Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
09/05/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Lee Waters.
Addysgu Plant i Godio
1. Pryd y caiff pob plentyn yng Nghymru ei addysgu i godio? OAQ(5)0577(FM)
Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi y byddwn yn sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol drwy ddatblygu sgiliau codio ymhlith ein pobl ifanc. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn ym mis Mehefin.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Roedd fy merch yn naw oed ddoe, ac, ar gyfer ei phen-blwydd, gofynnodd am Raspberry Pi, nad yw’n bwdin ffrwythau, ond, mewn gwirionedd, fel y gwyddoch, cyfrifiadur bach a gynhyrchir yn eich etholaeth chi ydyw.
Na, yn fy etholaeth i. [Chwerthin.]
Yn eich ardal chi. [Chwerthin.] Ond pan fydd hi'n gadael addysg, bydd y gallu i raglennu cyfrifiaduron yn sgil hanfodol, popeth o raglennu llinell gweithgynhyrchu i gynllunio'r arloesiad nesaf. Ond canfu’r prif arolygydd ysgolion mai dim ond mewn ychydig iawn o ysgolion y mae safonau TGCh yn gryf, ac nad oes digon o ddealltwriaeth o botensial dysgu digidol i gynorthwyo addysgu a dysgu. Ni ddylai addysgu ein plant i godio ddibynnu ar frwdfrydedd ambell i athro, nac ar allu rhiant i brynu Raspberry Pi. Mae’n rhaid iddo fod yn rhan allweddol o'r hyn y mae ein hysgolion yn ei wneud, neu byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Nawr, fel y dywedwch, bydd cwricwlwm Donaldson, wrth gwrs, yn mynd i’r afael â hyn, ond bydd mwy na 150,000 o bobl ifanc yn cwblhau’r system ysgolion heb y sgiliau sylfaenol cyn i hynny gael ei gyflwyno’n llawn. Felly, a wnewch chi ystyried, Prif Weinidog, pa fesurau dros dro y gallwch chi eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu codio cyfrifiadurol cyn gynted â phosibl?
Wel, a gaf i ddechrau, yn gyntaf oll, trwy ddymuno pen-blwydd hapus i ferch yr Aelod ar gyfer ddoe? Bydd hi yn ei harddegau’n fuan. [Chwerthin.] I ateb ei gwestiwn, rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, ein bod ni eisiau annog sgiliau codio. Rydym ni wedi cyflymu cyhoeddiad y fframwaith cymhwysedd digidol, a fydd yn cefnogi datblygiad ac ymsefydliad sgiliau digidol ym mhopeth y mae unigolyn ifanc yn ei wneud yn yr ysgol. Mae llawer o ysgolion eisoes wedi cyflwyno sgiliau codio i'r ystafell ddosbarth. Rydym ni wedi buddsoddi £670,000 yn rhaglenni Technocamps a Technoteach i ddarparu gweithdai codio cyfrifiadurol i ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac rydym ni wedi gwneud ymrwymiad i ehangu clybiau cod ym mhob rhan o Gymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, cyn y cyhoeddiad fis nesaf.
Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn rhan o'r chwyldro codio, ac mae'n bwysig bod ein pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau hyn. Ond, wrth gwrs, un o'r problemau sydd ganddyn nhw yw gallu gwneud gwaith cartref o ran codio, gan fod mynediad annigonol at gynllun band eang cyflym Cyflymu Cymru. Byddwch yn ymwybodol eich bod wedi gwneud ymrwymiad eglur yn eich maniffesto Llafur ar gyfer y Cynlluniad yn 2011, a wnaeth addewid i gyflwyno band eang i bob safle preswyl a busnes erbyn 2015. Torrwyd yr addewid hwnnw, do? Onid ydych chi’n credu ei bod hi’n hen bryd i chi gyflawni’r addewid hwnnw, a'r lleill yn y maniffesto na wnaethoch chi eu cadw?
Wel, ein haddewid yw darparu i 96 y cant o safleoedd erbyn yr haf eleni, yn wahanol i'w blaid ef na wnaeth unrhyw addewidion o gwbl pan ddaeth i fand eang, ac mae'n debyg sy’n cael trafferth gydag union gysyniad beth yw band eang.
Os oes gennym ni’r arian i’w wario ar TG, oni fyddai’n well gwario’r arian hwnnw ar lythrennedd a rhifedd mewn ysgolion, sydd wedi bod yn methu ers cryn amser?
