Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/06/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Troseddau Gwledig

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â throseddau gwledig? OAQ(5)0692(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda heddluoedd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i atal a mynd i'r afael â throseddau gwledig ac i helpu i wneud pobl deimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi ac mewn mannau cyhoeddus.

Diolch, Prif Weinidog. Mae troseddau gwledig, wrth gwrs, yn costio dros £2 filiwn bob blwyddyn i’r economi wledig. Yn y gogledd, mae gennym ni dîm troseddau gwledig sy'n gweithio'n galed iawn, gan weithio gydag asiantaethau eraill, ond maen nhw’n amcangyfrif bod 75 y cant o'u llwyth gwaith yn gysylltiedig â throseddau da byw. Mewn tair blynedd, mae 2,000 o ddefaid wedi cael eu lladd mewn 400 o ymosodiadau ar wahân gan gŵn. Maen nhw’n mynd i'r afael â dwyn cerbydau, dwyn oddi wrth fusnesau gwledig, yn ogystal ag ymosod â chŵn ar foch daear a cham-drin anifeiliaid. A wnewch chi gymeradwyo gyda mi yma heddiw a chefnogi’r gwaith rhagorol a wnaed gan dîm troseddau cefn gwlad gogledd Cymru ac addo eich cefnogaeth, ac unrhyw adnoddau ychwanegol a allai fod ar gael, ar gyfer eu gwaith rhagorol yn y dyfodol?

Gan gadw mewn cof nad yw plismona wedi'i ddatganoli ac, felly, a bod y cyllid yn dod o'r Swyddfa Gartref i raddau helaeth, ond gallaf ddweud, wrth gwrs, ein bod ni’n cefnogi'r tîm. Cafodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyfarfod gyda'r tîm ar 15 Mehefin a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am raddfa’r problemau, yr ymateb yr oedd wedi ei roi ar waith, yn ogystal â’r gwaith sy’n parhau i newid y gyfraith ar lefel y DU.

Prif Weinidog, yn Islwyn, rydym ni’n wynebu, ar dwmpath hanesyddol Twm Barlwm, pla tipio anghyfreithlon, ac mae'n costio bron i £2 filiwn bob blwyddyn i Gymru mewn costau glanhau, y mae'n rhaid iddynt gael eu talu gan y trethdalwr yn y pen draw. Mae'r drosedd wledig hon yn niweidiol i iechyd pobl ac yn difetha'r mwynhad o'n cefn gwlad godidog. Ers 2007, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Taclo Tipio Cymru, menter a gydgysylltir gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac sy’n cynnwys dros 50 o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon drwy addysg. Beth mae Llywodraeth Cymru yn credu yw’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni ein gweledigaeth o frwydro yn erbyn y bygythiad hwn?

Yn gyntaf, newid agwedd a diwylliant, fel bod rhai pobl—y rhai sydd yn tipio’n anghyfreithlon—yn sylweddoli pa mor wrthgymdeithasol yw hynny. Yn ail, wrth gwrs, gorfodi a gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, a'r cyhoedd, yn wir, i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Ac, yn drydydd, trwy orfodi cosbau. Er enghraifft, rydym ni’n gwybod ein bod ni wedi edrych ar gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am achosion o dipio anghyfreithlon ar raddfa fach. Mae hynny'n cynnig ymateb mwy effeithlon a chymesur i awdurdodau lleol i droseddau lefel isel, nifer uchel, ond, wrth gwrs, ar gyfer y rheini sy’n fwy difrifol ac yn droseddwyr mwy mynych, yna, wrth gwrs, gellir eu herlyn o fewn y gyfraith. Ond mae hyn yn dibynnu ar gudd-wybodaeth yn dod oddi wrth y cyhoedd er mwyn darparu’r dystiolaeth yn y lle cyntaf.

Yn ystod yr wythnos yma, mae Heddlu Dyfed-Powys a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnal astudiaeth mewn i droseddu gwledig i drio casglu tystiolaeth, gan ein bod ni’n tybio, a dweud y gwir, fod troseddu gwledig yn costio mwy na rhai o’r ffigurau sydd wedi cael eu defnyddio hyd yma. A fyddech chi’n ymuno gyda fi i annog ffermwyr i gyfrannu at yr astudiaeth yna, a, hefyd, i longyfarch Heddlu Dyfed-Powys am ddefnyddio DNA defaid am y tro cyntaf erioed, i sicrhau bod rhywun yn mynd i gael ei erlyn a chael ei ganfod yn euog o ladrata defaid? Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, rwy’n meddwl, ym maes troseddu gwledig.

Gwnaf, wrth gwrs. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gallu sicrhau mwy o dystiolaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael eu herlyn. Ond, wrth gwrs, mae’r heddlu a phob awdurdod yn dibynnu ar y wybodaeth y maen nhw’n ei chael wrth ffermwyr, a rhai eraill sydd yn byw yng nghefn gwlad, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu cynyddu’r dystiolaeth hynny.

Isadeiledd Chwaraeon yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr isadeiledd chwaraeon yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0693(FM)[W]

Mae yna nifer o gyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf yn y gogledd, ar gyfer chwaraeon elît yn ogystal â chwaraeon cymunedol. Mae Chwaraeon Cymru, ein hasiant cyflenwi allweddol, yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod darpariaeth briodol ym mhob rhan o Gymru.

Diolch i chi am eich ateb. Roedd hi’n ddiddorol nodi bod eich Ysgrifennydd economi chi wedi bod yn awyddus iawn i weld datblygu canolfan confensiwn digwyddiadau pellach yng Nghaerdydd yn ddiweddar, er bod gyda ni Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Dinas Caerdydd a’r Motorpoint Arena. Mae gyda ni Ganolfan y Mileniwm, mae gyda ni ganolfan gonfensiwn yng Nghasnewydd jest lawr y ffordd, ac mae Stadiwm Liberty yn Abertawe. Mae yna ganolfan gonfensiwn debyg ar y ffordd yn Abertawe, mae’n debyg, a phob lwc iddyn nhw. Nid wyf i’n dannod hynny am eiliad, ond mae yna gwestiwn yn cael ei gofyn ynglŷn â beth am fuddsoddi gan y Llywodraeth mewn cynlluniau yng ngogledd Cymru, ac yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn benodol. Mae’r Cae Ras, wrth gwrs, yn awyddus i ddatblygu’i hun fel canolfan chwaraeon ryngwladol. Mae’n awyddus hefyd i gynnal digwyddiadau—roedd Olly Murs yna dros y penwythnos, a miloedd lawer yna. Ond y teimlad yw nad yw’r buddsoddiad yn dod. Felly, y cwestiwn, Brif Weinidog, i bob pwrpas, yw: pryd y gwelwn ni eich Llywodraeth chi yr un mor ‘proactive’, yr un mor rhagweithiol ac awyddus i annog y math yna o ddatblygiad yn rhywle fel y Cae Ras?

Wel, rydym ni’n sôn am rai pethau fanna sydd ddim yn cael eu cefnogi gan y Llywodraeth, sef yr arena yng Nghaerdydd a’r arena yn Abertawe. Ond, mae’n codi’r pwynt ynglŷn â’r Cae Ras. Rydym ni’n moyn sicrhau bod y Cae Ras yn datblygu yn y pen draw. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, fod cynlluniau yn dod o’r Cae Ras ei hunan, er mwyn inni allu gweld ym mha ffordd y gallwn ni gefnogi hynny. Allwn ni ddim, wrth gwrs, sefydlu ein cynlluniau ein hunain heb weithio gyda’r rheini sydd yn y dref a’r ardal eang. Rwy’n gwybod bod ymddiriedolaeth cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi rhoi adroddiad i swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn symud y broses hon ymlaen, ac rydym ni’n awyddus i weithio gyda nhw.

Un o gyfleusterau chwaraeon gorau’r gogledd, wrth gwrs, yw Parc Eirias yn fy etholaeth i, cartref Rygbi Gogledd Cymru. Ac rwyf i wedi bod yn falch iawn, mewn gwirionedd, o weld buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y safle hwnnw dros y blynyddoedd. Ond a fyddech chi’n cytuno â mi, os ydym ni’n mynd i gael cyfleusterau chwaraeon gwych, bod yn rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr bod gennym ni’r seilwaith trafnidiaeth i gael pobl i mewn ac allan o'r cyfleusterau hynny? Un o'r problemau sydd gennym ni, wrth gwrs, yn y gogledd, yw’r coridor A55 yna, a'r tagfeydd sy'n digwydd arno o bryd i'w gilydd. Ac rwy’n meddwl tybed pa gamau yr ydych chi’n mynd i’w cymryd i wneud yn siŵr bod gan y lleoliadau chwaraeon hynny seilwaith trafnidiaeth digonol o'u cwmpas.

Wel, cwestiwn amserol iawn gan yr Aelod, gan fy mod i’n gweld bod yr arian hwnnw wedi cael ei roi ar gael ar gyfer prosiectau penodol i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, ac nid yw Cymru wedi cael ei thrin yn yr un modd. Byddem yn fwy na balch o fwrw ymlaen gyda mwy o fesurau ar yr A55 i leihau tagfeydd pe byddem ni ond yn y sefyllfa lle’r oedd gennym ni Aelodau DUP y gellid eu prynu gan y Llywodraeth Geidwadol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y bore yma, gwnaeth y Cabinet y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r pecyn cyllid ar gyfer Cylchffordd Cymru—ac rwy’n sylweddoli y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ddoe, rhoddodd y gwas sifil uchaf yn yr adran dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pryd y dywedodd bod gan y prosiect hwn effaith fawr iawn yn y statws a neilltuwyd iddo yn yr adran, a dywedodd hefyd ei fod yn cynnig gwerth am arian—a’i eiriau ef yw’r rhain yr wyf yn eu dyfynnu i chi—ac roedd yn brosiect a oedd yn barod, yn amodol ar gyllid, i gael ei ddarparu.

Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet, drwy ei ddatganiad y bore yma, yn dweud, mewn gwirionedd, bod yr honiadau ynghylch y prosiect wedi eu gorbwysleisio’n sylweddol, ac yn hanesyddol meddai, prin oedd y dystiolaeth, ar raddfa ryngwladol, bod unrhyw drac ar ei ben ei hun yn gweithredu fel catalydd ar gyfer cyflogaeth leol ychwanegol. Mae’r ddau ddatganiad hynny—gan yr uwch was sifil, a chan Ysgrifennydd y Cabinet—yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr o ran y safbwyntiau y maen nhw’n ceisio eu cyfleu. Pwy sy'n iawn a phwy sy’n anghywir o ran y prosiect hwn?

Na, dydyn nhw ddim, oherwydd bod cam 2 y prosiect yn cyflwyno parc technoleg. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni’n bwrw ymlaen ag ef fel Llywodraeth. Dyna'r prosiect a fydd yn darparu’r mwyafrif llethol o'r swyddi. Yn anffodus, ni allai’r amodau i ni eu cyflwyno, cyn belled ag yr oedd y gylchffordd ei hun yn y cwestiwn, gael eu bodloni gan y cwmni dan sylw. Roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o amser i geisio bodloni’r amodau hynny, ond, yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny.

Mae gen i ofn nad dyna oedd y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma yn ei awgrymu. Fel y dywedais, yn ei ddatganiad ysgrifenedig, mae'n dweud mai prin yw’r dystiolaeth o brosiect fel hwn yn cyflawni, ar y niferoedd y soniwyd amdanynt. A dweud y gwir, mae’n sôn am ddarparu dim ond 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn gwirionedd, ar y gylchffordd—rwy’n derbyn hynny, a cheir parc wrth ei hochr. Ond, mewn gwirionedd, dywedodd yr ysgrifennydd parhaol, yn yr adran honno, ddoe, ei fod yn brosiect a oedd yn barod i gael ei gyflwyno, roedd ganddo ffydd ac, unwaith eto, gan ailadrodd ei eiriau, roedd yn brosiect ag iddo effaith fawr iawn. Felly, yn amlwg, roedd ganddo ffydd yn y prosiect.

Tynnodd eich Llywodraeth, ar yr unfed awr ar ddeg, ei chefnogaeth i'r prosiect hwn yn ôl. Rydych chi wedi ceisio lleihau’r ergyd, trwy ddweud eich bod chi’n mynd i adfywio'r ardal fenter yng Nglynebwy, sydd wedi darparu ychydig iawn o fuddsoddiad i'r ardal, hyd yn hyn. Rwy'n mynd yn ôl at y pwynt: sut ellir cael dau ddatganiad eang, un gan Ysgrifennydd y Cabinet, un gan y gwas sifil uchaf, sydd mor groes i’w gilydd o ran eu safbwynt ar y prosiect hwn? Rwy'n credu bod y cyhoedd yn haeddu gwell dealltwriaeth o pam mae wedi cymryd pum mlynedd i gyrraedd y pwynt hwn.

Rwy'n credu ei fod wedi ateb ei gwestiwn ei hun trwy ddweud, 'yn amodol ar gyllid', a dyna'r broblem yma. Roeddem ni eisiau cynnig pob cyfle i’r gylchffordd fodloni’r amodau yr oeddem ni wedi eu nodi. Nid oedden nhw’n gallu bodloni’r amodau hynny, ac felly, o ganlyniad i hynny, nid oedd y sefyllfa ariannol yn iawn i ni allu cefnogi'r cynllun hwn ar gyfer y gylchffordd. Yr hyn y gallwn ni ei wneud, fodd bynnag, yw darparu'r mwyafrif llethol o'r swyddi trwy ddarparu’r parc technoleg. Rydym ni wedi siarad â darpar fuddsoddwyr. Rydym ni wedi siarad â’r rheini yn y diwydiant. Mae ganddyn nhw ddiddordeb. Maen nhw eisiau gweithio gyda ni ar y parc technoleg. Felly, oes, mae swyddi a fydd yn dod i bedwar ffigur y gellir eu darparu wrth i’r parc technoleg hwnnw gael ei ddatblygu. Nid yw'n ddibynnol ar gael trac rasio ffisegol yno.

Wel, ni fyddwch chi’n darparu’r mwyafrif llethol o swyddi, fel y cynigir yn y cysyniad gwreiddiol, gan fod 6,000 o swyddi arfaethedig yn gysylltiedig â’r prosiect hwn—

[Yn parhau.]—ac mae'r parc yr ydych chi’n sôn am ei ddarparu â photensial o 1,500 o swyddi gyda rhaglen gyflawni 10 mlynedd ar gyfer y parc hwnnw. Felly, ceir anghysondeb. Ond y pwynt rwy'n ceisio ei wneud yma, Prif Weinidog, yw bod gennych chi’r ysgrifennydd parhaol yn yr adran honno sydd yn gwbl groes i’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddehongliad. Mae'r dystiolaeth yno, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, am y prosiect hwn—ac, unwaith eto, rwy’n ailadrodd, prosiect ag effaith fawr iawn. Felly mae hynny’n gyllid, mae hynny’n swyddi, mae hynny’n adfywio. Fel arall, pam fyddai ef wedi defnyddio iaith o'r fath? A oes gennych chi ffydd yng ngallu James Price i barhau yn ei swydd neu a ydych chi’n cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet? [Torri ar draws.]

Mae'n llwfrdra, a bod yn blaen—llwfrdra—i unrhyw Aelod yn y Siambr hon enwi gwas sifil fel yna pan na all ymateb. Mae'n llwfrdra. Gofynnaf i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ei dynnu yn ôl. [Torri ar draws.]

Hoffwn ymateb i hynna, oherwydd pan fyddwch chi’n cyhuddo rhywun o lwfrdra—

[Yn parhau.]—yn ôl pob tebyg yn amhriodol i chi fod yn enwi gwas sifil yn y lle hwn pan nad yw’r gwas sifil yn gallu bod yma i ateb drosto'i hun. [Torri ar draws.] Felly, rwy’n mynd i symud ymlaen nawr a galw ar arweinydd UKIP, Neil Hamilton.

Nid ydym ni’n mynd i symud ymlaen yn bell iawn, Llywydd, mae gen i ofn, gan fy mod i’n mynd i barhau â'r un math o gwestiynu ag a oedd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Onid yw'n gwbl eglur nawr pam mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei ohirio tan ar ôl yr etholiad cyffredinol? A’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud heddiw mewn gwirionedd yw lladd gobeithion pobl Blaenau Gwent ac ardal llawer ehangach. Nid oes unrhyw beth yr oedd y Llywodraeth yn gallu ei drafod y bore yma na ellid bod wedi ei drafod wythnosau yn ôl. Nid oes dim byd newydd o gwbl yn y penderfyniad hwn. Cyfyngiad ymrwymiadau Llywodraeth Cymru fyddai uchafswm o £8 miliwn y flwyddyn am 33 mlynedd—mae hynny ar ôl adeiladu’r holl adeiladau ar y safle. Nid yw fel pe byddai’r holl beth yn gorfod cael ei dalu ar y cychwyn ac y byddai'n rhaid dod o hyd i'r arian yfory neu yn ystod y tair blynedd nesaf. Felly, yr hyn y mae hyn yn ei ddangos yw diffyg gweledigaeth sobr ar ran Llywodraeth Cymru i ladd y cynllun menter breifat enfawr hwn, a oedd yn cynnig gobaith nid yn unig i un dref yng Nghymru, ond i’r de-ddwyrain gyfan mewn gwirionedd.

Mae'n anodd derbyn pregeth gan rywun a oedd yn rhan o'r weinyddiaeth Geidwadol a wnaeth gau, mewn gwirionedd, y pwll glo olaf un, er enghraifft—y Marnie/Six Bells ym Mlaenau Gwent—ac a oedd yn fwy na pharod i wneud hynny. Hynny yw, o ddifrif, ni allaf gymryd yr hyn y mae’n ei ddweud yn hynny o beth o ddifrif. Y rheswm pam na allai'r penderfyniad gael ei wneud ar yr adeg y mae'n sôn amdani yw oherwydd nad oedd y broses diwydrwydd dyladwy wedi dod i ben. Neu a yw’n awgrymu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud cyn bod yr holl wybodaeth yn barod? Mae hynny'n fyrbwyll, a dweud y lleiaf. Nid yw’n deall beth sydd y tu ôl i’r prosiect hwn. Yn y parc technoleg oedd y swyddi, nid yn y gylchffordd. Roedd y gylchffordd yn darparu tua 137 o swyddi llawn amser yn unig. Dyna’r cwbl. Roedd y gweddill—y miloedd o swyddi—bob amser yn mynd i fod yn y parc technoleg a thu hwnt, a dyna'n union yr ydym ni’n mynd i fuddsoddi ynddo fel Llywodraeth.

Mae hefyd yn anghywir i ddweud mai dim ond £8 miliwn dros y 33 mlynedd nesaf yw hyn. Rydym ni’n gwybod, ar ôl archwilio hyn gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a fyddai'n cyfeirio'r hyn at Eurostat, bod risg uchel iawn y byddai’r warant hon yn cael ei hystyried fel bod ar y fantolen. Mae hynny'n golygu y byddem ni’n colli £373 miliwn o gyllid cyfalaf, ac y byddai’n rhaid dod o hyd i £157 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Hynny yw, ysgolion ddim yn cael eu hadeiladu, ysbytai ddim yn cael eu moderneiddio, tai ddim yn cael eu hadeiladu. Nawr, does bosib nad oes rhaid iddo dderbyn na ellir anwybyddu’r risg uchel honno.

Wel, yr hyn yr ydym ni’n sôn amdano yma yw confensiwn cyfrifwyr ffa. [Torri ar draws.] Nid yw’n ddim byd newydd. Roeddem ni’n gwybod cyn i'r penderfyniad gael ei wneud, misoedd ar fisoedd yn ôl, beth oedd rheolau’r SYG a rheolau'r Trysorlys ar sut i drin gwariant hirdymor o'r math hwn. Felly, mae hyn yn rhywbeth a allai fod wedi cael ei benderfynu amser maith yn ôl. Pam mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i’r prosiect hwn hercian yn ei flaen am chwe blynedd pan allai hynny fod wedi cael ei gydnabod o'r cychwyn cyntaf? Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yma, does bosib, yw newid y confensiwn cyfrifyddu yn hytrach na dim ond dinistrio gobeithion y rheini a oedd yn dibynnu ar adfywio de-ddwyrain Cymru gyfan. Oherwydd os yw'n wir mai dim ond rheolau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Ei Mawrhydi yn Llundain sydd wedi lladd y prosiect hwn, yna mae hynny'n warth llwyr.

Ni allwn newid y rheolau. Mae'r rheolau’n cael eu pennu gan y SYG. Maen nhw’n annibynnol ar y Llywodraeth, ac maen nhw’n pennu’r rheolau ar y cyd ag Eurostat. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r hyn y gallai’r risg honno ei olygu.

Mae'n ei alw’n gonfensiwn cyfrifwyr ffa. Mae'r risg yn llawer mwy na hynny. Os bydd gennym ni £373 miliwn ar ein llyfrau yn y pen draw, mae hynny’n golygu ei fod yn arian cyfalaf na allwn ei wario. Does bosib nad yw’n deall—mae e wedi bod mewn Llywodraeth, felly does bosib nad yw’n deall hyn—bydd yn gwybod bod honno'n risg y mae'n rhaid i unrhyw Lywodraeth ei chymryd o ddifrif. Mae'n gofyn y cwestiwn ynghylch pam na nodwyd hyn o'r blaen. Roedd hyn yn rhan o'r amodau. Roedd yr amodau yn nodi 50:50. Nid yw'r amodau wedi eu bodloni. Dyna pam mae’n broblem.

Mae'r holl arian sy’n mynd i gael ei ddarparu ymlaen llaw i adeiladu Cylchffordd Cymru yn arian sector preifat. Y cwbl y gofynnir i Lywodraeth Cymru ei wneud yw gwarantu taliadau a fydd yn cael eu gwneud i'r deiliaid bondiau uwch am lai na hanner y cyfalaf a ddefnyddir, mewn cyfnod sy’n dechrau dim ond pan fydd y safle cyfan wedi cael ei ddatblygu. Felly, bydd asedau ffisegol wedyn, y byddai rhwymedigaeth wrth gefn y Llywodraeth wedi ei gwarantu yn eu herbyn. Yr hyn sydd gennym ni nawr yw cynnig gan y Llywodraeth i wario £100 miliwn dros 10 mlynedd—llawer iawn o arian—ar gyfres o siediau gwag.

Rydym ni eisoes wedi asesu'r galw ac wedi siarad â busnesau. Rydym ni’n gwybod bod galw am safleoedd ym Mlaenau'r Cymoedd, a gwyddom fod busnesau na allant symud yno gan nad yw’r adeiladau yno. Felly, mae'n hynod bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n darparu’r adeiladau hynny yn rhan o'r parc technoleg sy'n rhan o'r gylchffordd ei hun. Yr unig beth, mewn sawl ffordd, sydd ar goll yw’r trac rasio ei hun. Mae'r swyddi—y mwyafrif llethol o'r swyddi—yn dal i fod yno.

Nid yw'n bod yn onest gydag ef ei hun pan fo’n dweud bod hyn yn ymwneud â gwarant yn unig. Mae'n gwybod yn iawn, os bydd £373 miliwn yn cael ei ail-broffilio fel eu bod yn ymddangos ar ein llyfrau, ein bod ni’n colli'r arian. Mae yr un fath â thoriad. Mae'n golygu y byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i £157 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Y broblem sydd gennym ni yw ein bod ni wedi mynd ar drywydd hyn gyda’r SYG a chyda Eurostat—gyda’r SYG—a’u hateb nhw yw, 'Ni allwn roi dyfarniad terfynol i chi tan y byddwn ni wedi gweld y contractau terfynol.' Mae'n rhy hwyr erbyn hynny. Dyna'r broblem. Felly, y risg wirioneddol yn y fan yma yw na fyddwn ni’n symud ymlaen yn y pen draw â phrosiectau yn ystod y flwyddyn a addawyd i bobl eisoes oherwydd, ie, dyfais gyfrifyddu, ond un serch hynny y mae’r SYG wedi ei nodi, ac un y mae risg uchel yn gysylltiedig ag ef.

Diolch. Rwy'n credu bod gennych chi rai cwestiynau pellach i’w hateb am hyn, ond rwy’n deall bod cwestiwn brys yn dod yn ddiweddarach, felly hoffwn eich holi am agwedd arall ar yr economi, ac mae hynny’n ymwneud ag addysg a sgiliau. Mynegwyd llawer o bryderon i mi gan athrawon am eu llwyth gwaith, ac, yn gysylltiedig â hynny, cyfraddau salwch cynyddol. Mae llawer o bobl yn ystyried gadael y proffesiwn nawr. Dywedwyd fod lefelau hyfforddiant athrawon cychwynnol yn ymylu ar argyfwng. A ydych chi’n cytuno?

Nac ydw. Rwy'n meddwl bod cyfleoedd gwych i ni, pan fydd tâl ac amodau wedi eu datganoli, i sefydlu pecyn cyfannol i athrawon i wneud yn siŵr bod y cyfrifoldebau sydd ganddynt yn cael eu hadlewyrchu o ran y cyflog y maen nhw’n ei gael. Mae wedi bod yn anghysondeb rhyfedd erioed bod gennym ni gyfrifoldeb am addysg, ond nid am dâl ac amodau. Mae hynny wrth wraidd darparu cytundeb da i athrawon, a dyna’r ydym ni’n bwriadu ei wneud.

Wel, efallai pe byddai gennych chi undod ar y cwestiwn o ddatganoli tâl ac amodau o fewn eich plaid eich hun cyn hyn, y byddem ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth. Ond rwy’n pryderu am eich amharodrwydd i wynebu realiti. Nid wyf yn synnu, ond rwy’n pryderu. Prif Weinidog, nid fy ngeiriau i oedd y geiriau, ‘argyfwng' a ddefnyddiais. Y rhain oedd y geiriau a ddefnyddiwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Yn ôl ym mis Ebrill, rhybuddiodd Plaid Cymru bod recriwtio athrawon yn mynd i gyfeiriad storm berffaith. Rydym ni yng nghanol y storm honno erbyn hyn. Mae derbyniadau ysgol uwchradd o athrawon dan hyfforddiant wedi gostwng draean yn is na'r targed. Mae’r targed hwnnw’n seiliedig ar angen—nifer yr athrawon sydd eu hangen arnom yn ein system. Ceir bwlch o tua 280 o athrawon ysgol uwchradd erbyn hyn, ac mae derbyniadau athrawon ysgol gynradd wedi gostwng yn is na'r targed hefyd erbyn hyn. Rydym ni’n gwybod gan Gyngor y Gweithlu Addysg bod traean o athrawon yn bwriadu gadael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf. Prif Weinidog, ym mis Mawrth, cyhoeddwyd newidiadau i hyfforddiant athrawon. Faint o amser mae’n mynd i’w gymryd i’r newidiadau hynny atal y duedd am i lawr hon?

Nid wyf yn credu y byddai'n bosibl cyflwyno’r pecyn cywir tan fod cyflogau ac amodau wedi eu datganoli. Pam? Wel, mae pobl eisiau gwybod beth yw eu telerau cyflogaeth, beth yw eu hamodau cyflogaeth, faint y byddant yn cael eu talu, a pha weithgareddau y byddant yn cael eu talu amdanynt. Mae hynny i gyd yn effeithio, yn amlwg, ar benderfyniad i ymuno â phroffesiwn ac mae hynny, yn y pen draw, yn effeithio ar niferoedd. Nawr, y flwyddyn nesaf, bydd gennym ni’r cyfle a'r cyfrifoldeb o reoli tâl ac amodau athrawon. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r undebau athrawon i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyflwyno pecyn sy'n gwneud addysgu yn fwy deniadol nag efallai y mae wedi bod i rai pobl yn y gorffennol, ond mae cael rheolaeth o dâl ac amodau yn gwbl hanfodol ar gyfer hynny.

Felly, rydych chi’n ei gicio i ffwrdd i’r dyfodol eto. Mae'r sefyllfa, Prif Weinidog, yn waeth nag yr ydych chi’n barod i gyfaddef. Mae cyfanswm yr athrawon dan hyfforddiant wedi gostwng ym mhob un blwyddyn ers 2011, ac mae'r ohebiaeth a’r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gydag athrawon yn dangos bod problem ddwys yn y fan yma. O'ch ateb, nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl bod gennych chi gynlluniau i drin y sefyllfa hon gydag unrhyw syniad o frys. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw ein proffesiwn addysgu yn cael ei gefnogi. Pam na wnewch chi siarad ag athrawon a'u hundebau llafur a gofyn iddyn nhw beth y gellir ei wneud yn y tymor byr i helpu gyda'u llwyth gwaith a’u llesiant meddyliol? Rydych chi’n rhoi pethau ar waith nawr, y mae’n bosibl y byddant yn talu ar eu canfed yn y dyfodol, ond mae’r gostyngiad yna i niferoedd wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn bellach. Nid yw'n broblem newydd. Mae'r argyfwng wedi cyrraedd, ac mae'r argyfwng nawr. Rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol eich bod chi wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl o ran addysg, a dywedasoch bryd hynny y byddai eich Llywodraeth yn gwella ei pherfformiad. Gan eich bod chi wedi gwneud y cyfaddefiad hwnnw o ran addysg, beth yn union ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Gallwn weld bod canlyniadau TGAU y gorau y buon nhw erioed, canlyniadau Safon Uwch yn gwella, ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru gyfan, y bwlch cyrhaeddiad yn cau, a’r grant amddifadedd disgyblion yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae'n sylw rhyfedd braidd gan arweinydd Plaid Cymru, yn awgrymu nad ydym ni’n siarad ag undebau athrawon. Hynny yw, roedd yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu, yn glywadwy i'r rhan fwyaf yn y Siambr—yn drefnus, ond yn glywadwy. Dyna’r hyn y mae hi'n ei wneud. Mae'r cysylltiad rhyngom ni a'r undebau athrawon yn gryf, ond rydym ni i gyd yn cydnabod, er mwyn rhoi’r pecyn cywir ar waith i athrawon, bod angen i ni gael yr un darn olaf yna o’r jig-so, sef tâl ac amodau. Bydd gennym ni ac ein cyfrifoldeb ni fydd hynny wedyn, mae hynny'n wir.

Dementia

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n byw gyda dementia? OAQ(5)0684(FM)

Rydym ni wedi darparu bron i £8 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru. Yn unol â'n hymrwymiad 'Symud Cymru Ymlaen', rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu strategol ar ddementia, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Rydych chi'n iawn i ddweud, wrth wraidd unrhyw strategaeth a chynllun gweithredu, ei bod yn rhaid mai’r bobl yw’r arbenigwyr—y bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd—sydd wrth graidd hynny.

Rhoddwyd blaenoriaeth i wneud yn siŵr bod pobl sy'n byw gyda dementia yn byw cystal ac am gyhyd â phosibl. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i ni gael yr adnoddau i gefnogi, addysgu, a grymuso. Ar hynny, rwy'n falch bod gan ddwy dref yn fy etholaeth i, yr Wyddgrug a'r Fflint, statws trefi ystyriol o ddementia erbyn hyn. Mae mwy a mwy o bethau fel caffis cof yn ymddangos ar draws y sir. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio, ymhlith pethau eraill, ar achredu mwy o fusnesau sy’n gweithio tuag at gael statws ystyriol o ddementia, gydag addewidion o weithredu. Ar y nodyn hwnnw, yr wythnos diwethaf, fe wnes i fy hun a’m holl staff gwblhau hyfforddiant cyfeillion dementia. Hyd yn oed fel rhywun sydd â pherthynas agos sy’n byw gyda dementia, agorwyd fy llygaid i bethau yn rhan o'r hyfforddiant hwnnw yn sicr.

Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio tuag at wneud yn siŵr bod mwy o fusnesau a sefydliadau ledled y wlad yn cael y statws ystyriol o ddementia hwnnw? A wnewch chi ymuno â mi i annog yr Aelodau Cynulliad hynny nad ydynt wedi manteisio ar y cynnig gan y Gymdeithas Alzheimer i gyflawni hyfforddiant cyfeillion dementia i wneud hynny, fel y gallwn gyrraedd pwynt pryd y gallwn ni ddweud bod holl Aelodau'r Cynulliad a'u swyddfeydd yng Nghymru yn gyfeillion dementia?

Gwnaf. Roeddwn i mewn digwyddiad fy hun, wythnos i ddydd Gwener diwethaf, lle’r oedd y Gymdeithas Alzheimer yn bresennol, a chawsom sgwrs am y materion sy'n gysylltiedig â dod yn gyfaill dementia a'r hyfforddiant sydd ei angen i wneud hynny ac, wrth gwrs, fel Llywodraeth rydym ni’n cefnogi hynny. Mae caffis Dementia, fel y gwyddom, yn cynnig cyfle i bobl â dementia, eu teuluoedd, a’u gofalwyr i gyfarfod mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol lle gallant rannu profiadau ac, wrth gwrs, cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid—sy’n hynod bwysig hefyd. Mae ehangu faint o’r gefnogaeth honno sydd ar gael yn enghraifft o'r hyn yr ydym ni’n ceisio ei gyflawni drwy'r cynllun gweithredu strategol ar ddementia sydd ar y gweill.

Prif Weinidog, mae'n syfrdanol nodi, i hanner y rheini sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, bod oedi cyn cael diagnosis cychwynnol yn fater difrifol, sy'n effeithio arnyn nhw eu hunain a’u hanwyliaid, wrth gwrs. Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru wedi galw am dargedau ac ymyraethau llawer mwy uchelgeisiol yn y maes hwn. Mae'r gymdeithas hefyd wedi galw am dargedau cyfradd diagnosis cynharach i gynyddu’n flynyddol yn rhan o strategaeth ddementia ddiwygiedig eich Llywodraeth sydd ar y gweill. A wnewch chi sicrhau bod yr amcan a’r nod cyffredinol hwnnw i ganiatáu diagnosis ac ymyrraeth gynharach yn dod yn realiti?

Hynod bwysig. Rydym ni’n gwybod, ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, er enghraifft, bod gan tua 49 y cant o unigolion â dementia wedi cael diagnosis. Mae’n anodd i ddechrau, ac weithiau nid yw pobl eu hunain, os nad oes ganddyn nhw unrhyw un a allai sylweddoli ar eu rhan, yn sylweddoli bod ganddynt ddementia. Mae'n bwysig bod y diagnosis hwnnw ar gael. Gwn fod PBC, er enghraifft, wedi dechrau gweithio ar ddatblygu strategaeth leol newydd ar gyfer pobl â dementia, gan fynd i’r afael â’r amrywiaeth eang o wasanaethau sydd eu hangen. Mae'r gwaith hwnnw, wrth gwrs, yn cynnwys gweithio gyda grwpiau dementia.

Mae dementia yn arbennig o anodd i’r aelodau teulu sy'n rhoi eu bywydau eu hunain ar saib am y tro i ofalu am anwyliaid â dementia. Mae gofalwyr yn blino a dan straen ofnadwy. Mae gofalu am rywun â dementia yn rhywbeth trawmatig iawn i orfod ei wneud oherwydd, i bob pwrpas, rydych chi’n eu gweld nhw’n llithro i ffwrdd fesul darn. Sut ydych chi'n sicrhau bod darpariaeth ddigonol a chyson yn cael ei rhoi ar waith gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gefnogi anghenion gofalwyr o'r fath o ran gofal seibiant, cyngor a chwnsela?

Wel, yn ogystal â’r hyn yr wyf i newydd ei ddweud nawr wrth y Cynulliad, mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofyniad statudol i bob bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol ddarparu cynllun gofal a thriniaeth i’r rheini sydd â diagnosis o ddementia sydd angen gofal iechyd meddwl arbenigol, wedi ei gynllunio ar gyfer eu hanghenion nhw ac anghenion eu gofalwyr.

Mae hi’n symud ymlaen yn gyflym ac yn ddi-dor.

Question 4, Simon Thomas.

Gamblo Eithafol

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynglŷn â lleihau'r broblem gynyddol o gamblo eithafol? OAQ(5)0688(FM)[W]

Er nad yw’r drefn o reoleiddio gamblo wedi ei datganoli, rydym ni’n ymchwilio i weld beth yn rhagor y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â gamblo problematig, a’r effaith mae’n ei gael.

Diolch, Prif Weinidog. Rydych chi’n dweud nad yw gamblo ei hun a’r drefn wedi eu datganoli, ond mae effaith y sgil effeithiau yn sicr wedi’u datganoli ym maes iechyd, iechyd meddwl a’r economi, ac yn rhedeg i mewn i ddegau o filiynau o bunnoedd o effaith yng Nghymru bob blwyddyn. Mae yna rywfaint o ddatganoli yn digwydd o gwmpas y peiriannau ‘fixed-odds’ fel maen nhw’n cael eu galw, a bydd mwy o alw, felly, i Lywodraeth Cymru ymateb i’r her yma. Beth ydych chi’n debyg o wneud yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf i sicrhau bod ymchwil gwbl annibynnol—ymchwil sydd ddim yn ddibynnol ar y diwydiant gamblo ei hunan—gyda chi fel Llywodraeth i sicrhau eich bod chi’n mesur effaith gamblo yn briodol ac yn gywir ar ein cymunedau ni?

Wel, mae yna waith yn dal i gael ei wneud gan gyrff ar draws Cymru, ond rydym ni yn gweld gamblo fel problem, wrth gwrs, ac yn broblem sydd ynglŷn â iechyd meddwl. Weithiau, wrth gwrs, mae pobl yn ffaelu stopio achos hynny. Mae’r prif swyddog meddygol yn arwain gwaith yn yr ardal hon ac, wrth gwrs, rydym ni’n edrych ymlaen i weld ei argymhellion ef yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, bydd yr argymhellion hynny wedyn yn rhywbeth y gallwn ni adeiladu arno er mwyn delio â’r broblem hon.

Byddwn hefyd yn hoffi gweld datganoli pellach o ran cyfrifoldeb dros gamblo yma i Gymru, ond mae gennym ni rai pwerau eisoes, gan gynnwys pwerau drwy'r system gynllunio lle gallem ni gymryd camau i atal cynnydd i nifer y siopau betio trwyddedig mewn cymunedau bach. Rydym ni’n gwybod bod gormodedd, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, o siopau gamblo, a gall hynny fod yn broblem arbennig. Tybed pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried eu cymryd drwy'r broses gynllunio i fynd i'r afael â'r mater hwn.

O ran y broses gynllunio, mae’n iawn i nodi y bu twf, mae'n ymddangos i mi, o ran siopau betio dros y blynyddoedd. Dim ond rhan o'r broblem yw hynny. Mae gamblo ar-lein yn broblem fawr iawn hefyd, ac os yw pobl yn gamblo ar-lein, maen nhw’n arbennig o anodd eu cyrraedd. Os caf i ysgrifennu ato ar fater y broses gynllunio a sut y mae honno'n ymdrin â gamblo, wel, byddaf yn gwneud hynny, er mwyn rhoi ateb manwl iddo.

Colli Clyw

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi unigolion sy'n colli eu clyw? OAQ(5)0676(FM)

Cyhoeddodd y Llywodraeth fframwaith gofal a chymorth integredig fis diwethaf ar gyfer pobl sy’n fyddar neu’n colli eu clyw. Mae’r ddogfen yn amlinellu ein cynllun i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth i sicrhau gofal o ansawdd uchel trwy Gymru.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn bellach i hynny, efallai y gwyddoch fod prosiect ‘Hear to Meet’, a gyflwynir gan Action on Hearing Loss, wedi dod i ben. Mae hyn yn golygu y bu colled yn y gefnogaeth ar gyfer unigolion sydd â cholled clyw ledled Cymru. Yn dilyn hynny, felly, a ydy eich Llywodraeth chi yn barod i gydweithio â sefydliadau megis Cyngor Cymru i Bobl Fyddar ac eraill i gau’r bwlch sydd wedi ymddangos oherwydd colled y prosiect pwysig yma?

Wel, mi oedd yna gynhadledd ddydd Gwener diwethaf yn Abertawe, sef y gynhadledd awdioleg genedlaethol. Roedd y prif ymgynghorydd gwyddonol yno i roi cyflwyniad iddyn nhw, ac, wrth gwrs, wedi pwysleisio’r fframwaith o weithred, ac mae’n glir bod yna lot fawr o gefnogaeth i’r gwaith hwn. Mae’n hollbwysig, felly, bod y fframwaith ei hun yn symud trwyddo a’n bod ni, wrth gwrs, yn sicrhau bod hwnnw’n cael effaith ar fywydau pobl.

Gwn fod y Prif Weinidog yn ymwybodol bod plant byddar a phlant â sgiliau cyfathrebu gwael yn fwy tebygol o fod yn darged cam-drin na phlant eraill. Ym mis Ionawr, mewn dadl gryno, tynnais sylw at y cam-drin a ddioddefwyd gan blant mewn ysgol arbennig i blant byddar yn Llandrindod yn y 1950au, lle, yn anffodus, y plant â sgiliau lleferydd gwael oedd yn cael eu targedu, ac mae’r mater hwnnw’n cael ei ymchwilio. Ond pa fecanweithiau sydd ar waith i wneud gweithwyr proffesiynol addysgol yn ymwybodol bod y plant hyn sydd wedi colli eu clyw yn aml yn cael eu targedu a pha fesurau sydd ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol rhag cam-drin o'r fath yn y dyfodol?

Yn y pen draw, wrth gwrs, mater i ysgolion yw sicrhau nad yw bwlio yn digwydd mewn ysgolion. Ond bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru), os caiff ei basio, yn ailwampio’n llwyr y system ar gyfer cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr â nam ar eu clyw. Bydd yn amlwg yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y broses honno ac yn ei gwneud yn haws i'r rhai dan sylw. Bydd cyllid, wrth gwrs, i gefnogi'r Bil, ac, yn rhan o'r naratif o gwmpas y Bil hwnnw, byddwn eisiau gwneud yn siŵr bod bwlio yn cael sylw yn rhan o'r naratif hwnnw. Ydy, mae'n bwysig cynorthwyo’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn y ffordd ehangaf bosibl, gan gynnwys, wrth gwrs, eu diogelu rhag bwlio.

Prif Weinidog, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n creu’r amodau cywir i fagu gweithlu addysg sy’n fedrus ac yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai sy’n dioddef o nam ar y clyw. Rydw i’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r galwadau i ychwanegu Iaith Arwyddion Prydain i’r cwricwlwm cenedlaethol. Felly, a allwch chi ein diweddaru ni ar y datblygiadau diweddaraf i ychwanegu iaith arwyddion i’r cwricwlwm, a hefyd a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i annog busnesau i ddysgu iaith arwyddion i wneud gwasanaethau lleol mor hygyrch â phosib i bawb, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli eu clyw?

Wel, mae yna safonau ynglŷn â chael mynediad i’r gwasanaeth iechyd, a rydym ni’n erfyn, wrth gwrs, i’r safonau hynny gael eu dilyn. Ynglŷn ag ym mha ffordd y gallwn ni hybu busnesau, er enghraifft, i ddefnyddio gweithgareddau sy’n gallu cael eu defnyddio gan bobl fyddar, mae hynny’n rhywbeth rydym ni’n moyn gweithio gyda’r grwpiau hyn arno ynglŷn â sicrhau bod hynny yn digwydd ac, wrth gwrs, i sicrhau bod BSL ar gael, lle mae hynny’n bosib. Ynglŷn â lle fyddai BSL yn gweithio yn y cwricwlwm, a gaf i ofyn, felly, i’r Gweinidog addysg ysgrifennu at yr Aelod er mwyn rhoi mwy o fanylion iddo ef?

Gofal Cymdeithasol

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0690(FM)

Wel, mae gofal cymdeithasol yn sector o bwysigrwydd strategol. Rydym ni’n darparu £55 miliwn ychwanegol o arian rheolaidd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi cwblhau eu hasesiad o anghenion y boblogaeth ac yn parhau i ddarparu gofal integredig, a ariennir drwy'r gronfa gofal integredig.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rydym ni i gyd yn sylweddoli’r her ariannol y bydd gofal cymdeithasol yn ei pheri i ni yn y dyfodol. Mae gennym ni sefyllfa yng ngogledd Ceredigion nawr lle mae'r cyngor wedi cyhoeddi cau cartref gofal o'r enw Bodlondeb. Mae hyn wedi dod yn gwbl ddirybudd. Does neb yn gwybod i ble y bydd y preswylwyr yn cael eu hanfon. Nid oes cynllun gofal cymdeithasol ar gyfer gogledd Ceredigion, ac eto mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gau'r cartref hwn. Onid yw'n annheg ar y rhai sy'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon bod yr ansicrwydd hwn yn bodoli a bod y cyngor wedi gwario, mae'n debyg, £2 filiwn am gyngor gan Pricewaterhouse Coopers ar werth £12 miliwn i £14 miliwn o doriadau gan y cyngor? Onid yw hyn yn ymddangos yn flaenoriaeth ryfedd, pan fo anghenion pobl go iawn yn cael eu diystyru?

