Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/06/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau

Ddoe, cytunodd y Cynulliad ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2(a) i ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o’r grŵp Llafur, ac i ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Deisebau o grŵp UKIP. Rwyf nawr yn gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2(f), er mwyn ethol y Cadeiryddion yma i’r pwyllgorau hynny. Dim ond aelod o’r grŵp gwleidyddol a neilltuwyd i’r pwyllgor dan sylw a all gael ei enwebu fel Cadeirydd, a dim ond aelod o’r un grŵp plaid a gaiff enwebu. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 o Aelodau, mae’n rhaid i’r sawl a enwebir gael ei eilio gan Aelod arall yn yr un grŵp. Yn achos grwpiau plaid sydd â llai nag 20 o Aelodau, nid oes angen eilydd.

Yn gyntaf, felly, rwy’n gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, sydd i’w ethol o’r Blaid Lafur. A oes enwebiadau?

Mae Mike Hedges wedi ei enwebu. A oes rhywun yn eilio yr enwebiad yna?

A oes rhagor o enwebiadau? Nac oes. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Nac oes. Rwyf felly yn datgan bod Mike Hedges wedi ei ethol yn gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Llongyfarchiadau iddo fe. [Cymeradwyaeth.]

Rwy’n gwahodd nawr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, sydd i’w ethol o blaid UKIP. A oes enwebiadau?

Rwy’n enwebu David Rowlands.

A oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Nac oes. Felly, rwy’n datgan bod David Rowlands wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a llongyfarchiadau iddo fe.

Dyna ddiwedd, felly, ar y broses enwebu ac ethol Cadeiryddion.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. A’r cwestiwn cyntaf, Gareth Bennett.

Rownd Derfynol Pencampwriaeth UEFA

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lwyfannu rownd derfynol Pencampwriaeth UEFA a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar? OAQ(5)0187(EI)

Member
Ken Skates 13:33:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. Roedd rownd derfynol Pencampwriaeth UEFA yn uchafbwynt ysblennydd i ddathliad pedwar diwrnod o bêl-droed yn ein prifddinas, ac roedd llygaid y byd ar Gaerdydd, ar yr hyn a oedd yn ymdrech ysblennydd gan Dîm Cymru, a gyflawnwyd gan dîm ardderchog o bob rhan o’r brifddinas.

Diolch am eich datganiad. Cafwyd rhai cwynion, yn anochel efallai, gan rai trigolion a masnachwyr, ond wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf ohonom yn derbyn y daw manteision hirdymor o ganlyniad i’r penderfyniad i gynnal y rownd derfynol. Tybed a allech dynnu sylw’n fyr at rai ohonynt.

Yn sicr. Mae’n eithaf amserol gan fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi bod yn gwrando ar Jason Mohammad yn rhoi araith yng ngogledd Cymru, lle bu’n siarad am ei falchder ar noswaith rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ei ddinas ef, dinas ei fagwraeth. Roedd yn un o fechgyn Elái mewn gwirionedd. A sylweddolais nad annog ffyniant economaidd oedd unig ddiben y digwyddiad, ond cynyddu balchder hefyd yn ein prifddinas ac yn ein cenedl. Rwy’n deall ac yn derbyn bod rhai busnesau yng Nghaerdydd, a rhai o drigolion Caerdydd, wedi cael eu cyfyngu o ran eu gallu i symud o gwmpas y ddinas ac o ran faint o bobl y gallent eu denu i’w hadeiladau a’u cyfleusterau. Fodd bynnag, amcangyfrifir bod yr effaith economaidd yn werth £45 miliwn i’r brifddinas-ranbarth. Mae llawer o brosiectau etifeddol wedi deillio o’r digwyddiad hwn.

A chredaf ei bod yn deg dweud ei fod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Yn y cyfnod yn arwain at y digwyddiad, mynegwyd pryderon ynglŷn â thrafnidiaeth, logisteg, diogelwch, cyfathrebu, ond fe wnaethom gyflawni, a chyflawni’n dda. A gobeithiaf bellach y gallwn adeiladu ar ddigwyddiad a oedd yn ddigynsail, neu’r digwyddiad chwaraeon mwyaf eleni mewn gwirionedd, yn unrhyw le yn y byd, drwy ddenu mwy o ddigwyddiadau o safon fyd-eang i Gymru a thrwy sicrhau ein bod yn dathlu’r hyn sy’n gwneud Cymru’n wych, sef ein cynhesrwydd a’n croeso.

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn llwyddiant ysgubol, rownd derfynol cwpan UEFA yma yng Nghaerdydd, ond yn amlwg, daeth cyfres o ddigwyddiadau cyn hynny i Gaerdydd, er mwyn dangos yn amlwg y gallai Cymru, a Chaerdydd yn arbennig, gynnal digwyddiad mor enfawr. Un peth sydd wedi bod yn siomedig yw diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud cais am Gemau’r Gymanwlad yma yng Nghymru. A chan ein bod wedi profi y gallwn gynnal rhai o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf, os nad y mwyaf yn 2017, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ailystyried rhai o’r opsiynau a allai fod ar gael ar gyfer cais llwyddiannus gan Gymru i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol wrth inni symud ymlaen. Yn sicr, dyna fyddai pinacl dod â sawl cenedl i’r rhan hon o’r Deyrnas Unedig, a dangos pa mor wych yw ein gwlad a pha mor gymwys yw ein gwlad i gynnal y digwyddiadau mawr hyn.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond nodi hefyd nad diffyg uchelgais a arweiniodd at y penderfyniad i beidio â gwneud cais am gemau 2026? Diffyg adnoddau o ganlyniad i flwyddyn ar ôl blwyddyn o galedi a thoriadau i gyllidebau Llywodraeth Cymru a fu’n gyfrifol am hynny. Wedi dweud hynny, rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod yn parhau i fod mewn sefyllfa lle byddem yn dymuno archwilio pob cyfle i wneud cais, nid yn unig ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, ond ar gyfer digwyddiadau mawr eraill. Rwyf wedi dweud yn gyhoeddus y byddai cyfle i Brydain wneud rhywbeth gwahanol iawn ar gyfer gemau 2022 pe bai Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad yn caniatáu i’r rheolau gael eu llacio fel y gellir cyflwyno cais amlwladol. Ar hyn o bryd, nid ymddengys y gellid llacio’r rheolau hynny, ond pe caent eu llacio, mae’n gwbl bosibl y gellid cynnal Gemau’r Gymanwlad ar draws y DU gyfan. Byddai hynny’n un opsiwn. Opsiwn arall yw gwneud cais am gemau yn y dyfodol—2030 neu wedyn. O ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda gemau 2022, mae’n llai tebygol bellach y bydd gemau 2026 yn cael eu cynnal yn y DU, sy’n gwneud 2030 yn bosibilrwydd.

Rydym eisoes wedi cychwyn adolygiad trylwyr o’r holl gyfleusterau chwaraeon a digwyddiadau mawr yng Nghymru, gyda’r bwriad o allu nodi pa fath o fuddsoddiad y byddai ei angen, ac yn lle, ar gyfer y cymunedau a fyddai hefyd yn ein galluogi i wneud cais yn y dyfodol am ddigwyddiad fel Gemau’r Gymanwlad. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth wneud ceisiadau a cheisio chwilio am gyfleoedd ar lwyfan byd-eang, fod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o’r angen i ddarparu enillion ar ein buddsoddiad, ac am y rheswm hwnnw, rydym yn ofalus iawn yn y Llywodraeth ein bod yn sicrhau ein bod yn gwneud ceisiadau am y digwyddiadau sy’n darparu’r manteision mwyaf i drethdalwyr Cymru ac i bobl Cymru.

Banc Datblygu Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Fanc Datblygu Cymru?  OAQ(5)0178(EI)

Rwy’n falch o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd da, yn enwedig gyda materion rheoliadol, ac rydym yn dal i fod ar y trywydd iawn i gyhoeddi a lansio’r banc datblygu yn ddiweddarach eleni.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gŵyr pob un ohonom fod y cloc yn tician bellach o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae meithrin hyder busnesau bellach yn fwy allweddol nag erioed o’r blaen o bosibl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn a oes gennych ragor o fanylion o ran beth fydd y drefn ymarferol, a sut y gall microfusnesau a busnesau canolig eu maint ledled Cymru gael mynediad at gyllid a gwasanaethau eraill gan y banc datblygu pan fydd wedi’i sefydlu ac ar waith?

Prif ddiben y banc datblygu, wrth gwrs, fydd chwilio am ddiffyg yn y farchnad a mynd i’r afael ag ef, a gwyddom fod cyllid ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chyllid ar gyfer dechrau busnes yn broblem benodol yng Nghymru wledig—yr ardaloedd o Gymru y mae’r Aelod yn eu cynrychioli ac yn eu gwasanaethu mor rhagorol. Nawr, rwyf wedi rhoi’r cyfrifoldeb am ddatblygu strategaeth leoli i ystyried y strwythur rhanbarthol newydd o fewn uned yr economi a’r seilwaith i Cyllid Cymru, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar yr ymarfer ailstrwythuro hwnnw. Bydd Banc Datblygu Cymru yn darparu presenoldeb ffisegol ledled y wlad, a bydd yn cael ei sefydlu fel pencadlys yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Ond rwy’n awyddus hefyd i Fanc Datblygu Cymru ryngwynebu’n effeithiol gyda Busnes Cymru, ac am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i Duncan Hamer o Busnes Cymru a Giles Thorley o Cyllid Cymru weithio gyda’i gilydd i archwilio sut y gallwn sicrhau bod y ddau sefydliad yn gallu cyfeirio cwsmeriaid yn y ffordd orau bosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch yn fawr, Llywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, o 30 Mai eleni ymlaen, gall awdurdodau lleol gofrestru pridiant tir lleol i ddiogelu eu hunain wrth adennill costau a llog am atgyweiriadau brys i adeiladau rhestredig. Yn amlwg, rwy’n meddwl am Theatr y Palas yn Abertawe, sydd wedi elwa o hynny yn y gorffennol, ond ceir adeiladau eraill sydd mewn perygl yn etholaethau a rhanbarthau’r Aelodau eraill hefyd. Pan oedd y cynghorau’n pennu eu cyllidebau eleni, a gawsoch chi, neu a fuoch yn chwilio am unrhyw arwydd eu bod yn fwy parod bellach i fwrw ymlaen â gwaith atgyweirio brys, a’u bod yn hyderus y byddai’r pŵer newydd hwn yn helpu i sicrhau’r adenillion?

Cynlluniwyd y pŵer hwn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i wneud popeth yn eu gallu i ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol yn yr ardaloedd o Gymru y maent yn eu cynrychioli. Nid wyf wedi cael cyfle eto i weld a fu’n effeithiol yn ystod y cyfnod byr y mae wedi bod ar gael. Ond roeddem yn disgwyl, yn seiliedig ar yr ymgynghoriad a gawsom gyda’r rhanddeiliaid, yn enwedig gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod llywodraeth leol yn fodlon y byddai’r offerynnau hyn yn gwella eu sefyllfa o ran gallu gwarchod yr amgylchedd adeiledig.

Diolch am eich ateb, ac rwy’n gobeithio y gellir cyfiawnhau’r hyder hwnnw. Efallai, chwe mis yn ddiweddarach, y byddai’n werth gofyn a ydynt wedi penderfynu defnyddio’r pwerau hynny ar y sail eu bod ganddynt a’u bod yno ar gyfer eu diogelu.

Gan symud yn awr at y llyfrgell genedlaethol, yn amlwg, mae ei rôl yn ehangu ar hyn o bryd, wrth iddi ymgymryd ag archif y BBC a helpu’r Cynulliad hwn i ymgymryd â’r dasg enfawr o archifo ein gwaith ein hunain. Credaf hefyd fod ei chyrhaeddiad allanol yn llawer mwy amlwg nag yr arferai fod—mae’r gwasanaeth ar-lein a ddarperir ganddi yn cynyddu. Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau’n fyr at y wefan newydd, sy’n darparu mynediad rhad ac am ddim at dros 450 o gylchgronau Cymreig a gyhoeddwyd ers 1735. Felly, os oes pum munud gennych heddiw, fe welwch fod hynny’n troi’n bum awr, felly byddwch yn ofalus.

Mae’r llyfrgell yn elwa, wrth gwrs, o fuddsoddiad cyhoeddus, ac rwy’n cydnabod yr arian ychwanegol y mae wedi’i gael yn ddiweddar yn y gyllideb ddiwethaf. Ond nid oes unrhyw fuddsoddiad nad oes amodau ynghlwm wrtho, ac rwy’n deall eich bod yn awyddus i’r llyfrgell ddenu mwy o ymwelwyr. A fyddech yn derbyn y byddai mwy o ymwelwyr ar-lein yn cyfrif tuag at gyfanswm cyffredinol yn hynny o beth, neu a ydych yn edrych ar ymwelwyr a ddaw drwy’r drws? Oherwydd, wrth inni fynd ar drywydd y cyllid newydd, ac efallai na fydd yn ymddangos yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, hoffem fod yn hollol sicr ynglŷn â’r rhesymau pam.

Mae’r Aelod yn codi pwynt da iawn mewn gwirionedd, gan mai un o gryfderau allweddol y llyfrgell genedlaethol yw lefel ardderchog y sgiliau digideiddio sydd mor amlwg yn y llyfrgell yn Aberystwyth. O ran nifer yr ymwelwyr, hoffwn weld cynnydd o ran ymwelwyr ar-lein ac ymwelwyr â’r llyfrgell ei hun. Mantais ymwelwyr ar-lein yw y gellir eu defnyddio i gynyddu’r incwm y gellir ei gynhyrchu drwy brynu archifau digidol. Mae hwn yn un o’r prif feysydd twf mewn gweithgareddau ar gyfer y llyfrgell genedlaethol.

O ran cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r llyfrgell ei hun, credaf fod y gwaith allgymorth, o ran addysg, yn cael effaith odidog ar ysgolion a cholegau a phrifysgolion, ond byddai o fudd pe bai rhagor o bobl yn ymweld â’r llyfrgell, nid yn unig am ei fod yn lle unigryw a godidog, ond hefyd am fod gweithgarwch masnachol llyfrgelloedd, drwy werthiant nwyddau a brynwyd, yn eithriadol o bwysig o ran y refeniw y maent yn ei godi.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb. Caf weld beth sy’n digwydd yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Yn olaf, mae Blwyddyn y Chwedlau, wrth gwrs, wedi sbarduno cryn ddiddordeb, gobeithio, yng Nghymru fel lleoliad ffilm a theledu. Rwyf eisoes yn ymwybodol o’u hanes blaenorol, felly nid wyf yn arbennig o awyddus i glywed am hynny, ond rwy’n awyddus i wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dyfodol y ddwy brif stiwdio ffilm yn fy rhanbarth.

Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol a dylem gymeradwyo’r arweinyddiaeth yn y sector. Mae’r sector yn tyfu’n gyflymach yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, ac mae hynny o ganlyniad i ffocws di-baid ar hyrwyddo Cymru a’r sgiliau o fewn y sector, yn benodol ar gyfer dramâu teledu. Yn y dyfodol, rydym yn edrych ar raglen enfawr o weithgarwch drwy Bad Wolf. Rydym yn edrych hefyd ar ddefnyddio rhai o’r cyfleusterau awyr agored ardderchog sydd gennym ledled Cymru fel lleoliadau ffilmio. O ran stiwdios eraill, deallwn fod cryn alw am ofod stiwdio, ond rydym yn canolbwyntio’n benodol ar hyn o bryd ar sicrhau bod y criwiau ar gael gennym i ateb y galw. Mae’r galw’n aruthrol ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym unigolion sydd â’r sgiliau i wneud yn siŵr fod modd cynhyrchu teledu a ffilm.

Diolch, Llywydd. Gan barhau ar y thema gynharach ynglŷn â llwyfannu digwyddiadau, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’i gynnig ar gyfer adeiladu arena amlbwrpas gyda chapasiti, efallai, o 20,000, a fyddai’n cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau llai eu maint?

Credaf mai’r cyfleuster y cyfeiria’r Aelod ato yw arena arfaethedig Caerdydd. Nid cynnig gan Lywodraeth Cymru yw hwn. Credaf fod un o Aelodau’r gwrthbleidiau—nid o blaid yr Aelod—wedi bod yn creu helynt ynglŷn â’r cynnig a chan bwy y daw. Mewn gwirionedd, cynnig ydyw y mae cyngor Caerdydd yn ei ystyried ar hyn o bryd, ac maent yn archwilio potensial sawl opsiwn. Wrth i ni geisio cynnal mwy o ddigwyddiadau, wrth i ni geisio denu mwy o ddigwyddiadau busnes i Gymru, credaf fod arnom angen cyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac ni chredaf ei bod o fudd i’n cenedl fod gwleidyddion yn troi’r rhanbarthau yn erbyn ei gilydd, wrth siarad am ba gyfleusterau sydd eu hangen arnom.

Yn fy marn i, mae angen arena fawr yn y de, ac mae Caerdydd yn lle perffaith, a hithau’n brifddinas, ar gyfer arena. Ond yr un modd, rwy’n deall bod angen uwchraddio cyfleusterau ledled Cymru, ac am y rheswm hwnnw, cyfarfu fy swyddogion â swyddogion Clwb Pêl-droed Wrecsam yr wythnos diwethaf i drafod y Cae Ras. Maent wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau diwylliannol a chwaraeon ledled Cymru er mwyn sicrhau bod gennym gyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Wel, rwy’n deall bod gennym arenâu yng Nghaerdydd sy’n dal hyd at oddeutu 80,000 o bobl, ond rydym yn siarad, dyweder, am ddigwyddiadau cerddorol mawr ac ati. A fyddai Llywodraeth Cymru yn agored i’r posibilrwydd o helpu i ariannu arena fawr ar gyfer y math hwn o beth, gan nad yw’n iawn fod gennym Gymry yn ninas Caerdydd, un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop, yn gorfod mynd i Birmingham neu Fanceinion neu Lundain er mwyn profi peth o’r adloniant gorau—adloniant cerddorol—sydd ar gael?

Mae gennym eisoes nifer helaeth o gyfleusterau yn y brifddinas, ac wrth gwrs, cyn bo hir bydd gennym y ganolfan gynadledda fwyaf a gorau yn ne-orllewin y DU, ond mae bwlch ar ôl yn y farchnad y gallai arena newydd fynd i’r afael ag ef a’i lenwi, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chyngor Caerdydd wrth iddynt graffu ar wahanol opsiynau, ac ymhen y rhawg, rwy’n siŵr y daw darlun cliriach i’r amlwg o ran yr hyn yr hoffai cyngor dinas Caerdydd ei gyflawni ar gyfer Caerdydd.

A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’n sefyllfa o ran penderfyniad ynghylch Cylchffordd Cymru? Dywedodd y Prif Weinidog, ar 6 Mehefin, ei fod yn disgwyl penderfyniad gan y Cabinet o fewn pythefnos—felly, erbyn ddoe. Os nad yw wedi bod yn bosibl hyd yma, a all roi dyddiad inni ar gyfer pa bryd y bydd y Cabinet yn cael y drafodaeth honno, ac a gawn barhau i ddisgwyl cyhoeddiad ynglŷn â’r penderfyniad hwnnw cyn diwedd y mis? A allai ddweud hefyd a yw wedi penderfynu a yw’n barod i rannu’r diwydrwydd dyladwy allanol a gyflawnwyd gan lefarwyr y gwrthbleidiau, fel y gofynnom? Bydd penderfyniad cadarnhaol, wrth gwrs, yn rhwymo gweinyddiaethau o wahanol liwiau gwleidyddol yn y dyfodol, o bosibl, ac felly byddai’n ymddangos y dylid cynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â’r prosiect hwn. Deallaf gan y cwmni na fyddai ganddynt unrhyw wrthwynebiad i hyn gael ei wneud ar sail cyfrinachedd masnachol.

Bydd y Cabinet yn gwneud y penderfyniad ddydd Mawrth nesaf, ac rwy’n bwriadu sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybod am y penderfyniad hwnnw cyn gynted â phosibl wedi hynny. O ran yr adroddiadau diwydrwydd dyladwy, nid un ohonynt sydd; mae yna sawl un. Mae hwn yn fater rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd: pa un a ellir cyhoeddi’r diwydrwydd dyladwy, nid yn unig ar gyfer yr Aelodau ond ar gyfer cynulleidfa ehangach. Mae’n rhywbeth yr hoffem ei drafod gyda’r datblygwyr eu hunain, wrth gwrs.

Rwy’n ddiolchgar am eich ateb. A allai Ysgrifennydd y Cabinet nodi’r meini prawf a fydd yn llywio ei argymhelliad terfynol i’r Cabinet? Deallaf fod ei ofyniad o warant o 50 y cant neu lai gan y Llywodraeth a dogfennau amodau buddsoddwr a enwir eisoes wedi ei fodloni. Mae’r diwydrwydd dyladwy allanol y cyfeiriasant ato wedi cwmpasu ystod eang o feysydd: effaith economaidd, prawf unigolyn addas a phriodol ac amryw o faterion eraill. Yn ôl pob tebyg, mae bellach wedi gweld y diwydrwydd dyladwy hwnnw. A all ddweud a yw wedi nodi unrhyw faterion o bwys sy’n achos pryder? A oes ganddo bellach ffigur a wiriwyd yn annibynnol ar gyfer creu swyddi, ac a all ddweud wrthym beth yw’r ffigur hwnnw? A yw’r prosiect wedi bod yn destun unrhyw adolygiad arall, yn allanol neu’n fewnol, nad yw wedi rhoi gwybod i ni yn ei gylch o’r blaen? Ac o ystyried ein bod wedi cael chwe blynedd o drafod ynglŷn â’r prosiect hwn, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd inni, pan fydd yn codi yr wythnos nesaf, yn hytrach na rhagor o oedi neu ohirio, gyda rhagor o newidiadau, o bosibl, ym meini prawf gwerthuso’r Llywodraeth, y byddwn yn cael penderfyniad terfynol a phendant mewn perthynas â’r prosiect hwn?

Credaf fod y Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir, wrth benderfynu ar Gylchffordd Cymru, fod yn rhaid i’r prosiect sefyll ar ei draed ei hun; mae’n rhaid iddo ddarparu ar gyfer pobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd; ac mae’n rhaid iddo fodloni’r meini prawf a nodwyd gennym yr haf diwethaf, lle mae o leiaf 50 y cant o’r cyllid yn dod o’r sector preifat, a bod o leiaf 50 y cant o’r gwarantau, neu’r risg, yn cael ei ysgwyddo gan y sector preifat hefyd. Mae angen i ni ystyried y gwerth am arian, y swyddi sy’n debygol o gael eu creu, a hyfywedd a chynaliadwyedd y prosiect, nid yn unig yn ystod y gwaith adeiladu, ond am sawl degawd. Mae pob un o’r rheini’n cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn penderfyniad y Cabinet yr wythnos nesaf. Mae’r prosiect, fel y gŵyr yr Aelod, wedi esblygu sawl, sawl gwaith dros y pump i chwe blynedd diwethaf, ac er bod adolygiadau blaenorol wedi’u cynnal, a gwerthusiadau wedi’u cwblhau, byddent yn ymwneud â modelau busnes blaenorol.

Os cawn symud, yn olaf, at brosiect mawr arall, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r prosiect ffowndri a chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd a gyhoeddwyd fel rhan o fargen ddinesig dinas-ranbarth Caerdydd? Deallaf fod tîm y dinas-ranbarth yn cynnal trafodaethau gyda’ch tîm eiddo eich hun ynglŷn â chaffael yr adeilad pacio a phrofi ar hen safle LG, sydd wedi bod yn wag ers 1996. Nawr, mae’r prosiect hwn yn gysylltiedig, yn ôl ffynonellau yn y diwydiant, â chontract pwysig gydag IQE ar gyfer ei dechnoleg cell ceudod fertigol, a fydd yn rhan hanfodol o’r camera synhwyro 3D yn yr iPhone 8 newydd, ac mae ganddo botensial enfawr—potensial trawsnewidiol—ar gyfer economi Cymru. Dywedir wrthyf fod y ffaith fod y Llywodraeth wedi bod yn bargeinio a llusgo’i thraed dros delerau caffael yr adeilad gwag hwn wedi golygu bod y cwmni bellach wedi gorfod paratoi cynllun B, a fyddai’n cynnwys gweithgynhyrchu yn eu cyfleusterau yng Ngogledd Carolina, gan arwain, o bosibl, at golli miloedd o swyddi i economi Cymru. Y pedwerydd ar ddeg o Orffennaf—cyfarfod nesaf Cabinet dinas-ranbarth Caerdydd—yw’r terfyn amser pendant ar gyfer gwneud penderfyniad. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd inni ei fod yn derfyn amser na fyddwn yn ei fethu ar unrhyw gyfrif?

Dyma un o’r prosiectau pwysicaf ar fy nesg ar hyn o bryd. Mae’n gyfle enfawr, nid yn unig i Gasnewydd, nid i’r dinas-ranbarth, ond i Gymru gyfan. Mae’n cynrychioli ein symud, ein trawsnewid, i economi’r unfed ganrif ar hugain, lle bydd awtomeiddio, lle bydd roboteg, lle bydd technoleg gwybodaeth yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad ag IQE, ond rwyf finnau hefyd, yn bersonol, gyda golwg ar sicrhau bod y cyfle anhygoel hwn yn cael ei wireddu ar gyfer Casnewydd ac ar gyfer gweddill Cymru.

Datblygiad Economaidd

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae ei adran yn cydweithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynyddu datblygiad economaidd yng Nghymru? OAQ(5)0182(EI)

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ystod eang o faterion, gan gynnwys trafodaethau, yn fwy diweddar, ynglŷn â photensial datblygu economaidd y campws gwyddor data newydd a datblygu prentisiaethau data newydd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Y mis diwethaf, mynychais ‘data dive’ cyntaf Cymru, a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol—digwyddiad lle bu gwyddonwyr data, datblygwyr a dylunwyr, yn eu hamser eu hunain, yn gweithio gydag elusennau i roi cymorth iddynt ddefnyddio data i ddadansoddi eu prosiectau a’r cymunedau a gefnogir ganddynt. Yn yr achos hwn, roeddent yn gweithio gyda SafeLives a Llamau. Gan adeiladu ar y gwaith cyffrous hwn, bydd llawer o fusnesau a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn elwa o gydweithredu o’r fath yn y dyfodol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion annog rhagor o gydweithredu yn y maes ac archwilio ffyrdd y gallai gefnogi twf economaidd a gwella gwasanaethau lleol?

Wel, mae cyfleoedd sylweddol a allai ddeillio o gydweithredu yn y maes penodol hwn. Mae data bellach yn rhan hanfodol o’r economi fyd-eang, ac mae’n amlwg fod defnydd arloesol o ddata yn sbarduno twf economaidd. Mae sawl her sydd angen ei hwynebu, ond gyda’r heriau hynny, daw cyfleoedd enfawr: storio data, ymelwa ar ddata a’i ddefnyddio, yn ogystal â diogelwch a sicrhau bod y broses o storio yn cael ei rheoli’n briodol. Credaf fod Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain yn y maes hwn. Credaf fod gan Gasnewydd stori anhygoel i’w hadrodd—mae ganddynt naratif gwych ynglŷn â sut y maent yn adeiladu dyfodol economaidd ar dechnolegau digidol sy’n datblygu, felly credaf fod hynny’n rhywbeth y dylai pob un ohonom ei gymeradwyo.

Mae gwerthoedd tîm wedi bod yn gryf yng Nghasnewydd a’r cyffiniau. Credaf y dylid canmol y cyngor lleol am eu gwaith yn y maes hwn. Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid wrth fwrw ymlaen â’r agenda benodol hon. A thrwy’r buddsoddiad hwn ar gyfer datblygu sgiliau newydd yn y maes, gobeithiaf y bydd Cymru’n dod yn un o arweinwyr y byd ym maes rheoli data yn foesegol.

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn groesawu’r ffaith fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi dechrau cyhoeddi data ar lefel awdurdodau lleol ar ddau ddull allweddol o fesur allbwn a ffyniant economaidd, sef gwerth ychwanegol gros ac incwm gwario gros aelwydydd. Rwy’n credu bod yna gryn botensial, a hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn dweud beth y gallant ei wneud yn y maes hwn, i sicrhau bod bargen ddinesig Caerdydd, dyweder—ond mae’n berthnasol i ddinas-ranbarthau eraill hefyd—yn defnyddio’r wybodaeth hon, ac yn mesur eu llwyddiant yn arwain at ffyniant economaidd a chynyddu cyfoeth ledled y rhanbarth. Rwy’n credu y bydd y rhain yn ddangosyddion allweddol.

Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni fesur a phrofi cryfder ein penderfyniad i sicrhau ein bod yn cynyddu cyfoeth, nid yn unig yn gyffredinol, ond hefyd ar lefel unigolion, yn ogystal â gwella lefelau lles ar lefel gyffredinol ac ar lefel unigolion, er mwyn inni leihau anghydraddoldeb ar y ddwy lefel hefyd. A chredaf y gall presenoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd helpu i gyfrannu at ein dealltwriaeth o’r agenda hon, ac at y broses o ddwyn, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond yr holl wasanaethau cyhoeddus, a’n partneriaid yn y sector preifat a’r trydydd sector yn wir, i gyfrif wrth i ni symud tuag at sicrhau ffyniant i bawb.

Gwn fod adran Ysgrifennydd y Cabinet yn anelu at gynyddu datblygiad economaidd yng Nghymru a cheisio sicrhau ffyniant i bawb. Ond a yw’n ymwybodol o’r cyhoeddiad a wnaed gan Tesco heddiw eu bod yn bwriadu cau Tesco House yng Ngogledd Caerdydd yn fy etholaeth, a cholli 1,200 o swyddi, ac y bydd gwaith y ganolfan alwadau’n symud i Dundee, lle byddant yn creu 200 o swyddi? Mae hyn yn effeithio ar lawer o bobl yng Ngogledd Caerdydd ac mewn etholaethau cyfagos. Mae wedi bod yno ers blynyddoedd lawer; rwyf wedi ymweld â’r lle ar sawl achlysur. Beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud gyda’r cyhoeddiad siomedig hwn?

Llywydd, rwyf wedi cael newyddion gan Tesco yn y 45 munud diwethaf, ac rydym yn gweithredu arno unwaith. Rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i lunio pecyn cymorth ar gyfer y rhai a allai gael eu heffeithio, ond rydym hefyd wedi sefydlu galwad gynadledda rhwng Tesco, y Prif Weinidog a minnau yn ystod yr awr nesaf.

Cymru fel Cyrchfan i Dwristiaid

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella’r gwaith o hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OAQ(5)0177(EI)

Mae ein strategaeth dwristiaeth lwyddiannus iawn yn nodi ein blaenoriaethau i gefnogi’r diwydiant twristiaeth ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd marchnata yn y DU a thramor, ac mae’n cynnwys cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, ynghyd â chyllid refeniw ar gyfer prosiectau rhanbarthol.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer marchnata Cymru’n effeithiol fel cyrchfan i dwristiaid. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud nad yw’r gyllideb farchnata bresennol o £10 miliwn ar gyfer Croeso Cymru yn ddigonol i wireddu potensial y diwydiant yng Nghymru. Mae’r gyllideb ar gyfer Visit Scotland, er enghraifft, oddeutu £55 miliwn. Pa gynllun sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet, ar y cyd â Croeso Cymru, i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac i sicrhau y gwneir y gorau o botensial llawn twristiaeth yng Nghymru, gan fod gennym fwy o gestyll a mwy o eglwysi yma—[Torri ar draws.]—yn hytrach nag ynysoedd mwy cyfannedd?

A chapeli, yn wir—llawer mwy o gapeli nag unrhyw le arall. Edrychwch, credaf yn gyntaf oll y dylem gydnabod llwyddiant y sector ar hyn o bryd heddiw. Rydym yn gweld y nifer uchaf erioed o bobl yn ymweld o wledydd tramor ac rydym yn gweld y nifer uchaf erioed o bobl yn ymweld o ledled y DU, gan wario mwy nag erioed. Ac o ran y gyllideb farchnata, ydy, mae wedi cynyddu 38 y cant eleni, ond ni allwch ystyried marchnata heb ystyried y gweithgarwch arall sy’n cynyddu gwerth y sector. Mae ein buddsoddiad yn mynd ymhell y tu hwnt i—. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y marchnata yn cyd-fynd â’r cynnyrch, ac yn ei dro, mae’n rhaid i chi fuddsoddi yn y cynnyrch, hefyd. Felly, er enghraifft, gwyddom mai un o’r prif resymau y mae pobl yn dod i Gymru yw er mwyn profi’r amgylchedd hanesyddol. Yn ei dro, am y rheswm hwnnw, rydym wedi bod yn buddsoddi’n sylweddol mewn prosiectau trawsnewidiol yn rhai o’n cestyll a’n mannau addoli gorau a mwyaf anhygoel. O ran yr ymdrech farchnata, nid yw’n ymwneud yn unig â faint rydych yn ei wario, ond hefyd â sut rydych yn ei wario—pa mor graff ydych chi.

Mae’r gred draddodiadol fod angen i chi wario llawer iawn o arian ar hysbysebion print a darlledu yn dod yn fwyfwy amherthnasol. Oes, mae galw am hynny o hyd, ond mae pwysigrwydd rôl y cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu. Mae hynny’n llawer mwy costeffeithiol. Er mwyn dal dychymyg a sylw marchnad fyd-eang, mae’n rhaid i chi gael cynnyrch cryf iawn, ac mae’n rhaid i chi gael ymarfer marchnata cryf iawn. Mae’n rhaid i mi ddweud, pe bai gennyf datŵ am bob gwobr y mae tîm Croeso Cymru wedi’i ennill am y rhaglen farchnata, byddai gennyf ddwy lawes lawn erbyn hyn, gan eu bod wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol yn hyrwyddo Cymru, yma yn y DU a thramor, ac mae’r ffigurau’n dangos hynny. Mae’r ffigurau’n rhyfeddol, a chroesawaf unrhyw drafodaeth gyda’r Aelodau o ran y syniadau a allai fod ganddynt ar gyfer hyrwyddo Cymru ymhellach, gartref neu dramor.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod twristiaeth yn sector allweddol i ddatblygiad economaidd gogledd Cymru. Yn y gorffennol, rwyf wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu’r hyn a elwir yn goridor diwylliant ar hyd yr A55, a fydd yn cysylltu’r atyniadau ar y fynedfa hon i ogledd Cymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd rhan fawr o hyn yn cynnwys arwyddion newydd a gwell, a fydd, yn llythrennol, yn nodi’r asedau treftadaeth a thwristiaeth rhyfeddol yn ein rhanbarth, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, megis castell y Fflint, Theatr Clwyd a Ffynnon Santes Gwenffrewi yn Nhreffynnon. O ran yr olaf, credaf fod angen ailosod yr arwyddion brown ar yr A55 wrth i chi ddod i mewn i Dreffynnon yn ddybryd, ac mae cyngor y dref wedi dwyn hynny i fy sylw. Felly, efallai y byddech yn ystyried nid yn unig eu gosod ond eu gwella hefyd, er mwyn sicrhau eu bod yn llawer mwy rhyngweithiol, ac nid yn unig yn gyrru pobl at ein hatyniadau i dwristiaid, ond hefyd ar gyfer buddsoddi, ac i ysgogi’r economi leol. A ydych yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arwyddion gwell sy’n hyrwyddo twristiaeth Cymru yn y ffordd orau yn wirioneddol hanfodol a bod angen eu rhoi yn eu lle cyn gynted ag y bo modd?

Mae’r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. O ran y coridor diwylliant, mae’r A55 yn un o dri llwybr twristiaeth newydd ag iddynt ffocws rhyngwladol sydd i’w lansio fel Ffordd Cymru ar ddiwedd 2017. Bydd Ffordd Gogledd Cymru, yr A55, sef y coridor diwylliant, yn ymuno â Ffordd Cambria, yr A470, a Ffordd yr Arfordir, yr A470. Yr hyn y byddant yn ceisio ei wneud yw cyfleu rhagoriaethau unigryw’r rhanbarthau unigol a’u hyrwyddo yn well byth i gynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol, a sicrhau bod profiad ymwelwyr yn cynnwys nid yn unig ymweld â lleoedd, ond eu bod hefyd yn cael profiad o daith. Y llwybrau hyn yw’r prif wythiennau ar gyfer rhannau sylweddol o Gymru a byddant yn annog ymwelwyr i grwydro oddi ar y llwybrau ac ymweld â rhai o’n lleoliadau mwyaf trawiadol.

Ond mae’r Aelod yn llygad ei lle fod angen i ni edrych o’r newydd ar arwyddion, yn enwedig mewn oes ddigidol, ac mewn perthynas ag arwyddion brown yn benodol, gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fy mod wedi gofyn yn ddiweddar i fy swyddogion adolygu’r broses ymgeisio, gan fy mod yn ymwybodol fod peth oedi wedi bod. Mae’r oedi hwnnw wedi cael ei godi yn y Siambr hon, yn bennaf, rwy’n meddwl, gan Darren Millar, ond gan eraill hefyd, ac rydym yn gweithio ar welliannau a fydd yn ein galluogi i gael mwy o reolaeth ar gyflymder a darpariaeth yr arwyddion brown hynny. Byddwn yn neilltuo’r adnoddau angenrheidiol i helpu i gyflymu a gorffen y cynlluniau sy’n dal heb eu cwblhau.

Mewn perthynas â threftadaeth, fodd bynnag, tynnodd yr Aelod sylw at werth y cestyll a’r prif leoliadau treftadaeth. Maent yn cyfrannu oddeutu £900 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac maent yn cyflogi oddeutu 41,000 o bobl i gyd. Mewn gwirionedd, y lleoliadau hyn sydd i gyfrif am 61 y cant o ddibenion ymweliadau twristiaid â Chymru, felly maent yn hynod o bwysig ac yn fy marn i, wrth inni ddatblygu’r coridor diwylliant, Ffordd Cambria a Ffordd yr Arfordir, dylem roi blaenoriaeth i ystyried sut i wneud y defnydd gorau o’n hamgylchedd hanesyddol godidog.

Mynd i’r Afael â Thlodi

5. Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi? OAQ(5)0189(EI)

Mae cefnogi economi gref sy’n cynhyrchu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy sy’n hygyrch i bawb yn hanfodol i’n huchelgais o sicrhau ffyniant i bawb. Mae’r dystiolaeth yn glir mai gwaith teg, cynaliadwy sy’n darparu’r llwybr gorau allan o dlodi, yn ogystal â’r amddiffyniad gorau rhag tlodi i’r rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni allem anghytuno â’r dadansoddiad hwnnw, ond yn anffodus mae’r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth alluogi pawb i fod yn barod i weithio ac yna i gynnal gwaith yn gymhleth iawn. Mae’r broses o ddirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben wedi creu nifer o bryderon y gallai’r strategaethau sy’n seiliedig ar le ar gyfer cryfhau cryfder cymunedau difreintiedig i allu mynegi eu hanghenion ac ymwneud â’r broses o ddatrys eu problemau gael eu tanseilio yn gyfan gwbl.

Ymddengys bod y Llywodraeth yn dibynnu ar gymwyseddau’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn unol â Deddf cenedlaethau’r dyfodol, a’r cyrff cyflawni arweiniol ar gyfer y rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf, i nodi’r rhaglenni sydd wedi gweithio’n dda. Ymddengys ein bod yn cymryd risg sylweddol iawn o ran ategu’r strategaethau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth y gwn eich bod newydd fod yn siarad amdanynt. Felly, tybed a allwch ddweud sut y mae’r Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau y bydd y strategaethau sy’n seiliedig ar le, ac sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at y gymuned, yn cael eu cadw.

Efallai yr hoffai’r Aelod wybod y byddwn, gyda’r model datblygu economaidd rhanbarthol arfaethedig, yn dod â’r gweithgareddau sy’n ymwneud â hyfforddiant cyflogaeth a sgiliau a darpariaeth sgiliau ynghyd ar batrwm tebyg, er mwyn inni gael dull o ddatblygu economaidd a darparu sgiliau sy’n fwy seiliedig ar le. Ond wrth gwrs, bydd yna raglenni sy’n seiliedig ar angen o hyd.

Yr hyn rydym yn awyddus i’w wneud yw sicrhau y ceir gwared ar bob rhwystr i gyflogaeth, pob rhwystr i ffyniant, boed hynny’n rhwystr i drafnidiaeth drwy ddarparu’r metro yn y de, masnachfraint rheilffyrdd well ar draws gweddill Cymru, bysiau gwell, neu drwy ofal plant, drwy’r broses o gyflwyno’r cymorth gofal plant mwyaf hael yn unman yn y DU, neu drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau, drwy gyflwyno cynllun cyflogadwyedd newydd. Y peth allweddol yw ein bod yn sensitif tuag at nodweddion a gofynion rhanbarthol, gan sicrhau darpariaeth deg hefyd ar gyfer pob unigolyn ledled ein gwlad.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg o werthusiadau annibynnol o Cymunedau yn Gyntaf fod y Llywodraeth wedi methu yn ei nod o leihau tlodi yn gyffredinol yn yr ardaloedd hyn. Wrth i Cymunedau yn Gyntaf ddirwyn i ben, sut y byddwch yn cyflawni’r nod penodol o leihau tlodi? Oherwydd, a dyfynnaf Ysgrifennydd y Cabinet o dystiolaeth y pwyllgor i ni y bore yma, bydd yn dibynnu ar ‘jig-so’ o wahanol brosiectau yn dod at ei gilydd, drwy fecanweithiau ariannu’r cynghorau a thrwy raglenni cyflogadwyedd, gan edrych ar un yn benodol, o’ch portffolio. Felly, mae’n ymwneud â sut y byddwch yn cyflawni ar drechu tlodi, gan fod y corff cyflawni allweddol a sefydlwyd gennych er mwyn gwneud hynny wedi methu’n sylfaenol o ran y nod hwnnw.

Wel, gadewch i ni edrych ar y ffigurau yn gyntaf oll, ac yna fe atebaf y pwynt penodol ynglŷn â’r hyn y byddwn yn ei wneud wrth symud ymlaen. O ran incwm domestig gros aelwydydd, rydym wedi’i weld yn codi’n gyflymach nag yn y DU yn ei chyfanrwydd, ac o safbwynt gwerth ychwanegol gros y pen, ac mae’r un peth yn wir am y mynegai cynhyrchu a’r mynegai adeiladu.

Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod wedi gweld gostyngiad yn y gyfradd tlodi hefyd, yn ystod rhai o’r blynyddoedd mwyaf creulon o galedi y gall unrhyw un ohonom gofio. Ond rydym yn benderfynol o sicrhau ffyniant i bawb, ac am y rheswm hwnnw, rydym am gael, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthych y bore yma, rydym yn benderfynol o gael cymysgedd o raglenni ar gyfer lleoedd penodol a rhaglenni sydd ar gael ledled Cymru i allu gwneud ymyriadau ym mywydau pobl i’w helpu i oresgyn y rhwystrau y soniais amdanynt yn gynharach.

Credaf y bydd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd ar gyfer pob oed yn hanfodol, yn ogystal â chynnig gofal plant hael iawn, a chadw rhaglenni eraill lle maent wedi profi’n effeithiol. Mae rhai o’r rhaglenni y profwyd eu bod yn effeithiol, ac a fydd yn parhau, yn gymharol rhad hefyd. Nid y rhaglenni drytaf yw’r rhai mwyaf effeithiol bob amser. Gwyddom, er enghraifft, fod y rhaglen Cyfuno, sy’n dod â chymunedau a sefydliadau diwylliannol ynghyd, wedi cael ei rhoi ar waith am swm cymharol ychydig o arian, ond mae’r effaith yn sylweddol, gyda nifer fawr o bobl a arferai fod yn economaidd anweithgar yn ennill y sgiliau, yn ennill y profiad, i gael gwaith neu i gamu ymlaen i addysg uwch ac addysg bellach. Ac rwy’n credu bod hwnnw’n gyfraniad gwerthfawr i rai cymunedau sydd, efallai, yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl wrth i’r byd drawsnewid o’r hen economi i’r economi newydd.

Seilwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0174(EI)

Rydym yn gweithio’n agos ac yn gyflym gyda phartneriaid i gyflwyno un o’r pecynnau mwyaf hael o fuddsoddiad yng ngogledd Cymru: dros £600 miliwn a fydd yn gwella’r seilwaith ledled y rhanbarth.

Diolch yn fawr. Heb wneud sylwadau ar yr ansoddeiriau a ddefnyddioch, gan nad hon yw’r adeg i wneud hynny, rydych wedi dweud bod yr asesiad cychwynnol o orsafoedd newydd posibl wedi blaenoriaethu’r cynnig ar gyfer gorsaf ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Porth y Gogledd, ar gyfer gwerthusiadau pellach. Sut y byddech yn ymateb i’r datganiad gan Gymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston? Y ffactor allweddol yn sail i’w cynnig ar gyfer parcffordd Glannau Dyfrdwy oedd y gallu i ddarparu maes parcio â chapasiti digonol ger yr orsaf, a fyddai’n hygyrch i boblogaeth sylweddol Glannau Dyfrdwy, gan na all Pont Penarlâg, Shotton na Phenarlâg wneud hynny.

