn lle hynny, mae'r prosiect yn dal i fod wedi'i glymu yn y trafodaethau rhwng y rhanbarth a'r Llywodraethau. A wnewch chi ymrwymo yn awr i ryddhau'r cyllid hwnnw ar gyfer y ddau brosiect fel mater o frys?

Cwestiwn pellach: mae argymhelliad 5 yn yr adolygiad annibynnol hwn yn sôn am yr angen, fel y clywsom, i benodi cyfarwyddwr portffolio cyn diwedd mis Ebrill 2019 i ddarparu cyngor annibynnol i'r bwrdd. A yw hyn yn realistig, o ystyried ein bod yn nesu at ddiwedd mis Mawrth yn awr—diwedd mis Mawrth 2019, y tro diwethaf i mi edrych?

Ac yn olaf, mae'r ddadl ynghylch y gwaharddiadau ym Mhrifysgol Abertawe yn hongian uwchben y fargen ddinesig, felly a gaf fi ofyn: pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r brifysgol ar hyn? Yn amlwg, gorau po gyntaf y caiff y mater ei ddatrys er mwyn gwella hyder yn y fargen ddinesig.

Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Rwyf am geisio eu hateb yn eu tro. Mewn sawl ffordd, credaf fod sylwadau'r Aelod yn gwaethygu'r broblem rydym wedi bod yn ei gweld, yn yr ystyr fod canfyddiad gwahanol iawn wedi bod o'r ffordd y mae'r fargen ddinesig yn cael ei gweithredu yn dibynnu ar ba ran o'r M4 rydych yn dod ohoni. Felly, mae'r Aelod yn ailadrodd llawer o bethau rwyf wedi'u clywed o gyfeiriad y fargen ddinesig, sy'n safbwynt gwahanol i'r safbwynt yn yr adroddiadau a safbwynt y Llywodraethau. Felly, er enghraifft, mae'n ailadrodd yr alwad i ryddhau'r arian yn gynnar er mwyn galluogi'r prosiectau hyn i fynd rhagddynt, ond ni allwn ryddhau arian hyd nes y bydd achos busnes priodol wedi'i gytuno a'i gyflwyno. Felly, credaf fod hynny'n anghyfrifol—galw am gymeradwyo arian cyhoeddus yn y modd hwn heb roi'r gwiriadau a'r archwiliadau priodol yn eu lle. 

Mae hefyd yn dweud: pam nad yw'r gwahanol bartïon yn siarad â'i gilydd? Wel, nid wyf yn siŵr a yw wedi cael cyfle i ddarllen y ddau adroddiad yn iawn, ond buaswn yn awgrymu y byddai'n werth treulio amser ar hynny, oherwydd mae'n ymdrin â llawer o'r pwyntiau y mae'n eu codi. Felly, er enghraifft, ar dudalen 13 yr adroddiad annibynnol gan yr awdurdodau lleol, mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, fod 'yr achosion busnes wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gynamserol, gan olygu bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gwiriadau diwydrwydd dyladwy y byddent yn disgwyl i'r swyddfa ranbarthol fod wedi'u cyflawni, sy'n gwneud y broses yn hyd yn oed yn fwy rhwystredig.'

A chredaf mai dyna sydd wrth wraidd y mater hwn, y dylid gwneud llawer o'r heriau a'r trylwyredd, y mae'r adroddiad, a luniwyd gan Sir Benfro, yn honni nad oedd ar waith, ar lefel leol ac ni wnaed hynny ar y lefel leol. Mae'r achosion wedyn yn cael eu hanfon at y gwahanol Lywodraethau, sy'n gorfod eu gwrthod oherwydd nad ydynt yn barod, sy'n creu camddealltwriaeth a thensiwn pellach ac yn tanio'r elfen o amheuaeth a welwyd. Pe bai ganddynt y set sgiliau a'r dull portffolio wedi'i wreiddio, byddent yn gallu cyflawni'r gwiriadau hynny ar ei gilydd, yn hytrach na'u rhoi i ni i'w harchwilio a chyflwyno'r achosion busnes yn gynamserol, a chredaf mai dyna oedd wrth wraidd y broblem mewn gwirionedd. Felly, mae'n ddyletswydd arnom yn awr i ailosod y ffordd y mae'r fargen hon wedi cael ei gweithredu i roi'r cyfle gorau iddi lwyddo ac i helpu'r awdurdodau lleol i gynnal y gwiriadau hynny eu hunain.

