Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
21/03/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwaith clirio ar ôl storm Emma ym mhorthladd Caergybi? OAQ51938
Diolch. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ymweld â'r porthladd a'r marina ac wedi gweld y gwaith glanhau drosom ein hunain. Gwnaed gwaith cychwynnol i leihau faint o ddiesel a oedd yn mynd i mewn i'r dŵr, mae rhwystrau wedi cael eu gosod, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar glirio'r polystyren. Diolch unwaith eto i bawb sydd wedi bod yn gweithio’n galed ar hyn.
Diolch i chi am eich ymateb. Rhyw ddwy ran, am a wn i, i fy nghwestiwn i—y cyntaf yn edrych yn ôl, a'r ail yn edrych ymlaen. O edrych yn ôl, rwy'n meddwl bod yna gwestiynau difrifol ynglŷn â chyflymder yr ymateb i'r hyn a ddigwyddodd yng Nghaergybi. Mi ofynnais i gwestiwn amserol bum, chwe diwrnod ar ôl y digwyddiad, a'r hyn a ddywedasoch chi oedd:
'Rydych yn dweud ei fod wedi cael effaith amgylcheddol ddifrifol...nid oes neb wedi gofyn cwestiynau i mi'n dweud nad oedd ein hymateb yn ddigon cyflym...Ceir grŵp amgylchedd sefydlog gogledd Cymru, ac mae fy swyddogion yn aelodau ohono...os ydych yn dweud bod yna sefyllfa amgylcheddol ddifrifol...byddaf eisiau gwybod pam na fu cyfarfod.'
Credaf ei bod yn eithaf amlwg ei fod yn fater amgylcheddol difrifol, ac mae'n parhau i fod. Felly, efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni a gollwyd cyfle, wrth edrych yn ôl, i fynd ati'n gynnar i ymdrin ag effeithiau amgylcheddol yr hyn a ddigwyddodd. A pha wersi a ddysgwyd, o ran sicrhau, os oes anghytundeb ynglŷn â phwy ddylai gymryd yr awenau, y gall Llywodraeth Cymru gamu i’r adwy, neu eich cyrff perthnasol?
Yn ail, gan edrych tua’r dyfodol, gan fod hynny'n allweddol bellach, mae arnom angen sicrwydd ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd. Rwyf wedi clywed adroddiadau y bore yma am bobl sy'n ymwneud â'r môr yn dychwelyd i Gaergybi am y tro cyntaf ers y digwyddiadau, ac yn synnu at yr hyn nad yw wedi digwydd hyd yn hyn. Mae arnom angen sicrwydd ynglŷn â'r gwaith o ailadeiladu'r marina, ynglŷn â chymorth i unigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt, ac wrth gwrs, ynglŷn â'r angen i gynyddu ymdrechion mewn perthynas â’r gwaith glanhau amgylcheddol, gan fod llawer ar ôl i'w wneud. A allwch roi'r sicrwydd hwnnw inni heddiw, gan fod hon yn dal i fod yn sefyllfa anobeithiol yng Nghaergybi?
Iawn, diolch am eich cwestiynau. Ac fel y gwyddoch, soniais yn fy sylwadau agoriadol i chi fy mod wedi ymweld â’r lle ar y dydd Iau wedi’r storm. Ac yn sicr, credaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yr holl asiantaethau, wedi dod at ei gilydd yn gyflym iawn, a chychwynnodd y gwaith glanhau yn gyflym iawn. Wrth gwrs, mae gwersi i'w dysgu bob amser, ond ni chredaf y gallem fod wedi gwneud unrhyw beth yn gyflymach nag y gwnaethom.
O ran symud ymlaen, yn amlwg, nid yw diogelwch morol, sy'n cynnwys diogelwch mewn porthladdoedd, wedi'i ddatganoli; mae’n parhau i fod yn un o gyfrifoldebau Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Pan ymwelais â'r marina, dywedais y byddwn yn ystyried unrhyw gymorth ariannol y gallwn ei roi. Yn amlwg, y lle cyntaf i droi ar gyfer llawer o'r lleoedd hyn yw eu cwmni yswiriant, ac yn sicr, ymddengys bod hynny wedi digwydd. Cyfarfûm â pherchennog y siop hwylio yn y marina. Yn sicr, roedd ganddo rai pryderon, ac rwyf wedi rhoi gwybod i'm cyd-Aelod, Ken Skates, ynglŷn â’r pryderon hynny. Rwyf hefyd wedi clywed gan—. Yn amlwg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw glanhau'r traethau, ac unwaith eto, cyfarfûm â'r cynghorwyr a'r swyddogion lleol, ac unwaith eto, roeddwn yn fodlon fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Rwyf wedi derbyn sylwadau gan y Lobster Pot ym Mhorth Swtan, y gwyddoch amdano mae’n debyg, yn gofyn pa arian ychwanegol y gellir ei roi. Rwyf wedi pasio’r neges honno ymlaen at fy nghyd-Aelod, Alun Davies. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn, ar draws y Llywodraeth, ein bod yn dod at ei gilydd i weld pa gymorth y gallwn ei roi. Ac rwyf wedi dweud y byddaf yn ystyried cefnogaeth ariannol bosibl ar gyfer atgyweirio’r seilwaith cyhoeddus, a glanhau difrod amgylcheddol.
Wedi i storm Emma daro ar 1 Mawrth, cafwyd rhybuddion gan y gymuned ar unwaith y byddai diesel, malurion, polystyren yn cyrraedd y môr mawr pe na bai camau brys yn cael eu rhoi ar waith, ond ni osodwyd y rhwystrau—y rhwystrau amgylcheddol—tan y prynhawn Sul. Ac er gwaethaf rhybuddion gan y cyngor, gwylwyr y glannau a'r heddlu na ddylai pobl fynd ati eu hunain i glirio, o'r diwrnod canlynol, dechreuodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, clwb hwylio Caergybi, ac aelodau'r cyhoedd glirio’r malurion oherwydd y risg honno ac oherwydd yr oedi o ran ymyrraeth statudol. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o hyn, er mwyn sicrhau y ceir gwell ymgysylltu â'r gymuned yn y dyfodol, yn ogystal â dull mwy cydgysylltiedig o ymateb yn gyflym, cyn i'r difrod, y diesel a'r malurion ddechrau symud o'r harbwr i mewn i’r amgylchedd ehangach?
Fel y soniais yn fy ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth, credaf y cafwyd ymateb cyflym. Gwn y dywedwyd wrth Aelodau'r cyhoedd na ddylent fynd i lawr yno o safbwynt diogelwch. Byddwch yn gwybod bod y storm hon wedi para am y rhan fwyaf o'r penwythnos, ac yn sicr, pan gyfarfûm â pherchnogion y porthladd, a phobl eraill sy'n gysylltiedig â'r marina, roeddent yn dal i ofyn—roedd hyn ar y dydd Iau ar ôl y penwythnos—i aelodau o'r cyhoedd beidio â mynd i lawr yno. Roedd grŵp o blant ysgol wedi dweud eu bod eisiau dod yno i gynorthwyo, ac er ein bod, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi eu cynnig i helpu, mae'n rhaid i iechyd a diogelwch ddod yn gyntaf.
2. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau'r lefelau o wastraff plastig yng Nghymru? OAQ51946
Dengys y data diweddaraf gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau mai 75 y cant oedd cyfradd gasglu awdurdodau lleol Cymru o boteli plastig i’w hailgylchu o aelwydydd yn 2015, i fyny o 55 y cant yn 2009. Rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth i archwilio potensial cynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a fydd yn cynnwys dadansoddiad o gynlluniau dychwelyd ernes.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad Awr y Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd yma yn y Senedd, gan addo rhoi'r gorau i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig untro er mwyn helpu i leihau gwastraff plastig—cam bychan iawn. Ond wrth gwrs, un o'r llygrwyr plastig mwyaf yw poteli plastig. Felly, a fyddai'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd ymlaen yw pwyso am gynllun dychwelyd ernes, ac a all hi roi gwybod i ni am unrhyw gynnydd mewn perthynas â hynny?
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwyf innau, mewn gwirionedd, wedi rhoi'r un addewid â hithau i beidio â defnyddio cyllyll a ffyrc plastig. Yn sicr, credaf ein bod yn gwybod bod plastig yn broblem fawr. Mae'n sicr yn rhywbeth sydd yn y penawdau'n aml ar hyn o bryd. Fel rhan o'r astudiaeth o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r cynlluniau dychwelyd ernes posibl. A bydd hynny'n edrych ar bethau yn gyffredinol, o ran sut rydym yn adeiladu ar ein cyfraddau presennol, ond hefyd beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem honno y gwyddom ei bod yn bodoli o ran cynwysyddion diodydd, poteli plastig a deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu ond nad ydynt yn cael eu hailgylchu cystal ag y dylent ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael y drafft terfynol cyntaf o grynodeb yr adroddiad hwnnw, ac rwy'n gobeithio gallu ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.
Weinidog, nid oes ond angen i chi gamu allan o'r adeilad hwn a cherdded draw at yr Eglwys Norwyaidd i weld llawer iawn o blastig yn arnofio yn ardal y bae. Ac er bod geiriau da'n cael eu dweud yn y Siambr hon, mae angen i bob un ohonom roi camau unioni ar waith i sicrhau ein bod yn lleihau ein defnydd o blastig ac yn glanhau ein hamgylchedd. Ond un peth sydd wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yw faint o blastig a all fod yn y system fwyd. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cael eu goruchwylio gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru, rôl i'w chwarae mewn arolygiadau a deall a yw hon yn broblem bosibl drwy'r gadwyn fwyd. Hoffwn gael gwybod a ydych wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch y mater hwn, ac os ydych wedi cael y trafodaethau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedasant wrthych, faint o berygl a geir o blastig yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ddynol a pheri risg bosibl i bobl?
Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle, ac fel y dywedodd yr Aelod Julie Morgan, mae'n ymwneud â'r camau bach y gall pob un ohonom eu cymryd. A boed yn unigolyn, yn sefydliad, ar lawr gwlad neu yn y Llywodraeth, mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r materion hyn.
O ran y problemau posibl a berir gan blastig yn y system fwyd, rwy'n deall bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael cyfarfod gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Felly, os hoffech ysgrifennu ati, efallai y gall roi gwybod i chi sut aeth y cyfarfod hwnnw.
Gan ddilyn ymlaen o'r cyfraniadau eraill, rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun dychwelyd ernes i gwtogi ar y defnydd o gynwysyddion diodydd untro. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn y tâl hynod lwyddiannus a godwyd ar fagiau plastig. A gaf fi annog y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw dâl dychwelyd ernes yn cael ei osod ar lefel a fydd yn gwneud y cynllun dychwelyd yn opsiwn hyfyw? Mae gennyf fantais, neu'r anfantais, o gofio'r system ddychwelyd ernes ar yr hen boteli Corona. Felly, mae'n werth nodi eich bod yn arfer cael tair ceiniog am bob potel a ddychwelid. Golygai hyn, yn erbyn y gost o 10c yn unig am botel lawn, fod y pris dychwelyd ychydig dros draean o gost y botel lawn. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried defnyddio'r un math o wahaniaeth?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n cofio'r hen boteli Corona, mewn gwirionedd, ond mae'n debyg eich bod wedi fy ngholli i raddau wrth grybwyll y darn tair ceiniog. [Chwerthin.] O ran yr adroddiad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chan gynnwys dichonoldeb cynllun dychwelyd ernes, byddwn yn edrych ar yr holl faterion hynny ac yn eu gwerthuso, yna byddwn yn gallu llunio adroddiad a dadansoddi'r canlyniadau hynny, ac ystyried yr holl agweddau, megis y rheini, mewn perthynas â chynwysyddion diodydd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i eich atgoffa chi, Ysgrifennydd Cabinet, tua 18 mis yn ôl gwnaethoch chi gychwyn ar y broses o ymgynghori ar y parthau nitradau yng Nghymru a'r angen i fynd i afael â'r rheini. Jest cyn y Nadolig, gwnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n chwilio am gydweithredu gwirfoddol er pwrpas gwella'r amgylchedd o gwmpas nitradau. Mae Plaid Cymru yn cefnogi hynny achos rŷm ni o'r farn bod modd, efallai, cyrraedd gwell safon drwy gydweithio gyda'r gorau sydd yn y diwydiant. Ond, yn y cyfamser, wrth gwrs, mae Afonydd Cymru wedi colli amynedd, mae'n ymddangos, gyda'r broses hirfaith yma ac wedi dweud y byddan nhw'n cwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'ch perfformiad chi ar y mater yma. Beth fydd eich ymateb chi i'r Comisiwn Ewropeaidd ac a fedrwch chi ddweud wrth y Cynulliad beth yw'r amserlen bellach ar gyfer gosod yn ei le y gweithredu sydd ei angen yn y maes yma, ond gweithredu ar y cyd gyda'r diwydiant, nid yn orfodaeth dros y diwydiant?
Diolch. Ie, fe sonioch fy mod wedi gwneud datganiad ym mis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn yr ymgynghoriad a gawsom ar Barthau Perygl Nitradau. Sefydlais is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol, sy'n edrych ar hynny i mi. Rwyf hefyd wedi cyfarfod gyda'r grŵp yn ddiweddar, ac rwy'n disgwyl iddynt gyflwyno rhai argymhellion i mi erbyn diwedd mis Mawrth. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol a chyfreithiol, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad o symud ymlaen â dull gweithredu nad yw'n cyflawni'r gofynion hynny. Nid yw'r dull gwirfoddol wedi gweithio ar ei ben ei hun. Nid oeddwn yn awyddus i gael deddfwriaeth lawn; roeddwn yn awyddus i sicrhau cymysgedd o'r ddau beth. Fodd bynnag, mae'n hynod o siomedig ein bod yn dal i weld cymaint o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd.
Rwy'n ddiolchgar am yr amlinelliad yna ac yn edrych ymlaen at weithredu yn fuan iawn, felly, a gweld argymhellion yn dod gerbron, ac rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet fod angen i'r diwydiant amaeth hefyd edrych ar ei arferion ei hun ynglŷn â gollwng slyri i mewn i rai o'n hafonydd ni. Ond, beth mae'r mater yma yn tanlinellu wrth gwrs yw bod y Comisiwn Ewropeaidd, rheolau Ewropeaidd, i gyd yn bwysig yn y ffordd yr ŷm ni'n rheoli'r amgylchedd yng Nghymru, ac rŷm ni bellach yn deall yn sicr sut y mae Llywodraeth San Steffan yn edrych ar gadw'r pwerau hyn, os nad ŷm ni'n gwella'r Bil sydd yn San Steffan ar hyn o bryd, neu os nad yw'r Bil yr ŷm ni am ei drafod yn nes ymlaen heno yn llwyddo. Felly, mae meysydd mwy amrywiol, a physgodfeydd, lles anifeiliaid, ffermio organig a chwynladdwyr, pesticides—maen nhw i gyd yn feysydd lle mae San Steffan yn chwilio i ymyrryd ac sydd yn briodol i'r Cynulliad hwn. A fedrwch chi ddweud, beth bynnag yw'r dull a fydd yn digwydd yn deillio o ddelio â hyn—naill ai'r Ddeddf, y Bil heno fan hyn, neu'r Bill sy'n mynd drwy San Steffan—a fyddwch chi'n gallu ymrwymo i gadw'r egwyddorion Ewropeaidd hyn yn y ddeddfwriaeth a fydd yma yng Nghymru? Ac a ydych chi'n credu felly, efallai, er na dderbyniwch chi y gwelliant sydd gan Blaid Cymru ar gyfer yn nes ymlaen prynhawn yma, eich bod chi'n derbyn yr egwyddorion sydd y tu ôl i'r gwelliant hwnnw?
Ydw, yn sicr. Ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn rhan o'r UE, felly rydym yn gorfod cydymffurfio â'r cyfarwyddebau Ewropeaidd hynny. Yn sicr, buaswn yn ymrwymo i gadw'r un safonau, o leiaf, os nad eu gwella.
Rwy'n ddiolchgar am yr ymrwymiad gwleidyddol hwnnw os na chawn yr un deddfwriaethol maes o law.
Heddiw, fe gyhoeddoch chi hefyd eich pum egwyddor craidd ar gyfer dyfodol tir a'r rheini sy'n rheoli'r tir. Mae hyn yn cynnwys cynllun cymorth fferm newydd yn lle cynllun y taliad sylfaenol. Ond os yw'r arian sy'n cael ei ailddyrannu wrth inni adael yr UE yn cael ei ddyrannu i Gymru yn ôl unrhyw beth sy'n ymdebygu i fformiwla Barnett, yn hytrach na'n cyfran gyfartal a theg ein hunain o'r arian hwn, gŵyr pob un ohonom y byddwn o leiaf 40 y cant yn dlotach, gyda rhai rhannau o Gymru lawer yn waeth eu byd nag eraill. Felly, a allwch ddweud wrthym pa sicrwydd pellach y byddwch yn ei geisio gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid? Rydym wedi sôn am bwerau, ond mae hyn yn ymwneud â'r arian. Ac a ydych mewn sefyllfa i roi sicrwydd eich bod yn credu y byddwn yn cael cyfran deg o'r arian, beth bynnag am unrhyw benderfyniadau y gellid eu gwneud ynghylch Biliau yma neu yn San Steffan?
Yn anffodus, ni allaf roi unrhyw sicrwydd i chi ynglŷn â chyllid. Maent yn sgyrsiau parhaus. Byddaf yn cael fy nghyfarfod pedairochrog nesaf yn Llundain ddydd Llun. Mae arian yn eitem sefydlog ar yr agenda yn awr; mae fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau wedi mynnu hynny. Cytunaf yn llwyr; rydym yn llwyr wrthwynebu unrhyw Farnetteiddio mewn perthynas â'r cyllid hwnnw. Ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n mynd yn ôl i mewn i'r byd amaeth, hyd at 2022—yr un fath â rhannau eraill o'r DU.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, mae'n siŵr y byddwch yn gwybod y cafwyd ymchwiliad digynsail, rwy'n credu, ar y cyd gan bedwar o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, a ddywedai fod ansawdd aer gwael bellach yn argyfwng iechyd cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, maent yn sôn am bob Llywodraeth; nid eich un chi yn unig. Maent wedi galw am Ddeddf aer glân. Diolch i'n hasiantaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwyddom fod llygredd aer bellach yn cael ei ystyried yn argyfwng iechyd sy'n ail i ysmygu yn unig, ac yn fwy o bryder na gordewdra ac alcohol. Felly, a yw bellach yn bryd inni gael Deddf aer glân yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le; mae hwn yn un o faterion pwysicaf ein hoes, ac mae mynd i'r afael ag ansawdd aer, fel yr eglurais cyn y Nadolig, yn flaenoriaeth i mi yn y rôl hon. Rydych yn gwybod am ein hymrwymiad i ymgynghori ar y fframwaith parth aer glân, a bydd hyn yn cyd-fynd â chynllun ansawdd aer y DU. Ond y syniad yw y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn erbyn diwedd mis Ebrill, gyda'r bwriad o gynhyrchu dogfen ddiwedd mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth, yn enwedig—. Er yr ystyrir mai mater amgylcheddol yw hwn, mewn gwirionedd, fel y dywedwch, mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Ac mae llawer o'r dulliau sydd gennym yng Nghymru i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn drawslywodraethol—felly trafnidiaeth, awdurdodau lleol ac iechyd, wrth gwrs.
