Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
28/02/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Galw'r Aelodau i drefn.
I call Members to order.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf, Angela Burns.
The first item on our agenda this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services, and the first question is from Angela Burns.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth ar gyfer y sector gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin? OAQ51816
1. Will the Cabinet Secretary make a statement on support for the voluntary sector in Carmarthenshire? OAQ51816
Through the third sector support Wales grant in 2017-18, we provided £176,217 to the Carmarthenshire Association of Voluntary Services in core funding, to help local organisations with fundraising, good governance, safeguarding and volunteering. I have already committed to the same amount for 2018-19.
Drwy grant cefnogi trydydd sector Cymru yn 2017-18, darparwyd £176,217 gennym i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr mewn cyllid craidd, i gynorthwyo sefydliadau lleol gyda’r gwaith o godi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i'r un swm yn 2018-19.
Thank you for your response. As I'm sure you know, there are some extraordinarily community-minded organisations based in Carmarthenshire that rely very, very heavily on volunteers—organisations from CAVS, to Homestart Carmarthenshire, ward befrienders at Glangwili hospital, animal rescue sites, home visiting volunteers. And they've really stepped up to the plate, especially at times like this when public funds are tighter. What could you as the Welsh Government do to encourage more people into volunteering, not only to help these extraordinary organisations, and to give them the numbers and the arms and legs that they need to go about doing what they do, but also because volunteering is so good for the person who's doing the volunteering? It helps to combat some of the ills we talk about, like isolation and loneliness, it's good for the soul, and it's really good for the organisations. And I just wonder what help you can give to encourage more people to do voluntary work, particularly younger people—and I don't mean necessarily the teenagers, but the 30, 40, 50-year-old bracket, where there's a huge gap.
Diolch am eich ymateb. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, ceir rhai mudiadau gydag agwedd gymunedol iawn yn Sir Gaerfyrddin sy'n dibynnu’n fawr iawn ar wirfoddolwyr—sefydliadau o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, i Home-Start Sir Gaerfyrddin, cyfeillion ward yn Ysbyty Glangwili, safleoedd achub anifeiliaid, gwirfoddolwyr sy'n ymweld â'r cartref. Ac maent wedi camu i’r adwy, yn enwedig mewn cyfnod fel hwn pan mae llai o arian cyhoeddus ar gael. Beth y gallech chi fel Llywodraeth Cymru ei wneud i annog mwy o bobl i wirfoddoli, nid yn unig er mwyn cynorthwyo'r sefydliadau arbennig hyn, a darparu’r niferoedd a'r breichiau a'r coesau y mae eu hangen arnynt er mwyn gwneud yr hyn a wnânt, ond hefyd gan fod gwirfoddoli mor dda i'r unigolyn sy'n gwirfoddoli? Mae'n gymorth i frwydro yn erbyn rhai o’r problemau rydym yn sôn amdanynt, fel unigedd ac unigrwydd, mae'n dda i'r enaid, ac mae'n dda iawn i'r sefydliadau. A tybed pa gymorth y gallwch ei roi i annog mwy o bobl i wneud gwaith gwirfoddol, yn enwedig pobl iau—ac nid wyf yn golygu pobl yn eu harddegau o reidrwydd, ond pobl 30, 40, 50 oed, lle y ceir bwlch enfawr.
Can I say, Presiding Officer, how much I endorse the sentiments that have been described by the Member? I think all of us—it's one thing that unites, I think, Members on all sides of the Chamber here, and Members who represent all parts of this country—recognise the importance of volunteering, for the individual concerned, as has been outlined, the community, and different organisations, many of which simply wouldn't survive without volunteering and the skills, the energy, and the creativity that volunteers bring to this role.
The Welsh Government seeks to provide funding, clearly, for a number of different third sector organisations. But it's my view, and I think it will be the view of the Member also, that Welsh Government needs to go further than that. We need to create the opportunities for a holistic approach to policy, which means volunteers and volunteering is at the heart of what we do in terms of social prescribing, which the Member has described, and in terms of fostering and engendering a sense of community as well. And I hope that one of the areas that we can discuss—I met the Welsh Council for Voluntary Action this morning, and I'm speaking at Gofal3 event next week, and at the third sector partnership council next week as well. And what I will seek to do is to move beyond the conversation about funding, into a conversation about the sort of society and the sort of communities we want to protect and to invest in in Wales, and that means a holistic approach to policy that sees volunteering as a part of not just how we deliver services, but a part of what our communities actually will be in the future. So, I very much endorse the sentiments that have been made.
Lywydd, a gaf fi ddweud cymaint rwy’n ategu'r hyn a ddisgrifiodd yr Aelod? Credaf fod pob un ohonom—credaf mai dyma un peth sy'n dod ag Aelodau o bob ochr o’r Siambr hon ynghyd, ac Aelodau sy'n cynrychioli pob rhan o'r wlad—yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddoli, i'r unigolyn sy’n gwirfoddoli, fel y nodwyd, i'r gymuned, a'r gwahanol sefydliadau, a byddai llawer ohonynt yn methu dal ati heb waith gwirfoddol a sgiliau, egni a chreadigrwydd y gwirfoddolwyr sy'n cyflawni'r rôl hon.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddarparu cyllid, yn amlwg, i nifer o wahanol sefydliadau yn y trydydd sector. Ond yn fy marn i, a chredaf mai dyma fydd barn yr Aelod hefyd, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy na hynny. Mae angen inni greu'r cyfleoedd ar gyfer sicrhau ymagwedd gyfannol at bolisi, sy'n golygu bod gwirfoddolwyr a gwirfoddoli wrth wraidd yr hyn a wnawn o ran presgripsiynu cymdeithasol, fel y disgrifiodd yr Aelod, ac o ran meithrin ac ennyn ymdeimlad o gymuned hefyd. A gobeithiaf mai un o'r meysydd y gallwn eu trafod—cyfarfûm â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru y bore yma, a byddaf yn siarad yn y digwyddiad Gofal3 yr wythnos nesaf, ac yng nghyngor partneriaeth y trydydd sector yr wythnos nesaf hefyd. A’r hyn y byddaf yn ceisio ei wneud yw symud y tu hwnt i'r sgwrs am gyllid, at sgwrs ynglŷn â’r math o gymdeithas a'r math o gymunedau rydym am eu diogelu a buddsoddi ynddynt yng Nghymru, a golyga hynny ymagwedd gyfannol at bolisi sy’n ystyried gwirfoddoli nid yn unig fel rhan o'r modd rydym yn darparu gwasanaethau, ond fel rhan o'r hyn fydd ein cymunedau yn y dyfodol. Felly, rwy'n ategu'r hyn a ddywedwyd.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dyrannu i awdurdodau lleol i wella arwynebau ffyrdd? OAQ51802
2. Will the Cabinet Secretary provide an update on the resources the Welsh Government has made available to local authorities to improve road surfaces? OAQ5180
I am providing £30 million in this financial year across all local authorities for the refurbishment of local roads. Details have been shared with local authorities.
Rwy'n darparu £30 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar draws pob awdurdod lleol ar gyfer adnewyddu ffyrdd lleol. Mae’r manylion wedi cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol.
Thank you, Cabinet Secretary. Earlier this month, you announced that the Welsh Government was providing councils in Wales with £30 million to improve the state of roads in their areas, and this measure was indeed widely welcomed from all corners of the political spectrum. Councillor Anthony Hunt, Welsh Local Government Association spokesman for finance and resources stated, 'We will look forward to continuing to have constructive and open dialogue to find sustainable responses.' Cabinet Secretary, based on the established highway allocation formula, what amount of moneys will Islwyn's Caerphilly County Borough Council receive from the £30 million investment, and what future opportunities are open to the Welsh Government to directly invest in the Welsh road network?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddoch chi fod Llywodraeth Cymru yn darparu £30 miliwn i gynghorau yng Nghymru er mwyn gwella cyflwr y ffyrdd yn eu hardaloedd, a chroesawyd hyn gan bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyllid ac adnoddau, 'Edrychwn ymlaen at barhau i drafod yn adeiladol ac yn agored er mwyn canfod atebion cynaliadwy.' Ysgrifennydd y Cabinet, yn seiliedig ar y fformiwla ddyrannu sefydledig ar gyfer priffyrdd, faint o arian y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Islwyn yn ei dderbyn o'r buddsoddiad o £30 miliwn, a pha gyfleoedd a fydd ar gael yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'n uniongyrchol yn rhwydwaith ffyrdd Cymru?
Presiding Officer, to answer the two questions directly, Caerphilly County Borough Council will receive an additional £1.5 million to spend on roads through this scheme, and responsibility for general road improvement, road spending and road maintenance, of course, falls to my colleague the Cabinet Secretary for economy and infrastructure.
But can I go a bit further than that in answering this question? I think it's important that we do support local authorities in ensuring that our local road network is fit for purpose. We all know that there are some significant problems in all parts of the country, and that is why, when we had the opportunity to do so, we found the £30 million in capital, available immediately to all local authorities, distributed on a fair basis, to ensure that local authorities have the resources, as well as the responsibility to be able to invest in a stable and safe road network. We've worked with Anthony Hunt and his colleagues to ensure that has been made available immediately, and I look forward to local authorities continuing a conversation with us about how we can work together in the future to maintain a safe and stable local road network.
Lywydd, i ateb y ddau gwestiwn yn uniongyrchol, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn £1.5 miliwn yn ychwanegol i wario ar ffyrdd drwy'r cynllun hwn, ac mae gwelliannau cyffredinol i ffyrdd, gwariant ar ffyrdd a chynnal a chadw ffyrdd, wrth gwrs, yn gyfrifoldebau i fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a’r seilwaith.
Ond a gaf fi fynd ychydig ymhellach wrth ateb y cwestiwn hwn? Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cefnogi awdurdodau lleol wrth sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd lleol yn addas at y diben. Gŵyr pob un ohonom fod problemau sylweddol ym mhob rhan o'r wlad, a dyna pam y darparwyd £30 miliwn gennym mewn cyfalaf, pan gawsom y cyfle i wneud hynny, i’r holl awdurdodau lleol, wedi ei ddosbarthu’n deg i sicrhau bod gan awdurdodau lleol adnoddau, yn ogystal â chyfrifoldeb i allu buddsoddi mewn rhwydwaith ffyrdd sefydlog a diogel. Rydym wedi gweithio gydag Anthony Hunt a'i gydweithwyr i sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael ar unwaith, ac edrychaf ymlaen at sgwrs barhaus rhyngom ni a’r awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallwn gydweithio yn y dyfodol i gynnal rhwydwaith ffyrdd lleol diogel a sefydlog.
Cabinet Secretary, given that you've got those very useful figures to hand in front of you, it would be remiss of me not to ask about my own local authority, at the risk of being parochial. Monmouthshire County Council—what share are they going to receive of that £30 million? We've heard how much Caerphilly will receive, so if you could update us on that, that would be great. And, also, in terms of the wider sharing out of that money, how do you envisage it being divided between urban and rural authorities, because there's clearly a large number of rural roads that are falling into disrepair and facing closure, and it's a lot more costly to try and maintain some of those roads in some of our rural authorities across Wales?
Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod y ffigurau defnyddiol iawn hynny gennych o'ch blaen, byddwn ar fai pe na bawn yn eich holi ynglŷn â fy awdurdod lleol fy hun, os caf fentro bod yn blwyfol. Cyngor Sir Fynwy—pa gyfran y byddant hwy yn ei derbyn o'r £30 miliwn hwnnw? Rydym wedi clywed faint y bydd Caerffili yn ei dderbyn, felly os gallwch roi diweddariad inni ar hynny, byddai hynny'n wych. A hefyd, o ran rhannu’r arian hwnnw yn ehangach, sut rydych yn rhagweld y bydd yn cael ei rannu rhwng awdurdodau trefol a gwledig, oherwydd mae'n amlwg fod nifer fawr o ffyrdd gwledig mewn cyflwr gwael ac mewn perygl o gau, ac mae'n llawer drytach ceisio cynnal rhai o'r ffyrdd hynny yn rhai o'n hawdurdodau gwledig yng Nghymru?
Presiding Officer, nobody's surprised that Nick Ramsay's used the opportunity to ask the question he has. Members may be more surprised that I know the answer. Monmouthshire County Council will receive £921,218 as a consequence of this grant. The £30 million capital grant has been distributed using the transport element of the general capital funding formula, and this formula has been agreed with local government. I will say in answer to the question that I think it's important to ensure that these moneys are distributed fairly between urban and rural, north and south, according to the needs of the area, and I hope that the funding formula that we have available to us does exactly that.
Lywydd, nid oes neb yn synnu bod Nick Ramsay wedi defnyddio'r cyfle i ofyn y cwestiwn a ofynnwyd ganddo. Efallai y bydd yn fwy o syndod i’r Aelodau fy mod yn gwybod yr ateb. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn derbyn £921,218 o ganlyniad i'r grant hwn. Dosbarthwyd y grant cyfalaf o £30 miliwn gan ddefnyddio elfen drafnidiaeth y fformiwla gyffredinol ar gyfer cyllid cyfalaf, a chytunwyd ar y fformiwla hon gyda llywodraeth leol. Hoffwn ddweud wrth ateb y cwestiwn fy mod yn credu ei bod yn bwysig sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu'n deg rhwng ardaloedd trefol a gwledig, rhwng y gogledd a'r de, yn ôl anghenion yr ardal, a gobeithiaf y bydd y fformiwla ariannu sydd ar gael inni yn gwneud yn union hynny.
Cabinet Secretary, the backlog of road repairs is having a detrimental effect on the people in my region, South Wales West. One of my constituents is unable to take his wheelchair-bound wife out because of the state of the pavements around their home. When he called the council, they simply said that he was at the bottom of a very long list of repairs. So, how does your Government plan to tackle the backlog of repairs, which are trapping people in their homes, damaging their vehicles and resulting in personal injury?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ôl-groniad o waith atgyweirio ffyrdd yn effeithio'n niweidiol ar bobl yn fy rhanbarth, Gorllewin De Cymru. Mae un o fy etholwyr yn methu mynd â'i wraig sydd mewn cadair olwyn allan o’u cartref oherwydd cyflwr y palmentydd o amgylch eu cartref. Pan gysylltodd â’r cyngor, dywedwyd wrtho ei fod ar waelod rhestr hir iawn o atgyweiriadau. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith atgyweirio, sy'n cau pobl yn eu cartrefi, yn niweidio eu cerbydau ac yn arwain at anaf personol?
We have made this money available to all local authorities immediately in order to address those sorts of issues. Where there are specific issues, I would invite the Member to take that up in writing, either with the local authority or with us directly. But I will say also to the Member that the reason that these backlogs and these funding problems are being faced by local authorities across Wales is because of an austerity programme that is being delivered by a UK Conservative Government, and your party believes that they should go further and reduce funding still further. I disagree with them, and I disagree with you.
Rydym wedi sicrhau bod yr arian hwn ar gael i’r holl awdurdodau lleol ar unwaith er mwyn mynd i'r afael â phroblemau o’r fath. O ran materion penodol, buaswn yn argymell bod yr Aelod yn ysgrifennu at ei awdurdod lleol neu atom ni yn uniongyrchol, yn nodi'r materion hyn. Ond dywedaf wrth yr Aelod hefyd fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu’r ôl-groniad a’r problemau ariannu hyn o ganlyniad i raglen o gyni y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei gweithredu, ac mae eich plaid yn credu y dylent fynd ymhellach a chyfyngu ar gyllid eto fyth. Rwy'n anghytuno â hwy, ac rwy'n anghytuno â chi.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Questions now from the party spokespeople. The Plaid Cymru spokesperson, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Rydw i wedi cael cyfle i ddarllen eich blog chi, lle rydych chi'n trafod diwygio llywodraeth leol, ac roeddwn i'n falch iawn, yn y lle cyntaf, eich bod chi'n crybwyll mai ymateb ydyw, o ryw fath beth bynnag, i gwestiwn y gwnes ei ofyn yn fan hyn i chi ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â'r math o steil roeddech chi am ei fabwysiadu pan yn delio efo llywodraeth leol. Ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi eich ysgogi chi i feddwl, o leiaf, am hynny i gyd.
Mae'r ddadl am ddiwygio llywodraeth leol yn un sydd wedi bod yn danllyd, ac yn un sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd, ond heb unrhyw ddatrysiad. O ddarllen eich blog chi, mae'n swnio fel eich bod chi'n barod i roi unrhyw gynnydd gafodd ei wneud gan eich rhagflaenydd chi, Mark Drakeford, o'r neilltu, ac yn meddwl dechrau eto unwaith eto. Felly, a gaf i ofyn: yn y pedair blynedd diwethaf, wrth i'ch Llywodraeth chi geisio diwygio llywodraeth leol, beth yn union sydd wedi cael ei gyflawni?
Thank you very much. I have had an opportunity to read your blog, where you discuss local government reform, and I was very pleased initially that you mentioned that the blog was some sort of response to a question that I posed to you in this place a few weeks ago in terms of the kind of style you are going to adopt in dealing with local authorities. I'm very pleased that I have inspired you to at least think about that.
The debate about local government reform has been quite fiery at times, and has been going on over many years without any resolution. In reading your blog, it appears that you are willing to put any progress made by your predecessor, Mark Drakeford, to one side, and that you are thinking of starting the whole process once again. So, can I ask: over the past four years, as your Government has attempted to reform local government, what exactly has been achieved?
Llywydd, rwy'n falch iawn bod fy mlog wedi plesio o leiaf un Aelod fan hyn, ac rwy'n falch iawn ei bod hi wedi'i ddarllen e o leiaf. A gaf i ddweud hyn: beth roeddwn i'n trio'i ddweud yr wythnos diwethaf pan oeddwn i'n ysgrifennu hynny, oedd trio gosod, ac ailosod, perthynas fwy aeddfed rhwng rhannau gwahanol o'r ffordd rydym ni'n llywodraethu Cymru, ac nid wyf i'n credu bod hynny wedi bod mewn lle drwy'r amser yn ystod y degawd diwethaf.
Nid yw'n wir fy mod i wedi gwneud unrhyw benderfyniad o'r fath y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio. Mi wnaeth llywodraeth leol eu hunain dweud nad oeddent eisiau cymryd a symud ymlaen gyda'r fath awgrymiadau a chynigion roedd fy rhagflaenydd wedi eu gwneud ynglŷn â gweithio'n rhanbarthol. Nid fy mhenderfyniad i oedd hwnnw, ond penderfyniad llywodraeth leol oedd hwnnw ac roedd aelodau o lywodraeth leol wedi trafod hynny yn eu seminar yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Felly, wrth ysgrifennu hynny, roeddwn i'n ymateb i beth roedd llywodraeth leol yn ei ddweud ac nid yn dweud beth roeddwn i'n ei ddweud.
Llywydd, I'm very pleased that my blog has pleased at least one Member here, and I'm very pleased that she's read it, at least. May I say that what I was trying to say last week when I wrote the blog was to try and establish, and re-establish, a more mature relationship between various governmental parts of Wales, and I don't think that that has been the case over the past decade at all times.
It's not true that I have made any kind of decision, as the Member suggested. Local government itself said that it didn't want to progress with the kind of proposals that my predecessor made as regards regional collaboration. That was not my decision; that was local government's decision, and members from local government did discuss that at their seminar in Cardiff last November. So, in writing the blog, I was responding to the stance taken by local government and not saying what my view was.
Wel, mae'n swnio o hynny mai'r unig beth sydd wedi cael ei gyflawni ydy gwastraffu miloedd o bunnoedd o bres trethdalwyr ac amser swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad a chynigion ar ddeddfu a fydd rŵan yn cael eu hanwybyddu. O leiaf efo'r Papur Gwyn diweddaraf, mi oedd yna ffordd ymlaen nad oedd yn gorfodi awdurdodau i uno. A gaf i ofyn i ddechrau pa drafodaethau a gafwyd yn y Cabinet cyn i chi benderfynu rhoi'r gorau i ddilyn gwaith eich rhagflaenydd chi? Wedyn, a fedrwch chi egluro i ni heddiw beth ydy'r camau gweithredol nesaf, felly? A fyddwch chi rŵan yn rhoi'r gorau'n llwyr i'r Papur Gwyn a chanlyniadau'r ymgynghoriad a ddaeth yn sgil hwnnw? Beth fydd yr amserlen ar gyfer y tro pedol yma? Ac a fyddwch chi'n creu map newydd ar gyfer uno cynghorau? Ai dyna ydy'r bwriad? Ac os mai hynny ydy'r bwriad, sut ydych chi'n mynd i lwyddo lle methodd Leighton Andrews?
Well, from that it appears that the only thing that has been achieved is the waste of thousands of pounds of taxpayers' money and the time of Welsh Government officials in holding consultation upon consultation, with proposals on legislation that will now be ignored. At least with the most recent White Paper, there was a way forward that didn't require local authority mergers. So, can I ask you first of all what negotiations took place in Cabinet before you decided to put aside the work of your predecessor? Can you also explain to us today what the next action points are? Will you now be turning your back entirely on the White Paper and the outcomes of the consultation related to that? What will be the timetable for this u-turn? Will you create a new map for authority mergers? Is that the intention? If that is the intention, how will you succeed where Leighton Andrews failed?
Mi fuaswn i'n awgrymu bod yr Aelod yn ailddarllen y blog, efallai, a darllen tu hwnt i'r paragraffau cyntaf, am beth roeddwn yn trio ei ddweud yn fanna. Beth roeddwn i'n trio'i ddweud oedd bod eisiau perthynas tipyn bach yn fwy aeddfed rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth a hefyd trio symud i ffwrdd o'r math o drafodaeth yr ydym ni wedi ei chael yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Roeddwn i'n gweld eich bod yn darllen eich ail gwestiwn. Mi fuasai wedi bod yn rhwyddach petai chi wedi gwrando ar yr ateb i'r cwestiwn cyntaf, achos mi ddywedais i yn glir fanna nad fi oedd wedi rhoi o'r neilltu gynigion fy rhagflaenydd. Llywodraeth leol oedd wedi gwneud hynny ac felly, oherwydd hynny, mae'n rhaid i fi ailystyried safbwynt llywodraeth leol ac rydw i'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Pan fyddaf i wedi cael amser i ystyried y ffordd ymlaen, byddaf yn dod â datganiad i'r Cynulliad.
I would suggest that the Member re-reads the blog, and reads beyond the first paragraphs, to see what I was trying to say. What I was trying to say was that we need a slightly more mature relationship between the various tiers of local government and to try to move away from the kind of discussion that we have had over the past few years.
I saw that you were reading your second question. It might have been easier had you listened to the answer to your first question, because I stated clearly there that I didn't put my predecessor's proposals to one side. That was done by local government and, because of that, I have to reconsider the local government stance on this. Having had time to consider the way forward, I will bring a statement to the Assembly.
Rydw i'n derbyn yn llwyr mai llywodraeth leol sydd wedi dweud wrthych chi, ac rydw i'n dyfynnu o'r blog:
I entirely accept that it's local government who have told you, and I quote from the blog:
'the inherited policy of mandated regional working wasn't a runner'.
roedd y polisi a etifeddwyd o weithio rhanbarthol gorfodol yn fethiant o’r cychwyn.
Mae hynny'n awgrymu i fi nad oedd e'n runner iddyn nhw. Rydych chi'n cytuno efo nhw, ac felly rydych chi'n mynd i roi'r gorau i'r polisi yna. Dyna oedd y polisi yn y Papur Gwyn. Felly, nid wyf i'n deall beth rydych chi'n drio ei ddweud yn union. Mi fuasai cael eglurder yn ddefnyddiol iawn. Felly, a fedrwch chi gadarnhau heddiw yma a fydd eich gweledigaeth chi, ar sail beth rydych chi wedi ei glywed gan lywodraeth leol, yn cynnwys cydweithio rhanbarthol mandadol fel oedd yn y cynigion gwreiddiol?
That suggests to me that it wasn't a runner for them, and you agree with them, and you're going to turn your back on that policy. That was the policy in the White Paper, so I don't quite understand what you're trying to say. Having clarity would be most useful. So can you confirm today whether your vision, on the basis of what you've heard from local government, will include regional collaboration on a mandatory basis as outlined in the original proposals?
Wel, yn amlwg, mae llywodraeth leol wedi dweud nad ydynt eisiau symud i gyfeiriad felly ac rydw i'n derbyn hynny. Nid wyf i'n mynd i drio gorfodi llywodraeth leol i symud i gyfeiriad felly os nad hynny yw beth maen nhw'n moyn gwneud, ac maen nhw wedi bod yn glir nad ydynt eisiau hynny. So, mae'n rhaid inni wedyn ystyried ble rydym ni. Wrth alw am drafodaeth fwy aeddfed, beth rydw i wedi bod yn trio gwneud oedd trafod gyda llywodraeth leol pa fath o bwerau sydd eu hangen ar lefel fwy lleol ac rydym ni wedi cael ymateb i hynny. Wedyn, rydym ni'n ystyried sut rydym ni'n gweithredu polisïau felly. Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn gweld nid jest y blog i gyd, ond hefyd beth a ddywedwyd gan lywodraeth leol ym mis Tachwedd. Roeddent wedi bod yn glir nad oedd y system—y strwythur—bresennol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Roeddent yn glir ar hynny. Roeddent hefyd yn glir nad oeddent eisiau symud yn y cyfeiriad roedd Llywodraeth Cymru eisiau iddyn nhw symud iddo fe. So, roedden nhw'n glir ar ddau beth ym mis Tachwedd.
