Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
14/03/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r cwestiwn cyntaf, David Melding.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru? OAQ51882
Gwnaf. Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rhewmatoleg priodol ar gyfer eu poblogaeth. Darperir y gwasanaethau hyn yn unol â'r gyfarwyddeb ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol cronig, sy'n cael ei diweddaru ar hyn o bryd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Fe fyddwch yn gwybod bod galw wedi bod ers tro am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig arbenigol yn y rhanbarth. Ac yn wir, Cymru yw'r unig wlad yn y DU ar hyn o bryd nad oes ganddi wasanaeth arbenigol ar gyfer rhewmatoleg pediatrig. Fe fyddwch hefyd yn gwybod y bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cyfarfod ar 27 Mawrth i drafod y mater hwn a'r galwadau helaeth a fu am ryw fath o ganolfan genedlaethol ar gyfer y rhan helaeth o Gymru, wedi'i lleoli yng Nghaerdydd o bosibl. Rwy'n gobeithio y gallwch gyfleu iddynt y gefnogaeth drawsbleidiol y mae'r alwad hon wedi'i chael yn y Cynulliad, ac y dylai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ystyried yr alwad fel mater o frys pan fyddant yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.
Ydw, rwy'n cydnabod diddordeb cyson yr Aelod yn y mater, gan gynnwys y ddadl a gynorthwyodd i'w harwain ym mis Gorffennaf y llynedd. Dywedais ar y pryd fy mod yn ymwybodol fod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad, yn ogystal â gwneud gwaith ar ddiweddaru'r gyfarwyddeb. Dywedais ar y pryd y byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a nodir yn adolygiad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ac rwy'n fwy na pharod i ailadrodd y sicrwydd hwnnw, ond hefyd fod y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y gyfarwyddeb yn enghraifft wirioneddol o weithio—y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, a'r trydydd sector, a'r unigolyn hefyd. Felly, rydym yn siarad â defnyddwyr y gwasanaethau ynglŷn â'r gyfarwyddeb, ac mae amrywiaeth o wahanol weithdai yn cynnwys y trydydd sector hefyd. Gobeithio, felly, fod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ein bod o ddifrif yn awyddus i wella, i edrych ar y dystiolaeth, ond hefyd i wneud hynny mewn ffordd sy'n wirioneddol gydgynhyrchiol gyda'r dinesydd unigol.
Rwy'n cefnogi cwestiwn David Melding, ond roeddwn hefyd yn bryderus iawn wrth glywed gan Gofal Arthritis y bydd yr unig arbenigwr ar arthritis gwynegol pediatrig yng Nghymru—un o fy etholwyr, Jeremy Camilleri, sy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru—yn ymddeol o fewn y ddwy flynedd nesaf. Rwyf wedi cyfarfod ag ef i drafod hyn. Ac yn amlwg, bydd yn eithaf anodd dod o hyd i rywun i gymryd ei le, yn fy marn i. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gynllunio ar gyfer ei olynydd?
Ydy, mae hynny'n rhan o'r gwaith y mae angen i fyrddau iechyd ei wneud, ac mae sicrhau cyfarwyddeb ddiwygiedig ar y gofal y mae angen iddynt ei ddarparu yn rhan o hynny, er mwyn deall y gofal y mae angen iddynt ei ddarparu a'r gweithlu y bydd ei angen i wneud hynny. Ac rwyf hefyd yn ymwybodol y bydd Mr Camilleri yn ymddeol yn y dyfodol cymharol agos. Felly, ceir rhywfaint o frys ynglŷn â'r mater hwn ac ni ellir parhau i'w ohirio, ond dyna pam y mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo mor bwysig. Ac mae hefyd yn bwysig cynnwys unigolion, sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau ac yn ymwneud â hwy, yn staff a dinasyddion, i ddeall beth sy'n ateb priodol ar gyfer y dyfodol.
Mae clinigau arthritis llidiol cynnar yn un dull o wella mynediad at driniaeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o arthritis gwynegol. Pa gamau rydych yn eu cymryd i hwyluso gwell darpariaeth o'r clinigau hyn?
Wel, fel y dywedais, mae hwn yn faes o'r adolygiad gwasanaeth sy'n mynd rhagddo. Felly, bydd adolygiad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ein cynorthwyo i ddeall, yn ogystal â chyfrifoldebau mwy cyffredinol y byrddau iechyd a nodais yn rhan gyntaf fy ateb gwreiddiol i'r cwestiwn. Felly, mae hyn yn ymwneud â deall beth sydd arnom ei angen, pwy sy'n gyfrifol, ac yna sicrhau bod y ddarpariaeth honno'n digwydd. Felly, rwy'n hyderus fod y gwasanaeth iechyd yn ystyried y mater hwn o ddifrif, a dylai gynhyrchu cynllun real a pherthnasol ar gyfer gwella. Oherwydd rwy'n cydnabod, fel Aelodau eraill, fod hwn yn faes y gellir ei wella.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sepsis ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol? OAQ51892
Diolch am eich cwestiwn. Mae mynd i'r afael â sepsis yn parhau i fod yn flaenoriaeth o ran diogelwch cleifion yng Nghymru, gyda'r gwaith yn mynd rhagddo drwy raglen wella 1000 o Fywydau, y gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohoni. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod sepsis yn cael ei ganfod yn gynnar a bod cleifion â sepsis yn cael eu trin yn gynnar. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys adolygu gan gymheiriaid, yn ogystal â gwella arferion y tu allan i ysbytai acíwt.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod fy mod i, yn fy rôl fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar sepsis, wedi ysgrifennu at bob practis meddyg teulu yng Nghymru, i ofyn iddynt beth y maent yn ei wybod ynglŷn ag atal sepsis a pha offer sydd ganddynt, ac mai 11 ymateb a gefais, sy'n siomedig iawn. Ar ôl hynny, anfonais lythyrau at bob pennaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafwyd ymateb gwych—mae dros 60 y cant ohonynt wedi ymateb hyd yn hyn. Ac roeddent yn rhoi llawer mwy o wybodaeth, ac roeddent yn sôn am y ffaith bod llai o ymwybyddiaeth ohono, o bosibl, yn y sector gofal cymdeithasol ac nad oes ganddynt unrhyw offer penodol. Ac rwy'n derbyn y ffaith bod eich cyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, wedi cynnig siarad yn y grŵp trawsbleidiol nesaf ar sepsis, ond tybed a allwch ddweud wrthym sut y gallai'r Llywodraeth sicrhau bod hyfforddiant sepsis yn cael ei roi ym mhob rhan o ddarpariaeth y GIG, er mwyn sicrhau bod pawb, o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, hyd at y prif feddyg ymgynghorol, yn deall beth yw sepsis a beth y gallwn ei wneud i'w atal.
Mae gwell ymwybyddiaeth ymhlith ein staff clinigol yn un o'n blaenoriaethau, er mwyn canfod symptomau a mynd i’r afael â hwy'n briodol. A golyga hynny waith ar y system newydd, y system sgorio rhybudd cynnar—y wlad gyntaf i'w rhoi ar waith yn 2012. Mae hynny wedi ein cynorthwyo i wella ein perfformiad mewn perthynas â sepsis. Mae’r canlyniadau y byddwn yn eu cyflawni wedyn—mae gostyngiad sylweddol wedi bod yng Nghymru o ran marwolaethau o ganlyniad i sepsis dros y pum neu chwe blynedd diwethaf, ond mewn gwirionedd, mae mwy y gellir ei wneud. Yn y flwyddyn ddiwethaf y gwelais ffigurau ar ei chyfer, rwy'n credu bod oddeutu 1,600 o farwolaethau wedi bod o ganlyniad i sepsis, ond bum neu chwe blynedd cyn hynny, rwy'n credu bod y ffigur hwnnw dros 2,100. Felly, mae gostyngiad wedi bod, ond mae nifer sylweddol o bobl yn colli eu bywydau o ganlyniad i sepsis o hyd. Ni chredaf y byddai modd i ni atal yr holl farwolaethau hynny, ond serch hynny, credwn fod cryn dipyn o le i wella. Ac rwy’n cydnabod eich pwynt ynglŷn â gofal iechyd lleol, ac am staff y tu allan i ysbytai. Mae hynny’n rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno. Felly, mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth a wnawn ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Sepsis yn seiliedig i raddau helaeth ar godi ymwybyddiaeth mewn lleoliadau gofal iechyd lleol, ymhlith y bobl sy'n mynychu, ond yn arbennig, ymhlith yr amrywiaeth o staff yn y lleoliadau gofal iechyd lleol hynny. Felly, rwy’n cydnabod eich difrifoldeb wrth ymwneud â’r gwaith a'r grŵp trawsbleidiol, ond rwy'n disgwyl y byddwn yn parhau i drafod hyn yn y Siambr hon, yn ogystal ag yn y grŵp trawsbleidiol, hyd nes y byddwn yn parhau i weld rhagor o welliant parhaus eto o ran ymwybyddiaeth o sepsis a chanlyniadau i ddinasyddion unigol.
Rhun ap Iorwerth.
Na, nid oes gen i gwestiwn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, daeth storm Emma heibio i'n hardal bron i bythefnos yn ôl bellach, a hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i gofnodi fy niolch, a diolch pob Aelod Cynulliad, rwy'n siŵr, i staff y GIG a fu mor wych yn cyrraedd eu gwaith mewn amgylchiadau anodd iawn, ac a fu mor barod i aros ac i weithio am lawer o oriau ychwanegol ar ran cydweithwyr na allent ddod i’r gwaith. Dylem fod yn ddiolchgar dros ben iddynt gan iddi fod yn anodd iawn. Gwn nad oedd modd imi ddod allan o fy nhŷ am dri diwrnod, ond serch hynny, roedd staff yn gweithio yn ein hysbytai lleol. Gwn hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ymwybodol y bu llawer o sôn yn y wasg am staff a ddywedodd eu bod wedi wynebu costau llety ar ôl iddynt aros dros nos er mwyn ein cynorthwyo drwy'r cyfnod anodd hwn. Rwy'n credu eich bod wedi dweud yn eithaf pendant—ac ni chredaf fy mod yn rhoi geiriau yn eich ceg—na ddylai hynny ddigwydd. A allwch roi sicrwydd inni nad yw unrhyw staff a aeth i drafferth i'n cynorthwyo wedi wynebu costau ychwanegol, ac y gallwn dalu unrhyw gostau a wynebwyd gan unrhyw un am ba bynnag reswm, ac nad yw’r byrddau iechyd wedi codi tâl ar bobl?
Gallaf. Ac unwaith eto, rwy'n croesawu'r modd y dechreuwch drwy gydnabod gwaith staff ein gwasanaeth iechyd gwladol a gweithwyr eraill y gwasanaethau brys, gweithwyr llywodraeth leol, y trydydd sector, a gwirfoddolwyr, a sicrhaodd fod y gwaith yn parhau. Mae'r straeon amrywiol am bobl a gynorthwyodd weithwyr y gwasanaeth iechyd i gyrraedd eu gwaith yn galonogol iawn.
O ran eich pwynt penodol, rwy'n falch o roi’r sicrwydd hwnnw. Ar y pryd, dywedais nad oeddwn yn credu y dylai hyn ddigwydd. Ymatebodd pob bwrdd iechyd yn gryf gan ddweud bod ganddynt systemau ar waith i sicrhau bod llety yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i staff sy'n dod i’r gwaith yn yr amgylchiadau hyn, uwchlaw'r hyn a ddisgwylir ganddynt fel arfer, ac y dylai unrhyw staff a oedd wedi gwneud eu trefniadau eu hunain, naill ai am nad oedd trefniadau eraill ar gael, neu'n wir, os oedd camgymeriad wedi’i wneud, allu cael ad-daliad gan y bwrdd iechyd am y costau hynny. Ac unwaith eto, rwyf hefyd wedi cael sgwrs gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ynglŷn â’r mater, ac os byddant yn datgelu unrhyw broblemau ychwanegol nad wyf yn ymwybodol ohonynt, byddaf yn fwy na pharod i edrych arnynt a sicrhau y cânt sylw.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, ac rwy'n eithaf siŵr y bydd staff y GIG ledled Cymru yn ddiolchgar hefyd.
Hoffwn roi sylw i iechyd meddwl gyda fy nau ail gwestiwn. Roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl ychydig wythnosau yn ôl. Gwnaethoch ychydig o sylwadau yn ystod y ddadl honno yr hoffwn fynd ar eu holau. Roeddwn yn dweud ei bod yn hynod o bwysig sylwi ar arwyddion o afiechyd meddwl, yn y gweithle ac mewn ysgolion—lle bynnag y bo—a bod rôl gan bob un ohonom i'w chwarae drwy allu bod gyda rhywun i sylwi ar y ffaith y gallent fod ar drothwy rhyw fath o argyfwng, ac y dylai fod gennym gyfeiriad teithio o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Ac fe ddywedoch eich bod yn teimlo bod cynlluniau ar y gweill mewn perthynas â hynny. Tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr offer a'r adnoddau ar gael i bob un ohonom i'n helpu i ddeall beth yw iechyd meddwl, beth yw'r arwyddion a lle y dylem fynd er mwyn cynorthwyo unigolyn arall.
Wel, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod ein gwasanaethau mor hygyrch â phosibl. Rwy'n siŵr, yn yr adeilad hwn, y byddwch wedi gweld yr amrywiaeth o bosteri mewn amryw o leoliadau sy'n amlygu'r ffaith mai weithiau, yr unig beth sydd angen ichi ei wneud yw gwrando ar rywun sydd eisiau siarad. Mae rhan o'r her yn ymwneud â'r ffaith nad yw pawb yn awyddus i siarad ac nad yw pawb yn cydnabod yr heriau sydd ganddynt. Po fwyaf y mae pobl yn siarad ac yn bod yn agored, mae'n gymorth i eraill allu gwneud hynny wedyn hefyd. Yna, mae'r pwynt a wnewch, sef sut y gallwch fynd at unigolyn y credwch eu bod yn cael trafferth er mwyn eu helpu. A gall rhai mathau o berthynas eich caniatáu i wneud hynny weithiau, ond ar yr un pryd, efallai na fydd pobl rydych yn agos atynt, hyd yn oed os ydych yn meddwl eu bod yn cael trafferth, yn ymateb yn dda i rywun yn gofyn, 'A gaf fi helpu?'
Mae rhan o'r her sy'n ein hwynebu yn ymwneud â chydnabod hynny mewn gweithleoedd a rhoi gwerth uchel ar iechyd meddwl a chymorth ehangach. Dyna pam fod iechyd meddwl yn un o'r themâu trawslywodraethol yn ein rhaglen 'Ffyniant i Bawb', a dyna hefyd pam fy mod wedi sicrhau ffocws penodol o fewn y rhaglen honno ar iechyd meddwl yn y gweithle. Felly, mae rhaglen Cymru Iach ar Waith, sy'n cwmpasu oddeutu traean o'r gweithwyr yn y wlad eisoes, yn edrych ar iechyd corfforol a meddyliol yn y gweithle hefyd, ac offer i helpu i sicrhau y gall cyflogwyr roi gwell cefnogaeth i'w gweithwyr. Rydym yn gobeithio gwella a chynyddu hynny. Dyna pam ei fod yn rhan o'r contract economaidd hefyd. Felly, rydym yn awyddus i sicrhau bod cyflogwyr sy'n cael cymorth gan y Llywodraeth i sefydlu busnes yma yn awyddus i fod yn gyflogwyr da ym mhob agwedd, gan gynnwys gofalu am iechyd corfforol a meddyliol eu gweithwyr yn y gweithle.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, gan y credaf fod cymaint o stigma o hyd ynghlwm wrth iechyd meddwl a sut rydym yn ei gydnabod, sut rydym yn sylwi arno a sut rydym yn helpu pobl a allai fod mewn argyfwng i gael mynediad at y cymorth y mae arnynt ei angen.
Treuliais ychydig oriau y bore yma ym Mhontardawe yn edrych ar gyfleuster newydd Hafal, a gwn eich bod wedi bod yno, gan mai chi a'i hagorodd, ac mae'n gyfleuster gwych. A bobl bach, onid fel hynny y dylid darparu gwasanaethau iechyd meddwl? Mae'n hen adeilad sydd wedi cael ei adfywio. Ni wariwyd miliynau a miliynau a miliynau arno, ond mae'n ffynci, mae'n fodern, mae'n teimlo fel gwesty ac rydych yn cael eich trin fel gwestai, nid fel claf neu wahanglaf, gan y gall deimlo fel hynny weithiau gyda rhai o'n hen ffyrdd o ymdrin â phobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae ganddynt 16 o welyau yno, ond dim ond pedwar sy'n cael eu defnyddio, a dyna'r mwyaf o ddefnydd y maent wedi'i gael ers iddynt agor, gan fod gwasanaethau iechyd yn dal i fod yn amharod i ymroi i'r math hwn o ddarpariaeth. Mae'n gam mawr i fyny, ac os oes unrhyw un yn awyddus i ymweld ag ef, rwy'n argymell hynny'n gryf, gan ei fod yn galluogi pobl i ddeall sut y gallant fyw bywyd annibynnol a bod yn iach ac mae'n rhoi diwedd ar y senario drws tro ofnadwy hwnnw.
Beth y credwch y gallwch ei wneud, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau nad yw cyfleuster o'r fath yn edwino, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio'n dda iawn, gan ei fod yn rhagfynegiad o'r hyn y dylai gwasanaethau iechyd meddwl fod—y cydraddoldeb hwnnw, y cyfartalwch hwnnw a'r parch llwyr hwnnw?
Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedoch chi ar ddechrau eich trydydd cwestiwn ynglŷn â stigma. Mae yma daith anorffenedig o hyd o ran mynd i'r afael â stigma, o ran y ffordd y mae pobl yn meddwl am eu hunain ac am iechyd meddwl, yn ogystal â'r ffordd y mae pobl eraill yn meddwl am heriau iechyd meddwl, ac o ran sut rydym yn normaleiddio'r sgwrs am iechyd meddwl yn yr un ffordd yn union ag y gwnawn gyda heriau iechyd corfforol.
Rwy'n cofio Canolfan Adferiad Gellinudd yn agor. Roedd yn ddiwrnod pleserus iawn gyda chacen enfawr, tueddaf i gofio, ac euthum drwy rai o'r ystafelloedd roeddent yn bwriadu eu hagor. A chafwyd sgwrs yno ynglŷn â sicrhau bod comisiynwyr y gwasanaeth iechyd ac eraill yn ymwybodol o'r mannau a oedd ganddynt. Ac edrychais ar y cynllun, ac mae'n edrych fel rhywle y byddech yn dewis aros yn hytrach na rhywle lle mae pobl yn cael eu cuddio ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o naws y lle pan ewch i mewn, ac mae hyn oll yn ymwneud â gwella, a dyna'r pwynt; maent yn cyfeirio ati fel Canolfan Adferiad Gellinudd, gan eu bod yn dymuno edrych ar sut y cynorthwyir pobl ar y daith honno hefyd. Taith yw hi; nid oes pwynt syml lle rydych yn dweud y bydd cyfnod penodedig o amser yn datrys yr holl broblemau. Rydym yn cydnabod nad yw hynny'n wir. Felly, mae rhywbeth yn hyn o beth sy'n ymwneud â sut rydym yn parhau i edrych ar yr hyn y mae pobl yn ei gomisiynu, y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael yno, ac yna sicrhau, pe bai her yn yr ystyr nad oedd gwaith yn cael ei gomisiynu, y byddem yn dod â phobl at ei gilydd yn yr un ffordd yn union ag y gwnaethom gyda chyfleusterau eraill hefyd. Rydym yn dod â chomisiynwyr ynghyd i edrych ar y gwasanaethau sydd yno eisoes i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol ohonynt ac i feddwl sut y maent yn diwallu anghenion eu poblogaeth fel arall, oherwydd dyna'r pwynt: sut y mae'r bwrdd iechyd, ynghyd â'u dyletswyddau gydag awdurdodau lleol, yn cynllunio ar y cyd i ddeall anghenion pobl a gwneud rhywbeth i ddiwallu'r anghenion a nodir ganddynt?
Llefarydd UKIP, Caronline Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl papur sefyllfa Cancer Research UK ar y gweithlu diagnostig yng Nghymru, prinder gweithwyr yn y gweithlu diagnostig sy'n rhannol gyfrifol am y ffaith bod Cymru wedi methu cyflawni targedau amseroedd aros ar gyfer cleifion canser ers 2008. A ydych yn cytuno â'r dadansoddiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â phrinder gweithwyr yn y gweithlu diagnostig yn y tymor byr?
Mae un neu ddau o bwyntiau y buaswn yn eu crybwyll. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, fod y gweithlu diagnostig yn hanfodol nid yn unig ar gyfer canser, ond ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau eraill, o ran sicrhau bod pobl yn cael diagnosis priodol a'u rhoi ar y ffordd naill ai at sicrwydd nad ydynt yn dioddef o'r cyflwr posibl, neu'n wir at y cyfle i ddechrau eu triniaeth ar adeg briodol. Felly, ni ellir osgoi'r gweithlu diagnostig ac maent yn hollbwysig i allu cyflawni targedau go iawn ac ystyrlon.
Hoffwn nodi, unwaith eto, pe bai gennym dargedau Lloegr o 85 diwrnod a 62 diwrnod, mae'n sicr bron y byddem yn cyflawni hynny ar sail reolaidd. Mewn gwirionedd, rwy'n bwriadu edrych eto, fel rwyf wedi'i nodi yn y lle hwn ac mewn mannau eraill hefyd, ar ein targedau presennol ar ganser, ac edrych yn benodol i weld a oes rhai amseroedd aros nad ydynt yn cael eu datgelu gan ein targed amseroedd aros presennol. Os ydym am newid i un llwybr canser, fel rwy'n awyddus inni ei wneud, bydd hynny'n galw am fuddsoddiad pellach yn y gweithlu diagnostig, nid yn unig ar gyfer canser, ond er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau eraill yn cael eu peryglu gan ffocws ychwanegol ar ddarparu un llwybr canser, felly rwy'n ystyried y materion hyn ac rwy'n disgwyl gallu dweud mwy tua diwedd y flwyddyn hon.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gydag adroddiad Cancer Research UK, maent yn tynnu sylw at y wybodaeth anghyson sydd ar gael ynglŷn â'r gweithlu diagnostig, sy'n ei gwneud yn anodd i fyrddau iechyd lleol wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chynllunio'r gweithlu. Gwyddom fod cyfradd swyddi gwag o oddeutu 13 y cant mewn radiotherapi diagnostig ac mae gennym wybodaeth bellach ynglŷn â phrinder gweithwyr ym maes endosgopi. Ym mis Rhagfyr, arhosodd dros 2,000 o gleifion fwy na 14 wythnos am endosgopi, ac arhosodd llond llaw fwy na 40 wythnos. Mae Cancer Research UK yn rhagweld cynnydd o 40 y cant yn y galw am endosgopi ymhen dwy flynedd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r broses o gynllunio'r gweithlu mewn perthynas â staff diagnostig a sut rydych yn bwriadu torri amseroedd aros am wasanaethau endosgopi yn y cyfamser?
Mae un neu ddau o bwyntiau gwahanol yn y fan honno. Y cyntaf, wrth gwrs, yw ein bod wedi buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen yn addysg a hyfforddiant y gweithlu anfeddygol ar gyfer y dyfodol—£107 miliwn a gyhoeddais—ac mewn cyfnod pan fo llai o adnoddau cyhoeddus ar gael, mae parhau i fuddsoddi hyd yn oed mwy yn y gweithlu a'u hyfforddiant yn y dyfodol yn ddewis arwyddocaol i'w wneud. Mae rhywbeth yn hyn sy'n ymwneud â deall nid yn unig y niferoedd sydd eu hangen arnom yn y gweithlu, ond sut rydym yn dymuno iddynt weithio a ffordd fwy effeithiol o weithio. Mae'r staff eu hunain yn cymryd rhan yn y gwaith o ailgynllunio ffyrdd o ddarparu gofal yn ogystal â'r offer y bydd ei angen arnynt a'r nifer a'r math o staff y bydd eu hangen arnom ninnau gyda'n gilydd hefyd.
O ran y pwynt a grybwyllwyd gennych ynglŷn â gwybodaeth am y gweithlu, wel, y byrddau iechyd eu hunain, fel y cyflogwyr, buaswn yn disgwyl bod y wybodaeth honno ganddynt. Mae yma her sy'n ymwneud â'u dealltwriaeth hwy o'u systemau gwybodaeth eu hunain i ddeall y gweithlu sydd ganddynt ar hyn o bryd, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, ond mae'r gwaith o gyflwyno Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi'i gynllunio'n fwriadol i helpu i wella'r broses o gynllunio'r gweithlu mewn ffordd fwy integredig ac i gael safbwynt cenedlaethol ar yr meysydd lle mae angen inni fuddsoddi mewn rhagor o staff.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o argymhellion adroddiad Cancer Research UK yw archwilio'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer profion diagnostig. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y grŵp Reform adroddiad ar ddeallusrwydd artiffisial yn y GIG, sy'n nodi potensial deallusrwydd artiffisial i leihau bylchau yn y ddarpariaeth iechyd. Er bod adroddiad Reform yn canolbwyntio ar y GIG yn Lloegr, mae'n cynnwys gwersi i ni yng Nghymru. Yn ychwanegol at hynny, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Microsoft blatfform newydd i helpu darparwyr gofal iechyd i harneisio grym deallusrwydd artiffisial a'r cwmwl. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi neu eich swyddogion wedi ystyried adroddiad Reform, ac a ydych yn bwriadu defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu clinigwyr GIG Cymru?
Mae dau bwynt byr y buaswn yn eu gwneud, Lywydd. Y cyntaf yw, hyd yn oed heb Lee Waters yn yr ystafell, rwy'n cydnabod bod deallusrwydd artiffisial, yn sicr, yn rhan o'r dyfodol. Mae'n rhan o heddiw a bydd yn dod yn rhan fwy a mwy o'n cynlluniau o ran y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal. Dylai ein cynorthwyo i gynorthwyo clinigwyr i wneud dewisiadau; dylai sicrhau bod ein llwybrau yn fwy effeithlon ar gyfer dinasyddion hefyd. Credaf fod ganddo botensial gwirioneddol i arbed adnoddau i'w hailfuddsoddi o fewn y gwasanaeth. Felly, nid oes amheuaeth y bydd gan ddeallusrwydd artiffisial fwy o ran i'w chwarae yn nyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.
Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud yw ein bod eisoes yn edrych ar bartneriaethau â chwmnïau technoleg ar sail fechan i sail fwy. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi cyhoeddi partneriaeth sylweddol gydag Intel, sy'n awyddus i fuddsoddi ac i gael partneriaeth â Chymru oherwydd y ffordd rydym wedi llunio ein system. Mae'n lle deniadol i fusnesau technoleg fod yn awyddus i weithio gyda'r sector gofal iechyd. Rwy'n siŵr fod fy swyddogion wedi edrych ar yr adroddiad y cyfeirioch chi ato yn Lloegr—nid wyf am esgus fy mod wedi'i ddarllen—ond rwy'n glir ynglŷn â rôl partneriaethau yn y dyfodol gyda chwmnïau technoleg a'r gwasanaeth iechyd gwladol nad ydynt yn peryglu ein gwerthoedd, ond a ddylai ein cynorthwyo i ddarparu gwell gwasanaeth yn awr ac yn y dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau, os caf, drwy gywiro rhai sylwadau a wnaethpwyd ddoe gan arweinydd y Ceidwadwyr, a honnodd fod amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru yn gwella. Mewn gwirionedd, mae'r amseroedd ymateb canolrifol i alwadau coch yn waeth y gaeaf hwn na'r gaeaf diwethaf—mae llai yn cyrraedd o fewn y targed wyth munud. O ran galwadau oren, mae bron i hanner yn cymryd dros 30 munud i gyrraedd bellach—bron ddwywaith mor wael â'r gaeaf diwethaf. Ac mae ein parafeddygon rhagorol yn dweud wrthyf eu bod yn digalonni o ddifrif. Pam fod ambiwlansys yn cymryd mwy o amser i gyrraedd bellach, mewn argyfyngau ac mewn achosion brys a galwadau oren, nag yn y blynyddoedd diwethaf?
Wel, roedd y system yn un a roddwyd ar waith gennym ddwy flynedd yn ôl, a phan edrychwch ar ble roeddem ar ddechrau'r model ymateb newydd o gymharu â ble rydym bellach, mae gwelliant gwirioneddol a sylweddol wedi bod dros y cyfnod hwnnw. O gymharu'r gaeaf hwn â'r gaeaf diwethaf, mae gostyngiad o un neu ddau bwynt canran wedi bod o ran perfformiad, ond rydym yn dal i gyflawni ein targedau.
Yr her, fodd bynnag, yw: sut rydym yn deall, o safbwynt y system, y pwysau rydym wedi'i wynebu y gaeaf hwn, faint o hynny sy'n wirioneddol eithriadol? Ac ar rai dyddiau, fel y gwyddoch, rydym wedi wynebu pwysau nad wyf, mewn gwirionedd, yn credu y gallai unrhyw wasanaeth fod wedi cynllunio ar ei gyfer. Ond mae pwynt mwy cyffredinol yn hyn o beth ynglŷn â'r galw cynyddol rydym yn disgwyl ei weld yn ein system, ac mae'n ymwneud â'n gallu i ymdopi â hynny, ac nid yr ambiwlansys yn unig; mae'n ymateb system gyfan. Felly, mae'n ymwneud â pharhau i wella ar oedi wrth drosglwyddo a sicrhau bod pobl yn symud drwy'r system ysbyty. Mae'n ymwneud â pharhau i wella ar y gwaith a wneir eisoes i geisio sicrhau nad yw pobl yn mynd i'r ysbyty heb fod angen.
Rwy'n cydnabod, hefyd, fod cryn oedi mewn perthynas â galwadau oren, ac nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn edrych arno gan ddweud, 'Nid yw hynny'n broblem'. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes gan y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys, ynghyd â gwasanaethau ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd, i edrych ar hynny ac i edrych ar beth arall sydd angen inni ei wneud. A bydd dewisiadau i'r gwasanaeth iechyd eu gwneud, ac o bosibl, dewisiadau i'r Llywodraeth eu gwneud, er mwyn cynorthwyo'r gwasanaeth cyfan i wella.
Cytunaf fod arnom angen ymagwedd gwasanaeth cyfan. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod y system gyfan wedi torri a'r ambiwlansys a'r parafeddygon a staff y ganolfan alwadau sy'n gorfod ysgwyddo'r baich. Ac rydych yn dweud eich bod yn cyflawni targedau; nid oes unrhyw dargedau ar gyfer galwadau oren ac mae hynny'n rhan o'r broblem.
Y tu ôl i'r ystadegau, fodd bynnag, mae'n rhaid inni gofio bod yna ambell stori wirioneddol arswydus. Gadewch imi sôn am ddau achos trallodus iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a ddigwyddodd ar yr un diwrnod ar Ynys Môn yn ddiweddar. Ni allaf ddychmygu'r gofid a achoswyd i barafeddygon a fu'n ymdrin â'r achosion hyn, heb sôn am deuluoedd y bobl hynny. Yn gyntaf, poenau yn y frest—galwad goch, yn sicr. Mae ambiwlans yn cyrraedd ar ôl awr a phum munud. Mae'r claf wedi marw. Claf y tybir eu bod wedi cael strôc—galwad oren. Mae ambiwlans yn cyrraedd 10.5 awr yn ddiweddarach. Unwaith eto, bu farw'r claf. Yr un diwrnod.
Gadewch imi ganolbwyntio ar yr ail achos. Efallai nad yw'n effeithio ar y canlyniad os yw ambiwlans yn cyrraedd claf y tybir eu bod wedi cael strôc mewn wyth munud neu 10 munud, ond rhaid eich bod yn cytuno bod aros am oriau am sylw i gyflwr a allai fod mor ddifrifol yn annerbyniol. A ydych yn derbyn bod cael gwared ar unrhyw amser targed ar gyfer galwadau oren yn gorfodi staff ambiwlans sydd eisoes o dan bwysau i drin y galwadau hynny fel rhai â llai o flaenoriaeth, ac felly fod cleifion wedi eu rhoi mewn perygl?
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn hynod o siomedig gyda'r sylwadau a wnaethpwyd ar y dechrau, yn honni bod y system gyfan wedi torri. Nid yw hynny'n wir, a dylai fod cywilydd arnoch am ddweud y fath beth.
Dylai fod cywilydd arnoch chi. Dylai fod cywilydd arnoch chi. Sut y beiddiwch chi? Sut y beiddiwch chi?
Nid wyf yn cuddio—[Torri ar draws.] Nid wyf yn cuddio rhag yr heriau sy'n wynebu ein staff neu ein dinasyddion. Nid yw defnyddio'r fath iaith fwriadol ymfflamychol am ein system gofal iechyd yn adlewyrchu'n dda arnoch, Rhun ap Iorwerth. Nid wyf yn cuddio rhag yr heriau unigol. Ar y naill neu'r llall o'r pwyntiau a wnaethoch, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar yr hyn a ddigwyddodd mewn achosion unigol, ond fe'ch atgoffaf unwaith eto am y rheswm a'r rhesymeg dros roi'r model ymateb clinigol ar waith—nid barn glinigol yn unig, ond y dystiolaeth ynglŷn â sut rydym yn rhedeg ein system ambiwlans ac a ydym yn darparu cymorth i bobl mewn argyfwng a lle mae bywyd yn y fantol. Ac nid oedd y system flaenorol—mae llawer o dystiolaeth, a dderbynnir gan bobl ar draws y Siambr a thu hwnt—yn gweithio’n dda er lles y cleifion. Roedd gennym nifer o gategorïau ar gyfer ymateb wyth munud nad oeddent yn gwneud unrhyw synnwyr. Adolygwyd y dystiolaeth a dangosodd—nid yw'n syndod—fod system 40 mlwydd oed wedi dyddio. Yna, cawsom dystiolaeth glinigol a chyngor ar system well i roi blaenoriaeth i bobl â'r angen mwyaf. Cefnogwyd hynny gan staff parafeddygol ar y rheng flaen. Fe'i cefnogwyd gan arweinyddiaeth o fewn y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth iechyd ehangach. Dyna'r model rydym wedi'i roi ar waith.
Rydym hefyd, fodd bynnag, wedi cael adolygiad annibynnol o'r system newydd, ac roedd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar gategoreiddio galwadau. Felly, yn hytrach na gwleidyddion yn dadlau â'i gilydd ynglŷn â pha gyflwr penodol a ddylai fod ym mha gategori penodol, rydym unwaith eto yn edrych ar werthusiad priodol a sail briodol ar gyfer gwneud y dewis hwnnw. Rhaid mai dyna'r ffordd iawn i fwrw ymlaen, nid drwy ddull a arweinir gan ymgyrchu ynglŷn â pha gyflwr a ddylai fod ym mha gategori, ond sicrhau'r dystiolaeth briodol a chyngor clinigol ar beth i'w wneud ac yna gwneud y peth iawn—[Torri ar draws.] Ac yna gwneud y peth iawn o ran staff y system gyfan ac o ran pobl Cymru rydym i fod yma i'w gwasanaethu.
Sut y beiddiwch ddweud y dylai fod cywilydd arnaf? Sut y beiddiwch ddweud y dylai fod cywilydd arnaf am awgrymu bod eich system wedi torri? Staff y GIG ar y rheng flaen, boed mewn ambiwlansys neu mewn unedau damweiniau ac achosion brys, sy'n dweud wrthyf fod y system wedi torri. Chi sy'n gyfrifol am y system, ac rydym eisiau system well ar gyfer y cleifion sy'n haeddu hynny, a dweud y gwir, yma yng Nghymru.
Mae'n peri cryn bryder i staff ambiwlans, boed hynny mewn canolfannau rheoli, neu barafeddygon ar y ffordd, orfod gweld ac ymdrin ag achosion lle roeddent, a lle gallent fod wedi gwneud gwahaniaeth ond ni allent wneud hynny am eu bod wedi parcio, oherwydd y system, y tu allan i ysbytai. Efallai nad yw'n syndod mai staff ambiwlans sydd â'r cyfraddau uchaf o salwch staff o blith holl staff y GIG. Rwyf am i hynny newid, ac un peth y mae'n rhaid inni ei wneud yma yw cynnwys y staff i raddau mwy o lawer yn y dadleuon ynglŷn â dyfodol ein gwasanaeth. Y staff ar y rheng flaen sy'n gwybod sut y gellir gwella'r gwasanaeth. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ymgysylltu llawer mwy—[Torri ar draws.]—i ymgysylltu llawer mwy â staff ar y rheng flaen—efallai nad ydych yn malio; rwyf fi—
Rwy'n malio, Rhun, ac maent yn cael eu cynnwys, bob amser.
—ac yn gwrando ar eu galwadau? Mae angen ymgysylltu â pharafeddygon ar y ffyrdd a staff yr ystafelloedd rheoli, mae ganddynt syniadau, hwy sydd ar y rheng flaen, maent yn haeddu cael eu clywed.
Wel, nid wyf yn ymddiheuro am ddweud nad yw'r GIG wedi torri. Nid wyf yn ymddiheuro am waredu at y ffordd rydych wedi ymdrin â'r mater hwn. Rwyf wedi cyfarfod—[Torri ar draws.] Rwyf wedi cyfarfod—[Torri ar draws.] Rwyf wedi cyfarfod â pharafeddygon ar yr adegau gwaethaf. Pan gefais fy mhenodi'n Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd, a chyfarfod â pharafeddygon ar y pryd, roeddent yn ddig ac yn ddigalon. Roeddent am i'r system newid. Roeddent yn cydnabod eu bod ar garlam gwyllt i gyflawni targed nad oeddent yn credu ynddo, nad oeddent o'r farn ei fod er budd y claf neu eu budd hwythau fel aelodau o staff ychwaith. Roeddent yn rhan uniongyrchol o'r broses o helpu i newid y system honno. Gwrandawsom ar yr hyn roedd parafeddygon yn ei ddweud wrthym ar y pryd, ac rydym yn parhau i wrando. Rwyf wedi treulio llawer iawn o fy amser yn y swydd hon allan yn gwrando'n uniongyrchol ar staff yn eu gweithleoedd. Roeddwn gyda pharafeddygon yr wythnos diwethaf yng ngogledd Cymru. Bûm yn gwrando arnynt yn sôn am y gwaith y maent yn ei wneud i wella ein system gofal iechyd, y gwaith ar dreial sy'n mynd rhagddo yng ngogledd Cymru, a chredaf ei fod yn debygol o gael ei gyflwyno ledled gweddill y wlad, sef defnyddio uwch barafeddygon i wella gofal y tu allan i'r ysbyty er mwyn osgoi derbyniadau diangen. A byddwn yn parhau i wrando ar ein staff. Byddwn yn parhau i sicrhau eu bod yn ymgysylltu, fel y gwnânt eisoes, fel unigolion yn eu gweithleoedd, o fewn eu hundebau llafur a'u cynrychiolwyr, gan fod hon yn system sy'n awyddus i wella ac i ddysgu. A phe baech yn treulio mwy o amser gyda chynrychiolwyr yn ein system er mwyn edrych ar y gwelliannau a fu dros y blynyddoedd diwethaf, ac edrych ar y gwelliannau pellach rydym yn eu cynllunio a'u treialu, credaf y byddai eich safbwynt ychydig yn wahanol.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu cynlluniau peilot Buurtzorg ar gyfer gofal nyrsio yn y gymdogaeth yng Nghymru? OAQ51901
Gwnaf. Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys, sy'n gyfrifol am amryw o ardaloedd trefol, ardaloedd y Cymoedd ac ardaloedd gwledig Cymru, yn awyddus i dreialu cynllun peilot o'r math hwn. Maent wedi cael eu comisiynu i dreialu prototeipiau timau nyrsio ardaloedd cymdogaeth gan adeiladu ar fodel Buurtzorg. Ar hyn o bryd, maent yn gweithio ar eu cynlluniau ar gyfer y cynlluniau peilot hyn, gyda'r nod o'u rhoi ar waith yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.
Ymddengys i mi fod model Buurtzorg o dimau bach hunanreolaethol sy'n gyfrifol am grŵp o ddinasyddion sydd angen gofal cymdeithasol yn ffordd ddiddorol o wella ac ail-lunio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion pobl yn well. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae oddeutu 900 o dimau yn yr Iseldiroedd, sef lle y dechreuodd y system hon wrth gwrs, yn cael eu cefnogi bellach gan fwy na 50 o weinyddwyr ac 20 o hyfforddwyr, ac yn y cyfamser, maent yn treulio o leiaf 60 y cant o'u hamser mewn cysylltiad uniongyrchol â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Felly yn amlwg, mae gan bobl gryn ddiddordeb mewn gweld sut rydym yn bwrw ymlaen yng ngoleuni'r arolwg seneddol. A allwch ddweud wrthym pa sylw sy'n cael ei roi i'r treialon sydd wedi bod yn mynd rhagddynt mewn lleoedd eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—faint o wybodaeth rydych yn ei chael o ran pa mor dda y maent yn gweithio yno? Pa mor gyflym y credwch y gall canlyniadau'r cynlluniau peilot yng Nghymru gael eu rhannu ar draws gweddill y GIG yng Nghymru? Ac a fyddech yn cytuno mai model Buurtzorg yw'r union fath o fodel newydd mentrus o ofal di-dor a nodir yn yr arolwg seneddol, ac felly ei fod yn rhywbeth y dylai fod gennym gryn ddiddordeb ynddo?
Oes, mae'n amlwg fod diddordeb gennym ym model Buurtzorg a'r broses o'i roi ar waith yng Nghymru. Mae swyddogion yn edrych ar y gwaith yn yr Alban, lle maent yn gobeithio gweithredu—maent ar gam cynnar iawn. Yn Llundain, maent wedi mynd ychydig ymhellach, gyda rhai cynlluniau peilot eisoes ar waith. Credaf fod y pethau hyn yn cyd-fynd â'r safbwynt a nodir yn yr arolwg seneddol ynghylch modelau gofal cymdogaeth newydd—gofal iechyd lleol iawn. Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynllun peilot ar waith yw ceisio gwneud hyn dros ddwy flynedd fel y gellir cael tystiolaeth ddefnyddiol mewn amrywiaeth o leoliadau ar gyfer dysgu system gyfan, ac yna, gobeithio, os oes modelau y dylem eu rhoi ar waith, bydd her i'r system allu cyflawni hynny'n gyflym. Mae swyddogion hefyd wedi cyfarfod â Public World a Buurtzorg Britain & Ireland, sy'n cefnogi'r cynlluniau peilot yn yr Alban a Lloegr. Felly, mae gennym y cyfle gorau i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yno, yn ogystal â'r gwaith nad yw wedi dechrau eto yng Ngogledd Iwerddon.
Wel, mae gennym ninnau gryn ddiddordeb yn y model hwn hefyd, yma yn y Ceidwadwyr Cymreig, a gobeithio y bydd modd i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith y cynlluniau peilot dros y ddwy flynedd nesaf. Un model yn unig yw hwn, wrth gwrs. Fe fyddwch yn gwybod am un model sydd o ddiddordeb arbennig i mi, sef model canolfan gofal sylfaenol Castell-nedd, a gefnogwyd gan arian Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau sy'n pennu cyfeiriad yn 2016, ac a gafodd ei gymeradwyo gan feddygon teulu, gan gynnwys y coleg brenhinol, yn ogystal â chleifion. Tybed a allwch roi rhyw fath o syniad inni beth sy'n digwydd i werthusiadau'r treialon amrywiol hyn, a chadarnhau a ellir defnyddio'r gronfa gofal integredig i droi cynllun peilot llwyddiannus yn rhywbeth parhaol a chynaliadwy. Neu a fydd angen i bob partner gyfrannu at bot buddsoddi er mwyn troi'r cynlluniau peilot hynny'n rhywbeth sy'n para ychydig yn hwy—rhai llwyddiannus?
Rwy'n fwy na pharod, wrth gwrs, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth inni wneud mwy o gynnydd ar y cynlluniau peilot dull Buurtzorg a grybwyllwyd ar ddechrau'r cwestiwn. O ran y dysgu ehangach o brosiect pennu cyfeiriad Castell-nedd, cefais ymweliad diddorol iawn yno gyda David Rees a Jeremy Miles fel cynrychiolwyr yr etholaeth, i edrych ar yr amrywiaeth o waith sy'n mynd rhagddo yn y ganolfan i gefnogi'r meddygon teulu eu hunain, ond hefyd yr adroddiadau cadarnhaol iawn gan feddygon teulu fod brysbennu dros y ffôn yn darparu mynediad gwell ar gyfer eu cleifion, yn eu barn hwy, a'r her sy'n wynebu'r staff wrth iddynt ymgyfarwyddo â hynny, a'r cleifion hefyd. Ond hefyd, credant fod hynny wedi gwneud swydd y meddyg teulu yn swydd well. Mae ganddynt hefyd fynediad cyflymach at wahanol staff gofal iechyd yn y ganolfan. Felly, mae llawer o ddysgu. Nid yw'n fater ar gyfer y gronfa gofal integredig yn unig, mewn gwirionedd; mae hefyd yn fater i'r clystyrau ei ystyried. O'r holl wahanol brosiectau sy'n pennu cyfeiriad rydym wedi buddsoddi ynddynt ledled y wlad, ein her bellach yw deall a gwerthuso'r cynnydd a wnaethant, a sut rydym yn cyflwyno hynny mewn model gofal iechyd lleol gwell ledled y wlad. Oherwydd gallai llawer o hyn ddigwydd mewn nifer o wahanol gymunedau ledled y wlad. Cyflymder yw'r her, ac mae hynny'n ymwneud ag ymrwymiad arweinwyr clystyrau a chlystyrau unigol, a'r amrywiaeth o bobl o fewn y clystyrau gofal iechyd lleol hynny, a fydd yn bwysig iawn i allu gwneud hynny.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru? OAQ51899
Rydym yn buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau, a rhoddir sylw i'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd yn ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau diweddaraf. Maent yn cynnwys cefnogi gwasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol. Wrth gwrs, comisiynir y gwasanaethau hyn yn rhanbarthol gan fyrddau cynllunio ardal, yn seiliedig ar asesiad o'r angen lleol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae camddefnyddio cyffuriau yn broblem enfawr yn ein carchardai—y prif reswm pam mae carcharorion yn troseddu yn y lle cyntaf ac un rheswm pam mae llawer yn aildroseddu. Er gwaethaf ymdrechion gan staff y carchardai, sy'n gweithio'n galed iawn i ddarparu profion cyffuriau gorfodol a chynorthwyo carcharorion i roi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau, mae'r gwaith hwn weithiau'n mynd yn ofer gan fod carcharorion, pan gânt eu rhyddhau, yn aml yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain wrth gatiau'r carchar, heb dai na chymorth parhaus. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r broses o adsefydlu pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn y system cyfiawnder troseddol er mwyn mynd i'r afael â chyfraddau aildroseddu?