Weinidog, rwy'n amau a yw'r ymagwedd dameidiog hon, er ei bod wedi'i cydgysylltu'n dda, yn ddigon, a dyna pam rwy'n pwyso arnoch mewn perthynas â Deddf aer glân. A gaf fi eich atgoffa bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at 40,000 o farwolaethau cynnar yn y DU—yng Nghymru, 1,300—a bod cost flynyddol hynny, ar lefel y DU, yn fwy na £27 biliwn? Trafnidiaeth ffordd sy'n gyfrifol am 80 y cant o grynodiadau nitrogen deuocsid ar ochr y ffordd, ac mae'r rhain yn gyffredin iawn yn ein hardaloedd trefol. Rwyf newydd gael gwybodaeth gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sy'n dangos, ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, fod oddeutu 3,230 o flynyddoedd o fywyd a gollwyd ar gyfartaledd yn gysylltiedig â deunydd gronynnol. Yng Nghaerdydd yn unig, byddai hynny'n cyfateb i 1,543 o flynyddoedd o fywyd a gollwyd. Mae'r difrod yn enfawr, ac mae llawer o hyn yn deillio o lif y traffig yn ein dinasoedd, nifer y cerbydau, a'r diffyg dewisiadau amgen a dulliau cynaliadwy o deithio nad ydynt yn dibynnu ar draffig modurol. Felly, gofynnaf ichi eto: onid yw'n bryd inni gael Deddf aer glân, yn ogystal â strategaethau strwythuredig iawn i ymdrin â thagfeydd trefol?
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn yn ymwneud ag effaith trafnidiaeth, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol. Credaf imi sylwi, yr wythnos hon, fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi diwrnod di-gar eto eleni ym mis Mai, ac rwyf wedi cyfarfod â chyngor Caerdydd yn benodol i drafod y parth aer glân ar gyfer Caerdydd, a sut y gallwn fynd i'r afael â thagfeydd yn rhan o hynny. Dyna pam fy mod hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ar sut rydym yn ymdrin â phwysau allyriadau ac ansawdd aer ein cefnffyrdd. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dull trawslywodraethol a strwythuredig o fynd i'r afael â'r mater hwn, ac mae ansawdd aer yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'.
Unwaith eto, rwyf am bwyso arnoch. Credaf fod diwrnodau di-gar yn wych. Cefais brofiad o un am y tro cyntaf erioed oddeutu 20 mlynedd yn ôl pan oeddwn ym Mrwsel, ac roeddwn yn crwydro o gwmpas yn meddwl—[Torri ar draws.] Wel, na, nid wyf yn rhannu'r ffobiâu sydd i'w cael mewn rhai rhannau o'r Siambr. [Chwerthin.] Ond rwy'n cofio teimlo, 'Beth sy'n rhyfedd? Beth sy'n anarferol' ac yna meddyliais, 'Jiw, gallaf glywed plant yn chwarae.' Dyna'r hyn y gallwn ei glywed, gan nad oedd unrhyw sŵn traffig. Ond mae'r rhain yn achosion unigol, onid ydynt? Yr hyn sydd arnom ei angen yw strategaeth fwy uchelgeisiol o lawer. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, os yw cyfartaledd cyflymder traffig trefol yn gostwng 4 cya, o 16 cya i 12 cya, er enghraifft, ceir cynnydd o 10 y cant yn lefelau llygredd ceir a faniau diesel, a 25 y cant mewn perthynas â bysiau a lorïau. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn lleihau traffig modurol ac yn gwella ei lif. Rwy'n amheus iawn o'r mentrau a welwn weithiau gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'r diwrnodau di-gar yn ein dinasoedd yn fy mhoeni, ond ymddengys i mi fod y fenter ddiweddar—agor lonydd bysiau i gerbydau nwyddau trwm, fel y gall hynny fod yn ffordd o wella llif y traffig—yn methu'r pwynt. Mae arnom angen strategaeth i symud lorïau trwm oddi ar ein ffyrdd, ar adegau prysur o leiaf. Ceir ffyrdd eraill o gludo nwyddau mewn ardaloedd dinesig. Gallwch weld hynny ledled y cyfandir bellach—trefniadau prif ganolfannau a lloerennau, lle y ceir faniau llai yn cludo nwyddau i ddinasoedd heb ddibynnu ar y lorïau cymalog enfawr hyn. Mae arnom angen dull mwy strwythuredig. Mae arnom angen strategaeth drefol er mwyn sicrhau eu bod yn lleoedd sy'n byw'n lân, ac mae arnom angen Deddf aer glân. Pryd y byddwn yn ei chael?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiynau ynglŷn â hyn? Rydych yn llygad eich lle o ran sut y mae diwrnodau di-gar yn rhywbeth cadarnhaol, ond cam bach yn unig ydynt i'r cyfeiriad rydym am fynd iddo, a'r hyn sydd arnom ei angen mewn gwirionedd yw newid moddol clir o ran sut rydym yn byw ein bywydau bob dydd, a sut y mae'r seilwaith yn gweithio. Dyna pam ei bod mor bwysig mynd i'r afael â hyn ar draws y Llywodraeth.
Fe gyfeirioch chi at Frwsel. Roeddwn yn meddwl tybed i ble roeddech mynd â hynny am funud. Ond un o'r pethau a nodais yn ddiweddar, pan oeddwn ym Mrwsel, oedd y ffordd y maent yn defnyddio data a thechnoleg fodern i fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd. Oherwydd rwy'n ymwybodol, ym Mrwsel, fod ganddynt ryw fath o ap sy'n dweud wrthynt os yw'n benodol—. Gall pobl fonitro ansawdd yr aer, ac os yw'n debygol y byddant yn cael ambell ddiwrnod neu gyfnod arbennig o wael, credaf fod ganddynt fentrau fel trafnidiaeth gyhoeddus am ddim bellach. Felly, credaf fod angen ystyried ac archwilio'r opsiynau hyn yn drylwyr.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae archfarchnadoedd bellach yn paratoi ar gyfer eu cyfnod blynyddol o hyrwyddo cig oen dros y Pasg, ac mae'n gyfle gwych, yn amlwg, ar gyfer cynhyrchwyr cig oen yng Nghymru. Cefais fraw wrth ddarllen, yn y fersiwn ar-lein o Farmers Weekly y bore yma, fod rhai manwerthwyr yn honni bod cig oen Prydain allan o dymor dros gyfnod y Pasg. Mae'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol wedi gwadu hyn yn llwyr, wrth gwrs, a honnant fod cig oen Prydain ar gael drwy'r flwyddyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod yr holl fanwerthwyr yn ymwybodol fod cig oen Cymru ar gael drwy'r flwyddyn, ac y dylent ei brynu?
Wel, nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw. Rwy'n cyfarfod ag archfarchnadoedd, ac yn sicr, mae fy swyddogion yn cyfarfod gydag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'r cynnyrch Cymreig anhygoel sydd gennym a phryd y mae ar gael iddynt i'w werthu yn eu harchfarchnadoedd.
Ffaith ddiddorol arall a nodais yw bod arolwg barn YouGov a gomisiynwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi canfod mai 18 y cant yn unig o bobl Cymru sy'n bwyta twrci o Gymru ar ddydd Nadolig, ac mai 29 y cant yn unig o bobl Cymru sy'n bwyta tatws o Gymru. Yn amlwg, mae cyfleoedd gwych i'w cael i fanteisio ar yr hyn y gallem eu galw'n fylchau yn y farchnad sydd wedi bodoli hyd yma, ac mae gadael yr UE yn golygu bod gennym gyfle i lenwi'r bylchau hynny, yn dibynnu ar ba fath o fargen y gallai Llywodraeth Prydain ei sicrhau ai peidio o ran cynnyrch a fewnforir. Mae Iwerddon wedi cael prosiect brandio llwyddiannus iawn ar gyfer eu cynhyrchion, ac rwy'n siŵr y gallai Cymru fod yr un mor llwyddiannus, er nad ydym am greu awtarchiaeth sy'n atal mewnforion, wrth gwrs, ac mae'n rhaid i ddefnyddwyr gael dewis—mae'n bwysig iawn fod hynny'n un o ganlyniadau Brexit. Serch hynny, mae'n rhaid inni sicrhau mwy o bwyslais nag a fu yn y gorffennol ar greu brand Cymreig newydd ar gyfer bwyd. Gwyddom am y llwyddiannau y mae Hybu Cig Cymru wedi'u cael hyd yn hyn, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sicrhau bod hyn yn un o'i blaenoriaethau, felly tybed, efallai, os gallai ymhelaethu ychydig ar beth yw ei chynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn hyn o beth.
Diolch. Roeddwn yn darllen ystadegau yr wythnos diwethaf a ddywedai y byddai'n well gan dros 50 y cant o bobl Cymru brynu bwyd a diod o Gymru bellach, a'u bod yn gwneud hynny. Felly, unwaith eto, credaf ein bod yn cael cryn effaith yn hynny o beth. Mae'n bwysig iawn, yn y dyfodol, ein bod yn sicrhau bod pobl—a chredaf fod Simon Thomas wedi crybwyll hyn ddoe o ran y ddeddfwriaeth rydym yn ei chyflwyno—mae'n bwysig iawn fod bwyd yn cael ei labelu fel bwyd o Gymru. Ddydd Llun, cyfarfûm ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a dywedais wrtho'n glir iawn nad oeddwn am weld labeli Prydeinig neu unrhyw labeli eraill ar gynnyrch o Gymru. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gael y labeli Cymreig penodol hynny, gan eu bod yn dod â chryn dipyn o fri i'r cynnyrch. Mae'n un o'n sectorau gweithgynhyrchu pwysicaf, a chredaf mai'r hyn a wna yw cysylltu amaeth gyda defnyddwyr ledled Cymru. Mae'n faes lle mae ein proffil yn tyfu o ddifrif. Credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn yr hyn y maent yn ei fwyta a'i yfed, o ble y daw a sut y caiff ei gynhyrchu. Credaf ein bod ar flaen y gad ledled y DU.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â Hybu Cig Cymru. Rwyf wedi darparu arian ychwanegol iddynt er mwyn sicrhau y gallant redeg rhaglen allforio well. Wrth inni adael yr UE, dyna un o'r cyfleoedd y mae angen inni edrych amdanynt. Fe fyddwch yn gwybod am nifer o deithiau masnach ac ymweliadau datblygu masnach sydd ar y gweill i sicrhau ein bod yn hybu Cymru.
Yn olaf, hoffwn ddychwelyd at gwestiwn cychwynnol Simon Thomas ynglŷn ag achos Afonydd yn erbyn Llywodraeth Cymru yn y Comisiwn Ewropeaidd, a'r ymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau, sy'n dal i achosi cryn bryder i ffermwyr gyda'r holl ansicrwydd, a hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth i'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â llwyddiant cynlluniau megis y cynllun baner las yn Sir Benfro, lle mae ffermwyr wedi dod at ei gilydd i nodi beth y gallem eu galw'n atebion bychain i'r broblem anferth hon. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn llwyr: fod yn rhaid i ffermwyr dorchi llewys ledled Cymru mewn perthynas â llygredd nitradau mewn priddoedd ac afonydd. Ond credaf mai'r dull rwyf wedi'i hyrwyddo'n gyson—a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i'w dderbyn—yw defnyddio dull abwyd yn hytrach na dull ffon, ac yn sicr, peidio â mynd ar drywydd un ateb sy'n datrys pob agwedd ar y broblem hon. Yn amlwg, gwn na all gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad a'r penderfyniadau y bydd yn eu gwneud o ganlyniad iddo heddiw, ond hoffwn pe bai'n rhoi sicrwydd i ffermwyr unwaith eto ei bod yn ymwybodol o'r pryderon hyn ac y bydd yn ceisio sicrhau'r cynllun mwyaf hyblyg posibl er mwyn rhoi sylw i'r amodau gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru ac ar wahanol fathau o dir.
Wel, credaf fy mod wedi gwneud hynny yn fy natganiad ym mis Rhagfyr. Nid wyf yn derbyn bod cymaint â hynny o ansicrwydd yn y sector amaethyddol. Yn sicr, pan siaradais yng nghynhadledd Undeb yr Amaethwyr yn Birmingham, yr un genedlaethol y mis diwethaf—. Yn dilyn hynny, cyfarfûm â'r grŵp, a rhai o'r ffermwyr yn y cynllun baner las hwnnw y cyfeirioch ato—cefais gyflwyniad ganddynt, ac maent yn rhan o'r grŵp sy'n fy nghynghori. Cytunaf yn llwyr y dylid defnyddio'r abwyd yn hytrach na'r ffon. Dyna pam yr awgrymais y ffordd ymlaen mewn perthynas â chael peth o'r dull gwirfoddol a'r dull rheoleiddiol.
Rwyf wedi gofyn am argymhellion y grŵp hwnnw erbyn diwedd mis Mawrth. Byddwn yn edrych ar yr argymhellion hynny ac yn gweld beth y gellir bwrw ymlaen ag ef, ond rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Simon Thomas: rwy'n bryderus ynglŷn â faint o lygredd amaethyddol rydym yn dal i'w weld. Cawsom chwe diwrnod o eira trwm dros y mis diwethaf, ac rwyf wedi cael sawl neges e-bost, gyda lluniau, ynglŷn â slyri'n cael ei wasgaru ar ben yr eira, ac ati. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â gweithio—. Rwy'n awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda'r sector. Credaf y byddai hynny'n llawer mwy llwyddiannus na phe bai gennym reoliadau yn unig. Fodd bynnag, mae angen monitro'r gwaith hwnnw'n fanwl. Er bod gennyf Weinidog yr Amgylchedd bellach, mae'r amgylchedd yn dal i fod yn rhan o fy mhortffolio, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd cywir.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella'r system gynllunio yng Nghymru? OAQ51919
Diolch. Gan adeiladu ar y gwelliannau i'r system gynllunio a gyflwynwyd drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, rwy'n ymgynghori ar hyn o bryd ar 'Bolisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, ac yn ymgymryd â gwaith paratoadol ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol. Edrychaf ymlaen hefyd at dderbyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith i symleiddio ac atgyfnerthu deddfwriaeth gynllunio.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r pethau sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig drwy'r system gynllunio yw lwfans mwy o dan hawliau datblygu a ganiateir. Un o'r mannau cyfyng a welaf mewn awdurdodau lleol yw'r nifer enfawr o geisiadau a ddaw gerbron llawer o awdurdodau lleol a'u hanallu i'w prosesu mewn modd amserol. Mae hyn yn arwain at sgil-effeithiau economaidd aruthrol, nid yn unig i'r economi wledig, ond i'r economi drefol hefyd.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet neu ei swyddogion wedi gwneud unrhyw asesiad o lacio rhai o'r mesurau rheoli mewn perthynas â hawliau datblygu a ganiateir fel ag y gwnaed mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i hybu datblygiad economaidd ac i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r ceisiadau na ddylent fod yn y system gynllunio, ac sy'n llesteirio gwaith adrannau cynllunio ledled Cymru?
Mae'n rhywbeth, yn sicr, y mae fy swyddogion wedi bod—. Credaf eu bod, fwy na thebyg, wedi cyfarfod â phob swyddog cynllunio ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru i drafod hyn. Rydym yn bryderus, yn gyffredinol, ynglŷn â gallu ein hadrannau cynllunio, nid yn unig ar draws yr awdurdodau lleol, ond yn amlwg, y tri pharc cenedlaethol hefyd. Felly, credaf fod yn rhaid inni edrych ar bopeth a allwn er mwyn ei gwneud yn haws, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n wirioneddol bwysig i'r economi.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r broses o wneud cais cyn cynllunio yn rhoi cyfle i lawer o ddatblygwyr gyfarfod â swyddogion yr awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn datblygu'r cais ac yn bodloni anghenion yr awdurdod lleol a'u hanghenion eu hunain. Nawr, rwy'n cydnabod bod adnoddau awdurdodau lleol yn brin iawn, ac yn aml, fe welwn hynny drwy'r nifer fechan o staff. Fodd bynnag, golyga hyn, felly, ar sawl achlysur, fod swyddogion sy'n cefnogi'r datblygwyr yn y broses cyn gwneud cais hefyd yn gwneud yr argymhellion ar y cais hwnnw. Nawr, does bosibl nad yw hynny'n wrthdaro buddiannau, felly beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na all unrhyw wrthdaro o'r fath ddigwydd pan fo swyddogion cynllunio yn rhoi'r awgrymiadau hynny i'r ymgeiswyr ond a allai hefyd, maes o law, fod yn gwneud argymhellion, neu benderfyniadau hyd yn oed, ar y ceisiadau?
Diolch. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, yn amlwg, yn unol â'r cynllun datblygu lleol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Felly, mae'n rhaid i unrhyw gyngor cyn y cais fod yn seiliedig ar bolisïau sefydledig yr awdurdod a dylai ddarparu cysondeb o ran y cyngor a roddir.
Gwneir y penderfyniadau terfynol ar geisiadau naill ai gan y pwyllgor cynllunio, neu cânt eu cymeradwyo, yn amlwg, gan uwch swyddogion. Felly, sicrheir trosolwg. Dylai fod gan awdurdodau weithdrefnau ar waith hefyd i sicrhau nad yw swyddog sydd â ddiddordeb personol mewn cais, fel y dywedoch, yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r cais hwnnw.
Pa ystyriaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'r graddau y gellir defnyddio'r system gynllunio i sicrhau bod datblygiadau masnachol yn dwyn ffrwyth ac yn cadw at addewidion a wnaed ynglŷn â gwaith a manteision economaidd cyn i'r caniatâd cynllunio gael ei roi?
Wel, credaf fy mod wedi ateb y pwynt hwnnw yn fy ateb gwreiddiol i arweinydd yr wrthblaid.
Credaf ei bod yn bwysig iawn fod ein system gynllunio yn cael ei symleiddio a'i chydgrynhoi mewn ffordd a fyddai'n helpu hynny i ddigwydd. Ni chredaf fod hynny'n wir ar hyn o bryd, a dyna pam rwy'n cynnal adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru', a dyna pam fod Comisiwn y Gyfraith yn edrych ar y mater ar ein rhan hefyd.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gohebu â chi ar faterion cynllunio mewn perthynas â datblygiad sylweddol iawn yn rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin ar hyn o bryd, sef ehangu unedau dofednod. Rydym wedi gweld llawer o geisiadau ar gyfer dofednod maes. Mae'n ymateb i'r farchnad; mae'n ymateb, yn rhannol, i Brexit, yn fy marn i. Mae'n ymwneud â'r diwydiant ei hun yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Felly, nid oes unrhyw broblem ynglŷn â hynny, ond ymddengys bod y rheolau cynllunio ynglŷn â'r unedau hyn wedi'u gwreiddio yn y gorffennol, gan nad ydym wedi ymdrin â nifer mor fawr o'r blaen. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad ydynt yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch ceisiadau cynllunio mewn perthynas â'r unedau hyn os nad ydynt yn gysylltiedig â ffermio dwys, ond mewn gwirionedd, gall dofednod maes achosi cymaint o lygredd, o bosibl, ag unedau dofednod dwys; mae'n ymwneud â natur y ffordd y cedwir yr ieir, yn enwedig pan fyddant dan do. Felly, a ydych yn hollol siŵr fod y gyfundrefn gynllunio bresennol ar gyfer unedau dofednod maes ac unedau dofednod eraill yn addas at y diben?
Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud ein bod yn gweld cynnydd yn nifer yr unedau dofednod sy'n mynd drwy'r system gynllunio ac yn dwyn ffrwyth. A chredaf fod hyn yn ymwneud â ffermwyr yn arallgyfeirio, ac yn sicr, credaf fod Brexit yn effeithio ar hyn.
Dyma faes rwyf wedi gofyn am gyngor yn ei gylch, oherwydd cafwyd enghraifft yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mewn gwirionedd—nid yn fy etholaeth i—lle y cefais gryn dipyn o ohebiaeth a nodai y gall fod yn llawer mwy dwys na rhai mathau o amaethyddiaeth. Felly, yr ateb byr yw 'Nac ydw', ond rwy'n edrych am gyngor ynglŷn â hynny i sicrhau eu bod yn addas at y diben, a buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod wedi i mi gael y cyngor hwnnw.FootnoteLink
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru? OAQ51922
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner a'r cyhoedd i fynd i'r afael â bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol, sy'n parhau i gael effaith amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd sylweddol yng Nghymru. O ran clymog Japan, rydym wedi ariannu treialon arloesol gyda'i ysglyfaethwr naturiol, y llysleuen, ac ymchwil i driniaeth gemegol.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Mae gennym broblemau gyda nifer o rywogaethau estron, ond yn fy rhan i o'r byd, clymog Japan yw'r mwyaf trafferthus o bell ffordd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r treialon sy'n mynd rhagddynt gyda'r ysglyfaethwr naturiol—nodaf eich bod chithau wedi osgoi ceisio ynganu ei enw hefyd; rwyf innau am wneud yr un peth—ac unrhyw gynnydd gyda'r triniaethau cemegol, gan ei fod yn achosi cryn dipyn o ddifrod i dai, i ardaloedd, yn peri i dai fod yn anwerthadwy, ac yn gwneud rhai ohonynt yn beryglus?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gwn eich bod wedi mynd ati'n ddiflino i gynrychioli eich etholwyr a'ch cymunedau wrth godi'r mater hwn, ac rydych yn llygad eich lle, mae'n achosi cryn ddifrod i'n hadeiladau a'n hamgylchedd lleol. Sylwaf fy mod yn cael y geiriau ffurfiol ar gyfer y rhain—mae'n cymryd peth amser i arfer ag ynganu rhai ohonynt. Rwy'n dysgu'n gyflym yn hynny o beth.
Gofynnoch am y data o ran y treial. Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe yn dadansoddi'r data o'u treial dwy flynedd cychwynnol ar reolaeth gemegol, gyda'r nod o gynhyrchu cyngor technegol i helpu i fynd i'r afael â chlymog Japan. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad terfynol, ac rwy'n siŵr fod yr Aelod yn edrych ymlaen at hynny hefyd. Gallaf gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i'r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Ryngwladol er mwyn parhau â'r prosiect llyslau ar gyfer 2017-18.
Mae'r clymog Japan bondigrybwyll yn ymestyn y tu hwnt i Ddwyrain Abertawe ac i rannau eraill o Orllewin De Cymru, gan gynnwys ardaloedd o amgylch rheilffyrdd ac ardaloedd a nodwyd ar gyfer datblygu go helaeth yn y cynllun datblygu lleol drafft. Tybed a allwch ymrwymo heddiw i siarad â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ar draws y portffolios perthnasol i geisio nodi beth fyddai'r gost, yn enwedig i gynlluniau metro bae Abertawe, fel ag y maent, ac i'r cynlluniau o dan y cynllun datblygu lleol, pe na bai malltod y clymog yn cael ei liniaru. Credaf fod yna gryn bryder ar hyn o bryd, yn arbennig o amgylch rheilffyrdd, yn ymwneud â chynlluniau posibl ar gyfer metro, oherwydd mae'n rhaid cael gwared ar y pla hwnnw'n gyntaf cyn y gallwn feddwl am ehangu'r rhwydwaith rheilffyrdd. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cafwyd problemau eisoes mewn perthynas â rheilffyrdd a chlymog Japan, a chredaf eich bod yn nodi pwynt perthnasol a phwysig gyda'ch cwestiwn. Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i gysylltu ac i siarad â'm cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â sicrhau ein bod yn achub y blaen ar y broblem hon, gobeithio, o ran sut yr awn i'r afael â hyn yn y dyfodol.
Weinidog, mae goresgyniad rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid, yn enwedig clymog Japan, wedi bod yn broblem wirioneddol yn fy rhanbarth i. Mae trigolion yng Ngorllewin De Cymru wedi gweld eu heiddo'n cael ei ddinistrio gan y clymog, a chroesawaf y gwaith a wneir gan Brifysgol Abertawe a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared ar y rhywogaeth oresgynnol hon. Yr haf diwethaf, gwelsom gynnydd bygythiad arall, yr efwr enfawr, sy'n beryglus i iechyd y cyhoedd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i olrhain a chael gwared ar yr efwr enfawr a chodi ymwybyddiaeth o'r perygl y mae'n ei beri i iechyd pobl?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Fel yr Aelodau, perchnogion tir a pherchnogion tai, rwy'n bryderus ynglŷn â'r angen i reoli rhywogaethau goresgynnol estron, nid yn unig o ran eu twf, ond o ran eu hymlediad. Gwyddom eu bod yn un o'r rhesymau mwyaf dros golli bioamrywiaeth ledled y byd a'u bod yn achosi cryn ddifrod economaidd-gymdeithasol. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o ddifrif fel Llywodraeth a byddwn yn mynd i'r afael ag ef. Byddaf yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn llawn hefyd.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses asesiadau effaith amgylcheddol sy'n berthnasol i losgydd biomas Barri? OAQ51932
Anfonwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru at y datblygwr ar 14 Chwefror yn dweud ein bod yn bwriadu datgan bod asesiad o'r effaith amgylcheddol yn ofynnol. Mae'r datblygwr wedi ymateb, ac rydym yn ystyried y sylwadau a wnaed ar hyn o bryd cyn gwneud y penderfyniad terfynol.
Diolch, Weinidog. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn mynd ar drywydd hynny? Fe ddywedoch eich bod wedi cael ymateb gan y cwmni. Oherwydd, yn amlwg, mae pobl y Barri yn awyddus i wybod a fyddwch yn gofyn am asesiad o'r effaith amgylcheddol ar y cais cynllunio diweddaraf hwn i Gyngor Bro Morgannwg. Rwy'n deall hefyd fod asesiadau effaith amgylcheddol yn ofynnol yn awtomatig pan fydd prosiect yn cael ei ddosbarthu'n ddatblygiad diwydiant trymach atodlen 1, yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017, pan fo gan safle gapasiti o fwy na 100 tunnell y dydd, gan gynnwys llosgi gwastraff nad yw'n beryglus, a rhagwelir y bydd llosgydd biomas y Barri yn llosgi 200 tunnell y dydd. A all y Gweinidog gadarnhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys llosgydd biomas y Barri yn adolygiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o'r broses drwyddedu amgylcheddol?
Diolch i'r Aelod am barhau i ofyn cwestiynau ynglŷn â'r maes hwn, a gwn ei fod o ddiddordeb i lawer o'i hetholwyr. Mae ein llythyr at y datblygwyr yn nodi sut roeddem yn bwriadu dosbarthu'r prosiect o fewn y categorïau a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017. Yn dilyn yr ymateb hwn gan y datblygwr, byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r penderfyniad sgrinio hwn ynglŷn â'r cais cynllunio sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd, gan sicrhau ei fod yn gadarn ac yn ystyried y gyfraith achosion ddiweddaraf.
Fe sonioch hefyd am Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cyfarfod ddwywaith i archwilio a mireinio'r ffordd orau o ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn datblygu meysydd polisi sy'n aml yn gymhleth a thechnegol, megis trwyddedu amgylcheddol. Bydd yr adolygiad yn ystyried achosion hanesyddol, gan y gallai ystyried unrhyw achosion cyfredol, fel y mae pethau, ragfarnu'r broses o wneud penderfyniadau.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad ar yr effaith amgylcheddol a sut y caiff ei hasesu. A gaf fi wneud pwynt ychwanegol y gobeithiaf y byddwch yn ei ystyried neu'n sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ystyried, sef y ffaith bod rhai trigolion wedi adrodd bod llawer o sŵn a mwg y tu allan i'r amser profi y cytunwyd arno, sef rhwng 9 a.m. a 6 p.m.? Felly, a allwch ymchwilio i weld a ydynt yn cadw at yr amseroedd profi hynny? Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi hynny? Mae'n rhywbeth a godwyd gyda mi a Cyfoeth Naturiol Cymru. Deallaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymchwilio i gwynion am lwch gan drigolion lleol, a deallaf hefyd fod—[Anghlywadwy.]—botensial i achosi llwch. Deallaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad i nifer o gwmnïau yn yr ardal er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i leihau allyriadau posibl, ond wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y bydd disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i'w fonitro.
A gaf fi gefnogi sylwadau Jane Hutt i chi fod arnom angen asesiad o'r effaith amgylcheddol? Mae Cyngor Bro Morgannwg o dan arweiniad y Torïaid wedi apelio am asesiad hefyd. Ceir unfrydedd gwleidyddol llwyr ynglŷn â hyn. Os ewch i lawr i'r Barri a siarad ag unrhyw un, yn aml iawn y peth cyntaf y byddant yn ei grybwyll yw'r gwaith llosgi hwn a'i faint anferthol. Mae arnom angen yr asesiad ac mae arnom angen i Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro pethau'n fanwl iawn bellach, oherwydd pan fo'r prosesau democrataidd lleol yn cael eu diystyru yn y broses gynllunio, fel sydd wedi digwydd yn yr achos hwn wrth gwrs, mae'n rhaid rhoi sicrwydd i bobl fod y camau rheoleiddio mwyaf effeithiol a gwyliadwrus ar waith.
Mae'r Aelod yn gywir fod angen rhoi sicrwydd i bobl fod y camau rheoleiddio mwyaf effeithiol a gwyliadwrus ar waith. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phryderon pobl y Barri, yn enwedig, fel y clywsom eisoes heddiw, yn ystod y gwaith a wneir cyn comisiynu'r cyfleuster biomas. Ychydig iawn y gallaf ei ychwanegu at yr hyn rwyf wedi'i ddweud eisoes o ran ble rydym wedi cyrraedd gyda'r asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond nid ydym yn bwriadu gosod terfyn amser mympwyol ar gyfer gwneud y penderfyniad terfynol, gan fod y penderfyniad, fel y byddwch yn deall, yn galw am ystyriaeth ofalus a llawn o'r holl faterion. Ond rwy'n ymwybodol iawn o bryderon pobl.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at reoli afonydd? OAQ51940
Mae'r cynlluniau rheoli basn afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl afonydd Cymru, a hefyd y mesurau rydym yn bwriadu eu cyflwyno er mwyn gwella eu hansawdd. Ar hyn o bryd, mae 37 y cant o'n hafonydd yn cyflawni statws da o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, a'r nod yw cynyddu hyn i 42 y cant erbyn 2021.
Diolch yn fawr. Mae nifer o gymdeithasau pysgota a physgotwyr wedi codi pryderon ynglŷn â newidiadau sydd wedi eu cynnig gan Gyfoeth Naturiol Cymru i is-ddeddfau yn ymwneud ag eog a sewin. Yn ôl y pysgotwyr, mae'r is-ddeddfau yn llym ac nid yw'r pysgotwyr eu hunain wedi cael llawer o fewnbwn i'r broses. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi datgan bod y cynigion wedi cael eu cymeradwyo ac wedi eu cyflwyno'n ffurfiol iddi hi eu hystyried. Yn anffodus, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrthod cynnal cyfarfod efo mi a dau Aelod Cynulliad arall i drafod pryderon y pysgotwyr. A gaf i ofyn i chi heddiw fel Gweinidog yr Amgylchedd i'n cyfarfod ni, ac a wnewch chi hefyd ohirio'r broses o gyflwyno'r is-ddeddfau er mwyn cynnal trafodaeth bellach gyda'r pysgotwyr, a mynd i'r afael â'u pryderon?
Diolch am eich cwestiwn.
Credaf y bydd yn rhaid i mi droi at y Saesneg yn awr. Mewn perthynas ag ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfyngiadau o ran afonydd eogiaid yng Nghymru a'r ymgynghoriad yn 2017, clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn ag ysgrifennu at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, byddaf yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr argymhellion rydym yn aros amdanynt, ac os nad oes ots gan yr Aelod, byddaf yn ymateb yn ysgrifenedig i chi cyn gynted â phosibl i roi gwybodaeth bellach am hynny.FootnoteLink
7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru? OAQ51925
Diolch. Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi'r grŵp fframwaith a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Un o'r canlyniadau strategol yw:
'Mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da'.
Byddaf yn gwneud datganiad ar les anifeiliaid ar 24 Ebrill.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fod 80,000 o gŵn bach yn y DU yn cael eu gwerthu drwy werthwyr trydydd parti, gydag effeithiau negyddol sylweddol ar eu hiechyd, eu lles a'u hymddygiad. Rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn ymwybodol o'r gefnogaeth gynyddol i gyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau trydydd parti, gan gynnwys drwy elusennau anifeiliaid fel Friends of Animals Wales a'u cyllidwr ysbrydoledig, fy etholwr, Eileen Jones. Tra bo Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ceisio dal i fyny gyda'r cynnydd a wnaed eisoes yma yng Nghymru mewn perthynas â bridio cŵn, sut y gall Llywodraeth Cymru ymateb i ymgyrch cyfraith Lucy i sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran lles anifeiliaid anwes?
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â'ch etholwr, a gwn mai hi sydd wedi sefydlu'r ymgyrch. Credaf fy mod wedi derbyn gwahoddiad i siarad yn y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yma yn y Senedd yn y dyfodol agos, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.
Rydym eisoes wedi cyflwyno nifer o faterion lles anifeiliaid ymhell cyn i Loegr wneud hynny, ac mae'n dda gweld DEFRA yn dilyn ein hesiampl bellach. Ddydd Llun, cyfarfûm â'r Arglwydd Gardiner, sef Gweinidog DEFRA mewn perthynas â meysydd lles anifeiliaid penodol, a chawsom drafodaeth dda iawn ynglŷn â rhai materion cyffredinol. Ond nodais gyda diddordeb eu galwad am dystiolaeth—mae DEFRA newydd gyhoeddi galwad am dystiolaeth—yn gofyn am farn ar waharddiad posibl ar werthiannau trydydd parti, ac yn sicr, bydd gennyf gryn ddiddordeb mewn gweld beth fydd yn deillio o hynny a beth y gallwn ei ddysgu yma yng Nghymru.
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnydd sydyn mewn achosion o glefyd pydredd Alabama? OAQ51937
Diolch. Nid yw pydredd Alabama, nad yw'n effeithio ar iechyd y cyhoedd, yn glefyd hysbysadwy nac adroddadwy. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw rheoli'r clefyd. Dylai perchnogion cŵn sy'n pryderu ynglŷn â hyn ymgynghori â'u milfeddyg preifat, ac rydym yn monitro datblygiadau wrth i ymchwil ac archwiliadau milfeddygol preifat fynd rhagddynt.
Cafwyd un o'r achosion diweddar o bydredd Alabama, sy'n glefyd angheuol mewn cŵn, mewn practis milfeddygol yn fy etholaeth i, ar ôl bod yn cerdded mewn coedwig ger fy nghartref ym Mhenygraig. Aethpwyd â chi i bractis Tonypandy o Glinig Milfeddygol Trefforest gyda'r wlserau sy'n gysylltiedig â phydredd Alabama, ac fel cynifer o gŵn sydd â'r clefyd hwn, bu farw'r ci. Gan nad yw gwyddonwyr yn gwybod beth sy'n achosi'r clefyd hwn, ni wyddant sut i'w drin, ac mae llawer o berchnogion cŵn yn pryderu ynglŷn â'r clefyd a'r llu o achosion a gofnodwyd yn ddiweddar. A allwch roi unrhyw gyngor i berchenogion cŵn yn y Rhondda a'r tu hwnt ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud i leihau'r perygl y bydd eu hanifeiliaid anwes yn dal pydredd Alabama? Ac a allwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn mynd ati'n weithredol i drechu'r clefyd hwn?
Cefais drafodaeth gyda'r prif swyddog milfeddygol ynglŷn â phydredd Alabama y bore yma. Fel y dywedais, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn, ond yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i ddysgu o'r ymchwil sy'n mynd rhagddo. Ystyrir mai clefyd y gaeaf ydyw ac mae'n gysylltiedig â thywydd gwlyb, felly gofynnais y cwestiwn, 'Wel, os cawn haf gwlyb, a ydym yn wynebu'r un sefyllfa?' Fel y dywedwch, mae gennym—efallai mai ymwybyddiaeth gyhoeddus ynglŷn â hyn sydd i gyfrif, ond yn sicr, ymddengys bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion. Dywedodd y prif swyddog milfeddygol y gall fod yn fwy cyffredin mewn ardaloedd corsiog gwlyb, ac mae'n bwysig iawn yn y gaeaf, os ydych yn cerdded eich ci mewn mannau corsiog gwlyb, eich bod yn ei sychu ar ôl hynny. Yn yr haf, er y gallem gael tywydd gwlyb, mae'n debyg y byddai'r ci'n sychu ei hun i raddau mwy. Aseswyd y clefyd gan y grŵp asesu risg trawslywodraethol. Nid yw'n drosglwyddadwy i bobl, a chredaf ei bod yn bwysig iawn nodi hynny, ond credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn monitro datblygiadau, ac rydym yn gwneud hynny drwy archwiliadau milfeddygol preifat a'r ymchwil sy'n mynd rhagddo.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Llyr Gruffydd.
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu ynni adnewyddadwy? OAQ51941
Diolch. Rwyf wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy. Fy nod yw datgarboneiddio ein system ynni, gan leihau costau hirdymor a sicrhau buddion economaidd i bobl Cymru. Erbyn diwedd 2016, roedd Cymru'n cynhyrchu 43 y cant o'n defnydd o drydan drwy ynni adnewyddadwy.
Diolch am eich ateb. Mae tair blynedd bellach ers i Ffrainc ddeddfu y dylai pob adeilad newydd mewn ardaloedd masnachol gael toeau gwyrdd, a golyga hynny naill ai wedi'u gorchuddio'n rhannol gan blanhigion, sy'n helpu i inswleiddio'r adeilad ac yn helpu i gasglu dŵr glaw a hyrwyddo bioamrywiaeth, neu baneli solar wrth gwrs. Tybed beth yw uchelgeisiau eich Llywodraeth yn hynny o beth, ac a ydych yn credu, o gofio eich bod yn dweud bod gennych dargedau uchelgeisiol, y gallent fod mor uchelgeisiol â cheisio efelychu hyn, o bosibl, yn enwedig mewn perthynas ag adeiladau cyhoeddus newydd yng Nghymru, efallai.
Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater. Fel y gwyddoch, nid yw pob rhan o'r maes ynni wedi'u datganoli inni. Pan oeddwn yn Llundain ddydd Llun, cyfarfûm â Claire Perry, Gweinidog Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a chawsom drafodaethau diddorol iawn ynglŷn â beth arall y gall ei wneud i'n cefnogi gyda'n dyheadau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, felly er enghraifft, mewn perthynas ag ynni ar y tir ac ynni ar y môr. Yn amlwg, cefais siom wrth weld y tariff cyflenwi yn cael ei ddiddymu, gan fy mod yn credu'n gryf mewn paneli solar. Felly, yn sicr, rwy'n fwy na pharod i ystyried yr hyn a ddywedwch ynglŷn â thoeau gwyrdd, ac i weld a allwn roi rhywbeth ar waith yng Nghymru.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. A’r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n helpu cyn-filwyr yn dychwelyd i fywyd sifil? OAQ51936
Rydym wedi nodi amrywiaeth o wasanaethau yn ein pecyn cymorth i'r lluoedd arfog, sy'n egluro ein hymrwymiad i gynorthwyo cyn-filwyr i ddychwelyd i gymunedau ledled Cymru.
Fe fyddwch yn gwybod bod rhai aelodau o'r lluoedd arfog yn ei chael hi'n anodd addasu i fywyd y tu allan i'r lluoedd, ac mae rhai'n cael trafferthion penodol o ganlyniad i'r digwyddiadau trawmatig y maent wedi'u gweld. Gallai hyn esbonio pam y canfu arolwg gan y Lleng Brydeinig yn 2014 fod cyn-filwyr o oedran gweithio ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cymheiriaid ym mhoblogaeth gyffredinol y DU. Mae astudiaethau mwy diweddar ar lefelau digartrefedd ymysg cyn-filwyr y DU yn amrywio, ond yr hyn na wyddom yw cyfran y cyn-filwyr ymysg y boblogaeth ddigartref yng Nghymru, gan nad yw'r ffigurau hynny'n bodoli. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn hyderus fod awdurdodau lleol yn dilyn cyfamod y fyddin o ran sicrhau nad yw cyn-filwyr o dan anfantais mewn perthynas â thai? Ac a wnewch chi roi ymrwymiad hefyd y bydd eich adran yn edrych ar ddigartrefedd ymysg cyn-filwyr yng Nghymru i nodi maint y broblem, ac ystyried pa fesurau y gallwch eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r problemau penodol hynny?
Cytunaf gyda'r Aelod dros y Rhondda fod nifer o faterion y gall cyn-filwyr eu hwynebu wrth iddynt adael y lluoedd arfog a dychwelyd i fywyd sifil. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn datblygu llwybr cyflogaeth er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny a'n bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ymdrin â materion sy'n ymwneud â digartrefedd hefyd. Rwy'n gwbl hyderus fod awdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethant o dan y cyfamod, ac yn sicr, rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni ledled y wlad. Rwy'n ymwybodol o'r pwynt a wnaeth ynglŷn â gwybodaeth, ac rwy'n cytuno. Bûm yn gohebu â Gweinidog y DU yn y maes hwn cyn y Nadolig, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu set o fatricsau i ddeall faint o gyn-filwyr a all fod yn ddigartref, ond hefyd i ddeall patrwm bywyd, os mynnwch, ar ôl bywyd yn y lluoedd arfog i gyn-filwyr ledled Cymru. A bydd hynny nid yn unig yn llywio'r modd yr awn i'r afael â digartrefedd a chyflogaeth, ond yr ystod gyfan o wasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr.
Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r materion hyn wedi'u cynnwys yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid ar gyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, a gwn fod y grŵp hwnnw'n edrych ymlaen at eich ymateb ffurfiol i'r adroddiad hwnnw.
Un o'r pethau sy'n cael sylw ynddo hefyd yw'r alwad am gyllid craidd ar gyfer partneriaid trydydd sector sy'n darparu cynlluniau mentora cymheiriaid. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Newid Cam, y gwasanaeth mentora cymheiriaid a chyngor i gyn-filwyr ac eraill gydag anhwylder straen wedi trawma ac amrywiaeth o broblemau seicolegol sy'n awyddus i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau, dan arweiniad yr elusen CAIS, wedi sicrhau 12 mis o gyllid gan Help for Heroes i gyflogi mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Sut rydych chi'n ymateb, felly, i'r angen a nodwyd gan GIG Cymru i Gyn-filwyr am gyllid craidd i gadw mentoriaid cymheiriaid yn eu swyddi fel rhan o'u tîm craidd, i adlewyrchu model cyn-filwyr yr Alban?
Rwy'n gobeithio ein bod yn cefnogi ac yn darparu cyllid digonol i GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu cyllid blynyddol o £585,000, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar o £100,000 y flwyddyn er mwyn cynyddu'r capasiti ar gyfer cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl. Rwy'n gobeithio, felly, ein bod yn darparu ar gyfer yr anghenion a nodir ar hyn o bryd.
Cyfeiria'r Aelod dros Ogledd Cymru at y grŵp trawsbleidiol a'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y grŵp trawsbleidiol cyn y Nadolig. Roeddwn wedi gobeithio ymateb yn llawn iddo erbyn toriad y Pasg; nid wyf wedi gallu gwneud hynny, ond gallaf roi ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn gynnar yn y tymor newydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn fynd ychydig ymhellach ar drywydd cwestiwn Leanne Wood, oherwydd soniodd yn y cwestiwn i ba raddau y credwch fod y cynghorau yn gwneud digon. Ond yn amlwg, mae tai yn broblem, nid yn unig pan fyddant yn gadael y lluoedd, ond efallai beth amser wedi hynny, pan fônt mewn sefyllfaoedd lle maent yn wynebu anawsterau sylweddol. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog tai i sicrhau bod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig un man cyswllt ar gyfer cyn-filwyr hefyd, fel nad oes yn rhaid iddynt fynd ar drywydd gwahanol bobl ar draws y sbectrwm i geisio cael gafael ar y cymorth hwnnw, fel bod ganddynt bwynt cyswllt o blith landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a all eu cynorthwyo gyda'r holl broblemau sydd ganddynt?
Yn sicr. Mae'n amlwg fod y Gweinidog tai wedi clywed y cwestiwn a ofynnwyd gennych, ac o bosibl, gall ysgrifennu atoch, gan roi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â hyn. Ond yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r materion hynny. Mae unigolyn sy'n ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog yn rhywun sydd ag angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a byddant yn gymwys i gael lle i fyw os ydynt yn ddigartref. Rydym yn deall hefyd fod gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gategori blaenoriaethol ychwanegol ar gyfer cyn-aelodau o'r lluoedd arfog. Ond mae angen inni sicrhau nad rhwyd ddiogelwch yn unig ydyw, ond llwybr a fydd yn darparu ar gyfer anghenion cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog. A gobeithio ein bod yn gwneud hynny.
Un o'r mentrau mwy cyffrous rwyf wedi'u gweld yw'r swyddogion cydgysylltu a benodir gan awdurdodau lleol, sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddangos sut y gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth i gyn-filwyr mewn ffordd fwy cyfannol, yn hytrach na fesul sector, fel rydym wedi'i wneud yn y gorffennol. A gobeithio y bydd modd i'r swyddogion cyswllt a'r swyddogion cydgysylltu mewn llywodraeth leol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog.
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ51921
Ar draws pob maes gwasanaeth, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cryn dipyn o gymorth i lywodraeth leol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rydym wedi cael pythefnos greulon iawn o ran y tywydd dros y—wel, yn sicr, dros y pythefnos diwethaf, ond rydym wedi cael gaeaf eithaf gwlyb a llwm hefyd. Mae wyneb y ffyrdd ar draws fy rhanbarth, yn arbennig—ond ledled gweddill Cymru hefyd, rwy'n siŵr—wedi dioddef ac wedi eu difrodi'n fawr, fel yr amlygwyd mewn adroddiadau yn y wasg ddoe. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw drafodaethau gydag arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â pha gyllid ychwanegol y gallai'r Llywodraeth ei ddarparu i lywodraeth leol i leddfu rhywfaint ar y pwysau penodol y mae'r eira trwm, yn arbennig, wedi'i roi ar eu hadnoddau, a allai beryglu'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol?
Credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn awyddus i ymuno â mi i ddiolch i holl weithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, mewn llywodraeth leol a mannau eraill, sydd wedi gweithio mor galed i gadw pobl yn ddiogel dros y mis diwethaf, lle y cawsom dywydd garw iawn mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ar draws y Siambr, credaf ein bod oll yn ddiolchgar i'r gweithwyr hyn yn y gwasanaethau cyhoeddus. Ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn ymuno â mi i ddiolch iddynt am y gwaith a wnaethant.
Nid wyf wedi cael cais ffurfiol gan lywodraeth leol yng Nghymru am gymorth ychwanegol dros y mis diwethaf. Byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ddydd Gwener, ac yn sicr, byddaf yn ystyried yn ofalus iawn sut y gallwn barhau i ddarparu cymorth ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, lle bynnag y bo'i angen.
Er gwaethaf yr heriau cyllidebol amlwg y soniwyd amdanynt—rydym bellach yn ein wythfed neu nawfed blwyddyn o gyni ariannol—gwn eich bod yn teimlo mor gryf â minnau ynglŷn â gwella gwasanaethau cyhoeddus. Felly, roeddwn yn falch o weld siarter gofal preswyl Unsain yn cael ei lansio'n ddiweddar, yn dilyn lansio'u siarter gofal moesegol y llynedd. Ac roedd y ddwy siarter yn gosod safonau y cred yr undeb y dylid eu cymhwyso er mwyn darparu gwell gofal cymdeithasol a gofal preswyl, gan gynnwys dod â gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr allanol yn ôl yn fewnol. A fyddech chi'n cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r siarteri hyn yn gam arwyddocaol ymlaen o ran cyflawni gwelliannau yn y gwasanaethau llywodraeth leol penodol hyn er mwyn helpu i ddiwallu anghenion ein dinasyddion mwyaf agored i niwed? Ac a fyddech yn cytuno hefyd fod angen inni ddod o hyd i ffyrdd eraill heblaw darpariaeth allanol o wella effeithlonrwydd a'r modd y darparir ein gwasanaethau?
Yn sicr. Roeddwn yn falch iawn, fel yr Aelod dros Ferthyr Tudful, o gael trafod y mater hwn gydag Unsain yr wythnos diwethaf. Credaf fod y gwaith y mae Unsain yn ei wneud yn hollol arloesol o ran sicrhau bod gweithlu ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr a chyflogwyr i gyflawni'r safonau gwasanaeth gorau posibl i bawb sydd angen gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nod y siarter gofal moesegol yw sicrhau bod gennym sector gofal cymdeithasol cynaliadwy ac o ansawdd uchel, gweithlu uchel ei barch a gefnogir, sy'n darparu gofal tosturiol ac urddasol ar draws yr holl wasanaethau a ddarperir. Credaf y bydd pawb yn y Siambr hon yn ymuno â mi i groesawu'r fenter gan Unsain, ac yn sicr, buaswn yn annog pob rhan o lywodraeth leol i weithio gydag Unsain, ac undebau llafur eraill, wrth gwrs, er mwyn cyflawni'r union uchelgeisiau hynny a'r weledigaeth honno ar gyfer gofal cymdeithasol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi mynegi pryderon ynghylch y fformiwla ariannu bresennol ar gyfer llywodraeth leol. Nawr, mewn perthynas â hynny, dywedasoch wrthyf ym mis Ionawr:
'Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau Ceidwadol yma yn dadlau dros newid y fformiwla. Yr hyn na chlywais yw cynghorwyr Ceidwadol yn dadlau dros newid y fformiwla yn y fath fodd.'
Ond mae gennyf gopïau yma o'r llythyrau a anfonwyd at eich adran gan Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Bro Morgannwg a ysgrifennwyd ar ôl i chi ddod i'ch swydd ar 3 Tachwedd. Mae'r ddau wedi'u llofnodi gan gynghorwyr Ceidwadol, ac mae'r ddau'n nodi bod eu hawdurdodau yn dymuno gweld newidiadau yn y fformiwla. Mewn gwirionedd, roedd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd John Thomas, yn galw am adolygiad llawn, ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r gwactod amlwg hwn o ran ymgysylltu ag arweinwyr awdurdodau lleol, ac a wnewch chi ymddiheuro wrth y cynghorau a ysgrifennodd at eich adran ynglŷn â'r fformiwla ariannu am fod mor barod i ddiystyru eu pryderon os gwelwch yn dda?
Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth—[Torri ar draws.] Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth sydd ganddi, gan mai gennyf fi y cafodd yr ohebiaeth honno. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r cynnwys. Yr hyn a ddywedaf wrth yr Aelod yw ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i gyflwyno fformiwla y mae llywodraeth leol yn awyddus i'w defnyddio er mwyn dosbarthu ein grant cynnal ardrethi yn deg i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Ni chafwyd unrhyw gynnig gan lywodraeth leol i wneud newidiadau sylweddol ac arwyddocaol i'r fformiwla honno. Yn amlwg, bydd yr is-grŵp dosbarthu yn edrych ar newidiadau ymylol i'r fformiwla drwy gydol y flwyddyn, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. A byddaf yn parhau i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ac arweinwyr cyllid mewn llywodraeth leol er mwyn trafod pa mor dda y mae'r fformiwla'n gweithio yn eu barn hwy ac a ydynt credu bod angen newid sylweddol neu arwyddocaol. Ond hyd yn hyn, nid yw llywodraeth leol wedi mynd ar drywydd y newid sylweddol ac arwyddocaol hwnnw.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni roesoch y rhain i mi, yn dechnegol. Fe'u cefais o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth. Nawr, fe ddywedoch ddoe—[Torri ar draws.] Fe ddywedoch ddoe eich bod wedi bod yn siarad ag arweinwyr cynghorau ledled Cymru, ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod eich Papur Gwyrdd wedi achosi 'pryder a dryswch'. Yn ychwanegol at hynny, mae arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi na chafwyd unrhyw ymgysylltu neu drafodaeth ystyrlon â chynghorau mewn perthynas â hyn. Dyma enghraifft arall lle rydych yn dweud un peth yn y Siambr, ond mae'r realiti'n wahanol. Nid yw'r dull diofal hwn o gymryd awdurdodau lleol yn ganiataol, o gymryd ein pleidleiswyr yn ganiataol, a chymryd y Cynulliad hwn yn ganiataol, yn ddigon da. Mae'n peri digalondid. Mae'n peri blinder. Ac mae mwy a mwy o rwystredigaeth ynghylch eich cynigion i ddiwygio llywodraeth leol—am y trydydd tro dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nawr, onid ydych yn credu, fel yr Aelod o'r Cabinet—sy'n weddol newydd yn y swydd, rwy'n cydnabod hynny—fod gennych ddyletswydd, mae gennych ddyletswydd, i gael gwared ar y rhwystrau hyn, yn enwedig o ystyried y pwysau y mae eich Llywodraeth Lafur wedi'i roi ar ein hawdurdodau lleol, ac i ddarparu cynllun clir, strategol, a fu'n destun ymgynghori trylwyr ar gyfer llywodraeth leol, gydag ymrwymiad a chytundeb llwyr gan awdurdodau lleol cyn ei gyflwyno gerbron y Cynulliad hwn? Credaf mai dyna'r peth lleiaf y mae'r awdurdodau hynny'n ei haeddu. A wnewch chi hynny?
Rwy'n cael llawer o sgyrsiau gydag arweinwyr awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol. Ac mae pob un ohonynt yn dweud pethau gwahanol iawn, mewn gwahanol ffyrdd, ac yn mynegi eu hunain yn wahanol. Ond nid oes un ohonynt—dim un—gan gynnwys arweinydd Bro Morgannwg, mewn gwirionedd, wedi dweud wrthyf, 'Hoffwn pe baem—' neu 'Rydym am i chi gyflwyno polisïau Ceidwadol a'r polisïau Ceidwadol sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer llywodraeth leol yn Lloegr.' Dim un. Yn Lloegr, rydym wedi gweld llywodraeth leol yn cael ei datgymalu, yn cael ei thanseilio. Rydym wedi gweld cyllid llywodraeth leol yn gostwng 12 y cant mewn termau real ledled Lloegr. Yng Nghymru, rydym wedi gweld arian lleol yn cynyddu 4.4 y cant. Roedd adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar y capasiti o fewn llywodraeth leol yn Lloegr, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, yn condemnio'r polisi yn Lloegr, polisi'r Ceidwadwyr ar gyfer llywodraeth leol. Yr hyn a wnawn yma yw cyflwyno cynigion i gryfhau a grymuso llywodraeth leol. Yr hyn a welwn yn Lloegr yw tanseilio llywodraeth leol. A gadewch i mi roi'r ymrwymiad hwn ichi, Lywydd: ni waeth pa gynigion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad a lansiwyd gennyf ddoe, yr hyn y byddwn yn ei ddefnyddio i brofi'r holl gynigion hynny yn ei erbyn yw, 'A yw hyn yn grymuso ac yn cryfhau llywodraeth leol?' Ac os ydyw, byddwn yn symud ymlaen. Ein gweledigaeth yw llywodraeth leol gadarn, llywodraeth leol weithredol, llywodraeth leol sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ni fyddwn byth yn dilyn llwybr y Ceidwadwyr o danseilio llywodraeth leol, tanariannu llywodraeth leol, a thanseilio arweinwyr awdurdodau lleol.
Wel, diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A allwch enwi un arweinydd awdurdod lleol sydd wedi cefnogi'r cynlluniau hyn hyd yma? Nawr, mae CLlLC wedi sôn am y sicrwydd a roddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw ad-drefnu yn mynd rhagddo am 10 mlynedd. Ddoe, fe ddinistriodd cynigion eich Papur Gwyrdd y sefydlogrwydd hwnnw, yn ogystal â'r hyder, y morâl ac unrhyw allu i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer y dyfodol. A gaf fi ofyn cwestiwn i chi hefyd? Ar ba bwynt y codwyd hyn gyda'ch cyd-Aelodau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, ac a allwch ddweud wrthyf heddiw hefyd a gawsoch gefnogaeth pob un o'ch cyd-Aelodau Cabinet i fwrw ymlaen â'ch cynigion?
Rwy'n dod yma i siarad ar ran Llywodraeth Cymru, nid i siarad ar fy rhan fy hun, ac roedd y broses a lansiwyd gennym ddoe yn un o brosesau'r Llywodraeth. Roedd yn un o brosesau'r Llywodraeth. Fe'i lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ond gadewch i mi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn: gofynnais i'r holl arweinwyr llywodraeth leol cyn y Nadolig beth oedd eu huchelgeisiau ar gyfer llywodraeth leol. Gofynnais i'r holl arweinwyr llywodraeth leol anfon eu hawgrymiadau i mi ynghylch y pwerau, y rhyddid, yr hyblygrwydd, y cyfrifoldebau ychwanegol roeddent yn dymuno'u cael ar gyfer llywodraeth leol. Gofynnais iddynt amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol. A soniodd yr Aelod dros ogledd Cymru, dros Aberconwy, am arweinydd Bro Morgannwg, felly gadewch inni ddeall beth y gofynnodd arweinydd Bro Morgannwg amdano: camerâu awtomatig mewn meysydd parcio. Dyna weledigaeth y Ceidwadwyr ar gyfer llywodraeth leol. Nid yw'n fawr o weledigaeth; mae'n eithaf disylwedd. Ein gweledigaeth ni ar gyfer llywodraeth leol—[Torri ar draws.] Ein gweledigaeth ni ar gyfer llywodraeth leol yw cynghorau wedi'u grymuso sy'n gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus cryf ac effeithiol, gan ddiogelu gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, diogelu gwasanaethau cyhoeddus a darparu cynghorau cryfach yn y dyfodol nag sydd gennym heddiw, gan ddatganoli pŵer o'r lle hwn ledled Cymru gyfan. Credaf fod cryn dipyn o gefnogaeth i'r weledigaeth honno yn y lle hwn a ledled y wlad.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Wel, dilynwch hynny, ynte? Yn ddiweddar, hysbysebwyd eiddo i'w rentu'n breifat gan asiantiaid eiddo Clee Tompkinson Francis yn fy rhanbarth i, ac rwy'n siŵr fod llawer wedi gweld yr hysbyseb, a oedd yn cynnwys y geiriau, 'Dim anifeiliaid anwes' a 'Dim hawlwyr budd-daliadau' yn yr un frawddeg. Gwn fod pobl eraill wedi hysbysebu yn yr un modd ar Facebook, ond roeddent yn gweithredu'n breifat wrth wneud hynny. A ydych yn cytuno â mi bod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn wahaniaethol? Gallech awgrymu bod cymhariaeth yno rhwng pobl ag anifeiliaid anwes a'r modd y gwahaniaethir yn erbyn pobl wedyn os ydynt am geisio deiliadaeth yn y sector rhentu preifat.