So, mae'n rhaid inni nawr ystyried hynny, a beth liciwn ei wneud yw cael amser i ystyried ac i edrych ar ba opsiynau sydd gyda ni cyn imi symud ymlaen. Roeddwn i'n trio, yn fy mlog, ymestyn y fath o drafodaeth rydym ni wedi'i chael. Efallai'r prynhawn yma nad ydw i wedi llwyddo—nid ydw i'n gwybod, ond liciwn i gael trafodaeth tipyn bach yn fwy eang amboutu lle Llywodraeth Cymru, ein llywodraethau ni ac wedyn pa fath o bwerau sy'n angenrheidiol i lywodraeth leol eu cael ac wedyn symud ymlaen i edrych ar strwythur a fydd yn ein galluogi ni i gynnal gwasanaethau o safon a hefyd sicrhau atebolrwydd democrataidd ar lefel leol. Dyna beth rydw i eisiau ei wneud, a dyna beth fyddaf i'n ei wneud. Unwaith bydd y broses yma wedi dod i ben, byddaf yn dod i fan hyn i wneud datganiad clir ar y cyfeiriad rŷm ni eisiau symud ymlaen ynddo.
Obviously, local government has stated that they don't want to move in that direction, and I accept that. I will not impose this on local government if that's not what they wish to do, and they have made it crystal clear that they don't want to move in that direction. So, we have to consider this, and in calling for a more mature discussion, what I've been trying to do is discuss with local government what kind of powers are needed on a more local level. We've received a response on that, and then we must consider how to implement those policies. It's important that you read not just the blog in its entirety, but also that you read what local authorities and local government had to say in November. They said clearly that the current structure wasn't sustainable for the future. They were clear on that, and they were also clear that they didn't want to move in the direction that Welsh Government wanted them to move. So, they were clear on those two points in November.
So, we must now consider those points, and I would wish to have time to reflect and look at which options we have before moving forward. In my blog, I was trying to expand or enhance the discussion. I don’t know whether I’ve succeeded in doing that this afternoon, but I’d like a broader discussion on the role of local government and our Government and which powers are necessary for local government and then move on to consider which structures would enable us to sustain quality services and also secure democratic accountability at a local level. That is what I want to do, and that is what I will do. Once this process is concluded, I will come here to make a clear statement on the direction in which we wish to move forward.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Conservative spokesperson, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Although the UK Government's July 2017 response to the defence select committee report, responding to the armed forces covenant annual report commented on progress—and it used the word 'progress'—in Wales, there hasn't yet been an independent review of progress and delivery across the whole of Wales since the establishment of the armed forces covenant. You are the Welsh Government lead on policy in relation to armed forces and veterans. What proposals, therefore, do you have to undertake or commission an independent review of progress and/or to give attention to the evidence-based recommendations made by the Assembly armed forces committee inquiry into the implementation of the armed forces covenant?
Diolch, Lywydd. Er bod ymateb Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2017 i adroddiad y pwyllgor dethol ar amddiffyn, a oedd yn ymateb i adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog, yn cynnwys sylwadau ar gynnydd—a defnyddiwyd y gair 'cynnydd'—yng Nghymru, nid oes adolygiad annibynnol wedi bod eto ar gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu cyfamod y lluoedd arfog. Chi sy'n arwain polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr. Pa gynigion sydd gennych felly i gynnal neu gomisiynu adolygiad annibynnol o gynnydd a/neu roi sylw i argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a wnaed gan ymchwiliad pwyllgor lluoedd arfog y Cynulliad i weithrediad cyfamod y lluoedd arfog?
I think the Member was at the meeting of the all-party group earlier this month when I attended and answered some questions on those issues. Can I say that I'm very comfortable at the moment with the level of delivery in terms of what we're able to do for delivering on the armed forces covenant and our services for veterans? I believe that we need to go somewhat further in the future. There were some very good recommendations from the all-party group. I have, in previous answers, undertaken to consider all of those recommendations and I will in due course, when I have had an opportunity to do so, make a full response on all of those matters. But I absolutely agree with the Conservative spokesperson that these are serious issues that require a serious approach.
Credaf fod yr Aelod yng nghyfarfod y grŵp hollbleidiol yn gynharach y mis hwn pan oeddwn yn bresennol i ateb cwestiynau ar y materion hynny. A gaf fi ddweud fy mod yn gyfforddus iawn ar hyn o bryd gyda lefel y ddarpariaeth o ran yr hyn y gallwn ei wneud ar gyflawni cyfamod y lluoedd arfog a'n gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr? Credaf y bydd angen inni fynd ychydig ymhellach yn y dyfodol. Cafwyd rhai argymhellion da iawn gan y grŵp hollbleidiol. Mewn atebion blaenorol, rwyf wedi ymrwymo i ystyried pob un o'r argymhellion hynny, a maes o law, pan fyddaf wedi cael cyfle i wneud hynny, byddaf yn rhoi ymateb llawn ar y holl faterion hynny. Ond cytunaf yn llwyr â llefarydd y Ceidwadwyr fod y rhain yn faterion difrifol sy'n galw am ymagwedd ddifrifol.
Thank you. Notwithstanding the, I think, £100,000 extra continuation funding provided for Veterans NHS Wales, the report highlighted, or recommended, that funding for Veterans NHS Wales should be reviewed and targets for access to the service established, and performance against the targets regularly published. As at the time we debated this in November, waiting lists for Veterans NHS Wales were nine months in the Swansea area and averaging five to six months elsewhere. Although they'd secured three years extra funding from Help the Heroes to employ three full-time therapists to bring waiting lists down, they expected waiting times to rise again without additional support. And they’ve also provided me with figures showing that only 45 per cent of those veterans they're working with or referred to them are actually in employment. How, particularly, are you engaging with Veterans NHS Wales so that you and your colleague the heath Secretary are properly informed (a) on level of demand and (b) on their recommendations to address that?
Diolch. Er y £100,000, rwy'n credu, o gyllid parhad ychwanegol a ddarparwyd ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr, nododd yr adroddiad, neu argymhellodd yr adroddiad, y dylid adolygu'r cyllid ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr a sefydlu targedau ar gyfer mynediad at y gwasanaeth, a chyhoeddi perfformiad yn erbyn y targedau yn rheolaidd. Pan drafodwyd hyn gennym ym mis Tachwedd, roedd y rhestrau aros ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr yn naw mis yn ardal Abertawe ac yn bum neu chwe mis, ar gyfartaledd, mewn mannau eraill. Er eu bod wedi sicrhau tair blynedd o gyllid ychwanegol gan Help for Heroes i gyflogi tri therapydd amser llawn er mwyn lleihau'r rhestrau aros, roeddent yn disgwyl y byddai'r amseroedd aros yn codi eto heb gymorth ychwanegol. Ac maent hefyd wedi darparu ffigurau i mi sy'n dangos mai 45 y cant yn unig o'r cyn-filwyr y maent yn gweithio â hwy neu a atgyfeiriwyd atynt sydd mewn gwaith. Sut yn union rydych yn ymgysylltu â GIG Cymru i gyn-filwyr er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd iechyd, yn cael yr holl wybodaeth o ran (a) lefel y galw a (b) eu hargymhellion er mwyn mynd i'r afael â hynny?
I hope that we are very well informed on both those matters, but can I say that the main method of engagement, if you like, is through the expert group that we have on these matters? I chaired my first meeting of that group, as it happens, earlier this month and I found the atmosphere there and the conversation we had there to be one of a wish to move very quickly and collaboratively together to ensure that we're able to deliver on all the ambitions and the commitments that we have given and that we have undertaken to deliver on behalf of veterans and others in the armed forces community and family in Wales.
There are a number of different elements to that and you've described the challenges that we have in the health service. There are also significant challenges facing us in education and also in terms of the secure estate and provision in Wales. I think there are some significant areas there that we need to continue to address. I'm confident at the moment that the structure that we have in place helps us to do that. The expert group meeting I found to be a very useful meeting in terms of challenge on all of those different issues, and I will be responding to the all-party group and their report when I have the opportunity to have considered further some of their suggestions.
Rwy'n gobeithio ein bod yn cael yr holl wybodaeth am y materion hynny, ond a gaf fi ddweud mai'r prif ddull o ymgysylltu, os mynnwch, yw drwy'r grŵp arbenigol sydd gennym ar y materion hyn? Cadeiriais fy nghyfarfod cyntaf o'r grŵp hwnnw yn gynharach y mis hwn fel mae'n digwydd, ac yn fy marn i, roedd yr awyrgylch yno a'r sgwrs a gawsom yno'n cyfleu dyhead i symud yn gyflym iawn ar y cyd gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn gyflawni pob uchelgais a'r ymrwymiadau a roddwyd gennym i gyflawni ar ran cyn-filwyr ac eraill yng nghymuned a theulu'r lluoedd arfog yng Nghymru.
Mae nifer o elfennau gwahanol i hynny ac rydych wedi disgrifio'r heriau sy'n ein hwynebu yn y gwasanaeth iechyd. Mae heriau sylweddol yn ein hwynebu o ran addysg hefyd, yn ogystal ag o ran sefydliadau diogel a darpariaeth yng Nghymru. Credaf fod meysydd pwysig yn hynny o beth y mae angen inni barhau i fynd i'r afael â hwy. Rwy'n hyderus ar hyn o bryd fod y strwythur sydd gennym ar waith yn ein cynorthwyo i wneud hynny. Credaf fod cyfarfod y grŵp arbenigol wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran yr her mewn perthynas â'r holl faterion gwahanol hynny, a byddaf yn ymateb i'r grŵp hollbleidiol a'u hadroddiad wedi i mi gael cyfle i ystyried rhai o'u hawgrymiadau ymhellach.
Thank you, and I'm sure the expert advisory group emphasises that the pressures on the statutory services you referred to add avoidable costs—if we could perhaps do things a little bit differently in terms of early intervention and prevention in this area. One of those areas relates to residential treatment, and particularly respite for people with complex mental health issues who've served in the armed forces. On Monday, your colleague the health Secretary issued a written statement following the removal of veterans' residential treatment facilities at Audley Court in Newport, Shropshire, to which a number of people from Wales have been referred over the years. The statement said:
'The Welsh Government has previously considered the potential for a dedicated Welsh veterans’ residential facility'
and you'd commissioned an independent report and that
'concluded that the necessary demand and need to sustain such a facility could not be made out and that community based services were more appropriate.'
In fact, in 2012, the Healthcare Inspectorate Wales report, 'Healthcare and the Armed Forces Community in Wales’, had recommended that the Welsh Government should consider the utility of establishing a form of residential facility within Wales for the armed forces community. This followed the closure of Tŷ Gwyn, which had been packed, in Llandudno, and Pathways, which had opened temporarily near Bangor, which had been packed with unfunded referrals from Wales, not least from the police services. Many members of the armed forces community in Wales had commented on the need for a residential centre for veterans as something you can see, touch and feel, but the Kennedy report, the report referred to by the health Secretary, recommended against that, on terms of reference set by the Welsh Government, concluding there was
'no evidence, nor strong support from the key charities and other bodies working in the field, to warrant a residential facility which supports veterans with PTSD, so long as sufficient capacity exists within existing NHS and Third Sector providers.'
Well, clearly, it doesn't. The evidence is there that that capacity isn't there and, in fact, the third sector capacity has been, sadly, reducing in some areas. So, how will you, or will you at all, revisit the findings of the Kennedy report in the context of 2018 circumstances and look at the overall demand and requirements to meet that demand amongst the armed forces community in Wales?
Diolch, ac rwy'n siŵr fod y grŵp cynghori arbenigol yn pwysleisio bod y pwysau ar y gwasanaethau statudol y cyfeirioch chi atynt yn ychwanegu costau diangen—os gallem wneud pethau ychydig yn wahanol, efallai, o ran atal ac ymyrryd yn gynnar yn y maes hwn. Mae un o'r meysydd hynny yn ymwneud â thriniaeth breswyl, ac yn benodol, seibiant ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Ddydd Llun, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan eich cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd iechyd, yn sgil cau cyfleusterau triniaeth breswyl ar gyfer cyn-filwyr yn Audley Court yn Newport, swydd Amwythig, sydd wedi derbyn nifer o atgyfeiriadau o Gymru dros y blynyddoedd. Dywedai'r datganiad:
'Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu cyfleuster preswyl i gyn-filwyr yng Nghymru'
a'ch bod wedi comisiynu adroddiad annibynnol ac y
'daethpwyd i'r casgliad nad oedd modd dweud bod y galw a’r angen angenrheidiol yn bodoli i gynnal cyfleuster o’r fath'
a bod gwasanaethau cymunedol yn fwy addas. Mewn gwirionedd, yn 2012, argymhellodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, 'Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru', y dylai Llywodraeth Cymru ystyried budd sefydlu math o gyfleuster preswyl yng Nghymru ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Roedd hyn yn dilyn cau Tŷ Gwyn yn Llandudno, a oedd yn orlawn, a Pathways, a agorwyd dros dro ger Bangor, ac a oedd yn orlawn gydag atgyfeiriadau o Gymru heb eu hariannu, yn enwedig gan y gwasanaethau heddlu. Roedd llawer o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru wedi sôn am yr angen am ganolfan breswyl i gyn-filwyr fel rhywbeth y gallwch ei weld, ei gyffwrdd a'i deimlo, ond argymhellai adroddiad Kennedy, yr adroddiad y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd ato, yn erbyn hynny, ar sail cylch gorchwyl a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, gan ddod i'r casgliad
'nad oes tystiolaeth, na chefnogaeth gref gan y prif elusennau na chyrff eraill sy’n gweithio yn y maes, i gyfiawnhau cyfleuster preswyl sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma, cyn belled â bod capasiti digonol yn bodoli gan ddarparwyr presennol yn y GIG a’r Trydydd Sector.'
Wel, yn amlwg, nid yw'n bodoli. Mae'r dystiolaeth yno na cheir capasiti digonol, ac mewn gwirionedd, mae capasiti'r trydydd sector, yn anffodus, wedi bod yn lleihau mewn rhai ardaloedd. Felly, sut y byddwch, neu a fyddwch, yn ailystyried casgliadau adroddiad Kennedy yng nghyd-destun amgylchiadau 2018 ac yn edrych ar y galw cyffredinol a'r gofynion er mwyn ateb y galw hwnnw ymhlith cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru?
This is a matter that was raised at a previous question session by the Member for Carmarthen West and South Pembrokeshire. I undertook at that time to give due consideration to the matters that you've raised this afternoon. You will be aware that the Cabinet Secretary for health has announced an additional £100,000 to increase the capacity of our mental health services in the community, and he has also given an undertaking to look and understand how those services are being used and whether we do need to increase our capacity in those services. But I do accept that the point you raise is a very valid and important one and it is a matter that we will keep under due consideration. And if we do believe that there is a requirement for change in the way that you've described, then certainly that's a conversation I will have with the Cabinet Secretary for health, and I will come back to the Chamber to make announcements on that.
Mae hwn yn fater a godwyd mewn sesiwn holi flaenorol gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ymrwymais bryd hynny i ystyried y materion a godwyd gennych y prynhawn yma. Byddwch yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyhoeddi £100,000 ychwanegol i gynyddu capasiti ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac mae hefyd wedi ymrwymo i ystyried a deall sut y mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu defnyddio ac a oes angen inni gynyddu ein capasiti yn y gwasanaethau hynny. Ond rwy'n derbyn bod y pwynt a godwch yn un dilys a phwysig iawn ac mae'n fater y byddwn yn ei ystyried yn ofalus. Ac os credwn fod angen newid yn y ffordd a ddisgrifiwyd gennych, yna yn sicr, mae honno'n sgwrs y byddaf yn ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud cyhoeddiadau ynglŷn â hynny.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
UKIP spokesperson, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Good afternoon, Minister. I wanted to ask a couple of questions, if I may, relating to your recent statement on reforming local government electoral arrangements in Wales. One of your proposed reforms is to extend the vote to 16 and 17-year-olds. One of the arguments that has been used recently in support of that move is the principle of no taxation without representation, but I note that 16 and 17-year-olds aren't actually supposed to pay council tax, and figures from HMRC for 2014-15 suggest that only around 15 per cent of 16 and 17-year-olds pay any income tax. So, I think it's a laudable aim to extend the vote, but I wonder: is there an argument that perhaps we could extend the vote to some 16 and 17-year-olds but perhaps it might be extended to those who are actually paying tax?
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ofyn ychydig gwestiynau, os caf, ynghylch eich datganiad diweddar ar ddiwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru. Un o'ch diwygiadau arfaethedig yw ymestyn y bleidlais i bobl 16 ac 17 oed. Un o'r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ddiweddar i gefnogi'r newid hwnnw yw egwyddor dim trethiant heb gynrychiolaeth, ond nodaf nad yw pobl 16 a 17 oed i fod i dalu'r dreth gyngor mewn gwirionedd, ac mae ffigurau CThEM ar gyfer 2014-15 yn awgrymu mai oddeutu 15 y cant yn unig o bobl 16 a 17 oed sy'n talu unrhyw dreth incwm. Felly, credaf fod ymestyn y bleidlais yn nod canmoladwy, ond tybed: a oes dadl efallai y gallem ymestyn y bleidlais i rai pobl 16 a 17 oed ond efallai y dylid ei hymestyn i'r rheini sy'n talu treth mewn gwirionedd?
I'm not entirely sure of the point that the Member seeks to make, but I will say to him that the decision to extend the vote to 16 and 17-year-olds in local elections—and I hope the National Assembly will follow in due course—is that we're talking about extending and deepening a franchise to enable people throughout our communities to play an active role in taking decisions upon the future of those communities. It is the view of this Government, and I think of people on most sides of this Chamber, that 16 and 17-year-olds certainly should have the capacity to be engaged in political debate and discussion, and should have the ability to vote and take part in decisions that will affect them and their friends', neighbours' and families' lives. I think we are in a process of renewal and change at the moment. I'm looking at extending the franchise in order to enable us to hold local elections on the new franchise, which will also seek, of course, to ensure that all foreign nationals who are resident and living in our communities will also have the vote.
Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud, ond gallaf ddweud wrtho fod y penderfyniad i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed mewn etholiadau lleol—ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud yr un peth maes o law—yn ymwneud ag ymestyn a dyfnhau'r etholfraint er mwyn galluogi pobl yn ein cymunedau drwyddi draw i chwarae rhan weithredol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol y cymunedau hynny. Yn sicr, barn y Llywodraeth hon, a'r rhan fwyaf o'r pleidiau yn y Siambr hon, rwy'n credu, yw y dylai pobl 16 a 17 oed yn bendant allu cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau gwleidyddol, ac y dylent allu pleidleisio a chymryd rhan yn y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu bywydau a bywydau eu ffrindiau, cymdogion a theuluoedd. Credaf ein bod ar ganol proses o adnewyddu a newid ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at ymestyn yr etholfraint er mwyn ein galluogi i gynnal etholiadau lleol ar yr etholfraint newydd, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn ceisio sicrhau y bydd yr holl wladolion tramor sy'n byw yn ein cymunedau hefyd yn cael pleidleisio.
Yes, I'm aware of those proposals as well. If I can restrict these questions to the 16 and 17-year-olds issue for the time being, another perhaps related point is that we have in this Assembly recently passed legislation that in effect banned 16 and 17-year-olds from being able to use sunbeds or to get a tongue piercing. We in UKIP supported those pieces of Government legislation. If you're now saying that 16 and 17-year-olds should have an automatic right to vote, so they are able to exercise political judgment, but at the same time they're not able to exercise judgment over issues like using sunbeds or getting a tongue piercing, does that not present an anomaly? Can you see that the electorate may see that there is a certain incongruity about the attitudes that are coming from the Welsh Government with those two seemingly conflicting attitudes?
Ydw, rwy'n ymwybodol o'r cynigion hynny hefyd. Os caf gyfyngu'r cwestiynau hyn i fater y bobl 16 a 17 oed am y tro, pwynt arall cysylltiedig, efallai, yw ein bod yn y Cynulliad wedi cyflwyno deddfwriaeth yn ddiweddar a oedd i bob pwrpas yn gwahardd pobl 16 ac 17 oed rhag defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau. Roeddem ni yn UKIP yn cefnogi'r deddfau Llywodraeth hynny. Os ydych bellach yn dweud y dylai fod gan bobl 16 a 17 oed hawl awtomatig i bleidleisio, fel eu bod yn gallu arfer crebwyll gwleidyddol, ond ar yr un pryd, nad ydynt yn gallu arfer crebwyll mewn perthynas â materion fel defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau, onid yw hynny'n creu anghysondeb? A allwch weld sut y gallai'r etholwyr feddwl bod agweddau Llywodraeth Cymru yn anghyson, gan ei bod yn ymddangos bod y ddwy agwedd yn groes i'w gilydd?
I think most people are aware that reaching the age of majority for different parts of social activity, whatever it happens to be, may happen at a slightly different age for different issues, and we're aware of that. A 16-year-old may be able to vote but they won't be able to drive. We're aware of these issues.
What I'm looking at doing is doing something slightly different, and that is to invest in more cohesive communities, where people feel enfranchised and able to play a full part in ensuring that people have not just the right to vote and the ability to exercise that vote but also, of course, the knowledge and the capacity to be able to participate in political conversations and political debate about the future of those communities. I hope that we'll be able to go further and ensure that we then extend the ability to vote in all sorts of different ways, from electronic voting through to voting on different days, and ensuring that people, whoever they happen to be in our communities in Wales, are able to play a full part in determining the future of those communities.
Credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol y gallai cyrraedd llawn oed ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch cymdeithasol, beth bynnag y bo, ddigwydd ar oedran ychydig yn wahanol ar gyfer gwahanol faterion, ac rydym yn ymwybodol o hynny. Efallai y bydd unigolyn 16 oed yn gallu pleidleisio ond ni fydd yn gallu gyrru. Rydym yn ymwybodol o'r materion hyn.
Yr hyn rwy'n gobeithio ei wneud yw gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, sef buddsoddi mewn cymunedau mwy cydlynus, lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi eu hetholfreinio a'u bod yn gallu chwarae rhan lawn drwy sicrhau bod pobl nid yn unig yn cael yr hawl i bleidleisio a'r gallu i fwrw'r bleidlais honno, ond hefyd, wrth gwrs, eu bod yn cael y wybodaeth a'r gallu i allu cymryd rhan mewn sgyrsiau gwleidyddol a dadleuon gwleidyddol ynghylch dyfodol y cymunedau hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn fynd ymhellach a sicrhau wedyn ein bod yn ymestyn y gallu i bleidleisio mewn pob math o ffyrdd gwahanol, o bleidleisio electronig i bleidleisio ar wahanol ddyddiau, a sicrhau bod pobl, waeth pwy ydynt yn ein cymunedau yng Nghymru, yn gallu chwarae rhan lawn yn y broses o benderfynu ar ddyfodol y cymunedau hynny.
Yes, you raised the important point there that people need the knowledge. If you're going to give them the responsibility of voting, they need the knowledge, and I think that that is a crucial point. Now, you said in your statement that:
'Within schools, the active citizenship theme of personal and social education will provide young people with an understanding of politics and the right to vote.'
That's the end of your quote. Now, it has been raised recently by young campaigners—who actually support what you're doing and who actually want the vote to be extended to 16 and 17-year-olds—that many of them feel that what they have in schools at the moment in the active citizenship theme, which you alluded to, isn't actually sufficient to give them that political knowledge. So, I wondered were you seeking to change that element of the national curriculum in Wales, working with the education Minister, or does your statement actually indicate that you think that the education system at the moment does provide 16 and 17-year-olds with that knowledge?
Ie, fe nodoch y pwynt pwysig fod angen y wybodaeth ar bobl. Os ydych am roi'r cyfrifoldeb o bleidleisio iddynt, mae angen y wybodaeth arnynt, a chredaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig. Nawr, fe ddywedoch chi yn eich datganiad:
'Mewn ysgolion, bydd y thema dinasyddiaeth weithgar mewn addysg bersonol a chymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o wleidyddiaeth a'r hawl i bleidleisio.'
Dyna ddiwedd eich dyfyniad. Nawr, yn ddiweddar, mae ymgyrchwyr ifanc—sy'n cefnogi'r hyn rydych yn ei wneud ac sy'n awyddus i'r bleidlais gael ei hymestyn i bobl 16 a 17 oed—wedi dweud bod llawer ohonynt yn teimlo nad yw'r hyn sydd ganddynt mewn ysgolion ar hyn o bryd o ran y thema dinasyddiaeth weithgar, y cyfeirioch chi ati, yn ddigonol mewn gwirionedd ar gyfer rhoi'r wybodaeth wleidyddol honno iddynt. Felly, tybed a oeddech yn gobeithio newid yr elfen honno o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, gan weithio gyda'r Gweinidog addysg, neu a yw eich datganiad yn nodi eich bod yn credu bod y system addysg yn darparu'r wybodaeth honno i bobl 16 a 17 oed ar hyn o bryd?