Cefais gyfarfod heddiw lle y trafodwyd rhan o'r mater hwn—ynghylch digonolrwydd gofal iechyd y GIG o fewn y system garchardai. Wrth gwrs, nid ydym yn goruchwylio carchar y Parc am ei fod yn garchar preifat. Mewn gwirionedd, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi sy'n gyfrifol am oruchwylio'r carchar hwnnw. Mae yna her yn hyn o beth hefyd ynghylch cydnabod, ar ôl i garcharorion gael eu rhyddhau, eu perthynas â'r gwasanaeth prawf. Rwy'n gresynu'n fawr at y newidiadau a wnaethpwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'r gwasanaeth prawf. Credaf ei fod yn wasanaeth llai cadarn gyda llai o allu i gynorthwyo pobl yn briodol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar, a chredaf eu bod yn fwy tebygol o aildroseddu a bod yn agored i niwed yn sgil hynny. Ond mae gwaith rheolaidd yn mynd rhagddo i edrych ar ofal iechyd mewn carchardai, ac wrth gwrs, mae camddefnyddio sylweddau yn rhan bwysig o'r gwaith hwnnw, ac rwy'n disgwyl cael diweddariad pellach yn sgil y gwaith a wneir ar y cyd gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ddigonolrwydd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu.
Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith Kaleidoscope a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent sy'n darparu ystod eang o weithgareddau ar gyfer y rheini sy'n gwella o'u problemau cyffuriau ac alcohol, fel y gallant ddatblygu diddordebau newydd, dod o hyd i ffyrdd mwy defnyddiol o dreulio eu hamser i gynorthwyo'r broses o wella, ac yn benodol, cydnabod mentrau newydd, megis ddydd Sadwrn, pan fyddaf yn ymuno â staff Kaleidoscope a defnyddwyr y gwasanaeth ar gyfer y digwyddiad parkrun yng Nghasnewydd, lle maent yn datblygu gwaith ar y cyd i gynnig rhagor o gyfleoedd i bobl sy'n gwella allu datblygu diddordebau newydd a dod o hyd i bethau defnyddiol i'w gwneud gyda'u bywydau.
Rwyf wedi ymweld â gwasanaeth Kaleidoscope, ac rwy'n cydnabod ymroddiad y staff yno. Unwaith eto, gan ddychwelyd at rai o'r materion eraill rydym wedi eu trafod, nid yw gwella'n daith syml, un cam. Bydd yn wahanol i wahanol bobl. Rwy'n gyfarwydd â'r digwyddiad parkrun. Ni fyddaf yn ymuno â chi—fe ddywedaf hynny'n glir—ddydd Sadwrn, ond mae amrywiaeth o wahanol ffyrdd i gynorthwyo'r broses o wella, gwahanol ddiddordebau a gwahanol ddifyrion. Ond hefyd, mae'n ymwneud â gofalu am eich iechyd corfforol yn ystod y broses honno o wella. Felly, rwy'n cydnabod y gwaith hwnnw. Maent yn bartner gwerthfawr, a gomisiynwyd gan y byrddau cynllunio ardal sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, ac maent yn fodel da o ran beth sy'n creu gwasanaeth llwyddiannus.
Yn ystod dadl Llywodraeth Cymru ar 21 Tachwedd ar fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, er gwaethaf fframwaith camddefnyddio sylweddau Cymru gyfan ar gyfer adsefydlu preswyl, nodais fod llawer iawn o bobl o Gymru, yn ôl cyfran, yn dal i gael eu cyfeirio at ddarparwyr yn Lloegr nad oeddent yn rhan o'r fframwaith. Yn y cyfamser, mynegwyd pryderon gan y sector sy'n dweud bod y llwybr tuag at adsefydlu preswyl yng Nghymru yn un toredig, fod mynediad at wasanaethau adsefydlu preswyl yng Nghymru yn loteri cod post, ac nad yw gwasanaethau preswyl yn cael eu comisiynu yng ngwir ystyr y gair ond yn cael eu prynu yn ôl y galw. Sut, felly, rydych yn cyflawni neu'n mynd i gyflawni gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, a dderbyniwyd yn unfrydol yn y ddadl honno, gan gynnwys cefnogaeth o'ch plaid eich hun, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r capasiti o ran gwasanaethau adsefydlu preswyl a dadwenwyno cleifion mewnol haen 4, gan gydnabod nad dewis amgen yw hwn yn lle gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar wella yn y gymuned?
Wel, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Aelod ysgrifennu ataf gyda'r manylion a ddarparwyd ganddo a byddaf yn fwy na pharod i edrych arnynt, gan fy mod yn disgwyl i'r byrddau cynllunio ardal gomisiynu gwasanaethau yn briodol a sicrhau bod yr angen sydd gennym yn cael ei ddiwallu'n briodol, ac yn cael ei ddiwallu yn y lleoliad mwyaf lleol lle bo modd. Efallai y bydd adegau pan fydd angen gwasanaethau arbenigol y tu allan i Gymru, ond buaswn yn disgwyl i'r gwasanaethau rydym yn eu comisiynu ac yn darparu arian ar eu cyfer gael eu defnyddio'n briodol, a'u defnyddio i'r graddau mwyaf posibl.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drosglwyddo cleifion y GIG at y lleoliad gofal mwyaf priodol? OAQ51906
Gwnaf. Mae cydweithredu effeithiol rhwng ein GIG, awdurdodau lleol a'u partneriaid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo i'r lleoliadau sy'n diwallu eu hanghenion gofal yn y ffordd orau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar reoli'r broses bwysig honno ac awgryma tueddiadau diweddar fod hynny'n cael effaith gadarnhaol.
Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â chartref gofal bach annibynnol yn fy etholaeth, ac fe'm hargyhoeddwyd gan y perchennog ynghylch pwysigrwydd cydweithredu rhwng llywodraeth leol, y byrddau iechyd lleol ac eraill er mwyn sicrhau bod pob claf yn derbyn y gofal angenrheidiol. Nododd hefyd sut y gall y broses o drosglwyddo cleifion i leoliad gofal gwahanol effeithio ar y claf a'u teuluoedd, gan achosi straen ychwanegol ar adeg sydd eisoes yn adeg anodd. Mae'r gronfa gofal integredig yn annog gweithio mewn partneriaeth rhwng pobl sy'n cefnogi pobl sydd ar fin gadael gofal a phobl sydd mewn perygl o fynd i ysbytai neu gartrefi gofal preswyl heb fod angen. Gyda'r cyn-Weinidog Rebecca Evans, ymwelais ag enghraifft wych yn fy etholaeth i, ym Malpas, sef Parklands. A all y Gweinidog amlinellu sut y gallwn ddefnyddio'r gronfa'n greadigol i sicrhau bod cleifion yn mynd i'r lleoliad gofal mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion?
Gallaf, ac mae'n bwynt hollbwysig. Mewn rhai ffyrdd, mae'r gronfa gofal canolraddol a'r defnydd ohoni, nid yn unig i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau'n effeithiol, ond hefyd i hwyluso'r broses drosglwyddo honno i'r lleoliad gofal addas ar gyfer yr unigolyn, boed hynny yn eu cartref gyda'r gofal cofleidiol y mae arnynt ei angen i'w cynorthwyo i fyw'n annibynnol, neu mewn gwirionedd, mewn cartref gofal, a chyda'r cymorth priodol hefyd, yn hollbwysig. Mae'r gronfa gofal canolraddol wedi gwneud cymaint o waith ar hyn, nid yn unig yn ardal Gwent, ond hefyd lle mae wedi galluogi'r timau y bûm yn ymweld â hwy yn Ysbyty Maelor, yng Nghaerffili, ym Mro Morgannwg ac mewn mannau eraill, sy'n defnyddio cyllid y gronfa gofal canolraddol a'r hyblygrwydd y mae'n ei ddarparu i hwyluso'r broses drosglwyddo honno, i wneud y dewisiadau cywir. Ac wrth gwrs, mae'n canolbwyntio'n llwyr ar weithio ar y cyd, nid yn unig rhwng yr awdurdod lleol a'n GIG, ond hefyd partneriaid y trydydd sector ar lawr gwlad—y bobl sy'n gallu ymateb o ddifrif i anghenion yr unigolyn.
Felly, yn ardal Gwent, mae gennym, er enghraifft, o fewn y cyfanswm o £60 miliwn ar gyfer y gronfa gofal canolraddol eleni, £9 miliwn wedi'i ddyrannu yn rhanbarth Gwent. Roedd 'Symud Cymru Ymlaen', wrth gwrs, yn cynnwys ymrwymiad i gadw'r gronfa hon, oherwydd gallwn weld, mewn rhai ffyrdd, fod hyn yn rhagfynegi ble y dylem fynd mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol ac o ran yr arolwg seneddol y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato: gweithio ar y cyd, sicrhau bod yr arian yn mynd ymhellach, ond gan ddarparu gwell canlyniadau. Ac rydym yn gweld mwy a mwy o hyn bellach, ledled Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, dengys ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf fod cleifion ar wardiau acíwt, adsefydlu cymunedol a wardiau eraill wedi wynebu llai o oedi cyn symud ymlaen at y cam nesaf o ofal na'r oedi a wynebwyd ar wardiau iechyd meddwl. Yn wir, mae bron i 80 y cant o'r cleifion sydd wedi wynebu dros 26 wythnos o oedi yn gleifion ar wardiau iechyd meddwl. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblem oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer cleifion iechyd meddwl yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Ie wir, yn hollol. Oedi wrth drosglwyddo gofal sydd wrth wraidd hyn—rheoli'r broses drosglwyddo hon yn effeithiol. Ac wrth gwrs, mae'r gofal cywir y cyfeiriais ato yn gynharach yn cynnwys y gofal iechyd meddwl cywir hefyd, yn ogystal â thriniaeth, yn y lleoliad cywir hefyd. Y newyddion da yw nad yw hyn yn gyfystyr a gwasgu botwm a dileu achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal dros nos i'r lleoliad priodol, ond rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran y gwaith rydym wedi'i wneud. Felly, gallaf ddweud wrth yr Aelod, i ateb ei gwestiwn, mai cyfanswm nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal y llynedd, yn 2017, oedd 750—mae hynny 750 yn ormod, ond mae 13 y cant yn is na'r ffigur ar gyfer y flwyddyn flaenorol, a dyma'r nifer isaf dros flwyddyn lawn a gofnodwyd yn y 12 mlynedd ers dechrau cofnodi ystadegau ar gyfer oedi wrth drosglwyddo gofal. Y cyfanswm ar gyfer Cymru gyfan o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yng nghyfrifiad Ionawr 2018 oedd 442. Nawr, rydym yn cydnabod bod y ffigur hwn ychydig yn uwch—roedd 4 y cant yn uwch o gymharu â mis Rhagfyr y llynedd—ond er gwaethaf y pwysau enfawr rydym wedi ei wynebu eleni, dyma'r mis Ionawr isaf ond dau yn y 12 mlynedd ers inni ddechrau casglu data. Felly, mae'n amlwg ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn, ond os yw'r Aelod yn fodlon, rwy'n credu y byddaf yn ysgrifennu ato gyda rhai manylion penodol ynglŷn â beth rydym yn ei wneud mewn perthynas ag iechyd meddwl hefyd er mwyn egluro, fel rhan o'r dull hwnnw, lle rydym yn mynd i'r afael â sicrhau mai dyna'r newid cywir ar gyfer pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl hefyd.FootnoteLink
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys? OAQ51885
Ym mis Ionawr, ymatebwyd i 68.3 y cant o alwadau coch ym Mhowys o fewn wyth munud. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd, y sector gwirfoddol a phartneriaid yn y gwasanaethau tân ac achub i wella'r ymateb mewn ardaloedd gwledig fel Powys lle y gall fod yn anos rhagweld ffocws y galw.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddiolch i chi am eich ateb? Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi gweld cynnydd sylweddol, ers mis Tachwedd, yn y pryderon a godwyd ynghylch oedi difrifol o ran yr amser y mae'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd yn dilyn galwad 999. Yn ôl y cwestiynau a ofynnwyd i chi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae'n ymddangos bod hynny'n cynyddu hefyd ymhlith yr Aelodau.
Nawr, mae'n rhaid imi ddweud, cafwyd un digwyddiad lle roedd etholwr wedi syrthio ar y stryd yn y Drenewydd ac arhosodd am awr a hanner ar balmant oer i'r ambiwlans gyrraedd. Yn yr amser hwnnw, gwaethygodd sefyllfa'r etholwr yn sylweddol. Mae'n rhaid imi ddweud, ysgrifennais at yr ymddiriedolaeth ambiwlans, a dywedwyd wrthyf fod hyn yn annerbyniol. Ond roeddent hefyd yn dweud bod hyn yn anffodus ac na ellid bod wedi ei osgoi, ac aethant yn eu blaenau i ddweud wrthyf, o'r naw cerbyd brys sydd ar gael yn ardal Powys, fod saith ohonynt yn aros y tu allan i ysbytai i drosglwyddo cleifion i ofal staff ysbyty.
Nawr, ymddengys i mi fod hon yn broblem sy'n ymwneud yn benodol ag Ysbyty Maelor Wrecsam, yn anffodus, hefyd. Mae'n rhaid imi ddweud, y penwythnos hwn, tynnwyd fy sylw at fater arall lle bu'n rhaid i un o drigolion y Trallwng aros saith awr am ambiwlans. Nid wyf yn disgwyl ichi wneud sylwadau ar yr enghreifftiau penodol hyn, ond mae'r rhain yn peri cryn drallod, wrth gwrs, i'r claf, trallod i'r bobl sy'n aros gyda'r claf, a chryn rwystredigaeth hefyd i staff yr ambiwlans a'r parafeddygon sy'n gwneud gwaith gwych yn cynorthwyo wedi iddynt gyrraedd.
A gaf fi ofyn i chi: buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi manylion i mi ynglŷn â beth rydych yn ei wneud i atal yr amseroedd trosglwyddo mewn ysbytai rhag achosi'r oedi hwn? Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y digwyddiadau hyn yn annerbyniol, a'u bod yn digwydd yn amlach, yn anffodus.
Ydw, rwy'n cydnabod y darlun rydych yn ei baentio a'r ffaith bod mwy o bobl, dros y gaeaf hwn, wedi bod yn aros yn rhy hir o lawer am wasanaeth, ac nid wyf yn ceisio honni bod hynny'n dderbyniol o gwbl. Mae yna her yma i ni ddeall beth y mae angen inni ei wneud ar draws ein system i wella hynny, yn wir, gan gynnwys dewisiadau ynghylch capasiti neu beidio, ond rydych yn nodi un o'r heriau sy'n ein hwynebu, sef oriau coll a heriau wrth drosglwyddo yn benodol. Nawr, bwriad y canllawiau a ddarparwyd mewn adrannau achosion brys yw sicrhau bod pobl yn cael eu trosglwyddo'n gyflym o'r ambiwlans i'r adran achosion brys, a cheir heriau mewn gwahanol unedau ledled Cymru mewn perthynas â'r gallu i wneud hynny mor gyflym ag y gwelwn, er enghraifft, yng Nghwm Taf, sydd bob amser wedi bod—wel, yn sicr, dros yr ychydig aeafau diwethaf—yn esiampl dda o drosglwyddo cleifion yn gyflym, a rheoli risg o fewn adran achosion brys yn hytrach na pheri risg na ellir ei rheoli o fewn y gymuned os yw ambiwlansys yn gorfod aros.
Rwy'n cydnabod y trallod i unigolion a'u teuluoedd yn ogystal â rhwystredigaeth y staff. Mae rhaglen waith ar y gweill yng Nghymru mewn perthynas â hynny. Mae'r cyfarwyddwr clinigol ar gyfer gofal heb ei drefnu, Jo Mower, sy'n feddyg ymgynghorol yn ysbyty'r Mynydd Bychan, yn awyddus i gael y sgwrs honno gyda chydweithwyr ledled y wlad ynglŷn â gwella ymarfer, ond wrth gwrs, rydym bellach yn amlygu'r oriau coll a ddarperir. Nid oedd hynny'n rhywbeth a wnaethpwyd yn gyhoeddus i ddechrau. Yn rheolaidd, o ganlyniad i'r system newydd rydym wedi'i rhoi ar waith—. Ond nid yw eich pryder ynghylch Powys yn broblem benodol ynglŷn ag Ysbyty Maelor Wrecsam, oherwydd mae'n rhaid imi ddweud mai yn Ysbyty Brenhinol Amwythig y cafwyd y rhan fwyaf o'r achosion o oedi wrth drosglwyddo sydd wedi effeithio ar gleifion Powys dros y ddeufis diwethaf. Mae yna her i'w datrys yn Wrecsam ac ym Mronglais, ond y rhan fwyaf o'r her sy'n effeithio ar eich etholwyr, mewn gwirionedd, yw'r Amwythig.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51902
Diolch. Mae mynediad at ofal deintyddol y GIG wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, er bod anawsterau o hyd mewn rhai meysydd. Mae gan y byrddau iechyd gyllidebau a chyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau deintyddol ac maent yn gweithio i fynd i'r afael â diffygion yn y ddarpariaeth drwy eu cynlluniau gweithredol.
Wel, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n dweud bod pethau wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn sicr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o'r hyn rwyf wedi gweld o etholwyr yn dod ataf i, mae'r dirywiad wedi ei osod mewn ac yn dechrau gwaethygu. Felly, nid oes deintydd NHS bellach yn Aberystwyth. Nid oes modd i glaf newydd gael deintydd NHS yn nhref fwyaf canolbarth Cymru. Mae yna restr aros o dair blynedd o hyd ar gyfer orthodonteg yn Hywel Dda. Rwyf wedi codi hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes gwella wedi bod yn y maes yma. Mae gen i glaf sy'n etholwr i fi yn ardal Betsi Cadwaladr sy'n dal i aros am implants hanfodol gan fod yr ymgynghorydd deintyddol a oedd wedi cael ei fewnforio dros dro i Betsi Cadwaladr bellach wedi dychwelyd i Birmingham, heb ddelio â chlaf sydd wedi bod yn aros dros flwyddyn.
Mae'r sefyllfa ddeintyddol yn gwaethygu erbyn hyn. Pa gamau penodol ydych chi'n mynd i gymryd, yn enwedig yn Betsi Cadwaladr, yr ydych chi'n gyfrifol yn uniongyrchol amdano, ond hefyd yn Hywel Dda, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau yma nid yn unig yn peidio â dirywio ond yn dechrau gwella?
Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld 45,000 yn ychwanegol o gleifion y GIG yn derbyn gofal deintyddol y GIG yn ardal Hywel Dda. Yr her sy'n ein hwynebu yw ein gallu i ateb cyflymder y galw, ac rwy'n cydnabod bod heriau gwirioneddol i'w cael, yn enwedig mewn perthynas ag orthodonteg, a gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf parthed hynny ar sawl achlysur. Rwy'n cydnabod bod rhai pobl yn aros yn hwy nag y dylent, ond mae angen inni edrych hefyd ar yr hyn sy'n digwydd go iawn o fewn y rhestrau aros, a phan gaiff pobl eu cyfeirio, a wneir yr atgyfeiriad priodol ar y pryd. Mae hynny'n rhan o'r angen i edrych ar y gwasanaeth.
Ond, yn gadarnhaol, rwyf wedi siarad gyda'r ddau fwrdd iechyd ynglŷn â'u cynlluniau, oherwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ddau fwrdd iechyd wedi tanwario ar eu cyllidebau deintyddol a glustnodwyd. Felly, mae yma her o ran sicrhau eu bod yn gwario'r adnoddau sydd ganddynt ar gyfer gwasanaethau deintyddol. Rwy'n disgwyl gweld cynlluniau gwell ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a rhoddaf sicrwydd llwyr i chi ynglŷn â lefel y manylion yng nghynllun Hywel Dda, gan fy mod yn deall eu bod yn awyddus i ddarparu rhagor o wasanaethau. Mae ganddynt gynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf. Maent yn dechrau proses dendro—mae'n ddrwg gennyf, mae proses dendro eisoes ar waith, a bydd honno'n cynnwys gwasanaethau newydd mewn 10 lleoliad ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda. Hoffwn lefel debyg o hyder ym manylion y cynllun ar gyfer gogledd Cymru, gan fy mod yn llawn ddisgwyl y byddwch chi ac Aelodau eraill yn parhau i ofyn cwestiynau os yw eich etholwyr yn parhau i aros am gyfnodau annerbyniol o hir am y gwasanaeth, neu'n clywed nad oes deintydd GIG o fewn pellter teithio rhesymol.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i'r gwasanaeth iechyd yn Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf? OAQ51880
Byddwn yn parhau i weithio gyda bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda i ddarparu'r gwasanaethau iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer cleifion yn sir Benfro. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a mwyaf diweddar er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch eisoes, bydd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori cyn bo hir ar eu cynigion i drawsnewid gwasanaethau yng ngorllewin Cymru. Fel y gwyddoch, rwy'n gwrthwynebu unrhyw gynigion a fyddai'n arwain at israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, neu gau'r ysbyty'n gyfan gwbl, oherwydd, fel y gwyddoch, nid yw'r bwrdd iechyd wedi diystyru'r posibilrwydd hwnnw.
O dan yr amgylchiadau hyn, a allwch gadarnhau ar gyfer y cofnod heddiw eich bod wedi cynnal trafodaethau gyda bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn? Ac a allwch gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd y bydd arian yn cael ei ddarparu ar gyfer pa opsiynau bynnag y bydd y bwrdd iechyd lleol yn penderfynu eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn eu cylch? Oherwydd os nad yw hynny'n wir, pa ddiben ymgynghori ar unrhyw opsiynau o gwbl?
Mae tri phwynt i'w gwneud ynglŷn â'ch cwestiwn. Rwy'n deall pryderon Aelodau o bob plaid ynghylch unrhyw ymgynghoriad ar ddyfodol y gwasanaethau iechyd yn eu hardal hwy. O ran y manylion ynghylch beth allai ddigwydd ai peidio, rwyf wedi cael sgyrsiau bras gyda phob bwrdd iechyd, ac ar lefel genedlaethol hefyd. Os ydych wedi cael y pleser, neu fel arall, o wrando arnaf yn gwneud areithiau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn gyson fod angen inni weld diwygio bwriadol wedi'i gynllunio o fewn y gwasanaeth, yn hytrach nag aros i newid ddigwydd ar adeg o anhrefn neu pan fo gwasanaethau'n methu. Dyna'r arwydd rwyf wedi'i roi. Ategir hynny hefyd gan yr arolwg seneddol sy'n dweud bod angen inni gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan nad yw ein model presennol o ddarparu gwasanaethau yn addas ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau â'u cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Nid wyf wedi sôn am y manylion o ran beth allai hynny fod, oherwydd efallai y bydd gennyf rôl yn gwneud penderfyniadau yn y broses.
O ran yr ail bwynt ynglŷn â phryd y bydd hynny'n dechrau digwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, dylem weld ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau a ddiffiniwyd yn dilyn cyfarfod y bwrdd ym mis Ebrill. Nid wyf wedi cael golwg gynnar arnynt nac wedi ystyried eu cymeradwyo mewn unrhyw ffordd. Credaf ei bod yn bwysig iawn i mi sicrhau nad yw'n fater o roi trwydded neu hawl i gael y sgwrs hon, ond bod disgwyl i'r byrddau iechyd gael y sgwrs gyda'u staff a chyda'r cyhoedd, a nodi'n glir beth y mae hyn yn ei olygu iddynt—beth y mae hyn yn ei olygu o ran ansawdd y gwasanaeth, beth y mae hyn yn ei olygu o ran mynediad a beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid inni gael cwestiynau wedyn ynghylch gweledigaeth y cytunir arni o ran pa gyllid a fydd ar gael yn y dyfodol, oherwydd dylech ddisgwyl imi beidio â rhoi penrhyddid llwyr i unrhyw fwrdd iechyd ddweud y bydd unrhyw gynllun a gynhyrchir ganddynt yn cael ei ariannu ar unrhyw sail. Rwy'n disgwyl gweld opsiynau yn cael eu cyflwyno, ac rwy'n disgwyl inni weithio gydag unrhyw fwrdd iechyd a phob bwrdd iechyd i edrych i weld sut y gallwn eu cynorthwyo yn y dyfodol i ddarparu gofal iechyd yn eu hardaloedd.
Rwy'n cydnabod eich bod yn awyddus imi ddarparu lefel o fanylder ar hyn, ond nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny, ac ni fyddai'n briodol i mi geisio gwneud hynny pan fydd angen i minnau hefyd, wrth gwrs, ddeall pa adnoddau ariannol a fydd ar gael i'r Llywodraeth hon yn y dyfodol, ac yn wir, i'r gwasanaeth iechyd yn benodol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiynau nesaf i'r Cwnsler Cyffredinol, a'r cwestiwn cyntaf—Mark Reckless.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OAQ51888
Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i ddarparu barn arbenigol, annibynnol a hirdymor. Mae wedi dechrau ar y gwaith ac mae wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu.
Fis wedi iddo gael ei benodi'n Arglwydd Brif Ustus, rhoddodd yr Arglwydd Thomas ddarlith yn dweud bod cyfreithwyr Ewrop yn edmygu system gyfreithiol Cymru a Lloegr oherwydd ei hannibyniaeth, ei phroffesiynoldeb a'r ffaith ei bod wedi bod yn sylfaen hanfodol i'n ffordd ddemocrataidd o fyw, ac i'n ffyniant cyffredinol ers cannoedd o flynyddoedd. Er bod llawer ohonom yn gyfarwydd â rhesymeg awdurdodaeth yn dilyn deddfwrfa ac yn gwybod bod ein sefyllfa bresennol yn un anarferol, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod y comisiwn yn cynnig y dull cywir i sicrhau ystyriaeth ofalus a rhywfaint o bwyll cyn ceisio gwahanu neu neilltuo ein hunain oddi wrth awdurdodaeth a rennir sy'n gymaint o lwyddiant â'r un a ddisgrifiwyd gan yr Arglwydd Thomas?
Mae'r Aelod yn cydnabod nad yw'r mater yn un syml. Ceir sawl safbwynt gwahanol ynglŷn â'r mater hwn. Fe fydd yn ymwybodol o safbwynt Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir ym Mil drafft Llywodraeth Cymru sydd ar gael i'r cyhoedd. Fel yr unig ddeddfwrfa y gallwn feddwl amdani nad oes ganddi ei hawdurdodaeth ei hun, mae'n berffaith amlwg fod hynny'n peri heriau sylweddol iawn, a chyfyngiadau sylweddol iawn ar weithredu ein pwerau datganoledig, ac mewn gwirionedd mae hynny wedi siapio'r setliad datganoli mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol i bobl Cymru. Pe baem wedi cael trefniadau awdurdodaethol gwahanol, ni fyddai rhai o'r cyfyngiadau sy'n ein hwynebu yn bodoli, a byddai modd inni ddefnyddio ein pwerau'n fwy cyffredinol, ac efallai, yn fwy effeithiol mewn rhai meysydd. Felly, credaf fod angen ystyried hynny yn y cyd-destun hwn.
Mae sawl ffordd o sicrhau ein bod yn cynnal dibynadwyedd, sicrwydd ac enw da'r awdurdodaeth a weithredir gennym yma yng Nghymru, yn ogystal â'r hyn a weithredir yn Lloegr. Ni pheryglir dim o hynny gan awdurdodaeth neilltuol neu ar wahân, a chredaf mai rhan o'r daith rydym arni gyda'r comisiwn hwn yw esbonio ac ystyried hynny mewn ffordd sy'n arbenigol ac yn annibynnol, ac sy'n sail i well dealltwriaeth ymhlith pobl yng Nghymru o rinweddau awdurdodaeth neilltuol, ac awdurdodaeth ar wahân maes o law.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod e eisiau cael system droseddol wahanol i Gymru, mewn ateb yn yr wythnosau diwethaf, ond nid yw polisi y Llywodraeth hon yn glir iawn ynglŷn â charchardai newydd yma yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog yn dueddol o fod yn fwy parod i dderbyn hynny na'r Gweinidog newydd, Alun Davies. Pa drafodaethau mae'r comisiwn wedi eu cael yng nghyd-destun y ffaith, petasai yna garchar newydd yma yng Nghymru, a phe byddai yna fwy o ofyn am bobl o'r tu allan i Gymru i fynd i'r carchar hynny na phobl o Gymru ei hun, sut fyddai modd creu polisi cynhenid unigryw i Gymru yng nghyd-destun y ffaith bod pobl o wahanol ardaloedd o Brydain yn mynd i fod yn dod i garchardai yng Nghymru?
Fe wnes i nodi cynnwys y ddadl a ddaeth ymlaen yn enw Jenny Rathbone ar y testun hwn yn y dyddiau diwethaf, a chyfraniad yr Aelod yn y cyd-destun hwnnw. Mae'r comisiwn wedi galw am dystiolaeth wrth bobl yng nghyd-destun y system droseddol, felly byddwn i'n annog yr Aelod, ac eraill, i gyfrannu at y cwestiwn hwnnw. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ateb i'r ddadl, sôn am ba mor bwysig oedd hi i gael system droseddol a oedd yn gymwys i anghenion pobl yng Nghymru, ac i nodweddion penodol carcharorion yng Nghymru. Rhoddodd e'r enghraifft nad oes carchardai ar gyfer menywod yng Nghymru—bod angen polisi sydd yn lot fwy gwahanol yng Nghymru nag y mae'r Llywodraeth yn ei ddilyn yn San Steffan. Felly, rwy'n gobeithio y bydd datblygiadau yn y maes hwnnw, ac yn sicr, o safbwynt carchardai, fod angen polisi penodol yn yr hir dymor ar gyfer anghenion Cymru.
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithredu deddfwriaeth llygredd aer? OAQ51883
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n bodloni'r terfynau cyfreithiol ar gyfer pob llygrydd aer, bron â bod, ond rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran lleihau lefelau nitrogen deuocsid. Rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru, gan gynnwys amrywiaeth o fentrau i fynd i'r afael â llygredd aer er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau statudol perthnasol.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn ôl y canllawiau a nodir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'r Adran Drafnidiaeth, gall awdurdodau codi tâl, fel y'u gelwir, sefydlu parthau aer glân o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Nawr, fel y gŵyr, dim ond y cynlluniau codi tâl ar gefnffyrdd a materion sy'n ymwneud â Deddf Rheoli Traffig 2004 a esemptir gan Ddeddf Cymru 2017 oddi ar ei rhestr o bwerau trafnidiaeth a gedwir yn ôl. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn rhagweld unrhyw anawsterau wrth sefydlu parthau aer glân yng Nghymru, yn enwedig pan fônt yn cynnwys ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd?
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar fframwaith parth aer glân erbyn diwedd mis Ebrill 2018 a fydd yn nodi'r egwyddorion ar gyfer gweithredu parthau aer glân yng Nghymru, ac fel modd o sbarduno cydymffurfiaeth lle bo angen, a chynorthwyo i leihau llygredd yn fwy cyffredinol. Gwn o gwestiynau blaenorol a ofynnodd ei fod wedi rhoi cryn dipyn o sylw i ymgyfreitha'r Uchel Lys yn ddiweddar, mewn perthynas â lefelau nitrogen deuocsid yn gyffredinol. Bydd yn ymwybodol fod ymrwymiad wedi'i wneud gerbron y llys i gyflwyno cynllun i ymgynghori ar barthau aer glân erbyn diwedd mis Ebrill, ac i gyflwyno fframwaith erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni.
3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi ynglŷn â newid y gyfraith yng Nghymru i ganiatáu i fenywod gymryd tabledi erthylu yn eu cartrefi? OAQ51905
Rwy’n ymwybodol o’r datganiad barn a gafodd ei gyflwyno yr wythnos diwethaf, yn enwau Jenny Rathbone a Julie Morgan, a bod yr Aelod wedi tanysgrifio i'r datganiad hwnnw. Ac roeddwn i yn y Siambr ddoe i glywed cwestiwn i'r Prif Weinidog ar y testun hwn hefyd. Yn yr Alban, mae menywod beichiog yn gallu cymryd ail gam erthyliad meddygol yn eu cartrefi, ond mae’r sefyllfa hon yn ddiweddar wedi cael ei herio gan SPUC, a byddwn ni yma yn cadw golwg ar y sefyllfa yn yr Alban.FootnoteLink
Diolch am yr ymateb, Cwnsler Cyffredinol. Rwyf i o'r farn, fel y mae e newydd ei amlinellu yn y datganiad barn, y dylid cymryd agwedd feddygol tuag at hyn, yn hytrach nag agwedd gyfreithiol sydd wedi ei seilio ar hen gyfraith yn deillio o rai o'r trafodaethau moesegol a oedd yn digwydd dros hanner canrif yn ôl. Erbyn hyn, rwy'n credu ein bod ni'n edrych ar hwn drwy bersbectif, a thrwy lygaid, meddygol, a beth sydd orau ar gyfer y fenyw, a beth sydd orau ar gyfer iechyd. Felly, fy nealltwriaeth i, fel sydd newydd gael ei grybwyll gan y Cwnsler Cyffredinol, yw bod yna amheuaeth gyfreithiol ynglŷn ag agwedd ar hyn, ac, os felly, a oes angen bod yn fwy eglur ynglŷn â'r sefyllfa gyfreithiol yma yng Nghymru, ac a oes gan y Llywodraeth fwriad i fynd i'r afael â'r broblem yna?
Wel, yn Neddf Erthylu 1967, mae'r Ddeddf honno'n rhoi pwerau i Weinidogion yn yr Alban i ddefnyddio'r pwerau hynny, ac i'r Gweinidogion yma yng Nghymru, i allu penodi categorïau o leoliadau fel llefydd sydd yn bosibl i'r ail gam erthyliad yma i gymryd lle. Yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, sydd yn gyd-destun i'r drafodaeth yma yng Nghymru, yw bod Gweinidogion wedi gwneud y penderfyniad yna fis Hydref diwethaf, ac wedi darparu canllawiau meddygol i'r gwasanaeth iechyd yn yr Alban yn y cyd-destun hwnnw. Ond, fel y gwnes i grybwyll, mae sialens gyfreithiol wedi dod yn sgil hynny. Nid yw'r sialens, nid wyf yn credu, yn gyhoeddus eto, ond mae e'n sialens sydd yn berthnasol i'r dadansoddiad cyfreithiol yn yr Alban fel mae e hefyd yma yng Nghymru, ac felly, mae'n bwysig inni gadw llygad ar ddatblygiad hynny cyn gallu bod yn sicr o'r sefyllfa gyfreithiol sydd yn berthnasol yma hefyd. Ond mae'r testun yn amlwg yn un pwysig iawn, ac mae'r testun yn amlwg yn un y dylem ni edrych arno drwy lens y presennol, fel mae'r Aelod yn crybwyll yn ei gwestiwn.
Mae'r hyn a ddywedoch wrthym ynglŷn â'r her i benderfyniad yr Alban yn ddiddorol iawn. Mae'n anodd deall hynny yn y cyd-destun mai'r hyn rydym yn gofyn i fenywod ei wneud yw cymryd y bilsen hon a wedyn mynd adref ar y bws a chael y camesgoriad ar y bws, ac ni allaf weld sut y gellir dweud mai hyn sydd orau i'w lles, neu'n wir, ei fod yn ofal iechyd darbodus. Felly, hoffwn wybod pa gamau y credwch y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yng ngoleuni'r her hon, pa un a ydych yn mynd i aros hyd nes bod yr her wedi dod i ben, a allai gymryd sawl mis, neu a ydych yn barod i fynd amdani mewn perthynas â rhywbeth sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn rhan o faes yr Ysgrifennydd iechyd neu'r Llywodraeth o ran ymestyn y mannau lle y gellir cyflawni erthyliadau meddygol.
Wel, mae'r mater a nodwyd gan yr Aelod yn fater hollbwysig wrth gwrs sy'n ymwneud â diogelwch menywod a'r amgylchedd cefnogol lle mae proses feddygol yn parhau hyd at ddiwedd y broses, os hoffwch. Ac felly, mae'n amlwg mai dyna'r mater perthnasol sydd wrth wraidd y cwestiwn hwn. Fel y dywedaf, mae'r fframwaith cyfreithiol yr un fath ar gyfer Gweinidogion yng Nghymru â'r hyn ydyw yn yr Alban. Credaf ei bod yn iawn i ni roi sylw i'r hyn y mae'r her yn ei gynnwys, fel y gallwn ddeall beth yw'r canlyniadau posibl, ond yn sicr, o ran annog menywod i fod yn ddiogel pan fyddant yn cael y driniaeth hon, mae'n amlwg fod y pryderon a godwyd gan yr Aelod yn hollbwysig yn y cyd-destun hwnnw.
4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau? OAQ51903
Rydym ni wedi clywed y ddadl ar y ddeiseb a gynhaliwyd yn y diwrnodau diwethaf, a arwyddwyd gan bron i 6,500 o aelodau'r cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio’r cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna, sydd ddim yn ein symud ni ymlaen i ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud. Mae'n amlwg bod modd defnyddio'r adran yma, sydd yn rhoi pwerau eang iawn i Weinidogion, a dweud y gwir, i ymyrryd dros les anifeiliaid. Ac mae'n amlwg hefyd bod modd i ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn y lle yma—Bil a Mesur yn mynd drwyddo. Yn y gorffennol, rydych chi fel cwnsler, a chwnsleriaid blaenorol, wedi ffafrio ar y cyfan Biliau, achos maen nhw'n rhoi cyfle i roi cyd-destun, ac efallai i dacluso agweddau eraill o'r gyfraith hefyd. Ond mae'n amlwg bod y Cynulliad yn meddwl ac yn dymuno gweld gweithredu buan iawn yn yr adran yma. Mae Plaid Cymru o'r farn ei bod hi'n briodol defnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac rwyf am weld lle mae meddwl y Llywodraeth bellach ynglŷn â defnyddio hon, gan fod cymaint o ddeddfwriaeth arall ar y gweill, yn deillio o Brexit a phethau eraill. Onid nawr yw'r amser i chi roi'r cyngor cyfreithiol priodol i alluogi Lesley Griffiths i fwrw ymlaen â'r mater yma?
Wel, gydag adran 12 o Ddeddf 2006, yr hyn sy'n bwysig yw bod tystiolaeth gref yn cefnogi'r ddadl dros lesiant yr anifeiliaid. Mae safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn glir nad oes safbwynt digon cryf i hynny, ac mae mwy nag un adroddiad wedi dangos hynny. Wrth gwrs, gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu adroddiad wnaeth ddangos bod tystiolaeth yn cefnogi hynny i raddau, ond y risg o fewn y dadansoddiad llesiant yw nad yw hynny'n ddigon i allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad cyfreithiol yn y llysoedd. Mae trafodaeth wedi bod, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet grybwyll yn y ddadl yn ddiweddar. Bu trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â Bil ar y cyd, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno yn gallu taclo'r sialens yma, ond bod hynny wedi cymryd amser. Mae trafodaethau neu ystyriaeth wedi bod i Ddeddf benodol i ddelio â hyn, ac mae'r pwerau a ddaw i ni dan y setliad newydd yn ehangach, wrth gwrs, a ddim yn ein cyfuno ni i edrych ar lesiant yn benodol. Gwnes i wrando ar sylwadau yr Aelodau a sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn y ddadl, ac ni allaf drafod cyngor cyfreithiol fan hyn, ond rwyf yn deall cryfder safbwyntiau pobl yn y cyd-destun hwnnw.
A gawn ni fod yn glir, a yw adran 12 yn eich galluogi i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ai peidio?
Wel, cyfeiriaf yr Aelod at y drafodaeth rwyf newydd ei chael ynglŷn â hynny, sy'n ymwneud ag argaeledd y dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae cwestiwn yn codi ynglŷn â hynny ac fel rwyf wedi'i ddweud, nid wyf am drafod cyngor cyfreithiol rwy'n ei roi ar y pwynt penodol hwn, ond rwyf wedi clywed y drafodaeth yn y ddadl a sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â hynny.
5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â sicrhau dinasyddiaeth Ewropeaidd i bobl yng Nghymru yn dilyn Brexit? OAQ51904
Rydym yn rhoi gwerth ar y rhyddid a'r mynediad sy'n gysylltiedig â dinasyddiaeth yr UE. Mae ein ffyniant yn y dyfodol yn gynhenid gysylltiedig â'n gallu i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, gan gynnwys gallu dinasyddion Cymru i weithio yn Ewrop.
Diolch. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi nad yw'n glir, o dan gyfraith ryngwladol, y gellir amddifadu unigolyn o'u dinasyddiaeth Ewropeaidd heb eu caniatâd diamwys, er gwaethaf ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd? Ac yn sgil derbyn cynnig Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid i Lywodraeth San Steffan ymateb o fewn 12 wythnos yn awr i nodi eu safbwynt ar ddyfodol dinasyddiaeth Ewropeaidd, felly pa bwysau y mae'n ei roi ar ei swyddogion cyfatebol yn Llundain i sicrhau bod yr opsiwn o barhau i fod yn ddinasyddion Ewropeaidd yn dal i fod ar gael?
Credaf ei fod yn cyfeirio'n rhannol at yr adroddiad a gomisiynwyd gan Jill Evans yn y maes hwn, a chefais gyfle i ddarllen rhan ohono ac mae'n cynnwys llawer o ddadleuon creadigol dros barhad dinasyddiaeth Ewropeaidd. Pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor Brexit, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, buom yn ymweld â Senedd Ewrop a chyfarfuom â Guy Verhofstadt, sydd â barn glir iawn ar y mater hwn. Efallai y gŵyr yr Aelodau fod Senedd Ewrop y bore yma, oriau yn ôl yn unig, wedi derbyn cynnig, gyda 544 pleidlais o blaid a 110 yn erbyn, a gefnogai'r safbwynt mewn perthynas â sicrhau na ddylai hawliau dinasyddion y DU a'r UE gael eu heffeithio'n andwyol gan Brexit, sy'n fater allweddol ar gyfer cydsyniad y Senedd maes o law. Felly, mae hynny wedi atgyfnerthu'r ddadl am beidio â niweidio hawliau dinasyddion Cymru, y DU neu'r UE yn hyn o beth.
Credaf ei fod yn faes lle y ceir anghytuno amlwg rhwng Llywodraeth y DU a 27 yr UE. Mae'n fater lle y credaf fod arnom angen peth creadigrwydd i ddatrys y broblem honno. Safbwynt Llywodraeth Cymru, a'r un y mae'n dadlau'n gryf drosti gyda Llywodraeth y DU, yw sicrhau y diogelir hawliau dinasyddion Cymru fel rhan o'r DU mewn perthynas â hyn. Ac mae hynny'n gyson â chael system ymfudo a reolir ond sy'n hyblyg ac sy'n sicrhau ein bod mor agos â phosibl at fynediad parhaus—mynediad llawn a dilyffethair—at y farchnad sengl. Mae'n wirioneddol bwysig, fodd bynnag, fod y safbwynt yn cael ei egluro cyn gynted â phosibl er budd dinasyddion Cymru ac er budd gweddill yr UE, oherwydd nid trafodaethau academaidd yn unig yw'r rhain, nid trafodaethau deddfol yn unig yw'r rhain, mae a wnelo hyn â bywydau unigolion a phenderfyniadau sy'n rhaid iddynt eu gwneud bob dydd o ran ble y byddant yn byw yn y dyfodol.
Rwyf wedi gofyn cwestiynau cysylltiedig ar achlysuron blaenorol i'r Cwnsler Cyffredinol blaenorol ynghylch effaith confensiwn Vienna, yn 1969 rwy'n credu, ar hawliau cytuniad breintiedig. Ond a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi mai un o'r problemau sydd gan yr UE ar hyn o bryd, ac sy'n aflonyddu fwyfwy ar nifer o etholaethau ledled y cyfandir, yw'r modd y rhoddir dinasyddiaeth yr UE i bobl yn ddiwahân? Eleni, caniataodd yr Eidal yn unig ddinasyddiaeth i 850,000 o bobl, i raddau helaeth oherwydd bod hynny, o ganlyniad i Schengen, yn eu cael allan o'r Eidal ac i wledydd eraill, ac felly, mae rheolaeth gadarn dros ymfudo yr un mor bwysig i weddill yr Undeb Ewropeaidd ag y mae i'r Deyrnas Unedig.