Wel, credaf fod y grŵp defnyddwyr, y grŵp teithwyr yn llygad eu lle fod angen i ni fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Wrth gwrs, yn hanesyddol, nid yw Llywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am hynny, wedi rhoi fawr o sylw i anghenion y rhanbarth o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd. Gellir dweud hynny am weddill Cymru hefyd. Yr hyn rydym wedi’i wneud, er mwyn i’r gorsafoedd hynny fod mewn sefyllfa i ddenu cyllid, yw sicrhau ein bod wedi datblygu achosion busnes, ac rydym yn parhau i’w datblygu hyd nes y byddant yn barod i gael buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, pe bai ar gael. Fel y dywedais, rydym yn dadlau’n gyson am gyfran fwy o’r adnodd hwnnw.

Mae parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Porth y Gogledd, yn brosiect a fyddai’n galluogi pobl—nifer fwy o bobl—i ddefnyddio cyfleusterau parcio a theithio. Rydym yn hynod o awyddus i’r rhan honno o Lannau Dyfrdwy allu cael ei defnyddio, nid yn unig ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, ond ar gyfer teithio llesol hefyd. Am y rheswm hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i gyngor Sir y Fflint edrych ar sut i wella teithio llesol yn yr ardal. Rydym yn gweithio gyda’r holl randdeiliaid ledled gogledd Cymru, a dros y ffin yn wir, er mwyn sicrhau bod gennym wasanaethau gwell sy’n fwy dibynadwy ac sy’n rhedeg yn amlach. Ac yn wir, o ganlyniad i fy ymgysylltiad â’r grŵp defnyddwyr, rydym wedi gallu sicrhau bod Network Rail yn cwblhau’r gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar linell Wrecsam-Bidston fel na fyddwn y gaeaf nesaf, gobeithio, yn gweld yr un math o oedi—oedi a chanslo annerbyniol—mewn gwasanaethau y mae cynifer o bobl yng ngogledd Cymru a dros y ffin yn dibynnu arnynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai gennyf datŵ am bob awr a dreuliais mewn tagfeydd traffig, byddai gennyf fwy na dwy lawes lawn. Ddydd Gwener, cefais fy nal yn yr anhrefn dychrynllyd ar yr A55, cyn troi rownd a chael fy nal am oriau o oedi ar yr A5 ger y Waun, sydd ond wedi ailagor yn llawn heddiw, rwy’n meddwl. Beth a wnewch i sicrhau, pan fydd y damweiniau hyn yn digwydd a phan fydd angen gwneud gwaith atgyweirio, fod gennym wasanaeth 24/7, lle y gall peirianwyr a chontractwyr gyrraedd yn gyflym a rhoi trefn ar bethau, a chyda phwyslais ar y penwythnos hefyd os gwelwch yn dda?

Rwy’n cydymdeimlo’n llwyr â phryderon yr Aelod, a’r pryderon a fynegwyd gan lawer ar y cyfryngau cymdeithasol, a’r rhwystredigaeth a fynegwyd ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn papurau newydd. Rwyf wedi gofyn i waith brys gael ei wneud a’i gyflwyno i mi, gydag argymhellion, cyn y toriad, ynglŷn â sut y gellir gwella’r ymateb i atgyweirio difrod, ac i archwilio’r opsiynau a’r costau ar gyfer darparu gwell ymateb brys i wahanol sefyllfaoedd, tebyg i’r rhai a welsom yn ddiweddar.

O ran y digwyddiadau eu hunain, arweiniodd y digwyddiad ar yr A55 y cyfeiriodd yr Aelod ato at gau’r ffordd i ddechrau. Byddaf yn cyhoeddi datganiad a fydd yn manylu ar yr hyn a ddigwyddodd yn dilyn y digwyddiad hwnnw. Er bod swyddogion wedi gweithio mor gyflym ag y gallent i gael gwared, neu geisio cael gwared, ar yr hyn a oedd ar wyneb y ffordd, yn y pen draw roedd angen gwneud rhagor o waith i glirio’r wyneb, ond gallasom agor y ffordd cyn gynted â phosibl. Roedd digwyddiad yn gynharach yn y mis ar yr A55 ger Bodelwyddan yn un anffodus iawn, ac roedd yn ymwneud ag unigolyn agored i niwed ar bont dros yr A55 ym Modelwyddan. Rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn cytuno na allwn gyfaddawdu pan fo bywydau mewn perygl. Mae’n anarferol i ddigwyddiad fel hwn bara cyhyd ag y gwnaeth, ond arweiniodd gogledd Cymru y gwaith o reoli’r digwyddiad. Yn yr un modd, cafodd y digwyddiad y daliwyd yr Aelod ynddo yr wythnos diwethaf ei reoli’n rhannol gan yr ambiwlans awyr, a ofynnodd am wasanaethau brys a chau’r ffyrdd—unwaith eto, ni allwn gyfaddawdu ar ddiogelwch.

O ran y digwyddiad ar yr A5 rhwng Halton a’r Gledryd ar 19 Mehefin, digwyddodd hyn pan darodd cerbyd yn erbyn parapet ar y draphont ei hun. Rhoddwyd dargyfeiriadau lleol ar waith, ond ni allem agor y ffordd heb osod rhwystrau amddiffynnol addas. Rwyf fi, a fy swyddogion, wedi bod yn galw am waith brys er mwyn gallu ailagor y ffordd. Mae dod o hyd i’r arbenigwyr angenrheidiol i gyflawni’r gwaith hwnnw wedi bod yn gryn dipyn o her, yn rhannol oherwydd bod cymaint o waith yn mynd rhagddo ar bontydd a chyfleusterau eraill yn Llundain ar hyn o bryd, ond gobeithiaf y bydd y dargyfeiriad wedi dod i ben erbyn bore dydd Gwener er mwyn gallu ailagor y ffordd honno. Ond fel y dywedaf unwaith eto, bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei ryddhau cyn bo hir ac rwyf wedi gofyn i’r gwaith brys hwnnw gael ei gyflwyno i mi cyn y toriad, gyda chyfres o argymhellion, er mwyn inni allu ymateb i ddigwyddiadau fel hyn yn llawer cyflymach a’u datrys yn gynt yn y dyfodol.

Busnes Cymru

7. A yw Busnes Cymru yn bodloni amcanion cefnogi busnes Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0183(EI)

Ydy. Mae Busnes Cymru yn parhau i esblygu er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni amcanion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae Busnes Cymru yn darparu porth i gymorth busnes, yn ogystal â darparu cyngor uniongyrchol, cymorth cyflymu twf, gwybodaeth a chanllawiau i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac am yr amser a roddodd i drafod materion sy’n codi yn economi Castell-nedd a’r rhanbarth gyda mi. Fe fydd yn gwybod o’r trafodaethau hynny fod busnesau bach, fel y dywedais wrtho, yn aml yn teimlo nad yw Busnes Cymru yn hawdd i’w ddefnyddio, a’i fod yn rhy ganolog. Fodd bynnag, i fusnesau mwy o faint, ar gam gwahanol yn eu cylch twf os mynnwch, maent yn aml yn awyddus i gyllid a chymorth busnes fod yn gydgysylltiedig ac yn integredig mewn cynnig di-dor, ac eto rydym yn darparu’r rheini drwy Lywodraeth Cymru drwy wahanol sianeli. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hynny er mwyn i ni sicrhau ein bod yn darparu’r cymorth gorau posibl i gwmnïau y dymunwn eu gweld yn tyfu, cwmnïau cynhenid yng Nghymru?

Hoffwn dalu teyrnged i’r angerdd y mae’r Aelod yn ei ddangos mewn perthynas â thwf busnes, nid yn unig yng Nghastell-nedd, ond ledled Cymru. Rydym eisoes wedi cymryd camau i’w gwneud yn haws i fusnesau a darpar entrepreneuriaid yng Nghymru gael mynediad at wybodaeth drwy Busnes Cymru. Ond wrth symud ymlaen, credaf fod angen mwy o gysoni gweithgareddau rhwng Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru er mwyn i gymorth a chyngor a mynediad at y ddau fod yn llawer cliriach i fusnesau bach a’r rhai sy’n awyddus i ddechrau busnes. Mae’n werth dweud bod Busnes Cymru, yn ystod y pedair blynedd a hanner y mae wedi bod yn weithredol, wedi gwella ei allbynnau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae yna stori lwyddiant wych i’w hadrodd ynglŷn â’r modd y mae Busnes Cymru wedi helpu i greu 10,000 o fusnesau newydd ers 2013, ond rwy’n awyddus i ni sicrhau bod yr holl wasanaethau a ddarperir ar draws y Llywodraeth, ar draws llywodraeth leol a chyda’n partneriaid, yn cydredeg yn agos fel mai at un drws yn unig y mae angen i fusnes neu entrepreneur sy’n dechrau busnes fynd, ac er mor gymhleth yw’r gwifrau y tu ôl iddo o ran y cymorth neu’r cyngor y maent yn ei geisio, un pwynt cyswllt sydd ganddynt, ac un drws i gerdded drwyddo.

Buddsoddi yn y Rhwydwaith Rheilffyrdd

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd? OAQ(5)0181(EI)

Gwnaf. Rydym yn darparu dros £180 miliwn y flwyddyn mewn taliadau cymhorthdal​masnachfraint a chyllid ar gyfer gwasanaethau ychwanegol ar rwydwaith Cymru a’r gororau. Nid yw’r seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, ond, ers 2011, rydym wedi buddsoddi dros £200 miliwn yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Diolch. Llywydd, rwy’n datgan buddiant, am fod fy chwaer yn gweithio i Network Rail. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd eisoes, wedi cyhoeddi rhestr o’i flaenoriaethau ar gyfer adeiladu gorsafoedd newydd, ac roeddwn yn synnu nad oedd Crymlyn ymhlith y gorsafoedd blaenoriaethol hynny, o ystyried y lleoliad allweddol y mae’n ei ddarparu ar gyfer cyfnewidfa amlfoddol a’i botensial fel canolbwynt beicio a cherdded pellter hir hefyd—yn yr ardal, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n cynnwys y stryd sydd â’r llygredd aer gwaethaf yn unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain. Rwy’n deall bod ei adnoddau’n gyfyngedig a bod nifer o ffactorau’n cystadlu, ond efallai nad yw’r meini prawf presennol ar gyfer pennu gorsafoedd blaenoriaethol mor hollgynhwysol ag y gallent fod. A wnaiff gytuno i gyfarfod â mi i drafod ac i archwilio’r anghenion penodol a’r potensial yng Nghrymlyn ar gyfer gorsaf newydd?

Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â’r Aelod ac unrhyw Aelod arall a fyddai’n hoffi trafod gorsafoedd yn eu rhanbarthau neu eu hetholaethau—rwyf eisoes wedi gwneud hynny mewn ardaloedd eraill; rwyf wedi cael sawl cyfarfod bellach ynglŷn â darpariaeth Casnewydd. Byddwn yn hapus i gyfarfod â’r Aelod. Dylwn ddweud bod hon yn broses barhaus. Pan fydd yr asesiad o’r rhestr flaenoriaethau wedi’i gwblhau, bydd cyfle wedyn i ystyried y grŵp nesaf o orsafoedd rhanbarthol.

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Y cwestiwn cyntaf—Jenny Rathbone.

Trafnidiaeth i Ysgolion mewn Ardaloedd Trefol

1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith ar iechyd y cyhoedd a gaiff methu â datblygu dewisiadau amgen cynaliadwy i geir ar gyfer mynd â phlant i’r ysgol mewn ardaloedd trefol? OAQ(5)0191(HWS)

Diolch. Ceir tystiolaeth glir o fanteision iechyd dulliau trafnidiaeth cynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys gwell ansawdd aer a gwell iechyd meddyliol, iechyd corfforol a lles. Rydym yn canolbwyntio ar deithiau i’r ysgol gyda’n hymdrechion i gynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy, gyda chryn fuddsoddiad mewn llwybrau cerdded a beicio i ysgolion, cyllid ar gyfer hyfforddi cerddwyr a beicwyr, a hyrwyddo teithio llesol.

Rydym yn codi’r mater hwn, drwy gyd-ddigwyddiad, ar ddydd pan fo’r llygredd aer yng Nghaerdydd ar lefelau peryglus oherwydd y cyfuniad o lefelau osôn a lefel y gronynnau o gerbydau. Dywedodd yr Athro Syr David King, cyn brif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, yn ddiweddar fod plant sy’n eistedd yn y sedd gefn mewn cerbydau yn debygol o fod yn agored i lefelau peryglus o lygredd aer

mewn blwch sy’n casglu’r nwyon gwenwynig o’r holl gerbydau o’ch cwmpas.

Dywedodd yr Athro Stephen Holgate, arbenigwr ar asthma ym Mhrifysgol Southampton a chadeirydd gweithgor Coleg Brenhinol y Meddygon ar lygredd aer, fod digon o dystiolaeth i ddweud wrth rieni fod cerdded a beicio yn gwneud eu plant yn agored i lai o lygredd aer na gyrru. Mae’r risg o lygredd aer y tu mewn i’r car naw i 12 gwaith yn uwch na’r tu allan. Maent yng nghefn y car gan amlaf, plant, ac os yw’r gwyntyllau ymlaen, maent yn

sugno’r mygdarth ffres a ddaw allan o’r car neu’r lori o’u blaenau yn syth i mewn i gefn y car.

Gwyddom o’r ymchwil sydd gennym eisoes fod hyn yn cynyddu’r risg o leihau twf eu hysgyfaint, o ddod yn asthmatig. Ceir pryder cynyddol hefyd y gallai lesteirio gallu plant i ddysgu yn yr ysgol ac y gallai niweidio eu DNA.

Mae’r dystiolaeth hon yn eithaf sylweddol, felly tybed pa gyngor y mae eich arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn ei roi i benaethiaid, a all ei drosglwyddo i rieni, er mwyn ei gwneud yn glir i bobl ei bod yn llawer mwy diogel iddynt gerdded a beicio i’r ysgol nag ydyw i fynd â’u plant mewn car.

Diolch yn fawr am y pwyntiau hynny. Mae Jenny’n rhoi darlun llwm iawn o’r peryglon a achosir gan lygredd aer, ac mewn cyferbyniad, y manteision a gynigir gan deithio llesol, o ran iechyd, yr amgylchedd a manteision ariannol cerdded a beicio. Rydym yn gwneud cynnydd da bellach ar weithredu ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rwy’n falch iawn fod ein hawdurdodau lleol ar y trywydd iawn i roi eu mapiau rhwydwaith integredig i ni erbyn mis Tachwedd, a bydd y rheini, am y tro cyntaf, yn rhoi cynlluniau integredig inni ar gyfer 142 o’r lleoedd mwyaf yng Nghymru. Credaf y bydd hyn yn newyddion cyffrous, yn enwedig ar gyfer pobl Caerdydd ac yn eich etholaeth chi hefyd.

Mae adroddiad ‘Gwneud Gwahaniaeth’ Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y gallai beicio a cherdded mewn ardaloedd trefol arbed bron i £1 biliwn i’r GIG yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Felly, yn ogystal â’r budd personol o ran iechyd, ceir budd i’r GIG yn ehangach hefyd mewn gwirionedd.

Rwy’n falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda sefydliad o’r enw Living Streets. Mae Llywodraeth Cymru wedi eu hariannu gyda chyllid peilot ar gyfer tri phrosiect i edrych ar y rhwystrau i blant a theuluoedd rhag cerdded i’r ysgol. Maent wedi defnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu drwy hynny i ddarparu adnodd i ysgolion er mwyn eu galluogi i archwilio, gyda’r plant eu hunain, ond hefyd gyda’r teuluoedd, beth sy’n atal plant rhag cerdded i’r ysgol benodol honno. Rwy’n fwy na pharod, pan fydd yr adnodd yn barod, i anfon copïau at holl Aelodau’r Cynulliad a gall pob un ohonom ei hyrwyddo yn ein cymunedau ein hunain hefyd.

Yn yr un modd, mae gwaith cyffrous iawn yn mynd rhagddo hefyd gyda sefydliad o’r enw Sustrans, sefydliad rydych yn gyfarwydd iawn ag ef rwy’n siŵr, drwy eu rhaglen teithiau llesol. Felly, mae hyn oll yn cysylltu’n agos â’r hyrwyddo a’r amlygrwydd a rown i deithio llesol, ac rwy’n falch iawn ein bod yn dechrau gweld manteision y Ddeddf hon.

Gweinidog, yn ôl yr Archwiliad Dinesig Ewropeaidd, Caerdydd yw’r ddinas orau i fyw ynddi yn y DU, a’r chweched brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop. Copenhagen oedd ar y brig: mae 45 y cant o’i thrigolion yno’n beicio i’r gwaith. Fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a wnewch chi osod targedau o ran nifer y teithiau difodur ar gyfer ein dinasoedd ac ardaloedd trefol eraill? Byddai hwnnw’n gam gweithredu da o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Yn amlwg, byddai hwnnw’n fater i’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes ei ystyried—

O, arglwydd. Y gorau y gallwch ei wneud. [Chwerthin.]

Rwy’n parhau gyda fy ateb i roi gwybod i chi fod gan y fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ddangosydd sy’n ymwneud yn benodol â sicrhau bod crynodiad cyfartalog nitrogen deuocsid mewn anheddau yn un o ganlyniadau fframwaith cenedlaethol llesiant ac iechyd y cyhoedd Cymru. Felly, mae hynny’n ganolog i’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl o ran casglu data a’n huchelgeisiau yn y maes hwnnw. Felly, gallwch fod mor goeglyd ag y dymunwch, ond ni fyddech yn disgwyl i mi wneud ymrwymiadau mewn gwahanol—

Eich bos chi yw’r Gweinidog lles, diolch yn fawr iawn.

Ni fyddech yn disgwyl i mi wneud ymrwymiadau mewn perthynas â phortffolio arall.

Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ(5)0174(HWS)] yn ôl. Cwestiwn 3, Steffan Lewis.

Amseroedd Aros

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OAQ(5)0179(HWS)

Member
Vaughan Gething 14:27:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch am eich cwestiwn. Mae amseroedd aros ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi gwella yn gyffredinol ar draws bron bob un o’r prif fesurau dros y flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft, roedd amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwella i 90.5 y cant ar ddiwedd mis Mawrth eleni, ymatebwyd i dros 80 y cant o alwadau ambiwlans coch ym mis Ebrill 2017 o fewn yr amser targed, ac roedd y perfformiad canser 62 diwrnod diweddaraf yn 92 y cant. Ond yn naturiol, rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd gynllunio a sicrhau gwelliannau pellach.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Yn ddiweddar, cefais ymweliad gan etholwr a oedd wedi bod yn aros am gyfnod annerbyniol o hir ar restr aros am ofal cardioleg. Sylwais wrth archwilio ymhellach fod yr amser aros hiraf ar gyfer cardioleg yn Aneurin Bevan wedi cynyddu o 34 wythnos, rwy’n meddwl, yn 2011, i 105 a mwy o wythnosau y llynedd. Felly, o ystyried difrifoldeb y cyflyrau sy’n galw am wasanaethau cardioleg, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’r ymyriadau rydych yn ystyried eu rhoi ar waith i leihau’r rhestrau aros ar gyfer y cyflyrau difrifol iawn hyn?

Wel, mae hyn yn rhan o’r hyn y disgwyliwn i fyrddau iechyd ei gynllunio a’i ddarparu i ddeall beth y maent yn ei wneud ar hyn o bryd a lle nad yw’n darparu lefel dderbyniol o ofal, a lle mae amseroedd aros yn bwysig, fel rwy’n derbyn eu bod mewn perthynas ag ystod o gyflyrau, sut y maent yn bwriadu cyflawni a gwella’r rheini, boed drwy gomisiynu gwasanaethau gan fyrddau iechyd ac ardaloedd eraill, neu feddwl sut y maent yn eu cyflawni mewn gwirionedd. A dweud y gwir, mewn perthynas â chardioleg, dangoswyd y gall rôl lwyddiannus cardioleg gymunedol—a dreialwyd yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg—wella amseroedd aros ar gyfer pobl mewn cardioleg gofal eilaidd, gan fod pobl yn cael gwasanaeth gwahanol sy’n addas iddynt hwy mewn lleoliad gofal sylfaenol, a golyga hynny fod pobl sydd wir angen gweld meddyg ymgynghorol mewn lleoliad gofal eilaidd yn fwy tebygol o gael eu gweld yn gynt. Felly, mae mentrau ar waith yn barhaus, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan.

Pa effaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl y bydd y ganolfan gofal arbenigol a chritigol yn ei chael ar amseroedd aros yn y tymor canolig, ac a all gadarnhau pryd y bydd y gwaith o adeiladu’r ganolfan yn dechrau a phryd y mae’n disgwyl y bydd yn agor i gleifion?

Edrychaf ymlaen at fynychu’r digwyddiad torri’r dywarchen dros yr haf ar gyfer yr hyn a elwir ar hyn o bryd yn ganolfan gofal arbenigol a chritigol, felly mae’r gwaith adeiladu yn dechrau. Rwyf eisoes wedi nodi yn un o fy natganiadau blaenorol fy mod yn disgwyl iddi agor, rwy’n credu, yn 2021. O ran ei heffaith ar amseroedd aros, mae mwy o ddiddordeb gennyf yn ei heffaith ar y system gyfan a’r hyn a olyga o ran darparu gofal o ansawdd gwell. Credaf fod hyn yn rhan o’n her. Rydym yn sôn am ansawdd y gofal yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym yn aml yn siarad yn ofer am niferoedd ac amser, ac mewn gwirionedd, nid dyna’r mesur gorau bob amser o welliant a pha ffurf sydd ar ansawdd. Yn sicr, rwy’n disgwyl i’r ysbyty newydd fod yn rhan o fwrdd iechyd sy’n perfformio’n dda yng nghyd-destun Cymru, er mwyn parhau i gyflawni a gwella ansawdd eu gofal mewn perthynas ag ystod o fesurau, gan gynnwys gofal dewisol a gofal heb ei drefnu. Ond wrth gwrs, bydd rolau o hyd i ysbytai eraill yn ardal ehangach Gwent, yn ogystal â’n huchelgais hirdymor i weld mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn y lleoliad gofal sylfaenol beth bynnag.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Mae sawl achos wedi cael eu tynnu i’m sylw i o feddygon a hyfforddwyd yng Nghymru ac sydd eisiau gweithio yng Nghymru, ond, oherwydd eu bod nhw wedi gweithio dramor, neu wedi derbyn hyfforddiant pellach dramor, sy’n ei chael hi’n anodd iawn i gofrestru i weithio eto yng Nghymru. Yn un achos—mi wnes i ysgrifennu at eich rhagflaenydd ynglŷn a hi—mi wnaeth hi orfod mynd yn ôl i Seland Newydd ar ôl symud yn ôl i Gymru oherwydd y trafferthion yn cofrestru yn barhaol, a hynny’n golled mawr i’r NHS.

Mae’r unigolyn diweddaraf i gysylltu yn sôn am gannoedd o dudalennau i’w llenwi ac angen mewnbwn gan gyn-gyflogwyr, ond efo gwaith gweinyddol mor drwm ar hynny, mae rhai yn Awstralia, yn sicr, yn gwrthod cymryd rhan. Mae yna sôn am angen am ffurflen eirda gymhleth gan chwech o gyn-gyflogwyr. Rwy’n clywed am ddryswch ynglŷn â’r wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru. Mae yna ofynion o ran ailhyfforddi, cyfnod pellach o oruchwylio, ac yn y blaen. Ac mae Cymru yn cael ei gweld fel gwlad sydd ddim yn gallu rhoi sicrwydd ynglŷn â lle fyddai rhywun yn cael gweithio.

Beth sy’n cael ei wneud erbyn hyn i hwyluso’r broses o ailgofrestru meddygon yng Nghymru, er mwyn i ni allu denu meddygon Cymreig yn ôl, neu feddygon eraill o dramor, o ran hynny?

Credaf ei fod yn bwynt pwysig o ran ein gallu i recriwtio a chadw meddygon o bob rhan o’r byd, gan gynnwys y rhai a allai fod wedi cael eu hyfforddi yng Nghymru neu’r DU yn ehangach ac sy’n awyddus i ddod i fyw, i hyfforddi ac i weithio yng Nghymru yn y dyfodol. Mae cydbwysedd yma o ran y sicrwydd y dylem fod eisiau ei gael yn briodol o ran cymhwysedd proffesiynol meddyg a’u hanes blaenorol lle maent yn gweithio ar hyn o bryd neu lle buont yn gweithio ddiwethaf. Ac mewn gwirionedd, mae’n ymwneud â sicrhau ei bod mor hawdd â phosibl i groesawu unigolion tra hyfforddedig i ddod i ddarparu gwasanaeth sydd ei angen arnom yn y wlad hon.

Dyna pam, fel rhan o’r ymgyrch ‘Hyfforddi/ Gweithio/ Byw’, fod hyn yn rhan o’r cynnig, i geisio gwneud hyn yn haws. Dyna pam fod gennym un pwynt cyswllt wedi’i greu i geisio sicrhau bod y broses yn haws i’r unigolyn hwnnw, neu’r grŵp hwnnw o bobl—yn aml, daw partneriaid gyda meddygon. Felly, y diben yw deall beth rydym yn ei wneud i sicrhau ei bod yn haws iddynt ddod yma i weithio, yn ogystal ag i fyw yma hefyd.

Felly, mae hynny’n rhan o’r gwaith rydym yn ei wneud. Mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn enghreifftiau penodol lle nad yw’n ymddangos bod hynny wedi bod yn wir. Felly, byddwn yn fwy na pharod i edrych ar fanylion y mater a godwch, er mwyn deall sut y mae hynny’n cyd-fynd â’r hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Ac os nad yw’n bodloni ein disgwyliadau ein hunain o ran sut rydym yn ei wneud yn haws, byddwn yn rhoi sicrwydd priodol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud mewn gwirionedd i wella’r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Nid oes pwynt esgus bod popeth yn berffaith—anaml iawn y mae hynny’n wir—ond rwyf bob amser yn awyddus i ddysgu o’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Ac yn sicr, mi wnaf i gysylltu efo chi, yn y ffordd y gwnes i gysylltu â’ch rhagflaenydd, a wnaeth hefyd ddweud geiriau mor gynnes ag yr ydych chi wedi eu dweud. Ond, yn anffodus, mae’n amlwg bod yna broblem o’n blaenau ni o hyd.

Mi symudaf at yr her o ddenu meddygon o Loegr. Mae meddygon sydd wedi eu cofrestru yn Lloegr yn methu â gweithio yng Nghymru nes eu bod nhw wedi cael eu cofrestru, fel rydych chi’n ei wybod, ar y rhestr perfformwyr Cymreig. Mae yna restr gyffelyb yn Lloegr. Mae’r BMA yn nodi bod anhawster trosglwyddo gwybodaeth rhwng y ddwy restr, a chymhlethdod cofrestru ar y rhestr Gymreig yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ddenu ‘locums’ yma, yn benodol. Ac, yn 2015, mi wnaeth y BMA argymell bod angen i Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig weithio efo’i gilydd i wella’r symudedd gwybodaeth yma rhwng y ddwy restr. Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi eu cymryd ers hynny i’w gwneud hi’n haws i gofrestru meddygon o Loegr i weithio yng Nghymru, rhywbeth sy’n hanfodol, wrth gwrs, i gyd-fynd ag unrhyw ymgyrch recriwtio?

Wel, mae’r rhestr cyflawnwyr unigol yn fater sydd wedi peri cryn rwystredigaeth i bobl yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ac yn y Llywodraeth hefyd, gan ein bod wedi gwneud popeth y gallem ei wneud ac y dylem ei wneud i’w gwneud yn haws i bobl gofrestru yng Nghymru. Yr her yw parodrwydd yr Adran Iechyd a GIG Lloegr i wneud yr un peth ar sail gyfatebol. Felly, mewn gwirionedd, rydym yn ei gwneud yn haws i’n meddygon ymarfer dros y ffin—mae’n ymwneud mewn gwirionedd â’u gallu i wneud yr un peth gyda ni.

A dyna’r her onest. Bydd yna adegau pan fyddaf yn sefyll ac yn dweud, ‘Nid yw hyn yn berffaith, gwn fod angen i ni wella’. Mae hwn yn sicr yn faes lle mae’r her yn ymwneud â GIG Lloegr a’r Adran Iechyd yn chwarae eu rhan. Pan fyddwch yn siarad am ei gwneud yn haws i feddygon ddod yma, rhan o’r hyn sy’n ei gwneud yn haws ac yn well i feddygon ddod yma yw bod yna gydnabyddiaeth go iawn yn y proffesiwn o natur y sgwrs rydym yn ei chael ynglŷn â’r math o berthynas rydym am ei chael gyda meddygon, boed hynny mewn gofal sylfaenol neu mewn gofal eilaidd. Ac mewn gwirionedd, creu’r diwylliant hwnnw, yn fwy na chymhellion mewn nifer o ffyrdd, sy’n denu meddygon i Gymru, ac rydym am iddynt aros yma. Ond yn sicr, mae’r rhestr cyflawnwyr yn broblem, ac mae’n rhywbeth rydym yn dal i geisio perswadio’r Adran Iechyd a GIG Lloegr i weithredu yn ei chylch, er mwyn helpu pawb ohonom i recriwtio a chadw meddygon o fewn systemau Cymru a Lloegr.

Rwy’n sicr yn croesawu unrhyw arwyddion—ac mae yna arwyddion positif—o welliant yn nifer y rhai sy’n dewis dod i weithio yng Nghymru, a chynnydd yn y nifer sy’n dewis hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ac mae cynnig cymhelliad ariannol yn gallu chwarae rhan yn hynny o beth. Ond mae datblygu arbenigedd, a chael cefnogaeth i ddatblygu’r arbenigedd yna, hefyd yn rhywbeth sydd yn apelio at feddygon ifanc. Ac o wybod bod ei’n hardaloedd gwledig ni yn wynebu her wirioneddol o ran recriwtio, a ydy’r Gweinidog yn cytuno efo fi bod sgôp gwirioneddol i ddefnyddio ysgol feddygol newydd ym Mangor fel canolfan i ddatblygu arbenigedd, a allai fod yn arbenigedd byd-eang mewn meddygaeth wledig yn benodol, a hynny yn y sector gofal cynradd ac eilaidd hefyd, ac y dylai hynny fel nod fod yn hwb i symud yn gyflym tuag at sefydlu addysg feddygol ym Mangor?

Diolch am eich cwestiwn dilynol. Rwyf wedi bod yn glir ac yn gyson mewn perthynas ag ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. Rwy’n aros am y cyngor terfynol, a phan gaf y cyngor hwnnw, byddaf yn gwneud penderfyniad. Bydd angen i mi gael sgwrs hefyd gyda fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan nad yw’r gyllideb mewn un maes penodol o’r Llywodraeth; mae wedi’i gwasgaru ar draws y wasgfa ar gyllidebau’r ddau ohonom—boed hynny’n ysgol feddygol newydd, neu gynyddu nifer y meddygon rydym am eu hyfforddi a’u recriwtio yma yng Nghymru. Felly, mae gonestrwydd a chysondeb, rwy’n meddwl, yn y cwestiynau rydych chi a chyd-Aelodau eraill wedi eu gofyn unwaith eto, ac nid yw’r ffaith eich bod yn gofyn y cwestiwn yn peri unrhyw anhawster i mi.

Pan fyddaf yn derbyn y cyngor, byddaf yn glir ynglŷn â beth yw’r cyngor hwnnw, byddaf yn glir ynglŷn â beth yw ymateb y Llywodraeth a’r hyn rydym yn bwriadu’i wneud wedyn. Ond rwy’n cydnabod bod yno ddyhead clir i fwy o bobl ymgymryd â’u hyfforddiant meddygol mewn gwahanol rannau o Gymru. Ac wrth gwrs, nid mater i ogledd Cymru yn unig yw’r Gymru wledig. Mae pwyntiau a chwestiynau eraill hefyd ynglŷn â sut rydym yn cadw pobl sy’n awyddus i hyfforddi i fod yn feddygon yng Nghymru—boed yng ngorllewin Cymru neu ogledd Cymru—ond hefyd ynglŷn â sut rydym yn denu pobl yn ôl i mewn i’r system. Os ydych yn 18 neu’n 19 oed ac yn byw ar Ynys Môn, efallai eich bod yn awyddus i fynd i Lundain neu Lerpwl neu rywle arall i gwblhau eich hyfforddiant. Ond mae angen inni fod yn well am gael pobl i ddod yn ôl i mewn i’n system. Felly, mae’n ymwneud â mwy nag un peth, ac nid wyf am geisio esgus mai ysgol feddygol yw’r unig ateb neu’r ateb i ddatrys rhai o’r heriau hynny. Rydym yn gweld gwaith ar hyn yn barod, er enghraifft yn y rhaglen gwricwlwm sy’n cael ei datblygu gan Brifysgol Caerdydd, lle maent yn cydnabod bod mwy y gallent ei wneud ynglŷn ag arbenigedd meddygaeth wledig a fydd yn ddeniadol i rai pobl sydd am fod yn feddygon ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae llawer o waith gwahanol yn mynd rhagddo, a phan ddaw’r cyngor ac ymateb gennyf, byddaf yn eistedd ac yn cytuno ac yn trafod hynny gyda fy nghyd-Aelod Kirsty Williams. Bydd angen i ni ystyried hyn oll wrth nodi beth fydd yr ymateb.

Diolch, Llywydd. Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd y gallwn ddenu mwy o bobl i faes meddygaeth yw drwy sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gael cydbwysedd bywyd a gwaith da, ac rwy’n eithaf sicr y byddwch yn cytuno â mi am bwysigrwydd sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith da i holl weithwyr y GIG—swydd anodd iawn ar y gorau. Mae’r ymrwymiad diweddar i ddenu mwy o feddygon teulu i Gymru wedi bod yn llwyddiannus, ac rwy’n rhoi clod i chi am hynny, a’ch Llywodraeth. Ond rydym yn dal i gael trafferth i—[Torri ar draws.] Ie, byddwn i’n gwneud nodyn ohono hefyd. Nid yw’n digwydd yn aml, ond byddaf yn rhoi clod pan fo’n ddyledus. Ond rydym yn dal i gael trafferth i ddenu meddygon. Gall y llwybr o fod yn fyfyriwr israddedig i fod yn feddyg ymgynghorol gymryd dros 15 mlynedd, a chydag ymrwymiad amser o’r fath, yn enwedig pan fyddwch yn dechrau arni mor ifanc, mae gyrfa unigolyn a’u hanghenion yn newid. Efallai y byddant yn cyfarfod â pherson eu breuddwydion, yn priodi, yn cael plant—y cwbl. Mae’n ymrwymiad mawr i fynd ati i gynllunio eich bywyd yn y dyfodol yn 18 oed. Pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau bod llwybrau arweinyddiaeth a rheolaeth ar agor yn ystod y 15 mlynedd, a bod cyfleoedd am gyfnodau sabothol neu iddynt wneud gwaith ymchwil tra byddant yn dal i fod ar y cwrs hyfforddi gwerthfawr hwnnw? Rwy’n credu y byddai hynny’n helpu i wella cynnig a allai fod gennym yma yng Nghymru i ddenu mwy o bobl atom nag i rannau eraill o’r DU.

Rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt teg i’w nodi. Mae’n sicr yn rhan o’r hyn a drafodwyd gennym yn y cyfnod a oedd yn arwain at yr ymgyrch recriwtio, ac yn yr un modd, yr hyn y mae llawer o’n meddygon iau yn awyddus iawn i’w werthu’n gadarnhaol am Gymru. Yn ffair yrfaoedd BMJ, lle y lansiwyd yr ymgyrch ‘Hyfforddi/ Gweithio/ Byw’ ar gyfer meddygon yr hydref diwethaf, yr hyn a oedd yn galonogol iawn oedd, nid yn unig y bobl sy’n rhan o’r proffesiwn yng Nghymru eisoes ar lefel uwch sy’n ymwneud â hyrwyddo’r cyfleoedd i weithio yng Nghymru, ond y meddygon iau a fynychodd, a oedd wedi cytuno i ddod ac i fod yn rhan o’n sgwrs gyda chymheiriaid yn y digwyddiad penodol hwnnw ac a ddaeth yn ôl ar ôl eu hamser penodedig a threulio mwy o amser yn ei wneud am eu bod yn credu bod yna gynnig cadarnhaol iawn yma yng Nghymru. Mae’n ymwneud â’r gymysgedd honno o ddealltwriaeth—ynglŷn â’r cydbwysedd a’r gwahanol gyfleoedd. Gallwch fod yn feddyg sydd eisiau gweithio mewn lleoliad trefol a gallwch weithio yng nghanol dinas fel Caerdydd, neu gallwch weithio yn Sir Benfro a Gwynedd gydag agwedd wahanol iawn. Mae’n ymwneud â gwerthu pob un o’r gwahanol gyfleoedd hynny. Dyna pam rwy’n siarad am hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Nid ymwneud ag un o’r pethau hynny’n unig y mae—mae’n amrediad o wahanol elfennau.

Mae angen cydnabod hefyd na fydd gyrfaoedd pobl yn golygu cael un swydd ac aros yn y swydd honno drwy gydol eu gyrfa. Mae pobl eisoes yn symud o gwmpas ac mae hynny’n fwy tebygol o fod yn wir yn y dyfodol. Felly, mae yna bwynt ynglŷn â chael cyffredinolwyr yn rhan o bwy y mae angen i ni eu denu a’u cadw yma yng Nghymru, ond hefyd i feddwl am y llwybr gyrfa cyfan sydd ganddynt a sut y gallwn ei gwneud yn haws i symud mewn gwahanol rannau o’u gyrfa, oherwydd dyna sydd angen i ni ei wneud yn llwyddiannus yn y dyfodol. Mae honno, wrth gwrs, yn her gyffredin ar draws systemau’r DU. Rydym yn wynebu llawer o heriau tebyg a gallwn bob amser ddysgu o’r hyn a wneir yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus mewn rhannau eraill o’r DU. Rwy’n awyddus i ni gael ymagwedd agored i’r sgwrs honno yn y dyfodol.

Mae hynny’n newyddion gwych. Mae’r meddygon wedi bod yn dweud hyn ac mae’r israddedigion wedi bod yn dweud hyn ers nifer o flynyddoedd bellach. Felly, rwy’n gobeithio’n wir, y tro hwn, eu bod yn cael eu clywed a bod y camau hynny’n cael eu cymryd. Soniasoch, wrth gwrs, fod meddygon yn hoffi symud o gwmpas. Deallaf ei bod yn anodd iawn olrhain meddygon sydd eisiau cymryd seibiant neu sydd eisiau gadael eu hyfforddiant ac sy’n penderfynu gwneud gwaith locwm am rai blynyddoedd, efallai, ar ôl eu hyfforddiant meddygol craidd. Credaf y byddai’r ffigurau hyn yn ddefnyddiol i weld pa lwybr y mae’r unigolion hynny’n ei ddilyn, boed yn y wlad hon neu dramor neu os ydynt wedi penderfynu camu’n ôl mewn gwirionedd o feddygaeth rheng flaen am na allant gael y cydbwysedd bywyd a gwaith sydd ei angen arnynt. Rwyf wedi ceisio ymchwilio sut y gallwn olrhain unigolion sy’n dechrau hyfforddi yma yng Nghymru. Un ffordd o wneud hyn fyddai i bob meddyg gadw eu rhif hyfforddi cenedlaethol drwy gydol eu gyrfa. Rwy’n deall bod yn rhaid iddynt ildio’r rhif hyfforddiant cenedlaethol hwnnw os ydynt yn gadael eu hyfforddiant. Tybed a allech gyflwyno’r syniad hwn i Ddeoniaeth Cymru, gan mai’r hyn sydd ei angen arnom yw data. Mae angen i ni wybod pwy sydd wedi ymuno â ni, pam nad ydynt yn dymuno aros a lle maent wedi mynd, oherwydd yn y ffordd honno gallwn ddysgu rhagor eto am yr hyn sydd angen i ni ei wneud i sicrhau bod gennym y cynnig cywir yn ein GIG.

Rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt diddorol i’w wneud ac mae’n un y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda swyddogion, nid yn unig yn y ddeoniaeth, ond wrth i ni greu Addysg Iechyd Cymru, wrth gwrs, a deall pa ffurf fydd i hwnnw. Rwy’n credu fy mod wedi dweud y byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gynnydd hwnnw a chreu corff cysgodol i arwain at ei roi ar waith yn y dyfodol. Mae’r rhain yn bynciau rydym yn sôn amdanynt yn rheolaidd gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a rhanddeiliaid eraill hefyd.

Rwy’n cyfarfod â hwy yr wythnos hon, mewn gwirionedd. Cyfarfûm â’u cynrychiolydd o’r pwyllgor meddygon iau fel rhan o’r sgwrs honno ynglŷn â beth yw’r safbwyntiau presennol a’r heriau sydd ynghlwm wrth y gwahanol gontractau yn Lloegr, a theimladau meddygon iau yn Lloegr a sut y mae hynny’n effeithio ar bobl yng Nghymru a beth y mae hynny’n ei olygu ar gyfer dewisiadau rydym am eu gwneud yma, nid yn unig o safbwynt y contract, ond o ran y gwahanol gynigion sydd gennym ynglŷn â gweithio yma hefyd. Oherwydd ni fydd y gwahanol batrymau gwaith hynny’n ymwneud yn unig â phobl yn mynd i mewn ac allan o feddygaeth; bydd hefyd yn ymwneud â’r ffaith fod pobl eisiau cydbwysedd bywyd a gwaith gwahanol, fel roeddech yn ei ddweud wrth agor—nid menywod yn unig, ond bydd llawer o ddynion eisiau cydbwysedd bywyd a gwaith gwahanol mewn gwirionedd. Mae yna agwedd wahanol iawn, ac rwy’n credu ei bod yn un i’w chroesawu’n fawr, tuag at yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhiant, ac mae hynny’n golygu y bydd pobl eisiau gweithio oriau gwahanol a cheisio cael pethau eraill y tu allan i’w bywydau gwaith. Nid yw’r ffordd roedd pobl yn hyfforddi yn y gorffennol yn rhywbeth rydym am ei ail-greu lle roedd pobl yn gweithio oriau gwallgof yn rhan o’r hyn a wnaent.

Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni feddwl mwy am yr adnoddau ariannol sydd gennym a sut rydym yn defnyddio adnoddau dynol y meddygon rydym yn eu cael drwy hyfforddiant ac yna sut rydym yn gwneud ein gorau i’w cadw. Felly, mae gennyf ddiddordeb i weld sut y gallem olrhain y dewisiadau a wnânt a’r adborth y maent yn ei roi i ni yn ddefnyddiol ac mae hynny’n rhan o’r hyn y gallwn ei wneud gyda’r ymgyrch bresennol yn ogystal. Rwy’n hapus i wneud yn siŵr ein bod yn rhannu mwy o wybodaeth gydag Aelodau’r Cynulliad wrth i ni gyflwyno hynny i’r ymgyrch hefyd ynglŷn â lefel y bwriad gwirioneddol rydym yn ei gael yn ôl gan y bobl a benderfynodd naill ai i beidio â dod i Gymru—oherwydd mae hynny’n bwysig hefyd—yn ogystal â’r rhai sy’n penderfynu dod yma hefyd. Ond byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd y syniad penodol ynglŷn ag a allai’r rhif hyfforddi cenedlaethol fod yn rhywbeth defnyddiol yn rhan o hynny.

Rwy’n gwybod y byddwch yn dechrau’r ymgyrch recriwtio nyrsys hefyd. Rwy’n credu mai’r peth yw na allwn wneud hyn mewn trefn linol—mae’n rhaid i ni eu gwneud i gyd ar yr un pryd gan fod gennym fylchau enfawr yn y GIG drwyddo draw. Mae ystadegau diweddar yn glir iawn nad ydym ond yn llenwi 49 y cant o’r lleoliadau ar gyfer hyfforddiant meddygol craidd. Rydym yn mynd yn brin o feddygon yn ein GIG ac maent yn mynd i wneud gwaith locwm neu’n gadael, neu’n syml heb fod gennym. Felly, mae hynny’n golygu bod gennym gyfradd swyddi gwag o 51 y cant. Hoffwn i chi ystyried mynd i’r afael â sut y gallem wneud iawn am y diffyg hwnnw. Oherwydd, wrth gwrs, yn rownd 2, pan fyddwn efallai’n llenwi rhai o’r rheini, yn gyntaf, ni chawn y 51 y cant i gyd, gan y byddem wedi’u cael y tro cyntaf, ac wrth gwrs, yn ail, rydym yn cael pobl nad yw Cymru yn ddewis cyntaf iddynt, sy’n golygu y gallant fod yn llai tebygol o aros yma yn y tymor hir.

A dweud y gwir, rydym yn cael pobl nad ydynt, o bosibl, wedi perfformio’n ddigon da y tro cyntaf. Felly, rydym yn cael pobl nad ydynt ar frig eu cohort, ac rydym yn awyddus i gael gafael ar y rhai rhagorol i gyd yn gyntaf os gallwn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn meddwl tybed a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda sefydliadau fel yr ymddiriedolaeth ysbytai a Choleg Brenhinol y Meddygon, er mwyn cynyddu nifer y meddygon y gallwn eu recriwtio i GIG Cymru ar yr ymgais cyntaf a phwysig hwnnw—mae 51 y cant yn ddiffyg mawr iawn.