Gwelaf fod 1951 wedi gwawrio yn y gornel yna. Wel, wrth gwrs, mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig, ond felly hefyd sgiliau TG. Rydym ni’n gwybod, fel Aelodau yn y fan yma, na allem ni weithredu'n iawn yn ein swyddi pe na byddai gennym sgiliau TG sylfaenol o leiaf, ac mae'n hynod bwysig bod gan ein plant yr un sgiliau TG, os nad gwell, o’u cymharu â phlant eraill yn y byd.
Dyledion sy’n Ddyledus Awdurdodau Lleol
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y trosolwg sydd gan Lywodraeth Cymru dros ddyledion sy'n ddyledus i awdurdodau lleol gan drydydd partïon? OAQ(5)0582(FM)
Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am gasglu ei ddyledion yn rhan o'i brosesau rheoli ariannol effeithiol ei hun.
Rwyf braidd yn siomedig â'r ateb yna, Prif Weinidog, gan fy mod i’n meddwl yr hoffech chi wybod am yr hyn nad yw eich awdurdodau lleol yn ei adfer ar adeg pan maen nhw’n honni bod cyni cyllidol yn eu hamddifadu o unrhyw arian. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl gynghorwyr sydd newydd gael eu hethol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys y 10 aelod Ceidwadol newydd, a, gobeithio, bydd y cyngor newydd yn gallu ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth o fewn y terfyn amser statudol fel y gallaf ofyn cwestiynau fel hyn gyda gwybodaeth lawn i law. A allwch chi ddweud wrthyf faint o ddyled heb eu hawlio sy’n ddyledus i awdurdodau lleol, prif ffynonellau’r dyledion hynny, a'r rhesymau y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi i chi am beidio â mynd ar eu trywydd?
Gallaf ddweud, yn 2015-16, bod awdurdodau lleol wedi casglu dros 97 y cant o’r dreth gyngor yr anfonwyd biliau ar ei chyfer—y lefel uchaf ers cyflwyno’r dreth hon. Mae cynnal hawl llawn i gymorth ar gyfer yr holl ymgeiswyr cymwys drwy ein cynllun lleihau'r dreth gyngor wedi helpu i liniaru cynnydd i lefel dyled y dreth gyngor yng Nghymru, ac rydym ni’n gwybod bod y dreth gyngor yng Nghymru yn llawer is nag yn Lloegr, o dan Lywodraeth Dorïaidd yno. Ac, wrth gwrs, gallaf ddweud wrth yr Aelod bod cyfraddau casglu yn 97.2 y cant yng Nghymru erbyn hyn; maen nhw’n is yn Lloegr.
Gwelais y Cynghorydd Keith Reynolds, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, am y tro diwethaf, yn gweithio wrth ei ddesg rai wythnosau cyn iddo farw. A wnaiff y Prif Weinidog gydnabod bod buddugoliaeth Llafur Cymru ym mwrdeistref sirol Caerffili yn tystio i arweinyddiaeth ariannol gadarn, ac oes o wasanaeth cyhoeddus Keith?
Wel, a gaf i ymuno â'r Aelod i fynegi fy nghofion, wrth gwrs, at deulu’r Cynghorydd Keith Reynolds? Gwn fod y salwch yn fyr ac, mewn sawl ffordd, yn annisgwyl. Ac, wrth gwrs, rwy’n siŵr y byddai pobl yng Nghaerffili wedi cydnabod y gwaith a wnaed ganddo ef a chymaint o bobl eraill yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r trydydd parti sydd â’r ddyled fwyaf i awdurdodau lleol Cymru yw Llywodraeth San Steffan, sydd wedi torri dros draean mewn gwariant ar ofal oedolion ers 2011, sydd wedi cael canlyniadau ariannol difrifol yng Nghymru ac, yn amlwg, canlyniadau ofnadwy o ran y gost ddynol i'r henoed, y rhai sy’n sâl a'r anabl? Os caiff y Llywodraeth Geidwadol ddideimlad hon ei hail-ethol, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol, ar 8 Mehefin, mae angen cynllun arnom i amddiffyn Cymru. Ble mae hwnnw? Beth yw hwnnw? Pwy sy'n mynd i’w arwain? Oherwydd mae’n rhaid i mi ddweud, ar sail y dystiolaeth a welwyd o ddoe, rydym ni mewn sefyllfa enbyd os mai fe sy’n mynd i wneud hynny.