The Member will be aware that we are refreshing the curriculum in its entirety at the moment. Can I say this? I do remember the Member giving a media interview during the election campaign where he said that he never canvassed, never knocked on people's doors, because he saw it as a terrible intrusion upon their lives. I would suggest that the Member does knock on some doors and does talk to people who he seeks to represent. Were he to do that, he would find some very engaged 16 and 17-year-olds—young people who want to play a part in shaping the future of their communities, young people who have both the knowledge and the vision for what they want to see in the future. So, I wouldn't take quite the view that he takes, but I do accept that we do need to ensure that through a curriculum refresh we do ensure that these matters are fully covered in the curriculum. But I've got far more faith in 16 and 17-year-olds than, perhaps, the Member for UKIP.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd. A gaf fi ddweud hyn? Cofiaf i'r Aelod roi cyfweliad i'r cyfryngau yn ystod yr ymgyrch etholiadol lle y dywedodd nad oedd byth yn canfasio, byth yn curo ar ddrysau pobl, gan ei fod yn ystyried hynny'n ymyrraeth ofnadwy ar eu bywydau. Hoffwn awgrymu bod yr Aelod yn curo ar rai drysau ac yn siarad â phobl y mae'n gobeithio eu cynrychioli. Pe bai'n gwneud hynny, byddai'n gweld rhai pobl 16 a 17 oed brwdfrydig iawn—pobl ifanc sy'n awyddus i chwarae rhan yn y broses o lunio dyfodol eu cymunedau, pobl ifanc â'r wybodaeth a'r weledigaeth ar gyfer yr hyn y maent yn dymuno'i weld yn y dyfodol. Felly, nid wyf o'r un farn ag ef, ond rwy'n derbyn bod angen inni sicrhau, drwy adnewyddu'r cwricwlwm, fod y cwricwlwm yn cynnwys y materion hyn yn llawn. Ond efallai bod gennyf lawer mwy o ffydd mewn pobl 16 ac 17 oed na'r Aelod o UKIP.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru? OAQ51787
3. Will the Cabinet Secretary make a statement on Welsh Government support for veterans in Wales? OAQ51787
Our armed forces package of support makes clear our commitment to supporting veterans in Wales.
Mae ein pecyn cymorth i'r lluoedd arfog yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru.
Can I thank you, Cabinet Secretary, for your support for our veterans across the country? I know that your update to the cross-party group recently was very much appreciated by all of the members. Following your address to the meeting, the meeting obviously continued, and one of the issues that was taxing the minds of people around the table was that of the need to identify more veterans across Wales in order that we can offer them proactively the support that they may need. Now, one of the ways to achieve this is, of course, the adoption of a veteran ID card, something that the cross-party group and my party and others in this Chamber have considered on many occasions in the past. Whilst I appreciate that this is a recommendation to which you will respond in due course, I wonder whether you could give us the Welsh Government's thinking on this at this particular time, because I think it is something that we need to address sooner rather than later.
A gaf fi ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich cefnogaeth i'n cyn-filwyr ledled y wlad? Gwn fod eich diweddariad i'r grŵp trawsbleidiol yn ddiweddar wedi cael ei groesawu gan yr holl aelodau. Yn dilyn eich anerchiad i'r cyfarfod, aeth y cyfarfod yn ei flaen, yn amlwg, ac un o'r materion ar feddyliau pobl o amgylch y bwrdd oedd yr angen i nodi mwy o gyn-filwyr ledled Cymru fel y gallwn fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig y cymorth y gallent fod ei angen. Nawr, un ffordd o gyflawni hyn, wrth gwrs, yw defnyddio cerdyn adnabod i gyn-filwyr, rhywbeth a ystyriwyd gan y grŵp trawsbleidiol a fy mhlaid innau ac eraill yn y Siambr hon ar sawl achlysur yn y gorffennol. Er fy mod yn deall y byddwch yn ymateb i'r argymhelliad hwn maes o law, tybed a allech ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl ynglŷn â hyn ar hyn o bryd, gan y credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
I do agree with the point you make about recognition and understanding the nature of the community, where that community lives and how it lives, and the nature of that community. I think we do need greater understanding of that, and I do accept that point in full. I hesitate before giving a definitive answer to that question. I will provide a more holistic response to the whole of the report when I have the opportunity to do so. But let me say this: one of my priorities is to ensure that we are able to put resources where those resources are needed, where we deliver services to those people. Fundamental to that approach is understanding where those people are and what their needs are. So, I think we do need a greater understanding of the characteristics and the nature of the family and of the community. I think we do need to improve our understanding of those issues. How we do that I'm giving consideration to at the moment. I think the investment in liaison officers for local authorities, for example, has made a huge difference to our understanding of the community and its needs. So, I think there's more than one way to answer that particular question, and I'm certainly seeking to ensure that we will be able to respond in full in due course.
Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnewch ynglŷn â chydnabod a deall natur y gymuned, ble mae'r gymuned honno'n byw a sut y mae'n byw, a natur y gymuned honno. Credaf fod angen inni ddeall hynny'n well, ac rwy'n derbyn y pwynt hwnnw'n gyfan gwbl. Rwy'n gyndyn o roi ateb terfynol i'r cwestiwn hwnnw. Byddaf yn darparu ymateb mwy cyfannol i'r adroddiad cyfan pan gaf gyfle i wneud hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: un o fy mlaenoriaethau yw sicrhau ein bod yn gallu darparu adnoddau lle mae angen yr adnoddau hynny, lle rydym yn darparu gwasanaethau i'r bobl hynny. Mae deall ble mae'r bobl hynny a beth yw eu hanghenion yn hanfodol i'r ymagwedd honno. Felly, credaf fod angen inni ddeall nodweddion a natur y teulu a'r gymuned yn well. Credaf fod angen inni wella ein dealltwriaeth o'r materion hynny. Rwy'n ystyried sut i wneud hynny ar hyn o bryd. Credaf fod y buddsoddiad mewn swyddogion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol, er enghraifft, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n dealltwriaeth o'r gymuned a'i hanghenion. Felly, credaf fod mwy nag un ffordd o ateb y cwestiwn penodol hwnnw, ac yn sicr, rwy'n ceisio sicrhau y bydd modd inni ymateb yn llawn maes o law.
Does the Cabinet Secretary welcome the contribution of volunteers in supporting veterans? Clearly, there are Royal British Legion volunteers, and I'm very pleased to be a member of the Barry branch of the British legion, which is doing so much not just in terms of raising money through the poppy appeal, but also through local initiatives such as Woody's Lodge—and I know David Melding has spoken about this—which was launched by Carl Sargeant in the Senedd last year. Although it's based in the Vale of Glamorgan, it has now secured funding to expand across the whole of Wales. But this is entirely a voluntary initiative, very much run and led by veterans themselves and providing not just signposting support, but also the support that they can give each other in terms of the all-importance of that social understanding of what people have been through.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu cyfraniad gwirfoddolwyr yn y broses o gefnogi cyn-filwyr? Yn amlwg, mae gwirfoddolwyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac rwy'n falch iawn o fod yn aelod o gangen y Barri o'r lleng Brydeinig, sy'n gwneud cymaint o waith, nid yn unig o ran codi arian drwy apêl y pabi, ond hefyd drwy fentrau lleol fel Woody's Lodge—a gwn fod David Melding wedi sôn am hyn—a lansiwyd gan Carl Sargeant yn y Senedd y llynedd. Er eu bod wedi'u lleoli ym Mro Morgannwg, maent bellach wedi sicrhau cyllid i ymestyn ledled Cymru gyfan. Ond mae'n fenter gwbl wirfoddol, sy'n cael ei chynnal a'i harwain gan gyn-filwyr eu hunain ac sydd nid yn unig yn darparu cefnogaeth gyfeirio, ond hefyd y gefnogaeth y gallant ei rhoi i'w gilydd o ran pwysigrwydd y ddealltwriaeth gymdeithasol o ran beth y profiadau y mae pobl wedi'u cael.
Can I say I absolutely agree with the Member for the Vale of Glamorgan in the points she has made? In many ways, she has echoed the point made by the Member for Carmarthen West and South Pembrokeshire in her first question this afternoon about the importance of volunteers, and the role that they play in our communities and our society in delivering services in a holistic setting, which enables them to deliver the services required by people who are facing difficulties in this way. I'm delighted that Woody's Lodge has also been able to secure funding to open in north Wales, I think, in 2020, and then also in west Wales as well. I think it's a great example of how local volunteers can come together, deliver a service—a fantastic service—to people where they need it, and then use that knowledge, use that experience, use that skill and use that commitment to expand that service to deliver something that, as a Government, we would find impossible.
A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Fro Morgannwg ar y pwyntiau a wnaeth? Mewn sawl ffordd, mae hi wedi adleisio'r pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ei chwestiwn cyntaf y prynhawn yma ynghylch pwysigrwydd gwirfoddolwyr, a'r rôl y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau a'n cymdeithas yn darparu gwasanaethau mewn amgylchiadau cyfannol, sy'n eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl sy'n wynebu anawsterau o'r fath. Rwy'n falch iawn fod Woody's Lodge wedi gallu sicrhau'r cyllid i agor yng ngogledd Cymru, yn 2020 rwy'n credu, ac yna yng ngorllewin Cymru hefyd. Credaf ei bod yn enghraifft wych o sut y gall gwirfoddolwyr lleol ddod at ei gilydd, darparu gwasanaeth—gwasanaeth gwych—i bobl pan fyddant ei angen, a defnyddio'r wybodaeth honno wedyn, defnyddio'r profiad hwnnw, defnyddio'r sgiliau hynny a defnyddio'r ymrwymiad hwnnw i ehangu'r gwasanaeth er mwyn darparu rhywbeth y byddai'n amhosibl i ni ei wneud fel Llywodraeth.
Cabinet Secretary, Jane Hutt has just highlighted the issue of the support of volunteers, but there are many organisations, big and small, and charities, that help to support veterans. An example of where they sometimes fall down and somebody goes through the net is where we had a veteran in Maesteg who was living in a car for seven months. He fell on bad luck after he left the forces; he wasn't automatically eligible for support for housing. But that shows an example of how the volunteers then got hold of him. But these small groups and these larger groups sometimes conflict with one another. Is it possible that the Welsh Government can bring together these organisations to look at how a co-ordinated approach can be put together to support veterans in their communities?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Jane Hutt wedi tynnu sylw at gymorth gan wirfoddolwyr, ond mae llawer o sefydliadau, bach a mawr, ac elusennau, yn helpu i gefnogi cyn-filwyr. Cafwyd enghraifft o ble y maent weithiau'n methu a rhywun yn cwympo drwy'r rhwyd pan gawsom gyn-filwr ym Maesteg a fu'n byw mewn car am saith mis. Bu'n anlwcus iawn wedi iddo adael y lluoedd; nid oedd yn gymwys yn awtomatig am gymorth tai. Ond mae hynny'n enghraifft o sut y cafodd y gwirfoddolwyr afael arno wedyn. Ond mae'r grwpiau bychain hyn a'r grwpiau mwy o faint yn mynd yn groes i'w gilydd weithiau. A oes modd i Lywodraeth Cymru ddod â'r sefydliadau hyn ynghyd i weld sut y gellir rhoi dull gweithredu cydgysylltiedig ar waith i gefnogi cyn-filwyr yn eu cymunedau?
I hope so. One of the reasons why we have appointed armed forces liaison officers in different local authorities is to enable us to co-ordinate exactly that sort of work to ensure that the work that is done by volunteers in the third sector complements and is associated with the work that is done by statutory services. Working together, I believe we can deliver a holistic service to people who need that service, and, working together, I believe we can achieve far more than we do working in isolation. So, I do agree with you in the point that you make and I hope that by having locally based liaison officers in different parts of Wales, we're able to have that local knowledge and root services on local needs.
Rwy'n gobeithio. Un o'r rhesymau pam rydym wedi penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog mewn gwahanol awdurdodau lleol yw er mwyn ein galluogi i gydgysylltu'r math hwnnw o waith i sicrhau bod y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn y trydydd sector yn ategu ac yn gysylltiedig â'r gwaith a wneir gan wasanaethau statudol. Drwy weithio gyda'n gilydd, credaf y gallwn ddarparu gwasanaeth cyfannol i bobl sydd angen y gwasanaeth hwnnw, a thrwy weithio gyda'n gilydd, credaf y gallwn gyflawni llawer mwy nag a gyflawnwn drwy weithio ar wahân. Felly, cytunaf â chi o ran y pwynt a wnewch, a thrwy gael swyddogion cyswllt lleol ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru, rwy'n gobeithio y gallwn gael y wybodaeth leol honno a seilio gwasanaethau ar anghenion lleol.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynorthwyo awdurdodau lleol i warchod eu gwasanaethau anstatudol? OAQ51814
4. What steps is the Welsh Government taking to support local authorities to protect their non-statutory services? OAQ51814
Local authority services play a vitally important role in the lives of all citizens in Wales. The Welsh Government continues to protect funding for our local authorities so that those vital services, both statutory and non-statutory, can go on being provided. Local service delivery, however, is for local determination.
Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i warchod cyllid ar gyfer ein hawdurdodau lleol fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny, y rhai statudol a'r rhai anstatudol, barhau i gael eu darparu. Fodd bynnag, mater i'w benderfynu'n lleol yw'r modd y darperir gwasanaethau'n lleol.
Thank you for that answer, Cabinet Secretary. We know that the UK Government's austerity policies are placing great pressure on our local authorities, and obviously they have to meet what many would say are their primary statutory responsibilities in terms of education and social services, for example. But leisure services, libraries, museums, youth services and many other services are also very important and significant and, indeed, they all have to be seen as a whole in terms of quality of life for local people.
We know that different methods of delivery have been brought forward by local authorities in Wales and many of those are quite successful. I wonder, Cabinet Secretary, to what extent Welsh Government has an overview of these new and sometimes better ways of delivery and what advice and support and spreading of best practice is taking place through Welsh Government in complementing the activities of the WLGA. Also, what new powers, and perhaps particularly the general power of competence, might help local authorities deliver better in the future?
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom fod polisïau cyni Llywodraeth y DU yn rhoi cryn bwysau ar ein hawdurdodau lleol, ac yn amlwg, rhaid iddynt gyflawni'r hyn y byddai llawer yn ei ddweud yw eu prif gyfrifoldebau statudol o ran addysg a gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft. Ond mae gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, gwasanaethau ieuenctid a llawer o wasanaethau eraill hefyd yn bwysig ac yn arwyddocaol iawn, ac yn wir, mae angen ystyried pob un ohonynt gyda'i gilydd mewn perthynas ag ansawdd bywyd pobl leol.
Gwyddom fod gwahanol ddulliau o ddarparu wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol yng Nghymru a bod llawer ohonynt yn eithaf llwyddiannus. Ysgrifennydd y Cabinet, i ba raddau y mae gan Lywodraeth Cymru drosolwg o'r ffyrdd newydd hyn o ddarparu, sydd weithiau'n well, a pha gyngor, cefnogaeth a rhannu arferion gorau sy'n digwydd drwy Lywodraeth Cymru o ran ategu gweithgarwch Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Hefyd, pa bwerau newydd, a'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn benodol efallai, a allai gynorthwyo'r awdurdodau lleol i sicrhau gwell darpariaeth yn y dyfodol?
I very much agree with the points that were being made by the Member for Newport East. I think he understands exactly that, in delivering a different model for local government, we need to do so in a way that is holistic, delivering powers for local government to act in a way that enables them to follow a holistic approach in their communities, shaping their communities, and creating great places to live and work that are great for families, a sense of place and a sense of community.
What we want local authorities to be able to be in the future is a shaper of communities, creating not just services for people but creating places where people can live and thrive. That's the sort of vision that I have, and it goes back to the earlier questions from the Plaid Cymru spokesperson about not just the shape and the structures of local government in the future, but also the powers and responsibilities for local government. I've tried to be very clear in the points that I've made in this role: that I see a great future for local government as an enabler of community services as well as a provider of community services, and I want to see local government strengthened in the future, more able to deliver not just statutory services but a great way of living for people wherever they happen to be in Wales.
Cytunaf yn llwyr gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd. Credaf ei fod yn deall yn iawn, wrth ddarparu model gwahanol ar gyfer llywodraeth leol, fod angen inni wneud hynny mewn ffordd gyfannol, gan ddarparu pwerau i lywodraeth leol weithredu mewn ffordd sy'n eu galluogi i fabwysiadu ymagwedd gyfannol yn eu cymunedau, i siapio eu cymunedau, a chreu lleoedd gwych i fyw a gweithio sy'n wych ar gyfer teuluoedd, ymdeimlad o le ac ymdeimlad o gymuned.
Rydym yn awyddus i awdurdodau lleol allu siapio cymunedau yn y dyfodol, gan greu mannau lle y gall pobl fyw a ffynnu yn ogystal â chreu gwasanaethau i bobl. Dyna'r math o weledigaeth sydd gennyf, ac mae'n ymwneud â chwestiynau cynharach gan lefarydd Plaid Cymru nid yn unig am siâp a strwythurau llywodraeth leol yn y dyfodol, ond hefyd y pwerau a'r cyfrifoldebau ar gyfer llywodraeth leol. Rwyf wedi ceisio bod yn glir iawn yn y pwyntiau a wneuthum yn y rôl hon: fy mod yn gweld dyfodol gwych i lywodraeth leol fel galluogwr gwasanaethau cymunedol yn ogystal â darparwr gwasanaethau cymunedol, ac rwyf am weld llywodraeth leol yn cryfhau yn y dyfodol, gyda mwy o allu i ddarparu nid yn unig gwasanaethau statudol ond ffordd wych o fyw i bobl, ble bynnag y maent yng Nghymru.
Cabinet Secretary, Newport City Council has approved a budget that will result in cuts to services that will fall heavily on some of the most vulnerable people in the area. These include vulnerable people with mental health issues, people with learning disabilities and children with additional learning needs. What is the Cabinet secretary doing to address the genuine anger and dismay of the people of Newport, faced with these cuts to essential services? Tomorrow is St David's Day; I'd be grateful if you could give an answer in the St David's Day spirit, rather than blaming London, and give a Welsh answer on it.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cyllideb a fydd yn arwain at doriadau i wasanaethau a fydd yn effeithio'n sylweddol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal. Maent yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n agored i niwed, pobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i fynd i'r afael â dicter a siomedigaeth pobl Casnewydd, sy'n wynebu'r toriadau hyn i wasanaethau hanfodol? Mae'n Ddydd Gŵyl Dewi yfory; buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ateb yn ysbryd Dydd Gŵyl Dewi, yn hytrach na beio Llundain, a rhoi ateb Cymreig i hyn.
I'm glad the Conservative Party now feels the need to advise me on my answers as well as to scrutinise me on my performance in office. Can I say this: it ill becomes any Conservative Member to come here to discuss the issues faced by some of the most vulnerable people in our communities as a direct consequence of the policies they themselves support.
Rwy'n falch fod y Blaid Geidwadol bellach yn teimlo'r angen i roi cyngor i mi ar fy atebion yn ogystal â chraffu ar fy mherfformiad yn y swydd. A gaf fi ddweud hyn: prin y mae'n gweddu i unrhyw Aelod Ceidwadol ddod yma i drafod y problemau sy'n wynebu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau y maent hwy eu hunain yn eu cefnogi.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae tasglu'r Cymoedd yn cefnogi datblygiadau economaidd eraill yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51801
5. Will the Cabinet Secretary make a statement on how the Valleys taskforce supports other economic developments in south-east Wales? OAQ51801
The taskforce is delivering a co-ordinated approach to economic development across the Valleys, particularly through strategic hubs and supporting entrepreneurship. It will also ensure people in the Valleys benefit from economic development across the whole of south-east Wales by working with the city deals and maximising opportunities from major infrastructure projects.
Mae'r tasglu yn gweithredu dull cydgysylltiedig o gyflawni datblygu economaidd ar draws y Cymoedd, yn enwedig drwy hybiau strategol a chefnogi entrepreneuriaeth. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl yn y Cymoedd yn elwa ar ddatblygu economaidd ledled de-ddwyrain Cymru drwy weithio gyda'r bargeinion dinesig a sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl yn deillio o brosiectau seilwaith mawr.
How effective does he judge the working between the city deals and the Valleys taskforce, particularly the city deal board and the Valleys taskforce board, and what improvements would he introduce to enhance that collaborative working?
Pa mor effeithiol, yn ei farn ef, yw'r gwaith rhwng y bargeinion dinesig a thasglu'r Cymoedd, yn enwedig bwrdd y fargen ddinesig a bwrdd tasglu'r Cymoedd, a pha welliannau y byddai'n eu cyflwyno er mwyn gwella'r cydweithio hwnnw?
I'm grateful to my friend from Caerphilly for that taxing question. Can I say that the Valleys taskforce exists in order to shape the policies and approach of the Welsh Government? It doesn't exist as an independent entity away from Government, and, as such, it seeks to work closely with both the city deals in south Wales, in both the capital region and in Swansea, and it seeks to ensure that we reduce complexity. One of the challenges that I think we have to face is to ensure greater coherence in policy development and policy delivery, whilst ensuring that we reduce complexity and increase simplicity in how we work together. At the moment, I am confident that we do have the structures in place that ensure that we are able to work effectively together and to maximise the impact of each other without falling into a trap of duplicating each other's ambitions, visions and policies. But I do believe that we do need to ensure that we do have greater simplicity in the future.
Diolch i fy nghyfaill o Gaerffili am y cwestiwn anodd hwnnw. A gaf fi ddweud bod tasglu'r Cymoedd yn bodoli er mwyn siapio polisïau ac ymagwedd Llywodraeth Cymru? Nid yw'n bodoli fel endid annibynnol ar wahân i'r Llywodraeth, ac fel y cyfryw, mae'n ceisio gweithio'n agos gyda'r ddwy fargen ddinesig yn ne Cymru, yn y brifddinas-ranbarth ac yn Abertawe, ac mae'n ceisio sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod. Un o'r heriau y credaf fod yn rhaid inni ei hwynebu yw sicrhau gwell cydlyniant wrth ddatblygu polisi a chyflwyno polisi, gan sicrhau ein bod yn lleihau cymhlethdod ac yn cynyddu symlrwydd o ran sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Ar hyn o bryd, rwy'n hyderus fod y strwythurau sydd ar waith gennym i sicrhau ein bod yn gallu gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd ac i sicrhau bod effaith y naill a'r llall gymaint ag y gall fod heb inni syrthio i'r trap o ddyblygu ein huchelgeisiau, ein gweledigaeth a'n polisïau. Ond credaf fod angen inni sicrhau bod gennym fwy o symlrwydd yn y dyfodol.
Cabinet Secretary, from 2012, the Welsh Government has spent £94 million on the Ebbw Vale enterprise zone to create just 175 jobs that are full-time. How will the Valleys taskforce support and improve the performance of the Ebbw Vale enterprise zone, please?
Ysgrifennydd y Cabinet, ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £94 miliwn ar ardal fenter Glyn Ebwy er mwyn creu 175 yn unig o swyddi amser llawn. Sut y bydd tasglu'r Cymoedd yn cefnogi a gwella perfformiad ardal fenter Glyn Ebwy, os gwelwch yn dda?
Presiding Officer, you're aware that I'm the Member for Blaenau Gwent and I have a direct interest in this matter. I will say to the Member that there's a great deal of work taking place within Blaenau Gwent between Welsh Government and the local authority there, and working with the enterprise zone and the enterprise zone board and others with an interest in investing in the economy of the Heads of the Valleys. We have both represented the area for the same period of time—myself and the Conservative Member—and I have not seen him at any of those meetings or taking part in any of those activities. Perhaps if he took a greater interest in the whole of his region, he would be able to answer the question himself.
Lywydd, rydych yn ymwybodol mai fi yw'r Aelod dros Flaenau Gwent a bod gennyf ddiddordeb uniongyrchol yn y mater hwn. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ym Mlaenau Gwent rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol yno, a gwaith gyda'r ardal fenter a bwrdd yr ardal fenter ac eraill sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn economi Blaenau'r Cymoedd. Rydym ein dau wedi cynrychioli'r ardal am yr un cyfnod o amser—fi a'r Aelod Ceidwadol—ac nid wyf wedi'i weld yn unrhyw un o'r cyfarfodydd hynny neu'n cymryd rhan yn unrhyw un o'r gweithgareddau hynny. Pe bai ganddo fwy o ddiddordeb yn ei ranbarth cyfan, efallai y byddai'n gallu ateb y cwestiwn ei hun.
I think most of us Valleys AMs, Cabinet Secretary, are very supportive of the strategic hub—I was trying to think of the words there—in the plan. I think identifying opportunities to invest in the social and economic conditions in communities like the upper Rhymney valley and in your own constituency of Blaenau Gwent forms an important consideration of the public sector partners on the city region board. I've said before that no-one should object to us investing regionally in projects in Newport and in Cardiff and some of the big conurbations, but I'm sure you'd agree with me that the real success is going to come when we see real, sustainable growth and success in places like the upper Rhymney valley.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod y rhan fwyaf ohonom ni, Aelodau Cynulliad y Cymoedd, yn gefnogol iawn i'r hyb strategol—roeddwn yn ceisio cofio'r geiriau—yn y cynllun. Credaf fod nodi cyfleoedd i fuddsoddi yn yr amodau cymdeithasol ac economaidd mewn cymunedau fel Cwm Rhymni uchaf ac yn eich etholaeth eich hun ym Mlaenau Gwent yn ystyriaeth bwysig ar gyfer partneriaid o'r sector cyhoeddus ar fwrdd y dinas-ranbarth. Rwyf wedi dweud o'r blaen na ddylai unrhyw un wrthwynebu ein buddsoddiad rhanbarthol mewn prosiectau yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd a rhai o'r cytrefi mawr, ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi y bydd y llwyddiant gwirioneddol yn dod pan fyddwn yn gweld twf gwirioneddol a chynaliadwy a llwyddiant mewn lleoedd fel Cwm Rhymni uchaf.