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r sector rhentu preifat i gael gwared ar y rhwystrau a welwn mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yn darparu tai ar gyfer pobl sy'n derbyn budd-daliadau.
Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, rwy'n awyddus i'r sector rhentu preifat chwarae ei ran yn darparu tai i bobl a ddaw'n syth oddi ar y strydoedd. Ac rydym yn gallu gwneud hynny drwy ein dull tai yn gyntaf, sydd eisoes yn golygu bod rhai pobl yn dod oddi ar y strydoedd yn syth i'r sector rhentu preifat. Rydym yn gallu gwneud hynny am fod Llywodraeth Cymru yn darparu bondiau, er enghraifft, sy'n cael gwared ar yr elfen o risg ar gyfer y sector rhentu preifat o ran darparu tai i bobl nad oes ganddynt hanes o ddeiliadaethau ddiogel. Ond yn sicr, nid wyf am weld unrhyw arferion gwahaniaethol ar waith mewn unrhyw ran o'r sector, ac rwy'n rhannu eich pryderon difrifol ynghylch pobl nad ydynt am ddarparu tai i bobl sy'n derbyn budd-daliadau am resymau gwahaniaethol.
Diolch am eich ateb. Gan barhau ar hyn, rwyf wedi trafod y mater gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a dywedasant wrthyf fod hyn yn ymwneud yn aml ag yswiriant neu forgais, sy'n bolisi a osodwyd arnynt gan Lywodraeth y DU. Fy mhryder i, gyda chymaint o ansicrwydd o ran swyddi a chan mai'r sector rhentu preifat yw'r unig opsiwn i lawer o bobl, yw nad yw'r gwahaniaethu yn erbyn pobl ar gredyd cynhwysol, er enghraifft, yn ymarferol bosibl iddynt. Er enghraifft, pe bai rhywun yn colli swydd, neu mewn gwaith rheolaidd ond dros dro a'i bod yn ofynnol iddynt ailgychwyn hawliad credyd cynhwysol o bryd i'w gilydd, a yw'r unigolyn hwnnw'n mynd i'w chael hi'n anodd naill ai i rentu cartref yn y lle cyntaf neu i fentro peidio â chael tenantiaeth wedi'i hadnewyddu oherwydd eu hanes gwaith?
Felly, roeddwn am ofyn i chi yma heddiw a fyddech yn ymrwymo i gyflwyno sylwadau i fanciau, cwmnïau yswiriant a sector rhentu preifat yn y DU i geisio canfod ffordd o newid yr ymddygiad hwn, ac a wnewch chi gyflwyno sylwadau i'ch swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU er mwyn egluro bod Llywodraeth Cymru yn credu bod y polisïau hyn, yn y pen draw, yn anghynaladwy, yn wahaniaethol ac yn afrealistig, hyd yn oed, yn yr hinsawdd bresennol?
Diolch. Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Rwy'n ysgrifennu, yn aml iawn, at Lywodraeth y DU i fynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynglŷn â nifer o agweddau ar weithredu credyd cynhwysol, yn enwedig yr effaith y mae'n ei chael o ran ôl-ddyledion rhent a'r cynnydd a welwn ar draws yr holl sectorau deiliadaeth o ganlyniad i weithredu credyd cynhwysol.
Un peth rwy'n awyddus iawn i'w weld yw Llywodraeth y DU yn bod yn rhagweithiol a chynnig taliadau amgen i bobl, sef taliadau uniongyrchol i'w landlordiaid yn hytrach nag iddynt hwy eu hunain, pan fyddant yn cael eu trafodaethau cyntaf gyda'u hyfforddwyr gwaith. Nid yw hynny yn y templed a ddefnyddir ar hyn o bryd, ond rydym wedi cael trafodaethau uniongyrchol da iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar sail leol i sicrhau eu bod yn cael sgyrsiau ystyrlon â phobl ynglŷn â'u dewisiadau o ran derbyn y taliadau hynny. Felly, yn hytrach na dweud, 'A hoffech chi daliad amgen?' maent yn cael gwybod beth y mae hynny'n ei olygu iddynt yn ymarferol, gan mai cysyniad yn unig yw taliadau amgen, mewn gwirionedd, os ydych yn cael trafodaeth heb ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi yn eu cyfanrwydd.
Ond unwaith eto, mae gan swyddogion Llywodraeth Cymru berthynas waith gadarn gyda'r sector rhentu preifat, y banciau a chwmnïau yswiriant, ac yn sicr, byddaf yn gofyn i fy swyddogion gynnal trafodaethau gyda hwy ynglŷn â hyn.
Iawn. Diolch. Wel, edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw, gan y credaf ei fod yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y cywair ar gyfer sut y mae pobl yn trin ei gilydd mewn cymdeithas hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn awyddus iawn i glywed mwy amdano.
Gan aros gyda'r sector rhentu preifat, er mwyn datrys heriau digartrefedd a sicrwydd tai, bydd angen i'r sector rhentu preifat chwarae ei ran, ac rydym wedi cael cryn dipyn o drafod yn ddiweddar ar dai yn gyntaf a'r cynlluniau peilot sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn ogystal â mater cymorth parhaus i rai yn y sector rhentu preifat. A fyddai modd ichi ystyried sut y byddech yn gweithio yn y cynlluniau peilot hyn er mwyn helpu pobl sy'n derbyn budd-daliadau mewn perthynas â thai yn gyntaf? Er enghraifft, mae llawer o bobl yn gallu byw'n annibynnol ac yn gallu gweithio o bosibl, ond efallai fod materion personol eraill yn golygu nad yw'r unigolyn hwnnw bob amser yn dda am dalu biliau, efallai eu bod yn wynebu heriau iechyd meddwl o bryd i'w gilydd ac felly maent yn peryglu eu hunain yn y sefyllfa rhentu preifat honno. Felly dyna pam nad yw rhai landlordiaid preifat, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cynnig y tenantiaethau i bobl yng Nghymru, gan eu bod yn ofni goblygiadau hynny, a'r ffaith nad oes ganddynt yr un lefel o gefnogaeth ag y gall tai cymdeithasol ei darparu mewn perthynas ag iechyd meddwl neu gymorth cofleidiol. Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn, pan fyddwch yn edrych ar y datblygiadau tai yn gyntaf, yw eich bod hefyd yn ystyried y sector rhentu preifat fel rhan annatod o hyn ac yn siarad â'r sector ynglŷn â sut y gallant fod yn rhan o'r drafodaeth.
Diolch yn fawr am hynny, a rhoddaf ymrwymiad i chi ein bod yn ystyried y sector rhentu preifat yn ganolog i'r gwaith o gyflawni ein dyheadau uchelgeisiol mewn perthynas â thai yn gyntaf. Ond buaswn hefyd yn ychwanegu fy mod wedi cael cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda Tai Pawb, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio creu cynnig tai yng Nghymru, os mynnwch, sy'n hygyrch i bawb. Mae Tai Pawb wedi gwneud rhywfaint o waith mewn dwy ardal awdurdod lleol gyda'r sector rhentu preifat yn uniongyrchol, i godi ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid preifat ynglŷn â'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ac i gael gwared ar y rhwystrau sydd ganddynt mewn perthynas, efallai, â syniadau rhagdybiedig ynglŷn â beth y gall cymhorthion ac addasiadau ei olygu i werth eu heiddo, ac ati. Roedd Tai Pawb yn arbennig o gadarnhaol ynglŷn â'r trafodaethau a gawsant gyda'r sector rhentu preifat yn y ddwy ardal. Felly yn sicr, ceir cyfleoedd i ddysgu o'r hyn y maent wedi'i wneud yn y ddwy ardal o ran y mathau o sgyrsiau y mae'n rhaid inni eu cael, mewn gwirionedd, gyda'r sector rhentu preifat i gynyddu hyder ac agor drysau i bobl sy'n anabl neu sydd â nodweddion gwarchodedig eraill.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ddychwelyd at fater diwygio llywodraeth leol y buom yn ei drafod ddoe. Roedd yna faterion amrywiol yn deillio o hynny. Soniodd Mike Hedges, eich cyd-Aelod, y bydd amrywiadau poblogaeth sylweddol o hyd, hyd yn oed ar ôl eich ad-drefnu arfaethedig, gyda phoblogaethau gwahanol iawn mewn gwahanol gynghorau.
Ar hyn o bryd, mae gan Rhondda Cynon Taf un o'r poblogaethau mwyaf o blith y 22 cyngor presennol, gydag oddeutu 240,000 o bobl. Pe baech yn cyfuno Rhondda Cynon Taf â Merthyr Tudful, sef eich cynnig presennol—neu ran o'ch cynnig presennol—byddai hynny'n ychwanegu 60,000 o bobl. Pe baech yn ychwanegu Pen-y-bont ar Ogwr hefyd, sydd hefyd yn rhan o'ch cynllun arfaethedig fel y mae ar hyn o bryd, byddai gennych gyngor arfaethedig gyda phoblogaeth o bron i 0.5 miliwn o bobl. Mae gan Rondda Cynon Taf hefyd oddeutu 30 o wardiau un aelod, a byddai'r mwyafrif ohonynt yn cael eu llyncu, mae'n debyg, neu eu cyfuno wedi'r ad-drefnu. Felly, sut y gallwn gadw synnwyr o leoliaeth ac atebolrwydd lleol pan na fydd gan ardaloedd fel Ffynnon Taf, Pentre'r Eglwys, Llantrisant—nid wyf yn sôn am yr union leoedd hyn, ond cymunedau tebyg iddynt yn sicr—eu cynghorydd eu hunain yn gwasanaethu'r lle hwnnw yn unig?
Credaf fod yr her a amlinellwyd gan lefarydd UKIP yn un dda, ac nid wyf yn anghytuno ag ef ynglŷn â'r heriau a amlygwyd. Nid wyf yn credu, ac nid wyf erioed wedi honni, fod y Llywodraeth yn credu bod siâp delfrydol a maint delfrydol i lywodraeth leol. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw cyhoeddi map dangosol a fydd yn ystyried siapiau posibl ar gyfer strwythurau yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro i'r Aelodau ddoe fy mod yn fwy na pharod ac yn fodlon iawn cael trafodaethau pellach ynglŷn â'r holl faterion gwahanol hynny. Mae hon yn broses Papur Gwyrdd: mae'n sgwrs, yn ymgynghoriad, yn ddadl, yn drafodaeth; nid yw'n bolisi Llywodraethol gorffenedig ac nid yw'n safbwynt dogmatig neu'n safbwynt penderfyniadol ynglŷn â'r hyn y dylem ei weld yn y dyfodol. Rwy'n awyddus i ystyried beth sy'n bosibl, gan sicrhau cydbwysedd rhwng y math o leoliaeth a ddisgrifiwyd yma a'r meintiau i allu darparu gwasanaethau cyhoeddus cadarn o ansawdd uchel, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried y ffordd orau o wneud hynny.
Rwy'n falch o glywed eich bod yn agored i drafod a gobeithio y cawn sgwrs dda, gan gynnwys llawer o gyfranwyr, ynglŷn â ble rydym yn anelu tuag ato wrth ddiwygio llywodraeth leol. A bod yn deg, credaf y bydd yna elfen ddadleuol i unrhyw beth a wnewch. Mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth. Ni allwch wneud omlet heb dorri wy, fel petai. Ond gan ddychwelyd at bryderon penodol—[Torri ar draws.]. Wel, gwn fod mwy nag un. Gallwn ofyn naw cwestiwn ynglŷn â hyn, ond fe'm cyfyngwyd i dri. [Torri ar draws.] O, wyau. O'r gorau, iawn.
Beth am ddychwelyd at y cwestiynau. Bro Morgannwg, er enghraifft—dyma un arall. Mae gennym atebolrwydd gwleidyddol hefyd. Mae hwn yn fater arall, gan y credaf mai'r hyn sydd arnom ei angen, i'r graddau mwyaf posibl, yw etholiadau cystadleuol yn y cynghorau newydd, yn hytrach na chreu gwladwriaethau un blaid, efallai, os meiddiaf ddweud hynny. Nawr, i roi enghraifft bosibl, mae Bro Morgannwg bob amser wedi bod yn gyngor hynod gystadleuol. Mae'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr wedi'i reoli dros y blynyddoedd diwethaf. Ond pe baech yn ei uno â Chaerdydd, sydd, rwy'n cymryd, yn ddim byd ond cynnig—rwy'n deall hynny, Weinidog, ond dyna yw'r cynnig presennol—pe baech yn uno'r Fro â Chaerdydd, byddai perygl iddo droi'n barth diogel i'r Blaid Lafur. Nawr, nid wyf yn siarad yn benodol am y Blaid Lafur na'r Ceidwadwyr oherwydd, fel y gwyddoch mae'n debyg, nid wyf yn perthyn i'r naill blaid neu'r llall, ond dyma'r pwynt: a oes perygl y bydd cyngor yn cael ei redeg yn wael os oes gan un blaid wleidyddol afael haearnaidd ar y cyngor hwnnw? Ac a ydych yn cydnabod, Weinidog, fod perygl y gallem fod yn anelu tuag at sefyllfa o'r fath, mewn rhai achosion, o dan eich cynlluniau arfaethedig?
Na. Na, nid wyf yn cydnabod hynny, ac yn sicr, buaswn yn gobeithio gweld etholiadau cystadleuol a democratiaeth gystadleuol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, hyd yn oed.
Wel, mae Blaenau Gwent yn enghraifft ddiddorol, gan mai'r cynnig bellach yw eu cyfuno hwy â Sir Fynwy a Thorfaen. Nawr, y tro diwethaf, clywsom fod Blaenau Gwent a Thorfaen wedi cynnig uno'n wirfoddol—credaf fod Lynne Neagle wedi sôn am hyn ddoe—ond gwrthodwyd yr uno gwirfoddol hwnnw. Felly, credaf fod hon yn enghraifft yn y gorffennol lle nad oedd un o'ch rhagflaenwyr mor barod i ymgynghori ag y dylai fod, o bosibl. Felly, gobeithio y byddwch yn dilyn trywydd gwahanol os cawn gynnig gwirfoddol, yn cynnwys Torfaen a Blaenau Gwent efallai. Gobeithio y byddech yn ei ystyried, efallai, yn fwy ffafriol nag y gwnaeth Leighton Andrews.
Gan barhau at fy nhrydydd cwestiwn, cyflwynwyd dadl heddiw gan arweinydd Bro Morgannwg, a grybwyllwyd yn gynharach—John Thomas. Mae'n gwneud pwynt penodol, sef bod y Fro, ar hyn o bryd—dyma mae'n ei honni—yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau. Felly, ni wnaf unrhyw sylwadau ar hynny, ond fy nghwestiwn yw: a fyddwch yn ystyried dangosyddion perfformiad wrth i chi edrych ar y cynigion, ac i ba raddau y byddant yn effeithio ar eich ystyriaethau terfynol o ran yr uno?
Dros y misoedd nesaf, rwy'n gobeithio y byddwn yn dadlau ac yn trafod gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, yn hytrach na'r dull o gyflawni'r weledigaeth honno yn unig. Yr hyn y ceisiais ei nodi ddoe, a'r hyn yr hoffwn ei nodi dros y misoedd nesaf, yw gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol lle mae llywodraeth leol yn fwy pwerus nag y mae heddiw, yn gryfach nag y mae heddiw, lle mae ganddi unedau llywodraethu mwy cadarn, a'r gallu i ddarparu ystod ehangach o bwerau. Nid wyf yn awyddus i ddadlau gyda'r honiad ein bod yn adeiladu ar ludw. Nid wyf yn awyddus i ddadlau mai'r cyfan a wnawn yw unioni methiant. Nid wyf yn awyddus i gael dadl ar y telerau hynny. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud yn glir droeon nad yw'r strwythurau presennol yn gynaliadwy. Nid oes unrhyw un y siaradais â hwy wedi dadlau dros gael 22 o awdurdodau.
Felly, mae pawb yn cytuno na allwn barhau fel y mae pethau ar hyn o bryd. Mae pawb yn cytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Yr hyn sydd angen inni ei wneud, felly, yw dadlau a thrafod sut y dylem fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn edrych y tu hwnt i ddadl ynghylch uno fel y gallwn gael dadl ynghylch pa fath o unedau llywodraethu rydym yn dymuno'u gweld yng Nghymru yn y dyfodol. Sut rydym yn datganoli pwerau o'r lle hwn? Sut rydym yn grymuso cymunedau lleol? A sut rydym yn ymgorffori atebolrwydd democrataidd? Rwy'n awyddus i gael y ddadl gadarn a chyfoethog honno ynghylch dyfodol llywodraeth leol. Credaf fod gennym botensial i greu adfywiad gwirioneddol mewn perthynas â llywodraeth leol ledled Cymru gyfan, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu a chyflawni'r weledigaeth honno.
3. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r newidiadau i fudd-daliadau oedran gweithio a chyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen? OAQ51933
Gwyddom mai'r drydedd flwyddyn o rewi'r rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio fydd y fwyaf poenus eto. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r effaith ddinistriol y mae diwygio lles yn ei chael ar aelwydydd incwm isel. Rwyf wedi mynegi ein pryderon wrth Lywodraeth y DU dro ar ôl tro ac wedi galw am ddod â'r broses o gyflwyno credyd cynhwysol i ben.
Diolch, Weinidog, oherwydd roeddwn am ofyn i chi a allech gadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynglŷn ag effaith andwyol rhagor o doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill. Y rhain yw'r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn ystod y degawd diwethaf, ac maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd. A chyda gwerth £2.5 biliwn o doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio a budd-daliadau oedran gweithio wedi eu rhewi am y drydedd flwyddyn, ac elfen deuluol y cymorth ar gyfer hawliadau credyd treth a chredyd cynhwysol newydd gan deuluoedd â phlant wedi ei diddymu, gan gostio hyd at £545 i deuluoedd, a chan effeithio ar 400,000 o deuluoedd, beth fydd hyn yn ei olygu i'r teuluoedd hyn yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Yn sicr, gallaf gadarnhau fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud sylwadau cryf dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ynghylch effaith eu rhaglen ddiwygio lles a'u rhaglen gyni ar bobl sy'n derbyn budd-daliadau. Rydym yn hynod o bryderus, gan mai dim ond y dechrau yw hyn, mewn gwirionedd. Mae llawer o bobl yn dechrau meddwl, 'Wel, maent wedi bod yn trafod credyd cynhwysol ers cymaint o amser, nid yw'n mynd i ddigwydd i mi os nad yw wedi digwydd eisoes'. Ond gwyddom nad yw llawer o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dechrau ei roi ar waith yn llawn eto.
