Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
17/10/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw Aelodau i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Angela Burns.
Y Diwydiant Fferyllol yng Nghymru
1. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gefnogi'r diwydiant fferyllol yng Nghymru? (OAQ51217)
Mae ein cynlluniau i'w gweld, wrth gwrs, yn y strategaeth genedlaethol. Mae gennym ni bresenoldeb cryf o gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau fferyllol, ac mae gennym ni hanes profedig o gefnogi treialon clinigol a gwasanaethau fferyllol yma yng Nghymru, a bydd hynny'n parhau yn y dyfodol.
Yn wir, mae gennych chi hanes profedig yn hynny o beth, ac rwy'n ei groesawu'n fawr. Rwy'n cydnabod bod eich Llywodraeth wedi denu buddsoddiad sylweddol i'r busnes gwyddorau bywyd cyfan, sydd, yn ein gwlad ni, yn cyflogi tua 11,000 o bobl. Fodd bynnag, rwy’n bryderus iawn am yr hyn a allai ddigwydd o ganlyniad i Brexit, ac roeddwn i’n meddwl tybed pa—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Aelod ofyn ei chwestiwn, os gwelwch yn dda. Angela Burns.
Diolch. Roeddwn i’n meddwl tybed pa drafodaeth y mae eich Llywodraeth wedi ei chael gyda'i chyfatebwyr yn San Steffan ynghylch dyfodol fframweithiau rheoleiddio ar ôl Brexit, ac a ydych chi'n bwriadu cyfrannu at ymchwiliad Pwyllgor Dethol Iechyd Tŷ'r Cyffredin, sy'n edrych ar drefniadau ar ôl Brexit i sicrhau’r cyflenwad o feddyginiaethau, dyfeisiau a chynhyrchion, ac yn enwedig o ran ein gallu i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru—. Rydym ni’n esiampl ledled Ewrop a gwledydd yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, ac os nad ydym ni’n gallu cysylltu â’r esiamplau Ewropeaidd mwyach, yna efallai y byddwn ni'n colli rhywfaint o'r arian hwnnw sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd ar gyfer rhai o'r treialon hyn, a hoffwn wybod beth ydych chi’n mynd i allu ei wneud am hynny.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle i godi'r mater hwn. Nid yw hwn, ymhlith llawer o faterion eraill, wedi cael ei drefnu’n llawn eto o ran eglurder cyn belled ag y mae'r cyhoedd yn y cwestiwn. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i'r DU gael trefn reoleiddio wahanol i weddill Ewrop, ac un o'r pethau yr ydym wedi eu pwysleisio i Lywodraeth y DU yw nad oes angen gwahanu pan nad yw hynny’n ofynnol. Pam fyddai gennym ni system ar wahân sy'n wahanol i bawb arall, i bob pwrpas? Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'i sylwadau. Rydym ni wedi gwneud y pwynt ar hyn ac mewn meysydd eraill, fel cemegau, er enghraifft. Y gyfarwyddeb cofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu cemegau—pa ddefnydd fydd i honno ar ôl i ni adael yr UE? A yw hynny'n golygu y bydd llai o reoleiddio ar gemegau yn y DU? Bydd yr holl faterion hyn yn rhan, ac yn parhau i fod yn rhan, o'r trafodaethau yr ydym ni’n eu cael gyda Llywodraeth y DU.
Prif Weinidog, dywedodd Andrew Evans, ar ôl iddo gael ei benodi’n brif swyddog fferyllol Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
Mae fferyllwyr yng Nghymru yn chwarae rhan ganolog yn ymgyrch llywodraeth Cymru i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn brydlon ac yn nes at eu cartrefi. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fferyllwyr a phroffesiynau iechyd a gofal eraill, gan adeiladu ar y gwelliannau sylweddol yr ydym ni eisoes wedi eu gwneud.
A all y Prif Weinidog gadarnhau eto bod y diwydiant fferyllol yng Nghymru yn allweddol i ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyfarparu gwasanaeth iechyd gwladol Cymru i wasanaethu ei gleifion yn y blynyddoedd i ddod, a hefyd ein diweddaru ar sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo?
Yn sicr. Rydym ni’n cefnogi'r diwydiant fferyllol, er enghraifft, drwy’r gronfa fuddsoddi mewn gwyddorau bywyd. Mae honno wedi gwneud 11 o fuddsoddiadau mewn naw cwmni, gan gynnwys y rhai sy'n gwasanaethu'r diwydiant fferyllol. Mae wedi denu lefelau sylweddol o gyd-fuddsoddiad. Darparwyd canolfan gwyddorau bywyd i gynnig canolbwynt ffisegol i'r sector yng Nghymru, ynghyd â chwmni i weithredu a chyflwyno elfennau allweddol o bolisi, ac mae'r ganolfan honno’n un o gonglfeini'r hyn y bydd angen i'r sector adeiladu arno yn y dyfodol. Rydym ni’n gweithio ar ddatblygu brand ag iddo enw da yn rhyngwladol. Ein teithiau masnach, er enghraifft, i Medica, fu’r digwyddiad masnach sengl mwyaf i Gymru yn gyson dros y tair blynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n gweld twf parhaus BioCymru, sef y digwyddiad unigryw ar gyfer y sector, a rhywbeth yr oeddwn i’n bresennol ynddo ychydig flynyddoedd yn ôl. Dyma'r ffordd i gwmnïau ac adrannau academaidd gwyddorau bywyd Cymru arddangos eu harbenigedd i gynulleidfa ryngwladol. Felly, mae'r gwaith yn cael ei wneud nid yn unig o ran cefnogi cwmnïau fferyllol sydd yma, ond o ran sicrhau bod ganddynt sgiliau yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol.
Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain
2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu cyllid o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod tymor y Cynulliad hwn? (OAQ51210)
Mae'r rhaglen yn ceisio targedu buddsoddiad yn yr ysgolion a'r colegau hynny sydd yn y cyflwr gwaethaf, a darparu adeiladau cynaliadwy a chost-effeithiol. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n ceisio bwrw ymlaen â'r rhaglen dros y blynyddoedd nesaf, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf.
Prif Weinidog, rwy'n falch iawn bod fy etholaeth i, Cwm Cynon, wedi elwa gan fwy na £100 miliwn mewn cyfleusterau addysgol newydd a gwell o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf yn deall bod hynny’n fwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru. Gwn eich bod chi’n bresennol, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, yn agoriad swyddogol campws newydd £22 miliwn Coleg y Cymoedd yn Aberdâr. Fodd bynnag, mae tystiolaeth a dderbyniwyd gennym ym mhwyllgor yr economi gan GolegauCymru yn awgrymu nad yw'r sector AB mor llwyddiannus ag y gallai fod efallai o ran manteisio ar y cyllid hwnnw. Felly, o ran y swyddogaeth bwysig sydd gan addysg bellach o ddarparu dewis i ddysgwyr a hybu sgiliau, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r sector fel y gall sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o’r rhaglen?
Wel, mae'n iawn i ddweud bod dros £120 miliwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer prosiectau AB yn ystod y rhaglen band A. Rydym ni wedi gweld canlyniadau hynny. Darparwyd dros £10.6 miliwn o gyllid cyfalaf i sefydliadau AB i uwchraddio eu hoffer a’u sgiliau TG. Yn ystod y don nesaf o fuddsoddiad—band B—rydym ni’n gweithio gyda cholegau AB i ddatblygu eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer y don nesaf hon fel y gallwn ddeall lle ddylai buddsoddiad ddod. Ac rydym ni’n annog sefydliadau AB i gyflwyno prosiectau buddsoddi a fydd o fudd iddyn nhw fel sefydliadau.
Prif Weinidog, mae’n debyg bod y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi bod yn un o bolisïau mwyaf poblogaidd Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny ni raddau helaeth oherwydd y swyddogaeth a gyflawnwyd gan awdurdodau lleol arloesol a blaengar, fel Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr. Mae Ysgol Gyfun Trefynwy yn cael ei hailadeiladu ar hyn o bryd ac, ar ôl ei chwblhau, bydd ganddi gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth a TG rhyngweithiol modern. Nid yw hyn ar gyfer y disgyblion yn unig; mae ar gyfer y dref gyfan. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu i ddatblygu ysgolion newydd fel hyn fel canolfannau cymunedol ac i helpu i dargedu cyllid at brosiectau lleol a fydd yn cysylltu â datblygiadau fel hyn?
Wel, rwy’n edmygu ei grefft o ran troi hwn yn gwestiwn i longyfarch awdurdod addysg lleol Sir Fynwy. Wrth gwrs, rydym ni’n croesawu’r ffaith fod Sir Fynwy ac AALlau eraill—pob AALl yng Nghymru—wedi gallu elwa ar y rhaglen gwella ysgolion. Byddwn yn ei atgoffa, wrth gwrs, nad oes gan ei blaid ef yn Lloegr raglen o'r fath ac, yn yr achos hwnnw, yn Sir Fynwy, ni fyddai unrhyw ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yno nac mewn unrhyw le arall yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae un pwynt pedwar biliwn o bunnoedd yn cael ei ymrwymo dros y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2019. Mae hynny'n golygu bod cyllid wedi ei gymeradwyo ar gyfer 151 o brosiectau ym mand A ein rhaglen, sy'n rhagori ar ein targed. Mae wyth deg tri o'r prosiectau hynny yn gyflawn, 45 yn cael eu hadeiladu. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol pobl ifanc Cymru ac addysg Cymru, a allai gael ei ddarparu ddim ond gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod yr arian sydd ar gael o fewn cyllideb ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei ddefnyddio i ehangu addysg Gymraeg? Oherwydd rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod yna raddfa gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion ffydd—mae’n 85 y cant, o beth ydw i’n ei ddeall, yn hytrach na 50 y cant ar gyfer ysgolion yn fwy cyffredinol. A fyddech chi yn barod i ystyried rhyw ddull tebyg i hynny, o bosibl, er mwyn sicrhau eich bod chi’n cyrraedd eich targedau o safbwynt miliwn o siaradwyr?
Beth sy’n hollbwysig yw bod awdurdodau lleol yn gallu cynhyrchu, er enghraifft, gynlluniau strategol ynglŷn ag addysg Gymraeg yn eu hardaloedd—nid ydyn nhw wedi gwneud hyn lan at nawr, yn gyson, mae’n rhaid i mi ddweud—ac, wrth gwrs, i ddefnyddio’r cynlluniau hynny felly i dargedu ardaloedd lle y dylem ni gael mwy o ysgolion Cymraeg newydd. Y tueddiad sydd wedi bod dros y blynyddoedd yw bod yr ysgolion newydd yn tueddu i fod yn ysgolion Saesneg, ac ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu wedyn yn yr hen adeiladau. Wel, nid felly y dylai hynny fod yn y pen draw. Ond mae hwn yn dechrau gyda’r WESPs, sef y cynlluniau strategol, ac rydym ni’n moyn sicrhau, wrth gwrs, fod pob WESP yng Nghymru—i ddefnyddio’r acronym Saesneg—yn gadarn ac yn sicrhau eu bod nhw’n ein helpu ni i adeiladu tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru ac, yn wir, y Blaid Lafur yn gyffredinol, wedi bod yn feirniadol iawn o gontractau dim oriau, a hefyd cwmnïau fel Uber, y maen nhw'n dweud eu bod yn defnyddio eu telerau ac amodau i gam-fanteisio ar weithwyr. Wel, onid yw athrawon cyflenwi yng Nghymru yn aml yn yr un sefyllfa? Ceir achos a ddyfynnwyd ar wefan y BBC yr wythnos hon o Angela Sandles, sy'n athrawes ysgol gynradd gymwysedig ond, yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae hefyd wedi bod yn rhiant maeth, ac felly wedi bod yn athrawes gyflenwi. Dywed, ar ôl didyniadau gan yr asiantaeth y mae'n gweithio iddi, y gall gael tâl sy’n cyfateb yn fras i’r isafswm cyflog. Ac mae rhai athrawon cyflenwi yn troi at ddanfon pizza er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd, ac mae athrawon cyflenwi yn pleidleisio gyda'u traed ac yn gadael ac yn chwilio am waith arall. A yw'r Prif Weinidog o’r farn bod hon yn sefyllfa dderbyniol?
Nac ydw, ond nid yw hyn wedi ei ddatganoli eto. Mae hwn yn rhywbeth a fydd yn dod i ni y flwyddyn nesaf. Mae gennym ni weithgor athrawon cyflenwi, sy'n ystyried ffyrdd o wella rhagolygon cyflogaeth ac, yn wir, incwm athrawon cyflenwi, a dyna'n union yr ydym ni’n bwriadu bwrw ymlaen ag ef.
Fel y mae’n debyg y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, telir tua £130 y dydd i athrawon cyflenwi yn Lloegr ar gyfartaledd, ond mae hynny’n £90 i £95 y dydd ar gyfartaledd yng Nghaerdydd, ac mae mor isel â £80 y dydd yn y gorllewin. Mae asiantaethau yn codi mwy ar ysgolion na’r gyfradd i athrawon ar brif raddfa 1-4, ac felly gall athrawon ag 20 mlynedd o brofiad ennill llai nag athro sydd newydd gymhwyso sydd wedi ei gyflogi'n barhaol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn ddiweddar, o ran Uber, y dylai pobl allu dibynnu ar gyflog teg waeth beth fo'u maes gwaith. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw Aelod yn y lle hwn a fyddai’n anghytuno â hynny.
Wel, mae’n fater i'r ysgol, wrth gwrs, gan mai ysgolion sy’n cyflogi'r athrawon cyflenwi. Er mwyn newid i sefyllfa lle ceir cysondeb llwyr yn hynny o beth, yna byddai'n rhaid cymryd rheolaeth leol o ysgolion oddi wrth ysgolion. Yng Ngogledd Iwerddon, lle nad oes unrhyw LMS, ceir llawer mwy o gysondeb o ran tâl athrawon cyflenwi. Mae hwn yn fater nad yw wedi'i ddatganoli i ni eto. Byddai'n anochel y byddai newid y system oddi wrth LMS yn golygu cael deddfwriaeth sylfaenol, ac mae'r rhain yn faterion y bydd yn rhaid i'r Aelodau eu hystyried dros y misoedd nesaf. Ond, yn y cyfamser, yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yw defnyddio'r gweithgor yr ydym ni wedi ei ffurfio i wella amodau athrawon cyflenwi, gan ystyried ar yr un pryd y canlyniad gorau yn y tymor hwy.
Mae ysgolion yn dod o dan reolaeth awdurdodau lleol—cyfrifoldeb awdurdodau lleol beth bynnag—ac, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ariannu'r ysgolion hynny ac mae ganddi awdurdod darbwyllo mawr, hyd yn oed os nad oes ganddi'r awdurdod cyfreithiol. Ymhlith diffygion eraill y sefyllfa bresennol i lawer o athrawon asiantaeth mae’r ffaith nad oes ganddynt fynediad at y cynllun pensiwn i athrawon ac, yn aml, mae eu trefniadau tâl gwyliau yn golygu bod rhan o'r cyflogau y maen nhw’n eu derbyn am wneud eu gwaith yn cael ei chadw oddi wrthynt, i'w ddychwelyd yn ystod y gwyliau fel pe byddai hwnnw’n dâl gwyliau ar ben eu cyflog arferol, sy'n gwbl anghywir. Effaith hyn, i weithwyr sector cyhoeddus yn gyffredinol, sydd wedi cael cap cyflog dros y 10 mlynedd ddiwethaf, yw bod athrawon cyflenwi wedi gwneud cryn dipyn yn waeth ac mae llawer ohonynt wedi cael toriad cyflog i bob pwrpas o hyd at 40 y cant yn y 15 mlynedd diwethaf. Hefyd, ceir cymalau mewn llawer o'r contractau cyflenwi hyn, y mae'n rhaid i chi eu derbyn neu ni fyddwch yn cael y swydd, sy’n dweud, 'Rwy'n derbyn na fyddaf yn cael fy nhalu yn unol â rheoliadau gweithwyr asiantaeth.' A yw Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud rhywbeth penodol am y cam-drin hwn?
Mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu hystyried cyn datganoli tâl ac amodau. Rydym ni’n gwybod bod ysgolion—. Dywedodd fod awdurdodau lleol yn gyfrifol. Ysgolion sy’n gyfrifol am gyflogi eu hathrawon cyflenwi ac, wrth gwrs, os bydd ysgolion yn dymuno cyflogi athrawon cyflenwi mewn ffordd wahanol, yn hytrach na mynd trwy asiantaethau, yna bydd hynny'n agored iddyn nhw. Ond gan y bydd hyn yn cael ei ddatganoli yn y dyfodol agos, mae hyn yn rhoi'r cyfle nawr i ni ymdrin â'r materion hyn, yr wyf yn gyfarwydd â nhw gan fy mod i wedi cael etholwyr yn dod i mewn i esbonio hyn i mi hefyd, mewn ffordd nad oedd yn bosibl cynt yn absenoldeb datganoli.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Dywedodd y Prif Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet, Damian Green, ddoe, o ran Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac rwy’n dyfynnu,
mae’r sôn am gipio pŵer...y tu ôl i ni.
A ydych chi'n cytuno ag ef?
Nid ydym ni mewn sefyllfa eto—wel, nid wyf i yn y sefyllfa—lle gallwn argymell i'r Cynulliad hwn y dylem ni gefnogi'r Bil ymadael. Cefais gyfarfod ag ef a chydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod gwell dealltwriaeth o'n penderfyniad i beidio â chefnogi'r Bil oni bai y rhoddir sylw i gipio pŵer, ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei fod yn gyfarfod gwell na chyfarfodydd blaenorol. Efallai fod y fathemateg yn Nhŷ'r Cyffredin wedi ei ddeall gan Lywodraeth y DU erbyn hyn, ond nid ydym mewn sefyllfa eto lle gallwn argymell y dylid cefnogi'r Bil. Mae angen i ni weld camau gan Lywodraeth y DU nawr i wneud yn siŵr bod y camau cipio pŵer hynny’n cael eu dileu.
Wel, mae'n galonogol clywed eich bod chi wedi cael cyfarfod mwy cadarnhaol, ond mae Plaid Cymru yn dal i weld bod perygl o gipio pŵer yn y Bil hwn. Mae Cymal 11 y Bil yn gosod cyfyngiadau ar y gweinyddiaethau datganoledig o ran cymhwysedd sy'n ymwneud â chyfraith yr UE, er nad dyna'r unig ran o'r Bil lle mae gennym ni bryderon, fel y gwyddoch. Roedd y cyfarfod rhwng Theresa May a Jean-Claude Juncker neithiwr o bwysigrwydd hanfodol i Gymru. Hyd yn oed yn fwy na'r Bil ymadael yr wyf wedi ei grybwyll, mae telerau gadael yr UE o ran masnach yn hanfodol o ran swyddi Cymru. Neithiwr, fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw gynnydd. Mae'r cyfaddefiad bod angen i drafodaethau gyflymu, yn fy marn i, yn arwydd o'u methiant hyd yn hyn. A wnewch chi gydnabod bod gadael yr UE heb gytundeb yn wirionedd ac, os bydd hynny'n digwydd, y byddai'n newyddion drwg ar gyfer swyddi yng Nghymru, ar gyfer ffermio yng Nghymru ac ar gyfer masnach Cymru?
Mae'n bosibilrwydd sy’n peri pryder eithriadol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, dim cytundeb yw’r cytundeb gwaethaf. Byddai gadael o dan amgylchiadau anhrefnus yn ddrwg i bawb. Y pryder sydd gen i yw na fydd cynnydd digonol erbyn mis Mawrth 2019 fel mai dim cytundeb fydd y safbwynt diofyn. Mae hynny'n rhywbeth y mae hi a minnau o’r un safbwynt yn union yn ei gylch, o ran dweud y byddem ni’n gwrthwynebu hynny. Mae'n hollbwysig bod cytundeb ar y bwrdd sy'n galluogi busnesau Cymru i gael mynediad at y farchnad sengl ar yr un telerau ag ar hyn o bryd.
Os ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod gadael yr UE heb gytundeb yn wirioneddol bosib ac y byddai, yn wir, yn newyddion drwg i Gymru, yna y cwestiwn amlwg nesaf sydd gen i i chi yw beth ydych chi'n mynd i wneud am hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer pob sefyllfa Brexit bosibl? Byddwch yn ymwybodol bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth ddoe i aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a dywedasant ei bod yn amhosibl dadlau yn erbyn y dystiolaeth sy'n cefnogi'r safbwynt hwnnw. Dim ond mater o amser yw hi nawr cyn i sectorau eraill eu dilyn. Dywedodd eich Llywodraeth ym mis Gorffennaf bod busnesau'n canolbwyntio mwy ar y tymor byr gan fod cymaint o ansicrwydd ynghylch y cytundeb terfynol hwnnw. Ni allech ychwaith ddarparu data o ran faint o fusnesau yr oedd eich Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad â nhw ynghylch cefnogi Brexit. A allwch amlinellu nawr y camau pendant yr ydych chi’n eu cymryd i baratoi economi Cymru ar gyfer pob sefyllfa Brexit bosibl, ac a wnewch chi dderbyn ei bod yn ddyletswydd arnoch i sicrhau nad yw economi Cymru yn camu’n ddifeddwl i argyfwng economaidd peryglus?
Mae gennym ni weithgor gadael yr UE sy'n gweithio ar wahanol sefyllfaoedd, ond mae'n rhaid i mi ddweud y byddai dim cytundeb—nid oes unrhyw liniaru rhag dim cytundeb. Nid oes unrhyw beth yn llythrennol y gallwn ei wneud yn y tymor byr os gwelwn nad oes unrhyw gytundeb. Yn y tymor hwy, mae'n bosibl chwilio am farchnadoedd newydd, ond, yn yr amserlen yr ydym ni’n sôn amdani, mae'n amhosibl. Os edrychwn ni ar ffermio, yn enwedig defaid—. Mae ffermio llaeth mewn sefyllfa sy’n llai agored i niwed, ond mae ffermwyr defaid yn arbennig—mae ffermwyr defaid yn wynebu ergyd driphlyg, i bob pwrpas, o (a) canfod bod yr hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu 40 y cant yn ddrytach yn eu prif farchnad darged erbyn hyn, (b) gweld marc cwestiwn ynghylch eu cymorthdaliadau ar ôl 2021, ac (c) cytundeb masnach rydd posibl gyda gwlad arall â diwydiant cig defaid mawr fel Seland Newydd, er enghraifft, a ganiateir wedyn i ddod i'r DU heb unrhyw gyfyngiad o gwbl. O dan yr amgylchiadau hynny, ni waeth faint o gymhorthdal y gellir ei roi ar gael i ffermwyr, ni fydd modd gwerthu llawer o'r hyn y maen nhw’n ei gynhyrchu, a dyna pam mae'n bwysig dros ben bod ein ffermwyr defaid, ein gweithgynhyrchwyr, yn gallu cael mynediad at y farchnad sengl yn yr un ffordd ag y maen nhw nawr. Mae'n berffaith bosibl gadael yr UE ac eto dal i gael mynediad at y farchnad sengl. Mae Norwy wedi ei wneud; mae Norwy yn wlad ardal economaidd Ewropeaidd. Roedd Nigel Farage ei hun yn defnyddio Norwy fel enghraifft o'r hyn y gallem ni ei fod, ac yn yr ystyr hwnnw, os nad mewn ychydig iawn arall, mae'n iawn, oherwydd y peth olaf yr ydym ni eisiau ei weld yw dim cytundeb, gan nad oes unrhyw fath o baratoad a all baratoi economi Cymru ar gyfer yr hyn sy’n siŵr o fod yn newyddion drwg os na allwn ni gael mynediad priodol at y farchnad lle’r ydym ni’n gwerthu bron i ddwy ran o dair o'n nwyddau.
Arweinydd yr Wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio gwybodaeth economaidd, ac, yn bwysig, tablau mewnbwn ac allbwn, wrth lunio polisi a phenderfynu ble i gefnogi economi Cymru?
Rydym ni’n gwneud hynny.
Mae'n rhaid i mi ddweud nad ydych chi’n defnyddio gwybodaeth economaidd na thablau mewnbwn neu allbwn. Nid wyf wedi gallu dod o hyd i academydd, gŵr na gwraig fusnes—nid oes neb a all gefnogi'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, Prif Weinidog. Os edrychwch ar fodel yr Alban, mae ganddyn nhw uned benodol ym Mhrifysgol Strathclyde a sefydlwyd ganddyn nhw rai blynyddoedd yn ôl sy'n llywio polisi Llywodraeth yr Alban am allbwn yr economi, am greu swyddi, ac, yn anad dim, am y gefnogaeth sydd ei hangen ar yr economi yn yr Alban. Rwy’n pryderu am ddiffyg difrifoldeb eich ateb, yn enwedig pan edrychwch chi ar yr heriau y mae economi Cymru yn eu hwynebu. A wnewch chi ailystyried yr ateb yr ydych newydd ei roi? Oherwydd gallaf ddweud wrthych beth sydd ei angen ar economi Cymru—wrth ddatblygu polisi a chymorth newydd i economi Cymru, mae angen data cadarn, gwybodaeth dda a dealltwriaeth o sut mae'r economi yn gweithio. A chyfeiriaf eto at eich honiad eich bod chi'n dweud, 'ydym', pan, mewn gwirionedd, o'i gymharu â'r hyn y mae’r Alban yn ei wneud, gydag uned benodol ym Mhrifysgol Strathclyde, nid oes gennych chi ddim byd tebyg i gymharu â hynny.
Yn gyntaf oll, y peth gwaethaf i economi Cymru fyddai Brexit anhrefnus; dyna'r peth gwaethaf oll. Mae gennym ni brif economegydd sy'n cynghori'r Llywodraeth. Rydym ni’n ymgynghori â busnesau trwy gyrff fel y Cyngor Datblygu’r Economi, ac yn y modd hwnnw, mae gennym ni’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i symud economi Cymru yn ei blaen. Ond mae'n siarad fel pe na byddai gennym ni unrhyw beth o ran cyngor. Mae gennym ni brif economegydd ac adran sy’n rhoi cyngor i ni.
Prif Weinidog, ceir dealltwriaeth dda o wybodaeth economaidd a thablau mewnbwn ac allbwn yn natblygiad polisi cyhoeddus ar hyd a lled Llywodraethau ledled y byd. Roedd yn gwestiwn cymharol syml yr agorais y gyfres hon o gwestiynau ag ef. Pan edrychwch chi ar yr heriau y mae economi Cymru yn eu hwynebu—gan roi Brexit o’r neilltu—o ran awtomeiddio, er enghraifft, y mae un o'r rheini ar eich meinciau cefn wedi tynnu sylw ato dro ar ôl tro yn y Siambr hon, erbyn 2025, byddwn yn colli 15 y cant o'r swyddi yn y gweithle fel yr ydym ni’n eu deall nhw heddiw. Erbyn 2035, disgwylir y byddwn yn colli 35 y cant o'r swyddi yn y gweithle fel yr ydym ni’n eu deall nhw heddiw; mae 2035 18 mlynedd yn unig i ffwrdd. Nid oes gennych chi unrhyw allu—ac ailadroddaf hyn—nid oes gennych chi unrhyw allu i ddefnyddio'r dulliau y mae Llywodraethau eraill yn eu defnyddio ar hyd a lled y byd ac, yn arbennig, mewn cyd-destunau datganoledig, fel yr Alban. A wnewch chi gomisiynu uned yma yng Nghymru i gefnogi datblygiad polisi cyhoeddus ar bolisi mewnbwn ac allbwn ar gyfer gwybodaeth economaidd, Prif Weinidog?
Wel, unwaith eto, fel y dywedais, mae gennym ni’r cyrff sydd wedi cael eu sefydlu i weithio gyda diwydiant. Mae Diwydiant Cymru yn enghraifft arall o hynny. Mae gennym ni brif economegydd ac economegwyr eraill sy'n gallu cefnogi'r hyn yr ydym ni’n ei wneud. Mae gennym ni Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru hefyd, sy’n gyfrifol am ystyried materion wrth iddynt godi a rhoi cyngor i ni. Mae’r mewnbwn academaidd hwnnw i lunio polisi gennym ni. Mae'n ymddangos ei fod yn rhoi'r argraff nad oes gennym ni unrhyw ddata economaidd o gwbl na chyngor sy'n cynghori ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud. Nid yw hynny'n gywir ac, fel y gwelwn o'r ffaith fod diweithdra ar lefel isel a bod buddsoddiad uniongyrchol tramor ar lefel uchel iawn, mae'r wybodaeth yr ydym ni’n ei chael yn amlwg yn iawn cyn belled ag y mae'r penderfyniadau yr ydym ni’n eu gwneud yn y cwestiwn.
Masnachfraint Cymru a'r Gororau
3. A yw Llywodraeth Cymru wedi nodi'r ddarpariaeth o drenau trydan rhwng Caerdydd ac Abertawe yn ei gwahoddiad i dendro ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau? (OAQ51220)
Wel, o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf na fyddai'n trydaneiddo i Abertawe, ni fydd cynigwyr ar gyfer ein gwasanaethau rheilffyrdd yn gallu darparu a gweithredu trenau trydan rhwng Caerdydd ac Abertawe beth bynnag.
Roedd yr achos busnes gwreiddiol yn 2012, sef y sail ar gyfer y penderfyniad trydaneiddio, yn cynnwys pedwar trên trydan yr awr rhwng Abertawe a Chaerdydd, gan gynnwys gwasanaethau lleol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Nawr, pe byddai Llywodraeth Cymru wedi cynnwys gofyniad am wasanaethau trydan lleol yn y fanyleb fasnachfraint fanwl, yn unol â’r achos busnes gwreiddiol hwn, byddai'r Adran Drafnidiaeth wedi ei chael fwy neu lai yn amhosibl gwrthod trydaneiddio. Felly, onid yw Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle yn y fan yma? Beth ydych chi'n mynd i’w wneud nawr, o ystyried y sefyllfa yr ydym ni ynddi erbyn hyn, i ddatrys y ffaith nad yw Abertawe'n mynd i gael y trydaneiddio a addawyd iddi?
Llywodraeth y DU sydd ar fai am fethu â thrydaneiddio. Nhw wnaeth yr addewid i drydaneiddio’r rheilffordd; nhw wnaeth dynnu'n ôl, nhw wnaeth dorri’r addewid hwnnw i drydaneiddio’r rheilffordd. Gwyddom mai tua £500 miliwn yw’r gost i drydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, fel y mae ein cynlluniau wedi dangos, boed hynny drwy'r metro neu'n ehangach drwy'r fasnachfraint—ein bod ni eisiau rhedeg trenau gwell yn amlach ar ein rheilffyrdd. Nid wyf yn credu y byddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl, a bod yn onest â chi, pe byddem ni wedi ei nodi yn y fasnachfraint; bydden nhw wedi tynnu eu cyllid yn ôl beth bynnag.
Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd trydaneiddio’r brif reilffordd o Lundain i Abertawe o ran mynd trwy Ben-y-bont ar Ogwr, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod hynny’n hynod bwysig. Rwy’n credu bod y neges y mae'n ei gyfleu i ddarpar fuddsoddwyr o ba mor bwysig yr ydych chi’n credu yw ardal pan eich bod chi'n atal y trydaneiddio 40 milltir i ffwrdd yn anfantais ddifrifol i'r rheini ohonom ni sy'n byw i'r gorllewin o Gaerdydd. A wnaiff y Prif Weinidog barhau i gefnogi trydaneiddio'r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe?
'Gwnaf' yw'r ateb syml. Ond, wrth gwrs, nid yw hwn yn faes datganoledig. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y gyllideb; cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw cadw ei haddewid. Rwy'n rhannu ei bryder, ymhen amser, wrth i ni weld gwahanol drenau yn cael eu cyflwyno dros y blynyddoedd, y bydd y ffaith nad oes trydaneiddio yn golygu, ymhen amser, y bydd y trenau rhyng-ddinas yn dod i ben yng Nghaerdydd gan nad oes unrhyw fath o dyniant yn gallu mynd â nhw ymhellach i'r gorllewin. Oes, mae gennym ni drenau dau fodd ar hyn o bryd. Efallai nad oedd lansiad ddoe y lansiad mwyaf addawol, wrth i'r trên cyntaf dorri i lawr. Roedd yn ymddangos bod yr ail yn rhaeadru dŵr dros bobl oherwydd diffyg gyda'r system aerdymheru. Ond rydym ni’n gobeithio y bydd y materion hynny, yn amlwg, yn cael eu datrys er lles economi de Cymru. Ond gwnaethpwyd addewid i bobl Cymru; torrwyd yr addewid hwnnw gan yr un blaid. Pa werth nawr yw unrhyw addewid gan unrhyw Lywodraeth Geidwadol os ydyn nhw’n torri addewid a wnaed mewn modd mor gyhoeddus?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ba un a wnaed unrhyw gynnydd ar ddatganoliad Llywodraeth Dorïaidd y DU o'r holl bwerau sydd eu hangen i Lywodraeth Cymru i sicrhau proses dendro lwyddiannus o fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau? Mae pobl Cymru eisiau gweld Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwbl gyfrifol am y broses hon heb unrhyw ymyrraeth gan Chris Grayling, Alun Cairns a'u swyddogion. A, ddoe, aeth y ddau hynny ar drên newydd sbon o'r radd flaenaf a adawodd 25 munud yn hwyr oherwydd problemau technegol, a chafodd ei ohirio ymhellach ar y ffordd, gollyngodd dŵr o unedau aerdymheru, a gorfodwyd cymudwyr i sefyll gyda’r unedau aerdymheru wedi eu diffodd. A all y Prif Weinidog wneud popeth o fewn ei allu i gadw'r Ceidwadwyr aflwydd oddi wrth benderfyniadau am rwydweithiau rheilffyrdd Cymru?
