Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
20/06/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r cwestiwn cyntaf, Gareth Bennett.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi cyfalaf yng Nghanol De Cymru? OAQ52360
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Er gwaethaf toriadau sylweddol i'n cyllideb gyfalaf gonfensiynol, mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi yng Nghanol De Cymru, gan gynnwys datblygu metro de Cymru, canolfan ganser newydd Felindre a 43 o brosiectau gwahanol sy'n cael eu cyflwyno drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
Diolch am eich ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r prosiect i ailagor twnnel y Rhondda fel llwybr cerdded a llwybr beicio. Yn dilyn adroddiad diweddar gan Balfour Beatty, cafwyd asesiad fod 95 y cant o'r twnnel mewn cyflwr da iawn. Nawr, mae'r Asiantaeth Priffyrdd yn gyfrifol am ddiogelwch y twnnel, ond ni chaniateir iddynt ailagor y twnnel. A fyddai Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried cymryd meddiant ar y twnnel gan yr Asiantaeth Priffyrdd er mwyn bwrw ymlaen â'r cynllun?
Diolch i Gareth Bennett am ei gwestiwn atodol. Mae'n llygad ei le. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy ein cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru i ariannu'r hyn a elwir yn arolwg tapio o dwnnel y Rhondda. Pan allwn ystyried canlyniad yr arolwg hwnnw—ac mae'n iawn i ddweud hefyd fod perchenogaeth ar y twnnel yn un o'r materion nesaf y byddai angen inni eu hystyried—edrychaf ymlaen at drafod yr hyn a allai fod yn bosibl nesaf gydag Aelodau o Blaid Cymru fel rhan o'n hystyriaethau cyllidebol.
Weinidog Cyllid, mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori ar hyn o bryd ar wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng yr M4 a'r A48 drwy bentref Pendeulwyn. A ydych mewn sefyllfa i roi gwybod i ni sut y byddai'r prosiect hwn yn cael ei ariannu? A fyddai hynny'n digwydd drwy'r fargen ddinesig, neu a fyddai'n rhaid gwneud cais yn uniongyrchol i chi, neu i Lywodraeth Cymru, dylwn ddweud, i ryddhau arian cyfalaf ar gyfer datblygu'r ffordd hon, oherwydd ar hyn o bryd, yn sicr yn ôl y sylwadau a gefais gan drigolion, ceir ansicrwydd ynglŷn â phwy sy'n talu am y gwelliant hwn i'r cysylltiadau trafnidiaeth?
Lywydd, hyd y gwn i, mae'n ddyddiau cynnar o hyd o ran y trafodaethau ynglŷn â’r trefniadau ariannu, pe bai'r prosiect hwnnw byth yn cael caniatâd i fynd rhagddo. Ceir cynseiliau ym margen ddinesig Abertawe am ffyrdd y gellir rhannu buddsoddiad rhwng Llywodraeth Cymru a bargen ddinesig. Byddaf yn gwneud ymholiadau, fodd bynnag, ac os caf wybodaeth fwy cyfredol, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i roi gwybod iddo.
Croesawaf yr hyn a ddywedoch yn awr am dwnnel y Rhondda, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf weledigaeth o lwybr beicio hollol hygyrch sy'n cyrraedd pob rhan o fy etholaeth. Ar hyn o bryd, mae'n dameidiog, a dweud y lleiaf. Ac mae’r weledigaeth yn cynnwys cysylltu twnnel y Rhondda a'r dyffryn cyfagos, Blaengwynfi. Nawr, byddaf yn cyfarfod cyn bo hir â gwahanol bartïon â diddordeb o safbwynt beicio i weld beth y gellir ei wneud i droi'r weledigaeth yn realiti. Weinidog, a ydych yn cefnogi hyn? A wnewch chi gytuno i fwrw ati ar y cwestiwn o berchnogaeth ar dwnnel y Rhondda fel mater o frys, ac a fyddech chi mewn egwyddor yn barod i weithio gyda ni yn y Rhondda ar droi'r weledigaeth feicio hon yn realiti?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am y wybodaeth ddiddorol iawn a ddarparwyd ganddi. Gallaf ddweud hyn, Lywydd: mae dyfodol y twnnel wedi cael sylw yn y trafodaethau a gynhaliais gyda Phlaid Cymru ynghylch y gyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gobeithio y cawn gyfle i gael rownd ychwanegol o'r trafodaethau hynny ochr yn ochr â'r broses bresennol o bennu'r gyllideb, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod, os mai dyna'r ffordd gywir o wneud pethau, i rannu'r wybodaeth sydd gennym o ganlyniad i'r hyn a gytunwyd hyd yn hyn, ac i glywed am bosibiliadau eraill y mae'n credu y dylem fod yn ymwybodol ohonynt.FootnoteLink
A wnaiff y Gweinidog Cyllid nodi buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y GIG a Chanol De Cymru o ganlyniad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ac a yw'n cytuno â Paul Johnson o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid na fydd unrhyw ddifidend Brexit i helpu i gyllido'r hwb ariannol ychwanegol i'r GIG, neu efallai hyd yn oed yn cytuno â Dr Sarah Wollaston, sy'n cadeirio pwyllgor iechyd Tŷ'r Cyffredin, a drydarodd fod hyn yn ddwli? Dywedodd fod
dwli difidend Brexit i'w ddisgwyl ond mae'n trin y cyhoedd fel ffyliaid. Trist gweld y Llywodraeth yn boddio dadleuon poblyddol yn hytrach na thystiolaeth ar fater mor bwysig.
Diolch i Jane Hutt, wrth gwrs, am hynny. Fe atebaf ei chwestiwn yn y ddwy ran y'i gofynnodd. Wrth gwrs, hoffem ddefnyddio cyllidebau Llywodraeth Cymru i barhau i fuddsoddi yn y GIG yng Nghanol De Cymru. Mae hynny'n cynnwys £37 miliwn sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd fel rhan o ddatblygiadau cyfnod 2 i wella gofal newyddenedigol yn yr ysbyty athrofaol yma yng Nghaerdydd; £14 miliwn yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, fel rhan o'r gwaith o uwchraddio'r cyfleusterau ar y safle hwnnw; ac £8 miliwn i greu canolbwynt diagnostig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sef un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous, yn fy marn i, sy'n llunio dyfodol gwasanaethau iechyd yn ardal Canol De Cymru. O ran yr honiad am yr hwb i'r GIG, pan fyddwn yn darganfod beth y mae hynny'n ei olygu i Gymru mewn gwirionedd, mae unrhyw awgrym fod hyn yn rhan o ryw fath o ddifidend Brexit wedi chwalu mor gyflym yn nwylo Prif Weinidog y DU fel bod yn rhaid ei bod yn difaru cynnwys hynny yn ei chyhoeddiad. Gwyddom, o unrhyw un o'r arolygon a welwn, fod hyn yn debygol o gael effaith andwyol ar yr economi ledled y Deyrnas Unedig, effaith andwyol ar dderbyniadau treth i'r Trysorlys. Ac nid yw unrhyw syniad—unrhyw syniad—fod y buddsoddiad angenrheidiol yn y GIG i'w gael yn y modd hwnnw yn gwneud dim heblaw tragwyddoli darn o nonsens a ddefnyddiwyd yn ystod ymgyrch y refferendwm. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Sarah Wollaston—mae'n siomedig iawn gweld rhywbeth sydd mor amlwg yn gamarweiniol yn cael ei ailadrodd eto.
2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglŷn â dyfodol cyllid strwythurol yr UE? OAQ52364
Wel, mae'r Prif Weinidog a minnau'n manteisio ar bob cyfle i drafod gyda Llywodraeth y DU, a diddordebau yma yng Nghymru, yr angen i gadw at yr addewid a wnaed i bobl Cymru ddwy flynedd yn ôl: na fyddai ceiniog o gyllid yn cael ei cholli o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Ddydd Llun, bûm yn ymweld â champws bae newydd Prifysgol Abertawe i weld sut y mae cronfeydd strwythurol Ewrop wedi cael eu defnyddio yno. A gwnaed argraff fawr iawn arnaf gan ansawdd eu prosiectau, yn enwedig gyda'u themâu cynwysedig, trawsbynciol ar ddatblygu cynaliadwy, trechu tlodi, ac allgáu cymdeithasol, ac yn enwedig gyda'r rhaglen addysg, hyfforddiant a dysgu ar ddeunyddiau a gweithgynhyrchu, sef rhaglen i uwchsgilio mwy na 360 o bobl, o 30 o wahanol gwmnïau, ym maes deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, rhaglen sydd hefyd yn mynd ati'n rhagweithiol i annog menywod i gymryd rhan. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yn rhaid inni sicrhau y gellir cynnal prosiectau o'r fath safon yn y dyfodol ac y dylai unrhyw gynnydd yn y dyfodol o ran datblygu rhanbarthol gynnwys safonau uchel, fel yr hyn a welwn gyda chronfeydd strwythurol Ewrop?
Wel, a gaf fi ddiolch i Julie Morgan am hynny, a diolch iddi, wrth gwrs, am y gwaith y mae'n ei wneud yn cadeirio pwyllgor monitro rhaglenni Cymru? A gwn fod hyn wedi bod yn thema yn ystyriaethau diweddar y pwyllgor monitro rhaglenni ynglŷn â'r ffordd y gellir defnyddio arian Ewrop i gynorthwyo gyda themâu trawsbynciol cydraddoldeb a chynaliadwyedd. A gwn ein bod wedi siarad yn y Siambr hon o'r blaen ynglŷn â'r ffordd y defnyddiwyd cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn benodol i annog menywod i gymryd rhan mewn gweithgynhyrchu uwch ac ym maes deunyddiau hefyd. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd, Lywydd, yn unol â gwarant y Canghellor, sef, os ydym yn ymrwymo i gyllid Ewropeaidd erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, mae'n ymrwymo i ddarparu ar gyfer hynny. Fy ngobaith, yng Nghyngor y Gweinidogion ym mis Hydref, yw y byddwn yn cael cyfnod pontio, a bydd hynny'n golygu y gallwn barhau i ddefnyddio arian Ewrop hyd at ddiwedd y cyfnod presennol o saith mlynedd, ac am ddwy flynedd wedi hynny. A bydd hynny'n caniatáu inni wneud yr hyn a ddywedodd Julie Morgan—sicrhau bod ansawdd y prosiectau y gallwn eu cyflwyno o'r un ansawdd â phrosiectau presennol.
Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a ydych wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad yr Athro Graeme Reid ar gyllid ymchwil. Daw i'r casgliad,
Rwyf wedi nodi cryfderau ac asedau cenedlaethol mawr ym mhrifysgolion Cymru ac mewn canolfannau ymchwil ac arloesi a ddatblygwyd yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf ond nid wyf yn argyhoeddedig fod potensial yr asedau hyn yn cael ei wireddu'n llawn er budd Cymru.
Ac aiff yn ei flaen i ddweud bod angen i'r gymuned ymchwil weithio gyda'i gilydd i ddod yn fwy dylanwadol wrth sicrhau cyllid cystadleuol. Ac mae hynny'n bwysig iawn os gallwn barhau ar y lefel Ewropeaidd am beth amser neu ar beth bynnag a ddaw drwy lefel y DU ar ffyrdd cronfeydd ffyniant a rennir neu fecanweithiau eraill y gellir eu cytuno yn awr.
Wel, diolch i David Melding am hynny. Rwy'n gyfarwydd ag adolygiad Reid a'i gasgliadau. Mae David Melding yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yr adolygiad hwnnw ac eraill wedi craffu ar arian Horizon 2020 gan yr Undeb Ewropeaidd, lle mae Cymru'n gwneud yn well na'r disgwyl. Rydym yn cael mwy o lawer yn ôl drwy brosiectau Horizon 2020 nag y byddech yn ei ddisgwyl gan sector addysg uwch o'n maint, a golyga hynny fod sicrhau mynediad parhaus at raglenni o'r fath wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd yn hanfodol bwysig ar gyfer ein cymuned ymchwil. Fel y dywed Reid, mae angen iddynt barhau i gynyddu faint o grantiau y maent yn eu sicrhau gan arianwyr mawr, megis y Cyngor Ymchwil Feddygol a chynghorau eraill y DU, ond mae'r hyn y maent yn ei sicrhau, gan weithio gyda chydweithwyr o Horizon 2020 ledled Ewrop, yn golygu bod eu rhaglen olynol a'n gallu yng Nghymru i gael mynediad ati yn arbennig o bwysig i gyrff ymchwil yma yng Nghymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ynglŷn â'r defnydd arfaethedig o'r model buddsoddi cydfuddiannol, ac yn benodol mewn perthynas ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Fe fyddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn archwilio'r defnydd o'r model buddsoddi cydfuddiannol er mwyn ariannu prosiectau cyfalaf, a band B o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn benodol.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryderon ynglŷn â fforddiadwyedd y model, ar sail eu profiad blaenorol gyda mentrau cyllid preifat. Mae rhai pryderon ehangach hefyd ynghylch cloi awdurdodau lleol ac ysgolion i mewn i gontractau 25 mlynedd. Yn eu plith roedd natur newidiol y cwricwlwm ysgol dros y cyfnod hwn, a fydd yn arwain, yn anochel, at anghenion newidiol ar gyfer adeiladau ysgol yn y tymor hir. Felly, mae'r holl faterion hyn yn peri pryderon, ac fel y dywedaf, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn eu harchwilio. Tybed a allech roi sylwadau ar ddatblygiad y model buddsoddi cydfuddiannol ac i ba gyfeiriad y credwch y gallwn fynd er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn?
Wel, diolch i Nick Ramsay am hynny a diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am eu gwaith yn archwilio'r model. Rwy'n siŵr y bydd pethau y byddwn yn awyddus i'w dysgu o'r gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud. Lywydd, gobeithiaf wneud datganiad cyn bo hir, yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â'r model buddsoddi cydfuddiannol, gan gynnwys y diddordeb mawr a fynegwyd ynddo gan y Cenhedloedd Unedig wrth archwilio'r ffyrdd y gallai ein harloesedd wrth greu'r model hwnnw fod o ddiddordeb i wledydd eraill sydd hefyd yn chwilio am ffyrdd arloesol o ehangu rhaglenni buddsoddi cyfalaf.
Mewn perthynas â band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn benodol, yn hytrach na mentrau cyllid preifat lle nad oes gennym fawr o ddefnydd ohonynt, credaf mai'r gyfatebiaeth gywir i awdurdodau lleol ei hystyried yw'r ffordd yr ydym, drwy ddefnyddio syniadau a ddatblygwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, wedi gallu defnyddio gallu awdurdodau lleol i wneud i bethau ddigwydd, ac yna ariannu canlyniadau refeniw hynny i'w galluogi i ddefnyddio'r gallu sydd ganddynt i fuddsoddi ym maes cyfalaf, a dyna y byddem yn awyddus i'w wneud yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
O ran y ddadl ynglŷn â chloi awdurdodau lleol i mewn i asedau na fyddant eu hangen, o bosibl, yn y tymor hir, mae hwnnw'n bwynt pwysig. Mae angen i awdurdodau lleol feddwl yn ofalus ynglŷn â'r ffordd y maent yn cyflwyno cynigion i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol mewn perthynas ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Er enghraifft, credaf ei bod yn annhebygol y byddai ysgolion arbennig yn addas ar gyfer y model hwn, gan fod natur addysg arbennig yn newid, ac mae dwysedd y defnydd o ysgol arbennig o ran yr adeiladwaith ffisegol, yn anochel, o gofio natur y boblogaeth ddisgyblion y maent yn eu gwasanaethu, yn ddwys hefyd, ac felly bydd y model yn addas ar gyfer rhai agweddau ar yr ystâd ysgolion, ond nid pob un o reidrwydd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe sonioch chi am y ffordd y mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn wahanol i fenter cyllid preifat; credaf fod y mater wedi peri rhywfaint o ddryswch. Ceir diffyg eglurder ynghylch natur y gwahaniaethau rhyngddo a mentrau cyllid preifat traddodiadol. Os caf roi rhai enghreifftiau: mewn menter cyllid preifat gonfensiynol—cytundeb PF1 neu PF2—ystyrir bod gwasanaethau meddal yn cynnwys arlwyo a darpariaethau glanhau fel arfer. Pa wasanaethau rydych yn rhagweld y byddant yn cael eu cynnwys, neu eu heithrio, os yw hynny'n haws, o'r model buddsoddi cydfuddiannol yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Dywedaf hyn yng ngoleuni hanesion sy'n peri pryder ynglŷn ag ysbytai mentrau cyllid preifat yn wynebu costau sylweddol er mwyn ymdrin â mân faterion cynnal a chadw, megis un ysbyty menter cyllid preifat a gafodd fil o £333 am osod bwlb golau newydd—enghraifft eithafol, ond serch hynny, dyma rai o'r pryderon sydd wedi bod yn gysylltiedig â mentrau cyllid preifat, ac sy'n ymwneud â'r model buddsoddi cydfuddiannol ar hyn o bryd hefyd.
Lywydd, fe wnaf fy ngorau yn y datganiad y gobeithiaf ei gyhoeddi cyn bo hir i ailddatgan rhai o elfennau allweddol y model, fel y gall pobl eu deall yn glir. Gadewch imi grybwyll tair yng nghyswllt y cwestiwn a ofynnwyd gan Nick Ramsay: un o nodweddion allweddol y model yw ei fod yn caniatáu i'r sector preifat rannu unrhyw elw i'r partner preifat ac i gymryd hyd at 20 y cant o ecwiti mewn cynlluniau o'r fath er mwyn gwneud hynny. Mae'r model yn cael gwared ar wasanaethau meddal o gontractau—gwasanaethau meddal megis glanhau ac arlwyo—ac yn cael gwared ar offer o'r model hefyd, oherwydd y profiad y cyfeiriodd Nick Ramsay ato, ac oherwydd y gellir ariannu offer yn fwy effeithlon o gyfalaf cyhoeddus. Felly, rydym wedi ceisio dysgu gwersi o fodelau mewn mannau eraill, yn enwedig model dosbarthu nid-er-elw yr Alban, a sicrhau bod y model rydym yn ei ddyfeisio yma yng Nghymru yn dysgu'r gwersi hynny ac yn cael gwared ar y cydrannau sydd wedi bod yn arbennig o anfoddhaol mewn ffyrdd blaenorol o weithio.
Rwy'n amau bod fy nghwestiynau wedi achub y blaen ar ddatganiad y gellir ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Efallai fy mod ar flaen y gad.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr o ran y gwaith rydym wedi'i wneud yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cafwyd neges fod yna bryderon ynghylch diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ynglŷn ag union natur y model buddsoddi cydfuddiannol, ond yn amlwg, pan fyddwch yn cyhoeddi'ch datganiad, byddwch yn amlwg yn gobeithio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn.
Mewn tystiolaeth a ddarparwyd i'r pwyllgor gan Gyngor Bro Morgannwg, eglurwyd y credid y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian y maent yn ei ddyrannu i ysgolion unigol at ddibenion gwaith cynnal a chadw er mwyn ad-dalu eu rhwymedigaethau o dan y model. Fodd bynnag, aeth cynrychiolydd Bro Morgannwg ymhellach ac esbonio na fyddai'r swm o arian y mae ysgolion yn ei dderbyn at ddibenion gwaith cynnal a chadw yn ddigon, o reidrwydd, i dalu am y taliad blynyddol hwnnw. Felly, mae hynny wedi bod yn achos pryder. O gofio angen y cynghorau i ddibynnu ar eu cyllidebau refeniw i ariannu ad-daliadau i'r model, a'r angen i gydbwyso hynny'n ofalus gydag ariannu gwasanaethau eraill, a yw'n wir fod dadl i'w chael yma dros ddarparu canllawiau cliriach i awdurdodau lleol fel y gallant, yn sicr wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda'u cyllidebau, reoli'r cyllidebau hynny'n fwy effeithiol yn ogystal â sicrhau arian cyfatebol pan fo angen er mwyn llenwi unrhyw fylchau a allai ddod i'r amlwg?
Lywydd, edrychaf ymlaen at ddarllen y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac os oes meysydd lle mae angen trafodaethau pellach gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cyngor clir ar gael, byddem yn sicr yn awyddus i wneud hynny. Rwyf wedi fy nghalonogi gan nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi cyflwyno cynigion i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol er mwyn sicrhau rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yn ein hystâd ysgolion, fel y dymunant ei wneud—gan gynnwys Bro Morgannwg. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny, a lle y ceir materion technegol y mae angen mynd i'r afael â hwy i sicrhau y gall y model gyflawni ar lawr gwlad, byddem yn awyddus i gael y sgyrsiau hynny gyda hwy wrth gwrs.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel rwyf newydd ei glywed yn ystod y sesiwn yma, mae'r cronfeydd strwythurol wedi bod yn bwysig iawn i Gymru ac i economi Cymru, ac fel rhan o baratoi tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi dechrau ar ymchwiliad i'r cronfeydd strwythurol, er enghraifft, beth ddaw yn eu lle nhw: cronfa cyfoeth ar y cyd, Horizon 2020, sydd newydd gael ei grybwyll.
Yn y broses yna, rydym wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol ddod i'r pwyllgor i roi tystiolaeth ac nid oedd yn syndod i fi, ond roedd e, serch hynny, yn dipyn o sioc, mewn ffordd, i dderbyn llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud nad oedd e'n meddwl bod angen iddo ddod i’r pwyllgor. Mwy na hynny, nid yw wedi paratoi unrhyw dystiolaeth ar gyfer y pwyllgor. Nid wyf yn meddwl bod hyn yn dangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â phwyllgorau’r Cynulliad hwn mewn ffordd sydd yn briodol ac sydd yn barchus, ond a fedrwch chi ddweud eich hun, a ydych chi’n ymddiried yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i baratoi’r ffordd tuag at ariannu strwythurol dros bob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol wrth inni weld y cronfeydd strwythurol yn diflannu?
Wel, nid yw’n dderbyniol i mi, ac rwy’n siŵr nid yw’n dderbyniol i’r Pwyllgor Cyllid hefyd pan maen nhw’n gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol, y person yn San Steffan sy’n gyfrifol—maen nhw’n dweud—i ni yng Nghymru ac nid yw’n fodlon dod i roi tystiolaeth i’r pwyllgor.
Rwyf wedi darllen nifer o bethau sydd wedi dod i mewn i’r pwyllgor o bobl eraill, ac mae lot o dystiolaeth ddiddorol wedi dod i mewn. Gwelais i Julie Morgan a phobl eraill o flaen y pwyllgor. Rwy’n edrych ymlaen at ddod hefyd. Nid hwn yw'r tro cyntaf i’r Ysgrifennydd Gwladol gael cyfle i ddod i’r Pwyllgor Cyllid, ac nid ydy e’n fodlon gwneud hynny. Rwy’n derbyn bob tro, bob cyfle sydd gyda fi, i godi dyfodol y cronfeydd strwythurol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond nid hynny yw'r unig ffordd i wneud hynny.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Credaf mai'r drafferth yw y gallaf weld hyn fel rhan o batrwm o ymddygiad gan nifer o Weinidogion Ceidwadol bellach, sydd, yn anffodus, yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwyluso yn hytrach na'i atal—drwy amryfusedd, efallai.
Rhoddaf enghraifft arall ichi o'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Fel y gwyddoch, mae gennych gytundeb rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac mae'n dweud yn glir iawn y bydd Llywodraeth y DU yn ymrwymo i beidio â chyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n newid meysydd polisi i'r graddau bod y deddfwrfeydd datganoledig wedi'u hatal rhag gwneud hynny yn rhinwedd rheoliadau cymal 11. Felly, mae'r hyn rydych wedi'i ddweud wrth y Cynulliad hwn yn ystrywio hynny, os mynnwch.
Fodd bynnag, mae gwelliant a basiwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi—gwelliant Letwin, fel y'i gelwir—yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Bil drafft sy'n cynnwys rheoliadau amgylcheddol yn Lloegr, ond nid yw'n dweud yn benodol fod hynny ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr yn unig. Ac wrth gwrs, mae rheoliadau amgylcheddol yn un o'r 24 maes polisi sy'n rhan o'ch cytundeb rhynglywodraethol.
Mae Tim Lang o City, Prifysgol Llundain eisoes wedi dweud bod y cytundeb rhynglywodraethol hwn yn dangos y gall Whitehall gerdded dros Gymru. A ydych yn argyhoeddedig o hyd fod y cytundeb yn ddigon cadarn i ddiogelu buddiannau Cymru? A ydych yn argyhoeddedig o hyd nad yw gwelliant Letwin, ac ymateb Llywodraeth y DU iddo, yn dangos bod Llywodraeth San Steffan eisoes yn tanseilio'r cytundeb a'r inc prin wedi sychu arno?
Wel, Lywydd, mae'r Athro Lang yn gwbl anghywir, ac nid oes ganddo unrhyw dystiolaeth i'w honiad gan nad oes unrhyw gamau wedi'u cymryd o dan y cytundeb rhynglywodraethol. Felly, ni allai ddibynnu ar unrhyw beth i gefnogi ei honiad.
O ran gwelliant Letwin, mae'r Aelod yn ymwybodol, gan fod y Prif Weinidog wedi dweud ddoe, y rhoddwyd sicrwydd penodol yn Nhŷ'r Arglwyddi fod y gwelliant yn cyfeirio at Loegr yn unig; nad yw'n tresmasu ar gymwyseddau datganoledig. Cafwyd trafodaeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn y Pwyllgor Busnes ddoe ynglŷn â'r angen i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Byddai'r Llywodraeth wedi cyflwyno un pe bai'r Pwyllgor Busnes wedi dod i'r casgliad fod newidiadau i'r Bil yn cael effaith sylweddol ar y cyfrifoldebau sydd gennym yma. Daeth y Pwyllgor Busnes i'r casgliad nad oedd hynny'n wir, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu cryfder y sicrwydd a gawsom.
Credaf y bydd hyn yn parhau am beth amser, a byddwn yn gweld realiti'r cytundeb wrth i bethau eraill ddod i'r amlwg. Un o'r pethau a fydd yn dod i'r amlwg heddiw yn San Steffan, wrth gwrs, yw'r bleidlais derfynol, yn fy marn i, i gynnal sofraniaeth seneddol ac i sicrhau mai'r Senedd, nid y Llywodraeth, sydd â'r gair olaf ystyrlon ar y cytundeb Brexit sy'n cael ei negodi a'i gytuno gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Ym mis Mawrth eleni, pan ofynnwyd iddo a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael pleidlais ystyrlon o'r fath, hefyd ar y cytundeb terfynol gyda'r Undeb Ewropeaidd, atebodd y Prif Weinidog drwy ddweud, a dyfynnaf,
'Ni fyddai'n iawn mewn egwyddor i ni gael ein rhwymo gan rywbeth nad oedd gennym unrhyw rôl yn ei negodi na'i gytuno.'
Felly, beth yr awgrymwch yn awr a ddylai ddigwydd i sicrhau bod Cymru, ac felly'r Senedd hon, yn cael pleidlais gyfwerth fel y gallwn ddweud ein dweud ar y cytundeb Brexit terfynol?
A gaf fi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, ond nid yn hollol yn yr un ysbryd a'i dywedodd? Mae'n iawn i ddweud y byddwn yn byw effaith y cytundeb drwy'r profiad a gawn dros y misoedd nesaf, a chredwn fod y cytundeb yn diogelu sefyllfa'r Cynulliad hwn. Bydd unrhyw bwerau y cytunwn y dylid eu dal dros dro, i'w gweithredu yn erbyn llyfr rheolau'r UE hyd nes y byddwn yn cytuno ar rywbeth gwahanol, yn dod gerbron y Cynulliad hwn i'w cymeradwyo. A bydd sawl cyfle i'r Cynulliad weld a yw'r cytundeb a gyrhaeddwyd yn bodloni'r disgwyliadau hynny.
O ran y bleidlais ystyrlon, mae ail bwynt penderfynu'n dod yn sgil yr holl fusnes Brexit, gan y bydd pwynt yn dod pan fydd Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn dod i gytundeb a fydd yn nodi'r telerau ar gyfer gadael yr UE. Diben y bleidlais ystyrlon yn y Senedd yw sicrhau bod gan y Senedd drosolwg priodol ar y broses honno. Bob tro y clywais y Prif Weinidog yn siarad am hyn, mae'n cyfeirio at drosolwg Seneddau'r Deyrnas Unedig o'r broses honno, ac mae hynny'n awgrymu i mi nad yw'r safbwyntiau a fynegodd wrth y Cynulliad yn gynharach wedi newid.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae Llafur bellach yn credu, yn ôl eu gwelliant arfaethedig yr wythnos diwethaf i'r Bil ymadael â'r UE, y dylem gael mynediad llawn at farchnad fewnol yr Undeb Ewropeaidd, wedi'i ategu gan sefydliadau a rheoliadau a rennir, heb unrhyw rwystrau newydd i fasnach a safonau ac amddiffyniadau hawliau cyffredin fel gofyniad sylfaenol. Mae'n berffaith amlwg o ddull Monsieur Barnier o arwain y trafodaethau hyd yn hyn ei fod yn credu bod y farchnad sengl yn anwahanadwy a bod yn rhaid iddi gynnwys rhyddid i weithwyr symud. Prif nod negodiadau Monsieur Barnier yw annog aelod-wladwriaethau eraill yr UE i beidio â dilyn esiampl Prydain, yn hytrach na dod i gytundeb sydd er budd pobl gyffredin yn Ewrop, ac yn llai fyth ym Mhrydain.
Dywedodd Jeremy Corbyn, yn y dyddiau pan oedd yn Ewrosgeptig lai na blwyddyn yn ôl, na fyddai unrhyw weithwyr ar gyflogau gwael yn cael eu mewnforio'n gyfanwerthol o ganolbarth Ewrop o dan y Blaid Lafur er mwyn dinistrio amodau, yn enwedig yn y diwydiannau adeiladu. O gofio bod aelodaeth lawn o'r farchnad sengl yn golygu rhyddid i weithwyr symud, sut y gellir cysoni'r ddau ddatganiad?
Cyfeiriaf yr Aelod at y dogfennau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru: yn wreiddiol, y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ar y cyd gyda Phlaid Cymru ac yna'r papur dilynol a gyhoeddwyd gennym ar degwch o ran symudiad pobl, sy'n ateb y cwestiwn a ofynnodd ar ei ben, yn fy marn i, gan ein bod wedi nodi cyfres o gynigion yn y papur hwnnw y credwn y gellid eu cynnwys o dan ymbarél eang rhyddid i symud.
Un o'r mythau sydd ynghlwm wrth y ddadl ynghylch yr UE yw bod rhyw fath o safonau unigol ynghylch beth y mae'r gwahanol fathau hyn o ryddid—y pedwar rhyddid—yn ei olygu mewn gwirionedd. Dehonglir y rhyddid i symud yn wahanol iawn mewn gwahanol aelod-wladwriaethau o un rhan o'r Undeb Ewropeaidd i'r llall. Rydym wedi nodi cyfres o awgrymiadau y credwn y byddent yn ein caniatáu i aros o dan yr ymbarél eang hwnnw, ond a fyddai'n cael yr effaith y cyfeiriodd Jeremy Corbyn ati hefyd—na ddylai'r rhyddid i symud ddod yn rhyddid i ecsbloetio. Ac nid oes unrhyw amheuaeth fod rhai o'r bobl a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud hynny am eu bod yn ofni bod y rhyddid i symud wedi dod yn ddyfais i gadw cyflogau i lawr a bod hawliau cyfreithiol pobl yn cael eu tanseilio o ganlyniad i gludo pobl dros gyfandir Ewrop i gael eu hecsbloetio yma. Nodwyd cyfres o gynigion gennym i sicrhau nad yw hynny'n digwydd, a chyda'i gilydd, maent yn rhoi'r atebion i'r cwestiwn a ofynnodd yr Aelod.
Wrth gwrs, nid yw gofyn am rywbeth nad yw ar gael yn ateb i'r cwestiwn. Fe ŵyr cystal â minnau—rhaid bod rhywun mor wybodus a soffistigedig â'r Ysgrifennydd cyllid yn gwybod—na allai'r Comisiwn Ewropeaidd ganiatáu i'r Deyrnas Unedig wyro oddi wrth reoliadau'r UE ar ryddid i symud yn yr un modd ag y mae'r Blaid Lafur wedi'i honni. Yn wir, gelwir hyn yn 'cakeism' gan y Comisiwn Ewropeaidd—ei chael hi bob ffordd. Mae ffynhonnell agos at Guy Verhofstadt, prif negodydd Senedd Ewrop ar y materion hyn, yn dweud bellach fod
Llafur cyn waethed â'r Torïaid, yn gwerthu ungorn er mwyn papuro dros eu hymraniadau mewnol.
Onid yw'n amlwg mai polisi Llafur bellach yw y byddwn yn derbyn rheolau mewn perthynas â nwyddau a dyfarniadau llysoedd Ewrop? Mae hynny'n golygu peidio ag adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau. Mae credu mewn ymochredd llawn yn golygu dim cytundebau masnach rydd â gweddill y byd sy'n golygu nad ydym yn adfer rheolaeth dros ein polisi llafur, ac mae cyfaddawd ar ryddid i symud yn golygu nad ydym yn adfer rheolaeth dros ein ffiniau. Bydd hyn yn costio, hefyd; yn union fel Norwy, bydd yn rhaid inni dalu i'r gyllideb Ewropeaidd, sy'n golygu peidio ag adfer rheolaeth dros ein harian.
Wel, Lywydd, nid wyf erioed wedi rhannu barn yr Aelod fod y Comisiwn yn rhyw fath o rym milain sy'n ceisio ein niweidio bob amser. Yn fy mhrofiad i o fynd i Frwsel a siarad â phobl yno, credaf ein bod yn ffodus fod gennym grŵp o bobl ar ochr arall y bwrdd negodi sy'n cydnabod ei bod yn fuddiol iddynt hwy ac i ninnau gytuno ar gytundeb Brexit sy'n gwneud cyn lleied o niwed â phosibl i'w heconomïau ac i economi'r Deyrnas Unedig. Credaf mai yn yr ysbryd hwnnw y cynhelir y negodiadau. Polisi'r Blaid Lafur yng Nghymru yw'r polisi a nodir yn ein Papur Gwyn gwreiddiol, sef ymagwedd tuag at Brexit sy'n mynnu mai anghenion ein heconomi, anghenion swyddi, anghenion pobl sy'n gweithio, a ddylai fod ar frig rhestr negodi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'r holl sôn am adfer rheolaeth, o fod yn gyfrifol am ein cyfreithiau, yr holl bethau hynny, yn ein harwain at gyfres o linellau coch a fydd yn golygu, yn y pen draw, fod Llywodraeth y DU wedi llwyddo i wneud rhywbeth rhyfeddol—bydd wedi llwyddo i niweidio ein heconomi ac i sicrhau bod ein llais gwleidyddol wrth wneud penderfyniadau wedi'i leihau. Mae ffordd wahanol i'w chael, ffordd well, ac mae'r Blaid Lafur wedi nodi'r ffordd honno.
Gwn nad yw'r Blaid Lafur yn credu mewn llinellau coch; maent yn credu mewn codi baneri gwyn ar y materion hyn—baner wen i ildio i'r UE ar yr holl faterion pwysig. Mae'r Blaid Lafur yn blaid ryng-genedlaethol, ac maent yn gyson yn nodi eu rhinweddau mewn perthynas â buddiannau gwledydd tlawd mewn rhannau eraill o'r byd am resymau rwyf innau, i raddau helaeth, yn cytuno â hwy. Mae undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd yn sgêm ddiffyndollol sy'n amharu ar ein masnach gyda gweddill y byd, yn dal y bobl dlotaf yn ôl dramor, gan godi prisiau a chostau i'r bobl dlotaf gartref. Mae hynny, felly, yn dangos mai nonsens yw'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â rhoi buddiannau pobl sy'n gweithio, boed gartref neu dramor, ar frig yr agenda.
Wel, Lywydd, mae'n sicr er budd pobl sy'n gweithio ledled Cymru, boed yn y diwydiannau gweithgynhyrchu, lle mae nwyddau'n croesi ffiniau'r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd bob dydd, neu yn ein sectorau bwyd ac amaethyddiaeth, lle mae allforwyr yn dibynnu ar allu cael eu nwyddau i'r man lle y cânt eu bwyta yn ffres—mae'n sicr er budd busnesau Cymru a phobl sy'n gweithio yng Nghymru fod gennym fasnach rydd a diffrithiant. Dyna mae'r undeb tollau yn ei sicrhau, a phan fydd gennym rwystrau ar y ffin, a busnesau yng Nghymru na allant fasnachu mwyach o ganlyniad i'r prosbectws y mae'n ei nodi, fe'u dargyfeiriwn at yr Aelod er mwyn iddo ef allu egluro'r sefyllfa y mae wedi ein harwain iddi.
3. Beth yw goblygiadau ariannol methu â chadw'r farchnad gyffredin ar gyfer masnachu nwyddau rhwng Cymru a gweddill Ewrop? OAQ52377
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn dilynol perthnasol iawn. Mae economi'r DU eisoes wedi newid o fod yn un o'r economïau mawr sy'n tyfu gyflymaf i fod yr arafaf yn y G7, o ganlyniad i'r ansicrwydd a grëwyd yn sgil dull di-drefn Llywodraeth y DU o ymdrin â Brexit. Bydd unrhyw leihad yn y mynediad at farchnadoedd Ewrop yn cyfyngu ar dwf, yn arwain at golli swyddi ac yn peryglu'r adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ganolbwyntio ar y goblygiadau posibl o ran y bwyd rydym yn ei fewnforio os bydd yn rhaid inni orfodi tariffau ac anhrefn ar ein ffiniau. Ar hyn o bryd, rydym yn mewnforio gwerth £9 biliwn o ffrwythau a llysiau o'r Undeb Ewropeaidd, o gymharu â'r gwerth £1 biliwn o ffrwythau a llysiau rydym yn eu tyfu yn y wlad hon, felly mae hwn yn fater arwyddocaol iawn o ran y math o fwyd y mae angen inni ei fwyta i gadw'n iach. Gwn fod rhai elfennau yn y Blaid Geidwadol yn cefnogi mewnforio bwyd rhad o'r Unol Daleithiau, fel cyw iâr clorinedig a chig eidion a driniwyd â hormonau, ond mae'r rhan fwyaf ohonom eisiau gwybod am yr amodau y caiff ein bwyd ei dyfu ynddynt, ac yn benodol, tybed pa ystyriaeth a roddwyd i ddiogelu'r cyflenwad bwyd, oherwydd os na allwn gael gafael ar y cynhyrchion rydym yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd, yn amlwg, bydd cynnydd enfawr yng nghost y cynhyrchion hynny, ac ni fydd digon ar gael i fwydo'r boblogaeth. Ni wyddom o hyd beth fydd dyfodol taliadau colofn 1. Mae Gove yn dweud pethau mawr am golofn 2 a manteision amgylcheddol nwyddau cyhoeddus, ond beth fydd y goblygiadau o ran cynhyrchu bwyd, er mwyn bwydo ein poblogaeth ein hunain, os nad oes gennym ryddid i symud y nwyddau hanfodol hyn o Ewrop?
Wel, diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn dilynol. Yn fy ateb i Neil Hamilton, canolbwyntiais ar effaith Brexit caled ar allforwyr bwyd, ond mae'n llygad ei lle i dynnu sylw at yr effaith ar y bwyd rydym yn ei ddefnyddio yn y wlad hon pe baem yn cael naill ai Brexit caled a fyddai'n golygu na allem fewnforio bwyd ffres mewn modd amserol, neu'r math o Brexit y mae pobl Brexit digyfaddawd yn ei awgrymu, lle byddem yn aberthu safonau amgylcheddol a safonau bwyd er mwyn ceisio ennill bywoliaeth ar draws y byd. Nid oes yr un o'r rheini'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru, nac i bobl Cymru. Roeddwn yn Weinidog iechyd yn ystod y sgandal cig ceffyl, pan welsom beth sy'n gallu mynd o'i le pan nad oes gennych safonau priodol—[Torri ar draws.]—pan nad oes gennych safonau priodol i sicrhau bod y bwyd sy'n cyrraedd platiau pobl yma o safon—[Torri ar draws.] Mae arnaf ofn nad oes unrhyw—[Torri ar draws.]
Mark Reckless.
Rwy'n rhyfeddu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhyddhau'r UE o bob cyfrifoldeb am y sgandal cig ceffyl. Mae'n syfrdanol ei fod yn dweud bod Jenny Rathbone yn 'llygad ei lle' pan ddywed y bydd yn rhaid inni osod tariffau, ond Ysgrifennydd y Cabinet, onid dewis ar gyfer y wlad hon yw gosod tariffau ai peidio? O gofio ein bod wedi cael ardal masnach rydd gyda'r UE, gallem gynnal hynny'n unochrog am hyd at 10 mlynedd heb orfod newid ein tariffau Sefydliad Masnach y Byd mewn mannau eraill. Ac onid yw'n wir, yn y senario lle byddem yn newid i dariffau Sefydliad Masnach y Byd, sy'n sicr yn rhywbeth nad wyf yn ei gefnogi, byddai hynny'n arwain at oblygiadau cadarnhaol i nifer o sectorau? Ar hyn o bryd mae gennym—. Mae chwarter yr holl gig eidion rydym yn ei fwyta yn cael ei gyflenwi gan Iwerddon. Pe baem yn sydyn yn gweld tariff o 50 y cant ar laeth a chig eidion o Iwerddon, oni fyddai hynny'n rhoi cyfleoedd enfawr i'r sector cig eidion a llaeth yng Nghymru?
Ymddengys i mi fod yr Aelod yn rhywun sy'n lledaenu rhai o'r mythau mwyaf niweidiol ynghylch Brexit. Hoffwn fynd ag ef i gyfarfod â phobl yn y diwydiant cig eidion yng Nghymru i glywed beth sydd ganddynt i'w ddweud ynglŷn â'r risgiau i'w bywoliaeth yn sgil y math o bolisïau y byddai ef yn awyddus i'w dilyn, ac nid yw'n wir o gwbl, Lywydd, ac mae hyn yn un o'r mythau Brexit sy'n cael eu lledaenu dro ar ôl tro, ein bod rywsut, drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, yn symud i ryw le heb reolau lle y gallwn wneud unrhyw beth y dymunwn pryd bynnag y dymunwn. Ni fydd hynny byth yn wir. Ni waeth pa drefniadau a fydd gennym, bydd yna reolau y bydd yn rhaid inni eu derbyn, a chan na fyddwn yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd mwyach, ni fydd gennym y gallu i negodi a ddaw yn sgil bod yn rhan o un o flociau mawr y byd, a bydd y termau y bydd yn rhaid inni ddod i'r math o gytundebau y mae ef yn eu cymryd yn dermau a fydd yn dra anfanteisiol i'r wlad hon.
Credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn yno ar oblygiadau Brexit i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae fy etholaeth i yn enghraifft berffaith, mewn gwirionedd, gydag etholaeth a bleidleisiodd i adael, ond sy'n un â diwydiant yn ganolog iddi, a diwydiant pwysig iawn hefyd. Mae sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw rhwng gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau'r fargen orau yn eithriadol o anodd, ond mae'n hanfodol bwysig. Mae Airbus, yn yr etholaeth, yn enghraifft berffaith o gyfraniad a chydweithrediad Ewropeaidd. Mae fy nghwestiwn yn syml, Ysgrifennydd y Cabinet: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryderon fod busnesau eisoes yn gorfod cynllunio ar gyfer y math gwaethaf o gytundeb gan nad oes unrhyw eglurder nac arweiniad gan Lywodraeth y DU?