Mae safbwynt yr Aelod ar hyn yn glir iawn ac mae'n ei ailadrodd bob cyfle posibl. Mae gennym safbwynt sylfaenol wahanol o ran beth yw natur bod yn ddinesydd sy'n byw yn yr UE yn yr unfed ganrif ar hugain. Fel y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr hon, credaf ei bod yn bwysig fod dinasyddion Cymru, dinasyddion y DU, yn cael symud yn rhydd ac yn gallu byw'n rhydd cyn belled â phosibl yn y dyfodol ledled gweddill yr UE, ac yn yr un modd, fod Cymru'n parhau i fod yn agored a chroesawgar i ddinasyddion o wledydd eraill sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'n heconomi ac i'n diwylliant. A dyna fy safbwynt i a safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cytundeb drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ51908
Rydym yn astudio dogfen ddrafft yr UE yn ofalus. Ein blaenoriaethau ar gyfer pontio yw sicrwydd, eglurder a chyn lleied o amharu â phosibl. Mae'n hanfodol fod y cyngor ym mis Mawrth yn cytuno ar y cyfnod pontio oherwydd mae'r ansicrwydd presennol yn rhwystro cynllunio priodol, ac nid yw hynny'n help a dweud y lleiaf.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Cyhoeddwyd dogfen godeiddio drafft y cytundeb ymadael yn dilyn cyfarfod mis Rhagfyr Cyngor y Gweinidogion er mwyn sicrhau eu bod yn cadarnhau'r cytundeb. Mae'n cynnwys chwe rhan, dau brotocol, 165 o erthyglau, gan ganolbwyntio'n glir ar gytundeb cyfnod 1, ond hefyd ar y cyfnod pontio, ac mae'n cwmpasu meysydd sy'n cynnwys hawliau a gaffaelwyd gan ddinasyddion, a grybwyllwyd gennych yn y cwestiwn blaenorol, ond hefyd y materion yn ymwneud ag eiddo deallusol, efallai, yn ogystal ag agweddau eraill ar faterion busnes a rheoleiddio, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio. Pa drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion cyfreithiol eraill ar draws y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu gwarchod yn ystod y broses hon?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, sy'n gwbl allweddol ac yn cyfeirio'n ôl at y pwynt rwyf newydd ei wneud ynglŷn â'r angen pendant i gael sicrwydd, ar gyfer dinasyddion Cymru ac ar gyfer busnesau sy'n allforio i weddill yr UE. Un o'r pethau anhysbys mwyaf arwyddocaol ar hyn o bryd yw natur y trefniadau ar gyfer gweithredu'r cytundeb ymadael. Cyflwynodd Dominic Grieve welliant llwyddiannus yn Nhŷ'r Cyffredin a bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil ar wahân yn awr. Ond nid ydym yn gwybod yn Llywodraeth Cymru pryd y bydd hwnnw'n cael ei gyflwyno na beth fydd yn ei ddweud, na'r berthynas rhyngddo a Bil ymadael â'r UE, er enghraifft. Felly, mae honno'n enghraifft glir o'r math o ansicrwydd y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef yn syth. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â ni ynglŷn â'r mater ac nid ydym yn gwybod pa faterion datganoli penodol a fydd yn codi ohono, sy'n amlwg yn ganolog i hyn. Rydym wedi gweld, yng nghyd-destun y trafodaethau ynghylch Bil ymadael â'r UE, pa mor wirioneddol hanfodol yw'r cwestiynau hynny mewn perthynas â datganoli, er mwyn i ni warchod ein hawliau yn y Siambr hon ar ran pobl Cymru. Felly, rydym angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni ar ei dull arfaethedig ar gyfer gweithredu'r cytundeb ymadael fel mater o flaenoriaeth.
Gwnsler Cyffredinol, mae'r cytundeb drafft yn argymell ardal reoleiddio gyffredin mewn perthynas ag Iwerddon, ac yn briodol, mae'n argymell y dylid cynnal cytundeb Dydd Gwener y Groglith, economi Iwerddon gyfan a chydweithrediad rhwng y gogledd a'r de. Mae'r ffaith bod y DU eisiau gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu y byddai'n rhaid creu ffin galed ym Môr Iwerddon ac ym mhorthladdoedd Cymru. Mae fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth wedi crybwyll hyn ar sawl achlysur, ond o'ch persbectif chi, a oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â natur ffin y DU ag Iwerddon, neu gymryd rhan ynddynt hyd yn oed?
Yr her mewn perthynas â'r hyn a gynigir gan Lywodraeth y DU yng nghyswllt Iwerddon yw pa mor anodd yw rhagweld y math o atebion penodol y gallant eu cyflwyno i sicrhau ffin feddal tra'n cynnal cyfundrefnau tollau a rheoleiddio yng Ngogledd Iwerddon sydd ar wahân i rai'r UE. O'n persbectif ni, y canlyniad mwyaf rhesymegol fyddai i'r DU gyfan barhau i fod wedi'i halinio'n llawn â'r farchnad sengl a pharhau mewn undeb tollau. Nid ydym yn argyhoeddedig o gwbl y byddai manteision economaidd posibl cytundebau masnach rydd yn gorbwyso costau economaidd rhwystrau tollau rhwng y DU a'r UE. Fel Llywodraeth, rydym yn bachu ar bob cyfle i ailddatgan y safbwynt hwnnw wrth Lywodraeth y DU.
Gwnsler Cyffredinol, ddoe, croesewais y gyfraith sy'n deillio o Fil yr UE (Cymru), gan gyfeirio'n benodol at adran 7, sy'n caniatáu i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â siarter hawliau sylfaenol Ewrop, nad yw'n cael ei throsi i gyfraith y DU drwy Fil ymadael â'r UE. A ydych yn cytuno bod y siarter yn hanfodol i ddiogelu cydraddoldeb ac amddiffyniad hawliau dynol, ac a yw adran 7 y Bil yn ddigon cadarn, o gofio, os yw'r Bil ymadael â'r UE yn mynd rhagddo fel ag y mae, y bydd cyfreithiau mewn meysydd a oedd o fewn cymhwysedd yr UE yn y gorffennol, megis diogelwch i ddefnyddwyr a hawliau gweithwyr, mewn perygl?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae hynny'n wir. Mae amddiffyn hawliau dynol yn rhan hanfodol o'r pecyn cymorth sydd gennym yng Nghymru ac yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl glir nad yw eisiau i'r ffaith bod y DU yn ymadael â'r UE wanhau amddiffyniadau hawliau dynol mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys yr amddiffyniadau estynedig sydd ar gael o dan y siarter, y cyfeiriodd Jane Hutt atynt yn ei chwestiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrechion parhaus i ddiwygio'r Bil ymadael â'r UE yn Nhŷ'r Arglwyddi er mwyn sicrhau bod y siarter yn cael ei hymgorffori'n llwyr yng nghyfraith y DU yn dilyn Brexit, ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i edrych ar y mater hwn eto a dod yn ôl i Dŷ'r Arglwyddi yn ystod y Cyfnod Adrodd gyda chynigion pellach mewn perthynas â hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu o hyd mai'r canlyniad gorau i hyn yw i'r Bil ymadael â'r UE gynnwys cyfeiriad at y siarter a pharhau i weithredu'r siarter yn y DU yn dilyn Brexit. Os na chyflawnir hynny, mae adran 7 ein Bil, er nad yw'n ymgorffori'r siarter yn yr ystyr honno, yn darparu lefel dda o amddiffyniad. O fewn y Bil hwnnw, mae'n rhaid i ni lywio mater cymhleth cymwyseddau datganoledig yn y maes hwn, ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn sicr fod darpariaethau'r Bil yn gymwys. Ac mewn perthynas â'r cymal hwnnw, rydym yn teimlo bod cynnwys cyfeiriad at y siarter yn y ffordd honno'n rhoi cyfle i ddehongli cyfraith yr UE mewn ffordd sy'n gyson â'r siarter ac sy'n sicrhau yn yr ystyr honno yr amddiffyniadau rydym am eu gweld yn cael eu cynnal yng Nghymru yn dilyn Brexit.
7. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'i chontract economaidd newydd? OAQ51909
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwyf wedi cael trafodaethau cychwynnol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a byddwn yn parhau i ymgysylltu wrth i ni ddatblygu a gweithredu'r polisi blaenllaw hwn.
Gwnsler Cyffredinol, croesewir y ffaith bod y contract economaidd newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wneud y peth iawn a chyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru megis gwaith teg a datgarboneiddio. Mae'n berthynas gyfreithiol gyda'r busnesau hyn, ac mae'n rhaid iddynt ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt, ac mae'n rhaid diogelu Llywodraeth Cymru hefyd os na chyflawnir hyn. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio'r contractau hyn i gyflawni ei nodau ar gyfer datblygu economi Cymru a gwneud yn siŵr fod cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddiogelu os nad ydynt yn gwneud hynny?
Yn hollol. Pwynt y contract economaidd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet ei hun wedi'i ddweud ar sawl achlysur, yw sicrhau bod y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn cyflawni'r diben cymdeithasol y mae'r Llywodraeth eisiau ei weld, ac mae'n ganolog, yn yr ystyr hwnnw, i'r cynllun gweithredu economaidd. Bydd angen mwy o fusnesau, a bydd angen hefyd i ymddygiad Llywodraeth Cymru newid mewn perthynas â'r meysydd penodol y mae'n ceisio eu hannog mewn perthynas â gwaith teg, hybu iechyd a hyrwyddo camau i leihau ôl troed carbon, er enghraifft.
Mae ochr gyfreithiol, wrth gwrs, fel y dywedwch, i'r contract economaidd, ac mae'n ganolog i'r cynllun gweithredu economaidd. Cefais drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn yn y cyfnod yn arwain at y cynllun gweithredu economaidd ac ers hynny mewn perthynas â'r bensaernïaeth gyfreithiol sy'n cefnogi'r contract hwnnw, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cytuno, pan fydd y contract yn weithredol ar ffurf sgerbwd, o'r flwyddyn ariannol hon ymlaen, byddaf yn gweithio gydag ef i edrych ar ffyrdd arloesol y gellid, o bosibl, ymestyn y contract i feysydd eraill o fewn y Llywodraeth, fel y nodwyd yn y cynllun yn ogystal. Felly, mae potensial ar gyfer hynny yn y dyfodol.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau amserol. Bethan Sayed.
1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â Islamoffobia a gwella cydlyniant cymunedol yn sgil y llythyrau yn annog pobl i gosbi Mwslimiaid sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar? 155
Gwnaf, yn wir. Mae ein cymunedau Mwslimaidd yn cael eu gwerthfawrogi yng Nghymru, ac rydym yn rhannu eu hatgasedd tuag at yr ymgyrch gwbl warthus hon. Rydym wedi sefydlu strwythurau yng Nghymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth a throseddau casineb. Daw'r rhain ynghyd o dan ein bwrdd eithafiaeth CONTEST a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Roedd yn anodd gofyn y cwestiwn hwn, oherwydd, wrth gwrs, rydych yn codi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod y bobl hyn yn bodoli a bod ganddynt y fath gasineb yn eu heneidiau. Credaf mai'r ymateb gorau yw'r diwrnod Caru Mwslim ar 3 Ebrill, sydd wedi cael ei hyrwyddo i wrthwynebu'r diwrnod Cosbi Mwslim. Yn fy ymateb, dywedais fy mod yn caru Mwslim bob dydd gan fy mod wedi priodi fy mhartner hirsefydlog yn ddiweddar. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn trwytho ein hunain yn y diwylliannau hyn yn hytrach nag esgus eu cefnogi.
Yr hyn rwyf eisiau ei ofyn i chi fel Llywodraeth yw sut y gallwn sicrhau bod cydlyniant cymunedol yn real ac yn ddilys. Credaf fod llawer mwy y gallem ei wneud. Cawsom ddiwrnod agored yn y mosgiau yma yng Nghymru yn ddiweddar, a oedd yn ddechrau da, ond rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â'r casineb sy'n bodoli, ar-lein yn bennaf, ac yn ein cymunedau, gyda gwybodaeth anghywir yn cael ei throsglwyddo ynglŷn â beth yw bod yn Fwslim, a sut y gallwn dargedu hyn yng Nghymru yn y ffordd fwyaf gadarnhaol sy'n bosibl, oherwydd gydag agwedd gadarnhaol, credaf y gallwn sicrhau bod y neges hon yn cael ei lledaenu. Efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod y mathau hyn o negeseuon yn nawddoglyd, ond credaf eu bod yn negeseuon y mae'n rhaid i ni eu lledaenu os ydym yn gwirioneddol gredu fel Aelodau Cynulliad ein bod eisiau creu strategaeth gadarnhaol ar gyfer cydlyniant cymunedol yma yng Nghymru.
Felly, a allwch chi ddangos i ni sut rydych yn gwneud hynny, sut y gall ACau, yn eu gwaith o ddydd i ddydd, amlinellu hynny'n gadarnhaol, a sut y gallwn drechu'r mathau hyn o agweddau yn gadarn i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu mynegi eto ac nad ydynt yn ffurfiau derbyniol ar gam-drin?
Na, rydych yn hollol iawn, Bethan. Rydych wedi gwneud nifer enfawr o bwyntiau da iawn yno, ac fel y dywedais pan oeddwn yn ateb cwestiwn Julie Morgan ar y datganiad busnes ddoe, rydym yn annog pobl i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi gwybod eu bod wedi cael rhai o'r llythyrau gwirioneddol atgas hyn. Ac rydym yn annog pobl i geisio gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n difrodi unrhyw dystiolaeth y gellid cael hyd iddi ar yr amlen. Felly, mae'r heddlu yn mynd ati o ddifrif i ddod o hyd i'r bobl sydd wedi gwneud hyn. Felly, dyna'r peth cyntaf i'w ddweud yn yr achos penodol hwn: gwneud yn siŵr fod pobl yn rhoi gwybod amdano, gyda'r amlen os yn bosibl, a chan sicrhau eu bod yn ei chyffwrdd gyn lleied â phosibl er mwyn cadw'r dystiolaeth honno. Yn ôl yr hyn rydym yn ei ddeall, ymddengys eu bod wedi cael eu hanfon o ardal Sheffield yn Lloegr ac ymddengys eu bod wedi cael eu targedu at flychau post ar hap. Mae'n weithred arbennig o atgas a'r bwriad, yn amlwg, yw codi ofn ar bobl.
Rydych yn hollol gywir nad yw'n rhywbeth y gallwn ei oddef mewn unrhyw ffordd o gwbl, ac yn wir, rydym yn awyddus iawn i wneud y pethau cadarnhaol a grybwyllwyd gennych, ac rydym yn gwneud llawer o'r rheini. Felly, mae llawer o'n mosgiau wedi cynnal diwrnod agored yn ddiweddar iawn, ac mewn gwirionedd bydd mosg canolog Abertawe yn cynnal un arall ymhen ychydig benwythnosau. Mae nifer fawr yn eu mynychu mewn gwirionedd. Mae'n dda gweld cynifer o aelodau gwahanol o'r gymuned yn mynychu'r mosg ac yn ymgyfarwyddo ag ef ac yn cyfarfod â llawer o bobl, ac roeddwn yn credu bod hynny'n wych. Mae'n werth crybwyll bod bwyd blasus ar gael yno hefyd.
Ond rydym yn gwneud llawer o bethau ffurfiol iawn yn ogystal. Mae'n bwysig cael anffurfioldeb cymunedol, os mynnwch, o ran caru eich cymdogion, caru pob un o'r bobl sy'n byw yn eich cymuned, ond mae angen i'r Llywodraeth wneud rhai pethau ffurfiol iawn am hyn yn ogystal. Un o'r pethau rydym eisiau ei wneud fwyaf yw gwneud yn siŵr ein bod yn addysgu'r pethau cywir mewn ysgolion. Felly, rydym yn addysgu plant am gydlyniant cymunedol, goddefgarwch a pharch at eraill yn ein hysgolion. Er enghraifft—dim ond un enghraifft yw hon—rydym yn dysgu modiwl eithafiaeth heriol drwy'r her dinasyddiaeth fyd-eang ym magloriaeth Cymru, ac mae hwnnw wedi bod yn boblogaidd iawn. Rwyf wedi mynychu rhai trafodaethau ysbrydoledig iawn lle mae pobl yn trafod yr union beth hwnnw.
Rydym hefyd yn ariannu nifer o bethau sy'n cefnogi pobl sydd wedi dioddef troseddau casineb. Ond yn yr ysbryd y gofynnoch chi'r cwestiwn, o ran y pethau cadarnhaol a wnawn, rydym yn annog ein fforwm cymunedau ffydd i gynnal deialog rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o'n cymunedau ffydd, sydd yn amlwg yn cynnwys cymunedau amrywiol o fewn y grefydd Fwslimaidd yn ogystal. Un o'r mythau, wrth gwrs, yw bod Mwslimiaid, rywsut, yn grŵp unffurf o bobl yr un fath â'i gilydd, ac mae pawb ohonom yn gwybod ei bod yn ffydd yr un mor amrywiol â Christnogaeth. Felly, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr ein bod yn adlewyrchu'r amrywiaeth ar draws gwahanol grwpiau ffydd yn ein grwpiau ni yn ogystal. Rydym yn ceisio gwneud hynny, ac rydym yn ymwybodol iawn o hynny.
Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd y strategaeth gymunedol integredig ar gyfer ymgynghoriad heddiw, a daw'r ymgynghoriad i ben ar 5 Mehefin. Felly, byddwn yn edrych yn ofalus ar hwnnw i sicrhau ein bod yn deall y goblygiadau i Gymru yn dda a'n bod yn gallu eu hystyried. Ond mewn gwirionedd, a bod yn onest, rydym yn cyflwyno sylwadau lle nad ydynt yn cyd-fynd â'n polisi, felly byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar hynny yn ogystal. Ond fel y gallwch weld o'r llythyrau hyn sy'n dod o ardal Sheffield yn Lloegr, nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn fynd i'r afael ag ef ar ein pennau ein hunain; mae'n rhaid cael elfen DU gyfan, ac elfen Ewrop gyfan mewn gwirionedd, lle rydym yn sicrhau bod pobl yn cael eu croesawu a'u parchu yn ein cymunedau. Rwy'n gresynu at y ffaith ein bod wedi gweld agweddau llawer o bobl yn caledu'n ddiweddar o ganlyniad i gamddealltwriaeth mewn perthynas â ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr ac ati, er enghraifft, ac nid wyf yn credu bod hynny wedi helpu gyda'r agenda cydlyniant cymunedol. Ond caf fy nghalonogi, pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion ac yn clywed pobl ifanc yn siarad am y peth, oherwydd maent yn siarad mewn ffordd wahanol iawn, ac effaith rhai o'n polisïau sy'n gyfrifol am hynny.
Wedi dweud yr holl bethau hynny, fodd bynnag, buaswn yn fwy na hapus i drafod unrhyw syniadau eraill sydd gennych y credwch y gallwn eu gweithredu oherwydd rydym yn agored iawn i weithredu unrhyw beth y credwn y bydd yn gweithio, ac mae gwahanol bethau'n gweithio mewn gwahanol gymunedau oherwydd mae'n rhaid iddynt gydweddu â'r gymuned honno. Felly, mae gennym y tîm cymorth ieuenctid ethnig yn cyflwyno rhaglen Cymru gyfan, ac un o'r gwersi a ddysgwyd ohoni yw pa mor wahanol y mae angen i'r rhaglenni hynny fod, yn dibynnu ar natur y gymuned benodol rydych yn siarad â hi. Felly, buaswn yn hapus iawn i gynnal y drafodaeth honno gyda chi ar sail barhaus.
A minnau'n Fwslim, rwy'n gwybod beth rwyf am ei ddweud. Mae hyn—. Weinidog, mae'r Islamaffobia hwn yn rhoi pobl—yn arwain at drais, ymyleiddio, camfanteisio, diymadferthedd. Islam yw'r ail grefydd fwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae 99.999 y cant o'r bobl yma yn ddinasyddion heddychlon iawn sy'n parchu'r gyfraith, ac yn cyfrannu at y gymuned a'r wlad ar yr un pryd. Y senario gwaethaf yw llond llaw o bobl yn unig sydd wedi gweithredu'n anghywir—rwy'n derbyn hynny; Mwslimiaid yn enw Islam—fel yn Ewrop a Llundain a Manceinion ac ym mhobman. Ond ni ddylid cosbi'r gymuned yn gyffredinol. Hynny yw—credaf ein bod ni wleidyddion wedi methu. Mae angen i ni ddeall. Rwy'n gwybod, ers 1970—rydych wedi bod yn ceisio creu rheolau a rheoliadau a deddfau cysylltiadau hiliol ers 1974. Weinidog, a ydym wedi cyflawni hynny? Mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth.
Peth bach yw Islamaffobia. Yr hyn rydym yn ei ddweud yw ei fod wedi cam-drin, sarhau a hyd yn oed gwneud niwed corfforol i'r bobl leol, ein plant a'n pobl ifanc. Ni yw'r bedwaredd a'r bumed genhedlaeth yma. Nid ydym yn genhedlaeth gyntaf sydd wedi dod o wlad yn y trydydd byd neu ddwyrain Ewrop. Nid yw ein hwyrion wedi gweld tir ein cyndadau. Maent yn gwybod mai hwn yw eu tir. A phan fydd pobl yn dweud wrthynt, wrth fod yn Fwslim—fod eich hijab yn cael ei dynnu, fod menyw o liw gwahanol yn cael ei tharo gan gar a bod dau fachgen ifanc wedi cael eu lladd yn enw Islam yn y wlad hon. Mae'n hollol hollol annerbyniol.
Credaf fod y Llywodraeth—. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith gwych, ond y ffaith yw, yn y canol hefyd, mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig gyfan fod yn unedig ar y mater hwn. Nid ydym yn gwneud pethau fesul tipyn. Mae'n rhaid i ni wneud rheolau, addysgu'r cyfryngau—y cyfryngau yw rhan waethaf yr holl senario. Nid ydynt yn gwneud unrhyw erthyglau. 2017 oedd y flwyddyn waethaf yn hanes y Deyrnas Unedig o ran troseddau casineb: mae 80,000, Lywydd, bron i 82,000, o droseddau casineb wedi'u cofnodi yn y wlad hon. Dychmygwch faint sydd yna bob wythnos. Felly, a ydym yn darparu'r heddwch, y cariad a'r anwyldeb rydym yn ei bregethu i'r gymuned mewn gwirionedd, ac yn rhoi addysg wleidyddol i bob un o'n cymunedau? Na. Lle rydym yn anghywir—. Rydym ni'r gwleidyddion wedi methu. Nid ydym yn gwrando, nid ydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Nid ydym yn cymysgu—. Yr hyn rydym wedi'i wneud—. Ni all Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn ar ei phen ei hun. Rydym angen i'r holl gymunedau sefyll ochr yn ochr.
Fis diwethaf, fel y mae Bethan newydd ei grybwyll, agorodd mosgiau Mwslimaidd yn y Deyrnas Unedig eu drysau, yn y tywydd difrifol, i bobl ddigartref a phobl heb fwyd. Ac agorwyd y drysau hynny am y rheswm penodol hwnnw'n unig—oherwydd cariad at gyd-ddyn. Anghofiwch am grefydd yma—nid Islamaffobia, nid unrhyw beth arall. Felly, dylem fynd i'r cyfeiriad cywir. Mae Mwslimiaid yn ceisio eu gorau. Roeddwn yn un o'r rhai a gymeradwyodd hynny, 'Ie. Agorwch ddrysau bob mosg. Gadewch i bobl ar y strydoedd fynd i'r mosg yn y tywydd difrifol hwn', ac rwy'n falch fod pobl wedi gwneud hynny. Ac fe wnaethant ofalu amdanynt. Rydym yn ceisio ein gorau, ond credaf fod yn rhaid i chi fynd law yn llaw gyda'ch gilydd, ochr yn ochr â'ch gilydd. Rwy'n credu, os oes angen unrhyw beth ar y wlad hon—. Fi fydd y cyntaf, a Mwslimiaid fydd y cyntaf, i amddiffyn y wlad hon; gallaf eich sicrhau o hynny. Ond mae'r cyfryngau, fel y dywedais yn gynharach, a systemau addysg eraill, fel y dywedodd Bethan yn gynharach—. Mae'n rhaid i ni addysgu'r system a dyma'r amser i wneud hynny. Peidiwch ag aros yn rhy hir os gwelwch yn dda, oherwydd mae bron i 50 mlynedd wedi bod ac nid ydym wedi ei gyflawni. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth, Weinidog, yn y pum mlynedd nesaf—o leiaf yn ystod ein hoes ni. Diolch yn fawr iawn.
Ie, wel, nid oes unrhyw beth y gallaf—. Teimlaf nad oes llawer i'w ychwanegu at hynny mewn gwirionedd. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedoch. Rydym yn gwneud nifer fawr o bethau yma yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r pedwar heddlu a'r bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb i wneud yn siŵr fod gennym systemau cadarn a deddfwriaeth ar waith i ymchwilio i'r troseddau casineb rydych wedi tynnu sylw atynt, ac yn bwysicach na hynny mewn rhai ffyrdd, i gefnogi'r dioddefwyr a gwneud yn siŵr ein bod yn dwyn troseddwyr o flaen eu gwell. Ond mae yna effaith ehangach o lawer yma, ac yn hollol, yr holl fater ynglŷn â phobl yn gweld eu hunain fel pobl.
Wrth gwrs, mae'r mwyafrif llethol o Fwslimiaid yn gymdogion braf a heddychlon, yn yr un modd ag y mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn gymdogion braf. Mae gan bob cymuned bobl ynddynt nad yw'r cymunedau hynny'n falch ohonynt, ac mae gan bob cymuned bobl ynddynt y mae'r cymunedau hynny'n falch iawn ohonynt. Mae hi'r un fath ym mhob cymuned. Credaf eich bod wedi fy nghlywed yn dweud hyn yn y Siambr o'r blaen—treuliais ran fawr o fy mhlentyndod yn teithio ledled y byd gyda fy nhad a oedd yn meddu ar ysfa fawr i grwydro ac roedd angen inni symud o gwmpas yn aml, ac roeddem bob amser yn cael ein llorio gan y ffordd y caem ein derbyn gan wahanol gymunedau, gwahanol grefyddau, gwahanol ddiwylliannau. Ni fu unrhyw fath o broblem erioed, ac nid wyf yn gweld unrhyw reswm o gwbl pam na all hynny fod yn wir yma yng Nghymru.
Ceir rhai problemau go iawn gyda rhai o'r polisïau sydd gennym. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o safbwynt cyfredol Llywodraeth y DU ar fewnfudo. Felly, mae gennyf grŵp o bobl rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd iawn, ac mae gennym gynrychiolydd o'r Swyddfa Gartref yno, ac rydym yn trafod materion lle y gallai polisi penodol arwain at ganlyniad penodol o ran cydlyniant cymunedol, er enghraifft. Felly, mae gennym sianeli cyfathrebu agored iawn rhyngom a Llywodraeth y DU mewn perthynas â sicrhau nad ydym yn gwneud pethau sy'n gwaethygu'r math o fyth rydych, yn briodol, yn tynnu sylw ato.
Ond Lywydd, credaf ei bod yn bwysig iawn i ni ddatgan yn bendant iawn ein bod yn credu bod hyn yn wrthun a'n bod, fel pob un o'n cymunedau, yn yr un modd, yma yng Nghymru, yn awyddus i sicrhau bod y cymunedau hyn i gyd yn byw gyda'i gilydd mewn heddwch, heb ymgyrch wrthun o'r math hwn yn eu herbyn.
A gaf fi hefyd ymuno â chi a chondemnio'r llythyrau casineb ffiaidd hyn? Mae'n amlwg eu bod wedi cael eu llunio i godi ofn ar y gymuned Fwslimaidd ac i ryw raddau, mae arnaf ofn eu bod wedi bod yn llwyddiannus yn hynny o beth, ac rwy'n cytuno y dylem sefyll ochr yn ochr â Mwslimiaid yma yng Nghymru a ledled y DU a dangos ein cariad a'n gofal drostynt yn eu cymunedau. Mae'n rhaid i ni allu goresgyn y rhagfarn a'r casineb, ac mae'n wych fod gennym lysgennad dros y gymuned Fwslimaidd yma yn y Cynulliad ym Mohammad Asghar, sy'n teimlo'n angerddol am y materion hyn.
Fe gyfeirioch chi'n gynharach, arweinydd y tŷ, at addysg grefyddol yn ein hysgolion, a rôl ein hysgolion yn helpu i addysgu'r genhedlaeth nesaf ynglŷn â rhinweddau goddefgarwch a pharch mewn cymdeithas. Un o'r pethau a nodwyd yn y Siambr yn y gorffennol yw pryder am y diwygiadau i'r cwricwlwm newydd sy'n digwydd yng Nghymru a'r statws a allai fod i addysg grefyddol yn y cwricwlwm newydd er mwyn iddi allu helpu i gyflwyno'r negeseuon priodol hyn yn ein hysgolion. Felly, tybed i ba raddau rydych wedi trafod y risgiau a allai godi wrth ystyried y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd o ran sicrhau nad yw'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn ein hysgolion yn cael ei leihau gan y newidiadau a'i fod yn cael ei wella mewn gwirionedd.
A gaf fi hefyd gofnodi fod gennyf ffrind da iawn, ffrind Cristnogol, yr oeddwn yn arfer gweithio iddo, ac roedd ganddo'r mantra hwn y dylai Islam sillafu 'I sincerely love all Muslims' i bawb—llythyrennau Islam? Credaf y byddai'n werth inni wrando ar ei alwad i garu pob un o'n cymdogion, ni waeth beth yw eu ffydd. I mi, credaf mai'r peth gorau y gallwn oll ei wneud yn y Siambr hon yw, ie, ymuno yn y condemniad, ond rhoi camau cadarnhaol ar waith hefyd i garu'r Mwslimiaid sydd yn ein cymunedau, cydnabod y cyfraniad aruthrol y mae cynulleidfaoedd Mwslimaidd yn eu mosgiau yn ei wneud hefyd i'r gymdeithas yng Nghymru yn gyffredinol, a defnyddio'r llythyrau casineb hyn fel cyfle i wneud lles, fel y gallwn helpu i gydnabod eu cyflawniadau.
Ie, yn wir, ac unwaith eto, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny mewn gwirionedd. Mae honno'n ffordd rymus iawn o roi pethau. Rwy'n credu mai'r hyn a grybwyllais mewn gwirionedd oedd modiwl ym magloriaeth Cymru o'r enw 'Herio eithafiaeth', yr ydym yn ei ddysgu fel rhan o'r modiwlau y gallwch eu dewis ym magloriaeth Cymru. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r ffordd rydym yn addysgu dinasyddiaeth ac amryw o bethau eraill. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf wedi cael sgwrs benodol gyda hi am addysg grefyddol, er fy mod yn hapus iawn i wneud hynny. Ond rydym wedi cael nifer o sgyrsiau ynglŷn â'r ffordd rydym yn addysgu dinasyddiaeth a pherthnasoedd iach a goddefgarwch a chydlyniant cymunedol, ond rwy'n fwy na pharod i gynnwys addysg grefyddol yn y sgwrs honno rwy'n ei chael yn rheolaidd iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Y rheswm pam ein bod yn cael y sgwrs honno'n rheolaidd iawn yw oherwydd ein bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr fod ein plant yn tyfu mewn ysbryd o oddefgarwch a derbyniad a chysylltiadau cymunedol da—perthynas dda gyda phob un o'u cymdogion.
I ddyfynnu Jo Cox, yr AS, 'Mae gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu.' Ac fel y dywedaf, mae fy mhrofiad fy hun o amgylch y byd wedi dangos bod pob cymuned yr un fath mewn gwirionedd. Mae gennym oll ein mythau am berthnasoedd teuluol ac ati, ond pan fyddwch yn siarad â rhywun sy'n ymddangos fel pe bai'n dod o ddiwylliant gwahanol iawn i'ch un chi, fe welwch fod eu mythau'n debyg iawn, oherwydd mewn gwirionedd mae llawer iawn o fodau dynol yn debyg iawn. Ac fel y dywedais yn fy ateb yn gynharach, mae gan bob cymuned bobl y maent yn falch ohonynt, ond hefyd, mae arnaf ofn, mae gan bob cymuned bobl nad ydynt mor falch ohonynt. Felly, rydych yn berffaith gywir. Mae angen i ni sefyll ochr yn ochr ag unrhyw un sydd wedi profi ofn ac sy'n teimlo eu bod yn cael eu heithrio oherwydd yr ymgyrch atgas hon, a gwneud yn siŵr ein bod yn cefnogi'r dioddefwyr ond hefyd yn dod â'r troseddwyr o flaen eu gwell.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. David Rees.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a'r hyn y mae gwyddoniaeth yn ei gynnig i gymdeithas. Fodd bynnag, wrth inni ddefnyddio'r wythnos hon i hyrwyddo gwyddoniaeth, rydym wedi colli un o wyddonwyr mwyaf y DU heddiw, yr Athro Stephen Hawking. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ymuno â mi i gydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau yn eu colled. Gwnaed llawer o sylwadau gwych gan bobl o bob rhan o gymdeithas—gwleidyddion, academyddion, pobl o fyd y cyfryngau—mewn perthynas â'i waith yn hybu dealltwriaeth o sut y mae'r bydysawd yn bodoli, ac ar ei ddyngarwch. Mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod yr effaith a gafodd yn cyflwyno gwyddoniaeth, a ffiseg yn arbennig, i fywydau pobl. Gwerthodd ei lyfr A Brief History of Time 10 miliwn o gopïau, ac rwyf wedi cael gwybod ei fod yn ôl ar frig rhestr lyfrau Amazon heddiw mewn gwirionedd. Roedd yn un o'r rhai cyntaf i wneud gwyddoniaeth yn ddeniadol i gynulleidfa ehangach, ac ni ddylid colli hynny byth. Ymddangosodd ar The Simpsons hyd yn oed, i wneud yn siŵr fod y neges honno'n cael ei lledaenu.
Mae Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar ba mor bwysig yw gwyddoniaeth i economi Cymru. Mewn un sector yn unig, y gwyddorau bywyd, mae gennym 361 o gwmnïau yng Nghymru, wedi'u rhestru dros naw o ddiwydiannau, gyda throsiant amcangyfrifedig o £2 biliwn a dros 11,000 o weithwyr. Mae gwyddoniaeth yn sail i lawer o ddiwydiannau yng Nghymru mewn gwirionedd, gan gynnwys dyfodol cynhyrchu dur yn fy etholaeth, ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ddatblygu cenedlaethau'r dyfodol o wyddonwyr a pheirianwyr a fydd yn parhau i fwrw hynny yn ei flaen, a'n bod yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sy'n bodoli ym maes gwyddoniaeth yn ogystal, a'n bod yn cael gwared ar yr ystrydeb sy'n bodoli, fel y gallwn ymestyn atyniad byd gwyddoniaeth i'r holl bobl ifanc a'u rhieni.
I gloi, Lywydd, wrth i ni gofio'r Athro Hawking, gadewch i bawb ohonom weithio i sicrhau bod ei ffydd yn natur gadarnhaol gwyddoniaeth yn treiddio drwy ein holl weithredoedd.
Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, roedd yn bleser mawr ymuno â chymuned Bedlinog, yn fy etholaeth, wrth iddynt ddathlu agoriad eu llyfrgell gymunedol. Yn rhy aml, rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon a chlywed am golli gwasanaethau lleol mewn cynifer o gymunedau yng Nghymru, oherwydd na allwn osgoi effaith a chanlyniadau'r pwysau a achoswyd gan gyni a thoriadau i'r gyllideb. Ond diolch byth, mewn llawer o achosion, yr ymateb i'r problemau hyn yw menter pobl leol sydd eisiau diogelu a gwella eu cymuned eu hunain, a dyna stori llyfrgell gymunedol Bedlinog. Ar adeg pan fo dros 400 o lyfrgelloedd ar draws y wlad wedi cau, mae ymdrech cynifer o wirfoddolwyr wedi chwarae rhan allweddol yn sicrhau, a bellach yn ystyried ehangu, y gwasanaeth lleol hwn—yn arbennig y gweithiwr ysgol, Ann Mills, sydd wedi gyrru'r prosiect gyda chefnogaeth gan Gyngor Cymuned Bedlinog, y cyngor bwrdeistref sirol, a Llywodraeth Cymru. Darparodd yr ymdrechion gwirfoddoli y wreichionen, nid yn unig ar gyfer y llyfrgell hon, ond ar gyfer datblygu cymuned Bedlinog, gyda llawer o weithgareddau a prosiectau eraill yn cael eu cynllunio o ganlyniad i hyn. Mae'n amlwg i mi fod gan y grŵp hwn o wirfoddolwyr, gyda llesiant Bedlinog yn ganolog i'w gwaith, weledigaeth ehangach ar gyfer eu pentref yn awr hefyd: pentref lle mae'r gwasanaeth hwn a'r ysgol yn tyfu fel canolbwynt ar gyfer cefnogi bywyd y gymuned. Dyma fenter sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn y lle hwn, oherwydd mae gweld cymuned yn dod ynghyd ac yn ymateb i amgylchiadau anffafriol yn y ffordd y mae Bedlinog wedi'i wneud yn ysbrydoliaeth. Felly, da iawn a diolch i chi i gyd.
Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael croesawu'r seneddwr nodedig o El Salvador a chyn-lysgennad y Cenhedloedd Unedig, Rubén Zamora, i'r Cynulliad Cenedlaethol yfory. Mae ymweliad Mr Zamora yn rhan o ŵyl Romero, sy'n arwain at Ddiwrnod Romero ar 24 Mawrth. Mae ymweliad Mr Zamora â Chaerdydd yn un o nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Romero, sy'n anelu i hyrwyddo bywyd, gweinyddiaeth a merthyrdod Óscar Romero ledled y DU. Óscar Romero oedd Archesgob San Salvador pan gafodd ei lofruddio ar 24 Mawrth 1980 tra oedd yn dathlu'r offeren. Cafodd ei ddatgan yn ferthyr a'i wynfydu 35 mlynedd yn ddiweddarach yn 2015. Bydd Rubén Zamora yn sôn am Monseñor Romero a'r sefyllfa bresennol yn El Salvador, ac yna'n ateb cwestiynau gan gynulleidfa a fydd wedi dod ynghyd.
Rwy'n falch iawn o groesawu Rubén Zamora i Gymru. Mae ganddo yrfa nodedig fel diplomydd a gwleidydd democrataidd cymdeithasol ac roedd yn ddadleuwr brwd dros heddwch drwy gydol rhyfel cartref y wlad tan 1992. Fel un o'r aelodau a sefydlodd yr wrthblaid wleidyddol, yr FDR, teithiodd Zamora y byd yn adeiladu cefnogaeth ddiplomyddol i drafodaethau heddwch, ond bu'n rhaid iddo dreulio rhai blynyddoedd yn alltud yn dilyn bygythiadau i'w deulu. Y llynedd, ymddiswyddodd Rubén Zamora o'i swydd fel cynrychiolydd El Salvador yn y Cenhedloedd Unedig, ar ôl gwasanaethu fel llysgennad i'r Unol Daleithiau ac i India cyn hynny. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o ymweliad Rubén â'r DU.
Russell George.
Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i annog Cymru gyfan i gefnogi'r Drenewydd yng nghystadleuaeth cymdogaethau gorau Prydain i gerdded. Y Drenewydd yw'r unig dref yng Nghymru sydd wedi cael lle ar y rhestr fer fel un o'r 10 tref orau yn y DU, a daw'r pleidleisio i ben am 11.59 p.m. heddiw. Rydym angen cynifer o bleidleisiau ag y bo modd i ennill gwobr Cymdeithas y Cerddwyr. Mae gan Gyngor Sir Powys a Chyngor Tref y Drenewydd weledigaeth gyffredin ac uchelgais i ddatblygu rhwydwaith teithio llesol, a fydd yn sicrhau gwasanaethau mwy hygyrch yn y dref.
Hoffwn hefyd longyfarch Cymdeithas y Cerddwyr ar gynnal cystadleuaeth Cymdogaethau Gorau Prydain i Gerdded am y tro cyntaf erioed. Ac rwy'n cytuno; mae'n dda dathlu mwy o gymdogaethau da ar gyfer cerdded a'r bobl sy'n gwneud iddynt ddigwydd. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch y Drenewydd a Chymru, a phleidleisiwch yn awr drwy wefan Cymdeithas y Cerddwyr. Rwyf wedi anfon y ddolen at bob Aelod mewn e-bost, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig eiliadau o'ch amser. Diolch yn fawr iawn.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 20 mewn perthynas â'r datganiad am gynigion y gyllideb ddrafft. Rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6690 Elin Jones
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 20—Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 20, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas â'r gofyniad am asesiadau effaith ar gyfiawnder—adran 110A o'r Ddeddf. Rydw i'n galw eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Rhun ap Iorwerth.
Cynnig NDM6689 Elin Jones
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B—Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran 110A o'r Ddeddf)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes, i fod yn weithredol o 1 Ebrill 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig—Simon Thomas.
Cynnig NDM6691 Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.5:
1. Yn mynegi ei ddiolchgarwch am gyfraniad Huw Vaughan Thomas yn ystod ei dymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.
2. Gan weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol ag adran 2(3), yn enwebu Adrian Crompton i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y bydd Aelodau yn gwybod, mae'n siwr, penodiad y Goron yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn dilyn enwebiad gan y Cynulliad cyfan o dan adran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Fel y pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio trefniadau yn ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi chwarae rhan lawn yn y broses o recriwtio archwilydd cyffredinol newydd. Mae manylion llawn y broses recriwtio yn adroddiad y pwyllgor. Rwyf yn falch, felly, o wneud y cynnig hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Cyllid, i enwebu Adrian Crompton i’w Mawrhydi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Hoffwn ddiolch i’r archwilydd cyffredinol presennol, Huw Vaughan Thomas, am ei gyfraniad gwerthfawr yn ystod y saith mlynedd y mae wedi bod yn y swydd. Cafodd Huw ei benodi ar adeg anodd i Swyddfa Archwilio Cymru, ond mae wedi gweithio i wneud gwahaniaeth sylfaenol i ddiwylliant y sefydliad ac i adfer hyder y cyhoedd yn y swydd. Yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae gan yr archwilydd cyffredinol rôl hanfodol, gan sicrhau bod sefydliadau’n rheoli arian cyhoeddus mewn modd effeithlon a bod ganddynt drefniadau gweithredu cadarn ar waith i sicrhau eu bod o’r radd flaenaf o ran uniondeb a llywodraethu.
Fel yr amlinellwyd yn adroddiad y pwyllgor, roedd yn hanfodol bod y broses ar gyfer recriwtio archwilydd cyffredinol yn cael ei chynnal mewn modd a fyddai’n dileu yr awgrym lleiaf o ymyrraeth wleidyddol. Yn hynny o beth, gwnaethom sicrhau bod dwy blaid yn cael eu cynrychioli ar y panel penodi. Cynrychiolodd Nick Ramsay a minnau’r pwyllgorau yr ydym yn eu cadeirio, gyda chadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol yr Alban hefyd ar y panel. Ar ôl y cyfweliadau, aeth yr ymgeisydd a ffafriwyd gerbron y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol ar gyfer gwrandawiad cyhoeddus cyn enwebu. Mae’r pwyllgor o’r farn bod gwrandawiad cyn enwebu yn sicrhau craffu agored a thryloyw ar yr ymgeisydd a ddetholwyd. Ddaeth Adrian Crompton, felly, gerbron gwrandawiad cyn enwebu y pwyllgor ar 31 Ionawr. Yn ystod y gwrandawiad, gwnaethom archwilio cymhwysedd proffesiynol Mr Crompton, sut y mae’n bwriadu ymgymryd â rôl yr archwilydd cyffredinol, a’r profiad a’r arbenigedd sydd ganddo a fydd yn berthnasol i’r swydd.
Felly, dyma ofyn i’r Cynulliad dderbyn y cynnig hwn i enwebu Adrian Crompton i’w Mawrhydi ei benodi’n Archwilydd Cyffredinol Cymru.
A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r cynnig hwn a'r enwebiad arfaethedig i'w Mawrhydi y Frenhines? Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gydag Adrian Crompton am flynyddoedd lawer, ac yn fwyaf diweddar yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Lywydd. Mae'n ddyn sy'n meddu ar lefel uchel o onestrwydd, eglurder meddwl, a'r ymrwymiad dyfnaf i graffu mewn bywyd cyhoeddus. Yn anad dim, mae Adrian Crompton wedi bod yn hyrwyddo cangen ddeddfwriaethol y llywodraeth. Bydd y cefndir hwn yn ei wneud yn archwilydd cyffredinol rhagorol ac arloesol, yn fy marn i. Dymunwn yn dda iddo yn y swydd bwysig hon. A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i Huw Thomas, yr archwilydd cyffredinol sy'n gadael, am yr holl waith gwych y mae wedi'i wneud? Mae gwaith yr archwilydd cyffredinol yn gymorth mawr i ni yn ein rôl yn craffu ar waith y llywodraeth ac asiantaethau cyhoeddus, ac mae llawer o addewid yn awr gyda'r penodiad newydd hwn.
A gaf fi gytuno â sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hefyd fy nghyd-Aelod, David Melding? Bu'n fraint gweithio gyda Huw Vaughan Thomas fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod y Cynulliad hwn, a gwn fy mod yn siarad ar ran fy rhagflaenwyr mewn Cynulliadau blaenorol wrth ddweud hynny—Darren Millar, David Melding, a Jonathan Morgan hefyd. Hoffwn ddiolch i Huw am ei wasanaeth hir ac ymroddedig i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac am ei ymrwymiad yn cynghori'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth gyflawni ei rôl o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gwariant yn ystod y cyfnod hwnnw. Dylid canmol Huw am ei arweinyddiaeth nodedig i Swyddfa Archwilio Cymru ac am oruchwylio dros gyfnod o sefydlogrwydd. Cyflwynodd ymagwedd newydd tuag at waith archwilio, gan daflu goleuni ar nifer o faterion ariannol a llywodraethu pwysig ac arwyddocaol, sydd wedi arwain at ddiogelu pwrs y wlad. Mae bellach yn bryd edrych tua'r dyfodol. Roeddwn yn falch o chwarae rhan yn y broses ddethol ar gyfer penodi'r archwilydd cyffredinol newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Adam Crompton a'r tîm cryf yn Swyddfa Archwilio Cymru dros y misoedd i ddod. Rwy'n hapus i gefnogi'r enwebiad hwn.