Wel, yn ôl yr wythnos ddiwethaf, fe sy’n mynd i wneud. Roedd yn sôn am yr angen am arweinyddiaeth, roedd yn sôn amdano ei hun. Byddwn ni’n hapus i sefyll dros Gymru. Nid ydym ni eisiau gweld Llywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn sathru Cymru dan draed. Ac rydym ni wedi sefyll dros ein pobl, fel y dangosodd yr etholiad y llynedd, ac, yn wir, yn 2011. Y gwir yw—ac mae'n iawn i dynnu sylw at y toriadau sydd wedi digwydd—ein bod wedi colli, ers 2010, swm sy'n cyfateb i gyllideb iechyd gyfan gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd. Er gwaethaf hynny, rydym ni wedi cynnal gwariant ar iechyd 1 y cant yn uwch na’r lefel fesul pen yn Lloegr, ac wedi cynnal gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol 6 y cant y pen yn uwch nag yn Lloegr, gan ddangos Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru yn wyneb cyni cyllidol y Torïaid.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethoch chi lansio eich ymgyrch etholiad ddoe, gan ddarbwyllo eich hun i ynganu enw eich arweinydd. Ai Jeremy Corbyn yw eich ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog o hyd?
Ie.
Prif Weinidog, ddoe, cawsoch gyfle i roi Cymru ar y dirwedd wleidyddol, ond, yn hytrach—rwy'n siŵr y bydd Theresa May yn rhoi ochenaid enfawr o ryddhad—mae tri o'ch prif addewidion wedi'u datganoli, ac roedden nhw’n addewidion a wnaed cyn yr etholiad y llynedd. A gallai pedwerydd addewid, ar blismona, fod wedi ei ddatganoli, pe na byddai ASau Llafur wedi cael eu ffordd eu hunain. Nawr, bydd y blynyddoedd nesaf yn diffinio dyfodol Cymru a'r DU. Dylech chi fod wedi gwneud gofynion Cymreig eglur, i roi llais i Gymru, i amddiffyn Cymru, ond fe fethoch chi â gwneud hynny. Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ASau Plaid Cymru nawr—[Torri ar draws.]
Iawn. Ymdawelwch. Gadewch i’r cwestiwn barhau.
Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ASau Plaid Cymru bellach i gyflwyno orau sut y gallwn ni amddiffyn Cymru. Pam wnaethoch chi ddewis gadael i Theresa May wneud fel y myn?
Dydyn nhw ddim yn hoffi'r slogan 'Sefyll Cornel Cymru', ydyn nhw? Mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi eu sylwi. A diolchaf i arweinydd Plaid Cymru am ailadrodd ein haddewidion—addewidion yr ydym ni yn Llafur Cymru yn falch ohonynt—a bydd hi’n canfod mwy i ddod yn y maniffesto a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Addewidion a wnaed gennych chi cyn yr etholiad diwethaf oedden nhw. Dylech chi fod wedi cyflawni rhai o'r addewidion hynny eisoes. Prif Weinidog, y gwir yw eich bod wedi dileu eich arweinydd o'r ymgyrch hon. Rydych chi’n sôn llawer am undod, ond rwy’n credu eich bod chi wedi ei ddileu o'r ymgyrch hon gan eich bod chi’n gwybod na all Llafur ennill. Nawr, rydych chi eisiau i’r etholiad fod am eich hanes chi, am hanes Llywodraeth Cymru, ac rydym ni i gyd yn gwybod pam yr ydych chi’n gwneud hynny, a dyna pam mae mwyafrif eich addewidion etholiad sydd wedi'u hailgylchu yn rhan o gymhwysedd datganoledig. Felly, wedyn, os byddwch chi’n colli’r etholiad hwn yng Nghymru, fel y mae llawer o arolygon yn awgrymu y gallech chi ei wneud, a yw hynny'n golygu y bydd hwn yn ddyfarniad arnoch chi? Ai eich bai chi fydd hynny? Ac os mai chi fydd arweinydd cyntaf y Blaid Lafur i golli Cymru, y tro cyntaf ers 100 mlynedd, a fyddwch chi’n fodlon cymryd cyfrifoldeb, neu a allwn ni ddisgwyl i chi, unwaith eto, roi’r bai ar rywun arall?
