Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

04/12/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf i ni ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd arweinydd y tŷ, Julie James, yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd. 

Gwelliannau i Wasanaethau Cymdeithasol Pobl Hŷn

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i wasanaethau cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru? OAQ53040

Mae pobl hŷn ag anghenion gofal a chymorth yn haeddu i'r anghenion hynny gael eu diwallu'n llawn. Dyna pam yr ydym ni wedi dyrannu £10 miliwn yn ychwanegol y gaeaf hwn i'r gwasanaethau cymdeithasol i ysgogi gwelliant i wasanaethau a sicrhau gwell canlyniadau i bobl hŷn ledled Cymru.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, yn naturiol, mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn un o amcanion datganedig eich Llywodraeth chi. Fodd bynnag, mae toriadau ariannol gan eich Llywodraeth i awdurdodau lleol yn golygu bod cynghorau ar draws Cymru yn ei chael hi'n fwyfwy anodd diogelu gwasanaethau rheng-flaen, fel gwasanaethau cymdeithasol pobl hŷn. Rydym ni'n clywed am gau canolfannau dydd, unigolion yn wynebu taliadau uwch am wasanaethau, gostyngiadau yn y ddarpariaeth pryd ar glud, a lleihad mewn gwasanaethau cyfeillio. Pryd fydd eich geiriau cynnes chi, felly, fel Llywodraeth ar fynd i'r afael ag unigrwydd yn trosglwyddo yn ymrwymiadau cadarn ar ffurf arian i'n llywodraeth leol?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. A dyna pam, y flwyddyn nesaf, y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yn cael £50 miliwn yn ychwanegol—£20 miliwn o hynny yn rhan o'r grant cymorth refeniw llywodraeth leol, a'r £30 miliwn arall fel grant penodol o'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn benodol, hefyd, rydym ni wedi ystyried materion cynhwysiant digidol yn ymwneud â phobl hŷn, ac rydym ni wedi cyhoeddi rhaglen gwerth £6 miliwn i edrych yn benodol ar anghenion gwasanaeth gofal iechyd i sicrhau ein bod ni'n cael gwell sgiliau digidol ymhlith pobl hŷn, gan ei bod hi'n sicr bod swyddogaeth i'w chyflawni gan ddinasyddion sydd wedi'u galluogi'n ddigidol yn hynny o beth.

Arweinydd y tŷ, mae pryderon adroddiadau diweddar gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, mai un o'r risgiau allweddol i ddarpariaeth eu gwaith cynllunio i wrthsefyll pwysau'r gaeaf yw'r gallu i sicrhau nifer ddigonol o staff gofal cartref, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, i gynorthwyo darpariaeth eu cynllun wrth gefn eu hunain yn peri pryder mawr. Nawr, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n ddiflino i ofalu am ein cenedl ac sy'n cefnu ar eu bywydau teuluol eu hunain dros gyfnod y Nadolig i staffio ein gwasanaethau. Fodd bynnag, o ystyried bod pwysau ar y gweithlu yn y meysydd hyn eisoes, mae'n debygol y bydd y gweithlu presennol yn dioddef mwy o bwysau fyth, a allai gael effaith uniongyrchol ar ansawdd y gofal y mae pobl yn ei gael ac ar y rhai sy'n darparu'r gofal. Nawr, mae'n hanfodol bod gwasanaethau yn cael eu staffio yn ddiogel i gynorthwyo ein pobl agored i niwed yn eu cartrefi ac i leihau derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi. Pa waith ydych chi'n ei wneud, neu eich Llywodraeth, yn union, gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a'n hawdurdodau lleol, i sicrhau bod gallu'n cael ei ddatblygu yn y meysydd hyn i wrthsefyll pwysau i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu staffio'n ddiogel trwy gyfnod y Nadolig ac  nad ydym ni'n gweld unrhyw un yn syrthio drwy'r rhwyd ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn?

Fel y dywedais, er gwaethaf y gyllideb cyni cyllidol yr ydym ni wedi ei chael, yn y nawfed flwyddyn o gyni cyllidol hyd yma, rydym ni wedi gallu cyfrannu £50 miliwn yn ychwanegol—£20 miliwn drwy'r grant cymorth refeniw llywodraeth leol, a'r £30 miliwn arall fel grant penodol gan y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol—i sicrhau'r math o allu i wrthsefyll pwysau y mae'r Aelod yn ei drafod. Hefyd, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei ddatganiad yn ddiweddar ar wrthsefyll pwysau'r gaeaf yn hyn o beth, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr, o ystyried y cyni cyllidol yr ydym ni wedi bod yn ei ddioddef am yr holl gyfnod hwn, bod gennym ni adnoddau digonol i'w cyfrannu. Dyna pam yr ydym ni'n ariannu iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfradd uwch y pen nag y mae Lloegr yn ei wneud, er enghraifft, am yr union resymau a amlinellwyd ganddi hi.

Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £15 miliwn ychwanegol o gyllid i helpu i gynyddu cydweithio rhwng rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynorthwyo oedolion ag anghenion gofal yn eu cartrefi. Arweinydd y tŷ, pa wahaniaeth fydd yr arian ychwanegol hwn yn ei wneud i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, i ddychwelyd cleifion i'w cartrefi, ac i gynorthwyo ansawdd bywyd i ofalwyr ledled Cymru?

Mae'r Aelod yn llygad ei lle; dyna'n union y mae'r arian ychwanegol ar ei gyfer. Dim ond i roi dwy enghraifft i chi, ym Mae'r Gorllewin, mae buddsoddiad o £5 miliwn wedi cynorthwyo amrywiaeth o wasanaethau gofal canolraddol. Hyd yn hyn eleni, llwyddwyd i osgoi dros 900 o dderbyniadau i'r ysbyty ac arbedwyd 10,000 o ddiwrnodau gwely, gan arwain at osgoi costau o fwy nag £1 filiwn. Ac, yng Nghwm Taf, er enghraifft, dros £1.8 miliwn i barhau i ddatblygu'r gwasanaeth 'cadw'n iach gartref'. O ganlyniad i'r gwasanaeth hwnnw, mae derbyniadau brys ymhlith cleifion 61 oed a hŷn wedi lleihau'n sylweddol. Y llynedd, er enghraifft, llwyddwyd i osgoi 13,000 o ddiwrnodau gwely, sy'n cyfateb i £1.6 miliwn mewn arbedion ariannol. Gallwch weld bod y buddsoddiad yn talu ar ei ganfed i bawb, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r math hwnnw o ofal deuol.

13:35
Tai o Ansawdd Da i Bobl Hŷn

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y gall tai gwarchod ei chwarae yn y dyfodol o ran darparu tai o ansawdd uchel i bobl hŷn? OAQ53061

Gwnaf. Mae tai gwarchod yn fodel tai sydd wedi'i hen sefydlu ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Mae'n bwysig bod yr holl lety yn parhau i ddiwallu anghenion pobl a bodloni eu gofynion a'u dyheadau, ac, i gefnogi hyn, rydym ni'n gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai o £1.7 biliwn, gan gynnwys darparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl hŷn yn benodol.

Diolch, arweinydd y tŷ. Mae tai cymunedol Bron Afon wrthi'n ymgynghori ar hyn o bryd ar gau tair canolfan tai gwarchod yn fy etholaeth i—Tŷ Glanwern, Pen-y-Bryn, a'r Beeches. Fel y byddwch yn gallu gwerthfawrogi, mae hyn yn achosi llawer iawn o bryder i breswylwyr yn y canolfannau hynny ac mae'n bryder arbennig wrth i ni agosáu at y Nadolig. A fyddech chi'n cytuno â mi, er bod gan gymdeithasau tai ddyletswydd i gynllunio ar gyfer angen tai yn y dyfodol, bod eu dyletswydd pennaf i'w tenantiaid presennol? A pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau y bydd anghenion y bobl hŷn sy'n cael eu heffeithio gan yr ymgynghoriad hwn yn cael eu diogelu'n briodol?

Rwy'n deall pryder yr Aelod. Rydym ni'n cytuno'n llwyr bod lles a diogelwch tenantiaid yn hollbwysig. Rwy'n deall mai dyna eich prif bryder, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, a dyna oedd y rheswm am eich cyfarfod gyda Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, am y mater hwn yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n cael ein sicrhau gan swyddogion bod 73 o denantiaid a allai gael eu heffeithio yn cael eu cadw'n ganolog i broses Bron Afon wrth ymgynghori ar y mater. Rwy'n cael fy hysbysu hefyd nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud hyd yn hyn gan fwrdd Bron Afon, ond, pe byddai'r dewis a ffefrir o gau ac ailddatblygu'r cynlluniau gwarchod yn cael ei ddewis, er enghraifft, yna byddai ymgynghoriad tenantiaid llawn yn parhau i gael ei gynnal wedyn. Rwy'n credu bod yr Aelod y llygad ei lle—mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod tenantiaid yn dod yn gyntaf a'u bod yn ganolog i unrhyw ymgynghoriad o'r fath a bod eu hanghenion yn parhau i gael eu diwallu mewn ffordd gadarn drwy gydol y broses honno. Rydym ni'n cael ein hysbysu y bydd tenantiaid yn cael eu hailgartrefu yn yr ardal leol, pan fo'n bosibl, gan ddod o hyd i lety arall addas, ac ati, pe byddai’r dewis hwnnw'n mynd rhagddo, ond deallaf nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud hyd yn hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ganmol Llywodraeth Cymru am gomisiynu Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Sheffield Hallam i edrych ar anghenion tai pobl hŷn ac anghenion gofal cyffredinol eraill? Canfuwyd ganddynt bod 18 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn disgwyl cynnydd i anghenion tai cyffredinol pobl hŷn; roedd 16 o awdurdodau lleol yn disgwyl cynnydd i'r galw am dai gofal ychwanegol ar gyfer pobl hŷn; roedd 14 awdurdod lleol yn disgwyl cynnydd i'r galw am dai oedran dynodedig; ac yna mae wyth awdurdod lleol yn disgwyl cynnydd i'r galw am dai gwarchod ar gyfer pobl hŷn. Yr hyn sydd wir ei angen arnom ni yw data da, trwyadl a strategaeth dai gydlynol ar gyfer pobl hŷn. Felly, rwy'n eich canmol am wneud y gwaith ymchwil; nawr mae wir angen i ni weld rhyw fath o gynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol.

Nid wyf i'n anghytuno â'r aelod. Mae tai gwarchod, fel y dywed, yn ddull sydd wedi'i hen sefydlu o ymdrin â thai ar gyfer pobl hŷn, ond mae'n un o gyfres o ymyraethau a llety sy'n bosibl. Un o ddibenion gwneud y gwaith ymchwil yw i wneud yn union hynny. Ac, mewn gwirionedd, yn fwy cyffredinol yn y Llywodraeth, rydym ni'n edrych yn gyffredinol ar yr hyn y gall ein cyfresi data ei ddweud wrthym ni o ran eu defnyddio ar gyfer cynllunio gwasanaethau yn well, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r ymagwedd wrth symud ymlaen.

Arweinydd y tŷ, gall tai gwarchod o ansawdd da chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau bod pobl hŷn yn aros yn annibynnol a gall helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Gall darparu tai gwarchod o ansawdd da hefyd helpu i sicrhau bod cartrefi teuluol ar gael wrth i bobl hŷn symud i gartrefi llai. Mae astudiaethau diweddar hefyd wedi canfod y gall defnyddio synwyryddion mewn llety gwarchod helpu i ragweld ac osgoi codymau, gan leihau dibyniaeth ar ein GIG. Felly, arweinydd y tŷ, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod gennym ni ddigon o dai gwarchod i fodloni'r galw yn y dyfodol a bod llety o'r fath yn defnyddio'r technolegau iechyd diweddaraf?

Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau da yn y fan yna. Ers 2002, gyda chymorth £187 miliwn, cwblhawyd 43 o gynlluniau gofal ychwanegol, gan ddarparu dros 2,000 o gartrefi ar gyfer pobl hŷn, lle gallant gynnal eu hannibyniaeth ac osgoi'r angen i symud i ofal preswyl neu gael eu derbyn i'r ysbyty. Rydym ni hefyd yn buddsoddi £105 miliwn o gyfalaf yn y gronfa gofal integredig i ddatblygu atebion a arweinir gan lety i iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hynny'n cynorthwyo pobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau, a, bob blwyddyn, rydym ni'n buddsoddi £106 miliwn i gynorthwyo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wella ansawdd y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru drwy safon ansawdd tai Cymru.

Yn benodol, fodd bynnag, mae'r Aelod yn sôn am ddatblygiadau technolegol sydd o ddiddordeb. Mae gennym ni nifer o gynlluniau ledled Cymru, yr wyf i wedi cael y fraint o fynd i'w gweld, gan ddefnyddio rhywbeth o'r enw technoleg LoRaWAN, sy'n caniatáu i chi gasglu data—gyda chaniatâd y tenant, yn amlwg—ar bethau fel pa un a yw'r goleuadau wedi cael eu troi ymlaen neu a yw tegell wedi ei ferwi ac ati, ac yn caniatáu i chi gael eich hysbysu am y ffaith fod patrwm symud yr unigolyn wedi newid ac, felly, gall rhywun alw yn gyflymach o lawer na phe byddech chi ddim ond yn gwneud hynny fel archwiliad mater o drefn. Felly, mae rhai o'r cynlluniau yr ydym ni wedi eu hystyried wedi gwneud cryn argraff arnaf i hyd yn hyn, ac rydym ni wedi bod yn eu cynorthwyo o'n cyllidebau digidol, a dweud y gwir, i fwrw ymlaen â chynlluniau arloesol o'r fath. Rydym ni'n edrych ymlaen at allu rhoi rhywfaint o'r dechnoleg honno yn y brif ffrwd yn y dyfodol agos iawn.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, fis yn ôl, dywedasoch wrthym y byddai pleidlais ystyrlon a therfynol ar ffordd liniaru 14 milltir yr M4 yn cael ei chynnal yma yr wythnos hon. Ac eto, gan guddio y tu ôl i adroddiad yr arolygwyr, a dderbyniwyd gan eich Llywodraeth ym mis Medi, rydych chi'n dal i fod wedi eich parlysu gan raniadau ymhlith aelodau eich meinciau cefn, gan wrthwynebiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a chan anallu neu amharodrwydd ymddangosiadol y Prif Weinidog i wneud y penderfyniad hwn. Onid yw'r oedi hwn ynghylch y penderfyniad buddsoddi mwyaf y bu'n rhaid i'ch Llywodraeth ei wneud erioed yn nodweddiadol o'r dagfa wrth wraidd eich Llywodraeth?

I'r gwrthwyneb, rwy'n credu bod eich cwestiwn yn dangos diffyg dealltwriaeth llwyr o ddifrifoldeb penderfyniad lled-farnwrol. Llywydd, rwyf i wedi amlinellu i'r tŷ hwn y safbwynt cyfansoddiadol ar y mater hwn sawl gwaith. Rwy'n fwy na bodlon i wneud hynny eto. Mae'n hollbwysig mai'r cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd ar yr un pryd â'r ymchwiliad lleol yw'r hyn y bydd unrhyw Brif Weinidog sy'n gwneud y penderfyniad hwnnw yn ei gymryd i ystyriaeth. Nid yw'r cyngor hwnnw'n barod eto. Mae'n bwysig bod y cyngor yn cael ei baratoi'n gywir. Nid yw cyflymder yn hollbwysig; mae cywirdeb yn hollbwysig. Pan fydd y cyngor hwnnw wedi ei baratoi, bydd y Prif Weinidog yn gallu gwneud y penderfyniad rhagarweiniol hwnnw am y Gorchmynion traffig a'r Gorchmynion caffael tir, ac yna, wedi hynny, byddwn yn gallu ystyried y materion fforddiadwyedd, ac ar yr adeg honno y gellir cynnal pleidlais yn y lle hwn. Nid yw hyn yn mynd i ddigwydd erbyn hyn o dan y weinyddiaeth benodol hon, ond dywedais ddim ond yr wythnos diwethaf y byddwn yn argymell i unrhyw olynydd i mi y dylid anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw, ac fe'm sicrhawyd gan bob un o'r tri ymgeisydd y bydd hynny'n digwydd.

Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n gallu dweud nawr, os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus, y bydd y buddsoddiad gynigir o £1.7 biliwn erbyn hyn ar gyfer y ffordd liniaru o fudd i Loegr yn bennaf? Gadewch i mi ddyfynnu rhai ystadegau i chi—maen nhw wedi eu cynnwys yn asesiad effaith economaidd ehangach eich Llywodraeth eich hun o goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, a gyhoeddwyd yn 2016. Rhagwelodd y byddai'r ffordd liniaru, erbyn 2037, yn cael yr effaith flynyddol ychwanegol fwyaf ar werth ychwanegol gros yng Nghymru, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl, yng Nghasnewydd a Sir Fynwy—£12.3 miliwn. Fodd bynnag, ar gyfer Gwlad yr Haf a de Swydd Gaerloyw, roedd yr effaith yn fwy—£13.5 miliwn. Dim ond £1.3 miliwn ydoedd ar gyfer Caerdydd a'r Fro. Hyd yn oed i Gymoedd Gwent dim ond £1.3 miliwn ydoedd, ac ar gyfer y canol y Cymoedd y swm pitw oedd £0.8 miliwn. Ac eto, ar gyfer Bryste, mae'n £7 miliwn—mwy na phob un o'r rheini gyda'i gilydd. A ydych chi'n falch y bydd y buddsoddiad mwyaf y byddwch chi'n ei wneud byth, ac un y bydd trethdalwyr Cymru yn talu amdano ddegawdau i'r dyfodol, yn ôl cyfaddefiad eich Llywodraeth eich hun, yn fwy o fudd i Loegr nag i Gymru?

Fel y dywedais, nid dyma'r adeg y dylai'r Cynulliad gyhoeddi unrhyw un o'i safbwyntiau ar y rhain nac unrhyw faterion eraill. Ceir proses y mae angen mynd drwyddi. Mae proses statudol lem iawn ar gyfer yr hyn y ceir ei gymryd i ystyriaeth wrth wneud y Gorchmynion. Rwyf i wedi ei amlinellu, rwy'n credu, hyd syrffed, mae'n deg i ddweud, Llywydd. Gallaf ei wneud eto, os ydych chi'n dymuno i mi wneud hynny. Nid dyma'r amser i drafod y materion y mae'r Aelod yn eu codi. Nid wyf i'n gwybod sut y gallaf i wneud hynny'n fwy eglur.

Mae'r penderfyniad yr ydych chi'n cyfeirio ato yn benderfyniad cynllunio. Y cwbl yr oeddwn i'n ei ofyn i chi oedd a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn ein bod ni nid yn unig yn rhoi'r baich o etifeddiaeth negyddol hollol enfawr ar genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru o ran yr amgylchedd, ond pa un a ddylem ni wir fod yn defnyddio ein harian ein hunain i roi mantais gystadleuol i'r wlad drws nesaf. Nawr, arweinydd y tŷ, a gaf i awgrymu ateb eithaf taclus ac eithriadol o rad i'r holl broblem? Sef, yn syml, cau cyfnewidfa High Cross cyffordd 26 ger twnelau Bryn-glas. Byddai hyn yn golygu cau'r ffyrdd ymuno ac ymadael tua'r dwyrain a'r ffordd ymadael tua'r gorllewin. Mewn un cam, amcangyfrifir y byddai hyn yn lleihau'r traffig drwy'r twneli gan gymaint â 40 y cant. Ar yr un pryd, gallem ddefnyddio rhywfaint o'r arian sy'n cael ei arbed i helpu Casnewydd i ddod yn ddinas sy'n llai dibynnol ar geir. A ydych chi'n cytuno y byddai astudiaeth gyfredol o'r syniad hwn, ac, yn wir, newidiadau ategol i'r rhwydwaith ffyrdd i'r de o Gasnewydd, ac, yn hanfodol, buddsoddiad yn ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd dda allan o sefyllfa amhosibl yr M4 yr ydych chi'n amlwg yn sownd ynddi?

13:45

Felly, unwaith eto, nid wyf i'n credu ein bod ni mewn sefyllfa amhosibl. Rydym ar bwynt penodol mewn proses o wneud penderfyniad sy'n gymhleth iawn. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at rai o'r cymhlethdodau. Nid wyf i wedi gweld adroddiad yr arolygydd cynllunio lleol. Mae angen i'r adroddiad hwnnw gael ei ategu gan y cyngor priodol. Mae angen i'r penderfynwr priodol gymryd hwnnw i ystyriaeth, ac, ar yr adeg honno, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn gallu codi nifer o bwyntiau. Mae ef wedi codi rhai ohonyn nhw heddiw. Mae pwyntiau o bob rhan o'r Siambr, rwy'n siŵr, a fydd yn cael eu codi yn y ddadl ar yr adeg briodol. Nid nawr yw'r adeg briodol.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, a yw Cymru yn adeiladu digon o gartrefi?

Felly, fel y gwyddoch, mae gennym ni nifer fawr o ymrwymiadau o ran tai y mae'r Llywodraeth yn hynod falch ohonynt. Rydym ni wedi cymryd camau, er enghraifft, i flaenoriaethu tai cymdeithasol, cymorth i'r rhai mwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc gymdeithasol bresennol. Yn bersonol, rwy'n falch iawn bod hon yn Llywodraeth a gymerodd gamau i roi terfyn ar yr hawl i brynu, gan sicrhau nad ydym yn colli rhagor o dai fforddiadwy gwerthfawr yng Nghymru. Rwy'n dod o ystâd cyngor yng ngogledd Abertawe sydd wedi troi i raddau helaeth o fod yn dai cymdeithasol i dai sector preifat gwael iawn a dweud y gwir. Mae hwnnw'n gam sy'n wrthun i mi, ac a orfodwyd ar Gymru gan y Llywodraeth Geidwadol. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwrthdroi'r llif hwnnw.

Wel, yn amlwg, nid yw Cymru yn adeiladu digon o gartrefi, arweinydd y tŷ. Gadewch i mi eich atgoffa bod eich Llywodraeth wedi bod yn gyfrifol am bolisïau tai ers 2006, ac eto mae'r hyn yr ydych chi wedi ei wneud hyd yma yn gwbl annigonol. Mae'r cyfraddau cwblhau tai newydd yn methu'n gyson â chyrraedd y targedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru gyda dim ond 6,000 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: 19 y cant yn llai na'r flwyddyn flaenorol, yn hytrach na'r targed o 8,700. Nawr, yn ôl yr Athro Holman, arbenigwr blaenllaw ar dai a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth chi i ymchwilio i'r mater hwn, mae Cymru angen 12,000 o gartrefi newydd ychwanegol bob blwyddyn rhwng 2011 a 2031 er mwyn osgoi sefyllfa lle mae pobl yn byw mewn tai anfoddhaol.

Nawr, yn 2015, dadleuodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr bod Cymru angen 14,000 yn fwy o gartrefi bob flwyddyn i gadw i fyny â'r galw. Pa bynnag amcanestyniad yr ydych chi'n ei gymryd, mae'n eithaf eglur bod Llywodraeth Cymru ymhell iawn, iawn y tu ôl i unrhyw beth tebyg i gyfradd ddigonol o ran adeiladu tai. A dweud y gwir, y tro diwethaf y gwnaeth unrhyw Lywodraeth fodloni'r galw gwirioneddol am gartrefi newydd yng Nghymru oedd canol y 1990au gan Lywodraeth Geidwadol. Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y polisi tai am y 12 mlynedd diwethaf. A ydych chi'n cytuno eich bod chi'n methu ag adeiladu digon o gartrefi addas i gartrefu ein cenedl nawr ac yn y dyfodol?

Wel, ni allwn anghytuno mwy ag ef. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor Llywodraeth hwn, ac rydym ni'n ffyddiog y caiff hyn ei gyflawni mewn partneriaeth â'r sector tai. Mae'r buddsoddiad hwnnw yn cynnwys ein cefnogaeth i Cymorth i Brynu, a thrwy hynny mae ein buddsoddiad o £460 miliwn wedi helpu dros 17,800 o ymgeiswyr hyd yn hyn i gael mynediad at berchentyaeth. Rydym ni'n cydnabod potensial y sector mentrau bach a chanolig i adeiladu mwy os yw'r cyllid sydd ei angen ar gael iddynt, ac, felly, mae Banc Datblygu Cymru yn darparu £70 miliwn ar gyfer BBaChau drwy ein cronfa datblygu eiddo a'n cronfa safleoedd segur.

Dywedaf hyn wrtho: os ydych chi'n credu mai'r ateb i adeiladu mwy o gartrefi yw cael coelcerth o reoliadau rheoli datblygiad ledled Cymru, yna ni allwn anghytuno mwy â chi, ac mae'n amlwg iawn, os edrychwch chi ar y dystiolaeth, bod eich cyd-Aelodau Torïaidd ar awdurdodau cynllunio lleol hefyd yn cytuno â mi ac nid â chi.

Arweinydd y tŷ, nid yn unig yr ydych chi'n methu o ran adeiladu cartrefi; mae eich polisi gwrth-uchelgais i ddiddymu'r hawl i brynu wedi tynnu gris hanfodol o'r ysgol eiddo i lawer o deuluoedd yng Nghymru. Hyd yn oed i brynwyr tro cyntaf, ychydig iawn fydd yn elwa ar eich polisi rhyddhad treth trafodiadau tir mewn gwirionedd, gan fod y pris tŷ cyfartalog yng Nghymru yn uwch na'r trothwy o £180,000 erbyn hyn. Rydych chi wedi methu â dychwelwyd 27,000 neu fwy o gartrefi gwag Cymru, y mae 4,057 ohonynt yn gartrefi cymdeithasol, i ddefnydd, ac rydych chi'n methu â gwireddu potensial cwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint yng Nghymru, gan mai dim ond pum cwmni yng Nghymru sy'n adeiladu 80 y cant o'n cartrefi newydd. Nawr, ddoe, cyflwynodd fy nghyd-Aelod, David Melding, gynllun uchelgeisiol ar gyfer adeiladu cartrefi yma yng Nghymru: i weld 100,000 o gartrefi yn cael eu hadeiladu dros y 10 mlynedd nesaf yng Nghymru, i roi'r flaenoriaeth angenrheidiol i'r argyfwng tai trwy greu Ysgrifennydd y Cabinet dros dai a chynllunio, ac i gael gwared ar y dreth trafodiadau tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf ar eiddo gwerth hyd at £250,000. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi gymeradwyo'r cynigion hyn nawr a gweithio gyda ni i wir aildanio gwaith adeiladu tai a pherchentyaeth yma yng Nghymru?

13:50

Darllenais y cynigion gyda diddordeb. Maen ymddangos i mi eu bod—. Y biwrocratiaeth y cyfeiriwyd ato ynddynt, wrth gwrs, yw amddiffyniad gwerthfawr i'n lleiniau glas o amgylch ein dinasoedd, a diogelwch i'n cefn gwlad hardd. Nid wyf i'n credu mai diddymu rheolaeth gynllunio a datblygu yw'r ffordd ymlaen. Rwyf i yn credu, fel y dywedais, bod sicrhau'r nifer fwyaf bosibl o gartrefi y gellir eu hadeiladu trwy fuddsoddi yn golygu gallu cael gafael ar gyllid digonol, y mae eich Llywodraeth chi, ar lefel y DU, wedi methu'n lân i'w ddarparu drwy unrhyw un o'r dulliau y mae wedi rhoi cynnig arnynt.

Ac rwyf i hefyd yn credu—. Ni wnaethoch chi gyfeirio o gwbl at dai cymdeithasol na fforddiadwy—nid yw hynny'n syndod. Gallaf ddweud wrthych chi nawr bod mwyafrif helaeth y bobl sydd wedi prynu eu cartrefi eu hunain, yn sicr yn yr ardal yr wyf i'n dod ohoni—mae'r cartrefi hynny yn nwylo landlordiaid rhentu preifat erbyn hyn. Nid yw hwnnw'n llwybr i fynd ar yr ysgol dai; mae'n llwybr at i lawr i dai o ansawdd gwael, y mae'r Llywodraeth hon wedi ymladd yn galed iawn i'w cynnal ym mhob un o'r sectorau. Nid wyf i'n credu eich bod chi ar dir cadarn yn y fan yma, oherwydd nid yw Llywodraeth, ar lefel y DU, a fethodd â dweud y dylai tai fod yn addas i bobl fyw ynddyn nhw yn safbwynt da gan unrhyw blaid.

Diolch, Llywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais rai cwestiynau i'r Prif Weinidog am y mater o weithio o gartref. Credaf ei fod yn bwnc dilys i ni fod yn siarad amdano yma yn y Cynulliad, oherwydd ceir y broblem sy'n cynyddu'n barhaus o dagfeydd ar ffyrdd, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'r hyn yr oedd Adam yn sôn amdano yn gynharach. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd o gael traffig oddi ar y ffyrdd. Nawr, mae gennych chi gyfraniad personol at y mater hwn, arweinydd y tŷ, yn eich swyddogaeth o oruchwylio'r cyflwyniad band eang digidol ledled Cymru, er, wrth gwrs, eich bod chi yma mewn swyddogaeth wahanol heddiw—rwy'n deall hynny. Ond, gan ystyried y pethau hynny, a ydych chi'n obeithiol y gallai eich cyflwyniad band eang digidol arwain at niferoedd llawer mwy o bobl yn gallu gweithio o gartref yn y dyfodol agos?

Ydw, yn sicr. Rydym ni wedi cael band eang cyflym iawn i dros 733,000 o safleoedd ledled Cymru—mae hynny'n fand eang dros 24 Mbps i tua 60,000 o'r rheini a dros 30 Mbps i'r mwyafrif llethol. Y cyflymder cyfartalog yn y cyflwyniad hwnnw yw tua 80.5 o ffibr i'r cabinet ac oddeutu tri chant a rhywbeth ar gyfer ffibr i'r safle. Mae gan Gymru y treiddiad mwyaf o eiddo ffibr i'r safle yn unman yng ngorllewin Ewrop erbyn hyn. Mae gennym ni strategaeth dda ar gyfer cyrraedd y safleoedd sy'n weddill, gan gynnwys ein strategaethau cymunedol rhagorol, y mae un ohonynt newydd ennill gwobr pan-Ewropeaidd am yr ymdrech gymunedol a wnaed ganddi, gyda chefnogaeth cynllun talebau cyflym iawn Llywodraeth Cymru. Felly, yr ateb syml i'w gwestiwn yw: ydw, rwy'n falch iawn bod y cyflwyniad o fand eang yn digwydd.

Mae angen ei ategu gydag ychydig yn fwy na'r seilwaith yn unig, fodd bynnag, ac rydym ni'n ei ddilyn gyda rhaglen ymelwa busnes, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran cael BBaChau i fanteisio ar y cysylltedd yr ydym ni wedi ei ddarparu iddyn nhw. Mae adroddiad diweddar gan un o'n prifysgolion adnabyddus yn dangos i BBaChau yn eglur dros ben y gwahaniaeth i'w gwaelodlin os byddant yn manteisio i'r eithaf ar y mynediad newydd hwnnw ac os na fyddant, ac mae gennym ni raglen ymelwa busnes yn benodol i ganiatáu hynny. Rydym ni hefyd wedi bod yn gwthio, drwy'r Comisiwn Gwaith Teg, cyfres o arferion gweithio unfed ganrif ar hugain yn seiliedig ar allbynnau ac nid oriau a weithiwyd, a bydd y rheini i gyd yn cyfrannu at bobl yn gallu gweithio'n amlach o gartref.

Mae amrywiaeth o fesurau eraill y gellir eu rhoi ar waith i helpu pobl i weithio o gartref. Rwy'n credu bod y Llywydd yn mynd i fod yn ddiamynedd â mi os dechreuaf eu hegluro yn y fan yma, gan y byddai'n cymryd rhyw awr i mi wneud hynny.

Mae hynny'n swnio'n galonogol. Efallai y gwnaf i roi cyfle arall i chi. Nawr, yn amlwg, nid seilwaith yn unig oedd y pwynt a wnaethoch, wrth gwrs, felly roeddwn i'n falch o glywed am eich rhaglen ymelwa busnes. O feddwl yn benodol am y mater o gael cwmnïau i annog gweithio mwy hyblyg, a gweithio o gartref yn benodol, a oes ffyrdd yr ydych chi'n credu y gallai Llywodraeth Cymru fod yn cynnig cymhellion, fel cymhellion ariannol, er enghraifft, i gwmnïau yng Nghymru i annog mwy o weithio o gartref? A allai'r Llywodraeth bennu targedau ar gyfer hyn a chynnig cymhellion i gwmnïau gyrraedd y targedau hynny?

Gallem, rydym ni wedi archwilio'r holl ddewisiadau hynny ar gyfer gweithio unfed ganrif ar hugain yn rhan o'n cynllun gweithredu economaidd, o dan ein strategaeth gyffredin 'Ffyniant i Bawb'. Rydym ni mewn cysylltiad agos â nifer fawr o'n cwmnïau angori a chwmnïau o bwys rhanbarthol ynghylch gwahanol arferion gwaith. Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf i wedi gweld rhai enghreifftiau rhagorol o hynny ledled Cymru, ac rydym ni wedi cael arloeswyr gwirioneddol ar gyfer y math hwnnw o arfer. Mae gennym ni gynllun hefyd ar gyfer Llywodraeth Cymru o swyddfeydd wedi'u dosbarthu a gweithio o gartref. Rydym ni wedi buddsoddi swm sylweddol o arian mewn offer TG modern i alluogi hynny, ac rwy'n falch ein bod ni'n esiampl o ddifrif iawn yn hyn o beth.

13:55

Diolch am fanylion y fenter honno. Nawr, peth arall yr wyf i'n gwybod eich bod chi wedi bod yn gysylltiedig ag ef yn y gorffennol yw cydgysylltwyr cynlluniau teithio, a oedd i fod i weithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i annog teithio cynaliadwy, ac roedden nhw i fod i annog pethau fel rhannu ceir a fideo-gynadledda yn ogystal â gweithio hyblyg a gweithio o gartref. Rwyf i wedi cael trafferth i ddod o hyd i lawer o wybodaeth am y cydgysylltwyr cynlluniau teithio hyn. Mae'n ymddangos bod diffyg gwybodaeth yn y parth cyhoeddus am lwyddiant, neu fel arall, y cynllun hwn hyd yma. Felly, a allwch chi wneud unrhyw beth i'n goleuo ni ynghylch hyn, naill ai heddiw neu, os nad heddiw, efallai ar ddyddiad yn y dyfodol agos?

Gallaf, rydym ni'n edrych ar gydgysylltwyr rhanbarthol ledled Cymru i weithio gyda'r clystyrau o gwmnïau i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael yr effaith economaidd orau bosibl ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn wir ar gyfer y gwariant y mae'r cwmnïau eu hunain yn ei roi ar waith, a cheir amrywiaeth o eitemau yn gysylltiedig â hynny, gan gynnwys, er enghraifft, i rai diwydiannau twristiaeth, rhannu swyddogaethau swyddfa gefn, oherwydd mae'n eglur ei bod yn anodd iawn cynnal swyddogaeth adnoddau dynol mewn cwmni ffordd o fyw. Felly, rydym ni wedi cael sgyrsiau helaeth ledled Cymru gyda gwahanol glystyrau o gwmnïau am fwrw ymlaen ag arferion gweithio yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n hapus i roi mwy o wybodaeth i'r Aelod—os hoffai ysgrifennu i mewn a dweud wrthyf yn union beth mae ef ei eisiau, rwy'n hapus i roi rhagor o wybodaeth iddo, ond mae amrywiaeth fawr iawn o fentrau ar waith.

Yr Amserlen ar Gyfer Gwneud Penderfyniad ar Ffordd Liniaru'r M4

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4? OAQ53033

Gwnaf. Mae ystyriaeth o'r adroddiad ymchwilio yn parhau, i hysbysu penderfyniad ynghylch pa un a ddylid gwneud y Gorchmynion statudol ar gyfer y cynllun. Byddai penderfyniad buddsoddi terfynol yn dilyn ymlaen o unrhyw gam i wneud y Gorchmynion statudol.

Ond nid yw ystyriaeth yn parhau gan y Prif Weinidog. Rydych chi'n cyfeirio at y ffaith ei fod yn dilyn proses statudol lem, ond ble yn y broses statudol honno y mae'n dweud y dylai adroddiad yr arolygydd gael ei godi gan gyfreithwyr a swyddogion yn Llywodraeth Cymru, a chael ei gadw'n ôl oddi wrth y Prif Weinidog am gyfnod, erbyn hyn, o ddau neu dri mis? Onid yw hynny'n awgrymu bod rhywbeth o'i le â'r broses hon? Mae'r statud yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog wneud y penderfyniad, a gwneud hynny ar sail adroddiad yr arolygydd. Pam nad yw wedi gwneud hynny?

Oherwydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud hyd syrffed yn y Siambr hon, rydym ni'n aros am y cyngor cyfreithiol i ategu hynny, i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r broses honno'n gywir. Nid yw amser yn hollbwysig yn y fan yma; cywirdeb sy'n bwysig. Nid wyf i wir yn gwybod sut y gallaf i wneud hyn yn fwy eglur. Rwyf i wedi ailadrodd tan—. Wel, ni allaf gredu nad oes neb sydd heb fy nghlywed i'n ei ddweud. Felly, ceir proses yr ydym ni ynddi. Mae angen y cyngor cyfreithiol arnom ni i fynd gydag adroddiad yr arolygydd. Pan fydd y cyngor cyfreithiol hwnnw yn iawn ac yn gywir er boddhad y cyfreithwyr sy'n ei roi, bydd yn cael ei gyflwyno i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad i wneud y penderfyniad, gan gymryd i ystyriaeth ystyriaethau perthnasol a heb gymryd penderfyniadau amherthnasol i ystyriaeth. Rwyf i wedi dweud hyn—. Wn i ddim, Llywydd, am unrhyw ffordd arall o'i wneud yn fwy eglur.

O ystyried eich bod chi'n teimlo nad oes lle gan y Llywodraeth ar hyn o bryd i wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r oedi, a ydych chi'n gallu gwneud sylw ynglŷn ag unrhyw waith mae eich swyddogion chi yn gallu ei wneud y tu ôl i'r llenni, fel petai, tra mae yna oedi, er mwyn edrych ar atebion amgen?

Wel, nid wyf i'n credu bod oedi; rwy'n credu eu bod nhw'n mynd trwy'r broses. Pan fydd y broses wedi ei chwblhau—. Mae'r broses yr hyn yr yw hi. Gall pobl ddefnyddio pob math o iaith emosiynol yn ei chylch, ond yn y pen draw, rydym ni mewn proses led-farnwrol iawn. Mae'n anochel ei bod yn cymryd ei hamser i gyrraedd y diwedd. Nid wyf i'n gwybod beth arall y gallaf i ei ddweud i wneud hynny'n fwy eglur.

Adfywio Canol Tref Pontypridd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio canol tref Pontypridd? OAQ53051

Gwnaf. Ymwelodd y Prif Weinidog â Phontypridd yn ddiweddar gan weld y cynnydd sylweddol sy'n cael ei wneud o ran adfywio'r dref. Mae'r rhain yn gynlluniau canol tref pwysig, sy'n parhau i elwa ar gymorth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru.

Wel, diolch am yr ateb yna. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae adnoddau Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i ganolfan siopa Bro Taf gael ei phrynu, cymorth ar gyfer y cais busnes yng nghanol tref Pontypridd i ganiatáu adfywiad busnesau a rhoi mwy o lais iddyn nhw o ran gweithrediad y dref, y gwaith gyda'r cyllid Ewropeaidd, y pwll nofio, y gwaith i greu parth cerddwyr, y ffordd osgoi, ac yn hollbwysig, rwy'n credu, y penderfyniad i symud Trafnidiaeth Cymru yno—mae'r dref yn adfywio'n gyflym erbyn hyn, a cheir rhagor o gynlluniau ar gyfer yr adfywio hwnnw. Nawr, mae'n ymddangos bod hyn yn rhannol seiliedig ar bartneriaeth wirioneddol Llywodraeth Cymru, y cyngor lleol a chynrychiolwyr lleol yn gweithio gyda'i gilydd ar gyfer adfywio. Gan gadw mewn cof y mater ynghylch adfywio canol ein trefi, pa wersi ydych chi'n ei gredu sydd yno, y gellir eu dysgu o'r ffordd y mae Pontypridd yn adfywio erbyn hyn ac yn dechrau dod yn dref fodern a bywiog iawn gyda phob math o fusnesau a chyfleoedd newydd, ar gyfer trefi eraill yng Nghymru?

14:00

Ydy, rwy'n credu ei bod yn enghraifft ardderchog. Cefais y fraint o fod yno pan gyrhaeddodd y tarw dur cyntaf ar y safle, gyda'r Aelod ei hun, a chawsom ni un o'r ffotograffau hyfryd hynny, Llywydd, lle'r ydym ni i gyd yn gwisgo cyfarpar diogelu personol anaddas at ddibenion y llun. Roedd yr Aelod, rwy'n siŵr, yn edrych yn hyfryd ynddo; nid oeddwn i'n edrych yn dda iawn. [Chwerthin.] Bu'n llwyddiant ysgubol ers hynny. Bryd hynny, roedd canol y dref yn hyll, ac roedd yn ganolfan a oedd yn edrych yn wael iawn. Ond nawr, mae'n hollol wahanol. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl gywir.

Ac mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod hyn i raddau helaeth oherwydd ein bod ni wedi cael rhaglen buddsoddiad adfywio wedi'i dargedu, a ddechreuodd yn gynharach eleni—rhaglen buddsoddiad cyfalaf gwerth £100 miliwn yn para am dair blynedd i gynorthwyo prosiectau adfywio a flaenoriaethwyd yn rhanbarthol fel hwn. Nodir Pontypridd fel ardal o flaenoriaeth rhanbarthol, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol ar nifer o brosiectau. Felly, rwy'n credu bod dull cydweithredol yn hanfodol i ddeall y lle, os mynnwch chi, oherwydd yn sicr nid yw'n fater o un ateb i bopeth, a gallwch weld hynny ym Mhontypridd ac ardaloedd eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus.

Rwy'n hoff iawn fy hun o fenter AGB—Abertawe a oedd un o'r ardaloedd gwella busnes cyntaf. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran dod â busnesau bach ynghyd yn gyffredinol, a dylid eu hargymell ar gyfer canol trefi lle nad ydyn nhw wedi eu sefydlu eto.

Mae gennym ni gronfa benthyciadau canol trefi gwerth £27.595 miliwn ar hyn o bryd yn cynorthwyo adfywiad canol trefi mewn 17 o wahanol ardaloedd o Gymru. Mae Rhondda Cynon Taf wedi cael £1.8 miliwn o'r gronfa ar gyfer trefi Pontypridd ac Aberdâr. Ac rydym ni hefyd yn cefnogi buddsoddiad mewn llyfrgelloedd cyhoeddus trwy raglen gyfalaf yr is-adran amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd. Derbyniodd Rhondda Cynon Taf grant cronfa drawsnewid, er enghraifft, ar gyfer llyfrgell newydd Bro Taf ym Mhontypridd.

Yr hyn sy'n braf am hwnnw yw ei fod yn ddatblygiad cymysg. Felly, mae gennych chi rai adeiladau swyddfa yno, mae gennych chi rywfaint o adfywio, mae gennych chi deimlad braf o gyffro o gwmpas y ddinas, mae gennych chi rai gwasanaethau cyhoeddus, mae gennych chi deimlad braf o fywyd yn dychwelyd i ganol y dref. Felly, rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le: mae'n brosiect da iawn i ddangos yr hyn a all ddigwydd pan fyddwch chi'n cymryd y cymeriad penodol i ystyriaeth gyda dull sy'n seiliedig ar le.

Arweinydd y tŷ, yng nghyllideb ddiweddar y Canghellor, rhoddodd £900 miliwn ar gael i liniaru ardrethi busnes yn Lloegr. Ym Mhontypridd a chanol trefi eraill ar draws fy rhanbarth etholiadol i, mae ardrethi busnes yn cael eu crybwyll dro ar ôl tro fel rhwystr i adfywio'r strydoedd mawr hynny ac i roi hyder i bobl fuddsoddi ynddynt. Bydd menter £900 miliwn y Canghellor yn gweld busnesau â gwerth ardrethol o hyd at £51,000 yn elwa ar yr arian hwn dros ddwy flynedd. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei gynnal yma o'r symiau canlyniadol a fydd yn deillio o'r cyhoeddiad hwnnw, ac a fydd yn rhoi'r arian hwnnw ar gael i fusnesau yma yng Nghymru i leddfu baich ardrethi busnes sydd yn gymaint o lyffethair i ddatblygiad canol trefi ar hyd a lled Canol De Cymru?

Wel, rydym ni'n cytuno mai ardrethi busnes yw un o'r prif ysgogiadau y gallwch chi eu defnyddio fel Llywodraeth i wneud yn siŵr bod BBaChau yn cymryd eu lle haeddiannol. Mae gennym ni gyfres o gynlluniau a wnaed yng Nghymru ar gyfer hynny, sy'n hael iawn. Ac nid wyf i'n credu bod un ateb yn addas i bawb, felly yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw edrych yng Nghymru, fel y dywedaf, ar ddull  sy'n seiliedig ar le, ac mae angen i ni roi'r disgresiwn i awdurdodau lleol sicrhau bod y drefn ardrethol yn eu hardal yn cyd-fynd â'r lle y maen nhw'n ei ystyried. Felly, er enghraifft, bydd yr hyn a allai fod yn iawn yng nghanol Caerdydd neu Abertawe yn sicr ddim yn iawn ym Mro Taf neu ym Mhontypridd, dim ond i ddefnyddio dwy enghraifft. Ac felly, rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n edrych i weld pa ddisgresiwn y gallwn ni ei gael yn y system ardrethi er mwyn creu'r dull seiliedig ar le yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio.

Llwyddiannau'r Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru

5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiannau'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru ers 2009? OAQ53064

Mae'r Prif Weinidog yn asesu perfformiad, llwyddiannau a heriau darparu gwasanaethau iechyd ledled Cymru yn barhaus. Yn y gogledd, rydym ni wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i gyflawni gwelliannau ac rydym ni'n eglur ynghylch y gwaith pellach sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Wel, gobeithio eich bod chi’n glir ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud, oherwydd mae’r gwasanaeth mewn mesurau arbennig, onid yw e, ers beth, ryw dair blynedd a hanner erbyn hyn, o dan reolaeth uniongyrchol yr Ysgrifennydd Cabinet. Yn y cyfnod yna, rŷm ni wedi gweld sgandal Tawel Fan a’r gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Rŷm ni wedi gweld sgandal C. difficile, a nifer o bobl yn marw o’r cyflwr hwnnw yn ystod y cyfnod. Rŷm ni wedi gweld ysbytai cymunedol yn cau. Rŷm ni wedi gweld y gwasanaeth argyfwng ar ei luniau ar draws y gogledd. Rŷm ni wedi gweld argyfwng hefyd mewn gwasanaethau meddygon teulu, ac rŷm ni wedi gweld y Llywodraeth yn tindroi am rhy hir o lawer pan mae’n dod i hyfforddi rhagor o ddoctoriaid a nyrsys. Felly, gyda record fel yna, pam dylai pobl gogledd Cymru gael hyder yng ngallu’r Llywodraeth yma i gynllunio’r gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu?

14:05

Wel, o dan fesurau arbennig rydym ni wedi darparu buddsoddiad a chymorth sylweddol, sydd wedi arwain at gynnydd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys dad-ddwysáu gwasanaethau mamolaeth fel pryder mesur arbennig ym mis Chwefror. Bu buddsoddiad parhaus i sicrhau gwell mynediad a gofal iechyd i bobl ar draws y gogledd. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, £17.9 miliwn ar gyfer y SuRNICC a agorwyd ym mis Medi 2018, yn dilyn argymhelliad gan Goleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant y dylai fod un safle canolog ar gyfer gofal newyddenedigol dwys yn y gogledd, ac, er enghraifft hefyd, mae'r adran gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty Gwynedd wedi cael £163 miliwn ar gyfer gwaith ailwampio sylweddol. Gwnaed nifer o fuddsoddiadau yn gyffredinol, ac rydym ni wedi parhau i gynorthwyo Betsi Cadwaladr wrth iddo ddod allan o fesurau arbennig. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad yno, ac rydym ni wedi cynorthwyo'r bwrdd i sicrhau ein bod ni'n cynorthwyo'r bwrdd i ddarparu ar gyfer iechyd ei boblogaeth a darparu gofal yn nes at y cartref pan fo hynny'n bosibl.

Er gwaethaf blynyddoedd o rybuddion gan Bwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru, cafodd ymarfer cyffredinol yng Nghymru y ganran isaf o gyllideb y GIG o unrhyw ran o'r DU y llynedd. Dyna'r rheswm allweddol pam mae cymaint o feddygfeydd yn y gogledd wedi cau. Sut ewch chi i'r afael â'r bwlch hwnnw yn y gyfran o gyllid, yn hytrach na'r bwlch cyllid, ac arallgyfeirio darpariaeth i ddarparu gwasanaethau, gan ddod â phobl sydd angen gofal a chymorth a phobl sy'n darparu cymorth yn nes at ei gilydd, i ddarparu gofal cymdeithasol, emosiynol a meddygol i bobl ar y pwynt o angen, fel menter gydweithredol Quay to Well-being a arweinir gan Dr Anthony Downes yng Nghei Connah, a'r ganolfan cwmni mewn ymddiriedolaeth y Community Care Collaborative yn Wrecsam a arweinir gan Dr Karen Sankey?

Ie, mae'r Aelod yn iawn: mae pethau da yn digwydd, ac fel yr wyf i wedi ei ddweud, rwyf i wedi darllen yn uchel rai o'r pethau da sy'n digwydd. Er enghraifft, darparwyd dros £14 miliwn i ddatblygu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y Fflint, Blaenau Ffestiniog a Thywyn—mae'n ddrwg gen i, Ysbyty Coffa Tywyn; dylwn i fod wedi gwisgo fy sbectol, Llywydd—yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector integredig wedi'u cyd-leoli.

Bu cynnydd i ddisgwyliad oes ym mhob awdurdod lleol yn y gogledd rhwng 2001-03 a 2014-16. Er enghraifft, mae nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynyddu gan 5 y cant ers 2008, a chynyddodd nifer y meddygon a'r deintyddion ymgynghorol gan 17.1 y cant. Cynyddodd nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd gan 3.9 y cant. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, ar ddiwedd mis Medi 2018, bod 6,291 o lwybrau cleifion dros 36 wythnos, sy'n ostyngiad o 1,000 neu 14 y cant o'i gymharu â mis Awst 2018, a gostyngiad o 2,691 neu 30 y cant o'i gymharu â mis Medi 2017. Felly, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir ac mae'r cymorth yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Y Comisiwn Gwaith Teg

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd y Comisiwn Gwaith Teg yn cyfrannu at gyfleoedd cyflogaeth gwell yng Nghymru? OAQ53028

Gwnaf, mae'r Comisiwn Gwaith Teg wrthi'n profi'r dystiolaeth ynghylch gwaith teg yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd ei argymhellion yn hysbysu ein meddylfryd o ran y ffordd orau o fwrw ymlaen â'n huchelgais i Gymru fod yn genedl gwaith teg.

Diolch. Mae Sefydliad Bevan wedi disgrifio'r economi "gig" yng Nghymru fel twyll triphlyg sy'n niweidio gweithwyr, yn cynyddu'r bil budd-daliadau ac yn amddifadu'r wladwriaeth o refeniw treth. Gwn fod gwaith o ansawdd da yn nod allweddol yn strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n croesawu yn arbennig sefydliad y Comisiwn Gwaith Teg. Sut bydd gwaith y comisiwn yn cyfrannu at fynd i'r afael ag effeithiau mwyaf niweidiol yr economi "gig"?

Ie, mae'r adroddiad yn un rhagorol. Mae'r comisiwn wedi bod yn ymgysylltu â nifer fawr ac amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion yn rhan o'i waith casglu tystiolaeth, gan gynnwys Sefydliad Bevan y mae Vikki Howells wedi tynnu sylw ato yn y fan yna. Rydym ni'n cydnabod effeithiau niweidiol y defnydd amhriodol o gontractau dim oriau. I'r rhai sy'n ennill bywoliaeth drwy'r economi "gig", gall yr ansicrwydd, yr ansefydlogrwydd a'r diffyg diogelwch y maen nhw'n gweithio ar eu sail, greu pwysau trwm ar eu bywydau. Cafwyd adroddiad echrydus gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar ynghylch yr hyn a all ddigwydd i iechyd meddwl pobl pan eu bod yn dioddef gan ddyled niweidiol, ac mae'r ymgyrch—rwy'n gobeithio bod pawb yn y Siambr wedi gweld, Llywydd—am fod yn ofalus ynghylch cost y Nadolig a dweud wrth bobl ble i fynd am gyngor ar ddyled os byddant yn canfod eu hunain mewn rhai o'r anawsterau hynny, yn un pwysig iawn wrth bobl nesáu at dymor y Nadolig pryd y gallent gael trafferthion i gael hanfodion bywyd hyd yn oed.

Rydym ni wedi gofyn i'r comisiwn ystyried yn ddifrifol iawn pob agwedd ar waith annheg a'r defnydd o gontractau dim oriau, yn enwedig am y rhesymau gwirioneddol hynny y gall yr anallu i gynllunio neu ddibynnu ar unrhyw incwm penodol arwain at oblygiadau difrifol iawn o ran iechyd meddwl a dyled a gallu rhywun i fyw ei fywyd fel y mae'n dymuno ei wneud. Rydym ni wedi gofyn i'r comisiwn adrodd ei argymhellion yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, ac rydym ni'n disgwyl i'r rheini lywio ein syniadau ynghylch sut yr ydym ni'n annog ac yn hyrwyddo'r agenda gwaith teg ledled Cymru gyfan.

14:10

Arweinydd y tŷ, rwyf i newydd glywed eich ateb, ond a allwch chi amlinellu beth yw'r berthynas waith rhwng y Comisiwn Gwaith Teg a chontract economaidd a galwadau i weithredu Llywodraeth Cymru?

Gallaf. Rydym ni wedi gofyn i'r Comisiwn Gwaith Teg gymryd holl strategaethau'r Llywodraeth i ystyriaeth yn eu gwaith, ond maen nhw'n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Maen nhw'n casglu tystiolaeth ar hyn o bryd. Maen nhw'n cael eu cynorthwyo gan ysgrifenyddiaeth fach o Lywodraeth Cymru, ond rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ystyried y sefyllfa yn gyffredinol ac i ddweud sut orau y gellir cyfuno'r sefyllfa honno gyda'n cyfres bresennol o flaenoriaethau a strategaethau, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn gwneud i'r jig-so hwnnw ffitio orau.

Datblygu Economaidd yng Nghonwy

7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi datblygu economaidd yng Nghonwy? OAQ53063

Gwnaf. Mae ein strategaeth genedlaethol a'n cynllun gweithredu economaidd, 'Ffyniant i Bawb' yn nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i gynorthwyo datblygiad economaidd ar draws Cymru gyfan.

Diolch. Arweinydd y Tŷ, mae'n ffaith drist ofnadwy bod ein diwydiant cregyn gleision 100 mlwydd oed hanesyddol yng Nghonwy ar fin chwalu erbyn hyn. Mae eich Llywodraeth chi a'i phenderfyniad i orfodi darpariaethau Gorchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 1992, yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwch a ddefnyddir feddu ar drwydded gostus o 1 Medi 2017 heb unrhyw gyflwyniad graddol ac heb unrhyw rybudd, i bob pwrpas wedi gwneud y rhai nad oes ganddynt drwyddedau yn ddi-waith ar unwaith. A thrwy wneud hynny, ceir bygythiad enfawr i'n diwydiant cregyn gleision.

Ar hyn o bryd nawr, dim ond dau o gasglwyr sydd ar ôl ac mae hynny'n gwneud yn siŵr erbyn hyn bod y gwaith puro yn agos iawn at gau. I roi hyn yn ei gyd-destun, roedd tua 30 o gychod yn y 1960au ac mae gennym ni'r gwelyau gorau yng Nghymru yng Nghonwy. Mae Cyngor Tref Conwy, diolch byth, wedi penderfynu cynnig rhywfaint o gymorth ariannol, ac mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fis diwethaf, penderfynodd y cabinet archwilio a chynorthwyo cais gan gwmni Conwy Mussels am orchymyn pysgodfa unigol.

Arweinydd y tŷ, rheolir y bysgodfa hon gan eich Llywodraeth chi ac mae'n ddiwydiant hanesyddol. A allwch chi ddatgan, os gwelwch yn dda, pa gymorth y gwnewch chi ei ddarparu i'r diwydiant hwn sydd mewn trafferthion ac a wnewch chi roi sicrwydd os bydd cais am orchymyn pysgodfa unigol yn cael ei wneud, na fydd yn cymryd tair i bum mlynedd? Byddai hynny'n rhy hwyr; bydd y diwydiant yn diflannu. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi weithio gyda'ch Cabinet a'ch Llywodraeth ac achub y diwydiant pysgota hwn a chefnogi'r gorchymyn pysgodfa unigol hwnnw i Gonwy?

Nid wyf i'n gyfarwydd â rhai o'r ystadegau y mae'r Aelod newydd eu cyflwyno, felly os hoffai ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn ni'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael ateb manwl i hynny.

Perfformiad y GIG yng Nghymru yn Ystod ei Gyfnod yn ei Swydd

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y GIG yng Nghymru yn ystod ei gyfnod yn ei swydd? OAQ53031

Gwnaf. Rydym ni wedi canolbwyntio ar y GIG fel blaenoriaeth ar adeg o gyni cyllidol sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Canfuwyd ansawdd wrth wraidd system iechyd Cymru yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, 'Reviews of Health Care Quality: United Kingdom 2016', ac amlygwyd ein bod ni'n blaenoriaethu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.

Arweinydd y tŷ, bydd llawer o bobl yn anghytuno â'r datganiad bod y Llywodraeth benodol hon wedi rhoi digon o flaenoriaeth i'r gwasanaeth iechyd gwladol. O dan arweiniad y Prif Weinidog penodol hwn, mae nifer yr unigolion sy'n aros yn hwy na 36 wythnos am driniaeth wedi cynyddu o ddim yn ôl yn 2009 i 13,500. Yn y cyfnod hwnnw, nid yw'r targed pedair awr ar gyfer adrannau achosion brys erioed, erioed wedi ei fodloni, ac o ran y targed 12 awr, mae nifer y cleifion sy'n mynd y tu hwnt i hwnnw wedi cynyddu gan dros 4,000 y cant.

Nid yw hwn yn hanes i fod yn falch ohono ac, ochr yn ochr â hynny, mae'r ffaith bod hwn yn Brif Weinidog sydd wedi bod yr unig Brif Weinidog neu'r unig arweinydd Llywodraeth mewn unrhyw le yn y DU i dorri cyllideb gwasanaeth iechyd yn berfformiad truenus. A allwch chi, fel arweinydd y tŷ, ein sicrhau y bydd nodyn ym mewnflwch y Prif Weinidog nesaf yn gofyn am fuddsoddiad yn ein GIG, nid y math hwn o berfformiad yr ydym ni wedi ei weld yn y gorffennol?