Rwy’n deall y bydd ymgynghoriad ar gau Bodlondeb tan y—wel, bydd yn parhau tan 25 Medi. Mae'n gyfnod anodd iawn, yn amlwg, i bawb dan sylw. A gaf i ddweud wrth yr Aelod mai diogelwch a llesiant preswylwyr yw fy mhrif bryder, a bydd yr arolygiaeth gofal a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud trwy gydol y broses?

Prif Weinidog, mae cynnwys datganiad Cydweithredfa Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar wasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn peri pryder. Mae gan boblogaeth ardal bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda gyfran uwch o bobl hŷn na chyfartaledd Cymru eisoes, a rhagwelir y bydd y gyfran honno sydd eisoes yn uwch yn cynyddu yn sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Ac eto rhagwelir y bydd nifer y bobl yn ardal Prifysgol Hywel Dda sy’n iau na 65 oed ac yn darparu gofal di-dâl yn gostwng yn sylweddol yn ystod y 10 i 15 mlynedd nesaf, ac mae eisoes yn anodd iawn recriwtio gofalwyr cyflogedig. Mae'n swydd nad yw’n talu'n dda, gyda phwysau amser enfawr, yn aml iawn nid ydynt yn cael eu talu am bellter y teithio y maen nhw’n ei wneud, ac nid yw'n waith uchel ei barch yn aml ymhlith pobl eraill mewn cymdeithas. Beth ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i godi a gwella statws gofalu fel y gallwn gael mwy o ofalwyr, a beth ydych chi'n credu y gallai eich Llywodraeth ei wneud i annog a gwobrwyo’r bobl hynny sy’n darparu gofal di-dâl yn anhunanol, ddydd ar ôl dydd, i’w hanwyliaid?

Bydd yr Aelod yn gwybod bod arferion cyflogaeth annheg—mae hi wedi eu nodi nhw—yn ddrwg i unigolion. Dyna pam yr ydym ni’n cymryd camau ynghylch contractau dim oriau trwy ganllawiau, trwy gaffael, a thrwy ein hymgynghoriad ar reoliadau arfaethedig ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, bod y proffesiwn gofalu yn cael ei werthfawrogi, yn hynod bwysig eu bod nhw’n cael eu gwobrwyo'n briodol, a dyna, wrth gwrs, y mae'r rheoliadau yn bwriadu ei wneud.

Aelodau'r Lluoedd Arfog

7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelodau'r lluoedd arfog yng Nghwm Cynon sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol, a'u teuluoedd? OAQ(5)0682(FM)

Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur yn 'Symud Cymru Ymlaen' mai ein hymrwymiad yw cefnogi personél sy'n gwasanaethu a chyn-bersonél lluoedd arfog a'u teuluoedd, fel nad ydynt o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth.

Prif Weinidog, byddaf yn mynd i ddigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Aberdâr ddydd Sadwrn, a hoffwn gymeradwyo Rhondda Cynon Taf am eu hagwedd ragweithiol yn y mater hwn, gan fod gan gynghorau swyddogaeth mor allweddol o ran darparu llawer o'r personél gwasanaethau rheng flaen y mae personél gwasanaethau a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt. Mae cofnodion y grŵp arbenigol ar anghenion y gymuned lluoedd arfog yng Nghymru yn nodi cynlluniau i adolygu gwaith hyrwyddwyr y lluoedd arfog. A allwch chi roi diweddariad i ni ar y gwaith pwysig hwn, sut y mae'n cefnogi ein lluoedd arfog ac yn diwallu eu hanghenion?

Gallaf. Roeddwn yn Niwrnod y Lluoedd Arfog fy hun—ein Diwrnod y Lluoedd Arfog cenedlaethol ni yng Nghymru—yng Nghaerffili ddydd Sadwrn. Mae’n bwysig iawn cefnogi'r digwyddiad hwnnw. Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud mai’r un digwyddiad sy'n sefyll allan yn fy meddwl yw gŵr mewn lifrai yn dod tuag ataf, yn ysgwyd fy llaw, ac yn dweud, 'Da iawn ar ganlyniad yr etholiad', heb sylweddoli bod Alun Cairns yn sefyll wrth fy ochr. Ond, serch hynny, byddaf yn derbyn hynny am yr hyn yr ydyw. Ond gallaf ddweud, o ran y mater ei hun, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, sy'n cadeirio, wrth gwrs, y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, yn cyfarfod â hyrwyddwyr awdurdod lleol yn dilyn toriad yr haf i drafod eu swyddogaeth a'r gefnogaeth y gallant ei rhoi i'r gymuned lluoedd arfog yn eu hardaloedd, gan adeiladu, wrth gwrs, ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes fel Llywodraeth.

Prif Weinidog, byddwch yn gwybod bod Nantgarw wedi ei ddewis yn ddiweddar fel y ganolfan ar gyfer y llinell gymorth 24 awr newydd ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog. Bydd hyn o gymorth mawr ar hyd a lled Cymru, ond hefyd i Rhondda Cynon Taf a Chwm Cynon yn arbennig. Nawr, mae hyn yn rhan o adolygiad pontio cyn-filwyr 2014, a argymhellodd hefyd y dylai awdurdodau lleol gynnal archwiliad o'u darpariaeth tai cymdeithasol a gweld sut mae hynny’n gwasanaethu personél a chyn-filwyr y lluoedd arfog. A ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodau lleol Cymru gymryd rhan yn yr adolygiad hwn, a bwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw cyn gynted â phosibl?

Ydw, mae'n bwysig iawn eu bod nhw’n gallu asesu'r angen yn eu hardaloedd nhw yn benodol. O ran tai, rydym ni wedi datblygu llwybr atgyfeirio tai ar gyfer cyn-bersonél y lluoedd arfog i'w helpu nhw a'u teuluoedd i wneud dewis cytbwys am eu hanghenion llety wrth symud yn ôl i fywyd fel sifiliaid. Ar ben hynny, er mwyn hyrwyddo'r llwybr ymhellach, rydym ni wedi datblygu cardiau cyngor i gyn-filwyr sy’n cysgu ar y stryd—llawer gormod, mae gen i ofn, ond rydym ni’n gwybod bod y broblem yno—gyda thaflenni a phosteri. A bydd y cyhoeddiadau hyn yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth porth y cyn-filwyr newydd. Mae wedi ei gynllunio i fod yn siop un stop ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau eu teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau a chymorth mewn un lle. Felly, mae llawer wedi ei wneud eisoes, nid yn unig i ddarparu gwybodaeth i'r rhai sydd angen tai ac yn chwilio am dai, ond i’r rhai sydd mewn angen dybryd ac yn cysgu ar y stryd.

Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth ddeddfu i warantu tai a gofal iechyd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol?

Wel, rydym ni wedi gwneud llawer hyd yn hyn: darperir £585,000 y flwyddyn i GIG Cymru y Cyn-filwyr, gwasanaeth unigryw, yr unig un o'i fath yn y DU. Rydym ni’n gwybod bod dros 2,900 o atgyfeiriadau wedi cael eu derbyn yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall personél lluoedd arfog sydd angen gofal iechyd arbenigol penodol gael mynediad at y llwybr atgyfeirio carlam—menter ar y cyd yw honno rhwng Gwasanaethau Meddygol yr Adran Amddiffyn a GIG Cymru sy'n blaenoriaethu mynediad at ofal eilaidd, ac sy'n sicrhau nad yw aelodau sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth ac yn cael yr un safon o fynediad at ofal iechyd a’r hyn a geir gan unrhyw drigolion eraill yng Nghymru.

Anableddau Dysgu

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella bywydau pobl yng Nghymru sy'n byw gydag anableddau? OAQ(5)0680(FM)

Mae grŵp cynghori ar anableddau dysgu wedi ei sefydlu. Bydd yn cynghori ar gynllun gweithredu strategol wedi ei adolygu. Mae anableddau dysgu yn flaenoriaeth i fyrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd, ac, wrth gwrs, estynnwyd y gronfa gofal integredig gennym yn 2016 i gynnwys cymorth i bobl ag anableddau dysgu.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Dywedodd adroddiad diweddar gan Estyn y dylai colegau wneud mwy i baratoi pobl ifanc ag anableddau dysgu ar gyfer byw'n annibynnol. Canfuwyd ganddynt mai dim ond ychydig sy’n gosod nodau realistig i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwaith, a galwyd ar golegau i osod cynlluniau dysgu unigol ac i gynllunio rhaglenni sy'n herio mwy ar ddisgyblion. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd o ystyried canfyddiadau Estyn i helpu a chynorthwyo myfyrwyr ag anableddau dysgu i wireddu eu potensial llawn mewn bywyd?

Bydd yn gwybod bod yr ymateb i argymhellion Estyn wedi cael eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf. Ond gallaf ddweud yn 2015-16, er enghraifft, ein bod ni wedi buddsoddi dros £140,000 mewn prosiect i gefnogi gwaith cynyddu capasiti’r gweithlu yn y sector addysg bellach, gyda phwyslais arbennig ar gynyddu mynediad i bobl ifanc ag anableddau dysgu cymhleth. Rydym ni hefyd yn buddsoddi £250,000 ychwanegol yn ystod 2016—neu wedi buddsoddi £250,000 ychwanegol ar gyfer 2016-17—ar gyfer prosiect i wella ansawdd addysgu a dysgu ym maes dysgu sgiliau byw'n annibynnol yn ogystal, wrth gwrs, â’r ymateb yr ydym ni eisoes wedi ei roi.

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod strategaethau Llywodraeth Cymru yn dibynnu’n fawr iawn ar ddarpariaeth rheng flaen, yn aml iawn gan fudiadau trydydd sector. Felly, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Ogwr, sefydliadau fel Drive, fel Cartrefi Cymru, fel Mirus, a hefyd gwasanaeth byw â chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—mae pob un o'r rhain yn cyflawni swyddogaeth allweddol o ran galluogi pobl ag anableddau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi neu’n agos at eu cartrefi. Felly, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud, nid yn unig ar lefel strategol, ond drwy weithio mewn partneriaeth â’r sefydliadau hynny a chydag awdurdodau lleol, i ddarparu’r cymorth hwnnw ar gyfer byw'n annibynnol?

Wel, sefydlwyd y grŵp cynghori ar anableddau dysgu yn 2012. Ei ddiben yw hysbysu polisi anableddau dysgu yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac i roi cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion anableddau dysgu. Mae'r grŵp yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, sefydliadau trydydd sector sy'n gweithio yn y maes, a chynrychiolwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â hynny, mae cynllun gweithredu strategol ar anableddau dysgu yn cael ei ddatblygu, yn dilyn yr adolygiad o anableddau dysgu sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Ardrethi Busnes

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardrethi busnes yn y sector ynni cymunedol? OAQ(5)0686(FM)[W]

Yn 2017-18 mae mwy na £210 miliwn o ryddhad yn cael ei ddarparu i helpu trethdalwyr gyda’u hardrethi annomestig. Mae’r rheini ar gael i bob trethdalwr cymwys sy’n bodloni’r meini prawf, gan gynnwys prosiectau ynni cymunedol.

Ddydd Sadwrn, roeddem ni’n lansio dau gynllun ynni dŵr yn Arfon, sef Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen. Mae Ynni Anafon yn weithredol yn barod ac rydw i’n falch iawn bod gennym ni dri chynllun sydd yn harneisio un o’n hadnoddau naturiol mwyaf dibynadwy ni, sef dŵr, a bod yr elw sy’n cael ei greu yn cael ei wario ar brosiectau yn y gymuned ac yn dod â manteision i bobl leol. Ond, yn anffodus, mae’r broses o ailbrisio trethi wedi creu pryder mawr yn y sector yma ac yn debygol o rwystro datblygiadau i’r dyfodol. Mae’r Alban wedi mynd ati i gyflwyno pecyn rhyddhad trethi ar gyfer cynlluniau o’r fath, gan ddangos yn glir eu cefnogaeth nhw i’r sector yma. A fedrwch chi ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno pecyn tebyg a fydd yn rhoi gwell sicrwydd i gynlluniau ynni cymunedol ar draws Cymru?

Wrth gwrs, mae yna gynllun mewn lle yn barod er mwyn sicrhau bod rhyddhad i gwmnïau ynglŷn â threthi yn y ffordd hwn. Rŷm ni yn gweithio gyda’r sector er mwyn sicrhau pa fath o gefnogaeth gellid cael ei roi ynglŷn â beth sydd yna ar hyn o bryd, ac wrth gwrs rŷm ni’n moyn sicrhau bod y sector yn tyfu yn y pen draw. Mae’n anodd i wybod beth yw’r ffactorau unigol ynglŷn â’r cwmni y mae’r Aelod wedi sôn amdano, a pa fath o brofiad maen nhw wedi’i gael. Os mae hi’n moyn ysgrifennu ataf i gyda beth mae hi wedi clywed ganddyn nhw, fe fyddwn i’n falch i ateb.

Prif Weinidog, rydym ni’n gwybod bod llawer o'r rheini sydd wedi datblygu’r prosiectau hydro cymunedol hyn yn bryderus dros ben am y cynnydd enfawr hwn. Nawr, fel y mae’r aelod dros Arfon wedi cyfeirio ato, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd ganddi ryddhad ardrethi busnes o 100 y cant i’r prosiectau hyn, ac mae hyd yn oed y Llywodraeth yn Lloegr wedi ymrwymo na fydd yn costio mwy na £600 yn fwy iddynt. A allwn ni gael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth Cymru y byddwn ni’n rhoi’r mathau hynny o ryddhad ardrethi ar waith?

Wel, mae gennym ni eisoes system rhyddhad ardrethi ar gyfer ardrethi annomestig sy'n fwy hael na’r hyn sydd ar gael, er enghraifft, yn Lloegr. Mae mwy o fusnesau wedi eu cynnwys yn y cynllun rhyddhad hwnnw nag sy'n wir yno. Gallaf hefyd ddweud bod WEFO wedi galw ar sefydliadau i gyflwyno cynigion i elwa ar £14 miliwn o arian yr UE ar gyfer mentrau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach: mae £10 miliwn ar gael i orllewin Cymru a'r Cymoedd a £4 miliwn i ddwyrain Cymru. Caiff unrhyw sefydliad, pa un a yw yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, wneud cais. Gallaf ddweud mai’r dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 30 Mehefin, felly nid oes llawer iawn o amser ar ôl, ond serch hynny mae’r cynnig hwnnw wedi bod ar gael ers cryn amser.

2. Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, rwyf wedi derbyn cais gan y Prif Weinidog i wneud cynnig am ddadl frys, ac rwy’n galw ar Carwyn Jones i wneud y cynnig.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.69, yn ystyried Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd fel mater brys sydd o bwys cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Ddoe, Llywydd, gwelsom gyhoeddiad o gytundeb ariannol rhwng y Blaid Geidwadol a'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd sydd wedi peri pryder eang, nid yn unig ymhlith pleidiau yn y Siambr, ond ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru. Yr hyn sy’n destun pryder arbennig yw'r swm—£1 biliwn—a hefyd bod arian ychwanegol wedi cael ei ddarparu ar gyfer iechyd ac addysg, meysydd y darperir ar eu cyfer trwy fformiwla Barnett fel rheol. Pam, er enghraifft, mae pwysau iechyd yng Ngogledd Iwerddon ac nid yng Nghymru, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei weld—bydd yn rhaid i ni gael esboniad o’r rheswm am hynny. Nid yw’n wir ychwaith y gellir gwneud cymhariaeth o ran cytundebau dinas. Mae hyn yn £1 biliwn dros ddwy flynedd; mae cytundebau dinas yng Nghymru yn darparu rhywbeth fel £60 miliwn y flwyddyn, neu £120 miliwn dros yr un cyfnod. Nid yw ond yn iawn, o ystyried yr effaith ar gyllid Cymru, bod Aelodau yn y Siambr hon yn cael cyfle i fynegi barn, ac i fynegi eu pryderon am y cytundeb a wnaed ddoe, ac felly cynigiaf y cynnig priodol yn ffurfiol o dan y Rheol Sefydlog i’r ddadl honno gael ei chynnal.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig am ddadl frys yn unol â’r Rheol Sefydlog perthnasol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gan ein bod ni nawr wedi penderfynu y bydd y ddadl yn cael ei chynnal, yna mi fedraf i gadarnhau y bydd y ddadl yn cael ei chynnal yn hwyrach heddiw, yn dilyn y ddadl ar Gyfnod 4 o’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Llywydd, mae tri newid gennyf i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon.  Yn ddiweddarach heddiw bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad llafar ar Gylchdaith Cymru. O ganlyniad i hyn, rwyf yn gohirio'r datganiadau llafar ar bolisi a deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth y GIG ‘pathfinder 111’ yng Nghymru tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir yn y datganiad busnes a’r cyhoeddiad, a geir ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar yr honiadau o hiliaeth a gwahaniaethu yn erbyn staff addysgu nad ydynt yn wyn eu croen yn ysgolion Cymru? Byddwch yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd gan Gyngor Hil Cymru ynghylch honiadau o hiliaeth, ac y gallai hynny fod yn anghymell ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig rhag gwneud cais i gael eu cofrestru ar gyrsiau hyfforddi athrawon. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Nid oes digon o bobl o gefndiroedd heb fod yn wyn yn gwneud ceisiadau i fynd ar gyrsiau ar hyn o bryd, a gallai hynny fod yn ffactor o ran tangyflawni yn achos dysgwyr o rai cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig penodol. Felly, byddwn i’n gwerthfawrogi pe gallech drefnu datganiad cyn gynted â phosib.

Diolch i Darren Millar am godi'r pwynt pwysig iawn hwnnw. Mae'n rhaid i’r honiadau hynny gael eu cymryd o ddifrif ac mae hynny’n digwydd. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn awyddus i fynd i'r afael â hynny. Wrth gwrs, dyma’r math o broblem hefyd y gwn, yn ei chyfarfodydd ag undebau addysg—sy’n cael ei drafod.

Hoffwn i godi’r mater ynghylch Cardiff Aviation, a leolir ym Mro Morgannwg. Mae'n gwmni arall sydd wedi derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru, gan addo dod â miloedd o swyddi i dde Cymru. Mae'n ymddangos bellach mai dim ond traean o'r swyddi hynny gafodd eu creu, ac roedd yn rhaid i mi roi sylw i’r ffaith bod Cardiff Aviation wedi methu â thalu unrhyw rent am nifer o flynyddoedd. Mae nawr yn dod i'r amlwg bod eich Llywodraeth wedi talu’r £1.5 miliwn hwn, arian na chewch chi byth yn ôl. Mae hefyd wedi dod i’r amlwg nad yw’r gweithwyr wedi eu talu ers misoedd, a bod eich Llywodraeth nawr yn ymbellhau oddi wrth y cwmni. Pan na fydd y bobl dlotaf yng Nghymru yn gallu talu eu rhent oherwydd y dreth ystafell wely, mae cynghorau Llafur yn taflu’r bobl hynny allan i’r stryd. Pam ydych chi wedi caniatáu i berchnogion ‘Cardiff Aviation’, sy’n filiwnyddion, osgoi cosb am dalu dim rhent, a chithau wedi talu’r ddyled, a pham yr ydych yn ymbellhau eich hunain oddi wrth y cwmni hwn pan ddylech chi fod yn mynnu bod y gweithwyr diwyd yn Cardiff Aviation yn cael y cyflog y maen nhw wedi gweithio amdano?

Mae cwmni Cardiff Aviation ar hyn o bryd yn bodloni ei holl ymrwymiadau ariannol i Lywodraeth Cymru. Mater i Cardiff Aviation Ltd yw rheoli’r gweithlu. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi chwarae unrhyw ran wrth ail-lunio’r gweithlu, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y cwmni. Mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Cardiff Aviation yn fasnachol sensitif ac ni fyddai'n briodol i ni wneud sylwadau ar ei gynnwys.

Yr wythnos diwethaf cawsom y newyddion ofnadwy y bydd Tesco yn diswyddo 1,100 o weithwyr yn ei ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid ar Ffordd Maes-y-Coed yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Cefais gyfarfod ag uwch reolwyr ddydd Iau diwethaf ac ymwelais â'r safle ddydd Gwener gyda fy nghydweithiwr Jenny Rathbone ac Anna McMorrin, yr AS Llafur newydd ei hethol ar gyfer Gogledd Caerdydd. Cawsom gyfarfod â'r gweithwyr a oedd wedi’u siomi’n llwyr gan y newyddion hyn, oherwydd bu presenoldeb am 27 mlynedd ar gyfer y mathau hyn o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan Tesco, a gwn ein bod i gyd yn cytuno bod hon yn ergyd enfawr i'r holl unigolion a’r ardal dan sylw. Roeddwn i’n gallu codi'r mater hwn yn y sesiwn cwestiynau ar yr economi i Ken Skates yr wythnos diwethaf, ond o ystyried y ffaith bod nifer y swyddi mor fawr, ac o ystyried yr effaith a gaiff ar yr ardal, a fyddai'n bosibl naill ai gael datganiad ar y mater hwn, fel y gallwn ei godi, neu ddadl ar y mater penodol hwn?

Diolch i Julie Morgan am godi hyn heddiw. Yn wir, roeddech wedi gallu ei godi ychydig ar ôl cyhoeddi’r newyddion yr wythnos diwethaf pan oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgymryd â'i gwestiynau llafar. Hefyd, Jenny Rathbone ac, wrth gwrs, Anna McMorrin—fe’u gwelsom yn codi hyn yn Nhŷ'r Cyffredin yn glir ac yn rymus iawn. Mae'n newyddion dinistriol i’r gweithlu ac i’w teuluoedd, fel y gwnaethoch chi ei nodi, Julie. Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi eisoes wedi siarad â Matt Davies, prif weithredwr Tesco, i fynegi ein pryderon am y penderfyniad hwn, a phwysleisiwyd ein hymrwymiadau i wneud pob dim o fewn ein gallu i gefnogi'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn, gan weithio, yn amlwg, mewn cydweithrediad agos â Tesco a'r asiantaethau cymorth mawr yn lleol, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith, colegau a chyngor Caerdydd, i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o gymorth ar gyfer y gweithwyr y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt. Ond hefyd, yn bwysig, mae USDAW, yr undeb, yn gweithio'n agos iawn â chydweithwyr i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn ymwneud yn agos â’r ymgynghoriad sy’n mynd rhagddi. Rwy'n credu ei bod yn amlwg bod yn rhaid i hyn fod yn fater y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a'r Llywodraeth yn rhoi diweddariad i'r Aelodau arni yn briodol, gan ystyried pwysigrwydd, wrth gwrs, codi'r mater hwn y prynhawn yma yn y datganiad busnes.

Dim ond i ategu'r sylwadau a gododd yr Aelod dros Ogledd Caerdydd—ac mae llawer o wleidyddion o bob plaid wedi cyfarfod â Tesco. Yr hyn a wnaeth fy nychryn i yr wythnos diwethaf oedd, yn amlwg, gadarnhad Ysgrifennydd y Cabinet na chafodd y Llywodraeth unrhyw rybudd o’r diswyddiadau hyn, neu’r diswyddiadau posibl, oherwydd dyna’r term y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio oherwydd ei fod yn destun ymgynghoriad. Yn benodol, ni fu datganiad gan y Llywodraeth hyd yn hyn, o ystyried bod yna alwad gynadledda rhwng y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet, fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y cwestiynau, awr ar ôl iddo ddweud wrth y Siambr am ddigwyddiadau brynhawn dydd Mercher. Rwyf yn credu ei fod yn hanfodol bwysig ein bod yn cael datganiad cynhwysfawr gan y Llywodraeth i ddeall y rhyngweithio rhwng y cwmnïau mawr pan fyddan nhw’n cyrraedd y penderfyniadau hyn. Tesco, gadewch i ni beidio ag anghofio, yw'r cyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru, gydag 19,000 o weithwyr ar hyd a lled y wlad. Mae natur annisgwyl y cynigion hyn yn codi cwestiynau ynghylch lefel y cyfathrebu.

Ond yn ail, byddwn i’n erfyn arnoch chi fel arweinydd y tŷ, pan fo’r cyhoeddiadau hyn yn cael eu gwneud, bod ymateb mwy prydlon ar gael i’r Aelodau ynghylch y camau gweithredu. Ac rwy’n cefnogi'r camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd hyd yn hy. Ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe gallem fod wedi cael datganiad mwy prydlon ddiwedd yr wythnos diwethaf a allai fod wedi rhoi gwybod i ni am ganlyniadau'r alwad gynhadledda a gafodd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet, ac unrhyw sicrwydd y gallech fod wedi’i gael gan y cwmni ar lefel mor uchel ynghylch buddsoddi yng Nghymru yn y dyfodol ac, yn bwysig, y posibilrwydd a allai fod o wrthdroi’r penderfyniad hwn. Felly, byddwn i’n gofyn i chi, arweinydd y tŷ, ystyried llif yr wybodaeth gan y Llywodraeth i’r Aelodau pan gaiff cyhoeddiad mor hollbwysig ei wneud. Gadewch i ni beidio ag anghofio, mai hon fydd y golled swyddi unigol fwyaf sydd wedi’i chyhoeddi yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, os caiff ei weithredu ar ôl y cyfnod ymgynghori.

Wel, wrth gwrs, mae Andrew R.T. Davies yn cydnabod yr anghwrteisi—y diffyg gwybodaeth, y diffyg rhybudd am y newyddion dinistriol hyn —i Lywodraeth Cymru brynhawn dydd Mercher diwethaf, a’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud y bydd wedyn yn siarad, gyda'r Prif Weinidog, â phrif weithredwr Tesco—ac, wrth gwrs, y cyfarfodydd a gafodd pob AC ac AS, o bob plaid, â Tesco. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod Tesco wedi pwysleisio nad yw'r penderfyniad hwn yn adlewyrchiad o berfformiad nac o wneud busnes yng Nghaerdydd. Mae'r safle wedi bod yn hynod lwyddiannus ac, yn wir, mae’r ffaith bod y diwydiant gwasanaeth cwsmeriaid yn arbennig o gryf yng Nghymru—mae Caerdydd yn profi ei hun i fod yn lleoliad llwyddiannus a datblygol ar gyfer gweithrediadau ar draws ystod eang o is-sectorau. Ond mae hyn, o ran yr effaith a gaiff ar y gweithwyr—yr effaith ddinistriol—. Rydych yn gwybod bod Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru yn gweithio'n agos iawn i weld sut y gall, ar y cyd â Tesco a'r gweithwyr yr effeithir arnynt, helpu i sicrhau gwaith arall. Ond rydym mewn cyfnod ymgynghori, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad yn briodol.

Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod cynnal safonau uchel yn ein democratiaeth a'n system etholiadol yn hollbwysig. Roeddwn i, felly, yn synnu o weld y datgeliadau ar Channel 4 ddiwedd yr wythnos diwethaf a oedd yn awgrymu y gallai canolfan alwadau yng Nghastell-nedd for wedi torri cyfraith data ac etholiadol wrth gyflawni dyletswyddau ar ran y Blaid Geidwadol yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rwy'n synnu nad oedd amser gan Andrew RT i sôn am hyn. Mae'r honiadau hyn yn cynnwys talu am ganfasio ar ran ymgeiswyr etholiadol, sydd wedi’i wahardd o dan gyfraith etholiadol; galwadau gwleidyddol digroeso i rifau gwaharddedig; a galwadau camarweiniol yn honni eu bod yn gwmni ymchwil y farchnad annibynnol nad yw'n bodoli. Nawr, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ar y mater hwn, ond byddwn i’n ddiolchgar pe byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno datganiad o ran yr hyn y mae'n ei wneud ac yn bwriadu ei wneud, ar y cyd â Chomisiynydd Gwybodaeth Llywodraeth y DU ac eraill, i gynnal a gwella safonau yn ein system etholiadol. Diolch yn fawr.

Wel, rwy’n ddiolchgar iawn bod Dai Lloyd wedi tynnu ein sylw at hyn, ac nid ‘Channel 4 News' yn unig sy’n datgelu hyn i ni—ond, mewn gwirionedd, dyna sut y cawsom yr wybodaeth, ynte, Dai, o ran yr ymddygiad hwn a’i effaith, nad oedd, mewn gwirionedd, wedi gwneud unrhyw les iddyn nhw yn y pen draw, naddo, o ran y canlyniad etholiadol yn yr etholiad cyffredinol. Ond, yn amlwg, mae hwn yn fater y byddem ni, fel Llywodraeth Cymru, yn dymuno ei ystyried yn ofalus iawn.

Mae Bryn Compost Ltd yng Ngelligaer yn fy etholaeth i yn ailgylchu holl wastraff bwyd ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae pobl Gelligaer yn cael eu poeni gan arogleuon o'r cyfleuster compostio caeedig methedig sy'n bodoli yno, ac maent wedi penderfynu yn y tymor hwy beidio ag ailgylchu eu gwastraff bwyd fel protest, ac rwyf i wedi eu cefnogi yn hyn o beth. Mae gosod treulydd anaerobig wedi gwneud rhywfaint i ddatrys rhai o'r problemau. Mae Afonydd Cymru wedi galw am reoleiddio treulwyr anerobig yn well, a nawr mae gen i un yn fy etholaeth i. Er mwyn ceisio datrys rhai o'r materion, sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bwyllgor cyswllt, a oedd yn cynnwys cynghorwyr, trigolion, swyddogion iechyd yr amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gweithredwr, er mwyn, yn gyntaf, goruchwylio'r cyfleuster compostio caeedig methedig, ond erbyn hyn i oruchwylio'r cyfleuster treulio anaerobig.

Mae'n amlwg bod angen gwneud mwy o bosib i graffu ar y diwydiant, ond efallai y gallai Llywodraeth Cymru annog neu hyd yn oed gorfodi awdurdodau lleol â threulwyr anaerobig yn eu wardiau i ddilyn esiampl Caerffili fel enghraifft o arfer gorau. Yn wir, byddwn i’n gobeithio y byddai Caerffili yn cadw eu pwyllgor cyswllt i oruchwylio’r cyfleuster treulio anaerobig hwn. A fyddai Llywodraeth Cymru, felly, yn ystyried gwneud datganiad am reoleiddio a monitro treulwyr anerobig?

Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn hwnnw. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoleiddio a monitro treulwyr anaerobig ar ffermydd, fel y dywedwch. O dan y drefn drwyddedu amgylcheddol, caiff ffermydd gofrestru eithriad, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf a therfynau penodol, er enghraifft faint o ddeunyddiau y gellir eu trin. Ond yn dilyn digwyddiadau diweddar, nid dim ond yr un y gwnaethoch chi gyfeirio ato, Hefin, rydym wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu'r rheoliadau a byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda nhw ar hyn. A bydd y dystiolaeth heddiw, rwy'n siŵr, yn cael ei hystyried.

Arweinydd y tŷ, dair blynedd yn ôl y mis hwn, cyflwynais ddadl fer i'r Siambr hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd gwell o gefnogi pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor, cyflwr hynod greulon sy'n effeithio’n aruthrol ar ddioddefwyr. Y mis hwn yw mis ymwybyddiaeth o glefyd niwronau motor, ac mae’r Gymdeithas Niwronau Motor yn hyrwyddo'r ymgyrch My Eyes Say. Dair blynedd yn ddiweddarach ers y ddadl fer honno, tybed a allech chi ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno polisïau i wella bywydau pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor. Mae'n un o’r cyflyrau prin hynny sydd yn aml, yn y gorffennol, ac efallai weithiau yn ddealladwy, wedi diflannu o’r agenda wrth ei ystyried ochr yn ochr â chyflyrau eraill, fel clefyd y galon a chanser. Ond i’r bobl hynny sy'n dioddef ohono, mae'n newid bywyd, a byddwn i’n dymuno gweld sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella amodau i bobl sy'n dioddef o hynny.

Yn ail a gaf i ofyn: rai blynyddoedd yn ôl, gofynnais i Weinidog blaenorol yr economi—wel BETS, fel yr oedd bryd hynny: busnes, menter a thechnoleg—am adolygiad o’r rhaglen cefnffyrdd yng Nghymru. Fe wnaeth, bryd hynny, ymrwymo i gynnal adolygiad o'r system gefnffyrdd. Tybed a fyddai modd i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein sefyllfa o ran hynny, a beth oedd canfyddiadau'r adolygiad hwnnw. Mae rhai mannau ledled Cymru lle ceir damweiniau rheolaidd, sy'n ymwneud â'n rhwydwaith cefnffyrdd, y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd. Mae cyffordd yr A40 a'r A449 yn fy etholaeth i yn un o'r mannau hynny lle bu damwain arall yn ddiweddar—cyffordd sy’n peri pryder aruthrol. Ymrwymodd y Gweinidog blaenorol y byddai mannau peryglus fel hyn yn cael eu hystyried yn rhan o'r adolygiad hwnnw o'r strategaeth cefnffyrdd. Tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny.

Diolch i Nick Ramsay am godi ymwybyddiaeth unwaith eto o glefyd niwronau motor. Mae'r ffaith ei bod yn fis ymwybyddiaeth yn golygu y byddwn yn clywed amdano, rwy'n siŵr, fel Aelodau Cynulliad, a byddwn ni i gyd yn gwybod am etholwyr ac aelodau teulu y mae’r clefyd hwn yn effeithio’n ddirfawr arnynt. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, sy’n gyfle i gael diweddariad ar ei gynnydd, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wneud hynny.

Ar eich ail bwynt, o ran y rhaglen cefnffyrdd, mae'n rhaid i mi ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yn amlwg drwy ei swyddogion, yn adolygu effaith nifer o ddigwyddiadau yn rheolaidd, yn enwedig o ran y rhwydwaith cefnffyrdd ledled Cymru, a chyhoeddodd datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar rwydwaith cefnffyrdd y gogledd. Ond, unwaith eto, byddwn yn edrych ar sefyllfa’r adolygiad hwnnw, y nodwyd gennych iddo gael ei gyhoeddi sawl blwyddyn yn ôl, o ran y trefniadau presennol.

Rwyf am godi mater cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd cefn gwlad gyda chi, os caf i. Mae yna feddygfa yn fy rhanbarth i, yng Nghorwen, sy’n gwasanaethu 4,000 o bobl, yn yr ardal sy’n ffinio Gwynedd, Conwy a sir Ddinbych. Mae’n ardal wledig iawn, lle maen nhw wedi bod yn derbyn grant gwledig gan y bwrdd iechyd lleol i sicrhau bod y gwasanaeth yna yn gynaliadwy. Maen nhw hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ychwanegol, megis profion gwaed, ac mae un o’r partneriaid yn arbenigwr ar faterion y galon. Ond mae’r bwrdd iechyd erbyn hyn yn tynnu’r grant yna yn ôl, ac yn dweud bod angen iddyn nhw fel meddygfa arallgyfeirio. Nawr, mae hynny’n eu rhoi nhw, wrth gwrs, mewn sefyllfa amhosib, i bob pwrpas, a chofiwch hefyd fod hyn yn digwydd yng nghyd-destun colli ysbytai cymunedol sydd wedi bod yn darparu rhai o’r gwasanaethau pwysig yma mewn sefyllfaoedd gwledig—o Langollen yn y dwyrain, i Flaenau Ffestiniog yn y gorllewin.

Felly, a gaf i ofyn i chi sicrhau bod yr Ysgrifennydd iechyd yn dod â datganiad i’r Senedd yma ynglŷn â pha gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i sicrhau bod gwasanaethau iechyd, fel yng Nghorwen, yn gallu parhau i fod yn gynaliadwy mewn ardaloedd cefn gwlad? A ydy’r Llywodraeth yn hapus bod y bwrdd iechyd lleol yn tynnu y grant penodol yma yn ôl, ac yn tanseilio cynaliadwyedd meddygfeydd gwledig yn y gogledd, fel yng Nghorwen? A beth yn union yw gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru, o safbwynt sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd yn ein hardaloedd gwledig ni?

Wel, mewn ymateb i'r cwestiwn hwnnw, mae'n bwysig cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r practis meddyg teulu yng Nghorwen i gytuno ar gymorth cyllid parhaus, yn unol â fframwaith asesu cynaliadwy meddygon teulu Llywodraeth Cymru. A dylai hynny helpu’r practis i barhau i ddarparu gwasanaeth i drigolion Corwen, a'r ardal gyfagos. Yn wir, maent yn cwblhau taliad am wasanaethau cardioleg ychwanegol, wedi’u darparu gan y practis. Mae'r bwrdd iechyd yn ymrwymedig i wneud buddsoddiad sylweddol i ddatblygiad canolfan iechyd Corwen, ac ar hyn o bryd mae’n tendro am gontractwyr, i gwblhau cynlluniau ar gyfer y datblygiad. Felly, yn amlwg, mae hynny, rwy’n gobeithio, yn ddiweddariad i chi o ran y cynnydd a wnaed i gydnabod y materion yn y maes hwnnw. Ond, wrth gwrs, rydym yn parhau i fuddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid mewn gofal sylfaenol.

I fynd ar drywydd y pryderon a godwyd ynghylch Tesco, roeddwn i’n bryderus iawn o ddarllen bod Tesco wedi ysgrifennu llythyr at aelodau staff, yn nodi mai eu prif bryder oedd parhau i ganolbwyntio ar y cwsmer, ond yn methu â sôn bod y pwyslais hwnnw ar gwsmeriaid yn ddibynnol ar gyfraniad teyrngar eu staff, sydd, i mi, yn gôl gartref, o ran cysylltiadau cyhoeddus. Felly, rwy'n arbennig o awyddus i ddysgu beth all y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y 1,200 o bobl a allai fod yn colli eu swyddi o fewn chwe mis—pa wasanaethau pwrpasol fydd ar gael iddynt i sicrhau bod ganddynt ddewisiadau clir o ran cam nesaf eu gyrfa?

Yn ail, rydw i eisiau codi'r pwnc o gamblo gormodol a grybwyllwyd yn fyr yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roeddwn i’n rhan o banel mewn seminar ddydd Mercher diwethaf, a drefnwyd gan y Stafell Fyw, o’r enw Curo’r Bwci, sef yr unig sefydliad, hyd y gwn i, sydd mewn gwirionedd yn cynnig gwasanaethau i drin pobl sy'n gaeth i gamblo. Ac o ystyried faint o niwed y gall gamblo ei wneud yn ein cymuned, tybed a fyddai modd inni gael dadl i allu trafod ymhellach yr hyn y gallem ni fel Cynulliad ei wneud i guro’r broblem benodol hon. Rwy’n synhwyro bod cefnogaeth drawsbleidiol eithaf sylweddol i wneud rhywbeth am hyn, cyn iddi fynd yn broblem fwy byth.

Diolch, Jenny Rathbone. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Tesco yn sylweddoli bod y cyhoedd yn pryderu—bod eu cwsmeriaid yn bryderus iawn, am y ffordd y mae’r gweithlu wedi ei drin yng Nghaerdydd. Ac, wrth gwrs, mae cynifer o bobl sy'n gweithio, a theuluoedd a chymunedau, wedi eu heffeithio gan eu cyhoeddiad dinistriol yr wythnos diwethaf. Mae’n dangos eu diffyg dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o'r teyrngarwch a’r ymrwymiad sydd wedi bod yn amlwg iawn gan staff yn Nhŷ Tesco. Rwy'n credu fy mod i wedi sôn am ffyrdd yr ydym, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r asiantaethau cymorth yn lleol—Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith, colegau a Chyngor Caerdydd—ac yn gweithio gydag Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ac â fforwm canolfan gyswllt Cymru hefyd. Ac wrth gwrs, wrth i staff medrus ymuno â'r farchnad swyddi yn ystod y flwyddyn nesaf bydd yn bwysig sicrhau cyflogaeth amgen, a hefyd ddiddordeb sylweddol gan gwmnïau ar draws y rhanbarth i ddefnyddio’r talent a’r sgiliau yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, a chyfleoedd gwaith a grëwyd yn y canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid rheoledig eraill. Mae'n bwysig, fodd bynnag, bod y neges honno yn mynd yn ôl i Tesco am y lefel o bryder gwleidyddol a chyhoeddus ynghylch y cymorth y gallwn ei roi.

O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae ein cyfrifoldeb ni yn ymwneud yn benodol ag effaith gamblo gormodol. Hynny yw, yn amlwg, mae atal yn hollbwysig, ac rwy'n credu bod hwn yn faes lle gallwn weld ffordd briodol ar gyfer cyflwyno dadl neu ddatganiad.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector prifysgolion yng Nghymru i helpu i gynyddu gwerth ychwanegol gros. Bydd y sector prifysgolion yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu economi hynod fedrus, hynod addysgedig a hynod gynhyrchiol. Dylai datblygiadau gynnwys parciau gwyddoniaeth a ddatblygwyd gan y prifysgolion, fel Caergrawnt ac Aarhus yn Nenmarc, yn ogystal â chynyddu nifer y myfyrwyr a chefnogi arloesedd.

A gaf i hefyd ategu cais Jenny Rathbone am ddadl ar gamblo a phroblemau gamblo? Pan mae gennych beiriannau gamblo a all gymryd £100 mewn 20 eiliad, gall hynny greu problemau difrifol iawn, iawn i nifer fawr o bobl. Gwn am y gwaith y mae fy AS lleol, Carolyn Harris, yn ei wneud yn San Steffan wrth geisio cael camau gweithredu, ond rwy’n credu ein bod yn y pen draw yn ymdrin â phroblemau’r gwasanaethau cymdeithasol. Pan mae modd colli £300 mewn un funud, ni all llawer o bobl yng Nghymru fforddio gwneud hynny, felly os gwelwch yn dda a gawn ni ddadl ar hyn, fel y gofynnodd Jenny Rathbone amdani?

Wel, byddwn i, unwaith eto, mewn ymateb i’r ail gwestiwn hwnnw, yn dweud bod hyn yn—. Rwy’n cydnabod yn glir iawn y gwaith y mae Carolyn Harris yn ei wneud a’r effaith y mae hi wedi ei chael fel eich AS. Ond rwyf i hefyd yn credu ein bod wedi ein hargyhoeddi, ac mae'n amserol ein bod yn edrych am amser a threfniant priodol ar gyfer cynnal dadl ar effaith gamblo.

Wrth gwrs, ynghylch eich pwynt sylweddol cyntaf: mae prifysgolion, wrth gwrs, yn hanfodol i les economaidd Cymru. Rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddylanwadu ar ac annog cydweithredu, sy'n hollbwysig, rhwng ein prifysgolion a busnesau, gartref a thramor. Ac rwy’n credu mai sylfaen ymchwil prifysgol gref sydd, mewn gwirionedd, yn sail i'n heconomi ffyniannus ni, a chyfeiriwyd at hynny yr wythnos diwethaf, yn wir, mewn dadl ar effaith Brexit.

4. 3. Datganiad: Y Rhaglen Lywodraethu

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch, heddiw, i gyhoeddi ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Cyn i mi gyhoeddi’r Biliau y byddwn yn eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf, rwy’n awyddus i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf. Ers i mi wneud fy natganiad cyntaf ym mis Mehefin y llynedd, mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi pasio deddfwriaeth dreth bwysig, a fydd yn galluogi Cymru i godi ei refeniw ei hun o fis Ebrill 2018—y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd.

Cafodd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, gan ddod yn Ddeddf gyntaf y pumed Cynulliad. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno i basio Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn cymryd cam pellach ar ein taith ddatganoli a sicrhau bod treth gwarediadau tirlenwi—yr ail o'r ddwy dreth ddatganoledig—ar waith erbyn mis Ebrill 2018. Llywydd, mae’r ddau ddarn hyn o ddeddfwriaeth treth yn sefydlu perthynas newydd rhwng pobl Cymru, Llywodraeth Cymru a’r gwaith o gyflwyno ein gwasanaethau cyhoeddus. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd yr arian a godir o drethi Cymru yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Fis diwethaf, pasiodd y Cynulliad hefyd Fil Iechyd Cyhoeddus (Cymru). Disgwylir i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol yr wythnos nesaf ac, unwaith y bydd wedi’i ddeddfu, bydd yn darparu gwelliannau eang o ran iechyd y cyhoedd, gan gynnwys cyfyngiadau newydd ar ysmygu mewn rhai mannau cyhoeddus yn yr awyr agored lle mae plant yn bresennol, cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer triniaethau arbennig, gwaharddiad ar roi twll mewn rhannau personol o’r corff ar gyfer pobl dan 18 oed, a gwelliannau i'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus a gwasanaethau fferyllol. Cyhoeddais dri Bil arall y llynedd, ac mae'r rhain yn parhau i symud drwy gamau craffu’r Cynulliad.