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am hynny? Yn yr amser cymharol fyr y mae wedi bod yn Aelod Cynulliad, mae eisoes wedi dod i amlygrwydd fel llefarydd pwysig ar ran y diwydiant awyrofod, oherwydd ei bwysigrwydd i'w etholaeth ei hun. Lywydd, mae rhai dadansoddiadau difrifol yn awgrymu mai'r diwydiant awyrofod yng Nghymru yw'r diwydiant a fyddai'n cael ei beryglu fwyaf oll yn sgil Brexit llawn tariffau. Nid yw hynny'n syndod, ydy e, gan fod y diwydiant awyrofod yn dibynnu ar gydrannau'n croesi ffiniau bob dydd er mwyn gallu llwyddo. Felly, mae Jack Sargeant yn llygad ei le yn tynnu sylw at y peryglon a fyddai'n wynebu diwydiannau a swyddi yn ei rannau ef o Gymru pe na baem yn llwyddo i negodi Brexit synhwyrol sy'n rhoi swyddi a'n heconomi ar y brig yn y negodiadau hynny.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Ngogledd Cymru? OAQ52356
A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn? Cyfrifoldeb awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd yw pennu'r dreth gyngor. Maent yn atebol i'w poblogaethau lleol am y penderfyniadau a wnânt. Unwaith eto, rydym wedi parhau i amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf cyni yn y setliad ar gyfer 2018-19.
Diolch am eich ateb. Rwy'n croesawu'r ffaith bod wyth awdurdod lleol wedi rhoi esemptiad i bobl sy'n gadael gofal yn eu hardaloedd rhag talu'r dreth gyngor hyd nes y byddant yn 25 oed, gan gynnwys un yn fy rhanbarth i, Ynys Môn. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl sy'n gadael gofal bontio'n well i fyw'n annibynnol heb ofni ymateb anghymesur gan gynghorau os na allant dalu'r dreth gyngor. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda gweddill y cynghorau yng ngogledd Cymru ac yng ngweddill Cymru i sicrhau bod pawb sy'n gadael gofal â hawl i'r esemptiad hwn er mwyn osgoi loteri cod post?
A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn atodol? Oherwydd cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd. Rwy'n falch o weld cynnydd yn nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n darparu esemptiad cyffredinol i bobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor. Gwn fod Carl Sargeant, pan oedd yn gyfrifol am y maes hwn, wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yn eu hannog i ymuno â'r rhestr honno. Mae'n neges y mae'r Ysgrifennydd llywodraeth leol presennol a minnau yn parhau i'w chyfleu i gydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, ac mae'r rhai sydd wedi gwneud hyn yn dweud wrthych fod y costau iddynt hwy yn fach iawn, oherwydd, yn anffodus, mae cymaint o bobl sy'n gadael gofal yn gymwys am gymorth gyda'r dreth gyngor mewn ffyrdd eraill o ganlyniad i gynlluniau sydd gennym ar waith eisoes. Ond mae sicrhau bod cynllun cadarn ar gael i bawb, lle y gellid gwarantu bod pobl sy'n gadael gofal yn cael y cymorth hwnnw—dyna'r sefyllfa yr hoffem ei chyrraedd fel Llywodraeth Cymru, ac fel yr awgrymodd, byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod pob un o'r 22 awdurdod yn gwneud hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ei Bapur Gwyrdd ar lywodraeth leol, yn datgan, fod cydgyfeirio wedi digwydd dros amser yn lefelau'r dreth gyngor ac
'yn y rhan fwyaf o leoedd, bod y gwahaniaethau heddiw yn fach ac ni ddylai hyn fod yn broblem nad oes modd ei datrys.'
Fodd bynnag, mae'r ffigurau yn adrodd stori wahanol, gyda thalwyr y dreth gyngor yng ngogledd Cymru, o bosibl—os yw'r cynigion hurt hyn yn mynd rhagddynt—yn wynebu cynnydd o £160 y flwyddyn yn Ynys Môn, a dros £80 yng Nghonwy ac yn Wrecsam. O ystyried ein bod, yng Nghymru, wedi cael cynnydd o 201 y cant ym miliau'r dreth gyngor ers datganoli, ac er gwaethaf y pryderon niferus a fynegwyd gennym—a chan eraill—ynghylch uniondeb ariannol Papur Gwyrdd Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwygio llywodraeth leol, a ydych wedi cael gwahoddiad i unrhyw drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet parthed bwrw ymlaen â diwygio llywodraeth leol, ac yn benodol, pa gytundebau sydd ar waith i liniaru unrhyw gynnydd afresymol pellach yn y dreth gyngor?
Wrth gwrs, Lywydd, fel Gweinidog cyllid, mae gennyf gryn ddiddordeb, a byddaf yn parhau i fod â chryn ddiddordeb, yng nghanlyniad yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd a gynhaliwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'r mater y cyfeiria'r Aelod ato—cyfraddau gwahaniaethol y dreth gyngor o un awdurdod i'r llall—wedi bod yn thema yn yr ymgynghoriad hwnnw, heb os. Wrth gwrs, nid rhwng awdurdodau Cymru y mae'r gwahaniaeth mwyaf i'w weld, ond yn hytrach rhwng awdurdodau yng Nghymru ac awdurdodau yn Lloegr, lle mae'n rhaid i dalwyr y dreth gyngor yn Lloegr dalu £179 yn ychwanegol bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Yn dilyn y toriadau i gyllideb Cyngor Sir Ddinbych y flwyddyn ddiwethaf, mae'n debyg y byddai'n rhaid i sir Ddinbych gynyddu ei threthi cyngor 20 y cant dim ond i ddal lan gyda lle maen nhw ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod, tra bod y cyllidebau yn crebachu, bod costau yn cynyddu hefyd. Mi fydd nifer ohonom ni, rydw i'n siŵr, yn croesawu'r ffaith bod nifer o weithwyr yn y cyngor yn mynd i dderbyn codiad cyflog, yn enwedig y rhai yn y bandiau is, ond y cwestiwn rydw i am ei ofyn i chi yw: am ba hyd ŷch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet â chyfrifoldeb am gyllid, yn credu ei bod hi yn gynaliadwy i gynghorau sir fedru parhau i ddelifro nid dim ond gwasanaethau anstatudol, ond gwasanaethau statudol mewn cyd-destun ariannu mor anghynaladwy?
Wel, Llywydd, mewn cyfnod o gyni lle rydym ni i gyd dan bwysau o'r toriadau sy'n dod o San Steffan i Gymru, rydw i'n cydnabod y ffaith bod pobl yn yr awdurdodau lleol yn ymdopi â sefyllfa anodd dros ben. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi gweithio yn galed i drial rhoi arian i'r awdurdodau lleol. Nid oedd yna ddim toriad i'r cash rydym ni'n ei roi iddyn nhw yn y flwyddyn ariannol yma, ac rydw i'n bwrw ymlaen gyda'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am awdurdodau lleol i weithio yn galed gyda'n gilydd pan fyddwn ni'n paratoi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
5. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i lywodraeth leol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf? OAQ52342
Wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf byddaf yn rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r amrywiaeth o wasanaethau hanfodol bwysig, gan gynnwys addysg, tai a gofal cymdeithasol, a ddarperir gan lywodraeth leol. Mae cyllideb ddangosol ar gyfer 2019-20 wedi'i chyhoeddi a bydd manylion pellach ynglŷn â chynlluniau ar gyfer y flwyddyn honno yn cael eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft yn yr hydref.
Diolch am eich ateb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus yn ystyried ad-drefnu llywodraeth leol, a chyfrifwyd y bydd cost lleihau o 22 i 10 prif gyngor rhwng £200 miliwn a £400 miliwn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ychwanegu'r swm hwnnw at gyllideb refeniw llywodraeth leol i dalu am y broses o ad-drefnu, neu a fyddai'n rhaid talu am ad-drefnu drwy gyfyngu ar wasanaethau?
Lywydd, rwy'n siŵr y bydd cost ad-drefnu llywodraeth leol wedi'i hailadrodd droeon yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyrdd. Newydd ddod i ben y mae'r cyfnod ymgynghori hwnnw, ac mae'r casgliadau'n dal i gael eu prosesu. Ond mae Mike Hedges yn iawn i awgrymu, fel cyfranwyr blaenorol y prynhawn yma, y bydd goblygiadau ariannol y Papur Gwyrdd a'r cynigion a fydd yn deillio ohono yn sicr o ddiddordeb uniongyrchol i mi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu caffael cyhoeddus yng Nghymru? OAQ52369
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag eraill i gynyddu'r gyfran o gyllideb flynyddol caffael y sector cyhoeddus a gaiff ei gwario yng Nghymru, ac i sicrhau cymaint â phosib o effaith economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn sgil y £6 biliwn o wariant sy'n deillio o hynny.
Weinidog, rydych yn gyfrifol am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac fe fyddwch yn ymwybodol o ohebiaeth flaenorol fy mod yn pryderu ynglŷn â'r ffordd y mae cwmnïau mwy o faint yn ei chael hi'n haws o lawer llywio a sgorio'n uwch yn y broses dendro ar gyfer caffael na chwmnïau llai o faint nad oes ganddynt adran gaffael benodol fel eu cymheiriaid mwy o faint. Rhoddais enghraifft benodol ichi ynglŷn â sut y cafodd hyn effaith ar gwmni yn y Rhondda, ac mae wedi golygu bod yr arian wedi'i golli o fy etholaeth i bellach ac wedi mynd i gwmni o'r tu allan i Gymru, sy'n amlwg yn mynd i gael effaith ar swyddi lleol a busnesau eraill hefyd. Pa bwysau y gallwch ei roi yn eich Llywodraeth i sicrhau chwarae teg i bob busnes, boed yn rhai mawr neu'n rhai bach, mewn perthynas â'r broses dendro?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a diolch am y llythyr a ysgrifennodd ataf ynglŷn â'r achos penodol hwnnw. Fe fydd hi'n gwybod bod adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru ar y gweill ar hyn o bryd. Ei ddiben yw sicrhau, os oes unrhyw gyfleoedd ar gael i ni addasu ein gweithdrefnau caffael wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, y gallwn fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Un o'r pethau y gallem eu gwneud o hyd—ac mae'n rhaid imi bwysleisio, wrth gwrs, Lywydd, fod hyn yn dal i fod yn rhan o'r drafodaeth—fydd newid y rheolau, er mwyn sicrhau bod cwmnïau fel yr un y cyfeiriodd Leanne Wood ato—cwmnïau lleol heb y gallu i gymryd rhan gyson yn y maes caffael—fod mwy o chwarae teg iddynt o gymharu â rhai o'r rheolau y mae'n rhaid inni gadw atynt ar hyn o bryd.
Diolch i'r Ysgrifenydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gyda'r sector ynni wrth lunio'r cynllun gweithredu ffonau symudol? OAQ52344
Dim. Rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda'r diwydiant ffonau symudol, Ofcom, tirfeddianwyr, sefydliadau busnes ac awdurdodau lleol wrth lunio'r cynllun gweithredu ffonau symudol.
Diolch, arweinydd y tŷ. Mae'r wasg genedlaethol a lleol a'r teledu yn clywed yn aml sut y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn annog darparwyr ynni i osod mesuryddion deallus mewn cartrefi er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Nawr, mae pobl o ardaloedd gwledig yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod yn amhosibl gosod mesuryddion deallus oherwydd diffyg signal ffonau symudol, sy'n angenrheidiol er mwyn i fesuryddion deallus weithio. A allwch amlinellu pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r sector ynni ynglŷn â'r mater hwn, ac a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnwys hyn a'r materion hyn yn y blaenoriaethau ar gyfer cynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth Cymru?
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r cwmnïau ynni ynglŷn â mesuryddion deallus. Rydym wedi cael rhai trafodaethau bord gron gyda'r diwydiant ynglŷn â chyflenwi ynni i'r mastiau eu hunain. Ond cytunaf yn llwyr â dadansoddiad Russell George fod diffyg signal ffonau symudol yn broblem go iawn i ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys mesuryddion deallus. Mae llawer iawn o wasanaethau yn dibynnu, fwyfwy y dyddiau hyn, ar ddata yn arbennig, ac fe fydd yn ymwybodol ein bod wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU ac Ofcom i roi amrywiaeth o fesurau ar waith er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn sicrhau signal ffonau symudol boddhaol gan fwy nag un gweithredwr ledled Cymru, am yr union resymau a amlinellwyd ganddo.
2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb? OAQ52349
Gwnaf. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn cynnwys manylion ynglŷn â'n hamcanion cydraddoldeb sy'n sicrhau bod y ffordd rydym yn llywodraethu yn cael effaith o ran sicrhau bod ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol. Bydd yr adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol, sydd ar waith, yn nodi camau i wella cydraddoldeb a thegwch yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb? Yr anghydraddoldeb mwyaf, os nad y mwyaf, yw'r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig ac ardaloedd mwy llewyrchus Cymru, yn aml o fewn yr un ardal awdurdod lleol, ac yn wir, o fewn yr un etholaeth, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet. Ers diwedd Cymunedau yn Gyntaf a'r gwaith a wnaeth ar leihau cyfraddau ysmygu, lleihau gordewdra a chynyddu ymarfer corff, beth sy'n cael ei wneud i wella disgwyliad oes yn y cymunedau mwyaf difreintiedig?
Mae gwella iechyd i bawb, yn enwedig pobl sy'n byw mewn tlodi, yn un o uchelgeisiau canolog 'Ffyniant i Bawb' ac rydym yn blaenoriaethu camau i fynd i'r afael â'r achosion sydd wrth wraidd y tlodi hwnnw ac i dargedu cymorth ar gyfer pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r Aelod yn llygad ei le yn nodi bod amrywiaeth o faterion yn effeithio ar ddisgwyliad oes. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau camau gweithredu ymhellach i fyny'r gadwyn, fel y'u gelwir—felly, camau gweithredu yn y tarddiad—i ailddosbarthu penderfynyddion cymdeithasol, ac i gynorthwyo pobl i ymdopi â'u hamgylchiadau yn well. Gŵyr Mike Hedges fod gennym gymunedau yn Abertawe sy'n gallu gweld ei gilydd, oherwydd siâp y bryniau, lle mae gwahaniaeth sylweddol rhyngddynt o ran disgwyliad oes. Mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â thlodi, ond hefyd ag ansawdd aer a nifer o faterion eraill. Mae gan y Llywodraeth gynllun cyflawn ar waith i sicrhau nad yw'r penderfynyddion cymdeithasol hynny'n pennu ansawdd bywyd pobl wrth inni symud ymlaen.
A sôn am Abertawe, efallai eich bod yn cofio, ychydig flynyddoedd yn ôl, i'r Cyngor fethu gwneud cais am ail gyfran o arian y Llywodraeth ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn, a digwyddodd hynny yn fuan ar ôl iddynt orfod ad-dalu bron i £1 filiwn i'r Llywodraeth gan nad oeddent wedi gallu dod o hyd i ffordd o'i ddefnyddio i leihau tlodi. Dyma gyngor sydd â hanes o wario arian ar bethau nad ydym, o bosibl, yn eu gwerthfawrogi, ond pam fod ei arweinyddiaeth Lafur bresennol yn ei chael hi mor anodd gwario'r arian a bennwyd ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldebau tlodi?
Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r cyngor, mewn gwirionedd, mewn nifer o feysydd, i sicrhau bod ganddynt gynllun da ar waith i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ledled y ddinas. Un o'r materion pwysig i bawb yw cyflogadwyedd rhai o ardaloedd Abertawe. Mae gennym bocedi bychain o ddiweithdra uchel ledled Cymru o hyd, ac mae rhai rhannau o fy etholaeth fy hun, Lywydd, wedi'u heffeithio gan hynny, a rhanbarth Suzy Davies wrth gwrs. Mae ein cynllun cyflogadwyedd wedi'i gynllunio'n benodol i gynorthwyo pobl yn yr amgylchiadau hynny nid yn unig i gael gwaith ond i gael gwaith sy'n talu'n dda er mwyn eu codi allan o'r tlodi y gwyddom ei fod yn effeithio ar fywydau llawer ohonynt. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Abertawe a'r fargen ddinesig yn gyffredinol i sicrhau bod yr arian hwnnw yn cael ei wario'n dda.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y plediadau. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, ddydd Mawrth diwethaf, mynychais y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl. Roedd yn braf nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud wrth frwydro yn erbyn y fasnach ddieflig hon. Er ein bod yn anghytuno ynglŷn ag achosion y pethau hyn, mae pob un ohonom o'r farn fod y pla hwn ar ein cymdeithas, a'r trallod y mae'n ei achosi i bobl, yn wrthun. Arweinydd y tŷ, a allwch roi sicrwydd inni y bydd eich Llywodraeth yn parhau'n ymrwymedig i roi diwedd ar gaethwasiaeth o bob math yng Nghymru?
Gallaf, yn sicr. Ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth, fel y gŵyr David Rowlands yn iawn. Rydym wedi sefydlu grŵp arwain atal caethwasiaeth Cymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, ac i ddarparu'r cymorth gorau posibl i oroeswyr. Rydym wrthi'n rhannu'r dysgu o Gymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU a chyda chomisiynydd atal caethwasiaeth annibynnol y DU, ac rydym yn dechrau ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ein gwaith ar yr agenda hon.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb cynhwysfawr. Ar gyfer y flwyddyn 2016-17, darparwyd cymorth i dros 10,000 o oroeswyr sy'n oedolion a bron i 4,000 o blant a phobl ifanc gan y gwasanaethau cam-drin domestig yng Nghymru, sy'n cynnwys lloches ac eiriolaeth gymunedol. Dengys ffigurau fod y llinell gymorth cam-drin domestig genedlaethol wedi derbyn dros 28,000 o alwadau. Felly, mae'n hynod o frawychus clywed nad oedd modd rhoi lloches i o leiaf 500 o fenywod yng Nghymru gan nad oedd lle ar gael. O gofio mai'r llochesi hyn yw un o'r elfennau pwysicaf wrth gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig, pam y gwnaed toriadau rhwng 2016 a heddiw i wasanaethau lloches sy'n golygu nad oes unrhyw lochesi newydd yn cael eu darparu, ac efallai y bydd yn rhaid i rai sy'n bodoli eisoes gau, hyd yn oed? A yw Arweinydd y tŷ yn credu bod hon yn sefyllfa dderbyniol?
Nac ydw. Rydym yn gweithio'n galed iawn yn wir i sicrhau bod y gwasanaethau sydd ar gael i bobl sy'n dianc rhag trais domestig neu unrhyw fath o drais rhywiol ledled Cymru yn addas i'r diben. Fel y gŵyr David Rowlands, mae'r adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol ar y gweill ar hyn o bryd. Byddaf yn ei drafod fore dydd Iau yr wythnos hon. Un o amcanion yr adolygiad, a'r Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, yw cynnal asesiad priodol o anghenion ledled Cymru fel y gallwn ymateb yn briodol i'r angen a sicrhau bod ein hadnoddau wedi'u targedu'n dda.
Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw hefyd. Rhag ofn eich bod yn cael symptomau amddifadu, arweinydd y tŷ, mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â seilwaith digidol. Felly, o gofio bod nifer o gymunedau o hyd, megis pentref Llangenau ym Mhowys, yn methu elwa ar y broses o gyflwyno Cyflymu Cymru, a yw arweinydd y tŷ mewn sefyllfa i nodi sut y bydd y cynllun cyflawni newydd yn cael ei lunio i gynnwys y rheini na chawsant eu cysylltu yn yr hyn y mae'n rhaid inni ddweud ei fod yn gam cyntaf llwyddiannus iawn o ran cyflwyno?
Ydw. Ar hyn o bryd, rydym yn y broses o gaffael ail gam Cyflymu Cymru. Mae nifer o elfennau'n perthyn i hynny. Fe'i cynlluniwyd yn benodol i nodi'r cymunedau gyda'r gwasanaeth gwaethaf, naill ai o ran gwasanaethau data ffonau symudol neu gyflymderau lawrlwytho band eang gwael. Yn ogystal â hynny, mae gennym gronfa benodol ar gyfer cymunedau sy'n dymuno dod at ei gilydd i sicrhau ateb o ba fath bynnag ar gyfer eu cymuned gyfan, ac rydym yn fwy na pharod i siarad ag unrhyw gymuned sy'n awyddus i ddod ynghyd er mwyn sicrhau ateb pwrpasol ar eu cyfer hwy.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch. Ddoe, fe gawsom ni ddatganiad gennych chi ar Gymru fel cenedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac fe wnes i ymateb i'r ddadl gan ddatgan cefnogaeth Plaid Cymru i'r nod. Fe wnes i hefyd dynnu sylw at un o'r heriau mawr, sef y rhagfarn sydd yn bodoli tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches a'r wybodaeth ffug sydd yn cael ei ledaenu. Mi wnes i alw am drafodaeth adeiladol er mwyn creu newid diwylliannol. Os ydych chi'n edrych ar fy nghyfrif trydar i, fe welwch chi fod ymatebion llawn rhagfarn wedi ymddangos yn sgil fy araith i ddoe, ac, yn anffodus, mae hyn yn profi pam fod angen herio'r rhagfarn ar bob cyfle posib. Fe fydd fy mhlaid i yn parhau i ddadlau dros greu cenedl noddfa. A wnewch chi ymrwymo heddiw i roi sylw penodol i'r gweithredu sydd angen digwydd er mwyn dileu'r rhagfarn amlwg yma sydd yn bodoli?
Ie, rhannaf arswyd Siân Gwenllian—ymateb ofnadwy iddo. Cefais broblem debyg gyda fy nghyfrif Twitter fy hun, ac rwy'n dilyn Siân Gwenllian ar Twitter, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn y mae hi'n sôn amdano. Rhan o bwrpas y cynllun yw gwneud yn union hynny, brwydro yn erbyn ymatebion niweidiol rhagfarnllyd gan bobl nad ydynt wedi deall o gwbl beth y mae pobl o wledydd eraill yn ei gyfrannu at ddiwylliant a gwasanaeth ein gwlad. Ac fel y dywedais yn y ddadl ddoe, ac rwy'n golygu hyn yn ddiffuant, mae'n broses ddwy ffordd. Rydym yn cynorthwyo pobl sy'n ffoi rhag pob math o broblemau yn eu gwledydd hwy, ac yn eu tro, maent yn cyfoethogi ein gwlad gyda'u celfyddyd a'u diwylliant a'u bwyd a'u cymdeithas a'u sgiliau, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny.
Un ffordd o ddileu rhagfarn ydy drwy ganiatáu i ffoaduriaid fod yn rhan weithredol o'r cymunedau a'r byd gwaith o'u cwmpas nhw. Ac i wneud hynny, wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw fedru magu sgiliau rhugl yn nwy iaith ein gwlad ni—Cymraeg a Saesneg. Mae teuluoedd o Syria sydd wedi cael eu croesawu i fy ardal i wedi cael cyfle i symud ymlaen yn gyflym i gaffael sgiliau iaith, ac yn ddiweddar, fe ges i sgwrs yn Gymraeg efo dwy ffoadur ifanc, yn ogystal â'u clywed nhw'n siarad Saesneg yn rhugl hefyd. Ond mae dileu y grant MEAG, sef arian penodol ar gyfer ymateb i anghenion disgyblion o grwpiau lleiafrifol, yn mynd i arafu'r broses o ddysgu ieithoedd i ffoaduriaid, a'i gwneud hi'n anodd iawn i athrawon roi sylw penodol i hyn. A wnewch chi ymrwymo i geisio darbwyllo'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i ailgyflwyno'r grant yma? Mi wnes i godi'r pwynt yma ddoe a ches i ddim ateb.
Ymddiheuriadau. Fe wnaethoch chi godi'r mater ddoe yn wir. Credaf fod cyfres o gwestiynau ac anghofiais ei ateb, felly ymddiheuriadau am hynny, Siân Gwenllian. Nid ydym wedi diddymu'r grant. Cafodd ei gynnwys yn y grant cyffredinol, ond rwy'n derbyn eich pwynt. Mae yna densiwn go iawn, os mynnwch, rhwng cyllid wedi'i neilltuo a chyllid nad yw wedi'i neilltuo ar draws llywodraeth leol, o ystyried yr agenda gyni y mae Llywodraeth y DU yn dal i'w gorfodi arnom. Yr hyn y ceisiwn ei wneud yw rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol yn eu cyllid fel nad oes gennym ffiniau anhyblyg o ran yr hyn y gwyddant fod angen ei ariannu yn lleol. Ond ar yr un pryd, mae angen i ni wneud yn siŵr fod ein blaenoriaethau'n cael eu cyflawni, ac felly rydym yn edrych ar brotocol o weithio gyda hwy, a byddwn yn adolygu hwnnw yr hydref hwn, a byddaf yn ymgymryd â llawer iawn—mewn gwirionedd, rwy'n cael trafodaethau cyson gyda fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, nid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn unig, oherwydd ceir nifer o grantiau yn rhan o hyn—i wneud yn siŵr ein bod yn targedu yr un bobl, ond bod gan yr awdurdod lleol hyblygrwydd i sicrhau bod y gwasanaeth yn lleol o fudd i hynny. Ac wrth gwrs, rydym wedi rhoi arian ychwanegol yn benodol tuag at ymdrin â rhai o'r materion a godwyd yn y sgwrs gyda llywodraeth leol am y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig.
Rhannaf ei phryderon. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng neilltuo, sydd weithiau'n achosi canlyniadau anfwriadol, hyblygrwydd, a sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y cymunedau y bwriadwyd iddynt gael budd ohono.
Diolch yn fawr iawn. Mae yn bwysig nad oes yna ddim canlyniadau anuniongyrchol yn digwydd yn sgil newid y ffordd mae'r arian yn cael ei ddosbarthu.
Grŵp arall sydd yn dioddef rhagfarn eithafol ydy'r gymuned lesbiaidd, hoyw, trawsrywiol a deurywiol, ac mae adroddiad sydd allan heddiw yn dangos bod 45 y cant, bron i hanner aelodau'r gymuned draws, yn ofni datgelu eu hunaniaeth rhywedd, am eu bod nhw'n poeni y byddai hynny'n arwain at wahaniaethu yn eu herbyn nhw. Hoffwn ofyn am ddiweddariad gennych chi ar y cynllun i greu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd yng Nghymru. Mi fues i'n siarad efo person sy'n gweithio mewn clinig hunaniaeth rhywedd yn Llundain, ac roedd o'n dweud wrthyf i fod yna lawer o bobl yn teithio yno, neu'n mynd i Leeds, er mwyn cael y gwasanaeth. Mae'r oedi cyn sefydlu'r gwasanaeth hwn yng Nghymru yn annerbyniol, ac mi oedd o'n rhan o'r fargen a darwyd rhwng eich plaid chi a'm mhlaid i ar gychwyn y Cynulliad hwn, ond mae hynny ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn.
Mae gennym nifer o bethau'n digwydd yn y maes hwnnw. Rydym yn ariannu Stonewall Cymru—. Hoffwn ddechrau drwy ddweud, yn amlwg, fod y math hwnnw o wahaniaethu yn warthus, a chefais innau hefyd fy arswydo gan rai o'r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y BBC y bore yma am beth o'r gwahaniaethu. Rwy'n falch iawn, Lywydd, fod y Comisiwn wedi cael ei gydnabod am ei waith yn y maes hwn, ac yn amlwg, rydym eisiau bod yn esiampl, a sicrhau, fel rhan o'n cynllun gweithredu economaidd, ein bod yn annog y mathau hynny o werthoedd.
Ond mae yna bethau penodol iawn y mae angen eu gwneud, felly rydym yn ariannu Stonewall Cymru, ac mae hynny'n cynnwys cyllid ar gyfer creu swydd newydd ar gyfer swyddog ymgysylltu trawsrywedd, yn benodol i arwain ar faterion cydraddoldeb trawsryweddol. Ac yna, o ran yr adran iechyd, rydym yn teimlo y dylid diwallu anghenion iechyd a gofal pobl drawsryweddol mor agos i'w cartrefi â phosibl, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i wneud hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amlinellu'r agenda gwella ar gyfer gwasanaethau hunaniaeth yng Nghymru. Maent yn cael eu rhoi ar waith fesul cam, a'u cefnogi gan £0.5 miliwn ychwanegol. Yn dilyn trafodaethau manwl, ac ar ôl archwilio nifer o opsiynau, mae pob plaid yn cytuno mai'r dull a ffafrir yw datblygu gwasanaeth sy'n cwmpasu darpariaeth arbenigol a rhwydwaith gofal sylfaenol pwrpasol o feddygon teulu sy'n presgripsiynu. Felly, o ran cynnydd, cytunwyd ar yr achos busnes ar gyfer tîm rhywedd Cymru ym mis Ebrill, a dechreuodd yr uwch-glinigydd arweiniol yn ei swydd ar 1 Mehefin. Mae'n chwarae rhan arweiniol yn y broses o weithredu'r gwasanaeth, ac rydym yn disgwyl y bydd byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd integredig yng Nghymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, mewn dadl ychydig wythnosau'n ôl, fe ddywedoch chi, a dyfynnaf o Gofnod y Trafodion ar 16 Mai:
'bydd y gweithredwyr ffonau symudol yn dweud wrthych mai'r cyfan y maent ei angen yw'r gallu i adeiladu mastiau mwy o faint a bydd popeth yn iawn.'
Ac maent eisiau gallu
'adeiladu mast o ba faint bynnag y byddent yn ei hoffi, lle bynnag y byddent yn hoffi'.
Fe ddywedoch chi hefyd, a dyfynnaf unwaith eto, eu bod
'eisiau i mi sicrhau y bydd fy nghyd-Aelod Cabinet yn caniatáu iddynt adeiladu mast o ba faint bynnag y byddent yn ei hoffi, lle bynnag y byddent yn hoffi, a chael gwared ar yr holl dariffau... ac yna byddant yn adeiladu rhwydwaith cyfan ar draws Cymru.'
Nawr, deallaf fod swyddogion Llywodraeth Cymru i fod i gyfarfod â gweithredwyr ddoe i drafod y cynllun gweithredu symudol, felly rwy'n siŵr y byddwch wedi cael eich briffio'n dda yn y maes hwn. A allwch ddweud wrthyf pa weithredwyr ffonau symudol sydd wedi dweud hyn wrthych?
Bu amryw o gyfarfodydd â hwy. Nid wyf wedi cyfarfod â'r rhwydwaith cyfan yn ddiweddar mewn gwirionedd, ond rydym yn y broses o drefnu hynny, a chafwyd cyfarfod yn Llandrindod ddoe. Felly, mae gwaith yn sicr yn mynd rhagddo ar hynny.
Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud, fel rwy'n dweud o hyd—rydym yn ymgynghori ar yr hawliau datblygu a ganiateir ar hyn o bryd—yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau'r lefel gywir o fastiau a diogelwch i'n cefn gwlad. Felly, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio, yn ymgynghori ar hyn o bryd. Ac rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedaf drwy'r amser: mae hyn yn galw am weithredu ar y cyd gan bobl i ymdrin â lle y ceir methiant yn y farchnad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, nid oes problem benodol yn y trefi nac ardaloedd poblog Cymru, oherwydd ceir llawer o gwsmeriaid masnachol. Ond ni allwn ddisgwyl i gyrchfannau twristiaeth yng nghanolbarth Cymru, er enghraifft, fel rwyf wedi'i ddweud wrthych droeon, i ddweud, 'Dewch i fy sefydliad twristiaeth gwych, ond peidiwch â thrafferthu os nad ydych yn gwsmer i'r unig ddarparwr sy'n darparu gwasanaeth symudol yma.'
Felly, mae yna sgwrs bwysig iawn ar y gweill—nid yw'n ymwneud yn unig â'r pethau rwyf newydd eu hamlinellu, ac efallai fy mod ychydig yn bigog y diwrnod hwnnw, o ganlyniad i rai o'r sgyrsiau. Ond mae'n ymwneud â chydbwysedd rhwng cael rhwydwaith a rennir, neu drawsrwydweithio, neu ryw gytundeb gyda hwy, i wneud yn siŵr fod gennym signal ffonau symudol gwell—(a) mewn rhai mannau yng Nghymru sydd ag un darparwr, a (b) er mwyn i bawb sydd eisiau ymweld â Chymru a gwario eu punnoedd twristiaeth yng Nghymru allu defnyddio darparwr o'u dewis hwy, felly naill ai drawsrwydweithio, neu gael cytundeb gyda'r rhwydweithiau. Felly, rwy'n edrych am gyfaddawd rhwng hawliau datblygu a ganiateir, ac fel y dywedaf, rydym wrthi'n ymgynghori, a byddwn yn edrych gyda diddordeb i weld beth fydd canlyniad hynny, a chyfaddawd gan y gweithredwyr ffonau symudol, sydd â dyletswydd i sicrhau mwy na'u hangen masnachol o ran eu cwsmeriaid.
Diolch, arweinydd y tŷ. Credaf eich bod efallai yn cadarnhau nad ydych bellach yn cytuno â'r hyn a ddywedoch chi wrthyf ym mis Mai.
Na, ni ddywedais hynny.
Wel, efallai y buaswn yn gofyn i chi fachu ar y cyfle i edrych ar y cofnod o'r hyn a ddywedoch chi wrthyf y tro diwethaf, a chywiro'r cofnod wedyn efallai os ydych yn teimlo bod hynny'n briodol. Ond mae'r gweithredwyr ffonau symudol yn teimlo eich bod wedi camliwio—eu bod wedi cael eu camliwio yn eich sylwadau ychydig wythnosau yn ôl.
Nawr, wrth gwrs, nid yw mastiau talach ond yn un ystyriaeth os yw gweithredwyr am oresgyn yr heriau sydd gennym yng nghefn gwlad Cymru, gyda dwysedd poblogaeth isel, a'r costau uwch yn ogystal, o ran darparu cyflenwad pŵer a chysylltiadau trawsyrru. Ond hoffwn ofyn i chi: a ydych bellach yn cydnabod bod ymestyn hawliau datblygu a ganiateir fel yr hyn sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr ac yn yr Alban, yn ffordd a fyddai'n sicrhau mwy o gyrhaeddiad gwasanaeth, gan olygu y bydd angen llai—llai yw'r pwynt a wnaf yma—o fastiau byrrach mewn unrhyw ardal benodol? Ac a fyddech yn cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw addasu rheoliadau hen ffasiwn ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? O ran rhannu mastiau—mae rhannu mastiau, wrth gwrs, eisoes yn digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad a dyna mae gweithredwyr yn ei wneud eisoes. Dyma fydd yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfathrebu digidol yn y Gymru sydd ohoni.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Wel, na, nid wyf yn cytuno â'r ffordd y mae'n disgrifio hynny. Nid wyf yn credu bod yna fwled arian. Mae'n bosibl iawn y bydd hawliau datblygu a ganiateir ar ôl yr ymgynghoriad yn un peth o blith llu o bethau y bydd angen i ni eu gwneud mewn perthynas â pheth o'r ddarpariaeth wael iawn sydd gennym, ac mae'n rhaid i chi gofio nad yw hwn yn fater datganoledig. Ac rwy'n ailadrodd sgwrs y mae Russell George a minnau wedi'i chael ar sawl achlysur. Mae yna broblem go iawn yma ynglŷn â thrin rhywbeth sy'n seilwaith i bob pwrpas fel pe bai'n gynnyrch moethus sydd ar drugaredd y farchnad. Mae ef a minnau'n anghytuno'n wleidyddol ar y ffordd ymlaen mewn perthynas â hyn. Ond yn y pen draw, nid yw wedi'i ddatganoli i ni, neu buaswn yn gwneud nifer o bethau y credaf y byddent yn gwneud y sefyllfa i ddefnyddwyr y rhwydweithiau yng Nghymru yn llawer gwell yn hytrach na dim ond caniatáu i fuddiannau masnachol y gweithredwyr gymryd yr awenau.
Wel, arweinydd y tŷ, rydych wedi cyhuddo'r gweithredwyr rhwydwaith symudol o fancio tir yn y gorffennol ac wedi dweud, a dyfynnaf eto, fod 'Un gweithredwr yn berchen ar Gymru'. Felly, yn hytrach na beirniadu'r gweithredwyr rhwydwaith symudol, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i ymateb yn ffafriol i Mobile UK, fel y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant ffonau symudol, sy'n galw am—a'u geiriau hwy yw'r rhain—gamau pendant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi seilwaith symudol drwy ddefnyddio'r ysgogiadau polisi datganoledig sydd ar gael i chi, ac ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus ar gyfer cyflwyno'r diwygiadau? Tybed a wnewch chi ymrwymo i ddyddiad heddiw, a beth yw'r dyddiad hwnnw?
Wel, fel rwyf newydd ddweud, nid yw hynny ond yn sôn am yr hawliau datblygu cynllunio a ganiateir. Pan oeddwn yn sôn am un gweithredwr, roeddwn yn sôn am sbectrwm. Felly, mae yna broblem fawr gyda'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gwerthu sbectrwm. Ac os nad yw'r sbectrwm yn cael ei ddefnyddio gan y person sy'n ei brynu, mae'n gorwedd yno'n gwneud dim. Felly, ni allwn wneud unrhyw beth am y ffaith nad oes gennym wasanaethau pedwaredd genhedlaeth mewn rhai rhannau o Gymru os nad yw'r gweithredwr sy'n berchen ar y sbectrwm yn barod i'w cyflwyno yno. Nid oes gennyf bŵer i wneud hynny, gwaetha'r modd.
3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwella cynhwysiant digidol yng Nghanol De Cymru? OAQ52366
Gwnaf, yn wir. Gwneir cynnydd da ar wella cynhwysiant digidol ar draws rhanbarth Canol De Cymru. Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth eang o sefydliadau a rhaglenni i gynorthwyo mwy o bobl i gael y budd mwyaf posibl o'r cyfleoedd sy'n newid bywydau a gynigir gan dechnolegau digidol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Rwyf bob amser wedi amlygu rhai o'r pryderon yng nghefn gwlad Cymru ac yn benodol, yr anallu i gysylltu nifer o gymunedau, oherwydd yr heriau logistaidd a wynebir yno. Ond yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, sef Canol De Cymru, ym Mhen-twyn, yng Nghaerdydd yma, mae yna gymuned o 200 o drigolion sydd wedi cael eu heithrio o'r broses oherwydd na wnaiff Openreach rymuso'r cabinet i alluogi band eang cyflym iawn. Felly, mae'r eithrio hwnnw'n digwydd yn ein prifddinas hyd yn oed. Pa bwysau rydych yn ei roi ar Openreach, fel yr unig gontractwr, i ddarparu'r gwasanaethau hyn, fel y gall cymunedau, megis yr un ym Mhen-twyn ac eraill o gwmpas Cymru, elwa o fand eang cyflym iawn, sy'n hynod o rwystredig pan fo preswylwyr yn cerdded heibio i'r cyfleusterau y maent yn gwybod eu bod yno yn eu cymuned ond nad ydynt yn weithredol fel bod modd i'r gymuned honno eu defnyddio?
Ie, wel, mae yna nifer o elfennau gwahanol yn perthyn i hynny. Felly, mewn ardal ymyrraeth band eang cyflym iawn, y tu allan i'r cytrefi canolog, os cofiwch fod y rhaglen band eang cyflym iawn yn ei chyfanrwydd yn ymyrraeth yn y farchnad, ni allwn fynd i unman heblaw lle nad yw'r farchnad yn mynd. Felly, pe baech mewn ardal ymyrraeth band eang cyflym iawn, a bod hynny'n digwydd, yna byddwch yn rhan o'r broses gaffael nesaf neu'r drafodaeth rydym yn ei chael gyda BT ynglŷn â defnyddio cyfran o'r budd, neu gallech fod yn rhan o ateb cymunedol a allai weithredu drosoch. Yn anffodus, os ydych y tu allan i'r ardal ymyrraeth a'ch bod yn yr ardal gyflwyno fasnachol, yna rydych ar fympwy'r gweithredwyr masnachol, ac rydym wedi rhoi llawer o bwysau arnynt o ran dylanwad, ond nid oes gennyf unrhyw allu uniongyrchol i ymyrryd yn un o'r ardaloedd nad yw'n ardal ymyrraeth.
Mae arnaf ofn nad wyf yn ddigon cyfarwydd â'r ardal rydych yn sôn amdani i wybod a yw o fewn yr ardal ymyrraeth ai peidio. Gan dybio ei bod yn ardal y band eang cyflym iawn, ac felly y tu allan i ganol Caerdydd—credaf mai dyna roeddech yn ei ddweud—yna gallwn eich helpu i drefnu ateb cymunedol pwrpasol ar gyfer hynny—ac rwy'n hapus i un o fy swyddogion ddod i weld os gallwn eich helpu gyda hynny; rwy'n ymweld ag etholaeth Paul Davies yfory, rwy'n credu, i gyfarfod â nifer o bobl, felly rwy'n fwy na pharod i hwyluso hynny i chi—neu bydd yn cael ei gynnwys yn un o raglenni cyflwyno'r cam nesaf, a luniwyd i gynorthwyo gyda diffyg capasiti mewn cabinet neu ddiffyg cysylltedd â chabinet. Ond buaswn yn croesawu sgwrs â chi am gymuned benodol.
4. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y bydd prosiect olynol Cyflymu Cymru yn ymgysylltu ag eiddo nad oedd yn rhan o'r cynllun cychwynnol? OAQ52363
Bydd fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflenwi llwyddiannus y cynllun olynol i ddatblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cynhwysfawr a chadarn, a bydd manylion y cynllun hwnnw ar gael ar ôl cwblhau'r broses gaffael.
Diolch i chi, ac er fy mod yn deall y bydd y manylion ar gael a phryd y byddant ar gael, diau eich bod yn ymwybodol fod gennyf nifer sylweddol o berchnogion tai a pherchnogion busnesau nad ydynt wedi elwa o gyflwyniad cyfredol Cyflymu Cymru. Cymerodd beth amser i geisio sefydlu—anfonais bob un o'r rhain atoch, neu lawer ohonynt—ac fe gymerodd beth amser i sylweddoli nad oeddent wedi'u cynnwys: mae 4.5 y cant yn dal i fod yn methu derbyn unrhyw fath o fand eang ffeibr tra bo 3.5 y cant arall ond yn derbyn 2.4Mbps neu lai, a chryn dipyn yn llai yn aml, gyda llawer yn derbyn 1 Mbps neu 2 Mbps yn unig. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae bellach bron yn amhosibl rhedeg busnes, i blant wneud gwaith cartref neu i allu llenwi ffurflenni ffermio gofynnol ar-lein. Sut y byddwn ni, fel Aelodau Cynulliad, yn gallu gweithio gyda chi fel Llywodraeth, a sut y byddwch chi a'r prosiect olynol newydd yn cyfathrebu manylion eiddo y rheini sydd ar eu colled yn ein cymunedau ac sydd wedi cysylltu â ni i wneud hynny, oherwydd credaf fod gormod o amser wedi cael ei wastraffu? A chydag unrhyw brosiect olynol, rwyf eisiau gallu bwrw iddi a sefydlu'n eithaf cyflym a fyddant yn elwa o'r prosiect nesaf.
Yn sicr, ac fel y dywedais pan fynychais y cyfarfod yn eich etholaeth, rydym yn sicr yn ystyried hynny ac felly cynllunnir prosiectau olynol i fynd i eiddo penodol. Felly, os byddwch yn cofio, roedd y cyntaf yn bwll pysgota braidd: gallent fynd i dros 690,000 eiddo ledled Cymru—unrhyw eiddo y dymunent—oherwydd cawsom broblem enfawr pan ddechreuasom ar y rhaglen honno. Nid oes ond 95,000 o safleoedd ar ôl gennym bellach. Felly, yn y broses gaffael nesaf rydym wedi gofyn am iddo gael ei dargedu, fel y byddwn yn gwybod yn union, gyda'r bobl sy'n llwyddiannus yn y rhaglen olynol, i ble maent yn mynd a pham a faint fydd hynny'n ei gostio. Felly, byddwn yn gwybod pwy fydd yn rhan o'r rhaglen a phwy na fydd yn rhan o'r rhaglen. Byddwn yn gallu cael strategaeth gyfathrebu ar gyfer y bobl sy'n rhan o'r rhaglen, felly, os oes oedi ac ati, byddwn yn gwybod yn union beth yw'r broblem. Ac mewn perthynas â'r bobl na fydd yn rhan o'r rhaglen, byddwn wedyn yn dechrau gweithio ar gynlluniau pwrpasol ar eu cyfer. Oherwydd, rwyf wedi bod yn glir iawn: ar hyn o bryd, gyda'r gyfran o'r budd a'r swm o arian sydd gennym, rydym ychydig yn brin o'r arian sydd ei angen i gyrraedd pawb, er, gyda'r rhaglen fuddsoddi ganolraddol y gwyddom amdani bellach, rydym wedi cael £31 miliwn arall i fuddsoddi yn honno, ond eto ni fydd yn llawn digon, felly bydd yn rhaid i ni gael yr atebion cymunedol pwrpasol hynny yn ogystal.