Wel, rwy'n credu bod gallu'r Ceidwadwyr i ysgaru eu cefnogaeth i ddewis gwleidyddol wedi'i ysgogi gan gyni cyllidol ar lefel y DU oddi wrth yr effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn gwbl ryfeddol. Llywydd, o ran ein hanes ar y GIG, rydym ni'n parhau i weld lefelau uchel iawn o foddhad gyda GIG Cymru yn cael eu hadrodd. Dangosodd ein harolwg hanfodion gofal diwethaf, er enghraifft, bod 99 y cant o gleifion yn teimlo eu bod yn cael eu trin gydag urddas a pharch, ac roedd 96 y cant yn fodlon â'r gofal cyffredinol yr oeddent yn ei gael. Roedd gan naw deg tri y cant o gleifion farn gadarnhaol ar eu gofal cyffredinol yn arolwg profiad cleifion canser 2016, er enghraifft.

Un o'r canlyniadau mwyaf tyngedfennol o gael diagnosis o ganser yw goroesi, ac rwyf i'n un o'r bobl sydd wedi goroesi. Rwyf i newydd gael fy llythyr yn dweud fy mod i'n rhydd o ganser ers pum mlynedd. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r meddygon a'r nyrsys a weithiodd gyda mi, ac roedd dau ohonynt na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n hynod ddiolchgar eu bod wedi dewis dod i fyw a gweithio yng Nghymru. Rwy'n ddyledus iddyn nhw am fy ngoroesiad parhaus. Rwy'n falch o nodi'r gwelliannau parhaus i oroesiad un a phum mlynedd i'r holl gleifion canser yng Nghymru. Rydym ni'n falch iawn o hynny, a hynny'n gwbl briodol.

Rydym ni'n arwain y ffordd yn rhyngwladol gyda model ymateb clinigol ambiwlansys Cymru. Mae gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Awstralia a Canada wedi efelychu'r dull model ymateb clinigol a arloeswyd yma yng Nghymru erbyn hyn. Mae mwy o bobl yn dechrau'r driniaeth sydd ei hangen arnynt yn unol â'r amser targed. Mae dros 86 y cant o gleifion wedi bod yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth ym mis Medi 2018—3.2 pwynt canran yn uwch nag ym mis Medi 2017, er enghraifft. Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros am dros 36 wythnos ar lwybr atgyfeirio i driniaeth 31 y cant yn is ym mis Medi 2018, o'i gymharu â mis Medi 2017, a 52 y cant yn is na'r lefel uchaf ym mis Awst 2015. Ar sail ei mesurau ei hun, mae Lloegr yn adrodd ei hamser aros gwaethaf erioed—roedd perfformiad o 18 wythnos yn Lloegr ym mis Medi 2018 y gwaethaf erioed.

Dros y tair blynedd diwethaf, rydym ni wedi buddsoddi £130 miliwn yn ychwanegol, rydym ni wedi lleihau amseroedd aros yn sylweddol ar draws y wlad, rydym ni'n parhau i ostwng ein ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal—maen nhw'n is na'r lefelau hanesyddol a welwyd erioed yng Nghymru—rydym ni wedi blaenoriaethu gwariant ar iechyd i sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru a'r system ofal ehangach yr adnoddau angenrheidiol, gan gynllunio ar gyfer dyfodol hirdymor a chynaliadwy. Mae buddsoddiad yn y GIG yng Nghymru yn uwch nag erioed. Rydym ni'n gwario mwy fesul pen ar iechyd nag yn Lloegr, gyda mwy o staff nag erioed o'r blaen yn darparu gofal iechyd o ansawdd uchel ar draws bob rhan o'r GIG. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, aeth mwy nag 1 filiwn o gleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru. Er gwaethaf pwysau ym mis Hydref, roedd wyth o bob 10 claf wedi cael eu hasesu, eu trin a'u rhyddhau o adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr. Dwy awr a 18 munud oedd yr amser aros nodweddiadol o gyrraedd i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Hydref.

Llywydd, rwy'n credu bod gennym ni bob hawl i fod yn falch iawn o hanes ein Prif Weinidog ac o'n hanes fel Llywodraeth Lafur Cymru yma yn y naw mlynedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen at Lywodraeth y dyfodol gyda phleser mawr.

14:15

Gydag un Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig a thri Bwrdd Iechyd, gan gynnwys Abertawe Bro Morgannwg yn fy rhanbarth i, mewn ymyrraeth wedi'i dargedu, nid yw'r darlun yn fêl i gyd, fodd bynnag. Er gwaethaf siarad am symud gofal i'r gymuned a gofal iechyd darbodus dros y 10 mlynedd diwethaf, onid ydych chi'n cytuno nad yw cynllunio gweithlu eich Llywodraeth dros y 10 mlynedd diwethaf wedi cyrraedd y safon?

Nac ydw, nid wyf i'n cytuno â hynny o gwbl. Rwy'n credu y bu pwyslais cryf ar recriwtio a chynllunio. Llywydd, wnaf i ddim trethu'ch amynedd drwy ddarllen ystadegau eto, ond mae'r ystadegau yn amlwg i bawb eu gweld. Rydym ni'n amlwg yn gwneud yn dda iawn yn wir. Fe wnaethom yn eithriadol o dda gyda recriwtio meddygon, er enghraifft, eleni. Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi gwneud sawl datganiad i'r perwyl hwnnw ac wedi ateb cwestiynau i'r perwyl hwnnw yn y tŷ ar sawl achlysur.

Dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ53027

Gwnaf. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus y camau nesaf ar gyfer cryfhau llywodraeth leol yn ei ddatganiad llafar ar 17 Gorffennaf.

Diolch am yr ateb hwnnw. Arweinydd y Tŷ, ym mis Mawrth, cynigiodd Llywodraeth Cymru dri dewis ar gyfer uno awdurdodau lleol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bryd hynny bod angen newid radical. Eto i gyd, mae wedi methu â bwrw ymlaen gyda hyn oherwydd pwysau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Arweinydd y Tŷ, a ydych chi'n credu bod angen newid radical, ac os felly, pryd?

Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg bod awydd ymhlith Llywodraeth Leol i weithio'n dda gyda'i gilydd a chydweithredu. Mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr heddiw wedi crybwyll pethau lle mae cydweithredu wedi gweithio'n hynod o dda. Yn wahanol i Loegr, rydym ni wedi amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag y gwaethaf o'r cyni y mae Llywodraeth y DU yn ei orfodi, ac rydym wedi sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae ein hawdurdodau lleol yn cydweithio'n dda gyda'i gilydd ac fe ddylen nhw fod yn falch iawn o'u gallu i wrthsefyll y cyni didrugaredd.

2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r datganiad gwleidyddol. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gyflwyno'r cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6889 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond yn siomedig nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll yn unrhyw un o’r dogfennau.

2. Yn nodi’n benodol y trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac ar gyfer cyfnod pontio y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson drosto ac a fyddai’n osgoi’r canlyniad trychinebus lle na cheir cytundeb ym mis Mawrth 2019.

3. Yn nodi y bydd gan y Cynulliad gyfle arall i drafod y Cytundeb Ymadael wrth iddo ystyried a fydd yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ai peidio i Fil y Cytundeb Ymadael y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno.

4. Yn credu nad yw’r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y Datganiad Gwleidyddol yn bodloni’r model ar gyfer y berthynas rhwng y DU / EU yn y dyfodol a nodir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n gyson gan y Cynulliad ac nad yw’n rhoi sicrwydd cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol a deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb yn y dyfodol.

5. Yn nodi bod llinellau coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro y cytunwyd arno â’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio’n hytrach ar ddiogelu perthynas hirdymor sy’n darparu fel bod modd cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, gan geisio ymestyn Erthygl 50 os bydd angen.

6. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno aros.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Brexit yn sicr yw'r her wleidyddol fwyaf difrifol i wynebu'r Deyrnas Unedig ers creu'r Cynulliad hwn ac mae'n her sydd wedi troi'n argyfwng llwyr o ganlyniad i'r ffordd ddi-glem a chynhennus y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi rheoli hynny. Mae'r cynnig gerbron y Cynulliad yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, a pham nad yw'r rhain yn cyflawni'r math o Brexit a all sicrhau dyfodol Cymru.

Er mwyn osgoi amheuaeth, gadewch imi ddweud ar y dechrau fod y cytundeb sydd ger ein bron yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru, ac yn un y credwn y dylid ei wrthod. Rwy'n gobeithio y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno â'r sefyllfa honno, fel nad oes unrhyw amheuaeth ymysg y rhai sy'n gyfrifol yn y pen draw am ddyfarnu ar y ddwy elfen o'r cytundeb y mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dod iddo, y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, ynghylch barn y Cynulliad hwn.

Llywydd, mae Senedd y DU ar fin cychwyn ar ei dadl pum diwrnod. Amserwyd ein trafodaethau y prynhawn yma'n fwriadol i sicrhau bod ystyriaeth y Cynulliad yn gallu dylanwadu ar bleidlais ystyrlon a fydd yn terfynu'r ddadl honno. Hefyd, mae angen i'r Cynulliad hwn ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd os bydd Tŷ'r Cyffredin, fel yr ymddengys yn anochel bellach, yn gwrthod cytundeb y Prif Weinidog. Mae rhan olaf cynnig y Llywodraeth sydd gerbron y Cynulliad yn edrych tua'r dyfodol ac yn rhestru'r dewisiadau y credwn ni y dylid eu hystyried os mai dyna fydd yn digwydd.

Llywydd, rwyf eisiau bod yn glir ar y dechrau hefyd y byddai'r cyngor a roddodd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru yn y cyfnod cyn refferendwm 2016 yr un fath os gofynnwyd inni roi cyngor heddiw. Ar sail yr holl dystiolaeth economaidd, byddai Cymru yn well yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac nid yw ein ffyniant wedi ymwreiddio mor ddwfn nac wedi ei hannu mor eang fel y gallwn ni wirfoddoli i niweidio'n hunain yn economaidd. Eto i gyd, y ffaith yw bod Cymru a'r Deyrnas Unedig fel uned gyfan wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. A, Llywydd, ni waeth pa mor gryf yr ydym ni'n teimlo fel unigolion ar ddwy ochr y ddadl Brexit, nid hynny yw canolbwynt yr ystyriaeth y prynhawn yma. Yn hytrach, gofynnwyd inni ddod i'n casgliad ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol.

Dechreuaf gyda'r cytundeb ymadael, oherwydd mae'n amlwg iawn mai dyma'r mwyaf datblygedig o'r ddwy elfen, a hefyd yr agosaf o'r ddwy at safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn wir, os cyferbynnaf y cytundeb ymadael â chynnwys 'Diogelu Dyfodol Cymru', y cytunwyd arno ar y cyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac araith Lancaster House Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn yr un mis, mae'n drawiadol faint yn union yn nes yw'r cytundeb at ein safbwynt ni nag un Mrs May. Mae'n cynnwys cyfres o amddiffyniadau ar gyfer hawliau dinasyddiaeth. Mae'n darparu ar gyfer cyfnod pontio, sydd mor hanfodol er mwyn osgoi dryswch aruthrol i'n heconomi, ac yn caniatáu ar gyfer ymestyn y cyfnod hwnnw os oes angen. Mae'n cynnwys ymrwymiad i dalu'n biliau. Mae'n cynnig alinio rheoleiddio ar gyfer nwyddau a chynnyrch amaethyddol. Mae hyd yn oed, wedi ei gladdu yn nyfnderoedd yr iaith ddryslyd, yn darparu ar gyfer undeb tollau. Ond, Llywydd, rhan o'r rheswm pam na allwn ni gefnogi'r cytundeb ymadael y prynhawn yma yw oherwydd yr union ddryswch hwnnw, oherwydd bod y cytundeb yn dangos, hyd yn oed ar y funud olaf hon, fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn parhau'n amharod i egluro'n fanwl realiti ein sefyllfa. Yn hytrach, mae'n teithio o stiwdio deledu i stiwdio deledu yn ailadrodd mantras sy'n argyhoeddi neb ac, yn hytrach, yn llwyddo i berswadio pobl o safbwyntiau hollol gyferbyniol eu bod nhw yn unedig o leiaf yn hyn o beth—na wnân nhw gefnogi'r Prif Weinidog.

Felly, mae methiant y cytundeb ymadael yn wleidyddol yn ogystal ag yn ymarferol, ond mae gwendidau ymarferol gwirioneddol hefyd. Dyma dair ffordd yn unig y bydd y cytundeb ymadael yn methu â chyflawni canlyniad y gallai Llywodraeth Cymru ei gefnogi. Yn gyntaf, o ran cynifer o'r materion chwarae teg, disgrifiad technocratig o bethau sy'n wirioneddol bwysig i ddinasyddion Cymru, megis safonau amgylcheddol a hawliau gweithwyr, mae'r DU yn ymrwymedig dim ond i beidio â'u gwanhau—nid, mewn geiriau eraill, i geisio cael cyfatebiaeth i safonau esblygol Ewropeaidd. Rydym ni'n credu'n gryf, ac wedi dadlau'n gyson, os yw'r UE yn symud ymlaen mewn materion o'r fath, y dylai'r Deyrnas Unedig wneud hynny hefyd. Ni allwn ni ac ni fyddwn ni yn cefnogi unrhyw beth llai.

Yn ail, nid yw'r cytundeb yn ymdrin â materion y sector gwasanaethau, y rhan fwyaf o'n heconomi, a'r rhan y mae gan y DU warged clir mewn masnach gyda'r UE. Mae'n parhau i ddatgan bod y sector gwasanaethau ar wahân i nwyddau, gyda dim sicrwydd na fydd mynediad i farchnad sengl yr UE wedi ei gyfyngu'n ddifrifol. Mae'r cytundeb ymadael yn parhau i wahaniaethu mewn modd anymarferol rhwng nwyddau a gwasanaethau, a fydd yn niweidio busnesau Cymru, ac ni allwn ni ei gefnogi.

Ac yn drydydd, ac yn ymarferol, Llywydd, mae'r posibilrwydd o ffin ym Môr Iwerddon a fyddai'n cael ei rheoleiddio, gyda chanlyniadau anhysbys i berthynas economaidd Prydain Fawr gydag Ynys Iwerddon, yn parhau i fod yn faen tramgwydd i ni. Nawr, rydym ni'n derbyn y flaenoriaeth absoliwt o sicrhau nad yw ffin galed yn dychwelyd i Iwerddon, ond mae'r trefniadau wrth gefn, fel y maen nhw wedi eu llunio, yn parhau i beri pryder ac fe allan nhw fod yn niweidiol i Gymru.

Llywydd, gellid bod wedi lleddfu ein pryderon am y trefniadau wrth gefn yn gyfan gwbl drwy'r datganiad gwleidyddol y trof ato nawr. Gallai'r datganiad gwleidyddol fod wedi cynnwys ymrwymiad cadarn gan yr UE a'r DU i gael cyfuniad parhaol o undeb tollau a chyfranogiad llawn yn y farchnad sengl. Byddai hynny'n sicrhau na fyddai angen unrhyw rwystrau newydd rhwng unrhyw ran o'r DU a 27 aelod yr UE, sef yr ateb, wrth gwrs, a ddatblygwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn lle hynny, mae'r datganiad gwleidyddol yn amlwg yn methu â chynnwys ymrwymiadau cadarn o'r ddwy ochr i ddatblygu perthynas ar gyfer y dyfodol a fydd yn rhoi'r parhad mwyaf posibl i'n cysylltiadau economaidd gyda'r UE, yn gydnaws â pheidio â bod mwyach yn rhan o'i adeiladaeth wleidyddol. Yn hytrach, mae'n gybolfa o ddogfen a luniwyd ar gefn amlen sy'n ceisio efelychu peth o'r iaith a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn, ond heb symud rhithyn o safbwynt yr UE na ellwch chi gael troed i mewn a throed allan o'r farchnad sengl.

Mae Llywodraeth y DU wedi gorfod cyfaddef nad oedd yn gallu darbwyllo'r UE i wneud ymrwymiadau i fasnachu rhwydd, ac mae'r ffaith werthfawr honno'n golygu ei bod yn anochel bod y datganiad gwleidyddol yn ein gadael gyda llawer llai o fynediad i farchnadoedd o'i gymharu â'r hyn y mae busnesau Cymru yn ei fwynhau heddiw.

14:25

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet. Deallaf mai ffordd ddelfrydol Ysgrifennydd y Cabinet allan o'r cyfyngder presennol fyddai pleidlais o ddiffyg hyder ac etholiad cyffredinol ar ôl hynny. Os yw'r etholiad cyffredinol hwnnw'n digwydd, a fydd y Blaid Lafur yn ymrwymo i gynnig pleidlais i'r bobl?

Llywydd, rwy'n bwriadu dychwelyd at y gyfres honno o faterion ar ddiwedd yr hyn a ddywedaf, a byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb i rai o sylwadau'r Aelod bryd hynny—

Fe gewch chi ddewis cymryd ymyriad ai peidio, Ysgrifennydd y Cabinet.

Llywydd, diolch yn fawr iawn. Clywais y cwestiwn y tro cyntaf; nid oes angen imi ei glywed yr ail waith. [Chwerthin.] Pa fath o sicrwydd y mae hynny yn ei roi—[Torri ar draws.] Pa fath o sicrwydd y mae datganiad gwleidyddol yn ei roi i gyflogwyr Cymru a gweithwyr Cymru, yn enwedig y rhai mewn diwydiannau sy'n ddibynnol ar gadwyni cyflenwi amser-benodol neu y mae eu model busnes yn seiliedig ar gynnwys gwasanaethau yn eu pecyn cynnig, bod, ar ddiwedd y cyfnod pontio, eu buddsoddiad a'u swyddi'n ddiogel.

Mae'r datganiad gwleidyddol yn cynnwys llai na thudalen am symudedd, Llywydd—y mater sylfaenol bwysig hwnnw i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ac i'n prifysgolion. Mae'n cadarnhau bod Llywodraeth bresennol y DU wedi penderfynu o'i phen a'i phastwn ei hun i roi terfyn ar yr hawliau rhyddid i symud presennol, ac ar yr un pryd, gyfyngu ar fynediad hollbwysig i sgiliau ar gyfer ein busnesau a gwasanaethau cyhoeddus, dileu hawliau dinasyddion Prydeinig i fyw a gweithio mewn rhannau eraill o Ewrop, a rhoi ergyd farwol i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl.

Llywydd, os oes gan y cytundeb ymadael ddiffygion difrifol, byddai angen ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol ar raddfa eang pe byddem ni fel Llywodraeth yn ystyried cefnogi ei gymeradwyo. Yn lle hynny, mae'r cynnig yr ydym ni wedi ei gyflwyno ger bron y Cynulliad y prynhawn yma yn ymateb yn ofalus ac yn glir i'r amgylchiadau bythol gyfnewidiol yr ydym ni ynddyn nhw. Mae'r ail welliant, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, yn y bôn yn ymdrin â'r un agweddau â'n rhai ni. Prin yw'r agweddau ynddo y buasem yn wrthwynebus iddyn nhw, ac ni fyddwn yn ei wrthwynebu y prynhawn yma.

Gadewch imi droi yn awr at yr hyn a ddylai ddigwydd, os bydd Tŷ'r Cyffredin, fel y credwn y dylai, yn pleidleisio i wrthwynebu cytundeb y Prif Weinidog. Yn gyntaf oll, rydym ni'n gwrthod yn gyfan gwbl safbwynt y Prif Weinidog bod yn rhaid derbyn ei chytundeb hi neu beidio â chael un o gwbl. Yn ein barn ni, mae yna o leiaf dair ffordd gredadwy o ddatrys y sefyllfa. Yn gyntaf, nid yw'n amhosib o hyd y gallai'r Llywodraeth hon neu un arall negodi cytundeb gwahanol iawn, un sy'n bodloni chwe phrawf Llafur a'r manylion a amlinellir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yna, fel pobl eraill, o Nicola Sturgeon i Arlene Foster, byddem yn ystyried cefnogi cytundeb newydd, wedi ei seilio'n amlwg ar gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl ac undeb tollau. Gelwir y math hwn o Brexit heddiw wrth y term llaw-fer Norway plus, a fyddai'n rhoi'r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar ein busnesau a'n pobl.

Yn ail, Llywydd, erys y posibilrwydd o etholiad cyffredinol, fel y dywedodd Adam Price. Byddai etholiad cyffredinol yn rhoi mandad clir i Lywodraeth newydd ailnegodi, i gynnal ail bleidlais gyhoeddus neu, os cadarnheir barn eiriolwr cyffredinol yr UE heddiw, i ddiddymu hysbysiad Erthygl 50.

Ac, yn drydydd, wrth gwrs, dyna'r bleidlais gyhoeddus newydd ei hun. Rwyf eisiau ailadrodd sicrwydd clir Prif Weinidog Cymru y byddai'r Llywodraeth hon yn ymgyrchu'n frwd am bleidlais o'r fath, os na fydd etholiad cyffredinol nac ailnegodi, a bod yn rhaid i bleidlais o'r fath gael y dewis o aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio. Ond, Llywydd, ni allwn ni gefnogi'r trydydd gwelliant sydd gerbron y Cynulliad, yr ymddengys ei fod yn galw am bleidlais y bobl dan unrhyw amgylchiadau, ac sy'n awgrymu mai dyna'r unig bosibilrwydd ar gyfer y dyfodol, pan nad yw hynny'n wir, yn amlwg.

Felly, Llywydd, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir y prynhawn yma fod y cytundeb a negodwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn annerbyniol. Mae'n methu â bodloni buddiannau sylfaenol Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, a dylid ei wrthod.

14:30

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Neil Hamilton. 

Gwelliant 1—Gareth Bennett

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod pobl wedi pleidleisio drwy fwyafrif ar 23 Mehefin 2016 heb unrhyw amwysedd, neu gyfyngiad, i adael yr UE, ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru anrhydeddu ysbryd a llythyren y penderfyniad hwnnw.

2. Yn credu bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhwystro dymuniadau y 17.4 miliwn o bobl a bleidleisiodd i ymadael.

3. Yn credu bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn ildiad, sy'n negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, gan gadw'r DU yn undeb tollau'r UE am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r UE.

4. Yn galw ar y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adfer sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r UE a'r cyfleoedd byd-eang i fasnachu â gweddill y byd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno, ond o safbwynt cwbl wahanol, â llawer o'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud. Ond mae angen inni ddeall mai'r cefndir i hyn yw canlyniad y refferendwm a gynhaliwyd ddwy flynedd a hanner yn ôl. Heb unrhyw fath o amod, pleidleisiodd y bobl i adael yr UE. Wnaethon nhw ddim pleidleisio i roi mandad negodi i Lywodraeth y DU nac, yn wir, i gyflwyno canlyniadau'r trafodaethau hynny ger eu bron. Yr hyn nad yw'r cytundeb hwn yn ei wneud yw anrhydeddu'r bleidlais honno. Yn wir, mewn termau gwleidyddol, mae'n destun cywilydd cenedlaethol, yn ymostyngiad, sydd wedi rhoi popeth i'r Undeb Ewropeaidd, ac mewn gwirionedd, wedi rhoi dim byd i'r Deyrnas Unedig. Nid yw'n adfer rheolaeth o'n cyfreithiau, yn adfer rheolaeth o'n harian, nac yn adfer rheolaeth o'n ffiniau. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, nid oes unrhyw eglurhad rhesymegol i'r hyn y mae Theresa May wedi ei gyflawni, ac eithrio rhyw fath bwriadol o strategaeth ar ei rhan i danseilio hyn i gyd. Yn y ddwy flynedd a ganiatawyd dan Erthygl 50 i drafod cytundeb gyda'r UE, nid ydym wedi gwneud affliw o ddim i baratoi ar gyfer methiant y trafodaethau hynny. Canlyniad hynny yw bod gennym ni bellach ryw gybolfa o gytundeb, fel y'i gelwir, gyda'r UE, a dryll ar ein pen, yn dweud 'Hwn, neu dim byd.' Ac mae'r 'hwn' yn y bôn yn golygu nad ydym ni'n gadael yr UE mewn unrhyw fodd heblaw am yn ffurfiol.

Mae'r UE wedi cael popeth yr oedd yn ei ddymuno o'r trafodaethau hyn yn y cytundeb ymadael, sy'n rhwymol yn gyfreithiol. Mae popeth a allai fod ar y DU ei eisiau yn y datganiad gwleidyddol, nad yw'n rhwymol. Ac mae'r cyfnod pontio y cytunwyd arno, dan erthygl 32, yn ein cadw yn yr UE am gyfnod amhenodol, oherwydd dywed erthygl 32, yn y bôn, y bydd y cytundeb hwn yn dod i ben yn y flwyddyn 20XX . Felly, does dim ffordd y gallwn ni ryddhau ein hunain o'r cytundeb hwn heb gymeradwyaeth yr UE. Mae'n ein gadael â dim llais, dim pleidlais a dim feto yn yr UE. Mae Theresa May wedi cyflawni'r hyn y byddai unrhyw un wedi credu ar ddechrau'r broses hon oedd yn amhosib, sef cael canlyniad hyd yn oed yn waeth nag aros yn yr UE ei hun. Mae'n traddodi'r Deyrnas Unedig i gyfnod o burdan, pan fydd yn rhaid inni geisio gwneud iawn am ein pechodau gwrth-ffederal ar orchymyn yr UE, gan gyflawni dim byd yn ymarferol o adael yr UE. Mae'r negodi hwn wedi bod yn draed moch llwyr, a'r canlyniad gorau y gallwn ni ei ddisgwyl yn awr yw y caiff y cytundeb hwn, ar 29 Mawrth y flwyddyn nesaf, ei wrthod gan Dŷ'r Cyffredin ac y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid heb gytundeb, ond ar yr un telerau ag yr ydym ni'n ymdrin â gweddill y byd—telerau Sefydliad Masnach y Byd.

Unwaith y bydd protocol y cytundeb hwn mewn grym, mae'n eithaf amlwg na all y DU adael ac eithrio drwy benderfyniad ar y cyd gan y DU a'r UE. A pham fyddai'r UE eisiau ein rhoi mewn sefyllfa lle y gallem ni adael bryd hynny? Oherwydd byddan nhw wedi ein clymu i drefniant parhaol gyda nhw, lle mae ganddyn nhw fynediad am ddim i'n marchnadoedd ni— ac, wrth gwrs, yn gyfnewid, mae gennym ni fynediad am ddim i'w marchnadoedd nhw, ond mae'r anghydbwysedd mewn masnach yn £95 biliwn y flwyddyn o blaid yr UE—ond, ar y llaw arall, byddwn yn ildio ein hawl i negodi cytundebau masnach â gweddill y byd, sef un o fanteision mawr Brexit yn y lle cyntaf. Mae wyth deg pump y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a gweddill y byd sy'n tyfu, tra bod yr UE yn aros yn ei hunfan. A chydag argyfwng arall i'r ewro yn yr arfaeth yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, yna bydd problemau economi Ewrop hyd yn oed yn fwy. Y cyfan y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno iddo yn y trafodaethau hyn yw gwneud ei gorau glas i negodi cytundeb masnach parhaol gyda ni. Ond pam fyddai hi eisiau gwneud hynny?

Amod o'r cytundeb pontio yw bod unrhyw drefniant masnach parhaol sydd gennym ni gyda'r UE yn seiliedig ar diriogaeth bresennol yr undeb tollau sengl. Felly, hyd yn oed pe gallem drefnu bargen â'r UE, byddai hynny ynddo'i hun yn ein hatal rhag llunio cytundebau â gweddill y byd, oherwydd elfen hanfodol o unrhyw gytundeb masnach rydd yw ei bod yn darparu ar gyfer masnach rydd rhwng nwyddau sy'n cael eu gwneud, neu eu cynhyrchu, yng ngwledydd y ddau endid sy'n llunio'r cytundeb. Ac wedyn mae yna reolau tarddiad sy'n berthnasol fel na all trydydd partïon osgoi telerau cytundebau masnach drwy gaffael eu nwyddau drwy diriogaeth y maen nhw'n mynd i mewn iddo heb y cyfyngiadau arferol, os nad oes un. Mae Erthygl 24 o'r cytundeb GATT yn ei gwneud yn ofynnol cael rheolau trefniadau tarddiad, lle cesglir gwybodaeth am darddiad y nwyddau sy'n tramwyo trwy diriogaeth. Felly o ganlyniad, ni fyddwn yn gallu bodloni unrhyw wlad arall yn y byd o ran tarddiad y nwyddau yr ydym ni'n eu gwerthu iddyn nhw. Ac mae hynny'n tanseilio'r union egwyddor y mae cytundebau masnach rydd yn seiliedig arni.

Felly, os oes anghydfod ynglŷn ag ystyr y cytundebau y mae'r Llywodraeth yn eu cynnig, sut mae modd penderfynu ar hynny? Wel, bydd panel cymrodeddu yn cael ei sefydlu, ond, dan erthygl 174 y cytundeb ymadael, caiff anghydfod ei ddatrys yn y pen draw nid gan y panel cymrodeddu ei hun, ond gan Lys Cyfiawnder Ewrop. A chanlyniad hynny, mewn gwirionedd, yw y bydd rheolaeth ein cyfreithiau yn parhau i fod yn seiliedig ar fympwy Llys Cyfiawnder Ewrop. Dywed Carl Baudenbacher, a oedd yn Llywydd Llys Cyfiawnder Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, EFTA, nad tribiwnlys cymrodeddu gwirioneddol yw hwn—y tu ôl iddo, mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn penderfynu popeth. Ac mae hyn yn deillio o gytundeb yr Wcráin. Mae'n anghredadwy y byddai gwlad fel y DU, sef y wlad gyntaf i dderbyn llysoedd annibynnol, yn darostwng ei hun i hyn.

Felly, dyma wladwriaeth gaeth yng ngwir ystyr y gair, lle mae'n rhaid inni dderbyn y rheolau a'r rheoliadau y penderfynir arnyn nhw gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid i ni ufuddhau iddyn nhw. Nid oes gennym lais na phleidlais yn y ffordd y maent yn cael eu gwneud—[Torri ar draws.] Wnes i ddim dadlau—[Torri ar draws.] Na, na, dywedais—dadleuais o blaid Prydain sofran ac annibynnol, lle dylai ein cynrychiolwyr etholedig ein hunain lunio ein cyfreithiau, fel y gwnawn ni yn y fan hon, ac nad ydym ond yn derbyn rheolau drwy'r UE, sydd nid yn unig yn gallu cyfarwyddo ein telerau masnachu â nhw, ond hefyd ein rheolau masnachu â gweddill y byd. Mae hynny'n groes i Brexit—mae hynny'n groes i'r hyn y pleidleisiodd pobl o'i blaid ym mis Mehefin 2016.

Pan ymunwyd â'r farchnad gyffredin ym 1973, fe'i cyflwynwyd fel dim byd amgenach na bargen fasnach. Ni chafodd ei chyflwyno fel rhan o daith tuag at archwladwriaeth Ewropeaidd ganolog, ffederal, sef y daith yr ydym ni arni o hyd. Roedd Angela Merkel yn sôn dim ond bythefnos yn ôl am fyddin Ewropeaidd, ac mae hynny, wrth gwrs, yn bosibilrwydd peryglus iawn yn wir, ac mae gwrthwynebiad sylweddol ymysg y ffederalwyr i NATO fel sefydliad. Maen nhw eisiau bod yn un o brif gymeriadau llwyfan y byd. Mae hynny'n rhywbeth na allai fod yn dderbyniol, yn fy marn i, i Lywodraeth y Deyrnas Unedig byth, ond, yn y pen draw, ni fyddai gennym ni unrhyw reolaeth dros hynny.

Os ydym yn mynd i anrhydeddu canlyniad refferendwm Brexit, rydym yn mynd i orfod wynebu posibilrwydd yn awr sy'n fwy anodd nag y gallem fod wedi ei ddychmygu dwy flynedd yn ôl, ac yn wir, yn llawer mwy anodd nag yr oedd ei angen. Mae Theresa May wedi methu'n llwyr â manteisio ar y cyfleoedd euraid a oedd ganddi, sef, wrth gwrs, y diffyg masnach enfawr sydd gennym ni â'r UE, y £10 biliwn net y flwyddyn yr ydym ni wedi ei gyfrannu i gyllideb yr UE dros y 40 mlynedd diwethaf, a'n gallu i negodi cytundebau masnach â gweddill y byd. Pe byddai hi'n chwarae bridge, yna dewisodd chwarae'r dymi yn fwriadol yn y trafodaethau hyn, gan roi ei chardiau ar y bwrdd i eraill eu gweld, tra bod yr UE wedi chwarae'n ofalus. Yr hyn a wnaeth hi yn y cytundeb masnach hwn yw nid lluchio'r babi gyda'r brych, ond mewn gwirionedd lluchio'r babi a chadw'r brych.

14:40

Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Steffan Lewis. 

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwyntiau 1-5 a rhoi yn eu lle:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.

Yn credu nad yw'r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion.

Yn nodi bod dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol presennol.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.

Yn galw am estyniad i’r broses ar gyfer erthygl 50.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn galw am bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys opsiwn i'r DU barhau i fod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Llywydd. Mae'n drueni mawr nad yw rhethreg Ysgrifennydd y Cabinet yn ei sylwadau agoriadol i'w gweld yn y cynnig, gan fod Plaid Cymru wedi gobeithio heddiw bod mewn sefyllfa lle y gallai gefnogi cynnig y Llywodraeth ynglŷn â'r cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol. Ond rwy'n siomedig felly nad yw'r consensws rhwng ein dwy blaid o adeg cyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' wedi parhau. Roedd 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn nodi telerau ac amodau Cymru, os mynnwch chi, o ran beth fyddai'n rhaid i gytundeb ymadael ei gynnwys er mwyn bod yn dderbyniol ac, wrth gwrs, mae'n egluro'n fanwl iawn y weledigaeth ar gyfer perthynas rhwng Cymru, y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd yn galw am barhau i fod yn rhan o farchnad sengl ac undeb tollau'r UE ac am sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion, ac mae cytundeb Theresa May ymhell o gyflawni'r rhain ym mhob ffordd.  

Rwy'n arbennig o siomedig fodd bynnag nad yw cynnig y Llywodraeth, fel y'i cyflwynwyd, yn gwneud fawr mwy na nodi datblygiadau diweddar, yn hytrach nag awgrymu safbwynt penodol y dylai'r Cynulliad ei arddel ynglŷn â'r datblygiadau hynny eu hunain. Mae'r cynnig yn gwneud tri datganiad: bod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol yn bodoli; bod cyfnod pontio yn ffurfio rhan o'r cytundeb ac y bydd hyn yn atal sefyllfa o 'ddim cytundeb'; ac y bydd y Cynulliad, yn y dyfodol, yn penderfynu a ddylem ni roi ein cydsyniad terfynol i Fil y cytundeb ymadael. Ond mae honiadau'r Llywodraeth bod y cyfnod pontio yn atal sefyllfa o 'ddim cytundeb' yn anghywir; dyw e ddim yn wir. Yr hyn sy'n osgoi sefyllfa o 'ddim cytundeb' yw cytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Tybed a oedd y cynnig i fod i ddweud bod y cyfnod pontio yn osgoi gadael heb unrhyw drefniadau, a fyddai, wrth gwrs, yn wir. Ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet cystal ag egluro beth yw meddylfryd y Llywodraeth ynglŷn â'r sylw hwn, oherwydd nid yw'n glir i mi, beth bynnag?

Mae'r Llywodraeth hefyd yn anghywir i nodi y bydd cyfle arall yn sicr ymhellach yn y dyfodol i'r Cynulliad bleidleisio ar y cytundeb ymadael. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn dibynnu ar natur Bil y Cytundeb Ymadael. Felly, nid oes dim i ddweud yn sicr nad hwn fydd ein hunig gyfle heddiw, y prynhawn yma, i bleidleisio ac i ddod i farn bendant un ffordd neu'r llall ar y cytundeb ymadael. A dyna pam fy mod i'n annog yr Aelodau heddiw i wneud mwy na dim ond nodi bodolaeth y cytundeb ymadael ac i ddweud yn blwmp ac yn blaen fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei wrthod. Fel arall, mae Cymru mewn peryg o fod yr unig ddeddfwrfa yn y DU gyfan i gynnig cymorth digwestiwn i'r cytundeb ymadael, er, fel y cyfeiria cynnig Llywodraeth Cymru ato'n benodol, nad oes sôn am Gymru unwaith yn y ddogfen 585 tudalen. Mae cynnig Llywodraeth Cymru wedyn yn mynd ymlaen i ddweud nad yw'r datganiad gwleidyddol yn cyflawni'r model perthynas ar gyfer y dyfodol sy'n cael ei ddisgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.

Er nad yw'n glir, mae'n ymddangos i mi o'r geiriad y byddai'r Llywodraeth yn fodlon, mewn rhai amgylchiadau, i gydsynio i'r cytundeb ymadael os gwneir newidiadau i'r datganiad gwleidyddol. Ond, unwaith eto, nid ymddengys bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiadau agoriadol. Felly, a all egluro a wyf i, unwaith eto, wedi camddarllen y cynnig ynteu a fu newid barn, neu beth yn union yw'r sefyllfa? A oes amgylchiadau lle byddai'r cytundeb ymadael yn cael cymorth y Llywodraeth hon, ar yr amod y caiff y datganiad gwleidyddol ei newid? Barn Plaid Cymru yw nad oes unrhyw newid y gellir ei wneud i'r datganiad gwleidyddol a fyddai'n gwneud y cytundeb ymadael yn fwy derbyniol. Dyna'n union yw'r cytundeb ymadael. Mae'n tynnu Cymru o'r farchnad sengl, yn tynnu Cymru o'r undeb tollau, yn tynnu Cymru o raglenni'r UE, nid yw'n gwarantu hawliau gweithwyr, ac mae'n bosib iddo fod yn niweidiol iawn i economi Cymru.

Llywydd, mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru yn disodli'r rhestr ffeithiau—neu ffeithiau tybiedig—ac yn eu lle yn rhoi cyfle i'r Cynulliad hwn fabwysiadu safbwynt clir os yw'n dewis gwneud hynny. Mae'n gwrthod y datganiad gwleidyddol a'r cytundeb ymadael oherwydd nad ydyn nhw'n cyflawni'r ymrwymiadau a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth o farchnad sengl yr UE ac undeb tollau'r UE, ac mae'n galw am estyniad i Erthygl 50. Gellid ymestyn Erthygl 50 er mwyn negodi trefniant Brexit gwahanol lle byddwn yn aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau yn barhaol. Pe byddem yn gwneud hynny, ni fyddai angen cael cyfnod pontio lle byddem ni y tu allan i'r UE, yn gorfod negodi cydberthynas hirdymor newydd o'r tu allan.

Rwy'n gwybod mai safbwynt Llafur y DU ynglŷn ag aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yw y dylem ni adael y ddau ohonyn nhw a negodi bargen newydd, a dyna, wrth gwrs, yw safbwynt y Blaid Geidwadol hefyd. Felly, rwy'n deall efallai na fydd rhai Aelodau yn gallu cefnogi ein gwelliant cyntaf ar y sail honno. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau o ddifrif yn ystyried cefnogi ein hail welliant, sy'n un ar wahân, sy'n disodli pwynt 6 cynnig y Llywodraeth. Mae pwynt 6 cynnig y Llywodraeth yn galw am etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus, tra bod ein gwelliant ni yn dweud yn syml y dylid cael pleidlais y bobl a ddylai gynnwys y dewis i aros ar y papur pleidleisio. Yr wythnos diwethaf, dywedodd John McDonnell y byddai sicrhau etholiad cyffredinol yn anodd iawn, ac rwy'n cytuno ag ef. Mae'n anymarferol, ac ni fyddai'n rhoi canlyniad gwahanol i bobl yng Nghymru na ledled y Deyrnas Unedig oherwydd byddai'r ddwy blaid fwyaf blaenllaw yn yr etholiad cyffredinol hwnnw yn ymgyrchu i dynnu'r Deyrnas Unedig o'r farchnad sengl. Felly, byddai gennym ni'r un cyfyngder seneddol yn San Steffan ag sydd gennym ni dan y Llywodraeth dila hon yn awr. Erbyn hyn mae cefnogaeth gynyddol ym mhob plaid i gael pleidlais y bobl, ac mae llawer o hynny oherwydd yn syml na all y Senedd roi trefn ar hyn. Dim ond refferendwm o'r newydd all roi terfyn ar y cyfyngder gwleidyddol. Felly, rwy'n wirioneddol obeithio y bydd gwelliant i gael pleidlais y bobl yn cael mwyafrif trawsbleidiol yma heddiw.

Llywydd, yn awr ac yn y man, fel seneddwyr, gofynnir inni wrando ar ein cydwybod cyn bwrw pleidlais ar ddigwyddiadau a phenderfyniadau gwirioneddol hanesyddol. Mae fy nghydwybod i yn dweud wrthyf fod y cytundeb sy'n cael ei gynnig mor niweidiol i'r cymunedau y'n hetholwyd i'w cynrychioli fel nad yw'r cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol yn haeddu cefnogaeth y Senedd hon, ac na ddylid eu nodi ond eu gwrthod gan y Senedd hon. Rwy'n credu o ddifrif bod caniatáu i bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen o'r fan hon yn ddemocrataidd gadarn a hefyd yn hanfodol er mwyn datrys yr anghytundeb gwleidyddol yn San Steffan. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau Plaid Cymru fel bod ein Senedd mewn gwirionedd yn mynegi safbwynt ar y materion sylfaenol hyn, ac fel y gallwn ni hefyd gymeradwyo'n glir hawl y bobl i gael y gair olaf. Diolch yn fawr.

14:45

Llywydd, yn y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd fe welwyd dadleuon angerddol a barn gref ar y ddwy ochr. Fe wnaeth y penderfyniad i aros arwain at safbwyntiau cyferbyniol mewn teuluoedd, cymunedau, pleidiau gwleidyddol, y Siambr hon ac, yn wir, y wlad. Pleidleisiodd pedwar deg saith a hanner y cant o'r etholwyr i aros tra pleidleisiodd 52.5 y cant i adael. A bydd pob unigolyn wedi bod â rhesymau gwahanol dros bleidleisio y ffordd a wnaeth. Ni fydd gwella'r rhaniadau hyn ac adeiladu dyfodol mwy disglair i Gymru a theulu'r Deyrnas Unedig yn hawdd. Mae dod i ganlyniad yn y trafodaethau hynny sy'n cael cymeradwyaeth 27 gwlad yr UE ac sy'n bodloni gofynion cyferbyniol y 33 miliwn o bleidleiswyr a gymerodd ran yn y refferendwm bron yn amhosib yn sicr. Ond nid swydd Theresa May yw bodloni'r ddwy ochr—y rhai a oedd eisiau gadael a'r rhai a oedd eisiau aros; mae'n ymwneud ag anrhydeddu canlyniad y refferendwm a sicrhau'r cytundeb gorau posib i Gymru a'r DU wrth inni gychwyn ar ddyfodol newydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Rwy'n credu y bydd y cytundeb a negodwyd gan Lywodraeth y DU yn anrhydeddu canlyniad y refferendwm. Bydd yn ailgyflwyno rheolaeth dros ein ffiniau ac yn rhoi terfyn ar y rhyddid i symud. Bydd yn dychwelyd sofraniaeth i Senedd y Deyrnas Unedig. Bydd yn amddiffyn swyddi, yn galluogi'r DU i sicrhau cytundeb masnach rydd gyda'r UE ac yn galluogi'r DU i lunio cytundebau masnach â gwledydd ledled y byd. Bydd yn galluogi Llywodraethau'r DU i fuddsoddi'n briodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol gan na fyddwn ni bellach yn anfon cyfraniadau sylweddol at yr UE. Byddwn yn gallu parhau i gydweithio'n agos â'n cymdogion yn yr UE yn y frwydr yn erbyn troseddu a therfysgaeth. Ac mae'n gytundeb sy'n diogelu nid yn unig urddas y DU, ond sy'n ei gryfhau gyda mwy o bwerau yn y pen draw yn cael eu trosglwyddo i'r llywodraethau datganoledig, gan gynnwys yma yng Nghymru.

Nawr, fel pob trafodaeth, mae'n gyfaddawd. Felly rwy'n sylweddoli na fydd ar yr un pryd yn bodloni'r Brecsitwyr caled a'r arhoswyr selog. Ond rwy'n credu ei fod yn gytundeb a all uno'r bobl hynny sy'n parchu canlyniad y refferendwm. Fel cyfaddawd, efallai nad yw'r cytundeb yn berffaith, ond yn sicr mae'n well na'r dewisiadau eraill o ddim cytundeb neu ddim Brexit o gwbl. Os na lwyddwn ni i sicrhau cytundeb gyda'r UE—

14:50

Mewn munud. Os methwn ni â sicrhau cytundeb â'r UE, byddwn yn gadael heb gytundeb ym mis Mawrth 2019, gan fygwth anhrefn i'n heconomi. Mae arweinwyr busnes eisoes wedi rhybuddio mai'r rhwystr mwyaf i dwf economaidd ar hyn o bryd yw ansicrwydd oherwydd Brexit. Byddai sefyllfa o 'ddim cytundeb' yn gwneud dim ond gwaethygu'r ansicrwydd, sy'n bygwth buddsoddiad, swyddi ac incwm teuluoedd sy'n gweithio'n galed. Ac nid busnesau mawr fyddai'n dioddef fwyaf, ond busnesau bach a chanolig, cyflenwyr cwmnïau mwy o faint, gweithgynhyrchwyr bach sy'n allforio nwyddau gyda gweithwyr medrus ar enillion cyfartalog; gellid peryglu eu swyddi.

Caergybi yw'r porthladd cludo nwyddau ail prysuraf yn y DU, gyda cherbydau'n gallu gyrru ar ac oddi ar longau yn rhwydd, ac fe allai 'dim cytundeb' beryglu llif rhwydd y traffig drwy feysydd awyr a phorthladdoedd y DU, gan gynnwys Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro.

Ildiaf i arweinydd Plaid Cymru.

Rwy'n ddiolchgar iawn iddo. Ai ei farn ef yw y bydd Cymru'n well ei byd, o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol, pe bai'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd os yw cytundeb y Llywodraeth yn ennill y dydd?

Mae'n bwysig ein bod ni'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, ac rwy'n credu y bydd y cytundeb hwn yn parchu—[Torri ar draws.] Llywydd, bydd y cytundeb hwn yn parchu canlyniad y refferendwm, ac, ar yr un pryd, bydd yn caniatáu i'n busnesau barhau i fasnachu gyda'r UE.

Nawr, mae economi Cymru yn fwy dibynnol na rhannau eraill o'r DU ar allforion i'r Undeb Ewropeaidd. Mae angen sicrwydd ar y busnesau hyn er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae angen sicrwydd ar y ffermwyr hefyd ar gyfer dyfodol eu diwydiant wedi inni adael yr UE.  Dywedodd John Davies, Llywydd NFU Cymru, pan gyfarfu â Phrif Weinidog y Deyrnas Uned yn y Ffair Aeaf,

ei fod yn cymeradwyo'r ffaith fod y cytundeb y mae hi wedi dod iddo mor agos â phosib at yr amodau masnach rydd a di-rwystr ar gyfer cynnyrch bwyd ac amaethyddol y buon nhw'n lobïo ar eu cyfer dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn wir, mae Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, wedi dweud hefyd

fod y cytundeb ymadael y cytunodd y Cabinet a'r UE arno yn cynnwys bron 600 o dudalennau o fanylion yr hyn fyddai'n digwydd yn ystod cyfnod o 21 mis, a bod y tudalennau hynny yn cynnwys sawl gwarant bwysig ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiannau eraill.

Felly, mae'n amlwg bod yr undebau ffermio yn croesawu'r cytundeb hwn fel cam ymlaen i  amddiffyn ein diwydiant amaethyddol.

Y dewis amgen i'r cytundeb hwn yw dim Brexit o gwbl. Mae uwch gynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir mai hwn yw'r cytundeb sy'n cael ei gynnig ac na chaiff unrhyw gytundeb arall ei negodi rhwng nawr a diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Dyma beth —

Dyma beth mae'r UE wedi dweud dro ar ôl tro, ac roedd Brexit, mewn sawl ffordd, yn bleidlais yn erbyn y sefydliad gwleidyddol yn San Steffan a Bae Caerdydd cymaint ag ym Mrwsel. Byddai hi'n weithred beryglus iawn i'r sefydliad hwnnw ymateb i'r bleidlais honno gan  anwybyddu ewyllys y bobl yn llwyr, ac, wrth inni ddynesu at 29 Mawrth 2019, mae'r cloc yn tician a dyma'r unig gytundeb sydd ar gynnig. 

14:55

Na wnaf, wna i ddim.

Yr unig ddau ddewis: naill ai gamblo gyda swyddi'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli neu anwybyddu eu penderfyniad i adael.

Llywydd, mae'r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru yn dweud wrthych chi bopeth y mae angen i chi ei wybod. Does dim ond rhaid i chi ddarllen y pum gair olaf:

pa un a yw'n dymuno aros.

Gofynnwyd i Gymru ar 23 Mehefin 2016 pa un a yw'n dymuno aros ac roedd dyfarniad pobl Cymru yn glir. Gyda bron iawn i 72 y cant yn pleidleisio, bron ddwywaith y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau diwethaf y Cynulliad, pleidleisiodd dros 850,000 o bleidleiswyr Cymru i adael—y bleidlais boblogaidd fwyaf ar gyfer unrhyw beth mewn dros 20 mlynedd. Pleidleisiodd dau ar bymtheg o 22 o ardaloedd cyngor Cymru i adael ac, ar wahân i Aelodau sy'n cynrychioli Caerdydd a Bro Morgannwg, mae pob Aelod Cynulliad Llafur yn cynrychioli etholaeth neu ranbarth a bleidleisiodd i adael. Mae dros hanner y grŵp Plaid Cymru yn cynrychioli ardal sydd wedi pleidleisio i adael. O ran ein haelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, pleidleisiodd Powys i adael. Eto, heddiw, ymddengys i mi fod yr Aelodau hyn yn ceisio tanseilio democratiaeth drwy geisio—[Torri ar draws.]

Diolch, Llywydd. Yr unig beth sydd wedi bod yn fwy poblogaidd na'r mandad ar gyfer Brexit ymhlith yr etholwyr yw pleidlais boblogaidd Cymru dros Tony Blair a Llafur newydd yn 1997. Wrth gwrs, ni fydd Aelodau yn synnu fy mod i'n siomedig iawn gyda chanlyniad yr etholiad hwnnw yn 1997, ond roeddwn i'n parchu mandad dros 800,000 o bleidleiswyr yng Nghymru ac yn sicr nid oeddwn i'n galw am ail-gynnal yr etholiad hwnnw oherwydd fy mod i'n anghytuno â'r canlyniad. Yr eironi, wrth gwrs, yw bod gan Brexit fwy o ddilysrwydd a mwy o fandad gan y cyhoedd na'r Llywodraeth Cymru hon, sydd, mae'n ymddangos i mi, yn ceisio ei wyrdroi. Ysbrydolwyd llawer o'r rhai a bleidleisiodd i adael gan ymdeimlad eu bod yn cael eu rheoli yn rhannol gan sefydliad methedig, pell, di-ddeall nad oedd yn gwrando arnyn nhw. A yw hynny'n swnio'n gyfarwydd i'r Llywodraeth hon yng Nghymru? Byddai gofyn am refferendwm arall i wrthdroi'r canlyniad cyntaf nid yn unig yn mynd â ni'n ôl i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ar y cychwyn, ond byddai'n bradychu'r 17 miliwn a bleidleisiodd i adael. Byddai'n anwybyddu ewyllys pleidleiswyr ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, y Rhondda, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe. Ac, os yw'r refferendwm newydd yn gwrthdroi'r cyntaf, yna a ddylem ni gael y gorau o dri neu hyd yn oed gorau o bump i wneud yn siŵr?

Mae cynnig Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y dylid canolbwyntio yn hytrach ar sicrhau perthynas hirdymor sy'n rhoi cyfle i fod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru'n gwybod yn iawn y bydd negodi ein perthynas yn y dyfodol gyda'r UE yn digwydd ar ôl mis Mawrth y flwyddyn nesaf ac y byddai ymestyn cyfnod erthygl 50 yn niweidio ein heconomi, gan ddod â mwy o ansicrwydd a gadael busnesau a chyflogwyr yn nhir neb.

Byddai ceisio cael etholiad cyffredinol yn awr yn hunanfaldod gwleidyddol ar adeg pan fo'n gwlad angen i'w harweinyddiaeth sicrhau perthynas ein gwlad yn y dyfodol gyda gweddill y byd. Yn hytrach na cheisio tanseilio canlyniad y refferendwm, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r cytundeb gorau posibl i ffermwyr Cymru, i fanteisio ar fuddsoddiad posibl a sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu ac i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau Cymru i helpu i wneud Cymru yn wlad fwy ffyniannus.

Llywydd, roedd refferendwm Brexit yn ddi-os yn gynhennus. Os bydd yr anghydfod a'r ansicrwydd yma'n parhau heb wneud dim i'w unioni, mae'n bygwth ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus; mae perygl iddo dynnu ein sylw oddi ar y materion bara menyn o wasanaethau cyhoeddus sydd o bwys i'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r bobl wedi llefaru—pleidleisiodd pobl Cymru i adael. Mae'n amser bellach i wleidyddion uno ar y cyfarwyddyd hwnnw, i anrhydeddu canlyniad y refferendwm, i ddod â phwerau yn ôl o Frwsel i San Steffan ac i Gaerdydd, ac i gyflawni addewid a photensial Brexit. Mae angen i ni roi terfyn ar yr anghydfod a'r ansicrwydd, ac mae angen i ni greu dyfodol newydd, mwy disglair i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig.

15:00

A gaf i fod yn glir o'r cychwyn cyntaf y byddaf yn pleidleisio o blaid gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth, a bod y grŵp Llafur wedi fy ymryddhau i wneud hynny?

Llywydd, ni fyddaf yn pleidleisio i gymeradwyo Brexit Mrs May mewn unrhyw fodd. Fel llawer yn y Siambr hon, rwy'n cynrychioli rhai o'r bobl dlotaf ym Mhrydain, a wna i ddim pleidleisio dros unrhyw beth sy'n eu gwneud yn dlotach, a dyna mae pob un ohonom ni'n ei wybod y bydd y Brexit yma neu unrhyw un arall yn ei wneud. Mae'n ddewis unigol i bob un ohonom ni, ond yn y bôn, mae'n benderfyniad moesol sylfaenol. Nid wyf yn credu bod unrhyw un yma, hyd yn oed y bobl yr wyf yn anghytuno â nhw am gymaint o bethau, wedi penderfynu bod yn rhan o wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus i wneud pobl yn waeth eu byd. Ond os byddwn ni'n pleidleisio i gymeradwyo Brexit, dyna'n union beth y byddwn ni'n ei wneud. Efallai y bydd rhai Aelodau yn anghytuno. Dyna'u hawl, ac rwy'n eu parchu nhw yn llawer mwy nag unrhyw un sy'n dweud bod yn rhaid inni bleidleisio dros Brexit oherwydd y refferendwm blaenorol. Nid oes unrhyw bleidlais yn dileu ein cyfrifoldeb moesol, ac fe ddylem ni gofio hynny a bod yn ddewr—nawr yn fwy nag erioed.

Llywydd, roedd y ddadl ynglŷn â Brexit yn llawn dewisiadau ffug, dewisiadau ffug sy'n amlach na pheidio yn dod i olau dydd pan ei bod hi'n rhy hwyr i wneud unrhyw beth am yr anwiredd y maen nhw'n seiliedig arno: anwireddau fel, 'fe ddylem ni bleidleisio dros Brexit i roi £350 miliwn yr wythnos i'r GIG; anwiredd fel yr honiad y byddai aros yn yr UE yn rhoi ein ffiniau ar gyrion Syria ac Irac; anwireddau fel y syniad bod ganddom ni'r llaw uchaf yn y negodiadau, ac y byddai cael cytundeb da y peth hawddaf yn y byd. Roedd pob un o'r rhai hynny yn honiadau gwag a wnaed gan bobl a ddylai, ac mewn llawer o achosion a oedd yn gwybod yn well. Heddiw, mae gennym ni un arall, bod yn rhaid inni dderbyn cytundeb y Prif Weinidog, neu fel arall rydym ni'n syllu dros y dibyn ar Brexit 'dim cytundeb'. Felly, gadewch imi ei gwneud hi'n glir: os oedd y dewis erioed rhwng Brexit Mrs May a Brexit 'dim cytundeb', mae'r adeg honno wedi mynd heibio. Y dewis heddiw yw rhwng pa bynnag fath o gytundeb Brexit truenus y mae ciwed Llywodraeth y DU, UKIP, a'r grŵp ymchwil Ewropeaidd wedi penderfynu uno y tu ôl iddo, ac, yn hytrach, aros yn aelodau llawn o'r Undeb Ewropeaidd: aelodau llawn gyda'n holl hawliau; aelodau llawn gyda llais, pleidlais a feto; aelodau llawn gyda dylanwad y gall ac y dylai gwlad fel y Deyrnas Unedig ei gael, yn hytrach na chael ein darostwng i rywle lle mae angen erfyn am friwsion o fwrdd Donald Trump. Pleidlais y bobl yw'r ffordd i ddatrys hyn, ac rwy'n credu y daw hynny. Fel carreg fawr sydd wedi bod yn rholio i lawr gryn bellter o ben y mynydd, rydym ni'n dal heb fod yn gallu ei weld, ond erbyn hyn gall bawb glywed ei sŵn. 

A hoffai'r Aelod atgoffa'r Cynulliad sut y pleidleisiodd ei hetholaeth hi?

Ie. Rwy'n gwbl ymwybodol o hynny, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn nad yw democratiaeth yn rhywbeth cyfyngedig sy'n rhewi mewn amser, ac mae fy etholwyr yn poeni am y dyfodol sy'n eu hwynebu gyda'r cytundeb hwn.

Fel gwladgarwr, na fu ofn arnaf erioed bod yn Gymraes ac yn Brydeinwraig, ac sy'n eithriadol o falch o'r ddau, byddaf yn dadlau yn yr ymgyrch sydd ar ddod ar gyfer yr unig ddewis sy'n iawn ar gyfer ein pobl, boed yng Nghymoedd Gwent, rhesi tai Caerdydd neu ffermydd Ceredigion—i aros. I aros yn wlad nerthol nad yw'n ofni ei lle yn y byd, i aros yn falch o'n gwerthoedd o ryngwladoldeb a bod yn agored, i aros yn driw i'n hymdeimlad o'n hunan fel man lle mae pobl yn bwysicach nag y bydd ideoleg fyth. Hynny yw fy Nghymru i, fy Nheyrnas Unedig i, a dyna beth fyddaf i yn ei amddiffyn gyda fy mhleidlais. Rwy'n annog pawb yn y Siambr hon i ymuno â'i gilydd i wneud safiad gyda'r bobl yn erbyn y llanast hwn o Brexit.

Wyddoch chi, mae'n syndod i mi sut mae arweinydd y Blaid Geidwadol bellach yn gwisgo dillad ei blaid ym maneri y bobl, wyddoch chi. Mae'r blaid hon sydd bron bob amser ers y Ddeddf ddiwygio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi pleidleisio yn erbyn ymestyn y bleidlais yn awr, mae'n debyg—. Fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn ymestyn y bleidlais i fenywod, ac yn wir i bob oedolyn gwrywaidd yn 1918. Nawr, maen nhw'n hawlio mai nhw yw plaid y bobl. Wel, fe ddywedaf i hyn, nad yw'r bobl wedi'u darbwyllo ronyn gan hynny. Edrychwch, pan roedd y Siartwyr yn gorymdeithio o blaid democratiaeth, beth oedd y chweched peth yr oedden nhw'n ei fynnu, yr un nad yw byth wedi ei wireddu? Y peth yna oedd Senedd flynyddol. Oherwydd, roedden nhw'n dweud, bod gan y bobl yr hawl i newid eu meddwl. I ddyfynnu'r economegydd John Maynard Keynes, pan ofynnwyd iddo ynglŷn â newid ei feddwl:

Pan fydd y ffeithiau'n newid, rwy'n newid fy meddwl. Beth ydych chi'n ei wneud...?