Rwy’n cydnabod bod hyfforddiant meddygol craidd yn bryder gwirioneddol. Nid yw’r ffaith ei fod yn bryder gwirioneddol mewn rhannau eraill o’r DU yn golygu nad oes gennym broblem yma, oherwydd mae gennym broblem, ac mae’n her wirioneddol i ni ei hystyried. Ac mewn gwirionedd, mae’n rhan o’r sgyrsiau a gawsom. Cefais sgwrs adeiladol iawn gyda Choleg Brenhinol y Meddygon, yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid eraill. Rhan o’r sgwrs onest ac aeddfed sy’n rhaid i ni ei chael, o ystyried ein bod i gyd yn gwybod bod hon yn broblem fawr, yw sut y byddem yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol, o ystyried ein bod yn gwybod bod y prinder hwnnw’n bodoli mewn rhannau eraill o’r DU hefyd?

Mae rhywfaint o hynny, os hoffech, yn ymwneud â’r gystadleuaeth rhwng gwahanol rannau o’r DU i geisio recriwtio a chadw’r un bobl. Un o bryderon Coleg Brenhinol y Meddygon yw bod y modd y siaredir am y gwasanaeth iechyd yn aml yn ei gwneud yn yrfa lai deniadol i bobl eraill a allai fod wedi bod eisiau dilyn gyrfa mewn meddygaeth fel arall. Mae yna wahanol bethau y mae angen i ni edrych arnynt a’u gwneud.

Felly, nid wyf am esgus bod gennyf un ateb rwyf wedi’i guddio yn rhywle yn fy mhoced i’w ddatgelu ac i ddatrys y broblem gyfan—ni fyddai honno’n ffordd glyfar iawn o fynd i’r afael â hyn. Ni fyddwn yn gallu esgus y bydd popeth yn iawn o fewn chwe mis, ond fe allaf ddweud fy mod yn credu bod gennym y partneriaid cywir yn cael y sgyrsiau gyda ni, gyda swyddogion yma yn y Llywodraeth, gyda byrddau iechyd, ac fel y dywedais yn gynharach, yn arwain at greu Addysg Iechyd Cymru i gael sgwrs fwy cydgysylltiedig a deallus ynglŷn â phwy rydym eu heisiau a sut i’w cael. Ac rwy’n credu mai’r ffordd rydym yn eu cael yw’r rhan fwyaf heriol, yn hytrach na cheisio deall, o ran y gweithlu, pwy fyddai’n hoffi gweithio yn y gwasanaeth yn ddelfrydol.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn gwybod bod canfod canser yn gynnar yn hanfodol i oroesiad claf, a dyna pam fod y rhaglenni sgrinio mor bwysig. Os ceir diagnosis o ganser y coluddyn ar gam cynharach, bydd mwy na naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin yn llwyddiannus. Dylai sgrinio leihau nifer y bobl sy’n marw o’r clefyd, sy’n lladd tua 1,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Mae llawer o bobl yn teimlo bod y prawf presennol yn rhy gymhleth, a dyna pam rwy’n eich llongyfarch am gyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthol sy’n symlach ac yn fwy cywir. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae’r broses o gyflwyno’r prawf newydd yn dod yn ei blaen os gwelwch yn dda?

Diolch am y cwestiynau. Rwy’n credu bod dau bwynt cyffredinol y byddwn yn eu gwneud. Y cyntaf yw fy mod yn credu ei bod yn rhy gynnar i siarad am y broses o gyflwyno, ond rydym yn disgwyl gallu darparu gwybodaeth drwy gydol eleni ynglŷn â chyflwyno’r prawf newydd sy’n symlach ac yn haws i’w wneud. Mae wedi bod yn rhan o’r her yn y gorffennol o ran cyfraddau canser y coluddyn, oherwydd yn gyffredinol, roedd yn brawf anodd ac annymunol i’r unigolyn ei wneud. Felly, cafwyd llawer o bobl yn ymatal ac yn gwrthod cydymffurfio, a’r ffaith mewn gwirionedd nad oedd pobl yn malio digon ynglŷn â chanfod cyflwr a allai fod yn angheuol yn gynt. Felly, roeddem yn gwybod bod yna rywbeth ynglŷn â gwella cyfraddau profi, a dylai’r prawf newydd ein helpu i wneud hynny. Bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog, yn arwain y gwaith o ddarparu’r wybodaeth honno gyda’i chyfrifoldeb dros y rhaglen sgrinio.

Yr ail bwynt y byddwn yn ei wneud, pan fyddwn yn sôn am gynnal profion yn gynt, yw bod yna bob amser her a galw am gynnal mwy o brofion a mwy o raglenni sgrinio a goruchwylio, ac mae hyn yn anodd iawn, oherwydd, fel rhannau eraill o’r DU, rydym yn dilyn y cyngor arbenigol sydd gennym ynglŷn â’r man priodol a’r grŵp priodol o bobl i’w profi er mwyn arbed y nifer fwyaf o fywydau. Oherwydd mae niwed posibl yn cael ei wneud yn y rhaglenni profi yn ogystal, ac rydym yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’n defnydd o adnoddau. Nawr, mae hynny’n anodd bob amser, oherwydd, fel y bydd pobl yn y Siambr hon yn gwybod, gyda marwolaeth Sam Gould yn ddiweddar ag yntau’n ddyn ifanc, dyna rywun a oedd yn iau na’n rhaglen safonol ar gyfer profi canser y coluddyn. Mae hynny oherwydd ein bod yn gweithredu ar y cyngor rydym yn ei gael ynglŷn â sut i gael y canlyniadau gorau ar gyfer y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd a sut rydym yn achub y nifer fwyaf o fywydau.

Felly, er fy mod yn deall y bydd yr Aelodau’n aml eisiau dweud, ‘Ehangwch y rhaglen sgrinio; profwch fwy o bobl’, yn aml, nid yw mor syml â hynny, a byddwn yn gofyn i bobl feddwl a cheisio ymgysylltu â ni ar lefel ble mae’r dystiolaeth yn mynd â ni a pham ei bod yno, ac a ydym eisiau cynnal ymgyrch o’r fath mewn gwirionedd, y math o waith y mae’r ymgyrch sy’n gysylltiedig â’r rhaglen brofi wedi’i arwain gan dystiolaeth, neu wedi’i harwain gan y sawl a fydd â’r llais uchaf ynglŷn â’r hyn y maent yn ceisio ei newid. Nid yw hwn yn ddewis hawdd i neb ei wneud, ac rwy’n credu y byddai unrhyw un yn fy sefyllfa yn awr neu yn sefyllfa Rebecca Evans yn dal i orfod cael eu harwain gan y dystiolaeth ynglŷn â’r peth iawn i’w wneud ar gyfer y gwasanaeth a’r cyhoedd.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymru wedi penderfynu gosod trothwy sensitifrwydd llawer uwch ar gyfer y prawf sgrinio imiwnogemegol ysgarthol. Er ei fod yn is na’r lefel a osodwyd yn Lloegr, mae’n ddwywaith y lefel a osodwyd yn yr Alban, ac wyth gwaith yn uwch na’r trothwy a osodwyd mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae Ymchwil Canser y DU yn datgan mai’r rheswm dros y trothwy llawer uwch yw’r diffyg capasiti endosgopi yma yng Nghymru. Yn rheolaidd, mae oddeutu 1,000 o gleifion yn aros mwy nag wyth wythnos am golonosgopi yng Nghymru. Os ydym am fanteisio i’r eithaf ar y prawf imiwnogemegol ysgarthol, mae’n rhaid i ni gynyddu capasiti endosgopi. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd i gynyddu capasiti ac a wnewch chi ystyried gostwng y trothwy sgrinio imiwnogemegol ysgarthol pan fydd gennym ddigon o gapasiti colonosgopi?

Rwy’n hapus i ymdrin â dwy ran y cwestiwn hwnnw. Yn sicr nid wyf yn ymwybodol ein bod yn gosod y trothwy yn y prawf ar ddim heblaw’r sylfaen dystiolaeth ynglŷn â’r peth iawn i’w wneud ar gyfer cleifion. Os yw hi eisiau ysgrifennu ataf gyda materion penodol sydd wedi’u codi gan Ymchwil Canser er mwyn i mi neu’r Gweinidog ymateb, byddem yn falch o wneud hynny. O ran capasiti endosgopi, gwyddom ein bod yn wynebu her benodol yn ardal de-ddwyrain Cymru, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn gwirionedd yn lleihau amseroedd aros a gwella capasiti, ond gan wella ansawdd ar yr un pryd yn ogystal, yng ngorllewin Cymru, yng nghanolbarth Cymru ac yng ngogledd Cymru hefyd. Ein her yw de-ddwyrain Cymru, lle mae’r rhan fwyaf o’r amseroedd aros hir i’w gweld, yn ardaloedd byrddau iechyd Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf ac Aneurin Bevan. Ac er eu bod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer mwy i’w wneud dros y flwyddyn hon, ac rwy’n disgwyl iddynt wneud gwahaniaeth gwirioneddol a sylweddol unwaith eto i’r ôl-groniad sydd ganddynt, fel y gallwn gael system lawer mwy cynaliadwy lle mae pobl yn cael eu gweld o fewn eu hamseroedd targed.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae sgrinio canser y coluddyn yn cael ei gynnig i bobl rhwng 60 a 74 oed. Mae’r Alban wedi penderfynu sgrinio pobl rhwng 50 a 74 oed. Fodd bynnag, mae canser y coluddyn yn gallu taro pobl o bob oed. Ychydig wythnosau yn ôl, yn anffodus, collasom gydweithiwr i ganser y coluddyn, ac yntau ond yn 33 oed. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gan eich Llywodraeth unrhyw gynlluniau i gynnig sgrinio imiwnogemegol ysgarthol rheolaidd i rai yr ystyrir bod eu risg o ddatblygu canser y coluddyn yn uwch, beth bynnag fo’u hoed, ac i gyflwyno sgrinio i bobl dros 50 oed fel y maent yn ei wneud yn yr Alban?

Fel y dywedais yn ail ran fy ateb cyntaf, rwy’n credu, mae’n rhaid i ni gael ein harwain gan y dystiolaeth, ac os ceir tystiolaeth sy’n dangos mai newid y terfyn oedran yw’r peth iawn i’w wneud, yna gallwch ddisgwyl y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny. Ond nid wyf yn credu y gallwn osod terfyn mympwyol ar oedran wedi’i yrru gan ymgyrch os nad yw wedi’i gefnogi gan dystiolaeth. Ac mae hynny’n anodd iawn, oherwydd rwy’n deall yr emosiwn a’r effaith ddealladwy ar bobl nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhaglen sgrinio ond sydd, serch hynny, yn dioddef o gyflyrrau gan gynnwys canser. Ond nid wyf yn credu bod unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn gallu dweud y bydd yn gwneud dewis ynglŷn â chynnal rhaglen sgrinio genedlaethol y tu allan i’r terfynau a heb ystyriaeth briodol i’r dystiolaeth sy’n bodoli ar beth i’w wneud â’r hyn rydym yn cydnabod eu bod yn adnoddau cyfyngedig yn y gwasanaeth iechyd, a’r niwed go iawn y gellid ei wneud drwy sgrinio rhai nad ydynt ei angen, yn ogystal â’r budd gwirioneddol sydd i’w gael o raglen sgrinio o ansawdd uchel, gydag adnoddau priodol, ar draws y wlad.

Gordewdra Ymysg Plant

4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant yng Nghymru? OAQ(5)0187(HWS)

Ein blaenoriaeth yw mabwysiadu ymagwedd ataliol i fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ymgyrchoedd, rhaglenni a deddfwriaeth.

Mae enghreifftiau’n cynnwys ein rhaglen Teithiau Llesol, rhaglenni Plentyn Iach Cymru ac ymgyrch 10 Cam i Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Ardal bwrdd iechyd Cwm Taf sydd â’r cyfraddau gwaethaf o ordewdra ymysg plant yng Nghymru. Mae mwy nag un o bob pedwar o blant yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon yn ordew, ac yn ogystal â pheri heriau iechyd, gwyddom fod hyn yn effeithio hefyd ar eu bywydau cymdeithasol ac addysgol. Gall arferion arloesol a chynhwysol fel y filltir ddyddiol annog gweithgaredd iach, a gwn eich bod chi a’r Ysgrifennydd addysg wedi ysgrifennu llythyr at ysgolion cynradd ym mis Ionawr yn eu hannog i wneud hyn. Pa gynnydd a fu ar y mater hwn?

Rydym wedi gweld nifer fawr o ysgolion yn mynegi llawer o ddiddordeb yng nghynllun y filltir ddyddiol ac yn defnyddio’r adnoddau dwyieithog sydd gennym ar-lein. Nid wyf eisiau dyfynnu rhif eto, oherwydd, pan fyddwn yn cyrraedd carreg filltir, hoffwn wneud cyhoeddiad bryd hynny, ond rwyf am ddweud bod cryn ddiddordeb wedi bod yn y cynllun hwn, ac mae’r ysgolion sy’n ei wneud yn dweud eu bod eisoes yn gweld gwahaniaeth mewn patrymau ymddygiad yn y dosbarth ac yn y blaen. Mae’n boblogaidd iawn ymysg yr athrawon eu hunain, a hefyd y plant, ac ymysg rhieni hefyd. Rwyf wedi bod yn gweithio, fel y dywedwch, gyda’r Gweinidog addysg i archwilio sut y gallwn gyflwyno pethau eraill o fewn amgylchedd yr ysgol yn ogystal, ac un rhaglen newydd rwy’n teimlo’n gyffrous iawn yn ei chylch, sydd wedi’i datblygu dros gyfnod o amser gyda phrosiectau peilot, yw’r rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol, a fydd yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod yr haf hwn. Mae’n gyfle gwirioneddol wych i roi cyfle i blant gael pryd o fwyd iach yn ystod y dydd yn ystod y gwyliau, ond hefyd i fynd i’r afael â phethau fel colli dysgu dros y gwyliau, oherwydd gwyddom fod rhai disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf ac maent wedi llithro ar ôl yn eu dysgu ac yn y blaen. Ond mae’r rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol yn ymwneud mewn gwirionedd â gwneud yr amgylchedd ysgol yn amgylchedd llawn hwyl i dreulio amser ynddo dros yr haf, a hefyd i gadw’ch pen uwchlaw’r dŵr o ran eich dysgu ac i gael mynediad at bryd iach o fwyd a gweithgareddau llawn hwyl.

Mae hyn yn newyddion gwych iawn. Mae’n gadarnhaol iawn, ac mae’r filltir ddyddiol yn offeryn defnyddiol iawn. Fodd bynnag, gadewch i ni fod yn onest, rydym wedi cael dadleuon diddiwedd yn y Siambr hon ynglŷn â risg gordewdra, ynglŷn â sut y mae’n dod yn her y dyfodol i iechyd y cyhoedd, ynglŷn â’r holl ganlyniadau i bobl o gario gormod o bwysau, yn enwedig yn ddiweddarach mewn bywyd, a lle mae’n rhaid i ni ei atal yw ymhlith y plant ifanc. Felly, tra’ch bod yn annog ysgolion i fanteisio ar y mathau hyn o ddewisiadau, tra rydych yn annog y gweithgareddau gwyliau hyn, rwy’n credu mai’r hyn sydd angen i ni ei roi ar waith, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych wedi cael nifer o drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyd y llinellau hyn ynglŷn â pheidio â’i wneud yn ddewisol a pheidio â’i wneud yn ddiflas. Mae angen i ni gael ymarfer corff mewn ysgolion sy’n rhaid i blant ei wneud, ond ymarfer corff sy’n hwyl ac nad yw’n barnu. Gall fod yn ddawnsio i One Direction; nid oes ots, gan y byddant yn dal i gadw’n heini. Credaf ei bod yn bwysig iawn nad ydych yn rhoi cyfle i ysgolion ddewis peidio â gwneud rhai o’r pethau hyn, gan mai’r plant hyn, fel y soniodd Vikki, sy’n tyfu i fyny ac yn mynd i gael yr holl broblemau iechyd hynny yn y dyfodol, ac rwy’n credu bod angen i ni fod yn gryf iawn ar y pwnc hwn.

Diolch yn fawr iawn, ac mae hwn yn destun trafodaethau parhaus rwy’n eu cael gyda’r Gweinidog addysg hefyd. Mae’n werth nodi bod bron i dri chwarter y plant pedair i bum mlwydd oed yn cario pwysau iach mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rydym am ganolbwyntio ein hymdrechion ar y chwarter sy’n weddill nad ydynt yn cario pwysau iach. Mae lefelau gordewdra ymysg plant wedi lefelu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond unwaith eto, mae angen i bethau symud i’r cyfeiriad cywir.

Mae’n bwysig nodi hefyd fod yn rhaid i ni gefnogi plant sydd eisoes yn cario gormod o bwysau ar oedran ifanc, ac rwy’n falch iawn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ac erbyn hyn wedi datblygu manyleb gwasanaeth cytunedig am wasanaethau lefel 3 ar gyfer gordewdra ymysg plant. Felly, bydd hyn yn ein helpu yn ein hymdrechion i gynnal gwasanaeth gordewdra wedi’i integreiddio’n llawn ar bob haen o gymorth yng Nghymru. Felly, credaf fod hwn yn gam cyffrous, newydd a phwysig ymlaen i gefnogi plant sydd eisoes yn cario gormod o bwysau. Os ydym yn gweithredu pan fônt yn ifanc, yna’n sicr, gallant edrych ymlaen at gario pwysau iach fel oedolion.

Seilwaith TG GIG Cymru

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith TG GIG Cymru? OAQ(5)0184(HWS)

Diolch am y cwestiwn. ‘Iechyd a Gofal Gwybodus’ yw ein strategaeth ar gyfer gweithredu ffyrdd newydd o ddarparu gofal drwy ddefnyddio TG i wella canlyniadau ar gyfer pobl yng Nghymru.

Yn seiliedig ar egwyddorion ‘unwaith i Gymru’, mae’n seiliedig ar atebion cenedlaethol pwysig a saernïaeth wedi’i chynllunio i alluogi gwybodaeth i gael ei defnyddio mewn ffordd ddiogel a saff.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gan dechnoleg gwybodaeth botensial i drawsnewid y modd y darparwn ofal iechyd yn y dyfodol. O delefeddygaeth i apiau iechyd rhyngweithiol, mae’r manteision i gleifion yn enfawr. Yn anffodus, nid yw ein seilwaith cyfredol yn gallu ateb gofynion heddiw. Gyda meddygon a nyrsys yn cael eu gorfodi i ddefnyddio TG sy’n heneiddio, a methu rhannu diagnosteg neu gael mynediad at gofnodion cleifion ar unwaith, mae’n amlwg ein bod angen ailwampio ein seilwaith TG yn llwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod gennym system TG effeithlon a diogel sy’n addas ar gyfer galwadau heddiw ac anghenion yn y dyfodol?

Wel, dyna yw nod clir y Llywodraeth hon yn ein strategaeth ‘Iechyd a Gofal Gwybodus’. Mae gennym ystod o systemau cenedlaethol sydd bellach ar waith i ganiatáu i bobl drosglwyddo gwybodaeth yn llawer haws ar draws y byd gofal iechyd, ac mae Dewis Fferyllfa yn enghraifft dda o hynny. Nid â’r gwaith o greu’r saernïaeth yn unig y mae’n ymwneud, ond mae’n caniatáu ac yn galluogi pobl i gynnig gwasanaethau sy’n gwneud y defnydd gorau o arbenigedd fferyllfa, yn ogystal â lleihau’r pwysau ar feddygon teulu. Mae’n llawer haws gweld fersiwn o gofnod y meddyg teulu mewn gofal heb ei drefnu mewn ysbyty erbyn hyn hefyd. Mae hwnnw’n ddatblygiad diweddar. Felly, mae mwy’n digwydd. Gyda phob blwyddyn, byddwch yn gweld mwy a mwy o hyn yng Nghymru, ac unwaith eto, mae’r systemau cenedlaethol yn gryfder pwysig iawn i ni. Yn hytrach na chael saith neu wyth system wahanol yn ceisio siarad â’i gilydd ar draws ffiniau byrddau iechyd, rydym yn mynnu cael dull sy’n wirioneddol genedlaethol i Gymru, ac mae hwnnw’n sicrhau manteision real a phendant. Felly, mae hefyd yn rhan o’r broses o gyflwyno system wybodaeth rhwng iechyd a gofal yn ogystal. Rwy’n ceisio cofio’r acronymau penodol—dylai gwasanaeth gwybodaeth gofal cymunedol Cymru sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phowys ddatblygu ffordd o drosglwyddo gwybodaeth yn ddiogel a saff rhwng gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Felly, mae camau ar y gweill, ond rwy’n cydnabod bod hwn yn faes lle nad yw’r ddau floc mawr hwn o’r sector cyhoeddus wedi gallu dal i fyny hyd yma â’r galw a realiti’r newidiadau ym mywydau pobl, y ffordd rydym yn byw gyda ffonau clyfar a thechnoleg glyfar. Mae’r gwasanaeth iechyd yn parhau i ddal i fyny. Mae yna her i wneud hynny’n ddiogel ac yn saff, ond mae potensial enfawr ac enillion enfawr i bobl o wneud hynny, ond hefyd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y ffordd y maent yn gweithio gyda’i gilydd a phobl eraill yn y maes gofal cymdeithasol.

Mae gan Gymru hanes da ar y cyfan o fuddsoddi yn seilwaith TG y GIG. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu amcanion ar gyfer fframwaith gwasanaethau digidol gwerth £180 miliwn ar gyfer Cymru gyfan. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei weledigaeth ynglŷn â sut y bydd y cynllun yn gwella seilwaith TG y GIG, pa fesurau diogelwch sydd ganddo ar waith i ddiogelu cyfrinachedd cleifion, yn enwedig o ystyried achosion o dorri cyfrinachedd mewn rhannau eraill o’r DU, a pha asesiad a wnaed o’r arbedion cyffredinol y bydd y fframwaith newydd yn eu creu o ran gwerth ariannol i glinigwyr?

Rwy’n hapus i ysgrifennu atoch gyda manylion y pwyntiau rydych wedi’u codi, yn hytrach na cheisio chwilio dyfnderoedd fy nghof i wneud hynny. Yr hyn a ddywedaf yw bod y pwyntiau cyffredinol a godir gennych ynglŷn â’r potensial i wella, ynglŷn â pha mor ddiogel a saff yw gwybodaeth cleifion a deall y cyfaddawd rhwng hynny a’r budd y gellir ei ennill o rannu’r wybodaeth honno, yn nodweddion arwyddocaol ym mhob datblygiad a gyflawnir gennym, gan ein bod mewn gwirionedd yn cydnabod y risg i gleifion o beidio â sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n llyfnach rhwng gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Ac mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o’r cyhoedd yn disgwyl i’r wybodaeth hon gael ei darparu yn y ffordd honno eisoes. Yr her, mewn gwirionedd, yw sut y mae’r gwasanaeth yn dal i fyny ac yn ateb y disgwyliad hwnnw ac awydd clir y cyhoedd i wneud hynny.

Mae yna rywbeth hefyd am newid diwylliannol, a dealltwriaeth mai cofnodion cleifion yw cofnodion cleifion, ac nid cofnodion gofal iechyd y maent yn eu cadw am bobl. A dweud y gwir, yn y gorffennol—mae rhywbeth ynglŷn â sut rydym yn newid y diwylliant hwnnw fel bod dinasyddion yn cymryd mwy o reolaeth dros eu gwybodaeth gofal iechyd eu hunain ac yn gallu gwneud penderfyniadau gwahanol o ganlyniad i hynny. Felly, mae yna her ddiwylliannol fawr, i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan yn eu gofal iechyd mewn ffordd wahanol, ond hefyd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud hynny hefyd. Ond rwy’n hapus i ysgrifennu atoch ynglŷn â’r tri phwynt penodol a nodwyd gennych yn eich cwestiwn.

Safonau Bwyd Ysbytai

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safonau bwyd ysbytai yng Nghymru? OAQ(5)0189(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae cyfarwyddiadau a chanllawiau ar waith mewn ysbytai ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr mewn perthynas â bwyta’n iach. Mae’r rhain yn cynnwys safonau gorfodol ar faeth bwyd a diod i gleifion, safonau gorfodol ar gyfer gwerthu bwyd a diod iach a chanllawiau ar fwyd a diod i’w weini i staff ac ymwelwyr.

Diolch. Ym mis Hydref 2016, taflodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda fwy na 7 y cant o’r bwyd roedd yn ei ddarparu. Dyna’r bwrdd sy’n perfformio waethaf yng Nghymru. Y cywilydd go iawn, wrth gwrs, yw bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi’i leoli mewn ardal sy’n gyfoethog o ran cynnyrch bwyd ffres. Ysgrifennydd y Cabinet, faint ymhellach y credwch y gallwch fynd o ran cydweithredu gydag asiantaethau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod modd rhoi mwy o fwyd lleol Cymreig blasus ar y fwydlen yn ein hysbytai? Nawr, gallai’r archebion mwy o faint hyn gan y GIG yng Nghymru gael effaith sylweddol ar y diwydiant bwyd yng Nghymru, a byddwn yn cynnig hyn yn y cynllun datblygu gwledig y byddwn yn ei gyhoeddi yr wythnos nesaf. I ba raddau rydych chi’n credu y gallwch gydweithredu’n llawer agosach gyda’r Ysgrifenyddion dros yr economi, amaethyddiaeth a materion gwledig ar y mater hwn?

Diolch i chi am y cwestiwn. Ar y pwynt ynglŷn â gwastraff bwyd, mewn gwirionedd rydym wedi newid ein targed o leihau gwastraff bwyd i 10 y cant i lai na 5 y cant hefyd, felly mae yna bwynt ynglŷn â gwastraff o fewn y sector ysbytai, ac ynglŷn â sicrhau ein bod ar daith barhaus tuag at welliant. Ar y pwynt penodol rydych yn ei nodi ynglŷn â’r ffordd rydym yn caffael ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, mewn gwirionedd mae gennym ymarfer ar y gweill eisoes gyda’r gwasanaeth caffael cenedlaethol, ac maent yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. Ac fel rhan o’r hyn rydym wedi gofyn amdano, rwy’n hapus i ddweud ein bod mewn gwirionedd wedi gofyn iddynt gynnwys statws dynodiad daearyddol gwarchodedig i Gymru yn y fanyleb, felly rydym yn gofyn am gynnwys cynnyrch o Gymru yn rhan o’r hyn rydym am ei gaffael. Ac mae’n ymwneud hefyd â cheisio deall sut i’w gwneud yn haws i gyflenwyr bach a chanolig fod yn rhan o ddarparu’r cynnyrch hwnnw hefyd mewn gwirionedd. Cynhaliwyd ymgynghoriad â phobl yn y busnes bwyd i ddeall sut i’w gwneud yn haws iddynt, a chael gwerth da i’r cyhoedd ar yr un pryd. Oherwydd ceir dau bwynt yma: ynglŷn â’r gwerth economaidd o’r gwasanaeth caffael, ond peidio â chyfaddawdu chwaith ar werth maethol yr hyn rydym am ei ddarparu yn ein lleoliadau. Ond rwy’n hapus i ddweud bod tendrau ar gyfer y fframwaith cyfredol ar draws y sector cyhoeddus i fod i mewn yr wythnos hon, ac yna mae dyfarniad y fframwaith wedi’i drefnu yn ystod yr haf hefyd. Felly, dylech weld mwy o gynhyrchwyr o Gymru yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, gobeithio—gwerth da yn economaidd i Gymru, ond hefyd gwerth da o ran safonau maeth hefyd.

Diolch i’r Aelod am gyflwyno’r cwestiwn hynod bwysig hwn i’r Siambr hon eto. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda dwy farwolaeth y dydd o ganlyniad i ddiffyg maeth a diffyg hylif yn y GIG ar draws Cymru a Lloegr, yn ddiweddar, mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi tynnu sylw at fwyd yn cael ei adael heb ei fwyta ar hambyrddau, cleifion yn ei chael yn anodd bwyta, a fawr ddim anogaeth, os o gwbl, ar y ward—gallaf adleisio’r profiad hwn—ac nid yw cynlluniau deiet cleifion a gwiriadau pwysau bob amser yn cael eu cyflawni. Mae maeth a hydradu priodol ar gyfer cleifion yr un mor bwysig â meddyginiaeth, triniaeth a gofal, ac eto, caiff ei anwybyddu’n aml. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod unrhyw glaf a gaiff ei dderbyn i’r ysbyty yn cael y maeth a’r hydradu priodol y maent eu hangen, er mwyn cynorthwyo’r broses gyffredinol o roi gofal a thriniaeth i adfer iechyd?

Diolch i chi am y cwestiwn. Nid wyf yn gwybod a yw hynny’n ymwneud â safonau bwyd ysbytai mewn gwirionedd; mae’n ymwneud mwy â sut y mae’r safonau bwyd mewn ysbytai yn arwain at ofal urddasol a thosturiol. Er bod yna bethau i’w gwella bob amser—ac rwy’n derbyn bod rhannau o’n gwasanaeth iechyd gwladol y mae angen i ni eu gwella, yn y ffordd y caiff bwyd a maeth eu darparu, i wneud yn siŵr fod pobl yn cael bwyd a diod yn briodol ac nad ydynt yn mynd hebddynt—mae dweud bod hynny’n cael ei anwybyddu’n aml, rwy’n credu, yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n rhesymol ac yn ffeithiol. Mae angen deall bob amser, fodd bynnag, lle bynnag y ceir diffyg, lle y ceir methiant yn y gofal y byddai pawb ohonom yn dymuno ei weld yn cael ei ddarparu ar ein cyfer ac ar gyfer ein hanwyliaid, heb sôn am yr etholwyr rydym yn eu cynrychioli, mae angen inni ddeall pam fod hynny wedi digwydd, gan ailadrodd pwysigrwydd bwyd a maeth unwaith eto.

Rwyf eisiau sicrhau bod pobl yn barod ac yn iach i gael triniaeth, ond hefyd rwyf eisiau gwneud yn siŵr nad ydynt yn dioddef mwy o niwed os ydynt mewn ysbyty, er enghraifft, ac mewn gwirionedd, mae methu cael bwyd a maeth priodol, a diodydd penodol, yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol—nid yn unig o ran eu hadferiad ar ôl cael triniaeth, ond o ran y cyflwr y byddant wedyn yn gadael yr ysbyty ac yn symud i’r lleoliad nesaf ar gyfer eu gofal neu eu hadferiad gartref. Felly, mae’r rhain yn faterion pwysig iawn—a amlygwyd, unwaith eto, yr wythnos diwethaf, yn ystod Wythnos y Deietegwyr. Roeddem yn cydnabod pwysigrwydd allweddol ein deietegwyr ar draws y gwasanaeth iechyd mewn ystod eang o leoliadau gwahanol, ac mae’n sicr yn rhan o’r hyn rwy’n meddwl amdano, y ffordd rydym yn meddwl am gynllunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal, mewn gofal sylfaenol, mewn gofal preswyl, ac wrth gwrs mewn ysbytai hefyd.

4. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau amserol, a’r cwestiwn cyntaf—Darren Millar.

Asesiad PISA 2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018? TAQ(5)0143(EDU)

Diolch i chi, Darren, am y cyfle i drafod Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2018 heddiw, ar ôl y cwestiynau ddoe ar asesiad 2021. Rwy’n glir fy mod yn disgwyl gweld gwelliant yn sgôr PISA Cymru yn 2018, ond yn benodol, rwyf eisiau gweld cynnydd yn y perfformiad uwchben y 75ain canradd.

Rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod y canlyniadau PISA a gyhoeddwyd y llynedd yn dangos bod Cymru wedi dioddef degawd o ddirywiad yn y tablau cynghrair rhyngwladol, gyda sgoriau gwaeth ar gyfer llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2015 nag oeddent yn 2006. Ac fe ysgogodd y sgoriau gwael hynny eich rhagflaenwyr i gyhoeddi pob math o darged ar gyfer Llywodraeth Cymru, a’r diweddaraf o’r rhain, wrth gwrs, yn 2011; gwelsom Leighton Andrews yn gosod targed i gyrraedd 20 uchaf y tablau cynghrair rhyngwladol erbyn 2015. Roedd hynny, wrth gwrs, yn annhebygol iawn ac o ganlyniad, cafodd ei olynydd, Huw Lewis, wared ar y targed cyn gosod targed newydd i gyflawni sgoriau o 500, fan lleiaf, ym mhob un o’r pynciau erbyn 2021. Nawr, ar yr adeg y gwnaed y cyhoeddiad hwnnw, fe feirniadoch chi benderfyniad Llywodraeth Cymru ar y pryd, gan ddweud ei fod yn enghraifft, ac rwy’n dyfynnu,

‘o ddiffyg uchelgais llwyr’,

ac fe gyhuddoch y Llywodraeth ar y pryd o ‘[d]derbyn cyffredinedd’.

Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—

Rwyf eisiau i’r cwestiwn gael ei glywed, os gwelwch yn dda.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth—

Nid wyf yn dweud y pethau hyn a disgwyl cael fy anwybyddu. Rwyf eisiau i’r cwestiwn gael ei glywed.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wrth drafod targed 2021, ac rwy’n dyfynnu, ‘Nid fy nharged i ydyw’, ac fe ddynodoch eich bod yn symud oddi wrtho. Ddoe, gwelsom y Prif Weinidog yn eich rhoi yn eich lle oherwydd yr hyn a ddywedoch, gan ailddatgan yr ymrwymiad i darged 2021, perfformiad arbennig o warthus ar ran y Prif Weinidog, o ystyried ei bod hi’n Ddiwrnod ‘Stand up to Bullying’ heddiw. Nawr, mae hynny’n gwneud i Lywodraeth Cymru edrych fel rhyw fwystfil â dau ben yn tynnu i gyfeiriadau gwahanol, ychydig fel y ‘pushmi-pullyu’ yn stori enwog Doctor Dolittle. Felly, a gaf fi ofyn i chi: rydych wedi egluro eich targed anuchelgeisiol ar gyfer 2018—? Os nad 2021 yw eich targed, a allwch ddweud wrthym: beth yw eich targed ar gyfer 2021, yn benodol; pryd y gallwn ddisgwyl cyrraedd y targed hwnnw; a beth yw eich strategaeth i sicrhau bod Cymru’n ei gyrraedd, oherwydd nid wyf yn gweld un?

Diolch yn fawr iawn, Darren. Rwy’n gresynu at eich ieithwedd anffodus, ac nid wyf yn credu bod galw amdani yn y sefyllfa hon, yn enwedig wrth gyfeirio at Aelod gwrywaidd ac Aelod benywaidd o’r Cynulliad hwn. Mae iddi gynodiadau anffodus. Fodd bynnag, rydych yn llygad eich lle: nid yw perfformiad Cymru ar hyn o bryd yn y safleoedd PISA yn ddigon da. Nid oedd yn ddigon da pan oeddwn yn eistedd yn y fan honno, ac yn sicr nid yw’n ddigon da yn awr a minnau’n eistedd yn y fan hon, ac yn bwysicach efallai, yn cael cyfle i wneud rhywbeth am y peth. Mae targedau, wrth gwrs, yn bwysig, ond gallwch gyrraedd y targed, Darren, a gallwch fethu’r pwynt—mae gweithredu’n fwy pwysig.

Rwy’n glir iawn fy mod yn disgwyl gweld gwelliant yn y set nesaf o ganlyniadau PISA, ond fel y dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eu hunain, dylid defnyddio PISA fel offeryn diagnostig, ac nid yw’n ymwneud yn unig ag un sgôr. Gan ddefnyddio data PISA, mae’n amlwg i mi mai’r hyn sydd angen i ni wneud mwy ohono yw cefnogi’r hyn y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi’i ddisgrifio fel y 75ain canradd. Rwyf wrthi’n ystyried ac yn cwmpasu’r gwaith o gyflwyno cynllun wedi’i dargedu i roi cefnogaeth well i’n disgyblion mwy galluog a thalentog a fydd yn cysylltu â’r rhwydwaith Seren llwyddiannus. Bydd hyn yn ategu’r gwaith gyda’r rhwydwaith mathemateg a gwyddoniaeth, a gyhoeddais ers yr adroddiadau PISA diwethaf, fel y gallwn ganolbwyntio’n agos ar ddatblygu sgiliau ein hathrawon i gynorthwyo ein plant mwy galluog a thalentog. Fel y byddwch yn gwybod, gan fod gennych ddiddordeb mawr yn hyn, darllen yw ffocws y prawf PISA nesaf. Yn y prawf PISA diwethaf, 3 y cant oedd gan Gymru yn y ddwy lefel uchaf, a byddwn yn hynod o siomedig pe na bai’r ffigur hwnnw’n cynyddu y tro nesaf.

Mae hi’n berffaith amlwg i mi fod y Llywodraeth mewn cryn bicil ynglŷn â’r mater yma. Mi gadwaf i fy sylwadau’n fyr iawn. Mi oeddwn i’n cyd-fynd â chi, pan oeddech chi’n eistedd ar y meinciau yma, pan wnaethoch chi sôn am ddiffyg uchelgais Gweinidogion Llafur o’ch blaen chi, ond o fod wedi gwrando ar eich atebion chi heddiw, nid ydw i’n clywed a ydych chi hyd yn oed yn dal yn ymrwymedig i’r targedau y dywedodd y Prif Weinidog ddoe yn berffaith glir yr oedd o wedi ymrwymo iddyn nhw. Mi roddaf gyfle unwaith eto i chi ddweud a ydych chi’n cadw at y targed y mae Carwyn Jones yn sicr yn ei barchu o hyd, ynteu a ydych chi’n dal i gadw at y sylwadau a wnaethoch chi o’r meinciau yma fod angen i’r uchelgais fod yn fwy na hynny?

Diolch i chi, Rhun. Fel y clywsoch ddoe gan y Prif Weinidog, 500—[Torri ar draws.] Os gadewch i mi orffen, 500 yw nod hirdymor Llywodraeth Cymru o hyd ar gyfer y set nesaf ond un o ganlyniadau PISA. Felly, wyddoch chi, mae angen i ni wneud cynnydd yn y set nesaf o ganlyniadau PISA os ydym am gyrraedd y targed nesaf, a dyna pam rwyf fi, yn gwbl briodol, tra bwyf yn y swydd hon, yn canolbwyntio ar ymyriadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r set nesaf o ganlyniadau PISA, a fydd yn gyfeirbwynt pwysig i’r set nesaf.

Y Cyffur Kadcyla

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb mynediad masnachol rhwng GIG Cymru a Roche, a fydd yn golygu y gall cleifion canser y fron yng Nghymru gael gafael ar y cyffur Kadcyla? TAQ(5)0192(HWS)

Member
Vaughan Gething 15:15:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n falch o gyhoeddi bod y cytundeb mynediad masnachol ar gyfer Kadcyla wedi cychwyn yng Nghymru heddiw, yn union yr un pryd ag yn Lloegr, ac mae’n union yr un peth â’r cytundeb a drafodwyd gyda GIG Lloegr. Dyma’r math o feddyginiaeth y cafodd y gronfa driniaeth newydd £80 miliwn ei sefydlu i’w chefnogi.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae eich penderfyniad i alluogi mynediad at Kadcyla yn ddatblygiad i’w groesawu, a hoffwn dalu teyrnged i’r holl ymgyrchwyr ledled y DU sydd wedi ymladd ers cymaint o amser i gael mynediad at y cyffur hwn sy’n ymestyn bywydau. Mae’r therapi hon sydd wedi’i thargedu yn hanfodol ar gyfer rhai sydd â mathau penodol o ganser y fron HER2 positif, ond yn wreiddiol roedd ei chost ariannol yn uchel iawn, ac rydym i gyd yn cydnabod ei bod yn ddyletswydd ar y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i sicrhau bod mesur o gosteffeithiolrwydd yn perthyn i fuddsoddiad trethdalwyr mewn triniaethau cyffuriau modern. Wrth gwrs, mae’n ymwneud â mwy na’r arian, fel y bydd y rhai sy’n defnyddio’r cyffur hwn ac sydd eisiau mwy o amser gyda’u hanwyliaid yn gallu tystio.

Fy nealltwriaeth i yw mai un o’r rhesymau pam y llwyddodd Kadcyla i gael cymeradwyaeth NICE oedd oherwydd y fethodoleg ddiwygiedig a ddefnyddiwyd i gymharu ei effeithiolrwydd yn erbyn gwahanol gyfuniadau o driniaeth. A allwch roi cipolwg i mi ar broses y fethodoleg a ddefnyddir gan NICE? A oes modd defnyddio’r egwyddor sy’n sail i broses y fethodoleg ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo Kadcyla mewn cysylltiad â chyffuriau eraill nad ydynt ar gael ar hyn o bryd? Mae Orkambi, er enghraifft, yn dod i’r meddwl. Rwy’n sylweddoli na fyddwch yn gallu datgelu manylion y cytundeb masnachol rhwng Llywodraeth Cymru a Roche, ond hoffwn wybod ai’r un fargen â’r un a sicrhaodd GIG Lloegr ydyw. Yn olaf, pa wersi y gallwn eu dysgu o hyn er mwyn manteisio ar therapïau cyffuriau newydd i helpu ein pobl fwyaf sâl gan gadw bwlch priodol yn agored ar gyfer datblygwyr a gweithgynhyrchwyr a sicrhau ar yr un pryd fod arian trethdalwyr yn cael ei wario’n ddoeth?

Diolch am y tri chwestiwn gwahanol. Ar y cwestiwn cyntaf ynglŷn â deall a oes dull gwahanol wedi’i weithredu ar gyfer yr asesiad technoleg a gyflawnwyd gan NICE ar effeithiolrwydd clinigol a hefyd ar gosteffeithiolrwydd mewn perthynas â chanlyniadau bywyd gwell, ni allwn ddweud dim wrthych am y manylion hynny a bod yn onest, er y byddwn yn hapus i gael sgwrs gyda swyddogion a phobl yng Ngrŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru i ddeall a oedd unrhyw wahaniaeth, ond yn sicr nid wyf yn gymwys i roi ateb i chi ynglŷn ag a oedd yna ddull gwahanol. Rwy’n hapus i gael golwg ar y broses a’r modd y cyflawnwyd hynny a dod yn ôl atoch.

Ar yr ail bwynt, yn gofyn ai’r un cytundeb sydd gennym yng Nghymru, ie, yr un cytundeb ydyw. Mae gennym yr un telerau yng Nghymru, ar yr un pryd. Roedd hynny’n rhan o’r negodi. Mewn gwirionedd, roeddwn yn y gynulleidfa yng nghynhadledd Cydffederasiwn y GIG yn Lloegr pan gyhoeddodd Simon Stevens y cytundeb o’r llwyfan, a llwyddo i godi sawl sgwarnog ynglŷn ag ai cytundeb ar gyfer Lloegr yn unig ydoedd ai peidio. Felly, rwy’n hapus iawn o fod wedi gallu cadarnhau ei fod yn gytundeb ar gyfer Cymru a Lloegr, heb unrhyw wahaniaeth o ran argaeledd y driniaeth yma yng Nghymru.

Yna, ar gyfer y dyfodol, rwy’n credu bod hyn yn sicr yn dweud rhywbeth wrthym nid yn unig am ymgyrchu ond am y berthynas aeddfed y mae angen i ni ei chael mewn gwirionedd gyda’r cyhoedd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ond hefyd gyda phobl yn y diwydiant fferyllol. Oherwydd mae’n hawdd cynnal ymgyrch sy’n seiliedig ar emosiynau pobl a allai gael cyffur sy’n ymestyn eu bywydau neu’n achub eu bywydau, ond fel rydych yn ei gydnabod yn gywir, mae’n rhaid cael cydbwysedd i bwrs y wlad ac i bawb ohonom gyda’n gilydd o ran faint rydym yn barod i’w dalu ar y cyd am driniaethau unigol ac i ddeall effeithiolrwydd gwirioneddol y triniaethau hynny. Rydym wedi gweld yn y gronfa cyffuriau canser, yr adolygiad annibynnol, ei fod yn cydnabod nad oedd yn bosibl dweud go iawn fod tua £1 biliwn, o’r £1.27 biliwn, wedi cael ei wario ar wella canlyniadau. Mae honno’n ffordd wael o wneud hyn, ac nid wyf yn credu ei fod yn ddefnydd da iawn o arian cyhoeddus. Felly, mae’n rhaid i ni ddeall bod proses sy’n ddilys, sy’n arbenigol ac sy’n cael ei harwain gan dystiolaeth yn darparu sicrwydd priodol am werth ac effeithiolrwydd triniaethau, ac yn yr un modd y sgwrs fwy aeddfed honno drwy’r diwydiannau fferyllol ynglŷn â’r hyn y gallant ei ddisgwyl a’r hyn y gall ac y bydd pwrs y wlad yn ei gyflawni, a’r dystiolaeth honno rydym ei hangen ar yr effeithiolrwydd hwnnw ynghyd â’i gost a’i werth.