Rydym wedi gofyn am lawer o newidiadau i gredyd cynhwysol, er enghraifft byrhau'r amser i gael y taliad cyntaf drwy gael gwared â diwrnodau aros, ac mae'r newidiadau hyn wedi'u rhoi ar waith, yn ogystal â chymorth ar gyfer pobl â chostau tai drwy'r taliad trosiannol pythefnos nad yw'n ad-daladwy, a fydd yn cael ei gyflwyno o 11 Ebrill. Felly, rydym yn cael rhywfaint o lwyddiant gyda'r sylwadau a wnawn. Ond yn sicr, nid ydym yn credu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud digon o bell ffordd. Felly, rydym yn parhau i ofyn am roi terfyn ar gredyd cynhwysol hyd nes yr ymdrinnir â llawer o'r materion a nodwyd gennym.
Atgyfnerthir y rhesymau hyn gan y ffaith bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar effaith gronnol diwygio treth a lles, ac mae'r dadansoddiad hwn yn cynnwys data ar lefel Cymru, ac mae'n amlygu'r effaith sylweddol y mae'r diwygiadau yn ei chael ar aelwydydd incwm isel yng Nghymru, ond yn enwedig y rheini â phlant a'r rheini â nodweddion gwarchodedig.
Wel, dengys y dystiolaeth fod pobl ar gredyd cynhwysol yn cael swyddi'n gyflymach ac yn aros yn hwy yn eu gwaith, a bod dros dri chwarter y tenantiaid eisoes ag ôl-ddyledion rhent cyn iddynt ddechrau hawlio credyd cynhwysol, ond ar ôl pedwar mis, fod y ffigur hwn draean yn llai. Mae bob amser wedi'i gydnabod, fodd bynnag, y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai, a dyna pam fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2012 ar gynlluniau ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol, a pham y cyhoeddodd Llywodraeth y DU y fframwaith gwasanaethau cymorth credyd cynhwysol lleol ym mis Chwefror 2013, a ddatblygwyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru—a elwir bellach yn gymorth cynhwysol—gan sicrhau bod hawlwyr nad ydynt yn barod i gyllidebu ar gyfer eu hunain eto yn cael eu diogelu a'u cynorthwyo o dan y system newydd, ac y bydd trefniadau talu amgen ar gael i helpu hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn ar lefel ddatganoledig ers 2012, ac eto, rydym yn parhau i glywed am y problemau mynych yn y Siambr, pam nad yw hyn yn gweithio'n well yng Nghymru?
Mater ar gyfer Llywodraeth y DU yw hwn. Nid yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn, fel y byddech yn disgwyl inni ei wneud er mwyn rhoi llais cryf i'r pryderon a glywn gan bobl yn ein cymunedau, yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwrando ar lawer o'r argymhellion a wnaed gennym. Rwyf wedi amlinellu ambell un y maent wedi gwrando arnynt, ond yn y pen draw, mae angen i Lywodraeth y DU ddod â'r broses o ddiwygio lles i ben hyd nes yr ymdrinnir â llawer o'r materion sy'n parhau i fod heb eu datrys.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro? OAQ51952
Ar gyfer 2018-19, bydd Cyngor Sir Penfro yn derbyn £162 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad llywodraeth leol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae cynllun ariannol tymor canolig Cyngor Sir Penfro yn dweud mai'r sir honno sydd â'r diffyg mwyaf rhwng faint y mae'n ei wario mewn gwirionedd a faint y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd angen iddo ei wario i ddarparu gwasanaethau. Ac oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn tybio bod y dreth gyngor yn cael ei chasglu ar yr un lefel ym mhob awdurdod, mae Sir Benfro ar eu colled yn sylweddol. Mae band D y dreth gyngor gyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2017-18 yn £1,162. Mae'r swm hwnnw £279 yn fwy na'r swm o £883 yn Sir Benfro. Dyna amrywiant o 31 y cant, sydd, wrth gwrs, yn enfawr. Mae'n ymddangos fel pe bai Cyngor Sir Penfro—ac eraill sydd yn yr un sefyllfa, neu efallai nad yw eu sefyllfa lawn mor ddifrifol—yn cael eu cosbi gan Lywodraeth Cymru, i bob pwrpas, am eu llwyddiant yn y gorffennol yn rheoli costau tra'n parhau i ddarparu gwasanaethau. Mae'r system yn wrthnysig oherwydd po fwyaf a wariwyd gennych yn y gorffennol, y mwyaf y byddech yn ei gael drwy grant bloc gan Lywodraeth Cymru. Onid yw'n bryd i ni fynd i'r afael â'r tueddiad gwrthnysig hwn?
Mae'r amrywiant, wrth gwrs, yn cael ei achosi gan benderfyniadau a wnaed gan Gyngor Sir Penfro, ac rwy'n cefnogi hawl Sir Benfro i wneud y penderfyniadau hynny yn llwyr. Mae Cyngor Sir Penfro wedyn yn ymdrin â chanlyniadau'r penderfyniadau y maent hwy eu hunain yn eu gwneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael dadl fywiog yn lleol am drethiant lleol. Credaf ei bod yn bwysig fod awdurdodau lleol yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch trethiant, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cael dadl gref am ganlyniadau'r penderfyniadau hynny, ac rydym wedi cael blas ar hynny yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perthynas â Sir Benfro.
Gobeithio y gwelwn, drwy'r diwygiadau rydym yn eu trafod, fwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol. Gobeithio y gwelwn ddadl fwy egnïol yn y dyfodol mewn perthynas â'r penderfyniadau eu hunain a chanlyniadau'r penderfyniadau hynny. Wrth gwrs, rwyf bob amser yn agored—fel rwyf wedi'i ddweud wrth ateb cwestiynau blaenorol—i gael sgwrs am y fformiwla ariannu. Rwyf bob amser yn agored i sgyrsiau am welliannau iddi. Ond yn y bôn, penderfyniadau i awdurdodau lleol, yn gwbl briodol, yw penderfyniadau ynghylch trethiant lleol, a mater i awdurdodau lleol, yn gwbl briodol, yw canlyniadau'r penderfyniadau hynny hefyd.
Wrth gwrs, pe byddwn yn symud o Geredigion i sir Benfro, byddwn yn arbed £300 y flwyddyn yn syth bin. Ond byddwn yn byw mewn sir lle mae ymyrraeth genedlaethol wedi gorfod digwydd gan y Llywodraeth ynglŷn â materion plant ac addysg, a lle mae nifer o fethiannau wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd y penderfyniad lleol i gadw'r dreth gyngor i lawr, nid yn unig i lawr ar gyfer yr hen Ddyfed ond i lawr yn genedlaethol, dros Gymru i gyd—y dreth gyngor isaf posibl dros Gymru i gyd. Mae taliad i'w wneud yn hynny—yn y tanfuddsoddi sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cyngor sir nawr wedi cymryd y penderfyniad—ac fel chithau, rwy'n cefnogi'r penderfyniad y ddwy ffordd; penderfyniad lleol ydyw—i gynyddu'r dreth gyngor yn sylweddol. Y cwestiwn sydd gen i yw: a ydych chi'n gweld hwn fel rhan o gynllun i symud y cyngor sir i rywle mwy canolig nawr yn y rhychwant o drethi cyngor y gwelwn ni yng Nghymru? A yw hwn yn rhywbeth one-off na fydd, a dweud y gwir, yn mynd i'r afael â'r problemau sydd gan y cyngor sir? Neu a yw hwn yn rhywbeth y maen nhw'n ei drafod gyda chi—rhywbeth sydd, dros y ddwy neu dair blynedd nesaf, yn mynd i ailsefydlu'r gwasanaethau gorau y mae pobl leol yn haeddu eu cael yn sir Benfro?
Rydw i wedi trafod hyn gyda chyngor sir Benfro, ond mae ganddyn nhw fandad lleol, wrth gwrs—mandad y mae'n rhaid iddyn nhw ei weithredu. Maen nhw'n ystyried, ar hyn o bryd, oblygiadau a legasi penderfyniadau'r gorffennol ac yn edrych ar sut y maen nhw'n datblygu strategaeth gyllidebol a fydd yn sicrhau dyfodol gwasanaethau lleol a lefel resymol o dreth gyngor. Ond rŷm ni'n cytuno bod hynny'n fater iddyn nhw. Nid wyf eisiau defnyddio'r llwyfan fan hyn i gynnig sylwadau ar hynny. Fel rhywun sydd ddim yn byw yn sir Benfro, rwy'n meddwl ei fod yn fater i bobl sir Benfro i wneud y penderfyniadau yma ac i gael trafodaethau lleol yn sir Benfro, a bod y cyngor wedyn yn gweithredu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gynghorau lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn? OAQ51928
Rydym ni wedi buddsoddi £65 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn blaenoriaethu £42 miliwn a £31 miliwn arall yn y flwyddyn wedyn er mwyn cynnal lefelau presennol y gwariant craidd ar ofal cymdeithasol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn fater allweddol sy'n wynebu llawer o'r boblogaeth oedrannus, ac nid y boblogaeth oedrannus yn unig yma yng Nghymru, fel y mae adolygiad pwyllgor iechyd wedi'i ddarganfod yn ddiweddar, ond sy'n effeithio'n arbennig ar ein poblogaeth oedrannus yng Nghymru, ac mae canolfannau dydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu i fynd i'r afael â'r agenda benodol honno. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld awdurdodau lleol yn cyflwyno taliadau neu'n codi taliadau mewn canolfannau dydd ar gyfer yr henoed, ac mae canolfannau dydd y trydydd sector yn ei chael hi'n anodd cyrraedd sefyllfaoedd ariannol cynaliadwy. Mae'r gwasanaethau hyn yn hanfodol ac mae angen iddynt fod yn fforddiadwy. Nawr, gyda hynny mewn golwg, a ydych yn cytuno, ar y cyd â'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, i adolygu'r ddarpariaeth gyfredol o ganolfannau dydd yng Nghymru a'r cyllid sydd ar gael i gynghorau lleol ddarparu neu gomisiynu gwasanaethau'r canolfannau dydd hanfodol hyn?
Rwyf wedi amlinellu'r fframwaith ariannol rydym yn gweithio o'i fewn ar hyn o bryd. Mae'r materion hynny, yn gwbl briodol, yn faterion ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, ac rwy'n siŵr bod y rheini'n feysydd y byddai eisiau mynd i'r afael â hwy. Ond rwy'n cytuno â chi, ac rwy'n credu ei bod yn gywir ac yn briodol eich bod yn ymateb i faterion sy'n ymwneud ag arwahanrwydd ac unigrwydd. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, yn 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021' ac yn ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i unigrwydd ac arwahanrwydd, wedi cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth drawslywodraethol ledled y wlad i fynd i'r afael â'r holl faterion hyn erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr y bydd honno'n mynd i'r afael â'r pwyntiau rydych wedi'u codi ynglŷn â chanolfannau dydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn ei sedd a bydd wedi clywed eich sylwadau. Rwy'n siŵr bod y rheini'n feysydd y byddem yn dymuno mynd i'r afael â hwy.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu eglurder ynglŷn â strwythur llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ51934
Cafodd ein cynigion eu nodi yn y datganiad a wneuthum ddoe ac yn y Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gallwch weld, cyflwynais y cwestiwn hwn cyn i mi sylweddoli eich bod am wneud datganiad annisgwyl, felly rwy'n ymddiheuro am fynd dros yr un tir eto. Fodd bynnag, mae'n bwnc pwysig sydd angen cael ei drafod, fel y gwn y byddwch yn cytuno. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach, roedd ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'ch datganiad yn llai na chynnes. Yn wir, roedd yn wirioneddol rewllyd. Maent yn nodi bod hyn yn gwbl groes i sicrwydd a roddwyd yn flaenorol na fyddai unrhyw ad-drefnu am o leiaf 10 mlynedd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiadau academaidd—ac rwy'n dyfynnu—
yn dod i'r casgliad mai anaml iawn y bydd rhaglenni diwygio o'r fath yn cyflawni'r arbedion neu'r newidiadau
y gobeithiwyd eu cael yn wreiddiol.
Ar nodyn cadarnhaol, Ysgrifennydd y Cabinet, maent yn edrych ymlaen at eu cyfarfod gyda chi ddydd Gwener ac at ddadl lawn ac egnïol. Rwy'n gobeithio y byddwch wedi cael eich Weetabix cyn honno. [Chwerthin.] Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn hoffi bod yn bry ar y wal i weld beth fydd yn digwydd yn y fan honno.
Yn amlwg, fe ddywedoch chi ddoe fod angen i ni fod yn obeithiol ac rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn cytuno bod angen diwygio llywodraeth leol, ond mae angen i ni wybod beth y mae llywodraeth leol a phobl leol eisiau ei weld ar ddiwedd y broses hon mewn gwirionedd. Pa bryd y bydd y rhan wrando hollbwysig o'r broses hon yn dechrau?
Dechreuodd y broses honno ddoe. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros ran o Sir Fynwy am roi ein sgwrs ar y rhyngrwyd ddoe er mwyn i bawb ei weld. Roeddwn yn teimlo bod y pwyntiau a wnaed ganddo ddoe yn deg iawn ac yn rhai pwysig i'w gwneud, a gobeithiaf ei fod ef yn cydnabod bod fy ymateb wedi'i wneud yn yr un modd.
Gadewch i mi ddweud hyn am Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Gwelais eu hymateb neithiwr, yn amlwg, ond rwyf hefyd, wrth gwrs, wedi cael sgyrsiau hir iawn gydag arweinwyr llywodraeth leol ar draws Cymru a ledled y wlad. Gadewch i mi ddweud hyn: maent yn glir iawn, ac maent wedi dweud yn gyhoeddus dro ar ôl tro, nad yw'r strwythurau cyfredol sydd gennym yn gynaliadwy. Maent wedi dweud hynny'n glir iawn—nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy. Nid wyf eto wedi cyfarfod ag unrhyw arweinydd llywodraeth leol sy'n gwneud yr achos dros 22 o awdurdodau lleol. Yn wir, nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw un ledled y wlad sy'n gwneud yr achos dros 22 o awdurdodau lleol. Felly, mae gennym bethau rydym yn cytuno yn eu cylch. Rydym yn cytuno na allwn barhau fel ag yr ydym. Rydym yn cytuno nad yw'r system gyfredol yn gynaliadwy, ac rwy'n credu bod y cwestiynau a godwyd gan Dai Lloyd mewn cwestiwn cynharach wedi atgyfnerthu hynny. Felly, y cwestiwn yw: beth a wnawn?
Nid yw'n ddigon da, ac ateb annigonol i'r heriau hyn yw dweud yn syml y dylem gadw'r hyn sydd gennym ac amddiffyn ein strwythurau cyfredol. Nid yw hwnnw'n ymateb digonol i'n sefyllfa ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw siarad o ddifrif, yn blwmp ac yn blaen ac yn onest, yn agored, gyda'n gilydd, a gweithio tuag at yr hyn a fydd, rwy'n gobeithio, yn safbwynt cytûn. Dechreuodd y broses honno o wrando, y sgwrs honno, ddoe, bydd yn parhau tan fis Mehefin, ac rwy'n rhoi fy ngair i'r holl Aelodau yma fy mod yn cadw meddwl agored mewn perthynas â beth fydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl mentrau cymdeithasol yng nghynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol? OAQ51948
Mae'r cynllun yn cydnabod gwerth mentrau cymdeithasol fel partneriaid cyflenwi. Maent yn cefnogi blaenoriaethau'r tasglu drwy greu swyddi, datblygu sgiliau a darparu gwasanaethau lleol ledled y Cymoedd. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu i ddarparu cymorth i fentrau cymdeithasol drwy arweiniad a hyfforddiant, a mentrau megis Swyddi Gwell yn nes at Adref.
Un o elfennau allweddol y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yw creu parc tirlun y Cymoedd, a fydd yn meithrin ymdeimlad o falchder, a bydd unrhyw un sydd wedi teithio i'r Cymoedd gogleddol wedi gweld harddwch yr ardal honno. Gall hyn adeiladu ar ystod amrywiol o fentrau lleol, mentrau cymdeithasol bychain yn aml, sy'n defnyddio tirlun naturiol y Cymoedd ar gyfer adloniant, hamdden a chadwraeth. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, sy'n gwneud llawer o waith da yn fy etholaeth, a dywedasant fod angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o gymorth i'r mentrau cymdeithasol bach hynny'n benodol. A all Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo heddiw i weithio gyda'r mentrau cymdeithasol bach hyn o fewn fframwaith 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', yn enwedig yng nghyd-destun parc tirlun y Cymoedd, fel y gallwn ddarparu'r prosiectau lleol hyn yn nes at gymunedau fel y Cymoedd gogleddol?
Yn sicr. Rwy'n hapus iawn i roi'r ymrwymiad hwnnw i'r Aelod dros Gaerffili y prynhawn yma. Ond hefyd, rwyf eisiau i'n holl gymunedau yn y Cymoedd fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio sut y bydd y parc tirlun hwnnw neu'r parc rhanbarthol hwnnw'n edrych. Byddwn yn cynnal nifer o seminarau yn y gwanwyn, drwy gydol y gwanwyn, er mwyn edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r cysyniad, a gwireddu'r cysyniad hwnnw. Gwn fod yr Aelod dros Gaerffili wedi bod yn weithgar iawn wrth gynnig ei weledigaeth ar gyfer y cysyniad hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iddo am y pwyntiau y mae wedi'u gwneud i mi, ac am y gwahoddiadau a roddodd i mi fynd i weld prosiectau yn etholaeth Caerffili. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo hefyd am amlinellu ei uchelgeisiau ar gyfer y parc tirlun, ac rwy'n rhoi fy ngair i'r Aelod, yn sicr, fod yr holl faterion hynny'n arwain ac yn siapio ein ffordd o feddwl.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, David Rees.
8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch darparu gwasanaethau cymorth i garcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau? OAQ51930
Mae sicrhau bod carcharorion o Gymru yn cael y lefel briodol o gymorth ar ôl cael eu rhyddhau yn flaenoriaeth allweddol. Fel y cyfryw, rwy'n cyfarfod â Gweinidogion y DU a phennaeth y gwasanaeth carchardai yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn briodol ar gyfer carcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau a'u bod yn cefnogi camau i leihau aildroseddu.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn pwysleisio y bydd y carchar arfaethedig ym Maglan yn dal carcharorion sy'n paratoi ar gyfer cael eu rhyddhau, ac felly bydd angen cymorth arnynt wrth iddynt baratoi i ddysgu sut i ddychwelyd i'w cymunedau eu hunain, y rhan fwyaf ohonynt ar draws de Cymru mae'n debyg, ond ymhellach i ffwrdd hefyd. Nawr, gwyddom fod y cyfnod ar ôl iddynt gael eu rhyddhau yn gyfnod heriol i lawer o garcharorion, a gallai cefnogi hyn helpu i leihau'r tebygolrwydd o aildroseddu, fel rydych wedi'i amlinellu. Ond fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cymorth hwn yn cynnwys mewnbwn gan wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau tai, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg, gwasanaethau cyflogaeth a gwasanaethau prawf, ac mae bron bob un ohonynt o dan reolaeth a chymhwysedd y Cynulliad hwn mewn gwirionedd. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r costau ychwanegol i ddarparu'r gwasanaethau hyn a pha drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyllid angenrheidiol yn cael ei ddarparu i Gymru er mwyn sicrhau nad yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn disgwyl i'r costau ychwanegol hyn gael eu talu o gyllidebau sydd eisoes dan bwysau? Ac os nad ydynt wedi darparu'r cyllid angenrheidiol, onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru ddweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad yw'r tir ar gyfer Baglan ar werth—nad oes unrhyw dir yng Nghymru ar werth, mewn gwirionedd?