Rwyf eisoes wedi dweud diolch yn fawr wrth arweinydd y tŷ am y gwaith rhyfeddol a wnaeth yn ystâd Castle Reach in Kingsmead i gael Openreach i ariannu band eang ffeibr i'r safle, nad oedd wedi'i gynnwys yn rhaglen Cyflymu Cymru oherwydd bod yr ystâd wedi cael ei hadeiladu ar ôl i'r rhaglen gychwyn. Yr hyn nad oeddem yn ei wybod ar y pryd oedd nad oedd hynny ond yn cynnwys 165 o dai ar yr ystâd. Bydd 50 o dai eraill yn awr yn ceisio cael mynediad cymunedol at fand eang drwy gynllun Allwedd Band Eang Cymru, ac rwy'n gweithio gyda phreswylwyr a gwirfoddolwyr ar ran y preswylwyr. Yn ffodus, dylai arian Llywodraeth Cymru dalu am y tai hynny yn llawn.
Fodd bynnag, mae yna dai ar yr ystâd honno o hyd, nad oeddem yn gwybod amdanynt pan siaradodd arweinydd y tŷ ag Openreach, na fydd yn cael eu cynnwys. Credaf mai'r unig ffordd y gallwn ddatrys hyn yw drwy i Openreach a Taylor Wimpey, y datblygwr, weithio gyda'i gilydd. Felly, a gaf fi awgrymu bod arweinydd y tŷ, os yw hi'n fodlon, yn fy nghyfarfod, gydag Openreach, os ydynt yn fodlon, a chyda Taylor Wimpey, os ydynt yn fodlon, i ddatrys y mater hwn unwaith ac am byth ar yr ystâd hon a sicrhau bod cysylltedd band eang gan ystâd gyfan Castle Reach in Kingsmead? Ac unwaith eto, rwy'n gofyn iddi roi'r pwysau hwnnw arnynt, fel y gwnaeth hi mor dda ddiwedd y llynedd.
Iawn, rwy'n hapus iawn i'w cyfarfod, os yw hynny'n mynd i hwyluso'r broses. Mae yna nifer o broblemau, fel y gŵyr Hefin David, gydag ystadau a adeiladir o'r newydd a'r trefniadau rhwng yr adeiladwr tai ac Openreach—Openreach yw'r contractwr ar gyfer yr ystâd honno—a sut y mae'r cysylltiadau'n gweithio. Gall fod yn rhwystredig iawn i drigolion wrth i'r cabinetau gael eu galluogi a'u cyflwyno, ond rwy'n fwy na pharod i ddod i gyfarfod â'r adeiladwr tai ac Openreach i weld beth y gallwn ei wneud i hwyluso'r broses.
Rydw i wedi cysylltu â chi fel Gweinidog yn y gorffennol yn adrodd am broblemau efo band llydan yn Ynys Môn. Mi wnes i apêl yn ôl ym mis Ebrill am y wybodaeth ddiweddaraf. Mae gen i adroddiad arall—rwy'n siŵr y gallaf i yrru copi atoch chi. Mae'n amlwg bod yna nifer o ardaloedd sydd wedi colli allan o drwch blewyn, o bosibl, ar y rhaglen Cyflymu Cymru—mae ardaloedd Llanddona, Llansadwrn, Brynsiencyn, Cefniwrch a Rhyd-wyn yn rhai sydd wedi amlygu'u hunain.
Yn yr ardaloedd hynny, mi oedd gwaith wedi dechrau ar baratoi ar gyfer cysylltiad. Yn amlwg, mi oedd yna siom fawr o weld y rhaglen yn dod i ben heb i'r gwaith gael ei gwblhau. A ydych chi mewn sefyllfa i allu rhoi sicrwydd i'r etholwyr yma y byddan nhw'n flaenoriaeth—hynny yw, y bydd cwblhau gwaith a oedd wedi'i ddechrau yn flaenoriaeth o dan y rhaglen newydd, pan ddaw honno?
Ie, mae hwnnw'n fater i ni ei negodi â British Telecom—Openreach yw eu contractwr, wrth gwrs, felly mae'n bwysig peidio â drysu rhwng y ddau wrth i'r rhaniad ddigwydd. Y ffordd y gweithiodd y cynllun cyntaf, i egluro i'r Aelodau—. Mewn gwirionedd, cyfarfûm â Rhun ap Iorwerth yn ei etholaeth hefyd, gryn amser yn ôl erbyn hyn, onid oedd—roedd ychydig flynyddoedd yn ôl—i siarad am rai o'r problemau yno. Oherwydd y ffordd roedd y targed safleoedd yn y contract yn gweithio, ac am ei fod mor rymus, cysylltodd Openreach nifer fawr yn fwy o safleoedd nag oedd angen iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y ffigur hwnnw, oherwydd roedd y targed yn y contract yn llym iawn.
Mae hynny wedi golygu bod ganddynt lawer o seilwaith yn y ddaear. Ni chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei ddefnyddio i dalu am unrhyw seilwaith na chafodd ei gwblhau. Felly, rydym wedi cael sgwrs hir gyda hwy ynglŷn â'r elfen fasnachol mewn perthynas â hynny—ynglŷn â phwy a ddylai dalu am hynny. Maent eisoes wedi buddsoddi'r arian hwnnw. A ddylai'r pwrs cyhoeddus dalu am y rhan olaf? Pam na allant ei wneud eu hunain? Mae angen trafodaeth, ac mae'r sgwrs honno'n mynd rhagddi ochr yn ochr â'r broses gaffael. Cawn weld beth fydd canlyniad y broses honno.
Felly, os yw BT yn un o'r rhai sy'n gwneud y cais caffael, diau y byddant yn gwneud rhai cynigion yn rhan o hynny. Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders yn ddiweddar, rydym yn gofyn am addewidion penodol—cynlluniau penodol ar gyfer safleoedd penodol. Felly, buaswn yn synnu'n fawr pe na baent wedi'u cynnwys, ond rydym yng nghanol y broses gaffael yn awr, felly nid oes gennyf unrhyw wybodaeth ynglŷn â beth y maent yn ei gynnig ar hyn o bryd.
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r gymuned LGBT? OAQ52337
Gwnaf, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi'r gymuned LHDT yng Nghymru. Mae camau gweithredu cysylltiedig yn cynnwys gwaith ar addysg rhywioldeb a pherthnasoedd, canllawiau gwrthfwlio wedi'u diweddaru a gwelliannau i'r gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Stonewall Cymru i gefnogi pobl LHDTC+ a gwella ein dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio arnynt.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Roeddwn yn falch o rannu llwyfan trawsbleidiol gyda'r Prif Weinidog yn ddiweddar mewn digwyddiad a noddir gan PinkNews i ddathlu 30 mlynedd ers cyflwyno adran 28, a hefyd i groesawu'r cynnydd rydym wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf gan lywodraethau o bob lliw wrth iddynt hyrwyddo hawliau'r gymuned LHDT. Fe sonioch am gyllid ar gyfer Stonewall Cymru, ac rwy'n siŵr y byddwch yn rhannu fy mhryderon fod ffigurau diweddaraf Stonewall Cymru—yn y cyfryngau heddiw, fel y mae'n digwydd—yn dangos bod mwy na thraean o weithwyr LHDT yng Nghymru yn cuddio eu rhywioldeb oherwydd eu bod yn ofni gwahaniaethu.
Roedd yna ystadegau eraill hefyd a oedd yn peri pryder, megis yr 16 y cant o bobl LHDT a oedd yn dweud eu bod yn darged i sylwadau neu ymddygiad negyddol yn y gweithle. Felly, yn amlwg, rydym wedi dod yn bell dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd. Rydych eisoes wedi amlinellu rhai meysydd lle rydych yn gobeithio mynd i'r afael â phroblem gwahaniaethu yng Nghymru. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd eich polisïau yn ymdrin yn benodol â'r math hwn o wahaniaethu, na ddylid bod unrhyw le iddo yn y gweithle modern.
Ie, cytunaf yn llwyr—ni ddylid bod unrhyw le o gwbl iddo yn y gweithle modern. Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau cynharach, rydym wedi dychryn wrth weld ei fod yn dal i fod yn gymaint o destun pryder. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, bydd gwaith yn mynd rhagddo gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i wneud yn siŵr fod y cynllun gweithredu economaidd yn nodi gwahaniaethu o bob math.
Rydym hefyd yn gweithio ar ein canllawiau gwrthfwlio. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y bydd addysg rhywioldeb a pherthnasoedd yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd, sy'n ymwneud ag addysg a derbyniad. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrch 'Dyma Fi', yr ymgyrch yn erbyn stereoteipio ar sail rhywedd, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi cael croeso gan nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru, i ddechrau ar y broses o sicrhau bod pobl yn gwybod nad yw'r math hwnnw o wahaniaethu yn dderbyniol. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud wrth unrhyw unigolyn sy'n profi hynny, wrth gwrs, yw y dylent roi gwybod amdano. Mae yna sefydliadau sy'n gallu helpu pobl i frwydro yn erbyn y math hwnnw o wahaniaethu yn y gweithle oherwydd, wedi'r cyfan, mae'n anghyfreithlon i wahaniaethu yn y ffordd honno yn erbyn pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.
6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ sefydlu bwrdd cymorth a her digidol i weithredu fel catalydd ar gyfer arloesi ar draws y sector cyhoeddus? OAQ52378
Rwyf bob amser yn croesawu cymorth a chefnogaeth yr Aelod ar yr agenda trawsnewid digidol. Rydym yn adolygu cynnydd yn y defnydd o dechnoleg ddigidol a data wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf arnynt. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn argymhellion adolygiad Reid a'ch awgrym chi ar gyfer y bwrdd her. Hoffwn yn fawr eich cyfarfod i drafod sut y gallem fwrw ymlaen â hynny.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o drafod wedi bod yma heddiw, fel erioed, ar y seilwaith digidol, ond nid oes hanner digon o sylw wedi cael ei roi, yn fy marn i, i sut y defnyddiwn y seilwaith hwnnw i drawsnewid y ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n amlwg fod hon yn agenda heriol i bob Llywodraeth, ac mae'r dystiolaeth y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi'i chael wedi dangos bod yna her benodol yn wynebu llywodraeth ganolog a llywodraeth leol o ran cael y modd i'w galluogi i fod yn gleientiaid deallus. Roeddwn yn meddwl ynglŷn â'r awgrym o gasglu pobl ynghyd o'r byd y tu allan, sy'n ysu am gynnydd ar yr agenda hon, i ddod i helpu—nid fel rhyw fath o bwyllgor sefydlog i dderbyn cyflwyniadau a phapurau, ond i weithredu fel ffrindiau beirniadol i swyddogion a Gweinidogion i'w helpu i ddeall yr amgylchedd cymhleth hwn ac i sicrhau'r newid rydym ei daer angen a hynny ar frys.
Ie, rwy'n croesawu'r awgrym. Byddaf yn cyflwyno papur i'r Cabinet ar drawsnewid gwasanaethau digidol yn y sector cyhoeddus yn yr hydref, a bydd yn dwyn ynghyd ystod eang o weithgareddau sydd eisoes ar waith ac yn canolbwyntio ar y camau nesaf. Felly, mae'n gyfle perffaith i gynnwys y math hwnnw o her yn y broses i wneud yn siŵr fod gennym y wybodaeth orau ar gyfer uwchsgilio ein pobl er mwyn sicrhau bod y trawsnewidiad hwnnw'n digwydd. Felly, rwy'n croesawu'r awgrym yn fawr a gobeithiaf y gallwn fwrw ymlaen ag ef.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi gefnogi galwad Lee Waters a'ch atgoffa, o dan strategaeth ddigidol y DU, fod ganddynt bartneriaeth sgiliau digidol, sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol? Onid ydych yn cytuno y dylem fod yn canolbwyntio ar ddull traws-sector o ysgogi arloesedd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru, oherwydd ceir manteision addawol iawn pan fydd pawb ohonom yn gweithio gyda'n gilydd?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n cadeirio'r grŵp trawslywodraethol, sy'n dwyn ynghyd rhannau gwahanol o Lywodraeth Cymru, ac rwyf wedi bod yn cydweithio gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ar ddatblygu'r agenda ddigidoleiddio iechyd, sy'n rhan bwysig iawn o hyn. Mae sawl elfen iddi, fel y mae gwahanol Aelodau wedi nodi. Ceir yr elfen sgiliau, ceir yr elfen dechnoleg a chaledwedd, yr elfen seilwaith, ond hefyd ceir yr elfen trawsnewid gwasanaethau a thrawsnewid bywydau. Nid ni sydd â'r syniadau da i gyd ar hynny, felly rwy'n croesawu cyfoeth o syniadau o bob cyfeiriad ar sut y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn dilyn y don yn hytrach na chael ein boddi ganddi.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu cysylltiadau band eang i adeiladau newydd? OAQ52350
Gwnaf. Mae cytundebau newydd ar waith rhwng darparwyr cysylltedd ac adeiladwyr tai a fydd yn eu galluogi i ddarparu gwasanaeth ffeibr cyflym iawn yn llawn o'r cychwyn. Rydym yn monitro cynnydd, a byddwn yn nodi a fydd angen inni roi unrhyw fesurau pellach ar waith.
Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwyf wedi crybwyll mater Dyffryn y Coed wrthych yn y gorffennol, sef ystâd newydd ym Mhentre'r Eglwys yn fy etholaeth. Ymddengys mai dyma'r broblem: cysylltiad copr yn unig sydd ganddynt er bod gan ran gynharach o'r ystâd gysylltiad ffeibr mewn gwirionedd; mae llawer o bobl sy'n byw yno angen band eang cyflym iawn oherwydd eu gwaith. Ymddengys mai'r broblem yw bod cais cynllunio wedi'i wneud saith neu wyth mlynedd yn ôl, a rhoddwyd caniatâd a dyna oedd diwedd y mater. Mater i BT wedyn yw penderfynu beth y maent am ei gysylltu, beth y credant sy'n briodol, a bellach mae'n golygu bod yn rhaid i breswylwyr berswadio BT i dalu amdano neu wneud cais am grantiau a dilyn proses fiwrocrataidd er mwyn cael y band eang cyflymder uwch y maent ei angen. Mae'n ymddangos i mi y dylid darparu'r cyflymder uchaf sydd ar gael yn rhesymol ac y dylai hynny ddigwydd fel mater o drefn. Ond ymddengys bod y system yn chwalu gan nad oes unrhyw rwymedigaeth ar yr awdurdod lleol na BT, ac mae'r datblygwr tai, yn amlwg, rywle ynghanol hynny i gyd. Beth y gellir ei wneud i sicrhau, lle mae'r datblygiadau newydd hyn yn digwydd, fod yna lefelau priodol o fand eang yn cael eu darparu mewn gwirionedd; fod rhwymedigaeth ar y darparwyr, fod y system yn gweithio i sicrhau bod hynny'n digwydd?
Ie. Mae'n broblem sylfaenol a gwleidyddol gyda g fach oherwydd mae'r gwasanaeth hwn yn seilwaith, ond mae Llywodraeth y DU yn parhau i'w ystyried yn gynnyrch moethus y gallwch ei brynu os hoffech ei gael, a dyna'r anhawster sylfaenol. Felly, nid yw'n cael ei drin fel seilwaith, na gwasanaeth cyhoeddus y mae pobl ei angen, caiff ei drin fel rhywbeth dymunol yn hytrach nag angenrheidiol, ac yn amlwg nid dyna ydyw.
Mae'r pennaeth cynllunio wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yn ddiweddar i'w hatgoffa y gallant gynnwys rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer adeiladau newydd. Roedd gennym gytundeb â rhai o'r darparwyr mawr i wneud hynny, ac fel y dywedais, rydym yn monitro hynny, ond os ydych yn ymwybodol o ystadau penodol a adeiladwyd rhwng yr ardal ymyrraeth a nawr, byddwn yn ceisio cynnwys y rheini yn y caffaeliadau newydd neu gael hyd i atebion pwrpasol ar gyfer yr ystadau hynny. Felly, mae'n werth i mi gael sgwrs â chi, neu gyda fy swyddogion, i weld a allwn ddod o hyd i ateb pwrpasol ar gyfer y broblem benodol honno. Ond yn y bôn, mae'r mater yn ymwneud â sut rydych yn ystyried y gwasanaeth penodol hwn yn wleidyddol, ac rwyf o'r farn, yn y bôn, y dylai fod yn seilwaith.
8. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches o fewn cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52376
Gwnaf. Ychydig iawn o geiswyr lloches sydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ond adsefydlwyd dros 200 o ffoaduriaid o dan y cynllun i adsefydlu pobl o Syria. Yn y rhan fwyaf o achosion, maent yn integreiddio'n dda ac yn llwyddo i greu bywydau newydd iddynt eu hunain yma yng Nghymru.
Diolch i arweinydd y tŷ am y datganiad hwnnw, ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn y mae'n ei ddweud. Mae gan y DU hanes hir o adsefydlu pobl sydd wedi ffoi rhag erledigaeth yn eu mamwlad, ac mae'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono a dylem barhau i'w wneud. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng ffoaduriaid sy'n dianc rhag rhyfel ac erledigaeth ac ymfudwyr economaidd, ac mae'n hanfodol nad yw'r gwahaniaeth hwn yn cael ei gymylu.
Oherwydd hynny, testun pryder oedd clywed arweinydd y tŷ yn dweud ddoe mewn ymateb i David Rowlands:
'ni allaf fod mor galon galed â dweud bod rhywun sy'n ffoi rhag rhyfel yn ffoadur priodol ond nad yw rhywun sy'n ffoi rhag newyn a thlodi mawr yn ffoadur priodol.'
Y diffiniad o ffoadur yw unigolyn a orfodwyd i adael eu gwlad er mwyn dianc rhag rhyfel, erledigaeth neu drychineb naturiol. Os ydym yn cymylu'r gwahaniaeth hwnnw rhyngddynt a phobl sy'n ymfudwyr economaidd, nid oes terfyn i nifer y bobl y mae'n rhaid i ni eu gadael i mewn, a byddai hynny, rwy'n credu, yn creu cryn dipyn o ddrwgdeimlad ymhlith nifer fawr iawn o bobl, ac nid ydym eisiau gweld hynny'n digwydd.
Felly, a fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn inni fod yn fanwl yn ein defnydd o iaith yn y maes hwn er mwyn cadw cymaint â phosibl o gefnogaeth y cyhoedd i dderbyn cynifer o ffoaduriaid, sy'n ffoaduriaid go iawn, ag y bo modd?
Wel, ni allwn anghytuno yn fwy sylfaenol â chi hyd yn oed pe bawn yn ceisio gwneud hynny. Roeddech yn gywir yn eich diffiniad o'r gair 'ffoadur'; roeddwn yn sôn yn syml am drugaredd y sefyllfa. Roeddwn i, fy hun, yn ymfudwr economaidd ar draws y byd, lle y cefais fy nerbyn gydag ymateb da iawn ym mhob cymuned y symudodd fy nheulu iddi, ac roeddem yn symud yno er mwyn sicrhau canlyniad economaidd gwell i'n teulu ni. Nid oes gennyf mo'r galon, fel y dywedais ddoe, i drin unrhyw un arall yn wahanol.
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu band eang cyflym iawn yn Nwyrain Abertawe? OAQ52343
Gwnaf. Er nad oes gennym wybodaeth benodol ar gyfer Dwyrain Abertawe, o dan brosiect Cyflymu Cymru rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 25,115 o safleoedd ar draws bob rhan o Abertawe, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 93 y cant. Y cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar draws Abertawe yw 83.16 Mbps.
A gaf fi ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw? Nid wyf am ofyn beth yw'r cyflymder lanlwytho gan y bydd hwnnw'n is mae'n debyg. Mae'r pwynt roeddwn eisiau ei ddwyn i sylw arweinydd y tŷ yn un allweddol. Mae gennym ddarpariaeth uchel iawn, ond nid oes gennym nifer fawr o bobl yn manteisio arno. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog ei ddefnydd gan bobl sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn, ond nad ydynt yn gwybod ei fod ar gael neu nad ydynt yn credu o bosib eu bod ei angen? Rwyf am eich dyfynnu o ychydig funudau yn ôl: mae'n wasanaeth sylfaenol, nid rhywbeth ychwanegol ar gyfer y cyfoethog yn unig. Felly, beth y gellir ei wneud i'w hyrwyddo er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio band eang cyflym iawn, gan y byddai o fudd mawr iddynt hwy a'u teuluoedd?
Ie, cytunaf yn llwyr. Ers Hydref 2016, rydym wedi bod yn darparu rhaglen farchnata a chyfathrebu ar lefel ranbarthol ledled Cymru i annog pobl i fanteisio ar fand eang cyflym iawn am yr holl resymau y mae Mike Hedges newydd gyfeirio atynt, ond hefyd am y rheswm ein bod yn dal i gael cyfran o'r budd, felly gorau po fwyaf o arian a gawn yn ôl o'r gyfran o'r budd, oherwydd rydym ymhell dros y gyfradd ddefnyddio o 21 y cant, oherwydd mae'r Llywodraeth wedi addo ailfuddsoddi'r gyfran honno o'r budd yn ôl i mewn i'r seilwaith. Felly, mae'n bwysig iawn ar y ddwy ochr.
Dechreuodd y cyfnod o hysbysebu defnydd o gyfathrebu ym mis Ebrill eleni ac mae'n cynnwys dull sy'n cyfuno cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu, digwyddiadau a chyfryngau cymdeithasol. Nid wyf yn gwybod a yw'r Aelod wedi gweld bod gennym fellten fawr sy'n dweud, 'Mae band eang cyflym iawn wedi cyrraedd eich ardal' sy'n ymddangos ar leiniau glas pentrefi. Roedd yng Ngŵyl y Gelli a bydd yn y Sioe Frenhinol ac mae wedi bod mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n drawiadol iawn ac mae pobl ifanc yn arbennig yn ei hoffi ac yn cael eu denu ato, felly gallwn ddefnyddio hynny fel bachyn i annog pobl i fanteisio arno.
Ar hyn o bryd, 44 y cant yw'r gyfradd sy'n manteisio ar wasanaethau ffeibr, felly rydym ar y trywydd cywir i gyrraedd ein targed o 50 y cant erbyn 2023, sef y gyfran o'r budd. Mae hon yn gromlin ddiddorol ar gyfer technoleg newydd. Efallai ein bod ni i gyd yn credu bod gweld llai na hanner y bobl yn manteisio arni yn wael iawn, ond os edrychwch ar gromliniau technoleg, a gwn fod yr Aelod yn gyfarwydd â hwy mewn gwirionedd, mae ymhell o flaen y duedd ar gyfer y rhan fwyaf o dechnolegau newydd, sy'n tanlinellu'r pwynt a wnaf ynglŷn â'r ffaith ei fod yn seilwaith hanfodol sydd eisoes ar ei gamau cynnar yn hytrach na'r cynnyrch moethus y mae Llywodraeth y DU yn dal i gredu ydyw.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad a bydd y cwestiwn cyntaf heddiw yn cael ei ateb gan y Llywydd. Mandy Jones.
1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am gynnydd yn erbyn yr uchelgais a nodir yn strategaeth gyfredol Comisiwn y Cynulliad i ymgysylltu â holl bobl Cymru a hyrwyddo'r Cynulliad? OAQ52370
Mae’r Comisiwn yn gwneud cynnydd yn y maes yma ac yn ymgysylltu â phobl Cymru mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn ein hallbwn newyddion a digidol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi cynnal digwyddiadau ar hyd a lled Cymru i hyrwyddo ac annog ymwneud â gwaith y Cynulliad, ac rydym wedi cychwyn ar y broses o sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, ac mi fyddwn yn cynnal Senedd@Delyn yr wythnos nesaf yn rhanbarth yr Aelod.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Gwn y bydd y Senedd yn fy rhanbarth i yn Nelyn yr wythnos nesaf ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyfle i bobl o bob cwr o Gymru weld a chlywed am yr hyn sy'n digwydd yn y lle hwn. Mae gennyf ddiddordeb arbennig heddiw yn yr uchelgeisiau a nodwyd yn y strategaeth i ganolbwyntio ar ddod wyneb yn wyneb â phobl sydd wedi ymddieithrio a thrwy dargedu gwell. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i gyflawni'r nod hwnnw?
Mi fydd Senedd@Delyn, fel yr enghreifftiau o Senedd@ rŷm ni wedi'u cynnal mewn gwahanol ardaloedd hyd yn hyn, yn gwneud ymdrech benodol iawn i gysylltu gyda chymunedau a gydag unigolion nad ydynt yn naturiol yn cysylltu'u hunain gyda gwaith y Cynulliad hwn. Felly, mae'r gwaith yna o ymgysylltu drwy Senedd@ yn bwysig iawn i hyrwyddo cysylltiad gyda grwpiau ac unigolion nad ydynt yn gwneud y cysylltiad yn arferol. Ac wedyn, fe wnaf i gymryd y cyfle unwaith eto i bwyntio Aelodau at y gwaith pwysig rŷm ni'n mynd i fod yn ei wneud gyda phobl ifanc yn enwedig dros y misoedd sydd i ddod, i hyrwyddo'r ffaith bod cyfle nawr yn mynd i fod gan bobl ifanc Cymru i fod yn seneddwyr yn eu hawl eu hunain ac, wrth gwrs, rŷm ni i gyd yn ymwybodol bod yna angen mawr i sicrhau bod ein pobl ifanc ni'n gwybod am y cyfleoedd democrataidd sydd yn bodoli yma yng Nghymru erbyn hyn.
Bydd cwestiwn 2 yn cael ei ateb gan y Llywydd. Simon Thomas.
2. Pa gefnogaeth y bydd y Comisiwn yn ei ddarparu i Aelodau'r Cynulliad i gynnal rhwydweithiau rhyngwladol os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ52371
Bydd y Comisiwn yn parhau i gefnogi Aelodau i gymryd rhan mewn nifer o rwydweithiau rhyngwladol, yn ogystal â thrafodaethau dwyochrog a chysylltiadau llai ffurfiol, o fewn a thu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Cytunodd y Comisiwn ar ein fframwaith ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol y Cynulliad ym mis Mai y llynedd, ac mae'r fframwaith yn uchelgeisiol ac fe'i datblygwyd gydag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd mewn golwg.
Rwy'n diolch i'r Llywydd am yr ateb yna. Bydd hi'n ymwybodol, wrth gwrs, ei bod wedi bod yn arfer i Aelodau Cynulliad i ddefnyddio'r gallu yma i ymgysylltu ac i gwrdd â chyd-seneddwyr, nid yn unig ym Mrwsel, ond mewn gwledydd sydd yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, ac ychydig o hyblygrwydd o dan gynllun y Gymanwlad hefyd i ymweld â gwledydd mwy pell, er nad yw Malta mor bell â hynny na chwaith Cyprus. Ond yng nghyd-destun y strategaeth newydd, a fydd yna fwy o anogaeth i ddefnyddio'r cysylltiadau yma, gan y bydd, wrth gwrs, y pethau arferol o Aelodau Cynulliad yn gallu dibynnu ar y Llywodraeth yn gwneud cysylltiadau ac, yn ei thro, yn adrodd nôl i fan hyn—efallai bydd mwy o ddyletswydd arnom ni fel Aelodau unigol i gynnal y rhwydweithiau yma oherwydd bod dysgu o arfer da mewn gwledydd eraill yn mynd i barhau, Brexit ai peidio?
Rydw i'n cytuno â thrywydd yr hyn mae'r Aelod yn ei godi. Mae yna gyfrifoldeb mwy, o bosib, arnom ni fel Cynulliad ac fel Aelodau unigol yn y lle yma nawr i hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol, boed hynny gydag aelod wladwriaethau neu senedd-dai rhanbarthol o fewn yr Undeb Ewropeaidd fel y bydd hi'n bodoli, a hefyd tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, rydw i eisiau ein bod ni'n parhau â'r gyfundrefn o gefnogi Aelodau i wneud y cysylltiadau naill ai unigol hynny neu fel pwyllgorau, neu fel grwpiau o Aelodau, a minnau hefyd fel Llywydd yn mynd ati i gwrdd â chyd-Lywyddion mewn senedd-dai rhanbarthol. Fe ges i'r cyfle'n ddiweddar iawn i ymweld â senedd yn Valencia yn ogystal ag yng Nghatalwnia, ac rydw i'n edrych ymlaen, yn yr wythnosau nesaf yma, at groesawu Llywydd Gwlad y Basg i'r Senedd fan hyn. Felly, mae'r cyfrifoldeb arnom ni'n fwy nawr i fod yn cefnogi ac yn hyrwyddo ein cysylltiadau ni fel Senedd gyda gwledydd a rhanbarthau eraill y byd.
Diolch. Bydd cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson. Daw cwestiwn 3 gan Julie Morgan.
3. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i annog staff i feicio i'r gwaith? OAQ52368
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n falch o gadarnhau bod y Comisiwn yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau a chymorth i annog staff i feicio i'r gwaith. Mae hynny'n cynnwys cyfleuster cadw beiciau ar y safle gyda lle i 67 o feiciau. Mae cyfleusterau cawodydd a loceri ar gael hefyd, yn ogystal â dau sychwr dillad, offer ar gyfer mân atgyweiriadau beic a mapiau o lwybrau beicio lleol—hyn oll i annog rhagor o bobl sydd eisiau beicio yma.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw ac rwy'n llongyfarch y Cynulliad ar yr hyn y mae'n ei wneud yn gyffredinol i annog beicio. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Sustrans ei adroddiad 'Bywyd Beicio' ar arferion beicio merched mewn saith dinas ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd. Dangosodd nad oes ond 14 y cant o fenywod yn beicio unwaith yr wythnos yng Nghaerdydd, o gymharu â 27 y cant o ddynion, a'r gymhareb o feicwyr benywaidd i feicwyr gwrywaidd yw 1:19. Felly, beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i annog mwy o aelodau benywaidd o staff yn arbennig i feicio i'r gwaith? A oes gennych ddadansoddiad yn ôl rhywedd o'r aelodau o staff sy'n beicio i'r gwaith? Byddai'n ddiddorol gweld a yw staff y Cynulliad yn adlewyrchu canfyddiadau adroddiad Sustrans. A oes unrhyw beth arall y gallai'r Comisiwn ei wneud i annog aelodau benywaidd o staff?
Rwyf wedi gweld yr astudiaeth. Yn wir, mae gennyf gopi ohoni ar y cefn yma. Nid wyf yn gwybod a oes gennym ddadansoddiad o'r niferoedd, ond mae'n rhywbeth y gallwn ei wneud a chredaf y byddai hynny'n eithaf defnyddiol. O ran beth arall y gallwn ei wneud, rydym yn cynnig yr holl gyfleusterau sydd ar gael i bawb, felly ceir cawodydd rhyw-benodol yma, chwech ohonynt, ar gyfer dynion a menywod. Ond mae'n debyg mai'r hyn a gynigiwn yn bennaf yw'r cyfle i feicio i'r gwaith a rhywfaint o ddarpariaeth wedi i chi gyrraedd yma. Rydym yn cydweithio â chyngor Caerdydd, oherwydd un o'r problemau a'r rhesymau pennaf pam nad yw pobl yn beicio yw oherwydd bod arnynt ofn gwneud hynny. Felly, rydym yn cydweithio â chyngor Caerdydd i ddarparu gwersi hyfedredd beicio am ddim a dylai hynny helpu rhywfaint. Rydym hefyd yn cydweithio â Dr Beic, sef gwasanaeth mân atgyweiriadau beiciau ar gyfer beicwyr. Rydym wedi edrych ar Sustrans ac rydym yn pwyso arnynt i ddarparu gwybodaeth a chymorth i'n helpu ni i helpu pobl i feicio o gwmpas Caerdydd a Chymru.
Diolch. Bydd cwestiwn 4 yn cael ei ateb gan y Llywydd. Mark Reckless.
4. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y dyraniad buddsoddi newydd ar gyfer cynllun pensiwn Aelodau'r Cynulliad? OAQ52338
Bwrdd y cynllun pensiwn sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ddyrannu buddsoddiad ar gyfer cynllun pensiwn Aelodau'r Cynulliad, ac nid yw'r Comisiwn yn chwarae unrhyw ran yn hynny. Mae'r penderfyniad ynglŷn â lle y dylid buddsoddi yn seiliedig ar gyngor y mae cynghorwyr buddsoddi'r bwrdd yn ei roi, ac mae'r penderfyniad yn cael ei gytuno gan y bwrdd pensiynau yn ei gyfanrwydd.
Yn ddiweddar, mae Aelodau wedi derbyn hysbysiad gan y bwrdd ynglŷn â phroses newydd ar gyfer dyrannu buddsoddiad, ac yn hytrach nag un rheolwr portffolio—yn synhwyrol yn fy marn i—rydym wedi symud tuag at lond llaw o wahanol reolwyr portffolio. Fodd bynnag, buaswn yn cwestiynu'r penderfyniad yn y dyraniad i fuddsoddi dros un rhan o ddeg o'r gronfa bensiwn mewn giltiau mynegrifol, sy'n gwarantu, ar hyn o bryd, dros dymor y buddsoddiad, y byddwn yn colli tua 1.5 y cant neu fwy y flwyddyn. A phan fo'r Comisiwn yn gorfod cyfrannu oddeutu 3 y cant, rwy'n credu, yn ychwanegol y flwyddyn oherwydd enillion rhagamcanol is ar fuddsoddiadau, onid yw hynny, yn ei dro, yn adlewyrchu'r penderfyniad dyrannu hwnnw, lle rydym hefyd yn gweld nad oes dyraniad penodol o gwbl i ecwitïau'r DU, sydd ag arenillion difidend o rhwng 3.5 y cant a 4 y cant ac sydd, ar hyn o bryd, ar brisiadau o gymharu ag enillion sy'n gymharol isel o'u cymharu â marchnadoedd datblygedig eraill?
Wel, er fy mod yn deall y pwynt a wnaethoch, fel y dywedais yn fy ateb, nid yw'r Comisiwn yn chwarae unrhyw ran uniongyrchol yn y penderfyniad dyrannu buddsoddiad y mae'r bwrdd pensiwn newydd ei wneud, ond rwy'n credu ei bod yn briodol i chi gyflwyno sylwadau i'r bwrdd pensiynau os ydych yn dymuno gwneud hynny. Fel Aelodau o'r Cynulliad, mae gennym gynrychiolwyr ar y bwrdd hwnnw a etholwyd gennym fel Aelodau Cynulliad, a hefyd, wrth gwrs, mae gan y Comisiwn gynrychiolwyr ar y bwrdd hwnnw. Fe wnaf yn siŵr fod cynrychiolwyr y Comisiwn yn ymwybodol o'r safbwyntiau rydych wedi'u mynegi, a gobeithiaf y byddwch yn defnyddio eich cynrychiolwyr ar y bwrdd yn yr un modd i fynegi'r safbwyntiau rydych wedi'u rhannu hyd yma.
Pwy yw'r cynrychiolydd?
Diolch. Simon Thomas.
Mike Hedges.
Rydw i'n meddwl bod hynny'n ateb i'r cwestiwn blaenorol. [Chwerthin.] Mae'n bosib iawn nawr, yn rhinwedd beth mae'r Llywydd newydd ei ddweud, bydd hi ddim yn gallu ateb y cwestiwn yma, ond eto bydd hi'n gallu cyflwyno'r neges i'r ochr Comisiwn, beth bynnag, ar y bwrdd. Roeddwn i'n sylwi, yn ddiweddar iawn, fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ysgrifennu at bob cronfa pensiwn sector gyhoeddus yng Nghymru, yn amlinellu sut i ddatgarboneiddio buddsoddiadau pensiwn, ac rwyf i hefyd yn sylweddoli bod y cronfeydd pensiwn yma, er enghraifft, wedi dod at ei gilydd i gynnig buddsoddiad yn y morlyn llanw ym mae Abertawe, ac yn amlwg yn chwilio am gyfleoedd fel hyn. Dau gwestiwn, felly: a ydy bwrdd pensiwn y Cynulliad yn rhan o'r sector gyhoeddus yng Nghymru—y gyfundrefn yna? Ac, yn ail, a ydy'r bwrdd, felly, wedi derbyn y llythyr yma gan y comisiynydd, a pha weithredoedd sy'n cael eu gwneud yn sgil hynny?
Wel, fedraf i ddim ateb y pwynt olaf yna, yn sicr. Nid ydw i yn ymwybodol a ydy'r bwrdd pensiynau wedi derbyn gohebiaeth gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond fe fyddwn i yn ei hannog hi i gysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd pensiynau, oherwydd byddwn i'n gobeithio y byddai'r bwrdd pensiynau eisiau edrych yn ofalus ar y safbwyntiau mae hi wedi eu gwneud ac annog ar y cynlluniau pensiwn cyhoeddus yng Nghymru. Gobeithio, felly, y bydd hi'n cysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd pensiynau.
Diolch. Bydd cwestiwn 5, unwaith eto, yn cael ei ateb gan y Llywydd. Bethan Sayed.
5. A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd ystafelloedd a mannau cyfarfod ar ystâd y Cynulliad? OAQ52357
Mae 32 o leoliadau ar gael i’w harchebu ar gyfer gweithgareddau caeedig a thri gofod cyhoeddus ar draws ystâd y Cynulliad. Mae 137 o gyfarfodydd yn cael eu cynnal bob wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor. Gall y rhain gael eu harchebu gan Aelodau'r Cynulliad, staff cymorth, staff y Comisiwn a chontractwyr.
Fe wnes i roi'r cwestiwn ger bron oherwydd roeddwn i eisiau erfyn arnoch chi, fel Comisiynydd, i newid y polisi lle mae Aelodau'r Cynulliad dim ond yn gallu bwcio 10 sesiwn ar yr ystâd mewn cyfnod o flwyddyn. Rydw i'n credu bod hyn yn discrimineiddio yn erbyn Aelodau'r Cynulliad sydd yn bod yn proactif yn trefnu digwyddiadau. Er enghraifft, os ydw i yn trefnu 10 digwyddiad a bod Aelod Cynulliad arall ond yn trefnu un, mae hynny wedyn yn meddwl nad oes cyfle i fi drefnu’r digwyddiad nesaf, sydd efallai o bwys i’r cyhoedd. Hoffwn i ofyn wedyn a ydy hynny yn cymryd i ystyriaeth y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd hefyd, achos, yn aml, nid ydym ni’n gallu ffeindio safle oherwydd y diffyg lle sydd ar gael.
Yr ail gwestiwn a oedd gen i ynglŷn â’r mater yma oedd: a allwn ni gael mwy o wybodaeth am sut mae’r tîm ystadau yn cymeradwyo yr hyn y mae Aelodau Cynulliad yn ei wneud? Mae gen i gonsyrn bod y gwasanaeth sifil yn gwneud penderfyniadau dros beth y mae Aelodau Cynulliad yn meddwl sydd yn ddefnydd priodol o’r ystâd. Rwyf ar ddeall bod yna ganllawiau ar gael, ond weithiau rydw i’n ffeindio bod y prosesau yn araf, araf iawn oherwydd bod y tîm ystadau yn penderfynu a yw digwyddiad yn weddus ai peidio. Rydym ni fel Aelodau Cynulliad eisiau mynd ati i hysbysebu’r digwyddiad, i ennyn pobl i ddod, tra bod y tîm ystadau mewn bubble ar ei ben ei hun yn trafod beth sydd yn digwydd—pobl sydd ddim wedi cael eu hethol. Felly, roeddwn i eisiau gwybod yn iawn beth yr oeddech chi yn ei feddwl o hynny, a pha fewnbwn yr ydych chi’n ei gael i’r broses honno, achos rydw i’n credu bod angen iddi wella a bod yn fwy effeithlon ar gyfer ni fel Aelodau Cynulliad.
Wel, gweithredu polisi a chanllawiau sydd wedi cael eu cymeradwyo gan gynrychiolwyr y pleidiau yn y Comisiwn mae ein staff ni yn ei wneud. Nid ydyn nhw’n penderfynu a ydy achos yn weddus neu beidio; maen nhw yn gweithredu yn ôl y polisi. Os oes gyda chi unrhyw enghraifft lle'r ŷch chi’n credu bod unrhyw benderfyniad gan unrhyw aelod o staff wedi bod yn anffafriol i chi, yna ysgrifennwch ataf i. Nodwch fan hyn, yn gyhoeddus, os ŷch chi'n moyn, beth yw hynny, ond codwch y mater gyda fi, ac rydw i’n hapus i edrych ar hynny.
Nid bwriad penderfynu gosod mwyafswm o 10 fel y nifer o ddigwyddiadau i gael eu bwcio gan un Aelod oedd i ddiscrimineiddio yn erbyn Aelodau. Yn wir, y gwrthwyneb oedd y bwriad, sef i sicrhau bod pob Aelod yn y lle yma gyda'r un math o siawns i allu bwcio lle—achos roedd y dystiolaeth a gawsom ni gan Aelodau yn dangos bod rhai Aelodau yn bwcio nifer fawr o ddigwyddiadau, ac yn gyson, ac, yn bennaf, roedd rheini’n Aelodau sydd yn gwasanaethu yn yr ardal yma ac yn cynrychioli yr ardal o gwmpas Caerdydd—ac felly i sicrhau bod y ddysgl yn wastad i Aelodau ar draws Cymru.
Nawr, os ydy hynny—ac fe gafodd y cwestiwn hwn ei godi yng nghwestiynau’r Comisiwn y tro diwethaf, pan gawsom ni drafodaeth, gyda Jenny Rathbone yn codi’r un pwynt. Fe wnes i’r ymrwymiad pryd hynny i edrych eto ar y canllawiau newydd yma os ydyn nhw’n effeithio’n negyddol ar waith democrataidd Aelod yn y lle yma. Felly, fe fyddwn i’n croesawu i chi, Bethan, ysgrifennu ataf i gydag unrhyw enghreifftiau sydd gyda chi—a siŵr o fod yn croesawu unrhyw Aelod o'm cwmpas i fan hyn i ysgrifennu ataf i gydag unrhyw enghraifft—o sut mae y canllawiau newydd yma wedi effeithio’n negyddol ar y gwaith democrataidd yr ŷch chi’n ei wneud, achos gallaf i eich sicrhau chi nad dyna'r bwriad, ac os ydy e wedi cael y sgil-effaith yna, yna, yn sicr, fe fydd yn rhaid inni ailedrych ar bopeth.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a daw'r cwestiwn amserol y prynhawn yma gan Julie Morgan, i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Julie.
1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i'r 203 o swyddi a gollwyd yng nghanolfan alwadau Barclays ym Mhontprennau, Caerdydd? 187
Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn a dweud ei bod yn drueni mawr iawn fod Barclays wedi gwneud y penderfyniad hwn. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i gynorthwyo gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn fel mater o frys. Byddaf yn siarad â rheolwyr Barclays ddydd Gwener, a chyfarfûm â chynrychiolwyr undeb y bore yma.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol fod 170 o swyddi yn mynd i Northampton, a bod nifer fach o swyddi yn mynd i India. Ond mae'n bwysig gwneud y pwynt nad rhain yw'r swyddi cyntaf i gael eu colli yng Nghaerdydd, ac yng Ngogledd Caerdydd yn benodol, sy'n swyddi gwasanaethau ariannol a swyddi canolfannau galwadau, oherwydd rydym wedi colli 1,100 o swyddi yn Tesco yn weddol ddiweddar, o Tesco House. Y llynedd, caeodd Barclays ei ganolfan forgeisi yn Llanisien hefyd. Cafodd 180 o swyddi eu colli o ganlyniad i hynny. Mae pump o ganghennau banc Barclays, NatWest a HSBC hefyd wedi cau yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd. Felly, mae hynny i gyd yn creu cyfanswm o hyd at 1,500 o swyddi a gollwyd yn y diwydiant ariannol a chanolfannau galwadau dros y ddwy flynedd diwethaf.