A gaf innau groesawu y cam yma sydd wedi cael ei gymryd? Mae’r egwyddor wedi ei sefydlu o ran y cyffur yma. Yr ymarferol, wrth gwrs, sydd yn bwysig i ddioddefwyr y canser yma y mae’r cyffur yma wedi ei gynllunio ar ei gyfer. Felly, dau gwestiwn syml: pa bryd rŵan, yn ymarferol, y bydd y cyffur yma ar gael yng Nghymru, a faint o amser a fydd yn rhaid i gleifion aros i gael presgripsiwn i’r cyffur yma?

Ac un cwestiwn pellach ynglŷn â chyffur arall y mae Breast Cancer Now yn codi pryderon ynglŷn ag o. Tra’n croesawu’r cytundeb ar Kadcyla, mi ddyfynnaf gan Delyth Morgan, prif weithredwr Breast Cancer Now:

‘this news comes at a time when there is a real possibility that Perjeta’—

excuse me if I haven’t got the pronunciation right—

‘the first-line treatment for this group of patients, could soon be removed from NHS use, with a decision imminent. Perjeta’s benefits are extraordinary, offering nearly 16 additional months of life to women with incurable breast cancer, and it is imperative that a solution is found to save this drug, at a cost affordable to both the NHS and the taxpayer’.

Felly, tra ein bod ni’n croesawu’r cam ar Kadcyla, a allwch chi ein diweddaru ni ynglŷn â’r cyffur arall hefyd?

Gallaf, a’r pwynt ynglŷn â Kadcyla yw bod pris y gwneuthurwr, yn wreiddiol, yn rhy uchel i’r gwasanaeth iechyd ei dalu, a dyna oedd y cyngor a roddwyd i’r Gweinidogion iechyd. Dyna pam nad oedd y cyffur ar gael. Ailystyriwyd hynny bellach, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr. Ond yr her mewn perthynas ag unrhyw feddyginiaeth, boed yn Perjeta neu’n unrhyw gyffur arall, yw bod cydbwysedd rhwng ei heffeithiolrwydd clinigol a’i chosteffeithiolrwydd.

Yn y broses o wneud cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol y cytunasom ar y cyd i fynd drwyddi, daeth hynny allan yn glir iawn fel pwynt unfrydol gan y panel: ynglŷn â pheidio â cholli golwg ar y ffaith bod yna gost i hyn. Mae pob ceiniog a wariwn ar un driniaeth benodol yn geiniog ac yn bunt nad ydym yn eu gwario ar driniaethau eraill hefyd. Felly, mae’n rhaid cynnal y cydbwysedd hwnnw, a byddwn unwaith eto’n annog gweithgynhyrchwyr i chwarae rhan yn gynnar a thrafod effeithiolrwydd a chosteffeithiolrwydd eu triniaethau. Yr hyn y mae hynny’n ei olygu yw eu bod yn cael mynediad go iawn at y gwasanaeth er mwyn deall mwy am ddatblygiad y driniaeth yn ogystal â mwy o bobl i’w defnyddio, oherwydd fel arall byddwn yn parhau i gael yr ymgyrchoedd emosiynol hyn am bobl sy’n credu y gallai cyffur gynnig gobaith iddynt ymestyn eu bywydau neu achub eu bywydau. Ond rydym i gyd yn deall, mewn gwirionedd, na allwch dalu unrhyw bris am unrhyw driniaeth. Mae hynny’n anodd iawn, pan fyddwch yn edrych i fyw llygaid rhywun a dweud, ‘Rwy’n credu bod y driniaeth rydych eisiau ei chael yn rhy ddrud’, ond os na wnawn hynny, yna mae ein gwasanaeth yn mynd i fod yn anfforddiadwy. Os nad ydym yn barod i wneud hynny, rydym o bosibl yn peryglu’r gwasanaeth cyfan sy’n gwneud cymaint o ddaioni a chymaint o bethau’n gadarnhaol. Felly, os na allwn ddal ein tir ynglŷn â chael ymagwedd a arweinir gan dystiolaeth i hyn, yna rwy’n credu, mewn gwirionedd, ein bod yn peryglu ac yn tanseilio’r gwasanaeth cyfan. Mae’n bwynt anodd, ond rwy’n credu’n gryf mai dyna’r un cywir a dyna’n sicr yw barn unfrydol y panel Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol yn yr adroddiadau diweddar i bob un ohonom yn y misoedd diwethaf.

Diolch i fy nghyd-Aelod Angela Burns am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cytundeb rhwng GIG Cymru a Roche yn newyddion gwych i ddioddefwyr canser y fron yng Nghymru ac yn enghraifft berffaith o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio ar y cyd â’r diwydiant fferyllol. Mae’r fargen hon a’r gronfa driniaethau newydd yn golygu y gall menywod sydd â thiwmorau HER2 positif fyw am ychydig o fisoedd ychwanegol gwerthfawr ac osgoi’r broblem a oedd gennym gyda Herceptin. Mae’r triniaethau arloesol newydd hyn wedi’u targedu at gohortau cymharol fach, ac yn llawer mwy costus. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod yn ymwybodol o gyffuriau sydd ar y ffordd? Ac a fyddwch yn gweithio gyda’ch cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau cytundebau mynediad masnachol ar driniaethau menter eraill yn y dyfodol?

Ydw, rwy’n hapus i ymateb. Wrth gwrs, mae’r cyffur penodol hwn yn rhoi chwe mis o fywyd ychwanegol ar gyfartaledd, ac mae’n ymwneud â gwerth a chost hynny. Unwaith eto, mae’r rhain yn asesiadau anodd iawn i’w gwneud, a dyna pam, a dweud y gwir, mai gwleidyddion yn aml yw’r bobl waethaf i geisio gwneud yr asesiad hwnnw. Fodd bynnag, ar y pwynt ehangach ynglŷn â deall beth sydd ar y ffordd, mewn gwirionedd cefais drafodaeth synhwyrol iawn dros y misoedd diwethaf gyda Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain a’u cynrychiolydd o Gymru ar y bwrdd, sy’n digwydd bod yn gweithio i Roche, sy’n gyd-ddigwyddiad llwyr, am y modd rydym yn cael sgyrsiau wrth i gyffuriau gael eu datblygu, ac ar ba adeg y gall y diwydiant fferyllol gael y sgwrs honno gyda llywodraethau a chyrff gwerthuso. Oherwydd po gyntaf y byddwch yn gwybod y gallai rhywbeth fod ar gael, y cynharaf y gallwch gynllunio.

A dweud y gwir, mae’r math hwnnw o ddull aeddfed yn bwysig iawn i ni, oherwydd mae’n rhaid i’r GIG allu ceisio cyllidebu ar gyfer triniaethau newydd sydd ar y ffordd. Mae’n rhaid iddo allu ceisio cynllunio’r seilwaith ar gyfer y rheini hefyd, sy’n aml yn bwysicach na’r gost o dalu am y feddyginiaeth. Mae hefyd yn ymwneud â’r diwydiant yn deall ei bod o fudd iddo fod yn agored gyda ni ar gam ychydig yn gynharach ynglŷn â’r hyn sydd ar y ffordd. Fel arall, yn y pen draw, byddwn yn cael y mathau hyn o frwydrau ar sail nad yw’n dda iddynt fel partner diwydiant, nad yw’n dda i’r gwasanaeth iechyd, ond yn y pen draw, nad yw’n dda i’r dinasyddion unigol sydd wedyn yn cael eu dal mewn ymgyrch rhwng gwahanol rannau o’r sector cyhoeddus a’r diwydiant, sy’n ceisio cynnig triniaeth a fydd, yn ôl yr hyn a ddywedant, yn darparu budd go iawn iddynt.

Felly, rwy’n optimistaidd ein bod yn parhau i gael y sgwrs aeddfed ac angenrheidiol honno ynglŷn â’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd ac i ddeall ein buddiannau sy’n cystadlu â’i gilydd. Nid wyf yn ceisio dweud wrth y diwydiant fferyllol na ddylai fod ganddynt hawl i wneud elw yn y ffordd y maent yn cyflawni eu busnes a’r hyn y maent yn ei roi i mewn i ddatblygu triniaethau newydd, ond mae’n rhaid iddo fod am bris sy’n fforddiadwy i’r trethdalwr ac o werth gwirioneddol o ran gwella canlyniadau i’r dinesydd unigol yn ogystal.

5. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Datganiadau 90 eiliad yw’r eitem nesaf ar yr agenda. Y datganiad cyntaf, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae nifer ohonom ni wedi bod ar gefn beic heddiw wrth i elusen Leonard Cheshire Disability wahodd Aelodau i reidio cyn belled ag y gallwn ni ar feic ymarfer corff mewn 100 eiliad. Roedd hi’n braf bod ar frig y tabl am un cyfnod byr, ond dyna’r fantais sy’n dod o gael bod y cyntaf i gymryd rhan. Tynnu sylw oedd yr elusen at bwysigrwydd ymarfer corff ar gyfer pobl sydd ag anableddau, ac am siarad efo chi ydw i am gamp arall sy’n rhoi cyfle i rai sydd ag anableddau gadw’n heini a chystadlu ar y lefel uchaf.

Wales will be taking part in the Wheelchair Rugby League World Cup in France next month. They take on Australia in their first match. The last time they met at the world cup, they beat them 25 to 16, on their way to an overall third place in the tournament. And that’s the first time Wales has beaten Australia in any form of full international rugby league. Managed by Mark Andrew Jones, they’re based at Deeside, but draw players from across Wales. They’re the current Celtic Cup champions, and were runners up in the 2017 four nations.

But, apart from the sporting challenge, it’s quite a task raising enough funds to represent Wales at this level. Earlier this year, it was feared they wouldn’t be able to go to the world cup for lack of money. Through self-funding and donations from local businesses and the North Wales Crusaders, they’re just about able to do it, but they need backing and sponsors. Disability sport deserves and needs this backing. After all, we’re hoping that this world cup will be as expensive as it could possibly be for them, with Wales hopefully staying in France right until the competition ends. Good luck. Pob lwc.

Ddydd Sadwrn diwethaf, cyflwynodd Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Gwyddelig eu baner gatrodol ger bron Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer ei gorymdaith ben blwydd swyddogol. Heidiodd torfeydd i’r Mall i gael cipolwg ar osgordd y sofran tra gwyliai miliynau ym mhob cwr o’r byd, gan ryfeddu at gywirdeb milwrol y sioe a myfyrio ar wasanaeth parhaus Ei Mawrhydi i’r genedl ar hyd ei hoes ar ei phen blwydd yn 91 oed. Mae’r Frenhines yn enwog am ei chraffter a’i gwybodaeth am y symudiadau mwy cymhleth a berfformiwyd ac fel bob amser, ar ôl wythnosau o hyfforddiant, aeth yr orymdaith rhagddi’n hollol berffaith.

Gartref a thramor, mae Ei Mawrhydi wedi bod yn symbol o sefydlogrwydd ar adegau o gythrwfl gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol. Mae hi wedi ymgymryd â’i dyletswyddau o ddydd i ddydd gyda rhwyddineb ymddangosiadol ers dwy ran o dair o ganrif ac wedi arwain ein brenhiniaeth gyfansoddiadol o oes stêm yr ugeinfed ganrif i oes ddigidol yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r Frenhines yn parhau i fod yn ganolbwynt cyfansoddiadol ein cymdeithas fel pennaeth y wladwriaeth, pennaeth y Gymanwlad, a phencadfridog y lluoedd arfog. Mae ei rôl, sydd uwchlaw gwleidyddiaeth pleidiau, dros dair cenhedlaeth, wedi’i hadlewyrchu yn y cysylltiad hoffus rhwng y frenhines a’r bobl, un na welir mo’i debyg mewn unrhyw arweinydd neu wleidydd arall ar y llwyfan byd-eang.

Perchir Ei Mawrhydi gan filiynau o gwmpas y byd am ei hurddas a’i gwasanaeth diwyro i’n cenedl mewn traddodiad hanesyddol byw sy’n ymestyn yn ôl dros 1,000 o flynyddoedd. Heddiw, mae’n parhau ei gwasanaeth yn agoriad swyddogol y Senedd, fel yr agorodd ein Cynulliad flwyddyn yn ôl. Nid yw’r frenhiniaeth erioed wedi bod mor boblogaidd yn y cyfnod modern, ac mae’n parhau i fod yn ased amhrisiadwy, sy’n ymestyn ein bri o amgylch y byd yn aruthrol ac yn galluogi ein hynys fach i wneud yn llawer gwell na’r disgwyl yn ddiplomyddol. Peidiwch â gadael i neb danbrisio cyfraniad personol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II i safle dihafal y Deyrnas Unedig yn y byd. Hir oes i’w theyrnasiad ac a gawn ni ddweud, Duw gadwo’r Frenhines.

Yr eitem nesaf yw’r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â phroses y gyllideb a gweithdrefnau cyllid, a’r cynnig hefyd i gymeradwyo protocol y gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cynigiaf fod y ddau gynnig o dan eitemau 5 a 6 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nag oes.

6. 5. & 6. Cynnig i Ddiwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â Phroses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid a Chynnig i Gymeradwyo Protocol y Gyllideb a Gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru

Felly, galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Cynnig NDM6332 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27—Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14.06.17; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig o dan eitem 6 ac i siarad i’r ddau gynnig. Simon Thomas.

Cynnig NDM6333 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cymeradwyo’r protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy’n gysylltiedig â’r gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac rwy’n falch i gynnig hwn ac i siarad ar y ddau gynnig, ac i egluro bod cymeradwyo’r Rheolau Sefydlog a’r protocol cysylltiedig heddiw yn y Cyfarfod Llawn yn ffrwyth llafur a gychwynnwyd gan Bwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad. Mae datganoli pwerau cyllidol wedi golygu newid proses y gyllideb, gan olygu y byddwn ni fel y Cynulliad yn ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn codi peth o’r arian mae’n bwriadu ei wario gyda’r pwerau trethi newydd.

Cynhaliodd y pwyllgor blaenorol ymchwiliad a nododd yr arferion gorau o ran craffu ar y gyllideb. O ganlyniad i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw, mae swyddogion y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos i ddatblygu proses newydd ar gyfer craffu ar y gyllideb sy’n dderbyniol ac yn ymarferol i’r ddwy ochr. Dylai proses newydd y gyllideb sicrhau gwaith craffu manylach, a mwy o amser ar gyfer gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid a’r pwyllgorau polisi fel ei gilydd.

Dylai’r amser ychwanegol hwn alluogi’r Pwyllgor Cyllid i ystyried manylder strategol y gyllideb ddrafft. Rwyf am i ni ar y Pwyllgor Cyllid ystyried: dyraniadau gwariant cyffredinol; sut y caiff y cynigion gwariant eu hariannu, fel y symiau o’r grant bloc, trethiant, benthyca, cyllid preifat, cyfryngau dielw ac unrhyw ffynonellau eraill; lefel y benthyca cyfalaf a dyled; y rhesymeg dros lefelau trethiant; ystadegau, gwaith dadansoddi, a rhagolygon economaidd y mae’r Llywodraeth yn eu defnyddio wrth baratoi ei chyllideb; ac, wrth gwrs, raglen neu ddylanwad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae rôl y pwyllgorau polisi wrth graffu ar y gyllideb ddrafft yn bennaf yn nwylo pob un o’r pwyllgorau unigol. Ond mae’r broses hon yn caniatáu mwy o amser ar gyfer gwaith craffu gan y pwyllgorau polisi, a’r gobaith yw y bydd hyn yn golygu bod modd cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid, a bod pob pwyllgor yn gallu cyflwyno’i adroddiad ei hunan. Hefyd, mae pwyllgorau bellach yn gallu awgrymu newidiadau i gynlluniau gwariant, a gallant awgrymu ffyrdd o ariannu’r cynlluniau hyn drwy drethiant a benthyca.

Rhaid gweld yn awr sut mae’r broses newydd yn gweithredu. Ond bydd angen i ni ystyried sut y gall y Pwyllgor Cyllid gadw ei rôl oruchwylio, a sut y gall pwyllgorau gydweithio i ymgysylltu yn well â’r cyhoedd ym mhroses y gyllideb.

Wrth wneud argymhellion ar gyfer proses newydd y gyllideb, aeth Pwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad ar ymweliad â’r Alban i weld y broses yno ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft. Mae’n addas iawn felly bod y Pwyllgor Cyllid presennol, y pumed Cynulliad, newydd fod ar ymweliad â’r Alban yr wythnos diwethaf i gwrdd â’n chwaer bwyllgor yno a thrafod ei broses ar gyfer y gyllideb.

Argymhellion Pwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad oedd y dylem ni fel Cynulliad newid y broses gyllideb i un ddeddfwriaethol, ond nad oedd hynny, wrth gwrs, yn bosib bryd hynny. Nawr, wedi i’r Ddeddf Cymru fwyaf diweddar gael Cydsyniad Brenhinol, mae gan y Cynulliad hwn y cymhwysedd erbyn hyn i symud i broses ddeddfwriaethol. Mae’r ymweliad â’r Alban wedi cadarnhau fy marn i mai dyma yw’r cam nesaf y dylem fod yn ei gymryd yng Nghymru, a bydd y Pwyllgor Cyllid yn cychwyn ymchwiliad yn fuan a fydd yn ystyried sut y bydd hyn yn gweithio a phryd y dylem fod yn ystyried symud i broses ddeddfwriaethol lawnach.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio tuag at ddatblygu proses newydd y gyllideb—y Pwyllgor Cyllid presennol, wrth gwrs, ond y pwyllgor blaenorol yn ogystal, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ac, wrth gwrs, Jane Hutt fel y Gweinidog blaenorol. Hefyd, hoffwn ddiolch i’r swyddogion yma, ac yn Llywodraeth Cymru, am weithio mor galed y tu ôl i’r llenni i lunio’r cynigion hyn.

In short, Presiding Officer, these new arrangements allow all committees to spend a great deal more time—up to eight weeks—looking at the draft budget of the Welsh Government, preparing financial reports on that draft budget. And I hope that this will empower the Assembly to hold the Government to further account.

Diolch, Llywydd. Bydd cyllideb ddrafft nesaf Llywodraeth Cymru yn gweithredu ffordd wahanol o lunio’r gyllideb yng Nghymru. Nid yn unig y bydd yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, ond hefyd sut y bydd rhywfaint o’r arian hwnnw’n cael ei godi, fel y dywed Simon Thomas, gan ddefnyddio ein pwerau treth newydd—y rhai cyntaf ers 800 o flynyddoedd—a’n pwerau newydd i fenthyg. Mae’r rhain yn newidiadau sylfaenol i’r fframwaith cyllidol yng Nghymru, ac mae’n iawn fod gennym broses sy’n parhau i ddarparu craffu trwyadl ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, a’i chynlluniau cyllido bellach hefyd. Edrychwn ymlaen at roi’r broses newydd hon ar waith yn yr hydref, ac rwy’n falch fod y Pwyllgor Cyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar y cynigion hyn.

Yn wir, dechreuasom ar y llwybr hwn, fel y dywedwch, yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Buom yn ymweld â’r Alban ar yr achlysur hwnnw hefyd, ac wrth gwrs, rwy’n siŵr fod eich ymweliad diweddar wedi bod yn addysgiadol iawn. Fodd bynnag, wrth i ni symud ymlaen, wrth i’n pwerau codi trethi a benthyca newydd ymwreiddio, bydd ein cyllideb yn esblygu. Mae’r newidiadau hyn i Reolau Sefydlog a phrotocol y gyllideb yn darparu hyblygrwydd i sicrhau bod y broses o graffu ar y gyllideb yn parhau i fod yn ystyrlon, yn gymesur ac yn drwyadl, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i barhau i weithio gyda’r Pwyllgor Cyllid wrth i’r trefniadau newydd hyn gael eu sefydlu. Rydym hefyd yn croesawu gwaith y Pwyllgor Cyllid sy’n edrych ar broses cyllideb ddeddfwriaethol, fel y mae Simon Thomas wedi’i grybwyll. Rydym yn edrych ymlaen at glywed canlyniadau’r gwaith hwnnw maes o law o’r ymchwiliad sydd ar y gweill gennych. Yn gyffredinol, rydym yn cefnogi’r cynigion. Diolch.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yna yw: a ddylid y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yna.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei Ymchwiliad i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru

Y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw’r eitem nesaf, ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6334 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn heddiw o gael yr amser yn ystod wythnos y ffoaduriaid i drafod adroddiad ein pwyllgor ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Y cyd-destun ar gyfer yr ymchwiliad yw trasiedi rhyfel, ansefydlogrwydd, a phobl wedi’u dadleoli. Canfu astudiaeth ddiweddaraf y Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd ddydd Llun, fod 65.6 miliwn o bobl wedi’u dadleoli o’u hanfodd ar draws y byd ar ddiwedd 2016. Ar gyfartaledd, cafodd 20 o bobl eu gyrru o’u cartrefi bob munud y llynedd, neu un bob tair eiliad. Ac mae cyfanswm y bobl sy’n chwilio am ddiogelwch ar draws ffiniau rhyngwladol fel ffoaduriaid yn 22.5 miliwn, y nifer uchaf ers yr ail ryfel byd.

Mae lluniau a straeon y bobl sy’n dianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac, a gwledydd eraill yn drychinebus o gyfarwydd. Mae’r daith beryglus y mae llawer ohonynt yn ei gwneud i groesi Môr y Canoldir mewn cychod bach gorlawn wedi arwain at farwolaeth nifer enfawr o bobl, gyda llawer ohonynt yn blant, cyn iddynt gyrraedd y lan. Fel y clywodd y pwyllgor, mae’n debygol fod y rhai sy’n goroesi ac yn cyrraedd y DU, gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain, wedi profi digwyddiadau hynod drawmatig, sy’n gadael creithiau seicolegol parhaol, ac ar yr adeg hynod fregus hon yn eu bywydau, maent yn wynebu cyfres newydd o heriau anferth. Clywsom mai un ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw ‘Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun’. Rhoesom y datganiad grymus a thrawiadol hwn yn deitl ar ein hadroddiad. 

Roeddem yn ymwybodol, wrth benderfynu sut i fwrw ati gyda’n hymchwiliad, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw polisi lloches. Fodd bynnag, mae profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn dibynnu i raddau helaeth ar hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau a ddatganolwyd, ac felly mae’n perthyn i gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Yn ystod ein hymchwiliad, buom yn edrych ar gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’i chynllun cyflawni cydlyniant cymunedol. Cawsom dystiolaeth hefyd ynglŷn ag adsefydlu ffoaduriaid o Syria yng Nghymru, yn ogystal â chymorth ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ac sy’n wynebu heriau penodol. Yn ogystal â derbyn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar, buom ar ymweliadau yng Nghaerdydd, Abertawe, Glasgow a Chaeredin. Gohebwyd hefyd â’r Swyddfa Gartref a darparwr llety lloches yng Nghymru.

Gwelsom dystiolaeth o arferion da ledled Cymru. Mae’n amlwg, mewn llawer o fannau, ac mewn sawl ffordd, fod y gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yn gweithio’n effeithiol i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i addasu i fywyd yn ein cymunedau ac i gael y cymorth y maent ei angen. Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu partneriaid cyflenwi mewn nifer o feysydd. Mae angen iddi gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, adnewyddu ei chyfeiriad strategol, a chwarae rhan uniongyrchol yn y broses o gyflenwi.

Mae’n braf fod gwaith y pwyllgor wedi cael effaith sylweddol yn ystod yr ymchwiliad, a hynny cyn i ni ddod i gasgliadau hyd yn oed. Roeddem yn falch o ddau ddatblygiad allweddol cyn i ni gyhoeddi ein hadroddiad: yn gyntaf, ehangu rôl bwrdd gweithrediadau Llywodraeth Cymru i gynnwys yr holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches, nid rhaglen adsefydlu Syria yn unig. Yn ail, dywedodd rhanddeiliaid wrthym, yn sgil y sylwadau a wnaed i’r pwyllgor, a chan y pwyllgor, fod ymgysylltiad ystyrlon rhwng y sector preifat a’r trydydd sector mewn perthynas â llety lloches. Felly, mae ein gwaith eisoes yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.

Mae’r rhain yn gamau pwysig ac maent i’w croesawu, ond rydym yn wynebu heriau eang a chymhleth. Dyna pam y gwnaethom 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae 18 ohonynt wedi cael eu derbyn yn llawn neu mewn egwyddor.

Dirprwy Lywydd, mae’n bwysig i mi gofnodi yn y fan hon, er ein bod yn ceisio cael consensws yn ein gwaith fel pwyllgor, ar yr achlysur hwn, roedd yna un Aelod na allai gytuno ar yr adroddiad. Serch hynny, mae cytundeb y saith Aelod arall yn cynrychioli mwyafrif pwerus o blaid y newidiadau rydym am eu gweld.

Rydym wedi galw am ddiweddaru a gwella’r dull strategol. Mae hyn yn cynnwys tair prif elfen, gyda phob un ohonynt yn destun argymhelliad pwyllgor a dderbyniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, adolygu’r cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches—byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau y bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu, amserlenni ac adnoddau mesuradwy yn ogystal ag arferion gorau o’r Alban, gan gynnwys safonau gwasanaeth. Yn ail, sicrhau bod y bwrdd gweithrediadau yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn agored—rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu blaenraglen waith y bwrdd gyda’r pwyllgor. Yn drydydd, paratoi ar gyfer gweithredu Deddf Mewnfudo’r DU—byddai’n ddefnyddiol gwybod lle mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyrraedd yn ei drafodaethau â rhanddeiliaid a Llywodraeth y DU ar y mater pwysig hwn.

Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hwyluso integreiddio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i ddiweddaru’r cynllun cydlyniant cymunedol a byddwn yn croesawu cadarnhad y bydd hyn yn cynnwys ymgyrch gyhoeddusrwydd ledled Cymru, yn debyg i’r un yn yr Alban, a wnaeth argraff ar y pwyllgor.

Ochr yn ochr â’n hargymhelliad ynglŷn â’r cynllun cydlyniant, galwasom am gamau gweithredu ar y meysydd penodol a oedd yn peri pryder i randdeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y dylai rôl cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol gael ei hymestyn y tu hwnt i gefnogi ffoaduriaid Syria yn unig. Awgrymodd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet nad yw rôl y cydgysylltwyr yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn barhaol a byddwn yn croesawu eglurhad ar hyn. 

Roeddem yn cytuno â’r rhanddeiliaid mai rhwystr allweddol arall i integreiddio yw trafnidiaeth. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn cynlluniau trafnidiaeth rhatach i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Byddai’n ddefnyddiol pe gallem glywed mwy o fanylion y prynhawn yma am y rhesymau dros hynny, ac a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu mynd i’r afael â’r mater hwn mewn ffyrdd eraill.

Un maes ffocws penodol i’r pwyllgor, yn dilyn y dystiolaeth a gawsom, oedd y ddarpariaeth addysg Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill. Roeddem eisiau gweld gwelliannau ar gyfer y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ym mis Medi. Rwy’n derbyn bod yr amserlenni tynn ar gyfer gwneud hynny wedi arwain Ysgrifennydd y Cabinet i dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, i’w weithredu dros gyfnod ychydig yn hwy. Byddwn yn croesawu cadarnhad ynglŷn â’r amserlenni a sicrwydd y bydd y pwyntiau manwl a wnaed gan y pwyllgor yn cael sylw.

Roedd llety lloches yn faes allweddol arall o ddiddordeb i’r pwyllgor. Galwasom am fonitro a datrys cwynion am lety lloches yn well. Argymhellwyd adolygu’r contract llety lloches cyn iddo gael ei adnewyddu nesaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor, ac edrychaf ymlaen at glywed beth y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol. Roeddem hefyd eisiau i landlordiaid ceiswyr lloches gael eu cofrestru a’u harolygu. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn a byddwn yn croesawu manylion ynglŷn â sut y caiff ei roi ar waith.

Galwodd y pwyllgor hefyd am welliannau i gyngor a chefnogaeth yn ystod y broses o geisio lloches. Cafodd hyn ei dderbyn mewn egwyddor. Mae cymorth effeithiol ar ôl y broses o geisio lloches yn hanfodol, i ffoaduriaid ac i’r rhai na fu eu ceisiadau am loches yn llwyddiannus. Felly, cafodd ein hargymhellion ynglŷn â hyn, yn galw am fwy o help i ffoaduriaid ddod o hyd i lety, gwell mynediad at addysg a chyflogaeth a gweithredu i atal amddifadedd, eu derbyn mewn egwyddor hefyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ar anghenion penodol plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, llwyddodd y dystiolaeth a glywsom fod angen cefnogaeth fwy rhagweithiol i argyhoeddi’r pwyllgor, a dyna pam y galwasom am wasanaeth gwarcheidiaeth. Roeddem yn awyddus i sicrhau hefyd fod digon o gapasiti a gallu ar draws Cymru i gynnal asesiadau oedran, a chawsom dystiolaeth bwerus o’r angen i bennu safonau gofynnol ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Unwaith eto, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhellion ynglŷn â chymorth i blant, ac unwaith eto, byddai o gymorth i ni ac i randdeiliaid glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y bydd yn sicrhau ei fod yn bodloni byrdwn ein hargymhellion yn llawn, hyd yn oed os nad yw’n gallu ymrwymo i bob manylyn am resymau y bydd yn eu hegluro rwy’n siŵr.

Dirprwy Lywydd, rwy’n siŵr y bydd aelodau’r pwyllgor, yn ogystal ag Aelodau eraill yn y Siambr yma heddiw, yn dymuno tynnu sylw at rai o’r manylion mewn adroddiad sy’n eang a chynhwysfawr. Ond cyn i mi orffen, hoffwn dynnu sylw at yr argymhelliad olaf a wnaeth y pwyllgor, ac a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd Cynghrair Ffoaduriaid Cymru ein sylw at y saith cam i noddfa. Cafodd y rhain eu datblygu gan dros 20 o sefydliadau a chânt eu nodi yn ein hadroddiad. Rydym yn rhannu barn y gynghrair y dylai Cymru gymryd y camau hyn a dod yn genedl noddfa gyntaf y byd. Diolch yn fawr.

A gaf fi ddiolch i’r pwyllgor? Yn amlwg, nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond roeddwn o’r farn fod hwn yn waith clir a diamwys gyda ffocws go iawn, felly nid wyf yn synnu ei fod wedi bod yn ddylanwadol yn barod. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, oherwydd a barnu wrth y dystiolaeth a ddyfynnir yn yr adroddiad, roedd gennych ymagwedd agored ac ymatebol iawn i’r dystiolaeth a glywyd yno.

O ran cefnogaeth i ffoaduriaid Syria yn benodol, rwy’n meddwl y byddai’n deg nodi bod unrhyw lywodraeth—ac rydym yn siarad am fwy na dwy Lywodraeth yn hyn, wyddoch chi; mae yna sawl un ar draws cyfandir Ewrop—ychydig iawn o amser a gawsant i geisio rheoli nifer enfawr o bobl wedi’u dadleoli. Maent yn wynebu her enfawr, a chyda’r chynllunio gorau yn y byd, rwy’n meddwl bod y dyddiau cynnar enbyd iawn pan oedd y galw’n fwy na’r gallu i’w ateb—. Wyddoch chi, mae’n amlwg ei fod yn sioc i ni, ond mae angen inni ddeall bod hynny bron yn anochel.

Ond er hynny, John, efallai y byddwch yn cofio i mi ofyn i chi yn ôl ym mis Medi os oeddech yn mynd i edrych i weld pam nad yw Cymru ond wedi cymryd 112 o ffoaduriaid o Syria, a pham nad oedd 13 awdurdod lleol ar y pryd wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid o gwbl. Gallaf weld yn y dystiolaeth fod Unsain wedi dweud wrthych fod pa mor barod oedd awdurdodau lleol yn pennu cyflymder yr ymateb i bob pwrpas. Ond rwy’n meddwl tybed a lwyddodd y pwyllgor i fynd i wraidd hynny, i ganfod pam fod cynghorau fel Torfaen—sy’n haeddu eu llongyfarch yn fawr yn hyn—yn gallu gweithredu’n llawer cyflymach na chynghorau eraill, oherwydd byddai hynny’n sicr wedi effeithio ar allu’r Cenhedloedd Unedig a’r gweithwyr atodol i baru unigolion a wiriwyd cyn iddynt adael Syria gyda’r awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r adroddiad, pan ddechreuodd y system symlach weithredu, mae’n ymddangos iddo fod yn brofiad llawer gwell i’r rhai a’i hwynebodd.

Gallaf yn sicr weld yr atyniad o gael gwared ar y gwahaniaeth rhwng y cynllun adsefydlu pobl agored i niwed o Syria a’r llwybr lloches arferol. Rwy’n derbyn nad yw hwnnw’n fater ar gyfer y lle hwn. Ond mae yna gwestiwn, rwy’n meddwl, ynglŷn ag a ellir cael gwared ar y gwahaniaeth yn ddiogel heb i ddechrau’r broses gael ei leoli yn y wlad wreiddiol neu o leiaf yn agos iawn ati. Er hynny, rwy’n dymuno’r gorau i fwrdd gweithrediadau Llywodraeth Cymru wrth iddynt geisio sgwario’r cylch hwnnw, os oes cylch yno i gael ei sgwario, yn wir. Mae’n tynnu’n groes braidd i’r pryderon a fynegwyd gennych, John, am ddyfodol y cydgysylltwyr cydlyniant. Mae’n ymddangos ychydig yn rhyfedd, wyddoch chi, pan fyddwch yn siarad am gydraddoli dwy system, nad yw hynny’n ymestyn mor bell â’r cydgysylltwyr.

Daliodd y pwynt a wnaed am y cyfnod symud ymlaen 56 diwrnod fy llygaid yn sicr, fel y gwnaeth yr amrywiol argymhellion i helpu gydag integreiddio o safbwynt y ffoadur sy’n ceisio lloches, ac aelodau’r gymuned y byddant yn mynd iddi, wrth gwrs. Afraid dweud, rwy’n meddwl, fod angen i’r cynllun cydlyniant cymunedol fynd i’r afael â’r mythau sy’n ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid—eu hawliau, eu cymorth ariannol, eu gallu i weithio ac yn y blaen. Ond rwy’n credu bod angen iddo fod yn wirioneddol feiddgar a diysgog hefyd pan fyddwn yn sôn am blant, ar eu pen eu hunain neu fel arall. Oes, mae yna blant yng Nghymru sydd ag anghenion difrifol a bywydau yr ydym—. Dylem deimlo’n euog fod gennym blant o hyd sy’n byw fel y maent yn byw, ond plant yw plant, ac nid wyf yn poeni o ble y dônt—mae eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn hawliau y mae pawb ohonom wedi ymrwymo i’w cadw. Nid y darn o dir lle y dowch i’r byd a ddylai bennu lefel y cymorth y gallwch ei ddisgwyl os ydych yn digwydd bod yn blentyn yng Nghymru. Ni fydd gan blentyn ar ei ben ei hun unrhyw gyfrifoldeb am y penderfyniad i ddod i’r wlad hon a’r modd y cafodd ei wneud. Mae’n debyg y byddant wedi dioddef trawma aruthrol cyn i’r daith gychwyn hyd yn oed. Ni ellir eu hanwybyddu oherwydd bod gan blentyn sy’n byw yma eisoes anghenion mawr hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gobeithio bod yr argymhellion diweddarach hyn yn yr adroddiad wedi gwneud argraff go iawn arnoch, fel y maent wedi’i wneud arnaf fi. Rwy’n cofio mai Leanne Wood, rwy’n meddwl, a gyflwynodd un enghraifft o stori a glywsoch am blentyn ar ei ben ei hun, a’r erchyllterau roedd wedi’u hwynebu—dod i mewn drwy Calais a wnaeth. Plentyn ydyw—nid oes ots gennyf o ble y daeth. Ni ddylai neb fynd drwy’r profiad hwnnw.

Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud llawer, mewn gwirionedd, fod pobl sy’n dod i’r wlad hon mewn amgylchiadau enbyd yn aml yn gweld dysgu Saesneg gweithredol yn llawn gymaint o flaenoriaeth â thai gweddus a mynediad at gymorth cymdeithasol ac ariannol. Rhaid bod yr anallu i gyfathrebu yn brofiad mwy unig na dim arall. Rwy’n gwybod bod hyn yn ddrud, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n derbyn y bydd yn cymryd amser, ond ceir argymhellion yn yr adroddiad hwn ynglŷn â defnyddio myfyrwyr a gwirfoddolwyr, o dan arweiniad proffesiynol, a allai helpu i gyflymu hyn ychydig bach mewn gwirionedd. Wrth gwrs—cydgynhyrchu, wyddoch chi—gadewch i ni ddefnyddio rhai o’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches sydd wedi meithrin rhai sgiliau eu hunain, gan fod eu gwirfoddoli yn fwy cyffredinol yn allweddol hefyd i wella eu sgiliau cyfathrebu, eu hyder, eu rhwydweithio a sgiliau eraill sy’n gwella cadernid meddyliol, a gwn ein bod wedi siarad am hyn o’r blaen.

Mae gennyf ddigon o eiriau eraill i’ch llongyfarch chi, John, a’r pwyllgor, ond fe adawaf y rheini ar gyfer diwrnod arall gan nad oes gennyf ragor o amser. Diolch.

Rydym yn canmol pwyllgor arall yr wythnos hon, felly, Suzy—mae yna thema’n ymddangos yma. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor—y rhan fwyaf o aelodau’r pwyllgor—am gytuno i’r adroddiad hwn. Mae’n un o’r profiadau mwyaf boddhaus a gefais ers amser hir. Yn aml iawn, mae’n bosibl y byddwn yn mynd i ddigwyddiadau allgymorth lle y ceir nifer weddus o bobl yn bresennol, ond nid yw’n gymaint ag y gallem fod wedi’i ddisgwyl weithiau. Euthum i’r YMCA yn Abertawe ac roedd y lle’n orlawn o bobl—pobl yn disgyn allan drwy’r drysau am nad oedd digon o le iddynt ymuno â mi a Joyce Watson, a oedd yno ar ran y pwyllgor.

I mi, y peth mwyaf oedd eu bod am gael eu clywed a’u bod yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn y wlad yr oeddent wedi’i chyrraedd, sef Cymru. Roeddent eisiau i ni wleidyddion ddeall eu bod yn haeddu cael y llais hwnnw a’u bod yn deilwng o’r llais hwnnw, a gwneuthum addewid o’r diwrnod hwnnw ymlaen y byddwn yn gwneud yn siŵr y byddwn yn ceisio eu cynrychioli hyd eithaf fy ngallu.

Y maes a oedd yn peri fwyaf o bryder iddynt yn y cyfarfod cyhoeddus arbennig hwnnw oedd tai. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, mewn gwirionedd, am fod mor flaengar—mae wedi caniatáu i mi gyfarfod â gweision sifil i drafod y materion penodol hyn. Rwyf wedi cyfarfod â chyngor Abertawe hefyd, ac maent wedi dweud wrthyf yn syth eu bod hwy hefyd, oherwydd y newidiadau ac argymhellion y pwyllgor, yn cyflwyno newidiadau i’r protocol ar gyfer archwilio adeiladau.

Ond yr hyn y gallem ei weld yn glir iawn oedd bod rhai o’r adeiladau roedd pobl yn byw ynddynt yn ofnadwy—yn gwbl ofnadwy. Ni ddylai neb orfod byw mewn adeiladau o’r fath, pa un a ydynt yn dod o Syria, neu o Irac neu o Aberfan—ni ddylent orfod byw mewn adeiladau yn y fath gyflwr. Felly, rwyf wedi cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda Clearsprings ar sawl achlysur bellach i wneud archwiliadau o gartrefi, ac maent yn newid eu harferion. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu clywed yn glir gan Clearsprings, a’u bod yn cael eu clywed gan Lywodraeth y DU pan fyddant yn bwrw ymlaen i adnewyddu’r contract hwnnw.

Mae angen i ni gael proses fonitro sy’n fwy llym; mae angen i ni gael hyfforddiant cydraddoldeb ar gyfer staff, oherwydd clywsom gan geiswyr lloches nad oeddent yn cael eu trin yn deg mewn llawer o achosion gan y rhai a ddôi i mewn i’w hadeiladau; ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod yna weithdrefn gwyno annibynnol, os nad mecanwaith cwynion annibynnol. Roedd llawer o bobl yn teimlo’n anghyfforddus yn ffonio Clearsprings am mai hwy oedd y cwmni a oedd wedi bod yn fwyaf gelyniaethus tuag atynt wrth iddynt gyrraedd y DU. Rwy’n gobeithio bod y rheini’n bethau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â hwy ac yn mynd ar eu trywydd.

Cawsom lawer o dystiolaeth hefyd gan y rhai a ddaeth i’r pwyllgor eu bod yn awyddus i ddatganoli’r cyfrifoldeb hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn gwirionedd, a byddwn hefyd yn gobeithio, felly, y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwthio i allu gwneud hynny. Gwn fod y sector tai yma’n dweud eu bod yn gymwys ac yn gallu gwneud hynny, felly pam na ddylid ei ddatganoli, pan fo gennym yr holl gyfrifoldebau tai eraill yma yn y lle hwn?

O ran meysydd eraill o ddiddordeb, roeddwn yn meddwl bod yr hyn a ddywedodd un seiciatrydd a ddaeth i roi tystiolaeth yn wirioneddol ddirdynnol. Dywedodd fod gan lawer o bobl ifanc a gyrhaeddodd y DU glefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Roedd hyn, i mi, yn rhywbeth ofnadwy i’w glywed yn rhan o sesiwn dystiolaeth. Felly, nodaf eich ymateb yn dweud bod mwy o arian yn mynd tuag at CAMHS, ond beth y gallwn ei wneud yn benodol ar gyfer y bobl hyn, sydd wedi mynd drwy drawma na fyddwn byth yn gallu ei ddeall, ac wedi mynd drwy brofiadau na fyddwn byth yn gallu mynd i’r afael â hwy? Felly, pa hyfforddiant penodol y gallwch ei ddarparu ar gyfer swyddogion CAMHS a fyddai’n wahanol i’r ffordd y byddent o bosibl yn ymdrin â chyflyrau eraill yma yng Nghymru?

Mater arall i mi—mae gennyf gymaint ar yr agenda hon, fel y gallwch weld—rwyf wedi cyfarfod â cheiswyr lloches ac maent wedi dweud, ‘Ydw, rwyf am ddysgu Saesneg neu Gymraeg, ond rwyf am allu gwneud hynny mewn ffordd sy’n berthnasol i mi’. Felly, cyfarfûm â phlwmwr o Syria sy’n byw yng Nghastell-nedd, ac mae’n dweud, ‘Wel, rwyf am ddysgu Saesneg, ond rwyf eisiau gallu gwneud mwy na mynd i mewn i ystafell ac eistedd yno. Mae academia yn eistedd wrth fwrdd, mewn gwirionedd, yn codi ofn go iawn arnaf. Felly, a gaf fi ddilyn cwrs prentisiaeth mewn gwaith plymio neu offer trydanol, ond a gaf fi ddysgu Saesneg drwy’r cwrs penodol hwnnw?’ Dywedodd nad oes dim ar gael iddo allu gwneud hynny ar hyn o bryd. Felly rwy’n gobeithio bod hynny’n rhywbeth, unwaith eto, os nad yw wedi’i adlewyrchu’n uniongyrchol yn yr adroddiad—nawr fy mod wedi sôn amdano, y gallwch edrych arno ymhellach, Ysgrifennydd y Cabinet.

Yn yr amser sydd gennyf yn weddill, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r materion diwylliannol ac integreiddio. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gweld hyn fel cyfrifoldeb i’r ffoaduriaid yn unig i integreiddio yn ein plith; fod angen i ni newid ein hagweddau tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches hefyd. Mae’n wirioneddol anffodus fod un aelod o’r pwyllgor wedi dosbarthu rhyw ddogfen nad oedd yn cynrychioli’r safbwyntiau a glywsom yn y pwyllgor. Rydym yn falch fel cenedl o groesawu ffoaduriaid, ac rydym yn falch o gefnogi’r ffoaduriaid hynny ac ni ddylem osgoi gwneud hynny.

Cyfarfûm â ffoadur o Irac yr wythnos diwethaf a oedd wedi colli pob aelod o’i deulu yn sgil y gwrthdaro yn Irac. Roedd cael gwared ar Saddam Hussein yn ymddangos yn syniad da i lawer ar y pryd, yn 2003, ond ni wrandawyd ar y geiriau o rybudd—y byddai’n arwain at danio gwrthdaro sectyddol nad oedd gan y rhan fwyaf o bobl yn y wlad hon, yn gwbl deg, fawr iawn o ddealltwriaeth ynglŷn â’i gymhlethdod. Y rhyfel cartref sydd wedi ffrwydro—yr ymladd sectyddol—ni allai’r ffoadur hwn fod wedi talu pris uwch. A oedd gennym ddyletswydd i gynnig lloches i’r unigolyn hwn ac eraill tebyg iddo? Wrth gwrs bod.