Rwy'n credu mai dyna fyddai orau. O ran y cytundeb masnachfraint, mae cynnydd yn cael ei wneud yn hynny o beth erbyn hyn. Roedd rhywfaint o rwystrau yr oedd angen eu clirio; maen nhw wedi eu clirio. Y peth trist yw bod Llywodraeth y DU yn gwrthod caniatáu unrhyw fath o reolaeth i bobl Cymru dros eu rhwydwaith rheilffyrdd eu hunain. Nid oes gennym ni’r pŵer i gyfarwyddo Network Rail hyd yn oed—mae gan yr Albanwyr; ni allwn gyfarwyddo Network Rail hyd yn oed. Y gwir yw mai dim ond 1.5 y cant o fuddsoddiad rheilffyrdd sy'n dod i Gymru. Nawr, dylai'r gyfran honno fod yn 6 y cant neu’n 6.2 y cant yn seiliedig ar gyfran Barnett; rydym ni’n cael 1.5 y cant. Mae'n chwerthinllyd. Ar ben hynny, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod yr Albanwyr yn gallu edrych ar gorff sector cyhoeddus dielw, hyd braich, fel dewis ar gyfer rhedeg eu rheilffyrdd. Cawsom ni ein gwahardd yn benodol rhag gwneud hynny ar y sail, yn ôl pob tebyg, y byddem ni, mewn rhyw ffordd, yn halogi gorsafoedd Lloegr â syniadau rhyfedd am wasanaethau rheilffyrdd dielw sy’n cael eu rhedeg yn dda. Ond dyna'r gwahaniaeth rhwng y driniaeth o Gymru a Lloegr a'r Alban gan y Llywodraeth Geidwadol hon. Pan ddaw i reilffyrdd, nid ydym yn cael unrhyw chwarae teg o gwbl; rydym ni’n cael addewidion wedi’u torri. Ond rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn gwneud iawn am eu diffygion.
Recriwtio Swyddogion yr Heddlu
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi recriwtio swyddogion yr heddlu yng Nghymru? (OAQ51187)
Wel, nid yw plismona wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, felly nid ydym yn cymryd unrhyw ran yn y gwaith o recriwtio swyddogion yr heddlu. Mater i'r Swyddfa Gartref yw hwnnw.
Diolch, a dyna pam y dewisais i’r gair 'cefnogi'. Dair wythnos yn ôl, mynegais bryder gyda chi a fynegwyd gan y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a phedwar prif gwnstabl yng Nghymru y gallai eu hanallu i gael mynediad at y £2 filiwn a dalwyd i'r ardoll brentisiaeth arwain at lai o swyddogion yr heddlu, a darpar recriwtiaid yn ddewis ymuno â lluoedd Lloegr yn lle hynny. Cadarnhawyd gennych yn eich ymateb, wrth gwrs, eich bod chi wedi derbyn cyfran o'r ardoll brentisiaeth yn Llywodraeth Cymru, ond
‘ni allwn, yn ddidwyll, gyfrannu at gynlluniau prentisiaeth sydd mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli'.
Mewn gwirionedd, yng nghyllideb 2017-18 Llywodraeth Cymru, dywedasoch y byddech yn rhoi £0.5 miliwn i gomisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau nad ydynt o dan anfantais o ganlyniad i'r ardoll brentisiaeth. Derbyniwyd £128 miliwn gennych mewn gwirionedd, sy'n cwmpasu'r £90 miliwn a ddilëwyd o’r bloc Barnett, mae'n cwmpasu'r £30 miliwn a dalwyd i mewn i'r ardoll gan gyflogwyr sector cyhoeddus Cymru, a gadawodd ychwanegiad o £8 miliwn uwchlaw'r lefel honno. Pa ymgysylltiad ydych chi’n ei gael felly fel Llywodraeth gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid ynghylch y mater difrifol iawn hwn i sicrhau eich bod chi’n rhoi cymaint o gymorth ag y gallwch, lle y gallwch, yn y maes hwn?
Rydym ni’n cyfarfod yn rheolaidd gyda'r—. Ceir cyfarfodydd gweinidogol rheolaidd, a dweud y gwir, i drafod cyllid a materion eraill. Cofiwch, wrth gwrs, ein bod ni, fel Llywodraeth, yn cefnogi ac yn parhau i gefnogi 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru—mater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae'n fater o ddiogelwch cymunedol yr oeddem ni eisiau ei gymryd o ddifrif, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar gymaint o gymunedau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod: ni all sefyll yn y fan yna a dweud na ddylid datganoli plismona ac yna dweud y dylem ni wario arian ar wasanaeth nad yw wedi ei ddatganoli. Pe byddai plismona wedi ei ddatganoli, byddai hwn yn fater i ni. Rydym ni’n dadlau y dylai gael ei ddatganoli, fel pob gwasanaeth brys arall. Mater i Lywodraeth y DU yw ariannu hyfforddiant swyddogion yr heddlu. Fel arall, rhowch y gyllideb i ni, rhowch ddatganoli i ni, a byddwn ni’n ei wneud.
Prif Weinidog, er bod yn rhaid i recriwtio swyddogion yr heddlu barhau i fod yn flaenoriaeth uchel, ni allwn ddiystyru ffactor hynod bwysig arall, sef eu cadw. Mae naw deg y cant o swyddogion Gwent yn dweud nad oes digon o weithwyr, mae 80 y cant yn dweud bod ganddyn nhw derfynau amser na ellir eu cyflawni, ac mae 76 y cant yn dweud na allant fodloni galwadau. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn arwain at ddiffyg ysbryd ac anfodlonrwydd yn y swydd. A all y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau hyn ac felly sicrhau bod y gallu i gadw yn fwy cynaliadwy?
Unwaith eto, mae’n rhaid i mi atgoffa'r Aelod nad yw'r rhain yn faterion i Lywodraeth Cymru; materion i Lywodraeth y DU ydyn nhw. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd, a dweud y gwir. Mae'n arwydd o gyni cyllidol bod y gwasanaeth heddlu o dan gymaint o bwysau, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur iawn y byddem ni’n dymuno gweld plismona’n cael ei ddatganoli gyda throsglwyddiad cyllideb priodol, a byddem yn gweithredu’n well dros ein swyddogion heddlu.
Prif Weinidog, gwnaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU wyriad chwerthinllyd o'i hobsesiwn ideolegol â chyni cyllidol yn ddiweddar pan gyhoeddodd y byddai swyddogion yr heddlu yn cael bonws o 1 y cant wedi ei ariannu o'r cyllidebau presennol. Dywedodd Steve White, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr y byddai'r cyhoeddiad hwn yn gadael llawer o swyddogion yn ddig ac yn siomedig.
Nid oeddem yn farus o ran yr hyn y gwnaethom ni ofyn amdano,
ychwanegodd Mr White. Mae swyddogion wedi bod yn mynd â tua 15 y cant yn llai adref nag yr oedden nhw saith mlynedd yn ôl. Mae'r ffederasiwn wedi gofyn am gynnydd mân o 2.8 y cant i dâl sylfaenol. A wnaiff y Prif Weinidog alw ar Lywodraeth Dorïaidd y DU a'u cefnogwyr yn y Siambr hon i dalu cyflog teg i swyddogion yr heddlu er mwyn sicrhau nad yw recriwtiaid newydd yn cael eu digalonni rhag gwasanaethu eu cymunedau fel swyddogion heddlu?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym ni wedi clywed tystiolaeth ar y meinciau hyn, ac yn wir ar y meinciau gyferbyn, am y ffordd y caiff swyddogion yr heddlu eu trin, ddim yn cael eu cefnogi'n iawn, gwasanaeth yr heddlu ddim yn cael ei ariannu'n iawn, y cwbl o ganlyniad i raglen cyni cyllidol Llywodraeth y DU. Mae'n dangos, pan ddaw i blismona, y bydd y Torïaid yn gwneud tro gwael â’n swyddogion heddlu.
Diogelwch Plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â diogelwch plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? (OAQ51221)[W]
Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus roi’r flaenoriaeth uchaf i ddiogelu plant, ac wrth gwrs mae hynny’n rhan allweddol o’r Ddeddf, sef y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Diolch am yr ymateb, Brif Weinidog.
Byddwch yn ymwybodol, o dan y gyfraith honno, y bu’n rhaid i'r Gweinidog gyhoeddi rhybudd statudol heddiw yn dilyn arolygiad y gwasanaethau cymdeithasol o'r gwasanaethau plant ym Mhowys. Ceir cynnwys annymunol iawn yn yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd am hanner dydd heddiw. Os caf ddyfynnu paragraff allweddol i mi:
‘Roedd diffyg asesiad mewn achosion amddiffyn plant, diffyg asesiad ac adolygiad SERAF (fframwaith asesu'r risg o gam-fanteisio’n rhywiol), a oedd yn groes i'r canllawiau statudol, absenoldeb asesiad gofal a lles, a diffyg arolygiaeth gan reolwyr o'r achosion hyn.'
Yna mae'n dod i'r casgliad:
'Mae'r diffyg asesiad...wedi rhoi plant mewn perygl sylweddol.'
Perygl sylweddol. Mae eich Gweinidog wedi rhoi 20 diwrnod i awdurdod lleol Powys lunio cynllun ymyrraeth a gwella, ac mae pobl allanol ar gael, rwy'n deall, i'w helpu i wneud hynny. Ond pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi a'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli, yn yr 20 diwrnod hynny, y bydd y perygl sylweddol hwn yn cael ei ddileu ac y bydd plant a phobl ifanc Powys yn cael gofal priodol? A beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau rhywbeth arall sydd yn yr adroddiad hwn sy'n peri pryder mawr i mi, sef y diffyg ymrwymiad gwleidyddol i wasanaethau plant ym Mhowys?
Wel, materion i gyngor Powys yw’r rhain yn bennaf. Ceir swyddogaeth i Weinidogion wrth gwrs, a byddaf yn dod at hynny, ym Mhowys, ac mae'n dangos—. Nid wyf yn anghytuno â'r hyn y mae'r adroddiad wedi ei ddweud o ran nad oes digon o ymrwymiad gwleidyddol i wasanaethau plant. Beth, felly, yw swyddogaeth y Llywodraeth? Rydym ni wedi cyflwyno’r hysbysiad rhybudd. Mae'n gam digynsail. Mae'n darparu'r trylwyredd a'r ysgogiad i sicrhau bod Powys yn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen i'w wasanaethau. Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn monitro, fel y byddwn ninnau, yn ofalus dros ben, ond gadewch i mi fod yn eglur: os na fyddwn yn gweld gwelliannau prydlon a pharhaus, byddwn yn ystyried mwy o ymyrraeth, a allai’n wir gynnwys cymryd swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod drosodd.
Rwyf innau hefyd wedi fy nychryn o ddarllen yr adroddiad hwn heddiw, ac mae’r cwbl mewn gwirionedd oherwydd diffyg arweinyddiaeth ymhlith y rheolwyr, ac mae'n amlwg y bu diffyg arweinyddiaeth wleidyddol. Rydym ni i gyd yn gwybod mai plant yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn aml, ac maen nhw'n haeddu o leiaf yr ymrwymiad gofynnol yn y ddarpariaeth o wasanaethau, fel y mae'r staff. Ceir staff sy’n gweithio yn y maes hwn ym Mhowys heddiw yn gwneud eu gorau glas i wneud gwaith da, ac eto maen nhw’n cael eu tanseilio'n llwyr, yn ôl yr adroddiad hwn, gan y diffyg buddsoddiad ynddyn nhw ac yn y gwasanaethau hynny y maen nhw’n ceisio eu darparu. Felly, fy nghwestiwn i chi, Prif Weinidog, yw a wnewch chi gefnogi'r alwad i gynghorwyr Powys gael trefn ar bethau o’r diwedd, rhoi'r gorau i siarad a gweithredu ar y cyd er lles y plant. Hefyd, y cwestiwn nesaf, yn dilyn hynny: os yw'n wir na all y cyngor brofi eu bod nhw’n cymryd y camau priodol yn yr amserlen a roddwyd iddyn nhw gan y Gweinidog, a fydd yn wir y bydd y Llywodraeth yn symud i mewn ac yn cyfarwyddo'r gwasanaethau hynny i ddarparu ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed ym Mhowys?
Yn y pen draw, wrth gwrs, mae'n agored i ni fel Llywodraeth gymryd drosodd swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn ddewis os bydd yr awdurdod yn methu â chyflawni o dan delerau'r hysbysiad rhybudd, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ei fonitro'n agos dros y dyddiau nesaf. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau y bydd hyn yn derbyn sylw llwyraf Llywodraeth Cymru ac AGGCC, ac ni fydd unrhyw ddewis yn cael ei ddiystyru os na cheir cydymffurfiad.
Prif Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol am achos trist Seren Bernard yn fy etholaeth i a laddodd ei hunan yn 2012 tra’r oedd o dan ofal gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro. Fe welais i ei mam hi rai wythnosau’n ôl i drafod adroddiad Cyngor Sir Penfro i mewn i’r achos, ac nid yw’r adroddiad yma, mae’n debyg, yn cael ei gyhoeddi oherwydd rhesymau cyfreithiol. Mae yn bwysig bod materion fel hyn yn cael eu delio â nhw mewn ffordd agored, mewn ffordd dryloyw, er mwyn bod gwersi yn cael eu dysgu gan yr awdurdodau. Felly, yn dilyn cwestiwn Simon Thomas, pa ganllawiau penodol ŷch chi fel Llywodraeth yn eu cyhoeddi i awdurdodau lleol mewn achosion fel hyn i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu er mwyn diogelu mwy o blant yn y dyfodol?
Byddwn i’n annog yr awdurdod i ystyried cyhoeddi’r adroddiad, efallai drwy dynnu’n ôl rhai rhannau o’r adroddiad. Rŷm ni’n gwneud hyn fel Llywodraeth, ond rŷm ni’n dechrau o’r safbwynt lle rŷm ni’n edrych i gyhoeddi. Nid yw e’n bosib, am resymau cyfreithiol, rwy’n deall, i gyhoeddi popeth, ond mae’n hollbwysig nad yw’r awdurdod yn dweud, ‘Rŷm ni’n ffaelu cyhoeddi dim byd o achos rhesymau cyfreithiol.’ Felly, byddwn i’n annog sir Benfro i ystyried hyn unwaith eto, i gyhoeddi beth maen nhw’n gallu, ac, wrth gwrs, i dynnu’n ôl beth sy’n broblematig yn gyfreithiol.
Cod Ymddygiad Swydd y Prif Weinidog
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa god ymddygiad sy'n gymwys i swydd y Prif Weinidog? (OAQ51218)
Y cod gweinidogol.
Prif Weinidog, honnwyd gennych yn y Siambr hon y llynedd nad oes gan lobïwyr fynediad at Weinidogion y Llywodraeth. Roedd yn rhaid i chi newid eich safbwynt ar hynny pan ganfuwyd bod ganddynt. Honnwyd gennych eleni bod Gweinidogion Plaid Cymru wedi eu cysylltu rywsut â sgandal delio tir Llysfaen pan gollwyd £39 miliwn. Penderfynwyd ar y gwerthiant ar ôl i'r Blaid adael y Llywodraeth. Yn olaf, rhoesoch gyfweliad i’r 'South Wales Echo' am gynlluniau datblygu lleol, pryd y gwnaethoch chi honni na fyddwch chi byth yn gwneud sylwadau ar CDLlau na cheisiadau cynllunio a'r rheswm pam yr ymddangosodd y stori yn y papur yn y modd hwnnw oedd oherwydd mai fi oedd wedi ei rhoi yno, a’i geirio felly. Mae hwnnw’n honiad gwirioneddol ddifrifol, i gwestiynu uniondeb newyddiadurwr yn y fath fodd, ac nid oes gen i unrhyw ddylanwad o gwbl dros y 'South Wales Echo'. Mae angen i chi gael eich dwyn i gyfrif a chael eich ymchwilio'n iawn. Felly, gan na wnewch chi fy ateb mewn unrhyw ffordd arall, rwy'n gofyn i chi nawr, o flaen pobl Cymru: a wnewch chi atgyfeirio eich hun yn wirfoddol i gael eich ymchwilio o dan god ymddygiad y gweinidogion fel y gwnaeth Alex Salmond yn 2012? A ydych chi’n ddigon dewr i wneud hynny?
Gadewch i mi weld. Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ei swydd fel gwleidydd. Nid yw wedi gwneud yn dda o ran gwneud honiadau—honiadau gwyllt—yn y llysoedd yn y gorffennol. Mae wedi canfod ei hun mewn sefyllfa lle mae'r ombwdsmon wedi ei ddisgyblu, os cofiaf yn iawn, o ran ei ymddygiad fel cynghorydd, ac mae wedi cael ei ddiarddel o grŵp ei blaid ei hun. A gaf i awgrymu ei fod yn edrych yn ofalus iawn ar ei hun yn gyntaf cyn beirniadu unrhyw un arall?
Digwyddiadau Pride
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau Pride yng Nghymru? (OAQ51219)
Gwnaf. Rydym ni wedi darparu cyllid i Blaid Cymru ers blynyddoedd lawer—Pride Cymru, dylwn i ddweud—gan gynnwys eleni, er gwaethaf—[Torri ar draws.] Er gwaethaf pwysau cyllidebol. Mae digwyddiadau Pride yn cynnig cyfleoedd i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ac eraill gael mannau diogel, hygyrch i ddathlu.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy’n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Pride Cymru. Gobeithio y byddwn yn gweld y digwyddiad hwn yn mynd o nerth i nerth, ac, un diwrnod yn y dyfodol agos, yn cynnal Europride yma yn y brifddinas. Mae digwyddiadau Pride ledled Cymru, wrth gwrs, yn cynnig cyfle i'r gymuned pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, ein ffrindiau a'n cefnogwyr ddod at ei gilydd i ddathlu mewn lle sy'n ddiogel i ni fod yn ni ein hunain. Ond, er na ddylem ni fod yn hunanfodlon, mae Pride yn ein galluogi i gael cyfle i ddangos cefnogaeth ac undod â phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, ac yn enwedig pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Dyna pam rwy’n falch, eleni, ein bod ni, yn fy etholaeth i, wedi cynnal y digwyddiad Balchder Sir y Fflint cyntaf erioed. Rwy’n hynod o falch i ddweud nawr bod Balchder Sir y Fflint wedi ennill statws elusennol yn ddiweddar. Rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi gofyn i mi fod yn noddwr, ochr yn ochr ag Andy Bell o Erasure, felly rwy'n gobeithio y bydd Balchder yn sicrhau nad ydynt yn cymysgu pwy sy'n siarad a phwy sydd i fod i ganu. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Balchder Sir y Fflint ar ennill y statws elusennol hwn? Wrth gwrs, byddai'n wych pe gallech chi ymuno â ni ar 9 Mehefin y flwyddyn nesaf, wrth i ni ddathlu amrywiaeth ac anfon neges o obaith yn ein cymunedau.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwahoddiad, y byddaf, wrth gwrs, yn ei ystyried? A gaf i ddweud bod y Llywodraeth wedi cynnal stondin yn nigwyddiad Balchder Sir y Fflint ym mis Mai. Roedd hi'n galonogol gweld digwyddiad mor gadarnhaol, mor llwyddiannus lle’r oedd cymaint yn bresennol. Teithiodd pobl o bob cwr, a dweud y gwir, i fynd yno, deallaf. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i gefnogi digwyddiadau Balchder er mwyn dathlu, ac ymladd y rhai sy'n annog rhaniadau yn ein cymdeithas.
Prif Weinidog, roeddwn i wrth fy modd o gael cymryd rhan yng ngorymdaith Pride gyntaf Caerdydd ychydig flynyddoedd yn ôl. Doeddwn i ddim yn dod allan, gyda llaw; cynrychioli fy mhlaid oeddwn i. Roedd yn ddigwyddiad gwych, fel y mae'r mudiad Pride ei hun. Yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Hannah Blythyn, mae'r digwyddiadau hyn—ac rwy'n croesawu Balchder Sir y Fflint—yn tueddu i fod yn gysylltiedig, neu wedi bod yn y gorffennol, â dinasoedd ac ardaloedd trefol, sy'n wych cyn belled ag y mae'n mynd. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o gynyddu amrywiaeth a pherthnasedd Pride ar draws pob rhan o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, fel y gall pobl o bob cwr o'r wlad elwa ar ysbryd Pride a'r rhyddid y mae'n ei gynnig?
Mae'r Aelod yn iawn. Mae wedi tueddu i gael ei leoli’n drefol, a bydd y Gweinidog, rwy'n siŵr, eisiau gweithio gyda sefydliadau fel Pride Cymru i weld sut y mae'n bosibl cynyddu nifer y digwyddiadau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Gellir cyflawni hynny, rwy'n siŵr, gan weithio gyda'r sefydliad, gydag amser.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae gwyl ffilm Gwobr Iris wedi bod yn cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd. Mae’n cynrychioli’r wobr ffilm hoyw fwyaf yn y byd, a’r wobr ffilm fer fwyaf o unrhyw fath. A gaf i ofyn i’r Prif Weinidog longyfarch y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr am eu llwyddiant? Dylwn i ddatgan buddiant: roeddwn i yno am y rhan fwyaf o’r wyl, ac mae’n cael ei chynnal gan gyfaill imi. A gaf i ofyn: beth yn fwy y gallwn ei wneud i helpu gwyl Iris i ymestyn ei neges o falchder ar draws Cymru, fel y clywsom ni, gan feddwl yn arbennig am y Cymry Cymraeg hefyd, lle mae yna waith i’w wneud, rwy’n credu, o asio’r cwestiwn o falchder o ran rhywioldeb a hefyd balchder yn ein hiaith a’n diwylliant ni?
Well, it was a pleasure to hear of that success, and we wish to ensure that we work with the organisers to see how we can enhance the event itself and the influence of that festival and how it can grow. And so I would be very happy to receive any kind of correspondence to see how we can help to build on the ideas contained in that correspondence.
Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y tasglu gweinidogol ar gyfer cymoedd y de? (OAQ51222)
Cyhoeddodd y tasglu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ym mis Gorffennaf, gan nodi tair thema: swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, gwasanaethau cyhoeddus gwell, a fy nghymuned. Yn dilyn trafodaethau pellach gyda chymunedau, awdurdodau lleol, busnesau a phartneriaid darparu, bydd cynllun cyflawni manwl yn cael ei gyhoeddi ar 7 Tachwedd.
A gaf i longyfarch y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC, am y ffordd frwdfrydig ac egnïol y mae wedi lansio ei dasglu Cymoedd gweinidogol? Mae'r tasglu wedi datgan y bydd hefyd yn archwilio cysyniad parc tirlun y Cymoedd i helpu cymunedau lleol i adeiladu ar lawer o asedau naturiol, gan gynnwys y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni cymunedol a thwristiaeth. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r potensial y mae Llywodraeth Cymru yn ei weld o ran cynorthwyo cymunedau Islwyn i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn mwynhau llwybr gyrru coedwig Cwmcarn â’i olygfeydd godidog? A gaf i hefyd wahodd y Prif Weinidog yn bersonol i ddod gyda mi i ymweld â llwybr gyrru coedwig Cwmcarn a mwynhau un o ryfeddodau niferus Cymru?
Rwyf wedi bod, a dweud y gwir, yn llwybr gyrru’r goedwig, yn fy swydd flaenorol fel Gweinidog rai blynyddoedd yn ôl erbyn hyn. Wrth gwrs, bu ar gau am gyfnod hir, fel y gwyddom, a oedd yn anodd iawn i'r gymuned leol. Mae'n ased gwych i'w hetholaeth, ac yn un sy'n denu llawer iawn o ymwelwyr. Mae'r Gweinidog a minnau wedi trafod y parc tirlun, ac rydym ni’n ystyried ffyrdd o ran sut y gallem ni fwrw ymlaen â hynny. Mae'n syniad da. Mae'n gwestiwn nawr o weld sut y gallwn ni ddatblygu’r syniad hwnnw i ddarparu budd, nid yn unig i’w hetholaeth hi, ond i'r holl gymunedau sydd wedi’u lleoli ar hyd y Cymoedd gogleddol.
Tai o Ansawdd
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu digon o dai o ansawdd yng Nghymru? (OAQ51177)
Un o'r newidiadau yr wyf i wedi bod yn falch ohonyn nhw dros yr 20 mlynedd diwethaf yw bod safon tai cyhoeddus cystal, os nad yn well na rhai tai preifat erbyn hyn—roedd adeg, wrth gwrs, pan ellid adnabod tai cyngor drwy’r ffaith eu bod yn aml wedi eu hadeiladu i safon is nag unrhyw le arall—ac mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddo. Mae safon ansawdd tai Cymru yn hynod bwysig o ran sicrhau gwelliannau i gartrefi sy'n bodoli eisoes ac, wrth gwrs, ynghyd â'r rheoliadau adeiladu, maen nhw'n ein helpu i ddarparu tai fforddiadwy gwell i bobl ar gyfer y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Wrth gwrs, roedd tai cyngor yn cael eu hadeiladu i safon uchel iawn tan i'r Ceidwadwyr gael gwared ar safonau Parker Morris.
A gaf i ddweud bod rhai o'r tenantiaid a’r cynghorau mwy goleuedig yng Nghymru yn cefnogi cadw stoc tai cyngor yn nwylo'r cyngor? Pa gefnogaeth wnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i gynghorau fel Dinas a Sir Abertawe, sy'n dechrau adeiladu tai cyngor unwaith eto?
Wel, mae ef a minnau wedi bod ar y safle, wrth gwrs, ar safleoedd yn Abertawe lle mae cartrefi cyngor yn cael eu hadeiladu. Gwahoddwyd awdurdodau tai lleol i gyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol o dan y rhaglen dai arloesol newydd, sy'n hyrwyddo arloesedd mewn technegau adeiladu tai, dylunio, darparu, ac, wrth gwrs, mae arian yn cael ei roi ar gael drwy'r grant tai fforddiadwy. Ond rwy'n sicr yn llongyfarch cyngor Abertawe ar yr arweinyddiaeth y maen nhw wedi ei dangos o ran adeiladu tai cyngor unwaith eto.
Ac yn olaf, cwestiwn 10, Sian Gwenllian.
Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd? (OAQ51216)[W]
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo cynlluniau i greu uned fasgwlaidd arbenigol ar gyfer y gogledd, yn Ysbyty Glan Clwyd. Nid oes dim cynlluniau i gau unrhyw adrannau fasgwlaidd eraill, a bydd y bwrdd iechyd yn parhau i drin cleifion sydd ag anghenion nad ydynt yn gymhleth ym mhob un o dri ysbyty’r gogledd.
A’r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, mae’r gair olaf ar ddyfodol un o wasanaethau hanfodol Ysbyty Gwynedd yn gorwedd gyda’ch Llywodraeth chi. Y bwriad ydy symud y gwasanaeth fasgwlaidd brys i ffwrdd o Fangor. Felly, petai damwain yn digwydd yn Aberdaron a bod person angen sylw brys am ei fod o’n gwaedu’n ddifrifol, byddai’n rhaid iddo deithio 72 o filltiroedd—awr a thri chwarter—i gael triniaeth. Mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu gwario dros £2 filiwn ar theatr newydd er mwyn creu un uned fasgwlaidd newydd. A ydy hynny’n werth da am arian pan fo yna ddwy uned fasgwlaidd sydd ymhlith y goreuon ym Mhrydain eisoes ym Mangor ac yn Wrecsam? A wnaiff eich Llywodraeth chi ymyrryd a sicrhau bod synnwyr cyffredin yn ennill y dydd, fel bod yna wasanaeth o’r radd flaenaf ar gael i bobl ym mhob cwr o’r gogledd?
Mi oedd yna adolygiad o hwn, os cofiaf i. Un o’r pethau yr oedd yn ei ddweud oedd bod rhaid cael un uned arbenigol. Rŷm ni wedi dadlau pethau fel hyn o’r blaen yn y Cynulliad lle mae pobl yn erbyn symud rhai gwasanaethau o un ysbyty i’r llall. Ond beth sy’n digwydd yw bod y canlyniadau’n well. Fe welon ni hwn, er enghraifft, gyda llawfeddygaeth ‘colorectral’, pan symudodd honno o Fronglais i Gaerdydd. Roedd y canlyniadau yn well o achos hynny. Rŷm ni’n gwybod ei bod yn rhywbeth sydd ddim yn cael cefnogaeth pawb, ond mae’n rhaid sicrhau bod gan bobl y gogledd yr un fath o fynediad i adran arbenigol â phawb arall. Bydd 80 y cant o gleifion yn dal i gael eu triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, ond, wrth gwrs, i’r rheini sy’n fwy cymhleth—efallai chwe achos yr wythnos yw’r ‘estimate’ ar hyn o bryd—bydden nhw’n cael triniaeth mewn ysbyty arbenigol er mwyn cael gwell ganlyniadau.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf felly yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud y datganiad hynny. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i'w wneud i fusnes yr wythnos hon, ac mae busnes y tair wythnos nesaf wedi’i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad sydd ymysg papurau’r cyfarfod ac sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ddau ddatganiad os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Un mewn cysylltiad â chynigion Llywodraeth Cymru ynghylch ymestyn ffordd gyswllt dwyrain y bae, sef y rhan sydd ar goll o'r rhwydwaith ffyrdd o gwmpas Rover Way ac sy’n ymuno â'r hen A48 a'r M4. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog dros drafnidiaeth neu Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ystyried cyhoeddi datganiad i nodi pa gynnydd a wnaed wrth weithio ar y cynigion, ac yn benodol pwy oedd â rhan yn y cynigion hynny, a pha un a oes gan y Llywodraeth amserlen ar gyfer cyflawni'r rhan bwysig hon o'r seilwaith trafnidiaeth i gau’r bwlch hwn sy’n bodoli o gwmpas dinas Caerdydd.
Mae’r ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd mewn cysylltiad â'r llosgydd yn y Barri. Rwy’n gwybod bod hwn yn fater yr ydych chi fel Aelod etholaethol yn gyfarwydd iawn ag ef, ond byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu cyhoeddi datganiad i amlinellu'n union y rhan y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae wrth benderfynu ar y drwydded mewn cysylltiad â’r llosgydd, lawr yn nociau'r Barri. Yn hollbwysig, a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu mynnu cael asesiad o’r effeithiau amgylcheddol, na ofynnwyd amdano ar ddechrau'r broses gynllunio? Os yw hynny'n wir, a all y cais gael ei ohirio nes bod yr ymgeisydd wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol hwnnw? Ond yr hyn sy’n bwysicach yw cael amserlen glir a dealltwriaeth o'r canllawiau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu dilyn ar y cais pwysig hwn, sydd yn amlwg o ddiddordeb mawr yn yr ardal leol.
Diolch, Andrew R.T. Davies. Wrth gwrs, o ran ymestyn ffordd gyswllt dwyrain y bae, rwy'n credu y dylem groesawu'r cysylltiad sydd gennym ni nawr drwy ffordd gyswllt dwyrain y bae. Mae'n cael effaith enfawr, fel yr oeddem ni’n gwybod y byddai, o ran y buddsoddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae'r holl gynlluniau trafnidiaeth yn ddarostyngedig i'r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol, a hefyd, wrth gwrs, i’r cyllid sydd ar gael—y cyllid hollbwysig—sydd, wrth gwrs, fel yr wyf yn siŵr y byddech yn ei gydnabod, angen cefnogaeth. A fyddwch chi’n gwneud y cais hwn i Philip Hammond, tybed, o ran ei ddatganiad sydd i ddod? Oherwydd yn sicr mae angen mwy o arian arnom ni ar gyfer seilwaith trafnidiaeth yma yng Nghymru. Eich cyfle chi yw hwn, Andrew R.T. Davies, fel arweinydd yr wrthblaid.
O ran eich ail bwynt, yn amlwg mae'n fater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ystyried a yw datganiad yn briodol. Rwy’n ymwneud yn sylweddol, fel Aelod Cynulliad, â grŵp gweithredu’r llosgydd, ac a dweud y gwir rwy'n cadeirio cyfarfod yr wythnos hon rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac aelodau grŵp gweithredu’r llosgydd, ac mae gennym ni nifer o gyfarfodydd ar y gorwel. Yn wir, fe wnes i gadeirio cyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru a'r grŵp gweithredu ym mis Medi, ac rwy’n credu ei bod yn debygol mai dyna’r cyfan y gallaf cymaint ei gyfrannu fel Aelod Cynulliad ac fel arweinydd y tŷ. Ond mae'n amlwg mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n penderfynu ar hyn o bryd ar gais am drwydded amgylcheddol.
Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, arweinydd y tŷ, fod llawer ohonom ni sy'n cynrychioli Sir Benfro wedi bod yn gefnogwyr brwd i apêl baner ward 10 Elly. Mae hon yn ymdrech codi arian wych dan arweiniad merch saith oed, neu wyth oed erbyn hyn o bosibl, sydd wedi codi dros £120,000 ar gyfer ward 10 a chleifion canser yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae'n ymdrech gymunedol ragorol yn ogystal ag ymdrech i’w chefnogi hi. Rwy'n deall erbyn hyn bod yr achos busnes ffurfiol ar gyfer defnyddio'r cronfeydd hyn a chronfeydd cyfalaf eraill gan Lywodraeth Cymru wedi'i gytuno gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda, ac yna wedi’i drosglwyddo i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo'n ffurfiol. Nid wyf yn disgwyl cyhoeddiad ar hynny heddiw, ond hoffwn gael ymrwymiad gan y Llywodraeth y bydd naill ai yn rhoi datganiad ysgrifenedig neu’n ysgrifennu at Aelodau sy'n cynrychioli Sir Benfro ac sydd â diddordeb yn Ysbyty Llwynhelyg, i ddweud wrthym beth yw canlyniad y broses hon, ac yn sicr hoffwn annog y Llywodraeth i ystyried yr achos busnes hwn yn llawn nawr, ac rwy’n gobeithio’n fawr, i roi ei chymeradwyaeth fel y caiff yr ymdrech codi arian leol hon, dan arweiniad y disgybl ysgol ifanc arbennig hon, ei gwobrwyo'n wirioneddol, a’n bod ni’n gweld y cynnydd hwnnw yn Llwynhelyg.
