Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/10/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. A chwestiwn 1, David Rees.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

1. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn asesu’r cynnydd sy’n cael ei wneud mewn perthynas â darparu bargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51240)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo gyda dinas-ranbarth bae Abertawe a Llywodraeth y DU i ddatblygu a chytuno ar gynllun gweithredu, monitro a gwerthuso i oruchwylio manylion y fargen.

Wel, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, y mis diwethaf, mewn ateb i Jeremy Miles, fe bwysleisioch chi, cyn belled â bod yr 11 prosiect wrthi’n cael eu paratoi, nad oedd yn rhaid i bob achos busnes gael eu paratoi cyn y gallent ddechrau gweithio. Ond mae problem o hyd gydag agweddau llywodraethu’r fargen ddinesig. Nawr, yn gynharach y mis hwn—ar 4 Hydref—mewn papur i bwyllgor craffu cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, tynnwyd sylw at y pryderon ynglŷn â’r materion llywodraethu. Beth yw ein sefyllfa mewn perthynas â’r materion llywodraethu, a phryd y byddwch yn gosod terfyn amser iddynt ar gyfer datrys y materion llywodraethu, gan fod rhai prosiectau yn barod i gychwyn, maent yn aros i’r broses hon gyrraedd pwynt lle y mae trefniadau llywodraethu ar waith ac y gallwn sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt yn iawn?

Wel, diolch i David Rees am y cwestiwn. Dirprwy Lywydd, hoffwn gadarnhau, yn dilyn fy nghwestiynau diwethaf, fod swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ysgrifennu ar y cyd at awdurdodau cyfansoddol y fargen ddinesig, yn cadarnhau ar 12 Hydref na fydd unrhyw un o’r Llywodraethau yn ei gwneud yn ofynnol i’r 11 achos busnes gael eu cymeradwyo cyn y gall yr arian lifo. Fodd bynnag, mae angen rhoi cyfres o gamau ar waith er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Maent yn gymharol syml eu natur, ond ar gyfer y cofnod, fe soniaf amdanynt yn gryno, Dirprwy Lywydd.

Y peth cyntaf yw bod angen i gynghorau llawn y pedwar awdurdod gytuno ar ddogfennau llywodraethu, ac yna bydd angen i’r ddwy Lywodraeth gytuno arnynt hefyd. Bydd hynny’n caniatáu i’r cyd-bwyllgor presennol ddod allan o’i ffurf gysgodol a chael ei benodi’n llawn fel cyd-bwyllgor sy’n gyfrifol am gyllid, staffio a phenderfyniadau cyfreithiol wrth gyflawni’r fargen. Bydd hynny’n caniatáu i achosion busnes gael eu cyflwyno, ac i’r arian lifo wedi iddynt gael eu cymeradwyo. Rwy’n awyddus iawn i’r fargen symud ymlaen o siarad am y fargen ei hun i’r cyfnod cyflawni. Roedd y datganiad a gyhoeddwyd gan y cyd-bwyllgor cysgodol, arweinwyr y pedwar awdurdod yn cyfarfod ar 16 Hydref, yn galonogol iawn, pan ddywedasant eu bod yn fwy penderfynol nag erioed i weld y fargen yn cael ei throi’n gamau gweithredu ymarferol ar lawr gwlad, a bod proses glir wedi’i nodi bellach iddynt allu sicrhau bod hynny’n digwydd.

Wel, mae’r llywodraethu a’r oedi sydd efallai’n deillio o’r ansicrwydd yn ei gylch ar hyn o bryd yn peri pryder i mi. Ac roedd eich sylwadau y llynedd yn galonogol iawn, pan ddywedoch wrthyf, unwaith y cytunir ar y fargen ac y sicrheir yr arian—ac rydych newydd gadarnhau hynny yn awr—y dylai’r bwrdd gynrychioli busnesau yn y rhanbarth. A rhoesoch sicrwydd i mi y byddech yn cynnwys y gofyniad pwysig hwn yn y trafodaethau rydych yn eu cael gyda’r bwrdd. Nawr, gwn ei bod yn ymddangos bod hynny ychydig yn agosach na ble’r oeddem y tro diwethaf inni siarad, ond mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd nad yw mentrau preifat yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar y bwrdd cysgodol, ac rwy’n meddwl tybed sut y mae’ch sylwadau i’r bwrdd ar y pwynt pwysig hwn wedi symud pethau yn eu blaen.

Wel, diolch i Suzy Davies am hynny. Er mwyn rhoi ychydig mwy o fanylder, felly, Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd trefniadau llywodraethu yn golygu cabinet ar y cyd o’r pedwar arweinydd. Yn y pen draw, gan fod hwn yn arian cyhoeddus sy’n perthyn i awdurdodau lleol yn ogystal â’r ddwy Lywodraeth, mae’n rhaid i unigolion etholedig wneud y penderfyniadau hynny. Ond rwyf wedi cytuno gyda’r Ysgrifennydd Gwladol y dylid cael bwrdd strategaeth economaidd a fydd yn rhoi cyngor uniongyrchol i’r cabinet hwnnw. Bydd cynrychiolydd busnes o’r sector preifat yn cadeirio’r bwrdd strategaeth economaidd, ac rydym yn trafod â swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol sut y gallwn sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n cael ei benodi, a’r bobl a fydd yn eu cefnogi gyda’r gwaith hwnnw.

Yn ychwanegol at y materion llywodraethu, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ynglŷn â chyfraniadau ariannol ac elw mewn perthynas â’r pedwar awdurdod? Efallai y bydd yn rhaid i gynghorau fenthyca oddeutu £360 miliwn, sy’n her fawr mewn cyfnod o gyni. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â hynny? A hefyd, o ran y fargen ddinesig, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â’r angen i weithio ar draws sectorau, gyda llywodraeth leol, ac nid gyda’r sector preifat yn unig ond hefyd, yn enwedig, gyda’r sector iechyd, gan fod arloesi sylweddol ym maes iechyd yn digwydd yn lleol, a hoffem weld y ddau sector yn siarad â’i gilydd?

Dirprwy Lywydd, i fynd ar drywydd yr ail bwynt yn gyntaf, gan fod Dai Lloyd yn llygad ei le—mae’n bwysig iawn fod yr ystod o fuddiannau sydd â chyfraniad uniongyrchol i’w wneud at y fargen ddinesig yn cael eu cynrychioli o amgylch y bwrdd pan fydd y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud. Mae hynny’n amlwg yn cynnwys yr awdurdodau lleol eu hunain a’u partneriaid yn y sector preifat, ond mae gan y brifysgol rôl bwysig iawn i’w chwarae yn hyn o beth—ac mae hynny wedi bod yn wir o’r cychwyn cyntaf—yn ogystal â bwrdd iechyd y brifysgol. A rhan o’r rheswm pam ei bod weithiau’n cymryd peth amser i gytuno ar drefniadau llywodraethu yw bod yn rhaid inni sicrhau bod yr holl ddarnau cydrannol hynny gennym ar waith a bod pob rhan yn hyderus y gall wneud y cyfraniad y mae’n awyddus i’w wneud.

O ran y trefniadau ariannol, fe’u cadarnhawyd yn nogfen wreiddiol y fargen. Bydd gwerth £1.3 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn dod i ardal dinas-ranbarth Bae Abertawe o ganlyniad i’r fargen. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £125 miliwn o gyfalaf. Bydd Llywodraeth y DU yn darparu £115 miliwn. Yna ceir cyfraniadau gan awdurdodau lleol ac o fuddiannau sector preifat hefyd. Mae’n bwysig fod awdurdodau lleol yn deall y bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio eu pwerau benthyca mewn rhai achosion er mwyn gwneud eu cyfraniad, ond credaf fod pawb, Dirprwy Lywydd, yn deall hynny’n iawn pan gytunwyd ar y fargen yn wreiddiol ym mis Mawrth.

Pobl sy’n Agored i Niwed

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae gwahanol elfennau o’r gyllideb ddrafft yn helpu’r grwpiau o bobl fwyaf agored i niwed ym Merthyr Tudful a Rhymni? (OAQ51237)

Diolch i Dawn Bowden am hynny. Wel, Dirprwy Lywydd, mae cadw cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor gwerth £244 miliwn, £1 miliwn ychwanegol i roi hwb i’r gronfa cymorth dewisol ac £20 miliwn ychwanegol ar gyfer atal digartrefedd ymhlith yr elfennau cyllidebol sy’n cynorthwyo’r grwpiau mwyaf agored i niwed ym Merthyr Tudful, Rhymni a thu hwnt.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac rwy’n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn cytuno bod y gefnogaeth a gynigir i bobl sy’n agored i niwed yng nghyllideb ddrafft Cymru yn gwrthgyferbynnu’n llwyr ag anhrefn ffiaidd cynllun credyd cynhwysol y Torïaid. Mae diwygio lles, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mynd â biliynau o bunnoedd—ie, biliynau o bunnoedd—oddi ar gymunedau ein Cymoedd, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhymni, ac mae hyn, yn ei dro, yn gwneud bywydau gormod o bobl yn dlotach. Ac rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw gwaith banciau bwyd yn galonogol, fel y’u disgrifir gan Dorïaid blaenllaw, ond yn hytrach eu bod yn feirniadaeth drist o Brydain yr unfed ganrif ar hugain. Felly, er gwaethaf toriadau’r Torïaid i’n cyllideb yng Nghymru, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar ddarparu’r cartrefi cynnes a diogel sydd eu hangen ar ein pobl, y cymorth a’r cyngor ariannol y maent yn eu haeddu, ac yn estyn llaw y gall fod ei hangen ar bob un ohonom mewn cyfnod anodd, fel y gall pobl yng Nghymru wybod, o leiaf, ar ochr pwy rydym yn sefyll?

Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r pwynt a wnaeth Dawn Bowden wrth agor ei chwestiwn atodol. Mynychais gyfarfod yn gynnar heddiw gyda chymdeithasau tai, y trydydd sector, undebau credyd—pob un ohonynt yn mynegi pryderon gwirioneddol ynglŷn â’r effaith y mae’r newidiadau i gredyd cynhwysol eisoes yn ei chael mewn rhannau o Gymru. Mae rhai ohonom yn cofio’r adeg pan oedd gennym yr hyn a elwir yn system nawdd cymdeithasol, a’r hyn sydd gennym bellach yw gwrthwyneb hynny’n llwyr, system sy’n meithrin ansicrwydd ym mywydau’r bobl sydd leiaf abl i ymdopi â’r ansicrwydd hwnnw, a’r canlyniad yw bod costau’n cael eu creu ac yn cael eu dadleoli i rannau eraill o’r system. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi nodi bod y defnydd o fanciau bwyd mewn ardaloedd lle y rhoddwyd credyd cynhwysol ar waith yn llawn wedi cynyddu mwy na dwywaith y gyfradd mewn rhannau eraill o’r DU lle nad yw wedi’i roi ar waith. Ond fe’i gwelwn hefyd drwy’r cynnydd mewn ôl-ddyledion, achosion o droi allan, yr effaith ar wasanaethau iechyd meddwl, ac yn y blaen. Gwn fod Aelodau wedi gofyn i mi yn y gorffennol ynglŷn â’r ffordd y gellir defnyddio cyllidebau Llywodraeth Cymru i warchod gwead cymdeithasol ein cymdeithas ar adeg pan fo cymaint o bwysau arno, a lle y mae angen i unigolion ddibynnu arno gymaint â hynny’n fwy. Ac mae’r pwyntiau a wnaeth Dawn Bowden ynglŷn â’r hyn y ceisiwn ei wneud ym maes tai, o ran cefnogi’r bobl â’r angen mwyaf, yn rhan o’n hymdrechion parhaus i geisio defnyddio’r cyllidebau sydd gennym i warchod y gwead cymdeithasol hwnnw, gan y gwyddom cymaint y mae ei angen yma yng Nghymru.

Diolch, Gweinidog, am ateb cwestiwn Dawn Bowden gyda chymaint o fanylder. Ond credaf fod ochr arall i’r geiniog. Mae pobl sy’n agored i niwed ac ar incwm isel wedi cael ergyd drom gan fethiant y Llywodraeth Lafur i ddefnyddio’r arian sydd ganddi i rewi’r dreth gyngor yng Nghymru, gyda’r canlyniad fod Cyngor ar Bopeth wedi labelu dyled y dreth gyngor fel ‘problem ddyled fwyaf Cymru’. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i gynghorau godi—

[Yn parhau.]—y dreth gyngor 5 y cant o ganlyniad i gynigion yn y gyllideb ddrafft. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i liniaru problem dyledion y dreth gyngor a achosir gan godiadau cyson uwchben chwyddiant, ac i leddfu’r baich ar aelwydydd o dan bwysau ym Merthyr Tudful ac mewn mannau eraill yng Nghymru?

Dirprwy Lywydd, rwy’n gwrthod yr awgrym sydd wrth wraidd y cwestiwn hwnnw’n llwyr, sef y buasai pobl rywsut yn well eu byd pe baem wedi rhewi’r dreth gyngor yng Nghymru. Heb y gallu i godi’r dreth gyngor, yr hyn a wyddom yw y buasai gallu’r awdurdodau lleol i barhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt wedi ei beryglu hyd yn oed ymhellach. Mae polisi ei blaid o geisio rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr mewn anhrefn llwyr. Ychydig iawn o gynghorau sy’n derbyn y cynnig hwnnw bellach, ac mewn gwirionedd, cododd y dreth gyngor yn Lloegr ar gyfradd uwch nag yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yr hyn a wnawn, yn wahanol iawn i gynghorau a reolir gan ei blaid, yw parhau i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag effaith y dreth gyngor—roedd y gyllideb a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn gynharach y mis hwn yn cynnwys £344 miliwn i sicrhau nad yw’r unigolion a’r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl yma yng Nghymru. Ar gyfartaledd, mae pobl ar y budd-daliadau hynny yn Lloegr yn talu £181 o dreth gyngor, ac mewn llawer o awdurdodau Torïaidd, maent yn talu dros ddwywaith y swm hwnnw. Mae’r bobl fwyaf agored i niwed yn gorfod dod o hyd i arian bob wythnos o fudd-daliadau sydd wedi’u rhewi i dalu treth nad oes unrhyw un sydd yn yr amgylchiadau hynny yng Nghymru yn ei thalu o gwbl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn. Symudwn yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion ei chyllideb ddrafft, gan gynnwys tablau manwl o linellau gwariant y gyllideb ar gyfer 2018-19 a 2019-20. Yn ystod y 24 awr ddiwethaf, mae nifer o sefydliadau wedi mynegi pryder ynglŷn â llinell gyllideb Cefnogi Pobl o ystyried bod y llinell gyllideb benodol honno’n diflannu yn nhabl y gyllideb ar gyfer 2019-20. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn deall y pryderon hynod ddilys hyn gan ei fod yn rhan ganolog o’n cytundeb cyllidebol â Llywodraeth Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet fanteisio ar y cyfle hwn i egluro statws y grant Cefnogi Pobl am y ddwy flynedd ariannol, ac a all ymhelaethu’n benodol ar y berthynas rhwng y grant Cefnogi Pobl a grant cynnal refeniw llywodraeth leol ar gyfer y ddwy flynedd ariannol, o ystyried na fydd arian wedi’i neilltuo?

Well, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr am y cwestiwn a llongyfarchiadau mawr i ddechrau i Steffan Lewis am y cyfrifoldebau newydd yma yn y Siambr.

I’m very pleased to have the chance to answer that question. Let me begin, Dirprwy Lywydd, by just making it clear there are no cuts to the Supporting People programme in either year of the budget laid in front of this Assembly, and that is the result of the agreement that I reached with Plaid Cymru in the run up to it. Next year, Supporting People remains a separate single grant identifiable in the tables published yesterday. There is a proposal, which will be discussed and worked through with local authorities and the sector, to bring a number of grants together in the second year. The amount of money available for Supporting People in that second year is as it has been agreed. It has no cuts in it. The case for bringing related strands together is that they will allow for greater professional discretion in using money at the front line and in reducing the amount of money used up in the grant for administration. However, I know that the Cabinet Secretary for Communities and Children recognises the need to be able to go on demonstrating how the money is to be used, and he will be discussing ways to make that happen as part of his engagement with the sector, picking up from discussions in which this was explicitly discussed at the Supporting People national advisory board on 21 September.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Felly, er eglurder, ni fydd cael gwared ar glustnodi arian—a bydd hyn yn cael ei dreialu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yn ôl yr hyn a ddeallaf—a’r disgresiwn mewn ardaloedd peilot yn caniatáu i awdurdodau lleol danwario, fel petai, ar y grant Cefnogi Pobl. A all egluro a chadarnhau y bydd uno gyda ffrydiau grant eraill, fel petai, yn ategol yn hytrach na chystadleuol, ac yn yr achos hwnnw, y bydd pob ceiniog a ddyrennir ac a warentir ar gyfer y grant Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a’r flwyddyn ariannol wedyn yn cael ei gwario ar brosiectau Cefnogi Pobl?

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn yn y ffordd y mae’n ei roi, fod y grantiau’n cael eu dwyn ynghyd am eu bod yn ategu ei gilydd. Mae pob un ohonynt yn gweithredu ym maes atal ac ymyrraeth gynnar. Dirprwy Lywydd, dylwn fod wedi ateb y pwynt a wnaeth Steffan Lewis yn ei gwestiwn cyntaf i mi: nid cynnig i roi’r grant Cefnogi Pobl yn y grant cynnal refeniw yw hwn. Ni fydd yn mynd i mewn i’r rhan o’r setliad sydd heb ei neilltuo; bydd yn parhau i fod mewn grant sydd wedi’i neilltuo, lle y datblygir mecanweithiau’r modd y bydd y grant hwnnw’n gweithredu yn y dyfodol drwy ymgysylltu â’r sector ei hun, lle y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gynhyrchu cynlluniau cyflawni a lle y gwneir ôl-daliadau grant, yn amodol ar y ddarpariaeth honno. Felly, bydd mecanwaith clir ar gyfer yr arian rydym wedi’i gytuno ac a fydd yno dros y ddwy flynedd—bydd mecanwaith clir iawn i’w olrhain ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriedir.

Mae hwnnw’n bwynt pwysig iawn, wrth gwrs. Rwy’n falch o glywed yr eglurhad y bydd y neilltuo’n parhau ar ryw ffurf. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y llinell gyllideb benodol ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn diflannu yn yr ail flwyddyn yn codi cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y gallwn graffu’n briodol ac yn gywir fel cynrychiolwyr etholedig, ond hefyd o ran y sector yn ei gyfanrwydd, fod yr arian hwnnw, sy’n cael ei ddyrannu a’i warchod oherwydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cael ei wario ar yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod wedi egluro na fydd uno â grantiau eraill yn arwain at swm gostyngol i brosiectau Cefnogi Pobl a’i fod yn fath o neilltuo, er y byddai’n digwydd drwy ffurf wahanol ar gyfrifo, fel petai, a all ddweud ar gyfer y cofnod ac egluro y byddwn yn gallu craffu i sicrhau mai dyna sy’n cael ei gyflawni ar lawr gwlad mewn gwirionedd, hyd yn oed yn absenoldeb llinell gyllideb benodol ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn llyfrau Llywodraeth Cymru?

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, os yw Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol yn penderfynu uno’r grantiau mewn un ffrwd grant, bydd hi’n bwysig gallu monitro’r camau sy’n llifo o’r ffrwd grant honno—y gall yr adran eu monitro’n fewnol, y gall y grŵp prosiect eu monitro ac y gellir eu cofnodi mewn ffordd sy’n caniatáu i Aelodau’r Cynulliad yma weld sut y caiff arian a ddyrennir drwy gytundebau a wnawn yma ei roi ar waith ar lawr gwlad, a manylion ynglŷn â sut y bydd mecanweithiau’r grant yn gweithredu yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, yn awyddus i sicrhau bod y mecanweithiau hynny’n cael eu cytuno gyda’r sector a chyda llywodraeth leol fel y gellir sicrhau eu tryloywder.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y buasech yn cytuno â mi—mewn gwirionedd, rydych wedi dweud hyn sawl tro yma yn y Senedd—fod natur agored a thryloywder ac ymddygiad da cynghorwyr yn allweddol i ymgysylltiad â’n democratiaeth wleidyddol ac i ddenu pobl i fod â ffydd yn ein system wleidyddol, gan ein helpu, yn y pen draw, i ddenu rhagor o bobl i sefyll fel ymgeiswyr. Yn anffodus, fodd bynnag, mae gennyf e-bost yma, a anfonwyd gan gynghorydd Llafur Abertawe, Mark Child, i gyd-aelodau eich Plaid Lafur, ac fe’i hanfonwyd o’i gyfeiriad e-bost cyngor. Byddaf yn anfon copi o’r e-bost hwnnw atoch, ond rwyf am ddarllen darn byr iawn ohono:

Helo David et al, Bydd y cyfarfod llawn nesaf ar ddydd Iau 26 Hydref... Mae cyfle i ofyn cwestiynau o’r oriel gyhoeddus yn y cyfarfod llawn.

Mae’n mynd yn ei flaen i ofyn i gyd-aelodau o’i blaid helpu i ddod o hyd i aelodau o’r cyhoedd i ofyn amrywiaeth o gwestiynau ar eu rhan. Mewn perthynas ag un cwestiwn ynglŷn â llwybrau beiciau, mae’r cynghorydd yn gofyn,

A all rhywun ofyn syniad pwy oedd hwn er mwyn i ni allu ateb "cynigion Llafur ydoedd ar gyfer Llandeilo Ferwallt"‘.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 13:50:00

Ai hwn yw’ch cwestiwn mewn gwirionedd?

A ydych chi’n credu bod y math hwn o beth yn help i’r cyhoedd fod â hyder mewn llywodraeth leol? Fel yr aelod Cabinet—[Torri ar draws.]—sydd â chyfrifoldeb am lywodraeth leol, a wnewch chi ymchwilio i’r achos amlwg hwn o ddiffyg parch tuag at y drefn briodol ac o ddwyn anfri ar y cwestiynau cyhoeddus sydd ar gael mewn rhai awdurdodau lleol?

Wel, Dirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at weld yr e-bost yn llawn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf wedi gwrando arno, clywaf unigolyn a etholwyd yn gyhoeddus yn annog y syniad y gallai aelodau o’r cyhoedd ddod i ofyn cwestiynau mewn un o gyfarfodydd cyhoeddus y cyngor. Rwy’n ei chael hi’n anodd gweld, hyd yn hyn, beth sydd o’i le gyda hynny, ac rwy’n hollol sicr fod yr holl bleidiau gwleidyddol yma’n sicrhau bod eu haelodau’n cael gwybod am bethau, a phan fo materion sydd o ddiddordeb iddynt yn cael eu trafod, eu bod yn gallu dod i gymryd rhan mewn fforymau democrataidd.

Mae’n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid wyf yn meddwl eich bod yn deall trafodion llywodraeth leol. Amser yw hwn sy’n cael ei neilltuo ar gyfer aelodau o’r cyhoedd a all ddod i graffu ar yr hyn y mae ganddynt ddiddordeb gwirioneddol ynddo. Nid y bwriad yw bod plaid wleidyddol, o unrhyw liw, yn bwydo cwestiynau i bobl wneud hynny fel y gallant sgorio pwyntiau gwleidyddol. Yn onest—ac mae’r ffaith eich bod yn chwerthin am hyn, credaf fod hynny’n gywilydd arnoch fel Ysgrifennydd y Cabinet, a ddylai fod, mewn gwirionedd, yn croesawu ac yn annog gwir ddemocratiaeth leol. Mae hyn yn ffolineb llwyr. Nawr, mae’n amlwg fod y Blaid Lafur yn ceisio camddefnyddio cyfarfodydd llawn y cyngor drwy wahodd gweision bach i ofyn cwestiynau wedi’u plannu. Gobeithiaf yn wir y byddwch o ddifrif ynglŷn â’r mater hwn. Ni ddylent fod yn defnyddio eu swyddfa a ariennir yn gyhoeddus er budd eu plaid, ac oni fuasech yn cytuno bod hyn, mewn gwirionedd, yn torri rheolau ymddygiad cynghorwyr ac y dylid cyfeirio’r mater at y pwyllgor safonau? Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. A wnewch chi ofyn i’ch cyd-Aelod, hyd yn oed y Prif Weinidog, os nad ydych chi’n barod i wneud hynny, ymchwilio i’r ymddygiad hwn? Ond a wnewch chi, o leiaf, gondemnio, mor gryf â phosibl, unrhyw gyngor yng Nghymru, neu unrhyw blaid wleidyddol sydd â chynghorwyr etholedig yng Nghymru, sy’n tanseilio prosesau craffu priodol yn y modd hwn?

Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod pob dinesydd yng Nghymru sydd â diddordeb yn nhrafodion cyrff democrataidd yn gallu cymryd rhan i’r graddau mwyaf sydd ar gael yng ngwaith y cyrff hynny, drwy ofyn cwestiynau a chraffu ar bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Os yw’r Aelod o’r farn fod achos o dramgwyddo yn erbyn y drefn briodol wedi digwydd, byddai ei diddordeb gofalus mewn gweithdrefnau wedi ei harwain i ddod i’r casgliad mai’r peth cywir i’w wneud yw tynnu sylw’r awdurdodau sy’n gyfrifol am eu monitro at yr achosion hynny o dorri’r rheolau, yn hytrach na lledaenu awgrymiadau y dylai pobl heb unrhyw gyfrifoldeb o’r fath fynd i’r afael â hwy. Felly, os oes ganddi gŵyn, ac mae’n credu bod ganddi un, dylai roi gwybod amdani yn y ffordd briodol, a sicrhau ei bod yn cael ei hymchwilio yn y ffordd briodol. Fel y dywedais, hyd yn hyn, o’r hyn y’i clywais yn ei ddarllen y prynhawn yma, yr hyn y’i clywais yn ei ddarllen yw bod aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddod i gymryd rhan mewn dadl ddemocrataidd.

Wel, i mi, mae hynny’n dweud eich bod wedi diystyru eich cyfrifoldeb fel Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r materion hyn—[Torri ar draws.] Mae’r materion hyn yn esbonio’n rhannol y diffyg ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, ac rwy’n awyddus i’ch holi ynglŷn ag ymgeisyddiaeth yng Nghymru yn awr, sy’n wynebu argyfwng. Ym mis Medi, dywedodd y Comisiwn Etholiadol fod 7 y cant—7 y cant—o’r holl seddi sirol a bwrdeistrefol wedi eu cadw’n ddiwrthwynebiad yn yr etholiadau ym mis Mai. Nawr, roedd 100 y cant o’r seddi cyngor tref a chymuned yn ein prifddinas, Caerdydd, yn ddiwrthwynebiad neu’n wag yn yr etholiadau eleni. Ni fydd gobeithio y gellir cynyddu diddordeb mewn ymgeisyddiaeth trwy ddiwygio llywodraeth leol yn ddigon. Dyma ble na safodd unrhyw un a lle na chafodd neb eu hannog i ymgeisio am sedd mewn etholiad democrataidd ym mis Mai. Credaf, unwaith eto, fod hyn yn fethiant ar ran Llywodraeth Lafur Cymru. A wnewch chi ymrwymo’ch Llywodraeth, yn y dyfodol, i gymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â’r argyfwng democrataidd hwn—? Ac wrth bawb sy’n mwmian ar y meinciau cefn: yn y pen draw, fel rwyf wedi’i ddweud droeon, nid ydym wedi cael cyfle eto i arwain ar rai o bortffolios Aelodau Llafur Cymru yma, ond gallaf ddweud wrthych yn awr, pe bai’r Ceidwadwyr Cymreig yn arwain llywodraeth leol yng Nghymru, gallaf sicrhau’r cyhoedd y buasai mwy o dryloywder, democratiaeth ac atebolrwydd democrataidd.

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â nifer y seddi diwrthwynebiad mewn cynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn etholiadau mis Mai. Rwy’n awyddus i ni wneud mwy fel Llywodraeth, ond nid cyfrifoldeb llywodraethau’n unig yw cymryd camau yn hynny o beth. Yn ein prif etholiadau cyngor, cafwyd mwy o ymgeiswyr nag erioed o’r blaen, ac mae hynny’n arwydd y gall ymdrechion i ddenu mwy o bobl i sefyll etholiad fod yn llwyddiannus. Rwy’n falch iawn o fod yn aelod o blaid a gyflwynodd gannoedd yn fwy o ymgeiswyr nag y gwnaeth ei phlaid hi yn yr etholiadau hynny. Fe ddywedaf wrthi, yn union fel y mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau bod swyddi cynghorwyr tref a chymuned yn ddeniadol ac yn cael eu hysbysebu’n eang, mae gan bob un ohonom ninnau, fel pleidiau gwleidyddol ar wahân, gyfrifoldeb i geisio annog pobl i sefyll etholiadau, ac mae’r ffaith nad etholwyd unrhyw un i gynghorau tref a chymuned Caerdydd yn adlewyrchu anallu ei phlaid hi lawn cymaint ag unrhyw blaid wleidyddol arall i ddod o hyd i bobl i ymgeisio am y swyddi hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd gennym banel o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cyfarfod pwyllgor y bore yma, Gweinidog, yn trafod materion yn ymwneud â’r gyllideb ddrafft. Gŵyr pob un ohonom fod hwn yn gyfnod anodd ar gyllid llywodraeth leol, ond un peth a fuasai’n helpu cynghorau i wneud penderfyniadau yw rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â lefelau cyllid ar gyfer y dyfodol. Gwn eich bod wedi darparu cyllideb ddangosol ar gyfer 2019-20, felly rydym wedi symud i gylch dwy flynedd. Yn yr Alban, mae ganddynt gylch tair blynedd i bob pwrpas. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn galw am setliad aml-flwyddyn ac yn dweud y buasai setliad tair blynedd yn help mawr iddynt allu blaen-gynllunio. Beth yw eich ymateb i hynny?

Wel, dywedaf hyn wrth yr Aelod: rwy’n rhannu uchelgais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gylch tair blynedd—carwn pe bawn mewn sefyllfa i wneud hynny drostynt—ond nid oes gennym gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer trydedd flwyddyn y cylch hwn am na chynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o wariant gan y Llywodraeth newydd a etholwyd ym mis Mehefin eleni, ac mewn amgylchiadau lle nad wyf yn gwybod faint o arian a fydd ar gael inni ei ddefnyddio ar gyfer holl wasanaethau cyhoeddus Cymru, ni allaf roi cyllideb ddangosol synhwyrol a dibynadwy i lywodraeth leol ar gyfer y drydedd flwyddyn honno. Carwn pe bawn mewn sefyllfa i wneud hynny, gan fy mod yn deall y pwyntiau a wnaethant i chi ac a wnaethoch y prynhawn yma ynglŷn â’r modd y gallai hynny eu helpu i allu cynllunio.

Dirprwy Lywydd, deuthum i’r casgliad ei bod yn bosibl darparu cyllideb gadarn ar gyfer y flwyddyn nesaf a chyllideb ddangosol ddibynadwy ar gyfer yr ail flwyddyn yn y gyllideb a gyflwynais ar 3 Hydref. Heb y ffigurau sydd eu hangen arnaf gan Lywodraeth y DU ynglŷn â pha siâp fydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn y drydedd flwyddyn, nid oedd gennyf wybodaeth ddigon dibynadwy i roi ffigurau y gallai llywodraeth leol eu defnyddio i gynllunio’n briodol.

Ie, diolch am yr eglurhad. Wrth gwrs, byddai diffyg gwybodaeth yn gwneud hynny’n anodd iawn, felly rwy’n cymryd bod y sefyllfa o ran Llywodraeth y DU a’r Alban yn wahanol, felly, i sefyllfa Llywodraeth y DU a chyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Gan barhau â thema ariannu llywodraeth leol, yn y gorffennol rydych wedi pwysleisio’r angen i chwilio am ffynonellau incwm gwahanol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod hyn yn haws i gynghorau yn Lloegr ei gyflawni ar hyn o bryd oherwydd eu pŵer cymhwysedd cyffredinol. Clywsom heddiw fod cynghorau yn Lloegr wedi buddsoddi mewn gorsafoedd petrol, mewn archfarchnadoedd, ac yn Llundain, maent hyd yn oed yn berchen ar eu canolfannau siopa eu hunain. Pe bai gan gynghorau yng Nghymru bŵer cymhwysedd cyffredinol, a fuasai’r llwybr mwy entrepreneuraidd hwn yn llwybr da iddynt ei ddilyn, yn eich barn chi, neu a fuasai gormod o anfanteision posibl?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n awyddus i roi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd hynny’n rhan o’r Bil drafft a gyhoeddwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad ac fe’i croesawyd yn eang gan awdurdodau lleol. Mae’n un o’r rhesymau pam rwy’n awyddus i fwrw ymlaen â diwygio llywodraeth leol fel y gallwn gyflwyno Bil gerbron y Cynulliad hwn a fydd yn rhoi’r union allu hwnnw i awdurdodau lleol yng Nghymru. Credaf y byddant yn awyddus i edrych yn ofalus ar rai o’r ffyrdd y mae’r pwerau hynny wedi cael eu defnyddio dros y ffin. Credaf fod rhai gwersi cadarnhaol y gellir eu dysgu o bethau y gallai’r awdurdodau lleol yno fod wedi gallu eu gwneud. Mae rhai o’r buddsoddiadau mwy mentrus a wnaed, o’r math a amlinellodd Mr Bennett, yn achosi rhai pryderon mewn rhai rhannau o Loegr ynglŷn ag a yw arian y trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi’n ddibynadwy ac a fydd yn darparu enillion priodol i drethdalwyr lleol. Weithiau, mae’n lwcus i fod yr ail i wneud rhywbeth gan y gallwch ddysgu o brofiad y rheini a aeth yn gyntaf. Dyma faes lle y credaf y gall llywodraeth leol yng Nghymru ystyried y profiad dros y ffin, a defnyddio’r pŵer newydd rydym yn awyddus i’w roi iddynt lle y gallant ei ddefnyddio er mantais, ond heb gael eu denu efallai i rai meysydd gweithgaredd lle na fuasai mor hawdd gwarantu’r enillion priodol a’r lefelau uniondeb y buasem yn eu disgwyl.

Ie, diolch. Mae hynny, wrth gwrs—. Credaf fod angen i chi feddwl am yr anfanteision posibl, ac fe’u hamlinellwyd gennych, felly credaf fod hwnnw’n ateb synhwyrol.

Nawr, datblygiad arall yn Lloegr—[Torri ar draws.] Datblygiad arall yn Lloegr yw bod o leiaf un cyngor wedi llwyddo i sefydlu cwmni ynni dielw. Robin Hood Energy yn Nottingham yw’r cwmni hwnnw. Nawr, pe bai’r pwerau cymhwysedd cyffredinol hyn yn dod i Gymru, a ydych yn credu y buasai hwnnw’n syniad y gallai rhai cynghorau lleol fynd ar ei drywydd yn effeithiol yma?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae gennym hanes hir a balch iawn yng Nghymru, sy’n dyddio’n ôl dros nifer o flynyddoedd—ac yn enwedig yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd—o sosialaeth ddinesig, lle’r oedd awdurdodau lleol yn wir yn gyflenwyr uniongyrchol i wasanaethau cyfleustodau fel dŵr ac ynni. Nawr, rwy’n awyddus i weld rhywfaint o’r ysbryd hwnnw’n cael ei ailddyfeisio yn y cyfnod modern. Ni allwch wneud pethau’n union fel y caent eu gwneud bryd hynny, ond mae dod o hyd i ffyrdd newydd y gall awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau, gan sicrhau eu bod—ac onid yw hyn yn wir am y cynllun yn Swydd Nottingham? Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar sicrhau nad yw’r rhai sydd leiaf abl i dalu biliau o dan anfantais bellach wrth gael eu denu at y mathau drytaf o dariff. Drwy drefnu pethau ar sail gyhoeddus ac ar sail dosbarthu dielw, mae’n fwy posibl sicrhau bod tariffau ar gael sy’n diogelu’r rheini sydd angen eu diogelu fwyaf. Rwy’n siŵr y bydd rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn awyddus i edrych ar y profiad hwnnw a gweld a allant wneud mwy o’r math hwnnw o beth yma yng Nghymru.

Y Cap ar Gyflogau’r Sector Cyhoeddus

3. A wnaiff Llywodraeth Cymru gael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus? (OAQ51243)

Dirprwy Lywydd, dylai’r cap cyflog a osodwyd gan Lywodraeth y DU ddod i ben, a rhaid i Lywodraeth y DU, nid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ddod o hyd i’r arian i wneud hynny.

Wel, y mis diwethaf ymrwymodd Llywodraeth yr Alban, yn ei rhaglen lywodraethu, i gael gwared ar y cap cyflog ar gyfer staff y GIG, ar gyfer athrawon, ar gyfer gweision sifil a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus sy’n ei chael yn anodd. Wrth ymateb i hyn, dywedodd arweinydd dros dro’r Blaid Lafur yn yr Alban, Alex Rowley:

Mae’n hen bryd i’r SNP wneud y tro pedol hwn, ac mae’n braf gweld bod

yr ysgrifennydd cyllid

Derek Mackay wedi dilyn arweiniad Llafur wrth gael gwared ar y cap cyflog o’r diwedd.

Nawr, mae Llafur yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gael gwared ar y cap cyflog. Maent yn canmol Llywodraeth yr Alban am gael gwared ar y cap cyflog. Ond mae’r unig Lywodraeth a allai gael gwared arno eu hunain yn gwrthod gwneud hynny. Onid rhagrith o’r math gwaethaf yw hyn?

Adlewyrchiad yw hyn, Dirprwy Lywydd, o’r gwahanol ddulliau sydd ar gael i Lywodraethau gwahanol mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig. Rwy’n cyfarfod â Derek Mackay yfory. Edrychaf ymlaen at drafod gydag ef pa mor bell y mae wedi mynd gyda’i gynlluniau. Nid oes gennym lawer o fanylion eto ynglŷn ag i ba raddau y gellir cael gwared ar y cap cyflog yn yr Alban, na sut y mae’n bwriadu talu am hynny, ond mae ei allu i godi arian yn wahanol iawn i’n gallu ninnau, ac nid oes yn rhaid iddo wneud rhai o’r dadleuon sy’n rhaid i mi eu gwneud ynglŷn ag effaith Llywodraeth y DU ar ein cyllideb. Felly, edrychaf ymlaen at drafod hynny ymhellach gydag ef, ond nid yw’r gwahaniaeth yn ymwneud â’r hyn a amlinellodd Adam Price, ond yn hytrach, mae’n ymwneud â’r set wahanol o offer a galluoedd sydd gan wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig i roi camau gweithredu ar waith yn y maes hwn.

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn haeddu codiad cyflog. Mae angen codiad cyflog ar weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn dal i dalu’r pris am y bancwyr casino cyfalafol a aeth â ni i mewn i argyfwng economaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen i San Steffan ddod â chyni i ben a chynyddu’r dyraniad cyllidebol i Gymru fel y gallwn roi’r codiad cyflog haeddiannol y dylai gweithwyr yng Nghymru ei gael?

Dirprwy Lywydd, rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd Mike Hedges. Wrth gwrs, mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn haeddu cael eu talu’n iawn am y gwaith y maent yn ei wneud, ac mae’n llygad ei le wrth nodi’r ffaith bod pobl sy’n ymdrechu i ymdopi ar gyflogau nad ydynt wedi codi o un flwyddyn i’r llall yn gofyn sut mai hwy oedd yn gyfrifol am yr argyfwng bancio ddegawd yn ôl, tra bo’r rhai a oedd yn gyfrifol amdano i’w gweld yn gorfod ysgwyddo llawer iawn llai o’r baich hwnnw. Mae Mike yn llygad ei le hefyd, Dirprwy Lywydd, yn dweud, yn union fel y dylid cael gwared ar y cap cyflog yng Nghymru, fod yn rhaid i’r cyfrifoldeb am dalu i gael gwared ar y cap hwnnw, am y polisi hwnnw yn y lle cyntaf, ddod gan y rhai sy’n gyfrifol amdano. Rhaid iddynt hwy ddarparu’r arian. Os ceir gwared ar y cap yng nghyllideb mis Tachwedd a bod yr arian yn llifo i Gymru er mwyn cael gwared ar y cap hwnnw, mae’r Prif Weinidog wedi gwarantu y bydd pob ceiniog ohono’n cael ei neilltuo at y diben hwnnw.

Er ein bod ni yn UKIP yn cydnabod bod yn rhaid cael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac y dylid talu pob gweithiwr, nid ychydig o rai dethol yn unig, yn gymesur â’u graddfeydd gwaith, rydym hefyd yn credu bod cyfleoedd enfawr i osgoi’r lefelau uchel o wastraff mewn rhai rhannau o’r sector cyhoeddus. Mae biwrocratiaeth a gwastraff yn gyffredin o hyd yn y GIG, ac mewn rhai achosion, gellid dweud eu bod ar lefelau epidemig. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai trwy leihau’r lefelau enfawr o staffio biwrocrataidd sy’n endemig yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn unig y gallwn ariannu’r staff sydd ar y rheng flaen go iawn, gyda chyflogau sy’n gymesur â’u cyfrifoldebau, a gwneud hynny ar sail gynaliadwy?

Nid wyf yn cytuno â phwynt yr Aelod yn y ffordd y mae’n ei wneud. Buaswn wedi cytuno gydag ef pe bai ond wedi dweud bod yna bob amser arbedion effeithlonrwydd y gellir eu gwneud ac y dylid eu gwneud mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny’n sicr yn wir. Serch hynny, mae bwrw ymlaen i wneud honiad llawer mwy eithafol fod gwasanaethau cyhoeddus yn fiwrocratiaethau chwyddedig yn mynd yn groes i’r hyn y gwyddom amdanynt. Mae llawer o’n gwasanaethau cyhoeddus wedi eu diberfeddu i raddau helaeth, ac maent wedi lleihau eu gallu yn y canol i redeg sefydliadau mawr a chymhleth iawn ar yr hyn yr ystyriaf yn lefel isaf i allu bod yn gynaliadwy. A yw hynny’n golygu na ddylent barhau i geisio sicrhau bod arian yn cael ei wasgu allan a’i roi i’r rheng flaen? Nac ydy. A ddylai’r arian hwnnw fynd i’r bobl sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen? Dylai. A ddylai’r arian hwnnw gael ei gyfeirio at rai pobl ddethol, fel y mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi awgrymu? Na ddylai.

Awdurdodau Lleol a’u Dyletswyddau Atal

4. Pa ddarpariaeth ariannol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i gwneud ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau atal? (OAQ51227)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae cyfran fawr o wariant llywodraeth leol yn helpu i atal anawsterau rhag digwydd, neu i atal yr anawsterau hynny rhag dirywio ymhellach. Er mwyn cynorthwyo pob awdurdod lleol gyda’r ymdrechion hyn, rwyf wedi penderfynu darparu £1.77 miliwn yn ychwanegol at y setliad llywodraeth leol i sicrhau na fydd cyllideb unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gostwng fwy nag 1 y cant o gymharu â’r flwyddyn gyfredol.

Diolch. Wel, mewn gwirionedd, y Groes Goch a dynnodd fy sylw at y cwestiwn hwn, ac ar ôl hynny, ysgrifennais atoch gyda chwestiwn ysgrifenedig, ac roedd eich ateb yn cydnabod bod llywodraeth leol yn gyfrifol am ystod o wasanaethau ataliol, ond yn yr un modd, wedyn, fe ymateboch chi gan gyfeirio at gyllid llywodraeth leol yn gyffredinol. Pa ystyriaeth a roesoch, felly, i ddarpariaeth ariannol yn y cyd-destun y bydd datblygiadau cynaliadwy dan arweiniad y gymuned ar lefel awdurdodau lleol sy’n ysgogi unigolion, cymdeithasau a sefydliadau i ddod at ei gilydd ac adeiladu ar eu hasedau cymdeithasol, diwylliannol a materol, gan sicrhau eu bod yn ganolog wrth wneud penderfyniadau, yn atal anghenion gofal rhag dod yn fwy difrifol, ac felly’n arbed arian i awdurdodau lleol ar adegau pan fo’r gyllideb yn lleihau ac fel arall?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n cytuno’n rheolaidd â’r hyn y dywed Mark Isherwood ynglŷn â’r angen i’r holl wasanaethau cyhoeddus ystyried eu defnyddwyr fel asedau, er mwyn sicrhau, pan fo pobl yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, nad ydynt yn cael eu hystyried yn broblemau i’w datrys, ond yn gyd-gyfranogwyr yn y gwaith o sicrhau gwelliant. Mae’r ymdeimlad hwnnw o gydgynhyrchu’n arbennig o bwysig mewn gwasanaethau ataliol. Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru fod ein trydydd sector mor fywiog ac yn helpu i ysgogi dinasyddion yn yr union ffordd honno, ac rwyf bob amser wedi credu bod awdurdodau lleol sy’n ceisio ymgysylltu â’u dinasyddion yn y ffordd gadarnhaol honno yn debygol o allu cael mwy o effaith gyda’r cyllidebau sydd ganddynt, yn enwedig mewn perthynas ag atal.

Trethi Newydd

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr egwyddorion sy’n llywio ystyriaeth Llywodraeth Cymru o drethi newydd? (OAQ51244)[W]

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae’r pump egwyddor sy’n sail i bolisi trethi Cymru, fel y maent wedi’u nodi yn y fframwaith polisi trethi, yn llywio ein hystyriaeth o drethi newydd.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb. Ond o gofio bod y trethi newydd, wrth gwrs—unrhyw dreth newydd sy’n cael ei chyflwyno—yn gorfod cael cydsyniad Llywodraeth San Steffan yn ogystal, ac o edrych ar y pedair treth sydd nawr o dan ystyriaeth, pob un gyda rhinweddau ac anfanteision sy’n amrywio o’i gwmpas, pa mor bwysig yw e i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd Cabinet bod o leiaf un o’r trethi yna, y dreth yn ymwneud â gwaredu plastig, yn newid ymddygiad pobl yn hytrach na chael ei gweld fel dreth sy’n codi arian oddi ar bobl? A ydy hwnnw’n awgrymu bod treth o’r math yna, fel gyda bagiau plastig o’r blaen, yn yr archfarchnadoedd ac ati, yn dreth sydd yn debyg o ennill cefnogaeth nid yn unig yn San Steffan, ond hefyd gan drwch y boblogaeth yma yng Nghymru?

Wel, Dirprwy Lywydd, jest i ddweud bod un o’r trethi newydd sydd gyda ni yn barod—y dreth gwarediadau tirlenwi, wrth gwrs—yn enghraifft o dreth sy’n trio cael effaith ar ymddygiad pobl mwy na chodi arian. So, rydw i’n cydnabod yr egwyddor y mae Simon Thomas wedi’i hawgrymu. Mae’r trethi newydd, pan fyddem ni’n eu hystyried nhw, pan fyddem ni’n gwneud yr achos y bydd yn rhaid i ni ei wneud pan fyddem ni’n mynd i San Steffan—mae mwy nag un peth rŷm ni’n gallu rhoi i mewn i’r asesiad yna, a’r effaith ar ymddygiad, gydag un neu ddau o bethau, yw un o’r pethau pwysig rŷm ni’n gallu gweithio lan a rhoi mewn i’r penderfyniad y bydd yn rhaid i ni ei wneud yn y flwyddyn newydd, pan fyddem ni’n dod i ddewis un o’r posibiliadau i’w roi ymlaen i brofi’r posibiliadau newydd sydd gyda ni dan y Ddeddf Cymru 2014.

Neithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, mynychais gyfarfod grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, ac roedd llawer o weithredwyr twristiaeth yno a oedd yn bryderus iawn ynglŷn â’ch awgrym y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i weithredu treth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’r genie, wrth gwrs, wedi dianc o’r botel, a hyd yn oed os ydych yn diystyru hyn yn gynnar, ac rwy’n mawr obeithio y gwnewch, bydd bwgan y posibilrwydd o dreth dwristiaeth rydych wedi caniatáu iddo fod ym meddyliau pobl yn peri pryder iddynt. Maent eisoes wedi dweud hyn yn y cyfarfod. Nawr, o ystyried y ffaith—[Torri ar draws.] O ystyried y ffaith bod hyn wedi cael ymateb mor negyddol gan y diwydiant twristiaeth fel ei fod yn achosi i lawer o fusnesau twristiaeth oedi rhag buddsoddi yn eu cyfleusterau eu hunain, a ydych yn derbyn bod hyd yn oed crybwyll awgrymiadau ar gyfer treth dwristiaeth wedi bod yn gamgymeriad enfawr, ac a fyddwch yn awr yn diystyru hyn am y tymor Cynulliad hwn o leiaf?

Mae’r Aelod, fel bob amser, yn gorliwio’i achos i’r fath raddau nes ei fod yn colli unrhyw effaith y gallai fod wedi’i chael. Hoffwn glywed am ei gyfarfod neithiwr. Rwy’n gobeithio nad oedd yn annog Aelodau eraill—[Torri ar draws.]