Gall pobl weld yn glir y canlyniadau economaidd a chymdeithasol y bydd eich polisi yn esgor arnyn nhw os caniateir i'ch Llywodraeth gario'r dydd. Ac nid wyf i, nac eraill yn y lle hwn, yn mynd i ganiatáu i hynny ddigwydd. A dyma'r alwad i'r lle hwn bellach, ynte? Roeddem ni'n trafod eiliadau yn ôl, yn araith ardderchog Lynne Neagle, yr alwad i ni wneud safiad, wyddoch chi? Mae Seneddau yn ymwneud â safbwyntiau. Mae'n rhaid inni osod ein baner a phenderfynu ble'r ydym ni. Ar yr adeg hon, mae un o'r penderfyniadau mwyaf, un o'r penderfyniadau mwyaf sylweddol a gaiff ei wneud yn yr ynysoedd hyn, a fydd yn bwrw ei gysgod am ddegawdau, yn galw am inni fod yn glir ac yn ddiamwys. Mae'n galw am inni wneud safiad dros y bobl, ac am iddyn nhw beidio â chael y math hwn o ddryswch economaidd wedi ei wthio i lawr eu corn gyddfau. Yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano yw democratiaeth, i bobl wneud y penderfyniad, gan na wnaeth yr un ohonyn nhw bleidleisio—[Torri ar draws.] Ni wnaeth yr un ohonyn nhw bleidleisio dros y polisi hwn y mae eich Llywodraeth yn awr yn ei gynnig.

Ildiaf i'r Aelod.

15:05

Pleidleisiodd y bobl i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r Aelod yn cytuno â sut y pleidleisiodd y bobl, felly mae'n ceisio ei wyrdroi, ac yn wahanol i'r Siartwyr, a oedd yn disgwyl i'r Senedd flynyddol gael ei sefydlu cyn iddyn nhw gael eu trechu, mae eisiau anwybyddu'r hyn a benderfynodd y bobl.

Rwy'n gofyn am y gwrthwyneb i hynny. Rwy'n gofyn i'r bobl fwrw eu barn ar bolisi na chafodd erioed ei roi ger eu bron, oherwydd nad oedd hyd yn oed y mymryn lleiaf o wybodaeth ar gael iddyn nhw o ran beth yr ydych chi'n ei gynnig mewn gwirionedd. A beth am y bobl 16 a 17 mlwydd oed nad oedd pleidlais ganddyn nhw bryd hynny, y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio'n fwy ar eu dyfodol, oherwydd eu dyfodol nhw yr ydym ni'n sôn amdano? Onid oes ganddyn nhw'r hawl i bleidleisio? Onid ydyn nhw'n bobl hefyd? Ac a wnewch chi eu hamddifadu nhw o'r cyfle i gael gwrandawiad i'w llais ar y penderfyniad mwyaf y mae eu cenhedlaeth nhw yn ei wynebu?

Trof yn awr—[Torri ar draws.] Ildiaf i'r Aelod.

Mae'r Aelod yn cyflwyno dadl huawdl dros gael ail refferendwm, ond a oedd ef o blaid y refferendwm cyntaf? Ac os ydym ni'n cynnal ail refferendwm, pam na ddylem ni gael trydydd, pedwerydd, pumed, ac ati yn flynyddol?

Wel, edrychwch, wyddoch chi, rwyf erioed wedi bod o'r farn y dylai hyn fod wedi bod yn broses dau gam. Galwais, o fewn, rwy'n credu, 36 awr, am ail refferendwm. Felly, rwyf wedi bod yn gyson ynglŷn â hyn, oherwydd dylai fod erioed wedi bod yn broses dau gam, oherwydd yr achos o hyd oedd bod y realiti gwirioneddol—nid ungyrn Brexit amhosibl, anymarferol, ffantasïol, ond y cynnig Brexit gwirioneddol, na fyddid byth wedi ei gyflwyno yn y refferendwm cyntaf. Nid oedd yn llu o wahanol bosibiliadau. Bellach mae gennym ni gynnig pendant, neu beth bynnag a ddaw o'r llanast sydd yn San Steffan ar hyn o bryd; dylid cyflwyno hynny wedyn i'r bobl. Rydych chi eich hun yn gwrthwynebu'r cytundeb hwn hefyd. Siawns mai'r ffordd o ddatrys y sefyllfa amhosibl hon yw mynd yn ôl at y bobl a gofyn am eu barn derfynol.

Apeliaf at yr Aelodau ar y meinciau Llafur. Mae angen eglurder arnom ni ar hyn o bryd. Y broblem gyda safbwynt y Llywodraeth yw, fel y dywedodd Jeremy Corbyn:

rhestr amwys o ddewisiadau yw hyn, nid cynllun ar gyfer y dyfodol.

Sylwebaeth yw hyn, nid polisi mewn gwirionedd. Nid yw'n ddigon i ddweud, 'Wel, os nad etholiad cyffredinol, os nad ailnegodi, yna efallai pleidlais gyhoeddus.' Nid dyna sydd ei angen ar yr adeg hon. Mae angen i'r Llywodraeth ymateb i'r hyn sy'n digwydd. Mae gennym ni gyfle hanesyddol. Mae yn ein dwylo ni. Nid yw'n ddigon dweud 'naill ai/neu'. Ac apeliaf ar yr Aelodau Llafur ar y meinciau cefn, oherwydd, yn amlwg, nid oes llawer o obaith; mae safbwynt y Llywodraeth yn derfynol, yn anffodus.

Rydym ni wedi ceisio, gyda llaw,cael cytundeb trawsbleidiol. Rwyf i wedi bod yn ceisio yn San Steffan. Bydd mynd ati yn y modd hwnnw yn gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant, os gweithiwn ni gyda'n gilydd. Ni fu hynny'n bosibl yma, ac mae hynny'n dristwch mawr. Yn Senedd yr Alban, aeth Llywodraeth yr Alban ati mewn ffordd wahanol. Fe aethon nhw at y gwrthbleidiau, ac fe wnaethon nhw lwyddo i greu cynghrair trawsbleidiol ynghylch y mater hwn, gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur a'r Gwyrddion. Dyna'r math o weithredu sydd ei angen arnom ni. Dyna'r math o weithredu yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yn San Steffan: cynghrair yn erbyn anhrefn. Yn anffodus, mae gennym ni gynnig nad yw'n plesio neb, ac yn anffodus ni allwn gefnogi'r cynnig fel y mae ar hyn o bryd. Ond mae cyfle yma i Aelodau Llafur gefnogi—y cyfle, cyfle hanesyddol, i dynnu’r cortyn argyfwng ar y trên sy'n rhuthro ac yn ein harwain ni dros ymyl y dibyn. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd, mynnu pleidlais i'r bobl, sefyll gyda'n gilydd a phrofi gwerth y Senedd hon.

15:10

Rwyf i yn credu bod cytundeb Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn un da, ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa a grewyd gan ganlyniad y refferendwm, sef 52 y cant o blaid gadael, 48 y cant o blaid aros. Mae'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd yn un â mymryn o wahaniaeth iddi: perthynas barhaus gydag Ewrop, ond wedi ymadael hefyd â'i strwythurau gwleidyddol. Rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchiad teg o ble'r ydym ni fel pobl ar hyn o bryd.

Yn anad dim, caiff y perygl o Brexit afreolus ei ddileu. Mae hyn yn gyflawniad pwysig, ac mae'n glod i Lywodraeth y DU a'r UE y cyflawnwyd hynny. Mae'r sector busnes wedi croesawu'r cytundeb a'r datganiad gwleidyddol. Ysgrifennodd Dow Silicones UK ataf yr wythnos hon—rwy'n credu eu bod nhw wedi ysgrifennu at yr holl Aelodau. Byddai llawer ohonom ni wedi ymweld â'u gwaith yn y Barri; mae'n cyflogi 553 o bobl. Dyfynnaf o'u llythyr:

Mae cyhoeddiad y Llywodraeth o'r dadansoddiad economaidd hirdymor o adael yr Undeb Ewropeaidd yn nodi yn gwbl briodol y sector cemegol fel un o'r rhai sydd fwyaf mewn perygl os na cheir cytundeb.

Aiff ymlaen i ddweud:

Rydym yn cydnabod nad yw'r Cytundeb Ymadael na'r Datganiad Gwleidyddol yn berffaith. Fodd bynnag, os cawn nhw eu sicrhau, maen nhw yn sicrhau peth o'r pendantrwydd angenrheidiol sydd wir ei angen drwy'r cyfnod pontio, gan alluogi ein busnes i gynllunio penderfyniadau buddsoddi gyda mwy o hyder na fu'n wir dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Yn ystod y cyfnod pontio hwnnw bydd ein diwydiant hefyd yn gweithio gyda'r Llywodraeth i helpu i sicrhau'r berthynas fwyaf priodol gyda'r UE yn y dyfodol.

Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd bod gennym ni rywun yn darllen o'r sector busnes beth yw eu barn, ac fe ddylem ni ystyried hynny yn ofalus iawn.

Os gwrthodir cytundeb Mrs May mae dau bosibilrwydd yn amlwg yn dod i'r fei:  Brexit 'dim cytundeb', y mae busnesau yn ei ofni'n fawr, fel yr wyf i newydd gyfeirio ato, neu ail refferendwm a allai achosi difrod mawr i'n diwylliant democrataidd. Ymddengys i mi nad yw ail refferendwm yn ffordd resymol o weithredu oni bai bod galw aruthrol a gweladwy am hynny, a beth bynnag y mae Adam Price a'i debyg yn ei gredu, nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Yn ail, mae disgwyliad ar gyfer canlyniad pendant, ac mae hynny'n golygu mwy na 60 y cant un ffordd neu'r llall, ac nid yw hynny yn sicr yn bodoli ar hyn o bryd. Ymddengys na fu fawr ddim newid o'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ddwy flynedd yn ôl.

Fel arall, rwy'n credu mai'r peth mwyaf democrataidd i bobl fel fi oedd eisiau aros i'w wneud yw derbyn Brexit, rhoi cyfle iddo ddod i gytundeb terfynol, ac wedyn dechrau'r gwaith i ailymuno â'r UE, oherwydd rwyf yn credu bod hynny yn bendant er budd tymor hir inni. Mae'n hanfodol meddwl yn strategol ar gyfer y tymor hir. Bydd y prosiect yr wyf i wedi ei amlinellu, o ymadael ac yna dychwelyd, mae'n debyg yn cymryd cenhedlaeth, yn union fel mae ein helynt presennol wedi cymryd cenhedlaeth i ddatblygu. Mae'n rhaid inni ennill calonau'r rhai sydd o blaid gadael. Dyna'r peth mwyaf hanfodol i'r rhai sydd eisiau inni gael dyfodol yn yr UE ei gyflawni, ac nid ydym ni'n mynd i wneud hynny drwy geisio eu dilorni a dweud eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad y tro diwethaf ac y byddai'n well inni gael pleidlais arall tan iddyn nhw sylweddoli beth sy'n llesol iddyn nhw. Mae'n rhaid inni eu hysbrydoli â gweledigaeth newydd ar gyfer yr UE, ac mae angen i'r UE ddiwygio ei hun hefyd. Gadewch inni beidio ag anghofio pwysigrwydd y math hwnnw o adnewyddu democrataidd. A ydym ni'n gwbl ddall i'r protestiadau sy'n digwydd mewn gwladwriaethau Ewropeaidd o bob math ar hyn o bryd? Dewch ymlaen. Gadewch i ni ddarllen arwyddion ein hamseroedd, oherwydd maen nhw'n gweiddi'n uchel iawn arnom ni, ac yn y DU mae arnom ni hefyd angen adnewyddu ein diwylliant democrataidd.

Rwy'n credu, mwy na thebyg, mai dyma oedd rhan fwyaf syfrdanol yr holl brofiad Brexit, i sylweddoli'n sydyn beth mae llawer o'n dinasyddion yn ei feddwl ohonom ni i gyd ym mhob un o'r pleidiau gwleidyddol sefydledig. Mae'n amlwg bod angen inni fod yn decach gyda dinasyddion am bob math o resymau. Mae'r contract cymdeithasol a ddatblygwyd ar ôl yr ail ryfel byd yn wannach ac, mewn mannau, mae wedi dadfeilio. Mae angen inni feddwl am fersiwn newydd o hynny i ennill teyrngarwch pob un o'n dinasyddion a gwneud iddyn nhw deimlo bod ganddyn nhw le gwirioneddol yn ein bywyd a'n ffyniant cenedlaethol.

Mae angen inni fod yn decach â gwledydd cartref yr Undeb. Bydd hyn yn un o brofion mwyaf Brexit—sut ydym ni'n cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU ac ymdrin â'r pwysau hynny. Dylai'r sefyllfa yn yr Alban, lle gwnaethon nhw bleidleisio mor gadarn i aros, fod yn rhybudd cadarn i'r holl unoliaethwyr sydd eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn parhau gyda'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni'r Ceidwadwyr ei gofio—rydym ninnau hefyd yn blaid unoliaethol—a dylid mesur y dewisiadau amrywiol sy'n ein hwynebu yn unol â sut y maen nhw'n effeithio ar yr Undeb cyfan yn ogystal â sut y gallan nhw effeithio ar amrywiol fersiynau o ba mor bur yw polisi penodol.

Mae angen cysylltiad agosach rhwng dinasyddion a gwleidyddion—mae hynny'n amlwg yn bwysig ledled y byd democrataidd gorllewinol, ond mae'n wirioneddol pwyso arnom ni bellach. Os ydym ni'n gwyrdroi Brexit drwy fwyafrif bach, byddwn yn fwy rhanedig fyth nag yr ydym ni heddiw. Pam? Wel, yn wahanol i'r bobl sydd eisiau aros heddiw, byddai'r rhai sydd eisiau gadael yn colli pob gobaith a ffydd y gall system wleidyddol y DU wireddu eu dymuniadau hyd yn oed ar y mater mwyaf sylfaenol hwn. O leiaf mae gennym ni sydd eisiau aros y cyfle i ddychwelyd at y mater hwn a gweithio ar gyfer ymgais i ailymuno â'r UE yn y dyfodol.

Bydd hyd yn oed yr ymgais honno i wrthdroi canlyniad y refferendwm yn sigo'r ffydd sydd gan lawer yn ein diwylliant democrataidd. Rwyf yn rhybuddio Aelodau Llafur eich bod mewn perygl o weld pobl yn cefnu'n llwyr arnoch chi yn y Cymoedd os ewch yn ôl atyn nhw—ac roedd sylwadau Lynne yn rymus iawn. Ond edrychwch ar y Blaid Ryddfrydol rhwng 1918 a 1923 i weld beth all ddigwydd a pha mor gyflym y gall ddigwydd. Mewn llawer o wledydd democrataidd gorllewinol mae'r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn pleidleisio dros bleidiau canol-dde. Maen nhw wastad wedi gwneud hynny mewn niferoedd mawr yng Ngweriniaeth Iwerddon. Edrychwch beth sydd wedi digwydd yn Ohio, Pennsylvania, taleithiau'r de. Faint o Ddemocratiaid sydd wedi eu hethol dros Orllewin Virginia ar hyn o bryd? Dyma'r math o beth a allai eich wynebu.

A dywedaf wrth fy nghyd-Geidwadwyr nad ydyn nhw'n mynd i gefnogi cytundeb Mrs May y byddem ni mewn perygl o golli cefnogaeth ar y dde os byddwn ni'n gorfodi refferendwm arall. Ac mae'n debyg y byddem ni'n gweld rhyw fath o genedlaetholdeb Seisnig croch yn datblygu a fyddai'n tanseilio llawer o'n pleidlais graidd hefyd.

15:15

Rwyf yn dod at y diwedd, ond rwy'n fodlon derbyn yr—.

Yn syml iawn, a yw'n cytuno nad ydych chi'n curo'r dde eithafol drwy ei foddio?

Wel, fel Ceidwadwr Rhyddfrydol, rwy'n credu mai dyna fu cenhadaeth fy mywyd hyd yn hyn, felly yn sicr rwyf i yn cytuno â chi. Ond fe wn i mewn democratiaeth, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniad yr ydych yn wirioneddol anghytuno ag ef gyda chwerwder—dyna yw ystyr democratiaeth. Nid yw'n ymwneud â'i chael hi'n hawdd bob amser neu golli am bum mlynedd ac yna eich plaid chi'n mynd yn ôl i mewn—mae'n digwydd bob yn ail. Mae'n golygu, weithiau, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniad yr ydych yn llwyr anghytuno ag ef. Mae mor syml â hynny.

Cawsom bleidlais. Rydym ni'n gwybod rheolau'r refferendwm. Rwy'n credu eu bod nhw'n ddiffygiol iawn, ond cawson nhw gefnogaeth unfrydol bron ar draws pob plaid wleidyddol, gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol. Nawr yw'r amser i dderbyn y realiti ein bod yn gadael yr UE, pa mor anodd bynnag yw hynny i'r rhai ohonom ni sy'n gweld Ewrop mor hanfodol i'n ffyniant cenedlaethol. Mae angen inni symud ymlaen, ac yna gallwn fynd yn ôl i mewn.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y flwyddyn ddiwethaf a Chadeirydd Rhwydwaith Menywod yn Ewrop (Cymru). Ac fe fyddwch yn ymwybodol o waith ein pwyllgor yn paratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf am barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru. Mae cael gafael ar feddyginiaethau yn peri pryder penodol. Cododd ein hadroddiad bryderon penodol yn cynnwys y cyflenwad parhaus o feddyginiaethau, trefniadau ar gyfer gofal iechyd cyfatebol, a rhagolygon brawychus yn ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit. Dim ond un enghraifft yn unig yw hon o dystiolaeth annibynnol yr ydym wedi ei chymryd i ddatgelu pryderon ynghylch effeithiau andwyol Brexit. Ac fel yr argymhellwyd gennym ni yn yr adroddiad, mae angen inni gynnal rheoleiddio cydweithredol parhaus rhwng yr UE a'r DU o ran cael gafael ar feddyginiaethau ac ymchwil clinigol ar ôl Brexit. A fyddai hyn yn cael ei gyflawni drwy'r cytundeb ymadael? Mae angen i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael gwybod.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi siarad am effeithiau economaidd pob sefyllfa Brexit yn union fel y mae Trysorlys ei Mawrhydi a Banc Lloegr, gan ei gwneud hi'n gwbl glir bod pob sefyllfa Brexit yn cynnwys niwed economaidd a achosir gennym ni ein hunain gyda 'dim cytundeb' yn llawer mwy niweidiol nag eraill. Fel y dywedodd Mark Carney, mae unrhyw fath o Brexit yn sicr o wneud y wlad yn dlotach. Hefyd, cefais lythyr, fel y cafodd David, oddi wrth y cwmni mawr hwnnw yn y Barri sydd â gweithlu mawr, yn tynnu sylw at y gweithgarwch enfawr—i'w dyfynnu nhw—o ran allforion a mewnforion, cymhlethdod y cadwyni cyflenwi a chroesfannau ffiniau niferus, gydag unrhyw darfu yn effeithio ar y potensial ar gyfer buddsoddiad a masnach yn y dyfodol. Rwy'n gefnogwr brwd o Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n ei gwneud yn glir bod angen inni gael mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl a chyfranogiad yn yr undeb tollau er mwyn amddiffyn cwmnïau fel hyn yn fy etholaeth i. Nid yw'n glir y byddai'r cytundeb ymadael yn sicrhau hyn.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod i'n arbennig o bryderus ynghylch effaith y cytundeb ymadael ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 27 Tachwedd, bu cynnal amddiffyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys hawliau gweithwyr, yn un o chwe blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, cyfeirioddd y Prif Weinidog at y methiant i ymrwymo'r DU i gyfochri blaengar yn hytrach na threfniadau di-atchweliadol gyda safonau'r UE a hawliau, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, o ran yr amgylchedd a'r farchnad lafur. Nid yw rhwymedigaethau di-atchweliad yn ddigon da. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylai'r DU ymrwymo i berthynas ddeinamig, i gamu ymlaen ac nid sefyll yn yr unfan, yn hytrach na di-atchweliad o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol. Felly, rwy'n llwyr gefnogi pwynt 4 cynnig Llywodraeth Cymru ar y cytundeb ymadael, sy'n:

methu â darparu sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr yn y dyfodol, hawliau dynol a deddfwriaethau cydraddoldebau.

Yn yr haf, deuthum â grŵp o sefydliadau cydraddoldeb a mudiadau menywod ynghyd i drafod effaith Brexit ar fenywod yng Nghymru. Cafodd gefnogaeth eang fel rhwydwaith anffurfiol i fenywod sy'n awyddus i'w lleisiau gael eu clywed pan fo penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch Brexit. Dyna pam yr wyf i'n parhau i ganolbwyntio ar effeithiau ar gydraddoldeb yn y pwyllgor materion allanol.

Yn olaf, Llywydd, mae ein hetholwyr ni eisiau gwybod beth yw ein safbwynt ni heddiw ynglŷn â Brexit. Maen nhw'n gwybod fy mod i wedi pleidleisio i aros. Rwyf i'n barod am etholiad cyffredinol os bydd y bleidlais yn cael ei cholli yr wythnos nesaf, ac rwyf i hefyd yn barod am ail refferendwm. Dyna fyddai prawf mwyaf ein bywydau gwleidyddol, ond fe fyddai'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli yn cael cam pe na byddem ni'n sefyll drostynt a gyda nhw nawr. Rwyf i yn cytuno â David Melding bod hyn yn ymwneud â gweledigaeth newydd y byddai'n rhaid i ni ei rhannu a'i thrafod â phobl ar garreg y drws, ond rwyf i yn credu bod pwynt 6 cynnig Llywodraeth Cymru yn cwmpasu hyn.

Yn yr un modd ag Aelodau eraill y Cynulliad, rwyf innau wedi cael nifer o negeseuon yn ystod y dyddiau diwethaf, ac mae llawer wedi codi pryderon mawr ynghylch y dyfodol y bydd Brexit yn ei greu ac yn galw am ail refferendwm. Ysgrifennodd etholwr a oedd yn poeni'n fawr i ddweud ei bod wedi dychryn oherwydd sefyllfa'r wlad, gyda Llywodraeth y DU wedi'i rhannu a diwydiant a'r gymdeithas gyfan yn ansicr iawn. Roedd un arall, mam-gu 87 oed wedi dychryn yn ofnadwy wrth feddwl am y dyfodol trychinebus y bydd Brexit yn debygol o'i olygu. Llywydd, nid yw'r cytundeb presennol yn bodloni chwe blaenoriaeth 'Diogelu Dyfodol Cymru'; Nid yw'n mynd yn ddigon pell ac rwyf yn ei wrthwynebu. Dylai Llywodraeth y DU gofleidio'r berthynas gyda'r UE yn y dyfodol fel sy'n cael ei nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Mae'n rhaid inni gymryd cyfrifoldeb yn y Senedd hon wrth i bethau ddatblygu, i chwarae ein rhan i ddiogelu Cymru, ein heconomi a'n pobl.

15:20

Ar yr adeg dyngedfennol hon yn ein hanes, mae gennym ni ddyletswydd i ddangos arweiniad. O'm safbwynt i, ac ar y meinciau hyn, mae hynny'n golygu gwrthod cytundeb ymadael Theresa May; mae'n golygu ymestyn Erthygl 50; mae'n golygu aros yn y farchnad sengl; mae'n golygu aros yn yr undeb tollau; ac mae'n golygu gwthio am bleidlais y bobl, gan gynnwys y dewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna beth yw gwelliannau Plaid Cymru ac rwy'n eich annog chi i gyd i bleidleisio o'u plaid, oherwydd y llanastr yr ydym ni ynddo.

Dwy flynedd ers y refferendwm Brexit, bellach mae realiti yr hyn y mae Brexit yn ei olygu mewn gwirionedd yn dechrau dod yn gliriach. Mae Brexit yn golygu Brexit—neu frecwast, yn gofiadwy, ar un adeg. Ond, mewn gwirionedd, mae Brexit yn golygu y bydd yr economi'n cael ergyd fawr. Mae Brexit yn golygu busnesau o dan bwysau. Mae Brexit yn golygu bod dyfodol busnes rhyngwladol allweddol yng Nghymru yn amheus iawn. Mae Brexit yn golygu bod prisiau ar y stryd fawr yn codi. Mae Brexit yn golygu storio nwyddau, storio meddyginiaethau. Mae Brexit yn golygu, 'Pa ddyfodol sydd i ffermio yng Nghymru?' Mae Brexit yn golygu bod prifysgolion yn colli arian ymchwil. Mae Brexit yn golygu na all myfyrwyr fod yn rhan o Erasmus +, Horizon 2020 a dysgu arloesol Ewropeaidd tebyg. Dyna mae Brexit yn ei olygu.

A hefyd, mae'r ymgyrch ymadael yn destun ymchwiliad ynghylch cyllido anghyfreithlon posibl, a allai fod yn dwyll etholiadol. Mae'r cytundeb arfaethedig yn waeth na bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae 'Dim cytundeb' yn waeth na bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes unrhyw ucheldiroedd Brexit heulog. Dywedwyd celwydd wrth y bobl yn 2016. Nid oes sefyllfa lle bydd yr economi yn gwella. Nid oes unrhyw — [Torri ar draws.]

15:25

Roeddech yn dweud bod celwydd wedi ei ddweud wrth bobl yn 2016. Beth am y celwyddau a aeth â ni i Ewrop? A ydyn nhw'n ddim byd iddyn nhw? Ni fyddem ni byth yn ildio ein sofraniaeth seneddol. Byddem ni'n cadw'r hawliau llawn dros ein pysgota i gyd. Ni fyddai gofyn inni ymuno â'r arian sengl. Byddai llysoedd Prydain yn cael yr oruchafiaeth. Dyma'r celwyddau a aeth â ni i Ewrop, David, a chefais fy nhwyllo ganddyn nhw oherwydd fe bleidleisiais i o blaid cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae wedi newid i rywbeth hollol wahanol i hynny. Ni ddywedwyd wrthym ni erioed mai dyna oedd yn mynd i ddigwydd. Felly, pwy sydd wedi dweud y celwyddau? Nid y bobl sy'n ceisio cael pobl i ddod allan o Ewrop; ond y rhai hynny a ddywedodd gelwyddau er mwyn mynd â ni i mewn i Ewrop.

Gallaf gofio bws mawr coch: £350 miliwn yr wythnos ar gyfer y GIG. Dyna un celwydd enfawr, a chyfaddefodd Nigel Farage hynny ar ddiwrnod y bleidlais. Am ymgyrchu cywilyddus. Bydd David Cameron yn cael ei nodi fel un o Brif Weinidogion gwaethaf y DU erioed. Cofiwch chi, mae'n faes llawn iawn. [Chwerthin.] Nid oes cytundeb sy'n well na'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae pleidlais Llafur o ddiffyg hyder a sbarduno etholiad cyffredinol yn rhywbeth cwbl amherthnasol i dynnu sylw hefyd, gan fod Llafur yr yn mor rhanedig ynghylch Ewrop.

Yn y Siambr hon bythefnos yn ôl, wrth gyhoeddi cael gwared â'r hyn yr wyf i'n dal i'w galw'n Ddeddf dilyniant, ac ildio pwerau drwy gyfrwng cytundeb rhynglywodraethol anstatudol, dywedodd Llafur yn y fan yma eu bod yn ymddiried yn llwyr yn llywodraeth San Steffan ac yn ei pharchu, gan ddweud hefyd y ceir parch tuag at Gymru a'u bod yn ymddiried yng Nghymru, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb, a phrofiad Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wrth gael ei gwthio i'r cyrion. Nawr, os gwrthodir cytundeb gwael Theresa May, bydd Llafur eisiau pleidlais o ddiffyg hyder mewn Llywodraeth, yr oedden nhw, dim ond pythefnos yn ôl, yn ymddiried yn llwyr ynddi hi ac yn ei pharchu, gyda phwerau ifanc Cymru yn cael eu hildio yn hapus heb feddwl ddwywaith.

Felly, rydym ni'n wynebu dewis rhwng cytundeb gwael, 'dim cytundeb' neu etholiad cyffredinol dibwrpas. Siaradodd y bobl yn 2016—do, fe wnaethant. Dywedwyd celwydd wrth y bobl yn 2016. Mae pobl yn haeddu ail gyfle i bleidleisio pan ddaw difrifoldeb llawn y llanastr y mae'r DU wedi ei greu i'w hunan wedi dod yn gwbl glir i bawb. Ac mae'n amlwg ei fod y tu hwnt i grebwyll gwleidyddiaeth i ddatrys y llanastr hwn. Pleidleisiwch dros bleidlais y bobl, a'r dewis—[Torri ar draws.] Mandy, mor gwrtais.

Mae llawer ohonoch chi'n gofyn am bleidlais y bobl er eich bod yn gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Sut gallwch chi fynd am ail bleidlais—pleidlais y bobl—pan nad yw'r bleidlais gyntaf wedi'i gweithredu eto? Yn ail, pe byddech chi'n cael ail refferendwm—pleidlais y bobl—gyda Chymru'n pleidleisio dros adael unwaith eto, a fyddech chi'n anrhydeddu'r canlyniad hwnnw?

Mae'r ffeithiau wedi dod yn glir. Rydym ni'n anrhydeddu canlyniadau. Roedd David Melding yn dweud ein bod wedi sefyll mewn etholiadau, rhai ohonom ni, wedi colli mewn etholiadau—rwyf i wedi colli mwy o etholiadau nac yr wyf i wedi eu hennill. Wrth gwrs, rwy'n parchu'r canlyniad heb gwyno a dweud fy mod yn fethiant trist—rwy'n codi, cael gwared â'r llwch, a sefyll eto—yn debyg i'r hyn y byddai David Melding yn ei wneud, heb amheuaeth. Ond o ran pleidlais y bobl, mae'r ffeithiau wedi newid. Mae'r ffeithiau, mewn gwirionedd, wedi dod yn glir. Dywedwyd celwydd wrth y bobl. Maen nhw'n haeddu cael pleidlais ar y ffeithiau fel y cânt eu cyflwyno nawr, a'r ffaith na all San Steffan ddatrys hyn. Nid oes cytundeb gwell wrth adael. Mae'n amlwg bod unrhyw gytundeb a geir gan San Steffan yn waeth na bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, dyna pam yr wyf i'n annog pobl i bleidleisio dros bleidlais y bobl a'r dewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Diolch yn fawr.

15:30

Mae gan y Prif Weinidog y dasg erchyll o gymodi llawer o wahaniaeth barn a blaenoriaethau, ac ar yr un pryd ceisio anrhydeddu canlyniad y refferendwm, cyflwyno cytundeb masnach rydd cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol newydd, diogelu swyddi a diogelwch pobl, a chynnal uniondeb ein Teyrnas Unedig. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd dros fasnach ryngwladol yr haf hwn, roedd yn rhaid cyfaddawdu, ond roedd Brexit wedi'i gefnogi gan 17.4 miliwn, a chafodd deddfwriaeth i weithredu'r penderfyniad hwnnw ei chymeradwyo gan Aelodau Seneddol. Mae'n destun gofid bod rhai ar ddwy ochr y ddadl nawr yn hybu sefyllfaoedd sefyllfa waethaf yn unig, yn hytrach na myfyrio ynghylch potensial y cytundeb ymadael i gyflawni canlyniad y refferendwm ac unwaith eto ein galluogi ni i reoli ein ffiniau, ein cyfreithiau, ein harian a masnach ddwyochrog, gan gyflawni hefyd berthynas gyda'r UE a fydd yn fuddiol i'r naill ochr a'r llall yn y dyfodol.

Bron i ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth y rhai o blaid ac yn erbyn Brexit ar Bwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol y Cynulliad uno i alw am gyfnod pontio ar ôl Brexit ar ôl casglu tystiolaeth fanwl. Gan ddyfynnu Mr Drakeford ei hun, roedd ein hadroddiad ym mis Ionawr 2017 yn datgan

na ddylid bod ochr dibyn yn rhan o aelodaeth y DU o'r UE. Mae cymhlethdod negodiadau Erthygl 50 yn golygu y byddant yn anochel yn canolbwyntio ar sut y bydd y DU yn rhyddhau ei hun o'r trefniadau presennol. Bydd yn rhaid datblygu cysylltiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd yn y dyfodol a'u cytuno dros gyfnod llawer hwy. Trefniadau pontio sydd yn parhau mor agos â phosibl at y sefyllfa bresennol fydd yn darparu'r platfform mwyaf sefydlog ar gyfer negodi yn y dyfodol

yn union fel y mae'r cytundeb hwn yn ei wneud.

Roedd ein hadroddiad ym mis Awst 2017 yn cynnwys; dywedodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y ffyrdd wrthym ni efallai y byddai trefniadau pontio yn angenrheidiol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi ar gyfer y DU a'r UE; tynnodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau gymhariaeth â'r dull fesul cam i gysoni tariffau pan ymunodd y DU â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac roedd yn dadlau efallai y byddai angen cytuno ar broses fesul cam tebyg ar gyfer Brexit. Yn yr un modd, rhybuddiodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y ffyrdd y gallai diffyg trefniadau pontio, neu ganlyniad sy'n arwain at ddim cytundeb, gael canlyniadau negyddol difrifol i borthladdoedd Cymru. Felly, mae negodiadau wedi dilyn proses fesul cam a oedd yn hysbys ac wedi ei deall ac wedi ei chytuno o'r cychwyn cyntaf, ond mae rhai yn dewis camddarlunio hyn fel gwastraffu amser.

Mae'n rhaid i negodiadau yn y dyfodol ddilyn y cloc gwleidyddol, gydag etholiadau'r UE yn 2019. A hyd yn oed pan fydd perthynas fanwl y dyfodol wedi ei chymeradwyo, bydd angen amser i sefydlu trefniadau tollau a masnach newydd. Fis Rhagfyr diwethaf, cytunodd y Cyngor Ewropeaidd bod cynnydd digonol wedi'i gyflawni yn ystod cam 1 negodiadau Brexit. Ar sail hynny, mabwysiadwyd y canllawiau drafft i symud i ail gam y negodiadau, pan ddechreuodd y ddau barti drafodaethau ar gyfnod pontio a'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol. Cytunodd y DU a'r UE ar y cyfnod pontio a fydd yn arwain at y DU yn ymadael yn drefnus ym mis Mawrth. Ym mis Mai, derbyniodd Gweinidogion y DU pan y cytunir ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol, yna fe fyddai'n rhaid cael cyfnod estynedig o aelodaeth o'r undeb tollau ar gyfer y DU gyfan tra bo technoleg yn cael ei datblygu i fonitro'r ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon heb osod adeiledd mwy parhaol.

Mae rhai felly yn dewis defnyddio'r hyn a gytunwyd ac a dderbyniwyd saith ac wyth mis yn ôl fel esgus dros wrthwynebu'r cytundeb ymadael nawr. Mae'r testun cyfreithiol yn glir: bod y ddau barti eisiau osgoi defnyddio'r ôl-stop ac na all Erthygl 50 sefydlu perthynas barhaol. Ac mae'r UE ei hun wedi ei gwneud hi'n glir iawn nad yw eisiau i'r DU ar ôl Brexit aros yn yr undeb tollau estynedig a bod yn aelod o'r farchnad sengl. Fodd bynnag, fe welwn nawr anhrefn gwrthun ymhlith ASau Llafur yn y gogledd wrth iddyn nhw ddatgan y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael oherwydd y byddai'r DU yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE  am gyfnod y tu hwnt i'n haelodaeth, pan, o'r cychwyn, galwodd Papur Gwyn Brexit Llafur Cymru ar y cyd â Phlaid Cymru i'r DU barhau'n atebol i'r rheolau hyn am byth. Felly, hyd yn oed yng Nghymru, mae'n ymddangos na all y Blaid Lafur ganu o'r un llyfr emynau.

Pleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd, nid y Deyrnas Unedig, ond eto mae Plaid Cymru yn ceisio cadw Cymru yn yr UE, a'i llusgo allan o'r DU, er gwaethaf y ffaith mai'r DU yw marchnad sengl fwyaf Cymru o bell ffordd. Mae Plaid Cymru'n cwyno nad yw Cymru yn cael ei chrybwyll yn y cytundeb ymadael, ond nid yw'r Alban ychwaith, na Lloegr ac eithrio Banc Lloegr. Yr unig refferenda yn yr UE i'w cynnal am yr ail dro yw'r refferenda cytuniad yn Nenmarc ac Iwerddon, a aeth yn erbyn yr UE. Fe niweidwyd hyder y cyhoedd, difethwyd enw da'r UE. Nid ydym ni eisiau gweld y math hwnnw o weithgarwch yn cael ei ailadrodd yma. Mae'r arian a roddir i'r UE gan y DU ddwywaith yr arian y mae'n ei gael yn ôl. Bydd hyn yn cael ei gadw yn y DU yn y dyfodol, ac rydym ni i gyd yn cydnabod y dylai Cymru gael yr un cwantwm o gyllid ag y mae'n ei gael nawr.

Fel y dywedodd Paul Davies, pan gyfarfu â Llywydd NFU Cymru â'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn ffair aeaf y Sioe Frenhinol:

Yn ystod y cyfarfod cadarnhaol hwn, cymeradwyais y ffaith bod y cytundeb y mae hi wedi cytuno arno mor agos â phosibl at yr amodau masnach rydd a llyfn ar gyfer amaeth a chynnyrch bwyd y buom ni'n lobïo yn eu cylch dros y ddwy flynedd diwethaf.

A  gall y DU hefyd negodi cytundebau masnach â thrydydd gwledydd, yn barod i'w gweithredu ar ôl y cyfnod pontio. Yn uwchgynhadledd y G20 yr wythnos diwethaf, trafododd y Prif Weinidog â nifer o wledydd—gyda Japan yn edrych ymlaen at drafod aelodaeth posibl y DU o'r cytundeb cynhwysfawr a blaengar ar gyfer partneriaeth traws-Gefnfor Tawel. Dim chwaraewyr bach yn y fan honno.

Felly, yn hytrach na gwrthod y cytundeb hwn, a chreu ansicrwydd a pheryglu swyddi a buddsoddiad, gadewch inni fod yn ddigon mawr i gamu tuag at Gymru sy'n edrych allan, yn y DU fyd-eang, drwy gydnabod y dadleuon a gyflwynwyd gan Paul Davies, a chydnabod bod hyn yn gyfaddawd i bob un ohonom. Roeddwn i o blaid gadael, roeddd David o blaid aros, ond rydym ni'n cydnabod, heb gyfaddawdu, y bydd y Deyrnas Unedig gyfan—yn enwedig Cymru—yn cael ei niweidio'n enbyd. Diolch.

15:35

Y prynhawn yma, fe roddaf i fy nghyfraniad mewn dwy ran, a bydd y rhan gyntaf yn seiliedig ar fy swyddogaeth fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol. Ac rwyf yn falch ein bod ni eisoes wedi cael sylwadau gan Jane Hutt a Mark Isherwood, yn myfyrio ynghylch rhywfaint o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ers inni gael ein sefydlu, yn dilyn refferendwm 2016, gyda'r bwriad o ystyried y goblygiadau i Gymru ar ôl gadael yr UE. Ers hynny, rydym ni wedi ceisio ystyried y goblygiadau ar draws ystod eang o sectorau, a phan yr oeddem yn ystyried ei fod yn angenrheidiol, fe wnaethom ni geisio dylanwadu ar y broses Brexit, yn Llundain ac ym Mrwsel, a sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed cymaint â phosibl. A cheisiaf gyflwyno'r rhan hon o'm cyfraniad mor gytbwys â phosibl, gan adlewyrchu gwaith y pwyllgor.

Rydym ni wedi treulio dwy flynedd a hanner yn casglu'r dystiolaeth hon—ni wnaethom ni hyn dros gyfnod byr yn unig—felly roeddem ni'n gallu ymateb yn gyflym i'r cytundeb ymadael, a'r datganiad gwleidyddol, a'r dadansoddiad o hynny, a daethom ar draws saith maes eang. Ac rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad, yr wyf yn gobeithio bod Aelodau wedi cael cyfle i'w astudio. Saith maes: economi a masnach yr UE; porthladdoedd a thrafnidiaeth; amaethyddiaeth, bwyd a physgodfeydd; ynni a'r amgylchedd; gofal iechyd; cydraddoldeb a hawliau dynol; trefniadau sefydliadol—i gyd yn hanfodol i ddyfodol Cymru. Ac fe lwyddom ni hefyd, yn y cyfnod byr hwnnw, i gael arbenigedd ymgynghorydd allanol—Dr Tobias Lock o Ysgol y Gyfraith Caeredin—a ddarparodd ddadansoddiad cyfreithiol o'r cytundeb ymadael a'i oblygiadau. Dyna pam y mae hi'n bwysig eich bod chi’n darllen y papur hwnnw—nid ein barn ni sydd ynddo, mae'n farn allanol, heb unrhyw ragfarn o gwbl, ac mae'n hollbwysig i'r ddadl hon. Hoffwn i hefyd gofnodi, Llywydd, waith rhagorol staff Comisiwn y Cynulliad, yn paratoi, mewn cyfnod byr, y gwaith yr ydym ni wedi llwyddo i'w ddarllen. Oherwydd rydych chi wedi cael 10 diwrnod ers cyhoeddi'r cytundeb drafft a'r datganiad gwleidyddol drafft, a chafodd y gwaith hwn ei lunio gan y staff, ac mae'n waith aruthrol. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n credu y dylid eu cydnabod am y gwaith hwnnw.

Llywydd, gan gyfeirio at y saith maes polisi, mae ein dadansoddiad yn awgrymu, yn y tymor byr o leiaf, y bydd y cytundeb yn cynnig sefydlogrwydd mawr ei angen ar gyfer economi Cymru—adlewyrchwyd hynny mewn rhai o'r sylwadau—oherwydd trefniadau'r cyfnod pontio yr ydym ni i gyd wedi eu derbyn a'u cydnabod. Fodd bynnag, amlygodd Mark Isherwodd hefyd yr amserlenni sy'n ein hwynebu yn ystod y cyfnod pontio hwnnw—ail-etholiadau Senedd Ewrop, Comisiwn newydd i'w benodi, ac os ydym ni eisiau estyniad—i'w wneud erbyn 1 Gorffennaf. Felly, y realiti yw na fyddwch chi'n dechrau trafodaethau tan tua mis Hydref, ac y mae'n rhaid ichi, erbyn 1 Gorffennaf, benderfynu ynghylch y Cytundeb Masnach Rydd sef pa un a ydych chi eisiau ymestyn y cyfnod pontio ai peidio. Mae pawb yn gwybod na chewch chi gytundeb mewn 10 mis. Felly, y realiti yw y byddwn ni naill ai'n ceisio cael estyniad neu fynd i'r ôl-stop. Dyna'r gwirionedd. Nawr, bydd yn rhaid inni dderbyn hynny, er y nododd Neil Hamilton 'XX', fe ŵyr pob un ohonom ni mai 2020 neu 2022 ydyw—dyna'r dyddiadau a ddyfynnwyd i ni. Felly, dyna'r dyddiadau a ddyfynnwyd i ni, dyna'r dyddiadau y gwyddom amdanyn nhw, oherwydd y mae'n dweud blwyddyn neu ddwy, ac mae'n dweud 2020. Byddwn yn parhau i weithredu o dan y deddfau presennol. Felly, mae gan fusnesau y sicrwydd hwnnw. Byddan nhw'n gweithio fel y maen nhw heddiw. Gallwn gynnig canlyniad llawer llai cythryblus i economi Cymru na'r canlyniad pe byddai'r DU wedi methu â chyrraedd unrhyw fath o gytundeb. Fodd bynnag, gadewch inni beidio ag anghofio rhywbeth arall: yn ystod y cyfnod pontio hwnnw, rydym ni wedi colli ein holl lwybrau ffurfiol o ddylanwad dros gyfraith yr UE a'n cynrychiolaeth ddemocrataidd yn yr UE. Bydd ein ASEau wedi mynd. Ni fydd gennym reolaeth dros unrhyw un o'r agweddau hyn bellach. Byddwn ni wedi colli ein lle ar Bwyllgor y Rhanbarthau, byddwn ni wedi colli ein lle ar bwyllgorau eraill—rydym ni'n colli ein dylanwad.

A'r ôl-stop—gadewch inni beidio ag anghofio'r ôl-stop yn dod i rym, ac mae hynny'n rhan o'r cytundeb, i osgoi ffin galed. Nid oes unrhyw un ohonom ni eisiau ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ond bydd o bosibl, a mwy na thebyg, yn dod os na allwn i gael cytundeb erbyn 1 Ionawr 2021, ac yna mae'n edrych yn waeth ar Gymru, oherwydd fe fydd gennym ni gyfochri rheoleiddiol i lawr Môr Iwerddon a bydd yn rhaid inni ymdrin â hynny. Rydym ni bob amser wedi amlygu materion ynghylch porthladdoedd a symud nwyddau o ganlyniad i hynny. A bydd anghymesuredd y setliadau datganoli hefyd yn dod yn fwy amlwg gan godi cwestiynau ynghylch dynameg y pŵer rhwng cenhedloedd y DU o safbwynt rheoli marchnad gyffredin y DU. Gyda llaw, nid ydym ni wedi cael unrhyw gyfeiriad at farchnad gyffredin y DU ar ôl Brexit ychwaith, felly beth fydd ein sefyllfa ni? Maen nhw wedi canolbwyntio ar ddatganiad gwleidyddol yr UE yn unig. Felly, beth yw'r datganiad gwleidyddol ynghylch dyfodol y DU a'r gwledydd yn y DU?

Felly, gan symud ymlaen at y datganiad gwleidyddol, mae'n glir bod y Llywodraeth yn dyheu am sefyllfa pryd y byddwn ni y tu allan i'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ond heb sicrwydd. Rydych chi'n sôn am sicrwydd ar gyfer 2020, ar gyfer y cyfnod pontio—nid oes sicrwydd ar ôl 2020. Nid ydym yn gwybod beth fydd y sefyllfa, nid ydym yn gwybod a fydd ochr y dibyn yn ein hwynebu ar 31 Rhagfyr 2020, ai peidio. Mae'n drychinebus.

Llywydd, fe ddywedais i fy mod i eisiau rhoi fy safbwynt meinciau cefn ynghylch hyn, oherwydd ei bod hi'n bwysig i mi gael y cyfle i siarad, nid yn unig yn rhinwedd fy swyddogaeth fel Cadeirydd, ond fel aelod o'r Cynulliad hwn. A bydd gweddill fy nghyfraniad o'r safbwynt hwnnw. Rwy'n parchu teyrngarwch Paul Davies, Mark Isherwood a David Melding i'w plaid. Ond rydym ni mewn sefyllfa o drafod cytundeb gwael oherwydd na all Llywodraeth Dorïaidd y DU hon gytuno ar yr hyn y mae hi eisiau ei gyflawni. Dechreuwyd gyda'r term 'Mae Brexit yn golygu Brexit'. Oes rhywun wedi canfod ystyr hyn? [Chwerthin.] Nid wyf i wedi llwyddo. Ac mae'n diweddu gyda'r sefyllfa drychinebus 'Mae Brexit yn golygu aros mewn undeb tollau heb lais'. Dyna'r sefyllfa—methiant llwyr ar ôl dwy flynedd o negodi trychinebus.

Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd wedi mynegi eisoes y myfyrdod cryf ar y cytundeb ymadael, felly ni fyddaf yn ailadrodd hynny. Ond o ran y datganiad gwleidyddol, mae hefyd yn amlwg mai ôl-ystyriaeth mewn gwirionedd yw hwn. Dywedodd Mark Isherwood eu bod mewn sefyllfa ym mis Rhagfyr y llynedd i ddechrau siarad am y dyfodol, oherwydd eu bod nhw wedi cytuno ar rai rhannau eisoes. Daeth mis Mai i'n rhan, roedden nhw mewn sefyllfa o allu. Ôl-ystyriaeth, yw hyn, nid perthynas â'r UE ar gyfer y dyfodol. Rhestr o ddymuniadau oedd y chwe thudalen cychwynnol. Mewn wythnos cafodd ei chwyddo i 26 o dudalennau ac nid yw'n rhoi unrhyw ffydd i ni y bydd yn sicrhau'r economi na dyfodol busnesau yng Nghymru.

Hefyd, amlygodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwendidau o gael cyfwerthedd mewn hawliau gweithwyr—defnyddiaf y gair 'cyfwerthedd', oherwydd bod Llywodraeth y DU yn hoffi'r gair 'cyfwerthedd' yn fawr—deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Nid ydyn nhw yno, dim ond 'dim atchweliad'. Dyna beth y mae'n ei ddweud. Nid yw'n dweud, 'byddwn yn mynd bob yn gam gyda'n cydweithwyr yn Ewrop.'

Llywydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig, gan fod gennym ni gytundeb ar y bwrdd, i fyfyrio ynghylch un peth: mae Prif Weinidog y DU wedi cychwyn ymdrech i'n swyno ni. Mae hi'n mynd o amgylch y wlad yn ceisio darbwyllo'r cyhoedd i argyhoeddi ei ASau gwrthryfelgar hi i'w gefnogi. Wel, os yw hi eisiau i'r cyhoedd ei gefnogi, dylai fynd at y cyhoedd. Mor syml â hynny. Dylai fynd at y cyhoedd a gofyn i'r cyhoedd a ydyn nhw'n cytuno â'r cytundeb hwn ai peidio. Nawr ai pleidlais y bobl yw hynny? Ai pleidlais gyhoeddus yw hynny? Ewch at y cyhoedd. Ai etholiad cyffredinol yw hynny? Ewch at y cyhoedd. Nawr, rwyf mewn gwirionedd yn cydnabod geiriad gwelliant 3 Plaid Cymru, ond er y byddai hwnnw'n dileu pwynt 6 cynnig y Llywodraeth rwy'n credu ei fod yn cynnig yr un egwyddor: ewch at y cyhoedd y naill ffordd neu'r llall—etholiad cyffredinol neu bleidlais y bobl. Dyna'r hyn mae'n ei gynnig. A dyna beth yr ydym ni eisiau ei wneud.

15:45

Wrth gwrs, roeddwn yn aros amdano. Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf.

Rwy'n parchu'r ffaith fod yr Aelod yn ymdrin â'r mater hwn o ddifrif, ond oni fyddai'n derbyn mai'r rheswm pam yr ydym ni'n cael y ddadl hon yw ein bod eisiau anfon neges at y Senedd arall honno, a fydd, mewn mater o ddyddiau, yn pleidleisio ar gyfres o welliannau ar bynciau penodol? Ni fydd y gwelliant a gyflwynir yn dweud 'naill ai/neu'—naill ai etholiad cyffredinol neu bleidlais y bobl. Bydd gwelliant ar bleidlais y bobl yn unig, ac nid yw'n glir, yn seiliedig ar gynnig y Llywodraeth, beth fydd safbwynt y Senedd hon, oni bai ei bod yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru.

Rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ceisio ei wneud—wyddoch chi, a ydych chi eisiau gwneud pwynt penodol neu a ydych chi eisiau dweud mewn gwirionedd, 'Wel, mewn gwirionedd, mae dewisiadau i gael safbwynt y cyhoedd ar hyn', ac rwy'n credu bod pwynt 6 yn cynnig y dewisiadau hynny? Fodd bynnag, rwyf yn mynd i rannu barn fy nghyd-Aelodau sef fy mod yn amau'n fawr a fydd y Prif Weinidog yn derbyn unrhyw un o'r dewisiadau, oherwydd ei bod hi'n gwybod y bydd hi'n colli hynny hefyd.

Llywydd, fe hoffwn orffen drwy ddweud hyn: mae'r cytundeb yn wael; mae'n methu â diogelu economi Cymru; bydd yn creu dirywiad o 3.9 y cant yn ein heconomi—mae hyd yn oed ffigurau Llywodraeth y DU yn dweud hynny—a hynny heb inni ystyried y bydd yr effaith ar Gymru yn waeth oherwydd ein sectorau gweithgynhyrchu a diwylliannol; ac nid yw'n rhoi sicrwydd hirdymor i fusnesau nac i'n dinasyddion. Mae'n rhaid i'n Haelodau Seneddol a fydd yn pleidleisio, fod yn glir nad ydym ni'n derbyn y cytundeb hwn.

Mae'n bleser gen i siarad heddiw ar welliannau Plaid Cymru ac o blaid gwelliannau Plaid Cymru, wrth gwrs, a hynny ar ran etholaeth Arfon, un o'r etholaethau a oedd mwyaf cadarn ei chefnogaeth dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda dros 60 y cant wedi pleidleisio i aros. Yn ôl arolwg barn diweddar, mi fyddai 71 y cant o bobl Arfon, erbyn hyn, yn bwrw pleidlais dros aros petai pleidlais arall—a'r unig ffordd allan o'r llanast yma ydy pleidlais arall, pleidlais y bobl. Nid oes yna ddim pwrpas cael etholiad cyffredinol. Ni fyddai Jeremy Corbyn yn ymgyrchu dros aros yn y farchnad sengl. Felly, mwy o lanast, mwy o ansicrwydd fyddai'n dilyn petai o'n ennill. Felly, da chi—chi ar feinciau Llafur sy'n gwybod hynny yn eich calonnau—cefnogwch gwelliant 3 Plaid Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi ei gyflwyno fo yma heddiw yma.

Mae pobl Arfon wedi dod i'r casgliad mai aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau yw'r ateb gorau o bell ffordd i bawb sydd yn byw yno. Felly, ar eu rhan nhw y prynhawn yma, rydw i yn datgan fy mod yn gwrthod cytundeb ymadael Theresa May. Mae'r ddadl economaidd yn glir. Mae sedd Arfon yn rhan o ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae cynnych domestig gros yn isel, ac o'r herwydd mae'n derbyn arian o'r Undeb Ewropeaidd—yn debyg i dde Sbaen, Portiwgal a chyn-wledydd comiwnyddol Ewrop. Mae Arfon hefyd yn derbyn arian INTERREG er mwyn hyrwyddo cysylltiadau efo Gweriniaeth Iwerddon, ac mae yna gryn bryder yn lleol am y diffyg manylder syfrdanol ynglŷn â beth a ddaw yn lle'r ffynonellau ariannol yna i'r dyfodol.

Mae Prifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd yn etholaeth Arfon, ac mae gan y ddau sefydliad nifer sylweddol o staff sydd o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, a myfyrwyr hefyd ym Mangor, wrth gwrs, yn y brifysgol. Un o gyflogwyr sector preifat mwyaf Arfon yw cwmni Almaeneg sy'n gweithio ym maes technoleg feddygol. Mae Arfon yn ganolfan cynhyrchu rhaglenni teledu sy'n cydweithio â darlledwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd. Ac Arfon yw un o'r ardaloedd lle mae'r iaith Gymraeg gryfaf, gydag 85 y cant o bobl ifanc wedi cael budd o ddarpariaeth addysgol ddwyieithog. Mae siarad dwy, tair, pedair iaith yn normal yn yr Undeb Ewropeaidd, ar lefel swyddogol, cymdeithasol a diwylliannol, sy'n rhoi hyder inni y bydd y Gymraeg yn goroesi o fewn y cyd-destun Ewropeaidd. Y tu allan i'r undeb honno, mae'r dyfodol yn llai gobeithiol. Dyna, yn rhannol, sy'n esbonio'r gefnogaeth sylweddol sydd yn Arfon dros aros. Mae cynnal hawliau pobl, a chynnal deddfwriaeth cydraddoldeb, yn allweddol i hynny hefyd. 

Dyma droi at ail rhan fy sylwadau y prynhawn yma. Mae'n fraint i mi gael cydweithio ag Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, sy'n rhan o dîm gweithgar a hynod effeithiol Plaid Cymru yn Llundain. Mae Cymru'n lwcus o'r pedwar sy'n brwydro dros ein gwlad yng nghoridorau grym Llundain. Mae Hywel wedi cymryd rhan lawn yn y drafodaeth ar Brexit, wedi cyflwyno nifer o welliannau i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi cyfrannu'n eiddgar fel aelod o'r pwyllgor dethol ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae o, a Phlaid Cymru, wedi bod yn gyfan gwbl gyson yn erbyn tynnu allan cyn y refferendwm ac o blaid aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau, a dyna pam yr aeth Hywel, gydag eraill, i gymryd rhan mewn achos yn y Llys Ewropeaidd yn ddiweddar.

Heddiw, fe ddaeth cadarnhad dros yr hyn y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddadlau: mae uwch-gynghorydd y Llys Ewropeaidd dros Gyfiawnder wedi dweud heddiw ei fod o'r farn y gall y Deyrnas Unedig ddiddymu erthygl 50 ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd heb yr angen am ganiatâd gweddill gwledydd yr undeb, ac mae hyn yn groes i'r hyn y mae Mrs May wedi bod yn ei ddweud. Mae hyn, yn fy marn i, yn newid y gêm yn sylweddol, ac yn galluogi'r Llywodraeth—nid Senedd San Steffan—i ddiddymu'r broses os ydyn nhw am osgoi Brexit heb ddêl, neu os bydd pleidlais y bobl yn dangos bod y farn gyhoeddus wedi newid ers 2016. Mae disgwyl cadarnhad o hyn yn y Llys Ewropeaidd cyn y Nadolig, a coeliwch chi fi, fe all hyn fod o arwyddocâd sylweddol i fy etholwyr i yn Arfon, i bobl Cymru, ac i ddyfodol y genedl. Felly, heddiw, rydw i yn gofyn i chi ymuno â ni yn y meinciau hyn i anfon neges hollol eglur o'r Senedd genedlaethol yma. Felly, rydw i'n gofyn i chi gefnogi gwelliannau Plaid Cymru. 

15:50

Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon drwy ddweud ein bod ni'n pleidleisio cyn Tŷ’r Cyffredin, ei fod eisiau dylanwadu ar ASau, bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Tŷ'r Cyffredin bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael, a gorffennodd drwy ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir bod y cytundeb ymadael yn annerbyniol ac y dylid ei wrthod. Geiriau sy'n ysbrydoli, ond nid ydyn nhw'n cael eu  hadlewyrchu yn ei gynnig, ac fe dynnodd Steffan Lewis sylw at hyn, ac mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod innau yn yr un benbleth hefyd. Nid wyf yn deall o gwbl beth, Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi, na eich tîm o Weinidogion Cymru na—heblaw bwrw eu llid at yr etholwyr am beidio â chytuno â nhw—y mae Aelodau meinciau cefn ar ochr Llafur eisiau ei gyflawni drwy'r cynnig hwn heddiw. Mae'n nodi'r cytundeb ymadael a dyna'i gyd. Mae'n nodi un neu ddwy ran benodol, llai dadleuol ohono; yna mae'n nodi y bydd gennym ni gyfle pellach i drafod y cytundeb ymadael, mae'n debyg, pan fyddwn ni'n rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil cytundeb ymadael, ac eto mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn mynd ymlaen i ddweud ei bod hi'n anochel y bydd Tŷ'r Cyffredin yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael, ac rwy'n credu y gŵyr pob un ohonom ni yn y ddadl hon, sy'n ei gwneud hi'n swrrealaidd braidd, bod Tŷ'r Cyffredin yn mynd i bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael hwn ac yn mynd i wneud hynny gyda mwyafrif sylweddol iawn.