Can I say, Presiding Officer, that I absolutely agree with the Member for Merthyr? I know how active she has been—Merthyr and Rhymney, I should say, of course, or I'll get into terrible trouble. I know how active she has been in promoting that area, and I know the work that she has done in ensuring that this is on the agenda of the Valleys taskforce and the wider Welsh Government.
The Member is aware that we will be holding a seminar next month on how we do maximise the benefits of the A465 dualling project to ensure that we are able to create the greatest possible impact across the whole of the Heads of the Valleys from Brynmawr across to Hirwaun, to ensure that we don't simply spend the money dualling the Heads of the Valleys road, but that we actually invest that in economic development. I think it's important that we maximise the work done in the strategic hubs in Merthyr and in Ebbw Vale to ensure that we're able to create a new economic region, if you like, across the whole of the Heads of the Valleys, and that that is something on which this Government works with local government, businesses and others to support and sustain.
A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful? Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod—Merthyr Tudful a Rhymni, dylwn ddweud, wrth gwrs, neu fe fyddaf mewn trafferth ofnadwy. Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod yn hyrwyddo'r ardal honno, ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod hyn ar agenda tasglu'r Cymoedd a Llywodraeth Cymru yn ehangach.
Gŵyr yr Aelod y byddwn yn cynnal seminar fis nesaf ar sut yr awn ati i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o brosiect deuoli'r A465 i wneud yn siŵr ein bod yn gallu creu'r effaith fwyaf sy'n bosibl ar draws Blaenau'r Cymoedd o Fryn-mawr draw i Hirwaun, er mwyn sicrhau nad gwario'r arian ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd yn unig a wnawn, ond ein bod yn ei fuddsoddi mewn datblygu economaidd mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y gwaith a wneir yn yr hybiau strategol ym Merthyr Tudful a Glyn Ebwy er mwyn sicrhau ein bod yn gallu creu rhanbarth economaidd newydd, os mynnwch, ar draws Blaenau'r Cymoedd i gyd, a bod hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio arno gyda llywodraeth leol, busnesau ac eraill i'w gefnogi a'i gynnal.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun treialu cyd-ymateb gan wasanaethau tân ac achub Cymru? OAQ51807
6. Will the Cabinet Secretary make a statement on the co-responding trial scheme undertaken by Welsh fire and rescue services? OAQ51807
Presiding Officer, this trial has now come to an end. It made a powerful case for firefighters responding to medical emergencies, which saves both lives and money. Making it permanent now depends on a new pay deal for firefighters, and I hope that both sides can reach an agreement on this.
Lywydd, mae'r cynllun treialu hwn wedi dod i ben bellach. Gwnaeth achos cryf dros ddiffoddwyr tân yn cyd-ymateb i argyfyngau meddygol, gan achub bywydau ac arbed arian. Mae gwneud hynny'n rhywbeth parhaol yn dibynnu bellach ar gytundeb cyflog newydd i ddiffoddwyr tân, ac rwy'n gobeithio y gall y ddwy ochr ddod i gytundeb ar hyn.
Thank you, Cabinet Secretary. We are all grateful to firefighters across the country for the work that they do in keeping us safe. I'm aware that the national joint council has put forward some proposals for change that may impact the work that firefighters undertake in our communities. Could you give us an indication of how you intend to respond to these proposals? I'm also aware that the Scottish Government has made a pay offer to the Scottish fire service that appears to be outside the current negotiation structure. Could you give us an indication if you intend to follow suit?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pob un ohonom yn ddiolchgar i ddiffoddwyr tân ledled y wlad am y gwaith y maent yn ei wneud yn ein cadw'n ddiogel. Rwy'n ymwybodol fod y cyd-gyngor cenedlaethol wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer newid a all effeithio ar y gwaith y mae diffoddwyr tân yn ei wneud yn ein cymunedau. A allwch roi syniad i ni sut rydych yn bwriadu ymateb i'r cynigion hyn? Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud cynnig cyflog i wasanaeth tân yr Alban sydd, yn ôl pob golwg, y tu allan i'r strwythur negodi presennol. A allwch roi syniad i ni a ydych yn bwriadu gwneud yr un peth?
I met the national joint council and the Fire Brigades Union and employers' side on 30 January in order to discuss a paper that has been presented to me and other UK Ministers from the national joint council on different ways in which our fire service can develop in order to provide greater services for the community. We do already have a number of additional services delivered by the fire service across different parts of Wales. It is my objective to ensure that we're able to continue this conversation with the fire service, the FBU and the NJC in order to reach an agreement.
I'm also aware of the point that the Member makes about the situation in Scotland. I was very clear with the NJC that I do not necessarily see it as being, as it is currently structured, fit for purpose for the future. I certainly want to ensure that the national Governments in Wales and Scotland are able to have a greater ability to influence what happens there, whilst accepting that we are not the employers in this case, and there has to be a forum for national collective bargaining. We don't disagree with that principle, but we do need, I believe, to have a richer conversation with and about the fire services for the future.
I will also say, Presiding Officer, that I am looking at the moment at reform of the fire and rescue authorities in Wales, and I will be making a further statement on this matter to the National Assembly in due course.
Cyfarfûm â'r cyd-gyngor cenedlaethol ac Undeb y Brigadau Tân ac ochr y cyflogwyr ar 30 Ionawr er mwyn trafod papur a gyflwynwyd i mi a Gweinidogion eraill y DU gan y cyd-gyngor cenedlaethol ar ffyrdd gwahanol y gall ein gwasanaeth tân ddatblygu er mwyn darparu gwasanaethau gwell ar gyfer y gymuned. Mae gennym eisoes nifer o wasanaethau ychwanegol sy'n cael eu darparu gan y gwasanaeth tân ledled gwahanol rannau o Gymru. Fy nod yw sicrhau ein bod yn gallu parhau â'r sgwrs hon gyda'r gwasanaeth tân, Undeb y Brigadau Tân a'r cyd-gyngor cenedlaethol er mwyn dod i gytundeb.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r pwynt a wna'r Aelod am y sefyllfa yn yr Alban. Dywedais yn glir iawn wrth y cyd-gyngor cenedlaethol nad wyf o reidrwydd yn ystyried ei fod, fel y mae wedi'i strwythuro ar hyn o bryd, yn addas at y diben ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, rwyf am sicrhau bod gan y Llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru a'r Alban fwy o allu i ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yno, gan gydnabod nad ni yw'r cyflogwyr yn yr achos hwn, ac mae'n rhaid cael fforwm ar gyfer cydfargeinio cenedlaethol. Nid ydym yn anghytuno â'r egwyddor honno, ond credaf fod arnom angen sgwrs fwy cyfoethog gyda ac ynglŷn â'r gwasanaethau tân ar gyfer y dyfodol.
Hoffwn ddweud hefyd, Lywydd, fy mod yn ystyried diwygio'r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ar hyn o bryd, a byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y mater hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol maes o law.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses ar gyfer trosglwyddo rhwymedigaethau i awdurdod lleol olynol gan ei ragflaenydd statudol yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ51797
7. Will the Cabinet Secretary make a statement on the process for transferring liabilities to a successor local authority from its statutory predecessor following a reorganisation in local government? OAQ51797
Any legislation for reorganisation would include provision specifying that all liabilities, including criminal liabilities, would transfer from the predecessor authority to the new authority on the day that reorganisation took effect.
Byddai unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer ad-drefnu yn cynnwys darpariaeth sy'n pennu y byddai'r holl rwymedigaethau, gan gynnwys rhwymedigaethau troseddol, yn trosglwyddo o'r awdurdod blaenorol i'r awdurdod newydd ar y diwrnod y byddai'r ad-drefnu'n dod i rym.
Thank you, Cabinet Secretary. The Court of Appeal judgment in the case of Powys County Council v. Price and Hardwick overturns a High Court decision that could have wide ramifications for local authorities in relation to their liabilities under the contamination land regime. The Environmental Protection Act 1990 says that primary responsibility for the remediation of contaminated land is the original polluter, even if they no longer have an interest in the land in question. However, the Court of Appeal has taken a different approach, overturning the original High Court decision, and says that Powys is not liable for pollution caused by its predecessor landfill operations, meaning that current landowners may be held responsible for remediation, even though they had no part in the original pollution. You will appreciate this is causing great concern to some landowners in Powys, I'd therefore be grateful if you could state what the ramifications are for local authorities of this Court of Appeal judgment and confirm whether or not you will work with colleagues to resolve what appears to be a legal loophole.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dyfarniad y Llys Apêl yn achos Cyngor Sir Powys v. Price a Hardwick yn gwrthdroi penderfyniad gan yr Uchel Lys a allai greu goblygiadau eang i awdurdodau lleol o ran eu rhwymedigaethau o dan y drefn tir halogedig. Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi mai'r llygrwr gwreiddiol sydd â chyfrifoldeb sylfaenol am adfer tir halogedig, hyd yn oed os nad oes ganddynt fuddiant yn y tir dan sylw mwyach. Fodd bynnag, mae'r Llys Apêl wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol, gan wrthdroi penderfyniad gwreiddiol yr Uchel Lys, ac mae'n dweud nad yw Powys yn atebol am lygredd a achoswyd gan weithrediadau tirlenwi eu rhagflaenydd, gan olygu y gall tirfeddianwyr presennol fod yn gyfrifol am adfer, hyd yn oed os nad oedd ganddynt unrhyw beth i'w wneud â'r llygru gwreiddiol. Byddwch yn deall bod hyn yn peri cryn bryder i rai tirfeddianwyr ym Mhowys, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallech nodi beth yw goblygiadau'r dyfarniad hwn gan y Llys Apêl i awdurdodau lleol a chadarnhau a fyddwch yn gweithio gyda'ch cyd-Aelodau i ddatrys yr hyn sydd, yn ôl pob golwg, yn fwlch yn y gyfraith.
I'm grateful to the Member for that question. Can I say to him it's clearly an issue that I will need to consider in greater detail than to provide a full answer this afternoon? [Laughter.]
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. A gaf fi ddweud wrtho ei fod yn amlwg yn fater y bydd angen i mi ei ystyried yn fwy manwl na rhoi ateb llawn y prynhawn yma? [Chwerthin.]
I'll write to you.
Byddaf yn ysgrifennu atoch.
I hope that Members will sympathise with that.
Can I say, Presiding Officer, that I will make a written statement on this matter, since it's clearly of interest to the Chamber and it's clearly an important issue that we need to address?
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydymdeimlo â hynny.
A gaf fi ddweud, Lywydd, y byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater, gan ei fod yn amlwg o ddiddordeb i'r Siambr ac mae'n amlwg yn fater pwysig y mae angen inni fynd i'r afael ag ef?
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strwythur presennol y gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru? OAQ51789
8. Will the Cabinet Secretary make a statement on the current structure of the fire and rescue service in Wales? OAQ51789
The current structure of fire and rescue authorities dates from the mid-1990s. It needs reform to ensure that fire and rescue authorities are properly accountable for delivery and spending. This will not necessarily mean changes to the number or coverage of fire and rescue authorities.
Mae strwythur presennol yr awdurdodau tân ac achub yn dyddio o ganol y 1990au. Mae angen ei ddiwygio er mwyn sicrhau bod awdurdodau tân ac achub yn gwbl atebol am gyflawniad a gwariant. Ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu newidiadau i nifer neu ardaloedd gweithredu'r awdurdodau tân ac achub.
The structure of principal local authorities, including today, has been discussed regularly—for as long back as I can remember—but the structure of fire and rescue services does not seem to have been considered. Many believe that the structure of the Mid and West Wales Fire and Rescue Service was created for political reasons. I do not see the community interest of the ability to provide emergency support between Machynlleth and Margam or Welshpool and Worm's Head. Will the Cabinet Secretary consider a review of the structure of fire and rescue services in Wales? If we're only going to have three, I'm sure that parts of northern Powys would fit more easily into north Wales than they do in with Neath Port Talbot and Swansea.
Mae strwythur y prif awdurdodau lleol wedi cael ei drafod yn rheolaidd—cyhyd ag y gallaf gofio—gan gynnwys heddiw, ond ymddengys nad yw strwythur y gwasanaethau tân ac achub wedi cael ei ystyried. Mae llawer yn credu bod strwythur Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael ei greu am resymau gwleidyddol. Nid wyf yn gweld y budd cymunedol yn y gallu i ddarparu cymorth brys rhwng Machynlleth a Margam neu'r Trallwng a Phen Pyrod. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried adolygu strwythur y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru? Os mai tri gwasanaeth yn unig a fydd gennym, rwy'n siŵr y byddai rhannau o ogledd Powys yn perthyn yn well i ogledd Cymru nag i Gastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
I'm glad to hear, Presiding Officer, the Member for Swansea East arguing for changes to the structure and organisation of local government bodies in Wales. I'm delighted that he's joined us in that consensus. Can I say to him that it isn't my intention at present to make any statements on this matter except to say that I have written to the chairs of all three fire and rescue authorities in Wales outlining what I believe the case for change happens to be? I'm very happy, Presiding Officer, to put that letter in the library for all Members to see that letter, to see that correspondence, and I've asked the chairs of the fire and rescue authorities to come to me with a response to that when they're able to do so. It is my intention, Presiding Officer, in all these matters, to move ahead with a maximum amount of consensus. So, at present, it's not my intention to make specific proposals for the reform of fire and rescue authorities—simply to say that I believe that reform is necessary and that the status quo is not sustainable.
Lywydd, rwy'n falch o glywed yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn dadlau dros newidiadau i strwythur a threfniadaeth cyrff llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n falch iawn ei fod wedi ymuno â ni yn y consensws hwnnw. A gaf fi ddweud wrtho nad wyf, ar hyn o bryd, yn bwriadu gwneud unrhyw ddatganiad ar y mater hwn, ac eithrio dweud fy mod wedi ysgrifennu at gadeiryddion y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru yn amlinellu'r hyn rwy'n ei gredu sy'n achos dros newid? Rwy'n fwy na pharod, Lywydd, i roi'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell i'r holl Aelodau ei weld, yr ohebiaeth honno, ac rwyf wedi gofyn i gadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub ymateb i hynny pan fyddant yn gallu gwneud hynny. Fy mwriad, Lywydd, mewn perthynas â'r holl faterion hyn, yw bwrw ymlaen gyda chymaint o gonsensws â phosibl. Felly, ar hyn o bryd, nid wyf yn bwriadu gwneud argymhellion penodol ar gyfer diwygio'r awdurdodau tân ac achub—dim ond dweud fy mod yn credu bod angen eu diwygio, ac nad yw'r status quo yn gynaliadwy.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James. A'r cwestiwn cyntaf—Suzy Davies.
The next item is questions to the Leader of the House and Chief Whip, Julie James. And the first question is from Suzy Davies.
1. Pa asesiad y mae Arweinydd y Tŷ wedi'i wneud o allu seilwaith digidol Cymru i ymdrin â'r defnydd o radio digidol yng Nghymru? OAQ51813
1. What assessment has the Leader of the House made of the ability of Wales’s digital infrastructure to deal with digital radio usage in Wales? OAQ51813
The Welsh Government has consistently stressed to the UK Government that one of the fundamental criteria driving digital radio switchover should be that the coverage in Wales is no less than that in the rest of the UK. We would not be in favour of digital switchover for radio until there is a guarantee of at least 97 per cent coverage for digital audio broadcasting throughout Wales.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU y dylai un o'r meini prawf sylfaenol sy'n gyrru'r broses o drosglwyddo i radio digidol nodi na ddylai'r argaeledd fod yn llai yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Ni fyddem o blaid trosglwyddo i radio digidol hyd nes y ceir sicrwydd fod argaeledd darlledu sain digidol yn 97 y cant o leiaf ledled Cymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.
Thank you for that answer. The UK Government has indicated, of course, when it's going to consider switching over, or a date for that anyway, when 50 per cent of all radio listening is via digital platform, when national DAB coverage is comparable to FM, and local DAB coverage reaches 90. So, I was interested in your 97 per cent figure there. Those figures have been pretty much reached in England, and certainly as an average in the UK, so what additional infrastructure do you think we need to make sure that Wales catches up quickly?
Diolch am eich ateb. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud, wrth gwrs, pryd y byddant yn ystyried trosglwyddo i ddigidol, neu ddyddiad ar gyfer hynny beth bynnag, pan fydd 50 y cant o'r holl wrando a wneir ar radio yn digwydd drwy blatfformau digidol, pan fydd argaeledd darlledu sain digidol (DAB) cenedlaethol yn debyg i argaeledd FM, a phan fydd argaeledd DAB lleol yn cyrraedd 90 y cant. Felly, roedd gennyf ddiddordeb yn y ffigur o 97 y cant a grybwyllwyd gennych. Mae'r ffigurau hynny wedi'u cyrraedd fwy neu lai yn Lloegr, ac yn sicr fel cyfartaledd yn y DU, felly pa seilwaith ychwanegol sydd ei angen arnom yn eich tyb chi, er mwyn sicrhau bod Cymru yn dal i fyny'n gyflym?
Well, the big issue always in Wales is the difficulty of where the population is, and this is a problem for all of these sorts of services, and it's why we have a constant argument with the UK Government about what the proportional coverage should be. And that's because, as I'm sure I've expressed in this Chamber very often, everybody in Wales is spread out into every nook and cranny of Wales. So, we miss out quite large sections of the population, percentage-wise, if we concentrate on the high-population coverage areas. So, we have that constant conversation with them, and the difficulty is—it's exactly the same for much of the rest of the mobile coverage—we need a lot more masts in Wales to get the service out there. So, what we've been trying to do is make the UK understand that Wales has a specific issue and that we need a specific solution for it. It's not done through the broadband infrastructure, it's done through the broadcasting infrastructure. However, of course, you can pick up digital radio through the internet if you want to, and so our digital roll-out in terms of broadband will assist, but we're nevertheless insisting that the coverage should be good enough to cover the geographical spread of Wales as well as its population base.
Wel, y broblem fawr bob amser yng Nghymru yw'r anawsterau o ran lleoliad y boblogaeth, ac mae hon yn broblem ar gyfer yr holl fathau hyn o wasanaethau, a dyna pam rydym yn dadlau'n barhaus â Llywodraeth y DU ynglŷn â beth ddylai'r argaeledd cyfrannol fod. A'r rheswm am hynny, fel rwyf wedi'i fynegi yn y Siambr hon sawl tro rwy'n siŵr, yw bod pawb yng Nghymru ar wasgar ym mhob twll a chornel o Gymru. Felly, rydym yn methu rhannau eithaf mawr o'r boblogaeth, o ran canran, os ydym yn canolbwyntio ar yr ardaloedd â phoblogaeth fawr. Felly, rydym yn cael y sgwrs gyson honno gyda hwy, a'r drafferth yw—mae'r un peth yn wir mewn perthynas â signal ffonau symudol, i raddau helaeth—mae arnom angen llawer mwy o fastiau yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaeth. Felly, yr hyn rydym wedi ceisio'i wneud yw sicrhau bod y DU yn deall bod gan Gymru broblem benodol a bod arnom angen ateb penodol ar ei chyfer. Nid drwy'r seilwaith band eang y mae gwneud hynny, ond drwy'r seilwaith darlledu. Fodd bynnag, gallwch wrando ar radio digidol ar y rhyngrwyd os dymunwch, wrth gwrs, ac felly bydd y broses o gyflwyno gwasanaethau digidol o ran band eang yn gymorth, ond serch hynny rydym yn mynnu y dylai'r argaeledd fod yn ddigon da i gynnwys Cymru gyfan yn ddaearyddol yn ogystal â'i phoblogaeth.
A gaf i sicrhau'r Ysgrifennydd Cabinet nad ydw i'n mynd i gymryd fy nghawod trwy droi'r internet arno? Rydw i eisiau gwrando ar y radio yn y bore yn Aberystwyth, ac nid cymunedau bach sydd yn colli radio digidol. Mae yna wasanaeth digidol yn Aberystwyth, ond nid oes Radio Cymru na Radio Wales, ac felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod ein darlledwyr cenedlaethol ni ar gael ym mhob rhan o Gymru cyn ein bod ni'n caniatáu i unrhyw droi bant o'r signal FM. Rydw i'n siarad fel rhywun sydd wedi troi at ddigidol ers dros 15 mlynedd. Rydw i'n ffan mawr o radio digidol, ond mae'n loes calon i mi na fedraf i wrando ar Radio Cymru a rhywun fel Rhys Mwyn gyda'r nos yn Aberystwyth.
May I assure the Cabinet Secretary that I'm not going to turn the internet on first thing in the morning? I want to listen to the radio in the morning in Aberystwyth, and it's not just smaller communities that are missing out on digital radio. There is a digital service in Aberystwyth, but there is no Radio Cymru or Radio Wales available, so we must ensure that our national broadcasters are available in all parts of Wales before we allow any switch-off of the FM signal. I speak as someone who has turned to digital for over 15 years. I'm a big fan of digital radio, but it causes me great concern that I can't listen to Radio Cymru and someone like Rhys Mwyn during the evenings in Aberystwyth.
Yes, I sympathise with that very much. Welsh Government officials have continued to raise this issue in meetings with the UK Government, the BBC, Ofcom, UK Digital Radio, and we continue to do so. In addition, our position in relation to DAB has been included in the Welsh Government's responses to various broadcasting consultations, including our recent response to the consultation on Ofcom's annual plan for 2018-19. Last October, UK Digital Radio ran a briefing session in Cardiff with a number of stakeholders to discuss recent developments in relation to digital radio. During that event, a number of organisations, including the Welsh Government, stressed again that, despite improvements in coverage of DAB in some parts of Wales, there is still a long way to go before we might contemplate any such switchover.
Ie, rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â hynny. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i godi'r mater hwn mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU, y BBC, Ofcom, UK Digital Radio, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Yn ogystal, mae ein safbwynt mewn perthynas â DAB wedi'i gynnwys yn ymatebion Llywodraeth Cymru i wahanol ymgynghoriadau darlledu, gan gynnwys ein hymateb diweddar i'r ymgynghoriad ar gynllun blynyddol Ofcom ar gyfer 2018-19. Fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd sesiwn friffio gan UK Digital Radio yng Nghaerdydd gyda nifer o randdeiliaid i drafod datblygiadau diweddar mewn perthynas â radio digidol. Yn ystod y digwyddiad hwnnw, pwysleisiodd nifer o sefydliadau unwaith eto, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, fod llawer i'w wneud o hyd, er gwaethaf gwelliannau o ran argaeledd DAB mewn rhai rhannau o Gymru, cyn y gellid ystyried unrhyw drosglwyddo o'r fath.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cydraddoldeb i'r gymuned drawsryweddol yng Nghymru? OAQ51815
2. What steps is the Welsh Government taking to support equality for the transgender community in Wales? OAQ51815
The Welsh Government provides equality grant funding to Stonewall Cymru. Part of this funding supports a transgender engagement officer to lead on trans equality issues. They work within communities at a grass-roots level to hear trans voices and ensure they are fully engaged with the services designed to support them.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant cydraddoldeb i Stonewall Cymru. Mae rhan o'r cyllid hwn yn cefnogi swyddog ymgysylltu trawsrywedd i arwain ar faterion cydraddoldeb trawsryweddol. Maent yn gweithio mewn cymunedau ar lawr gwlad i wrando ar leisiau pobl drawsryweddol a sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n llawn â'r gwasanaethau a gynlluniwyd i'w cefnogi.
Thank you for that. You are probably aware that the latest Stonewall report identified that two in 10 trans people—that's 41 per cent—and three in 10 of non-binary people—31 per cent—have experienced a hate crime or incident because of their gender identity over the last 12 months. Now, this is, obviously, totally unacceptable, and you'll be aware that the Westminster Government is consulting on reform of the Gender Recognition Act 2004. Cabinet Secretary, will the Welsh Government be taking part in this? Will you be responding to the consultation? And how else will you be involved in trying to influence changes to that Gender Recognition Act in order to provide more safety, more security and more protection to the trans community throughout Wales and the rest of the UK?
Diolch. Fe fyddwch yn gwybod bod adroddiad diweddaraf Stonewall wedi nodi bod dau o bob 10 unigolyn trawsryweddol—sef 41 y cant—a thri o bob 10 unigolyn anneuaidd—31 y cant—wedi dioddef digwyddiad neu drosedd casineb oherwydd eu hunaniaeth o ran rhywedd dros y 12 mis diwethaf. Nawr, mae hyn, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol, a byddwch yn gwybod bod Llywodraeth San Steffan yn ymgynghori ar ddiwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn hyn? A fyddwch yn ymateb i'r ymgynghoriad? A sut arall y byddwch yn cymryd rhan er mwyn ceisio dylanwadu ar newidiadau i'r Deddf Cydnabod Rhywedd er mwyn darparu mwy o ddiogelwch, mwy o ddiogeledd a mwy o amddiffyniadau i'r gymuned drawsryweddol ledled Cymru a gweddill y DU?
Well, absolutely. I'm sure the Member knows that the Gender Recognition Act is not devolved to Wales, but we welcome the UK Government's plans to reform the Act, and we've been engaging, at an official level, with those plans.