Rydych wedi gofyn y cwestiwn. A wnewch chi wrando ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, heb dorri ar draws? Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwyf ond yn dweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gobeithio nad oedd yn annog Aelodau eraill o’i blaid i fynychu’r cyfarfod hwnnw a gofyn cwestiynau. Fel arall, bydd yr Aelod y tu ôl iddo—bydd mewn cryn drafferth gyda hi yn sgil hynny.

Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, yr hyn rydym wedi’i wneud yw cynnig pedwar syniad posibl—pob un ohonynt yn syniadau hollol brif ffrwd, pob un ohonynt yn syniadau sydd wedi’u profi mewn rhannau eraill o’r byd. Mae pob un ohonynt wedi bod yn rhan o’r ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi yma yng Nghymru dros y misoedd diwethaf. Nid ydynt yn ddim mwy na phosibiliadau a bydd pob un ohonynt yn cael ei ddadansoddi’n ofalus.

Yr hyn sy’n siom go iawn i mi ynglŷn â chyfraniad yr Aelod, Dirprwy Lywydd, yw ei fod eisiau cau’r caead ar y ddadl cyn iddi ddechrau hyd yn oed, yn hytrach na defnyddio’r cyfle newydd sydd gennym yma yng Nghymru i gael trafodaeth agored ynglŷn â’r pethau hyn ac i glywed y dystiolaeth a chlywed gan bobl sydd â safbwyntiau gwahanol a phwyso a mesur wedyn yn y ffordd briodol. Credaf fod honno’n ffordd siomedig o feddwl sut y dylai ein democratiaeth weithio yma yng Nghymru.

I ddilyn y cwestiwn hwnnw—rwy’n deall na fydd yr Ysgrifennydd cyllid, yn amlwg, yn gallu ystyried na diystyru unrhyw un o’r trethi hyn ar hyn o bryd—a wnaiff gofio, wrth iddo wneud ei benderfyniad, adroddiad Fforwm Economaidd y Byd ar deithio, sydd wedi gosod y Deyrnas Unedig yn safle 140 o 141 o wledydd yn y byd mewn perthynas â chystadleurwydd o ran cost yn y diwydiant twristiaeth? Un wlad yn unig yn y byd sydd â threthi twristiaeth uwch na ni eisoes, os ydych yn cynnwys pethau fel y doll teithwyr awyr a TAW, a dylai cynnal cystadleurwydd economi Cymru, yn enwedig ar gyfer twristiaeth ryngwladol, fod yn un o’r egwyddorion pwysig sy’n sail i unrhyw benderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ynglŷn â threthi.

Credaf fod yr holl dystiolaeth o unrhyw fan yn y byd yn werth ei hystyried yn rhan o’r ddadl y mae angen i ni ei chael ynglŷn â pha rai o’r trethi hyn sy’n werth bwrw ymlaen â hwy. Mae llawer o enghreifftiau o drethi twristiaeth mewn mannau eraill. Mae angen inni ystyried beth yw eu manteision a lle y nodwyd anfanteision. Gellir ystyried y dystiolaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati y prynhawn yma yn rhan o’r ddadl ehangach honno.

Yn dilyn cwestiwn Simon ynglŷn â’r egwyddorion sy’n sail i drethi neu ardollau newydd, a gaf fi ofyn i ba raddau y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r egwyddorion sy’n sail iddi wedi eu hymgorffori yn y cynigion newydd? Gwyddom y bydd y gyfran o bobl hŷn y rhagwelir y bydd angen gofal preswyl arnynt yn codi dros 80 y cant erbyn 2035, mewn llai nag 20 mlynedd, ynghyd â chynnydd o bron i 70 y cant yn y gyfran sydd angen gofal dibreswyl.

Mae Gerald Holtham a Tegid Roberts wedi awgrymu y gallai ardoll fach wedi’i neilltuo, o dan arweiniad ymddiriedolwyr i fynd i gronfa, cronfa yswiriant cymdeithasol estynedig yng Nghymru, ariannu gofal cymdeithasol digonol yng Nghymru yn y dyfodol y gellir ei ragweld. Oni fuasai hon yn enghraifft wych o ddefnyddio’r egwyddorion a ymgorfforir yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol i arwain datblygiad trethi ac ardollau yng Nghymru ac i wella bywydau dinasyddion Cymru?

Diolch i Huw Irranca-Davies. Mae tri o’r pedwar posibilrwydd gwahanol ar ein rhestr bellach wedi cael eu crybwyll y prynhawn yma. Credaf fod hynny’n arwydd da iawn o’n gallu i gael trafodaeth briodol ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd y gellid defnyddio pwerau sydd wedi dod i Gymru.

Mae gwaith Gerry Holtham a Tegid Roberts yn ddifrifol iawn. Gwn eu bod wedi cyfarfod yn ddiweddar â’m cyd-Aelod Rebecca Evans ac wedi sôn am fwy o waith sydd angen ei wneud er mwyn adeiladu ar y posibilrwydd hwnnw. Yr hyn rwy’n awyddus i’w wneud wedyn, Dirprwy Lywydd, fel rwyf wedi egluro yn y Siambr o’r blaen, yw treialu’r mecanweithiau newydd a nodir yn Neddf 2014. Byddaf yn trafod hynny gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys pan fyddaf yn cyfarfod â hi yfory. Ceir cyfres o brofion y bydd angen i ni allu eu hateb ar lefel y DU yma pan fydd Llywodraeth yn penderfynu pa geisiadau i’w cyflwyno, os o gwbl. Yna, byddai cysondeb ag egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn sicr yn rhywbeth y byddai unrhyw Weinidog yn disgwyl i Aelodau eraill graffu arno a’i brofi.

Trethi yn ystod y Pumed Cynulliad

6. Pa astudiaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal ynghylch effaith bosibl unrhyw drethi y mae’n ystyried eu cyflwyno yn ystod y pumed Cynulliad? (OAQ51236)

Diolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Fel y gŵyr, rwyf wedi cyhoeddi pedwar cynnig treth posibl, i gael eu hystyried yn ystod yr hydref. Byddwn yn parhau i ofyn am farn a thystiolaeth er mwyn llywio’r penderfyniad ynglŷn â pha un o’r pedwar posibilrwydd y dylid bwrw ymlaen ag ef i’r cam nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb. Ar dudalen 23 o adroddiad polisi trethi Llywodraeth Cymru, ceir ymffrost eu bod wedi cael cryn dipyn o ymateb gan y cyhoedd i’r alwad am syniadau am gynigion ar gyfer trethi newydd. Dengys ffigurau yn yr un adroddiad eich bod wedi cael cyfanswm o 305 o ymatebion, sy’n 0.009 y cant o boblogaeth Cymru. Gellid dadlau eich bod wedi gorliwio pethau i raddau. A allwch ddweud wrthyf faint o’r ymatebion hyn a gafwyd gan unigolion preifat yn hytrach na grwpiau lobïo, a sawl un a awgrymodd mai ardoll dwristiaeth oedd y ffordd orau ymlaen?

Wel, mae fy marn i ynglŷn â’r ffaith bod 300 o ymatebion wedi dod i law i ddatganiad a wnaed yma yn y Cynulliad yn wahanol i farn yr Aelod. Nid oedd yn ymarfer ymgynghori swyddogol hyd yn oed. Rwy’n cofio dweud yma yn ystod y datganiad fy mod, am yr unig dro yn fy mhrofiad, yn cael negeseuon e-bost yn y Siambr gan aelodau o’r cyhoedd fel rhan o’r ddadl honno. Credaf fod y ffaith bod 300 o bobl wedi penderfynu bod hon yn drafodaeth roeddent yn awyddus i fod yn rhan ohoni, a bod 60 o syniadau gwahanol wedi dod i’r amlwg o ganlyniad iddi—credaf fod hynny, yn fy marn i, yn arwydd eithaf amlwg fod pobl yn awyddus i ddangos diddordeb ac yn awyddus i wneud cyfraniad i set newydd o bosibiliadau nad ydym erioed wedi eu cael yma o’r blaen. Rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i roi syniad iddi o ble y doi pobl, ond—heb wirio, gadewch i mi ddweud hynny—yr argraff a gefais o’r llythyrau a welais a’r negeseuon e-bost a gefais yw mai dinasyddion unigol oedd y rhain i raddau helaeth, sydd â diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn y Siambr hon ac sy’n awyddus i wneud eu cyfraniad yn hynny o beth.

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Eitem 2 ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a byddant yn cael eu hateb y prynhawn yma gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Bethan Jenkins.

Gwerthwyr Preifat

1. A wnaiff y Comisiwn amlinellu’r rheolau sy’n ymwneud â gwerthwyr preifat, fel y Big Issue, ar neu y tu allan i ystâd y Cynulliad? (OAQ51228)

Mae’n rhaid i unrhyw weithgaredd yn ardaloedd cyhoeddus ystâd y Cynulliad gael ei noddi gan Aelod Cynulliad. Ni chaiff Aelodau’r Cynulliad ddefnyddio digwyddiadau o’r fath i gynnal gweithgareddau a fyddai o fudd ariannol, gan gynnwys gweithgareddau codi arian. Os yw Aelodau’r Cynulliad eisiau newid y rheolau hyn, yna mae rhwydd hynt i chi anfon sylwadau at Gomisiwn y Cynulliad, a byddwn yn ystyried pob agwedd ar y polisi.

Roeddwn yn gofyn mewn perthynas â thrafodaethau a gefais gyda ‘The Big Issue’ pan oeddwn yn gwerthu copïau gyda hwy yng Nghaerdydd. Roeddent yn dweud eu bod yn cael eu gwasgu allan gan bobl a oedd yn cardota yng Nghaerdydd fel na allent werthu eu cylchgronau yn dda iawn yno. Felly, tybed a oes capasiti yn yr ystad i rai o werthwyr ‘The Big Issue’ ddod i werthu i’r rhai sy’n gweithio yn y Cynulliad neu o gwmpas ystad y Cynulliad, o ystyried bod hwn yn achos da a fydd yn cynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, o fod yn ddigartref i gael gwaith, o bosibl. Felly, tybed—. Yn amlwg, os oes angen i mi ysgrifennu, gallaf ysgrifennu, ond tybed a oes unrhyw hyblygrwydd yn y system fel y gallwn gael sicrwydd ein bod wedi ceisio annog pobl i brynu ‘The Big Issue’ yn ystad y Cynulliad a’r cyffiniau.

Mae gwerthu ‘The Big Issue’, wrth gwrs, yn gyfraniad gwerthfawr iawn i fod o gefnogaeth i bobl sydd yn ddigartref ac i hyrwyddo’r achos i fynd i daclo digartrefedd. Mae polisi y Cynulliad, wrth gwrs, ar hyn o bryd yn golygu na fedrir caniatáu codi arian ar ystâd y Cynulliad. Mae hynny’n wir am bob achos da y gallai unrhyw Aelod Cynulliad fan hyn ei gynnig fel syniad. Ond mae’n wir i ddweud hefyd y gallech chi ysgrifennu at y Comisiwn a gofyn am eithriad posib, ond fe fyddwn ni’n gorfod codi’r mater unwaith eto. Unwaith mae rhywun yn caniatáu un eithriad, yna fe allaf i warantu y bydd pob un ohonoch chi fel Aelodau eisiau cyflwyno eithriadau eraill, a’r rheini i gyd hefyd yn achosion da, mae’n siŵr.

Hyrwyddo Addysg Wleidyddol

2. Pa ymdrechion y mae’r Comisiwn yn eu gwneud i hyrwyddo addysg wleidyddol? (OAQ51233)

Mae’r Cynulliad wedi darparu gweithgareddau addysgol ar gyfer cannoedd o filoedd o blant a phobl ifanc ar yr ystâd mewn ysgolion, colegau a lleoliadau y tu allan i’r ysgol ar draws Cymru. Ers ei sefydlu yn y flwyddyn 2000, mae’r tîm wedi darparu gweithgareddau ar gyfer disgyblion ysgol cynradd ac uwchradd a myfyrwyr colegau gan alinio ei wasanaethau gydag anghenion y cwricwlwm.

Comisiynydd—mae’n ddrwg gennyf, Llywydd—mae democratiaeth iach yn golygu dinasyddion gwybodus sy’n cymryd rhan ac rwyf wedi bod yn codi mater addysg wleidyddol a democrataidd mewn ysgolion ers peth amser, ond mae gennym ddiffyg gwybodaeth ddemocrataidd ymhlith oedolion hefyd. Yn 2016 a 2017, mae arolygon cynhwysfawr wedi awgrymu nad yw dros draean o bleidleiswyr Cymru yn gwybod bod iechyd yn fater wedi’i ddatganoli, ac yn credu bod y GIG yng Nghymru yn cael ei redeg gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

O ran addysg, mae canran yr ymatebwyr nad ydynt yn ymwybodol fod addysg wedi’i datganoli yn uwch byth. Mae’r holl dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu y gall diffyg gwybodaeth ar lefelau mor anarferol o uchel â’r hyn ydynt yng Nghymru effeithio ar ganlyniadau etholiadau a refferenda—mae’n fater difrifol. A wnaiff Comisiwn y Cynulliad weithio naill ai gyda Llywodraeth Cymru neu ar ei ben ei hun i roi camau ar waith i wella addysg, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth wleidyddol yng Nghymru, ac a ydych yn derbyn bod yr hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn annigonol?

Wel, mae’r arolygon y cyfeirioch atynt yn siomedig o ran lefel y wybodaeth sydd gan bobl Cymru ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar feysydd cymhwysedd sydd wedi’u datganoli a heb eu datganoli. Gwyddom, fel Cynulliad, fod y sylw a roddir i’n gwaith yma yn gyfyngedig o ran sut y mae’n cyrraedd pobl Cymru drwy ffynonellau traddodiadol y cyfryngau a’r wasg. Dyna pam y sefydlodd y Comisiwn y tasglu digidol, a roddodd argymhellion i ni ynglŷn â sut y gallwn wella cyfathrebu uniongyrchol â phobl Cymru, yn enwedig trwy ffynonellau cyfryngau newydd. Felly, bydd y Comisiwn yn edrych ar sut rydym yn rhoi’r argymhellion hynny gan y tasglu digidol ar waith.

Ond mae’n gyfrifoldeb i bawb ohonom yma, fel Aelodau Cynulliad, neu Aelodau Seneddol mewn man arall, i ddweud yn glir wrth ein hetholwyr pwy sy’n gyfrifol am feysydd gwaith sydd wedi’u datganoli a heb eu datganoli wrth wneud ein gwaith etholaethol, ond hefyd pan fyddwn yn gwneud y gwaith etholiadol sy’n ymddangos ar y gorwel o bryd i’w gilydd.

Gall ymweliad â’r Senedd hefyd fod yn rhan werthfawr o addysg wleidyddol, ac eto dangosodd ymweliad gan un o fy etholwyr sy’n fyddar rai wythnosau’n ôl fod yn rhaid inni ymdrechu o hyd i wella’r profiad o ymweld â’r lle hwn ar gyfer pobl fyddar. Yn anffodus, er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain yma, nid oedd unrhyw un ar gael. Roeddwn yn ddiolchgar i staff y Comisiwn am eu cymorth yn tywys fy etholwr, ond pan oedd fy etholwr yn gwylio’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, gwelsant nad oedd is-deitlau ar gael ar y sgriniau yn yr oriel gyhoeddus. A gawn ni sicrhau bod is-deitlau’n cael eu dangos yn yr oriel gyhoeddus i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i arwain y ffordd mewn deddfwrfa hygyrch?

Mae’n ddrwg gennyf glywed am brofiad eich etholwr yma. Rydym yn awyddus i’r hyn a wnawn yma fod ar gael ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Bydd angen i mi edrych ar y mater a nodwch, ond fel Comisiwn, byddwn yn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud ac y dylem ei wneud mewn perthynas â hyn.

Llywydd, hoffwn grybwyll un pwynt penodol o ran hynny. Mae’r addysg yn dechrau yma gyda phobl ifanc ac ysgolion yn dod i ymweld ac mae’r Comisiwn yn gwneud gwaith gwych yn annog ysgolion i ddod i’r Cynulliad i’w weld. Cefais ymweliad y bore yma gan ysgol Awel y Môr; daethant â 90 o ddisgyblion—dau fws llawn—a bu’n rhaid i mi archebu dau slot ar eu cyfer. Gan eu bod wedi archebu dau slot awr o hyd, cawsant wybod na allent gael cymorth, gan fod y cymorth yn cael ei ddarparu mewn slot dwy awr, yn hytrach na dau slot awr o hyd. A wnewch chi edrych ar hyn fel y gallwn gynorthwyo ysgolion i ddod yma, hyd yn oed os yw hynny ond am slotiau un awr yn unig, fel y gallant ddod i ddeall beth a wnawn yma, a chael y newyddion ar gyfer dinasyddiaeth?

Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Credaf ei bod yn wych fod 90 o bobl ifanc o’ch etholaeth eisiau dod yma i weld democratiaeth ar waith. Ac nid wyf am i unrhyw beth a wnawn, yn y rheolau sydd gennym, ei gwneud yn anos i bobl ifanc, o bob rhan o Gymru, ddod i weld ein gwaith yma.

Dyrannu Costau Diogelwch

3. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am sut y dyrennir costau diogelwch yn y Cynulliad? (OAQ51247)[W]

Mae diogelwch yn flaenoriaeth uchel i’r comisiwn. Rydym yn buddsoddi mewn ystod o fesurau diogelwch ar sail cyngor proffesiynol a natur newidiol y bygythiad diogelwch.

Diolch am yr ateb. Wrth i ni edrych ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad, fe ddaeth yn amlwg bod llawer o gostau diogelwch heddlu yn cael eu talu drwy gytundeb rhwng y Comisiwn a Heddlu De Cymru. O gofio nad yw’r heddlu wedi ei ddatganoli, ac o gofio ein bod ni’n ddeddfwrfa sydd y tu fewn i’r gyfundrefn Brydeinig ar hyn o bryd ac nad senedd gwlad annibynnol mo Senedd Cymru, ac o gofio bod nifer o heriau rydym yn eu hwynebu yn deillio o derfysgaeth ryngwladol—ymosodiadau a bygythiadau o’r math yna—a ydy hi’n fwriad gan y comisiwn i drafod gyda Llywodraeth San Steffan, a’r Swyddfa Gartref yn benodol, i weld oni ddylen nhw hefyd ysgwyddo rhan o’r baich am gadw’r lle yma, y Senedd hon, yn lle diogel i staff, Aelodau ac ymwelwyr?

Wel, y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw sicrhau yr hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu, sef diogelwch y cyhoedd a diogelwch y ddemocratiaeth sydd ar waith yma. Mae hynny’n wir pa un ai ydy heddlua wedi ei ddatganoli ai peidio. Yr arferiad, wrth gwrs, a’r hyn sy’n digwydd yw ein bod ni yn ysgwyddo y cyfrifoldeb ariannol o ariannu Heddlu De Cymru i ddarparu’r gwasanaeth yna i ni. Mae hynny, mae’n wir, yn bolisi cyffredin. Mae Tŷ’r Cyffredin yn gwneud yr un fath, a Senedd yr Alban hefyd yn gwneud yr un fath, ac yn ariannu’n ychwanegol y gofynion ychwanegol sydd gan senedd-dai o’r math yma.

Rwy’n derbyn y pwynt rydych chi wedi ei godi yn y Pwyllgor Cyllid, sef nad yw heddlua wedi ei ddatganoli, ac o bosibl bod angen edrych yn wahanol o safbwynt y Comisiwn yma a’r Senedd yma. Ond, ar hyn o bryd, y sefyllfa yw ein bod ni yn gweld hynny yn gyfrifoldeb arnom ni, a dyna’r sefyllfa yr ydym ni’n ei derbyn ar hyn o bryd.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Eitem 3, felly, yw’r cwestiynau amserol. Ac mae’r cwestiwn amserol cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a Mark Isherwood.

Y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, yn dilyn ei lansiad ar 20 Hydref 2017? (TAQ0056)

Ddydd Gwener diwethaf, Llywydd, cyhoeddais raglen targedu buddsoddiad adfywio newydd i Gymru. Nod y rhaglen yw cefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd, gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolion a’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf, gan gyflawni amcanion datblygu cynaliadwy ehangach.

Wel, fel y dywedodd eich datganiad ysgrifenedig, mae gan fuddsoddiad adfywio ran allweddol i’w chwarae yn hybu ffyniant ac adeiladu cymunedau cryf, ac nid oes unrhyw un yn anghytuno â hynny. Mae hefyd yn dweud eich bod yn gwahodd ceisiadau gan awdurdodau lleol, ynghyd â sefydliadau partner. Sut y byddwch yn sicrhau bod y rhaglenni a ddarperir drwy hyn yn gwneud pethau gyda phobl yn hytrach nag iddynt, neu ar eu rhan, lle y mae gennym flynyddoedd o dystiolaeth gadarn bellach sy’n dangos yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ac nad yw’r cynlluniau a ddarperir o’r brig i lawr yn arwain at fanteision hirdymor cynaliadwy, tra bo’r cynlluniau sy’n cael gwared ar y rhwystr rhwng darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau—ac rwyf wedi rhoi sawl enghraifft i chi dros y misoedd diwethaf—yn dangos gwelliannau mesuradwy ac amlwg?

Mae’r canllawiau a ddarparwyd i awdurdodau lleol a phartneriaid yn glir iawn ynglŷn â’r modd y mae’r egwyddorion a ddatblygwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gweithio gyda’i gilydd. Bydd mater asiantaethau partneriaeth yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol yn cael cefnogaeth gan y tîm a fydd yn asesu’r ceisiadau a gyflwynir drwy’r rhaglen. Byddant yn ennill mwy o bwyntiau am weithio gydag asiantaethau partner yn hytrach na gweithio ar eu liwt eu hunain.

Diolch yn fawr. Ac mae’r ail gwestiwn amserol i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Darren Millar.

Myfyrwyr a Dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y Llynedd

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ddata sy’n dangos bod myfyrwyr o Gymru yn cyfrif am 2 y cant yn unig o’r myfyrwyr a dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y llynedd? (TAQ0057)

Mae myfyrwyr o Gymru yn haeddu mynediad teg ar sail teilyngdod at leoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt. Er bod rhwydwaith Seren yng Nghymru yn helpu i arfogi a pharatoi ein pobl ifanc mwyaf disglair yn academaidd ar gyfer y prifysgolion gorau, megis Rhydychen a Chaergrawnt, mae’n rhaid i’r prifysgolion hynny ddangos bellach eu bod yn herio’r rhagfarnau yn eu prosesau derbyn eu hunain.

Diolch am ymateb i’r cwestiwn hwn heddiw, Gweinidog, yn absenoldeb Ysgrifennydd y Cabinet. Gobeithiaf eich bod yn cael cyfran o’i chyflog.

Gostyngodd nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n astudio ym mhrifysgolion gorau’r DU bron i 10 y cant yn y tair blynedd hyd at 2016. Yn ychwanegol at hynny, rydym wedi gweld ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn a ddangosai mai 2 y cant yn unig o’r rhai a dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y llynedd oedd yn fyfyrwyr o Gymru. Gwyddom o’r wybodaeth sy’n cael ei bwydo’n ôl i ni yn ein hetholaethau fod y targed o sicrhau bod 100 y cant o’n disgyblion yn ymgymryd â diploma uwch Bagloriaeth Cymru yn cyfrannu at y broblem hon. Mae’n arwain at rai ysgolion yn gorfodi myfyrwyr i ymgymryd â chymhwyster sy’n ychwanegu at eu llwyth gwaith, ac mae hynny’n eu hatal ac yn gosod rhwystrau yn eu ffordd rhag gallu cael y tair gradd A sydd eu hangen arnynt er mwyn cael eu derbyn i’n prifysgolion elitaidd yn y DU, ac mae’n anfantais sylweddol iddynt.