Felly, beth nesaf? Mae'n ymddangos, o ran y Blaid Lafur, ac rwy'n credu, o ran Llywodraeth Cymru, bod elfen o gambl yma, oherwydd drwy bleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael—o leiaf yn Nhŷ’r Cyffredin, tra byddwn ni ddim ond yn ei nodi yma—y bydd hynny, rywsut yn arwain at etholiad cyffredinol neu at bleidlais y bobl, fel y'i gelwir, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi cael pleidlais y bobl nad ydyn nhw eisiau ei gweithredu. Yr hyn na allaf i ei weld yw sut y mae hynny'n mynd i ddigwydd. Dywed John McDonnell na fydd etholiad cyffredinol ac nid yw hynny'n mynd i weithio, ac yna sut maen nhw'n mynd i gael y bleidlais y bobl hon fel y'i gelwir? Mae angen deddfwriaeth ar gyfer refferendwm, ac mae ar y ddeddfwriaeth angen a) amser y Llywodraeth a (b) cynnig arian, y mae'n rhaid i'r Llywodraeth a neb arall ei gynnig. Felly, sut, o gofio nad ydyn nhw'n mynd i gael yr etholiad cyffredinol hwn, y byddan nhw wedyn yn cael y bleidlais y bobl hon fel y'i gelwir? Ac nid wyf i'n gwybod yr ateb i hynny. Mae'n bosibl bod Jeremy Corbyn yn hapus i gymryd y gambl honno, oherwydd ei fod ef yn fodlon gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Efallai fod hynny'n wir.

Cyfarfûm â Jeremy Corbyn am y tro cyntaf yn y lobi 'na'; roeddem ymysg yr 13 AS a oedd yn pleidleisio yn erbyn sefydlu'r Gwasanaeth Gweithredu Allanol Ewropeaidd, a chyfarfûm ag ef ar sawl achlysur wedi hynny ar amryw o faterion yr UE lle'r oeddem o'r un farn. Gobeithio ei fod yn dal i fod o'r un farn, oherwydd yn fy marn i, pan bleidleisir yn erbyn y cytundeb ymadael hwn yn Nhŷ'r Cyffredin, nid wyf yn derbyn mai'r dewis arall yw dim cytundeb. Bydd, fe fydd rheolau masnachu Sefydliad Masnach y Byd, ond ni fyddwn yn rhoi pwyslais gormodol ar hynny; rwy'n derbyn nad ydyn nhw'n caniatáu masnach ddidrafferth yn llawn, a bod rhai problemau a materion yn ymwneud â nhw, ond nid yw ffin galed yng Ngogledd Iwerddon yn un ohonyn nhw. Ond yr hyn a gawn fydd cyfres o gytundebau sectoraidd i liniaru materion penodol sy'n codi ac i wneud ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn ddidrafferth er budd y ddwy ochr. Efallai na fyddan nhw'n cael eu galw'n gytundebau ymadael, nid yw'n glir a allan nhw basio'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin, ond bydd yna gytundebau o ryw fath, a byddwn, rwy'n hyderus, wedyn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Nawr, mewn rhai meysydd o'r cytundeb ymadael hwn—dydw i ddim eisiau defnyddio dull gwahanol i'r ddadl gymharol gydsyniol yr ydym wedi ei chael, o leiaf ar y meinciau hyn hyd yma, ac mae gennyf barch mawr at y safbwynt a fynegwyd gan David Melding, a siaradodd yn angerddol o blaid yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae'n deall, pan gewch refferendwm a phan fyddwch yn addo gweithredu'r canlyniad, pan bleidleisiodd y rhan fwyaf o ASau, gan gynnwys y rhan fwyaf o ASau Llafur, i sbarduno erthygl 50, ac nad oedd y cynnig hwnnw na'r refferendwm ei hun yn dweud, 'yn amodol ar fodolaeth cytundeb penodol y byddwn yn ei hoffi yn ddiweddarach gyda'r Undeb Ewropeaidd', yna yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud yw gweithredu'r canlyniad hwnnw. Mae'n iawn dweud, 'Mae gennych etholiad arall', ond, cyn cynnal etholiad arall, mae pobl sy'n cael eu hethol yn yr etholiad hwnnw yn mynd i'r ddeddfwrfa ac yn deddfu am dymor; felly mae canlyniad yr etholiad yn cael ei barchu. Canlyniad y refferendwm hwn oedd gadael, ac mae angen inni adael. Byddai'n well gennyf pe byddem yn gadael gyda chytundeb; byddai'n well gennyf pe byddai hynny gyda chytundeb gwell na'r un hwn. Ond, mewn rhai meysydd, mae'r cytundeb o ran rhyddid i symud—mae'n darparu ar gyfer rhoi terfyn ar y rhyddid i symud—a hefyd, ar ôl y cyfnod pontio, a allai, yn anffodus, gael ei ymestyn, byddai'n darparu wedyn ar gyfer llai o arian, o leiaf, ac nid symiau mawr o arian mae'n debyg, yn parhau i fynd at yr Undeb Ewropeaidd. Felly, yn yr ystyr honno, mae rhai pethau cadarnhaol. Ond, i mi, mae'r pethau negyddol yn trechu, sef yn bennaf, na fedrwn ni ei adael. O leiaf gyda'r Undeb Ewropeaidd, ceir erthygl 50. Gyda hyn, ni allwn ei adael heb gytundeb rhyw gorff arall, ac nid wyf yn credu, fel Teyrnas Unedig sofran, y dylem ni fod yn rhoi ein hunain yn y sefyllfa honno.

A hefyd o ran masnach. Nawr, roedd rhywfaint o ddadlau yn y refferendwm ynghylch a ddylem adael y farchnad sengl, a chredaf fod yr ymgyrchwyr 'gadael' yn glir y dylem, ac yn enwedig Michael Gove. Ni chafwyd yr un ddadl am yr undeb tollau, oherwydd cymerwyd yn ganiataol y byddem yn gadael yr undeb tollau—yr undeb tollau oedd prosiect sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r dadleuon o blaid yr undeb tollau yn wannach o lawer na'r dadleuon ynghylch y farchnad sengl. Rydym yn talu llawer mwy mewn tollau tramor na gwledydd eraill yr UE oherwydd ein bod yn mewnforio mwy o'r tu allan, ac, yn fras, mae'r tollau tramor hyn yn niweidio pobl dlawd, mewn gwledydd eraill na allant werthu i ni ychwaith, ac yma oherwydd bod y bobl dlawd, fel cyfran, yn gwario mwy o'u hincwm ar y nwyddau y codir y tariffau arnynt. Os ydym yn aros mewn undeb tollau, fel y cynigir yn y cytundeb ymadael hwn, ac yn sicr gyda'r ôl-stop, yna bydd yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu ar ein polisi masnach heb inni gael unrhyw lais ynddo. Byddant yn gallu defnyddio ein marchnad yn y DU a mynd at drydedd wlad a dweud, 'Hei, rhowch ostyngiad inni ar eich tariffau ar gyfer allforwyr yr UE, ac, os gwnewch chi, fel bonws, fe rown ni fynediad i chi i farchnad y DU ar delerau gwell.' Eto, yn gyfnewid, ni fydd yn rhaid i'r marchnadoedd hynny agor eu gwledydd i allforwyr yn y DU. Nid yw'r annhegwch hwnnw yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n beth hynod anneniadol i'w wneud, ac rwyf mewn penbleth ei bod yn ymddangos nad yw Aelodau Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin, nac o bosibl yn y fan hon, yn deall hynny.

Y farchnad sengl yn erbyn yr undeb tollau—efallai y bydd gan bobl yn y fan hon farn wahanol, ond yn San Steffan, efallai nad ydyn nhw'n hoffi'r syniad ei bod yn farchnad, ac y byddai'n well ganddyn nhw pe byddai'n undeb. Ond, mewn gwirionedd, os feddyliwch chi am y peth, o egwyddorion cyntaf, mae'r syniad o fod mewn undeb tollau, lle nad oes gennych chi unrhyw bŵer ac y gellir ei ddefnyddio gan eraill yn eu negodi masnach, yn un hynod anneniadol. Dyna beth a gynigir inni yn yr ôl-stop ac ni allwn ei adael heb gytundeb rhywun arall. Felly, am y rhesymau hynny, rwy'n gwrthwynebu'r cytundeb ymadael hwn, ond croesawaf dôn y ddadl a gawsom ar y meinciau Ceidwadol. Ac am resymau nad wyf yn eu llwyr ddeall, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn hynod o bwysig inni anfon neges ein bod yn erbyn y cytundeb ymadael heb, yn wir, roi'r cyfle inni yn y cynnig i wneud hynny. Edrychaf ymlaen at wrthwynebu eu cynnig, yn ogystal â'r gwelliannau.

16:00

Mae'n iawn bod y Siambr hon yn cynrychioli barn gref ac angerddol iawn y bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Dydyn nhw ddim yn haeddu dim llai, ond maen nhw hefyd yn haeddu llawer mwy, wrth inni nesáu at y cyfnod mwyaf allweddol i'n dinasyddion a'n heconomi.

Mae'r cytundeb a negodwyd gan Theresa May yn ddrwg i Brydain, mae'n ddrwg i Gymru ac mae'n ddrwg i Islwyn. Caiff ei ailadrodd yn aml y dyddiau hyn fod gwleidyddiaeth gyfoes mor anrhagweladwy, wel, gadewch imi roi dwy ffaith i'r Siambr sydd yn glir. Mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi blino'n lân ar Brexit a'r ffordd y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi trin y mater yn anfedrus, o Cameron i Boris ac i May. Mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau Seneddol o bob ochr i Balas San Steffan yn gwrthwynebu cynlluniau Brexit Theresa May. Felly, sut yn y pen draw y cafodd Llywodraeth Dorïaidd y DU gytundeb sy'n plesio neb o gwbl? Nid yn aml y byddaf yn dyfynnu gwleidyddion Torïaidd yn y lle hwn, ac rwy'n siŵr y bydd Mark Isherwood yn maddau imi os dechreuaf weiddi, ond mae'n rhaid imi ddyfynnu Michael Heseltine yn gywir, sef y bachgen o Abertawe a ddaeth, fel y gwyddoch chi, yn Ddirprwy Brif Weinidog Torïaidd y DU, a gafodd ei gyfweld ar raglen Sunday Politics Wales dros y penwythnos. Pan ofynnwyd iddo pa gyngor fyddai'n ei roi i'r Prif Weinidog cryf a sefydlog, dywedodd

Allwch chi ddim disgwyl newid eich meddwl ynglŷn â’r mater pwysicaf yng ngwleidyddiaeth adeg heddwch yn ystod fy mywyd a chadw hygrededd wrth sôn am ddod â’r wlad at ei gilydd.

Mae Michael Heseltine, y dyn a ddymchwelodd Thatcher, yn mynd at wraidd y mater, yn fy marn i.

A ydych chi'n cofio cyfraniad Theresa May, fel Ysgrifennydd Cartref, i refferendwm Brexit 2016, oherwydd, â bod yn onest, dydw i ddim? Gwyddom fod Theresa May, mewn enw, wedi ymgyrchu o blaid 'aros', ac mae'n debyg y gwyddom o etholiad cyffredinol 2017 nad yw'r Prif Weinidog, hyd yn oed ar ei gorau, yn ymgyrchydd naturiol, felly, does dim syndod ein bod ni yn y sefyllfa hon â May wrth y llyw? Hyd yn oed ar ôl ymadawiadau cyflym Cameron ac Osborne o'r trafferthion, rwyf bron yn teimlo trueni drosti, ond dydw i ddim.

Mewn cyferbyniad, mae'r Blaid Lafur wedi bod yn glir drwy gydol y negodiadau bod yn rhaid i'r cytundeb fodloni ein prawf ar gyfer Brexit swyddi yn gyntaf. Mae Jeremy Corbyn a Keir Starmer, mewn gwirionedd, wedi bod yn glir iawn, iawn y byddai'n rhaid i unrhyw gytundeb gynnwys undeb tollau parhaol, a'r DU yn cael dweud ei dweud ynghylch cytundebau masnach yn y dyfodol, cytundeb marchnad sengl cryf a gwarantau ar hawliau gweithwyr a mesurau diogelu ar gyfer defnyddwyr a'r amgylchedd.

Fel democrat, rwyf i'n parchu penderfyniad y bobl yn 2016, a dyna pam yr wyf wedi cefnogi'r broses negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, ni wnaf sefyll yn segur a chaniatáu i bobl Islwyn ddioddef rhagor yn economaidd, oherwydd y Torïaid yn Lloegr, sydd â ffantasi iwtopaidd Fictoraidd o greu economi treth isel heb lawer o reoleiddio, hyd yn oed ar ôl y cwymp diwethaf, a gefnogwyd yn fedrus gan araith Mansion House Osborne. Ar gyfer y bobl dosbarth gweithiol yr wyf i'n eu cynrychioli, gwn pa fath o economi y mae hynny'n ei olygu—trallod wrth i'r bobl gyfoethog fynd yn gyfoethocach a'r tlawd fynd yn dlotach, wrth iddyn nhw barhau i roi manteision treth i bobl gyfoethog ac erlyn ac erlid y tlawd. Gofynnwch i'r Cenhedloedd Unedig.

Felly, mae'r neges oddi wrth gymunedau Islwyn yn groch ac yn glir i'r Prif Weinidog, 'Os bydd Tŷ'r Cyffredin yn trechu eich cytundeb honedig yn y bleidlais ar 11 Rhagfyr, gwnewch y peth anrhydeddus: diddymwch Senedd y DU a galw etholiad cyffredinol.' Crisialwyd hyn gan Michael Heseltine pan ofynnwyd iddo pa gyngor ymarferol y byddai'n ei gynnig i'r Prif Weinidog, a dyfynnaf,

Mae'n rhaid ichi symud o'r neilltu, mae'r cyfan drosodd.

A chefnogaf y cynnig a gynigiwyd gan Julie James AC. Diolch.

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon inni heddiw ar Brexit. Diolch hefyd i David Melding, a wnaeth lawer o bwyntiau perthnasol, yn fy marn i—mae'n gwneud hynny'n aml. Nawr, os gallaf edrych yn gyntaf ar eiriad cynnig y Llywodraeth, mae'n nodi bod Llywodraeth Cymru

'yn siomedig nad yw Cymru na’r Alban yn cael eu crybwyll'

yn y cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Diwedd y dyfyniad. Nawr, pam mae angen i Gymru a'r Alban gael eu crybwyll? Maen nhw'n ranbarthau o'r DU. Roedd y bleidlais yn bleidlais i'r DU yn ei chyfanrwydd, ac, fel y gwyddom, pleidleisiodd y DU i adael. Beth bynnag yw ein barn ni—[Torri ar draws.] Beth bynnag yw ein barn ni am y cytundeb Brexit arfaethedig, siawns y gallwn ni gytuno mai'r DU yw'r genedl-wladwriaeth sy'n negodi'n briodol dan yr amgylchiadau hyn. Nid yw polisi tramor yn fater datganoledig. Mewn termau cyfansoddiadol, felly, dydy Brexit yn ddim i'w wneud â Chymru na'r Alban. A beth bynnag, os yw'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn dymuno—[Torri ar draws.] Na, wna'i ddim. Os yw'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn dymuno pwysleisio'r pwynt hwn, yna mae'n wynebu ffaith eithaf mawr ac anghyfleus bod Cymru wedi pleidleisio i adael—fel y gwnaeth y DU yn ei chyfanrwydd.

Mae cynnig y Llywodraeth wedyn yn sôn am hawliau dinasyddion, sef hawliau dinasyddion yr UE, i raddau helaeth. Byddwn yn gofyn y cwestiwn canlynol: a yw Llywodraeth y DU yn rhedeg y DU er budd dinasyddion Prydain neu er budd dinasyddion yr UE nad ydynt yn Brydeinwyr? Yn amlwg, mae hawliau pobl Prydain yn hollbwysig yma. Mae hawliau tramorwyr ym mhell i lawr y rhestr, ac roedd y bleidlais i adael ei hun, yn rhannol, yn ddatganiad o'r ffaith honno gan bobl Prydain.

Nawr, a gaf i edrych ar fater hawliau gweithwyr? Drwy adael yr UE heb gytundeb, ac ar yr un pryd dod a symudiad rhydd o lafur rhad o'r UE i'r DU i ben, byddech chi mewn gwirionedd yn cael yr effaith fwyaf o blaid hawliau gweithwyr yng Nghymru ers 30 mlynedd. Felly, fe fyddech chi'n disgwyl i'r Blaid Lafur fod o blaid hynny, ond na; mae Llafur Cymru yn dymuno caniatáu i fusnesau mawr barhau i lenwi'r farchnad swyddi â llafur rhad wedi'i fewnforio o'r UE. Effaith gyffredinol hyn yw gwthio cyflogau i lawr, gostwng amodau gweithio, ac atal diwydiant rhag buddsoddi yn hyfforddiant a datblygiad gweithwyr. Byddai hyn yn cynyddu cynhyrchiant, oherwydd problem go iawn diwydiant Prydain yw'r bwlch cynhyrchiant, y gellid rhoi sylw rhannol o leiaf iddo drwy roi terfyn ar symudiad rhydd pobl. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo ei hun i fusnesau mawr ac i lafur rhad o dramor, ac yn dal, mae gan Llafur Cymru—neu a ddylwn i eu galw yn 'llafur rhad'?—yr hyfdra i siarad yn y cynnig di-werth hwn heddiw am hawliau gweithwyr. Dyma neges i'r Blaid Lafur rhad gan dosbarth gweithiol Cymru: calliwch.

Ymadrodd olaf o gynnig y Blaid Lafur:

'naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus'.

Etholiad cyffredinol wedi'i brwydro ar ba sail? Beth ddywedodd maniffesto Llafur y DU y tro diwethaf y cawsom etholiad cyffredinol? Roedd o blaid parchu canlyniad y refferendwm a gadael yr Undeb Ewropeaidd. A yw polisi Plaid Lafur y DU wedi newid ers hynny? Wel, pwy all ddweud? Wrth gwrs, yr elfen drasigomedi yn hyn i gyd yw bod gennym Brif Weinidog yn y fan yma—er nad yw e' yma heddiw—sy'n dweud y drefn wrth y rhai sy'n dymuno gadael am beidio â bod ag unrhyw gynllun, ac mae'n awgrymu bod ganddo ef un, ond mae gan ei arweinydd ei Blaid ei hun yn San Steffan, Jeremy Corbyn, safbwynt polisi ar Brexit nad yw neb yn ei ddeall, hyd yn oed. Beth yw safbwynt Corbyn? A yw wedi newid? Ni ŵyr neb. Mae Llafur yn jôc llwyr ar Brexit.

Nawr, beth y mae Plaid yn ei ddweud yn eu gwelliannau? Wel, maen nhw'n galw yn benodol am bleidlais i'r bobl—yr ymadrodd rhyfedd hwnnw, 'pleidlais y bobl'. Beth mae'n ei olygu? Beth maen nhw'n meddwl y cawsom ni yn 2016 —pleidlais i fwncïod? Beth yw'r pwynt o gael pleidlais arall i'r bobl—fel ei gelwir—os nad ydych chi'n mynd i gymryd unrhyw sylw o'r hyn a ddigwyddodd yn yr un cyntaf? Felly, a gawn ni gymryd gwelliannau Plaid Cymru a'u rhoi nhw lle y maen nhw'n perthyn, sef yn y bin hefyd? [Torri ar draws.] Na. Beth sy'n cymell Plaid yn y fan yma yw eu hamcanion sectyddol eu hunain—[Torri ar draws.] Iawn, Mark, ewch chi.

16:05

Tybed a oes modd iddo hefyd ymdrin â'i welliant ei hun, sy'n dweud y bydd y DU yn aros yn y farchnad sengl, i bob pwrpas. Onid i Ogledd Iwerddon y byddai hynny, mewn gwirionedd, yn digwydd? Ac yna mae'n dweud bod Llywodraeth y DU wedi amharu ar Brexit. Mewn gwirionedd, hyd yn hyn, rydym yn mynd i adael ar 29 Mawrth, ac rwy'n gobeithio ac yn credu y bydd hynny'n dal i ddigwydd, ac onid yw e'n cytuno â hynny?

Diolch ichi, Mark, a diolch am eich cyfraniad yn gynharach. Ond rwy'n ei chael yn anodd cytuno bod y Llywodraeth yn paratoi i adael pan nad oes gennym ni ddyddiad gadael bellach. Mae gennym ni 29 Rhagfyr 20XX—nid oes gennym ni ddyddiad gadael o gwbl bellach. Rydym mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth nag yr oeddem pan ddechreuasom. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, na, rydych wedi cael eich cyfle nawr, diolch.

A allwn ni gymryd—? Rwyf wedi gwneud y darn hwnnw; rwyf wedi colli fy lle nawr. Yr hyn sy'n cymell Plaid yma yw eu hamcanion sectyddol eu hunain. Mae Plaid eisiau annibyniaeth i Gymru—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n defnyddio eich jôc chi o bythefnos yn ôl. Mae Plaid eisiau annibyniaeth i Gymru o fewn blanced gysur yr UE. Felly nid yw'r DU yn gadael yr UE yn gwneud dim i helpu eu hachos nhw. Does dim pwynt i Lafur a Phlaid Cymru alw am refferendwm arall, oherwydd dydyn nhw ddim eisiau parchu canlyniad yr un cyntaf. Roedd Paul Davies yn iawn ar y pwynt hwn. Mae pobl y DU wedi siarad. Mae pobl Cymru eisoes wedi siarad. Heddiw, mae Llafur a Phlaid Cymru yn dangos eu dirmyg llwyr tuag at ddemocratiaeth, a'u dirmyg tuag at ddeallusrwydd pobl Prydain. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Mae Caergybi yn agosach at Ddulyn nag ydy o at Lerpwl. Dim ond rhyw hanner milltir sydd ynddi hi, ond yn nhermau masnach mae'n llawer pwysicach, wrth gwrs. Mi ges i fy magu yna ac roeddwn i'n teimlo yr oeddwn i'n cael fy magu mewn frontier Ewropeaidd. Rydw i'n cofio picio draw i Dún Laoghaire am gyrri ar nos Sadwrn, a phenwythnosau lu draw yn Nulyn. Ond gymaint o hwyl ag oedd y cyswllt yna, wrth gwrs, mae'r manteision o gael y cyswllt agos yna yn rhedeg yn llawer dyfnach na'r nosweithiau hynny draw yn yr ynys werdd.

Mae'r hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw—y cytundeb ymadael yma—yn wahanol iawn, iawn i'r hyn a gafodd ei addo nôl yn 2016. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma rŵan yn dangos i fi'r camgymeriad, os ydych chi am fod yn garedig, neu'r twyll, fel y byddwn i yn ei weld o, o beidio â bod wedi cynnig cynllun i bobl cyn y refferendwm, oherwydd rŵan yr ydym ni'n darganfod y gwirionedd o geisio tynnu ein hunain oddi wrth berthynas sydd wedi gweithio mor ffafriol inni drwy gydol fy mywyd i. Rydw i'n Ewropead balch, wastad wedi bod, oherwydd fel cenedlaetholwr a rhyngwladolwr Cymreig, rydw i eisiau i Gymru fod yn rhan o rwydweithiau ehangach. Felly, rydw i'n hapus iawn i gadarnhau'r hyn a oedd Gareth Bennett yn ei ddweud: mae gwledydd bach, annibynnol fel Cymru yn elwa o fod yn rhan o rwydweithiau rhyngwladol, ac rydw i eisiau i Gymru annibynnol fod yn rhan o rwydweithiau Prydeinig ac Ewropeaidd yn y dyfodol ar gyfer fy mhlant i a'u plant nhw.

Nid rhyw rwydweithiau haniaethol ydy'r rhain. Maen nhw'n rhwydweithiau go iawn sy'n cael effaith go iawn. Rydw i wedi crybwyll Caergybi yn barod. Nid oes dim angen i fi sôn am bwysigrwydd y porthladd hwnnw yng nghyd-destun economi Ynys Môn, ond wrth gwrs mae yn groesiad cwbl, cwbl hanfodol o ran y berthynas rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd: yr ail borthladd roll-on, roll-off prysuraf yn ynysoedd Prydain, yn ail i Dover, ac mae'r traffig masnach drwy Gaergybi wedi cynyddu 694 y cant ers i'r farchnad sengl Ewropeaidd gael ei chreu. Mae symudedd rhwydd masnach drwy Gaergybi yn gwbl hanfodol i iechyd economaidd y porthladd a'r dref honno, ac nid oes angen inni ddychmygu'r effaith a fyddai ymadawiad caled o'r Undeb Ewropeaidd yn ei gael. Wrth gwrs, nid oes gennym ni ddim sicrwydd dan yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y cytundeb ar hyn o bryd. Oes, mae yna sôn am gytundeb backstop, a fydd yna ddim llawer o newid am y tro, ac yn y blaen. Ond nid ydw i'n fodlon cymryd y risg efo'r math yna o ansicrwydd. Rydym ni'n gwybod y byddai ffin galed yn niweidiol iawn, ond yn barod rydym ni'n gwybod bod yna ferries go iawn—nid syniadau, nid bygythiadau, ond ferries go iawn—yn cael eu hadeiladu i wneud y croesiad yn uniongyrchol o Gaergybi i gyfandir Ewrop.

Gadewch imi droi at amaethyddiaeth, mor bwysig i Fôn yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol. Rydym ni eisoes yn gweld effaith Brexit cyn inni adael, a hynny yn ffurf yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', sy'n paratoi'r ffordd at gael gwared â thaliadau uniongyrchol i ffermydd teuluol, i ffermydd yn gyffredinol. Wedyn, mae bygythiad i farchnadoedd ein ffermwyr ni, sy'n dal yn gwbl ansicr. Ydynt, mae'r undebau amaethyddol yn dweud efallai bod y cytundeb yma yn well na dim cytundeb, a'r ansicrwydd llwyr y byddai hynny yn cynrychioli, ond mae yna le, wrth gwrs, i stopio'r holl broses, a dyna'r unig beth a allai gynnig rhyw fath o sicrwydd i ffermwyr.

Wedyn mae'r holl naratif Brexit. Nid dim ond tanseilio Ewrop ydy'r nod yn fan hyn—nid oes gennyf ddim amheuaeth am hynny—ond Prydeineiddio a dad-Gymreigio. Mi welsom ni beth ddigwyddodd yn y Sioe Frenhinol: bwyd Cymru'n cael ei frandio fel bwyd Prydeinig. Yr wythnos yma mi welais i luniau o gig oen Cymreig yn cael ei werthu efo label jac yr undeb yn archfarchnad Morrisons—rhywbeth na fyddai wedi cael ei wneud o'r blaen. Mae prif weithredwr Hybu Cig Cymru wedi cyfeirio at astudiaeth sy'n dangos bod y brand Cymreig yn llawer mwy effeithiol ac yn gryfach brand na'r brand Prydeinig wrth werthu i farchnadoedd Ffrainc, marchnadoedd fel yr Almaen hefyd, a'r Eidal rydw i'n credu.

Ac nid dim ond cig rydw i'n sôn amdano yn y fan hyn. Mae 97 y cant o'r cregyn gleision o'r Fenai yn mynd i farchnadoedd Undeb Ewropeaidd ac maen nhw'n gorfod cyrraedd o fewn oriau aur o fod wedi cael eu tynnu o'r môr. Dyna'r bygythiad iddyn nhw. A halen: mae Halen Môn—halen gorau'r byd heb amheuaeth—yn falch iawn o fod yn gynnyrch Cymreig ac Ewropeaidd ac wedi manteisio yn helaeth o gael statws Ewropeaidd gwarchodedig. 

Mae yna gymaint mwy y gallwn i gyfeirio ato o ran perthynas Môn â’r Undeb Ewropeaidd. SEACAMS, yr adran o Brifysgol Bangor sy'n arloeswyr ym maes technoleg yn ymwneud â’r môr, sy’n cyfrannu llawer at faes ynni môr ac wedi manteisio'n fawr iawn ar arian Ewropeaidd. Orbital, cwmni arall o'r Alban yr wythnos yma'n arwyddo cytundeb efo parth ynni Morlais, ac Orbital wedi derbyn arian sylweddol o dan gynllun Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd. 

Mi wnaf i dynnu at y terfyn—mae'r cloc yn mynd. Pobl ifanc Môn ydy'r garfan arall rydw i'n bryderus yn eu cylch nhw. Y cyfleon sy'n cael eu cau: cyfleon mewn addysg; cyfleon i weithio. Mae'r ymfalchïo yma mewn cau symudedd rhydd o bobl unwaith ac am byth yn rhywbeth sydd yn wrthun i fi fel tad i dri o blant, sy'n gweld y byd fel eu hiard gefn ac yn gweld y cyfleon sy'n dod o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Ac a ydych chi'n gwybod beth? Mae pobl ifanc yn deall. Rydym ni'n gwybod bod cymaint o bobl ifanc—cymaint â 70 y cant neu fwy o'r rhai rhwng 18 a 24—wedi pleidleisio i aros yn Undeb Ewropeaidd. Ac rydym ni'n fodlon aberthu eu dyfodol nhw yn enw rhyw fath o ddemocratiaeth perverse, sy'n ymwrthod â rhoi pleidlais unwaith eto i bobl.

Mae yna ddau reswm pam rydw i'n cefnogi rhoi pleidlais i bobl eto: un, onid ydy hi'n werth gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth go iawn, ac felly edrych ar beth yn union ydy rhwystr adael yr Undeb Ewropeaidd? A dau: onid ydy hi'n bwysig bod democratiaeth yn rhywbeth sydd mor gyfoes â phosibl? Dyna pam y mae etholiadau'n cael eu cynnal bob ychydig o flynyddoedd, oherwydd mae pobl yn newid eu meddyliau. A'r rheswm maen nhw'n colli ffydd mewn un blaid wleidyddol neu mewn syniad o bosibl, ydy oherwydd eu bod nhw'n gweld tystiolaeth ac yn newid eu meddwl. Mae'r dystiolaeth wedi newid. Mae'r dystiolaeth yn glir o'n blaenau ni. Gadewch i ni fesur yn gyfoes a dangos ein bod ni fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddifrifol ynglŷn â democratiaeth heddiw—nid democratiaeth yn seiliedig ar gelwydd ychydig o flynyddoedd yn ôl.

16:15

Rwy'n codi i siarad gyda chysyniad aelodau fy ngrŵp i gydnabod fy ngalwad cyson am Bleidlais y Bobl, a byddaf, felly, yn cefnogi gwelliant 3.

A'r hyn yr wyf i eisiau ei ddweud yn y fan yma yw—. Rwy'n mynd i ddyfynnu gwleidydd y byddwn fel arfer yn gyndyn o'i ddyfynnu, ac mae'r gwleidydd hwnnw wedi sôn am y pethau anhysbys sy'n hysbys a'r pethau hysbys sy'n anhysbys. A, dyna, yn fy marn i, yw'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw o ran yr holl sefyllfa Brexit hon. Mae gennym ni fwy o bethau anhysbys sy'n anhysbys nag erioed o'r blaen. A gŵyr pob un ohonom ni fod yr ychydig ddyddiau a'r wythnosau nesaf yn hollbwysig, ond mae'r dewisiadau cyfreithiol, gwleidyddol, a chyfansoddiadol yn gwbl anhysbys. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd ar wleidyddion i leisio eu barn a'u bwriad ac i fod yn onest am yr hyn sydd orau ar gyfer Prydain ac sydd orau ar gyfer Cymru, yn eu barn nhw. A dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant 3. Byddaf yn galw am bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys dewis i'r DU aros yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Byddaf hefyd yn cefnogi hynny ar ran y bobl ifanc na chafodd gyfle o gwbl i bleidleisio oherwydd nad oedden nhw yn ddigon hen i bleidleisio eto, ond fe wnaethon nhw fynegi eu barn a'u dymuniad i'w dyfodol fod yn ddiogel heb y grym hwnnw.

Rwy'n credu ac yn deall yn iawn ac yn parchu'r bleidlais a gafwyd, ond gadewch inni fod yn gwbl glir ynghylch y bleidlais a gafwyd. Yn gyntaf, cawsom refferendwm, a hwn oedd y refferendwm a oedd i fod, ac a sefydlwyd gan blaid, i ddatrys a rhoi terfyn ar ei dadl fewnol ynghylch bod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Roedd y Prif Weinidog ar y pryd mor ffyddiog ei fod yn mynd i gael y bleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mewn gwirionedd, fel na wnaeth drafferthu i wneud unrhyw waith o gwbl i hyrwyddo'r syniad hwnnw. Pan ddeffrodd o'r diwedd, roedd hi'n rhy hwyr. Pan gollodd ef y gambl fwyaf a gafodd y wlad hon erioed, fe adawodd. Gadawodd y wlad i edrych ar ôl ei hun. A phan wnaeth y celwyddau sydd bellach yn dod i'r amlwg ddarbwyllo pobl i bleidleisio i adael, digwyddodd yn union yr un peth ar yr ochr arall. Mae Farage wedi gadael y wlad. I ble yr aeth ef? Yr Almaen. Dyna ble y mae wedi mynd.

Felly, gadewch inni fod yn glir ynghylch beth sydd wedi digwydd yn y fan yma. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch beth yr oedd pobl yn ei gredu yr oeddent, mewn gwirionedd, yn pleidleisio drosto—a'r bysiau hynny. Rydym ni i gyd wedi gweld y celwyddau yn addurno'r bysiau hynny. Ni fydd dim ohonyn nhw'n cael eu cyflawni. Ni fydd dim ohonyn nhw'n cael eu cyflawni. Felly, pan fyddwn ni'n gwybod beth y mae pobl wedi pleidleisio o'i blaid mewn gwirionedd, pan fyddwn ni'n gwybod beth yw hynny, yna beth am fynd yn ôl at y bobl, os oes gennych chi gymaint o ffydd—gallaf eich clywed chi'n gweiddi draw yn y fan yna. Os oes gennych chi gymaint o ffydd bod pobl yn mynd i gefnogi'r realiti, yna rhowch gyfle iddyn nhw wneud hynny. Oherwydd dyna beth y mae pobl yn ei wneud. [Torri ar draws.] Na wnaf, ni wnaf ildio. Rwyf wedi clywed digon gennych chi, oherwydd roeddech chi'n rhan o'r broses honno sydd wedi ein harwain ni i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw.

Rydyn ni i gyd yn mynd i fod yn well ein byd, ydym ni? Dywedwch chi hynny wrth y bobl ifanc na fydd o bosibl yn cael cymryd rhan mewn cyfnewid gwybodaeth ar gyfer y dyfodol, i ddysgu beth sydd ar gael allan yno y tu hwnt i ffiniau y DU. Ewch â hynny at y bobl yr oeddwn i'n siarad â nhw sydd yn falch iawn—ac mae Cymru yn hynod o falch o fod yn bartner blaenllaw yn y gwaith o arloesi ym maes meddyginiaethau. Dywedwch chi hynny wrth y meddygon a oedd yn erfyn arnaf pan yr oeddwn mewn digwyddiad y dydd o'r blaen, nad ydym yn taflu hynny i gyd i ffwrdd. Dywedwch hynny wrth y gweithwyr na roddwyd eu hawliau iddynt yn y wlad hon. Nid wyf i'n gwybod faint ohonoch chi sy'n deall mewn gwirionedd nad oedd gan weithwyr rhan-amser unrhyw hawliau o gwbl i dâl gwyliau—wn i ddim faint ohonoch chi sy'n gwybod hynny—ond rwy'n gwybod un peth: roedd fy mam yn gwybod hynny, hyd nes iddi lwyddo i'w gael pan benderfynodd y Llywodraeth Lafur weithredu'r newid hwnnw yma. Felly, mae angen i chi ddeffro pan eich bod chi'n sôn am yr hawliau. Mae'n rhaid ichi ddeffro pan fyddwch chi'n meddwl am y canlyniadau.

A beth am hawliau dynol? Rydym ni'n ei glywed o'r ochr draw yn y fan yna, 'Peidiwch â gadael iddyn nhw gael hawliau', ond fe ddywedaf i un peth wrthych chi nawr, pan fyddwch chi'n tynnu hawliau oddi ar bobl, rydych chi'n tynnu eich hawliau eich hun, a dydych chi ddim yn gwybod pa hawliau sydd eu hangen arnoch chi hyd nes y byddwch chi eu hangen. Dydych chi ddim yn gwybod pa amddiffyniad sydd ei angen arnoch chi tan eich bod yn y sefyllfa honno. Rwyf wedi alaru braidd hefyd o glywed am ddileu hawliau dynol fel pe byddech chi'n gallu eu caniatáu i rai pobl rywsut ac nid i bobl eraill. Rwy'n clywed hynny drwy'r amser. Os oes unrhyw un yn credu mewn gwirionedd nad oes bylchau rhwng y statws presennol sydd gennym ni nawr a'r bil hawliau, rwy'n awgrymu eu bod nhw'n wyliadwrus o'r bwlch, oherwydd rwy'n bryderus iawn bod pobl yn mynd i ddisgyn drwyddo.

Felly, rwy'n amlwg yn dymuno ei roi yn ôl i'r bobl. Rwyf eisiau iddyn nhw gael cyfle, fel eu bod yn deall yn llwyr beth fydd hyn yn ei olygu iddyn nhw—nid y celwyddau a'r ensyniadau yr ydym ni wedi eu clywed, ond y gwir ddewis o'r hyn y maen nhw'n gadael eu hunain yn agored iddo—rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno a symud ymlaen wedyn, ac o leiaf rhoi cyfle gwirioneddol i bobl ddweud, 'Nawr ein bod ni'n gwybod beth y gwnaethom ni bleidleisio drosto, rydym ni bellach wedi gwneud ein dewis.'  

16:25

Ar ôl gwrando ar gynifer o areithiau da, nid wyf yn credu y bydd gen i lawer i'w ddweud, ond y ffaith yw, rwyf am ddweud ychydig o bethau.

Pan ddigwyddodd yr etholiad cyntaf—datganoli ar gyfer y Siambr hon yn 1997—dim ond 6,721 oedd y mwyafrif ac rydym ni yma, ac roedd y mwyafrif o blaid y DU yn gadael Ewrop yn 1,269,501. Felly, mewn gwirionedd, roedd mwyafrif clir i bobl adael Ewrop. Does dim dadl. Cyfarfûm â llawer o bobl cyn mis Mai 2016, a chyfarfûm â llawer o etholwyr, gan gynnwys rhai o gymunedau ffermio. Ni allaf esbonio yn y Siambr hon yr iaith a ddefnyddiwyd ganddyn nhw pan euthum i farchnad Rhaglan i gwrdd â chymaint o ffermwyr, ac roedd cynifer ohonyn nhw yn wrth-Ewrop. Cyfarfûm â llawer o athrawon, llawer o feddygon, llawer o yrwyr tacsi, llawer o siopwyr—mae yna restr hir, Llywydd. Roedden nhw, mewn gwirionedd, yn llwyr yn erbyn Ewrop. Wn i ddim pam, ond gallaf roi'r bai ar un neu ddau o bobl—un ohonyn nhw ar yr ochr yna i'r Siambr a'r llall yw ein cyfryngau.

Mae'n debyg eich bod wedi anghofio beth ddigwyddodd ar y BBC ac ITV, y sianelau yr oedd pobl yn eu gwylio, yn eu gweld ac yn cytuno â nhw. Nid ydym ni'n sôn am yr ardaloedd hynny lle yr arweiniwyd pobl i gyfeiriad gwahanol. Mae Brexit yn golygu bod pobl yn y refferendwm hwnnw yn 2016 wedi pleidleisio i ddod â'n haelodaeth o'r UE i ben a chreu swyddogaeth newydd ar gyfer ein gwlad yn y byd. Mae angen inni gyflawni Brexit yn awr sy'n parchu penderfyniad pobl Prydain; Brexit sy'n golygu ein bod unwaith eto yn rheoli ein ffiniau ein hunain, ein cyfraith a'n harian; a Brexit sy'n ein gosod ar lwybr tuag at gwell dyfodol y tu allan i'r UE fel gwlad sy'n masnachu'n fyd-eang sy'n gyfrifol am ein tynged ein hunain, gan fanteisio ar y cyfle i fasnachu â rhai o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf a'r rhai mwyaf dynamig ledled y byd. Peidiwch â diystyru Prydain Fawr. Roeddem ni  cyn 1973, heb Ewrop, yn Brydain fawr, ac mae gennym yr enw. Mae mwy na 200 o wledydd ledled y byd, a 27—[Torri ar draws.] Mike, ewch ymlaen.

Os oedd pethau mor dda yn 1973, pam wnaeth y Prif Weinidogion yn 1959 a 1973 i gyd geisio ymuno â'r Undeb Ewropeaidd?

Mike, fe wnaethoch chi anghofio'r 1960au cyffrous. Mae'n debyg na wnaethoch chi fwynhau'r adeg pan oedd Prydain Fawr mewn gwirionedd yn arwain ar bopeth, ac roedden nhw'n arwain y byd ym mhob agwedd ar fywyd. [Torri ar draws.] Arhoswch funud. Byddwn ni'n rheoli, ar ôl Brexit, Llywydd, byddwn ni'n rheoli ein ffiniau ein hunain a'r rhyddid i symud, unwaith ac am byth. Nid Brexit yw hynny. Rydym ni'n diogelu ein swyddi yn y wlad hon, boed hynny yng Nghymru, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban neu yn Lloegr. Byddwn ni'n rheoli popeth. Ni fyddwn bellach yn anfon symiau enfawr—. Soniwyd am arian—bydd £300 miliwn yr wythnos yn cael ei atal. A byddwn ni mwy na thebyg yn defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer ein gwasanaethau cymdeithasol yn y fan yma, neu  feysydd eraill. Bydd ein Llywodraeth yn ei ddefnyddio, a byddwn ni'n gallu masnachu'n rhydd o gwmpas y byd gyda TWA. Y peth yw: dim ond 27 o wledydd sydd yn Ewrop, nid 200 o wledydd. Felly, cofiwch: byddwn ni'n tyfu'n fwy. [Torri ar draws.]

O mae'n ddrwg gen i. Mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i'n meddwl mai dyna oedd eich a'ch diweddglo. Mae'n ddrwg gen i, Mohammad Asghar. Ildio i Steffan Lewis.

Diolch, Llywydd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd braidd yn gynhyrfus bod yr Aelod wedi cyrraedd ei uchafbwynt ar y pwynt hwnnw. Roedd yn sicr yn edrych felly o'r lle yr oeddwn i'n eistedd. [Chwerthin.] Mae'r Aelod newydd ddweud y bydd y DU yn rhydd i fasnachu â gweddill y byd. Ar hyn o bryd, rwy'n dal i glywed pobl sy'n cefnogi Brexit ar y radio yn dweud wrthyf mai ein gwlad fasnachu fwyaf yw'r Unol Daleithiau. Sut ar y ddaear y mae bod yn yr Undeb Ewropeaidd yn ein rhwystro rhag masnachu gyda gweddill y byd?

16:30

Gwrandewch: arhoswch tan Brexit ar 29 Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddwn ni'n masnachu gyda Tsieina a gwledydd eraill—Japan ac eraill, Brasil. Peidiwch ag anghofio—rydych chi'n sôn am gig oen Cymru. Mae gennym ni'r nwyddau gorau—dŵr Cymru, hyd yn oed, y gallwn ni ei werthu i Arabiaid. Rydych chi'n anghofio'r meysydd hyn. Edrychwch—[Torri ar draws.] Ewch ymlaen.

Fel newyddiadurwr, euthum unwaith gyda chyn-Brif Weinidog ar daith fasnach i Tsieina, oherwydd bod busnesau Cymru eisoes yn gwneud busnes â gwledydd ar hyd a lled y byd, yn ogystal â bod yn rhan o farchnad sengl gwbl agored a thryloyw o dros 0.5 biliwn o bobl.

Rwy'n falch o wybod hynny, ond pan euthum i yno 10 mlynedd yn ôl, fi ac arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Ieuan—gofynnwch iddo—ydych chi'n gwybod beth ddywedodd y Tsieiniaid wrthym ni? 'Beth yw Cymru? Ble mae Cymru?' Rwy'n falch bod y Siambr hon wedi hyrwyddo ein rhan ni o'r byd. Mae Llundain wedi hyrwyddo Cymru, ac rydym ni yn awr—. A pheidiwch ag anghofio bod dros biliwn o boblogaeth yno, ac rydym ni fel pentref bach iddyn nhw, a bydd y masnachu a wnânt hwy gyda'r Deyrnas Unedig, nid Cymru yn unig. Cofiwch hyn. Ac mae gan Gymru gyfle—peidiwch ag anghofio hynny. Byddwn ni'n cadw ein hunain yn ddiogel—[Torri ar draws.] Byddwn ni'n ddiogel yn erbyn troseddu a therfysgaeth, peidiwch ag anghofio, ar ôl y Brexit hwn. Mae pobl yn aros yn Ffrainc ac ym mhob man, yn croesi Ewrop gyfan i ddod i'r wlad hon. Pam? Oherwydd—[Torri ar draws.] Na, na, na, na. Oherwydd bod pobl fel chi—'Dewch yma, peidiwch â gwneud dim, a byddwn ni'n dal i'ch talu chi.' Nid dyna'r ffordd iawn o wneud pethau. Mae'n rhaid i'r bobl iawn ddod i mewn. Mae'n rhaid i bobl ddod yma yn y ffordd iawn. A hefyd mae'r refferendwm yn golygu—yn ein hiaith ni rydym yn dweud—[Torri ar draws.] Yn ein hiaith ni—fe wnaf gyfieithu mewn munud: Zaban-e-khalk ko nikara khuda samjho. Mae'n golygu, yn iaith India: 'Pan fydd pobl yn siarad, gair Duw yw hwnnw.' Felly, cofiwch hyn: pan benderfynodd pobl ar Brexit, mae'n rhaid, rhaid i chi gytuno iddo—. Rydym ni i gyd yma fel Aelodau etholedig, oherwydd pa un a wnaethom ni ei ennill drwy un bleidlais neu 1,000 o bleidleisiau, rydych chi wedi'ch ethol. Mae'n rhaid i chi barchu Brexit. Nid oes unrhyw ffordd allan.

A gwrandewch[Torri ar draws.] A gwrandewch ar yr hyn y mae eich arweinydd yn ei ddweud. Ef—Mr Corbyn—[Torri ar draws.] Mr Corbyn—ef ei hun—a ydych chi'n gwybod beth ddywedodd ef? Nid yw'n gweithredu er budd Brexit. Dywedodd ei fod yn gwrthwynebu'r cytundeb cyn iddo hyd yn oed ei ddarllen. Dyna eich arweinydd. A hefyd addawodd Jeremy Corbyn y byddai'n parchu penderfyniad y wlad i adael, ond mae bellach wedi agor y drws i ail-gynnal y refferendwm, a fydd yn mynd â phob un ohonom ni yn ôl i'r sefyllfa wreiddiol. Felly, mae ansicrwydd a hefyd ansicrwydd a rhaniad os gwrandawn ni ar Jeremy Corbyn. Hynny yw, Llywydd—. Mae ein Prif Weinidog, mewn gwirionedd—rwy'n dymuno hir oes iddi, a phopeth—mae hi bron cystal neu'n well na Jeanne D'Arc. Bydd hi'n gwneud gwaith gwell ar ran y Deyrnas Unedig, ac mae hi yn ei wneud, ac rydych chi'n anghofio hynny.

Rydym ni wedi llwyddo i gael cytundeb. Rydym ni wedi llwyddo i gael cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd i gyflawni'r refferendwm, cytundeb y gall y wlad uno y tu ôl iddo. Dylai un Senedd fod yn ôl. Hefyd, byddwn yn rheoli popeth ein hunain—pob maes gwleidyddol a busnesau y bydd Prydain yn eu rheoli. Yr economi—byddaf yn dod at hyn. Rydym ni wedi cyflawni—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyflawni ymrwymiad i ddarparu dadansoddiad priodol i'r Senedd drwy asesiad gwrthrychol cadarn ynghylch sut y gallai ymadael â'r UE effeithio ar economi sector y DU fesul gwlad a rhanbarth yn yr hirdymor. Dengys y dadansoddiad hwn mai ein cytundeb ni yw'r cytundeb gorau sydd ar gael ar gyfer swyddi, ein heconomi, ac mae'n caniatáu i ni anrhydeddu'r refferendwm a gwireddu cyfle Brexit.

Llywydd, ein diweithdra, ein cyflogau, ein—[Torri ar draws.]

Na. mae amser yr Aelod eisoes wedi dod i ben. Nid yw'n derbyn ymyriad.

Yn y bôn—. Rwyf ar yr ychydig linellau olaf nawr. Mae'r economi hon yn mynd i dyfu. Brexit yw'r unig ateb. Yr hyn y mae Theresa May wedi'i roi ar ddu a gwyn—darllenwch ef os gwelwch yn dda. Mae hynny er budd y genedl ac er budd ein cenhedlaeth nesaf. Mae'r bleidlais y bobl hon, rwy'n credu, yn lol ac na fydd yn digwydd, oherwydd ein bod ni eisoes wedi cael un, felly does dim angen cynnal a chymeradwyo un arall. Ni fyddai terfyn ar hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar os gwnewch chi—. Byddwn ni, beth bynnag, yn gwrthwynebu'r rhain i gyd, ond diolch yn fawr iawn am wrando.

16:35

Wel, diolch ichi, Llywydd, ac ar ôl yr araith honno, rwy'n mynd i newid fy mhleidlais. [Chwerthin.]

Beth bynnag, a gaf i fod yn glir o'r cychwyn? Mae'r cytundeb presennol hwn—mae'n siomedig iawn, nid yw'n ddigon da. Mae'n aneglur, mae'n peryglu ein diogelwch a'n sicrwydd ni, ac mae'n rhoi ein heconomi mewn perygl. Nawr, treuliais lawer o flynyddoedd yn negodwr, ac yn yr amser hwnnw, rwyf wedi gweld llawer o 'gynigion terfynol' fel y'i gelwir nhw, ond roeddwn i bob amser yn canfod pan fo Aelodau'n dweud nad yw'r cytundeb terfynol yn ddigon da, rydych chi'n mynd yn ôl ac yn trafod ychydig mwy, ac yn y pen draw rydym ni'n cael cytundeb terfynol, onid ydym ni? Felly, dyna rydych chi'n ei wneud. Nawr, rwy'n gwybod hefyd y bydd pobl yn dweud, 'Wel, mae amser yn brin', ac 'O le gawn ni'r amser hwn i fynd yn ôl i drafod eto?', oherwydd dydw i ddim ychwaith yn credu bod 'dim cytundeb' yn unrhyw fath o ddewis realistig, ac mae'r cloc yn tician. Felly, o ble daw'r amser? Wel, yn y Siambr hon, rai misoedd yn ôl, gofynais a oedd hi'n bryd oedi'r cloc. Roeddwn i'n grediniol bod hynny'n angenrheidiol bryd hynny. Ac rwyf hyd yn oed yn fwy crediniol o hynny'n awr. Ac mae'r cyngor cyfreithiol—y credaf i Siân Gwenllian ei grybwyll yn gynharach—yr ymddengys fod gan Lywodraeth y DU bellach, yn dangos nad oes dim i rwystro gofyn am hyn. Felly, dylem ni wneud hynny, a dylem ni ganiatáu mwy o amser i'r trafodaethau hynny barhau oherwydd mae Brexit yn faes newydd i bawb, gan gynnwys 27 gwlad yr UE, ac mae'r materion sydd yn y fantol yn rhy fawr i'w rhuthro. Felly, cyn inni gychwyn ar y daith, gadewch i ni o leiaf geisio cytuno ar y map sy'n mynd i'n harwain i'r gyrchfan newydd hon.

Nawr, Llywydd, rwyf wedi credu erioed fod ein sefyllfa yn yr UE yn rhywbeth i fod yn falch ohono—ein gallu i lywio a dylanwadu ar y farchnad a pholisïau cyfandir mawr Ewrop. Roedd gennym ni statws ac roedd gennym ni barch. Rydym ni bellach yn cael ein diraddio i statws sylwebydd ac arsylwr. Nawr, rwyf wastad wedi bod—fel y dywedodd pobl eraill—yn falch o fod yn Ewropeaidd. Rwyf eisiau aros yn yr UE. Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi ymgyrchu'n frwd i ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd oherwydd, fel sosialydd, i mi, roedd bod yn rhan o'r UE yn bodloni fy nyheadau o gyfunoliaeth egnïol, rhannu adnoddau, gweithio gyda'n gilydd, osgoi ynysiaeth, a hefyd dyna pam yr wyf yn ymrwymedig i Deyrnas Unedig, oherwydd rwy'n credu ein bod ni bob amser yn gryfach gyda'n gilydd.

Ond wedi clywed cyfraniad Neil Hamilton yn gynharach a'r achwyn am ein sefyllfa a bod y cytundeb gwael sydd gennym ni o'n blaenau yn waeth nag aros, ni allaf ond myfyrio ar yr hyn a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, ac rwy'n mynd i ailadrodd rhai o'r pethau a dywedodd Joyce Watson. Yr hyn a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon oedd y rhaniadau gwleidyddol ledled Ewrop sydd wedi bod yn wendid i'r Blaid Geidwadol am fwy na 40 mlynedd. Gwnaeth y rhaniad mewnol hwnnw arwain David Cameron i roi buddiannau'r Blaid Dorïaidd uwchlaw buddiannau ehangach y genedl hon. Gorfodwyd ef i addo refferendwm nad oedd ei angen arnom ni, i dawelu'r Ewroamheuwyr digyfaddawd yn y Blaid Dorïaidd. Hunan-les y Torïaid a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon yr ydym ynddi yn awr. [Torri ar draws. Na. Mae'n rhaid iddo fyw gyda hynny am weddill ei oes, ac fel y dywedodd Dai Lloyd yn hollol gywir, bydd David Cameron, o ganlyniad i hyn, heb amheuaeth, yn cael ei gofnodi mewn hanes fel Prif Weinidog gwaethaf ein hoes: y dyn a roddodd fuddiannau gwleidyddol ei blaid ei hun cyn buddiannau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol y genedl gyfan. Cywilydd arno, a chywilydd ar y Blaid Geidwadol am ganiatáu i hynny ddigwydd.

Ond er gwaethaf fy holl amheuon, dicter a thristwch o ran yr hyn sydd wedi ein harwain i'r sefyllfa hon, rwyf wedi ceisio parchu canlyniad y refferendwm hwn, ac er fy mod i'n cofio Nigel Farage yn dweud pe byddai'r bleidlais wedi bod 52 i 48 i'r gwrthwyneb, nid dyna fyddai diwedd pethau. Wel, rwy'n dweud wrthych chi, gymrodyr: nid dyma ddiwedd pethau. Roeddwn i wedi gobeithio y tu hwnt i bob gobaith y byddai'r DU wedi gallu negodi cytundeb sy'n helpu i osgoi'r trychineb yr wyf i o'r farn ar hyn o bryd, heb unrhyw amheuaeth, sy'n dod i'n cyfeiriad. Ond nid yw'r cytundeb ymadael hwn yn gytundeb o'r fath. Rydym ni wedi clywed hyn o'r blaen, rwy'n gwybod, ond mae'n werth ei ailadrodd—mae cwmnïau yn fy etholaeth i sy'n rhannu fy ofnau. Cwmnïau sydd â threfniadau masnachu sydd wedi'u hymwreiddio'n ddwfn gyda'r UE, cwmnïau y mae ansicrwydd Brexit eisoes yn amharu arnyn nhw, cwmnïau sy'n dibynnu ar fasnach di-dariff ar gyfer eu busnes yn y dyfodol a chadw swyddi yn yr economi leol. Nid ydyn nhw'n cael eu calonogi gan unrhyw beth yr ydym ni wedi'i weld, ac rwy'n wirioneddol ofni os gwnawn ni hyn yn anghywir, mai hon fydd y weithred fwyaf o hunan-niwed y mae unrhyw genedl erioed wedi'i hachosi i'w hun. A'n plant ni fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau hynny, a'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas fydd yn talu'r pris mwyaf amdano. Ac fel cynrychiolydd etholedig, ni allaf bleidleisio dros y canlyniad hwnnw. Fel cynrychiolydd etholedig, y peth hawsaf i mi ei wneud yw pleidleisio o blaid y dewis poblyddol. Y peth anoddaf i'w wneud yw pleidleisio o blaid y dewis cywir.

Llywydd, am eiliad, gadewch imi fyfyrio hefyd ar fater sydd bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon, sef hawliau gweithwyr—hawliau gweithwyr sydd wedi'u sefydlu gennym ni drwy'r Undeb Ewropeaidd dros  flynyddoedd lawer; hawliau gweithwyr, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd, sy'n ymgorffori'r egwyddor ardderchog honno bod anaf i un yn anaf i bawb, sydd wedi lliniaru rhai o eithafion gwaethaf ymosodiadau'r Torïaid ar hawliau gweithwyr yn y wlad hon. A na, Gareth Bennett, nid gweithwyr mudol yr UE sy'n gostwng cyflogau, cyflogwyr diegwyddor sy'n gwneud hynny, ac mae ein methiant ni i ymdrin â hynny wedi bod yn warth cenedlaethol. Felly, rwyf wedi darllen gyda diddordeb yr wybodaeth am safonau llafur yn y cytundeb ymadael, a wyddoch chi beth? Mae'n annigonol yn hynny o beth hefyd. Nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen i osgoi yr hyn y gellid ei ddisgrifio ar ei orau fel ras i'r gwaelod. Yn amlwg, bydd llawer yn seilio eu hofnau ar gyfer y dyfodol ar golli mynediad at y farchnad sengl, ac, heb amheuaeth, mae hynny'n ystyriaeth enfawr yn y ddadl hon, ac yn un sy'n peri pryder mawr i mi, hefyd, am y rhesymau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes. Ond rwyf yr un mor bryderus ynglŷn â cholli ein lle ymysg polisïau cymdeithasol yr UE, oherwydd, siawns mai ein nod yw bod sefydlogrwydd economaidd a chynnydd cymdeithasol yn gysylltiedig â'i gilydd. Ac rwy'n mynd i ddyfynnu un cwmni cyfreithiol undeb llafur a allai fod yn gyfarwydd i un neu ddau o bobl yn y Siambr hon, ac maen nhw wedi dweud ei bod hi'n gwbl glir, felly,

y bydd yr ymrwymiadau o ran sicrhau nad oes llacio ar safonau llafur ac o ran cydymffurfio â rhwymedigaethau Siarter Cymdeithasol Ewrop a Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn aneffeithiol.

Felly, nid oes unrhyw sicrwydd yn y cytundeb hwn ynglŷn â chymaint o agweddau ar ein bywydau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw ar gyfer ein ffyniant a'n diogelwch yn y dyfodol, ac mae distawrwydd byddarol yn y datganiad gwleidyddol am amddiffyn hawliau gweithwyr. I mi, nid yw hynny'n bodloni'r prawf a osodwyd naill ai yn y cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol. Felly, mae ein swyddogaeth ni heddiw yn glir: a ydym ni, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhoi ein cydsyniad i'r cynllun ymadael presennol? A fy ateb i yw 'nac ydym'. Nawr ein bod yn gwybod maint y ffolineb hwn, mae'n rhaid i bobl gael y cyfle i bleidleisio eto ac i benderfynu ai'r cytundeb a gynigir nawr yw'r hyn y gwnaethon nhw bleidleisio o'i blaid, mewn gwirionedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Paul, yn groes i'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud yn gynharach, mae'r holl arwyddion nawr yn awgrymu nad yw pobl Cymru bellach yn cefnogi Brexit oherwydd eu bod bellach yn gwybod beth y mae'n ei olygu—nawr eu bod nhw'n gwybod yn union beth sydd ar gynnig, maen nhw wedi newid eu meddwl.