All our stakeholders tell us of the increasingly negative media and social media attacks our trans communities are facing. We don't like the damaging narrative at all, and we've been working with trans people to address the barriers they face in equality. We fund a number of organisations, which we have specifically asked to be aware of the trans issues. We fund Victim Support, for example, and we've been working with them to make sure that our training is in place for everybody who is involved in our Supporting People programmes so that they have specific training. We've been rolling that specific training out for specifically that reason. We're very, very much aware that we've a long way to go, but we are in the process of working on a number of initiatives, in conjunction with the community themselves, to make sure that we get the very best outcomes for trans people in Wales, in all our communities.
Wel, yn sicr. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol nad yw'r Deddf Cydnabod Rhywedd wedi'i datganoli i Gymru, ond rydym yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio'r Ddeddf, ac rydym wedi bod yn ymgysylltu, ar lefel swyddogol, gyda'r cynlluniau hynny.
Dywed pob un o'n rhanddeiliaid wrthym am yr ymosodiadau mwyfwy negyddol y mae ein cymunedau trawsryweddol yn eu hwynebu yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol. Nid ydym yn hoff o'r naratif niweidiol o gwbl, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl drawsryweddol i fynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran cydraddoldeb. Rydym yn ariannu nifer o sefydliadau, ac rydym wedi gofyn yn benodol iddynt fod yn ymwybodol o faterion trawsryweddol. Rydym yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr, er enghraifft, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod ein hyfforddiant ar gael i bawb sy'n ymwneud â'n rhaglenni Cefnogi Pobl fel y gallant gael hyfforddiant penodol. Rydym wedi cyflwyno'r hyfforddiant hwnnw am y rheswm hwnnw'n benodol. Rydym yn ymwybodol iawn fod llawer o waith gennym i'w wneud o hyd, ond rydym yn gweithio ar nifer o fentrau ar y cyd â'r gymuned eu hunain, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer pobl drawsryweddol yng Nghymru, ym mhob un o'n cymunedau.
Thank you. I now call the party spokespeople to question the leader of the house, and the first is the Welsh Conservatives' spokesperson, Russell George.
Diolch. Galwaf ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i arweinydd y tŷ, a daw'r cwestiwn cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.
Diolch, Deputy Presiding Officer. Leader of the house, today marks the end of the two-month extension to the Superfast Cymru project. I've repeatedly asked you and Openreach for details of how many premises were told that they were in scope of the Superfast Cymru project before 31 December, only for the project to end before they had been connected, and for a list of 2,500 premises, which are part of the two-month extension. Can you provide me with an answer to these questions today?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae heddiw'n nodi diwedd yr estyniad o ddeufis i brosiect Cyflymu Cymru. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i chi ac i Openreach am fanylion ynglŷn â sawl eiddo y dywedwyd wrthynt eu bod yn rhan o brosiect Cyflymu Cymru cyn 31 Rhagfyr, ond bod y prosiect wedi dod i ben cyn iddynt gael eu cysylltu, ac am restr o 2,500 eiddo, sy'n rhan o'r estyniad o ddeufis. A allwch roi ateb i'r cwestiynau hyn i mi heddiw?
I'm afraid I can't. As I said, it takes us somewhere between 12 and 16 weeks to go through the very vigorous tests and verification process for the claims put in by BT under the superfast contract, but I can assure the Member that as soon as I have that data, I will make it available to the house.
Yn anffodus, ni allaf wneud hynny. Fel y dywedais, mae'n cymryd rhwng 12 ac 16 wythnos inni fynd drwy'r profion trwyadl iawn a'r broses wirio mewn perthynas â'r hawliadau a wnaed gan BT o dan y contract Cyflymu Cymru, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, cyn gynted ag y bydd y data hwnnw gennyf, y byddaf yn ei roi i'r tŷ.
I'm grateful for that. I'm also grateful that you have previously acknowledged the communication issues that have plagued the Superfast Cymru project, and you've pledged to address them with Openreach. However, communication issues do continue. When will the information on the Openreach broadband checker finally reflect what the accurate position is for all premises, including those enabled under the two-month extension? And for those who were in scope for an upgrade under Superfast Cymru but missed out, when will it become clear whether or not they will be included in the next scheme?
Rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar eich bod eisoes wedi cydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi llesteirio prosiect Cyflymu Cymru, ac rydych wedi addo mynd i'r afael â hwy gydag Openreach. Fodd bynnag, mae'r problemau cyfathrebu yn parhau. Pryd y bydd y wybodaeth ar wiriwr band eang Openreach yn adlewyrchu sefyllfa fanwl gywir pob safle, gan gynnwys y rhai a alluogwyd drwy'r estyniad o ddeufis? Ac i'r rheini a oedd yn gymwys am waith uwchraddio o dan brosiect Cyflymu Cymru ond a fethodd ei gael, pryd y cânt wybod a fyddant yn cael eu cynnwys yn y cynllun nesaf ai peidio?
Yes, I think there are some communications issues still. Some of those are very complicated now because they are to do with the availability of connections via particular internet service providers, and we have been working with a number of Assembly Members—you included—to make sure that people are getting the right information about the question to ask. Because we have had some examples of people attempting to buy the services through an internet service provider that doesn't provide, for example, fibre-to-the-premises-type services, and the individual being told that the service isn't available, rather than that the particular provider doesn't provide it. So, we've got some complex communications issues going on at the moment. We have got a number of pieces of information on the website to assist with that. In terms of the successor programmes, we're very pleased that we're as near as we can be to looking at what can be done about the stranded assets programme, which I know the Member is very familiar with as well. I'm hoping to have a definitive list of the additional premises that were connected as a result of our extension, so that we could get the ones that have been completed to a very great extent done very shortly. And we think it's actually more than we originally planned, which is good news, but it's what's holding up the information. And in terms of the bespoke programme, we're going to be rolling that out as we speak to individual communities, and they will have a bespoke solution, which they will very much be in control of.
Ie, credaf fod yna rai problemau cyfathrebu o hyd. Mae rhai ohonynt yn gymhleth iawn yn awr gan eu bod yn ymwneud ag argaeledd cysylltiadau drwy ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd penodol, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o Aelodau'r Cynulliad—gan eich cynnwys chi—i sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir ynglŷn â'r cwestiwn i'w ofyn. Oherwydd rydym wedi cael rhai enghreifftiau o bobl yn ceisio prynu'r gwasanaethau drwy ddarparwr gwasanaethau rhyngrwyd nad yw'n darparu gwasanaethau ffeibr i'r eiddo, er enghraifft, a'r unigolyn yn cael gwybod nad yw'r gwasanaeth ar gael, yn hytrach na bod y darparwr penodol hwnnw yn methu ei ddarparu. Felly, mae gennym rai problemau cyfathrebu cymhleth ar hyn o bryd. Mae gennym lawer o wybodaeth ar y wefan i gynorthwyo gyda hynny. O ran y rhaglenni olynol, rydym yn falch iawn ein bod mor agos ag y gallwn fod i edrych ar beth y gellir ei wneud ynglŷn â'r rhaglen asedau amddifad, a gwn fod yr Aelod yn gyfarwydd iawn â'r rhaglen honno hefyd. Rwy'n gobeithio cael rhestr derfynol o'r eiddo ychwanegol a gysylltwyd o ganlyniad i'n hestyniad, fel y gallwn sicrhau bod y rhai sydd bron â chael eu cwblhau yn cael eu cwblhau yn fuan iawn. A chredwn fod y nifer yn fwy nag a gynlluniwyd gennym yn wreiddiol, sy'n newyddion da, ond dyna sy'n dal y wybodaeth yn ôl. Ac o ran y rhaglen bwrpasol, byddwn yn ei chyflwyno wrth inni siarad â chymunedau unigol, a byddant yn cael ateb pwrpasol y bydd ganddynt reolaeth drosto.
I very much look forward to receiving that additional information. Can I finally turn to the mobile action plan, which to date seems to be characterised by its lack of action? Are you concerned by the comments of your colleague the Cabinet Secretary responsible for planning, who in a recent letter to the Economy, Infrastructure and Skills Committee, appears to have kicked into the long grass the planning reforms that are required to bring Wales in line with planning reforms that have taken place in England and Scotland, to enable the roll-out of mobile infrastructure? What do you say to the mobile industry, and to those people in rural areas who remain without coverage, who are concerned that the Welsh Government does not have the appetite to address the barriers of rolling out a critical mobile infrastructure, and without which coverage improvements cannot be delivered in a timely way? With positive actions being taken elsewhere in the UK, do you agree that this could lead to a situation where Wales does fall significantly behind? And, in your answer, please don't tell me that mobile is the responsibility of the UK Government, when these levers are very much the responsibility of the Welsh Government.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn y wybodaeth ychwanegol. Yn olaf, a gaf fi droi at y cynllun gweithredu ar ffonau symudol, a nodweddwyd hyd yn hyn, mae'n ymddangos, gan ei ddiffyg gweithredu? A ydych yn pryderu am sylwadau eich cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio, ac sydd, mewn llythyr diweddar at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i'w weld wedi gwthio i'r naill ochr y diwygiadau cynllunio sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru yn cydymffurfio â diwygiadau cynllunio a gyflwynwyd yn Lloegr ac yn yr Alban, er mwyn gallu cyflwyno seilwaith telathrebu symudol? Beth a ddywedwch wrth y diwydiant ffonau symudol, ac wrth y bobl mewn ardaloedd gwledig nad oes ganddynt signal o hyd, sy'n pryderu nad oes gan Lywodraeth Cymru awydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau sydd ynghlwm wrth gyflwyno seilwaith telathrebu symudol hollbwysig, a hebddo, ni ellir cyflawni gwelliannau i'r signal mewn modd amserol? Gyda chamau cadarnhaol yn cael eu cymryd mewn mannau eraill yn y DU, a ydych yn cytuno y gallai hyn arwain at sefyllfa lle mae Cymru ar ei hôl hi'n sylweddol? Ac yn eich ateb, os gwelwch yn dda, peidiwch â dweud wrthyf mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwasanaethau symudol, pan fo'r dulliau hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru.
Well, of course, mobile services are not devolved, so it's—. We don't have some of the levers that I would very much like to have in order to move some of these things forward.
Wel, wrth gwrs, nid yw gwasanaethau symudol wedi cael eu datganoli, felly mae'n—. Nid oes gennym rai o'r dulliau y buaswn yn hoffi eu cael er mwyn bwrw ymlaen â rhai o'r pethau hyn.
Planning is.
Mae cynllunio wedi ei ddatganoli.
But of course some of the levers are within our control. We undertook a piece of planning research to look at what attitudes across Wales were to just increasing mast sizes. And, as I said in my earlier answer about digital radio, the problem with Wales is the population is spread out into every nook and cranny. Just making the masts higher doesn't solve the problem—it's not a silver bullet in any way. And very large numbers of the communities who live in the most beautiful parts of Wales don't want their landscape covered with a lot of very high masts. So, we must come up with some other solutions to that.
So, it is a conversation between us and the UK Government, because we think that, for very rural areas, and low geographical population coverage, we will have to have some solutions that are unpalatable to the industry, such as the ability to roam, for example, between networks. So, if you have 97 per cent coverage for a single network, that's of no use to you at all if you're not on that network, and it doesn't solve the tourist problem either. So it may well be that everybody who lives in the area can swap to that network, but that's useless if you're trying to run a tourist business, and you've got people coming in on the other networks. So, I'm afraid I think there are some more innovative solutions that will need to be put in place by the UK Government in order to allow us to have the very best coverage in Wales, and I continue to press for that.
In the meantime, of course, we have gone out to consultation on the revised 'Planning Policy Wales', in order to gauge what appetite there is in those communities for increased mast coverage, and increased mast height, as a balance for coverage as against the destruction of our very beautiful landscape.
Ond wrth gwrs, mae rhai o'r dulliau o fewn ein rheolaeth. Gwnaethom waith ymchwil i edrych ar agweddau ledled Cymru tuag at gynyddu maint mastiau. Ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach am radio digidol, y broblem gyda Chymru yw bod y boblogaeth wedi ei gwasgaru i bob twll a chornel. Nid yw gwneud y mastiau'n uwch yn datrys y broblem—nid yw'n ateb hollgynhwysol mewn unrhyw ffordd. Ac nid yw niferoedd mawr iawn o'r cymunedau sy'n byw yn y rhannau harddaf o Gymru eisiau i'w tirwedd gael ei gorchuddio â llawer o fastiau uchel iawn. Felly, mae'n rhaid i ni lunio rhai atebion eraill i hynny.
Felly, mae'n sgwrs rhyngom ni a Llywodraeth y DU, oherwydd rydym yn credu, ar gyfer ardaloedd gwledig iawn, a lefelau isel o boblogaeth ddaearyddol, y bydd yn rhaid i ni gael rhai atebion sy'n annymunol i'r diwydiant, megis y gallu i drawsrwydweithio, er enghraifft, rhwng rhwydweithiau. Felly, os oes gennych signal o 97 y cant ar gyfer un rhwydwaith, nid yw hynny o unrhyw ddefnydd o gwbl i chi os nad ydych ar y rhwydwaith hwnnw, ac nid yw'n datrys y broblem dwristiaeth chwaith. Felly, efallai y gallai pawb sy'n byw yn yr ardal newid i'r rhwydwaith hwnnw, ond mae hynny'n ddiwerth os ydych yn ceisio rhedeg busnes twristiaeth, ac mae gennych bobl yn dod i mewn ar y rhwydweithiau eraill. Felly, mae arnaf ofn fy mod yn credu y bydd angen i Lywodraeth y DU roi atebion mwy arloesol ar waith er mwyn caniatáu i ni gael y signal gorau yng Nghymru, ac rwy'n parhau i bwyso am hynny.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym wedi cynnal ymgynghoriad ynghylch y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, er mwyn mesur faint o awydd sydd yn y cymunedau hynny mewn perthynas â chynyddu nifer y mastiau, a chynyddu uchder mastiau, fel cydbwysedd rhwng cysylltedd a dinistrio ein tirwedd brydferth iawn.
Thank you. Plaid Cymru spokesperson, Siân Gwenllian.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Yr wythnos yma, mae'ch Llywodraeth chi wedi cyhoeddi Bil parhad—y continuity Bill—i sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt materion datganoledig yn cael ei drosglwyddo i gyfraith Cymru. Ond wrth gwrs mae yna agwedd bwysig arall o adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny ydy'r risg sydd yna i hawliau dynol. Felly, beth mae'ch Llywodraeth chi yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y cyfnod ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Thank you very much. This week, your Government has published the continuity Bill to ensure that EU law in terms of devolved issues is transferred into Welsh law. But of course there is another important aspect of leaving the European Union, and that is the risk to human rights. So, what is your Government intending to do to ensure that human rights are maintained in Wales in the post-Brexit era?
Thank you for that very important question actually. We've made it very plain that we're utterly opposed to the repeal of the Human Rights Act 1998, and all that that entails, and we're utterly opposed to any withdrawal from the European convention on human rights. We're also opposed to any lessening of human rights protections in the context of the UK's withdrawal from the EU. It's impossible to set out the potential effects of a bill of rights without sight of exactly how these changes would be proposed to be framed. Even small amendments to the Human Rights Act could potentially raise complex legal issues. So, careful scrutiny of any such reforms will be required. The Welsh Government expects to be consulted on these issues when more concrete proposals are made available. But, I just want to make it absolutely plain that we don't see the need for it. We have a Human Rights Act that's been very effective, and it's been shown to be effective. It was drafted mostly by British lawyers in fact. It works inside a convention that has worldwide approval, and to use one of the old clichés, 'Why fix it if it ain't broke?'
Diolch i chi am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn gwbl wrthwynebus i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a'r cyfan y mae hynny'n ei olygu, ac rydym yn gwbl wrthwynebus i gamu'n ôl mewn unrhyw fodd o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Rydym hefyd yn gwrthwynebu unrhyw leihad mewn amddiffyniadau hawliau dynol yng nghyd-destun y DU yn ymadael â'r UE. Mae'n amhosibl nodi effeithiau posibl bil hawliau heb weld yn union sut yr argymhellid y dylid fframio'r newidiadau hyn. Mae'n bosibl y gallai hyd yn oed gwelliannau bach i'r Ddeddf Hawliau Dynol greu problemau cyfreithiol cymhleth. Felly, bydd angen craffu'n ofalus ar unrhyw ddiwygiadau o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl yr ymgynghorir â hi ynghylch y materion hyn pan fydd cynigion mwy cadarn ar gael. Ond rwyf eisiau dweud yn gwbl glir nad ydym yn gweld yr angen amdani. Mae gennym Ddeddf Hawliau Dynol sydd wedi bod yn effeithiol iawn, ac wedi ei gweld yn bod yn effeithiol. Cafodd ei drafftio gan gyfreithwyr Prydeinig yn bennaf mewn gwirionedd. Mae'n gweithio fel rhan o gonfensiwn sydd wedi cael ei gymeradwyo ledled y byd, ac i ddefnyddio un o'r hen ystrydebau, 'Pam ei drwsio os nad yw wedi torri?'
Yn union, ond mae'n glir mai un o'r risgiau mawr o adael yr Undeb Ewropeaidd ydy bod gan rai o'r rhai oedd ar ochr yr ymgyrch i adael, gan gynnwys rhai o'r bobl fu'n cyllido'r ymgyrch honno, weledigaeth ideolegol wahanol iawn i'r un sydd gennych chi a fi: ideoleg o'r Deyrnas Unedig fel cenedl trethi isel, lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu preifateiddio, a lle mae cyflogwyr yn medru trin eu gweithwyr fel ag y mynnan nhw, heb warchodaeth i hawliau gweithwyr, er enghraifft, na merched ar gyfnodau mamolaeth ac yn blaen. Ac yn sicr, rwy'n gwybod nad dyna yr ydych chi na minnau eisiau ar gyfer Cymru. Felly, sut mae'ch Llywodraeth chi yn paratoi i warchod yr hawliau yma—hawliau pobl, hawliau menywod, hawliau pobl anabl—yn erbyn ymdrechion i wanhau'r hawliau sydd ar hyn o bryd yn rhan o wead ein gwlad ni, a hynny yn rhannol yn sgil deddfwriaeth o du'r Undeb Ewropeaidd?
Exactly, but it is clear that one of the major risks of exiting the European Union is that some of those who were on the leave side of the campaign, including some of those who funded that campaign, have an ideological vision that is very different to the one that you and I hold: the UK as a low-taxation nation, where public services are privatised, and where employers can treat their employees as they choose, without any safeguarding of workers' rights, for example, for women on maternity, and so on and so forth. I know that that isn't what you or I would want for Wales. So, how can your Government prepare to safeguard these rights—the rights of people, the rights of women and disabled people—against efforts to weaken those rights that are currently part of the make-up of our nation, partly because of European legislation?
Absolutely. And that's very much part of the idea of the continuity Bill, to protect our ability as a devolved Government to protect the transfer of current EU regulation into Welsh law, and to keep it embedded therein. And, actually, just to continue our cultural tradition of being extremely proud of being a culture in Wales that protects human rights and actually welcomes people from across the world, seeking asylum and sanctuary, because we're proud of our human rights record. And I, for one, have got no truck at all with changing our position, either in Wales or in the UK as a whole, to anything other than that, and it's one of the reasons that I think that what we're doing is not the right course of action, and we continue to push that point of view very forcefully.
Yn hollol. Ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o syniad y Bil parhad, i amddiffyn ein gallu fel Llywodraeth ddatganoledig i ddiogelu'r broses o drosglwyddo rheoliadau cyfredol yr UE i gyfraith Cymru, a'u cadw wedi eu hymgorffori ynddi. Ac i barhau â'n traddodiad diwylliannol o fod yn hynod o falch o fod yn ddiwylliant yng Nghymru sy'n diogelu hawliau dynol mewn gwirionedd, ac sy'n croesawu pobl o bob cwr o'r byd sy'n ceisio lloches a noddfa, oherwydd rydym yn falch o'n hanes o ran hawliau dynol. Ac nid oes gennyf fi, yn bersonol, unrhyw awydd ein gweld yn newid ein safbwynt, naill ai yng Nghymru neu yn y DU yn ei chyfanrwydd, i unrhyw beth heblaw hynny, ac mae'n un o'r rhesymau pam nad wyf yn credu mai'r hyn a wnawn yw'r ffordd iawn o weithredu, ac rydym yn parhau i wthio'r safbwynt hwnnw'n rymus iawn.
Ond tybed a oes angen mynd ymhellach na'r Bil parhad. Tybed a oes angen deddfwriaeth benodol ynglŷn â hawliau. Mae'r Athro Simon Hoffman wedi cyflwyno tystiolaeth sy'n dweud bod deddfwriaeth ar hawliau o fewn cymhwysedd y Cynulliad yma. Mae o yn dweud:
But I wonder whether we need to go further than the continuity Bill. I wonder whether we need specific legislation on rights. Professor Simon Hoffman has presented evidence stating that legislation on rights is within the competence of this Assembly. He has stated:
'When the revised Schedule 7A—'
of the Wales Act 2017—
'is in force the Welsh Minsters will have power to introduce legislation, and the NAW will be competent to enact legislation in the field of human rights generally'.
Pan fydd Atodlen ddiwygiedig 7A—
o Ddeddf Cymru 2017—
mewn grym bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i gyflwyno deddfwriaeth, a bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys i ddeddfu ym maes hawliau dynol yn gyffredinol.
Felly, mae hynny i mi yn awgrymu bod ffenest o gyfle ar gael rhwng yr amser y daw y Schedule 7A yma i rym a phan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fod yna ffenest o gyfle i ddeddfu i warchod cyn gymaint ag sy'n bosib o'r hawliau dynol a'r hawliau gweithwyr sydd gennym ni ar hyn o bryd. A ydych chi'n credu ei bod hi'n werth pasio deddfwriaeth benodol ynglŷn ag amddiffyn hawliau pobl Cymru?
Therefore, to me, that suggests that there is a window of opportunity here between the time that Schedule 7A comes into force and when the UK leaves the European Union. There is a window of opportunity to legislate to safeguard as much as possible of these human rights and the workers' rights currently in place. Do you believe that it would be valuable to pass specific legislation in terms of protecting the rights of the people of Wales?
Well, I think there's a possibility of that, but as I said, at the moment, the UK Government's plans to reform human rights are on hold—which I'm delighted to hear them say—until the UK's withdrawal from the EU is finalised. This was confirmed in the Conservative 2017 general election manifesto, one of the only bits of it that I greeted with any enthusiasm. It says:
'We will not repeal or replace the Human Rights Act while the process of Brexit is underway but we will consider our human rights legal framework when the process of leaving the EU concludes. We will remain signatories to the European Convention on Human Rights for the duration of the next Parliament.'
So, that's their current position. Our position very clearly is, as I say, we like the Human Rights Act as it is. We like being a member of the convention on human rights. We think that's fundamental to our culture and our society and we'll continue to push for that. But, quite rightly, we will keep a weather eye on what might need to be done, and while we're discussing the continuity Bill, I'm sure we'll be bearing some of those issues in mind.
Wel, credaf fod hynny'n bosibl, ond fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio hawliau dynol wedi'u gohirio—ac rwy'n falch iawn o glywed hynny—hyd nes y bydd y DU wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn derfynol. Cadarnhawyd hyn ym maniffesto Ceidwadol etholiad cyffredinol 2017, un o'r unig ddarnau ohono roeddwn yn frwdfrydig o gwbl yn ei gylch. Mae'n dweud:
Ni fyddwn yn diddymu neu'n disodli'r Ddeddf Hawliau Dynol tra bo proses Brexit yn mynd rhagddi ond byddwn yn ystyried ein fframwaith cyfreithiol ar gyfer hawliau dynol pan fo'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben. Byddwn yn parhau wedi ymrwymo i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol drwy gydol y Senedd nesaf.
Felly, dyna eu safbwynt ar hyn o bryd. Mae ein safbwynt ni yn glir iawn, fel rwy'n ei ddweud, sef ein bod yn hoffi'r Ddeddf Hawliau Dynol fel ag y mae. Rydym yn hoffi bod yn aelod o'r confensiwn ar hawliau dynol. Credwn fod hwnnw'n hanfodol i'n diwylliant a'n cymdeithas a byddwn yn parhau i bwyso amdano. Ond yn hollol briodol, byddwn yn cadw llygad ar yr hyn y gallai fod angen ei wneud, a thra'n bod yn trafod y Bil parhad, rwy'n siŵr y byddwn yn cadw rhai o'r materion hynny mewn cof.
Thank you. UKIP spokesperson, Caroline Jones.
Diolch. Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Leader of the house, Wales is facing a huge demographic shift in the near future, with the number of over-65s set to rocket, and the number of those of working age set to plummet. This presents enormous challenges for public services, particularly health and social care. Increased use of digital technologies can help address these problems, but only if we have the proper digital infrastructure. So, how does your Government plan to ensure that our digital infrastructure is fit for future needs?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae Cymru'n wynebu newid demograffig enfawr yn y dyfodol agos, gyda'r disgwyl y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu'n sylweddol, ac y bydd nifer y rhai sydd o oedran gweithio yn gostwng. Mae hyn yn creu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol. Gall defnydd cynyddol o dechnolegau digidol helpu i ddatrys y problemau hyn, ond nid heb seilwaith digidol priodol. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod ein seilwaith digidol yn addas ar gyfer anghenion y dyfodol?
Yes. We've spent a lot of money, as Members across the Chamber will have heard me say on a number of occasions, on extending superfast broadband right through Wales, and that has a number of effects, not least allowing telemedicine and so on to take effect, so that we take better care of our population as a whole, and specifically those who have any kind of mobility or distance issues. That's very much part of the reason we've spent very large numbers of millions on the roll-out of that digital infrastructure.