Wel, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn ymuno â chi, Simon Thomas, wrth longyfarch yr enghraifft wych hon o berson ifanc yn cymryd awenau yr ymgyrch hon—apêl baner Elly ar gyfer ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae'n amlwg yn gwneud cynnydd o ran yr achos busnes, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sydd yma, wedi clywed eich cais am yr wybodaeth ddiweddaraf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n digwydd.
Rwy’n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar drafnidiaeth o fewn Dinas Ranbarth Bae Abertawe. Dylai'r datganiad hwn gynnwys cyfnewidfeydd bws-rheilffyrdd, sydd eu hangen yn daer; ailagor gorsafoedd rheilffordd sydd wedi cau megis gorsaf Glandŵr ac agor gorsafoedd rheilffordd newydd fel y Cocyd; gwell cysylltiadau ffordd, yn enwedig creu ffordd ddeuol yr A40; a gwell llwybrau beiciau, fel y gellir cau rhai o'r bylchau yn y rhwydwaith beiciau.
Mae Mike Hedges yn codi pwyntiau pwysig ynglŷn â chysylltedd trafnidiaeth. Rwyf newydd sôn am y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Mewn gwirionedd, unrhyw fesur ar gyfer gwella ein seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru gyfan—. Yn amlwg, mae Dinas Ranbarth Bae Abertawe yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol hwnnw. Ac wrth gwrs, mae'r ffaith bod arian eisoes ar gael drwy'r gronfa drafnidiaeth leol i Ddinas a Sir Abertawe yn bwysig ar gyfer ffordd ddosbarthu'r Morfa, coridor Ffordd Fabian yr A483, a £115,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i ddatblygu'r cysyniad arfaethedig ar gyfer metro de-orllewin Cymru, ac yn wir cyllid ar gyfer cynllun cyswllt Kingsbridge. Ac rydym wedi lansio ein cronfa rhwydwaith trafnidiaeth lleol newydd yn ddiweddar, sy'n cynnwys £1 filiwn ar gyfer coridorau bws strategol a chanolfannau trafnidiaeth gyhoeddus yn Abertawe.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl. Hoffwn ofyn i ddatganiad gael ei gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar adroddiadau bod bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, sydd yn destun mesurau arbennig y Llywodraeth, yn mynd i orwario rhyw £50 miliwn eleni. Credaf fod hwn yn fater o bryder mawr ac yn cael effaith enfawr ar weddill GIG Cymru. Pe byddem yn adio’r holl ddiffygion a ragwelir at ei gilydd, bydd gennym ni ddiffyg o £137 miliwn yn GIG Cymru, o fewn rhyw £1 filiwn yma ac acw. Gallai'r effaith bosibl y gallai hyn ei gael ar y cyhoedd fod yn ddinistriol. Rydym ni’n agosáu at y gaeaf gyda phwysau'r gaeaf, a chredaf fod hwn yn faes a fyddai o fudd mawr i ni, pe gallem gael ychydig o drafodaeth ar hyn, i gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, o’i safbwynt hi a'r hyn y byddai’n hoffi ei weld digwydd o ochr y byrddau iechyd, a sut y gallwn ni liniaru'r effaith ddinistriol y byddai'r argyfwng ariannu hwn yn ei chael.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano yw datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd ar yr adroddiad ar wasanaethau plant yng Nghyngor Sir Powys. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd wedi ein brawychu gan yr adroddiad hwnnw ac rwy’n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi briff arno heddiw. Unwaith eto, credaf ei bod er budd y cyhoedd i gael datganiad fel y gall rhai o'r cwestiynau y mae rhai o'r Aelodau Cynulliad eraill wedi'u codi mor berthnasol y bore ’ma, gael eu harchwilio'n briodol. Hoffwn ddweud wrthych chi, arweinydd y tŷ, fod yna gynsail ar gyfer cyflwyno datganiadau pan fo cyngor lleol yn cael ei roi mewn rhyw fath o drallod gan Lywodraeth Cymru. Cafodd cynsail ei osod pan wnaeth Gwenda Thomas, y Gweinidog ar y pryd, roi Abertawe mewn mesurau arbennig. Dyma'r rhybudd cyntaf o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a byddai'n amserol inni allu gweld sut y mae’r Ddeddf honno yn gallu gweithio, ac, unwaith eto, credaf y byddai'n helpu trafodaethau cyhoeddus ar fater arbennig o sensitif arall sydd er budd y cyhoedd.
Diolch i Angela Burns am y ddau gwestiwn hynny. Efallai, mewn ymateb i'r un cyntaf, y gallwn i achub ar y cyfle i egluro na fydd Betsi Cadwaladr yn gorwario £50 miliwn eleni, ond mae'r bwrdd wedi nodi risg sylweddol na fyddant o bosibl yn cyflawni’r diffyg o £26 miliwn y maent wedi’i gynllunio. Ond maen nhw'n defnyddio eu trefniadau llywodraethu yn briodol i fynd i'r afael â hyn. Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod y risg ac maent wrthi’n cwblhau cynllun adfer ariannol i sicrhau eu bod yn cyflawni'r diffyg o £26 miliwn, sy'n cynrychioli cyfanswm rheoli. Bydd y camau hyn yn gwella eu rhagolygon yn sylweddol. Hefyd, a gaf i ychwanegu at y pwynt hwn, mewn ymateb i'ch cwestiwn, yn rhan o drefniadau’r mesurau arbennig, mynegodd swyddogion, ers mis Awst, bryderon am y perfformiad ariannol hyd yn hyn a'r effaith bosibl ar y diffyg a ragwelwyd. Maen nhw wedi cael cyfarfodydd uwchgyfeirio ychwanegol â swyddogion gweithredol y bwrdd iechyd ar berfformiad a chyllid ac mae adolygiad llywodraethu ariannol annibynnol wedi'i gomisiynu, a bydd hynny'n ymdrin â’r gwaith o ddatblygu, a mabwysiadu cynllun ariannol 2017-18 a’i berfformiad, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â Phrif Weithredwr GIG Cymru, wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Betsi Cadwaladr. Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi ymateb cadarn i chi i'ch cwestiwn.
O ran eich ail gwestiwn, a godwyd â'r Prif Weinidog gan Simon Thomas hefyd, mae'n bwysig inni rannu a datgan yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud mewn ymateb i adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar ddiogelu plant ym Mhowys. Rydych chi'n gwybod bod y Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Rwy'n credu ei bod hi'n debygol o fod wedi’i gyhoeddi erbyn hyn, ac mae'r datganiad hwnnw wedi amlinellu'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â rhan A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sydd wedi arwain at gyhoeddi rhybudd i Gyngor Sir Powys heddiw. Mae hynny'n nodi yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan Gyngor Sir Powys, o ran mynd i'r afael â'r pryderon difrifol a godwyd yn adroddiad arolygu AGGCC. Mae'r nodyn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw. Mae’n rhaid i Bowys gyflwyno cynllun gwella o fewn 20 diwrnod, a bydd y Gweinidog yn adrodd yn ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymhen 90 diwrnod.
Rwyf hefyd yn mynd i ofyn am ddau ddatganiad. A’r un cyntaf yr hoffwn ei gael, arweinydd y tŷ, yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch pa un a fydd yn ystyried edrych ar gynyddu'r term mwyaf o garchar am gam-drin anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gynyddu uchafswm y ddedfryd carchar y gall ynadon ei rhoi i bum mlynedd, a chredir y bydd Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn cael ei defnyddio fel mandad dros newid ar gyfer cynyddu dedfrydau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu dau erlyniad llwyddiannus yn fy etholaeth i, lle mae bridwyr cŵn bach wedi eu cael yn euog o greulondeb ac esgeulustod. Roedd yr anifeiliaid hynny yn cael eu cadw dan yr amodau mwyaf erchyll heb hyd yn oed y gofal mwyaf sylfaenol, ac fe wnaethon nhw ddioddef yn ofnadwy. Ond yr hyn a’m tarodd i oedd, er gwaethaf y dioddefaint ofnadwy a achoswyd, y ddedfryd hiraf a roddwyd oedd dim ond pum mis. Yr unig ddedfryd arall a roddwyd oedd dedfryd o naw wythnos wedi’i gohirio am ddwy flynedd. Rwy’n credu bod y dedfrydau hynny'n rhy drugarog o lawer, a chredaf fod angen inni fynd i'r afael â'r mater hwn ar frys os ydym ni o ddifrif ynghylch bod yn wlad sy'n diogelu anifeiliaid.
Yr ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano yw datganiad ar gaethwasiaeth neu fasnachu pobl. Fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl yn y Cynulliad, a chawsom gyfarfod cyntaf y tymor y bore ’ma, a daeth nifer helaeth o arbenigwyr o bob cwr o Gymru iddo. Maen nhw’n darparu'r arbenigedd i geisio rhoi terfyn ar fasnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern, sy’n drosedd ffiaidd, ac maen nhw hefyd yn darparu cymorth i ddioddefwyr, sy'n helpu i gefnogi'r dioddefwyr hynny, ond hefyd yn helpu'r dioddefwyr hynny i adrodd eu hanesion, fel bod y rhai sy’n cyflawni’r drosedd ffiaidd hon yn cael eu herlyn yn y pen draw.
Yr oeddem ni, ac yr ydym ni o hyd—. Ni oedd y cyntaf, a ni yw’r unig wlad yn y DU o hyd sydd â chydgysylltydd atal caethwasiaeth cenedlaethol, ac nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli bod hynny'n dal i fod yn wir. Ac, yn y cyfarfod y bore ’ma, gwnaeth cydgysylltydd atal caethwasiaeth Cymru yn glir fod Cymru bellach yn gweld mwy o adroddiadau am gaethwasiaeth fodern nag erioed o'r blaen, ac yng Nghymru y mae’r nifer mwyaf o erlyniadau llwyddiannus. Rydym ni’n credu bod hynny oherwydd y cynnydd mewn adroddiadau o ganlyniad i'r ymwybyddiaeth well o’r mater hwn ar draws Cymru, ochr yn ochr â'r sesiynau hyfforddiant cynhwysfawr sy'n cael eu cyflwyno i ymatebwyr cyntaf a sefydliadau anllywodraethol ar yr hyn y mae angen iddyn nhw edrych arno, a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei ystyried wrth nodi dioddefwr posibl o gaethwasiaeth yn y lle cyntaf, neu sut i ymateb iddynt. Ac, unwaith eto, roedd yn wir bod y dioddefwyr hynny yn fwy tebygol o rannu eu hanesion â'r sefydliadau anllywodraethol, ac nid â’r awdurdodau, pan fyddant yn dod ymlaen, gan nad ydynt yn sicr yn ymddiried yn yr awdurdodau y daethant ohonynt.
Ond y mater arall, a’r mater sy’n gorgyffwrdd a nodwyd yn glir y bore yma, yw'r angen i groesgyfeirio pan fod gennym ni ffoaduriaid sy'n chwilio am loches, yn enwedig os ydyn nhw’n blant dan oed sydd ar eu pen eu hunain, ac yn debygol o gael eu targedu gan fasnachwyr caethweision—os nad ydyn nhw eisoes yn nwylo’r masnachwyr caethweision erbyn iddyn nhw gyrraedd. Ac rydym ni i gyd yn gwybod ein bod ni wedi cefnogi'r cytundeb Dubs yma yng Nghymru, ac eto mae'n wir mai ychydig iawn o blant sydd wedi dod yn ddiogel i'r DU, ac eto mae Cymru'n parhau’n agored i'r cais hwnnw.
Diolch, Joyce Watson. A gaf i ddweud, o ran ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, fod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bod grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid, yn amlwg, yn dangos yr ymrwymiad hwnnw? Rydym wedi nodi cyhoeddiad yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o ran cynyddu’r ddedfryd uchaf ar gyfer creulondeb anifeiliaid yn Lloegr o chwe mis i bum mlynedd. Rydym ni’n ymwybodol o Lywodraeth yr Alban hefyd, o ran eu hymrwymiad nhw.
Ond, unwaith eto, gadewch i ni ddychwelyd i'n hymrwymiad ni fel Llywodraeth Cymru, mae'r ffordd yr ydym ni’n trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas. Dylid gwarchod anifeiliaid rhag poen, anaf, ofn a dioddefaint, a dylai'r rhai sy'n cyflawni'r creulondeb gwaethaf i anifeiliaid gael eu cosbi’n llym. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wrthi’n ystyried yr holl ddewisiadau ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau eglurder ar gyfer asiantaethau gorfodi, y llysoedd, a phobl Cymru.
Rwy'n falch iawn hefyd eich bod wedi dod â chwestiwn ar gyfer y datganiad busnes am y ffaith mai yfory yw Diwrnod Atal Caethwasiaeth. Rwy'n credu ein bod ni’n gwisgo'r bathodynnau heddiw, y rhai ohonom ni sydd efallai wedi ymwneud â hyn. Rwy'n credu y dylem dalu teyrnged i Joyce Watson am ei gwaith, yn ôl yn 2010, wrth iddi lunio adroddiad ar fasnachu pobl, ac o ganlyniad uniongyrchol i hynny, daeth Llywodraeth Cymru yn wlad gyntaf, ac yn anffodus unig wlad y DU, i benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth. Ac mae'n dda clywed bod cynifer o bobl wedi dod i’ch cyfarfod y bore ’ma, gan dderbyn diweddariad arall, y cyfeiriais ato ddydd Gwener, yn narlith flynyddol Bawso, a oedd ar faterion masnachu pobl a hawliau dynol, ac roedd cynulleidfa dda yno wrth gwrs. Aeth ein cydgysylltydd atal caethwasiaeth i’r cyfarfod hwnnw i ateb cwestiynau. Mae gennym ni grŵp arweinyddiaeth atal caethwasiaeth Cymru, sy’n darparu arweiniad a chanllawiau strategol ar sut yr ydym yn mynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, a hefyd i ddarparu'r gefnogaeth orau bosibl i ddioddefwyr. Roedd rhan y trydydd sector yn glir iawn yno, o ran swyddogaeth arwain Bawso, a Chymorth i Fenywod, a'r sefydliadau eraill a oedd yno.
Ond hefyd rydym ni’n rhannu ac yn dysgu gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, comisiynydd atal caethwasiaeth annibynnol y DU, ac yn edrych ar—. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant —hyfforddiant ar y cyd dros dridiau ar gyfer uwch swyddogion ymchwilio gorfodi’r gyfraith, ac erlynwyr y Goron ac eiriolwyr y Goron. A hefyd gwnaethoch sôn am ffoaduriaid. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cefnogaeth i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru, a fydd yn helpu i liniaru'r risg bod pobl yn camfanteisio arnyn nhw. Felly, mae hyn yn ymwneud â’r ffaith bod ein gwaith ni wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a adroddwyd, fel yr ydych chi wedi sôn. A thrwy gael cyfraddau adrodd gwell y gallwn ni helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, a bod modd dwyn troseddwyr gerbron y llys.
Diolch i arweinydd y tŷ.
A’r eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Carl Sargeant.
Diolch, Llywydd, am y cyfle i wneud y datganiad hwn ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), a gyflwynais ddoe.
Mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â materion o ganlyniad i benderfyniad dosbarthu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r penderfyniad i newid dosbarth landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gorfforaethau cyhoeddus anariannol i bob pwrpas yn dod â benthyciadau preifat LCC i'r cyfrifon cyhoeddus. Mae'r Bil yn gosod darpariaethau a fydd yn caniatáu i'r SYG adolygu'r penderfyniad hwn er mwyn cynnal y trefniadau ariannu presennol ar gyfer LCC yma yng Nghymru. Mae LCC yng Nghymru yn darparu cyfanswm o oddeutu 141,000 o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy ac wedi chwarae rhan hanfodol mewn bodloni targed blaenorol Llywodraeth Cymru o 10,000 o dai fforddiadwy. Ariennir cyfran sylweddol o'u rhaglen ddatblygu trwy fenthyca o’r sector preifat i ategu'r cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd, y mae cryn angen amdanynt, a hynny yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Mae LCC wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 12,500 o'r cartrefi newydd hyn.
Llywydd, ym mis Medi 2016, ailgategoreiddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol LCC yn y cyfrifon cenedlaethol fel corfforaethau cyhoeddus anariannol. Gallai’r hyn a ellid ei ystyried yn benderfyniad cyfrifyddu technegol ar yr olwg gyntaf, mewn gwirionedd fod â chanlyniadau difrifol a phellgyrhaeddol. Mae'n golygu y bydd benthyciadau preifat LCC, sydd ar hyn o bryd yn £200 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd neu £1 biliwn dros y cyfnod, yn cael eu dosbarthu fel benthyca net y sector cyhoeddus a’u nodi fel cost yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru. Mae effaith penderfyniad y SYG yn sylweddol, ac os na fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth a bod LCC yn parhau i gael eu dosbarthu fel sefydliadau sector cyhoeddus, byddai'n rhaid i’w cyllid ar gyfer adeiladu cartrefi gystadlu â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Byddai'n rhaid i ni naill ai gynyddu gwariant Llywodraeth Cymru ar dai cymdeithasol gan oeddeutu £1 biliwn yn ystod tymor presennol y Cynulliad, gydag effeithiau difrifol ar ein hymrwymiadau gwario presennol, neu dderbyn y byddai LCC yn gallu darparu nifer sylweddol llai o dai fforddiadwy newydd ac ni fydden nhw’n gallu benthyca i fuddsoddi yn y stoc bresennol. Mae benthyca LCC hefyd yn cefnogi'r cyfraniadau cadarnhaol a wnânt i'r cymunedau y maen nhw’n gweithio ynddynt, gan gynnwys hyfforddiant, cyflogaeth, buddiannau cymdeithasol ac economaidd sylweddol yn lleol. Bydd ansicrwydd hefyd i gyllidwyr sydd wedi gwneud ymrwymiadau hirdymor i ariannu sector LCC annibynnol.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Y dewis arall yw cymryd camau i alluogi’r SYG i wrthdroi ei phenderfyniad dosbarthu, a fydd yn cynnal y trefniadau cyllido presennol a dyna pam yr wyf wedi cyflwyno Bil Rheoleiddio’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Mae’r SYG wedi gwneud penderfyniadau tebyg o ran landlordiaid cymdeithasol mewn rhannau eraill o'r DU. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth gydnaws, ar amserlen sy'n debyg i’n hamserlen ni, tra bod Senedd y DU eisoes wedi pasio deddfwriaeth gyda phwrpas tebyg i gwmpasu Lloegr, gyda rheoliadau cysylltiedig Llywodraeth y DU yn mynd drwy'r broses seneddol ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i sicrhau rhanddirymiad gan Drysorlys ei Mawrhydi tra ein bod yn cyflwyno'r newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol neu tra bod y SYG yn ailddosbarthu LCC y tu allan i ffiniau cyfrifyddu y sector cyhoeddus. Mae'r rhanddirymiad ar waith ar gyfer 2017-18, gan sicrhau nad oes unrhyw effaith gyllidebol yn y flwyddyn ariannol hon. Mae Trysorlys EM wedi cadarnhau na fydd Cymru yn cael ei thrin yn llai ffafriol na Lloegr tra bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu'n llawn, fel ag y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Trysorlys EM, er hynny, yn disgwyl gweld cynnydd wrth gyflwyno deddfwriaeth er mwyn galluogi’r SYG i wrthdroi ei phenderfyniad.
Y rheswm dros benderfyniad y SYG yw bod LCC o dan reolaeth llywodraeth ganolog a lleol, trwy ddarpariaethau a nodir yn Neddf Tai 1996 yn bennaf. Felly, mae cwmpas y Bil wedi'i gyfyngu i ymdrin â'r rheolaethau a nodwyd gan y SYG yn unig a newid dim ond digon arnynt i ddiwallu gofynion y SYG, gan sicrhau bod nod y Bil, gan ganiatáu i’r SYG ailddosbarthu LCC a chynnal trefniadau ariannu presennol, yn cael ei gyflawni. Mae'r Bil yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud â chael gwared ar dir gan LCC yn ogystal â rhai newidiadau cyfansoddiadol a newidiadau i strwythurau LCC, dylanwad awdurdodau lleol ar LCC, a phryd y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau ynglŷn ag ymholiadau, gorfodi ac ymyrraeth o ran LCC . Rwyf eisiau bod yn glir: ni fydd y Bil yn arwain at sector tai cymdeithasol heb ei reoleiddio. Bydd rheoleiddio cadarn ac effeithiol yn parhau ar ôl i'r newidiadau a gynigir ganddo gael eu gwneud. Bydd Gweinidogion Cymru yn dal i allu gweithredu pan fo hynny'n briodol. Byddwn yn dal i gadw pwerau ymyrryd a gorfodi parhaus ac mae'r Bil yn egluro'r amgylchiadau pryd y gellid defnyddio'r rhain.
Ym mis Rhagfyr 2016, yn rhannol gan ragweld goblygiadau ailddosbarthu y SYG, cyflwynais fframwaith dyfarniad rheoleiddiol a safonau perfformiad newydd. Cyhoeddir dyfarniadau ar lywodraethu LCC, gan gynnwys gwasanaethau landlordiaid a hyfywedd ariannol o leiaf unwaith y flwyddyn, a bydd yn ofynnol i fyrddau LCC gyflwyno datganiad o gydymffurfiad blynyddol yn cadarnhau eu bod yn bodloni'r safonau perfformio. Felly, mae'r fframwaith rheoleiddio yn parhau i fod yn hynod o gadarn.
Trafodwyd y cynigion polisi a fersiwn ddrafft o'r Bil gyda'r SYG, ac mae’r SYG wedi penderfynu, os bydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol ar ei ffurf bresennol, ni fyddai holl ddylanwad y sector cyhoeddus a weithredir trwy’r Llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol a bodolaeth cytundebau enwebu, yn golygu rheolaeth o’r sector cyhoeddus. Felly, os caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu fel y'i cyflwynir, bydd y SYG yn gallu ailystyried ei hailddosbarthiad o LCC yma yng Nghymru.
Rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys tenantiaid, cyllidwyr, LCC a'u cyrff cynrychioliadol priodol, ers cyn cyhoeddiad y SYG y llynedd. Fe wnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion. Mae rhanddeiliaid allweddol yn deall yr angen am y Bil ac yn gyffredinol maen nhw wedi bod yn gefnogol iddo. Yn bwysicach fyth, Llywydd, efallai, mae rhanddeiliaid yn deall yr effaith debygol o beidio â deddfu'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei chynnig drwy'r Bil hwn.
Mae Aelodau'r Cynulliad ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi bod yn glir ynghylch yr angen i ddod o hyd i ateb sy'n galluogi’r SYG i ailddosbarthu LCC yng Nghymru yn ôl i'r sector preifat cyn gynted ag y bo modd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgorau ac Aelodau'r Cynulliad wrth inni ystyried y Bil a gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddiogelu darpariaeth tai da, fforddiadwy, o safon uchel yma yng Nghymru. Diolch.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Yn wir, yng ngoleuni ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r sector cyhoeddus, mae Plaid Geidwadol Cymru yn credu y dylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Yn amlwg, byddwn yn rhoi sylw manwl i'r manylion yn y pwyllgor, ond rwy’n credu mai’r farn wleidyddol gyffredinol yw bod yn rhaid datrys y mater hwn. Mewn gwirionedd, rwyf wedi galw am gynnydd mewn adeiladu tai a chynnydd o ran yr uchelgais i adeiladu tai, yn enwedig ar gyfer y sector fforddiadwy, ac wedi gwneud hynny'n glir dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a chroesawaf y Bil hwn, felly, fel ffordd i symleiddio'r broses bresenol a dileu rhwystr sydd bellach wedi'i ddwyn i'n sylw, er mor annisgwyl yw hynny. Byddai unrhyw gyfyngiad a osodir ar allu cymdeithasau tai yng Nghymru i fenthyca yn peryglu gallu'r Llywodraeth i gyflawni ei tharged o 20,000 o dai fforddiadwy, a byddai hynny'n cael effaith niweidiol ar y sefyllfa dai. Felly, mae gwir angen gweithredu yn y fan yma.
Rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cydweithio'n agos â'r SYG trwy gydol cyfnod y Bil ar ei wahanol gamau. Mewn gwirionedd, byddwn ni, ar ryw adeg yn ystod yr hydref hwn neu ddechrau’r gaeaf, yn clywed yr hyn y mae adolygiad y SYG ar gyfer Lloegr wedi’i benderfynu ac, wrth gwrs, fe ddarllenodd y Gweinidog ddatganiad gan y SYG, ond yn amlwg hyd nes ein bod yn gwybod bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ddigonol, rwy'n credu y byddem ni i gyd braidd yn nerfus. Felly, rwy'n siŵr y bydd yn bwysig iddo ef a'i adran fonitro cynnydd y Bil hwn yn ofalus.
Rwy'n credu bod y Bil, yn amlwg, yn gorfod bodloni pryderon y SYG, fel bod ailddosbarthiad yn bosibl, gan hefyd ddiogelu buddiannau rhanddeiliaid, yn enwedig tenantiaid. Gwn fod y Gweinidog wedi cyfeirio at hynny yn ei ddatganiad, ac rwyf eisiau sôn am ychydig mwy o fanylion yr wyf yn gobeithio y gallai ef ymateb iddyn nhw nawr, neu pan fyddwn yn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Y cyntaf yw dileu'r gofyniad am ganiatâd gwaredu. Nodaf, pan geisiwyd rhoi’r gofyniad hwn yn niben Gorchymyn Caniatâd Cyffredinol (Cymru) 2009, dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y gallai cais i Weinidogion Cymru ar gyfer gwaredu gael ei weld fel dull o ddiogelu tenantiaid. Felly, credaf ei bod hi’n rhesymol i ofyn i chi sut y bydden nhw’n cael eu hamddiffyn erbyn hyn os bydd y gofyniad hwnnw ar gyfer y caniatâd gwaredu yn cael ei ddileu.
Yna, os caf droi at bwerau rheoleiddio a gorfodi, mae angen i newid yn y rheoliad sicrhau bod digon o ffydd, rwy’n credu, y bydd benthycwyr a buddsoddwyr yn darparu'r cyllid sy'n hanfodol ar gyfer darparu tai cymdeithasol newydd pan nad yw’r Llywodraeth ganolog yn gallu darparu'r arian ei hun. Amlygwyd y ffactor hwn gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi yn yr ymgynghoriad, a mynegwyd pryderon y byddai’n rhaid i LCC fethu cyn y byddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn ei erbyn, a gallai hyn niweidio sector ehangach LCC Cymru gan achosi mwy o argraff o risg uchel ymhlith benthycwyr posibl. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog eisoes wedi ystyried yr ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw yn ofalus, ac rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol pe gallem glywed rhai o'i safbwyntiau a'i ymateb iddo.
Ac yna, yn olaf, y pŵer i gyflwyno pŵer newydd i leihau dylanwad awdurdodau lleol dros LCC yng Nghymru. Rwy'n nodi bod cefnogaeth fawr ar gyfer hyn; Rwy'n credu mai dim ond un awdurdod lleol a ddywedodd na allai gefnogi'r bil hwn. Ond unwaith eto, mae hyn wedi bod yn rhywfaint o amddiffyniad ar gyfer tenantiaid—wyddoch chi, efallai, aelodau'r awdurdod lleol o fyrddau cymdeithas tai, ac ati. Felly, sut y cedwir y cydbwysedd i ddiogelu buddiannau tenantiaid? Ond yn gyffredinol, rwy'n siŵr nad oes unrhyw un o'r materion hyn yn anorchfygol. Byddwn yn rhoi sylw manwl i'r agweddau ymarferol, ond byddwn yn cynnig pob cymorth i roi’r ddeddfwriaeth hon ar waith, os bydd hi’n addas i’w diben, i symud ymlaen.
Diolch i David Melding am ei sylwadau, a diolch iddo hefyd am nodi y bydd egwyddorion y Bil yn cael eu cefnogi. Yn gyntaf oll, o ran y ddau gwestiwn a gododd yr Aelod ynghylch tenantiaid a hawliau tenantiaid a gwaredu, nid yw'r ddeddfwriaeth mewn gwirionedd yn effeithio ar yr ymrwymiadau sylfaenol a wnaed i denantiaid trwy ein trosglwyddiadau gwirfoddol ar raddfa fawr, a bydd yn rhaid iddyn nhw gyflawni a chynnal safon ansawdd tai Cymru o hyd, er enghraifft. Rhoddaf fwy o fanylion iddo wrth inni symud trwy’r broses g raffu.
O ran dylanwad cymdeithasau, soniais yn gynharach am y fframwaith dyfarniad rheoleiddiol ac am safonau perfformiad hynny, ac mae hwn yn arf pwerus iawn, sydd o ddiddordeb arbennig i fenthycwyr. Un ohonynt yw Llywodraeth Cymru fel prif fenthyciwr, a hefyd y sector preifat. Mae hyn yn rhywbeth y mae LCC yn awyddus iawn i sicrhau bod ymagwedd gytbwys ato, ac rydym yn awyddus iawn i ddilyn hynny ar y sail ei fod yn cael ei wneud yn iawn a bod craffu ar y cymdeithasau hyn yn cael ei wneud yn iawn. Bydd hyn yn arwain at y gallu i fenthyg yn y tymor hir, sef rhywbeth rwy'n siŵr y bydd LCC yn cadw llygad craff arno fel risg busnes i'w cymdeithas.
Yn olaf, o ran cynrychiolaeth awdurdodau lleol, roedd cynrychiolaeth awdurdod lleol yn sicr yno. Wrth i ni symud ymlaen, mae hon yn drafodaeth a gawn o ran sut y gallwn sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn o ran craffu, cynrychiolaeth tenantiaid a deall eu gallu i ddylanwadu ar gymdeithasau tai. Mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei godi, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth inni ddatblygu’r Bil hwn.
Fel grŵp Plaid Cymru, ein tuedd yw cefnogi ar hyn o bryd, ond, yn debyg i’r cafeatau a gynigiwyd gan David Melding, credaf ei bod yn bwysig i ni weld beth fydd yn digwydd yn ystod y pwyllgor ac i—[Torri ar draws.] Mae ffôn pawb yn canu heddiw. Jiw, jiw.
Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ddweud oedd y byddai'n rhaid inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y pwyllgor o ran y gwelliannau posib y gellid eu cyflwyno.
Hoffwn holi ymhellach ynglŷn â pha un a ydych chi’n fodlon bod yna ddigon o reolaethau ar waith i Lywodraeth Cymru o hyd o dan y newidiadau arfaethedig hyn. Rydych chi’n sôn am y ddogfen fframwaith rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, ond, er enghraifft, mae dangosydd perfformiad 2 o ran tenantiaid yn eithaf—. Wel, dim ond un paragraff bach ydyw, ac nid yw'n dweud sut y byddech chi'n dangos ymgysylltiad effeithiol â thenantiaid. Nid yw'n rhoi manylion ynghylch pa ffyrdd priodol sydd ar gael i ymgysylltu â thenantiaid, felly hoffwn wybod sut ydych chi’n bwriadu gwella swyddogaeth tenantiaid os mai dyna'r cyfrwng ar gyfer gwneud hynny ac os nad yw hynny trwy'r ddeddfwriaeth benodol hon.
Gan gyfeirio at y pwynt o ran cynghorwyr, rwy’n credu bod hynny oherwydd na fydd gan y cynghorwyr a fydd ar unrhyw fwrdd penodol, y bleidlais benderfynol ar y bwrdd penodol hwnnw. Roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ymchwilio i weld a fyddai’n bosibl i grwpiau tenantiaid neu denantiaid gael y swyddogaeth benodol honno, ac felly, efallai na fyddai’n rhaid i chi ei leihau oherwydd na fyddai tenantiaid yn cael eu hystyried yn wleidyddol. Y rheswm pam yr wyf yn credu bod yn rhaid i chi leihau nifer y cynghorwyr yw ei fod yn cael ei ystyried fel rheolaeth y Llywodraeth neu reolaeth wleidyddol. Pe byddai tenantiaid yn cyflawni’r swyddogaeth lefel uwch honno ar fyrddau cymdeithasau tai, a allech chi ei wneud yn y modd hwnnw? A allai hon fod yn ffordd wahanol o ystyried pethau? Nid wyf yn siŵr os ydych chi wedi gwneud yr ymchwil hwnnw. Rwyf ar hanner y memorandwm esboniadol, ond, yn amlwg, ddoe cawsom ni’r memorandwm ac mae gennym ni 134 o dudalennau i'w darllen, felly nid wyf wedi darllen y cyfan eto. Felly, efallai y gallwn ni drafod hynny ymhellach.
Fel y gwyddom, y broblem o ran i hyn fod yn gyhoeddus ar hyn o bryd, yw’r broblem benthyca. Felly, mae hwn yn bwynt ehangach ynghylch pa un a ydych chi wedi trafod gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynyddu neu newid y cap ar fenthyca gan awdurdodau lleol, o ystyried y ffaith, pe byddai’n parhau yn gyhoeddus, y byddech chi'n benthyca o bwrs y wlad, ac mae gennych chi eisoes gynlluniau ar waith. Felly, a fyddech chi'n gallu apelio i Lywodraeth y DU i newid ei gwrthwynebiad hirsefydlog yn hyn o beth? Ac, os gallwch chi, yna byddaf yn eich llongyfarch.
A allwch chi roi sylw ar y cynnig i ddileu caniatâd gwaredu? Ym mha ffyrdd yr ydych chi'n bwriadu sicrhau y bydd y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid yn cymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad ar y mater penodol hwnnw?