Gobeithio y caiff hynny ei wneud drwy etholiad cyffredinol oherwydd dydw i ddim eisiau inni newid cyfeiriad ar yr UE yn unig, rwyf eisiau inni newid cyfeiriad ar lu o bolisïau cartref. Mae cynnig y Llywodraeth yn cynnwys yr alwad hollbwysig honno am etholiad cyffredinol, a dyna pam y bydd yn cael fy nghefnogaeth i a dyna pam na allaf gefnogi cyfyngiadau gwelliant Plaid Cymru. Ond, rywsut, ar ôl y camgyfrifiad trychinebus ar adeg yr etholiad diwethaf i'r Torïaid, dydw i ddim yn meddwl y byddan nhw'n gwneud yr un camgymeriad eto, a dydw i ddim yn credu y bydd y tyrcwn penodol hyn yn pleidleisio dros Nadolig cynnar. Ond mae'n rhaid i bobl gael dweud eu dweud, felly os bydd y Torïaid yn rhedeg i ffwrdd o etholiad cyffredinol arall, yna mae'n rhaid cynnal pleidlais gyhoeddus sy'n penderfynu ein dyfodol. Diolch.

16:40

Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf fi ddweud gair o ddiolch i bob un o’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl ac i ymddiheuro achos nid oes digon o amser gyda fi i ymateb i bob un? Beth rydw i'n mynd i'w wneud yw trio tynnu rhai o'r themâu mas o'r ddadl, sydd wedi bod yn eang, yn ddifrifol ac, fel rŷm ni wedi clywed, yn fywiog hefyd.

Llywydd, mae yna bum thema yr hoffwn i ganolbwyntio arnyn nhw yn nadl y prynhawn yma cyn troi at yr hyn a ddywedodd y pleidiau unigol. A gaf i ddechrau drwy gyfeirio at y sylw a wnaeth Paul Davies yn gynnar iawn yn y ddadl ac yr ymatebodd Rhun ap Iorwerth a Joyce Watson ill dau iddo? Mae'n bwynt pwysig iawn, sydd yn ymwneud â pha mor gynhennus mae'r ddadl a'r tensiynau rhwng y cenedlaethau y mae wedi esgor arnyn nhw a'r rhwymedigaeth y dylai unrhyw un ohonom ni sy'n rhan o fywyd cyhoeddus ein gwlad ei deimlo o ran iachau'r rhaniadau hynny a mynd i'r afael â'r ddadl hon gydag iaith ac ymagwedd sy'n gyfle i iachau, yn hytrach na gwaethygu'r holltau cynhennus y mae'r holl fater hwn wedi eu hagor.

Ail thema y credaf y gallwch chi ei chlywed ym mhopeth a ddywedwyd y prynhawn yma yw cymhlethdod—pa mor gyflym y diflannodd yr addewidion a roddwyd inni ar y dechrau ynglŷn â pha mor hawdd y byddai hyn i gyd, oherwydd, bob tro y byddwch chi'n ymchwilio i'r broses o wahanu oddi wrth berthynas y buom ni'n rhan ohoni am 40 mlynedd, y cymhlethdod o wneud hynny. Ac mae hynny wedi bod yn thema mewn sawl cyfraniad y prynhawn yma.

Yn sicr, mewn trydedd thema, fe wnaeth llawer iawn o Aelodau, ac nid yn annisgwyl, aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—yn enwedig Jane Hutt a Dai Rees, ei Gadeirydd—dynnu sylw at ddifrifoldeb yr hyn sydd yn y fantol yn yr holl drafodaeth hon a'r cytundeb y gofynnir inni ddod i farn arno: llif meddyginiaethau i'r Deyrnas Unedig, yr effaith ar gadwyni cyflenwi, ar y rhagolygon ar gyfer twf economaidd, yr effaith ar gydraddoldeb—boed hynny o ran hawliau gweithwyr, fel y dywedodd Dawn Bowden, neu effaith ar fenywod, fel y cyfeiriodd Jane Hutt ato—ar borthladdoedd, ar ynni, ar yr amgylchedd, ar ein safle, ein diogelwch a'n parch yn y byd. Mae'r materion hynny i gyd yn y fantol yn y ddadl hon.

Ac mae cyd-destun ehangach iddo y tu hwnt i'n haelodaeth uniongyrchol a'r cytundeb, y cyfeiriodd Siân Gwenllian ato—ein haelodaeth o INTERREG, ein haelodaeth o Ewrop Greadigol, y rhwydweithiau eraill hynny yr ydym ni wedi elwa cymaint arnyn nhw ac wedi cyfrannu cymaint atyn nhw fel gwlad yn ystod ein hamser yn yr Undeb Ewropeaidd—ac, y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, y pwynt a wnaeth David Rees a David Melding ill dau ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig ei hun y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd hefyd. Mae'r rhain yn faterion hynod bwysig, ac mae'r ddadl eang hon wedi cyfeirio at bob un ohonyn nhw. Ond, yn y pen draw, Llywydd, yr hyn yr ydym ni'n pleidleisio arno yw mynegiant o farn y Cynulliad Cenedlaethol hwn cyn trafodaeth ystyrlon yn Nhŷ'r Cyffredin ar y cytundeb y mae Mrs May wedi ei gytuno, y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol.

Dywedodd Neil Hamilton, o ran UKIP, y byddai'r cytundeb yn cael ei wrthod am resymau gwahanol iawn i'r holl rai eraill sydd wedi'u gwyntyllu yn y Siambr. Ar ran y Ceidwadwyr, clywais Paul Davies yn gwneud ei orau, yn fy marn i, i gyflwyno'r achos dros gytundeb Mrs May. Dechreuais feddwl tybed pam nad oedd wedi cyflwyno gwelliant fel y gallai ei blaid bleidleisio dros y sefyllfa honno, ond, wrth gwrs, sylweddolais yn fuan pam na wnaeth hynny: oherwydd, gan fod Paul wedi dweud bod hyn yn gyfaddawd y gallwn ni i gyd uno ynglŷn ag ef, clywais David Melding yn dweud y byddai'n brwydro am genhedlaeth i'w wyrdroi a Mark Reckless yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi'n anochel y cai ei wrthod. Felly, mae'n debyg ein bod ni'n gwybod pam nad oedd unrhyw welliant i'r cynnig gan y Ceidwadwyr.

Y ddau bwynt yr oedd dadl Paul Davies ar ei gwannaf, yn fy marn i,  oedd wrth iddo geisio dweud fod hyn yn ddewis rhwng dau beth, sef cytundeb Mrs May neu ddim cytundeb o gwbl. Ni allai hyd yn oed ateb cwestiwn syml Adam Price o ba un a fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddai Cymru yn well ei byd. Ac rwy'n dweud o ddifrif mai'r ddadl yr ydym ni wedi ei chlywed yn y Siambr bod gofyn am ailystyried y mater difrifol iawn hwn rywsut yn tanseilio democratiaeth—dyna'r ddadl wannaf ohonyn nhw i gyd. Rwy'n cytuno â Dai Lloyd ar hyn. Rwyf wedi treulio oes yn pleidleisio dros achosion lle cefais fy nhrechu. A yw hynny'n golygu fy mod i'n dweud, 'Wel, felly, mae democratiaeth wedi gwneud ei benderfyniad ac ni allaf leisio fy marn byth eto dros yr achos yna'? Wel, wrth gwrs nad ydw i, oherwydd, os ydych chi mewn gwirionedd yn ddemocrat, yna rydych chi'n deall bod y dadleuon yno bob amser i'w dadlau ac i'w dadlau drachefn. 

16:50

A wnaiff yr Ysgrifennydd ildio ar y pwynt hwn? Onid gwirionedd y mater yw nad ydym ni wedi gweithredu'r canlyniad, ac oni wnaeth ef wrando ar David Melding a'r hyn a ddywedodd ef? Pa bynnag mor gryf yr ydych chi o blaid 'aros' neu'r UE, yn gyntaf oll, mae'n rhaid ichi wneud yr hyn a ddywedodd y refferendwm, sef gadael.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, fe wnes i wrando'n ofalus ar yr hyn a ddywedodd David Melding, wrth gwrs, ac fe wnaeth ef bwynt pwysig iawn, sef, fel democrat, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniadau yr ydych chi'n anghytuno'n llwyr â nhw weithiau. Ond nid wyf i erioed wedi gweld rheol, Llywydd, sy'n dweud bod yn rhaid i chi aros am genhedlaeth cyn ymladd y frwydr dda honno eilwaith, ac nid wyf yn cytuno—nid wyf yn cytuno o gwbl—â dadl sy'n dweud bod yn rhaid i chi weithredu trychineb cyn y gallwch chi geisio ei osgoi. Os ydych chi'n credu, os ydych chi'n credu—. Ac wrth gwrs mae gan bobl ddaliadau gwahanol, ond, os ydych chi'n credu o ddifrif y bydd hyn yn drychineb i'n gwlad, yna wrth gwrs, nid ydych chi'n mynd i ddweud, 'Gadewch inni gael y trychineb yn gyntaf ac yna byddwn yn dadlau yn ei erbyn. 'Wrth gwrs eich bod chi'n mynd i geisio osgoi'r trychineb yn y lle cyntaf, ac, mewn sawl ffordd, dyna beth sy'n gwahanu rhannau o'r Blaid Geidwadol yma y prynhawn yma oddi wrth Blaid Cymru a'r Blaid Lafur. Roeddwn i'n meddwl bod yn rhaid i Blaid Cymru ymdrechu'n eithaf caled, Dirprwy Lywydd, i ddod o hyd i wahaniaethau rhwng yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn ein cynnig ni a'r hyn y maen nhw wedi ei ddweud yn y ddadl. Rydym ni'n cytuno ar yr hanfodion yn y fan yma, ac fe ddywedaf eto mai wrth anfon y neges fwyaf unedig ag y gallwn y byddwn fwyaf pwerus a dylanwadol fel sefydliad.

Dyma eglurder i chi. Dyma'r hyn y mae ein cynnig yn bwriadu ei gyfleu. Dywedais hynny wrth agor y ddadl—fy mod i'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn anfon neges glir y prynhawn yma bod y cynnig a gyflwynwyd yn annerbyniol. Mae hynny'n glir i chi, rwyf yn gobeithio. Mae'n annerbyniol. Mae'n methu â bodloni buddiannau sylfaenol Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd a dylid ei wrthod. Mae gennym ni gyfle y prynhawn yma i anfon yr union neges honno i Lywodraeth y DU. Gobeithiaf y byddwn yn gwneud ein gorau i'w hanfon hi gyda'n gilydd.

Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly byddwn yn gohirio pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Nawr, rydym yn symud ymlaen at eitem 3 ar yr agenda, sef y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu eglurhad o leiaf? Y cyntaf yw llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch asesiad o'r effaith amgylcheddol a addawyd ar gyfer llosgydd y Barri gan Weinidog yr Amgylchedd ym mis Chwefror eleni. Cefais y llythyr hwn gan y Prif Weinidog ar 21 Tachwedd, ac mae'n dweud yn y llythyr hwn y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud erbyn diwedd mis Tachwedd 2018. Nid yw’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud. Pan edrychais i ar y calendr, dyddiad diwedd mis Tachwedd oedd dydd Gwener yr wythnos diwethaf. Mae nifer o drigolion wedi cysylltu â mi sy’n meddwl tybed pam nad oes penderfyniad wedi ei wneud yn gyhoeddus ar hyn o bryd. Felly, yn y lle cyntaf, a gaf i eglurhad o ba un a yw’r penderfyniad wedi ei wneud? Ac, yn ail, a gaf i wybod pryd y bydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei drosglwyddo i’r Aelodau ac i'r etholwyr? Rwy'n hapus i rannu'r llythyr gyda'r Gweinidog, gan fy mod i’n ei gweld hi’n rhoi arwydd nad yw hi wedi gweld y llythyr hwn, ond anfonwyd y llythyr hwn i mi gan y Prif Weinidog ar 21 Tachwedd, sef dim ond pythefnos yn ôl, ac roedd ef yn eithaf pendant, erbyn diwedd mis Tachwedd, y byddai hynny’n gyhoeddus—y byddai’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe cawn i rywfaint o eglurhad.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei ddeall yw’r rhyngweithio rhwng uwch weision sifil a chynghorwyr arbennig o fewn Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn y cwest a gynhaliwyd yn y gogledd, rhoddwyd pwynt tystiolaeth bod pennaeth adran y Cabinet wedi cymryd cyfarwyddiadau gan yr uwch-gynghorydd arbennig—Jo Kiernan, ar y pryd—i edrych ar ddyddiaduron Carl Sargeant. Mae hynny gennyf i yn y fan yma hefyd, ac mae'n rhan o'r cofnod a oedd yn y cwest. Roeddwn i ar ddeall nad oedd cynghorwyr arbennig mewn sefyllfa i gyfarwyddo gweision sifil i wneud gwaith ar eu rhan, ac mai i Weinidogion neu Ysgrifenyddion y Cabinet yn unig y mae gweision sifil yn gweithio. A gaf i ofyn am bwynt o eglurhad ynghylch yr union swyddogaeth sydd gan gynghorwyr arbennig wrth gyfarwyddo gweision sifil i ymgymryd â darnau penodol o waith? Oherwydd rwyf i yn credu bod hynny’n torri cod y gwasanaeth sifil.

16:55

Ar yr un cyntaf, mae'r Gweinidog yn dangos i mi nad yw'r penderfyniad wedi ei wneud, ac mae hi'n bwriadu ei wneud cyn gynted â phosibl. Rwyf yn siŵr bod hynny wedi ei ddweud wrthych yn ddidwyll; mae'n digwydd bod nad oedd hynny'n gywir. Cyn gynted ag y bydd y Gweinidog yn gwneud y penderfyniad, fe wnaf i'n siŵr y bydd yr wybodaeth honno yn cael ei chyfleu mor gyflym â phosibl.

Ar yr ail un, Dirprwy Lywydd, nid oes gennyf unrhyw fwriad o roi sylwadau ar unrhyw un o'r prosesau sy'n digwydd yn y cwest, gan ei fod wedi ei ohirio a heb ei gwblhau.

Byddwch chi'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yr wythnos diwethaf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar rôl cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn y dyfodol. Yn amlwg, wrth ystyried darpariaeth llywodraeth leol ac unrhyw ddiwygiadau yng Nghymru, mae'r sector yma, y lefel agosaf o ddemocratiaeth i'r bobl, yn allweddol. Byddai llawer yn dadlau bod y sector wedi cael ei anwybyddu dros yr 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru, gyda braidd dim ffocws a braidd dim newid. Nawr, mae'r panel adolygu annibynnol wedi cynnig set o argymhellion, rhai ohonynt, o bosib, yn bellgyrhaeddol, yn enwedig o ran pwerau, ymgysylltu ac atebolrwydd. Rydw i'n credu bod angen trafodaeth bellach arnynt yn y lle yma. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, felly, ddatganiad llafar ar y mater, a fyddai'n rhoi amser inni drafod ac i ddatblygu'r ffordd ymlaen?

Diolch ichi am hynna. Credaf y bydd hynny yn rhan o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn mynd rhagddo ar lywodraeth leol, ac ni fydd yn destun datganiad llafar ar wahân.

Mae'n wirionedd anffodus, yn ystod bron i ddegawd o gyni yn y DU, fod toriadau i gyllidebau llywodraeth leol wedi arwain at doriadau i wasanaethau anstatudol a ddarperir gan gynghorau ledled y DU. Hoffwn ofyn, felly, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar statws ac iechyd gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon, ac nid wyf yn eiddigeddus o'r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i'n cynghorau eu gwneud, ond credaf yn gryf y dylai cael mynediad at gerddoriaeth fod yn hawl i'n pobl ifanc, nid braint i'r rhai sy'n gallu ei fforddio yn unig, ac mae'n iawn fod Cymru'n ystyried datblygu strategaeth genedlaethol neu gynllun cyllido gwasanaethau cefnogi cerddoriaeth fel blaenoriaeth genedlaethol. Rwyf yn gofyn, felly, am ddatganiad sy'n cynnwys asesiad o'r ysgolion sy'n methu â chael gafael ar wasanaethau cymorth cerddoriaeth ar hyn o bryd ac ar gydraddoldeb mynediad at addysg perfformio cerddoriaeth ar gyfer ein myfyrwyr tlotaf yng Nghymru.

Rwyf yn cymeradwyo'r Aelod am ei chefnogaeth angerddol barhaus i wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd hi'n gwybod ein bod ni'n rhannu'r uchelgais o ddarparu addysg gerddorol o safon uchel i bob dysgwr yng Nghymru. Mae hi wedi dweud yn ei sylwadau ei bod hi'n gwybod mai gan lywodraeth leol y mae'r cyfrifoldeb uniongyrchol am hyn, ac nid gan Lywodraeth Cymru. Gwn ei bod hi'n ymwybodol bod ymchwiliad 'Taro'r Tant' y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gyllid ar gyfer mynediad at addysg gerddorol wedi nodi 16 o argymhellion sy'n canolbwyntio ar wella darpariaeth gwasanaeth cerddoriaeth ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rydym ni'n symud ymlaen â gwaith i fynd i'r afael ag argymhellion a wnaed yn adroddiad 'Taro'r Tant'. Mae hynny'n cynnwys gwneud gwaith i nodi ac asesu dewisiadau ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth a sicrhau bod unrhyw gynllun yn y dyfodol yn gynaliadwy. Mae swyddogion wedi cwrdd â rhanddeiliaid allweddol yn ddiweddar iawn ac maen nhw'n gwerthuso'r sylwadau ar hyn o bryd er mwyn cynllunio'r camau nesaf.

Rydym yn cydnabod y pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth, fel y mae hi wedi ei gydnabod, ac angenrheidrwydd cymryd camau mor fuan â phosibl. Dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi rhoi cyllid ychwanegol o £3 miliwn ar gael ar gyfer darpariaeth cerddoriaeth ledled Cymru ar gyfer 2018-19 a 2019-20. Mae'r grant ar gyfer eleni ar fin cael ei ryddhau, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan iawn.

A gaf i ofyn, arweinydd y tŷ, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o gerbydau trydan gan gyrff y sector cyhoeddus? Yr wythnos diwethaf, clywodd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gwynion nad oedd Gweinidogion Cymru wedi rhoi arwyddion clir ar y mater hwnnw, a bod angen taer am arweinyddiaeth. Caiff y farn honno ei hatgyfnerthu pan eich bod yn ystyried bod pob un o’r 72 o gerbydau sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys 12 o geir gweinidogol, i gyd yn defnyddio diesel. Dywedwyd wrth y pwyllgor bod angen i Lywodraeth Cymru bennu targedau i gyrff cyhoeddus fabwysiadu cerbydau trydan i dorri allyriadau. A gawn ni ddatganiad ar y mater pwysig hwn os gwelwch yn dda?

17:00

Ie. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod edrych yn ofalus iawn ar hygyrchedd ceir trydan a hybrid yng Nghymru, gan gynnwys ar draws yr ystâd gyhoeddus. Rydym eisoes yn buddsoddi £2 filiwn ar fannau gwefru cerbydau trydan i ychwanegu at y gallu presennol, ond bydd yr Aelod yn gwybod bod problemau ynghylch cyrhaeddiad a chynaliadwyedd cerbydau trydan.

Rydym yn bwriadu buddsoddi ymhellach yn y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan. Nid yw'r ffaith nad oes safon gyffredin ar gyfer ceir trydan a'u trefniadau gwefru hyd yn hyn yn helpu. Pe byddem ni'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, byddai bod â'r gallu i ddatrys y broblem honno ledled Ewrop wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Yn amlwg, byddai buddsoddi yn y rhwydwaith anghywir yn arwain at wastraff buddsoddiad. Felly, rydym yn edrych yn ofalus i weld beth yw'r ffordd orau ymlaen ar gyfer hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, ond nid wyf yn credu ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r dechnoleg yn cefnogi ei ddadl.

Fe glywais yr hyn a ddywedasoch chi wrth Andrew R.T. Davies yn gynharach, ond, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, roedd gennym y cwest i farwolaeth Carl Sergeant ac roedd hwnnw wedi cael cryn gyhoeddusrwydd am resymau dilys.  Clywsom fanylion—roedd rhai ohonynt yn anodd eu clywed—ynghylch y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth drasig Carl a ddigwyddodd yn rhy gynnar. O ystyried y diddordeb cyhoeddus cryf yn yr achos hwn a marciau cwestiwn clir sydd wedi eu codi unwaith eto yn ddiweddar, a wnaiff eich Llywodraeth gyhoeddi yn awr, o’r diwedd, adroddiad yr ymchwiliad datgelu yn llawn, fel yr ydym wedi gofyn amdano o'r blaen, fel y gallwn ei asesu ac y gallwn wybod yn union yr hyn yr oedd yr ymchwiliad penodol hwnnw wedi ei ddweud?

Fy ail gais yw—rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymchwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sgandal Kris Wade yma yng Nghymru. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi bod yn cynnal adroddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i'r hyn a ddigwyddodd, gan siarad â rhanddeiliaid allweddol. Fe wnaethon nhw addo y gellid rhyddhau hwn cyn diwedd y tymor hwn. Ond yr hyn yr oeddwn yn bwriadu ei godi yma heddiw oedd sicrhau ein bod ni’n gallu cael gweld yr adroddiad hwnnw cyn diwedd y tymor, ac wrth hynny rwyf yn golygu dydd Mawrth neu ddydd Mercher yr wythnos nesaf, fel y gallwn graffu ar yr Ysgrifennydd dros iechyd, yn hytrach na'i fod ef yn rhoi rhywbeth allan ar ddydd Gwener. Nid wyf yn amau efallai fod ganddo resymau dros wneud hynny, ond rydym yn dymuno cael gweld yr adroddiad hwnnw cyn diwedd y tymor fel y gallwn graffu arno ef yma oherwydd difrifoldeb y sefyllfa. Yr hyn nad wyf yn dymuno ei weld yw Aelodau’r Cynulliad yn colli cyfle i allu dwyn Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gyfrif oherwydd nad oeddent wedi cael gweld yr adroddiad hwnnw. Felly, dyna fy nghais i Lywodraeth Cymru.

Wel, nid wyf yn barod i wneud sylwadau ar y cwest, heblaw i ddweud bod pawb yn y Cynulliad a'i ystâd wedi ei effeithio gan y materion a godwyd. Roedd Carl yn gydweithiwr ac yn ffrind da i bob un ohonom, ac rydym ni i gyd yn rhannu'r tristwch a'r clwyfau sy'n cael eu hailagor o'r cwest, ond nid wyf yn mynd i roi sylwadau ar unrhyw un o'r prosesau yn y fan yna, gan fod y cwest wedi ei ohirio ar hyn o bryd ac nid yw wedi ei gwblhau eto, nac unrhyw un o'r pwyntiau ymylol eraill nes bydd y cwest wedi cyrraedd ei derfyn cyfreithiol priodol.

Ar y mater arall, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu gwaith craffu o'r math hwnnw. Yn anffodus, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn gwybod a oes modd rhyddhau'r adroddiad hwnnw o fewn yr amserlen fer iawn sydd ar gael inni bellach. Os oes modd, byddaf yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Os nad oes modd, yna bydd cyfleoedd i gwestiynu pwy bynnag fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd y tymor nesaf ynghylch unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, os caiff ei ryddhau dros gyfnod y Nadolig.

Hoffwn wneud dau gais am ddatganiadau Llywodraeth Cymru. Mae'r cyntaf yn un y mae arweinydd y tŷ wedi hen arfer fy nghlywed i'n gofyn amdano, ond nid wyf yn ymddiheuro am barhau i wneud hynny gan ei fod yn hynod o bwysig i'm hetholwyr i a'i rhai hithau, a hynny yw diweddariad ar golledion swyddi Virgin Media a chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n colli eu swyddi, ac rydym yn dod yn agos iawn at yr amser pan fydd pawb yn colli eu swyddi.

Yr ail yw datganiad Llywodraeth Cymru ar yr Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys arolygwyr cynllunio sy'n rhoi caniatâd i amlfeddiannu tai sy'n mynd yn groes i ddymuniadau'r cyngor a'r bobl leol. Rwyf yn siŵr bod hynny'n rhywbeth y mae arweinydd y tŷ yn gwybod llawer amdano. Ac os dywedaf Brynmill, wel, tenantiaid St Thomas a Port yw tenantiaid newydd Brynmill bellach. Fel y gwyddoch, nid wyf yn credu bod swyddogaeth ar gyfer arolygydd cynllunio mewn democratiaeth. Y cynghorau ddylai benderfynu, a dylai ymgeisydd sy'n anhapus fynd i adolygiad barnwrol. Credaf fod cael rhywun nad yw'n gwybod dim am yr ardal i ddod i mewn i wneud penderfyniadau yn cael effaith drychinebus ar fywydau unigolion; mae'n wrth-ddemocrataidd, ac yn sicr, mae'n achosi problemau enfawr yn fy ardal i, ac fel y gwn, yn y gorffennol, yn eich ardal chithau.

17:05

Ie, wir. O ran yr un yna, yn amlwg, nid oes gennym unrhyw reolaeth uniongyrchol dros yr Arolygiaeth Gynllunio, sy'n sefydliad ar wahân i Lywodraeth Cymru sy'n gweithredu ar ei rhan. Fodd bynnag, fe fyddwn ni, o bryd i'w gilydd, yn cyhoeddi canllawiau a dogfennau polisi ar ddeall y materion, ac rwyf i wedi cael sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pa un a yw hi'n fuddiol gwneud hynny ar gyfer trefi prifysgol. Rwyf yn sicr yn rhannu ei bryder ynghylch hynny gan gynnwys gorfodi unrhyw bolisi dwysedd y byddai unrhyw awdurdod lleol yn bwriadu ei sefydlu a'r effaith y byddai hynny'n ei gael ar apeliadau dilynol.

O ran Virgin Media, gadawodd y grŵp cyntaf o staff a oedd yn cael eu diswyddo y cwmni fis Tachwedd, fyl y gwn y mae'n gwybod yn iawn. Mae dau gyfnod wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Mae ein tîm cymorth lleoli wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu staff â mynediad i bartneriaid allweddol y tasglu ar y safle, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Mae fforwm canolfannau cyswllt Cymru yn bartner allweddol yn ein tasglu a drefnodd ffeiriau swyddi ar y safle Virgin Media fis Hydref; daeth hyn â chyflogwyr sy'n recriwtio i'r safle yn ogystal â darparu cyngor gyrfaol ar gyfer yr aelodau staff hynny sy'n chwilio am waith arall. Mae'n rhy gynnar i mi roi manylion penodol am y rhai sydd wedi sicrhau cyflogaeth arall yn llwyddiannus o ganlyniad i'r ffeiriau swyddi, ond rydym yn cynnal ffeiriau swyddi eraill i gyd-fynd â'r grwpiau staff ychwanegol a fydd yn gadael y cwmni y flwyddyn nesaf. Felly, mae ein cyfraniad yn parhau er mwyn gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r staff sy'n cael ei effeithio gan hyn yn cael y canlyniad gorau posibl.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar reoli coetiroedd a choedwigoedd yng Nghymru? Fel yr wyf yn deall, gall trwyddedau cwympo coed gael eu dosbarthu yng Nghymru ond ni ellir eu gwrthod nhw ar sail amddiffyn bywyd gwyllt. Rwyf ar ddeall mai dyna yw'r sefyllfa yn Lloegr hefyd. Yn yr Alban, maen nhw wedi newid y gyfraith yn ddiweddar fel y gellir ystyried materion bywyd gwyllt cyn rhyddhau trwyddedau torri coed. Wrth gwrs, mae hyn yn ychwanegu at amddiffyn amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys y wiwer goch, yr wyf i'n hyrwyddwr ar gyfer y rhywogaeth. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch pa un a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i wella mesurau diogelu bywyd gwyllt yn y cyswllt hwnnw.

A gaf i ofyn hefyd am eglurhad naill ai gan y Cwnsler Cyffredinol neu gan Weinidog Llywodraethol priodol mewn cysylltiad â graddau indemniad cyfreithiol ar gyfer Gweinidogion ac yn wir cyn Weinidogion Llywodraeth Cymru? Rwyf wedi cael cwestiynau diweddar sydd wedi ymddangos yn fy mewnflwch yn ystod y dyddiau diwethaf ynglŷn â graddau'r indemniad cyfreithiol a roddir i Weinidogion. Byddwn yn ddiolchgar iawn petawn yn cael datganiad i egluro'r sefyllfa, yn enwedig pa un a yw'r indemniad hwnnw yn berthnasol i gyn Weinidogion. Diolch.

Ar yr un diwethaf yna, rwyf yn credu bod angen i chi ysgrifennu ataf gyda'r manylion am hynny. Mae indemniad cyfreithiol yn destun eang iawn gyda llawer o oblygiadau gwahanol, penodol iawn, felly byddai angen inni ddeall yr union amgylchiadau yr ydych yn gwneud ymholiadau amdanynt. Felly, os ydych yn dymuno ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol, byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny yn cael ymateb priodol.

O ran amddiffyn bywyd gwyllt coetiroedd, mae Darren Millar yn gwneud pwynt da iawn. Nid wyf yn gwybod beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd. Byddaf yn codi hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn dod yn ôl ato.

Hoffwn fynd ar drywydd y mater iechyd meddwl, sy'n rhywbeth y bydd arweinydd y tŷ yn gwybod yn iawn fy mod wedi ei godi ar sawl achlysur ers imi gael fy ethol yn gynharach eleni. Y mis diwethaf, fe wnaeth arweinwyr busnes ledled y DU annog Llywodraeth y DU i wneud darpariaethau fel bod swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn orfodol yn y gweithle. Rwyf yn cytuno’n llwyr â’r ymgyrchydd Natasha Devon, y tu ôl i’r llythyr i Lywodraeth y DU pan ddywed hi fod gan gyflogwyr ddyletswydd i ofalu am staff. Yn gwbl briodol, mae hi’n pwysleisio y bydd llwyddiant hefyd yn sicrhau y bydd pob gweithiwr ym mhob man yn gallu cael gafael ar aelod o staff hyfforddedig er mwyn cael cymorth cychwynnol ac arweiniad os ydyn nhw’n ymdrin â materion iechyd meddwl yn y gweithle.

Felly, yn gyntaf, a yw hyn yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar gyfer gweithleoedd yng Nghymru? Ac yn ail, bu llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar hefyd ar swyddogaeth y gymuned ehangach o ran mynd i'r afael a'r epidemig o afiechyd meddwl ac atal hunanladdiad. Enghraifft o hyn yw elusen prosiect Wave yng Nghernyw, ac maen nhw’n darparu therapi syrffio i bobl ifanc sy'n dioddef oherwydd salwch iechyd meddwl. Ychydig yn nes adref, llwyddais i gael y profiad ac ymweld â Hounds the Barbershop gyda fy nghyd-Aelod Jayne Bryant yng Nghasnewydd yn ddiweddar, ac, yn union fel y siop honno, mae fy marbwr i, Sam—o Sam’s Barbershop yn Sir y Fflint—yn enghraifft wych o farbwr sy'n helpu’r rheiny sy'n dioddef afiechyd meddwl, fel y fi. Felly, rwyf yn canmol pobl fel Sam yn Sir y Fflint a Paul yng Nghasnewydd, mae’r bobl hynny yn cymryd cyfrifoldeb eu hunain i ddarparu gofal bugeiliol i'r rhai sydd mewn angen neu'r rhai sy'n teimlo'n isel, ac, unwaith eto, am atgyfnerthu'r neges honno ei bod hi’n iawn i beidio â bod yn iawn.

Yn olaf, yr ail ddatganiad yr hoffwn ei wybod, yw: a wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i dalu teyrnged i'r bobl hynny a phob un person allan yna nad ydyn nhw'n gwnselwyr, ond sy’n credu eu bod nhw mewn sefyllfa wych i ofalu am bobl eraill ac am ei gilydd drwy eu hanawsterau yn eu bywydau bob dydd?

17:10

Mae Jack Sargeant, fel arfer, yn gwneud cyfres o bwyntiau da iawn. Mae hi'n cymryd cymuned gyfan i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi ddigon ynddi, a gwyddom i gyd bod cael rhywun i wrando arnom ni, pa un a ydyn nhw'n gwnselwyr hyfforddedig ai peidio, fod yn ddefnyddiol iawn o ran teimlad o les cyffredinol ac, yn amlwg, iechyd meddwl.

Rydym wedi ailgadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu iechyd meddwl, yn gyffredinol, gan ei leoli fel un o chwe maes blaenoriaeth y strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', ac rydym yn achub ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, hyd yn oed pan maen nhw'n ymddangos yn ffiniol ar y dechrau. Felly, bydd Aelodau wedi fy nghlywed i, er enghraifft, yn sôn am yr ymgyrch Dyma Fi, sy'n gwrthwynebu stereoteipio ar sail rhyw. Yn anffodus, weithiau, mae pobl yn meddwl ei fod ar gyfer menywod ond, mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae ei nod yn gyffredinol, gan ein bod ni'n gwybod bod dynion yn dioddef yn wael iawn o stereoteipio ar sail rhyw, gan deimlo bod rhaid iddyn nhw gyflawni swyddogaeth enillydd cyflog neu gefn y teulu, neu beth bynnag, ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn pan nad yw hynny'n gweithio'n dda iddyn nhw. Felly, rwyf yn cytuno'n llwyr â Jack Sargeant bod angen i ni gael dull cyfannol a chymdeithas gyfan i ymdrin â hyn, ac mae'n rhywbeth, Dirprwy Lywydd, y mae angen i ni i gyd ei ystyried yn ein rhyngweithiadau dyddiol â phobl eraill, sef gwneud yn siŵr ein bod ni hefyd yn gwrando ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud wrthym ni.

Arweinydd y tŷ, rwyf yn gobeithio y byddwch wedi gweld rhywfaint o'r gwaith ymgyrch presennol sy'n cael ei wneud gan Housing Women Cymru i dynnu sylw at yr angen i roi diwedd ar ddefnyddio rhyw i dalu rhent. Fel y gwyddom, mae unrhyw drefniant sy'n cynnwys rhyw ar gyfer talu rhent yn anghyfreithlon—heb unrhyw feysydd annelwig. Gwyddom bellach bod hynny wedi ei gadarnhau. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Tai am ei datganiad ynglŷn â chefnogaeth ar gyfer yr ymgyrch a gyhoeddwyd ddoe? Ond yn sgil yr ymgyrch, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad yn y flwyddyn newydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch eu camau gweithredu ar y mater hwn, gan gynnwys unrhyw drafodaethau gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu, yr heddlu, y sector tai a'r Llywodraethau datganoledig eraill?

Ie, allwn i ddim cytuno'n fwy gyda'r ymgyrch. Roeddwn yn meddwl bod y Gweinidog tai wedi ei gymeradwyo mewn datganiad clir iawn. Nid landlord yw rhywun yn gofyn am ryw yn hytrach na rhent—troseddwr yw hwnnw. Ni allai fod yn symlach na hynny. Ac, wrth gwrs, rydym yn rhannu eich pryder chi a phryder llawer o bobl eraill bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon, wedi eu sbarduno gan rai o'r materion dyled a drafodais yn gynharach. Ac wrth nesáu at y Nadolig, mae pobl yn arbennig o agored i hynny. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn anfon y neges glir iawn honno: bod unrhyw landlord sy'n credu bod hynny'n iawn yn twyllo ei hun. Nid yw'n iawn. Mae'n weithred droseddol, ac nid wyf i'n credu y gallwn ni fod yn gliriach na hynny.

Gwn ein bod ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn sylwi ar unrhyw hysbysebion, er nad yw hynny wedi ei ddatganoli inni. Gwn fod y pryder hwn yn agos iawn at galon y Gweinidog tai, a byddwn yn sicr yn symud amrywiaeth o fesurau ymlaen i weld beth y gallwn ei wneud i ddileu'r arfer cwbl gywilyddus hwn.

Arweinydd y Siambr, rwyf yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth i gefnogi Safia Saleh a'i theulu. Cipiwyd Safia yn anghyfreithlon pan oedd hi'n blentyn, ac mae hi'n ceisio dychwelyd i Gymru. Gwn y byddai ei mam, Jackie Saleh, yn ddiolchgar iawn am ddatganiad. Mae'r cyhoedd wedi bod yn hael iawn wrth gefnogi Crowdfunder i brynu tocynnau ar gyfer y teulu, ond yr un rhwystr yw biwrocratiaeth. Mae Safia yn ddinesydd y DU, mae ganddi dystysgrif geni, ond nid oes ganddi basbort Prydeinig, ac nid yw'n ymddangos bod neb yn gallu helpu gyda hyn. Nid yw'r Swyddfa Gartref wedi ei datganoli, ond mae cymunedau wedi eu datganoli. Mae'r trallod a achosir gan ferch Gymreig o Drelái sy'n gorfod aros dramor yn fater i bawb yn y Cynulliad hwn. A wnaiff Llywodraeth Cymru godi llais dros Safia a'i theulu yn awr yn y fan yma, ond hefyd y tu allan, gan gyflwyno ei hachos ger bron y coridorau grym? Mae angen pasbort ar Safia Saleh i ddod yma, ac mae ganddi berffaith hawl i gael un, felly sut y gallwch chi helpu?

Rwyf yn hapus iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailuno ym mhob un o'r amgylchiadau pan fo teulu'n cael ei wahanu, os yw hynny'n bosibl. Mae hyn ymhlith yr effeithiau gwaethaf a'r mwyaf niweidiol o rai o'n rheolau mewnfudo llymaf. Os yw Neil McEvoy yn dymuno ysgrifennu ataf gyda'r manylion a manylion cyswllt y teulu, byddaf yn hapus iawn i roi sylwadau i'r Gweinidog mewnfudo ar ran y teulu.

17:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y Tŷ, a gaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad llafar i'r Siambr ynghylch cynlluniau eich Llywodraeth i fynd i'r afael â bwlio? Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar fwlio, ond rwyf i'n tybio na fydd canllawiau yn ddigonol, ac nid fi yw'r unig un. Mae'r crwner yng nghwest Bradley John wedi cwestiynu a oes angen cyfraith benodol arnom ar fwlio. Rydym wedi gweld achosion ofnadwy iawn o fwlio yn ystod yr wythnosau diwethaf, fel y ffoadur Syriaidd yn cael ei arteithio â dŵr gan fwlis yn yr ysgol neu'r achosion o fwlio hiliol mewn ysgolion cynradd yng Nghaerdydd, a oedd yn frawychus yng ngolwg arolygwyr o Estyn.

Yn fy rhanbarth i, rwyf ar hyn o bryd yn ymdrin ag etholwr a gafodd ei guro'n anymwybodol gan fwlis ysgol. Dim ond 11 oed yw ef, ac nid yw'n mynychu'r ysgol nawr ac mae ganddo Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd. Mae ei fam wedi rhoi gwybod imi nad oes ganddo unrhyw synnwyr o berygl a'i fod yn meddwl bod pawb yn ffrind iddo. Cafodd y bachgen bach hwn ei guro'n anymwybodol am resymau anhysbys, sy'n achos gofid i bawb dan sylw, yn enwedig ei deulu. Diolch.

Gwnaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn yn gadarn iawn na ddylid goddef bwlio, o unrhyw fath, yn ein hysgolion, ond rydym yn arbennig o bryderus ynglŷn â bwlio hiliol, yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn troseddau casineb ledled y DU. Mewn gwirionedd, mae gennym grŵp o'r enw EAST yn gweithio'n galed iawn ar set o ganllawiau ar gyfer ysgolion, ac rydym yn ystyried rhoi prosiect newydd ar waith mewn ysgolion ar yr union bwnc hwnnw ar hyn o bryd. Cyn gynted ag y bydd y cynigion hynny'n addas i'w rhannu gyda'r Aelodau, yna fe fyddaf i neu fy olynydd yn y portffolio cydraddoldebau yn dod â datganiad ger bron i fynegi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Diolch Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr i mi gyflwyno'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w ystyried. Mae hon yn foment arwyddocaol iawn yn natblygiad ein deddfwrfa oherwydd, am y tro cyntaf, rŷm ni'n cyflwyno deddfwriaeth sydd yn ymwneud â'r gyfraith ei hun.

Diben y Bil yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn gliriach ac yn haws ei defnyddio. Mae natur y Bil yn golygu taw fi fel y Cwnsler Cyffredinol sy'n ei gyflwyno—rhywbeth sydd heb ddigwydd erioed o'r blaen. Mae hon yn adeg amserol, felly, inni dalu teyrnged i ddau o'm rhagflaenwyr, Theodore Huckle CF a Mick Antoniw AC, a oedd ill dau wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i eraill sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yma, boed hynny drwy ymateb i ddau ymgynghoriad yr ydym ni wedi'u cynnal fel Llywodraeth, neu drwy gyfrannu at waith blaenorol Comisiwn y Gyfraith. Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru' yn darparu rhesymeg ar gyfer un rhan o'r Bil. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu gwaith.

Mae Rhan 1 o'r Bil yn arloesol. Mae'n ceisio gosod seilwaith a fydd yn ymrwymo Llywodraethau'r dyfodol i gadw hygyrchedd y gyfraith o dan adolygiad, ac i gymryd camau i'w gwneud yn fwy hygyrch. Mae pryderon wedi'u codi ers blynyddoedd lawer am gymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ac anrhefn ein llyfr statud blêr a helaeth. Mae llawer o'r cymhlethdod yn deillio o'r doreth o ddeddfwriaeth sydd wedi'i gwneud dros y degawdau diwethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu bod y llyfr statud bellach yn afreolus. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod y rhan honno o'r llyfr statud a etifeddwyd gennym yn anhygyrch yn yr un modd, ac efallai hyd yn oed yn fwy anhygyrch gan fod Deddfau Senedd San Steffan yn cael eu diwygio'n rheolaidd er mwyn gwneud darpariaethau gwahanol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r broblem hon yn dod yn fwy amlwg pan ystyriwn y cyd-destun ehangach o setliad datganoli cymhleth a di-resymeg, y trefniant anomalaidd o rannu awdurdodaeth gyfreithiol Lloegr, ac ein cyfrifoldeb i ddeddfu yn ein dwy iaith.

Y nod tymor hir yw creu llyfr statud trefnus i Gymru sy'n categoreiddio'r gyfraith mewn i godau ar bynciau penodol, a hyn yn hytrach na dim ond cyfeirio at y dyddiad pan gwnaethpwyd y ddeddfwriaeth. Mae'r Bil, felly, yn gosod dyletswyddau ar y Llywodraeth gan fod maint a natur y dasg yn golygu bod yn rhaid ymrwymo i'r gwaith yn systematig a dros y tymor hir. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyd-grynhoi'r gyfraith a'r gwaith arall sy'n gysylltiedig â gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch fod yn un o flaenoriaethau pob llywodraeth.

Bydd cyrraedd y nod o lyfr statud sydd wedi'i godeiddio yn cymryd cenhedlaeth a mwy. Felly, cyn dechrau ar ein taith, rhaid i ni ddeall beth yw diben y siwrnai. O ganlyniad, hefyd heddiw rydym yn cyhoeddi tacsonomeg drafft ar gyfer codau cyfreithiol Cymru, a hyn er mwyn arddangos sut all y llyfr statud edrych yn y dyfodol. Er taw dogfen weithio yw hon, rwy'n gobeithio, serch hynny, y bydd yn rhoi cipolwg defnyddiol o'n syniadau cychwynnol.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r archifau cenedlaethol i wella'r ffordd y cyhoeddir deddfwriaeth bresennol, yn bennaf drwy drefnu'r hyn sydd gyda ni eisoes drwy gyfeirio at ei faes pwnc. Bydd hyn yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer y broses o gyd-grynhoi sydd ei hangen, yn ogystal â bod yn gymorth i ddefnyddwyr deddfwriaeth yn y cyfamser. Ar ôl ei gwblhau, bydd y gwasanaeth hwn ar gael drwy wefan Cyfraith Cymru, gwefan a fydd yn cael ei wella fel rhan arall o'r gwaith o wneud y gyfraith yn fwy hygyrch.

Er bod rhan 1 o'r Bil yn arloesol, mae rhan 2 o'r Bil yn dilyn yr hen draddodiad a sefydlwyd gan Senedd y DU yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gafodd Deddf ddehongli ei phasio am y tro cyntaf. Dehongliad statudol yw'r broses o benderfynu ar ystyr ac effaith deddfwriaeth a sut mae hi'n gweithredu. Gall hon fod yn broses gymhleth, felly mae Deddfau i ragnodi rheolau ar sut y caiff cyfreithiau eu dehongli yn nodweddiadol o awdurdodaethau cyfreithiol ledled byd y gyfraith gyffredin. Eu diben, yn y bôn, yw byrhau a symleiddio deddfwriaeth a hyrwyddo cysondeb o ran iaith, ei ffurf a'i gweithrediad. Yn y DU, ceir tair deddf o'r math hwn ar hyn o bryd: un ar gyfer y Deyrnas Unedig, un ar gyfer yr Alban ac un ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae deddfwriaeth Cymru yn ddarostyngedig i Ddeddf y DU ar hyn o bryd, sydd yn rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei newid drwy lunio'r ddarpariaeth bwrpasol hon ar gyfer Cymru.

Mae'r cynigion yn y Bil wedi bod yn ddarostyngedig i ymarferiad o ymgynghori ar bolisi a chyhoeddiad Bil drafft. Mae cyflwyniad y Bil, serch hynny, yn nodi dechrau'r rhan bwysicaf nawr o'r broses graffu, ac rwy'n awyddus iawn i glywed barn yr Aelodau a gwrando ar unrhyw bryderon a allai fod gennych chi. Fel unrhyw Fil arall, wrth gwrs, fe allai hwn newid, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y gellid ei gaboli.

Un mater yr hoffwn gael barn yr Aelodau arno'n benodol yw hyn – a oes angen, a sut mae gwneud darpariaeth benodol o ran y broses ar gyfer dehongli deddfwriaeth sy'n cael ei llunio'n ddwyieithog. Ar hyn o bryd, mae adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu ar gyfer statws cyfartal i destunau o ddeddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fe allai hyn fod yn ddigonol, yn amodol efallai ar ailddatganiad o'r ddarpariaeth honno yn y Bil hwn, ond mae'n fater pwysig sy'n teilyngu dadansoddiad a myfyrdod ymhellach. Mae'n fater a gafodd ei wyntyllu yn yr ymgynghoriad, ond rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor sy'n gyfrifol yn teimlo y gall ystyried y mater hwn yn ofalus.

Yn olaf, mae'n bwysig cadw mewn cof mai ffurfio dim ond un rhan o fenter ehangach a wna'r Bil hwn. Er y bwriedir iddi fod yn sail i lawer o'n gweithgarwch i'r dyfodol, ni fydd rhan 1 y Bil ynddi ei hun yn cyflawni'r diwygiadau yr ydym yn eu dymuno. Bydd hynny'n dibynnu ar y gwaith manwl a gofalus o atgyfnerthu'r gyfraith; a'i rhesymoli yn strwythur o godau. Byddwn yn y dyfodol, felly, yn dechrau gweld Biliau'n cael eu cynllunio nid i ddiwygio'r gyfraith, ond i ddod â threfn iddi drwy ail-lunio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ar ei newydd wedd i Gymru ar ffurf fodern, ddwyieithog a hygyrch. Pan ddônt i rym, bydd angen amddiffyn y cyfreithiau hyn wedyn rhag unrhyw awydd gwleidyddol yn y dyfodol i lunio cyfraith nad yw'n ffitio'n strwythurol o fewn y codau newydd sydd wedi eu sefydlu. Er, yn amlwg, nad oes unrhyw awydd i dresmasu ar gynnwys nac ar effaith y gyfraith, nac ar y reddf i ddiwygio'r gyfraith, mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i orfodi gweithrediad hynny fel y rhoddir ystyriaeth bob amser i'r effaith ar hygyrchedd y llyfr statud.

Mae'r fenter ehangach yn golygu ein bod ni hefyd, yn neddfwrfa Cymru a'i Llywodraeth, yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am ein cyfreithiau. Mae'n golygu cyflymu'r broses o ddatblygu corff o gyfraith ddwyieithog i Gymru, corff o gyfraith a gaiff ei nodi fel hynny yn hytrach na bod wedi ei gydblethu â deddfau sy'n weithredol y tu allan i Gymru hefyd. Bydd y Bil hwn, yn ogystal â hwyluso'r broses honno, yn cynnwys rheolau ar sut y gweithredir y gyfraith honno a sut y caiff ei dehongli. Nid oes gwahaniaeth ymhle y byddwn ni yn y pen draw o ran cwestiwn awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, bydd y Bil, rwy'n gobeithio, yn rhan bwysig o'n seilwaith cyfreithiol yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.

17:25

Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad hwn, a hefyd am y sylwadau tuag at y diwedd ynghylch y ffaith na fydd y Bil hwn yn sefyll ar ei ben ei hun, heb ystyriaeth i wahaniaethau gwleidyddol o ran awdurdodaeth ac ati, fel na fyddwn yn mynd ar ôl yr ysgyfarnog honno yn ystod hynt y Bil hwn. Hefyd, rwy'n gobeithio na fydd ots gennych chi, ond nid wyf i mewn sefyllfa i ateb yr union gwestiwn yr ydych chi wedi ei ofyn i ni fel Aelodau Cynulliad, ynglŷn ag unrhyw gyngor y gallwn ei gynnig i chi o ran sut i ailddatgan deddfwriaeth yn ddwyieithog. Ond pan fydd hyn wedi bod drwy gamau pwyllgor, rwy'n siŵr y byddwn yn gallu bod o gymorth i chi yn hynny o beth.

Ydych, rydych chi'n hollol iawn i ddweud bod llyfr statud y DU yn anferthol ac yn anhylaw, ac rwy'n cytuno â chi, a dyna pam yr wyf i, ac Aelodau Cynulliad eraill yn y gorffennol, wedi bod yn awyddus iawn i gael cyfraith yng Nghymru sy'n cydgrynhoi, hyd yn oed os na chawsom ein ffordd ar sawl achlysuron—rwy'n meddwl am gartrefi mewn parciau a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Ond rydym wedi methu darbwyllo Llywodraeth Cymru yn y gorffennol hefyd i gyfeirio at statudau eraill o fewn ei Biliau ei hun, lle mae cyfeiriadau o'r fath yn angenrheidiol i ddeall y Biliau hynny. Felly, er enghraifft, gellir cynnwys diffiniad mewn Bil yng Nghymru drwy gyfeirio at ei fodolaeth mewn gwahanol Fil. Mewn gwirionedd, mae gennym sefyllfa sy'n codi yfory gyda'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) lle mae honno'n ffordd bosibl o ddatrys problem.

Felly, os caf i, rwyf am ddechrau gyda chwestiwn o ddiffiniadau, o godeiddio a hyd yn oed o gydgrynhoi, oherwydd i mi, ystyr codeiddio yw ymgorffori cyfraith gyffredin mewn statud a luniwyd drwy benderfyniadau barnwrol. Ond mae'n ymddangos i mi ei fod yn golygu rhywbeth arall yn y cyd-destun hwn, ychydig yn fwy tebyg i'r gyfraith Rufeinig, sy'n synhwyrol iawn, yn trefnu'r gyfraith o dan benawdau fesul pwnc, os mynnwch chi. Felly, a ydych yn cytuno gyda grŵp cyfraith Bangor y dylai'r Bil—nid 'Bangalore', ond 'Bangor law'—y dylai'r Bil gynnwys diffiniad o godeiddio a chydgrynhoi yn benodol i osgoi'r math o ansicrwydd yr wyf i wedi cael fy mwrw iddo eisoes?

Rwy'n llwyr gefnogi'r ail-wneud, neu'r ailddatgan hefyd, o'r gyfraith bresennol ar ffurf hygyrch gyfoes a dwyieithog. Mae hyn yn golygu ailddatgan y gyfraith bresennol, gan ei dehongli o dan ddeddfwriaeth hŷn o 1978, rwy'n credu, onid e? Ac, wrth gwrs, nid bwriad y Bil hwn yw cael effaith ar neu danseilio unrhyw beth, na'r ffordd y caiff ei ddehongli eisoes. Felly, sut allwch chi ein sicrhau ni pe bawn yn—esgusodwch fi am bortreadu fel hyn—ond pe bawn yn torri a gludo o gyfreithiau eraill ac yn rhoi hynny yn ein cyfraith ein hunain, sut allwn ni fod yn siŵr na fydd yr ystyr na'r ddealltwriaeth yn cael eu colli neu'n newid o ganlyniad i'w cynnwys yn ein cyfraith bwrpasol ar gyfer Cymru, yr wyf i'n ei chroesawu? Oherwydd gallai'r geiriau a'r ymadroddion newid eu hystyr dros gyfnod o amser, ac os oes gennych chi ddwy Ddeddf ddehongli yn sefyll ochr yn ochr â'i gilydd, rwy'n siŵr ei fod yn fater yr ydych wedi ei nodi a'i ystyried eisoes, yn arbennig felly gan y bydd ein deddfau newydd yn cymryd y flaenoriaeth yn yr amgylchiadau hynny, mae'n debyg. Ac yna, i'r gwrthwyneb, os na fydd yn fater o dorri a gludo, sut allwn ni fod yn sicr y bydd yr ystyr wreiddiol a'r dehongliad gwreiddiol yn cael eu hail-greu'n llwyddiannus mewn unrhyw statudau newydd i Gymru gan ddefnyddio'r Ddeddf ddehongli newydd i Gymru?

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad mai diben Rhan 2 o'r Bil yw byrhau a symleiddio'r gyfraith, ac, wrth gwrs, rwy'n deall y ddadl dros hynny: mae'n hybu hygyrchedd, ac fe ddylem ni ddefnyddio iaith gyfoes pan nad yw hynny'n peri dryswch. Credaf mai hwn fydd eich cyfle chi, er enghraifft, i egluro ystyr y gair 'gall' mewn drafftio cyfoes. Rydych chi'n cyfeirio at hyn mewn rhan o'r drafft, ond nid y broblem benodol hon. Ond rydych chi'n derbyn hefyd fod gan y gair 'symleiddio' fwy nag un ystyr a bod yn rhaid inni fod yn ofalus o ran cydbwyso'r hyn sy'n haws i'w ddeall â'r problemau posibl sy'n codi yn sgil diffyg bod yn fanwl gywir? Sut ydych chi'n disgwyl rheoli hynny?

Dywedodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru wrthym ni yn eu tystiolaeth nad yw'r ddyletswydd sydd gan Lywodraeth Cymru i gadw cyfraith Cymru dan adolygiad wedi cael ei diffinio'n amlwg yn y Bil drafft. Nid yw'n mynegi'r hyn sy'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud i barhau i'w hadolygu, ac mae cwestiwn hefyd o ran ystyr 'codeiddio'. Mae'n dweud—ac rwy'n dyfynnu nawr—nad diben y ddeddfwriaeth yw dangos bwriadau da ac nid felly y dylai fod. Hoffwn weld y datganiad hwnnw ar grysau-t, a phosteri, a matiau llygoden, ac arbedwyr sgrîn ac ar dalcen eich anwylyd—unrhyw le, mewn gwirionedd, y gallai Ysgrifenyddion y Cabinet yn y lle hwn ei weld. Oherwydd dyma eich cyfle chi, Cwnsler Cyffredinol, i wella ansawdd ein statudau yn ogystal â'u hygyrchedd. Felly, a fyddwch chi'n defnyddio'r cyfle hwn i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn symud oddi wrth y dewis arferol o Filiau tyllog sy'n mynegi bwriadau polisi, ond sydd yn gofyn am gnewyllyn sylweddol o reoliadau, yn ddarostyngedig i lawer llai o graffu, wrth gwrs, ar gyfer eu gwneud yn weithredol fel offerynnau cyfreithiol? Ac a fyddwch yn sicrhau bod hygyrchedd yn cynnwys y cysyniad o eglurder ynghylch yr hyn y dylai'r partïon a gaiff eu heffeithio ei wneud i gydymffurfio â deddfau amrywiol? Roeddwn yn falch iawn, wrth gwrs, o weld y ddarpariaeth ar gymalau machlud yn y Bil drafft, sy'n helpu i ddarparu ar gyfer hynny.

Dau gwestiwn arall, Llywydd. Eich sylwadau i gloi ar strwythur codau: beth yn hollol yr ydych yn ei olygu pan ddywedwch

bydd angen amddiffyn y cyfreithiau hyn wedyn rhag unrhyw awydd gwleidyddol yn y dyfodol i lunio cyfraith nad yw'n ffitio'n strwythurol o fewn y codau newydd sydd wedi eu sefydlu

ac

mae gennym ni gyfrifoldeb ar y cyd i orfodi—

ac fe wnaethoch chi ddweud 'gorfodi'—

gweithrediad hynny?

Rwy'n deall ei fod yn ymwneud ag effaith ar hygyrchedd, ond mae gwir angen am eglurhad pellach, oherwydd ni ddylai unrhyw Lywodraeth geisio gorfodi'r ddeddfwrfa. I mi, mae'n gwbl ragweladwy y gallai'r statudau a luniwn yn y dyfodol groesi ffiniau eich tacsonomeg a ffitio dan fwy nag un pennawd. Felly rwy'n awyddus i gael cadarnhad na fydd unrhyw welliannau a gaiff eu cyflwyno i'r dyfodol i Filiau Llywodraeth Cymru gan y gwrthbleidiau yn cael eu gwrthod ar y sail eu bod nhw y tu allan i bennawd tacsonomeg penodol.

Yn olaf, bydd unrhyw statud wedi dyddio ar y diwrnod y caiff ei llunio—rydym i gyd yn gyfarwydd â hynny—felly beth yw eich barn ar sut y dylem ymdrin â'r hyn a arferai fod yn ddiweddariadau Noter-up—ond rwy'n credu mai LexisNexis a Lawtel ydyn nhw erbyn hyn—ar gyfer unrhyw newidiadau a wneir i ddeddfwriaeth, yr effeithir arnynt gan y Bil hwn? Sut fydden nhw'n ffitio yn eich cyfres chi o godau, os yw hynny'n gwneud synnwyr? Diolch.

17:30

Rwy'n diolch i'r Aelod am yr ystod eang o gwestiynau. Rwy'n gobeithio y byddaf yn llwyddo i ateb y rhan fwyaf, os nad pob yr un ohonyn nhw. Ar y cwestiwn ynglŷn â diffiniadau codeiddio a chydgrynhoi, diben y ddeddfwriaeth yn ei hanfod yw sicrhau cyfraith sy'n fwy hygyrch, a chredaf mai un o'r egwyddorion allweddol yma yw caniatáu i ddiffiniadau gael eu diffiniadau o'r geiriadur hyd y bo modd. Felly, rwy'n credu, yng nghyd-destun cydgrynhoi, mai fy marn i yw, fwy na thebyg, fod hynny'n ddigon dealladwy. Ar gwestiwn codeiddio, soniodd yr Aelod mai codeiddio'r gyfraith gyffredin yw'r math o batrwm sydd ganddi yn ei meddwl o bosib. Nid ydym ni, yn gyffredinol, yn sôn am godeiddio'r gyfraith gyffredin yn y fan hon. Efallai y bydd, ar yr ymylon, rai enghreifftiau lle bydd statud wedi cymryd ystyr penodol sydd wedi ei sefydlu'n gadarn yn y gyfraith gyffredin, ond nid dyma'r bwriad yn y fan hon o gwbl. Mae'n fater o godeiddio cyfraith statud.

