Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
28/11/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach Ynys Môn? OAQ53006
Diolch yn fawr iawn. Yn unol â'n cynllun gweithredu economaidd, rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi busnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru, sydd wrth gwrs yn cynnig cyngor dwyieithog a chymorth i ddechrau a thyfu busnesau. Ac yn ogystal, rydym yn darparu cymorth i fusnesau bach baratoi ar gyfer Brexit, gyda phecyn cydnerthu busnes Brexit pwrpasol gwerth £7.5 miliwn.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ymateb yna. Mae hi'n Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ddydd Sadwrn yma. Rwy'n annog pobl yn fy etholaeth i i ddangos eu cefnogaeth i fusnesau bach ym Môn ac i'r stryd fawr y penwythnos yma, ond hefyd i wneud ymrwymiad i wneud hynny rownd y flwyddyn, oherwydd mae busnesau bach a'r stryd fawr mor hanfodol o ran cryfder ein heconomi ni ond hefyd yn hanfodol yn gymdeithasol. A wnewch chi ymrwymo i weithredu argymhellion diweddar—fel rydym wedi ei weld yn adroddiad Ffederasiwn Busnesau Bach ar ddyfodol ein trefi, ac adroddiadau tebyg—sy'n gosod her i lywodraeth, mewn difrif, i ddod â chyfres o bolisïau ac i weithredu mewn ffordd sy'n profi bod y stryd fawr, a busnesau bach yn gyffredinol, yn haeddu blaenoriaeth lawn?
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Buaswn yn cytuno'n llwyr ei bod yn ddyletswydd ar bawb ohonom i ddefnyddio busnesau bach, yn enwedig yn y sector manwerthu, yng nghanol y dref ac ar y stryd fawr, gymaint o'r amser ag y gallwn ei wneud ac nid ar adeg y Nadolig yn unig. Ond hoffwn annog pobl i fanteisio ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ac, wrth gwrs, i hyrwyddo'r diwrnod ymlaen llaw.
Nawr, mae manwerthu wedi dod yn un o'r pedwar sector sy'n rhan o'n ffocws newydd ar yr economi sylfaenol. Mae hwn yn gam mawr oddi wrth y dull traddodiadol o wneud gwaith datblygu economaidd yn Llywodraeth Cymru, wrth inni gydnabod bod gan ddull o weithredu datblygu economaidd sy'n seiliedig ar le fantais fawr i gymunedau ledled Cymru. Nawr, cynhyrchir cynllun galluogi ar gyfer yr economi sylfaenol yn y flwyddyn newydd ac wrth gwrs, bydd yn cynnwys argymhellion sy'n berthnasol i bob un o bedair elfen ein gwaith â blaenoriaeth ar yr economi sylfaenol, sy'n cynnwys gofal, ac mae hefyd yn cynnwys bwyd a diod.
Ond o ran manwerthu, ceir argymhellion penodol, ac mae rhai ohonynt wedi'u cynnwys gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yn ddiweddar yn eu hastudiaeth, ac rydym yn rhoi sylw manwl iddi. Credaf ei bod yn deg dweud y bydd dyfodol canol y dref a'r stryd fawr yn dibynnu ar safleoedd defnydd cymysg, amlbwrpas, a hefyd, o bosibl, ar grebachu maint y stryd fawr a chanol y dref mewn sawl rhan o Gymru er mwyn creu naws fywiog. Yn allweddol i hyn i gyd rhaid sicrhau bod gennym gyfleoedd cywir yn eu lle ar gyfer defnyddio cynifer o adeiladau siopau gwag a chymaint o safleoedd uwchben siopau fel anheddau, oherwydd pe bai gennym fwy o bobl yn byw yng nghanol trefi, mae canol y dref yn llawer mwy tebygol o fod yn fywiog.
Roedd prosbectws seilwaith Caergybi, wrth grynhoi cyfleoedd ar gyfer swyddi, twf a buddsoddiad ar Ynys Môn, yn dweud bod angen cwblhau'r prosiectau galluogi y manylir arnynt yn yr adroddiad cyn buddsoddiad y sector preifat, neu fel arall ni ellir manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd. Yn gynharach eleni, nodai adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau,
'Clywodd y Pwyllgor fod prinder unedau ar gyfer busnesau bach ar Ynys Môn.'
Yn eich ymateb, fe ddywedoch chi y byddech yn gofyn am gyngor gan Banc Datblygu Cymru ar hyn. Pa gamau pellach y gallasoch eu rhoi ar waith ers inni drafod hyn ym mis Gorffennaf?
Wel, rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi ein bod wedi dyrannu arian ar gyfer creu canolfan fenter newydd wedi'i lleoli yn M-SParc. Hefyd, bydd cangen o'r ganolfan fenter wedi'i lleoli yn Llangefni. Mae'r Aelod yn gwybod am y ganolfan fenter sydd wedi bod ar waith bellach ers tua blwyddyn yn Wrecsam. Mae honno'n anelu i greu 100 o fusnesau newydd, ac mae'r cynnydd yn eithaf syfrdanol yno. Rydym yn gobeithio y bydd llwyddiant tebyg yn cael ei gofnodi yng nghanolfan fenter M-SParc a'r gangen yn Llangefni. Ond nid oes unrhyw amheuaeth, boed ar gyfer busnesau bach neu ganolig neu fawr eu maint, mae mawr angen a galw enfawr am ofod newydd, modern i fusnesau ddechrau a thyfu ynddynt, a dyna pam rydym yn edrych eto, fel rhan o'r gwaith rhanbarthol sy'n digwydd yn awr, ar symud oddi wrth sectorau tuag at ddatblygu economaidd rhanbarthol sy'n seiliedig ar le. Rydym yn edrych ar gynlluniau rhanbarthol sy'n gallu nodi cyfleoedd i ailddefnyddio adeiladau segur, a mwy o gyfleoedd hefyd i ddatblygu gofod newydd—nid gofod swyddfa yn unig ond gofod diwydiannol a manwerthu hefyd—lle y ceir galw amlwg.
2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth y DU am ddiwygiadau i'r Cod Priffyrdd? OAQ52992
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli nad yw rheolau’r ffordd fawr wedi'u datganoli ac wrth gwrs, maent yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Ond mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion yr Adran Drafnidiaeth ar faterion diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol a’u bwriad yw gweithio gyda hwy wrth iddynt adolygu rheolau’r ffordd fawr.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Hydref y bydd yn adolygu canllawiau rheolau’r ffordd fawr ar sut y dylai defnyddwyr ffyrdd ymddwyn mewn perthynas â beicwyr a cherddwyr. A bydd yn tynnu sylw at beryglon pasio agos, ac yn annog pobl i fabwysiadu dull yr Iseldiroedd—dull o agor drws car gyda'r llaw sydd bellaf oddi wrth y llyw, i orfodi gyrwyr i edrych dros eu hysgwyddau am draffig sy’n pasio. Rwy'n credu bod y rhain yn ddatblygiadau sydd i’w croesawu’n fawr. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i dynnu sylw at y canllawiau hyn a fyddai'n hawdd eu mabwysiadu yn fy marn i, cyn belled â bod pobl yn gwybod amdanynt ac yn eu dilyn? A beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r rhain ymhlith pobl yng Nghymru?
Rwy'n credu bod Julie Morgan yn codi pwynt pwysig iawn. Er fy mod yn ystyried fy hun yn feiciwr go gymwys, un o'r pethau rwy’n poeni amdanynt fwyaf pan fyddaf yn beicio mewn amgylchedd trefol, neu'n wir pan fyddaf yn rhedeg lle nad oes palmentydd, yw'r posibilrwydd y bydd rhywun yn agor drws car, yn enwedig pan fyddaf yn beicio. Ac mae'n rhywbeth sy'n peri pryder cyson. Nawr, os ydw i'n teimlo felly a minnau’n feiciwr cymwys, rwy'n dychmygu bod y pryder hyd yn oed yn fwy i ddechreuwr. Ac felly, mae'n rhaid imi ddweud bod nifer yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd ar y gweill wedi creu argraff fawr arnaf. Credaf fod mwy na 14,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, yn dilyn yr alwad am dystiolaeth gan yr Adran Drafnidiaeth, ac rwy’n credu bod yr hyn a elwir yn ddull yr Iseldiroedd o agor drws car wedi'i grybwyll gan nifer sylweddol o bobl. Buaswn yn awyddus i weld dull yr Iseldiroedd yn cael ei fabwysiadu yn rheolau’r ffordd fawr, ond rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar feysydd eraill i wella diogelwch beicwyr ar y ffyrdd gan gynnwys, er enghraifft, Ymgyrch Snap sydd wedi'i rhoi ar waith gan heddluoedd Cymru. Hwy oedd y cyntaf i arloesi gyda dull newydd o brosesu recordiadau dashcam o yrru peryglus, sy'n cynnwys pasio peryglus, a'r hyn y mae'n eu galluogi i’w wneud drwy reolaeth ar sail Cymru gyfan yw cynghori gyrwyr pan nad ydynt yn gyrru'n ddiogel, a'u cosbi hefyd pan brofir eu bod yn gyrru'n anniogel neu lle nad ydynt yn talu sylw dyledus i feicwyr ar y ffyrdd.
Felly, rwy'n credu bod dull yr Iseldiroedd o agor drws car yn elfen arall, ac yn arf arall, os hoffech, ar gyfer gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig i feicwyr. Ac o ystyried ein bod yn mynd i fuddsoddi symiau mwy nag erioed o’r blaen mewn teithio llesol gyda hyn, credaf y byddai ymyrraeth o’r fath drwy reolau’r ffordd fawr yn ategu ein hymyriadau ariannol a’n buddsoddiadau.
Ysgrifennydd y Cabinet, ceir pryderon y gallai cerbydau trydan achosi mwy o ddamweiniau ar ein ffyrdd oherwydd eu bod mor dawel. A ydych chi'n credu bod angen diwygio rheolau’r ffordd fawr yn hyn o beth?
Rwy'n credu y gallai fod angen diwygio, ac rwy'n credu bod gweithgynhyrchwyr eu hunain yn briodol iawn yn edrych am ffyrdd o wneud hynny, oherwydd y diffyg sŵn, wrth gwrs—ac mae llawer o gerddwyr, yn enwedig cerddwyr a fydd efallai'n defnyddio eu ffonau, yn amhriodol mae'n rhaid dweud, oherwydd dylai pawb ohonom roi sylw dyladwy i'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas pan fyddwn yn cerdded ar ochr y ffordd—. Mae gweithgynhyrchwyr o ddifrif ynglŷn â diffyg sŵn cerbydau trydan, a chan weithio drwy Fforwm Modurol Cymru, wrth i ni weld nifer o gerbydau trydan yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd Cymru, rwy’n awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr fod cymaint â phosibl o ddiogelwch i deithwyr a cherddwyr, ac mae hynny’n cynnwys beicwyr wrth gwrs.
Nid yw'r Gweinidog diwylliant yma i ateb y cwestiwn y disgwylid iddo gael ei ofyn ar y pwynt hwn, felly fe wnaf eu hail-drefnu dros dro a gofyn i Rhun ap Iorwerth ofyn ei gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr.
Rwy'n siŵr nad oes angen i mi eich hysbysu ynglŷn â’r sefyllfa ar y rheilffyrdd yng Nghymru y bore yma, ond fe af drwy rai o’r problemau diweddaraf ar reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Trenau Aberystwyth i Amwythig wedi’u canslo eto; Blaenau Ffestiniog i Landudno, gwasanaeth bysiau yn lle’r holl drenau; gwasanaethau Wrecsam Canolog i Bidston wedi’u heffeithio; tarfu ar wasanaethau Abertawe i Ddoc Penfro, ac Aberdaugleddau ac Abergwaun. llai o wasanaethau ar reilffyrdd y Cymoedd i Gaerdydd o hyd, ac yn y blaen. Nid yw'n dderbyniol. Y geiriau cyntaf yn y datganiad ar dudalen flaen gwefan rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru heddiw yw, 'Rydym yn ymddiheuro'. Nid ydym wedi clywed hynny gan y Llywodraeth o hyd. A hoffech chi fanteisio ar y cyfle i wneud hynny yn awr?
Wel, fe hoffai Trafnidiaeth Cymru ymddiheuro, fel y partner rheoli a gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, ond credaf fod angen cydnabod hefyd, mewn cyfnod byr iawn o amser, fod Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio'n hynod o galed i ddod â nifer o drenau’n ôl i ddefnydd. Fel arfer, rydym yn gweithredu ar lefel o tua 80 y cant o'r fflyd gyfan. Mae 127 o drenau yn y fflyd, felly fel rheol, byddem yn gweithredu tua 105 ohonynt gyda'r trenau sy'n weddill i mewn i gael gwaith cynnal a chadw wedi’i wneud arnynt. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fod y nifer i fyny i 96 y bore yma; rydym felly'n gweithredu ar lefel o tua 76 y cant. Bydd yn dychwelyd i'r lefel arferol—yn ôl i'r 80 y cant—o fewn ychydig wythnosau, ond credaf y dylid nodi hefyd mai achos y broblem hon—ac rwy’n gwerthfawrogi amynedd y teithwyr yn ystod yr amser anodd hwn—yw ein bod wedi etifeddu fflyd o drenau nad ydynt wedi cael eu cynnal a’u cadw’n dda o gwbl, ac ni chawsom fynediad llawn a phriodol atynt cyn i ni eu hetifeddu ac arweiniodd hynny, ynghyd â storm Callum, a mabwysiadu’r fasnachfraint yn ystod yr hydref, at greu heriau enfawr i Trafnidiaeth Cymru a’r gweithredwr a'r partner cyflawni.
Rydym hefyd yn edrych ar y rhesymau pam yr effeithiodd y mater hwn ar Gymru—rhwydwaith Cymru a’r gororau—yn fwy na rhannau eraill o'r DU. Yr hyn a welsom, a chredaf fy mod wedi dweud hyn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yw nad oes yr un o'r cerbydau—yr un o'r trenau—yn ein masnachfraint yn gweithredu gydag amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd bod trenau ar draws gweddill y DU wedi bod yn gweithredu gyda'r amddiffyniadau hynny. Rydym wedi dysgu bellach fod y problemau, o bosibl, wedi gwaethygu yng Nghymru oherwydd, heb yr amddiffyniadau hynny i’r olwynion, ac o ganlyniad i benderfyniad a wnaed yn 2016—a hyn ar draws y DU—i roi'r gorau i osod tywod ar reilffyrdd, golygai fod tyniant ar reilffyrdd Cymru wedi bod yn waeth yr hydref hwn. Felly, mae hwnnw wedi bod yn ffactor arall sy'n cyfrannu'n sylweddol at y broblem.
Y bore yma cyfarfûm â Syr Peter Hendy, cadeirydd Network Rail a chyfarfûm, unwaith eto, am y trydydd tro, â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru. Cefais y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau, ac fel rwy’n dweud, mae gwelliannau wedi bod—gwelliannau sylweddol—o fewn wythnos, gyda mwy na 10 y cant o'r trenau bellach yn ôl mewn defnydd, ond mae hon yn parhau i fod yn adeg heriol iawn, oherwydd y tanfuddsoddi ofnadwy yn ein rhwydwaith rheilffyrdd dros y 15 mlynedd diwethaf.
Diolch yn fawr iawn, ac rydym wedi clywed yr eglurhad hwnnw ac rydym yn gwybod bod yna broblemau gyda'r trenau. Fodd bynnag, gadewch imi ofyn y cwestiwn hwn i chi: fel partner yn darparu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, pan oedd Trenau Arriva Cymru yn ddeiliad y fasnachfraint, a wnaeth Llywodraeth Cymru dynnu ei llygad oddi ar y bêl o ran peidio â mesur a pheidio â monitro cyflwr y rheilffyrdd yng Nghymru yn briodol, os yw mor ddrwg ag y dywedwch yn awr?
A gaf fi, unwaith eto, amlinellu er eglurder mai ychydig iawn o—? Yn gyntaf oll, roedd y safonau ar gyfer darparu gwasanaethau yn rhy isel, oherwydd nid oedd y contract a gytunwyd 15 mlynedd yn ôl yn addas at y diben, ac felly, yn y bôn, roedd y bar yn llawer is i Trenau Arriva Cymru. Nid oedd gennym unrhyw ddulliau ar gael i ni, dim pwerau nac unrhyw fodd o orfodi Trenau Arriva Cymru i godi'r bar a gwella safon y gwasanaeth, ac mae hynny'n cynnwys cynnal a chadw. Felly, yn enwedig yn y cyfnod yn arwain at drosglwyddo'r fasnachfraint, nid oedd unrhyw gymhelliant masnachol i Trenau Arriva Cymru fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw y tu hwnt i'r hyn a oedd yn hanfodol yn gyfreithiol. Os caf ei roi fel hyn, mae'n debyg i pan fyddwch yn prynu car ail law. Rydych yn prynu car ail law gan wybod efallai na fydd y perchennog blaenorol wedi gofalu amdano cystal ag y byddech chi wedi hoffi iddynt wneud. Ac felly, rydych yn ei archwilio, ac fe fyddwch yn ystyried y posibilrwydd o orfod cael breciau newydd neu deiars newydd, ond fe fyddwch yn ei archwilio.
Y broblem gyda throsglwyddo'r fasnachfraint oedd na chafodd Trafnidiaeth Cymru fynediad llawn a phriodol at y fflyd gyfan i allu archwilio ei chyflwr. Fodd bynnag, yr hyn a wnaethant oedd gwneud yn siŵr fod digon o setiau olwynion yn eu lle. Dyma yw craidd y broblem ar hyn o bryd. Roedd y setiau olwynion wedi'u fflatio o ganlyniad i ddiffyg tyniant. Felly, fe wnaethant archebu nifer ddigonol o setiau olwyn, ond mae'n dal i gymryd amser i dynnu'r trenau oddi ar y cledrau a gosod setiau olwynion newydd arnynt.
Rydych yn rhoi'r rhesymau, ac nid wyf yn beiriannydd trenau, felly ni allaf amau'r manylion. Er hynny, gallaf ofyn hyn: pa waith monitro, pa graffu, oedd yn digwydd gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn roedd Arriva yn ei wneud pan oedd yn dal y fasnachfraint yng Nghymru? A fyddwch yn mynd ar ôl Arriva, er enghraifft, ynglŷn â chyflwr y trenau fel y cawsant eu gadael i chi fel Trafnidiaeth Cymru? A gwrandewch, rwyf eisiau i Trafnidiaeth Cymru lwyddo. Mae pawb ohonom eisiau gwasanaeth trên gwell i Gymru. Ond a allwch ateb y cwestiwn hwn: a oeddech chi'n barod ar gyfer y trosglwyddiad?
Roeddem mor barod ag y gallem fod ar gyfer y trosglwyddiad. Ond rhaid imi bwysleisio'r pwynt eto fod y contract a fu'n weithredol dros y 15 mlynedd diwethaf yn gontract ofnadwy, gyda sylfaen isel iawn a bar isel iawn. Rydym wedi gwella'r contract yn sylweddol y tro hwn. Gadewch imi ei roi yn y ffordd hon hefyd: pe na baem wedi bwrw ymlaen â chytundeb masnachfraint newydd, byddem wedi gweld cytundeb Trenau Arriva Cymru yn cael ei estyn, felly ni fyddai ymrwymiad wedi'i wneud i £800 miliwn o gerbydau newydd, o drenau newydd; ni fyddai ymrwymiad wedi bod i roi £200 miliwn tuag at wella gorsafoedd; ni fyddem yn cael y trenau newydd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac ni fyddem yn gweld y trenau Pacer yn cael eu dirwyn i ben y flwyddyn nesaf; ni fyddem yn gweld cynnydd enfawr yn y capasiti yn y blynyddoedd nesaf ychwaith. Yn hytrach, yr hyn y byddem wedi'i gael fyddai'r bar isel iawn a osodwyd ar gyfer cytundeb 2003.
Roedd gwaith monitro yn digwydd, ac roedd Trenau Arriva Cymru, yn seiliedig ar y matrics perfformiad, yn cyrraedd safon dderbyniol, ond roedd y safon honno'n rhy isel yn ein barn ni. Ac fe'm cofnodwyd yn dweud dro ar ôl tro nad oedd y contract a oedd yn dyddio'n ôl i 2003 yn addas i'r diben. Ac yn awr rydym yn gweld canlyniadau hynny. Ond yn yr un modd—yn yr un modd—drwy'r cynlluniau sydd wedi eu rhoi ar waith, mae Trafnidiaeth Cymru, y gweithredwr a'r partner datblygu, yn mynd i'r afael â hwy ar gyflymder anhygoel, gan weithio 24/7 i sicrhau bod cynifer o drenau ag y bo modd yn cael eu rhoi'n ôl ar y cledrau.
Mae'r Gweinidog diwylliant yn y Siambr yn awr i ateb y cwestiwn gan David Melding. Rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i ymddiheuro i David Melding am fod yn hwyr i fod yma i ateb y cwestiwn. David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu ymwneud plant mewn chwaraeon yn ardaloedd difreintiedig Cymru?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yma yn gynharach. Rydym yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru fel ein prif asiantaeth i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd difreintiedig ac i grwpiau oedran hefyd lle nad yw pobl yn cymryd digon o ran mewn gweithgarwch corfforol. Mae problem diffyg ymwneud mewn gweithgarwch corfforol yn berthnasol drwy gydol y cylch oedran, yn anffodus. Mae tua 32 y cant o bobl Cymru yn segur, ac rydym yn ceisio gweithio gyda'r cyngor chwaraeon, ac yn wir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i sicrhau bod y cwricwlwm cenedlaethol a datblygiadau newydd yn y cwricwlwm yn arwain at lefel uwch o weithgarwch corfforol gydol oes.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac a gaf fi ganmol gwaith Chwaraeon Cymru hefyd, a'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, sydd o leiaf yn edrych ar y meysydd cywir? Ond fe welais fod y lefelau sy'n cymryd rhan ymhlith y plant mwyaf difreintiedig yn is na'r llynedd mewn gwirionedd, ac mae'r bwlch rhyngddynt a phlant o ardaloedd cyfoethocach—mae'r bwlch hwnnw wedi cynyddu i 13 y cant. Ac fel y gwyddom, dangoswyd bod gweithgarwch corfforol cymedrol hyd yn oed yn gwella sgiliau plentyn mewn mathemateg a darllen, yn gwella'u cof a'u lles. Felly, mae'r rhain yn feysydd allweddol. Ac roeddwn yn meddwl, mewn ymateb i Chwaraeon Cymru, tybed beth fyddwch chi'n ei wneud, drwy weithio gydag awdurdodau lleol yn enwedig, i sicrhau y gallwn weld gwrthdroi'r gostyngiad yn y cyfraddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a chau'r bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf cefnog a lleiaf cefnog dros y 18 mis nesaf?
Diolch ichi am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae hyn yn ymwneud, wrth gwrs, â dull mwy cyffredinol y Llywodraeth o weithredu ar broblemau gordewdra a byw'n iach. Ac rydym yn bwriadu ceisio sefydlu dealltwriaeth ym mhrofiad ysgol pobl ifanc fod cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac yn y dewis o weithgareddau chwaraeon yn yr ysgol yn garreg sylfaen ar gyfer ffordd o fyw iach. Rydym bellach yn—. Yn ein gwaith gyda Chwaraeon Cymru, rydym bellach yn cael ein galluogi i dderbyn ymatebion mwy manwl i effaith ein polisi, ond rwy'n llwyr ymwybodol, ac wedi trafod hyn gyda'r prif swyddog meddygol, fod gennym gohort yn y grŵp oedran iau, yn yr ysgol gynradd, lle mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon. Ond byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad pan fydd gennym fwy o wybodaeth ar y pwynt hwn.
Rwy'n cytuno gyda chi, Weinidog, fod angen cyfraddau cyfranogiad uwch, ond rwy'n bryderus am y bwlch sy'n effeithio ar blant o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn enwedig, ac rwy'n credu ei bod yn broblem y dylai pob un o adrannau'r Llywodraeth sydd o dan eich cyfarwyddyd a'ch cyd-drefniant edrych arni, oherwydd mae angen dull gweithredu cynhwysfawr—ac rydych eisoes wedi crybwyll addysg iechyd; mae hefyd yn effeithio ar lywodraeth leol a mynediad at fannau chwarae diogel—ac roeddwn yn meddwl tybed a all Llywodraeth Cymru ddilyn ei harferion rhagorol, yn fy marn i, gydag adroddiad Andrews, ac edrych ar faes penodol—diwylliant a threftadaeth yno—o safbwynt sut y gall helpu i leihau lefelau tlodi. Rwy'n credu bod angen inni gael y math hwn o rym i sicrhau bod y plant sydd angen fwyaf o anogaeth o ran eu magwraeth a'u gallu i wneud yn dda yn yr ysgol drwy chwarae egnïol a chymryd rhan mewn chwaraeon—dyna'r mesur allweddol o ba mor llwyddiannus yr ydym yn ein hymagwedd gyffredinol tuag at y materion hyn, yn amlwg, wrth geisio cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon i bawb.
Yn wir, rydym yn gweithredu'r adroddiad ar effaith tlodi ar gyfranogiad a gwaith y Farwnes Andrews, ac mae hi'n ein cynorthwyo ac yn ein cefnogi yn y gwaith o weithredu'r adroddiad hwnnw, ac rwy'n obeithiol y cawn dystiolaeth fod y gweithgarwch hwn yn mynd i fod effeithiol, a byddaf yn dod â hynny'n ôl i'r Siambr wrth gwrs. Diolch.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ni lwyddais i holi'r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn ddoe oherwydd cyfyngiadau amser, felly efallai y gallaf ddefnyddio'r cyfle hwn i'ch holi ar hyd yr un llinellau. Pam y ceir amharodrwydd i ddatgelu cost denu Aston Martin Lagonda i Gymru?
A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r Aelod, a holl lefarwyr y gwrthbleidiau, am fwy na dwy flynedd o her gyson a chadarn? Dyma'r sesiwn gwestiynau olaf cyn y caiff Llywodraeth newydd ei ffurfio, a gwn nad oes yr un o'r tri unigolyn a allai benderfynu fy nhynged yma heddiw. Rwy'n dychmygu na fyddai'r un ohonynt yn bradychu dim ar hyn o bryd, ond diolch ichi am eich cwestiynau ac am gynnig her mor rhagorol dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.
Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai'r rheswm pam fod yn rhaid inni gynnal cyfrinachedd buddsoddwyr yw er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i greu cynifer o swyddi uchel eu safon ag sy'n bosibl a'n bod yn gweithio gyda chwmnïau i ddatgelu cymaint o wybodaeth â phosibl am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig iddynt, ond yn aml, oherwydd cyfrinachedd masnachol, nid ydym yn gallu datgelu pob manylyn.
Wel, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ateb braidd yn aneglur. Beth bynnag am bawb arall, fe ddywedaf fi fy mod yn gobeithio y byddwch yn aros yn eich swydd ar ôl yr wythnos nesaf, ond rwy'n siŵr y bydd llawer yn y tŷ hwn ac ymhellach i ffwrdd yng Nghymru yn dweud y byddai'n anodd rhoi pris ar ddenu gwneuthurwr ceir mor eiconig i Gymru. Efallai y buaswn yn mynd mor bell â dweud wrthych y gellid cyfiawnhau gwario crocbris ar gaffaeliad o'r fath. Felly, unwaith eto, rwy'n gofyn: pam yr amharodrwydd i roi'r ffigurau inni?
Unwaith eto, oherwydd yr angen i gynnal cyfrinachedd buddsoddwyr, a phe na baem yn gallu defnyddio cytundebau peidio â datgelu neu gymalau cyfrinachedd, byddem o bosibl yn colli cyfleoedd buddsoddi, ac mae'n dra phosibl na fyddem wedi gallu denu Aston Martin, a oedd—. Mae bri anhygoel i Aston Martin, ac o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi gallu sicrhau'r cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru gyda DBX a Lagondas, rydym wedi gallu gwella ein henw da ymhellach fel canolfan ragoriaeth fyd-eang yn y diwydiant modurol, ac mae hynny, yn ei dro, ar yr adeg hynod anodd hon, yn bwysig iawn er mwyn cadw'r rhagolygon gorau posibl ar gyfer cyfleusterau eraill, er enghraifft, yn Ford a Toyota. Felly, nid ydym yn ymddiheuro am weithio mor agos â phosibl gyda busnesau ar ddenu cyfleoedd buddsoddi enfawr i Gymru a darparu gwaith amhrisiadwy i gannoedd ar gannoedd o weithwyr medrus yng Nghymru.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, teimlaf efallai fy mod yn adleisio rhai o'ch teimladau chi yno, ond Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n bryd tawelu eich beirniaid a nodi bod dod ag Aston Martin i Gymru yn agor y posibilrwydd o ddenu enwau eiconig a chwmnïau proffil uchel eraill i fuddsoddi yng Nghymru? Mae'r rhain yn gwmnïau a all helpu i ddod â swyddi o ansawdd a chyfoeth hirdymor i'r wlad. Yn nes ymlaen heddiw, byddwn yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar werthu Cymru i'r byd. Pa ffordd well sydd yna o atgyfnerthu enw da Cymru fel gwlad flaengar na chael cwmni o'r fath fri yn lleoli yma? Felly, a wnewch chi gymryd fy nghyngor, Weinidog y Cabinet, sef yn syml iawn, cyhoedder ac i gythraul?
Diolch. Fe gymeraf y cyngor hwnnw; credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn hyrwyddo Cymru ochr yn ochr â chwmnïau allweddol sy'n arwain yr economi. Mae Aston Martin yn un amlwg; gallem gynnwys cwmnïau fel Airbus, gallem gynnwys QinetiQ a Raytheon, a llawer o fusnesau eraill rhagorol sy'n arddangos gweithgynhyrchu uwch yn y ffordd orau bosibl. Ceir busnesau eraill yn y diwydiannau creadigol a'r sectorau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, a llawer o sectorau eraill, sy'n dangos esiampl ledled y byd. Ac yn yr un modd, ceir rhai straeon llwyddiant anhygoel a wnaed yma yng Nghymru ochr yn ochr â'r rhain; mae cwmnïau fel Admiral a Moneypenny wedi denu sylw enfawr ledled y byd ac yn galluogi Cymru i ddal ei phen yn uchel gyda balchder. Hoffwn ddweud wrth y bobl nad ydynt wedi croesawu'r buddsoddiad gan Aston Martin yng Nghymru y dylent ddangos mwy o falchder o bosibl yng nghanlyniadau'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Efallai nad ydynt yn hoffi Llywodraeth Cymru, ond rydym o leiaf yn denu'r swyddi sy'n cadw pobl mewn gwaith.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd o'r cyflog byw go iawn gan y sector preifat yng Nghymru? OAQ53002
Gwnaf. Anogir busnesau yng Nghymru i fanteisio ar y cyflog byw go iawn drwy ein contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd cefnogi ymgyrch cyflog byw go iawn yn helpu i fynd i'r afael â chyflogau isel, yn atal twf dyled a'r defnydd o fanciau bwyd ac yn cefnogi economi gwaith teg. Mae'n gwneud synnwyr economaidd ac mae'n nodwedd o gymdeithas ofalgar, dosturiol a theg. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo mwy o gyflogwyr yn y sector preifat i ddod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn?
Mae'n ffaith bod gwledydd mwy cyfartal yn wledydd hapusach a mwy bodlon ac yn y gweithle, lle mae pobl yn cael eu talu'n dda, profwyd bod lefelau cynhyrchiant yn uwch. Nawr, rwy'n awyddus i edrych ar waith y Comisiwn Gwaith Teg, yn enwedig mewn perthynas â'r contract economaidd sydd bellach ar waith. Rwy'n edrych yn frwd ar waith y Comisiwn Gwaith Teg oherwydd rwy'n gobeithio y byddant yn cydnabod, ochr yn ochr ag ymgorffori'r cyflog byw go iawn, fod yna rôl hefyd i fusnesau ymdrin â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn sbarduno mwy o gydraddoldeb yn y gweithle. Felly, byddaf yn edrych ar waith y Comisiwn Gwaith Teg gyda golwg ar weithredu eu hargymhellion drwy'r contract economaidd. Ond rwyf hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr fod y cod ymarfer a grybwyllais yn fy ateb yn cael ei fabwysiadu gan gynifer o weithwyr ag y bo modd, a bod yr argymhellion yn y cod ymarfer yn cael eu cyflawni gan gynifer o gyflogwyr ag y bo modd, ac mae hynny'n cynnwys y defnydd o'r cyflog byw.
Ar hyn o bryd, ceir nifer o gynghorau yng Nghymru nad ydynt yn gosod unrhyw ofyniad ar gwmnïau preifat a gontractir ganddynt i dalu'r cyflog byw, fel y'i gelwir, ond ar ôl dweud hynny nid yw 15 o'r 22 o gynghorau hynny'n ymrwymo i dalu cyflog byw i'w gweithwyr eu hunain ychwaith. Yn gynharach y—. Wel, mewn gwirionedd, mae'n debyg y gallaf ddeall pam—oherwydd y setliad llywodraeth leol, mae'n debyg na allant fforddio gwneud, hyd yn oed pe baent yn dymuno. Yn gynharach y mis hwn, dywedodd y Living Wage Foundation eu bod am weld awdurdodau lleol, yn ogystal â sectorau eraill, yn ymrwymo i gynnig y cyflog byw go iawn. Felly, tybed a allwch ddweud wrthym a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol i weld a oes ffordd i lywodraeth leol arwain ar hyn o bosibl, neu a ydych yn siarad hefyd â chwmnïau preifat nad yw'r Llywodraeth yn eu contractio ond sy'n ddigon mawr i gynnwys y cymalau rhwymedigaeth gymdeithasol hyn, fel y gallant wneud hyn o bosibl?
Mae Suzy Davies yn codi pwynt hynod bwysig, sef rôl y sector cyhoeddus yn sbarduno mwy o dwf cynhwysol yn ein heconomi. Rwyf wedi siarad gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth ynglŷn â mabwysiadu'r contract economaidd a'i ymestyn i feysydd gwasanaeth eraill o weithgarwch Llywodraeth, ond hefyd i'r sector cyhoeddus, felly wrth inni ymestyn y contract economaidd, rwy'n gobeithio y byddwn yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd o bosibl, cyrff a noddir yn genedlaethol a chyrff hyd braich cyrff yn rhan ohono fel bod cymaint o fusnesau â phosibl yn y gadwyn gyflenwi yn gallu cael cyfleoedd o'r sector cyhoeddus, lle mae'r sector cyhoeddus yn talu cyflog byw go iawn ac felly'n codi lefelau cyflog. Credaf ei bod yn hanfodol fod y neges a roddwn i'r sector preifat yn cyd-fynd â'r neges a roddwn i'r sector cyhoeddus. Ac felly mae defnyddio'r contract economaidd ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn rhywbeth y credaf y byddai'n ddymunol iawn.
Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych chi rôl fawr yn yr hyn y mae'r sector cyhoeddus yn ei wneud. Mae'r maes awyr a brynodd y Llywodraeth hon bum mlynedd yn ôl yn dal i dalu llai na'r cyflog byw go iawn i bobl. Rydym yn sôn am oddeutu 100 neu fwy o staff diogelwch sydd â llawer iawn o gyfrifoldeb os ydynt yn mynd i wneud eu gwaith yn ddiwyd. A ydych yn teimlo cywilydd o'r ffaith nad yw'r aelodau hyn o staff yn mynd i gael y cyflog byw go iawn tan fis Ebrill 2019—chwe blynedd ar ôl i'ch Llywodraeth Lafur chi brynu'r maes awyr? Ac a allwch warantu pan gyflwynir y codiad cyflog hwn yn llawer hwyrach nag y dylai, y bydd Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hardystio gan y Living Wage Foundation? Ymhellach, pa bryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gyhoeddi bod yr holl weithwyr y mae'r Cynulliad hwn yn gyfrifol amdanynt—y rhai a gyflogir yn uniongyrchol, y rhai sy'n gweithio o dan gontract allanol, y rhai sy'n gweithio i gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad—yn ennill y cyflog byw go iawn?
Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod wedi rhoi amser i ysgrifennu at gadeirydd neu brif weithredwr y maes awyr ynglŷn â'r mater hwn, a gwn fy mod wedi cynnig cyfle i'r Aelodau hefyd i gyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr, ac fe wnaeth nifer o'r Aelodau y tu ôl i mi yn union hynny. Credaf ei bod yn rhagorol fod y maes awyr yn newid i fod yn gyflogwr cyflog byw go iawn erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Credaf ei fod yn newid hanfodol i ddangos, unwaith eto, ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ein bod yn ceisio sbarduno graddau mwy o dwf cynhwysol. Nid wyf yn ymddiheuro am lwyddiant anhygoel y maes awyr. Fodd bynnag, credaf ei bod yn hollol gywir fod y llwyddiant hwnnw'n cael ei rannu'n fwy cyfartal ar draws y sylfaen gyflogaeth yn y maes awyr, ac felly rwy'n falch iawn ei fod yn newid i fod yn gyflogwr cyflog byw.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i alluogi cwmnïau i barhau i fod o dan berchnogaeth Gymreig? OAQ52988
Mae Busnes Cymru yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru i gynorthwyo busnesau â chynllunio ar gyfer olyniaeth.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn gwybod mai un nodwedd o economi Cymru yw'r ffaith ei bod yn cynnwys nifer fach o gwmnïau angori mawr iawn a nifer fawr iawn o ficrofusnesau, ond bod y canol ar goll—rhy ychydig o gwmnïau canolig eu maint. Ac mae cwmnïau bach sy'n tueddu i dyfu yn aml yn gwerthu a'r berchnogaeth yn gadael Cymru. Yn Llanelli, rydym bellach yn gweld y gwahaniaeth rhwng cwmni lleol sydd wedi gwreiddio'n gadarn a chwmni byd-eang diwreiddiau, ac yn wir, y gwahaniaeth y gall rheolaeth sydd wedi gwreiddio'n lleol ei wneud. Nid yw penderfyniad gan gwmni teuluol Almaenig Schaeffler i gau ei ffatri yn Llanelli yn digwydd am y tro cyntaf. Fe geisiodd y teulu ei chau yn y 2000au cynnar, ond y pryd hwnnw ymladdodd y rheolwyr lleol, a oedd wedi ymrwymo i'r ardal, yn ôl a datblygu cynhyrchion newydd a achubodd y ffatri. Y tro hwn, nid oedd y rheolwyr lleol wedi'u gwreiddio yn yr ardal, ac rydym bellach yn gweld y canlyniadau, gyda 214 o deuluoedd y Nadolig hwn yn wynebu dyfodol ansicr. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y mae Banc Datblygu Cymru yn bwriadu tyfu sylfaen o gwmnïau canolig eu maint yng Nghymru, a pha gamau y gellir eu cymryd i gefnogi'r gweithlu lleol yn Llanelli yn yr amgylchiadau presennol?
A gaf fi ddiolch i Lee Waters am ei gwestiwn? Roedd y cwmni y mae'r Aelod yn cyfeirio ato mewn cysylltiad â mi heddiw. Bûm yn siarad â rheolwr y ffatri ac rwy'n awyddus i siarad â'r prif swyddog gweithredol yn yr Almaen. Rwy'n credu bod gan Banc Datblygu Cymru rôl enfawr i'w chwarae yn sicrhau bod cynifer o'r canol coll, os mynnwch, yn aros yng Nghymru ac yn nwylo pobl Cymru—. Credaf fod llawer o bobl wedi dweud bod angen inni symud at fodel yr Almaen o gadw mentrau canolig, yn enwedig, yn nwylo Cymry.
Er y buaswn yn annog yr Aelodau i beidio â gwneud y camgymeriad y cawsom ein rhybuddio gan de Tocqueville yn ei gylch flynyddoedd maith yn ôl, sef na ddylech geisio trawsblannu diwylliant o un wlad mewn gwlad arall, yr hyn y dylem ei wneud yw edrych ar y gwahanol batrymau ymddygiad ac agweddau tuag at berchnogaeth fusnes, lle rwy'n ofni bod ymagwedd o 'werthu allan a throi cefn' wedi bod yn y DU pan fo busnes yn cyrraedd maint penodol, ond mewn gwledydd Ewropeaidd eraill megis yr Almaen, ceir ymagwedd o dwf hirdymor ac ymrwymiad hirdymor o fewn y teulu neu'r cwmni cydweithredol. Er na allwn drawsblannu agwedd a diwylliant o'r fath, yr hyn y gallwn ei wneud yw dysgu gan yr Almaenwyr ac eraill sut y gallwn gymhwyso mwy o gynllunio hirdymor ac ymrwymiad i'r busnesau y mae pobl yn teimlo mor angerddol yn eu cylch pan fyddant yn tyfu ond y byddant wedyn yn dymuno troi cefn arnynt wrth iddynt gyrraedd maint penodol.
Felly, mae Banc Datblygu Cymru yn mynd i fod yn elfen bwysig yn y broses ar gyfer sicrhau bod cymaint o fusnesau ag y bo modd yng Nghymru yn parhau i fod mewn dwylo Cymreig, ac eisoes—rwy'n falch o ddweud—ceir cronfa reoli olyniaeth o £15 miliwn. Mae hwn yn arian sydd wedi'i ddyrannu i'r banc gan Lywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae'r banc datblygu hefyd yn chwilio am £10 miliwn o gronfeydd pensiwn Cymru i chwyddo'r pot pensiwn hwnnw.
Ond mae'n rhaid dweud na all y banc datblygu ei hun ysgwyddo cyfrifoldeb am gynyddu nifer y busnesau yng Nghymru y mae eu pencadlys yn dal i fod yma; mae'n fater hefyd i'r Llywodraeth ei hun, a dyna pam y mae un o'r pum galwad i weithredu yn y cynllun gweithredu economaidd newydd yn ymwneud â sefydlu pencadlys busnesau yng Nghymru. A dyna pam y mae Busnes Cymru ei hun hefyd yn hyrwyddo'r gronfa ac yn sicrhau bod cymaint o fusnesau â phosibl a chymaint o arweinwyr busnes â phosibl yn gallu integreiddio cyllid a chymorth busnes er mwyn nodi a chefnogi cytundebau olyniaeth—lle bynnag a pha bryd bynnag y byddant yn gymwys.
Os gwnawn hi'n anos i bobl yng Nghymru werthu eu busnesau i bobl o'r tu allan i Gymru—neu 'werthu allan', fel y cyfeiriwyd ato rwy'n credu—onid oes perygl y byddai hynny, yn ei dro, yn atal pobl rhag adeiladu eu busnesau yng Nghymru yn y lle cyntaf?
Nid wyf o reidrwydd yn dadlau ein bod yn ei gwneud hi'n anos i werthu busnes. Fy mhryder yw'r agwedd tuag at dwf busnes, sy'n wahanol iawn yma yn y DU o gymharu ag economïau megis yr Almaen a Denmarc, lle y ceir agwedd ymhlith llawer o arweinwyr busnes a pherchnogion busnesau sy'n para dros genedlaethau, yn hytrach na phara dros gynlluniau pum mlynedd yn unig. Credaf mai'r hyn sy'n hanfodol yw bod busnesau'n cael y cymorth ariannol cywir a'r cymorth rheoli cywir er mwyn cynllunio ar gyfer olyniaeth. Dyna'n union y mae Busnes Cymru a'r banc datblygu rhyngddynt yn ceisio ei wneud.
5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael mewn perthynas â gwella gwasanaethau trên o Bontyclun i Gaerdydd? OAQ53004
Wel, rydym yn cyflwyno amrywiaeth o welliannau i wasanaethau ym Mhont-y-clun, gan gynnwys lleihau amseroedd teithio, trenau pedwar cerbyd newydd a chynyddu amlder gwasanaethau ar ddydd Sul. Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ystyried ymestyn y metro, gan gynnwys i Bont-y-clun—yn amodol, wrth gwrs, ar gyllid ac achos busnes cryf.
Diolch ichi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am gyfarfod â mi, gyda Huw Irranca-Davies, Aelodau Seneddol lleol ac arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, i drafod y gwasanaethau o Bont-y-clun i Gaerdydd. Ac wrth gwrs, mae'r rhain yn effeithio cryn dipyn ar y cyhoedd sy'n dymuno defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, mae maint y datblygiad tai ym Mhencoed ac yn y rhan honno o Daf Elai yn golygu bod y galw am wasanaethau trenau ym Mhont-y-clun nid yn unig yn fawr, ond yn mynd i gynyddu'n sylweddol.
Y broblem allweddol gyntaf yw mai dau gerbyd yn unig yw'r trenau o hyd, a buaswn yn ddiolchgar am eich barn o ran sut y gellid mynd i'r afael â hyn fel rhan o'r cynllun i gael cerbydau yn lle'r hen rai. Yn ail, i raddau helaeth, y groesfan ym Mhencoed, sydd ar gau am hyd at 40 munud bob awr, sy'n pennu amlder y gwasanaethau trên. Byddai pont newydd ym Mhencoed yn golygu na fyddai angen cau'r groesfan, gan ei gwneud hi'n haws cynyddu amlder gwasanaethau'n sylweddol. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud beth yw ei farn ynglŷn ag ymarferoldeb yr atebion hyn.
Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn a hefyd am y cyfle i siarad ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â'r ddau fater a gododd yn ei gwestiwn? Rwy'n falch o ddweud bod croesfan Pencoed wedi cael sylw amlwg yn y trafodaethau a gefais gyda chadeirydd Network Rail, Syr Peter Hendy, y bore yma, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb i'r mater penodol hwn, a defnyddio nid yn unig adnoddau Network Rail, ond hefyd y gronfa trafnidiaeth leol y credaf y bydd yn hollbwysig wrth geisio dod o hyd i ateb yno.
Nawr, o ran y capasiti ar y trenau dau gerbyd, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod, gyda chyflwyno'r trenau pedwar cerbyd erbyn ddiwedd 2022—a gadewch inni gofio mai trenau newydd fydd y rhain—y bydd nifer y seddi a fydd ar gael ar y trenau'n codi o 120 i 204, gan gynyddu capasiti'n sylweddol ar y gwasanaeth hwnnw.
Ymunaf â'r Aelod dros Bontypridd i dynnu sylw at orsaf Pont-y-clun fel man cyfyng go iawn, yn enwedig gyda'r datblygiadau sydd wedi bod yn mynd rhagddynt yn y blynyddoedd diwethaf—ond datblygiadau y gwyddom eu bod yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Dros yr wythnos ddiwethaf, cefais fy mombardio'n llythrennol gan etholwyr yn yr ardal honno sydd wedi cael profiad arbennig o wael o'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig iddynt, gyda threnau'n gor-redeg heibio i'r platfform, anallu tocynwyr i gasglu tocynnau ar y trên ei hun, a phan gyrhaeddant orsaf Caerdydd Canolog, un agoriad yn unig ar agor i wneud taliadau i allu parhau eu taith. Nawr, nid yw'r diffygion hyn yn dibynnu ar y tywydd yn llwyr; maent yn dibynnu ar reoli da, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi clywed y rhesymeg y tu ôl i rai o'r problemau a fu'n effeithio ar y rhwydwaith yn fwy cyffredinol, ond pa hyder y gallwch ei roi imi fel Aelod etholedig i fynd yn ôl at fy etholwyr a dweud y bydd y lefelau sylfaenol iawn hyn o staff sydd yn y gorsafoedd i fonitro trenau yn cyrraedd a gadael, ac yn arbennig mannau penodol sy'n cael eu gwasanaethu o fewn y gorsafoedd ar gyfer gwneud taliadau, yn cael eu staffio'n llawn, fel y gall pobl gael profiad cadarnhaol, nid yn unig yn 2022, ond yn awr yn 2018?
Rwy'n falch o allu dweud, o ganlyniad i'r cytundeb rhyngom â KeolisAmey, ein bod yn mynd i gyflogi 600 yn fwy o bobl. Mae hwnnw'n ffigur eithaf sylweddol. Hefyd, rydym yn mynd i gyflwyno peiriannau tocynnau nad ydynt yn defnyddio arian ym mhob gorsaf ar draws ardal masnachfraint Cymru a'r gororau, a byddwn hefyd yn cydnabod ymhellach yr heriau a wynebir ar hyn o bryd gyda'r orsaf benodol a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn. Ond bydd pob gorsaf yn cael buddsoddiad ac yn cael ei huwchraddio o ganlyniad i'r £200 miliwn y byddwn yn ei fuddsoddi mewn gorsafoedd ar draws llwybrau Cymru a'r gororau.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y contract economaidd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau Cymru? OAQ53003
Gwnaf. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cytuno ar y canfed contract economaidd yn ddiweddar. Nid yw ond wedi bod ar waith ers chwe mis ac—[Anghlywadwy.]
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adrodd bod y gweithiwr amser llawn benywaidd cyfartalog yn ennill 8.6 y cant yn llai na'r gweithiwr gwrywaidd cyfartalog. Yng ngoleuni Diwrnod Cyflog Cyfartal 2018 ar 10 Tachwedd a'r alwad ddiweddar gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru a grwpiau fel y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, Chwarae Teg, BAWSO, Llamau i gau'r bwlch gwleidyddol rhwng y rhywiau a chyhoeddi data ar amrywiaeth, a oes cyfle i ddefnyddio'r contract economaidd i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?
Nid oes amheuaeth yn fy meddwl y gallai llawer o gyflogwyr fabwysiadu'r contract economaidd a darparu gwell amgylchedd gwaith a chyfleoedd i'w gweithwyr allu symud ymlaen drwy'r gweithle ac i fyny drwy'r gwahanol swyddi a rolau ac ennill cyflog gwell o ganlyniad. Nawr, mae'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau ar sail amser llawn fesul awr yn 7.3 y cant yng Nghymru ac 8.6 y cant ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Rhwng 2011 a 2018, mae'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi gostwng o 9.2 y cant i 7.3 y cant—felly, symudiad sydd i'w groesawu i'r cyfeiriad iawn dros y saith mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae arnaf ofn fod angen gwneud mwy o waith o hyd, a chredaf y bydd rôl y Comisiwn Gwaith Teg yn allweddol yn hyn o beth, yn llywio'r modd y defnyddiwn y contract economaidd fel y cyfrwng i hybu ymddygiad cyfrifol gan gyflogwyr. Wrth gwrs, mae cyflog cyfartal i ddynion a menywod yn ymagwedd gyfrifol y dylai busnesau ei mabwysiadu.
Ysgrifennydd y Cabinet, faint o fusnesau yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â hwy'n uniongyrchol mewn perthynas â'r contract economaidd newydd, ac a gaf fi ofyn: faint y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei fenthyca i fusnesau bach a chanolig o ganlyniad uniongyrchol i'r contract economaidd newydd?
Wel, bydd yr Aelod yn gwybod o fy sesiwn dystiolaeth yn ei bwyllgor yn ddiweddar fod y gronfa dyfodol yr economi gyfunol wedi'i sefydlu. Mae honno bellach ar waith. Rydym wedi dyfarnu cymorth i nifer sylweddol o fusnesau. Mae'r rheini'n cynnwys busnesau bach a micro. Hyrwyddir y contract economaidd newydd yn bennaf yn ystod y camau cychwynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth ariannol gan y Llywodraeth. Ond rwy'n gallu dweud—ac rwy'n falch iawn o allu rhoi gwybod i'r Aelod—ein bod yn clywed bod nifer o fusnesau nad ydynt yn ceisio cymorth ariannol bellach yn defnyddio ac yn llofnodi'r contract economaidd yn llwyddiannus. Mae hynny'n dangos, rwy'n credu, fod gan Gymru nifer enfawr o fusnesau sy'n ymddwyn yn gyfrifol ac yn dymuno hybu twf cynhwysol fel blaenoriaeth ar gyfer ein gwlad.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Trafnidiaeth Cymru? OAQ52986
Gwnaf. Mae storm Callum, tywydd yr hydref ac ansawdd gwael y cerbydau a etifeddwyd gan Trenau Arriva Cymru wedi effeithio ar y camau cyntaf o weithrediad Trafinidiaeth Cymru. Fel y dywedais eisoes, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithredu cynllun adfer, ac mae teithwyr yn dechrau gweld gwelliannau yn y gwasanaeth o ganlyniad i hynny, a bydd y gwelliannau hyn yn parhau dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gwrando'n astud ar ddatganiad y Llywodraeth ar Trafnidiaeth Cymru ac yn cydnabod anawsterau'r pontio. Ddoe, dywedodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip fod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cyflwyno rhywbeth tebyg i gerdyn Oyster Transport for London—rhywbeth rwy'n ei groesawu. Mae'n swnio fel rhywbeth a fydd o fudd go iawn i gymudwyr. Beth fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r system hon, ac yn bwysicach, sut y caiff ei hyrwyddo ymhlith y cyhoedd, ac a oes unrhyw atebion cyflym y gallwch ddweud wrth y cyhoedd a'r Siambr hon amdanynt?
Wel, rwy'n falch o allu dweud bod hwn yn amcan sydd gennym ar gyfer y pum mlynedd gyntaf cyn inni gyrraedd yr adolygiad pum mlynedd. Yn fy marn i, mae'r cerdyn Oyster yn Llundain wedi bod yn llwyddiant mawr, ond wrth gwrs, erbyn hyn gallwn ddefnyddio ein cardiau banc ar drenau tanddaearol Llundain yn hytrach na gorfod prynu cerdyn Oyster, gan ddangos unwaith eto fod technoleg wedi symud ymhellach eto. Hoffwn fod mewn sefyllfa erbyn 2023 lle mae'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru ac ar ochr Lloegr i ardal masnachfraint Cymru a'r gororau yn defnyddio systemau talu heb arian, fel ei fod yn fwy costeffeithiol ac er mwyn inni allu cyfyngu ar nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau heb dalu am docynnau.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trên yn Nhorfaen? OAQ53007
Gwnaf. Bydd cerbydau newydd yn cael eu cyflwyno ar y rheilffordd sy'n gwasanaethu cymunedau Torfaen o 2022 ymlaen. Pan gyflwynir y cerbydau newydd, rwy'n falch o ddweud y bydd nifer y gwasanaethau sy'n gwasanaethu cymunedau Torfaen yn cynyddu i ddau drên yr awr.
Diolch i chi, mae hynny'n galonogol iawn. Fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae yna broblemau mawr ynglŷn ag amlder y trenau sy'n stopio, yn enwedig ym Mhont-y-pŵl, gan achosi heriau mawr i gymudwyr sy'n gorfod gyrru i Gwmbrân i gael trên oddi yno. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth rheolaidd o Gaerdydd i Fanceinion yn pasio drwy Bont-y-pŵl ac yn mynd yn ei flaen i'r Fenni. A wnewch chi drafod hyn gyda Trafnidiaeth Cymru a gweld pa newidiadau y gellir eu gwneud ar frys i roi blaenoriaeth i sicrhau bod mwy o drenau'n stopio ym Mhont-y-pŵl?
Byddaf yn gwneud yn union fel y mae'r Aelod wedi gofyn. Wrth gwrs, mae cryn dipyn o amser tan 2022, ac rwy'n cydnabod yr angen i ddarparu gwell gwasanaethau pryd bynnag a ble bynnag y bo modd yn y tymor byrrach, felly byddaf yn ymdrechu i wneud hynny i etholwyr fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch dyletswyddau awdurdodau cynllunio lleol i hysbysebu'r ffaith bod ceisiadau cynllunio wedi dod i law? OAQ52983
Mae’r gyfraith mewn perthynas â’r mater hwn yn glir. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau cynllunio lleol yn cyhoeddi ceisiadau am ganiatâd cynllunio. Mae’n ofynnol iddynt gynnal a chadw cofrestr gyhoeddus o geisiadau, ac mae canllawiau manwl ar gael yn y llawlyfr rheoli datblygu.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, ond, yn sicr, bydd pob Aelod yn y Siambr yma wedi derbyn cwynion ar ryw adeg neu'i gilydd gan drigolion lleol am nad oeddent yn ymwybodol o gais cynllunio a oedd wedi'i gyflwyno i'r awdurdod lleol. Yn aml, erbyn iddynt ddod i wybod amdano, mae'r penderfyniad eisoes wedi'i wneud. Fel arfer, mae'r awdurdod lleol wedi rhoi'r rhybudd ar ryw bostyn lamp anghysbell ac yn ystyried bod hyn yn ddigonol o ran ymgynghoriad cyhoeddus. Yn syml, mae llawer yn teimlo bod y rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol i ymgynghori ar geisiadau cynllunio yn rhy wan. Felly, a ydych chi wedi cynnal trafodaethau ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y mater hwn, ac a ydych chi'n credu bod angen darpariaeth gyfreithiol ychwanegol i sicrhau bod ymgynghori priodol, yn enwedig â thrigolion cyfagos, ac yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn digwydd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae'r fframwaith deddfwriaethol yn gosod sail isafswm ar oblygiadau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol i hysbysebu. Hynny yw, mae'n rhaid gwneud hynny yn agos at y man, ac mewn papur newydd, ond hefyd ar ben hynny, mae hyblygrwydd i awdurdodau lleol i ehangu'r hysbysebu sydd yn cael ei wneud ar gyfer cynlluniau o'r math yma. Ac mae'n gyfrifoldeb arnyn nhw i sicrhau bod y math o hysbysebu'n addas ac fel gwnes i ddweud, sicrhau bod cofrestr gyhoeddus ar gael er mwyn i'r cyhoedd gael access i allu dirnad beth yw'r cynlluniau. Wrth gwrs, mae cyfle i unrhyw un sydd â chwyn yn y maes yma yn erbyn awdurdod lleol am beidio naill ai cyrraedd yr isafswm statudol neu beidio sicrhau mesurau addas—mae'n agored iddyn nhw i fynd â'r mater i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a mynd â'u cwyn drwy'r broses swyddogol honno.
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ar sut y gall helpu cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr heriau sy'n deillio o dechnoleg newydd? OAQ52987
Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector cyfreithiol yng Nghymru, nid yn lleiaf oherwydd y byddai sector cryf a ffyniannus yn sylfaen i unrhyw drefniadau awdurdodaethol newydd a allai godi o waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Rydym yn edrych eto ar y ffordd orau o gefnogi'r sector, ac mae hynny'n cynnwys comisiynu gwaith cynghorol a allai fod yn bellgyrhaeddol. Ond mae'n amlwg y bydd y cyfleoedd a'r heriau sy'n deillio o dechnolegau newydd yn chwarae rhan yn hynny.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am fynychu'r drafodaeth bwrdd crwn a drefnais yn ddiweddar gydag ysgolion y gyfraith a chwmnïau cyfreithwyr i edrych ar effaith awtomatiaeth ar y sector cyfreithiol yng Nghymru. Roedd hi'n amlwg o'r drafodaeth a gawsom fod yna gyfleoedd a bygythiadau: cyfleoedd i'r cwmni, fel y clywsom gan Hoowla, sy'n darparu meddalwedd ar gyfer rheoli achosion ac awtomeiddio llif gwaith, a allai ryddhau adnoddau mewn cwmnïau yn sicr, ond hefyd gallai greu risgiau i'r oddeutu 30 o gwmnïau cyfreithwyr bach yn fy etholaeth—yn amlwg, mae'r ffaith y gallwch gael ewyllys ar-lein am £19.99 yn achosi problem sylweddol i'w model busnes.
Roeddwn yn credu ei bod hi'n drawiadol o'r drafodaeth fod lefel yr ymwybyddiaeth yn y sector cyfreithiol yn eithaf isel, ac fel y nododd Richard Susskind, yr awdur, ceir rhyw raddau o wadiad ymhlith y cwmnïau fod y newid hwn yn dod a'r effaith a gaiff arnynt. Felly, byddai'n ymddangos bod darparu sgiliau a chyngor yn hanfodol er mwyn caniatáu i gwmnïau cyfreithwyr addasu, oherwydd os nad ydynt yn addasu, fe fyddant yn dod i ben.
Roeddwn yn falch o gael gwahoddiad gan yr Aelod i'r drafodaeth bwrdd crwn ar dechnoleg gyfreithiol ychydig wythnosau yn ôl. Roedd yn gyfle pwysig i archwilio'r hyn sy'n newid sylweddol iawn yn y sector gwasanaethau cyfreithiol proffesiynol yng Nghymru. Fel y soniais y bore hwnnw, rwyf wedi cyfarfod â nifer o gwmnïau cyfreithwyr ledled Cymru ers dod yn Gwnsler Cyffredinol a buaswn yn dweud, ble bynnag y maent yng Nghymru a beth bynnag yw eu maes ymarfer, a beth bynnag eu maint bron, eu bod yn gyffredinol yn cydnabod yr heriau a hefyd y cyfleoedd ar gyfer darparu gwasanaethau gwerth ychwanegol gwell neu wasanaethau mwy effeithlon y gall y dechnoleg eu cynnig. Ond hefyd, fel y mae'n nodi yn ei gwestiwn, mae posibilrwydd y ceir tarfu sylweddol iawn ar y modelau busnes y mae llawer o gwmnïau, o amryw feintiau ac amryw leoliadau unwaith eto, wedi dibynnu arnynt i gynnal y cwmnïau hynny. Felly, buaswn yn cefnogi'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn ei gwestiwn, yr angen mewn gwirionedd i'r sector yn gyffredinol roi sylw i'r mater ac i weld nid yn unig y bygythiad, ond hefyd y cyfle a ddaw yn sgil mwy o arloesi technolegol digidol, boed yn ddulliau o reoli achosion yn fwy effeithiol neu, ar y pen mwy uchelgeisiol, deallusrwydd artiffisial—y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny, nid yn unig ar gyfer cleientiaid masnachol, ond hefyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau a gafodd eu hariannu gan gymorth cyfreithiol hyd yn hyn. Mae'n bwysig fod y datblygiadau hyn ar gael i bawb sy'n chwilio am gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth gyfreithiol yng Nghymru.
3. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhwymedigaethau cyfreithiol awdurdodau lleol mewn perthynas â chonsortia addysg rhanbarthol? OAQ52982
Hyd yma, nid wyf wedi gwneud unrhyw sylwadau ar ran Llywodraeth Cymru o safbwynt rhwymedigaeth gyfreithiol awdurdodau lleol mewn perthynas â chonsortia addysg rhanbarthol.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod mae'n siŵr fod arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, wedi datgan ei fod wedi penderfynu ymatal rhag talu £40,000 i gonsortia addysg rhanbarthol Ein Rhanbarth ar Waith am nad yw'n credu bod ei gyngor yn cael gwerth am arian o'r gwasanaeth rhanbarthol. Nawr, nid wyf am edrych ar rinweddau'r pwynt hwnnw, ond yn amlwg mae ERW wedi wynebu heriau dros y flwyddyn neu fwy ddiwethaf. Yn gyfreithiol, beth yw eich barn o ran penderfyniad ymddangosiadol unochrog y Cynghorydd Jones i atal y cyllid? A oes sail gyfreithiol i hynny? A yw'n dderbyniol i arweinwyr cyngor wrthod cyfrannu at gyrff rhanbarthol? Ac onid oes risg yma i agenda ranbarthol Llywodraeth Cymru, oni bai bod y fframweithiau'n glir mewn sefyllfaoedd o'r fath?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y gŵyr, awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb ac atebolrwydd statudol dros berfformiad ysgolion, ac nid yw'r consortia rhanbarthol yn newid eu prif atebolrwydd statudol mewn perthynas â hynny, ac mae'n sail i'w perthynas gydag awdurdodau lleol eraill. Yn y pen draw, mentrau ar y cyd rhwng awdurdodau lleol, os mynnwch, yw consortia rhanbarthol. Cânt eu sefydlu o dan y cyd-bwyllgorau adran 102 a lle y ceir pryderon, fel y gallai fod gan rai cynghorau mewn perthynas â chonsortia, gallant fynd i'r afael â'r pryderon hynny yn eu cysylltiadau ag awdurdodau lleol eraill o fewn y consortiwm penodol.
Gwn mai barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fel y mae ei gwestiwn yn rhagdybio rwy'n credu, yw y bu enillion sylweddol o fewn y model rhanbarthol o weithio ac mai dyna'r ffordd orau ymlaen i awdurdodau ledled Cymru. Yn amlwg, fel y mae ei gwestiwn yn nodi, cafwyd pryderon mewn perthynas â rhai consortia. Mae hynny wedi bod yn destun arolygiad gan Estyn ac yn gyffredinol, gwelwyd gwelliant sylweddol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan yn glir beth yw ei disgwyliadau o ran rheoli consortia, ac y dylent leihau cymaint ag y bo modd y gwariant ar weinyddu a chanolbwyntio eu cynlluniau gwariant ar ddull sy'n canolbwyntio ar ysgolion lle bynnag y bo'n bosibl.
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o berfformiad system ar-lein yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol? OAQ53009
Rydym wedi tynnu sylw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder at nifer o faterion technegol a allai rwystro neu atal pobl rhag defnyddio system ar-lein yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Ond y broblem ehangach yma, wrth gwrs, yw effaith niweidiol iawn toriadau Llywodraeth y DU i gymorth cyfreithiol ar fynediad at gyfiawnder.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Gofynnaf y cwestiwn am fy mod wedi darllen adroddiadau sy'n peri pryder mawr yn manylu ar sut y mae anawsterau o fewn y system yn gorfodi dioddefwyr cam-drin domestig i fynychu'r llys ar eu pen eu hunain. Yn y bôn, mae system reoli cleientiaid a chostau'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn chwalu, felly nid yw cyfreithwyr yn gallu cwblhau'r gwaith papur angenrheidiol ar gyfer mynychu gwrandawiadau gyda'u cleientiaid. Ac rydym eisoes yn gwybod bod toriadau enbyd i gymorth cyfreithiol yn un o'r ffyrdd niferus y mae cyni wedi effeithio'n anghymesur ar fenywod. Rydym yn gwybod bod cannoedd o filoedd o bobl nad ydynt yn gymwys bellach i gael cymorth cyfreithiol, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, na all sicrhau gwaharddebau i amddiffyn eu hunain rhag niwed am na allant fforddio talu'r cyfraniadau mwyach. Felly, os na wnaethoch hynny eisoes, rwyf am ofyn i chi gyflwyno sylwadau ar frys i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'u bod yn gweithredu i ddatrys hyn ar ran y dioddefwyr y maent hwy a'u system yn gwneud cam mawr â hwy.
Wel, a gaf fi gysylltu fy hun â'r sylwadau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn ei chwestiwn? Rydym wedi bod yn cyflwyno sylwadau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y pwynt hwn yn benodol. Fe fydd hi eisiau gwybod bod y data a ryddhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos gostyngiad dramatig yn y ddarpariaeth o gymorth cyfreithiol yng Nghymru, gyda 2,440 yn llai o gynrychiolaethau sifil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf nag yn 2011-12—2,440. Mae'r gostyngiad yn arbennig o amlwg mewn achosion teuluol preifat, fel y mae'n crybwyll yn ei chwestiwn.
Rwy'n ymwybodol o'r erthygl y mae'n cyfeirio ati, ac mae'n rhan o batrwm o fethiant mewn perthynas â'r system cymorth cyfreithiol ar-lein, ac rydym wedi nodi a chyfleu hynny wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'n cynnwys y ffaith bod y system weithiau'n methu adnabod atebion, yn darparu negeseuon gwall fel mater o drefn, nid yw'n darparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn, ac efallai yn fwyaf pryderus o bosibl, wrth edrych drwy hanes cyfrifiadur, mae modd gweld tudalen y defnyddiwr pan fyddant wedi bod ar y wefan cymorth cyfreithiol, yn chwilio am wasanaethau yno, a allai arwain at ganlyniadau difrifol i ddioddefwyr cam-drin domestig sy'n defnyddio cyfrifiadur a rennir, fel y bydd yn cydnabod, a gadael i'r sawl sy'n cam-drin gael rhybudd ymlaen llaw o'r bwriad posibl i roi camau cyfreithiol ar waith.
Felly, mae'r rhain yn ddiffygion sylweddol. Nid oes neb yn awgrymu nad oes rhan gan y system ar-lein i'w chwarae yma—fe fydd hi wedi clywed o fy ateb i Lee Waters yn gynharach fy mod yn meddwl bod yna botensial sylweddol, yn gyffredinol—ond ni all fod yn wir lle mae Llywodraeth y DU yn gwneud toriadau dwfn i gymorth cyfreithiol, ond nad yw'n gallu darparu system sy'n ddibynadwy, yn gyson ac yn sicrhau preifatrwydd a diogelwch y rhai sy'n ei defnyddio.
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o benderfyniad y Goruchaf Lys i wrthod apêl gan Lywodraeth y DU yn achos Wightman? OAQ53011
Mae'r achos yn codi cwestiwn pwysig am y posibilrwydd, neu fel arall, o ddiddymu erthygl 50, a ddylai gael ei ateb, er mwyn sicrhau y gellir gwneud penderfyniad deallus ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol ar y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, neu o ganlyniad i argyfwng 'dim bargen'.
Diolch i chi am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, efallai, clywyd yr achos yn Llys Cyfiawnder Ewrop yr wythnos hon mewn gwirionedd, ac rydym bellach yn aros am y penderfyniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop. A ydych wedi gwneud trefniadau gyda'ch cymheiriaid yn y gwledydd eraill i gael trafodaeth ar ganlyniad yr achos hwnnw eto, oherwydd, fel rydych wedi'i ddweud, mae'n rhoi'r sefyllfa gyfreithiol ar y posibilrwydd o ddiddymu erthygl 50? Ac o ystyried y llanastr rydym ynddo ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU, a'r anhrefn a allai ddilyn ymhen pythefnos, pan yw'n debygol y bydd y bleidlais yn pennu na fydd y fargen hon yn cael ei derbyn, a wnewch chi gyfarfod â'ch cyd-Weinidogion felly i edrych ar ba bosibiliadau a fyddai ar gael i ymestyn neu ddiddymu erthygl 50 os yw'n barnu o blaid hynny, fel y gallwn barhau i negodi mewn gwirionedd, fel y gallwn sicrhau bargen sy'n addas i Gymru yn hytrach na bargen sy'n addas i Theresa May?
Wel, mae'r Aelod yn gywir—clywodd Llys Cyfiawnder Ewrop y cyfeiriad hwn fore ddoe, mewn gwrandawiad a barodd bedair awr, gyda phob un o'r 28 ustus yn clywed y mater. Yn amlwg, mae'n bwynt arwyddocaol iawn. Fel y mae'n digwydd, safbwynt Llywodraeth y DU yn yr ymgyfreithiad hwnnw yw mai mater damcaniaethol yw hwn, oherwydd nid oes bwriad ganddynt i'w ddiddymu, ac mae cwnsleriaid ar ran yr UE wedi gwneud y sylw nad oes posibl diddymu erthygl 50 heb gytundeb y 27 Aelod arall.