A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r archwilydd cyffredinol sy'n gadael, Huw Vaughan Thomas? Cefais y fraint o allu gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am bum mlynedd o'i gyfnod yn y swydd, ac wrth gwrs, camodd i'r swydd honno ar adeg anodd tu hwnt i Swyddfa Archwilio Cymru, oherwydd digwyddiadau a oedd wedi digwydd yn syth cyn ei benodiad. Ond gwnaeth hynny mewn ffordd a ddaeth â'r tîm at ei gilydd ac mae wedi cynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel iawn yn gyson, rwy'n credu, adroddiadau sydd wedi bod o fudd mawr i bobl Cymru ac i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn gan helpu i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Bu'n archwilydd cyffredinol nad oedd yn ofni dweud ei farn yn glir yn ei adroddiadau, a bydd yn gadael y Swyddfa hon gyda record ragorol, a hynny'n briodol, ar ôl gwasanaethu pobl Cymru fel archwilydd cyffredinol am saith mlynedd. Credaf ei bod hefyd yn bwysig nodi, fodd bynnag, wrth gwrs, fod ganddo hanes hir o wasanaeth mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys cyfnod yng Nghyngor Sir Ddinbych, lle roedd yn brif weithredwr. Roedd hwnnw'n gyfnod arall yn ei yrfa gyhoeddus pan fu'n gwasanaethu pobl fy etholaeth i'n dda iawn hefyd. Felly, rwy'n dymuno'n dda iawn iddo, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu penodiad Adrian Crompton ac yn edrych ymlaen at ymwneud ag ef yn y dyfodol.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—Simon Thomas.
A gaf i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi talu teyrnged i Huw Vaughan Thomas am y gwaith pwysig y mae wedi ei wneud i adfer rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru? Mae pwysigrwydd y rôl yn cael ei adlewyrchu yn y ddeddfwriaeth sydd wedi ei phasio gan y Cynulliad, Deddf 2013, sydd yn sefydlu annibyniaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn sicrhau bod y penodiad, er yn benodiad gan Ei Mawrhydi, yn un sy'n mynd drwy brosesau annibynnol y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau'r Cynulliad hwn, ac yn y pen draw yn dod gerbron y Cynulliad cyfan ar gyfer ei gymeradwyo er mwyn enwebu i'w Mawrhydi. Rydw i'n edrych ymlaen fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ac mae'n siŵr bod pob Aelod yn edrych ymlaen, at weld archwilydd cyffredinol newydd gyda chymaint o brofiad, fel sydd wedi cael ei amlinellu gan David Melding. Annibyniaeth barn, rhyddid meddwl a hawl a chryfder i sefyll i fyny pan fo angen yn erbyn y Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru—dyna beth sydd angen ar archwilydd cyffredinol, ac rydw i'n falch o gael cefnogaeth y Cynulliad, rydw i'n meddwl, i'r penodiad a'r enwebiad sydd wedi cael ei wneud heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6681 Hefin David
Cefnogwyd gan David Rees, Mike Hedges, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau.
2. Diben y Bil hwn fyddai:
a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau llesddeiliaid i rydd-ddeiliaid sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth;
b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac
c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae'n anrhydedd gallu cynnig deddf yn y Senedd hon a fydd o fudd i fy etholwyr yng Nghaerffili, ac rwy'n credu, a byddaf yn dadlau, y bydd o fudd i bobl Cymru yn gyffredinol.
Mae'r ddadl hon a'r ddeddf arfaethedig yn dilyn dwy ddadl a gynhaliwyd eisoes yn y Siambr hon—un ar eiddo lesddaliadol a'r hawliau cyfyngedig y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu, a'r llall ar sefyllfa druenus ffyrdd ac ystadau nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu sy'n cael eu heffeithio gan y rheini. Dyma ddarn coll y jig-so heddiw: hawliau rhydd-ddeiliaid sy'n berchen ar eiddo ar ystadau a reolir a'r rôl mewn perthynas â hawliau cwmnïau rheoli eiddo a chwmnïau rheoli ystadau sy'n aml yn caethiwo preswylwyr mewn contractau rheoli eiddo. Mae'n farchnad hynod annheg nad yw wedi cael ei rheoleiddio. Mae'n broblem ar hyd a lled y DU. Mae gennyf gopi o The Guardian yma—wel, copi wedi'i brintio; copi modern—lle mae'n dweud,
Perchnogion tai sy'n cael eu caethiwo gan lesddaliad sy'n eu blingo—y ffynhonnell arian newydd ar gyfer datblygwyr. Maent yn berchen ar y rhydd-ddaliad ond cânt eu gorfodi i dalu ffioedd rheoli ystadau cynyddol yn aml heb unrhyw atebolrwydd.
Mae'r erthygl honno'n cynnwys dwy enghraifft o ystadau yn Cumbria lle nad oes unrhyw rwymedigaeth ar gwmnïau rheoli ystadau i gadw costau'n isel na darparu tystiolaeth bod y gwasanaethau y maent yn codi tâl amdanynt yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn gwbl warthus ac nid yw'n cael ei reoleiddio. Hefyd yng Nghaint, o bapur newydd ar-lein KentOnline:
Perchnogion tai yng Nghaint yn dioddef taliadau tai ychwanegol.
Mae'n digwydd yno hefyd, gyda 122,000 o bobl yn y sir honno wedi'u caethiwo mewn contractau dadleuol. Dylem roi clod i Kelly Tolhurst, Aelod Seneddol Rochester, sydd wedi codi hyn mewn dadl Neuadd Westminster yn San Steffan.
Ond mae'n digwydd yng Nghymru yn ogystal. Rwyf wedi cael gwaith achos o Gwm Calon yn Ystrad Mynach, lle mae trigolion wedi cael eu caethiwo mewn contractau fel hyn, ac mae Aelodau ar draws y Siambr hon, o fy mhlaid i a phleidiau eraill, hefyd wedi crybwyll eu bod wedi dod ar draws etholwyr sydd wedi wynebu yn union yr un problemau—a gallaf weld Aelodau ar draws y Siambr yn nodio. Mae gan Gwm Calon gwmni rheoli ystadau o'r enw Meadfleet, ac mae hwnnw'n asiant rheoli i gwmni o'r enw Cwm Calon Management Company One Ltd. Maent yn gorfforedig ac wedi'u rhestru yn Nhŷ’r Cwmnïau fel cwmni rheoli preswylwyr. Fel arfer, caiff cwmnïau rheoli preswylwyr eu sefydlu—yn ddiweddar, yn y cyfnod modern—ar ystadau preifat er mwyn iddynt fod yn berchen ar y mannau cymunol, gyda phob rhydd-ddeiliad, pob deiliad tŷ sy'n rhydd-ddeiliad, yn dod yn aelod o'r cwmni hwnnw ac yn cael cyfle i fod yn gyfarwyddwr ar y cwmni hwnnw.
Fodd bynnag, sefydlwyd Cwm Calon Management Company One Ltd. ym mis Ebrill 2005, dros flwyddyn cyn i'r eiddo cyntaf ar yr ystâd gael ei brynu hyd yn oed, yn ôl cofnodion y dreth gyngor. Ni chafodd neb gyfle i fod yn gyfarwyddwr neu'n aelod o'r cwmni pan gafodd ei sefydlu. Ar ben hynny, mae'r dogfennau corfforaethol yn dangos mai gweithwyr Redrow yw'r rhan fwyaf o gyfarwyddwyr y cwmni, a hyd nes y cwblhawyd yr eiddo diwethaf ym mis Mai 2015, roedd gan y gweithwyr Redrow hyn fwyafrif rheoli parod o ran pleidleisiau yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cwmni rheoli preswylwyr, ac felly gallent ddiystyru rhydd-ddeiliaid unigol yn llwyr pe baent yn dymuno gwneud hynny. Sut y gall hwnnw fod yn gwmni rheoli preswylwyr, gyda Redrow, y datblygwr, yn brif gyfranddaliwr—yn wir, yn unig gyfranddaliwr y cwmni rheoli preswylwyr? Mae yna wrthdaro buddiannau amlwg, oherwydd y cwmni rheoli preswylwyr oedd yn gyfrifol am benodi'r cwmni rheoli ystadau, Meadfleet, sy'n gyfrifol am reoli'r ystâd, ac felly mae o dan fys bawd Redrow. Yr hyn a welwch yw achos clir iawn o wrthdaro buddiannau. Mae preswylwyr yn cyfeirio at Meadfleet fel 'Meadfleece', o ystyried y ffaith eu bod yn talu'r ffioedd hyn ac yn cael fawr o ddim yn ôl amdano.
Mae talu ffi fisol i gwmni rheoli eiddo ac ystadau yn arfer cyffredin gydag eiddo lesddaliadol, lle y gelwir y ffi fisol yn rhent tir, ac erbyn hyn mae gan lesddeiliaid hawliau statudol, gan gynnwys hawl i fynd i dribiwnlys, i apelio yn erbyn yr hyn y maent yn ei ystyried yn safonau gwasanaeth gwael. Nid oes gan rydd-ddeiliaid hawl o'r fath.
Felly, heddiw rwy'n cyflwyno achos Janine Jones, sydd wedi cynrychioli llawer o drigolion mewn perthynas â gwaith gwael ac eilradd, a gwaith na chafodd ei wneud o gwbl mewn llawer o achosion yn wir, ac mae hi wedi anfon nifer o negeseuon e-bost at Meadfleet. Mewn un achos—rwyf wedi crybwyll hyn o'r blaen yn y Siambr—anfonodd rheolwr gyfarwyddwr Meadfleet e-bost yn ôl yn dweud wrthi, gyda phob parch, am chwilio am rywbeth gwell i'w wneud. Er bod Redrow wedi ymddiheuro am hynny, dangosai nad oedd ots o gwbl ganddynt mewn gwirionedd, ac nid oes unrhyw reoliadau i'w rhwystro rhag cymryd yr arian a gwneud cyn lleied o waith â phosibl. Dyna oedd yn digwydd ar yr ystâd hon. Mae Janine Jones wedi ysgrifennu at Meadfleet, ac at Redrow, ar sawl achlysur, i'r graddau ei bod wedi ymgysylltu â chyfreithiwr hyd yn oed. Ac mae'r cyfreithiwr wedi dweud wrthi, 'Nid oes fawr ddim y gallwn ei wneud.' Mae hyn yn warthus wrth gwrs, ond yn wahanol i berchnogion eiddo lesddaliadol, nid oes gan berchnogion rhydd-ddaliadol yr un hawliau statudol i herio penderfyniadau'r cwmni rheoli preswylwyr, a'r cwmni rheoli ystadau eiddo sy'n gweithredu ar eu rhan. Nid yw hyn yn ddigon da. [Torri ar draws.] Iawn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch. Nid yn eich ardal chi yn unig y mae'n digwydd—roedd gennyf etholwyr a oedd yn credu bod yn rhaid iddynt dalu hyd nes y byddai'r cyngor yn mabwysiadu'r palmentydd a'r ffyrdd ac ati, oherwydd eu bod ar ystâd newydd, cyn darganfod y byddai'n rhaid iddynt dalu amdano am yr holl amser y byddent yno, ac y bydd yn cael ei drosglwyddo i'r bobl sy'n prynu'r eiddo ar eu holau. Credaf fod hynny'n warthus. Gallaf ddeall pam eu bod wedi credu hynny—rydych yn symud i mewn, nid yw'r ffyrdd wedi'u mabwysiadu, nid yw'r goleuadau wedi'u mabwysiadu, mae'n rhaid i rywun dalu am edrych ar eu holau. Ond rwy'n credu bod eu trin yn y ffordd honno'n warthus.
Os ydych eisiau prynu'r tŷ, mae'n rhaid i chi lofnodi'r weithred, ac os byddwch yn llofnodi'r weithred, rydych yn clymu eich hun at hynny'n union, am y cyfnod o amser y byddwch yn berchen ar y tŷ, ac mae'n rhaid i'r bobl sy'n prynu'r tŷ ar eich ôl dalu'r ffi rheoli ystadau hefyd. Mae'n hurt, yn enwedig pan fydd yr ystâd yn cael ei mabwysiadu, ar y cyfan, yn y pen draw. Mae'n wallgof.
Mae yna gorff rheoleiddio—sef y Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl—ond mae'n wirfoddol, ac ar hyn o bryd gall unrhyw un sefydlu cwmni rheoli eiddo ac ystadau. Gallai unrhyw un ohonom yn yr ystafell hon ddod at ei gilydd—gallai rhai ohonom ddod at ein gilydd, sefydlu cwmni rheoli ystadau, a'i ddefnyddio fel trwydded i argraffu arian. Dyna sy'n digwydd i bob pwrpas. Credaf y dylai'r Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl fod yn gorff statudol y mae'n rhaid i fusnesau fod yn aelodau ohono i allu masnachu.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae amser yr Aelod yn brin. Nid oes ganddo ond wyth munud i agor a chloi. Felly, byddwch yn gyflym.
Iawn, byddaf yn gyflym. Rwy'n derbyn y pethau rydych yn eu crybwyll mewn perthynas ag eiddo a thai, ond mae hefyd yn broblem ar gyfer fflatiau a blociau o fflatiau, ac mae'r tenantiaid hynny wedi cael eu clymu hyd yn oed yn dynnach at lesddeiliadaeth ac at rai o'r cwmnïau hyn.
Yn wir, ac o hyn y tyfasant, lle roedd blociau o fflatiau yn Llundain.
Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfle hwn i wneud yn siŵr nad yw perchnogion eiddo rhydd-ddaliadol ar eu colled, a'u bod yn cael yr un hawliau â lesddeiliaid—oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan lesddeiliaid fwy o hawliau yn hyn o beth—o ran herio penderfyniadau cwmnïau rheoli preswylwyr, a'u hasiantaethau penodedig. Rydym angen i gwmnïau rheoli eiddo ac ystadau gael eu proffesiynoli'n briodol, a'u rheoleiddio, fel y gwneir gyda chyrff proffesiynol eraill, i atal masnachwyr diegwyddor, a phobl sy'n cymryd mantais o berchnogion cartrefi diniwed. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ei Phapur Gwyn, 'Fixing our broken housing market', a fydd yn cynnwys argymhellion. Os na weithredwn yn awr, wrth i ni gael mwy a mwy o ystadau newydd, byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu.
Diolch. Suzy Davies. Mae'n ddrwg gennyf, ond a gaf fi atgoffa Aelodau mai tri munud—rydych yn gwybod; mae hynny'n dda—ar gyfer siaradwyr sy'n ymyrryd? Diolch.
Diolch. A gaf fi ddiolch i Hefin David am gyflwyno'r cynigion hyn heddiw? Roeddent yn fy atgoffa o fy hunllef fynych am ddarlithoedd cyfraith tir 30 mlynedd yn ôl. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod wedi gwneud hyn, oherwydd er bod rhent-daliadau—rhent-daliadau newydd—wedi cael eu diddymu ym 1977, mae rhai yn dal i fodoli. Mae'r rhwymedïau—rydych yn cyfeirio atynt yn eich cynnig—yn llym iawn, ac wrth gwrs, mae'r Llys Apêl wedi cadarnhau yn ddiweddar bod y rhain yn rwymedïau gweithredol, felly credaf ein bod angen deddfwriaeth yn awr i'w haddasu o leiaf.
Mae rhent-daliadau ystadau, sef craidd yr hyn rydych yn siarad amdano mewn gwirionedd, fymryn yn wahanol—ac efallai ychydig yn fwy perthnasol hefyd. Nid ydynt yn cario'r un rhwymedïau anghymesur gyda hwy yn yr un ffordd yn union ag y mae rhai rhent-daliadau cyffredin yn ei wneud, ond ni chawsant eu diddymu ym 1977 chwaith. Cawsant eu cadw'n benodol gydag ystadau bach mewn cof, i reoli'r gwaith parhaus o gynnal a chadw cyfleusterau a rennir, efallai fel ffordd fynediad ar y cyd, neu orsaf bwmpio a rennir—pethau bach fel hyn. A gallaf feddwl, rwy'n credu, am un ystâd yn yr Uplands, sef y ward lle rwy'n byw, a adeiladwyd yn yr 1980au—tua 15 eiddo—lle maent yn talu tua £150 yr un mewn rhent-daliadau i gynnal ychydig o dir cyffredin a llwybr mynediad at Barc Cwmdoncin. Ond roedd ystadau mwy yn tueddu i fod â gwasanaethau wedi'u mabwysiadu neu y gellid eu mabwysiadu a oedd wedi'u diogelu gan fondiau, felly ni chafodd rhent-daliadau eu defnyddio bob dydd o'r 1970au ymlaen oherwydd nad oedd eu hangen. Canlyniad anfwriadol hynny oedd bod y gallu i orfodi cyfamod wedi'i golli yn ogystal, ond rwyf am adael hynny at ddiwrnod arall.
Er hynny, credaf ein bod yn gweld y rhent-daliadau ystadau hynny'n cael eu defnyddio'n fwy creadigol bellach. Mae pawb ohonom yn gwybod am yr ystadau mawr hynny, lle mae'r ffyrdd yn rhy gul, wrth wneud gwaith canfasio gwleidyddol diflas pan na allwch ddod o hyd i rywle i barcio. Mae'r ffyrdd hynny fwy neu lai'n amhosibl eu mabwysiadu ac mae'r tai yn ddarostyngedig i rent-daliadau ar gyfer cynnal y ffyrdd hynny a gofalu am fannau cymunol eraill, ac mae'r perchennog rhent hwnnw, fel y dywedwch, fel arfer yn ddatblygwr mawr neu'n un o'r cwmnïau asiantaeth, ac maent yn casglu'r £150—a £150 ydyw y dyddiau hyn yn hytrach na gini. Ond o ganlyniad i'r rhain, maent yn gwario llai ymlaen llaw, yn osgoi sicrhau bod ffyrdd ystadau yn cyrraedd safon lle y gellid eu mabwysiadu, yn osgoi gorfod darparu bond adran 48, pe baent yn methu sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu, a thrwy'r rhent-daliadau, maent yn creu cronfa fuddsoddi y cânt log arni, ynghyd â'r gallu, fel y nodoch, i gynyddu'r rhent-daliadau pryd bynnag y maent eisiau gwneud hynny, a chodi faint bynnag a ddymunant am gydsyniadau a chyfamodau gorfodol eraill heb unrhyw atebolrwydd. A phan ystyriwch faint o ystadau o'r fath sy'n debygol o gael eu codi o dan gynlluniau datblygu lleol ym mhob cwr o Gymru, wrth i gynghorau fynd ati fel lladd nadroedd i gyrraedd y targedau tai sydd wedi'u pennu ar eu cyfer, mae'r rhent-daliadau ystadau hyn wedi datblygu i fod yn dipyn o freuddwyd i'r datblygwr, rwy'n credu: nid yw'n cael ei reoleiddio o gwbl, nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymgynghori, nid oes unrhyw rwymedigaeth i godi taliadau rhesymol, nid oes gan dalwyr rhent unrhyw hawl i gael copïau o gyfrifon na mynediad at dribiwnlys haen gyntaf—mae'n rhaid i chi fynd i'r llys sirol. Ac rwy'n credu y bydd yr ystâd fach yn yr Uplands yn iawn oherwydd, mewn gwirionedd, y preswylwyr yw'r cwmni rheoli. Ond mewn perthynas â'r ystadau mawr sy'n cynnwys cannoedd ar gannoedd o dai, byddwn yn yr un sefyllfa'n union ag a amlinellwyd gennych, ac rwy'n gobeithio y bydd un o'r ddwy Lywodraeth, neu'r ddwy, yn llwyddo i fynd i'r afael â hyn yn weddol gyflym.
Diolch i chi, a diolch i Hefin am gyflwyno hyn, ac am eich angerdd; rwy'n ei deimlo'n bendant iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno hyn yma heddiw.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn archwilio rhai o'r problemau gyda chontractau lesddaliadol a ffyrdd nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu, felly mae'n rhesymegol ein bod bellach yn symud ymlaen at y problemau a grëwyd gan yr hyn a elwir yn drefniadau 'fleecehold', fel y sonioch chi, taliadau gwasanaeth a'r problemau sy'n dod gyda hwy. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, yn gysylltiedig â'r problemau ehangach gyda chamddefnyddio'r farchnad mewn datblygiadau newydd, sydd wedi digwydd yn amlach ers y cwymp ariannol. Rydym yn gweld adroddiadau cynyddol am safonau salach ar adeiladau newydd, a chamau unioni annigonol ar gyfer rhai perchnogion cartrefi. Er enghraifft, mae'n costio £120 i gofnodi cwyn gyda'r cod defnyddwyr ar gyfer adeiladwyr cartrefi, ac mae llawer yn credu bod hwnnw ar ochr yr adeiladwyr.
Mae perchnogion cartrefi a pherchnogion fflatiau yn wynebu taliadau gwasanaeth ystadau sy'n aml yn daliadau mympwyol na ellir eu cyfiawnhau o gwbl, ac maent yn gallu achosi anhawster ariannol mawr. Mae'n system sy'n arbennig o gyffredin a chostus yn y sector fflatiau, fel y soniodd David Rees rwy'n credu. Mae'n syfrdanol gweld y gall cwmni rheoli ystadau gael meddiant ar eiddo os nad yw'r rhent yn cael ei dalu am gyfnod mor fyr o amser. Gyda'r sefyllfa economaidd rydym ynddi, gyda chostau'n cynyddu i bawb, a chyflogau'n aros yn yr unfan, mae pobl angen ac yn disgwyl elfen o hyblygrwydd, ac yn wir, mae cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau morgais eraill yn cynnig yr elfen honno'n aml—lle maent yn rhoi'r gwyliau neu'r egwyl hwnnw i chi. Yn 2018, mae pobl yn dibynnu ar hyn i oresgyn anhawster, hyd yn oed yn y tymor byr. Felly, mae'r ffaith y gall rhywun golli eu cartref am fethu talu ffi rheoli ystadau'n warthus, ac mae'n rhaid i bobl gael amddiffyniad rhag colli eu cartref am fethu talu mân daliadau.
Nawr, gwn fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi rhai mesurau da a luniwyd i ddiogelu'r tai hyn a brynwyd o dan Cymorth i Brynu, ond fel y dywedais yr wythnos diwethaf, rhan fach iawn o'r farchnad yn ei chyfanrwydd yw hon. Y darlun ehangach yma yw tegwch sylfaenol y model hwn, pa un a yw'n lesddaliad, yn rhydd-ddaliad neu'n unrhyw beth arall. Mewn egwyddor, credaf ei bod yn anghywir disgwyl i bobl dalu ffioedd ychwanegol, sy'n aml yn uchel, am waith cynnal a chadw ar yr ystâd ehangach, ac yna disgwyl i bobl dalu'r dreth gyngor hefyd. Mae'n faich ariannol ychwanegol na all pobl ei fforddio. Ac ar ryw adeg, credaf y bydd pobl yn gwrthryfela ynglŷn â'r mater hwn, nid y rheini sy'n byw ar ystadau tai newydd yn unig, ond hefyd y degau o filoedd o bobl sy'n talu ffioedd rheoli yn ogystal â'r dreth gyngor mewn fflatiau. Yn syml, nid yw'n iawn i ofyn i bobl dalu ddwywaith.
Nid dyma'r model ar gyfer adeiladu sector tai teg, na'r modd i wella perchentyaeth fforddiadwy, ac mae'n gost arall mewn cymdeithas sydd bellach yn llawn o gostau, mae'n rhoi pwysau ar bobl sy'n gweithio. Credaf fod y cynnig hwn yn un da, ac mae'n bwysig ein bod yn ei drafod, ond mae'n rhaid i mi ddweud eto, fel y gwneuthum yr wythnos diwethaf yn ystod y cwestiynau amserol ar ddiwygio lesddeiliadaeth, y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'i phwerau ymhellach, y tu hwnt i gyfyngiadau'n ymwneud â Cymorth i Brynu. Rwy'n deall bod ganddynt gytundebau i beidio ag adeiladu lesddaliadau o dan rai amgylchiadau, er enghraifft gan adeiladwyr cartrefi penodol, ond a fydd y trefniadau hynny'n para am byth a sut y maent yn berthnasol yma?
Felly, rydym yn cefnogi'r cynnig hwn ar gyfer Bil, ond credaf y dylem edrych ar yr arferion diegwyddor ehangach rydym yn dod yn ymwybodol ohonynt yn ogystal â chryfhau amddiffyniad i ddefnyddwyr yn gyffredinol yn y sector hwn. Diolch.
Rwy'n ychwanegu fy niolch at ddiolch Bethan i Hefin am gyflwyno'r ddadl heddiw. Pan oeddem yn edrych ar ddadleuon gwahanol Aelodau ar y Pwyllgor Busnes, roeddwn yn eithaf awyddus i ni gael y ddadl hon, felly rwy'n falch ein bod yn ei chael. Credaf ei bod yn warthus fod modd gosod y taliadau gweddol fympwyol hyn heb ymgynghoriad, tryloywder na'r hawl i her gyfreithiol. Fel y soniodd un neu ddau o'r cyfranwyr, mae'n ymddangos ei fod yn rhan o glytwaith o ffioedd sy'n gysylltiedig â chynnal aelwydydd. Cawsom y dadleuon diweddar, fel y crybwyllwyd, ar rydd-daliadau a lesddaliadau a ffyrdd heb eu mabwysiadu. Felly, mae'n rhan o'r clytwaith hwn o ffioedd mympwyol y mae'n rhaid i bobl eu talu weithiau, ac mae'n drueni mewn rhai ffyrdd na allwn eu clymu wrth ei gilydd mewn un Bil mawr. Ond wrth gwrs, byddai hynny'n rhy anodd yn gyfansoddiadol.
Un neu ddau o bwyntiau sy'n berthnasol iawn yw'r ffaith y gallai fod angen inni ystyried sut y mae Llywodraeth y DU yn deddfu ar y pwyntiau hyn, fel arall gallech gael gwahaniaethau yn y farchnad dai, ac rydych wedi cyfeirio at hynny ym mhwynt 2(c) eich cynnig. A'r broblem fawr arall yw'r her gyfreithiol a'r ffaith nad oes proses apelio gan rydd-ddeiliaid, ac rydych wedi mynd i'r afael â hynny ym mhwynt 1 eich cynnig.
Felly, mae'n gynnig da. Pe bai modd cynnwys y pwyntiau hyn i gyd, gyda rhyw fath o ddeddfwriaeth yng Nghymru, gallem gael canlyniad da. Gallai gryfhau hawliau rhydd-ddeiliaid a sicrhau bod hawliau rhydd-ddeiliaid yn y maes hwn yr un peth yng Nghymru ac yn Lloegr, ac rwy'n credu mai dyna fyddai'r ateb gorau yn ôl pob tebyg, os gallwn ei gyflawni. Felly, rydym ni yn y grŵp UKIP yn cytuno gyda'r cynnig heddiw, a gobeithio y gall y ddadl heddiw sbarduno rhai camau ystyrlon i ddatrys y broblem hon. Diolch i chi.
A gaf fi ddiolch i Hefin a dweud hefyd fy mod yn credu bod yr hwyl a gafodd ar hyn y prynhawn yma yn briodol iawn, oherwydd credaf mai dyna yw pwrpas deddfwrfa sy'n myfyrio ar fuddiannau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n effeithiol er mwyn caniatáu'r math hwn o lwybr lle y gall Aelodau'r meinciau cefn nodi materion sy'n wirioneddol allweddol. Nid yw'n bosibl i'r Llywodraeth deimlo grym y pethau hyn bob amser, oherwydd mae gennym ni fwy o gysylltiad, yn aml, â'r person ar y stryd sy'n wynebu'r anawsterau hyn. Ac yn sicr dyma faes cyfraith y mae gwir angen ei reoleiddio a'i ddiweddaru, neu roi proses gyfreithiol ar waith am y tro cyntaf i lywodraethu'r math o arferion rydym yn eu gweld bellach, a oedd yn absennol, i raddau helaeth, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies, 10, 20 neu yn sicr, 30 mlynedd yn ôl. Felly, credaf ei fod yn bwysig iawn.
Rwy'n nodi bod gwaith ymchwil y grŵp defnyddwyr Which? yn credu ei bod hi'n bosibl fod arferion annheg yn y sector hwn yn arwain at oddeutu £700 miliwn o daliadau gwasanaeth diangen, oherwydd nad oes eglurder o ran llywodraethu. Nid yw'n dryloyw, nid oes raid i'r costau a godir gyfateb i gostau gwirioneddol unrhyw wasanaeth a hefyd gall cwmnïau rheoli fod yn rhan o bortffolio ehangach a gwrthbwyso costau mewn un ystâd benodol neu yn erbyn busnesau gwahanol hyd yn oed, mae'n ymddangos. Mae'n gwbl warthus, ac yn wir, mae grŵp seneddol hollbleidiol y DU ar lesddaliadau, sydd hefyd wedi edrych ar y maes hwn, yn credu y gallai cyfanswm y costau gormodol fod yn £1.4 biliwn. Mae'n arfer gwirioneddol gywilyddus, ac fel rhywun sy'n credu'n gryf yn y farchnad pan fo'n cael ei rheoleiddio yn effeithiol, rwy'n credu ei bod yn eithaf gwael fod yr arferion hyn wedi datblygu, i raddau helaeth o ganlyniad i gwmnïau adeiladu sector preifat. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni weithredu arno yn awr. Credaf fod Hefin yn gwbl gywir ym mhwynt 2(c) y cynnig hwn lle mae'n nodi bod Llywodraeth y DU yn bryderus mewn perthynas â Lloegr, lle mae ganddi gyfrifoldeb polisi tai a lle mae'n gweithio i archwilio'r sefyllfa, cyn ei hunioni'n briodol â deddfwriaeth, ac rwy'n sicr yn credu y dylai fod gennym ymrwymiad tebyg.
Credaf fod llawer ohonom wedi cael ein syfrdanu wrth sylweddol am y tro cyntaf pa mor gyffredin yw'r drwg arferion hyn a'r model busnes cyfan sydd bellach yn dod i'r amlwg, yn yr ystyr nad ydych yn datblygu rhai ystadau i safonau mabwysiadwy, neu fabwysiadwy i raddau helaeth beth bynnag. Mae'n rhywbeth a ddylai ddod i ben a buaswn yn sicr yn annog Hefin i fwrw ymlaen yn y modd hwn.
Diolch i chi, ac yn olaf, Dai Lloyd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. A gaf fi gymeradwyo Hefin David am ei waith yn cyflwyno hyn? Yn amlwg, fel y nodwyd, mae cryn dipyn o orgyffwrdd wedi bod rhwng—. Cawsom y ddadl wreiddiol oddeutu pedair wythnos yn ôl ar yr holl sefyllfa rydd-ddaliadol/lesddaliadol, ac roedd Mick Antoniw ac eraill yn chwarae rhan fawr yn honno; yna cawsom y ddadl ar ffyrdd nad oeddent wedi cael eu mabwysiadu ychydig wythnosau'n ôl; ac yn awr mae gennym y ddadl hon, ac mae cryn dipyn o'r materion yn gorgyffwrdd. Mae pobl yn synnu weithiau at y rhwystredigaethau rydym yn eu teimlo fel gwleidyddion etholedig, ar lefel cyngor sir ac fel Aelodau Cynulliad, pan fo materion bara menyn i'w gweld fel pe bai modd eu datrys, ac yna, pan awn ati, ni ellir eu datrys. Mae'n rhwystredig iawn ac mae hyd yn oed yn fwy rhwystredig i'r etholwyr yr effeithir arnynt.
Mae tasglu gan Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl ar ffyrdd nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu. Mae llawer y gallwn ei wneud yma yn y Cynulliad. Rwy'n cymeradwyo dull Hefin David o weithredu drwy gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau i reoleiddio cwmnïau rheoli eiddo ac ystadau yng Nghymru. Ni all unrhyw beth gymryd lle camau gweithredu. Rydym wedi cael eglurhad clir iawn, yr wythnos hon ac yn ystod yr wythnosau blaenorol—o'r materion cysylltiedig hyn sy'n gorgyffwrdd. Felly, rwy'n cymeradwyo'r camau gweithredu ac yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru'n gweithredu. Diolch yn fawr, Hefin.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?
Diolch yn fawr iawn, ac rwyf fi hefyd yn ddiolchgar i Hefin am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae llawer iawn o sylw wedi bod yn y cyfryngau yn ddiweddar ac mae Aelodau'r Cynulliad wedi codi rhai pryderon difrifol iawn ynglŷn â'r materion amrywiol sy'n effeithio ar bobl sy'n berchen ar eu cartrefi ar sail lesddaliadol. Roeddwn yn falch o gyhoeddi pecyn o fesurau i ddechrau ymdrin â'r pryderon hynny ychydig dros wythnos yn ôl. Fodd bynnag, mae dadl Hefin heddiw yn taflu goleuni ar y materion sy'n effeithio ar bobl sy'n berchen ar eu cartrefi ar sail rydd-ddaliadol, ac yn benodol lle maent yn byw ar ystadau ac yn ddarostyngedig i ffioedd rheoli lle nad oes ganddynt, yn wahanol i lesddeiliaid, unrhyw ffordd o herio'r taliadau hynny.
Pedair munud yn unig sydd gennyf i ymateb i'r ddadl hon, felly ni wnaf ailadrodd y pryderon y mae'r Aelodau wedi eu mynegi mor glir, ond rwy'n eu clywed ac rwy'n eu cydnabod. Mae'n amlwg i mi fod llawer o'r pryderon rydym wedi'u clywed yn deillio o'r un lle â'r pryderon ynghylch lesddaliadau a glywsom yn y ddadl gan Aelod unigol dan arweiniad Mick Antoniw, yn ymwneud â'r angen dybryd i broffesiynoli a chodi safonau ymddygiad yn y sector rheoli eiddo ac ystadau. Ac rwy'n dweud 'proffesiynoli a chodi safonau ymddygiad' oherwydd, mewn gwirionedd, rhai o'r cwmnïau mwyaf proffesiynol yw'r rhai sy'n arddangos yr ymddygiad gwaethaf.
Bydd Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud, mewn ymateb i ddadl Mick Antoniw, na fyddaf yn cilio rhag deddfwriaeth a byddant hefyd wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn ymwneud ar hyn o bryd ag adolygiad Comisiwn y Gyfraith o gyfraith breswyl, lesddaliadol a chyfunddaliadol. Mae gan yr adolygiad hwnnw dair elfen allweddol: mae'n cynnwys rhyddfreintiau lesddaliadol; cyfunddeiliadaeth fel dewis amgen yn lle lesddeiliadaeth; ac yn bwysig iawn yng nghyd-destun y ddadl heddiw, rheoleiddio asiantau rheoli. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu mai dyna'n wir lle y dylem fod pan gyflwynir adroddiad yr adolygiad cyn bo hir.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith hefyd ac yn edrych ar y materion hyn, oherwydd mae rhai ohonynt yn perthyn i faes cyfraith defnyddwyr a chyfraith eiddo, lle bydd angen inni weld camau gweithredu gan Lywodraeth y DU yn ogystal. Fodd bynnag, nid oes angen i ni aros cyn dechrau mynd i'r afael â hyn. Mae ein llwyddiant i sicrhau cytundeb y prif adeiladwyr tai i beidio â gwerthu tai a adeiladir o'r newydd fel lesddaliadau mwyach, oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, yn deillio i raddau helaeth o'r berthynas adeiladol rydym wedi'i meithrin â hwy drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai. Felly, rwy'n rhoi fy ymrwymiad i'r Aelodau heddiw y byddaf yn dechrau trafodaethau gyda'r sector ar y materion a glywsom yn y ddadl hon heddiw gan ddefnyddio'r fforwm hwnnw.
A gawn ni fod yn glir, er hynny, mai ymwneud â rhydd-ddeiliaid y mae hyn? Felly, mae'n drafodaeth ynglŷn â thrafferthion rhydd-ddeiliaid yn yr amgylchiadau hyn.
Yn hollol. Fy mwriad yw defnyddio'r berthynas adeiladol rydym wedi'i meithrin, fel sy'n cael ei ddangos yn y cytundeb diweddar rydym wedi'i sicrhau gyda'r adeiladwyr tai, i ddechrau symud ymlaen ac archwilio'r materion a godwyd yn y ddadl hon heddiw.
Mewn ymateb i bryderon lesddeiliaid yr Aelodau, rwyf eisoes wedi cyflwyno cynllun achredu trawsgludwyr newydd sbon i Gymru er mwyn sicrhau bod gan brynwyr fynediad at gyngor annibynnol o ansawdd da. Bydd yn rhaid i drawsgludwyr gwblhau'r hyfforddiant a chydymffurfio â'r safonau uchel a nodwyd yn y cynllun hwnnw. Ac unwaith eto, rwy'n mynd i ofyn i fy swyddogion archwilio sut y gellir defnyddio a mabwysiadu'r cynllun penodol hwn i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd gan yr Aelodau heddiw mewn perthynas â rhydd-ddeiliadaeth.
Rwyf hefyd wedi egluro fy mwriad i sefydlu cod ymarfer gwirfoddol yn sail i'r mesurau rwyf eisoes wedi'u cyhoeddi er mwyn dechrau mynd i'r afael â'r pryderon ynghylch lesddeiliadaeth ac i wella safonau, gwella ymgysylltiad rhwng yr holl bartïon, a hyrwyddo arferion gorau. Unwaith eto, rwy'n ymrwymo i archwilio sut y gallwn ddefnyddio'r cod hwnnw i fynd i'r afael â'r materion penodol sydd wedi codi yn y ddadl hon mewn perthynas â rhydd-ddeiliadaeth.
Yn olaf, gallaf gadarnhau y byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i fy nghynghori ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud i broffesiynoli a chodi safonau ymddygiad yn y sector rheoli eiddo ac ystadau. Byddaf yn gofyn yn benodol i'r grŵp ystyried y cyfraniadau y mae Aelodau wedi'u gwneud drwy gydol y ddadl hon heddiw, ac yn ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law. Ond yn y cyfamser, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y bleidlais Aelod unigol nesaf, ac edrychaf ymlaen at ystyried cynigion manwl Hefin, os yw'n llwyddiannus.
Diolch. Galwaf ar Hefin David i ymateb i'r ddadl gyda 30 eiliad.
Ychydig iawn o amser sydd gennyf. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Suzy Davies, a ddefnyddiodd ei harbenigedd a'i gwybodaeth broffesiynol i gefnogi fy nghyfraniad, ac roedd y sgwrs a gefais gyda hi ddoe yn ddefnyddiol iawn; i Bethan Sayed yn ogystal; i Gareth Bennett, diolch i chi am gyflwyno'r mater yn y Pwyllgor Busnes—rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr; i David Melding a Dai Lloyd. Mewn gwirionedd, yr hyn a wnaethoch oedd ychwanegu'r darnau nad oedd gennyf amser ar eu cyfer. Felly, diolch yn fawr iawn.
Roedd ateb y Gweinidog yn fedrus iawn, nid wyf yn gwybod a ymrwymodd i ddeddfwriaeth ai peidio, ond roeddwn yn hoff o'r cynnwys ar y cyfan—roeddwn yn credu ei fod yn ddefnyddiol ac yn gefnogol iawn. Diolch i chi am y cyfeiriad at Fil Aelod unigol. Efallai y dylai pawb ohonom gyflwyno'r un Bil ac efallai y cawn ein dewis yn y bleidlais. Nid wyf yn poeni'n ormodol pwy sy'n ei hennill.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, fe ohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon. Galwaf ar Lynne Neagle fel Cadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Lynne.
Cynnig NDM6688 Lynne Neagle
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon.
Rwy'n credu mai ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion yw elfen bwysicaf addysg ein plant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Estyn wedi sicrhau nad oes gan unrhyw un unrhyw amheuon ynglŷn â pha mor bwysig yw addysgu o ansawdd da ar gyfer darparu system addysg o ansawdd da. Mae gweithlu hyfforddedig a brwdfrydig iawn hefyd yn hanfodol i gefnogi'r broses o gyflwyno a chyflawni cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm ysgol newydd. Dyna pam roedd y pwyllgor yn teimlo bod angen cynnal ymchwiliad i'r modd y mae ein hathrawon yn cael eu hyfforddi i ddechrau ac yna'n cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfa. Rydym yn cydnabod y byddant angen ymateb i newidiadau systemig ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg. Yn rhan o hyn hefyd, archwiliodd y pwyllgor y safonau proffesiynol newydd sy'n sail i'r system hyfforddi athrawon newydd, ac y bwriedir iddynt ddarparu'r uchelgais i gyflawni ymysg athrawon.
Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a llafar amrywiol. Roeddwn yn falch iawn o weld 837 o gyflwyniadau mewn ymateb i'n harolwg allgymorth ar-lein, a gynhaliwyd ar y cyd â'n cydweithwyr yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd wedi'i anelu at addysgwyr. Mae'r hyn a welsom wedi codi pryderon mewn nifer o feysydd pwysig. Clywsom fod y nifer sy'n cael eu recriwtio ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon wedi gostwng yn is na'r targed bob blwyddyn yn y pedair blynedd diwethaf. Mae'r prinder i'w weld yn arbennig o amlwg mewn meysydd allweddol megis gwyddoniaeth a mathemateg, ac mewn perthynas ag athrawon o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a'r rhai sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg fod angen trefniadau recriwtio wedi'u targedu a bod angen dealltwriaeth ehangach o'r buddion o fod yn athro yng nghymdeithas heddiw. Mae cynlluniau yn Lloegr i gyflwyno addysgu i israddedigion yn ystod eu cwrs gradd wedi gwneud argraff arnom, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno prosiectau tebyg yma yng Nghymru.
Roedd nifer yr athrawon a oedd i'w gweld yn gadael y proffesiwn o fewn ychydig flynyddoedd ar ôl cymhwyso yn destun pryder pellach. Rydym wedi clywed mai'r rheswm am hyn o bosibl yw'r pwysau y mae system atebolrwydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar athrawon, neu oherwydd bod llwythi gwaith trwm yn arwain at gydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn sylweddoli bod hwn yn fater cymhleth gyda nifer o ffactorau ynghlwm wrtho. O ganlyniad, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r meysydd hyn ymhellach ac i sicrhau bod y camau y mae'n eu cymryd yn ddigonol.
Arweiniodd tystiolaeth arall at ein casgliad nad yw'r gweithlu addysg wedi'i baratoi'n ddigonol i weithredu'r cwricwlwm newydd ar hyn o bryd. Ymddengys mai'r rheswm am y diffyg parodrwydd hwn yw'r cyfuniad o ddiffyg hyfforddiant a'r amser cyfyngedig ar gyfer paratoi. Roeddem yn argymell y dylai dysgu gan ysgolion sydd eisoes yn rhan o ddiwygio'r cwricwlwm gael ei rannu'n ehangach, ac y dylid defnyddio rhaglenni datblygiad proffesiynol cyfredol yn fwy effeithiol er mwyn paratoi ein hathrawon.
Yn fwy cyffredinol, daethom i'r casgliad fod y rhaglenni datblygiad proffesiynol sydd ar gael i athrawon yng Nghymru yn anghyson o ran ansawdd ac argaeledd. Ceir gormod o athrawon nad ydynt yn manteisio ar yr hyfforddiant a'r rhaglenni datblygiad proffesiynol y maent eu hangen, yn eu haeddu, ac y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried maint a phwysigrwydd y newidiadau sy'n digwydd yng Nghymru. Mae gweithlu nad yw'n barod yn peryglu'r dyheadau ar gyfer system addysg o'r radd flaenaf yma yng Nghymru.
Roeddem yn siomedig i glywed mai'r rheswm am hyn yn aml oedd oherwydd nad oedd eu llwyth gwaith yn caniatáu iddynt ymgymryd â hyfforddiant a oedd ar gael, neu oherwydd bod yr hyfforddiant yn ormod o faich ar gyllideb yr ysgol. Mae'n rhaid gwneud mwy i helpu athrawon i gael mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Mae ansawdd datblygiad proffesiynol yng Nghymru yn cael ei gwestiynu hefyd. Clywsom ddadleuon dros gael system o ddysgu proffesiynol achrededig ar gyfer athrawon. Roeddem yn cytuno, ac rydym wedi argymell hyn i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd Estyn yn edrych ar rai o'r materion hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld canfyddiadau'r arolygiaeth.
Nid yw'r datblygiad proffesiynol sy'n digwydd i'w weld yn gyson ar draws Cymru, gyda gwahanol gyrsiau ar gael mewn gwahanol ranbarthau. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddarparu model cyflawni mwy cenedlaethol. Rydym yn credu bod yn rhaid i hyn ddigwydd er mwyn sicrhau bod yr holl athrawon yr un mor barod am yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau.
Rydym hefyd yn credu'n gryf y dylai athrawon cyflenwi gael mynediad llawn at raglenni dysgu proffesiynol fel rhan o ffordd genedlaethol newydd o weithio. Mae athrawon cyflenwi yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'n hysgolion, ac rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw eu hawl i gyfleoedd datblygu yn cael ei diystyru.
Yn olaf, mae'r pwyllgor yn awyddus i weld lefelau uwch o waith ymchwil ar themâu addysg yng Nghymru. Mae cymaint o ddiwygiadau addysg ar y gweill sy'n benodol i Gymru, yn cynnwys cyflwyno fframweithiau trawsddisgyblaethol, hyrwyddo dwyieithrwydd, creu cwricwlwm newydd o'r gwaelod i fyny, a mwy. Byddai'r diwygiadau a'r prosesau hyn yn elwa o lefelau uwch o graffu a dadansoddi academaidd. Bydd goruchwyliaeth academaidd yn ein helpu i sefydlu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a dysgu gwersi o'r gorffennol. Nid yn unig hynny, ond credwn y byddai rhannau eraill o'r byd yn elwa o gael cipolwg gwell ar y gwaith y mae'r rhai ar draws y sector addysg yn ei wneud yng Nghymru.
Yn ystod yr ymchwiliad, roeddem yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau mewn nifer o feysydd a oedd yn peri pryder i ni, yn enwedig mewn perthynas â recriwtio athrawon a llwyth gwaith. Rydym hefyd yn deall y bydd oedi cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn helpu mwy o athrawon i baratoi. Rydym hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod systemau ar waith ar gyfer newidiadau yn y dyfodol mewn llawer o'r meysydd hyn sy'n peri pryder.
Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Rydym yn gobeithio bod ein hargymhellion a'n casgliadau yn helpu i ddangos y ffordd i sicrhau'r amgylchedd gorau posibl ar gyfer ein hathrawon ac o ganlyniad, ein dysgwyr yng Nghymru. Gyda hyn mewn golwg, roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, bob un ond dau o'r 25 argymhelliad a wnaethom. Fel pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau hyn. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am agor y ddadl ac am roi crynodeb da o bob un o'r themâu sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn ar bwnc mor bwysig? Mae'r Cadeirydd yn llygad ei le: mae llwyddiant ein system addysg yn dibynnu ar ansawdd yr athrawon sydd ynddi, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae pawb ohonom, ar draws y Siambr hon, yn teimlo'n angerddol yn ei gylch.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn siomedig pan ddarllenais fod cynifer o'n hargymhellion ond wedi'u derbyn mewn egwyddor, yn hytrach na'u derbyn yn llawn. Credaf fod rhywfaint o amwysedd ynghylch llawer o'r ymatebion a roddwyd, sydd i'w gweld yn osgoi'r argymhellion a wnaed gennym mewn llawer o ffyrdd, er ei fod yn dweud 'derbyn mewn egwyddor'.
Ond mae hwn yn fater pwysig. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r broses o sicrhau bod gennym athrawon o ansawdd da, ac mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd, wrth gwrs, ein bod yn dod ag athrawon newydd i mewn i'r proffesiwn sy'n barod i gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid ein system addysg yma yng Nghymru.
Y bore yma, gwelsom adroddiadau yn y cyfryngau ynglŷn â'r argyfwng ariannu parhaus yn ein hysgolion. Rydym yn gwybod bod Cymru'n cael £1.20 am bob £1 a werir ar ysgolion yn Lloegr. I mi, mae'n ymddangos yn anghredadwy fod gennym y bwlch sylweddol hwn yn y gwariant—tua £700 y dysgwr bob blwyddyn, yn ôl yr undebau. Mae'n fwlch enfawr yn y gwariant, ac wrth gwrs, rwy'n credu mai dyna'n rhannol sy'n arwain at ddigalondid y gweithlu addysgu. Felly, nid yw'n syndod i mi, pan edrychwn ar y ffigurau diweddaraf, nad yw Cymru'n recriwtio agos digon o bobl i leoedd hyfforddi athrawon, ac rwy'n credu mai'r bwlch yn y gwariant yw un o'r rhesymau dros hynny.
Rydym hefyd yn gwybod nad yw'n ymwneud yn unig â recriwtio pobl newydd sy'n meddu ar y sgiliau cywir, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni hyfforddi'r bobl sydd eisoes yn y gweithlu, a rhoi cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus iddynt, a chadw'r athrawon da iawn sy'n ystyried gadael. Cawsom ein brawychu yn ystod yr ymchwiliad wrth weld canlyniadau'r arolwg gweithlu addysg cenedlaethol, sy'n awgrymu bod traean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf. Felly, os oes gennych brinder athrawon newydd yn dod i mewn i'r proffesiwn, ynghyd â thraean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn, gallwch weld sut y mae argyfwng yn dechrau dod i'r amlwg—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
A fyddai'n gallu fy helpu i ddeall pam fod y gwariant £700 yn llai y disgybl yng Nghymru, er mai gwariant iechyd sydd wedi wynebu toriadau go iawn yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr? Ac roeddwn wedi deall bod llywodraeth leol wedi cael ei thrin yn gymharol hael yng Nghymru o'i chymharu â Lloegr. Pam nad yw'r arian hwnnw wedi llifo o lywodraeth leol i'r ysgolion?
Wel, rwy'n credu—. Mae'n amlwg fod gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau lleol ran i'w chwarae yn hyn, ond ar ben hynny gwnaed rhai penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru i dynnu rhai grantiau penodol o'r tirlun cyllido addysg. Rydym wedi gweld hyn gyda'r toriadau i'r grantiau lleiafrifoedd ethnig a'r grantiau Sipsiwn a Theithwyr, er enghraifft, sy'n cael effaith enfawr yn awr ledled y wlad. Ond wrth gwrs, mae'r arian yno, mae ar gael i'w wario, ac mae'n siomedig gweld bod y bwlch cyllido hwn wedi agor.
Buom yn edrych ar y broses o recriwtio athrawon o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac rwy'n credu ei fod yn destun pryder mawr, mewn gwirionedd, mai 69 yn unig o'r 36,000 o athrawon a gofrestrwyd gyda Chyngor y Gweithlu Addysg sy'n nodi eu bod yn ddu, yn enwedig â ninnau'n gwybod bod bechgyn ifanc, yn enwedig o gefndiroedd Affro-Caribïaidd, yn tangyflawni mor sylweddol. Yn ogystal â hynny, mewn perthynas â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr—nid oes digon o bobl o'r cymunedau hynny'n hyfforddi i fod yn athrawon chwaith. Felly, mae'n rhaid i ni roi camau pendant ar waith, ac nid wyf yn credu bod ymateb Llywodraeth Cymru i'r pethau hynny yn enwedig wedi bod yn ddigonol. Hoffwn glywed mwy ynglŷn â'r ymchwil rydych yn ei gynnal i'r pethau hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb i'r ddadl.
Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau i leihau pwysau gwaith ar athrawon, a gwn fod canllaw arfer da wedi'i gyhoeddi. Hoffwn weld canlyniadau hynny i weld a yw dull Llywodraeth Cymru yn gweithio. Cafwyd datblygiad cadarnhaol yn ogystal, wrth gwrs, gyda phenodi rheolwyr busnes i weithio, nid yn unig o fewn ysgolion unigol, ond ar draws nifer o safleoedd ysgol hefyd. Yn amlwg, mae rhai o'r argymhellion yn ein hadroddiad, sy'n edrych am werthusiad o'r prosiectau hynny, yn bwysig tu hwnt.
Os caf drafod safonau proffesiynol yn fyr, rwyf wedi fy syfrdanu mewn gwirionedd fod y Llywodraeth wedi gwrthod dau argymhelliad pwysig iawn mewn perthynas ag ehangu cylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg i ganiatáu iddynt fod yn warcheidwaid safonau proffesiynol yn y dyfodol. Cawsom ein dychryn gan gymhlethdod y safonau proffesiynol newydd a'r ffordd y ceir mynediad atynt. Dros 100 sleidiau PowerPoint ydynt i bob pwrpas ac mae'n rhaid i bobl eu deall a'u dehongli er mwyn penderfynu a ydynt yn bodloni'r safonau proffesiynol hynny, ac mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi dweud wrthym y bydd y safonau newydd a'r dull a fabwysiadwyd yn mynd i'w gwneud yn anos ei orfodi yn erbyn pobl sy'n cyrraedd y safonau hynny. Felly, rwy'n bryderus iawn am hynny, fel rwyf—
A ydych yn dirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Ydw—mae'n bwynt pwysig iawn, ac mae hyn yn ymwneud â derbyn yr angen i ymestyn pwerau i wahardd pobl dros dro mewn egwyddor yn unig. O safbwynt diogelu, credaf ei bod yn warthus nad ydych wedi'i dderbyn yn llawn ac nad ydych yn bwrw ymlaen â hynny. Rydym yn gwybod pan fydd pobl yn cael eu cyhuddo o dreisio neu ymyrryd yn rhywiol â phlentyn—
Mae'n bum munud. Dewch. Ac rwyf wedi caniatáu i chi gael yr ymyriad, felly—.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Iawn, a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr mewn un frawddeg felly, os gwelwch yn dda?
Y ffaith yw bod yna broblem ddiogelu. Gyda phobl sy'n cael eu cyhuddo o dreisio neu ymyrryd yn rhywiol â phlentyn, hyd yn oed os ydynt yn ddieuog, dylai fod cyfnod lle maent yn cael eu gwahardd dros dro o'r gofrestr addysgu. Ni fydd hynny'n wir yng Nghymru ar hyn o bryd gan nad oes ganddynt bwerau i wneud hynny. Mae angen i hynny newid.
Gwnaf i gychwyn drwy ganolbwyntio ychydig ar y pwynt yma ynglŷn â'r rhwystrau sydd yna i’r gweithlu addysg i beidio â manteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol. Rŷm ni’n gwybod ac rŷm ni wedi’i glywed dro ar ôl tro yn y pwyllgor yn y dystiolaeth a dderbyniom ni bod angen creu’r amser, bod angen creu mwy o wagle o fewn amserlen athrawon i allu hyfforddi, i allu dysgu, i allu rhannu profiadau, i gael cyfle i edrych yn fwy gwrthrychol ar eu gwaith eu hunain drwy fynd i wrando ar wersi mewn ysgolion eraill.
Mi wnaeth yr ATL ar y pryd—yr NEU erbyn hyn, wrth gwrs, yr undeb—yn ei thystiolaeth gyfeirio at y creisis llwyth gwaith. Fel rŷm ni wedi clywed gan y Cadeirydd, roedd hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr holiadur a gafodd ei wneud gan y pwyllgor ar y mater yma. Roedd nifer ohonyn nhw yn dweud y prif reswm—78 y cant yn dweud mai’r prif reswm nid oedden nhw yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi oedd oherwydd y baich gwaith. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn syndod pan ŷm ni’n gweld bod bron i 90 y cant o’r gweithlu mewn arolwg arall yn dweud nad ydyn nhw'n llwyddo i reoli eu baich gwaith oddi mewn i oriau gwaith.
Ar gyfartaledd, mae athrawon yn gweithio 50.7 awr yr wythnos, ac athrawon rhan amser yn gweithio 35.8 awr yr wythnos. Roedd Estyn yn dweud wrthym ni fod athrawon yng Nghymru’n gweithio llawer caletach ac oriau hirach nag unrhyw athrawon mewn cenhedloedd eraill, a hynny yn ei dro, wedyn, yn cyfrannu, wrth gwrs, at drafferthion, gyda 52,000 o ddyddiau dysgu yn cael eu colli oherwydd salwch yn sgil stres yn 2015, o’i gymharu â dim ond 21,000 o ddyddiau nôl yn 2009. Felly, mae’r neges yn gwbl glir yn hynny o beth. Roedd Estyn hefyd yn dweud, wrth gwrs, os ydym ni am roi fwy o ffocws ar ddysgu ac ar hyfforddi yna mae hynny’n golygu bod yn rhaid rhoi llai o ffocws ar bethau eraill, megis gweinyddu a biwrocratiaeth.
Nawr, gyda capasiti yn contractio, a hynny’n cael ei yrru, wrth gwrs, gan gyllidebau yn lleihau, diffygion recriwtio a chadw athrawon hefyd, yna mae ffeindio'r gwagle a’r amser yna i adael yr ystafell ddosbarth ar gyfer datblygu proffesiynol a hyfforddi yn llawer mwy heriol ac yn dipyn llai tebygol o ddigwydd. Ac fel y cyfeiriwyd ato yn gynharach, roedd sylwadau yn y wasg heddiw ynglŷn â chyflwr ariannu ysgolion—wel, yn y dystiolaeth, roeddem ni'n clywed hefyd bod cael y pres i dalu am gyfr yn yr ystafell ddosbarth i ryddhau athrawon i fynd i gael hyfforddiant, bod hynny hefyd yn her.
Mae’r methiannau hefyd i gwrdd â thargedau ymarfer dysgu yn faes mae’r adroddiad yn ffocysu arno fe, ac yn faes rydw i’n gwybod bod y Llywodraeth yn ymwybodol ohono fe. Ond, wrth gwrs, tra bod pobl yn gweld sector a gweithlu dan straen fel ag y mae hi ar hyn o bryd, yna pa ryfedd sydd yna fod yna drafferth recriwtio? Gallwn, gallwn ni gynnig gwell incentives ariannol, ac rydw i’n gwybod bydd y Llywodraeth yn cydnabod ei hunan nad dyna'r ateb o’i hunan. Mi allwn ni ddelio, efallai, â’r amod yma o orfod cael gradd benodol mewn TGAU mathemateg cyn mynd i ddysgu, ac mae yna ddilema fanna. Rwyf hefyd yn anghyfforddus gyda hi; gallwn edrych ar hynny, ond ni fydd hwnnw yn ei hun hefyd yn ateb, achos mi fydd y broblem sylfaenol yn aros. Tan inni weld lleihau'r baich gwaith yma—yr oriau hir, y pwysau, a llawer o hyn yn cael ei yrru, wrth gwrs, gan y gyfundrefn asesu, arolygu a mesur perfformiad—yna tan inni daclo'r hanfodion yna, fydd y genhedlaeth nesaf yn pleidleisio gyda’u traed ac mi fydd targedau recriwtio yn dal i gael eu methu, byddwn ni yn dal ysywaeth i golli athrawon da fydd yn gadael y proffesiwn cyn amser.
Ond mae yna gyfle, wrth gwrs, gyda datganoli tâl ac amodau athrawon, inni wneud mwy i daclo rhai o’r materion yma, yn enwedig yr elfen amodau gwaith, yn fy marn i. Rydw i’n deall ac yn sensitif i’r nerfusrwydd yma sydd gan rai o ran amrywio cyflogau, ac rwy’n deall y nerfusrwydd o gwmpas hynny, ac rydw i a Phlaid Cymru hefyd yn dal i ddweud, wrth gwrs, bod angen cynnig premiwm i athrawon a chynorthwyon dosbarth sydd â sgiliau a chymwysterau uchel. Rydw i’n meddwl gallwn ni wneud hynny beth bynnag er mwyn helpu denu a chadw'r goreuon. Ond, o ran yr amodau, rydw i yn teimlo bod yna gyfle’n dod nawr inni edrych ar faint o amser sydd ar gael i athrawon i fedru hyfforddi ac ailedrych ar y cydbwysedd yma rhwng amser dysgu, amser paratoi, amser datblygu proffesiynol ac yn y blaen.
Nid oes dianc o’r ffaith os oes angen creu'r gwagle ychwanegol yma, y space ychwanegol yma, i wneud yr hyfforddi yna mi fydd angen capasiti ychwanegol ac mi fydd angen adnoddau ychwanegol i fynd gydag e. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod neu dderbyn mewn egwyddor y rhan fwyaf o'r argymhellion. Os nad ydych chi'n cyd-fynd â'r argymhellion yna gwrandewch ar y neges ganolog yn yr adroddiad, sef gofidiau ynglŷn â chapasiti'r system yn ei chyfanrwydd, llwyth gwaith yr athrawon, ac, wrth gwrs, y ffaith bod torri cyllidebau'n gwneud hynny'n lawer gwaeth.
Mae addysgu'n broffesiwn pwysig iawn sy'n haeddu llawer iawn o ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac eto canfu'r pwyllgor mai ychydig iawn o gyfleoedd hyfforddiant parhaus sydd ar gael ac mai ychydig iawn sy'n manteisio arno, ac mae nifer o siaradwyr heddiw wedi egluro'r rhesymau am hynny. Mae'n rhaid bod hynny'n destun pryder, y gallai fod yn bosibl i rywun, i bob pwrpas, gael swydd fel athro yn 23 oed a bod yn athro am 40 mlynedd gydag ychydig iawn o hyfforddiant ychwanegol dros y cyfnod hwnnw.
Wrth i'n gwybodaeth am arferion gorau wella ac wrth i addysg newid ochr yn ochr â chymdeithas newidiol, mae'n annirnadwy y bydd cwrs tair neu bedair blynedd cyn mynd yn athro yn ddigon i gynnal gyrfa gydol oes fuddiol i'r athro a'r myfyrwyr. Felly, mae'n hanfodol fod athrawon yn cael amser ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Diben datblygiad proffesiynol parhaus yw codi a chynnal safonau addysgu. Felly, er ein bod yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, mewn egwyddor o leiaf, bron bob un o argymhellion yr adroddiad, mae'n siomedig iawn ei bod wedi gwrthod argymhellion 19 a 20, sydd, yn eu hanfod, yn ymwneud â diffinio ac egluro safonau addysgu derbyniol.
Sut y gallwn dawelu meddyliau rhieni fod anghenion addysgol eu plant yn ganolog i'n gwaith pan fo'r pennaeth addysg yng Nghymru yn gwrthod argymhellion y pwyllgor i helpu i ddiffinio'r hyn a ddisgwyliwn gan ein hathrawon? Gofyn iddi ystyried y syniad yn unig a wnaeth y pwyllgor—syniad a fyddai'n sicrhau llinell sylfaen o safonau derbyniol—ond fe wrthododd; gwrthododd ei ystyried hyd yn oed. Beth sy'n peri'r fath bryder iddi ynglŷn â gweithredu safonau gofynnol ar gyfer athrawon? Ceir safonau gofynnol mewn llawer o broffesiynau, ac o ystyried nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn blino dweud wrthym pa mor bwysig yw'r proffesiwn addysgu yn ei barn hi, mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn nad yw'n barod i gyflwyno safonau gofynnol swyddogol mesuradwy y gellir eu gwirio er mwyn inni allu bod yn sicr fod plant Cymru yn cael addysg dda.
Felly, i gloi, rwy'n cefnogi'r adroddiad a'r argymhellion gant y cant. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, o leiaf mewn egwyddor, bron bob un o'r argymhellion. Ac yn hytrach na'u derbyn mewn egwyddor yn unig, buaswn yn gofyn iddi ddangos y penderfyniad y mae'n honni sydd ganddi a'u gweithredu i gyd cyn gynted â phosibl. Ac rwy'n ei hannog i dderbyn argymhellion 19 a 20. Mae'n amlwg ei bod yn credu bod rhinweddau'n perthyn i'r adroddiad ym mhob ffordd arall, ond mae'r ffaith ei bod yn gwrthod y cynnig i sefydlu safonau gofynnol go iawn drwy gydol gyrfa athro yn peri pryder ac ni fydd yn gwneud dim i dawelu meddyliau rhieni Cymru ei bod hi'n poeni go iawn am safonau addysgu yn ysgolion Cymru. Diolch.
Roeddwn eisiau mynd i'r afael â phwynt penodol mewn gwirionedd, ac mae'n ymwneud â phwysigrwydd arweinyddiaeth yn ein hysgolion, rhywbeth y clywn yn rheolaidd ei fod yn hollbwysig, ac rwy'n credu'n bendant ei fod. Mae'n rhaid i ni gael y sgiliau arweinyddiaeth cywir a'r timau arweinyddiaeth cywir ar waith os ydym am sicrhau'r math o gynnydd rydym yn dymuno ei weld yn ein hysgolion. Rwyf eisiau cysylltu hynny â'r heriau penodol yn ein hysgolion mwyaf difreintiedig, lle rwy'n credu bod angen nodweddion arweinyddiaeth penodol.
Felly, tybed a oes gan yr academi genedlaethol newydd ar gyfer arweinyddiaeth, ac yn wir y safonau arweinyddiaeth proffesiynol newydd, elfen bwrpasol sy'n edrych ar y galluoedd penodol y profwyd eu bod yn weithio yn ein hysgolion mwyaf difreintiedig, lle mae'r timau arweinyddiaeth yn meddu ar y setiau sgiliau angenrheidiol, y nodweddion a'r galluoedd angenrheidiol, i ddatblygu'r ysgolion hynny go iawn, ac a allem adnabod a nodi'r sgiliau penodol sy'n gweithio yn yr ysgolion sy'n gwneud cynnydd go iawn yn ein cymunedau mwy difreintiedig, a cheisio sicrhau bod gan ein staff a'n timau arweinyddiaeth ledled Cymru ddigon o'r sgiliau hynny i sicrhau bod yr holl ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau mwy difreintiedig yn llwyddo yn y ffordd y mae rhai'n llwyddo—y rheini sy'n arddangos arferion gorau ar hyn o bryd.
Felly, rwy'n credu efallai bod angen penodol o fewn y galluoedd a'r sgiliau arweinyddiaeth mwy cyffredinol rydym eu heisiau yng Nghymru a fyddai'n mynd i'r afael â'r heriau yn yr ysgolion hynny'n fwy effeithiol. Mae'r rhain yn faterion sydd wedi cael eu trafod, Ddirprwy Lywydd, a tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet, a'n Cadeirydd o bosibl, yn mynd i'r afael â'r cynnydd y gellid ei wneud mewn perthynas â'r materion penodol hynny.
Ac yn olaf, Hefin David.
Diolch. Rwy'n dod o deulu o athrawon—fy mam, fy nhad, fy chwaer—fi oedd yr unig un i beidio â mynd yn athro, ond roeddwn yn athro prifysgol yn lle hynny, felly mae'r pethau hyn yn agos iawn at fy nghalon. Roeddwn eisiau nodi ychydig o'r argymhellion roeddwn yn cytuno â hwy o'r trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor ac o'r profiadau rwyf wedi'u cael fy hun.
Rwy'n credu bod argymhelliad 1, mewn perthynas â chynnal
'gwaith ar fyrder i sicrhau y paratoir y gweithlu cyfan',
yn gysylltiedig ag argymhelliad 4, sef
'ystyried hybu rhagor o ddysgu arferion ymhlith cydweithwyr, ac annog mwy o gyfleoedd datblygu a hyfforddi o fewn yr ystafell ddosbarth'.
Credaf fod y ddau argymhelliad yn cyd-fynd yn dda iawn, ac rwy'n credu, os ydych am gyflawni'r gwaith paratoi, fod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar yr ystafell ddosbarth. Rwy'n teimlo, fy hun, os yw dysgu'n digwydd, ei fod yn digwydd drwy brofiad, ac mae eistedd mewn darlithfa fawr a chlywed, 'Dyma sut rydych yn ei wneud', yn llai defnyddiol na'i wneud go iawn.
Mae argymhelliad 2 yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i
'sicrhau bod cyfleoedd dysgu gan ysgolion arloesi yn cael eu rhannu’n ehangach ar draws y proffesiwn addysg yn gyffredinol, i helpu i sicrhau bod y gweithlu addysg yn gwbl ymwybodol o ddatblygiadau ac yn barod ar gyfer y diwygiadau sydd i ddod.'
Mae hwnnw wedi cael ei 'dderbyn mewn egwyddor'. Un peth y buaswn yn ei ddweud: rwyf wedi yn cael sgwrs â'r penaethiaid ym mwrdeistref Caerffili. Maent yn cyfarfod yn gyson, a chyfarfûm â hwy i siarad am yr ysgolion arloesi a'r rhai nad ydynt yn ysgolion arloesi, ac roeddwn ychydig yn bryderus bod rhannu gwybodaeth pan siaradais â hwy y llynedd—rwy'n cyfaddef bod hyn flwyddyn yn ôl—nid oeddent wedi cyrraedd y pwynt lle roeddent yn rhannu gwybodaeth mor eang ac mor gyflym ag y buaswn wedi hoffi ei weld. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sicrwydd i'r pwyllgor ers hynny fod hynny wedi gwella a bod pethau'n newid, a chredaf ei fod yn rhywbeth lle mae'r consortia rhanbarthol yn hanfodol i sicrhau bod y pethau hyn yn digwydd yn effeithiol, yn gysylltiedig unwaith eto ag argymhelliad 4 ar ddysgu arferion ymhlith cydweithwyr.
Hoffwn sôn am argymhelliad 18, sy'n dweud y
'dylai Ysgrifennydd y Cabinet roi ystyriaeth bellach i gymhlethdod a hygyrchedd y safonau i sicrhau bod pawb ar draws y proffesiwn yn gallu cael mynediad at y safonau yn y fformat gorau iddyn nhw, ac mewn modd sy’n ei gwneud yn hawdd ymgorffori’r safonau yn eu harferion gwaith'.
Unwaith eto, cafodd hwnnw ei dderbyn—rwy'n credu ei fod wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor. Os gallaf ddod o hyd i'r dudalen gywir—
[Anghlywadwy.]
Ie, do; diolch, Gadeirydd. Cafodd ei dderbyn mewn egwyddor.
Un o'r problemau gyda'r safonau: rwyf eisiau iddynt fod yn rhan allweddol o'r tirlun addysgol llwyddiannus, ond mae'n ddogfen eithaf swmpus, yn 106 o dudalennau o hyd. Nawr, gwn yn union beth fydd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet—maent i fod i gael eu defnyddio'n rhyngweithiol. Nid wyf eto wedi gweld y ddogfen hon yn cael ei defnyddio'n rhyngweithiol, ar-lein. Ni fuaswn yn hoffi meddwl y byddai'n rhaid i athrawon argraffu'r safonau hyn a'u dysgu. Hefyd, rwy'n credu o hyd fod rhywfaint o'r iaith a ddefnyddir yn y safonau braidd yn aneglur, yn enwedig i athro sydd, ar ddiwedd diwrnod gwaith, yn brysur iawn, ychydig yn flinedig, a heb fawr o amser i eistedd a meddwl. Nid wyf eto wedi cael fy argyhoeddi gan yr iaith a ddefnyddiwyd yn y safonau, ac roeddwn yn teimlo, pan roddodd yr Athro Mick Waters dystiolaeth i'r pwyllgor, ei fod wedi mabwysiadu ymagwedd braidd yn orobeithiol at y defnydd o'r safonau. Rhoddodd dystiolaeth dda iawn ac fe'i cyflwynwyd yn dda iawn, ond roeddwn yn teimlo ei fod braidd yn amharod weithiau i wynebu her o ran sut y gallai'r safonau hynny fod yn anodd i athro eu defnyddio pe bai'n ceisio eu defnyddio'n gyflym.
Yn olaf, dywed argymhelliad 23 y dylai
'Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod mwy o gefnogaeth i’r defnydd o’r Pasbort Dysgu Proffesiynol, o ystyried ei botensial, a’r arian sydd eisoes wedi’i wario arno.'
Mewn gwirionedd, rwyf wedi ymweld â Chyngor y Gweithlu Addysg ac wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio'r pasbort dysgu proffesiynol. Mae'n amlwg fod gwerth iddo. Yn ei hymateb, dywedodd fod angen i ddefnyddwyr
fod yn hyderus fod y pasbort dysgu proffesiynol yn bodloni anghenion ymarferwyr fel bod niferoedd cynyddol yn argyhoeddedig ynglŷn â gwerth canfyddedig defnyddio'r pasbort dysgu proffesiynol.
Mae gwerth iddo yn bendant, yn enwedig, rwy'n tybio, os caiff ei ddefnyddio ar y cyd â Hwb. Felly, fel adnodd ar-lein, os oes gennych athro yng Nghonwy ac athro yng Nghaerffili yn gwneud yr un math o gynlluniau gwersi, mae'n adnodd ardderchog i rannu'r rheini ac i atal dyblygu, a rhannu arferion da. Yr hyn nad wyf yn argyhoeddedig yn ei gylch yw ei fod wedi cael ei gyflwyno mor eang ac mor gyffredinol â phosibl. Nid wyf yn credu bod addysgwyr wedi'u hargyhoeddi yn ei gylch ar hyn o bryd, ond gallent fod, oherwydd mae'n offeryn da. Rwyf wedi'i weld, a buaswn yn ei groesawu pe bawn yn athro fy hun. Felly, rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ganmol rhinweddau'r pasbort dysgu proffesiynol ac annog ei ddefnydd.
Felly, ar y cyfan, cafwyd ymateb da iawn gan y Llywodraeth i'r adroddiad, ar wahân i 'mewn egwyddor' i raddau bach. Hoffwn weld rhai pethau eraill yn cael eu derbyn. [Torri ar draws.] Mae Michelle Brown yn hwyr iawn—[Torri ar draws.] A chyda hynny, rwyf am ddirwyn fy sylwadau i ben.
Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Lynne a chyd-Aelodau ar y pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn? Croesawaf eu ffocws a'u gwaith craffu ychwanegol ar y maes hynod bwysig hwn. Rwy'n cydnabod bod sefydlu cwricwlwm newydd trawsnewidiol yn iawn, ond wrth gwrs, yn anad dim arall, ansawdd y ffordd y bydd y cwricwlwm hwnnw'n cael ei addysgu sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i'r plant. Dyna sy'n trawsnewid bywydau pobl ifanc mewn gwirionedd, ac felly mae'n hanfodol fod ein proffesiwn addysgu wedi eu paratoi a'u harfogi'n llawn pan fyddant yn dechrau addysgu'r cwricwlwm newydd hwn.
Credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â chefnogi addysgwyr i wireddu'r cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Cadeirydd, rwyf hefyd yn cydnabod bod yna ffordd bell i fynd. O ganlyniad, rwyf wedi gallu derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion sy'n deillio o'r ymchwiliad. Rwyf hefyd yn cydnabod na allwn ddisgwyl i unrhyw athro fod wedi paratoi'n llawn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i mi ddweud mai datganiad o ffaith yn unig yw casgliad agoriadol y pwyllgor yn hyn o beth. Wrth gwrs, rydym ar ganol dull cydweithredol o sefydlu a datblygu'r cwricwlwm hwnnw, felly ni allwn fod mewn sefyllfa eto i gael pawb yn barod, oherwydd nid yw'r cwricwlwm ei hun yn hollol barod ar hyn o bryd. Serch hynny, rwy'n cydnabod nifer o'r pwyntiau a wnaeth y pwyllgor, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i grynhoi rhai o'r camau sylweddol a gymerwyd yn ystod yr ymchwiliad i fynd i'r afael â'r pryderon craidd mewn perthynas â pharodrwydd y proffesiwn i weithredu'r cwricwlwm newydd.
Rwy'n hyderus y bydd ein pwyslais ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol a rhagoriaeth yn ein galluogi i gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg yn llwyddiannus. Bydd dull gweithredu graddol o ddysgu proffesiynol yn sicrhau ein bod yn gallu ymateb i unrhyw anghenion datblygu sy'n dod i'r amlwg, wrth i arloeswyr ddechrau profi'r cwricwlwm newydd yr hydref hwn. Bydd profion ehangach yn sicrhau bod ymarferwyr ar bob lefel yn ymwneud yn uniongyrchol â'r broses o wneud synnwyr o'r cwricwlwm, er mwyn cynyddu hyder proffesiynol. Ac wrth gwrs, mae un o'r rhesymau pam y penderfynais newid y ffordd yr oeddem am gyflwyno'r cwricwlwm wedi rhoi amser hanfodol i ni allu meithrin yr hyder hwnnw yn y proffesiwn, yn enwedig yn y sector uwchradd, lle mae'r her fwyaf, rwy'n credu.
Bydd ein gwaith parhaus gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar wella gallu'r system yn cefnogi pob ysgol drwy'r broses o newid i'r cwricwlwm newydd, ac mae ein dull arloesol yn haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol. Nid oes unrhyw wlad arall wedi manteisio'n llawn ar ysgolion fel sefydliadau dysgu i gefnogi eu taith ddiwygio, a bydd y newid i ddull cenedlaethol 'ysgolion fel sefydliadau dysgu' yn sicrhau bod yr holl haenau cyflawni yn defnyddio'r un iaith ac yn modelu'r un ymddygiadau, gan gyflymu'r broses o newid i system addysg hunanwella. Byddwn ni, a'r pwyllgor, yn gallu darganfod mwy am hyn pan fydd adroddiad astudiaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o Gymru yn y maes hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni. Bydd yr adroddiad hwnnw'n rhoi syniad o allu cyfredol ein holl ysgolion i wella ac i addasu i'r cwricwlwm newydd, a meysydd a fydd angen camau gweithredu pellach, gennyf fi fel Ysgrifennydd y Cabinet, o'n haen ganol, ac ysgolion unigol. Mae canfyddiadau cynnar yr astudiaeth eisoes wedi datgelu cydberthyniad uniongyrchol rhwng yr ysgolion sy'n gryf mewn perthynas ag ysgolion fel sefydliadau dysgu, a lefel uchel o foddhad swydd ymhlith y staff sy'n gweithio yn y sefydliadau hynny. A phan fyddwn yn sôn am gadw athrawon, mae datblygu'r gallu hwn yn ein system i fod yn sefydliadau dysgu hefyd yn argoeli'n dda ar gyfer materion sy'n ymwneud â rhai o'r problemau cadw staff a godwyd gan Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.
Wrth gwrs, mae ein diwygiadau i addysg gychwynnol athrawon yn hollbwysig yn hyn o beth, a byddant yn galluogi gweithwyr addysg proffesiynol i chwarae rôl sy'n llawer mwy canolog wrth lunio, cyflawni ac arwain newid yn y proffesiwn. Ac rwyf hefyd yn credu y bydd hynny'n helpu i greu system fwy sefydlog, o ansawdd uwch, er mwyn galluogi sefydliadau ac unigolion i ffynnu.
O ran rhai o'r pwyntiau y mae Aelodau wedi'u gwneud yn fyr iawn, bydd Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi sefydlu bwrdd cynghori ar recriwtio a chadw athrawon i edrych ar faterion sy'n ymwneud â recriwtio athrawon i gynlluniau addysg gychwynnol athrawon, er mwyn edrych ar gwestiynau'n ymwneud ag amrywiaeth a godwyd yn yr adroddiad ac yn hollbwysig, yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gadw athrawon yn y system.
Argymhelliad 14: soniodd Lynne am gyflwyno israddedigion i botensial addysgu fel gyrfa. Rydym eisoes wedi gweld rhywfaint o adborth cadarnhaol iawn o'n cynllun ieithoedd tramor modern, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn ymestyn hwn i gynnwys ffiseg yn y flwyddyn academaidd newydd. Rwy'n gobeithio adeiladu ar hynny, fesul pwnc, fel y gall yr israddedigion disglair hynny ennyn brwdfrydedd pobl ifanc yn eu pynciau a dangos i rai o'r israddedigion ifanc hynny o bosibl pa mor foddhaus yw gyrfa fel athro. Ychydig iawn o swyddi a gewch yn y byd lle bydd unigolion rydych wedi gweithio gyda hwy yn eich cofio ar ôl eich amser. Gyda phob parch i bawb yma, rwy'n amau na fydd hynny'n wir yn ein hachos ni, ond rwy'n siŵr y gall pob un ohonom enwi athro sydd wedi cael effaith sylfaenol ar ein bywydau. I mi, Mr Burree ydoedd, ond mae gan bob un ohonom Mr Burree yn ein bywydau. Nid oes llawer o broffesiynau eraill lle y gallwch gael yr effaith hirdymor honno ar unigolyn.
Darren, rwyf wedi dweud hyn o'r blaen: nid yw gwneud y cymariaethau uniongyrchol hynny'n gredadwy o gwbl. Oherwydd ymddadfeiliad y system addysg yn Lloegr, ni allwch wneud cymariaethau uniongyrchol o'r fath rhwng y cyllid. Ond mae'n gywir i ddweud bod yna rôl i awdurdodau lleol, a dyna pam roeddwn yn siomedig o weld cynghorwyr Ceidwadol yn fy awdurdod fy hun, gwta bythefnos yn ôl, yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau a fyddai wedi sicrhau £1 miliwn yn ychwanegol i gyllidebau dirprwyedig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid oes gennyf amser. Mae angen i mi symud ymlaen, Darren.
O ran safonau proffesiynol, mae safonau proffesiynol wedi cael eu symleiddio, a byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i archwilio materion yn ymwneud â hygyrchedd ac ymarferoldeb y safonau hynny, ac yn eu cysylltu â'r pasbort dysgu proffesiynol, sydd â chyfle, rwy'n credu, Hefin—fel y dywedoch—i fod yn offeryn pwerus iawn mewn perthynas â dysgu proffesiynol a rhannu arferion da.
Mewn perthynas â diogelu, sy'n bwynt pwysig iawn—ac os caf fi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn edrych ar y mater hwn ychydig yn fanylach—yn gyntaf, hoffwn weld Cyngor y Gweithlu Addysg, fel corff annibynnol, yn cynnal ymgynghoriad eu hunain gyda'r 80,000 o unigolion cofrestredig sydd ganddynt, a'r sector addysg ehangach. Yna buaswn yn hoffi defnyddio'r dystiolaeth honno i edrych ar y cyfle i ddiwygio Deddf Addysg (Cymru) 2014. Felly, rwyf eisiau gweld y dystiolaeth honno'n dod, nid mewn ymgynghoriad a gynhelir gennyf fi, ond mewn ymgynghoriad a gynhelir ar ran y proffesiwn gan y corff proffesiynol hwnnw i edrych ar y dystiolaeth a ddaw'n ôl. Ond nid wyf yn diystyru—nid wyf yn diystyru—y posibilrwydd o wneud newidiadau, fel y nodwyd gan y pwyllgor.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
A gaf fi ddweud, Michelle, fy mod yn gwbl fodlon ac yn hyderus fod y safonau sydd gennym yn darparu llinell sylfaen glir iawn ar gyfer perfformiad athro? Ni all athrawon sydd newydd gymhwyso basio'r cyfnod ymsefydlu heb ddangos eu bod yn bodloni'r holl ddisgrifyddion perthnasol, ac mae'r disgrifyddion hynny'n parhau i weithredu fel llinell sylfaen drwy gydol gyrfa athro drwy nodi'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyflawni eu rôl yn effeithiol. Mewn gwirionedd, dylem wahaniaethu rhwng y safonau addysgu proffesiynol hyn a materion sy'n ymwneud â chymhwysedd a sut y mae rhywun yn ymdrin â chymhwysedd mewn ystafell ddosbarth. Bydd y rhan fwyaf o athrawon ac arweinwyr yn myfyrio ar eu hymarfer mewn perthynas â'r pum safon, ac i addysgwyr sy'n dymuno gwella eu hymarfer, mae'r disgrifyddion lefel uwch yn darparu ffocws uchelgeisiol ar gyfer datblygiad proffesiynol yn y dyfodol.
Rydym angen dull cenedlaethol o weithredu er mwyn sicrhau bod yna gysondeb ar draws ein cenedl, a gobeithio, erbyn mis Medi eleni, y byddwn yn gallu dweud yn glir wrth y Siambr hon, a'r proffesiwn, sut beth fydd dull cenedlaethol o'r fath. Bydd angen elfen o hyfforddiant cyffredinol mewn perthynas â'r cwricwlwm, ond bydd angen i ni dreiddio'n ddyfnach ar gyfer arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr cyfnodau, ac rwy'n credu y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny erbyn mis Medi.
John, mae arweinyddiaeth yn gwbl allweddol i hynny. Nid oes unrhyw beth sy'n fwy torcalonnus i athro na gweithio mewn sefydliad ag arweinyddiaeth wael. Mae hynny'n ychwanegu at eich llwyth gwaith ac yn ychwanegu at y straen a allai fod arnoch yn eich sefydliad. Roeddwn yn falch iawn, yr wythnos diwethaf, o gyfarfod â'r set gyntaf o swyddogion cyswllt ar gyfer ein hacademi arweinyddiaeth newydd. Maent hwy, a'r cyfraniad rwy'n credu y byddant yn ei wneud, yn fy ysbrydoli'n fawr. Ond mae achredu hyfforddiant a chymorth ar gyfer yr athrawon sydd eisiau gweithio yn ein cymunedau mwyaf anodd yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'r academi newydd ei archwilio. Ceir nifer o feysydd lle rydym angen y sgiliau penodol hynny, pa un ai gweithio yn rhai o'n cymunedau mwyaf anodd, yr her o redeg ysgol bob oedran, neu'r her o fod yn bennaeth gweithredol, lle rydych, efallai, yn bennaeth ar dair neu bedair o ysgolion. Felly, mae yna set gyfan o bethau y mae angen i ni edrych arnynt yn hynny o beth.
Lywydd, yng ngeiriau'r ysgolhaig cwricwlwm Lawrence Stenhouse,
ni ellir datblygu cwricwlwm heb ddatblygu athrawon.
Rwy'n glir iawn ynglŷn â hynny. O'm rhan i, mae'r ddau yn mynd law yn llaw â'i gilydd, a dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor yn ddefnyddiol iawn wrth i ni ddatblygu polisi yn y maes hwn.
Galwaf ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? Fe geisiaf ymdrin â rhai o'r prif bwyntiau a wnaed gan yr Aelodau.
Rwy'n croesawu atgyfnerthiad Darren Millar o'r neges fod rôl athrawon ac ansawdd addysgu yn hanfodol os ydym yn mynd i wella safonau yn ein hysgolion. Mae honno'n gydnabyddiaeth i'w chroesawu'n fawr. Darren, fe nodoch rai o'r materion sydd wedi dod yn amlwg o'r ymchwiliad ynghylch cyllido. Mae'r materion hynny hefyd yn dod i'r amlwg yn ein hymchwiliad presennol ynghylch cyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol, a gwn y byddwch am gadw'r materion hynny dan arolwg, gan gynnwys y materion sy'n ymwneud â phlant Sipsiwn a Theithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig.
Rydych wedi mynegi eich siom am rai o'r argymhellion ynghylch Cyngor y Gweithlu Addysg. Gwrthodwyd un argymhelliad, ond rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y sicrwydd y mae wedi'i roi y prynhawn yma, ac unwaith eto, rwy'n meddwl y byddwn am gadw hynny dan arolwg. Gwn eich bod yn teimlo'n gryf iawn ynglŷn â'r pŵer i wahardd dros dro, ond cafodd hynny ei dderbyn mewn egwyddor, a gwn fod deialog yn mynd rhagddi ar hynny. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni amdano.
Llyr Gruffydd, diolch i chi am eich cyfraniad. Yn anffodus, ni chlywais y funud gyntaf ohono, oherwydd bod problem gyda'r cyfieithiad, ond rwy'n siŵr ei fod yn wych. [Chwerthin.] Os caf ddweud hynny ac fe af ar ei ôl yn nes ymlaen. Fe gyfeirioch chi'n huawdl iawn at beth o'r pwysau y clywsom amdano gan ein proffesiwn addysgu a'r effaith y mae hynny'n ei chael o ran absenoldeb a straen. Credaf y byddem oll yn cytuno ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Un o'r pethau rwy'n falch iawn o wybod yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi comisiynu ymchwil gan Beaufort Research a'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg yng Nghymru, sy'n mynd i edrych yn fanylach ar y materion hynny. Credaf y bydd hynny'n werthfawr iawn.
Mynegodd Michelle Brown bryder hefyd am rai o'r argymhellion sydd wedi cael eu gwrthod, a 19 a 20 yn arbennig. Credaf fy mod wedi trafod hynny, ond rwy'n croesawu pwyslais Michelle Brown ar yr angen i wella datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon yn gyffredinol.
Mae John Griffiths wedi dadlau'n llafar iawn am yr angen i wella arweinyddiaeth mewn ysgolion drwy gydol yr ymchwiliad, ac yn benodol i ganolbwyntio ar anghenion ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac rwy'n siŵr ei fod, fel fi, yn falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at hynny yn ei hymateb.
Mae Hefin David hefyd wedi dadlau'n angerddol iawn dros yr angen am ddysgu gan gymheiriaid a'r angen am ymarfer mwy myfyriol yn ein hysgolion. Felly, roedd yn dda gweld hynny'n cael sylw yn y ddadl heddiw. Mae hefyd wedi dadlau'n gryf iawn dros y pasbort dysgu proffesiynol y gwnaethom argymhellion yn ei gylch. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu edrych yn ofalus ar y mater hwnnw wrth iddi ystyried y maes hwn yn ei gyfanrwydd.
Roedd gan y pwyllgor rai pryderon ynghylch cymhlethdod y safonau proffesiynol, ac mae Hefin wedi cyfeirio at hynny. Credaf ein bod yn cydnabod mai gwaith ar y gweill ydyw, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn dymuno dychwelyd ato wrth symud ymlaen.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet eto am ei hymateb ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mentrau sydd ar y gweill? Hoffwn ddiolch hefyd i'n tîm clercio, sydd fel arfer wedi bod yn hollol wych gyda'r ymchwiliad hwn. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cydnabod, os ydym yn mynd i gael y system ysgol rydym ei heisiau ac y mae ein plant yn ei haeddu, mae ansawdd addysgu a chefnogi athrawon yn gwbl hanfodol, a bydd hon yn parhau i fod yn thema bwysig yng ngwaith y pwyllgor wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil Hamilton, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Daw hyn â ni at ddadl yn enw Plaid Cymru ar bobl ifanc a chymunedau, ac rydw i'n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6692 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.
2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau Cymru.
3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u denu i'r ardaloedd hynny.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru;
b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt;
c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd dan bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfor a'r cymoedd.
d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith;
e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau;
f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n falch iawn i gael cyflwyno dadl Plaid Cymru heddiw yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae'r ddadl yn mynd i'r afael ag un o brif faterion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ein cyfnod, sef allfudo pobl ifanc o nifer o'n hardaloedd a'n cymunedau ni, a nifer y cymunedau ledled Cymru sydd yn dioddef oherwydd yr allfudo hynny. Nawr, yn aml mae'r dystiolaeth sy'n cael ei defnyddio wrth drafod y pwnc yma yn anecdotaidd, ond mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn rhoi darlun digalon o wirionedd y sefyllfa mewn rhai awdurdodau yng Nghymru. Hoffwn i edrych ar rai o'r awdurdodau hynny—rhai yr ydw i yn eu cynrychioli hefyd.
So, pe baech yn edrych ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin—hynny yw, y rhan o Gymru rŷm ni wedi bod yn brwydo drosto o ran 'Arfor', sef y cysyniad o uno'r awdurdodau gyda'i gilydd er mwyn gweithredu yn economaidd—dros y degawd diwethaf, mae yna 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny, sy'n gyfatebol i dros 55 o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Felly, mae dros hanner y bobl sydd wedi gadael yr awdurdodau arfordirol hynny yng ngorllewin Cymru—mae hanner y bobl sydd wedi gadael yn bobl ifanc, ac mae hynny yn dros 100,000 ohonyn nhw. Fedrwn ni ddim fforddio colli siwt cymaint o bobl o'n hardaloedd gorllewinol ni, ardaloedd cefn gwlad, ac ardaloedd Cymraeg eu hiaith, a hefyd dal i rannu breuddwyd o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae'n amlwg bod yna angen i fynd i'r afael â'r broblem yma.