Soniodd am y dacsonomeg, sy'n rhyw fath o ddogfen ar waith ar hyn o bryd i roi rhyw gipolwg o sut beth fyddai'r penawdau pynciau hynny. Ond diben sylfaenol cod o fewn unrhyw un o'r penawdau hynny fyddai cydgrynhoi'r ddeddfwriaeth sylfaenol ac wedyn cyhoeddi hynny, ynghyd ag is-ddeddfwriaeth wedi'i chydgrynhoi a chyfraith feddal a chanllawiau o fewn pob pennawd pwnc neilltuol. Felly, os hoffech chi, nid oes gan y cod unrhyw hunaniaeth gyfreithiol ar ei ben ei hun yn ôl y gyfraith; penllanw proses ydyw o gydgrynhoi a chydgyhoeddi, pe caf ei rhoi hi felly.

Mae'r pwynt a wnaeth hi ar y diwedd yn un pwysig iawn, a byddaf yn achub ar y cyfle a roddodd i egluro'r hyn yr wyf yn ei fwriadu yn hyn o beth. Y weithred o godeiddio yw'r cam cyntaf. Mae honno'n dasg enfawr ynddi ei hun, ond, yn amlwg, os yw cod yn mynd i gadw ei werth, mae angen iddo gael ei gadw fel cod. Felly pan gyflwynir deddfwriaeth i ddiwygio'r maes ar bwnc arbennig, y disgwyliad fyddai y byddai hynny'n digwydd o fewn y cod. Nawr, yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn ar gyfer Rheolau Sefydlog y Cynulliad, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ynglŷn â hynny. I fynd yn ôl at fater y diffiniad, bydd angen cael rhywfaint o eglurhad o fewn y Rheolau Sefydlog o ran pa fath o ddeddfwriaeth fydd yn mynd trwy unrhyw ddarpariaeth gydgrynhoi yma yn y Cynulliad. Yn y bôn, mae hynny'n fater ar gyfer gwaith y Cynulliad, mewn gwirionedd, yn hytrach nag unrhyw beth y tu hwnt i hynny. Ond credaf ei bod yn hanfodol inni gadw'r ffaith mewn cof mai'r cam cyntaf yw'r codeiddio, a thrwy gynnal y cod y cyrhaeddwn y man lle bydd y gwerth yn cronni gydag amser.

Roeddech chi'n sôn am y gydberthynas rhwng Deddf 1978 a'r hyn a gynigir yn y Bil hwn. Nid yw'r torri a gludo yr oeddech chi'n cyfeirio ato yn rhywbeth yr ydym ni'n ei gynnig. Rwy'n gobeithio y gallwn neilltuo amser penodol er mwyn i ail ran y Bil ddod yn gyfraith sy'n hawdd ei chofio, fel y bydd yr Aelodau a defnyddwyr y ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn gwybod yn bendant fod Deddfau'r Cynulliad a basiwyd ar ôl y dyddiad hwnnw yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth ddehongli newydd, a'r rhai a basiwyd cyn y dyddiad hwnnw yn ddarostyngedig i Ddeddf Dehongli 1978. Felly, dylai fod yn eglur iawn pa un o'r ddwy Ddeddf sy'n gymwys. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig o ran hygyrchedd.

Siaradodd am bwyntiau'r Gymdeithas Ddysgedig o ran dyletswydd i adolygu cyfraith Cymru a'i hygyrchedd dan adolygiad. Ceir dwy ddyletswydd, wrth gwrs, yn y Bil hwn, a'r rhyngberthynas rhwng y ddwy yw'r peth pwysig. Mae dyletswydd fras ar y Cwnsler Cyffredinol i gadw cyfraith Cymru dan adolygiad, a bydd hynny'n rhoi cyfleoedd i gynnwys hynny yn y broses o ddatblygu deddfwriaeth, a datblygu polisi o fewn y Llywodraeth wrth i ddeddfwriaeth gael ei dwyn ymlaen. Ond yna mae'r ail ddyletswydd, sydd â mynegiant ehangach o lawer, yn gymwys i'r Cwnsler Cyffredinol ac i Weinidogion Cymru fel ei gilydd. A dyna'r man lle ceir sylwedd y ddyletswydd o ran cyflwyno rhaglen yn ystod pob tymor Cynulliad i gymryd camau penodol i gydgrynhoi, codeiddio, a gwneud cyfraith yn fwy hygyrch. Felly, rwy'n gobeithio y bydd rhyngberthynas y ddwy ddyletswydd hynny gyda'i gilydd yn rhoi cig ar yr esgyrn, os caf i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw.

Siaradodd am ddeddfwriaeth fel rhywbeth sy'n fwy na bwriadau da yn unig. Dyna'n sicr sydd wrth galon y Bil hwn. Bydd hi'n gwybod bod gweithgarwch yn digwydd ar hyn o bryd i gydgrynhoi'r gyfraith, sy'n digwydd, os caf ddefnyddio'r ymadrodd, o dipyn i beth, mewn gwirionedd, a diben y dyletswyddau yn y Bil hwn yw symud o set dameidiog o drefniadau i un sy'n rhoi dyletswydd sy'n dod â rhwymedigaeth yn ei sgil i fodloni'r ddyletswydd honno a denu adnoddau er mwyn gallu gwireddu hynny. Felly, holl ddiben y Bil yw symud y tu hwnt i fwriadau da i rywbeth diriaethol a deinamig, sy'n codi ei fomentwm ei hunan dros Gynulliadau olynol.

Mae'r pwynt olaf a wnaeth hi yn bwysig hefyd, mewn cysylltiad â sut mae'r gweithgaredd a'r cynnyrch a ragwelir gan y Bil hwn yn ymwneud ag argaeledd gwasanaethau cyhoeddwyr masnachol ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw y bydd defnyddwyr y ddeddfwriaeth i Gymru sy'n cael ei phasio yn y lle hwn ac offerynnau statudol gan Weinidogion Cymru yn cael eu siomi pe baent yn mynd ar-lein i chwilio am fersiwn cyfredol, cynhwysfawr, mwyaf diweddar, cyfunol, dwyieithog o'r Deddfau hynny yr ydym yn eu pasio a'r offerynnau statudol y mae Gweinidogion yn eu llunio mewn cyfraith. Nid yw'r sefyllfa, er gwaethaf ymdrech fawr, wedi dod yn agos at y fan y mae angen iddi fod, ac rwy'n trafod gyda'r Archifau Cenedlaethol ar hyn o bryd sut y gellir gwella hynny a'r hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth i ddefnyddio adnoddau yn yr iaith Gymraeg, yn arbennig, i fwrw ymlaen â hynny, a byddwn, rwy'n credu, yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros rywfaint o gyhoeddi cynnyrch y sefydliad hwn. Y cynnig arall sydd ar y gweill ar hyn o bryd—a soniais am hyn pan wnes i lansio'r ymgynghoriad, fel y cofiwch efallai—fe gaiff ei ysbrydoli gan gynlluniau DefraLex yn Llywodraeth y DU, sy'n cael eu cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon hefyd, sef cydleoli statudau a chyfraith ac offerynnau statudol pan fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi, yn hytrach na'u cyhoeddi yn ôl y dyddiad, sydd mewn rhai ffyrdd yn ddull ffwdanus iawn o gyhoeddi deddfwriaeth. Mae gwneud hynny yn ôl penawdau'r pynciau, yn fy marn i, yn ddull llawer mwy naturiol ac rwy'n gobeithio y bydd gennyf rywbeth i'w ddweud am hynny rywbryd yn y dyfodol.

17:40

A allaf i groesawu a chefnogi'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo fo yn fan hyn, wrth i'r Cwnsler Cyffredinol gyflwyno'r datganiad yma heddiw ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru)? Wrth gwrs, y bwriad yn y pen draw ydy cryfhau'r ddeddfwrfa yn fan hyn i Gymru. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen fel cenedl. Rydym ni'n cofio Deddfau Hywel Dda nôl yn y gorffennol. Mae David Melding wastad yn fy atgoffa i—rydw i'n credu yr oedd o gwmpas ar y pryd, yn troedio'r ddaear yma rownd y flwyddyn 950—wrth gwrs y cawsom ni Ddeddfau arloesol y pryd hynny, ac, wrth gwrs, hawliau i fenywod am y tro cyntaf, tua 1,000 o flynyddoedd cyn i'r hawliau hynny yn ymddangos mewn unrhyw ddeddfwrfa arall. Felly, mae gyda ni hanes o greu deddfwriaeth arloesol, a dyma beth sydd gyda ni yn fan hyn, i fod yn deg i chi yn fan hyn. Wrth gwrs, mae yna sawl her, a bydd yr heriau hynny yn dod yn amlwg wrth inni graffu ar hyn i gyd rŵan yng Nghyfnod 1 yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ac, wrth gwrs, mae rhan o'r dystiolaeth wedi cyrraedd eisoes i'r pwyllgor, a dyna beth yr oedd Suzy yn ei ddyfynnu.

Ond, wrth gwrs, mae yna her—gan anghofio am Hywel Dda am funud fach nawr—yr her y dyddiau yma ydy bod yna rai Deddfau Lloegr a Chymru, ac wrth gwrs mae yna Ddeddfau newydd rŵan, Cymru yn unig, ac wrth gwrs y ffaith bod yna ddwy iaith. Rydych chi wedi amlinellu'r her yn fan hyn—mae unrhyw beth sydd i fod i ymddangos yma yng Nghymru i fod yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, ac weithiau rydym ni'n cael yr heriau yna yn amlwg yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, pan nad yw pethau'n ymddangos yn y Gymraeg sydd yn dod o San Steffan wedyn. Buaswn i'n gobeithio bod y math hwn o ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n glir, os ydy hyd yn oed San Steffan yn deddfu ar ein rhan ni, fod yna ddisgwyl i'r ddeddfwriaeth hynny fod yn y Gymraeg yn ogystal â bod yn y Saesneg. Wrth gwrs, rydym ni yn wlad ddwyieithog wedi'r cwbl.

Wedi dweud hynny, mae'r pwynt nesaf sydd gyda fi ynglŷn â dehongli. Yn naturiol, rydw i'n croesawu'r trefniant newydd yma, o ran eich bod yn dweud y bydd y Deddfau yn cael eu rhestru—wel, eu codeiddio—fesul maes pwnc. Rydw i'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen ac yn gwneud synnwyr. Yn y mater o ddehongli, yn enwedig pan mae yna ddwy iaith wahanol, fe fyddwch chi'n deall nad ydy pob iaith yn union gyfieithiad o unrhyw iaith arall, ac felly mae yna her, nid jest o ran y geiriau yr ydym ni yn eu defnyddio, ond weithiau fod y synnwyr ychydig bach yn wahanol yn y Saesneg o gymharu â'r Gymraeg. Rydw i'n deall beth rydych chi'n dweud—bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal—ond os ydym ni'n gallu meddwl bod y synnwyr ychydig bach yn wahanol yn Saesneg o gymharu â'r Gymraeg, pa iaith wedyn sy'n cael y flaenoriaeth os ydych chi'n dod i benderfyniad? Rydw i'n gwybod efallai ei fod o'n swnio fel pwynt bach astrus, ond mae o'n bwysig pan ydych chi'n dod i'r mater o ddehongli mewn llys barn, yn enwedig achos, fel rydych chi'n ymwybodol, fod yna erwau filoedd o filltiroedd sgwâr yng Nghymru sydd efo pobl yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, ac felly mi fuasent yn dyfynnu'r gwahanol drefniannau yma yn y Gymraeg. Wrth gwrs, rydych chi'n ymwybodol, ac rydych chi wedi amlinellu, fod yr holl waith codeiddio yn golygu gwaith aruthrol yn aildrefnu sut mae Deddfau yn digwydd. Mae'n golygu gwaith aruthrol tu ôl i'r llenni i wireddu hynny, ac wedyn mae yna oblygiadau ynglŷn â staff ac ati, ac rydw i'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn edrych ar hynny.

Wedyn, dau bwynt i orffen: wrth gwrs, rydym ni o dan drefniant llywodraethiant cyfreithiol Lloegr a Chymru ar hyn o bryd—y jurisdiction yna, felly—llywodraethiant cyfreithiol. Ac, wrth gwrs, yn edrych ymlaen, nid ydy hynny, fel rydych chi wedi crybwyll, ac wedi crybwyll o'r blaen, yn fath o drefniant llywodraethiant sy'n gwneud dim synnwyr o gwbl rŵan, gan ein bod ni'n datblygu corff o Ddeddfau unigol yn fan hyn yng Nghymru, ond eto rydym ni o dan lywodraethiant Lloegr a Chymru. Sut ydych chi'n gweld y dyhead yma i gael llywodraethiant cyfreithiol i Gymru'n unig yn mynd ymlaen? Achos os nad ydym ni'n cymryd y camau breision yn fan hyn i wireddu'r dyhead yna, byddwn ni'n parhau efo'r un un hen drefniant llywodraethiant cyfreithiol sydd ohoni, sef wastad Lloegr a Chymru.

Y cwestiwn olaf ydy: yn nhermau hygyrchedd, ac wrth gwrs gyda nifer cynyddol o bobl rŵan, achos toriadau ariannol, yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llys barn, mae beth yr ydych chi'n dweud ynglŷn â bod hygyrchedd i'r Deddfau yn allweddol bwysig, achos rydych chi'n sôn am y dyn yn y stryd rŵan yn gallu deall ble i ffeindio pethau a beth mae'r geiriau yna yn eu golygu. Felly, pa gamau ymarferol ydych chi'n eu cymryd, yn lle jest bod hyn yn mynd i fod yn rhyw fath o drafodaeth uchel-ael rhwng gwahanol gyfreithwyr ac ati? I'r dyn yn y stryd, neu yng nghaeau ein gwlad, pa fath o wahaniaeth, yn ymarferol, ar lawr gwlad, mae cynyddu hygyrchedd yn mynd i'w wneud? Hynny yw, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yna well hygyrchedd i'n pobl ni o ran cael gafael yn Neddfau ein gwlad?

17:45

Diolch i Dai Lloyd am y cwestiynau hynny. Ar y cwestiwn cyntaf, ynglŷn â'r iaith, mae'r mesurau sydd yn y Bil yn gallu cael impact positif ar y defnydd o'r Gymraeg yn ein cyfreithiau'n gyffredinol. Hynny yw, wrth godeiddio, mae ailddatgan y gyfraith sydd ohoni eisoes fel cyfraith Cymru. A gan fod cymaint o hynny erbyn hyn yn dal yn y Saesneg yn unig, mae'r ffaith o ailddatgan yn y ddwy iaith yn creu corpws o gyfraith yn y Gymraeg ac yn y Saesneg ar yr un pryd, felly bydd y weithred honno ei hun yn gatalyst ar gyfer y defnydd o'r Gymraeg yn y gyfraith. Ond y cwestiwn roedd e'n ei bwysleisio ynglŷn â'r pwynt bach astrus y gwnaeth e gyfeirio ati, a dweud y gwir, mae'n bwynt gwbl ganolog i hyn: hynny yw, sut ydych chi’n dehongli mewn dwy iaith, pan fo'r ddwy iaith yn awdurdodol yn yr un ffordd? Mae'r sialens hon yn sialens sydd ddim yn benodol i Gymru, wrth gwrs. Mae hynny'n wir hefyd mewn llefydd fel Canada, yr Undeb Ewropeaidd ac ati. Felly, mae amryw o gonfensiynau ynglŷn â sut mae hyn yn gweithio.

Yng ngwaith Comisiwn y Gyfraith, mae pennod lawn ar y testun hwn, os oes gan yr Aelod ddiddordeb mewn edrych arni. Ond dyna'r union fath o drafodaeth rwy'n gobeithio ei chael gyda'r pwyllgor ynglŷn â sut i sicrhau a oes angen gwneud mwy na jest derbyn yr hyn sydd yn y deddfau datganoli ynglŷn â hyn ar hyn o bryd—a oes angen cymryd camau pellach? Felly, mae gyda fi ddiddordeb mewn trafod hynny ymhellach gyda'r pwyllgor. Gwnaeth e gyfeirio at bwysigrwydd adnoddau. Wel, yn amlwg, rwy'n cytuno gydag ef am hynny. A'r pwynt o gael cyfrifoldeb yn y Mesur, yn y Ddeddf, yw sicrhau bod yr adnoddau hynny yn haws i'w canfod yn y dyfodol a bod yr adnoddau yna ar gael dros y tymor hir, sy'n hanfodol, wrth gwrs, i allu gwireddu uchelgais y Bil.

O ran awdurdodaeth ar wahân i Gymru, wel, mae honno yn un o'r pethau y mae'r Comisiwn Cyfiawnder yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r dystiolaeth mae Llywodraeth Cymru wedi'i chynnig i'r comisiwn. Rwyf eisiau pwysleisio bod y mesurau sydd yn y Bil hwn yn gwestiwn annibynnol o'r cwestiwn hwnnw. Mi wnes i gyfeirio at hynny yn fy araith ar y dechrau, er mae'r ffaith eich bod chi'n datgan cyfraith Gymreig yn berthnasol i'r ddadl ehangach ynglŷn â hynny, wrth gwrs.

Ac, yn olaf, gwnaeth e sôn am hygyrchedd. Wel, hygyrchedd sydd wrth wraidd yr holl beth sydd gan y Bil yma mewn golwg, ac mae'r Bil, mewn ffordd, yn gwestiwn o gyfiawnder cymdeithasol ynghyd ag atebolrwydd democrataidd. Rwy'n gwybod, o drafod gyda gwasanaethau cyngor, er enghraifft—gwasanaethau sy'n darparu cyngor i aelodau’r cyhoedd—eu bod yn gweld eglurder a hygyrchedd y gyfraith yn ased yn y tymor hir ar gyfer y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. A maes o law, bydd tasg o'n blaenau ni o sut i gyfathrebu hynny i'r cyhoedd. Ond, gobeithio, wrth edrych ar y dacsonomeg drafft, bod honno'n awgrymu'r math o hygyrchedd sydd gyda ni mewn golwg yn y tymor hir.

Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol.

Eitem 5, Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018, ac yna Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Dros Dro) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Rhyngwladol) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018. Oni bai bod aelod yn gwrthwynebu—. Oni bai bod unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rwy'n cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, y bydd y pum cynnig canlynol yr wyf newydd eu darllen yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. Iawn.

5., 6., 7., 8. & 9. Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Morgludiant) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2018

Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynigion. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6888 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.

Cynnig NDM6885 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.  

Cynnig NDM6884 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.  

Cynnig NDM6886 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.  

Cynnig NDM6887 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.  

Cynigiwyd y cynigion.

Member
Lesley Griffiths 17:49:43
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau byd-eang mwyaf sy'n ein hwynebu. Y rheoliadau a roddwyd gerbron y Cynulliad i'w hystyried heddiw yw rheoliadau newid yn yr hinsawdd Cymru 2018. Maent yn set o bum rheoliad a fydd yn sefydlu'r fframwaith lleihau allyriadau a'r llwybr tuag at darged 2050 a gynhwysir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Cyflwynir y rheoliadau hyn dan bwerau a gynhwysir yn y Ddeddf ac maent yn dangos i'r byd ein bod yn chwarae ein rhan yn yr her fyd-eang hon.

Sefydlodd y Ddeddf y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd fel ein corff cynghori annibynnol, ac, wrth ddatblygu'r rheoliadau hyn, rydym wedi cael ac wedi derbyn cyngor gan y pwyllgor. Wrth baratoi ei gyngor, cynhaliodd y Pwyllgor ddwy alwad am dystiolaeth a chynhaliwyd digwyddiadau ar y cyd a fynychwyd gan y rhanddeiliaid o nifer o wahanol sectorau, gan gynnwys diwydiant, busnes, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, sefydliadau academaidd a chymdeithas sifil. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor a rhanddeiliaid am eu cyfraniad i'r rheoliadau hyn.

Mae'r rheoliadau targedau allyriadau dros dro yn creu targedau ar gyfer 2020 o 27 y cant, 2030 ar 45 y cant, a 2040 ar 67 y cant. Pennodd y rheoliadau cyllidebau carbon ein dwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer 2016 i 2020 ar gyfartaledd o 23 y cant o ostyngiad, a 2021 i 2025 ar gyfartaledd o 33 y cant o ostyngiad. Gyda'i gilydd, mae'r targedau a'r cyllidebau yn mapio ein llwybr datgarboneiddio tuag at 2050. Oherwydd cyfansoddiad ein cymunedau, mae ein llwybr yn wahanol i eraill. Yr allwedd yw sicrhau ein bod yn trawsnewid i economi a chymdeithas garbon isel ar y raddfa a'r gyfradd gywir i sicrhau y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y buddion i Gymru.

O ran ein fframwaith cyfrifyddu, rydym wedi penderfynu mabwysiadu dull gwahanol i Lywodraeth y DU a byddwn yn cyfrifo ein holl allyriadau yng Nghymru heb unrhyw broses adrodd gymhleth, gan y credwn mai dyma'r ffordd fwyaf tryloyw. Mae'r rheoliadau awyrennau a llongau rhyngwladol yn cynnwys cyfran Cymru o'r allyriadau hyn yng nghyfrif allyriadau net Cymru. Mae'r rheoliadau cyfrifyddu carbon yn diffinio pa fath o uned garbon neu gredyd gwrthbwyso y gellir eu defnyddio yng nghyfrif allyriadau net Cymru a sut y cânt eu gweinyddu. Rydym wedi mynd am y rhai a ystyrir yn gadarn ac a gydnabyddir gan ganllawiau adrodd rhyngwladol.

Er bod ein ffocws ar ein gweithredu domestig, mae'r rheoliadau terfyn credyd yn gosod terfyn ar faint o unedau carbon neu gredydau gwrthbwyso y gellir eu defnyddio i ddiwallu'r gyllideb garbon gyntaf. Fel y cydnabyddir gan y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd, mae allyriadau Cymru yn agored i newidiadau blynyddol oherwydd goruchafiaeth ein sector diwydiannol. Mae'r terfyn o 10 y cant yn darparu digon o hyblygrwydd. Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf y rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.

17:50

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges?

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r rhain yn rheoliadau pwysig iawn. Dyma'r rheoliadau cyntaf i godi o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad yn 2016. Fel y cyfryw, roedd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn teimlo ei bod yn bwysig edrych arnynt yn fanwl i sicrhau bod gofynion ac ysbryd Deddf yr amgylchedd yn cael eu symud ymlaen. Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y rheoliadau, sydd wedi'i osod ac sy'n hygyrch drwy agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Mae ein hadroddiad yn cynnwys saith o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at gael ymateb maes o law.

Roedd Deddf yr amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflawni gostyngiadau o 80 y cant o leiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu hystyried heddiw yn bwysig oherwydd eu bod yn gosod y llwybr tuag at y targed allyriadau erbyn 2050. O fewn y Rheoliadau hyn, ceir fframwaith newydd ar gyfer sut i fynd i'r afael â lefelau allyriadau yng Nghymru. Maent yn cyflwyno cysyniad o gyllidebau carbon pum mlynedd, a fyddant, yn eu tro, yn cyfrannu at gyflawni'r targedau interim 10 mlynedd. Byddant i gyd yn cael eu cefnogi gan gynlluniau cyflawni, a fydd yn nodi'n fanwl y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Bydd, hyn oll, gobeithio, yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed 2050.

Yn yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar dair agwedd ar adroddiad y Pwyllgor: targed 2050 ac a yw'n ddigon heriol, y cymhlethdodau ynghylch allyriadau datganoledig a heb eu datganoli, a chynllun cyflawni cyntaf Llywodraeth Cymru.

Targed 2050: mae angen inni edrych ar gytundeb Paris ac adroddiad diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Ei nod yw cynnal y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i fod yn is na 2 radd ganradd dros lefelau cyn-ddiwydiannol ac ymdrechu i'w gyfyngu i 1.5 gradd. Ni fydd targed Llywodraeth Cymru, sef gostyngiad o 80 y cant erbyn 2050, yn ddigon i gyrraedd y nod o radd 2. Os byddwn yn parhau ar y llwybr hwn, ni fydd Cymru yn cyrraedd nodau cytundeb Paris. Fel pwyllgor, roeddem yn siomedig iawn gan hyn. Fodd bynnag, roeddem yn falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn barod i ailystyried. Mae gennym bryder sylfaenol am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o bennu ei tharged ar gyfer 2050. Pam mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed na fydd yn ddigon i fodloni amcanion cytundeb Paris? Gwyddom fod angen inni weithredu ar frys, gwyddom fod angen inni ddangos arweinyddiaeth, a gwyddom fod angen inni fod yn uchelgeisiol. Pam gosod targed sy'n gwneud dim un o'r rhain? Yn 2015, roedd allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 19 y cant islaw lefelau 1990; ar draws y DU yn ei chyfanrwydd, roedd gostyngiad o 27 y cant. Nid ydym wedi gwneud cynnydd digon da ar yr agenda hon, ond rhaid inni beidio â cholli tir o hyn ymlaen.

Yr ail faes yr wyf am ymdrin ag ef yw'r mater o allyriadau mewn meysydd datganoledig a heb eu datganoli. Penderfynodd Llywodraeth Cymru gynnwys yr holl allyriadau yng Nghymru yn ei thargedau. Fodd bynnag, mae'r risg o gyfrif yr holl allyriadau yn golygu na fydd yn hawdd iawn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig. Mae'n bosib ein bod yn gwneud cynnydd oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer, a chawsom ein dal yn ôl gan y DU, neu'r ffordd arall. Credaf felly, ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau y gallwn weld yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni mewn gwirionedd, yn hytrach na'r hyn sy'n cael ei gyflawni'n gyffredinol. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd gynnwys yn ei adroddiad ar y cynnydd ddadansoddiad o leihau allyriadau yn ôl y polisïau datganoledig hynny a'r rhai sydd heb eu datganoli.

Y trydydd maes yr wyf am ymdrin ag ef yw cynllun cyflawni cyntaf Llywodraeth Cymru. Ar gyfer pob cyllideb garbon, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n esbonio sut y bydd yn bodloni'r gyllideb garbon. Rydym yn dal heb weld y cynllun cyflawni cyntaf, ond dywedwyd wrthym gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Bydd y cynllun cyflawni yn seiliedig ar ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru, 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030'. Mae'r Pwyllgor wedi clywed pryderon difrifol gan randdeiliaid am yr ymgynghoriad hwn—nad oedd wedi'i ddatblygu'n ddigonol, roedd diffyg manylion, ac roedd diffyg uchelgais gyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym mai ymgynghoriad cynnar oedd hwn, ond, gan y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi ymhen tri mis, rydym yn bryderus na fydd digon o amser i droi canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw yn gynllun effeithiol. Rydym wedi argymell y dylai'r cynllun cyflawni gyd-fynd ag asesiad cynhwysfawr o gost ac effaith disgwyliedig pob ymyriad. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymrwymiad y bydd hyn yn digwydd.  

Casgliadau—i gloi, mae'r rheoliadau hyn yn gam ymlaen sydd i'w groesawu yn dilyn hynt Deddf yr amgylchedd gan y Cynulliad yn 2016. Bydd y rheoliadau yn darparu llwybr i gyrraedd targed 2050 Llywodraeth Cymru, ond dyna i gyd—fframwaith ydyw. Bydd angen polisïau effeithiol ac uchelgeisiol o hyd i leihau allyriadau ac i wella ein hiechyd cyhoeddus. Gellir dadlau mai hon yw'r her fwyaf y bydd y Llywodraeth Cymru bresennol a Llywodraethau'r dyfodol yn ei hwynebu. Bydd angen iddynt ymateb i'r heriau hyn os ydym i gyflawni'r rhwymedigaethau a'r dyletswyddau i weddill y byd.

17:55

Yn amlwg, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Os edrychwch ar sylwadau David Attenborough ddoe yn y gynhadledd hinsawdd a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad Pwyl—. Ac mae'n fwy na thebyg yn briodol canolbwyntio efallai ar y cynadleddau hinsawdd sydd wedi digwydd o dro i dro. Yr wythnos nesaf bydd y Prif Weinidog yn rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau, ac un o'r pethau cyntaf a gyflawnodd wrth gymryd yr awenau fel Prif Weinidog oedd mynd i Copenhagen gydag Ysgrifennydd yr amgylchedd ar y pryd, Jane Davidson. Rydym wedi gweld graddau amrywiol o fethiant a llwyddiant mewn cynadleddau rhyngwladol. Credaf fod Copenhagen yn cael ei ystyried yn fethiant; ystyriwyd Paris yn llwyddiant. A chredaf ein bod i gyd yn aros i weld beth fydd y canlyniadau yng Ngwlad Pwyl dros y dyddiau nesaf i weld a ydym yn symud rywfaint ymhellach ymlaen i fodloni'r hyn sy'n ddyletswydd foesol ar wledydd fel Cymru, y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn y byd datblygedig, i wneud y defnydd gorau o dechnoleg newydd a lleihau ein defnydd o garbon, yn enwedig pan edrychwch ar broffwydoliaethau a allent, o bosibl, erbyn canol y ganrif hon, gael goblygiadau dramatig i bobl mewn ardaloedd tir isel nid yn unig yn Ewrop ond ar draws y byd, a gwledydd yn diflannu.

Ategaf yn llwyr yr adroddiad hwn y mae'r pwyllgor ar newid hinsawdd wedi'i grynhoi, yn enwedig y ffordd y cyflwynodd Cadeirydd y pwyllgor ei gasgliadau. Mae'n werth nodi, yn amlwg, fod yr adroddiad yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru fethu â chyrraedd ei tharged 2020. Ac, yn aml iawn, mae'n hawdd pennu rhai o'r targedau hyn sydd ymhell yn y dyfodol, gan feddwl y bydd rhywun arall yn eu cyflawni. Mae'n ffaith bod angen inni i gyd wneud pob ymdrech o safbwynt y gwrthbleidiau, a rhoi pwysau ar y Llywodraeth i fod yn uchelgeisiol yn y ffordd y mae'n dymuno cyrraedd y targedau hyn. Ond hefyd mae angen inni weithio gyda busnesau a gweithio gyda chymunedau ac unigolion i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn chwarae ein rhan ac nad yw pobl yn teimlo fel y gwelir yn Ffrainc nawr, lle mae gweithredu amgylcheddol wedi ennyn aflonyddwch torfol oherwydd nad yw'r bobl wedi gallu cefnogi'r cynigion a gyflawnwyd gan Lywodraeth Ffrainc.

Felly byddwn yn parhau i fonitro hyn. Byddwn yn parhau i roi cymorth lle gall y cymorth hwnnw helpu i hyrwyddo achos gwelliant amgylcheddol yng Nghymru. Ond credaf fod y drafodaeth o amgylch y bwrdd yr wythnos diwethaf a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn seinfwrdd da ar gyfer llawer o'r sefydliadau a ddaeth i mewn. Ac os gallwn lunio llwybr sy'n dangos bod hon mewn gwirionedd yn ffordd broffidiol a buddiol i fusnesau fabwysiadu technoleg newydd i leihau eu cynnyrch carbon, ac, yn benodol, i unigolion ganolbwyntio ar beth yw eu cynnyrch fel unigolion, gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr. Ond mae gennyf air o rybudd: pan edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Ffrainc dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae angen inni gynnwys y bobl gyda ni wrth gyflwyno'r mesurau hyn, yn hytrach na chael rhyw fath o ymarfer academaidd sy'n digwydd ar bapur ond sydd mewn realiti yn anodd iawn, iawn ei gyflawni. Ac rwy'n edrych ymlaen, fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ymlaen, i ystyried a chraffu ar y cynllun cyflawni, y mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, wedi ymrwymo i'w gyflwyno ym mis Mawrth y flwyddyn nesa. Byddai hwnnw'n llwybr critigol i wneud yn siŵr y gallwn ac y byddwn yn cyflawni'r hyn sydd yn y rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw a'r adroddiad a gyflwynwyd gennym fel Pwyllgor.

18:00

Rydw i eisiau mynd yn ôl i 2016 pan basiwyd y Ddeddf amgylchedd, wrth gwrs, o le ddaeth yr angen am y rheoliadau yma. Mae’n rhaid dweud roedd y targed hirdymor o dorri allyriadau 80 y cant erbyn 2050 wedi dyddio bryd hynny, pan basiwyd y Ddeddf amgylchedd yn 2016, oherwydd y sail oedd Deddf hinsawdd y Deyrnas Unedig sydd newydd ddathlu ei degfed pen-blwydd, ac ni fu unrhyw ymchwil newydd gogyfer y ddeddfwriaeth yma yng Nghymru yn 2016. Mi gydnabuwyd hynny ar y pryd, ac rwy’n gwybod oherwydd mi wnes i gynnig gwelliannau fel llefarydd Plaid Cymru a oedd yn craffu ar y Bil yma, er mwyn ceisio cryfhau'r targedau a newid y dyddiad hwnnw, er mwyn adlewyrchu'r brys a’r angen i weithredu'n gynt, fel sydd nawr wedi dod yn amlwg eto yn adroddiad diweddaraf yr IPCC. Felly, o ganlyniad, mae’r cyllidebau carbon, y llwybr tuag at 2050 a’r targedau ar gyfer 2020, 2030 a 2040, i gyd ar y trywydd anghywir. Mae’r ffaith bod y targed ar gyfer 2020 wedi gostwng o 40 y cant i 27 y cant yn dangos diffyg gweithredu, efallai, yn hynny o beth, ac yn dangos pam mae angen edrych ar hyn eto.

Nawr, mae’r Ddeddf yn dweud bod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i gyflwyno rheoliadau sydd wedi ystyried cytundebau rhyngwladol, fel Paris wrth gwrs, a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, yn ogystal â’n dyletswyddau i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn rhyngwladol—sy’n dod o dan un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nid oes dim un o’r rhain wedi’u hystyried yn drwyadl yng nghyngor ac argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig. Ond, eto, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion annigonol yma yn llwyr.

Nawr, mae adroddiad yr IPCC ym mis Hydref yn rhybudd clir mai dim ond 12 mlynedd sydd gyda ni i osgoi newid hinsawdd trychinebus. Ond y targed sy’n cael ei gynnig fan hyn ar gyfer cyfraniad Cymru mewn 12 mlynedd, erbyn 2030, yw 45 y cant o doriad yn unig. Mi ddylai’r llwybr tuag at ddad-garboneiddio fod ar trajectory gwahanol, yn fwy serth—hynny yw, bod toriadau mwy yn digwydd yn fwy buan ac nid mor raddol ag y mae’r Llywodraeth yn ei fwriadu. Oes, mae yna gost i wneud hynny, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny ac mae angen bod yn sensitif i hynny, ond mi fydd y gost o orfod gwneud mwy yn y dyfodol yn llawer uwch.

Wrth gwrs, fe wnaed y gwaith paratoi ar gyfer y rheoliadau yma cyn gweld adroddiad yr IPCC, ac yn sgil hyn mae angen, yn fy marn i, ymrwymiad clir gan y Llywodraeth y byddan nhw’n cyflwyno rheoliadau wedi’u diweddaru yn dilyn nid yn unig cyngor sydd wedi’i gomisiynu gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig, ond hefyd yn dilyn asesiad o beth yw cyfran deg Cymru i’r byd, gan gofio, wrth gwrs, ein cyfrifoldeb rhyngwladol a’n cyfraniad hanesyddol at newid hinsawdd fel un o’r gwledydd cyntaf i ddiwydiannu. Rydw i felly yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet yn y ddadl yma heddiw i gadarnhau y cawn ni ymrwymiad sicr y bydd y Llywodraeth yn diweddaru’r targedau yma y flwyddyn nesaf, yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael.

Rydw i eisiau cyffwrdd hefyd ar y broses. Mae’r broses a’r diffyg cyfle sydd wedi bod i graffu go iawn ar y cynigion yma yn rhywbeth sy’n annerbyniol yn fy marn i. Nid oes dim ymgynghori wedi bod ar y rheoliadau penodol yma a dim cyfle i’r pwyllgor newid hinsawdd i fod yn rhan o’u datblygiad nhw. Ugain diwrnod rydym ni wedi’u cael o dan Reolau Sefydlog i edrych ar y rhain—20 diwrnod i edrych ar dargedau a fydd gyda ni am bron 40 mlynedd, neu 30 mlynedd beth bynnag. Mi ddylai fod yna reoliadau drafft wedi’u gosod er mwyn i ni gael y drafodaeth ystyrlon yna. Ond yr hyn sydd yn digwydd i bob pwrpas yw bod y Llywodraeth yn gorfodi’r Cynulliad yma i dderbyn y rheoliadau fel ag y maen nhw gan fod yn rhaid eu pasio nhw yn ôl y Ddeddf cyn diwedd y flwyddyn, a’u pasio nhw hefyd cyn gweld y cynllun cyflawni dad-garboneiddio na fydd ar gael, fel rŷm ni wedi clywed, tan fis Mawrth. Ond mae disgwyl i ni benderfynu bod y targedau yma’n addas heb fod wedi deall sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu i’w cyflawni nhw. Mae yna eironi hefyd, rydw i'n meddwl, bod y Llywodraeth yn dod atom ni i ofyn inni basio'r rheoliadau yma ar yr union ddydd yr oedd yna gannoedd o bobl ar risiau'r Cynulliad yn protestio yn erbyn y difrod amgylcheddol a'r effaith o safbwynt allyriadau carbon y bydd y M4 newydd yn ei gael o gwmpas Casnewydd.

I gloi, felly, mae Plaid Cymru yn barod, ond o dan brotest, i bleidleisio o blaid y rheoliadau yma er mwyn osgoi sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn torri Deddf yr amgylchedd, ond dim ond ar sail ymrwymiad clir gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yna dargedau mwy uchelgeisiol yn cael eu mabwysiadu o fewn y flwyddyn.

18:05

Cytunaf â llawer o'r hyn y mae Llŷr yn ei ddweud, ein bod i ryw raddau yn cael ein gwthio i wneud hyn. Ac rwy'n credu, yng ngoleuni araith bwerus David Attenborough, fel y crybwyllwyd eisoes gan Andrew R.T. Davies, mae'r hyn a ddywedodd yn Katowice mewn gwirionedd yn gorfodi pob un ohonom i ystyried yn fanwl yr hyn y dylem fod yn ei wneud a'r hyn nad ydym mewn gwirionedd yn ei gyflawni. Rydym newydd gael trafodaeth am Brexit a phwysigrwydd hynny i genedlaethau'r dyfodol. Nid yw hynny'n ddim byd o'i gymharu â'r ddadl hon. Oni newidiwn ein ffyrdd, ni fydd byd i'n plant a'n hwyrion ei etifeddu. Fel y dywedodd Attenborough yn Katowice,

mae cwymp ein gwareiddiadau a difodiant llawer o'r byd naturiol ar y gorwel os nad ydym yn gweithredu.

Mae'r rhain yn eiriau cryf iawn, ac er fy mod yn cytuno bod yn rhaid inni gynnwys y bobl, nid yw'n galonogol gweld safbwynt boblyddol Canghellor y Trysorlys yn methu flwyddyn ar ôl blwyddyn â chodi ardoll newid hinsawdd ar y dreth ar danwydd er mwyn adlewyrchu faint o lygredd a achosir gan yrru.

Felly, a yw'r rheoliadau hyn yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed gennym ym Mharis yn 2015? Mae'n debyg nad ydynt, ond maen nhw'n gam i'r cyfeiriad cywir. Dywedir wrthym gan yr arbenigwyr ein bod ar hyn o bryd yn anelu at gynhesu trychinebus o 3 y cant. Felly mae'n ddyletswydd ar y byd diwydiannol, sydd wedi elwa ar yr holl ddefnydd hwn o adnoddau'r byd, i wneud mwy na gwledydd llai datblygedig yn y byd.

Nodaf fod Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd wedi gweld bod cynnydd yn parhau i fod ymhell o gyrraedd targed presennol Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau ar lefel o 40 y cant islaw lefelau 1990 erbyn 2020, ymhen dwy flynedd. Credaf fod angen inni edrych o ddifrif ar statws Aberddawan, yr orsaf bŵer glo, oherwydd cyflwynodd 51 y cant o allyriadau pŵer Cymru a 14 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2015. Felly, rhaid bod buddugoliaeth o hynny. Ymddengys i mi yn fuddugoliaeth hawdd. Wrth gwrs mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ffyrdd amgen o gynhyrchu trydan, ond yn amlwg nid glo yw hynny. Does dim diben dweud, fel y maent wedi'i wneud yng Ngwlad Pwyl, 'O, dyna beth mae swyddi pobl yn dibynnu arno'. Rhaid inni newid y swyddi a defnyddio technoleg i gael pobl i wneud pethau gwahanol. Felly, byddwn yn awgrymu i'r Llywodraeth bod angen inni gau Aberddawan ymhell cyn 2025, a byddai hynny'n ein cael yn ôl ar y trywydd iawn, oherwydd mae'n glir nad ydym yn y lle mae angen inni fod.

Hoffwn weld adolygiad ar unwaith o Ran L o'r rheoliadau adeiladu. Gan gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies ynglŷn â chynnwys y bobl, dydyn ni byth yn mynd i allu cynnwys yr adeiladwyr tai torfol gyda ni. Maen nhw bob amser yn mynd i fod eisiau parhau i gynhyrchu'r un hen dai nad ydynt yn effeithlon o ran ynni nes inni ddweud wrthynt am beidio, a dyna swyddogaeth y Llywodraeth—sicrhau bod pobl yn cyflawni  drwy ddefnyddio adnoddau'r byd yn y ffordd fwyaf effeithiol. Gwyddom eisoes fod y dechnoleg ar gael i sicrhau bod gennym dai di-garbon, a dyna'r hyn sydd ei eisiau a'i angen ar bobl, oherwydd, ar hyn o bryd maen nhw'n gwario llawer gormod o'u harian haeddiannol ar geisio gwresogi eu cartrefi mewn adeiladau sy'n annigonol.

Mae allyriadau amaethyddiaeth wedi gostwng 15 y cant ers 1990, ond maent wedi cynyddu ychydig ers 2009 ac mae angen inni wneud rhywbeth am hynny, hefyd. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r ffaith bod dalfeydd defnydd tir wedi gostwng gan fod mwy o adeiladu'n digwydd ar y tir, ond hefyd mae llai o blannu coed yn digwydd. Mae angen inni ddechrau edrych ar y bwyd yr ydym yn ei fwyta a sut yr ydym yn ei gynhyrchu. Os oes gennym ffermio ffatri dwys, mae'n cynhyrchu llawer mwy o allyriadau carbon na phe bai gennym ffermio llai dwys. Mae angen edrych ar y pethau hyn.

Rwy'n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am fod yn onest a chyfaddef, pan heriwyd y Llywodraeth gan ddadansoddwr newid hinsawdd, fod yr olwg ar wyneb pob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog yn un o arswyd llwyr. Nid gwaith y Llywodraeth yn unig yw hyn; gwaith pob un ohonom yw newid ein ffyrdd. Ond rhaid i'r Llywodraeth arwain y ffordd, ac awgrymaf fod angen inni weithio tuag at 100 y cant erbyn 2050, ac y byddwn, gobeithio, yn dod yn ôl gyda rhai targedau mwy heriol, oherwydd ni chredaf fod y rhain yn ddigon heriol.

18:10

Er bod pennu targedau allyriadau anodd yn swnio'n ganmoladwy iawn, y gwir anffodus yw bod allyriadau carbon y DU yn cael eu boddi gan y rhai sy'n deillio o wledydd fel yr Almaen, Ffrainc, Awstralia, yr Unol Daleithiau ac, wrth gwrs, Tsieina. Dim ond ar lefel fyd-eang y gellir cymryd camau i leihau allyriadau byd-eang yn effeithiol a rhaid iddynt gynnwys deddfwriaeth rwymol sy'n cyfyngu'n llym ar effaith lygrol y gwledydd hyn sy'n llygru  ar raddfa fawr.

Cyfeiriwyd yn gynharach at Ddeddf newid hinsawdd y DU 2008  Amcangyfrifir bod cyfanswm cost y ddeddfwriaeth hon ar draws y DU yn ei chyfanrwydd yn gyfanswm anhygoel o £720 biliwn dros y 40 mlynedd nesaf. Byddai UKIP yn dileu'r cyfreithiau newid hinsawdd hyn, oherwydd mae pob aelwyd ym Mhrydain mewn gwirionedd yn talu dros £300 y flwyddyn i dorri allyriadau carbon, sy'n afrealistig fel amcan mewn unrhyw achos. Maen nhw hefyd yn—

Llyr Grufydd a gododd—

Na, rwyf bron â dod i ben, ond diolch ichi.

Maen nhw hefyd mewn gwirionedd yn dreth atchweliadol, a fydd yn taro'r tlawd galetaf, felly ni fyddwn yn cefnogi cynigion y Llywodraeth heddiw.

Diolch i chi, a gaf i alw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl?

Member
Lesley Griffiths 18:11:49
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Nododd y panel rhynglywodraethol ar newid yn yr hinsawdd yn ddiweddar y gallai cyfraddau cynhesu presennol weld y cynnydd mewn tymheredd byd-eang cyfartalog yn taro 1.5 gradd ganradd mor fuan â 2030. Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, ysgrifennais at yr Aelodau i dynnu sylw at ein cais ar y cyd i gael cyngor gan y pwyllgor ar newid hinsawdd ynglŷn â sut y gall cytundeb Paris a'r dystiolaeth yn adroddiad yr IPCC effeithio ar ein  targedau lleihau allyriadau hirdymor. Fodd bynnag, credaf mai'r hyn a ddaeth yn glir iawn o'r adroddiad oedd yr angen am gamau gweithredu brys  nawr. Mae'r rheoliadau yn gosod y fframwaith ar gyfer camau gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac eisoes rydym wedi cyflawni lleihad yn yr allyriadau o wastraff, o adeiladau ac o ddiwydiant, ond, wrth gwrs, derbyniaf yn llwyr fod angen gwneud mwy.

Ym mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi ein cynllun ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf i ni gyrraedd targed 2020. Byddwn yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd, ond hefyd, yn bwysig, yr hyn y bydd disgwyl i eraill megis Llywodraeth y DU eu cymryd, yn enwedig o gofio bod bron 60 y cant o allyriadau y tu allan i'n rheolaeth ni. Rydym yn gwybod bod ein proffil allyriadau yn wahanol iawn i'r DU yn ei chyfanrwydd oherwydd ein gorffennol ac mae hyn yn gwneud ein hallyriadau yn fwy ansefydlog. Y llwybr datgarboneiddio a sefydlwyd gan y rheoliadau hyn yw'r cydbwysedd gorau rhwng uchelgais a bod yn gyraeddadwy.

Os caf i droi at y pwyntiau penodol a godwyd gan yr Aelodau heddiw, mae angen swyddi o ansawdd da ar bobl Cymru sy'n gydnerth ar gyfer economi sy'n newid. Hefyd mae pobl Cymru yn haeddu byw mewn amgylchedd glân ac iach, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd cywir. Credaf fod Andrew R.T. Davies wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chynnwys y bobl a hefyd am inni oll chwarae ein rhan. Dywedodd Jenny Rathbone, pan oeddwn yn cadeirio'r grŵp gweinidogol cyntaf ar ddatgarboneiddio—nid wyf yn siŵr a ddefnyddiwyd y gair 'arswyd', ond roedd pawb yn sylweddoli, ar draws y Llywodraeth, fod yn rhaid inni i gyd chwarae ein rhan.

Cododd Mike Hedges, fel Cadeirydd y Pwyllgor,  rai pwyntiau pwysig iawn. Rwy'n gwybod, Mike, eich bod yn credu  nad yw'r targedau efallai yn ddigon uchelgeisiol. Rhaid imi ddweud nad yw targed o 80 y cant erbyn 2050 o fewn cwmpas y rheoliadau hyn heddiw, ond nid yw'r fframwaith sydd gennym yn ein hatal rhag mynd ymhellach eto. Awgrymodd y CCC fod gostyngiad o 80 y cant ar gyfer y DU yn awgrymu gostyngiad o 76 y cant yng Nghymru. Felly, drwy fabwysiadu targed 2050 o 80 y cant o leiaf, credaf y gellid dadlau ein bod yn gwneud mwy o gyfraniad yn gymesurol at gytundeb Paris na'r  DU yn ei chyfanrwydd. Ond wrth gwrs, mae angen inni barhau i adolygu hyn.

Soniodd Llyr ei bod yn anodd cytuno ar dargedau a chyllidebau cyn gweld y cynllun. Ar draws y DU, dyna'r broses arferol. Rydych yn pennu'r targed neu'r gyllideb garbon yn gyntaf, ac wedyn yn cyhoeddi cynllun i ddiwallu'r gyllideb. Codasoch y pwynt ynghylch ailedrych ar y targedau. Ni allaf ailedrych ar y targed ar gyfer cyllideb 2020 oherwydd byddai hynny'n mynd erbyn proses briodol y Ddeddf oherwydd na fyddai'n rhoi digon o amser inni gael y dadansoddiad cadarn angenrheidiol i fod yn sail i'n penderfyniad. Ond ymrwymaf yn llwyr i edrych eto ar y targed ar gyfer ail gyllideb ac yn sicr pan fyddwn yn pennu ein trydedd gyllideb garbon, a fydd ar ddiwedd y gyllideb garbon gyntaf yn 2020. Credaf y byddwn wedyn yn gallu cael rhywfaint o ddadansoddiad gwir briodol a manwl, a byddai hynny unwaith eto yn cysylltu â llwybrau ehangach y DU.

Roedd Mike Hedges hefyd yn codi'r cwestiwn ynghylch peidio â rhannu cynllun cyflenwi carbon isel, ond cytunais i'w rannu gyda'r Pwyllgor ychydig ddyddiau cyn ei gyhoeddi fis Mawrth nesaf. Rydym yn gweithio i amserlenni heriol iawn o ran llunio fersiwn derfynol o'r fframwaith statudol a'r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.

Cododd Andrew R.T. Davies y mater—yn amlwg, mae Confensiwn y Pleidiau yn digwydd ar hyn o bryd. Dewisais fynd i uwchgynhadledd gweithredu ar hinsawdd fyd-eang San Francisco ym mis Medi, ond mae swyddogion yno yn cynrychioli Cymru. Rwyf yn sicr wedi ymweld â Chonfensiwn y Pleidiau a gwn fod Gweinidogion a rhagflaenwyr eraill cyn fi wedi ymweld ac yn sicr mae'n dda iawn rhannu arfer gorau,. Credaf, fel rhanbarth, ein bod yn gwneud yn well na'r disgwyl ac mae gan bobl ddiddordeb mawr mewn clywed am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i leihau ein hallyriadau.

Llywydd, mae'r rheoliadau yn dangos i bobl a busnesau yng Nghymru bod y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn derbyn fod newid hinsawdd yn broblem ddifrifol, yn beryglus ac yn un na allwn ei hanwybyddu. Mae'r rheoliadau yn rhoi sicrwydd ac eglurder ac yn dangos i farchnadoedd rhyngwladol fod Cymru yn agored i fusnes carbon isel. Maent yn dangos i bobl ac i lywodraethau ledled y byd ein bod yn benderfynol o chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r argyfwng byd-eang hwn, a chredaf y byddant yn dangos i bobl Cymru ein bod wedi ymrwymo i wella eu lles cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol. Ond, yn y pen draw, maent yn dangos i bobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol ein bod yn gwerthfawrogi eu bywydau a'u bywoliaeth cymaint â'n rhai ni ein hunain. Diolch.

18:15

Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 5, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 6, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 7, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 8, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 9, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2019-20

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Eitem 10 ar yr agenda heddiw yw'r ddadl ar y gyllideb ddrafft, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6883 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 2 a 23 Hydref 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i agor y ddadl hon ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddadl yn digwydd yn unol â phrotocol y cytunwyd arni gan y Cynulliad Cenedlaethol y llynedd. Dyma'r ail dro y byddwn wedi dilyn y weithdrefn hon, gan sicrhau bod proses y gyllideb yn adlewyrchu ein cyfrifoldebau cyllidol newydd. Fy nod yw ymdrin â thri phrif faes y prynhawn yma. Yn gyntaf, byddaf yn nodi rhywfaint o'r cyd-destun anochel y datblygwyd cyllideb ddrafft heddiw oddi mewn iddo. Yn ail, rwy'n gobeithio nodi cyfres o newidiadau y bwriadaf eu gwneud i'r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 2 Hydref. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol, a fydd yn cael ei gosod ar 18 Rhagfyr. Lle mae newidiadau i gynlluniau ar gyfer y flwyddyn gyfredol, adlewyrchir hynny yn yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2018-19. Mae'r newidiadau i gynlluniau yn bennaf o ganlyniad i'r broses graffu sydd wedi dilyn ers i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod yn gyntaf. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad am eu gwaith wrth graffu ar y gyllideb ddrafft ac am adroddiadau ac argymhellion sy'n darparu sylfaen ar gyfer y ddadl heddiw. Dirprwy Lywydd, fy nhrydydd bwriad fydd darparu ymateb cyntaf i'r broses graffu honno, gan ganolbwyntio'n benodol ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

I ddechrau, felly, â’r cyd-destun, mae'r gyllideb hon yn garreg filltir arall ar ein taith ddatganoli. Am y tro cyntaf, mae'r gyllideb yn cynnwys refeniw a godir yn uniongyrchol o gyfraddau treth incwm Cymru. Bydd yr Aelodau’n gwybod, yn unol â maniffesto fy mhlaid, nad wyf i'n bwriadu cynyddu treth incwm yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Yn ogystal â chyfraddau treth incwm Cymru, mae'r gyllideb yn adlewyrchu’r incwm a ddisgwylir o dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. At ei gilydd, bydd gwerth dros £2 biliwn o’r refeniw a ddefnyddir y flwyddyn nesaf i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei godi o ganlyniad i benderfyniadau a wneir yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dirprwy Lywydd, mae’r gyllideb yn digwydd yn erbyn ymosodiadau deuol cyni cyllidol a Brexit. Fel y mae'r Aelodau'n ei wybod o'r ddadl a gynhaliwyd gennym yn gynharach y prynhawn yma, barn y Llywodraeth hon yw y bydd unrhyw fath o Brexit yn gadael pobl yng Nghymru yn waeth eu byd na phe bai aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi parhau. Mewn Brexit 'dim cytundeb' trychinebus, gallai ein heconomi grebachu hyd at 10 y cant. Byddai’r goblygiadau byrdymor a hirdymor i gyllideb Cymru a'r cyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa o'r fath yn ddifrifol. Byddai’r ymosodiad hwnnw’n fwy niweidiol byth gan y byddai'n dod ar ben y niwed a wnaed gan wyth mlynedd o gyni cyllidol.

Mae’r Aelodau’n gwybod y ffeithiau, ond mae angen i aelodau’r wrthblaid swyddogol yn arbennig eu clywed eto. Pe bai ein cyllideb wedi cadw ei gwerth o 2010, pe na baem ni wedi cael ceiniog yn fwy mewn termau real, byddai gan y gyllideb sydd ger eich bron heddiw £850 miliwn yn fwy i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen. Pe bai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus ddim ond wedi cadw i fyny â'r twf yn yr economi ers 2010, heb gymryd cyfran fwy na’r hyn a etifeddodd David Cameron a George Osborne, yna y prynhawn yma, byddech chi'n trafod cyllideb â £4 biliwn ychwanegol i’w wario ar anghenion brys Cymru. Pe bai Llywodraeth y DU heddiw wedi llwyddo i gynnal y duedd tymor hwy mewn gwariant cyhoeddus, tuedd tymor hwy a gynhaliwyd gan lywodraethau o dan arweiniad Harold Macmillan, Edward Heath, Margaret Thatcher, John Major, yna byddai ein cyllideb tua £6 biliwn yn fwy nag ydyw mewn gwirionedd heddiw. Yn hytrach, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni Ganghellor, Philip Hammond, a ddywedodd yn ei gyllideb ar 29 Hydref bod cyni cyllidol ar ben, cyn gadael, yn gywilyddus, y bobl fwyaf anghenus yn ymdopi ar fudd-daliadau tlodi, gyda’u hincwm wedi’i rewi neu'n gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol. Canghellor a ddywedodd y bod ei gyllideb yn un a fyddai'n rhyddhau buddsoddiad i ysgogi ffyniant yn y dyfodol, ac a roddodd £2.6 miliwn yn unig o gyfalaf ychwanegol i’r Cynulliad hwn wedyn i roi sylw i'r holl anghenion buddsoddi heb eu diwallu sydd gennym ni y flwyddyn nesaf. Dyma'r cyd-destun diosgoi y lluniwyd cyllideb heddiw ynddo, ac ni ddylai neb anghofio hynny, hyd yn oed os byddwn ni'n gweld, fel ymddangosiad blynyddol Scrooge adeg y Nadolig, y Ceidwadwyr yn tynnu’r llwch oddi ar eu gwelliant blynyddol i’r gyllideb, y byddwn ni'n ei wrthwynebu unwaith eto.

Dirprwy Lywydd, rwy’n troi at ail brif ran yr hyn yr wyf i eisiau ei roi ar gofnod y prynhawn yma: y newidiadau yr wyf i'n bwriadu eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol, i'w chyhoeddi yn ddiweddarach y mis yma. Ddechrau mis Hydref, fe'i gwnaed yn eglur gan y Prif Weinidog a minnau, pe bai unrhyw adnoddau pellach ar gael i ni dros yr hydref, y byddai cyllid pellach i lywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol. Rwy’n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y trafodaethau manwl ac adeiladol ers mis Hydref, ac am y canlyniad y llwyddwyd i'w sicrhau gennym. Mae’r pecyn o fesurau ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol y flwyddyn nesaf yn cyrraedd cyfanswm o £141.5 miliwn. Mae hynny'n cynnwys setliad sydd o leiaf yn wastad o ran arian yn nhermau refeniw ar gyfer llywodraeth leol unwaith eto y flwyddyn nesaf—y drydedd flwyddyn yn olynol, Dirprwy Lywydd, pan rydym ni wedi gallu amddiffyn llywodraeth leol Cymru rhag toriadau arian parod.

Unwaith eto, byddaf yn dod o hyd i’r arian yn ganolog i bennu cyllid gwaelodol nawr na fydd yn is na -0.5 y cant, fel na fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu gostyngiadau uwchben y lefel honno. A byddwn yn gallu rhoi hwb o £100 miliwn arall dros dair blynedd i’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ychwanegol at yr ychwanegiadau at fuddsoddiad cyfalaf y llwyddais i'w cyhoeddi yn y gyllideb ar 2 Hydref.

Dirprwy Lywydd, rwy’n gwybod bod gan Aelodau ar draws y Siambr ddiddordeb mewn cymorth ar gyfer ardrethi a delir gan fusnesau bach. Mae tri chwarter o fusnesau eisoes yn derbyn cymorth gyda'r costau hyn gan y trethdalwr yma yng Nghymru. Yn ei gyllideb ar 29 Hydref, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ei fod yn bwriadu cyflwyno cynllun rhyddhad ar gyfer y stryd fawr, cynllun, wrth gwrs, sydd wedi bod ar waith gennym ni yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae cyflwyno cynllun yn Lloegr yn arwain at swm canlyniadol i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Cadarnheais i'r Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fy mod i'n bwriadu defnyddio’r swm canlyniadol llawn o £26 miliwn i gynorthwyo busnesau yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Heddiw, Dirprwy Lywydd, gallaf fynd ymhellach i hysbysu'r Aelodau fy mod i'n bwriadu defnyddio’r rhan fwyaf o'r arian hwnnw i ddarparu datblygiad estynedig a mwy hael o gynllun presennol Cymru, gan gadw’r paramedrau sylfaenol, y cytunais arnynt ar y cychwyn gyda llefarydd cyllid Plaid Cymru ar y pryd. Rwy’n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi manylion llawn y cynllun yn fuan iawn. A, Dirprwy Lywydd, gan fy mod i'n cydnabod y gall unrhyw gynllun cenedlaethol adael rhai anomaleddau ar lefel leol, rwyf i hefyd yn bwriadu cynyddu’r cyllid i awdurdodau lleol ymhellach i hybu eu gallu i ymateb i anghenion penodol trethdalwyr yn eu hardaloedd drwy gyfrwng y cynllun rhyddhad ardrethi dewisol y mae awdurdodau lleol yn ei weithredu ym mhob rhan o Gymru.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, yn y rhan hon o'r hyn sydd gennyf i’w ddweud, i nodi elfen arall yn y cytundeb sydd gennym ni gyda Phlaid Cymru yn yr ail flwyddyn hon o’r cytundeb cyllideb dwy flynedd a sicrhawyd gennym ar becyn o fesurau y llynedd, lle'r ydym ni'n rhannu buddiannau polisi. Roedd cyllideb ddrafft 2 Hydref yn cynnwys £2.7 miliwn yn ychwanegol i uwchraddio dau wersyll yr Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.