Mae'n crybwyll, unwaith eto, fel y gwnaeth ddoe, y ffaith bod yr Egin wedi'i lenwi ac wedi agor yn swyddogol a'r ffaith nad yw'r cyllid wedi'i ryddhau. Unwaith eto, deallaf fod y cyllid y fargen ddinesig ar gyfer cam 2 o'r Egin. Cam 1 yr Egin sydd wedi agor a'i lenwi, nid cam 2. Felly, credaf fod camddealltwriaeth yno ynghylch pa brosiectau rydym yn sôn amdanynt.

Mae'n gofyn a fydd cyfarwyddwr portffolio yn ei le erbyn diwedd mis Ebrill 2019. A yw hynny'n realistig? Nid wyf yn credu ei fod yn realistig. Gallem fwrw ymlaen â phenodi rhywun wrth gwrs, ond credaf ei bod yn hollbwysig penodi'r person cywir i'r swydd hon. Felly, credaf y dylem fod yn fwy hael yn y ffordd yr edrychwn ar y terfyn amser hwnnw a awgrymwyd.

Mae hefyd yn gofyn a ydym wedi trafod gyda'r brifysgol. Wrth gwrs, nid yw'r brifysgol yn bartneriaid yn y fargen ddinesig; maent yn bartneriaid yn rhai o'r prosiectau o fewn y fargen ddinesig. A gan ein bod bellach yn symud tuag at ddull portffolio, mater i'r fargen ddinesig eu hunain yw penderfynu sut y maent yn addasu ac yn newid yr ystod gyfredol o brosiectau sydd ganddynt yn eu portffolio ac a yw'r un awch yno o hyd i fwrw ymlaen â hwy ai peidio ac a allant basio'r profion sy'n parhau i fod ar waith ai peidio.

15:40

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Ni fyddaf yn ailadrodd unrhyw beth y mae Dai Lloyd neu Suzy Davies wedi'i ddweud, ond a gaf fi ddweud ein bod wedi siarad fel un yn aml ar hyn drwy gydol yr amser? Nid oes llawer o faterion eraill y gallwch ddweud hynny amdanynt. Ond rydym wedi sefyll gyda'n gilydd mewn gwirionedd oherwydd ein bod yn sylweddoli pa mor wirioneddol bwysig yw hyn i economi dinas ranbarth bae Abertawe. A fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu'r holl gymorth angenrheidiol i ddinas-ranbarth bae Abertawe? Ac os ydym am gynyddu'r gwerth ychwanegol gros yng Nghymru, a yw'r Gweinidog yn derbyn bod angen i ni ddatblygu mwy o swyddi medrus iawn ar gyflogau uchel, sef yr hyn y mae bargen ddinesig bae Abertawe yn ceisio'i wneud? Mae'n golygu cael swyddi sy'n talu mwy i gynyddu ein gwerth ychwanegol gros.

Ie, yn wir. O ran darparu'r holl gymorth angenrheidiol, rydym o ddifrif eisiau i hyn lwyddo. Mae Llywodraeth y DU eisiau i hyn lwyddo. Mae'r Aelodau yma eisiau iddo lwyddo. Mae awdurdodau lleol eisiau iddo lwyddo. Mewn rhai ffyrdd, nid yw o anghenraid wedi'i greu i lwyddo yn y strwythurau rydym wedi'u rhoi ar waith, yn y modd y mynnwyd cael y model busnes pum achos, y mae'r awdurdodau lleol wedi cael trafferth i ymateb iddo—y lefel honno o graffu a thrylwyredd. Credaf mai'r peth pwysig yn awr—. Ac rwy'n pwysleisio, yn yr holl adroddiadau, maent wedi pwysleisio bod beirniadaeth o bob ochr yma.