Lywydd, cyfrannodd yr Aelod dros Aberafan at ddadl ardderchog a gawsom yma yn gynharach y mis hwn ar bolisi cyfiawnder yng Nghymru. Mae'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn bwyntiau y gŵyr fy mod yn cytuno â hwy. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y setliad cyfansoddiadol cyffredinol sydd gennym yn y cyswllt hwn wedi torri. Mae wedi torri, a'r hyn y mae'n ei olygu yw na all Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, gyflwyno'r math o ymateb polisi cyfannol i'r rheini yn y system cyfiawnder troseddol y mae pawb ohonom yn galw amdano.
Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag adnewyddu'r concordat sydd gennym ar hyn o bryd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref yn ddiweddar am y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref yn gweithio ar y materion hyn yn ogystal, a gobeithiaf y byddaf yn gallu gwneud datganiad yn y lle hwn yn y dyfodol agos sy'n amlinellu'r dull y byddwn yn ei fabwysiadu yn y maes hwn. Mae'n rhan gwbl hanfodol o'r hyn rydym eisiau ei wneud er mwyn gallu sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn ein cymunedau a ledled Cymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf, Mick Antoniw.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am oblygiadau adroddiad y Comisiwn Hapchwarae ar hapchwarae yng Nghymru? 156
Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym yn parhau i weld gamblo cymhellol yn dod i'r amlwg fel problem iechyd cyhoeddus ac mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â hi. Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gryf i roi camau ar waith, ymwrthod â'r pwysau gan y diwydiant, a lleihau'n sylweddol y swm mwyaf y gall rhywun ei fetio ar beiriannau hapchwarae categori B2, sy'n cynnwys peiriannau betio ods sefydlog, wrth gwrs.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am hynny. Gwn eich bod yn ystyried hwn yn fater o bwys. Mae'r data sydd gennym yn dangos bod 30,000 o bobl yng Nghymru yn dweud bod ganddynt broblemau gamblo, nodir bod 100,000 mewn perygl, 22,500 o blant rhwng 11 a 15 oed sy'n hapchwarae mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac amcangyfrifir bod y gost i Gymru hyd yn hyn rhwng £40 miliwn a £70 miliwn. Byddwch wedi gweld adroddiad y Comisiwn Hapchwarae, sy'n ymdrin ag un mater yn sicr, mewn perthynas â pheiriannau betio ods sefydlog, a lleihau'r swm mwyaf y gall rhywun ei fetio o £100 i £30, sydd, a bod yn gwbl onest, yn dal i olygu y gellid betio hyd at £900 ar y peiriannau hyn mewn 10 munud, peiriannau a gaiff eu hadnabod fel crac cocên y byd hapchwarae. Mewn llawer o ffyrdd, nid yw hyn yn ddigon ac rwy'n credu ei fod yn dangos i ba raddau y mae'r Comisiwn Hapchwarae wedi ildio i'r lobi hapchwarae bwerus.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn falch o wybod bod grŵp trawsbleidiol wedi cael ei ffurfio yn y Cynulliad hwn bellach a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r grŵp trawsbleidiol yn San Steffan hefyd ac yn ymgymryd â gweithgarwch ar y cyd i sicrhau bod yna ddeddfwriaeth a gweithgarwch ar draws yr holl Seneddau yn y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r perygl cynyddol hwn. Rwy'n meddwl tybed, o safbwynt Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, pa bwerau rydych yn credu y gallwn eu defnyddio i gyfyngu ar beiriannau betio a'r gallu betio ar y rheini mewn gwirionedd, a datblygu'r agenda iechyd y cyhoedd, ac yn benodol, yr angen am ymchwil real a chadarn lle y gall Cymru arwain ar nodi a gwella ei dealltwriaeth o'r goblygiadau a'r problemau cymdeithasol sy'n deillio o hapchwarae, ei gysylltiad â phethau fel chwaraeon, normaleiddio hapchwarae a hapchwarae ar-lein—mewn gwirionedd, pe gallech amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd, nid yn unig yng ngoleuni'r wybodaeth a'r pwyntiau rwyf wedi'u gwneud, ond hefyd yn ngoleuni'r argymhellion a'r wybodaeth gan y prif swyddog meddygol.
Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau a'r cwestiynau. Rwyf wedi nodi o'r blaen, yn y ddadl ar adroddiad y prif swyddog meddygol, y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad ar sut rydym yn disgwyl y byddwn yn defnyddio ein pwerau newydd pan fyddwn wedi'u cael, a gallwch ddisgwyl hynny yn y dyfodol agos, nid y dyfodol hirdymor. Gwn fod rhai Aelodau wedi cael cyfle i gyfarfod â'r prif swyddog meddygol heddiw, ac rwy'n croesawu'r diddordeb a'r awydd ehangach i wneud rhywbeth ar y cyd ag amryw o bartïon. Rwy'n meddwl am Carolyn Harris, ein cydweithiwr seneddol yng Nghymru, sydd wedi arwain ymgyrch weithredol ag iddi broffil uchel ar beiriannau betio ods sefydlog drwy'r Senedd. Felly, mae'r mater hwn yn gyfoes iawn ac mae'n fater real iawn yn ein holl gymunedau.
Ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob un o'r pwyntiau yn y cwestiwn heddiw, ond rwy'n sicr yn ymrwymo i roi sylw iddynt a llunio datganiad mwy manwl. Ond yn benodol, os cyfeiriaf yn ôl at sylwadau a wnaed gan arweinydd y tŷ ddoe mewn perthynas â'r materion hysbysebu, sy'n cael eu crybwyll yn adroddiad y Comisiwn Hapchwarae, a'r pwyntiau ynglŷn â'r agenda iechyd y cyhoedd, mae angen i ni gael ymgyrch ddilys i godi ymwybyddiaeth er mwyn deall sut y mae pobl yn ymddwyn. Nid wyf yn credu y gallwn ddibynnu ar y diwydiant i hunanreoleiddio a bod yn gyfrifol. Cymerwyd rhai camau pellach, ond rwy'n credu bod mwy i'w wneud. Yn benodol, ar eich pwynt ynglŷn â hysbysebu, er y byddem yn dymuno gweld ceisiadau hysbysebu'n cael eu cyflwyno ar rai pethau, mae yna rywbeth ynglŷn ag un o'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiwn Hapchwarae eu hunain.
Nawr, mae gan ein plaid ar lefel y DU bolisïau i roi ardoll orfodol ar y diwydiant hapchwarae. Mae'r Comisiwn Hapchwarae eu hunain wedi dweud, yn y bôn, fod yna achos cryf dros weld y diwydiant ei hun yn gwneud mwy i gyflawni ei rwymedigaethau. Ar hyn o bryd, maent yn darparu oddeutu 0.1 y cant o'r trosiant i GambleAware, ac mewn gwirionedd, gallent a dylent wneud mwy. Mae'r Comisiwn Hapchwarae eu hunain yn cydnabod, os na fydd y diwydiant yn cyflawni ei rwymedigaethau ar sail wirfoddol, fod yna achos cryf dros ystyried ardoll statudol. Yn sicr, ar ôl i mi ei ystyried, byddaf yn gwneud datganiad yn y lle hwn, a byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU, lle mae'r rhan fwyaf o'r pwerau hyn o hyd.
Pan ofynnais am ddatganiad ar y Comisiwn Hapchwarae ddoe, nid oeddwn yn disgwyl ei gael mor sydyn, felly da iawn ar y gweithgarwch ar y cyd i'ch cael chi yma i sôn ychydig mwy am hyn. Un o'r pethau sydd wedi codi o'r datganiad gan y Comisiwn Hapchwarae a'r ymateb caredig a roddodd arweinydd y tŷ i mi ddoe yw'r ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr o berthynas ffurfiol gyda'r Comisiwn Hapchwarae—cynrychiolaeth ar y Comisiwn Hapchwarae na'r gallu i enwebu aelodau i'r Comisiwn—ac rwy'n credu bod hwnnw'n amlwg yn fwlch, gyda'r pwerau sy'n cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfyngiadau ar beiriannu ods sefydlog, gyda'r diddordeb sydd gennym yn hynny yma yn y Cynulliad a'r ffaith nad yw'r Comisiwn Hapchwarae, yn fy marn i, wedi rhyngweithio ag Aelodau'r Cynulliad, er ein bod yn cynrychioli'r cymunedau yr effeithir arnynt yn fawr iawn gan y problemau hyn, fel y mae Mick Antoniw wedi'i nodi.
Felly, a oes yna ffordd y bydd Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn ymateb i'r ymgynghoriadau, fel rydych eisoes wedi'i wneud, ond yn rhoi camau mwy cadarn ar waith yn awr wrth negodi gyda'r Comisiwn Hapchwarae a hefyd, yn y pen draw, gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennych berthynas lawer mwy ffurfiol, fel bod y Comisiwn Hapchwarae yn rhoi ystyriaeth lawnach a sylw dyladwy i'ch safbwyntiau ac yn wir, fel y gall y Comisiwn Hapchwarae ddod i roi adroddiad i'r Cynulliad o bryd i'w gilydd ar y penderfyniadau y maent hwy wedi'u gwneud yn ogystal?
Rwy'n cydnabod y pwyntiau rydych wedi'u gwneud, a chredaf fod dadl dda i'w gwneud yn eu cylch. Pan fyddwn yn ymateb yn gyhoeddus ac yn fwy ffurfiol i'r Cynulliad gyda datganiad ar ein hymateb llawnach, rhywbeth rwyf wedi addo ei wneud ar dri achlysur yn awr, rydym yn sicr angen ystyried ein perthynas a beth y dylai ein cais fod. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r Llywodraeth a'r berthynas y credwn y dylid ei chael â'r Comisiwn Hapchwarae, ac mae'n ymwneud â chael perthynas sy'n adlewyrchu'n briodol ei fod yn rheoleiddiwr ar gyfer yr Alban, Cymru a Lloegr. Wrth gwrs, mae wedi cael ei ddatganoli'n llawn i Ogledd Iwerddon—un o'r pethau rhyfedd hynny, unwaith eto, ynglŷn â phroses ddatganoli anghymesur. Ond mae yna rywbeth ynglŷn â chydnabod lle'r Cynulliad hefyd, ac efallai y bydd y Cynulliad ei hun eisiau rhoi ei farn drwy'r pwyllgor perthnasol ynglŷn â beth y dylai'r cyfrifoldeb fod. Ond bydd y Llywodraeth yn sicr yn nodi ei barn, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud heddiw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf, felly, Angela Burns.
2. Yn sgil y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyflogau dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogau'r GIG yng Nghymru? 158
Rwy'n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrando ar fy ngalwadau niferus i gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus a darparu arian ychwanegol i wobrwyo staff y GIG ledled y Deyrnas Unedig. Mae Fforwm Partneriaeth GIG Cymru yn cyfarfod yfory i gynnig cyngor ar sut y gellid defnyddio unrhyw gyllid canlyniadol yng Nghymru.
Mae'r holl bleidiau gwleidyddol wedi aros yn hir i gael gwared ar y cap cyflog hwn, ac rydym yn llwyr groesawu'r cyhoeddiad, sy'n cydnabod staff y rheng flaen sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf. O heddiw ymlaen, bydd staff fel nyrsys, porthorion a pharafeddygon yn cael cynnydd cyfartalog o 6.5 y cant yn eu pecynnau cyflog dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda llawer o'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y gwasanaeth iechyd yn cael y cynnydd mwyaf yn eu cyflog, a bydd hynny'n sicr yn ein helpu i hyrwyddo ein hagendâu tegwch a chydraddoldeb. Ynghyd â'r cyhoeddiad ddoe, fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu pump o ysgolion meddygol newydd mewn rhannau o'r wlad.
Nid Lloegr yn unig sy'n wynebu'r heriau recriwtio hyn, a bydd yr hyn y maent yn ei wneud yn helpu'n fawr i wneud eu gwasanaeth iechyd yn fwy gwydn. Yng Nghymru, rydym yn gwario bron i £14 miliwn y mis ar staff asiantaeth, ac rydym wedi gweld yr hyn sy'n cyfateb i un nyrs y dydd yn gadael ein gwasanaeth iechyd. Ni all gwasanaethau iechyd fforddio colli mwy o'n staff rheng flaen eithriadol, na'n myfyrwyr sydd newydd gael eu hyfforddi.
Nawr, gwyddom y byddwch chi, Lywodraeth Cymru, yn cael cyllid canlyniadol gan y Trysorlys i liniaru'r cynnydd hwn, felly bydd Llywodraeth Cymru yn cael y gyfran arferol o £4.2 biliwn yn ychwanegol am y newidiadau i gyflogau'r GIG dros y tair blynedd nesaf. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn rhoi'r cyllid canlyniadol tuag at y dyfarniadau cyflog yma yng Nghymru? Ac a gaf fi ofyn i chi hefyd a fyddwch yn ystyried y ffaith bod y cytundeb cyflog, hyd yn hyn, yn edrych ar sut y gall y cytundeb leihau'r cyfraddau uchel o salwch a welwn yn y GIG ledled y Deyrnas Unedig? Nid yng Nghymru yn unig y mae'n digwydd. Rydym yn colli dros 900 o flynyddoedd amser llawn i salwch bob blwyddyn, ac os gallwn gael y bobl hyn yn ôl i'r gwaith yn gyflymach a'u cymell a rhoi triniaeth flaenoriaethol iddynt o bosibl, yna bydd hynny ynddo'i hun yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau adnoddau dynol sydd i'w weld yn ein GIG yma. Mae pawb ohonom yn croesawu'r penderfyniad i godi'r cap cyflog hwn, ond rwyf eisiau clywed beth fyddwch chi'n gallu ei wneud gyda'r cyllid canlyniadol ac a fyddwch yn ei ddefnyddio ar ein staff.
Mae gennyf rai sylwadau i'w gwneud mewn ymateb i hynny. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod y cap cyflog wedi'i godi, ond ni ddylem anghofio bod yna heriau sylweddol yn wynebu partneriaid y gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n dal i wynebu cap cyflog real o ganlyniad uniongyrchol i wyth mlynedd o gyni sy'n parhau. Dylem atgoffa ein hunain fod staff 'Agenda ar gyfer Newid' wedi cael toriadau cyflog real o 14 y cant ers 2010. Felly, bydd y newid y mae Lloegr wedi'i gyhoeddi yn helpu i ddatrys hynny, ac rwy'n hapus i gadarnhau y bydd unrhyw gyllid canlyniadol ar gyfer cyflogau'r GIG yn mynd tuag at gyflogau'r GIG yma yng Nghymru—mae hynny'n gwbl glir ac nid oes unrhyw lol mewn perthynas â hynny. Mae hynny'n adeiladu ar ymrwymiadau a wnaed gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn wir.
Buaswn yn atgoffa pobl fod y sylwadau a wnaethoch, Angela Burns, ynglŷn â mynd i'r afael â chyflogau isel—heriau i'r GIG yn Lloegr fynd i'r afael â hwy yw'r rheini. Gwnaethom gynnydd pellach. Efallai nad yw hi yn yr ystafell, ond roedd Dawn Bowden yn rhan o'r tîm negodi ar ochr yr undebau llafur, lle y gwnaethom gynnydd rai blynyddoedd yn ôl mewn perthynas â'r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y GIG yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o weld Lloegr yn efelychu rhywfaint o'r cynnydd hwnnw. Byddwn yn trafod gyda chyflogwyr y GIG a'r undebau llafur i benderfynu sut y gallwn sicrhau bod unrhyw gyllid canlyniadol a ddaw i Gymru yn mynd tuag at gyflogau'r GIG, a bydd hynny'n cael ei negodi'n briodol yn y dull partneriaeth rydym yn dymuno ei fabwysiadu yma yng Nghymru.
Rwy'n cydnabod yr heriau y sonioch amdanynt mewn perthynas â niferoedd y nyrsys yn y GIG. Mae yna her go iawn ledled y DU o ran sicrhau cyflenwad digonol o nyrsys. Lloegr sydd â'r broblem fwyaf. Hwy sydd â'r niferoedd mwyaf, nid yn unig o ran niferoedd ond mewn termau canrannol, ac fe fyddwch yn cydnabod bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi dweud, am y tro cyntaf, fod llai o nyrsys yn y GIG yn Lloegr na'r flwyddyn flaenorol. Dyna'r tro cyntaf mewn hanes i hynny ddigwydd. Nid oes gennym y sefyllfa honno yma, ond ni ddylem fod yn hunanfodlon ynglŷn â realiti'r cap cyflog ac amrywiaeth o fesurau eraill yn ymwneud â'r ffordd y mae nyrsys yn teimlo yn Lloegr.
Hefyd, byddwn yn parhau i drafod gyda'n partneriaid sut i wella cyfraddau presenoldeb, sut i wella'r broses o ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn salwch a sut y caiff pobl eu cynorthwyo i aros mewn gwaith neu i ddychwelyd i'r gwaith. Mae'r rheini yn faterion rydym yn eu trafod yn rheolaidd rhwng cyflogwyr ac ochr yr undebau llafur. Felly, edrychaf ymlaen at allu dod yn ôl i'r lle hwn i gadarnhau unrhyw gytundeb a geir rhwng ochr y cyflogwyr a'r undebau llafur mewn perthynas â sut rydym yn disgwyl talu staff y GIG yma yng Nghymru.
Nid yw'n braf gweld Cymru ar ei hôl hi eto; dyma'r eildro i hynny ddigwydd ym maes iechyd mewn dau ddiwrnod gyda'r cyhoeddiad hwnnw gan Jeremy Hunt ddoe ynglŷn ag agor pump o ysgolion meddygol yn Lloegr. Edrychaf ymlaen at ein gweld yn dal i fyny â hynny yn y pen draw. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, mewn perthynas â'r cap cyflog, wedi dweud yn glir ers amser ein bod yn credu y dylid bod wedi codi'r cap cyflog cyn hyn, ac rwy'n credu y bydd pobl yn cofio nad oedd y Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gallu bod yn rhagweithiol wrth chwilio am ffyrdd o godi'r cap hwnnw'n gynharach. Ond dyma lle rydym, ac mae'n ymddangos y bydd staff gweithgar ein GIG, o'r diwedd, yn cael y codiad cyflog y maent wedi'i haeddu ers amser. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o glywed eich bod yn disgwyl y bydd y cyllid canlyniadol yn mynd tuag at godi'r cap hwnnw.