Wel, cawsom ni hyn i gyd y llynedd. Fe welsom ni’r canlyniad. Mae pobl yn ymddiried ynom ni i sefyll dros Gymru. Gwelsom ganlyniadau Plaid Cymru yn yr etholiadau lleol: ychydig iawn o gynnydd, tua’n ôl yng Nghaerffili. Dim ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon—dim ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon—roedd yr Aelod dros Ganol De Cymru yn honni mai ef fyddai arweinydd cyngor Caerdydd, ac enillwyd tair sedd ganddynt. Tair sedd. Mae bellach yn honni—nid yw yma, rwy’n gwybod, ac rwy'n cydnabod hynny—bod Gorllewin Caerdydd yn fuddugoliaeth wych i Blaid Cymru. Wel, gyda thair sedd a Llafur â 12, rwy'n fwy na pharod i ildio’r fuddugoliaeth honno iddyn nhw os mai dyna yw eu diffiniad ohono. Mae gennym etholiad i’w hymladd. Byddwn ni i gyd, fel pleidiau, yn cyflwyno ein polisïau i bobl Cymru, ond, yn anad dim arall, byddwn yn sefyll cornel Cymru.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Yr wythnos diwethaf yn y newyddion, Prif Weinidog, codwyd pryderon difrifol am adroddiad Tawel Fan a'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y system adrodd ynghylch ‘trychineb’ Tawel Fan—y byddwn i’n ei alw—lle’r oedd pobl, fel y soniodd yr adroddiad blaenorol, yn cael eu trin fel anifeiliaid, a datgeliadau syfrdanol eraill. Roedd teuluoedd yn dangos pryder gwirioneddol dros gynnydd y wybodaeth sy'n dod yn ôl iddyn nhw er mwyn bodloni eu hunain ynghylch y ffordd y gofalwyd am eu hanwyliaid. Bu galwad i’r adroddiad marwolaethau gael ei gyhoeddi gan fod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi y gallai rhai marwolaethau cynamserol fod yn gysylltiedig â'r lefelau o ofal yn uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Yn wir, mae pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn y gogledd wedi galw i’r adroddiad hwn fod ar gael gan ei fod wedi ei gwblhau. A wnewch chi, fel Llywodraeth, ymrwymo i roi yr adroddiad hwnnw ar gael o ystyried bod Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ac mai chi sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd?
Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i hynny ar y sail ein bod ni eisiau bod mor agored a thryloyw â phosibl. Dyna fyddai pobl yn ei ddisgwyl, a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw os yw hynny'n briodol.
Wel, mae pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn credu ei fod yn briodol, ac, i ddefnyddio ei eiriau, fel y
Gallai atal yr arfer hwn mewn mannau eraill.
Rydym ni’n gwybod bod yr adroddiad hwnnw ar gael; mae wedi ei gwblhau. Rydych chi’n gwario £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhedeg Betsi Cadwaladr gan ei fod yn destun mesurau arbennig, felly chi sy’n gyfrifol. Pan fydd teuluoedd a chlinigwyr pryderus eisiau gweld y data hyn fel y gallant ddeall yn llawn yr hyn a ddigwyddodd yn yr uned honno, pam ar y ddaear nad ydych chi’n caniatáu i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, gan y byddai'n rhoi llawer iawn o gysur i deuluoedd ac i'r unigolion sydd wedi clywed straeon mor erchyll am y gofal yn yr uned honno? Yn benodol, tynnaf eich sylw at y ffaith, fel y dywedwyd eisoes, bod cleifion yn cael eu trin fel anifeiliaid.
Wel, mae’r adroddiad, fel y deallaf, gyda'r goruchwyliwr annibynnol ac, ar yr adeg iawn, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyhoeddi’r adroddiad. Mae'n bwysig bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i'r rhai sydd wedi gweld eu perthnasau’n dioddef ac i'r rhai sydd wedi dioddef fel y gellir dysgu gwersi.
Rwy’n siomedig iawn nad ydych chi’n fodlon rhoi arwyddion pendant o bryd y bydd yr adroddiad hwnnw ar gael. Fel y dywedais, nid gwleidydd yw hwn sy’n dweud y dylai'r adroddiad hwn fod ar gael; pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn y gogledd yw hwn, ynghyd ag aelodau'r teuluoedd a chlinigwyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar, os nad ydych mewn sefyllfa i roi syniad o'r amserlen heddiw gan fy mod i newydd ofyn y cwestiwn hwnnw i chi, pe byddech chi’n dweud y gwnewch chi ysgrifennu ataf er mwyn i mi gael golwg ar yr amserlen yr ydych chi fel Llywodraeth yn gweithio’n unol â hi. Rwy'n credu mai dyna'r lleiaf y gall rhywun ei ddisgwyl o ystyried y pryderon a godwyd yr wythnos diwethaf.