Pan fydd ceiswyr lloches yn cael eu dosbarthu gyntaf i Gymru, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd Lynx House ar Heol Casnewydd yn fy etholaeth. Ar ôl tair neu bedair wythnos mewn llety hostel, cânt eu rhoi wedyn mewn llety dros dro—gallai hynny fod yng Nghaerdydd, gall fod yng Nghasnewydd, gall fod yn Abertawe neu ymhellach efallai. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd sy’n ceisio lloches yn amddifad, ac wedi cyrraedd heb fawr mwy na’r dillad sydd amdanynt. Mae ein hymchwiliad yn amlygu’r ffaith mai plant yw rhwng 13 a 20 y cant o’r boblogaeth amddifad leol.

Mae’n ffaith drist fod budd-daliadau ceiswyr lloches yn rhy isel i ddiwallu anghenion sylfaenol y gymuned hon mewn gwirionedd ac un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd yn syml iawn yw nad oes ganddynt arian i dalu am daith fws i gyrraedd gwasanaethau. Felly, mae’n rhaid iddynt gerdded neu fynd ar feic. Felly, mae’n arbennig o bwysig fod gwasanaethau ar gael yn agos at Lynx House, oherwydd yn amlwg, dyna ble y ceir crynodiad o geiswyr lloches. 

Roeddwn eisiau talu teyrnged i aelodau o’r gymuned sydd wedi ymateb i’r her ac sy’n darparu gwasanaethau, yn bennaf ar sail wirfoddol, gan nodi’r ffaith fod Caerdydd yn ddinas noddfa ar gyfer y rhai sy’n ceisio lloches rhag rhyfel ac erledigaeth a bod hynny’n golygu rhwydwaith o bobl sy’n barod i hyrwyddo partneriaethau gwirfoddol yn bennaf i gefnogi pobl sy’n chwilio am loches yma.

Er enghraifft, mae canolfan ffoaduriaid Oasis, yr ymwelodd y pwyllgor â hi, wedi’i lleoli mewn hen gapel Methodistiaid yn Sblot. Sefydlwyd Oasis Caerdydd yn 2008, ac mae wedi helpu cannoedd o bobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth wleidyddol o ystod eang o wledydd a lethwyd gan ryfel a gwrthdaro—ac mae ein Llywodraeth wedi helpu llawer ohonynt, neu wedi methu osgoi gwneud hynny. Mae’n meddu ar naw aelod o staff rhan-amser a dwsinau, yn llythrennol, o wirfoddolwyr, gan fod o leiaf 150 o bobl yn cerdded drwy’r drws bob dydd. Pan oeddem yno, roedd o leiaf 35 o bobl mewn ystafell i fyny’r grisiau i gyd yn cael gwers Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill gan un gwirfoddolwr—roedd yn olygfa anhygoel.

Yn fy etholaeth, nad yw mor bell â hynny o Oasis, ceir Canolfan y Drindod, sydd wedi’i lleoli mewn hen gapel Methodistaidd arall. Dros y pum mlynedd diwethaf, maent wedi darparu cartref i o leiaf dri sefydliad gwirfoddol. Mae Space4U yn gweithredu system galw heibio sy’n cynnig gwybodaeth, gwersi Saesneg, banc bwyd a dillad, sesiynau crefft, yn ogystal â bwyd a diod a chyfeillgarwch. Mae yna grŵp rhieni a phlant bach sy’n gysylltiedig â Space4U yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos, ac mae’n agored, nid yn unig i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ond i aelodau o’r gymuned leol yn ogystal, ac felly mae’n gyfle gwych i bobl ryngweithio ac i ymarfer yr ychydig Saesneg a allai fod ganddynt. Hefyd, mae yna rywbeth o’r enw Home4U, sy’n gweithio’n agos gyda Space4U, i gynnig llety dros dro mewn adeiladau gwag a roddwyd ar fenthyg i’r prosiect.

Mae un o fy etholwyr yn chwarae rôl strategol yn goruchwylio’r gwasanaethau hyn, heb ei rwystro gan y ffaith ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson, a chefais yr anrhydedd o’i enwebu ef a’i wraig i fynychu garddwest y Frenhines i gydnabod ei gyfraniad i’r gymuned, er gwaethaf ei anabledd.

Yn wyneb yr ymosodiad terfysgol erchyll yr honnir iddo gael ei gyflawni gan un arall o fy etholwyr yr wythnos hon, roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cofnodi bod y rhan fwyaf o fy etholwyr yng Nghanol Caerdydd yn fwy na pharod i estyn llaw cyfeillgarwch. Diolch i chi am wrando ar fy nghyfraniad.

Diolch i’r Cadeirydd am gyflwyno adroddiad y pwyllgor gerbron y Siambr. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â gwella sefyllfa ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar ôl iddynt gyrraedd Cymru, ac i’r perwyl hwnnw, mae’n ymdrech deilwng. Clywyd llawer o dystiolaeth fanwl iawn yn ymwneud â chyflwr byw ffoaduriaid yng Nghymru, a gallodd nifer o aelodau’r pwyllgor dynnu sylw’n fedrus at hyn. Ac ynddo’i hun, mae’r awydd i wella cyflwr byw ffoaduriaid yn nod canmoladwy.

Fodd bynnag, mae’n rhwym y bydd yna feini tramgwydd posibl wrth lunio adroddiad o’r fath. Un maen tramgwydd yw’r perygl o ddarparu gwasanaethau i ffoaduriaid sy’n mynd y tu hwnt i’r gwasanaethau a ddarperir i aelodau cyffredin o’r cyhoedd. Er enghraifft, gallwn geisio gwella cyflwr tai ar gyfer ffoaduriaid, ond efallai na fydd hyn i’w weld yn dderbyniol i rannau helaeth o’r cyhoedd, os yw’n golygu bod yn rhaid iddynt lithro ar ôl y ffoaduriaid yn y ciw am dai cymdeithasol.

Na. Y mater tai yw’r maen tramgwydd mwyaf amlwg efallai, ac un sy’n cael ei drafod yn eithaf aml ymhlith y bobl rwy’n dod ar eu traws yn fy mywyd o ddydd i ddydd pan fo materion yn ymwneud â ffoaduriaid yn cael eu crybwyll.

Yn gysylltiedig â darparu tai, mae mater cyllido. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, cawsom ein cynghori’n gryf ar un pwynt gan y Gweinidog perthnasol, Carl Sargeant, i beidio â lobïo am bwerau ychwanegol heb gael sicrwydd o arian ychwanegol yn gyntaf. Rhybuddiodd fod hyn wedi’i wneud yn y gorffennol, ac roedd problemau wedi codi o ganlyniad i hynny. Pan fyddaf yn edrych ar yr argymhellion sy’n dod yn awr, rwy’n ei chael yn anodd gweld bod unrhyw arwydd o arian ychwanegol yn dod gan y Swyddfa Gartref neu o unrhyw adran arall yn San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru ei hun yn ystyried sefydlu cronfa grantiau bach i osgoi amddifadedd ar gyfer ceiswyr lloches aflwyddiannus, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae hwn yn arian sy’n dod o gyllideb Llywodraeth Cymru ei hun. Felly, pa wasanaethau fydd yn rhaid eu torri mewn rhan arall o’r gyllideb i ganiatáu ar gyfer hyn? A beth bynnag, nid ydym yn gwybod a fydd unrhyw arian yn dod.

Un o’r pwyntiau a godai’n rheolaidd yn y sesiynau tystiolaeth oedd bod amddifadedd yn anochel ymysg ceiswyr lloches aflwyddiannus, gan nad oedd unrhyw fudd-dal lles iddynt os oedd eu cais cychwynnol yn methu. Ond nid oes unrhyw ddull cytunedig o’u hailwladoli i’w gwlad wreiddiol chwaith. Nid oes gan y rhan fwyaf ohonynt arian i dalu am eu dychweliad. O ganlyniad, mae llawer o’r ceiswyr lloches aflwyddiannus yn aros yn y DU ac yn diflannu oddi ar y map. Mae’n system wirioneddol hurt. Ni allwn obeithio newid y system hon yng Nghymru gan nad yw’r pwerau i wneud hynny yn ein dwylo ni. Ond gyda’r adroddiad hwn, rydym yn ceisio dod yn genedl noddfa gyntaf y byd, a allai annog llawer mwy o geiswyr lloches i geisio dod yma. Rwy’n ofni mai effaith anochel mwy o bobl yn dod heb ddiwygio dim ar y system loches ymlaen llaw fydd mwy o amddifadedd. Diolch.

Rwyf am ddatgysylltu fy hun, fel rwy’n siŵr y bydd pawb arall yma sydd â meddwl rhesymol yn ei wneud, oddi wrth sylwadau’r siaradwr blaenorol. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y cyflwyniad i’r adroddiad, dyma oedd ymchwiliad mawr cyntaf y pwyllgor, ac fe’i cyflawnwyd ar adeg pan ydym yn wynebu’r argyfwng ffoaduriaid byd-eang gwaethaf ers yr ail ryfel byd. Ac yn wleidyddol, cafodd ei lansio yn y misoedd ar ôl y bleidlais Brexit, a heb amheuaeth, fe luniodd yr argyfwng ffoaduriaid rai o’r dadleuon Brexit ynglŷn â sefydlogrwydd a chynaliadwyedd yr UE. Ond yn fwy eang, ymddangosai ar y pryd fod mudiadau cenedlaetholgar yn ysgubo drwy’r cyfandir, ond yn dilyn methiannau diweddar pleidiau poblyddol Ewrosgeptig mewn etholiadau yn Ffrainc, Awstria a’r Iseldiroedd, a gwrthdroadau yn y Ffindir, yr Eidal a’r Almaen, efallai bod y llanw wedi troi.

Er hynny, ar y pryd, roedd rhai pobl yn dadlau na ddylai’r pwyllgor flaenoriaethu dioddefaint ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Gwrthododd fy nghyd-aelod UKIP o’r pwyllgor gymeradwyo’r adroddiad, er na chrybwyllodd unrhyw wrthwynebiad o gwbl yn ystod yr ymchwiliad ei hun. Ond fe symudaf ymlaen o hynny. Yn bersonol, rwy’n falch o’r adroddiad hwn, ac rwy’n credu ei fod yn adlewyrchu’n dda ar y Cynulliad hwn ac ar Gymru ein bod yn ymgymryd â’r gwaith hwn. Yn yr un modd, rwy’n meddwl bod papur amgen Gareth Bennett, sy’n dwyn yr enw ‘Wales’ Refugee Problem’, yn adlewyrchu’n wael ar ei blaid—fawr ddim tystiolaeth, a llawer iawn o ragfarn.

Ond at ei gilydd, cafwyd llawer o gefnogaeth i’r ymchwiliad. Darparodd grwpiau fel grŵp cefnogi ffoaduriaid y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth gipolwg go iawn ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad, ac un o’r materion a nodwyd ganddynt oedd datgysylltiad canfyddedig rhwng y grwpiau gwirfoddol hynny a’r gwasanaethau dan arweiniad proffesiynol. Rwy’n meddwl bod grŵp Powys yn dangos y gorau o haelioni ac ewyllys da ein cenedl, ac er ein bod angen cydgysylltiad proffesiynol wrth gwrs, byddai’n anghywir mygu brwdfrydedd ar lawr gwlad gan fiwrocratiaeth lawdrwm. A hoffwn gofnodi fy niolch i bob gwirfoddolwr, pwy bynnag y bônt, sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, a chroeso cynnes Cymreig.

Dychwelaf at yr adroddiad a nodaf un neu ddau o’r argymhellion. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad sy’n ymwneud â masnachu mewn pobl, rwy’n arbennig o bryderus ynglŷn â dioddefaint plant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain. Felly, mae’n galonogol fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad ynglŷn â gwasanaeth gwarcheidiaeth plant ar gyfer Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod hynny’n rhywbeth y mae’r grŵp trawsbleidiol rwy’n ei gadeirio wedi ymgyrchu drosto ers amser hir iawn. Rwyf am ganolbwyntio ar hyn yn iawn, gan fy mod yn gwybod bod plant, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn cael mynediad at eiriolaeth, ond rwy’n awyddus iawn i wahaniaethu rhwng eiriolaeth a gwarcheidiaeth. Mae gwarcheidwaeth yn golygu bod rhywun, pwy bynnag y bônt, yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol i siarad ar ran y plentyn, pwy bynnag y bônt, fel nad oes rhaid iddynt ailadrodd eu straeon dirdynnol dro ar ôl tro pan fyddant yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau y mae cymaint o’u hangen arnynt. Ac rwy’n credu bod angen inni feddwl am hynny o safbwynt eu lles, eu llesiant a’u gallu iechyd meddwl i wneud hynny. Rwyf am roi enghraifft: pan gefais y fraint o gyfarfod â pherson ifanc a oedd wedi dod i’r DU fel plentyn ar ei ben ei hun, dywedodd wrthyf ei fod yn bwriadu hyfforddi i fod yn feddyg. Dangosodd yr unigolyn ifanc ostyngeiddrwydd a thosturi, er gwaethaf y driniaeth a ddioddefodd ar ei daith yma. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd y rhinweddau hynny’n cael eu defnyddio—wedi iddo gymhwyso—gan yr unigolyn hwnnw i bwy bynnag a allai fod eu hangen. Mae’n ddigon posibl y bydd yn defnyddio’r rhinweddau hynny pan ddaw’n feddyg teulu neu’n feddyg yn nes ymlaen mewn bywyd, ac y bydd mewn gwirionedd yn dangos ychydig o ostyngeiddrwydd a thosturi wrth rai o’r bobl sy’n siarad yn ei erbyn.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl bwysig hon. Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond fe hoffwn longyfarch y pwyllgor a’r Cadeirydd am y gwaith helaeth a wnaed ar yr adroddiad hwn ac rwy’n credu ei bod yn dda iawn ein bod yn gallu ei drafod yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn llawer o argymhellion y pwyllgor. Ac er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r polisi lloches yn gyffredinol wrth gwrs, fel y mae’r adroddiad yn dweud yn glir, rwy’n cytuno ei bod yn hollbwysig ein bod yn gwneud ein gorau glas yma yng Nghymru i wneud bywydau pobl a’u teuluoedd yn well pan fyddant yn cyrraedd fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig pan fydd y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio yn gyfrifoldeb i ni. Felly, credaf fod gennym rôl glir yn y broses hon gan ein bod yn gwybod bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn wynebu llu o broblemau pan fyddant yn cyrraedd y wlad hon—tai gwael, problemau gydag iaith a hefyd, rwy’n meddwl, ein diffyg dealltwriaeth ni yn aml, gan y cyhoedd, o’r amgylchiadau a adawsant ar eu holau, gan fy mod yn meddwl bod yna ddiffyg dealltwriaeth gyffredinol o rai o’r amgylchiadau erchyll y mae ceiswyr lloches wedi’u gadael.

Mae eisoes wedi cael ei grybwyll heddiw: y gwaith da sy’n cael ei wneud yn croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac rwy’n falch iawn fod gan Gaerdydd 52 o sefydliadau sy’n ymroddedig i weithio gyda’i gilydd mewn grŵp rhwydweithio Dinas Noddfa. Gwn fod yna grwpiau eraill yn Abertawe, y Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth, a chroesawaf yr argymhelliad yn y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu saith cam i ddod yn genedl noddfa.

Ond mae rhai o’r materion sy’n effeithio’n fwyaf dwfn ar geiswyr lloches yn arbennig yn faterion sy’n rhan o benderfyniadau Llywodraeth y DU, ond maent yn effeithio arnynt yn fawr iawn yma. Un o’r problemau mwyaf a dynnwyd i fy sylw gan geiswyr lloches dros y blynyddoedd, mewn gwirionedd, yw’r ffaith nad ydynt yn gallu gweithio, ac rwy’n meddwl mai dyna un o’r problemau mawr sydd wedi achosi anawsterau mawr o ran eu gallu i integreiddio’n hawdd, gan fod gan lawer ohonynt, yn amlwg, y cymwysterau a’r sgiliau sydd eu taer angen arnom.

Tuag at ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf euthum i ddigwyddiad yn y Pierhead, a oedd yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng y BBC World Service a Radio Wales, a daeth pobl i’r Pierhead a oedd wedi dod i’r wlad hon fel ceiswyr lloches ac roeddent yn ysu am gael gweithio. Ac nid am resymau ariannol yn unig, ond oherwydd eu bod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r wlad a oedd wedi rhoi lloches iddynt. Roedd gan lawer o’r ceiswyr lloches rwyf wedi eu cyfarfod dros y blynyddoedd sgiliau y mae eu gwir angen arnom. Rwyf wedi cyfarfod â meddygon, athrawon, pobl a allai ein helpu’n fawr fel gwlad, ond fel y mae pethau, ni chânt wneud cais am ganiatâd i gael gwaith ar restr galwedigaethau prin swyddogol y DU oni bai eu bod wedi aros am fwy na 12 mis i’w cais gael ei benderfynu, a lle na ystyrir eu bod wedi achosi’r oedi eu hunain. Felly, rwy’n gwybod mai penderfyniad Llywodraeth y DU yw hwn, ond rwy’n teimlo y dylem wyntyllu hyn yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan ei fod yn effeithio i’r fath raddau ar bobl sydd yma’n byw yn ein gwlad, felly roeddwn am dynnu sylw at hynny. 

Cafwyd cryn drafodaeth eisoes ynglŷn â thai, ac rwy’n falch iawn ynglŷn â’r cynnydd a wnaed a’r gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i symud ymlaen. Ond un o argymhellion yr adroddiad yw y dylid gwneud asesiad uniongyrchol o Ddeddf Mewnfudo y DU 2016 a’r effaith y mae honno’n mynd i’w chael yng Nghymru. Gwn fod hyn wedi cael ei ddwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet sawl gwaith gan y pwyllgor, ac roeddwn eisiau gofyn a oes unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â phryd y cyflwynir y profion hawl i rentu. A fyddant yn cael eu cyflwyno yng Nghymru? Sut y bydd yn effeithio ar deuluoedd? A fydd yn effeithio ar deuluoedd â phlant ac a yw hyn yn debygol o arwain at fwy o risg o amddifadedd? Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu, wedi ceisio cael eglurhad gan y Swyddfa Gartref, felly roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gallai ei ddweud wrthym heddiw mewn ymateb i hynny.

Yn olaf, rwyf am orffen drwy sôn am blant. Rwy’n credu ei bod yn bendant yn destun cywilydd nad ydym fel cenedl ond yn caniatáu nifer cyfyngedig iawn o blant sy’n ceisio lloches a phlant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain i mewn, er gwaethaf holl ymdrechion yr Arglwydd Dubs i gael y gwelliant hwnnw wedi’i basio yn Nhŷ’r Arglwyddi. Deallwn o’r adroddiad fod Llywodraeth y DU wedi cau’r cynllun yn dawel bach gyda dim ond 350 wedi’u dwyn i Brydain. Felly, rwy’n credu bod hyn yn warth llwyr, yn gywilydd llwyr, oherwydd, fel y mae pobl eraill wedi’i ddweud yn y ddadl hon, plant yw plant yw plant. Ni waeth beth sydd wedi digwydd iddynt, o ble bynnag y daethant, mae angen iddynt gael eu croesawu yma yng Nghymru, ac rwy’n credu ei bod yn drueni mawr fod Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar eu nifer yn y modd hwn.

Fel aelod o’r pwyllgor, rwyf finnau hefyd am groesawu’r adroddiad hwn. Mae’n waith cynhwysfawr yn wir. Cadeiriwyd y pwyllgor yn fedrus iawn gan John Griffiths, ac rwy’n awyddus hefyd i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith staff ein pwyllgor a’n cynorthwyodd yn fedrus.

Yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar rai o’r argymhellion yn yr adroddiad ‘"Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun" Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru’. Roedd argymhelliad 4 yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cynllun cyflawni cydlyniant cymunedol cenedlaethol 2016-17, ac yn pwysleisio:

‘Dylai’r cynllun diwygiedig gynnwys strategaeth gyfathrebu sy’n pwysleisio manteision mewnfudo i gymdeithas Cymru ac yn chwalu mythau ac anwiredd mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.’

Gwelsom rai o’r rhain yn cael eu disgrifio’n gynharach.

Yn yr ychydig fisoedd trawmatig diwethaf ar yr ynysoedd hyn, gwelsom sut y mae eithafwyr a chanddynt wahanol ideolegau gwyrdroëdig wedi ceisio creu rhaniadau a chasineb, ac rydym hefyd wedi gweld ymateb anhygoel y gymuned o undod a chariad ar draws y gwahanol grwpiau cymunedol a chan unigolion. Nodaf ymateb Llywodraeth Cymru eu bod hefyd wedi

‘ariannu’r Rhaglen Hawliau Lloches, a hynny drwy’r Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant, er mwyn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i greu adroddiadau i’r cyfryngau a’r rheini’n herio stereoteipiau negyddol.’

Mae hyn yn hanfodol, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y pryder cyhoeddus a’r anesmwythyd ynglŷn â sut yr adroddwyd am yr ymosodiadau terfysgol diweddar yn y cyfryngau print prif ffrwd. Portreadwyd yr ymosodiadau erchyll ym Manceinion, San Steffan a phont Llundain fel gweithredoedd yn seiliedig ar derfysgaeth a gyflawnwyd gan derfysgwyr, ac eto roedd papur newydd ‘The Times’, ddoe ddiwethaf, yn ei brif bennawd ar ei dudalen flaen yn cynnwys yr ymadrodd emosiynol ‘lone wolf’ i ddisgrifio’r terfysgwr diweddaraf yn y DU, gan gyfeirio’n amlwg hefyd at yr elfennau lliniarol posibl yn sgil problemau iechyd meddwl yr unigolyn gwyn a ddrwgdybir. Er mwyn pob un o’n dinasyddion, rhaid peidio â gwahaniaethu. Cyflawnir ymosodiadau terfysgol gan derfysgwyr, ni waeth beth yw eu lliw croen. Pwysleisiaf hyn oherwydd ei bod yn hanfodol na cheir canfyddiad ein bod yn stigmateiddio un gymuned dros un arall.

Mae argymhelliad 15 yn dweud

‘y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at addysg a chyflogaeth drwy’

dri phrif gam: yn gyntaf,

‘hyrwyddo Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru mor eang ag y bo modd’

yn ail,

‘ei gwneud yn ofynnol bod prifysgolion Cymru yn trin ffoaduriaid fel myfyrwyr cartref’

ac yn drydydd, i greu,

‘mwy o gyfleoedd ar gyfer interniaethau sector cyhoeddus’.

Cefais fy nghalonogi fod Llywodraeth Cymru, yn ei ymateb, yn bendant

‘yn cydnabod pwysigrwydd addysg a chyflogaeth er mwyn integreiddio pobl yn effeithiol mewn cymdeithas’,

ac y bydd yn diweddaru’r polisi Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill ar gyfer Cymru ac yn mapio’r ddarpariaeth Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill fel y mae ar hyn o bryd. Nodaf fod cynllun cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru yn cynnwys y nod i Lywodraeth Cymru ei hun ddod yn batrwm o amrywiaeth a chynhwysiant erbyn 2020. Mae’n rhaid bod hynny’n iawn hefyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru, a ninnau yma, fel Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, arddangos i’r genedl Gymreig y bydd Cymru bob amser yn wlad agored, oddefgar, amlddiwylliannol ac amrywiol.

Cefais fy nharo gan ansawdd y sylwadau a gyflwynwyd i’r pwyllgor—rwyf finnau hefyd, fel eraill, wedi cyfarfod â cheiswyr lloches a ffoaduriaid fel rhan o’r gwaith hwn a thu allan iddo—a Chymdeithas y Plant, a helpodd i ddisgrifio’n glir i mi rai o’r materion allweddol sy’n ymwneud â gweithredu Deddf Mewnfudo 2016 yng Nghymru, y soniodd Julie Morgan amdani eisoes. Mae hyn yn ennyn pryder mawr yn Lloegr. Mae’n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i’n hadroddiad o blaid gwerthuso Deddf Mewnfudo 2016 ar brofion hawl i rentu yn Lloegr. Ond dylai’r broses o gyflwyno hyn gael ei gwerthuso gan yr Ysgrifennydd Cartref cyn ei chyflwyno ledled Cymru, o ganlyniad i gynnydd yn y pryderon a leisiwyd gan landlordiaid, tenantiaid a gafodd eu gwrthod a gwaith adroddiad y Cydgyngor er Lles Mewnfudwyr—bydd yr holl faterion o’r fath yn cyfrannu heb amheuaeth at y cynnydd yn y troseddau casineb a gofrestrwyd ac yr adroddwyd yn eu cylch.

Yn olaf, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn ddweud ein bod i gyd, yma, yn y lle hwn—hoffwn ddweud—yn meddu ar yr ewyllys, yr awydd a’r ysgogiad i fynd i’r afael â’r heriau niferus hyn, gan fod hynny er budd ein holl ddinasyddion, a dyngarwch, gwerthoedd a gweddusrwydd pobl Cymru sy’n ein gyrru fel cynrychiolwyr yn hyn o beth ac yn yr adroddiad hwn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am eu hadroddiad ystyriol ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am yr amser a roddwyd a’r ymdrech a wnaed gan y rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cefnogi ffoaduriaid i sicrhau bod y broses hon mor gynhwysfawr â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi ffoi rhag rhyfel, trais ac erledigaeth yn gallu cyflawni eu potensial. Mae gan Gymru hanes balch o ddarparu noddfa i ffoaduriaid o bob cwr o’r byd, a bydd y traddodiad hwn yn parhau. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo ffoaduriaid drwy ddatblygu diweddariad o’r cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan roi ystyriaeth lawn i adroddiad y pwyllgor a’r argymhellion. Gofynnodd John Griffiths, a gadeiriodd y pwyllgor yn fedrus, ‘Pa bryd fydd hyn yn digwydd?’ Byddwn yn ymgynghori ar y cynllun drafft yn yr hydref, gan gynnwys y ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches yn y broses honno.

Dirprwy Lywydd, ni allwn anwybyddu’r ffaith fod llawer o’r cyfrifoldeb sy’n ymwneud â pholisi lloches wedi’i gadw’n ôl i Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn golygu mai Llywodraeth y DU a ddylai weithredu’r atebion i rai o’r problemau pwysig a heriol a godwyd gan y pwyllgor. Byddwn yn gweithio gyda hwy i gyflawni hyn, er enghraifft drwy drafod atebion posibl i wella pethau yma yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys safon llety lloches, proses gwynion annibynnol, argaeledd rhagor o gyllid ar gyfer trafnidiaeth, llythyrau atgoffa mewn perthynas â sgrinio iechyd a ffyrdd o osgoi amddifadedd ymhlith ceiswyr lloches a ffoaduriaid newydd. Yn wir, Bethan Jenkins, rydym wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn â chyflwr peth o’r llety a oedd yn gwbl warthus o ystyried bod disgwyl i bobl fyw ynddo.

Rydym hefyd yn rhoi camau ar waith ein hunain ac yn buddsoddi mewn cymorth sylweddol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys oddeutu £1 filiwn dros y tair blynedd nesaf, o dan y rhaglen Hawliau Lloches, a bydd y gwaith hwn, dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’u partneriaid, yn darparu cyngor a chefnogaeth o ansawdd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn ystod eang o amgylchiadau. Rwyf hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer adsefydlu plant agored i niwed o dan gynllun Dubs, ac rwyf finnau hefyd, fel Julie Morgan, wedi fy siomi fod Llywodraeth y DU wedi cau’r cynllun hwnnw. Bydd hyn yn cefnogi gwaith i feithrin gallu mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau y gallant ymateb i anghenion y plant hyn, a phlant yw’r plant hyn, fel y nododd Suzy Davies.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ar gyfer y Prosiect Tai i Ffoaduriaid i gynorthwyo unigolion sydd wedi cael statws ffoadur i integreiddio i gymdeithas Cymru. Buddsoddwyd cyllid ychwanegol yn ddiweddar i hyfforddi clinigwyr iechyd meddwl i drin anhwylder straen wedi trawma mewn ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n blant ac yn oedolion. Cynhyrchodd y pwyllgor nifer o argymhellion yn ymwneud â materion datganoledig, ac fe nodaf y rhain yn awr.

Rwy’n cydnabod pryder y pwyllgor ynglŷn ag ymddangosiad system ddwy haen ers cyflwyno rhaglen ffoaduriaid Syria. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i leihau hyn, gan weithio i sicrhau bod pob ffoadur yn gymwys i gael mynediad at gynlluniau integredig yng Nghymru, er ein bod yn cael ein cyfyngu, unwaith eto, gan amodau cyllido Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid i ni weithio o fewn y cyfyngiadau hynny, ond byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu yn hynny o beth.

Rydym eisoes wedi ehangu cylch gwaith tasglu a bwrdd gweithrediadau Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddwn yn gofalu ein bod yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau a chanllawiau a gynhyrchwn, gan gynnwys y cynllun cyflawni a’r cynllun cydlyniant cymunedol, yn addas ar gyfer amgylchiadau’r holl grwpiau ffoaduriaid cyn belled ag y bo modd.

Rydym yn cydnabod hefyd fod darparu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill yn hanfodol ar gyfer integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddwn yn diweddaru’r polisi Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill erbyn mis Mawrth 2018 ac yn gweithio gyda chydgysylltwyr Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru i fapio darpariaeth ffurfiol ac anffurfiol a nodi rhwystrau, ac atebion yn wir, i sicrhau mynediad at ddysgu.

Un eiliad; fe wnaf. Wrth gwrs, lle bo hynny’n briodol, byddwn hefyd yn annog ffoaduriaid i gael mynediad at ddarpariaeth Cymraeg i oedolion, yn rhan o’r egwyddor honno. Ar fy ymweliad ag un o’r canolfannau yng Nghaerdydd, gwelais wirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn, gan gynnwys ffoaduriaid yn cynorthwyo ffoaduriaid eraill yn y rhaglen Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill. Fe gymeraf yr ymyriad.

A gaf fi ofyn pam mai 2018 fydd hyn? Oherwydd clywsom gan rai tystion a oedd yn dweud eu bod yn gorfod gwirfoddoli am nad oedd neb arall i wneud hynny. A allwn gael rhywfaint o frys o ran y posibilrwydd o edrych ar hyn yn gynharach oherwydd, ar hyn o bryd, maent o dan gymaint o bwysau fel y credaf fod hyn yn rhywbeth sy’n galw am ei archwilio?

Fe nodaf gyfraniad yr Aelod, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i roi’r manylion pam ein bod wedi gosod y dyddiad ar gyfer 2018. Mae’n rhywbeth i’w wneud â’r ffrydiau ariannu mewn perthynas â hynny, ond fe edrychaf ar hynny’n fwy gofalus.

Rwyf hefyd yn derbyn yr egwyddorion sy’n sail i argymhellion y pwyllgor ynghylch gwarcheidiaeth, y gwasanaeth gwarcheidiaeth a chronfa amddifadedd. Byddwn yn edrych i weld a yw’r cynlluniau hyn ar gael ac yn ddymunol, gan gyfeirio at ddatblygiadau mewn rhannau eraill o’r DU a’r cyd-destun Cymreig unigryw mewn perthynas â hynny hefyd.

Nid wyf wedi mynd ar drywydd cyfraniadau’r Aelodau yn fanwl heddiw, heblaw fy mod am nodi cyfraniad Gareth Bennett. Cefais fy synnu gan ei gyfraniad. Lle dywedodd y bydd pobl eraill yn cael eu gorfodi i lawr y rhestr i gefnogi rhoi tai i ffoaduriaid, a gaf fi ddweud mai myth yw hyn? Mae’n rwtsh llwyr, a byddwn yn gobeithio na fyddai’r Aelod yn defnyddio’r cyfraniad hwnnw eto. Mae cyffredinoli ffoaduriaid, fel y mae Gareth Bennett wedi’i wneud heddiw, yn beryglus, yn anwybodus ac yn sarhaus. Rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, a ydym yn credu bod y plant hyn mewn dingis rwber, sy’n symud ar draws y cefnforoedd a’r moroedd mwyaf peryglus, yn gwneud hynny’n ysgafn a thrwy ddewis? Yn aml yn ffoi rhag gwrthdaro, rhyfel a hil-laddiad, rhaid iddynt edrych am hafan ddiogel, ac rwy’n synnu at gyfraniad yr Aelod yma heddiw.

Yn olaf, rwy’n cefnogi’n gryf y syniad o ddatblygu Cymru fel cenedl noddfa. Fodd bynnag, heb reolaeth ar bolisi mewnfudo, byddai’n anodd iawn cyflawni rhai o gamau’r ‘Saith Cam i Noddfa’, ond o ran hyn, sydd wedi’i nodi gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru, byddaf yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i geisio goresgyn rhai o’r materion hynny. Nid yw’n fater o beidio â bod eisiau cymryd rhan. Serch hynny, fel rhan o’r broses o ddatblygu ein cynllun cyflawni newydd, byddwn yn archwilio materion pellach i benderfynu pa gynnydd y gellir ei wneud. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at fodloni’r argymhellion hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y misoedd nesaf.

Yn olaf, i nodi un o’r pwyntiau mewn perthynas â phrofion hawl i rentu yng Nghymru, rwy’n rhannu pryderon yr Aelodau—Julie Morgan a Rhianon Passmore. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt werthuso’r cynllun. Rwy’n dal i aros am ateb gan Lywodraeth y DU i fy llythyrau, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny gyda fy nhîm dyddiadur.

A wnewch chi gymryd ymyriad? Rwy’n bryderus iawn—

[Yn parhau.]—ynglŷn â’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynglŷn â’r contract preifat ar gyfer tai a’r ffaith na reoleiddir y landlordiaid hyn, gan nad yw’n gontract tenantiaeth â landlord. Ac roeddwn yn meddwl tybed a allwch ddweud ychydig mwy am hynny.

Yn dilyn y trafodaethau a gefais o’r blaen gyda Bethan Jenkins ynglŷn ag a allem gynnwys y rhain yn y cynllun Rhentu Doeth Cymru, rwyf wedi gofyn i fy nhîm roi rhagor o gyngor i mi ynglŷn â ble y gellid cynnwys hyn, i weld a oes rhagor o reoleiddio y gallwn ei wneud ar yr egwyddor hon. Ond fel y soniodd Bethan Jenkins, rydym wedi cael trafodaethau gyda rhai awdurdodau lleol sydd bellach yn mynd ar drywydd hyn mewn perthynas â materion yn ymwneud â mannau derbyniol i fyw ynddynt. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau pan gaf ragor o wybodaeth am hynny.

Yn olaf, caiff Cymru ei chyfoethogi gan amrywiaeth y diwylliannau sy’n cael eu hadsefydlu yma, a byddwn yn parhau i groesawu hynny. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, i ymateb i’r ddadl.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ni fyddaf yn gallu ymdrin â’r holl bwyntiau, gan mai amser cyfyngedig yn unig sydd gennyf, ond a gaf fi ddechrau drwy groesawu’r ddadl eang ac angerddol a glywsom y prynhawn yma? Rwy’n credu ei bod yn adlewyrchu pwysigrwydd y materion hyn, ac mae hefyd yn adlewyrchu’r ymrwymiad y mae aelodau’r pwyllgor a’r clercod, a’r rhai a roddodd dystiolaeth ac a ymgysylltodd â gwaith y pwyllgor, wedi’i ddangos i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i helpu i ddatblygu ffyrdd posibl ymlaen. Rwy’n credu ei fod yn dyst, mewn gwirionedd, i Gymru yn ei chyfanrwydd mai’r hyn a welsom ar draws y wlad, wrth gymryd tystiolaeth a mynd ar ymweliadau, yw bod cymunedau o ddifrif eisiau croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Gymru, ac eisiau eu cynorthwyo pan fyddant yma. Pan fo cysylltiad personol o’r fath—wyddoch chi, y gymuned sy’n rhoi llety, fel petai, ffoaduriaid a cheiswyr lloches—mae stereoteipiau a mythau’n chwalu yn gyflym iawn, ac mae wedi bod yn brofiad calonogol a chadarnhaol iawn.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Suzy Davies am dynnu sylw at rai o’r materion yn ymwneud â pha mor barod yw awdurdodau lleol. Rwy’n credu ein bod wedi gweld bod anawsterau cyfathrebu yno sydd angen eu datrys, ac mae rhagor o waith i’w wneud ar hynny. Dangosodd Bethan ymrwymiad ac angerdd mawr ynghylch materion llety, ac yn wir y materion yn gyffredinol, a ddaeth ag ymdeimlad o frys gwirioneddol ac effeithiolrwydd, yn fy marn i, i waith y pwyllgor. Mae llawer o’r materion sy’n ymwneud â Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill a’r hyblygrwydd yn hanfodol bwysig, oherwydd mae’n amlwg, os nad oes gennych Saesneg o’r safon sydd ei hangen i allu gweithredu’n llawn fel dinesydd yma, yna mae’n eich cyfyngu o ran cyflogaeth, o ran gwirfoddoli, o ran deall y gwasanaethau sydd ar gael a chyfathrebu i’r graddau sy’n angenrheidiol. Felly mae hynny, rwy’n meddwl, yn ymwneud â phopeth a glywsom a phopeth yr hoffem ei weld yn cael ei wneud.

Jenny, roedd y ganolfan Oasis yn Sblot yn ysbrydoli’n fawr, ac roedd ymrwymiad y gwirfoddolwyr, fel y sonioch, yn galonogol i ni i gyd, rwy’n credu. Joyce, unwaith eto, mae’r ymrwymiad i blant a phlant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches a’r materion gwarcheidiaeth drwy eich gwaith yn y grŵp trawsbleidiol ac yn y pwyllgor hwn yn eithriadol o bwysig.

Rwy’n meddwl bod pwynt Julie Morgan ynglŷn â gallu gweithio, methu gallu gweithio, y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig, wedi mynd at wraidd llawer o’r hyn a glywsom mewn gwirionedd, ac yn wir, dyna a roddodd deitl i’r adroddiad—’Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun’—oherwydd mae gan y bobl hyn gymaint o brofiad, a chymaint o sgiliau lefel uchel, maent yn cynnig cymaint, ac mae’n drueni mawr fod y cyfyngiadau hyn ar waith i atal y cynnig gwych i Gymru rhag dwyn ffrwyth yn y ffordd amserol y dylai wneud.

Rhianon, ar strategaeth gyfathrebu, rwy’n meddwl bod yr Alban wedi creu argraff fawr arnom ac roeddwn yn meddwl bod yr hyn y maent yn ei wneud i chwalu’r stereoteipiau a’r mythau, a’r ffordd y maent yn cyfeirio at geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n dod i’r Alban fel ‘Albanwyr newydd’ yn gadarnhaol tu hwnt, ac maent wedi adeiladu cymaint o gwmpas hynny.

Gareth—rwyf finnau, hefyd, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn gresynu at sylwadau Gareth Bennett. Rwy’n meddwl bod y syniad y dylem sicrhau rywsut fod safonau llety’n is na’r rhai sydd ar gael yn gyffredinol yng Nghymru yn anghywir ym mhob ffordd. Mae’r syniad fod pobl sy’n profi rhyfel, erledigaeth a dadleoli yn ymchwilio polisïau mewn gwledydd o gwmpas y byd i ddewis pa un y gallant fynd iddi ar sail yr haelioni sydd ar gael, a’r canfyddiadau rheini, yn eithriadol o annhebygol.

Dirprwy Lywydd, gallaf weld bod fy amser wedi dod i ben, ond a gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen yn awr at weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, a’r holl randdeiliaid, i sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni ac yn helpu ein cymunedau i gynorthwyo pobl sy’n chwilio am ddiogelwch yn yr hyn y gobeithiaf y daw’n genedl noddfa.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Gadael yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen at eitem 8 ar yr agenda, sef dadl Plaid Cymru ar Brexit a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig y cynnig—Steffan.

Cynnig NDM6336 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.

2. Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â’r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig y cynnig yn ffurfiol yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae hon yn ddadl amserol, yn dod fel y mae ar y diwrnod y cawsom Araith y Frenhines a oedd yn drwm o Brexit, ac yn ystod yr wythnos pan ddechreuodd trafodaethau ffurfiol rhwng y DU a’r UE. Dyma’r wythnos hefyd pan fo Llywodraeth Cymru wedi ymhelaethu ymhellach ar y cynigion a gyhoeddwyd gyntaf yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, y Papur Gwyn ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gynnal datganoli a chreu strwythurau llywodraethu ar y cyd rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU wedi inni adael yr UE.

Cyn mynd ymhellach, DIrprwy Lywydd, hoffwn fachu ar y cyfle ar ran Plaid Cymru i egluro’r sefyllfa yn dilyn sylwadau rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd fy mhlaid ddoe ar fater aelodaeth o’r farchnad sengl. Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog, ac rwy’n dyfynnu:

‘mae ei phlaid eisoes wedi cytuno na allwch chi fod yn aelod o’r farchnad sengl heb fod yn aelod o’r UE. Dyna’r hyn a gytunwyd gennym ni, os yw hi’n cofio hynny.’

Yn y modd cryfaf posibl, rwyf am gofnodi nad yw hynny’n wir, nid yw erioed wedi bod yn wir, ac na fydd byth yn wir chwaith. Safbwynt Plaid Cymru, ers y diwrnod ar ôl y refferendwm y llynedd, yw y dylai’r DU barhau’n aelod o’r farchnad sengl yn dilyn ein hymadawiad â’r UE. Ar 21 Medi y llynedd, cyflwynwyd cynnig gennym yn y Cynulliad hwn yn galw am ganlyniad o’r fath, cynnig a gafodd ei drechu, yn anffodus, gan wneud y Senedd hon y gyntaf yn yr ynysoedd hyn i gefnogi’r hyn a elwir yn Brexit caled.

Safbwynt Llywodraeth Cymru oedd nad oedd aelodaeth o’r farchnad sengl yn bodoli y tu allan i’r UE. Nid yw hwnnw’n safbwynt a rennir gan Blaid Cymru. Fodd bynnag, cymerodd y ddwy blaid ran adeiladol mewn proses a arweiniodd at gyhoeddi Papur Gwyn ar y cyd, yn cydnabod y gallai ‘mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl’, yr ymadrodd a ffafriai Llywodraeth Cymru, ac ‘aelodaeth o’r farchnad sengl’, yr ymadrodd llaw-fer cyffredin a ddefnyddir gan bron bawb arall, fod yr un fath â’i gilydd mewn gwirionedd.

Dyna pam, drwy gydol y Papur Gwyn ar y cyd, y mabwysiadwyd yr ymadrodd newydd, ‘cymryd rhan yn y farchnad sengl’, i ddarparu ar gyfer y ddau safbwynt hwnnw. Roedd yn darparu sylfaen ar gyfer parch a chydweithio er budd cenedlaethol. Llywydd, mae’n fater o onestrwydd i mi na ddylai fy safbwynt a safbwynt fy mhlaid gael eu camfynegi, ac mae’n destun gofid mawr fod hynny wedi digwydd ddoe.

Mae’n bwysig am mai mater aelodaeth o’r farchnad sengl yw’r mater sy’n diffinio ein cyfnod bellach. Mae Llywodraeth leiafrifol Dorïaidd yn San Steffan, a’i thrwyn yn gwaedu ar ôl etholiad cyffredinol y DU yn ddiweddar, wedi rhoi cyfle i bob un ohonom sy’n ceisio osgoi Brexit caled sicrhau perthynas gyda’r UE yn y dyfodol sy’n cynnal ein budd economaidd ac yn sicrhau parhad yn y bartneriaeth wleidyddol gyda’n cyfeillion a’n cynghreiriaid ar y cyfandir—cyfle a oedd yn ymddangos yn bell ychydig wythnosau’n ôl. Yn wir, rwy’n croesawu’n fawr iawn y darn a gyhoeddwyd ddoe yn ‘The Guardian’ gan fwy na 50 o wleidyddion, yn galw am barhau ein haelodaeth o’r farchnad sengl. Roedd llawer o Gymru ymhlith ei awduron, yn cynnwys Madeleine Moon, Stephen Doughty, yr Arglwydd Hain, Ann Clwyd a Chris Bryant.

Mae ein cynnig heddiw yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad hwn i’r Papur Gwyn yng Nghymru, y cyhoeddiad mwyaf cynhwysfawr a gyhoeddwyd hyd yma yn y DU yn fy marn i ar y berthynas gyda’r UE yn y dyfodol, a’r fframwaith ar gyfer diogelu cyfansoddiad Cymru. Rydym yn nodi gyda gofid mawr fod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn amharod ar hyn o bryd i ymgysylltu’n briodol â’r Llywodraethau a’r Seneddau datganoledig ar Brexit sy’n gweithio i bawb. Yn wir, mae’n adlewyrchiad o natur anghytbwys yr undeb gorganolog ac anghyfartal hwn fod y trafodaethau pwysicaf a gafwyd erioed mewn cyfnod o heddwch wedi cychwyn heb fod unrhyw gynnig wedi’i wneud hyd yn oed ar drafodaethau llawn a phriodol rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn, heb sôn am fod wedi’u cwblhau.