A wnewch chi gytuno, fodd bynnag, nad yw codi'r cap yn ddigon ynddo'i hun, ac a gawn ni sicrwydd, ochr yn ochr â'r adolygiad hir ddisgwyliedig o gyflogau, y byddwn hefyd yn gweld ymdrech gyfunol i sefydlu cynllun gweithlu ar gyfer y GIG cyfan a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud mewn perthynas â recriwtio hefyd? Mae mynd i'r afael â chyflogau yn un peth, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn mynd i'r afael â'r pwysau annerbyniol ar staff mewn sawl rhan o'r GIG oherwydd prinder gweithlu.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Rwy'n hapus i ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf. Rydym yn disgwyl y byddwn yn gwella ein gallu i gynllunio ar gyfer y gweithlu cyfredol a gweithlu'r dyfodol drwy greu Addysg a Gwella Iechyd Cymru—rydym wedi sôn am hwnnw o'r blaen—a'r ffordd rydym yn ceisio cronni'r gallu i wneud hynny rhwng byrddau iechyd a sefydliadau eraill fel y ddeoniaeth ac eraill hefyd. Mae hwnnw'n gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau dull mwy strategol o gynllunio ar gyfer anghenion ein gweithlu yn y dyfodol. Yn ogystal ag edrych ar niferoedd y staff rydym eu hangen, a'r gwahanol grwpiau o staff, mae angen i ni edrych, wrth gwrs, ar y ffyrdd rydym yn disgwyl iddynt weithio, a'r ffyrdd rydym yn disgwyl iddynt gael eu hyfforddi i weithio yn y gwasanaeth heddiw ac yn y dyfodol. Dyna pam y mae'r adolygiad seneddol mor bwysig. Mae angen i ni gael modelau gofal sy'n ddeniadol i bobl weithio ynddynt, ac sy'n cynnig y gobaith mwyaf y bydd pobl eisiau dilyn gyrfa yng Nghymru. Gallech ddweud i hyfforddi yma, i fyw yma ac i weithio yma, wrth gwrs.
Nawr, rwyf am ddychwelyd at eich pwyntiau cychwynnol am y cap cyflog. Rwyf wedi cael fy siomi'n ofnadwy gan y ffordd y mae Plaid Cymru wedi bod yn ddigon bodlon i roi rhwydd hynt i'r Torïaid mewn perthynas â hyn. Y rheswm pam na allai Cymru godi'r cap cyflog yn gynt oedd oherwydd ein sefyllfa gyllidebol, oherwydd wyth mlynedd o gyni. Dyna'r gwirionedd clir a digymysg, ac mae'r ffordd y mae'r materion hynny wedi cael eu trin yma wedi bod yn glir iawn. Rydym bob amser wedi dweud yn glir mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig oedd codi'r cap cyflog a sicrhau cyllid gan Drysorlys y DU i gyllido codi'r cap cyflog, fel y maent wedi'i wneud heddiw, o'r diwedd. Ond ni fydd y rhyfel geiriau rhyngom yn dod i ben oherwydd, yn anffodus, mae Jeremy Hunt wedi cymhlethu datganiadau blaenorol nad ydynt, yn syml, yn ffeithiol gywir, drwy ddweud, yn Nhŷ'r Cyffredin, y byddai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru £1 biliwn o bunnoedd yn well ei fyd pe baem wedi gwneud penderfyniadau fel y maent hwy wedi gwneud. Mae hynny'n gelwydd noeth. Ac os ydym am gael dadl wybodus a phriodol am ariannu'r gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol, mae angen trafodaeth fwy gonest rhwng seneddau a llywodraethau, a chyda'r cyhoedd, ac ni fyddaf yn petruso rhag herio Jeremy Hunt pan fydd yn gwneud datganiadau celwyddog, a bwriadol gelwyddog, am gyllid y GIG yma yng Nghymru.
Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.]
Ond mae ei alw'n gelwyddgi—[Anghlywadwy.]
Esgusodwch fi. Rwyf wedi galw siaradwr arall. Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hen bryd i ni godi'r cap ar gyflogau staff y GIG sy'n gweithio o dan bwysau aruthrol, yn arbennig mewn perthynas â phrinder staff. Mae'r cytundeb yn Lloegr yn cynnwys staff ar y contract Agenda ar gyfer Newid, nad yw'n cynnwys meddygon. Felly, er fy mod yn croesawu'r cynnydd a gyhoeddwyd yn flaenorol yng nghyflogau ein meddygon teulu, pa ystyriaeth rydych wedi'i roi i godi cyflogau meddygon a deintyddion y GIG?
Mae yna broses gan gorff adolygu ar wahân ar gyfer meddygon a deintyddion. Nid yw staff Agenda ar gyfer Newid yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol penodol hynny. Rydym yn aros am gyngor gan y corff adolygu ar gyfer meddygon a deintyddion, ac wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl i'r lle hwn pan fyddwn wedi cael y cyngor hwnnw a phan fydd gennym benderfyniad i'w wneud.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at eitem 4, sef y datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf yr wythnos hon, David Melding.
Diolch i chi, Lywydd. Mae'n briodol ein bod yn talu teyrnged heddiw i Nicholas Edwards a fu farw ddydd Sadwrn. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1979 a 1987, gwnaeth gyfraniad parhaus i fywyd cyhoeddus Cymru. Yma yn y Senedd, mae gweledigaeth Nick Edwards ar gyfer sicrhau adfywiad trefol ym Mae Caerdydd yn amlwg iawn. Y bore yma, euthum ar draws y morglawdd a chael golygfeydd o ddinas wirioneddol hardd. Mae ysgrif goffa The Guardian am yr Arglwydd Crucywel yn pwysleisio'r anawsterau a wynebodd wrth ddechrau'r broses drawsnewid, a dyfynnaf:
Er iddo gael ei wawdio ar y pryd, roedd Edwards yn gywir pan ddisgrifiodd brosiect y bae fel un o'r enghreifftiau gorau o adfywio trefol yn y wlad.
Yn fyr, roedd yn ddyn â chanddo weledigaeth ac arweinyddiaeth, yn enwedig pan heriodd y Trysorlys i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect.
Fodd bynnag, bydd cyflwyno strategaeth anabledd dysgu Cymru yn 1983, rwy'n credu, yn cael ei ystyried yn gyflawniad mwy byth, a hynny oherwydd ei fod wedi gosod safonau cwbl newydd ar gyfer ymarfer gorau sydd wedi'u hefelychu ar draws y byd. Sefydlodd y strategaeth ar gyfer Cymru gyfan yr hawl sydd gan bobl ag anableddau dysgu i fywydau normal yn y gymuned; i gael eu trin fel unigolion, ac i gael y gwasanaethau cyhoeddus gorau sydd ar gael i gyflawni eu potensial i'r eithaf.
Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ddemocratiaeth ffyniannus gydnabod y cyfraniadau adeiladol a wnaed gan draddodiadau gwleidyddol gwahanol. Roedd cyfnod Nick Edwards yn ei swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hwy na'r un Ysgrifennydd Gwladol Cymru arall, ond drwy estyn y tu hwnt i'w draddodiad gwleidyddol ei hun, gallodd wneud cyfraniad arloesol a gryfhaodd fywyd cenedlaethol Cymru. Wrth gydymdeimlo â theulu yr Arglwydd Crucywel, mae hefyd yn anrhydedd i allu mynegi ein diolch am ei lwyddiannau parhaol.
Diolch. Angela Burns.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yng nghymdeithas heddiw, sy'n cael ei gyrru gan ddefnyddwyr, gall pawb ohonom fod yn euog o gymryd pethau'n ganiataol, pethau nad oes gan bobl eraill ar draws y byd mohonynt. Er enghraifft, rydym yn gallu prynu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau egsotig o bob rhan o'r byd yn ein siopau lleol. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu mor ffodus â ni. Byddent wrth eu boddau'n cael banana gyda'u brecwast, afocado gyda'u cinio a grawnwin gyda'u swper, ond mae'n rhaid iddynt oroesi ar reis a ffa, neu nwyddau sylfaenol cyfatebol, ar gyfer bob pryd bwyd y maent yn ei fwyta. Deiet annigonol o reis a ffa plaen yw'r realiti i rai o'r bobl sy'n byw mewn tlodi eithafol. Am y rheswm hwn, rwyf wedi cytuno i gefnogi a hyrwyddo'r Mean Bean Challenge. Cafodd ei chreu gan elusen wych Tearfund Cymru, sy'n asiantaeth datblygu a chymorth Cristnogol.
Mae'r tîm arlwyo yma yn y Cynulliad wedi cytuno i roi reis a ffa ar y fwydlen bob dydd yr wythnos hon ac maent yn gofyn am roddion bach tuag at yr elusen. Syniad yr her hon yw bwyta reis, ffa pob a cheirch yn unig am bum diwrnod cyfan; dim byd melys, dim halen ac yn waeth na dim, dim caffein. Rwyf wedi dilyn y deiet hwn am un diwrnod hyd yma—rwyf am geisio ei ddilyn am ychydig ddyddiau yn rhagor—ac rwy'n annog unrhyw Aelod Cynulliad neu aelod arall o staff i roi cynnig ar yr her naill ai yfory neu amser cinio ddydd Gwener ac i roi rhodd fach a rhannu'r neges ag eraill. Mae'n aberth rwy'n barod i'w wneud i atgoffa fy hun am drafferthion cymaint o bobl ledled y byd.
Mae Tearfund yn elusen wych ac mae wedi gweithio'n galed i hyrwyddo'r Mean Bean Challenge. Hoffwn ddiolch hefyd i Rob a staff arlwyo Charlton House sydd wedi cefnogi hyn, ac rwy'n annog pob un ohonoch i gymryd rhan.
Jayne Bryant.
Mae Hugo Thompson, Monty Williams, John Morgan a Joel Wood, i gyd o Gaerllion, wedi llwyddo i gwblhau cwrs rhwyfo anoddaf y byd—y Talisker Whisky Atlantic Challenge. Maent wedi rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws môr yr Iwerydd i godi ymwybyddiaeth ar ran Diabetes UK.
Penderfynasant gychwyn ar y daith uchelgeisiol hon ar ôl i Hugo gael diagnosis o ddiabetes math 1 yn 2015. Roedd Hugo yn benderfynol o brofi na fyddai'n ei ddal yn ôl, a ffurfiodd y cyfeillion Team Oarstruck. Gan ddechrau ar yr Ynysoedd Dedwydd ar 14 Rhagfyr, wynebodd Team Oarstruck amodau tywydd eithafol, salwch môr a blinder llethol. Cymerodd 55 diwrnod, dwy awr a 23 munud, ond ar 7 Chwefror, cyrhaeddasant ben eu taith yn Antigua.
Mae hon yn gamp anhygoel. Mae llai o bobl wedi rhwyfo ar draws môr yr Iwerydd na sydd wedi bod i'r gofod. Mae eu taith wedi cael ei gofnodi yn llyfrau record y byd gan mai Hugo yw'r person cyntaf â diabetes i gwblhau'r daith. Maent wedi codi dros £9,000 ac wedi cael cefnogaeth helaeth.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, a'u Haelod Cynulliad lleol, rwy'n hynod falch o Team Oarstruck. Rydym yn gobeithio eu croesawu i'r Senedd ym mis Mehefin i glywed mwy am eu cyflawniad arwyddocaol. Mae codi ymwybyddiaeth yn hanfodol. Nid yw bron un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn cael diagnosis o ddiabetes math 1 hyd nes eu bod yn sâl iawn. Y symptomau cyffredin yw: mynd i'r toiled yn aml, syched, blinder, colli pwysau.
Mae Team Oarstruck wedi datblygu o fod yn rhwyfwyr amatur gyda syniad mawr i fod yn rhwyfwyr sydd wedi torri record byd. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad i'r achos yn ysbrydoliaeth.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig. Simon Thomas.
Cynnig NDM6696 Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.83:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ystyried y Bil yn fanwl ar Gyfnod 1. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at yr amrywiol ymgynghoriadau a thrafodaethau yr ydym wedi'u cael tra'n drafftio a datblygu'r Bil.
Cyn imi symud ymlaen i siarad ar yr argymhellion yn yr adroddiad, credaf ei bod yn bwysig atgoffa'r Aelodau pam fod y Pwyllgor Cyllid o'r farn bod angen y Bil hwn. Mae angen i'r cyhoedd yng Nghymru gael hyder yn yr ombwdsmon i archwilio pan fydd unigolion yn credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi trwy gamweinyddu neu drwy gyflenwi gwasanaethau. Mae'n bwysicach nag erioed bod gwasanaethau cyhoeddus yn darparu ar gyfer pobl Cymru a bod yr ombwdsmon yn cael ei rymuso i sicrhau bod ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar y dinesydd.
Mae'r Bil yn ymestyn pwerau'r ombwdsmon mewn pedwar prif faes. Credwn fod y gallu i ymgymryd â phwerau ar ei liwt ei hunan yn bwysig, ac mae ganddo botensial i sicrhau manteision sylweddol. Bydd caniatáu i'r ombwdsman dderbyn pob cwyn ar lafar yn gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal. Bydd ymchwiliad i faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd preifat yn galluogi'r ombwdsmon i archwilio cwyn gyfan, gan ddilyn y dinesydd ac nid y sector. Ac, yn olaf, gallai gweithdrefnau trin cwynion arwain at well gwasanaeth i unigolion a chael y cwmpas i wella gwasanaethau o ganlyniad i ddysgu o arfer da.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gwneud 19 o argymhellion a gallaf dderbyn pob un namyn un o'r rhain. Rwy'n falch o weld bod y pwyllgor wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw y prynhawn yma. Wrth ymateb i'r adroddiad, byddaf yn ymdrin â'r prif themâu sydd yn deillio ohono.
Hoffwn ddechrau gydag argymhelliad 10, sy'n gofyn bod memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol yn cael eu cyhoeddi cyn Cyfnod 2, gan ystyried argymhellion y pwyllgor. Dyma'r unig argymhelliad nad wyf yn medru ei dderbyn. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn darparu mecanwaith ar gyfer diwygio'r memorandwm esboniadol ar ôl trafodion Cyfnod 2 ac mae hyn wedi dod yn arfer safonol. Pe bai'r Bil hwn yn mynd ymlaen ymhellach, byddwn yn falch iawn o gyhoeddi memorandwm esboniadol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2, gan ystyried unrhyw newidiadau a wnaed i'r Bil. Am y rheswm hwn, nid wyf yn teimlo y byddai'n briodol i dderbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ystyried a oes tystiolaeth fwy cadarn nawr ar gael ac i asesu a oes angen newidiadau i'r amcangyfrifon cost yn sgil hynny, a byddaf yn rhoi diweddariadau ysgrifenedig i'r pwyllgor wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Yn ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i ymgynghoriad y pwyllgor ar y Bil, cododd nifer o bryderon ynghylch ei swyddogaethau. Mae argymhellion 7, 8, 9 a 18 yn ymdrin â'r rhain ac rwy'n hapus i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r Bil i ymdrin â'r pryderon hyn. Bydd y rhain yn sicrhau cyfrinachedd gwybodaeth ac amddiffyn yr archwilydd rhag hawliadau difenwi. Mae’r Bil yn ailadrodd y gofyniad cyffredinol i’r archwilydd osod copi ardystiedig o gyfrifon yr ombwdsmon o flaen y Cynulliad o fewn pedwar mis. Bydd angen ystyried y cais i newid hwn, yn argymhelliad 9, yng nghyd-destun gwaith ehangach y pwyllgor ar y gofyniad hwn.
Nid yw'r ombwdsmon yn dod o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae gennym ombwdsmon dwyieithog sy'n gweithredu swyddfa gydag ethos dwyieithog, ond mae angen inni sicrhau bod hyn yn parhau i'r dyfodol. Felly, yr wyf yn derbyn argymhelliad 6 a byddaf, mewn ymgynghoriad ag eraill, megis Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, yn ystyried sut y gellir cyflawni hyn orau.
Mae nifer o'r argymhellion yn ymwneud â diweddaru’r asesiad effaith rheoleiddiol. Dyma argymhellion 11 i 17 ac argymhelliad 19. Yr wyf yn fodlon derbyn yr holl argymhellion hyn. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol wrth y pwyllgor fy mod yn croesawu ei benderfyniad i gomisiynu cynghorydd arbenigol i adrodd ar oblygiadau ariannol y Bil. Rwy'n falch o nodi fod yr ymgynghorydd arbenigol hwn yn gefnogol i ymestyn pwerau'r ombwdsmon yn y pedwar prif faes. Yn y bôn, mae’r argymhellion hyn yn delio â'r costau posib yn deillio o’r Bil gan argymell bod mwy o waith yn cael ei wneud i ddangos amrediad y costau hynny.
Er enghraifft, o ran argymhellion 11 a 12, mae’r ffigurau a gynhwysir yn yr asesiad yn adlewyrchu tystiolaeth a dderbyniwyd gan yr ombwdsmon ar gostau. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ailystyried lefelau'r amcangyfrifon hyn a diwygio'r asesiad os oes angen. Rwy'n credu ei fod yn werth nodi y byddai unrhyw newidiadau yn y cyd-destun hwn yn lleihau costau cyffredinol y Bil.
Mae argymhellion 14 a 15 yn ymwneud â chostau sy'n gysylltiedig â chwynion llafar. Rwy'n credu bod gwerth mewn nodi fod gan yr ombwdsmon ddisgresiwn ar hyn o bryd i dderbyn cwynion llafar o dan y Ddeddf bresennol, Deddf 2005. Felly, ni fydd pob cwyn llafar yn arwain at faich gwaith ychwanegol i'r ombwdsmon, ond rwy’n barod i ystyried dadansoddiad pellach ar 40 y cant o gwynion yn cael eu gwneud ar lafar.
Mae argymhelliad 17 yn ymwneud â rhan bwysig y Bil sy’n delio ag ymchwilio i ddarpariaeth llwybr gofal cyhoeddus a phreifat ar y cyd. Byddaf yn ymgynghori yn bellach yn y maes hwn i geisio am fwy o fanylion.
Rwyf hefyd yn hapus i sicrhau bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn y pen draw yn cydymffurfio â'r canllawiau yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys Ei Mawrhydi, sef argymhelliad 19.
Nid yw’n fwriad yn y Bil i darfu ar draws rhwymedigaethau statudol eraill. Mae argymhellion 2, 3 a 5 yn dangos bod aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn pryderu, o bryd i'w gilydd, am y perygl posibl o ran dyblygu gwaith rhwng yr ombwdsmon a gwahanol reoleiddwyr. Rwy'n gobeithio y llwyddais i roi sicrwydd i'r pwyllgor am y gwahaniaeth rhwng rôl yr ombwdsman a rheoleiddwyr eraill, ac, er y gallant edrych ar yr un ystod eang o faterion, maent yn edrych arnynt o ddau safbwynt hollol wahanol. Mae'r trefniadau o fewn y Bil yn adlewyrchu'r rhai sydd ar hyn o bryd yn Neddf 2005, ac yn mynd ymhellach, mewn gwirionedd, i alluogi mwy o gydweithio. Serch hynny, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion 2, 3 a 5 i sicrhau cydweithio da, cadw cofnodion priodol a rhoi ystyriaeth ddyledus i rwymedigaethau eraill sy'n deillio o'r gyfraith.
Hoffwn i sôn yn gryno am adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a diolch i aelodau'r pwyllgor hwnnw am ystyried y Bil. Rwyf yn falch iawn bod y pwyllgor wedi cymeradwyo'r dull yr ydym wedi'i ddefnyddio gyda'r Bil hwn wrth gynhyrchu dar