Felly, nid wyf yn gwybod beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio perswadio cwmnïau gwasanaethau ariannol a phenaethiaid canolfannau galwadau i atal yr holl swyddi hyn rhag cael eu colli, oherwydd nid yw'r swyddi o reidrwydd yn dod i ben—maent yn mynd i leoedd eraill, megis Northampton, ac fe aeth swyddi Tesco i rywle arall. Beth y gall ef ei wneud i gynnal deialog barhaus â'r gwasanaethau ariannol, gyda Barclays? Tybed a oes unrhyw fforwm lle y byddent yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet beth yw eu cynlluniau yn y dyfodol, beth yw eu cynlluniau ar gyfer y ddinas, oherwydd credaf fod colli'r holl swyddi yn y gwasanaeth arbennig hwn yn destun pryder mawr.
Mae'r Aelod yn gywir yn dweud bod nifer sylweddol o swyddi wedi cael eu colli o ganlyniad i newidiadau mawr sy'n digwydd o fewn y sector canolfannau galwadau ar hyn o bryd. Ond yn yr un modd, mae nifer enfawr o swyddi'n cael eu creu yng Nghaerdydd, ac o ganlyniad uniongyrchol i gymorth Llywodraeth Cymru, mae yna stori dda i'w hadrodd am swyddi a sicrhawyd yn TUI yn Abertawe, yn Which?, sy'n agor eu canolfan alwadau gyntaf erioed yng Nghaerdydd, ac Aon, yn ogystal â MotoNovo—mae'r rhain i gyd yn gwmnïau sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i greu swyddi gwerthfawr.
Fodd bynnag, mewn perthynas â'r mater penodol hwn, unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r rhai a gafodd eu heffeithio gan y penderfyniad. Nawr, mae Barclays wedi rhoi sicrwydd i ni y bydd yn cadw 250 o swyddi, gan gynnwys 44 o swyddi gwag y mae Barclays yn bwriadu eu llenwi yng Nghaerdydd, ond mae hwn yn ymrwymiad rwyf eisiau ei weld yn cael ei osod mewn concrid, a bydd gennyf nifer o gwestiynau i'w gofyn i Barclays ddydd Gwener. Bydd fy neges i'r busnes yn glir iawn—fod ganddynt bump o werthoedd, yn seiliedig ar barch, gonestrwydd, gwasanaeth, rhagoriaeth a stiwardiaeth, ac mae angen iddynt ddangos bod eu gwerthoedd yn cyrraedd at frig y cwmni o ran sut y maent yn ymdrin â'r gweithwyr yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad. Yr hyn sy'n gwbl glir yw y bydd y penderfyniad yn arwain at dasg anodd i Barclays wrth iddynt fynd ati i gyflogi pobl newydd yn Northampton, oherwydd maent yn cael trafferth ar hyn o bryd. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, yn seiliedig ar drafodaethau y bore yma, maent yn ei chael hi'n anodd recriwtio pobl sydd ar gael yn barod yn Northampton, ac yn lle hynny, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i Barclays dalu premiwm er mwyn ceisio denu pobl o fusnesau eraill. Nid yw hynny'n dda iddynt, nid yw'n dda i'r bobl a fydd yn colli eu swyddi yma yng Nghaerdydd, ac nid yw'n dda ychwaith i'r busnesau yn Northampton a fydd yn colli staff gwerthfawr. Nid yw hwn yn benderfyniad synhwyrol yn fy marn i, a dyma'r neges y byddaf yn ei rhoi i Barclays.
Nawr, y rheswm sy'n sail i'r newidiadau mawr y soniais amdanynt yw bod newid sylweddol yn ymddygiad defnyddwyr, ac o ganlyniad i hynny, rydym yn gweld llawer iawn o gyfuno'n digwydd ar draws y DU, sy'n cynnwys darparu gan gyflenwyr allanol, ac yn wir, darparu adnoddau i'r DU. Er bod Cymru wedi bod ar ei hennill—ac yn amlwg, mae Caerdydd wedi bod ar ei ennill yn ddiweddar—ac rwyf wedi nodi rhai o'r busnesau rydym wedi'u cynorthwyo i greu swyddi, rydym hefyd wedi wynebu colledion. Yr hyn sy'n hollbwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo busnesau newydd i greu swyddi yma ond ei bod hefyd yn parhau i helpu busnesau sy'n bodoli'n barod i dyfu eu gweithrediadau. Rydym wedi cael stori lwyddiant dda iawn yn ddiweddar mewn perthynas â'n sector canolfannau cyswllt cwsmeriaid, yn ogystal â'r sector gwasanaethau proffesiynol ac ariannol ehangach, a ddoe, cyhoeddodd fforwm canolfannau cyswllt Cymru ffigurau ar economi de Cymru a nifer y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, credaf fod dros 1,145 o swyddi gwag ar gael yn y sector. Hefyd, o ganlyniad i'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn busnesau, bydd 800 o swyddi pellach yn cael eu creu erbyn diwedd y flwyddyn hon, sy'n dangos bod y sector yn fywiog ac yn gryf yng Nghaerdydd ac yng Nghymru yn gyffredinol. Ond mae ein sylw yn awr—yn union fel y buom yn cynorthwyo'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan benderfyniad Tesco, mae'r Aelod yn ymwybodol o'r cymorth mawr sy'n cael ei roi i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan hynny, a chanlyniad y sefyllfa honno oedd dod o hyd i swyddi eraill i fwyafrif enfawr o'r gweithwyr. Byddwn yn gwneud yr un peth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn Barclays, ond yn gyntaf oll, byddaf yn mynegi fy safbwyntiau wrth Barclays ac yn dweud wrthynt fod hwn yn benderfyniad gwael i'r cwmni ac yn benderfyniad gwael i'r rhai y bydd yn effeithio arnynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae pawb ohonom yn rhannu'r pryderon ac yn gobeithio bod teuluoedd sy'n wynebu'r posibilrwydd o golli swydd yr enillydd cyflog yn cael sicrwydd cyn gynted â phosibl, oherwydd os oes gennych forgais neu fod gennych ddibynyddion, rydych eisiau'r sicrwydd hwnnw cyn gynted â phosibl. Ond yr hyn sy'n destun pryder gwirioneddol yma yw bod hwn yn ddarparwr gwasanaethau ariannol arall sy'n symud swyddi allan o Gaerdydd, pan fo Caerdydd, yn amlwg, i fod yn y canol—yn ardal fenter ar gyfer gwasanaethau ariannol. Nododd yr Aelod dros Ogledd Caerdydd fod o leiaf 1,500 o swyddi gwasanaethau ariannol wedi symud o ardal Gogledd Caerdydd, ac yn sicr yn fy nhrafodaethau gyda darparwyr gwasanaethau ariannol yma yng Nghaerdydd, mae yna lif o bersonél, yn sicr ar lefel uwch, yn cael eu symud allan o Gaerdydd i ganolfannau rhanbarthol eraill—Birmingham a Bryste. Ac er fy mod yn derbyn ar yr wyneb yr hyn a ddywedwch ynghylch cadernid y busnes canolfannau galwadau, a bod y gyfradd swyddi gwag a nodwyd gennych wedi cael sylw ddoe, ceir tystiolaeth bendant allan yno fod y swyddi uwch, ar lefel benodol o fewn y sector bancio a'r sector ariannol, yn symud allan o Gymru. Ac o glywed y gymhariaeth a wnewch â swydd Northampton, sydd wedi elwa o'r cyhoeddiad swyddi hwn—mae'r cwmni hwn wedi gwneud penderfyniad gan wybod ei fod yn mynd i farchnad swyddi lle mae'n mynd i dalu premiwm am swyddi. Felly, beth rydym yn ei wneud yn anghywir yma yng Nghymru sy'n golygu nad ydym yn cadw'r swyddi hyn yma yng Nghymru, ac yn bwysig, y swyddi gwerth uchel, y bobl sy'n gwneud penderfyniadau, a all ychwanegu cymaint at gwmni a gallu'r cwmni hwnnw i ehangu yma yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae ein gwybodaeth yn awgrymu bod y gwrthwyneb yn digwydd ac y bydd yn parhau i ddigwydd: sef wrth inni weld swyddi'n cael eu hailddosbarthu i Gymru—ac mae yna dystiolaeth fod hynny eisoes yn digwydd—y byddwn yn gweld cyfleoedd haen uwch yn cael eu creu. Ond wrth gwrs, bydd y newid byd-eang, sy'n cael ei yrru gan awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, yn arwain at golli nifer sylweddol o swyddi haen is. Ond y swyddi haen is hynny yw'r rhai a drosglwyddwyd oddi yma yn y 1990au a'r 2000au. Yr hyn a welwn yn y dyfodol yw Cymru'n elwa o ailddosbarthu swyddi yma. Mewn gwirionedd, o ran swyddi a grëwyd yn fwy diweddar, yng Nghaerdydd ac Abertawe yn enwedig, mae'r busnesau sydd wedi dod yma hefyd wedi symud uwch-benodiadau yma. Felly, maent yn cynnwys rhai megis Aon, Which? a TUI—cyfleoedd da yr holl ffordd drwy ddilyniant gyrfa, o lefel mynediad hyd at swydd uwch-reolwr.
Ar y penderfyniad a wnaethpwyd gan Barclays, fy nealltwriaeth i yw y daethpwyd i'r penderfyniad nid yn unig o fewn y DU, ond o ganlyniad i drafodaethau dramor, yn bell i ffwrdd, lle nad yw pobl o bosibl yn ymwybodol o'r anawsterau cymharol a allai godi o ran sicrhau gweithwyr medrus addas yn Northampton. Unwaith eto, hoffwn ddeall yn union lle y gwnaed y penderfyniad, pa bryd y cafodd ei wneud, a pha fath o ymgynghori a ddigwyddodd, ac yn arbennig, a ymgynghorwyd â'r undebau llafur cyn gwneud y penderfyniad.
Yn amlwg, mae canolfan alwadau Barclays ar gyrion fy etholaeth i, ychydig gannoedd o lathenni'n unig o ben uchaf fy etholaeth, felly mae nifer ohonynt yn byw yn fy etholaeth. Ar ôl gwrando'n ofalus iawn y bore yma ar gynrychiolwyr yr undeb llafur, yr effeithir ar lawer ohonynt yn bersonol gan y symud, rwy'n bryderus ynghylch teneuder ymddangosiadol yr achos busnes dros wneud hyn. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw achos dros leihau nifer y swyddi sy'n seiliedig ar ddatblygiadau technolegol. Ymddengys bod y cyfan yn ymwneud â safle campws sy'n buddsoddi, beth bynnag yw ystyr hynny, a ddyfeisiwyd gan bobl nad ydynt yn gyfarwydd â daearyddiaeth y DU, ac efallai nad oes neb wedi dangos iddynt nad yw Northampton yn agos at Gaerdydd, ac yn sicr nad yw'n mynd i gael ei ddefnyddio fel ffordd o wneud i bobl gymudo ychydig pellach.
Felly, hoffwn yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech ofyn i uwch-reolwyr Barclays yn yr Unol Daleithiau beth yw sylwedd y strategaeth leoli hon, o ystyried nad oes gostyngiad yn nifer y gweithwyr, a'r ffaith a nodwyd fod yna anhawster mawr i gael gafael ar bobl â'r cymwysterau priodol yn Northampton, a bod safle Caerdydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu rhai o'u cwsmeriaid gwerth uchaf—busnesau ar y pen drutaf sydd angen gwasanaeth o'r ansawdd uchaf neu fel arall byddant yn mynd â'u busnes i fannau eraill. Felly, rwy'n bryderus iawn, nid yn unig am yr effaith ar y 200 o unigolion yr effeithir arnynt gan hyn yng Nghaerdydd, ond ynglŷn â'r diffyg sylwedd strategol yn yr achos busnes ar gyfer y lefel hon o darfu.
Wel, rwy'n cytuno gyda'r Aelod, a chredaf fod fy sylwadau hyd yma yn awgrymu bod ei barn hi a fy un i yn gwbl gyson yn cwestiynu'r achos busnes a'r rhesymeg dros y penderfyniad a gyhoeddwyd. Dylem gofio hefyd nad gweithwyr yng Nghaerdydd yn unig a gaiff eu heffeithio gan y penderfyniad hwn, ond hefyd yn Coventry. Eto, mae angen inni gwestiynu pam y mae Barclays wedi penderfynu dilyn llwybr gweithredu sy'n galw am grynhoi gweithgareddau mewn nifer lai o ganolfannau yn y DU, a rhannu dau hanner yr un gwasanaeth yng Nghaerdydd ar yr un pryd, yn y bôn, sy'n gwbl groes i'r hyn y maent yn ei awgrymu, sef eu bod yn dymuno gweld gwasanaethau'n cael eu crynhoi mewn un ardal. A dyna pam rwyf am weld sicrwydd bod y 250 swydd yn mynd i fod yn aros yng Nghaerdydd. Rwyf am weld yr addewid hwnnw wedi'i osod mewn concrid, fel y dywedais. Hoffwn gael eglurder yn ogystal ynglŷn â'r anghysondeb ymddangosiadol ar hyn o bryd gan Barclays, sy'n dweud eu bod eisiau cyfuno mewn nifer lai o ganolfannau yn y DU, gan rannu gwasanaethau ar draws dwy ardal ddaearyddol wahanol ar yr un pryd. I mi, nid yw'n gwneud synnwyr. Hoffwn gael eglurder ynglŷn â hynny, a chredaf fod y gweithlu'n haeddu eglurder yn ogystal.
Yn gyntaf, mi liciwn i gydymdeimlo'n fawr efo'r holl weithwyr sy'n cael eu taro gan hyn. Rwy'n gresynu ein bod ni unwaith eto yn gweld gweithlu medrus a ffyddlon yn cael ei adael i lawr. Fy mhryder i, rwy'n meddwl, ydy'r patrwm o weld swyddi'n cael eu torri yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, ddim yn cael gwybod am y toriadau tan mae'r penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud. Ac rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth sy'n pryderu'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun. Nid ydw i'n meddwl fy mod i'n argymell y dylai'r Llywodraeth gael ei chynnwys o fewn trafodaethau ar fyrddau y cwmnïau yma, ond, rywsut, mae'r cyfathrebu yn methu, ac mae angen cwestiynu, rwy'n meddwl, fel rhan o'n gwaith ni o ddal y Llywodraeth yma i gyfrif, pa mor effeithiol ydy'r berthynas rhwng y Llywodraeth a chyflogwyr mawr fel Barclays, yn enwedig o ystyried bod Pentwyn wedi ei leoli ar gyrion ardal menter canol Caerdydd, sy'n arbenigo yn y sector ariannol.
Felly, o ran fy nghwestiynau i, pa bryd oedd y tro diwethaf ichi gyfarfod efo Barclays, cyn cael gwybod am y newydd yma, ac a gafodd y posibilrwydd y buasai swyddi'n cael eu colli yng Nghaerdydd ei drafod bryd hynny? Fy ail gwestiwn: o ystyried bod un o benaethiaid Barclays yn aelod o banel sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol y Llywodraeth, mae'n rhaid gofyn a ydy'r paneli yma yn gwneud eu gwaith, oherwydd er bod defnyddio'r paneli yma i gydweithio er mwyn denu cwmnïau newydd yn y sector i Gymru yn un o ddibenion eu bodolaeth nhw, mae hefyd, onid ydy hi, yn allweddol i ddefnyddio'r paneli er mwyn gwybod sut mae diogelu swyddi o fewn y sector sy'n bodoli yn barod, ac i fod yn radar i adnabod problemau. Ac yn olaf, rydych chi wedi ymfalchïo bod swyddi newydd wedi cael eu canfod i bobl sydd wedi colli eu swyddi mewn canolfannau galwadau—ac a gaf i ei gwneud hi'n berffaith glir fy mod innau hefyd yn croesawu'n fawr bod swyddi wedi cael eu canfod? Ond, gadewch i mi ofyn, o ystyried ansefydlogrwydd y sector, sydd eto wedi ei amlygu ei hun yn fan hyn, pa mor gynaliadwy ydy hi mewn gwirionedd i'r Llywodraeth barhau i roi ffydd yn y sector canolfannau galw?
Oherwydd bod gennym hyder mawr yng ngallu ac ansawdd ac arbenigedd y gweithlu yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi yn y sector canolfannau cyswllt. Hoffwn hysbysu'r Aelod fod y paneli sector wedi'u dirwyn i ben—mae hynny'n cynnwys y sector ariannol a gwasanaethau proffesiynol—ac mae bwrdd cynghori'r Gweinidog newydd wedi cyfuno pob un o'r paneli sector yn un bwrdd sy'n darparu cyngor ac arbenigedd.
Daw ein gwybodaeth ynghylch y sector canolfannau cyswllt o Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru. Ni chawsant eu hysbysu ymlaen llaw, na Llywodraeth y DU, na'r awdurdod lleol. Ac rwy'n cwestiynu a yw'r Aelod yn awgrymu y dylem fod wedi cael gwybodaeth fasnachol sensitif cyn y cyhoeddiad, a'n bod heb wneud dim ag ef, oherwydd pe baem wedi bod yn ymwybodol fod unrhyw awgrym o golli swyddi yng Nghaerdydd, byddem wedi gweithredu arno ar unwaith. Mater i'r busnes yw penderfynu o blaid neu yn erbyn dod atom i leisio unrhyw bryderon ynghylch gweithrediadau yn y dyfodol. Ni ddaeth y busnes atom. Rwyf am wybod a aeth at yr undebau llafur, oherwydd yr argraff a gefais, yn seiliedig ar drafodaethau a gefais y bore yma, yw mai'r ateb yw 'na'. Ni hysbyswyd neb cyn y cyhoeddiad y byddai swyddi'n cael eu colli.
Rwyf hefyd am ailadrodd y pwynt a wneuthum: fod y sector yn ei gyfanrwydd mewn sefyllfa hynod o gryf yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei chynnig i fusnesau, gyda 1,145 o swyddi yn ne Cymru yn unig ar gael yn y sector ar hyn o bryd ac 800 o swyddi pellach erbyn diwedd y flwyddyn. Yr hyn rydym am ei wneud yn awr yn gyntaf oll wrth gwrs yw ceisio atal y swyddi rhag cael eu colli gan Barclays, ond os na allwn wneud hynny, rydym yn dymuno sicrhau bod pob unigolyn yr effeithir arnynt gan y penderfyniad yn cael cyfle cyfartal neu well, naill ai o fewn Barclays yng Nghaerdydd neu mewn gweithle arall addas. Maent yn haeddu'r gorau a dyna beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i helpu i'w roi iddynt.
Fel pawb arall, rwy'n ystyried bod penderfyniad Barclays yn gwbl annealladwy, ac mae gennyf gydymdeimlad â chi; mae'n anodd iawn meddwl sut y gallwch ragweld penderfyniad mor afreolus. Rwy'n meddwl bod yr hyn a ddywedwch ynghylch cadernid y sector yn allweddol, oherwydd mae swyddi'n parhau i gael eu cynhyrchu, ac efallai yn erbyn y disgwyl gydag awtomatiaeth, mae'r gwasanaeth yn dod yn fwy medrus—a medrus iawn mewn nifer o leoedd gyda galwadau cymhleth a defnydd o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n cymeradwyo gwaith yr undebau llafur yn pwysleisio pa mor bwysig yw'r swyddi medrus hyn sy'n talu'n well.
Felly, fy nghwestiwn penodol, o gofio eich bod wedi cyfeirio at y lleoedd gwag a'r ffaith bod—. Gyda llaw, rydym am i lawer o ddarparwyr llai o faint sicrhau eu bod yn tyfu'n gryfach fel mai un yn unig o blith llawer o gyflogwyr ydyw, diolch byth, pan fyddwn yn cael penderfyniadau sydd braidd yn afreolus. Beth bynnag, yn anffodus mae tarfu'n mynd i fod ar waith llawer o bobl fedrus yn awr am ychydig o leiaf hyd nes y dônt o hyd i waith arall. Felly, a ydych yn gweithio gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn ymwybodol o'r cyfleoedd sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y sector? Oherwydd buaswn yn dychmygu bod gan lawer ohonynt botensial go iawn i symud yn gymharol gyflym i'r swyddi hynny ac mae'n bwysig iawn ein bod yn darparu'r math hwnnw o gymorth ymarferol.
A gaf fi ddiolch i David Melding am ei gwestiynau a chroesawu ei sylwadau craff a'i farn ddoeth ynghylch y sector hwn? Yn y blynyddoedd i ddod, mae sylwebwyr diwydiant yn rhagweld y bydd tarfu technolegol yn arwain at ostyngiad mewn swyddi sgiliau is, ond yn arwain at gynnydd mewn gwirionedd mewn swyddi o ansawdd uwch sy'n galw am lefelau uwch o sgiliau ac sy'n denu cyflogau uwch ar draws y DU. Fel y dywedais yn gynharach, gallai a dylai hyn arwain at ailddosbarthu swyddi sydd wedi mynd dramor. Hefyd, byddwn yn gweld mwy o ffocws o fewn y sector ar ailsgilio ac ailhyfforddi pobl er mwyn manteisio ar y swyddi ar gyflogau uwch sy'n galw am sgiliau newydd ac ychwanegol, yn arbennig ym meysydd gwyddoniaeth data, diogelwch seiber, deallusrwydd artiffisial a gwyddorau ymddygiadol yn ogystal—meysydd gweithgaredd hynod o gyffrous. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu economaidd gyda galwad benodol i weithredu er mwyn ysgogi buddsoddiad mewn arloesi, i sicrhau bod busnesau wedi'u diogelu ar gyfer y dyfodol a chroesawu diwydiannau yfory. O ganlyniad i gyhoeddi'r cynllun gweithredu economaidd hwnnw rydym bellach mewn sefyllfa dda i allu manteisio i'r eithaf ar ddatblygiad swyddi newydd o ansawdd uwch o fewn y sector.
Yn y cyfamser, mae David Melding yn gwbl gywir fod angen inni weithio'n agos iawn gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn dod o hyd i swyddi eraill ar gyfer pobl a gollodd eu gwaith gyda Tesco ac sy'n wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi gyda Virgin. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r fforwm canolfannau cyswllt. Byddaf yn galw ar Barclays, pan fyddaf yn siarad â hwy ddydd Gwener, i ganiatáu nid yn unig cynrychiolwyr y fforwm i mewn i'r busnes yng Nghaerdydd, ond swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd a chynrychiolwyr y cyrff sy'n gallu darparu cyngor ar gyflogaeth. Hefyd, o gofio y bydd llawer o bobl yn wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi presennol, bydd yna bobl bryderus, felly hoffwn weld Barclays yn agor y drysau i ymarferwyr ym maes iechyd meddwl yn arbennig, a fydd yn gallu rhoi cymorth ar adeg o ansicrwydd mawr.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad a daw'r cyntaf heddiw gan Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Diolch am y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus i sefydliad sy'n gwneud cyfraniad enfawr at iechyd a ffitrwydd Ynys Môn, ac sydd hefyd, yn digwydd bod, yn ganolfan rhagoriaeth chwaraeon o safon fyd-eang.
Un o uchafbwyntiau Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur oedd perfformiad anhygoel y codwr pwysau o Gymru, Gareth Evans, a enillodd fedal aur. Roedd yn gallu codi pwysau aruthrol, ond yr un mor drawiadol oedd yr angerdd a ddangosodd wrth lamu draw at ei hyfforddwr, Ray Williams, i ddathlu. Roedd Ray ei hun wedi gwireddu breuddwyd fel hyfforddwr, ond cyn hyfforddi, roedd ef ei hun wedi ennill gwobr aur i Gymru yng ngemau 1986 yng Nghaeredin. Dechreuodd Ray godi pwysau dan arweiniad Bob Wrench, enillydd medal efydd yng ngemau Christchurch yn 1974, a Bob a gafodd y weledigaeth o sefydlu Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn 50 mlynedd yn ôl.
Roedd Bob yn athro chwaraeon mewn ysgol uwchradd, ac yn hynod dalentog am godi pwysau, ond hefyd gallai weld beth y gallai codi pwysau ei gynnig i bobl ifanc yr ardal, ac ni fyddai llawer ohonynt wedi cael cyfleoedd o'r fath fel arall. Roedd Ray a Gareth ymhlith y miloedd a elwodd. I roi syniad i chi o lwyddiant y Ganolfan, mae Ray ei hun wedi hyfforddi codwyr pwysau ifanc a hŷn i ennill 97 o fedalau aur ar lefel Cymru ac yn rhyngwladol. Ond mae agwedd gymunedol y clwb yr un mor bwysig. Mae hon yn ganolfan sydd â'i drysau ar agor i bawb. Felly, pen-blwydd hapus i Ganolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn.
Pen-blwydd Hapus a hir oes i'r sefydliad yma sydd wedi gwneud cymaint i'w gymuned a, thrwy ragoriaeth, wedi gwneud cymaint i helpu rhoi Caergybi a Môn ar fap chwaraeon y byd.
Vikki Howells.
Gyda marwolaeth Frank Vickery ddoe yn 67 oed ar ôl salwch byr, mae Cymru nid yn unig wedi colli un o'i dramodwyr mwyaf toreithiog, ond rydym hefyd wedi colli un o'r sylwebwyr mwyaf craff ar gymeriadau, hiwmor a ffraethineb Cymoedd de Cymru.
Yn fab i löwr yn y Rhondda, gadawodd Frank yr ysgol yn 15 oed. Bu'n gweithio mewn swyddi amrywiol tra'n actio ac ysgrifennu yn ei amser sbâr. Ei ddrama gyntaf, a ysgrifennodd pan oedd yn ddim ond 21 oed, oedd After I'm Gone, ac enillodd dlws Howard De Walden yn Rownd Derfynol Prydain o Ddramâu Un Act.
Mewn gyrfa ysgrifennu hir, ysgrifennodd Frank ar gyfer y theatr, radio a theledu, ond mae'n fwyaf enwog am ei 30 o ddramâu. Priodolai ei boblogrwydd i allu efelychu'r gerddoriaeth—rhythm y ffordd roedd pobl yn siarad—ac yn hyn, roedd yn eithriadol o lwyddiannus. Darluniai Frank bersonoliaeth gyfarwydd a realistig y cymunedau lle y cafodd ei eni a'i fagu. Dyna pam yr oedd mor annwyl gan gymunedau'r Cymoedd, ac yn aml, ei ddramâu oedd conglfaen theatrau fel y Coliseum yn Aberdâr.
Nid oedd camu ar lwyfan yn beth dieithr i Frank ychwaith, ac estynnodd allan at gynulleidfaoedd newydd gyda'i wragedd pantomeim poblogaidd. Gwnaeth Frank gymaint ar gyfer y Cymoedd a'r celfyddydau yn ystod ei fywyd. Er y gwelir colled fawr ar ôl ei bresenoldeb heintus ar y sgrin, bydd ei hiwmor yn parhau drwy ei gasgliad cynhwysfawr o ddramâu rhagorol.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar yr adroddiad ar y tanwariant sy'n deillio o benderfyniadau'r bwrdd taliadau, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ers rhai misoedd bellach mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cynnal gwaith i mewn i berthynas a defnydd Comisiwn y Cynulliad o'r tanwariant sy'n deillio o benderfyniad y bwrdd taliadau. Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad, ond mae'r sefyllfa hefyd wedi newid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, roeddwn yn gobeithio y byddai datganiad a chwestiynau yn ffordd well o ddelio gyda hwn, yn hytrach na dadl ffurfiol ar yr adroddiad. Fe gawn ni weld a yw'r Aelodau yn cytuno â hynny.
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi dangos diddordeb brwd, fel y dywedais i, yn y modd y mae’r Comisiwn yn cyllidebu. Wrth benderfynu sut i gyllidebu ar gyfer y penderfyniad, yr arfer hyd yma yw i’r Comisiwn gyllidebu ar gyfer gwario’r swm mwyaf posib ar bob Aelod neu blaid, ac yna ddefnyddio unrhyw danwariant i ariannu ei flaenoriaethau buddsoddi. Rydym wedi bod yn pryderu am y dull hwn o weithredu ers peth amser, gan ei fod, yn ein barn ni, yn golygu nad yw cyfanswm gwariant y Comisiwn yn ddigon tryloyw. O'r herwydd, penderfynasom ni gynnal ymchwiliad penodol byr i'r modd y defnyddir y tanwariant ac ystyried sut y mae Seneddau eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ac yng ngweddill y byd, yn cyllidebu ar gyfer gwariant yn ymwneud â thâl a lwfansau'r Aelodau.
Yn ystod ein hymchwiliad, cyhoeddodd y bwrdd taliadau ymgynghoriad ynghylch hyblygrwydd y lwfansau yn y penderfyniad. Mae’r ymgynghoriad hwnnw wedi arwain at hyblygrwydd ychwanegol yn lwfansau’r Aelodau. Mae hyn, yn ei dro, wedi effeithio ar benderfyniadau cyllidebu’r Comisiwn, a byddaf yn sôn rhagor am hyn maes o law.
Un o’r prif feysydd yr oeddem yn awyddus i’w harchwilio gyda’r Comisiwn fel rhan o’n gwaith craffu oedd y modd y mae’n cyllidebu ac yn rhagweld gwariant. Rydym wedi argymell yn flaenorol fod y Comisiwn yn paratoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y flwyddyn, cyn diwedd pob blwyddyn galendr, ar y tanwariant sy’n debygol o ddeillio o’r penderfyniad, ynghyd ag unrhyw newidiadau sylweddol i’r prosiectau y bwriedir eu hariannu drwy ddefnyddio’r tanwariant hwn. Roeddem yn falch o weld bod y Comisiwn wedi cynnwys rhagor o fanylion yn ei wybodaeth am gyllideb 2018-19 am yr arian y mae’n amcangyfrif a fydd ar gael o gyllidebau cyfalaf a gweithredol a phenderfyniad y bwrdd taliadau. Fel pwyllgor, rydym yn croesawu’r camau a gymerodd y Comisiwn yn ystod y cylch cyllidebu diwethaf, gan ein bod yn credu bod hynny’n hwyluso’r gwaith craffu.
Un maes arall sy’n peri pryder i ni yw’r modd y mae’r Comisiwn yn defnyddio’r tanwariant i ariannu blaenoriaethau buddsoddi. Nid oeddem yn gyfforddus â’r egwyddor bod cyllideb y Comisiwn yn dibynnu ar danwariant i ariannu prosiectau a gwaith yn y meysydd blaenoriaeth, megis cynnal a chadw ystad y Cynulliad. Er ein bod yn sylweddoli y gall hyn, wrth gwrs, fod yn ddefnyddiol i ddwyn prosiectau ymlaen, mae’r bwriad i ariannu rhai prosiectau drwy ddefnyddio’r tanwariant, dros nifer o flynyddoedd, yn dal i beri pryder i ni, gan fod y Comisiwn, wedyn, yn dibynnu ar adnodd na ellir ei ragweld. Rydym yn credu y dylid nodi prosiectau craidd a’u hariannu ar wahân.
Wedi iddo drafod ein hadroddiad a phenderfyniadau’r bwrdd taliadau i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn lwfansau’r Aelodau, mae’r Comisiwn wedi cadarnhau, ac rydym yn croesawu hyn, ei fod wedi adolygu’r modd y mae’n ariannu prosiectau, ac y bydd prosiectau sydd wedi’u blaenoriaethu i’w cwblhau yn ystod 2019-20 yn cael eu nodi nawr yn nogfen y gyllideb, a bydd yn awr yn cael ei ariannu’n llawn o linell gwariant cyllideb graidd y Comisiwn. Rydym yn credu y bydd y penderfyniad hwn yn hwyluso’r gwaith craffu. Bydd prosiectau’n cael eu nodi gan y Comisiwn wrth iddo gynllunio’i gyllideb, bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu arnynt, ac yn eu trafod yn ystod y blynyddoedd dilynol i sicrhau bod y Comisiwn yn atebol am roi prosiectau ar waith. Drwy hynny, bydd y Comisiwn yn dilyn yr un broses o gynllunio a chyllidebu â chyrff eraill a ariennir yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi dweud bod hyn yn debygol o arwain at gynnydd yn ei gyllideb graidd, i wneud yn iawn, wrth gwrs, am y gwariant y byddai’r tanwariant wedi’i ariannu fel arall. Mae hyn, ar y wyneb, yn mynd yn groes i argymhelliad blaenorol y Pwyllgor Cyllid y cytunodd y Comisiwn ag ef, sef na ddylai'r gyllideb gynyddu’r tu hwnt i unrhyw gynnydd yng ngrant bloc Cymru yn ystod gweddill oes y Cynulliad hwn. Er ein bod yn derbyn y bydd y Comisiwn nawr yn dychwelyd unrhyw danwariant o linell wariant y penderfyniad, rydym yn pryderu y gallai’r gyllideb gynyddu. A ninnau mewn cyfnod o gyni ariannol, a bod gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn wynebu toriadau eang a pharhaus mewn termau real, rydym yn tynnu sylw at sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru fod rhai o brosiectau posibl y Comisiwn yn brosiectau y byddai’n braf eu rhoi ar waith, yn hytrach na’n brosiectau cwbl hanfodol. Byddem ni, felly, yn annog y Comisiwn i ystyried ei flaenoriaethau yn ofalus i sicrhau bod gwir angen rhoi prosiect ar waith er mwyn cyflawni strategaethau a nodau’r Comisiwn. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei ddatganiad? Rydych wedi cynnwys y rhan fwyaf o bethau yno, mewn gwirionedd, Simon, a rhoesom ystyriaeth fanwl i hyn yn ystod ein hymchwiliad byr ar y Pwyllgor Cyllid, felly un neu ddau o gwestiynau'n unig sydd gennyf, un neu ddau o feysydd yr hoffwn dynnu sylw atynt.
Mae'n debyg nad dyma'r testun sgwrs dros fyrddau swper ledled Cymru, ond mae'n sicr—[Torri ar draws.] Wel, eich un chi efallai, Simon. [Chwerthin.] Mae'n sicr yn bwysig i'r ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu ac yn wir, mae llawer o'r materion yr edrychwn arnynt yn y Pwyllgor Cyllid—rhai o'r manylion efallai nad yw pobl eraill a phwyllgorau eraill yn edrych arnynt, ond serch hynny, maent yn bwysig i effeithlonrwydd a gwneud yn siŵr fod ein strwythurau a'n gweithdrefnau yma nid yn unig yn addas ar gyfer heddiw ond yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol yn ogystal—y Cynulliad nesaf a thu hwnt. Fel y dywedasoch, mae'n allweddol i'n hargymhellion yn yr adroddiad y dylai fod mwy o eglurder ynghylch sut y defnyddir tanwariant yn y dyfodol. Mae eglurder a thryloywder yn eiriau y down yn ôl atynt yn aml yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau yn y Cynulliad hwn, ac maent yr un mor ddilys a phwysig yn achos gwariant y Comisiwn ag y maent mewn meysydd eraill.
Credaf fod rhan o'r adroddiad sy'n dweud, o gymharu â gwariant y grant bloc, fod 1 y cant o gyllideb y Comisiwn yn edrych yn llawer llai yn ôl pob tebyg. Ond wrth gwrs, o ran effeithlonrwydd y Comisiwn a sicrhau gwerth am arian, mae hi yr un mor bwysig fod £100,000 neu £200,000—beth bynnag yw'r glustog a nodwyd—yn cael ei wario yr un mor ddoeth â'r miliynau a'r biliynau y siaradwn amdanynt wrth sôn am gyllideb ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae eglurder a thryloywder yn allweddol, felly mae'n debyg mai un o—mae'n ymddangos yn rhyfedd i ofyn cwestiynau i fy Nghadeirydd yn y cyd-destun hwn, ond yn allweddol i fy nghwestiynau i chi mae hyn: a ydych yn hyderus y bydd yr adroddiad hwn yn wir yn arwain at y tryloywder a'r eglurder ychwanegol hwnnw, ac nid nawr yn unig, ond y bydd yn ymatebol i'r dyfodol pan ddaw'r lle hwn yn Senedd mewn enw a phan gaiff bwerau treth pellach yn ogystal â phwerau pellach yn y dyfodol? A fydd yr adroddiad hwn yr un mor berthnasol bryd hynny yn sicrhau gwerth am arian?
Cafwyd pryderon mawr fod y Comisiwn wedi bod yn rhy ddibynnol ar danwariant, fel y dywedasoch, i ariannu blaenoriaethau buddsoddi allweddol craidd. Ni all hon fod yn ffordd gynaliadwy ymlaen. Rwy'n meddwl bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi sut y datblygodd hynny dros amser a thros nifer o Gynulliadau. Efallai yn y gorffennol nad oedd yn fater mor bwysig, efallai y gellid ei esbonio'n ddigon hawdd, ond yn amlwg, os ydych yn mynd i ddibynnu'n agored ar danwariant i ariannu rhai o'n hymrwymiadau allweddol neu rai o ymrwymiadau allweddol y Cynulliad fel sefydliad, mae hynny'n gadael y drws yn agored yn y dyfodol i broblem eithaf mawr pe bai materion yn codi neu os na fyddai'r tanwariant yn datblygu yn y ffordd a ragwelwyd.
Edrychais yn fras iawn ar elfen rag-weld gwariant yr adroddiad, a chredaf fod hwnnw'n amlwg yn faes y mae gwir angen inni ddod yn well am ei wneud a hynny'n gyffredinol. Edrychwyd ar y pwerau treth sydd ar y ffordd yn y Pwyllgor Cyllid yn ogystal, a sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac rydym wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru feddu ar swyddogaeth rag-weld lawer gwell wrth ddarogan twf economaidd yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod. Yn ei ffordd ei hun, credaf fod angen i'r Cynulliad ei hun a Chomisiwn y Cynulliad hefyd gael mecanwaith rhag-weld sy'n fwy cadarn. Nid yw'n golygu cael pethau'n iawn bob tro, fel y gwelsom ar y pwyllgor. Mewn gwirionedd, mae rhagolygon fel arfer yn anghywir. Ond y rhagolygon sy'n rhoi'r lefel sylfaenol y gallwch werthuso cynnydd yn ei herbyn yn y dyfodol mewn gwirionedd a gallwch ddweud, 'Mewn gwirionedd, fe wnaeth y Comisiwn bopeth oedd ei angen, fe roddodd y camau angenrheidiol ar waith, ac er efallai na chawsom bopeth yn hollol iawn, fe wnaethom yr hyn a allom dros bobl Cymru, i wneud yn siŵr fod gwerth am arian yn yr arian a wariwyd gennym ac yr oedd y Cynulliad yn ei oruchwylio.'
Dylai dull y Comisiwn o ymdrin â thanwariant—fe ddof i ben ar hyn—gydweddu'n well ag arweiniad y Trysorlys. Mae'n ymddangos mai synnwyr cyffredin yw hynny, ond wrth gwrs, nid yw synnwyr cyffredin bob amser yn gweithio'n naturiol, oni bai bod rhywun yn rhoi gwthiad iddo. Felly, rwy'n gobeithio y bydd argymhellion y Pwyllgor Cyllid yn yr adroddiad byr ac arbenigol ond diddorol hwn yn cael eu mabwysiadu ac y bydd ganddo weithdrefn Comisiwn a chyllidebu Comisiwn dros y blynyddoedd i ddod a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol yn ogystal â heddiw.
Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau. Fel yr awgrymodd, gall hon fod yn ddadl swigen i roi diwedd ar yr holl ddadleuon swigen, ond mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n rhaid i'r modd y cyllidebwn ac y gwariwn ein harian ein hunain—oherwydd soniais yn y datganiad am y Comisiwn, y Comisiwn yw'r Cynulliad, wrth gwrs—felly rhaid i'r modd y gwariwn ac y cyllidebwn ein harian ein hun edrych a theimlo fel y disgwyliwn i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ymddwyn. Felly, os ydym ni, y Cynulliad sy'n pasio'r gyllideb dros y Llywodraeth, ac yna ar gyfer y cyrff a ariennir yn uniongyrchol, gan gynnwys ein corff ein hunain a ariennir yn uniongyrchol, sef y Comisiwn—. Dylem edrych ac ymddwyn yn ôl yr arferion gorau yn yr esiampl honno.
Hoffwn dynnu sylw at y gair a wnaeth argraff go iawn arnaf yn yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay, sef 'eglurder'. Mae gennym dryloywder, gan fod modd dilyn pethau drwodd, ond a oedd eglurder yno yn y gorffennol? Ac wrth gwrs, pan fydd gennych hyd at £1 filiwn o danwariant sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd benodol, yna nid wyf yn meddwl fod hynny'n glir, a dyna oedd yn peri pryder i'r Pwyllgor Cyllid ar y pryd.
Mae Nick Ramsay yn gofyn imi a wyf yn hyderus fod hyn bellach yn ein galluogi i symud ymlaen i baratoi ar gyfer ein cyfrifoldebau pellach, ac i dyfu'n llawn fel Senedd, a buaswn yn dweud wrtho ei fod. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r Comisiwn am y modd y maent wedi wedi ymateb i'n hadroddiad ac wedi bod yn trafod a negodi gyda ni. Ac wrth gwrs, y ffaith bod y penderfyniadau eraill, nad oes ganddynt ddim i'w wneud gyda'r Cynulliad ei hun oherwydd nad ydym yn penderfynu ynglŷn â'n cyflogau a'n lwfansau ein hunain—gwneir hynny ar wahân gan y bwrdd taliadau—ond serch hynny mae'r penderfyniadau a wneir yno hefyd wedi ychwanegu at yr angen i fynd i'r afael â hyn.
Felly, credaf y ceir mwy o eglurder yno bellach. Credaf y bydd y Comisiwn yn cyflwyno cyllideb a fydd yn glir iawn ynglŷn â'i flaenoriaethau, ynglŷn â'i gynlluniau gwariant yn y dyfodol ac ynglŷn â'i gynlluniau buddsoddi. Mae'n glir y bydd unrhyw danwariant o fewn y bwrdd taliadau yn cael ei ddychwelyd i'r grant bloc, ond wrth gwrs, mae i hynny, yn ei dro, ei oblygiadau o ran sut y bydd y gyllideb gyffredinol yn edrych, ac ni fyddwn yn gallu barnu nes inni ei gweld yn yr hydref. Ond wrth gwrs, byddai'r Pwyllgor Cyllid yn gyffredinol yn disgwyl i'r Comisiwn weithredu fel cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru o ran y cyllid cyffredinol a'r cyllid sy'n deillio o grant bloc Cymru.
A gaf fi yn gyntaf groesawu'r datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hefyd y sylwadau a wnaed gan Nick Ramsay? Mae'n sefyllfa ryfedd y gallwn fod wedi gwneud y naill neu'r llall o'r datganiadau hynny—naill ai'r datganiad neu'r sylwadau a'r cwestiynau gan Nick Ramsay—heb unrhyw broblem o gwbl, felly credaf y ceir lefel o unfrydedd ymysg y rhai ohonom sy'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Cyllid.
A gaf fi ailadrodd rhywbeth rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen? Mae'n dal yn werth ei ddweud: ni all Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn rhydd rhag y cyni sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus. Er mor anodd ydyw, ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ni ellir ei weld yn tyfu tra bo rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus—rhai rhannau y mae pobl yn credu eu bod yn bwysig iawn—yn colli arian.
Bydd y broses gyllidebu, gyda'r Comisiwn yn gosod cymorth i'r holl Aelodau ar y lefel uchaf sy'n bosibl, gyda chyflogau staff wedi'u gosod ar frig pob graddfa, bob amser yn cynhyrchu arbedion. Ym mlwyddyn gyntaf pob Cynulliad, bydd yn cynhyrchu arbedion sylweddol, oherwydd bydd bron bawb sy'n dechrau gweithio yma yn dechrau ar waelod graddfa o bum pwynt.