Yn ychwanegol at hynny, gwyddom nad yw llawer o brifysgolion Grŵp Russell yn cydnabod Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster sy’n cyfateb i gymhwyster Safon Uwch traddodiadol. Ac wrth gwrs, nid fi yn unig sy’n codi’r pryderon hyn. Mae’r pryderon hyn yn cael eu codi gan benaethiaid, gan fyfyrwyr a chan eu rhieni. Yn wir, mae Paul Murphy, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru—yr Arglwydd Murphy—wedi mynegi pryderon, gan ddweud ei fod wedi clywed athrawon yn lleisio pryderon dro ar ôl tro nad yw Bagloriaeth Cymru ar hyn o bryd yn ateb anghenion academaidd myfyrwyr mwy abl a thalentog a’i bod yn mynd ag amser prin yn eu hamserlen. O ystyried y pryderon hyn, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am waith rhwydwaith Seren, ond o ystyried y pryderon hyn, pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i roi’r gorau i’r targed a osodwyd o sicrhau bod 100 y cant o’n disgyblion yn ymgymryd â diploma uwch Bagloriaeth Cymru, a beth fyddwch yn ei wneud i adolygu gwaith rhwydwaith Seren i sicrhau ei fod yn gweithio mewn gwirionedd i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr o Gymru yn cael eu derbyn i’r prifysgolion gorau hyn, yn hytrach na’r gostyngiad a welsom dros y blynyddoedd diwethaf?

O ystyried y cwestiwn hwnnw, buaswn yn dweud, ar sail ar eich gwaith cartref, Darren, nid wyf yn credu y buasech yn dod yn agos at gael eich derbyn i unrhyw un o’r prifysgolion hyn. Credaf fod angen i chi ddeall cyd-destun yr hyn sy’n digwydd yma yn ogystal â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Ac mae angen i chi edrych nid yn unig ar rai ffigurau, ond mae angen i chi ddarllen gweddill y dudalen, wedyn troi’r dudalen a deall y darlun llawn, ac nid ydych yn gwneud hynny. Gadewch i mi ddweud hyn: mae’n berffaith wir fod Rhydychen a Chaergrawnt yn gweithio’n dda gyda rhwydwaith Seren, ac rwy’n talu teyrnged i’r prifysgolion hynny am y gwaith y maent wedi ei wneud gyda rhwydwaith Seren dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn benodol, rwy’n croesawu gwaith Coleg yr Iesu Rhydychen, a aeth â grŵp o fyfyrwyr o Gymru i—[Torri ar draws.] Os nad ydych am i mi ateb y cwestiwn, fe eisteddaf.

Fe ddywedaf hyn wrth yr Aelod: aeth Coleg yr Iesu Rhydychen â grŵp o fyfyrwyr o Gymru i Rydychen dros yr haf, i ysgol haf, a threuliwyd cryn dipyn o amser yn siarad â hwy. Mae dros 2,000 o bobl bellach yn rhan o rwydwaith Seren ac yn elwa ar yr holl fanteision y mae hynny wedi ei roi iddynt. Mae’n eu galluogi i ddeall y prosesau angenrheidiol ar gyfer gwneud cais am le a chael lle yn un o’r colegau hyn. A gadewch i mi ddweud hyn hefyd: mae Rhydychen a Chaergrawnt yn cymryd rhan weithredol yn hynny, ac nid oes unrhyw un o’r materion a godwyd gan yr Aelod y prynhawn yma wedi cael eu codi gan y prifysgolion hynny o ran eu cyfranogiad. Fodd bynnag, mae yna gyd-destun i hyn. Mae’n amlwg, os ydych yn wyn, os ydych yn ddosbarth canol, os ydych wedi cael eich addysgu’n breifat ac o dde-ddwyrain Lloegr, fod gennych well cyfle i astudio yn y prifysgolion hyn. Ac mae hynny’n annheg ac yn anghywir. Mae’n deillio o’r rhagfarnau sydd ynghlwm wrth dderbyn a phrosesau o fewn y system, ac mae’n rhaid i hynny newid. Nid damwain, Dirprwy Lywydd, yw bod 10 o golegau yn Rhydychen, yn 2015, heb dderbyn unrhyw fyfyriwr Prydeinig du—dim un—ond yn Harvard mae dros hanner y myfyrwyr sy’n cael eu derbyn heddiw o gefndir heb fod yn wyn.

Mae prif gwestiwn Darren Millar yn eithaf amserol i mi. Mae gennyf etholwr sydd yn y chweched dosbarth. Mae’n 18 oed, a’i freuddwyd yw mynd i Rydychen a’r cyfan y mae’n dymuno ei wneud yw sefyll y prawf derbyn. Nid yn unig y mae ei wybodaeth gysyniadol yn rhagorol, ond fe ragwelodd Trump, fe ragwelodd Brexit, fe ragwelodd yr ymchwydd ym mhoblogrwydd Corbyn a gall roi esboniadau demograffig manwl ynglŷn â pham y digwyddodd y pethau hyn. Yn anffodus, oherwydd dryswch gweinyddol, mae’n colli’r cyfle i sefyll y prawf. Pan ffoniais Rydychen, dywedwyd wrthyf fod yn rhaid iddynt drin pawb yn deg, ac roeddwn yn credu bod hynny’n hollol hurt, o ystyried ei fod yn fyfyriwr mewn ysgol wladol, a chredaf, yn yr achos hwn, y dylent lacio’r fiwrocratiaeth i ganiatáu iddo astudio. Felly, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen i golegau Rhydychen a Chaergrawnt fod yn fwy hyblyg a chymwynasgar, yn arbennig gyda myfyrwyr o ysgolion gwladol, er mwyn cynyddu niferoedd derbyn myfyrwyr fel yr etholwr y soniais amdano heddiw?

Buaswn yn sicr yn hapus, Dirprwy Lywydd, i fynd i’r afael ag achos yr etholwr y cyfeiriodd yr Aelod ato, ac efallai fod hynny’n rhywbeth y gallwn ei drafod yn dilyn y cwestiwn hwn heddiw. Ond o ran y mater ehangach, nid wyf yn argyhoeddedig fod angen i’r prifysgolion fod yn fwy hyblyg; nid oes ond angen iddynt fod yn deg. Nid oes ond angen iddynt fod yn deg, ac mae angen iddynt sicrhau bod y ffordd y maent yn recriwtio myfyrwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a mannau eraill yn seiliedig ar degwch a gallu, ac nid ar sail rhagfarn sydd i’w gweld yn gweithio yn erbyn mwyafrif helaeth y bobl yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffigurau derbyn yn hysbys iawn. Mae’r dadansoddiad o’r ffigurau hynny wedi ei ddeall yn dda. Mae’n gyson, mae’n digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn; nid damwain mohono. Mae’n deillio o’r ffordd y mae’r materion hyn yn gweithredu. Mae angen ac mae’n rhaid i hynny newid.

Wyddoch chi, rwy’n teimlo weithiau fod angen inni roi’r gorau i’r obsesiwn gyda Rhydychen a Chaergrawnt hefyd? Mae sefydliadau ardderchog eraill—Grŵp Russell ac eraill hefyd—y dylem annog ein pobl ifanc i anelu atynt, ac nid yn y DU yn unig ychwaith. Mae angen inni edrych y tu hwnt i hynny o ran ehangu gorwelion ein pobl ifanc i ystyried Harvard, Yale, y Sorbonne ac eraill. Pam na ddylem wneud hynny? Mewn gwirionedd, un o argymhellion adolygiad Diamond oedd y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y pecyn cymorth i fyfyrwyr y tu hwnt i’r DU. Roedd hynny ym maniffesto Plaid Cymru hefyd. A ydych yn mynd i gymeradwyo hynny hefyd? Wel, dim ots. [Chwerthin.] Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth y dylem ei annog. Dywedodd y Llywodraeth, a bod yn deg, eu bod wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw ac y byddent yn datblygu cynllun peilot. Felly, tybed a yw’r Gweinidog mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â ble rydych arni gyda’r gwaith o ddatblygu cynllun peilot o’r fath.

Rwy’n gobeithio nad yw’r Aelod yn fy meirniadu am geisio ateb y cwestiwn a ofynnwyd ar yr achlysur hwn. Ond rwy’n derbyn y gallai ei weld fel digwyddiad prin iawn. Rwy’n derbyn y pwynt y mae’n ei wneud ac nid wyf yn ei wrthod. Rwy’n credu ei fod yn bwynt hollol ddilys a theg. O ran yr hyn rydym yn ceisio ei wneud ar hyn o bryd, mae ein gwaith yn cael ei dwnelu drwy’r Rhwydwaith Seren. Buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelodau ar bob ochr i’r Siambr yn amlinellu’r hyn sy’n digwydd gyda Seren ar hyn o bryd. Rwy’n credu ei fod wedi bod yn llwyddiant mawr. Rwyf wedi siarad mewn nifer o ddigwyddiadau Seren, gan gynnwys eu cynhadledd genedlaethol y llynedd, ac mae’n rhaid i mi ddweud mai anaml rwyf wedi siarad â grŵp mor fawr o bobl ifanc brwdfrydig a llawn ysgogiad sy’n awyddus i gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae Seren yn eu darparu, ac yna i lwyddo ym mha faes bynnag neu ba fodd bynnag y maent yn ei ddewis. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod bod nifer o fyfyrwyr rwyf wedi siarad â hwy, yn ogystal ag ystyried mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, wedi gwneud cais am le—a gwn fod o leiaf ddau ohonynt wedi llwyddo i gael lle—ym mhrifysgolion yr Ivy League hefyd.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiadau 90 eiliad a’r datganiad 90 eiliad cyntaf heddiw yw Darren Millar.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dydd Mawrth nesaf, 31 Hydref yn nodi pum canmlwyddiant genedigaeth y diwygiad Protestannaidd, y dydd pan hoeliodd Martin Luther, mynach Awstinaidd, y 95 pwnc sydd bellach yn enwog at ddrws Eglwys y Castell yn Wittenberg. Er mai protest yn erbyn rhai o gredoau a gormodedd yr Eglwys Gatholig ar y pryd oeddent yn bennaf, daeth y pynciau’n gatalydd i’r mudiad a newidiodd y byd, a buasai’r anghydffurfiaeth a hyrwyddai yn lledaenu fel tân gwyllt trwy Gymru yn y pen draw. Cadarnhaodd y diwygiad y syniad y dylai’r Beibl fod ar gael mewn iaith bob dydd ac nid Lladin yn unig. Roedd yn hyrwyddo rhyddid cred grefyddol drwy herio awdurdod arweinwyr eglwysig llygredig, a hyrwyddai’r gred mai’r unig ffordd o gael achubiaeth oedd drwy ffydd unigolyn yn Iesu Grist, nid drwy weithredoedd da, penyd nac ymyrraeth clerigwr crefyddol.

Nid oedd popeth yn rhwydd. Mae rhai o gredoau Luther, a bod yn onest, yn ffiaidd a dychwelodd llawer o’r diwygwyr cynnar at arferion a oedd yr un mor llygredig â’r rhai roeddent yn protestio yn eu herbyn. Eto i gyd, er gwaethaf hyn, mae’n amhosibl lleihau’r effaith gadarnhaol a gafodd gweithredoedd Luther 500 mlynedd yn ôl a’r effaith a gawsant ac y maent yn parhau i’w chael yng Wittenberg, Cymru a’r byd.

Rwyf am gloi gyda geiriau’r Athro Sarah Williams o Goleg Regent yn Llundain:

Os ydym yn credu bod pob bod dynol yn cael eu creu’n gyfartal, eu bod yn rhydd i weithredu yn ôl cydwybod, i siarad yn rhydd, i gael eu trin yn deg gerbron y gyfraith; os ydym yn credu y dylai rheolwyr ufuddhau i’r un deddfau â’u dinasyddion, y dylid gwrthwynebu gormes; y dylai arweinwyr gael eu dwyn i gyfrif, y dylid goddef gwahaniaethau mewn cymdeithas sifil—yna mae’r Diwygiad Protestannaidd yn rhywbeth sy’n rhaid i ni ei ddathlu.

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn wrth fy modd yn cael mynychu canolfan ddinesig Merthyr Tudful ar gyfer ailgysegru’r plac sy’n anrhydeddu gwirfoddolwyr o’r dref a ymunodd â’r brigadau rhyngwladol i ymladd ffasgiaeth yn Sbaen—brwydr y gobeithient y buasai’n achub democratiaeth Sbaeneg ac yn osgoi rhyfel byd. Mynychwyd y digwyddiad gan berthnasau i’r gwirfoddolwyr ac roedd yn deimladwy i wrando ar eu straeon am yr ymrwymiad a wnaed gan aelodau o’u teuluoedd ac i glywed am y risgiau a’r peryglon a wynebai’r gwirfoddolwyr wrth iddynt deithio i’r rheng flaen ar gyfer y frwydr yn erbyn Franco a’r ffasgwyr. Ni ddychwelodd rhai ohonynt.

Yn dilyn yr ailgysegriad cafwyd darlith goffa flynyddol S.O. Davies, a drefnwyd gan Gyngor Undebau Llafur Merthyr Tudful. Cyflwynwyd y ddarlith gan hanesydd lleol, Huw Williams. Roedd darlith Huw yn ein hatgoffa o’r gwreiddiau dwfn, rhyngwladol a geir mewn cymunedau ar draws Merthyr Tudful. Roedd hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl o dras Sbaeneg a oedd wedi dod i Ferthyr Tudful i weithio pan oedd cyflogaeth ar ei anterth—a dychwelodd rhai ohonynt i Sbaen yn ddiweddarach i ymladd ochr yn ochr â’r brigadau rhyngwladol. Felly, mae’r plac hwn yn cysylltu un rhan o dreftadaeth wleidyddol gyfoethog Merthyr Tudful â digwyddiadau yn Sbaen yn y gorffennol, ac yn wir, yn y presennol. Mae’n ein hatgoffa ni i gyd na ddylem byth anghofio ein hanes.

Heddiw, mae pennau doeth yn Sbaen a Chatalonia yn meddwl yn ofalus am eu hanes ar hyn o bryd, ac felly, rwy’n gobeithio ein bod yn cofio’r rhan bwysig hon yn ein hanes drwy gydnabod aberth y rhai hynny o Ferthyr Tudful ac ar draws Cymoedd y de a wirfoddolodd ar gyfer y brigadau rhyngwladol i ymladd dros ddemocratiaeth ac yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen. ‘No pasarán.’

Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Lysiau ar yr un pryd ddoe yn yr Alban, Lloegr ac yma yng Nghymru yn y Pierhead. Ei nod yw newid ein system fwyd gamweithredol. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am 5 y dydd, ond ychydig mewn gwirionedd sy’n ei gyflawni. Dylai llysiau fod yn un rhan o bump o’n siopa; rydym yn prynu llai na hanner hynny. Mae bwydydd sy’n llawn siwgr, braster, a halen yn cael eu pentyrru’n uchel a’u gwerthu’n rhad, tra bo rhai cymunedau heb ffrwythau a llysiau’n agos iddynt. Mae’r diwydiant hysbysebu yn ceisio targedu plant gyda grawnfwydydd, diodydd a bisgedi sy’n llawn siwgr ac 1.2 y cant yn unig o hysbysebu sy’n cael ei wario ar hyrwyddo llysiau. Nid yw’n syndod nad yw bron i 80 y cant o blant pump i 10 oed yn bwyta digon o lysiau i gadw’n iach, ac mae’r ffigur yn codi i 95 y cant ymhlith plant 11 i 16 oed. Mae hynny’n cynyddu’r tebygolrwydd o ordewdra, diabetes, clefyd y galon a chanser.

Mae’r addewidion a wnaed ddoe yn cynnwys gwneud cynghorau Birmingham, Brighton, Redbridge a Chaerdydd yn arloeswyr llysiau fel bod tyfu a bwyta llawer o lysiau yn weithgaredd normal. Mae Lantra a Puffin Produce yn gweithio ar gynllun i gynyddu cynhyrchiant llysiau Cymru 50 y cant erbyn 2020. Mae Castell Howell yn hybu gwerthiannau llysiau ac yn rhoi mwy o lysiau yn eu prydau parod. Mae Lidl, Tesco, Sainsbury a Co-op i gyd am roi dau lysieuyn yn eu prif brydau i gyd, a bydd Greggs yn rhoi llysiau ym mhob cawl sydd ganddynt ac o leiaf hanner eu brechdanau. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnwys dau lysieuyn yn hytrach nag un yn ei ffreuturau heb gost ychwanegol, a bydd Charlton House yn treialu llysiau rhad ac am ddim i fyny’r grisiau ar ddydd Gwener. Fy ngweledigaeth Pys Plîs i Gymru yw llysiau blasus, hygyrch a fforddiadwy, lle y mae bwyta llawer ohonynt yn normal.

5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Eitem 5 ar ein hagenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6350 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n addasu’r broses gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio).

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r cynnig deddfwriaethol rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei gefnogi heddiw yn galw am Fil i ddiwygio’r system gynllunio fel bod yna ragdybiaeth yn erbyn caniatâd cynllunio ar gyfer hollti hydrolig neu ffracio. Diben hwn yw diogelu iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a thirwedd Cymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y sefyllfa ar hyn o bryd, yn dilyn cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ym mis Chwefror 2015, yw bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu moratoriwm yn erbyn cynllunio ar gyfer ffracio. Mae llawer yn dadlau bod y sefyllfa hon yn agored i her gyfreithiol ond bydd hynny’n newid yn fuan beth bynnag, oherwydd o dan Ddeddf Cymru 2017, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru bwerau mewn perthynas â phetrolewm. Yn bwysig, mae petrolewm wedi’i ddiffinio yn adran 1 o Ddeddf Petrolewm 1998 i gynnwys

nwy naturiol sydd yn ei gyflwr naturiol mewn strata,

megis nwy siâl, a gaiff ei echdynnu drwy ffracio.

Mae’r sefyllfa anfoddhaol sydd gennym ar hyn o bryd, fodd bynnag, wedi ei thanlinellu gan y ffaith bod drilio prawf yn parhau i ddigwydd. Cafodd cais cynllunio i ddrilio prawf am nwy siâl ger Pont-rhyd-y-fen, ger Port Talbot, ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ôl ym mis Ionawr 2016. Rydym—. Mae’n ddrwg gennyf, Mike Hedges. Rwy’n fodlon ildio.

Onid yw’n bwysicach, i ddechrau, i wahardd drilio prawf? Oherwydd nid yw pobl yn drilio prawf oherwydd eu bod wedi diflasu neu’n chwilio am rywbeth i’w wneud; maent yn drilio prawf oherwydd eu bod yn credu y byddant yn gallu ffracio ar ryw adeg yn y dyfodol.

Mae hwnnw’n bwynt pwysig, a gwn fod caniatáu drilio prawf yn yr Alban, lle y maent yn erbyn ffracio, yn golygu bod achosion cyfreithiol ar y ffordd yn awr, ac ni ddylech roi anogaeth i bobl, os mynnwch, neu wario arian, fel bod ganddynt fodd o roi camau cyfreithiol ar waith yn eich erbyn wedyn. Mae’n well gwahardd yn gyfan gwbl, ac rwy’n derbyn y pwynt hwnnw.

Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, wedi gwneud ein safiad yn erbyn ffracio’n gwbl glir, ac wedi gwneud hynny’n gyson. Mae hwn, yn awr, yn gyfle gwirioneddol i’n Cynulliad Cenedlaethol anfon neges glir cyn ennill y pwerau llawn fis Ebrill nesaf. Nid ydym eisiau ffracio yng Nghymru, nid ydym angen ffracio yng Nghymru, ac ni ddylem ganiatáu ffracio yng Nghymru.

Yn ogystal â bod yn hynod amhoblogaidd, mae yna bryderon y gallai ffracio gael effaith andwyol ar iechyd dynol a’r amgylchedd. O dan amgylchiadau o’r fath, buaswn yn dadlau y gellid ac y dylid cymhwyso’r egwyddor ragofalus yn llawn. Rydym bellach yn deall effaith llygredd aer ar iechyd cyhoeddus yn well—rhywbeth y nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod yn argyfwng iechyd cyhoeddus—ac mae’n rhaid i ni roi’r gorau i losgi a defnyddio tanwydd ffosil er mwyn mynd i’r afael â hynny.

O’r cemegau a ddefnyddir wrth ffracio, gall 75 y cant ohonynt effeithio ar y croen, y llygaid, organau synhwyraidd eraill, y system anadlol, y system gastroberfeddol a’r afu. Mae mwy na hanner y cemegau yn dangos effeithiau ar yr ymennydd a’r system nerfol. Gall mwy na 25 y cant o’r cemegau achosi canser a chellwyriadau. Nid oes rhyfedd fod y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau yn yr Unol Daleithiau wedi adrodd yn ddiweddar, er bod cyfraddau canser y fron yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn gostwng yn araf am flynyddoedd lawer, eu bod ar gynnydd eto mewn nifer o siroedd lle y mae echdynnu nwy naturiol yn digwydd. Rwy’n ildio i’r Aelod.

A gaf fi ganmol yr Aelod am gyflwyno’r ddadl hon ar y cynnig deddfwriaethol hwn? Yn yr Unol Daleithiau lle’r roeddent yn edrych ar y dechnoleg hon fesul talaith, a fuasai’n nodi bod y rhai a ganiataodd iddo ddatblygu i fod yn ffyniant wedi gorfod lleihau a chyfyngu ar eu deddfwriaeth amgylcheddol er mwyn gwneud i hynny ddigwydd? Cawsant wared ar amddiffyniadau i wneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, a chafodd hynny effaith ar iechyd y cyhoedd hefyd.

Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gywir, ac rydym yn wynebu’r her hon o adael yr Undeb Ewropeaidd a chadw ein safonau amgylcheddol uchel, ac rwy’n credu bod honno’n her i wlad sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel canolbwynt i’w deddfwriaeth.

O ran gwarchod yr amgylchedd, ni fydd ffracio yn ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd na’n rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil. Mae nwy siâl yn newyddion drwg ofnadwy i’n hinsawdd. Bydd ffracio’n creu mwy o nwyon sy’n newid yr hinsawdd, nid yw’n gydnaws â’n targedau newid hinsawdd, a bydd nwy siâl yn cynnal ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac yn tynnu ein sylw oddi ar atebion go iawn y dyfodol: defnydd effeithlon o ynni ac ynni adnewyddadwy. Rwyf hefyd yn awgrymu y buasai caniatáu ffracio yng Nghymru yn nacáu’r cyhoeddiad diweddar am darged y Llywodraeth i sicrhau bod 70 y cant o’n trydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.

Mae perygl hefyd y gallai ffracio halogi dŵr. Mae Asiantaeth Amgylchedd y DU wedi canfod bod yr hylif gwrthlifol o nwy siâl Swydd Gaerhirfryn yn cynnwys, ac rwy’n dyfynnu,

lefelau arbennig o uchel o sodiwm, clorid, bromid a haearn, yn ogystal â lefelau uwch o blwm.

Buasai’r effaith ar ein tirwedd yn enfawr. Er mwyn i ffracio gael ei ddatblygu’n llawn, gallem weld 10,000 i 20,000 o ffynhonnau’n cael eu gwasgaru o amgylch y wlad mewn clystyrau o chwech i saith ar yr hyn a elwir yn badiau drilio. Rwy’n nodi, gydag eironi dwfn, mai cefnogwyr cryfaf ffracio sy’n tueddu i wrthwynebu ffermydd gwynt yn y modd cryfaf posibl hefyd.

Gall hefyd fod yn wir na fuasai daeareg y DU yn cynnal ffracio. Ym mis Awst 2017 dywedodd yr Athro John Underhill, prif wyddonydd Prifysgol Heriot-Watt:

Nid yw cymhlethdod cynhenid y basnau gwaddodol wedi cael ei werthfawrogi na’i ddiffinio’n llawn ac o ganlyniad mae’r cyfle wedi cael ei orliwio.

Rhybuddiodd yn erbyn dibynnu ar nwy siâl, ac rwy’n dyfynnu,

i ddiwallu anghenion y DU am nwy a darganfod ein bod 55 miliwn o flynyddoedd yn rhy hwyr.

Mae Plaid Cymru eisiau rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, ac mae hyn yn cynnwys gwahardd ffracio’n llwyr. Rydym yn cydnabod mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth, ac mae angen i ni ddatgarboneiddio ein sector ynni. Ein huchelgais o hyd yw cynhyrchu cymaint o drydan ag a ddefnyddir yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae ffracio’n tynnu sylw’r sector ynni, ac o bosibl, yn dargyfeirio cyllid cyhoeddus hefyd oddi wrth ffynonellau ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy. Yn hytrach na buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy lân. Mae gan forlyn llanw bae Abertawe botensial enfawr i economi Cymru a gallai greu mwy o swyddi heb y peryglon i iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd ehangach.

Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw fel ymrwymiad i ddefnyddio’r pwerau, pan fyddant yn dod i rym fis Ebrill nesaf, i wahardd ffracio yng Nghymru. Yn lle hynny, dylem ymroi i ddiwygio deddfwriaeth cynllunio defnydd tir i gyflymu cynlluniau ynni sy’n eiddo i gymunedau ac sy’n eiddo i ffermwyr, gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu. Buasem wedyn yn trawsnewid ein polisi ynni i sicrhau bod buddiannau cymunedau Cymru yn ganolog i bopeth a wnawn.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), nid wyf wedi dethol y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. David Melding.

Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn hapus i nodi’r cynnig heb ei gymeradwyo o reidrwydd? Mae gennyf safbwynt amodol ar hyn. Hefyd, mae’r sefyllfa ar hyn o bryd, sef, yn ei hanfod, moratoriwm ar geisiadau hyd nes y bydd y maes wedi’i ddatganoli, yn rhywbeth y credwn ei fod yn briodol fel bod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, i bob pwrpas, yn cael eu caniatáu i ddatblygu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae gennyf rai amheuon ynglŷn â dull sy’n dweud y dylid ei wahardd yn eang ar bob sail oherwydd credaf fod tystiolaeth fel arfer yn galw am ddefnydd ychydig yn fwy cynnil na hynny, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn datblygu ein polisïau cyhoeddus yn ôl y dystiolaeth.

Mae rhywfaint o fanteision posibl—o leiaf, mae’r rhai sydd o blaid ffracio yn sôn amdanynt: defnyddio nwy yn hytrach na glo, os yw hynny’n ein hatal rhag troi at ynni adnewyddadwy mor gyflym ag y dymunwn, gallaf weld sut y mae’n tynnu sylw, ond mae’n fwy caredig na glo, rydym yn gwybod hynny; a’r incwm a’r buddsoddiad posibl mewn hen gymunedau glofaol, nid wyf yn credu y gellir rhoi’r pethau hyn i’r naill ochr. Fodd bynnag, mae llawer o wrthwynebiad cyhoeddus, ac mae’n ymyriad aflonyddol iawn—neu mae’n ymddangos felly, beth bynnag—ac mae’n cael effaith fawr ar ein tirwedd. Felly, nid wyf yn credu y gellir rhoi’r ffactorau hynny i’r naill ochr yn hawdd iawn, ac maent yn sicr yn peri pryder i gymunedau ledled Cymru.

Ond rwy’n dod yn ôl at yr angen am ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae angen i ni wneud asesiad teg o’r dechnoleg hon i weld a ellir manteisio arni i ryw raddau. Gwn fod llawer o ddadleuon wedi bod, o ddaeargrynfeydd i dapiau fflamllyd, ac os ydynt yno, a’i bod yn ffaith gadarn eu bod yn berygl go iawn, yna mae’n rhaid i ni, yn amlwg, roi sylw i hynny a gweithredu arno. Ond rwy’n credu bod rhai o’r ystod o straeon a glywch yn ei gwneud yn ofynnol i ni, beth bynnag, edrych—

[Yn parhau.]—yn drylwyr ar yr honiadau hynny. Rwy’n fodlon ildio.

Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Rwy’n deall y sylfaen dystiolaeth rydych yn gofyn amdani, ond mae hefyd yn broblem nad oes unrhyw sylfaen dystiolaeth i gefnogi—i ddadansoddi’r effeithiau ar yr amgylchedd. Dyna beth rydym ei angen. Mae angen i ni edrych ar yr effeithiau ar yr amgylchedd, ac yn anffodus, nid ydym wedi cyrraedd y fan honno eto, felly nid oes gennym hynny, ond nid oes gennym y problemau a ddangoswyd chwaith.

Rwy’n credu y dylem symud ymlaen mewn ffordd sy’n deg i bob technoleg, yn y bôn. Felly, rwy’n credu mai dyna beth sydd angen i ni ei gofio pan fyddwn yn edrych ar ddatblygu ffynonellau ynni, ein bod yn defnyddio’r un meini prawf.

Rwy’n credu mai un o’r cwestiynau mawr y buasai’n rhaid i ffracio ei wynebu yw pa un a ellir ei gysoni o gwbl â’n hamcanion strategol ehangach, yn enwedig yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Nawr, rwy’n derbyn bod hwnnw’n bwynt perthnasol iawn. Rwyf hefyd yn derbyn y gallai’r modd y gwnaed defnydd o’r dechnoleg hon ym Mhrydain fod wedi ei or-ddweud. Rwy’n credu, yn gyffredinol, ei fod yn fwy dichonadwy mewn ardaloedd sy’n bell o’r boblogaeth ac mewn ardal ehangach. Rydym yn siarad am safleoedd gweddol gyfyngedig, felly mae’r rheini’n ffactorau mawr iawn.

Felly, rwy’n falch o nodi hyn ac yn edrych ymlaen at ddull llawn a phriodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn. Rwy’n amau y buasai pobl Cymru yn disgwyl—neu angen, beth bynnag—llawer o sicrwydd pe bai’r math hwn o dechnoleg yn cael ei defnyddio ar unrhyw raddfa o gwbl.

I mi, nid yw hyn yn ymwneud â thapiau fflamllyd na daeargrynfeydd. Mae’r rhain yn amlwg yn faterion y buasai angen eu datrys pe bai ffracio byth yn cael ei ganiatáu, ond rwy’n credu bod yna bwynt llawer ehangach y mae’r ddadl hon yn ei wneud sy’n torri drwy, rwy’n credu, rhai o’r dadleuon ystumiedig y mae David Melding newydd eu gwneud.

Mae ein ffordd o fyw, ers yr ail chwyldro diwydiannol, wedi cael ei adeiladu ar fynediad at ynni sy’n deillio o danwyddau ffosil, ac rydym wedi adeiladu cymdeithas ffyniannus yn faterol ar hynny. Fodd bynnag, fel mater o resymeg, os yw’n seiliedig ar adnoddau naturiol cyfyngedig, yna yn sicr fe ddaw amser pan fydd hwnnw’n dod i ben.

Nawr, nid wyf yn wrth-dechnoleg—o bell ffordd. Rwy’n agored iawn i’r syniad fod arloesedd yn gallu ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wella ein ffordd o fyw sy’n gyson â pharchu ffiniau’r blaned, ond rwy’n poeni bod y rhan fwyaf ohonom yn gwadu’r effaith y mae ymddygiad dynol wedi’i chael ar ein hamgylchedd a’m modd y mae wedi effeithio ar ei allu i’n cynnal yn y ffordd o fyw rydym bellach yn ei hystyried yn hawl. Yn hytrach na derbyn yr awgrym ein bod yn cyrraedd y pen o ran ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, fy mhroblem gyda ffracio yw ein bod yn ceisio chwythu’r darn olaf o nwy o’r ddaear er mwyn cynnal ffordd ddiwydiannol o fyw, yn hytrach na wynebu’r ffaith bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau.

Nawr, mae’n bosibl nad yw’r nwy a gynhyrchir drwy ffracio ond yn allyrru hanner cymaint o garbon deuocsid â glo, ond nid yw hyn yn ystyried y gollyngiadau methan a nwyon tŷ gwydr eraill yn ystod y broses. Wrth ychwanegu’r rhain, mae astudiaethau’n dangos y gall nwy siâl greu mwy o lygredd na glo hyd yn oed, ac nid wyf yn gweld sut y mae rhyddhau nwyon niweidiol iawn i’r aer sy’n cyfrannu’n sylweddol tuag at nwyon tŷ gwydr a’r cynnydd mewn tymheredd yn gyson â’n polisi datganedig o leihau allyriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Clywais David Melding yn galw am gynildeb a pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wel, mae’r dystiolaeth ar newid yn yr hinsawdd yn sylfaenol glir ac nid oes lle i gynildeb o’i gwmpas. Mae hwn yn fygythiad i’n ffordd o fyw ac i ffordd o fyw cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gydag eglurder nad yw’n caniatáu ar gyfer cynildeb. Felly, nid wyf yn gweld sut y gallwn gymeradwyo sancsiynu ffracio yng Nghymru, ac am y rheswm hwnnw rwy’n cefnogi’r Bil.

Buaswn yn dweud, Llywydd, bod angen i ni roi’r gorau i geisio dod o hyd i ffordd o gwmpas hyn i blesio buddiannau corfforaethol. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ddatblygu ein heconomi mewn ffordd sy’n parchu anghenion a llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Dylai ein ffocws fod ar leihau faint o ynni rydym ei angen drwy arloesi ac adeiladu ein capasiti ynni adnewyddadwy fel ei fod yn gallu darparu ynni gwyrdd y gallwn ei werthu a’i allforio yn ogystal â diwallu ein hanghenion ynni. Gadewch i ni roi diwedd ar gysylltiad Cymru ag egni budr a’n gwneud yn arweinwyr mewn ynni glân.

Gadewch i mi ddweud yn gyntaf, fel y mae pethau ar hyn o bryd, buaswn yn bryderus iawn o weld unrhyw ffracio yng Nghymru. Nid oes neb wedi profi ei fod yn ddiogel, ond nid oes neb ychwaith wedi profi na ellir ei wneud yn ddiogel. Rwyf hefyd yn cytuno â llawer o’r hyn y mae Simon Thomas a Lee Waters wedi’i ddweud ynglŷn â pheryglon ffracio, a dyna pam fod y cysyniad o ffracio yng Nghymru yn fy mhoeni’n fawr. Cyn caniatáu ffynonellau ynni fel ffracio a allai effeithio ar yr amgylchedd ecolegol neu ddaearyddol, mae angen i ni gael gwybodaeth a sicrwydd am ei ganlyniadau i’n hamgylchedd a phobl sy’n byw yn agos ato.

Mae’r rhai sydd o blaid ffracio yn dweud bod ffracio’n caniatáu i gwmnïau ddrilio er mwyn cael mynediad at ffynonellau olew a nwy sy’n anodd eu cyrraedd. Rwy’n siŵr fod hynny’n wir. Yn yr Unol Daleithiau, mae wedi rhoi hwb sylweddol i gynhyrchiant olew domestig ac wedi gostwng prisiau nwy. Amcangyfrifir ei fod wedi cynnig diogelwch nwy i’r Unol Daleithiau a Chanada am tua 100 mlynedd, ac mae wedi darparu cyfle i gynhyrchu trydan sy’n allyrru hanner cymaint o garbon deuocsid â glo. Mae’r diwydiant yn awgrymu y gallai ffracio nwy siâl gyfrannu’n sylweddol tuag at anghenion ynni’r DU yn y dyfodol, ac mae’r tasglu ar nwy siâl, corff a ariennir gan y diwydiant, wedi dweud bod angen i’r DU ddechrau ffracio er mwyn sefydlu effaith economaidd bosibl nwy siâl, gan ddweud y gallai greu miloedd o swyddi. Fodd bynnag, mae’r rhai sydd yn erbyn ffracio yn nodi rhai pryderon amgylcheddol sydd at ei gilydd heb eu hateb.

Mae ffracio’n defnyddio llawer iawn o ddŵr sy’n rhaid ei gludo i’r safle ffracio ar gost amgylcheddol sylweddol. Mae amgylcheddwyr yn dweud bod cemegau carsinogenaidd posibl a ddefnyddir yn gallu dianc a halogi dŵr daear o gwmpas y safle ffracio. Mae’r diwydiant ei hun yn awgrymu bod digwyddiadau llygru yn deillio o arferion gwael yn hytrach na thechneg sy’n gynhenid beryglus. Ond er ei bod yn bosibl y gallai arferion da atal llygredd, mae’n rhaid i ni gofio, pan fo elw a cholled yn rhan o bethau, gallai’r demtasiwn i dorri corneli fod yn un hollbwysig. Ceir pryderon hefyd y gall y broses o ffracio achosi tirgryniadau bach, fel y digwyddodd ger Blackpool yn 2011.

Mae gwrthwynebwyr hefyd yn nodi bod ffracio yn tynnu sylw cwmnïau ynni a Llywodraethau rhag buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy ac annog dibyniaeth barhaus ar danwyddau ffosil, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll y prynhawn yma. Ond er y gall hynny fod yn wir, rwy’n credu y dylai unrhyw gyfyngiadau neu reolaethau ar ffracio fod yn seiliedig ar ddiogelwch a chynaliadwyedd y broses yn unig, yn hytrach na ffordd o annog pobl i archwilio ffynonellau ynni amgen. Wrth gwrs, dylem archwilio ynni adnewyddadwy, ac rydym yn gwneud hynny. Ond buasai’n synhwyrol ac yn ddoeth cael cymysgedd iach o ffynonellau ynni, ac mae’n ddigon posibl y gallai ffracio fod yn rhan ddiogel a derbyniol o’r gymysgedd honno.

Felly, gan droi at y cynnig, rwy’n credu ei bod yn bosibl y daw adeg pan allai fod yn briodol cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn ffracio. Fodd bynnag, mae’r cynnig hwn yn achub y blaen ar ganfyddiad na all ffracio fod yn ddiogel. Gŵyr pawb ohonom fod dod o hyd i ffynonellau ynni’n dod ar draul yr amgylchedd i ryw raddau, boed yn danwyddau ffosil neu ddatblygu neu osodiadau ynni adnewyddadwy. Felly, ni allwn ddisgwyl na fydd unrhyw broblem gyda ffracio neu unrhyw ffynhonnell ynni arall. Ond ein dyletswydd i bobl Cymru yw darganfod, i’r graddau mwyaf posibl, beth yw goblygiadau ffracio, a pha un a all ffracio fod yn ddiogel ai peidio. Credaf fod angen i ni gasglu ac astudio’r dystiolaeth yn ofalus ac yn briodol, efallai drwy’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a allai ddod yn ôl i’r lle hwn i gyflwyno canfyddiadau gwrthrychol ac argymhelliad dysgedig yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn ag a ddylem ragdybio o blaid neu yn erbyn cymeradwyo ffracio. Mae’n ddigon posibl y byddwn yn canfod y dylem ragdybio yn erbyn cymeradwyo, ac nid oes gennyf broblem gyda chefnogi’r safbwynt hwnnw os yw’r dystiolaeth yn pwyntio i’r cyfeiriad hwnnw. Ond hyd nes y byddwn wedi cael yr astudiaeth briodol honno, rydym yn dibynnu ar ddarnau o wybodaeth gan y lobi o blaid neu’r lobi yn erbyn, ac mae’n bosibl fod gan eu haelodau fuddiannau breintiedig.

Felly, yn gryno, nid wyf yn dweud na ddylem ragdybio yn erbyn. Rwy’n dweud ei bod yn gwbl bosibl y dylem ragdybio yn erbyn. Ond nid oes gennym ddigon o wybodaeth o ffynonellau dibynadwy a gwrthrychol i ffurfio’r farn honno ar hyn o bryd. Pan fyddwn wedi penderfynu a ddylid rhagdybio y naill ffordd neu’r llall, polisi UKIP o hyd yw y dylai unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud gan y bobl sy’n byw yn yr ardal leol drwy refferendwm. Er y gall rhai geisio tanseilio’r polisi hwn drwy gwyno am gost refferendwm lleol, dylem roi llais cryfach i bobl leol ar faterion mor bwysig yn eu hardal. Gallai costau pleidlais o’r fath fod yn rhan o gost ceisiadau’r cwmnïau rhyngwladol a fuasai’n chwilio am ffrac dda. Diolch.

Rwy’n cefnogi Bil Simon Thomas am yr holl resymau sydd eisoes wedi’u hamlinellu ar sail amgylcheddol, ac mae angen i ni symud oddi wrth y tanwyddau ffosil ac at ynni adnewyddadwy. Mae yna un agwedd yr hoffwn holi Simon Thomas yn ei chylch, sef sut rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Oherwydd mae’n rhaid i ni gadw mewn cof fod Centrica, sef y cyflenwr ynni mwyaf yn y DU, eisoes wedi buddsoddi £40 miliwn mewn cyfran 25 y cant o drwydded fforio Bowland. Felly, sut y buasech yn fframio eich deddfwriaeth i sicrhau bod pobl yn ymwybodol, er eu bod yn credu ein bod mewn gwlad lle nad oes ffracio’n digwydd, os ydym yn ei fewnforio gan gyflenwr ynni arall sy’n ffracio dros y ffin neu yn rhywle arall, ein bod yn llosgi’r carbon y dylem fod yn ymdrechu i’w arbed? Felly, credaf fod hwn yn bwynt arbennig o bwysig. Rwy’n pryderu bod Centrica yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall. Oherwydd mae’n honni ei fod yn arweinydd byd o ran technolegau newydd a glanhau’r byd, ond mewn gwirionedd, mae’n un o’r rhoddwyr mwyaf i rywbeth a elwir yn Texas Public Policy Foundation, sy’n swnio’n ddiniwed iawn, ond lobi tanwydd ffosil ydyw sy’n gwadu newid yn yr hinsawdd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a fuasech yn gallu mynd i’r afael â hynny yn eich ymateb.

A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno hwn heddiw? Oherwydd rwy’n credu ei fod yn cyflwyno cynnig pwysig, a chymerais ran yn y ddadl ar ffracio ym mis Chwefror 2015. Mae Michelle Brown wedi amlinellu bod angen cymysgedd o ffyrdd o gynhyrchu ynni ac rwy’n cytuno â hi. Mae pawb ohonom yn derbyn hynny. Ond mae hefyd yn bwysig, pan fyddwn yn gwneud hynny, ein bod yn cydbwyso hynny â diogelwch yr amgylchedd. Felly, mae’n rhaid i ni edrych ar yr ystyriaethau hynny, ac rwy’n gwyro tuag at y diffyg tystiolaeth o blaid ffracio diogel ar y pwynt hwn, ac mae hynny’n arbennig o bwysig, oherwydd dyna rydym yn siarad amdano, hollti hydrolig—ffracio, fel rydym i gyd yn ei adnabod—a goblygiadau hynny. Ar draws y byd, mae grwpiau amgylcheddol wedi cynnal nifer sylweddol o brotestiadau yn erbyn ffracio, gan nodi’r ffaith y gallai’r effaith amgylcheddol niweidiol y gall echdynnu nwy siâl ei chael fod yn sylweddol. A dyna ni: nid ydym yn gwybod, a buasai’n well gennyf fod yn or-ofalus.

Nid oes amheuaeth fod yna bryder cyhoeddus sylweddol ynglŷn â ffracio a’r prosesau diwydiannol cysylltiedig. Fel y nododd Simon Thomas, mae yna un cais sydd o bosibl yn aros i ddod i mewn, o fewn—. Nid ym Mhont-rhyd-y-fen y mae mewn gwirionedd; mae yng Nghwmafan, yn dechnegol, oherwydd mae wedi’i leoli yn fy ward fy hun—ond mae’n bryder. Ac mae tyllau turio wedi cael eu cymeradwyo, gan nad oes rheolaeth ar dyllau turio. Felly, dylem edrych ar—. Os ydych am edrych arno, ehangwch, edrychwch y tu hwnt i’r ffracio ei hun; edrychwch ymlaen llaw ar y tyllau turio a’r prosesau a all arwain at bryderon cymunedau, nid ceisio deall y broses gyfan. Torrwch ef yn syth, a byddwn yn well ein byd.

Dirprwy Lywydd—Llywydd, sori—mae llawer o fylchau yn y llenyddiaeth wyddonol mewn perthynas â’r effeithiau hyn ac o ganlyniad mae trafodaeth gyhoeddus yn aml yn dibynnu ar wybodaeth a ffynonellau anecdotaidd. Mae angen i ni gael y dystiolaeth. Roedd David Melding yn llygad ei le: mae tystiolaeth yn bwysig. Ond mae angen inni gael tystiolaeth o ddiogelwch neu ddiffyg diogelwch, ac nid yw hwnnw yno. A dadansoddi strwythurau daearegol—fel y dywedodd Simon Thomas, mae ein strata’n wahanol yma yng Nghymru o gymharu â—Bro Morgannwg, efallai, o’i gymharu â Blackpool. Mae angen i ni gael yr ymchwiliad hwnnw. Mae gwyddonwyr o Global Responsibility a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n adolygu’r dystiolaeth gyfredol, ac mae pob un yn cyhoeddi’r ffaith bod yna bryderon.

Mae’r amryw o beryglon amgylcheddol eisoes wedi cael eu crybwyll—nid wyf am grybwyll pob un. Ond rydym hefyd yn sôn am agweddau iechyd a diogelwch. Rydym yn anghofio weithiau fod gweithwyr ar y safleoedd hyn, ac mae Prifysgol Cornell yn yr Unol Daleithiau wedi gwneud gwaith ymchwil a ddangosai fod dod i gysylltiad â gweithgarwch drilio nwy yn chwarae rhan fawr mewn effeithiau difrifol ar iechyd pobl ac anifeiliaid. A rhyddhaodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol rybudd perygl ar ddata a gasglwyd y gallai gweithwyr ddod i gysylltiad â llwch gyda lefelau uchel o silica crisialog anadladwy—silicon deuocsid—yn ystod y broses o ffracio. Felly, mae goblygiadau iechyd difrifol i weithwyr. Gall y rhain gael eu trosglwyddo i bobl o gwmpas y cymunedau oherwydd, yn wahanol i America, mae gennym ofodau cyfyngedig. Ac yn wahanol i America, mae gennym gyfle yn awr, o bosibl, i wneud pethau.

Cafodd ei grybwyll gan Huw Irranca-Davies fod mannau yn America yn newid cyfreithiau Americanaidd. Ond mae talaith Efrog Newydd wedi gwahardd ffracio. Mae Maryland wedi gwahardd ffracio. Mae yna wledydd a rhanbarthau sydd wedi gwahardd ffracio, ac er nad ni fydd yn arwain y tro hwn, rwy’n credu’n bendant y dylem ddilyn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno’r cynnig hwn. Ac rwy’n nodi telerau’r cynnig ac yn cydnabod y pryderon y mae nifer o’r Aelodau wedi’u codi yn y Siambr heddiw mewn perthynas â ffracio.

Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, gwneuthum ddatganiad ar ein polisi a oedd yn datblygu ar ynni. Nodais dair blaenoriaeth: defnyddio ynni’n fwy effeithlon, lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil, a hybu’r newid ynni i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Y mis diwethaf, cyhoeddais dargedau ymestynnol ar gyfer ynni adnewyddadwy, sy’n cynnwys cael Cymru i gynhyrchu 70 y cant o’r trydan y mae’n ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Bydd hyn yn ein helpu i ddatgarboneiddio ein system ynni. Er mwyn gallu symud tuag at ynni glân mae gofyn i ni weithredu er mwyn newid o barhau i echdynnu tanwyddau ffosil, yn ogystal â gwneud gwaith pellach i annog a chymell cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Ac wrth gwrs, roedd yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru i barhau ein gwrthwynebiad cadarn a diamwys i ffracio. Felly, rwy’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos yn glir ein bod yn cefnogi’r teimladau sy’n sail i’r cynnig.

Mae’n adeg dda i gymryd camau i atal Cymru rhag cael ei chlymu i echdynnu tanwydd ffosil pellach drwy olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, megis siâl neu fethan gwely glo. Mae gennym eisoes fframwaith cynllunio rhagofalus drwy ddau hysbysiad cyfarwyddo a gyhoeddwyd mewn perthynas ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy. Rwyf eisoes wedi dechrau adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â bwriadau ein nodau llesiant yn y ffordd orau bosibl a’i fod yn cefnogi cynnydd o ran ein hagenda datgarboneiddio. Fel rhan o’r adolygiad hwn o bolisi cynllunio cenedlaethol, byddaf yn cryfhau polisi cynllunio mewn perthynas ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, a byddaf yn ymgynghori ar newidiadau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwyf wedi ysgrifennu at brif swyddogion cynllunio yn rhoi gwybod iddynt fy mod yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau o’r fath. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau rwy’n bwriadu ymgynghori arnynt drwy fy adolygiad cyffredinol o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn cyflawni amcanion y cynnig heb fod angen newidiadau i’r gyfraith ar unwaith. Fodd bynnag, nid wyf yn diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth rywbryd yn y dyfodol os bydd yn rhaid gwneud hynny.

Diolch yn fawr, Llywydd. Roeddwn i ar fin ymyrryd ar y Gweinidog yn fanna pan wnaeth hi bennu ei sylwadau. Fe wna i ddweud beth roeddwn i’n mynd i’w ddweud fanna nawr. Rydw i’n ddiolchgar ei bod hi newydd gadarnhau ei bod hi am gadw’r moratoriwm presennol, ond hefyd ei bod hi’n cydnabod pan fydd y pwerau pellach yn dod atom ni yn y Cynulliad y bydd modd i’r Llywodraeth, os oes angen, gymryd camau cyfreithiol, statudol pellach i sicrhau bod y sefyllfa bresennol yn parhau. Nid ydw i’n meddwl ei bod hi’n delio â rhai o bryderon pobl eraill ynglŷn â’r profi ac ynglŷn â’r tyllu, ac rydw i’n meddwl efallai dyna lle y bydd angen i’r Llywodraeth edrych yn y dyfodol.