I will say, however, to the Member that I have a fundamental problem really with the start of what she said, because one of the issues we now face is the difficulty of attracting migrants of working age into the Welsh economy as a result of her party's pushing of a particular migration policy with which I fundamentally disagree. So, actually, restricting immigration for breeder-age populations, which is what largely migrant populations actually are, is a fundamentally backwards step in readjusting our economy.
Ie. Rydym wedi gwario llawer o arian, fel y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr wedi fy nghlywed yn dweud ar sawl achlysur, ar ymestyn band eang cyflym iawn ledled Cymru, ac mae hynny wedi arwain at nifer o bethau, yn enwedig galluogi telefeddygaeth ac ati i ddod yn weithredol, fel ein bod yn gofalu'n well am y boblogaeth gyfan, ac yn benodol y bobl sydd ag unrhyw fath o broblemau'n ymwneud â symudedd neu bellter. Mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r rheswm pam rydym wedi gwario nifer fawr iawn o filiynau ar gyflwyno'r seilwaith digidol hwnnw.
Fodd bynnag, rwyf am ddweud wrth yr Aelod fod gennyf broblem sylfaenol mewn gwirionedd â dechrau'r hyn a ddywedodd, oherwydd un o'r problemau rydym yn ei hwynebu yn awr yw'r anhawster i ddenu ymfudwyr o oedran gweithio i economi Cymru o ganlyniad i ymdrechion ei phlaid i wthio polisi mewnfudo penodol rwy'n anghytuno'n sylfaenol ag ef. Felly, mewn gwirionedd, mae cyfyngu mewnfudo ymhlith poblogaethau o oedran magu, sef yr hyn yw poblogaethau mudol i raddau helaeth mewn gwirionedd, yn gam sylfaenol tuag yn ôl wrth inni addasu ein heconomi.
Thank you for that answer, leader of the house, because I was coming on to telemedicine, which is fast becoming a solution for healthcare in rural areas and widely seen as a solution to the shortages that we have in primary care. Unfortunately, those same rural areas are poorly provisioned in both broadband and mobile reception. So, if we are to address health inequalities in rural parts of Wales, we have to ensure that digital communications are 100 per cent reliable. So, what discussions have you had with the UK Government and the service providers regarding the provision of reliable digital communications to 100 per cent of the population?
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ, oherwydd roeddwn ar fin sôn am delefeddygaeth, sy'n datblygu i fod yn ateb i ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac yn cael ei weld yn eang fel ateb i'r diffygion sydd gennym ym maes gofal sylfaenol. Yn anffodus, darpariaeth wael sydd yna yn yr ardaloedd gwledig hynny o ran band eang a signal ffonau symudol. Felly, os ydym am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd mewn rhannau gwledig o Gymru, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyfathrebu digidol yn gwbl ddibynadwy. Felly, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a'r darparwyr gwasanaethau ynglŷn â darparu cyfathrebu digidol dibynadwy i 100 y cant o'r boblogaeth?
Well, we've had extensive conversations with the UK Government about this, particularly in light of the Digital Economy Act 2017. They've gone for a 10 Mbps universal service obligation; however, it's not yet at all clear what 'universal' means in this context. It's unlikely to mean 100 per cent as that's not likely to be within the budget associated with the Act. We think 10 Mbps isn't sufficient, and one of the reasons we don't think it's sufficient is that it's not sufficient for telemedicine. In fact, only this morning, in my ministerial data and digital services group, we had a presentation from the Powys Teaching Local Health Board about their new community care information system and we were discussing the need to extend broadband further into rural Wales as part of the new Superfast 2 programme, with a view to getting 30 Mbps minimum speeds across large parts of Wales. It's worth mentioning that without Superfast Cymru none of that would have ever been done: no part of Powys, Ceredigion or Carmarthenshire would ever have been done under a commercial roll-out. So, it's entirely due to the Welsh Government's programme that these areas have any broadband at all.
Wel, rydym wedi cael trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y DU am hyn, yn enwedig yng ngoleuni Deddf yr Economi Ddigidol 2017. Maent wedi dewis rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol o 10 Mbps; fodd bynnag, nid yw'n gwbl glir eto beth y mae 'cyffredinol' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn. Mae'n annhebygol y bydd yn golygu 100 y cant gan nad yw hynny'n debygol o fod o fewn y gyllideb sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf. Nid ydym yn credu bod 10 Mbps yn ddigonol, ac un o'r rhesymau pam nad ydym yn credu ei fod yn ddigonol yw oherwydd nad yw'n ddigonol ar gyfer telefeddygaeth. Yn wir, y bore yma, yn fy ngrŵp gweinidogol ar ddata a gwasanaethau digidol, cawsom gyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys am eu system wybodaeth gofal cymunedol newydd ac roeddem yn trafod yr angen i ymestyn band eang ymhellach i gefn gwlad Cymru fel rhan o'r rhaglen Cyflymu Cymru 2 newydd, gyda golwg ar gael isafswm cyflymder o 30 Mbps ar draws rhannau helaeth o Gymru. Mae'n werth crybwyll na fyddai hynny byth wedi ei wneud heb Cyflymu Cymru: ni fyddai unrhyw ran o Bowys, Ceredigion na Sir Gaerfyrddin byth wedi cael eu cysylltu drwy broses gyflwyno fasnachol. Felly, rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y ffaith bod gan yr ardaloedd hyn unrhyw fand eang o gwbl.
Thank you, once again, for those answers, leader of the house. Our digital infrastructure depends not only upon cables and radio transmitters, but also highly trained personnel, particularly in cyber security and data management. Cyber attacks and data centre outages have wreaked havoc on the NHS in recent times, highlighting the fact that computer scientists are as vital to our NHS as the life scientists. What discussions have you had with the Cabinet Secretary for Education about ensuring Wales has sufficient skilled individuals to protect our digital infrastructure?
Diolch i chi, unwaith eto, am yr atebion hynny, arweinydd y tŷ. Mae ein seilwaith digidol yn dibynnu ar geblau a throsglwyddyddion radio yn ogystal â phersonél wedi'u hyfforddi'n dda, yn arbennig ym maes rheoli data a diogelwch seiber. Mae ymosodiadau seiber a thoriadau yn y canolfannau data wedi creu anhrefn yn y GIG yn ddiweddar, gan amlygu'r ffaith bod gwyddonwyr cyfrifiadurol yr un mor hanfodol i'n GIG a'r gwyddonwyr bywyd. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru ddigon o unigolion medrus i ddiogelu ein seilwaith digidol?
Yes, cyber security is a real live issue for us obviously and I very recently met with Ciaran Martin, the chief executive of the National Cyber Security Centre, and my officials maintain a good working relationship with his organisation. We're very pleased that the NCSC has just announced a dedicated devolved administrations relationships manager to work with us in Wales. Our officials held a workshop with him at the end of January to discuss robust cyber instant management procedures and that's right across the Welsh Government. So, we're very actively involved in ensuring that we have good cyber security across the Welsh public estate.
Ydi, mae diogelwch seiber yn fater byw go iawn i ni yn amlwg a chyfarfûm yn ddiweddar â Ciaran Martin, prif weithredwr y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, ac mae fy swyddogion yn cynnal perthynas waith dda gyda'i sefydliad. Rydym yn falch iawn fod y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol newydd gyhoeddi penodiad rheolwr cysylltiadau gweinyddiaethau datganoledig i weithio gyda ni yng Nghymru. Cynhaliodd ein swyddogion weithdy gydag ef ddiwedd mis Ionawr i drafod gweithdrefnau rheoli seiber uniongyrchol cadarn a hynny ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn weithgar iawn yn sicrhau bod gennym ddiogelwch seiber da ar draws ystâd gyhoeddus Cymru.
Now, we return to the questions on the order paper. Question 3, Mike Hedges.
Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Mike Hedges.
3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth band eang yn Nwyrain Abertawe? OAQ51788
3. Will the Leader of the House provide an update on broadband provision in Swansea East? OAQ51788
Certainly. Although not holding information specifically for Swansea East, under the Superfast Cymru project we have provided access to fast fibre broadband to 24,093 premises across all parts of Swansea, equating to just over 98 per cent completion. The average download speed across Swansea is currently 82.81 Mbps.
Yn sicr. Er nad oes gennyf y wybodaeth benodol ar gyfer Dwyrain Abertawe, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 24,093 o safleoedd ar draws bob rhan o Abertawe fel rhan o brosiect Cyflymu Cymru, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 98 y cant. Y cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar draws Abertawe yw 82.81 Mbps ar hyn o bryd.
And what is the upload speed?
A beth yw'r cyflymder lanlwytho?
There's a big issue with upload speeds depending on what kind of technology you use to connect it and they depend on a number of other factors. So, customers on a fibre-to-the-cabinet connection can expect download speeds of a maximum of about 80 Mbps and upload speeds of around 20 Mbps. But it's dependent on distance from the cabinet, the package the customer buys from their internet service provider and what's called 'contention' on the network, which just means how busy it is. However, customers on a fibre-to-the-premises connection can expect download speeds of around 330 Mbps and upload speeds of around 30 Mbps, and that's dependent on the package that the customer buys as well, but it's not dependent on distance and FTTP is not subject to contention. So, we have the biggest fibre penetration in the UK at the moment, across parts of Wales, because people on a full fibre connection clearly don't have that problem. There is definitely an upload speed problem on copper networks and especially as you go into the fade-out area, and one of the things that's really interesting in Swansea is the BT test for a new way of sending a signal down copper wires in Swansea, called the G.fast test. I'm really looking forward to seeing what the outcome of that will be shortly, to see whether it has an effect that we can roll out elsewhere in Wales.
Mae problem fawr gyda'r cyflymderau lanlwytho yn dibynnu ar ba fath o dechnoleg rydych yn ei defnyddio ar gyfer ei gysylltu, ac maent yn dibynnu ar nifer o ffactorau eraill. Felly, gall cwsmeriaid ar gysylltiad ffeibr i'r cabinet ddisgwyl uchafswm cyflymderau lawrlwytho o tua 80 Mbps a chyflymderau lanlwytho o tua 20 Mbps. Ond mae'n dibynnu ar y pellter o'r cabinet, y pecyn y mae'r cwsmer yn ei brynu gan eu darparwr gwasanaeth rhyngrwyd a'r hyn a gaiff ei alw'n 'gystadleuaeth' ar y rhwydwaith, sy'n golygu pa mor brysur ydyw. Fodd bynnag, gall cwsmeriaid ar gysylltiad ffeibr i'r adeilad ddisgwyl cyflymderau lawrlwytho o tua 330 Mbps a chyflymderau lanlwytho o tua 30 Mbps, ac mae hynny'n dibynnu ar y pecyn y mae'r cwsmer yn ei brynu yn ogystal, ond nid yw'n dibynnu ar bellter ac nid yw cysylltiad ffeibr i'r adeilad yn destun cystadleuaeth. Felly, mae gennym y treiddiad ffeibr mwyaf yn y DU ar hyn o bryd, ar draws rhannau o Gymru, oherwydd, yn amlwg, nid oes gan bobl sydd â chysylltiad ffeibr llawn y broblem honno. Yn bendant mae yna broblem gyda chyflymder lanlwytho ar rwydweithiau copr ac yn enwedig wrth i chi fynd i'r ardal bylu allan, ac un o'r pethau sy'n ddiddorol iawn yn Abertawe yw'r prawf BT ar gyfer ffordd newydd o anfon signal drwy wifrau copr yn Abertawe, o'r enw prawf G.fast. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd canlyniad hynny cyn bo hir, i weld a allwn ei gyflwyno mewn mannau eraill yng Nghymru.
In response to a question that I asked the economy Secretary last year about broadband provision near rail lines, he said that he recognised the importance of Wi-Fi on rail services in Wales and mentioned that Arriva Trains Wales was doing work to improve that at the time. While you know that constituents will enter Swansea train station in Swansea West, it takes them just a matter of seconds, as Mike Hedges will agree, to be in Swansea East and they're already complaining about how fickle the Wi-Fi connection is. Have you spoken to the economy Secretary at all about how we can improve Wi-Fi services on trains? I appreciate that trains aren't your responsibility, but Wi-Fi is, so there's obviously some work to be done together there?
Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais i Ysgrifennydd yr economi y llynedd am ddarpariaeth band eang ger rheilffyrdd, dywedodd ei fod yn cydnabod pwysigrwydd Wi-Fi ar wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a chrybwyllodd fod Trenau Arriva Cymru yn gwneud gwaith i wella hynny ar y pryd. Pan fo etholwyr yn mynd i mewn i orsaf drenau Abertawe yng Ngorllewin Abertawe, fe wyddoch nad yw ond yn cymryd eiliadau, fel y bydd Mike Hedges yn cytuno, i fod yn Nwyrain Abertawe ac maent eisoes yn cwyno am ba mor anwadal yw'r cysylltiad Wi-Fi. A ydych wedi siarad ag Ysgrifennydd yr economi o gwbl ynglŷn â sut y gallwn wella gwasanaethau Wi-Fi ar drenau? Sylweddolaf nad eich cyfrifoldeb chi yw trenau, ond mae Wi-Fi yn gyfrifoldeb i chi, felly yn amlwg mae peth gwaith i'w wneud ar y cyd mewn perthynas â hynny?
Indeed, and his officials attend my ministerial data and digital group, which as I said, met only this morning. One of the topics of conversation was that we're putting in place a new transport data arrangement, as part of the way the officials work, to consider how we might best improve some of the connectivity issues. So, you will know that Arriva Trains Wales has just put Wi-Fi on all of its rolling stock and the rolling stock will transfer when the franchise happens. But Great Western—we've been unable to secure that, although there's a conversation going on. We are, however, looking to see whether an agreement with Network Rail might be productive in terms of using some of the network itself as infrastructure, and, indeed, we're also looking at noding the roads and so on in order to improve some of it. So, I have a very intensive and ongoing conversation with the Cabinet Secretary and his officials about how we can best use the infrastructure that's available to us in order to increase exactly that sort of provision.
Yn wir, ac mae ei swyddogion yn mynychu fy ngrŵp gweinidogol ar ddata a gwasanaethau digidol, a gyfarfu y bore yma fel y dywedais. Un o'r pynciau trafod oedd y trefniant data trafnidiaeth newydd rydym yn ei roi ar waith, fel rhan o'r ffordd y mae swyddogion yn gweithio, i ystyried y ffordd orau o wella rhai o'r materion cysylltedd. Felly, byddwch yn gwybod bod Trenau Arriva Cymru newydd roi Wi-Fi ar bob un o'u cerbydau a bydd y cerbydau'n trosglwyddo pan fydd y fasnachfraint yn digwydd. Ond Great Western—rydym wedi methu sicrhau hwnnw, er bod trafodaeth yn mynd rhagddi. Fodd bynnag, rydym yn edrych i weld a allai cytundeb gyda Network Rail fod yn gynhyrchiol o ran defnyddio peth o'r rhwydwaith ei hun fel seilwaith, ac yn wir, rydym hefyd yn edrych ar gysylltu'r ffyrdd ac ati er mwyn gwella rhywfaint ohono. Felly, rwy'n trafod yn ddwys ac yn barhaus gydag Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio'r seilwaith sydd ar gael i ni er mwyn cynyddu'r union fath hwnnw o ddarpariaeth.
Leader of the house, you say that the take-up rate for superfast broadband has remained much lower than the actual availability of superfast broadband. So, could I ask what you as a Government are doing to ensure that people are aware of the availability of superfast broadband in their area?
Arweinydd y tŷ, rydych yn dweud bod cyfradd y rhai sy'n manteisio ar fand eang cyflym iawn wedi parhau i fod yn is o lawer nag argaeledd band eang cyflym iawn mewn gwirionedd. Felly, a gaf fi ofyn beth rydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o argaeledd band eang cyflym iawn yn eu hardal?
Yes, we've just increased the amount of money that we currently spend on advertising the availability of broadband. We've just procured an advertising agency to go out on a two-county basis at a time—a rolling programme of advertising the availability of superfast in order to increase take-up.
I will say, though, that this is an enormous cultural change. We've all forgotten how fast this change has happened really. So, when this programme was first put in place, BT themselves estimated that about 21 per cent of the population would take up broadband. That's why the gain share is set at 21 per cent. They didn't expect to share any profit with us. It's currently running at just over 50 per cent. That's why we've got so much money to invest in the next stage. But, obviously, the faster that that climbs, the better. It's got quite a timetable on it, so we keep getting that gain share over several years in the future. So, I would encourage all of us to encourage as many people as possible to get online.
Ie, rydym wedi cynyddu swm yr arian rydym yn ei wario ar hyn o bryd ar hysbysebu argaeledd band eang. Rydym newydd gaffael asiantaeth hysbysebu i hysbysebu ar sail dwy sir ar yr un pryd—rhaglen dreigl i hysbysebu argaeledd band eang cyflym iawn er mwyn cynyddu nifer y rhai sy'n manteisio arno.
Hoffwn ddweud, fodd bynnag, fod hwn yn newid diwylliannol anferth. Mae pawb ohonom wedi anghofio pa mor gyflym y digwyddodd y newid hwn mewn gwirionedd. Felly, pan gafodd y rhaglen hon ei rhoi ar waith yn gyntaf, roedd BT eu hunain yn amcangyfrif y byddai tua 21 y cant o'r boblogaeth yn manteisio ar fand eang. Dyna pam fod y gyfran o'r budd wedi'i osod ar 21 y cant. Nid oeddent yn disgwyl rhannu unrhyw elw gyda ni. Ar hyn o bryd mae ychydig dros 50 y cant. Dyna pam y mae gennym gymaint o arian i'w fuddsoddi yn y cyfnod nesaf. Ond yn amlwg, gorau po gyntaf y bydd hwnnw'n cynyddu. Mae amserlen go hir ynghlwm wrtho, felly rydym yn parhau i gael y gyfran honno o'r budd dros nifer o flynyddoedd yn y dyfodol. Felly, buaswn yn annog pob un ohonom i annog cymaint o bobl â phosibl i fynd ar-lein.
4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau nifer y troseddau casineb homoffobig yng Nghymru yn 2018? OAQ51796
4. What action will the Welsh Government take to reduce homophobic hate crime in Wales in 2018? OAQ51796
We continue to work closely with our partners on the hate crime criminal justice board, including the police and Crown Prosecution Service, to tackle homophobic hate crime. We also provide funding to Victim Support Cymru and Stonewall Cymru, through our equality and inclusion programme, which supports work in this area.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid ar fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb, gan gynnwys yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, i fynd i'r afael â throseddau casineb homoffobig. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a Stonewall Cymru, drwy ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, sy'n cefnogi gwaith yn y maes hwn.
Thank you for that answer, leader of the house. Research by Stonewall Cymru has shown that the number of LGBT people in Wales who have experienced hate crime has increased by 82 per cent within the last five years. They also found that four in five hate crimes and incidents go unreported, with younger people particularly reluctant to go to the police. Leader of the house, what is the Welsh Government doing to encourage the reporting of homophobic hate crime by young people and has it considered using social media, such as the This is Me campaign, which raises awareness of domestic violence?
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae ymchwil gan Stonewall Cymru wedi dangos bod nifer y bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru sydd wedi dioddef troseddau casineb wedi cynyddu 82 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. Canfu hefyd na roddir gwybod am bedair o bob pump trosedd neu ddigwyddiad casineb, gyda phobl iau yn arbennig o gyndyn o fynd at yr heddlu. Arweinydd y tŷ, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i roi gwybod am droseddau casineb homoffobig ac a yw wedi ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol, megis ymgyrch Dyma Fi, sy'n codi ymwybyddiaeth o drais domestig?
Yes indeed, we're very proud of the This is Me campaign, which I launched in Gower College a few weeks ago now. It's been widely taken up on social media, and, as the Member will know, it's based very much on promoting what the research shows us, which is that increased gender equality and transgender equality decreases violence as people are able to just express themselves as they wish to be and are not forced into roles and stereotypes that mean that they're not able to cope with their general life.
We have a number of very specific things we do around hate crime. The hate crime criminal justice board will set its 2018 objectives on 9 May. These will be aligned to our 2014 tackling hate crimes and incidents framework. The three objectives are on prevention, support and improving a multi-agency response. We also, as I said in an earlier answer, under the equality and inclusion programme, fund Victim Support at around £624,000 and Stonewall Cymru at around £250,000 a year.
The national hate crime report and support centre, run by Victim Support, continues to raise awareness and help victims of homophobic hate crime. They work closely with their sister service, Rainbow Bridge LGBT domestic abuse service. I hope the Member is aware of Stonewall Cymru's Come Out For LGBT campaign, which encourages people to take a visible stand against LGBT hate crime and show support for LGBT equality in all forms.
We're also, as he specifically asked about schools, working to make sure school staff are well equipped and confident about tackling hate-related bullying. In 2015, the Welsh Government published lesson plans for schools on gender- and transgender-based bullying, aimed at key stages 3 and 4, which can be found in our digital learning service Hwb.
Yn wir, rydym yn falch iawn o ymgyrch Dyma Fi, a lansiwyd gennyf yng Ngholeg Gŵyr ychydig wythnosau yn ôl bellach. Mae llawer wedi cyfeirio'n eang ati ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae wedi cael ei seilio i raddau helaeth ar hyrwyddo beth y mae'r ymchwil yn ei ddangos i ni, sef bod cynnydd mewn cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chydraddoldeb trawsryweddol yn lleihau trais gan fod pobl yn gallu mynegi eu hunain fel y maent yn dymuno a chan nad ydynt yn cael eu gorfodi i gydymffurfio â rolau a stereoteipiau sy'n golygu nad ydynt yn gallu ymdopi â'u bywydau yn gyffredinol.
Mae gennym nifer o bethau penodol iawn rydym yn eu gwneud mewn perthynas â throseddau casineb. Bydd bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb yn nodi ei amcanion ar gyfer 2018 ar 9 Mai. Bydd y rhain yn cael eu cydlynu â'n fframwaith mynd i'r afael â throseddau a digwyddiadau casineb 2014. Mae'r tri amcan yn ymwneud ag atal, cymorth a gwella ymateb amlasiantaethol. Rydym hefyd, fel y dywedais mewn ateb yn gynharach, o dan y rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, yn rhoi tua £624,000 o gyllid i Cymorth i Ddioddefwyr a thua £250,000 y flwyddyn i Stonewall Cymru.
Mae'r ganolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau casineb, a gynhelir gan Cymorth i Ddioddefwyr, yn parhau i godi ymwybyddiaeth a helpu dioddefwyr troseddau casineb homoffobig. Maent yn gweithio'n agos â'u chwaer-wasanaeth, gwasanaeth cam-drin domestig LGBT Rainbow Bridge. Rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn ymwybodol o ymgyrch Dewch Allan dros LGBT Stonewall Cymru, sy'n annog pobl i wneud safiad gweladwy yn erbyn troseddau casineb LGBT a dangos cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT o bob math.
Gan ei fod wedi gofyn yn benodol am ysgolion, rydym hefyd yn gweithio i wneud yn siŵr fod staff ysgol yn gymwys ac yn hyderus ynglŷn â mynd i'r afael â bwlio sy'n gysylltiedig â chasineb. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau gwersi i ysgolion ar fwlio ar sail rhywedd a thrawsrywedd, wedi'u hanelu at gyfnodau allweddol 3 a 4, sydd i'w gweld ar ein gwasanaeth dysgu digidol Hwb.
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd band eang cyflym iawn yn Nhrefynwy? OAQ51806
5. Will the Leader of the House provide an update on the availability of superfast broadband in Monmouth? OAQ51806
Certainly. Under the Superfast Cymru project, we have provided access to fast-fibre broadband to 17,767 premises across all parts of Monmouthshire, equating to just over 76.2 per cent completion, and they have an average download speed of 83.84 Mbps.
Yn sicr. Yn sgil prosiect Cyflymu Cymru, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 17,767 o safleoedd ar draws pob rhan o Sir Fynwy, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 76.2 y cant, ac mae ganddynt gyflymder lawrlwytho cyfartalog o 83.84 Mbps.
All credit to you for managing to find different answers to all the questions on broadband today and different statistics. I think your file will be running out soon.
As my colleague Russ George said earlier in questions to you, many families in rural areas dropped off the Superfast Cymru scheme originally, which was very disappointing. Can you update us on your assessment of the potential for using new technologies to plug the remaining gaps, such as the use of tv white space, which a company in Monmouthshire has been trialling? Also, the 4G network has got capacity that could be used for broadband. And, following on from all that, have you considered whether it might be appropriate to devolve some more funding to local authorities directly so that they can come up with bespoke, localised solutions that will drill down and address the broadband gaps specifically located in their areas?
Pob clod i chi am lwyddo i ddod o hyd i atebion gwahanol i'r holl gwestiynau ar fand eang heddiw ynghyd ag ystadegau gwahanol. Credaf y bydd eich ffeil yn rhedeg allan yn fuan.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Russ George, yn gynharach mewn cwestiynau i chi, penderfynodd llawer o deuluoedd mewn ardaloedd gwledig dynnu'n ôl o gynllun Cyflymu Cymru yn wreiddiol, a oedd yn siomedig iawn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar eich asesiad o'r posibilrwydd o ddefnyddio technolegau newydd i lenwi'r bylchau sy'n weddill, megis defnyddio amleddau darlledu gwag yn y sbectrwm di-wifr, y mae cwmni yn Sir Fynwy wedi bod yn ei dreialu? Hefyd, mae gan y rhwydwaith 4G gapasiti y gellid ei ddefnyddio ar gyfer band eang. Ac yn dilyn hynny i gyd, a ydych wedi ystyried a allai fod yn briodol datganoli rhywfaint mwy o gyllid i awdurdodau lleol yn uniongyrchol fel y gallant ddod o hyd i atebion pwrpasol, lleol a fydd yn mynd i'r afael â'r bylchau band eang sydd wedi'u lleoli yn eu hardaloedd hwy yn benodol?