Credaf y bydd ymagwedd aros i weld Llywodraeth y DU yn cael ei hamlygu’n fuan iawn fel un sy’n anghynaladwy, yn annheg ac yn anfoddhaol i bobl Cymru. Ni allant fforddio aros i weld pan fo tynged eu swyddi a’u cymunedau yn y fantol.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi Papur Polisi Llywodraeth y DU ‘The United Kingdom’s exit from, and new partnership with, the European Union’ sy’n nodi ein bod eisoes wedi ymrwymo na chaiff unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig eu tynnu oddi arnynt ac y byddwn yn defnyddio’r cyfle i ddwyn y broses o wneud penderfyniadau yn ôl i’r DU i sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn cael eu datganoli.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn glir am ei bwriad i gael cytundeb wedi’i deilwra sy’n gweithio i’r DU gyfan, sy’n sicrhau’r fasnach fwyaf rhydd bosibl o ran tariff a rhwystr â’n cymdogion Ewropeaidd, drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch. Rydym yn dathlu’r ffaith mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Senedd genedlaethol Cymru ac rwy’n falch o gynnig gwelliannau 1 a 2, gan nodi bod papur polisi Llywodraeth y DU ym mis Chwefror 2017, ‘The United Kingdom’s exit from, and new partnership with, the European Union’, yn datgan:

rydym eisoes wedi ymrwymo na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu dwyn oddi wrthynt a byddwn yn manteisio ar y cyfle i ddod â’r broses o wneud penderfyniadau yn ôl i’r DU er mwyn sicrhau bod mwy o benderfyniadau’n cael eu datganoli.

Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud yn glir iawn ei bod eisiau cytundeb pwrpasol sy’n gweithio ar gyfer y DU gyfan, gan groesawu’r fasnach fwyaf didariff a dirwystr sy’n bosibl gyda’n cymdogion Ewropeaidd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House ym mis Ionawr,

byddai bod ar y tu allan i’r UE ond yn aelod o’r farchnad sengl yn golygu cydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r UE sy’n gweithredu...y "4 rhyddid" i nwyddau, cyfalaf, gwasanaethau a phobl.

Ychwanegodd:

I bob pwrpas byddai’n golygu peidio â gadael yr UE o gwbl. A dyna pam y dywedodd y ddwy ochr yn ymgyrch y refferendwm yn glir y byddai pleidlais i adael yr UE yn bleidlais i adael y farchnad sengl.

Yn lle hynny, meddai’r Prif Weinidog,

rydym yn ceisio cymaint o fynediad â phosibl ati drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol.

Yn fwy diweddar, dywedodd hefyd fod angen i ni

sicrhau ein bod yn cael y cytundeb masnach cywir fel y gall ffermwyr barhau i allforio eu cynnyrch i’r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd... i fasnachu o amgylch gweddill y byd.

Hyn ac nid Brexit caled yw nod datganedig Llywodraeth y DU wedi bod drwyddi draw. Er, fel y dywedodd y Prif Weinidog, pe baem yn cael gwared ar ein safbwynt negodi ar unwaith drwy wrthod y syniad o gerdded ymaith heb gytundeb, byddai Brwsel wrth ei bodd. Fel y dywedodd y Canghellor y penwythnos diwethaf, byddai peidio â chael cytundeb yn gytundeb gwael, er y byddai un a luniwyd yn bwrpasol i gosbi yn waeth.

Wrth i drafodaethau symud ymlaen yn awr, mae’n fuddiol i’r ddwy ochr gydnabod na all fod ond dau enillydd neu ddau gollwr. Y DU yw partner allforio mwyaf yr UE, gan warantu miliynau o swyddi. Mae o fudd enfawr i’r UE gytuno ar gytundeb masnach rydd cyfeillgar i’r DU a’r UE. Y DU yw partner masnachu mwyaf ond un Iwerddon o ran gwerth, a’r mwyaf o ran cyfaint. Mewn cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Iwerddon ddydd Llun, clywodd y pwyllgor materion allanol y dylai mater yr ardal deithio gyffredin gael ei ddatrys heb unrhyw broblem go iawn, ac na fyddai Brexit yn cau’r fantais amser o ddefnyddio pont dir y DU i gael mynediad at farchnadoedd y cyfandir. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor y penwythnos diwethaf:

Fe allwn, ac mae’n rhaid inni gyflawni ewyllys y bobl. Gallwn adlewyrchu mandad y mwy na 80% o ASau y mae eu maniffestos wedi’u hymrwymo i gefnogi Brexit.

Os ydym yn ei gael yn iawn, meddai,

(ac mae llawer mwy o ewyllys da ar y ddwy ochr nag y meddyliech), yna gallwn sicrhau partneriaeth ddofn ac arbennig â’r UE; UE cryf wedi’i gadarnhau gan, ac yn cefnogi Teyrnas Unedig gref—ac sy’n dal i fasnachu a chydweithio’n agos â’i gilydd hefyd.

Rydym yn mynd i gyflawni,

dywedodd,

nid Brexit meddal neu Brexit caled—ond Brexit agored, un sy’n sicrhau bod y DU yn dal i droi tuag allan, ac yn ymwneud mwy â’r byd nag erioed o’r blaen.

Roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le. Ni allwch fod yn aelod o’r farchnad sengl heb fod yn aelod llawn. Er bod Jeremy Corbyn a John McDonnell wedi mynnu bod Llafur wedi ymrwymo’n ffurfiol i fynd â Phrydain allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau, dywedodd Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid Lafur y penwythnos diwethaf y dylai’r opsiwn o barhau aelodaeth y DU o undeb tollau’r UE gael ei adael ar y bwrdd. Mae hyn yn groes i reddf gan y byddai’n atal y DU rhag trafod cytundebau masnach ryngwladol y tu allan i’w haelodaeth o’r farchnad sengl, ac fel y clywsom hefyd yn Iwerddon ddydd Llun, gallwch adael yr undeb tollau a pharhau i gael trefniadau tollau wedyn.

I ailddatgan, mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau fframweithiau wedi’u cytuno ar draws y DU sy’n parchu’r setliad datganoli wrth i gynlluniau a mentrau cyllido gael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn croesawu’r cadarnhad felly, yn y nodiadau i gyd-fynd ag Araith y Frenhines heddiw, y bydd y Bil diddymu, sy’n trosglwyddo deddfwriaeth bresennol yr UE i gyfraith y DU, yn drefniant trosiannol i ddarparu sicrwydd yn syth ar ôl gadael ac yn caniatáu trafodaeth ac ymgynghori manwl â’r gweinyddiaethau datganoledig o ran ble y mae angen fframweithiau cyffredin parhaol. Rwy’n pwysleisio ein bod yn credu bod yn rhaid cytuno ar y fframweithiau hynny. Diolch.

Diolch i Blaid Cymru am ddod â’r drafodaeth bwysig yma i’r adwy heddiw. Mae’r drafodaeth, wrth gwrs, yn dilyn o’r drafodaeth ddoe ar Brexit a datganoli, ac, wrth gwrs, mae hefyd yn rhoi cyfle inni heddiw i ystyried rhai o’r pwyntiau sydd yn Araith y Frenhines. Mae bron yn flwyddyn ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd—penderfyniad rydw i’n meddwl fydd yn dal i greu canlyniadau andwyol dros ben ar ein heconomi ac ar swyddi yn ein gwlad ni.

Now, we’ll be discussing some of the consequences of Brexit, a year on, at a conference that I’m hosting in Hay-on-Wye this weekend, where we’ll hear a whole range of experts, including Sir Keir Starmer, Lord John Kerr, the author of article 50, and Neil Kinnock, the former Vice President of the European Commission, along with lots of other business and trade union and academic experts. There are a few tickets left, if anyone would like to join us.

Un peth fyddwn ni’n ei drafod yn y gynhadledd yw’r ffordd y mae canlyniadau’r etholiad wedi newid y sefyllfa. Rwy’n credu ac yn gobeithio bod Brexit caled ar ben, ac rydw i’n mynd i ddiffinio Brexit caled, achos rydw i’n meddwl bod hynny’n un o’r problemau—nid oes neb cweit yn deall beth yw Brexit caled. Rydw i’n meddwl mai Brexit caled yw un sy’n rhoi rhwystro mewnfudo yn flaenoriaeth o flaen pob penderfyniad arall yn y drafodaeth. Rydw i’n obeithiol nawr y byddwn ni’n symud tuag at Brexit synhwyrol, un meddal, sydd yn rhoi swyddi a’r economi yn flaenoriaeth dros bopeth arall. Ond ni fydd gobaith i ni ennill y ddadl yma os na fydd ein pleidiau ni’n cydweithredu lle mae hynny’n bosibl. Rydw i’n falch i glywed bod Steffan Lewis yn cytuno â hynny heddiw, ac rydw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i ni gydweithredu. Mae angen i ni dawelu’r rhethreg, rydw i’n meddwl, os yn bosibl. Mae’r mater yma yn un bwysig dros ben i’n gwlad ni. Mae’n rhoi rôl ein gwlad a’n pobl yn gyntaf. Y ffaith yw ein bod ni mewn trafodaeth gyda 27 o wledydd eraill. So, mae 27 yn erbyn un. Er fy mod i’n teimlo’n angerddol tuag at yr Undeb Ewropeaidd, rydw i’n teimlo mwy o angerdd fyth tuag at fy ngwlad i, ac rydw i yn meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael y gorau posibl i Gymru ac i’r Deyrnas Unedig.

Heddiw, rydym wedi clywed yr araith frenhinol; beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Prydain. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei bod hi eisiau gweld Brexit sy’n gweithio i Brydain oll. Ond, sut mae hynny’n bosibl os nad yw hi wedi siarad gyda Chymru? Nid oes dal ddim trafodaeth wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ar y ‘great repeal Bill’, er ei fod e yn araith y Frenhines heddiw, ac rydw i’n siŵr bod drafft ohono ar gael. Rydw i’n falch i weld bod Carwyn Jones wedi cyhoeddi ddoe fod Llywodraeth Cymru yn edrych nawr ar baratoi ‘continuity Bill’ rhag ofn bod y ‘great repeal Bill’ yn sefyll ar draed Llywodraeth Cymru. Mae’n hollbwysig bod y pwerau sy’n perthyn i Gymru, ac a fenthycwyd i’r Undeb Ewropeaidd pan sefydlwyd y Cynulliad, yn dod yn ôl yn uniongyrchol yma. Nid oes nodi yn Araith y Frenhines heddiw, mewn perthynas ag amaeth na physgota, bod unrhyw rôl gan Lywodraeth Cymru; jest brawddeg bach yn cymryd yn ganiataol y bydd polisïau cenedlaethol newydd yn cael eu cyflwyno.

Jest ar y pwynt yna, a ydy hi’n rhannu’r pryder sydd gennyf i, fod y frawddeg sydd yn Araith y Frenhines sy’n dweud na fydd pwerau’n cael eu tynnu oddi ar y Cynulliad ddim yn unrhyw ateb i beth a ddaw o’r pwerau hynny sydd nawr ar lefel yr Undeb Ewropeaidd, ac a ddylai ddod yn syth i’r Cynulliad hwn yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Wel, nid wyf yn meddwl bod beth sydd yn Araith y Frenhines yn ei gwneud hi’n ddigon clir yn union ble—y ffaith y dylai’r pwerau yna ddod yn uniongyrchol yn ôl atom ni. Mae’r ffaith ei bod hi’n sôn, ac yn cymryd yn ganiataol, y bydd yna bolisi amaethyddol dros Brydain, heb unrhyw ymgynghoriad, rydw i’n meddwl, yn cymryd y Siambr yma yn ganiataol; nid yw’n dderbyniol. Byddwn i’n hoffi gofyn i’r Aelodau mwy goleuedig yn y Blaid Dorïaidd sydd yn y Siambr heddiw i gael gair bach tawel i egluro i Theresa May sut mae datganoli yn gweithio.

Mae’n ddiddorol i weld bod Bil tollau a Bil fydd yn galluogi Prydain i ffurfio ei gytundebau masnach ei hunan yn mynd i gael eu cyflwyno. Fe fydd dim ond angen y biliau yma os ydym ni’n gadael y ‘customs union’. Ond nid wyf yn meddwl y dylai Theresa May gymryd yn ganiataol y bydd yna fwyafrif yn y Senedd i adael y ‘customs union’. Dyma pam rydw i’n poeni rhywfaint—. Rydw i wedi addo i Steffan Lewis na fyddaf yn gas, so nid wyf eisiau gwneud rhyw bwynt mawr am hyn, ond mae trydydd pwynt Plaid Cymru yn cynnig ger ein bron ni heddiw—. Tra fy mod i’n cytuno’n llwyr y dylai’r Cynulliad gael rôl mewn cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd, gan, wrth gwrs, y bydd yn cael effaith arnom ni, nid wyf, ar hyn o bryd, yn gyfforddus gyda’r eirfa yn y cynnig, sydd yn derbyn y ffaith y byddwn ni’n gadael y ‘customs union’, gan sôn am gytundebau gyda gwledydd eraill yn y ffordd mae wedi’i ysgrifennu. So, rydw i’n gobeithio y bydd Plaid Cymru yn derbyn y pwynt am y rhesymau rydw i wedi’u hegluro. Nid wyf am wneud pwynt mawr ohoni—ond dyna pam mae jest gyda fi rhywfaint o ofid ein bod ni’n derbyn ein bod ni’n dal yn mynd i adael y ‘customs union’. Nid wyf yn meddwl y dylem ni. Diolch.

Wrth gwrs, yn dilyn ymlaen o’r pwynt hwnnw, mae’r ddeddfwriaeth ymbaratoi yn Araith y Frenhines heddiw, a oedd yn cyfeirio at y cytundebau masnach—roeddent yn creu adran gyfan, wrth gwrs, at yr union ddiben hwn, felly mae Llywodraeth y DU yn amlwg yn dal i ffafrio’r llwybr hwn.

Mae’r pwynt am yr undeb tollau yn cael ei wneud yn dda. Nid yw’n wir, wrth gwrs, fod aelodaeth o’r farchnad sengl a chytundebau masnach yn anghydnaws â’i gilydd. Yn wir, mae aelodau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop—y mae pob un ohonynt, i bob pwrpas, drwy wahanol ddulliau, oddi mewn i’r farchnad sengl, naill ai drwy drefniant dwyochrog yn achos y Swistir neu drwy’r Ardal Economaidd Ewropeaidd—yn rhydd i gytuno ar gytundebau masnach, naill ai gyda’i gilydd neu’n unigol yn wir. Mae’r Swistir, er enghraifft, newydd gadarnhau cytundeb masnach yr wythnos diwethaf gyda’r Pilipinas (Ynysoedd Philippines), ac mae’n agored i aelodau eraill o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop fod eisiau gwneud hynny.

Felly, mae aelodaeth o’r farchnad sengl—rydym yn aml yn clywed gan y bobl Brexit caled y byddai’n atal y cytundebau masnach. A dweud y gwir, nid yw aelodaeth o’r farchnad sengl yn atal cytundebau masnach rhag cael eu croesawu mewn unrhyw fodd. Y pwynt allweddol—

David Rees a gododd—

Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Rwyf eisiau eglurhad ar un peth. Rydym yn siarad o hyd am aelodaeth o’r farchnad sengl. A oes diffiniad cyfreithiol ar gael o aelodaeth o’r farchnad sengl, er mwyn inni allu bod yn glir ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd?

Nid wyf am gadw pobl ar y pwynt hwn, oherwydd credaf fod Steffan Lewis wedi’i nodi’n gampus iawn. Rwy’n teimlo bron fel pe bawn mewn moment ‘Alice in Wonderland’ yma, wyddoch chi, pan fyddaf yn clywed gwleidyddion aeddfed yn gwrthod derbyn yr ymadrodd y mae pawb arall yn y byd yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd, gan gynnwys swyddogion yr Undeb Ewropeaidd a chan gynnwys y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. A dweud y gwir, roedd Full Fact, a fu’n gwasanaethu’n glodwiw yn ystod yr ymgyrch etholiadol, yn dwyn gwleidyddion i gyfrif pan oeddent yn gynnil gyda’r hen actualité—roeddent hyd yn oed yn dweud,’Ydy, mae aelodaeth o’r farchnad sengl yn bodoli. Dyma ydyw—’. Mae’r farchnad sengl yn ddeuaidd—rydych naill ai ynddi neu’r tu allan iddi, a dyna’r broblem. Gallwch ddewis eich iaith eich hun, os dymunwch. Dyna ni, rydym yn garedig ym Mhlaid Cymru, yn creu’r ymadrodd hwn, nad oes neb arall yn ei ddefnyddio, gyda llaw—’cymryd rhan yn y farchnad sengl’—ond ni allwch ddweud nad yw aelodaeth o’r farchnad sengl yn bodoli, gan fod gweddill y byd yn ei alw’n hynny. 

Gadewch i ni fynd yn ôl at y pwynt craidd—[Torri ar draws.]. Mae hyd yn oed Stephen Kinnock yn defnyddio ‘aelodaeth o’r farchnad sengl’—dylech gael gair gydag ef. Gadewch i ni fynd yn ôl at bwynt craidd y trydydd paragraff yn y cynnig hwn, sef llais Cymru. Os oes cytundebau masnach yn mynd i fod, pwy sy’n mynd i fod yn gwrando arnom? Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gyferbynnu ein sefyllfa â’r sefyllfa roedd y Senedd Walwnaidd ynddi—aelod o’r cytundeb masnach economaidd cynhwysfawr rhwng Canada a’r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, roeddent yn ei ddal yn ôl oherwydd rhai pryderon a oedd ganddynt yn ôl ym mis Chwefror. Yr hyn nad yw pobl yn sylweddoli o bosibl mewn gwirionedd yw bod yr un broses wedi cael ei dilyn yng Nghanada, a’r wythnos diwethaf yn unig y cafodd y cytundeb masnach economaidd cynhwysfawr ei gadarnhau yng Nghanada, gan ei fod wedi gorfod mynd i bob talaith a thiriogaeth unigol, a Quebec oedd y dalaith olaf i’w gefnogi.

Mae’r un egwyddor yn berthnasol yn Awstralia—y cytundeb masnach rydd rhwng Singapôr ac Awstralia er enghraifft, a darparu cydnabyddiaeth gilyddol i nwyddau rhwng Awstralia a Seland Newydd. Roedd yn rhaid i bob un o diriogaethau—gwladwriaethau a thiriogaethau—Awstralia gytuno i’r cytundebau hynny, a hynny er gwaethaf y ffaith fod adran 92 o gyfansoddiad Awstralia yn nodi bod marchnata, masnachu a chyfathrachu cwbl ddi-dâl rhwng y gwladwriaethau.

Maent yn cydnabod pwysigrwydd, mewn sefyllfa ffederal, cydnabod buddiannau’r tiriogaethau gwladwriaethol datganoledig hynny, ac eto yr hyn a gawn gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd yw’r addewid y bydd y bwrdd masnach a chomisiynwyr masnach ei Mawrhydi yn cael eu hadfer—yn ôl â ni i’r ddeunawfed ganrif. Rwyf bron yn meddwl tybed a ydynt yn mynd i ddod â Chwmni India’r Dwyrain yn ei ôl hefyd.

Rwy’n cefnogi gwleidyddiaeth y ffrynt unedig, ac mae hwn yn ffrynt lle mae’n rhaid inni fod yn unedig, oherwydd ni allwn ganiatáu sefyllfa lle mae ein buddiannau economaidd dilys ac unigryw yn cael eu hanwybyddu gan y canol.

Wrth edrych o gwmpas y Siambr heddiw, rwy’n meddwl ein bod yn dioddef—ar wahân i Blaid Cymru ac UKIP—o flinder Brexit. O leiaf rydym yma i gymryd rhan yn y ddadl.

Nid oes gennym unrhyw anhawster, wrth gwrs, gyda chefnogi Plaid Cymru ar ddau bwynt cyntaf y cynnig hwn. Fel y dywedais lawer tro o’r blaen, ni ddylid defnyddio proses Brexit mewn unrhyw ffordd i danseilio neu i dynnu’n ôl o’r setliad datganoli y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto ddwywaith mewn refferenda. Byddai hynny’n bradychu popeth y safwn drosto.

Ond mae pwynt 3 yn gwbl afrealistig. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, rhwng Canada ac Awstralia yw nad oes ganddynt, yn eu systemau ffederal, yr anghydbwysedd enfawr rhwng poblogaethau fel sydd gennym yn y Deyrnas Unedig rhwng Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Lle mae Lloegr yn 85 y cant o boblogaeth y wlad, mae’n anochel yn yr amgylchiadau hynny nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i dderbyn yr hyn y mae’r cynnig hwn yn gofyn amdano. Felly, ni allaf ddeall pam ei fod yn cael ei gyflwyno. Y cyfan y gallwch ei wneud yn yr amgylchiadau hynny yw tanseilio’r pwynt da, sef y dylai buddiannau Cymru gael eu hystyried yn briodol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, am eu bod yn anochel yn wahanol i rannau eraill o’r wlad, yn arbennig mewn amaethyddiaeth fel y gwyddom. Mae’r sefyllfa mewnforio/allforio yng Nghymru yn wahanol i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

Er bod gennym ddiffyg aruthrol mewn masnach gyda’r UE—rydym yn allforio gwerth £250 biliwn y flwyddyn o nwyddau iddynt, maent hwy’n allforio gwerth ymhell dros £300 biliwn i ni. Felly, mae 7 y cant o’n cynnyrch domestig gros yn y DU wedi’i gyfrif—dim ond 7 y cant, ac mae 93 y cant yn fasnach fewnol neu’n fasnach gyda gweddill y byd; gadewch i ni ei gadw mewn persbectif, rwy’n dweud hynny wrth Eluned Morgan—felly mae canran fwy o’n cynnyrch gwladol gros yn cael ei fwyta gan yr hyn a brynwn ganddynt hwy. Dyna yw ein testun bargeinio gyda hwy.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A allwch dderbyn ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud a ble y gallwn geisio dylanwadu? Pan fyddwch yn dweud ein bod mewn diffyg enfawr, nid ydym ni yng Nghymru mewn diffyg o’r fath. Mae gennym warged.

Dywedais hynny funud yn ôl. Mae parhau i ddadlau ar y sail fod yna unrhyw bosibilrwydd y bydd y Deyrnas Unedig yn mabwysiadu’r polisi hwn yn wastraff llwyr ar amser ac mewn gwirionedd, mae’n tanseilio’r pwyntiau da y gallem eu gwneud. Dyna’n bennaf yw’r hyn rwyf am ei ddweud yn y ddadl hon.

Unwaith eto, nid yw’r syniad fod aelodaeth o’r farchnad sengl, sut bynnag y’i diffinnir, yn mynd i fod yn bosibl, yn wleidyddiaeth ymarferol. Pam yr ydym yn aredig tywod yn y fath fodd? Byddem yn y farchnad sengl ar y sail honno, ond yn methu cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae hynny, mewn ffordd, yn waeth na’r hyn sydd gennym yn awr. Nid yn unig hynny, ond byddem yn gwneud cyfraniad ariannol, sef un o’r dadleuon o blaid gadael yr UE yn y lle cyntaf. Rydym yn cyfrannu, fel y gwyddom, £8 biliwn net bob blwyddyn, a byddai rhan sylweddol iawn o hwnnw’n parhau i gael ei dalu pe baem yn aelodau o’r farchnad sengl, hyd yn oed ar sail model y Swistir neu’r model Norwyaidd, y ddau ohonynt yn wahanol iawn wrth gwrs.

Mae’r Swistir yn rhydd i ymrwymo—ac mae wedi gwneud, mewn gwirionedd—i gytundeb masnach rydd gyda Tsieina, er bod yr UE wedi bod yn gwbl analluog i gytuno ar un dros y 50 mlynedd diwethaf. Rydych yn edrych ar y rhestr o’r 56 o wledydd y mae gan yr UE gytundebau masnach â hwy: maent yn cynnwys Jersey a Guernsey, er enghraifft, Andorra, Montenegro a San Marino. Nid oes ganddynt gytundebau masnach ag unrhyw wlad o faint sylweddol yn y byd ar wahân i Dde Corea a Mecsico.

Nid wyf yn credu bod gennyf amser, mae’n ddrwg gennyf. Y cyfle gwych i ni wrth fod y tu allan i’r undeb tollau yw y gallwn ymrwymo i gytundebau masnach gyda’r chwaraewyr mawr yn y byd. Mae’n anodd, mae’n amlwg yn cymryd amser i lunio cytundebau masnach rydd. Nid oes gennym y posibilrwydd hwnnw pan fydd yn rhaid cytuno gyda 27 aelod-wladwriaeth arall ar fanylion y cytundebau hynny, a dyna pam y mae’r UE wedi bod yn analluog i ymrwymo i’r rhain. Mae Canada ar y ffordd, ond pa mor hir y mae wedi cymryd i drafod y cytundeb hwnnw? Nid oes cytundeb masnach yn mynd i fod gyda’r Unol Daleithiau bellach, ond gallwn gytuno ar un. Mae’r Unol Daleithiau yn hynod o bwysig i economi Cymru am mai hwy yw ein cyrchfan allforio cenedlaethol unigol mwyaf. Felly, dyma’r rhyddid sydd gennym o ganlyniad i fod y tu allan i’r UE.

Rwy’n synnu bod Plaid Cymru yn parhau i ymladd y frwydr hon, a gollwyd flwyddyn yn ôl. Iawn, wrth gwrs y dylai Llywodraeth Prydain siarad yn ystyrlon ar sail reolaidd â Llywodraeth Cymru, ond os mai’r cyfan y mae’r Prif Weinidog yn ei wneud yw parhau i rygnu ymlaen am rywbeth nad yw Llywodraeth Prydain byth yn mynd i gytuno iddo, beth yw diben y trafodaethau hynny? Os ydych am lwyddo, ewch gyda’r graen ac nid yn ei erbyn. Rwyf wedi ei annog, felly, i gynnwys Andrew R.T. Davies a minnau mewn ymateb cyffredin i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, oherwydd, wedi’r cyfan, mae hon yn frwydr rydym wedi’i hymladd ac wedi’i hennill. Rwyf wedi bod yn ymladd y frwydr hon ers cyn i’r rhan fwyaf o’r Aelodau gyferbyn gael eu geni, ar ôl ymuno â’r gynghrair yn erbyn y farchnad gyffredin yn 1967. Ac wrth gwrs, rwyf am i Gymru gael y canlyniad y maent ei eisiau, ond o leiaf, mae’r dull a ddefnyddiaf yn un sydd â rhyw obaith o lwyddo, lle nad oes gobaith o gwbl gan eu dull hwy.

Nawr, gyda refferendwm Brexit, erthygl 50, y Bil diddymu mawr a Deddf Cymru 2017, mae yna gryn dipyn o ansicrwydd gwleidyddol y dyddiau yma, a pheryglon i ni fel cenedl yn hyn oll. Mae pawb yn sôn am barchu canlyniad refferendwm, ond ar goll mae’r angen i barchu refferendwm 2011 a phenderfyniad pobl Cymru i gael mwy o bwerau i’r Senedd yma. Nid yw pobl Cymru wedi pleidleisio i golli pwerau o Gymru, ond efo Deddf Cymru 2017, rŷm ni wedi colli grymoedd—193 o faterion wedi’u cipion yn ôl i San Steffan, fel materion cadwedig iddynt hwy, ac yn ogystal â phob peth sy’n berthnasol i’r rheini hefyd, pa bynnag mor wan ydy’r cysylltiad. Heb anghofio pwerau Harri VIII hefyd, lle gall Gweinidogion y Deyrnas Unedig newid Deddfau fan hyn heb ddweud wrthym ni.

Nawr, efo’r Bil diddymu mawr, y papur ymgynghorol yna efo’r clawr glas yn wreiddiol, yn dweud, ym mharagraff 4.2, fod San Steffan yn mynd i gymryd—

Diolch yn fawr i ti am ildio. Fel cyd-aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rydw i’n siŵr ei fod yn sylweddoli nad oes modd cyflwyno unrhyw is-Ddeddf yn San Steffan sy’n effeithio ar bwerau’r lle yma heb i’r pwyllgor hwnnw wybod ac inni allu ei drafod o a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad hwn.

Pwerau Harri VIII—mae angen eu darllen nhw mewn manylder, yn amlwg.

Yn ôl i beth mae papur ymgynghorol y Bil diddymu mawr yn ei ddweud, ym mharagraff 4.2, sef bod San Steffan yn mynd i gymryd y pwerau nôl o Frwsel, gyda’r perig y byddant yn cadw’r rheini dros feysydd datganoledig. Ar ôl colli pwerau yn Neddf Cymru, byddwn efallai mewn perig o golli pwerau hefyd dan y Bil diddymu mawr—amaethyddiaeth, amgylchedd, trafnidiaeth—

Environment: as species champion for the year for grey seals—lunch time, again—my new aquatic friends are very concerned about Wales losing environmental powers that we’ve had here for years and that we want to stay here for years. That’s what I’m hearing from the rocks of Worm’s Head.

Yn y meysydd hyn, felly, mae’r trafod efo Ewrop ar sail Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Dyna beth sy’n digwydd mewn materion datganoledig: y pedair gwlad. Mae’n wastad wedi digwydd a dylai gario ymlaen fel yna. Ac efo’r Bil diddymu mawr, mae yna gonfensiwn o San Steffan yn ymgynghori efo’r Alban a Chymru mewn meysydd datganoledig cyn deddfu, ond efo Cymru a Deddf Cymru, mae defnydd o’r gair ‘normally’ yn allweddol, achos gellir dadlau, efo’r Bil diddymu mawr, nad yw’n achos ‘normal’. Felly, nid oes rhaid i San Steffan drafod efo ni.

Fe ddywedodd Theresa May, i’w dyfynnu:

‘I will not be held to ransom by any devolved administrations’

or ‘divisive nationalists’, whoever they may be.

Hydref diwethaf oedd hynny. Mae’r tirlun gwleidyddol yn amlwg wedi newid yn frawychus iddi hi ers hynny ac ers yr etholiad cyffredinol. Disgwylir iddi weithio efo’r gwledydd datganoledig nawr a pheidio â llusgo pwerau nôl o fan hyn i San Steffan.

Enillwyd pleidlais yma yn y Senedd yn ddiweddar i gael Bil parhad yma er mwyn cadw gafael ar holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd ym meysydd sydd wedi’u datganoli, a’u cadw yma yng Nghymru—cadw’r morlo llwyd yn hapus—parhad o’r sefyllfa bresennol, felly. Mae amaethyddiaeth, amgylchedd a’u rheoleiddio eisoes yma yn y Senedd nawr. Mae angen parhad o hynny, nid eu colli i San Steffan. Bil parhad amdani, felly. Diolch yn fawr.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 17:04:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, bythefnos yn ôl, ar y dydd Mercher cyn etholiad cyffredinol y mis hwn, roedd yn rhaid i mi esbonio i’r Siambr na fyddai’r Llywodraeth yn gallu cefnogi rhai elfennau mewn cynnig manwl gan Blaid Cymru ar Brexit, oherwydd ar y pryd dywedais fy mod yn meddwl ei bod yn bwysig iawn, wrth i ni gychwyn ar y cyfnod ar ôl yr etholiad, ein bod yn cadw at yr achos sylfaenol a nodwyd gennym yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, fel y cytunwyd rhwng ein dwy blaid. Heddiw, bydd ochr y Llywodraeth yn pleidleisio o blaid y cynnig llawer tynnach hwn oherwydd ein bod yn credu ei fod yn mynegi rhai diddordebau Cymreig a rennir, ac roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd Steffan Lewis wrth gyflwyno’r ddadl am y ffordd y mae ein Papur Gwyn ar y cyd yn parhau i gynrychioli’r mynegiant gorau o’r safbwynt a rannwn.

Dirprwy Lywydd, dylwn fod yn glir nad yw’r Llywodraeth am gefnogi’r naill na’r llall o ddau welliant y Ceidwadwyr. Mae’n ymddangos fel pe baent wedi cael eu drafftio fel pe na bai’r etholiad cyffredinol erioed wedi digwydd. Yn wir, maent yn adlewyrchu sefyllfa’r Blaid Geidwadol yn fwy cyffredinol, wedi’i dal yng ngoleuadau damwain car a achoswyd ganddynt hwy eu hunain. Nid yw ailadrodd safbwynt y Prif Weinidog yn y dyddiau cyn iddi luchio ei mwyafrif ymaith yn ddigon da. Rhoddwyd y safbwynt hwnnw gerbron yr etholwyr ar 8 Mehefin. Dywedwyd wrthym mai hwn oedd y cwestiwn allweddol a oedd yn ysgogiad i alw’r etholiad, a phan fo’r cyhoedd wedi penderfynu fel arall, ni all Llywodraeth y DU ddal ati, fel y mae gwelliannau’r Blaid Geidwadol i’r ddadl hon yn ei wneud, fel pe na bai dim wedi digwydd.

Nawr, mae’r cynnig sydd gerbron y Cynulliad yn datgan ein cymwysterau democrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru. Mae’n ailddatgan ein safbwynt hirsefydlog fod cymwyseddau datganoledig a arferir ar lefel yr UE yn parhau, fel y mae Dr Dai Lloyd newydd ddweud, a chyda’r holl awdurdod a gafodd gan ei ffrindiau ar ben draw Pen Pyrod—y dylai’r cymwyseddau hynny aros yma yn y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd Brexit wedi digwydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog ein papur ar Brexit a datganoli. Mae’r ddogfen yn nodi’n glir, fel rydym wedi pwysleisio dro ar ôl tro, y bydd pwerau a ddatganolwyd eisoes i Gymru yn parhau wedi’u datganoli ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. A gadewch i mi fod yn gwbl glir wrth yr Aelodau y byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adennill unrhyw bwerau dros feysydd cymhwysedd datganoledig er ei fwyn ei hun. A dyna safbwynt rydym wedi’i fynegi—

Yn syml, o ystyried eich sylw yn y fan honno a’ch sylw cynharach yn eich cyfeiriad cyntaf at y gwelliannau, a gwelliant 1—mae gwelliant 1 yn ymrwymo na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu dileu, ac yn sôn am y cyfle i ddod â mwy o benderfyniadau i’w gwneud ar y lefel ddatganoledig. O’r hyn a ddywedwch, nid ydych yn gwrthwynebu hynny, ac wrth gydnabod gwelliant 1, mae’n siŵr y byddech yn cydnabod yr ymrwymiad hwnnw.

Y broblem gyda’r gwelliant, a’r broblem gyda’r hyn y mae’r Aelod newydd ei ddweud, yw’r amwysedd dwfn sy’n sail i’r datganiad hwnnw. Fel y clywsom eisoes yn y ddadl hon, mae Araith y Frenhines heddiw yn cynnwys brawddeg sydd i’w gweld yn gweithredu i’r cyfeiriad arall yn llwyr, drwy ddweud y bydd yna drefniadau cenedlaethol ym maes yr amgylchedd ac amaethyddiaeth na ellir eu cyflawni heb fynd â chyfrifoldebau sydd eisoes wedi’u datganoli iddo oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Rydym wedi dweud yn gwbl glir wrth Lywodraeth y DU, cyn ac ers yr etholiad cyffredinol, os ydynt yn dewis mynd ar hyd y llwybr hwnnw—ac rydym wedi egluro wrthynt pam nad oes unrhyw angen iddynt fynd ar hyd y llwybr hwnnw, oherwydd byddwn yn barod i ddod at y bwrdd a thrafod ffyrdd o gyflawni trefniadau synhwyrol ar draws y DU heb iddynt weithredu yn y modd hwnnw—ond os ydynt yn dewis gwneud hynny, bydd ganddynt frwydr ar eu dwylo. Mae’n frwydr nad oes angen iddynt ei chael, ond bydd yn frwydr, Dirprwy Lywydd, y byddant hwy eu hunain wedi’i hachosi.

Nawr, rydym yn dweud bod datganoli yn rhan sefydledig o gyfansoddiad y DU, a bod yn rhaid felly i ymadawiad y DU â’r UE barchu ac adlewyrchu realiti datganoli. Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf. Pwysleisiodd fod y Bil diddymu—mae’n ddiddorol gweld bod y gair ‘mawr’ wedi diflannu o’r Bil diddymu yn unol ag uchelgeisiau mwy cymedrol Mrs May—ond dywedodd Prif Weinidog Cymru yn glir wrth Brif Weinidog y DU fod y—[Torri ar draws.] Gostyngeiddrwydd—dyna sydd wrth wraidd absenoldeb mawredd. Dywedodd y Prif Weinidog yn glir fod yn rhaid i’r Bil barchu’r setliadau datganoli presennol yn llawn ac fel y dywedais, fod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio’n adeiladol ac yn gadarnhaol â Llywodraeth y DU i helpu i fframio’r ddeddfwriaeth i gyflawni hynny. Rwyf wedi siarad yn uniongyrchol gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ers yr etholiad cyffredinol, ac unwaith eto, nodais ein safbwynt ar y mater hwnnw, ac mae Simon Thomas ac Eluned Morgan ill dau yn iawn i leisio pryder ynglŷn â sut y caiff hynny ei gynrychioli bellach yn Araith y Frenhines.

Mewn dogfen a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru, rydym yn argymell sefydlu cyngor Gweinidogion y DU ar gyfer trafod a chytuno ar fframweithiau o’r fath. Mae’r ddogfen bolisi ‘Brexit a Datganoli’ yn ei gwneud yn glir y gellid defnyddio cyngor Gweinidogion ar gyfer y DU i gael cytundeb ar feysydd lle mae pwerau a gadwyd yn ôl a phwerau datganoledig yn cydgysylltu, a lle mae gan y gweinyddiaethau datganoledig ddiddordeb cryf ym mholisi Llywodraeth y DU, hyd yn oed pan na fydd y polisi hwnnw wedi’i ddatganoli’n ffurfiol. Bydd angen trafodaethau a chytundeb ar draws y DU ynglŷn â rhai agweddau ar bolisi sydd heb ei ddatganoli er mwyn sicrhau cyfreithlondeb polisïau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.

Ar y pwynt hwn hoffwn ymyrryd yn hytrach nag ateb, oherwydd credaf fod y pwynt hwn yn bwysig. Mae wedi siarad am y berthynas rhyngddo a’i Lywodraeth a’r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, a sut y gellid ailsefydlu honno. A all roi rhywfaint o sicrwydd fod unrhyw arwydd o San Steffan ar hyn o bryd eu bod yn ailymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, fod cyfarfodydd gweinidogol yn cael eu cynnal, fod cyfarfodyddd dwyochrog yn cael eu cynnal, cyfarfodydd pedairochrog—beth bynnag sydd ei angen i ysgogi rhai o’r trafodaethau hyn sydd angen inni eu cael?

Wel, mae’r peirianwaith Llywodraeth hwnnw’n ailddechrau. Fel y dywedais, rwyf wedi siarad yn uniongyrchol â David Davis, mae gennyf alwad gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yfory ac rwyf wedi dod yn syth i’r Siambr o gyfarfod o Gyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, lle rwy’n cynrychioli Cymru—roedd Gweinidogion yr Alban yn rhan ohono, ac roedd cyfres o Weinidogion Llywodraeth y DU o gwmpas y bwrdd hefyd. Nid absenoldeb peirianwaith yw’r hyn sydd wedi bod yn rhwystredig dros y misoedd diwethaf, Dirprwy Lywydd, ond yr ysbryd y gweithredwyd y peirianwaith hwnnw o’i fewn, a dyna sydd angen inni ei weld yn cael ei newid.

Dirprwy Lywydd, rwy’n gobeithio y caniatewch i mi ymdrin yn olaf â’r trydydd pwynt yn y cynnig, oherwydd mae’n bwynt pwysig a godwyd gan Eluned Morgan ac rwyf am wneud yn siŵr fod safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir wrth gefnogi’r cynnig. Oherwydd bod y rhan hon o’r cynnig yn cyfeirio at gytundebau masnach yn y dyfodol, mae’n enghraifft o faes polisi, er nad yw wedi’i ddatganoli, sydd o ddiddordeb Cymreig uniongyrchol, o ystyried y rhyngddibyniaeth gydag agweddau allweddol ar y cyd-destun polisi a rheoleiddio ar gyfer meysydd datganoledig megis dur, amaethyddiaeth a physgodfeydd.

Rydym wedi dweud yn glir mai rhan lawn a dirwystr yn y farchnad sengl yw ein prif flaenoriaeth. Mae hynny’n sylfaenol bwysig i ni yng Nghymru, ac rydym yn parhau i gredu y dylai’r DU barhau i fod yn rhan o undeb tollau, am gyfnod trosiannol fan lleiaf, ac nid ydym wedi cael ein hargyhoeddi gan ddadleuon Llywodraeth y DU dros adael. Rwy’n deall, wrth gwrs, y byddai aros yn rhan o undeb tollau yn golygu, cyhyd ag y byddem yn rhan ohoni, na allai fod unrhyw drafodaethau masnach rhwng y DU a gwledydd eraill ledled y byd. Yn y cyd-destun hwn y cefnogwn gynnig Plaid Cymru. Nid ydym yn derbyn bod cytundebau masnach gyda gwledydd eraill yn well na pharhau’n aelodau o undeb tollau, ond os na allwn fod yn y sefyllfa honno, yna mae’r cynnig yn adlewyrchu lle byddai angen i ni fod.

Llywydd, gadewch i mi orffen drwy ddweud fy mod yn awyddus i bwysleisio fy mod yn credu mai’r safbwynt a amlinellwyd gennym yn y Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ yw’r dull cywir o sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru o hyd. Mae’n ddogfen sydd nid yn unig wedi gwrthsefyll prawf amser, ond credaf ei bod yn fwy perthnasol heddiw hyd yn oed nag ar y diwrnod y’i cyhoeddwyd ac mae ei gallu i ddylanwadu ar ddigwyddiadau yn gryfach heddiw nag ydoedd yn ôl pan gafodd ei chyhoeddi gennym yn gyntaf. Edrychaf ymlaen at barhau i ddadlau drosti gydag eraill yn y Siambr hon sydd o’r un farn.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am gloi’r drafodaeth mewn ffordd gymodlon, a byddaf i’n dychwelyd at rai o’i sylwadau ef yn y man. Ond, pwrpas y ddadl gan Blaid Cymru heddiw oedd sicrhau ein bod ni’n cadw ffocws yma yng Nghymru ar beth sydd yn hollbwysig i Gymru, i economi Cymru ac i’n cymunedau ni. Rydym ni’n gwneud hynny heb unrhyw ymddiheuro bod yna ddadl ar Brexit eto. Mae yna wyth Bil yn ymwneud â Brexit yn Araith y Frenhines, so gallaf i ddweud wrthych chi os ydych chi wedi danto ar Brexit erbyn hyn, mae yna fwy o lawer i ddod yn ystod y ddwy flynedd nesaf o Senedd San Steffan.

Ond rydym ni’n cynnig y ddadl yma gan ein bod ni’n meddwl bod y sefyllfa wleidyddol wedi newid gan fod Llywodraeth San Steffan, a’r Blaid Geidwadol yn benodol, wedi mynd at y wlad ond deufis yn ôl, cofiwch chi—ond deufis yn ôl—gan chwilio am fandad am y fath o Brexit yr oedden nhw’n ei ddymuno. A beth oedd y fath o Brexit? Roedd e’n cael ei alw’n Brexit caled, ond roedd e wedi cael ei osod allan yn glir iawn yn araith Lancaster House. Brexit a oedd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ie, ond hefyd yn gadael y farchnad sengl a gadael yr undeb dollau. Mae Plaid Cymru o’r farn ein bod ni am aros yn y ddau sefydliad yna, a dyna beth sydd wedi ei gytuno rhyngom ni a’r Blaid Lafur yn y Papur Gwyn.

Ond yn fwy pwysig byth, fe ddywedodd pobl—nid pobl Cymru’n unig, ond dywedodd pobl dros Brydain i gyd—eu bod nhw yn erbyn y Brexit roedd Theresa May yn ei ddymuno. Mae’n wir nad oedd modd canfod yn union pa fath o Brexit roedd pobl yn dymuno ei weld drwy ethol Senedd grog, ond nid y fath o Brexit a fyddai’n dinistrio economi Cymru a swyddi Cymru. Erbyn hyn, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y tro byd sy’n digwydd, gyda’r Canghellor bellach yn sôn am gadw swyddi, y Canghellor bellach yn sôn am gadw rhyw fath o gyfundrefn dollau, y Canghellor bellach yn sôn am gyfnod trosiannol—rhywbeth nad oedd ar agenda’r Blaid Geidwadol cyn yr etholiad diwethaf a rhywbeth sydd wedi newid yn llwyr, felly. Dyna pam roedd Plaid Cymru’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod y Cynulliad yn ailddatgan, os nad mewn mwyafrif llwyr, drwy fwyafrif o’r pleidiau yma, mai dyma’r egwyddorion y dylem ni sefydlu’r trafodaethau Brexit arnynt.

Rydym ni’n gryf iawn o’r farn y dylai’r holl bwerau ac adnoddau a arferir ar hyn o bryd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd o fewn y cyfrifoldebau datganoledig gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i’n eithaf hoff o beth ddywedodd Eluned Morgan, fod y pwerau yma wedi eu benthyg i’r Undeb Ewropeaidd a’u bod nhw’n dychwelyd yn y modd yna. Efallai nad yw hynny’n gyfreithiol gywir, ond rydw i’n meddwl ein bod ni’n deall y cysyniad yn hynny o beth. Dyna pam nad yw’r addewid yng ngwelliant 1 gan y Ceidwadwyr ac yn Araith y Frenhines—sef rhywbeth yr ydym ni wedi ei glywed o’r blaen, a dweud y gwir—na fydd pwerau yn cael eu symud oddi wrth y Cynulliad yn hen ddigon o lawer i ni. Ni ddylai fod yn ddigon i unrhyw blaid sydd wedi ei hethol i Senedd genedlaethol Cymru, achos nid yw’r addewid yna i beidio â thynnu grymoedd oddi arnom ni yn ateb i’r cwestiwn o beth ddaw o’r grymoedd hynny sy’n cael eu rhyddhau ar lefel yr Undeb Ewropeaidd ac wedyn yn cael eu dychwelyd i Gymru yn uniongyrchol, yn ein barn ni.