Os edrychwn ni ar Geredigion ei hunan, Llywydd—yr ardal yr ŷch chi'n ei chynrychioli yn uniongyrchol, a finnau yn rhanbarthol—mae'r sefyllfa, os rhywbeth, yn fwy digalon. Mae'n ardal a chymuned, sir, gyda dwy brifysgol ynddi hi, wrth gwrs, ond fe wnaeth 3,670 o bobl ifanc adael y sir mewn un flwyddyn yn unig, sef 2015 i 2016. Os edrychwch chi ar ffigurau poblogaeth y cyfrifiad diwethaf, mae hynny yn cyfateb i bron 20 y cant o'r holl boblogaeth o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed yn gadael sir Ceredigion. Mae hynny yn brain drain go iawn o'r sir honno. Yn syml, mae un o bump o bobl ifanc Ceredigion yn gadael y sir bob blwyddyn yn ôl yr arolwg sbot yna, gyda nifer ohonyn nhw, wrth gwrs, ddim yn dychwelyd oni bai eu bod nhw'n ymddeol ar ôl gweithio rhywle tu fas i'r sir.
Nawr, mae effaith ar yr iaith Gymraeg yn rhywbeth y medrwn ni ei ddirnad, yn naturiol, ond mae e hefyd i'w weld yn y ffigurau ers cyfrifiad 1991. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg fel cyfartaledd yn y pedair sir yr ydw i wedi sôn amdanyn nhw yn y gorllewin wedi cwympo ymhob un: yn Ynys Môn, o 62 y cant i 57 y cant; yng Ngwynedd, o 72 y cant i 65 y cant; yng Ngheredigion, o 59 y cant i o dan hanner poblogaeth Ceredigion, wrth gwrs—47 y cant; ac yn sir Gâr, y cwymp mwyaf andwyol, rydw i'n meddwl, sef y cwymp o 55 y cant i 44 y cant. Dyna le mae'r iaith yn dechrau peidio â bod yn iaith frodorol, iaith gynhenid, iaith gymunedol.
Nawr, yn adroddiad 'Y Gymraeg yn Sir Gâr', a gyhoeddwyd yn 2014, fe ddilynwyd dirywiad cyson yr iaith Gymraeg ers canol yr ugeinfed canrif, ac fe ddangoswyd yn glir fod allfudiad pobl ifanc o'r sir, o sir Gâr, wedi iddynt adael yr ysgol wedi arwain yn uniongyrchol at ddirywiad y Gymraeg. Adroddiad wedi'i baratoi gan y cyngor sir ei hunan oedd hwn. Yn sir Gâr, er enghraifft, yn ôl cyfrifiad 2001, roedd nifer y trigolion tair i 15 oed yn rhyw 28,000, ond erbyn cyfrifiad 2011, roedd y nifer wedi cwympo gan dros 10,000 o bobl. Felly, mewn blwyddyn—mae bron 1,000 o bobl ifanc yn gadael sir Gâr, mewn un cyfnod cyfrifiad, bob blwyddyn.
Mae'n amlwg, felly, fod nifer sylweddol ein pobl ifanc ni yn gadael y siroedd yma yn y gorllewin, a bod y dirywiad yr ŷm ni'n ei weld yng nghanran siaradwyr Cymraeg wedi bod yn batrwm cyson dros nifer o ddegawdau, ac yn rhannol gyfrifol am y cwymp sydd yn yr iaith Gymraeg.
Fodd bynnag, mae angen dweud nad yw'r duedd hon yn gyfyngedig i ran orllewinol y wlad, neu hyd yn oed i gymunedau Cymraeg eu hiaith, er ei fod yn fwyaf amlwg yn y cymunedau hynny. Os meddyliwn am Gaerdydd, er enghraifft, cafwyd mewnlif o 12 y cant net o bobl ifanc i Gaerdydd, ond fel rwy'n dweud, yng Ngheredigion, rydym wedi gweld all-lif o bron 20 y cant. Mae rhywbeth yn gyrru hyn, ac nid economeg yn unig. Mae diwylliant yn gwneud hynny hefyd, ac addysg. Bydd angen mynd i'r afael â'r rhain i gyd os ydym yn mynd i gryfhau ein cymunedau a rôl pobl ifanc yn ein cymunedau.
Felly, mae angen dull o weithredu ar gyfer Cymru gyfan, ac yn y ddadl hon byddaf yn nodi—neu'n fwy penodol, bydd rhai o fy nghyd-Aelodau yn nodi—rhai syniadau penodol yng nghysyniad 'Arfor' a chysyniad rhai o'r polisïau eraill sydd gennym i wrthdroi'r duedd hon sy'n peri pryder. Gallai rhai o'r rheini gynnwys gwell cymorth i fusnesau newydd, oherwydd, yn amlwg, mae pobl ifanc a allai fod yn gadael eu cymunedau yn meddu ar ymagwedd entrepreneuraidd. Maent yn gadael rhywbeth sy'n eithaf diogel a chyfarwydd iddynt, yn mynd i rywle arall, a gellid defnyddio'r un math o ysbryd yn eu cymunedau eu hunain, efallai ym maes seilwaith digidol neu drafnidiaeth—rhywbeth sy'n rhoi cyfle iddynt aros o leiaf yng nghyffiniau eu hardal ond gan ddefnyddio eu diddordeb entrepreneuraidd neu ddiwylliannol mewn cyfleoedd ehangach.
Yr ail elfen o hyn yw naill ai gwella neu adleoli rhai sefydliadau cenedlaethol i ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd swyddi—mae Siân Gwenllian wedi ymladd yn galed iawn i gadw swyddi Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon, er enghraifft—mae hyn yn rhan o pam y gwnawn hyn; dull rhanbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd o dan bwysau arbennig o ran allfudo, dyna yw cysyniad 'Arfor', y buom yn negodi adnoddau ar ei gyfer, ac sydd wedi cynyddu rwy'n credu, wrth i'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hynny weld y posibilrwydd o weithio gyda'i gilydd ar hyd yr arfordir gorllewinol i wella eu cymunedau; ac yn benodol, i ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr sy'n astudio mewn mannau eraill i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.
Yn amlwg, mae'r gymuned ffermio a chymunedau gwledig hefyd yn rhan bwysig o hyn, Lywydd. Yn ddiweddar rydym wedi sicrhau £6 miliwn fel rhan o'n cytundeb cyllidebol gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun grant ffermwyr ifanc, ac rwy'n falch o weld bod hwnnw bellach wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r cyhoeddusrwydd yn dechrau llifo. Ond mae angen inni adeiladu ar hynny, er enghraifft, i fynd i'r afael â'r diffyg cyfleusterau bancio mewn llawer o gymunedau gwledig, er mwyn gwella gallu pobl i gael benthyciadau banc i'w galluogi i gymryd rhan mewn cynlluniau fel hyn, ac i ddenu newydd-ddyfodiaid i ddiwydiant hollbwysig, lle nad oes ond 3 y cant o ffermwyr o dan 35 oed.
Hefyd byddwn yn edrych ar iechyd ac addysg yn yr adroddiadau hyn, ac nid wyf eisiau ailadrodd yr hyn a allai fod yn areithiau Rhun ap Iorwerth a Llyr Gruffydd, ond rydym yn gwybod o'n gwaith ymchwil mai gennym ni yma yng Nghymru y mae'r ganran isaf o raddedigion a hyfforddwyd yn y wlad hon mewn sgiliau meddygol. Rydym hefyd yn gwybod ein bod, i bob pwrpas, yn ariannu allfudiad ein myfyrwyr gorau o Gymru gydag arian ein polisi cyhoeddus ein hunain. Mae rhesymau da dros hynny, ond ceir rhesymau da yn ogystal dros fynd yn ôl at adolygiad Diamond a nodwedd ganolog maniffesto Plaid Cymru, sy'n ymwneud â denu graddedigion yn ôl i Gymru a gweld y sgiliau a roddwyd iddynt drwy fuddsoddi arian Llywodraeth Cymru yn dod yn ôl i economi Cymru, yn ôl drwy ddatblygu syniadau ein hunain.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl hon oherwydd rwy'n gobeithio y bydd yn ddadl a gaiff ei chymryd yn yr ysbryd y'i bwriadwyd, sef bod gennym argyfwng parhaus mewn perthynas â chyfleoedd i bobl ifanc, i bob pwrpas, mewn llawer o rannau o Gymru ac mae angen inni roi sylw i hynny. Byddaf yn ymdrin â'r gwelliannau pan ddown at ddiwedd y ddadl. Byddaf yn parchu barn pobl, ac i egluro'r gwelliannau hynny i ni mewn un neu ddau o achosion, ond yn sicr, rydym yn gobeithio gallu rhoi rhai syniadau cadarnhaol i'r Cynulliad dros yr awr nesaf ar gyfer sut rydym yn mynd i helpu i fynd i'r afael ag allfudiad pobl ifanc, ond yn bwysicach, sut rydym yn mynd i roi cyfleoedd i'n pobl ifanc yn eu cymunedau eu hunain.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf felly ar Michelle Brown i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Michelle Brown.
Gwelliant 1. Neil Hamilton
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi compact Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur o 2016-2017 a chytundeb clymblaid Cymru'n Un â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur Cymru o 2007-2011, ac yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru a Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi methu â chreu cyfleoedd i bobl ifanc ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu swyddi sy'n talu'n dda i bobl ifanc mewn cymunedau yng Nghymru drwy gymryd camau sy'n cynnwys:
a) lleihau mewnfudo torfol a'r pwysau cysylltiedig y mae'n ei roi ar gyflogau galwedigaethau heb sgiliau a lled-fedrus, fel y datgelwyd yn mhapur gweithio Banc Lloegr ar effaith mewnfudo ar gyflogau galwedigaethol;
b) lleihau trethi a rheoleiddio ar gyfer pob busnes, yn enwedig busnesau bach a chanolig;
c) lleihau baich treth incwm ac yswiriant cenedlaethol;
d) rhoi'r gorau i'r agenda cynhesu byd-eang a datgarboneiddio sy'n agenda gwneuthuredig, a'i gymorthdaliadau gwyrdd cysylltiedig, sy'n trosglwyddo cyfoeth oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog;
e) annog cynllunwyr a llunwyr polisi i symbylu creu swyddi â chyflogau da mewn ardaloedd gwledig, pentrefi a threfi llai, yn hytrach na dinasoedd mawr yn unig; ac
f) torri cyllideb cymorth tramor nad yw'n ddyngarol ac ailgyfeirio'r arbedion yn gymesur i bobl Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch i chi, Lywydd. Er bod cynnig Plaid Cymru yn llawn bwriadau da a'r math o beth y dylid ei gefnogi, rhaid i mi nodi eu bod braidd yn haerllug yn beirniadu methiannau Llafur dros y degawd diwethaf pan oedd Plaid Cymru, tan ddiwedd y llynedd, yn eu cynnal yn agored gyda'u compact a chyn hynny drwy gytundeb clymblaid 'Cymru'n Un'. Fodd bynnag, mae Plaid Cymru wedi tynnu sylw at broblem hirdymor, ond mae'n broblem na ellir ei datrys heb greu swyddi, sydd, yn ei dro, yn dibynnu ar sector busnes ffyniannus. Mae Llafur a Phlaid Cymru yn trin busnesau â dirmyg neu anwybodaeth lwyr.
Dyna pam y mae gwelliant UKIP yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu swyddi sy'n talu'n dda i bobl ifanc yng nghymunedau Cymru drwy roi camau go iawn ar waith. Bydd lleihau mewnfudo torfol yn annog busnesau i hyfforddi'r gweithlu sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ogystal â hyrwyddo twf cyflogau, a oedd yn ffactor amlwg yn nadl refferendwm yr UE. Mae lleihau trethi a rheoleiddio ar gyfer busnesau yn arwain at effaith amlwg rhyddhau arian i fuddsoddi mewn cyflogaeth a hyfforddiant, a byddai'n ein gwneud yn lle mwy deniadol i leoli busnes nag unrhyw ran arall o'r DU. Byddai rhagor o fusnesau'n dod yma ac yn dod â chyfleoedd swyddi gyda hwy. Gŵyr y rhai hynny ohonom sydd wedi gweithio yn y sector preifat am realiti'r byd masnachol, ac os yw'n creu swyddi a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc Cymru, mae torri trethi ar gyfer busnesau yn gam sy'n werth ei gymryd.
Mae'n rhaid dweud yr un peth am gael gwared ar agenda a chymorthdaliadau datgarboneiddio. Mae'n iawn dweud y dylem oll chwarae ein rhan—ac wrth gwrs y dylem—ond mae'r modd y mae Plaid Cymru a Llafur wedi bod yn gwneud sioe o'u rhinweddau'n obsesiynol dros y blynyddoedd yn costio arian mawr i'n pobl, tra'n cael fawr o effaith ar lefelau allyriadau carbon byd-eang. Pan ddarllenais welliant hunanglodforus Llafur, fe'm trawyd gan y ffaith nad ydynt yn deall o hyd. Maent yn bell ofnadwy o ddeall.
Wedi'r holl amser a beirniadaeth, maent yn dal i fod yn anymwybodol fod yna broblem. Er enghraifft, nid oes unrhyw sôn yn unman yn eu gwelliant am yr angen amlwg a dybryd i wasgaru gwelliannau ledled Cymru. I fod yn deg, mae cynnig Plaid Cymru yn gwneud hynny, ac mae'n cyfeirio at ymagwedd ranbarthol, ond nid yw gwelliant y Llywodraeth hon yn rhoi sylw iddo o gwbl. Maent yn fodlon gwneud dim i annog cynllunwyr a llunwyr polisi i gymryd camau i ysgogi ffyniant mewn ardaloedd heblaw dinasoedd. Mae hon yn broblem mor fawr i Gymru fel mai'r unig reswm pam mae'r Blaid Lafur yn ei hepgor yw am nad oes ganddynt ateb iddi. Mae'n bwysig cofio, ond rwy'n tybio na fyddwch pan fyddwch yn dadlau yn erbyn—. Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi colli darn.
Mae pwynt olaf gwelliant UKIP yn ymwneud â chymorth tramor, ac rwy'n siŵr y bydd nifer ohonoch yn siarad am hynny yn nes ymlaen, ond mae'n bwysig cofio—ac rwy'n tybio na fyddwch pan fyddwch yn dadlau yn ei erbyn—mai'r hyn rydym yn sôn amdano yma yw cymorth tramor nad yw'n ddyngarol. Nid oes dim yn annheg ynglŷn â dweud wrth fos elusen sy'n ennill £100,000 y flwyddyn na fyddwn yn ariannu un o'i brosiectau nad ydynt yn hanfodol, gan fod ein pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i swyddi, hyd yn oed ar yr isafswm cyflog, ac mae angen inni eu helpu hwy yn lle hynny.
At ei gilydd, mae gwelliant UKIP yn cymryd cynnig Plaid Cymru ac yn ychwanegu manylder ato, manylder nad yw yno fel arall. Mae'n cynnig atebion radical i broblem ddifrifol—problem sy'n amlwg yn galw am atebion radical gan nad oes yr un o'r ymdrechion llugoer gan Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi gwneud iot o wahaniaeth. Rwy'n annog yr Aelodau i gymryd cam beiddgar o'r diwedd a chefnogi ein gwelliannau. Diolch i chi.
Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2. Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU sy'n nodi cynllun tymor hir i hybu cynhyrchiant a grym ennill pobl ifanc ledled Cymru a'r DU.
2. Yn nodi'r ffigurau a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch sy'n dangos bod graddedigion Cymru yn ennill llai nag yn unman arall yn y DU.
3. Yn gresynu bod Llywodraethau Llafur Cymru – gyda chefnogaeth pleidiau eraill – ers 1999, wedi methu â chynyddu ffyniant economaidd ac addysgol pobl ifanc yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc a chymorth i fusnesau ac entrepreneuriaid drwy:
a) diddymu ardrethi busnes i bob busnes bach (hyd at £15,000);
b) cyflwyno cynllun teithio ar fysiau am ddim a chardiau disgownt rheilffordd ar gyfer pawb rhwng 16 a 24 oed; ac
c) cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc i sicrhau cyllid ar gyfer busnesau newydd.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. A gaf fi gynnig y gwelliant ar ran fy nghyd-Aelod, Paul Davies, a gyflwynwyd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig?
Yn amlwg, byddech yn disgwyl inni beidio â chefnogi'r cynnig gwreiddiol, o gofio ei fod wedi llongyfarch Plaid Cymru rywfaint. Nid yw hynny'n rhywbeth rydym yn barod i'w wneud, ond rydym yn deall yr ysbryd y mae wedi'i osod ynddo, ac mae'n iawn ac yn briodol eich bod wedi tynnu sylw at rai materion pwysig iawn.
Yn sicr ni fyddwn yn cefnogi gwelliant UKIP chwaith, yn enwedig o ystyried y pwyslais ar dorri'r gyllideb cymorth tramor, gan ein bod i gyd yn gwybod bod cymorth tramor mewn gwirionedd yn hyrwyddo buddiannau cenedlaethol y DU yn dda iawn yn wir. Mae'r gyllideb cymorth rhyngwladol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth dramor, os mynnwch, er mwyn dylanwadu ar y byd, ac mae'n bwysig iawn cydnabod hynny yn fy marn i. A dyna pam na fyddwn yn cefnogi eich gwelliant.
Wrth gwrs, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth chwaith, sydd, unwaith eto, fel y nodwyd eisoes, yn hunanglodforus braidd ac nid yw'n ymddangos ei fod yn cydnabod bod gennym broblem yma sy'n galw am sylw.
Os caf siarad am ychydig am ein gwelliant, rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol wrth gwrs i groesawu strategaeth ddiwydiannol uchelgeisiol iawn Llywodraeth y DU—strategaeth y credwn ei bod yn nodi cyfleoedd i wrthdroi'r sefyllfa, fel y gall pobl ifanc ledled Cymru fanteisio ar fwy o gyfleoedd i gael swyddi da a fydd yn helpu i'w cadw yn ein gwlad.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi felly yn cywilyddio mewn gwirionedd nad yw'r strategaeth yn rhoi sylw i ddur ac yn amlygu pwysigrwydd dur, yn enwedig yn economi Cymru, ac sy'n darparu cyfleoedd i'n pobl ifanc, oherwydd mae Tata wedi cymryd 85 o brentisiaid eleni at y diben hwnnw? Dengys y ffaith nad ydynt yn cefnogi dur nad oes ganddynt ddiddordeb o gwbl mewn gwirionedd yn y sector peirianneg.
Edrychwch, fel y gwyddoch yn dda, mae Llywodraeth y DU yn gwbl gefnogol i ddiwydiant dur Prydain, a'r wythnos diwethaf yn unig, bu'n siarad yn erbyn y tariffau sy'n cael eu gosod yn yr Unol Daleithiau. A chredaf ei bod hi'n bwysig i chi wrando'n fwy astud ar Lywodraeth y DU a'r gwaith pwysig y mae wedi'i wneud yn hyrwyddo diwydiant dur Cymru a'r diwydiant dur ehangach ledled y DU.
Ond wrth gwrs, mae'r strategaeth ddiwydiannol yn cyfeirio at yr angen am fwy o gyfleoedd i bobl ymgymryd â hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys llawer mwy o brentisiaethau. Credaf fod angen inni fod yn bryderus iawn, mewn gwirionedd, er gwaethaf yr holl siarad a wneir dros gymwysterau galwedigaethol yn y Siambr hon ar bob ochr i'r tŷ, nad ydym eto mewn sefyllfa lle mae hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol yn cael yr un parch â chymwysterau academaidd. Gwyddom y gall y profiad ymarferol y mae pobl ifanc yn ei gael pan fyddant yn gallu manteisio ar hyfforddiant galwedigaethol da o ansawdd uchel roi cymorth iddynt ddechrau mewn gyrfaoedd a rhoi mantais iddynt, mewn gwirionedd, dros unigolion sydd wedi dilyn llwybrau academaidd pur yn y pynciau gyrfaol y maent wedi'u dewis.
Yn ogystal â hynny, rydym yn mynegi'r pryder ynghylch y ffaith bod llawer o raddedigion Cymreig yn ennill llai yma nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae'n drasiedi pur yn fy marn i nad oedd ond 68 y cant yn unig o raddedigion o brifysgolion Cymru yn ennill dros £21,000 mewn cyflogaeth lawn amser, yr isaf o blith holl wledydd a rhanbarthau'r DU, ac nad oedd ond 55 y cant o'r bobl a astudiodd ym mhrifysgolion Cymru yn gweithio yng Nghymru dair blynedd yn ddiweddarach. Rhaid inni greu mwy o gyfleoedd i gadw'r dalent honno yma yng Nghymru. A chredaf mai'r hyn a welwn mewn rhannau eraill o'r DU yw unigolion sy'n mynd o Gymru i astudio mewn mannau eraill ac yn setlo yno yn y pen draw am fod ganddynt gyfleoedd gwell yn economaidd. Ni all hynny fod yn iawn, ac mae angen inni roi sylw iddo.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi nodi un peth y credwn y byddai'n helpu i wneud Cymru yn fwy deniadol i bobl ifanc, sef ein cynnig cerdyn gwyrdd, a roddwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol beth amser yn ôl—ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi awgrymu y dylem helpu ein pobl ifanc gyda chymorth ar gyfer defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn iddynt allu symud o gwmpas. Rydym yn gwybod bod Cymru yn wlad wledig. Mae'n ddrud iawn i deithio pellteroedd maith i'r gwaith, a chredaf mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud yw rhoi teithiau am ddim ar fysiau iddynt a gostwng prisiau tocynnau ar ein gwasanaethau trên. Croesawyd ein cynigion gan Gydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, mae Bysiau Arriva wedi siarad yn gadarnhaol iawn am ein cynigion, ac wrth gwrs, gallent helpu i gynnal gwasanaethau bysiau lle maent dan fygythiad ar hyn o bryd oherwydd diffyg buddsoddiad grantiau trafnidiaeth lleol nad yw ar gael gan awdurdodau lleol. Pobl ifanc sy'n wynebu'r costau yswiriant uchaf pan fyddant yn yswirio'u ceir. Felly, mae'r costau trafnidiaeth hyn yn rhwystr i bobl ifanc rhag gallu aros yng Nghymru. Mae angen inni fynd i'r afael â hwy, ac felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cydnabod bod ein gwelliant yn ceisio cynnig atebion, a dyna pam rwy'n hapus i'w gynnig.
Galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 3. Julie James
Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy:
a) Twf Swyddi Cymru, sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da;
b) prentisiaethau o ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn;
c) mynediad at dai gan fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y Cynulliad hwn;
d) helpu myfyrwyr â’u costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio;
e) cynnal Bwrsariaeth y GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru;
f) buddsoddi £100m i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Yn ffurfiol.
Hoffwn wneud cyfraniad byr. Rwy'n deall ac yn cefnogi'r bwriad sy'n sail i gynnig Plaid Cymru, ond carwn awgrymu efallai ei fod braidd yn geidwadol ac yn gonfensiynol ei ffocws. Yn hytrach na cheisio cadw pobl ifanc drwy adleoli sefydliadau cenedlaethol neu roi grantiau i ffermwyr, credaf fod angen inni edrych yn llawer mwy manwl ar yr heriau y gwyddom eu bod yn dod i'n cyfeiriad. Felly, rwyf am awgrymu dau faes lle y credaf y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol fod yn canolbwyntio os ydym am gyflawni'r hyn y mae pawb ohonom eisiau ei wneud, sef gwneud i bobl ifanc deimlo y gallant aros yn eu cymunedau i greu gyrfa, yn hytrach na theimlo bod yn rhaid iddynt—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gadewch i mi wneud rhywfaint o gynnydd oherwydd, gyda phob parch, nid wyf wedi gorffen fy mharagraff agoriadol eto. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad—
Rydych eisoes wedi dweud rhywbeth rwy'n anghytuno ag ef. [Chwerthin.]
Ardderchog. Wel, rydych yn aml yn dweud pethau rwy'n anghytuno â hwy; dyna natur dadl. Gadewch i mi wneud fy mhwynt, ac yna gallwn ei drafod.
Er enghraifft, credaf mai un o'r pethau y dylem fanteisio arno er mwyn ein cymunedau gwledig yw gwneud mwy na rhoi grantiau o £40,000—braidd yn ddigyfeiriad—i ffermwyr ifanc sefydlu busnesau, ond canolbwyntio'r arian hwnnw ar yr hyn y gwyddom eu bod yn mynd i fod yn ddiwydiannau a heriau'r dyfodol. Rwy'n siarad yn benodol am amaethyddiaeth fanwl, ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn eisoes wedi cytuno y dylem ddatblygu strategaeth genedlaethol ar ei chyfer, er nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim am y peth hyd yn hyn.
Credaf fod gan amaethyddiaeth fanwl allu nid yn unig i ganiatáu i'n ffermwyr ddod yn llawer mwy cynhyrchiol; mae gallu cyffrous ganddo hefyd i greu diwydiannau yn y Gymru wledig lle rydym yn gwasanaethu'r dechnoleg hon, lle rydym yn creu meddalwedd, lle rydym yn cynnal a chadw'r peiriannau, a lle rydym yn adeiladu diwydiannau byd-eang newydd wedi eu calibradu'n arbennig i'r math o amgylchiadau gwledig sydd gennym yng Nghymru ac sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r byd. Rwy'n credu mai dyna lle y dylid canolbwyntio, nid ar yr un hen syniadau, ond ar edrych i weld sut y gallwn edrych ar ddatblygiadau newydd.
Rydym wedi trafod o'r blaen yn y Siambr hon y canlyniadau rhyfeddol a gyflawnwyd drwy amaethyddiaeth fanwl. Yn Seland Newydd, maent wedi llwyddo i gynyddu eu hallforion i Tsieina 470 y cant mewn un flwyddyn drwy harneisio amaethyddiaeth fanwl. Ac mae gwaith da yn digwydd yng Nghymru ar hyn yn rhan coleg Gelli Aur o Goleg Sir Gâr. Mae gwaith gwirioneddol arloesol ar y gweill sy'n helpu'r amgylchedd ac yn helpu i greu gwerth ychwanegol. Felly, buaswn yn dadlau y dylem dargedu cymorth yn y dyfodol, mewn modd y gallwn gytuno arno rhyngom a'n gilydd, ar y meysydd twf posibl hyn yn hytrach na gwneud yr un hen beth dro ar ôl tro.
Mae'r peth arall rwyf am awgrymu y byddai'n helpu i gyflawni bwriad y cynnig hwn yn rhywbeth arall rydym wedi'i drafod. A gaf fi wneud—?
Ar y pwynt hwnnw'n unig.
O'r gorau.
Rwy'n cytuno â chi, mae'r strategaeth mewn perthynas ag amaethyddiaeth fanwl yn wych, ond oni ellid defnyddio rhai o'r grantiau hynny i ffermwyr ifanc mewn meysydd penodol fel astudiaethau peilot ar gyfer hynny?
Wel, buaswn yn croesawu hynny'n fawr; nid yw hynny yn y cynllun a gytunwyd rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, fel rwy'n deall. Pe bai modd sicrhau ffocws llawer cliriach ar hynny, credaf y byddai hynny'n beth ardderchog. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid dyna a gytunwyd. Os ydych yn barod i ddweud wrthyf fy mod yn anghywir, buaswn yn falch iawn o gofnodi hynny. Ond nid yw'n rhy hwyr i ddylanwadu ar hyn. Buaswn yn sicr yn hapus i weithio gyda Phlaid Cymru i geisio dylanwadu ar y Llywodraeth yn hyn o beth gan mai dyna lle y credaf y dylem gyfeirio ein cefnogaeth.
A'r ail bwynt, a drafodwyd gennym yn y Siambr hon hefyd, yw'r syniad o'r economi sylfaenol a allai helpu ardaloedd gwledig yn fawr. Rydym wedi rhoi llawer gormod o bwyslais dros lawer o flynyddoedd ar ddulliau confensiynol i ddenu diwydiant, a chredaf ein bod wedi trafod droeon yr angen i harneisio'r busnesau a'r economïau bob dydd sy'n bodoli yn ein cymunedau. Mae'r busnesau yno am fod y bobl yno. Y diwydiannau sy'n cynhyrchu'r bwyd rydym yn ei fwyta, y cartrefi rydym yn byw ynddynt a'r gofal a gawn; dyma yw pedair o bob 10 swydd, ac mae angen llawer mwy o bwyslais ar hyn.
Roeddwn yn siomedig iawn ynglŷn â chynllun gweithredu economaidd y Llywodraeth sy'n sôn am sectorau sylfaenol bron fel dyfais i guddio'r angen i harneisio'r economi sylfaenol, sy'n ddull cwbl wahanol i'r ffordd rydym yn ymdrin â datblygu economaidd yn y wlad hon. Ar ôl rhoi'r argraff eu bod yn cefnogi'r syniad hwnnw, roeddwn yn siomedig iawn nad yw'r syniad yn cael ei gefnogi yn y cynllun gweithredu economaidd mewn gwirionedd. Dyna'r math o beth y gallwn ei ddatblygu i roi cymhellion i bobl aros yn eu cymunedau a chael uchelgais mewn perthynas â hynny, y gall fod dyfodol i genedlaethau'r dyfodol yn y cymunedau y mae pobl yn tyfu fyny ynddynt. Felly, rwy'n credu bod angen inni symud oddi wrth yr atebion arferol a meddwl ychydig yn fwy dychmygus.
Rwy’n cyfri fy hun yn lwcus iawn i gael bod yn byw ar yr ynys lle ces i fy magu. Rwyf wedi byw yng Nghaerdydd, rwyf wedi byw yn Llundain, rwyf wedi treulio amser yn gweithio dramor, ond mi ddewisais i fynd yn ôl i Ynys Môn ryw 13 blynedd yn ôl erbyn hyn, ac mae’n golygu lot fawr i fi. Mae pawb yn wahanol, wrth gwrs. Lle bynnag ydych chi yn y byd, am wn i, mae yna bobl ifanc sydd yn methu aros i adael eu milltir sgwâr, sydd eisiau mynd i weld y byd a thorri’n rhydd o hualau eu hieuenctid nhw. Nid wyf yn amau fy mod i fy hun wedi teimlo felly pan oeddwn i yn fy arddegau.Yn sicr, nid gofyn i bobl ifanc Cymru gyfyngu eu gorwelion ydym ni yn y fan hyn.
Ond mae llawer iawn o bobl ifanc, wrth gwrs, wrth iddynt droi yn bobl ychydig yn hŷn yn gweld gwerth yn eu cymuned yn eu milltir sgwâr ond yn ffeindio’u hunain mewn sefyllfa lle nad ydynt yn gallu gweld sut allent ymgartrefi, setlo a magu eu teuluoedd eu hunain yn y filltir sgwâr honno. Mae sefyllfa lle mae pobl ifanc fyddai eisiau aros yn eu milltir sgwâr nhw yn gweld nad oes ganddynt opsiynau a dim dewis ond gadael yn wirioneddol dorcalonnus. Rwy’n byw yn ei ganol ac nid wyf yn fodlon jest derbyn mai fel yna mae hi, ac na allwn ni wneud dim am y peth achos mae yna bethau y gallwn eu gwneud, ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r ddadl yma'r prynhawn yma lle rydym yn cael cyfle i wyntyllu a thrafod rhai o’r syniadau yma—syniadau o ar draws y pleidiau, rydw i’n gobeithio.
Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yna gartrefi ar gael i’n pobl ifanc; mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyfleoen hyfforddi ar gael; mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod swyddi ar gael. Rydym ni angen hybu busnesau bach, hybu entrepreneuriaeth—rwy’n cytuno’n llwyr efo’r Aelod dros Lanelli—hybu dyfeisgarwch, nid yn unig yn y polisïau yr ydym ni’n eu creu yn y fan hyn, ond yn yr hyn sy’n digwydd ar y ddaear, fel bod ein cefn gwlad ni a Chymru gyfan yn grud i arloesedd ac yn lle cyffrous i fyw a gweithio ynddo fo.
Rydw i’n cofio pan gaeodd Alwminiwm Môn yn sir Fôn. Mi wnaeth ffrindiau da i fi adael yr ynys. Mi gollodd yr ysgolion blant; mi gollodd fy mhlant i ffrindiau. Mi oedd y teuluoedd hynny’n torri’u calonnau nhw, ac rydw i’n meddwl am un teulu’n benodol a ddaeth yn ôl i’r diwydiant niwclear, yn digwydd bod. I gyfeirio at niwclear yn sydyn, mae pobl anrhydeddus sy’n gwrthwynebu niwclear o ran egwyddor yn fy meirniadu fi, weithiau, am fod yn barod i gydweithio efo datblygiad Wylfa Newydd. Nid brwd dros niwclear ydw i o gwbl, mi fuasai’n llawer iawn gwell gen i weld buddsoddiad yn mynd i ynni adnewyddol, ond gweld ydw i’r bobl ifanc yna, pobl ifanc sydd â sgiliau niwclear yn barod, efallai, yn dweud, ‘Rhun, plîs helpa ni i gael dyfodol’. Maen nhw eisiau aros ym Môn; rydw i eisiau iddyn nhw aros ym Môn, ac mae yna mix i ni edrych arno fo.
Ond mi wnaf droi, os caf i, at faes arall sy’n bwysig iawn i fi, sef cyfleoedd yng ngyrfaoedd ym maes iechyd a gofal. Efallai eich bod chi wedi fy nghlywed i, Siân Gwenllian ac eraill yn crybwyll, efallai, ein bod ni’n dymuno cael canolfan addysg feddygol ym Mangor—rydw i’n gwybod ein bod ni fel tôn gron. Ond rydym ni angen hyfforddi mwy o feddygon, ac rydym ni angen gwneud hynny yng nghefn gwlad Cymru. Llai na thraean o fyfyrwyr yng ngholegau meddygol Cymru sy’n dod o Gymru. Mae’r ffigwr yn 80 y cant yng Ngogledd Iwerddon, ac, yn Lloegr, rhyw 50 y cant, ac ychydig mwy yn yr Alban. Rydw i wedi gweld ffigyrau sy’n dangos bod bron i dri chwarter o’n pobl ifanc ni yng Nghymru sydd eisiau mynd i feddygaeth yn diweddu’n gweithio yn yr NHS yn Lloegr. Rŵan, mae’r brain drain yna yn un y dylai ein dychryn pob un ohonom ni—brain drain cyffredinol, hynny ydy. Rydym ni’n colli llawer gormod o’n pobl ifanc, ein disgleirion ni, ein capital ni mewn pobl, ac yn colli’r cyfraniad cymdeithasol y gallan nhw ei wneud.
Ond, wrth gwrs, mae’r NHS eu hangen nhw, hefyd—rydym ni’n brin o feddygon. Mi wnaf i grybwyll cwpwl o astudiaethau man hyn. Un astudiaeth sydd—na, cyfres o astudiaethau, mewn difrif, sydd yn dweud mai’r hyn sy’n cyfrannu at le mae meddygon yn gweithio o ran eu hymrwymiad nhw i gefn gwlad ydy (1) a oes ganddyn nhw gefndir gwledig eu hunain, (2) access i feddygaeth wledig yn ystod eu hastudiaethau nhw, ac, yn drydydd, hyfforddiant wedi’i dargedu ar weithio mewn ardal wledig. Yn Norwy, mae 56 y cant o raddedigion o ysgol feddygol Tromsø yng ngogledd Norwy yn aros yn yr ardaloedd gwledig hynny. O’r rheini sydd wedi cael eu magu yn yr ardaloedd gwledig hynny, mae’r ganran yn uwch fyth—82 y cant yn ôl y ffigyrau sydd gen i. Rydym ni angen hyfforddi meddygon yng nghefn gwlad Cymru er mwyn eu cadw nhw yng nghefn gwlad Cymru, ond dim ond un rhan o ddarlun ydy hyn a all roi egni o’r newydd i’r ardaloedd gwledig ni a Chymru ben baladr, achos ni allwn fforddio colli’n pobl ifanc ddim mwy.
A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Rwy'n falch, fel aelod ifanc o'r Cynulliad hwn, fy mod yn gallu cyfrannu at y ddadl hon am bobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n mynd i ddefnyddio fy amser heddiw yn y ddadl hon i ganolbwyntio ar gyflogaeth a dysgu gydol oes a sut y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i gael pobl ifanc sy'n cyfrannu at gymunedau Cymru.
Mae llawer ohonoch yn gwybod, cyn i mi ddod i'r lle hwn, fy mod yn beiriannydd ymchwil a datblygu mewn cwmni ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Cyn hynny, dechreuais fel prentis beiriannydd drwy gymorth arian Llywodraeth Cymru a'r cyflogwr a oedd yn fy noddi. Nawr, roedd gwneud prentisiaeth yn rhoi cyfleoedd i mi na fuaswn wedi'u cael pe bawn wedi mynd yn syth i brifysgol. Wedi dweud hynny, roeddwn yn ddigon ffodus i gael cyfle i gael fy ngradd, unwaith eto, drwy Lywodraeth Cymru a chymorth gan y cyflogwr a oedd yn fy noddi.
Gwyddom fod angen i ni wneud ein heconomi mor agored â phosibl i bobl ifanc, ond ni ddylwn gael dull unffurf o weithredu, felly, pwy bynnag ydych chi a ble bynnag rydych chi'n byw, dylech allu cael gwaith o ansawdd da, dylech gael cymorth i fynd i brifysgol, dylech gael cyfle i ddilyn prentisiaeth o ansawdd uchel a dylech gael cefnogaeth i ddod yn entrepreneur a chychwyn eich busnes eich hun. Yn olaf, dylech gael cefnogaeth i gael datblygiad proffesiynol parhaus ym mha broffesiwn bynnag rydych chi'n gweithio neu'n ei ddewis.
Mae angen inni fod yn wlad sy'n croesawu ac yn dathlu pobl ifanc sydd ag amrywiaeth eang o wahanol sgiliau a setiau sgiliau. Yn ystod ymgyrch yr isetholiad ym mis Chwefror, cofiaf yn annwyl iawn ymweld ag ysgol gynradd leol yn fy etholaeth lle y cyfarfûm â grŵp o blant ifanc sy'n rhan o senedd ieuenctid yr ysgol. Roedd Huw gyda mi ar yr ymweliad hwnnw, ac roedd yn ymweliad gwych ac rwy'n siŵr ei fod yn falch iawn o ymuno â mi a gweld y plant ifanc yno y diwrnod hwnnw. Nawr, un o'r cwestiynau a ofynnais iddynt oedd beth oeddent am ei wneud ar ôl tyfu fyny a beth oedd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Roedd yn gwestiwn anodd iawn, ac mae'n gwestiwn anodd iawn i bobl o bob oed ei ateb, ond roedd gan bob un ohonynt ddyheadau ac uchelgeisiau gwahanol ar gyfer y dyfodol. Roedd gan bob un ohonynt syniad gwahanol ar y pwynt hwnnw ynglŷn â beth oeddent am ei wneud ar ôl tyfu fyny. Rydym yn gwneud cam â hwy fel Llywodraeth, fel gwlad, os nad ydynt yn cefnogi cenedlaethau'r dyfodol ac os nad ydym yn manteisio ar y potensial rhyfeddol sydd gennym yng Nghymru. Bydd pob un o'r plant yn yr ysgol ar y diwrnod hwnnw, a bydd Huw yn fy ategu ar hyn, a phob plentyn ar draws y wlad yn gallu cyfrannu at lwyddiant ein cymunedau arbennig ym mhob rhan o Gymru. Diolch.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn credu y dylai myfyrwyr o Gymru allu astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd a chael pob cyfle i fyw a gweithio dramor. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn cydnabod bod angen inni fynd i'r afael â'r broblem bod Cymru ar hyn o bryd yn dioddef colled net o raddedigion, tra ar yr un pryd, wrth gwrs, rŷm ni yn dioddef bylchau mewn sgiliau mewn sectorau hanfodol megis meddygaeth a'r pynciau STEM eraill. Wrth gwrs, rŷm ni wedi clywed cyfeirio at y rheini ddoe a heddiw yn y Siambr yma.
Nawr, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Resolution Foundation ym mis Awst y llynedd, fe ddenodd Cymru bron i 24,000 o raddedigion rhwng 2013 a 2016, ond fe adawodd dros 44,000—gwahaniaeth o 20,000. Nawr yr unig ardaloedd lle'r oedd y gwahaniaeth hwnnw yn fwy oedd swydd Efrog a Humber a gogledd-ddwyrain Lloegr, ac mae adolygiad Diamond, wrth gwrs, wedi cydnabod, fel yr ŷm ni wedi ei glywed eisoes, yn gwbl glir yr angen i ddenu graddedigion i fyw a gweithio yng Nghymru. Argymhellodd Diamond y dylai Llywodraeth Cymru annog myfyrwyr i ddod nôl â'u sgiliau neu i gadw'u sgiliau yma er budd Cymru, ac mi fynnodd e y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwneud hyn drwy, er enghraifft, ganiatáu canslo benthyciadau, neu ganslo yn rhannol benthyciadau'r rhai sy'n gweithio mewn swyddi yng Nghymru a oedd yn gofyn am ad-daliad benthyciad. Wrth gwrs, rŷm ni'n dal i ddisgwyl am ymateb y Llywodraeth i'r argymhelliad hwnnw i bob pwrpas.
Nawr, mae Plaid Cymru yn ffafrio symud o gefnogi myfyrwyr trwy'r grant ffioedd dysgu i grantiau cynnal a chadw, gan ein bod ni'n ymwybodol o bwysau'r costau byw yna sydd yn rhwystr i lawer rhag cael addysg brifysgol ac, yn yr hirdymor, wrth gwrs, fel pawb arall, rydw i'n siŵr, credu y dylai'r nod fod sicrhau addysg am ddim i bawb. Ond y realiti yw bod y sefyllfa'n dal i fod lle'r ydym ni wedi methu â mynd i'r afael fel gwlad â cholli'r sgiliau yma, colli'r gallu, colli'r wybodaeth hanfodol yma o'n heconomi ni wrth i bobl ifainc adael i astudio mewn mannau eraill ac, yn rhy aml o lawer, wrth gwrs, peidio â dychwelyd.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud y pwynt nad graddedigion ifanc yn unig sydd angen eu hystyried fel rhai sy'n meddu ar y sgiliau hanfodol i gyfrannu at economi Cymru, wrth gwrs. Nid yw dros ddwy ran o dair o bobl ifanc yn mynd i brifysgol, ac rydym ni fel plaid wedi crybwyll yr incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc, wrth gwrs, a fyddai'n seiliedig ar bedair colofn allweddol: swydd wedi'i gwarantu yn y lle cyntaf, os yn bosibl, ond yn amlwg nid yw hynny bob amser yn bosibl. Yr opsiynau eraill fyddai gwasanaeth dinasyddion cenedlaethol go iawn, lleoliad 12 mis am dâl yn debyg i fodel AmeriCorps; cymorth ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, gan gael gwared ar rai o'r rhaniadau artiffisial rhwng y ddau wrth wneud hynny; ac opsiwn, wrth gwrs, o lwfans menter newydd, i helpu pobl ifanc i ddechrau busnesau newydd. Nawr, gallwn ddysgu rhai o'r gwersi hyn o dreialon a gynhaliwyd mewn mannau eraill. Mae'r Ffindir yn treialu incwm sylfaenol cyffredinol, a chynhelir astudiaethau dichonoldeb yn yr Alban hefyd, lle mae pedwar cyngor yn adeiladu'r cynlluniau peilot cyntaf yn y DU, wedi'u cefnogi gan grant o £250,000 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban. Ac o ran incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc, yr haf diwethaf, argymhellodd Plaid y Cyfleoedd yn Seland Newydd bolisi incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 23 oed i'w cynorthwyo i bontio i fywyd fel oedolion, a byddai'r bobl ifanc yno'n cael $10,000 y flwyddyn, wedi'i rannu'n rhandaliadau wythnosol o $200, i'w cynorthwyo yn y cyfnod allweddol hwnnw o ddatblygiad personol.
Nawr, faint ohonom ni fan hyn sy'n cofio'r cynllun Llwybro, flynyddoedd yn ôl, a oedd yn tracio pobl ifanc ac yn hyrwyddo cyfleoedd iddyn nhw i ddychwelyd i Gymru? Roeddech chi'n cofrestru gyda'r cynllun, ac os oeddech chi â chymwysterau penodol ac wedi symud i ffwrdd i weithio, petai yna gyfleoedd a oedd yn galw am y cymwysterau yna yn codi ym mro eich mebyd chi, yna mi fyddech chi'n cael gwybod am hynny, ac mi fyddai yna gyfle i chi ymgeisio am y swyddi hynny a dychwelyd.
Rydw i'n ymwybodol, yn yr India, lle mae diboblogi mewn ardaloedd gwledig gydag allfudo i mewn i'r dinasoedd yn broblem, mae yna gynllun penodol yn y fanna i gadw'r cysylltiad yn fyw rhwng rhywun sydd â sgiliau—dywedwch eich bod chi'n gyfrifydd yn gweithio yn y ddinas, eich bod chi'n cadw cysylltiad gyda'ch cymuned gartref, lle rydych chi'n gallu, efallai, defnyddio rhai o'r sgiliau yna i helpu pwyllgorau lleol gyda'u awdits blynyddol ac yn y blaen. Mae yna lawer y gallem ni fod yn ei wneud, ac roedd y ffigwr yma o 117,000 o bobl wedi gadael ardaloedd y gorllewin yn drawiadol eithriadol, ac roedd e'n fy atgoffa i o gynllun sy'n cael ei rhedeg gan un awdurdod lleol yng ngorllewin yr Iwerddon sy'n ymateb yn uniongyrchol i ddiboblogi, lle maen nhw'n gweithredu yn rhagweithiol i drio denu pobl yn ôl eto. Maen nhw bron iawn yn rhyw fath o asiantaeth recriwtio, ond hefyd rhyw fath o asiantaeth farchnata sydd yn pecynnu cynnig: 'Dewch i nôl i weithio mewn ardal werdd, iach, amgylcheddol gyfeillgar, lle, gyda'r ysgolion bychan gwledig, mae dosbarthiadau yn llai—lle mae'r ratio athro i ddisgybl yn llai'—bron iawn ryw ymgyrch farchnata lle maen nhw'n pecynnu'r cynnig mewn modd atyniadol i ddenu pobl yn ôl.