Pan fydd hyn yn mynd gerbron y pwyllgor, a gawn ni ofyn i’r SYG roi sylw ar unrhyw argymhellion posibl er mwyn ystyried unrhyw welliannau posibl naill ai gan y Llywodraeth neu gan Aelodau unigol o ran yr hyn y mae'r SYG yn ei ystyried sy’n dderbyniol? Hynny yw, ar hyn o bryd, mae'r SYG wedi dweud, y byddent yn fodlon â’r Bil presennol, ond, mewn gwleidyddiaeth, mae gan bobl syniadau gwahanol; mae'n debyg y bydd gwelliannau yn cael eu cyflwyno. Sut y byddwn ni’n gwybod yn ystod y broses honno bod y SYG yn hapus â hynny, oherwydd, wrth gwrs, rydych chi wedi cyflwyno Bil, ond dim ond wedi cael ymateb iddo fel y mae ar hyn o bryd? Pan ein bod wedi trafod hyn o'r blaen yn y pwyllgor addysg yn y Cynulliad blaenorol, pan wnaethom ailddosbarthu addysg bellach ac addysg uwch, fe gawsom gyfarfod briffio preifat gyda’r SYG, ond ni roddwyd unrhyw beth ar gofnod. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu, mae’n rhaid inni fod mor agored ac atebol â phosibl—felly a all y SYG roi i'r pwyllgor sy’n ymdrin â'r mater y math hwnnw o hyblygrwydd a bod yn agored i drafod pa un a fyddai gwelliannau posibl yn ddibwrpas neu a fyddai modd iddyn nhw eu hystyried yn briodol.
Yn y pen draw, rydym ni’n awyddus i adeiladu mwy o dai cymdeithasol, ac os yw newid hyn yn golygu bod hynny'n digwydd, yna, wrth gwrs, rydym ni’n credu y byddwn yn gallu ei gefnogi. Ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â manylion yr hyn a gynigir a sut yr ydym yn sicrhau bod hawliau tenantiaid wrth wraidd hyn i gyd.
Cyn imi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb, a gaf i ofyn i bawb ddiffodd eu ffonau?
Diolch, Llywydd. Unwaith eto, rwyf yn ddiolchgar am yr awgrym bod yr Aelod yn cefnogi pasio’r Bil mewn egwyddor, yn amodol ar y manylion a nodwyd. Rwy'n credu bod y pwynt olaf yr Aelod yn un o'r rhai pwysicaf a gododd, o ran y ffaith bod y goblygiadau o beidio â gwneud hyn yn effeithio’n sylweddol ar allu’r LCC neu'r Llywodraeth i ateb y galw am dai cymdeithasol. Mae'r manylion eraill yn bwysig, ond mae’r egwyddor bod y Bil yn cael ei basio yn seiliedig ar gytundeb yr SYG ac ar gytundeb y Trysorlys am gyfnod penodol. Fel arall, mae'r risgiau i'n sector yn enfawr.
O ran rhai o'r manylion y mae'r Aelod yn eu codi, rhywbeth y byddaf yn rhoi mwy o ystyriaeth iddo wrth i’r broses o gyflwyno’r Bil fynd yn ei flaen, yw’r mater o sicrhau y ceir cynrychiolaeth briodol. Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil, ac roedd yr ymatebion, fel y dywedodd yr Aelod, yn gefnogol ar y cyfan.
Mae cwmpas y Bil wedi bod yn gyfyngedig iawn, yn debyg i’r hyn a gyflwynwyd yn Lloegr a'r Alban ynglŷn â hyn. Dim ond at ddiben technegol, a dyna beth y mae’r memorandwm esboniadol—. Ymddiheuraf mai dim ond y ddoe y derbyniodd yr Aelod hwnnw. Dyna'r broses seneddol, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ei ddarllen. Y gwir amdani yw, mewn gwirionedd, gan mai Bil bach iawn ydyw, y dylem fod yn ddiolchgar oherwydd byddai'r memorandwm esboniadol yn llawer hwy. Felly, yr hyn rwy'n bwriadu ei wneud o ran natur dechnegol y Bil hwn yw gweithio gyda phartïon i sicrhau y gallwn ni basio hwn cyn gynted ag y bo modd, gan ein galluogi ni, fel yr ydym ni a chithau wedi’i ddweud, i ddarparu mwy o gartrefi ar gyfer landlordiaid cymdeithasol, fforddiadwy ledled Cymru.
Croesawaf y ddeddfwriaeth hon gan y bydd yn sicr yn ei gwneud hi'n haws i landlordiaid cymdeithasol—landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, megis United Welsh, sydd wedi'i lleoli yn fy etholaeth i—i gyflawni targed tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru. Os oes un peth sydd ei angen arnom yng Nghymru ac yn fy etholaeth i, ac yn y Cymoedd gogleddol ac mewn mannau priodol, tai fforddiadwy yw hwnnw. Rwyf hefyd, mae'n werth nodi, wedi cwrdd yn ddiweddar â fforwm landlordiaid preifat Caerffili, ac maent hwythau hefyd yn awyddus i weld bod anheddau preifat ar raddfa fechan ar gael ac yn fforddiadwy. Fe wnaethon nhw ganfod bod polisi Llywodraeth y DU ar ostyngiad yn y dreth a chredyd cynhwysol wedi niweidio eu gallu i ddarparu tai fforddiadwy, ac mewn gwirionedd wedi niweidio'r stoc tai fforddiadwy ar draul cymunedau'r Cymoedd.
Materion eraill y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod hwnnw oedd yr angen am unedau tai fforddiadwy llai, gydag un neu ddwy ystafell wely. Dyma'r tai y mae eu hangen yn y cymunedau yr wyf i’n eu cynrychioli, ac rwyf wedi codi, yn y Siambr hon yn arbennig, y gwahaniaeth rhwng yr angen am dai, pan nad yw pobl yn gallu ymuno â’r ysgol dai neu hyd yn oed fforddio cartrefi, a’r galw am dai. Nid yw'r rhai sydd mewn angen yn aml yn cyrraedd cydnabyddiaeth ar y gromlin galw. Yn fy marn i, mae pwyslais y polisi cynllunio ar y pwynt olaf yn hytrach na'r un cyntaf, wedi arwain at dwf anghynaladwy o ran ystadau tai uwchraddol ym masn Caerffili, sydd wedi'u hadeiladu ar feysydd glas proffidiol, sy’n rhy ddrud, os caf fentro dweud, i’r mwyafrif o’m hetholwyr. A’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio'i wneud gyda'r polisi hwn, gyda'r ddeddfwriaeth hon, yw unioni'r anghydbwysedd hwnnw, a sicrhau bod tai mwy fforddiadwy ar gael i'r bobl sy'n byw yng ngogledd fy etholaeth i ac i’r rhai sydd fwyaf eu hangen. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet felly'n cytuno mai dim ond pan fyddwn ni’n mynd i'r afael â'r broblem wirioneddol hon o’r galw am dai, y gallwn ni fod yn nes at greu system fwy cynaliadwy a chyfiawn sy'n darparu cartrefi fforddiadwy i'r rhai sydd eu hangen fwyaf, yn enwedig y rhai yng ngogledd fy etholaeth ?
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gefnogaeth. Mae'r Aelod yn aelod sydd wastad wedi bod â barn ar y polisi cynllunio o ran datblygiadau yn ei etholaeth ei hun. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod credyd cynhwysol a chamau gweithredu eraill Llywodraeth y DU wedi niweidio’r sector tai a’i fod yn rhoi tai mewn perygl yn ogystal â ffydd o fewn sectorau. Bydd y Bil hwn i ryw raddau yn unioni’r mater bod gan LCC y gallu i barhau i wneud buddsoddiadau sylweddol yn y mathau o dai y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt o ran fforddiadwyedd neu’r gallu i gael llety priodol ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys yn ei etholaeth ef, sef Caerffili.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau hwyluso'r gwaith o adeiladu mwy o dai fforddiadwy, fel y dywedodd Bethan Jenkins yn gynharach. Mae rhai o'r manylion yn y Bil arfaethedig hwn yn ymddangos ychydig yn ddryslyd. Wrth gwrs, nid wyf innau wedi darllen yr holl femorandwm esboniadol ychwaith. Mewn gwirionedd, i fod yn onest, nid wyf hyd yn oed wedi ei ddechrau. Felly, rwyf yn derbyn bod y manylion yn bwysig.
Nawr, mae'r Gweinidog yn nodi bod LCC yn ariannu swm sylweddol o'u gweithgarwch adeiladu drwy fenthyca gan y sector preifat. Mae hyn braidd yn aneglur, gan nad yw'n dweud wrthym pa ganran o gyllid y LCC sy'n deillio o'r sector preifat ac felly pa ganran sy'n dod o'r sector cyhoeddus. Felly, hoffwn ofyn os yw'n bosibl iddo egluro hyn. Fy nealltwriaeth i yw, waeth beth yw manylion technolegol y derminoleg, pe byddai cymdeithas dai yng Nghymru yn mynd i drafferthion ariannol, yna Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, fyddai’n atebol am y ddyled. Felly, a allai'r Gweinidog egluro'r pwynt hwn a pha un a yw hyn mewn gwirionedd yn newid mewn unrhyw ystyr perthnasol o dan ddarpariaethau ei ddeddfwriaeth arfaethedig?
O ran y rhyngweithio gwirioneddol rhwng cymdeithasau tai a'r sector preifat, cawsom newyddion yn ddiweddar, ychydig ddyddiau yn ôl, fod Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn gwneud buddsoddiad sylweddol, felly gwyddom fod cymdeithasau tai yn rhyngweithio’n helaeth gyda'r sector preifat. Pan wnaeth Trivallis, sy'n gweithredu’n bennaf yn ardal Rhondda Cynon Taf, gynnal ei ddatblygiad mawr diwethaf, a oedd yn Aberdâr, gwnaed hynny mewn partneriaeth â Bellerophon, datblygwr preifat. Datblygodd Bellerophon fflatiau preifat ym Mae Caerdydd, a wnaeth wedyn ariannu’r datblygiad tai cymdeithasol yn Aberdâr. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: ai'r math hwn o fodel ariannu y mae'n credu y dylai'r cymdeithasau tai fod yn ei ddilyn yn y dyfodol?
Gan ddychwelyd at fanylion penodol y ddeddfwriaeth, cael gwared ar dir—fe wnaeth David Melding a Bethan ymdrin â hyn, felly rydym wedi edrych ar hyn. Ymddengys ein bod ni'n symud o sefyllfa lle, pe byddai cymdeithasau tai eisiau gwerthu tir, y byddent angen caniatâd penodol gan Weinidog Cymru, i sefyllfa lle mai dim ond hysbysu’r Gweinidog y byddai angen iddyn nhw ei wneud. Felly, o gofio bod prinder tai mawr yng Nghymru a bod angen i ni annog cymdeithasau tai i ddatblygu'r tir sydd ganddynt, ym mha ffordd y mae’n gwella sefyllfa Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn haws iddynt werthu’r tir, ac a oes problem o ran atebolrwydd?
Rydym wedi sôn am y mater o atebolrwydd, ac am y mater o gynrychiolaeth cynghorwyr ar fyrddau'r cymdeithasau tai. Nawr, mae'n ymddangos y gall fod yn broblem os ydych chi am leihau gallu’r cynghorwyr i ddylanwadu ar y cymdeithasau tai ar eu byrddau. Nawr, rwy’n derbyn eich bod chi wedi dweud—ai chi a ddywedodd neu David Melding? Dywedodd rhywun bod y rhan fwyaf o'r cynghorau eu hunain mewn gwirionedd o blaid hyn, felly rwyf wedi nodi hynny. Ond, unwaith eto, bydd problem o ran atebolrwydd. Felly, soniasoch chi eich hun y bydd craffu cryf ar y cymdeithasau tai, felly hoffwn wybod sut y byddai hynny'n gweithio mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod Bethan Jenkins wedi gwneud y pwynt da iawn bod hawliau tenantiaid yn hynod bwysig. Ac, os ydych chi'n lleihau dylanwad y cynghorau eu hunain, unwaith eto a yw hi'n bosibl cynyddu dylanwad y tenantiaid? Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud y byddwch chi'n edrych ar hynny, felly, os oes gennych chi unrhyw beth arall y gallech chi ei ychwanegu, byddwn yn ddiolchgar.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Dechreuodd drwy ddweud bod y Ddeddf yn ddryslyd, ac yna dywedodd nad oedd wedi ei darllen, a oedd yn fwy dryslyd byth, i wneud rhagdybiaeth o’r fath ar y sail honno—. Yn gyntaf oll, holl bwrpas y Bil yw cymryd hyn oddi ar y sector benthyca cyhoeddus oherwydd faint o arian a fenthycir gan gymdeithasau tai. Byddem yn gorwario ein hymrwymiad benthyg yn y Llywodraeth, ac felly byddai'n rhaid i ni gymryd yr arian hwnnw o rywle arall. Byddai'n rhaid i ni wneud penderfyniad i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a thynnu’r arian oddi wrth iechyd neu sefydliad arall. Felly, mae hon yn broses bwysig iawn, a chanlyniadau gwneud hynny felly yw dadreoleiddio sector. Fodd bynnag, dywedais yn gynharach fod y pwerau fframwaith sydd gennym ar waith yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gref iawn o ran dylanwadu ar y LCC o ran sut y mae nhw’n gweithredu.
Rwy'n credu bod yr Aelod, yn ogystal â Bethan Jenkins ac eraill, wedi dweud bod dylanwad y byrddau yn un pwysig, ac yn enwedig cynrychiolaeth tenantiaid. Byddaf yn gweithio gyda chi i sicrhau ein bod yn cael y cymaint o gymorth â phosibl ar gyfer hynny wrth inni ddatblygu’r Bil. Soniodd yr Aelod hefyd am fodelau cyllido penodol, ynghylch Trivallis yn arbennig, a model Bellerophon. Nid oes gennyf unrhyw farn ar ba fodelau ariannol y dylai LCC eu defnyddio, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod eu perthynas bresennol â'r sector preifat yn un dda, ac mae’n rhaid inni gynnal y berthynas honno yn yr hirdymor, fel arall, fel y dywedais yn gynharach, ni fyddwn yn adeiladu 20,000 o gartrefi newydd eraill yng Nghymru.
Byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r Aelod a'r Aelodau wrth i ni symud ymlaen, ond, yn benodol, nid oes gennyf fanylion o ran rhaniad cyllid Llywodraeth Cymru o’i gymharu â chyllid y sector preifat, ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelod am hynny yn fy ymateb wrth i ni symud ymlaen. Ond rwy'n gobeithio y gall yr Aelod argyhoeddi ei hun a’i blaid i gefnogi proses y Bil hynod o bwysig hwn wrth inni symud ymlaen.
Rwyf wrth fy modd bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithredu’n brydlon i fynd i'r afael â'r penderfyniad gwirioneddol niweidiol gan y SYG, ac, fel y gwelsom, pasiwyd deddfwriaeth eisoes yn Lloegr i sicrhau y gall cymdeithasau tai barhau i gynnig tai pwysig i bobl na allant fforddio prynu tai eu hunain. Ac yn sicr yn fy etholaeth i, mae cymdeithasau tai megis Cadwyn, Wales and West a United Welsh i gyd wedi darparu tai newydd a thai wedi'u hadnewyddu i bobl sydd wir eu hangen. Felly, er enghraifft, United Welsh: 40 uned un a dwy ystafell wely gyferbyn â charchar Caerdydd, sy'n hanfodol i'r rheini y mae’r dreth ystafell wely yn effeithio arnynt. Mae Cadwyn wedi ailddylunio hen adeilad a oedd wir angen ei adnewyddu ar gyfer pobl sydd angen llety byw â chymorth—mae’n hyfryd; mae’r bensaernïaeth yn wirioneddol wych—ac fe'u hadeiladwyd, ar hen safle garej a oedd wedi bod yn wag am tua 20 mlynedd, 26 o gartrefi newydd ac un uned fasnachol, pob un ohonynt wedi’u cwblhau drwy ddefnyddio safonau pensaernïol uchel iawn, a safonau uchel o ran cynaliadwyedd amgylcheddol—llawer uwch na’r sector preifat, mae’n flin gen i ddweud, sy'n darparu rhai cartrefi newydd yn yr etholaeth. Roeddwn i’n meddwl tybed, pan fydd gennych chi amser, ar ôl mynd trwy’r Bil hwn, a fyddech chi’n gallu codi'r rheoliadau adeiladu fel bod y sector preifat, o leiaf, yn cyrraedd y safonau y mae ein cymdeithasau tai yn eu cyrraedd oherwydd eu bod nhw’n gwybod mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
Rwy'n credu—unwaith eto, gan ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth ar gyfer proses y Bil—fe wnaeth y Prif Weinidog, yn y cwestiynau yn gynharach heddiw, gyfeirio at ansawdd tai cymdeithasol nawr o'i gymharu â 10 neu 15 mlynedd yn ôl. Rydym wedi datblygu'r weithdrefn hon yn dda. Mae'n ymwneud ag adeiladu ar gyfer y dyfodol, ac mae hyn yn rhywbeth a fydd hyn yn ein galluogi i’w wneud, drwy’r datrysiadau medrus a ddarperir gan LCC a bellach rhai awdurdodau lleol yn y sector adeiladu tai cymdeithasol. Mae'n rhywbeth yr hoffwn ei ddilyn, ynghyd â’m cyd-Aelod Lesley Griffiths, fel bod gennym y math gorau o dai ar gyfer y sefyllfaoedd iawn yn y mannau iawn ar gyfer pobl ledled Cymru.
Symudwn yn awr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y diweddariad ar gofrestru’n gynnar ar gyfer TGAU, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y datganiad. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. Ddoe, cyflwynodd y rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, argymhellion clir i ni ar fater cofrestru’n gynnar ar gyfer TGAU. Aethant ati i ymgysylltu'n eang â gweithwyr addysgu proffesiynol yn ystod eu gwaith ac maent wedi dod i gasgliadau pendant. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hadroddiad a'u hystyriaethau. Hoffwn ddiolch hefyd i'r nifer o weithwyr addysgu proffesiynol a gefnogodd y gwaith hwn, a'r athrawon, rhieni a disgyblion lawer sydd wedi cysylltu â mi ar y mater hwn. Rwyf wedi treulio amser dros y misoedd diwethaf yn ystyried y cyfraniadau hyn a'r dewisiadau sydd ar gael cyn gweld adroddiad Cymwysterau Cymru er mwyn i mi allu ymateb yn gyflym heddiw.
Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf i o’r farn bod codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system y gall y cyhoedd fod â hyder ynddi wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol. Mae budd gorau dysgwyr wedi bod ar flaen fy meddwl wrth i mi ystyried y mater penodol hwn o gofrestru’n gynnar a chofrestru amryfal ar gyfer TGAU. Dywedais yn yr haf nad yw'r duedd tuag at fwy o ddefnydd o gofrestru’n gynnar yn gynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer blwyddyn 10, pan na fydd y rhan fwyaf o ddysgwyr ond wedi cwmpasu hanner y cwrs. Nid yw fy marn ar hyn wedi newid. Haf diwethaf, gwelsom 43,000 o ddysgwyr blwyddyn 10 yn cael eu cofrestru ar gyfer TGAU Saesneg iaith a Chymraeg iaith a'r ddau TGAU mathemateg, ac roedd rhai yn defnyddio'r dull ar draws y garfan gyfan o ddysgwyr.
Mae'n amlwg bod llawer gormod o ddisgyblion yng Nghymru nad ydynt yn cael eu caniatáu i gyrraedd eu potensial llawn. Gwnaeth bron i 9,500 o ddisgyblion sefyll TGAU rhifedd mathemateg yn gynnar ym mis Tachwedd 2016 a chael gradd A neu lai ond ni chawsant eu hail-gofrestru wedyn ar gyfer yr arholiad yr haf diwethaf. O'r disgyblion hynny, llwyddodd 30 y cant i ennill gradd C. Bodloni yw hyn yn hytrach na herio, ac mae'n dal rhai o'n pobl ifanc yn ôl. Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyfrifo'r gost ar gyfer cofrestru’n gynnar y llynedd, sef mwy na £3.3 miliwn, ac mae hynny'n anghynaladwy, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau ysgolion dan gymaint o bwysau.
Bydd yr Aelodau'n cofio fy natganiad ar 24 Mai ar asesu ar gyfer dysgu, a oedd yn canolbwyntio ar gynyddu sgiliau athrawon ar asesu ffurfiannol. Mae Cymwysterau Cymru yn amlygu'r defnydd amhriodol o asesiadau TGAU at ddibenion ffurfiannol. Yn syml, nid yw'r TGAU wedi'u cynllunio ar gyfer hyn. Dylai fod gan ysgolion y modd o asesu cynnydd dysgwyr a llunio addysgu a dysgu parhaus heb ddibynnu ar TGAU allanol, cost uchel, lle mae llawer yn y fantol.
Mae adroddiad Cymwysterau Cymru yn amlygu cymhlethdod ac amrywiaeth y farn ar y mater o gofrestru’n gynnar. Nid oes un dull addas sy'n addas i bawb, ac rwyf wedi derbyn bob amser y gallai cofrestru’n gynnar fod o fudd i rai dysgwyr o dan rhai amgylchiadau, fel y rhai hynny sy'n barod i ddangos dealltwriaeth lawnach ac sy'n dymuno ymgymryd â dysgu pellach yn y pwnc, ac mae'n rhaid ei ddefnyddio yng nghyd-destun cwricwlwm eang a chytbwys.
Mae cymhelliant yn effeithio ar lefel y dysgwr unigol, ac mae’r adroddiad yn dangos pa mor amrywiol yw safbwyntiau athrawon. Mae yna broblemau gwirioneddol o ran amser dysgu yn cael ei gymryd i baratoi ar gyfer TGAU lle mae llawer yn y fantol. Mae tystiolaeth o gynnydd yn llwyth gwaith athrawon a dysgwyr, a baich asesu cynyddol, a mwy o botensial i ddysgwyr flino ar arholiadau. Mae canfyddiadau Cymwysterau Cymru yn glir: maent o'r farn bod y defnydd eang o gofrestru’n gynnar yn peri risg sylweddol i ddysgwyr ac i'n system arholi. Nid yw’r buddion posibl yn gorbwyso hynny. Felly, mae angen inni weithredu i atal patrymau cofrestru TGAU amhriodol.
Rwyf wedi derbyn argymhelliad clir Cymwysterau Cymru i newid mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 i ymagwedd ‘cofrestriad cyntaf yn unig sy’n cyfrif’. Bydd hyn yn annog ysgolion i gofrestru dysgwyr pan fyddant yn hyderus eu bod yn barod i gael y canlyniadau gorau posibl. Ni fydd yn atal ysgolion rhag cofrestru’n gynnar, na chofrestru eto os ydyn nhw, neu ddysgwr, yn dymuno gwella canlyniadau, ond ni fydd y canlyniadau ailsefyll yn cyfrif tuag at fesur perfformiad yr ysgol, hyd yn oed pan fo'r canlyniad yn uwch. Gadewch imi fod yn gwbl glir, Llywydd dros dro: bydd ein pobl ifanc yn gallu defnyddio eu canlyniad gorau wrth gael mynediad at ddysgu pellach neu’r byd gwaith. Mae'r newid dim ond yn berthnasol i’r modd y byddwn ni yn ystyried perfformiad yr ysgol. Bydd hyn yn rhan o'r fframwaith asesu a gwerthuso ehangach a gyhoeddir y flwyddyn nesaf.
Rwyf hefyd wedi derbyn barn Cymwysterau Cymru y dylai ysgolion allu cofrestru dysgwyr ym mis Tachwedd am y tro cyntaf mewn Cymraeg iaith a Saesneg iaith—rhywbeth sydd ar gael ar gyfer y ddau TGAU mathemateg yn unig ar hyn o bryd. Bydd hyn yn rhoi dewisiadau cofrestru cynharach priodol a hyblyg i ysgolion, os ydynt yn teimlo bod hynny o fudd, yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd mewn perygl o ymddieithrio neu sy'n barod i symud ymlaen i ddysgu pellach. Rwyf wedi gwrando ar bryderon yr ysgolion o ran gwneud newidiadau hanner ffordd drwy'r flwyddyn academaidd. Rwy'n cydnabod bod angen amser ar ysgolion i gynllunio eu haddysgu, eu dysgu a'u hymagweddau at TGAU. Felly, bydd y newidiadau i fesurau perfformiad yn dod i rym ar gyfer adroddiadau haf 2019. Mater i'r rheoleiddiwr yw rhyddhau cofrestru cynnar ym mis Tachwedd ar gyfer Cymraeg iaith a Saesneg iaith, ond rwy'n disgwyl i hyn fod ar gael i ysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer ysgolion ynghylch pa bryd y gall cofrestru’n gynnar fod o fudd i fathau penodol o ddysgwyr, a phryd nad ydyw, er mwyn gefnogi eu penderfyniadau yn y dyfodol.
Mae'r newidiadau yr wyf wedi’u cyhoeddi yn ffurfio rhan o'n trefniadau pontio ar gyfer atebolrwydd a byddant yn helpu ysgolion i weithredu er budd gorau'r disgybl ac nid er hunan-fudd canfyddedig y sefydliad. Os ydym ni bob amser yn ymrwymedig i roi buddiannau'r dysgwr yn gyntaf, a sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn, yna gallwn ni fod yn hyderus y byddwn yn codi safonau ac yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw a chofnodi fy niolch am waith Cymwysterau Cymru wrth lunio adroddiad rhagorol? Mae’r ddau argymhelliad syml ond pwysig sydd yn yr adroddiad—sef cyfrif y radd gyntaf a ddyfarnwyd yn unig tuag at fesurau perfformiad a chodi'r cyfyngiad ar ailsefyll Saesneg iaith a Chymraeg iaith ym mis Tachwedd —yn rhai y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn eu cefnogi'n llwyr. Er fy mod yn croesawu'r datganiad heddiw, credaf mai'r hyn y mae angen i ni fod yn ei ofyn hefyd yw pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y pwynt hwn. Gwn, mewn rhannau eraill o’r DU, eu bod wedi mynd i’r afael â'r mater hwn ers nifer o flynyddoedd, a byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud wrthym pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i fynd i'r afael â'r mater hwn o gofrestru’n gynnar yn amhriodol pan fo'r problemau wedi bod yn amlwg ers rhai blynyddoedd. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet esbonio pam na roddwyd sylw i'r mater hwn cyn hyn. Rwy'n gwerthfawrogi mai dim ond ers 18 mis y mae hi wedi bod yn ei swydd, ond efallai bod rheswm penodol pam na roddwyd sylw i'r mater hwn cyn hyn.
Nid ydym yn sôn am niferoedd bach o ddisgyblion sy'n sefyll TGAU yn gynnar. Yn 2016-17, roedd bron i 19 y cant o holl ymgeiswyr TGAU yr haf yng Nghymru ym mlwyddyn 10 neu iau. Wrth gwrs, mae'r nifer hwnnw o gofrestriadau cynnar, ynghyd ag ailadrodd yr arholiad sawl gwaith, yn creu costau ychwanegol sylweddol i'r trethdalwr. Amcangyfrifodd un o'r adroddiadau bod y gost yn fwy na £3 miliwn yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17. Pe byddai yna ddewisiadau cofrestru’n gynnar priodol, gellid bod wedi gwario'r arian hwnnw ar fwy o athrawon, cynorthwywyr dysgu, a gwerslyfrau ac ar rannau eraill o'r system addysg. Hefyd, mae'r adroddiad yn nodi anghysondeb mewn cyllidebau ysgolion wrth ariannu cofrestru’n gynnar, sydd wedi arwain mewn rhai achosion at ysgolion yn gofyn i rieni ariannu ailsefyll arholiadau, sy'n amlwg yn annheg. O gofio hyn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym beth y mae hi'n ei amcangyfrif y bydd yr arbedion o lefelau mwy priodol o gofrestru’n gynnar ar ôl i'r newidiadau a gyhoeddwyd heddiw gael eu gweithredu? A wnaiff hi hefyd ystyried y mater o godi ffi ar rieni am ail-eistedd gan rai ysgolion, fel nad yw rhieni yn canfod eu hunain yn y sefyllfa honno yn y dyfodol?
Mae cofrestru disgyblion yn gynnar ar gyfer TGAU, gellir dadlau, wedi bod mwy er budd yr ysgolion na’r myfyrwyr yn y rhan fwyaf o achosion yng Nghymru. Fel y canfu adroddiad Cymwysterau Cymru, ystyrir yn aml mai mesurau perfformiad ysgolion yn aml sy’n sbarduno cofrestru’n gynnar. Mae ysgolion yn defnyddio canlyniadau TGAU ar gyfer eu cyfundrefn perfformiad ysgolion uwchradd, ac mae hynny'n rhoi pwysau enfawr ar athrawon i gynnal neu gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n cyflawni canlyniadau rhwng y trothwy A * i C hwnnw. Wrth gwrs, yr hyn sydd wedi deillio o'r arfer hwn, yn anochel, yw bod ysgolion yn anelu at y graddau hawsaf hynny—graddau C—yn hytrach nag anelu at A *, A a B. O ganlyniad, mae disgyblion mwy abl a thalentog yn colli allan ar y graddau uchaf hynny y byddent wedi'u cyflawni pe byddent wedi cael eu cofrestru ar yr adeg briodol, ar ôl elwa ar ddigon o amser yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu eu dysgu. Rwy'n gwerthfawrogi y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gofrestru’n gynnar, ond a wnaiff hi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau mai dim ond myfyrwyr sydd wedi’u paratoi'n gywir ac sydd wedi astudio'r cwricwlwm cyfan y mae ysgolion yn eu cofrestru ar gyfer TGAU? Ac a wnaiff hi hefyd ddweud wrthym pryd y bydd mewn sefyllfa i gyhoeddi'r canllawiau diwygiedig hyn?
Nawr, rwy’n derbyn o'r datganiad heddiw, na fydd canlyniad ailsefyll yn cyfrif tuag at berfformiad yr ysgol yn y dyfodol. Fodd bynnag, er mai dim ond un canlyniad y bydd ysgolion yn ei ystyried o gofrestru’n gynnar, fy nealltwriaeth i yw ei bod yn ofynnol i ddisgyblion ddatgelu eu holl ganlyniadau TGAU ar eu ffurflenni cais UCAS, nid eu canlyniadau gorau yn unig. Mae prifysgolion yn fwy tebygol o dderbyn myfyriwr a safodd yr arholiad unwaith a chael C na un a safodd yr arholiad dair gwaith cyn llwyddo i gael C, a gallai hynny arwain at lai o fyfyrwyr o Gymru yn mynychu y prifysgolion Grŵp Russell mwy cystadleuol yn y dyfodol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd hi'n monitro derbyniadau i brifysgolion ymhlith y rhai sy'n cofrestru’n gynnar a rhai â chofrestriadau amryfal er mwyn mesur effaith y mater penodol hwn?
Rwy'n credu mai pryder y mae'n rhaid inni ei nodi o'r adroddiad hwn hefyd yw'r effaith y mae paratoi ar gyfer cofrestru’n gynnar wedi'i chael ar amser dysgu. Y pryder yw'r effaith ar grwpiau blwyddyn is ar hyn o bryd, sy'n canfod bod gan eu hathrawon lai o amser i baratoi ar gyfer gwersi neu i farcio gwaith cartref. Golyga hyn, hyd yn oed cyn dod at TGAU, nad yw myfyrwyr mewn rhai achosion yn cael eu paratoi'n ddigonol i symud ymlaen i'r cam nesaf hwn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd hi'n adolygu effaith cofrestru’n gynnar ar grwpiau blwyddyn is? Ac efallai y gallai ddweud wrthym a fydd yr effaith hon yn cael ei hadlewyrchu mewn gwirionedd yn y canllawiau diwygiedig y mae'n bwriadu eu cyhoeddi maes o law.
Yn ei datganiad heddiw, mae hi hefyd yn nodi’n glir y bydd y mesurau perfformiad yn dod i rym ar gyfer adroddiad haf 2019. Ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i roi diweddariadau rheolaidd i'r Siambr ar eu heffaith ar gofrestru’n gynnar?
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd dros dro, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet unwaith eto am ei datganiad y prynhawn ’ma a chofnodi eto cefnogaeth Ceidwadwyr Cymru i’r argymhellion a wnaed gan Gymwysterau Cymru?
Llywydd dros dro, a gaf i ddiolch i Paul Davies, sydd gwneud dwy swydd unwaith eto fel llefarydd addysg y Ceidwadwyr? Dylai’n sicr fod yn gofyn am ran o gyflog ei swyddog cyfatebol. Ond rwy'n diolch o galon iddo am ei ddadansoddiad meddylgar o'r adroddiad sydd o'n blaenau.
Cwestiwn cyntaf yr Aelod oedd: pam ein bod ni wedi penderfynu gweithredu nawr? Wel, Paul, ni allaf roi cyfrif am y penderfyniadau y mae eraill wedi eu gwneud cyn fy nghyfnod i. Canlyniadau'r haf eleni oedd y set gyntaf o ganlyniadau cofrestru’n gynnar yn fy nghyfnod i. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn mynegi pryder ers i mi ddod i wybod am y lefelau uchel o gofrestru’n gynnar. Ond, a bod yn deg i'm rhagflaenwyr, os edrychwch chi ar y data yn yr adroddiad, mae hwn yn ffenomen gymharol newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a chaiff llawer o hwnnw, fel y nodir yn yr adroddiad, ei sbarduno gan nerfusrwydd ynghylch manyleb newydd yr arholiadau TGAU. Nawr, gallwn ddadlau ynghylch manteision neu anfanteision hynny beth bynnag a fyddont, ond mae hynny wedi bod yn ffactor sydd wedi sbarduno rhai o'r sgoriau. Felly, er bod tuedd gynyddol wedi bod, mae wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond rydym ni'n gweithredu nawr. Rwy'n gweithredu mor gyflym ar ôl cyhoeddi'r adroddiad ag y gallaf, ond mae'n rhaid i ni hefyd roi'r amser a'r cyfle i ysgolion gynllunio yn briodol. Yn syml, ni fyddai'n deg dweud y byddwn ni’n defnyddio'r mesur newydd hwn ar gyfer adroddiad y flwyddyn nesaf yn achos y myfyrwyr sydd eisoes wedi sefyll eu harholiadau. Ni fyddai'n deg i'r sector o gwbl. Felly, mae hyn yn rhoi amser i bobl gynllunio yn unol â hynny.