Mae'n gofyn am drafodaethau rhwng y Llywodraethau. Fel y bydd yn ei sylweddoli, mae trafodaeth ar y gweill ynghylch goblygiadau'r holl ddatblygiadau cyfreithiol ar hyn o bryd. Buaswn yn dweud y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ystyried yn ofalus iawn cyn gweithredu i ddiddymu erthygl 50. Safbwynt Llywodraeth Cymru oedd y dylai'r ffocws fod ar ffurf yn hytrach na ffaith Brexit, a dyna yw ei safbwynt o hyd. Ond wrth i ni nesáu at yr hyn sy'n broses seneddol hynod o ansicr, a'r cyfle yn y Siambr hon i drafod a mynegi barn ar y negodiadau a'r cytundeb a gyrhaeddwyd hyd yma, mae'n ymddangos i mi ei bod yn bwysig sicrhau cymaint o eglurder â phosibl, a chymaint o bwyntiau sefydlog â phosibl, yn y drafodaeth honno. Ac felly, rwy'n croesawu'r cyfle i'r llys cyfiawnder roi eglurder ar y pwynt hwn.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ac mae'r cwestiwn gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol archif ddarlledu genedlaethol i Gymru? 237
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig i sefydlu archif ddarlledu genedlaethol yn y llyfrgell genedlaethol. Mae'r trafodaethau â'r llyfrgell yn parhau i gefnogi'r broses gynllunio. Ond rydym am sicrhau bod unrhyw ddatblygiad ar sylfeini cadarn a chynaliadwy, heb fod yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd bresennol sydd gan y llyfrgell.
Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Ond mae'n rhaid i fi ddweud, roedd hi'n fater o siom a syndod i mi ddeall yr wythnos diwethaf eich bod chi wedi gwrthod £1 filiwn i'r llyfrgell genedlaethol, a fyddai'n denu, wrth gwrs, yn ychwanegol, arian loteri—HLF—ychwanegol o ryw £5 miliwn, efo cefnogaeth Llywodraeth Cymru, i ganiatáu datblygu archif ddarlledu genedlaethol i Gymru. A ydy hi'n bosib, felly, cael cadarnhad ar gwpwl o gwestiynau sy'n dilyn o hynny? A oes yna gadarnhad bod yna ymrwymiad o £5 miliwn i'r cynllun oddi wrth y loteri ym mis Mai 2017? A ydy hynny'n ffeithiol gywir—£5 miliwn tuag at brosiect cenedlaethol o £9 miliwn i greu archif ddarlledu genedlaethol, yn cynnwys archifau y BBC, ITV, S4C a chwmnïau annibynnol? Mae yna gyfoeth o dreftadaeth gymdeithasol Cymru drwy'r ugeinfed ganrif bron i gyd yn fanna, yn y ddwy iaith, ac, wrth gwrs, pwyslais y cynllun yma yw bod argaeledd a mynediad i'r cyhoedd yn fan hyn. Nid ydym yn sôn am dapiau wedi'u storio mewn rhyw storfa bell i ffwrdd, neu hyd yn oed yn cael eu dinistrio, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan.
Nawr, mae yna gais ffurfiol i fod i gael ei gyflwyno yr wythnos sy'n dechrau 18 Rhagfyr i'r loteri, i'r HLF. Pam ydych chi wedi ei gadael hi mor hwyr i ddweud 'na' o ran y £1 filiwn o gyfalaf yna a'r gefnogaeth strategol? A ydy'r Llywodraeth mewn egwyddor yn fan hyn yn erbyn, felly, creu archif ddarlledu genedlaethol? A oes modd i'r Llywodraeth edrych eto ar hyn i weld sut y gellid gweithio allan unrhyw gonsérn sydd gyda chi, fel bod y £5 miliwn o arian HLF ddim yn cael ei golli i Gymru, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan, a bod pobl Cymru yn cael mynediad i archif wirioneddol genedlaethol? Achos rydym ni yn sôn yn fan hyn, i orffen, Llywydd, am adeiladu cenedl, am gof cenedl—dyna beth yw archif. Ddoe, fe glywsom ni am bwysigrwydd hanfodol creu sefydliadau cenedlaethol, ac mae angen gwir ddatrysiad i'r sefyllfa yma rŵan, neu fe gollir archif gwerthfawr am byth. Beth amdani, Weinidog?
Nid oes unrhyw gwestiwn o golli'r archif. Mae'r archif yn gyfrifoldeb i'r BBC, ac mae'r ddarpariaeth ar ei chyfer hi at y dyfodol yn un y mae'r llyfrgell wedi mynegi diddordeb ynddi hi. Ac, yn wir, mae yn gywir i ddweud bod gwaith rhagbaratoadol wedi cael ei wneud, ac mae yna ohebiaeth wedi bod rhyngof i â'r llyfrgell ers blwyddyn ar y mater yma, yn ceisio gosod seiliau cadarn i'r datblygiad. Er enghraifft, nid oeddwn i'n fodlon bod staff presennol y llyfrgell yn gorfod cael eu hailgyfeirio, o bosib, i ddyletswyddau yn ymwneud â'r archif a fyddai yn peryglu safle'r llyfrgell, a bod yn rhaid inni ddiogelu safle cyllidol y llyfrgell. Ac i'r bwriad hwnnw y mae'r £1 filiwn, os caf ateb yn y ffordd yma, ar y bwrdd o hyd. Ac rydw i wedi trafod y mater yma heddiw'r bore, fel mae'n digwydd, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid. Yr hyn nad oeddwn yn fodlon ei wneud oedd mynd ymlaen â'r cynllun yma nes bod y llyfrgell wedi adolygu'r cynllun yn llwyr, ac wedi rhoi sicrwydd i ni ei fod o'n gynllun cynaliadwy, ac na fyddai o'n gwanio o gwbl ddarpariaeth gyffredinol ac ehangach y llyfrgell.
A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i Dai Lloyd, ac ategu pa mor bwysig yw'r prosiect hwn? Ac yn wir, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn dal i fod wedi ymrwymo iddo. Credaf ei bod yn anffodus, ar y cam hwyr hwn, nad ydym wedi clywed peth o sylwedd y prif bryderon mewn gwirionedd, a chredaf fod angen i'r holl randdeiliaid ddod at ei gilydd yn awr a gwneud rhyw fath o ddatganiad ynglŷn â sut y bydd hyn yn datblygu. Er efallai na fyddwn yn colli rhan y BBC o'r archif, mae'n bosibl y bydd agweddau eraill yn fwy bregus—ITV ac S4C hyd yn oed—a hefyd, bydd yn rhaid i ran y BBC gael ei symud i rywle, ac mae'n bosibl na fydd ar gael am flynyddoedd lawer os na fydd yn cael ei drosglwyddo i Aberystwyth yn weddol fuan.
Yn amlwg, mae'r caffaeliad hwn yn ategu'r gwaith ar ddigido papurau newydd yng Nghymru—tipyn o gamp, ac adnodd i holl bobl Cymru, a'r cymunedau academaidd a diwylliannol yn ogystal. Bellach, gallai'r adnodd hwnnw gael ei atgyfnerthu gan y caffaeliad a'r mynediad a fyddai gan bobl at yr archif ddarlledu hon. Mae'n hollbwysig i'n dealltwriaeth genedlaethol a'n holl gysyniad o Gymru a sut y myfyriwn ar y penderfyniadau a wnaethom a'r opsiynau sydd gennym yn y dyfodol. Rwy'n awyddus iawn i weld atebion o ran sut y caiff hyn ei ddatrys, oherwydd mae hi braidd yn siomedig nad ydym yma'n dathlu'r prosiect gwych hwn yn hytrach na'n wynebu'r anhawster mawr hwn yn hwyr yn y dydd. Felly, dewch â phawb at ei gilydd, a'r rhanddeiliaid, i wneud datganiad clir i bawb ohonom fel y gallwn graffu a chefnogi'r hyn sydd, yn ddiau, yn brosiect cenedlaethol hynod o bwysig.
Gadewch i mi wneud hyn yn glir iawn: mae'r trafodaethau gyda'r llyfrgell genedlaethol wedi bod yn mynd rhagddynt ers blwyddyn. Mae gohebiaeth wedi bod yn mynd rhagddi ers i mi ddod i'r swydd hon, ac yn sicr, cytunaf â chi y dylai'r frwydr hon fod wedi cael ei datrys amser maith yn ôl, a byddai hynny wedi digwydd pe baem wedi cael ymateb priodol—ymateb amserol—i'n pryderon yn gynharach gan y llyfrgell, ac rydym yn dal i aros am hynny. Wrth siarad â swyddogion am y mater hwn, fel y bûm yn ei wneud heddiw a ddoe, rwy'n awyddus iawn i weld trafodaethau difrifol ynglŷn â sut y mae'r pryderon sydd gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â hyfywedd prosiect yr archif ddarlledu genedlaethol, a hyfywedd y llyfrgell hefyd, yn cael eu datrys yn briodol.
Nid wyf yn siŵr iawn a ydw i fod i ddatgan budd yn fan hyn oherwydd bod cymaint o fy ngyrfa broffesiynol i yn yr archif BBC—[Chwerthin.]—ond rydw i yn ystyried yr ymateb gennych chi i'r cwestiwn amserol prynhawn yma i fod yn un cadarnhaol dros ben—bod yr arian yma yn dal â photensial i fod ar y bwrdd. Tybed a allwch chi roi sicrwydd bod yr arian yna ar gael i'w ryddhau rŵan er mwyn rhyddhau'r arian HLF yn y ffenest bresennol, os ydy'r sicrwydd rydych yn chwilio amdano fo yn gallu dod mewn cyfnod amserol gan y llyfrgell genedlaethol.
Wel, mae yna drafodaeth wedi bod efo cronfa’r loteri ac mae'r trafodaethau yna yn parhau. Nid wyf mewn safle i allu dweud a fydd yna estyniad pellach i'r amser, ond rwy'n gobeithio y bydd yna, a fydd yn rhoi cyfle inni wedyn ddatrys y mater yma o fewn y mis neu ddau nesaf. Mae hynny'n hanfodol i mi, ond mae'n rhaid imi ei wneud yn hollol glir nad oeddwn i ddim yn fodlon gweld unrhyw leihad yn narpariaeth y llyfrgell genedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac mae o'n gwestiwn i'w ofyn i'r BBC, ac nid wyf yn glir iawn am y sefyllfa yma: beth sydd yn digwydd a phwy sy'n talu am archif y BBC yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban? Ni fedraf i gredu bod Gweinidogion yn y Llywodraethau yna yn mynd i roi arian i'r BBC, sydd yn cael arian sylweddol gennym ni i gyd fel rhan o'r drwydded, pan fo modd datrys y materion yma heb orfod gwario arian cyhoeddus ychwanegol allan o gyllideb gyfyngedig Llywodraethau datganoledig.
Weinidog, mewn ymateb i'ch esboniad fod hyn wedi cymryd blwyddyn ac nad ydym wedi datrys y mater hwn o hyd, mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn mynd i ymweld â'r llyfrgell genedlaethol ddydd Iau nesaf—tybed a allwch roi briff i ni er mwyn inni allu dychwelyd gydag atebion clir i'r cwestiynau hyn fel y gallwn fwrw ymlaen â hyn; fel arall, rydym yn mynd i golli arian y loteri.
Ni fydd arian y loteri'n cael ei golli, os yw'n bosibl i'r loteri ddarparu estyniad o ran amser, ond ni allaf fi gyhoeddi unrhyw beth i'r perwyl hwnnw y prynhawn yma. Rwy'n falch eich bod yn mynd i'r llyfrgell genedlaethol ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu cael atebion pellach ar y mater hwn. Croeso i chi gael pob gohebiaeth rhyngof fi a'r llyfrgell ac unrhyw wybodaeth bellach gan swyddogion yn fy adran, yn ogystal â'r hyn y bydd adran ymchwil Comisiwn y Cynulliad yn gallu ei roi.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.
2. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i gael hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r amgylchedd yng Nghymru, yn sgil adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus? 238
Diolch. Mae'r adroddiad sy'n cyfeirio at y cyfnod hyd at fis Mawrth 2018 yn peri anghysur. Dechreuodd y prif weithredwr yn ei swydd ym mis Chwefror 2018. Penodais gadeirydd dros dro ar 1 Tachwedd, ac rwyf wedi ailwampio'r bwrdd y mis hwn gyda phum aelod newydd. Maent yn y sefyllfa orau i oruchwylio'r gwelliannau sydd eu hangen, er mwyn sicrhau na chaiff camgymeriadau eu hailadrodd. Mae gennyf hyder llawn ynddynt.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi colli hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl cyfres o sgandalau, trychinebau ac adroddiadau sydd wedi dangos nad oes gan staff y sefydliad hyd yn oed fawr o hyder yn yr uwch-reolwyr. Mae hynny'n rhywbeth sy'n destun gofid mawr o ystyried y rôl bwysig iawn y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyflawni. Cafodd ei sefydlu rai blynyddoedd yn ôl bellach a dylai fod yn perfformio'n llawer gwell.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud bod llawer o'r camau gweithredu yr edrychodd arnynt yn afresymegol, a'r tu hwnt i fod yn anghymwys, mewn gwirionedd, pan soniwch am y degau o filiynau o bunnoedd a oedd ynghlwm wrth y contractau hyn yn y diwydiant coed. Mae Grant Thornton yn gwneud gwaith ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd. Mae'n cyrraedd pwynt lle mae'n rhaid i chi roi diwedd ar y pethau hyn ac adnewyddu sefydliad fel y gall ganolbwyntio ar yr hyn a ddylai gael blaenoriaeth ganddo mewn gwirionedd. Onid ydych yn credu mai dyma'r amser i wneud hynny, er eich bod wedi dangos eich cefnogaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru? Yn y pum mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, rydym wedi sefyll yma dro ar ôl tro gyda chwestiynau amserol a chwestiynau brys, ac nid oes digon o hyder yn y sector ei hun i sicrhau y bydd y sefydliad hwn yn cyflawni'r hyn y bwriadwyd iddo ei wneud yn wreiddiol mewn gwirionedd—sef gwarchod yr amgylchedd. Nawr yw'r amser i'w ddiwygio a chael gwared ar yr elfen amgylcheddol a'i rhoi ar ei thraed ei hun gyda'r elfen reoleiddiol mewn corff ar wahân, a bwrw ymlaen â'r gwaith o sicrhau bod yr amgylchedd yma yng Nghymru yn symbol o'r hyn rydym eisiau i weddill y byd ei efelychu.
Na, nid wyf yn credu mai dyma'r amser i wneud hynny. Fe'ch cyfeiriaf at fy ateb gwreiddiol a'r gwaith rwyf wedi'i wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf newydd grybwyll yr holl benodiadau newydd a wnaed eleni. Credaf fod yn rhaid i chi gydnabod, ac mae'n amlwg o'ch cwestiwn nad ydych yn gwneud hynny, y gwaith rhagorol y mae llawer o'r staff yn ei wneud. Os meddyliwch am storm Callum yn ddiweddar, fe wnaethant ddiogelu cartrefi a diogelu busnesau. Maent yn cyflawni ein prosiectau sy'n enwog yn rhyngwladol. Felly, gadewch i ni feddwl am forâl y staff am eiliad, oherwydd credaf fod angen i'r Ceidwadwyr Cymreig gydnabod hynny mewn gwirionedd. Rwy'n cyfarfod â llawer o aelodau o staff, fel y mae fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Amgylchedd, yn ei wneud, ac rwy'n credu bod angen i ni feddwl ychydig bach mwy amdanynt hwy. Felly, i ateb eich cwestiwn, mae gennyf hyder llawn ynddynt. Soniais am y prif weithredwr newydd, soniais am y cadeirydd dros dro newydd a soniais am y pum aelod newydd o'r bwrdd. Credaf eu bod yn y sefyllfa orau. Nid wyf yn credu bod unrhyw gefnogaeth i newid Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Credaf ei bod yn iawn eu bod wedi craffu ar Cyfoeth Naturiol Cymru yn y ffordd y maent wedi'i wneud. Yn sicr, ceir materion y dylid mynd i'r afael â hwy, ond o'm rhan i, nid cael gwared ar y sefydliad cyfan yw'r ateb. Ni fydd yn helpu. Gyda'r ansefydlogrwydd a'r ansicrwydd sydd o'n blaenau gyda Brexit, y peth olaf sydd ei angen arnom yw'r chwalfa drefniadol enfawr a gâi ei hachosi pe baem yn cael gwared ar y sefydliad hwn a dechrau eto.
Y broblem go iawn yma, wrth gwrs, yw capasiti. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweld toriad o 35 y cant yn ei gyllid mewn termau real ers iddo gael ei sefydlu bum mlynedd yn ôl yn unig. Ar yr un pryd yn union, wrth gwrs, mae wedi gweld cynnydd enfawr yn y dyletswyddau y mae'r Llywodraeth yn disgwyl iddo eu cyflawni, drwy Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, Deddf yr amgylchedd, y Ddeddf gynllunio, ac eraill. Mae'r sefyllfa honno, wrth gwrs, yn gwbl anghynaladwy. Fis diwethaf, ysgrifennodd y prif weithredwr am ei phryderon ynghylch dyraniad cyfalaf Cyfoeth Naturiol Cymru o £800,000 a wnaed yn erbyn gofyniad gwirioneddol o dros £5 miliwn.
Rydych yn gywir—dylem fod yn meddwl am y staff, oherwydd gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr absenoldebau oherwydd salwch y llynedd. Onid yw hynny'n siarad cyfrolau hefyd? Mae yna bobl dda yn Cyfoeth Naturiol Cymru a dylem fod yn tystio i'r ffaith eu bod yn gwneud cystal ag y maent ac yn gweithio mor gampus o dan amodau mor anodd. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: ar ei drywydd cyfredol o gyllidebau sy'n crebachu a llwyth gwaith sy'n cynyddu, ar ba bwynt y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhygnu i stop camweithredol?
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chapasiti a'u cyllideb. Yn amlwg, cafodd fy ngwaith ar y gyllideb ei graffu eleni, ac fe fyddwch yn gweld ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael y cyllid sydd ganddynt. Yn y pum mlynedd ddiwethaf, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru ddod â gwaith a chyfrifoldebau'r tri chorff blaenorol at ei gilydd, roedd ganddynt darged i arbed £158 miliwn, ac maent yn bendant ar y trywydd i arbed mwy na hynny hyd yn oed. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chydbwysedd, ac rwy'n derbyn bod deddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galw am fwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'r rheini'n sicr yn sgyrsiau rwy'n eu cael gyda'r cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr bob mis, ynghyd â Gweinidog yr Amgylchedd. Nid wyf eisiau iddynt gyrraedd pwynt lle mae hynny'n wir, a byddwn yn sicrhau na fydd hynny'n digwydd.
Cefais y fantais o holi Clare Pillman, y prif weithredwr cyfredol, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei bod wedi creu argraff arnaf, ac mae'n sicr yn llawer gwell na'i rhagflaenydd. Ond rwy'n meddwl tybed a oes tensiwn cynhenid rhwng y rôl reoleiddiol ar y naill law a'r rôl rheoli'r amgylchedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i gangen fasnachol, o ystyried canlyniadau trychinebus eu hymdrechion i weithredu mewn modd masnachol yn y blynyddoedd diwethaf. Ac er na fuaswn o reidrwydd yn mynd mor bell ag Andrew R.T. Davies a galw am ddatgymalu'r sefydliad cyfan a'i roi yn ôl at ei gilydd eto fel yr oedd o'r blaen, efallai, onid oes dadl dros wahanu swyddogaethau masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru a chael bwrdd ar wahân ar gyfer hynny sy'n lled-annibynnol, o leiaf, oddi ar y prif fwrdd?
Yn sicr, rwyf wedi cael sgyrsiau am hyn gyda'r prif weithredwr, ac nid wyf yn credu y dylid gwneud hynny ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o recriwtio pennaeth y sector masnachol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa gyllid ychwanegol y gallant ei gyflwyno, a chredaf mai dyna'r ffordd iawn i fynd ar hyn o bryd. Ond rwy'n falch iawn o glywed nad ydych yn credu mai newid y sefydliad yw'r peth iawn. Credaf fod hynny'n annhebygol iawn o'n helpu i symud ymlaen a chyflawni'r hyn sydd angen i ni ei weld.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, roeddem yn dathlu canmlwyddiant y diwrnod y gallodd menywod sefyll etholiad i'r Senedd yn 1918, ac un o'r ASau benywaidd arloesol cynnar oedd Edith Picton-Turbervill, sydd wedi ei chynnwys yn llyfr Angela John, Rocking The Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990.
Mae plac teuluol i Edith Picton-Turbervill ym mhriordy Ewenni yn fy etholaeth, lle roedd yn byw, ond nid yw'n sôn am y ffaith y bu'n AS Llafur dros Wrekin. Ym mis Ionawr 1919, a hithau o deulu Ceidwadol cadarn, ymunodd Edith â'r Blaid Lafur. Datganodd fod y Blaid Lafur yn meddwl mewn termau dynol. Cafodd ei hethol dros Wrekin ym 1929, ar ôl bod yn ymgeisydd seneddol aflwyddiannus ddwywaith yn Islington.
Mae Angela John yn disgrifio Edith fel dadleuwr medrus, nad oedd yn ofni gofyn cwestiynau anodd. Roedd y rhan fwyaf o'i hareithiau'n ymwneud â dioddefaint y fenyw dlotach a'i phlant. Roedd yn eiriolwr brwd dros offeiriaid benywaidd ac yn gwisgo casog yn y Senedd, a phregethodd droeon mewn capel ger Ewenni ar agwedd ysbrydol y mudiad menywod. Honnodd ei bod wedi clywed areithiau gwell yng nghyfarfodydd Undeb y Mamau nag yn y Tŷ.
Daeth ei champ seneddol fawr ym 1931, pan arweiniodd Fil Aelod preifat drwy'r Senedd yn gwahardd hongian menywod beichiog. Fel y mae Angela John yn disgrifio, roedd ei Bil yn darparu ar gyfer rhoi cyfle i fenyw ddatgan ei bod yn feichiog cyn i ddedfryd o farwolaeth gael ei chyhoeddi ac os câi ei datganiad ei brofi'n gywir, ni ellid cyflawni'r ddedfryd honno wedyn. Arweiniodd ei darlleniad cyntaf o'r Bil at dawelwch yn y Siambr. Ni chafodd ei wrthwynebu, cafodd gefnogaeth y Llywodraeth, a daeth yn ddeddf.
Roedd Edith Picton-Turbervill yn ysbrydoledig ac rwy'n talu teyrnged iddi yma heddiw.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Gwerthu Cymru i'r Byd', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig—Russell George.
Cynnig NDM6879 Russell George
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Gwerthu Cymru i'r Byd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig yn fy enw i.
Rydym yn byw wrth gwrs mewn cyfnod o newid mawr wrth i ni ddiffinio ein perthynas â gweddill Ewrop a chwilio am gysylltiadau newydd â marchnadoedd sy'n datblygu ac yn ehangu. Yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod yn bwriadu rhoi blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwerthu Cymru i'r byd fel erioed o'r blaen. Felly, lansiwyd ymchwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwerthu Cymru i'r byd hyd yn hyn a sut y gellid gwerthu Cymru i'r byd. Rydym wedi canolbwyntio ar dri maes—masnach, twristiaeth a sgiliau—ac wedi gwneud 14 o argymhellion ar sail ein canfyddiadau. Nid wyf am drafod pob un o'r 14 argymhelliad heddiw, ond rwyf am dynnu sylw at rai ohonynt.
Roedd argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn ceisio mynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd mewn perthynas â masnach ryngwladol a gweithredu Brexit. Ar hyn o bryd, rhennir y cyfrifoldebau hyn rhwng y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Mae yna berygl amlwg o syrthio rhwng dwy stôl wrth rannu cyfrifoldebau, neu dair stôl yn yr achos hwn. Felly, argymhellodd y pwyllgor y dylai'r Prif Weinidog, pwy bynnag y bydd, greu swydd benodol yn y Cabinet ar gyfer Brexit a masnach ryngwladol. Roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Mae'n amlwg mai cyfrifoldeb y Prif Weinidog newydd yw sicrhau bod y swydd honno ar gael.
Canfu ffocws y pwyllgor ar fasnach ryngwladol fod yna bryderon, er bod perfformiad allforio'n gryf, fod rhai busnesau bach a chanolig yn cael eu gwasgu allan o sioeau teithiol tramor gan fod y lleoedd a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cael eu bachu mor gyflym. Felly, nid oedd yn glir sut y gallai busnesau bach a chanolig uchelgeisiol nad oeddent eisoes ar radar y Llywodraeth gymryd rhan. Gofynnai tystion, 'Sut y gallem fod yn sicr ein bod yn mynd â'r tîm gorau ar deithiau masnach byd-eang os oedd busnesau'n cael eu dewis ar sail y cyntaf i'r felin?' Credaf fod aelodau'r pwyllgor yn credu bod hwnnw'n gwestiwn teg.
Roedd y pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth twf allforio i baratoi cwmnïau ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol a chynyddu nifer y cwmnïau sy'n allforio. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn blaenoriaethu cymorth i gwmnïau allforio, ond rwyf am dynnu sylw at yr angen i gyrraedd y busnesau sy'n methu sicrhau lle ar deithiau masnach byd-eang ar hyn o bryd.
Bu'r pwyllgor yn ystyried swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru. Nid oedd tystion yn gallu dangos yr effaith y mae swyddfeydd tramor wedi'i chael ar allforio. Yn wir, nid oedd tystion yn gallu diffinio'u rôl hyd yn oed. Mae lefel yr adnoddau a'r personél yn amrywio'n fawr o swyddfa i swyddfa, ac ymddengys bod diffyg cysylltiadau rhwng swyddfeydd ac awdurdodau lleol, a allai gefnogi ei gilydd, wrth gwrs, yn y maes gwaith hwn. Mae swyddfeydd pellach wedi'u hagor yn y 12 mis diwethaf ac mae rhagor yn yr arfaeth, er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud wrthym fod angen i bob swyddfa ddatblygu cynllun busnes bellach. Ond nid yw'r rheini'n cael eu rhannu â gweddill y byd yn gyffredinol, ac yn bwysicach, â rhanddeiliaid allweddol. Felly, buaswn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet nad yw cyhoeddi manylion cyswllt eich swyddfeydd ar wefan yn ddigon. Os nad yw rhanddeiliaid yn ymwybodol o gylch gorchwyl y swyddfeydd a'r cymorth y gallent ei gael ganddynt, pam y byddent yn dod i gysylltiad? Bydd manteisio i'r eithaf ar y defnydd o'r swyddfeydd hyn yn gymorth i gynyddu'r gwerth am arian y gallant ei gyflawni, felly mae'n bwysig ein bod yn sicrhau eglurder ar hyn.
Os caf symud ymlaen at dwristiaeth, Cymru yw'r rhanbarth sy'n dibynnu fwyaf ar dwristiaeth yn y DU gyfan. Roedd strategaeth 'Partneriaeth ar gyfer Twf' 2013 yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth a'r angen i gydweithio gyda'r sector preifat a sefydliadau eraill i ddatblygu'r diwydiant ymhellach. Fel gyda'r teithiau masnach byd-eang y soniais amdanynt yn gynharach, mynegodd tystion bryderon fod rhai busnesau'n teimlo nad oeddent yn rhan o'r hyn a ystyrient yn deulu Croeso Cymru. Roedd busnesau'n teimlo eu bod yn cael eu hepgor o'r cyfleoedd marchnata a'u heithrio o'r brand. Felly, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad i alluogi busnesau Cymru i gael mynediad at y brand hwnnw, a chroesawaf y gwaith a oedd wedi dechrau ar greu canolbwynt digidol o ganllawiau, adnoddau a deunyddiau i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru eu defnyddio.
Roeddwn yn falch o glywed hefyd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried nifer o opsiynau partneriaeth gyda'r bwriad o helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion y gellir eu harchebu. Rydym yn gwybod bod cynhyrchion y gellir eu harchebu yn ddeniadol i ymwelwyr o wledydd tramor ac mai 5 y cant yn unig o ymweliadau a wneir gan ymwelwyr o wledydd tramor ond hwy sydd i gyfrif am 10 y cant o'r gwariant, felly mae'n bwysig ein bod yn gallu cystadlu yn y farchnad honno.
Yn olaf, rwyf am ailadrodd galwad y pwyllgor am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Nid ni yw'r pwyllgor cyntaf na'r grŵp cyntaf o wleidyddion i alw am hyn, ac rwy'n tybio nad ni fydd yr olaf, ond mae wedi'i ddatganoli yn yr Alban a dylid ei ddatganoli yng Nghymru. Gwelaf fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi lansio ymchwiliad ar y mater hwn, ac wrth gwrs, edrychaf ymlaen at weld eu casgliadau.
Ddirprwy Lywydd, yn gyffredinol, mae ymchwiliad y pwyllgor wedi datgelu pocedi o arferion da ond mae'n rhaid iddynt gael eu cysoni'n well ar draws portffolios ac mae'n rhaid iddynt fod yn hygyrch i fusnesau os yw Cymru'n mynd i gyrraedd ei photensial yn y maes hwn. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma.
Yn gyntaf—ac rwy'n siarad, nid fel aelod o'r pwyllgor, ond fel rhywun sydd â diddordeb brwd yn lle y cawn ein gosod fel cenedl—yn sicr, rydym yn croesawu'r adroddiad. Mae'n cynnwys cyngor gwerthfawr iawn ar gyfer y dyfodol, ac wrth gwrs, nid ydym yn gwybod yn iawn eto beth fydd cyd-destun Cymru. Ymddengys y bydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond beth bynnag fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf o ran ein cyfeiriad fel gwlad yn y dyfodol, bydd Cymru angen llais uwch nag erioed o'r blaen.
Mae Russell George, yn y cyflwyniad i'r adroddiad, yn dweud:
'Mae’n amlwg i’r Pwyllgor fod rhagor y gellir ei wneud i werthu Cymru i’r byd mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig. Mae pocedi o arfer da y mae’n rhaid eu halinio’n well ar draws portffolios—a’u gwneud yn agored i ragor o fusnesau—os ydym am gyflawni ein potensial yn y maes hwn'.
Mewn llawer o ffyrdd, gallwn ei gweld fel stori'r Llywodraeth hon ar draws nifer o feysydd portffolio: diffyg meddwl strategol, dim digon o feddwl yn strategol, dim cymaint o weithio cydgysylltiedig ag yr hoffem ei weld, dim ond pocedi o arferion da yma ac acw. A chredaf fod argyfwng Brexit—ac nid yw'n air rhy gryf i'w ddefnyddio—yn golygu bod yna berygl y bydd llais Cymru'n cael ei golli, rwy'n credu, a'i foddi, ac mae'n rhaid i ni wneud yn well, rhaid i ni feddwl yn fwy strategol, ac mae arnaf ofn, dros y ddwy flynedd ers refferendwm Brexit, nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynifer o gamau ar waith ag yr hoffwn—ag y byddem yn ei hoffi—gyda'r difrifoldeb y dylai fod wedi'i ddangos tuag at y mater hwn.
Ac yn yr Alban, rwy'n credu, unwaith eto, rydym yn gweld Llywodraeth sy'n dangos beth y gellir ei wneud gyda gweledigaeth strategol. Ers blynyddoedd lawer, rwy'n credu bod y Llywodraeth ddatganoledig yno wedi gweithio'n galed i werthu brand unigryw yr Alban mewn busnes ac mewn twristiaeth ac ati ac wedi ceisio cymaint o ddylanwad ag y bo modd i'w gwlad, yn Ewrop, ac yn wir, mewn mannau eraill o gwmpas y byd, a hynny ar adeg pan ymddengys bod rhai'n ymdrechu, nid yn lleiaf Llywodraeth y DU, wrth gwrs, i ymyleiddio brand Cymru, a gwelwyd hynny ar ei fwyaf amlwg, wrth gwrs, yn Sioe Frenhinol Cymru, fel rwyf wedi'i grybwyll sawl gwaith, gyda chynnyrch Cymru yr haf hwn.
Nawr, prif argymhelliad yr adroddiad hwn, yr argymhelliad ar y brig, yw y dylid creu Gweinidog penodol i gyfuno cyfrifoldebau Brexit â materion allanol, gan gynnwys gwerthu Cymru i'r byd. Mewn gwirionedd, mae gan yr Alban Weinidog Ewrop a Materion Allanol o'r fath ar lefel Cabinet ers dechrau datganoli, rwy'n credu, o'r flwyddyn 2000 ymlaen. Cafodd ei ddiddymu, yna'i gyfuno â phortffolios eraill, cyn cael ei atgyfodi pan ddaeth yr SNP i rym yn 2007. Mae Ewrop a materion allanol yn rhan o swydd lefel Cabinet yn yr Alban, gydag is-Weinidog yn cynorthwyo. Wrth gwrs, mae ganddynt fwy o gapasiti o ran nifer yr Aelodau yno yn yr Alban. Ac nid wyf yn credu bod esgus dros beidio â chael un yn awr yng Nghymru mewn gwirionedd, o ystyried yr heriau a wynebwn, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am Weinidog i ymdrin â materion allanol ers peth amser—Gweinidog penodol, wrth gwrs. Mae'n rhan o gyfrifoldebau'r Prif Weinidog; credwn fod angen camu'n uwch, ac mae'r cyd-destun newidiol, rwy'n credu, yn cryfhau'r ddadl dros wneud hynny.
Nid ydym yn siŵr o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad a ydynt yn derbyn yr angen i greu swydd ar lefel weinidogol ar gyfer Brexit a masnach rhyngwladol neu a ydynt yn awgrymu ein bod yn aros gyda'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd gyda'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill yn ymdrin â'r materion hynny. Efallai y byddai rhywfaint o eglurder ar y pwynt hwnnw'n ddefnyddiol yn awr mewn gwirionedd. Nid yw'r trefniant presennol, fodd bynnag, fel y noda'r adroddiad, yn gydgysylltiedig, nid yw'n ddigon penodol, nid yw'n ddigon strategol, a byddai Gweinidog ar wahân yn gallu sicrhau eglurder ac atebolrwydd go iawn, sy'n hollbwysig, wrth gwrs, o ran sut rydym yn ymdrin â'n materion allanol fel gwlad. Felly, dyna yw'r prif argymhelliad.
Hoffwn sôn am rôl swyddfeydd tramor hefyd. Roedd yr adroddiad yn glir yn ei gasgliadau fod yna ddiffyg cyfeiriad ac adnoddau ar gyfer y swyddogion hyn. Mae angen mwy o ffocws; bydd ymgysylltiad gwell â busnesau yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn hollbwysig. Sylwaf, o ymateb y Llywodraeth, fod gofyn i'r swyddfeydd deilwra cynlluniau busnes penodol erbyn hyn yn seiliedig ar y cryfderau a'r cyfleoedd yn eu gwahanol farchnadoedd. Rydym yn croesawu hynny, ond mae cwestiwn yn codi o hyd ynglŷn ag adnoddau ac a ydym bellach yn credu eu bod yn gallu cyflawni'r angen am swyddogaeth ehangach yn y cyd-destun newydd hwnnw.