I’d like to turn to some of the individual contributions to the debate now, and say that, first of all, I think the Cabinet Secretary adequately—more than adequately—dealt with the point around the customs union and the concerns that Eluned Morgan had. I’d just put on record that Plaid Cymru’s position is exactly that set out by the Cabinet Secretary, and we believe we should remain in the customs union, at least for the time being. But if there were to be negotiations—this is an important point: we don’t have a choice about this; it is the Westminster Government that will decide this—if there were to be those negotiations, then surely we should be part of them and have an equal say to the other nations of the United Kingdom in those negotiations on trade deals.

It was raised by Neil Hamilton that this was unrealistic, because the examples given by Adam Price, whether they be Australia or Canada, were different sorts of nations that had different spatial states with different populations. Well, there are 13.6 million people in Ontario and 146,000 people in Prince Edward Island—I didn’t know Prince Edward had got a job as an island, but there we are. This is the real difference, I think: in Canada, both of them are provinces; both of them had an equal say in the trade deal that Canada set as its trade deal. So, I don’t think that his argument is legitimate. And I think Neil Hamilton’s argument and Mark Isherwood’s argument share a common fount, I have to say. The foundation of the argument is the same. The foundation is that we’re a marvellous country, the UK, it’s beyond belief how wonderful we are, and therefore these Europeans will have to do deals with us. Well, trade doesn’t work like that. Adam Price mentioned that we might have to go back to the eighteenth century. Well, just go back to the nineteenth century; go back to Disraeli. What does Disraeli say about trade?

‘Free trade is not a principle. It is an expedient.’

And when we come to negotiate our relationship with the other remaining 27 European nations, they will all have expediencies that they will all need to exercise, and the principle of free trade, which isn’t that principled anyway, will get sacrificed from time to time on the altar of political reality. That is why it’s important that the voice of Wales is heard in these discussions, and is not diluted in any way, shape or form.

Eluned Morgan said that she was concerned that we’ll still have severe economic effects from the decision to leave the European Union. She’s not the only one. Mark Carney thinks we’ll have severe economic effects. He warned in the Mansion House speech only two days ago that we’ll have a wage squeeze coming in as a direct result of that.

And it is important. As the seals bark from Rhossili, it is important, as well, that we protect not only the economy, but the standards and the protections and workers’ rights that we have currently as members of the European Union. Not because we want to do so simply because they’re in existence, but because we do think that a Conservative Government propped up by the DUP would see these as ripe to be taken away from us. And a repeal Bill, which will only temporarily, perhaps, preserve them, while the Conservatives and the DUP get to work on the detail of what they’d like to deprive us of in terms of our rights, has to be protected in the Welsh context. And that’s why the seals of Rhossili—and the seals of Pembrokeshire as well, if I may say so, which I’m sure are equally protected by Dai Lloyd—are right to demand a continuity Bill, I think, now: that we state what we seek to preserve here within our own Assembly.

The Cabinet Secretary was very emollient and quite generous, I think, in his approach to how we’ve set out this debate—not only the motion in itself, but the context of the motion. But I have to say this, going back to the opening and the very precise and very well-argued remarks of Steffan Lewis, we have not heard a clear elucidation, really, of the Welsh Government’s position now. We know what it was in the White Paper, and we accept that, but politics do change—I accept that—and let’s be honest, the general election didn’t just change the Conservatives, it changed the Labour Party as well. There’s a different kind of Labour Party that we’re facing now.

So, where, now, do we lie? And I don’t think debate is the right place to iron out these kinds of finesses. It is a theological question to a certain extent. But we want to have this discussion because we want to understand where, now, when you’ve got over 50 Labour MPs and politicians of great note, and lords, who say, ‘It’s membership of the single market’ when they are writing, together with other Conservatives, ‘We want to preserve membership of the single market’—something that Plaid Cymru can subscribe to—and yet we can’t have the First Minister reply to Leanne Wood and say, ‘Yes, membership of the single market.’ We couldn’t even have him say ‘participation’ in quite the way that it says in the White Paper.

I think that’s something that needs to be resolved, because I also think there’s a job of work to be done on behalf of the people of Wales here, and I think there’s certainly more than one party in the Assembly that can do this, and there are individuals from more than two parties. I think there are individuals elsewhere that might be interested in taking this forward as well. And I would like to see us work as much as possible in concert on these issues, but in order to do so, the First Minister himself must give a very clear undertaking on what he’s seeking to achieve on behalf of Wales.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly fe bleidleisiwn ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Dadl UKIP Cymru: Polisi Mewnfudo

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth a gwelliant 3 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol.

Y ddadl nesaf yr awn ati yw dadl UKIP ar bolisi mewnfudo, a galwaf ar Neil Hamilton i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6335 Neil Hamilton, David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational Wages, a’r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr sy’n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn rhanbarth benodol.

2. Yn credu:

a) y byddai gan system fewnfudo deg, wedi’i rheoli, sy’n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi’r DU;

b) bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o’r tu fewn iddo;

c) nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;

d) bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr:

a) nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o’r tu allan i’r UE;

b) nad yw’n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na’r EEA o ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac

c) sy’n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae poblogaeth y byd ar y funud oddeutu 7.5 biliwn o bobl, ac mae 7 biliwn ohonynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo’r Deyrnas Unedig. Nid oes ganddynt hawl i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, i fyw, gweithio neu astudio, oni bai eu bod yn gallu cael fisa, ac mewn llawer o achosion—yn y rhan fwyaf o achosion, mewn gwirionedd—maent angen fisa i ymweld yn unig. Eto i gyd, os ydych yn ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, gallwch ddod yma fel hawl gyfreithiol, i chwilio am waith, i gael gwaith, i fyw, i astudio—i wneud beth bynnag y dymunwch. Mae hynny’n rhan annatod o fod yn aelod o’r farchnad sengl.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A’r hyn nad wyf yn ei ddeall yw pam y mae’r pleidiau sydd â safbwynt gwahanol i’n safbwynt ni ar fewnfudo—y rhai sy’n mynd i wrthwynebu’r cynnig hwn heddiw—eisiau gwahaniaethu yn erbyn gweddill y byd, oherwydd dyna mae ein polisi mewnfudo yn ei wneud. Os yw’n fuddiol i Gymru a’r Deyrnas Unedig gael drws agored i fewnfudo yn yr UE, pam nad yw’n fuddiol i ni gael drws agored yn yr un modd ar gyfer gweddill y byd? Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ateb byth gan y rhai sy’n delfrydu effeithiau aelodaeth o’r UE ar—[Torri ar draws.] Rydym yn siarad am hawl pobl i symud yn rhydd yn y fan hon, sy’n fater hollol wahanol i’r farchnad sengl. Os yw’n fanteisiol inni gymryd unrhyw nifer o unigolion sy’n ddinasyddion yn yr UE i ddod yn rhan o’n heconomi, neu o’n màs tir daearyddol yn yr UE yn unig, a bod hynny’n beth da i Brydain, pam nad yw’n beth da inni wneud yr un peth ar gyfer gweddill y byd? Beth sy’n gwahaniaethu Ewropeaid oddi wrth bobl Affrica neu Asiaid neu Americanwyr? Gadewch i ni gael yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn ystod y ddadl gan mai’r hyn rydym ei eisiau yn UKIP yw polisi mewnfudo anwahaniaethol sy’n—[Torri ar draws.] Ie, dyna rydym ei eisiau. Rydym eisiau cael y dull sy’n seiliedig ar bwyntiau y mae Awstralia yn ei ddefnyddio ar gyfer pob gwlad, ac a fydd yn darparu ar gyfer ein hangen am sgiliau penodol wrth warchod rhag gormod o fewnlif o bobl sydd heb fawr o sgiliau os o gwbl, ac effaith hynny, fel y mae ein cynnig yn dweud—fe ildiaf i Steffan mewn eiliad os yw’n dymuno ymyrryd—sydd mewn gwirionedd yn cywasgu cyflogau’r rhai ar waelod y raddfa incwm. Fe ildiaf.

Diolch i’r Aelod am ildio. Mae newydd ddweud mai polisi UKIP oedd system yn seiliedig ar bwyntiau. Wythnos neu ddwy yn ôl, eu polisi oedd system fewnfudo un i mewn, un allan. Tybed a allai egluro beth fydd y polisi yr wythnos nesaf.

Wel, ein polisi yw’r un yr ymladdwyd yr etholiad cyffredinol arno, yn ein maniffesto, sydd—

Na. Mae’n bolisi mewnfudo anwahaniaethol sy’n seiliedig ar sgiliau. Y targed cyffredinol, dros gyfnod o bum mlynedd, yw lleihau mewnfudo net i sero.

Ie, mewnfudo net yw’r hyn rydym yn sôn amdano. Ar hyn o bryd, rydym yn ychwanegu 0.5 miliwn o bobl at boblogaeth y DU bob blwyddyn drwy gyfuniad o fewnfudo a chynnydd naturiol yn y boblogaeth. Mae hynny’n sylfaenol anghynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd poblogaeth y DU yn 2001 yn 59 miliwn. Roedd yn 65 miliwn yn 2015. Bydd yn 73 miliwn yn 2023. Wrth gwrs, nid oes gennym unrhyw syniad, mewn gwirionedd, faint o bobl sydd yn y Deyrnas Unedig, ac yn sicr nid oes gennym unrhyw syniad faint o bobl sy’n aros ar ôl i’w fisâu ddod i ben, ac sy’n fewnfudwyr anghyfreithlon felly, gan fod gwiriadau gadael wedi cael eu dileu gan Lywodraeth Blair yn 1998, ac felly mae’n amhosibl dweud. Felly, mae’r broblem fewnfudo mewn gwirionedd yn llawer gwaeth na’r hyn y mae’r prif ystadegau i’w gweld yn ei ddweud.

Y prif ddioddefwyr yn hyn, wrth gwrs, yw pobl ar incwm isel. Prin y gellid dadlau ynglŷn â hynny. Mae’n broblem syml o gyflenwad a galw—economeg sylfaenol. Ceir digon o astudiaethau academaidd, ar wahân i’r un gan Fanc Lloegr a nodir yn y cynnig hwn, sy’n dangos y pwynt hwnnw.

Rwy’n deall y pwynt y mae’n ceisio ei wneud, ond a allai egluro, o’i safbwynt ef, pam y mae’r Almaen wedi bod â lefelau uwch o fewnfudo ond wedi llwyddo i gael cyflogau uwch?

Wel, mae gan yr Almaen broblem wahanol. Bydd ganddynt boblogaeth sy’n lleihau dros y blynyddoedd nesaf oherwydd bod eu cyfraddau adnewyddu hyd yn oed yn is na’n cyfradd ni. Ceir ymchwydd poblogaeth, sydd wedi’i groesi ers amser yn yr Almaen, a bydd poblogaeth yr Almaen mewn gwirionedd yn disgyn dros y 30 mlynedd nesaf. Mae’r sefyllfa’n gwbl fel arall yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn ychwanegu, fel y dywedais ar ddechrau fy araith, 0.5 miliwn o bobl at ein poblogaeth bob blwyddyn. Wrth gwrs, os ceir cydbwysedd bras yn y lefelau mewnfudo, nid yw hynny’n gwthio cyflogau i lawr yn gyffredinol. Ond y broblem gyda’r gwelliant y mae Plaid Cymru wedi’i gyflwyno yw nad yw’r astudiaeth academaidd, y cyfeirir ati yn y fan honno, yn edrych mewn gwirionedd ar y gwahanol segmentau cyflogaeth ac effaith mewnfudo ar lefelau incwm gwahanol o fewn y cyfansymiau cyffredinol. Felly, nid yw’r ffigur cyfartalog yn dweud y stori lawn ac mewn gwirionedd, mae’n cymylu pethau. Mewn gwirionedd mae’n cuddio’r broblem y mae angen i ni wneud rhywbeth yn ei chylch. Oherwydd i lawer iawn o bobl yn awr yr isafswm cyflog yw’r uchafswm cyflog, ac nid yw honno’n sefyllfa dderbyniol yn fy marn i. Dynodwyd bod 80 y cant o’r rhai sydd wedi dod yma o’r UE yn bobl heb lawer o sgiliau neu heb sgiliau o gwbl.

Dawn Bowden a gododd—

Onid ydych yn derbyn, fodd bynnag, fod hynny’n ymwneud mwy â chyflogwyr sy’n camfanteisio nag y mae i’w wneud â phobl yn dod yma? Oherwydd mae gweithwyr heb sgiliau yn y wlad hon yn cael eu hecsbloetio gan gyflogwyr a allai dalu cyflogau uwch ac sy’n dewis peidio â gwneud hynny.

Wel, mae’n broblem sy’n ymwneud â chyflenwad a galw. Os ydych yn cynyddu’r cyflenwad o gymharu â’r galw, byddwch yn gostwng y pris. Dyna’r canlyniad anochel, mae arnaf ofn. Wrth gwrs, ceir cyflogwyr sy’n camfanteisio, ac rydym wedi cyfeirio at hyn sawl gwaith. Mae David Rowlands, yn y Siambr hon, wedi sôn sawl gwaith am broblem mannau golchi ceir, er enghraifft, a phobl sy’n cael eu cyflogi am ran fach iawn o’r isafswm cyflog drwy feistri gangiau ac asiantaethau sy’n anodd iawn eu plismona, ac rydym yn gwybod na chafodd neb ei erlyn yng Nghymru am dorri’r ddeddfwriaeth isafswm cyflog sydd bellach wedi bod mewn grym ers blynyddoedd lawer. Felly, mae’n sicr fod cywasgu cyflogau’n digwydd, yn ogystal â chyflogi unigolion yn anghyfreithlon ar gyflogau tlodi. Yr unig ffordd y gallwn ddechrau datrys y broblem yw drwy gyflwyno rhyw fath o system reoli mewnfudo sy’n ystyrlon ac sy’n gysylltiedig â’r cyfleoedd cyflogaeth sy’n bodoli. Ar y funud, mae’r Deyrnas Unedig yn profi gwelliant economaidd cymharol, felly mae llawer o’r anawsterau hyn wedi’u cuddio. Os ydym yn gweld yr economi’n gwaethygu eto, fel sy’n anochel maes o law, yna bydd y broblem yn cael ei hamlygu nid yn unig o ran cyflogau’n cywasgu, ond o ran cynnydd mewn diweithdra mewn gwirionedd. Unwaith eto, y bobl ar waelod y domen yn y gymdeithas yw’r rhai a fydd yn talu’r pris.

Rhaid cyfaddef, yng Nghymru, nid yw mewnfudo wedi creu’r mathau hyn o broblemau ar lefel sy’n unrhyw beth tebyg i’r hyn a welwyd mewn rhannau o Loegr, am fod 90 y cant o’r rhai sydd wedi dod yma o’r UE mewn gwirionedd yn mynd i dde a de-ddwyrain Lloegr. Ond mae’r Deyrnas Unedig yn wlad gymharol fach—yn ddaearyddol—ac mae ganddi farchnad lafur homogenaidd iawn, ac mae’r sgil-effeithiau i’w teimlo ymhellach o’r canol. Felly, mae’n gwthio cyflogau i lawr yng Nghymru, sy’n ddifrifol iawn am mai Cymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig, ac yn wir, mae rhannau o Gymru ymhlith y rhannau tlotaf ar gyfandir Ewrop. Mae’n sgandal, mewn gwirionedd, fod incwm cyfartalog yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y wlad wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein gwerth ychwanegol gros oddeutu 75 y cant o weddill y Deyrnas Unedig. Felly, mae unrhyw beth sy’n gwaethygu’r problemau hyn i bobl ar incwm isel i’w anghymeradwyo’n fawr. Fe ildiaf, yn sicr.

Mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn ei ateb. Y bwlch incwm o 30 y cant y pen rhwng Cymru a gweddill y DU—faint ohono y mae’n credu sy’n cael ei achosi gan fewnfudo?

Wel, ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn gwybod yr ystadegau. Ond y pwynt rwy’n ei wneud, beth bynnag yw’r ffigur hwnnw yw—[Torri ar draws.] Gall fod yn fach iawn, ac efallai nad heddiw yw’r diwrnod i ddyfynnu Tesco, o ystyried y cyhoeddiad eu bod yn cau eu canolfan alwadau yng Nghaerdydd, ond yn yr ystyr fod pob tamaid bach yn helpu, mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i leihau’r wasgfa ar gyflogau yn rhywbeth y dylem ei wneud.

Ni allaf ddeall pa ddadl bosibl a allai fod dros gael drws agored i’r wlad hon ar gyfer pobl sy’n gwneud swyddi heb lawer o sgiliau pan fo gennym ddiweithdra i gael gwared arno o hyd a lle mae lefelau cyflogau ar ben isaf y raddfa incwm yn cael eu gwthio i lawr yn barhaus. Wrth gwrs, mae gan hynny oblygiadau o ran y Trysorlys yn ogystal, gan fod y budd-daliadau mewn gwaith yn gwneud iawn felly am y cyflogau isaf sy’n deillio o ganlyniad i’r cyflenwad gormodol o lafur. Cyflymder y mewnlifiad yw’r broblem. Os yw hyn yn digwydd dros gyfnod hir o amser, wrth gwrs, mae’n dod yn gytbwys, ond pan fydd gennym y math o fewnlifau ymfudol a welsom dros y 10 mlynedd diwethaf yn arbennig, yna mae’n broblem ddifrifol.

Cyn 2004, roedd lefelau mewnfudo ac allfudo yn yr UE a’r Deyrnas Unedig yn gytbwys ar y cyfan. Nid oedd yn broblem. Nid tan yr ymunodd hen wledydd lloeren yr Undeb Sofietaidd â’r UE y dechreuasom weld y llifau sylweddol hyn ar draws ffiniau, oherwydd, wrth gwrs, maent yn dechrau o sylfaen isel iawn o ran incwm cyfartalog yn eu heconomïau. Felly, yn anochel, mae’r gwledydd gorllewinol, ac yn enwedig Prydain, am ei bod y tu allan i ardal yr ewro, yn atyniad naturiol, a phwy all eu beio? Wrth gwrs eu bod am wella eu bywydau, ac ar y cyfan mae’r rhain yn bobl dda iawn sy’n meddu ar etheg gwaith gwych. Nid yr ymfudwyr eu hunain yw’r broblem, ond maint y mewnlifau, sef yr hyn sydd wedi cymell ein cynnig heddiw.

Felly, rwy’n erfyn ar Aelodau i beidio â chymryd rhan mewn unrhyw fath o ddadleuon Mickey Mouse. Rwy’n gwybod nad ydym wedi’u cael hyd yma yn y dadleuon a oedd yn ymyrryd yn fy araith, ond mae’r holl siarad am hyn fel hiliaeth a rhagfarn ac mai’r asgell dde eithafol ac yn y blaen ydyw yn tanseilio’r hyn sy’n ddadl ddifrifol i bobl gyffredin, ac yn arbennig y rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, cyflwynwyd y cynnig hwn gerbron y tŷ heddiw er mwyn tynnu sylw at hyn a’r manteision a gawn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r farchnad sengl—gan y bydd yn ein galluogi i reoli ein ffiniau ein hunain mewn ffordd ystyrlon, fel y dymunwn, er mwyn gwarchod ein pobl ein hunain.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Andrew R.T. Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain ganrif.

2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o’r radd flaenaf barhau i recriwtio’r disgleiriaf a’r goreuon o bob cwr o’r byd.

3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system fewnfudo’r wlad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch i chi, Llywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies yn ffurfiol, ac rwy’n diolch i UKIP am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fe geisiaf beidio â chadw’r Siambr yn rhy hir heddiw, gan eu bod eisoes yn adrodd mai heddiw yw’r dydd poethaf posibl y tu allan. Ar ôl treulio ddoe yn siarad eto am Brexit, ar ddatganiad y Prif Weinidog, lle nad oedd llawer y gallwn ni fel sefydliad ymdrin ag ef ar hynny, mae’n rhaid i mi ddweud, er ei bod yn hollol gyfreithlon inni drafod mewnfudo, ac mae’n bwynt y mae llawer o bobl yn ei grybwyll pan fyddwn ar garreg y drws yn siarad ledled Cymru, fel sefydliad, nid oes llawer y gallwn ei wneud am y peth, a bod yn onest gyda chi, oherwydd yn amlwg, mae’n fater a gadwyd yn ôl.

Ond o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, a fy safbwynt i’n benodol, rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ei groesawu, gallu pobl i symud o gwmpas, i allu mynd a dod fel y mynnant ac yn benodol, mae mewnfudo, yn fy marn i, wedi ein cyfoethogi fel gwlad—fel Cymru, ond fel y Deyrnas Unedig hefyd. Heb amheuaeth, yn economaidd, rydym yn llawer cyfoethocach fel gwlad oherwydd y gallu i bobl i ddod â’u sgiliau, i ddod â’u doniau, i’n gwlad, boed hynny yn y proffesiwn meddygol, boed hynny mewn gweithgynhyrchu, neu mewn maes rwy’n ei ddeall yn dda, y sector amaethyddol, lle mae llawer o’r gweithgarwch economaidd yn dibynnu yn y bôn ar y gallu i bobl ddod i mewn i’n gwlad ar drwyddedau gwaith byrdymor, fisas, beth bynnag y dymunwch eu galw, neu mewn gwirionedd, o dan hawliau a sicrhawyd dros amser, a helpu gweithgarwch economaidd mewn gwirionedd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. A dweud y gwir, byddai gweithgarwch economaidd yn dod i ben oni bai bod y gallu i symud o gwmpas wedi’i ddiogelu a rhyw fath o gyfleuster wedi’i alluogi.

Os edrychwch ar y sector addysg uwch yn benodol, mae’n hanfodol fod yr enillion a wnaed gennym dros yr 20 i 30 mlynedd ddiwethaf ym maes ymchwil i fod ar flaen y gad mewn nifer o feysydd ymchwil yn cael eu diogelu wrth i ni gychwyn y trafodaethau Brexit yn arbennig. Mae’r gallu i ddysgu a’r gallu i ddod i mewn i’r wlad a gweithio yn ein canolfannau dysg yn elfen hanfodol o economi ddynamig yn yr unfed ganrif ar hugain sy’n rhaid inni, unwaith eto, fod yn hynod o ymwybodol ohoni yn fy marn i.

Ond i lawer o bobl, mae’n ffaith fod mewnfudo i’w weld yn bryder sydd ganddynt. Rwy’n meddwl yn aml iawn mai pryder canfyddedig yn hytrach na phryder go iawn ydyw—un sy’n aml yn cael ei gyfleu mewn rhaglenni eithafol ar y teledu sydd i’w gweld yn creu delwedd, argraff, o sefyllfa sy’n wahanol iawn i unrhyw gymuned a ddeallaf yma yng Nghymru, neu a welaf yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Fel gwleidyddion, rwy’n meddwl mai ein lle ni, ynghyd ag eraill, yw hyrwyddo’r manteision a welwn, i’r economi ac i ni ein hunain fel cymdeithas, ynglŷn â’r gallu i symud o gwmpas ac yn y pendraw, i drwytho ein hunain ac ymgorffori ein hunain yn niwylliant a ffordd o fyw ein gilydd.

Felly, dyna pam rydym wedi cyflwyno’r gwelliant heddiw sy’n galw mewn gwirionedd ar y Cynulliad i fyfyrio ar natur groesawgar Cymru, ar yr economi agored sydd wedi bod gennym ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn parhau i fod gennym wrth i ni symud ymlaen, pan fydd trafodaethau Brexit wedi dod i ben, ond gan fyfyrio ar yr hyn a oedd yn elfen bwysig o’r trafodaethau Brexit ynglŷn ag adfer rheolaeth a dod â gallu i sefydliadau democrataidd y wlad hon osod paramedrau’r hyn rydym ei eisiau fel gwlad mewn gwirionedd.

Efallai y byddech yn sydyn yn cael Llywodraeth a fyddai’n dweud, ‘Fe gymerwn bawb a chael polisi ffiniau agored’, ond byddai hynny’n fater i bobl bleidleisio dros y Llywodraeth honno. Ar y llaw arall, gallwch fflicio darn o arian, gallech gael Llywodraeth a fyddai’n arddel safbwynt gwahanol iawn ac yn dweud, ‘Na, rydym yn codi’r bont godi ac nid oes neb yn dod i mewn’, ond dyna yw democratiaeth yn y pen draw. Dyna beth, yn sicr, y rhown wleidyddion mewn mannau i’w wneud, er mwyn cyflawni ewyllys yr hyn y mae pobl yn ei feddwl yn y wlad honno, a dyna pam y cawn etholiadau.

Felly, dyna pam rwy’n aml iawn yn sefyll yn falch, yn ceisio hyrwyddo rhinweddau cymdeithas amrywiol iawn, fel rwy’n ei gweld, cymdeithas gymysg yn ddiwylliannol, ac economi, fel y dywedais, sy’n ffynnu ar allu pobl i fynd o Brydain i rannau eraill o’r byd, ac o rannau eraill o’r byd i ddod i Brydain, ac yn benodol, i Gymru. Pan edrychwn ar nifer o’n gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn arbennig, byddent yn peidio â gweithredu oni bai ein bod yn amlwg yn gallu denu a sicrhau’r proffesiynoldeb a’r ddynameg y gallant eu cynnig i gynorthwyo twf y GIG a thwf llawer o’n gwasanaethau cyhoeddus eraill. Felly, gyda’r pwyntiau hynny, dyna pam rwy’n gobeithio y bydd y tŷ y prynhawn yma yn ffafrio gwelliant y Ceidwadwyr sydd ger ein bron ar y papur trefn ac yn pleidleisio dros y gwelliant hwnnw, gan ei fod yn galw ar y Cynulliad i fyfyrio ar yr hyn sydd gennym fel gwlad sy’n groesawgar, yn ddynamig ac yn amrywiol, gan gydnabod pryderon dilys sydd wedi bod gan bobl dros y degawd diwethaf fwy neu lai, lle mae rhai pobl yn canfod bod newid dramatig wedi digwydd yn y diwylliant a’r gymdeithas y maent yn byw ynddi, ac sy’n galw felly ar y Llywodraeth i gyflwyno polisïau i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.

Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei lle:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd Llundain wedi dod i’r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o’r UE wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y boblogaeth a anwyd yn y DU.

2. Yn credu y dylai’r hawliau a’r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a’r UE sy’n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu diogelu.

3. Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi fîsau penodol i Gymru er mwyn cau’r bylchau yn economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth yn ffurfiol. O’r cychwyn cyntaf, hoffwn ailddatgan barn Plaid Cymru, a barn, rwy’n meddwl, a rennir ar draws y rhan fwyaf o’r Siambr, fod croeso i’r rhai sy’n dod i’r wlad hon ac yn gwneud eu cartref yn y wlad hon, ein bod yn gwerthfawrogi’r sgiliau sydd ganddynt, y cyfraniad a wnânt i’n heconomi, a’r modd y maent yn cyfoethogi ein cymdeithas. Rydym hefyd yn ailddatgan ein galwad am ateb cyflym i statws dinasyddion yr UE sy’n byw ar hyn o bryd yn y DU, ac yn gobeithio y sicrheir cytundeb sy’n drugarog ac yn deg yn fuan yn y trafodaethau Brexit.

Mae’n drueni yn y blynyddoedd diwethaf fod yr iaith sy’n gysylltiedig â mater mewnfudo wedi bod yn ymrannol ac yn ddiraddiol. Yn wir, mae bob amser wedi fy nharo’n rhyfedd braidd sut y gall rhai ystyried dinesydd tramor sy’n symud i’r DU fel mewnfudwr, ond bod dinesydd Prydeinig sy’n symud dramor yn cael ei labelu’n rhamantaidd fel ‘expat’. Y gwir yw, wrth gwrs, ein bod i gyd, yn rhywle ar hyd y llinell, yn ymfudwyr. Mae honno wedi bod yn nodwedd gyffredin o’n rhywogaeth ers dechrau amser. Beth bynnag, rwyf am gyffwrdd yn fyr ar oblygiadau ymfudo o ran yr economi a pholisi. Mewn perthynas â dinasyddion yr UE yng Nghymru, mae llai na 80,000, a thua 80 y cant ohonynt mewn gwaith, ac mae cyfran uwch o’r 20 y cant sy’n weddill yn fyfyrwyr yn ôl pob tebyg. O’r 80,000 neu lai o ddinasyddion yr UE, mae nifer sylweddol yn ddinasyddion Gwyddelig a fyddai, mae’n debyg, hyd yn oed ymhlith y rhai a fyddai’n dadlau’n fwyaf brwd dros gau’r ffiniau, yn parhau i gael hawl i symud yn rhydd yn y DU ar ôl Brexit. Yn wir, rwy’n deall mai safbwynt presennol Plaid Annibyniaeth y DU yw y dylai Deddf Iwerddon 1949 a’i darpariaethau ynglŷn â hawliau dinasyddion Gwyddelig i deithio’n rhydd i ac o’r DU barhau yn ei lle ar ôl Brexit, sydd, mae’n debyg, yn codi’r cwestiwn pam eich bod yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o wladwriaethau eraill, pan nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon. Mater i chi ei ateb yw hwnnw. Daeth oddeutu 13,000 o staff academaidd ym mhrifysgolion Cymru o wledydd yr UE, ac mae bron i 50 y cant o’r milfeddygon sy’n cofrestru yn y DU wedi cymhwyso mewn mannau eraill yn yr UE. Yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, o fis Medi 2015, roedd tua 1,400 o ddinasyddion yr UE yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru. Yn wir, rydych yn fwy tebygol o gael eich trin gan ymfudwr yn y GIG nag i fod yn ymfudwr yn un o giwiau’r GIG.

Daeth adroddiad a gyhoeddwyd gan Ysgol Economeg Llundain y mis yma ar ymfudo ac economi’r DU i’r casgliad nad oedd mewnfudo yn gyffredinol, na mewnfudo o’r UE yn benodol, wedi cael effeithiau negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb ar sail oedran yn y DU. Mae papur Ysgol Economeg Llundain hefyd yn datgan, ar lefel y DU, fod unrhyw ostyngiad yn y niferoedd sy’n mewnfudo o’r UE yn debygol o arwain at safonau byw is i’r rhai a gafodd eu geni yn y DU.

Yn wir, rydym eisoes yn gweld effaith wirioneddol y nifer ostyngol o ymgeiswyr tramor i’n prifysgolion. Mae’n werth nodi, hefyd, mewn gwledydd sydd â system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau, fod lefelau ymfudo y pen yn uwch. Ac o ran yr hyn a elwir yn bolisi ‘un i mewn, un allan’, byddai hwnnw’n ein harwain at sefyllfa niweidiol lle y gallai meddyg mawr ei angen fod yn cael ei gadw yn Dover hyd nes y byddai preswylydd yn y DU yn penderfynu gadael y wlad, a byddai honno’n sefyllfa afresymol i fod ynddi. Mae hefyd—[Torri ar draws.] Mae hefyd yn werth nodi bod gan yr Almaen, gyda lefelau ymfudo uwch y pen na’r DU, ffigyrau cynnyrch domestig gros sefydlog, cododd gwariant cyhoeddus 4.2 y cant y llynedd, mae enillion misol gros ar gynnydd, mae diweithdra ar 3.9 y cant a cheir cynhyrchiant uwch na’r cyfartaledd yn y wlad honno nag yn y wladwriaeth hon, a fyddai’n awgrymu bod amodau ar gyfer gweithwyr yn y DU yn deillio o strwythur bwriadol yr economi ar ran llywodraethau olynol yn San Steffan. Yn wir, rwy’n cofio Gordon Brown yn 1998 yn dathlu’r ffaith fod marchnad lafur y DU hyd yn oed gyda chyflwyno mesurau fel yr isafswm cyflog, ymhlith y rhai a reoleiddir leiaf o gwmpas y byd, ac roedd hynny’n achos dathlu.

Nawr, wrth gwrs, rydym yn byw gyda chanlyniadau ymagwedd nad yw’n rhy llawdrwm tuag at ein cyfreithiau llafur yn y DU. Mae cyflogau sy’n lleihau, amodau gwaith ecsbloetiol, rheoleiddio llai manwl a sylfaen ddiwydiannol sy’n crebachu wedi bod yn gonglfaen i bolisi economaidd Prydain ers y 1980au fan lleiaf, a phobl sy’n gweithio, yn enwedig yn hen gymunedau diwydiannol Cymru, sy’n talu’r pris, yn llythrennol. Felly, mae angen newid y patrwm economaidd yn y wlad hon sy’n seiliedig ar le, wedi’i ysgogi gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar y gweithiwr a’i hawliau, ni waeth ble y cafodd ei eni.

Galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei henw hi.

Gwelliant 3—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy’n cydbwyso swyddi a’r economi â’r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;

2. Yn cefnogi’r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:

a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a

b) cynyddu’r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Yn ffurfiol.

Hoffwn gyfyngu fy sylwadau i welliannau’r Ceidwadwyr. Yn gyntaf, a gaf fi gymryd pwynt 1? Hynny yw, wrth gwrs, ar ôl anwybyddu’r pwynt camarweiniol arferol ynglŷn â ‘dileu popeth’, gambit na ddylid ei ganiatáu. Dylai gwelliannau fod yn offerynnau ar gyfer newid, nid ar gyfer diddymu cynigion, ac rwy’n sylwi bod y ddwy blaid arall yn defnyddio yn union yr un cast heno. Ond byddaf yn fawrfrydig a dweud y byddem yn cytuno â’r pwyntiau a wnaed yng ngwelliannau 2 a 4 gan Blaid Cymru, ac yn 2(b) gan y Blaid Lafur.

Yn gyntaf, a gaf fi gymryd pwynt 1? Mae UKIP yn cydnabod y ffaith fod Prydain a Chymru bob amser wedi bod â chymdeithas groesawgar ac yn deall y rhan a chwaraewyd gan fewnfudwyr yn hanes yr ynysoedd hyn. Fodd bynnag, mae dilyn polisi o fewnfudo agored heb ei reoli pan fo gennym fwy nag 1.5 miliwn yn ddi-waith yn warth ar Lywodraethau Ceidwadol a Llafur.

Er enghraifft, mae oddeutu 80,000 o fyfyrwyr ym Mhrydain bob blwyddyn yn methu dod o hyd i leoedd ar gyrsiau nyrsio, tra bod y GIG yn parhau i gyflogi miloedd o nyrsys o dramor. Ychwanegwch hyn at y ffaith fod miloedd o nyrsys 40 oed a hŷn sydd wedi gadael i gael teuluoedd ac sydd yn awr yn awyddus i ddychwelyd i nyrsio ond yn methu gwneud hynny am eu bod yn gweld bod yn well gan y GIG nyrsys tramor iau. Efallai mai’r ffaith ei bod yn costio £70,000 i’r GIG hyfforddi nyrs—[Torri ar draws.] Rwy’n meddwl, Steffan, ein bod wedi eich clywed y rhan fwyaf o’r nos, felly os caf ganiatâd i gael fy amser wrth y rostrwm. Maent yn cyflogi tri nyrs a hyfforddwyd dramor ar gyflog cyfartalog o £24,000—dyna’u rheswm dros wneud hyn. Gadewch i ni droi cefn ar y nonsens y daw’r GIG i ben os nad ydym yn mewnforio nyrsys. Y gwir syml yw ein bod eisiau nyrsys yn rhad. Mae’r un peth yn wir am feddygon, wrth gwrs, felly rydym yn parhau i ysbeilio gwledydd y trydydd byd i ddiwallu ein hanghenion ein hunain.

Hoffwn droi yn awr at ail bwynt gwelliannau’r Ceidwadwyr. Mae digwyddiadau diweddar yn dangos bod Llywodraeth y DU prin yn rhoi sylw i wasanaethau cyhoeddus—mae toriadau a gafodd sylw yn ddiweddar i’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn dyst i hynny. Ac o ran bod ein prifysgolion yn parhau i recriwtio’r mwyaf disglair a’r gorau o bedwar ban byd, mae hyn yn rhywbeth roeddent yn ei wneud ymhell cyn yr Undeb Ewropeaidd a dyfodiad mewnfudo heb ei reoli. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, oedd bod y myfyrwyr hynny mewn gwirionedd yn talu eu ffioedd dysgu. Heddiw, y ffaith amdani yw bod llawer yn ei heglu hi heb ad-dalu eu benthyciadau myfyrwyr, gan ein gadael â dyled o £5 biliwn ar ffigurau 2013.

O ran llafur crefftus ar gyfer y sector busnes, mewn gwirionedd rydym yn gwrthod llafur crefftus o bob cwr o’r byd o blaid llafur heb fawr o sgiliau neu heb sgiliau o gwbl, o’r Undeb Ewropeaidd.

Hefin David a gododd—

Dim ond i ddweud bod prifysgolion yng Nghymru yn dioddef oherwydd polisïau mewnfudo’r Llywodraeth Geidwadol, sy’n troi myfyrwyr a allai ddod i’r DU ymaith. Rwy’n gwybod hyn o brofiad. Rhaid i mi ddweud, David Rowlands, nid wyf yn credu eich bod yn gywir yn hynny o beth.

Wel, ar yr amod fod y myfyrwyr hynny’n talu eu ffordd ac yn talu am eu haddysg yma mewn gwirionedd, dylem eu croesawu. Yn bendant.

Rwyf am ymdrin â thrydydd gwelliant y Ceidwadwyr ac atgoffa am addewidion y Ceidwadwyr o dan Cameron cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Dywedodd hyn:

Bydd ein cynllun i reoli mewnfudo yn eich rhoi chi, eich teulu a phobl Prydain yn gyntaf. Byddwn yn lleihau nifer y bobl sy’n dod i’n gwlad gydag amodau lles newydd llym a gorfodaeth gadarn.

Ond roedd sut oedd hyn yn mynd i leihau mewnfudo, o ystyried y datganiad sy’n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro nad yw mewnfudwyr yn dod yma i gael budd-daliadau, i’w weld yn anghyson braidd. Fodd bynnag, aeth yn ei flaen i ddweud:

Byddwn yn cadw ein huchelgais i gyflawni ymfudo net blynyddol yn y degau ar filoedd,

nid y cannoedd ar filoedd ar hyn o bryd. Byddwn yn rheoli ymfudo—[Torri ar draws.] A oeddech am ddweud rhywbeth, Carl? Fe ildiaf os dymunwch. Na. Iawn.

Byddwn yn rheoli ymfudo o’r Undeb Ewropeaidd, drwy ddiwygio rheolau lles.

Unwaith eto’n awgrymu bod rheolau lles y DU yn annog mewnfudo.

Byddwn yn rhoi pen ar fewnfudo anghyfreithlon a chamddefnyddio’r isafswm cyflog.

Wel, rydym yn gweld nad yw hynny’n cael ei wneud.

Byddwn yn gwella diogelwch ein ffiniau ac atgyfnerthu’r gwaith o orfodi rheolau mewnfudo.

Ac yn olaf,

Byddwn yn datblygu cronfa i leddfu’r pwysau ar ardaloedd lleol a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae hyn i gyd yn profi bod y gwelliant a gyflwynwyd gan y grŵp Ceidwadol, a’r pwyntiau o dan y gwelliant hwnnw, yn dangos y cythrwfl sydd bellach yn bodoli o dan y Ceidwadwyr mewn perthynas â mewnfudo, a bod gwelliannau Ceidwadwyr y Cynulliad i’w gweld yn eu gosod benben â’u cymheiriaid yn San Steffan.

Cawn ein gwahodd yn y ddadl hon i drin UKIP fel pe bai ganddynt ddwylo glân ar fater mewnfudo. Cawn ein gwahodd i ystyried y ffaith fod UKIP wedi cael eu hethol i’r lle hwn fel pe bai’n glanhau staen ensyniadau, chwiban ci a rhagfarn—ond nid oes ganddynt ddwylo glân. Nid yw cael eu hethol i’r Cynulliad yn dileu staen cyn-ymgyrchoedd lle roeddent yn dangos posteri o ffoaduriaid yn ffoi rhag erledigaeth fel pe baent yn rhes o ymfudwyr i’r UE, lle roeddent yn defnyddio ymfudwyr fel bychod dihangol ar gyfer ein holl drafferthion: tonnau trosedd Rwmanaidd ac yn chwerthinllyd, tagfeydd ar yr M4. Nid oes yr un ohonoch—Neil Hamilton, Caroline Jones, Gareth Bennett, Michelle Brown, David Rowlands—nid oes yr un ohonoch wedi condemnio’r ymgyrch honno.

Yn lle hynny, mae UKIP wedi chwarae ar ofnau pobl; ofnau yn sgil pwysau yn eu bywydau. Fe guddioch y ffaith—[Torri ar draws.] Fe guddioch y ffaith fod gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar fewnfudwyr, gan osod cymuned yn erbyn cymuned. Fe guddioch y ffaith nad yw poblogaethau o oedran gweithio yn ddigon mawr i roi’r cymorth rydym am ei roi i’n pensiynwyr, gan osod cenhedlaeth yn erbyn cenhedlaeth.

Mae gan bobl ofnau ynglŷn â mewnfudo. Mae angen system fewnfudo sy’n adlewyrchu ein diddordeb economaidd cenedlaethol ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddangos tosturi. Ond rydych wedi fforffedu unrhyw hawl i gael eich clywed ar y mater hwn gan y gwyriadau a’r rhagfarn rydych wedi bod yn ei ddiferu i glustiau pobl ers blynyddoedd—[Torri ar draws.] Rwyf ar fin gorffen.

Mae pobl yn troi at wleidyddion am arweinyddiaeth a gonestrwydd ac mae canlyniadau ymgyrch yr etholiad cyffredinol yn dangos na ddaethant o hyd i’r naill na’r llall yn UKIP.

[Yn parhau.]—pam rydym yma, am na wrandawoch chi ar y bobl.

Rydym yn cael y ddadl hon heddiw oherwydd ein bod yn dod allan o’r UE ac mae angen i ni ddarganfod pa fath o Brexit rydym ei eisiau mewn gwirionedd, yn arbennig, pa fath o bolisi mewnfudo rydym ei eisiau. Mae ein cynnig yn sôn am system fewnfudo gadarn ond teg, mae’n nodi papur Banc Lloegr ar effaith mewnfudo ar gyflogau ac mae’n edrych ar sicrhau cydbwysedd rhwng mewnfudo ac allfudo fel nod ar gyfer y tymor canolig.

Mae yna nifer o welliannau wedi dod i’n cynnig gan y pleidiau eraill ac mae fy nghyd-Aelod David Rowlands wedi edrych ar rai’r Ceidwadwyr.

Nawr, i ryw raddau, nodwyd safbwyntiau Llafur a Phlaid Cymru ar y pwnc hwn yn eu dogfen ar y cyd, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, a gyhoeddwyd ganddynt yn gynharach eleni. Felly, gallwn edrych ar hwnnw i weld rhai o’r manylion am y polisïau mewnfudo y maent yn eu cynnig, ac a adlewyrchwyd hefyd yn eu gwelliannau heddiw.

Mae rhai o’r pwyntiau yn eu papur ar y cyd yn eithaf diddorol ynddynt eu hunain. Er enghraifft, mae’r ddogfen yn datgan y bydd angen oddeutu 100,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol yn y DU erbyn 2020. Nodaf fod yna lawer o bobl ifanc ddi-waith yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru. Byddwn yn dweud y gallai prinder sgiliau o’r fath, ynghyd â’n gweithlu cudd, roi cyfle perffaith i ailfywiogi prentisiaethau a lleddfu problem pobl NEET—pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mewn geiriau eraill, gallai fod yn gyfle yn hytrach na phroblem.

Mae rhai o’r sgiliau prin a amlygwyd yn eu papur ar y cyd yn ddiamheuol ryfedd. Er enghraifft, daw 50 y cant o filfeddygon o’r tu allan i’r DU, ac eto rydym yn draddodiadol yn genedl hoff o anifeiliaid, felly pam nad ydym yn gallu hyfforddi ein milfeddygon ein hunain? Mae’r cynsail sylfaenol y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei amlygu—[Torri ar draws.] Wel, pam nad ydym? Un enghraifft yw milfeddygon—mae sawl un arall. Pam na allwn wneud hynny? [Torri ar draws.] Iawn.