Heddiw, gallaf hysbysu'r Aelodau fy mod i'n bwriadu dyblu faint o gyllid cyfalaf sy'n cael ei neilltuo yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i fwrw ymlaen â chanlyniadau astudiaethau dichonoldeb y cytunwyd arnynt rhwng ein dwy blaid, o £5 miliwn i £10 miliwn. Rwy’n gwneud hynny oherwydd y cynnydd a wnaed o ran llunio'r astudiaethau hynny. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Gweinidog diwylliant y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am yr astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel celfyddyd gyfoes newydd i Gymru ac amgueddfa bêl-droed newydd. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer archif genedlaethol i Gymru ar gael erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae ein dwy blaid eisiau i’r gwaith hwnnw allu cael ei wneud a bydd y cyfalaf ychwanegol sylweddol hwn, yr wyf i'n ei gyhoeddi y prynhawn yma, yn helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, i drydedd ran yr hyn yr wyf i'n mynd i’w ddweud yn y rhan hon o'r ddadl ac, yn benodol, i ddarparu ymateb rhagarweiniol i argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Byddaf, wrth gwrs, yn darparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'r pwyllgor cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Y prynhawn yma, roeddwn i eisiau dweud ar unwaith fy mod i'n derbyn y cyntaf o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid y dylem ni gadw'r arfer presennol o broses gyllideb dau gam ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy’n bwriadu, hefyd, dilyn cyngor y pwyllgor o ran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a byddaf yn falch o roi i'r pwyllgor unrhyw femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd o ran rhagolygon treth annibynnol fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei awgrymu.

Dirprwy Lywydd, rhoddwyd llawer o sylw yn ystod y broses graffu ar draws pwyllgorau’r Cynulliad i wariant ataliol. Rwy’n gobeithio bod y diffiniad o atal, y cytunwyd arno mewn ymgynghoriad â chyrff trydydd sector, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y gwasanaeth tân ac eraill, wedi helpu yn rownd eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at fireinio pellach arno mewn trafodaethau â’r pwyllgorau ac eraill. Yn sicr ni fwriedir mai dyma fydd y gair olaf ar y mater hwn, ac rwy’n hyderus y bydd y broses graffu yn caniatáu i ni fynd â’r diffiniad hwnnw ymhellach. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cymryd diddordeb arbennig mewn atal, ochr yn ochr ag agweddau eraill ar y gyllideb, a diolchaf iddi hi a'i thîm am y cyngor a ddarparwyd ar gymhwysiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r broses llunio cyllideb, ac felly i'r Pwyllgor Cyllid am eu cydnabyddiaeth o'r camau ychwanegol a gymerwyd eleni i wneud y newid diwylliannol angenrheidiol o fewn Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r Ddeddf ym mhopeth a wnawn.

Llywydd, mae argymhelliad olaf y pwyllgor yn fy nychwelyd i le y dechreuais i'r ddadl hon y prynhawn yma, gan nodi'r angen am hyblygrwydd cyllidebol mewn ymateb i Brexit, ac wrth gwrs rwy’n cytuno â’r argymhelliad hwnnw. Gallai penderfyniadau a wneir yn yr ychydig wythnosau nesaf gael effaith ddwys a pharhaol ar yr adnoddau sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli i Gymru. Mae'r ansicrwydd hwnnw wedi bod yn gwmwl dros holl broses y gyllideb eleni, hyd yn oed wrth i ni yn y Llywodraeth barhau i ymroi i wneud popeth a allwn i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus ymateb i heriau gwirioneddol y presennol, gan gymryd camau i wella'r rhagolygon i ddinasyddion Cymru yn y dyfodol. Dyna mae’r gyllideb hon yn ei wneud, a gofynnaf i’r Aelodau ei chefnogi y prynhawn yma.

18:30

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Mi fydd Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, fy mod i wedi cael fy mhenodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach y tymor yma, ac felly mae hwn wedi bod yn brofiad newydd i fi, ac mae craffu ar y gyllideb ddrafft wedi bod yn gyflwyniad diddorol iawn, gawn ni ddweud, i waith y Pwyllgor Cyllid. 

Wrth gwrs, mi newidiwyd y ffordd y mae'r gyllideb ddrafft yn cael ei chraffu arni y llynedd, a dyma'r ail dro i'r Pwyllgor Cyllid gynnal gwaith craffu ar lefel uwch a strategol, gan edrych ar gynlluniau cyffredinol o ran gwariant a chodi refeniw. Fel rhan o'n gwaith craffu, fe wnaethon ni ystyried amseriad y gyllideb ddrafft, fel rŷm ni wedi clywed yn sylwadau agoriadol yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gallai cyhoeddi cyllideb ddrafft Cymru cyn cyllideb y Deyrnas Unedig achosi anawsterau. Unwaith y mae cyllideb y Deyrnas Unedig yn cael ei chyhoeddi, gall arwain at newidiadau yn y dyraniadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, ac at fwy o newidiadau yn ystod y flwyddyn—in-year changes. Fodd bynnag, fe gytunwyd bod yr arfer presennol o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft yng Nghymru cyn datganiad yr hydref gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn well er mwyn osgoi oedi yn y gwaith craffu. Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn ein hargymhelliad ni, ond wrth gwrs mi fyddwn ni yn parhau i adolygu'r trefniadau wrth fynd yn ein blaenau.

Mae ein hadroddiad ni yn gwneud cyfres o argymhellion, a byddaf yn ymdrin yn fyr â rhai o'r rhai amlycaf yn fy nghyfraniad i'r ddadl yma y prynhawn yma. Dyma, wrth gwrs, y gyllideb ddrafft gyntaf ar ôl cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru, sy'n foment gyffrous a moment hanesyddol i ddatganoli. Fe glywon ni gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau y byddan nhw'n barod erbyn 1 Ebrill, ac ar y cyfan, mae'n ymddangos bod y gwaith ar amser ac yn symud ymlaen yn dda. Erbyn hyn, dylai pawb sydd yma heddiw fod wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod iddyn nhw am eu statws fel trethdalwyr Cymreig, ond rŷm ni yn cydnabod ar yr un pryd, wrth gwrs, fod gan Gymru ffin ddeinamig, gyda thua 100,000 o bobl yn mudo yn ôl ac ymlaen bob blwyddyn. Felly, bydd monitro trethdalwr Cymru yn effeithiol yn hanfodol, ac rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn y broses yna o nodi trethdalwyr Cymreig wrth inni fynd yn ein blaenau. Mi gafodd y pwyllgor sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn talu am y gwaith yma, a'i fod e'n glir ynghylch y gwasanaeth a ddisgwylir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Roedd y pwnc o ragweld—'forecast-io'—refeniw treth yn y dyfodol hefyd yn peri pryder i'r pwyllgor. Yn yr Alban, wrth gwrs, rŷm ni wedi clywed sut roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yr OBR, a Chomisiwn Cyllidol yr Alban wedi goramcangyfrif yr incwm o £700 miliwn a £500 miliwn, yn y drefn honno. Mi ofynnwyd i'r OBR a allai hyn ddigwydd yng Nghymru, ac fe ddywedwyd y bydd mwy yn cael ei ddysgu pan fydd y wybodaeth o'r arolwg cyntaf o incwm personol ar gael, tra dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym ni fod y rhesymau dros y goramcangyfrif yn yr Alban yn parhau yn anhysbys.

18:35

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Er ein bod ni wedi cael sicrwydd gan yr Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn gweithio gyda'i gymheiriaid yn yr Alban i ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yno, ac er ein bod yn cydnabod bod y fframwaith cyllidol yn darparu amddiffyniad i ni yn y flwyddyn gyntaf, mae angen i'r gwaith yma gael ei wneud yn iawn ac yn dda, neu, wrth gwrs, mi fydd goblygiadau difrifol amlwg i ni yng Nghymru o'i beidio â'i gael yn iawn. 

Y llynedd, fe ddywedodd yr OBR wrth y pwyllgor fod amseriad cyllideb Cymru yng nghyswllt datganiad yr hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn 'heriol'. Wel, bydd yr OBR nawr yn rhoi amcan ffurfiol o refeniw treth yng Nghymru, ac mae'r pwyllgor yn cydnabod y manteision o gael yr OBR i wneud hyn, ond rŷm ni yn parhau ychydig yn bryderus. Rŷm ni'n credu ei bod yn hollbwysig bod y gwaith o nodi trethdalwyr ac o gynnal rhagolygon treth yn cael ei wneud yn drylwyr i Gymru, ac rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr holl waith a wneir gan yr OBR a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cael yr un flaenoriaeth â'r gwaith maen nhw'n ei wneud yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig.

Y llynedd, craffodd y Pwyllgor Cyllid ar y rhagolygon treth, ac mi wnaed argymhellion mewn perthynas â darparu data penodol i Gymru. Fe gawsom ni dystiolaeth eto eleni ynghylch y mater yma. Er bod y pwyllgor yn cydnabod bod goblygiadau o ran adnoddau i lunio data ychwanegol, wrth i'r amser fynd heibio, rŷm ni yn credu bod cael gwell data penodol i Gymru yn hanfodol er mwyn bod yn sail gref i benderfyniadau ar bolisi treth ac i ragolygon treth Cymru. 

Wrth ystyried y gyllideb ddrafft hon a'r blaenoriaethu sy'n cael eu hamlinellu ynddi, mi roedd y pwyllgor yn ymwybodol, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi clywed yn y sylwadau agoriadol, fod y gyllideb wedi cael ei llunio yng nghyd-destun 10 mlynedd o gyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, gyda phwysau amlwg o gyfeiriad y gwasanaeth iechyd, sy'n galw'n barhaus am ragor o adnoddau. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor hefyd yn cydnabod yr effaith sy'n dod o flaenoriaethu'r prif grŵp gwariant—y MEG—iechyd yn barhaus dros bortffolios eraill. Fe awgrymodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y dylid ond dyrannu rhagor o arian i'r maes iechyd ar yr amod mai ar gyfer gweithgareddau ataliol roedd hynny, a bod arian yn cael ei wario mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill. Mae'r pwyllgor yn credu bod yr awgrym hwn yn un defnyddiol, ac rŷm ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn.

Fe roddodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol dystiolaeth ynghylch y cysylltiadau yn y gyllideb ddrafft â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd, wrth gwrs. Roedd y comisiynydd o'r farn bod cynnydd yn cael ei wneud ond bod angen rhagor o newid er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn rhan annatod o ddiwylliant Llywodraeth Cymru. Rŷm ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu mor llawn â phosibl â'r comisiynydd i greu'r newid diwylliannol yma rŷm ni am ei weld, a'r newid diwylliannol y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyfeirio ato yn gynharach.

Fe arweiniodd adborth gan randdeiliaid, a'r pryderon niferus a fynegodd pwyllgorau'r Cynulliad ynghylch ansawdd asesiadau effaith, at fabwysiadu dull trawsbynciol newydd o graffu ar y gyllideb eleni. Fe gyfarfu'r Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cyd yn ystod y cylch cyllideb hwn er mwyn craffu ar ddull Llywodraeth Cymru o asesu effaith ei chyllideb ar blant, ar genedlaethau'r dyfodol ac ar gydraddoldeb. Mae'r tri phwyllgor wedi cytuno i ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn y sesiwn benodol honno, ac i adrodd ar y cyd yn y flwyddyn newydd, gyda'r bwriad, wrth gwrs, o ddylanwadu, gobeithio, ar gyllidebau yn y dyfodol.

Eleni, fe gafodd y gwaith o graffu ar y gyllideb ei osod yn erbyn diffiniad hirddisgwyliedig o wariant ataliol, fel y clywsom ni gynnau, ac fe glywsom fod y diffiniad yma wedi'i lunio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Fodd bynnag, ni welsom dystiolaeth helaeth bod dyraniadau'n cael eu hystyried yn sgil y diffiniad, ac mae'n ymddangos bod penderfyniadau gwariant yn dal, yn rhy aml o lawer, yn cael eu gwneud ar eu pennau eu hunain.

Mae'r pwyllgor o'r farn bod gwariant ataliol effeithiol yn gofyn am ddull integredig, ac y bydd yn cymryd amser i gynnwys gwariant ataliol o fewn proses y gyllideb. Rŷm ni'n derbyn hynny. Rŷm ni hefyd yn cydnabod y bydd y diffiniad o wariant ataliol yn cael ei ddiweddaru yng ngoleuni profiad, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at weld gwelliannau yn y modd y mae'r dyraniadau yn y gyllideb yn cysylltu â'r diffiniad o wariant ataliol mewn cyllidebau yn y dyfodol.

Nawr, fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gadarnhaol ynghylch y cynllun gweithredu ar yr economi. Fodd bynnag, nododd tystiolaeth hefyd ei bod yn anodd nodi gwariant ar feysydd penodol o fewn tablau'r gyllideb, a'i bod yn anodd alinio polisïau o fewn y gyllideb. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r gyllideb fod yn fwy eglur, felly, gan sicrhau mwy o dryloywder i alluogi rhanddeiliad i briodoli buddsoddiad yn y cynllun gweithredu ar yr economi i'r tablau yn y gyllideb. Byddai'r pwyllgor hefyd yn hoffi gweld ystyriaeth bellach i sut y gellir blaenoriaethu'r gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol ledled Cymru wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â buddsoddi mewn seilwaith.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'r cyllid canlyniadol a fydd yn deillio o gynllun rhyddhad ardrethi busnes y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi Cymru. Ac rŷm ni wedi clywed ychydig mwy o fanylion yn fan hyn y prynhawn yma, ac mi fyddwn ni'n edrych ymlaen, wrth gwrs, i gael y manylion yna yn llawn, maes o law.

Roedd yr ansicrwydd parhaus o amgylch Brexit yn golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n anodd craffu'n effeithiol ar gynlluniau penodol y Llywodraeth i ymateb i Brexit. Roedd y dystiolaeth a gawsom ni yn dangos pryder nid yn unig am gynlluniau cyllido ond ynghylch materion ehangach, megis trefniadau gofal iechyd a sefydlogrwydd economaidd, ac rŷm ni yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried y materion yma. Nawr, mi ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen hyblygrwydd i ymateb i Brexit, ac mi gefnogodd y pwyllgor y dull yma. Fodd bynnag, byddem ni hefyd yn awyddus i weld manylion ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit yn y gyllideb atodol gyntaf y flwyddyn nesaf, wrth gwrs.

Eleni, mi fu'r pwyllgor yn elwa o gyngor arbenigol Dr Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Ac yn ddiddorol, fe roddodd Dr Poole hefyd dystiolaeth i'r pwyllgor ar y gyllideb ddrafft. Nawr, mae hon yn rôl ddeuol eithaf anarferol, ond i fi, mae hyn yn dangos hefyd, wrth gwrs, fod angen inni ehangu argaeledd arbenigwyr cyllid ledled Cymru. Wrth i ddatganoli cyllidol ddatblygu, mae angen inni sicrhau bod gennym ni gymdeithas ddinesig sy'n barod i gymryd rhan yn y broses ac, wrth gwrs, sy'n abl i wneud hynny.

I gloi, felly, mi hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd yn ystod pob cam o'r broses graffu yma: aelodau'r pwyllgor wrth gwrs, y clercod a'r tîm ymchwil, a hefyd y rhai a ddaeth i'r digwyddiad rhanddeiliad, ac i'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ffurfiol. Rŷm ni'n ddiolchgar iawn am waith ein holl randdeiliaid wrth ein helpu ni i lunio ein canfyddiadau, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed ymhellach, neu weld ymhellach, ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ni pan ddaw'r amser. Diolch.

18:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant. Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn diwallu anghenion pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, ac a gaf i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn fy enw i?

Dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet ei araith drwy gyfeirio at gyd-destun y gyllideb hon a’r cyd-destun y bu'n rhaid iddo ei llunio ynddo. Cyfeiriodd lawer at gyni cyllidol a'r heriau y bu'n rhaid i Lywodraeth y DU eu hwynebu, ac, o ganlyniad, y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu hwynebu o ganlyniad i'r pwysau ar gyllid cyhoeddus, ond ni chyfeiriodd ar unrhyw adeg at y ffaith mai’r rheswm pam roeddem ni’n gorfod ymdopi â chyni cyllidol yn y blynyddoedd diwethaf oedd o ganlyniad i gyflwr trychinebus cyllid cyhoeddus a adawyd gan Gordon Brown ac Alistair Darling yn ystod cyfnod y Llywodraeth Lafur.

Nawr, gadewch i mi roi ychydig mwy o fanylion i chi am y cyd-destun y lluniwyd y gyllideb hon ynddo, oherwydd er eich bod chi wedi clywed bod cyni cyllidol yn parhau, ni allai dim fod yn bellach o'r gwirionedd. Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o dros £16 biliwn y flwyddyn nesaf. Dyna’r gyllideb fwyaf erioed, y gyllideb fwyaf y mae Llywodraeth Cymru erioed wedi ei derbyn, ac mewn gwirionedd bydd y gyllideb wedi cynyddu dros gyfnod yr adolygiad o wariant, uwchlaw chwyddiant, rhwng 2015 a 2020.

Eleni yw'r gyllideb fwyaf yn hanes datganoli, ac mae'r trefniadau ariannu presennol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn golygu bod Cymru yn cael £1.20 i’w wario yma ar gyfer pob punt sy'n cael ei gwario ar faes datganoledig yn Lloegr. Ar ben hynny, mae’r penderfyniadau gwariant diweddar a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn ei gyllideb hydref yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru yn mynd i gynyddu £550 miliwn—dros £0.5 biliwn erbyn 2021. Ac yn ogystal â’r arian ychwanegol hwnnw, mae Llywodraeth y DU yn diddymu tollau pontydd Hafren, a disgwylir i hynny roi hwb o £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru bob blwyddyn. Mae eisoes wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad bargen twf y canolbarth, ac mae wedi addo, yn wahanol i Lywodraeth Cymru, £120 miliwn ar gyfer bargen twf y gogledd, ac rwy’n meddwl ei bod hi'n hen bryd i chi roi eich llaw yn eich poced i roi rhywfaint o arian ar y bwrdd hefyd.

Felly, mae gennych chi gyllideb sy'n cynyddu gan San Steffan ac mae gennych chi hyblygrwydd newydd o ran y pwerau trethu a ddatganolwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU a dyna, rwy’n credu, yw’r cyd-destun yr ydych chi'n llunio eich cyllideb ynddo ac rwy’n credu ei fod yn rhoi cyfle i chi—[Torri ar draws.]—i wneud pethau'n wahanol. Rwy’n hapus i dderbyn ymyriad.

18:45

A ydych chi'n derbyn neu’n credu nad yw’r gyllideb nawr 5 y cant yn is nag ydoedd yn 2010-11? Onid ydych chi’n cytuno â hynny?

Rwy’n cytuno mai hon yw’r gyllideb fwyaf a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru erioed.

Dyna'r sefyllfa.

Nawr, o fis Ebrill, fel rydym ni wedi ei glywed eisoes, bydd gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau treth newydd—mwy o ysgogiadau treth nag erioed o'r blaen i gynhyrchu rhywfaint o gyfoeth i economi Cymru, ond yn hytrach na bachu ar y cyfle y mae’r ysgogiadau treth hynny’n ei gynrychioli, i roi hwb i’n heconomi, mae Llywodraeth Cymru wedi ildio i demtasiwn draddodiadol Llafur o drethu a gwario. Gadewch i ni gymryd yr ardreth newydd o 6 y cant, er enghraifft, yr ydych chi’n ei gorfodi ar werthiannau tir masnachol gwerth dros £1 filiwn—cam y dywedodd syrfewyr siartredig Cymru oedd, ac rwy’n dyfynnu, yn 'wallgof'. Rhybuddiwyd gannddynt, ac rwy’n dyfynnu, y byddai'n gwneud Cymru yn lle llai deniadol yn fasnachol i fuddsoddi ynddo ac y byddai’n niweidio'r economi. Dyna'r math o ideoleg trethu a gwario gosbol y byddech chi'n ei disgwyl gan blaid sydd, dro ar ôl tro, wedi gwneud llanastr llwyr o'n cyllid cyhoeddus. Gallai'r gyllideb hon fod wedi helpu i ddatrys y pryderon hynny a helpu i ddenu mwy o fusnesau i adleoli i Gymru, ond nid yw wedi gwneud hynny; oherwydd yn hytrach, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi eu hanwybyddu nhw. Nid dyma'r math o sosialaeth unfed ganrif ar hugain yr ydych chi'n honni eich bod yn ei gynrychioli; dyma'r math o sosialaeth sy’n atal cyfleoedd, yn dal Cymru yn ôl ac yn tagu cyfleoedd bywyd y genhedlaeth nesaf.

A beth am yr ysgogiadau treth eraill hyn sydd ar gael i chi? Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi eich rhybuddio, yn gwbl briodol, am godi treth incwm Cymru, gan ddweud y ddylai fod yn ddewis olaf ac nid ymateb cyntaf. Ac rwy’n falch iawn o weld, yn eich cyllideb, nad oes unrhyw gynigion ar hyn o bryd i gynyddu trethi incwm Cymru. Ond, wrth gwrs, yr hyn na wnaethoch chi roi sicrwydd yn ei gylch yw na fyddant yn cynyddu yn y dyfodol—dim ond am y flwyddyn ariannol nesaf yr ydych chi wedi sôn.

Rydych chi'n aelod o blaid a ymrwymodd ei hun mewn maniffesto cyn etholiadau Cynulliad 2016 nad oeddech chi'n mynd i gynyddu treth incwm. A wnewch chi roi'r ymrwymiad hwnnw i ni yn bersonol yma eto heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet? Dim ond cyfran fach o drethdalwyr cyfradd uwch ac ychwanegol y DU sydd gennym ni ac rwy’n meddwl ei bod hi'n hynod debygol y byddai’r unigolion hynod symudol hyn yn adleoli o Gymru, gan arwain at golli refeniw i goffrau Cymru a chan arwain hefyd at fuddsoddiad gan yr unigolion hynny yn mynd i fannau eraill. Ac mae’n wir, wrth gwrs, am drethi eraill hefyd.

Rwy’n falch iawn o glywed eich bod chi wedi cael sgwrs, o’r diwedd, am yr angen i wneud rhywbeth ychwanegol am ardrethi busnes, oherwydd, fel y gwyddom, ar hyn o bryd, mae gennym ni'r gyfundrefn ardrethi busnes leiaf deniadol yn y Deyrnas Unedig, o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol gyda’r lluosydd.

Rwy’n edrych ymlaen—rydych chi wedi dangos tipyn o goes i ni o ran eich cynlluniau i ddefnyddio swm canlyniadol o £26 miliwn yr ydych chi wedi ei gael gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo'r sefyllfa gydag ardrethi busnes, ond nid ydych chi wedi rhoi mwy o fanylion i ni am hynny, a hoffwn glywed rhagor o fanylion yn eich ymateb i'r ddadl heddiw.

Welwch chi, rydym ni’r Ceidwadwyr yn gwybod pan fyddwch chi'n cynorthwyo busnesau, rydych chi mewn gwirionedd yn helpu i ysgogi’r holl economi ac yn helpu i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus gan mai busnesau preifat sy'n creu’r cyfoeth, sy’n talu’r trethi, sy’n cyflogi pobl sydd hefyd yn talu eu trethi, a’r trethi hynny sy’n talu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n eu mwynhau yng Nghymru, a’r staff sy'n gweithio ynddynt.

Felly, mae'r gyllideb hon yn siom mewn sawl ffordd, yn enwedig i fusnesau Cymru. Mae hefyd yn siom, wrth gwrs, i brynwyr tro cyntaf. Prin iawn y mae'n ei wneud i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai, y gwaith adeiladu tai sydd ei angen arnom ni ac y cyfeiriwyd ato yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw. Nid yw'n gwneud llawer iawn yn fwy o ran helpu pobl i gael eu troed ar yr ysgol dai chwaith. A gallech chi fod wedi cymryd camau pellach i gynorthwyo pobl drwy estyniadau i’r lwfans o ran y dreth trafodiadau tir er mwyn helpu pobl i ymuno â'r ysgol dai. Ond wnaethoch chi ddim. Wnaethoch chi ddim. Mae'n gyfle arall a gollwyd.

I droi at y GIG, rydym ni wedi croesawu’r buddsoddiad ychwanegol y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn y gwasanaeth iechyd gwladol, ond mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr braidd. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod gan Gymru yr anrhydedd o fod â'r unig Lywodraeth erioed yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig sydd wedi torri cyllideb gwasanaeth iechyd gwladol. Ac mae etifeddiaeth eich toriadau llym mewn gweinyddiaeth flaenorol i gyllideb y GIG yn fyw gyda ni heddiw, oherwydd o ganlyniad i'r toriadau hynny—[Torri ar draws.] Roeddech chi’n sôn am sut y mae cyllidebau yn newid dros gyfnod os byddant yn cyd-fynd â chwyddiant. Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi, pe na baech chi wedi torri cyllideb y gwasanaeth iechyd gwladol yn y flwyddyn y gwnaethoch chi dorri’r gyllideb honno, gyda chefnogaeth Plaid Cymru dylwn ychwanegu, byddai cyllideb y gwasanaeth iechyd gwladol—pe baech chi wedi cadw i fyny â’r cynnydd mewn gwariant yn Lloegr—£1 biliwn yn iachach heddiw yng Nghymru nag y mae ar hyn o bryd. Oherwydd y gwir yw, dros y chwe blynedd diwethaf, bod y gyllideb wedi cynyddu fwy na dwywaith mor gyflym o ran y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ag y mae wedi ei wneud yng Nghymru, ac mae'n eglur iawn—[Torri ar draws.] Mae'n eglur iawn—ffeithiau yw’r rhain. Nid ydych chi'n hoffi'r ffeithiau—[Torri ar draws.] Nid ydych chi'n hoffi'r ffeithiau—[Torri ar draws.] Nid ydych chi'n hoffi'r ffeithiau, ond dyna'r gwir. Mae'n eglur iawn mai’r Blaid Geidwadol hon sy’n hyrwyddo’r gwasanaeth iechyd gwladol, nid y Blaid Lafur yma yng Nghymru. Byddaf yn hapus i dderbyn yr ymyriad.

18:50

Hoffwn i ddweud: a ydych chi'n gresynu’r pleidleisiau a wnaethoch yr wythnos diwethaf a'r wythnos cynt pan roeddech chi'n gofyn am fwy o arian ar gyfer addysg bellach a mwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, er mai dim ond o'r gwasanaeth iechyd y gallai hwnnw fod wedi dod?

Rydym ni'n hapus i hyrwyddo anghenion ein gwasanaeth iechyd gwladol ac i ymgyrchu am fwy o arian. Efallai eich bod chi’n hoffi amddiffyn torri cyllideb y gwasanaeth iechyd gwladol. Dydw i ddim.

Nawr, roeddwn i'n falch o glywed eich cyfeiriadau at yr angen i gymryd golwg ar y ffordd yr ydym ni'n buddsoddi mewn gwariant ataliol, oherwydd rydym ni'n gwybod nad dim ond mater o gyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol yw hyn, mae hefyd yn ymwneud â chyllid i’r gwasanaethau hynny sy'n atal pobl rhag gorfod defnyddio’r gwasanaeth iechyd gwladol hefyd. Ac rwy’n falch eich bod chi wedi gwrando ar alwadau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i roi ystyriaeth fwy difrifol i'r sefyllfa honno, oherwydd rydym ni'n gwybod bod ein cynghorau yn arbennig yn wynebu pwysau ychwanegol sylweddol. Mae’r ddemograffeg yn eu hardaloedd yn newid, a cheir mwy o alw am ofal cymdeithasol. Ac eto rydym ni'n dal i’ch gweld chi’n torri arian. Rydych chi'n sôn am gyllideb wastad. Y gwir yw bod cyllidebau llawer o awdurdodau lleol yn lleihau’n sylweddol o ganlyniad—[Torri ar draws.]—o ganlyniad i’ch cyllideb.

Ac mae’r toriadau hynny hefyd yn effeithio ar ein hysgolion. Mae cyllid i ysgolion yng Nghymru, fel y gwyddom eisoes, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri/Undeb yr Athrawesau, £678 y disgybl y flwyddyn yn is na dros y ffin yn Lloegr, ac mae hynny er eich bod chi'n cael—[Torri ar draws.]—20 y cant yn ychwanegol ar ben bob punt—[Torri ar draws.]—sy'n cael ei gwario yno. Peidiwch â dadlau gyda mi. Dadleuwch gyda Chymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau—[Torri ar draws.] Mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru i dorri pethau fel y grant gwella addysg eleni a'r flwyddyn nesaf yn siŵr o ehangu'r bwlch hwnnw.

Nawr, mae hon yn gyllideb, yr ydych chi wedi ei chyflwyno i'r tŷ hwn, sy'n gwneud toriadau mewn termau real unwaith eto i'r gyllideb addysg, a bydd ysgolion yn derbyn £12 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf nag yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rydym ni eisoes yn gwybod bod 40 y cant o ysgolion eisoes yn gweithredu gyda diffyg yn y gyllideb, ac mae’n edrych yn debygol mai dim ond cynyddu wnaiff y ffigur hwnnw. A yw’n unrhyw syndod bod Estyn wedi dod i'r casgliad heddiw bod gan hanner ein hysgolion uwchradd ddiffygion? A yw'n unrhyw syndod, pan fo ysgolion yn wynebu pwysau o'r fath? Ac mae hyn yn dod gan Lywodraeth yr addawodd ei Phrif Weinidog i gynyddu buddsoddiad yn ein hysgolion pan ddaeth yn Brif Weinidog yn ôl yn 2009. Y gwir yw mai’r oll y mae wedi ei wneud yw torri, torri a thorri o ran eu cyllideb. Yn wir, rydym ni wedi cael toriadau termau real o bron i 8 y cant i'r gwariant cyllidebol gros ar gyfer addysg o 2010-11 hyd yma. Sefyllfa gwbl warthus.

Gallwn ddweud mwy, ond mae'r cloc yn tician—[Torri ar draws.]

A dweud y gwir, fel sydd wedi digwydd mewn blynyddoedd blaenorol, mae manylion y gyllideb mor annelwig ac anodd eu datod a’u dadansoddi ei bod hi’n anodd iawn gwybod pa erchyllterau eraill sydd o dan yr wyneb.

Felly, i gloi, mae'r gyllideb hon yn gyfle a gollwyd i Gymru. Mae gennym ni'r lefelau uchaf erioed o gyllid, cynnydd i'r cyllidebau sy’n dod i Lywodraeth Lafur Cymru, a gallent fod wedi manteisio ar y cyfle i gefnogi busnesau, i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf ac i wneud mwy i gynorthwyo'r rhai sydd mewn angen. Ond yn lle hynny, mae gennym ni gyllideb ger ein bron sy’n mynd i rwystro busnesau, sy’n torri cyllid i'n hysgolion ac sy’n methu â buddsoddi yn y gwasanaethau ataliol sydd eu hangen ar bobl agored i niwed. Mae'n gyllideb gan Lywodraeth sydd, ar ôl 20 mlynedd, wedi rhedeg allan o stêm a rhedeg allan o syniadau. Byddwn yn pleidleisio yn ei herbyn, ac rydym ni'n gobeithio y bydd eraill yn gwneud hynny hefyd.

18:55

Mae hon yn gyllideb gyni. Ddwywaith, gall pob un ohonom ni weld effaith agenda cyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU, sydd wedi lleihau grym gwario cyffredinol Llywodraeth Cymru yn sylweddol, ac ni wnaiff dim o fwg a drychau Darren Millar guddio realiti’r Llywodraeth Dorïaidd ddidrugaredd honno yn San Steffan. Ond yr ergyd ddwbl yn y gyllideb hon, wrth gwrs, yw’r ffaith bod Llafur wedi gwneud penderfyniadau gwleidyddol yma sy'n dyfnhau effaith toriadau hirdymor Llywodraeth y DU, yn enwedig yng nghyd-destun dyraniadau cyllideb llywodraeth leol. A hyn yng nghyd-destun cynnydd, a dweud y gwir, i gyfanswm y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nawr, do, bu newid bach ers cyhoeddi’r gyllideb ddrafft gyntaf, gyda dyraniad symiau canlyniadol newydd o gyllideb y DU sy’n llacio rhyw fymryn ar y gafael haearnaidd ar gynghorau Cymru, ond mae'n dal i fod yn afael haearnaidd, serch hynny, ac roedd y gyllideb hon yn gyfle i roi adnoddau o'r newydd i wasanaethau lleol a allai arwain at fanteision i wasanaethau cyhoeddus yn ehangach, ac rwy’n gresynu na fanteisiwyd ar y cyfle hwnnw.

Wrth gwrs, mae gan y Llywodraeth hon fwyafrif, nawr, felly mae ein pwerau ni, fel gwrthbleidiau, yn gyfyngedig. Dyna'r gwir amdani; nid ydym ni mewn sefyllfa yn gyfunol i bleidleisio yn ei herbyn, ac nid yw’r ffordd yr ydym ni’n pleidleisio ar y meinciau hyn yn effeithio, yn anffodus, ar allu cyffredinol y Llywodraeth i basio ei chyllideb. Rydym wedi ein rhwymo, â chytundeb cyllideb sydd ar fin dod i ben, i ymatal heddiw, ond er ein bod ni o’r farn bod cytundeb cyllideb yn rhywbeth difrifol iawn yn wir, mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni o dan bwysau sylweddol, gan gynnwys gan gyd-Aelodau Llafur y Gweinidog cyllid, i bleidleisio yn erbyn. Ond fy ngobaith yw, yn ysbryd y ddeialog gadarnhaol a gafwyd rhwng y Gweinidog cyllid a mi a'm rhagflaenwyr, fel llefarwyr cyllid Plaid Cymru—a diolchaf iddo am y ffordd aeddfed ac adeiladol y mae trafodaethau wedi cael eu cynnal—y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach rhwng nawr a chyhoeddi'r gyllideb derfynol i roi cyfle i lywodraeth leol. Ni allwn barhau â’r toriadau termau real sy'n effeithio'n uniongyrchol ar wariant ar addysg ac ar wasanaethau cymdeithasol, gan arwain at effeithiau anuniongyrchol niweidiol ar gyllidebau iechyd. Nid oes gennych chi lawer o hyblygrwydd—rwy’n deall hynny—ond mae hynny’n golygu yw bod yn rhaid i unrhyw hyblygrwydd sydd gennych chi gael ei ddefnyddio yn fanwl gywir, ac, yn anffodus, mae gwasanaethau lleol yn cael ergyd galed, fel y mae pethau.

Nid dim ond Aelodau Plaid Cymru sydd wedi bod yn datgan pryder am fethiant y Llywodraeth i gydnabod y pwysau ar lywodraeth leol. Mi glywsom ni Barbara Jones, dirprwy arweinydd cyngor Caerffili, yn ddiweddar yn dweud na allwn ni bellach roi’r bai i gyd ar y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain. Mae'n ei brifo i ddweud, fel sosialydd pybyr, nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn deg â nhw. Dyna’r farn ar draws llywodraeth leol yng Nghymru. Nid mater o gwyno ac nid mater o wneud gofynion afresymol ydy hyn gan gynghorwyr. Ni allwn ni eu diystyru nhw, fel y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, yn cymharu cynghorwyr i Oliver Twist. Nid ydy hynny’n dderbyniol. Gofalu am eu hetholwyr, am bobl ar hyd a lled Cymru, y mae ein cynghorwyr ni ledled y wlad. Mater ydy hyn o sylweddoli goblygiadau go iawn ein gallu ni i ddarparu gwasanaethau sylfaenol i’n cymunedau. A llymder Llafur, fel rydw i'n ei egluro, ydy hyn y tro yma.

Ond mae’r gyllideb yma hefyd rydw i'n meddwl yn adlewyrchu’r problemau ehangach yn y Llywodraeth a’i methiant i feddwl a gweithredu’n holistaidd pan mae’n dod at benderfyniadau cyllideb a methu â gweithredu’n ddigon ataliol. Mae torri arian o wasanaethau ataliol hanfodol llywodraeth leol wrth gwrs yn mynd i gynyddu’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd ni. Rydym ni’n gweld hyn yn ymateb coleg brenhinol y meddygon teulu i’r gyllideb hefyd, sy’n nodi’r pwysau aruthrol sydd ar wasanaethau gofal sylfaenol, wedyn, oherwydd diffyg cynllunio hirdymor a diffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau ataliol. Mae angen newid y ffordd rydym ni’n cynllunio cyllidebau ar draws pob maes a sut maen nhw’n dod at ei gilydd. Mae angen mwy o uchelgais, golwg hirdymor a chydweithio rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus. Ac mae angen hefyd yn sicr—mi fyddwn ni’n dymuno y gallwn ni gefnogi hynny—lawer mwy o ffocws drwy'r gyllideb ar daclo tlodi. Mi ddywedodd Victoria Winckler o'r Bevan Foundation wrth y Pwyllgor Cyllid ei bod hi'n methu â gweld strategaeth wrth-dlodi wedi ei gwreiddio yn ddigon dwfn yn y gyllideb yma. Yn ei geiriau hi:

'Mae angen iddo gael ei ymgorffori yn y blaenoriaethau a'i ymgorffori yn y pwyslais.'

Dydy o ddim, meddai hi.

Addysg bellach, wedyn—bythefnos yn ôl, mi bleidleisiodd y Senedd o blaid cynyddu'r arian sydd ar gael i addysg bellach. Mae angen i'r Llywodraeth barchu ewyllys y Senedd mewn penderfyniadau fel hyn. Dyna oedd fy neges i at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn llythyr yn dilyn y bleidlais honno. Rydw i wedi derbyn ymateb ddoe yn nodi bod arian ychwanegol tuag at gyflogau yn benodol ond nid wyf i'n credu bod hynny'n ddigon nac yn adlewyrchu ysbryd y bleidlais yna bythefnos yn ôl. Felly, mi hoffwn i ofyn iddo fo, felly: beth ydy bwriad y Llywodraeth i weithredu yn glir ar y bleidlais honno a faint o arian ychwanegol all addysg bellach ei ddisgwyl?

Mae yna gytundeb wedi bod gennym ni—mae cytundeb ddwy flynedd ar hyn o bryd, a hwn ydy'r tro olaf y bydd Plaid Cymru yn cydweithio â'r Llywodraeth ar gyllideb yn y Cynulliad yma, rydw i'n siŵr, felly mi hoffwn i fachu ar y cyfle yma i adlewyrchu dipyn ar y cytundebau hynny. Rydym ni'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni drwy'r cytundebau—£0.5 biliwn o ymrwymiadau ariannol tuag at ein blaenoriaethau o'n maniffesto ni yn 2016, mwy nag y mae unrhyw wrthblaid yn y Cynulliad erioed wedi ei sicrhau. Mae'n cynnwys £40 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'n golygu bod addysg feddygol yn cael ei chyflwyno ym Mangor o'r flwyddyn nesaf. Mae yna fwy o gefnogaeth i fusnesau Cymru baratoi ar gyfer Brexit. Mae yna arian sylweddol i wersylloedd yr Urdd, diolch i gytundeb Plaid Cymru hefyd. Ac rydw i'n falch o glywed cadarnhad y prynhawn yma o ragor o arian cyfalaf i ddatblygu cynlluniau am amgueddfa bêl-droed ac oriel gelf fodern, a oedd yn destun astudiaethau dichonoldeb drwy ein cytundeb ar y gyllideb. Dyma ydy delifro fel gwrthblaid, dyna ydy bod yn gyfrifol, dyna ydy ystyr gweithio mewn ffordd aeddfed er mwyn sicrhau gwelliannau i fywydau pobl bob dydd—y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli. Ond, fel rydw i'n ei ddweud, cyllideb Llafur ydy hi, a Llafur fydd yn penderfynu a ydy'n cael ei phasio fel ag y mae ai peidio erbyn hyn.

Rydym ni'n symud i gyfnod newydd rŵan, wrth gwrs, yn ein hanes fel cenedl, yn hanes datganoli. Mae datganoli pwerau trethi, yn hollol gywir, yn mynd i arwain at fwy o sgriwtini a sgriwtini mwy manwl o'n prosesau a'r penderfyniadau cyllidol sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Nid corff gwariant yn unig ydy'r Llywodraeth bellach, ac mi ydym ni'n esblygu i gyfnod lle bydd y balans o dderbyniadau i goffrau Cymru yn cael ei gydbwyso a'i gyd-sgriwtineiddio, os liciwch chi, ochr yn ochr â'r penderfyniadau gwario. Fel yna y mae hi i fod, ond mae'n golygu cyfrifoldeb dwys iawn ar ysgwyddau'r Ysgrifennydd cyllid, a dyna pam fod cael y cydbwysedd yn iawn a chael y blaenoriaethau’n iawn mor bwysig, a dyna pam y siom am y setliad llywodraeth leol drafft yn benodol, a pham yr apêl am ail ystyried, hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg.

Mae yna rai trethi wrth gwrs wedi cael eu datganoli yn barod. Mae'n deg i ddweud, rydw i'n meddwl, am ein gwaith ni yn y Pwyllgor Cyllid, ei bod hi i raddau helaeth yn gynnar i asesu'r effaith y mae'r trethi newydd hynny yn ei chael ar ein pŵer gwario ni a phŵer gwariant Llywodraeth Cymru ar y penderfyniadau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd. Mi fydd cymryd cyfrifoldeb, wrth gwrs, am gyfran y cyfraddau treth incwm yn gam allweddol a sylweddol pellach ymlaen. Mae o'n gam rydw i a'm phlaid wedi ei gefnogi yn hir. Mae yna elfennau o risg, wrth gwrs, fel y mae'r Alban wedi'i brofi yn ddiweddar, ond nid oes gen i amheuaeth y bydd y cymhelliad yno rŵan i'r Lywodraeth arloesi a chodi'r bar o ran targedau perfformiad economaidd, codi'r bar o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni drwy ei gyllideb. Mae hefyd yn glir nad y Llywodraeth Lafur fydd y rhai i ddelifro yr uchelgais angenrheidiol honno.

19:00

Diolch i'r Gweinidog Cyllid am gyflwyno'r ddadl am y gyllideb heddiw. Wrth gwrs, rydym ni'n cytuno â rhai agweddau ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth. Mae’r newyddion a gawsom—. Dywedodd Mark Drakeford heddiw y bydd y swm llawn o’r cyllid canlyniadol o gynllun rhyddhad y stryd fawr Llywodraeth y DU—y bydd y swm llawn yn cael ei wario yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion i'w groesawu. Er, fel yr ychwanegodd Darren Millar yn ei gyfraniad, bydd angen mwy o fanylion arnom ni am hynny.

Y cytundeb gyda Plaid—unwaith eto, gwnaeth Mark Drakeford y pwynt hwn, y mae Rhun newydd gyfeirio ato. Ceir astudiaethau dichonoldeb ar ddau brosiect diddorol ac addawol—yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol a’r oriel celfyddyd fodern. Wrth gwrs, mae’n ddigon posibl y gallem ni gefnogi’r cynlluniau hynny; maen nhw'n swnio’n hynod addawol. Unwaith eto, byddwn yn cymryd golwg ar y manylion wrth i ni symud ymlaen.

Ymlaen at bwyntiau ehangach, rydym ni'n symud mwy a mwy erbyn hyn i sefyllfa lle mae gwariant ar iechyd yn llyncu bron i hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, iechyd yw’r prif faes gwariant ac mae’n un sy’n destun graddau helaeth o bryder cyhoeddus. Y broblem yw bod gwariant ar iechyd yn chwyddo ar lefel uwch na gwariant cyffredinol y Llywodraeth, ac yn amlwg, ni all hynny barhau am byth; nid yw’n gynaliadwy. Felly, ar ryw adeg, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r pwyntiau a wnaed gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn y gorffennol, a gefnogir erbyn hyn gan lawer o bobl eraill o wahanol bleidiau gwleidyddol, a throi at wariant ataliol mwy effeithiol, a fydd yn arbed arian i ni yn yr hirdymor. Mae'n beth da bod diffiniad a gytunir erbyn hyn o beth yw gwariant ataliol mewn gwirionedd, ond, wrth gwrs, mae hwn yn dal i fod yn fater cymhleth. Rydym ni wedi clywed bod y diffiniad yn agored i newid. Mae angen monitro’r holl sefyllfa, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y mater hirdymor yn dechrau cael sylw nawr o leiaf. Ond rydym ni'n mynd i fod eisiau gweld dull trawsbynciol gan Lywodraeth Cymru a bydd angen i ni fonitro hyn yn ofalus yn y dyfodol i weld a oes cydymffurfiad â'r egwyddor gwariant ataliol ym mlynyddoedd y dyfodol.

Yn gyffredinol, rydym ni'n gweld pethau da ynddi, fel y dywedais, er ei bod yn ymddangos bod llawer o besimistiaeth. Dywedodd Mark Drakeford bod y gyllideb wedi cael ei llunio o dan ddau gysgod cyni cyllidol a Brexit. Byddai’n well gen i beidio â sôn gormod am y meysydd hynny gan eu bod nhw bob amser yn cael llawer o sylw gan bleidiau eraill ac rydym ni wedi cael dadl Brexit eisoes heddiw. Cyfeiriodd Darren Millar at erchyllterau o dan yr wyneb. Does bosibl bod pethau mor ddrwg â hynny—efallai fod rhaid i ni sirioli rywfaint.

Yn gyffredinol, rydym ni'n gwrthwynebu cyllideb ddrafft y Llywodraeth ac yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn.

19:05

Wrth baratoi fy neges Nadolig i'm hetholwyr yr wythnos yma, roeddwn i'n falch o sôn am y cynnydd i lywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 20 Tachwedd, a ddaeth fel newyddion da i awdurdodau lleol Cymru, gan sicrhau pecyn ychwanegol o £141.5 miliwn mewn refeniw a chyfalaf dros y tair blynedd nesaf. Ac mae’r cynnydd i'r gyllideb ddrafft yn sicrhau’r dyraniadau ychwanegol hyn o gyllid lle mae eu hangen fwyaf, lle y darperir ein gwasanaethau cyhoeddus mewn llywodraeth leol, er gwaethaf y toriadau dwfn a diangen i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU dros yr wyth mlynedd diwethaf, a'r golled o £850 miliwn i’n gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad, gyda'n cyllideb 5 y cant yn is mewn termau real. Felly, does ryfedd fy mod i wedi croesawu llythyr yn fy mhapur lleol The Barry Gem gan etholwr yn y Barri gyda phennawd i arweinydd y cyngor roi’r gorau i wadu realiti gwleidyddol. Roedd fy etholwr wedi darllen llythyr gan arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, sydd o dan reolaeth y Ceidwadwyr, yn gofyn am fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennodd fy etholwr, 'A yw’r Cynghorydd Thomas yn gwybod pa blaid wleidyddol y mae'n aelod ohoni ac o ble y mae amddifadu ariannol gwasanaethau lleol yn cael ei gyfeirio yn y pen draw?'

Gwnaed canlyniadau cyni cyllidol yn eglur gan adroddwr y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, yr Athro Philip Alston, gan nodi ffeithiau moel y naw mlynedd ddiwethaf o doriadau a chyni. Meddai:

Mae niwed yn cael ei wneud i adeiladwaith cymdeithas Prydain, i’r ymdeimlad o gymuned...ni fydd unlle i bobl yn y grwpiau incwm is fynd cyn bo hir.

Cyfeiriodd at ddiflaniad canolfannau chwaraeon, mannau hamdden, tir cyhoeddus, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid. Croesawyd yr Athro Alston i Gymru gennym ac rydym ni'n derbyn ei ganfyddiad. Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sydd wedi gorfod lliniaru rhag cyni.

Yn 2010, ar ôl y gyllideb frys, fel y'i galwyd—cyllideb gyntaf honno y Llywodraeth glymblaid honno, pan roeddwn i'n Weinidog cyllid—fe'n cyfeiriwyd i wneud toriadau i refeniw a chyfalaf. Gwnaethom wrthod gwneud y toriadau hynny. Rwy’n cofio siarad am ddarparu amddiffyniad rhag y toriadau hynny. Doedden ni ddim yn gwybod y byddem ni dal yn y sefyllfa honno wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac yn wynebu dewisiadau anoddach byth i gynnal a chryfhau’r amddiffyniad hwnnw. Yr wythnos yma, mae gennym ni fwy o dystiolaeth eto o effaith andwyol cyni cyllidol gan Sefydliad Joseph Rowntree, a ganfu fod un rhan o dair o blant mewn ystafell ddosbarth arferol o 30 yn byw mewn tlodi erbyn hyn, gan na all mwy o rieni gael deupen llinyn ynghyd. Felly, rwyf i hefyd yn croesawu’r ymrwymiad hanfodol yn y gyllideb ddrafft hon i ddyblu’r grant amddifadedd disgyblion i ariannu prydau ysgol am ddim i 3,000 yn fwy o ddisgyblion, £200 miliwn ar gyfer cynllun budd-dal y dreth gyngor, a ddiddymwyd yn Lloegr, i liniaru rhag y toriadau, i drechu tlodi. Ac rwy’n croesawu'r camau a gymerwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau cyllid tecach drwy'r fframwaith cyllidol, a'r defnydd o'n cronfa wrth gefn yng Nghymru a’ch ymrwymiad parhaus i'n GIG Cymru. Rydych chi wedi defnyddio'r holl arfau ac ysgogiadau sydd ar gael i chi.

Nawr, ymwelais â Stryd Fawr y Bont-faen ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach—y Bont-faen oedd y seren newydd yng Ngwobrau Stryd Fawr Prydain yn ddiweddar—a dywedais wrth gadeirydd y siambr fasnach, Kate Thomas, bod Llywodraeth Cymru yn dyrannu £26 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol yn ogystal â'r rhyddhad ardrethi wedi'i dargedu ar gyfer Cymru yn unig a’r rhyddhad trosiannol a gyhoeddwyd y llynedd. Ac rwy’n edrych ymlaen at drafod gyda hi y cyhoeddiad yr ydych chi wedi ei wneud y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch ehangu’r cynllun rhyddhad ardrethi pwrpasol hwnnw wedi'i dargedu yng Nghymru ar gyfer strydoedd mawr. Ond rwyf i hefyd yn canmol Kate am ei gwaith ar y stryd fawr fel fferyllfa gymunedol, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r boblogaeth leol o bob modd a phob amgylchiad. Cymerais y cyfle ddydd Sadwrn, fel yr wyf i heddiw, i ganmol Llywodraeth Cymru am gadw ein presgripsiynau am ddim, ein brecwastau am ddim, ein tocynnau bws am ddim, gan helpu i ddiwallu anghenion pawb a lleihau'r bwlch anghydraddoldeb sy’n ehangu yn y DU, ond sy’n cael sylw yma yng Nghymru.  

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, byddaf yn cefnogi’r gyllideb ddrafft a diolchaf i chi am arfer eich ewyllys a'ch penderfyniad gwleidyddol i liniaru, darparu amddiffyniad a defnyddio ein pwerau trethu newydd yn effeithiol ac yn gyfrifol. Ac a gaf i fanteisio ar y cyfle heddiw i dynnu sylw at astudiaeth gan Brifysgol Caergrawnt, sy'n dangos bod toriadau cyni ddwywaith mor ddwfn yn Lloegr ag yng ngweddill Prydain? Canfu astudiaeth Caergrawnt fod pwerau datganoledig wedi caniatáu i Lywodraethau Cymru a’r Alban liniaru'r toriadau llymaf a ddioddefwyd mewn rhannau o Loegr lle ceir amddifadedd lluosog. Efallai ei bod hi'n bryd i ni gofio’r llinell o gân Catatonia yn 1999 'International Velvet', lle canodd Cerys Matthews, 'Every day when I wake up I thank the Lord I'm Welsh.' Dywedodd ar y pryd:

Gobeithio erbyn hyn bod pobl yn sylweddoli bod Cymru yn llawn talent a’n bod ni’n bobl wych ag ymenyddiau enfawr.

Felly, mae angen i ni barhau ein gwyliadwraeth i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus, i drechu tlodi, ac i wneud yr hyn a allwn gyda’n pwerau, ein hewyllys gwleidyddol a’n hymenyddiau, i barhau i wneud hynny'n realiti. Dyna yr wyf i'n ei gredu y bydd y gyllideb ddrafft hon yn ei gyflawni.

19:10

Rwyf eisiau sôn am dai, a chredaf ei bod yn brofiad eithaf sobreiddiol i edrych ar yr hanes yn mynd yn ôl dros yr 20 neu 25 mlynedd diwethaf. Nid wyf eisiau gwneud araith arbennig o bleidiol. Rwyf eisiau inni ystyried sut y gallwn ni feithrin consensws newydd, ac, yn ffodus, mae gennym ni lawer o hyblygrwydd wrth wella'r system gynllunio, addasu rhywfaint o'n gwariant, ond gallai llawer o'r hyn y mae angen inni ei wneud ddod drwy'r cap sy'n cael ei godi ar bwerau benthyca awdurdodau lleol a dulliau hyblyg eraill y bydd gennym. Dull cyfalaf, yn sicr, y mae angen inni ei ddefnyddio, yn ogystal â sicrhau bod gennym ni system gynllunio fwy effeithlon.

A chredaf hefyd, ar ôl y ddadl y prynhawn yma ar Brexit, ei bod yn briodol inni edrych ar rywbeth sy'n mynd at wraidd yr economi sylfaenol, mewn gwirionedd. Mae adeiladu tai yn rhywbeth a all ein huno ni i gyd, siawns, o ran ei werth cymdeithasol, y daioni economaidd a hybir, y sgiliau y mae angen inni eu datblygu ar gyfer ein pobl ifanc, gan roi cyfleoedd a swyddi da iawn. Ac mae llawer o'r gweithgarwch economaidd y mae'n ei gynhyrchu yn aros mewn cymunedau lleol.

A gaf i ddweud yn gyntaf oll, pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ennill yr etholiad, a gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir—? Mae wedi cymryd naw mis i gyrraedd mor bell â hyn, ond rwy'n meddwl, dros y diwrnod neu ddau nesaf, byddwn ni mewn gwirionedd yn clywed y canlyniad. Ond gwn, pe byddai'n ennill ac yn esgyn i swydd bwysig ac uchel y Prif Weinidog, y byddai'n creu swydd Cabinet ar gyfer Ysgrifennydd tai. A chroesawaf hyn, oherwydd credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Ac a gaf i annog bod hon yn swydd tai a chynllunio, oherwydd credaf fod hynny'n gamweithredol iawn ar hyn o bryd, y ffordd y mae'r portffolios hynny wedi'u rhannu? Felly, byddai hynny'n fan cychwyn; nid oes amheuaeth am hynny. Byddai hynny'n anfon arwydd pwerus iawn i bob un o'n rhanddeiliaid allan yn fan yna.

Ond rwy'n credu bod angen i bob plaid weld pwysigrwydd tai o'r newydd. Ar ôl y rhyfel, roedd tai ac iechyd yn cyd-fynd â'i gilydd, mewn gwirionedd, fel y ddau achos cymdeithasol mawr. A dyna'r math o flaenoriaeth y mae angen inni weld tai yn ei gael unwaith eto, a byddwn yn dechrau ailddatblygu rhywfaint o'r ffydd, rwy'n credu, sydd ei angen ar y genhedlaeth iau yn eu system wleidyddol, oherwydd, ar hyn o bryd, mae meysydd allweddol lle nad yw'n eu gwasanaethu'n dda.

Gadewch imi fynd drwy'r ffigurau. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw'r hanes yn Lloegr wedi bod yn wych ychwaith; rwy'n credu bod yn rhaid cyfaddef hynny. Mae problem go iawn wedi bod gennym ni yn y Deyrnas Unedig ers y 1990au ynghylch nifer y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu o gymharu â'n tuedd hanesyddol. Nid ydym ni bellach ond yn adeiladu rhyw 6,000 o gartrefi'r flwyddyn; roedd tuedd hanesyddol o rhwng 10,000 a 12,000 yng Nghymru ers yr ail ryfel byd. Felly, rydym ni'n adeiladu prin hanner ein tuedd hanesyddol. Tuedd hanesyddol yw honno; nid dyna y mae angen i ni ei adeiladu ar hyn o bryd. Mae angen inni fynd y tu hwnt i'r duedd hanesyddol, o leiaf am gyfnod sylweddol, y mae modd dadlau. Mae gan Lywodraeth Cymru'r dystiolaeth. Comisiynodd adroddiad rhagorol gan y diweddar Athro Holmans, ac rwy'n credu bod angen iddi weithredu ar y data y cynhyrchodd yr adroddiad hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi newid ei meddwl, rwy'n credu, o ran y math o uchelgais sydd ei angen arnom ni ar gyfer tai. Dydw i ddim yn gwybod a yw wedi derbyn gwaith sy'n cyfateb i'r hyn a gyhoeddwyd gan yr Athro Holmans, ond maen nhw wedi gosod targedau newydd a mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai yn y 2020au, ac rwy'n credu y dylem ni adeiladu nifer cyfatebol neu hyd yn oed mwy na hynny.

Credaf y byddai'r her o adeiladu 100,000 o gartrefi newydd rhwng 2021 a 2031 yn darged priodol ac uchelgeisiol i ni, yn yr hyn sy'n debygol o fod yn ddegawd cyntaf Brexit. Credaf y bydd hynny'n anfon neges bwerus hefyd i'n partneriaid allweddol, y sector preifat, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Mae angen gweithio hyblyg iawn arnom—awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau benthyca, ac i weithio gyda'r sector preifat a'r sector annibynnol drwy gymdeithasau tai. Credaf y bydd rhai cynghorau lleol yn dechrau adeiladu tai cyngor ar raddfa fwy. Nid yw hyn yn broblem imi; credaf fod angen y cartrefi arnom ni. Ac mae'n bosibl y bydd rhai cynghorau yn datblygu arbenigeddau penodol ac yn gallu gwneud hynny ar gyfer meysydd allweddol. Ond credaf mai ein partneriaid allweddol yn y sector cymdeithasol fydd cymdeithasau tai, a hoffwn eu gweld yn cael hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, cyllidebau tymor hwy, fel y gallant gynllunio'n effeithiol a hefyd codi'r safonau adeiladu cymdeithasol, ansawdd dylunio, a chreu cartrefi modiwlaidd newydd eco-gyfeillgar. Yn y 1950au a'r 1960au, roedd y gwelliannau mawr ym maes adeiladu tai yn aml wedi'u pennu gan y safonau yn y sector cymdeithasol, a dyna'r math o beth y gallwn ni weld y sector preifat wedyn yn ei efelychu, yn enwedig o ran cartrefi carbon isel, rwy'n credu.