Ond, hefyd, rwyf yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn fodlon â lefel nifer y gwelyau yn y gogledd i gleifion iechyd meddwl, gan ei bod wedi dod i'n sylw bod 'system soffa' ar waith yn y gogledd, sy’n golygu, os nad oes gwely ar gael mewn adran iechyd meddwl, bod pobl yn cael eu rhoi ar soffas i geisio cyrraedd y targedau. Ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhoi pobl agored i niwed mewn sefyllfa lle y gellid camfanteisio arnynt. Sut gall unrhyw un deimlo bod 'system soffa' yn bodloni’r gofyniad ar gyfer darparu capasiti gwelyau diogel yn ardal bwrdd iechyd y gogledd?
Wel, os oes gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig dystiolaeth o system soffa, fel y mae’n ei disgrifio, byddwn yn falch o weld y dystiolaeth honno. Ac mi wnaf, wrth gwrs, ysgrifennu ato am yr hyn y mae wedi gofyn amdano, gan roi rhagor o wybodaeth iddo am yr amserlen o ran unrhyw gyhoeddiad o'r adroddiad.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn sefyll yn yr etholiad San Steffan hwn ar sail polisi o gynyddu treth incwm i bobl sy'n ennill cyn lleied ag £11,000 y flwyddyn, ac mae'n debyg bod y Blaid Lafur yn genedlaethol yn mynd i sefyll ar bolisi o gynyddu'r gyfradd uchaf o dreth incwm o 45c i 50c. A yw'n cytuno â Changhellor yr Wrthblaid fod gennym ni lawer i'w ddysgu gan Karl Marx a 'Das Kapital', ac a yw'n credu bod codi’r gyfradd uchaf o dreth yn debygol o godi mwy o arian?
Ydw, mi ydwyf. Rwy'n credu y bydd codi’r gyfradd uchaf o dreth yn codi mwy o arian. Nid wyf yn credu bod gennym ni lawer i'w ddysgu gan 'Das Kapital'; i’r rhai sydd wedi ei ddarllen ac wedi ceisio deall yr hyn y mae'n ei ddweud, nid yw'n ymarfer hawdd. Byddwn yn sefyll ar lwyfan o sicrhau bod y rhai sy'n gallu fforddio talu ychydig yn fwy yn talu ychydig yn fwy er mwyn sicrhau bod gennym ni’r gwasanaethau cyhoeddus y byddai pobl yn eu disgwyl.
Felly, a ddylwn i gymryd o’r ymateb yna mai polisi Llywodraeth Cymru erbyn hyn, pan fydd pwerau treth yn cael eu datganoli i ni yn y Cynulliad hwn, yw dilyn maniffesto'r Blaid Lafur yn genedlaethol o gynyddu cyfraddau uchaf treth yng Nghymru, oherwydd y dystiolaeth o'r tro diwethaf y digwyddodd hyn yn 2013 oedd bod gostwng y gyfradd dreth o 50c i’r 45c presennol wedi arwain mewn gwirionedd at gynnydd enfawr mewn refeniw o tua £8 biliwn? Felly, mae'n ymddangos braidd yn wrthgynhyrchiol sefyll ar sail polisi sy'n cynyddu cyfraddau treth ac yn lleihau refeniw mewn gwirionedd, ac yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol.
Cyn belled ag y mae cyfradd treth incwm Cymru yn y cwestiwn, rydym ni eisoes wedi addo na fyddwn yn cynyddu cyfradd y dreth incwm yn ystod y Cynulliad hwn.
Rwyf yn falch iawn o glywed hynny, ond a yw hynny'n golygu bod y Prif Weinidog yn derbyn nad yw codi cyfraddau o reidrwydd yn arwain at gynyddu refeniw yn cynnig cyfle gwych i Gymru i wneud ein gwlad yn rhyw fath o hafan treth o fewn y Deyrnas Unedig, a fyddai'n ein helpu ni i wrthdroi tueddiadau economaidd degawdau lawer iawn yng Nghymru ac yn rhoi mantais sylweddol i ni, yn yr un ffordd ag y mae de Iwerddon wedi defnyddio cyfraddau gwahaniaethol o dreth gorfforaeth i roi hwb i’r economi teigr Celtaidd, a oedd yn llwyddiannus iawn yn y wlad honno—.