Prif neges yr adroddiad hwn, felly, yw bod yna ddiffyg meddwl strategol, a diffyg arweinyddiaeth, fel sy'n wir am gynifer o feysydd Llywodraeth. Tynnwyd sylw at y gwaith sydd angen ei wneud ar draws amrywiaeth o adrannau. Mae hwn, mewn sawl ffordd, yn ddechrau cyfnod newydd i Gymru; nid yw'n gyfnod y byddem wedi'i ddyfeisio ein hunain, ond rwy'n credu bod gennym gyfres o argymhellion yn yr adroddiad hwn a fydd, gobeithio, yn gallu gosod rhai sylfeini ar gychwyn y cyfnod newydd hwnnw yn hanes Cymru.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad o blaid yr adroddiad hwn ar werthu Cymru i'r byd. Mae'n faes hanfodol ar gyfer ffyniant ein gwlad ac yn un sy'n fwyfwy hanfodol wrth i ni wynebu ansicrwydd y byd ôl-Brexit. Mae rhoi sgiliau, hyder a chyfleoedd i fusnesau bach ymgysylltu, yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, yn wirioneddol bwysig. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir beth arall sy'n rhaid i ni ei wneud er mwyn cael pethau'n iawn. Credaf fod yna chwe argymhelliad allweddol yn yr adroddiad, ac rwyf am ganolbwyntio ar y rhain.
Yn gyntaf, argymhelliad 2—nawr, mae hwn yn nodi pwysigrwydd strategaeth twf allforio sy'n paratoi cwmnïau ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol ac yn cynyddu nifer y cwmnïau sy'n allforio. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a thrwy wneud hynny, mae'n nodi'r hyn y mae'n ei wneud eisoes, megis blaenoriaethu allforio o fewn y cynllun gweithredu economaidd. Mae'n arbennig o braf gweld cyfeiriad at ein sector bwyd a diod. Mae nifer o gwmnïau yn fy etholaeth eisoes wedi elwa o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn ffeiriau masnach o fri. Maent wedi dweud wrthyf pa mor werthfawr oedd hyn wrth iddynt adeiladu eu llwyddiant. Mae hynny'n cynnwys cwmnïau fel Distyllfa Penderyn a gydnabyddir yn rhyngwladol—ac a groesawodd y Prif Weinidog yr wythnos o'r blaen—yn ogystal â bragdy Grey Trees, Authentic Curry Co., a Welsh Hills Bakery, gyda'u cynnyrch di-glwten arbenigol. Rwy'n gobeithio y gallwn annog mwy o'n cwmnïau lleol i gymryd rhan yn y modd hwn, yn enwedig ar ôl Brexit.
Mae cynyddu cyfraniad busnesau hefyd yn allweddol i argymhelliad 6. Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud mwy â'u cael i gefnogi hunaniaeth brand Cymreig cryf. Rydym yn gwybod bod gan wledydd sy'n gwneud yn dda frand cryf y gellir ei adnabod. Ac rwy'n rhannu pryderon cyd-Aelodau eraill sydd eisoes wedi siarad nad yw ein brand Cymreig mor gryf ag y gallai fod. Nodaf o'n gwaith fel pwyllgor hefyd y dystiolaeth gan randdeiliaid fod angen amser i sefydlu hunaniaeth brand.
Credaf fod y gwaith y mae Croeso Cymru yn ei wneud gyda'i flynyddoedd thematig amrywiol yn gyffrous iawn, ond rwy'n meddwl tybed ai newid ffocws bob blwyddyn yw'r ffordd gywir o adeiladu hunaniaeth brand. Efallai fod angen inni feddwl am thema fwy hirdymor i adeiladu brand Cymreig go iawn a gydnabyddir yn fyd-eang. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith ar ddatblygu canolbwynt brand digidol ar gyfer busnesau a sefydliadau Cymru, ac edrychaf ymlaen at weld brand Cymru yn cael ei gynnwys ar yr holl arwyddion a labeli twristiaeth. Mae argymhellion 7 ac 8 yn gysylltiedig â hyn. Nawr, pan oeddem yn gwneud y gwaith hwn yn y pwyllgor, nid oeddwn yn hapus o gwbl ynghylch y diffyg adnoddau Cymreig ar dudalennau gwe VisitBritain, ac yn arbennig, y diffyg cynhyrchion y gellir eu harchebu. Rwyf wedi edrych eto y bore yma, ac mae'n dda gweld bod pethau'n gwella a bod wyth o atyniadau Cymreig y gellir eu harchebu yno erbyn hyn. Mae hynny'n fwy na Gogledd Iwerddon, ond yn dal i fod yn llai na'r Alban, ac yn gyfran fach iawn o'r 153 o atyniadau y gellir eu harchebu yn Lloegr, gan gynnwys Llundain.
Mae'n ddarlun tebyg ar gyfer tripiau a theithiau a thocynnau ymweld hefyd. Ni allaf weld unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng tudalen we VisitBritain a thudalen we Croeso Cymru. Felly, croesawaf y dystiolaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyllgor, a gwn fod hyn yn rhywbeth y dywedodd ei fod yn ymwybodol ohono a'i fod wedi cynnal trafodaethau yn ei gylch. Ac mae'n dda gweld y manylion ychwanegol a nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, yn enwedig mewn perthynas â datblygu cynhyrchion y gellir eu harchebu a chryfhau partneriaethau. Mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y maes hwn i roi chwarae teg i Gymru.
Hoffwn gefnogi argymhelliad 11 yn llawn hefyd, ar ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Cyflwynodd yr Athro Annette Pritchard, arbenigwr ar dwristiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, achos cryf iawn i ni yma, fel pwyllgor. Dywedodd wrthym fod methiant i ddatganoli'r doll teithwyr awyr wedi atal twristiaeth, twf economaidd, rhagolygon cyflogaeth a chyfraniadau refeniw. Yn ogystal, roedd yn amharu ar allu Maes Awyr Caerdydd i ehangu a gweithredu fel canolbwynt ar gyfer twristiaeth ryngwladol i Gymru. Yn wir, mae gwaith modelu a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y gallai datganoli'r doll teithwyr awyr arwain at 658,000 o deithwyr ychwanegol yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd bob blwyddyn erbyn 2025. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn anfon neges gref y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr, a chefnogi ateb cadarn Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn.
Rwyf am gloi drwy ddweud ychydig eiriau am ein hargymhelliad cyntaf, sef yr un sy'n galw am bortffolio masnach ar lefel y Cabinet. Er fy mod yn cytuno â hyn, hoffwn ganmol y gwaith y mae Gweinidogion wedi'i wneud yn y maes hwn hyd yn hyn hefyd, yn enwedig yr arweiniad a ddangoswyd gan ein Prif Weinidog drwy gydol ei gyfnod yn y swydd. Mae'n bosibl y bydd Prif Weinidog yn y dyfodol yn cytuno â ni fod presenoldeb gweladwy sy'n canolbwyntio ar y maes hwn yn bwysig, ond ni ddylai hynny dynnu oddi ar yr ymroddiad y mae ein Prif Weinidog cyfredol a'i dîm wedi'i ddangos wrth werthu Cymru. Rwy'n falch o gymeradwyo'r adroddiad hwn heddiw.
Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor, roedd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar dri maes: masnach, twristiaeth, sgiliau a hyfforddiant. Rhaid cydnabod nad yw gwerthu gwlad fach fel Cymru ar y farchnad fyd-eang yn dasg hawdd. Yn anffodus, mae ein cymuned o Gymry alltud ledled y byd yn llawer llai nag un yr Alban neu Iwerddon. O ganlyniad, mae gwybodaeth gyffredinol y byd am Gymru yn llawer llai nag un y gwledydd hyn. Rydym yn llusgo ar ôl y gwledydd hyn, fel petai. Gwelwyd y diffyg gwybodaeth gyffredinol hwn am Gymru yn ein hymweliad diweddar â Brwsel, pan ddywedodd y diplomyddion a'r swyddogion o Ganada y cyfarfuom â hwy nad oedd ganddynt fawr o wybodaeth, os o gwbl, am Gymru tan yn ddiweddar.
Wrth gwrs, mae yna arwyddion fod Cymru'n dechrau cael sylw, yn enwedig yn sgil y digwyddiadau chwaraeon byd-eang rydym wedi llwyddo i'w denu—mae Cwpan Ryder a Chynghrair y Pencampwyr yn enghreifftiau da o hyn. Ond mae'n rhaid i ni ofyn: a ydynt yn cynnig gwaddol barhaol, neu a fydd y gwaddol hwnnw'n cael ei basio i'r lleoliad nesaf a fydd yn cynnal y digwyddiad? Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yn argyhoeddedig ein bod yn dechrau ymsefydlu yn y cyd-destun rhyngwladol drwy ddarlunio ein hunain fel parc antur twristiaeth Ewrop er enghraifft, ac rwy'n siŵr bod y math hwn o arbenigedd yn allweddol i sicrhau sylw byd-eang i Gymru.
Yr argymhelliad cyntaf yn ein hadroddiad yw y dylai'r Llywodraeth greu swydd benodol yn y Cabinet i gyfuno cyfrifoldebau masnach ryngwladol a gweithrediad polisi Brexit. Mae'r pwyllgor yn credu bod hwn yn ffactor allweddol ar gyfer dwyn ynghyd yr holl elfennau gwahanol wrth ddatblygu brand Cymru. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth ond wedi derbyn ein pedwerydd argymhelliad mewn egwyddor, sef y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi cylch gwaith manwl ar gyfer y swyddfeydd tramor a llunio adroddiad blynyddol ar y modd y mae pob swyddfa yn cyflawni'r cylch gwaith hwnnw. Mae'n rhaid gofyn: pa ffordd arall y gallwn graffu ar eu perfformiad a gwneud addasiadau a strategaethau i'w gwneud yn fwy effeithiol?
Rwyf am gloi drwy nodi bod gennym ym maner unigryw'r Ddraig Goch eicon marchnata parod sy'n llawer mwy adnabyddus na chroes Andreas yr Alban neu faner drilliw Iwerddon, neu groes San Siôr, os caf ddweud. Dylem ei hyrwyddo ar bopeth a gynhyrchwn a lle bynnag y byddwn yn ei arddangos. Mae cwmnïau'n talu miliynau i gael symbol mor adnabyddus; dylem fanteisio arno lle bynnag a phryd bynnag y gallwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr iawn? Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a'u gwaith caled wrth lunio'r adroddiad a'i argymhellion. Rwy'n credu o ddifrif fod ymgysylltiad a chyflawniad rhyngwladol yn rhan hanfodol o'n hagenda i dyfu economi Cymru.
Nawr, gallai ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd fod yn newid, ond gyda dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd ar hyn o bryd, byddwn yn gwneud popeth a allwn i gynnal perthynas gyda'r farchnad sengl Ewropeaidd sy'n caniatáu i gwmnïau gynnal mynediad rhydd a dilyffethair. Nawr, rydym wedi gweld cynnydd yng ngwerth allforion yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae angen i ni barhau'r momentwm cadarnhaol hwnnw. Bydd ein cefnogaeth barhaus i allforwyr Cymru yn helpu i gyflawni'r nod hwn, a thrwy sicrhau bod y cymorth hwn yn un o'n pum galwad i weithredu, byddwn yn helpu busnesau Cymru i gynnal allforion i'r UE, yn ogystal â meithrin marchnadoedd newydd yng Ngogledd America, y dwyrain canol a thu hwnt. Ac ar draws y Llywodraeth, ond yn enwedig gyda chymorth fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, rydym yn sicrhau bod gan gwmnïau—cwmnïau mawr, bach a microgwmnïau—fynediad at deithiau masnach, ac mae'n arbennig o amlwg mewn teithiau masnach sy'n ymwneud â bwyd a diod, sy'n cael mwyfwy o sylw oherwydd ansawdd uchel y cynnyrch a tharddiad cryf y nwyddau y gallwn eu hallforio dramor.
Nawr, rwy'n falch o allu dweud ein bod yn dyrannu adnoddau o'r gronfa cydnerthedd busnes gwerth £7.5 miliwn a gymeradwywyd yn ddiweddar drwy gronfa bontio Ewrop i gefnogi ymgyrchoedd a gweithgareddau sy'n helpu cwmnïau i sefydlu'r gafael sydd ei angen arnynt mewn marchnadoedd newydd, ac sy'n ein paratoi, rwy'n credu, i allu cadw proffil rhyngwladol Cymru fel lleoliad ar gyfer buddsoddi yn gryf a chadarnhaol. Yn wir, mae ein swyddfeydd tramor yn hanfodol i'r agenda hon, ac maent yn amlweddog, ac yn ymdrin â busnes, diwylliant, addysg a thwristiaeth. Rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ehangu'r rhwydwaith hwn yn strategol, gan agor swyddfeydd newydd, yn ystod y misoedd diwethaf ac yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mewn marchnadoedd allweddol, gan gynnwys Canada, Qatar, yr Almaen, a Ffrainc wrth gwrs. Dros amser, bydd y swyddfeydd hyn yn adeiladu ar y cysylltiadau cyfredol a sefydlwyd eisoes yn y gwledydd hynny a'u marchnadoedd ac yn sicrhau mwy byth o enillion i Gymru.
Nawr, mae ein perthynas â'n partneriaid yn Adran Fasnach Ryngwladol Llywodraeth y DU, a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad hefyd, yn sicrhau bod gan gwmnïau o Gymru fynediad at yr ystod lawn o gymorth i hyrwyddo eu nwyddau a'u gwasanaethau dramor, yn ogystal â hyrwyddo'r neges fod Cymru yn lle gwych i wneud busnes, yn lle gwych i ddysgu, ac yn lle ardderchog i fyw ynddo.
Mae brand Cymru bellach yn darparu sylfaen gadarn i'n gwaith yn hyrwyddo Cymru mewn ystod eang o farchnadoedd ar draws pob sianel a phob sector. Mae'n sail i fwy na £10 miliwn o wariant marchnata bob blwyddyn yn y sectorau twristiaeth a busnes. Fe'i defnyddir hefyd mewn digwyddiadau o fri, megis rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, Cwpan Ryder a Ras Hwylio Volvo. Gellir ei weld mewn lleoliadau eiconig ledled Cymru, o'r maes awyr i'r stadia. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i farchnata ein bwyd a'n diod, ac mae'n un o brif elfennau ein hymgyrchoedd recriwtio rhyngwladol i'r maes iechyd. Mae hefyd yn werth dweud, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn ymgyrch brand sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Mae'n cyflawni canlyniadau go iawn ar draws yr economi. Mae marchnata twristiaeth yn unig wedi sicrhau gwariant ychwanegol o tua £350 miliwn y flwyddyn i'r economi, ac mae'r gwariant hwn wedi dyblu ers 2013, ac mae'n cefnogi miloedd ar filoedd o swyddi gwerthfawr yng Nghymru. Nid yw ond yn un enghraifft o'r modd y mae codi ein proffil rhyngwladol a chael brand cyson, cryf ac ysgogol wedi bod o fudd i bobl Cymru, economi Cymru a Chymru fel gwlad.
Yn aml, nodir mai'r sector twristiaeth sy'n chwifio'r faner dros y wlad, ac rwy'n credu bod y blynyddoedd thematig wedi naddu cynnig llawer cryfach a chliriach a mwy unigryw i Gymru, ac mae pobl yn sylwi ar hyn. Mae Croeso Cymru wedi ennill llu o wobrau am ymgyrch y blynyddoedd thematig, ac nid oes amheuaeth ei fod yn un o'r ymarferion brandio ac ymgyrchu mwyaf llwyddiannus a welwyd yn y DU yn ddiweddar, ond ni allwn fodloni ar hyn, ac mae ein cynllun gweithredu economaidd yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu a chynnal partneriaethau Ewropeaidd mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin. Aeth 77 y cant—rwy'n credu—o allforion bwyd a diod Cymru i'r UE yn 2017. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal cysylltiadau cryf â'r rhanbarth pwysig hwn er gwaethaf Brexit. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o adeiladu a chynnal partneriaethau Ewropeaidd drwy fuddsoddi mewn rhwydweithiau a chydweithrediad dwyochrog gyda gwledydd a rhanbarthau partner. O'r cymorth rydym eisoes yn ei roi i allforwyr yng Nghymru i'r gwaith a wnawn gyda'n rhwydwaith tramor ein hunain a'i bartneriaid, mae ein holl weithgarwch rhyngwladol yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r agenda hollbwysig hon. Mae'r cysylltiadau rydym wedi'u meithrin yn Ewrop a thu hwnt wedi gwella yn sgil yr ymrwymiad diweddar i ehangu ein rhwydwaith tramor, gan sicrhau bod cynnig Cymru i fusnesau, twristiaid a myfyrwyr yn weladwy ac mor bellgyrhaeddol â phosibl. Ac ni fyddwn yn bodloni ar hyn, wrth inni barhau i helpu busnesau i archwilio marchnadoedd newydd, denu myfyrwyr ac ymwelwyr o dramor a chreu partneriaethau sy'n para er mwyn ateb heriau heddiw ac yfory.
Yn olaf, a gaf fi ddweud, gan gyfeirio'n benodol at argymhelliad 1, bob tro y mae Gweinidog yn teithio dramor, maent yn destun cais rhyddid gwybodaeth, ac o ganlyniad, cânt eu beirniadu'n aml oherwydd y costau sydd ynghlwm wrth hyrwyddo Cymru dramor. Felly, os gwelwch yn dda, os bydd y Prif Weinidog newydd yn creu rôl ar gyfer masnach ryngwladol a Brexit, fel rydych wedi'i argymell yn gryf, a wnewch chi gydnabod y bydd eu costau teithio a chynhaliaeth yn llawer uwch na rhai pobl eraill yn y Llywodraeth? Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â galw am hyn heddiw, a mynd ati i gondemnio unigolyn o'r fath oherwydd y gost o wneud y swydd yn iawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Russell George i ymateb i'r ddadl?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon yn y Siambr y prynhawn yma? Hoffwn ddiolch hefyd, wrth gwrs, i'r nifer o dystion a gymerodd ran yn ein hadroddiad—ac maent yn cael eu crybwyll yn fanwl yn yr adroddiad—a chynrychiolwyr busnesau o Gymru a'r DU, busnesau Ewropeaidd a busnesau rhyngwladol, a'r sefydliadau diwylliannol ac addysgol y cyfarfuom â hwy ym Mrwsel yn ogystal.
Yn ei gyfraniad, soniodd David Rowlands am ein hymweliad â Brwsel. Onid yw'n teimlo fel pe bai amser maith wedi mynd heibio ers yr ymweliad hwnnw, David? Ond fe gofiai rai o'r sgyrsiau a gawsom, ac rwyf fi'n cofio'r sgwrs a gawsom gyda swyddogion Llywodraeth Canada, a ddywedodd wrthym nad oeddent wedi cael llawer o gysylltiad â Chymru cyn hynny. Felly, credaf fod yna rôl yma i Lywodraeth Cymru—ond nid i Lywodraeth Cymru'n unig. Credaf ei bod yn rôl i bob un ohonom, fel Cynulliad, yn ein pwyllgorau amrywiol yn ogystal. Credaf fod cyfrifoldeb ar bawb ohonom i werthu Cymru i'r byd, nid y Llywodraeth yn unig.
Clywaf alwad Ysgrifennydd y Cabinet, os bydd y swydd honno'n cael ei chreu, na ddylem fod yn feirniadol os bydd yr Ysgrifennydd Cabinet neu'r swydd honno'n creu costau pan fyddant yn teithio o amgylch y byd. Rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n eich sicrhau na fyddaf yn gwneud hynny. Credaf ei bod yn gywir inni graffu ar yr hyn a gyflawnir yn ystod yr ymweliadau hynny, ond rwy'n derbyn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, ac rwy'n ymrwymo yma heddiw na fyddaf yn gwneud hynny.
Mewn rhannau eraill o'r ddadl, yn briodol iawn, nododd Rhun ap Iorwerth ac eraill ein galwad am y swydd newydd honno yn y Cabinet—y llais cryf hwnnw, y dull meddwl cydgysylltiedig roedd ei angen ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â Brexit a materion rhyngwladol. Rydym ni fel pwyllgor yn teimlo y gellir cyflawni hynny drwy gael yr adran honno—y swydd honno yn y Cabinet—yn benodol ar gyfer materion rhyngwladol. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad, ond yn amlwg cyfrifoldeb y Prif Weinidog nesaf ydyw, pwy bynnag y bo. Ond, yn yr ymateb i'n hadroddiad, rwy'n derbyn bod y Llywodraeth wedi nodi nad yw deddfwriaeth ond yn caniatáu hyn a hyn o swyddi o fewn y Llywodraeth. Rydym yn derbyn hynny, ond wrth gwrs, fel pwyllgor credwn fod hon yn flaenoriaeth yn hynny o beth.
Cyfeiriodd Vikki Howells at frandio, rhywbeth y buom yn ei drafod, mewn perthynas â'r ffaith bod y thema'n newid bob blwyddyn, a'r cwestiwn ynglŷn ag a yw hynny'n frandio da. Rwy'n cofio'n glir Ysgrifennydd y Cabinet yn amddiffyn y thema flynyddol honno. Ond wrth gwrs, mae ochr arall i'r ddadl honno hefyd—ei bod yn bosibl nad yw themâu blynyddol yn dda ar gyfer brandio. Felly, rwy'n siŵr y bydd y drafodaeth honno'n parhau hefyd. Rwy'n rhannu siom David Rowlands nad yw'r Llywodraeth ond wedi derbyn argymhelliad 4 mewn egwyddor.
Wrth gwrs, edrychodd yr adroddiad ar ein tri maes sy'n hanfodol i'n heconomi yma yng Nghymru. Ond nid yw'r gwaith yn aros yn llonydd. Mae Cymru'n newid, ac ers gwneud y gwaith hwnnw fel pwyllgor, rydym hefyd wedi gwneud gwaith ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Ac o'n gwaith yn y maes hwnnw, mae'n amlwg na allwn sefyll yn llonydd ac y bydd ein gwaith yn y maes hwn yn newid yn gyson hefyd.
A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, ac a gaf fi ddiolch i'r Llywodraeth am dderbyn bron bob un o'n hargymhellion?
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau'. Galwaf ar Dai Lloyd i siarad yn y ddadl ar ran y pwyllgor— Dai.
Cynnig NDM6878 Bethan Sayed
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd—Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o agor y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Meithrin Cydnerthedd’, sy’n trafod cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau.
Mae’r celfyddydau yn rhan hanfodol o fywyd Cymru. Fel cenedl, rydym ni'n dathlu traddodiad sydd yn hen a chyfoethog o weithgarwch ac allbwn artistig. Rydym ni wedi bod yn gartref hirhoedlog i lu o unigolion talentog ac angerddol sydd wedi helpu i greu sector sy’n dod â manteision eang i bob un ohonom ni. O fuddion economaidd ac ymarferol i helpu i fynd i’r afael â materion polisi cyhoeddus, boed hynny o fewn y system addysg neu wrth fynd i’r afael â materion iechyd, mae’r celfyddydau yn rhan annatod o unrhyw gymdeithas iach a ffyniannus. Hefyd, mae yna gydnabyddiaeth eang fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac yn lleihau unigrwydd ac allgáu cymdeithasol.
Serch hyn, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi gostwng yn sylweddol mewn termau real yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’r mwyafrif helaeth o ddyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn y gyllideb ar gyfer 2017-18, allan o’r £31.7 miliwn a ddyrannwyd i’r maes hwn, dyrannwyd £31.2 miliwn i gyngor y celfyddydau. Fodd bynnag, rhwng 2011-12 a 2017-18, mae cyllid Llywodraeth Cymru i gyngor y celfyddydau wedi gostwng 18 y cant mewn termau real. Mae cyfran cyngor y celfyddydau o gyllid y loteri hefyd wedi gostwng yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, wrth i gyllidebau awdurdodau lleol dynhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyllid y mae’r sector celfyddydau yn ei gael o’r cyfeiriad hwn hefyd wedi gostwng. I ddangos hyn, mae cyllid awdurdodau lleol i Bortffolio Celfyddydau Cymru, sef y sefydliadau celfyddydol sy’n cael cyllid refeniw blynyddol gan gyngor y celfyddydau, wedi gostwng o £11 miliwn yn 2011-12 i £5.1 miliwn yn 2016-17.
O gofio’r gydnabyddiaeth eang o’i fanteision, mae’r lefel hon o doriadau yn amlwg yn codi pryderon. Er mwyn lliniaru’r gostyngiad hwn mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar gyngor y celfyddydau i leihau dibyniaeth y sector ar gymhorthdal cyhoeddus ac i’r sector ei hun godi ei gêm o ran codi arian.
Felly, ar gyfer yr ymchwiliad hwn, yn hytrach na dim ond trafod effaith y dirywiad hwn mewn cyllid a galw am ei gynyddu, gwnaethom benderfynu edrych yn benodol ar ddull y Llywodraeth o weithredu yn y maes hwn i asesu pa mor ddichonadwy ydyw, a gofyn a oes unrhyw gamau ymarferol ychwanegol y gallai’r sector eu cymryd i arallgyfeirio a chynyddu’r cyllid y mae’n ei gael o ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau cyhoeddus.
Er mwyn llywio’r ymchwiliad, cytunodd y pwyllgor i archwilio yn gyntaf pa mor llwyddiannus y mae sector y celfyddydau yng Nghymru wedi bod o ran cynyddu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus; hefyd, sut y caiff cyllid celfyddydol heblaw cyllid cyhoeddus ei rannu ledled Cymru; ac a oes yna fodelau rhyngwladol o arferion gorau y gallai Cymru eu hefelychu.
Yn ystod ein hymchwiliad, daeth yn amlwg yn gyflym fod sector celfyddydau Cymru yn wynebu heriau amrywiol ac anodd iawn o ran codi arian. Mae sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau penodol o ran cynyddu eu hincwm, sy’n seiliedig yn bennaf ar raddfa’r sefydliadau hyn a’u lleoliad. Er mwyn i sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn llwyddiannus wrth leihau eu dibyniaeth ar gyllid cyhoeddus, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny. Mae cwmnïau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu llawer o anawsterau nad ydynt mor gyffredin mewn mannau eraill.
O ganlyniad, mae nifer o gamau y credwn y bydd angen i’r Llywodraeth eu cymryd cyn y gall ddisgwyl yn realistig i’r sector ymateb yn effeithiol i’w chais am ddibynnu llai ar gymhorthdal cyhoeddus. Heb gymryd y camau hyn, mae’n anodd dychmygu senario lle na fydd allbwn ac amrywiaeth y sector yn lleihau, yn sgil y lleihad yn y cymhorthdal cyhoeddus.
Oherwydd y nifer fach o fusnesau mawr sydd â phencadlys yng Nghymru, mae denu cymorth busnes yn anodd. Eglurodd Nick Capaldi, prif weithredwr cyngor y celfyddydau, fod nawdd busnes yn fwy cyffredin yn y canolfannau metropolitan ac i gefnogi sefydliadau celfyddydol mwy sydd â phroffil uwch. Ychwanegodd fod sefydliadau cymunedol bach mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, yn ei chael hi’n anodd denu nawdd corfforaethol sylweddol.
Mae codi arian drwy roddion gan unigolion hefyd yn broblem i’r celfyddydau yng Nghymru. Dywedwyd wrthym fod y nifer cymharol isel o unigolion gwerth net uchel yng Nghymru yn gwneud codi arian drwy roddion gan unigolion yn anodd iawn. Yn ychwanegol at hyn, mae’r anhawster a nodwyd gan Ganolfan Celfyddydau Chapter, sef yr her gyson o brofi bod y celfyddydau yn achos elusennol. Tynnodd Blue Canary, sef yr ymgynghoriaeth codi arian ym maes y celfyddydau, sylw at y mater yma hefyd. Dywedodd wrth y pwyllgor fod sefydliadau celfyddydol ar ei hôl hi o ran mentergarwch i gynhyrchu incwm ar draws y sector elusennol ehangach.
Roedd y farchnad hynod gystadleuol ar gyfer arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yn rhywbeth a ddaeth i’n sylw drwy gydol yr ymchwiliad. Mae sefydliadau preifat yn Ewrop wedi cyfyngu ar y grantiau y maent yn eu rhoi yn ystod cyfnod hir o gyfraddau llog isel. Gan gyfuno hyn â nifer o flynyddoedd o doriadau yn y sector cyhoeddus, mae’n hawdd deall pam mae’r farchnad hon wedi dod mor gystadleuol, wrth i sefydliadau celfyddydol wneud pob ymdrech i adennill yr arian cyhoeddus a gollwyd. Clywsom hefyd y byddai’n well gan ymddiriedolaethau a sefydliadau ariannu prosiectau penodol, yn hytrach na rhoi arian yn lle cyllid refeniw o’r sector cyhoeddus a gollwyd.
Fodd bynnag, er bod y gystadleuaeth am grantiau yn frwd, clywsom fod llawer o ymddiriedolaethau yn Llundain yn dal i fynegi’r awydd i fuddsoddi mwy yng Nghymru, gan nodi bod nifer ac ansawdd y ceisiadau yn isel o hyd. Mae’r sefydliadau hynny sy’n llwyddo yn dueddol o fod yn fwy, gyda mwy o gapasiti i wneud ceisiadau am gyllid.
Yn hyn o beth, pwysleisiodd Canolfan Celfyddydau Chapter bwysigrwydd yr arian cyhoeddus y mae yn ei gael, gan esbonio bod ymddiriedolaethau yn awyddus i gael sicrwydd o weld cefnogaeth gyhoeddus yno. I gyrff cyllido nad ydynt yn gyrff lleol, y gefnogaeth gyhoeddus hon yw’r arwydd cyntaf bod galw lleol am y prosiect perthnasol ac y dylid ei ariannu. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn amlwg o’r dystiolaeth a gawsom y bydd y capasiti i ymgeisio am gyllid o ffynonellau preifat yn gostwng wrth i gyllid cyhoeddus leihau.
Mae codi refeniw drwy werthu nwyddau a gwasanaethau yn amlwg yn ffordd arall o gynyddu cyllid sefydliad heblaw cyllid cyhoeddus. Esboniodd Celfyddydau a Busnes Cymru, sy’n cael arian cyhoeddus i feithrin cysylltiadau rhwng sefydliadau celfyddydol a busnes, fod cynnydd cyson wedi bod yn nifer y cwmnïau sy’n chwilio am hyfforddiant yn y celfyddydau i fynd i’r afael ag anghenion datblygu staff. Mae cwmni theatr Hijinx yn un o’r sefydliadau sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn. Mae Hijinx bellach yn cyflogi ei actorion, sydd ag anableddau dysgu, i ddarparu hyfforddiant i gwmnïau ynghylch cyfathrebu efo phobl sy’n agored i niwed. Fodd bynnag, mae yna hefyd gwmnïau fel Theatr na nÓg, a esboniodd mai ei gylch gwaith fel elusen yw darparu gwasanaeth nad yw fyth yn debygol o arwain at elw ar fuddsoddiad gan gwmni masnachol.
Yn strategaeth ddiwylliant Llywodraeth Cymru, 'Golau yn y Gwyll', mae wedi cydnabod bod angen i’r sector celfyddydau addasu i ymdopi â llai o arian cyhoeddus. Mae rhaglen wytnwch cyngor y celfyddydau yn un ymgais i wella cynaliadwyedd ariannol y sector diwylliant. Fodd bynnag, dim ond i sefydliadau sy’n cael cyllid refeniw gan y cyngor y mae’r rhaglen hon yn agored. O ganlyniad, rydym ni wedi argymell bod cyngor y celfyddydau yn ystyried ymestyn y rhaglen hon i gynnwys cyrff celfyddydol nad ydynt eisoes wedi’u hariannu gan gyngor y celfyddydau, ac rydym yn falch ei fod yn bwrw ymlaen â gwaith i fynd i’r afael efo’r mater hwn.
Yn ein hadroddiad, rydym wedi nodi nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r anawsterau cyffredinol ac, mewn sawl achos, yr anawsterau penodol iawn sy’n wynebu sefydliadau celfyddydol yng Nghymru wrth geisio cynyddu eu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i barhau â’i chefnogaeth ariannol i ddatblygu partneriaethau rhwng busnesau a’r celfyddydau. Rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn cymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol, ac i godi ymwybyddiaeth o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru.
Rydym wedi cynnwys nifer o argymhellion o ran manteisio ar farchnadoedd rhyngwladol. O ystyried y nifer isel o fusnesau mawr ac unigolion gwerth net uchel yng Nghymru, mae’n hanfodol bod y marchnadoedd hyn yn cael eu nodi, a bod sefydliadau’n manteisio arnynt cyn belled ag y bo modd. O ystyried y nifer fach o geisiadau am gyllid sy’n cael eu cyflwyno, a safon isel y ceisiadau hyn ar adegau, rydym hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu ffynhonnell o arbenigedd i gefnogi sefydliadau celfyddydol bach i wella nifer ac ansawdd eu ceisiadau.
Yn gyffredinol, credwn hefyd fod yn rhaid i’r Llywodraeth, yn ogystal â’r sector, anelu’n uwch os yw’n disgwyl i sefydliadau’r celfyddydau ffynnu gyda llai o arian cyhoeddus. Nid yw galw arnynt i wneud hynny yn ddigon. Mae angen sicrhau bod y lefel briodol a digonol o gefnogaeth wedi’i deilwra yn cyd-fynd â’r alwad, a hynny’n gefnogaeth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r sector.
I gloi, er fy mod yn falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn, o leiaf mewn egwyddor—ac mae hynny'n ddadl eto—ein 10 argymhelliad, rhaid cymryd camau effeithiol a phriodol i gyd-fynd efo’r ymateb hwn. Mewn sawl achos, mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd yn gofyn i swyddogion weithio gyda chyngor y celfyddydau i fwrw ymlaen â’r gwaith o gynyddu cyfraniadau. Mae wedi ymrwymo i lunio cynllun gweithredu, ac i gyngor y celfyddydau a Chelfyddydau a Busnes Cymru drefnu seminarau rhanbarthol ar gyfer ymddiriedolaethau a sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Rwy’n falch o weld y camau hyn. Bydd y pwyllgor hefyd yn disgwyl adroddiad ar sut mae’r ymdrechion hyn wedi arwain at newidiadau pendant er gwell.
Bydd y pwyllgor yn dychwelyd i’r pwnc hwn nesaf, a gofynnwn i’r Gweinidog baratoi gwerthusiad o’r camau y mae wedi cytuno i’w cymryd mewn ymateb i bob un o’n hargymhellion erbyn y gwanwyn. Dywedodd y Gweinidog wrthym y bydd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng y celfyddydau a busnes yn cael ei hadolygu. Dywedodd wrthym y bydd yn pwysleisio i gyngor y celfyddydau yr angen iddo barhau i ddyrannu adnoddau i’r gweithgaredd hwn, o gofio bod y pwysau ar gyllid cyhoeddus yn debygol o barhau yn y dyfodol rhagweladwy. Hoffwn wybod pa gynlluniau sydd ar waith i ddisodli’r gwaith hwn o fis Ebrill 2019 ymlaen os yw cyngor y celfyddydau yn penderfynu nad yw Celfyddydau a Busnes Cymru yn cynnig gwerth am arian. Pe na bai ei waith yn parhau ar ôl mis Ebrill, pa strategaeth fydd yn ei lle i ymateb i hyn? A oes perygl y byddwn yn colli ffynhonnell hanfodol o wybodaeth?