Cawsom gyfarfod da iawn gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol ddydd Gwener, ac ynddo pwysleisiais—ac roeddem yn unfrydol—nad oes dim i'w ennill o pwyntio bysedd yma. Yn amlwg, os ydym eisiau iddo lwyddo mae angen i ni fwrw ymlaen, dysgu'r gwersi, ailffurfio. Dyna'n sicr yw ysbryd Llywodraeth Cymru—ac yn yr holl sgyrsiau rwyf wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU hefyd—wrth fynd ati i gyflawni hyn. Ond yn y pen draw, mae hwn yn brosiect dan arweiniad lleol. Felly, o ran yr holl gymorth angenrheidiol, byddwn yn rhoi pob cymorth a allwn iddo, ond hefyd, yn ysbryd partneriaeth, mae'n rhaid i'r arweinyddiaeth ddod o'r ardal leol, ac nid oddi wrthym ni. Ond mae'n rhaid i ni edrych arno mewn ysbryd o ddatblygu cynlluniau economaidd rhanbarthol a gweithio arnynt gyda'n gilydd yn gyfartal ac fel rwy'n dweud, symud oddi wrth y model plismon tuag at y model partneriaeth.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r mis hwn yn nodi pymtheg mlynedd ar hugain o flynyddoedd ers dechrau streic y glowyr 1984-85. Cafodd y streic effaith sylweddol ar gymunedau glofaol ledled y DU, gan gynnwys y rheini yma yng Nghymru, a chan gynnwys y rhai rwy'n eu cynrychioli yng Nghwm Cynon. Yn wir, wrth dyfu fyny mewn pentref fel Cwmbach, lle yr effeithiwyd yn uniongyrchol ar lawer o fy ffrindiau a fy nghymdogion gan y streic, roedd yn amhosibl i mi a chenhedlaeth gyfan o bobl ifanc a menywod, yn ogystal â'r glowyr a'r teuluoedd eu hunain, beidio â chael ein siapio a'n mowldio gan ei heffeithiau.

Ni ddechreuodd y streic yng Nghymru, ond erbyn 14 Mawrth, roedd pob pwll glo yn ne Cymru ar streic, ac o'r 21,500 o lowyr yn ne Cymru, cymerodd gymaint â 99.6 y cant ohonynt ran yn y streic. Yn rhyfeddol, roedd 93 y cant yn dal i fod ar streic flwyddyn gyfan yn ddiweddarach. Mae'r ffigur hwnnw'n llawer uwch na ffigurau mewn ardaloedd eraill, sy'n dyst i benderfyniad ac undod y glowyr a'u cymunedau. Eto i gyd, mae hefyd yn adlewyrchiad o faint roedd eu trefi a'u pentrefi yn dibynnu ar y pyllau glo. Dioddefodd y glowyr a'u teuluoedd galedi nas gwelwyd o'r blaen, ac eto mae haneswyr wedi ysgrifennu am yr ymdeimlad o gymuned a grëwyd, ac nid yn yr ardaloedd glofaol yn unig. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gyfarwydd â'r ffilm ysbrydoledig Pride, a adroddai stori o'r fath. Yng Nghwm Cynon, roedd grŵp cymorth y glowyr wedi gefeillio ag Islington a chymuned Dwrcaidd Llundain. Dywedodd y glowyr fod gan Lywodraeth y DU gynllun hirdymor i anrheithio eu diwydiant, ac wrth i ni nodi dechrau eu brwydr, ni allwn ond ystyried pa mor graff yr oeddent.

15:45
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM7017 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynigiwyd y cynnig.