Y cynsail sylfaenol y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei amlygu yn eu dogfen yw prinder sgiliau. Y pryder y maent yn ceisio ei barhau yw y byddai’r hyn a elwir yn Brexit caled yn niweidio mynediad busnesau at sgiliau, ac eto mae’r mwyafrif helaeth o ymfudwyr o’r UE sy’n dod i’r DU yn dod i lenwi swyddi heb lawer o sgiliau. Felly, nid mynediad busnesau at sgiliau sy’n debygol o gael eu heffeithio mewn gwirionedd yn gymaint â’u mynediad at lafur rhad. Weithiau mae’n rhyfedd nodi bod y Blaid Lafur yn poeni am fusnesau’n gallu cael mynediad at lafur rhad gan eu bod fel arfer yn portreadu eu hunain fel y blaid sydd am godi cyflogau. Eto i gyd, yn eu safbwynt ar fewnfudo, maent yn arddel safbwyntiau sy’n eu gwneud yn blaid sydd am gadw cyflogau i lawr i bob pwrpas.

Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi cytuno â llawer o’r un safbwyntiau â Llafur. Ceir dadl a hyrwyddir gan Lafur a Phlaid Cymru, yn eu dogfen, na ddylem gael yr un rhyddid i symud ar ôl Brexit ag sydd gennym yn awr, ond dylem gael system wahanol, a bydd y system honno’n gysylltiedig â swyddi neu gynigion o swyddi, fel yr eglurodd y Prif Weinidog wrthym yn y Siambr. Wel, pan edrychwn ar union eiriad y ddogfen Lafur/Plaid Cymru, mae’n sicr yn amwys ar y pwynt sy’n ymwneud â chynnig swydd. Dyfynnaf:

‘Gallai hynny olygu cynnig swydd o flaen llaw neu’r gallu i sicrhau cynnig o fewn cyfnod byr i gyrraedd i’r wlad.’

Diwedd y dyfyniad. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, Simon.

Wel, efallai fod gennyf amser, ond nid oes gennyf awydd.

Rwy’n ofni bod y dull hwn i’w weld yn codi mwy o gwestiynau nag y mae’n eu hateb. Beth yw’r dystiolaeth o’r cynnig o swydd? Pa wiriadau a fyddai ar gael i atal—[Torri ar draws.]

A gawn ni ganiatáu i Gareth Bennett barhau, os gwelwch yn dda?

Diolch. Beth yw’r dystiolaeth o’r cynnig o swydd? Pa wiriadau a fyddai ar gael i atal cynigion ffug am swyddi? Beth yn union a olygir wrth amser byr? Sut y gellid olrhain y bobl hyn pe baent yn cael swydd ac yna’n ei gadael?

Yn olaf, mae’r ddogfen ar y cyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn dweud ei bod eisiau, ac rwy’n dyfynnu,

‘Diwylliant cryf o orfodi deddfwriaeth i atal cyflogwyr diegwyddor rhag camfanteisio ar weithwyr’.

Diwedd y dyfyniad. Ond rydym yn gwybod, gan ei fod wedi’i gofnodi, mai ychydig iawn o erlyniadau llwyddiannus a welwyd gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am beidio â thalu’r isafswm cyflog. Mae’r ddogfen ar y cyd yn dweud y bydd yn pwyso am ‘orfodaeth llawer cryfach’ mewn perthynas â deddfwriaeth isafswm cyflog. Yr hyn y mae’n amlwg nad yw’r ddogfen yn ei ddweud yw sut y bydd yn gwneud hyn, sy’n creu twll mawr braidd yn eu cynllun i atal camfanteisio ar weithwyr. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i’w ddweud am hyn heddiw.

Roeddwn i eisiau siarad yn fyr yn y ddadl hon i apelio ar yr holl Aelodau yma ac ar bawb a allai fod ag uchelgais i ddod yn Aelod etholedig yn y dyfodol.

Mae llawer wedi cael ei ddweud am fewnfudo ac mae llawer o bobl yn y ddadl ar fewnfudo yn drysu rhwng ffoaduriaid a hawl pobl i symud yn rhydd mewn ffordd nad yw’n ddefnyddiol. Mae’r modd y digwyddodd y ddadl hon, mewn rhai achosion, wedi gadael blas cas iawn yn y geg, yn enwedig y ffordd y cafodd mewnfudo ei gynrychioli yn ystod y ddadl ar refferendwm yr UE. Cyfeiriaf yma at y poster gwenwynig a oedd yn dwyn i gof un o bosteri gwrth-ffoaduriaid o’r Almaen yn y 1930au. Os gosodwch y ddau boster ochr yn ochr, mae’r tebygrwydd yn hynod. Eto i gyd nid oedd statws ffoaduriaid byth yn destun trafod yn refferendwm yr UE. Ni fydd tynnu allan o’r UE yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’n rhwymedigaethau rhyngwladol i ddarparu lloches i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth, a byddai rhoi’r argraff y byddai yn gamarweiniol ar ei orau, ac yn bropaganda dieflig ar ei waethaf. Ac mae canlyniadau i dôn y ddadl hon. Rwy’n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn teimlo cymaint o siom a ffieidd-dod â minnau o glywed y newyddion am ddyn a oedd wedi symud i Gaerdydd yn gyrru fan wedi’i llogi i mewn i grŵp o bobl y tu allan i fosg yn Llundain. Digwyddiad ofnadwy, rwy’n siŵr y byddai pawb yn cytuno. Ac mae’n rhaid i bawb ohonom ymrwymo i leihau’r tebygolrwydd y bydd rhywbeth felly’n digwydd eto.

A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn y prynhawn yma i ddweud hyn wrth bob un o’n cymdogion Mwslimaidd: gwyddom y byddai’r mwyafrif helaeth ohonoch yn ffieiddio eithafiaeth dreisgar lawn cymaint â ninnau, ac rwy’n siŵr eich bod yn pryderu yn yr hinsawdd bresennol. Cred Plaid Cymru fod yn rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i ddiwreiddio eithafiaeth dreisgar o’n cymunedau ac i greu’r amodau lle y gallwn i gyd fyw gyda’n gilydd fel cymdogion da heb ofn a heb gasineb. Ond ni allwn wneud hynny os yw gwleidyddion a darpar wleidyddion yn rhoi gwybodaeth ffug, yn defnyddio propaganda Natsïaidd ei naws i wneud eu pwyntiau, ac yn siarad mewn tôn yn y ddadl hon sy’n tanio ofnau, casineb a rhagfarn pobl. Un Gymru ydym ni. Mae pawb sy’n byw yma yn haeddu parch ac yn haeddu cael eu cynnwys yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Dylai pob un ohonom deimlo’n ddiogel wrth i ni fyw ein bywydau o ddydd i ddydd. Dylai pobl liw allu byw heb hiliaeth. Dylai Mwslimiaid allu byw heb Islamoffobia.

Nid wyf wedi enwi enwau yma y prynhawn yma. Rydym i gyd yn gwybod pa dôn y cyfeiriaf ati, ac yn anffodus, nid yw wedi’i chyfyngu i un blaid wleidyddol benodol. O ble bynnag y daw, mae rhai pobl yn dilyn arweiniad gwleidyddion. Mae’n rhaid i bawb ohonom fod o ddifrif ynglŷn â’r cyfrifoldeb hwnnw ac rwy’n apelio ar wleidyddion ym mhob man i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma ac rwyf am ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw ymfudo wedi bod, fel rhan mor bwysig o hanes Cymru a bydd yn rhan bwysig o’n dyfodol heddiw, a chredaf fod hynny’n sicr wedi ei adlewyrchu yn y cyfraniadau o rannau o’r Siambr hon heddiw. Mae wedi ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y Papur Gwyn a gyflwynwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru, a bydd llawer o’r hyn rwy’n ei ddweud yn fy ymateb yn seiliedig i raddau helaeth ar y Papur Gwyn. Mae dinasyddion o wledydd eraill sy’n byw yng Nghymru yn gwneud cyfraniadau enfawr i’n heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau, a chlywsom ychydig am hynny, blas o hynny, yn y ddadl ysbrydoledig yn gynharach ar ffoaduriaid yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid inni ddweud hefyd—ac rwy’n cefnogi sylwadau agoriadol Steffan ar y pwynt wrth gynnig ei welliant yn fawr iawn—ei bod yn hanfodol fod hawliau dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd yn y DU ar hyn o bryd yn cael eu diogelu. Rydym wedi bod yn galw dro ar ôl tro am hynny fel Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag am hawliau dwyochrog i ddinasyddion y DU yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Rydym yn cydnabod bod angen i ni reoli ymfudo, fel y dywedodd Jeremy Miles, drwy gysylltu ymfudo yn agosach â chyflogaeth, gan gynnig hyblygrwydd, a chefnogi ein huchelgais am fynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl Ewropeaidd. Ac mae camfanteisio ar ein gweithlu, wrth gwrs, yn fater allweddol a phwysig i’w drafod yn y Cynulliad hwn. Mae gormod o weithwyr yn cael eu hecsbloetio gan gyflogwyr diegwyddor, gan danseilio lefelau cyflog a thelerau ac amodau i’r holl weithwyr, ac rydym yn cydnabod y gall mewnfudwyr fod yn arbennig o agored i hyn. Ond nid mewnfudo yw’r mater y mae angen i ni fynd i’r afael ag ef yma ond camfanteisio, ac wrth gwrs, gall Llywodraeth y DU wneud llawer mwy i fynd i’r afael â chamfanteisio gan gyflogwyr nad ydynt yn talu isafswm cyflog neu sy’n amddifadu gweithwyr o’u hawliau statudol, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud yr hyn a all i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau llafur, ac mae’r rhain yn faterion pwysig i’w trafod. Er enghraifft, mae ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi yn nodi ein disgwyliadau clir i gyflogwyr ledled Cymru ymgorffori arferion gwaith moesegol yn eu sefydliadau a rhoi’r gorau i gamfanteisio ar lafur. Dylid nodi, wrth gwrs, fod gennym lefelau llawer is o ymfudwyr yng Nghymru na’r rhan fwyaf o rannau eraill y DU, ac mae llawer o bobl sydd wedi dewis byw a gweithio yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn y GIG yng Nghymru yn unig, mae dros 1,300 o staff ymroddedig yn dod o’r UE. Yn wir, daw 7 y cant o’r holl feddygon yng Nghymru o’r UE. Ond hefyd ceir llawer o bobl a aned dramor sy’n gweithio yn ein sectorau economaidd allweddol ac sy’n chwarae rôl yn llwyddiant ein sefydliadau academaidd—roedd Andrew R.T. Davies yn cydnabod hyn—o ran ymchwil yn ein prifysgolion. Dyma bobl rydym yr un mor awyddus i’w gweld yn aros yng Nghymru ac yn dod i fyw a gweithio yng Nghymru yn y dyfodol.

Yn amlwg, rydym am sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad at swyddi o ansawdd uchel ac i wneud hynny, ein bod yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol neu yn nes ymlaen mewn bywyd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael mynediad at y cyfleoedd hyn. Felly, rydym yn gwneud hynny drwy’r blaenoriaethau sgiliau a nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, sy’n cynnwys cynorthwyo pobl sy’n chwilio am sgiliau cyflogadwyedd, creu cyfleoedd prentisiaeth a hyrwyddo arloesedd a chysylltedd. Lle mae prinder sgiliau a bylchau sgiliau, bydd ein gweithredoedd yn helpu i fynd i’r afael â’r rhain yn y tymor hwy. Ond yn y tymor byr, mae angen i ni allu recriwtio staff o dramor i lenwi swyddi gwag allweddol.

Gofynnodd UKIP i ni nodi papur gwaith Banc Lloegr. Efallai bod ei ganfyddiadau’n berthnasol, ond mae’n rhaid eu hystyried yn y cyd-destun ehangach. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at bapur Ysgol Economeg Llundain, y mae eich gwelliant, Steffan Lewis, yn ymateb iddo, oherwydd mae’n werth ailadrodd yr hyn a ddywedodd Steffan Lewis. Daeth y papur i’r casgliad nad oes unrhyw effeithiau negyddol mawr iawn ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb cyflog i’r boblogaeth a aned yn y DU. Ond byddwn hefyd yn tynnu sylw at yr adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a oedd yn dangos bod mewnfudo yn creu budd net i gyllid cyhoeddus.

Ond byddwn yn hefyd yn hoffi gwneud pwynt am y ffactorau y credaf y dylai UKIP fynd i’r afael â hwy. Tynnaf sylw at y ffactorau sy’n effeithio llawer mwy ar enillion pobl, megis chwyddiant, sydd ar ei bwynt uchaf ers blynyddoedd, a briodolwyd gan Fanc Lloegr i ddibrisio sterling a’r cyfnod cyn y refferendwm y llynedd a’r canlyniad wedyn. Mae caledi ariannol, unwaith eto, yn arwain at wasgfa ddifrifol iawn ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Mae diffyg buddsoddi mewn seilwaith yn nodwedd nodedig arall o bolisïau caledi ariannol Llywodraeth y DU, gan wanhau cynhyrchiant, a hynny, yn ei dro, yn arwain at lai o gynnydd mewn cyflogau. Bydd yr isafswm cyflog y deddfwyd ar ei gyfer a’r ffordd y caiff ei orfodi hefyd yn dylanwadu ar lefelau cyflogau a thwf, ac mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi’i hachredu fel cyflogwr cyflog byw gan y Sefydliad Cyflog Byw. Mae’r GIG yng Nghymru wedi bod yn talu cyflog byw go iawn i’w holl weithwyr ers 2015, ac rydym yn hyrwyddo manteision y cyflog byw go iawn yn fwy eang ar draws y sector cyhoeddus a’r economi. Mae’n rhan o’n cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu dull o weithredu sy’n cynnwys ffocws ar ymfudo sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, gyda chefnogaeth cyfreithiau llafur cryf a mwy o gyfleoedd i bawb. Rydym yn credu mai dyma’r opsiwn gorau ar gyfer ein heconomi ehangach a’n gweithlu, a’i fod yn rhoi’r opsiynau gorau i’r DU wrth iddi gychwyn ar drafodaethau. Mae yna agweddau ar welliannau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru y gallwn gytuno â hwy, sy’n cymeradwyo’r dull hwn o weithredu.

Yn olaf, Llywydd, rwy’n meddwl y byddwn yn dweud y byddai wedi bod yn dderbyniol pe bai UKIP wedi manteisio ar y cyfle nid yn unig i groesawu’r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chamfanteisio ein gweithlu o ble bynnag y daw, ond hefyd i ymuno â ni i alw am roi terfyn ar y cyfnod o galedi, cyflogau isel a’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus, sydd oll yn dal i gael eu gwthio gan Lywodraeth Geidwadol, sy’n golygu bod ein gweithlu sector cyhoeddus wedi cael eu dal mewn cyfnod o gynnydd cyfyngedig mewn cyflogau ers saith mlynedd. Rwy’n ofni bod y ddadl hon yn datgelu rhaniadau sydyn yn y Senedd hon gyda’r wleidyddiaeth a arddelir gan UKIP, sy’n ffiaidd i’r rhan fwyaf o bobl yn y lle hwn. Rwy’n credu, Llywydd, bod hon yn wythnos pan ydym yn dathlu cyfraniad ffoaduriaid yng Nghymru, ac mae’n berthnasol i’r ddadl hon yn dilyn dadl ysbrydoledig y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, dadl am y cyfraniad y mae ffoaduriaid yn ei wneud ac eisiau ei wneud, a’r ffyrdd y ceisiwn eu cynorthwyo i wneud hynny. Mae’n drist iawn fod y ddadl honno, y ddadl ysbrydoledig iawn honno, wedi’i dilyn gan drafodaeth lle y gwelir gwir natur safbwyntiau ymrannol a negyddol UKIP unwaith eto. Roedd Jeremy Miles yn iawn i dynnu sylw at hanes UKIP yn hyn o beth, fel roedd Leanne Wood yn wir.

Byddwn yn dweud, yn olaf, fod y cynnig hwn yn mynd yn groes i raen gwerthoedd a safbwynt gwleidyddol y rhan fwyaf o bobl yn y Cynulliad hwn a’r bobl rydym yn eu cynrychioli yng Nghymru. Fe all Cymru fod yn noddfa. Gall fod yn wlad groesawgar gydag economi sy’n ffynnu. Byddwn yn dadlau gydag UKIP, ond ni fyddwn byth, byth, byth yn cytuno â’r safbwyntiau anwybodus a rhagfarnllyd y mae UKIP yn eu datgan heddiw. Rwy’n eich annog i gefnogi ein gwelliant.

Diolch i chi, Llywydd. Mae’n debyg ei bod yn anochel y byddai cyfraniad y pleidiau eraill yn y ddadl hon yn gwrthod ymgysylltu â byrdwn go iawn ein cynnig, sef cywasgu cyflogau. Nid yw UKIP yn anghydweld â rhinweddau ymfudo. Yn wir, euthum allan o fy ffordd yn fy araith i ddweud nad yw’r problemau go iawn a welwn heddiw ond wedi codi ers 2004 mewn perthynas ag ymfudo o’r UE, oherwydd cyflymder y mewnlifau rydym wedi’u profi, ac mae hynny wedi cael effaith anochel ar gyflogau isel, sy’n rhywbeth nad yw astudiaeth Ysgol Economeg Llundain yn ymdrin ag ef. Mae astudiaeth Banc Lloegr a llawer o rai eraill y gallwn fod wedi’u henwi—a gallwn eu rhestru yn awr, gan fod yr holl adroddiadau gyda mi—wedi dod i’r un casgliad, ac mae’n amlwg beth bynnag: pan fyddwch yn cynyddu’r cyflenwad o gymharu â’r galw, rydych yn tueddu i ostwng prisiau.

Mae’n drueni mawr fod y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn arbennig yn gwrthod ymgysylltu â’r hyn y mae’r mwyafrif llethol o bobl Prydain yn ei deimlo: fod mewnfudo wedi bod allan o reolaeth, yn parhau i fod allan o reolaeth a bod yn rhaid ei reoli. Os ydynt ond yn cadw eu pennau o dan y dillad gwely ac yn gwrthod cydnabod y broblem, dyna sy’n cynhyrchu aflonyddwch cymdeithasol. Hynny yw, ar hyn o bryd, yn ffodus, nid dyna yw’r sefyllfa yn y Deyrnas Unedig, ond os ydym yn mynd i gyfnod gwaeth yn economaidd, mae’n ddigon posibl mai dyna a welir maes o law.

Nid oes gan y ddadl hon ddim oll i’w wneud â ffoaduriaid—ysgyfarnog a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru. Dadl am effeithiau economaidd ymfudo yw hon, ac rwy’n anghymeradwyo cyfraniad Jeremy Miles ac yn wir, ymgais arweinydd Plaid Cymru unwaith yn rhagor i’n pardduo fel pobl hiliol a rhai sy’n casáu tramorwyr, ac yn y blaen. Pe baem yn amlygu hanes nifer o aelodau blaenllaw’r Blaid Lafur, gyda’u rhefru a’u cyfeiriadau gwrth-Semitaidd, yn cynnwys arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, sydd wedi gwrthod ymddiheuro nifer o weithiau am ddisgrifio Hezbollah, y milisia Libanaidd sy’n lladd Iddewon, fel ffrindiau, yna gallaf bardduo’r Blaid Lafur gyda’r un brwsh. Beth am Naz Shah, Aelod Seneddol, sydd wedi trydar y dylai Israeliaid gael eu cludo i’r Unol Daleithiau o’r Dwyrain Canol, er mwyn i’r Dwyrain Canol fod yn heddychlon unwaith eto heb ymyrraeth dramor o’r Unol Daleithiau? A ydynt yn mynd i gondemnio Jeremy Corbyn a Naz Shah? A ydynt yn cynrychioli barn y Blaid Lafur? Maent yn fwy cynrychioliadol o farn y Blaid Lafur, oherwydd, gyda rhai fel Ken Livingstone yn dal yn y Blaid Lafur, sydd wedi bod yn gyfrifol ei hun am wneud sylwadau treisgar gwrth-Semitaidd, maent yn wynebu llawer mwy o risg o gael eu llygru gan hiliaeth nag y bydd UKIP byth.

Roedd y ddadl—[Torri ar draws.] Roedd y ddadl i fod yn drafodaeth ddifrifol am effeithiau economaidd mewnfudo, ac mae’n druenus, mewn gwirionedd, fod Aelodau eraill, fel Jeremy Miles, wedi bod mor fabanaidd â’i gwyrdroi’n gyfle i alw enwau yn y modd y gwelwyd heddiw. Mae’r Ysgrifennydd Addysg yr un mor ddrwg, ar ei heistedd, hefyd. Pe bai yn yr ysgol, byddai’n cael ei hel i gefn y dosbarth neu ei hel allan o’r ystafell am ymddwyn yn afreolus. Felly, UKIP yn unig sy’n mynd i leisio’r materion hyn mewn gwirionedd, a dyna pam y cawsom 12 y cant o’r bleidlais yn yr etholiad fis Mai diwethaf, ac mae gennym hawl democrataidd i fod yma’n siarad ar ran y rhai a bleidleisiodd drosom, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwy’n annog pawb i bleidleisio dros ein cynnig heddiw.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cynigion i Gytuno ar Aelodaeth Pwyllgorau

Cynigion nawr i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwy’n cynnig bod y cynigion i ethol aelodau pwyllgor yn cael eu grwpio ar gyfer ei trafod. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion—Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6341 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Vikki Howells (Llafur).

Cynnig NDM6342 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mike Hedges (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynnig NDM6343 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mike Hedges (Llafur).

Cynnig NDM6344 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynnig NDM6345 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.

Cynnig NDM6346 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cynigiwyd y cynigion.

Yn ffurfiol. Felly, os nad oed unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, yn unol â Rheol sefydlog 12.40, rwy’n cynnig bod y pleidleisio ar y cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. 10. Cyfnod Pleidleisio

Y cyfnod pleidleisio yw’r eitem nesaf ar ein hagenda ni, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. A’r bleidlais gyntaf yw’r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6336.

Y bleidlais nesaf, felly, ar ddadl UKIP ar bolisi mewnfudo, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw David Rowlands a Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 45, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6335.

Gwelliant 1, felly, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 12, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6335.

Gwelliant 2: os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, fe wrthodwyd gwelliant 2.

Gwrthodwyd y gwelliant : O blaid 8, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6335.

Pleidlais nawr ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6335.

Galwaf, felly, i gloi, ar bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cynnig NDM6335 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy’n cydbwyso swyddi a’r economi â’r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;

2. Yn cefnogi’r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:

a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a

b) cynyddu’r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6335 fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6335 fel y’i diwygiwyd.

12. 11. Dadl Fer: Yr Heriau Aml-ochrog sy'n Deillio o Dlodi yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw’r ddadl fer, ac felly—gadewch y Siambr yn dawel, oherwydd mae busnes yn parhau. Rwy’n galw, felly, ar Vikki Howells i gyflwyno’r ddadl fer yn ei henw hi—Vikki Howells.

Diolch, Llywydd. Fel yr hydra mewn chwedloniaeth Roegaidd, mae tlodi yng Nghymru yn anghenfil sy’n meddu ar lawer o bennau. Mae’n cyflwyno amrywiaeth o heriau, ac yn ôl pob golwg, wrth i bob un gael ei goresgyn, mae dwy broblem arall yn codi yn ei lle. Fodd bynnag, yn wahanol i’r hydra chwedlonol, mae tlodi yn rhywbeth go iawn ac yn effeithio ar fywydau a lles y rhai yr effeithir arnynt ar draws Cymru yn ddyddiol. Ar gyfer fy nadl fer heddiw, byddaf yn archwilio rhai o’r ffyrdd y mae tlodi yn amlygu ei hun yng Nghymru, yn ystyried yr heriau amlochrog y mae’n eu hachosi ac yn llunio rhai atebion posibl. Mae’n bleser gennyf allu rhoi munud o fy amser i Hefin David heddiw.

Er y gellid dadlau ynglŷn â’r diffiniadau o beth yn union a olygir wrth dlodi, nid oes dadl ynglŷn â niferoedd y bobl yr effeithir arnynt: mae 700,000 o bobl—ychydig o dan un o bob pedwar o bobl yng Nghymru—yn byw mewn tlodi, yn ôl ffigurau gan Sefydliad Joseph Rowntree. Dyna 700,000 o bobl y mae eu bywydau a’u cyfleoedd yn cael eu cyfyngu a’u difetha gan dlodi. Pe baem yn defnyddio’r dull mwy cyffredinol, gan fynd y tu hwnt i ystyried tlodi incwm cymharol yn syml, fel yr awgrymwyd gan grwpiau megis Sefydliad Bevan, gallai’r nifer fod yn fwy byth. Er bod y ffigurau hyn wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth, er gwaethaf ymdrechion gorau’r Llywodraeth, mae newidiadau wedi bod hefyd yn y ddemograffeg sy’n fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi heddiw. Yn wir, mae’r amrywiad yn y modd y mae pobl yn profi tlodi yn mynd â mi yn ôl at y gyfatebiaeth a ddefnyddiais i agor fy nadl fer: gall gwahanol grwpiau o bobl mewn gwahanol ardaloedd brofi tlodi mewn gwahanol ffyrdd, ond mae’n bosibl canfod tueddiadau penodol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn flaenorol, gallai bod o oedran pensiwn fod yn gyfystyr â byw mewn tlodi. Mae hyn wedi newid i raddau helaeth o ganlyniad i weithredoedd y Llywodraeth Lafur rhwng 1997 a 2010, ond amcangyfrifir o hyd fod tua 50,000 o bobl hŷn yn byw mewn amgylchiadau ariannol enbyd. Yn yr un modd, er na chyflawnwyd ymrwymiadau llawn bwriadau da i roi terfyn ar dlodi plant o fewn cenhedlaeth, mae’n dal i fod yn werth nodi dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Mae hwn yn dangos y byddai tlodi plant a thlodi pensiynwyr naill ai wedi aros yr un fath neu wedi codi, yn hytrach na gostwng yn sylweddol, oni bai am benderfyniadau polisi Llywodraeth Lafur flaenorol y DU. Mae’r cynnydd hwn i’w groesawu, ond mae parhad tlodi plant yn dal i effeithio ar lawer gormod o’n pobl ifanc, gydag elusennau yn awgrymu bod traean o blant Cymru yn profi tlodi, gan effeithio’n sylweddol ar eu cyfleoedd mewn bywyd.

Mae’r tueddiadau’n arbennig o amlwg mewn rhai rhannau o Gymru, a gall ffurf tlodi amrywio rhwng gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Ar draws rhannau helaeth o Gymru, mae’n ymddangos bod heriau’n codi o brinder swyddi o ansawdd da sy’n talu’n dda. Mewn rhai rhannau o Gymru, megis yr ardaloedd gwledig yn bennaf, ymddengys bod yr heriau’n ymwneud â thlodi mewn gwaith, lle mae pobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi ar gyflogau isel heb ddigon o oriau. Ceir cyferbyniad ag etholaethau’r Cymoedd, fel fy un i, lle mae’r broblem yn gallu codi o ddiffyg swyddi yn y lle cyntaf, heb sôn am rai diogel sy’n talu’n dda.

Ceir cyswllt clir arall rhwng rhywedd a thlodi. Yn wir, fel y mae Chwarae Teg yn ein hatgoffa, gan bwyso ar ymchwil o Brifysgol Rhydychen, nid yw tlodi’n niwtral o ran rhywedd. Mae menywod yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith rhan-amser neu waith elfennol, gydag enillion cyfartalog o lai nag £8,000 y flwyddyn. Adlewyrchir rôl ymylol yn y gweithle gan rôl ganolog yn y cartref, sy’n golygu bod achosion a phrofiadau menywod o dlodi yn wahanol i rai dynion.

Yn yr holl amrywiaeth hon, mae tlodi’n anghenfil amlochrog go iawn. Mae’r ffyrdd y gall effeithio hefyd yn dangos amrywiaeth. Rwyf am ganolbwyntio ar bedair o’r rhain heddiw. Yn gyntaf, rwyf am siarad am dlodi bwyd. Ers cael fy ethol rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda Banc Bwyd Merthyr Cynon, rhan o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell o dros 400 o fanciau bwyd, i dynnu sylw at eu gwaith yn fy etholaeth a’r ffaith gwbl annerbyniol nad oes gan bobl ar draws y wlad ddigon i’w fwyta. Mae’n frawychus yn 2016-17 fod rhwydwaith Banc Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru wedi darparu dros 95,000 o gyflenwadau bwyd brys tri diwrnod i bobl mewn argyfwng, cynnydd o 10 y cant o’r flwyddyn flaenorol; aeth 34,803 o’r cyflenwadau—dros draean—i blant. Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn awgrymu nad yw’r rhan fwyaf o’u defnyddwyr yn unigryw gan fod pobl, ar gyfartaledd, angen atgyfeiriadau lluosog at fanc bwyd. Ar ben hynny, lle mae adroddiadau newyddion yn sôn am swyddogion yr heddlu a nyrsys yn gorfod troi at fanciau bwyd, gwelwn fod hyn, yn wir, yn ffenomenon gyffredin. Mae banciau bwyd a’u cefnogwyr yn gwneud gwaith ardderchog, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt, ond mae’n wirioneddol gywilyddus fod pobl yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd yn dibynnu ar eu presenoldeb er mwyn sicrhau nad yw dinasyddion yn mynd heb fwyd.

Yn ail, rwyf am sôn am dlodi tanwydd. Mae aelwydydd yn profi hyn pan fyddant angen gwario 10 y cant neu fwy o’u hincwm ar gostau ynni er mwyn cynhesu eu cartrefi’n ddigonol. Cyfarfûm yn ddiweddar â National Energy Action Cymru i drafod tlodi tanwydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy yn y grŵp trawsbleidiol arfaethedig ar y mater hwn. Er bod gwelliannau effeithlonrwydd ynni’r Llywodraeth wedi sicrhau gostyngiad i’w groesawu yn lefelau tlodi tanwydd, nododd NEA Cymru fod 291,000 o aelwydydd yn dal i fethu fforddio cynhesu eu cartrefi’n ddigonol. O’r rhain, amcangyfrifir bod 3 y cant o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd difrifol, ac angen gwario 20 y cant neu fwy o’u hincwm ar ynni i gyrraedd lefel ddigonol o gynhesrwydd. Ceir premiwm tlodi’n gysylltiedig â’r mater hwn, wedi’i achosi gan y ddibyniaeth ar fesuryddion talu ymlaen llaw drud sydd 20 y cant yn ddrutach ar gyfartaledd.

Gall tlodi tanwydd fod yn fater o fywyd neu farwolaeth yn llythrennol. Mae NEA Cymru wedi cyfrifo y gellir priodoli 540 o farwolaethau’r gaeaf yn ystod 2015-16 i gartrefi oer. Mae hyn yn golygu bod rhwng pedwar a phump o bobl Cymru wedi marw oherwydd hyn bob dydd dros y gaeaf hwnnw.

Yn drydydd, rwyf am sôn am effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd bywyd. Mae’r bwlch cyrhaeddiad wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, ond ni allwn ddianc rhag y realiti noeth y bydd plant o gefndiroedd incwm isel, o 3 oed ymlaen, ac ar bob cam o’u haddysg wedi hynny, yn cyflawni canlyniadau gwaeth yn yr ysgol na phlant o gartrefi gwell eu byd. Mae hyn yn effeithio ar eu gallu i fanteisio ar eu doniau a gall arwain at brofiadau cyflogaeth ar y cyrion yn ystod eu bywydau fel oedolion. Fel y mae Achub y Plant wedi dweud, mae plant a phobl ifanc sy’n cael eu magu mewn tlodi yn fwy tebygol o fod ar gyflog isel, yn ddi-waith ac yn ddibynnol ar les yn eu bywydau fel oedolion. Gall rhai grwpiau wynebu rhwystrau penodol mewn addysg, ac unwaith eto, mae’n rhaid datblygu atebion pwrpasol i’r heriau hyn.

Yn bedwerydd, rwyf am ystyried yn fyr effaith tlodi ar iechyd, lles ac iechyd meddwl yn benodol. Mae hwn yn destun pryder arbennig i mi. Mae’r ardal gynnyrch ehangach haen is waethaf ond un yng Nghymru ar gyfer canlyniadau iechyd yn fy etholaeth i, sydd â nifer anghymesur o ardaloedd cynnyrch ehangach haen is ymhlith y 10 y cant isaf. Mae hyn i’w weld mewn cyfraddau salwch hirdymor, lefelau dewisiadau ffordd o fyw afiach, trallod emosiynol a llawer o ffyrdd eraill nad oes gennyf amser i’w harchwilio’n llawn heddiw. Hoffwn nodi dwy ffaith fer. Yn gynharach eleni, dywedodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant mai tlodi yw’r bygythiad mwyaf i iechyd plant yng Nghymru. Nodwyd ganddynt fod plant o’r un rhan o bump mwyaf difreintiedig o’r boblogaeth 70 y cant yn fwy tebygol o farw yn ystod plentyndod na’r rhai sy’n byw yn ardaloedd mwyaf cefnog Cymru. Adleisiai hyn adroddiad blynyddol ystyriol Prif Swyddog Meddygol Cymru a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Roedd yr adroddiad yn edrych ar y graddiant cymdeithasol mewn iechyd, lle mae anghydraddoldebau yng nghanlyniadau iechyd y boblogaeth yn gysylltiedig â statws economaidd-gymdeithasol unigolion. Mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn llai tebygol o gael iechyd da am y rhan fwyaf o’u bywydau na’r rhai nad ydynt yn byw mewn tlodi. Mae adroddiad y Prif Swyddog Meddygol hefyd yn cyflawni rôl ddefnyddiol yn egluro pam y mae hyn yn bwysig i bob un ohonom. Mae anghydraddoldebau iechyd sy’n gysylltiedig â thlodi’n costio oddeutu £3 biliwn i £4 biliwn i Gymru bob blwyddyn, a hynny’n ychwanegol at y manteision economaidd a gollir wrth i bobl fethu ffynnu a chyflawni. Fel y dywedodd Kate Pickett a Richard Wilkinson yn ‘The Spirit Level’, mae cymdeithasau mwy cyfartal yn gwneud yn well i’w holl ddinasyddion.

Beth y gallwn ei wneud? Fy man cychwyn yma yw bod yn rhaid i ni gydnabod, i ryw raddau, fod ein dwylo wedi’u clymu gan y penderfyniadau a wneir yn San Steffan. Er enghraifft, mae dulliau fel y system nawdd cymdeithasol wedi’u cadw yn ôl i San Steffan. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi awgrymu nad ydym eto wedi gweld effeithiau llawn newidiadau fel cyflwyno credyd cynhwysol, ac mae ein gallu i amsugno eu heffaith yn gyfyngedig. Yn yr un modd, o ran tlodi tanwydd, mae penderfyniadau ynglŷn â phrisiau ynni a’r lwfans tanwydd gaeaf allan o’n dwylo, ac mae cyd-destun cyffredinol ymrwymiad Torïaidd ideolegol i galedi yn y sector cyhoeddus wedi tynnu biliynau o bunnoedd allan o gyllidebau ac wedi achosi niwed ofnadwy i’n gallu i fynd i’r afael â thlodi. Cafodd arian ei dynnu o’r sectorau addysg ac iechyd a allai fod wedi mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd neu’r byd addysg, gan niweidio’r gwasanaethau hanfodol y mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o ddibynnu arnynt, ac arwain at economi nad yw wedi tyfu digon i greu’r swyddi o ansawdd uchel sy’n cynnig un ffordd allweddol allan o dlodi. Mae’n dda bod y Canghellor wedi cydnabod ein bod wedi blino ar galedi, ond rhaid gweithredu yn awr i ddilyn ei eiriau. Fodd bynnag, yn y cyfamser, yma yng Nghymru, rhaid i ni wneud yn siŵr y gallwn ddefnyddio’r arfau yn ein meddiant mor effeithiol ag y gallwn. Croesawaf y ffaith fod lleihau tlodi yn ganolog i amcanion lles Llywodraeth Cymru, ond nid oes gennyf amser yma heddiw i fynd i’r afael â’r ystod lawn o gamau a gymerwyd ar draws y Llywodraeth i helpu’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Ar gyfer rhan olaf fy nadl fer heddiw, byddaf yn cyfyngu fy hun i ddwy agwedd ar ein hymateb. Mae’r gyntaf yn ymwneud â Cymunedau yn Gyntaf. Nodaf sylwadau’r Ysgrifennydd cymunedau o’r pwyllgor cydraddoldeb y bore yma nad yw’r rhaglen wedi sicrhau’r newid sylfaenol y dylai fod wedi’i wneud, ond ei fod i’r un graddau wedi atal tlodi rhag gwaethygu. Sicrhaodd Cymunedau yn Gyntaf rai llwyddiannau go iawn yn fy etholaeth. Rwyf am gofnodi fy niolch i’r staff a gynorthwyodd i wneud hyn. Mewn unrhyw raglen yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y bydd elfennau mwyaf llwyddiannus y polisi yn cael eu cadw. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r agenda gyflogadwyedd ac rwyf am dynnu sylw at hyn fel ail agwedd allweddol.

Yr arf allweddol ar gyfer codi pobl allan o dlodi yw drwy gynyddu cyfleoedd cyflogaeth, gan wneud i waith dalu, a grymuso ein dinasyddion nid yn unig i gael swyddi, ond i gael swyddi da, a chwalu’r rhwystrau rhag gallu gwneud hynny. Ar gyfer ardaloedd megis Cwm Cynon a gweddill y Cymoedd gogleddol yn wir, darperir un ateb drwy wella ac ymestyn cysylltiadau trafnidiaeth. Gall cynlluniau fel y metro fod yn drawsnewidiol, ond mae’n rhaid i brisiau a thaliadau fod yn fforddiadwy. Fel y crybwyllais yma yn y Siambr hon o’r blaen, mae taith ar y trên yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd i Aberdâr ar hyn o bryd yn costio’r un faint â chyflog awr o’r cyflog byw cenedlaethol.

Rhaid i ni hefyd greu cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd fel y Cymoedd. Ceir rhai syniadau da iawn yma ac rwy’n edrych ymlaen at ddilyn hynt Swyddi Gwell, yn Nes Adref. Cyflwynodd TUC Cymru achos da iawn ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hyn. Mae yna hefyd gyfleoedd i dyfu’r economi sylfaenol, gan wneud gwell llwyddiant o’r hyn sydd yno eisoes. Mae’n galonogol fod Ysgrifennydd yr economi wedi nodi rôl hyn yn lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl a rhwng ein cymunedau.

Gall dulliau cydgysylltiedig fel y fargen ddinesig chwarae rhan allweddol yn trechu tlodi, fel y mae arweinwyr cynghorau sy’n gysylltiedig â hwy wedi awgrymu, er bod yn rhaid i’r nod hwn fod yn un cadarn i sicrhau nad yw’n llithro i lawr yr agenda, fel y nododd pryderon a leisiwyd gan Sefydliad Bevan. Mae polisïau fel cynnig gofal plant newydd Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer ymestyn a gwella gwaith menywod a mynd i’r afael ag agweddau ar y cwestiwn sy’n ymwneud â’r rhywiau. Er mwyn trechu tlodi mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a chydnabod ei heriau gwahanol. Mae’n rhaid i ni hefyd weithio gyda’n gilydd ar draws pob haen o Lywodraeth, a’r sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd, heb ildio na phetruso rhag anelu at ein nod. Ond os gwnawn ni hynny, gallwn ladd yr anghenfil.

Er gwaethaf y ffeithiau llwm y mae Vikki Howells wedi’u cyflwyno yno, tuag at ddiwedd ei haraith hefyd, fe gyflwynodd set optimistaidd a blaengar iawn o ddulliau i’n helpu gyda’r llwybr allan o hyn. Mae tlodi yn anghyfiawnder enfawr ac rydym yn ei gydnabod fel anghyfiawnder enfawr, ac mae’n iawn felly i ni fod yn ddig ynglŷn â’r hyn y mae tlodi yn ei wneud i’n cymunedau. Felly, dylem groesawu’r ffaith fod Vikki Howells wedi nodi’r syniadau a all ein helpu i liniaru’r problemau hyn a lladd yr anghenfil, fel y dywedodd. Ac yn wir, ar y meinciau hyn, ar draws y meinciau Llafur hyn, rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau ar y pethau hynny a bwydo i mewn i’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Mae hi wedi crybwyll Swyddi Gwell, yn Nes Adref—nid yn unig ynglŷn â gwaith, ond ynglŷn ag ansawdd gwaith; yr economi sylfaenol; cysylltu’r Cymoedd gogleddol; a thai o ansawdd. Os gallwn gyflawni’r pethau hyn drwy’r strategaeth economaidd a gwaith Ysgrifennydd y Cabinet, yna gallwn adeiladu ar y gwaith a wnaeth Llywodraeth Lafur flaenorol y DU ar leihau tlodi.

Diolch yn fawr iawn a galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl. Carl Sargeant.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw, ac i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu? Fel byddwch yn gwybod, Dirprwy Lywydd, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith sy’n arwain ar y materion hyn bellach, ond rwy’n hapus iawn i gymryd ei le heddiw.

Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy ddweud ein bod yn hynod falch o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i gryfhau economi Cymru—gwaith sydd wedi helpu i ddod â swyddi i’n cymunedau ac sydd wedi cynorthwyo unigolion a theuluoedd i fod yn fwy llewyrchus. Diolch i raglenni megis Twf Swyddi Cymru, ReAct ac Esgyn, a chefnogaeth gan fusnesau yng Nghymru, rydym wedi gweld twf economaidd cryf yn ein cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae 8,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru nag a oedd 12 mis yn ôl, gyda chyflogaeth i fyny 1 y cant dros y flwyddyn i gyfradd uwch nag erioed o’r blaen bron, ac yn y cyfamser, mae gwelliannau o ran anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gwneud yn well na chyfartaledd y DU ac wedi gostwng 1.1 y cant dros y flwyddyn. Ond, a gwrando ar Vikki Howells, mae hi’n iawn: mae llawer iawn mwy i’w wneud. Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes, rydym wedi dod â swyddi o ansawdd uchel i Gymru drwy fuddsoddiadau gan Aston Martin, TVR a General Dynamics. Fodd bynnag, fel y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yn glir, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, nid ydym wedi goresgyn problem tlodi strwythurol sy’n effeithio ar gymunedau Cymreig ledled Cymru. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn y broses o adnewyddu ei dull o drechu tlodi.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am gydgysylltu mesurau trawsbynciol i ddarparu cyfleoedd economaidd i bawb, ac mae wedi pwysleisio’r angen am ddull newydd ar draws y Llywodraeth—un sy’n cynorthwyo ein cymunedau i fod yn gryfach yn wyneb yr heriau economaidd sydd o’n blaenau. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi dweud yn glir iawn, cyflogaeth leol o ansawdd da, seilwaith cysylltiedig a sgiliau ar gyfer gwaith yw’r sylfaen i gymunedau cryf: yn union yr hyn roedd Vikki Howells yn siarad amdano. Bydd y pum mlynedd nesaf yn her enfawr i’n cymunedau. Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith lawn diwygio lles yn cael eu dwysáu gan gyflymder cynyddol newid technolegol a’i effaith ar waith a’r farchnad lafur.

Gwrandewais yn ofalus ar gyfraniad y ddau Aelod, ac rwy’n gobeithio hefyd fod y Canghellor newydd yn awr yn gwneud dewis ynglŷn â’r mesurau caledi a fu ganddynt ar waith, ac yn gwneud y dewis cywir i roi diwedd ar hynny yn awr. Byddwn yn annog y Canghellor a Llywodraeth y DU i ailystyried yr ymyriadau hynny y maent yn eu hystyried. Ond ni ddylem fynd â’r cyfan oddi wrth y Llywodraeth Geidwadol: yr hyn y maent wedi llwyddo i’w wneud—un o’r llwyddiannau economaidd y maent wedi’u cael—yw tyfu banciau bwyd. Mae’n drasiedi lwyr fod gennym bobl—mae gennym nyrsys; mae gennym ddiffoddwyr tân—mae gennym bobl yn ein holl gymunedau sy’n defnyddio banciau bwyd, ac mae’r ffaith fod 34,800 o blant yn cael parseli bwyd mewn cymuned heddiw yn rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU fod â chywilydd ohono.

Mae mater tlodi tanwydd, cyfraddau cyrhaeddiad, tlodi ac iechyd a lles meddyliol yn bethau y mae ymyriadau ar draws y Llywodraeth yn edrych arnynt. Mae’r agenda dai’n ymwneud â hynny hefyd. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am godi’r mater pwysig hwn. Siaradais mewn cynhadledd ar blant y bore yma, lle roedd asiantaethau’n pryderu ynglŷn â diwygio lles a’r effaith a gaiff ar ein plant yn fwy hirdymor. Rwyf wedi siarad droeon am effaith esgeulustod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’r ffaith y byddwn yn talu’r pris am flynyddoedd lawer os nad awn i’r afael â hynny yn awr.

Felly, hoffwn orffen, Dirprwy Lywydd, drwy ddiolch i Vikki Howells a’r cyfraniadau gan Aelodau eraill, a dweud, ‘Mae’n rhaid i hyn fod ar yr agenda, yn flaenllaw ym mholisi’r Llywodraeth.’ Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am dynnu sylw at y materion y mae wedi’u codi heddiw yn ei chyfraniad cadarnhaol iawn, ond cyfraniad sydd wedi ysgogi’r meddwl hefyd. Dylem sicrhau ein bod yn gweithredu ar hynny fel Llywodraeth gyfunol i wneud y newidiadau yn ei chymunedau, a chymunedau ledled Cymru. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:38.