Mae Paul yn iawn bod ysgolion unigol wedi defnyddio'r arfer hwn i gael effaith wahanol, ond yn sicr, mewn rhai ysgolion, mae pwysau i gofrestru’n gynnar oherwydd bod eraill yn ei wneud, ac maent wedi teimlo efallai y byddai eu hysgol dan anfantais pe na byddent yn gwneud hynny hefyd. Rwyf hefyd yn ymwybodol o rai ysgolion nad ydynt yn cofrestru’n gynnar oherwydd y pwysau ariannol yn hytrach nag unrhyw reswm arall, a thrwy gael y rheol hon i bawb, mae'n creu cydraddoldeb i bob ysgol yn hynny o beth, o ran sut y byddant yn cael eu hasesu.
A gaf i ei gwneud yn hollol glir? Os oes ysgol yng Nghymru sy'n ystyried gofyn i rieni dalu am ailsefyll, mae angen iddyn nhw feddwl eto. Nid yw'n dderbyniol, ac rwyf yn ymwybodol bod hyn yn digwydd. Ddoe ddiwethaf, cefais neges e-bost gan dad-cu y gwnaeth ei wyres sefyll Saesneg yr haf yma. Cafodd C ar ddiwedd Blwyddyn 10. Mae hi a'i theulu yn awyddus iawn iddi gael cyfle arall i sefyll arholiad Saesneg hwnnw, ac mae'r ysgol wedi gofyn iddynt dalu i ailsefyll. Nawr, yn yr achos penodol hwnnw, mae'r tad-cu yn dweud ei fod mewn sefyllfa i helpu, ond faint o rieni a neiniau a theidiau plant eraill fydd yn y sefyllfa honno? Nid yw hynny'n adlewyrchu gwerthoedd system addysg Cymru, lle’r ydym yn anelu at ragoriaeth a chydraddoldeb.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod llawer o'r ymddygiad hwn wedi ei sbarduno gan fesurau atebolrwydd, ac fel y cyhoeddais yn fy natganiad, ac yn y datganiad ysgrifenedig y gwnes bythefnos yn ôl mewn perthynas â chategoreiddio ysgolion, rydym ni mewn proses o bontio i set wahanol o fesurau atebolrwydd. Ond eto, gadewch imi fod yn glir: mae atebolrwydd yma i aros, ac a bod yn deg i'r penaethiaid a'r athrawon yr wyf i’n cyfarfod â nhw, maen nhw'n gwybod hynny, maen nhw'n deall hynny, ac maen nhw yn dymuno bod yn atebol am eu harferion. Mae angen inni weithio gyda'r proffesiwn i ddod o hyd i ffordd deg o greu system atebolrwydd sy'n sbarduno'r math o ymddygiad mewn ysgolion yr ydym yn dymuno ei weld ac, yn hollbwysig, sy’n mesur yr effaith y mae’r ysgol honno yn ei chael ar ddisgyblion unigol, ac nid set o fesurau atebolrwydd sydd efallai'n culhau'r pwyslais ar nifer fach iawn o blant yn y garfan, yr ydych chi wedi eu nodi'n gwbl gywir, y rhai ar y ffin rhwng C a D, ar draul plant eraill yn y system, boed y rhai hynny â chyrhaeddiad is neu'r rhai mwyaf abl a thalentog.
Rwyf yn dymuno bod mewn sefyllfa i fod â’r set newydd honno o fesurau atebolrwydd ar waith erbyn y flwyddyn nesaf. Caiff y canllawiau diwygiedig i ysgolion eu rhyddhau yn ddiweddarach eleni, ond byddwn yn cyfathrebu'r newid hwn i’r holl randdeiliaid—ysgolion, cynghorwyr herio, consortia rhanbarthol ac AALlau—a byddwn yn disgwyl y byddai’n rhaid i gynghorwyr herio yn y consortia rhanbarthol fod yn monitro perfformiad a phatrymau eu hysgolion unigol ym maes cofrestru’n gynnar. Gadewch imi fod yn glir: nid ydym ni’n atal cofrestru’n gynnar, ond mae'n rhaid gwneud hynny er budd gorau plant unigol, er mwyn iddynt fod yn sefyll eu harholiadau ar amser sy'n iawn iddyn nhw ac sy’n rhoi'r cyfle gorau iddynt gyflawni’r graddau uchaf un sydd o fewn eu gallu.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? A gaf i hefyd ategu’r diolch i Cymwysterau Cymru am eu hymchwil nhw ac am rannu’r wybodaeth gyda ni hefyd o flaen llaw?
Mae’n bwysig nad ydym ni’n anghofio, rydw i’n meddwl, yn y drafodaeth yma, pam mae hyn yn digwydd, ac mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain bod hyn yn digwydd oherwydd mai’r hyn y mae’r athrawon ei eisiau yw’r gorau i’r plant a’r gorau i’w hysgolion. Mae yna beryg bod hynny yn cael ei gladdu yn y drafodaeth yma. Dyna pam mae’r sefyllfa yma wedi codi, i bob pwrpas, ond mae’n rhaid i ni beidio ag amau, ac rydw i’n siŵr nad ydym ni’n amau, cymhellion yr athrawon i fynnu’r gorau i’w myfyrwyr a’r gorau i’w hysgolion. Mae hefyd yn bwysig, fel mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ein hatgoffa ni yn ei datganiad, i ni gydnabod bod yna werth a bod yna bwysigrwydd mewn caniatáu defnyddio arholiadau TGAU yn gynnar, ac rydw i’n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn mynd i gyhoeddi canllawiau penodol ar hynny, oherwydd rydw i’n meddwl bod hynny yn mynd i fod o gymorth sylweddol.
Fel y dywedais i, rydw i’n croesawu’r datganiad, ac rydw i hefyd yn croesawu’r hyn y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yn sgil cynnwys y datganiad. Mae yna un cwestiwn yng nghefn fy meddwl i, serch hynny, ynglŷn ag elfen gyfyngedig, rywsut, yr ymchwil mae Cymwysterau Cymru wedi ymgymryd ag e: 59 o weithwyr proffesiynol yn y sector addysg, yn benaethiaid ysgolion, yn benaethiaid adrannau, yn athrawon ac yn y blaen; dim llywodraethwyr ysgol, dim rhieni, ac yn bwysicach na dim, wrth gwrs, dim ymgynghoriad â’r disgyblion a’r myfyrwyr eu hunain—yr union bobl sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniad yma. Ble mae llais ieuenctid yn y drafodaeth yma, a ble mae llais pobl ifanc yn y penderfyniad yma? Rwyf yn meddwl ei bod yn wendid yn y broses os nad ydym ni wedi bod yn trafod gyda’r union bobl sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan hyn. Ac mae Cymwysterau Cymru eu hunain yn dweud eu bod nhw, oherwydd cyfyngiadau yr ymchwil yma, wedi methu ymgymryd ag ymchwil pellach a fyddai’n rhoi ffynonellau o dystiolaeth ychwanegol er mwyn gwerthuso’r datganiadau a wnaethpwyd iddyn nhw gan yr athrawon.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw: a ydych chi’n hyderus bod gennych chi’r holl dystiolaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud y penderfyniad yma, a sut allwn ni fod yn sicr bod yr holl leisiau sy’n cael eu heffeithio gan hyn wedi cael eu clywed, ac wedi cael y cyfle i gael eu mynegi yn y drafodaeth sydd wedi arwain at y penderfyniad yma? Oherwydd mae’r farn wedi’i pholareiddio yn eithaf clir, onid yw hi, o safbwynt y dystiolaeth y mae Cymwysterau Cymru wedi ei chlywed—rhai yn teimlo eu bod nhw’n gryf o blaid yr hyn sydd yn digwydd, a rhai, ar y llaw arall, yn teimlo bod hyn yn ffordd anghywir i fynd o’i chwmpas hi. Ac mae’r polareiddio yna i fi yn mynnu bod y dystiolaeth sydd gyda ni mor gyhyrog ac mor ‘robust’ ag sy’n bosib cyn dod i’r penderfyniad yna.
I’d also like to ask you, Cabinet Secretary: what would you say to those people who felt, according to the research again from Qualifications Wales, that allowing only the first result to count towards a school performance measure would essentially be no different to completely removing the option of early entry because of the pressures that have been playing out previously, that the same pressure would come into play again, in terms of only putting forward pupils right at the end of the process, when, belt and braces, they will get the best possible result? That’s a concern that’s articulated in the research, and I’m just wondering how you would put those minds at rest.
The timescale you elaborate upon. You say that you’re mindful that schools need sufficient time to adapt, and I wholeheartedly agree. Qualifications Wales nevertheless suggest that the Welsh Government should undertake its own impact assessment on how soon to introduce any changes. So, I’m just wondering whether you have done that, and, if you have, whether that would be published by the Government. You’ve touched on the cost implications, and, again, I share many of your concerns. And whilst some people’s focus might be on saving money—and, clearly, that is one of a number of factors—for me, the main priority, clearly, is about doing what’s right for the pupil. Now, the conservative estimate of £3.3 million is very substantial at both school and system level within education in Wales. You’ve expressed your concern about the prospect of cost-sharing and the impact that will have on equity for individual students and, clearly, the long-term sustainability of schools. But my question to you is: if that does emerge, then what action will you take? You can tell people that they should think very carefully about it—well, should we not be acting to make sure that it doesn’t happen? So, maybe you could share any thoughts you have with us on that.
Could you tell us what your intention is in terms of evaluating the impact of the decision that you’re announcing today, and when you intend to do that? And, of course, in light of the new curriculum, the curriculum reform, how is the Government assessing the need for wider reform of how school performance is measured, and what impact particularly this is going to have, or these changes will have, within that wider process? Diolch.
A gaf i ddiolch i Llyr Gruffydd am ei ddatganiad a'i gwestiynau? Roedd, ‘Rydym yn cytuno eich bod chi'n gwneud hyn, ond—’, rwy'n amau, yn ceisio betio bob ffordd efallai o ran—. Dydw i ddim mewn sefyllfa i fetio bob ffordd. Mae’n rhaid imi wneud penderfyniad, ac rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw er budd gorau'r system arholi gyfan, er mwyn i ni allu cael hyder y cyhoedd a hyder cyflogwyr yn ein system, ac mewn ffordd yr wyf i o’r farn a fydd er budd gorau plant unigol. Mae gen i lawer iawn o hyder yn Cymwysterau Cymru. Roedd cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer sefydlu rheoleiddiwr annibynnol ar system arholiadau Cymru, ar ôl y ffiasgo ychydig o flynyddoedd yn ôl, y byddwch chi'n gyfarwydd iawn ag ef. Ac felly, mae’n briodol pan fo rheoleiddiwr annibynnol ein system arholiadau yn ysgrifennu adroddiad, yn gwneud argymhellion, eu bod wir yn cael eu hystyried o ddifrif.
Ond rydych chi'n iawn, mae Cymwysterau Cymru eu hunain yn cyfaddef yn yr adroddiad bod eu hymchwil yn gyfyngedig, a dyna pam y byddaf yn comisiynu rhagor o ymchwil ynghylch y maes penodol hwn, a fydd yn helpu i lywio ein canllawiau yn y dyfodol, ynghylch pa bryd y bydd cofrestru’n gynnar yn briodol. A byddwn yn datgan eto, ar gyfer rhai plant, mai cofrestru’n gynnar yw'r penderfyniad cywir. Ar gyfer y plant hynny, er enghraifft, a allai fod mewn perygl o ymddieithrio o'r ysgol, a pheidio â bod yn yr ysgol erbyn mis Mehefin ym mlwyddyn 11, efallai mai’r gallu i sefyll mathemateg a Saesneg ym mis Tachwedd fyddai’r penderfyniad cywir. Ar gyfer plant, er enghraifft, sydd yn arbennig o ddawnus ym maes mathemateg, mae’n debygol iawn mai gallu cofrestru’n gynnar, gan ganiatáu iddynt fynd ymlaen i astudio ar gyfer mathemateg pellach, fydd y penderfyniad cywir. Ond gadewch imi ddweud wrthych chi, hyd yn oed wrth edrych ar y rhai hynny sy'n cyflawni graddau da mewn mathemateg, nid yw nifer sylweddol o'r plant hynny yn mynd ymlaen i astudio mathemateg eto yn eu gyrfa ysgol ar lefel uwch. Ac mae hynny'n gyfle a gollwyd—o ddifrif.
A gaf i fod yn gwbl glir, i'r bobl hynny a ddywedodd ei bod yn dweud yn yr adroddiad, drwy newid mesur atebolrwydd yr ysgol, ein bod yn ei hanfod yn gwahardd cofrestru’n gynnar— nid ydym yn gwahardd cofrestru’n gynnar. Os yw'r ysgol o'r farn ei bod er budd gorau’r disgybl —ac, fel y gwnaethoch ddweud, siawns bod hynny yr un fath â bod er budd gorau'r ysgol—mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i gofrestru myfyrwyr pan fyddant o’r farn bod hynny’n briodol. Y cyfan sy'n newid yw’r modd yr ydym ni’n cynnwys hyn yn ein mesurau atebolrwydd.
A gofynnodd yr Aelod y cwestiwn: sut mae hyn yn cyfrannu at ddiwygio atebolrwydd yn ehangach? Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'm datganiad ysgrifenedig, yn gynharach y tymor hwn, yn rhan o'n trefniadau pontio; mae'r datganiad hwn heddiw yn rhan arall o'r trefniadau pontio hynny. Ac rwy'n gwybod ei fod yn ddarllenydd brwd o ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’, sy'n datgan yn glir iawn, y byddwn, erbyn y flwyddyn nesaf, wedi cytuno ar set newydd o fesurau atebolrwydd ysgol gyda'r sector, ac erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, byddwn hefyd wedi cytuno ar set gyfan o fesurau atebolrwydd, ac rwy'n bwriadu cyhoeddi cerdyn adrodd ar addysg yng Nghymru.
Felly, nid yw hyn yn ymwneud â newid atebolrwydd ar gyfer ysgolion, mae'n ymwneud â datblygu system atebolrwydd ar gyfer y system addysg gyfan, ac amlinellir yr amserlen yn ‘cenhadaeth y genedl’.
O ran rhannu costau, mae hwn yn bryder mawr i mi. Fel y dywedais yn fy ateb i Paul Davies, rwy’n ymfalchïo, ac mae'r weledigaeth yn ‘cenhadaeth ein cenedl’ yn system sy'n seiliedig ar ddwy egwyddor sef cydraddoldeb a rhagoriaeth. Ac ni allwn gael tegwch os bydd rhai pobl yn cael rhoi cynnig ar arholiadau dro ar ôl tro oherwydd bod eu rhieni yn gallu talu am hynny. A byddaf yn defnyddio'r holl bwerau sydd gennyf, a'r holl ddulliau yr wyf yn gallu dylanwadu arnynt, i sicrhau nad yw hynny yn digwydd yn ysgolion Cymru. Ni allaf fod yn fwy clir na hynny, Llyr.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad heddiw. Ac fel cyn-athro ysgol uwchradd fy hun, rwy’n cytuno'n llwyr fod hwn yn fater cymhleth, ac nad oes un dull o gofrestru ar gyfer TGAU sy'n addas i bawb. Mae’n rhaid inni sicrhau bod disgyblion yn cael amser i gyflawni eu potensial llawn, nid eu cofrestru'n gynnar, a'u hannog i fancio gradd is nag y gallent fod wedi ei chyflawni ar ôl cwblhau eu hastudiaethau dros ddwy flynedd.
Rwy'n cydnabod y broblem o flinder arholiadau hefyd. Gall lefelau straen godi ymysg llawer o ddisgyblion sy'n sefyll amrywiol fodiwlau TGAU trwy gydol blwyddyn 10 a blwyddyn 11. Rwyf hefyd yn cydnabod bod athrawon yng nghyfnod allweddol 4 yn addysgu ar gyfer y prawf yn gyson. Rwy’n cytuno y bydd y diwygiadau hyn yn rhoi'r amser a'r cyfle i athrawon gyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys.
Ond, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaethoch chi ddweud bod cofrestru’n gynnar yn gallu bod yn fuddiol iawn i'n disgyblion mwyaf galluog, gan ganiatáu iddynt ledaenu'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau, a chyflawni rhai cymwysterau yn gynnar, cyn symud ymlaen i ganolbwyntio ar rai eraill. Rwy'n falch y bydd ysgolion yn cael eu hannog i greu dulliau sy'n cael eu teilwra ar gyfer yr unigolyn, ond fy nghwestiwn yw: sut y caiff hyn ei fonitro? Mae hefyd yn cyd-fynd â chyngor Estyn, sef bod angen i ni wneud mwy i herio ein disgyblion mwyaf galluog yng Nghymru. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr nad yw ysgolion yn annog y rhai hynny a allai gael gradd dda yn gynnar i beidio â gwneud hynny gan eu bod yn ofni y gallai methu wrth gofrestru’n gynnar effeithio ar berfformiad yr ysgol neu gyllideb yr ysgol?
Rydw i bob amser yn nerfus iawn pan fo Vikki yn codi i ofyn cwestiynau gan y bu hi’n ymarferydd yn ddiweddar, ond bydd Vikki yn gwybod mai un o ganlyniadau anfwriadol posibl cofrestru’n gynnar yw—a chyfeirir at hyn yn yr adroddiad—culhau'r cwricwlwm, fel bod yr holl wersi yn ymdrin â chael y plentyn hwnnw drwy arholiad. Nawr, peidiwch â fy nghamddeall i, mae arholiadau yn hanfodol bwysig, ond mae addysg yn ymwneud â mwy na hynny ac mae angen inni sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys ar gael ar gyfer ein holl blant sydd wedi'i ategu gan gyfraith y wlad hon. Rydym ni hefyd yn gwybod, a dywedwyd hyn gan Paul Davies, eto, mai canlyniad anfwriadol arall ac effaith cofrestru’n gynnar yw colli amser dysgu. Gall hynny fod yn broblem i ddisgyblion yn is i lawr yr ysgol, y mae eu hathrawon yn cael eu symud i gael plant yn barod ar gyfer set barhaus o arholiadau allanol, neu gall fod ar draul pynciau eraill ar wahân i Saesneg, Cymraeg neu fathemateg. Ac fel athrawes hanes, rwy'n siŵr y byddai Vikki wedi bod yn ymwybodol o hynny, bod rhai pynciau, efallai, yn cael eu hystyried yn llai pwysig a bod amser gwersi ar gyfer y pynciau hynny yn cael eu cwtogi. Unwaith eto, mae hynny'n ganlyniad anfwriadol i rai o'r arferion hyn, a gobeithio y bydd y newidiadau hyn heddiw yn eu lliniaru.
Rwyf wedi gofyn i Estyn edrych ar sut y mae ysgolion wedi mynd i’r afael â gweithredu'r TGAU newydd a sut y maent wedi ymdopi â'r newid hwnnw. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y newidiadau hynny i TGAU wedi bod yn un o'r prif bethau sydd wedi sbarduno cynnydd mor fawr mewn cofrestru’n gynnar a byddwn yn ystyried hynny. Byddwn yn parhau i ofyn i'n cynghorwyr herio ac adolygu, yn rhan o'r consortia, sef ein modd o wella ysgolion, i adolygu hyn pan fyddant yn cwrdd â'u hysgolion unigol ynghylch pa benderfyniadau a pha ddewisiadau y mae ysgolion yn eu gwneud o ran sut y maent yn gweithredu cofrestru’n gynnar. Rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad ar gefnogaeth ychwanegol benodol ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog yn ddiweddarach.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cymeradwyo Cymwysterau Cymru am gynnal yr ymchwil hwn ac am gyhoeddi'r adroddiad. Rwyf hefyd yn cytuno â'r teimladau yr ydych yn eu mynegi yn eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddiddorol nodi bod yr adroddiad yn nodi na fu unrhyw ymchwil sylweddol i farn gweithwyr proffesiynol ar gofrestru’n gynnar a chofrestru amryfal ar gyfer arholiadau. A all Ysgrifennydd y Cabinet esbonio pam na fu? Mae'r Blaid Lafur, sydd wedi bod yn rheoli system addysg Cymru ers 20 mlynedd bellach mewn un ffordd neu'r llall, yn ôl pob sôn yn gysylltiedig â’r undebau, felly pam ydych chi'n meddwl mai dim ond nawr, diolch i Cymwysterau Cymru, y mae barn gweithwyr addysg proffesiynol wedi’u ceisio ar y mater? Mae'r adroddiad hefyd yn sôn nad yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar gofrestru’n gynnar a chofrestru amryfal yn cael llawer o groeso o gwbl gan rai o'r proffesiwn addysgu. Felly, lle’r oedd dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o'r mater pan luniwyd y canllawiau hynny? Mae'n ymddangos bod methiant difrifol a hirdymor wedi bod yn y cyfathrebu rhwng yr undebau addysgu a'r Blaid Lafur, byddwn i’n awgrymu.
Rwy'n falch eich bod wedi penderfynu gweithredu'r ddau argymhelliad a wneir gan yr adroddiad. Fodd bynnag, mae'n siomedig, oni bai am yr adroddiad hwn, na fyddai gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer ymdrin â'r broblem ac mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder imi a dylai bryderu rhieni pob plentyn oedran ysgol yng Nghymru. Ar wahân i weithredu'r ddau argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad, beth ydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y broblem, nad yw o reidrwydd yn ysgolion yn cofrestru’r myfyrwyr ar gyfer arholiadau'n gynnar, ond y straen a’r pwysau gormodol y maent yn ceisio eu hosgoi trwy wneud hynny?
Felly, er fy mod yn croesawu'r syniadau hyn sydd wedi dod gan Cymwysterau Cymru, mae’n amlwg nad ydynt ond yn ymdrin â symptomau salwch sylfaenol ac annymunol diamheuol yn system addysg Cymru, nid gwraidd yr achos ei hun, sef diffyg gweledigaeth sy’n cyd-fynd, yn anffodus, â diffyg dadansoddi a chynllunio gan Lywodraeth Cymru. Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau bod rhai ysgolion yn cymryd camau i beidio â blaenoriaethu buddiannau addysgol ein plant er gwaethaf y ffaith nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Maent yn cael eu gorfodi gan y Llywodraeth i wneud hynny. Tybed a ydych chi’n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn gyhuddiad damniol ar y Llywodraeth hon ei bod wedi creu system addysg lle nad yw’n blaenoriaethu addysg plant Cymru. Beth fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei wneud yn wahanol, neu a yw eich plaid chi yn hapus â safbwynt Llafur sy'n gwneud i ysgol boeni'n fwy am ei henw da ar bapur na’r cyfleoedd bywyd y mae'n eu rhoi i’w disgyblion? Diolch.
A gaf i ddweud yn fyr iawn, Llywydd dros dro, fy mod yn mwynhau perthynas heriol ond gynhyrchiol iawn â'r undebau llafur a dyna sut y dylai fod. Mae ganddyn nhw bethau y maen nhw'n dweud wrthyf i yr wyf i’n cytuno â nhw ac mae gen i bethau yr wyf i’n eu dweud wrthyn nhw y maen nhw’n anghytuno â nhw, ond byddwn yn symud y system addysg ymlaen mewn partneriaeth.
Dywed yr Aelod nad oes gennym weledigaeth ar gyfer addysg. Byddwn yn ei chyfeirio at yr union ddatganiad y gofynnodd gwestiynau i mi amdano dim ond pythefnos yn ôl. Mae ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’ wedi cael croeso eang gan y rhai hynny yn y sector ac mae'n nodi'n glir iawn weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ein system addysg.
Yr hyn sy'n amlwg o'r adroddiad hwn yw bod rhai canlyniadau anfwriadol wedi bod ynghylch hyblygrwydd ar gyfer cofrestru’n gynnar. Rwyf i, cyn gynted â phosibl, ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd gan reoleiddiwr annibynnol ein system arholiadau, yn gwneud penderfyniad ac yn gwneud y dewis hwnnw, ac rwy’n falch iawn o wneud hynny.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac rwy’n croesawu ei chyfeiriadau, nad ydynt yn syndod, at bwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad a'r pwyslais ar gofrestru cynnar amhriodol. Oherwydd, i lawer o ddisgyblion, wrth gwrs, y rhai hynny y mae gwella eu perfformiad yn hanfodol i gau'r bwlch cyrhaeddiad, cofrestru’n gynnar yw’r opsiwn cywir. Gall y gallu, yng nghyd-destun cyfle i astudio a chofrestru ar ei ben ei hun, i ganolbwyntio ar y cymhwyster hwnnw ac elwa ar gymorth mwy dwys, fod yn bwysig iawn i fyfyrwyr penodol er mwyn cael y canlyniad gorau posibl, sy'n bwysig ynddi ei hun, ond hefyd o ran rhoi hwb i'w hyder academaidd i barhau i aros mewn addysg. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith y bydd yn cyflwyno canllawiau ar ba bryd y mae cofrestru’n gynnar yn briodol i rai myfyrwyr. Tybed a all hi rannu ei syniadau ar sut na fydd ysgolion sy'n dyfarnu yn unol â’r canllawiau hynny, er budd gorau disgyblion unigol, yn cael eu cosbi am wneud hynny trwy fesurau perfformiad diwygiedig.
Diolch, Jeremy. Mae'n amlwg imi o'm hamser yn y swydd bod mesurau atebolrwydd a sut yr ydym yn barnu ysgolion unigol yn allweddol wedyn i'r ymddygiad yr ydym yn ei weld yn yr ysgolion hynny, sydd i'w ddisgwyl ac sy’n rhesymol. Ond dim ond hyn a hyn y gall y mesurau atebolrwydd presennol ei gyflawni, ac rwy'n credu ei bod yn cael ei gydnabod, ar draws y sector, erbyn hyn, mai nawr yw’r amser i edrych eto ar sut a beth yw mesurau perfformiad ysgolion unigol. Fel y dywedais, rydym yn pontio i ffwrdd o'r hen ffordd o'i gwneud hi i system newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf.
Yn allweddol i'm hystyriaeth yn hynny o beth yw cydnabod y cysyniad o gynnydd mewn ysgol. Oherwydd, i rai myfyrwyr, mae C yn llwyddiant ac yn dangos gwaith caled ac ymroddiad y proffesiwn addysgu. Fodd bynnag, os daeth myfyriwr i'ch ysgol uwchradd a’i alluoedd ar ddiwedd blwyddyn 6 wedi’u rhagweld i fod yn rhywun sydd â'r potensial i fynd ymlaen a chael A*, yna mae C yn amlwg yn ganlyniad siomedig. Mae angen inni sefydlu system atebolrwydd sy'n cydnabod yr effaith y mae ysgolion yn ei chael ar gynnydd y plant, oherwydd mae pob plentyn yn unigolyn a bydd set o ganlyniadau pob plentyn yn adlewyrchu'n llawn eu galluoedd cynhenid eu hunain. Mae angen system atebolrwydd arnom sy'n cydnabod effaith ysgolion ac sy’n cydnabod bod llwyddiant yn ymddangos yn wahanol iawn i unigolion gwahanol iawn. Nid yw ymagwedd un dull ar gyfer carfan gyfan, sef yr hyn yr ydym wedi'i weld weithiau gyda chofrestru’n gynnar, er budd gorau disgyblion unigol. Rydym yn gweithio'n galed iawn i fod mewn sefyllfa i sicrhau bod honno ar gael cyn diwedd haf nesaf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.
Rydym yn symud ymlaen yn awr at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig), a galwaf ar arweinydd y tŷ.
Cynnig NDM6529 Mark Drakeford
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig), sy'n ymwneud â rhyddhad ardrethi annomestig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac am yr adroddiad y mae wedi ei lunio. Mae'r pwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Cynulliad dderbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) ar 4 Gorffennaf yn dilyn cyhoeddiad yn natganiad hydref 2016 y Canghellor. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi annomestig dros bum mlynedd ar gyfer seilwaith ffeibr llawn newydd, ac mae hyn i ysgogi cyflwyniad seilwaith band eang ffeibr llawn newydd a chyfathrebu 5G yn y dyfodol i gartrefi a busnesau. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad 'Symud Cymru Ymlaen' i adeiladu cymdeithas unedig a chysylltiedig trwy gynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru. Byddai angen datblygu, costio ac ymgynghori ar fanylion unrhyw gynllun rhyddhad. Credaf fod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylai'r darpariaethau hyn gael eu cynnwys yn y Bil ar gyfer Cymru a Lloegr, fel bod gan Gymru gydraddoldeb o ran rhyddhad ffeibr â Lloegr i gefnogi ei buddsoddiad a sicrhau nad yw Cymru yn cael ei hystyried yn lle drutach i ddefnyddio ffeibr newydd. Felly, rwyf yn cynnig y cynnig ac yn gofyn i'r Cynulliad dderbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Nid oes llawer i’w ddweud i wrthwynebu y cais yma, dim ond gofyn am ychydig o ymhelaethu, a dweud y gwir, gan yr Ysgrifennydd busnes i ddeall yn iawn y broses a wnaeth arwain lan at y penderfyniad yma i gytuno i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Roedd hi’n sôn am y prif gymhelliant, fel rydw i’n ei ddeall ef, sef y gofid y bydd Cymru yn cael ei gweld fel lle llai ffafriol ar gyfer buddsoddiad yn y cyd-destun yma. A fuasai hi’n gallu dweud ychydig yn fwy ynglŷn â’r broses roedd Llywodraeth Cymru wedi mynd drwyddi i ddod i’r casgliad hwnnw? Eithriadau, wrth gwrs, y byddwn i ond eisiau derbyn o roi’r cydsyniad i’r Senedd arall ddeddfu ar ein rhan. Felly, a allai hi ddarlunio ychydig bach yn rhagor y broses roedd y Llywodraeth wedi mynd drwyddi yn yr achos yma? Ac yn gyffredinol, er mwyn gwneud yr asesiad cywir, roedd yna gyfeiriad yn y nodyn gan yr Ysgrifennydd Cabinet at resymau amseru a chydlyniad: ai prinder amser yn yr amserlen ddeddfwriaethol fan hyn a oedd hefyd yn pwyso ar feddwl y Llywodraeth? Mae yna sôn am natur rhyng-gysylltiedig systemau gweinyddol Cymru a Lloegr. Efallai y gallai’r Ysgrifennydd busnes hefyd ddweud rhyw gymaint yn fwy ynglŷn â hynny fel ein bod ni’n deall yn iawn y broses feddwl a oedd y tu ôl i’r gorchymyn yma.
Wel, mae'r rhain yn gwestiynau pwysig, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor wedi eu hystyried wrth edrych ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig hwn. Mae'n bwysig cydnabod y byddai'r cynigion hyn yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi annomestig dros bum mlynedd ar gyfer seilwaith ffeibr llawn llawn o fis Ebrill eleni, a gellir ei ôl-ddyddio, wrth gwrs, i 1 Ebrill 2017 ar gyfer seilwaith cymwys. Rwyf wedi gwneud y pwynt ein bod yn teimlo ei bod hi'n bwysig achub ar y cyfle hwn, er ein bod eisoes yn gwneud cynnydd o ran cysylltedd ffonau symudol yn ogystal â band eang cyflym iawn yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae gennym ein cynllun gweithredu ffonau symudol ein hunain, sy'n amlinellu'r hyn yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru yn dymuno ei wneud o ran creu yr amgylchedd iawn i wella cysylltedd yng Nghymru. Ond nid ydym eisiau cael y—. Wyddoch chi, mae'n ymwneud â: beth yw'r pwynt? Pa drosoledd sydd ei angen arnom? Nid oes gennym y prif elfennau trosoledd gan eu bod yn gorwedd gyda Llywodraeth y DU ac Ofcom, ac mae'n bwysig, yn fy marn i, i bwysleisio nad oes ateb unigol i hybu cysylltedd ffonau symudol. Rydych chi wedi sôn am y pwynt ynglŷn â chydraddoldeb a'r materion yn ymwneud â natur gydgysylltiedig systemau gweinyddol perthnasol Cymru a Lloegr. Rwy'n credu ein bod yn teimlo bod angen i ni gael cydraddoldeb rhyddhad ffeibr â Lloegr. Pe na byddai’r cydraddoldeb hwnnw gennym, byddai'r farchnad ffeibr newydd yng Nghymru yn cael ei hatal, gan fod darparwyr seilwaith yn dewis buddsoddi lle y byddant yn cael gwell elw, gan fod o bosib yn gweld Cymru yn symud i sefyllfa o farweidd-dra digidol dros amser. Felly, mae hynny'n profi'r achos, rwy'n credu, i ni sicrhau ein bod yn manteisio o ran cymhwysedd deddfwriaethol. Bydd yn helpu i ysgogi buddsoddiad mewn ffeibr, a bydd yn annog cystadleuaeth gan ddarparwyr llai mewn marchnad sydd wedi ei dominyddu gan un prif chwaraewr. Felly rwy'n gobeithio bod hynny’n ateb y pwyntiau a wnaeth Adam Price.
Wrth gwrs, mae'r darpariaethau—dim ond i orffen— yn rhoi hawl i Weinidogion Cymru o ran pwerau Cymru ragnodi amodau pellach y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i’r rhyddhad fod yn gymwys, pwerau i osod lefelau’r rhyddhad trwy ragnodi maint y rhyddhad mewn rheoliadau, a phwerau i osod dyletswyddau ar swyddogion prisio neu roi pwerau iddynt.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 5, 6, 7 ac 8 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Y eitem nesaf, felly, yw’r ddadl ar fynd i’r afael â throseddau casineb. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig. Carl Sargeant.
Cynnig NDM6530 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad am y gwaith yr ydym ni a'n partneriaid yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb ac anoddefgarwch ledled Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn dangos yr unfrydedd bwriad sylfaenol sy’n bodoli yn y Cynulliad hwn o ran mynd i'r afael â'r camweddau hyn.
Mae’r wythnos hon, wrth gwrs, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, sy'n adeg allweddol i'n partneriaid yn y trydydd sector a'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru. Rwyf, unwaith eto, wedi sicrhau bod cyllid ar gael i'r comisiynwyr heddlu a throseddu i gefnogi gweithgareddau yn ystod yr wythnos hon. Eleni, rwyf wedi caniatáu mwy o hyblygrwydd fel bod y cyllid hefyd yn cefnogi peth gweithgarwch a fydd yn parhau yn hwy na'r wythnos troseddau casineb ei hun, ac mae angen inni ganolbwyntio ar y materion hyn trwy gydol y flwyddyn.