Rwyf hefyd yn rhannu pryderon Cadeirydd y pwyllgor ynglŷn â chyllido prosiectau o danwariant, nid yn lleiaf oherwydd pan fydd prosiectau'n cael eu hariannu gan danwariant nid ydynt yn cael golau'n disgleirio arnynt gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad hwn, ac yna gan y Cynulliad ei hun, i weld a yw'r prosiectau hynny'n dda neu'n wael. Nid wyf eisiau gwneud unrhyw sylwadau am brosiectau a gyflawnwyd yn y gorffennol, ond mewn gwirionedd, mae'n bwysig fod hyn yn cael sylw fel bod pob un ohonom yma yn gyfrifol yn unigol ac yn gyfunol. Efallai nad ydym yn ei hoffi, ond dylai bob un ohonom ysgwyddo unrhyw glod neu fai.
Un cwestiwn sydd gennyf, ac mae'n rhywbeth a gytunwyd gennym yn gynharach yn y trafodaethau, ond ymddengys ei fod wedi'i dynnu'n ôl gan y Comisiwn erbyn hyn. A yw Cadeirydd y pwyllgor yn dal i gredu na ddylai cyllideb y Comisiwn gynyddu ar ganran fwy na grant bloc Cymru, er mai grant bloc Cymru fel y'i diwygiwyd yw honno drwy ei fod yn cynnwys codi treth gan Gynulliad Cymru? Felly, i bob pwrpas, dyna fyddai'r grant bloc wedi bod, a allai olygu bod ganddynt swm o arian sy'n lleihau bob blwyddyn, oherwydd wrth inni gael mwy o ddatganoli treth daw hynny oddi arno, ond dyna, i bob pwrpas, yw'r swm o arian sydd ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei ddosbarthu i Lywodraeth Cymru a'r ddau gorff arall a ariannwn yn uniongyrchol. A ydych yn dal i gredu—? Fe ddechreuaf y sylw fel hyn: a ydych dal i gredu, fel y gwnaf fi, fod yn rhaid bod rheswm da iawn i'r Comisiwn gael cynnydd gwell na'r hyn sy'n dod i weddill y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Diolch i Mike Hedges am ei sylwadau, sydd â'r rhinwedd o fod yn gyson. Mae wedi dweud hyn yn gyson, ac mae ei sylwadau wedi bod yn gyson glir a thryloyw yn ogystal, felly diolch iddo am hynny. Nid wyf yn anghytuno ag ef, ac mae'n adlewyrchu'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach fod yn rhaid inni weithredu fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ein gwariant ein hunain ac wrth osod ein cyllideb. Nid oes gennym hawl i drin ein hunain yn wahanol—rwy'n credu'n gryf fod hynny wedi'i dderbyn.
Gofynnodd gwestiwn penodol ynghylch argymhelliad cynharach gan y Pwyllgor Cyllid y dylai gwariant y Comisiwn fod yn unol â grant bloc Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. Dyna yw argymhelliad y Pwyllgor Cyllid wrth gwrs, ond credaf ei bod hi'n bwysig cofnodi y bu newidiadau yn y ffordd y caiff arian ei ddyrannu bellach. Mae newidiadau'r bwrdd taliadau yn golygu bod yr arian a neilltuwyd ar gyfer Aelodau bellach yn fwy hyblyg yn nwylo'r Aelodau. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y gallant drosglwyddo hyd at 25 y cant o'r arian hwnnw, rwy'n credu, ar gyfer eu dibenion hwy bellach, ac rwy'n meddwl mai'r hyn y bydd angen inni ei wneud pan fyddwn yn craffu ar y drafft—wel, nid y gyllideb ddrafft fydd hi. Wrth graffu ar gyllideb derfynol y Comisiwn yn yr hydref, fel Pwyllgor Cyllid, rwy'n gobeithio y byddwn yn ystyried—credaf ei bod yn briodol inni ystyried y ffaith na fydd tanwariant mor fawr a fydd yn hyblyg i'w defnyddio. Felly, credaf ei bod yn briodol i hynny, os mynnwch, gael ei dynnu allan o'r ffordd yr edrychwn ar y gyllideb, oherwydd ni fyddai hynny'n deg, gan mai penderfyniad gan gorff arall mewn amgylchiadau eraill fyddai hwnnw. Felly, byddwn yn tynnu hynny allan ac yna rydym yn edrych ar y gyllideb gyffredinol, a buaswn yn cytuno â Mike Hedges felly, ar ôl tynnu'r rhan taliadau allan, am nad yw hynny'n rhan o'r hafaliad mwyach, does bosib na fyddem yn ceisio sicrhau bod argymhelliad y cynnydd i'r grant bloc cyffredinol yno, ac os nad yw yno am reswm penodol, byddwn yn edrych am y penderfyniad buddsoddi sydd wrth wraidd y rheswm hwnnw, y prosiect dan sylw, lle y gallai fod o ran—er enghraifft, gallai fod mewn system debyg i wario i arbed. Credaf fod yn rhaid inni fod yn agored i'r holl bethau hyn, ond ein hegwyddor sylfaenol, ar ôl tynnu'r newid hwn allan gyda'r bwrdd taliadau, yw bod argymhelliad y Pwyllgor Cyllid yn dal i sefyll.
Diolch i chi am y datganiad, Simon. Mae rhan ohonof yn meddwl y buaswn yn hoffi pe bai hon wedi bod yn ddadl oherwydd byddai wedi rhoi cyfle imi fel y Comisiynydd perthnasol sy'n sefyll yma heddiw i fynd ar ôl rhai o'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges a Nick Ramsay yn wir, ond mae'r cwestiwn yr oeddwn am ei ofyn i chi'n ymwneud â'r hyn a ddywedoch chi ar y diwedd yn y fan honno, Simon. Y sefyllfa fydd hyn: fel y gwyddoch, ni allwn ddefnyddio'r tanwariant ar gyfer ein cronfa fuddsoddi mwyach; os ydym am weld cynnal a chadw ar yr adeilad ac ati, mae angen cronfa fuddsoddi. Os ychwanegwn gronfa fuddsoddi at y llinell sylfaen, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn enwedig gan gynnwys y penderfyniad taliadau nad oes gennym unrhyw reolaeth drosto fel y dywedoch, mae'n debygol iawn y bydd ein llinell sylfaen yn mynd dros swm y cynnydd yn y grant bloc, a'r rheswm am hynny'n rhannol fydd oherwydd penderfyniad y bwrdd taliadau, ac nid ydym yn gwybod beth fydd hwnnw, ac yn rhannol oherwydd bod rhywfaint o hwnnw'n mynd i orfod mynd yn ôl, felly bydd y gwariant yn edrych yn llai na'r llinell sylfaen yn y gyllideb wreiddiol. Felly, roeddwn am gael eich sicrwydd ar hyn, o ran ein bod wedi ymrwymo i aros o fewn y cynnydd yn y grant bloc, na fydd y Pwyllgor Cyllid yn dod yn ôl atom o fewn y cyfnod, beth bynnag ydyw, i ddweud ein bod wedi croesi'r trothwy, a hynny heb fod unrhyw fai arnom ni ein hunain. Felly, dyna oedd y sicrwydd roeddwn yn ei geisio.
Diolch, Suzy Davies. Ac wrth gwrs, rwyf bob amser yn agored i gael dadl; rwy'n mwynhau dadleuon lawn cymaint â neb yma, ond roeddwn yn meddwl y byddem yn rhoi cynnig ar ffordd wahanol ar yr achlysur hwn. Fe gymeraf adborth a gweld ai dyna yw'r ffordd orau, ond mae wedi caniatáu iddi wneud ei phwyntiau, a bod yn deg. Ni allaf wneud mwy mewn gwirionedd nag ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Mike Hedges, sef, i fod yn gwbl glir, fy mod yn credu ei bod yn gwbl resymol i'r Comisiwn, wrth droi at y broses gyllidebol hon, dynnu'r ystyriaeth ynghylch y bwrdd taliadau allan yn awr, oherwydd ei fod yn fater cwbl ar wahân. Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer y llinell sylfaen, fel y'i galwodd, ac os oes unrhyw danwariant yno, caiff ei ddychwelyd i'r grant bloc.
Pan ddown i ystyried eich cyllideb—. Nid wyf eisiau clymu dwylo'r Pwyllgor Cyllid yn llwyr wrth inni edrych ar eich cyllideb maes o law, ond credaf y byddai'n rhesymol, a gobeithiaf y byddwch chi yn eich cyflwyniad ar y gyllideb yn dangos yn glir iawn inni sut yr ymdriniwyd â'r arian taliadau hwnnw—sut y cafodd ei dynnu allan, os mynnwch, o'r dyraniad cyffredinol—fel nad yw'n drysu neb sy'n edrych ar y llinell sylfaen i feddwl y bu cynnydd uwch na'r grant bloc yn syml oherwydd na allwch ddefnyddio'r hyn sydd hyd at oddeutu £800,000, a £1 filiwn o bosibl. Felly, credaf y byddwn yn ystyried hynny.
Yna byddwn yn edrych ar weddill eich llinell sylfaen, buaswn yn awgrymu, ac yn dweud, 'A fu cynnydd yno uwchlaw lefel y grant bloc?' Ac os bu, 'Beth yw'r rheswm am hynny?' Credaf mai dyna lle mae'r sylwadau olaf a wneuthum yn y datganiad a sylwadau cynharach a wneuthum—. Byddai'n rhaid iddo fod yn (a) yn achos da iawn, a byddai'n rhaid i chi berswadio nid yn unig y Pwyllgor Cyllid ond yn y pen draw, wrth gwrs, y Cynulliad cyfan, a (b) byddai'n rhaid iddo fod yn unol â sylwadau'r archwilydd cyffredinol cynorthwyol ynghylch blaenoriaethu'r rhaglenni—y rhai sy'n braf eu cael, y rhai sy'n gwbl hanfodol.
Rydym yn deall ein bod yn cael mwy o gyfrifoldebau a phwerau mewn perthynas â threth incwm. Mae yna rai pethau y mae angen iddynt ddigwydd o fewn y broses ehangach, os mynnwch, o rymuso'r Senedd yma. Mae rhai goblygiadau i hynny o ran cyllid, ond hefyd rwy'n ymwybodol fod y prif weithredwr wedi bod yn edrych ar niferoedd cyffredinol y staff, adleoli staff a defnyddio niferoedd staff hyd eithaf ei gallu. Credaf y byddwn yn edrych arno yn ei gyfanrwydd; nid yw ond yn deg inni wneud hynny. Ond i ailadrodd, gadewch i ni dynnu'r rhan am y bwrdd taliadau allan yn awr am nad yw mwyach yn rhan o'r trafodaethau, ac edrych yn lle hynny ar weddill y gyllideb a sut y mae wedi cynyddu ai peidio. Efallai y bydd gennych gyllideb ostyngol. Pwy a ŵyr? Credaf fod hynny'n annhebygol iawn, ond byddai'r Pwyllgor Cyllid yn sicr yn ei groesawu.
Ond yn fwy difrifol, rwy'n credu y bydd angen inni—mae'n rhesymol fel pwyllgor—osod penderfyniad y bwrdd taliadau o'r neilltu yn awr; mae hwnnw'n fater cwbl ar wahân, yn fwy yn nwylo'r Aelodau eu hunain yn ogystal. Felly, bydd yr Aelodau hefyd yn fwy uniongyrchol atebol am eu gwariant eu hunain. Efallai y bydd yn arwain at fwy o atebolrwydd uniongyrchol ar ran yr Aelodau a phobl yn gofyn cwestiynau ynglŷn â beth y mae'r Aelodau wedi gwario eu lwfansau arno, ond nid mater i mi nac i chi yw hynny ond atebolrwydd ehangach yr Aelodau yma i'r cyhoedd yng Nghymru.
Yn olaf, mae eich cwestiwn yn rhoi cyfle imi ddweud hefyd, ac atgoffa'r Aelodau, fod gennym Gomisiynwyr a hwy sy'n gyfrifol yn y pen draw am baratoi'r gyllideb. Y Pwyllgor Cyllid sy'n gwneud y gwaith o graffu ar y gyllideb, ond cyn hynny, does bosib nad oes ffordd i bobl drafod y materion neu'r blaenoriaethau yr hoffent eu gweld yn y gyllideb gyda'r Comisiynwyr.
A gaf fi gwestiynu'r rhagdybiaeth y dylid newid y llinell sylfaen yn awtomatig i adlewyrchu penderfyniadau dilynol y bwrdd taliadau? Oherwydd buaswn yn cwestiynu ai dyna'r ffordd y mae cyrff y sector cyhoeddus yn gweithredu. Yn aml iawn, byddant yn paratoi eu cyllideb ar un set o ragdybiaethau ac yna bydd pethau'n newid a bydd yn rhaid iddynt ysgwyddo'r costau hynny a gwneud arbedion mewn mannau eraill.
Er enghraifft, yn y trefniadau pensiwn newydd ledled y DU ar gyfer cynlluniau pensiwn yr optiwyd allan ohonynt o'r blaen, fel yn y GIG, mae'n fater pwysig iawn. Yn sydyn, bu'n rhaid iddynt dalu 2 y cant yn ychwanegol o yswiriant gwladol, ond nid oedd hynny'n golygu eu bod yn cael codiad o 2 y cant yn eu cyllideb i wneud iawn am hynny. Felly, i'r graddau bod y ffrâm allanol wedi newid, a bod y bwrdd taliadau wedi penderfynu, o'n cyllideb, y dylai cyfran rywfaint yn fwy fynd i'r Aelodau gyda mwy o hyblygrwydd i wario ar eu staff, buaswn yn cwestiynu a ddylem, neu'n wir, a oedd yr adroddiad cyllid blaenorol—roeddwn yn aelod o'r pwyllgor ar y pwynt hwnnw—yn awgrymu y dylid addasu rhywfaint ar gyfer hynny. Yn hytrach, oni allem edrych ar lle y gellid gwneud arbedion mewn mannau eraill, i'r graddau bod gan yr Aelodau fwy o hyblygrwydd dros eu lwfansau a'u lwfansau staffio, a allent gymryd rhai o'r pethau lle roedd y Comisiwn wedi bod yn darparu gwasanaethau cyn hynny efallai?
Unwaith eto, rwy'n cwestiynu, fel enghraifft arall yn unig, fod y swm sy'n cael ei dalu i bensiynau pawb ohonom gan Gomisiwn y Cynulliad yn codi tua 3 y cant y flwyddyn. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi gorfod ei ystyried a sut i'w addasu. Pam yr ydym yn rhoi ein harian i fuddsoddiadau lle y gwyddom y byddant yn disgyn o ran eu gwerth dros amser? Oni ddylem fod yn gwneud penderfyniadau sy'n golygu bod yn rhaid rhoi llai o arian i mewn oherwydd y gallai elw ar y buddsoddiad fod yn uwch?
Ac rwy'n credu mai'r peth pwysicaf, tybed a ydych yn cytuno, wrth gadeirio'r Pwyllgor Cyllid, yw bod gweddill y sector cyhoeddus wedi wynebu cyni sylweddol wrth i'n cyllideb ni gynyddu'n eithaf sylweddol. Roeddwn yn meddwl, fel Pwyllgor Cyllid, ein bod o'r farn y dylem fod fel gweddill y sector cyhoeddus o hyn ymlaen.
Diolch i Mark Reckless. Nid wyf am gael fy nhemtio i ddadl ar gyni, a gwisgo het fwy gwleidyddol, ac fe ymdriniaf yn benodol â'i gwestiynau.
Credaf fod dryswch bach yma, os caf fod yn glir yn ei gylch. Roedd y gyllideb gyffredinol a ystyriodd y Pwyllgor Cyllid, ac a gyflwynodd y Comisiwn, yn cynnwys y swm hwnnw o arian ar gyfer y bwrdd taliadau, i bob pwrpas. Gan fod llai—wel, rhowch y peth yn y ffordd hon—gan fod mwy o hyblygrwydd bellach o fewn yr adnoddau hynny i Aelodau unigol wario'r hyn a fyddai wedi bod yn danwariant a gedwir, os mynnwch, yn gyffredin gan y Comisiwn, caiff hwnnw ei rannu'n 60 gwahanol tanwariant bellach y gallwn eu defnyddio wedyn a'u gwario ein hunain.
Felly, o ran ei honiad cyffredinol y mae'r Pwyllgor Cyllid yn cytuno ag ef, ac yr oedd yn cytuno ag ef—y dylai'r Comisiwn ymddwyn fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru—bellach mae angen inni ychwanegu 60 Aelod Cynulliad ac mae angen hefyd iddynt hwythau ymddwyn fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru. A gobeithio nad oes unrhyw Aelod Cynulliad yn credu fod cael mwy o hyblygrwydd dros eu gwariant yn golygu bod yn rhaid iddynt wario hyd at y terfyn, gan y bydd gofyn iddynt gyfiawnhau hynny, a hynny'n briodol.
Ond rwy'n credu—a dyma sydd wedi newid ers ei fod yn aelod o'r Pwyllgor, ac ers inni gyhoeddi'r adroddiad, cael ymateb pellach gan y Comisiwn ac ymateb yng ngoleuni'r bwrdd taliadau—rwy'n ei gweld hi'n deg ein bod yn tynnu'r bwrdd taliadau allan pan fyddwn yn barnu a yw'r Comisiwn wedi cynyddu'n unol â bloc Cymru ai peidio, oherwydd ni all y Comisiwn bellach ddefnyddio'r arian hwnnw na rheoli'r arian hwnnw. Fel rwy'n dweud, mae mewn 60 pâr gwahanol o ddwylo. Nid oes unrhyw benderfyniadau gan y Comisiwn i'w gwneud ynglŷn â'r swm—mater i'r bwrdd taliadau i'w benderfynu yw hynny. Ac felly, credaf ei bod yn rhesymol ein bod yn tynnu'r darn hwnnw allan ac yna'n herio gweddill y gyllideb yn yr un ffordd yn union ag y mae'n awgrymu, yn yr un ffordd yn union ag y gofynnodd y Pwyllgor Cyllid, ac nid wyf yn gweld y Pwyllgor Cyllid yn bod yn llai trwyadl yn hynny o beth nag y bu yn y gorffennol.
O ran hynny, rwy'n dychwelyd at yr hyn a ddywedais yn y datganiad: byddem yn disgwyl i'r Comisiwn weithredu fel gweddill y sector cyhoeddus, ystyried cyni, a gwybod ein bod oll yn atebol, nid yn unig am y penderfyniadau gwario unigol hynny, ond am benderfyniadau gwariant cyffredinol y Cynulliad. Ceir prosiectau mawr posibl ar y gorwel a bydd angen i'r Comisiwn ystyried sut y mae hynny'n gweddu orau i'w ddull o weithredu, fel corff cyhoeddus. Felly, ni chredaf ein bod wedi gochel rhag hynny, ond credaf inni fod yn rhesymol o ran y newidiadau sydd wedi codi ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi gyntaf.
Diolch i'r Cadeirydd.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Caroline Jones.
Felly, rŷm ni'n symud at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar ansawdd aer, a chredwch neu beidio, rydw i ar fin galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6733 Simon Thomas, Dai Lloyd, David Melding, Jenny Rathbone
Cefnogwyd gan Lee Waters, Rhun ap Iorwerth, Siân Gwenllian, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;
b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd—mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; ac
c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.
Cynigiwyd y cynnig.
Gallaf fod yn wleidyddol yn awr, Gadeirydd. [Chwerthin.] Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon, sydd, wrth gwrs, yn ddadl drawsbleidiol, gyda chymorth Aelodau o bob rhan o'r Siambr ar Ddiwrnod Aer Glân, sef yfory, ac rydym ni, fel Plaid Cymru, wedi ei ddefnyddio fel ffordd dda o wneud wythnos gweithredu aer glân, ond pa ffordd bynnag yr ewch ati, gwn fod yna ddiddordeb mawr ym mhob rhan mewn aer glân. Hoffwn nodi pam y mae'r cynnig hwn mor bwysig i mi, ond hefyd i Aelodau eraill a'n cymunedau, a beth y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.
Felly, rydym yn gwybod—ac mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ei wneud yn glir—beth yw effaith aer glân, neu'n hytrach, llygredd aer yng Nghymru. Mae gennym 2,000 o farwolaethau cynamserol yng Nghymru o ganlyniad i hyn a rhai o'r lefelau mwyaf anghyfreithlon a niweidiol o lygredd aer—cofnododd Port Talbot, Cas-Gwent, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe y rheini yn 2015. Rwyf am bwysleisio'n arbennig ar ddechrau'r ddadl hon yr effaith ar bobl agored i niwed, yn enwedig plant. Mae plant sy'n agored i lygredd aer difrifol bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef yn sgil datblygiad ysgyfaint gwael ac o fod yn fwy agored i ddal heintiau yn ogystal. Ceir cysylltiad gwirioneddol hefyd â thlodi yma, oherwydd mae pum gwaith yn fwy o allyriadau carsinogenaidd yn y 10 y cant o wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru nag yn y 10 y cant o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae angen inni feddwl ychydig bach ynglŷn â sut rydym yn byw yn ein cymunedau a'r duedd i bobl gyda mwy o arian ymgynnull o amgylch—wel, i fyw ar rodfeydd, ac mae coed ar rodfeydd, ac i fyw yn agos at barciau, a'r duedd i bobl sy'n llai cefnog i ymgynnull mewn tai sy'n wynebu'r stryd yn uniongyrchol lle nad oes rhwystr rhyngoch a'r llygredd sy'n cael ei allyrru gan geir.
Felly, dyma'r rhesymau dros rai methiannau mawr yng Nghymru—yn ddiweddar, y ffaith bod Client Earth wedi mynd â Llywodraeth Cymru i'r llys. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gyda chynlluniau gweithredu. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd derfynau 50 mya, a bydd angen eu profi, rwy'n credu, oherwydd nid yw'n gwbl glir y bydd hynny'n ddigon i lanhau'r awyr. Mae yna ddamcaniaeth yn sail iddo, ond nid yw'n gwbl glir y bydd hynny'n ateb y broblem, ac mae angen inni roi camau pellach ar waith yn ogystal, a dyna'r rheswm dros y cynnig heddiw.
Er enghraifft, rwy'n arbennig o awyddus inni roi mwy o bŵer yn nwylo ein dinasyddion i fonitro ac i wybod mwy am yr aer yn eu cymunedau lleol. Darganfu Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, drwy gais rhyddid gwybodaeth, nad oedd ond un ysgol yn Abertawe yn monitro llygredd gerllaw ac nid oes gan unrhyw ysgol yng Nghaerdydd ddull o fonitro llygredd gerllaw. Felly, os ydych chi'n siarad â phlant a rhieni ynghylch llwybrau amgen i'r ysgol, beicio, cerdded neu beth bynnag, neu ddiffodd yr injan pan fyddant yn segur tu allan i'r ysgol, nid oes gennych dystiolaeth i'w rhoi iddynt, oherwydd nad ydym yn ei gasglu. A hyd yn oed pan awn ymhellach, pa wybodaeth y dylem fod yn ei chasglu—oherwydd mae rhai o'r dulliau monitro llygredd aer hyn yn dweud fod gennym lefelau diogel, ond cânt eu casglu dros gyfnod hir o amser; nid dulliau casglu amser real ydynt sy'n casglu gwybodaeth am 8.15 a.m. pan fydd pob injan yn rhedeg, a dyna lle mae angen inni fynd. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni gryfhau ac atgyfnerthu'r agwedd honno yn ogystal.
Nawr, fel rhan o hyn, credaf yn sicr y dylai fod gennym Ddeddf aer glân i Gymru. Mae yna bethau unigol yn cael eu gwneud, ond rwy'n credu bod angen inni ddod â hwy at ei gilydd, cael deddfwriaeth, dangos ein huchelgais ac arddangos hynny yn y ffordd y gwnaethom gyda Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Rwy'n credu y byddai hynny'n troi o gwmpas grymuso parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd. Nawr, gwelwyd a phrofwyd bod parthau aer glân yn gweithio. Mae Awyr Iach Cymru, y glymblaid o gyrff sy'n ymgyrchu dros aer glân yng Nghymru, yn dweud mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau allyriadau a newid ymddygiadau yn yr amser byrraf posibl. Er enghraifft, arweiniodd un a gyflwynwyd yn Berlin yn 2008, ac a ehangwyd ddwy flynedd yn ddiweddarach, at allyriadau o ronynnau a nitrogen ocsid a oedd yn 50 y cant ac wedyn 20 y cant yn is na'r duedd ddisgwyliedig. Felly, mae yna ffordd o rymuso a defnyddio Llywodraeth Cymru i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno parthau aer glân. Dyna pam, yn anffodus, na fyddwn yn derbyn y gwelliant a gyflwynwyd yn enw UKIP, oherwydd credaf fod parthau aer glân yn arf hanfodol mewn gwirionedd ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru.
Mae angen inni edrych hefyd ar sut y bwriadwn ddisodli ein dibyniaeth ar geir tanwydd ffosil. Yn fy nghynnig gwreiddiol ar gyfer Deddf aer glân, cynigiais ein bod yn cael gwared ar geir tanwydd ffosil yn unig erbyn 2030. Roeddwn yn meddwl fy mod yn gofyn gormod braidd, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog ei hun ddoe, mae'n
'Rwy'n credu bod hynny'n rhy gynnar; nid wyf i'n credu bod y dechnoleg yn barod.'
Wel, galwodd meiri ac arweinwyr dinasoedd yn y DU, sy'n cynrychioli 20 miliwn o bobl, am yn union hynny ddydd Llun, ac maent yn digwydd bod yn cynnwys maer ac arweinwyr cyngor dinas Caerdydd yn ogystal. Nid wyf yn ceisio gwneud hwn yn fater gwleidyddol yn yr ystyr honno. Rwy'n meddwl bod angen i'r Prif Weinidog gefnogi hyn, mae angen iddo ddeall, mewn gwirionedd, fod hyn eisoes yn digwydd. Mae Tsieina, sef marchnad gerbydau fwyaf y byd, yn ystyried gwaharddiad ar gynhyrchu a gwerthu ceir tanwydd ffosil yn y dyfodol agos. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad mai Tsieina hefyd yw'r wlad sy'n buddsoddi fwyaf mewn hydrogen. Mae Copenhagen, gwledydd ledled gorllewin Ewrop, yn ystyried—nid ystyried, yn gweithredu gwaharddiadau, gwaharddiadau ar werthu a gwaharddiadau ar geir tanwydd ffosil yn unig rhag mynd i mewn i'r dinasoedd hynny.
Nawr, credaf y gallwn ddefnyddio technoleg i demtio pobl allan o geir sy'n llygru a gallwn ddefnyddio technoleg i annog pobl i edrych ar ddewisiadau eraill. Felly, credaf y gall fod yna weledigaeth ar gyfer sector trafnidiaeth gyhoeddus lân a gwyrdd a di-lygredd wedi'i phweru gan hydrogen. Hoffem weld masnachfraint trenau Cymru—mae'n weithredol bellach, ond mae cymalau terfynu ynddi. Hoffwn weld y rheini'n cael eu defnyddio fel ffordd o roi pwysau i gyflwyno trenau hydrogen. Maent eisoes i'w gweld yn yr Almaen. Maent yn cael eu datblygu eisoes. Mae sôn am Alstom yn adeiladu trenau hydrogen yng ngogledd-orllewin Lloegr. Gadewch i ni fod ar y blaen gyda'r dechnoleg hon.
Eisoes mae gennym gytundeb gyda Llywodraeth Cymru ar gerbydau trydan. Rwy'n cyfaddef fy mod wedi bod yn ymgyrchu o blaid gosod pwynt gwefru cerbydau trydan yma yn y Cynulliad. Mae yma, ac rwy'n falch iawn o'i weld, a gwn am o leiaf ddau aelod o staff sy'n ei ddefnyddio, ond nid oes yr un Aelod Cynulliad yn gwneud hynny eto, oherwydd nid wyf wedi gwneud y naid at gerbydau trydan. Ni allaf deithio yma o Aberystwyth—. Rwy'n dod ar y trên y rhan fwyaf o'r amser, gyda llaw. Ond ni allaf deithio—gwn fod angen i chi ddefnyddio car weithiau, ac ni allwch wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i'r seilwaith hwnnw fod yno i annog pobl i newid eu dull o deithio, a chredaf y gallwn yn hawdd symud pobl at dechnoleg newydd sy'n gyffrous ac yn newydd, ond yn ei dro, rhaid inni ddefnyddio hynny fel rheswm i'w hannog i ddefnyddio llai ar y car yn ogystal. Felly, rhaid i hynny fod yn rhan o'r hafaliad.
Mae llawer iawn y gallwn ei wneud yma yn y Cynulliad felly, a chredaf mai'r prif beth, i gloi, yw fy mod am inni ddefnyddio, nid yn unig y ddadl hon, ond y dadleuon y byddwn yn eu cael dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod i ddangos bod Cymru nid yn unig ar y blaen o ran meddwl am yr amgylchedd, ond ar y blaen o ran buddsoddi yn y math o dechnoleg a fydd yn mynd â ni y tu hwnt i hynny. I roi enghraifft ynghylch plastigau, rydym wedi bod yn sôn am wellt plastig ers cryn dipyn o amser yn y Cynulliad. Roedd yn braf iawn gweld mai cwmni newydd yng Nglyn Ebwy bellach sy'n gwneud gwellt papur a brynir gan McDonald's, a chwmnïau eraill hefyd rwy'n siŵr. Mae hynny'n dangos nad yw'r economi werdd hon yn ymwneud â mynd yn ôl i'r gorffennol, nac â gwrthod technoleg, mae'n ymwneud â chroesawu'r gorau er mwyn sicrhau bod gennym amgylcheddau gwyrdd a glân, aer glân ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, a swyddi hefyd, yn ein dinasoedd a'n trefi.
David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y—
Mae'n ddrwg gyda fi, David Melding.
Mae'n ddrwg gennyf. Dylwn fod wedi galw'r gwelliant yn gyntaf. Fe neidiais, mae'n ddrwg gennyf. Roeddwn yn meddwl eich bod yn edrych yn syfrdan pan alwais arnoch. [Chwerthin.] Nawr, mae'n rhaid i mi alw'r gwelliant a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones, ac fe alwaf ar Gareth Bennett ac ymddiheuro am beidio â bod wedi galw—.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Ym mhwynt 2, dileu 'a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a' a rhoi 'drwy gyflwyno dewisiadau amgen ar gyfer trafnidiaeth a mynd i'r afael â llygredd diwydiannol er mwyn' yn ei le.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd. Diolch i Simon ac eraill am gyflwyno'r ddadl heddiw, a chynigiaf ein gwelliant yn ffurfiol. Mae'n ymddangos ein bod wedi sôn cryn dipyn am aer glân yn y Siambr yn ddiweddar, ond wrth gwrs, nid yw ansawdd yr aer i'w weld yn gwella, felly mae'n debyg ei fod yn fater perthnasol o hyd, felly gallwn siarad amdano eto. Ac mae yna ddatblygiadau, fel y nododd Simon Thomas yn glir, mewn lleoedd fel Berlin a dinasoedd eraill, lle maent yn bwrw ymlaen â mentrau amrywiol, ac mae gennym amheuon ynglŷn â rhai ohonynt: parthau aer glân—byddaf yn codi hynny yn ddiweddarach. Ond wrth gwrs, rydym yn cytuno ag ysbryd y ddadl heddiw yn yr ystyr ein bod yn cytuno bod angen inni roi camau ar waith i wella ansawdd aer. Felly, yn hynny o beth, rwy'n casglu y byddai'r rhan fwyaf, neu'r cyfan o'r pleidiau mewn gwirionedd, yn cytuno.
Wrth edrych ar y materion sy'n codi, mae tagfeydd traffig, wrth gwrs, yn fater o bwys. Mae ysgolion wedi tyfu'n fwy ac wedi mynd yn llai lleol, ac mae mwy o blant mewn teuluoedd lle mae'r ddau riant yn gweithio y rhan fwyaf o ddyddiau, felly erbyn hyn mae gennym nifer fawr o rieni yn gyrru eu plant i'r ysgol, ac mae'r daith i'r ysgol yn elfen fawr o'r broblem draffig ar oriau brig, fel y gellir dangos drwy'r gostyngiad amlwg yn y traffig ar yr adegau hyn yn ystod gwyliau ysgol. Felly, un peth y mae angen inni feddwl amdano—mae'r holl bethau hyn yn cyd-berthyn. Mae'n dapestri cyfan o bethau, ac mae'n anodd meddwl weithiau sut y byddai Llywodraeth yn ymdrin â'r materion hyn, ond un peth y mae angen inni ei wneud yw annog mwy o blant i gerdded i'r ysgol, drwy gefnogi mentrau megis y bws cerdded i'r ysgol a phatrolau cerdded eraill tebyg.
Hefyd mae angen gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Yng Nghaerdydd, ac mewn trefi mawr eraill yng Nghymru, yn ddi-os, mae gennym barciau busnes a phethau tebyg wedi'u hadeiladu mewn mannau ar gyrion dinasoedd, heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus go iawn. Mae hyn yn fethiant yn y system gynllunio. Mae arnom angen mwy o lwybrau bws prifwythiennol yn mynd o gwmpas ymylon y trefi mawr. Yn sicr, mae eu hangen yng Nghaerdydd; ac yng Nghasnewydd ac Abertawe hefyd, mae'n debyg y byddent yn fanteisiol. Mae ganddynt lawer o lwybrau bws prifwythiennol yn Llundain; nid ydym yn gwneud hynny yng Nghaerdydd mewn gwirionedd.
Mae teithio llesol yn bwynt allweddol arall. Mae arnom angen seilwaith megis llwybrau beicio a llwybrau cerdded, er, wrth gwrs, ceir bob amser yr anhawster ffisegol o ymgorffori'r holl elfennau hyn mewn mannau trefol cyfyngedig. Ond mae yna gyfleoedd. Ceir rhai rheilffyrdd segur y gellid eu defnyddio. Mae un yng ngorllewin Caerdydd, rhwng y Tyllgoed a Chreigiau, sy'n dal i fod yno ar ôl cael ei chau yng nghyfnod Beeching, mae'n debyg. Mae'r rheilffordd yn dal yno; ni fyddai'n cymryd llawer o ymdrech i glirio'r rheilffordd a'i defnyddio at ryw ddiben. Mae gennym ymgyrch i ailagor twnnel Rhondda y gofynnais gwestiwn yn ei gylch yn gynharach heddiw, felly rwy'n gobeithio y daw rhywbeth o'r cynllun hwnnw.
Mater cynllunio arall yw'r nifer fawr o siopau bwyd cyflym, sydd weithiau'n hel yn agos at ei gilydd mewn rhai rhannau o drefi penodol. Bydd hyn, oherwydd y nifer fawr o ffaniau sy'n weithredol, yn tueddu i gael effaith sy'n amlwg yn wael ar ansawdd yr aer, ac mae hyn, unwaith eto, yn arwain at broblemau cynllunio, oherwydd, yn fy mhrofiad i, pan arferwn fynychu cyfarfodydd Cyngor—amser maith yn ôl, ond ni chredaf fod y sefyllfa wedi newid llawer—weithiau bydd swyddogion cynllunio yn wynebu gwrthwynebiad lleol gan aelodau ynghylch ceisiadau cynllunio, ond maent yn tueddu i ddweud, 'Wel, wyddoch chi, bydd y ceisydd yn ennill ar apêl, felly rhaid inni wthio hyn drwodd.' Felly, rhoddir caniatâd cynllunio. Wedyn, daw'r achos nesaf, ac maent yn dyfynnu'r cynsail ac yn dweud, 'A, wel, rhoesom y caniatâd cynllunio i'r un acw, felly mae'n rhaid inni ei roi i hwn.' Felly, yn y diwedd mae gennym nifer fawr o siopau bwyd cyflym mewn ardaloedd cyfyng, ac yn sicr nid yw'n gwneud llawer o les i ansawdd yr aer. Felly, rwy'n credu bod angen inni fynd i'r afael â llawer o'r pethau hyn drwy edrych ar y system gynllunio.
Bellach mae gennym gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru, a allai fod yn ddatblygiad da. Mae'n berson galluog iawn. Gobeithio y bydd yn gallu cyfrannu'n ystyrlon at y pethau hyn. Ond mae'n rhaid iddi allu cyfrannu'n ystyrlon, fel y dywedaf, i roi stop ar bethau fel cynghorau'n adeiladu'n ddireolaeth ar dir llain las, a chynghorau'n dymchwel eu gorsafoedd bysiau i adeiladu blociau o gyfadeiladau swyddfa enfawr a fydd yn llusgo mwy o gymudwyr i ardaloedd trefol canolog. Ac yn y pen draw, bydd angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau rhagweithiol mewn ardaloedd, yn hytrach na dim ond siarad am faterion a phasio deddfwriaeth weithiau, fel Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, nad yw i'w gweld yn gwneud llawer mewn gwirionedd i newid y sefyllfa, er fy mod yn siŵr iddi gael ei phasio gyda bwriadau da. Mae angen inni edrych ar sut y mae hynny'n gweithio mewn gwirionedd, sut y mae'r polisi hwnnw'n gweithio, a gwneud iddo weithio mewn ffordd fwy ystyrlon.
Gan edrych ar y cynnig heddiw, fel y dywedaf, rydym yn cefnogi'r nod o wella ansawdd aer. Mae gennym broblem gyda pharthau aer glân, oherwydd rydym yn teimlo bod angen inni ddarparu gwell dewisiadau amgen yn gyntaf cyn inni ddechrau gwahardd pobl rhag gyrru ceir penodol mewn trefi a dinasoedd. Wedi'r cyfan, pe baem yn gwahardd pawb sy'n gyrru ceir tanwydd ffosil rhag gyrru i mewn i Gaerdydd ac Abertawe yfory, rwy'n sicr na fyddai lle ar fysiau a threnau i bobl gyrraedd y lleoedd hynny o gwbl, ac ar hyn o bryd, nid oes gennym seilwaith ar gyfer ceir trydan. Yn sicr, mae angen inni symud ymlaen gyda'r pethau hyn, ac rwy'n cytuno gyda Simon Thomas—gadewch inni symud ymlaen gyda datblygu'r math hwn o seilwaith—ond ar hyn o bryd, nid yw yno. Yn UKIP, mae'n teimlo i ni fel rhoi'r drol o flaen y ceffyl, felly nid ydym yn cefnogi'r syniad hwnnw ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Felly, am y rheswm hwnnw rydym yn gwrthwynebu'r cynnig heddiw, oni chaiff ei ddiwygio gan ein gwelliant ein hunain, sy'n codi'r mater hwnnw. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn eich llongyfarch ar ba mor gyflym y newidioch chi eich meddwl yno? Ar ddau achlysur, anghofiais alw ar Ann Jones pan oedd yn Gadeirydd pwyllgor perthnasol, ac roeddwn yn teimlo mor ddrwg yr ail dro, prynais focs o siocledi iddi. [Chwerthin.] Nid wyf yn awgrymu bod hwnnw'n gynsail.
Nid wyf yn prynu bocs o siocledi i chi. Nid yw'n mynd i weithio. [Chwerthin.]
Ni chywirais fy hun yn gyflym iawn, felly roedd fy nghamgymeriad yn fwy difrifol.
A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am arwain y ddadl heddiw a chael consensws gwirioneddol dda? Roeddwn yn meddwl fod UKIP hyd yn oed gyda ni, ond oni bai bod eu gwelliant yn pasio, nid yw'n ymddangos y byddant yn llwyddo i'n cefnogi, ond rydym newydd glywed cyfraniad adeiladol i raddau helaeth. Rwy'n credu bod y cynnig fel y cafodd ei roi y prynhawn yma yn cyfleu'n rymus iawn y teimlad a rennir ar draws y Siambr hon rwy'n credu, ac yn wirioneddol gryf ymysg y cyhoedd, sydd, unwaith eto rwy'n meddwl, yn ein gwthio'n galetach ar y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn nag y cawsom ein gwthio yn y gorffennol, ac maent ar y blaen i ni ar hyn. N ddylai beri syndod i unrhyw un, o ystyried pwysigrwydd aer glân a'i fanteision i iechyd a lles.
A gaf fi ddweud y byddaf yn cyfeirio at beth o ddatblygiad polisi'r Blaid Geidwadol? Oherwydd rydym wedi edrych ar hyn ac rydym yn credu fod mynd i'r afael ag ansawdd aer yn wirioneddol hanfodol. Rydym wedi ei gynnwys yn ganolog i'n strategaeth drefol, 'Dinasoedd Byw', a lansiwyd fis diwethaf. Rwy'n crybwyll hyn, mewn gwirionedd, fel enghraifft o sut y mae'r consensws yn ffurfio, ac nid yn yr ystyr o, 'Edrychwch, rydym wedi gwneud hyn, rydym yn glyfar iawn, dylai pob un ohonoch ei gopïo', oherwydd mae llawer o'r hyn sydd yn y strategaeth yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar gael, ac a ddatblygwyd gan yr holl bobl o amgylch y Siambr hon mewn gwirionedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig tu hwnt. Rydym wedi cael ymateb arbennig o dda gan rai o'r rhanddeiliaid allweddol, megis WWF a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, a gwn eu bod yn gweithio gyda phob plaid wleidyddol. Unwaith eto, nid wyf yn hawlio unrhyw gefnogaeth benodol ganddynt. Maent yn sefydliadau teilwng sy'n meddu ar arbenigedd ardderchog a all ein helpu i wella ein polisi cyhoeddus. Wedi dweud hynny, mae yna ymyl galed i hyn hefyd, gan fod gennym ansawdd aer gwael iawn yng Nghymru, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU—ac nid yw'r DU yn dda iawn am wneud hynny ar y cyfan. Mae lefelau mater gronynnol uwch yng Nghaerdydd a Phort Talbot nag yn Birmingham neu Fanceinion, ac fel rydym wedi trafod sawl gwaith yn y Siambr hon, mae yna ffordd yng Nghaerffili sy'n fwy llygredig na'r un arall y tu allan i Lundain. Fel y dywed y cynnig, mae llygredd aer yn cyfrannu at oddeutu 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Dyna 2,000 o farwolaethau cynamserol, ac mewn gwirionedd, mae'n drychineb i'r bobl hynny a'u teuluoedd—effaith fawr iawn yn wir.
Dylai'r ffeithiau hyn beri gofid inni, a gwn eu bod yn peri gofid i'r Aelodau, ond credaf fod angen inni symud ymlaen at rai ffyrdd penodol iawn ymlaen ac adeiladu ar y consensws sydd gennym erbyn hyn. Felly, rydym yn rhoi camau gweithredu penodol iawn ar waith gan mai gweithgarwch dynol sy'n achosi hyn i raddau helaeth. Ceir rhai mathau o weithgaredd naturiol sy'n gallu effeithio ar ansawdd aer, ond yr hyn y soniwn amdano yn y bôn yw beth rydym yn ei wneud mewn perthynas â charbon deuocsid, sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid. Pennir lefelau'r llygryddion hyn i raddau helaeth gan weithgarwch dynol bob dydd, ac mae llawer ohonom yn gwneud y pethau hyn, fel teithio ar y trên, defnyddio ceir i raddau llawer mwy na'r hyn a fyddai orau o ystyried dewisiadau amgen rhesymol, y math o orsafoedd pŵer sy'n dal yn weithredol—mae Aberddawan wedi cael ei thrafod sawl gwaith yn y Siambr hon—i lawr i offer yn y cartref a'r hyn a chwistrellwn yn yr awyr i'w wneud yn fwy ffres yn ôl yr honiad. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Mae'r rhestr yn un hir iawn. Felly, mae angen inni feddwl am rai pethau penodol, ac rydym wedi dechrau gwneud hynny bellach yn y strategaeth drwy alw am barthau aer glân yn Wrecsam, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe, ac ymrwymiad i wneud Caerdydd yn ddinas garbon-niwtral gyntaf y DU. Gallem fod yn arwain y ffordd. Gallem fod o ddifrif yn cyflwyno Cymru fel arweinydd yn y sector hwn, ac yn denu'r bobl ifanc sydd eisiau dod i fyw a gweithio mewn amgylchedd glân ac arloesol iawn. Dyna y dylem ei wneud, oherwydd os na wnawn hynny, cawn ein llusgo i'w wneud fel yr hanner canfed neu'r trigeinfed dinas neu beth bynnag, lle y gallem fod yn arweinwyr.