Llywydd, cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn gynharach y mis hwn a bydd Cyfnod 2 yn digwydd ar ôl toriad yr haf. Rydym yn disgwyl cyrraedd cyfnodau terfynol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) a chwblhau cyfnod cyntaf Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) cyn toriad yr haf. Mae pob un o'r Biliau hyn wedi bod yn destun graffu gan Aelodau, a byddant yn cael eu gwella gan y broses honno. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses ddeddfwriaethol. Efallai nad yw bob amser yn broses gyfforddus i’r Llywodraeth—ac ni ddylai fod felly—ond mae craffu yn arwain at well ddeddfwriaeth.

Llywydd, bydd y Llywodraeth yn parhau i adeiladu ar y cynnydd yr ydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn parhau i gael ei llunio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae’r cynigion y byddwn yn eu cyflwyno yn y flwyddyn i ddod yn adlewyrchu ein nod o wella Cymru yn awr ac yn y tymor hir.

Over the next 12 months, we will introduce legislation in Wales to tackle the damaging use of alcohol by raising a minimum unit price for alcohol, providing free childcare to those in work with children between three and four years of age, protecting tenants from unfair fees, and reforming local government.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal, a’n nod ers amser hir yw defnyddio mesurau iechyd cyhoeddus i dargedu a mynd i'r afael â'r defnydd niweidiol a pheryglus o alcohol. Mae tystiolaeth wedi dangos y cysylltiad rhwng yfed ar lefelau niweidiol ac argaeledd alcohol rhad. Mae deddfwriaeth yn elfen hanfodol o'n strategaeth ehangach i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth er mwyn ein galluogi i bennu isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru. Rydym wedi ymgysylltu yn eang ynghylch isafbris uned ar gyfer alcohol a gwnaethom ymgynghori ar Fil drafft ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad. Roedd y mwyafrif o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn o blaid deddfu. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Senedd yr Alban wedi pasio Deddf yn 2012 i gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol, ac, wrth gwrs, yn ymwybodol o benderfyniad Llys Sesiwn yr Alban bod y ddeddfwriaeth yn gydnaws â chyfraith yr UE, yn dilyn her gyfreithiol gan y Scotch Whisky Association ac eraill. Nawr, mae’r apêl gan y gymdeithas honno i fod i gael ei chlywed gan y Goruchaf Lys yr haf hwn. Rydym yn edrych ymlaen at ddiwedd yr achos hwnnw ac yn monitro'r datblygiadau'n agos.

Llywydd, bydd y Llywodraeth hon yn cymryd camau deddfwriaethol i fynd i'r afael â'r ffioedd a godir ar denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae cartref fforddiadwy, o ansawdd da yn allweddol i lesiant. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n awgrymu bod y ffioedd presennol, a godir yn bennaf gan asiantau, yn rhwystr i bobl gael mynediad at dai rhent preifat, ac, unwaith y ceir mynediad at dai rhent, bod y ffioedd yn gallu bod yn rheswm dros beidio â symud cartref. Gall tenantiaid wynebu costau sylweddol ymlaen llaw, sy'n cynnwys mis o rent, blaendal diogelwch sylweddol a ffioedd asiantaeth ar gyfer sicrhau tenantiaeth. Gall y ffi gynnwys taliadau lluosog, ond yn aml mae’n dâl sefydlog neu'n seiliedig ar ganran o gostau rhent yr eiddo. Yn rhy aml, nid yw tenantiaid yn gwybod am beth y maent yn talu’r costau hyn. Felly, byddwn yn cyflwyno Bil i atal codi ffioedd annheg ar denantiaid a'u darpar denantiaid. Bydd hyn yn rhoi eglurder i’r rhai yn y sector rhentu preifat ynghylch y costau cysylltiedig ac yn sicrhau bod y system yn deg, yn gyfiawn ac yn gynaliadwy.

Llywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r rheolaethau rheoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Ym mis Medi 2016, gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ailddosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cymru i’w cynnwys yn y sector cyhoeddus. O ganlyniad, bydd unrhyw fenthyca o'r sector preifat gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn dod yn dâl yn erbyn cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae'r penderfyniad i ailddosbarthu yn dilyn cynsail a osodwyd yn Lloegr, ond mae hefyd yn un sy'n wynebu Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon. Os nad eir i'r afael â hyn, gallai canlyniadau’r newid hwn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yn sylweddol o bosibl. Gallai gyfyngu'n ddifrifol ar y gwaith o ddatblygu tai fforddiadwy newydd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cymru a gallai hefyd gyfyngu ar ein gallu ni ein hunain i ariannu prosiectau seilwaith cyfalaf eraill. Felly, byddwn yn diwygio’r rheolaethau rheoleiddio perthnasol sydd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac rydym yn credu y bydd hyn yn galluogi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailystyried dosbarthiad Landlordiaid Cymdeithasol Cymru yng Nghymru a'u cynnwys gyda’r sector preifat unwaith eto.

Llywydd, mae gofal plant yn fater pwysig i bob rhiant. Un o'n hymrwymiadau allweddol fel Llywodraeth yw darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair blwydd oed sy'n gweithio. Pan gaiff ei gyflwyno'n llawn, bydd ein cynnig gofal plant yn helpu i ddymchwel y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth gael swydd. Rydym yn gwneud cynnydd da, a bydd ein cynlluniau peilot gofal plant cyntaf yn dechrau ym mis Medi. I gefnogi hyn a hwyluso cyflwyno'r cynnig gofal plant yn llawn erbyn 2020, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gefnogi system genedlaethol ar gyfer ceisiadau a gwiriadau cymhwystra. Rydym yn gweithio i ddatblygu system lle y gall rhieni gyflwyno eu cais a’u gwybodaeth ar-lein, y gellir ei wirio wedyn yn erbyn setiau data sydd eisoes yn bodoli er mwyn cadarnhau eu bod yn gymwys. Bydd angen deddfwriaeth yn sail i’r system hon. Un o'r dewisiadau yw gweithio gyda Chyllid a Thollau EM i integreiddio ceisiadau i'r gwasanaeth gofal plant presennol.

Llywydd, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hanfodol, o ofal cymdeithasol ac addysg i gasglu a rheoli gwastraff. Mae ein hawdurdodau lleol hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol i'w cymunedau. Mae’n rhaid iddynt fod yn gydnerth ac yn gynaliadwy os ydynt am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel. Rydym wedi bod yn trafod diwygio llywodraeth leol yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Mae’n bwysig ein bod yn symud ymlaen ar sail consensws. Dyna pam rydym wedi ymwneud yn helaeth â chydweithwyr llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at gyhoeddi Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cydnerth ac wedi’i Adnewyddu' yn gynharach eleni.

Llywydd, byddwn yn awr yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd y Bil yn ceisio sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn rhoi i'r awdurdodau lleol bŵer cymhwysedd cyffredinol a fframwaith perfformiad newydd, a bydd yn creu mwy o dryloywder wrth wneud penderfyniadau. Ond nid yw hynny'n ddigon. Mae'n amlwg bod angen i ni barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a bod yn rhaid i awdurdodau lleol hefyd weithio mewn ffordd wahanol. Bydd y Bil, felly, yn darparu sail ar gyfer mwy o gydweithredu drwy drefniadau gweithio rhanbarthol gorfodol a systematig. Gyda’i gilydd, bydd ein cynigion ar gyfer diwygio yn cyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd, ac o fewn y fframwaith hwn byddwn yn creu llywodraeth leol gydnerth, wedi’i hadnewyddu, a chynaliadwy yng Nghymru.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i geisio cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer deddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Rydym yn sefyll yn gadarn yn ein hymrwymiad i fynd ar drywydd newid yn y gyfraith, ac rydym yn parhau i weithio drwy'r cymhlethdodau cyfreithiol i ddatblygu Bil i wneud hyn yn realiti. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym eu heisiau ac yn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Felly, byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion i ddileu amddiffyniad o gosb resymol yn ystod y 12 mis nesaf, ac rydym yn bwriadu cyflwyno Bil yn nhrydedd flwyddyn tymor y Cynulliad hwn.

Llywydd, yr wythnos diwethaf nododd Llywodraeth y DU ei bwriadau deddfwriaethol yn Araith y Frenhines. Roedd y datganiad hwnnw yn cynnwys y Bil diddymu a Biliau arwyddocaol eraill sy'n ymwneud â Brexit. Rwyf wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon o'r blaen bod yn rhaid i'r setliad datganoli gael ei barchu a bod yn rhaid i'r Cynulliad fod yn gyfrifol am ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Rwyf hefyd wedi bod yn glir lle nad yw darpariaethau wedi eu cytuno rhwng Llywodraethau ac nad ydynt yn parchu’r setliad datganoli, y byddwn yn ystyried opsiynau eraill, megis Bil parhad, i warchod ein buddiannau datganoledig.

Bydd Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar fusnes Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Felly, i ddarparu ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol a’r is-ddeddfwriaeth sydd eu hangen ar gyfer Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol ddwy flynedd. Byddai'n naïf i gymryd yn ganiataol na fydd hefyd yn cael effaith ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain. Ond nid yw wedi bod yn bosibl eto i bennu beth fydd yr effaith honno a phryd y bydd yn dod i'r amlwg. Wrth i'r darlun a’r effeithiau ddod yn gliriach, byddaf wrth gwrs yn hysbysu Aelodau.

Llywydd, bydd y Biliau rydym ni’n bwriadu eu cyflwyno yn ystod ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn helpu ein hymdrechion i adeiladu Cymru iach ac egnïol, ffyniannus a diogel, uchelgeisiol ac sy’n dysgu, unedig a chysylltiedig.

Llywydd, the Bills we intend to introduce during the second year of this legislative programme will support our efforts to build a Wales that is healthy and active, prosperous and secure, ambitious and learning, and united and connected.

Edrychaf ymlaen at weld y Biliau yn dod ymlaen ac at graffu pwyllgorau ac Aelodau, ac rwy’n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad Cenedlaethol.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ac, yn wir, i’r Pwyllgor Busnes a'r Llywydd am newid ychydig ar fformat y ffordd y mae’r busnes hwn yn mynd i gael ei drafod y prynhawn yma, er mwyn cael datganiadau/dadleuon a fydd, gobeithio, yn cynnig mwy o gyfle i graffu ar y cynigion y mae’r Llywodraeth wedi’u cyflwyno, a gobeithio cael ymateb llawn gan y Prif Weinidog i’r sylwadau a gyflwynir ar draws y Siambr? Felly, rwy’n diolch i chi, Brif Weinidog, am eich datganiad.

Nodaf fod pum Bil a amlinellwyd gennych heddiw a fydd yn ffurfio sail eich rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y 12 mis nesaf. Yn bennaf oll, hoffwn groesawu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r pla o ffioedd a godir gan asiantaethau gosod tai, sy’n gam sydd wedi ei wneud o dan rywfaint o bwysau yn dilyn y camau cadarnhaol a wnaed gan Lywodraethau yn Lloegr a'r Alban. Rydym yn cefnogi gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai, lle mae Cymru ar ei hôl hi erbyn hyn o gymharu â gweddill Prydain, ac rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau o'r diwedd i amddiffyn tenantiaid rhag y costau ychwanegol. A dweud hynny, ar ôl bod mewn grym am bron i ddau ddegawd, yn anffodus, mae yna deimlad ein bod ni wedi clywed y datganiad hwn droeon. Mae rhaglenni blaenorol wedi methu yn gyson â gwella canlyniadau bywyd pobl yma yng Nghymru, ac nid yw geiriau cynnes a chamau gwag yn anffodus yn cynnig fawr ddim er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf ar draws Cymru.

Rydym ni, wrth gwrs, yn cydnabod y mandad sydd gan y Llywodraeth yma yn y Siambr ac, yn anad dim, y ffordd y mae'n rhaid iddi gyflwyno ei deddfwriaeth, ond yn anffodus mae’r ddeddfwriaeth yn bell o fod yn foddhaol. Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer pobl Cymru. Ar wahân i'r Bil iechyd cyhoeddus, sy’n deillio o’r pedwerydd Cynulliad, a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, nid yw'r Biliau cyntaf yn arloesi.

Yn wir, rydym wedi cael yr amgylchiadau gofidus yn ymwneud â'r Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn dangos ymagwedd ‘rhywsut rywsut’ eich Llywodraeth i ddeddfwriaeth. Mae’r cawlio gweinidogol dros ei gost, sy’n rhywbeth yr ydym ni wedi’i weld yn rhy aml, wedi arafu'n sylweddol ei daith drwy'r Cynulliad, er anfantais i blant ledled Cymru. O ystyried addewid y Prif Weinidog yn 2016 y byddai'r rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn i ddatblygu ar ein harferion er mwyn sicrhau eu bod yn gweddu cyfrifoldebau seneddol y lle hwn, beth y mae'n ei feddwl am y ffaith bod penderfyniad ariannol y Bil anghenion dysgu ychwanegol wedi ei ohirio—y tro cyntaf yn ein hanes deddfwriaethol y mae hyn wedi digwydd, a bod y Pwyllgor Cyllid wedi cael gwybod am y gwallau dim ond y diwrnod cyn iddo gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog?

Yn 2015, argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn benodol femorandwm ariannol i gael ei ddarparu ochr yn ochr â phob Bil. O ystyried bod asesiad effaith rheoleiddiol y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys camgymeriadau ariannol difrifol—£13.1 miliwn i fod yn fanwl gywir—pa fesurau y mae eich Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn eu cymryd i sicrhau bod Asesiad Effaith Rheoleiddiol pob Gweinidog yn gadarn yn ariannol? Mae arian trethdalwyr yn y fantol yma, ac mae'n hollbwysig bod y mesurau cryfaf yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu arian o'r fath.

Rydym, wrth gwrs, wedi cael cyflwyniad i ddileu'r hawl i brynu, a’r diolch dros ysgwydd i'r undebau llafur. Rwy'n siŵr na fydd yn ddim syndod bod y rhai ohonom ar y meinciau hyn yn siomedig dros ben o weld y ddau hyn yn nodweddion allweddol ym mlwyddyn gyntaf eich Llywodraeth newydd. Mae'n ofid mawr i ni, ac rydym yn teimlo y bydd yn tynnu cyfleoedd oddi ar bobl ar hyd a lled Cymru.

Yn anffodus, ni fu unrhyw ganolbwyntio yng nghyflwyniad y Bil iechyd cyhoeddus ar fynd i'r afael â materion fel gordewdra a llygredd aer, er ei bod yn amlwg erbyn hyn bod eich cynnig gofal plant am ddim yn annhebygol iawn o gael ei gyflawni, oherwydd cyllido gwael ar draws y sector. Roedd hwn, wrth gwrs, yn addewid o bwys a wnaed gan eich plaid yn yr etholiad diwethaf, a byddwn yn gwerthfawrogi asesiad gennych chi ar gyflawni’r fenter allweddol, ac amserlen debygol, gan y bydd llawer o deuluoedd yn eistedd yno yn meddwl tybed beth ar y ddaear a phryd ar y ddaear y mae'n debygol o ddwyn ffrwyth. Rwy’n sylwi bod y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad, wedi siarad am ddefnyddio gwasanaethau gofal plant presennol.

Rwyf wedi eistedd ar sesiynau craffu'r pwyllgor plant a phobl ifanc y ddau Weinidog yma—y Gweinidog addysg a'r Gweinidog cymunedau, ac mae gan y Gweinidog cymunedau gyfrifoldeb uniongyrchol am gyflawni hyn—ac mae'n ymddangos bod gwahaniaeth barn ynghylch sut yn union y bydd y polisi hwn yn cael ei gyflwyno. Rwy’n derbyn bod angen deddfwriaeth i ryw bwynt, a dyma lle mae deddfwriaeth a pholisi yn gwrthdaro. Mae pryderon mawr ynghylch sut yn union y bydd y Llywodraeth yn gallu gwireddu’r ddwy elfen fel y gellir cyflawni’r cynnig hwn yn llwyddiannus.

Nodaf hefyd, gyda difyrrwch a phryder fel ei gilydd, y posibilrwydd o Fil llywodraeth leol arall. Ni allwn ond gobeithio ei fod o leiaf yn ymgais well na'r traed moch a wnaed ohono yn y Pedwerydd Cynulliad. Byddwn yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gallu gwirioneddol gyflawni'r hyn y mae'n addo ei wneud y tro hwn.

Unwaith eto, hoffwn wybod beth yw eich nodau ar gyfer y Bil hwnnw ac a ydym yn debygol o ddechrau o'r newydd, neu a oes rhai elfennau o'r cynigion blaenorol yn debygol o ymddangos? A pha swyddogaeth, os o gwbl, fydd argymhellion comisiwn Williams yn ei chwarae wrth ategu’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf hon? Yn yr un modd, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod dymuniadau cymunedau lleol yn cael eu clywed yn y Bil hwn a'r penderfyniadau a wneir ar y daith hon?

Nodaf hefyd, o ddatganiad y Prif Weinidog heddiw, gosod isafbris, a'r sylwadau ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin gan David Davis am yr angen i weithio gyda deddfwrfeydd yng Nghymru ac yn yr Alban, a cheisio caniatâd gan y ddwy ddeddfwrfa wrth i'r ddeddfwriaeth fynd drwy Dŷ'r Cyffredin. Mae’n rhaid bod hwn yn ymrwymiad i'w groesawu gan Ysgrifennydd Brexit.

O ran gosod isafbris, mae'n bwysig ystyried materion trawsffiniol ynghylch deddfwriaeth a allai arwain, yn amlwg, at wahanol awdurdodaethau prisio—rhywbeth yr ydym wedi ei weld mewn deddfwriaeth flaenorol pan ddaw at rywbeth mor syml â thipio anghyfreithlon, er enghraifft, a'r gallu, yn amlwg, i symud gwastraff ar draws y ffin. Er fy mod yn cynnig cefnogaeth gyfyngedig o'r meinciau hyn ar osod isafbris, rwyf yn dymuno gweld mwy o dystiolaeth o’r gallu i hyn symud ymlaen, a sicrhau’r canlyniad yn y pen draw o wella iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru, oherwydd, heb os nac oni bai, mae cysylltiad rhwng yfed llawer o alcohol ac iechyd gwael, ond yr hyn y mae angen i ni sicrhau yw bod y ddeddfwriaeth yn addas at ei diben, ac yn mynd i'r afael ag iechyd gwael ac alcohol a'r berthynas rhwng y ddau, ac nad yw'n ceisio creu drws cefn yn unig ar gyfer marchnad ddu ar gyfer alcohol yma yng Nghymru ac ar draws y ffin.

O ran y ddeddfwriaeth gosb resymol y mae’r Prif Weinidog yn siarad amdani, rydym ni, y Ceidwadwyr yn y Siambr hon, bob amser wedi ystyried hyn yn fater o gydwybod, a bydd yn bleidlais rydd gan Aelodau yn y grŵp Ceidwadol ar y gwahanol gamau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd drwyddynt pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno, yn gyntaf, ei hymgynghoriadau. Rwy'n meddwl bod y datganiad hwn yn eu hamlinellu heddiw, ac yna, yn amlwg, deddfwriaeth yn y drydedd sesiwn, y credaf fod y Prif Weinidog yn sôn amdani yn ei ddatganiad y prynhawn yma.

O fewn y rhaglen hon, byddem wedi dymuno gweld amrediad o gynigion llawer mwy a mwy uchelgeisiol yn cyflwyno Biliau sy'n ymdrin â llawer o agweddau ar anghenion pobl Cymru. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig wedi hoffi gweld Biliau mwy arloesol yn cael eu cyflwyno, megis Bil lleoliaeth a dinasyddiaeth, a fyddai wedi dod â thryloywder a phŵer lleol i graidd y gwaith o wneud penderfyniadau; Bil sicrwydd economaidd a menter, a fyddai wedi creu amodau i’r sector preifat yng Nghymru allu ffynnu, gan arwain at sgiliau newydd, swyddi a sicrwydd economaidd i deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled Cymru; Bil iechyd a gofal cymdeithasol, a fyddai wedi integreiddio'n briodol y system iechyd drwy fynnu bod darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar y cyd; Bil hawliau pobl hŷn, a fyddai wedi ymgorffori hawliau pobl hŷn yng Nghymru mewn cyfreithiau Cymru; a Bil llywodraethu a chyllid y GIG, a fyddai wedi cyflwyno mwy o atebolrwydd i gleifion. Ac, yn ôl pob tebyg, mae’r darn mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau i gymunedau wedi dod o'r meinciau hyn, gyda fy nghydweithiwr, Paul Davies a'i gynigion ar gyfer Bil awtistiaeth drwy'r broses ddeddfwriaeth meinciau cefn. Wrth i hyn fynd yn ei flaen trwy ei gamau amrywiol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau i ddenu cefnogaeth drawsbleidiol, ac, ymhen amser, yn denu cefnogaeth eich Llywodraeth.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ar ôl bron i ddau ddegawd o or-addo a thangyflawni, mae'n dorcalonnus nad oes yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yr uchelgais a’r arloesi sydd eu hangen i wireddu'r newidiadau angenrheidiol. Er mwyn i’n gwlad lwyddo a chyrraedd ei gwir botensial fel lle gwych i fyw a gweithio, a chreu cymdeithas wirioneddol gynhwysol sy'n grymuso pawb, ni waeth o ble’r ydych yn dod a beth yw eich cefndir, mae gwir angen Llywodraeth arnom all dorri'r cylch hwn o ailadrodd ein hunain yma yng Nghymru.

Cefais deimlad o déjà vu pan welais y rhaglen ddeddfwriaethol hon: gosod isafbris alcohol; gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai; gweithio rhanbarthol gorfodol ar gyfer cynghorau lleol a'r cynnig gofal plant newydd. Maen nhw i gyd yn bolisïau Plaid Cymru—pedwar o'r pum Bil. Ond nid llên-ladrad yw fy nghyhuddiad yma; fy nghyhuddiad yw hunanfodlonrwydd. Mae'r rhain yn feysydd lle gallai’r Llywodraeth fod wedi cymryd camau, mewn rhai achosion, flynyddoedd yn ôl. Cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Chwefror 2014: fe’i gwrthodwyd gan Lafur. Atal landlordiaid ac asiantaethau rhag codi ffioedd annheg, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Tachwedd 2015: fe’i gwrthodwyd gan Lafur. Gweithio rhanbarthol gorfodol gan gynghorau lleol, a gynigiwyd gan Blaid Cymru ym mis Mehefin 2015: fe’i gwrthodwyd gan y Prif Weinidog a honnodd y byddai'n creu haen arall o lywodraeth. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a dyma ni’n gweld y polisi rhanbarthol hwnnw yn cael ei weithredu gan Lafur heb ei newid o gwbl, bron. Yr un hen stori sydd i'w gweld drwy gydol busnes Llywodraeth Cymru. Fe’i gwelsom ar y gronfa triniaethau newydd, pan oeddech yn honni yn y gorffennol na ellid ei wneud; fe’i gwelsom hefyd ar gontractau dim oriau—saith gwaith fe wnaethoch bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru ar gontractau dim oriau. Rydym wedi ei weld ar y dreth ystafell wely, lle mae eich diffyg gweithredu yn golygu mai Cymru yw'r unig wlad ddatganoledig lle mae pobl yn dal i orfod talu'r dreth ystafell wely. Mae pobl yng Nghymru yn haeddu Llywodraeth ystwyth sy'n cymryd camau pendant i ddatrys y problemau a’r anghyfiawnderau sy'n wynebu ein gwlad. Yn hytrach, mae ganddynt Lywodraeth sy'n cymryd blynyddoedd i weithredu, ac yn y blynyddoedd hynny pan nad oes camau wedi'u cymryd, mae pobl wedi bod ar eu colled.

Un o'r meysydd mwyaf hanfodol a fyddai'n helpu rhieni a theuluoedd sy'n gweithio yw’r cynnig gofal plant. A all y Prif Weinidog roi ateb credadwy i mi heddiw? Pam y bydd yn cymryd bron i dymor cyfan y Cynulliad i gael system gofal plant gweddus yn weithredol? Rydych yn addo gweithredu erbyn 2020. 2020. Sut y mae hynny'n helpu rhieni sydd â phlant nawr? Mae’r rhieni hynny yn wynebu tair blynedd arall o orfod talu cyfraddau wedi’u gorymestyn ac o drefnu gofal plant o gwmpas eu swyddi o dan system nad yw'n addas at ei diben. Yr un hen stori, y broblem yw diffyg uchelgais gan y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd. Mae'n siomedig ac mae ar ei hôl hi, a’r hyn y mae Cymru'n ei haeddu yw Llywodraeth sydd ar flaen y gad.

Felly, bydd Plaid Cymru yn astudio pob un o'r Biliau hyn yn fanwl. Byddwn yn cynnig gwelliannau a byddwn yn ceisio gwella’r hyn sydd ar y bwrdd. A phan fydd hynny'n digwydd, efallai y byddai'n syniad i Lywodraeth Lafur bleidleisio mewn gwirionedd o’n plaid ni pan maent yn meddwl fod gennym ni syniad da, yn hytrach na dweud dro ar ôl tro na ellir gwneud yr hyn yr ydym yn ei gynnig.

Ond ar wahân i’r materion domestig hynny, mae her ddeddfwriaethol ddifrifol arall yn gysgod dros y Cynulliad hwn, y senedd hon yn y dyfodol. Mae Bil diddymu mawr Llywodraeth y DU yn bygwth caniatáu i San Steffan gipio pŵer oddi arnom. Un o ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd yw y dylai pwerau a fframweithiau sy’n cael eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE ddychwelyd yn uniongyrchol i Gymru ac i'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Ond rydym yn gwybod o baragraff 4.2 o Bapur Gwyn y Bil diddymu mawr mai dim ond ymgynghori a wneir â’r gweinyddiaethau datganoledig ar y fframweithiau hynny. Yn wir, rhagwelodd fy nghydweithiwr Simon Thomas hyn yn ymateb Plaid Cymru i ddatganiad deddfwriaethol y llynedd. Dywedodd bryd hynny, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar ddeddfwriaeth amgylcheddol a deddfwriaeth amaethyddol. Gwnaeth hefyd godi'r mater o ddyfodol taliadau fferm yr UE, sy'n cael eu cwmpasu gan ddeddfwriaeth. Mae’r polisi amaethyddol cyffredin yn dod o dan bedwar rheoliad sylfaenol ac mae Gweinidogion Cymru yn cael eu hawdurdodi i roi effaith i reoliadau’r PAC.

Ateb Plaid Cymru i’r her ddeddfwriaethol hon yw Bil parhad, a gynigiwyd gyntaf gan Steffan Lewis AC o Blaid Cymru fis Tachwedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r egwyddor hon, ond y cam nesaf yw gwneud iddo ddigwydd. Nodaf fod y Prif Weinidog yn dal Bil parhad yn ôl fel offeryn y gellid ei ddefnyddio os bydd Llywodraeth y DU yn torri ar ein pwerau datganoledig. Ond fe allai ac fe ddylai Bil parhad gael ei gyflwyno yn ddi-oed. Gellid ei weithredu fel mesur rhagweithiol i roi rhywfaint o drosoledd i Gymru. Mae'r Cynulliad hwn eisoes wedi cymeradwyo'r egwyddor. Gallai Bil parhad mewn ymateb i Lywodraeth y DU yn wir fod yn rhy ychydig, yn rhy hwyr. Felly, byddwn yn annog y Prif Weinidog i fod yn fwy pendant ar hyn; i fod yn gyflymach ac yn fwy ystwyth wrth ymateb i'r sefyllfa wleidyddol gymhleth yn y DU; i edrych eto ar y penderfyniad i ddal y Bil parhad yn ôl, ac yn awr, i ystyried ei gyflwyno cyn gynted ag sy’n bosibl.

Rwy'n gobeithio y gallaf fod efallai ychydig yn fwy cadarnhaol wrth gyfrannu at y ddadl hon na'r ddau gyfraniad yr ydym newydd eu clywed. Mae llawer yn y rhaglen ddeddfwriaethol y gall UKIP ei gefnogi. Mae, wrth gwrs, bethau y byddwn yn eu gwrthwynebu. Gallaf yn sicr gytuno â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ar ddiwedd ei ddatganiad mewn cysylltiad â Bil parhad a setliad Brexit. Mae'n amlwg na fyddai modd ei gefnogi mewn unrhyw ffordd os, fel y mae arweinydd Plaid Cymru newydd ei ddweud, y byddai rhyw fath o gydio pŵer gan Lywodraeth San Steffan i leihau'r pwerau sydd eisoes gan y Cynulliad hwn. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd fod hynny yn yr arfaeth o gwbl. Mae'n un arall o'r cythreuliaid y mae'r remoaners yn eu codi er mwyn ceisio parhau ag ymgyrch y refferendwm y llynedd, ac ychydig o les a wnaeth iddynt bryd hynny ac a fydd yn ei wneud iddynt yn y dyfodol.

O ran bod Plaid Cymru ar flaen y gad, o araith arweinydd Plaid Cymru rwy'n credu ei fod yn fwy o golli arni, gan nad ydynt yn sicr wedi gallu esbonio erioed sut y byddent yn llenwi'r twll du yn y cyfrifon cyhoeddus pe byddai Cymru’n dod yn wleidyddol annibynnol o weddill y Deyrnas Unedig. Oherwydd, fel y gwyddom, mae Llywodraeth ar bob lefel yn gwario oddeutu £38 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, ond rydym yn codi mewn refeniw treth o bob math o oddeutu £23 biliwn, gan adael bwlch sy'n gyfwerth â 25 y cant o CDG Cymru, sydd yn llawer mwy na hyd yn oed y diffyg sy'n bodoli yng Ngwlad Groeg. Felly, mae’n rhaid i bopeth sydd gan Blaid Cymru i'w ddweud o ran eu cynigion gwariant gael ei weld yng ngoleuni’r diffyg sylfaenol hwnnw.

Ond byddwn yn sicr yn cefnogi'r Llywodraeth ar nodweddion da'r rhaglen ddeddfwriaethol hon, ac rwy’n sicr yn cefnogi'r cynnig ar gyfer mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol drwy drefniadau gweithio rhanbarthol gorfodol a systematig. Credaf hefyd fod gennym ormod o awdurdodau lleol yng Nghymru, a byddai'n fanteisiol pe baem yn gwneud rhywfaint o ostyngiad yn y nifer, er nad cymaint o ostyngiad ag y cynigiodd y Llywodraeth yn flaenorol. Byddwn, wrth gwrs, yn cefnogi'r cynigion ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, er na fyddwn yn cefnogi diddymu'r hawl i brynu, a oedd yn ymddangos i mi i fod yn gwbl amherthnasol i anghenion tai Cymru ac a fyddai mewn gwirionedd yn ei gwneud yn fwy anodd i lenwi’r bylchau sy'n bodoli eisoes.

Ac rwy’n pryderu, fel y mae fy mhlaid, ynghylch y cynnig ar gyfer isafswm pris ar gyfer alcohol—nid nad ydym yn credu bod problem gydag yfed gormod ymhlith carfan o'r boblogaeth, ond na fydd y cynnig am osod isafbris yn mynd i'r afael â'r broblem. Mae'r holl drethi anuniongyrchol, yn ôl eu natur, fel y maent yn bodoli yn y Deyrnas Unedig, yn atchweliadol a byddai isafbris ar gyfer alcohol hyd yn oed yn fwy felly na'r rhan fwyaf. Mae hefyd yn debygol o fod yn aneffeithiol, oherwydd mai’r bobl sy'n lleiaf tebygol o gael eu poeni gan gynnydd yn isafbris alcohol yw'r rhai sy'n gaeth iddo. Felly, bydd hon yn dreth ar yfwyr cymedrol, fel fi, a mwyafrif y boblogaeth, ond na fydd yn gwneud dim i fynd i'r afael ag anghenion iechyd cyhoeddus lleiafrif bychan. Nid oes problem yfed go iawn yn y Deyrnas Unedig o’i chymharu â gwledydd eraill. Rydym yng nghanol y tabl. [Torri ar draws.] Wel, gall Simon Thomas siarad drosto'i hun, wrth gwrs, ar hyn, ond yr hyn y mae'n ei wneud yn breifat nid wyf yn ymwybodol ohono. Ond os ydych yn edrych ar y tabl o yfed alcohol cenhedloedd fesul pen, mae’r Deyrnas Unedig yn y canol. Yn wir, mae'r ffigurau'n dangos bod yfed alcohol fesul pen wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 20 mlynedd diwethaf. Ym 1998, roedd cofnodion yn dangos bod 75 y cant o ddynion yn cael diod unwaith yr wythnos. Erbyn 2010, roedd hynny wedi gostwng i 67 y cant. [Torri ar draws.] Ac rwyf yn wynebu realiti oherwydd mae’r ffigurau gennyf o fy mlaen. O blith rhai 16 i 24 oed, mae’r rhai sy'n yfed unwaith yr wythnos wedi gostwng o 71 y cant i 48 y cant ymhlith dynion, ac o 62 y cant i 46 y cant ymhlith menywod. Roedd cyfeintiau alcohol y pen a yfwyd yn 2004, yn 9.5 litr y flwyddyn; erbyn 2011, roedd wedi ei leihau i 8.3 litr. Dyna ostyngiad o 12 y cant yn y defnydd cyfartalog o alcohol y pen. Ac mae marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, wrth gwrs, wedi dyblu yn y cyfnod hwnnw, er bod y ffigurau ar gyfer yfed gan ddynion wedi aros yn wastad neu wedi gostwng drwy gydol y cyfnod.

Felly, nid yw treth ar yfwyr cymedrol yn mynd i ateb i'r broblem, yn enwedig gan fod yr holl dystiolaeth yn dangos bod yfed alcohol yn codi ynghyd ag incwm, felly po fwyaf o arian sydd gennych, po fwyaf y byddwch yn ei wario ar alcohol, po fwyaf o arian sydd gennych, y lleiaf tebygol yr ydych chi o gael eich rhwystro rhag yfed trwy gael isafbris ar gyfer alcohol. Felly, mae'r cysyniad cyfan i ddechrau yn afresymegol. Felly, rydym yn cynnig targedu diodydd sy'n cael eu hyfed yn anghymesur gan bobl ar incwm isel, gan nad yw yfwyr siampaen yn debygol o fod yn poeni gormod am y cynnig hwn—yn sicr, mae Nick Ramsay yn nodio yn cytuno gyda mi draw acw—ond bydd yn rhaid i yfwyr cwrw ym mhen isaf y raddfa dalu mwy am eu hoff ddiod. Nid oes unrhyw dystiolaeth gredadwy i ddangos unrhyw gysylltiad rhwng problem alcohol a phris alcohol, y byddaf yn sicr yn mynd i edrych arno’n fanylach pan ddaw'r cynnig hwn ymlaen ar gyfer ystyriaeth benodol. Ond hefyd, dyma flaen y gyllell. Rydym yn gwybod unwaith y bydd pŵer i gyflwyno treth neu i osod isafbris ar unrhyw beth yn cael ei gyflwyno, yna bydd mwy a mwy o bwysau am byth ar ôl hynny i’w wthio i fyny.

Felly, mae panig moesol ffug ar y mater hwn. Os ydym yn poeni mewn gwirionedd am fynd i'r afael â'r broblem o or-yfed, sydd, gyda llaw, wedi’i diffinio fel arfer fel yfed tri pheint y dydd—mae hynny'n or-yfed mewn pyliau eithaf diflas yn fy marn i—ond os ydym ni wir â diddordeb mewn cyflwyno mesurau sy'n debygol o fod yn effeithiol o ran lleihau’r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr problemus, yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw cysylltu trethi â chryfder diodydd alcoholig. Dyma’r broblem fawr sydd gennym ni heddiw: pobl yn yfed cyn mynd allan trwy brynu diodydd mewn archfarchnadoedd sydd â chynnwys alcohol uwch nag y byddai’r yfwr cyfartalog yn ei yfed mewn tafarn. Ond mae isafbris uned yn fesur rhy eang i effeithio ar hynny, oherwydd ni fydd yn mynd at ffynhonnell y broblem. Felly, mae'n offeryn di-awch iawn, iawn yn wir.

Er bod yna rannau sylweddol o'r rhaglen ddeddfwriaethol sydd ger ein bron ni heddiw y byddwn ni yn eu cefnogi, byddwn yn rhoi gwrthwynebiad cryf i rai o'r mesurau pan nad ydym yn credu eu bod er budd y cyhoedd. Ond rydym yn dymuno’n dda i’r Llywodraeth yn y flwyddyn sydd i ddod a byddwn yn gwneud ein gorau i wneud pa bynnag ddeddfwriaeth sy’n cael ei rhoi ger ein bron yn y Cynulliad hwn mor ymarferol â phosibl i'r graddau y mae'n ddymunol ei chael o gwbl.

Rwy’n awyddus i roi sylw ar un neu ddau o agweddau, er yn wahanol iawn, a amlinellir yn y datganiad deddfwriaethol heddiw. Yn gyntaf, o ran gofal plant, rwy’n croesawu'r cynnydd sydd wedi ei wneud gyda'r cynlluniau peilot a amlinellir ar y cynnig gofal plant, ac mae ei gynnwys ar gyfer deddfwriaeth wedi ei amlinellu heddiw. Fel i lawer o bobl, mae hon yn broblem fawr i lawer o fy etholwyr ac yn rhywbeth sydd wedi'i godi gyda mi dro ar ôl tro mewn sgwrs, mewn gohebiaeth, cyn yr etholiad ac yn y flwyddyn ddiwethaf ers imi fod yn Aelod Cynulliad dros Delyn. Er fy mod yn cydnabod ei bod yn hanfodol bwysig bod y cynnig gofal plant yn hyblyg a bod y ddarpariaeth yn diwallu gwahanol anghenion rhieni sy'n gweithio, rwyf hefyd yn ymwybodol iawn, i lawer o rieni sy'n gweithio yn fy etholaeth, na all y cynnig gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn y DU a’r ddeddfwriaeth a allai newid bywydau ddod yn ddigon buan. Felly, yn gyntaf oll, a gaf i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar hyn cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl fel nad yw pobl ar draws fy etholaeth ac ar draws y wlad yn colli allan ar y cymorth hanfodol hwn a’r addewid etholiadol allweddol hwn?

Yn ail, ar y cynigion i gyflwyno isafswm pris ar gyfer cyfraith alcohol yng Nghymru er mwyn ymdrin â'r heriau o gwmpas lefelau niweidiol o yfed, o ganlyniad i argaeledd alcohol rhad a chryf, mae hwn i’w groesawu ac yn gyfiawn, ond byddwn hefyd yn gofyn a allai Llywodraeth Cymru ystyried cymryd y cyfle hwn i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu tafarndai traddodiadol mewn cymunedau ar draws y wlad. Mae llawer o dafarndai mewn cymunedau wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac, er bod tafarndai yn parhau i fod yn ganolbwynt ac yn galon i lawer o gymunedau, â llawer ohonynt erbyn hyn hefyd yn swyddfa bost neu’n siop y pentref, ar hyn o bryd ychydig iawn sydd gan gymunedau yn eu harfogaeth i ddiogelu eu tafarndai lleol rhag cau, sy'n golygu, yn ôl CAMRA, bod dwy dafarn yn dal i gau bob wythnos yma yng Nghymru. Yn ddiweddar, deuthum yn aelod o CAMRA fy hun, yr wyf yn sicrhau fy nghydweithwyr ei fod yn gam cwbl anhunanol i gefnogi diwydiant a busnesau yn fy etholaeth i, sef Delyn. Ond, o ddifrif, rwy'n credu y gallai rhywbeth tebyg i gynllun asedau o werth cymunedol wneud gwahaniaeth pan ddaw i ddiogelu ein tafarndai rhag mwy o gau yn y dyfodol, a hefyd gallai dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer tafarndai roi grym i’r gymuned, gan roi llais uniongyrchol i bobl cyn i dafarn gael ei dymchwel neu ei haddasu. Felly, i orffen, Brif Weinidog, a gaf i annog, yn rhan o unrhyw raglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol, y dylid cymryd camau i gefnogi'r diwydiant tafarndai yng Nghymru yn y dyfodol, a'r camau sy'n caniatáu i'n cymunedau gael mwy o lais?

Yn gyffredinol, rwy’n croesawu y datganiad deddfwriaethol heddiw. Fel mae Leanne Wood eisoes wedi’i amlinellu, mae’r rhan fwyaf ohono fe’n deillio o syniadau Plaid Cymru yn y lle cyntaf, felly wrth gwrs ein bod ni’n croesawu hynny. Mae’n ddiddorol nodi ei bod hi’n ddengmlwyddiant sefydlu llywodraeth ar y cyd Cymru’n Un, lle'r oedd lot o’r syniadau yma wedi deillio ohono fe ac wedi cael eu trafod o hynny ymlaen, gan gynnwys y symudiad tuag at ddiddymu’r amddiffyniad o gosb resymol. Rwy’n gobeithio yn fawr iawn ein bod ni’n gweld hynny yn cael ei sicrhau yn y Cynulliad hwn o’r diwedd. Wedi dweud hynny, mae’r datganiad yn un tenau iawn ac yn ddiddychymyg.

Mae’n bosib, i fod yn deg i’r Llywodraeth, a thrio edrych ar bethau o bersbectif y Llywodraeth—mae’n ddigon posib bod hynny’n fwriadol, gan eu bod nhw’n ystyried bod angen deddfu, ar frys, o bosib, ynglŷn â Brexit, ynglŷn â rai o’r pethau sy’n deillio o San Steffan, ac ynglŷn â’r syniad sydd gyda ni fel Plaid Cymru o Fil parhad ym maes amaethyddol ac amgylcheddol. Felly, wrth ymateb ar ôl ei ddatganiad a’r drafodaeth, byddwn i’n hoffi clywed gan y Prif Weinidog os oes gyda fe le yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y posibiliadau hyn—nid yn unig y Bil parhad, ond hefyd yr hyn sy’n debyg o ddeillio o’r tua 2,000 o leiaf o ddarnau o ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n mynd i gael eu trafod yn awr yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn San Steffan.

Wrth droi at rai o’r pethau eraill sydd yn y datganiad, hoffwn i wybod bach mwy ynglŷn â’r bwriad sydd gyda fe ym maes llywodraeth leol. Mae’n amlwg bod gyda ni ddiddordeb fan hyn am gadarnhad ein bod ni’n estyn y bleidlais i bobl ifanc yn 16 ac 17 ar gyfer llywodraeth leol, a byddai cadarnhad o hynny yn beth da i’w glywed.

Mae’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud yn y gorffennol ei fod e am estyn dewis STV—y bleidlais gyfranogol—i awdurdodau lleol. Rydw i’n meddwl bod hynny’n colli cyfle, a bod angen i rywbeth sydd mor bwysig â’r STV gael ei estyn i bob awdurdod, ac felly byddwn i’n licio clywed ym mha ffordd mae’r Llywodraeth yn mynd i weithio gyda’r mwyafrif, rydw i’n meddwl, sydd yn y Senedd hon erbyn hyn o blaid STV ym maes llywodraeth leol i sicrhau bod deddfwriaeth y Bil arbennig yma yn adlewyrchu nid yn unig barn y Blaid Lafur, ond barn y mwyafrif yn y Senedd hon.

Rydw i hefyd yn gofidio bod cymaint o oedi gyda gofal plant. Rydw i’n derbyn bod angen deddfu ar gyfer gwneud unrhyw beth ynglŷn â rhannu data—mae angen seilwaith statudol derbyniol i hynny—ond mae yna bethau gall y Llywodraeth eu gwneud yn awr yn llawer fwy cyflym yn y maes gofal plant ynglŷn ag estyn yr hawliau hynny a’r gallu yna i lawer mwy o rieni, a mamau ifanc yn arbennig. Byddwn i’n licio clywed nad oes yn rhaid aros am ddeddfu ynglŷn â data er mwyn sicrhau bod cynnig gofal plant boddhaol i bob un teulu yng Nghymru.

Mae yna sawl peth sydd ar goll hefyd o’r rhaglen ddeddfwriaeth yma. Mae ambell i beth yn edrych ymlaen—dyma rhaglen ddeddfwriaethol am flwyddyn, ac mae ambell i beth yn edrych ymlaen, er enghraifft, ynglŷn â diddymu’r amddiffyniad cosb, ynglŷn, o bosib, â Brexit. A gaf i awgrymu tri pheth y byddwn i’n licio gweld y Llywodraeth yn eu gwneud yn ystod, os nad y flwyddyn nesaf, yn sicr yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan baratoi yn ystod y flwyddyn ddeddfwriaethol hon? Yn gyntaf oll, gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru. Mae pwerau yn dod i ni yn gynnar y flwyddyn nesaf, lle byddem ni fel Senedd yn gallu gwahardd ffracio. Hoffwn i weld y Llywodraeth yn cynnig sut rŷm ni’n gwneud hynny. Yn ail, cynllun dychwelyd blaendal: y posibiliad o wneud yn siŵr bod poteli, yn enwedig poteli plastig a phob math o blastig sydd yn anodd ei ailgylchu, ac sy’n mynd yn wastraff ac yn bennu ar ein traethau ni, ac yn ein moroedd ni, a thu fewn i’n bywyd gwyllt ni—bod hynny yn dwyn cost fel bod modd ad-dalu’r gost yna ac felly lleihau ar y defnydd o’r plastig yma. Mae modd gwneud hynny gyda’r pwerau newydd. Ac, yn olaf, fel sydd wedi cael ei drafod cwpwl o weithiau eisoes heddiw, mynd i’r afael â’r broblem gamblo, ac wrth inni ymafael ag ychydig o bwerau—dim llawer rydw i’n gwybod, ond ychydig o bwerau—ym maes y peiriannau ‘fixed odds’, ein bod ni’n edrych ar bosibiliadau o fynd i’r afael â hynny.