Mae pob trosedd casineb yn wrthun. Rydym ni wedi gweld nifer o ddigwyddiadau ofnadwy ledled y DU eleni, ac fe hoffwn i eto estyn fy nghydymdeimlad i’r dioddefwyr, eu teuluoedd, a phawb yr effeithiwyd arnynt. Fe wyddom ni fod effaith y fath erchyllterau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r rhai a effeithir yn uniongyrchol, a hynny gyda chanlyniadau sy’n para am weddill eu hoes. Llywydd, mae’r un peth yn wir am lawer o droseddau casineb eraill. Er y gallan nhw fod ar raddfa lai ac yn aml yn osgoi sylw’r byd ehangach, mae troseddau casineb yn cael effaith ddinistriol a pharhaol ar bobl a chymunedau. Yn 2014, fe wnaethom ni lansio ‘Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu', sy'n nodi ein hymrwymiad i herio gelyniaeth a rhagfarn mewn cysylltiad â phob un o’r nodweddion gwarchodedig. Mae'r fframwaith yn cynnwys amcanion megis atal, cefnogi a gwella'r ymateb amlasiantaethol.
Un o nodau tymor byr y fframwaith oedd cynyddu nifer y dioddefwyr sy'n gwneud cwyn swyddogol. Rydym ni wedi cael llawer o lwyddiant yn y maes hwn, ac mae’n rhaid i ddioddefwyr fod â'r hyder i sôn am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a gwybod sut i wneud hynny. Mae angen iddyn nhw allu sicrhau cyfiawnder, ac mae hefyd angen iddyn nhw gael cymorth ac eiriolaeth yn sgil troseddau sydd weithiau’n rhai difrifol. Y bore yma, rhyddhaodd y Swyddfa Gartref ei ffigurau troseddau casineb ar gyfer 2016-17. Maen nhw’n dangos bod 2,941 o droseddau casineb wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod 2016-17, sef cynnydd o 22.3 y cant o’i gymharu â 2015-16. Mae llawer o'r cynnydd yn debygol o fod oherwydd cynnydd yn y gyfradd adrodd, ac mae hyn i’w groesawu. Mae gwybodaeth o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos mai dim ond 48 y cant o ddioddefwyr troseddau casineb oedd yn hysbysu’r heddlu neu ganolfan adrodd trydydd parti am y troseddau hynny rhwng 2012 a 2015. Ers hynny, mae llawer o waith wedi'i wneud drwy'r fframwaith troseddau casineb i gynyddu ymwybyddiaeth a hyder dioddefwyr i roi gwybod am droseddau.
Mae nifer y troseddau casineb a gofnodir yng Nghymru wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan ddangos gwerth y gwaith y mae Llywodraeth Cymru, yr heddlu, y trydydd sector a phartneriaid eraill wedi ei wneud. Rydym ni wedi gweld cynnydd tebyg yn nifer yr achosion y mae ein canolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau yn ymdrin â nhw. Y llynedd, ymdriniodd y ganolfan â 2,655 o achosion—cynnydd o 21 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn 2017-18, mae 1,238 o ddioddefwyr eisoes wedi cael cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth gan y ganolfan.
Mae'r ganolfan yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pawb sydd wedi dioddef troseddau casineb yng Nghymru, ac rwyf wedi cadarnhau cyllid ar gyfer y ganolfan hyd at 2020 i sicrhau y gall y gwasanaethau barhau.
Mae ein partneriaid ar Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb hefyd yn chwarae rhan hanfodol. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys y pedwar gwasanaeth heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Maen nhw’n archwilio prosesau ac yn sicrhau bod y system adrodd yn gweithio o’r adeg pan adroddir am y tro cyntaf i'r cam lle mae achos yn mynd i’r llys. Yn gynharach, dywedais fod rhan o'r cynnydd yn y troseddau casineb a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn debygol o fod oherwydd cynnydd yn nifer y dioddefwyr sy’n adrodd amdanynt. Serch hynny, Llywydd, mae'n rhaid inni bob amser gydnabod bod hyn, yn rhannol, mae’n debyg, o ganlyniad i gynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb yn 2016 a 2017 hefyd.
Rydym ni wedi clywed gan yr heddlu, y ganolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau casineb, asiantaethau'r trydydd sector a grwpiau cymorth lleol ynglŷn â’r pryder gwirioneddol ynghylch y nifer cynyddol o droseddau casineb a gyflawnwyd y llynedd, ac ni ddylem anwybyddu'r dystiolaeth hon gan bobl brofiadol, broffesiynol ac ymroddedig sy'n ymwneud â hyn bob dydd. Maen nhw’n dweud wrthym ni, er enghraifft, am bobl sydd wedi dioddef cam-drin hiliol yn ddiweddar gan gymdogion y buon nhw’n byw drws nesaf iddyn nhw am flynyddoedd lawer nad ydyn nhw erioed wedi mynegi’r fath sylwadau o'r blaen, am bobl yn cael eu difrïo am ddim ond siarad iaith heblaw'r Saesneg—mewn rhai achosion pan mai’r iaith a ddefnyddiwyd oedd y Gymraeg—a hyd yn oed am bobl anabl yn dioddef camdriniaeth ar fysiau a threnau. Felly, mae’n rhaid inni barhau i weithio gyda'n partneriaid i wrthsefyll casineb a meithrin cydlyniant yng Nghymru, ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw i wneud ein gwaith mor effeithiol â phosib a chreu cymunedau lle nad yw trosedd casineb yn cael ei oddef, a lle rhoddir cymaint o gefnogaeth â phosib i ddioddefwyr.
Er enghraifft, mae gennym ni gysylltiadau cryf â'n cymunedau ffydd ledled Cymru. Mae'r Prif Weinidog a minnau'n cyfarfod â'r fforwm cymunedau ffydd ddwywaith y flwyddyn—yn wir, fe wnaethom ni gyfarfod ddoe—i drafod materion sy'n effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yma yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda grwpiau ffydd ar bob lefel er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth a meithrin cydlyniant cymunedol. Mae’n bwysig ein bod ni’n cael mynegi ein barn, yn gwrando’n barchus ar eraill a chydweithio’n well gyda’n gilydd, gan helpu i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gymdeithas oddefgar. Rydym ni’n cydweithio'n agos â'r heddlu i fonitro ac ymateb i densiynau cymunedol, ac mae angen inni gael ymateb tymor byr effeithiol i argyfyngau ynghyd â gweithio yn yr hirdymor i feithrin cydnerthedd a chydlyniant cymunedol.
Mae tensiynau cymunedol yn creu mwy o ofn a phryder, yn bygwth heddwch a sefydlogrwydd cymunedau ac fe allan nhw hefyd arwain at drosedd, Llywydd. Mae rhai tensiynau yn amlygu eu hunain ar ffurf anhrefn, difrod neu drais corfforol. Mae effeithiau eraill yn llai gweladwy, gan wneud i bobl deimlo'n agored i niwed, wedi'u heithrio ac yn ofnus pan eu bod yn byw eu bywydau beunyddiol. Drwy fonitro tensiynau'n effeithiol, fe allwn ni ymyrryd i atal troseddau casineb a gofid. Mae yn ymwneud ag ymateb yn gynnar a bod gam ar y blaen i hyn. Mae angen newid agwedd o ran deall, parchu a derbyn. Mae arnom ni angen mwy a mwy o bobl i ddathlu amrywiaeth yn hytrach na’i ofni, gan gydnabod bod Cymru wedi ei chyfoethogi erioed gan bobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a chrefyddau.
Felly, byddwn ni’n parhau i gydweithio'n agos â nifer fawr o bartneriaid i gryfhau ein neges gyffredin. Llywydd, gyda’n gilydd, byddwn ni’n cyflwyno negeseuon cyson a chadarnhaol mewn cymunedau ledled Cymru i herio rhagfarn a gwahaniaethu a gwrthwynebu casineb. Mae gennym ni nifer o fentrau i atal pobl ifanc rhag cael eu hudo i weithgarwch adain dde. Nid oes unrhyw gymdeithas yn ddiogel rhag bygythiad eithafiaeth neu derfysgaeth, ond rydym ni’n gweithio i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo. Ceir strwythurau sefydledig ledled Cymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth. Daw'r strwythurau hyn at ei gilydd o dan CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru. Mae ein dull o fynd i'r afael â therfysgaeth eithafol yn cynnwys, er enghraifft, modiwl eithafiaeth heriol yn rhan o'r her dinasyddiaeth fyd-eang ym magloriaeth Cymru, ac mae addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â chasineb. Mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch eu trefniadau i herio geiriau ac ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys hiliaeth, a chefnogi plant sy’n ddioddefwyr. Rydym ni’n diweddaru ein canllaw gwrth-fwlio, 'Parchu eraill', a gyhoeddwyd yn 2011, ac rydym ni eisoes wedi trafod â rhanddeiliaid ac fe fyddwn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yr hydref hwn.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan a swyddogaeth flaenllaw ym mywydau'r rhan fwyaf ohonom ni, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc. Mae’r ffaith bod cyfryngau cymdeithasol ar gael a’r defnydd a wneir ohonynt yn dod â phroblemau newydd drwy seiberfwlio a seibergasineb, ac rydym ni’n parhau i weithio gyda gwasanaethau'r heddlu ledled Cymru a'r ganolfan ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r angen i roi gwybod am seiberfwlio a cham-drin ac i fonitro hynny.
Llywydd, rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau llawer o’r Aelodau yn ystod dadl y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, er y bu cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad.
Gwelliant 2—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cod ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol.
Gwelliant 3—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb.
Gwelliant 4—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 and 4.
Diolch, Llywydd. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb 2017, gadewch inni gydnabod y caiff trosedd casineb ei diffinio fel trosedd y tybir mai’r cymhelliant yw casineb neu ragfarn tuag at rywun yn seiliedig ar briodwedd bersonol. Mae'r ddadl hon gan Lywodraeth Cymru yn galw arnom ni i nodi'r cynnydd a wnaed o ran fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb a luniwyd yn 2014. Dywedodd Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan, y mae’r fframwaith yn seiliedig arno, bod angen gwneud mwy i gynyddu hyder dioddefwyr a thystion i gwyno’n swyddogol am ddigwyddiadau casineb ac i hyrwyddo'r farn mai’r peth iawn i'w wneud yw rhoi gwybod am gasineb.
Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau o ran sicrhau bod dulliau adrodd trydydd parti hygyrch yn bodoli ar gyfer dioddefwyr nad ydyn nhw eisiau hysbysu’r heddlu yn uniongyrchol. Cofnododd yr Heddlu 2,528 o droseddau casineb yn 2014-15, sef cynnydd blynyddol o 18 y cant, gyda mwy nag 80 y cant yn seiliedig ar gymhelliant hiliol, er bod yr arolwg troseddau blynyddol ar gyfer Cymru a Lloegr yn awgrymu bod troseddau casineb wedi gostwng 28 y cant dros y saith mlynedd blaenorol. At ei gilydd, bu cynnydd pellach o 19 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2015-16, gyda 79 y cant yn droseddau casineb hiliol. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016, cynyddodd troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu gan 52 y cant yn Nyfed Powys i 35 o ddigwyddiadau, 22 y cant yng ngogledd Cymru i 56 o ddigwyddiadau, 22 y cant yng Ngwent i 77 o ddigwyddiadau a 10 y cant yn ne Cymru i 276 o ddigwyddiadau. Mae ffigurau troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ac a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cynnydd pellach o 29 y cant yn 2016-17, ac mae ystadegwyr y Swyddfa Gartref yn dweud y credir bod hyn yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb a gwelliannau parhaus o ran hysbysu’r heddlu am droseddau. Y mis diwethaf, dangosodd ymchwil newydd fod nifer y bobl lesbiaid, hoyw a deurywiol yng Nghymru sy'n dioddef troseddau casineb wedi cynyddu o 11 y cant yn 2013 i 20 y cant eleni.
Os oes unrhyw ddigwyddiad neu drosedd y mae dioddefwr neu unrhyw berson arall yn credu mai’r cymhelliant oedd nam neu nam tybiedig person, yna fe ddylid cofnodi hyn fel trosedd casineb ar sail anabledd. Mae troseddau casineb anabledd a adroddir ar draws y DU wedi codi 101 y cant i 3,079 dros ddwy flynedd, gyda throseddau yn erbyn plant anabl wedi codi 150 y cant i 450. Mae'r Swyddfa Gartref wedi mynegi pryder bod nifer sylweddol o ddioddefwyr nad ydynt yn adrodd am gasineb anabledd, er y bu cynnydd cyson yn nifer y troseddau casineb yr adroddwyd amdanynt yn gyffredinol, gyda mwy o ddioddefwyr yn magu hyder i fynegi hynny a'r heddlu yn gwella'r ffordd y maen nhw’n nodi a chofnodi troseddau casineb.
Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 1, gan nodi bod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i gwyno.
Rwy’n cynnig gwelliant 2, gan groesawu ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y cod ymarfer newydd ynglŷn â’r cyfryngau cymdeithasol y mae Deddf Economi Ddigidol y DU 2017 yn darparu ar ei gyfer. Bydd hwn yn sicrhau ffordd gydgysylltiedig o fynd ati i ddileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar y we sy’n bwlio, yn bygwth neu’n bychanu, gan gynnwys trolio a cham-drin sy'n aml yn cael ei dargedu'n anghymesur at ferched.
Er bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod problem gynyddol o ran pobl hŷn yn cael eu targedu'n benodol gan droseddwyr oherwydd eu hoedran, mae bwlch yn y gyfraith o hyd nad yw'n cydnabod fod hyn yn drosedd casineb. Mae ‘Action on Elder Abuse’ yn tynnu sylw at ymchwil sy'n dangos nad yw dros 99 y cant o gam-drinwyr sy'n targedu pobl hŷn yn cael eu cosbi, ac mae eu harolwg o fis Chwefror 2017 yn dangos bod bron i 95 y cant yn cytuno y dylai cam-drin pobl hŷn fod yn drosedd waethygedig fel troseddau casineb yn seiliedig ar hil, crefydd neu anabledd. Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 3, sy’n cefnogi galwadau i gydnabod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran fel troseddau casineb.
Mae adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru 2016-17 yn cyfeirio at y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, ond nid yw'n mynd i'r afael â throseddau casineb yn erbyn oedolion awtistig, ac nid yw'r rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd o reidrwydd yn ymwneud â mynd i'r afael â throseddau casineb. Oes, mae a wnelo fo â chodi ymwybyddiaeth, a da o beth yw hynny, ond nid yw’n cynnwys troseddau casineb. Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 4, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb i'r strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig. Byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, er ei bod hi’n hanfodol darparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr ar y cyd â Chymorth i Ddioddefwyr a gwasanaethau trydydd sector lleol.
Yn gyffredinol, ac i gloi, fel y dywed y sawl ar Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu sy’n arwain ar droseddau casineb:
Fe wyddom ni fod gan ymosodiadau terfysgol a digwyddiadau cenedlaethol a byd-eang eraill y potensial i sbarduno cynnydd tymor byr mewn troseddau casineb,
ond
Wrth i derfysgwyr geisio ein rhannu ni,
dywedodd ef,
mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i sefyll yn unedig yn wyneb gelyniaeth a chasineb.
Diolch.
Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 5, 6, 7 ac 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr.
Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant i athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb mewn ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag cadw hyn yn gudd.
Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
Cynigiwyd gwelliannau 5, 6, 7 a 8.
Diolch, a diolch i chi am gynnal y ddadl hon ar yr hyn sy'n bwnc pwysig iawn ac yn un nad wyf i'n credu y rhoddir digon o sylw iddo yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rheolaidd.
Mae rhai o'r gwelliannau wedi eu hysbrydoli gan Race Equality First a'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe. Roedd y syniadau penodol hynny yn canolbwyntio ar hyfforddiant athrawon i ymdrin â digwyddiadau ac ymyraethau sy'n gysylltiedig â chasineb yn yr ysgol. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n bwysig i’w gofio yw bod barn gymdeithasol pobl yn cael ei ffurfio pan eu bod nhw’n ifanc iawn, a’r hyn a ddarganfyddais gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe, pan ymwelais â nhw ychydig wythnosau yn ôl, oedd eu bod yn cael gweithdai wedi'u teilwra'n benodol tuag at rai pobl y maen nhw’n sylwi arnyn nhw yn yr ysgol sy'n gwneud sylwadau sydd o bosib yn hiliol, neu sylwadau dirmygus ar gyfnod cynnar iawn yn ystod blynyddoedd eu hieuenctid yn yr ysgol i geisio deall pam maen nhw’n mynegi safbwyntiau o'r fath a beth sy’n amlygu ei hun yn y safbwyntiau hynny. Rwy'n credu ei fod yn gymhleth iawn, ond rwy'n credu, os ydym ni’n buddsoddi arian yn yr agenda ataliol honno, y byddwn yn gallu creu newid.
Yng ngoleuni hynny, rwyf wedi cael tystiolaeth gan y Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig lle maen nhw wedi dweud eu bod wedi darllen yn y fframwaith troseddau casineb y bydd fframwaith gwrth-fwlio Cymru gyfan yn edrych ar y gwaith ataliol hwn, ond maen nhw wedi dweud wrthyf ei fod wedi ei ddileu yn 2016. Felly, os nad oes fframwaith gwrth-fwlio Cymru gyfan yn bodoli, neu nad yw'r grŵp sy'n rhoi hynny ar waith yn bodoli ar hyn o bryd, pwy sy'n gwneud y gwaith hwnnw ar y rheng flaen?
O ran y gwelliant yn ymwneud â Cymorth i Ddioddefwyr, roedd hynny i gydnabod y ffaith y gallai fod grwpiau amrywiol ym mhob rhan o gymdeithas a allai gyfarwyddo Cymorth i Ddioddefwyr yn well ynghylch natur amrywiol a chymhleth y cyngor a'r gefnogaeth y mae angen ei rhoi i rai dioddefwyr. Efallai y ceir elusennau sy'n gweithio'n benodol gyda'r trawma a achosir gan drosedd casineb sy'n gysylltiedig â hil; efallai y bydd sefydliadau fel Stonewall a allai roi mwy o gefnogaeth i Cymorth i Ddioddefwyr ynglŷn â'r math hwnnw o drosedd casineb. Credaf mai dyna yw hanfod yr hyn yr wyf wedi ceisio ei ddweud ynghylch hynny—bod Cymorth i Ddioddefwyr, ynddo’i hun, yn gweithio'n dda, ond mae angen mwy o gefnogaeth a chymorth trawsbynciol gan y sector elusennol.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig nodi ein hymdrechion, fel plaid ac fel cenedl, i gynyddu cydlyniant cymunedol—dylai hyn fod wrth wraidd popeth a wnawn o ran troseddau casineb, yn enwedig o gofio bod troseddau casineb yn erbyn Mwslemiaid yn aml yn uwch pan fydd y cyfryngau yn sôn am ddigwyddiad terfysgol. Mae’n rhaid inni fynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol hynny, oherwydd mae gennym ni gymunedau yng Nghymru lle mae pobl yn dioddef o ganlyniad i’r hyn y mae pobl eraill wedi ei wneud, ac nid yw hynny yn eu henw nhw.
Sylweddolaf fod gwelliant 5 wedi achosi peth gwrthdaro cyn cynnal y ddadl hon. Nid yw’n golygu mai dynion yn unig sy'n dioddef o gael eu radicaleiddio gan y dde eithafol, ond mae'n gydnabyddiaeth y gallem ni ddechrau yn rhywle a dechrau gyda dynion yn y grŵp arbennig hwn. Nid wyf yn ymddiheuro am geisio cael y ddadl, ond fe allaf i ddeall y gallai’r ddadl fod yn fwy amrywiol efallai, a byddwn ni’n ystyried hynny yn y dyfodol. Ond rwy'n credu weithiau, fel y dywedais wrth bobl cyn i mi ddod yma heddiw—. Rydym ni'n gwybod bod dynion ifanc yn cyflawni hunanladdiad yn amlach, fe wyddom ni fod angen cymorth penodol arnyn nhw, ac fe wyddom ni fod dynion ifanc yn cael eu radicaleiddio gan y dde eithafol ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol—does ond rhaid i ni edrych ar Breitbart, nad ydyn nhw’n hyrwyddo trais yn agored, ond mae angen trafod y diwylliant o ddal dig maen nhw’n ei hyrwyddo’n gyson ymhlith rhai dynion croenwyn, oherwydd mae nifer o’r pynciau trafod wedi dod yn faterion prif ffrwd. Fe allai hyn fod yn ddadl yn ei hawl ei hun ynglŷn â phroblemau posib gydag iechyd meddwl, sut mae dynion o bosib yn teimlo bod eu swyddogaeth mewn cymdeithas wedi newid: maen nhw wedi clywed nhw mai nhw ddylai fod yn ennill y cyflog mwyaf, ond yn gweld nad felly y mae hi, a sut maen nhw’n teimlo pan nad yw’r swyddogaeth sydd ganddyn nhw mewn cymdeithas yn gweithio iddyn nhw bellach. Bu llawer o astudiaethau ynglŷn â pham mae dynion ethnig neu Asiaidd wedi cael eu radicaleiddio a’u denu tuag at y Wladwriaeth Islamaidd, ac felly beth am gael y sgwrs yn agored yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol ynghylch pam mae rhai sectorau o'n cymdeithas yn mynd ar-lein, yn cam-drin menywod, ac yn ei chael hi’n hawdd cyfiawnhau hynny oherwydd nad ydyn nhw’n credu yn yr agenda 'Gwleidyddol Gywir' mwyach? Pam mae hynny'n dderbyniol? Pam y dylem ni dderbyn hynny fel ffurf o drafodaeth agored? Siawns bod rhaid cwestiynu hynny. Felly, fe hoffwn i o bosib godi mwy o ddadleuon o'r math yma, a'u trafod mewn ffordd adeiladol, fel y gallwn ni helpu ein dinasyddion i ddeall ei gilydd. Efallai ein bod ni mewn sefyllfa freintiedig yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, felly nid ydym yn deall yr holl gymhlethdodau ynghylch pam mae pethau'n digwydd, ond mae’n rhaid inni geisio gweithio gyda'n gilydd yn fwy cadarnhaol fel cymdeithas.
Dengys y ffigurau heddiw fod troseddau casineb wedi codi gan 29 y cant, a chredaf fod hynny'n gynnydd yng Nghymru a Lloegr na welwyd ei debyg o’r blaen. Rwy'n siŵr y bydd y mwyafrif llethol o bobl resymol yn y Siambr hon, yn ein cymunedau a'n gwlad, yn cytuno bod hyn yn annerbyniol. Mae gan bob un ohonom ni yma ddyletswydd i godi llais, i sefyll a gweithredu er mwyn herio a mynd i'r afael â rhagfarn a chasineb ymhle bynnag ac i bwy bynnag y mae’n dangos ei wyneb hyll. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y lle hwn ar yr union fater hwn, ac rwyf wedi egluro na allwn ni gael hierarchaeth casineb.
Fodd bynnag, heddiw fe hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad ar fwlio, ac yn arbennig ar y cynnydd o gam-drin ar-lein. Dangosodd canlyniadau arolwg Stonewall ym mis Awst 2017 fod un o bob 10 o bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol wedi profi cam-drin neu ymddygiad homoffobig, biffobig neu drawsffobig ar-lein a gyfeiriwyd tuag atyn nhw yn bersonol. Mae'r rhif hwn yn cynyddu i un o bob pedwar person trawsrywiol sydd wedi dioddef camdriniaeth neu ymddygiad trawsffobig, a hanner yr holl bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol sydd wedi gweld camdriniaeth homoffobig, biffobig a thrawsffobig neu ymddygiad ar-lein nad oedd wedi'i gyfeirio atyn nhw yn ystod y mis diwethaf. Rwy'n siŵr bod yr Aelodau yn y fan yma yn ymwybodol bod rhywbeth am y cyfryngau cymdeithasol sydd fel pe byddai yn gwneud i bobl feddwl y gallan nhw ddweud a gwneud beth bynnag maen nhw ei eisiau heb ofni nac ystyried y goblygiadau.
Fe hoffwn i wneud y mater ychydig yn fwy personol a llunio darlun gwell i’r Aelodau sydd yma. Rwy'n cofio, ym mis Chwefror y llynedd, y cawsom ni ddadl gan Aelod unigol i nodi mis hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, ac yn rhan o hynny, fe wnes i ychydig o waith ar y cyfryngau. Roedd un o'r penawdau ar wefan BBC Politics yn darllen Hannah Blythyn: Rwy’n falch o fod yn un o’r ACau cyntaf i fod yn hoyw ar goedd gwlad. Ac er na allai’r bobl a ymatebodd ddod o hyd i mi er mwyn anfon negesau trydar ataf i, dim ond i roi blas i chi o rai o'r pethau y gallaf i eu hailadrodd yn y Siambr o’r hyn y gwnaethon nhw ei drydar yn ôl:
Pam mae pobl yn meddwl bod y mwyafrif helaeth yn hidio beth yw eu dewisiadau rhywiol?
Sut mae hynny’n eich gwneud chi yn well AC
Does gen i mo’r diddordeb lleiaf. Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth mooooor ddiiiiflas. Pwy sy'n hidio gyda phwy mae hi'n cysgu.
Fy hoff un yn bendant, ac rwy’n dweud hyn gyda mymryn o goegni, oedd rhywun yn dweud: Lloegr yw’r fan yma. Y rheswm rwy’n tynnu sylw at yr achosion hyn yw oherwydd fy mod o’r farn ei bod—. Wyddoch chi, fe gamais i ar lwyfan bywyd cyhoeddus, ac rwyf wedi penderfynu bod yn agored ynghylch pwy wyf i, oherwydd rwy'n credu ei bod hi’n bwysig bod yn agored. Ond rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldeb hefyd i herio’r pethau hyn, oherwydd fe all yr hyn sy’n gellwair a hiwmor i un person frifo ac arwain at ganlyniadau i rywun arall. Felly, mae arnom ni angen i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus weithredu'n gyflym ac o ddifrif i fynd i’r afael â digwyddiadau o gam-drin ar-lein, gan roi gwybod i unigolion am y cynnydd ac unrhyw gamau a gymerwyd. Rwyf hefyd o'r farn bod angen i’r cyrff cyfryngau cymdeithasol byd-eang fod yn fwy o ddifrif ynglŷn â chasineb a cham-drin ar-lein, a bod â safonau mwy llym a mesurau effeithiol ar waith i ddwyn i gyfrif y rhai sy’n gyfrifol.
Mae angen i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill gydweithio â'r heddlu i ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o ymateb i gasineb ar-lein, mewn ymgynghoriad â'r bobl yr effeithiwyd arnynt a'r sefydliadau sydd yno i'w cefnogi. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni fod yn fwy llym o ran caniatáu i'r gwagle hwn fodoli lle mae modd i gasineb ar-lein grynhoi a ffynnu. Ni allwn ni ganiatáu i faes o’r fath barhau i fudlosgi a hefyd i gynyddu casineb, oherwydd fe all y gwagle ar-lein hwnnw droi wedyn yn fodd o gyflawni gweithredoedd casineb oddi ar y we. Ynghylch hynny, rwy'n siŵr nad y fi yw’r unig un sy’n gofidio ein bod ni'n dod yn llai goddefgar tuag at eraill, gyda dirywiad pendant yn natur a chynnwys y ddadl. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw hyn yn ymwneud â chywirdeb gwleidyddol; mae'n ymwneud â pharch ac ystyriaeth sylfaenol o’n gilydd fel cyd fodau dynol.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod a gweithredu ynghylch pam mae pobl o bosib yn teimlo wedi eu dieithrio ac ymhell o'r system wleidyddol, ac rwy'n credu bod llawer o hynny yn ymwneud â’r ffactorau economaidd sydd o dan hynny. Ond credaf y dylem ni fod yn glir nad yw hynny'n golygu y dylem ni ymostwng i’r nodweddion mwyaf annheilwng a chaniatáu defnyddio hynny fel esgus, i ymosod ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a’u troi yn fwch dihangol, gan osod cymunedau a grwpiau yn erbyn ein gilydd.
Rwy'n teimlo weithiau pan fyddwn ni'n cael rhai o'r dadleuon hyn bod yna rai pobl sy'n meddwl rywsut bod cynnydd o ran cydraddoldeb deddfwriaethol wedi troi’r fantol y ffordd arall, a chredaf fod angen i ni fod yn glir iawn ynghylch hynny. Nid yw cydraddoldeb i mi yn golygu llai o hawliau i rywun arall. Cydraddoldeb, yn ôl ei ddiffiniad geiriadurol, yw’r cyflwr o fod yn gyfartal, yn enwedig o ran statws, hawliau neu gyfleoedd. Mae angen inni gofio hynny, ac mae angen inni leisio barn i gefnogi hynny. Felly, y dydd Iau yma, byddaf yn siarad mewn digwyddiad yn eglwys gadeiriol Llanelwy i nodi 50 mlynedd ers dad-droseddu bod yn hoyw. Bydd y digwyddiad yn gyfle i edrych ar hanes a gobaith ar gyfer y dyfodol. Bydd fy nghyfraniad i yn edrych ar y dyfodol ac ar y Gymru a'r byd y gobeithiwn ni y byddwn ni un diwrnod yn byw ynddynt, Cymru a byd lle rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom ni yn y dyfodol fyw ein bywydau fel yr ydym ni ar gyfer pwy ydym ni, heb ofni rhagfarn a chasineb. Mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i wireddu hyn, felly gadewch inni arwain y ffordd o ran codi llais, hawlio cyfrifoldeb a chael gwared ar gasineb a gwahaniaethu. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu y dylem ni ddechrau'r ddadl hon trwy ddweud yr hyn sy'n wir: ein bod ni'n byw mewn cymdeithas llawer llai rhagfarnllyd heddiw na 50 mlynedd yn ôl, pan oeddwn i'n ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth da iawn. Rwy’n cymeradwyo strategaeth y Llywodraeth ynglŷn â throseddau casineb ac rwy'n gwerthfawrogi'r modd y dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet y ddadl hon. Ond un peth sydd yn peri pryder imi ynglŷn â dadleuon ynghylch troseddau casineb yw ein bod yn dueddol o golli golwg ar union natur hynny.
Mae trosedd casineb, wrth gwrs, yn ffiaidd, ac rwyf yn siarad fel dioddefwr, oherwydd fe dorrwyd fy nhrwyn ar un adeg pan es i helpu ffrind hoyw i mi pan wnaeth criw o labystiaid homoffobaidd ymosod arno, ac aeth y sawl a gyflawnodd y drosedd honno i’r carchar maes o law oherwydd hynny. Rwyf hefyd wedi bod ar restr Byddin Gweriniaethol Iwerddon ers nifer o flynyddoedd, ac felly roeddwn o dan fygythiad o gael fy llofruddio. Felly, rwyf yn deall beth yw ystyr casineb pan ddowch chi wyneb yn wyneb ag ef yng ngwir ystyr hynny. Ond nid oes gennym ni blaid adain dde eithafol gwerth sôn amdani sy'n weithgar yng ngwleidyddiaeth Prydain. Mae Plaid Genedlaethol Prydain wedi diflannu, mae Cynghrair Amddiffyn Lloegr yn ddibwys, a chredaf y dylem ni ddathlu hynny. Nid oes gennym ni’r problemau sydd gan rai gwledydd Ewropeaidd, ac felly ni ddylem ni fod o dan gamsyniad yn hyn o beth.
Credaf fod yn rhaid inni hefyd dderbyn bod y ffigurau a adroddir fel troseddau casineb yn tueddu mewn gwirionedd i orbwysleisio maint y broblem. Cyfeiriodd Mark Isherwood, yn ystod ei araith, at y ffaith mai canfyddiad y dioddefwr sy'n bwysig, nid y gwir realiti, o anghenraid. Y diffiniad yng nghanllawiau gweithredol y Swyddfa Gartref, a dderbynnir gan heddluoedd yng Nghymru, yw, er dibenion cofnodi, mai canfyddiad y dioddefwr, neu unrhyw berson arall, yw'r ffactor diffiniol wrth benderfynu ar ba un a yw digwyddiad yn ddigwyddiad casineb. Felly, gall hyd yn oed trydydd parti roi gwybod am drosedd casineb fel y cyfryw, a bydd yr heddlu'n gwneud cofnod ohono’n syth fel trosedd casineb, hyd yn oed mewn achosion lle nad yw'r dioddefwr ei hun wedi dymuno hynny. Mae yna enghraifft wirioneddol yng nghanllawiau gweithredol yr heddlu, sydd, mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn eithaf addysgiadol:
Mae dyn heterorywiol yn cerdded trwy ardal ger clwb hoyw yn cael ei gam-drin ar lafar mewn ffordd sy'n dramgwyddus ond nid yw'n gyfystyr â throsedd yn erbyn y drefn gyhoeddus. Mae'n rhoi adroddiad o’r digwyddiad ond nid yw'n credu ei fod yn homoffobig, nac yn dymuno iddo gael ei gofnodi fel y cyfryw,
ond gall y swyddog sy'n ysgrifennu’r adroddiad gofnodi hynny ei hun fel trosedd casineb er nad yw'r dioddefwr eisiau gwneud hynny, ac ni ddylid herio canfyddiad y dioddefwr mewn unrhyw ffordd. Nawr, rwy’n derbyn, os oes angen herio, yna dylid gwneud hynny mewn ffordd sensitif. Ond siawns bod yn rhaid inni seilio polisi cyhoeddus ar ffeithiau gwirioneddol ac nid ar ganfyddiadau yn unig.