Rhywbeth a wnaethpwyd yn glir iawn i ni yn ystod yr ymchwiliad hwn yw bod llu o unigolion talentog ac angerddol yn rhan o’r sector celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw’n haeddu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu, ac i ganiatáu i bob un ohonom elwa o’u talentau. Diolch yn fawr.
A gaf fi gymeradwyo ein Cadeirydd dros dro am ei frwdfrydedd wrth gyflawni ei ddyletswyddau dros dro y prynhawn yma? Credaf iddo roi crynodeb rhagorol o'n hadroddiad, a'i bwysigrwydd, ac roedd yn ddechrau gwych i'r ddadl hon.
Credaf fod yr arian nad yw'n arian cyhoeddus y mae'r sector celfyddydau yn ei dderbyn yn arwydd allweddol o'i iechyd, neu fel arall. Ac mae'n bwysig inni ganolbwyntio ar yr agwedd hon. Gŵyr pob un ohonom mai tywysogion teyrnasoedd a thywysogion eglwysig, a ffynonellau cyhoeddus iawn, sydd wedi ariannu’r celfyddydau ar hyd yr oesoedd i raddau helaeth. Ers yr ail ryfel byd, mae hynny wedi newid yn gyngor y celfyddydau a'r Llywodraeth. Ond mae'r swm a ddaw o'r hyn y gallwn ei ddisgrifio'n fras fel y sector preifat yn bwysig tu hwnt yn fy marn i, fel arwydd o iechyd cyffredinol.
Rydym yn sylweddoli ein bod yn wynebu heriau penodol yng Nghymru. Nid Llundain ydym ni, ond serch hynny, nid Llundain yw'r rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig. Ond nid yw llawer iawn o'r egni a'r nawdd y mae hynny'n ei greu drwy'r sector busnes yn llifo'n bell iawn o Lundain, a gall y byd metropolitanaidd sydd â’i ganolbwynt yn Llundain fod yn llyffethair braidd weithiau. Credaf mai rhan o'n gwaith yw herio'r ffynonellau cyllid hynny sy'n fwyaf cyfforddus yn Llundain o bosibl i edrych ymhellach, nid yn unig tuag at Gymru—byddai o fudd iddynt edrych ledled y DU hefyd—ond mae angen inni ddadlau ein hachos yn gadarn. Felly, mae Llundain yn ffynhonnell allweddol ar gyfer cyllid, a chredaf y dylem gofio hynny bob amser yn y gwaith a wnawn a’r gwaith rydym yn disgwyl i'r Llywodraeth ei wneud.
Rydym wedi cael cryn lwyddiant hefyd, megis gydag Opera Cenedlaethol Cymru a gwobr Artes Mundi. Mae gennym rai o'r cysylltiadau gorau gyda'r gymuned fusnes ehangach a ffynonellau nawdd a rhaglenni creadigol iawn. Felly, ni chredaf y dylem ddioddef unrhyw ddiffyg hyder yn hyn o beth.
Credaf mai un o'r meysydd allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad o ran yr angen am ddatblygiad yw mwy o hyrwyddo ar lefel ryngwladol. Gall y Llywodraeth yma chwarae rhan fawr a soniai’r adroddiad am deithiau masnach, teithiau cyfnewid diwylliannol. Ac a gaf fi ychwanegu fy mod wedi meddwl yn aml y gallem roi llawer mwy o sylw i'r Mabinogi? Mae cryn lwyddiant wedi bod yn hynny o beth hefyd, ond mae'n un o ganonau pwysicaf llenyddiaeth y byd, ac o ran pwysigrwydd datblygiad diwylliannol Ewrop, mae'n wirioneddol allweddol. Rwyf wedi dyfynnu John Updike sawl tro mewn perthynas â’r pwysigrwydd a roddai i’r Mabinogi, ac roedd yn hyrwyddwr gwych yn ei ddydd, yng Ngogledd America.
Fel y dywedodd y Cadeirydd dros dro, credaf fod angen cryfhau arbenigedd codi arian yn sylweddol. Credaf fod angen i'r sector gydweithredu er mwyn datblygu'r math hwnnw o gryfder, gyda Llywodraeth Cymru o bosibl, fel y gallwn weld y cyfleoedd a chynnig pecynnau cydlynol iawn wrth wneud ceisiadau i arianwyr. Weithiau, credaf nad ydym yn gwneud digon o gydweithredu. Rydym yn credu y bydd angen eu swyddog codi arian eu hunain ar bawb sy’n chwilio am gyllid. Nid wyf yn siŵr ai dyna'r ffordd orau o fynd ati o reidrwydd. Mae angen ymagwedd fwy cydgysylltiedig, a gall hynny roi llawer mwy o gryfder i chi o ran y capasiti a ddatblygwch. Wrth gwrs, mae dyfodol Celfyddydau a Busnes Cymru yn bwysig iawn o ran y gwaith y maent wedi'i wneud ar hyrwyddo cysylltiadau rhwng y celfyddydau a busnesau, a bydd yr hyn a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, fel y dywedodd y Cadeirydd, yn bwysig iawn.
Rwyf hefyd o'r farn y dylem gofio lle'r arbrofol yn y celfyddydau. Unwaith eto, mae hynny’n arwydd allweddol arall o'i lwyddiant. Mae'n annhebygol y bydd y maes hwnnw'n derbyn llawer iawn o arian nad yw'n arian cyhoeddus, neu arian cyson o leiaf. Felly, nid ydym am anwybyddu hynny ychwaith yn ein brwdfrydedd ynglŷn â ffrydiau ariannol eraill. Rydym angen ymagwedd sy'n caniatáu i ystod eang o gelfyddyd gael lefel o gyllid y mae'n ei haeddu fel y gall ychwanegu at ein bywyd cenedlaethol. Felly, mae’n amlwg y bydd cyllid cyhoeddus yn dal i fod yn hollbwysig.
Hoffwn gloi drwy ddweud hyn: soniwyd yn y ddadl ddiwethaf mewn gwirionedd fod cymuned o Gymry alltud yn bodoli. Weithiau, am nad ydym yn ei hystyried yn gymuned mor fawr ag un Iwerddon neu'r Alban hyd yn oed, rwy'n credu—. Ond edrychwch ar yr Alban: maent wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn. Credaf y dylem ninnau hefyd fanteisio ar y gymuned o Gymry alltud a’i diffinio o bosibl, a chynnwys y rheini sy'n byw yn Llundain, ond yn rhyngwladol hefyd. Unwaith eto, rwy’n siŵr fod llawer o bobl yno a fyddai’n awyddus i fuddsoddi yn ein celfyddydau, pe baech yn gofyn iddynt. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad a diolch i'r clercod am gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. Agorwyd yr ymchwiliad i ariannu'r celfyddydau cyn imi ddod yn aelod o'r pwyllgor, felly, yn anffodus, nid oedd modd imi ymwneud â'r tystion, ond hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am ddarparu tystiolaeth gadarn.
Ar adeg pan fo cymaint o alwadau'n cystadlu am arian cyhoeddus prin, mae rhai'n credu bod arian cyhoeddus i'r celfyddydau yn foethusrwydd na ellir ei fforddio, ond nid wyf yn un ohonynt. Roedd Cadeirydd ein pwyllgor yn nodi'n gywir fod y celfyddydau'n goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau. Maent yn rhan annatod o'n cymdeithas, ac maent yn creu manteision pellgyrhaeddol i bob un ohonom.
Mae'r swm rydym yn ei wario ar y celfyddydau oddeutu 0.17 y cant yn unig o gyllideb Cymru, ac eto, mae'r celfyddydau nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, maent hefyd yn helpu i roi Cymru ar y map. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae gennym dros 5,300 o fusnesau creadigol yng Nghymru, sy'n cynhyrchu dros £2.1 biliwn mewn trosiant blynyddol, ac yn cyflogi dros 49,000 o bobl. Mae'r celfyddydau'n atyniad pwysig i dwristiaid, ac yn cynrychioli 32 y cant o'r holl ymweliadau â'r DU a 42 y cant o'r holl wariant a ddaw i mewn sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, heb sôn am y ffordd y maent yn cyfoethogi ein lles, sy'n anfesuradwy.
Dros y degawd diwethaf, mae arian cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi'i dorri fwy na 10 y cant, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dangos bod mwy o doriadau i ddod drwy ofyn i'r sector leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. Fodd bynnag, fel y darganfu'r pwyllgor, byddai gwneud hynny'n anodd iawn i sefydliadau celfyddydol. Yn anffodus, nid oes gennym draddodiad dyngarol cryf yn y wlad hon, gan nad yw rhestr The Sunday Times o'r bobl gyfoethocaf yn llawn dynion a menywod o Gymru a chan na allwn ddibynnu ar haelioni biliwnyddion. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd eraill o ychwanegu at gronfeydd sefydliadau celfyddydol Cymru.
Bu'r pwyllgor yn ystyried amrywiaeth o opsiynau, a nod ei 10 argymhelliad yw sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer ffynonellau cyllid amgen. Mae'n amlwg iawn fod yn rhaid i'r celfyddydau yng Nghymru barhau i dderbyn cyllid cyhoeddus, ac er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar yr arian hwnnw, mae arnynt angen peth cymorth gan y Llywodraeth. Rwy'n falch fod y Gweinidog yn derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor, mewn egwyddor o leiaf.
O ran argymhelliad 8, rwy'n falch fod y Gweinidog yn cydnabod pa mor anodd yw hi i sefydliadau celfyddydol bach gyflogi swyddogion codi arian arbenigol ac felly i ddenu rhoddwyr. Mae'r Gweinidog yn dweud y bydd yn gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru edrych yn gadarnhaol ar ymestyn eu rhaglen gydnerthedd, ac annog celfyddydau a busnesau i hyrwyddo opsiynau fel y gallai sefydliadau llai rannu gwasanaethau ac arbenigedd swyddog codi arian proffesiynol. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog fynd ymhellach. Ni ddylem fod yn gofyn neu'n annog; mae'n rhaid darparu'r gwasanaethau hyn, felly dylem fod yn cyfarwyddo ac yn mynnu. Mae mynediad at gronfa a rennir o swyddogion codi arian proffesiynol yn hanfodol os ydym am leihau dibyniaeth sefydliadau celfyddydol ar arian cyhoeddus. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith? Mae wedi bod yn bleser cydweithio â nhw. Maen nhw wedi llwyddo i dynnu sylw at yr heriau ariannol sy'n wynebu'r sector celfyddydau yn sgil y pwysau na allwn ni ei wadu ar gyllidebau awdurdodau lleol, ynghyd â'r gostyngiadau diweddar yn incwm o'r Loteri Genedlaethol. Rydym ni'n cydnabod yr heriau yma. Mae'r Llywodraeth yn parhau hefyd i fod yn gwbl ymrwymedig i ariannu'r celfyddydau â chyllid cyhoeddus. Rydym hefyd yn cydnabod nad ydy hi'n debygol y bydd cynnydd sylweddol i'r cyllid hwn yn bosib am rai blynyddoedd, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n ystyried gyda'n gilydd yr holl ffyrdd posib o helpu'r sector i hybu incwm.
O'r 10 argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad, rydw i'n falch o fod wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr wyth sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu cymorth ariannol er mwyn annog busnesau a'r celfyddydau i weithio mewn partneriaeth, ac i ystyried a oes angen cyllid ychwanegol er mwyn helpu sector y celfyddydau i ddenu mwy o arian gan fusnesau. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu'r gwaith yma drwy gyngor y celfyddydau drwy ein cyllid cymorth grant. Mae'r cymorth ar gael yn bennaf gan y cyngor ei hun, fel y cyfeiriodd Dai Lloyd wrth agor y drafodaeth yma, a chan Gelfyddydau a Busnes Cymru, sy'n cael cymorth gan y cyngor i ddarparu gwasanaethau penodol.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rydym ni yn trafod gyda'r cyngor celfyddydau ynglŷn â sut y gallwn ni gyfuno'r cymorth yma. Mae wedi nodi y bydd y cyngor yn parhau i geisio ymestyn y rhaglen gydnerthedd, neu 'gwytnwch' os ydy hynny'n well gennyt ti, yn llwyddiannus. Mae'r rhaglen yma yn rhoi cymorth busnes a chymorth llywodraethiant i sefydliadau celfyddydol allweddol ar gyfer eu hanghenion unigol. Rydym ni hefyd yn awyddus i helpu Celfyddydau a Busnes Cymru i barhau â'r gwaith o annog nawdd corfforaethol ac i ysgogi mwy o bobl i ymwneud â'r celfyddydau ymhob ffordd. Rydw i wedi gofyn i swyddogion drefnu partneriaethau lle byddai peth o gyllid craidd Celfyddydau a Busnes Cymru yn seiliedig ar lefel y buddsoddiad ychwanegol y byddan nhw'n ei sicrhau ar gyfer sector ehangach y celfyddydau. Ond rydym ni'n dal i geisio gwirio'r cynllun yna ar hyn o bryd. Ond rydw i'n meddwl bod y syniad o roi anogaeth i Gelfyddydau a Busnes Cymru a'u gwobrwyo nhw am eu llwyddiant yn gweithio i godi cyllid yn egwyddor ddefnyddiol iawn. Ac rydw i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cadw cyllid yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yn benodol ar gyfer hynny.
Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn inni godi ymwybyddiaeth am sefydliadau celfyddydol Cymru a'r buddsoddiad y mae ymddiriedolaethau a sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig yn ei wneud ynddyn nhw. Rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn mewn sawl ffordd. Rydym ni wedi gofyn i'r cyngor celfyddydau gymryd yr awenau strategol. Maen nhw eisoes wedi cynnal dau ddiwrnod o gyfarfodydd yn Llundain gyda chynrychiolwyr sefydliadau mawr o'r Deyrnas Unedig, ac mae'r dyddiau yma wedi bod mor boblogaidd fel y byddan nhw yn arwain at ddigwyddiadau pellach yng Nghymru yn ogystal.
Ar ben hynny, mae Celfyddydau a Busnes Cymru wedi bod yn trefnu symposiwm i roi cyngor wyneb yn wyneb i sefydliadau celfyddydol ar y ffyrdd gorau o wneud ceisiadau yn llwyddiannus wrth geisio cyllid. Yn y symposiwm diweddaraf, roedd yna bedair ymddiriedolaeth o Lundain wedi cysylltu â Chelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn trefnu dyddiau tebyg eu hunain. Mi fyddaf i hefyd yn cysylltu â'r prif ymddiriedolaethau a sefydliadau drwy'r Deyrnas Unedig i ofyn am eu cefnogaeth nhw i fynd â'r argymhelliad hwn ymhellach, ac yn gwahodd eraill sy'n arbenigo mewn cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i wahanol ymddiriedolaethau a sefydliadau i rannu eu profiadau nhw yn ehangach.
Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn inni ddatblygu strategaeth i helpu'r sector celfyddydau i ddatblygu'r marchnadoedd rhyngwladol, i gomisiynu ymchwil, i nodi'r marchnadoedd sydd â'r potensial i ehangu fwyaf, ac i sicrhau bod yr elfen ddiwylliannol yn amlwg mewn teithiau cenhadol, mewn teithiau masnach tramor. Rydym ni'n croesawu hyn yn fawr. Yn dilyn y newid yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i Gymru ddatblygu dull a stori newydd i gyfleu ein gwaith rhyngwladol, ochr yn ochr â'r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs. Mae hynny yn dilyn y datganiad o weledigaeth a gawsom ni yn 'Golau yn y Gwyll', a'r pwyslais ar ba mor bwysig yw sicrhau bod pobl yn ymddiddori mewn diwylliant er mwyn dangos yn glir ein bod ni yn wlad gyfoes a diwylliedig sy'n edrych allan, ac yn wlad i ymweld â hi o safbwynt dwristiaeth ac i wneud busnes â hi.
Ym mis Gorffennaf, wrth annerch fforwm celfyddydau rhyngwladol yng Nghaerdydd, fe ges i gyfle i roi her i'r asiantaethau allweddol, gan gynnwys y cyngor celfyddydau, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, a'r cyngor llyfrau, a hefyd yr amgueddfeydd a'r orielau, i gydweithio â ni yn Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r bwriad yma i wella canlyniadau diwylliannol ac economaidd ein gweithgareddau rhyngwladol. Mae'r ymateb i hynny wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mi fydd yna gyfarfod pellach cyn hir i ddatblygu'r gwaith yma.
Fel y pwysleisiodd y pwyllgor, mae cael gwybodaeth arbenigol am godi arian yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer sefydliadau celfyddydol llai. Yn y cyfeiriad yma, mae'n bwysig atgoffa unrhyw gwmni celfyddydol neu unrhyw fusnes celfyddydol fod y cymorth sydd gyda ni drwy Fusnes Cymru ar gael iddynt hwythau. Mae'r gwasanaethau yma ar gael i sefydliadau celfyddydol llai i helpu i farchnata, i fanteisio ar eiddo deallusol ac yn y blaen. Ond rydym ni yn derbyn bod angen help mwy arbenigol ar rai agweddau o godi arian, ac mae cyngor y celfyddydau eto yn mynd i'r afael â'r mater yma. Ac mi fydd y cyngor, cyn hir, yn cyhoeddi cynlluniau i helpu sefydliadau llai i ddatblygu ac i godi arian, yn enwedig i'r rheini nad ydyn nhw’n cael arian craidd o fewn cynllun cyngor y celfyddydau.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi rhoi arian loteri i Gelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn datblygu'r rhaglen o interniaethau creadigol, i hyfforddi gweithwyr proffesiynol newydd i godi arian. Mi fyddan nhw hefyd yn cefnogi lleoliadau bwrsariaethau yn yr ysgol codi arian ar gyfer y celfyddydau cenedlaethol, ac mae'r cyngor hefyd wedi creu pecyn cymorth briffio ar gyfer sefydliadau codi arian am y tro cyntaf. Mi fydd y gwaith yma'n cael ei ddatblygu, a'r deunydd yma ar gael yn fuan iawn.
Ac yn olaf, rydw i'n dod at fy hoff gorff nad yw eto wedi'i lwyr sefydlu, sef Cymru Greadigol. Ac mae'r pwyllgor wedi gofyn, yn ddigon teg, inni egluro'r nodau o ran sut y byddwn ni'n gweithredu Cymru Greadigol. Mi fydd Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu fel asiantaeth fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, yn cyfateb, ond nid yn union yn yr un modd, yn ei drefniadaeth fewnol i Cadw a Chroeso Cymru. Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn penodi aelodau i fwrdd cynghori ac mi fydd disgwyl i'r asiantaeth newydd yma weithio mewn partneriaeth agos â Chyngor y Celfyddydau, ac mae'r cyngor, wrth gwrs, yn croesawu hynny.
Rydym ni'n credu y bydd Cymru Greadigol yn gorff a fydd yn gallu datblygu'r potensial economaidd llawnach yn y sector greadigol yn gyffredinol. A gobeithio bod hynny yn ymateb yn weddol lawn i argymhellion gwerthfawr y pwyllgor hwn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl bwysig yma, ac yn gyntaf i David Melding am ei eiriau caredig a hefyd am olrhain yr hanes, wrth gwrs, achos rydym ni'n sôn am nifer o heriau yn fan hyn yn y maes o godi arian tuag at fudd y celfyddydau. Ac, wrth gwrs, roeddwn yn falch clywed y sôn am y Mabinogion—ddim bob dydd rydym ni'n sôn am y Mabinogion yn y Siambr yma—un o gampweithiau Ewrop, yn wir, yn llenyddol, ac rydw i'n falch bod David hefyd yn cydnabod hynny, ac yn gwneud y pwynt ehangach nad Llundain yw Cymru, yn nhermau codi pres, ond hefyd y dylai fod yr hyder gyda ni i fynd i Lundain ac i fynd ar ôl yr arian, a chael yr hyder ddim jest i fynd i Lundain, ond hefyd yn fwy rhyngwladol, ac yn enwedig yn ymgysylltu efo'r Cymry hynny sydd yn byw dramor—rhan o'r ddadl y gwnaethon ni ei chlywed yn y ddadl gynt. Mae Mark ar ei draed.
Mae'r Mabinogi gwych yn cynnwys y rhamantau Arthuraidd hysbys cyntaf yn y Gymraeg, a ysgrifennwyd, yn hollbwysig, cyn i Sieffre o Fynwy ysgrifennu ei hanesion ffug ar gyfer y llysoedd Normanaidd. A ydych yn cytuno y dylem fod yn hawlio'r straeon hynny'n ôl ar gyfer Cymru?
Yn sicr, ond mae rhai ohonom heb erioed eu colli, felly os ewch yn ddigon pell yn ôl—[Chwerthin.]
Felly, diolch yn fawr iawn, David, yn wir, a hefyd i Mark. A hefyd i Caroline, wrth gwrs, a oedd yn rhoi dadl gref gerbron am werth ehangach y celfyddydau a hefyd y cyfraniad allweddol i dwristiaeth. A hefyd, rydw i'n falch nodi, yn ymateb y Gweinidog, i fod yn deg, ei fod o wedi bod yn ateb ein cwestiynau ni—y rheini y gwnaethom ni eu gosod gerbron. Roedd y Gweinidog hefyd yn olrhain yr heriau a hefyd yn datgan yn glir ei fod o'n parhau i fod yn rhwymedig i ariannu'r celfyddydau cyhoeddus i'r dyfodol, ac, wrth gwrs, ei fod o'n cadarnhau hefyd fod y rhaglen wytnwch yma i barhau. A hefyd rydym ni'n croesawu'r newyddion ynglŷn â Chymru Greadigol. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am yr ymateb cadarnhaol i'n hargymhellion. Mae wedi bod yn fodd, drwy'r ddadl yma a'r adroddiad yma, i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y celfyddydau. Rwyf hefyd yn falch o olrhain y gwaith cefnogi y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud y tu ôl i'r llenni, efallai, ddim wastad ynghanol yr holl gyhoeddusrwydd, yn cefnogi'r sawl sy'n gwneud ceisiadau ariannol llwyddiannus.
Ond, i gloi, mae gyda ni lu o unigolion talentog ac angerddol yn gweithio ym maes y celfyddydau yma yng Nghymru. Mae gyda ni lu o Gymry ym mhob man ar draws y byd yn ogystal ag yn y wlad hon sydd â digon o ewyllys da i fod eisiau eu cefnogi nhw hefyd. Felly, mae'n fater o ddod â'r ddau at ei gilydd. Gydag arweiniad gref Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, rydym ni'n disgwyl gweld tro ar fyd wrth ariannu a meithrin cydnerthedd ar gyfer y celfyddydau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n dod â ni at eitem 7, dadl Plaid Cymru ar y penderfyniad ar goridor yr M4. Rydw i'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6880 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd, a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Siaradaf i ddim yn hir heddiw achos mae'r pwynt rydym ni'n ei wneud drwy gyflwyno'r cynnig yma yn un eithaf syml. Mi gawn ni gyfleon i drafod y dadleuon dros ac yn erbyn llwybr du yr M4 yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, heb os. Er mwyn y cofnod, mi wnaf i nodi beth ydy fy marn i a'm mhlaid i ynglŷn â'r cynlluniau sydd yn cael eu trafod ac sydd wedi bod yn destun ymchwiliad cyhoeddus yn ddiweddar.
Rydym ni yn cydnabod ac yn sylweddoli bod yna waith i'w wneud i wneud y system ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn fwy gwydn, bod yna le i fuddsoddi arian sylweddol mewn gwneud hynny, ond nid ydym ni wedi'n hargyhoeddi mai mynd am y cynllun llwybr du, fel y mae'n cael ei alw, neu llwybr newydd yr M4 i'r de o Gasnewydd, ydy'r ffordd i wneud hynny. Mae yna ddadleuon ariannol dros hynny. Pam commitio cymaint o arian ar gyfer un ffordd pan fo yna ffyrdd amgen o weithredu? Mae yna ddadleuon amgylcheddol cryf iawn yn erbyn hynny. Mi glywn ni fwy am hynny gan Llyr Gruffydd yn y man.
Rydym ni'n credu bod yna fodd i fod yn fwy arloesol a dod ag ateb unfed ganrif ar hugain i'r broblem rydym ni'n ei hwynebu, yn hytrach nag ateb sydd â'i wreiddiau—waeth i ni fod yn onest—yn ôl yn 1970au a 1980au y ganrif ddiwethaf. Rydym ni'n credu mewn difrif y gallwn ni symud yn gynt tuag at ddatrys y broblem ffyrdd yn y modd yma, ond, ochr yn ochr â hynny, rydym ni'n credu mai'r hyn sydd angen ei wneud hefyd ydy cryfhau'r system drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn tynnu pobl oddi ar y ffyrdd yn y lle cyntaf. Felly, dyna, er mwyn y cofnod, yw lle rydym ni'n sefyll ar yr M4.
Ond nid dadl am hynny ydy hon heddiw yma. Mae yna bleidlais yn mynd i gael ei chynnal yma rhyw ben ynglŷn â dyfodol y cynllun hwn, lle mae disgwyl i bleidlais o Aelodau ein Senedd genedlaethol ni fod yn binding, ac, os ydy'r Cynulliad yma yn dweud 'na' i'r llwybr du, yna mae disgwyliad mai 'na' fydd hi. Ond, wrth gwrs, mae yna gam pwysig i'w gymryd cyn hynny gan Lywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru fydd yn edrych ar gasgliadau'r ymchwiliad cyhoeddus ac yn dod i'r penderfyniad a ydyn nhw am fwrw ymlaen ai peidio.
Prif Weinidog Cymru fydd yr un fydd yn gwneud yr alwad yna, ond mae yna gyd-destun sy'n mynd i fod yn newid, a hynny yn fuan iawn. Mae yna newid yn mynd i fod yn nhirwedd llywodraethol Cymru, ac mae, beth bynnag, un o'r tri sydd yn ymgeisio am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yma yn y Siambr heddiw. Mae un o'r tri yn mynd i fod yn Brif Weinidog newydd Cymru o fewn mater o wythnosau. Ein pwynt syml iawn ni heddiw ydy mai penderfyniad i'r Prif Weinidog newydd ddylai fod i fwrw ymlaen ai peidio, achos rydym ni'n meddwl bod arwyddocâd mor fawr i'r penderfyniad yma y dylai'r penderfyniad gael ei berchnogi gan bwy bynnag ydy Prif Weinidog newydd Cymru.
Nid ydym ni'n credu ei bod hi'n dderbyniol un ai i'r Prif Weinidog presennol gymryd y bai am wneud rhywbeth amhoblogaidd ac yna diflannu, neu geisio perchnogi hwn fel rhyw fath o ffordd o adael gwaddol personol ohono'i hun. Na, mae yna ormod yn y fantol—
A wnaiff yr Aelod ildio?
—rwy'n credu ar gyfer hyn, a phenderfyniad rwy'n credu y dylai hyn fod i'r sawl a fydd yn cymryd lle y Prif Weinidog presennol.
Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.
Yma, mae'r cynnig yn cyfeirio at y penderfyniad i fwrw ymlaen ai peidio, ond onid oes dau benderfyniad gwahanol yma: (1) a ddylid gwneud y Gorchmynion hyn a rhoi caniatâd cynllunio, lle mae'r Prif Weinidog presennol wedi bod yn ofalus i beidio â dangos tuedd ac mae mewn sefyllfa dda i wneud hynny, ac yna, yn ail, penderfyniad ynglŷn ag a ddylid blaenoriaethu a gwario'r arian a chychwyn ar y broses adeiladu, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud wedi hynny? Onid yw hwnnw'n rhaniad synhwyrol?
Rydych yn llygad eich lle, dyna'r broses a ddilynir, ac mewn ffordd, yr hyn rydym yn ei ddweud yw ein bod am i'r penderfyniad hwnnw ynglŷn ag a ddylid llofnodi'r Gorchmynion statudol hynny gael ei wneud gan Brif Weinidog newydd, gan mai hynny sy'n achosi ac yn cychwyn y broses honno, sydd wedyn yn arwain at bleidlais yma ynglŷn ag a ydym yn credu ei fod yn rhywbeth y dylid ei flaenoriaethu er mwyn rhyddhau'r arian a gedwir wrth gefn ar hyn o bryd, yn aros i gael ei ddefnyddio. Credwn mai'r Prif Weinidog newydd a ddylai roi'r broses honno ar waith. Mae cymaint yn y fantol o ran dyfodol gwariant yng Nghymru, yr amgylchedd yng Nghymru, cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru; gadewch i ni weld Prif Weinidog newydd Cymru yn perchnogi'r penderfyniad hwnnw.
Wrth gwrs, mae arnom angen ateb i fater tagfeydd yr M4—mae hwnnw'n fater y bydd pob Aelod ar draws y Siambr yn ei gefnogi, heb os—ond yr hyn rydym yn aros amdano, wrth gwrs, yw manylion llawn yr ymchwiliad cyhoeddus. Ac mae angen i ni fel ACau ar draws y Siambr hon weld yr adroddiad hwnnw, a buaswn yn dweud ei bod yn hanfodol fod y Llywodraeth yn cyhoeddi canfyddiadau a chasgliadau'r ymchwiliad cyhoeddus fel y gallwn ni a'r rhanddeiliaid ystyried a chraffu ar yr ymgynghoriad hwnnw a chasgliadau adroddiad yr ymchwiliad hwnnw.
Nid fi fydd yr unig AC yn y Siambr hon â mewnflwch yn llawn o e-byst, yn enwedig dros yr wythnos ddiwethaf, gyda safbwyntiau o'r holl wahanol sectorau, ac mae'n rhaid cydbwyso'r safbwyntiau hynny, wrth gwrs. Ond credaf fod Llywodraeth Cymru wedi llusgo'i thraed ar y mater hwn. Wedi 20 mlynedd o drafodaethau ac ymgynghoriadau, nid oes ateb ymarferol wedi'i ddarparu. Rydym wedi cael ymchwiliad cyhoeddus, mae'r ymchwiliad bellach wedi cyflwyno ei ganfyddiadau i Lywodraeth Cymru, felly rwy'n siomedig nad ydym ni, fel ACau yma, wedi cael cyfle i graffu ar y canfyddiadau hynny ychwaith.
Ac ymddengys hefyd ein bod wedi cael gwybodaeth anghyson ynglŷn â'r mater hwn. Mae arweinydd y tŷ, wrth ateb cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ac ar adegau blaenorol hefyd, wedi rhoi un safbwynt i ni, mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor yr amgylchedd yr wythnos diwethaf ac ymddengys ei fod yn dweud rhywbeth gwahanol wrthym, a'r Prif Weinidog yn dweud rhywbeth arall. Felly, rwy'n gobeithio mai'r hyn a ddaw o'r ddadl hon pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet, neu arweinydd y tŷ, efallai, yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma, yw eglurder, unwaith eto, ynglŷn â'r safbwynt ac amserlen y broses o wneud penderfyniadau. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael hynny.
Ond rwy'n deall y cynnig a gyflwynwyd heddiw; rwy'n barod i wrando ar y ddadl cyn inni ddod i unrhyw gasgliad ar yr ochr hon ynglŷn â sut y dylid—ynglŷn â sut y byddwn yn pleidleisio ein hunain. Rydym wedi dweud yn gyson fod angen gwneud penderfyniad cyn gynted â phosibl. Felly, nid wyf am weld hynny'n cael ei ohirio, ond rwy'n derbyn yn llwyr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad—
Gwnaf.
—er mwyn gwneud y pwynt hwnnw? Credaf nad yw'n fater o geisio ychwanegu rhagor o oedi mewn proses sydd eisoes wedi cymryd cryn dipyn o amser, pa ochr bynnag i'r ddadl rydych arni; rydym yn sôn am wythnosau yma cyn y caiff penderfyniad ei wneud.
Ydym, ac rwy'n derbyn y safbwynt hwnnw'n llwyr. Rydym yn sôn am fater o wythnosau, ac wrth gwrs, y Prif Weinidog newydd—rwy'n gweld y ddadl o blaid y Prif Weinidog newydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Rwy'n gweld y ddadl honno hefyd, ac rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch.
Ar gyfer y cofnod, mae fy mag post yn llawn o bobl nad ydynt am weld gwastadeddau Gwent yn cael eu dinistrio, gyda rhai ohonynt yn eu cymharu â basn yr Amazon. Felly, mae hynny'n sicr yn bryder penodol i lawer iawn o fy etholwyr.
Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr â'r cynnig. Mae angen inni sicrhau bod opsiynau ar gael i'r Llywodraeth newydd oherwydd, wrth edrych yn ôl, mae pum mlynedd wedi bod bellach ers i adroddiad Mark Barry, 'A Metro for Wales' Capital City Region', ddadlau'r achos dros newid sylweddol i gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus ranbarthol a mabwysiadu cynllun trafnidiaeth economaidd dinas-ranbarthol a defnydd tir integredig. Rydym yn bell iawn o hynny, ac rydym wedi anwybyddu'r ffaith bod dogfen bwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd, 'Sbarduno Economi Cymru', wedi nodi, ddwy flynedd yn ddiweddarach, y gallai system drafnidiaeth integredig, i gyd-fynd â chynllunio defnydd tir, fod yn gatalydd ar gyfer newid economaidd ar draws y rhanbarth. A dywedant fod gweledigaeth y metro ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern amlfodd integredig o ansawdd uchel yn ganolog i'r dyhead hwn. Hwrê. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac mae'n rhaid inni gydnabod ei bod yn anghynaladwy i 100,000 o bobl gymudo i Gaerdydd a Chasnewydd mewn ceir am resymau sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd yn ogystal ag iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn rhywbeth na chafodd ei ystyried yn briodol yn yr ymchwiliad. O gofio ei bod yn costio'r un faint yn union i adeiladu cilometr o reilffordd a chilometr o draffordd, ac eto, gall rheilffordd gludo rhwng wyth ac 20 gwaith yn fwy o bobl, dyna lle y dylid buddsoddi yn fy marn i, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015—deddfwriaeth ysbrydoledig a grëwyd gan Carl Sargeant.
Nawr, rydym newydd wrando ar yr apêl gan yr Aelod dros Dorfaen—mae'n flin gennyf nad yw hi yma ar hyn o bryd. Ond yn gynharach, bu'n sôn am yr angen i sicrhau bod trenau'n stopio ym Mhont-y-pŵl fel y gall pobl gymudo ar y trên i'w swyddi, a chytunaf yn llwyr â hynny. Yn syml iawn, nid ydym yn mynd i ddosbarthu twf ar draws y rhanbarth heb y cysylltedd hwnnw. Pe byddwn yn dymuno dechrau busnes newydd, rwy'n llawer mwy tebygol o fod eisiau ei leoli ym Mhont-y-pŵl nag yng Nghaerdydd, gan y byddai'r rhent yn rhatach. Rydym wedi cael yr ymchwiliad cyhoeddus drud iawn hwn yn mynd rhagddo ers misoedd lawer ynglŷn ag oddeutu 14 milltir o ffordd, ac mae hyn wedi golygu, yn anffodus, fod polisi wedi aros yn ei unfan a dim hanner digon o sylw wedi'i roi i'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd ei angen ar y rhanbarth hwn.