Y pwynt olaf rydw i am ei wneud, a cwestiwn, mewn ffordd, i’r Prif Weinidog: er, wrth gwrs, rŷm ni’n flin iawn, rydw i’n meddwl, ac yn rhannu’r anhapusrwydd nad oedd awdurdod cyfreithiol ar wahân i Gymru yn Neddf fwyaf diweddar Cymru, beth yw’r posibiliadau yn awr ein bod ni yn dal i bwyso am hynny? Rydw i’n cymryd nad yw’r Llywodraeth wedi newid ei barn ynglŷn ag awdurdod cyfreithiol ar wahân, felly hoffwn i wybod beth yw’r camau nesaf y mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud i wireddu hynny.

Hoffwn longyfarch y Llywodraeth ar ei chynlluniau a nodir yma yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Croesawaf yn arbennig y cynnydd yr ydym yn mynd i’w wneud ar y 30 awr yr wythnos o gynnig gofal plant am ddim, gan fy mod yn meddwl y bydd o bwysigrwydd mawr i rieni, ac rwy’n meddwl bod hwn yn addewid uchelgeisiol iawn, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei weithio allan yn y ffordd sydd fwyaf buddiol i rieni. Oherwydd, yn amlwg, bydd yn rhoi cyfle i rieni weithio, ond bydd hefyd yn dda ar gyfer y plant.

Felly, croesawaf y ffaith ein bod yn cael cynlluniau peilot a'n bod yn ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o wneud hynny, oherwydd yn sicr rwyf i wedi cael llawer o etholwyr yn dod ataf yn esbonio rhai o'r anawsterau o gysylltu’r cyfnod sylfaen â gofalwyr plant a system gofal plant arall, ac rwy’n gobeithio, drwy fynd o’i chwmpas yn y ffordd hon o gael cynlluniau peilot, dyna fydd y ffordd orau o fynd i'r afael â hi. Ond nid wyf yn meddwl y dylen ni fychanu’r mater hwn. Dyma’r cynnig gorau yn y DU a bydd yn gwbl drawsffurfiol, felly rwyf yn credu bod hwn yn gynllun uchelgeisiol iawn, ac rwy’n ei gymeradwyo.

Rwyf hefyd yn croesawu'r camau ar osod isafbris ar alcohol a ffioedd asiantaethau gosod tai i denantiaid yn y sector rhentu preifat. Roeddwn yn synnu nad oedd y Ceidwadwyr yn gweld bod hwn yn fater o bwysigrwydd mawr, oherwydd, mewn gwirionedd, mae tai yn fater mor hanfodol, ac, os oes yn rhaid i chi dalu cymaint o arian ymlaen llaw i fynd i mewn i lety rhent preifat, mae hynny'n sefyllfa real, ddifrifol. Onid dyna’n union yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud fel mater o flaenoriaeth. Felly, rwy’n croesawu hynny, hefyd, ac yn sicr yn croesawu'r ffordd gydsyniol yr ydym yn symud ymlaen ar lywodraeth leol.

Felly, credaf fod y materion hyn sy’n cael eu cynnig yn faterion go iawn sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru o ddydd i ddydd, ac maent yn cynnig cymorth ymarferol i bobl yn y ffordd y maent yn byw. Credaf mai un o'r rhesymau pam y mae Llafur Cymru yn parhau i gael ei chanlyniadau cadarnhaol yn ei hetholiadau, yw oherwydd bod y materion hyn yn faterion sy'n bwysig iawn i bobl yng Nghymru.

Hoffwn hefyd groesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar y gyfraith ynglŷn â chosbi plant yn gorfforol, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at weld bob plentyn yng Nghymru yn derbyn amddiffyniad cyfartal rhag cosb gorfforol yn yr un modd ag y mae oedolion wedi’u diogelu yn hynny o beth. Tybed, yn ei ymateb terfynol, a allai’r Prif Weinidog roi rhyw amserlen bosibl ar gyfer yr ymgynghoriad yn ystod y flwyddyn nesaf, a rhoi gwybod ar ba ffurf y byddai’r ymgynghoriad hwnnw. Gwnaethom drafod y mater hwn ar sawl achlysur yn ystod y Cynulliad blaenorol, ond nid wyf yn credu ein bod mewn gwirionedd wedi cael dadl sylweddol yn y Cynulliad hwn, ac rwy’n meddwl ei fod yn werth ailadrodd y ffaith, bod 52 o wledydd, at ei gilydd, wedi cyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd pob cosb gorfforol ar blant—sy'n cynnwys yn y cartref—a Sweden oedd y cyntaf, bron i 38 mlynedd yn ôl.

Ymhlith y diweddaraf y mae Gweriniaeth Iwerddon, a wnaeth ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol ym mis Rhagfyr 2015, a chafwyd datganiad gan Lywodraeth Canada yn nodi ei bod yn bwriadu gwahardd pob cosb gorfforol ar blant hefyd ym mis Rhagfyr 2015, ac, ym mis Mawrth eleni, mae Zimbabwe wedi gwahardd cosb gorfforol ar blant gan rieni ac athrawon. Mae Bil Aelod preifat hefyd yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn Senedd yr Alban, a dywedodd comisiynydd plant yr Alban sy'n ymadael, Tam Baillie, ym mis Mai eleni mai’r hyn yr oedd yn ei ddifaru fwyaf am ei gyfnod wyth mlynedd yn y swydd oedd iddo beidio â diddymu’r amddiffyniad o ymosodiad rhesymol, fel y caiff ei alw yn yr Alban. Dywedodd wrth y papur newydd Herald Scotland ym mis Ebrill bod y DU yn un o ddim ond pum gwlad Ewropeaidd nad ydynt yn diogelu plant yn llawn rhag cosb gorfforol. Dywedodd fod hyd yn oed plant sy'n byw yn Zimbabwe yn cael eu diogelu'n well na'r rhai yn yr Alban. Ym mis Mai, siaradodd pedwar comisiynydd plant y DU â phwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn y Swistir a galw am i’r gyfraith gael ei newid i amddiffyn plant a phobl ifanc yma.

Felly, mae barn y cyhoedd yn newid. Yng Ngogledd Iwerddon, mae arolygon wedi dangos bod barn am gosb gorfforol yn newid, gyda'r rhan fwyaf o bobl yng Ngogledd Iwerddon bellach yn cefnogi rhoi diogelwch cyfreithiol i blant rhag taro, smacio ac ymosodiad. Felly, i gloi, rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at y cyfnod ymgynghori ac rwy’n teimlo bod hwn yn symudiad blaengar, uchelgeisiol gan Lywodraeth uchelgeisiol.

Cyn i mi ymateb i'r rhaglen ddeddfwriaethol go iawn, a gaf i godi un pwynt a wnaeth Simon Thomas am y mater o blastig a phlastigau yn yr amgylchedd morol, hefyd? Er nad yw'n ymddangos yma, rwy’n amau ​​bod hwn yn rhywbeth y bydd angen i ni ddychwelyd ato, ac efallai y gwnaf awgrymu ar ddiwedd fy nghwestiwn byr i'r Prif Weinidog ymhle y gellid gwneud hynny mewn gwirionedd hefyd. Ond ni fyddwn yn poeni’n ormodol am yr honiadau o déjà vu neu ailadrodd ein hunain neu beth bynnag. Dyma’r un hen stori: rydych yn dweud wrth bobl beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud, rydych yn ei wneud, ac yna rydych yn dweud wrthynt wedyn eich bod chi wedi gwneud hynny iddyn nhw. Gwnaethom gynhyrchu maniffesto. Rydym yn bwrw ymlaen â'r maniffesto. Byddwn yn ei gyflwyno, a bydd pobl yn diolch i ni am wneud hynny hefyd, ac un o’r pethau pwysicaf, mae’n rhaid i mi ddweud, yw datblygu cynigion sydd yn y rhaglen ddeddfwriaethol hon ar ofal plant. Dyma, fel y mae Julie Morgan ac eraill wedi dweud, yw’r pecyn gofal plant mwyaf uchelgeisiol, a bydd unrhyw beth, yn arbennig y cynigion sydd yma, sy’n ei gwneud yn haws i bobl o ran cofrestru, ac yn gliriach o ran y cofrestru hefyd, yn cael croeso, yn ogystal, mae’n rhaid i mi ddweud, â'r mesurau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Nid ydym yn mynd i orfod aros tan 2020 ar gyfer hyn. Bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol. Felly, bydd manteision bob blwyddyn wrth inni symud ymlaen. Rwy’n croesawu hynny.

Ar isafbris uned ar gyfer alcohol, ydi, mae hwn yn fater anodd, ydi mae'n fater dadleuol, ond mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn union y math o bolisi blaengar y dylai'r Cynulliad hwn fod yn edrych arno. Ac nid yw’n ymwneud â gwneud alcohol yn rhy ddrud i bobl. Ni allwn fod yn biwritanaidd ynglŷn â hyn, ac yn sicr, ni allaf i fod yn biwritanaidd ynglŷn â hyn. Dydw i ddim yn mynd i wisgo llodrau pen-glin a het ddu uchel a dweud 'Rwyf nawr yn ymuno â'r mudiad dirwest’—er mae’n rhaid i mi ddweud bod fy hen gangen o’r Blaid Lafur yn arfer cyfarfod yn Neuadd y Rechabiaid yn Nhre-gŵyr, un o ragflaenwyr y mudiad dirwest. Nid oeddent i gyd yn bobl dirwest eu hunain, mae’n rhaid i mi ddweud, ymhlith y bobl Blaid Lafur hynny. Ond dyma’r peth iawn i'w wneud, oherwydd, unwaith eto, mae'n rhan o ddangos beth yw defnydd cyfrifol o alcohol. Dyw hi ddim yn dweud wrth bobl 'Peidiwch ag yfed, peidiwch â chael diod, a pheidiwch â dathlu'. Nid dyna beth yw hi, ond yn hytrach mae'n ymwneud â rheoli alcohol yn rhan o ffordd o fyw, gan nad yw’n ymwneud â’r unigolyn yn unig. Mae’n ymwneud hefyd, mae’n rhaid i mi ddweud wrth Neil ac eraill, ag effeithiau hyn nid yn unig ar iechyd unigolion ond ar y costau i'r GIG hefyd. Ac rwy’n gwybod y bydd yn cydnabod hynny. Dyw hi ddim yn fater o un, dau neu dri pheint y dydd; ond mae’n fater o pan fod hynny’n rhywbeth sy’n digwydd yn rheolaidd, ac mae hynny’n ychwanegu at faterion marwolaeth ac yn y blaen. Rwy’n gweld hynny yn fy etholaeth i.

Rwy'n croesawu'n fawr y ddeddfwriaeth ar fwy o gydweithredu ac effeithlonrwydd mewn llywodraeth leol. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet sy’n eistedd ar ochr chwith y Prif Weinidog, ac mae'n cydweddu â llif a’r ffordd o feddwl am lywodraeth leol yng Nghymru yn awr, sef sbarduno mwy o effeithlonrwydd a sbarduno mwy o gydweithio. Ond mae rhoi’r hwb yna iddo, rhoi’r sbardun hwnnw iddo, rwy’n meddwl bod hynny i'w groesawu, ac y bydd yn cael ei groesawu gan y grymoedd blaengar hynny o fewn llywodraeth leol yng Nghymru hefyd.

Croesawaf y ffaith bod y Prif Weinidog yn y datganiad yn talu sylw i'r Bil parhad. Ni fyddaf yn mynd i fanylion pwy wnaeth ei grybwyll yn gyntaf ac yn y blaen ac yn y blaen, ond rwy’n deall pam nad yw'n cael ei baratoi fel Bil ynddo'i hun. Ond rwy’n croesawu'r ffaith ei fod wedi ei grybwyll, oherwydd credaf y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon yn gobeithio na fyddai'n rhaid paratoi Bil parhad ac na fyddai'n rhaid ei ddefnyddio. Ond, fel rhywbeth wrth gefn, mae’n rhaid i mi ddweud—fel ffon fawr sy'n cael ei chario y tu ôl i'ch cefn—credaf fod angen iddo fod yn gwbl glir i Lywodraeth y DU pe baent yn mynd yn rhy bell yma, a’n bod yn gweld difrod i'r setliad datganoli oherwydd diffyg parch, anwybodaeth, neu beth bynnag, yna rwy’n credu bod angen i ni gael y bwriad hwnnw o fewn y Llywodraeth ac o fewn y gwasanaeth sifil.

Ond y peth yr hoffwn ei weld yn cael ei ddwyn ymlaen—ac mae'n gais cynnar, os mynnwch chi, ac mae'n dod yn ôl at y mater hwn o gwmpas y plastigau—. Yr wythnos diwethaf, dechreuodd ymgynghoriad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Yr enw arno yw 'Symud Cymru ymlaen’ rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy '. Rydym wedi dangos arweinyddiaeth o'r fath yng Nghymru ar yr amgylchedd naturiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig mewn deddfwriaeth, ond mewn polisi arloesol hefyd. Mae’r ymgynghoriad hwnnw yn delio â materion fel mynediad at yr awyr agored. Nid oes dim yn fwy gwleidyddol na mynediad at yr awyr agored. Cymryd cam o flaen ein gilydd yn awyr agored cefn gwlad yw'r weithred fwyaf gwleidyddol erioed, byth ers tresmasu Kinder Scout. Mae hwnnw yn ddarn diddorol o waith, ac rwy’n credu, ​​os byddwn yn ei ddwyn yn ei flaen, y bydd angen slot deddfwriaethol ar ryw adeg, pa bynnag ffurf y bydd yn ei chymryd.

Mae pethau yno hefyd sy’n ymwneud â thynnu dŵr—mater hollbwysig, fel y gwyddom—a draenio, a gwastraff mewn polisi amgylcheddol. Ond fy hoff rai i, yn bennaf oll, yw cosbau dan adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990—y gallu i fynd i'r afael â gweithredwyr ffug nad ydynt yn trin gwastraff y ffordd y dylent, sy'n ei ddympio yn anghyfreithlon, nad ydynt yn gofalu amdano, a lle maent yn ei ddympio, ac yn y blaen ac yn y blaen. Y gallu ydyw i gamu i mewn fel Llywodraeth ac i roi grym i'r Ddeddf honno a dweud 'Rydym yn mynd i osod cloeon clap, rydym yn mynd i’ch atal rhag gwneud hynny.' Felly, fy nghais i fyddai, os cawn ni’r cyfle yn y dyfodol agos, ynghyd â'r ddeddfwriaeth ar blastigau, a ellid o bosibl ei phlethu i mewn i'r ymgynghoriad rywsut—gadewch i ni edrych am y slot ar gyfer hynny yn y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol.

Cytunaf yn llwyr â'r ddau siaradwr blaenorol ar lawer o'r materion hyn. Hoffwn atgoffa Neil Hamilton, er nad ydym yn dyheu am gael lefelau Pwyleg, Rwsieg neu Ffinneg o yfed alcohol, rydym ni ymhlith y rhai sy’n yfed y lefelau uchaf o alcohol yn Ewrop. A byddwn yn ei wahodd i ddod i ganol dinas Caerdydd ar unrhyw nos Sadwrn, a bydd yn gweld canlyniadau’r bobl ifanc sy'n yfed lefelau gormodol o alcohol rhad, sef yr hyn y mae isafbris uned wedi ei gynllunio i gyfyngu arno. Oherwydd mae llawer iawn o waith ymchwil sy'n dangos mai drwy osod isafbris yr ydych yn atal y rhai sy'n lleiaf abl i ymdrin â chanlyniadau alcohol—. Mae gormod o bobl ifanc yng nghanol y ddinas yn yfed cymaint o alcohol rhad fel nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad o gwbl ble yn y byd y maent, neu’r canlyniadau, neu'r risg i'w diogelwch. Felly, rwy’n llwyr gefnogi deddfwriaeth y Llywodraeth yn hyn o beth, a chroesawaf y ffaith ein bod yn ei chyflwyno yn awr.

Roeddwn yn synnu i glywed Leanne Wood yn mynegi agwedd ‘gwydr hanner gwag’ tuag at bopeth, bron, yn y datganiad deddfwriaethol, o ystyried yr ymgynghorwyd â hi ar yr hyn a oedd ynddo o flaen llaw mae’n siwr. Ac, fel y dylai wybod, nid yw gofal plant yn ymwneud â chadw plant mewn warws; mae'n ymwneud â datblygu gofal plant ac addysg gynnar o ansawdd, ac mae hynny’n cymryd amser, i sicrhau bod gennym y bobl gywir yn y cyfleusterau cywir, er budd plant.

Beth bynnag—. Yn amlwg, rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd ffioedd asiantaethau gosod tai, oherwydd ei fod yn berffaith amlwg i mi fod—. Roeddwn yn synnu o glywed Andrew R.T. Davies yn awgrymu bod hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Lloegr yn manteisio arno, gan fy mod eto i weld p’un a yw Llywodraeth gloff y DU yn mynd i allu cyflwyno deddfwriaeth o'r fath. Ond beth bynnag, rwyf wrth fy modd ein bod yn bwrw ymlaen ar hynny, gan ei fod yn achosi llawer iawn o niwed i lawer o fy etholwyr—yr asiantaethau gosod tai sy'n codi symiau gwarthus yn aml am newid tri gair mewn contract.

Ond roeddwn hefyd eisiau codi un mater arall, sef: rydym yn sôn am dryloywder y broses o wneud penderfyniadau, ac rwy’n cytuno bod hynny yn gwbl hanfodol. Ond, yng ngoleuni annigonolrwydd y rheoliadau adeiladu anweithredol ar hyn o bryd, a ddaeth i’r amlwg yn sgil y tân brawychus yn Grenfell Tower, nid yw ond yn ymwneud â chaniatáu i gontractwyr osod ffaglau tân ar ochr adeiladau uchel, sydd i fod i wella eu heffeithlonrwydd ynni. Mae'n rhaid i ni, yn fy marn i, ddod o hyd i amser i ddeddfu ar gyfer adolygiad cyffredinol o'r rheoliadau adeiladu, er mwyn atal datblygwyr rhag galw gwaith adeiladu gwael fel hyn yn ddatblygu moethus. Ac mae enghreifftiau di-rif o hynny yn fy etholaeth i, a thrwy ganol Caerdydd.

Mae'n rhaid i ni adfer pwerau rheoleiddio annibynnol awdurdodau lleol i fynnu bod eu harolygwyr adeiladu annibynnol yn cymeradwyo adeiladau newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio, cyn bod y gwaith yn cael ei orchuddio â phlastr. Gan ei bod yn amhosibl gweld beth sydd wedi digwydd y tu ôl iddo, unwaith y bydd y plastr wedi'i selio. Mae'n rhaid i ni roi terfyn ar adeiladau sâl yn cael eu creu er mwyn elw, a sicrhau bod yr adeiladau yr ydym yn eu creu gyda'n hadnoddau cyfyngedig yn addas ar gyfer y dyfodol, ac nid yn unig ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau siarad yn benodol am yr isafbris uned ar gyfer alcohol. Efallai y bydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod yn gyn-drwyddedai, ac rwyf wedi gweld pobl sydd wedi credu, yn aml iawn, eu bod nhw yn cadw’r hyn yr oeddent yn ei yfed dan reolaeth. Wedi'r cyfan, doedden nhw ond yn dod i mewn am un, efallai dau, beint yn rheolaidd, ar ôl gwaith. Ond, yr wythnos wedyn, efallai y byddent yn cael tri pheint, ac felly yr aeth ymlaen. Hyd yn oed os oeddent ond yn cael dau beint bob dydd—ac roedd hynny’n beth cyffredin iawn—daeth yn arferiad. A dyna'r broblem gydag alcoholiaeth. Mae'n dod yn arferiad, ac mae'n dod yn angen, ac mae'n dod yn ddibyniaeth, ac mae'n datblygu ac yn casglu momentwm o fewn yr unigolyn.

Rwyf wedi gweld dynion a menywod yn cael eu dinistrio yn llwyr gan ddibyniaeth ar alcohol. Roeddent yn byw bywydau ffrwythlon iawn cyn i’r ddibyniaeth dyfu. Mae'n ddibyniaeth go iawn, mae'n rheoli’r unigolyn, ond mae eu teulu yn talu’r pris hefyd, ac rwyf hefyd wedi gweld canlyniad hynny. Felly, afraid dweud, byddaf yn cefnogi'r isafbris uned ar gyfer alcohol, oherwydd nid oes amheuaeth—. Rwy’n cytuno â'r siaradwr blaenorol pan ddywedodd fod unigolion yn mynd i'r archfarchnad, maent yn prynu alcohol mor rhad ag y gallant, maent yn ei dywallt i lawr eu gyddfau—a dyna'r unig ffordd i'w ddisgrifio—cyn iddynt hyd yn oed fynd allan ar y stryd. Mae hefyd yn dinistrio tafarndai, ac o fewn y sector tafarndai roedd y rhan fwyaf o'r yfed yn cael ei reoli mewn gwirionedd, ac roedd pobl yn cael eu cyfyngu yn yr hyn yr oeddent yn ei yfed gan normau cymdeithas, yn y rhan fwyaf o achosion. Rwy’n meddwl bod problemau enfawr, enfawr gydag archfarchnadoedd yn gwerthu diod. Rydych chi’n gweld cynigion drwy'r amser. Does dim ond rhaid i chi gerdded trwy'r drws a gallwch brynu 20 neu 30 can o beth bynnag ydyw am £10 neu £20. Mae hynny'n ffordd wirioneddol beryglus i fod yn gwerthu cynnyrch a all achosi cymaint o boen. Felly, rwy’n llwyr gefnogi hynny.

Mae’n rhaid inni gofio hefyd, pan fyddwn yn sôn am ddibyniaeth ar alcohol, ei bod yn costio llawer iawn o arian i fusnes am y diwrnodau gwaith a gollir bob un flwyddyn; ei bod yn costio eu cartref, yn aml iawn, i deuluoedd; a chymdeithas yn y modd a ddisgrifiwyd gan Jenny Rathbone nawr. Ond mae hefyd yn costio arian i’n GIG bob un penwythnos o bob un flwyddyn, ac mae'n costio staff yn aml iawn, sy'n cael eu heffeithio gan yr unigolion hynny sy'n dod i mewn gyda’u hymddygiad anwaraidd tuag at y staff. Felly, byddaf i yn sicr, fel y gallwch ddweud, yn cefnogi isafbris uned ar gyfer alcohol. Rwyf wir yn meddwl ei fod yn flaengar, ac rwy’n canmol y Llywodraeth am ei roi yn eu rhaglen.

A gaf i ddiolch i'r Aelodau, Dirprwy Lywydd, am y sylwadau y maent wedi'u gwneud? Pe gallwn ddechrau gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ysgrifennais i yma mewn ymateb i'w sylwadau cyntaf, 'Beth sydd arno ei eisiau?'. Fe aeth yn ei flaen i ddweud beth oedd arno ei eisiau: Bil lleoliaeth a dinasyddiaeth, Bil diogelwch economaidd a Bil hawliau pobl. Does gen i ddim syniad beth y maent yn ei olygu, ond, serch hynny, rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny'n glir yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Un o'r pethau, wrth gwrs, y bydd yn rhaid inni sylweddoli yw y bydd Brexit yn dominyddu. Mae nifer o siaradwyr wedi gwneud y pwynt hwn. Bydd yn rhaid inni wneud lle ar gyfer deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit—llawer iawn o le, yn ogystal, rwy’n amau, yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ac, yn wir, y tu hwnt i hynny. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen ei ystyried yng ngoleuni datganiad deddfwriaethol y flwyddyn nesaf.

Mae'n gwneud y pwynt am yr asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'n iawn i ddweud bod pryderon wedi'u codi ynghylch cadernid yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae adolygiad o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi digwydd, a bydd yna fersiwn ddiwygiedig yn yr hydref. Gwelwyd, wrth gwrs, bod craffu ar hynny wedi cyflwyno materion i’r Llywodraeth y mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â nhw, ac mae hynny'n iawn, yn rhan o'r broses graffu.

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'r Bil wedi’i gefnogi yn eang, a, gobeithio, pan fydd yn cyrraedd y llyfr statud, y bydd yn cyflawni'r nodau a nodir. Ond mae bod mor anghywir ar elfennau cyllidol y Bil yn peri pryder mawr o ystyried yr holl waith sydd wedi ei wneud, fel y cyfeiriais at—adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y mater hwn. Mae'n un peth sy'n dod o asiantaethau a sefydliadau partner: pan fydd deddfwriaeth yn cael ei phasio yn y lle hwn, nid yw adnoddau yn dilyn y ddeddfwriaeth. Felly, a wnewch chi ymhelaethu ar pam yr oedd anghysondeb o'r fath rhwng yr amcangyfrif gwreiddiol a'r canlyniad terfynol sydd wedi ei roi i'r Pwyllgor Cyllid?

Wel, rydym wedi gwneud newidiadau i'r ffordd y mae Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn cael eu datblygu a'u cyflwyno. Mae canllawiau diwygiedig wedi eu llunio sy'n pennu diffinio cliriach ac ymagwedd fesul cam at ddatblygiad yr Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, ac mae'n darparu ar gyfer cyhoeddi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol drafft yn rhan o'r ymgynghoriad polisi er mwyn i bobl gael gwell golwg ar yr Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, a hynny ar gam cynharach.

Dydw i ddim yn synnu nad yw'n cefnogi Bil yr undebau llafur. Mae angen pasio hwnnw cyn, wrth gwrs, y bydd y cymwyseddau yn newid, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w wneud.

Mae’r hawl i brynu yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddwn yn ei drafod yn ystod y flwyddyn nesaf. O safbwynt y Llywodraeth, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i adeiladu tai, ac ar yr un pryd, eu gwerthu—mewn geiriau eraill, llenwi'r bath pan fydd y plwg allan.

Ar y cynnig gofal plant, sydd wedi ei godi, wel, fel y dywedais yn gynharach, mae'r cynlluniau peilot yn dechrau ym mis Medi. Bydd yn cael ei gyflwyno wedyn. Mae'n iawn fod hyn yn cael ei wneud yn briodol. ‘Ei gael yn iawn a pheidio â gwneud llanast’ yw'r ymadrodd yr wyf bob amser yn ei ddefnyddio, ac felly mae’r pethau hyn yn cymryd ychydig o amser er mwyn eu cael yn hollol iawn.

Ar y Bil llywodraeth leol, amcan y Bil, yn syml iawn, yw cael awdurdodau lleol gwell a mwy cynaliadwy. Fe fydd gweithio gorfodol yn rhan o'r Bil hwnnw. Nid bwriad y Bil yw gorfodi uno'r awdurdodau lleol, er y bydd y dewis hwnnw ar gael iddynt. Mae'n iawn i ddweud y gorfodir gweithio trawsffiniol er mwyn cael gwell darpariaeth mewn awdurdodau lleol.

Ceir mater y Bil isafbris yr uned o ran alcohol. Mae materion trawsffiniol yn broblem bob amser. Maent yn broblem rhwng yr Alban a Lloegr. Maent yn broblem, o ran hynny, rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth. Mae’n rhaid iddynt gael eu rheoli—mae hynny’n wir—ond nid yw hynny'n rheswm dros beidio â gwneud rhywbeth.

O ran yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru—‘llên-ladrad hunanfodlon', rwy’n meddwl, oedd y disgrifiad y gallai hi fod wedi ei olygu. Nid ydym yn derbyn hynny o gwbl. Mae popeth yr ydym yn ei gynhyrchu wedi’i gynnwys yn ein maniffesto—y maniffesto y cawsom ein hethol arno. Mae hi'n codi cosb resymol; wel, nid oedd mandad yn y Cynulliad diwethaf i ni fwrw ymlaen gyda chosb resymol—mae yna erbyn hyn. Mae yna erbyn hyn. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei ddatblygu, fel yr wyf wedi ei ddweud, ac wrth ateb fy nghydweithiwr Julie Morgan: ymgynghoriad dros y 12 mis nesaf a’r Bil wedi’i gyflwyno yn nhrydedd flwyddyn y Cynulliad. Dyna'r amserlen yr ydym yn sôn amdani yma.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud mai syniad ei phlaid hi yw’r gronfa triniaethau newydd—nid yw hynny’n wir. Os cofiaf yn iawn, cronfa cyffuriau canser oedd ei phlaid hi’n awyddus i’w chefnogi, tuag at ddiwedd y Cynulliad diwethaf. Mae'r gronfa triniaethau newydd yn wahanol. Ac ar gontractau dim oriau, fel y mae hi yn gwybod, mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi ceisio mynd i’r afael ag ef, a gyda’r pwerau newydd, rydym yn gallu gwneud hynny.

O ran Brexit, mae hi’n iawn i ddweud, unwaith eto, y bydd Brexit yn cymryd llawer iawn o ddeddfwriaeth. Nid wyf yn credu bod gan Simon Thomas, gyda phob parch, y bel grisial fwyaf pan ddywedodd, y llynedd, y byddai hyn yn broblem i daliadau fferm a'r amgylchedd. Roeddem yn gwybod hyn, ac mae e'n iawn. Mae e'n dal i fod yn iawn, ond nid wyf yn mynd i roi clod iddo am ddoniau rhagweld y dyfodol helaeth yn yr amgylchiadau hynny. Rhannwyd nifer o'r materion hyn y llynedd, ac wrth gwrs, bydd angen ymdrin â nhw.

Cafodd Bil parhad, mae'n iawn i ddweud, ei godi gyntaf gan Steffan Lewis. Rwyf yn rhoi clod iddo am hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gweithio arno. Dyw hi ddim yn wir nad oes dim wedi digwydd yn y cyfamser, ac rwyf am wneud yn siŵr os a phan fydd angen Bil—gan ddwyn i gof yr hyn a ddywedodd David Davis ddoe, ac nid wyf yn derbyn hynny o reidrwydd ar ei olwg ar y cam hwn—yna byddai Bil o'r fath yn barod i gael ei gyflwyno, os yw hynny'n briodol.

O ran yr hyn a ddywedodd arweinydd UKIP, wel, siaradodd yn helaeth am y Bil isafbris uned alcohol. Gadewch i ni gadw mewn cof bod hwn yn Fil iechyd. Yn gyntaf oll dywedodd ei bod yn dreth atchweliadol, sef yr hyn y mae trethi anuniongyrchol yn tueddu i fod. Mae'n iawn am hynny mewn rhai ffyrdd, ond yna dywedodd, wrth gwrs, po fwyaf y byddwch yn ei ennill y mwyaf y byddwch yn ei yfed, sy'n gwneud iddi swnio fel treth gynyddol, oherwydd ei bod yn seiliedig ar incwm. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho os ydych yn troi'r ddadl o gwmpas, os byddwch yn dweud nad oedd pris rhywbeth yn atal rhywun rhag cymryd rhan ynddo, mae'n debyg i bris sigaréts—mae'n debyg i bris sigaréts. Ydyn, mae pobl yn ymwybodol o effeithiau iechyd sigaréts, ond un o'r rhesymau pam mae llawer o bobl yn lleihau eu lefelau ysmygu neu’n rhoi'r gorau i ysmygu yw oherwydd bod pris sigaréts mor uchel nad ydynt yn dymuno gwario eu harian bellach, ac felly, rydych yn gwybod, gwnaeth hynny weithio, cyn belled ag yr oedd tybaco yn y cwestiwn.

Y peth arall i'w gofio yw, er mai deddfwriaeth iechyd yw hon, a gwnaed y pwynt gan Joyce Watson, un o'r rhesymau pam y mae alcohol wedi dod—. Mwy na thebyg, y prif reswm pam y mae alcohol wedi dod mor rhad—ac fe a wnaeth y pwynt ei hun; mae pobl yn yfed yn y cartref cyn mynd allan, fel y dywedodd—yw bod archfarchnadoedd a chadwyni tafarn yn gallu codi prisiau is na thafarndai traddodiadol, ac o ganlyniad maen nhw wedi dioddef. Gallai un o ganlyniadau anuniongyrchol deddfwriaeth o'r fath yn hawdd fod ei bod yn rhoi’r tafarndai hynny ar sail fwy cyfartal gyda'r archfarchnadoedd ac, wrth gwrs, gyda chadwyni tafarn, sydd wedi gallu codi prisiau is, oherwydd y diffyg isafbris uned, na’r cynnig sy'n cael ei wneud gan dafarnau gwledig, a chan dafarndai cymunedol, ac nid ydyn nhw wedi gallu cystadlu â nhw. Felly, er bod hwn yn fesur iechyd—nid oes amheuaeth am hynny—mae’n bosibl y ceir effaith anuniongyrchol o ran y tafarndai hynny sydd wedi ei chael yn anodd cystadlu.

May I turn, therefore, to what Simon Thomas said? It’s right to say that we have to, of course, leave scope for what will happen after Brexit, and that’s going to impact the time that’ll be available for us in this Assembly to move legislation through.

In terms of ensuring a vote for 16-year-olds in local authorities, we’re in favour of that, and that’s part of the Bill itself. To answer his question about STV and the voting system, well, we have fought in this place to control the system that elects Members to this place. So, this is a devolution Bill to ensure that councils can say what kind of system is relevant to them, and not that we as a Government tell them what system they should use.

He raised several interesting questions after that in terms of fracking—that’s something to be considered next year, perhaps—in terms of a deposit-return scheme and gambling. We will only have few powers, but, of course, we will have to consider in what way we can change that situation. In terms of the legal jurisdiction, it’s right to say that the Welsh Government’s opinion hasn’t changed. Work has been undertaken regarding how we can take this forward, and there will be a statement on this, I would think now, in the autumn, in terms of what the Welsh Government’s plans will be in terms of ensuring that this doesn’t die as a subject or as an issue over the next few months.

Croesawaf y sylwadau a wnaed wedyn gan fy nghydweithwyr Julie Morgan, Huw Irranca-Davies a Jenny Rathbone, a'r croeso a roesant i ddeddfwriaeth. A gaf i gydnabod, wrth gwrs, safiad egwyddorol a'r gwaith y mae'r Aelod dros Ogledd Caerdydd, Julie Morgan, wedi’i wneud ar y mater o gosb resymol? Mae hi wedi cyfarfod â mi sawl gwaith, fel y gwnaeth fy nghyn gydweithiwr Christine Chapman, gan wneud y pwynt yn rymus fod hwn yn rhywbeth y dylem ei ddatblygu. Rwy’n gobeithio ei bod bellach yn gweld bod y sgyrsiau a gawsom wedi cael effaith, os caf ei roi felly, ac erbyn hyn mae amserlen ar waith.

Dim ond i fynd i’r afael â'r mater a gododd Jenny Rathbone, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, ydi, mae hi’n iawn i ddweud efallai y bydd angen edrych ar reoliadau adeiladu yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd gyda Grenfell Tower. Wrth gwrs, maent yn rheoliadau y gellir ymdrin â hwy drwy weithdrefnau is-ddeddfwriaeth yn hytrach na thrwy ddeddfwriaeth sylfaenol, ond mae hi'n gywir i ddweud ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gallu bodloni ein hunain bod y gyfundrefn rheoleiddio adeiladu yn annibynnol ac yn gadarn, ac mae hynny'n rhywbeth, yn sicr, yr wyf i’n gwybod y mae’r Gweinidog yn awyddus iawn i’w archwilio a’i ddatblygu.

Ar y sail honno, fel y dywedais yn gynharach, Dirprwy Lywydd, byddwn yn cymeradwyo'r datganiad i'r Cynulliad.

5. 4. & 5. Datganiad: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol, a Datganiad: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru
6. 6. Datganiad: Cylchffordd Cymru

Gan hynny, symudwn i eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar Gylchdaith Cymru. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:52:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn gwybod, o’m datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, bod y Cabinet wedi cwrdd y bore yma i ystyried penderfyniad ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwarant ariannol i brosiect Cylchdaith Cymru yng Nglyn Ebwy. Rydym wedi bod yn gweithio er mwyn cefnogi datblygiad y prosiect hwn am gyfnod sylweddol o amser, o ran yr agwedd ariannol a'r amser a roddwyd hefyd gan Lywodraeth Cymru i'r rhai oedd y tu cefn i'r prosiect. Rwy'n hyderus fod yr adnoddau yr ydym wedi eu neilltuo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn gwbl gyfiawn o ystyried prosiect mor uchelgeisiol â hwn. Ar yr un pryd, rydym bob amser wedi bod yn eglur iawn fod yn rhaid i unrhyw warantau ariannol a'r risgiau a gymerir gan y sector cyhoeddus fod yn gymesur ac yn deg.

Yn fyr iawn, byddaf yn crynhoi’r digwyddiadau dros y 12 mis diwethaf er budd yr Aelodau. Ym mis Gorffennaf y llynedd dywedais wrth y cwmni y buaswn yn disgwyl gweld y sector preifat yn ariannu o leiaf 50 y cant o'r prosiect ac yn ymgymryd â 50 y cant o risg ariannol y prosiect, a bod y prosiect yn ei gyfanrwydd yn rhoi gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a phwrs y wlad.

Ym mis Chwefror, cyflwynodd y datblygwyr gynnig newydd i Lywodraeth Cymru. Dilynwyd hyn gan gais ffurfiol ym mis Ebrill, yn gofyn am warantu benthyciad o £210 miliwn. Mae diwydrwydd dyladwy helaeth a manwl gan arbenigwyr allanol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos, oherwydd y ffordd y mae'r cytundeb wedi ei strwythuro, y byddai’r cynnig presennol yn gweld Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo mwy na 50 y cant o'r risg.  Mae hynny oherwydd y byddai’r elfen warant o £210 miliwn yn cario risg uwch na rhannau eraill y pecyn ariannol. O ganlyniad, yn dilyn trafodaethau â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thrysorlys Ei Mawrhydi yn ystod y broses diwydrwydd dyladwy, asesir bod risg sylweddol iawn y byddai dyled lawn £373 miliwn prosiect cyfan Cylchdaith Cymru yn cael ei dosbarthu fel gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru.

Dros y tair blynedd nesaf, byddai hyn yn cael yr un effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ag y byddem eisoes wedi gwario'r arian, a byddai'n cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i gyflawni prosiectau ar hyn o bryd ac i’r dyfodol i wella seilwaith, tai, ysbytai neu ysgolion Cymru.  Penderfynodd y Cabinet, gan hynny, heddiw fod dylanwad posibl y cynnig presennol ger eu bron ar gyllid cyhoeddus yn rhy fawr, ac o’r herwydd ni allwn gynnig y warant ariannol y gofynnwyd amdani ar gyfer y cynnig hwn.

Rwyf i yn cydnabod y bydd llawer yng Nglyn Ebwy ac ar draws y de yn cael eu siomi gan ein penderfyniad, yn arbennig gan fod y cwmni wedi codi gobeithion mawr iawn o ran y swyddi fyddai'n cael eu creu. Hefyd, roedd llawer wedi seilio’u gobeithion ar y manteision economaidd ehangach fyddai’n dod i Gymoedd y de yn sgil y prosiect hwn, yn enwedig Blaenau'r Cymoedd ehangach. Gwnaeth y diwydrwydd dyladwy hi’n glir y byddai’r prif fudd i'r economi leol, a'r rhan fwyaf o’r swyddi newydd, yn cael eu creu, nid yn y gylchdaith ei hunan, ond gan fusnesau ar wahân, yn enwedig yn y sectorau peirianyddol a modurol, wedi eu clystyru yn y lleoliad fel rhan o barc technoleg arfaethedig i ddilyn rywbryd eto. Byddai’r cyfanswm, yn y gylchdaith a'r parc technoleg, yn ôl diwydrwydd dyladwy, yn debygol o fod yn llai o lawer na'r ffigwr o 6,000 o swyddi. Ar sail ein profiadau blaenorol, rydym hefyd yn amau ei bod yn debyg y gallai'r cynnig am barc technoleg olygu cryn dipyn o arian cyhoeddus ychwanegol.

Gan gydnabod potensial economaidd y math hwn o ddatblygiad, a'r ffaith fod pobl Blaenau Gwent, a'r Cymoedd ehangach, wedi disgwyl yn ddigon hir am y swyddi a addawyd, cytunodd y Cabinet y bore yma i symud ymlaen gyda phrosiect newydd ac arwyddocaol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adeiladu parc busnes technoleg modurol newydd yng Nglyn Ebwy, gyda chyllid o £100 miliwn dros 10 mlynedd, gyda'r potensial i gefnogi 1,500 o swyddi llawnamser newydd a bod yn gatalydd i dwf economaidd ledled Cymoedd y de. Byddwn yn dechrau’r prosiect annibynnol hwn drwy gyflwyno 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer gweithgynhyrchu ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo cyhoeddus. Yn ogystal â hynny, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i archwilio’r posibilrwydd o leoli depo i fetro’r de ym mharth menter Glyn Ebwy, a chyflwyno rhaglenni i gefnogi cyflogwyr newydd a rhai sy'n bodoli eisoes ym Mlaenau Gwent wrth ddatblygu sgiliau yn y gweithlu lleol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â phenderfyniadau anodd, ac nid oedd penderfyniad heddiw o ran Cylchdaith Cymru yn eithriad. Nid peth dibwys yw effaith y penderfyniad hwn yn fy ngolwg i, nac yng ngolwg fy nghydweithwyr yn y Cabinet. Rydym wedi gwneud pob ymdrech deg i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Serch hynny, mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau cywir, a sicrhau bod y buddsoddiad cywir yn dod i Flaenau Gwent a Chymoedd y de yn ehangach—buddsoddi sy'n gynaliadwy, yn hirdymor ac o fudd gwirioneddol i gymunedau lleol. Fy nymuniad i yw bod y mentrau newydd hyn yn symud ymlaen cyn gynted ag y bo modd er mwyn pobl Glynebwy a Chymoedd y de.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Bydd penderfyniad heddiw i wrthod Cylchdaith Cymru yn siomi pobl Blaenau Gwent, mae’n amlwg. Peth hynod siomedig, yn fy marn i, yw ei bod wedi cymryd chwe blynedd a mwy na £9 miliwn o arian cyhoeddus i Ysgrifennydd y Cabinet wrthod y prosiect hwn, a allasai, wrth gwrs, fod yn un o’r buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol yng Nghymoedd y de ag a welwyd erioed. Ac, wrth gwrs, byddai wedi bod yn drawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth. Yn sicr, byddai buddsoddiad ar y raddfa honno wedi datgan bod Cymru ar agor i fusnes, gan fuddsoddi mewn ardal o Gymru lle mae’r angen yn fawr am fewnfuddsoddiad.  Felly mae hyn, wrth gwrs, yn ergyd ofnadwy i'r rhanbarth.

Yr hyn sy'n ddryslyd yw'r datgysylltu, yn fy marn i, rhwng datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a’r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gan uwch was sifil yn yr adran oedd yn honni bod yr arian a wariwyd hyd yma ar Gylchdaith Cymru wedi cynrychioli gwerth da am arian ac yn golygu prosiect sylweddol sy'n barod i'w gyflwyno. Ni all y ddau ohonoch chi fod yn gywir yn hynny o beth, felly a gaf i ofyn i chi am eich barn ar hynny yn benodol?

Yn ail, yn eich datganiad rydych yn awgrymu bod yna risg y byddai dyled lawn y prosiect cyfan yn cael ei dosbarthu yn erbyn gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru. Ond mae cyngor a gafwyd gan y cwmni sydd â swyddogaeth i roi cyngor ar y fantolen wedi awgrymu mai pecyn o arian fyddai hwn wedi ei ategu gan ryw fath newydd o gymorth yn seiliedig ar risg, ar ffurf gwarant gan y Llywodraeth. Felly, yr hyn y byddwn i yn ei ofyn yw—. Ac na fyddai unrhyw fenthyca ychwanegol o du’r Llywodraeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rai sylwadau ar hynny.

Fy nealltwriaeth i oedd y byddai'r prosiect yn cael ei ddosbarthu i’r sector preifat oherwydd na fyddai gan Lywodraeth Cymru ddigon o ddylanwad dros Gylchdaith Cymru i’w alw yn gorff cyhoeddus, ac na fyddai’n rhoi digon o gefnogaeth ariannol iddo fod wedi ei ariannu’n gyhoeddus, oherwydd byddai cyfanswm cefnogaeth y sector cyhoeddus wedi cynnwys tua 50 y cant o'r cyllid cyffredinol. Felly, byddwn i’n ddiolchgar pe gallech roi rhagor o fanylion am y rheswm pam y daeth y Trysorlys a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gasgliad gwahanol ac awgrymu y byddai'n cael ei ddosbarthu yn erbyn gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru.