A gaf i jest ymateb i’r ddadl yn fwy eang drwy ddweud fy mod i’n ddiolchgar i bob Aelod a wnaeth gymryd rhan yn y ddadl? Rydw i’n synhwyro bod mwyafrif yma o blaid gwahardd ffracio yng Nghymru yn llwyr, am y rhesymau sydd wedi cael eu gosod yn glir iawn gan bobl fel David Rees a Lee Waters yn benodol, a Jenny Rathbone yn ogystal. Rydw i’n cydnabod y dilema sydd gan David Melding, mae’n rhaid i mi fod yn onest, achos roedd y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn 2016 yn dweud y dylid cadw at y moratoriwm ar ffracio, ac wrth gwrs blwyddyn wedyn, yn etholiad cyffredinol eleni, roedd y Blaid Geidwadol Brydeinig yn dweud:

We will develop the shale industry in Britain.’

Rydw i’n credu bod David Melding wedi gwneud gwyrth o ran llwyddo i ddadlau yn y ffordd roedd e wedi’i wneud, ond rydw i’n dweud wrtho fe, a hefyd wrth bobl eraill yma, bod y teimlad ymysg pobl mor gryf yn erbyn ffracio bod hwn yn gyfle. Rydw i’n ei ddweud mewn ffordd bositif. Mae’n gyfle i ni ailddatgan y ffordd rŷm ni’n gallu datblygu technoleg amgen a thechnoleg adnewyddol yn lle ffracio yng Nghymru. Yn hynny o beth, rydw i’n sefyll gyda Lee Waters. Nid ydym ni yn erbyn technoleg newydd. A dweud y gwir, rydw i eisiau gweld datblygiad technoleg newydd yng Nghymru, er enghraifft yn y modd lle mae yna £100 miliwn o arian Ewropeaidd ac arian Llywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi nawr o gwmpas moroedd Cymru i ddatblygu ynni o’r môr. Dyma lle rydym ni eisiau gweld y diwydiant a gwaith a buddsoddiad yn mynd yng Nghymru, ac nid o dan ddaear ar gyfer ffracio mewn daeareg, os caf i ddweud, sydd, yn fwyfwy clir, yn anaddas ar gyfer y math yma o ddatblygiadau—boed nhw wedi’u gweld yn yr Unol Daleithiau a Canada neu beidio. Nid yw ein daeareg ni na’n cymunedau ni yn addas ar gyfer y math yna o reibio’r nwy sydd dan ddaear.

Y pwynt olaf rydw i eisiau ei ateb yw’r pwynt a godwyd gan Jenny Rathbone. Nid yw’n bosibl i ni ddatgysylltu ein hunain yn llwyr oddi wrth ffracio. Fe wna i ateb y cwestiwn drwy ofyn cwestiwn arall, mewn ffordd, os caf i. Mae yna nwy yn dod mewn i Aberdaugleddau nawr, heddiw. Mi fydd yna tancer enfawr yn aros tu fas i Aberdaugleddau. LPG yw hwnnw. Ond mae ble mae’r LPG yn mynd yn dibynnu ar bris y nwy wedi’i ffracio yn yr Unol Daleithiau. Er nad ydym ni’n mewnforio’r nwy yna yn uniongyrchol, mae pris y nwy, a ble mae’r nwy yn mynd—ac a ydy e’n mynd o ynysoedd y gorllewin atom ni, neu a ydy e’n mynd o Qatar, neu Dde Korea—mae hynny i gyd yn dibynnu ar bris rhyngwladol y nwy. Nid ydym ni’n gallu datgysylltu o hynny.

Ond rydw i yn cloi gan ategu geiriau David Rees, rydw i’n meddwl: er nad ni fyddai’r cyntaf i fanio ffracio, mae mor glir, gyda’r hanes sydd gyda ni o nwy neu ynni dan ddaear, bod modd i ni gydio yn yr hanes yna a gwneud safiad, a’i wneud yn glir iawn: nid yw Cymru yn wlad lle mae ffracio yn cael ei ganiatáu.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, felly.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Cymunedau yn Gyntaf—Yr Hyn a Ddysgwyd'

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Cymunedau yn Gyntaf. Rydw i’n galw Cadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6547 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—yr hyn a ddysgwyd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw, a hoffwn yn gyntaf ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i’r ymchwiliad hwn, yn ogystal â’r staff a’r defnyddwyr gwasanaethau rydym wedi’u cyfarfod ar ein hymweliadau, a chofnodi ein cydnabyddiaeth o’r gwaith sylweddol a phwysig sydd wedi cael ei gyflwyno gan brosiectau Cymunedau yn Gyntaf a staff ar draws Cymru dros y 16 mlynedd diwethaf. Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion, effaith sydd wedi newid bywydau mewn llawer o achosion, fel gyda nifer o bobl ifanc yn fy etholaeth i sydd bellach yn gweithio ym maes datblygu cymunedol eu hunain ac sy’n helpu i sicrhau newid cadarnhaol pellach yn eu cymunedau.

Yn dilyn y cyhoeddiad fod y rhaglen yn dirwyn i ben, penderfynwyd cynnal ymchwiliad byr a oedd yn canolbwyntio ar dri pheth: cryfderau a gwendidau Cymunedau yn Gyntaf, trefniadau pontio a’r effaith ar raglenni cysylltiedig eraill. Cyhoeddwyd ein canfyddiadau cychwynnol ym mis Gorffennaf, ac yn dilyn hyn, cyhoeddwyd adroddiad manylach yr wythnos diwethaf. Gwnaethom 11 o argymhellion. Derbyniodd y Llywodraeth chwech ohonynt, derbyniodd dri mewn egwyddor a gwrthododd ddau.

Rydym yn argymell yn gryf y dylid cyhoeddi strategaeth trechu tlodi. Gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, gan ddweud y buasai ei pholisi yn cael ei nodi yn ‘Ffyniant i Bawb’, ei strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd wedyn ym mis Medi, a’i bod yn awyddus i fabwysiadu dull mwy cyfannol o ymateb i’r heriau hirdymor.

Er ein bod yn croesawu ymateb trawsadrannol, rydym yn dal i gredu bod strategaeth trechu tlodi yn hanfodol. Byddai’n dangos sut y mae’r dull traws-Lywodraethol yn gweithio a byddai’n galluogi’r Cynulliad i graffu ar ei effeithiolrwydd. Nid ydym yn credu bod dull cyfannol yn rhwystro strategaeth a chynllun gweithredu o’r fath. Felly, buaswn yn pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet i ailystyried y materion hyn.

Gan symud ymlaen at y trefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, roedd Llywodraeth Cymru yn dweud yn y canllawiau y dylai cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer awdurdodau lleol. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, ac yn ein hadroddiad, tynnwyd sylw at y ffaith nad yw wedi cael ei gyhoeddi o hyd. Mae hyn wedi ei gwneud yn anos i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau pontio, ac i ni fel pwyllgor ddeall effaith lawn dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Buasem yn annog Llywodraeth Cymru i’w gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.

Symudwn ymlaen at rymuso. Dywedodd awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill wrthym nad oeddent yn glir ynglŷn â beth oedd hyn yn ei olygu yn ymarferol. Felly, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro hyn, a chafodd hynny ei dderbyn mewn egwyddor. Mae canllawiau pontio’n diffinio grymuso fel hyn:

‘sicrhau bod cymunedau’n cymryd diddordeb ac yn cael eu grymuso i fynegi eu llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.’

Nid ydym yn credu bod y diffiniad hwn yn darparu’r eglurder angenrheidiol a buasem yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu rhai enghreifftiau penodol o’r hyn a olygir yn ymarferol.

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o wahanol brosiectau ledled Cymru. Gallai rhai o’r rhain, fodd bynnag—neu, fel y buasai rhai yn dadlau, dylai rhai o’r rhain—gael eu darparu gan wasanaethau statudol. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol yn nodi rhaglenni o’r fath a bod y rhai sy’n llwyddiannus ac sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau yn cael eu trosglwyddo i gyrff statudol perthnasol. Buasai hyn wedyn yn ei gwneud hi’n bosibl cyfeirio cyllid etifeddol cyfyngedig tuag at y prosiectau y mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu gwneud orau.

Mae’r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad ac wedi amlinellu sut y maent yn bwrw ymlaen â hyn. Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud ym maes iechyd ac ym maes addysg, buasem yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth ynglŷn â pha gefnogaeth a gynigir i brosiectau y tu hwnt i’r meysydd hyn. Yn ogystal, ni fydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn cynnwys unrhyw brosiectau a ddaeth i ben o ganlyniad uniongyrchol i’r cyhoeddiad fod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei dirwyn i ben. Hoffwn felly gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o nifer a manylion prosiectau o’r fath, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg nad ydynt wedi eu cynnwys o fewn cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso.

Yn ystod y dystiolaeth lafar, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y buasai cyllid etifeddol ar gael ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf. Ychwanegodd hefyd fod posibilrwydd o ddarpariaeth am ddwy flynedd arall. Rydym wedi galw am eglurder. Yna cadarnhaodd y Llywodraeth yr ymrwymiad i gyllid am y ddwy flynedd nesaf, ond unwaith eto ni wnaethant egluro’r sefyllfa y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw o amser. Buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu darparu’r eglurder hwnnw heddiw, ac os na all wneud hynny, hoffwn pe bai’n ymrwymo i wneud hynny cyn cyhoeddi cyllideb derfynol 2018-19.

Llywydd, i gloi, hoffwn ailadrodd fy sylwadau yn canmol y gwaith a wnaed gan Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru, ond gan fod y penderfyniad wedi’i wneud bellach i ddod a’r rhaglen i ben, mae’n hanfodol fod y trefniadau pontio a’r ddarpariaeth barhaus yn gadarn ac yn helpu i ddiogelu elfennau mwyaf effeithiol y rhaglen. Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn chwarae rhan yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau’r Aelodau. Diolch yn fawr.

Diolch i’r Cadeirydd am y sylwadau hynny ac am y gwaith y mae’r pwyllgor a phawb wedi’i wneud ar hyn. Clywsom gan nifer fawr o dystion drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac rwy’n credu mai’r hyn sydd wedi bod yn fwyaf amlwg ohono yw’r diffyg cysondeb llwyr a brofwyd ar draws Cymunedau yn Gyntaf o ran canlyniadau, partneriaethau gwaith a rheolaeth. Fe glywsom adroddiadau cadarnhaol gan rai, ac wrth gwrs, mae hynny’n wych. Roedd rhai’n sôn am ymgysylltiad go iawn â’r rhai a oedd wedi ymddieithrio fwyaf ac am fywydau rhai unigolion yn cael eu gwella’n amlwg gan ymroddiad a gwaith caled aelodau penodol o staff. Ond gan rai eraill—ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud y rhan fwyaf—buaswn yn dweud bod pryderon gwirioneddol wedi cael eu mynegi. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, er bod y rhaglen wedi bod ar waith am dros 15 mlynedd, ac ar gost o dros £432 miliwn i’r trethdalwr, mae’n parhau i fod yn aneglur ar y gorau a fydd y rhaglen hon wedi cael llawer o effaith gynaliadwy o gwbl. Clywsom bryderon gan nifer o dystion mewn perthynas â’r dull sy’n seiliedig ar leoedd a fabwysiadwyd, gyda Sefydliad Bevan yn honni nad yw’r math hwn o ymyriad yn gweithio, a rhagdybiai mai’r unigolyn yw’r broblem ac y dylid trin yr unigolyn, gan adael cwestiynau pellach yn agored am broblemau posibl eraill gyda pharhau i weithredu mentrau eraill sy’n seiliedig ar leoedd tra bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben.

Felly, o ystyried y canfyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad, buasai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych ar unrhyw addasiad posibl i’r rhaglenni mewn perthynas â Dechrau’n Deg, Cymunedau am Waith ac Esgyn. O ran rheolaeth a phartneriaethau gwaith, siomedig eithriadol oedd nodi nad oedd fframweithiau rheoli perfformiad yn cydgysylltu, a bod agwedd amddiffynnol a/neu feddylfryd seilo wedi arwain at ddiffyg siarad. Gwyddom sut y gall hynny fod yn berygl go iawn mewn sefydliadau a grwpiau eraill, yn enwedig o ran y dyblygu a achosir gan amharodrwydd i ymgymryd â gweithio mewn partneriaeth go iawn. Nid yw’r mathau hyn o agweddau yn dderbyniol lle y defnyddir adnoddau cyhoeddus, a phan fo dyfodol bywydau unigolion yn gallu cael eu heffeithio mewn modd mor ddramatig a phersonol.

Wrth gwrs, roedd methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi eu cynllun cyflogadwyedd yn ei gwneud yn anodd i’r pwyllgor asesu effaith lawn y penderfyniad i ddod a Cymunedau yn Gyntaf i ben. A bod yn onest, nid yw hyn yn dderbyniol, ac rydym yn gobeithio gweld y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod gwaith craffu priodol yn cael ei wneud yn erbyn y sbardun polisi allweddol hwn.

Felly, yn seiliedig ar ein hymchwiliad, rwy’n credu fan lleiaf fod angen i Lywodraeth Cymru fyfyrio ar ganfyddiadau’r adroddiad a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol, ar ba ffurf bynnag y bydd. Wrth symud ymlaen, buaswn yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn bwrw golwg dda arni ei hun, ac yn wir, yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod pam y caniatawyd i’r rhaglen hon barhau cyhyd pan fo problemau mor fawr wedi bod mewn rhai ardaloedd. Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn credu mai

yr hyn y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi’i wneud yw ei fod wedi gallu rhwystro cymunedau rhag mynd yn dlotach yn ôl pob tebyg.

Nid yw hyn yn ddigon da. Mae’n rhaid inni ddangos llawer mwy o uchelgais na hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith pellach yn y maes hwn, eu gweld yn dangos amcanion llawer mwy cadarn, ymarferol a phendant i leihau tlodi ledled Cymru. O’m rhan i, rwy’n credu y dylid dod a Cymunedau yn Gyntaf i ben mewn gwirionedd. Mae wedi methu fel prosiect, a buaswn yn sicr yn edrych ar ein cenedlaethau yn y dyfodol, a’r goblygiadau o ran hynny, a darparu cynaliadwyedd ar gyfer ein cymunedau mwyaf agored i niwed. A buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae’n gweithio gyda’n cydgysylltydd lles y dyfodol i gyflwyno rhaglen well, fel y gallwn weld canlyniadau real a chynaliadwy. Diolch.

Erbyn hyn 18 mis yn unig sydd i fynd nes y daw Cymunedau yn Gyntaf i ben yn gyfan gwbl. Ac o ran trosglwyddo darpariaeth a chyllid etifeddol, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus fod y cyrff statudol a fydd yn cymryd rheolaeth dros gyflawni prosiectau cyfredol yn cael y cyllid sydd ei angen i gyflawni’r prosiectau hynny, a bod arian yn cael ei glustnodi yn unol â hynny. Rwy’n dweud hynny heddiw oherwydd bod rhai cwestiynau wedi codi mewn perthynas ag uno rhai ffrydiau cyllido sy’n gysylltiedig â Cefnogi Pobl, a gallai rhai ohonynt gynnwys agweddau ar gynlluniau cyfredol Cymunedau yn Gyntaf. Felly, mae angen i mi ddeall yma heddiw a fydd y broses o ddyrannu’r gyllideb sydd ar y gweill yn awr yn cynnwys gostyngiad cyffredinol yn y swm sy’n cael ei wario ar Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd. A fyddwch yn bendant yn diystyru hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet?

Mae yna nodyn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i’r pwyllgor sy’n dweud na fydd unrhyw oblygiadau ariannol, gan na fydd gwariant ar raglenni yn y dyfodol yn dod o gyllidebau presennol, ond nid yw’n dweud pa gyllidebau, nac yn dweud a fydd y cyllidebau y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei uno â hwy yn cael cynnydd cyfatebol o ran arian. Rwy’n credu bod angen egluro hynny. Mae’n dweud mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor y bydd strategaethau unigol ar gyfer agweddau penodol ar dlodi yn cael eu gwrthod gan y Llywodraeth yn y dyfodol. Wrth gwrs, rydym yn deall fel plaid fod angen cael dull gweithredu trawsbynciol, gan dalu sylw i sut y mae gwahanol agweddau yn cael eu cysylltu, ond beth am ddull gweithredu ar wahân ar gyfer tlodi plant?

Rwyf fi a Sian Gwenllian, fy nghyd-Aelod, wedi codi’r mater droeon—yn y pwyllgor, ac yma yn y Siambr—y dylid ystyried strategaeth tlodi plant bwrpasol, fel sydd gan lawer o wledydd eraill, gan fod agweddau ar dlodi plant yn drawsbynciol y tu hwnt i faterion economaidd, yn enwedig mewn perthynas â llywodraeth leol, gwasanaethau cymdeithasol a thai, er enghraifft, ac addysg, cydraddoldebau addysg, ac ymyrraeth ar gyfer plant mewn argyfwng, er enghraifft. Felly, nid ydym yn fodlon nad oes angen y strategaeth unigol honno mewn perthynas â thlodi plant.

Mewn perthynas â Dechrau’n Deg, rydym yn cydnabod bod yna loteri cod post i’r rhaglen hon, ac mae’r Llywodraeth yn derbyn nad yw hyn yn ddelfrydol. Fodd bynnag, er bod yna opsiynau ar gyfer hyblygrwydd, ni allaf weld, o ymateb y Llywodraeth, i ba raddau y manteisir arnynt—rwy’n credu mai’r term yw ‘allgymorth’—faint o ardaloedd lleol sy’n manteisio ar y cyfle allgymorth hwnnw i ymhelaethu ar Dechrau’n Deg, a pha gyfleoedd sydd ar y gweill.

Rwy’n deall—ac rydych wedi fy nghlywed yn dweud hyn o’r blaen hefyd—fod angen gwella monitro ac adrodd gydag unrhyw arian newydd yn y dyfodol sy’n deillio o Cymunedau yn Gyntaf. Rydym wedi cael tystiolaeth sy’n dangos, pan fydd rhywun yn dechrau mewn swydd, fod diffyg gwybodaeth ynglŷn â pha mor hir y byddant yn aros yn y swydd honno, a’r hyn sy’n dilyn mewn perthynas â chymorth i’r unigolyn dan sylw. Mae gennyf bryder personol hefyd fod Cymunedau am Waith yn cael ei sefydlu’n amlwg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Os mai dyna yw un o’r atebion i ddisodli Cymunedau yn Gyntaf, drwy liferi economaidd Ewropeaidd cyfredol, sut y bydd hwnnw’n cael ei ymestyn yn y dyfodol, o ystyried ei fod, ar hyn o bryd, yn darparu ar gyfer ardal ddaearyddol lai?

Roedd ein rhwystredigaeth fel pwyllgor hefyd—a na, ni allaf siarad ar ran pawb ar y pwyllgor—yn deillio o’r ffaith bod llawer o bwyslais yn cael ei roi ar y cynllun cyflogadwyedd, y strategaeth gyflogadwyedd, wrth symud ymlaen, sydd yn nwylo Julie James AC rwy’n credu, ond mae’n anodd iawn dadansoddi sut y buasai hwnnw’n ymateb i Cymunedau yn Gyntaf, pan nad ydym wedi gweld y manylion o gwbl, ac mae wedi cael ei addo i ni dro ar ôl tro. Felly, ar hyn o bryd, ni allwn fod yn sicr y gall hwnnw fod yn ateb hollgynhwysol i Cymunedau yn Gyntaf yn mynd i mewn i ffrydiau ariannu eraill, gan nad oes gennym y wybodaeth a’r manylion o’n blaenau.

Yn y pen draw, nid wyf wedi deall yn union beth yw’r sail resymegol ynddi ei hun dros ddod a Cymunedau yn Gyntaf i ben. Gallai fod yn fuddiol inni gael sgwrs agored am y ffaith mai’r rheswm, o bosibl, yw oherwydd ei fod, yn y pen draw, wedi methu cyflawni yr hyn roedd wedi bwriadu ei gyflawni. Ni allwn wastraffu arian fel hyn yn y dyfodol, oherwydd mae’n llawer o arian sydd wedi mynd tuag at rywbeth nad yw wedi bod yn llwyddiant. Er ei bod yn bosibl fod prosiectau unigol wedi bod yn llwyddiannus, ni lwyddodd fel cysyniad. Felly, mae angen sicrwydd, nid yn unig fel pwyllgor, ond fel Aelodau Cynulliad, y bydd unrhyw gynlluniau yn y dyfodol yn mynd ati i wneud yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud ac y gellir cynnwys pobl leol gymaint ag sy’n bosibl.

Nid oes gennyf lawer o amser ar ôl, ond fy nghasbeth arall oedd yr holl gysyniad hwn o rymuso. Mae’n dweud eich bod yn diffinio grymuso, ac rwy’n dyfynnu, fel

‘sicrhau bod cymunedau’n cymryd diddordeb ac yn cael eu grymuso i fynegi eu llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.’

Nid yw hynny’n dweud llawer. Nid yw’n dweud sut y byddant yn dangos diddordeb, sut y byddant yn cymryd rhan yn y broses. Gallwn daflu’r geiriau hyn o gwmpas gymaint ag y mynnwn—fel y gwnaethom gyda ‘phlygu rhaglenni’ am ba hyd bynnag pan gefais fy ethol yn gyntaf—ond mae angen trawsnewid geiriau’n weithredoedd. Gobeithiaf y byddwch yn gwrando ar y sylw hwnnw ac yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gyfansoddiad yn y dyfodol mewn ffordd ragweithiol ac ystyrlon wrth feddwl am y dyfodol o ran helpu’r rhai mewn ardaloedd tlawd yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad, ac yn wir, am onestrwydd ei adroddiad? Yn 2001, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth adfywio ar gyfer Cymoedd de Cymru. Ymysg y mentrau niferus a ragwelwyd, y cynnig blaenllaw oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hwn, fel yr awgryma’r enw, i fod yn gyfres o ymyriadau yn seiliedig ar gymunedau a gynlluniwyd i drechu tlodi ar draws yr hyn a arferai gael ei alw’n faes glo de Cymru. 16 mlynedd yn ddiweddarach, a chyda £432 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y prosiect, mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi penderfynu o’r diwedd fod ei effaith wedi bod yn ddibwys. Pam? Oherwydd bod y Cymoedd yn parhau ar frig y tablau cynghrair o ran anghydraddoldebau tlodi, iechyd ac addysg.

Er bod y prosiect hwn i fod i gael ei lywio gan y gymuned, y Llywodraeth ac awdurdodau lleol oedd yn rheoli’r cyllid. Mewn llawer o achosion, roedd y byrddau llywodraethu a sefydlwyd i weinyddu’r rhaglenni o dan y cynllun yn cynnwys cynghorwyr lleol i raddau helaeth, a olygai fod llawer o benderfyniadau’n cael eu gwneud yn ôl agendâu pleidiau gwleidyddol. Roedd hyn felly’n lleihau’r ymgysylltiad â’r gymuned yn helaeth. Mae’n rhaid cydnabod bod yna enghreifftiau o arferion da a rhai llwyddiannau sylweddol, yn enwedig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, ond roedd y rhain yn anghyson ac yn sicr nid oeddent yn gyffredinol.

Mae’n rhaid ystyried methiant cyffredinol Cymunedau yn Gyntaf yng nghyd-destun oddeutu £1.2 biliwn o’r hyn a elwir yn gyllid Ewropeaidd a wariwyd ar fentrau eraill yn y Cymoedd. ‘Partneriaethau strategol’, ‘cynyddu capasiti’, ‘meddwl cydgysylltiedig’ a ‘chynlluniau gweithredu lleol’ oedd geiriau allweddol y cyfnod—a’r cyfan yn rhethreg gymhellgar, ond yn brin o gyflawniad. Mae’r gallu i edrych yn ôl, wrth gwrs, yn offeryn pwerus, ond mae llawer am y prosiect Cymunedau yn Gyntaf y dylid bod wedi gweld na allai gyflawni’r nodau gofynnol. Efallai y gellid bod wedi osgoi methiannau’r cynllun drwy gychwyn prosiect peilot ar ei ben ei hun i werthuso ei ganlyniadau posibl, y gellid bod wedi ei gyflwyno wedyn mewn ffordd fwy cydlynol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud camgymeriadau sylweddol yn y strategaethau adfywio—gyda Cymunedau yn Gyntaf ymhlith y rhai mwyaf amlwg. Ond mae’n galondid mawr i weld ei bod yn ymddangos ei bod wedi dysgu o’r methiannau hyn a’i bod bellach i’w gweld yn cofleidio ideoleg newydd sbon mewn perthynas â threchu tlodi. Ymddengys bod yna sylweddoliad go iawn o fewn Llywodraeth Cymru mai’r unig ffordd y gellir trechu tlodi yw drwy economi gref sy’n seiliedig ar ddiwydiant. Y gwir amdani yw mai swyddi da sy’n talu’n dda yw’r unig ffordd o gyrraedd y nod o drechu tlodi a dyna pam y byddwn ni yn UKIP yn cefnogi unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth i adeiladu economi ddiwydiannol gref a gwydn yng Nghymoedd de Cymru.