Nawr, mae yna awgrymiadau yn y cynnig, oes, ond hanfod y cynnig, i bob pwrpas, yw bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod lawer, lawer yn fwy creadigol wrth fynd i'r afael â'r broblem, sydd yn broblem real iawn, iawn yn ein cymunedau ni.
Rwy'n croesawu dadl Plaid Cymru ar bobl ifanc a chymunedau yng Nghymru, ac yn benodol, rwy'n croesawu'r pwyslais ar fynd i'r afael ag allfudiad pobl ifanc o'n cymunedau i rannau eraill o Gymru, neu i'r DU, neu i weddill y byd. Un ffactor sy'n effeithio ar ddemograffeg ein cymdeithas yw mewnfudo, ond un ffactor lle y gall Llywodraeth ddatganoledig wneud mwy o wahaniaeth yw allfudo, drwy'r polisi tai, drwy'r polisi addysg uwch, ac ystod eang o ysgogiadau polisi a grybwyllir yng nghynnig Plaid Cymru y prynhawn yma.
Mae'n bwysig dechrau drwy gydnabod hawl pobl ifanc i fyw, i weithio, i deithio ac i astudio ar draws ystod eang o diriogaethau. Ni ddymunwn geisio cyfyngu ar orwelion ehangach pobl ifanc mewn unrhyw fodd. Ond rydym am i gadw pobl ifanc gael ei gydnabod fel nod polisi cyhoeddus. I'r rhai sydd wedi symud, rydym am eu cymell i ddychwelyd i Gymru, ac i'r rhai sydd wedi symud yng Nghymru, rydym am sicrhau bod cyfleoedd swyddi ar gael mor gyfartal â phosibl, ym mhob cwr o'r wlad. Felly, dylai cadw nifer uwch o bobl ifanc yng Nghymru yn genedlaethol, a sicrhau dosbarthiad iach o bobl ifanc ledled y wlad, gyda sylw arbennig i ardaloedd gwledig a lled-drefol, fod yn ddau brif amcan polisi cyhoeddus.
Hoffwn sôn am y sefyllfa benodol yn y cyn faes glo. Wrth edrych ar yr ystadegau, fel arfer mae'r awdurdodau lleol yn hen faes glo de Cymru wedi profi colled net o bobl ifanc 15 i 29 oed dros bob un o'r pum mlynedd diwethaf. Ar brydiau, mae Rhondda Cynon Taf wedi profi mewnlif net bychan o bobl ifanc 15 i 29 oed, ond nid yw'n digwydd yn aml. Ym Mlaenau Gwent, Merthyr Tudful, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, ceir colled net gyson o bobl ifanc 15 i 29 oed. Rydym yn gwybod y bydd pobl ifanc yn teithio i ddinasoedd mwy i gael gwaith neu i astudio, ond gallai'r niferoedd hyn, sy'n cynnwys pobl yn eu 20au hwyr, edrych lawer yn iachach pe baem yn gallu darparu mwy o gyfleoedd gwaith yn nes at gymunedau cartref pobl. Ni ddylid gadael i'r farchnad yn unig bennu lle mae oedolion ifanc yn byw. Yn amlwg, mae'r farchnad yn methu, a phan fydd y farchnad yn methu, dylid cael ymyrraeth gan y Llywodraeth ar ffurf cymhellion a chyfleoedd i sicrhau bod gennym gymunedau bywiog yn lle cymunedau sy'n dihoeni.
Felly, pam mae Plaid Cymru'n credu hyn? Pam mae'n bwysig lle bydd pobl yn byw ac yn gweithio? Mae pobl ifanc, yn enwedig oedolion ifanc, yn cyfrannu at gryfder cymunedau. Maent yn llinyn mesur o ba mor hyfyw yw cymuned. Maent yn cyfrannu at dwf poblogaeth, naill ai eu hunain neu fel teuluoedd, gan gynnal gwasanaethau fel ysgolion, meddygfeydd, siopau, tafarndai ac yn y blaen. Bydd pawb yn y Siambr sy'n cynrychioli cymuned a arferai fod yn gymuned ddiwydiannol o ryw fath yn gwybod ein bod wedi gweld nifer o'r gwasanaethau hynny'n diflannu wrth i dwf yn y boblogaeth arafu.
Lywydd, hoffwn weld newidiadau i'r system gynllunio sy'n ei gwneud hi'n bosibl datblygu tai fforddiadwy, wedi'u targedu'n benodol at bobl ifanc. Hoffwn weld swyddi sector cyhoeddus wedi'u lleoli mewn ardaloedd sydd angen help i ysgogi gweithgarwch economaidd arall. Buaswn hefyd yn annog y Llywodraeth i wella'r seilwaith digidol fel y gall pobl weithio'n agosach at eu cartrefi a gallu dechrau busnesau yn eu cymunedau eu hunain.
Nid wyf yn meddwl bod y gwelliannau gan y Llywodraeth neu gan y gwrthbleidiau eraill yn mynd yn ddigon pell. Ni fydd crybwyll cymhellion sydd eisoes wedi digwydd yn gwneud gwahaniaeth. Ni fydd sôn am Lywodraethau ddegawd yn ôl yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Mae angen syniadau newydd arnom, ac rwy'n annog y Cynulliad y prynhawn yma i gefnogi syniadau Plaid Cymru yn y cynnig hwn heddiw.
Galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac yn croesawu ei hysbryd a'r cyfraniadau amrywiol iawn i'r ddadl hefyd. Efallai ein bod yn anghytuno, ar ddiwedd hyn, o ran sut y byddwn yn dewis pleidleisio, ond credaf ei bod yn eithaf iach, o ran y ddadl, ein bod wedi cael ystod mor eang yn gyffredinol yma o awgrymiadau ynglŷn â sut—os caf fenthyg cyfraniad Jack am eiliad—y down yn wlad sy'n croesawu ac yn dathlu pobl ifanc, a hefyd, rhaid i mi ddweud, yn eu cadw a'u heisiau. Rwy'n dweud hyn fel rhywun, fy hun, a aned yn Nhre-gŵyr, a symudodd i ffwrdd, a aeth i'r brifysgol, a ddaeth yn ôl i weithio, a aeth i ffwrdd eto gyda'i waith, a ddaeth yn ôl, a aeth i ffwrdd eto gyda'i waith ac a ddychwelodd.
Nid ydych yn edrych mor hen â hynny. [Chwerthin.]
Rwyf wedi pentyrru llawer i'r blynyddoedd hyn, gallaf ddweud wrthych.
Ond roedd rhan ohono oherwydd argaeledd cyfleoedd economaidd yn fy nghymunedau fy hun. Roedd rhan ohono, rhaid i mi ddweud hefyd, oherwydd bod Cymru'n denu a bod arnaf awydd dod adref. Hoffwn ddweud rhywbeth cyn i mi droi at y cyfraniadau unigol, a bu llawer ohonynt yn y ddadl hon: mae'n ddiddorol ein bod weithiau'n llawn o wae ac anobaith am fod pawb yn llifo allan o Gymru, yn diflannu'n llwyr, ac eto—ac rwy'n enghraifft glasurol o rywun sydd wedi gwneud hyn—os edrychwn ar raddedigion Cymru, mae'r rhan fwyaf o raddedigion Cymru yn aros neu'n dychwelyd i Gymru ar ôl iddynt fod yn astudio. Mae'r mwyafrif yn gwneud hynny. Roedd tri chwarter y bobl o Gymru a oedd wedi gadael prifysgolion y DU ac wedi cael gwaith—ffigur 2016 yw hwn—chwe mis ar ôl graddio yn gweithio yng Nghymru. Maent wedi gwneud dewis cadarnhaol.
Gallaf weld hyn yn fy etholaeth. Gallaf ddweud hyn wrthych. Mae Sony, sydd wedi bod drwy newidiadau aruthrol dros y blynyddoedd—un o'r pethau sydd ganddynt yw Parc Technoleg Sony Pencoed. Mae ganddynt oddeutu 30 o gwmnïau yno—rhai uwch-dechnoleg, digidol, yn ogystal â gweithgynhyrchu—ar flaen y gad ym maes technoleg. Siaradais â thri unigolyn yno a oedd wedi sefydlu cwmni. Mae'r cwmni hwn yn arweinwyr byd-eang yn cyflenwi'r batris sy'n gweithio'r erialau ffonau symudol o gwmpas y wlad. Maent yn arweinwyr byd-eang. O'r tri ohonynt, daw un o Ganada, daw un o Gaerdydd, a daw un o'r India. Bu'r tri ohonynt yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd—mewn busnes, mewn peirianneg ac ati. Dewisodd pob un ohonynt aros a gweithio yng Nghymru. Nawr, rhagor o hynny sydd angen inni ei weld. Yn aml, rwy'n defnyddio'r ymadrodd: gallwn weld sut beth yw 'da'. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Darren; fe gymeraf yr ymyriad.
Rwy'n sylweddoli bod y rhan fwyaf yn gwneud hynny, ond mwyafrif bychan iawn ydyw. Dair blynedd a hanner wedi iddynt raddio, nid yw 45 y cant yn aros yng Nghymru, ac nid ydynt yn dychwelyd i Gymru. Yn sicr, mae hynny'n destun pryder i chi, fel y mae lefel y cyflog y mae'r unigolion hynny yn ei gael, gyda 68 y cant yn cael llai nag £21,000.
Ie, ac mae angen inni wneud mwy. Fe ddof at rai o'r pethau a grybwyllwyd yn y ddadl, a beth rydym eisoes yn ei wneud hefyd.
Rydym wedi crybwyll allfudo, yn amlwg, ac mae'r effaith ar yr iaith Gymraeg yn allweddol, heb amheuaeth, ac mae'n fwy penodol i rai ardaloedd yn ogystal. Mae yna lifoedd gyda'r iaith Gymraeg. Mae'r iaith Gymraeg yn cynyddu mewn rhai ardaloedd. Mewn rhai ardaloedd mae'n dihoeni, gan gynnwys mewn mannau y byddem yn eu hystyried yn draddodiadol yn gadarnleoedd. Ac mae hynny'n ymwneud â chyfle economaidd. Mae hefyd yn ymwneud â sut y gallwn wireddu'r hyn sydd gennym yn thema 3 strategaeth 'Cymraeg 2050', sy'n canolbwyntio'n helaeth ar agweddau economaidd-gymdeithasol ar gynnal yr iaith Gymraeg yn y cymunedau hyn, ond mae'r strategaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg hefyd yn seiliedig ar y syniad o rwydweithiau a chymunedau byw o Gymraeg, nid rhyw gynhaliaeth artiffisial. Ac mae angen inni wneud mwy ar hynny. Ond mae gan y Llywodraeth ymrwymiad ac rydym yn agored i syniadau ynglŷn â sut yr awn ati i ddatblygu hyn a'i symud yn ei flaen.
Entrepreneuriaeth—yn sicr, mae honno'n ffordd ymlaen. Soniodd sawl cyfrannwr am hyn o bob plaid. Os edrychwch ar yr hyn a wnawn ar hyn o bryd—cyn inni hyd yn oed benderfynu, 'Gadewch inni wneud rhagor o gynlluniau newydd'—ond os edrychwch ar yr hyn a wnawn drwy'r gwasanaethau entrepreneuriaeth ieuenctid, benthyciadau i fusnesau newydd Busnes Cymru, gyda dros £18.5 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn dros 2,000 o fusnesau newydd yng Nghymru, mae hynny'n fusnes y dydd sy'n cael ei annog i ddechrau yng Nghymru, yn yr union fath o etholaethau ac amgylchiadau rydym yn sôn amdanynt. Sut y gwnawn ragor o hynny mewn gwirionedd?
Os edrychwch ar y gronfa fenthyg i ficrofusnesau, a lansiwyd yn 2013 gyda £6 miliwn, ac a weithredir gan Fanc Datblygu Cymru, ers hynny rydym wedi'i gynyddu, wedi ei dreblu i £18 miliwn. Nawr, mae hwnnw'n buddsoddi rhwng £1,000 a £50,000 mewn busnesau newydd a microfusnesau, ac os edrychwch ar lawer o'r cymunedau rydym yn sôn amdanynt a'r busnesau a fydd yn aros yn y cymunedau hyn, nid yw'n rhoi arian i'r rhai sy'n mynd a dod, mae'n datblygu ein busnesau ein hunain mewn gwirionedd. Pan ddaeth Meghan Markle yma y dydd o'r blaen ac roedd ffws fawr ynglŷn â'r cwmni jîns a gafodd sylw yn y penawdau ac roedd pawb yn talu £350 am bâr o jîns—nid fi, rhaid i mi ddweud—ond y syniad hwnnw o dyfu ein busnesau ein hunain, rydym yn rhoi cymorth tuag at hynny yn awr. A gallwn bob amser wneud mwy, ond mae'r cymorth yno yn wir.
Roedd cymaint o bethau a gafodd sylw. Lee, fe sonioch am herio meddwl confensiynol. Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae hynny'n rhan o'r hyn yw'r dadleuon hyn. Yn sicr, o ran amaethyddiaeth fanwl, dangosodd fy ymweliadau â cholegau amaethyddol yng Nghymru a Lloegr botensial aruthrol hynny, gan gynnwys nid yn unig ar gyfer ffermio amgylcheddol gwell, ond hefyd ar gyfer twf swyddi yn ogystal, a dull gwahanol o ffermio sy'n cael ei yrru gan dechnoleg ar y ffermydd. Ac mae angen inni wneud mwy ar hynny.
Ar yr economi sylfaenol os caf ddweud yn syml, er fy mod yn deall y feirniadaeth a wnaethoch ynglŷn â hyn, mae'n ddiddorol fod un o'r meysydd y mae gennyf gyfrifoldeb drosto yn 'Ffordd i Ffyniant' a'r cynllun gweithredu economaidd ar gyfer y dyfodol, sef gofal cymdeithasol, wedi'i gynnwys yn rhan bendant iawn ohono, ac mae wedi'i groesawu gan y sector gofal, gan nad yw'n faich ar gymunedau; mewn gwirionedd os ydym yn uwchsgilio pobl sy'n gweithio yn y maes, o weithwyr gofal cartref i bobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, hynny i gyd, yr hyn y gallwn ei wneud yw tyfu'r economi, nid yn unig mewn rhannau o Gymru, ond ym mhob stryd, pob cymuned, gan fod pawb yng Nghymru, pa un a ydych yn rhywun sydd ag anableddau dysgu, neu'n rhywun sy'n hŷn gydag anghenion dementia ac ati—mae'r anghenion gofal hynny ar draws Cymru gyfan, a gallwn wneud mwy, cyhyd â'n bod yn rhoi gwerth ar y bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw yn ogystal. Felly, unwaith eto, gallwn wneud mwy, ond rydym yn gwneud llawer arno eisoes.
Os caf droi at rai o'r gwelliannau, nodwn y cynnig gan Blaid Cymru. Bydd gennym syniadau gwahanol ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hyn, ond rwy'n awyddus i dynnu sylw a'i roi mewn perthynas â'n gwelliant ni hefyd y dengys y ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf yng Nghymru mai ni yw'r wlad sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ein cyfradd gyflogaeth yn parhau i dyfu. Oes, mae angen inni wneud yn siŵr mai dyna'r swyddi cywir a'u bod yn swyddi â chyflogau da yn ogystal, ond mae'r gyfradd gyflogaeth yn parhau i dyfu. Mae ein cyfradd ddiweithdra yng Nghymru bellach yn 5 y cant. Mae i lawr o 8.9 y cant yn 2011. Ac rwy'n falch o ddweud—a dywedais hyn fel AS, ac rwy'n ei ddweud yn awr fel Aelod Cynulliad—fod y rhaglen gyflogaeth flaenllaw honno, Twf Swyddi Cymru, wedi creu dros 29,000 o gyfleoedd swyddi, gyda 18,000 o bobl ifanc yn dod o hyd i waith o ansawdd da, ac yn cael cymorth i gamu ymlaen at gyfleoedd yn y dyfodol yn ogystal.
Soniwyd am gartrefi fforddiadwy yn y ddadl hon—hollol gywir. Rydym wedi cyflawni ymrwymiad yn y Llywodraeth hon yn ystod y tymor diwethaf i ddatblygu 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym wedi ymrwymo i fynd hyd yn oed ymhellach y tro hwn. Sut y gwnawn hynny? Byddwn yn ei wneud drwy fy nghyd-Aelod yma, Rebecca, wrth lansio'r cynllun perchentyaeth drwy Cymorth i Brynu—Cymru. Rydym yn gwybod mai prynwyr tro cyntaf oedd 75 y cant o'r rhai a ddefnyddiodd y cynllun. Cartrefi fforddiadwy yw'r rhain.
Rwy'n cydnabod, rhaid i mi ddweud, o ran y cynnig y mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno, ein bod, gyda'u cymorth hwy, bellach wedi rhoi'r cyllid i 'Arfor' am dros ddwy flynedd. Mae wedi sefydlu grant ffermwyr ifanc. Sefydlodd grant ar gyfer newyddiadurwyr sy'n ceisio cychwyn eu busnesau eu hunain, ac rydym hefyd yn cefnogi'r gronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru gyda chyfraniad o £14 miliwn dros ddwy flynedd. Rydym yn agored i'r syniadau hynny. Byddwn yn gweithio gyda'r syniadau hynny. Nid oes monopoli gan unrhyw blaid ar syniadau da. Ond rydym eisoes yn gwneud cymaint, ac nid ydym ond yn crafu'r wyneb o ran yr hyn rydym yn ei wneud.
Os caf droi—. O, mae fy amser ar ben eisoes. A gaf fi droi'n fyr at welliant UKIP, Lywydd?
Yn fyr iawn.
Roedd y cyfraniad yn cynnwys llawer o feysydd sydd heb eu datganoli: mewnfudo, treth, yswiriant gwladol, cymorth tramor—pob un y fater i Lywodraeth y DU. Rwy'n credu ei fod, unwaith eto, wedi crybwyll siboleth newid yn yr hinsawdd. Hoffwn ddweud yn syml mai newid yn yr hinsawdd yw un o'r ffactorau mewn gwirionedd sy'n gyrru un o'r agweddau eraill ar y gwelliant, sef mudo ac ati. Mae'n ganlyniad uniongyrchol iddo, felly mae angen i ni fynd i'r afael â hynny.
Felly, yn olaf, ac i gloi rwy'n meddwl, buaswn yn annog cyd-Aelodau, ar ôl clywed yr hyn y credaf iddi fod yn ddadl dda ac amrywiol iawn, gyda llawer o gyfraniadau diddorol—buaswn yn annog cyd-Aelodau, oherwydd y gwaith sydd eisoes ar y gweill, ac oherwydd y ffaith ein bod yn gweithio ac yn symud ymlaen ar yr awgrymiadau ar gyfer 'Arfor' ac ati, i wrthod y cynnig fel y'i gosodwyd, a gwelliannau 1 a 2, a chefnogi gwelliant 3 y Llywodraeth yn enw Julie James yn lle hynny. Gadewch i ni sicrhau mewn gwirionedd—i ailadrodd geiriau Jack Sargeant yma yn y Siambr heddiw—fod gennym wlad sy'n croesawu ac yn dathlu pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru, lle bynnag y bônt, ym mha le bynnag y maent yn byw.
Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Nid oedd yn ddadl drwg, yn y pen draw, oedd hi? Credaf ein bod wedi cael syniadau da o bob rhan o'r Siambr, rwy'n cytuno. Buaswn yn hepgor un cyfraniad o hynny, a dof at hwnnw mewn eiliad. Ond rwy'n credu inni gael rhai syniadau cadarnhaol ynglŷn â sut y gallwn gryfhau ein cymunedau.
Yn amlwg, nid wyf, ac nid ydym, yn derbyn y gwelliannau, ond rydym yn sicr yn derbyn rhai o'r syniadau, oherwydd rwy'n credu bod rhai pethau da yno. A gaf fi ddechrau, fodd bynnag, gyda'r un nad wyf yn cytuno ag ef—fel y gallech ddisgwyl, y cyfraniad gan Michelle Brown? Hoffwn gofnodi nad oes gan Blaid Cymru ddirmyg tuag at fusnesau bach neu fusnes yng Nghymru. Mae'r gwaith a wnawn yn cefnogi busnesau, yn enwedig o ran ardrethi busnes—. Cyfeiriodd y Gweinidog at gynllun blaenllaw, Twf Swyddi Cymru; deilliodd hwnnw o glymblaid Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur, a Ieuan Wyn Jones fel y Gweinidog yn ystod y glymblaid honno. Felly, nid wyf yn credu bod gan Blaid Cymru unrhyw ymddiheuriadau fel plaid sy'n cefnogi busnesau ac entrepreneuriaeth yng Nghymru.
Mae angen i mi ddweud hyn hefyd: fod datgarboneiddio—gadewch inni roi newid yn yr hinsawdd i'r naill ochr am eiliad—yn gyfle enfawr i Gymru. Gall y twf a gawn o ddatgarboneiddio yng Nghymru, ac yn y cymunedau rydym yn sôn amdanynt, oherwydd dyna lle mae'r adnoddau naturiol a all bweru rhywfaint o'r twf hwn, pa un a yw'n gynllun trydan dŵr yn Arfon neu'n ynni morol yn sir Benfro—credaf y dylem fynd amdano, oherwydd maent yn syniadau a fydd o ddifrif yn rhoi naid dechnolegol inni yma yng Nghymru ac yn adeiladu ar yr hyn sydd gennym. Felly, nid wyf yn derbyn hynny.
Nid oes angen inni ddadlau ynglŷn â chymorth tramor yma. Yr hyn sydd angen inni ddadlau yn ei gylch yma yw fformiwla ariannu teg i Gymru. Rydym yn dal yn gaeth i fformiwla Barnett oddeutu 30 mlynedd ar ôl iddi gael ei llunio fel mesur dros dro. Clywn gan y Gweinidog Cyllid ei hun ein bod ni £4 biliwn yn fyr o'r hyn a fyddai gennym pe bai gennym ariannu priodol a theg i Gymru. Felly, nid oes angen inni fynd ar ôl y tlotaf yn y byd i edrych am ariannu teg i Gymru. Felly, credaf fod hynny'n gwrthod y pwyntiau a wnaed.
Ar y syniadau eraill—trof at Darren Millar. Roedd yn feirniadol ohonom yn canmol ein hunain ac yna aeth ati i ganmol Llywodraeth y DU. Credaf mai Ceidwadwyr oeddent y tro diwethaf yr edrychais. Edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fydd Darren Millar yn gallu cynnig gwelliannau i ddweud beth y mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflawni mewn cytundebau cyllidebol gyda unrhyw Lywodraeth yn y lle hwn. Pan wnaiff hynny, fe gaiff ein beirniadu ni. [Torri ar draws.] O, os ydych yn mynnu, fe ildiaf.
Rhaid eich bod wedi disgwyl y buaswn yn sefyll ar y pwynt hwnnw. Rwy'n deall yr hyn a ddywedwch am ddymuno diwygio fformiwla Barnett yn hirdymor, ac rwy'n credu y caech gefnogaeth y rhan fwyaf o'r Aelodau i hynny, ond rhaid i chi dderbyn, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, ein bod o leiaf wedi cael y fframwaith cyllidol, sy'n gychwyn ar y broses honno, ac yn rhywbeth nad oedd gennym mohono ychydig flynyddoedd yn ôl.
Mae'r fframwaith cyllidol yn fecanwaith pwysig, ond nid yw'n benderfyniad polisi ynghylch ariannu teg. Mecanwaith ydyw, yn syml, a allai sicrhau ariannu teg, ond bydd angen penderfyniad polisi yn San Steffan i fwydo i mewn i hynny mewn gwirionedd. Felly, hoffwn roi hynny yn ei gyd-destun.
Hefyd, soniodd Darren Millar am broblemau trafnidiaeth i bobl ifanc. Cytunaf yn llwyr ag ef mewn egwyddor ar hynny. Hygyrchedd trafnidiaeth yw'r peth sy'n effeithio fwyaf ar yr ieuengaf a'r hynaf mewn cymdeithas, ac mae angen i ni fynd i'r afael â hynny. Ni soniaf am gerdyn ieuenctid Llywodraeth y DU eu hunain a'r wefan a chwalodd ddoe pan geisiodd wneud rhywbeth ynglŷn â thrafnidiaeth i bobl ifanc. Ond fe wrandawn ar ysbryd yn hytrach na manylion yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei awgrymu.
Credaf mai'r hyn sy'n crynhoi'r ddadl i mi oedd cyfraniad, a'r peth allweddol a ddywedodd Leanne Wood, mewn un ystyr—mai mater o bolisi cyhoeddus a budd y cyhoedd yw ein bod yn cadw cymaint o'n pobl ifanc ag y gallwn. Ni ddylai unrhyw berson ifanc adael Cymru os nad oes arnynt eisiau gwneud hynny. Wrth gwrs, os ydynt am astudio mewn mannau eraill, gweithio mewn mannau eraill, os ydynt am fod yn io-io fel Huw Irranca-Davies a mynd a dod fel y maent yn dymuno, mae hynny'n iawn. Ond yn sicr dylem—[Torri ar draws.] A minnau, ie. Gwn fy mod yn rhan ohono yn ogystal. Yn sicr dylem allu meddwl o ddifrif am bolisïau cyhoeddus i gadw ein pobl ifanc yn eu cymunedau, gan roi'r dewis hwnnw iddynt, oherwydd ar hyn o bryd mae llawer o bobl ifanc, fel y soniodd Leanne Wood, yng nghymunedau'r maes glo, ac yn ein cymunedau gwledig ac arbennig o anghysbell—nid oes ganddynt unrhyw ddewis. Ni allant arfer y dewis economaidd hwnnw. Nid oes ganddynt reolaeth dros eu dyfodol, i bob pwrpas. A phan fyddwch yn amddifadu—[Torri ar draws.] Mewn eiliad, os caf. Pan fyddwch yn amddifadu pobl ifanc o reolaeth dros eu dyfodol, yna credaf eich bod yn eu hamddifadu o'r potensial y credaf fod Jack Sargeant wedi siarad yn glir iawn amdano, ac rwy'n croesawu ei gyfraniad ef yn ogystal, yn y modd y gwnaeth bobl ifanc a'u potensial yn ganolog i'r ddadl hon. Fe ildiaf i'r Gweinidog.
Diolch am ildio. Mewn gwirionedd, rwy'n cytuno â byrdwn yr hyn roeddech yn ei ddweud, fod y bobl ifanc hynny'n mynd i fod yn sbardun yn ein cymunedau ac yn ein heconomi yn ogystal. Ond mae hyn yn rhoi cyfle i mi dynnu sylw at y ffaith, dair blynedd ar ôl graddio, nad 55 y cant yw'r gyfran o raddedigion o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru, ond 70 y cant. Byddem yn hoffi pe bai'n 80 neu 90 y cant, ond mae'n uwch nag y dangoswyd.
Diolch. Nid wyf yn meddwl fy mod wedi defnyddio'r ffigur hwnnw—credaf mai'r Ceidwadwyr a wnaeth hynny—ond rydych wedi ei gofnodi, o ran hynny.
Gadewch i mi droi at rai o'r syniadau unigol a gyflwynwyd yn y ddadl. Roeddwn yn cytuno'n llwyr gyda Lee Waters pan soniodd am yr economi sylfaenol. Ac rwy'n meddwl, pan soniodd Rhun am iechyd a gofal cymdeithasol—dyna agwedd ar yr economi sylfaenol y dylem fod yn gweithio gyda hi. Mae'n un o'r rhai amlycaf a nodwyd ar gyfer hynny. Os caf fyfyrio ychydig ar yr hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud yn ogystal, mae angen i ni fynd i'r afael ag unrhyw fath o drefniant sy'n golygu bod tri chwarter y bobl ifanc sy'n astudio meddygaeth yn gadael Cymru pan fo gennym fwlch o 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys fan lleiaf yma yng Nghymru. Mae angen i unrhyw ffordd yr edrychwn ar yr economi sylfaenol gydredeg â hynny.
Nid wyf yn anghytuno gyda Lee Waters am amaethyddiaeth fanwl. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud wrtho yw fy mod yn gobeithio y bydd yn yr wrthblaid yn fuan, a'r hyn rwy'n ei olygu yw, mewn sawl ystyr, pan fydd mewn sefyllfa i negodi â Llywodraeth Plaid Cymru a sylweddoli pan ydych yn yr wrthblaid a'ch bod yn negodi, rydych yn negodi'r arian ond mater i'r Llywodraeth yw'r manylion. Hwy yw'r arbenigwyr gweithredol yma. Roedd ei sylwadau, rwy'n credu, wedi'u cyfeirio'n fwy at Ysgrifennydd y Cabinet. Yr hyn a ddywedwn wrtho yw: rwy'n gwybod—ac rwyf wedi ymweld â llawer o ffermydd yn nwylo pobl ifanc lle mae amaethyddiaeth fanwl yn digwydd, neu o leiaf lle mae syniadau o'r fath yn digwydd, gan weithio gyda sefydliadau addysg uwch, gan weithio gyda Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig—y gwaith gorau yno. Mae'n dymuno gweld ymagwedd strategol. Buaswn yn cytuno ag ef. Ond fel y dywedais, mater i'w Lywodraeth ei hun yw cynnig ffocws yma. Rydym yn rhoi'r ffocws ar yr arian, mae'r Llywodraeth yn rhoi ffocws ar y cyflawniad. Dyna'r ffordd y mae gwrthblaid a Llywodraeth yn gweithio.
Roedd Llyr yn glir iawn ynglŷn â gwireddu adolygiad Diamond, ac er ein bod yn ei gefnogi ac wedi bod yn rhan o adolygiad Diamond, mae angen i ni weld un argymhelliad allweddol yn cael ei weithredu bellach, sef sut y gallwch ddenu pobl ifanc yn ôl i Gymru. Soniodd hefyd am brosiect Llwybro, cynllun y bûm yn ei ddilyn gyda diddordeb mawr. Yn anffodus mae wedi dod i ben ac mae angen rhywbeth felly i roi'r wybodaeth inni fel y gallwn weithio ar ddatblygu pobl ifanc yn ein cymunedau. Mae'n rhywbeth y cyfeiriodd Leanne Wood ato hefyd pan soniodd am wytnwch pobl ifanc a'u gallu i ddatblygu ein cymunedau fel rhannau allweddol o hynny.
Credaf fod fy amser yn dod i ben. Os caf orffen gydag enghraifft glasurol mewn gwirionedd o'r broblem rydym ein hwynebu, oherwydd soniodd y Gweinidog am gwmni jîns arbennig yng ngorllewin Cymru, jîns Hiut—sut bynnag y maent yn ei ynganu—yr hen Howies, fel yr oeddent. Nid wyf yn berchen ar bâr o jîns, gallaf eich sicrhau. Nid wyf i fyny yno gyda Meghan Markle o gwbl yn hynny o beth. Ond edrychwch ar beth a ddigwyddodd yno. Daeth y cwmni i fod ar ôl cau ffatri weithgynhyrchu jîns a oedd yn cyflogi 400 o bobl yn Aberteifi. Bron 20 mlynedd yn ôl bellach, caeodd y ffatri honno, cafodd 400 o bobl eu rhoi ar y clwt. Cafodd rhai ohonynt—rhai ohonynt—swyddi crefft, ac aethant yn rhan o gwmni newydd o'r enw Howies ac adeiladu o hynny, ac yna'n rhan o jîns Huit ac ati. Gwych. Rydym am weld entrepreneuriaeth o'r fath ac rydym am ei weld yn digwydd. Ond hefyd collwyd 400 o swyddi—rhan fawr o'r economi. Mae'r enghraifft honno'n crynhoi'n llwyr yr hyn sy'n gadarnhaol ac yn wych am entrepreneuriaeth a phobl ifanc, ond hefyd yr hyn sy'n wan ac yn tangyflawni'n sylfaenol yn economi Cymru. Rhaid inni gael y ddau, ac mae peth o'r ddadl hon wedi canmol un ac anwybyddu'r llall, ac i'r gwrthwyneb. Mae'n rhaid i'r ddau weithio gyda'i gilydd os ydym am gael cymunedau sy'n ffynnu yma yng Nghymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar gwmnïau rheoli ystadau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Hefin David. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 11 yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM6681 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: O blaid: 37, Yn erbyn: 1, Ymatal: 11
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar bobl ifanc a chymunedau, a galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid saith, un yn ymatal, 41 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6692 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 41, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1—ac os caiff gwelliant 1 ei gytuno, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM6692 - Gwelliant 1: O blaid: 5, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2—ac os caiff gwelliant 2 ei gytuno, fe fydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, pump yn ymatal, 33 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2.
NDM6692 - Gwelliant 2: O blaid: 11, Yn erbyn: 33, Ymatal: 5
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.
NDM6692 - Gwelliant 3: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM6692 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.
2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau Cymru.
3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u denu i'r ardaloedd hynny.
4. Yn cydnabod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy:
a) Twf Swyddi Cymru, sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da;
b) prentisiaethau o ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn;
c) mynediad at dai gan fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y Cynulliad hwn;
d) helpu myfyrwyr â’u costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio;
e) cynnal Bwrsariaeth y GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru;
f) buddsoddi £100m i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.
NDM6692 - Dadl Plaid Cymru ar y cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 26, Yn erbyn: 16, Ymatal: 7
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer—y dadleuon byr—ac mae'r ddadl fer gyntaf i'w chyflwyno gan Llyr Gruffydd. Os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel, ac fe wnaf i ofyn i Llyr Gruffydd siarad ac i gyflwyno ei ddadl. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno y ddadl fer yma y prynhawn yma ar destun datblygiad iaith cynnar, ac rydw i wedi cytuno i Mark Isherwood i gael ychydig o fy amser i hefyd i gyfrannu i'r ddadl yma. Ac yn y ddadl, rydw i eisiau amlygu sut mae sgiliau iaith cynnar da yn hollbwysig i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar, ac i'w paratoi nhw ar gyfer yr ysgol, wrth gwrs.
Nawr, mae'r sgiliau yn gwneud cyfraniad cwbl greiddiol at allu plentyn i gyflawni ei botensial addysgol, ei symudedd cymdeithasol a'i gyfleoedd mewn bywyd, ac mae sgiliau cyfathrebu yn hollbwysig, felly, ac yn sylfaenol yn hynny o beth. Maen nhw'n cynnwys nid yn unig sgiliau mynegi, expressive, sef ein gallu ni i gael pobl eraill i'n deall ni, ond hefyd sgiliau goddefol, neu receptive. Hynny yw, ein gallu ni i ddeall.
Mae gan leiafrif o blant, wrth gwrs, anabledd neu nam sy'n golygu na fyddan nhw'n datblygu'r sgiliau iaith disgwyliedig ar gyfer eu hoedran, ond mae'r rhan fwyaf o blant yn gallu cyrraedd y nod hwnnw o gael y cymorth cywir. Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng tlodi ac oedi o ran sgiliau iaith cynnar, ac mae yna fwlch parhaus rhwng sgiliau iaith y plant tlotaf a’u cyfoedion mwy cefnog. Mae hybu sgiliau iaith cynnar plant, felly, yn hollbwysig er mwyn cau’r bwlch cyrhaeddiad yna a gwella cyfleoedd bywyd ein plant tlotaf ni.
Mae’n amserol iawn ein bod ni’n trafod y pwnc yma heddiw, yn dilyn cyhoeddi’r cynllun ar gyfer y gweithlu gofal plant y blynyddoedd cynnar a chwarae gan Lywodraeth Cymru—o’r diwedd, os caf i ddweud, oherwydd fe'i cyhoeddwyd e ym mis Rhagfyr, ac fe gofiwch chi fy mod i ac eraill wedi bod yn galw am ei gyhoeddi e gan ei fod wedi bod mewn ffurf drafft am bron i ddwy flynedd, o beth roeddwn i’n ei ddeall. Ond mae e wedi cael ei gyhoeddi. Mae hefyd yn amserol yn sgil y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wrth gwrs, am yr ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae ym mis Ionawr.
Nawr, yn gyntaf, rydw i am gyflwyno’r dystiolaeth ynghylch pam mae’r mater yma yn un pwysig.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Fel y soniais yn gynharach, ceir tystiolaeth gref i danlinellu'r berthynas rhwng tlodi ac oedi o ran sgiliau iaith gynnar, gyda phlant o'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith gwannach na phlant mewn grwpiau mwy breintiedig. Ac mae hynny'n golygu bod sgiliau iaith yn ffactor hollbwysig yn y cylchredau sy'n pontio'r cenedlaethau a all barhau tlodi mewn gwirionedd, gan fod sgiliau cyfathrebu gwael yn cael eu trosglwyddo o riant i blentyn. Yn wir, mae'r ystadegau yn eithaf brawychus ac mewn gwirionedd, maent yn siarad drostynt eu hunain.
Mae'n bosibl fod dros hanner y plant mewn ardaloedd sy'n gymdeithasol ddifreintiedig yn dechrau'r ysgol gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael, ac erbyn y byddant yn dair oed, mae plant o 20 y cant tlotaf y boblogaeth yn llusgo bron flwyddyn a hanner ar ôl plentyn yn y grŵp incwm uchaf o ran datblygiad iaith. Nawr, gadewch i ni feddwl am hynny: eisoes, erbyn eu bod yn dair oed, mae plant o 20 y cant tlotaf y boblogaeth flwyddyn a hanner ar ei hôl hi. Nawr, mae 80 y cant o athrawon wedi nodi eu bod yn aml yn gweld plant yn dod i'w hysgolion yn cael trafferth siarad mewn brawddegau llawn, ac nid oes amheuaeth gennyf fod pob un ohonom yma yn y Cynulliad yn unedig yn ein huchelgais i dynnu plant allan o dlodi a rhoi mwy o gyfleoedd bywyd iddynt, ond hyd yma nid yw'r Llywodraeth na'r Cynulliad hwn wedi canfod ffordd o wireddu'r uchelgais hwnnw'n briodol. Ac eto fe wyddom, wrth gwrs, y canfuwyd mai geirfa yn bump oed yw'r rhagfynegydd gorau o'r modd y gallodd plant sy'n wynebu amddifadedd cymdeithasol yn ystod plentyndod fynd yn groes i'r duedd a dianc rhag tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd fel oedolion.
O gymharu â phlant a oedd â datblygiad iaith normal yn bump oed, mae plant pum mlwydd oed sydd â sgiliau dieiriau normal ond geirfa wael un a hanner gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddarllenwyr gwael neu o gael problemau iechyd meddwl a mwy na dwywaith mor debygol o fod yn yn ddi-waith erbyn iddynt gyrraedd 34 oed. Felly, mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael plant yn effeithio'n ddifrifol ar ystod eang o ganlyniadau, gan gynnwys ymddygiad, iechyd meddwl, parodrwydd ysgol a chyflogadwyedd.
Mae gan chwech o bob 10 o bobl ifanc yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid anawsterau cyfathrebu, ac mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu gan 88 y cant o ddynion ifanc sy'n ddi-waith yn hirdymor. Rydym hefyd yn gwybod, heb gymorth effeithiol, y bydd angen triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl ar draean o blant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu pan fyddant yn oedolion. Nawr, mae hynny'n syfrdanol. Mae pob un o'r ystadegau hynny'n dweud yr un stori wrthym. Drwy wella sgiliau llafar plant yn bum mlwydd oed, gallem fod yn gwella eu profiadau bywyd a'u cyfleoedd mewn bywyd yn fawr ac yn nes ymlaen, wrth gwrs, gallem fod yn rhyddhau ein hadnoddau cyfyngedig i fynd i'r afael â phroblemau eraill yn ein cymdeithas.
Mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn arbennig o gyffredin yn ein plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed, wrth gwrs. Mae gan lawer o blant sy'n derbyn gofal anghenion cyfathrebu heb eu nodi neu heb eu diwallu. Yn wir, canfu dadansoddiad diweddar fod gan 81 y cant o blant sydd â phroblemau ymddygiad anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu heb eu canfod, gydag ond ychydig iawn o ddarpariaeth arbenigol ar waith i nodi a chynorthwyo gyda'r anghenion hyn.
O ystyried pwysigrwydd y mater, mae'n gadarnhaol gweld pwyslais cynyddol ar sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn y polisi blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Hyd yma, rydym wedi gweld therapydd lleferydd ac iaith yn cael eu cyflogi ym mhob tîm Dechrau'n Deg yng Nghymru, sy'n gam pwysig i'r cyfeiriad cywir. Rhan o rôl y therapydd yw uwchsgilio gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn yr ardaloedd hyn a gwella gwybodaeth a sgiliau rhieni, wrth gwrs, i gefnogi datblygiad iaith gynnar plant.
Mae'r buddsoddiad cymharol fach hwn o ran nifer y therapyddion lleferydd ac iaith a gyflogir yn cael effaith fawr ar ganlyniadau plant ifanc mewn ardaloedd Dechrau'n Deg. Yn 2015, enillodd therapyddion iaith a lleferydd Dechrau'n Deg Pen-y-bont ar Ogwr wobr GIG am eu gwaith yn lleihau oedi ieithyddol mewn plant dwy a thair oed. Gweithient gyda chylchoedd meithrin Dechrau'n Deg yno i gyfyngu'n sylweddol ar nifer y plant a ddangosai oedi o ran eu sgiliau iaith. Sgriniwyd 600 o blant wrth iddynt ddechrau yn y cylchoedd meithrin, ac aseswyd bod oedi sylweddol o ran sgiliau iaith 73 y cant ohonynt, a fyddai, fel y gwyddom, yn effeithio ar ddatblygiad dysgu yn y dyfodol. Ar ôl yr ymyriadau a ddarparwyd gan staff meithrin, ymyriadau a gynlluniwyd ac a gefnogwyd gan therapyddion lleferydd ac iaith Dechrau'n Deg, roedd dros ddwy ran o dair o'r plant gyda'r oedi ieithyddol gwaethaf wedi gwella. Dyna dros 400 o blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig sydd wedi cael eu cyfleoedd bywyd wedi'u gwella'n sylweddol diolch i ymyrraeth y therapyddion lleferydd ac iaith.
Ond nid yw Pen-y-bont ar Ogwr ar ei phen ei hun, wrth gwrs. Yn Nhorfaen, aseswyd bod oedi sylweddol o ran sgiliau iaith dros hanner y plant yn 18 mis oed, ond yn dilyn yr ymyrraeth, sgriniwyd y plant eto'n dair blwydd oed, ac aseswyd bod gan 85 y cant o'r plant a sgriniwyd sgiliau iaith priodol ar gyfer eu hoedran, gyda dim ond 8 y cant wedi'u cofnodi fel rhai ag oedi sylweddol o ran eu sgiliau iaith.
Mae'r rhain yn nodi llwyddiant gwirioneddol a byddwn yn elwa o'r ymyriadau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Yn anffodus, fodd bynnag, mae gwasanaethau therapyddion iaith a lleferydd Dechrau'n Deg yn wynebu toriadau, ac mae therapyddion yn poeni mwyfwy am ddyfodol gwasanaethau cymorth pwysig o'r fath ar gyfer ymarferwyr gofal plant a rhieni. Mae'n hanfodol fod gwasanaethau o'r fath yn cael eu cadw. Mewn gwirionedd, o ystyried ffocws daearyddol cyfyngedig Dechrau'n Deg, ac o gofio bod y rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru mewn gwirionedd yn byw y tu allan i'r ardaloedd hyn, oni ddylai fod yn nod i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r gwasanaeth hwn i bob rhan o Gymru.
Felly, pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo o leiaf i barhau i sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaethau gwerthfawr hyn sydd eisoes yn bodoli, ac o ystyried pwysigrwydd sgiliau iaith cynnar, efallai hefyd i wneud sylwadau ar ei chynlluniau o ran sut y gall plant ifanc eraill sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru gael y cymorth o ansawdd sydd ei angen arnynt ar gyfer datblygiad iaith a lleferydd cynnar da.
Yn ogystal â sicrhau bod lleferydd, iaith a chyfathrebu yn parhau i gael eu blaenoriaethu gan Dechrau'n Deg ac mewn ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol, mae angen sicrhau y manteisir ar bob cyfle i wneud yn siŵr fod rhieni, gofalwyr a'r gweithlu ehangach yn deall pwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu, a bod negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol yn y maes hwn yn cael eu rhannu'n effeithiol yn ogystal.
Y dylanwad cryfaf ar sgiliau iaith cynnar plant ifanc yw eu rhieni a'u gofalwyr. Gall tlodi gyfyngu'n helaeth ar allu rhieni i ymateb i anghenion iaith cynnar eu plentyn ac i gynnig amgylchedd dysgu yn y cartref sy'n gwella sgiliau iaith yn y blynyddoedd cynnar. Felly, mae cynorthwyo rhieni i feithrin amgylchedd cartref gyda chyfathrebu ac iaith gyfoethog yn sylfaenol bwysig i wella datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar plant.
Rhoddwyd camau cadarnhaol ar waith eisoes yng Nghymru, fel y soniais, er enghraifft hefyd, mae gan y rhaglen Plant Iach Cymru a lansiwyd yn ddiweddar ffocws penodol ar ddatblygiad iaith a lleferydd yn adolygiad iechyd teulu yr ymwelydd iechyd yn 15 mis. Mae'r ymgyrch ddiweddar, Mae 'na Amser i Siarad, Chwarae a Gwrando, sy'n hybu llafaredd, i'w chroesawu hefyd, fel y mae'r cyllid a'r cymorth ychwanegol i ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf drwy'r consortia rhanbarthol i helpu i wella sgiliau iaith dysgwyr. Fodd bynnag, mae ffocws yr ymgyrch Mae 'na Amser yn canolbwyntio'n bennaf ar blant hŷn, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod yn rhaid inni sicrhau ffocws diwyro ar hyrwyddo'r negeseuon allweddol hyn ar draws y portffolios ar y cam cynharaf posibl i gael yr effaith fwyaf.