A gaf i ofyn pa fwriad sydd gan Lywodraeth Cymru i adennill yr arian sydd wedi ei fuddsoddi mewn cwmnïau sydd wedi eu cysylltu yn uniongyrchol â'r cwmni daliannol? Roedd y prosiect yn amcangyfrif y byddai 6,000 o swyddi llaw amser yn cael eu creu, mewn meysydd sy'n amrywio o waith ymchwil a datblygu i letygarwch, gyda 3,000 o swyddi adeiladu ar ben hynny. A gaf i ofyn pam yr ydych yn teimlo bod yr asesiad mor bell oddi wrth y marc? Beth yw eich asesiad o ganlyniadau’r gwrthodiad hwn ar yr hyder fydd gan fuddsoddwyr preifat wrth fuddsoddi yng Nghymru yn gyffredinol yn y dyfodol?

Rhoddaf un enghraifft yn y fan hon: mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eisoes y bydd y gyfres nesaf o gerbydau TVR yn cael ei hadeiladu yng Nghymru, ac roedd disgwyl i'r safle yng Nghymru gael ei gyhoeddi yn fuan. O ystyried fod hyn wedi cael ei fwriadu i fod yn brif gonglfaen safle gweithgynhyrchu datblygiad Cylchdaith Cymru, a wnewch chi gadarnhau na fydd y cyhoeddiad heddiw yn effeithio ar hynny? Y rheswm yr wyf yn gofyn hynny yw fod llefarydd TVR yn gwrthod cadarnhau ar hyn o bryd y bydd y cerbyd hwn yn cael ei adeiladu yng Nghymru o gwbl. Felly, a wnewch chi gadarnhau y bydd y prosiect yn mynd rhagddo yma yng Nghymru, ac a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael gyda TVR am leoli yma yn y datblygiad modurol newydd a gyhoeddwyd gennych chi heddiw? Mae'n rhaid i mi ddweud y bydd y penderfyniad hwn—gobeithio na fydd hi felly, ond rwy'n credu y bydd o bosibl yn bygwth cyfleoedd i fewnfuddsoddi ac o bosibl yn andwyo hyder yn economi Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd hynny’n cael ei brofi’n anghywir.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud y bydd siom, ar ôl bron saith blynedd, na fydd y prosiect hwn yn gallu bwrw ymlaen. O ran y cwestiynau ynghylch pam mae hyn wedi cymryd cymaint o amser, dylai hynny gael ei gyfeirio yn rhannol at y cwmni datblygu. O'n rhan ni ein hunain, rydym ar bob achlysur wedi ceisio sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Fe aeth drwy nifer o ffurfiau o ran y model busnes, ac rydym ar bob achlysur wedi gweithio gyda'r datblygwyr mewn ymgais i gyflawni dros bobl Blaenau Gwent ac ardal Blaenau'r Cymoedd yn ehangach.

Ond rwy’n credu ein bod ni mewn sefyllfa wybodus, o ganlyniad i waith sylweddol sydd wedi ei wneud nid yn unig trwy ddiwydrwydd dyladwy ond cyn hynny, i allu bwrw ymlaen ag ail gam cynnig Cylchdaith Cymru, sef y parc technoleg. Rydym bellach yn meddu ar ddeallusrwydd sylweddol am y galw am barc technoleg ym Mlaenau Gwent a'r angen i ni gefnogi’r hyn sydd eisoes yn sector cryf haen 2 yn y diwydiant modurol. Un o'r ffactorau sylfaenol sydd, hyd yma, wedi atal buddsoddwyr rhag lleoli nid yn unig yn y Cymoedd, ond mewn sawl rhan o Gymru, yw'r diffyg lle diwydiannol sydd ar gael i ddatblygu a chynhyrchu eu nwyddau. Felly, mae’r gwahaniaeth rhwng y cynnig ar gyfer y trac a'r cynnig ar gyfer y parc technoleg yn gyfystyr â channoedd o swyddi llawnamser, cynaliadwy.  Rwyf wedi bod yn glir iawn na fydd y byd yn aros i Gymru ddatblygu technolegau modurol uwchraddol. Mae angen i ni arwain y byd, ac mae Blaenau Gwent wedi bod yn disgwyl yn ddigon hir. Pe baem yn aros am gyflwyniad cam 2 gan y cwmni datblygu, byddem o bosib yn cael ein gadael ar ôl o ran cerbydau ymreolaethol a cherbydau trydan. Mae angen i ni symud nawr, a gallai Blaenau Gwent fod yn ganolfan ragoriaeth ym Mhrydain ar gyfer technoleg newydd yn y sector modurol.

Mae’r Aelod yn iawn i ofyn am dystiolaeth a roddwyd gan y dirprwy ysgrifennydd parhaol, a buaswn yn rhybuddio unrhyw Aelodau rhag enwi gweision sifil nad ydynt yn gallu ymateb yn bersonol yn y Siambr hon. Byddwn yn dweud fy mod yn credu bod y dirprwy ysgrifennydd parhaol yn iawn yn y dystiolaeth a roddodd. Ar adeg neilltuo ein cyllid cychwynnol, cynnig y datblygwr oedd i’r prosiect gael ei ariannu'n llawn gan y sector preifat, ond roedd angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ei gamau cynnar ac i’w gychwyn ar ei daith. Rydym hefyd—o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i diwydrwydd dyladwy a'r prosiect—wedi gallu bwrw ymlaen â'r cynigion ar gyfer y parc technoleg.

O ran y cwestiwn o’r ddyled ar y fantolen, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol na allwch gael ateb pendant nes y bydd yr holl gontractau yn cael eu llofnodi. Ac wedyn hyd yn oed, gall gymryd misoedd lawer. Yn ei hanfod, byddai symud ymlaen gyda phenderfyniad ar sail risg uchel iawn iddo fod ar y fantolen yn beryglus—peryglus i Drysorlys Cymru a pheryglus i'r trethdalwr ac arian cyhoeddus, oherwydd fe allai, ymhen rhai misoedd, arwain at Lywodraeth Cymru yn gorfod canslo prosiectau adeiladu â chyfalaf cyfredol. Byddwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi £157 miliwn o brosiectau ledled Cymru ar hyn o bryd y gellid eu rhwystro o ganlyniad i'r prosiect hwn.

O ran benthyca ychwanegol, byddai’n rhaid i’r angen am fenthyca ychwanegol fod o bwysigrwydd strategol cenedlaethol, ond mae hynny yn rhywbeth sydd i’w drafod gyda Llywodraeth y DU. Bydd adfachu buddsoddiad ac unrhyw arian sydd eisoes wedi'i ymrwymo i'r prosiect , wrth gwrs, yn dibynnu ar ddyfodol cwmni datblygu Blaenau'r Cymoedd, ond, wrth gwrs, rydym yn edrych ar hynny.

O ran amcangyfrif y swyddi oedd i'w creu gan y cynnig, rwyf wedi clywed Aelodau yn y Siambr yn defnyddio, ar sawl achlysur, y ffigur o 6,000 o swyddi. Er bod y ffigur hwnnw i’w weld ar wefan Cylchdaith Cymru, mae'n rhif na chafodd ei adlewyrchu mewn diwydrwydd dyladwy ac, yn wir, canfu diwydrwydd dyladwy fod nifer tebygol y swyddi i'w creu mewn gwirionedd gryn dipyn yn is na hynny. Rwy'n credu hefyd fod angen cydnabod bodolaeth dau wahanol gam i'r prosiect, a fyddai’n cynhyrchu dau wahanol ffigur o ran y swyddi fyddai’n cael eu creu. Byddai'r cam cyntaf yn creu llawer llai o swyddi parhaol na'r ail gam. Dyna pam rwyf yn credu bod pobl Glynebwy yn haeddu’r ail gam nawr yn hytrach na rywbryd eto. O ran datblygu parc technoleg, rydym eisoes yn ymgysylltu â'r diwydiant, gyda rhanddeiliaid. Byddaf yn galw cyfarfod o arbenigwyr a rhanddeiliaid o'r ardal cyn gynted ag y bo modd—yr wythnos nesaf, rwy'n gobeithio. Rydym wedi siarad â TVR, ag Aston Martin Lagonda ac â Jaguar Land Rover: mae pob un ohonynt yn cadarnhau nad yw'r trac yn elfen hanfodol o ddatblygiad yng Nghymru. Cyn belled ag y mae TVR yn y cwestiwn, rydym yn edrych ymlaen at eu cynnyrch newydd sydd i’w lansio yn yr hydref a'i weithgynhyrchu yma yng Nghymru.

Ar amrantiad, heddiw rydym wedi mynd o fod yn lleoliad Cylchdaith Cymru y dyfodol i fod yn lleoliad bythol syrcas Cymru. Rydym bellach yn gyff gwawd yn rhyngwladol o ganlyniad i'r amaturiaeth ffals a ddangoswyd gan y Llywodraeth. Nawr, mae’n rhaid y daw dydd o brysur bwyso, yn anffodus, oherwydd y camgymeriadau a wnaed, ond heddiw gadewch i ni ganolbwyntio ar y cwestiynau.

A all ddweud pryd y cafodd ei hysbysu am y tro cyntaf y byddai Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo mwy na 50 y cant o'r risg, a phryd y dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Trysorlys wrtho fod hynny’n golygu y byddai'r prosiect ar y fantolen? A yw'n ymwybodol fod un o'r swyddogion uchaf sy'n rhan o'r prosiect wedi ysgrifennu at Aviva ar 14 o fis Mehefin a’i fop wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, ‘Y newyddion da yw, ar hyn o bryd, nad yw'n ymddangos bod unrhyw beth i rwystro’r sioe’? A ydym i gredu mewn gwirionedd nad oedd y Llywodraeth yn ymwybodol o fater y fantolen ar 14 o fis Mehefin, ond daeth hynny’n rhwystr o’r rhwystrau ddim ond 13 diwrnod ar ôl hynny? Naill ai eich bod wedi ei gadael hi tan y funud olaf un ar ôl trafod am chwe blynedd a gwario £50 miliwn, gan gynnwys £9 miliwn a mwy o arian cyhoeddus—ac os felly dyma'r achos mwyaf difrifol o esgeulustod yn hanes truenus y Llywodraeth hon—neu roeddech chi yn gwybod, ac os felly cafodd Aviva eu ​​camarwain. Yn ôl un e-bost sydd gennyf oddi wrth Aviva, nid hwn oedd y tro cyntaf, gan eu bod yn honni nad yw’r datganiad a wnaed pan gafwyd y gwrthodiad cyntaf ym mis Ebrill 2016, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu’r gwir ffeithiau. Os yw hynny'n wir, bydd hynny nid yn unig yn golygu’r canlyniadau gwleidyddol mwyaf difrifol, ond hefyd rai cyfreithiol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa ddarpariaeth a wnaeth ef ar gyfer unrhyw daliadau neu gostau cyfreithiol a all ddeillio o unrhyw ymgyfreitha sy'n debygol o gael ei ddwyn gan y partneriaid?

O ran ffigur y swyddi, a wnaiff ddweud beth oedd ffigur y swyddi a roddodd y cwmni yn ei gyflwyniad? Oherwydd mewn datganiad y prynhawn yma, maen nhw’n dweud nad 6,000 oedd y ffigur, fel y mae ef yn ei honni yn ei ddatganiad. Beth bynnag yw’r ffigur hwnnw— [Torri ar draws.] Wel, rwyf yn gofyn iddo a all ymateb i'r datganiad y maen nhw wedi ei wneud y prynhawn yma. Beth bynnag yw'r ffigur hwnnw, rydych yn dweud yn eich datganiad bod eich diwydrwydd dyladwy eich hun wedi dod i ffigur gwahanol ar gyfer cyfanswm cyfunol rhwng y gylchdaith a'r parc technoleg. A wnewch chi ddweud beth yw'r ffigur hwnnw? Ac a wnaiff ef yn awr gyhoeddi'r diwydrwydd dyladwy allanol fel y gofynnwyd gan y gwrthbleidiau, i ni gael gweld ffeithiau llawn yr achos?

Yn olaf, dywedodd ei fod wedi gwneud pob ymdrech yn yr achos hwn. A gysylltodd mewn gwirionedd â'r buddsoddwyr, Aviva, FCC—y cwmni adeiladu—a Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd pan nodwyd y broblem hon, er mwyn ceisio datrys hyn? Dyna beth fyddwn i yn ei alw'n ymdrech deg i weithredu'r prosiect hwn a'i botensial.

Yn olaf, ar fater TVR, mae TVR wedi dweud,

Cafodd safle’r ffatri arfaethedig yr ydym wedi ei ddewis ar gyfer TVR yng Nglynebwy ei ddylanwadu'n gryf gan leoliad dichonadwy prosiect Cylchdaith Cymru.

Mae hynny mewn llythyr ato ef. A wnaiff ddweud yn bendant heddiw y bydd TVR yn cael ei leoli, nid yng Nghymru, ond yng Nglyn Ebwy? Ac os na all, a fyddwch yn ymddiswyddo?

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau, fel y dywedais yn fy nghyfraniad wrth Russell George, ein bod wedi siarad â TVR, Aston Martin Lagonda, Jaguar Land Rover a rhanddeiliaid eraill. Cyn belled ag y bo TVR yn y cwestiwn, mae cynlluniau yn dal i fod yno i adeiladu'r cerbyd gyda lansiad yn yr hydref eleni, a’i adeiladu ym Mlaenau Gwent. Rydym yn gweithio'n hynod o agos, nid yn unig â TVR, ond â'r gadwyn gyflenwi i sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf o'r cynnyrch newydd hwnnw, a fydd yn cael ei adeiladu gyda balchder ym Mlaenau Gwent. Byddwn yn parhau i gefnogi TVR, Aston Martin, Toyota, Ford a phob rhan arall o'r sector modurol yng Nghymru.

Rwy'n credu ei bod yn wirion ystyried y gallech gymeradwyo prosiect heb gael diwydrwydd dyladwy trylwyr, sef yr hyn y mae’r Aelod wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i’w wneud ers yr haf llynedd. Rwy'n credu ei bod yn wirion, oherwydd mai dim ond drwy'r broses diwydrwydd dyladwy yr oeddem ni’n gallu mynd at SYG a Thrysorlys Ei Mawrhydi ac yn gallu asesu'r risg yn ôl y ffordd y mae'n cael ei bwysoli a'r tebygolrwydd ei fod â chydbwysedd iddo.

O ran y nodyn y sonia amdano sy’n ymwneud ag Aviva, a'r ffordd nad oedd yn ymddangos, ar hyn o bryd, bod unrhyw rwystrau i’r sioe, wel, holl ddiben diwydrwydd dyladwy yw eich bod yn diosg yr holl bethau sy'n ymddangosiadol wir a dod mewn gwirionedd at y ffeithiau ac yna caiff y ffeithiau eu harchwilio yn unol â hynny. Gwn fod yr Aelod wedi bod yn brysur iawn yn trydar heddiw am y cyhuddiadau cyfreithiol. Gallaf ddweud nad yw Llywodraeth Cymru yn atebol am y costau a fu ar unrhyw un o'r partïon eraill wrth ddatblygu'r prosiect ac nid ydym yn rhagweld unrhyw hawliadau am gostau yn cael eu gwneud.

Mae fy swyddogion i wedi cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd—cyfarfodydd wythnosol—i sicrhau bod pob cyfle wedi ei roi i wneud y prosiect hwn yn ymarferol. Rwy’n credu, er bod hyn wedi bod yn brawf ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae hefyd wedi bod yn brawf ar y sefydliad hwn. Ac mae'n bwysig bod pob Aelod yn craffu ar bob cynnig sy'n cael ei roi ar ddesg. Ac rwy'n credu ei bod yn hollol hanfodol, wrth symud ymlaen, fod yr Aelodau yn gwneud hynny.

Wel, ni ellir cael gwell darlun o law farw’r Llywodraeth na’r penderfyniad hwn heddiw. Mae'r cyferbyniad yn addysgiadol iawn rhwng yr hyn sy'n digwydd awr o daith o Gaerdydd ar hyd yr M4 gan James Dyson yn creu parc technoleg rhyngwladol, sydd yn mynd i gostio rhwng £2 biliwn a £3 biliwn, a’n methiant llwyr ni i allu bod yn llawforwyn i gyllid preifat ar gyfer yr hyn a fyddai fel arall wedi bod yn brosiect trawsnewidiol yng Nglyn Ebwy—sydd angen, dyn a ŵyr, bob help llaw posib. [Torri ar draws.] Gall yr Aelod dros Flaenau Gwent wneud pwyntiau pleidiol gwirion, ond nid wyf i’n credu y byddan nhw yn gwneud argraff dda ar ei etholwyr, sydd yn mynd i fod yn ddioddef yn sgil methiant dychymyg ei Lywodraeth ef ei hun heddiw.

Rwy’n sylwi na roddodd Ysgrifennydd y Cabinet ateb mewn gwirionedd i Adam Price funud yn ôl am gyhoeddiad y diwydrwydd dyladwy, ac rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol. A dweud y gwir, yn fy marn i, ym mhresenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae bellach yn amlwg ei bod yn ddyletswydd arnom i gael yr ymchwiliad ehangaf o'r ffordd y mae’r stori ddigalon hon wedi datblygu yn ystod y chwe blynedd diwethaf. A oes disgwyl inni gredu bod confensiynau cyfrifyddu Llywodraeth ynghylch a yw rhywbeth yn cael ei dosbarthu yn wariant cyhoeddus neu breifat gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Trysorlys wedi dod fel datguddiad llachar heddiw neu ddoe, a bod y Cabinet yn hollol anymwybodol o’r confensiynau hyn cyn hynny? Pam nad ydym ni wedi clywed y pwynt hwn ar unrhyw gam yn y ddwy flynedd ddiwethaf ers i’r prosiect hwn ddod yn bosibilrwydd ymarferol mewn termau gwleidyddol?

Mae strwythur ariannu'r prosiect hwn, er bod y niferoedd wedi newid, mewn egwyddor, wedi aros yr un fath o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn gwybod nad yw'r Llywodraeth wedi cael cais erioed i roi unrhyw arian cyhoeddus ynddo ymlaen llaw; cais fu hwn bob amser am warant eilaidd wrth gefn o uwch ddyled y sector preifat, a fyddai'n crisialu yn unig mewn amgylchiadau pan fyddai’r safle wedi cael ei ddatblygu yn llawn. Felly, atebolrwydd y Llywodraeth fyddai ffigur blynyddol i ad-dalu'r uwch fuddsoddwyr pe byddai hyrwyddwyr Cylchdaith Cymru yn methu talu'r llog ar eu bondiau, gan ddechrau ar ei gynharaf yn 2024 a dod i ben yn 2057. Felly, mae disgwyl i ni gredu ei bod yn rhaid i ni gyfalafu'r gwariant hwn i gyd heddiw pan na fydd yn ddyledus tan 2024, a dim ond wedyn ar sail un mewn tri deg a thri—ar sail 3 y cant y flwyddyn— a fydd mewn gwirionedd yn dod allan o wariant y Llywodraeth a reolir yn flynyddol. Ac felly mae pam mae angen i hyn gael ei gyfalafu ar hyn o bryd ac yna chwalu’r prosiect cyfan yn fater y mae'n rhaid ei ystyried yn ddifrifol iawn, oherwydd, yn y fan hon, confensiynau cyfrifyddu yn hytrach na sylwedd y prosiect, yw’r gyllell y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei phlannu yng nghalon y prosiect. Nid eglurwyd y rheswm am hynny, oherwydd ei fod yn warant wrth gefn na fyddai o bosib byth galw amdano, oherwydd, pe byddai’r trac rasio yn cael ei adeiladu ac yn gallu talu llai na hanner y gost adeiladu i’r benthycwyr—yr hyn sy’n ddyledus iddynt dan eu contractau cyfredol—yna ni fyddai'r prosiect mewn perygl o gwbl, ac ni fyddai unrhyw beth yn dod i gyfrifon y Llywodraeth. Felly, ni allaf ddeall pam y dylai’r posibilrwydd hwn—y bydd galw amdano o bosib rywbryd yn y dyfodol, ond ar y sail gyfyngedig honno’n unig—nawr gael ei ystyried yn un swm mawr a allai fod yn ddyledus ar unwaith, oherwydd ni fydd hynny byth yn digwydd.

Felly, yr hyn yr wyf yn dymuno ei wybod yw pam nad yw'r mater hwn wedi cael sylw hyd yma gan Lywodraeth Cymru a'r Trysorlys neu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a pham mae pobl Glynebwy, yn bennaf oll, wedi cael eu camarwain tan y cyfnod hwn wedi’r etholiad cyffredinol.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau.  Roeddwn yn glir iawn, yn yr haf y llynedd, pan ddywedais fod angen i ddatblygwyr y prosiect sicrhau bod 50 y cant o'r cyllid a 50 y cant o'r risg ar ysgwyddau'r sector preifat i sicrhau bod gennym werth am arian ac i sicrhau nad oedd hynny’n dod ar y fantolen. Y broses diwydrwydd dyladwy, a gafodd ei chwblhau ddim ond ychydig wythnosau yn ôl, wnaeth amlygu’r risg pwysoli. Y diwydrwydd dyladwy hwnnw wnaeth ganiatáu i ni ddarganfod y risg uchel y byddai’n dod ar y fantolen. Ond credaf fod yr Aelod wedyn yn cyfuno’r atebolrwydd hirdymor dros 33 mlynedd a'r risg ddisymwth o’i ddwyn ar y fantolen.

Nawr, o ran diwydrwydd dyledus, gadewch i ni beidio ag anghofio bod yr Aelod, unwaith eto, wedi fy annog i beidio â dechrau ar broses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy, ond fy nghred i yw bod hyn wedi dangos gwerth diwydrwydd dyladwy. Rwy’n ceisio cael cytundeb gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd a'r ymgynghorwyr a wnaeth y diwydrwydd dyladwy i gyhoeddi dogfen gryno o’r dogfennau. Er hynny, ni fydd y prawf personau addas a phriodol a diwydrwydd dyladwy cyfreithiol yn cael eu cynnwys yn y cyhoeddiad hwn.  Cyn gynted ag y byddaf yn cael y cytundeb hwnnw gan yr ymgynghorwyr a Chwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, byddaf yn symud ymlaen gyda chyhoeddi'r ddogfen honno a byddaf yn ei rhoi yn Llyfrgell y Cynulliad.

Byddwn yn annog yr Aelod hefyd, a'r holl Aelodau sy'n feirniadol o’r Llywodraeth heddiw, ohonof i heddiw, o'r datblygwyr heddiw, i weithio'n adeiladol i sicrhau bod y parc technoleg—y £100 miliwn yr ydym yn mynd i’w fuddsoddi ynddo ac yn sgiliau pobl yn ardal Blaenau'r Cymoedd—yn llwyddiant. Mae angen i ni sicrhau bod y parc technoleg yn defnyddio technolegau newydd a rhai sy'n datblygu, ei fod yn cyflogi pobl yn nes at eu cartrefi, ac yn darparu’r math o ffyniant yr wyf yn credu ein bod i gyd yn dymuno ei weld yng nghymunedau'r Cymoedd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy siomedigaeth ddofn yn sgil y penderfyniad hwn heddiw. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, bûm yn gefnogwr i'r prosiect hwn, fel y bu fy awdurdod lleol yn Nhorfaen, gan gredu y byddai'n beth trawsffurfiol i ardal Blaenau'r Cymoedd, yn enwedig gyda’r traddodiad cryf o weithgynhyrchu modurol yn Nhorfaen. Rwyf innau hefyd mewn penbleth ynglŷn â sut y gallem daro ar faen tramgwydd mor fawr mewn cyfnod diweddar iawn ar ôl saith blynedd o ystyried y prosiect hwn. Rwyf i o’r farn fod yna gwestiynau difrifol iawn sydd angen eu hateb a byddaf yn edrych ymlaen at weld yr wybodaeth ar y diwydrwydd dyladwy yr ydych wedi ymrwymo i’w gyhoeddi.

Rwyf am bwyso arnoch ynglŷn â’r mater hwn o'r risg o 50 y cant na chafodd ei fodloni, gan mai haeriad y datblygwyr o hyd yw eu bod wedi darparu’r arian priodol a'u bod wedi bodloni'r meini prawf arno gan ei bod yn llai na 50 y cant o’r risg ar Lywodraeth Cymru. Mae eich datganiad yn cyfeirio at y ffordd y mae hynny wedi ei strwythuro a byddwn yn ddiolchgar am fwy o eglurder ar hynny. Mae'n ymddangos i mi fod cwningen wedi ei thynnu o'r het yn hwyr iawn, i ryw raddau, o ran y parc technoleg hwn, ac mae llawer o bwyslais yn eich datganiad ar ddiwallu anghenion Glyn Ebwy a Blaenau Gwent, sydd yn gwbl gyfiawn—mae’r disgwyliadau wedi bod yn uchel yno ac mae angen i bobl gael rhywbeth yn eu dwylo. Ond i mi, roedd y prosiect hwn yn ymwneud â llawer mwy na Blaenau Gwent—roedd yn ymwneud â holl ardal Blaenau'r Cymoedd, gan gynnwys fy etholaeth i. Felly, fe hoffwn i wybod sut yn union yr ydych yn bwriadu sicrhau y bydd y parc technoleg yn cyflawni’r addewid ar gyfer fy etholwyr i, beth yw’r cynllun i gynnwys partneriaid lleol, nid ym Mlaenau Gwent yn unig, ond yn Nhorfaen a'r awdurdodau lleol eraill cyfagos, a hefyd sut y byddwch yn bwriadu, wrth symud ymlaen, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau lleol, a sut y byddwch yn llunio cynllun pendant wrth symud ymlaen. Diolch.

A gaf i ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiynau? Rwy'n cydnabod y gefnogaeth gref y mae hi wedi ei rhoi i’r cynnig. Rwy'n cydnabod ei chysondeb dros nifer o flynyddoedd yn ei chefnogaeth i’r prosiect ac mae’n edifar gennyf innau fel hithau nad ydym yn gallu cynnig y sicrwydd a geisiwyd. Ond rwy’n credu, o’m hanfodd, y byddai wedi bod yn gwbl anghyfrifol i roi’r warant honno, o ystyried yr effaith debygol y byddai wedi ei chael ar bwrs y wlad. Fel y dywedais yn fy natganiad y bore yma, byddai o bosibl wedi cael effaith uniongyrchol ar raglenni mawr seilwaith, tai, ysbytai ac adeiladu ysgolion. Eto i gyd, rwy’n cydnabod bod yr Aelod a nifer o'i chydweithwyr yn benderfynol o hyrwyddo'r angen am newid trawsnewidiol yn y Cymoedd, a dyna beth yr wyf i yn benderfynol o wneud yn siŵr y bydd y parc technoleg yn ei gyflawni.

Byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr mewn addysg bellach, gydag awdurdodau lleol, gyda'r parth menter yng Nglyn Ebwy, a byddaf yn gweithio gydag arbenigwyr yn y sector modurol yn Niwydiant Cymru i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl o'n cynllun, cynllun gwerth £100 miliwn, i greu 1,500 o swyddi llawnamser o safon ar gyfer pobl Cymoedd y de. Nid cwningen hwyr mohoni. Rydym yn gwybod ers cryn amser fod yna sector modurol haen 2 sydd ag angen cymorth arno i dyfu, ehangu, a bod ar y blaen yn y farchnad fyd-eang. Ond yr hyn y mae’r broses hon wedi ei amlygu yw, gyda’r galw sydd yn bodoli, fod diffyg lle a chymorth ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu herio hynny, ymdrin â hynny, rhoi sylw i hynny, a gwneud yn siŵr y gall y sector modurol yn y rhanbarth dyfu a ffynnu.

Mae'r prosiect wedi newid sawl gwaith dros y saith blynedd diwethaf. Mae'r cwmni wedi bod yn ymwybodol o'r angen i sicrhau bod y risg yn cael ei gadw dan 50 y cant, ac rwy’n sylweddoli y gall mater dosbarthiadau 50 y cant SYG fod yn ddryslyd. Ond mae proffil risg y gwahanol gyfrannau yng nghyllid y prosiect yn berthnasol i asesu pwysau effeithiol y warant gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwahanol gyfrannau, Llywydd, yn agored i lefelau tra gwahanol o risg, ac, yn seiliedig ar y canllawiau, byddem yn disgwyl i SYG ac Eurostat yn eu hasesiad o bwysau i ystyried pwysau cyfrannau sy’n dwyn lefel uwch o risg yn drymach na chyfrannau sy'n dwyn lefel is o risg. Byddai asesiad yn pwysoli risg yn awgrymu’n sicr fod Llywodraeth Cymru i ddwyn mwy na 50 y cant o bwysau cyllid y prosiect, hyd yn oed pe—hyd yn oed pe—byddai ein gwarant i’w weld yn llai na 50 y cant o gyfanswm yr arian heb ei bwysoli. Dyna'r gwahaniaeth rhwng ymddangosiad o fodloni'r meini prawf a bodloni'r meini prawf mewn gwirionedd. Mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben, ond dylai wybod hyn yn dda, ar ôl gwasanaethu mewn Llywodraeth, er bod hynny 30 neu 40 mlynedd yn ôl.

Nawr, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod—[Torri ar draws.]—. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn osgoi ymrwymo ein hunain i brosiectau costus a allai arwain at ganslo adeiladu ysbytai, ysgolion neu dai. Serch hynny, byddwn yn bwrw ymlaen â’r cynllun hwn ar gyfer Glyn Ebwy, ar gyfer Blaenau Gwent, ac ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac rwy'n annog yr Aelodau unwaith yn rhagor i weithio gyda ni. Gyda'i gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth, a byddwn yn annog yr Aelodau i wneud yn union fel hynny.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Rwyf wedi bod yn bryderus am y prosiect hwn o'r cychwyn. Bedair blynedd yn ôl, rhoddais yn fy nghylchlythyr lleol i’m hetholwyr, sy'n dangos—bedair blynedd yn ôl, 2013—. Byddaf yn darllen un neu ddau o’m pryderon ynglŷn â’r prosiect hwn: datblygwr yn chwyddo’r ffigur y mae’n ei roi ar nifer y swyddi; digwyddiadau amlwg, fel hwn—sut y caiff MotoGP ei ddenu i'r gylchdaith pan fydd ganddynt rwymedigaethau cytundebau â thraciau rasio eraill, nid yn unig hwn—a sut y gall datblygwyr godi’r £300 miliwn hwn. Roedd hynny’n bryder. Bydd yr arian, wrth gwrs, yn dod o'r sector preifat, ond o ble? Mae’r pedwar hyn, a rhestr hir, nid oeddent yn bodloni bryd hynny, ac yn fy marn i nid ydynt yn bodloni nawr. Mae gennyf i, yn wir, gopi o hwn i chi gael edrych arno. Drwy’r cwbl, rwyf wedi pwysleisio’r angen am wneud diwydrwydd dyladwy yn gymwys i ofynion ariannol y prosiect hwn, ac rwy’n credu bod y canlyniadau yn gyfiawnhad o’m galwad i bwyllo ac ystyried.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £9 miliwn o arian trethdalwyr i'r prosiectau hyn yn y pedair neu’r bum mlynedd diwethaf, a oedd yn gwbl ddianghenraid. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa wersi y mae ei adran wedi eu dysgu o ystyried astudiaeth feirniadol Swyddfa Archwilio Cymru o'r cyllid hwn? Hefyd, a fyddai'n barod i anfon ei ddau swyddog i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus? Os felly, pryd fyddai hynny? Bydd y penderfyniad hwn, wrth gwrs, yn destun siom a thorcalon yng Nglyn Ebwy. Fy rhanbarth i ydyw, a byddwn wrth fy modd i weld y rhanbarth hwn yn ffynnu fel y gwna Caerdydd ac ardaloedd eraill megis Llundain. Ceir yno bobl ragorol a phobl glên, ac mae cyfle gwych yn bodoli yno. Felly, croesawaf ei gyhoeddiad am barc busnes technoleg modurol newydd yng Nglyn Ebwy, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n llwyddo. A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae wedi eu cael â sefydliadau busnes a'r awdurdodau lleol ynglŷn â’r parc hwn? Pa fentrau a gaiff eu cynnig ar gyfer busnesau sy'n ymsefydlu yn yr ardal hon ac yn symud iddi? A fydd yn cytuno i roi datganiad pellach cyn gynted ag sy’n bosibl i gael gwybodaeth—pan y caiff hi—ar gyfer y busnesau a’r buddsoddwyr amrywiol? Fel y mae newydd ei grybwyll gydag eraill yn gynharach, nid wyf yn dymuno ailadrodd; mae'r rhan fwyaf o’m cydweithwyr i wedi dangos pryderon ynglŷn â’ch penderfyniad, ond rwyf i o’r farn fod eich penderfyniad chi yn gwbl berffaith. Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad? Rwy’n hapus i ymrwymo i gyflwyno manylion y prosiect parc technoleg ar fyrder, a sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Aelodau. Rwyf eisoes wedi siarad gyda nifer o randdeiliaid yn y rhanbarth a rhanddeiliaid o fewn y sector, ac mae cefnogaeth eang i ddatblygu parc technoleg. Rwyf hefyd wedi siarad ag arbenigwyr fel Chris Sutton, sydd wedi gwneud yn glir mai un o'r rhwystrau mawr sydd wedi bod i fuddsoddi yn y Cymoedd yw diffyg unedau diwydiannol addas, ac, fel y dywedais, byddwn yn mynd i'r afael â’r her honno.

O ran y gwersi a gafodd eu dysgu, rwy’n credu bod un wers bwysig y dylid ei dysgu o'r broses hon: ni waeth beth fo’r addewidion a wneir, dim ond drwy broses drylwyr o ddiwydrwydd dyladwy y mae modd asesu mewn gwirionedd a yw prosiect yn cyrraedd y nod, a yw'n ymarferol ac a yw'r prosiect yn addas i’r rhai y mae wedi ei gynllunio ar eu cyfer. Rwy’n awyddus i sicrhau y gall buddsoddwyr sy’n edrych tuag at Gymru gael hyder yn Llywodraeth Cymru i gynnal proses wrthrychol o ddiwydrwydd dyladwy, i gefnogi twf eu busnesau a’u buddsoddiad yng Nghymru, a chael y warant y bydd Llywodraeth Cymru, fel partner busnes, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eu rhagolygon cyflogaeth yn tyfu ac yn ffynnu.

Yn 2013—cynhyrchodd yr Aelod gylchlythyr yn mynegi pryderon, rwy’n credu, am nifer y swyddi. Cafwyd bod y ffigur o 6,000 o swyddi a hyrwyddwyd ac a ailadroddwyd yn fynych yn dipyn o or-ddweud, ac roedd hynny, unwaith eto, yn rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy. A bod yn deg i hyrwyddwyr y prosiect, maen nhw’n dweud nad yw’r ffigur o 6,000 o swyddi yn rhywbeth y maen nhw’n gyfrifol am ei hyrwyddo yn y cyfryngau. Ond, serch hynny, mae'r ffigur hwnnw ar eu gwefan ar hyn o bryd, a’r gwir amdani yw mai gor-ddweud yw hyn, ac yng ngham dau y mae’r swyddi mewn gwirionedd, swyddi yr ydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn benderfynol o’u cyflewni.

7. 7. Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar ddatgarboneiddio yn y sector gyhoeddus, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6339 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.

4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar swyddogaeth bwysig y sector cyhoeddus yng Nghymru wrth gyflawni ymrwymiadau ac uchelgeisiau statudol Cymru o ran datgarboneiddio. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymrwymo Cymru i darged tymor hir o leihau allyriadau gan o leiaf 80 y cant erbyn 2050, yn ogystal â thargedau interim a chyllidebau carbon pum mlynedd. Mae hyn yn sefydlu fframwaith hirdymor ar gyfer datgarboneiddio gan gynnig eglurder a sicrwydd i sbarduno camau gweithredu a buddsoddiant mewn mentrau carbon isel.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Pan oeddwn i yn y COP22 ym Marrakesh fis Tachwedd diwethaf, gwelais yn glir sut mae pontio i economi carbon isel yn dod â llawer o gyfleoedd yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, twf glân, swyddi o ansawdd uchel a manteision y farchnad fyd-eang. Nid dim ond yn yr economi mae modd gweld hyn. Mae manteision ehangach megis lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, gydag aer a dŵr glân a gwell iechyd o ganlyniad. Y manteision ehangach hyn yw gwir hanfod yr hyn y mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gobeithio ei gyflawni yn y sector cyhoeddus. Efallai y byddwch yn holi pam rwy'n awyddus i gymryd camau yn benodol yn y sector cyhoeddus ynglŷn â datgarboneiddio pan nad yw ond yn cyfrif am gyfran fechan o’n hallyriadau yng Nghymru, sef 1 y cant ar hyn o bryd. Fodd bynnag, er mwyn datgarboneiddio mor drylwyr ag sy’n ofynnol, mae angen arweiniad ar lefelau cenedlaethol a lleol. Mae'r sector cyhoeddus mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar allyriadau yn llawer ehangach drwy gaffael, darparu eu gwasanaethau ac ymgysylltu â'u cymunedau.

O’u hystyried gyda'i gilydd, mae gan y sector cyhoeddus un o'r ystadau mwyaf yng Nghymru, ac felly, mae ganddo swyddogaeth bwysig wrth leihau ei allyriadau ei hun a dylanwadu ar ei gwsmeriaid a chontractwyr i gymryd camau tebyg. Mae hyn yn golygu lleihau defnydd ynni ac allyriadau carbon uniongyrchol y sector cyhoeddus a'r allyriadau anuniongyrchol sy'n dod o ddarparu gwasanaethau megis addysg, iechyd a lles, seilwaith ac ynni, trafnidiaeth a gwastraff.

Nid yw hwn yn faes newydd i’r sector cyhoeddus. Roedd ein strategaeth newid hinsawdd wreiddiol yn canolbwyntio ar gamau gweithredu yn ymwneud â’r sector yn gwella effeithlonrwydd ein hysgolion a'n hysbytai. Ochr yn ochr â hyn mae’r UE, y DU a Chymru wedi rhoi deddfwriaeth ar waith, ac yn fwyaf diweddar, gwelwyd gweithredu ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy'n tynnu sylw at swyddogaeth allweddol newid yn yr hinsawdd yn y gwaith o gyflawni ein targedau lles.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus ers peth amser. Mae ein menter Twf Gwyrdd Cymru yn buddsoddi dros £2 filiwn y flwyddyn, gan gefnogi’r gwaith o nodi a chyflwyno prosiectau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau cyhoeddus a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael, a ategir gan gyllid buddsoddi i arbed nad oes tebyg iddo yng ngweddill y DU. Caiff yr arbedion sy'n deillio o leihau costau eu defnyddio i ad-dalu'r cyllid buddsoddi a rhoi hwb economaidd sylweddol i’n busnesau. Erbyn diwedd tymor presennol y Llywodraeth, rydym ni’n disgwyl y byddwn ni wedi buddsoddi bron i £70 miliwn mewn prosiectau ynni yn y sector cyhoeddus.

Ond mae'r cyfle yn llawer mwy. Yn rhan o waith cychwynnol Twf Gwyrdd Cymru yn y sector cyhoeddus, nodwyd cyfres o brosiectau gyda gwerth cyfalaf o bron iawn i £500 miliwn. Mae fy swyddogion wrthi'n gwerthuso'r gefnogaeth bresennol ac yn gofyn am farn y sector cyhoeddus ar feysydd i'w gwella neu gymorth ychwanegol.

Bydd ein cyllid yn parhau i alluogi buddiannau wrth iddo gael ei ad-dalu a'i ailgylchu i brosiectau newydd. Mae defnyddio ein harian yn y modd hwn yn golygu ein bod yn disgwyl arbed tua £650 miliwn o arian parod ar ynni a lleihau allyriadau gan 2.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn ystod oes yr asedau yr ydym yn eu hariannu. Er enghraifft, yn gynharach eleni, roeddwn i’n gallu cyhoeddi pecyn cyllid o £4.5 miliwn er mwyn galluogi Cyngor Sir Fynwy i adeiladu fferm solar Oak Grove, a fydd yn cynhyrchu incwm o dros £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer yr awdurdod a chyflawni arbedion o bron i 50,000 tunnell o garbon deuocsid yn ystod ei oes. Roeddwn i hefyd yn gallu cefnogi rhaglen goleuadau stryd LED Cyngor Sir y Fflint gyda benthyciad o £3 miliwn, gan alluogi arbedion blynyddol o £400,000 ar gyfer yr awdurdod ac arbediad oes o dros 25,000 tunnell o garbon deuocsid.

Rydym ni hefyd wedi gwneud camau breision o ran trin gwastraff, gyda rhaglen wastraff Llywodraeth Cymru yn cyflawni cyfraddau ailgylchu trefol sydd y trydydd uchaf yn y byd, gan arwain at leihau allyriadau carbon yn sylweddol a chymell buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat yng Nghymru.

Yn y DU ac mewn mannau eraill yn y byd, rydym yn gweld gweithredu penodol yn y sector cyhoeddus. Mae gan Lywodraeth yr Alban ddyletswydd i gyflwyno adroddiadau ynglŷn â chyrff cyhoeddus lle mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno adroddiadau blynyddol ar nifer o feysydd megis llywodraethu, allforio ynni adnewyddadwy, rhoi amcan o arbedion carbon a fydd yn deillio o brosiectau yn y dyfodol ac amcanion caffael. Mae British Columbia wedi deddfu y bydd ei sector cyhoeddus cyfan yn garbon niwtral drwy leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net bob blwyddyn. Ers 2010, mae ei sector cyhoeddus cyfan wedi bod yn mesur allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy'n cynnwys y defnydd o ynni o adeiladau, fflydau cerbydau, offer a phapur.

Yng Nghymru, er bod gweithgarwch hyd yma wedi canolbwyntio'n bennaf ar leihau allyriadau o asedau a gwastraff y sector cyhoeddus, mae gwaith eisoes ar y gweill sy'n archwilio sut y gall gweithgarwch sefydliad sector cyhoeddus effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar gyfanswm allyriadau. Caiff yr allyriadau hyn eu dosbarthu i allyriadau uniongyrchol megis cyfleusterau a cherbydau cwmni, a dau fath o allyriadau anuniongyrchol: y rhai a ddaw yn benodol o drydan a brynwyd ac a ddefnyddiwyd gan y sefydliad, a'r rhai o ffynonellau nad ydyn nhw o fewn rheolaeth y sefydliad, megis caffael nwyddau a gwasanaethau a gweithwyr yn cymudo.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Chyfoeth Naturiol Cymru, ac roedd hi’n braf cael gwybod am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud yn eu prosiect Carbon Cadarnhaol. Mae'r prosiect wedi dangos bod dros 80 y cant o'u hallyriadau yn anuniongyrchol, a bod 60 y cant yn deillo o gaffael nwyddau a gwasanaethau yn unig. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i edrych nid yn unig ar faint o allyriadau’r sector cyhoeddus sy’n deillio o'u hasedau, ond hefyd o’u gweithgarwch ehangach. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi gosod mannau gwefru, wedi prynu cerbydau trydan ac yn bwriadu gwella effeithlonrwydd ynni eu hadeilad, gan gydnabod yr achos busnes economaidd dros wneud hynny.

Er mwyn cyrraedd ein targed tymor hir, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pob dull sydd ar gael i gyrraedd ein gostyngiad o 80 y cant, gan sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru. Ein huchelgais felly yw gosod targedau datgarboneiddio heriol ond cyraeddadwy ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei gyfanrwydd, ac i sicrhau bod uwch gydweithwyr yn y sector cyhoeddus yn rhoi lle blaenllaw i leihau carbon a thwf gwyrdd wrth ddatblygu strategaethau, cyflwyno rhaglenni a gwneud penderfyniadau.