Rydym hefyd yn credu bod monitro'n bwysig, yn enwedig o amgylch ysgolion a meithrinfeydd, a sut y symudwn bobl o gwmpas—clywsom am hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno gan Gareth. Unwaith eto, i unrhyw un fy oed i, a aned yn 1962—rwy'n dal i fethu amgyffred pan welaf dystiolaeth o fy amgylch o'r modd y mae rhieni yn hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno, oherwydd i fy nghenhedlaeth i nid oedd yn rhan o'n profiad o gwbl, ac roedd ein bywydau'n well o'r herwydd, rwy'n credu, o ran sut y cyrhaeddem yr ysgol. Ond mae cynigion eraill yn ein dogfen yn cynnwys polisïau ar gyfer ystafelloedd gwyrdd, mannau gwyrdd, teithio llesol, cerbydau trydan, tai ynni effeithlon, canopïau coed ac ynni adnewyddadwy. Mae yna bethau eraill. Mae'r rhain i gyd yn gyraeddadwy ac mae angen eu gwneud mewn modd cydlynol, cynhwysfawr fel ein bod yn gweld newid go iawn, ac er mwyn inni allu mynd at sefydliadau tebyg i Sefydliad Iechyd y Byd—fe wnaf fi orffen ar hyn—a dangos ein bod yn arwain arferion gorau, yn hytrach na chael sylw yn sgil y ffaith mai gennym ni y mae rhai o'r lefelau llygredd uchaf yng ngorllewin Ewrop. Diolch.
Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn am fy ngalw i siarad yn y ddadl bwysig hon, sydd mor bwysig i'n plant ac i genedlaethau'r dyfodol. Llongyfarchiadau i'r grŵp trawsbleidiol o Aelodau sydd wedi cyflwyno'r cynnig hwn. Credaf ei bod, pan fyddwch yn meddwl am y peth, yn gwbl syfrdanol fod 2,000 o bobl yng Nghymru yn marw o ganlyniad i lygredd aer, ac yn amlwg, i bobl â chyflyrau asthmatig a gwahanol anhwylderau'r ysgyfaint, mae bod mewn aer llygredig mor beryglus. Mae'n rhywbeth y credaf fod pawb ohonom yn bryderus iawn yn ei gylch.
Yng Nghaerdydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y gellid priodoli 225 o farwolaethau'r flwyddyn—dyna 5 y cant o'r holl farwolaethau—i fater gronynnol a nitrogen deuocsid yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Dangosodd adroddiad ClientEarth ym mis Medi 2017, y cyfeiriwyd ato eisoes y prynhawn yma, lefelau llygredd annerbyniol mewn ysgolion. Yng Nghaerdydd, o'r saith ysgol a grybwyllwyd, mae tair ohonynt yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd—sef Ysgol Uwchradd Cathays, ysgol St Joseph ac Ysgol Mynydd Bychan. Mae'r rheini i gyd wedi'u lleoli ar hyd Ffordd yr Eglwys Newydd, ar hyd Ffordd y Gogledd, ar hyd y ffyrdd prifwythiennol sy'n dod i mewn i Gaerdydd, lle mae'r holl draffig yn arllwys i lawr y ffyrdd hynny i bobl sy'n gweithio yng nghanol Caerdydd, neu sy'n gweithio yn yr ardal hon. Felly, mae'r ysgolion hynny o fewn 150m i ffordd sydd â mwy na'r terfyn cyfreithiol o lygredd aer, a chredaf fod honno'n sefyllfa echrydus, ac mae'n warthus fod ein plant yn agored i'r lefelau hyn.
Nid ydym yn gwybod, mewn gwirionedd, beth fydd yr effaith hirdymor ar iechyd plant sy'n byw mewn ardaloedd a lygrwyd yn helaeth neu sy'n mynd i ysgolion wrth ymyl ffyrdd prysur iawn, ac wrth gwrs, mae'n ddiddorol darllen un o'r dogfennau cyfarwyddyd ar gyfer y ddadl hon, sy'n dweud, wrth gwrs, oherwydd bod plant yn llai o lawer nag oedolion, maent yn llawer agosach at y mygdarth, yn llawer mwy tebygol o gael eu heffeithio ganddynt. Mae mater anghydraddoldeb yn codi ei ben hefyd, a gwyddom fod mwy o fygdarth mewn ardaloedd tlotach. Felly, mae yna broblemau enfawr yn gysylltiedig â'r pwnc hwn. O'r herwydd, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu, fod yna derfynau cyflymder is dros dro yn mynd i gael eu cyflwyno eisoes ar rhai o'n ffyrdd mwyaf, a'r gronfa ansawdd aer newydd gwerth £20 miliwn. Ond credaf ei bod yn bwysig inni fod yn ymwybodol fod llawer o'r dulliau o fynd i'r afael â'r materion hyn o fewn ein cyrraedd. Dywedwyd eisoes yn y ddadl fod hon yn broblem a achoswyd gennym ni, a chan ein gweithgareddau, ac un o'r ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â hi wrth gwrs yw drwy hyrwyddo teithio llesol.
Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y metro a'r nifer gynyddol o orsafoedd a gwasanaethau yn helpu'n fawr i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac i adael eu ceir. Rwy'n arbennig o falch, yng Ngogledd Caerdydd, ein bod yn mynd i gael datblygiad ysbyty newydd Felindre, ac rwy'n falch iawn fod yna gynllun i'r trên neu'r tram fynd yr holl ffordd i ganol yr ysbyty. Ac felly, mae'r ffaith, dros flwyddyn, y bydd yna filoedd ar filoedd o bobl yn mynd i'r ysbyty hwnnw, a'r ffaith y byddant yn gallu mynd yn syth yno—credaf mai dyna'r math o fenter sydd angen inni ei chael: pan fydd gennym brosiectau newydd o'r fath, ein bod yn cynnwys, o'r dechrau un, y gallu i bobl beidio â defnyddio eu ceir, ond i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd ac yn gyfleus.
Rwy'n cefnogi ymdrechion cyngor Caerdydd. Rwy'n cefnogi parthau aer glân; credaf mai dyna'r ffordd ymlaen. Cyhoeddodd cyngor Caerdydd ei bapur gwyrdd ar drafnidiaeth ac aer glân eleni, a chredaf fod ei weledigaeth o Gaerdydd fel dinas 20 mya—y ddinas gyfan—yn rhywbeth, unwaith eto, a fydd yn mynd â ni ymlaen. Yn gynharach yn y dydd, pan oeddem ar gwestiynau i'r Comisiwn, soniais am yr adroddiad Sustrans, 'Bywyd Beicio' a oedd yn dangos y byddai mwy o bobl yn beicio pe bai mwy o fuddsoddi yn y seilwaith beicio. Yng Nghaerdydd, gwn fod yna draffyrdd beicio yn yr arfaeth, a fyddai'n wych, ond hefyd, mae gwir angen cydgysylltu teithiau beicio, ac mae angen i bobl deimlo'n ddiogel yn beicio ar hyd strydoedd preswyl. Er enghraifft, credaf fod yna bob amser nerfusrwydd mawr y bydd rhywun yn agor drws car a tharo pobl oddi ar eu beiciau. Credaf fod yn rhaid i chi wneud pobl mor ymwybodol o bobl yn beicio a darparu mannau diogel i feicio. Hefyd, soniais am bwysigrwydd annog mwy o fenywod i feicio a chyfeiriais at yr adroddiad penodol hwn sy'n dangos bod menywod, yn arbennig, ar ei hôl hi o ran defnyddio beiciau a bod yn rhan o ysgogi hyn.
Felly, credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn, fe'i cefnogaf yn llwyr a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Credaf fod angen inni ei hybu cymaint ag y gallwn gyda'n holl weithredoedd a chyda'r holl ysgogiadau gwahanol sydd gennym yma i fwrw ymlaen ag ef.
Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw yn ogystal, ac mae'n ddadl bwysig tu hwnt i iechyd yng Nghymru ac ansawdd bywyd yng Nghymru, ac mae yna bethau ymarferol y gellir eu gwneud. Un peth a grybwyllais o'r blaen, er enghraifft, yw'r posibilrwydd o addasiad LPG i fflydoedd tacsi, a fyddai'n un cyfraniad pwysig a sylweddol i wella ansawdd aer yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae'n fforddiadwy iawn ac yn talu amdano'i hun yn gyflym iawn ar ffurf costau tanwydd is. Cawsom y Ddeddf teithio llesol, a grybwyllwyd gan Julie Morgan yn awr—mae yno, mae ar y llyfr statud. Mae awdurdodau lleol yn gweithio ar eu polisïau ac yn gweithredu eu llwybrau newydd ac fel y soniodd Julie, mae gennym enghreifftiau fel yma yn y brifddinas gyda rhai o'r priffyrdd beicio hyn.
Ond wrth gwrs mae angen gwneud yn siŵr fod y cyfan yn cydgysylltu, fel y dywedodd Julie. Credaf mai un ffordd o hwyluso hynny yw drwy gael terfyn cyflymder o 20 mya diofyn fel polisi cenedlaethol ar draws Cymru, a fyddai'n fan cychwyn wedyn i awdurdodau lleol. Gallent eithrio rhai ffyrdd o'r polisi cyffredinol hwnnw am resymau dilys a phenodol, ond dyna fyddai'r man cychwyn. Yr hyn y byddai hynny'n ei wneud wedyn fyddai helpu i greu'r amgylcheddau dinesig sy'n haws i bobl gerdded a beicio ynddynt a fyddai'n gwneud i bobl deimlo'n ddiogel i feicio o'u cartrefi a chysylltu'r gyda'r rhwydwaith beicio newydd o dan y Ddeddf teithio llesol. Mae gennym hefyd ffactorau pwysig eraill—mae gennym y system fetro yn mynd rhagddi, posibiliadau newydd ar gyfer teithio ar fysiau gyda'r pwerau ychwanegol a fydd gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y newid moddol hwn i system drafnidiaeth wedi'i hintegreiddio'n briodol. Nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos, ond rwy'n credu bod yna lawer o bolisïau sy'n cydweddu bellach, sy'n pwyntio i'r un cyfeiriad, sy'n cynnig momentwm newydd a phosibiliadau a go iawn i ni.
Mae'r ymgyrch '20 yn ddigon' a grybwyllais, Lywydd, i gael terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ledled Cymru yn rhan bwysig iawn o'r darlun ehangach hwn. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, yn gryf o'i blaid, er enghraifft, ac maent yn gwneud y pwynt, gyda'r ymchwil a wnaethant, y byddai'n hwyluso mwy o gerdded a beicio yn ein hamgylcheddau trefol, yn creu amgylcheddau mwy cyfeillgar i blant chwarae yn yr awyr agored, ac fel y maent yn nodi, ac yn wir, fel y nododd erthygl gan Dr Sarah Jones yn y British Medical Journal, mae'n ateb yr heriau iechyd cyhoeddus o fynd i'r afael â llygredd aer, yn mynd i'r afael â phroblem damweiniau traffig ar y ffyrdd ac yn ymladd gordewdra. Maent yn cysylltu'r tri pheth gyda'i gilydd fel un o'r heriau iechyd cyhoeddus pwysig iawn sy'n wynebu'r DU ar hyn o bryd ac yn nodi mai terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yw un o'r ffyrdd mwyaf amlwg ac effeithiol o fynd i'r afael â'r tair prif her.
Yn ogystal â chreu amgylcheddau lleol mwy hwylus ar gyfer cerdded a beicio, mae NICE hefyd yn nodi y byddai terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn mynd i'r afael â nitrogen deuocsid a mater gronynnol llygredd aer. Felly, wrth edrych ar yr hyn sydd gan y polisi hwnnw i'w gynnig yn ei gyfanrwydd, a'r ffaith ei fod yn cael ei weithredu yn y DU gan nifer o awdurdodau lleol—wyddoch chi, mae'n rhywbeth sy'n ymarferol, mae'n rhywbeth sy'n fforddiadwy iawn, ac mae'n rhywbeth sy'n dod yn realiti cynyddol yn y DU—mae'n cynnig polisi wedi'i ddatblygu y gellid ei fabwysiadu yng Nghymru, ac a fyddai'n cyfrannu'n helaeth at lawer o'r problemau llygredd aer hyn a llawer mwy na hynny hefyd.
Rwy'n falch iawn i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, drwy longyfarch yn gyntaf fy nghyfaill Simon Thomas ar ei arweiniad yn y mater hynod bwysig yma. Nid wyf yn gwybod a wyf wedi sôn o'r blaen fy mod yn feddyg o ran galwedigaeth, ond, yn naturiol, mi fyddaf yn dod at y pwnc yma yn nhermau sgileffeithiau iechyd y cyhoedd. Mae'n hanfodol bwysig inni sylweddoli bod llygredd awyr yn effeithio'n ddybryd ar ein hysgyfaint ni i gyd, ond yn benodol, efallai, ar ysgyfaint plant bach, ac mae yna dystiolaeth sydd yn cynyddu ei fod yn effeithio ar ysgyfaint babi sydd heb eto gael ei eni—hynny yw, mae babi cyn cael ei eni yn cael sgileffeithiau ar ei ysgyfaint yn deillio o'r llygredd y mae ei fam yn anadlu i mewn. Gallai hynny greithio eich iechyd chi ar hyd eich oes. Felly, nid oes posib gorbwysleisio pwysigrwydd y pwnc sylfaenol yma.
Ers llawer dydd, roeddem ni'n fodlon, fel cymdeithas, dioddef dŵr nad oedd yn lân. Ni allech argymell unrhyw sefyllfa rŵan lle y byddem ni'n dioddef dŵr yn llawn amhureddau, ond rydym ni'n dioddef awyr sydd yn llawn amhureddau. Mae eisiau newid agwedd, yn syfrdanol a dweud y gwir, achos mae'n rhaid inni symud ymlaen i greu y parthau awyr iach yma, awyr glân, fel mae Simon wedi awgrymu a nifer eraill yn cefnogi. Ers llawer dydd, roeddem ni'n arfer gorfod dioddef y niwl trwchus du yna yn ein dinasoedd mwyaf—y pea soupers, er enghraifft, ym Manceinion a Llundain ac ati—lle'r oedd yr awyr mor ddu nid oeddech chi’n gallu gweld eich dwylo o'ch blaenau chi. Fe gawsom ni ddeddfu wedyn i lanhau'r awyr, ond, wrth gwrs, mae pethau yn llawer mwy subtle y dyddiau yma. Rydym ni'n dal i ddioddef yr amhureddau yna, ond nid ydyw'n achosi'r awyr i fynd yn ddu rhagor, felly rydym ni'n credu, yn arwynebol, fod popeth yn iawn. Nid ydy pethau'n iawn o bell ffordd, ac mae angen deddfu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n iawn.
Jest ar y pwynt yna—ein hatgoffa ni am ddeddfau yn y gorffennol, wrth gwrs—un sgileffaith Deddf glanhau Llundain oedd agor y plant phurnacite yng Nghwm Cynon i lanhau y glo er mwyn ei losgi yn Llundain, a phobl y Cymoedd oedd yn cael y mwg o hynny. Dyna beth mae'n rhaid inni ei osgoi, a dyna pam mae technoleg fodern mor bwysig yn hyn o beth.
Yn hollol, ac, wrth gwrs, mae hynny yn adeiladu ar y canfyddiad ers llawer dydd ein bod ni'n fodlon dioddef ein glowyr ac ati yn gweithio tan ddaear ac yn gorfod cael yr holl lwch yma ar eu hysgyfaint, fel y llygredd awyr roedden nhw'n gorfod ei anadlu. Roeddem ni'n credu bod hynny yn ocê achos roedd hi mor bwysig cael y swyddi. Wel, mae'n rhaid inni symud i ffwrdd o'r math yna o feddwl. Rydym ni yn symud i ffwrdd ond mae yna lawer mwy o waith i'w wneud, achos fel sydd wedi cael ei grybwyll eisoes, mae'r sefyllfa'n waeth yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd. Mae pobl yn wastad yn gofyn: pam fod pobl yn gorfod dioddef mwy o afiechydon ac ati yn ein hardaloedd mwyaf tlawd? Wel, achos mae pob math o sgileffeithiau yn fwy cyffredin yn ein hardaloedd mwyaf tlawd, ac mae llygredd awyr yn un ohonyn nhw. Mae o lawer yn fwy cyffredin yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ni, felly mae'n rhaid inni ganolbwyntio parthau awyr glân ac ati yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Y pwynt yn fras ydy—. Rydw i'n falch rŵan achos fel meddygon a nyrsys rydym ni wedi gwybod am sgileffeithiau llygredd awyr ers degawdau, ond nid oes yna ddim gweithredu wedi bod achos roedd pobl yn meddwl bod yr awyr yn sort of glân, achos nid oedd e'n ddu rhagor. Rydw i'n falch nodi rŵan fod yna newid meddwl yn digwydd—ie, fel y mae David Melding wedi'i ddweud, o dan bwysau oddi wrth y cyhoedd—ond, yn hwyr yn y dydd, mae'n rhaid inni fynd i weithredu ar hyn. Felly, mae'n rhaid i ni, fel Cynulliad, chwarae ein rhan, achos mae iechyd ein pobl—iechyd ein plant yn bennaf—yn dibynnu ar y ffaith ein bod ni'n anadlu awyr glân. Chwa o awyr iach ym mhob ffordd.
Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol y dylwn fod yn siarad yn y ddadl hon fel cynrychiolydd etholaeth yr hyn a labelwyd fis yn ôl yn unig fel y dref fwyaf llygredig yn y DU. Hoffwn gofnodi eu bod yn anghywir, ac y dylai'r ffigur a ddyfynnwyd ganddynt, sef 18 mg/cu m fod wedi bod yn 9.6 m mg/cu, sy'n dod â ni i lawr i'r lefel gyfartalog a chyrraedd y terfynau. Felly, fe wnaf yn siŵr fod hynny wedi'i gofnodi—dyna wall wrth drawsgrifio data.
Rwyf am dynnu sylw at y ffaith bod yna broblemau sydd angen inni fynd i'r afael â hwy, yn amlwg, ond mae yna gymhlethdodau. Yn aml iawn y prynhawn yma, yr hyn a glywais—hyd yn hyn—yw trafodaeth yn bennaf ar ollyngiadau cerbydau, i bob pwrpas, a PM2.5, ond wrth gwrs, yn fy nhref i mae gennym hefyd faterion diwydiannol y mae angen inni eu hwynebu hefyd. Mae angen inni fynd i'r afael â'r ddau beth, ac mae'n anodd iawn mynd i'r afael â'r ddau beth. Fe geisiaf roi sylw i'r ddau bwynt.
Yn amlwg, mae allyriadau diwydiannol yn rhan o ddatblygiad hanesyddol ein diwydiant dros y blynyddoedd, a Phort Talbot—y gwaith dur—yn amlwg yw un o'r rhai mwyaf. Pan oedd Dai Lloyd yn sôn am effaith gronynnau a PM10 o'r gwaith dur—gallwch weld hwnnw. Gallwch ei weld yn disgleirio weithiau yn y golau wrth iddo ddisgyn, a gallwch weld y llwch a'r gronynnau sy'n effeithio ar bobl. Ceir tystiolaeth glir yn ein cymunedau lle mae'n syrthio. Mae nifer y cwynion yn parhau i godi o ganlyniad i'r llygredd sy'n deillio o'r gwaith—maent ar gynnydd, yn anffodus—ond rwy'n canmol Tata, oherwydd maent wedi gwneud cynnydd mawr yn ymdrin â rhai o'r problemau hyn. Mae angen iddynt wneud cynnydd pellach—nid oes unrhyw un yn gwadu hynny—ond rhaid inni edrych ar y cwestiwn ynglŷn ag ar ba bwynt rydym yn cydnabod ein gorffennol diwydiannol a dyfodol diwydiannol sy'n rhoi economi gref i ni. A yw'n un lle rydym yn cael gwared ar y diwydiant hwnnw yn y bôn a dileu'r elfen honno o lygredd, ond ein bod, wrth gwrs, yn dioddef canlyniadau economaidd hynny?
Mae hynny'n beth anodd iawn i'w wneud, ac efallai fy mod yn disgwyl i'r Gweinidog roi syniad i mi, yn ei hateb, o sut y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau hynny, oherwydd eu cyfrifoldeb hwy yw monitro'r rhain, a'u cyfrifoldeb hwy yw gorfodi'r rheoliadau a sicrhau bod y sefydliadau sy'n allyrru lefel o'r fath o lygredd yn glynu at reolau'r UE—ie, rheolau'r UE, i rai o'r rheini nad ydynt yn cofio. Hwy mewn gwirionedd sy'n gwneud yn siŵr fod gennym y terfynau hynny, ac mae'n bwysig inni eu cael yn iawn.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar. Mae wedi cyffwrdd ar rywbeth pwysig iawn, nad yw wedi'i wyntyllu, fel y dywedodd yn gwbl briodol—ar wahân i gyfraniad byr gan Dai Lloyd—yn y ddadl hon. Efallai ei fod yn ymwybodol—wel, mae'n ymwybodol, rwy'n gwybod, ond roeddwn am ei gofnodi hefyd—yn ei ardal ei hun, wrth gwrs, fod yna gychwyn i rai o'r atebion i'r broblem ddeublyg hon gydag allyriadau cerbydau ac allyriadau diwydiannol. Mae ganddo'r ymchwil hydrogen ym Maglan. Rwy'n deall bod Tata yn cael gwared ar lawer o hydrogen fel nwy gwastraff ar hyn o bryd—pe baem ond yn gallu dal rhywfaint o hwnnw a'i ddefnyddio. Mae wrth ymyl y rheilffordd—gellid ei ddefnyddio mewn trên hydrogen. Mae'r syniad mor gyffrous pan edrychwch arno yn y ffordd honno. Yn ogystal â monitro'r llygredd yn ei etholaeth, sy'n bwysig i bawb yng Nghymru, mae angen inni adeiladu ar beth o'r dechnoleg sydd ar gael er mwyn cynllunio dyfodol glanach.
Rwy'n cytuno'n llwyr fod y dechnoleg i edrych ar, nid yn unig yr hydrogen ond ailgylchu rhai o'r nwyon gwastraff a ryddheir, a'r allyriadau o ganlyniad i hynny, a sut y gallwch ddal carbon ar y staciau a'r pethau hynny—dyma dechnolegau yr ydym yn eu datblygu ac mae angen inni adeiladu arnynt. Mae angen inni annog pobl fel Tata i fuddsoddi yn y gwaith ymchwil hwnnw hefyd, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny.
Yn yr amser sy'n weddill, hoffwn ganolbwyntio hefyd ar allyriadau cyfreithiol, oherwydd yn amlwg mae gennym broblem. Roedd yr M4 ym Mhort Talbot yn un o'r ardaloedd a welodd ostwng y terfyn cyflymder i 50 mya, ac rwy'n cwestiynu'r darn o ffordd, a buaswn wrth fy modd yn cael gwybod lle y cymerwyd y mesuriadau a sut y gwnaed y mesuriadau, oherwydd os ydych yn gyfarwydd â Phort Talbot, mae'r M4 yn gweithio ei ffordd drwy'r lle ac mae'r darn o ffordd lle y gosodwyd y terfyn cyflymder yn yr awyr agored mewn gwirionedd, mae uwchlaw afon Nedd a bydd yn gwasgaru'n rhwydd. Mae'r darn lle na chafodd ei osod yn dynn yn erbyn mynyddoedd ac yn sownd rhwng yr arfordir a'r mynyddoedd a lle byddech yn disgwyl mesuriadau uwch o lygredd i gael eu cofnodi mewn gwirionedd. Felly, mae yna rai cwestiynau'n codi ynglŷn â hynny, ac mae gennym y rheilffordd yn mynd drwy'r lle hefyd. Peidiwch ag anwybyddu rheilffyrdd.
Pan fydd pobl yn sôn am ateb fel y metro, cofiwch nad yw'r metro yn mynd i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr. Mewn gwirionedd, nid yw'n mynd i mewn i Ben-y-bont ar Ogwr hyd yn oed; efallai ei fod yn mynd i mewn rhywfaint i Faesteg ond nid i Ben-y-bont ar Ogwr. Felly, os ydym yn sôn am atebion, mae angen inni edrych ar atebion ar gyfer Cymoedd heb reilffyrdd, Cymoedd â thrafnidiaeth gyfyngedig lle y caiff pobl eu gorfodi i ddefnyddio'u ceir. Ac os ydym hefyd yn ystyried ffyrdd o gael llif gwell ar draffyrdd, roedd cyffordd 41—efallai y bydd Dai Lloyd yn cofio hyn; bydd Suzy'n cofio—roedd cyffordd 41 yn ceisio bod yn ateb er mwyn cael traffig i lifo'n haws, ac yna roedd y stryd gyda'r llygredd gwaethaf, sydd yng Nghaerffili—byddai gennyf bedair neu bum stryd a fyddai wedi curo hynny'n hawdd oherwydd yr holl dagfeydd a grëwyd. Felly, pan fyddwch yn edrych ar atebion, edrychwch ar yr ateb eang; peidiwch ag edrych yn unig ar ateb syml i un broblem, oherwydd rydych yn creu mwy o broblemau.
Felly, mae llygredd aer yn rhywbeth sy'n rhaid inni roi sylw iddo. Rwy'n croesawu'r gronfa ansawdd aer gwerth £20 miliwn. Rwyf o ddifrif am weld sut y bydd honno'n gweithio. Rwyf o ddifrif eisiau gweld sut y bydd y cynllun gweithredu ym Mhort Talbot yn arbennig yn gweithio, oherwydd er ei fod i lawr i 9.6 bellach, mae'n dal i fod problem inni fynd i'r afael â hi, a bydd trigolion Port Talbot yn dweud wrthych yn glir fod angen inni roi sylw iddi.
Felly, os gwelwch yn dda, a allwch fy sicrhau bod y cynllun gweithredu sy'n cael ei roi ar waith yn mynd i fynd i'r afael â'r ddwy agwedd ar lygredd, nid cerbydau'n unig, ac y bydd hefyd yn edrych ar sut y gallwn sicrhau y gallwn fyw gydag economi a llygredd ar yr un pryd.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gyflwyno hyn, y ddiweddaraf mewn cyfres o ddadleuon ar ansawdd aer. Mae'n bwnc y mae pawb ohonom wedi dweud o'r blaen, ac yr wyf fi fel Gweinidog yr Amgylchedd wedi dweud, sy'n flaenoriaeth uchaf nid yn unig i mi yn fy mhortffolio fy hun ond ar draws y Llywodraeth hefyd. Credaf fod y ddadl heddiw a noddwyd gan Aelodau o bob plaid yn dyst i'r consensws sydd gennym yn y lle hwn ac yng Nghymru ar yr angen i roi camau ar waith, a rhaid inni wneud hynny ar draws sectorau i leihau effeithiau llygredd aer ar iechyd ein cymunedau, ein hamgylchedd a'n heconomi.
Rwy'n cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol. Nododd Llywodraeth Cymru y Diwrnod Aer Glân cyntaf y llynedd drwy gyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a ail-luniai'r dyletswyddau rheoli ansawdd aer yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddadl heddiw i nodi'r ail Ddiwrnod Aer Glân yfory yn darparu llwyfan i ni hyrwyddo'r Diwrnod Aer Glân ac annog ymwybyddiaeth a chyfranogiad yn y lle hwn a thu allan iddo yn ogystal. Credaf ein bod i gyd yn cytuno bod rhaid i hyn fynd y tu hwnt i ddiwrnod yn unig a rhaid inni gynnal y diddordeb a grëir drwy'r Diwrnod Aer Glân yn y gweithgaredd sydd ynghlwm wrtho a sicrhau nid yn unig ei fod yn aros ar flaen meddyliau pobl ond yn fwy pwysig, ei fod yn llywio ein holl weithgarwch.
Mae lleihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer yn un o ddangosyddion y fframwaith canlyniadau llesiant cenedlaethol ac iechyd y cyhoedd ar gyfer Cymru. Yn gynharach eleni, cyhoeddasom ganllawiau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y GIG. Maent yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru yn gwneud cyfraniad yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i ymdrin â risgiau llygredd aer. Mae'r canllawiau'n cynnwys camau gweithredu i gefnogi asesu a lliniaru llygredd aer a risgiau iechyd cysylltiedig a hefyd yn darparu gwybodaeth ar newid ymddygiad gan ddefnyddio'r system gynllunio a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol a rheoli risg i iechyd y cyhoedd.
Mae ein canllawiau rheoli ansawdd aer lleol i awdurdodau lleol yn datgan mai nitrogen deuocsid a mater gronynnol yw'r llygryddion sy'n peri'r pryder mwyaf o safbwynt iechyd pobl. Rydym yn glir fod yn rhaid inni gydymffurfio â therfynau cyfreithiol, ond mewn gwirionedd mae hyn yn ymwneud â mynd ymhellach o lawer ac ymdrechu i leihau lefelau o'r llygryddion hyn yn gyffredinol. Mae ein hymgynghoriad ar 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ategu'r pwyntiau hyn.
Mae'r canllawiau rheoli ansawdd aer lleol hefyd yn nodi rôl ysgolion yn y gwaith o fynd i'r afael ag ansawdd aer. Y cyntaf yw cyfraniad y clywsom lawer amdano heddiw sef hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno. Fel y dywed David Melding, mae'n ymddangos mai ffenomenon fodern ydyw. Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol, yr hyn a olygai hebrwng i'r ysgol i mi oedd rhedeg i ffwrdd oddi wrth fy mam ar y ffordd adref yn hytrach na cheir o amgylch ysgolion, felly mae angen inni edrych ar sut yr awn i'r afael â thagfeydd traffig a llygredd aer, yn enwedig ar adeg oriau brig yn ystod y tymor.
A'r ail yw addysgu plant a rhieni ynglŷn â materion ansawdd aer ac archwilio atebion ar y cyd, megis rhannu ceir a pholisïau dim segura o amgylch ysgolion. I ategu'r canllawiau hyn, byddaf yn darparu arian i godi ymwybyddiaeth o ansawdd aer drwy'r fenter Eco-Sgolion a phrosiect y Dreigiau Ifanc. Yn wir, cyfarfûm â disgyblion a staff yn Ysgol Pen-y-bryn yng Nghaerdydd y bore yma i weld beth roeddent yn ei wneud a sut roeddent yn dechrau gweithredu'r prosiect, i'w weld yn gweithredu ac i ddangos fy nghefnogaeth i'r cynllun.
Anfonwyd 10 tiwb trylediad i'r ysgolion sy'n ymwneud â'r cynllun, ac fe'u gwahoddir i osod y rhain mewn lleoliadau amrywiol o amgylch yr ysgol. Roedd yr enghreifftiau a welais heddiw wrth y prif gatiau, wrth y maes parcio, ac roedd un yr holl ffordd drwodd, ar draws y cae wrth y coed, ond hefyd roedd un wrth ymyl ffordd brysur sy'n mynd heibio i ochr yr ysgol. Anfonir y canlyniadau wedyn i gael eu dadansoddi a byddant yn dod yn ôl i'r ysgolion a gall y plant ddatblygu eu hymgyrchoedd eu hunain o ran sut i ymdrin â hyn a sut y gallant annog yr oedolion o amgylch yr ysgol i ystyried hyn. Roedd ganddynt nifer o syniadau eisoes heddiw, felly edrychaf ymlaen at glywed sut y maent yn eu datblygu. Roedd y prosiect yn cyflwyno disgyblion i achosion ac effeithiau llygredd aer, a gwybodaeth ynglŷn â sut y gallant wneud y newidiadau hyn.
Yn ogystal, mae ein cynllun aer glân ar gyfer Cymru yn nodi'r llygryddion allweddol, gan gynnwys nitrogen deuocsid a mater gronynnol, a'u heffeithiau ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Gwn fod nifer o'r Aelodau, gan gynnwys fy nghyd-Aelod Julie Morgan, wedi crybwyll sut y mae'n effeithio ar blant a sut y mae angen inni weithredu er mwyn ein plant a chenedlaethau'r dyfodol. Bydd y cynllun hwn yn ein helpu i amlygu gweithgareddau penodol a allai fod ar waith eisoes i fynd i'r afael ag ansawdd aer mewn mannau sensitif, megis ysgolion ac ysbytai, ond hefyd ar gyfer pennu pa gamau y gellid ac y dylid eu rhoi ar waith i ddatblygu hynny ymhellach yn ogystal.
Felly, os cyfeiriaf at David Rees yn dod i mewn o ran—. Rwy'n cymeradwyo eich ymdrechion i ddod i mewn a chywiro mewn gwirionedd, a chofnodi unwaith eto, ffigurau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Port Talbot, sy'n ei labelu fel y dref fwyaf llygredig yn y DU. Rydych yn hollol gywir i gywiro hynny, ond fel y dywedasom, rwy'n credu na ddylem fod yn hunanfodlon: gwyddom fod angen rhoi camau ar waith yn yr ardal honno. Ac roeddech yn cydnabod yr heriau penodol, fel y gwnaeth Aelodau eraill: y cyfuniad o ddiwydiant trwm a ffyrdd mawr, a sut rydym yn sicrhau'r cydbwysedd o safbwynt yr effeithiau ar yr economi, yr amgylchedd ac ar iechyd yn ogystal â'r camau a roddir ar waith.
O ran edrych ar leoliad penodol ar yr M4, mae hwnnw'n estyniad o lle'r oedd, a dyna lle mae ein monitro'n dangos ein bod yn croesi'r terfynau cyfreithiol. Fel y gallwch ddychmygu, nid yw cyflwyno cyfyngiadau cyflymder bob amser yn gam poblogaidd gan bawb—rwyf wedi cael adborth sy'n ddiddorol, gawn ni ddweud. Dywedodd rhywun wrthyf, 'Mae'n amlwg nad ydych yn gyfarwydd â'r darn hwn o ffordd', a gŵyr David fy mod wedi dod yn fwy cyfarwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf â'r darn hwnnw o ffordd, ac yn gobeithio y byddaf yn parhau i fod.
Y gweithgaredd y bydd David ac eraill yn gyfarwydd ag ef yw cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar aer glân ar gyfer Port Talbot, ac mae hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i fynd ati'n rhagweithiol i ymdrin ag ansawdd aer gwael yn yr ardal. Rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion ailystyried y cynllun hwn, a'r ymagwedd a gymerir a'r dystiolaeth sy'n sail iddo er mwyn gwneud yn siŵr mai dyma'r ffordd orau o hyd o fynd i'r afael â'r problemau penodol yn ardal Port Talbot, ac i weld pa gamau ychwanegol y gallai fod angen inni eu cymryd i unioni hynny. Er mwyn pwysleisio pwysigrwydd hynny, bwriadaf gyfarfod â Tata Steel, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Castell-nedd Port Talbot cyn gynted â phosib i gefnogi'r broses hon a gweld pa gamau y mae angen inni eu cymryd ar y cyd.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r camau sydd ar waith i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus ar ffurf parthau aer glân. Mae ein 'Fframwaith Parthau Aer Glân i Gymru' a'r cynllun atodol ar gyfer nitrogen deuocsid yn anelu at ymdrin â'r problemau llygredd traffig hynny. A chan adeiladu ar gamau gweithredu ar ansawdd aer a seinwedd yn 'Polisi Cynllunio Cymru', rwy'n falch o hysbysu'r Aelodau y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal adolygiad o nodyn cyngor technegol 11 ar sŵn. Byddwn yn cael nodyn cyngor technegol yn ei le ar ansawdd aer a seinwedd yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Mae ein fframwaith parthau aer glân yn darparu dull cyson o gyflwyno parthau aer glân gan awdurdodau lleol. Bydd yn helpu busnesau ac unigolion ac yn cynorthwyo dinasoedd i dyfu a newid i economi allyriadau isel. Gwyddom y bydd parthau aer glân yn targedu camau gweithredu ar ardaloedd â phroblemau llygredd aer er mwyn gwella ansawdd aer ac iechyd a hybu twf economaidd. Maent yn annog cyfnewid hen gerbydau sy'n llygru â thechnolegau modern, glanach, megis cerbydau allyriadau isel iawn. Ond efallai na fydd parth aer glân bob amser yn briodol y tu allan i rai ardaloedd trefol lle nad oes llwybrau amgen ar gael—efallai y bydd angen dulliau eraill o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar nodi atebion lleol er mwyn cyflawni cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf a'r hyn sydd orau i'n cymunedau yn y tymor hir.
Fe siaradoch am y cysylltiadau â'r agenda datgarboneiddio a'r angen i symud oddi wrth danwydd ffosil, a defnyddio technoleg fodern, ac yn amlwg fe sonioch chi am geir Riversimple sydd wedi'u pweru gan hydrogen, cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd rhwng bod ar y blaen a rheoli'r pontio gyda'r gwneuthurwyr ceir mawr a allai fod yng Nghymru eisoes, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn rheoli hynny, a chydbwyso unwaith eto rhwng yr economaidd a'r amgylcheddol, ond i ni fod ar flaen y gad.
Rwy'n ymwybodol fod fy amser yn brin, felly fe geisiaf ddirwyn i ben, ond os caf wneud un pwynt: nid wyf yn credu y gellir gorbwysleisio pwysigrwydd newid ymddygiad. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i godi ymwybyddiaeth o ansawdd aer gwael ac rydym yn gweithio gyda Chanolfan Les What Works ar ddatblygu cynllun cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o'r effeithiau ar iechyd ac rwyf wedi ymrwymo £70,000 o gyllid ar gyfer hyn.
A gaf fi orffen drwy ddiolch i'r Aelodau unwaith eto am gyflwyno'r ddadl hon? Rwy'n credu bod pawb wedi dweud yn glir ei fod yn ymwneud â mwy na'r amgylchedd yn unig; credaf ei fod yn fater cymdeithasol pwysig yn ogystal, fel y clywsom, ac mae ganddo oblygiadau ar gyfer ein plant a chenedlaethau'r dyfodol os nad ydym yn gweithredu. Felly, diolch i'r Aelodau am eu holl alwadau i weithredu ac rwyf am gloi drwy ailadrodd ymrwymiad y Llywodraeth hon i gymryd camau gan ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni er mwyn sicrhau aer glân ar gyfer ein cymunedau a'n gwlad. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl. Jenny Rathbone.
Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n credu ei bod yn dangos y ceir cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater hynod bwysig hwn. Dechreuodd Simon drwy nodi'r 2,000 o farwolaethau cynamserol a nodwyd gan y prif swyddog meddygol a'r problemau a wynebwn yng Nghas-gwent, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Roedd yn un o nifer o bobl a soniodd am y cysylltiad â thlodi, a dychwelaf at hynny mewn eiliad. Roedd yn cydnabod bod y Llywodraeth yn cymryd camau ar derfynau cyflymder ar rai o'n traffyrdd ac y cefnogir hyn gan bobl fel Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ond na wyddom hanner digon ynglŷn â beth sy'n digwydd, yn enwedig y modd y mae'n effeithio ar blant, a nododd mai un ysgol yn unig yn Abertawe sydd â dyfais monitro gerllaw, felly nid ydym yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i wybod beth sydd angen inni ei wneud a maint ein problem.
Nododd yr angen am Ddeddf aer glân i Gymru a buaswn yn cefnogi'r alwad honno. Ailadroddodd fod parthau aer glân yn gweithio am eu bod yn arwain at ostyngiadau yn y nitrogen ocsidau a'r gronynnau sy'n lladd rhai pobl—yn arwain at farwolaeth gynamserol—yn ogystal ag analluogi llawer o'n plant yn barhaol. Soniodd hefyd am yr angen i leihau nifer y ceir tanwydd ffosil a'r ffaith ei fod wedi mentro dweud 2030, ond cafodd hynny ei ategu gan sawl arweinydd awdurdod dinesig, gan gynnwys Caerdydd, sydd wedi addunedu y dylem yn wir gael gwared yn raddol ar gerbydau budr erbyn 2030. Felly, o'm rhan i mae hynny'n mynd i ddigwydd.
Yn amlwg mae angen inni feddwl ynglŷn â beth sy'n digwydd o ran technoleg, gyda Tsieina yn fuddsoddwr blaenllaw mewn hydrogen ac rydym am weld mwy o drenau hydrogen yn cael eu cyflwyno gan y gweithredwr trenau newydd. Nid oeddwn yn gwybod bod gennym bwynt gwefru cerbydau trydan, ond mae hynny'n wych.
Mae Gareth Bennett yn ymwrthod â'r syniad o barthau aer glân, ond serch hynny, gwnaeth rai pwyntiau pwysig, a chredaf y gall pawb ohonom eu cefnogi, am y dull o hebrwng plant i'r ysgol fel un o brif achosion llygredd, ond nid wyf yn credu bod cysylltiad achosol rhwng y ffaith bod y ddau riant yn gweithio. Credaf ei fod yn ymwneud lawer mwy ag agweddau ynglŷn â'r ffordd briodol i blant deithio i'r ysgol. Pan oeddwn yn saith oed, roeddwn bob amser yn mynd i'r ysgol ar fy mhen fy hun, byddwn yn croesi ffyrdd prysur, byddwn yn mynd ar fws neu'n cerdded. Mae yna feddylfryd nad yw plant yn gallu mynd i'r ysgol eu hunain er eu bod yn gallu gwneud hynny, ac mae angen inni—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
Yn sicr.
Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond rwy'n credu nad yw ond yn deg derbyn bod y ffyrdd yn llawer mwy peryglus nag yr oeddent pan oeddech chi a minnau'n mynd i'r ysgol, ac nid yw gyrwyr eu hunain bob amser yn ymwybodol o'r hyn sydd ar y palmentydd heddiw. Felly, nid un peth ydyw, mae'n gyfuniad o bethau.
Rwy'n cytuno, ond credaf y byddai parthau 20 mya mewn ardaloedd trefol yn mynd i'r afael â'r broblem honno, er fy mod yn derbyn mai ar ffyrdd gwledig na chânt eu defnyddio'n aml y gwelir y gyrru mwyaf peryglus.
Gwnaeth Gareth bwynt hefyd fod siopau bwyd cyflym yn golygu bod clwstwr o symudiadau cerbydau ychwanegol, ac rwy'n cytuno bod angen mwy o sylw i'r math hwn o beth mewn ystyriaethau cynllunio. O'm rhan i, mae'n gwbl annerbyniol fod cynghorau'n adeiladu ar fannau gwyrdd heb gysylltiadau trafnidiaeth, ac roedd hefyd yn cwestiynu i ba raddau y mae'r Ddeddf teithio llesol wedi bod yn effeithiol.
Dywedodd hefyd pe baem yn gwahardd ceir diesel a phetrol yfory, y byddai gennym anhrefn—yn syml am nad oes gennym seilwaith i ymdopi â hynny. Wel, hoffwn nodi y bydd yna barth aer glân mewn grym yng Nghaerdydd yfory ac am bedair noson yr wythnos hon, gan ddechrau yfory, er mwyn rheoli'r cyngerdd Ed Sheeran yn stadiwm y mileniwm. Felly, mae'n berffaith bosibl ei wneud, os oes gennym ewyllys i'w wneud, a hoffwn annog cyngor Caerdydd i wneud hyn yn fwy aml ac nid yn unig pan geir digwyddiadau adloniant mawr, pan na fyddai angen inni amharu ar y drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n anghymhelliad mawr i bobl adael y car gartref.
Roedd David Melding yn gywir i nodi'r cyfraniad pwysig i bolisi cyhoeddus a wnaed gan y Blaid Geidwadol yn ei strategaeth adfywio trefol a ategwyd gan amrywiol sefydliadau fel WWF a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Nododd hefyd fod gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau uwch o lygredd aer na Birmingham a Manceinion, ac y dylai hynny beri gofid i ni. Roedd yn cydnabod mai gweithgarwch pobl sy'n gyrru'r broblem ac felly, mae'n berffaith bosibl i ni gael atebion.