Y sylw arall yr hoffwn ei wneud yn y ddadl hon yw'r ymdrech i ddefnyddio'r mater hwn o droseddau casineb fel modd o hogi cyllyll gwleidyddol. Rydym ni’n aml yn ei glywed yn gysylltiedig â Brexit, ac rydym ni’n aml yn ei glywed mewn cysylltiad â phobl sy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn y dylem ni gael rheolaethau synhwyrol ynglŷn â mewnfudo ar gyfer dibenion cydlyniant cymunedol. Rwy'n credu bod hyn yn ein dibrisio ni, a dweud y gwir, ac yn lleihau gwerth ein dadl wleidyddol. Siawns y gallwn ni dderbyn y ffaith, os ydych chi'n poeni am fewnfudo, nad ydych chi o reidrwydd yn hiliol, ac yn sicr nid ydych chi’n credu bod troseddau casineb yn rhywbeth da. Wrth gwrs, mae hilwyr yn bodoli sydd eisiau rheoli mewnfudo am eu rhesymau annheilwng eu hunain, ac mae pobl ymhob rhan wleidyddol o'r sbectrwm, bron iawn, sy’n ymwneud â cham-drin gwleidyddol. Rwyf i, o bryd i'w gilydd, wedi bod yn destun hynny fy hun. Dylai unrhyw un sydd eisiau gwybod beth yw cam-drin ar-lein fynd i weld yr hyn a ysgrifennwyd amdanaf, sy'n aml yn fy ngwahodd i berfformio amrywiol weithredoedd corfforol nad ydyn nhw o fewn fy ngalluoedd corfforol, nac yn wir o fewn galluoedd corfforol unrhyw un, o ran hynny.
Felly, rwy'n ymwybodol iawn, os ydych chi'n cymryd y pethau hyn o ddifrif, y gall fod yn rhywbeth cas iawn. Mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, rydym ni’n dueddol o fod yn groendew iawn, er mwyn i ni allu diystyru’r math hwn o beth. Yn yr hyn y gallech chi ei galw'n gymdeithas arferol, efallai na fyddem ni’n teimlo y byddai hynny’n beth mor hawdd ei dderbyn. Felly, rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r hyn a ddywedodd Hannah Blythyn yn ei chyfraniad—bod a wnelo hyn â pharch sylfaenol at unigolion a'u gwahaniaethau. Nid wyf yn credu y dylai pobl gael eu cam-drin na bod yn destun trais corfforol dim ond oherwydd priodweddau personol na allan nhw eu newid—neu, yn wir, am eu credoau gwleidyddol.
Wrth ddirwyn i ben, rwyf am ddweud, wrth gwrs, ein bod yn hapus i nodi'r cynnig ac, yn wir, fel y dywedais eisoes, i gefnogi strategaeth y Llywodraeth yn gyffredinol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Byddwn yn ymatal ar y rheini, oherwydd rwy'n credu eu bod wedi eu drafftio mewn ffordd braidd yn unochrog, ac mae hynny’n mynd yn ôl i'r hyn a ddywedais wrth agor fy araith. Nid oes gennyf amser, rwy’n ofni, i ymhelaethu ymhellach ar hynny heddiw. Ond rwy'n credu bod derbyniad cyffredinol—derbyniad eang—o'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i bolisi'r Llywodraeth, a byddwn ni yn eu cefnogi yn yr ymdrech honno.
Gan fod pawb arall yn sôn am eu profiadau ar-lein, fe ddywedaf innau ychydig am fy rhai i. Yn sicr, rwyf i wedi cael fy nifrïo gan sefydliadau adain dde eithafol am wneud fawr ddim mwy na chefnogi digwyddiad yr es i iddo yn y Senedd ynglŷn â Chymru fel cenedl noddfa. Rwy'n credu bod Leanne Wood wedi ei difrïo gan yr un sefydliadau am fynd i'r un digwyddiad, ac fe gawsom ein cyhuddo o geisio creu califfiaeth Fwslemaidd yng Nghymru, pan mai’r hyn yr oeddem ni yn ceisio'i wneud mewn gwirionedd oedd cynnig lloches i ffoaduriaid Syria a oedd yn ceisio dianc rhag erchyllterau’r rhyfel cartref hwnnw.
Wrth drafod y mater pwysig hwn o fynd i'r afael â throseddau casineb, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at waith sefydliadau fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, a gofynnaf ein bod i gyd y dydd Gwener hwn, 20 Hydref, yn cefnogi Diwrnod Gwisgo Coch 2017. Bydd hynny'n sicr yn rhoi esgus i mi wisgo fy hoff liw, o ran fy ngwleidyddiaeth a'm tîm pêl-droed, felly byddaf yn gwisgo coch ddydd Gwener. Ond, ar nodyn difrifol, mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ffordd ymarferol a gweladwy y gallwn ni i gyd ddangos ein cefnogaeth i waith Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac i gefnogi eu gwaith gwerthfawr wrth helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ac i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ein cymunedau. Bydd y rhai ohonom ni sy'n dilyn pêl-droed yn cofio’r diwylliant afiach ar y terasau yn y 1970au a'r 1980au—yr hiliaeth amlwg, y llafarganu anhygoel a gyfeiriwyd at chwaraewyr pêl-droed croenddu, a'r meysydd pêl-droed yn cael eu defnyddio fel modd o recriwtio ar gyfer yr adain dde eithafol. Ers y dyddiau tywyll hynny, mae'n amlwg bod llawer o waith wedi'i wneud i symud pethau ymlaen a mynd i'r afael â'r agwedd honno o bêl-droed, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd.
Yn fy swyddogaeth flaenorol yn Unsain, roeddwn yn sicr yn falch iawn o fod yn rhan o'r trefniadau ar gyfer sefydlu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru. Fe hoffwn i gofnodi fy niolch i Unsain am y cyllid hanfodol a roesant i’r sefydliad hwnnw yn y dyddiau cynnar, pwysig hynny. O ganlyniad, mae gennym ni bellach y fantais o sefydliad sydd wedi ennill enw da am hyrwyddo negeseuon cadarnhaol trwy gynhyrchu adnoddau addysgol, datblygu gweithgareddau i annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i herio hiliaeth, ac i herio hiliaeth mewn pêl-droed a chwaraeon eraill. Rwyf yn annog fy holl gyd-Aelodau yn y Cynulliad i gysylltu â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a manteisio ar y cyfle i weld eu gwaith ledled Cymru, mewn ysgolion, mewn clybiau chwaraeon, ac mewn cymunedau. Oherwydd mae’r math hwn o weithgarwch ar lawr gwlad yn hollbwysig wrth newid agweddau, gan ddarparu esiamplau cadarnhaol, ac wrth adeiladu'r ymyraethau cynnar hynny a fydd yn helpu i ddatblygu mwy o oddefgarwch a chydraddoldeb yn ein cymunedau.
A dyma’r math o waith—newid agweddau a darparu esiamplau cadarnhaol—a fydd hefyd yn ganolog i fynd i'r afael â homoffobia mewn chwaraeon, ond yn enwedig mewn pêl-droed. Dileu casineb tuag at y gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yw'r her fawr nesaf. Ac unwaith eto, fel cefnogwr pêl-droed, byddaf yn gwybod ein bod wedi gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â homoffobia pan fydd chwaraewyr pêl-droed yn gyfforddus â'u rhywioldeb eu hunain mewn chwaraeon ac yn falch o bwy ydyn nhw a heb fod ofn arnyn nhw. Felly, rwy'n siŵr yr hoffai’r Cynulliad annog Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fel un rhan o'r agenda ynglŷn â mynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ond fe ddylem ni hefyd barhau i gefnogi Stonewall Cymru ac eraill wrth i ni helpu i gael gwared ar gasineb, hiliaeth a homoffobia o’n cymunedau.
Mae'r holl waith yr ydym ni’n ei gefnogi i atal y troseddau casineb yn ein cymunedau yn bwysig, ac fe ddylem ni ganolbwyntio’n hymdrechion ar y sefydliadau a'r mentrau hynny sy'n helpu i atal y peryglon. Dyna pam y mae'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn i'w groesawu'n fawr. Diolch.
Llywydd, rwyf yn cynrychioli Dwyrain Casnewydd, sy'n amrywiol yn ethnig. Cefais fy ngeni a'm magu yn Pillgwenlli yng Nghasnewydd, sy'n amrywiol yn ethnig, llawer mwy felly yn awr nag yn fy ieuenctid i. Mae ehangu'r UE, er enghraifft, wedi cyflymu’r broses honno yn sylweddol. Bu tensiynau bob amser, yn fy marn i, mewn ardaloedd o'r fath, yn seiliedig ar hil, ond yn sicr mae wedi gwaethygu, yn fy mhrofiad i, yn ddiweddar, yn rhannol oherwydd y bygythiad terfysgaeth tybiedig ac yn rhannol, efallai, oherwydd y pwysau ynglŷn ag ehangu’r UE. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n amserol ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, a’r hyn yr oeddwn i eisiau canolbwyntio arno, mewn difrif, oedd sut yr ydym ni’n mynd ati i gyfleu negeseuon ac i’w gwneud hi mor glir â phosib nad ydym ni eisiau senoffobia, dydym ni ddim eisiau gelyniaeth, dydym ni ddim eisiau drwgdybiaeth, dydym ni ddim eisiau camddealltwriaeth. Yn hynny o beth, credaf ei bod hi’n bwysig iawn fod pawb ohonom ni fel gwleidyddion rheng flaen yn dweud y pethau iawn ac felly hefyd sefydliadau sydd â swyddogaethau allweddol, ond mae’r gymdeithas ddinesig yn fwy cyffredinol, ac, mewn gwirionedd, pobl yn gyffredinol, cymunedau yn gyffredinol, yn deall pwysigrwydd gwrthwynebu’r math o deimladau, y math o ragfarn a gwahaniaethu nad oes yr un ohonom ni eisiau eu gweld yng Nghymru.
Oherwydd, rwy'n credu y gall bob un ohonom ni, hyd yn oed yn bersonol, gofio enghreifftiau pan mae rhywun yn ein cwmni wedi dweud rhywbeth a oedd yn anghywir, yn ffeithiol anghywir, yn wahaniaethol, yn niweidiol, ac, wyddoch chi, efallai y bu adegau pan ein bod ni wedi gwrthwynebu hynny a’u gwneud yn ymwybodol o'n barn wahanol, fel petai. Ond mae'n debyg y bu yna adegau lle nad ydym ni wedi gwneud hynny, am bob math o resymau, ac rwy’n cynnwys fy hun ymhlith y rheini sydd â'r profiad hwnnw. Yn gynyddol, rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni, pobl yn gyffredinol, ddeall pwysigrwydd gwrthwynebu'r math o safbwyntiau, y mathau o ragfarn a gwahaniaethu sydd yn arwain at broblemau. Nid dyna ben draw hynny bob amser. Pan fydd pobl yn dweud y pethau hynny, mae'n creu awyrgylch. Fe all arwain at ddigwyddiadau. Felly, os ydych chi eisiau cymdeithasau mwy integredig a chydlynol, rwy’n credu bod cyfrifoldeb ar bawb, ac mae angen inni ddweud hynny. Mae angen inni ei gwneud hi mor eglur â phosib, ac mae angen inni gefnogi sefydliadau sy'n llwyddo i gyfleu’r neges honno.
Felly, yn ogystal â bod gennym fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru, wyddoch chi, y cynllun cyflawni, y ganolfan alwadau adrodd ar droseddau, gwahanol grwpiau a seilwaith, rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig bod hyn yn mynd y tu hwnt i hynny ac yn treiddio i bob haen o'n cymunedau. Rwy’n credu bod angen ymdrech gref i feithrin yr agwedd hon o fynd ati o’r gwaelod i fyny er mwyn egluro'r hyn sy'n cael ei ystyried yn dderbyniol a’r hyn nad ydyw.
Yn rhan o'r ymdrech honno, Llywydd, fe hoffwn i dynnu sylw at ddigwyddiad yr es i iddo ddydd Sadwrn diwethaf, a oedd yn ceisio cyrraedd pobl iau yn arbennig. Cafodd ei gynnal yng nghanol dinas Casnewydd. Gŵyl ‘Crush Hate Crime’ oedd hon. Roedd ymlaen trwy'r prynhawn a gyda’r nos mewn ambell i leoliad. Mae'n parhau â'i ymdrech drwy'r wythnos, ac roedd yn ymwneud â defnyddio cerddoriaeth, perfformiadau theatr byw ac yn wir areithiau. Siaradais i yno, ac fe wn i bod Steffan Lewis wedi gwneud hynny hefyd, a bod gwleidyddion eraill wedi gwneud hynny, ac academyddion. Roedd ymlaen drwy'r dydd, roedd cynulleidfa deilwng yno ac roedd yn ceisio dod â'r gwahanol gyfryngau hyn at ei gilydd—cerddoriaeth, lleferydd, perfformiadau theatr—i gyfleu’r negeseuon cywir, i gael, gobeithio, llawer o sylw yn y cyfryngau, ac i ddechrau helpu i feithrin yr ymdrech hon i ddangos yr hyn yr ystyriwn ni i fod yn dderbyniol ac annerbyniol.
Rwy'n cofio’n dda—hwyrach bod eraill yma, Llywydd—am Rock Against Racism, a pha mor rymus oedd hynny, gryn amser yn ôl bellach, a sut y cafodd ddylanwad parhaol sy'n parhau hyd heddiw. Felly, fe allwch chi ddefnyddio cerddoriaeth, fe allwch chi ddefnyddio celf a diwylliant yn rhan o'r ymdrech gyffredinol i greu’r hyn y mae arnom i ni i gyd eisiau ei weld. Felly, rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet dalu teyrnged i'r ymdrechion hyn, gan nad yw'n hawdd trefnu rhaglen o ddigwyddiadau. Mae'n golygu llawer o amser, llawer o ymdrech gan lawer o bobl a llawer o sefydliadau. Rwy'n credu y bu’n effeithiol iawn. Rwy'n credu bod angen mwy o hyn, ac yn y blynyddoedd i ddod, bydd Casnewydd yn adeiladu ar yr hyn a ddigwyddodd ddydd Sadwrn diwethaf a’r hyn a fydd yn digwydd drwy'r wythnos hon i gynyddu'r ymdrech honno a, gobeithio, cynyddu pa mor effeithiol y bydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cael trafodaeth wirioneddol ddefnyddiol, dadl yn y Siambr hon, a llawer o’r Aelodau yn cyfrannu heddiw.
A gaf i gyfeirio at rai o'r gwelliannau ac yna at rai o'r sylwadau a wnaed yn gyntaf? Gan droi at y gwelliannau, byddwn ni’n cefnogi pob gwelliant heblaw am 4, 6 a 7. Gwelliant 4: mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliant ar y sail ein bod o'r farn mai’r fframwaith troseddau casineb yw'r lle priodol ar gyfer y polisi o ran mynd i'r afael â phob math o drosedd casineb, ond byddwn ni’n sicrhau y bydd cysylltiadau agos yn parhau rhwng gweithredu ar awtistiaeth ac ar drosedd gasineb, a gwrandewais yn ofalus iawn ar y cyfraniad a wnaeth Mark Isherwood. Fy marn i yw bod a wnelo hyn â lle mae’n perthyn yn hytrach nag ar beth yw egwyddor hyn.
Gwelliant 6: mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn ynglŷn â chyllid newydd ar gyfer cymorth i ddioddefwyr. Nawr, fe wnaethom ni ddechrau darparu cyllid newydd ym mis Ebrill ac nid oes unrhyw gyllideb ychwanegol ar gael ar hyn o bryd i gynyddu nifer y swyddogion cymorth i ddioddefwyr, ond rwy'n talu teyrnged i'r gwaith maen nhw’n ei wneud, a byddwn yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa hon, ac, os yw’r gyllideb yn caniatáu, byddwn yn ystyried hynny'n ofalus.
Gwelliant 7: mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn hefyd yng Nghymru, dim ond oherwydd—, eto, nid nad ydym ni’n cytuno â'r egwyddor, ond mae’r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud yng Nghymru, gyda'r statws athro cymwysedig, eisoes yn ei gwneud hi’n ofynnol i athrawon herio safbwyntiau stereoteip, bwlio ac aflonyddu, gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol. Felly, oherwydd hyn, rydym ni eisoes yn credu bod dyletswydd ar waith.
Llywydd, cyfeiriodd llawer o Aelodau at eu profiadau personol eu hunain. Daeth Hannah Blythyn â phrofiad byw iawn i'r Siambr o’i thriniaeth ar y we a sut y cafodd ei thargedu gan unigolion sy'n credu ei bod hi’n iawn dweud pethau ar-lein, nad yw hynny mor niweidiol, ond nid yw hynny’n wir, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am sefyll a chodi llais, fel y dywed hi. Dawn Bowden a'r ymgyrch ynglŷn â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, sydd ddydd Gwener, fel y dywed yr Aelod—felly gwisgwch goch da chi, pa bynnag liw gwleidyddol yr ydych chi. Cewch wisgo coch ddydd Gwener, gan gefnogi'r ymgyrch wych hon sydd yn sicr wedi rhoi Cymru ar y map ac sy’n mynd i'r afael â'r materion yn uniongyrchol.
Soniodd John Griffiths am ei weledigaeth a'i farn ynglŷn â’r fan lle cafodd ei fagu, yn Pillgwenlli. Rwyf wedi ymweld â Phillgwenlli sawl gwaith, gan ymweld â'r gymuned honno, a dyna ysgol newydd wych sydd ganddyn nhw yno. Rwy'n credu bod gan yr ysgol gynradd leol oddeutu 20 o ieithoedd, neu 20 o ieithoedd a diwylliannau o fewn lleoliad yr ysgol, felly mae'n gyfle anhygoel i blant integreiddio â'i gilydd, ac mae’n dangos enghraifft wych yn Pillgwenlli o’r hyn y gellir ei wneud pan ddaw pobl at ei gilydd. Rwyf hefyd yn llongyfarch y rhaglen ‘Crush Hate Crime’ a'r rhaglen ‘Rock Against Racism’ y siaradodd yr Aelod amdanynt. Mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn i’n gallu dod, ond rwy'n siŵr y bydd yn ffynnu yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, mae angen llongyfarch cymuned Casnewydd, a nifer o rai eraill hefyd ynglŷn â’r ffordd y maen nhw’n ceisio creu cydlyniant cymunedol yn eu cymunedau amrywiol iawn, y mae'r Aelod yn eu cynrychioli hefyd.
Cododd Neil Hamilton rai materion. Dechreuodd ei ddadl drwy ddweud bod llai o ragfarn pan oedd ef yn ifanc. Yr hyn yr wyf yn gobeithio nad oedd yn ei olygu drwy ddweud bod llai o ragfarn bryd hynny oedd bod rhagfarn dderbyniol nawr. Oherwydd yr hyn yr wyf i yn ei weld—cyfeiriodd yr Aelod ato a dywedodd nad oes pleidiau eithafol iawn gwerth sôn amdanyn nhw yn y DU nawr. Mae'n debyg y byddwn yn anghytuno ag ef, oherwydd, mewn gwirionedd, rydym ni’n gweld yn rheolaidd, bob dydd, sefyllfaoedd lle mae gan unigolion, grwpiau o unigolion safbwyntiau adain dde eithafol iawn, ac mae’n rhaid inni roi taw ar hynny nawr. I ddweud y gwir, arddangosodd ei blaid ef ffoaduriaid ar boster ar ochr bws, a phe bydden nhw’n bobl groenwyn Brydeinig, ni fyddent wedi cael yr un effaith, Neil. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni ddysgu trwy ein camgymeriadau a derbyn y ffaith ein bod weithiau'n cael pethau'n anghywir ac weithiau y dylem ni ymddiheuro i bobl Cymru a phobl y DU. [Torri ar draws.] Ildiaf i'r Aelod, gwnaf.
Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Fe allem ni i gyd gyfnewid straeon o'r cyfnod hwn. Fe wyddom ni’n iawn am rai o'r pethau gwrth-Iddewig a ddywedwyd gan aelodau o'r Blaid Lafur. Ceir rhagfarn ym mhob plaid. Peidiwch â gofyn i mi amddiffyn y poster hwnnw—doedd a wnelo fi ddim byd ag ef. Yn sicr nid yw’n cynrychioli'r math o ymagwedd y mae UKIP yn dymuno ei chyflwyno i'r ddadl mewnfudo.
Wel, efallai mai dyma'r achos nawr, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad dyna'r ddadl a grëwyd yn ystod y rhaglen Brexit y gwnaeth pob un ohonom ni ei dilyn. Yn anad dim, mae’n sicr nad yw beirniadu pobl yn ôl lliw eu croen neu eu hiaith yn briodol o ran symud ymlaen.
Llywydd, mae'n bwysig pwysleisio bod gwahaniaethau barn yn y Siambr hon, ond ni fydd hyn yn tanseilio'r consensws trawsbleidiol ynglŷn â’r angen i fynd i'r afael â throseddau casineb. A gaf i orffen y ddadl trwy dynnu sylw at y ffaith bod eleni yn nodi pedwar ugain mlynedd ers carcharu’r Parchedig Niemöller gan y Natsïaid? Fe hoffwn i atgoffa Aelodau o'i alwad hanesyddol ar i bobl sefyll gyda'i gilydd yn erbyn rhagfarn, anoddefgarwch, gormes a chasineb. Mae ei eiriau mor rymus heddiw ag yr oedden nhw bryd hynny:
'Yn gyntaf, fe ddaethon nhw ar ôl y Sosialwyr, ac ni ddywedais ddim—Oherwydd nid oeddwn i’n Sosialydd. / Yna fe ddaethon nhw ar ôl yr Undebwyr Llafur, ac ni ddywedais ddim —Oherwydd nid oeddwn i’n Undebwr Llafur. / Yna fe ddaethon nhw ar ôl yr Iddewon, ac ni ddywedais ddim—Oherwydd nid oeddwn i’n Iddew. / Yna fe ddaethon nhw ar fy ôl i, ac nid oedd neb ar ôl i siarad drosof i.'
Llywydd, bydd methu â mynd i'r afael â throseddau casineb yn bygwth pob un ohonom ni yn y pen draw. Mae camdriniaeth neu wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hil, ffydd, cenedligrwydd, oedran, anabledd, rhywioldeb, rhywedd neu hunaniaeth o ran rhywedd yn gyfeiliornus. Ni ddylai neb feddwl bod ganddyn nhw hawl i gamdrin pobl. Rydym ni’n parhau i fynd i'r afael ag ymddygiad yn uniongyrchol. Ni ddylai neb ddioddef gelyniaeth, bwlio na rhagfarn. Drwy gyfrwng ein pleidleisiau heddiw, Llywydd, fe allwn ni sefyll yn glir ar faterion sy’n diffinio ein cyfnod ni. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod, ar ôl pleidleisio ar y gwelliannau, yn teimlo y gallan nhw gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 2.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 3.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Paul Davies.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl ar yr economi gylchol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6531 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol.
2. Yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid:
a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; a
b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Yng Nghymru y mae’r gyfradd uchaf o ailgylchu trefol yn y Deyrnas Unedig, sef 64 y cant. Rydym yn bell iawn ar y blaen o’i gymharu â gwledydd eraill y DU, ac o fewn i ychydig bwyntiau canran o fod y gorau yn y byd. Rydym wedi gwneud datblygiadau mawr o ran rheoli gwastraff cynaliadwy ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio hynny fel sbardun i ddatblygu'r economi gylchol ymhellach yng Nghymru.
Economi gylchol yw economi lle y gellir defnyddio deunyddiau yn gynhyrchiol dro ar ôl tro, gan greu gwerth ychwanegol a manteision lawer yn gysylltiedig â hynny. Mae astudiaethau diweddar Sefydliad Ellen MacArthur, WRAP a'r Gynghrair Werdd wedi nodi arbedion posibl ac incwm o fwy na £2 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru a hyd at 30,000 o swyddi newydd trwy ddatblygu economi sy’n fwy cylchol. Mae angen inni weld llawer mwy o werth yn yr adnoddau yr ydym ni i gyd yn eu cymryd yn ganiataol yn rhy aml, lleihau'r hyn a ddefnyddiwn ni, a lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddio deunyddiau a nwyddau am ragor o amser. Mae’n rhaid inni symud oddi wrth y diwylliant gwastraffus sydd wedi mynd yn rhy gyfarwydd inni ac annog ymddygiad a fydd yn ein helpu i warchod ein hamgylchedd. Mae'r llwyddiant yr ydym wedi ei weld yng Nghymru wedi digwydd yn bennaf oherwydd eglurder a chyfeiriad y strategaeth wastraff genedlaethol i Gymru tuag at ddyfodol diwastraff. Rwyf am barhau i gydweithio yn agos â phob un sydd â diddordeb, o ddinasyddion Cymru I awdurdodau lleol, busnesau, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus i sicrhau y bydd cynnydd yn parhau tuag at ein targedau uchelgeisiol. Mae sicrhau economi fwy cylchol yn dasg heriol sy'n cynnwys pob rhan o'r gadwyn gyflenwi a rheoli gwastraff.
Y llynedd, gofynnwyd i WRAP sefydlu tasglu economi gylchol i Gymru, yn cynnwys aelodau yn cynrychioli gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr, awdurdodau lleol a'r diwydiant gwastraff. Maen nhw wedi dechrau gan ganolbwyntio ar blastigion, lle mae gennym ni yng Nghymru nifer sylweddol o gwmnïau gweithgynhyrchu amrywiol sy'n cynhyrchu cynhyrchion a chydrannau o blastig wedi ei fowldio. Mae WRAP yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynhyrchu cynllun plastigion gyda'r nod o greu marchnad well ar gyfer plastig wedi’i ailgylchu mewn cynhyrchion a wnaed yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i greu swyddi yng Nghymru a lleihau ein dibyniaeth ar farchnadoedd tramor ar gyfer gwastraff plastig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid cyfalaf gwerth £6.5 miliwn i ddatblygu nifer sylweddol o brosiectau cyfalaf ar raddfa fechan i gynorthwyo busnesau bach a chanolig wrth iddynt drawsnewid i ymagwedd economi gylchol. Mae angen inni weld mwy o fodelau busnes economi gylchol yn cael eu datblygu yng Nghymru. Trwy weithgareddau caffael, gall Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus arwain trwy esiampl wrth arbed arian o ganlyniad i ddewis cynhyrchion cynaliadwy, atal gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyrff y sector cyhoeddus i hybu canlyniadau cost-effeithiol a chynaliadwy gyda busnesau yng Nghymru sydd yng nghadwyn gyflenwi’r sector cyhoeddus, fel y gallan nhw ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau mwy cynaliadwy, gan ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithlon, gan gynnwys cynhyrchion sy'n defnyddio cyfran uchel o gynnwys wedi'i ailgylchu, wedi'u cynllunio i'w hailddefnyddio, i fod yn hawdd eu hatgyweirio, ac yn hawdd eu tynnu oddi wrth ei gilydd a'u hailgylchu.
Gellir gweld enghraifft ragorol o nerth caffael y sector cyhoeddus yn yr astudiaeth achos a gynhyrchwyd gan WRAP Cymru ar ddefnyddio celfi wedi’u hailgynhyrchu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru pan symudon nhw i un swyddfa ganolog yng Nghaerdydd. Cafodd pob un o dros 2,000 o gelfi eu hailddefnyddio neu eu hail-gynhyrchu gan ddefnyddio sefydliad trydydd sector, gan gynnig buddion cymdeithasol sylweddol yn ogystal â rhai amgylcheddol.
Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu polisïau a fydd yn cyflawni o ran sicrhau economi fwy cylchol i Gymru a byddaf yn cyflwyno mesurau ychwanegol i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau yng Nghymru. Rydym yn datblygu cynllun ar gyfer economi sy'n fwy effeithlon o ran adnoddau, gan adeiladu ar ein llwyddiant wrth ailgylchu a lleihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchu a defnyddio. Bydd hwnnw’n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2018. Rwyf wedi ymrwymo i amrywiaeth o syniadau, gan gynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth, gosod targedau ailgylchu uwch a gosod targedau newydd ar leihad. Yn rhan o'r cynllun, rwy'n bwriadu ymgynghori ar darged o ailgylchu 80 y cant o wastraff trefol ar gyfer 2030, a tharged o leihau 50% ar wastraff bwyd erbyn 2025. Yn ôl y data, er gwaethaf ein cyfradd ailgylchu ardderchog, mae cymaint â hanner y gwastraff gweddilliol a roddir ym magiau sbwriel du cartrefi o hyd yn hawdd ei ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau a ailgylchir yn gyffredin fel gwydr, papur, cardfwrdd, caniau metel, plastig a gwastraff bwyd. Dylai cyfradd ailgylchu o 80 y cant fod yn gyrraeddadwy, cyn belled ag y bo pawb yn chwarae ei ran yn llawn wrth ailgylchu.
Rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom ni’n cytuno bod swm y bwyd sy’n cael ei wastraffu yn annerbyniol. Mae bwyd wedi’i wastraffu hefyd yn rhoi pwysau dianghenraid ar ein hamgylchedd ac ar ein hadnoddau naturiol cyfyngedig. Mae’n rhaid inni ymdrechu’n galetach a chwarae ein rhan lawn wrth herio gwastraff bwyd, gan adeiladu ar yr ymgyrch Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff a gweithio mwy trwy'r gadwyn gyflenwi bwyd trwy gytundeb Courtauld 2025.
Yn anffodus, mae llawer iawn o ddeunydd pacio yn dal yn anodd neu'n amhosibl i’w ailgylchu. Mae deunydd pacio hefyd yn elfen bwysig o'r sbwriel sy'n hagru ein mannau cyhoeddus, tir, arfordiroedd a moroedd. Rwyf wedi comisiynu astudiaeth estynedig o gyfrifoldeb y cynhyrchwyr mewn cysylltiad â phecynnu bwyd a diod i edrych ar ffyrdd o atal gwastraff, cynyddu ailgylchu a lleihau sbwriel ar y llawr ac yn ein moroedd. Bydd yn ymchwilio i sut y gall cynhyrchwyr a manwerthwyr rannu’r beichiau ariannol sy’n dod yn sgil rheoli gwastraff, mewn modd mwy cyfartal. Bydd adolygiad o gynlluniau ad-dalu hefyd yn cael ei gynnwys yn yr astudiaeth. Yn rhan o setliad y gyllideb, rydym wedi cyhoeddi cyllid i gefnogi cynlluniau peilot i brofi dichonoldeb cynlluniau adneuo ar gyfer ailgylchu. Bydd hyn yn helpu i lywio’r sail dystiolaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.
Mae ein pwerau trethu yn rhan bwysig o ddatblygiad polisi newydd. Roedd y fframwaith polisi a chynlluniau treth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys ymrwymiad i ystyried yr achos dros gyflwyno trethi newydd yng Nghymru, gan archwilio i'r elfennau polisi a gweinyddu a'r mecanwaith ar gyfer newid. Mae datganoli pwerau trethu yn rhoi ystod o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull Cymreig o drethu, ac mae'n rhoi cyfle i atgyfnerthu swyddogaeth flaenllaw Cymru wrth ailgylchu a lleihau gwastraff. Derbyniodd trethi ar blasting tafladwy yn arbennig gefnogaeth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod y ddadl ar drethi newydd, a ddaeth i’r amlwg yn fwyaf diweddar gan ymgyrch a deiseb a lansiwyd gan Greenpeace i gyflwyno treth ar blastigau.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn y mae hi newydd ei ddweud am dreth ar blastig tafladwy; fel y mae hi efallai yn ymwybodol, roedd hynny ym maniffesto Plaid Cymru mewn gwirionedd ac mae’n un o'r pedair treth yr ydym ni ar hyn o bryd yn awyddus i’w hyrwyddo yn arbennig. Ond a yw hi hefyd yn ystyried y gallai fod mwy o gefnogaeth i dreth newydd ymhlith y cyhoedd yng Nghymru pe byddai honno wedi'i bwriadu’n eglur i newid arferion pobl, yn hytrach na dim ond codi arian ar gyfer Llywodraeth Cymru?
Ydw, rwy’n credu bod hynny yn sicr yn rhywbeth y gallwn ei ystyried. Fel y dywedais i, byddwch yn ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi llunio’r rhestr fer o’r trethi posibl, ac mae hon yn un ohonyn nhw. Felly, rydym yn mynd i ystyried dewisiadau ar gyfer treth neu ardoll ar blastigion tafladwy. Felly mae hynny'n rhan o'r sgwrs y gallwn fod yn ei chael.
Gan droi at Brexit nawr, yn amlwg rydym yn cydnabod fel Llywodraeth y bydd angen Bil arnom ni i roi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i Brexit ddod i rym, wrth symud ymlaen. Ac rydym yn derbyn y bydd angen inni wneud rhai gwelliannau er mwyn i’r gyfraith bresennol fod yn ymarferol yn y cyd-destun newydd pan fydd y Deyrnas Unedig y tu allan i'r UE. Rydym wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro y dylai unrhyw Fil a gaiff ei ddwyn ymlaen barchu'r setliadau datganoli ac, fel y mae cydweithwyr yn ei wybod, mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir iawn bod y drafftio cyfredol o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) yn gosod cyfyngiadau newydd sylweddol ar allu'r Cynulliad i ddeddfu yn effeithiol wedi Brexit ar faterion y mae Brwsel yn mynd i’r afael â nhw ar hyn o bryd. Rwyf i o’r farn fod hyn yn arbennig o wir am dargedau effeithlonrwydd ac ailgylchu adnoddau, ac rydym wedi profi'n gwbl gadarn fod eu gosod yng nghwmpas deddfwriaeth Cymru yn cyflawni'r canlyniadau angenrheidiol. Fel y dywedais i ar y cychwyn, rydym yn gwneud pethau’n llawer gwell na gwledydd eraill y DU yn hyn o beth.
Felly, i gloi, Llywydd, bydd economi sy'n fwy effeithlon o ran adnoddau, yn helpu i wneud ein busnesau yn fwy gwydn a chystadleuol yn y dyfodol. Bydd yn creu swyddi, bydd yn dod â mwy o fanteision cymdeithasol ac amgylcheddol yn ei sgil, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i weithredu ar gyfer cyflawni hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau.
Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 1, 2, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl 'yr achos o blaid' a rhoi yn ei le:
'targed o sicrhau dyfodol diwastraff erbyn 2030.'