Mae'n rhaid i'r sector cyhoeddus yng Nghymru arwain y ffordd mewn maes a fydd yn cael effaith mor sylweddol ar ein dinasyddion, cymunedau a busnesau. Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu'r economi carbon isel ymhellach yng Nghymru, a bydd arwain y gwaith o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn fodd o roi neges bwysig a chyson i fuddsoddwyr a busnesau. Mae Datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus, er yn heriol, hefyd yn haws i'w gyflawni nag mewn meysydd eraill o'r economi. Mae’n rhaid i ddatgarboneiddio felly fod yn drylwyr, a chael ei gyflawni yn gymharol gyflym, a hynny ar draws holl weithgareddau’r sector cyhoeddus. Ein huchelgais, felly, yw bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae sawl ffordd o gyflawni’r uchelgais a’r modd y gallwn ni fonitro cynnydd i alluogi'r cyhoedd a busnesau i weld sut yr ydym ni’n cyflawni ein hymrwymiad, a chynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu. Y mis nesaf, byddaf yn galw am dystiolaeth yn ymwneud â’r uchelgais hon, a fydd yn gofyn i randdeiliaid nodi'r dystiolaeth ynglŷn â’r cyfleoedd a'r heriau o amgylch y prif darged, dweud eu dweud ar dargedau interim posibl, a sut maen nhw’n teimlo y dylem ni fonitro ac olrhain cynnydd. Bydd yr alwad am dystiolaeth yn helpu i lywio'r ffordd yr ydym ni’n cyflymu'r gwaith yn y maes pwysig hwn. Croesawaf eich barn ynglŷn â’n huchelgais o ran datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, sut y byddwn yn mynd i'r afael â heriau arbennig ac yn gwireddu’r cyfleoedd a’r manteision sylweddol sy’n gysylltiedig â'r agenda hon.

Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, ac rwy’n galw ar David Melding i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn cynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon; Rwy'n credu ei fod yn bwnc pwysig. Rwyf hefyd yn croesawu'r camau breision a wnaed i leihau’r ôl troed carbon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o arweiniad yn y maes hwn, ond byddwn yn dweud, cyn i mi roi’r argraff fy mod yn rhy hael, nad ydym ni eto lle yr hoffem ni fod, ac efallai o’i gymharu â rhai ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, fe allem ni wneud yn well.

Yn 2014, roedd lefel yr allyriadau yng Nghymru tua 18 y cant yn is na lefel 1990. Mae hynny'n cymharu â gostyngiad o 36 y cant yn y DU yn ei chyfanrwydd. Mae Cymru’n cyfrif am 9 y cant o’r allyriadau ar draws y DU ar hyn o bryd, gyda dim ond 5 y cant o boblogaeth y DU. Nawr, mae yna resymau am hyn, fel ein treftadaeth ddiwydiannol. Fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy o ddifrif na rhannau eraill o'r DU ynglŷn â’r mater hwn. Mae'n fater hollbwysig iddyn nhw hefyd, ond mae yn dod â heriau ychwanegol yn ei sgil i ni.

Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y sector cyhoeddus, sydd ag allyriadau cymharol isel, er fy mod yn meddwl—. Wn i ddim a yw hyn yn ddealladwy, ond fe all gael effaith sylweddol iawn o ran lluosydd. Hynny yw, mae’r cymudo yn un peth—yr holl weision cyhoeddus hynny yn gyrru i’w gwaith fesul un. Ond fe allwn ni fod yn fwy dychmygus na hynny, gan edrych ar sut mae myfyrwyr yn cyrraedd yr ysgol ac ar y daith i’r ysgol. Mae nifer o faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yn cynhyrchu allyriadau uchel iawn ar hyn o bryd.

A gaf i droi at ein dau welliant? Roedd arnom ni eisiau gwella rhywfaint ar y cynnig hwn, ond diben y ddau yw gwella ein perfformiad cyffredinol yn y fan yma, a bod yn adeiladol. Mae’r cyntaf, yn ymwneud â chyllidebau carbon: Nawr, mae'r rhain yn offerynnau hanfodol i leihau cyllidebau cenedlaethol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf iawn i ddefnyddio’r offeryn penodol hwn hyd yma. Os trof at adran 31 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n datgan bod yn rhaid i ni osod cyllidebau carbon ar gyfer y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf—sef o 2016 i 2020, ac yna o 2021 i 2025—a bod yn rhaid gosod y rhain, neu o leiaf yr un cyntaf, cyn diwedd 2018. Wel, rydym ni, mewn gwirionedd, bron iawn hanner ffordd drwy'r cyfnod cyllidebol cyntaf, a does dim argoel i’w weld y caiff y gyllideb ei sefydlu mewn deddfwriaeth—nid yw’r dyddiad cau wedi cyrraedd eto. Ond os ydych chi’n cymharu’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud yn y maes hwn—ac fe wnaed hynny gan weinyddiaeth Lafur, gyda llaw—yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, fe grëwyd rhwymedigaethau statudol ar gyfer cyllidebau carbon. Daeth y Ddeddf i rym ym mis Tachwedd 2008, ac fe gyhoeddwyd y lefelau ar gyfer y cyllidebau carbon yn y mis Ebrill canlynol, yn 2009, ac fe gawson nhw eu cymeradwyo a’u rhoi mewn grym ym mis Mai 2009.

Fe wna i orffen y darn hwn. Felly, mae hynny'n golygu y bu saith mis o oedi cyn gweithredu lefelau cyllideb carbon y DU. Ildiaf.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod, ac rwy’n deall y pwynt y mae’n ei wneud, ond wrth gwrs fe wyddom ni fod gan y Llywodraeth newydd yma y cyfeiriodd ati—fe gyfeiriodd at Lywodraeth San Steffan—gytundeb hyder a chyflenwi gyda'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, sy’n gwadu bod newid yn yr hinsawdd. Mae'r cytundeb hyder a chyflenwi yn ymwneud â chyllidebu ariannol ond nid â chyllidebu carbon. A yw'n disgwyl i gyllidebu carbon barhau yn y weinyddiaeth bresennol?

Rwy’n sicr yn disgwyl iddo barhau. Ni allaf siarad ar ran y DUP ond gallaf siarad ar ran Plaid Geidwadol Cymru, ac rydym ni’n cydnabod newid yn yr hinsawdd sydd wedi ei achosi gan ddyn. Felly, ein ffordd ni o fynd ati yw cefnogi ac annog Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i fynd ymhellach.

Ond, beth bynnag, fe allem ni symud yn gyflymach yma, ac mae'n drueni nad ydym ni wedi gwneud hynny. Rwy'n sylweddoli y bydd fy amser ar ben os na fyddaf yn ofalus. A gaf i droi at ddarn arall o ddeddfwriaeth sydd, rwy’n credu, yn ysbrydoliaeth—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n eithaf amlwg ei fod wedi codi disgwyliadau ar draws bywyd economaidd a chyhoeddus yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig, ond un agwedd siomedig mae WWF Cymru a Chwarae Teg wedi tynnu sylw ato, ac sydd wedi cael sylw ein pwyllgorau Cynulliad, a'r Pwyllgor Cyllid, y mae'r Aelod, sydd newydd ymyrryd, Simon Thomas, yn gadeirydd arno, yw y buom ni’n gymharol araf yn ymgorffori’r Ddeddf honno yn ein gweithdrefnau pennu cyllideb ein hunain. Nawr, er tegwch i'r Ysgrifennydd cyllid, sy'n gwrando ar y ddadl hon, rwy'n falch o ddweud, roeddwn i’n credu ei fod wedi ildio rhywfaint yn ystod proses y gyllideb wrth ddweud, 'Wel, wyddoch chi, dim ond dechrau yr ydym ni ond rydym ni’n sylweddoli ein bod yn bell o lle’r hoffem ni fod o ran defnyddio’r Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol '. Ond, unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni sicrhau bod y Ddeddf honno wir yn effeithiol yn ein prosesau cyllideb ein hunain cyn gynted â phosibl fel y gall hynny hefyd helpu i lywio'r penderfyniadau y byddwn ni’n eu gwneud i leihau allyriadau carbon.

Diolch i chi am eich amynedd, Dirprwy Lywydd.

Dim problem o gwbl. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda’r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o’i gylch gwaith.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o’i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i’r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.

Cynigiwyd gwelliannau 3, 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i gynnig ein gwelliannau ni, sydd yn sicr wedi’u cynllunio hefyd i wella’r cynnig gwreiddiol ac i fod yn gyfraniad tuag at y drafodaeth gyhoeddus y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i hamlinellu.

A gaf i ddechrau gyda’r ddau welliant gan y Ceidwadwyr yn gyntaf, ac i ddweud, er fy mod i’n deall yn iawn y bwriad y tu ôl i’r ddau welliant, mae’r un cyntaf, rwy’n credu, dipyn bach yn annheg, gan fod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ei hunan yn gosod y dyddiad o 2018 ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf? Efallai ein bod ni i gyd wedi bod ar fai am ganiatáu i hynny fynd drwyddo heb ddal trwyn y Llywodraeth i’r maen ychydig yn fwy. Ond, yn sicr, mae’r ail bwynt, ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un teg iawn, ac y mae’n un y mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei hyrwyddo hefyd, a byddwn yn sicr yn cefnogi’r gwelliant hwnnw heddiw.

Mae gwelliannau Plaid Cymru yn troi o gwmpas—wel, mae yna bedwar gwelliant ond tri pheth, i ddweud y gwir. Yn gyntaf oll, sefydlu cwmni dielw hyd braich o’r Llywodraeth: Ynni Cymru—rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei hyrwyddo fel rhan o’r ateb i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ail, i osod yn amlwg iawn fod mynd i’r afael â llygredd awyr yr un mor bwysig â datgarboneiddio ag ynni ei hunan. Yn y cyd-destun hwnnw, rydw i’n sylweddoli bod gan y Llywodraeth rhyw fath o dasglu gwaith gorchwyl a gorffen ynglŷn â datgarboneiddio ac nid yw, yn ôl beth rydw i’n ei ddeall, yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ar y tasglu hwnnw. Rydw i’n credu bod datgarboneiddio yn gymaint o gwestiwn iechyd ag ydyw o gwestiwn ynni a defnydd o adnoddau naturiol.

Y drydedd elfen i’n gwelliannau ni yw un sy’n troi o gwmpas datgarboneiddio y ffordd rydym ni’n teithio o gwmpas. Mae’r Aelod wedi gwneud y pwynt eisoes ynglŷn â’r llif gweision sifil yn mynd o le i le, ac, wrth gwrs, rhan o’r ateb i hynny yw lle rydych chi’n lleoli swyddfeydd a symud swyddfeydd allan o Gaerdydd, allan o rai o’r trefi mawr, ond rhan o’r ateb hefyd yw sicrhau bod pethau megis y pwyntiau trydanu yn y llefydd gwaith, so mae pobl yn gallu dewis ffurf amgen i deithio, a bod yna fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus sydd ei hunan wedi’i datgarboneiddio, naill ai drwy LPG neu drwy’r defnydd o hydrogen, sydd yn arbennig â photensial, rydw i’n meddwl, yng Nghymru, ac mae yna gryn dipyn o flaengaredd a sgiliau yng Nghymru yn y maes yma.

Felly, mae Plaid Cymru yn meddwl pe bai’r tri maes yma, a’r pedwar gwelliant, yn cael eu hychwanegu i’r cynnig gan y Llywodraeth, y byddem ni’n fwy tebygol o gyrraedd y nod—nod yr ydym ni yn ei gefnogi—o fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.

Nawr, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i amlinellu, er bod y stad gyhoeddus yn fach o ran ei chyfraniad tuag at garboneiddio, sef 1 y cant, mae hefyd yn sylweddol o ran maint y stad. Felly, un peth y medrwn ni edrych arno yw sut y gallwn ni droi adeiladau’r stad gyhoeddus yn adeiladau sydd yn cynhyrchu ynni di-garbon—paneli haul ar bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru, er enghraifft. Nid oes yna ots os ydyn nhw wedi’u rhestru ai beidio—jest symud at y dyfodol. A sefydlu cwmni fel y soniais i, cwmni Ynni Cymru; edrych ar sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio mwy o gerbydau sydd yn isel, neu’n is eu defnydd o garbon. Pan oeddem ni wedi holi nôl ar ddechrau’r flwyddyn, ces i wybod mai dim ond Ynys Môn, i fod yn onest, sy’n defnyddio cerbydau LPG, ac mae’n siŵr bod yna dipyn o le i fwy o awdurdodau lleol wneud hynny.

Awn ni i edrych ar wledydd eraill cyfagos: yn yr Alban, mae Llywodraeth yr Alban wedi buddsoddi £3 miliwn er mwyn dyblu nifer y bysiau hydrogen yn Aberdeen o 10 i 20. Yn Llundain, rŷm ni newydd weld datblygiad y bws hydrogen ‘double-decker’ cyntaf, ac yn wir, mae’r ddinas honno wedi ymrwymo i gael o leiaf 300 o fysiau dim allyriadau, neu fysiau dim carbon, erbyn 2020. Felly, er ein bod ni weithiau yn dweud wrth ein hunain bod gyda ni ddeddfwriaeth dda yn y fan hyn—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac ati—ac er ein bod ni yn dweud ein hunain bod gyda ni dargedau uchelgeisiol, y ffaith amdani yw nad ydym ni eto ar flaen y gad, ac mae yna dipyn o ddal i fyny gyda ni i’w wneud. Cyn belled â bod y Llywodraeth yn dal ar y trywydd, ac yn cyflymu, ac yn carlamu, yn wir, ar hyd y trywydd yna, fe fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r ymdrechion hyn.

A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn llwyr gefnogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio? Oni bai ein bod yn cymryd camau priodol, credaf bod trychineb yn ein haros, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Ni allwn fforddio gadael i’r ddaear barhau i gynhesu.

Y tri phrif danwydd sy'n seiliedig ar garbon yw glo, olew a nwy. Mae glo yn cynnwys carbon yn bennaf, ynghyd â rhywfaint o elfennau eraill—mae'n danwydd ffosil wedi ei wneud o ddeunydd planhigion marw. Mae olew crai yn gymysgedd o hydrocarbonau a ffurfiwyd o greaduriaid y môr sydd wedi marw. Mae nwy naturiol yn gymysgedd hydrocarbon naturiol sy’n cynnwys methan yn bennaf, ond sy’n aml yn cynnwys symiau amrywiol o alcanau eraill. Caiff ei ffurfio o haenau o ddeunydd planhigion ac anifeiliaid sy’n pydru. Beth sydd gan y tri pheth yma yn gyffredin? Maen nhw’n seiliedig ar garbon.

Mae llosgi carbon, gan dybio bod digon o ocsigen, yn creu carbon deuocsid. Os nad oes digon o ocsigen mae'n cynhyrchu carbon monocsid. Sut ydym ni'n gwybod nad yw'n creu symiau enfawr o garbon monocsid? Oherwydd y gwyddom ni fod carbon monocsid yn wenwyn difrifol. Petaem ni yn creu llawer iawn o garbon monocsid, yna ni fyddai pobl yn fyw. Felly, rydym ni’n gwybod ei fod yn creu carbon deuocsid ac rydym ni’n gwybod ei fod yn creu carbon deuocsid mewn symiau mawr. Fe allem ni hyd yn oed, gan ddefnyddio cyfrifiadau ar bwysau'r deunydd yr ydym ni’n ei losgi, gyfrifo faint o garbon deuocsid yr ydym ni yn ei greu.

Mae nwy tŷ gwydr yn nwy mewn atmosffer sy'n amsugno ac yn allyrru pelydriad o fewn yr ystod is-goch thermol. Y broses hon yw achos sylfaenol yr effaith tŷ gwydr. Y prif nwyon tŷ gwydr yn atmosffer y ddaear yw anwedd dŵr, carbon deuocsid, methan, ocsid nitraidd ac osôn. Heb nwyon tŷ gwydr, byddai tymheredd cyfartalog arwyneb y Ddaear tua -18 canradd. Felly, mae angen rhai ohonyn nhw arnom ni, fel arall byddem yn llawer rhy oer.

Felly, mae gennym ni ddwy ffordd a allai fod yn ddigon am ein hoedl nawr, fe allwn ni naill ai ddarfod o’r tir oherwydd gwenwyn carbon monocsid neu o fod yn rhy oer. Felly, mae angen i ni gael hyn yn hollol iawn. Felly, mae rhai nwyon tŷ gwydr yn anorfod ac yn fuddiol, ond po fwyaf fydd gennym ni, y poethach y bydd. Dyna pam mae hi’n bwysig ein bod ni’n defnyddio llai o garbon.

Sut allwn ni fod yn sicr bod nwyon tŷ gwydr yn cael yr effaith honno? Wel, byddech yn meddwl yr agosach yw planed at yr haul y poethach y byddai hi, ond fe wyddom ni fod y blaned Gwener yn bellach i ffwrdd oddi wrth yr haul—yn sylweddol ymhellach i ffwrdd oddi wrth yr haul—na'r blaned Mercher, ond rydym ni hefyd yn gwybod fod y blaned Gwener yn boethach. Rydym ni’n gwybod pam mae’r blaned Gwener yn boethach—oherwydd bod 96 y cant o'i atmosffer yn garbon deuocsid.

Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad ar hyn o bryd gan unrhyw un sydd eisiau dweud ei fod eisiau gwadu'r ffaith ein bod yn creu nwyon tŷ gwydr drwy garbon deuocsid a’i fod yn gwneud y Ddaear yn gynhesach. Nid wyf yn deall syniadau’r bobl hyn sy’n gwadu effaith cynhesu byd-eang o waith dyn, gan ei fod yn tynnu’n groes i holl egwyddorion gwyddoniaeth sylfaenol. Ni fyddai unrhyw beth yr wyf wedi ei darllen yn uchel yma yn peri syndod i rwyun un ar bymtheg oed sy’n gwneud TGAU.

Mae datgarboneiddio'r sector pŵer yn golygu lleihau ei ddefnydd o garbon. Hynny yw, yr allyriadau fesul uned o drydan a gynhyrchir mewn gram o garbon deuocsid fesul cilowat yr awr. Mae hyn yn angenrheidiol i gyflawni'r targedau gorfodol ynglŷn ag allyriadau nwyon tŷ gwydr gorfodol a osodir yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd y DU, sy'n ei gwneud hi’n ofynnol i leihau allyriadau gan 80 y cant erbyn 2050 o’u cymharu â lefelau 1990. Mae'n rhaid i ni wneud hynny, ac mae’n rhaid i bob un ohonom ni wneud hynny.

Mae modd datgarboneiddio’r sector ynni yn raddol drwy gynyddu cyfran y ffynonellau ynni carbon isel fel ynni adnewyddadwy, fel: gwynt, yn enwedig gwynt ar y môr, sy'n llawer mwy dibynadwy na gwynt ar y tir; ynni solar, a oedd yn boblogaidd iawn ac yna fe benderfynodd y Llywodraeth Geidwadol, gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol, dorri’r cymhorthdal ​​arno; ac ynni'r llanw, ac rwy’n siarad fel rhywun a allai siarad am y dau funud a hanner nesaf ar ynni llanw, hyd yn oed pe na byddech chi’n caniatáu i mi wneud hyny, Dirprwy Lywydd. Ond mae'n ddibynadwy. Mae'n un peth yr ydym ni’n ei wybod—bydd y llanw a’r trai yn parhau, cyn bellad â bod y lleuad yn aros yn ei le. Os bydd y lleuad wedi mynd, mae gennym ni broblem fwy na'r ffaith fod ynni'r llanw wedi mynd.

Felly, mae angen i ni ddefnyddio’r mathau amgen hyn o ynni. Mae angen i ni ddefnyddio ceir trydan. Mae angen i ni ddechrau meddwl—yn y geiriau anfarwol hynny: dim ond un blaned sydd gennym ni; os dinistriwn ni hi, ni allwn fynd a defnyddio un arall. Dyna yn wir yw’r allwedd.

Dadl arall sydd wedi ei mynegi yw bod Cymru yn rhy fach ac nad oes ots beth a wnawn ni. Mae’r hyn a wnawn ni fel unigolion i gyd o bwys mawr. Fe wyddom ni fod angen i bawb ddatgarboneiddio—gwledydd mawr a gwledydd bychain, yr ynysoedd lleiaf a'r gwledydd mwyaf. Mae angen hyd yn oed i America Donald Trump ddatgarboneiddio. Mae angen i ni chwarae ein rhan i sicrhau byd cynaliadwy. Ar ba gam y byddwn ni’n dweud, 'O, wel, fe awn ni yn ôl a dechrau eto'? Oherwydd allwn ni ddim. Os aiff y Ddaear yn rhy boeth, bydd hi’n amhosibl i bobl fyw mewn rhannau helaeth ohoni. Bydd pobl yn marw, ni fyddwn yn cael y bwyd yr ydym ni wedi arfer ag ef, a bydd lefel y dŵr yn codi. Mae'n gwbl amlwg y dyddiau hyn: mae angen i ni sicrhau ein bod yn datgarboneiddio, a chroesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau gwneud hynny.

Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno dadl heddiw. Mae gennym ni ddiddordeb mewn materion amgylcheddol yn UKIP ac, yn arbennig, rydym ni’n pryderu bod ansawdd yr aer yn gwaethygu. Mae hon yn agwedd a godwyd yn benodol gan Blaid Cymru yn eu pedwerydd gwelliant heddiw. Allwn ni ddim osgoi y bygythiad iechyd cynyddol a achosir oherwydd bod ansawdd yr aer o'n cwmpas yn gwaethygu, fel mae nifer yr achosion cynyddol o asthma a chyflyrau iechyd eraill cysylltiedig yn ei ddangos. Mae llawer o gymunedau trefol yng Nghymru yn dioddef oherwydd bod ansawdd yr aer yn dirywio ac fe gafwyd tystiolaeth yn ddiweddar fod gan Crymlyn yn y de-ddwyrain un o'r amgylcheddau gwaethaf o ran ansawdd aer yn y DU gyfan. Mae hyn yn peri digon o bryder i drigolion Crymlyn, wrth gwrs, ond y gwir amdani yw bod melltith ansawdd aer gwael yn effeithio ar y rhan fwyaf o'n hardaloedd adeiledig yng Nghymru. Mae angen i ni wneud yr hyn a allwn ni i fynd i'r afael â'r mater hwn ac rydym ni’n ategu’r galwadau ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer yn rhan o'i rhaglen o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus. Felly, rydym ni’n cefnogi gwelliant 4 Plaid Cymru.

Rwy’n cydnabod rhai o’r pwyntiau a gododd Mike Hedges am yr hyn y cyfeirir ato fel gwadu bod newid yn yr hinsawdd. Rwy’n meddwl, weithiau, bod yr ymadrodd ei hun ychydig yn gamarweiniol gan nad oes, weithiau, wadu bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, ond yn hytrach amheuaeth ynglŷn â faint o newid yn yr hinsawdd mae dyn yn gyfrifol amdano. Felly, efallai, weithiau, bod mwy o fân amrywiaeth na dewis syml, du neu wyn, o ran pa un a ydym ni’n derbyn bod newid yn yr hinsawdd ai peidio. Felly, gobeithio y byddwch yn cydnabod fod yna amrywiaeth barn ar y mater hwn.

Rydym ni’n gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth yn gyffredinol. Credwn y gwneir llawer o ymdrech yn rhyngwladol ac yn y DU i geisio lleihau allyriadau carbon gydag ychydig iawn o effaith gadarnhaol. Unwaith eto, rwy’n derbyn yr hyn y mae Mike Hedges newydd ei ddweud, bod angen i ni wneud ymdrech yng Nghymru. Fodd bynnag, ein barn sylfaenol ni, ein cynsail sylfaenol yw bod ein hallyriadau carbon yn y DU yn ddiferyn yn y môr o’u cymharu â rhai Tsieina, er enghraifft. Nid yw hi’n bosibl gweithredu i leihau allyriadau byd-eang yn effeithiol heblaw bod hynny’n digwydd ar lefel fyd-eang, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys deddfwriaeth orfodol sy’n cyfyngu’n sylweddol ar effaith llygru Tsieina a gwledydd eraill sy’n llygru ar raddfa fawr.

Yn y DU, mae effaith negyddol sylweddol yn ein hymdrechion i leihau allyriadau carbon o ran sut mae’r ymdrechion hyn yn effeithio ar bocedi pobl gyffredin. Cynhyrchodd y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang adroddiad ym mis Rhagfyr 2016 yn datgan bod pob aelwyd ym Mhrydain yn talu dros £300 y flwyddyn ar gyfartaledd i leihau allyriadau carbon. Mae hyn er mwyn talu am y newid i ffynonellau ynni drutach er mwyn cydymffurfio â Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Ar lefel Llywodraeth Cymru, bydd cost i'r cyhoedd hefyd o weithredu'r mesurau datgarboneiddio hyn, ac, yn y pen draw, fel mae sawl siaradwr wedi crybwyll heddiw, nid yw’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael effaith sylweddol ar allyriadau carbon. Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru ei hun, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y sector cyhoeddus yn gyfrifol am lai nag 1 y cant o gyfanswm allyriadau carbon yng Nghymru, ac fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod hyn yn ei sylwadau agoriadol. Cyfeiriodd siaradwr arall at y ffigur hwnnw hefyd, felly mae'n ymddangos bod consensws ynglŷn â’r ffigur hwnnw. Felly, tybed pam y gwneir ymdrech mor fawr i leihau ymhellach allyriadau mewn sector sydd mor ddibwys yn y darlun ehangach.

Safbwynt yr Undeb Ewropeaidd ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd oedd bod angen i bob adeilad cyhoeddus newydd fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2018 a phob adeilad newydd erbyn 2020. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, yn gallu egluro beth yw'r sefyllfa, oherwydd rydym ni’n dal i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd ac mae'n rhaid i ni gydymffurfio â'i reoliadau. Credaf ei bod hi’n bwysig iawn cofio bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gorfodi pob un o’r 46 corff cyhoeddus i fynd i'r afael â chynaliadwyedd, ac nid peryglu lles cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy’n cymeradwyo llawer o'r pwyntiau a gododd David Melding—mae’n anodd iawn anghytuno ag ef ar y pwnc hwn—er na fyddaf i, yn anffodus, yn pleidleisio dros ei welliannau.

Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ganmol swyddogaeth coed, y sylwedd, a sut y gall helpu Cymru i gyrraedd ei tharged carbon niwtral yn y sector cyhoeddus erbyn 2030. Oherwydd bod gan y sector cyhoeddus swyddogaeth enfawr i'w chwarae wrth ddangos y ffordd tuag at economi carbon isel i’r sector preifat, pan fo gennym ni ar hyn o bryd adeiladwyr tai preifat blaenllaw sydd mor amharod i newid ac yn parhau i ddefnyddio ffyrdd o adeiladu nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn mynd i'r afael yn briodol â defnyddio ynni'n effeithlon. Mae'n ymddangos i mi bod defnyddio coed yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig ar gyfer adeiladau, yn ffordd o ddefnyddio pwynt gwerthu unigryw Cymru fel gwlad sydd â digonedd o dir, yn ogystal â thir sy'n addas ar gyfer tyfu coed. Mae'n ddiddorol nodi mai busnesau sy’n gweithio gyda choed yw’r pumed sector diwydiannol mwyaf yn y DU. Felly, mae hyn yn cyfrannu'n fawr iawn at yr economi, ac fe all adeiladu gyda choed newid wyneb datblygu cynaliadwy. Ond mae'n drist mai dim ond 15 y cant o'r coed a ddefnyddiwn ni yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd gaiff eu tyfu yn y DU, ac mai’r DU yw'r trydydd mewnforiwr mwyaf o goed yn y byd.

Mae tai coed yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfrif am lai na 25 y cant o'r holl dai newydd a gaiff eu hadeiladu. Yn yr Alban, mewn gwrthgyferbyniad, mae tai ffrâm coed yn cyfrif am dros 75 y cant o'r farchnad adeiladu newydd. Mae angen i ni dyfu mwy o goed ar frys ac mae’n amlwg nad oes modd gwneud hyn dros nos. Byddai’n cymryd rhwng 25 a 40 mlynedd cyn gallu eu cynaeafu. Ond mae angen i ni hefyd adeiladu llawer mwy o dai er mwyn bodloni anghenion ein poblogaeth, gan gynnwys tai cyngor a mathau eraill o dai cymdeithasol. Mae’r tai mwyaf effeithlon, carbon isel, sy’n perfformio orau ar draws y byd wedi eu hadeiladu o goed. Felly, yn y gorffennol, nid oedd unrhyw reswm i herio swyddogaeth dur a choncrid mewn adeiladu, ond mae newid yn yr hinsawdd yn newid hynny fel popeth arall. Mae pobl fel Michael Green, pensaer o Ganada, yn ein hannog i gyfnewid dur a choncrid am goed mewn llyfr a gyhoeddodd yn 2012. Dywedodd fod dur a choncrid yn:

ddeunyddiau gwych ... ond ... mae angen symiau enfawr o ynni i’w cynhyrchu ac mae ganddyn nhw ôl traed carbon sylweddol.

Mae newid yn yr hinsawdd a'r angen am fwy o dai trefol yn gwrthdaro mewn argyfwng sy'n gofyn am atebion adeiladu ynni isel gydag ôl traed carbon isel.

Fel deunydd adnewyddadwy sy’n tyfu trwy bŵer yr haul, mae coed yn cynnig ffordd newydd o feddwl am ein dyfodol. Mae gwneud hynny yn golygu ailddyfeisio pren; gan ei wneud yn gryfach, yn fwy galluog i wrthsefyll tân, yn fwy gwydn a’i gynaeafu o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Ac nid dim ond Green sy'n dadlau’r achos hwnnw. Mae’r Athro Callum Hill, sy’n arbenigwr ar ddeunyddiau ym Mhrifysgol Napier Caeredin, yn nodi bod cynnyrch coed yn amsugno mwy o garbon nag a ddefnyddir wrth eu cynhyrchu. Maen nhw’n lleihau carbon deuocsid yn yr atmosffer drwy leihau allyriadau a chael gwared ar garbon deuocsid a'i storio. Mae gan goed y gallu unigryw hwnnw. Cymeradwyaf gamau Cyngor Sir Powys o ran mabwysiadu polisi sy’n blaenoriaethu coed, a dyma’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Fe allwn ni weld o'r hyn sydd wedi digwydd yn Hackney yn Llundain, sy’n amlwg yn awdurdod lleol heb fawr ddim tir, ac a fabwysiadodd y polisi coed cyntaf sawl blwyddyn yn ôl, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri am ansawdd ei dai, ysgolion ac adeiladau cyhoeddus. Mae hon yn ffordd yr wyf i’n teimlo y dylem ni fod yn ei throedio yng Nghymru. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod pa un a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi meddwl am hynny.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl.

Member
Lesley Griffiths 17:08:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl.  Yn yr hinsawdd economaidd heriol iawn sydd ohoni, rwy’n credu y bydd y ffordd y byddwn ni’n ymateb i'r heriau a'r buddsoddiadau a wnawn yn awr yn sicr yn pennu dichonoldeb y sector cyhoeddus a'n dyfodol ar y cyd yng Nghymru. Fe wyddom ni y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw naill ai yn arwain at gyfnod newydd o gydweithio ac effeithlonrwydd, neu y byddant yn ein caethiwo i ffordd hen ffasiwn ac, yn y pen draw, drutach o ran carbon, a fydd wedyn yn bygwth darpariaeth gwasanaethau allweddol.

Os caf i droi at y gwelliannau. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf. Rydym ni’n mynd i’r afael â’r cyllidebau carbon, fel y dywedodd David Melding, yn unol â’r amserlen a bennwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar amseriad y rheoliadau eisoes pan aeth y ddeddfwriaeth drwy'r Cynulliad blaenorol. Nid wyf am geisio symud amserlen y gyllideb garbon ymlaen. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y cyllidebau hynny a'r targedau interim ar y lefelau cywir. Mae angen iddyn nhw fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac, fel y dywedasoch chi, mae gennym ni hyd at ddiwedd 2018. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 2. Bydd cyllidebau carbon yn ymgorffori’r darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llawn. Rwy’n gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sydd, credwch chi fi, yn ein gwylio yn fanwl iawn, ym maes datgarboneiddio, i sicrhau ein bod yn ymgorffori’n llawn holl egwyddorion a nodau’r Ddeddf yn ein holl waith datgarboneiddio, nid yn unig yn y sector cyhoeddus.

Ni fyddwn yn cefnogi'r trydydd gwelliant. Wrth ystyried pa un a ddylai Llywodraeth Cymru naill ai ddatblygu neu hyrwyddo cwmni ynni cyhoeddus, mae'n hollbywsig bod yn glir iawn ynghylch diben corff o'r fath a'r manteision, y peryglon a’r costau posibl. Mae llawer o'r swyddogaethau a gynigiwyd gan Ynni Cymru eisoes yn cael eu datblygu drwy raglenni cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis ein rhaglen Cartrefi Cynnes, y Gwasanaeth Ynni Lleol a swyddfa gymorth Twf Gwyrdd Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus.

Bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol o drafodaethau blaenorol ein bod wedi cael cyfres o ddigwyddiadau i gychwyn sgwrs gyda rhanddeiliaid ym mis Mawrth eleni, ac roedd hynny yn ymwneud â’r posibilrwydd o sefydlu cwmni ynni o'r fath ar gyfer Cymru, a sut y gallai hynny gyd-fynd â'n swyddogaeth o ran hyrwyddo’r broses o ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru. Ac rwy’n meddwl mai’r hyn a wnaeth y digwyddiadau hynny, mewn gwirionedd, oedd rhoi consensws clir iawn ynghylch y peryglon, yr heriau a'r tensiynau anorfod petai Llywodraeth Cymru yn sefydlu ac yna’n rhedeg cwmni cyflenwi ynni, a fyddai’n gorbwyso’n gryf iawn, rwy’n tybio, y manteision posibl o wneud hynny. Ac rwy’n credu mai’r neges a gefais i yn y digwyddiadau hynny yw bod angen i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar lenwi'r bylchau, gan gysylltu a chefnogi pethau na fyddai’n digwydd yn naturiol.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 4. Mae modd i ymdrechion a wneir i leihau allyriadau carbon fynd i'r afael hefyd ag allyriadau o lygryddion aer, ac mae'n bwysig bod cymaint â phosib o gyd-dynnu ac o osgoi effeithiau negyddol anfwriadol. Byddwn yn cydweithio i ddatblygu ein fframwaith parthau aer glân i Gymru ac, unwaith eto, caiff y gwaith hwnnw ei adlewyrchu yn y gweithgor rhanddeiliaid Brexit ar yr aer a’r hinsawdd.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 5. Mae cefnogaeth ar gael i'r sector cyhoeddus addasu er mwyn cyflwyno mannau i wefrio cerbydau trydan, er enghraifft, yn eu safleoedd, ar gyfer gweithwyr ac ymwelwyr. Ac rydym ni’n cefnogi prosiect Carbon Cadarnhaol Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyfeiriais i ato yn fy sylwadau agoriadol, ac a arweiniodd at osod seilwaith o'r fath. Nid yw hyn yn eithriadol o gymhleth, nid yw’n rhy ddrud, ac rwy’n disgwyl yn syml i'r sector cyhoeddus gyflawni hynny.

A byddwn yn cefnogi gwelliant 6. Mae ein rhaglen Byw yn Glyfar yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus, y byd academaidd a busnesau i gyflwyno ystod o ddyfeisiau arddangos clyfar, gan gynnwys uchelgeisiau o ran hydrogen. Mae’n bosibl y bydd hydrogen yn bwysig yn y dyfodol fel cyfrwng i gludo a storio ynni, ac yn rhan o'r gwaith hwn, rydym ni wedi sefydlu grŵp cyfeirio hydrogen sy’n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector, gyda'r nod o gyflwyno arddangosydd hydrogen a allai gynnwys trafnidiaeth.

Os caf i droi at sylwadau'r Aelodau, rwy’n credu bod David Melding wedi deall yn union pam yr ydym ni’n gwneud hyn gyda'r sector cyhoeddus, er ei fod yn cyfrif am ddim ond 1 y cant o'n hallyriadau; mae a wnelo â’r ffactor lluosogi y soniasoch chi amdano. A, dim ond i dawelu eich meddwl, rwy’n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gael gwell perthynas yn y dyfodol rhwng ein cyllidebau cyllid a'n cyllidebau carbon.

Fe gyfeiriodd Simon Thomas at staff yn cymudo, er enghraifft, ac fe siaradodd hefyd am brosiect Carbon Cadarnhaol Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y gwaith a wnaethon nhw o ran bod eu staff yn cymudo a gosod y seilwaith o ran cerbydau carbon isel yn drawiadol iawn. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried gwneud prosiect tebyg ar draws ystâd Llywodraeth Cymru a chyda’n swyddogion, ac rwy’n meddwl y bydd hi’n dipyn o syndod i ni weld beth ddaw o hynny. Ar hyn o bryd rwy’n mynd trwy broses gaffael i osod mannau gwefru cerbydau trydan ar draws ein hystâd, ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei gwblhau erbyn yr hydref.

Pwysleisiodd Mike Hedges na allwn ni ddal ati fel yr ydym ni a’r rhesymau am hynny. Mae a wnelo hyn nid yn unig â’r swyddi a’r cyfleoedd fyddai’n deillio o economi carbon isel; mae'n ymwneud â'r manteision iechyd, ac fe gyfeiriodd Gareth Bennett at yr angen i edrych ar ansawdd yr aer yn rhan o hynny. A dyna pam yr ydym yn cefnogi gwelliant 4.

Soniodd Jenny Rathbone am ddefnyddio coed ar gyfer adeiladu tai, ac rwy'n awyddus iawn i weld hynny. Ac yn fy nhrafodaethau gyda nid yn unig Ysgrifenyddion y Cabinet ond Gweinidogion hefyd, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n frwdfrydig iawn yn ei gylch. Cafodd Julie James a minnau drafodaeth hir am sgiliau, gan ei bod hi’n bwysig iawn bod y sgiliau i wneud hynny yn bodoli. Roeddwn i’n falch iawn o gael agor Pentre Solar y llynedd, sef tai yn y gorllewin sydd wedi eu hadeiladu o goed. Cytunaf yn llwyr â chi fod angen i ni dyfu mwy o goed, ac rydych chi'n iawn: mae’r polisïau yr ydym ni’n eu gweithredu nawr yn rhai tymor hir iawn; rydym ni’n sôn am 30 mlynedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddais i gael Confor a Chyfoeth Naturiol Cymru i’r un ystafell, gan ei bod hi’n bwysig iawn nad ydym ni’n plannu mwy o goed yn unig, ond ein bod yn plannu'r coed iawn yn y lleoedd iawn yn y dyfodol.

Soniais mai ein huchelgais yw i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Rwy'n credu fy mod i wedi amlygu’r dystiolaeth sy'n dangos bod y sector wir yn cael dylanwad sylweddol yn y maes hwn, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn dangos yr arweinyddiaeth honno. Ac fe hoffwn i annog pob cyd-Aelod i ymateb i'r alwad am dystiolaeth ynglŷn â datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, er mwyn i ni gael yr ystod eang o dystiolaeth honno er mwyn i ni allu ystyried sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r mater pwysig iawn hwn. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni’n gohirio pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r ddadl ar Gam 4 o'r Bil Treth Tirlenwi Gwarediadau (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gyflwyno’r cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6351 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 17:15:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i heddiw gyflwyno’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w gymeradwyo.

Can I very briefly thank all those who’ve been involved during the passage of the Bill, a committed and expert group of officials who have provided exemplary advice throughout the development and passage of the Bill? As Members here will know, there is a small base of taxpayers in this field here in Wales in a technical, specialist area and I’ve been very grateful to them, the practitioners, for their willingness to contribute their expertise throughout the Bill’s development.

I’m especially grateful to the Assembly committees who’ve had the responsibility of scrutinising the Bill, both the Constitutional and Legislative Affairs Committee and especially the Finance Committee and its Chair, Simon Thomas. Scrutiny has improved this Bill, Dirprwy Lywydd, from the very specific issues of how waste should be weighed or water discounts calculated to the broader matters of identifying the environmental purpose of the tax on the face of the Bill and a reference there to the communities scheme.

The next phase of work will now involve the implementation of the two taxes brought before the Assembly in the first year of this Assembly term and the formal establishment of the Welsh Revenue Authority in October, with a first meeting of the newly established WRA board.

Dirprwy Lywydd, I believe that this Assembly has taken a collaborative and constructive approach to this legislation, based on the shared desire to create fair and robust tax legislation here in Wales. In that spirit of co-operation, I hope Members will support the passage of this Bill this afternoon, the third of three Welsh tax bills.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi hynt y Bil hwn yng Nghyfnod 4 o’r ddeddfwriaeth hon. Fel y gwnaethoch chi eich hun ei nodi dros wythnosau a misoedd y broses hon, efallai na fydd y dreth dirlenwi, yr ail dreth i gael ei datganoli, yn destun sgyrsiau mewn tafarndai a chlybiau ar draws y wlad. Serch hynny, mae'n dreth bwysig, yn offeryn pwysig ym mlwch offer Llywodraeth Cymru, y siaredir yn aml amdano. Ac mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod gennym ein holynydd ein hunain i’r dreth honno, pan gaiff y dreth dirlenwi ledled y DU ei diffodd ym mis Ebrill 2018. Mae’r dyddiad cau hwnnw yn prysur agosáu, felly rydym ni’n gwerthfawrogi bod angen i Lywodraeth Cymru gael dewis arall.

Mae'n dreth bwysig oherwydd ei hagwedd amgylcheddol, a drafodwyd yn helaeth gan aelodau pwyllgor yn sesiynau’r Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, dros gyfnod o amser, rydym yn gobeithio y bydd yr incwm a ddaw o’r dreth yn lleihau oherwydd ein bod yn gobeithio y bydd maint y tirlenwi yn gostwng dros amser. Ond mae galw mawr am y dreth hon ar hyn o bryd, a bydd hynny’n parhau yn y dyfodol rhagweladwy.

Hoffwn ddiolch i chi hefyd am y ffordd yr ydych chi —a’ch swyddogion—wedi ymdrin â mi ac am y ffordd yr ydych wedi ymdrin â Simon Thomas, Cadeirydd y pwyllgor a'r Pwyllgor Cyllid? Nid yw wedi bod yn dreth, yn dasg hawdd bob amser—rwyf wedi cymysgu fy nhrethi a’m tasgau. Fe wnes i ddarganfod yn ystod y misoedd diwethaf y gall deddfwriaeth trethi, hyd yn oed pan mae’n ymddangos yn syml iawn ar y dechrau, fod yn fater llawer mwy cymhleth nag a ragwelwyd yn y lle cyntaf, ar ddiwedd y dydd. Felly, diolch i chi am eich amynedd ac am amynedd eich swyddogion.

Fel y dywedasoch yn eich sylwadau agoriadol, y cam nesaf fydd gweithredu. Hyd yn oed ers y broses gysylltiedig â Cham 3 a Cham 2 a'r gwelliannau a wnaed, fel y gwyddoch, mae un neu ddau o welliannau, na chafodd eu cyflwyno ar y pryd am wahanol resymau, wedi denu fy sylw, ac mae’r broses o weithredu a datblygu’r dreth i'w gwneud o hyd. Gwnaethoch nifer o addewidion yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid y byddech chi’n gwylio’r broses honno yn agos iawn ac y byddech chi, lle nad yw'r gwelliannau wedi eu cyflwyno i ymdrin â phob agwedd ar hyn, yn cadw llygad barcud i sicrhau bod y dreth yn datblygu yn y ffordd y byddech chi a’r pwyllgor yn ei dymuno, a bod ysbryd y ddeddfwriaeth honno yn datblygu gyda’r amser i ddod.

Rwy’n gobeithio y byddwch ar wyliadwriaeth nawr, ac rwy’n gobeithio, pan fydd diffygion yn dod i’r amlwg—. Oherwydd nid oes unrhyw dreth yn berffaith yn ei datblygiad cychwynnol, felly rwy'n siŵr y bydd—yn sicr fe fydd—diffygion a ddaw i’r amlwg yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rwy’n gobeithio y byddwch chi a Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus i sicrhau bod y rheini’n cael eu datrys. Mae gennym y dreth trafodiadau tir ar yr un pryd, ac rydych eisoes wedi crybwyll Awdurdod Cyllid Cymru, a gwn eich bod yn ymdopi â llawer o dasgau ar yr un pryd gyda'r holl waith hwn o ddatganoli trethi. Fel y gwyddoch ac rwyf i wedi dweud, nid yw'n dasg hawdd. Rydym yn fwy na bodlon, o fewn y Ceidwadwyr Cymreig, i'ch cefnogi chi ar y llwybr anodd hwn, ac rwy’n gwybod eich bod yn cael cefnogaeth aelodau pwyllgor eraill ac Aelodau eraill o'r Siambr hon i sicrhau bod y broses hon o ddatganoli trethi mor ddidrafferth ac mor broffesiynol ac, ar ddiwedd y dydd, mor syml a dealladwy â phosibl i’r bobl allan yna, nid yn unig i’r bobl i mewn yma.

Rŷm ni’n croesawu, wrth gwrs, pasio’r Bil treth gwarediadau tirlenwi. Fel sydd wedi cael ei ddweud, rydw i’n credu, nifer o weithiau yn ystod y broses yma, mae e’n gam pwysig arall yn natblygiad y gyfundrefn dreth gyntaf i Gymru gael ers bron i 800 mlynedd. Hynny yw, mae cynnydd Cymru wastad wedi bod yn, efallai, ychydig bach yn igam-ogam, ‘zig-zag’, ond mae yna gynnydd, ac mae’n rhan o aeddfedu ein democratiaeth ni, a dweud y gwir, ac mae hynny i’w groesawu yn fawr.