Rwy’n gwerthfawrogi rhai o’r elfennau cynnil yn y ddadl hon heddiw. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi chwarae rôl yn fy ardal i ac nid wyf yn cydnabod iaith methiant, gan y bydd llawer o bobl yn fy nghymuned yn dweud nad yw Cymunedau yn Gyntaf wedi methu, ond ei fod mewn gwirionedd wedi darparu llawer iawn o hwb i bobl sy’n byw yn fy nghymuned. Rwyf wedi gweld y dystiolaeth sy’n dangos y cryfderau yn yr adroddiad. Mae’n cynnwys llawer sy’n ymwneud â gwerth ymgysylltiad ac ymgysylltu â phobl na fuasai wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol fel arall. Rwyf wedi gweld pobl yn mynd o nerth i nerth. Un enghraifft fach iawn yn fy etholaeth: yn fy ward gyngor, pan oeddwn yn gynghorydd, roeddwn yn rhan o’r gwaith o ddymchwel ac ailadeiladu canolfan gymunedol leol ac fe gawsom £400,000 gan y Loteri Fawr. Rwy’n dweud yn bendant, yn sicr, fod yna bobl yn rhan o’r prosiect hwnnw na fuasai wedi chwarae cymaint o ran ynddo pe na baent wedi datblygu’r sgiliau a gawsant trwy Cymunedau yn Gyntaf. Felly, roedd yna fudd pendant, hyd yn oed os nad oedd y budd yn union fel y bwriadai’r prosiect iddo fod bob tro. Felly, rwy’n credu ei bod yn anghywir inni ddefnyddio iaith methiant. Rwyf wedi gweld llefydd fel Cwm Aber, Bargoed, Cefn Hengoed, Graig-y-Rhacca a Pharc Lansbury, i gyd yn elwa o Cymunedau yn Gyntaf.

Gan edrych ar dri argymhelliad a oedd o ddiddordeb i mi a rhai o fy etholwyr: argymhelliad 11, argymhelliad 5 ac argymhelliad 6. Mae argymhelliad 11 yn edrych ar y ffaith bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben a’r effaith ar raglenni eraill Llywodraeth Cymru. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad. Yng Nghwm Aber yn fy etholaeth i, ceir dau gorff a oedd yn ddibynnol ar gyllid Cymunedau yn Gyntaf; sef y Ganolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, a grybwyllais o’r blaen, ac YMCA Cwm Aber. Cymerodd y rhain ran mewn prosiectau Cymunedau yn Gyntaf, ond yn anffodus, nid yw’r corff cyflawni arweiniol wedi eu cynnwys yn y targedau ar gyfer cyllid etifeddol. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau chwarae rôl gyfyngedig yn y meysydd hyn, ond pa gyfleoedd ar gyfer apelio a fyddai ar gael i’r ardaloedd nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y cyllid etifeddol gan y corff cyflawni arweiniol, ar wahân i droi at eu Haelod Cynulliad lleol a gofyn iddynt godi’r materion yma yn y Siambr? Rwy’n credu bod hwnnw’n gwestiwn eithaf pwysig i fynd i’r afael ag ef.

Yr argymhelliad arall yw argymhelliad 5, sy’n mynd i’r afael â chyflogadwyedd. Mae’r argymhelliad yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflogadwyedd yn ei ystyr ehangaf. Ddoe, soniais am lansio adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar hunangyflogaeth. Gyda Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, teimlaf na ddylem edrych ar gyflogadwyedd yn unig, ond ar hunangyflogadwyedd a’r rôl y gall hunangyflogadwyedd ei chwarae yn y rhaglen gyflogadwyedd. Ceir 8.7 y cant o weithwyr hunangyflogedig yng nghymunedau’r Cymoedd, sy’n cynnwys Caerffili. Sut y gallwn sicrhau felly fod y nifer hwnnw’n tyfu fel bod y bobl sydd eisiau bod yn hunangyflogedig, yn enwedig menywod, yn gallu dod yn hunangyflogedig? Buasai hynny’n golygu ymgysylltu â cholegau addysg bellach, ysgolion lleol a phobl a fyddai’n gweithredu’n llwyddiannus trwy Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardaloedd clwstwr blaenorol.

Yn olaf, ar gyfer fy nghyfraniad, argymhelliad 6. Rydym yn gwybod bod ardaloedd cynnyrch ehangach haen is yn tueddu i eithrio pobl a allai fod yn byw mewn tlodi y tu hwnt i’r ardaloedd hynny ac mae’r cysyniad o allgymorth i’w groesawu’n fawr. Mae Bethan Jenkins eisoes wedi sôn efallai fod angen ehangu rhywfaint ar ein dealltwriaeth o allgymorth, wrth i’r rhaglen ddirwyn i ben. Rhoddodd y comisiynydd plant dystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, lle y dywedodd y buasai’n hoffi gweld y cynnig gofal plant yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni nad ydynt yn gweithio. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i chi roi diwedd ar gyni i bob pwrpas a buaswn yn deall barn Ysgrifennydd y Cabinet pe bai’n dweud y byddai hynny’n hynod o anodd o fewn cyllidebau presennol—bron yn amhosibl. Fodd bynnag, deallais, o fy nhrafodaeth gyda’r comisiynydd plant, a’r cwestiynau a holais iddi, mai’r hyn y cyfeiriai ato oedd estyn Dechrau’n Deg i bawb, ac unwaith eto, byddai hynny bron yn amhosibl. Fodd bynnag, gan edrych ar faterion allgymorth, ble y gallwn ni fod yn gliriach ynglŷn â sut y gellir cyflwyno allgymorth o fewn ardaloedd awdurdodau lleol? Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet archwilio hynny mewn cymaint o fanylder ag y bo modd. Felly, rwy’n falch ei fod, unwaith eto, wedi derbyn yr argymhellion hynny.

Rwy’n credu y dylid croesawu’r adroddiad hwn. Rwy’n credu ei fod yn gyfraniad gwerthfawr, trawsbleidiol, annibynnol i’r drafodaeth ar Cymunedau yn Gyntaf ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi edrych ar hyn mewn ffordd hynod o glir a gonest a chyda meddwl agored, ac edrychaf ymlaen at weld y gwelliannau rwyf wedi’u hawgrymu, ac y mae Aelodau eraill wedi’u hawgrymu, yn cael eu derbyn gan y Llywodraeth, ac rwy’n gwirioneddol gredu y gwnânt hynny.

Ni allaf ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at y gwersi allweddol a ddysgwyd gan Cymunedau yn Gyntaf ar faterion allweddol fel plygu rhaglenni, cyrff sy’n derbyn grantiau, adroddiadau damniol Swyddfa Archwilio Cymru a’r cynigion a wrthodwyd i fwrw ymlaen â Cymunedau yn Gyntaf o 2012 ymlaen. Fel llawer, rhoddais fy nghefnogaeth i’r rhaglen pan gafodd ei lansio oherwydd dywedwyd wrthym ei bod yn ymwneud â pherchnogaeth a grymuso cymunedol go iawn. Dechreuais bryderu yn gyntaf pan dynnwyd fy sylw at honiadau a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn newid y ffiniau, yn ystumio ffiniau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn ennill mantais wleidyddol yn ardaloedd gwledig gogledd Sir y Fflint. Roedd y dystiolaeth gynyddol nad oedd y rhaglen yn cyflawni canlyniadau gwell i bobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ychwanegu at y pryder, gyda lefelau uchel o anweithgarwch a dibyniaeth ar fudd-daliadau a lefelau ffyniant isel yn parhau. Ond pan fyddem yn herio Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn yn ystod yr ail a’r trydydd Cynulliad, roeddent yn dweud wrthym fod Cymunedau yn Gyntaf yn ymwneud â phlygu rhaglenni yn lle hynny, gan anwybyddu, yn gyfleus, y ffaith mai cyflawni gwell canlyniadau oedd diben plygu rhaglenni i fod.

Wel, rydym wedi clywed bod y rhaglen, rhwng 2001 a 2017, wedi gwario bron i £0.5 biliwn. Wel, ni chanfu gwerthusiad interim 2006 Cymunedau yn Gyntaf

‘fawr ddim tystiolaeth o fonitro a gwerthuso trylwyr’

a bod

‘camau mawr i’w cymryd cyn y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cyflawni’r canlyniadau mewn perthynas ag adfywio a oedd... yn brif amcanion y rhaglen.’

Fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn yr ail Gynulliad, gelwais yn llwyddiannus am gynnwys ymchwiliad ar Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen waith Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad canlynol gan Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009, yn dangos methiant sylweddol ar ran Llywodraeth Cymru, gan nodi bod gwendidau difrifol yn y cynllunio ariannol a’r prosesau o gyllido’r rhaglen wedi arwain at amrywiad eang yn y cyllid heb unrhyw sail resymegol glir i benderfyniadau cyllido, fod adnoddau dynol a chynllunio ariannol sylfaenol yn absennol, fod monitro’n wan, ac nad oedd unrhyw dystiolaeth fod unrhyw beth yn cael ei wneud gyda’r adborth.

Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2008, ‘Grymuso cymunedau ar waith: gwersi o’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf’ yn dangos methiant cyffredinol i arfer dylanwad cymunedol dros aelodau statudol o bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ac

‘nid oedd unrhyw dystiolaeth o gamau arwyddocaol i ‘blygu rhaglenni’ prif-ffrwd lle roedd asiantaethau statudol yn blaenoriaethu camau gweithredu a gwariant yn ardal y bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf.’

Gofynnodd chwythwr chwiban Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc am fy help gan ei bod wedi rhannu ei phryderon yn briodol â Llywodraeth Cymru ond yn hytrach na gweld camau’n cael eu cymryd yn erbyn yr unigolion euog yn sgil hynny, dioddefodd honiadau ffug yn ei herbyn. Nid tan i mi gyfeirio’r mater hwn at Swyddfa Archwilio Cymru, a chyda chefnogaeth Aelod o Blaid Cymru ac Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru lunio adroddiad yn cadarnhau

diffyg rheolaeth ariannol a llywodraethu sylfaenol

y cymerwyd camau a arweiniodd at gyhuddo’r cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf.

Yna cafodd honiadau ffug o natur debyg eu gwneud yn erbyn cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Shotton Uchaf ôl iddi chwythu’r chwiban yn erbyn Cyngor Sir y Fflint, un o’r ychydig awdurdodau lleol a oedd yn derbyn grant Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru ar y pryd, gan ddweud eu bod yn cymryd rheolaeth ar y rhaglenni yn anghywir ac yn dargyfeirio cyllid y tu hwnt i ardal Cymunedau yn Gyntaf. Roedd cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf arall yn Sir y Fflint wedi ymddiswyddo o dan bwysau tebyg.

Roedd y papur a gyhoeddwyd ar y cyd yn 2011 gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru a Datblygu Cymunedol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen’, yn dangos bod cynllun gwreiddiol y rhaglen yn ddiffygiol ac mai’r ddolen goll o ran cyflawni perchnogaeth gymunedol oedd diffyg gweledigaeth fwy hirdymor yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a fyddai, ac rwy’n dyfynnu, yn ‘symud y tu hwnt i ddibyniaeth ar raglenni a’r Llywodraeth ac yn darparu’r dimensiwn cymunedol sy’n aml yn nod ond prin yn cael ei wireddu yn y gwaith o greu Cymru well.’

Gwrthodwyd hyn gan y Gweinidog ar y pryd a’r Ysgrifennydd Cabinet yn awr, a chyflwynodd fodel clwstwr 2012 yn lle hynny ac anwybyddu’r gwersi o Sir y Fflint, a gwnaeth y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gyrff derbyn grant Cymunedau yn Gyntaf, gan alluogi gormod ohonynt i ymyrryd â chyflawniad rhaglenni a dirymu’r cymunedau eu hunain.

Ym mis Chwefror, datgelodd yr Ysgrifennydd Cabinet Carl Sargeant y byddai’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dirwyn i ben fesul cam erbyn mis Mawrth 2018, ac ym mis Mehefin, dywedodd wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol na fyddai’r rhaglen yn cael ei hadnewyddu, fod hanes ei gwaith yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wedi bod yn gymysg ac nad yw’r ffigurau’n symud. Am gyfaddefiad o fethiant. A hyn holl oherwydd bod y Napoleons bach wedi methu deall bod gan ein cymunedau mwyaf ymylol asedau cymdeithasol, diwylliannol a materol, yn ogystal ag anghenion a phroblemau, a bod nodi a chrynhoi’r rhain yn gallu eu helpu i oresgyn yr her sy’n eu hwynebu, ac y dylid gweld dinasyddion a chymunedau fel cydgynhyrchwyr iechyd a llesiant yn hytrach na derbynwyr gwasanaethau yn unig.

A gaf fi ddweud, yn gyntaf, fod unrhyw un a oedd yn credu y buasai rhaglen gwerth £30 miliwn y flwyddyn yn trechu tlodi braidd yn orobeithiol a dryslyd? Caiff hyn ei ategu gan dystiolaeth cyngor Caerffili. A gaf fi ddweud bod disgwyl i un rhaglen leihau tlodi ar ei phen ei hun yn naïf ac yn afrealistig? Ni fyddwch byth yn trechu tlodi cenedlaethau ag un rhaglen wrthdlodi. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda rhai pethau, a heb fod mor llwyddiannus mewn perthynas â phethau eraill, ond mewn gwirionedd, ymwneud ag economeg y mae tlodi yn y bôn. Mae rhaglenni gwrthdlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth yn iawn, ond oni bai bod gennych economi gadarn, ni fyddwn byth yn ei drechu.

Rydym hefyd yn gwybod mai’r peth cyntaf y mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw mewn ardal gwbl dlawd yn ei wneud, pan fyddant yn cynyddu eu hincwm yn ddigonol, yw symud—maent yn symud i ardal fwy cefnog. Rwy’n credu y bydd y Cadeirydd yn gallu dweud wrthym ynglŷn â hynny. Ond rydym yn gwybod beth yw nodweddion cymunedau tlawd: iechyd gwael; niferoedd uchel o bobl ar fudd-daliadau; y rhai nad ydynt ar fudd-daliadau ar gyflogau isel ac yn gweithio oriau afreolaidd; cyrhaeddiad addysgol isel yn gyffredinol; fawr o lyfrau yn y cartref; ac i lawer, ymdeimlad na all pethau wella. Lle y mae gennych ardal sy’n ddifreintiedig, felly, ac rwy’n dyfynnu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,

os edrychwch ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ganddynt hwy y mae fwyaf o rannau o’r system lle y mae angen ymyrraeth, felly maent angen dull amlasiantaethol, gwaith dwys, i roi’r holl ddarnau yn ôl, a sicrhau eu bod yn gweithio eto. Mewn ardal fwy cefnog, lle y mae gennych bocedi llai o dlodi, nid yw’r system wedi torri i’r un graddau, ac felly, bydd angen llai o ymyriadau—ymyriadau mwy penodol—i helpu’r bobl hynny yn ôl ar eu traed.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn:

Mae’r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth newid a gwella bywydau unigolion drwy eu cynorthwyo i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith a gwella eu sgiliau byw.

I ddyfynnu cyngor Abertawe:

Mae gwasanaethau hygyrch yn y gymuned yn caniatáu i staff ddeall cymunedau, gan adeiladu cysylltiadau ac ymddiriedaeth a chynorthwyo pobl sydd wedi ymddieithrio i gymryd rhan a defnyddio gwasanaethau na fyddent wedi ei wneud fel arall.

Gan droi at argymhelliad 1, y credaf ei fod yn hynod o bwysig, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r hyn sydd wedi’i wneud? Rwy’n credu nad oes ots os ydych yn ei alw yn Cymunedau yn Gyntaf neu os ydych yn ei alw’n ‘Abertawe yn Gyntaf’ neu os ydych yn ei alw’n ‘Gwella cymuned’. Nid yw o bwys, y teitl—yr hyn sy’n bwysig yw beth sy’n mynd i ddigwydd i’r cynlluniau.

Mae llwyddiannau Cymunedau yn Gyntaf yn Abertawe yn cynnwys—ac fe siaradaf am iechyd yn gyntaf—rhaglenni colli pwysau, gwella deiet, rhaglenni rhoi’r gorau i ysmygu, rhaglenni ymarfer corff. A wnaiff Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg neu Gwella Iechyd Cymru fabwysiadu’r rhain? Oherwydd mae’r rhain yn wirioneddol bwysig, yn fy marn i. Yn llawer rhy aml ym maes iechyd, rydym yn meddwl mai ymwneud â’r ysbytai y mae—mae angen mwy o arian mewn ysbytai; mae angen inni wneud mwy mewn ysbytai. Credaf fod angen i ni wneud mwy i gael pobl yn ffit ac yn iach fel nad ydynt yn gorfod mynd i’r ysbyty. Rwy’n gwybod sut y gall disgwyliad oes mewn rhai o’n hardaloedd tlotaf fod hyd at 10 mlynedd yn llai nag yn rhai o’n hardaloedd mwy cyfoethog. Mae’n rhaid i chi wella ffordd o fyw.

O ran tlodi: prosiect a oedd yn ymdrechu i helpu pobl i leihau eu biliau cyfleustodau; prosiect siop ddillad, a oedd yn ailgylchu dillad diangen; prosiect a oedd yn hyrwyddo’r undeb credyd lleol a chael pobl i roi’r gorau i ddefnyddio benthycwyr carreg y drws, un o’r problemau mwyaf sy’n digwydd yn rhai o’n cymunedau tlotaf. Y benthycwyr carreg y drws hyn, mae rhai ohonynt i fod yn gwmnïau cenedlaethol, ond yn sicr maent yn achosi problemau enfawr ac mae pobl yn gorfod talu cyfraddau llog enfawr, rhai o’n pobl dlotaf. Pwy sy’n mynd i fabwysiadu prosiectau fel hyn?

Mae cyrhaeddiad addysgol isel yn un o brif achosion tlodi. Roedd prosiectau’n blaenoriaethu gwell cyrhaeddiad addysgol drwy helpu oedolion yn ôl i addysg. Câi prosiectau dysgu fel teulu eu gweithredu mewn partneriaeth ag ysgolion lleol. Roedd sesiynau clybiau gwaith cartref yn targedu plant a rhieni nad oes ganddynt gyfleusterau TGCh a rhyngrwyd yn y cartref gan gynorthwyo pobl ifanc gyda’u haddysg. Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi fy magu ar adeg pan nad oeddwn yn ddifreintiedig, am nad oedd gan unrhyw aelwyd fwy o lyfrau nag y gallwn eu cael o’r llyfrgell leol. Erbyn hyn, mae yna rai sy’n gyfoethog mewn TGCh a rhai sy’n dlawd mewn TGCh, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyrhaeddiad addysgol llawer iawn o blant. Rwy’n credu mai un o fy ofnau mwyaf ar hyn o bryd yw eich bod yn mynd i fod dan anfantais yn blentyn bellach os ydych yn dlawd yn awr ac nad oes gennych fynediad at yr holl gyfarpar TGCh. Roedd grŵp rhieni a phlant bach yn anelu at wella datblygiad a dysgu plant cyn ysgol. Roedd clwb gwaith cartref yn darparu cymorth i blant gyda’u gwaith cartref ac yn bwysicach, cyfleusterau TGCh iddynt allu gwneud hynny. Roedd yna gynllun hefyd a anogai amgylchedd dysgu yn y cartref teuluol. Pwy sy’n mynd i fabwysiadu’r rhain?

Ar Dechrau’n Deg, mae’r hyn a welodd Cadeirydd y pwyllgor yng Nghasnewydd yn cael ei ailadrodd yn Nwyrain Abertawe, lle y mae ardaloedd cymharol gefnog yn ystumio’r data, felly nid yw’r ardaloedd tlotaf yn Abertawe—Plas-marl, terasau Plas-marl—yn cael Dechrau’n Deg. Eto i gyd, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae gennyf dai sengl mawr mewn ardal Dechrau’n Deg am eu bod yn agos at ystâd dai cyngor dlawd iawn. Ni all hyn fod yn iawn, ac rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau bod Dechrau’n Deg yn targedu unigolion ac nad yw’n seiliedig ar fod rhywun sy’n byw 10 stryd i ffwrdd yn gyfoethog.

Mae yna lawer o bethau y gallwn eu dysgu gan Cymunedau yn Gyntaf. Rwy’n credu bod methiant wedi bod yn ôl yn 2001 i sefydlu mecanwaith gwerthuso cadarn a allai fod wedi amlygu rhaglenni gwael yn llawer mwy systematig ac yn llawer cyflymach, oherwydd, oni bai bod gennych ryw drefniant monitro effeithiol, mae’n amhosibl i Lywodraeth Cymru, wedi’i leoli yng Nghaerdydd, nodi meysydd pryder hyd nes y byddant yn argyfwng.

Credaf fod rhai o’r pethau a ddigwyddodd yn ystod y rhaglenni cynnar hefyd yn dangos methiant i ddwyn cyrff cyflawni i gyfrif, oherwydd yn y pen draw, er mai rhaglen o’r gwaelod i fyny oedd hi a’i gwnâi’n ofynnol i’r gymuned lunio’r ffordd y câi gwasanaethau eu darparu, serch hynny roedd yn rhaid cael corff cyflawni yno bob amser i sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud yn briodol a bod trefniadau llywodraethu ar waith. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un o’r cyrff cyflawni wedi cael eu dwyn i gyfrif a chael eu gorfodi i ad-dalu’r Llywodraeth ganolog lle’r aeth pethau o chwith yn ddifrifol.

Rhoddodd y newid pwyslais yn 2002 well pwrpas canolog i’r rhaglen—mynd i’r afael â chyflogadwyedd pobl a chael mwy o bobl i mewn i waith—a dylai hynny fod wedi bod yno o’r cychwyn yn ôl pob tebyg, oherwydd ni fuasai wedi atal yr holl ymyriadau meddal sydd wedi gwella lles cymunedau a gwneud pobl yn barotach yn emosiynol, yn gorfforol ac yn feddyliol i gael gwaith, ond byddai wedi rhoi’r ffocws ysgogol canolog hwnnw i chi. Rwy’n credu ei bod yn siomedig nad ydym wedi cael unrhyw werthusiad annibynnol o lwyddiant Cymunedau yn Gyntaf ers y newid pwyslais yn 2012, gan y credaf ei fod yn ei gwneud yn anos i ni wybod beth sy’n gweithio go iawn a beth nad yw’n gweithio o ran ceisio ailfywiogi cymunedau sydd angen buddsoddiad cyhoeddus i’w gwneud yn fwy cynaliadwy.

Un o’r problemau—neu nid problemau, un o’r pethau lle rwy’n anghytuno â llawer o gyd-Aelodau o bosibl yw bod ffocws daearyddol, yn fy marn i, yn bwysig iawn, gan fod rhaid i chi neilltuo’r maes rydych am ei dargedu mewn rhyw fodd, oherwydd fel arall mae bob amser yn hawdd i bobl sy’n cyflwyno rhaglenni osgoi’r problemau mwyaf heriol a mynd am yr enillion hawdd. Felly, credaf fod ffocws daearyddol yn hynod o bwysig—y dull seiliedig ar leoedd—ond mae defnyddio ardaloedd cynnyrch ehangach yn fecanwaith cyfleus, gan y ceir llinellau ar fapiau, ceir ystadegau sy’n cael eu casglu am lu o resymau, sy’n ei gwneud yn haws monitro’r cyflawniadau o ran niferoedd. Ond yn amlwg, mae ardaloedd cynnyrch ehangach yn offeryn di-fin iawn yn yr ystyr eu bod, mewn nifer o achosion, yn torri ar draws strydoedd, maent yn torri ar draws ystadau cyfan, sy’n amlwg yn cynhyrchu anghysonderau o ran anghyfiawnder. Ond rwy’n credu nad oedd rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf yn mynd ati’n ddigon creadigol i ddod o hyd i ffyrdd y gallent oresgyn hynny drwy ymgysylltu â rhaglenni eraill a fyddai’n eu galluogi i gynorthwyo unigolion a oedd angen cymorth ond nad oeddent yn y dalgylch, ac rwy’n falch fod hwnnw’n argymhelliad a ddaeth o’n hadroddiad.