Nododd Julie Morgan y niferoedd o bobl mewn ysgolion yn ei hetholaeth sy'n agos at ffyrdd mawr, yn enwedig o amgylch cylchfan Gabalfa, a'r bobl sy'n teithio i Gaerdydd mewn car. Rhaid imi ddweud bod honno'n nodwedd o—mae'r naw ysgol fwyaf llygredig yng Nghaerdydd yn agos at brif ffyrdd. Gyda rhai ohonynt, gallwn ddychmygu'r cynigion i leihau hynny, ond mewn achosion eraill, bydd yn ymwneud â lleihau'r nifer o gymudwyr.
Soniodd John Griffiths am yr angen i addasu ein fflyd o geir tacsi i LPG, a hoffwn nodi y bydd tacsis yn Llundain yn gorfod bod yn lân erbyn y flwyddyn nesaf, a bydd yn rhaid i gerbydau llogi preifat fod yn lân erbyn 2020. Felly, os gallant hwy wneud hynny, nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni ei wneud. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gennym orgyflenwad beth bynnag, felly mae angen inni godi'r bar. Nododd y gallai'r metro gyflawni newid moddol o bosibl, ond ni fydd yn digwydd dros nos, yn anffodus. Mae llawer o'r cynigion sy'n cael eu cynnig yn bethau na fyddant yn digwydd am y pum mlynedd nesaf, felly rhaid inni wneud pethau eraill yn y cyfamser: byddai terfynau cyflymder 20 mya yn annog mwy o gerdded a beicio, a hefyd yn mynd i'r afael â gordewdra yn ogystal â damweiniau traffig ar y ffyrdd.
Yn ddiddorol, nododd Dai Lloyd, yr effaith ar y plentyn yn y groth oherwydd yr aer sy'n cael ei anadlu gan famau beichiog. O'r blaen, roeddem yn goddef dŵr budr, ond ni wnawn hynny mwyach. Ni ddylem fod yn goddef aer budr mwyach.
Cawsom ein hatgoffa gan Dai Rees nad Port Talbot yw'r dref fwyaf llygredig yn y DU, ond carwn ei atgoffa bod y bluen o fwg yn mynd i fyny i Faesteg, lle y dioddefir un o'r lefelau uchaf o asthma ymhlith plant, felly ceir rhai problemau sy'n ymwneud â llygredd diwydiannol—mae rhai'n hanesyddol ac mae rhai'n gyfredol—a cheir cymhlethdodau ynghlwm wrth y modd yr awn ati i'w datrys. Rwy'n cytuno bod yn rhaid i ni fachu ar atebion nad ydynt yn creu problemau newydd neu'n arwain at ganlyniadau annisgwyl.
Cytunodd y Gweinidog fod angen inni gael consensws. Mae gennym gonsensws i weithredu, yn sicr ymhlith y rheini a siaradodd, ac mae angen inni sicrhau bod ein holl gydweithwyr yn gwneud yr un peth. Nid oes gennym amser i lolian, rhaid inni fachu ar y cyfle a rhoi camau ar waith yn awr, oherwydd rydym yn effeithio nid yn unig ar blant heddiw, ond ar genedlaethau'r dyfodol yn ogystal.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf, felly, y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pledleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Caroline Jones, gwelliant 2 yn enw Julie James, a gwelliannau 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydw i'n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela Burns.
Cynnig NDM6745 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal gymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Rydym yn cydnabod y cyfraniad aruthrol a wneir i'n cymdeithas gan y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol, ac rydym am ddangos yr angen am gynlluniau integredig ar gyfer y gweithlu, a chynnig syniadau ar sut i wella recriwtio a hyfforddi staff. Mae pedwar nod allweddol i'r ddadl heddiw, fel y nodir yn ein cynnig. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod yn ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig i gydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno y bydd gweithlu iach sy'n cael ei gefnogi a'i werthfawrogi yn allweddol er mwyn gyrru'r trawsnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i allu bod yn gynaliadwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i chi, Lywodraeth Cymru, gyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru erbyn Ionawr 2019, roedd hi'n ymddangos eich bod yn gwrthwynebu hynny. Ac unwaith eto, ein pwynt 4: ymddengys eich bod yn cilio rhag y syniad o gefnogi gweithlu'r GIG drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG. Yn sicr, rhaid inni wneud yn siŵr fod gennym y bobl iawn yn y lleoedd iawn er mwyn sicrhau'r trawsnewid sydd ei angen arnom.
Nawr, rwy'n gwybod y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn ei wneud i'n cenedl, ac os oes unrhyw un ohonoch nad yw wedi cael profiad uniongyrchol o'u gofal, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi gweld anwyliaid yn gwneud defnydd o'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Fodd bynnag, yn rhy aml, nid yw staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ddigon, neu'n teimlo dan bwysau a heb lais mewn amgylchedd sy'n ymwneud mwy â chyllid a gwleidyddiaeth na chleifion a staff. Ac rydym am dalu teyrnged i'r gweithlu hwn, o'r meddyg ymgynghorol sy'n cyflawni'r llawdriniaeth i'r tîm nyrsio, yr holl ffordd at y glanhawyr a'r staff arlwyo sy'n llwyddo i gadw ein GIG yn weithredol.
A'r GIG yn 70 oed eleni, gadewch inni fwrw golwg byr ar beth y mae'r GIG yn ei wneud yng Nghymru yn flynyddol. Y llynedd, roedd GIG Cymru yno pan roddodd dros—wel, yn wir, fe roddaf yr union nifer i chi—pan roddodd 33,729 o famau enedigaeth. Ac yn 2016-17, cefnogwyd dros 8,500 o bobl gan wasanaethau iechyd meddwl. Yn 2017-18, aeth 93,000 o bobl ar gyfartaledd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Dyna 1 filiwn o bobl y flwyddyn a gefnogir gan ein GIG, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod y ffigur yn cadarnhau gwerth y GIG i bobl Cymru. Fodd bynnag, nid yw'n golygu bod gweithrediad y GIG y tu hwnt i wella neu i her, ac Ysgrifennydd y Cabinet, fe fuoch yn gyflym iawn yn y gorffennol i wfftio ein sylwadau ar yr ochr hon i'r Siambr gan ddweud ein bod yn iselhau'r GIG ac yn bychanu'r ymdrechion a wnaed gan y staff. Ni allech fod ymhellach o'r gwir. Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi'r GIG. Pan ddaw hi i'r pen, mae yno ar eich cyfer.
Gan droi'r cloc yn ôl 70 mlynedd, ni fyddai Henry Willink, Nye Bevan a phenseiri eraill y gwasanaeth iechyd gwladol byth wedi rhagweld y rôl y mae'n ei chwarae heddiw, ac mae'n werth pwysleisio faint bynnag o arian a werir ar gynnal a chadw peiriannau, uwchraddio cyfarpar, darparu adeiladau newydd sbon, y nodwedd sy'n gyffredin drwy'r cyfan o hyd yw'r aelodau o staff. Mae angen staff i weithio'r peiriannau, darllen y pelydrau-x, gofalu am bobl sâl, glanhau'r lloriau. Hebddynt, byddai'r GIG yn dod i ben, a dyna pam y mae mor bwysig inni sicrhau bod lles ac iechyd ein staff GIG yn cael blaenoriaeth go iawn. Yn ôl y set ddiweddaraf o ffigurau'n ymwneud ag absenoldeb salwch y GIG ar gyfer y chwarter hyd at Ragfyr 2017, gwelwyd cynnydd o 5.5 y cant yn nifer yr absenoldebau cenedlaethol. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder i mi, fodd bynnag, yw'r modd y mae'r ffigurau yn gwahaniaethu i'r fath raddau rhwng grwpiau o staff. Felly, er enghraifft, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cofnodi cyfradd salwch sydd ymhell uwchlaw'r cyfartaledd.
Y llynedd, tynnais sylw at y graddau y mae salwch meddwl yn effeithio ar staff y GIG. Dangosodd y ffigurau ar y pryd fod yn agos at 8,000 o aelodau o staff wedi cael bron 350,000 diwrnod o absenoldeb oherwydd gorbryder, straen ac iselder, ac roedd hyn yn cyfateb i bron 948 o flynyddoedd—ffigur anhygoel—a gollwyd i salwch meddwl dros gyfnod o un flwyddyn. Dangosodd ffigurau arolwg gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol y llynedd fod pwysau difrifol ar y gweithlu yn golygu bod lles llawer o feddygon teulu yn dioddef. Mae bron un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru dan gymaint o bwysau fel eu bod yn teimlo na allant ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos. A chanfu canlyniadau arolwg arall gan Mind Cymru fod 35 y cant o feddygon teulu wedi cael profiad personol o broblem iechyd meddwl, a dywedodd 12 y cant eu bod yn defnyddio, neu wedi defnyddio, gwasanaethau iechyd meddwl ar sail gyson.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r materion hyn yn dangos ymhellach yr angen am ddefnyddio arferion lles ac iechyd mwy effeithiol ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'n eironig, onid yw, fod proffesiwn sy'n gofalu am bobl sâl yn ei chael hi mor anodd i gadw ei staff ei hun yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Rwy'n credu bod achos da iawn dros sicrhau bod staff y GIG yn cael mynediad cyflym at driniaeth ac adsefydlu. Dangosodd cyhoeddiad gan NHS Employers ym mis Ionawr 2016 yr achos dros fynediad cyflym yn eglur, gan ddweud y bydd yn cyfrannu at arbedion sylweddol i'r GIG, bydd yn arwain at weithlu mwy cyson ac iach, ac at well gofal i gleifion, ac yn lleihau'r pwysau ar gydweithwyr sy'n deillio o absenoldeb oherwydd salwch. Roeddent hefyd yn pwysleisio na fydd yn blaenoriaethu anghenion iechyd staff y GIG ar draul cleifion eraill, ond y bydd mantais sefydliadol cynllun o'r fath yn arwain at ostyngiad yn y galw am staff asiantaeth a llai o absenoldeb oherwydd salwch lefel isel.
Mae yna nifer o ffyrdd y gellir gweithredu mynediad cyflym, ac anogaf Lywodraeth Cymru i edrych ar hyn. Roedd papur NHS Employers ar y mater yn tynnu sylw at ambell astudiaeth achos. Ysbyty prifysgol Southampton—cynhaliodd y tîm adnoddau dynol ac iechyd galwedigaethol gynllun dychwelyd i iechyd, sy'n cynnig pecyn gofal wedi'i deilwra i weithwyr, o driniaeth ac ymgyngoriadau personol i ofal dilynol a chymorth parhaus. Helpodd y prosiect i leihau effeithiau andwyol salwch hirdymor ar staff iechyd a lles ac ar gyllid, a chreodd wasanaeth personol lle roedd y cyflogeion yn teimlo eu bod yn cael gofal. Gwelwyd manteision i'r sefydliad ar ffurf gostyngiad yn y cyfraddau absenoldeb cyffredinol, i lawr i 3.1 cant o dros 4.5 y cant, a 26 y cant yn y gostyngiad yn y costau asiantaeth. Dychmygwch faint y byddai'r GIG yn ei arbed yng Nghymru pe bai ein costau asiantaeth yn gostwng 26 y cant.
Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Prifysgol Colchester—fe wnaethant gyflwyno system frysbennu'n edrych ar gefnogi staff sy'n absennol oherwydd salwch, a oedd hefyd yn gostwng lefelau absenoldeb. Pan fo unigolyn yn rhoi gwybod ei fod yn sâl, mae eu rheolwr llinell yn cysylltu â'r adran iechyd galwedigaethol a lles gyda manylion yr absenoldeb. Mae'r adran honno'n cynnal galwad ffôn pump i 10 munud gyda'r aelod o staff i sefydlu a oes angen unrhyw gefnogaeth a'u cyfeirio at adnoddau perthnasol. Mae hyn wedi arwain at nodi cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrysgerbydol ar y diwrnod cyntaf, gan alluogi cymorth cynnar ac ymyrraeth i gefnogi staff. Felly, yn dilyn ei gyflwyno fesul cam, dyma oedd y canfyddiadau: materion iechyd meddwl—dychwelodd 71.5 y cant o'r staff i'r gwaith o fewn pedair wythnos. Cymharwch hynny â cholli dros 900 niwrnod y flwyddyn fel y gwnawn ni. Anhwylderau cyhyrysgerbydol—cafwyd cynnydd o 100 y cant mewn atgyfeiriadau at ffisiotherapi, ond roedd 53 y cant wedi aros yn y gwaith, 21.5 y cant wedi dychwelyd i'r gwaith o fewn wyth niwrnod, a 15 y cant arall wedi dychwelyd i'r gwaith rhwng naw a 14 o ddiwrnodau. Mae hynny o ddifrif yn dangos y budd o ofalu am y bobl sy'n gofalu amdanom ni.
Mae'r ddwy astudiaeth yn gwneud achos argyhoeddiadol dros ben, ac mae hefyd yn werth ystyried, os nad ydym yn sicrhau ein bod yn cadw llygad ar gynlluniau fel hyn ar draws y ffin, y byddwn yn ei chael hi'n fwyfwy anodd denu staff i weithio yn ein GIG heddiw. Dyna pam yr wyf mor siomedig fod UKIP a Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr elfen hon o'n cynnig.
Un agwedd olaf yr hoffwn fynd i'r afael â hi yw'r angen i wella cynllunio'r gweithlu. Dangosodd canfyddiadau o gais rhyddid gwybodaeth y Ceidwadwyr Cymreig fod y GIG yng Nghymru yn colli nyrsys rif y gwlith. Roedd y byrddau iechyd a roddodd ffigurau i ni—cafwyd diffyg cyfunol o 797 o nyrsys yn y cyfnod o dair blynedd rhwng 2015 a 2017, ac ers hynny, mae niferoedd pellach wedi dod i mewn sydd wedi dangos hwnnw fel cynnydd, ac rwy'n hapus iawn i ddarparu'r rheini i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Ynghyd â'r niferoedd hyn sy'n peri pryder, gwerir swm enfawr o arian ar draws y wlad ar staff asiantaeth. Mae ffigurau diweddaraf ar gyfer 2017 yn nodi ei fod yn £54 miliwn. Yn wir, mae'n £55 miliwn, oherwydd mae'n £54.9 miliwn, ac mae'n arwydd o'r anawsterau y mae byrddau iechyd yn eu cael yn cyflogi staff nyrsio amser llawn eu hunain. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Cymdeithas Feddygol Prydain ffigurau a ddangosai fod byrddau iechyd wedi gwario £29 miliwn ar oramser i feddygon ymgynghorol a darparwyr preifat. Dangosodd Ymchwil Canser sut y mae prinder staff yn cael effaith aruthrol ar ddarparu triniaeth ganser o'r radd flaenaf. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn i gyd yn dangos ein bod angen y staff. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r prinder, ond nid yw'n ymddangos eich bod yn tynnu hynny at ei gilydd mewn system integredig a fyddai'n arbed arian inni, a rhoi pobl dda yn y man iawn ar yr adeg iawn i ddarparu GIG a fydd yn parhau'n hwy na 70 mlynedd.
Ymarfer cyffredinol—rwyf am orffen gydag ymarfer cyffredinol. Mae'n hanfodol, yn gyfan gwbl hanfodol, er mwyn cyflawni'r model gofal iechyd a amlinellwyd gennych yn 'Cymru Iachach', eich gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac mae'n hanfodol fod strategaeth yn cael ei datblygu i hybu nifer y meddygon teulu a nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd. Mae gennym weithlu sy'n heneiddio mewn gofal sylfaenol, fel y dengys ffigurau gan Gydffederasiwn y GIG, a nododd fod mwy na 45 y cant o weithwyr y GIG yng Nghymru yn 45 oed neu'n hŷn ar hyn o bryd. Mae pobl yn ymddeol; nid oes digon o recriwtiaid yn dod i gymryd eu lle.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno neu fel arall bydd y person sy'n cloi yn ddig wrthyf, ond hoffwn wneud y pwynt hwn unwaith eto: heb gynllun integredig ar gyfer y gweithlu iechyd sy'n ymgorffori gofal cymdeithasol, cynllun sy'n edrych o ddifrif ar ffyrdd gwych o gadw pobl ac sy'n gwerthfawrogi ein pobl, nid ydym yn mynd i fod mewn sefyllfa i gynnig gwasanaeth GIG da. Hoffwn eich annog yn gryf i edrych ar y systemau gofal cyflym a geir o gwmpas y byd. Fe'ch gadawaf gyda'r ffigur diwethaf hwnnw: collir dros 900 mlynedd o waith oherwydd problemau iechyd meddwl. Gwyddom am y straen sydd ar ein staff. Os gallwn gael y staff sydd gennym yn iach ac yn ôl i'r gwaith, bydd hynny ynddo'i hun yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gyflwr ein GIG.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn ei henw ei hun. Caroline.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu, oherwydd methiant llywodraethau olynol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu digonol, fod gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol, yn enwedig nyrsio, ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg, radioleg ac endosgopi; a bod y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff presennol ac yn effeithio ar ofal cleifion.
Gwelliant 3—Caroline Jones
Ym mhwynt 4, dileu 'weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu' a rhoi 'ddatblygu' yn ei le.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig yn ffurfiol y ddau welliant a gyflwynwyd yn fy enw, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y gallwch weld o fy ngwelliannau, cytunaf â 99 y cant o gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Ni allaf gefnogi rhoi triniaeth flaenoriaethol i staff y GIG, ac er fy mod yn cydymdeimlo â'r angen i gael staff yn ôl ar y rheng flaen cyn gynted â phosibl, ofnaf y byddai'r cynnig hwn yn arwain at GIG ddwy haen. Gallem weld sefyllfa lle byddai gweithiwr GIG a swyddog yr heddlu ill dau yn aros am drawsblaniad ac o dan y cynigion hyn, byddai gweithiwr GIG yn cael blaenoriaeth, waeth beth fo'r blaenoriaethau clinigol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 3.
Wrth fynd at graidd y ddadl hon, mae'n destun gofid fod Cymru'n wynebu prinder staff mewn nifer o feysydd allweddol, a'r rheswm am hynny yw bod cynllunio'r gweithlu wedi bod yn druenus o annigonol yn y degawdau diwethaf. Mae Cymru wedi methu ystyried newidiadau demograffig a'r pwysau y bydd hyn yn ei roi ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fel yr amlygwyd gan yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru yn tyfu 6.1 y cant. Rhagwelir y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu 44 y cant, a bydd nifer yr oedolion sy'n gweithio yn lleihau dros 5 y cant dros y ddau ddegawd nesaf.
Yn anffodus, ni ddaw henaint ei hunan. Dros yr un cyfnod, bydd nifer yr oedolion sy'n byw gyda chyflwr cyfyngus hirdymor yn cynyddu bron i chwarter. Mae'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yn cael ei gwneud yn llawer gwaeth am fod diffyg cynllunio ar gyfer y dyfodol wedi arwain at brinder staff allweddol. O un flwyddyn i'r llall, o un mis i'r llall, mae gennym oddeutu 20,000 o gleifion yn aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth. Rydym wedi gweld cynnydd o 400 y cant yn nifer y cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth. Mae 39 y cant o bobl Cymru yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu, ac yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, rydym yn dioddef o brinder difrifol o feddygon teulu. Mae gan Gymru 136 o leoedd hyfforddi ac os ydym yn mynd i ystyried lleoedd hyfforddi fesul claf, dylem fod yn hyfforddi 184 ohonynt.
Cred y coleg brenhinol fod angen inni hyfforddi 200 o feddygon teulu newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw a gwneud iawn am y nifer fawr o feddygon teulu sy'n agosáu at oed ymddeol. Ond nid meddygon teulu'n unig sy'n brin. Gan Gymru y mae'r nifer leiaf o seiciatryddion ymgynghorol y pen o'r boblogaeth, er bod gan Gymru gyfran uwch na'r cyfartaledd o bobl sy'n dioddef salwch meddwl. Gan Gymru y mae rhai o'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn y byd gorllewinol, ac eto rydym yn affwysol o brin o oncolegwyr clinigol, ffisegwyr meddygol, radiograffyddion a diagnostegwyr. Rydym yn affwysol o brin o nyrsys. Ar hyn o bryd mae'r GIG yn gwario £1 filiwn yr wythnos ar nyrsys asiantaeth i weithio shifftiau'n unig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad, Caroline Jones. Rydych wedi disgrifio'r achos yn eithriadol o dda dros pam y mae gennym y fath brinder mawr ym mhob man, a dyna pam—ac rwy'n mynd i ddarllen y ffigur eto—y collir 948 o flynyddoedd oherwydd salwch meddwl. O na bai rhai o'r bobl hynny'n cael eu dychwelyd i'r gweithlu yn gynt, yn hytrach na gorfod recriwtio pobl. Ni allwn eu creu o ddim byd. Maent yno i ni; gadewch i ni eu gwneud yn iach, gadewch i ni eu cael i weithio.
Angela, rwy'n derbyn eich pwynt, ond am y rhesymau y tynnais sylw ar y cychwyn ni allaf dderbyn eich—roedd yn rhaid i fi gynnwys fy ngwelliant. Felly, mae'n ddrwg gennyf. Diolch.
Mae'r prinder nid yn unig yn cyfrannu at amseroedd aros hirach i gleifion, mae hefyd yn rhoi staff presennol o dan straen anhygoel, ac mae un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru'n teimlo eu bod dan gymaint o straen fel na all ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos. Mae nyrsys wedi datgelu eu bod yn gadael y gwaith yn crio ac mae cleifion yn marw ar eu pen eu hunain oherwydd prinder staff. Byddai angen 78 o oncolegwyr clinigol ychwanegol pe bai ein honcolegwyr yn glynu at oriau eu contract. Mae ein GIG yn cael ei brofi i'r eithaf a disgwylir i'r pwysau barhau i gynyddu.
Ydy, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu dulliau newydd o weithio, ond mae angen staff i gyflawni'r rolau hyn. Rhaid inni gynllunio ar gyfer angen yn y dyfodol. Ni allwn recriwtio meddygon a nyrsys dros nos; maent yn cymryd blynyddoedd o hyfforddiant. Ein hadnoddau mwyaf gwerthfawr yw ein gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd, gadewch inni eu cefnogi drwy sicrhau nad ydynt yn gorweithio ac yn cael eu dibrisio. Mae arnom angen cynllun gweithlu cenedlaethol ar frys ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a fy nau welliant iddo. Diolch.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Gwelliant 2—Julie James
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol;
b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
A gaf fi alw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 4 a 5, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun? Rhun.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg.
Cynigiwyd gwelliannau 4 a 5.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi siarad droeon yma am bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu ac rwy'n falch iawn ein bod yn awr sôn yn rheolaidd am gynllunio'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol; mae'r ddau yn hanfodol, wrth gwrs. Edrychwch ar lawer o'r problemau sy'n ein hwynebu o ran iechyd a gofal—capasiti, amseroedd aros, integreiddio. Mae'r gweithlu'n ganolog, rwy'n credu, i'r atebion yr ydym yn eu ceisio. Credaf ei bod hi'n amlwg fod methiant ar ran y Llywodraeth hon i fynd i'r afael yn ddigonol â phroblemau'r gweithlu yn tanseilio cynaliadwyedd ein staff GIG yn uniongyrchol, gan eu rhoi o dan bwysau annerbyniol a rhoi cleifion yng Nghymru mewn perygl. Fe drof at ein dau welliant.
Mi soniaf i am y ddau welliant. Nid oes syrpreisys yn y gwelliannau, mae'n deg i ddweud, ac rwy'n ymddiheuro dim am hynny, oherwydd ni fyddwn ni'n gallu darparu'r NHS rydym ni ei eisiau oni bai ein bod ni yn sefydlu canolfan addysg feddygol ym Mangor ac ehangu lleoliadau hyfforddi ledled Cymru. Y gwelliant arall: nid ydym ni'n mynd i allu darparu'r gofal a'r gwasanaeth iechyd rydym ni ei eisiau oni bai ein bod ni'n cydnabod nad yw gwasanaethau yn y Gymraeg ddim yn rhyw ddewis ychwanegol a all gael ei ohirio tan y dyfodol chwedlonol hwnnw pan mae yna hen ddigon o adnoddau, ond yn hytrach ei fod yn rhan hanfodol o gyflwyno gofal clinigol diogel heddiw.
Fe wnaf i ddechrau efo'r pwynt yna. Mae yna ryw syniad allan yna, wyddoch chi, o hyd fod mwyafrif llethol pobl Cymru'n gallu siarad Saesneg, ac oherwydd hynny nad oes gwahaniaeth a ydyn nhw'n siarad efo'u meddyg neu nyrs yn Gymraeg neu Saesneg. Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi sôn am fwy nag un bwrdd iechyd yn cyfeirio at y ffaith fod rhai o'u staff yn ei chael hi'n anodd deall yr angen i ddarparu ac i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, pan fod eu canfyddiad yn un o ddiffyg galw amlwg am wasanaethau gan y cyhoedd. Mae llawer o'r byrddau iechyd eu hunain ag agwedd niwtral tuag at hyn, ac mae hyn ynddo'i hun yn broblemus. Er nad yw'n elyniaethus, mae ystyried y Saesneg fel jest y norm—yr iaith default—yn rhwystr i weithredu rhagweithiol wrth chwilio am atebion i anghenion ieithyddol.
Mae gallu i ddisgrifio symptomau yn gywir yn helpu diagnosis cywir. Mae disgrifio symptomau mewn iaith gyntaf yn ei gwneud hi'n haws i roi disgrifiad cywir, fel yr wyf yn gwybod y byddai Dai Lloyd yn ei gadarnhau fel meddyg teulu. Mae'n mynd yn fwy ac yn fwy amlwg pan rŷch chi'n sôn am bobl ifanc ac am blant, ac am bobl efo dementia, anableddau dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Felly, nid yw recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg, a darparu gwasanaethau dwyieithog, ddim yn rhywbeth ddylai gael ei weld fel rhyw dicio bocs oherwydd bod y bobl niwsans yna yn Plaid Cymru wedi gallu dylanwadu ar Lywodraeth unwaith—mae'n rhywbeth i'w wneud am fod cleifion bregus yn gallu marw os na wnewch chi. Mae yna dal arwyddion o ddirmyg, rwy'n ofni. Nid yw Llywodraeth Cymru ddim hyd yn oed yn meddwl bod angen trafferthu i gyhoeddi nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr NHS, ac eithrio nifer y meddygon teulu—mae'r rheini'n cael eu rhifo. Felly, nid oes gennym ni syniad yn lle mae'r bylchau a beth ydy'r tueddiadau ac yn y blaen. [Torri ar draws.]
Wrth gwrs.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'n eu gwneud ar ddwyieithrwydd. Ond mae'r ieithoedd eraill sydd i'w hystyried yr un mor bwysig, yn enwedig yn y ddinas a gynrychiolaf yma yng Nghaerdydd, lle y ceir amrywiaeth o ieithoedd, ac mae angen ailwampio'r system gyfieithu sydd ar gael ar gyfer cleifion a meddygon yn ein gwasanaeth iechyd yn llwyr fel nad oes neb yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu ac y gallant ddefnyddio'r iaith y maent yn dewis ei siarad.
Mae'r pwynt a wneuthum am y gallu i ddisgrifio symptomau yn eich iaith gyntaf yr un mor wir ym mha iaith bynnag y soniwn amdani, ond wrth gwrs, ceir—ni ddefnyddiaf y geiriau 'achos arbennig' ar gyfer yr iaith Gymraeg hyd yn oed, gan ein bod yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae'r Aelod yn gwneud pwynt cwbl ddilys.
Yn ôl at y mater o ffigurau, efo meddygon teulu, rŷm ni'n gwybod bod yna brinder meddygon teulu beth bynnag, ac mae ffigurau gan y Llywodraeth heddiw yn dangos cynnydd yn y nifer y bobl sy'n cwyno eu bod nhw'n gorfod aros yn hir am driniaeth, ond mae'r nifer sy'n siarad Cymraeg wedi mynd i lawr yn sylweddol hefyd, felly mae'n rhaid gweithredu rŵan.
Rŷm ni wedi gweld bod yr ystadegau ar niferoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yn is mewn perthynas â'r boblogaeth nag yn Lloegr a'r Alban. Felly, yn troi at y gwelliant arall yna ynglŷn ag addysg feddygol, rŷm ni'n wynebu problem prinder meddygon—rŷm ni'n gwybod hynny. Felly, gadewch inni ddechrau gwyrdroi hyn drwy fuddsoddi a gosod uchelgais o ran cynyddu nifer y myfyrwyr meddygol a nifer y llefydd y mae myfyrwyr meddygol yn gallu astudio ynddyn nhw.
Mae gennym ni domen o enghreifftiau sy'n dangos gwerth hyfforddi mewn ardal wledig er mwyn perswadio pobl i weithio mewn ardal wledig—esiamplau o Norwy, o Calgary, o America ac o hyd a lled y byd, i ddweud y gwir. Mae yna waith da yn cael ei wneud yn Abertawe yn y brifysgol i ehangu llefydd hyfforddi yn y gorllewin. Efallai mai Caerdydd, felly, fyddai'r partner mwyaf naturiol i weithio efo Prifysgol Bangor ar ganolfan addysg feddygol newydd, achos mae angen y ganolfan honno. Mae gan Iwerddon saith ysgol feddygol ac mae gan yr Alban bump ysgol feddygol, sy'n awgrymu bod un ysgol feddygol i bob miliwn o bobl yn rhywbeth sydd yn gweithio ac yn gyffredin. Rŷm ni angen un arall yng Nghymru.
Mewn tystiolaeth—i'r pwyllgor iechyd rwy'n credu—dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru fod
penderfynyddion allweddol iechyd i raddau helaeth y tu allan i reolaeth gwasanaethau iechyd, ac felly, ansawdd, a gwariant ar ofal cymdeithasol yw un o'r pethau sy'n effeithio fwyaf ar y galw am ofal iechyd.
Efallai fod hynny'n datgan yr amlwg, o bosibl, ond mae'n ddatganiad a ddylai effeithio'n gryfach ar ein meddyliau ynghylch recriwtio a lles y gweithlu gofal cymdeithasol yn y tymor byr i'r tymor canolig, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na gweithlu'r GIG. Os yw'r gweithlu gofal cymdeithasol yn methu, mae'n dinistio gallu gweithlu'r GIG i ymdopi â'r galwadau ychwanegol arnynt. Ac er fy mod yn derbyn, wrth gwrs, nad yw newidiadau diwylliannol a strwythurol mawr yn digwydd dros nos, ac yn cydnabod bod gwaith wedi dechrau bellach ar godi statws y gweithlu gofal cymdeithasol a phersonol drwy reoleiddio a hyfforddiant pellach, rydym yn dal i golli gweithwyr gofal i'r system iechyd oherwydd eu telerau ac amodau gwell yno, yn ogystal â'u colli i swyddi eraill gan fod gofal yn cael ei weld yn rhy aml fel math o swydd lefel mynediad dros dro i lenwi bwlch.
Yr hyn na wyddom yw faint a gollwn o ganlyniad i salwch, oherwydd nid ydym yn gwybod faint o bobl a gyflogir yn y sector hwn. Mae 6,000 neu fwy wedi'u cofrestru, fel y gwyddom, ond mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod tua 19,000 o weithwyr gofal cartref i'w cael sydd bellach yn gymwys i gofrestru. Ond mae adroddiad annibynnol ar werth economaidd gofal cymdeithasol i oedolion yn awgrymu bod yr amcangyfrif yn nes at 83,000 o weithwyr gofal ac mae'n fwy na thebyg fod 127,000 o swyddi wedi'u cysylltu'n anuniongyrchol â gofal cymdeithasol i oedolion. Ac os nad ydych yn gwybod pwy yw'r gweithwyr hyn ac yn methu eu cyrraedd, sut y gallwn sicrhau lles y fyddin gudd hon? Rydym yn gwybod am y meddygon teulu, ac yn awr rydym yn gwybod am y staff ambiwlans yn ogystal, ond faint o weithwyr gofal sy'n dioddef salwch meddwl oherwydd galwadau amser afrealistig, telerau ac amodau sy'n amrywio, lefelau cyflog isel—y teimlad hwnnw sy'n parhau mai ail orau ydych chi o gymharu â'r GIG? Faint sy'n gadael am y rhesymau hynny, pan allem fod yn eu cadw?
Ac os ydym yn gofyn am newid diwylliannol, os ydym yn gofyn i bobl ddod i fuddsoddi mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr achos i'r cyhoedd yn gyson nad yw gofal cymdeithasol yn llai o beth na'r gofal meddygol neu nyrsio y gwyddom amdano ac i ddangos hynny. Felly, er y bydd Gweinidogion efallai'n disgwyl i Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru weithio 'fel un', i'w dyfynnu hwy, mae yna gwestiwn go iawn yn codi i mi ynglŷn â bod gwerth ffrydiau addysg y sefydliadau hyn ar wahân i'w gilydd, gan gadw'r risg y bydd un yn bwrw cysgod dros y llall. Dylai fod newydd-ddyfodiaid yn dod i ddechreuad y gwasanaeth integredig hwn heb ddim o'r hen rwystrau fod gofal iechyd yn fwy gwerthfawr na gofal cymdeithasol, ac yn sicr ym meysydd cyffredinol gofal sylfaenol, ni ddylai newydd-ddyfodiaid fod yn ymwybodol o unrhyw wahaniaeth, hyd yn oed os ydynt yn camu ymlaen i fod yn fwy arbenigol wrth i'w gyrfa fynd rhagddi.
Er yr holl waith da sy'n digwydd mewn clystyrau a chanolfannau amlddisgyblaethol eraill, y tueddiad o hyd yw i aelodau meddygol neu nyrsio arwain timau yn hytrach na'r rheini sydd â chefndir yn y gwasanaethau cymdeithasol, er bod rhai o'r rheini i'w cael wrth gwrs. Heb fodelau rôl, bydd newydd-ddyfodiaid yn etifeddu'r ymdeimlad presennol hwn o anghydraddoldeb rhwng y ddwy ran angenrheidiol o ofal, a chan ein bod wedi colli 5,000 o swyddi mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn y saith mlynedd diwethaf, pwy sy'n annog y rheini sydd wedi dilyn y llwybr gwasanaethau cymdeithasol i wthio am arweinyddiaeth yn y gwasanaethau integredig hynny?
Nawr, 'gofal' yw'r gair rydym yn ei ddefnyddio yma, ac ni all gofal sylfaenol barhau i gael ei weld fel rhywbeth cwbl feddygol, neu'n ymwneud yn unig â nyrsio neu weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd hyd yn oed. Rhaid rhoi gwerth cyfartal ar ofal cymdeithasol a phersonol o fewn y diffiniad hwnnw. Ddoe, roeddem yn ddigon ffodus i gael ymweliad gan ysgol gynradd Griffithstown, a ddaeth i'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia i siarad am y gwaith pontio'r cenedlaethau gwych y maent yn ei wneud. Dywedodd rhai o'r merched—neb o'r bechgyn, yn ddiddorol—y byddent yn hoffi dod yn nyrsys dementia. Ni soniodd neb am ddod yn feddyg ymgynghorol neu ymchwilydd neu weithiwr gofal neu rywun sy'n rhedeg cartref gofal neu wasanaeth gofal cartref neu rywun sy'n helpu i gadw pobl yn iach yn y cartref pan fydd ganddynt ddementia. Ac nid wyf yn beio'r plant hynny o gwbl, ond maent wedi clywed am nyrsys; nid ydynt wedi clywed am ofal cymdeithasol. A heb unrhyw eglurder ynglŷn â sut olwg fydd ar bethau yn y dyfodol, credaf ei bod yn eithaf anodd paratoi newydd-ddyfodiaid a darbwyllo gweithwyr presennol i newid yr hyn y maent yn ei wneud, sy'n brofiad eithaf anodd ynddo'i hun, a sut y gall Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru fod yn sicr y bydd yr hyn y maent yn hyfforddi ar ei gyfer yn briodol ar gyfer modelau gofal yn y dyfodol? Ac wrth gwrs, modelau fydd gennym—yn y lluosog—oherwydd bydd hyn yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Yn olaf, rwyf am orffen ar bwnc darparwyr y trydydd sector. Deuthum ar draws sefyllfa ddoe lle roedd cynllun yn talu nifer fach o bersonél y trydydd sector sydd ag arbenigedd cydnabyddedig i helpu unigolion i gael hyder i wneud penderfyniadau priodol am eu hanghenion gofal yn hytrach na ffonio 999. I dorri stori hir yn fyr, maent yn colli eu cyllid, rydym yn colli arbenigedd yr aelodau hynny o'r gweithlu gofal yn ogystal â'r holl fuddion, a hoffwn rywfaint o sicrwydd, os gallwch ymateb i hyn heddiw, ynglŷn â sut y bydd ein gweithwyr gofal o'r trydydd sector, a sectorau eraill os hoffech, yn cael eu cadw a sut y gallwn edrych ar eu holau os na wyddom eu bod yn bodoli hyd yn oed.
Rydw i’n falch iawn i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Yn dilyn o beth mae Suzy Davies wedi’i ddweud, fe wnaf i ddechrau gyda’r pwynt cyntaf, sef pwysigrwydd allweddol gofal cymdeithasol. Nawr, fel meddyg, buasech chi’n disgwyl i mi fynd ymlaen ac ymlaen am y gwasanaeth iechyd, ond fel sydd wedi cael ei ddweud sawl tro yn y Siambr yma, heb ofal cymdeithasol, mi fydd y gwasanaeth iechyd yn dadfeilio hefyd, felly mae eisiau dechrau efo hynny. Yn bersonol, ac yn gynyddol, mae fy mhlaid i’n ffafrio creu gwasanaeth gofal cenedlaethol.
Mae gennym ni wasanaeth iechyd cenedlaethol. Nôl yn y 1930au, roeddem ni’n edrych ar iechyd, ac roedd e'n wasgaredig—ar wahân. Roedd yna elfennau llywodraeth leol yn darparu iechyd, roedd yna elfennau elusennol, roedd yna elfennau preifat yn darparu gwasanaeth iechyd. Roedd yn rhaid ichi dalu i weld eich meddyg teulu, er enghraifft. Fast-forward i nawr, a phan rydych chi’n edrych ar y sector gofal, mae yna elfennau’n cael eu darparu gan lywodraeth leol, mae yna elfennau’n cael eu darparu gan y sector breifat, mae yna elfennau’n cael eu darparu yn elusennol. Beth am ddod â nhw at ei gilydd? Achos os oedd e’n ddigon da i’r gwasanaeth iechyd, yn bendant mae’n ddigon da i gael gwasanaeth gofal ar yr un un math o linellau. Buasai hynny’n dod â’r sawl sy’n gweithio yn y gwasanaeth gofal ar yr un lefel o barch â’r sawl sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Fel rydych chi wedi crybwyll eisoes, mae pobl yn wastad yn edrych ar nyrsys a meddygon gyda rhyw lefel o barch sydd yn uwch na’r sawl sydd yn darparu gwasanaeth gofal. Rydym ni wedi llwyddo dros y blynyddoedd i israddio gwerth gofal yn ein cymdeithas, ac eto, hwnnw ydy’r pwynt allweddol mwyaf pwysig—y gallu yna i ymdrin â phobl, i fod yn dosturiol efo pobl, i fod yn garedig efo pobl arall, a’r gwasanaeth gofal ydy hynny. Rydym ni wedi colli hynny efo’r ffordd rydym ni’n ymdrin â phobl, efo’n cleifion, ddim jest yn y gwasanaeth iechyd ond hefyd yn ein gwasanaeth gofal.
Ac, ydy, mae hynny’n golygu, yn bendant, yn ein gwasanaeth gofal, efo'r nifer cynyddol o bobl sy’n dioddef o ddementia ac ati, fod angen darparu’r gwasanaeth hwnnw’n gynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, achos efo dementia, yr iaith rydych chi wedi'i dysgu yn eilradd sydd yn mynd gyntaf. Hynny yw, i’r sawl sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf pan maen nhw’n datblygu dementia, dim ond Cymraeg maen nhw’n gallu siarad pan maen nhw wedi datblygu dementia. Ac mae yna sawl math o strôc sydd yn cael yr un un math o effaith. Rydych chi’n colli’r gallu i siarad yn eich ail iaith. Mae yna nifer o wledydd dros y byd efo’r un un math o brofiad. Pan rydych chi mewn gwledydd sydd yn siarad mwy nag un iaith, rydych chi'n colli’r gallu i siarad eich ail iaith—efo dementia, yn gynyddol, ac efo strôc.
Felly, mae’n rhaid inni fod yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cynllunio ein gweithlu i adlewyrchu ein cymdeithas. Mae yna dros 0.5 miliwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru; rydym ni’n anelu at darged o gael 1 filiwn ohonyn nhw, ac felly dylai ein gweithlu ni yn y gwasanaeth gofal, yn ogystal ag yn y gwasanaeth iechyd, adlewyrchu’r pwynt sylfaenol yna. Yn ogystal â beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth, rŷch chi’n gwella safon y dadansoddiad—y diagnosis—pan rydych chi’n gallu ymgysylltu efo rhywun yn ei mamiaith. Rydych yn dod i ddeall y diagnosis, ac rydym yn dod i’r diagnosis, fel meddygon a nyrsys, 90 y cant o’r amser ar sail beth mae’r claf yn dweud wrthym ni ar sail ei hanes. Ac felly, os ydych chi’n cael gwell ansawdd hanes, rydych chi’n dod i’r dadansoddiad yn gynt, heb, felly, orfod cael profion gwaed, pelydr x, uwchsain ac yn y blaen. Mae’r ddarpariaeth yna, felly, yn arbed arian yn y pen draw.
Fe wnaf i jest gorffen yn nhermau amser. Fel meddygon iau yn ein hysbytai, maen nhw o dan bwysau affwysol. Mae yna alw i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd yn gorfforaethol yn edrych ar ôl ei staff. Wel, buaswn i’n gwneud ple arbennig y dyddiau hyn i edrych ar ôl ein meddygon ifanc ni yn ein hysbytai. Rydw i wedi sôn am hyn o’r blaen. Nôl yn y dydd pan oeddwn i’n feddyg ifanc mewn ysbytai, roedd yna elfen deuluol—roedd yr arbenigwyr yn edrych ar ein holau ni. Roedd y gweinyddwyr yn edrych ar ein holau ni. Roedd pawb yn edrych ar ein holau ni. Rydym ni wedi colli’r elfen yna rŵan. Mae ein meddygon iau ni yn cwyno eu bod nhw’n cael eu gorweithio. Mae disgwyl iddyn nhw lenwi bylchau yn y rota pan maen nhw ar eu cluniau eisoes. Maen nhw’n gorfod ymladd am ddyddiau i ffwrdd i astudio, ymladd am ddyddiau i ffwrdd i sefyll arholiadau, ymladd am ddyddiau i ffwrdd hyd yn oed i briodi. Nid ydy hyn yn deg. Dyma ddyfodol ein gweithlu meddyg teulu ni. Rydym ni i gyd yn dechrau bant fel meddygon iau mewn ysbyty, ond os ydym ni’n colli’r rheini, os ydyn nhw'n symud dros y dŵr i fod yn feddygon yn Awstralia ac ati, lle maen nhw’n cael gweithio’n llai caled ac am lawer mwy o bres, ac nid yw Bondi Beach yn bell i ffwrdd, nid oes rhyfedd bod y gweithlu yn gadael. Mae eisiau paratoi ar gyfer y dyfodol drwy ymdrin â’n meddygon iau yn llawer gwell. Diolch yn fawr.
Mae'r flwyddyn hon yn nodi pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Mae'n debygol y bydd pawb yng Nghymru ar ryw adeg, angen gwasanaethau'r GIG. Gwn o fy mhrofiad personol pa mor bwysig yw'r GIG. Ym mis Ebrill eleni, cafodd fy ngwraig gyfres o strociau ac mae'n gysur mawr gwybod fod y gofal rhagorol a gafodd ar gael i bawb, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.