Rŷm ni’n hapus, a bod yn benodol, i weld gwelliant Plaid Cymru i’r Bil a basiwyd ar Gyfnod 3, ac yn ddiolchgar iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei gefnogaeth a’i barodrwydd i wrando, a dweud y gwir, bob amser, a gweithio gyda ni yn drawsbleidiol yn y ffordd sydd yn diffinio, rydw i’n credu, yr ysbryd mae ef wastad yn cynrychioli o ran ymwneud â’r lle yma.

Mae gwelliant Plaid Cymru, wrth gwrs, yn sicrhau y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymreig dynnu sylw at amcanion y Bil wrth ymarfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Bil. Mae hyn yn rhoi’r amcan amgylcheddol yn flaenllaw, ac yn sicrhau y bydd yn cael ei weithredu yn y ffordd yr oedd e wedi cael ei ddylunio, sef, wrth gwrs, annog lleihad yng ngwastraff tirlenwi yn y dyfodol.

Mae’r dreth yma, fel sydd wedi cael ei ddweud nifer o weithiau, wrth gwrs, yn dreth sydd yn ceisio rhoi ei hunan mas o fusnes, fel petai. Ac, wrth gwrs, bwriad y gwelliant yma oedd jest i atgyfnerthu hynny a sicrhau bod hynny bob amser yn uchel, fel mae’n siŵr y bydd e, ym meddwl y Gweinidog a’i gydweithwyr wrth symud ymlaen i weithredu, wrth gwrs, ar y Bil yma.

Nid wyf yn tybio bod y Bil hwn yn destun sgwrs mewn bariau a chlybiau ledled y wlad, ond, os byddaf byth yn cael fy hun mewn bar ac yn cwrdd â gweithredwr tirlenwi, byddaf yn gallu siarad ag ef neu hi am oriau lawer am dirlenwi a’i weithrediadau. Ac mae hynny, i raddau helaeth, yn broses ddysgu i mi fynd drwyddi ar y pwyllgor, ond rwy’n credu i’r Llywodraeth fynd drwyddi hefyd, oherwydd bod nifer o welliannau, a gododd yn uniongyrchol o’r broses gasglu tystiolaeth a gawsom, sydd wedi gwella’r Bil a sicrhau y gall y Bil weithredu'n effeithiol.

Rwyf wedi bod ar sawl pwyllgor yma yn ystod y chwe blynedd diwethaf sydd wedi cyflwyno Biliau. Mewn swyddogaeth wahanol rwyf wedi gwneud Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn flaenorol, ac, mewn swyddogaeth wahanol arall, rwyf wedi gwneud Biliau seneddol. Mae'n rhaid i mi ddweud mai hon fu’r broses gwneud Bil fwyaf effeithiol yr ydym wedi ymgymryd â hi. Rwy’n credu bod angen i hyn fynd ar y cofnod, a hoffwn ddiolch i’r Gweinidog a'i swyddogion am helpu’r broses, ond hefyd i fy nghyd-aelodau ar y Pwyllgor Cyllid ac aelodau ein tîm hefyd am sicrhau’r broses ddidrafferth honno.

Rwy'n credu bod llawer o hynny o ganlyniad i ddull y pwyllgor o weithredu, ond hefyd o ganlyniad i ddull Ysgrifennydd y Cabinet o weithredu. Nid yn unig bu’n gwrando ar welliannau ond bu hefyd yn gweithio ar welliannau gydag Aelodau’r gwrthbleidiau. Rwy’n credu bod hyn yn chwa o awyr iach, a chawsom y rhyfeddodau—rhyfeddodau llwyr —o weld dau welliant yn cael eu datblygu a’u trafod gan aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur mewn pwyllgor Bil. Nawr, mae hyn yw rhywbeth newydd yr hoffwn weld mwy ohono, rhaid i mi ddweud. Rwy’n dymuno gweld mwy o hyn, a’i ddatblygu’n llwyr yn yr ysbryd iawn, a bod aelodau meinciau cefn yn dwyn eu Llywodraeth i gyfrif, ond yn bwrw syniadau diddorol, y mae’r Llywodraeth wedyn yn ymateb iddynt. Ac, yn wir, cafodd o leiaf un ohonynt effaith wirioneddol ar y Bil a’i newid.

Felly, dyma’r ffordd y dylem fod yn gwneud deddfwriaeth, rwy’n credu, Dirprwy Lywydd. Dim ond yr achos—. Oherwydd bod gennych weithiau wahaniaeth ideolegol, rwy’n derbyn hynny. Os yw’n fater o werthu tai cyngor sydd, beth bynnag ydyw, rydych yn mynd i gael y gwahaniaeth hwnnw, ac ni allwch weithio yn yr un ffordd. Ond, pan allwn weld yr hyn y mae modd inni ei gyflawni gyda'n gilydd, fe allwn, rwy’n credu, wella Biliau yn sylweddol. Ond, yn enwedig os ydym ni’n mynd i gael Biliau trethi a dull deddfwriaethol o weithredu proses y gyllideb, sy'n rhywbeth, unwaith eto, y mae’r Pwyllgor Cyllid â diddordeb ynddo, yna, po fwyaf y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, y gorau y byddwn ni fel senedd, ond, yn bwysicach fyth, bydd y pleidleiswyr yn gwybod beth rydym yn ei wneud, yn deall pam ein bod yn ei wneud, ac felly yn cefnogi'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y ffordd y gwnaeth fynd ati i gyflawni hyn a dweud bod hwn, ar ddiwedd y dydd, yn Fil Llywodraeth Cymru, ond wedi’i basio gan senedd Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ateb y ddadl honno.

Member
Mark Drakeford 17:26:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn drwy gydol hynt y Bil i allu dibynnu ar gyngor Nick Ramsay ar yr hyn sy'n cael ei drafod yn nhafarndai a chlybiau Cymru. Bob tro iddo fy sicrhau i nad yw'r Bil hwn yn cael ei drafod yno, rwyf wedi bod yn hapusach. Yr hyn yr wyf yn sicr ohono yw y bydd hyn yn newid yn fuan os nad ydym yn llwyddo i weithredu’r trethi hyn yn iawn, a bydd pobl yn siarad amdanynt ym mhob man. Felly, roedd yn llygad ei le pan ddywedodd bod gwaith difrifol i'w wneud yn ystod y naw mis nesaf er mwyn sicrhau, pan fyddwn ni’n cyrraedd mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bod Awdurdod Cyllid Cymru yn barod ar gyfer ei gyfrifoldebau. A bydd y ffordd y bydd y ddwy dreth, yr aed â nhw drwy'r Cynulliad Cenedlaethol, yn cael eu gweinyddu yn golygu y gall pobl ledled Cymru fynd ati yn hyderus i gyflawni eu busnes gan wybod bod pethau yn cael eu gwneud yn effeithiol.

Diolch i bob Aelod sydd wedi siarad am yr ysbryd a gafwyd wrth fynd ati i ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon.  Mae'r rhain yn ddarnau technegol iawn a thra arbenigol o ddeddfwriaeth. Nid ydynt yn cynnwys, fel y dywedodd Simon Thomas, faterion ideolegol mawr . Maen nhw’n Filiau sydd wedi elwa ar y broses graffu a’r syniadau a ddaeth yn sgil hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr arwyddion gan yr Aelodau y byddant yn cefnogi—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Diolch i chi am roi tro. Byddwch yn cofio, Ysgrifennydd y Cabinet, i aelodau'r pwyllgor ystyried gwelliant yng nghyfnod 3 a fyddai wedi rhoi ystyriaeth i weithredu proses o adolygu’r dreth dirlenwi. Buom yn trafod hynny gyda chi ac roeddech chi’n credu y byddai'n fwy priodol cael adolygiad o Dreth Trafodiadau Tir a’r dreth dirlenwi, ar gyfer y trethi i gyd, yn hytrach nag un annibynnol yn unig. Tybed a wnewch chi roi sicrwydd i ni y bydd hyn yn cael ei—rwy’n gwybod eich bod wedi ei ystyried, ond rhowch sicrwydd i ni ei fod yn digwydd ac y bydd proses lle bydd holl elfennau’r trethi hyn yn cael eu hailystyried o dro i dro?

Gwnaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw. Mae'n enghraifft arall o ganlyniad lle’r oedd y tri pharti yn gallu dod at ei gilydd i gytuno ar y ffordd orau o wneud yn siŵr y cynhelir adolygiad annibynnol o’r ddwy dreth mewn cyd-destun tebyg, ac i amserlen debyg. Rwyf wedi ymrwymo i wneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr arwyddion o gefnogaeth gan yr Aelodau y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 9. Dadl Frys: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd

Symudwn yn awr at y ddadl frys ar gytundeb hyder a chyflenwad Llywodraeth y DU a’r DUP, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog i agor y ddadl frys hon. Prif Weinidog.

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am yr amser a ganiatawyd ar gyfer y ddadl frys heddiw mewn ymateb i'r amgylchiadau cwbl eithriadol a grëwyd gan gytundeb Llywodraeth y DU â'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd. Daeth telerau'r cytundeb i gynnal Llywodraeth leiafrifol yn Llundain i'r amlwg ddoe a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'r manylion, ond, yn y bôn, mae Llywodraeth y DU wedi clustnodi bron i £1 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf i Ogledd Iwerddon, a llawer mwy yn y blynyddoedd wedi hynny, a byddant yn cael mwy tu hwnt i hynny, rwy’n amau, fel pris cefnogaeth gan y DUP er mwyn cadw'r Llywodraeth Geidwadol ar ei thraed. Yn gyfnewid, bydd y DUP yn cefnogi Araith y Frenhines, Biliau ariannol, a deddfwriaeth ymadael yr UE. Rydym yn clywed y caiff y cytundeb ei oruchwylio gan bwyllgor cydlynu wedi’i gadeirio gan Lywodraeth y DU.

Dirprwy Lywydd, hwn yw’r cytundeb gwleidyddol mwyaf dinistriol o fewn cof. Mae'n annheg, yn anghywir ac yn gyrydol. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthym mai blaenoriaeth Prif Weinidog y DU oedd adeiladu gwlad fwy unedig, gan gryfhau'r rhwymau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhwng Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Wel, mae’r cytundeb hwn yn tanseilio’r union egwyddorion o degwch ac undod sy’n sylfaenol i’r DU.

Mae’n rhaid dosbarthu refeniw ledled y DU mewn modd tryloyw, yn unol ag egwyddorion a rheolau sefydledig sydd ar gael i'r cyhoedd, gan esbonio'n llawn a chyfiawnhau unrhyw wyriad oddi wrth y rheolau hynny. Ni ddylid symud ymlaen ar sail mantais wleidyddol yn y tymor byr. Er ei holl ddiffygion, mae gennym, i fod, ryw fath o system sy'n seiliedig ar reolau o gwmpas fformiwla Barnett. Nawr, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod yn iawn, nid wyf i’n cefnogi Barnett. Mae, ar y gorau, yn amherffaith a dylid ei disodli â system fwy gwrthrychol sy’n dosbarthu adnoddau ar sail angen. Ond, am y tro, dyna’r cyfan sydd gennym.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Llywydd, pe bai fformiwla Barnett yn cael ei chymhwyso i'r cytundeb â’r DUP, byddai Cymru'n cael £1.5 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf a chyfanswm o £1.67 biliwn dros bum mlynedd. Fodd bynnag, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yw y bydd Cymru’n cael sero. Wrth gwrs, nid dim ond Cymru sydd ar ei cholled; ni fydd Lloegr na'r Alban yn cael dim byd ychwaith. A'r cwestiwn yr wyf yn ei ofyn yw: sut y gall hyn fod yn sail i sefydlogrwydd? Sut y gall fod yn sail i unrhyw fath o barch gan bobl Cymru a mannau eraill tuag at Lywodraeth y DU? O leiaf, mae gan bleidleiswyr yr hawl i ddisgwyl y bydd Llywodraeth y dydd yn gwneud ei gorau glas i hybu buddiannau pob rhan o'r DU yn deg ac yn gyfartal. Os yw’r DUP wedi cael arian ychwanegol i’w wario ar seilwaith, ysgolion, y gwasanaeth iechyd a chymunedau difreintiedig gan Lywodraeth y DU yn gyfnewid am eu cefnogaeth, dylid ymestyn hynny ledled y DU, nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon. Nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon y ceir pwysau uniongyrchol ar wasanaethau iechyd ac addysg. Nid dim ond Belfast a ddylai gael darpariaeth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Unig ganlyniad anwybyddu anghenion Cymru, yr Alban a Lloegr yn y ffordd hon fydd hau hadau dicter a chwerwder pellach. Bydd aberthu cyfanrwydd y DU er mwyn cytundeb i ddal gafael ar rym yn byw’n hir yn y cof.

Llywydd, mae'n rhaid i minnau fynegi pryder am yr hyn y mae'r DUP wedi cytuno i'w wneud yn gyfnewid am gynnal y weinyddiaeth hon. Maent, yn ôl pob golwg, wedi cynnig cefnogaeth carte-blanche i Lywodraeth y DU ar gyfer deddfwriaeth gadael yr UE heb gael gweld dim cynigion ar ffurf fanwl. Mae hyn wedi chwalu’n llwyr y trefniadau ymgynghorol a sefydlwyd ar gyfer datblygu ymagwedd at Brexit sy’n cynnwys Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion.

Nawr, mae angen ateb cyfres o gwestiynau. Yn gyntaf, beth yw goblygiadau’r cytundeb hwn i drefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer gwledydd eraill yn y DU ac, yn wir, rhanbarthau Lloegr? A yw Llywodraeth y DU nawr, mewn gwirionedd, wedi cefnu ar y rheolau presennol ar gyfer mantais tymor byr? Bydd gan y Siambr ddiddordeb arbennig mewn clywed gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. A wnaethant ymgynghori ag ef am y cytundeb? A yw'n rhannu fy nicter i ac eraill yn y Siambr hon ynghylch yr achos clir hwn o gam-drin trefniadau ariannu teg? A yw'n cytuno â mi y dylid mwynhau manteision gwariant ychwanegol ledled y DU, nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon? Mae wedi bod yn dawel hyd yn hyn, ond dyma ei gyfle y prynhawn yma.

Beth yw goblygiadau'r cytundeb hwn ar gyfer y broses ymgynghori ledled y DU ar adael yr UE? Yn benodol, os daw Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ôl i fodolaeth, fel y gobeithiaf y daw, sut y mae cytundeb Llywodraeth y DU a’r DUP gydnaws â threfniadau ar gyfer y Cydbwyllgor Gweinidogion? Rydym yn credu bod y cytundeb hwn yn mynd yn groes i arferion cyfansoddiadol sefydledig, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, gallaf hysbysu'r Cynulliad, wedi cymryd y camau cyntaf i gychwyn anghydfod ffurfiol o dan delerau offer datrys anghydfodau’r Cydbwyllgor Gweinidogion.

Rwyf eisoes wedi rhoi fy marn, yn gwbl eglur, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan siaradais ag ef ddoe. Ni allai ateb y cwestiynau a ofynnais bryd hynny, ond, Llywydd, nid wyf yn amau y bydd llawer o Aelodau’n teimlo mor gryf am y materion hyn â mi na neb yn Llywodraeth Cymru, a dyna pam ein bod yn awyddus i roi amser heddiw i’r ddadl frys hon, er mwyn i’r Aelodau gael cyfle i nodi eu meddyliau.

Rwy’n croesawu'r cyfle i sefyll yma heddiw a chyfrannu at y ddadl. Weithiau, pan gaiff batiwr ei anfon allan i fatio, mae'n edrych o gwmpas y cae, dim ond i wneud yn siŵr ei fod yn gweld yr holl faeswyr, ac yna mae'n gwneud yn siŵr nad oes dim o'r gwglis yn ei ddal ar yr ochr anghywir. Yn y pen draw, rwy’n gobeithio gallu, yn amlwg, gwneud synnwyr o'r cytundeb a gynigiwyd ddoe yng nghyd-destun Cymru, ond, yn bwysig, yng nghyd-destun Prif Weinidog Cymru. Oherwydd rwy’n cofio, yr adeg hon y llynedd, pan oedd ef mewn sefyllfa leiafrifol, ac yn amlwg roedd yn cerfio cytundebau â'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn amlwg Plaid Cymru, a gwelsom y llun cofiadwy ohono’n defnyddio ei hances i sychu ei lygaid, bron yn sychu’r dagrau i ffwrdd pan ddaeth y Siambr at ei gilydd ar y bleidlais a’i gwnaeth yn Brif Weinidog. A, heb amheuaeth, roedd y fargen a gafodd Kirsty Williams gan ein Prif Weinidog ni’n llawer mwy oherwydd y bleidlais honno. Eto i gyd, dro ar ôl tro, rydym wedi ceisio canfod beth mae’r cytundeb hwnnw wedi’i olygu, beth mae’r cytundeb hwnnw’n ei olygu a beth yn union yw trefniadau llywodraethu’r cytundeb hwnnw, a hyd yma, nid oes gennym ddim. Bedwar mis ar ddeg yn ddiweddarach, nid oes gennym ddim byd o gwbl.

Gwelsom, yn y concordat a lansiwyd gyda Phlaid Cymru am y cymorth yn ymwneud â chyllidebau, nad ymgynghorir â nhw, yn y pen draw, ar unrhyw beth, oherwydd gwelsom hynny yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r trefniadau Ewropeaidd a’r farchnad sengl. Nid oedd cytundeb rhwng y ddwy blaid, a heddiw yn y datganiad deddfwriaethol, yr ymateb gan Blaid Cymru oedd na fu ymgynghori â nhw o hyd. Felly, rydym mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth leiafrifol yn San Steffan ar ôl yr etholiad cyffredinol. Rydym i gyd yn deall hynny. Rydym i gyd yn deall hynny, ond mae'r rhagrith sy'n dod gan y Prif Weinidog Llafur yn arbennig, yn hytrach na bod yn Brif Weinidog, yn golygu nad yw’n ddim mwy na sylwebydd gwleidyddol drud iawn—yn ôl pob tebyg y sylwebydd gwleidyddol drutaf yng Nghymru, byddwn yn awgrymu—oherwydd yn hytrach na chynnig atebion i faterion Cymru, mae'n ymddangos yr hoffai wneud sylwadau am bopeth nad yw o fewn ei reolaeth. A’r broblem go iawn yma yw beth—[Torri ar draws.] Y mater go iawn yma yw bod y wlad—[Torri ar draws.] Mae’r wlad—

Rwyf am glywed arweinydd yr wrthblaid. Andrew R.T. Davies.

Mae’r Deyrnas Unedig—[Torri ar draws.] Mae angen Llywodraeth ar y Deyrnas Unedig, a Llywodraeth fwyafrifol, i barhau a bwrw ymlaen â'i busnes. Ac felly, i gyflawni’r statws mwyafrifol hwnnw, yn amlwg gwnaethpwyd cytundeb â’r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, yn debyg i— [Torri ar draws.] Gallaf weld yr Aelod dros Ogwr yn grwgnach yn y fan yna, ond mae'n ffaith bod Shaun Woodward, pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol yn 2010 ar ôl etholiad cyffredinol 2010, yn ceisio cerfio bargen gyda'r DUP bryd hynny, a oedd yn cynnwys arian i Ogledd Iwerddon. A hefyd mae’r Arglwydd Adonis, yn ei hunangofiant, yn gwneud yn union yr un pwynt. Nawr, yr hyn sydd angen inni ei wneud yma, o safbwynt Cymru, fel yr wyf wedi’i ddweud dro ar ôl tro, ac fel y dywedais ddoe ac y dywedais yr wythnos diwethaf, yw lle mae’r arian wedi mynd drosodd a chreu budd—

Huw Irranca-Davies a gododd—

Cymeraf yr ymyriad mewn munud. Os oes budd wedi mynd drosodd i Ogledd Iwerddon, mae angen inni sicrhau’r buddion hynny yma yng Nghymru. Ac oeddwn, roeddwn yn siarad â Stryd Downing fore ddoe, Brif Weinidog. Tra’r oeddech chi ar y balconi’n siarad â'r BBC, roeddwn i’n siarad â'r bobl sy'n bwysig. Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r gwahaniaeth rhyngof fi a chi, ac rydym yn gwybod beth yr hoffem ei gyflawni dros Gymru. Y cyfan yr ydych chi am ei wneud yw brolio, Brif Weinidog, ac fe wnewch hynny. Byddwch yn parhau i gael eich gwthio i'r cyrion a'ch rhoi i un ochr yn hytrach na gweithio dros yr hyn sydd er lles gorau Cymru. Nawr, mae'n ffaith—. Mae'n ddrwg gennyf, gwnaf gymryd yr ymyriad.

Rwy’n diolch i Andrew am ildio ar y pwynt hwn, oherwydd mae’n codi’r mater pwysig bod Llywodraethau olynol, fel rhan o'r broses heddwch, yn hanesyddol, yn wir wedi dangos eu cymwynasgarwch i Ogledd Iwerddon er mwyn caledu’r broses heddwch—rhan o'r difidend heddwch, fel y’i gelwir. Hollol gywir. Mae hwn yn fater hollol wahanol. Byddwn yn gofyn iddo ystyried yn ofalus iawn y gwahaniaeth rhwng tanategu’r cytundeb Gwener y Groglith a gwneud yn siŵr bod y sefydliadau hynny’n sefyll, a dangos annhegwch dwfn i'r gwahanol rannau cyfansoddol o’r DU, drwy daro bargen nad yw'n dangos tegwch i rannau eraill. Nid yw hyn yr un peth. A byddwn yn gofyn yn syml, wrth eistedd, i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig siarad fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, nid fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Hoffwn dynnu eich sylw at yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Adonis pan oedd yn trafod gyda'r DUP yn 2010, pan ddywedodd ‘Rydym wedi nodi’r rhifau newydd’ wrth sôn am arian—ar gyfer beth oedd y bleidlais DUP ar y pryd. Felly, ni wnawn gymryd unrhyw ddarlithoedd gan Blaid Lafur Cymru na gan y Blaid Lafur ynglŷn â tharo bargeinion o gwmpas sicrhau pleidleisiau. Yr hyn sy'n dryloyw am y cytundeb hwn yw bod y ffigurau yno ac mae'r cytundeb yno. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud o ochr y Ceidwadwyr Cymreig yw gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod adnoddau’n dod i mewn—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 17:40:00

Wnewch chi gymryd ymyriad?

Does gen i ddim amser. Yr hyn y byddwn yn ei sicrhau, o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, yw, yn hytrach na chael ein gwthio o'r neilltu, fel y caiff y Prif Weinidog, y byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod yr adnoddau’n cael eu darparu i gyflwyno prosiectau er budd Cymru, bod y wlad hon yn cael y Llywodraeth sefydlog sydd ei hangen i fynd â ni drwy broses Brexit, ac yn y pen draw, y cawn ein llywodraethu gan dryloywder a thegwch, yn wahanol i’r hyn y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud—[Torri ar draws.]—yn wahanol i’r hyn y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud wrth geisio gwella ei sefyllfa yma gyda'r Rhyddfrydwyr neu gyda Phlaid Cymru. Dyna'r ffaith. Dyna'r dystiolaeth. Gan y Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn ymdrechu i'r eithaf i sicrhau ein bod yn datgloi’r adnoddau hynny i ddod â nhw i Gymru i geisio’r budd-daliadau. Rwy’n gwybod fy mod yn edrych ar Huw Irranca wrth ddweud hyn, ond yn y pen draw, mae angen i Huw Irranca edrych ar yr hyn yr oedd yn pleidleisio drosto yn 2010 ac yn y pen draw ofyn iddo ei hun: pam y rhagrith? Yr hyn y gallwch ddibynnu arno gan y Ceidwadwyr Cymreig yw y byddwn yn dod â'r adnoddau i mewn i Gymru, yn wahanol i'r Blaid Lafur, a fydd ond yn brolio, fel yr ydym wedi’i weld heddiw gyda Chylchffordd Cymru. A’r hyn sy’n bwysig heddiw yw myfyrio ar sut y gallwn fwrw ymlaen yn adeiladol â safbwynt Cymru yn y Senedd newydd yn San Steffan a dylanwadu i ddod ag adnoddau yma a chreu budd i Gymru, ac ar yr ochr hon i'r Siambr, byddwn yn gwneud hynny. Ni chawn ein gwthio i'r cyrion, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod llais Cymru’n cael ei glywed yn y ddadl hon.

Mae'r cytundeb â’r DUP yn cadw Theresa May mewn grym drwy gytundeb hyder a chyflenwi, ac mae maint a chwmpas y cytundeb yn ddigynsail—£1.5 biliwn, gan gynnwys £1 biliwn o arian newydd, a hyblygrwydd o £500 miliwn o gyllid presennol, heb unrhyw arwydd o ble y mae'r arian hwnnw yn dod. Wel, efallai ei fod yn hud. Maent wedi anwybyddu fformiwla Barnett yn gyfan gwbl, ac rydym yn amcangyfrif bod cost hyn i Gymru yn £1.7 biliwn, ac mae hynny ar ôl toriadau i grant bloc y Cynulliad hwn o—faint? Rydych wedi ei ddyfalu: £1.7 biliwn, yn ôl Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i gyni ariannol. Mae hwn yn arian sydd ei angen ar Gymru. I roi halen ar y briw, mae’r Torïaid yn dweud wrthym bod ein hariannu gwaelodol a’n bargeinion dinesig rywsut yn debyg i’r swm enfawr hwn, er bod y bargeinion dinesig yn cynnwys arian sector cyhoeddus Cymru, o’r Llywodraeth yma ac o awdurdodau lleol, ac er bod y llawr cyllid wedi digwydd yn fwy drwy ddamwain na drwy fwriad.

Ar wahân i'r effaith benodol ar Gymru, mae'n rhaid inni ystyried ble mae hyn yn gadael y DU fel gwladwriaeth yng ngoleuni trafodaethau Brexit. A yw'r trafodwyr ym Mrwsel yn edrych ar lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn gweld sefyllfa sy'n gryf ac yn sefydlog? Annhebygol, byddwn i'n dweud.

Ond dewch inni droi at sefyllfa Cymru yn hyn i gyd. Dylai pobl yng Nghymru fod yn fwy na rhwystredig am y fargen hon; dylent fod yn flin. Mae Cymru bob amser wedi bod yn drydydd yn y ciw, y tu ôl i Ogledd Iwerddon a'r Alban, o ran pwerau a chyllid. Dyw hi ddim fel pe bai angen arian ychwanegol ar y wlad hon. Hon yw’r wlad sydd wedi gwneud y lleiaf o ffwdan. Ni fu’r dawelaf o holl wledydd y DU, ac ni sydd wedi ymddwyn orau. Nid ydym erioed wedi cyffroi’r dyfroedd, ac mae hynny wedi golygu ein bod wedi cael ein gadael ar ôl, ein hanwybyddu. Rydym—ac rwy’n golygu y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, nid unrhyw un blaid wleidyddol—newydd benderfynu, yn eithaf hwyr, y dylem gynnal ein heddlu ein hunain, y dylai fod gennym ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain, ac mae wedi cymryd blynyddoedd lawer inni gyrraedd y consensws hwnnw ar ôl i Ogledd Iwerddon a'r Alban sefydlu’r agweddau hynny ar eu democratiaeth. Rydym yn edrych fel nad ydym wedi bod yn ein parchu ein hunain na’n sefydliad cenedlaethol, felly does ryfedd nad ydym yn cael ein parchu yn San Steffan.

Nid yw'r sefyllfa bresennol a'r ffordd yr ydym wedi bod yn gwneud pethau wedi creu rhyw lawer o drosoledd. Nid yw Llywodraethau yn San Steffan yn gweld unrhyw awydd go iawn am newid cyfansoddiadol o Gymru. Mae Swyddfa Cymru, sydd wedi’i hail-frandio nawr fel Llywodraeth y DU Cymru, yn gwneud yr hyn mae'n ei ddweud ar y tun: gweithredu fel llefarydd dros San Steffan yng Nghymru, nid fel llais dros Gymru yn San Steffan. Rhaid i hynny newid, a dyna pam yr wyf yn galw ar bob un AS Torïaidd i sefyll gyda Chymru i bleidleisio yn erbyn Araith y Frenhines oni bai a hyd nes y gallant gael arian ychwanegol i’n gwlad ni, hefyd. Os na allant wneud hynny, byddant yn siomi Cymru, ac maent yn haeddu talu pris trwm am hynny.

Mae angen i bob un o'r pleidiau gwleidyddol yma ystyried sut y gallwn newid y sefyllfa hon. Nid dim ond mater o’n cyfansoddiad ni ydyw. Mae effeithiau’r gwendid gwleidyddol hwn i’w gweld o'n cwmpas i gyd, yn ein seilwaith a'n heconomi. Mae'n warth ein bod yn un o ddim ond tair gwlad yn Ewrop heb ddim rheilffordd wedi'i thrydaneiddio, ynghyd â Moldofa ac Albania. A phan fydd trydaneiddio yn digwydd yn y pen draw bydd flynyddoedd yn ddiweddarach nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—symbol amlwg o ble yr ydym yn y drefn flaenoriaeth honno.

Nawr, nid wyf yn dweud dim o hyn er mwyn bychanu Cymru. Rwy'n dweud hyn oherwydd bod fy uchelgais ar gyfer y wlad hon yn ddi-ben-draw. Mae ein potensial yn enfawr. Nid yw wedi'i ddatgloi na’i ryddhau eto. Ond wrth gondemnio’r cytundeb hwn, rhaid inni hefyd ddysgu’r gwersi.

Leanne, diolch am ildio. Rydych chi’n gwneud rhai pwyntiau da am yr angen i Gymru fod yn genedl hyderus sy'n edrych i'r dyfodol, ac nid wyf yn anghytuno â chi yno, ond mae'n rhaid ichi dderbyn bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn nifer o'r meysydd yr ydych wedi sôn amdanynt. Rydych chi’n sôn am drydaneiddio, ond y prynhawn yma rydym wedi bod yn sôn am y dreth datganoli—mae hynny’n digwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed iawn i ddarparu fframwaith cyllidol. Felly, rwy’n gwybod nad ydych yn hapus â'r cytundeb hwn yn San Steffan—hoffech chi gael mwy—ond mae’n rhaid ichi barchu’r ffaith, o dan y Llywodraeth flaenorol, y bu newidiadau y dylem eu croesawu.

Mae newidiadau wedi bod. Fy mhwynt i yw mai ni yw’r olaf bob tro. Rydym bob amser yng nghefn y ciw. Mae'n rhaid inni fod yn onest. Mae'n rhaid inni fod yn onest ymysg yr holl bleidiau yn y Siambr hon. Byddwn i’n dweud nad yw'r Deyrnas Unedig yn gweithio drosom ni. Yn rhy aml, fel yn yr achos hwn, maent yn gweithio yn ein herbyn. Y cam cyntaf i ni yma yw cyfaddef nad yw’r DU, y system San Steffan, yn cyflawni dros Gymru. Mae'n cosbi Cymru, ac ar ôl inni gyfaddef hynny, dylem edrych o ddifrif ar y camau nesaf i Gymru i ddefnyddio'r holl ddylanwad sydd gennym fel pleidiau gwleidyddol i sicrhau bod y wlad hon yn symud i fyny’r drefn flaenoriaeth honno.

Fel y dywedais, dim ond y dechrau yw’r cytundeb £1.5 biliwn. Mae'r DUP yn siŵr o ddod yn ôl at y bwrdd am fwy. Y tu hwnt i'r prif ffigur arian mae ymrwymiadau ar doll teithwyr awyr, treth gorfforaeth a mwy o fargeinion dinesig. Ar yr un pryd ag yr ydym yn clywed na chaiff Cymru reoli toll teithwyr awyr ac y dylem fod yn ddiolchgar am y bargeinion dinesig sydd gennym eisoes, bydd y DUP yn casglu’r consesiynau ychwanegol hyn drwy’r Senedd hon i gyd.

Ni allwn fforddio i Gymru fod yn dawel pan fo hynny'n digwydd ac rwy'n annog arweinwyr y pleidiau eraill yma heddiw i feddwl am yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i godi ein lleisiau. Mae'n rhaid inni ystyried yr hyn y gallwn ei wneud ar y cyd oherwydd dylem i gyd dderbyn nad yw’r hyn y mae Cymru’n ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio.

I orffen, mae’r cytundeb hwn wedi gwneud llawer o bobl yn ddig iawn. Mae'r arian i Ogledd Iwerddon i bob diben wedi rhoi diwedd ar galedi yno er ein bod ni’n dal i orfod dioddef cyni yng Nghymru. Dylai Cymru fynnu triniaeth gyfartal ac mae gan bawb yma ddyletswydd i wneud hynny.

Roedd araith agoriadol y Prif Weinidog yn llawn hiwmor anymwybodol ac roedd o leiaf cystal, rwy’n meddwl, â chwerthin tra’r oedd yn dweud bod y cytundeb hwn yn annheg, yn anghywir ac yn gyrydol, fel pe bai pethau’n wahanol o gwbl pe bai gan y Blaid Lafur nifer mwy o seddi a’u bod nhw’n taro bargen debyg â'r DUP. Rwy'n ddigon hen i gofio, fel y nododd Lynne Neagle neu Ken Skates, dydw i ddim yn siŵr pa un, yn gynharach yn y dydd, sut beth oedd gwleidyddiaeth yn yr 1970au. Rwy’n cofio’r trafodaethau rhwng Llywodraeth Wilson a Llywodraethau Callaghan ac Aelodau o Ogledd Iwerddon, ac rwy’n cofio’r dydd pan gafodd y Llywodraeth Lafur ei threchu gan Frank Maguire a ddaeth drosodd i gael ei bledu â diod ym mar y Strangers, cyn ymatal yn bersonol fel bod y Llywodraeth yn colli pleidlais o ddiffyg hyder. Felly, gwleidyddiaeth grym yw hyn. Rydym wedi gweld y cyfan o'r blaen ac nid oes amheuaeth y gwnawn ei gweld eto. Rwy'n llongyfarch y DUP ar y cytundeb y maent wedi’i wneud gyda’r Llywodraeth. Yn wir, maen nhw'n drafodwyr cystal, rwy’n meddwl mai nhw a ddylai fod yn gyfrifol am drafodaethau Brexit ar ran y Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Ond i’r Prif Weinidog gwyno am hyn—

[Yn parhau.]—mewn sioe fawr o rawnwin surion, rwy’n meddwl, ac mae’n eithaf—gwnaf ildio i Dafydd.

Rwy'n ddiolchgar iddo am gyfeirio at yr 1970au, oherwydd rwyf finnau'n cofio’r cyfnod hwn yn hynod o dda. Roeddwn yn y bar ar yr union noson—[Chwerthin.]—pan gyrhaeddodd y ddau Wyddel, Gerry Fitt a Frank Maguire, i ymatal yn bersonol.

Ond y gwahaniaeth, does bosib, yw hyn: yn yr achos hwn, mae’r cytundeb hwn yn cael ei wneud gyda chymhorthdal enfawr sy’n llwyr y tu allan i'r trefniadau cyfansoddiadol ac ariannol arferol ac yn gwbl y tu allan i fformiwla Barnett. Roedd y bargeinion a wnaethpwyd rhwng y Blaid Lafur a ninnau a phartïon eraill, yng nghyfnodau Wilson a Callaghan, yn fargeinion a wnaethpwyd yn agored ar raddfa gyfyngedig. Nid eu bwriad oedd cynnal Llywodraeth am bum mlynedd.

Wel, mae'r DUP yn amlwg yn well trafodwyr na'u cymheiriaid yn y dyddiau hynny. Mae'n rhaid inni gofio bod fformiwla Barnett ei hun, wrth gwrs, yn gynnyrch i’r trafodaethau hynny, rhywbeth sydd yn ei hanfod yn annheg i Gymru, yn gwbl ar wahân i’r trafodaethau hyn, oherwydd, ar sail y pen, wrth gwrs, mae Cymru, fel y nododd arweinydd Plaid Cymru yn gywir iawn, yn cael bargen wael iawn wir.

Ond pam nad ydyn nhw'n mynd i mewn i drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwell bargen i Gymru? Maent yn wrthblaid i’r Llywodraeth, fel yn wir y mae'r DUP, yn dechnegol, a gallent fod yn taro bargen i gael yn union yr hyn y mae'n honni bod ei eisiau arni ar ran pobl Cymru. Ond oherwydd ei gwrthodiad rhagfarnllyd a chul i hyd yn oed i ystyried siarad â Llywodraeth Geidwadol, heb sôn am drafod gyda nhw, mae hi'n gwrthod rhoi’r manteision i bobl Cymru y mae hi'n honni bod eu heisiau arni.

Felly, roedd yr araith honno'n dwyll a rhagrith pur, oherwydd mae ganddi bŵer, drwy ei phedwar Aelod Seneddol yn San Steffan, i ddylanwadu ar y broses negodi, oherwydd prin bod gan y Llywodraeth fwyafrif beth bynnag gyda phleidleisiau’r DUP. Felly, os yw hi wir eisiau dweud, er enghraifft, am brosiect Cylchffordd Cymru, y gallem newid y confensiynau cyfrifo—mae’n ymddangos mai dyna’r unig reswm pam ataliodd Llywodraeth Cymru y cytundeb—yn gyfnewid am eu pleidleisiau, pam nad yw hi'n gwneud hynny? Ateb—[Torri ar draws.]

A yw'n cytuno â mi, pe bai Plaid Cymru wedi gwneud cytundeb gyda’r Llywodraeth Geidwadol, y byddai wedi rhoi 322 o seddi iddynt ac, ac eithrio Sinn Féin, y byddai hynny wedi bod yn fwyafrif cyffredinol? Gallem fod wedi cael cryn dipyn o bethau i Gymru gyda hynny.

Yn wir. Wel, am unwaith, mae fy nghyn gydweithiwr yn siarad synnwyr—[Chwerthin.]—fel yr oedd bob amser yn arfer ei wneud. Ond dyna'n union y—. Rydym mewn cyfnod o wleidyddiaeth grym. Nid oes unrhyw bwynt mewn cwyno am annhegwch—mae bywyd yn annheg, fel y gwyddom. Dyn a ŵyr, rwyf wedi derbyn cymaint o annhegwch yn ystod fy mywyd ac nid wyf yn cwyno am hynny, wrth gwrs. Mae'n rhaid fy mod yn fasochist i fod yn wleidydd yn fy oed i. Ond, serch hynny, mae'r DUP wedi gwneud yr hyn y cawsant eu hethol i'w wneud—cael y fargen orau ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Beth mae Plaid Cymru yn ei wneud? Maen nhw wedi cael eu hethol i gael y fargen orau i Gymru, ond maen nhw wedi methu’n llwyr â manteisio ar y cyfle. Yn wir, gwnaeth plaid Llafur Cymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf gymaint â phosibl i esgus nad oeddent yn rhan o'r Blaid Lafur yn genedlaethol o gwbl ac nad oedd Jeremy Corbyn yn bodoli. Pam nad ydynt yn defnyddio'r annibyniaeth yr oeddent yn ceisio perswadio pobl Cymru bod ganddynt oddi wrth Lafur yn genedlaethol i wneud cytundeb gyda Theresa May eu hunain? Gallent weddnewid gwleidyddiaeth Prydain trwy dorri’n rhydd oddi wrth y Blaid Lafur yn genedlaethol a gwneud yr hyn y maent yn honni bod ei eisiau arnynt hwythau—bargen er budd pobl Cymru.

Felly, yn anffodus, er fy mod yn croesawu'r cyfle inni i drafod y mater hwn heddiw, nid yw’r ddadl mewn gwirionedd yn ddim mwy nag ymarfer mewn twyll, rhagrith a grawnwin sur. Gwnaeth May a gafodd y nifer mwyaf o seddi. Mae'r DUP yn barod i daro bargen. Maen nhw wedi cael bargen. Ie, ni yw’r collwyr, ond pwy sy'n gyfrifol am hynny? Nid nhw, ond Plaid Cymru, y Blaid Lafur, a’u cynorthwy-ydd bach o Aberhonddu a Maesyfed.

Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon nawr ers dros 10 mlynedd ac fel eraill, yn ystod y cyfnod hwnnw, rwyf wedi gwrando ar y Torïaid yn pledio am arian—arian i’w wario ar bob gwasanaeth cyhoeddus yn ddieithriad. Ac rwy’n fodlon mentro y byddwn yn clywed y pledion hynny eto. Rwy’n meddwl mai'r peth gorau y gall y grŵp Torïaidd, neu’r grŵp Ceidwadol, draw fan yna ei wneud nawr, a dweud y gwir, yw mynd â’r bowlen gardota honno i San Steffan a gofyn iddyn nhw ysgwyd eu coeden arian hud, oherwydd maent wedi dod o hyd iddi, ac roedd digonedd o arian arni, ar draul y bobl y dylech fod yn eu cynrychioli. Felly, dyna'r darn cyntaf o gyngor y byddwn yn ei roi iddynt. Ond rwyf am symud ymlaen at Crabb a Cairns et al. Maent i fod i gynrychioli Cymru. Felly, gwyliais y teledu neithiwr gan aros iddynt ddweud rhywbeth a fyddai wir yn rhoi rhywbeth i'r cyhoedd yng Nghymru a fyddai'n disgwyl iddynt sefyll dros Gymru. Wel, cefais siom enfawr, ac rwy'n siŵr bod pobl Cymru yr un mor siomedig.

Felly, clywsom Crabb, sef Stephen Crabb, yr AS dros Breseli, Sir Benfro—prin, mae'n rhaid imi ychwanegu, prin—ac roedd yn arfer bod yn ysgrifennydd lles. A’r un Stephen Crabb a gefnogodd doriad i hawlwyr budd-dal anabl o £30 yr wythnos. Roedd yn cyfiawnhau hynny drwy ddefnyddio arian cyhoeddus, hynny yw arian trethdalwyr, yn ‘ddoeth’, fel y gallai pobl helpu eu hunain. Felly, roeddwn yn disgwyl iddo ddweud rhywbeth ar ran y bobl yn Sir Benfro a phobl Cymru a fyddai'n cyd-fynd â defnyddio arian trethdalwyr o Gymru er lles pobl Cymru. Ond beth ddywedodd e? A hoffwn ddyfynnu hyn, yr hyn a ddywedodd oedd, ‘Wel, dyna gost gwneud busnes’. Nawr, yn ôl yr ‘Independent' ar-lein, mae hwnnw'n ymadrodd a ddefnyddir fel arfer gan gwmnïau i ddisgrifio talu llwgrwobrwyon i gael cytundebau mewn marchnadoedd tramor. Nid yw fel arfer yn derm a ddefnyddir mewn Llywodraeth. Os ydym ni’n sôn am ddefnyddio arian cyhoeddus, arian y trethdalwyr, o bob rhan o'r DU dim ond i gadw'r Torïaid mewn grym, a gwerth £1 biliwn dros ddwy flynedd, hoffwn ofyn cwestiwn i Cairns a Crabb et al: nid yw 97 y cant o'r trethdalwyr sy'n talu hyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ac eto Gogledd Iwerddon sy'n mynd i weld yr holl fudd.

Felly, rwyf am symud ymlaen nawr i edrych ar Cairns. Rwyf am edrych ar yr hyn a ddywedodd Cairns. Felly, roeddwn yn meddwl y byddai ganddo ef, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rywbeth i'w ddweud am Gymru, ac am ddod ag arian i Gymru—a, do, fe wnes ei enwi, rydych yn hollol gywir, ef yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru—ac yn falch iawn, efe a safodd ac a amddiffynnodd yr anamddiffynadwy. Roedd yn meddwl ei bod yn berffaith iawn rhoi arian tuag at Ogledd Iwerddon. Dim sôn am Gymru, wrth gwrs. Dim sôn am sefyll dros Gymru. Efallai y dylai ystyried ei safle. Efallai fod angen iddo feddwl am ble mae’n sefyll a phwy mae'n ei gynrychioli. Byddai wedi bod yn braf cael y gwerth £1 biliwn hwnnw yng Nghymru. Byddai wedi bod yn braf ei gael i’w wario ar ein GIG, ein hysgolion, ein ffyrdd. Y tro nesaf, pan fydd y Ceidwadwyr yn cyflwyno dadl ac yn gofyn inni am fwy o arian, rwy’n gobeithio y gwnânt ystyried mynd â’r bowlen gardota honno, mynd â hi i San Steffan, a gofyn am ailddosbarthu cyfoeth y dylai, mewn gwirionedd, fod wedi cael ei roi i ninnau hefyd.