Nid oes unrhyw un o’r rhaglenni adfywio hyn yn mynd i bara am byth, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl wedi cydnabod hynny o’r cychwyn, gan mai holl bwynt y rhaglenni hyn yw treialu ffyrdd arloesol o weithio gyda materion cymhleth iawn yn ymwneud â thlodi. Mae’n wirioneddol gymhleth ac roedd angen inni gadw hyn mewn cof bob amser ar gyfer llywio ac ail-lunio gwasanaethau statudol fel y gallem eu cyflawni’n well, ac rwy’n pryderu, os yw pob Gweinidog yn gyfrifol am drechu tlodi, na fydd yn gyfrifoldeb i neb yn y pen draw. Felly, rwy’n teimlo bod angen rheoli’r broses o’i ddirwyn i ben yn gadarn er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol, sef y cyrff cyflawni at ei gilydd, yn mynd ati o ddifrif i ddadansoddi beth yw’r agweddau ar y rhaglen sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus ac sydd angen eu hymgorffori yn eu rhaglenni cyflawni prif ffrwd, oherwydd, fel arall, rwy’n teimlo y gallai holl wersi a chyflawniadau Cymunedau yn Gyntaf fynd ar goll.

Yn gyntaf, fel eraill, a gaf fi ddiolch i’r pwyllgor am y deunydd darllen cynhwysfawr, os anghysurus weithiau, a gafwyd yn yr adroddiad? Nid wyf yn mynd i ymdrin yn benodol ag unrhyw un o’r argymhellion yn yr adroddiad, ond roeddwn am dynnu sylw at dri mater allweddol gan ganolbwyntio ar y dyfodol a’r camau sy’n dal i fod angen eu cymryd, a byddwn yn dysgu gwersi o’r adroddiad ar gyfer bwrw ymlaen â hwy. Bydd fy sylwadau, fel y byddwch yn deall, yn cael eu gwneud yng nghyd-destun ardaloedd fel fy etholaeth i. I mi, rhaid iddo ymwneud â’r hyn y darparwn yn y dyfodol, drwy’r cyfnod pontio cyfredol a thu hwnt.

Felly, yn gyntaf, mae’r adroddiad yn cynnwys y sylweddoliad anochel fod ymdrechion y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn wynebu her gynyddol i oresgyn hanes o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd mewn gormod o’n cymunedau yn y Cymoedd, yn y cyd-destun y dof ohono. Daeth y dasg honno bron yn amhosibl wrth inni wynebu Llywodraeth y DU a ddewisodd ddilyn polisi cyni, cyni a adeiladwyd o gwmpas rhaglen o’r hyn a elwid yn ddiwygio lles. Os cyfeiriaf yn ôl at fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn gynharach, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Sheffield Hallam, mae’r rhaglen ddiwygio honno’n mynd i arwain at amddifadu cymunedau’r Cymoedd o £0.5 biliwn y flwyddyn. Bydd y rhaglen diwygio lles, pan fydd wedi ei gweithredu’n llawn, yn mynd â mwy na hynny o’r Cymoedd bob tair blynedd. Dyna dros £1 biliwn bob tair blynedd.

Mae’r ymosodiad hwnnw ar gymuned y Cymoedd yn mynd rhagddo, ac yng ngoleuni’r ymosodiad a’r tlodi sy’n gysylltiedig â’n cymunedau, roedd Cymunedau yn Gyntaf yn wynebu bod yn blastr nad oedd byth yn mynd i fod yn ateb cyfan. Fel y dywedodd Hefin, er bod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud peth gwaith rhagorol sy’n newid bywydau, ynddi ei hun, ni allai godi miloedd lawer o bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig allan o dlodi, gan na châi ei chefnogi gan bolisïau Llywodraeth y DU a oedd ymhlith yr ysgogiadau allweddol wrth fynd ati i drechu tlodi. Felly, nid bai Cymunedau yn Gyntaf oedd hynny.

Yn ail, rhaid inni sicrhau bod y rhannau gorau o brosiectau Cymunedau yn Gyntaf a’r gwersi cysylltiedig yn cael eu parhau—mae llawer o gyd-Aelodau eraill wedi gwneud y pwynt hwnnw, hefyd—drwy’r cyfnod pontio hwn, oherwydd fel y clywsom eisoes, mae cymaint o dda wedi dod ohonynt. Fe ddefnyddiaf un enghraifft o fy etholaeth i. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o’r prosiect ieuenctid Forsythia, a oedd yn brosiect gwych—ac mae’n dal i fod yn brosiect gwych—sy’n darparu cymorth ac arweiniad i bobl ifanc. Mae’n darparu ymyrraeth gynnar, cymorth mentora a modelau rôl, ac mae wedi newid bywydau llawer o bobl ifanc ym Merthyr Tudful. Mae llwyddiant y prosiect wedi cael ei gydnabod gan gymaint o bartneriaid, ar lefel leol a chenedlaethol. Byddai’n drosedd—yn drosedd, mewn gwirionedd, yn erbyn ein pobl ifanc—pe bai prosiectau fel hyn yn cael eu colli oherwydd y newidiadau i’r rhaglen. Felly, mae’n rhaid i’r gorau o Cymunedau yn Gyntaf, yn amlwg, gael ei barhau, a hoffwn rywfaint o sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod ei is-adran bontio yn gweld yn glir pa brosiectau hanfodol sydd angen eu hachub.

Yn drydydd, rhaid inni gofio’r gwerth parhaus y gall polisïau sy’n seiliedig ar leoedd ei sicrhau. Yn wir, yn y dyfodol agos, rwy’n edrych ymlaen at roi croeso i gyhoeddi gwaith tasglu’r Cymoedd, i gydnabod y Cymoedd fel lle y mae angen iddo gael sylw trawsbynciol pellach gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i symud ein cymunedau ymlaen. Yn fy etholaeth i, rwy’n gweld rhai enghreifftiau gwych o adfywio sydd wedi ennill gwobrau ym Merthyr Tudful. Gyda llaw, mae Merthyr Tudful yn dref sy’n tyfu; mae’n ganolbwynt bywiog yn y Cymoedd. A gaf fi ddweud nad dyna’r dref a gafodd ei phortreadu mor negyddol, unwaith eto, yn ‘Valley Cops’ ar ein teledu yn ddiweddar? Ond mae’r gwaith ym Merthyr Tudful ymhell o fod yn gyflawn, ac mae’r newid yn Cymunedau yn Gyntaf wedi arwain at dorri’r gyllideb benodol hon, rwy’n credu, o £1.6 miliwn i oddeutu £370,000. Felly, rydym yn mynd i fod yn wynebu newidiadau sylweddol.

Rwyf hefyd yn edrych ar gymunedau fel Rhymni sydd angen gofal a chymorth ychwanegol i’w helpu i wynebu’r dyfodol. Nid ydynt wedi elwa’n strategol, fel Merthyr Tudful, ac ni allant dynnu sylw at yr un lefelau o fuddsoddiad ac adfywiad â’u cymdogion, naill ai ar draws y dyffryn ym Merthyr Tudful neu i lawr y cwm yng Nghaerffili. Felly, mae yna leoedd sy’n rhaid iddynt gael ein sylw fel rhan o’r strategaethau newydd rydym yn eu cyhoeddi ar hyn o bryd, boed yn ‘Ffyniant i Bawb’, boed yn waith tasglu’r Cymoedd, boed yn ddewisiadau cyllideb Cymru a setliadau llywodraeth leol. Erys lleoedd a chymunedau, fel y rhai yn fy etholaeth i, sy’n rhaid inni eu cefnogi os ydym am gyflawni ein hamcanion. Mae ein hymrwymiad parhaus yn hanfodol wrth iddynt wynebu’r posibilrwydd o golli biliynau o bunnoedd o gymorth gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd nesaf.

Felly, wrth i ni symud oddi wrth Cymunedau yn Gyntaf ac wrth i’r cyfnod pontio i gyfnod newydd fynd rhagddo, rhaid inni gofio bod achosion a symptomau tlodi yn parhau i gael eu herio a’u goresgyn, ac ni ellir cyflawni hyn drwy Lywodraeth Cymru yn unig, gan nad yw’r holl ddulliau economaidd yn eu dwylo hi. Ond rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi rhywfaint o sicrwydd y bydd trechu tlodi, drwy ganolbwyntio yn awr ar gymunedau cryf, yn parhau i fod yn amcan allweddol i Lywodraeth Cymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Llywydd, am y cyfle i ymateb i adroddiad y pwyllgor. Rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am eu hadroddiad, ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Er bod gwahaniaethau o ran dehongliad a phwyslais, roedd y Llywodraeth yn gallu derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, fel y nododd y Cadeirydd.

Llywydd, roedd y penderfyniad i gau Cymunedau yn Gyntaf yn un anodd, ond ar ôl ystyried yn ofalus, roeddwn o’r farn, er bod y rhaglen wedi gwneud llawer i unigolion, fod lefelau tlodi’n gyffredinol yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, ac na ellid disgwyl i un rhaglen ar ei phen ei hun gywiro hyn. Roedd hi’n amser i newid cyfeiriad yn sylfaenol, ac fel y cyfeiriodd Mike Hedges, mae hyn yn ymwneud â jig-so, cyfres o adnoddau sy’n gallu amddiffyn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgyrch draws-Lywodraethol i greu ffyniant i bawb, ac fel y dywedais ym mis Chwefror, rydym yn benderfynol o adeiladu cymunedau cryf drwy ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, cyflogaeth a grymuso. Mae ein strategaeth genedlaethol, ‘Ffyniant i Bawb’, wedi nodi ein cynlluniau i fuddsoddi yn ffyniant a llesiant cymunedau ac unigolion ar draws Cymru.

Mae llawer o’r rhai a ymatebodd yn ystod ein hymarfer ymgysylltu helaeth yn gwerthfawrogi’r cymorth a roddodd y rhaglen i unigolion a gwaith y staff, ond cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i’r angen am agwedd newydd yn seiliedig ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi a gweithio gyda phobl leol i ganolbwyntio’r ymdrech honno mor effeithiol â phosibl.

Fel Hefin David, rwy’n gwaredu at y defnydd o’r gair ‘methiannau’ ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, gan ein bod wedi gweld gwaith gwych yn digwydd yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae Janet Finch-Saunders a Mark Isherwood yn gwadu hyn, ond eu Llywodraeth hwy sydd wedi rhoi pwysau ar Gymru, sy’n effeithio’n enfawr ar faterion trechu tlodi—[Torri ar draws.] Gallant chwerthin, ond y gwir amdani yw, mae gennych chi lawn cymaint i fod yn gyfrifol amdano ag unrhyw un arall. Llywydd—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn ildio ar hyn o bryd. Efallai y byddaf yn ildio mewn ychydig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i waith traws-Lywodraethol, fel y dywedais yn gynharach.

Nid yw newid byth yn hawdd, Llywydd, ond nid wyf yn ymddiheuro am wynebu cwestiynau anodd a heriau anodd. Rwy’n talu teyrnged i bawb sydd wedi ymuno â ni i weithio drwy’r dewisiadau anodd sydd gennym, a’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r atebion. Fis Hydref diwethaf, cyhoeddais fy mod yn bwriadu dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol. Yn dilyn hynny, cynhaliais ymgynghoriad eang, a daeth miloedd lawer o ymatebion i law. Ym mis Chwefror, cyhoeddais y byddwn yn gorffen y rhaglen a nodais ein dull newydd o adeiladu cymunedau cryf. Rhoesom amser i wrando ar bobl cyn gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae dirwyn y rhaglen i ben yn raddol yn hytrach na dewis dod i ben yn sydyn, ynghyd â’r mesurau lliniaru rwy’n eu rhoi ar waith, yn darparu cyfleoedd ar gyfer adleoli staff a pharhad rhai o brosiectau mwyaf effeithiol Cymunedau yn Gyntaf, fel y nododd Dawn Bowden.

Mae’r gwaith ar ddatblygu ein dull newydd yn mynd rhagddo’n dda. Mae ein strategaeth, ‘Ffyniant i Bawb’, yn nodi sut rydym yn crynhoi holl egni Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o adeiladu cymunedau cryf ledled Cymru. Bydd y gweithgareddau allweddol ar draws fy mhortffolio yn ategu’r rhai a gyflawnir gan fy nghyd-Aelodau, a byddwn yn cyflawni mewn ffyrdd sy’n cynnwys ac yn grymuso ein cymunedau, gan eu cynnwys o’r cychwyn.

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i nodi’r pethau sydd angen eu rhoi ar waith i gefnogi’r gwaith o rymuso ein cymunedau, a bydd y cyd-archwiliad hwn yn llunio’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cryfder y cymunedau hynny.

Llywydd, cynlluniwyd y flwyddyn bontio i wneud y gorau o’r gefnogaeth i’r rhai sydd ei hangen ac a fyddai’n teimlo effeithiau newid, ac mae tîm pontio Cymunedau yn Gyntaf yn cynnig y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen ar gyrff cyflawni arweiniol a staff ar lawr gwlad. Gwn fod llawer o Aelodau wedi dod â materion lleol i fy sylw ac rwyf wedi gallu cyfeirio at fy nhîm cyflawni a’r tîm pontio am eu cefnogaeth. Maent wedi sicrhau bod cymorth pwrpasol wedi bod ar gael yn gyflym, yn ôl yr angen, yn ychwanegol at gyfarfodydd dwyochrog rheolaidd a chyfarfodydd deufisol y rhwydwaith o gyrff cyflawni arweiniol.

Un agwedd allweddol o rôl y tîm eleni yw cefnogi gweithgareddau prif ffrydio, sy’n effeithiol ac yn cael eu gwerthfawrogi’n lleol. Mae cyrff cyflawni arweiniol gyda chefnogaeth y tîm pontio wedi gwneud gwaith rhagorol eisoes yn sicrhau dyfodol rhai o brosiectau mwyaf llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf. Fodd bynnag, Llywydd, mae’n rhaid i mi ddweud yn glir nad yw hyn yn ymwneud â phrif ffrydio popeth. Nid yw popeth yn gweithio ym mhob ardal. Dyna pam y gofynnais i’r ffocws—edrych ar y darnau gorau, fel y mae rhai o’r Aelodau wedi ei ddweud, a gwneud yn siŵr fod hon yn rhaglen sy’n diwallu anghenion cymunedol go iawn. Dawn, roedd un o’ch cwestiynau’n gofyn sut y gwnawn yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar y penderfyniadau hyn. Penderfyniadau gan y cyrff cyflawni lleol fydd y rhain. Nid yw’n benderfyniad i mi ei wneud. Rydym yn bell o’r cymunedau hynny. Mae’n bwysig fod yna ddylanwad lleol a gwneud yn siŵr eu bod yn deall hynny’n well.

Yn Sir Benfro, er enghraifft, mae’r corff cyflawni arweiniol wedi ymgysylltu’n agos â’r bwrdd iechyd i ymgorffori dull gweithredu Cymunedau yn Gyntaf mewn perthynas â bwyta’n iach yn rhan o ddarpariaeth gwasanaethau cyffredinol y bwrdd. Mae meddyg teulu lleol bellach yn hwyluso gwaith y grŵp gweithredu sy’n cynorthwyo pobl ag anghenion ychwanegol i fyw yn y gymuned. Mae hyn yn dangos sut y gall y darnau gorau o brosiectau a gyflwynid yn flaenorol gan Cymunedau yn Gyntaf barhau a ffynnu mewn cyd-destun newydd. Yng Nghasnewydd, mae llawer o brosiectau Cymunedau yn Gyntaf blaenorol yn cael eu cyflwyno gan ddarparwr, rhaglen neu dîm gwahanol. Mae’r Prosiect Taclo yn cael ei gyflwyno bellach gan y Dreigiau. Mae nifer o brosiectau wedi cael eu trosglwyddo i’r tîm cymorth llesiant a gwasanaethau ieuenctid Casnewydd hefyd.

Mae ein gwaith i fwrw ymlaen â’r pethau gorau yn Cymunedau yn Gyntaf yn cynnwys y gronfa etifeddiaeth a’r grant cyflogadwyedd, ac mae’r rhain yn cael eu datblygu ar y cyd â’r grwpiau trefnu a chyda chydweithwyr mewn ardaloedd awdurdodau lleol. Gwrandewais ar bwynt Hefin ynglŷn â’r hunangyflogedig, sy’n un pwysig iawn. Byddaf yn gofyn i fy nhîm weld sut y mae hwnnw’n gweithredu. Mae’r cwestiwn ehangach yn ymwneud â’r cynllun cyflogadwyedd gyda Julie James a bydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Rydym yn cwblhau manylion hynny ar hyn o bryd. Mae cyflogadwyedd yn flaenoriaeth allweddol, ac mae grant cyflogadwyedd o £12 miliwn yn cefnogi’r gwaith hwnnw. Mae’r gronfa etifeddiaeth yn galluogi awdurdodau lleol i barhau prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau yn eu hardal. Mae’n rhaglen etifeddiaeth ddwy flynedd. Ar ôl dwy flynedd, byddaf yn siarad â’r Gweinidog Cyllid i weld sut y bydd yn mynd i ddarpariaeth y grant cynnal refeniw er mwyn parhau’r gefnogaeth.

Lle y ceir egni a phenderfyniad lleol, Llywydd, gall rhai o agweddau gorau Cymunedau yn Gyntaf barhau mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Rwy’n llongyfarch pawb sy’n gweithio gyda chymorth fy swyddogion i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ffynnu’n arbennig ar y prosiectau hynny yn y dyfodol. Mae rhai pobl yn dal i ofyn i mi pa bryd y byddaf yn datgelu rhaglen i olynu Cymunedau yn Gyntaf. Fy ateb yw nad yw’r heriau o greu ffyniant i bawb yn fater i un rhaglen benodol mwyach. Dyma genhadaeth ganolog a diffiniol y Llywodraeth hon yn ei chyfanrwydd.

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf fi yn gyntaf ddiolch yn fawr iawn i’r Aelodau am eu lefel o ddiddordeb ac yn wir, eu lefel o angerdd ynghylch y materion hyn, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r pwyllgor? Rwy’n credu bod eu cyfraniadau’n werthfawr iawn, mewn gwirionedd, o ran darparu cydbwysedd mewn perthynas â phrofiad o Cymunedau yn Gyntaf. Roedd yn dda iawn clywed gan Hefin David, Dawn Bowden a Mike Hedges er enghraifft—nid oes yr un ohonynt yn aelodau o’r pwyllgor—ynghylch llwyddiannau Cymunedau yn Gyntaf yn eu hardaloedd ac ynglŷn â sut y mae rhai o’r llwyddiannau hynny o ran datblygu capasiti cymunedol, fel y dywedodd Hefin, yn sicrhau manteision pwysig mewn perthynas â phrosiectau eraill, gan fod y capasiti yn cael ei ddefnyddio i alluogi’r prosiectau eraill hynny i ddigwydd ac yn wir, i lwyddo. Felly, credaf fod hynny’n rhoi cydbwysedd angenrheidiol, ac rwy’n gobeithio bod ein hadroddiad wedi gwneud hynny beth bynnag—edrych ar rai o’r diffygion, ond hefyd yr holl waith da a ddigwyddodd. Rwy’n credu ein bod wedi ceisio sicrhau’r cydbwysedd hwnnw yn ein hadroddiad, ac rwy’n gobeithio ein bod wedi gwneud hynny’n effeithiol.

Credaf fod llawer o’r pwyntiau a wnaed gan Aelodau’r Cynulliad, Llywydd, wedi canolbwyntio—ac o reidrwydd rwy’n meddwl—ar y sylfaen dystiolaeth, gwerthuso, a rheoli perfformiad, gan fod ein hadroddiad yn wir yn ymdrin â’r materion hynny i raddau eithaf helaeth ac yn wir, maent yn ymddangos mewn nifer o’r argymhellion. Mae argymhelliad 4, wrth siarad am y strategaeth trechu tlodi, yn sôn am ddangosyddion perfformiad, rheoli perfformiad effeithiol, a gosod sylfaen dystiolaeth ehangach. Mae argymhelliad 8 yn sôn am sicrhau bod dangosyddion perfformiad yn gyson ar draws Cymru gyfan, ar gael i’r cyhoedd, fesul awdurdod lleol, ac ar gael i’r pwyllgor i gynorthwyo’r broses o graffu. Argymhelliad 9 yw’r dangosfwrdd o ddangosyddion tlodi, gan gynnwys sefydliadau megis Sefydliad Bevan neu Joseph Rowntree efallai, a soniwn am astudiaeth hydredol ar dlodi yng Nghymru yn argymhelliad 10. Felly, credaf ei bod yn amlwg fod y pwyllgor wedi nodi’r materion sy’n ymwneud â gwerthuso, rheoli perfformiad a sylfaen dystiolaeth yn gadarn iawn, ac rwy’n falch fod hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y cyfraniadau heddiw, gan fod yr angen i fod yn seiliedig ar dystiolaeth wedi dod yn fantra i Lywodraeth Cymru, ac mae angen i ni weld hynny ar waith yn ymarferol mewn rhaglenni pwysig fel y rhai sy’n mynd i’r afael â thlodi.

Mae nifer o’r Aelodau wedi siarad am bwysigrwydd yr economi, Llywydd, ac rwy’n meddwl y buasai pawb ohonom yn cydnabod hynny. Mae’r ymadrodd fod llanw sy’n codi yn codi pob cwch yn bwysig iawn mewn perthynas â threchu tlodi, ac rydym am weld yr economi’n cryfhau yng Nghymru, ond rydym hefyd, ochr yn ochr â hynny, am weld rhaglenni a mentrau pwrpasol ar gyfer trechu tlodi, gan gynnwys y rhai sy’n seiliedig ar leoedd, unwaith eto, fel y mae nifer o’r Aelodau wedi ei grybwyll. Rwy’n credu ei bod yn iawn y dylem gael cydbwysedd rhwng y rhai sydd ar gael yn gyffredinol a’r mentrau, y prosiectau, sy’n ddaearyddol benodol.

Llywydd, rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cael eglurder ynglŷn â chyllid etifeddol, ac os yw hwnnw’n mynd i’r grant cynnal refeniw, yna edrychwn ymlaen at gael mwy o fanylion ynglŷn â sut yn union y mae hynny’n mynd i ddigwydd a pha reolaeth a pha baramedrau a gaiff eu gosod o gwmpas hynny er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cael yr effaith a ddymunir wrth fynd i’r afael â’r materion hyn. Rwy’n meddwl bod y tîm pontio’n bwysig, ac rydym yn awyddus i weld hynny’n parhau o ran y cymorth i gyrff arweiniol a gallu Aelodau’r Cynulliad i gyflwyno materion i Ysgrifennydd y Cabinet, ac i’r rhieni gael eu trin gan y tîm pontio.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig fod yna ddull gweithredu traws-Lywodraethol ac unwaith eto, rydym yn cydnabod hynny, Llywydd. Ond yr hyn rydym am ei weld o ran y cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi—ac roedd hwn, wyddoch chi, yn bendant yn argymhelliad pwysig—yw bod hwnnw, o’i osod mewn strategaeth, yn ei gwneud hi’n bosibl craffu, ac yn cynnwys yr holl ddangosyddion rheoli perfformiad a pherfformiad y soniais amdanynt ar y cychwyn. Rwy’n meddwl bod hwnnw’n ofyniad allweddol i’r pwyllgor, ac rydym yn awyddus i’w weld yn cael ei ddatblygu.

Yn olaf, fel y crybwyllodd yr Aelodau, o ran yr arferion da a’r llwyddiannau, mae’n bwysig tu hwnt eu bod yn cael eu cadw. Mae argymhelliad 1 yn cyfeirio at gyrff statudol yn cydnabod y llwyddiant hwnnw ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb, ac rydym am sicrhau bod hynny’n rhan bwysig o’r hyn sy’n mynd i gael ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol, a dyna pam ei fod yn argymhelliad cyntaf.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth Dwristiaeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf felly yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y dreth dwristiaeth, ac rwy’n galw ar Nick Ramsay i wneud y cynnig. Nick Ramsay.

Cynnig NDM6546 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu na ddylid gweithredu treth dwristiaeth yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.