Yes, I'm very happy to say that we're considering all forms of availability for broadband. The programme has never been technology reliant. In fact, we let the programme to BT and they used their two big technologies for it. But we've always, through the ABC programme around the ultrafast programme, supported all technologies in Wales of whatever sort, as long as it gets the speed to above 30 Mbps. So, that's the criterion and continues to be the criterion. As I've said a number of times in this Chamber, we're looking to have very bespoke solutions for particular communities of people, and I'm very happy to discuss with any community any particular solution that gets them to that 30 Mbps-plus provision. But, whatever works, we're happy to work with whatever works. I'll say to the Member though that, in terms of the take-up, in Monmouthshire, the take-up is only just over 40.13 per cent. So, if he would like to work with me and my officials to see if we could get that up, I'd be very grateful.
Ie, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod yn ystyried pob math o argaeledd band eang. Nid yw'r rhaglen erioed wedi bod yn ddibynnol ar dechnoleg. Yn wir, rhoesom y rhaglen i BT a defnyddiasant ddwy o'u technolegau mawr ar ei chyfer. Ond bob amser, drwy'r rhaglen ABC mewn perthynas â'r rhaglen gyflym iawn, rydym wedi cefnogi pob technoleg yng Nghymru o ba fath bynnag, cyhyd â'i bod yn sicrhau cyflymder uwch na 30 Mbps. Felly, dyna'r maen prawf a dyna'r maen prawf o hyd. Fel rwyf wedi dweud nifer o weithiau yn y Siambr hon, rydym yn ceisio dod o hyd i atebion pwrpasol ar gyfer cymunedau penodol o bobl, ac rwy'n hapus iawn i drafod gydag unrhyw gymuned unrhyw ateb penodol sy'n sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth honno o 30 Mbps fan lleiaf. Ond beth bynnag sy'n gweithio, rydym yn hapus i weithio gyda beth bynnag sy'n gweithio. Buaswn yn dweud wrth yr Aelod, serch hynny, o ran y nifer sy'n manteisio arno, yn Sir Fynwy, ychydig dros 40.13 y cant yn unig sy'n manteisio arno. Felly, os hoffai weithio gyda mi a fy swyddogion i weld a allem godi'r ffigur hwnnw, buaswn yn ddiolchgar iawn.
6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gyswllt band eang i gymunedau gwledig ym Môn? OAQ51810
6. Will the Leader of the House make a statement on broadband connectivity for rural communities on Anglesey? OAQ51810
We have 32,081 premises that have been provided with access to fast broadband on Anglesey under the Superfast Cymru project, which equates to 91 per cent of eligible premises.
Mae 32,081 o safleoedd wedi cael mynediad at fand eang cyflym ar Ynys Môn yn sgil prosiect Cyflymu Cymru, sy'n cyfateb i 91 y cant o safleoedd cymwys.
Diolch yn fawr iawn i chi. Mae fy nghwestiwn i heddiw yn dod yn uniongyrchol gan glerc cyngor Bodedern. Rwy'n ei ofyn achos mae'n berthnasol i gymaint o'n cymunedau gwledig ni ac rwy'n ddiolchgar i'r clerc am gysylltu â mi. Mi ddarllenaf i:
Mae problemau sylweddol gyda chyswllt broadband yn bodoli mewn sawl safle yn y gymuned, sy'n cael effaith negyddol iawn ar lawer o unigolion, teuluoedd a busnesau. Er esiampl, mae llawer o ffermwyr yn gorfod gyrru eu hawliau am grantiau ar-lein, ond rwy'n ymwybodol o sawl ffermwr sy'n methu â gwneud hyn oherwydd eu cysylltiad broadband, ac oherwydd hyn maent yn dioddef anfantais. Maen nhw wedi mynychu sesiynau agored i fynegi pryderon, ond hyd yn hyn dim ond wedi derbyn ymateb fod eu pryderon wedi'u cofnodi, a heb dderbyn unrhyw gynnig o welliant neu awgrym o gynllun ar gyfer y dyfodol.
Yna, mae cwestiwn i fi, ond rwy'n ei basio ymlaen i chi: a allwch chi gadarnhau beth ydych chi'n awgrymu dylai gael ei wneud i helpu cymunedau gwledig sydd yn dioddef o'r effeithiau negyddol yma?
Thank you very much. My question today comes directly from the clerk of Bodedern council. I ask it because it's pertinent for so many of our rural communities, and I'm grateful to the clerk for contacting me. I will read:
Significant problems with broadband connectivity exist in a number of areas of the community, which is having a very negative impact on many individuals, families and businesses. For example, many farmers have to send their grant applications online, but I'm aware of a number of farmers who are unable to do this because of the broadband connection, and because of this they are disadvantaged. They have attended open sessions to express their concerns, but to date they have only received the response that their concerns have been noted, and haven't received any offer of improvement or any plan for the future.
There is then a question for me, which I pass on to you: can you confirm what you suggest should be done to assist rural communities that are suffering these negative impacts?
I'm not too sure what the specific issue there is, but I'm more than happy to have a good look to see what it is. We are aware that there are some fibre-to-the-premises connection problems in Anglesey and some parts of the north-west of Wales. It may be that you're caught in one of those, but I'm afraid I don't have that information to hand, so I'm very happy to, perhaps, exchange correspondence with you.
I am in Anglesey in the not-too-distant future, so I'd also, if I can manage to fit it in, like to come along to the community and actually see for myself what the issues are and get one of our exploitation teams to have a specific look to see whether we can solve those problems. As I say, Anglesey has a very good percentage of coverage, so I'm surprised to find that there's that much of a problem. I suspect that we've got to look at a very specific issue there.
Nid wyf yn rhy siŵr beth yw'r broblem benodol yno, ond rwy'n fwy na pharod i edrych i weld beth ydyw. Rydym yn ymwybodol fod rhai problemau gyda chysylltiad ffeibr i'r adeilad ar Ynys Môn a rhai rhannau o ogledd-orllewin Cymru. Efallai eich bod wedi cael eich dal yn un o'r rheini, ond mae arnaf ofn nad oes gennyf y wybodaeth honno wrth law, felly rwy'n hapus iawn i ohebu â chi.
Byddaf ar Ynys Môn yn y dyfodol agos, felly os bydd gennyf amser, buaswn yn hoffi dod draw i'r gymuned a gweld drosof fy hun beth yw'r problemau a chael un o'n timau datblygu i edrych yn benodol i weld a allwn ddatrys y problemau hynny. Fel rwy'n dweud, mae gan Ynys Môn ganran dda iawn o ran cysylltedd, felly rwy'n synnu gweld bod cymaint o broblem â hynny. Rwy'n tybio bod yn rhaid i ni edrych ar fater penodol iawn yno.
Analysis published by Which? in June last year found that Anglesey was thirteenth out of the 20 worst places for broadband in the UK, behind only Powys and Monmouthshire in Wales. On 30 January, you announced the first details of your new strategy to help to make fast and reliable broadband available to every property in Wales, with three lots going out to tender. The related tender document is now available online, stating only that the aim is to deliver superfast broadband services to as many premises as possible in Wales. So, when will the tender for north-west Wales—the lot 1 tender for north-west Wales—open and close? And why has the target for every property in Wales been removed?
Canfu dadansoddiad a gyhoeddwyd gan Which? ym mis Mehefin y llynedd mai Ynys Môn oedd y trydydd ar ddeg o'r 20 man gwaethaf ar gyfer band eang yn y DU, ar ôl Powys a Sir Fynwy yn unig yng Nghymru. Ar 30 Ionawr, fe gyhoeddwyd manylion cyntaf eich strategaeth newydd i helpu i sicrhau bod band eang cyflym a dibynadwy ar gael i bob eiddo yng Nghymru, gyda thair lot yn mynd allan i dendr. Mae'r ddogfen dendro gysylltiedig bellach ar gael ar-lein, gan ddatgan yn unig mai'r nod yw darparu gwasanaethau band eang cyflym iawn i gymaint o adeiladau â phosibl yng Nghymru. Felly, pryd fydd y tendr ar gyfer gogledd-orllewin Cymru—tendr lot 1 ar gyfer gogledd-orllewin Cymru—yn agor ac yn cau? A pham fod y targed ar gyfer pob eiddo yng Nghymru wedi cael ei ddiddymu?
What we're trying to do is we're trying to test the market to see—. This is always a balance between numbers and getting to communities that have a specific recorded need. I've said this a number of times before: it's a real balance for us to know whether we should just get past as many premises as possible, regardless of whether those people have contacted us to say that they want it, or whether we should be looking to specific individuals and small groups of people who have indicated that they are very desperate to get the connection because that's patchy across Wales.
Part of the process of the tender is to see what's available for what price. We've asked the market to tell us what they're able to do, and then we can make specific bespoke solutions for places that have either indicated already that they want that or are left out of the market calculation. So, I'm afraid it's quite a complex procurement to run.
We're also looking to see what we can do with local authority partners to pick up some of the issues in some of their areas. So, there's no simple answer to that question, but we're basically just trying to get to as many people as possible for the money that we have available.
Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw ceisio profi'r farchnad i weld—. Mae hyn bob amser yn golygu cydbwysedd rhwng niferoedd a chyrraedd cymunedau sydd ag angen penodol a gofnodwyd. Rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith o'r blaen: mae'n gydbwysedd go iawn i ni wybod a ddylem ei gyflwyno mewn cynifer o adeiladau ag y bo modd, pa un a yw'r bobl hynny wedi cysylltu â ni i ddweud eu bod ei eisiau ai peidio, neu pa un a ddylem fod yn edrych ar unigolion penodol a grwpiau bach o bobl sydd wedi nodi eu bod yn daer eisiau'r cysylltiad oherwydd ei fod yn anghyson ledled Cymru.
Rhan o broses y tendr yw gweld beth sydd ar gael am ba bris. Rydym wedi gofyn i'r farchnad ddweud wrthym beth y gallant ei wneud, ac yna gallwn ddod o hyd i atebion penodol pwrpasol ar gyfer lleoedd sydd eisoes wedi dangos eu bod eisiau hynny neu sydd wedi eu gadael allan o gyfrifiad y farchnad. Felly, mae arnaf ofn ei bod yn broses gaffael eithaf cymhleth i'w chynnal.
Rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud gyda phartneriaid awdurdod lleol i ddatrys rhai o'r problemau yn rhai o'u hardaloedd. Felly, nid oes un ateb syml i'r cwestiwn, ond yn y bôn, rydym yn ceisio cyrraedd cymaint o bobl â phosibl gyda'r arian sydd ar gael i ni.
7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig? OAQ51794
7. Will the Leader of the House outline how the Welsh Government plans to improve support for victims of domestic abuse? OAQ51794
Yes, we continue to implement our national strategy that sets out our action to protect and support victims and survivors of domestic abuse. We will publish draft commissioning guidance shortly that will support a more collaborative regional approach to providing services.
Iawn, rydym yn parhau i weithredu ein strategaeth genedlaethol sy'n nodi ein camau gweithredu i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau comisiynu drafft cyn hir a fydd yn cefnogi dull rhanbarthol mwy cydweithredol o ddarparu gwasanaethau.
Thank you for that answer, leader of the house. However, victims of domestic abuse in Wales are being turned away from some refuges due to lack of space, and funding changes imposed by the UK Government threaten the closure of many refuges across the country. What is your Government doing to protect refuges in Wales, and how will you increase the number of available spaces?
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Fodd bynnag, mae dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru yn cael eu gwrthod gan rai llochesau oherwydd diffyg lle, ac mae'r newidiadau cyllido a orfodwyd gan Lywodraeth y DU yn bygwth cau llawer o lochesau ledled y wlad. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu llochesau yng Nghymru, a sut y byddwch yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael?
We're very aware that benefit changes are causing some difficulties in some of the refuges in Wales, and we've been working very closely with providers to make sure that we can understand exactly what the issues are. We have provided £5.4 million in 2017-18 in the violence against women, domestic abuse and sexual violence services grant to local authorities and to third sector organisations for implementation of the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015, and we've also given £376,000 in 2017-18 for Hafan Cymru's Spectrum project, which is teaching children about healthy relationships and about abuse, its consequences and where to seek help.
I was very privileged to attend a session of that programme very recently to see for myself the effect that it has on the children and their ability to understand what constitutes a healthy relationship and what might constitute a not-so-healthy relationship. I was very impressed indeed by the quality of the programme and how it was raising awareness not only in the group of children receiving the tuition but right across the school and its teaching staff. So, I was very pleased with that.
As I said in answer to an earlier question, we're running the This is Me campaign, because we're very aware that gender stereotyping is, according to all the research, one of the main drivers of domestic violence and domestic abuse, as people try to live up to personalities and traits that simply aren't natural to them, and the stress that that engenders within the domestic setting. So, we're sponsoring that programme, which I'm very proud of, and the young people were very responsive to some of the messages in that programme also.
Rydym yn ymwybodol iawn fod newidiadau i fudd-daliadau yn achosi rhai anawsterau mewn rhai o'r llochesau yng Nghymru, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda darparwyr i wneud yn siŵr ein bod yn gallu deall beth yn union yw'r problemau. Rydym wedi darparu £5.4 miliwn yn 2017-18 yn y grant gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector ar gyfer gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac rydym hefyd wedi darparu £376,000 yn 2017-18 ar gyfer prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n dysgu plant am berthnasoedd iach ac am gam-drin, ei ganlyniadau a ble i gael cymorth.
Roedd yn fraint fawr cael mynychu sesiwn o'r rhaglen honno yn ddiweddar i weld drosof fy hun yr effaith y mae'n ei chael ar y plant a'u gallu i ddeall beth yw perthynas iach a beth y gellid ei ystyried yn berthynas heb fod mor iach. Roeddwn yn falch iawn o ansawdd y rhaglen a sut roedd yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ymysg y grŵp o blant a oedd yn derbyn yr hyfforddiant, ond ar draws yr ysgol a'i staff addysgu hefyd. Felly, roeddwn yn falch iawn o hynny.
Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn yn gynharach, rydym yn cynnal ymgyrch Dyma Fi, oherwydd ein bod yn ymwybodol iawn mai stereoteipio ar sail rhywedd, yn ôl yr holl waith ymchwil, yw un o'r prif elfennau sy'n ysgogi trais domestig a cham-drin domestig, gan fod pobl yn ceisio arddel personoliaeth a nodweddion nad ydynt, yn syml, yn naturiol iddynt, a'r straen y mae hynny'n ei chreu yn y cyd-destun domestig. Felly, rydym yn noddi'r rhaglen honno, ac rwy'n falch iawn o hynny, ac roedd y bobl ifanc yn ymateb yn dda iawn i rai o'r negeseuon yn y rhaglen honno hefyd.
I agree with what you just said in terms of promoting positive behaviour is absolutely key, and that we do that in schools—amongst other places, but schools are really important. But I think most public agencies are in a very good place to detect poor behaviour and attitudes, and then also signs of actual violence, because there's such under-reporting in this area. And that's got to be part of our strategy of absolutely no tolerance.
Cytunaf â'r hyn rydych newydd ei ddweud o ran bod hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn hollol allweddol, a'n bod yn gwneud hynny mewn ysgolion—ymysg lleoedd eraill, ond mae ysgolion yn bwysig iawn. Ond rwy'n credu bod y rhan fwyaf o asiantaethau cyhoeddus mewn sefyllfa dda iawn i ganfod ymddygiad ac agweddau gwael, ac arwyddion o drais gwirioneddol wedyn hefyd, oherwydd mae cymaint na roddir gwybod yn ei gylch yn hyn o beth. Ac mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o'n strategaeth i sicrhau nad oes goddefgarwch o gwbl mewn perthynas â hyn.
I completely agree with that. Our strategy is based on three purposes: prevention, protection and support, and that's very much part of it. So, we've been rolling out our 'ask and act' guidance right across all of the responders and all of our partners on this agenda with a view to doing exactly that, actually—to make sure that people recognise the signs of behaviours and pick them up early and get people signposted to the right sort of support, but also, actually, to pick up the perpetrators early and pick up the signposts for that. So, all three bits of the strategy are equally important, and I completely concur that we must—well, we must make sure that as many people in Wales as possible are trained to recognise those signs.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae ein strategaeth yn seiliedig ar dri diben: atal, diogelu a chefnogi, ac mae hynny'n rhan bwysig iawn ohono. Felly, rydym wedi bod yn cyflwyno ein canllawiau 'gofyn a gweithredu' ar draws yr holl ymatebwyr a'n holl bartneriaid ar yr agenda hon gyda golwg ar wneud yn union hynny, mewn gwirionedd—gwneud yn siŵr fod pobl yn adnabod arwyddion o batrymau ymddygiad ac yn eu nodi'n gynnar a sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y math cywir o gymorth, ond hefyd, mewn gwirionedd, eu bod yn nodi troseddwyr yn gynnar ac nodi'r arwyddion mewn perthynas â hynny. Felly, mae'r tair rhan o'r strategaeth yr un mor bwysig, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid i ni—wel, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynifer o bobl yng Nghymru â phosibl yn cael eu hyfforddi i adnabod yr arwyddion hynny.
8. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr eiddo sydd wedi elwa ar brosiect Cyflymu Cymru yn Islwyn? OAQ51803
8. Will the Leader of the House provide an update on the number of premises that have benefited from the Superfast Cymru project in Islwyn? OAQ51803
Although we don't hold information specifically for Islwyn, under the Superfast Cymru project we have provided access to fast fibre broadband to 27,206 premises across all parts of Caerphilly county borough, which equates to just over 92 per cent completion.
Er nad ydym yn cadw gwybodaeth benodol ar gyfer Islwyn, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 27,206 o safleoedd ar draws pob rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 92 y cant.
Diolch. Since the project began in 2013, the availability of superfast broadband across Wales has more than doubled. Leader of the house, is the Welsh Government able to identify the percentage of Islwyn premises that are now covered by superfast broadband, and what further actions does the Government intend to take to ensure that all premises in my constituency are covered?
Diolch. Ers i'r prosiect ddechrau yn 2013, mae argaeledd band eang cyflym iawn ledled Cymru wedi mwy na dyblu. Arweinydd y tŷ, a yw Llywodraeth Cymru yn gallu nodi'r ganran o adeiladau Islwyn sydd â chysylltiad band eang cyflym iawn ar hyn o bryd, a pha gamau pellach y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod pob safle yn fy etholaeth yn cael eu cysylltu?
We've got, as I said, a 92 per cent completion rate at the moment. I'm not too sure if that's actually Islwyn, because it's across Caerphilly; we don't hold them in constituency boundaries in that way. But, as I said earlier, we plan to introduce an additional novel scheme that supports communities that demonstrate tangible demand, particularly targeting communities that are not currently covered by suppliers in response to the successor scheme that was outlined by Mark Isherwood in his earlier question. So, if Rhianon Passmore knows of any specific communities that have that issue, I'd be more than happy to come and visit them with her. Otherwise, I'm sure that most parts of Islwyn will be picked up under the successor programme by the companies that are currently expressing an interest.
Fel y dywedais, mae gennym gyfradd gwblhau o 92 y cant ar hyn o bryd. Nid wyf yn rhy siŵr os yw hynny'n golygu Islwyn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n cynnwys Caerffili gyfan; nid ydym yn cadw'r wybodaeth yn ôl ffiniau etholaethau yn y ffordd honno. Ond fel y dywedais yn gynharach, rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd ychwanegol sy'n cefnogi cymunedau sy'n arddangos galw pendant, gan dargedu'n benodol y cymunedau nad ydynt wedi'u cynnwys gan gyflenwyr mewn ymateb i'r cynllun olynol a amlinellwyd gan Mark Isherwood yn ei gwestiwn yn gynharach. Felly, os gŵyr Rhianon Passmore am unrhyw gymunedau penodol sydd â'r broblem honno, buaswn yn fwy na pharod i ddod i ymweld â hwy gyda hi. Fel arall, rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o Islwyn yn cael ei gynnwys yn y rhaglen olynol gan y cwmnïau sy'n mynegi diddordeb ar hyn o bryd.
Leader of the house, I've been informed that Caerphilly County Borough Council is holding up the installation of ultrafast broadband by charging extortionate planning fees and ground rental for the ultrafast boxes. This endangers ultrafast provision, not just in Caerphilly, including Islwyn, but in surrounding areas as well. Would you ensure that Caerphilly stops endangering provision of ultrafast broadband in this way?
Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gohirio'r broses o osod band eang cyflym iawn drwy godi ffioedd cynllunio gormodol a rhenti tir am y blychau cyflym iawn. Mae hyn yn peryglu darpariaeth gyflym iawn, nid yn unig yng Nghaerffili, gan gynnwys Islwyn, ond mewn ardaloedd cyfagos yn ogystal. A fyddech yn sicrhau bod Caerffili yn rhoi'r gorau i beryglu darpariaeth band eang cyflym iawn yn y ffordd hon?
We are aware that there's an issue with competitor broadband schemes in Caerphilly. We do encourage as much competition as possible in the market in order to get the best possible prices, so we are aware of the issue in Caerphilly over cabinet siting and some of the planning issues, and my officials are in discussion with Caerphilly about that matter.
Rydym yn ymwybodol fod yna broblem gyda chynlluniau band eang sy'n cystadlu yng Nghaerffili. Rydym yn annog cymaint o gystadleuaeth â phosibl yn y farchnad er mwyn cael y prisiau gorau posibl, felly rydym yn ymwybodol o'r broblem yng Nghaerffili gyda lleoli cabinet a rhai o'r materion cynllunio, ac mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda Chaerffili mewn perthynas â hynny.
9. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ51804
9. Will the Leader of the House provide an update on the implementation of the Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015? OAQ51804
Yes. Much has been achieved since the Act was passed and we continue to implement the legislation through our national strategy. Following input from our new national advisors, our delivery framework and national indicators will be published this year, with further roll-out of our 'ask and act' programme.
Gwnaf. Mae llawer wedi'i gyflawni ers pasio'r Ddeddf ac rydym yn parhau i weithredu'r ddeddfwriaeth drwy ein strategaeth genedlaethol. Yn dilyn mewnbwn gan ein cynghorwyr cenedlaethol newydd, cyhoeddir ein fframwaith cyflawni a'n dangosyddion cenedlaethol eleni, a bydd ein rhaglen 'gofyn a gweithredu' yn cael ei chyflwyno ymhellach.
Diolch. You mention national indicators and, as you know, the Act said Welsh Ministers must publish national indicators that may be applied for the purpose of measuring progress towards the achievement of the purpose of this Act. Given that 29 April this year will be the third anniversary of Royal Assent for the Act, could you give us a little more information on where you stand with national indicators? You say later this year. Can you say when and what stage you've reached in their formulation?
Diolch. Rydych yn sôn am ddangosyddion cenedlaethol ac fel y gwyddoch, mae'r Ddeddf yn dweud bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi dangosyddion cenedlaethol y gellir eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon. O gofio y bydd trydydd pen blwydd y Cydsyniad Brenhinol ar gyfer y Ddeddf ar 29 Ebrill eleni, a allech roi ychydig mwy o wybodaeth i ni parthed eich safbwynt ar ddangosyddion cenedlaethol? Rydych yn dweud yn ddiweddarach eleni. A allwch ddweud pryd a pha gam rydych wedi'i gyrraedd yn y broses o'u llunio?
Yes, indeed. Our national strategy on violence against women, domestic abuse and sexual violence was published in November 2016. That sets out the key objectives based on the three purposes of the Act: prevention, protection and support. We'll publish a cross-Government delivery framework to complement the strategy, drawing on the new national adviser's expertise, before publishing the framework in the summer of this year. We're developing national indicators, which will be measures of progress against the purpose of the Act. This is a priority for the new national advisers, working with our external partners.
Since publication of the national framework for relevant authorities, we've created and funded a range of training for specialist professionals across Wales. We've published a suite of films aimed at public service leadership to raise awareness of violence against women, domestic abuse and sexual violence. The films have now been viewed over 6,500 times and we're developing a national survivor engagement framework to ensure that we hear and act upon the lived experience of those experiencing violence against women, domestic violence and sexual violence.
And, finally, we're working in partnership with service providers and survivors to develop the Live Fear Free national communications campaign, which I launched last month in Swansea.
Gallaf, yn wir. Cyhoeddwyd ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mis Tachwedd 2016. Mae hwnnw'n nodi'r amcanion allweddol yn seiliedig ar dri diben y Ddeddf: atal, diogelu a chefnogi. Byddwn yn cyhoeddi fframwaith cyflawni trawslywodraethol i ategu'r strategaeth, gan bwyso ar arbenigedd y cynghorydd cenedlaethol newydd, cyn cyhoeddi'r fframwaith yn ystod yr haf eleni. Rydym yn datblygu'r dangosyddion cenedlaethol, a fydd yn mesur cynnydd ar gyflawni diben y Ddeddf. Mae hon yn flaenoriaeth i'r cynghorwyr cenedlaethol newydd, gan weithio gyda'n partneriaid allanol.