Felly, hoffwn weld llawer mwy o waith yn cael ei wneud gan y Llywodraeth, hen a newydd, i ddigwydd fel mater o frys ar yr opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, a oedd ar goll o'r ymchwiliad cyhoeddus. Er enghraifft, sut y gallwn ddefnyddio'r pedwar trac sy'n rhedeg i'r dwyrain o orsaf Caerdydd Canolog? Mae'n rhaid neilltuo dau ohonynt ar gyfer y rheilffyrdd cyflym fel y'u gelwir i Lundain a mannau eraill. Gallwn gael dadl ynglŷn â hynny, ond nid yw'r ddau arall yn cael eu defnyddio'n briodol er mwyn darparu llawer mwy o wasanaethau trên i ac o ddwyrain Caerdydd ar gyfer traffig lleol, ac rwy'n awyddus i ddeall pam, gan fod pedwar trac yno ac nid ydym yn eu defnyddio. Felly—
A wnaiff yr Aelod ildio?
O'r gorau.
A yw'n gyfarwydd â'r orsaf newydd yn Llan-wern, gyda'r orsaf breifat newydd arfaethedig ger Llaneirwg, ond hefyd yr ymgyrchoedd dros orsafoedd, fel ym Magwyr a Gwndy—pe bai gennym sawl gorsaf newydd ar y rheilffordd honno, byddai'n creu achos cryf iawn dros fath ychwanegol o wasanaeth sy'n stopio ar wahân i'r gwasanaethau cyflym sydd gennym ar hyn o bryd?
Nid wyf yn anghytuno â Mark Reckless. Rwy'n siŵr fod hwnnw'n un o'r opsiynau posibl, ond mae'n amlwg fod mannau eraill y mae angen eu gwasanaethu. Nid dyma'r lle gorau ar gyfer edrych ar y manylion. Ond un o'r pethau pwysig rydym wedi'u dysgu yn ddiweddar, ers i Trafnidiaeth Cymru ddod yn gyfrifol am y contract yn lle Arriva, yw bod James Price wedi rhoi sicrwydd inni fod contract Keolis yn ddigon hyblyg i allu addasu i dargedau newidiol. Felly, mae hyn yn dda iawn; gallwn newid y fanyleb ar gyfer y contract heb gael ein cosbi. Felly, mae hyn yn bwysig iawn. Felly, yn lle rhagdybio y gellir swyno'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd ymaith drwy adeiladu mwy o ffyrdd—dyna fyddai'r tro cyntaf i hynny ddigwydd pe bai'n wir—mae angen i'r Llywodraeth wneud gwaith sylweddol ar atebion trafnidiaeth gyhoeddus i'r problemau tagfeydd sydd, heb unrhyw amheuaeth, yn effeithio ar Gasnewydd. Yn benodol, hoffwn wybod yn y tymor byr pa mor hir y mae'n ei gymryd i brynu fflyd o fysiau trydan neu hydrogen a'u rhoi ar waith. Dyna'r ateb cyflymaf wrth inni drwsio'r rheilffyrdd a rhoi mwy o drenau ar y cledrau.
Rwy'n edmygu'r Aelod dros Ganol Caerdydd am ei meddwl agored, ac rwy'n aml yn cytuno â'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae dadl difrifol i'w chael ynglŷn â'r ateb gorau i'r problemau y mae pawb ohonom yn gwybod amdanynt. Sefais etholiad, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau, gan gefnogi'r llwybr glas yn hytrach na'r llwybr du, er fy mod wedi dweud oddeutu dwy flynedd yn ôl y byddai'r llwybr du yn well na dim llwybr. Ni allwn barhau i fod mewn limbo diddiwedd fel y buom ynddo dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ond heb os, dyma fydd y penderfyniad mwyaf a wnaed ynghylch gwariant cyfalaf ers datganoli 20 mlynedd yn ôl, a chredaf fod ei bwysigrwydd yn golygu, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith agoriadol, mai'r Prif Weinidog newydd a ddylai berchnogi'r penderfyniad. Gwn fod yno gyfrifoldeb cyfunol, wrth gwrs, ac felly, bydd modd sicrhau bod pob aelod o'r Cabinet sy'n rhan o wneud y penderfyniad hwn yn y pen draw, ac sy'n goroesi'r broses ad-drefnu, yn cael eu gwneud yn atebol. Ond fel mater o arfer, credaf mai'r Cabinet newydd, o dan arweiniad y Prif Weinidog newydd, a ddylai wneud y penderfyniad hwn, yn enwedig gan nad ydym yn sôn—fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth ychydig eiliadau'n ôl—am oedi aruthrol. Ychydig wythnosau yn unig sydd ar ôl tan i'r Prif Weinidog newydd ddod i'w swydd. Ni all fod dadl o blaid rhuthro hyn yn ystod yr ychydig oriau nesaf, i bob pwrpas, o gofio ein wedi bod yn aros amdano ers amser mor faith
Credaf ei fod yn benderfyniad sydd efallai wedi cymylu ffiniau gwleidyddol, ac mae hynny'n beth da hefyd yn fy marn i. Dylem ystyried yr amrywiaeth o wahanol fuddiannau sydd wedi cyfrannu, ac sy'n parhau i gyfrannu, fel y gwyddom o'r llythyrau a gawn, bob un ohonom, i'r penderfyniad sy'n rhaid ei wneud. Felly, ymddengys i mi fod yna achos diymwad dros yr hyn a nododd Rhun ap Iorwerth, a'r hyn a ddisgrifir yn y cynnig hwn, a byddaf yn ei gefnogi heddiw.
Mae'r egwyddor o atebolrwydd mewn gwleidyddiaeth, wrth gwrs, yn un pwysig, ac mae e'n amlycach mewn rhai sefyllfaoedd na'i gilydd y dyddiau yma. Yn rhy aml o lawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym ni wedi gweld gwleidyddion nid yn unig yn gwneud addewidion pan nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wireddu'r addewidion hynny—ac rydw i'n sôn am Brexit, gyda llaw, rhag ofn bod rhywun ddim yn siŵr—ond rydym ni hefyd yn gweld, wrth gwrs, Gweinidogion a Phrif Weinidogion yn gwneud penderfyniadau sy'n mynd i gael effaith pellgyrhaeddol ar y rhai maen nhw'n atebol iddyn nhw cyn wedyn camu o'r neilltu, heb wynebu canlyniadau eu penderfyniad, heb orfod cyfiawnhau eu penderfyniad, a heb fod yn atebol am y penderfyniadau hynny, ac mae hwnnw'n egwyddor pwysig sydd—mewn cyd-destun gwahanol iawn yn fan hyn, wrth gwrs—yn y fantol fan hyn, yn enwedig pan ydym ni'n sôn am benderfyniad mor, mor fawr, ac yn enwedig pan fod yna benderfyniad sy'n cael ei gymryd mor, mor agos at ddiwedd cyfnod un Prif Weinidog a chychwyn cyfnod Prif Weinidog newydd, ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn i Adam Price fod yn cymryd ei sedd yn y rheng flaen yn fan yna.
Rydym wedi clywed, wrth gwrs, am faint y penderfyniad sydd angen ei wneud: y penderfyniad mwyaf o ran buddsoddi a wnaed gan y Llywodraeth hon, neu unrhyw Lywodraeth ers datganoli. Ond wrth gwrs, pe bai'r Prif Weinidog presennol yn gwneud y penderfyniad hwnnw, nid ef a fyddai mewn sefyllfa i fod yn atebol amdano, neu orfod ei gyfiawnhau ynghyd â'i ganlyniadau pellgyrhaeddol. Wrth gwrs, nid y Prif Weinidog presennol a wneir yn atebol pan fydd y gwaith adeiladu'n cychwyn a phan fydd tirwedd unigryw a gwarchodedig gwastadeddau Gwent yn cael ei difrodi, y coetir hynafol, y safleoedd cadwraeth natur sydd wedi'u dynodi'n genedlaethol. Nid y Prif Weinidog presennol a fydd yn atebol pan fydd cenedlaethau'r dyfodol yn wynebu'r effeithiau andwyol o ganlyniad i allyriadau carbon uwch, a fydd, wrth gwrs, yn ei gwneud hi'n anos i'r Llywodraeth gyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer lleihau allyriadau. Nid cyllideb gyfalaf y Prif Weinidog presennol a fydd yn cael ei chyfyngu, ac nid ei bwerau benthyca ef a fydd wedi cael eu defnyddio'n gyfan gwbl. Nid y Prif Weinidog presennol a fydd yn gorfod egluro i gymunedau mewn rhannau eraill o Gymru yn sgil hynny pam na fyddant yn cael y gyfran deg o fuddsoddiad cyfalaf roeddent yn gobeithio'i chael. Nawr, bydd hyn oll yn disgyn ar ysgwyddau'r Prif Weinidog nesaf wrth gwrs. A phwy a ŵyr? Efallai'n wir y bydd gan y Prif Weinidog nesaf flaenoriaethau gwahanol. Yn hytrach na gwario'r £1.4 biliwn ar 14 milltir o darmac, efallai y bydd ef neu hi yn penderfynu defnyddio'r arian hwnnw i wireddu camau 2 a 3 o'r cynllun metro—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, o'r gorau, yn fyr iawn.
Pam y credwch mai dim ond £1.4 biliwn y bydd yn ei gostio?
Waw. Nid wyf yn credu hynny, ac rwy'n falch eich bod wedi fy atgoffa o hynny. [Chwerthin.] Edrychwch ar beth arall y gallem ei gyflawni pe bai'n digwydd costio llawer mwy na hynny. Gallem adeiladu morlyn llanw bae Abertawe, a gwn y byddai un unigolyn yma a fyddai'n cefnogi hynny; gallem sicrhau bod pob cartref yng Nghymru yn cyrraedd safon ofynnol o ran effeithlonrwydd ynni; gallem drydaneiddio 175 milltir o reilffyrdd yng Nghymru.
Nawr, yn ôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, dyma'r prosiectau y gellid eu datblygu gan ddefnyddio'r arian ar gyfer yr M4, a chymeradwyaf adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, 'Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol', sy'n codi cwestiynau allweddol. Mae'n nodi cyfyngiadau'r gwaith modelu a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r llwybr du yn gwaethygu llawer o'r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu Cymru, ac mae'r llwybr du yn wan iawn o ran y meini prawf a nodir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, o'm rhan i, mae'r llwybr du yn anghydnaws â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dywedwyd wrthym fod y Ddeddf yn flaengar, ac rwy'n fwy na pharod i gredu hynny, ond ni fydd ond yn ddeddfwriaeth flaengar pan fydd yn arwain at newid blaengar, ac nid yw hwn yn fawr o newid. I mi, mae'n brawf litmws sy'n dangos a yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â'i dyletswyddau o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n mawr obeithio mai'r Prif Weinidog newydd fydd yn gwneud y penderfyniad.
Nid wyf yn credu bod y cynnig sydd ger ein bron yn un dadleuol iawn; rwy'n credu ei bod hi'n ffaith mai'r Prif Weinidog nesaf fydd yn gwneud y penderfyniad. Yn y gyllideb, roedd y penderfyniad i lofnodi'r Gorchmynion yn un gweithdrefnol at ei gilydd, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, heb lofnodi'r Gorchmynion, ni fydd modd cyhoeddi'r adroddiad ar yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly, rwy'n gobeithio y ceir pleidlais unfrydol yma y prynhawn yma o blaid y cynnig.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar hynny, hoffwn fynd i'r afael â rhai o'r materion mwy hirdymor y credaf fod angen i ni fel Cynulliad Cenedlaethol ddechrau meddwl amdanynt cyn y bleidlais ar y gyllideb. Datganwyd bod fy mhlaid wedi dweud yn ein maniffesto y byddem yn adeiladu traffordd newydd o amgylch Casnewydd, ac wrth gwrs, ar y pryd, roedd y gost oddeutu £700 miliwn. Yn wir, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr hon y byddai ymhell o dan £1 biliwn. Dywedwyd wrth yr ymchwiliad cyhoeddus fod y gost wedi codi i £1.4 biliwn—roedd wedi dyblu. Deallwn yn awr ei bod wedi codi i £1.7 biliwn. Nawr, nid oes unrhyw ffordd y gallwn gredu y bydd y cynllun hwn yn cael ei wneud am unrhyw bris o dan £2 biliwn. Dwy fil miliwn o bunnoedd am 12 milltir o ffordd sy'n mynd i arwain at arbedion amser teithio cyfartalog o rhwng dwy funud a hanner a phum munud. Nawr, mae hynny i'w weld i mi yn fuddsoddiad cwbl anghymesur am y lefelau hynny o fudd. A chan fod y gost honno wedi newid, mae angen inni ystyried manteision cost y cynllun hwn.
Mae noddwyr y ffordd—a gadewch i ni ei dweud hi fel y mae, cafodd hyn ei wthio gan ddiwydiant, gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, gan eu sefydliad lobïo, sydd â diddordeb perthnasol mewn gweld y cynllun hwn yn llwyddo. Pam na fyddai? Maent yn mynd i gael £2 biliwn o arian cyhoeddus yn mynd drwy lyfrau'r cwmni. Maent yn nodi budd swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun o £2 biliwn o adenillion ar fuddsoddiad. Dyna £2 biliwn i mewn, £2 biliwn allan. Nawr, nid yw hwnnw'n ymddangos i mi'n elw ofnadwy o uchel ar fuddsoddiad.
Ond gadewch i ni herio'r ffigur hwnnw oherwydd nid yw byth yn cael ei herio. Nid yw'r cyfryngau'n gwneud, nid ydym ni'n ei wneud; ei ailadrodd a wnawn, dyna i gyd, a derbyn rhesymeg elw o £2 biliwn ar fuddsoddiad. Sut y maent yn cyrraedd y ffigur hwnnw? Mae'r ffigur wedi'i adeiladu ar dywod; fe'i hadeiladwyd ar yr hyn a elwir yn arbedion amser tybiannol—nid yw'n arbedion amser real hyd yn oed—arbedion amser tybiannol. Felly, dywedant, os cymerwch nifer y bobl sy'n defnyddio'r ffordd, a'u bod yn arbed rhwng dwy funud a hanner a phum munud ar daith, a'u bod yn pennu gwerth ariannol ar hynny, maent yn dweud bod pum munud ychwanegol—gadewch inni fod yn hael—yn cynhyrchu pum munud ychwanegol o gynhyrchiant i'r economi. Maent wedyn yn lluosi hynny â 30 mlynedd, felly maent yn cyrraedd y ffigur ffantasïol hwn o gannoedd o filoedd o bobl yn ennill pum munud ychwanegol, ac yn y pum munud hwnnw, maent yn mynd i gynhyrchu'r adenillion gwych hyn i'r economi. Nawr, nid wyf yn gwybod amdanoch chi, os gallaf gyrraedd tŷ fy ffrind ym Mryste bum munud yn gynt, nid yw hynny'n mynd i gynhyrchu elw i'r economi.
Felly, nid yw'r ffigur yn gwneud synnwyr, ac mae'n cael ei wneud dros 30 mlynedd. Maent yn creu fformiwla economaidd yn ôl-weithredol er mwyn cyfiawnhau'r casgliad y daethant iddo yn y lle cyntaf. Ac yn ddiddorol, yn ôl yn 2011, fe gyhoeddwyd yr adroddiad ar fesurau gwella coridor yr M4 a oedd yn cynnig nifer o fesurau i wella'r rhan o Fagwyr i Gas-bach. Nid oes dim wedi'i wneud gydag ef; nid oes dim wedi'i wneud ar yr adroddiad hwnnw a sut i sicrhau newid ar y ffordd honno am fod yr holl beirianwyr priffyrdd yn rhoi eu holl sylw i gael y prosiect mawr hwn a allai ddiffinio'u gyrfa ar eu llyfrau. Felly, mae angen inni fod yn llawer mwy amheus ynglŷn â'r ffigurau hyn. Rydym yn gwybod bod y gost wedi mwy na dyblu, mae'n agosàu at fod wedi treblu. Nid yw'r manteision yn debyg i'r hyn a ddywedir, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn gadarn wrth ystyried yr ymrwymiadau a roddwyd, yn enwedig ar ôl Brexit pan fydd adnoddau'n llawer prinach, a pha un ai honno yw'r ffordd orau o wneud Cymru'n fwy gwydn yn wyneb yr ysgytwadau i'r economi sydd ar y ffordd. Pe bai unrhyw un ohonom yn cael siec o £2 biliwn i'w wario ar wneud Cymru'n well, faint ohonom yn onest a fyddai'n ei wario ar 12 milltir o ffordd i arbed pum munud ar y daith gyfartalog?
Hoffwn wneud un pwynt terfynol am Gasnewydd, oherwydd mae gennym broblem yng Nghasnewydd, ac mae gennyf gydymdeimlad mawr â fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd, sy'n gwneud yr achos dros fynd i'r afael â hyn. Y broblem gyda Chasnewydd yw bod Casnewydd yn ddinas sy'n dibynnu ar y car. Mae'r ffigurau'n llwm. Hanner y gyfran o bobl sy'n cerdded i'r gwaith yng Nghaerdydd sy'n gwneud hynny yng Nghasnewydd—mae 50 y cant yn llai o bobl yng Nghasnewydd yn cerdded i'r gwaith nag yng Nghaerdydd; mae 135 y cant o'r bobl yng Nghasnewydd yn gyrru i'r gwaith o gymharu â Chaerdydd—mae tua thraean o'r nifer, fel rwy'n dweud, yng Nghasnewydd yn gyrru i'r gwaith, o gymharu â Chaerdydd. Mae lefel yr allyriadau carbon deuocsid yng Nghasnewydd 25 y cant yn uwch nag y maent yng Nghaerdydd. Mae Casnewydd yn ddinas sy'n dibynnu ar y car. Cafodd y cyngor Ceidwadol wared ar y lonydd bysiau, ac nid yw'r cyngor presennol wedi llwyddo i roi unrhyw arian tuag at fesurau teithio llesol.
Fel y crybwyllwyd, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cyhoeddi gwaith manwl ar yr hyn y gellir ei wneud yn ymarferol i wella mesurau trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghasnewydd. Mae problem yng Nghasnewydd. Mae yna broblem ar yr M4—mae 40 y cant o'r traffig ar yr M4 yn deithiau lleol gan bobl Casnewydd yn gyrru o un rhan o Gasnewydd i'r llall, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny, mae angen inni helpu Casnewydd, mae angen i gyngor Casnewydd helpu Casnewydd. Nid yw gwario £2 biliwn ar ddarn o ffordd sy'n mynd i lenwi bron mor gyflym ag y caiff ei adeiladu yn helpu Casnewydd nag unrhyw ran arall o Gymru.
Ychydig o sylwadau ychwanegol yn unig sydd gennyf i'w hychwanegu at yr esboniadau trylwyr iawn a roddodd fy nghyd-Aelod Lee Waters. Byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw, oherwydd mae'n gwneud synnwyr llwyr a bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ond rwy'n meddwl hefyd fod yna faterion amgylcheddol yn codi, yn amlwg, a materion fforddiadwyedd yn ogystal. Ond i mi, pan ddaw'n bryd gwneud y penderfyniad hwnnw, mae'n mynd i ymwneud mewn gwirionedd â pha fath o Gymru rydym ei heisiau: beth yw ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol? Fel cymdeithas, a ydym eisiau buddsoddi ein holl adnoddau cyfalaf am genhedlaeth mewn ceir, lorïau, tagfeydd a llygredd, neu a ydym mewn gwirionedd eisiau buddsoddi—
A gaf fi ymyrryd?
Cewch, yn sicr.
O ystyried nifer yr Aelodau Llafur nad yw eu gweledigaeth o Gymru yn cynnwys adeiladu ffordd liniaru'r M4, tybed pam y rhoesoch hynny yn eich maniffesto.
Cawsom faniffesto nad oedd yn cynnwys adeiladu llwybr penodol, ond adeiladu llwybr a fyddai'n mynd i'r afael â phroblem tagfeydd. Yn ein maniffesto hefyd, mae gennym gyfres gyfan o ymrwymiadau mewn perthynas â'r metro a thrafnidiaeth integredig, ac mae fy nghyfaill Lee Waters hefyd yn gwneud pwynt dilys iawn ynglŷn â fforddiadwyedd rhywbeth a oedd yn sawl can miliwn ar y cychwyn i rywbeth sydd bellach wedi codi'n aruthrol yn ei bris.
Credaf ei bod yn berffaith iawn fod yn rhaid inni gael ateb mewn perthynas â Chasnewydd, ac mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar beth yw'r ateb hwnnw. Credaf mai fy marn i yw nad yw adeiladu darn 12 milltir o draffordd ar y gost hon yn ateb i unrhyw beth yn hirdymor mewn gwirionedd. Hynny yw, y ffaith amdani yw nad ydych yn ymdrin â gordewdra drwy brynu trowsus mwy o faint. [Chwerthin.] Rhaid inni ddechrau edrych ar ddewisiadau amgen realistig. Y peth pwysicaf yn fy marn i yw pa mor ymrwymedig i system drafnidiaeth gyhoeddus integredig—. A dyna lle y daw'r ddadl rwy'n credu. Mae'n mynd i ymwneud â gweledigaeth, mae'n mynd i ymwneud ag i ba raddau rydym yn credu yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol a'n deddfwriaeth amgylcheddol, a'n hatgyfnerthiad ohonynt. Felly, pan ddown at y mater hwn yn gynnar y flwyddyn nesaf, mae'n mynd i ymwneud â'n gweledigaeth, mae'n mynd i ymwneud â'r math o gymdeithas a ddymunwn ac mae hefyd yn mynd i ymwneud â system drafnidiaeth fodern yn y dyfodol, ac ai dyna'r flaenoriaeth rydym am fuddsoddi ynddi mewn gwirionedd, neu a ydym am edrych ar yr hen atebion—taflu arian ato heb gyflawni unrhyw ateb o gwbl mewn gwirionedd?
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ystyriol iawn. Hoffwn ddweud ar y cychwyn y bydd y Llywodraeth yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Mae Plaid Cymru yn dadlau'n glir iawn yn eu cynnig y dylid gadael y penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect arfaethedig coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd i'r Prif Weinidog newydd a benodir ym mis Rhagfyr 2018 ei wneud, yn amodol ar ganfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus lleol. Pe bai'r Gorchmynion statudol yn cael eu gwneud, mater i Brif Weinidog newydd a'i Gabinet neu ei Chabinet fydd gwneud penderfyniad yn y pen draw i ymrwymo i gontract adeiladu a fyddai'n galluogi'r cynllun i fynd rhagddo. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn caniatáu i'r broses bresennol sy'n ymwneud â'r Gorchmynion statudol fynd rhagddi, ac yn unol â hynny, mae'n fwriad gan y Prif Weinidog presennol, Carwyn Jones, ar ran Gweinidogion Cymru, i wneud penderfyniad ar y Gorchmynion statudol hynny os yn bosibl o gwbl yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ar sail argymhellion a wnaed yn adroddiad yr arolygydd.
Yn amlwg, nid yw'r Prif Weinidog wedi gweld adroddiad yr arolygydd eto, rydym yn aros am gyngor gan y swyddogion, gan gynnwys cyngor cyfreithiol, i fynd gyda'r adroddiad hwnnw er mwyn ei alluogi i wneud y penderfyniad. Ar ôl gwneud y penderfyniad, cyhoeddir adroddiad yr arolygydd ar unwaith. Ac i fod yn glir iawn, oherwydd gwn ein bod wedi cael problemau gydag eglurder hyn, rydym wedi holi beth y mae 'ar unwaith' yn ei olygu mewn cyd-destun cyfreithiol yn y ffordd hon, ac i bob pwrpas, bydd yr adroddiad yn cael ei atodi wrth hysbysiad y penderfyniad sy'n gwneud y Gorchmynion, neu nad yw'n gwneud y Gorchmynion—un ffordd neu'r llall—oherwydd mae'n amlwg y gallwch fynd y naill ffordd neu'r llall gyda'r penderfyniad hwnnw. Ar ôl i hynny ddigwydd, byddwn yn trefnu dadl a phleidlais yn y Cynulliad yn amser y Llywodraeth, os gallwn wneud hynny o fewn ffrâm amser y Llywodraeth hon. Fel y dywedais, byddai'r penderfyniad i ymrwymo i gontract adeiladu rhwymol ar gyfer cyflwyno'r cynllun, pe gwneid y Gorchmynion, yn fater i'w symud ymlaen gan y Prif Weinidog newydd a'i Gabinet neu ei Chabinet yn y flwyddyn newydd.
Lywydd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru a dderbyniodd adroddiad yr arolygydd annibynnol, yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus, wrthi'n paratoi cyngor manwl ar gyfer y Prif Weinidog ar sail yr argymhellion hynny. Bydd y cyngor hwnnw, sy'n cynnwys y cyngor cyfreithiol cymhleth, yn llywio penderfyniad o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ynglŷn â gwneud y Gorchmynion statudol ai peidio. Penderfyniad gweithredol i Weinidogion o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981 yw hwn, ac mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar gynnwys adroddiad manwl a gynhyrchwyd gan arolygydd cynllunio yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus hirfaith. Nid oes unrhyw rôl gyfreithiol o fewn y broses benderfynu honno ar gyfer y ddeddfwrfa. Fodd bynnag, pan fydd proses benderfynu'r Gorchmynion statudol wedi'i chwblhau, byddwn yn cyflwyno'r ddadl yn amser y Llywodraeth fel y gall y Cynulliad fynegi ei farn ar y prosiect.
A wnaiff arweinydd y tŷ ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
O ystyried hyd yr adroddiad hwn a chymhlethdod y mater, er ei fod angen cyngor cyfreithiol wrth gwrs a phobl eraill a fydd yn cynghori ac yn darllen yr adroddiad, oni fyddai'n gwneud synnwyr i'r Prif Weinidog gael yr adroddiad yn awr a chael mwy o amser a chyfle i'w ddarllen, er mwyn rhoi ystyriaeth briodol dros gyfnod angenrheidiol o amser i ba benderfyniad bynnag y bydd yn ei wneud wedyn?
Na, ein cyngor ni yw y dylai ddod gyda'r cyngor, gyda'i gilydd, fel y gall y Prif Weinidog ei ystyried yn ei gyfanrwydd, ac yn amlwg mae'n rhywbeth sy'n mynd i gymryd mwy nag ychydig oriau i'w ddarllen. Bydd yn cymryd cyfnod priodol o amser iddo allu mynd drwyddo—pa hyd bynnag fydd yr amser hwnnw. Felly, Lywydd, gallwch weld bod yr amser ar gyfer y penderfyniad hwnnw'n brin. Ond serch hynny, os yw'r Prif Weinidog hwn yn gallu gwneud hynny, yna credwn y dylai wneud hynny. Os nad yw'n gallu gwneud hynny, ni fydd yn gallu ei wneud a bydd wrth gwrs yn mynd drosodd i'r Prif Weinidog nesaf, pwy bynnag fydd honno neu hwnnw.
Yn amlwg, ceir—. Ac rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth y mae arweinydd y tŷ wedi ei roi ar y cofnod hyd yn hyn, ond o ystyried y ras am yr arweinyddiaeth sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y Blaid Lafur, a bod hwn wedi bod yn bwnc trafod, mae'r Prif Weinidog presennol wedi bod yn ofalus iawn i beidio â dangos tuedd, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un o'r ymgeiswyr wedi dangos tuedd yn fwriadol, ond yn ystod y drafodaeth honno, maent wedi mynegi safbwyntiau. A yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyngor ynglŷn ag a fyddai'r Prif Weinidog newydd, os nad yw'r penderfyniad hwn yn cael ei wneud, yn gallu gwneud y penderfyniad hwnnw, o ystyried y ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi yn ystod y ras am yr arweinyddiaeth?
Nid wyf yn ymwybodol fod cyngor o'r fath wedi'i geisio na'i gymryd. Rwy'n siŵr y byddai, er hynny, pe baem yn y sefyllfa honno. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r ymgeiswyr—. Wel, nid yw un ohonynt wedi gwneud cyhoeddiad o'r fath. Byddai hwnnw'n fater i'r cyfreithwyr benderfynu yn ei gylch, a byddai'n rhaid inni gael cyngor priodol pe bai hynny'n digwydd.
Ond, fel y dywedaf, mae'n broses gymhleth. Ceir paramedrau cyfreithiol gwahanol iawn i'r hyn y gellir ac na ellir ei ystyried wrth gynnal y broses statudol. Mae hon yn broses a fydd bron yn sicr yn destun apêl ac adolygiad barnwrol, ac felly mae'r cyfreithwyr yn awyddus iawn i'r union ddarpariaethau—beth sy'n berthnasol, a beth nad yw'n berthnasol, beth y dylid ei ystyried a beth na ddylid ei ystyried—gael eu nodi i'r Prif Weinidog sy'n gwneud y penderfyniad ac sy'n darllen yr adroddiad.
Fel y dywedaf, ar hyn o bryd, mae'n dal yn bosibl y byddai hynny'n digwydd gyda'r Prif Weinidog hwn ac y byddem yn trefnu dadl ar gyfer yr wythnos nesaf. Cyn gynted ag y byddaf yn ymwybodol a yw hynny'n bosibl ai peidio, yn amlwg, Lywydd, byddaf yn rhoi gwybod i chi, fel y trafodwyd yn y Pwyllgor Busnes, ac yn rhoi gwybod i reolwyr busnes ar draws y Siambr. Dyna'r bwriad ar hyn o bryd. Fel y dywedaf, mae cymhlethdod y broses yn golygu bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn o ran y ffordd y byddwn yn ei wneud.
Fodd bynnag, os nad yw'n bosibl i'r Prif Weinidog hwn sicrhau bod y broses—. A hoffwn ddweud, ar gyfer y cofnod, fod y Prif Weinidog yn parhau i fod yn Brif Weinidog hyd nes y bydd yn ymddiswyddo ac nad yw'n Brif Weinidog mwyach; nid yw ei bwerau'n lleihau yn eu maint dros yr amser hwnnw. Ceidw ei holl bwerau fel Prif Weinidog hyd nes yr eiliad y bydd yn ymddiswyddo. Felly, i fod yn glir, yn gyfreithiol, nid oes unrhyw leihad yn y pŵer wrth i hynny ddigwydd. Ond os nad yw hynny'n bosibl, fel arweinydd y tŷ sy'n ymadael, byddaf yn argymell i'r Llywodraeth nesaf a'r Prif Weinidog newydd y dylai'r Llywodraeth anrhydeddu'r ymrwymiad i gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn i'r Cynulliad gael dweud ei farn. Rwy'n disgwyl y bydd y Llywodraeth newydd yn gwneud hynny, a'r rheswm rwy'n disgwyl hynny, Lywydd, yw oherwydd nad yw hwn yn fater hawdd. Fel y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi, mae'r dewisiadau sydd ger ein bron yn anodd iawn. Nid yw'r M4 yn brosiect arferol, ac mae llawer o leisiau wedi mynegi safbwyntiau cryf ar y ddwy ochr i'r ddadl.
Wrth nodi'r camau hyn heddiw, credaf fod Llywodraeth Cymru wedi cydbwyso prosesau ac egwyddorion pwysig, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddilyn y broses gyfreithiol ffurfiol mewn perthynas â phenderfynu a ddylid gwneud y Gorchmynion statudol ar gyfer y prosiect. Wedyn bydd y Cynulliad yn mynegi ei farn ar y prosiect. Wrth gwrs, bydd y farn honno'n hysbys i'r Llywodraeth nesaf os yw mewn sefyllfa lle mae'n gwneud penderfyniadau ynglŷn ag a ddylid rhoi'r cynllun ar waith drwy ymrwymo i'r contract adeiladu. Mae llawer o'r Aelodau heddiw wedi pennu paramedrau y credant y gellid eu defnyddio ar gyfer gwneud y penderfyniad hwnnw. Felly rydym yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw ar y sail ei fod yn cydnabod, os gwneir y Gorchmynion statudol, fod hawl gan y Llywodraeth newydd o hyd i benderfynu a ddylai ymrwymo i gontract ar gyfer adeiladu'r cynllun o fewn paramedrau'r holl bethau a grybwyllwyd gan yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Diolch.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn am yr holl gyfraniadau i'r ddadl fer hon y prynhawn yma. Credaf ei bod wedi bod yn ddadl ddefnyddiol iawn. Mae wedi ymwneud ag amseru. Rwy'n credu ei bod yn anochel y byddem yn symud ymlaen at feysydd manteision ac anfanteision y llwybr du, a gwnaed rhai pwyntiau cryf iawn gan Jenny Rathbone a Lee Waters ac eraill y buaswn yn cytuno â hwy—ein bod ar y trywydd anghywir yma o ran y dull o weithredu a fabwysiadwyd ar gyfer datblygu'r llwybr du, a beth y mae hynny'n ei ddweud am ein diffyg arloesedd wrth ymdrin â'r her enfawr sydd gennym yng Nghymru mewn perthynas â thrafnidiaeth.
Gwnaed rhai pwyntiau technegol ynglŷn â'r broses y byddwn yn ei dilyn. Gadewch i mi ei gael yn glir yn fy meddwl. Credaf fod angen y saib hwnnw arnom yn awr i oedi dros newid Prif Weinidog. Nid wyf yn credu y dylem gael y ddadl honno yma yn y Cynulliad yr wythnos nesaf. Credaf y dylai hynny ddigwydd yn ystod dyddiau cynnar y Prif Weinidog newydd. Fel yr amlinellais—a chefnogwyd y pwynt gan eraill—mae hyn yn ymwneud â pherchnogaeth ar y rhaglen hon ar gyfer M4 newydd, neu beidio, gan Brif Weinidog newydd a'i Lywodraeth neu ei Llywodraeth, fel y nodwyd yn gwbl gywir—ei Chabinet neu ei Gabinet. Credaf ein bod, mewn gwirionedd, yn gofyn am oedi—ychydig o oedi—er mwyn inni allu symud yn gyflymach gobeithio tuag at ateb mwy arloesol ar gyfer heriau trafnidiaeth de-ddwyrain Cymru a choridor yr M4 y cydnabyddwn yn sicr eu bod yn bodoli, fel y mynegais yn gynharach.
Felly, gobeithio y bydd pobl yn gweld y bleidlais heddiw a'r drafodaeth heddiw am yr hyn ydynt: arwydd o ddymuniad y Senedd hon i weld y Prif Weinidog newydd yn ystyried yn eglur iawn beth sydd orau i ni fel cenedl o ran y penderfyniad hwn ar yr M4 newydd. Rwy'n ddiolchgar am yr arwyddion y caiff y cynnig hwn ei gefnogi y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen yn awr at weld y Llywodraeth newydd a'r Prif Weinidog newydd yn dweud, 'Dyma ein penderfyniad—penderfyniad nad ydym yn barod i'w wneud, neu yr ydym yn barod i'w wneud, ac wynebu ei ganlyniadau.'
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.
Mae hynny'n dod â ni at eitem 8, dadl Plaid Cymru ar daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr. Rydw i'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6881 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r rhan hanfodol y mae cynllun y taliad sylfaenol yn ei chwarae ar hyn o bryd fel sylfaen i hyfywedd y fferm deuluol Gymreig, cymunedau gwledig ac economi ehangach Cymru, a phwysigrwydd taliadau uniongyrchol o ran rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cefnogaeth i ffermio yng Nghymru yn cael ei thargedu at y ffermwyr gweithredol hynny sy’n cymryd y risg ariannol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw elfen o daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr wedi Brexit.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i osod y cynnig yma yn enw Plaid Cymru.
Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn ddiweddar wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol o'r enw 'Brexit a'n tir', sy'n amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi rheolaeth tir ac amaethyddiaeth yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni—y cyfnod ôl Brexit, wrth gwrs. Bwriad y Llywodraeth yw cael gwared ar daliadau sylfaenol i ffermwyr a seilio eu cefnogaeth yn y dyfodol ar wneud ceisiadau i ddau gynllun newydd. Mi fyddwn i'n dadlau, fel y mae'r undebau amaeth wedi dadlau, nad dau gonglfaen sydd yna i gynllun y dyfodol, ond bod yna dri chonglfaen angenrheidiol. Ie, cynhyrchiant neu productivity, sy'n cael ei adlewyrchu yn yr elfen o gydnerthedd economaidd o fewn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Ie, buddiannau amgylcheddol, bioamrywiaeth, rheoli llifogydd ac yn y blaen—y nwyddau cyhoeddus yma sydd hefyd yn cael eu cydnabod mewn elfen o'r hyn sy'n cael ei gynnig gan y Llywodraeth. Ond y drydedd elfen honno sydd ar goll, wrth gwrs, sef elfen sydd yn cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermwyr Cymru mewn hinsawdd mor ansefydlog ac ansicr, ac mae hynny, wrth gwrs, yn dod yn sgil taliad sylfaenol. Felly, ar yr union adeg yng nghanol rhyferthwy Brexit pan fo ffermwyr Cymru wir angen y sicrwydd a’r sefydlogrwydd yna sy’n dod gyda’r taliad sylfaenol, mae Llafur yn bwriadu ei gymryd e oddi arnyn nhw.
Mae Brexit wedi rhoi amaethyddiaeth ar ymyl dibyn, a thrwy ddileu’r taliad sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru’n cael gwared ar y rhwyd diogelwch yna sydd o dan ein ffermydd teuluol. Pan fo Llywodraeth yr Alban yn ymrwymo i gadw taliad sylfaenol, pan fo Gogledd Iwerddon hefyd yn debygol o fod yn cadw taliad sylfaenol, pan fo ffermwyr yr holl Undeb Ewropeaidd nid yn unig yn cadw taliad sylfaenol, ond yn symud mwyfwy i’r cyfeiriad yna, mae Cymru yn mynd i’r cyfeiriad arall ac yn dawnsio, i bob pwrpas, i diwn Michael Gove.
Os edrychwch chi ar Fil Amaeth y Deyrnas Unedig, yr hyn gewch chi yn yr adran dros Gymru yw cut and paste o’r cynigion y mae’r Ceidwadwyr yn dod ymlaen ar gyfer Lloegr. Ac mi osodwyd y Bil hwnnw, gyda llaw, cyn bod yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' yn cael ei gwblhau. Mi oedd y ddeddfwriaeth wedi cael ei gosod cyn bod yr ymgynghoriad yn fan hyn wedi cael ei gwblhau. Beth mae hynny’n dweud wrthym ni ynglŷn â pha mor ystyrlon oedd y broses honno?
Mae'r sefyllfa o anwadalrwydd eithafol yn y prisiau yn parhau i effeithio'n fawr ar fusnesau fferm. Mae'n effeithio ar broffidioldeb, wrth gwrs, ond hefyd ar benderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol, a digwyddiadau tywydd—wyddoch chi, rydym wedi gweld digon o'r rheini gyda'r gaeaf gwlyb a'r haf sych eleni—clefydau anifeiliaid a phlanhigion, gwrthdaro geowleidyddol, mae'r rhain oll yn ffactorau sy'n effeithio ar gostau cynhyrchu ac enillion yn y farchnad, ac mae mesur sefydlogrwydd cymorth sylfaenol yn hanfodol i wrthsefyll rhai o'r effeithiau hyn. Ond wrth gwrs, mae cynigion y Llywodraeth yn gadael ein ffermwyr yn agored i bob un o'r grymoedd hyn, heb yr amddiffyniad a roddir i'n cystadleuwyr, gyda rhai ohonynt o fewn y DU ac eraill ar draws yr UE wrth gwrs. Fel y dywedais, mae ffermwyr Cymru yn sefyll ar ymyl clogwyn Brexit ac mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y rhwyd ddiogelwch sydd gennym oddi tanynt.
Yn ogystal â chael gwared ar y rhwyd ddiogelwch, o dan gynigion Llywodraeth Cymru, bydd y cyllid yn agored i bob rheolwr tir, yn hytrach na rhywbeth a fydd yn berthnasol i ffermwyr gweithredol yn unig. Bydd hyn yn sugno buddsoddiad oddi wrth deuluoedd fferm, ac mae'r arian hwnnw fel y gwyddom, o'i fuddsoddi, yn golygu bod pob punt yn cynhyrchu elw o £7 i'r economi wledig ehangach, ond yn awr, wrth gwrs, gallem weld sefydliadau bancio, cronfeydd pensiwn a ffermwyr economaidd anweithgar nad ydynt yn gwneud unrhyw gyfraniad i'r economi leol neu'r gymuned leol yn elwa o gynigion y Blaid Lafur. Cred Plaid Cymru y dylai unrhyw system newydd ar ôl Brexit gyfeirio cymorth at ffermwyr gweithredol, yn hytrach na gwobrwyo perchnogaeth tir ei hun. [Torri ar draws.] Yn fyr iawn, os gwelwch yn dda. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. O ran diffinio ffermwyr gweithredol, a ydym yn sôn am y bobl sy'n berchen tir ar hyn o bryd, ond ei fod yn cael ei ffermio'n weithredol gan y tenantiaid mewn gwirionedd?
Wel, yn y bôn, mae'n golygu'r bobl sy'n cymryd risg ariannol; y bobl yn y rheng flaen sy'n gwneud y ffermio ac nid pobl sy'n cael eu gwobrwyo'n unig am eu bod yn digwydd bod yn berchen ar y tir hwnnw.
Cafodd fy mhryderon ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli'r broses hon eu dwysáu hefyd yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb a gawsom gydag Ysgrifennydd y Cabinet ychydig wythnosau'n ôl. Gofynnais a oedd dyraniadau yn y gyllideb ar gyfer y modelu y dywedir wrthym yn barhaus y bydd yn digwydd i ddangos bod hwn yn ddull dilys o weithredu. 'Yn benodol, nac oes', oedd yr ateb, ac rwy'n darllen o'r trawsgrifiad yma. Gofynnais wedyn a fyddai'r treialu gofynnol yn cael ei ariannu o'r gyllideb. Wel, nid oes gennym unrhyw gyllideb wedi'i phennu, meddai, ac rwy'n dyfynnu,
felly bydd angen inni ddod o hyd i'r arian hwnnw,
dywedwyd wrthyf wedyn. Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae'n amlwg fod peth lle o fewn ein cyllideb bresennol... ond nid wyf yn gwybod faint fydd ei angen arnom.
Ble mae'r cynllun? Ble mae'r cynllun? Hynny yw, ble mae eich ymagwedd drefnus a chynlluniedig tuag at y newid mwyaf mewn cymorth amaethyddol ers yr ail ryfel byd? Ac nid ydych yn gwybod.
Ond fe wyddoch, wrth gwrs, fod angen y modelu arnom. Cynhaliodd eich rhagflaenydd waith modelu helaeth cyn inni ddechrau trafod opsiynau, fel bod y drafodaeth honno'n deillio o safbwynt gwybodus. Rydym yn gwybod bod angen treialu—rydych wedi dweud hynny eich hun—ar y dull hwn nad yw erioed wedi'i brofi o'r blaen. Ac mae angen gwella'r gwasanaeth cynghori yn sylweddol er mwyn cefnogi'r rheini a allai fod yn cael trafferth i bontio. Ac rydym eto i weld a oes capasiti gan y Llywodraeth i reoli a sicrhau newid o'r maint hwn ac ar y raddfa hon. A oes gennych ddigon o weision sifil i brosesu'r hyn a allai fod yn ddegau o filoedd o geisiadau am y cynlluniau hyn? Nid yw'n syndod eich bod wedi dewis dyddiad dechrau flwyddyn yn ddiweddarach, oherwydd, yn amlwg, mae cynifer o gwestiynau yn dal heb eu hateb. Felly, mae unrhyw hyder a oedd gan y gymuned ffermio yng nghynigion eich Llywodraeth ac yn y modd yr oeddech yn ymdrin â'r broses hon wedi bod yn lleihau wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos drwy gydol y cyfnod ymgynghori, ers y cyfnod ymgynghori, ac roedd yn amlwg i bawb ei weld a'i glywed yn y ffair aeaf yr wythnos hon.
Felly, daeth yn bryd i'r Llywodraeth hon wynebu'r realiti a chydnabod bod angen iddi gymryd cam yn ôl bellach ac edrych eto ar gynnwys taliad sylfaenol yn rhan o'i chynigion ar gyfer unrhyw gynllun yn y dyfodol. Gall pawb ohonom ddechrau drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru yma heddiw.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.
2. Yn cefnogi:
a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;
b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; ac
c. gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.
4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl ac i gynnig y gwelliant yn enw Darren Millar yn ffurfiol.
Un peth y gallem ei wneud wrth ddechrau'r ddadl hon yw diolch i'r miloedd lawer o ffermwyr ar hyd a lled Cymru am y gwaith aruthrol a wnânt yn gofalu am gefn gwlad, boed hynny ar y mynydd, ar yr iseldir, neu bopeth yn y canol. Oherwydd mae Cymru'n enwog am ei hamgylchedd naturiol, ac mae gennym lawer i'w ganmol a'i glodfori, i ddweud pa mor gadarnhaol yw cyfraniad y degau o filoedd o ffermwyr dros y degawdau diwethaf. Roedd hynny'n amlwg i bawb yn ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru, ac yn wir yn Sioe Frenhinol Cymru yn yr haf, lle mae mawredd y sector bwyd ac amaeth yn cael ei arddangos i bawb ei weld. Rydym yn sôn am ddiwydiant yng Nghymru sy'n cynnal trosiant o £7 biliwn a degau o filoedd o swyddi. Ond er gwaethaf yr arian sydd wedi dod o'r polisi amaethyddol cyffredin, un peth na ellir ei danbrisio yw bod nifer lai a llai o bobl o hyd yn gallu gwneud bywoliaeth gynaliadwy oddi ar y tir, a'r ddibyniaeth gynyddol ar y swm o arian sy'n mynd o'r PAC i gadw busnesau rhag mynd i'r wal—mae 80, 90 y cant o'r mantolenni'n dangos mai dyna yw trosiant llawer o fusnesau amaethyddol ar hyd a lled Cymru. O ran y sector prosesu yma yng Nghymru, yn anffodus, mae llawer o'r cynnyrch sylfaenol a gynhyrchwn ar ein tir yn mynd draw i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn y pen draw, neu draw i Ewrop yn wir. Yn sicr, os ydym am gadw gwerth a chynyddu cyfoeth yma yng Nghymru, rhaid bachu gyda'r ddwy law y cyfle hwn i ddyfeisio system gymorth newydd, system newydd o effeithlonrwydd o fewn y sector, fel y gallwn greu diwydiant sy'n caniatáu i bobl ifanc ddod i mewn i'r diwydiant. Ar hyn o bryd, oedran ffermwr ar gyfartaledd yw 62 yma yng Nghymru, ac yn gynyddol, gwelwn lai a llai o gyfleoedd i ffermwyr ifanc ddod i mewn i'r diwydiant, er gwaethaf—roedd Llyr a minnau mewn sesiwn gwestiynau ddydd Llun, ac roedd cefn yr ystafell yn llawn o wynebau ifanc, bechgyn a merched, a oedd yn ceisio creu cyfle yn y diwydiant sylfaenol gwych hwn sydd wedi gwasanaethu ein gwlad mor dda. Ond ni allwn droi ein cefnau ar y cyfle i greu rhywbeth sy'n unigryw yma yng Nghymru, rhywbeth sydd, yn anad dim, yn cynnig y cymorth craidd sydd ei angen ar yr economi wledig a'r economi wledig ehangach wrth i'r cymorth hwnnw fynd i mewn i amaethyddiaeth. Fy mhryder mwyaf ynglŷn ag ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', pan fo'r Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet yn yr ymgynghoriad hwnnw'n cyfeirio at 'reolwyr tir', yw ein bod yn newid yr hafaliad yn sylfaenol o ran y ffordd y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu i dderbynwyr sydd heb dderbyn arian o'r gronfa datblygu gwledig yn draddodiadol, na chymorth uniongyrchol i amaethyddiaeth yn wir, ac yn anad dim, sefydliadau nad ydynt o reidrwydd angen y cymorth y byddai'r arian hwnnw yn ei gynnig iddynt i ymgymryd â'r prosiectau a fyddai ar gael o dan amrywiol gynlluniau'r Llywodraeth.
Fel y crybwyllodd y sawl a agorodd y ddadl heddiw, mae'r diffyg modelu ar lawer o gynigion 'Brexit a'n tir' yn peri pryder dwfn, oherwydd, yn sicr, er mwyn rhoi cynigion mewn dogfen i'w hystyried, mae angen inni ddeall a fyddai'r cynigion hynny'n gweithio, ac a fyddai modd eu gweithredu mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Pan edrychwch ar rai o'r cynigion ynddo, rydych yn edrych mewn gwirionedd ar fynd o sylfaen o tua 16,000 o dderbynwyr i tua 40,000 neu 45,000 o dderbynwyr o bosibl. Mae honno'n gronfa adnoddau sy'n lleihau'n ofnadwy ac sy'n mynd i ledaenu'n llawer pellach ymysg pobl sydd, fel y dywedais, yn draddodiadol heb wneud defnydd ar y cynllun, ac yn anad dim, pobl a fyddai'n gallu cyflawni llawer o'r prosiectau y maent wedi'u cyflawni'n draddodiadol heb y cymorth hwnnw. Ac felly, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddi ystyried ei hymatebion i'r ymgynghoriad—ac rwy'n tybio y bydd yr ystyriaeth honno yn cyfyngu ar ei hymateb y prynhawn yma, gan ei bod yn iawn, yn amlwg, fod y 12,000 o bobl sydd wedi cymryd rhan yn yr ymarfer i gyd wedi rhoi eu syniadau amrywiol ar y bwrdd—yn rhoi ystyriaeth lawn i'r cynigion hynny. Ond gallwn gefnogi'r hyn y credwn eu bod yn egwyddorion craidd yr economi wledig, ac un o egwyddorion craidd yr economi wledig yw sector amaethyddol bywiog ac amrywiol, sy'n annog pobl ifanc i ddod i mewn i'r diwydiant, gan ddarparu cynnyrch sylfaenol bwyd a chadwraeth. Oherwydd mae cadwraeth yn ystyriaeth bwysig iawn pan edrychwn ar yr hyn y gall ein tir ei gyflawni yma yng Nghymru. Ac yn hytrach nag edrych ar hyn, fel y soniodd y sawl a agorodd y ddadl, fel ymyl clogwyn i gerdded drosto, rwy'n credu ei fod yn gyfle, yn ddrws i gerdded drwyddo, sydd, fel y mae'r gwelliant yn sôn, yn cyflwyno mwy o gynhyrchiant i mewn i'r diwydiant, yn gwrthdroi'r gostyngiad yn nifer y ffermwyr gweithredol yng Nghymru ac yn anad dim, yn ailfywiogi sector lle mae dirfawr angen ailgydbwyso'r ffordd y mae'n denu enillion mwy o'r farchnad, a bod mwy o enillion o'r farchnad yn cael eu dychwelyd i gât y fferm yn hytrach na'u gadael yn nwylo'r proseswyr a'r manwerthwyr.
Ac felly, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Gobeithio bod y gwelliant yn cael cefnogaeth, oherwydd credaf ei fod yn ategu'r cynnig sydd ger ein bron. Edrychaf ymlaen at weld y Siambr yn cefnogi'r gwelliant.
Wel, rwy'n mynd i fodloni Andrew R.T. Davies drwy ddweud y byddwn yn cefnogi'r cynnig a'r gwelliannau. A chytunaf â phopeth a ddywedodd Llyr Gruffydd ac Andrew R.T. Davies hefyd.
Rwyf bob amser wedi ystyried bod Brexit yn gyfle i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae yna her, wrth gwrs—mae unrhyw newid mawr o'r math hwn yn sicr o fod yn her, ond wrth edrych ar y tymor canolig i'r tymor hir, credaf y gall ffermio yng Nghymru elwa'n sylweddol iawn o Brexit, oherwydd mae'n ein galluogi i lunio ein polisi ein hunain wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer Cymru. Ac mae Cymru'n wahanol iawn i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn enwedig Lloegr, yn y sector ffermio, ac rwyf wedi nodi o'r blaen mewn cwestiynau i'r Ysgrifennydd amaethyddiaeth—beth bynnag y caiff ei galw bellach—fod y polisi amaethyddol cyffredin yn golygu mwy i ffermwyr yng Nghymru nag y mae'n ei wneud yn Lloegr, oherwydd gall ffurfio hyd at 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, tra mai 55 y cant yn unig yw'r cyfartaledd yn Lloegr. Ac mae 85 y cant o'r cymorthdaliadau fferm a delir ar hyn o bryd yng Nghymru o dan golofn 1 yn hytrach na cholofn 2, felly mae hynny'n profi pwysigrwydd mater sefydlogrwydd y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ato yn ei araith agoriadol. Gan fod cynllun y taliad sylfaenol mor hynod o bwysig i ffermwyr Cymru, rwy'n credu y bydd symud o ddibyniaeth arno i bolisi arall yn cymryd cryn dipyn o amser i ni. Os oes gennych 85 y cant o'ch arian yn cael ei wario ar hyn o bryd ar ffurf taliad sylfaenol, rwy'n meddwl am rai o'r cynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn golwg—beth y gallent ei gynnwys i gymryd eu lle. Nid oes amheuaeth fod llawer iawn o ansicrwydd yn y sector ffermio wedi'i greu gan gyhoeddiad y Llywodraeth ar ben llanastr Brexit, a grëwyd gan Theresa May. O gofio bod—[Torri ar draws.] Nid oedd gennyf unrhyw ran o gwbl ym mhenderfyniadau Theresa May, yn anffodus, fel arall ni fyddem yn cael cymaint o ddadleuon yn awr o bosibl. Rwyf wedi bod yn berffaith gyson fy marn i ers i mi ymuno â'r Gynghrair Gwrth-Farchnad Gyffredin ym 1967. Felly, mae'n edefyn sydd wedi rhedeg drwy gydol fy mywyd ar ei hyd.
Ond i ddychwelyd at y cynnig, mae hyn yn arbennig o bwysig—sefydlogrwydd i'r rheini sy'n ffermio mewn ardaloedd llai ffafriol, ac mae 80 y cant o ucheldiroedd Cymru yn ardaloedd llai ffafriol, ac mae 84 y cant o'r daliadau hynny'n dibynnu ar wartheg a defaid, ac mae hynny'n hanfodol ar gyfer gwarchod y dirwedd a hybu bioamrywiaeth. Felly, gallaf weld y gall y cynlluniau cadernid a'r cynlluniau nwyddau cyhoeddus gydredeg yn y maes hwn, ond mae'r symiau o arian sydd dan sylw ar gyfer pob ffermwr unigol yn sylweddol ac mae angen dylunio'r cynlluniau'n dda.
Felly, credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond rwy'n bryderus ynglŷn â pha mor gyflym y gweithredir hyn. A siarad yn gyffredinol, mae cynlluniau'r taliad sylfaenol yn bwydo drwodd i werthoedd tir yn hytrach nag i incwm ffermydd. Mae hynny'n wendid mawr ynddynt, felly credaf ei bod yn iawn symud oddi wrth daliadau sylfaenol. Ond lle mae gennych ffermydd yr ucheldir ac eraill sy'n ymylol ac nad oes modd eu gwneud yn fasnachol go iawn heb ryw fath o gymorth cyhoeddus, rwy'n credu bod angen inni gael rhyw gynllun penodol a luniwyd er mwyn diwallu eu hanghenion. Fel arall, rydym mewn perygl o weld nid yn unig busnesau'n rhoi'r gorau i gynhyrchu ond hefyd y canlyniadau amgylcheddol a fyddai'n deillio o hynny, a byddai'r rheini'n drychinebus. Rwy'n credu bod dad-ddofi tir ar y bryniau'n broblem fawr y mae angen inni ei gwrthdroi. Credaf fod unrhyw beth a allai gyfrannu'n anfwriadol at ddad-ddofi mwy o dir ar y bryniau i'w wrthwynebu.
Mae ffermwyr yn gweithio'n galed iawn am ychydig iawn o enillion o ran incwm. Credaf fod incwm cyfartalog ffermydd oddeutu £23,000 y flwyddyn. Felly, mae'r taliad sylfaenol yn elfen gwbl hanfodol i gadw pobl ar y tir i gynhyrchu bwyd a'r holl ganlyniadau eraill sy'n deillio o hynny. Felly, buaswn yn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â symud yn rhy gyflym i gyfeiriad cymorth taliadau sylfaenol a symud at gynlluniau mwy amgylcheddol, er fy mod yn credu ei bod hi'n symud i'r cyfeiriad cywir. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud hefyd, wrth gwrs, yw manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit. Os na cheir cytundeb, neu'n fwy cywir, os byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, bydd tariffau enfawr ar fasnach rhwng Prydain a'r UE. Ac o ystyried nad ydym ond oddeutu dwy ran o dair o fod yn hunangynhaliol o ran cynhyrchiant bwyd yn y Deyrnas Unedig, mae hwn yn gyfle enfawr i gynhyrchu yn lle mewnforio, ac mae hynny'n newyddion da i ffermwyr Prydain ac i ffermwyr Cymru yn benodol yn fy marn i.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod y diwydiant amaethyddol a ffermydd teuluol yn wynebu'r her fwyaf mewn o leiaf cenhedlaeth oherwydd Brexit a'r ansicrwydd a ddaw yn ei sgil. Ni chredaf y byddech wedi dod o hyd i lawer o bobl yn y ffair aeaf yn gynharach yr wythnos hon a oedd yn gweld hwn fel y cyfle y byddai rhai o'r Aelodau yn y Siambr hon yn hoffi inni ei weld, er bod yn rhaid parhau'n optimistaidd wrth gwrs.
Efallai ei bod hi'n werth atgoffa ein hunain ynglŷn â phwysigrwydd y sector ffermio yng Nghymru. Mae'n sail i gadwyn gyflenwi bwyd a diod gwerth dros £6 biliwn. Mae'n cyflogi 17 y cant o'r gweithlu cenedlaethol, 220,000 o bobl i gyd, gyda 58,000 yn gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser ar ddaliadau fferm, gan wneud amaethyddiaeth yn rhan bwysicach o lawer o economi Cymru nag yw hi yn economi Lloegr. Ffermwyr sy'n rheoli 80 y cant o'r tir yng Nghymru, gan gynnwys 600,000 hectar o ardaloedd amgylcheddol dynodedig. Mae busnesau fferm yn chwarae rhan hollbwysig yn darparu mynediad cyhoeddus at gefn gwlad yng Nghymru, gyda 16,000 o filltiroedd o lwybrau troed, 3,000 o filltiroedd o lwybrau marchogaeth a 460,000 erw o dir mynediad agored—y cyfan yn cael ei ffermio.
Mae 33 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yn ein cymunedau gwledig, ac yn allweddol, mae bron 30 y cant o'r bobl a gyflogir mewn amaethyddiaeth yn siaradwyr Cymraeg, y gyfran uchaf o bell ffordd mewn unrhyw ddiwydiant yn ein gwlad. Mae amaethyddiaeth yn darparu sylfaen i'r economi mewn cyfran fawr o'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith gymunedol naturiol. Gallai canlyniadau bod yn anghywir o ran ein cymorth ôl-Brexit i ffermio—os cawn sefyllfa ôl-Brexit yn y pen draw, ac rwy'n byw mewn gobaith—gallai canlyniadau cael y cymorth hwnnw'n anghywir fod yn drychinebus. Wrth gwrs, nid ydym yn gwadu yn y rhan hon o'r Siambr fod manteision i ddefnyddio peth o'r cymorth a delir i fusnesau fferm ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus uniongyrchol penodol, gan gynnwys nwyddau amgylcheddol, lles anifeiliaid, manteision mynediad—buaswn hefyd yn annog y dylai'r manteision hynny gynnwys edrych, wrth gwrs, ar y cymorth i'r Gymraeg fel iaith gymunedol a pha mor bwysig yw amaethyddiaeth yn hynny o beth.
Ceir cyfleoedd i'w darparu a'u croesawu o'r cynllun cadernid economaidd, ond nid ydym yn credu ei bod yn iawn cael gwared ar y rhwyd ddiogelwch i deuluoedd fferm ar yr adeg hon o ansicrwydd mawr. Mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i ddarparu'r nwyddau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod am eu gweld, ac y mae pawb ohonom am eu gweld. Mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i ddarparu sail ar gyfer economi wledig ffyniannus a diogel ledled Cymru, ac mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i helpu i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Wrth gwrs, mae'r ymgynghoriad wedi cau bellach a bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y canlyniadau, ac mae hwn yn gyfle i Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio ac o bosibl ailystyried. Gwn y bu hi yn y ffair aeaf ddydd Llun, a bydd wedi clywed, fel y clywodd Llyr Gruffydd a minnau, faint o bryder sy'n cael ei fynegi gan bobl o gymunedau gwledig ledled Cymru—ac mae'r pryder hwnnw, wrth gwrs, wedi'i waethygu gan broblemau yn y tymor byr sy'n ymwneud â'r amodau hinsoddol anodd iawn rydym wedi'u cael, fel y nododd Llyr Gruffydd. Rydym yn annog Ysgrifennydd y Cabinet heddiw i feddwl o ddifrif am y pryder hwnnw, i feddwl am yr hyn y mae'n ei wneud i ffermydd teuluol, i feddwl am y lefel o bryder ac i gytuno, wrth ymateb i'r ymgynghoriad, i gadw elfen o'r taliad sylfaenol mewn unrhyw gynllun cymorth i ffermydd yn y dyfodol.
Nid yw amaethyddiaeth yng Nghymru yn debyg i amaethyddiaeth yn Lloegr. Mae ein ffermydd yn llawer mwy pwysig i'n heconomi ac i'n cymunedau. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi derbyn hyn, a dyna pam y maent yn cadw elfen o'r taliad sylfaenol yn eu cymorth i'w diwydiannau ffermio wrth gwrs. Ac mae eu diwydiannau ffermio yn llawer tebycach i batrwm diwydiannol ffermio yma yng Nghymru: ffermydd bach teuluol. Nid oes gennym lawer o farwniaid barlys wedi'u gor-sybsideiddio yma yng Nghymru, ac nid oes llawer ganddynt yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ychwaith.
Mae ein diwydiant yn llawer tebycach i ddiwydiant y ddwy wlad honno nag i'r diwydiant yn Lloegr. Rwy'n dal i fethu deall pam nad yw'r cynllun cymorth arfaethedig presennol ar gyfer Cymru yn ddim mwy na chopi o'r cynllun yn Lloegr yn y bôn. Rwyf wedi adnabod Ysgrifennydd y Cabinet ers blynyddoedd lawer, ac ni allaf ddychmygu bod llawer o bethau y mae'n cytuno â Michael Gove yn eu cylch, felly pam ar y ddaear y mae hi'n cytuno â Michael Gove ynglŷn â hyn? Mae angen ychydig o gysondeb yma. Mae'r diwydiannau ffermio yng Nghymru a Lloegr mor wahanol.
Lywydd, nid oes dim o'i le ar newid meddwl yn wyneb y dystiolaeth neu newid meddwl yn wyneb sylwadau ystyrlon a dilys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrando ar leisiau cymunedau gwledig—nid yw o bwys a yw hi'n gwrando arnom ni, Lywydd, ond mae ei pharodrwydd i wrando arnynt hwy a'r rhai sy'n siarad ar eu rhan yn bwysig—a gall edrych ar yr Alban neu Ogledd Iwerddon os yw hi angen model; hoffem weld model wedi'i wneud yng Nghymru, wrth gwrs. Ac rydym yn ei hannog i roi ychydig mwy o ddiogelwch i'n ffermwyr yn y dyfodol ar ffurf taliadau sylfaenol. Dyma gyfle gwirioneddol iddi wneud y peth iawn.
Mae'n amlwg fod y polisi amaethyddol cyffredin yn gyfrifol am 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, a £274 miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol, felly mae'n bwysig dros ben ein bod yn cael yr olyniaeth a'r pontio'n iawn ar ôl Brexit, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddarparu'r lefelau cyfredol o gyllid yr UE. Dyna a addawodd yr ymgyrch dros adael wedi'r cyfan, gan gynnwys ASau sydd bellach yn eistedd yn y Cabinet, neu a oedd hwnnw hefyd yn addewid arall a aeth ar goll yn y depo? Ond beth am barcio'r bws hwnnw am y tro, gan fod y ddadl hon yn ymwneud â ble a sut, ac i ba raddau y dylid gwario'r arian hwnnw ar ôl Brexit.
Mae'n amlwg i mi mai'r egwyddorion sylfaenol o anghenraid yw bod yn rhaid i arian cyhoeddus gyflawni budd cyhoeddus. Ac mae hi yr un mor glir i mi y gallai'r system bresennol wneud yn well i sicrhau'r prawf hwnnw o ran y nwyddau amgylcheddol. Er enghraifft, yn 2016, dangosodd adroddiad 'Cyflwr Natur 2016' fod 52 y cant o'r rhywogaethau tir fferm a gâi eu monitro wedi gweld gostyngiad ers y 1970au, fod ansawdd pridd ar draws yr holl gynefinoedd, ar wahân i goetir, wedi dirywio, ac nad yw 63 y cant o'r holl ddŵr croyw yn cyrraedd statws 'da'. A llynedd, gwelsom y lefelau uchaf erioed o lygredd, ac rwyf wedi codi hynny yn y Siambr hon dro ar ôl tro, ein bod yn gweld lefelau cynyddol o amonia o amaethyddiaeth, ac mae hynny'n effeithio ar ansawdd aer.
Nawr, rwyf am fod yn glir yma, oherwydd nid wyf yn awgrymu am un funud fod pob ffermwr yn llygrwr, ond mae yna faterion yn codi o ran arferion ffermio a'r arian sy'n cael ei dderbyn sy'n gwaethygu'r sefyllfa hon. Felly, y ffaith amdani yw bod y PAC wedi creu system sy'n sylfaenol annheg ac sydd o fudd i un grŵp o reolwyr tir ac yn eithrio eraill. Hyd yn oed ym maes cynhyrchu bwyd, ceir anghysonderau amlwg, ac nid yw garddwriaeth yn gymwys i gael cymorth, ac un enghraifft yn unig yw honno. Felly, yr hyn y dymunwn ei weld wrth symud ymlaen yw ein bod yn gwrthdroi rhai o'r ffigurau rwyf newydd eu dyfynnu, ein bod yn yr un modd yn cefnogi ac yn ymwybodol o anghenion tyddynnod, sydd wedi'u crybwyll yma dro ar ôl tro, ein bod yn atal ffermio dwys, oherwydd gallai hynny fod yn un o ganlyniadau system sy'n newid, a'n bod yn diogelu anghenion ffermydd mynydd, ac rwy'n cytuno â llawer sydd wedi'i ddweud yma y bore yma.
Felly, rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd cynigion ar gyfer rhaglen rheoli tir newydd o'r math hwnnw. Ac rwy'n gobeithio y gallwn gael rhywfaint o gytundeb y dylai'r system fod yn agored i bob rheolwr tir ond bod system glir o dan hynny sy'n cyrraedd y nodau y gobeithir amdanynt. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwyd yma y prynhawn yma, wrth gwrs, ac nad ydym yn gwanhau pot a allai fod yn lleihau fel na chawn y canlyniadau y gobeithiwn amdanynt. Ac yn y pen draw, un o'r canlyniadau hynny fydd yr angen i gynhyrchu bwyd yn effeithlon ond ar yr un pryd, mae angen inni ddatblygu ffrydiau incwm newydd sy'n amddiffyn ac yn cynnal ein treftadaeth naturiol.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Bydd y DU yn gadael y polisi amaethyddol cyffredin pan fyddwn yn gadael yr UE, ac rwyf wedi egluro ar sawl achlysur cyn, yn ystod ac ers ein hymgynghoriad 'Brexit a'n tir', fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud, nad cynllun y taliad sylfaenol yw'r ffordd iawn o gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit. Mae'n gyfnod o ansicrwydd mawr, ac mae pawb ohonom yn cytuno bod angen cymorth ar ffermwyr Cymru i ymateb i heriau Brexit. Dyma'r unig ffordd o gadw ffermwyr ar y tir ac amddiffyn ein cymunedau. Nid yw taliadau uniongyrchol yn arf digon miniog i ddatblygu sector amaethyddiaeth cynhyrchiol a chystadleuol. Nid ydynt yn cymell gwelliannau o ran cynhyrchiant, ac nid ydynt yn caniatáu hyblygrwydd i ffermwyr ymateb i anwadalrwydd. Nid oes cysylltiad o gwbl rhwng cynllun y taliad sylfaenol a chynhyrchiant, ymdrech ffermwyr na chanlyniadau ar lawr gwlad. Rhaid inni gefnogi ffermwyr mewn ffordd well.
Mae'r problemau a brofwyd gan ffermwyr eleni o ganlyniad i'r gaeaf gwlyb a'r haf poeth a sych yn dangos diffyg cadernid ar draws y diwydiant a'r angen i dargedu cymorth yn well nag y gall cynllun y taliad sylfaenol ei wneud. Yn ystod yr haf, bu'n rhaid i undebau ffermwyr droi unwaith yn rhagor at Lywodraeth Cymru am gymorth ychwanegol i'w haelodau. Yn syml iawn, nid yw cynllun y taliad sylfaenol yn mynd i'r afael yn ddigonol ag anwadalrwydd yn y ffordd y byddai rhai sylwebyddion am inni gredu. Dyna pam rydym yn cynnig newid i gynlluniau sy'n targedu'n well, gyda dau gynllun gwahanol wedi'u hamlinellu yn ein hymgynghoriad. Bydd y cynlluniau arfaethedig yn darparu ffrwd incwm ystyrlon ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus, nwyddau amgylcheddol na fyddant byth yn diflannu, a byddant yn darparu buddsoddiad wedi'i dargedu i ysgogi gwelliannau mewn cynhyrchiant a hyblygrwydd, gan wneud busnesau fferm yn fwy gwydn. Yn allweddol, bydd hyn yn helpu ffermwyr i addasu eu busnesau i ymdopi ag amrywiaeth o amgylcheddau masnachu posibl mewn ffordd na fyddai taliadau uniongyrchol yn ei wneud, a gallaf sicrhau'r Aelodau fod y 12,000 o ymatebion a ddaeth i law yn cael eu dadansoddi'n fanwl iawn ar hyn o bryd.
Mae'r rhai sy'n awyddus i wneud y dewis hawdd a hyrwyddo'r status quo yn unig yn diystyru'r ffaith bod ffermwyr Cymru yn dibynnu ar gefnogaeth trethdalwyr am 81 y cant o incwm eu busnes fferm ar gyfartaledd. Rwyf fi, a llawer o'r ffermwyr y byddaf yn siarad â hwy, yn awyddus i fod yn llawer mwy uchelgeisiol na bwrw iddi'n slafaidd i weithredu dull sy'n amlwg heb weithio. Ac mae Neil Hamilton yn ei gyfraniad—ar wahân i'r eironi a fethodd yn llwyr—i'w weld yn credu bod hyn yn gyflawniad. Wel, nid wyf fi, ac mae'r ffermwyr rwy'n siarad â hwy'n cytuno.
Ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol. Gan droi at y gwelliannau, rwy'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Bydd dyluniad y cynllun yn adlewyrchu'r cyd-destun unigryw yng Nghymru. Bydd cynlluniau arfaethedig yn helpu'r sector ffermio yng Nghymru i dyfu'n gryfach, i ddod yn fwy cynaliadwy a chynyddu nwyddau cyhoeddus i holl ddinasyddion Cymru. Yn y cynnig gwreiddiol, rwy'n nodi cyfeiriad Plaid Cymru at ffermwyr gwethredol, ac rwy'n bendant am weld arian yn mynd i'r bobl sydd wrthi'n weithredol yn sicrhau'r canlyniadau rydym eu heisiau. Nid yw cynllun y taliad sylfaenol yn gysylltiedig â'r canlyniadau hyn, na'u cynhyrchiant na'u hymdrech, fel y dywedais, ac nid wyf yn gweld sut y gallwn gytuno bod hyn yn deg i ffermwyr gweithredol. Ac nid wyf yn credu y dylem fod yn rhoi'r prawf ffermwr gweithredol presennol ar bedestal. Mae angen inni wneud yn llawer gwell, ac rydym am gael system lle mae'r bobl sy'n gwneud y gwaith ac yn ysgwyddo'r risg yn cael y budd. Yn yr ymgynghoriad, gwahoddais safbwyntiau ar gamau i sicrhau y gall tenantiaid wneud defnydd o gynlluniau newydd, ac rwy'n ymrwymedig i barhau i archwilio sut i gefnogi holl ffermwyr Cymru.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ailadrodd na fydd newidiadau i daliadau yn cael eu gweithredu heb ymgynghori pellach ac ni fydd hen gynlluniau yn cael eu diddymu hyd nes y bydd cynlluniau newydd yn barod. Ac fel rhan o'r ymrwymiad hwn, cyhoeddais ddydd Llun y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn parhau heb ei newid yn 2020, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr mewn cyfnod ansicr. I gynorthwyo gyda'r pontio arfaethedig i gynlluniau sy'n targedu'n well, rwy'n bwriadu ymestyn llawer o'r contractau Glastir presennol am gyfnod cyfyngedig, yn amodol ar gytundeb y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd y dull hwn yn cynnal canlyniadau amgylcheddol yn ystod y cyfnod interim ac yn sicrhau pontio di-dor rhwng cynlluniau amaeth-amgylchedd presennol a chynlluniau nwyddau cyhoeddus y dyfodol. Yn dilyn hyn, rwy'n argymell cyfnod pontio amlflwydd graddol, i sicrhau bod ffermwyr yn cael digon o amser i addasu i'r dull newydd. Bydd hyn yn helpu ffermwyr i baratoi eu busnesau i ffynnu mewn amgylchedd masnachu ôl-Brexit.
Os caf godi un neu ddau o sylwadau a wnaed gan yr Aelodau, a dweud wrth Llyr Huws Gruffydd—mae'n gwybod yn iawn y byddwn yn cael ein polisi amaethyddol Cymreig ein hunain. Fodd bynnag, er mwyn talu cynlluniau'r taliadau sylfaenol, cyn inni gael y ddeddfwriaeth honno, rwyf angen y pwerau dros dro hynny o Fil Amaethyddiaeth y DU. Fe wyddech hynny'n dda iawn. Felly, dyna oedd un o'r rhesymau pam ein bod wedi gorfod edrych ar bwerau pontio. Fel arall, ni fyddem yn gallu talu dim i ffermwyr.
Soniodd Andrew R.T. Davies am bobl ifanc, ac os edrychwch yn ôl dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rwy'n credu fy mod wedi gwneud llawer iawn o waith gyda phobl ifanc. Rwy'n cyfarfod â Cenhedlaeth Nesaf yr NFU yfory eto. Os edrychwch ar y cynlluniau a gyflwynais, rwyf wedi cael—. Rwyf wedi'i gwneud yn flaenoriaeth i annog pobl ifanc i mewn i'r byd amaeth.
Helen Mary Jones, yn sicr nid wyf yn cytuno â phopeth y mae Michael Gove yn ei wneud, ac os edrychwch, nid copi yw hwn. Mae ein cynllun yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar gynhyrchu bwyd, er enghraifft, nag yn Lloegr. Felly, gwn fod llawer o amwysedd ynghlwm wrth Brexit. Mae'n caniatáu inni ddatblygu system gymorth bwrpasol i harneisio gwerth tir Cymru a sicrhau sector amaeth ffyniannus a gwydn yng Nghymru, ac rwy'n siŵr fod pawb ohonom am weld hynny. Diolch.
Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Mae amser yn brin, felly fe soniaf yn unig am un neu ddau o'r pwyntiau a wnaed. Rydych yn sôn, Ysgrifennydd y Cabinet, am ddiffyg gallu i wrthsefyll y tywydd. Efallai fod rhywbeth yn hynny; mae yna bob amser le i wella. Ond wrth gwrs, mae natur ffermio yn golygu eich bod bob amser yn agored i dywydd ni waeth pa mor wydn yw eich busnes. A yw'r ffon fesur honno'n un a ddefnyddiwch mewn perthynas â'r cartrefi a'r busnesau a ddioddefodd lifogydd yn dilyn storm Callum hefyd, am nad ydynt mor wydn ag y gallent fod efallai? Pe gallech ddyfeisio ffordd o wneud rheoli'r tywydd yn nwydd cyhoeddus, yna buaswn gyda chi bob cam o'r ffordd o ran cyllido rhai o'r cynlluniau hyn, ac wrth gwrs, bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud y digwyddiadau tywydd hyn yn fwy eithafol byth. Felly, a ydych yn codi'r bar flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn? Felly, wyddoch chi, rwy'n credu y gallwn daflu'r llinellau hyn allan, ond o ddifrif, rhaid iddynt fod yn llawer mwy ystyrlon na hynny yn fy marn i.
O ran y gwelliannau, yn fyr iawn iawn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, oherwydd, yn amlwg, mae'n dileu ein cynnig cyfan, ac nid dyna'r agwedd rwy'n ei chefnogi fel arfer o ran cynigion Plaid Cymru. Rydych wedi cyhoeddi blwyddyn o oedi, wrth gwrs, cyn cyflwyno newidiadau, ond wrth gwrs, nid ydych wedi cyhoeddi newid cyfeiriad. Felly, o'm rhan i, er mor galonogol yw'r oedi, byddai'n llawer gwell gennyf pe baech yn cymryd cam yn ôl ac yn ailystyried eich dull o weithredu, fel yr awgrymais yn fy sylwadau agoriadol.
Ac o ran gwelliant y Ceidwadwyr, ymddengys eich bod yn rhoi llawer o fai ar y PAC. Yn amlwg, nid yw'r PAC yn berffaith, ond ni fuaswn eisiau dychmygu beth fyddai'r sefyllfa heb y PAC, lle mae mwy na hanner ein busnesau wedi dibynnu arno. Ac ymddengys bod yna awgrym y bydd y byd yn llawer gwell yn sgil Brexit. Nawr, gwn eich barn ar hynny, wrth gwrs, ac roedd yr holl ddadansoddi—[Torri ar draws.] Na. Na, na wnaf, dau funud yn unig sydd gennyf. Roedd yr holl ddadansoddi a welais gan Ysgol Economeg Llundain ddoe a'r Trysorlys heddiw yn awgrymu'n bendant iawn ein bod yn mynd i fod yn waeth ein byd o ganlyniad i Brexit.
Mi wnaf i gloi jest drwy gyfeirio at a diolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad hi. Mae'n berffaith iawn i ddweud bod angen rhwydwaith sefydlog o ffermydd teuluol er mwyn delifro'r canlyniadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol, ieithyddol rŷm ni i gyd eisiau eu gweld, ond mae angen, felly, elfen o daliad sylfaenol er mwyn cynnal y sefydlogrwydd hynny, ac mi fuaswn i'n gofyn i bob un fan hyn heddiw i gefnogi cynnig Plaid Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu’r gloch.
Rydw i'n symud i’r bleidlais, a’r bleidlais honno ar ddadl Plaid Cymru ar y taliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 21, un yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6881 - Dadl Plaid Cymru - Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Fferwyr Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1, felly. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.
NDM6881 - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 42, un yn ymatal, chwech yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 2.
NDM6881 - Gwelliant 2: O blaid: 42, Yn erbyn: 6, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Pleidlais nawr, felly, ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6881 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.
2. Yn cefnogi:
a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;
b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; ac
c. gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.
4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn.
5. Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
NDM6881 - Dadl Plaid Cymru - Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Fferwyr - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Sy'n dod â ni at yr eitem olaf o fusnes, sef y ddadl fer. Os gall pawb adael yn dawel ac yn frysiog, fe wnawn ni symud ymlaen i’r ddadl fer ar barcffordd Abertawe: y camau nesaf ar gyfer dinas ranbarth bae Abertawe i’w gynnig gan Suzy Davies.
Aelodau'r Cynulliad: Clywch, clywch.
Diolch yn fawr, Llywydd, a phawb arall.
Mae hi bob amser yn braf dechrau dadl gyda chytundeb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ar yr achlysur hwn, diddordeb cyffredin ydyw yn llwyddiant bargen ddinesig bae Abertawe. Efallai ei fod yn dweud 'Abertawe' yn y teitl, ond mae'r cyfleoedd ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, sir Gaerfyrddin a sir Benfro yr un mor gyffrous. Rydym yn sôn am bron i 10,000 o swyddi newydd a hwb economaidd o £2 biliwn i'r ardal. Felly, beth sydd i beidio â'i hoffi? Nid yw fel pe baem yn brin o syniadau arloesol a luniwyd gennym ni ein hunain, ond nid oes gennym hanes arbennig o dda o'u masnacheiddio er budd y tyrfaoedd, ac mae hwn yn gyfle i ddangos y gallwn wneud hynny.
Mae hyder yn allweddol i lwyddiant y fargen ac un elfen o hyder yn y cyd-destun hwn yw'r gallu i argyhoeddi buddsoddwyr rhyngwladol, yn ogystal â buddsoddwyr yng Nghymru, fod y rhanbarth yn hawdd ei gyrraedd ac yn hawdd i deithio o'i gwmpas. Roedd rhai ohonom yn synnu pan welsom nad oedd cysylltedd ffisegol yn nodwedd o'r cynlluniau ar gyfer y fargen, ac rwy'n gobeithio bod y ffaith bod Mike Hedges a minnau, ac eraill, yn dal i godi hyn yn sicrhau na fyddwch yn colli golwg ar y ddolen goll hon.
Mae'r Athro Mark Barry wedi cynhyrchu syniad cwmpasu cychwynnol ar gyfer metro de Cymru—metro De Cymru Gorllewinol, dylwn ddweud. Nid yw'n berffaith, yn fy marn i, a chadarnhaodd Rob Stewart, arweinydd cyngor Abertawe, mewn cyfarfod ag ACau am y fargen ddinesig, mai man cychwyn yn unig yw syniadau'r athro. Ond er bod cysylltedd digidol sy'n arwain y byd yn un o nodau craidd y fargen, ac yn hanfodol ar gyfer ei hirhoedledd, mae ei fodolaeth ynddo'i hun yn tanlinellu'r pwynt y bydd pobl yn dal i fod angen cerdded, beicio, gyrru, dal bysiau, trenau, tramiau er mwyn cymryd rhan yn y fargen—yn uniongyrchol fel gweithlu ac yn anuniongyrchol fel buddiolwyr y cyfoeth cynyddol a gynhyrchir yn y rhanbarth. I fod yn hyderus ynglŷn â hyblygrwydd y rhanbarth, mae angen i fuddsoddwyr fod yn hyderus ynglŷn â'i symudedd. Ac rwy'n tybio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch eisiau codi trydaneiddio yn eich ymateb i'r ddadl hon—a gwnewch hynny ar bob cyfrif. Ond buaswn yn hoffi'n fawr pe baem yn meddwl am y dyfodol y gallwn wneud rhywbeth yn ei gylch, a dyfodol sy'n cydnabod y gall penderfyniadau gofalus am drafnidiaeth ymwneud ag adfywio llwyddiannus ac nid trenau cyflymach yn unig.
Mae'r fargen ddinesig yn cynnwys 11 o brosiectau sy'n canolbwyntio ar weithgynhyrchu, ynni, gwyddor bywyd a llesiant a sbarduno economaidd, yn ogystal â'i hymgyrch graidd tuag at ddigidol—tra-arglwyddiaeth byd-eang yw'r ffordd rwy'n hoffi meddwl amdano. Ond hoffwn ganolbwyntio ar beth a allai, ac a ddylai, fod yn ddeuddegfed prosiect, sef gorsaf parcffordd Abertawe. Yn wahanol i drydaneiddio, sy'n fuddsoddiad enfawr wedi'i lunio i gyflymu teithiau, mae parcffordd yn ymwneud lawn cymaint ag adfywio'r safle mawr yn Felindre sydd wedi methu denu fawr o ddiddordeb ers diflaniad y gwaith tunplat; mae'n ymwneud lawn cymaint â hynny ag â gwella cysylltedd o amgylch y rhanbarth yn ogystal â gwella symudedd o fewn Abertawe a'r penrhyn.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Mae parcffordd Abertawe, sydd wedi'i lleoli'n briodol i'r gogledd o'r ddinas, yn golygu y gall pobl deithio'n fwy cyflym o'r dwyrain i'r gorllewin o fewn y rhanbarth ac i'r dwyrain o'r rhanbarth, yn ogystal â helpu i gadw'r bont dir hollbwysig rhwng Iwerddon a gweddill y DU ac yna ymlaen i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae hyn oll ynddo'i hun yn arbed amser i deithwyr nad oes angen iddynt fynd i mewn i Abertawe ei hun. Mae hefyd yn lleddfu ofnau ynghylch dyfodol gorsaf Castell-nedd a nodwyd yn amlinelliad yr Athro Barry. Bydd hefyd yn caniatáu opsiwn mwy cyfleus nag a geir ar hyn o bryd i drigolion rhannau o Abertawe, Gŵyr, Castell-nedd Port Talbot a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd ddefnyddio'r trên i gyrraedd canol y ddinas, gan osgoi tagfeydd a llygredd gronynnol mewn rhan o'r wlad yr effeithir arni'n ddrwg gan y ddau beth. Mae hyn yn cydweddu'n strategol â gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud mewn perthynas â gorsafoedd trên lleol yn Abertawe, ac rwy'n fwy na pharod i adael i Mike Hedges gael mwy na munud os yw'n dymuno, ac wrth gwrs, Gadeirydd, os ydych yn hapus i adael iddo wneud hynny.
Fe wneuthum fy ymchwil fy hun ar barcffordd yn gynharach eleni. O'r preswylwyr yr ysgrifennais atynt yn ardal gogledd Abertawe, dywedodd 89 y cant o'r ymatebwyr y dylai bargen ddinesig bae Abertawe gynnwys cynnig ar drafnidiaeth. Nid oes ganddi un ar hyn o bryd, wrth gwrs, a phan ofynnais pa ffactorau a fyddai'n gwneud iddynt ddefnyddio gorsaf barcffordd Abertawe, dywedodd 77 y cant ohonynt fod osgoi traffig canol y ddinas a thagfeydd yn un rheswm mawr dros ddefnyddio gorsaf barcffordd. Wrth ei sodlau, er hynny, roedd y ffaith y byddai parcffordd i'r gogledd o Abertawe yn fwy cyfleus i rai ohonynt yn bersonol na'r gorsafoedd presennol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys: Stryd Fawr Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot ei hun, Llansawel, Sgiwen, Llansamlet, a Llanelli.
Ond gall parcffordd i Abertawe wneud mwy na dim ond galluogi trigolion i gael mynediad cyflym a chyfleus at swyddi presennol a newydd, oherwydd gall hefyd, os caiff ei wneud yn gywir wrth gwrs, helpu i wella ansawdd aer, sydd wedi dod yn gymaint o flaenoriaeth i ni yma yn y Siambr hon. Dywedodd bron i hanner y trigolion wrthyf y byddent yn ystyried defnyddio parcffordd ar gyfer Abertawe pe bai'n cael ei chefnogi gan rwydweithiau bysiau a theithio llesol, gan ddangos y gallai parcffordd Abertawe chwarae ei rhan yn annog cymudwyr i roi'r gorau i ddefnyddio'u ceir yn gyfan gwbl os caiff ei wneud yn y ffordd gywir yn y lle iawn.
Diolch i waith Sustrans a sefydliadau lleol, mae gennym fap rhwydwaith trafnidiaeth integredig cynaliadwy ar gyfer Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe eisoes, sy'n galluogi trigolion ac ymwelwyr i deithio'n rhwydd o un ardal awdurdod lleol i'r llall. Byddai gwaith i ymgorffori parcffordd ar gyfer Abertawe yn y map ond yn fanteisiol i'r rhanbarth o safbwynt annog pobl i feddwl yn wahanol ynglŷn â sut y maent yn teithio o le i le yn ogystal â gwella llif y symudiad hwnnw.
Mae'r hen waith tunplat yn Felindre ychydig i'r gogledd o Abertawe wedi cael miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr i'w ddatblygu'n barc busnes Parc Felindre. Mae'r tir mewn dwylo cyhoeddus, fel y gwyddoch, mae peth yn nwylo'r awdurdod lleol a pheth yn nwylo Llywodraeth Cymru, ond dros amser, fel y clywsom, ychydig iawn o ddiddordeb y mae hyn wedi'i ysgogi tan yn ddiweddar, a fawr iawn o enillion ariannol. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen, a chafodd ei ddwyn i'ch sylw fwy nag unwaith yn y misoedd diwethaf gan Dr Dai Lloyd, felly fe wyddoch beth yw'r sefyllfa. Rydym yn edrych ar oddeutu 200 hectar o dir sydd wedi'i leoli 7.5 km o ganol y ddinas, gyda chyffordd bwrpasol i'r M4, ac sydd â photensial ar gyfer cyfleuster cyswllt rheilffordd. Mae hynny ar wefan cyngor dinas Abertawe sy'n cadarnhau hynny. Mae'n safle cyflogaeth strategol o arwyddocâd rhanbarthol o ran maint a lleoliad. Ac wrth gwrs, mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, sy'n cyflogi bron i 6,000 o bobl o bob rhan o'r ardal teithio-i'r-gwaith, y rhan fwyaf ohonynt yn fenywod, gan gynnwys ar raddfeydd uwch, ar draws y ffordd.
Y weledigaeth ar gyfer Felindre yw parc busnes strategol lefel uchel sy'n gwasanaethu de Cymru. Mae hynny'n dda. Nid ydym eisiau parc manwerthu yno. Ond mae hefyd yn agos at dir arall o'r un maint, fwy neu lai, sydd mewn dwylo cyhoeddus, ac sydd wedi'i glustnodi ar gyfer tai a byddai 20 y cant ohono ar gyfer tai fforddiadwy, a fyddai'n newyddion da i'r ysgol sydd dan fygythiad yn Nghraig-cefn-parc, ond yn llai deniadol nag ar yr olwg gyntaf oherwydd ei fod mor bell o ganol y ddinas. Byddai parcffordd ar garreg y drws yn datrys y broblem honno i 200 hectar o dai.
Ar ôl blynyddoedd o Lywodraeth Cymru'n gwario arian mewn ymdrech i geisio denu tenantiaid i'r safle, rydym yn dechrau gweld rhywfaint o ddiddordeb bellach. Cyhoeddodd y cwmni dosbarthu parseli rhyngwladol DPD eu dymuniad i symud i'r safle a dod â 130 o swyddi newydd i'r ardal. Nawr, mae hynny i'w groesawu, wrth gwrs ei fod, ond nid yw'n hollol yn ddechrau ffwrnais economaidd a gynheuwyd gan y fargen ddinesig. Mae arweinydd cyngor Abertawe bellach yn honni bod diddordeb sylweddol gan fusnesau yn y safle, ac rwy'n gobeithio'n fawr ei fod yn iawn gan fod llai o gwestiwn wedyn ynglŷn â pha un sy'n dod gyntaf: buddsoddiad gan fusnesau mewn swyddi newydd neu seilwaith i'w cynnal. Fy hun, y naill ffordd neu'r llall, rwy'n credu y byddai parcffordd yn helpu pobl i gyrraedd y swyddi newydd hynny o'r tu mewn i'r ddinas a'r tu allan mewn ffordd nad yw'n tagu cyffyrdd y draffordd i'r gogledd ac i'r gorllewin i Abertawe, ac yn sicr nid yw'n tagu'r prif lwybrau i mewn ac allan o'r ardal honno. Mae pawb ohonom yn gwybod sut mae hi ar yr M4 y peth cyntaf yn y bore, onid ydym, foneddigion?
Mae rhannau eraill o Gymru eisoes wedi gweld buddsoddiad sylweddol yng Nghymru gan fusnesau preifat, diolch i waith gan ein dwy Lywodraeth. Yng Nglannau Dyfrdwy, cyhoeddodd Toyota y byddant yn adeiladu eu Auris newydd ac yn sicrhau 3,000 o swyddi yno. Mae CAF yn adeiladu trenau yng Nghasnewydd, gan fuddsoddi £30 miliwn a chreu 300 o swyddi. Mae Aon yn agor swyddfa gwasanaethau ariannol newydd yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni. Ceir rhes gyfan o'r rhain, ond mae fy etholwyr eisiau peth o'r cyffro hwnnw, drwy gynlluniau'r cyngor ei hun ar gyfer y ddinas, y fargen ddinesig ei hun a'r gwaith a wnaed gan ein dwy Lywodraeth. Mae trigolion eisoes wedi dweud eu bod yn hoff o'r syniad. Bydd buddsoddwyr yn disgwyl mynediad hawdd i'r ddinas-ranbarth. A chredaf mai parcffordd ar gyfer Abertawe yw'r pwynt gwerthu sydd ar goll.
Byddai'n dangos i fuddsoddwyr fod gan fargen ddinesig bae Abertawe ymagwedd gwbl gydgysylltiedig a fyddai'n caniatáu i'r ymchwil a'r arloesi ddigwydd ar draws y rhanbarth, ar yr 11 safle prosiect hynny, i fusnesau mawr a bach allu manteisio'n llawn arnynt. Byddai'n caniatáu i breswylwyr o bob cwr o'r rhanbarth ddechrau neu orffen eu teithiau'n hawdd ac yn gyflym heb ychwanegu at y tagfeydd, a helpu ar yr un pryd i leihau tagfeydd a gwella ansawdd mewn mannau problemus, os mynnwch. Rhan o'r ateb i hynny, wrth gwrs, yw'r hyn y mae Mike Hedges yn debygol o fod yn siarad amdano mewn ychydig funudau, ac mae'r penderfyniad ynglŷn â buddsoddi mewn parcffordd ar gyfer Abertawe, wrth gwrs, yn fater i Lywodraeth y DU yn y pen draw, ond mae angen cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, rwy'n credu, i greu—beth y gallaf ddweud? Wel, gadewch i ni greu'r hyder roeddwn yn siarad amdano yn gynharach yn y cyflwyniad. Rwy'n credu bod cael cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraethau ynglŷn â ble y mae angen y buddsoddiad hwnnw a sut y gellir ei gefnogi yn allweddol i fargen ddinesig bae Abertawe allu gwireddu ei photensial llawn.
Nawr, ym mis Mawrth eleni, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi wrth y Cynulliad—ac rwy'n dyfynnu—fod
'Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud nifer o bethau o ran gwella gwasanaethau i deithwyr, a gwelliannau i amseroedd teithio'.
Yn gwbl briodol. Gallai parcffordd i Abertawe fod yn ateb i rai o'r pethau rydych yn chwilio amdanynt. Ym mis Mai, fe ychwanegoch chi y dylai parcffordd i Abertawe gael
'ei ddatblygu yn gyflym.'
A hoffwn feddwl eich bod yn dal i goleddu'r farn honno. Rwy'n gobeithio, gyda'r sylwadau hynny mewn cof, eich bod yn gallu cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â fy etholwyr, ac ACau eraill gobeithio, i wasgu am yr orsaf barcffordd i Abertawe fel sydd ei hangen ar y ddinas-ranbarth. Oherwydd, gadewch i ni feddwl am yr hyn y gallwn ei ennill drwy adael i'r trên wneud y gwaith. Diolch.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Suzy Davies am roi munud imi yn y ddadl hon? Rwyf am wneud dau bwynt cysylltiedig. Y cyntaf yw bod angen cyfnewidfeydd bysiau a threnau yn yr holl orsafoedd rheilffyrdd, ac mae angen i'r bysiau gyrraedd a gadael ar yr adegau cywir. Yn llawer rhy aml, mae bysiau'n gadael ar adeg wahanol i'r trenau, ac mae hynny'n golygu bod defnyddio bws i gyrraedd yr orsaf reilffordd yn llai cyfleus. Pan fydd rhywun wedi gwneud rhan o'u taith mewn car, yn enwedig os ydynt wedi dod—. Yn fy achos i, pe bawn i'n defnyddio fy nghar i ddod yma ar y trên, buaswn naill ai'n gyrru am 20 munud i'r cyfeiriad anghywir, neu buaswn yn gyrru am 20 munud i Bort Talbot, sydd ychydig o dan hanner fy nhaith—tua 40 y cant o fy nhaith. Nid yw'n ymddangos yn werth newid y dull o deithio pan fyddwch wedi teithio mor bell â hynny. Credaf felly ei bod hi'n bwysig fod gennym gyfnewidfeydd bysiau a threnau a'n bod yn ei wneud yn hwylus i bobl.
Mae'r ail bwynt yn ymwneud â chael strategaeth ar gyfer symud pobl ar y rheilffordd rhwng mannau lleol. Dyma wrthdroi Beeching. I'r rhai nad ydynt yn gwybod beth a wnaeth Beeching, fe gafodd wared ar yr holl linellau cangen gan fod y prif reilffyrdd yn gwneud elw, heb sylweddoli bod y bobl a ddôi ar y llinellau cangen yn mynd ar y brif linell, felly'n sydyn iawn, nid yw'r brif reilffordd yn gwneud elw ychwaith. Rwyf eisiau gwrthdroi hynny.
A hefyd, mae gennym lawer o'r hyn a arferai fod yn hen orsafoedd. Gwn imi sôn am Landŵr yn aml, ond mae gennych lawer o orsafoedd y mae trenau'n mynd drwyddynt ar hyn o bryd—gorsafoedd sy'n bodoli. Gwn fod angen eu hadnewyddu, ond maent yn bodoli. Credaf fod angen inni edrych ar fwy o'r rhain. Rwy'n mynd i grwydro i ardal Jeremy Miles yn awr, oherwydd mae rhai yng Nghastell-nedd hefyd, ar y brif reilffordd. Gellid eu hailagor. Bydd rhywfaint o gostau wrth adnewyddu, ond gellir eu hailagor. Mae angen inni gael pobl allan o'u ceir, ond gadewch inni beidio â gwneud hynny pan fo gadael eu ceir yn peri anghyfleustra i bobl. Rydym yn gofyn iddynt wneud rhywbeth dros yr amgylchedd sy'n mynd i wneud dolur iddynt. Rwyf eisiau gofyn i bobl wneud pethau dros yr amgylchedd sydd o fudd iddynt hefyd, gan y byddant yn fwy tebygol o'i wneud.
Fel y dywedais droeon, mae angen strategaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn ninas-ranbarth bae Abertawe. A gaf fi wneud dau bwynt byr iawn? Un yw: rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gorsaf Castell-nedd yn parhau ar y brif linell ac nad yw'n cael ei thynnu oddi arni. Ac wrth gwrs, parcffordd Abertawe—cafodd ei chynllunio gan Awdurdod Datblygu Cymru yn y 1990au. Felly, nid yw'n newydd, ond nid yw'r ffaith nad yw'n newydd yn golygu nad yw'n syniad da.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Ken Skates.
Diolch, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, a diolch hefyd i Mike Hedges am ei gyfraniad i fater pwysig i lawer o bobl yn ardal bae Abertawe? Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y weledigaeth yn glir ac mae'r partneriaid am weithio gyda'i gilydd i gyflawni dinas-ranbarth bae Abertawe, gyda'r fargen ddinesig sydd wedi'i chysylltu mor agos ag ef.
Mae'r dull cydweithredol hwnnw o weithio'n rhanbarthol eisoes yn sicrhau canlyniadau, ac un enghraifft o hyn, wrth gwrs, yw parc busnes Parc Felindre. Mae'n safle cyflogaeth strategol o ansawdd uchel ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe, yn union fel y nododd Suzy Davies. Mae'n darparu tir gyda seilwaith llawn ar gyfer datblygwyr a phreswylwyr fel ei gilydd. Yn absenoldeb buddsoddiad sector preifat digonol mewn safleoedd newydd, datblygwyd Parc Felindre ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a chyngor Abertawe i ddenu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel i'r ardal. Mae'n cael ei farchnata'n weithredol, ac mae ein cyd-bartneriaid menter, cyngor Abertawe, bellach ar gam datblygedig yn y trafodaethau i ddod â'r datblygiad sylweddol cyntaf i'r safle. Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno ar gyfer 800 o anheddau a fydd yn cynnwys tai fforddiadwy a'r holl gyfleusterau cymunedol cysylltiedig y byddech yn eu disgwyl.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda chyngor dinas Abertawe er mwyn ei gwneud hi'n bosibl adfywio canol y ddinas a'r cyffiniau yn gyrchfan ddigidol a hamdden uwch-dechnoleg unigryw, bywiog a gwyrdd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—sy'n ddeniadol iawn i arloesedd, i fusnesau, i dwristiaid, i fyfyrwyr ac i fewnfuddsoddwyr yn ogystal.
Fel yr eglurwyd yn y ddadl hon heddiw, mae trafnidiaeth integredig—soniodd Mike amdani ar ddechrau ei araith; soniodd Suzy amdani hefyd—mae cysylltiadau trafnidiaeth integredig yn hanfodol i gyflawni'r weledigaeth o dwf economaidd. Dyna pam y gwnaethom ddyrannu £115,000 i gyngor dinas Abertawe y llynedd i arwain ar ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro de-orllewin Cymru. Gwnaethom ddarparu £700,000 pellach ar gyfer achos busnes mwy manwl y flwyddyn ariannol hon drwy'r gronfa trafnidiaeth leol. Mae cyngor Abertawe eu hunain yn cydlynu gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol y dinas-ranbarthau eraill yn ne-orllewin Cymru, ac mae'n hanfodol bwysig fod y gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn i sicrhau bod yr ateb yn cyflawni anghenion trafnidiaeth y rhanbarth yn y dyfodol.
Mae cysyniad y metro yn ddull amlfodd sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n cynnwys bysiau a threnau, wrth gwrs, sy'n gweithredu fel bod un yn cyfarfod â'r llall ar adegau rheolaidd ac yn brydlon, ac wrth gwrs, mae'n cynnwys teithio llesol. Er bod ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yn dal i fod yn fater a gadwyd yn ôl, bydd y gwaith yn adolygu cyfleoedd i ymestyn y rhwydwaith rheilffyrdd i ateb yr angen yn y dyfodol.
Cyfarfûm yn ddiweddar ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a hefyd gydag arweinydd y cyngor i drafod y cynnig ar gyfer gorsaf newydd yn Felindre. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnais i swyddogion gomisiynu dadansoddiad lefel uchel o effeithiau economaidd adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn y cyffiniau, a oedd hefyd yn cynnwys yr effaith ar ganol dinas Abertawe. Mae'n bwynt pwysig i'w wneud, wrth ddatblygu cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gorsaf barcffordd yn Abertawe, na ddylem danseilio neu ansefydlogi'r cynllun mwy hirdymor pwysig y mae'r cyngor a Llywodraeth Cymru yn cydweithio arno er mwyn adfywio canol y ddinas ei hun. Rwyf wedi trafod y mater hwn, fel rwy'n dweud, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac arweinydd cyngor Abertawe, Rob Stewart, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion a Trafnidiaeth Cymru sicrhau yr adlewyrchir y pryderon hyn ynglŷn â thwf canol y ddinas yn yr astudiaeth a gomisiynwyd. Felly, ar y cam hwn, mae cynnig sy'n dod yn rhan o ddatblygiad ehangach y metro ar gyfer y rhanbarth yn rhywbeth y byddai'n well gennyf ei weld.
Credaf ei bod hi'n bwysig wrth gwrs ein bod yn dilyn prosesau arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru—WelTAG—Llywodraeth Cymru ar gyfer penderfynu beth yw'r atebion gorau ar gyfer y rhanbarth. A thrwy ddilyn proses WelTAG Llywodraeth Cymru, byddwn yn bwrw ymlaen â chynigion sy'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn a chynigion a fydd hefyd yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'r enghreifftiau hyn yn rhannu'r un thema—trafnidiaeth, datblygu economaidd yn y rhanbarth—a'r thema honno yw cydweithio â'n partneriaid a chyda'n rhanddeiliaid. Yn fy marn i rydym yn gweithio ar y cyd yn awr i gyflawni gyda'n gilydd tuag at weledigaeth a rennir sy'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn i dyfu ein heconomi a darparu Cymru well ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Lluniwyd ein model datblygu economaidd newydd ag iddo ffocws rhanbarthol i alluogi economïau rhanbarthol llwyddiannus sy'n manteisio ar eu cryfderau a'u cyfleoedd unigryw. Ac rwy'n credu bod gan bob enghraifft dda o ddatblygiad economaidd rhanbarthol fecanwaith sy'n hwyluso meddwl cydgysylltiedig a chyflawniad cydgysylltiedig hefyd. Ac mae'n ymwneud â mwy na blaenoriaethu strwythurau dros ganlyniadau yn unig, ond cydnabod y cyd-ddibyniaethau rhwng y ddau a sicrhau bod gennym y strwythurau a'r mecanweithiau cywir ar waith i gyflawni'r canlyniadau rydym am eu gweld.
Lywydd dros dro, rydym wedi ystyried hefyd beth y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym am ein ffyrdd presennol o weithio, sut y byddent yn hoffi ein gweld yn gweithredu yn y dyfodol mewn ffordd sy'n eu cynnwys yn well yn y gwaith a wnawn, a dyna pam fod creu'r tair uned ranbarthol a'r prif swyddogion rhanbarthol mor bwysig. Credaf y byddem yn gwneud cam â ni ein hunain pe baem yn trin cynhyrchu cynlluniau rhanbarthol fel ymarfer drafftio'n unig. Rhaid iddynt ychwanegu gwerth yn hytrach na chymhlethdod, ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i ddwyn i fy sylw, a rhywbeth rwyf wedi rhoi sicrwydd yn ei gylch i awdurdodau lleol amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Ac mae'n golygu ystyried dibyniaethau â buddsoddiadau strategol ehangach. Buddsoddiadau megis, ie, bargeinion twf, metro de-orllewin Cymru, canolfannau trafnidiaeth cyhoeddus, ac adfywio ein stryd fawr, nid yn unig yn ninas-ranbarth Abertawe, ond trwy Gymru gyfan. Ond rwy'n hyderus, gyda mentrau'r dinas-ranbarthau, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd ar ymyriadau trafnidiaeth sy'n gwneud gwahaniaeth i economi a phobl ardal bae Abertawe, y byddwn yn gallu tanio twf economaidd pellach yn y rhanbarth hwnnw.
Diolch. Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:36.