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio a na ellir eu hailgylchu.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 4 a 5.
Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliannau hynny.
A gaf i groesawu’r ffaith ein bod ni’n trafod y llwyddiant yma a hefyd yn trafod y ffaith bod gan y Llywodraeth uchelgais a’i bod am godi lefelau ailgylchu hyd yn oed yn fwy tuag at economi dim gwastraff? Mae gwelliannau Plaid Cymru yn troi o gwmpas y ffaith, er bod yna uchelgais, fod modd bod yn fwy uchelgeisiol, yn fy marn i.
A derbyn bod Ceredigion, y cyngor sy’n perfformio orau o ran ailgylchu ar hyn o bryd yng Nghymru, eisoes yn cyrraedd 70 y cant o gynnyrch yn cael ei ailgylchu, mae gosod 80 y cant i bawb ar gyfer 2030 ddim yn ddigon heriol, yn fy marn i. Ac felly mae Plaid Cymru o’r farn y dylem ni osod her erbyn 2030 o economi dim gwastraff a symud pawb, felly, gyda’r gorau tuag at yr amcan hwnnw. Ond rwy’n croesawu’r ffaith bod o leiaf symud ymlaen a bod neges gref yn cael ei rhoi gan y Llywodraeth tuag at godi’r targedau ar gyfer yr ychydig o awdurdodau yng Nghymru sydd ond yn crafu’r gwaelodion ar hyn o bryd ac yn crafu’r targed yna, neu hyd yn oed yn methu o drwch blewyn, yn ogystal.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Oni fyddech chi yn derbyn bod diwastraff yn amhosibl os oes llosgi i fod, oherwydd bydd llosgi bob amser yn arwain at wastraff gweddilliol?
Byddaf yn dod at losgi yn ddiweddarach yn fy sylwadau i. Gyda gobaith, fe fyddaf i yn mynd i'r afael â rhywfaint o hynny mewn ychydig.
I also think that there’s an opportunity to use the new taxation powers, as the Cabinet Secretary has just mentioned. I am disappointed with the wording of the Conservative amendment in this context. If you look at the few nations that are performing better than us in recycling plastics—Norway, Sweden, Germany and Finland—each and every one of them has a deposit-return scheme. Therefore, it isn’t true to say that such a scheme somehow undermines recycling. Of course, we have to consider, with doorstep recycling as we have in Wales, that there may be impacts that a deposit-return scheme could have in that context. But, the solution, of course, is a pilot scheme, and that’s what’s been agreed between Plaid Cymru and the Government in the pre-budget agreement, and I look forward to discussing the details of that pilot scheme with the Cabinet Secretary in due time, and to hear more details on such a scheme in the Assembly. I hope that by the end of today we will have at least some understanding of the way forward there.
The Plaid Cymru amendment, by the way, is open ended in terms of what kind of deposit-return scheme we should see in Wales, in terms of the materials to be recycled. It’s important that we identify what’s already being used by some companies. Pret a Manger, Veggie Pret and Asda, even, are starting to talk about how they can use returned plastics. Even major companies such as Coca-Cola have changed their minds on a deposit-return scheme.
The second part of this enables us to look at new taxes, and the possibility of having a tax on polystyrene, as Plaid Cymru has mentioned. Touching upon the point that Mike Hedges has just made: there are materials that can’t be recycled that ultimately will go to landfill or incineration. The solution there, of course, is to try and make better use of that material or to try and remove that material from the food chain specifically, and using taxation measures to achieve that. So, I do think that the possibility of a tax on plastics, which has been mentioned as one of the four possible taxes to be introduced by Government, would be something that we in Plaid Cymru would want to support at the moment, and that is our tax of choice, in order to be entirely clear in the Chamber. The reason for that is because it was in our manifesto, we’ve been working on that, and I made a legislative proposal just some five months ago in this Parliament and had support for this approach, as such a tax would persuade people either to reduce their use of plastic or, by placing a price on non-recyclable plastics, then it persuades companies to invest in compostable materials or alternative materials that can be recycled. In doing that, we would cut down on the plastics in our environment. It is quite horrifying that a recent study by the UK Government department on science found that some 70 per cent of all waste in the sea is now plastic based.
Fe wnes i addo cyffwrdd yn fyr ar losgi, ac rwy’n gwneud hynny i gloi. Mae swyddogaeth i losgi o ran biomas coedwigaeth amaethyddol at ddibenion ynni, ac yn y blaen, ond mae Plaid Cymru yn glir iawn fod llosgi gwastraff ar raddfa fawr yn erbyn egwyddorion economi gylchol mewn gwirionedd. Yn hynny o beth, rwy’n gobeithio bod y Llywodraeth yn cofio datblygiadau fel llosgydd y Barri ac yn gweithio’n wirioneddol yn erbyn cynigion o'r fath, ac o blaid economi gylchol wirioneddol.
Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. David Melding.
Gwelliant 3—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies. Mae hi’n gamp nodedig fod Cymru'n wlad flaenllaw mewn ymdrechion byd-eang i gynyddu cyfraddau ailgylchu, ac mae hyn yn gydnabyddiaeth o waith a phenderfyniad Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, cynghorau lleol ac, yn wir, i bobl ledled Cymru sydd wedi ymateb i'r her hon gyda brwdfrydedd. Rwy’n croesawu hefyd bwynt 2 o'r cynnig hwn o ran y manteision amgylcheddol y gall economi gylchol eu cyflwyno i Gymru. Mae hwn yn gysyniad yr ydym yn ei gefnogi. Ac rwy'n credu ei fod yn ddiymwad os ydym yn dymuno cyrraedd y targedau uchelgeisiol hyn, fel y cafodd ei grybwyll yn y cynnig. Mae'n hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf ar werth ein hadnoddau y tu hwnt i oes cynnyrch. Rwy'n falch fod agwedd economi gylchol wedi cael ei phwysleisio heddiw, am fod Ceidwadwyr Cymru yn daer o blaid hyn ac, yn wir, mae fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi ei hyrwyddo o’r blaen mewn dadl flaenorol ar wastraff ac ailgylchu a gafwyd ym mis Mawrth.
Hoffwn fynd drwy'r gwelliannau, am eu bod nhw i gyd yn weddol drwm o ran polisi ac, yn fy marn i, yn haeddu ymateb. Fe fyddwn ni yn cefnogi gwelliant 1 i'r cynnig ac yn llongyfarch cyngor Ceredigion, sy'n arwain y ffordd fel y cyngor sy'n perfformio orau yng Nghymru. Rwy'n credu nad yw hi ond yn deg inni gymeradwyo ymdrechion awdurdodau lleol. Rydym yn eu beirniadu yn aml. Felly, os ydym yn eu galw i gyfrif pan fyddwn ni'n credu bod eu perfformiad yn wael, rwyf i o’r farn y dylem eu cymeradwyo wedyn pan fyddan nhw’n ymddwyn yn rhagorol. Rwy'n falch fod dau o'r tri awdurdod lleol yn fy rhanbarth i, Canol De Cymru, yn perfformio yn well na'r cyfartaledd ac rwy'n siomedig fod y trydydd, Caerdydd, ychydig yn waeth na'r cyfartaledd, ac fe fyddaf yn dwyn y mater hwnnw ger eu bron i weld beth y maen nhw'n mynd i'w wneud i wella eu perfformiad.
Yn anffodus, Llywydd, nid yw gwelliant 2 mor syml â hynny ac, am y rheswm yna, byddwn yn ymatal ar y gwelliant penodol hwn. Er fy mod o’r farn ei fod yn feiddgar ac uchelgeisiol, credaf y gallai fod ychydig yn anymarferol, os nad yw hynny'n ffordd anghwrtais o fynegi hynny. Pan gyhoeddodd y Llywodraeth eu targed ar gyfer lleihau 50 y cant ar wastraff bwyd erbyn 2025, roedd cytundeb ar draws y mwyafrif o randdeiliaid ac ar draws y mwyafrif o’r pleidiau gwleidyddol yn y fan hon, fod hynny’n uchelgeisiol ofnadwy. Er cymhariaeth, cytunodd yr UE yn ddiweddar i haneru gwastraff bwyd erbyn 2030; rwy'n deall bod gan UDA nod tebyg. Yn ogystal â hynny, roedd yr Alban, a arweiniodd y ffordd yn y DU wrth gyflwyno targed gwastraff bwyd, mewn gwirionedd wedi gosod targed o ostyngiad o 33 y cant mewn gwirionedd erbyn 2025, felly rydym ni yn bwrw ymlaen â tharged mwy uchelgeisiol fel ag y mae hi. Felly, nid wyf yn siŵr y bydd modd inni ei gyflawni ac felly nid wyf yn siŵr ei fod yn beth priodol i'w gadarnhau nawr.
Fe fyddwn ni yn cefnogi gwelliant 4, gan ei fod yn adleisio ein gwelliant ni ein hunain. Rwy'n ofni bod Simon yn credu fy mod yn lladd y cysyniad gyda phluen. Nid felly o gwbl. Rwy'n credu bod angen rhyw fath o gynllun adneuo a'r rheswm pam y defnyddiais yr ymadrodd y gwneuthum oedd fod ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac wrth inni weld y cynllun peilot hwn yn ymddangos yn sydyn o ganlyniad i’ch sgiliau trafod amlwg gyda'r gyllideb, mae hyn wedi achosi ychydig bach o aflonyddwch gydag amgylchedd y polisi. Ond, eto, wyddoch chi—
Fe symudodd hynny yn ei flaen.
Os bydd hynny'n symud pethau yn eu blaenau, efallai bod hynny er gwell wedi’r cwbl. Wrth gefnogi gwelliant 4, nid ydym yn cymeradwyo mewn unrhyw ffordd yr ymdriniaethau o ran cyllideb sydd wedi digwydd. Nid oes gen i syniad pa gyfaddawdau sydd wedi bod, felly nid wyf i’n mynd i fod â rhan yn hynny o gwbl.
Fe fyddwn ni’n gwrthwynebu gwelliant 5 mewn gwirionedd oherwydd, er ein bod yn derbyn yr angen i leihau plastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu—ac unrhyw strategaeth i leihau gwastraff sy’n angenrheidiol—nid wyf i’n siŵr mai treth yw'r dull gorau. Ceir pob math o faterion o ran ymarferoldeb. Nawr, nid y fi yn tynnu’n groes yw hyn a dyna i gyd. Rwy'n credu bod gwahardd rhai cynhyrchion, a bod yn onest, yn ymagwedd sy’n fwy cydlynol. Nawr, efallai y bydd yn angen ymagwedd y DU ar ôl Brexit ar gyfer cyflawni hynny, ond nid yw rhai deunyddiau o les i ni nawr o ran eu defnydd yn y diwydiant bwyd, yn enwedig y diwydiant bwyd tecawê. Ond rwy'n credu mai'r broblem gyda threth yw y byddai'n rhaid iddi fod yn eithaf uchel iddi fod yn effeithiol ac, os yw'n hi weddol ysgafn, o ystyried pa mor gyfleus yw polystyren, nid wyf i’n sicr y byddai hynny’n peri i gwsmeriaid beidio â phrynu. Felly, am y rheswm hwnnw, nid wyf i’n siŵr y byddai'n effeithiol. Mae problemau i’w cael hefyd am ei bod hi’n dechnegol bosibl i ailgylchu polystyren. Felly, rwy'n credu, y byddai angen llawer o sylw hefyd ar y diffiniadau y byddai eu hangen arnoch chi gyda rhai o'r pethau hyn hefyd. Felly, am y rheswm hwnnw, nid ydym ni’n mynd i’w gefnogi.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Nid oes gennyf amser i ymhelaethu ar ein brwdfrydedd am gynllun adneuo, ond bydd gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd gyda'r ymgynghoriad ar hyn o bryd. Efallai y bydd modd i’r Gweinidog ddweud rhywbeth am hynny wrth gloi. A, hefyd, sut y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal—byddwn yn gwerthfawrogi pe byddai hi'n rhoi mwy o fanylion neu yn ysgrifennu ataf i am hynny. Eto, os ydyw hi'n ffordd gadarn a defnyddiol i lwybro ynddi, yna fe fyddwn yn hapus o weld hynny, ond, ar y funud, fe wnaeth hyn ymddangos yn ddisymwth tra bod ymgynghoriad cyffredinol yn mynd rhagddo beth bynnag.
Er hynny, rwyf yn awyddus i orffen ar nodyn brwdfrydig a dweud y bu cynnydd gwirioneddol yma. Mae'n braf i weld Cymru yn arwain y ffordd mewn rhai meysydd, ac rwy’n credu, fel gwrthblaid gyfrifol, y dylem gydnabod arfer da pan mae i’w weld.
Rwy'n falch dros ben o weld cynllun peilot ar gyfer dychwelyd poteli yng nghyllideb eleni. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl ardderchog ac y bydd yn rhoi gwybod inni am nifer y milltiroedd y gellid bod angen eu teithio i gario’r cynwysyddion yn ôl i'r ffatri a deall y broses i sicrhau ei bod hi'n broses wirioneddol gynaliadwy. Ni all ddod yn rhy gynnar, oherwydd mae David Attenborough, eto, wedi apelio i'r byd wneud rhywbeth ynglŷn â nifer y plastigau sydd yn y môr ac yn lladd bywyd gwyllt mewn rhannau o'r byd na fyddwn ni fyth yn ymweld â nhw. Mae'n hollol ddychrynllyd ein bod ni wedi bod mor wastraffus gydag adnoddau ein planed wrth ganiatáu i hyn ddigwydd.
Rwyf i o’r farn fod y targed ailgylchu trefol o 80 y cant yn uchelgeisiol ond yn bosibl i’w gyrraedd, ond bydd angen i rai awdurdodau lleol ddyblu’u hymdrechion. Mae Caerdydd, er enghraifft, fy awdurdod lleol i fy hun, yn taro ar y hyd y gwaelod ar 58 y cant ac nid yw hynny'n ddigon da. Agwedd yn y meddwl yw hi yn rhannol, nad yw'n ddigon cadarn wrth fwrw ymlaen â'r ymgyrch sydd ei hangen I addysgu ein holl ddinasyddion, nid dim ond y rhai sydd eisoes wedi eu hymrwymo i'r broses hon. Rwyf i wedi bod yn ymgyrchu ers wythnosau nawr i sicrhau bod biniau ailgylchu yn cael eu rhoi yn ôl mewn rhai fflatiau yn fy etholaeth i, ac nid ydyw hynny wedi digwydd, a bod yn blaen. Nid oes unrhyw ffordd i bobl wneud y peth iawn trwy roi eu bagiau o wastraff gwyrdd ar wahân i'r gwastraff gweddilliol, ac yna heb fod â lle priodol i'w rhoi nhw. Os mai safle tirlenwi yw diwedd eu taith wedyn, yna ymagwedd hollol anobeithiol yw honno, ac yn amlwg yn digalonni pobl. Felly, mae'n rhaid i hynny newid, ac mae angen inni sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn rhan o’r broses hon, ac nid dim ond y rheiny sydd yn fwyaf brwdfrydig amdani.
Yn yr un modd, ni allwn ni wir gyfiawnhau taflu i ffwrdd draean o’r holl fwyd a gynhyrchir yn y wlad hon. Mae'n hollol wrthun mewn byd lle mae llaweroedd o bobl yn newynog, yn y wlad hon ac mewn rhannau eraill o'r byd. Nid arfer cynaliadwy na chyfrifol mo hwn o gwbl ac felly mae angen i ni i gyd wneud ein rhan i sicrhau nad ydym yn archebu mwy nag sydd ei angen arnom ni, ein bod yn defnyddio'r bwyd sydd gennym yn ein hoergelloedd, ac os nad ydyn ni, mae angen inni sicrhau ein bod yn ei roi i bobl sy'n gallu ei ddefnyddio'n fwy effeithiol nag yr ydym ni’n ei wneud. Felly, rwy'n credu bod y targedau’n ardderchog, ond rwy’n credu nad oes lle i hunanfodlonrwydd ac mae angen inni sicrhau bod pob dinesydd yn rhan o'r broses hon.
Mae UKIP yn llwyr gefnogi ac yn cymeradwyo strategaethau Llywodraeth Cymru ar ailgylchu yng Nghymru, ac yn cydnabod y cynnydd rhagorol sydd wedi ei wneud hyd yn hyn.
Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud eto os ydym am gyflawni'r targed uchelgeisiol a osodwyd ar gyfer y blynyddoedd nesaf. O ystyried bod y cyhoedd yng Nghymru, i raddau helaeth, wedi derbyn holl gysyniad ailgylchu, a yw hi bellach yn bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau canolbwyntio ar y cwmnïau sy'n cynhyrchu llawer o'r gwastraff na ellir ei ailgylchu, â phaciau pothellog a phecynnau seloffen na ellir eu hailgylchu yn rhai o'r troseddwyr amlycaf? Credaf fod llawer yn y Siambr hon yn rhannu yn fy rhwystredigaeth o ran cymaint o wastraff y mae'n rhaid i ni ei roi yn y bin tirlenwi oherwydd yr ystyrir nad yw hi’n bosibl i ailgylchu’r eitemau.
Er fy mod yn deall bod llawer o'r gwaith pecynnu hwn yn cael ei wneud y tu allan i Gymru, yn enwedig yng ngyflenwad y cadwyni archfarchnad, mae yna lawer o gwmnïau yng Nghymru sydd bellach yn cyflenwi cyfran sylweddol o nwyddau i archfarchnadoedd ac yn sicr y mae o fewn gallu Llywodraeth Cymru i annog yr archfarchnadoedd eu hunain i gael gwared ar ddeunydd pacio i’r fath raddau ag sy’n bosibl.
Byddwn yn adleisio llawer yn y tŷ hwn sydd o blaid eitemau dychwelyd ernes, ac yn credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd cyn belled ag agor cyfleusterau arbennig a fyddai'n cynnig system dychwelyd ernes i’r cyhoedd, gan ddod yn bwyntiau casglu ychwanegol i'r fasnach fanwerthu i bob pwrpas. Un gair o rybudd yma, fodd bynnag, byddai’n rhaid i’r ernes fod yn ddigon uchel i annog dychwelyd yr eitem heb amharu ar y gwerthiant ei hun. Pe byddai'n effeithio ar werthiannau, byddai'r fasnach adwerthu yn llawer llai tebygol o gefnogi'r cynllun hwn.
Un maes nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin yn benodol ag ef, ond wrth ystyried yr economi gylchol, na allwn ei anwybyddu, yw'r car modur, sydd ynddo'i hun yn cyfrannu'n sylweddol at wastraff os nad ydyw’n cael ei drin yn iawn. Yn rhy aml o lawer, mae ailgylchu cydrannau masnach ceir wedi ei wneud mewn modd i ffwrdd â hi gan gyfleusterau sgrapio ar raddfa fechan nad ydyn nhw’n cymryd ymagwedd gyfannol at dorri ceir. Byddwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych yn ffafriol ar sefydlu cyfleusterau pwrpasol a fyddai'n mynd i'r afael â phob agwedd ar ddatgymalu ceir, gan gynnwys cael gwared ar olewau a hylifau brecio yn iawn, hyd yn oed cyn belled ag ariannu eu datblygiad.
A gaf i wneud un pwynt arall wrth orffen? Nid wyf i’n credu bod y frawdoliaeth deithiol wedi derbyn y gydnabyddiaeth sy’n deilwng o’r cyfraniad y maen nhw wedi'i wneud i ailgylchu dros lawer o ddegawdau, ymhell cyn i ailgylchu fod yn beth ffasiynol, a'u bod yn parhau i wneud y cyfraniad gwerthfawr hwn hyd y dydd hwn.
Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, fe ddaethom ni yn gymdeithas sy’n taflu pethau i ffwrdd. Roedd fy nain, a gafodd ei geni yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn byw gyda gŵr di-waith yn ystod y 1930au, yn cael ei dychryn yn aml gan wastraff cyffredinol cymdeithas ar yr adeg honno—eitemau a oedd yn gweithio, a dim byd o'i le arnyn nhw, yn cael eu taflu’n aml a'u cludo i safleoedd tirlenwi oherwydd bod rhywbeth newydd wedi dod yn eu lle. Weithiau, byddai rhywbeth yn mynd allan o ffasiwn ac yn cael ei anfon drwy'r gwasanaeth casglu sbwriel i'r safle tirlenwi lleol—nid oedd unrhyw beth o'i le arno, dim ond ei fod allan o’r ffasiwn. Dyma’r cyfnod pryd y peidiodd y gwasanaeth casglu sbwriel gael ei alw'n ddynion y lludw, gan eu bod yn arfer casglu lludw’r tanau glo, a dechrau ymdrin â symiau mawr o sbwriel.
Rwy’n cofio hefyd bod arian i’w gael yn ei ôl am ddychwelyd poteli pop. Rhyfedd o beth yw sut y gall ychydig o geiniogau effeithio ar ymddygiad. Yr ardoll ar fagiau plastig: efallai nad yw ond 5c, ond mae wedi cael effaith enfawr ar ymddygiad. Nid ydych chi’n gweld nifer mawr o fagiau plastig yn chwythu ar draws parciau a meysydd chwarae, a chredaf y byddai cael blaendal ar boteli eto yn cael yr un effaith yn union ar ailgylchu. Mae Cymru wedi gwneud cynnydd mawr o ran ailgylchu dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma genedl flaenllaw'r DU o ran ailgylchu trefol—diolch i chi, awdurdodau lleol—a’r trydydd yn y byd ar hyn o bryd. Mae modd gwneud mwy, serch hynny.
Yn gyntaf, rwy'n mynd i droi at fetelau. Dylai fod yn bosibl i ailgylchu pob metel. Rwy'n siŵr, fodd bynnag, fod metelau gan gynnwys aur a phrinfwynau yn cael eu taflu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Newid cyflym mewn technoleg, cost gychwynnol isel—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Os gwelwch yn dda.
Diolch, Mike. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, na fyddech chi? Rwy'n bryderus iawn ynghylch dychwelyd offer symudedd pan fo pobl wedi cael triniaethau yn yr ysbyty. Rwy’n gwybod am ddau glaf yn ddiweddar, pan ffonion nhw i ddweud, 'A gawn ni ddychwelyd ein hoffer?' 'Na chewch, nid ydyn nhw o unrhyw ddefnydd i ni. Na, ni allwn ni eu hailddefnyddio nhw; ewch â nhw i’ch tip lleol’. Rwy'n gweld hynny’n wastraff arian llwyr. Rwyf wedi codi hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'r awdurdod lleol, ac nid wyf i’n gwybod a allwch chi helpu mewn rhyw ffordd, ond rydym yn sôn am gadeiriau olwyn, offer gwerth cannoedd ar gannoedd o bunnoedd, sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.
Rwy'n cytuno’n llwyr â chi. Nid wyf yn gweld pam na ellir adfer y pethau hyn, a chredaf ei bod yn anffodus bod yna rai pobl sydd â'r meddylfryd hwn o daflu pethau i ffwrdd o hyd. Rydym wedi gweld newidiadau cyflym mewn technoleg. Y ffôn symudol—rwy’n gwybod ei fod wedi tarfu ar y sesiwn ar sawl achlysur y prynhawn yma. Mae hwnnw'n cynnwys aur, metelau trwm—mewn gwirionedd, mae 70 y cant o'r metelau trwm sydd mewn safleoedd tirlenwi wedi dod o offer electroneg sydd wedi eu taflu i ffwrdd, ond nid yw’n cyfrif am ddim mwy na 2 y cant o’r deunydd mewn safleoedd tirlenwi yn America; rwy'n tybio na fyddai Prydain yn wahanol iawn. Mae metelau gwerthfawr y tu mewn i ffôn symudol yn werth tua 75 sent yn America, sy'n golygu oddeutu £1 yma, a thua 18 sent i’w tynnu nhw allan. Mae yna arbedion enfawr i'w gwneud o wneud hynny, ond mae gormod o ddyfeisiadau electronig yn cael eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi. Mewn ffonau symudol ceir aur, metelau prinfwyn, ac eto maen nhw’n cael eu taflu o hyd heb eu hailgylchu. Ni ddylid taflu unrhyw fetel na chynnyrch sy’n cynnwys metelau, i ffwrdd. Swm cyfyngedig o fetel sydd gennym ni yng nghrawen y ddaear. Po fwyaf y byddwn yn ei ailgylchu, lleiaf y byddo’r angen inni ei gloddio a lleiaf fyddo’r niwed i'r amgylchedd. Rwy'n credu ei bod yn debygol y byddwn yn y dyfodol yn gweld cloddio mewn hen dipiau sbwriel i gael gafael ar fetelau ac eitemau eraill a gafodd eu taflu i ffwrdd.
Gan droi at fwyd, mewn byd lle mae llawer yn newynog, mewn gwlad lle mae pobl yn gorfod mynd at fanciau bwyd, lle byddai plant wedi bod yn newynog yn fy etholaeth i yn ystod yr haf oni bai am weithredoedd Ffydd mewn Teuluoedd a Carolyn Harris AS yn darparu prydau bwyd, rydym yn dal i daflu bwyd i ffwrdd. Mae’n rhaid i'r archfarchnadoedd, wrth gwrs, gymryd peth o'r bai am wastraff bwyd. Mae bagiau enfawr a chynigion prynu un a chael un arall am ddim yn hyrwyddo gorbrynu a gwastraffu. Mae angen i ni leihau gwastraff bwyd: gwneud pethau fel prynu llai, osgoi cynigion a fyddai'n rhoi mwy i chi nag y gallwch ei ddefnyddio, coginio a rhewi, a gwneud smwddis a chawliau.
Ac nid gwastraff bwyd yn unig yw hi; mae yna gost i'r amgylchedd ac mae yna gost i'r prynwr hefyd. Nid ydym yn gallu fforddio dal ati i daflu bwyd i ffwrdd. Mae yna bobl sy'n newynog oherwydd ein bod ni’n gwneud hynny. Mae cynnydd mawr wedi digwydd yng Nghymru. Mae angen inni barhau i wneud y cynnydd hwn. I gloi yn syml, fy ddywedaf hyn: da iawn y chi, gynghorau lleol yng Nghymru am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud gydag ailgylchu.
Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd, ac rwy’n diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn inni gael dadl mor adeiladol, ac rwyf innau o’r farn, fel y dywedodd David Melding, ei bod hi’n ardderchog ein bod ni'n drydydd yn y byd gyda’n hailgylchu, ond rwyf i’n awyddus i fod yn gyntaf yn y byd. Rwyf am wneud yn siŵr ein bod ni'n well na'r Almaen a Singapôr. Rydym ni wedi buddsoddi dros £600 miliwn yng ngwasanaethau ailgylchu awdurdodau lleol drwy'r grant rheoli gwastraff cynaliadwy, ac mae'r ffaith ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon o fod yn drydydd yn y byd wedi digwydd oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, ond wrth gwrs, fe ddigwyddodd oherwydd bod pobl Cymru mor awyddus i ailgylchu. Eto i gyd, fe wyddom ni fod yna grŵp o bobl y mae’n ymddangos eu bod yn gwrthod gwneud hynny, a dyna un agwedd ar waith y byddwn yn parhau i’w wneud gydag awdurdodau lleol.
Roedd Jenny Rathbone yn sôn am wastraff bwyd, a chredaf ei bod yn gwbl echrydus ein bod yn gwastraffu cymaint o fwyd. Os edrychwn ni ar aelwyd gyfartalog yng Nghymru, maen nhw'n taflu bwyd gwerth £480 y flwyddyn, felly mae hynny'n hafal i £600 miliwn ar draws Cymru benbaladr. Mae angen inni werthfawrogi'r bwyd yr ydym yn ei brynu, a rhaid inni beidio â'i daflu'n anystyriol. Roeddwn yn sôn y byddem ni’n cyflwyno'r targed o haneru gwastraff bwyd yng Nghymru erbyn 2025. Credaf fod hynny'n feiddgar ac yn uchelgeisiol, a chredaf ei fod hefyd yn bragmataidd ac yn realistig, felly byddaf yn ymgynghori yn rhan o’r gwaith o adnewyddu ein strategaeth wastraff yr wyf yn bwriadu ei wneud y flwyddyn nesaf.
Roedd nifer o’r Aelodau yn sôn am gynlluniau dychwelyd ernes, ac rydym wedi cytuno i gynnwys y cynllun peilot hwn yn rhan o’n setliad cyllideb. Rydym wedi neilltuo £0.5 miliwn i wneud hynny. Nid ydym wedi trefnu’r manylion eto. Fel y dywedodd Simon, bydd hynny'n rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud, a byddaf yn hapus i roi gwybod nid yn unig i David Melding, ond i’r holl Aelodau, yn amlwg, pan fyddwn ni wedi cyflwyno ein syniadau.
Ochr yn ochr â hynny, roeddwn yn sôn fy mod yn gwneud astudiaeth estynedig ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr. Felly, roedd hynny'n rhan o'r cynllun ond rydyn ni nawr am gael peilot yn rhan o’r setliad cyllideb. Rwy'n ymwybodol o alwadau i gyflwyno dychwelyd ernes. Yn blentyn y 1960au, fel Mike Hedges, rwy'n cofio'n dda iawn fel yr oedd hi, ond rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig ein bod yn sicrhau nad oes canlyniadau anffafriol nac anfwriadol o ran gweithredu cynllun o'r fath, oherwydd bod gennym y gwasanaeth ailgylchu gorau yn y DU ac eisoes mae 75 y cant o boteli plastig yng Nghymru yn cael eu hailgylchu. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydyw’r canlyniadau anffafriol hynny’n digwydd inni.
Mae'n rhaid inni hefyd ystyried effeithiau ariannol y taliad ar filiau siopa aelwydydd. Gwyddom, er enghraifft, fod llawer iawn o bobl nawr yn siopa ar-lein, felly mae hi'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau ein bod ni'n helpu'r bobl hynny nad ydyn nhw’n gallu dychwelyd potel o’r fath yn hawdd i gael ad-daliad mewn siop. Roedd David Melding yn holi am bolystyren. Mae yn bosibl i’w ailgylchu ac rwyf wrthi’n trafod â siopau bwyd a busnesau adnabyddus. Eto, bydd edrych ar ailgylchu polystyren yn rhan o'r astudiaeth gan y Panel Arbenigol ar Reoli Adnoddau.
Os caf i droi at y cynnig, mae’n amlwg fy mod i’n gofyn i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig. Gan edrych ar y gwelliannau, rwy'n derbyn 1, 3, 4 a 5. Rwy’n arbennig o awyddus i ganmol Ceredigion, y sir sy’n ailgylchu fwyaf yng Nghymru, sef 70 y cant. Rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliant 2 gan fod targed ar gyfer bod yn ddiwastraff wedi'i seilio ar dystiolaeth ar gyfer y garreg filltir honno o 2050 eisoes wedi’i nodi yn ein strategaeth wastraff, 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Mae'r targed o 80 y cant a'r targed o 50 y cant y cyfeiriais atyn nhw yn dargedau newydd penodol nad ydyn nhw eisoes yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw o fod yn ddiwastraff erbyn 2050 bydd angen ymdrech fawr, a bydd yn rhaid inni gyflwyno mesurau dros dro. Un o'r mesurau dros dro yr ydym wedi edrych arno yw gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu contractau 25 mlynedd ar gyfer adennill ynni na ellir ei ailgylchu.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Felly, i gloi, Llywydd, hoffwn ddiolch i’r Aelodau eto am eu cyfraniadau. Rwy'n credu bod y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn gyffrous iawn. Fel y dywedais i, rwy’n awyddus i fod y gorau yn y byd. Rwy'n siŵr bod hynny’n gyffredin ymysg yr holl Aelodau, wrth inni wneud y cynnydd pellach hwnnw o ran ein heffeithlonrwydd adnoddau a'n taith tuag at economi gylchol. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael y ddadl hon heddiw. Diolch ichi.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Mae’r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar fynd i’r afael â throsedd casineb. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwrthodwyd gwelliant 4: O blaid 17, Yn erbyn 22, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6530.
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, dau yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.
Derbyniwyd gwelliant 5: O blaid 38, Yn erbyn 0, Ymatal 2.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6530.
Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 14, tri yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwrthodwyd gwelliant 6: O blaid 14, Yn erbyn 23, Ymatal 3.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6530.
Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 14, tri yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwrthodwyd gwelliant 7: O blaid 14, Yn erbyn 23, Ymatal 3.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NDM6530.
Galwaf am bleidlais ar welliant 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, tri yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 8.
Derbyniwyd gwelliant 8: O blaid 37, Yn erbyn 0, Ymatal 3.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 8 i gynnig NDM6530.
Galwaf am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Cynnig NDM6530 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws Cymru.
2. Yn nodi, er y bu cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad.
3. Yn croesawu cod ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol.
4. Yn galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly—. Pedwar deg o blaid, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.
Derbyniwyd cynnig NDM6530 fel y’i diwygiwyd: O blaid 40, Yn erbyn 0, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6530 fel y’i diwygiwyd.
Mae’r bleidlais nesaf ar y ddadl ar yr economi gylchol. Galwaf felly am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Agor y bleidlais?
Agor y bleidlais. Diolch, Rhun. Cau’r bleidlais. O blaid wyth, naw yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi’i wrthod.
Gwrthodwyd gwelliant 2: O blaid 8, Yn erbyn 23, Ymatal 9.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6531.
Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 39, un yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi’i dderbyn.
Derbyniwyd gwelliant 3: O blaid 39, Yn erbyn 0, Ymatal 1.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6531.
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, dau yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 37, Yn erbyn 1, Ymatal 2.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6531.
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 12, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6531.
Galwaf am bleidlais, felly, ar y cynnig wedi’i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Cynnig NDM6531 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol.
2. Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu.
3. Yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid:
a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; a
b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%.
4. Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru.
5. Yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal.
6. Yn cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio a na ellir eu hailgylchu.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Tri deg un o blaid, naw yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Derbyniwyd cynnig NDM6531 fel y’i diwygiwyd: O blaid 31, Yn erbyn 0, Ymatal 9.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6531 fel y diwygiwyd.
A dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:26.