Wel, rydym, ar hyn o bryd, yn ymdrin â chanlyniad yr etholiad cyffredinol, a dim ond dau opsiwn dichonadwy gafodd eu cynhyrchu ganddo. Un oedd Llywodraeth Geidwadol leiafrifol—yr un yr oeddwn i, gyda llaw, yn ei ffafrio, ond byddai hynny wedi bod yn fregus, yn amlwg—neu, yn ail, cyfuniad gyda'r DUP i greu cytundeb hyder a chyflenwi. Nid oedd dim cyfuniad arall a allai fod wedi cynhyrchu Llywodraeth i’r wlad hon ac, yn amlwg, penderfynodd y Prif Weinidog fod yr angen i negodi Brexit llwyddiannus yn golygu bod angen sicrwydd ychwanegol ar ffurf cytundeb hyder a chyflenwi. Ar y sail honno, mae rhywfaint o gost wedi ei hawlio. Dydw i ddim yn synnu bod hynny bellach yn destun craffu ac, wrth gwrs, mae hynny'n gwbl briodol.

Mae'n rhaid imi ddweud, cyn imi gyrraedd hynny, fy mod yn gweld y cyfuniad hwn rhwng y Blaid Geidwadol a'r DUP yn anodd, oherwydd statws eithriadol Gogledd Iwerddon yng ngwleidyddiaeth y DU. Nawr, mae gennym Lywodraeth Brydeinig sy’n dibynnu ar blaid Wyddelig am y tro cyntaf ers 1910. Fel John Major, rwy’n nodi’r cymhlethdodau y gallai hyn eu cyflwyno i'r broses heddwch. Fodd bynnag, gallai’r pecyn ariannol helaeth y mae'r DUP wedi ei negodi, o leiaf, gynorthwyo i ailsefydlu'r Weithrediaeth rhannu pŵer. Roedd wedi dod o dan gryn straen oherwydd—dewch inni ei alw’n wleidyddiaeth cyni, hyd yn oed cyn i’r ddadl am wresogi â biomas ddod â phethau i stop llwyr. Fel mater o grefft llywodraeth—ac rwy’n gwybod bod gan y Prif Weinidog ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon—rwy’n gobeithio y byddwn nawr yn gweld cyfle i'r holl bleidiau i gydweithio a defnyddio eu hadnoddau ychwanegol yn gynhyrchiol.

Rwy’n gweld bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi dweud ac, yn wir, ailadroddwyd hynny y prynhawn yma yn y fan hyn, y byddant yn cychwyn y mecanwaith anghydfod ffurfiol. Rwy'n meddwl bod hynny’n beth cyfrifol i'w wneud os ydych yn credu bod yr anghydfod yn ddigon difrifol, ac rwy'n siŵr y gwnewch yr achos yn gryf iawn. Mae'n amlwg, rwy’n meddwl—hyd yn oed ar yr ochr hon i'r tŷ mae'n rhaid inni gydnabod—bod y cytundeb gyda'r DUP yn peri goblygiadau ehangach, ac mae, rwy’n cyfaddef, yn peri rhai heriau difrifol i Blaid Geidwadol Cymru ac i Geidwadwyr yr Alban. Fodd bynnag, nid yw rhai o'r beirniadaethau yr ydym wedi’u clywed y prynhawn yma wedi bod yn ddim mwy na gwrthdaro pleidiol syml. Rwy’n meddwl bod angen rhywfaint o gymedroldeb a chymesuredd wrth edrych ar y materion hyn, gan ein bod yn sôn am y broses heddwch, Brexit a strwythur ein gwladwriaeth yn y dyfodol, ac mae angen crefft llywodraeth, yn ogystal â gwneud pwyntiau mwy uniongyrchol o ddeialog amhleidiol. Rydym wedi clywed bod Gordon Brown, yn nyddiau olaf ei brifweinidogaeth, wedi mynd at y DUP, ac, yn ôl pob tebyg, byddai wedi wynebu anawsterau tebyg o gynnwys nid plaid â stamp ideolegol—

[Yn parhau.]—ond un sy'n cynrychioli rhan benodol iawn o'r Deyrnas Unedig ac nad oes ganddi fandad ehangach na hynny.

Byddai’n well gen i beidio, ac rwy’n meddwl eich bod yn mynd i siarad yn y ddadl, ond os ydych yn pwyso arnaf, gwnaf ildio, ond mae gennyf ragor o bethau yr hoffwn eu dweud ac yr wyf yn meddwl yr hoffai’r Cynulliad eu clywed. Ydych chi am imi ildio?

Os yw hynny’n iawn. Rwy'n meddwl mai Syr Nicholas Macpherson, cyn bennaeth y Trysorlys, a adawodd ei swydd y llynedd, a ddywedodd

‘Dim ond blaendal yw’r £1 biliwn i Ulster. Bydd y DUP yn ôl am ragor’

Felly, o ran cysondeb y trefniant hwn wrth symud ymlaen, a ydych chi’n pryderu am hynny?

Wel, amser a ddengys ar sefydlogrwydd yr holl drefniant hwn. Yn fy marn i, ac rwy'n mynd i fynd i drafferth ofnadwy nawr, yw mai dyn a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl diwedd y trafodaethau Brexit. Ond rwy’n meddwl bod angen inni sefyll dros Gymru. Dyna pam mae'r Cynulliad Cenedlaethol yma. Mewn adegau o drafod dyrannu adnoddau gwladwriaeth y DU, yr ydym yn rhan ohoni ac wedi bod yn cynhyrchu’r adnoddau hynny ers cyn cof, yn amlwg, ceir dadl gyson ynghylch beth yw'r gyfran deg. Rwy’n credu y dylid defnyddio fformiwla Barnett â rhan o'r hyn y byddwn yn ei alw’n gytundeb dwy flynedd gwerth £1 biliwn a gafodd Gogledd Iwerddon. Ond hoffwn gael fy ffrwyno yn yr hyn yr wyf yn mynd i alw amdano, oherwydd rwy’n meddwl bod rhai o'r hawliadau’n sicr yn ormod.

O ran seilwaith, mae gennym eisoes—yn aml iawn, beth bynnag—ymagwedd ddwyochrog at hyn, ac rwy'n meddwl, wrth alw am brosiectau arbennig yn y dyfodol, y bydd angen inni sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg. Mae'r morlyn llanw yn un amlwg iawn sydd nawr ar y gorwel.

Fodd bynnag, rwy’n pryderu am oblygiadau peidio â defnyddio fformiwla Barnett ar gyfer rhywfaint o'r gwariant refeniw—rwyf yn ei amcangyfrif fel tua £450 miliwn dros ddwy flynedd i Ogledd Iwerddon—gan nad wyf yn meddwl bod hyn yn gosod cynsail da i’r Deyrnas Unedig. Rwy’n meddwl y gellir cyfiawnhau rhai o'r codiadau hynny i Ogledd Iwerddon ar y sail y byddant yn cynorthwyo'r broses heddwch, ac mae cynsail ar gyfer hyn. Ond rwy’n meddwl bod angen defnyddio fformiwla Barnett ar gyfer rhywfaint o'r arian hwn, ac rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried yr agwedd hon ar y cytundeb y maent newydd ei drafod, a meddwl yn nhermau cyllidebau Cymru a'r Alban.

A gaf i gloi—rydych wedi bod yn hael iawn, Llywydd—drwy ddweud, o ran ble mae ein gwladwriaeth yn mynd ar ôl Brexit ac i fyfyrio ar y profiad hwn hefyd, bod angen inni weld system grantiau bloc yn cael ei disodli gan ryw fath o grant gan y Trysorlys wedi’i oruchwylio gan gomisiwn grantiau annibynnol? Gallai hynny ddal i ganiatáu taliadau arbennig mewn amgylchiadau eithriadol, ond rwy'n meddwl mai dyna’r math o sefydlogrwydd y bydd ei angen arnom ar gyfer y wladwriaeth Brydeinig wedi iddi fynd heibio i’r dyfroedd gwyllt yr ydym nawr yn eu hwynebu o ran y broses Brexit. Diolch.

Rwy'n falch o ddilyn David Melding, a wnaeth yr ymgais fwyaf cydlynol i nodi unrhyw gyfiawnhad dros y sefyllfa yr ydym ynddi, ac yn sicr gwnaf ymuno ag ef i ddweud bod rhaid inni nawr sefyll yn gadarn dros Gymru.

Ond dewch inni edrych ar y sefyllfa yr ydym ynddi. Drwy drafod y cytundeb hwn, mae gennym weinyddiaeth a arweinir gan y Ceidwadwyr yn San Steffan ag, i bob pwrpas, yn union yr un mwyafrif ag oedd ganddi cyn yr etholiad cyffredinol pan ddywedodd nad oedd y mwyafrif hwnnw’n ddigon cryf a sefydlog i fynd â hi drwy'r trafodaethau Brexit. Ac rwy’n teimlo bod hynny wir, wir yn dangos bod San Steffan mewn sefyllfa fregus iawn. Nid wyf yn meddwl y gwnaiff y Llywodraeth hon bara rownd o drafodaethau Brexit, ond amser a ddengys, fel y dywed David Melding.

Nawr, mae'r taliad a wnaethpwyd er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd, sydd tua £100 miliwn i bob AS DUP—mwy na gwerth trosglwyddiad Gareth Bale, gyda llaw—yn ei gwneud yn amlwg yn union pa mor daer yw Theresa May a'r Blaid Geidwadol i aros mewn Llywodraeth, neu yn hytrach i osgoi etholiad cyffredinol arall am yr amheuaeth sydd ganddynt o ble y gallai eu harwain. Ac rwy’n meddwl ei fod wedi’i risialu orau yn y dyfyniad hwn, a ddywedwyd heddiw:

Mae hon yn wlad sydd wedi'i rhannu’n ddwfn ac mae rhoi sylw penodol i un rhan ohoni, er mwyn rhoi rhyw lun o sefydlogrwydd tymor byr, yn un arall eto o'r prisiau yr ydym yn eu talu am oblygiadau Brexit.

Yr Arglwydd Heseltine a ddywedodd hynny. Yr Arglwydd Heseltine, wrth siarad ar radio’r Alban heddiw. Rwyf wedi meddwl erioed mai’r unoliaethwyr a fyddai’n dinistrio’r undeb, ac rwy'n fwy argyhoeddedig byth o hynny nawr.

Dewch inni weld beth yw’r cymorth ariannol i Ogledd Iwerddon, oherwydd rwy’n meddwl bod angen ei archwilio rywfaint. Mae llawer o bobl wedi dweud ei bod yn ddogfen hyder a chyflenwi tair tudalen; yn wir, mae tair tudalen arall. Mae'r tair tudalen arall yn ymwneud â'r trefniadau ariannol a cheir cryn fanylder yno am y trefniadau ariannol. Datblygu seilwaith yng Ngogledd Iwerddon—£200 miliwn y flwyddyn am ddwy flynedd ar gyfer prosiect cyfnewidfa York Street. Nid wyf yn gwybod beth yw hwnnw. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn gwybod drwy ei gysylltiadau teuluol beth yw hwnnw, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod hynny'n rhagderfyniad cyn ichi ethol gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon, ac mae hynny'n un o flaenoriaethau’r DUP sydd wedi'i hariannu. Saith deg pum miliwn o bunnoedd y flwyddyn am ddwy flynedd i ddarparu band eang cyflym iawn i Ogledd Iwerddon. Wel, gallem wneud â £75 miliwn y flwyddyn ar gyfer band eang cyflym iawn yma yng Nghymru hefyd. Ymrwymiad bod anghenion Gogledd Iwerddon yn cael eu hadlewyrchu'n briodol yn y dyfodol yng nghronfa rhannu ffyniant y DU. Nid ydym wedi cael ymrwymiad o'r fath eto—dim ymrwymiad ysgrifenedig o'r fath gan Lywodraeth San Steffan bod y gronfa rhannu ffyniant, sy'n cymryd lle, wrth gwrs, cronfeydd strwythurol yr UE, yn mynd i gyflawni hynny’n dda i Gymru. Ymrwymiad i ddefnyddio rhwydweithiau o lysgenadaethau ac uchel gomisiynau i hyrwyddo Gogledd Iwerddon fel lleoliad ar gyfer buddsoddiad tramor uniongyrchol. Hyrwyddo Gogledd Iwerddon dros yr Alban, dros Gymru, dros ranbarthau Lloegr—beth mae hyn yn ei olygu? Ymrwymiad yn y dyfodol i weithio tuag at ddatganoli cyfraddau treth gorfforaeth—rhywbeth sydd wedi cael ei wrthod i’r rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig—a datblygu opsiynau ar gyfer cyllideb yr hydref eleni. Ymrwymiad i fargeinion dinesig ledled Gogledd Iwerddon. Nawr, dyma sy’n gwneud sylwadau Alun Cairns bod hyn yn rhyw fath o uwch fargen ddinesig yn nonsens llwyr oherwydd maent yn cael y cytundeb hwn, ac maent yn cael bargeinion dinesig ac maent yn cael parthau menter. Felly, maent yn cael popeth yr ydym ni’n ei gael yn ogystal â'r biliwn. Nid dim ond torri Barnett yw hyn, ond ei chwalu a'i sathru i mewn i'r mwd.

Er mwyn targedu pocedi o amddifadedd difrifol—ac rwy’n derbyn bod amddifadedd difrifol yng Ngogledd Iwerddon—bydd Llywodraeth y DU yn darparu £20 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd. Nid cytundeb dwy flynedd ydyw; mae’n un pum mlynedd. Dyna £100 miliwn i gefnogi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflwyno'r mesurau o gwmpas twristiaeth. £50 miliwn ychwanegol am ddwy flynedd i leihau pwysau ar unwaith ar iechyd ac addysg. Wel, ie, gallem ni wneud â’r rheini. Ac yna, £100 miliwn am ddwy flynedd i gefnogi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflawni ei blaenoriaeth o drawsnewid y gwasanaeth iechyd. Nid oes gennym Weithrediaeth Gogledd Iwerddon eto, ac eto maent eisoes yn sôn am eu blaenoriaethau. Wrth gwrs, gallai Llywodraeth San Steffan gyflwyno hyn, i bob pwrpas, drwy reol uniongyrchol, a fydd yn arwain at fwy fyth o broblemau.

Ac yna’r peth olaf—hyblygrwydd i’r arian sydd dros ben ers dyraniadau blaenorol ar gyfer addysg a rennir a thai i gael ei wasgaru’n hyblyg o fewn cyfnod yr adolygiad hwn o wariant. Mewn geiriau eraill, ni fydd dim o reolau'r Trysorlys ar drosglwyddo arian o un flwyddyn i'r llall mewn addysg na thai nawr yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Nid wyf yn gwybod ers pryd yr ydym wedi bod yn dadlau am hynny—o leiaf 10 mlynedd, o leiaf 10 mlynedd. Mae'n gwneud ichi feddwl: rydych yn gwneud dadl synhwyrol, gydlynol sy'n seiliedig ar yr economi, yn seiliedig ar les eich pobl, a’r oll yr ydych yn ei glywed yw mai ychydig o wleidyddiaeth bôn braich sy’n mynd i ennill y gêm. Wel, rwyf yn dweud nad gwleidyddiaeth bôn braich yw hyn; mesurau anobeithiol ydynt a Llywodraeth ansefydlog a fydd yn methu. Bydd yn methu, os dim byd arall, oherwydd hyn, y darn olaf o’r cytundeb a'r rhan ariannol, sy'n sôn am yr etifeddiaeth ac yn dweud hyn:

Mae'r ddwy blaid yn ailadrodd eu hedmygedd i ddewrder ac aberth yr heddlu a'r lluoedd arfog wrth gynnal democratiaeth a rheolaeth y gyfraith ac ni wnawn byth anghofio’r ddyled o ddiolchgarwch sy'n ddyledus gennym iddynt.

Nawr, mewn unrhyw gyd-destun arall, mae honno’n ystrydeb y byddem i gyd yn cytuno â hi. Yng nghyd-destun Gogledd Iwerddon, mae’n ddeinameit—yn llythrennol, deinameit.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog, a dweud y gwir, am ei ymateb ddoe i'r cytundeb hyder a chyflenwi. Roeddwn yn meddwl bod ei ddicter—ei ddicter—wrth y cytundeb yn amlwg ddoe, ac roedd yn glir iawn, yr anfodlonrwydd, nid dim ond o Gymru ond hefyd o'r Alban, wrth y ffaith y gallwch heddiw gael arian parod am bleidleisiau. Dyna beth sydd wedi digwydd yma. Efallai y bydd rhai pobl yn y Siambr hon yn fwy cyfarwydd ag arian am gwestiynau; mae arian am bleidleisiau’n waeth. Mae arian am bleidleisiau’n waeth a dyna beth yr ydym yn sôn amdano yma.

A gaf i ddweud mai’r pwynt arall yr wyf yn meddwl ei bod yn werth ei danlinellu yw nad hyn fydd diwedd y peth? Nid hyn fydd diwedd y peth. Byddant yn ôl am ragor. Dyna un o'r pethau brawychus am hyn. Dim ond dechrau’r negodi yw hyn. Maen nhw wedi eu cloi i mewn am gwpl o flynyddoedd. Os gallant ddal gafael ar rym am y pum mlynedd y maent i fod i ddal gafael ar rym, byddwn yn siarad am wthio mwy fyth o gyllid i lawr eu gyddfau. Nid yw hynny'n dderbyniol. A phwy yw’r DUP hyn sy'n cynnal y Llywodraeth Dorïaidd simsan? Pwy ydyn nhw? Wel, mae ganddynt farn eithaf amheus am erthylu ac mae ganddynt farn annymunol am hawliau i bobl hoyw. Ond, yn fwy na dim byd arall, ydych chi'n gwybod beth sy’n fy mhoeni? Y ffaith eu bod yn ddi-glem yn wleidyddol ac yn economaidd. Cawsant eu darostwng oherwydd eu bod yn cynnig talu £160 i bobl i losgi gwerth £100 o danwydd. Mae'n sefyllfa hurt. Doedd dim terfyn uchaf ar y swm y gellid ei dalu iddynt, a dyna beth ddaeth â'r sefyllfa i ben yn Stormont. Maent wedi mynd i’r gwely gyda phobl sydd, yn syml, yn ddi-glem, ac rwy'n meddwl y dylid tanlinellu hynny hefyd.

Ond, yn fwy na hynny, mae Llywodraethau olynol yn y wlad hon wedi brwydro a gweithio’n ddiflino i sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Y ffaith yw bod penderfyniad wedi’i wneud yn y Cenhedloedd Unedig sy'n awgrymu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn frocer gonest yn y trafodaethau yng Ngogledd Iwerddon. Yn syml, nid yw hynny'n bosibl pan fo Llywodraeth Dorïaidd y DU yn y gwely gydag un o'r pleidiau. Nid yw'n bosibl bod yn frocer gonest ac rwy’n meddwl tybed beth ar y ddaear a ddaw o’r sefyllfa honno.

Brexit—mae siec wag ar gyfer Brexit. Maent wedi dweud yn llythrennol, ‘Unrhyw beth sydd ei eisiau arnoch. Unrhyw beth sydd ei eisiau arnoch ar hyn, byddwn yn cytuno ag ef.’ Yr unig bwynt y maent wedi ei wneud yw yr hoffent ffin feddal â Gogledd Iwerddon. Nawr, rwy’n croesawu—rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cael ffin feddal â Gogledd Iwerddon, ond rwy’n bryderus ofnadwy y byddwn yn gweld ffin galed â Chymru. Nawr, ble mae’r ASau Torïaidd hyn o Gymru, yn gweiddi ac yn gwneud yn siŵr nad ydym ni’n cael ffin galed os ydynt yn cael ffin feddal â Gogledd Iwerddon? Rwy'n meddwl bod pobl yng Nghymru sy'n sâl ac sy’n haeddu cael eu trin yn dda gan y GIG yr un math o bobl â’r bobl sy'n sâl yng Ngogledd Iwerddon; maent yn haeddu’r un math o wasanaethau.

Mae'r datganiad yn awgrymu, yn olaf, yr hoffai gryfhau a gwella'r undeb. Credaf y bydd y cytundeb hwn yn gyrru hollt drwy ein gwlad a'n cefndryd Celtaidd, ac rwyf fi, yn bersonol, yn gresynu’n ddifrifol wrth y ffaith honno.

Rwy'n falch ein bod yn gallu lleisio ein barn am y cytundeb hyder a chyflenwad rhwng mwyafrif y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin a’r DUP, er fy mod yn meddwl bod rhai o'r sylwadau hyd yn hyn wedi bod mor rhagweladwy.

Roedd yr etholiad hwn yn her i bob un o'r prif bleidiau. Er eu bod wedi pleidleisio dros Brexit, ni roddodd yr etholwyr y mandad clir sydd ei angen ar y Ceidwadwyr i gyflawni ewyllys y bobl, ac yn fy marn i, bydd y diffyg eglurder hwnnw’n effeithio ar y fargen y gallai unrhyw Lywodraeth ei tharo. Serch hynny, cynyddodd cyfran y Ceidwadwyr o’r bleidlais dros 5 y cant ers yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac â 318, ni yw'r blaid fwyaf yn San Steffan. Cynyddodd ein cyfran o'r bleidlais yng Nghymru—yn wir, hon oedd y bleidlais orau yng Nghymru ers o leiaf 1935. Ac rwy’n meddwl bod hyn yn bwysig iawn, oherwydd roedd yr etholiad yn her i bob plaid.

Roedd yn her i'r Blaid Lafur, sydd nawr wedi’u beichio ag arweinydd y mae Carwyn Jones a'r rhan fwyaf o'r Aelodau Cymreig etholedig yma wedi treulio amser yn ceisio ymbellhau oddi wrtho. Pwy a fyddai wedi ffurfio Llywodraeth os nad y Ceidwadwyr? Ynteu a oeddech i gyd yn argymell y dylem ofyn i'r cyhoedd i fynd yn syth i etholiad cyffredinol arall? Mae tensiynau enfawr yn parhau o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru rhwng y rhai sy’n ffyddlon i Corbyn a'r rhai sydd wedi diarddel ei arweinyddiaeth, a dim ond mater o amser yw hi cyn i’r anghytgord hwn ymddangos eto yn gyhoeddus.

Ar ôl colli 15 o adneuon, byddwn wedi meddwl y byddai Plaid Cymru wedi bod yn fwy effro i'r cyfle hwn, oherwydd pam na ddefnyddiodd ASau Plaid Cymru ddim o'u dylanwad posibl ar gyfer Cymru? Rwy’n meddwl bod Neil Hamilton—neu, yn wir, rwy’n meddwl mai Mark Reckless a Neil Hamilton a wnaeth—wedi gwneud y pwynt hwnnw’n glir iawn am fathemateg y sefyllfa. Gallai fod wedi helpu, oherwydd rydych yn hollol gywir, mae angen inni fod yn onest, fel yr oedd Leanne Wood yn ei ddweud dro ar ôl tro. A yw'n wir, er enghraifft, bod Liz Saville-Roberts yn awyddus i daro bargen, ond bod arweinydd Plaid Cymru wedi gwrthod?

Yr holl bigo beiau hurt hyn dros y cytundeb hyder a chyflenwad. Mae clymbleidiau a chytundebau hyder a chyflenwad yn gyffredin mewn gwleidyddiaeth. Mae un ar waith nawr rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac mae diffyg tryloywder ar eu cytgord. Beth maent wir wedi cytuno iddo? Mae’r Alban hefyd wedi gweld cytundebau o'r fath rhwng y Ceidwadwyr a'r SNP. Ar lefel y DU, bu chwe chlymblaid dros y 120 mlynedd diwethaf, gan gynnwys yr un fwyaf diweddar. A dylem gofio bod y Blaid Lafur wedi dal gafael ar rym drwy daro bargen â’r Democratiaid Rhyddfrydol, i alluogi Jim Callaghan i gyrraedd diwedd ei gyfnod yn y swydd.

A fyddech chi’n cytuno y gallai'r grŵp o wyth Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru hefyd fynnu pridwerth gan Theresa May dros hyn?

Os hoffech aros tan ddiwedd fy araith, efallai y gwnaf ateb eich cwestiwn ichi.

Ledled Ewrop ac mewn llawer o rannau eraill o'r byd, mae cytundebau o'r fath yn gyffredin. A dewch inni fod yn glir: dydych chi ddim yn ei hoffi, allwch chi ddim dod drosto, ond gyda'r nifer mwyaf o seddi a'r nifer mwyaf o bleidleisiau, dim ond y Blaid Geidwadol sydd â’r gallu a'r dilysrwydd i ffurfio'r Llywodraeth nesaf. Ydw i'n cytuno â'r DUP ar lawer o'u safbwyntiau am faterion cymdeithasol? Ddim o gwbl. Ond bydd hyn yn darparu'r sicrwydd a’r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar y wlad gyfan wrth inni ddechrau ar Brexit a thu hwnt, a dyna beth mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno.

Rwy’n siarad fel rhywun a oedd yn dymuno aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n edrych fel ein bod yn gadael, a does dim llawer y gallwn ei wneud am y peth ar hyn o bryd. Ond brensiach, os ydym yn gadael, rydym yn gadael gyda'r fargen orau bosibl ac rwyf am inni fod â Llywodraeth gref yn y DU i wneud hynny. A dewch imi fod yn glir—

Rhianon Passmore a gododd—

Na. A dewch imi fod yn glir, rwy’n Geidwadwr, ond yn bennaf oll, rwy’n Geidwadwr Cymreig, felly byddaf fi, o leiaf, yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg. Rwy’n deall bod Gogledd Iwerddon yn achos arbennig a bod angen buddsoddiad ychwanegol yno. Heb ddim cynrychiolaeth gan bleidiau gwleidyddol y tir mawr a dim ond y Ceidwadwyr yn sefyll mewn rhai seddau yno, nid ydynt yn aml yn cael y llais sydd ei angen arnynt yn San Steffan. Bydd y cytundeb yn rhoi’r llais hwnnw iddynt, ac, yn anffodus, rwy’n parchu'r DUP am ddod o hyd i’r llais hwnnw a’i ddefnyddio. Mae'n rhaid inni ofyn i ni ein hunain, wrth feirniadu’r fargen, a fyddai unrhyw un yn y Siambr hon wedi bod yn awyddus i fyw o dan yr amgylchiadau a oedd yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y Trafferthion a'r niwed a wnaethant i ddenu mewnfuddsoddi a gwelliannau i seilwaith.

Fodd bynnag—[Torri ar draws.] Fodd bynnag, rwyf am weld cynnydd cadarnhaol o San Steffan ar y morlyn llanw. Rwyf am weld cynnydd cadarnhaol o San Steffan ar drydaneiddio. Rwy’n derbyn y bydd dileu'r tollau ar bont Hafren yn dod i mewn o dan ddeddfwriaeth eilaidd, ond hoffwn hefyd weld fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio ar gyfer rhai elfennau ar y cytundeb hyder a chyflenwad, fel iechyd ac addysg. A pheidiwch â siarad â mi am wleidyddiaeth ffafrio ardaloedd lleol ar adeg etholiad: mae ffordd osgoi Llandeilo yn dod i'r meddwl fel enghraifft berffaith.

Gwnaeth Simon Thomas rai sylwadau synhwyrol iawn wir am agweddau ariannol ar y cytundeb hyder a chyflenwad, ac rwy’n credu y dylai pob un ohonom roi o'r neilltu y gwenwyndra sydd wedi cydio mewn gwleidyddiaeth ers mor hir. Mae angen inni weithio, y 60 ohonom, a’n ASau Cymreig o bob lliw, i sicrhau’r fargen orau i Gymru. Dylem bwyso ar y gwendidau o fewn y setliadau ariannol hynny i wneud yn siŵr na chawn ein gadael ar ôl. Dylem bwyso am gynnydd ar yr holl faterion hyn a dyna beth fydd fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud.

Dewch inni fod yn glir am y cyd-destun: yn ddiweddar, cawsom etholiad cyffredinol sydd wedi diberfeddu’r Llywodraeth Dorïaidd hon. Mae ei mwyafrif wedi cael ei ddinistrio ac mae awdurdod Theresa May wedi cael ei chwalu. Mae'n anodd erioed cofio ymgyrch lle mae Prif Weinidog wedi ceisio mynd ati i frwydro ymgyrch heb gwrdd â'r cyhoedd nac ateb dim cwestiynau. Roedd hi'n rhyfedd gweld y Torïaid yn cynnal ymgyrch arlywyddol lle’r oedd eu prif ymgeisydd yn rhy ofnus hyd yn oed i ymddangos ar ‘Women’s Hour’. Trodd cryf a sefydlog yn wan a sigledig mor gyflym â jeli wedi’i adael allan yn yr haul. Dywedodd y Torïaid wrthym mai nhw oedd y trafodwyr gwych yr oedd eu hangen ar gyfer Brexit, ac eto fe gymerodd bythefnos gyfan i sicrhau cefnogaeth y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd. Pythefnos i brynu pleidleisiau Aelodau Seneddol y DUP sydd, bleidlais ar ôl pleidlais, yn heidio i mewn i’r un lobïau â’r blaid Dorïaidd beth bynnag.

Dywedodd y Prif Weinidog y gwir am y mater, sef mai bwng £1 biliwn yw hwn. Yn wir, mae'r meinciau Torïaidd gyferbyn yn hoffi pregethu wrthym am gadw llyfrau’n ddarbodus, rhinweddau cyni a sut y mae angen ichi wario arian yn ddoeth. Felly, dewch inni ddyfynnu o’r ‘Times’ heddiw a gweld a all yr Aelodau gyferbyn gyfiawnhau taflu gwerth £1 biliwn o arian trethdalwyr i Ogledd Iwerddon, dim ond er mwyn osgoi wynebu dicter cyhoedd Prydain mewn etholiad cyffredinol arall. Dyfynnaf,

Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod gan Ogledd Iwerddon eisoes y gwariant cyhoeddus uchaf fesul person, ond yn gwneud y cyfraniad treth isaf.

Does dim rhyfedd felly, ledled y Deyrnas Unedig, o Glastonbury i stadiwm Swalec SSE ddydd Sul, bod torfeydd yn canu enw Jeremy Corbyn. Mae prif egwyddor y Blaid Lafur, dros y llawer ac nid yr ychydig, nawr wedi dod yn alwad wladgarol i'r gad.

Felly, ble y bydd a ble y mae diwedd y prynu ffafrau hyn gan y Torïaid? Ac rwy’n ailadrodd fy nghwestiwn: a oes unrhyw un o ddifrif yn meddwl na fydd y DUP yn ôl am fwy? Mae hyn i gyd ar wahân i hanes arswydus y DUP, y soniwyd amdano, ar gydraddoldeb, erthyliad, newid yn yr hinsawdd ac agwedd Fictoraidd at hawliau pobl hoyw.

Rydym i gyd yn gwybod bod y Prif Weinidog, fel y nododd George Osborne yn gofiadwy, yn ‘farw ar ei thraed’. Prif Weinidog sy’n farw ar ei thraed a Llywodraeth sombi. Yn wir, mae'r parlys yn Stryd Downing mor ddrwg nes bod rhai’n dyfalu y bydd y Canghellor yn dod yn Brif Weinidog dros dro, a dewch inni beidio ag anghofio bod ‘Spreadsheet Phil’ ar fin cael ei P45 cyn i'r Prif Weinidog ddioddef canlyniad etholiad mor dila. Sut y gall y cysgod gwag hwn o Brif Weinidog herio trafodwyr hirben a phrofiadol iawn y DUP? Fel y dywedais, dywedodd Syr Nicholas Macpherson, cyn bennaeth y Trysorlys, a adawodd ei swydd fel Ysgrifennydd Parhaol y llynedd,

Dim ond blaendal yw’r £1 biliwn i Ulster. Bydd y DUP yn ôl am fwy ... dro ar ôl tro ... Mae ganddynt hanes mewn materion o'r fath.

Mae'r cytundeb hyder a chyflenwad hwn rhwng y Torïaid a’r DUP yn wirioneddol warthus, ac yn fy marn i, mae’n feddargraff i’r Llywodraeth Dorïaidd hon. Yn wir, byddai Bruce Reynolds a Ronnie Biggs wedi bod yn falch o’r lladrad dwyn a dianc hwn sydd wedi cael ei wneud ar Drysorlys y DU, ond yn anffodus, Cymru yw dioddefwr y lladrad gwleidyddol mawr hwn. Prif Weinidog, rwy’n gwybod na wnewch sigo na methu yn eich ymdrechion i sefyll dros Gymru a sefyll dros ein dinasyddion yng Nghymru. Mae'n iawn y dylai unrhyw gyllid sy'n mynd i Ogledd Iwerddon olygu bod Cymru yn cael ei chyfran deg o dan fformiwla Barnett, ac mae'n wir bod pobl Cymru wedi cael llond bol o'r Torïaid yn pregethu nad oes dewis arall ond cyni. Felly, rwy’n galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i wrthod darganfyddiad y Prif Weinidog o’r goeden arian hud, sy'n creu cawodydd o aur i’w hachub ei hun, ond yn rhoi dail marw i bobl mewn tlodi. Nid yw Theresa May, rydym yn gwybod, yn gyfaill i arweinydd y Torïaid Cymreig, ond yn sicr, yn sicr, dydy hi ddim yn gyfaill i bobl Cymru.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn ddigon teg, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, bod y cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP bron iawn yn lladd y syniad o ariannu teg i’r gwledydd a'r rhanbarthau. Mae'r cytundeb hwn yn mynd yn groes i degwch, a dyna ni. Mae'n ddigalon, yn siomedig ac yn annymunol iawn bod Theresa May wedi coblo bargen at ei gilydd gyda phlaid â hanes mor ofnadwy o ran cydraddoldeb. Byddai’n ymddangos bod Theresa May yn poeni mwy am ddal gafael ar rym nag am ein hawliau dynol sylfaenol. Mae'r DUP wedi gwrthwynebu hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yn gyson ac yn gryf. Maent yn gwrthwynebu priodas un rhyw yn gadarn, ac maent wedi rhoi feto ar sawl ymgais i basio deddfwriaeth newydd, ac o ganlyniad wedi ein trin ni, a dweud wrth bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, ein bod yn ddinasyddion eilradd.

Mae Ian Paisley Jr. wedi dweud o'r blaen ei bod yn anfoesol, yn ffiaidd ac yn atgas i fod yn hoyw, ac wedi dweud ei fod yn ffieiddio wrth hoywon a lesbiaid. Wel rwy'n siŵr bod rhagfarn, anoddefgarwch a gwahaniaethu atgas Ian Paisley Jr. yn ffieiddio’r mwyafrif llethol ohonom ninnau yn yr un modd. Yn ei sylwadau agoriadol, dywedodd y Prif Weinidog fod y fargen yn tanseilio union ysbryd tegwch ac undod. Rwy'n meddwl, nawr, bod rhaid inni ddal i sefyll yn ysbryd undod, ac mae'n hollbwysig bod pob gwleidydd teg a blaengar yn herio’r cytundeb hwn gyda'r DUP, ac yn siarad dros gydraddoldeb a hawliau pob dinesydd lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol —nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU gan gynnwys Gogledd Iwerddon.

Wel, Llywydd, mae'n iawn ein bod wedi cael y ddadl hon y prynhawn yma, er mwyn i Aelodau roi eu barn. A gaf ddweud, cyn imi ymdrin ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bod yr areithiau a roddwyd gan David Melding a gan Angela Burns yn llawer agosach at y math o araith arweinydd y byddwn wedi ei disgwyl gan rywun sy'n arwain un o bleidiau gwleidyddol mwyaf Cymru? Dyna gyferbyniad rhwng eu cyfraniadau meddylgar a'r gweiddi a welsom gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dewch inni beidio ag esgus bod hyn yn ddim byd ond yr hyn ydyw. Bwng ydyw; llwgrwobr; arian am bleidleisiau. Mae hyn yn enghraifft o Lywodraeth y DU yn dweud bod yn rhaid i Barnett aros, ond yn dweud ei bod yn hwylus anwybyddu Barnett pan fydd Llywodraeth y DU yn barnu bod hynny’n addas—mewn geiriau eraill, i’w helpu eu hunain. Maent wedi dechrau datod un o'r rhwymau sy'n dal pedair gwlad y DU at ei gilydd, sef cyllid teg. Os nad yw'r DU o blaid cyllid teg i’w gwledydd a’i rhanbarthau cyfansoddol, beth sydd ar ôl iddi? Does bosib nad yw’r undod hwnnw’n rhywbeth y dylem ei werthfawrogi ac yn rhywbeth na ddylid ei roi i ffwrdd—ei wastraffu, yn wir—yn ddiangen. Mae'n siŵr gen i, i Theresa May, nad yw’n gymaint o fater o egwyddor, ond os yw'r het bowler yn ffitio, ei gwisgo—o ystyried y bobl y mae hi wedi bod yn ymdrin â nhw.

Roeddwn yn disgwyl mwy gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae ef yn rhywun sydd â chroen trwchus. Hynny yw, cafodd ei gicio oddi ar ddadleuon yng nghanol yr ymgyrch etholiadol, a chafodd ei gicio allan o'i lansiad maniffesto ei hun, rhywbeth yr ydym yn dragwyddol ddiolchgar amdano, oherwydd newidiodd hynny’r etholiad, yn ein barn ni. Yr araith a wnaeth Theresa May yn Wrecsam a drodd lanw’r etholiad. Nid yw'n cael mynychu Cabinet y DU. Mae Ruth Davidson, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn cael gwneud hynny. Rwyf bron yn teimlo trueni drosto erbyn hyn, ac eto mae'n dweud wrthym ei fod wedi bod yn siarad â'r bobl sy'n cyfrif. Wel, nid oes unrhyw ganlyniadau erioed wedi bod yn y gorffennol; ni fydd dim canlyniadau yn y dyfodol. Sut y gall ef amddiffyn sefyllfa lle mae mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer iechyd meddwl yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru; mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer addysg yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru; mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer pwysau iechyd yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru? Mae ei gydweithwyr, ac rwy’n rhoi clod iddynt am hyn—wedi nodi bod hynny’n broblem ac yn fater, ac maent wedi dweud y byddent yn ymladd i newid pethau. Ni allodd ef wneud hynny. Dywedodd y byddai'n sefyll dros Gymru. Mae wedi methu â gwneud hynny y tro hwn. A allwn ei annog hefyd i sôn am y mater hwn gyda'i gydweithwyr seneddol? Mae wyth ohonynt. Mae ganddynt lais pwerus. Mae ganddynt lais gwirioneddol rymus, yr wyth ohonynt. Gallent ddweud wrth Theresa May nad yw hyn yn dderbyniol, o ran Cymru, ac y dylai Barnett ddal i fod yn berthnasol. Gadewch iddynt nawr ddechrau siarad dros Gymru yn hytrach na bod yn wyth didaro fel y maent wedi bod yn ystod y rhai wythnosau diwethaf.

A gaf i ddweud, o ran y—? Os caf i droi at David Melding hefyd, mae bob amser werth gwrando ar David, a gwnaeth rai pwyntiau perthnasol iawn. Gwnaeth y pwynt y dylid defnyddio fformiwla Barnett ag o leiaf rhywfaint o'r arian hwn. Nawr, o fy safbwynt i, nid wyf yn gwarafun yr arian i Ogledd Iwerddon, ond rwy’n dweud os dylai Gogledd Iwerddon gael arian ychwanegol, dylai Cymru, yr Alban, a rhanbarthau Lloegr gael rhagor hefyd. Y gwirionedd yw, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, bod cyni wedi dod i ben yng Ngogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, er mai trethdalwyr cenhedloedd Prydain Fawr sy’n talu am ddod â chyni i ben. Pam y dylent dalu am rywbeth nad ydynt yn cael budd ohono? Mae hynny'n rhywbeth y byddant yn ei ofyn. Oherwydd ni ddylem danbrisio'r dicter y mae tair gwlad Prydain Fawr wedi ei deimlo am y cytundeb hwn. Os oedd angen taro bargen, ni ddylid bod wedi taro’r fargen honno ar draul gwerthu Lloegr, yr Alban, a Chymru i lawr yr afon. Mae hynny'n rhywbeth sy'n rhannu'r DU yn hytrach na’i huno.

Nawr, fel y dywedodd Simon Thomas—ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae wedi dyrannu’r cytundeb ei hun yn fforensig—mae arian yma ar gyfer prosiectau y byddai’n rhaid inni dalu amdanynt ein hunain fel arfer. Rwy'n gwybod am gyfnewidfa York Street, fel y mae'n digwydd. Mae'n broblem draffig ofnadwy yng nghanol Belfast. Mae'n cyfateb i dwnnel Brynglas neu rai o'r problemau ar yr A55 yma, ac eto ni sy’n gorfod talu am y prosiectau hynny. Does dim arian ychwanegol i Gymru i dalu am y prosiectau seilwaith hynny, er mor bwysig ydynt. Does dim arian ychwanegol i dalu am fand eang, er mor bwysig yw hynny, ond, mae'n debyg bod pethau’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i ni fenthyg arian i dalu am y cynlluniau hyn. Mae’r arian yn cael ei roi i Ogledd Iwerddon. [Torri ar draws.] Mae'r Ceidwadwyr yn meddwl bod hyn yn ddoniol. Edrychwch arnynt. Maent yn meddwl ei bod yn ddoniol bod Cymru yn cael ei gadael i lawr yn y modd hwn. Wel, gadewch i bobl Cymru eu barnu. Ac, ie, dewch inni gael yr etholiad cyffredinol nesaf, a dweud y gwir, os ydych chi’n ei ofni gymaint. Rydym yn fwy na pharod i ddweud wrth bobl Cymru nad ydych—ac eithrio, a bod yn deg, rhai o'ch siaradwyr—wedi sefyll dros Gymru ar yr achlysur hwn.

Gwnaeth Angela Burns y pwyntiau a wnaeth. Rwy'n cydnabod y ffaith ei bod wedi dweud y dylai Barnett fod yn berthnasol i iechyd ac addysg. Rwy’n ei hatgoffa ei bod wedi dweud bod gan y Ceidwadwyr, fel y blaid fwyaf, y dilysrwydd i lywodraethu. Nid dyna'r ffordd y gwelodd hi bethau y llynedd pan fu pleidlais yn y Siambr hon pan ddaethom ni’n ôl fel y blaid fwyaf. Roedd yn wahanol bryd hynny i'r hyn sydd yn awr, ond roedd honno’n blaid wahanol. Felly, mae anghysondeb yno, a gawn ddweud, yn y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud.

Yr hyn sy'n fy mhoeni’n fwy na dim yw bod y Llywodraeth Geidwadol wedi cael y dasg o gael y fargen orau ar gyfer y DU wrth iddi adael yr UE, a bod 10 o ASau y DUP wedi eu blingo nhw. Pa obaith sydd felly ar gyfer y dyfodol os mai dyna yw eu cryfder?

Gwrandewais yn ofalus ar Neil Hamilton: ‘malu awyr cwerylgar’ yw'r hyn yr wyf wedi’i ysgrifennu yma, yn ffugio bod yn ymgais i drafod, rhywun a gymerodd safbwynt Llywodraeth y DU—efallai yr hoffai fynd yn ôl i'r blaid Geidwadol—a’r DUP yn hytrach nag, unwaith eto, siarad dros y bobl y mae mewn gwirionedd yn eu cynrychioli. A gaf i ei atgoffa? Mae’n ddigon hawdd iddo ef feio pleidiau eraill am y sefyllfa hon, ond methodd ei blaid gael un AS o gwbl. Felly, os yw unrhyw blaid yn mynd i gymryd y bai am hyn, ei blaid ef fydd honno am eu methiant llwyr i gael unrhyw un wedi’i ethol i San Steffan.

Y gwir amdani yw bod y fargen hon wedi'i tharo i achub croen y Prif Weinidog, ac nid er budd pedair gwlad y DU. Ble mae hyn yn gadael Brexit? Ble mae'n gadael trafodaethau Brexit? Yr unig beth yr ydym yn ei wybod yw hyn, Llywydd: mae'r DUP yn hoff o'r ymadrodd ‘dim ildio’. Heddiw, mae'r Ceidwadwyr yn hoff o'r ymadrodd ‘ildio truenus’.

10. 10. Cyfnod Pleidleisio

Ac felly, rŷm ni’n cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda, sef y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio ar y ddadl ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus. Gwelliant 1—rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Deg o blaid, saith yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 10, Yn erbyn 30, Ymatal 7.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6339.

Galw nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 17, Yn erbyn 30, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6339.

Galw am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid wyth, 10 yn ymatal, 29 yn erbyn, ac felly fe wrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 8, Yn erbyn 29, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6339.

Galw nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 4.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6339.

Galw nawr am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly fe dderbyniwyd gwelliant 5.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 42, Yn erbyn 5, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6339.

Galw nawr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly fe dderbyniwyd gwelliant 6.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 42, Yn erbyn 5, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6339.

Cynnig NDM6339 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.

4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly fe dderbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6339 fel y’i diwygiwyd: O blaid 42, Yn erbyn 5, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6339 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:37.