Y tu hwnt i amgylchedd y cartref, ceir tystiolaeth gref o fanteision gofal plant ac addysg gynnar o ansawdd da o safbwynt datblygu geirfa a llythrennedd. Mae gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar rôl hollbwysig yn cefnogi datblygiad plant; maent yn rhannu'r dysgu cynnar a'r sgiliau sy'n darparu sylfaen ar gyfer parodrwydd ysgol, ac yn cefnogi cynnydd da yn y dyfodol drwy addysg ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn hollbwysig hefyd i gau'r bwlch iaith rhwng plant o deuluoedd incwm isel a theuluoedd incwm uchel, sy'n dechrau yn eu babandod, gan hyrwyddo symudedd cymdeithasol, wrth gwrs, a chynnig y dechrau gorau i blant mewn bywyd.
Mae'n dda bod y cynllun gweithlu gofal plant a chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn cydnabod pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar o fewn y cymwysterau gofal plant newydd, a manylion cyfleoedd i ymarferwyr arbenigo yn y maes hwn. Mae'n gadarnhaol hefyd fod therapyddion iaith a lleferydd, fel yr arbenigwyr yn y maes hwn, wedi cymryd rhan yn y datblygiadau hyn. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar, dylem sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus a llywodraethu priodol yn digwydd ochr yn ochr â hyfforddiant. Mae dull gweithredu Dechrau'n Deg, lle mae cylchoedd meithrin yn gallu cael cymorth therapi lleferydd ac iaith, yn fodel defnyddiol iawn yn hyn o beth.
Wrth edrych y tu hwnt i hyfforddiant, mae angen i ddatblygiad iaith cynnar gael ei brif ffrydio, a'i ystyried yn rhan o gyfundrefnau arolygu, er enghraifft, ac mae angen i fframweithiau canlyniadau gael eu haddasu i adlewyrchu cynnydd o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu. Yng Ngogledd Iwerddon, crëwyd swydd strategol i sicrhau ymagwedd drawsbynciol tuag at ddatblygiad iaith cynnar ar draws portffolios. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar sut y mae datblygiad iaith cynnar yn cael ei flaenoriaethu ar draws portffolios Llywodraeth Cymru yn ei hymateb. Pa arweiniad a geir i sicrhau'r ffocws angenrheidiol ac arbenigedd yn y maes allweddol hwn yma yng Nghymru? Hefyd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i edrych ar ddysgu o'r dull strategol a welwn yng Ngogledd Iwerddon?
Felly, i grynhoi, cafwyd llawer o ddatblygiadau cadarnhaol o ran cefnogi datblygiad iaith cynnar yng Nghymru. Fodd bynnag, fel rydym wedi amlinellu, mae canlyniadau difrifol peidio â chefnogi sgiliau iaith cynnar plant a methiant i nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu hirdymor a pharhaus yn galw am ymateb trawslywodraethol ehangach a mwy o arweinyddiaeth strategol ledled Cymru. Mae'n hanfodol ein bod, fel cenedl, yn gwneud mwy i sicrhau bod plant yn datblygu sgiliau iaith cryf erbyn eu bod yn dechrau yn yr ysgol ac yn sicrhau bod digon o ffocws ar y maes hwn. Bydd methiant i wneud hynny'n golygu mwy o'r un heriau economaidd, heriau iechyd a heriau cymdeithasol mewn blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, byddai llwyddiant yn trawsnewid rhagolygon degau o filoedd o blant Cymru a chyda hwy, wrth gwrs, y rhagolygon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'n gwlad. Diolch.
Ar ôl brwydro 17 mlynedd yn ôl fel rhiant i sicrhau therapi iaith a lleferydd, gwn pa mor hanfodol ydyw i fywydau ifanc a chyfleoedd bywyd. Fe wyddom, dros wyth mlynedd yn ôl, pan gynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yma ymchwiliad i'r ystâd cyfiawnder ieuenctid, fod Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith wedi dweud wrthym ar y pryd fod gan gyfran uchel o bobl yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Deallwn, hyd yn oed heddiw, fod gan 60 y cant ohonynt o hyd anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu o'r fath yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid.
Eto rydym wedi gweld cau Afasic Cymru, rhywbeth a orfodwyd ar ei ymddiriedolwyr gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiddymu grant darparu i blant a theuluoedd a symud y cyllid i rywle arall. Dyma oedd yr unig elusen a gynrychiolai deuluoedd plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru, a chefnogodd gannoedd o deuluoedd yng ngogledd Cymru yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf, gan dynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaethau statudol a gwella bywydau. Pan ysgrifennais at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â hyn, atebodd
Gallaf eich sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod ysgolion yn parhau i allu darparu cymorth ar gyfer y teuluoedd hyn.
Wel, mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn aml yn hapus i weithio gyda'r trydydd sector, ac yn gyffredinol ceisiant wneud eu gorau, ond nid ydynt yn cynnig y strategaethau cymorth a chyngor diduedd yng nghartrefi pobl a ddarparwyd gan Afasic Cymru. Rhaid i mi ddweud, mae'r dull cyfeiliornus hwn o weithredu ar ran Llywodraeth Cymru yn niweidio bywydau ac yn creu costau ychwanegol a diangen i ddarparwyr y sector cyhoeddus pan ddylent fod yn gofyn i'r rhain sy'n cyflawni newid ar y rheng flaen sut y gallant hwy helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni mwy am lai a sicrhau bod y plant ifanc hyn yn cael y cyfleoedd bywyd y maent eu hangen ac yn eu haeddu.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon heddiw. Mae sgiliau iaith cynnar yn sicr yn ganolog i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar, ac mae'r sgiliau hyn yn sbardun ar gyfer parodrwydd ysgol a'u gallu i gyflawni eu gwir botensial a rhoi cyfle go iawn iddynt mewn bywyd. Rydym yn gwybod, fel yr amlinellodd Llyr heddiw, fod plant sy'n byw mewn tlodi yn rhy aml yn dioddef i raddau mwy helaeth o sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael, lawer mwy na'u cymheiriaid mwy cefnog. Mae'n gwbl hanfodol, yn fy marn i, y dylai plant fod yn barod ar gyfer yr ysgol a gallu manteisio'n llawn ar yr addysg y maent yn ei chael.
I'r perwyl hwnnw, mae Dechrau'n Deg wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol yn fy marn i, ac mae'n parhau i wneud cynnydd. Mae'r rhaglen hon wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau miloedd o bobl ifanc ers ei sefydlu. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen graidd, gan gynnwys gofal plant am ddim o safon uchel, cymorth rhianta, cymorth dwys gan ymwelydd iechyd a chymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu—
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs.
Pan ddywedwch y dylai pobl fod yn barod ar gyfer yr ysgol, yr hyn a glywaf gan bobl mewn ysgolion yw bod pobl yn cyrraedd yr ysgol heb allu darllen ar unrhyw lefel, ac nad yw llawer o rieni'n cyfathrebu gyda'r plant fel y gallent fod yn ei wneud o bosibl, a hynny oherwydd technoleg newydd. Mae'n helpu, mewn llawer o achosion, gyda darllen, ond yn aml mae'n milwrio'n erbyn eu datblygiad. Beth a wnewch i geisio annog rhieni, drwy gynlluniau amrywiol, i ryngweithio gyda'u plant cyn iddynt fynd i'r ysgol, fel y gallant fod yn barod ar gyfer yr ysgol, fel rydych yn ei ddweud?
Wel, fel yr amlinellodd Llyr yn gynharach, ac fel y byddaf yn ei nodi yn nes ymlaen, mae yna nifer o raglenni rhianta, pecynnau cymorth ac ati ar gael gan Llywodraeth Cymru, a rhan bwysig o gynnig craidd Dechrau'n Deg yw cymorth rhianta fel bod rhieni'n gallu gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud, fel unigolion, i gynorthwyo eu plant yn y ffordd orau.
Fel y gwyddoch, mae Dechrau'n Deg yn targedu rhai o'r cymunedau tlotaf, mwyaf difreintiedig ledled Cymru, ac mae adroddiad gwerthuso ansoddol 2017 yn nodi bod rhieni a oedd wedi cael cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu yn credu ei fod wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i leferydd ac iaith eu plentyn. Roeddent yn dweud bod eu plant yn fwy siaradus ac wedi dysgu ac yn defnyddio geiriau newydd, ac yn siarad yn fwy eglur, ac mae wedi'i gynnwys yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol y dylai holl raglenni Dechrau'n Deg allu defnyddio therapyddion lleferydd ac iaith.
Felly, i ateb eich cwestiwn yn fwy uniongyrchol, Bethan, er mwyn cynorthwyo rhieni'n fwy eang, mae ymgyrch Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo', yn cefnogi'r rôl hanfodol y mae pob rhiant yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad eu plant, a'u sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn arbennig. Ceir pecyn lleferydd ac iaith i rieni ar ein gwefan, ac mae deunydd cymorth defnyddiol a diddorol iawn ar gael am ddim i rieni, gan gynnwys taflen ffeithiau ar ddatblygiad yr ymennydd, sy'n esbonio i rieni pam ei fod mor bwysig. Felly, yn hytrach na dweud yn unig, 'Mae angen i chi wneud hyn,' mae'n rhoi esboniad go iawn i'r rhieni ynglŷn â pham y mae angen iddynt gyflawni'r gweithgareddau hyn gyda'u plant.
Fodd bynnag, gwyddom nad rhieni yw'r unig ddylanwad ar fywyd plentyn ifanc, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ansawdd y gweithlu blynyddoedd cynnar—fel y soniodd Llyr yn ei gyfraniad—yn ein cynllun 10 mlynedd. Rydym am ddenu'r bobl iawn i mewn i'r sector blynyddoedd cynnar a gofal plant, gyda'r sgiliau a'r patrymau ymddygiad sydd eu hangen ar gyfer darparu addysg gynnar a gofal o safon uchel. Yn sail i'r uchelgais hwn mae datblygiad cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer ymarferwyr gofal plant a chwarae, a gaiff ei chyflwyno ym mis Medi 2019. Rydym wedi cydnabod pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar, a dyna pam y bydd y cymwysterau newydd yn cynnwys llwybr gyrfa a llwybrau dilyniant clir i arbenigo yn y maes hwn o fewn y gyfres honno o gymwysterau.
Wrth gwrs, dyma'r cymorth a gynigir yn y blynyddoedd cynharaf o fywyd plentyn ifanc. Pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol, mae yna amrywiaeth eang o gymorth cynhwysfawr a chydlynol i wneud yn siŵr y bydd pob dysgwr yn datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu rhagorol, ac mae'n rhan allweddol o fy nghenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru. Ceir tystiolaeth gref fod llafaredd yn floc adeiladu hanfodol i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, ac yn bwysig i mi, mae'n floc adeiladu hanfodol sydd ei angen ar bob dysgwr os ydynt yn mynd i fynd yn eu blaenau i wneud defnydd o'r cwricwlwm cyfan, beth bynnag fo'u cefndir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar gyfer plant tair i 16 mlwydd oed, lle mae llafaredd yn elfen yn y gydran llythrennedd, gan rannu statws cyfartal â darllen ac ysgrifennu. Mae'r consortia rhanbarthol yn darparu cymorth uniongyrchol i ysgolion ar lythrennedd a rhifedd, ac er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth iaith a chyfathrebu cynnar ar draws Cymru, rydym wedi buddsoddi bron £900,000 yn rhaglen llafaredd y cyfnod sylfaen ar gyfer 2017-2018. Yn wir, mae adroddiad blynyddol Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn nodi bod y ddarpariaeth lythrennedd wedi gwella ac yn gyffredinol, ei bod wedi effeithio'n gadarnhaol ar safonau disgyblion.
Ar y pwynt hwn, rhaid imi sôn am y gwaith rhagorol a wneir gan addysgwyr y cyfnod sylfaen a'i ddull o addysgu a dysgu. Nododd addysgwyr ei fod yn gryfder sylweddol yn ein hymarfer addysgol cyfredol yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol. Mae ein holl dystiolaeth yn dangos bod y cyfnod sylfaen, lle mae'n cael ei gyflwyno'n dda, yn codi cyrhaeddiad ein plant i gyd—ac fe ddywedaf hynny eto: yr holl blant—gyda gwelliannau yn lefelau presenoldeb cyffredinol ysgolion, llythrennedd, rhifedd ac yn hollbwysig, lles dysgwyr. Mae tystiolaeth yn dangos, ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn benodol, mai ansawdd yr addysgu sydd mor ddylanwadol, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn codi gallu'r rhai sy'n gweithio yn y cyfnod sylfaen, sy'n hanfodol i ddatblygu sgiliau llafaredd y plant. Felly mae hwn yn bwyslais allweddol yng nghynllun gweithredu'r cyfnod sylfaen, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016.
Gan adeiladu ar hyn, a gyda'r nod o ysbrydoli meddyliau ifanc gyda'i gilydd, rydym yn cefnogi rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen gyda hyd at £1 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Roeddwn wedi gobeithio lansio'r rhwydwaith hwnnw ddydd Gwener diwethaf, ond cawsom ein trechu gan y tywydd gwael. Felly, rwy'n lansio hyn yn ffurfiol ar ddiwedd y mis. Bydd y rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaeth addysg, ysgolion a lleoliadau sy'n darparu'r cyfnod sylfaen, ein consortia rhanbarthol, addysg uwch sy'n cyflwyno elfen ymchwil hanfodol i'r rhwydwaith, a sefydliadau trydydd sector. Byddant yn dod ynghyd i rannu arbenigedd, profiad, gwybodaeth ac arferion gorau. Rydym yn trafod dull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio a beth sy'n gweithio'n dda. Hoffwn ddweud nad ydym yn dechrau o sylfaen ofnadwy.
Mae gan Llyr ddiddordeb personol, wrth gwrs, ym mhob dim sy'n ymwneud â gogledd Cymru, ac rwy'n ei annog i ymweld ag Ysgol Gynradd Sandycroft yn sir y Fflint y nododd Estyn fod ganddi ddull gwych o ddatblygu'r sgiliau hyn yn y plant ieuengaf oll. Mae angen inni ddefnyddio'r rhwydwaith i sicrhau bod yr arferion gorau a welwn mewn lleoliadau fel Sandycroft ar gael ledled Cymru.
Bydd rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen a'i blatfform ar-lein yn darparu cefnogaeth allweddol i ddatblygiad proffesiynol. Mae hyn yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol—yr hyn y soniwyd amdano'n gynharach, o ran dysgu proffesiynol. Rwyf wedi'i ddweud yn y ddadl yn gynharach heddiw, ac fe'i dywedaf eto yn awr: ein nod yw codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu gwasanaeth addysg sy'n ffynhonnell i falchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd, ond ni fydd ond cystal â'r bobl sy'n cyflawni hynny mewn ystafelloedd dosbarth a sefydliadau o flaen ein plant.
Fodd bynnag, fe wyddom mai amgylchedd y cartref yw'r ffactor unigol mwyaf mewn cyrhaeddiad addysgol ar ôl ansawdd yr addysgu, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Dyna pam, fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi cymaint o bwyslais arno wrth ddatblygu cyfres o raglenni ar draws llawer o bortffolios. Mae ymgysylltu â rhieni yn hynod o bwysig ac mae'n nodwedd amlwg iawn o raglen llafaredd y cyfnod sylfaen ar gyfer 2017-18.
Soniodd Llyr ein bod wedi lansio ymgyrch genedlaethol ar y cyfryngau ym mis Ionawr eleni o'r enw 'Mae 'na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae', sy'n annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i dreulio amser gyda'u plant. Mae'n eu hannog i siarad â hwy, gwrando arnynt, ac i chwarae. Os darllenwch bapurau academaidd, fe fyddwch yn gwybod bod chwarae yn elfen hanfodol o ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae'n ymwneud â helpu plant i wella eu datblygiad iaith, ac mae'r ymgyrch yn rhoi awgrymiadau ymarferol i rieni allu helpu plant—nid plant sydd eisoes mewn addysg ffurfiol yn unig, Llyr, ond mewn gwirionedd, cynlluniwyd y rhaglen i gynorthwyo rhieni yn y grŵp oedran tair i saith; felly, eu paratoi i fynd i'r ysgol. Fel y gwyddom, awgrymiadau ymarferol sydd eu hangen gan amlaf ar rieni os ydym yn mynd i chwalu peth o'r effaith sy'n pontio'r cenedlaethau ar dlodi, gan fod sgiliau cyfathrebu gwael, yn wir, yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn aml.
Wrth gwrs, ers dod i rym, rwyf wedi dyblu'r swm o arian sy'n mynd tuag at grant datblygu disgyblion blynyddoedd cynnar. Unwaith eto, cymorth ychwanegol yw hwn ar gyfer plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ar y cam cynharaf posibl yn eu gyrfa addysgol. Rydym wedi gallu gwneud hyn er ei bod yn adeg anodd tu hwnt i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol, ond rydym yn cydnabod, fel y gwnaethoch chi, Llyr, y byddai buddsoddi'n gynnar yn awr i gefnogi profiadau addysgol y plant hyn o fudd mawr iddynt hwy ac i gymdeithas yn nes ymlaen yn eu bywydau.
Lywydd dros dro, mae yna ddimensiwn arall hefyd i'r gwaith hwn a wnawn i fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau sy'n arwain at ddatblygiad iaith a chyfathrebu gwael yn gynnar. Bydd ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 uchelgeisiol yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai y nodwyd bod eu sgiliau lleferydd ac iaith wedi'u hoedi. Rwy'n falch o ddweud bod y Ddeddf yn sefydlu rôl newydd, sef swyddog arweiniol ADY blynyddoedd cynnar, yn benodol ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol. Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddynodi unigolyn i gydlynu ei swyddogaethau yn y maes hwn o dan y Ddeddf. Bydd hyn yn golygu y gellir nodi problemau cyfathrebu yn gynnar a gosod camau ymyrryd priodol ar waith. Wrth gwrs, gallai hyn gynnwys atgyfeirio at therapi lleferydd ac iaith. Yn bwysig, bydd y rôl newydd hon yn helpu i greu cysylltiad gwell rhwng ysgolion, cylchoedd meithrin, awdurdodau lleol a'r GIG. Bydd cysylltiad gwell yn arwain at ragor o ymyriadau amserol i bobl ifanc heb y frwydr y mae llawer o rieni, rwy'n cydnabod, yn ei hwynebu o bryd i'w gilydd.
Nid wyf yn bychanu maint y dasg o geisio gwella sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu rhai o'n plant mwyaf difreintiedig. Yn wir, yr wythnos diwethaf, bûm yn siarad ag addysgwyr proffesiynol am eirfa haen 2 a diffyg geirfa haen 2 a sut y gallai hynny rwystro gallu plant tlotach i ateb papurau arholiad ar lefel TGAU—y gallu i ddeall beth y mae gofyn iddynt ei wneud yn y cwestiwn, i allu cael yr eirfa well honno fel eu bod yn gwybod sut i ateb y cwestiwn yn y ffordd orau, yn hytrach na nodi cysyniad allweddol ac ysgrifennu popeth y maent yn ei wybod am y cysyniad allweddol hwnnw am nad ydynt yn deall go iawn beth y mae'r cwestiwn yn ei ofyn. Felly, mae'r rhaglen hon yn rhan o'n hymrwymiad i godi safonau yn nes ymlaen ar daith addysgol person ifanc.
Llyr, nid ydych yn anghywir: mae cost ddynol, gymdeithasol ac economaidd i beidio â gwneud pethau'n iawn. Gwyddom y gall canlyniadau peidio â chefnogi sgiliau iaith cynnar plant arwain at amrywiaeth o ganlyniadau negyddol yn nes ymlaen mewn bywyd, fel rydych wedi nodi heddiw, a dyna pam y mae cymaint o'n rhaglenni a'n hadnoddau'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â hyn. Ac fel y dywedais, er bod cyllidebau dan bwysau, rydym yn rhoi arian tuag at gynnal y rhaglenni hyn, a chredaf y byddwn, drwy wneud hynny, yn trawsnewid cyfleoedd bywyd y plant hyn ac yn ein helpu i ddatblygu fel cenedl.
Diolch yn fawr.
Symudwn ni nawr i'r ail ddadl fer, a galwaf ar Vikki Howells i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Diolch, Lywydd dros dro.
Ar gyfer fy nadl fer, rwyf am ystyried y problemau a achosir gan fancio tir. Byddaf yn archwilio sut y gallai cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer treth ar dir gwag fynd i'r afael â'r rhain, a byddaf yn defnyddio enghreifftiau o fy etholaeth i ddangos beth a allai ymddangos fel egwyddorion aruchel yn ymwneud â pherchnogaeth tir a chyllid. Byddaf hefyd yn rhoi munud o fy amser i David Melding.
Beth yw bancio tir? Un diffiniad o fancio tir yw'r arfer o brynu tir fel buddsoddiad, a'i gadw i'w ddefnyddio yn y dyfodol heb wneud unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer ei ddatblygiad. Mae'r Cambridge Dictionary yn awgrymu beth yw'r cymhelliant sy'n sail i hyn. Disgrifia ei ddiffiniad fancio tir fel ffordd o wneud elw drwy brynu tir. Yna caiff ei werthu am bris uwch o lawer ar gyfer ei ddatblygu. Mae gwefan datblygu eiddo flaenllaw yn nodi bod bancio tir
yn strategaeth a ddefnyddir gan nifer o ddatblygwyr eiddo proffesiynol.
Caiff safleoedd eu bancio fel bod datblygwyr yn sicrhau
bod ganddynt stoc digonol o dir ar gyfer datblygiadau eiddo yn y dyfodol.
Mae pentyrru tir yn y modd hwn
wedi helpu llawer o ddatblygwyr i wneud elw mawr mewn marchnad esgynnol.
Ar raddfa lai, caiff safleoedd tir llwyd ac adeiladau mewn cyflwr adfeiliedig eu cadw gan ddatblygwyr eraill at yr un diben sef elw hapfasnachol.
Gall bancio tir fod yn broffidiol iawn i unigolion a chwmnïau sy'n gallu fforddio gwneud hynny, ond mae ei effaith ehangach ar gymdeithas yn negyddol tu hwnt. I ddechrau, ceir yr egwyddor sylfaenol fod tir y gellid ei ddefnyddio at ddibenion buddiol yn cael ei gronni. Er enghraifft, tai. Rydym wedi cael llawer o ddadleuon yn y Cynulliad hwn ynglŷn â'r prinder tai sy'n ein hwynebu fel gwlad. Rydym yn gwybod y gallai fod angen cynifer â 12,000 o gartrefi newydd arnom bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.3 biliwn dros dymor y Cynulliad hwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae tai cymdeithasol ar gynnydd, er nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym i ateb y galw, ac mae tir sy'n cael ei fancio yn dir nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddiwallu'r angen hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu nad oes unrhyw weithgaredd yn digwydd ar 25 y cant o'r tir a glustnodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer tai. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi nad yw bron 11,000 o gartrefi ledled Cymru y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer yn cael eu hadeiladu. Mae ffigurau gan y Swyddfa Masnachu Teg yn awgrymu nad oes caniatâd cynllunio wedi'i roi i 82 y cant o'r tir a ddelir gan ddatblygwyr. Mae'r rhain yn ffigurau syfrdanol, ond yn fwy na hynny, maent yn ffigurau ag iddynt ganlyniadau dynol iawn, yn yr ystyr fod pobl yn byw mewn tai annigonol neu anaddas, neu hyd yn oed heb gartref o gwbl.
Gall bancio tir atal tir rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu economaidd hefyd, neu ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, neu gyfleoedd hamdden a chwaraeon. Yn ogystal, rhaid inni gydnabod yr effaith ar fywydau pobl sy'n byw wrth ymyl tir wedi'i fancio. Mae hyn yn arbennig o wir lle rydym yn cyfeirio at safleoedd tir llwyd diffaith sy'n gallu bod mewn cyflwr gwirioneddol echrydus.
Cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Tir yn ddiweddar, a buont yn archwilio rhai o effeithiau byw wrth ymyl safleoedd trefol diffaith ar y gymuned, lle nad oes gan y perchennog unrhyw ddiddordeb mewn datblygu mewn gwirionedd. Gall byw drws nesaf i safle diffaith effeithio ar les. Gall achosi salwch corfforol a meddyliol. Gall ysgogi gweithgareddau gwrthgymdeithasol a meithrin patrymau ymddygiad problemus. Yn ogystal â bod yn ddolur llygad, ar ei fwyaf dramatig, gall beri i gymuned chwalu.
Rwyf wedi gweld effaith bancio tir yn uniongyrchol mewn rhannau o Gwm Cynon, yr etholaeth lle y cefais fy magu a lle rwy'n ei gynrychioli bellach. Hoffwn ddyfynnu un o fy etholwyr, sy'n byw wrth ymyl safle o'r fath:
Ar ôl 11 mlynedd o uffern gan berchennog tir wrth ymyl fy eiddo, rwy'n arswydo wrth ddarganfod nad oes unrhyw amddiffyniad i'r rheini sy'n gorfod dioddef problemau diddiwedd sy'n effeithio ar ansawdd bywyd, iechyd, difrod i eiddo a'r effaith ar werth yr eiddo cyfagos.'
Er mwyn tynnu sylw at y pwynt rwy'n ei wneud, hoffwn ddangos ffilm fer yn awr sy'n cynnwys lluniau o bedwar safle o'r fath yn fy etholaeth.
Dangoswyd cyflwyniad clyweledol.
Diolch i Clixx Photography, Aberdâr am eu gwaith yn llunio'r ffilm. Y safle cyntaf, ac mewn llawer o ffyrdd y safle mwyaf amlwg, yw safle Phurnacite. Mae wedi'i leoli yn Abercwmboi, ac mae wedi'i wasgaru dros ardal enfawr o 168 erw. Efallai y bydd y craffaf o'ch plith wedi sylwi ar y cae pêl-droed ar ochr dde'r sgrin ychydig eiliadau wedi i'r ffilm gychwyn. Credaf ei fod yn ddefnyddiol i ddangos maint y tir rydym yn sôn amdano. Mae hefyd yn llythrennol yng nghanol fy etholaeth, twll tebyg i doesen yng nghanol cwm Cynon.
Am 50 mlynedd, tan ei gau a'i ddymchwel ym 1991, cynhyrchodd Phurnacite danwydd di-fwg ar ffurf brics glo. Ar ei anterth, cynhyrchai dros filiwn o'r rhain bob blwyddyn. Arweiniodd newidiadau yn y defnydd at gau'r safle Phurnacite, ond nid cyn iddo achosi difrod annioddefol i iechyd ei weithlu a'i gymdogion, ac i'r amgylchedd lleol. Eto, mae gwaith adfer yn ystod y degawd diwethaf yn golygu bellach ei fod yn safle strategol allweddol ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Trafodwyd cynigion uchelgeisiol ar gyfer tai, cyfleusterau hamdden a seilwaith. Ond 27 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r safle hwn sy'n eiddo preifat yn parhau i fod heb ei ddefnyddio na'i werthfawrogi.
Yr ail safle yn y ffilm yw hen neuadd a sefydliad y gweithwyr yn Abercynon. Perthynai i oes aur clybiau'r gweithwyr, ac fe'i agorwyd yn 1905. Cafodd ei gynllunio a'i adeiladu gan bobl leol, ac roedd ei ffryntiad pedwar llawr yn ymgodi uwchlaw'r nenlinell leol ar un adeg. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel, fel llawer yn y cyfnod hwnnw, ar ôl tân yn y 1990au. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae ei ôl troed yn parhau i fod ynghanol rhwydwaith o strydoedd teras y Cymoedd, fel y dangosai'r fideo. Eto, mae'n eiddo i landlord absennol, nad yw, yn wahanol i'r trigolion lleol, yn gorfod byw wrth ymyl y safle diffaith hwn, ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Ceir sefyllfa debyg yn y trydydd clip, lle mae'r tir segur hefyd yn gorwedd fel amlinelliad sialc ar safle trosedd. Mae ynghanol Aberpennar ar Stryd Rhydychen, gerllaw'r cerflun o Guto Nyth Brân sy'n ganolbwynt sylw. Cafodd adeilad adfeiliedig a hyll ei dynnu i lawr yno oddeutu degawd yn ôl, ond mae'r safle segur yno o hyd. Bu'n rhaid i'r awdurdod lleol osod rheiliau o amgylch y plot hyd yn oed, am resymau diogelwch. Fodd bynnag, mae'r perchennog yn gwrthod gwerthu'r safle, er gwaethaf apeliadau gan gyngor Rhondda Cynon Taf.
Y safle terfynol yn fy fideo yw hen ysbyty Aberdâr. Agorodd yn 1917 ac yn ei dro, rhoddodd driniaeth i filoedd o gleifion bob blwyddyn. Trosglwyddwyd hen safle'r ysbyty ar gyfer ei ddymchwel yn 2012, wrth i'w wasanaethau drosglwyddo i'r Ysbyty Cwm Cynon newydd sbon. Er bod y tir wedi'i glustnodi ar gyfer tai yn y cynllun datblygu lleol ac er iddo gael ei brynu gan ddatblygwr a ddywedodd ei fod yn bwriadu ei ddefnyddio at y diben hwnnw, efallai y byddwch wedi sylwi mai cartref i ddiadell o ddefaid ydyw ar hyn o bryd, a chredaf fod hynny'n eithaf symbolaidd.
Credaf hefyd fod y safleoedd hyn yn amlygu rhai o'r problemau a achosir gan y bancio tir a grybwyllais yn gynharach. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y safle cyntaf, yr hen safle Phurnacite, i ddangos hyn. Yn gyntaf, mae'r ffaith bod y safle'n cael ei gadw yn ei gyflwr presennol yn ei atal rhag cael ei ailddatblygu. Mae'n golygu na ellir adeiladu 500 o gartrefi newydd. Mae'n golygu na ellir mynd ar drywydd cynlluniau i ddatblygu'r tir at ddibenion economaidd ac i ddarparu ysgol gynradd newydd. Mae'n golygu na ellir gwireddu gweledigaeth o gyfleusterau hamdden newydd, gan gynnwys adfer llynnoedd. Ond mae cyflwr gwael y safle hefyd yn cael effaith go iawn ar les y gymuned leol. Rwy'n ddyledus i gynghorydd ward leol, Tina Williams, a ddywedodd wrthyf am rai o'r rhain. Ceir problemau iechyd y cyhoedd yn sgil fermin, ceir heriau seilwaith ar lonydd cefn, ceir problemau gwrthgymdeithasol, gyda thipio anghyfreithlon a thresmasu ar y safle—a'r cyfan yn effeithio ar les trigolion lleol.
Ar ôl amlinellu rhai o broblemau bancio tir, rwyf am droi yn awr at atebion. Yn yr Almaen, mae gwerth tir yn rhewi ar ôl i'r awdurdodau cynllunio bennu ardal ar gyfer adeiladu preswyl. Gall banciau tir cyhoeddus neu gymunedol sy'n caffael tir ar werthoedd presennol gyflawni canlyniadau tebyg. Ond rwyf am awgrymu heddiw fod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer treth ar dir gwag yn cynnig yr ateb sydd ei angen arnom.
Mae hyn yn hynod o gyffrous. Yn gyntaf, bydd y cynlluniau hyn yn caniatáu i ni brofi ein pwerau trethu newydd, i ddyfeisio trethi newydd arloesol yng Nghymru i ddatblygu'r problemau sy'n wynebu ein cymunedau—nid yn unig i godi arian, y bydd croeso iddo bob amser ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd mor annwyl i ni, ond hefyd i newid ymddygiad ac adeiladu Cymru well. Yn ail, dylai'r dreth ar dir gwag weithio i unioni'r union broblemau a ddisgrifiais. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:
'Gall pawb ohonom ni ddychmygu sut y mae'n teimlo gorfod byw yn rhywle lle mae, o'ch cwmpas chi, adeiladau heb eu meddiannu, lle mae tipio anghyfreithlon yn digwydd, a lle nad oes teimlad o gwbl fod cariad at y lle yr ydych yn byw ynddo na dyfodol cadarnhaol.'
Mae mynd i'r afael â diffeithdra trefol a'i wneud yn iawn ar gyfer cymunedau lleol yn rhywbeth y gallai'r dreth hon ei gyflawni. Ar ben hynny, byddai'n lleihau'r cymhellion i brynu tir at ddibenion hapfasnachol, gan ei gwneud yn ddrutach i grynhoi tir, ac annog defnydd effeithlon o dir yn lle hynny. Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn syml. Byddai awdurdodau cynllunio yn sefydlu cofrestr o dir gwag. Ar ôl blwyddyn ar y cofrestr, byddai ardoll yn dod yn daladwy. Byddai awdurdodau cynllunio lleol yn ei chasglu'n flynyddol, a chaiff ei phennu fel canran o werth y safle. Bydd yr ardoll yn 3 y cant yn y flwyddyn gyntaf, ac yn codi i 7 y cant yn yr ail flwyddyn. Bydd y cynllun yn niwtral o ran cost a chaiff arian dros ben ei sianelu ar gyfer adfywio i fynd i'r afael â rhai o'r problemau y mae bancio tir wedi'u hachosi. Yn syml iawn, bydd y dreth dir yn ei gwneud yn ddrutach i ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi fel tir sy'n addas ar gyfer datblygu.
Gwn mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw y bydd y diffiniad o dir gwag yn allweddol i weithrediad y dreth a chyflawni'r effaith polisi. Gwneir ymdrechion i osgoi canlyniadau anfwriadol, a bydd angen gwneud rhagor o waith ar ddiffinio tir gwag yng nghyd-destun Cymru. Bydd angen meddwl hefyd am yr achosion lle mae rhwystrau'n atal datblygwyr rhag gweithredu ar eu cynlluniau. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi ymateb i'r pwynt hwn mewn Cyfarfod Llawn blaenorol. Fel y dywedodd, bydd y dreth ar dir gwag yn daladwy pan na wneir unrhyw ymdrech i wneud defnydd pwrpasol o dir. Ni chaiff ei defnyddio i gosbi pobl sy'n gweithio'n galed i wneud defnydd o'r caniatadau a roddwyd. Ar y pwynt hwn, er na all Ysgrifennydd y Cabinet fod gyda ni heddiw, hoffwn dalu teyrnged i'w weledigaeth a gweledigaeth ei dîm yn bwrw ymlaen â hyn.
Un o gryfderau'r dreth ar dir gwag yw nad ni fyddai'r wlad gyntaf i ddefnyddio hyn fel ateb. Gwn fod Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei defnyddio fel enghraifft yn aml, er fy mod yn nodi sylwadau gan Fianna Fáil y dylid dyblu'r gyfradd Wyddelig. Rhaid inni wneud yn siŵr fod unrhyw dreth yn cael ei gosod ar lefel briodol ar gyfer cyflawni'r newid rydym ei eisiau. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sôn am fynd i ryfel yn erbyn bancwyr tir, a bu trafodaethau ynghylch pwerau 'ei ddefnyddio neu ei golli' yn Llundain yn benodol.
Gyda chonsensws pwerus yn dod i'r amlwg o blaid y syniad o dreth ar dir gwag, mae'n amlwg y gallai gynnig ateb ymarferol i fancio tir a fyddai, yn ei dro, yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y maes hwn fel y'u nodwyd ym maniffesto Llafur Cymru 2016 ac yn sicrhau manteision ar gyfer Cwm Cynon a chymunedau ledled Cymru.
A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am ddefnydd mor rhagorol o'r ddadl fer? Dyma'n union y dylem fod yn ei drafod, ac fe'i gwnaed yn fwy eglur byth gan y ffilm ragorol honno. Mae hwn yn fater pwysig iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae yna gonsensws trawsbleidiol. Mae angen inni adeiladu mwy, fel y mae Vikki wedi amlinellu. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod yna deimlad ledled y DU, a'ch atgoffa bod y Canghellor yn ei ddatganiad y gwanwyn ddoe wedi siarad am waith Syr Oliver Letwin i edrych ar y gyfradd adeiladu yn y farchnad dai? Er bod Oliver Letwin wedi nodi amryw o broblemau—gwe o gyfyngiadau masnachol a diwydiannol, fel y dywedodd, gan gynnwys argaeledd llafur medrus, argaeledd cyfyngedig cyfalaf, weithiau, a seilwaith trafnidiaeth lleol a rhesymau eraill—fe ddywedodd nad oedd yr un o'r rhain i'w gweld yn sylfaenol. Mae gennym broblem sylfaenol iawn o ran cyflenwad tir ac mae angen inni gymryd mwy o reolaeth ar hyn ein hunain. Efallai mai system dreth yw'r ffordd; rwy'n agored i ystyried. Ond pan glustnodir tir ar gyfer adeiladu arno, dylid ei adeiladu'n gyflym, gyda'r angen cymdeithasol enfawr am dai ac fel y dangosodd Vikki mor fedrus, mae'n effeithio'n fawr ar gymunedau. Rydym wedi bod yn aros am 25, 30 mlynedd gyda rhai o'r safleoedd hyn, pan allai fod cartrefi teuluol gwych neu amrywiaeth o gartrefi mewn safleoedd mawr yng Nghwm Cynon. Rwy'n credu o ddifrif fod angen gweithredu, ac rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu yn y maes hwn.
Diolch yn fawr. Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Rwyf am ddiolch yn fawr iawn i Vikki Howells am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac am gyfraniad David Melding, y cytunaf yn llwyr ag ef. Mae dal tir heb unrhyw reswm heblaw gwneud elw o'r cynnydd yng ngwerth tir yn amlwg yn annerbyniol o ystyried prinder tir da ar gyfer codi tai a nifer o ddefnyddiau buddiol eraill a nodwyd gan yr Aelodau. Heddiw mae'r ddadl wedi amlygu rhai o ganlyniadau gadael i dir y gellid ei ddefnyddio'n gynhyrchiol fod yn segur. Nid yn unig y mae'n ein rhwystro rhag gwireddu'r cyfle y gallai'r tir ei gynnig ar gyfer darparu tai mawr eu hangen neu i gyfrannu at ffyniant economaidd, ond fe all, fel y dangosodd ffilm Vikki yn fedrus, beri malltod pellach i gymunedau, gan gyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal ag afiechyd meddyliol a chorfforol i'r rhai sy'n byw gerllaw.
Nid yw'r broblem rydym wedi'i thrafod heddiw yn unigryw i Gymru, fel y mae pawb wedi'i nodi. Mae'n broblem ar draws y DU, ac yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y Prif Weinidog newidiadau i system gynllunio Lloegr er mwyn gwella'r cyflenwad o dai. Nid yw cynigion y DU yn mynd mor bell â systemau ychwanegol penodol, ond byddwn yn monitro datblygiadau i roi ystyriaeth lawn i unrhyw effeithiau trawsffiniol posibl. Fe wnaeth y Canghellor ymhelaethu ychydig ddoe ar rai o'r pethau a ddywedodd yn ogystal.
Yng Nghymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wrthi'n ymgynghori ar ddrafft diwygiedig o bolisi cynllunio cenedlaethol, sy'n ceisio sicrhau bod materion hyfywedd a'r gallu i gyflawni yn cael eu hymgorffori'n fwy effeithiol ar ddechrau proses y cynllun datblygu lleol, rhywbeth y mae gwaith ymchwil diweddar wedi'i nodi fel ffactor allweddol wrth i safleoedd gael eu cyflwyno ar gyfer eu datblygu. Ond rydym hefyd yn mynd ymhellach i edrych ar ysgogiadau y tu hwnt i bolisi cynllunio er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae datganoli pwerau treth yn gyfle gwirioneddol i ni feddwl yn arloesol ynglŷn â sut y gellir defnyddio treth i'n helpu i gyflawni ein hamcanion ar gyfer Cymru. Gellir gwneud hyn drwy newid ymddygiad, codi refeniw i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, neu'r ddau. Mae trethiant yn ddull pwysig, ac mae'n iawn inni ystyried yn awr sut i wneud y defnydd gorau o'n pwerau newydd dros drethiant.
Gyda'r trethi Cymreig cyntaf yn cael eu casglu o fis Ebrill ymlaen, rydym wedi rhoi llawer o amser ac ystyriaeth i sicrhau bod y trethi hyn yn diwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru. Wrth inni ddatblygu ein system drethu, mae angen inni edrych y tu hwnt i'r cyfleoedd y mae'r trethi datganoledig cyntaf hyn yn eu darparu. Dyna pam y dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid sgwrs gyda'r cyhoedd yng Nghymru y llynedd ynghylch trethi newydd yng Nghymru. Ers dechrau'r sgwrs honno gyda dadl yn y Siambr hon, fe'n calonogwyd gan ba mor eang yr ymgysylltwyd â phobl Cymru, a nifer y syniadau newydd ar gyfer trethi newydd a ddaeth i law.
Un o'r syniadau hynny oedd treth ar dir gwag, a'r mis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y byddai'n bwrw ymlaen â'r syniad hwn i roi prawf ar fecanwaith Deddf Cymru 2017 ar gyfer datganoli trethi newydd, a gwn ei fod wedi cael nifer o sgyrsiau gyda chi am hynny hefyd, Vikki. Drwy gynyddu cost dal gafael ar dir sy'n addas ar gyfer datblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i newid cydbwysedd cymhellion i annog datblygu. Diben treth ar dir gwag fyddai ysgogi newid ymddygiad, yn hytrach na chreu refeniw ychwanegol. Wrth geisio sicrhau bod tir gwag yn cael ei ddatblygu, mae'n iawn inni archwilio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni, gan gynnwys treth.
Fel y nododd Vikki, yn ddiweddar cyflwynodd Gweriniaeth Iwerddon ardoll ar safleoedd gwag i fynd i'r afael â'r problemau rydym ninnau hefyd am fynd i'r afael â hwy yng Nghymru, ac mae'n darparu pwynt cyfeirio defnyddiol ar gyfer sut y gallai treth ar dir gwag weithio yng Nghymru. O dan y model hwn, pan fydd safle cymwys wedi bod yn wag am flwyddyn, caiff ei gofrestru gan yr awdurdod lleol perthnasol. Os na chyflawnir unrhyw ddatblygu ystyrlon wedyn o fewn 12 mis, gosodir yr ardoll a'i chasglu bob blwyddyn mewn perthynas â'r flwyddyn flaenorol nes y bydd y datblygiad yn dechrau. Yn achos y weriniaeth, mae'r ardoll ar safleoedd gwag yn daladwy ar dir a nodwyd fel tir sy'n addas ar gyfer datblygu tai ac adfywio. Wrth ddatblygu treth ar dir gwag yng Nghymru, byddwn eisiau archwilio sut y gallai helpu i gyflawni amcanion ym maes tai ac adfywio. Yn wir, Vikki, rwy'n meddwl eich bod wedi crybwyll amcanion hamdden a thwristiaeth yn ogystal, ac rydym yn bendant yn awyddus i edrych ar y rheini.
Nid ydym am gosbi'r rheini sy'n mynd ati i ddatblygu o fewn amserlenni'r broses arferol, na'r rhai sy'n cael eu hatal rhag datblygu gan bethau megis halogi. Rydym yn mynd ati'n benodol i ddatrys y broblem rydym wedi ei thrafod heddiw sef tirfeddianwyr yn dibynnu ar y farchnad i godi prisiau ac ymelwa ar gynnydd heb ei ennill yng ngwerth tir. Er mwyn cyflawni ein hamcanion polisi, bydd angen inni ystyried yn ofalus sut y byddai gosod a strwythuro treth o'r fath, ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio dull o weithredu trethiant a fydd yn cymell rhag ymddygiad nad ydym ei eisiau heb ganlyniadau anfwriadol.
Fodd bynnag, ni allwn ystyried cyflwyno treth ar dir gwag heb i'r pwerau gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn gyntaf. Yn gwbl briodol, nid yw proses Ddeddf Cymru yn gyflym nac yn hawdd. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys—mae llawer o ysgrifenyddion yma—ynglŷn â sut y bydd y broses yn gweithio'n ymarferol. Felly, bydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i gychwyn y broses honno. Pan fydd cymhwysedd ar gyfer treth ar dir gwag wedi'i ddatganoli, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn parhau wedyn i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion polisi manwl i'r Cynulliad hwn wneud gwaith craffu arnynt.
Nid yw pob ymddygiad bancio tir yn gysylltiedig â safleoedd gwag. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cychwyn ar drafodaeth ehangach am dreth gwerth tir a pha un a ellid cymhwyso'r ffordd hon o godi refeniw i drethi eiddo sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru—er enghraifft, trethi lleol. Mae nifer o wledydd eraill wedi arbrofi gyda threthi lleol yn seiliedig ar ryw fesur o werth tir, ond yn y gorffennol, mae'r goblygiadau gweinyddol wedi atal cynnydd.
Rhaid imi ddweud nad yw'r tir yn aml yn wag yn fy etholaeth yn Abertawe mewn gwirionedd, ond mae'n cynnwys adeiladau sydd wedi cael eu gadael i ddirywio heibio i'r pwynt lle y gellir eu hadnewyddu ac maent yn ddolur llygaid pur ac yn llawn cymaint o broblem â thir sy'n wag go iawn ond bod nifer o broblemau eraill ynghlwm wrthynt. Felly, mae gennym nifer fawr o fuddsoddwyr preifat sydd wedi buddsoddi mewn adeiladau hen a hanesyddol weithiau sy'n eu gadael fel y maent wedyn, ac mae un adeilad o'r fath yng nghanol dinas Abertawe ac mae wedi bod yn adfail llwyr ers nifer o flynyddoedd, gyda'r holl stwff yn tyfu allan ohono, ac mae'r buddsoddwr yn gwrthod gwerthu ar y sail y bydd, yn y pen draw, yn cynyddu yn ei werth. Felly, mae gennyf ddiddordeb etholaethol mewn gweld sut y gallwn ymestyn hynny i gynnwys dod ag adeiladau adfeiliedig yn ôl i ddefnydd buddiol hefyd.
Felly, yn ystod oes y Cynulliad, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn mynd i brofi dichonoldeb treth gwerth tir fel dewis posibl yn lle'r defnydd o ardrethi annomestig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cyhoeddi asesiad o hyn i lywio'r ddadl ehangach cyn y Cynulliad nesaf ac wedi hynny. Fel y dywedodd David Melding, mae dadleuon fel hyn yn sicrhau bod syniadau o'r fath yn cael eu cyflwyno ar y llawr lle y gallwn edrych arnynt o ddifrif. Diolch.
Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:28.