Mae'r GIG yn wynebu llawer o heriau. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, mae nifer y bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn codi ac mae cost triniaethau a thechnoleg feddygol yn tyfu. Mae angen i'r GIG addasu a moderneiddio er mwyn ateb yr heriau hyn os yw'n mynd i ffynnu a darparu'r gwasanaethau o'r radd flaenaf y mae pawb ohonom am eu gweld. Ond rhaid i'w egwyddor craidd barhau; mae gwasanaeth iechyd am ddim sydd ar gael i bawb yn dal i fod yn destun eiddigedd drwy'r byd. Mae pawb ohonom yn dymuno gweld y GIG yng Nghymru yn darparu gofal iechyd o ansawdd uchel i bawb. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen gweithlu gydag adnoddau da sy'n cyflawni ar lefel uchel, gweithlu sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod recriwtio a chadw staff wedi dod yn her sylweddol sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi methu hyfforddi digon o staff ar gyfer y dyfodol. Mae lleoedd hyfforddi a gynigir gan fyrddau iechyd y GIG yn parhau i fod heb eu llenwi. Mae nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n gwneud cais i fynd i ysgol feddygol yn lleihau, ac er bod Llywodraeth Cymru yn cynnig bwrsariaeth GIG ar gyfer y pedair blynedd academaidd olaf, mae Cymru wedi methu llenwi'r holl leoedd a gomisiynwyd. Mae recriwtio staff wedi bod yn broblem. Mae effaith cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi bod yn anodd ei fesur, gyda graddau annelwig o lwyddiant.
Rwy'n croesawu'r penderfyniad gan Lywodraeth y DU i lacio'r rheolau mewnfudo i ganiatáu mwy o feddygon a nyrsys medrus o'r tu allan i'r UE i ddod i weithio yn ein GIG. Mae mwy o bwysau a baich gwaith ar ein gweithlu GIG presennol wedi arwain at anawsterau i gadw staff. Mae gennym y nifer isaf o feddygon teulu yn gweithio yn y GIG yng Nghymru ers 2013. Mae mwy na 60,000 o nyrsys wedi gadael y GIG ers 2015, naill ai drwy ymddiswyddo neu ymddeol. Mae'r methiant hwn i gadw, recriwtio a hyfforddi staff wedi arwain at ganlyniadau ariannol difrifol. Mae gwariant ar staff asiantaeth a locwm wedi cyrraedd £164 miliwn; dyma gynnydd o dros 20 y cant o'i gymharu â gwariant mewn blynyddoedd blaenorol. Nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir, Ddirprwy Lywydd. Mae angen strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn y dyfodol. Rhaid defnyddio gweithio agosach yn drawsffiniol a chymhellion effeithiol er mwyn llenwi bylchau daearyddol ac arbenigol yn ein gwasanaeth iechyd. Mae darparu gofal iechyd yn faes sy'n newid yn gyflym. Ni allwn ddibynnu ar systemau darparu gofal iechyd a luniwyd yn y 1940au i ateb heriau'r unfed ganrif ar hugain.
Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth glir i fynd i'r afael â phroblemau recriwtio a chadw staff y GIG. Mae hyn yn hanfodol os ydym am greu GIG gydag adnoddau da sy'n cyflawni ar lefel uchel fel y mae pobl Cymru ei angen ac yn ei haeddu. Os nad ydym yn gofalu am ein GIG, pwy arall sy'n mynd i wneud hynny? Rwy'n eithaf siŵr na fydd y GIG yn gofalu amdanom ni ychwaith.
Ceir rhai meysydd: y GIG a gofalwyr. Mae iechyd meddwl yn fater pwysig y mae'n rhaid inni edrych arno, yn enwedig ein cyn-filwyr. Rhaid inni edrych ar eu hôl. Hefyd, ychydig fisoedd yn ôl, cafwyd problem gyda chyfrifiaduron ac ni allai meddygon ddod i gysylltiad â'u cleifion. Nid yw hynny'n ddigon da. Dioddefodd llawer o gleifion ac roedd llawer o ysbytai heb waith. Nid datblygu yw hynny. Rhaid inni gael cynllun B. O ysbyty i ysbyty, mae safonau ychydig yn wahanol, felly o un meddyg i'r llall, mae'r pwysau'n wahanol. Mae ansawdd ein gwasanaeth yn wych, ond mae'r ddarpariaeth yn ddiffygiol mewn rhai meysydd. Er mwyn moderneiddio ein system, rhaid i'r system gyflogau fod yn gyfartal, rhaid rhoi'r tâl i'n meddygon a'n nyrsys ein hunain, a dylent weithio mewn amgylchedd cyfforddus ac addas yn yr ysbytai gorau yn y byd.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais, byddaf bob amser yn falch o'r GIG: mae'n destun eiddigedd drwy'r byd. Rhaid inni ofalu am ein GIG, ar unrhyw gost, ac yna bydd y GIG yn edrych ar ein holau ni. Diolch.
Diolch. Mark Reckless.
Diolch. Roeddwn yn gwrando ar Dai Lloyd, y credaf ei fod yn siarad â mwy o awdurdod ymarferol nag y gall unrhyw un ohonom ei wneud, efallai, fel meddyg. Y cyfan a wn yn iawn am y GIG yw'r hyn a glywaf gan fy nheulu sy'n gweithio yn y GIG. Roedd fy nhad yn feddyg ac mae fy mrawd yn feddyg, a fy chwaer yng nghyfraith, fy nhad yng nghyfraith, ac roedd fy mam yn nyrs—mae'n mynd ymlaen ac ymlaen. Nid wyf wedi dilyn y llwybr hwnnw fy hun, ond rwy'n falch o'r hyn a gyhoeddwyd dros y penwythnos ac a eglurwyd yn gynharach yr wythnos hon: fod y GIG, yn Lloegr o leiaf, yn mynd i gael cynnydd mewn termau real o £20 biliwn yn ei gyllid, 3.5 y cant y flwyddyn. Credaf mai'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrth y bobl sy'n gweithio yn y GIG yw eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac wrth gwrs, nid yw'r cyfan yn ymwneud ag arian, ond mae'n ymwneud ag anfon neges ynglŷn â pha mor werthfawr yw'r staff i ni. [Torri ar draws.] Iawn.
Maddeuwch imi am wneud yr ymyriad amlwg. Efallai yr hoffech egluro i ni a'i gwneud yn glir nad yw hynny'n ganlyniad i unrhyw beth tebyg i ddifidend Brexit, nad yw'n bodoli.
Roeddwn yn dod at hynny. Rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi nodi dwy ffynhonnell o gyllid: yn gyntaf, y £20 biliwn gros, £10 biliwn net a roddwn ar hyn o bryd i'r UE—byddai cyfran sylweddol o hwnnw'n cael ei ailgyfeirio yn y dyfodol i'r GIG. Ond yn ogystal â hynny, ac rwy'n credu bod hyn yn beth gwirioneddol sylweddol yn wleidyddol i Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, dywedasant y byddai'n rhaid ariannu'r gweddill drwy godiadau treth. Ond oherwydd y gwerth a roddwn ar y GIG, nid yn unig ein bod yn ailgyfeirio arian rydym yn ei dalu ar hyn o bryd i'r UE, ond hefyd, ar gyfer Lloegr o leiaf, bydd trethi'n codi.
Credaf y byddai staff y GIG yng Nghymru wedi hoffi gweld, a'r hyn y byddent wedi bod yn gwrando amdano pan oeddent yn gwrando ar y newyddion y noson honno ac yn y dyddiau i ddod oedd beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud. A oeddent yn eu gwerthfawrogi yn y ffordd yr oedd Llywodraeth y DU yn ei wneud? Y cyfan a glywsant, yn hytrach nag unrhyw beth gan y Llywodraeth Lafur ynglŷn â beth roeddent am ei wario ar y GIG neu'r ffordd yr oeddent yn gwerthfawrogi staff y GIG—y cyfan a glywsant oedd cwyno am Brexit. Nid ydynt yn hoffi Brexit yn fawr iawn. Pleidleisiodd Cymru dros Brexit, ond nid yw'r Gweinidogion hyn yn ei hoffi. Felly, y cyfan a gawsant oedd sylwadau cecrus am, 'O, nid ydym yn siŵr fod yr arian yn mynd i fod yno, felly nid ydym yn mynd i roi unrhyw ymrwymiad o gwbl.' Yr hyn sydd angen i'n staff ei glywed yw eu bod yn mynd i gael eu gwerthfawrogi o leiaf cymaint yng Nghymru ag y maent yn Lloegr. Rwy'n disgwyl i Weinidogion yn Llywodraeth Cymru wneud hynny—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—yn hytrach na checru am Brexit. Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn ymyriad, ac rwy'n datgan ar goedd fod fy ngwraig yn aelod o staff y GIG. A allwch chi ddweud wrth staff y GIG yng Nghymru felly pa bryd y byddant yn cael y cynnydd hwnnw a beth fydd yn talu amdano? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae eich Llywodraeth eich hun yn Llundain yn dweud, 'Codiadau yn y dreth'. Dyna ni—atalnod llawn. Ni chawn unrhyw syniad pa bryd y mae'n mynd i ddod na manylion hyn oll. Breuddwyd gwrach yw'r cyfan ar hyn o bryd.
Cyhoeddwyd y bydd yn gynnydd o £20 biliwn mewn termau real, cynnydd mewn termau real o 3.4 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd dros chwe blynedd, a bydd yn dod yn rhannol o arian rydym yn ei dalu ar hyn o bryd i'r UE, ond daw'r gweddill, ac o bosibl, rhan fwy ohono hyd yn oed, o godiadau yn y dreth. O ystyried sut y mae fformiwla Barnett yn gweithio, daw'r gwariant hwnnw wedyn i Gymru lle byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad ddweud wrth staff y GIG, 'Rydych yn cael eich gwerthfawrogi o leiaf cymaint yng Nghymru ag yn Lloegr, a byddwn yn gwario'r arian hwnnw arnoch chi yma hefyd.' Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd.
Hoffwn roi sylw yng ngweddill fy sylwadau i bethau eraill ar wahân i arian, oherwydd, mewn gwirionedd, ansawdd bywyd ac ansawdd eu bywyd gwaith yw'r hyn y mae staff ein GIG yn ei werthfawrogi. Mae llawer o fy etholwyr a fydd yn mynd i Ysbyty Brenhinol Gwent yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i drafnidiaeth i gyrraedd yno. Mae llawer o feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn cymudo o Gaerdydd i Gasnewydd i weithio yn yr ysbyty hwnnw. Bydd llawer o fy etholwyr yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru yn dod i weithio yn yr ysbyty athrofaol yng Nghaerdydd a chânt ddirwyon o gannoedd o bunnoedd am geisio parcio eu car. Ceir heriau enfawr mewn perthynas â thrafnidiaeth, ac mae angen nid yn unig y metro, sy'n gysyniad gwych—rwy'n llongyfarch y Llywodraeth ar y fasnachfraint newydd—ond hefyd mae angen ffordd liniaru'r M4 ac mae ei hangen ar fyrder.
Ond nid yn unig hynny, rydym am weld ysbytai'n cael eu cynllunio, gan weithio gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill, i wneud yn siŵr fod yr ysbytai hynny'n gweithio ar gyfer staff yn ogystal â'r claf. Mae'n wych fod gennym ysbyty athrofaol y Grange, ac mae o leiaf yr un mor bwysig ei fod yn cael ei wneud yn lle deniadol i staff weithio ynddo—ac i fyw gerllaw, gobeithio, er mwyn lleihau'r anawsterau cymudo. Eto, ar yr un pryd, mae gennym yr ysbyty newydd arfaethedig hwn. Mae gennym gynllun datblygu lleol Torfaen, sy'n cynnwys 300 o dai yn unig yno bellach; arferai fod oddeutu tair gwaith cymaint â hynny. Maent yn adeiladu llai na 200 o dai y flwyddyn dros gyfnod y cynllun, o gymharu â'r dros 300 o dai y dylent fod yn eu hadeiladu. Nid yw'r adolygiad diweddaraf ond yn edrych ar brisiau tai hyd at fis Gorffennaf y llynedd, er iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, ac yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill, rydym wedi gweld prisiau tai yn Nhorfaen yn codi 12.7 y cant. Dylent fwrw ati i ddarparu mwy o seilwaith, mwy o gyfleusterau a mwy o dai, yn ogystal â'r ysbyty. Eto i gyd, mae'r cynllun datblygu lleol ar gyfer Torfaen yn dweud y dylai darparu'r safle strategol ddigwydd yn raddol, gyda gwaith galluogi ar gyfer yr ysbyty, gan gynnwys unrhyw welliannau angenrheidiol i'r briffordd, yn cael ei wneud yn gyntaf, wedi'i ddilyn gan yr ysbyty ei hun. Wedyn, mae'n dweud
Bydd natur, amseriad a threfn y defnyddiau sy'n weddill yn cael eu pennu gan amodau'r farchnad ac astudiaethau pellach.
Yn sicr mae angen iddynt fwrw ymlaen â darparu'r tai a darparu'r seilwaith, i helpu'r holl weithwyr sy'n mynd i fod yn dod i mewn i allu byw fel y gallant gymudo'n hawdd i'r gwaith a mwynhau bywyd o ansawdd da. Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ein GIG, a gweithio gyda phartneriaid hefyd i sicrhau, pan fo'n cefnogi'r GIG, fel gydag Ysbyty Athrofaol y Grange, ein bod yn cael y cymorth rydym ei angen gan gyngor bwrdeistref Torfaen a phartneriaid eraill.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw, ac wrth gwrs, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth iechyd gwladol y cynorthwyodd fy mhlaid i'w greu 70 mlynedd yn ôl. Ac rwy'n falch o glywed Torïaid yn dangos cefnogaeth a dweud eu bod yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth iechyd gwladol hefyd. Mae llawer yn y cynnig y gallwn gytuno arno. Mae yna bwyntiau, wrth gwrs, yr ydym yn anghytuno â hwy, a dyna pam y cyflwynwyd gwelliant gan y Llywodraeth.
Hoffwn gyfeirio'n ôl at Angela Burns a agorodd y ddadl, a'r ffigurau a ddyfynnodd, yn tanlinellu graddau sylweddol gweithgarwch y GIG yng Nghymru. Nid yw hynny'n cael ei gyflawni gennyf fi, ac mae hynny'n beth da i bobl Cymru. Caiff ei ddarparu'n uniongyrchol gan ein staff, ac at y staff y mae pobl yn cyfeirio pan fyddant yn sôn am yr hyn y maent yn ei werthfawrogi o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol ac yn wir o fewn ein system gofal cymdeithasol. Mae'n ffaith, wrth gwrs, fod gennym fwy o staff GIG nag erioed o'r blaen, a'u sgiliau, eu profiad a'u gwerthoedd hwy sy'n hanfodol ar gyfer GIG a system gofal cymdeithasol lwyddiannus.
Nawr, mae'r gwahaniaethau sydd gennym yn un peth, ond mae pawb ohonom yn cytuno ein bod am gefnogi ein staff, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod y ffaith honno'n llawn. Dyna pam rydym wedi sicrhau yn 'Cymru Iachach', ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, fod y gweithlu iechyd a gofal yn ganolog i'r ffordd rydym yn disgwyl llunio gwasanaethau yn y dyfodol. Dyna pam y byddwn yn gweithredu'r nod pedwarplyg a argymhellwyd gan yr adolygiad seneddol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau, gyda'r gweithlu, ein bod yn gwella lles, gallu, ymgysylltiad ac arweinyddiaeth. Mae'r rheini'n rhan o'r pedwar nod cysylltiedig a fydd yn sbarduno'r newidiadau y byddai pawb ohonom am eu gweld, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth yn y dyfodol ynglŷn ag ymagwedd system gyfan tuag at iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.
Mae trydedd ran y cynnig yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi strategaeth integredig ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal. O'r blaen, ymrwymais i gynllun hirdymor ar gyfer y gweithlu yn y Siambr hon, ac mae hwnnw bellach wedi ei ymgorffori yn 'Cymru Iachach'. Mae gennym ymrwymiad clir i gyflawni strategaeth integredig ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol erbyn diwedd 2019.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Tybed pam na alloch chi ymrwymo i'w ddarparu erbyn 2019 Ionawr, oherwydd oni bai bod targed go iawn, mae arnaf ofn y gallai lithro?
Mae yna darged go iawn; mae 2019 yn darged go iawn. Rwyf am wneud yn siŵr fod gennym strategaeth ar gyfer y gweithlu o fewn yr amser y gellir ei gyflawni ac yn wir, drwy wneud defnydd priodol o Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Cafodd hwnnw ei sefydlu i arwain ar gynllunio'r gweithlu, a byddant yn gyfrifol am ddatblygu'r strategaeth fel un o'u blaenoriaethau cyntaf. Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn dod yn weithredol ym mis Hydref eleni, ac er y bydd yn un o'u hamcanion cyntaf, nid yw'n bosibl cyflawni gwaith mor fanwl a phwysig o fewn tri mis cyntaf eu hoes.
Rwyf eisoes wedi ymrwymo i ehangu addysg feddygol a thirwedd hyfforddiant yng ngogledd Cymru ac yng ngorllewin Cymru yn wir. Mae gwaith yn mynd rhagddo rhyngof ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ystyried cynigion a gyflwynwyd gan brifysgolion i ddatblygu'r gwaith hwn, a gobeithiaf y bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny yn y dyfodol agos.
Cydnabu'r adolygiad seneddol, wrth gwrs, mai ffactor allweddol wrth gyflawni iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yw lles ac ymgysylltiad ein staff, ac mae llawer o waith eisoes ar y gweill. Cafodd gogledd Cymru lawer o sylw yn ddiweddar, a llwyddais i dynnu sylw at 20 o raglenni gwaith penodol a wneir ar hyn o bryd gan Betsi Cadwaladr ar lesiant ac ymgysylltiad. Ac mae'r lefel hon o weithgarwch yn cael ei hailadrodd ar draws byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yma yng Nghymru. Ond rydym yn cydnabod bod angen inni wneud mwy. Dyna pam rydym wedi ymrwymo yn ein cynllun hirdymor i wneud GIG Cymru yn gyflogwr enghreifftiol yn ei gefnogaeth i lesiant yn y gwaith a gweithlu iach.
Rydym am weld y GIG yn arwain newid yn y maes hwn ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn sectorau eraill hefyd, drwy rannu arfer da, canllawiau, hyrwyddo ar-lein, a gwerthuso—a chafwyd camau pellach ymlaen yr wythnos hon, gyda'r cytundeb rhyngom ni, Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru a BMA Cymru, i greu siarter blinder a chyfleusterau ar gyfer meddygon a staff clinigol, gan adeiladu ar y berthynas dda sydd gennym yma yng Nghymru, y cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae wedi cael croeso cynnes gan staff y gwasanaeth.
O ran y galw am weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG, rwyf eisoes wedi gwneud fy safbwynt yn glir yn y Siambr hon o'r blaen: mae angen inni feddwl yn ofalus am y materion sy'n codi pe baem yn penderfynu rhoi mantais i grwpiau o staff o ble bynnag y dônt—y GIG, y gwasanaethau gweinyddol neu ofalwyr—ac ar sail eu gwaith yn hytrach na'u hangen clinigol. Ond fel yr eglurais, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried hyn a'r dull a ddefnyddir mewn rhai rhannau o Loegr, a byddaf yn ystyried y mater ymhellach pan fydd wedi'i gwblhau.
Ond ni allaf adael natur y ddadl hon heb atgoffa pobl yn y Siambr hon, yn enwedig gwleidyddion Ceidwadol, fod problemau pwysau, straen ac ariannu sy'n wynebu ein staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn deillio o effaith wirioneddol cyni. [Torri ar draws.] Mae'r wyth mlynedd o gyni y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu dioddef wedi achosi niwed gwirioneddol. [Torri ar draws.] Peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny. Gofynnwch i staff y rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—[Torri ar draws.]—a byddant yn dweud wrthych. Maent yn deall yn dda iawn o ble y daw cyni. Maent yn deall pa blaid wleidyddol sy'n gyfrifol am y dewis hwnnw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, ni wnaf dderbyn ymyriad gan yr Aelod sy'n gwenu gyferbyn â mi, sydd wedi bod yn chwerthin drwy'r ddadl hon ynglŷn â dewisiadau y cynorthwyodd i'w hyrwyddo. Mewn tri etholiad cyffredinol olynol, fe wnaethoch hyrwyddo cyni. [Torri ar draws.] Yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud dewisiadau i roi mwy o arian tuag at ein gwasanaeth iechyd gwladol, mwy o arian y pen, cyfradd uwch o dwf nag yn Lloegr, ac rydych yn meiddio dweud mai chi yw plaid y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes neb yn ei gredu, nid yw'r bobl yn eich grŵp eich hun hyd yn oed yn ei gredu.
Rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant gan Blaid Cymru. Yn gyntaf, y gwelliant ar addysg feddygol yng ngogledd Cymru, gan fy mod wedi rhoi'r ymrwymiad hwnnw ar sawl achlysur. Yn ail, wrth gwrs, bydd y cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu yn cynnwys camau gweithredu i gynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymraeg eu hiaith. Nawr, wrth gwrs, rydym am hyfforddi a chadw rhagor o staff. Rydym yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn hyfforddiant i staff meddygol ac anfeddygol. Yn ystod yr wyth mlynedd o gyni y bu'n rhaid inni ei ddioddef, y GIG yw'r unig wasanaeth cyhoeddus i gynyddu ei staff, gydag archwaeth a galw parhaus am fwy. Rydym yn dal i wynebu risg wirioneddol i recriwtio gwladolion o'r UE yn enwedig i'n GIG, ac mae'r lleihad yn nifer y nyrsys o'r UE sy'n mynd ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn fater o bryder gwirioneddol i bob un ohonom. Mae'n dangos sut y bydd telerau cytundeb Brexit yn hollbwysig i ddyfodol gweithlu ein gwasanaeth iechyd.
Fodd bynnag, rwyf am groesawu'r newid meddwl a'r newid agwedd gan Lywodraeth y DU ar fisâu haen 2 ar gyfer meddygon a nyrsys. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson am newid, ynghyd â bron bob sefydliad sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd a gofal. Rwy'n gobeithio gweld synnwyr cyffredin tebyg yn ein hymagwedd at Brexit a staff y GIG.
Rwyf hefyd am sôn, cyn inni ddathlu pen-blwydd y GIG, fel y nododd Julie James yr wythnos hon, y byddwn yn dathlu Windrush 70 wrth gwrs—cenhedlaeth a gynorthwyodd i ailadeiladu Prydain, cenhedlaeth a gynorthwyodd i greu ein gwasanaeth iechyd gwladol a staffio ein system gofal cymdeithasol, a chenhedlaeth na chafodd ei gwobrwyo'n iawn o gwbl. Rydym yn disgwyl i gamau gael eu rhoi ar waith a chyfiawnder i gael ei ddarparu i genhedlaeth Windrush, ac i addewidion gael eu gwireddu. Ar hyn o bryd, ni allwn fod yn hyderus eu bod wedi cael eu gwireddu.
Wrth i'r GIG nodi ei ben-blwydd yn 70 oed, gwyddom fod angen trawsnewid y gwasanaeth iechyd gwladol er mwyn diwallu anghenion a galwadau heddiw, ond bydd un peth yn parhau, fel y mae bob amser wedi gwneud dros y 70 mlynedd diwethaf: bydd y GIG yn parhau i gael ei ddarparu gan bobl sy'n angerddol, yn ymroddedig ac yn ddawnus. Ein dyletswydd i bob un ohonynt ac i boblogaeth ehangach Cymru yw eu cynorthwyo a'u gwerthfawrogi hwy a'u cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn y ffordd orau sy'n bosibl. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid gwelliant y Llywodraeth a'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth unedig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.
Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Wel, diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu, ac i Angela Burns am agor y ddadl—ei theyrnged i gyfraniad aruthrol y gweithlu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wrth nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG. Fel y dywedodd, nid yw hyd yn oed y GIG tu hwnt i her a gwelliant. Dywedodd Caroline Jones fod y sefyllfa'n cael ei gwneud yn waeth gan ddiffyg cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan roi'r gweithlu dan straen sylweddol. Galwodd Rhun ap Iorwerth yn briodol am i addysg feddygol gael ei darparu ym Mangor. Hoffwn ychwanegu ein bod angen gweld gweithredu'n digwydd hefyd ar y galw gan bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru i ymgorffori cysylltiadau gydag ysgolion meddygol Lerpwl a Manceinion, ac adfer y cyflenwad o feddygon newydd ac ifanc oddi yno, a bydd llawer ohonynt yn dod o ogledd Cymru'n wreiddiol. Clywsom ganddo am ddirmyg Llywodraeth Cymru yn peidio â chyhoeddi nifer y siaradwyr Cymraeg yn y GIG, a nododd mai gan Gymru y mae'r lefel isaf o leoedd hyfforddi meddygon teulu fesul 100,000 o gleifion o blith holl wledydd y DU.
Dywedodd Suzy Davies ein bod yn colli gweithwyr gofal. Mae angen inni wybod faint sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Mae angen inni ddangos bod gwerth cyfartal i yrfaoedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar gyfer arweinyddiaeth a gwasanaethau integredig. Dr Dai Lloyd—mae angen yr un lefel o barch i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal fel y GIG, a soniodd am y pwysau ar feddygon iau a'r perygl o'u colli os nad awn i'r afael â hynny. Mohammad Asghar—y pwysau yn sgil cynnydd yn niferoedd cleifion a phoblogaeth sy'n heneiddio, a soniodd am bwysigrwydd gwasanaeth iechyd sydd ar gael am ddim i bawb a'n GIG yn destun eiddigedd drwy'r byd, a dathlodd y ffaith bod Llywodraeth y DU yn llacio rheolau mewnfudo er mwyn recriwtio a chadw meddygon a nyrsys.
Soniodd Mark Reckless wrthym am ei gysylltiadau teuluol, a'i fod yn hanu o deulu o feddygon a nyrsys, soniodd am gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd mewn termau real o 3.4 y cant yn y cyllid ar gyfer y GIG bob blwyddyn, sy'n cymharu â'r 2.2 y cant yr ymrwymodd y Blaid Lafur iddo yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU. Mae'n cyfateb i £1.2 biliwn yn fwy i Lywodraeth Cymru, felly mae angen inni weld ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi hynny yn ein GIG a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfuniad arferol o'r un hen 'weledigaeth hirdymor' ac 'rydym eisiau gweld'. Nid wyf am drafod cyni y tu hwnt i nodi mai Cymru o dan y Blaid Lafur yw'r unig wlad yn y DU i weld gostyngiad mewn termau real yn y gwariant adnabyddadwy ar iechyd. Chi a achosodd y cyni, byddai eich polisïau yn ei wneud yn waeth, ond hyd yn oed gyda'r arian rydych wedi'i gael, chi yw'r unig Lywodraeth yn y DU i fod wedi torri cyllid y GIG mewn termau real.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym fod bron un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru dan gymaint o straen nes eu bod yn teimlo na allant ymdopi o leiaf unwaith yr wythnos. Cafwyd cynnydd yn nifer y gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, ond mae 9 y cant o'r holl swyddi gweithwyr cymdeithasol yn wag, ffigur sy'n cynyddu bob blwyddyn. Mae ffigurau diweddaraf y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn dweud, er bod y nifer ar y gofrestr nyrsys a bydwragedd ar y lefel uchaf ers pum mlynedd, mae'r nifer sy'n gadael y gofrestr yn uwch na'r nifer sy'n ymuno.
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Maent yn dweud bod yna 3,000 o swyddi'n wag, gan gynnwys y rhai yn y sector gofal annibynnol a'r sector meddygfeydd meddygon teulu.
Felly, rwy'n galw arnoch i gefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio, ac rwy'n gresynu, fel Angela, at y ffaith fod mis Ionawr wedi cael ei ddileu cyn 2019 yng ngwelliant Llywodraeth Cymru yn galw am strategaeth integredig ar gyfer ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae arnom angen ymrwymiad clir, a gobeithio ein bod wedi ei glywed gan y Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet, fod hynny'n golygu eich bod yn gwarantu y ceir cynllun y flwyddyn nesaf. Diolch.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf am symud ymlaen yn syth at y bleidlais gyntaf. Felly, rydym yn galw am bleidlais yn awr ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas, Dai Lloyd, David Melding a Jenny Rathbone—y ddadl Aelod unigol o dan Reol Sefydlog 11.21. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 48, neb yn ymatal, 3 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6733 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ansawdd Aer - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 48, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Gwrthodwyd y cynnig. Felly, symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.
NDM6745 - Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 21, roedd 1 yn ymatal, a 29 yn erbyn. Felly, gwrthodir y gwelliant.
NDM6745 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1: O blaid: 21, Yn erbyn: 29, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar welliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2. Caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
NDM6745 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 2: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 4.
NDM6745 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 4: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.
NDM6745 - Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 5: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6745 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol;
b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
4. Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno.
5. Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 29, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM6745 - Ceidwadwyr Cymreig - cynnig fel y'i diwygiwyd : O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym os gwelwch yn dda. Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mick Antoniw i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Mick.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n—
Arhoswch funud, tra bo pawb yn mynd.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer hon i gydnabod diwrnod dyneiddiaeth y byd, sef yfory, ac i sôn ychydig am athroniaeth dyneiddiaeth a'i chyfraniad i feddwl blaengar yng Nghymru, y DU a'r byd.
Mewn byd o anoddefgarwch a rhaniadau cynyddol, byd sy'n newid yn ddramatig oherwydd datblygiad technolegol a globaleiddio, weithiau mae'n haws ymlynu at gredoau cul ac anwybyddu ehangder meddwl, dychymyg a chyffredinrwydd credoau libertaraidd sydd i'w cael yn y byd, boed hynny'n gysylltiedig â chred mewn Duw neu gred resymegol nad oes Duw.
Mae dyneiddiaeth yn deillio o draddodiad hir o feddwl rhydd sydd wedi ysbrydoli llawer o feddylwyr mawr y byd, o wyddonwyr i ddiwygwyr cymdeithasol. Mae dyneiddwyr yn credu mai un bywyd sydd gennym ac yn anelu i fyw bywydau moesegol a llawn ar sail rheswm a dyneiddiaeth, gan osod lles a hapusrwydd dynol yn ganolog i'w penderfyniadau moesegol.
Mae dyneiddiaeth yn athroniaeth sy'n cefnogi democratiaeth a hawliau dynol. Mae'n ceisio defnyddio gwyddoniaeth yn greadigol ac nid yn ddinistriol er mwyn chwilio am atebion i broblemau'r byd drwy feddwl a gweithredu dynol yn hytrach nag ymyrraeth ddwyfol. Dywedodd Bertrand Russell, athronydd a dyneiddiwr Prydeinig mawr, a wnaeth ei gartref ym Mhenrhyndeudraeth:
os ydym i fyw gyda'n gilydd, ac nid marw gyda'n gilydd, rhaid inni ddysgu math o gariad a math o oddefgarwch sy'n gwbl hanfodol i barhad bywyd dynol ar y blaned hon.
I'r graddau hyn, mae llawer yn debyg yn athronyddol ac yn foesegol rhwng dyneiddiaeth a chredoau crefyddol Cristnogol, Bwdhaidd, Iddewig ac Islamaidd sylfaenol. Mae dyneiddwyr yn aml yn rhannu gwerthoedd â chrefyddau, gyda llawer o debygrwydd rhyngddynt ag athroniaeth a moeseg Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam a Bwdhaeth. Ond nid yw dyneiddiaeth yn seiliedig ar fodolaeth Duw nac yn gaeth i unrhyw set o ddysgeidiaethau neu gredoau crefyddol. Cred ydyw mewn rheswm ac ymreolaeth fel agweddau sylfaenol ar fodolaeth ddynol. Mae dyneiddwyr yn gwneud eu penderfyniadau moesegol yn seiliedig ar reswm, empathi a gofal am fodau dynol ac anifeiliaid ymdeimladol eraill.
Mae dyneiddiaeth wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd, ond datblygodd y cysylltiadau rhwng syniadau dyneiddiol a diwygio cymdeithasol yn sylweddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gafodd cenhedlaeth newydd o ddiwygwyr cymdeithasol ac ymgyrchwyr eu dylanwadu gan athronwyr a deallusion a ysgrifennodd am bobl yn gwneud gwahaniaeth i'r byd a gofalu am ei gilydd heb ystyried crefydd. Gwrthododd Aneurin Bevan gredoau ei rieni anghydffurfiol i ddod yn sosialydd seciwlar. Roedd Robert Owen yn ddyneiddiwr a aned yn y Drenewydd, ac yn un o sylfaenwyr y mudiad cydweithredol.
Heddiw, rydym yn byw mewn byd lle y rhagwelir y bydd 50 y cant o gyfoeth y byd yn nwylo 1 y cant o'r boblogaeth erbyn 2030. Mae hanner y byd yn ffynnu tra bod hanner y byd yn newynu. Wrth i anghydraddoldeb gynyddu, daw cymdeithasau'n fwyfwy ansefydlog, mae cenedlaetholdeb cynyddol yn troi pobl yn erbyn pobl, caiff rhwystrau eu codi a heuir hadau gwrthdaro.
Fel gyda sosialaeth foesegol, mae dyneiddiaeth yn ymwneud â'r gred fod y pŵer i ddatrys yr holl broblemau hyn yn ein dwylo ni, drwy ddadansoddi rhesymegol, y defnydd o wyddoniaeth er budd pawb, a thrwy gydnabod ein dyneiddiaeth gyffredin a'n cyfrifoldeb tuag at ein gilydd.
Efallai mai dyneiddiaeth yw'r safbwynt athronyddol diofyn i filiynau o bobl yn y DU heddiw, ac mae llawer o ddyneiddwyr yn gwella cymdeithas drwy gryfhau ein rhyddid democrataidd, yn ymroi'n ddiwyd i waith elusennol, gan gynyddu ein corff o wybodaeth wyddonol a gwella ein bywyd diwylliannol, creadigol a dinesig. Yng Nghymru, mae 53 y cant o'r boblogaeth yn dweud nad ydynt yn perthyn i unrhyw grefydd, ac mae hyn yn cynnwys 73 y cant o rai rhwng 18 a 24 oed a 69 y cant o rai rhwng 25 a 34 oed.
Er mwyn sicrhau moeseg ddinesig gwbl gynhwysol yn ein cymdeithas, rhaid inni gydnabod hawliau pobl nad ydynt yn grefyddol. Yn 2015, galwodd yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth, cyn Archesgob Caergaint, am gynnwys dyneiddiaeth yn y cwricwlwm astudiaethau crefyddol yn Lloegr, ochr yn ochr â Christnogaeth ac Islam. Roedd ymhlith y llofnodwyr a gynhwysai gynrychiolwyr Iddewig, Mwslimaidd a Sikh amlwg a ddadleuai y byddai cynnwys syniadau anghrefyddol yn cynrychioli'r Brydain fodern yn fwy cywir a byddai'n caniatáu i bobl ifanc astudio sampl fwy cynrychioliadol o brif safbwyntiau'r byd sy'n gyffredin ym Mhrydain heddiw.
Felly, gallwn ymfalchïo yn y camau i'r cyfeiriad hwn yng Nghymru. Mae dyneiddiaeth bellach ar y cwricwlwm addysg grefyddol yng Nghymru. Yn dilyn her gyfreithiol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu'n ddiweddar at bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i'w hysbysu bod yn rhaid i gynrychiolwyr systemau cred nad ydynt yn grefyddol gael yr un hawl â chynrychiolwyr crefyddol i fod yn aelodau o'r cynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol, sef y cyrff awdurdod lleol sy'n gyfrifol am oruchwylio addysg grefyddol mewn ysgolion.
Felly, yng Nghymru, rydym yn gwneud cynnydd, ond mae ffordd bell i fynd o hyd. Mae priodasau dyneiddiol yn gyfreithiol yn yr Alban ac yn Jersey, ond nid yng Nghymru, lle mae'r gyfraith yn dal heb ei datganoli, a phedwar ysbyty yn unig yng Nghymru sydd wedi cytuno i dderbyn gofalwyr bugeiliol anghrefyddol gwirfoddol yn rhan o'u timau caplaniaeth.
Mae cydnabod rôl dyneiddiaeth yng Nghymru fel rhan o'n system gred yn ymwneud hefyd â sicrhau moeseg ddinesig gwbl gynhwysol ym mhob un o'n sefydliadau cymdeithasol a chyhoeddus. Mae gan y rhai nad ydynt yn grefyddol, a buaswn yn dweud bod hynny'n golygu'r mwyafrif o bobl yn ein cymdeithas gyfoes mae'n debyg, lawer i'w gyfrannu at y gwerthoedd y seiliwyd ein cymdeithas arni ac at y cyfeiriad y bydd yn ei gymryd yn y dyfodol.
Yn Much Ado About Nothing mae William Shakespeare yn dweud:
Cara bawb, ymddirieda mewn ambell un, / na wna gam â neb.
Mae'n well gennyf y datganiad mwy proffwydol gan yr athronydd Prydeinig ac un o sefydlwyr America, Thomas Paine:
Y Byd yw fy ngwlad, yr holl ddynol-ryw yw fy mrodyr, a gwneud daioni yw fy nghrefydd.
Diolch.
Diolch. A ydych wedi dynodi—?
Rwyf wedi dynodi fy mod wedi rhoi munud i Julie Morgan, ac rwy'n hapus i roi munud os oes unrhyw un arall yn dymuno cael un.
Nac oes—Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn ichi am roi munud imi. Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, sy'n amserol iawn, gyda Diwrnod Dyneiddiaeth y Byd ar 21 Mehefin. Rwyf wedi bod yn ddyneiddiwr ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n aelod o Ddyneiddwyr Cymru, sy'n rhan o Humanists UK. Hoffwn wneud tri phwynt cyflym.
Rwy'n cefnogi'r alwad gan Ddyneiddwyr Cymru am i gyfraith priodasau gael ei datganoli—mae Mick Antoniw wedi cyfeirio at hyn eisoes—fel y cafodd ei datganoli yn yr Alban yn 1998, er mwyn inni allu cael priodasau dyneiddiol, ond hefyd i fynd i'r afael â mater tystysgrifau priodas sy'n galw am enw'r tad yn hytrach nag enw rhiant, rhywbeth sy'n amlwg yn anghyson â bywyd modern. Felly, hoffwn weld rheolaeth o swyddfa'r cofrestrydd yn cael ei datganoli er mwyn inni allu ceisio sicrhau'r newidiadau hynny.
Roedd yr ail bwynt roeddwn eisiau ei wneud yn ymwneud ag addoli ar y cyd mewn ysgolion. Cyflwynwyd hyn yn 1944 a chafodd y gofyniad ei leihau'n ofyniad i fod yn Gristnogol yn yr ystyr eang, a chafodd ei ymgorffori mewn cyfraith addysg yn 1988 o dan Lywodraeth Thatcher. Pan gafodd y cyfrifoldeb am addysg ei drosglwyddo i'r Cynulliad yn sgil datganoli, cafodd yr elfen led Gristnogol hon ei throsglwyddo i'r Cynulliad, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n gweddu i'n cymdeithas amrywiol sy'n gosod gwerth ar ryddid cred, felly credaf y byddai'n gam ymlaen pe baem yn cael gwared ar y syniad o fod yn lled Gristnogol, ac yn hytrach, yn cofleidio pob crefydd a dyneiddiaeth a dim crefydd.
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â chaplaniaid ysbytai y cyfeiriodd Mick Antoniw atynt eisoes. Deallaf fod £1.2 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar wasanaethau caplaniaeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn gadael i ymddiriedolaethau ysbytai benderfynu sut i ddarparu gwasanaeth caplaniaeth. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i bobl nad oes ganddynt gredoau crefyddol allu cael mynediad at rywun i'w helpu'n ysbrydol i roi cymorth nad yw'n grefyddol. Gwn mai'r ymateb i fy nghais i Lywodraeth Cymru oedd y gallai person crefyddol roi'r cymorth hwnnw ichi, ond nid yw hynny'n gweddu dda iawn os nad oes gennych unrhyw gredoau crefyddol. Y pwynt arall ynglŷn ag ysbytai yw argaeledd ystafelloedd tawel, yn ogystal ag ystafelloedd gweddïo, fel bod gennych ystafell dawel lle y gall pobl heb unrhyw gredoau fynd. Felly—
Da iawn—mewn munud.
Munud? [Chwerthin.]
Na, na, nid munud, ond da iawn ar eich munud. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fod Mick Antoniw wedi rhoi'r cyfle hwn inni yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid i drafod pwysigrwydd gweithio gyda'n holl gymunedau yng Nghymru, pa un a ydynt yn perthyn i grwpiau ffydd neu grwpiau heb ffydd—pob ffydd a dim ffydd, fel rydym yn ei ddweud. Mae'r dyfyniad a ddarllenodd ar y diwedd yn crynhoi ein hagwedd at lle y dylem fod i raddau helaeth, ac fel y dywedais mewn dadl yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, yr hyn yr ydym am ei gofio fwyaf yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid yw ein dyneiddiaeth gyffredin ac nid unrhyw beth sy'n ein rhannu. Ar ddiwrnod Great Get Together Jo Cox mae ei geiriau fod gennym
lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r pethau sy'n ein gwahanu
yn werth eu cofio yn y cyd-destun hwn.
Mae ymgysylltu â'n holl gymunedau yn ffactor pwysig iawn wrth ddarparu cydlyniant cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys cymunedau ffydd a'r rheini sydd wedi ymrwymo i safbwyntiau athronyddol eraill am fywyd, megis dyneiddiaeth. Rydym yn ymrwymedig iawn i barhau â'n gwaith i feithrin a hyrwyddo gwerthoedd a dealltwriaeth a rennir ar draws ein holl gymunedau yng Nghymru.
A gaf fi ddweud, ar lefel bersonol, fy mod yn cefnogi galwad Julie Morgan o blaid datganoli priodas? A bydd yn rhaid i chi faddau i mi, Ddirprwy Lywydd, wrth i mi adrodd hanesyn bach arall eto o fy mywyd personol, ond mae fy mab yn priodi ym mis Gorffennaf. Bydd y rhai ohonoch sy'n fy adnabod wedi fy nghlywed yn sôn am hyn. Pan aeth ef a'i ddarpar wraig i gofrestru eu cynigion priodas, gofynnwyd iddynt am broffesiwn eu tadau. Rwy'n falch o ddweud eu bod yn bobl ifanc sydd wedi cael magwraeth dda. Gallent ddweud beth oedd proffesiwn eu mamau, ond nid oedd y naill na'r llall ohonynt yn gwybod beth oedd proffesiwn eu tad, ac roedd hynny'n gysur mawr i mi, ond wrth gwrs ni chaniatawyd iddynt restru proffesiwn eu mamau ar y gostegion, a chredaf fod hynny'n warthus. Felly, hoffwn i ei weld am y rheswm hwnnw'n unig, ond mae yna nifer o bethau y gellid yn hawdd eu moderneiddio yn hyn o beth, gan gynnwys y gallu i gael seremonïau nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu cydnabod mewn ffordd ddyneiddiol. Mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn gallu mynegi ein safbwyntiau, gwrando gyda pharch ar safbwyntiau pobl eraill, a gwella'r modd y gallwn gydweithio i helpu i sicrhau bod Cymru'n gymdeithas oddefgar iawn.
Mae'r Wythnos Rhyng-ffydd eleni, rhwng 12 a 16 o fis Tachwedd, yn gyfle i ni ddathlu a chryfhau goddefgarwch a dealltwriaeth o werthoedd a rennir ar draws pob ffydd a dim ffydd. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Yng nghyfarfod y Fforwm Cymunedau Ffydd ar 3 Ebrill eleni, dywedodd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru ei fod yn ystyried ffordd o allu clywed safbwyntiau credoau sydd heb eu cynrychioli a'u gwasanaethu yng nghyfarfodydd y fforwm drwy'r cyngor rhyng-ffydd. Rydym yn edrych ymlaen at eu penderfyniad, gydag enw i'w gyflwyno fel argymhelliad i'r Prif Weinidog ei ystyried, ac rydym wedi croesawu'r ymagwedd honno gyda golwg ar fod yn gymdeithas gynhwysol a chydgysylltiedig, gan werthfawrogi, fel y dywedai'r dyfyniad a ddarllenodd Mick Antoniw, dyneiddiaeth a chydymdrech pawb ar y blaned.
Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â’n trafodion i ben am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:29.