Mae angen inni weld y sector busnesau bach a chanolig yn cael ei adfywio a sylfaen sgiliau, gan weithio drwy awdurdodau addysg bellach, i ganiatáu hynny. Ni allwn gynyddu o 6,000 i'r 12,000, 13,000, 14,000 y bydd eu hangen arnom yn yr 20 mlynedd nesaf yn gyflym. Dyna pam rwy'n credu bod targed 10 mlynedd o 100,000 yn realistig. Bydd yn rhoi amser inni, yn gyntaf, i adennill y duedd hanesyddol, ac yna, os oes angen, mynd ymhellach. A gaf i ddweud hyn: os yw'r Prif Weinidog yn gwneud y math hwnnw o addewid—neu'r Prif Weinidog newydd yn gwneud y math hwnnw o addewid—credaf y bydd yn cael cymeradwyaeth gynnes o amgylch y Siambr hon. Dyna'r math o addewid y mae angen inni ei roi i bobl Cymru.

19:15

Rwy'n bwriadu gwneud rhai sylwadau cyffredinol ar y gyllideb, yna rhai mwy manwl fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Ar y gyllideb, mae hon wedi'i phennu mewn sefyllfa o gyni parhaus. Dylem ni, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid yw cyni yn bolisi economaidd, mae'n ideoleg—ymagwedd ddeublyg o doriadau a phreifateiddio. Ar hyn o bryd, mae gennym ni sefyllfa lle mae gan Jeremy Corbyn fwy yn gyffredin â llywodraethau ar ôl y rhyfel Churchill, Eden a Macmillan nag sydd gan Theresa May. Ar godi refeniw, mae incwm o dreth incwm yn cael ei ddiogelu yn y flwyddyn gyntaf, a byddwn yn gweld sut y mae'r incwm yn gysylltiedig â'r hyn a ragwelir, fel y trafododd Llyr Gruffydd yn gynharach.

Unwaith eto, rydym ni'n gweld cynnydd yn y gyllideb iechyd fel canran o gyllideb Cymru. Ni all hyn barhau am gyfnod amhenodol, os yw hynny dim ond oherwydd, ar ryw adeg, y bydd yn cyrraedd 100 y cant o gyllideb Cymru. Hefyd, mae'r gyfran o'r iechyd y mae'r gyllideb gofal sylfaenol yn ei chael yn peri pryder—pan yr ydym yn dweud 'iechyd', rydym yn golygu ysbytai, ac ni all hynny fod yn ffordd o wneud cenedl yn iachach. Ar gyfer iechyd da, mae angen tai o ansawdd da, deiet da ac ymarfer corff, peidio ysmygu a pheidio ag yfed llawer iawn o alcohol. Mae gwir angen inni wneud mwy ynghylch gwella iechyd a ffordd o fyw—un o'r pethau yr oedd Cymunedau yn Gyntaf yn arfer ei wneud cyn ei gau.

Mae Llywodraeth Leol wedi cael gostyngiadau termau real unwaith eto. Mae'r gyllideb ar gyfer Llywodraeth Leol wedi gwella ers y gyllideb ddrafft, a chroesawaf hynny. Mae addewid y bydd unrhyw arian pensiwn athrawon a dderbynnir yn mynd i lywodraeth leol i ariannu'r cynnydd mewn costau pensiwn. Unwaith eto, credaf fod yn rhaid i bawb groesawu hynny. Nid yw'n helpu bod Gweinidogion, yn hytrach na chefnogi gwasanaethau sylfaenol mewn llywodraeth leol, yn defnyddio cyllid ychwanegol ar gyfer ychwanegion—ychwanegion braf; nid oes dim o'i le â nhw—ond mae angen i'r gwasanaeth sylfaenol gael blaenoriaeth. Hefyd, ceir arian yn y cyllidebau, megis economi a thrafnidiaeth, y gellir ei ddefnyddio i gefnogi llywodraeth leol.

Gan droi at y gyllideb sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig, eleni, bu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar gyllidebau drafft Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn gynharach eleni, penderfynodd Llywodraeth Cymru ychwanegu chweched flaenoriaeth at ei strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i bawb'. Y chweched flaenoriaeth newydd yw datgarboneiddio. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn ei groesawu, ac roeddem yn awyddus i weld y newidiadau yn y dull o ymdrin â'r gyllideb ddrafft o ganlyniad i'r newid hwn mewn blaenoriaethau. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi canfod llawer o dystiolaeth o sut y mae cynnwys datgarboneiddio fel chweched flaenoriaeth wedi llywio penderfyniadau ynghylch dyrannu'r gyllideb eleni.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cynigion i ddisodli systemau presennol o gymorth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth â dau gynllun gwahanol: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei bod hi eisiau dechrau'r cyfnod pontio i'r cynlluniau newydd hyn yn 2021. Credwn fod hon yn fenter enfawr ac roedd gennym ni ddiddordeb yn y dyraniadau yn y gyllideb ddrafft i baratoi ar gyfer y newid hwn. Cawsom ein synnu, fodd bynnag, i weld nad oes dim dyraniadau ychwanegol yn y gyllideb i baratoi—dim arian ychwanegol ar gyfer treialu neu fodelu a dim arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cynghori ar gyfer y miloedd o ffermwyr y bydd y newidiadau yn effeithio arnyn nhw. Ni chawsom sicrwydd y gellid gwneud y paratoadau yn ddigonol o fewn y cyllidebau presennol. Mae hwn yn faes lle'r ydym wedi gwneud nifer o argymhellion.

O ran cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, hoffwn ganolbwyntio ar gronfa dyfodol yr economi a sut y mae'n gysylltiedig â datgarboneiddio. Ein prif bryder oedd y trefniadau monitro sy'n gysylltiedig â rhai rhannau o'r gronfa. Mewn egwyddor, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod yn rhaid i fusnesau sy'n ceisio buddsoddiad yn rhan o'r contract economaidd ddangos eu cynnydd o ran lleihau eu hôl troed carbon. Credwn y dylai fod ymrwymiad clir, amlwg bod gan y busnes dan sylw bwyslais difrifol ar leihau ei ôl troed carbon. Mae'n debygol iawn y bydd angen mwy na dim ond cyfres o sgyrsiau ar hyn. Rydym ni hefyd wedi argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet barhau i adolygu gweithrediad yr alwad i ddatgarboneiddio, gyda'r nod o annog mwy o fusnesau i wneud defnydd o'r cyllid i leihau eu hôl troed carbon.

Hoffwn ymateb i rai sylwadau. Rwy'n cytuno â David Melding fod angen inni adeiladu mwy o dai. Mae adeiladu mwy o dai yn syml iawn: caniatewch i gynghorau fenthyca arian i adeiladu tai cyngor yn erbyn gwerth y stoc tai presennol. Byddai'n golygu newid ym mholisi'r Trysorlys, ond byddai'n caniatáu adeiladu tai cyngor ar raddfa enfawr. Mae rhai ohonom ni a fagwyd mewn tai cyngor yn y 1960au yn ymwybodol iawn o'r nifer enfawr o ystadau a'r nifer fawr o dai a adeiladwyd ledled Cymru ar y pryd. Roedd hynny, rwy'n credu, yn bwysig iawn, ond mae angen inni ganiatáu i gynghorau adeiladu unwaith eto, a dim ond trwy newid rheolau'r Trysorlys y gellir gwneud hynny.

19:20

Ac mae'r rheolau hynny yn cael eu newid; mae'r terfyn benthyca am gael ei godi.

Ond nid yw rheolau'r Trysorlys ar fenthyca wedi'u codi'n llawn fel y gallwch chi fenthyg yn erbyn gwerth cyfan y stoc. Os dyna'r hyn y mae David Melding yn ei ddweud, gallaf ddweud wrthych y byddai tai yn cael eu hadeiladu ar raddfa fawr yng Nghymru nawr. Mae'r cap wedi'i godi ond nid yw wedi'i ddileu. Ond efallai gallwn ni drafod hyn mewn man arall.

Y peth arall yr oeddwn i am ei ddweud yw yr hoffwn i longyfarch barn Darren Millar bod gan Gordon Brown bŵer llwyr dros economi gyfan y byd. Fe achosodd y dirwasgiad yn Sbaen, fe achosodd y dirwasgiad yng Ngwlad Groeg; achosodd un yng Ngwlad yr Iâ, ac achosodd un yng Ngogledd America gyfan. Y gwledydd a lwyddodd i osgoi'r problemau mawr oedd Norwy, Sweden a'r Ffindir, a beth oedd ganddyn nhw? Roedd ganddyn nhw lywodraeth sosialaidd, yn gweithio ar ran y bobl.

Mae'n bleser i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar y gyllideb, fel Cadeirydd y pwyllgor iechyd. Ac wrth gwrs, gyda chyllideb iechyd a gofal o ryw £9 biliwn, mae cryn her gan aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i graffu ar holl fanylion y gyllideb fawr yna. Ac felly, mi wnaf i olrhain ychydig bach o'r broses o gasglu tystiolaeth a'r craffu yna. Ym mis Gorffennaf eleni, buom yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad seneddol 'Cymru Iachach', cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Wedyn, ym mis Medi, cawsom dystiolaeth ysgrifenedig gan bob bwrdd iechyd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, i ychwanegu at y doreth o dystiolaeth. A wedyn, ym mis Tachwedd, buom yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Prif themâu: newid trawsnewidiol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn glir bod yn rhaid i drawsnewid gwasanaethau ddod yn weithgaredd prif ffrwd ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mai cyllid craidd y sefydliadau hyn fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud y newidiadau perthnasol.

Mae gennym bryderon dwfn o ran a fydd y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gallu cyflawni hyn o ystyried y pwysau o ran galw a chostau a nodwyd a methiant parhaus mwyafrif y byrddau iechyd i fantoli'r cyfrifon. Rydym ni'n croesawu'r £100 miliwn sydd ar gael drwy'r gronfa trawsnewid ar gyfer y prosiectau braenaru, ond rydym ni wedi gofyn am sicrwydd y bydd y defnydd o'r gronfa hon a'i heffaith yn cael eu monitro’n effeithiol, yn enwedig o ran defnyddio'r gronfa i gefnogi prosiectau sy'n wirioneddol drawsnewidiol ac mae'n bosibl eu cynyddu mewn maint, a bod ceisiadau iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn cael yr un ystyriaeth. Mae gennym bryder difrifol ynghylch lefel y cyllid ar gyfer gofal sylfaenol. O ystyried y ffocws polisi ar symud gofal allan o ysbytai, byddem wedi disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn lefel y gwariant ar ofal sylfaenol, ac mae'r dystiolaeth a ddaeth i law yn dangos nad yw hyn yn digwydd. Credwn fod hyn yn dangos yr heriau sy'n wynebu byrddau iechyd wrth drawsnewid gwasanaethau, o ystyried y pwysau parhaus y maent yn ei wynebu yn y sector acíwt. O gofio mai'r bwriad a nodwyd yn 'Cymru Iachach' yw cynnig gwasanaethau ym maes gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, rydym ni'n bryderus iawn na fydd yr arian arfaethedig ar gyfer gofal sylfaenol yn ddigonol i gefnogi'r amcan hwn.

Gan droi at y sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd, fel rhan o graffu ar y gyllideb y llynedd, gwnaethom geisio archwilio'n fanwl sefyllfa ariannol y byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar y pryd, gwnaethom nodi ein siom nad oedd holl gyrff y gwasanaeth iechyd wedi llwyr wireddu uchelgeisiau Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, a bod pedwar o'r saith o fyrddau iechyd lleol wedi adrodd diffyg yn o leiaf un o'r tair blynedd blaenorol. Achos penodol o bryder oedd bod Betsi Cadwaladr a Hywel Dda wedi adrodd diffyg ym mhob un o'r blynyddoedd o 2014-15 i 2016-17.

Nodwn fod cynnydd wedi'i wneud gan fyrddau iechyd penodol. Fodd bynnag, cawsom ein siomi gan fethiant parhaus nifer o fyrddau iechyd i reoli eu cyllidebau, ac rydym ni am geisio deall y rhesymau y tu ôl i'r anawsterau parhaol mewn rhai byrddau iechyd. Credwn ei bod yn hynod bwysig deall i ba raddau y gallai hyn fod o ganlyniad i faterion rheoli ar lefel bwrdd iechyd unigol, neu i ba raddau y mae eu dyraniadau cyllid yn gyfrifol am hyn.

Wrth droi at iechyd meddwl, mae cynigion manwl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn pwysleisio mai iechyd meddwl yw'r maes unigol mwyaf o wariant gan y gwasanaeth iechyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £675 miliwn ar wasanaethau iechyd meddwl yn 2019-20, ac mae £20 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu yn y gyllideb ddrafft hon ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl fel rhan o'r cytundeb ar y cyllid dros ddwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Gwyddom fod byrddau iechyd eisoes yn gwario mwy ar iechyd meddwl na'r dyraniad a neilltuwyd. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol o'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, ac rydym wedi ein hargyhoeddi gan awgrym conffederasiwn gwasanaeth iechyd Cymru y gall lefel y galw wasanaethau iechyd meddwl fod yn sylweddol uwch na'r lefelau gwariant presennol.

Gan droi at y gweithlu iechyd yn fyr, er bod systemau a gwasanaethau yn cynnig ffocws ar gyfer newid, y gweithlu yw'r ased mwyaf wrth roi gofal a gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Fe wnaethom godi pryderon efo Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn y gweithlu iechyd, yn enwedig o fewn y gwasanaeth ambiwlans. Hefyd, gwnaethom ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd e'n cydnabod gwahaniaethau o ran amodau gwaith a chyflog, a diffyg parch cydradd at staff gofal cymdeithasol a staff gofal iechyd. Credwn fod anghysondeb amlwg rhwng gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol, fel y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym yn rheolaidd, ac mae hyn yn rhwystr sylweddol rhag cydlynu gwasanaethau yn llwyddiannus.

Rydym ni yn yr eiliadau olaf.

19:30

Ond yn amlwg ddim yn yr eiliadau olaf yn ôl y sgript hael yma sydd gan y clercod. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr, Llywydd, am eich amynedd.

Jest i roi gair am ofal cymdeithasol. Yn 2017-18, roedd 23 y cant o wariant refeniw gros gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn mynd tuag at wasanaethau cymdeithasol. Dyma'r ail fwyaf o’r meysydd gwariant gan awdurdodau lleol ar ôl addysg. Yn ôl datganiad ar 9 Hydref, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus fod setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20 yn cynnwys £20 miliwn ychwanegol i leddfu pwysau ar wasanaethau cymdeithasol. Mae £30 miliwn ychwanegol y tu hwnt i'r setliad llywodraeth leol hefyd ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd, gan gynnwys pwysau—

Reit. Nid yw'r darllen cweit yn ddigon cyflym, ac felly, fe fydd rhaid i'r Aelod ddod â'i sylwadau i ben. 

Maen nhw'n dod i ben nawr, achos gwnawn ni anghofio am y gwariant digon pitw wir ar chwaraeon, o ddim ond £22 miliwn y flwyddyn.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cyfrifo bod gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu bwlch cyllid o £67 miliwn unwaith i'r £50 miliwn ychwanegol gael ei ystyried heb unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor. Mae hynny yn fater o bryder. Diolch am eich amynedd, Llywydd. 

Rwyf yn siarad heddiw ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dyraniadau cyllideb yw un o'r ffyrdd pwysicaf i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiadau datganedig i feysydd polisi a grwpiau poblogaeth. Nid yw dyraniadau a wnaed i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc yn eithriad. Un o'n swyddi fel pwyllgor yw craffu ar y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ariannu gwasanaethau ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Nid yw hyn yn ddigwyddiad unwaith y flwyddyn i ni. Rydym yn ceisio cyflwyno craffu ariannol i'n holl waith drwy gydol y flwyddyn. Rydym ni'n gwneud hyn i sicrhau ein bod ni mor glir ag y gallwn ni fod ynghylch faint o arian a roddir i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, at ba ddiben, ac a yw'n cyflawni gwerth am arian.

Nid yw'n gyfrinach, fod gennym ni yn y pwyllgor, rai pryderon ynghylch sut y dyrennir arian ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni'n cydnabod bod cyllid ar gyfer plant a phobl ifanc yn croesi ffiniau nifer o feysydd polisi a phortffolios. Rydym ni'n deall yr heriau y gall hyn eu cyflwyno wrth amlinellu cyllideb ddrafft. Rydym ni'n credu, serch hynny, bod llawer o waith eto i'w wneud os yw'r wybodaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru am fod mor dryloyw ag y mae angen iddi fod i alluogi'r ddeddfwrfa hon i ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif am eu penderfyniadau.

Ar y sail hon, roeddem ni'n falch iawn o gymryd rhan mewn gwaith arloesi newydd eleni. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid eisoes, fe wnaethom ni gyfarfod ar yr un pryd gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid a Chydraddoldeb, a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau i graffu ar asesiad effaith integredig strategol y Llywodraeth. Bwriadwn gyflwyno adroddiad ar y cyd ar ein canfyddiadau yn y flwyddyn newydd, i helpu i lywio'r gyllideb y flwyddyn nesaf, felly ni wnaf sôn am hynny nawr.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rwyf am dynnu sylw at y ffaith bod ein pwyllgor yn credu'n gadarn bod y gallu i ddangos sut y mae hawliau plant yn llunio polisi a phenderfyniadau ariannol o'r cychwyn cyntaf yn allweddol. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau yn y blynyddoedd diwethaf, rydym ni'n dal yn siomedig na welsom ni gynnydd mwy pendant yn y cyswllt hwn.

Fe drof yn awr at rai meysydd manwl o graffu, gan ddechrau gyda'n meddyliau ynghylch addysg. Rydym ni'n croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi gwyrdroi ei bwriad gwreiddiol i dorri gwariant ar adnoddau addysg yn 2019-20. Rydym ni hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad mwy diweddar y bydd arian ychwanegol yn cael ei roi i awdurdodau lleol i leddfu pwysau'r gost o weithredu tâl athrawon ysgol. Fodd bynnag, fe fyddem ni'n croesawu gwybodaeth fwy manwl am yr arian ychwanegol hwn, ac rydym ni'n ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod hi'n ffyddiog y bydd y gyllideb derfynol yn ddigonol i ariannu ein hysgolion yn ddigonol.

O ran cyllid ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, cafodd llawer o'r naratif yn y maes hwn ei lunio gan adolygiadau diweddar Diamond a Reid. Mae cyflawni argymhellion y ddau adolygiad blaenllaw hyn yn dibynnu'n helaeth ar wireddu 'difidend Diamond' fel y'i gelwir. Yn 2016, dywedwyd wrthym y byddai Diamond yn sicrhau difidend yn y dyfodol ar gyfer y sector. Eleni, fe glywsom ni na fydd y sector dan anfantais a dyna'r cwbl. Er ein bod yn cydnabod disgrifiad Ysgrifennydd y Cabinet o'r difidend fel 'gwledd symudol', roedd y newid tiwn yn peri pryder i ni. O ganlyniad, rydym ni'n credu y dylai amcanestyniadau fod ar gael ar gyfer craffu. Rydym ni'n credu hefyd y dylai adnoddau digonol fod ar gael yn y gyllideb derfynol er mwyn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ariannu ei flaenoriaethau strategol yn llawn a dechrau ariannu argymhellion adolygiad Reid. Wedi'r cyfan, mae gan ymchwil ac arloesi le sylfaenol yn 'Ffyniant i Bawb', ac maen nhw angen cyllid digonol os ydyn nhw am ddod yn ddisgwyliadau realistig ar gyfer ein sectorau addysg bellach ac uwch.

Gan droi nawr at iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau i blant, ni fydd yn syndod i'r Siambr hon glywed bod iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth allweddol i ni. Cyflwynodd ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' y dystiolaeth sy'n sail i'n galwadau am adnoddau digonol yn y maes hwn. Er ein bod ni'n croesawu'r camau a gymerwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddechrau gweithredu ein hargymhellion, roeddem ni'n bryderus o glywed bod cyllid wedi'i glustnodi sydd yn fawr ei angen i gyflawni gweddnewidiad yn y gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc, yn mynd i gael ei drosglwyddo i'r cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl pob oedran. Rydym ni'n credu y dylid diogelu'r cyllid hwn ar gyfer CAMHS tan fod cymorth yn cyrraedd y lefelau gofynnol a bod canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn amlwg wedi gwella.

Yn olaf, Llywydd, fe drof i at blant sy'n derbyn gofal, sy'n rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Rydym ni'n ailadrodd y galwadau a wnaed yn ein hadroddiad ar gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol i sicrhau bod y grant datblygu disgyblion yn cael ei ariannu'n ddigonol i gefnogi plant wedi'u mabwysiadu a phlant sy'n derbyn gofal yn ddigonol. Rydym ni hefyd yn ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyllid sydd ar gael i'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yn ddigonol i gyflawni ei waith pwysig. Diolch.

19:35

Yn fy sylwadau heddiw, rwyf yn siarad ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Yn fy sylwadau, hoffwn ganolbwyntio ar effaith cyllideb Llywodraeth Cymru o ran cefnogaeth ar gyfer busnesau ac ar faterion trafnidiaeth hefyd. Er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ei ddatganiad agoriadol, ni fyddai buddsoddiadau mawr yng nghyllideb eleni, wrth gwrs, yn bosibl heb arian ychwanegol a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n gwneud y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau mewn termau real ar gymorth busnes a seilwaith yng Nghymru hyd yn oed yn fwy siomedig, a byddaf yn dod at hynny yn y man.

Mae'n ymddangos bod cyllideb Llywodraeth Cymru'n gwrth-ddweud y strategaeth ar gyfer cefnogi economi Cymru. Mae gennym ni gynllun gweithredu economaidd ond dim manylion ynghylch sut y mae'r gyllideb hon yn cefnogi'r cynllun hwnnw, a dim manylion ynghylch sut y mae'r gyllideb yn cefnogi busnesau bach a chanolig neu'n tyfu cyflogaeth yng Nghymru. Cafodd ardrethi busnes eu crybwyll gan Darren Millar a Gareth Bennett. Mae rhyddhad ardrethi busnes yn parhau i fod y cynnig gwaethaf mewn unrhyw ran o'r DU, felly rwyf yn edrych ymlaen at y manylion yr wyf yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu eu cyflwyno i egluro sut y gellir unioni hyn.

Rwy'n pryderu'n arbennig bod cyllid refeniw Busnes Cymru ac arloesedd busnes wedi eu gostwng 41 y cant a 30 y cant, yn y drefn honno. Mae hynny yn ôl y gyllideb a gyhoeddwyd. Rydym ni ar y meinciau hyn yn credu bod angen cymorth ar y BBaCh yng Nghymru i gael cyngor ar sut i dyfu eu busnesau a chael buddsoddiad cyfalaf. Bydd y sector BBaCH, yn briodol yn fy marn i, yn iawn i fod yn siomedig fod cyllid refeniw ar gyfer dau gorff cefnogi BBaCH allweddol wedi'i dorri mor sylweddol. Yn ogystal â'r toriad o 18 y cant mewn termau real yn y cyllid refeniw ar gyfer datblygu busnes, bydd y ffydd sydd gan fusnesau bach a chanolig yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn dirywio ymhellach.

Llywydd, mae Cymru hefyd yn methu'n gyson ag arallgyfeirio ei marchnad allforion. Nawr, mae hynny'n neges yr wyf wedi ei mynegi fwy nag unwaith yn y Siambr hon, ond cafodd hyn ei grybwyll hefyd gan Paul Davies yn y ddadl yn gynharach heddiw. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol, rwy'n credu, pan ystyriwch chi fod allforio, masnach a mewnfuddsoddi yn cael eu cwtogi mewn termau real yn ogystal â thoriad o 1.5 y cant gan y gyllideb hon. Yn dilyn Brexit, bydd yr angen i Gymru gael cyfres amrywiol o gyrchfannau ar gyfer allforio yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Felly, dylai Cymru fod mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd masnach ar ôl Brexit ac, o fewn y cyd-destun hwn, mae toriadau Llywodraeth Cymru i gydran hon o'r gyllideb yn ymddangos yn annoeth i mi.

Ac er gwaethaf cyhoeddiad Llywodraeth y DU o £120 miliwn ar gyfer bargen twf yn y gogledd, y soniodd Darren Millar amdani, ac ymrwymiad i gefnogi bargen twf yn y canolbarth, rwy'n pryderu bod y gyllideb ddrafft ar gyfer bargeinion dinesig a thwf wedi gostwng 1.6 y cant mewn termau real. A gobeithio y bydd  Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi sylwadau ynghylch hynny.

Y broblem amlwg sydd wedi’i hanwybyddu o ran y gyllideb drafnidiaeth, wrth gwrs, yw ffordd liniaru'r M4. Bydd y penderfyniad hwnnw yn creu goblygiadau difrifol ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol ar draws amrywiaeth o bortffolios, ac nid yw wedi cael sylw o gwbl yn y gyllideb ddrafft, ac nid wyf i'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi sôn am hyn o gwbl yn ei sylwadau agoriadol, sy'n dweud llawer. Ond hwn yw'r prosiect seilwaith mwyaf y byddwn ni wedi'i weld gan Lywodraeth Cymru ac eto dim sôn amdano heddiw o gwbl.

Mae datblygu economaidd yng Nghymru yn parhau i gael ei lesteirio gan system drafnidiaeth gyhoeddus aneffeithiol. Bydd lleihau'r cyllid sydd ar gael ar gyfer datblygu seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol yn gwneud dim ond gwaethygu'r sefyllfa. Rwy'n nodi bod toriad o 1.6 y cant i gardiau call a thoriad o 1.6 y cant i ddiogelwch ar y ffyrdd.

Felly, i gloi, Llywydd, mae'n ddrwg gennyf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod cyllideb sy'n siom fawr i ni ar yr ochr hon i'r Siambr i greu'r amodau economaidd cywir i hybu ffyniant a chynhyrchiant ledled Cymru ac adeiladu'r seilwaith sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

19:40

Rydw i hefyd yn siarad fel Cadeirydd pwyllgor yma heddiw—Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Cyfanswm y cyllidebau adnoddau yn y meysydd hyn yw £120 miliwn, ac mae cyfanswm y cyllidebau cyfalaf oddeutu £19.5 miliwn. Yn fras, mae cyllidebau adnoddau wedi aros yn wastad, tra bu rhywfaint o gynnydd yn y ddarpariaeth gyfalaf, er bod cyfanswm y symiau yn gymharol fach. Yn amlwg, nid yw'r symiau hyn mor fawr â'r rhai sy'n cael eu cwmpasu gan rai o bwyllgorau'r Cynulliad. Serch hynny, mae'r rhain yn symiau sylweddol o arian cyhoeddus ac maen nhw yr un mor bwysig.

O ran cymorth ar gyfer y celfyddydau, mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac mae'r cyllid hwn yn gostwng tua 2 y cant i £65.9 miliwn, tra bo cyllid cyfalaf yn cynyddu gan £5 miliwn i £10.5 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £5 miliwn o'r cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru i ddatblygu'r astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel gelf gyfoes ac amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, sydd eisoes wedi'i grybwyll heddiw. Ac yn y maes hwn, nid yw'r Pwyllgor wedi'i argyhoeddi bod nodau llesiant sy'n ofynnol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael eu hadlewyrchu yn briodol yn y llythyrau cylch gwaith i'r prif gyrff sy'n cael eu hariannu, ac mae wedi gofyn am ragor o wybodaeth.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu y dylai'r buddsoddiad cyfalaf yn yr Amgueddfa Genedlaethol gael ei rannu ledled Cymru ac mae wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch sut y mae cyllid cyfalaf y maes hwn yn cael ei rannu'n ddaearyddol. O ran yr oriel gelf gyfoes newydd a'r amgueddfa bêl-droed yn y dyfodol, rydym ni'n aros am y dewisiadau a ffefrir gan y Gweinidog er mwyn i fuddsoddi ddechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae'r cymorth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn cynnwys cyllid ar gyfer Cadw, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, lle mae refeniw yn wastad ar £13.1 miliwn, tra bo cyllid cyfalaf yn cynyddu i £6.2 miliwn. Y llynedd, dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i ddarparu grantiau i berchnogion adeiladau rhestredig a henebion, gan, yn hytrach, defnyddio'r arian hwn ar gyfer gwelliannau cyfalaf i rannau cynhyrchu incwm ystâd Cadw. Y gobaith eleni oedd, y gellid darparu mwy o arian i berchnogion adeiladau rhestredig. Fodd bynnag, nid yw'n eglur o hyd os yw hyn wedi digwydd, a hoffai'r pwyllgor weld mwy o eglurder ynghylch y mater hwn, gan gynnwys i ba raddau y bydd grantiau ar gael, a'r camau a gymerir i drosglwyddo gwybodaeth am y polisi hwn.

O ran y cyfryngau a chyhoeddi, mae cymorth ar gyfer y cyfryngau a chyhoeddi yn cael ei ariannu drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ac mae'r cyllid adnoddau a'r cyllid cyfalaf ar ei gyfer yn aros yn wastad ar £3.6 miliwn a £300,000 yn y drefn honno. Yng nghytundeb cyllideb Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru y llynedd, dyrannwyd £100,000 dros ddwy flynedd ar gyfer grantiau cychwyn ar gyfer newyddion hyperleol. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi comisiynu ymchwil ychwanegol i ganfod ble byddai cyllid ar gyfer newyddiaduraeth hyperleol yn cael yr effaith fwyaf ac yn rhoi'r gwerth mwyaf, ac mewn gwirionedd, fe fyddem ni wir yn hoffi cael gwybodaeth yn fuan ynghylch ble mae hwnnw'n mynd gan ein bod yn cael cwestiynau oddi wrth y sector ynghylch sut y gallan nhw wneud cais mewn gwirionedd am yr arian hwnnw.

O ran symud at y Gymraeg, nododd y pwyllgor nad yw’r cyllid cyffredinol ar gyfer y Gymraeg yn y prif grŵp gwariant addysg wedi newid, gyda £38.3 miliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft. Mae’r pwyllgor yn deall y cyfyngiadau presennol ar y gyllideb, fodd bynnag, rydym ni’n pryderu os bydd lefel y gyllideb yn aros yr un fath,na fydd modd gwneud digon o gynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru, sef 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn benodol, rydym ni'n pryderu nad yw targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu darpariaeth addysg Gymraeg y blynyddoedd cynnar yn ddigon uchelgeisiol i helpu i gyrraedd y targed cyffredinol erbyn 2050.

O ran cyllid i Gomisiynydd y Gymraeg, mae'r ffordd y mae dyraniad y gyllideb i Gomisiynydd y Gymraeg yn cael ei gyflwyno yn anfoddhaol, yn ein barn ni. Nid oedd yn glir a oedd arian ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer y broses o drosglwyddo'r awenau i'r comisiynydd newydd sy'n cael ei benodi. Yn yr un modd, hoffai'r pwyllgor gael ymrwymiadau mwy cadarn y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo unrhyw gostau sy'n codi o weithgarwch tribiwnlys na all y comisiynydd eu talu o gronfeydd wrth gefn. Roedd y broses o gytuno ar gynigion y gyllideb â'r comisiynydd hefyd yn bell o fod yn glir, ac rydym wedi gofyn am fanylion y negeseuon rhwng y Gweinidog, y swyddogion a'r comisiynydd. Yn benodol, hoffai'r pwyllgor wybod amseriad a natur diwygiadau'r comisiynydd i'w chyllideb.

Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu y gallai Bil newydd arfaethedig y Gymraeg fod yn rhwystro agweddau ar drefniadau safonau'r Gymraeg. Dyma pam yr hoffem gael ymrwymiad llawer mwy cadarn gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y caiff Bil y Gymraeg ei gyflwyno, fel na fydd sefydliadau masnachol, megis cyfleustodau cyhoeddus, yn defnyddio diffyg safonau'r Gymraeg fel esgus i leihau neu ohirio eu darpariaeth Gymraeg.

Llywydd, rydym wedi mynd yn weddol glou drwy'r holl sgrwtini yn y fan hyn. Mae yna fwy o bethau, yn siŵr, sydd wedi dwyn golwg y pwyllgor, ond rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig i ni roi beth oedd y pwyllgor wedi gwneud ger bron y Senedd. Er bod lot o bobl ddim, efallai, yn gweld gwerth diwylliant a'r celfyddydau ym myd y gyllideb, mae'n bwysig, bwysig iawn fod hynny yn cael ei flaenoriaethu, er mwyn sicrhau bod y pethau hynny sydd yn rhan annatod o'n cenedl ni yno yn parhau i'r dyfodol, ac yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.

19:45

Rwy'n siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fel yr ydym wedi clywed eisoes, yr oedd yn dda iawn i dri phwyllgor—fy mhwyllgor i; Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Lynne Neagle; a Phwyllgor Cyllid Llyr—gyfarfod ar y cyd ac ar yr un pryd i edrych ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu asesiadau effaith unigol ac integredig. Yr oedd yn ymarfer gwerthfawr, Llywydd, ac fe'i galluogodd inni dynnu ar waith craffu o wybodaeth a phrofiad y tri phwyllgor, a gobeithio y bydd cyhoeddiad ein canfyddiadau ar y cyd yn y flwyddyn newydd yn helpu i lywio paratoadau cyllideb nesaf y Llywodraeth yn 2019 a thu hwnt. Rwy'n gobeithio y bydd y cyntaf o lawer o enghreifftiau o bwyllgorau yn dod ynghyd i graffu ar faterion sy'n croesi ffiniau portffolios pwyllgorau.

Roedd llawer o'n gwaith craffu cyffredinol ar y gyllideb, Llywydd, yn canolbwyntio ar brif grŵp gwariant llywodraeth leol. Hwnnw yw'r prif grŵp gwariant mwyaf heblaw am brif grŵp gwariant iechyd, a bu'n bwyslais llawer iawn o ddiddordeb y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eglur yn ei thystiolaeth ar ôl cyfnod maith o gyni, y byddai rhagor o doriadau cyllid yn effeithio'n fwy amlwg ar wasanaethau statudol megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, ac un o'r heriau penodol ar gyfer y gyllideb fyddai'r costau gweithlu cynyddol yn sgil dileu'r rhewi ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Felly, rydym ni'n croesawu'r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu'r cynnydd mewn cyflogau athrawon, ond rydym yn dal i fod yn aneglur a fydd y £15 miliwn ychwanegol sy'n cael ei rannu yn y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn nesaf yn ddigon ar gyfer y cynnydd llawn.

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl inni ddangos ein tystiolaeth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol. Roeddem ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn ymateb i alwadau gan awdurdodau lleol i godi'r cyllid gwaelodol ac i gynyddu'r cyllid i ddarparu setliad sefydlog arian parod. Ond er y croesewir yr arian ychwanegol hwn, rydym yn cydnabod bod hyn yn dal i fod yn ostyngiad mewn cyllid mewn termau real, ac mae awdurdodau lleol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod pwysigrwydd trawsnewid gwasanaeth, i roi gwasanaethau ar sylfaen fwy cynaliadwy yn y cyfnod hir hwn o gyni. Rydym ni'n credu ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i helpu i gyflwyno'r ffyrdd newydd hyn o weithio a fydd, gobeithio, yn diogelu gwasanaethau pwysig a gwerthfawr.

Llywydd, rydym ni'n croesawu hefyd y diffiniad newydd o atal yng nghylch cyllideb eleni, ond nid oedd yn glir o'r dystiolaeth a glywsom ynglŷn â sut yr oedd y diffiniad hwn wedi llywio dyraniadau'r gyllideb. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gliriach mewn cylchoedd cyllideb yn y dyfodol.

Wrth symud ymlaen at dai, rydym yn falch, yn dilyn y gwerthusiad o'r prosiectau braenaru, bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio ag uno'r grantiau sy'n gysylltiedig â thai yn un grant ochr yn ochr ag arian ymyrryd yn gynnar arall. Rydym yn nodi bod y penderfyniad hwn yn ystyried y pryderon a godwyd gan randdeiliaid.

Rydym ni hefyd yn croesawu'r £10 miliwn ychwanegol a fydd ar gael yn y gyllideb hon i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ond rydym yn pryderu bod y gyllideb ddrafft yn cynnig dyraniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 yn unig, ac nid mewn cyllidebau dilynol. Rydym ni o'r farn, er mwyn dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, bod angen ymrwymiad cyllidebol amlwg ar gyfer blynyddoedd y dyfodol, o leiaf, sy'n cyfateb i'r lefelau cyllid yn y gyllideb hon. Llywydd, diolch yn fawr.

19:50

Nid wyf i'n credu bod y gyllideb hon yn diwallu anghenion Cymru. Dyma gyllideb arall lle mae'r Llywodraeth yn gwneud dim mwy na symud arian o gwmpas. Mae hon hefyd yn Llywodraeth sy'n fodlon—ac yn wir, Plaid Lafur Cymru sy'n fodlon—gadael y penderfyniadau mawr am Gymru i wleidyddion etholedig yn Lloegr yn Senedd San Steffan.

Yr hyn sydd gennym ni yma yw Llywodraeth Lafur sy'n defnyddio San Steffan, a gwleidyddion Ceidwadol yn arbennig, bron fel cerdyn gadael y carchar i fwrw bai, oherwydd nid ydych chi bobl eisiau'r pŵer, nid ydych chi eisiau'r cyfrifoldeb o newid Cymru mewn gwirionedd, ac eto rydych chi'n fodlon rhoi'r bai ar y Ceidwadwyr yn San Steffan.

Byddaf yn datgan buddiant yma yn awr fel cynghorydd sir, oherwydd rwyf i'n wirioneddol o'r farn bod llywodraeth leol yn cael ei thrin yn wael—yn wael gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae pwysau enfawr ar gynghorau. Toriadau gwirioneddol. Canolfannau ieuenctid gwirioneddol yn cau, swyddi gwirioneddol yn cael eu colli. Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau Cynulliad Llafur sy'n edrych ar eu ffonau symudol yn lle gwrando ar y ddadl hon. Efallai, Llywydd, y gallem ni gael ychydig mwy o gwrteisi yn y Siambr hon.

Yn hollol. Mae pwysau enfawr, fel y dywedais i, ar lywodraeth leol. Pobl wirioneddol yn colli swyddi gwirioneddol, a beth sydd gennym ni yn y fan yma?

Aelod Cynulliad: Brolio. [Chwerthin.]

Beth sydd gennym ni mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae gennym ni haelioni Llafur. Mae gennym ni symiau enfawr o arian, rhai sylwadau craff, ond symiau enfawr o arian wedi'u colli i'r pwrs cyhoeddus. Bargen tir Llys-faen, £39 miliwn; Cylchdaith Cymru, £10 miliwn; dwy siop fach ym Mhontypridd, £1 miliwn wedi'i golli gan y Llywodraeth Lafur hon. Arian sydd wedi'i daflu at brosiectau heb eu bod nhw hyd yn oed yn digwydd. Nid ydyn nhw'n digwydd. Faint o arian sydd wedi'i wario ar y llwybr du? Enillodd Arup ei hun, rhwng 2010 a 2015, £7.5 miliwn. Mae hynny'n anghredadwy.

Mae'n anhygoel.

Y dreth ystafell wely. Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig lle mae'n rhaid i'r rhai mwyaf agored i niwed dalu'r dreth ystafell wely. Cafodd yr SNP yn yr Alban wared arno. Yng Ngogledd Iwerddon nid ydyn nhw'n talu'r dreth ystafell wely. Ac mae'n gywilyddus. Ac rwy'n dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: ble mae eich sosialaeth yr unfed ganrif ar hugain pan fyddwch yn caniatáu i bobl Cymru dalu treth mor ofnadwy? Pam nad ydych chi'n diddymu'r dreth ystafell wely yng Nghymru? Gallech chi wneud hynny drwy beidio â gwneud penderfyniadau gwleidyddol gwael sy'n costio cymaint o arian i bawb. Mae'n costio ffortiwn.

Hoffwn i ychwanegu un syniad at y cymysgedd, sef y syniad o ddatganoli pŵer i lywodraeth leol i gyflwyno ardoll treth gwely ar gyfer twristiaid. Os ydych chi'n ymwelydd â'r ddinas hon, er enghraifft, ac rydych chi'n talu £150 y noson, fel y mae llawer yn ei wneud, am wely, am ystafell mewn gwesty, nid fydd £1 neu £2 yn gwneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd. Ac rwy'n dweud wrth Aelodau'r Cynulliad i'r dde ohonof i—yn wleidyddol i'r dde ohonof i, yn fan yna, gyda llaw, y bobl Lafur—byddai ardoll o £2 yng Nghaerdydd yn codi £4 miliwn—£4 miliwn y flwyddyn. A'r hyn sydd gennym ni wedyn yw Llywodraeth â phŵer, a byddwn i'n dweud wrthych i'w ddefnyddio ac i alluogi llywodraeth leol i godi refeniw. Un peth y gellid ei wneud wedyn yw dileu'r dreth ystafell wely.

Yn gyffredinol, mae hon yn gyllideb luddedig mewn gwirionedd gan Lywodraeth luddedig iawn. Byddaf i'n pleidleisio yn ei herbyn.

19:55

Diolch, Llywydd. Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru eleni yn gam hynod o bwysig yn y broses ddatganoli. Dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd refeniw a godir o gyfraddau treth incwm newydd Cymru yn cael ei gynnwys yng nghyllideb Cymru, ar ôl cyflwyno'r trethi hynny ym mis Ebrill 2019. Fodd bynnag, mae'r cam pwysig hwn yn y broses ddatganoli yn digwydd yng nghyd-destun y cyni tywyllaf mewn Llywodraeth. Mae Llafur wedi gwneud pob dim yn ei gallu i amddiffyn Cymru rhag effeithiau gwaethaf y toriadau hyn, trwy ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, a bydd yn parhau i wneud hyn. Mae hyn yn cynnwys y gyllideb Cefnogi Pobl, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor, bwrsarïau hyfforddi nyrsys, Dechrau'n Deg a llawer mwy yn wyneb Brexit a thynnu cyllid Ewropeaidd o Gymru. Nid yw'r gyllideb ddrafft hon yn eithriad.

Er gwaethaf y pwysau difrifol ar Lywodraeth Cymru, mae'n parhau i gyflenwi mwy na £500 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaeth iechyd, £50 miliwn yn fwy ar gyfer gofal cymdeithasol, £15 miliwn ar gyfer ysgolion a £12.5 miliwn i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant. Ond mae hi'n briodol pwysleisio pa mor anodd yn wir yw cyllidebau gwarchodedig yr awdurdodau lleol hyd yn oed, o ganlyniad i doriadau y DU i Gymru, a byddaf i'n parhau i groesawu symiau canlyniadol a blaenoriaethu llywodraeth leol a darpariaeth eu gwasanaethau rheng flaen. Serch hynny, mae buddsoddiad y Llywodraeth hon sydd gennym ni yng Nghymru yn parhau i ddiwallu anghenion pobl Cymru, er bod angen rhagor o gyllid tecach i Gymru arnom ni, a byddaf i'n parhau i alw am hyn. Rwy'n credu bod fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi gwneud gwaith rhyfeddol i ddarparu cymorth mor hanfodol ledled ein gwasanaethau cyhoeddus dan amgylchiadau mor anodd.

O ran y Ceidwadwyr, yn wir maen nhw'n rhai da am eistedd yn y Siambr hon a mynnu mwy ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, wrth i'w cyfeillion yn San Steffan orfodi toriadau ar ein cyllidebau yng Nghymru. Mae'n rhyfeddol. Mae yn fy syfrdanu i, o un wythnos i'r llall, maen nhw'n gofyn i ni wneud mwy gyda llawer llai, a rhagrith eithriadol yw hynny nad oes terfyn arno. Ymddengys fod y Torïaid wedi ymbellhau'n gwrtais o'u dewis gwleidyddol nhw eu hunain i gefnogi'r cyni honedig y mae eu cydweithwyr yn San Steffan yn ei wneud, ac y maen nhw'n ei osgoi, yn ei anwybyddu ac yn troi eu llygaid oddi arno yma yng Nghymru.

Ond rwy'n dymuno canolbwyntio ar y buddsoddiad cadarnhaol i Gymru y mae'r gyllideb hon yn ei ddarparu, yn ogystal â'r cyllid ychwanegol rwyf i wedi'i grybwyll eisoes. Hoffwn i groesawu'n arbennig y £7 miliwn a fuddsoddwyd ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd. Bydd hyn yn rhoi hwb hollbwysig i dwristiaeth, yn denu mwy o ymwelwyr i Gymoedd y de yr ydym ni mor falch ohonyn nhw, gan gynnwys safleoedd fel Coedwig Cwmcarn yn fy etholaeth i fy hun.

I gloi, Llywydd, mae'r gyllideb hon yn darparu cymorth y mae ei dirfawr angen ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, ac wrth i ni ddathlu pen-blwydd ein GIG yn saith deg mlwydd oed, y gwrthwynebodd y Torïaid ei greu, rwy'n credu y byddai Nye Bevan yn falch ein bod ni yng Nghymru yn buddsoddi ynddo yn y fan yma'n awr. Yr hyn sy'n gwneud hyn fwy rhyfeddol yw ein bod yn cyflawni'r buddsoddiad hwn er gwaethaf y ffaith y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn parhau i fod 5 y cant yn llai yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £850 miliwn—llawer iawn llai i'w wario ar ein holl wasanaethau cyhoeddus mewn termau real.

Ac er gwaethaf honiad y Canghellor, yn groes i'r holl dystiolaeth, fod cyni wedi dod i ben, ni fyddaf i byth yn derbyn darlithoedd neu wersi gan y Torïaid ar ein cyllideb wrth iddyn nhw barhau i dangyllido ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ac wrth iddyn nhw droi eu pen ac wrth i ni lywodraethu â llai, ac wrth iddyn nhw ar yr un pryd ddod o hyd i £1,000 miliwn i'w daflu i Ogledd Iwerddon gan anwybyddu dinasyddion Cymru, rwyf yn cymeradwyo gwaith yr Ysgrifennydd dros gyllid i ddarparu cyllideb sy'n ymdrechu o dan yr amgylchiadau anoddaf i ddiwallu anghenion holl bobl Cymru. Mae'n bryd i'r Torïaid gamu i'r adwy a darparu i Gymru yr hyn y maen nhw wedi'i ddarparu i Ogledd Iwerddon. Rwy'n byw mewn gobaith, ac yn gobeithio am etholiad cyffredinol. Diolch.

20:00

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch yn arbennig i Gadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.

Mae'n gam pwysig iawn wrth graffu ar y gyllideb ein bod yn clywed gan ein holl bwyllgorau, fel y dywedodd Bethan Sayed—cyfle i ganolbwyntio ar y rhannau hynny o'r gyllideb nad ydyn nhw'n cael llawer o sylw yn aml yma ar lawr y Cynulliad, ond sy'n wirioneddol bwysig iawn ym mywyd ehangach Cymru.

Rwyf am sôn am bedwar mater a gafodd eu crybwyll, rwy'n credu, dro ar ôl tro yn yr hyn a ddywedodd y Cadeiryddion. Yn gyntaf, pryder am gyflogau, rwy'n ei rannu. Polisi Llywodraeth Cymru, Llywydd, fu hyn: pryd bynnag gawn ni arian gan Lywodraeth y DU i gyfateb i setliadau cyflog y maen nhw wedi eu cytuno, rydym ni'n ei drosglwyddo ar unwaith i'r sefydliadau sy'n gyfrifol am dalu hynny. Yn sicr bu hynny'n wir am gyflogau athrawon, wedi'i ategu eleni a'r flwyddyn nesaf gan £7.5 miliwn ychwanegol o'n harian ni i wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn y maes hwnnw, a dyna'n union beth yr ydym ni'n disgwyl i'r arian hwnnw ei wneud.

Soniodd John Griffiths am bensiynau yn ei gyfraniad ef, ac o'r holl bethau yr ydym ni wedi'u crybwyll y prynhawn yma, Llywydd, dyna fy mhryder mwyaf fel eich Gweinidog Cyllid. Mae Llywodraeth y DU wedi newid y rheolau o ran cyfraniadau pensiwn, a bydd hynny'n golygu y bydd gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru yn cael bil mawr iawn y bydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu yn ychwanegol at unrhyw beth yr oedden nhw'n cynllunio ar ei gyfer, neu wedi gallu dylanwadu arno. Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn darparu arian i dalu'r costau hynny, ond nid ydym ni wedi gweld eto faint o hynny fydd yn dod i Gymru, ac nid ydym ni wedi gweld eto faint o'r biliau hynny sydd gennym ni i'w talu y bydd y cyllid hwnnw yn eu hariannu. Nawr, rwy'n dweud unwaith eto y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel blwch postio yn unig o dan yr amgylchiadau hynny. Bydd unrhyw arian a gawn ni yn mynd yn uniongyrchol i'r gwasanaeth iechyd, i awdurdodau lleol ar gyfer pensiynau athrawon, i'r gwasanaeth tân, i addysg bellach, ac ati. Ond os na fydd Llywodraeth y DU yn talu'r costau hynny y mae wedi'u creu, yna mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau yn y Siambr hon: nid oes unrhyw swm o arian wedi'i neilltuo yn ein cyllideb y byddwn yn gallu ei ddefnyddio i achub croen Llywodraeth y DU yn y sefyllfa honno. Yn wir, fel yr eglurais i'r Pwyllgor Cyllid wrth roi tystiolaeth yno, byddaf i'n mantoli'r gyllideb flwyddyn nesaf dim ond trwy ddefnyddio arian o gronfa wrth gefn Cymru. Rwy'n gallu gwneud hynny oherwydd ein bod ni wedi rheoli'r cronfeydd wrth gefn yn ofalus. Ond er mwyn parhau i wneud pob dim yr ydym ni'n dymuno ei wneud, i'r graddau y gallwn ni, rydym yn dibynnu ar wario mwy o arian nag sydd gennym ni flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid oes unman arall i fynd os cawn ni fil am bensiynau nad oes gennym ni unrhyw gyfrifoldeb drostyn nhw a heb allu gwneud darpariaeth.

Trydedd thema y mae Cadeiryddion y pwyllgorau wedi sôn amdani yw atal. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn y mae'r Aelodau wedi'i ddweud am ddefnyddioldeb y diffiniad ac rwy'n cytuno â'r hyn sydd wedi'i ddweud am wneud yn siŵr ein bod ni nawr yn symud ymlaen i fireinio'r diffiniad a'i ddefnyddio yn fwy wrth dynnu gwariant i lawr yr hierarchaeth y mae'r diffiniad yn ei darparu, er mwyn i ni wario mwy, yn y pen draw, ar drefniadau atal sylfaenol nag yr ydym ni'n ei wneud heddiw.

Rwy'n falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd y Cadeirydd am gyfarfodydd pwyllgor ar y cyd. Mae arweinydd y tŷ a minnau wedi bod i gyfarfod o'r fath, a oedd yn craffu ar faterion cydraddoldeb yn y gyllideb, ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn canlyniad y gwaith hwnnw.

Llywydd, a gaf i ddweud, mewn ffordd mor hynaws ag y gallaf, fod pawb yn fy myd i yn dymuno siarad â mi ynghylch cyllidebau trawsbynciol; mae pawb yn eithaf awyddus i wneud yn siŵr bod eu cyllideb eu hunain wedi ei hamddiffyn. Synhwyrais eithaf tipyn o hynny yn yr hyn yr oedd Cadeiryddion y pwyllgorau yn ei ddweud unwaith eto. Mae'n ddealladwy—mae Cadeiryddion pwyllgorau yn gyfrifol am faes, maen nhw wedi ymrwymo'n angerddol i'r maes hwnnw, a gall pawb weld bod mwy y gallem ei wneud, ond yr unig ffordd o gael  cyllidebau trawsbynciol yw os bydd pawb yn fodlon rhoi ychydig o'r hyn sydd ganddyn nhw i allu gwneud y gwaith ehangach hwnnw.

A gaf i droi at beth ddywedodd Llyr Huws Gruffydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Roedd e'n cyfeirio at yr anawsterau yn ein proses ni pan mae cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri ar draws y broses o graffu ar ein cyllideb ni yma yn y Cynulliad. Ond fel mae'r pwyllgor wedi awgrymu ac rydym ni i gyd wedi cytuno, mae'n well inni ddelio gyda'r anawsterau yna a rhoi'r wythnosau rydym ni'n gallu eu rhoi i'r pwyllgorau i wneud y gwaith craffu pwysig yma. Diolch i Llyr am beth y dywedodd e am y gwaith ar hyn o bryd rydym ni wedi'i wneud i baratoi am dalu treth incwm yma yng Nghymru fel trethdalwyr Cymreig. Wrth gwrs, mae'r broses yn heriol, fel y dywedodd yr OBR wrth y pwyllgor, ond rydym ni'n gwneud ein gorau glas i baratoi'r tir am y cyfrifoldebau newydd yma yng Nghrymu.

Gadewch i mi droi, os caf i, Llywydd, at yr hyn y mae llefarwyr pleidiau unigol wedi'i ddweud. Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am y gwaith yr ydym yn parhau i'w wneud ar y cyd ar y cytundeb a wnaed rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Rwy'n falch o allu gwneud rhagor o fuddsoddiadau ar y cyd-agenda honno heddiw. Canolbwyntiodd Llyr ar lywodraeth leol, a siaradwyr eraill hefyd. Rwy'n credu y byddwn i'n disgrifio £140 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Leol fel ychydig yn fwy na newid bach i'w cyllideb, er fy mod i'n cydnabod, wrth gwrs, bod pwysau gwirioneddol iawn yn ein hawdurdodau lleol yn y nawfed flwyddyn o gyni parhaus.

Cyfeiriodd Jane Hutt at waith Prifysgol Caergrawnt a ddywedodd, ar y diwrnod y cyflwynodd fy nghyd-Aelod Alun Davies y setliad dros dro, ein bod ni wedi defnyddio dull gwahanol iawn yma yng Nghymru o geisio amddiffyn llywodraeth leol rhag effeithiau gwaethaf cyni.

Dylwn i droi at yr hyn a ddywedodd Darren Millar. Yn anffodus, roedd y cyfraniad yn llawn cyfraniadau a oedd ymhell o'r ffeithiau. Rhoddais ffigurau—[Torri ar draws.] Rhoddais ffigurau i'w gyd-Aelod Nick Ramsay—hynny yw, dewch â Nick Ramsay yn ôl—a oedd yn dangos, mewn termau real, mai £17,169 miliwn oedd ein cyllideb yn 2010-11, a £16,357 miliwn fydd ein cyllideb mewn termau real y flwyddyn nesaf. Dyna pam y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol fod y gyllideb sydd ar gael i'r gyllideb hon £850 miliwn yn llai nag y byddai wedi bod pe bai ein cyllideb wedi cadw'r—

20:05

A ydych chi'n derbyn mai hon yw'r gyllideb fwyaf mewn termau arian parod y mae eich Llywodraeth wedi'i chael i'w gwario erioed yn hanes datganoli?

Darren, yn union fel y mae'r gyllideb ar gyfer llywodraeth leol y fwyaf erioed mewn termau arian parod, yn union fel y mae'r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth iechyd y fwyaf erioed mewn termau arian parod, yn union fel y mae'r gyllideb ar gyfer tai y fwyaf erioed mewn termau arian parod—pob un y gwnaethoch chi ddweud wrthyf i eu bod wedi'u torri mewn termau real. Felly, rydych chi'n gwybod, ac mae'r Aelodau o amgylch y Siambr yn gwybod bod ein cyllideb, mewn termau real, yn llai nag yr oedd ddegawd yn ôl, er gwaethaf yr holl anghenion ychwanegol yr ydym ni'n gwybod sydd yng Nghymru.

Mae gan unrhyw Aelod o'r Cynulliad hwn, Llywydd, yr hawl i ofyn am wario mwy o arian ar unrhyw faes, ond ar adeg pan fo'n holl arian wedi'i ymrwymo, does dim awdurdod gwirioneddol gan y ceisiadau hynny oni bai pan fo rhywun yn fodlon dweud o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod, oherwydd nid oes unrhyw arian heb ei ymrwymo i'w ddefnyddio. Felly, pan ddywedodd Darren wrthyf i nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer ardrethi busnes, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer prynwyr tai tro cyntaf, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer iechyd, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer llywodraeth leol, nad oeddem ni wedi gwneud digon ar gyfer addysg bellach—ac mae hynny cyn i'w gyd-Aelodau ddweud nad oeddwn i wedi gwneud digon ar gyfer tai, nad oeddwn i wedi gwneud digon ar gyfer trafnidiaeth, ac nad oeddwn i wedi gwneud digon ar gyfer seilwaith—o ble maen nhw'n credu y mae'r arian yn dod ar gyfer yr holl bethau hynny y bydden nhw'n hoffi i ni eu gwneud? Wel, gallaf i ddweud wrthych chi y bydd yn dod gan y Llywodraeth Lafur nesaf yn y DU, ac wedyn bydd gennym ni gyllideb o'r fath y byddwn yn gallu ei defnyddio i roi sylw i anghenion Cymru.

Llywydd, cyllideb ddrafft yw hon sy'n diwallu anghenion pobl Cymru. Mae'n gyllideb ddrafft sy'n rhoi dewis amgen gwirioneddol i'r polisi cyni niweidiol sy'n trechu ei fwriad ei hun. Mae'n gyllideb ddrafft sy'n rhoi sefydlogrwydd yn wyneb yr ansicrwydd ynghylch Brexit. Mae'n gyllideb sy'n pwysleisio ein nod o greu Cymru ffyniannus, iach, uchelgeisiol ac unedig. Mae'n gyllideb rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chymeradwyo y prynhawn yma, ac rwy'n cyflwyno cynnig y gyllideb i chi.

20:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe awn yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar y cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r datganiad gwleidyddol. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rydw i'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, un yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6889 - Gwelliant 1: O blaid: 5, Yn erbyn: 44, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Yr ail bleidlais yw gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6889 - Gwelliant 2: O blaid: 34, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Yr bleidlais nesaf yw gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM6889 - Gwelliant 3: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais felly ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6889 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwrthod y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol am y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol a gytunwyd gan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.

2. Yn credu nad yw'r berthynas yn y dyfodol fel y’i rhagwelir gan y datganiad gwleidyddol yn mynd mor bell â’r model ar gyfer perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol a nodwyd yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, sy'n darparu gwarantau cadarn mewn perthynas â hawliau gweithwyr, hawliau dynol, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dinasyddion.

3. Yn nodi bod dadansoddiad economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd economi'r DU yn gwaethygu 3.9 y cant dros 15 mlynedd o dan y cytundeb ymadael a’r datganiad gwleidyddol presennol.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i geisio aelodaeth y DU o’r farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau.

5. Yn galw am estyniad i’r broses ar gyfer erthygl 50.

6. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU ddatgan yn awr ei bwriad i negodi ar y sail honno ac os yw’n methu â gwneud hynny, dylid naill ai cynnal Etholiad Cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus i benderfynu ar y telerau ar gyfer ymadawiad y DU, neu a ydy’n dymuno aros.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6889 - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Yr eitem nesaf i bleidleisio arni yw Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018, sef eitem 5. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig. 

Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf yw eitem 6: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig. 

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 7 yw'r eitem nesaf: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig. 

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf yw eitem 8: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Morgludiant) (Cymru) 2018. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig. 

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Morgludiant) (Cymru) 2018: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf yw eitem 9: y Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2018. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.

20:15

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2018: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Felly, y bleidlais nesaf yw ar ddadl y gyllideb drafft 2019-20. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, un yn ymatal, 33 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6883 - Gwelliant 1: O blaid: 16, Yn erbyn: 33, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf ar y cynnig fel y'i ddiwygiwyd—heb ei ddiwygio—ac felly—. Pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6883 - Cynnig: O blaid: 27, Yn erbyn: 16, Ymatal: 7

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 20:16.