Ers cyhoeddi'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer awdurdodau perthnasol, rydym wedi creu a chyllido amrywiaeth o hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol arbenigol ledled Cymru. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o ffilmiau wedi'u hanelu at arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r ffilmiau wedi cael eu gweld dros 6,500 o weithiau erbyn hyn ac rydym wrthi'n datblygu fframwaith cenedlaethol ymgysylltu â goroeswyr i sicrhau ein bod yn clywed ac yn gweithredu ar sail profiadau'r rheini sy'n profi trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol.
Ac yn olaf, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaethau a goroeswyr i ddatblygu'r ymgyrch gyfathrebu genedlaethol Byw Heb Ofn a lansiwyd gennyf fis diwethaf yn Abertawe.
Thank you very much, leader of the house.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Item 3 on the agenda is questions to the Assembly Commission. The first question is to be answered by the Llywydd as the Chair of the Commission, and it's question 1, Dai Lloyd.
Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan y Llywydd fel Cadeirydd y Comisiwn, a daw cwestiwn 1 gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am darlledu trafodion y Cyfarfod Llawn yn ddwyieithog? OAQ51818
1. Will the Commissioner make a statement on the bilingual broadcasting of Plenary proceedings? OAQ51818
Rydym yn dangos trafodion gair am air byw a thrafodion wedi’u cyfieithu o'r Cyfarfod Llawn ar Senedd.tv a YouTube. Darparwn lif sain gair am air a llif wedi’i gyfieithu o bob Cyfarfod Llawn ar gyfer darlledwyr. Mae BBC Cymru yn ffrydio’r Cyfarfod Llawn yn fyw ar eu gwefan yn Gymraeg a Saesneg. Darlledir cwestiynau’r Prif Weinidog gyda’r llif wedi’i gyfieithu ar BBC2 Cymru bob dydd Mawrth, ac mae BBC Parliament yn dangos cwestiynau’r Prif Weinidog ac eitemau dethol o’r Cyfarfod Llawn bob wythnos.
We show live verbatim and translated Plenary proceedings on Senedd.tv and YouTube. We provide broadcasters with verbatim and translated audio feeds from all Plenary meetings. BBC Wales stream Plenary live on their Welsh and English-language websites. First Minister's questions is broadcast with the translated feed on BBC Wales every Tuesday, and BBC Parliament shows First Minister's questions and selected items from Plenary each week.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Llywydd. Nawr, mae sawl person wedi dweud wrthyf i dros y misoedd diwethaf, pan fo sianeli torfol, megis BBC2 yn benodol, yn darlledu gweithgareddau o'r Siambr yma yn fyw ac Aelod yn siarad yn Gymraeg, mae'r ddwy iaith—y Gymraeg a'r cyfieithiad Saesneg—yn cael eu darlledu efo'i gilydd heb unrhyw dawelu ar y naill iaith na'r llall fel bod pobl yn cwyno nad ydynt yn gallu clywed yr un o'r ddwy iaith yn glir, yn enwedig pobl sydd yn hŷn. Felly, a oes modd darbwyllo ein darlledwyr i'w gwneud hi'n hawdd i wrandawyr Cymraeg eu hiaith glywed cyfraniadau yn glir yn y Gymraeg gwreiddiol neu ddarparu o leiaf isdeitlau neu unrhyw ymateb arall sydd ddim yn golygu oriau o waith chwyslyd i'r gwyliwr i aildiwnio ei deledu o'r dechrau unwaith eto? Diolch yn fawr.
Thank you very much for that response, Llywydd. Now, a number of individuals have told me over the past few months that, when channels, such as BBC 2 specifically, broadcast proceedings from this Chamber live, when a Member makes a contribution in Welsh, both languages—Welsh and the English interpretation—are broadcast simultaneously with neither being quieter than the other, so that people complain that they can't hear either language clearly, particularly older people. So, could we convince our broadcasters to make it easier for Welsh-language listeners to hear contributions clearly in the original Welsh or to provide subtitles or any other response that wouldn't mean hours of painstaking work for the viewer to retune their television once again?
Diolch am y cwestiwn. Peirianwyr sain sydd yn gweithio i ni sydd yn darparu'r ffid ar gyfer y darlledwyr a'r arfer da, mae'n debyg, o ran darlledu cyfieithu yw fod y ddau sain yna i'w clywed fel bod y gwyliwr, y gwrandäwr, yn gallu gweld bod y person yn siarad mewn un iaith ond fod yna gyfieithiad gan lais arall. Wrth gwrs, mae'n bwysig iawn fod y cyfieithiad yn cael ei ddeall a bod y trac sain a'r sain gwreiddiol ddim yn amharu ar allu y bobl i ddeall yr hyn sy'n cael ei ddweud gan Dai Lloyd a finnau ar y pwynt yma nawr, drwy gyfieithu, ar ddarlledu. Felly, mae'n amlwg, os oes yna gwynion, fod angen i ni edrych eto ar sut mae cymysgu'r ddau drac sain yn digwydd ac a ydy'r balans cweit yn iawn ar gyfer gwylwyr. Fe wnaf i'n siŵr ein bod ni'n gwneud hynny achos mae'n bwysig bod pawb yn deall yr hyn sydd yn cael ei siarad, yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, o'r lle yma.
Thank you for the question. The sound engineers working for us provide the feed for the broadcasters and good practice, I understand, as regards broadcasting the interpretation is that both audio feeds are available so that the viewer, the listener, can see that the person is speaking in one language with interpretation provided in another language. Of course, it's very important that the interpretation can be understood and that the original sound doesn't infringe upon people being able to understand what is being said by Dai Lloyd and myself on this point now via the interpretation and the broadcasting. So, it's clear, if there are complaints, that we need to look once again at how mixing both the feeds is done and how we get the balance right for the viewers. I will ensure that that is reviewed, because it's important that everybody understands what is being said in both Welsh and English in this place.
Thank you. Question 2 is to be answered by Joyce Watson as the Commissioner for equalities and the Commission as the employer of Assembly staff. It's question 2. It's Mark Isherwood.
Diolch. Bydd Cwestiwn 2 yn cael ei ateb gan Joyce Watson fel y Comisiynydd cydraddoldeb a'r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. Dyma gwestiwn 2. Mark Isherwood.
2. Pa werthusiad y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i wneud o'r cyfleusterau y mae'n eu darparu i bobl anabl? OAQ51785
2. What evaluation has the Assembly Commission undertaken regarding the facilities it provides for disabled people? OAQ51785
The Commission is committed to ensuring access to the Assembly estate for disabled people and regularly reviews accessibility to all our buildings and facilities. We complete equality impact assessments before undertaking refurbishment or improvement work to ensure accessibility and compliance with building regulations.
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau mynediad i ystâd y Cynulliad ar gyfer pobl anabl ac mae'n cynnal adolygiadau rheolaidd o hygyrchedd ein holl adeiladau a chyfleusterau. Rydym yn cwblhau asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb cyn ymgymryd â gwaith adnewyddu neu wella er mwyn sicrhau hygyrchedd a chydymffurfiaeth â rheoliadau adeiladu.
Thank you. Let me start by praising Assembly Commission staff as somebody with hearing loss, that, whenever a problem arises with technology, they are wonderful in seeking to help and remove those barriers. But in the early Assembly—. I've been here long enough to have sat in the old Chamber, and, in those days, Members with impairments, including those like myself with hearing loss, would be asked to road test the equipment or adaptations being considered before the Commission of the day—or the parliamentary service, as it was then called—would invest in those new provisions. That has not been the case in my experience since we moved to this Chamber early in 2006, before the formal opening then on St David's Day. Will the Commission give, therefore, consideration to restoring a system whereby, before investment in new disability adaptations for the Assembly estate is implemented, that Members, and potentially other disability access groups, are invited to road test and advise first?
Diolch. Gadewch i mi ddechrau drwy ganmol staff Comisiwn y Cynulliad fel rhywun sydd â nam ar ei glyw, oherwydd pryd bynnag y bydd problem yn codi gyda'r dechnoleg, maent yn wych am geisio helpu a chwalu'r rhwystrau hynny. Ond yn y Cynulliad cynnar—. Rwyf wedi bod yma'n ddigon hir i fod wedi eistedd yn yr hen Siambr, ac yn y dyddiau hynny, byddai gofyn i Aelodau â namau, gan gynnwys rhai fel fi a oedd â nam ar eu clyw, brofi offer neu addasiadau a oedd yn cael eu hystyried cyn y byddai'r Comisiwn ar y pryd—neu'r gwasanaeth seneddol, fel y'i gelwid bryd hynny—yn buddsoddi yn y darpariaethau newydd hynny. Nid yw hynny wedi bod yn wir yn fy achos i ers i ni symud i'r Siambr hon yn gynnar yn 2006, cyn yr agoriad ffurfiol wedyn ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Felly, a wnaiff y Comisiwn ystyried adfer system lle y gwahoddir Aelodau, a grwpiau mynediad i'r anabl eraill o bosibl, i brofi a chynghori ar addasiadau anabledd newydd ar gyfer ystâd y Cynulliad cyn y buddsoddir ynddynt?
I thank you for raising what is a hugely important issue, and that is that we provide, as a Commission and as an Assembly, the facilities that fit the purpose for which people intend to use them and it is the case, you know, that we have updated very recently the loop here and in 2015 and 2016 we upgraded the audio system, and we did the same in the committee rooms and the Chamber and committee public galleries and then bought the new system that you are now currently using, I believe.
But you can have my assurance, and, I'm sure, the assurance of my fellow Assembly Commissioners, that we will return to a system that seems very sensible to me, that, when people want to use a device or a system, we do ask those people who will be using that to road test it before we go out and purchase on their behalf what we hope might be appropriate. We will do that in every case, because I know that there are other issues that have been raised with me about accessibility at the front of the Assembly, where we have quite clearly put in the ramps and the lifts so that disabled people, wheelchair users and others can access the building, but we haven't backed that up with the signage and people are finding it to be somewhat of a maze, and that was never the original intention of doing that. There have been other issues about access to stages and platforms where we host events. So, all of those things are very much on our radar and I can absolutely assure you that they will be attended to.
Diolch i chi am godi'r mater hynod bwysig hwn, sef ein bod yn darparu, fel Comisiwn ac fel Cynulliad, y cyfleusterau sy'n addas at y diben y mae pobl yn bwriadu eu defnyddio ac mae'n wir, fe wyddoch, ein bod wedi diweddaru'r ddolen yma'n ddiweddar iawn a'n bod wedi uwchraddio'r system sain yn 2015 a 2016, ac fe wnaethom yr un peth yn yr ystafelloedd pwyllgor a'r Siambr ac orielau cyhoeddus y pwyllgorau, cyn prynu'r system newydd rydych yn ei defnyddio ar hyn o bryd, rwy'n credu.
Ond gallaf eich sicrhau, ac rwy'n siŵr y gall fy nghyd-Gomisiynwyr Cynulliad eich sicrhau, y byddwn yn ailafael mewn system sy'n ymddangos yn synhwyrol iawn i mi, sef ein bod, pan fo pobl eisiau defnyddio dyfais neu system, yn gofyn i'r bobl hynny a fydd yn eu defnyddio i'w profi cyn ein bod yn eu prynu ar eu rhan yn y gobaith y byddant yn briodol. Byddwn yn gwneud hynny ym mhob achos, oherwydd gwn fod materion eraill wedi cael eu dwyn i fy sylw ynglŷn â hygyrchedd o flaen y Cynulliad, lle rydym yn amlwg wedi gosod y rampiau a'r lifftiau fel bod pobl anabl, defnyddwyr cadeiriau olwyn ac eraill, yn gallu cael dod i mewn i'r adeilad, ond nid ydym wedi cefnogi hynny gydag arwyddion ac mae pobl yn cael eu drysu braidd, ac nid dyna oedd y bwriad gwreiddiol wrth wneud hynny. Mae materion eraill wedi codi mewn perthynas â mynediad at lwyfannau a phlatfformau lle rydym yn cynnal digwyddiadau. Felly, rydym yn sicr yn rhoi ystyriaeth i'r holl bethau hynny a gallaf eich sicrhau'n bendant y byddwn yn mynd i'r afael â hwy.
Thank you. Question 3 is to be answered by Caroline Jones as the Commissioner for Security and Assembly Resource and the question is from Simon Thomas.
Diolch. Bydd Cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan Caroline Jones fel Comisiynydd Diogelwch ac Adnoddau'r Cynulliad a daw'r cwestiwn gan Simon Thomas.
3. A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sicrhau bod mannau gwefru i geir ar ystâd y Cynulliad? OAQ51823
3. Will the Commissioner provide an update on ensuring that car-charging points are available on the Assembly estate? OAQ51823
Diolch yn fawr, unwaith eto, Simon, am godi'r mater pwysig ynglŷn â phwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad. Yn dilyn ein hymrwymiad blaenorol i osod pwyntiau gwefru trydan, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y gwaith yn mynd ymlaen i osod pwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Mae nifer fach o ddefnyddwyr ar yr ystad ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfleusterau gwefru newydd yn annog mwy o ddefnyddwyr yn y dyfodol. Gan bwyll, nawr, Simon, Saesneg am y tro.
Thank you very much, Simon, for raising this important issue on electrical charging points on the Assembly estate. Following our previous commitment to install charging points, it’s my pleasure to confirm that this work is ongoing in order to put in place the charging points on the Assembly estate by the end of March 2018. There are currently a small number of EV users on the estate, and we hope that the new charging facilities will encourage additional users in the future. I will now turn to English.
Diolch yn fawr i'r Comisiynydd am ddefnyddio'r dulliau darlledu dwyieithog yma mor rymus, ac a gaf i ddiolch iddi hi am gadarnhau bod y broses sydd wedi bod ar waith am rhyw flwyddyn nawr yn mynd i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth? Rwy’n edrych ymlaen, yn bersonol, i allu newid y ffordd rwy’n arfer dod i’r lle yma, nid yn unig ar y trên, wrth gwrs, ond mewn car trydan hefyd. Ond mae’n bwysig i gofio ein bod ni wedi sicrhau bod y Llywodraeth yn buddsoddi £2 filiwn yn y system drwy Gymru gyfan, a’n bod ni fel Cynulliad hefyd yn arwain yn y ffordd yma o ddadgarboneiddio trafnidiaeth, a hefyd yn annog pobl i ddod i’r Cynulliad yn y ffordd sydd mwyaf hwylus iddyn nhw. Felly rwy’n gobeithio’n fawr bod y gwaith yma yn mynd i gael ei gwblhau ac rwy'n edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd.
May I thank the Commissioner for using the bilingual broadcasting services here in such a powerful way, and may I thank her for confirming that the process that has been ongoing for about a year will be completed by March? I look forward, personally, to being able to change the way I come to this place, not only by rail, of course, but in an electric car. But it's important to remember that we have ensured that the Government is investing £2 million throughout Wales in this system and that we as an Assembly are leading the way in decarbonising transport, and encouraging people to come to the Assembly in the way that is most convenient to them. So, I hope that this work will be completed and I look forward to that happening.
I thank the Member for his positive response and I hope that we can progress from here. When we did the survey, there was only one person who had an electric vehicle, so we are now implementing two power points that will, hopefully, encourage us to lessen the carbon footprint and we can look further. When we see the response to having these points in place, we can then look forward to receiving more information from other Members who wish for us to engage more fully with the services. Thank you.
Diolch i'r Aelod am ei ymateb cadarnhaol, a gobeithiaf y gallwn symud ymlaen o'r fan hon. Pan wnaethom yr arolwg, un person yn unig a oedd yn berchen ar gerbyd trydan, felly rydym bellach yn sefydlu dau bwynt gwefru a fydd, gobeithio, yn ein hannog i leihau'r ôl troed carbon a gallwn edrych ymhellach. Pan fyddwn yn gweld yr ymateb i'r pwyntiau hyn ar waith, gallwn edrych ymlaen at dderbyn mwy o wybodaeth gan Aelodau eraill sy'n dymuno i ni ddefnyddio'r gwasanaethau'n llawnach. Diolch.
Thank you very much.
Diolch yn fawr iawn.
Item 4 is topical questions. No topical questions have been accepted.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi dod i law.
So, we move to item 5, which is the 90-second statements. Simon Thomas.
Felly, symudwn at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Simon Thomas.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae plastig a’i effaith ar ein hamgylchedd ni yn fater o ddiddordeb cyhoeddus mawr erbyn hyn. Yn 1950, cynhyrchwyd 1.5 miliwn tunnell o blastig yn y byd i gyd. Erbyn hyn, mae’n fwy na 320 miliwn tunnell y flwyddyn, ac mae hanner yr holl blastig a gynhyrchwyd ers 1950 wedi’i gynhyrchu yn ystod y degawd diwethaf yn unig.
Mae gwastraff plastig bellach yn gyfrifol am tua 60 y cant i 90 y cant o wastraff yn y môr; gall potel blastig bara 450 o flynyddoedd ac mae gwastraff plastig yn andwyol i gymaint â 100,000 o anifeiliaid môr a miliwn o adar y môr bob blwyddyn. Felly, mae’n braf llongyfarch pentref Aber-porth ar lwyddo i fod y gymuned ddi-blastig gyntaf yng Nghymru. Mae diolchiadau i’r pentref cyfan am ddod at ei gilydd i chwilio am ffurf amgen i ddarparu ar gyfer trigolion ac ymwelwyr heb ddefnyddio plastig diangen. Mae’n amrywio o gwpanau ailgylchadwy yn y caffi, gwelltenni diod papur yn y dafarn leol, a llaeth mewn poteli gwydr yn siop y pentref.
Yn y Cynulliad hwn, rydym yn trafod treth ar blastig, ac mae’n dda gennyf fod wedi negodi arian ar gyfer ystyried cynllun dychwelyd blaendal. Ond mae’r newid mwyaf i’w weld yn ein cymunedau. Mae Cei Newydd yng Ngheredigion wedi dilyn Aber-porth, a bu tua 200 o bobl yn trafod y syniad yn Aberystwyth yn ddiweddar. Rwy’n edrych ymlaen, felly, Dirprwy Lywydd, yn eiddgar, i weld y dydd pan fydd Cymru’n rhydd o blastig.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Plastic and its impact on our environment is an issue of huge public interest now. In 1950, 1.5 million tonnes of plastics were produced across the world. It is now more than 320 million tonnes per annum, and half of all plastics produced since 1950 have been produced over the past decade alone.
Plastic waste is now responsible for some 60 per cent to 90 per cent of waste in our seas; a plastic bottle can last up to 450 years, and plastic waste is detrimental to as many as 100,000 sea species and a million sea birds every year. So, I'm pleased to congratulate the village of Aberporth on becoming a plastic-free community—the first of its kind in Wales. My thanks are to the whole village for coming together to seek alternative ways of providing for citizens and visitors without using unnecessary plastic. It varies from recyclable cups in cafes, using paper straws in the local pub and milk in glass bottle in the village shop.
In this Assembly, we are discussing a tax on plastics, and I am pleased to have negotiated funding for the consideration of a deposit-return scheme. But the greatest change is to be seen in our communities. New Quay in Ceredigion has followed Aberporth, and around 200 people have been discussing the idea in Aberystwyth recently. I look forward, therefore, Deputy Presiding Officer, eagerly, to see the day when Wales will be free of plastic.
Vikki Howells.
Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. February 2018 is LGBT History Month. This important annual event gives us a chance to reflect on LGBT+ history, noting how far we have come in terms of promoting equal rights and diversity, but also the challenges and barriers we still have to overcome.
The year 2018 marks the hundredth anniversary of the Representation of the People Act 1918, so it's perhaps no surprise that LGBT History Month this year explores the role that lesbians and bisexual women played in the votes-for-women campaign. Other important anniversaries include it being 40 years since Harvey Milk was murdered. It is also 30 years since the Conservative Government legislated for homophobia in the shape of section 28. Both latter commemorations adequately capture this year's theme, geography—mapping the world. This offers the chance to celebrate the global advance towards equal marriage, but also the opportunity to reflect on the persecution LGBT people face around the world and the role we must all play in changing this.
Community events are also important, highlighting this message at a grass-roots level. I was very pleased on Saturday to speak at the first ever LGBT+ history event to be held in Aberdare at the Cynon Valley Museum organised by a local group, Project Unity. I note the rainbow flag also marks its fortieth birthday this year. So, let's each of us fly the flag for equality and LGBT+ rights in 2018 and beyond.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Chwefror 2018 yw mis hanes LGBT. Mae'r digwyddiad blynyddol pwysig hwn yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar hanes LGBT+, gan nodi pa mor bell rydym wedi dod o ran hyrwyddo hawliau cyfartal ac amrywiaeth, ond hefyd yr heriau a'r rhwystrau sy'n rhaid i ni eu goresgyn o hyd.
Mae'r flwyddyn 2018 yn nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, felly efallai nad yw'n syndod fod mis hanes LGBT eleni yn edrych ar y rôl a chwaraeodd lesbiaid a menywod deurywiol yn yr ymgyrch i sicrhau'r bleidlais i fenywod. Mae penblwyddi pwysig eraill yn cynnwys y ffaith bod 40 mlynedd ers llofruddio Harvey Milk. Hefyd mae 30 mlynedd ers i'r Llywodraeth Geidwadol ddeddfu o blaid homoffobia ar ffurf adran 28. Mae'r ddau goffâd olaf yn adlewyrchu thema eleni'n briodol, daearyddiaeth—mapio'r byd. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddathlu'r cynnydd byd-eang tuag at briodas gyfartal, ond hefyd y cyfle i fyfyrio ar yr erledigaeth y mae pobl LGBT yn ei hwynebu ledled y byd a'r rôl y mae'n rhaid i ni ei chwarae i newid hyn.
Mae digwyddiadau cymunedol yn bwysig hefyd, gan dynnu sylw at y neges hon ar lefel llawr gwlad. Roeddwn yn falch iawn ddydd Sadwrn o siarad yn y digwyddiad hanes LGBT+ cyntaf erioed i gael ei gynnal yn Aberdâr yn Amgueddfa Cwm Cynon wedi'i drefnu gan grŵp lleol, Prosiect Undod. Nodaf fod baner yr enfys hefyd yn dathlu ei phen blwydd yn ddeugain eleni. Felly, gadewch i ni, bob un ohonom, chwifio'r faner dros gydraddoldeb a hawliau LGBT+ yn 2018 a thu hwnt.
Thank you. Darren Millar.
Diolch. Darren Millar.
The first of March marks the day of our patron saint, David, a devoted follower of Jesus Christ and the inspiration for the inaugural St David's parliamentary prayer breakfast, which will be held in the Pierhead building tomorrow morning. The prayer breakfast will bring together Assembly Members, international guests and others to celebrate Wales's rich Christian heritage, and the huge contribution of Christian congregations in the past, present and future to Welsh society. Guests will be braving the weather to travel from every corner of Wales, and they will enjoy the company of representatives from many places around the globe, including people from Germany and Switzerland, India, Israel, Singapore, the Netherlands, Palestine, Pakistan, Zimbabwe and Nigeria, and of course Siberia will also be represented in terms of the weather.
The event will be preceded by a reception here in the Senedd this evening, and will coincide with an exhibition of treasures from the archives of the National Library of Wales, including the famous Bible of Mary Jones, whose story led to the establishment of the Bible Society, and a scorched Bible that was damaged in a pit explosion in a coal mine that belonged to the famous Welsh revivalist Evan Roberts. We're grateful to those who've helped to make the event happen and we trust that it will be a blessing for this great nation of Wales, which we in this Chamber are proud to call our home. Happy St David's Day to you all.
Mae'r cyntaf o Fawrth yn nodi diwrnod ein nawddsant, Dewi, un o ddilynwyr ymroddedig Iesu Grist ac ysbrydoliaeth ar gyfer y brecwast gweddi seneddol Gŵyl Ddewi cyntaf, a gynhelir yn adeilad y Pierhead bore yfory. Bydd y brecwast gweddi yn dwyn ynghyd Aelodau'r Cynulliad, gwesteion rhyngwladol ac eraill i ddathlu etifeddiaeth Gristnogol gyfoethog Cymru, a chyfraniad enfawr cynulleidfaoedd Cristnogol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol i gymdeithas Cymru. Bydd gwesteion yn wynebu'r tywydd yn ddewr ac yn teithio o bob cwr o Gymru, a byddant yn mwynhau cwmni cynrychiolwyr o nifer o leoedd ledled y byd, gan gynnwys pobl o'r Almaen a'r Swistir, India, Israel, Singapore, yr Iseldiroedd, Palesteina, Pacistan, Zimbabwe a Nigeria, ac wrth gwrs, bydd Siberia yn cael ei chynrychioli hefyd gan y tywydd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ragflaenu gan dderbyniad yma yn y Senedd heno, a bydd yn cyd-daro ag arddangosfa o drysorau o archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys Beibl enwog Mari Jones, stori a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl, a Beibl llosg a gafodd ei ddifrodi mewn ffrwydrad mewn pwll glo a oedd yn perthyn i'r diwygiwr Cymreig enwog Evan Roberts. Rydym yn ddiolchgar i'r rheini sydd wedi helpu i drefnu'r digwyddiad a hyderwn y bydd yn fendith i'r genedl wych hon rydym ni yn y Siambr yn falch o'i galw'n gartref i ni. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd.
Thank you.
Diolch.