Mae'n codi pwynt diddorol am y dreth gorfforaeth; nid oes unrhyw gynigion i ddatganoli treth gorfforaeth. Yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod hafanau treth yn tueddu i fod â gwasanaethau cyhoeddus gwael iawn; yn arbennig, nid oes ganddynt wasanaethau iechyd gan na allant godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus hynny. Felly, nid wyf yn credu mai’r dyfodol i Gymru yw bod yn rhyw fath o replica o'r Ynysoedd Virgin Prydeinig, neu replica, o reidrwydd, o Ynysoedd y Sianel. Mae gennym ni fodel gwahanol iawn; nid oes gan Ynysoedd y Sianel, er enghraifft, wasanaeth iechyd wedi’i seilio ar y model y byddem ni’n ei ddeall, ond mae cael y cydbwysedd cywir rhwng refeniw a gwariant ar wasanaethau cyhoeddus i lefel y byddai pobl yn ei disgwyl, wrth gwrs, yn fater i Lywodraethau ei gydbwyso.
Negodiadau â’r UE
3. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o gyflwr presennol negodiadau â'r UE? OAQ(5)0589(FM)
‘Statig' yw’r gair y byddwn i’n ei ddefnyddio, rwy’n credu. Bu llawer iawn o ddangos eu hunain ar y ddwy ochr. Rwy'n gobeithio y daw hynny i ben yn eithaf buan fel y gellir bwrw ymlaen â’r dasg o sicrhau Brexit call.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Er bod Trysorlys y DU wedi gwarantu cyllid llawn ar gyfer pob prosiect strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd sydd wedi cychwyn cyn i'r DU adael yr UE, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn gwbl hanfodol, ar ôl i’r DU adael yr UE, bod cyfanswm yr arian a fu ar gael yn y gorffennol ar gyfer y prosiectau hyn yng Nghymru yn cael ei ychwanegu at gyllideb Cymru, a'i fod o dan reolaeth cyllideb Cymru?
Ydw. Yn gyntaf oll, rydym ni’n gwybod bod cronfeydd strwythurol wedi eu gwarantu hyd at 2020. Mae cymorthdaliadau ffermio wedi eu gwarantu tan 2020, ond dim byd y tu hwnt i hynny. Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn wynebu'r sefyllfa lle na fydd ganddynt unrhyw beth o gwbl o ran cymorth y tu hwnt i'r adeg honno. Mae gen i ateb hawdd, sef, yn syml, i’r gronfa o arian fod ar gael, fel y mae nawr, ac iddi gael ei dosbarthu fel ag y mae nawr i roi’r sicrwydd y mae’r cronfeydd strwythurol wedi ei roi hyd yn hyn, a sicrwydd i'n ffermwyr yn arbennig. Dyna ffordd dda o sicrhau na fydd yn rhaid i ffermwyr ddioddef o ganlyniad i Brexit.
Er bod Jeremy Corbyn wedi ymuno â'r Ceidwadwyr gan ddweud ei fod eisiau i Brexit gyflwyno cymdeithas decach ac economi wedi’i huwchraddio, rydym ni’n cydnabod bod trafodaethau anodd o'n blaenau. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i’w ddatganiad bod y mater o Brexit wedi ei setlo?
O ran y cwestiwn, mae wedi ei setlo, gan fod Prydain yn gadael yr UE ac mae'r cwestiwn hwnnw wedi cael ei ateb eisoes. Yr hyn nad wyf i’n ei weld, fodd bynnag, yw unrhyw awgrym o unrhyw fath o gynllun gan Lywodraeth y DU. Dim byd. Rwyf wedi eistedd yno mewn cyfarfodydd ac rwyf wedi gofyn. Rwyf wedi ceisio gweld beth yw'r cynllun. Nid oes un. Ddydd Iau diwethaf, gwelsom banig ar ran Prif Weinidog y DU pan ddechreuodd bryderu am yr hyn y byddai Brexit yn ei olygu i bobl gyffredin sy'n gweithio, ac mae hi'n iawn i fod yn bryderus am hynny. Ond ni allwch ddweud ar y naill law bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, ac yna dweud, 'O, ond, wrth gwrs, mae angen cytundeb arnom ni i wneud yn siŵr nad ydym ni’n gweld dirywiad economaidd.' Nawr, yr hyn sy’n hynod o bwysig yw bod dangos eu hunain yr wythnos diwethaf yn mynd a bod gennym ni syniadau ynghylch sut y gallai Brexit edrych. Roedd hi o blaid aros. Gadewch i ni beidio ag anghofio hynny. Mae hi’n rhywun, fel finnau, sydd wedi derbyn y canlyniad ac mae'n hynod bwysig, i’r rhai sydd â syniadau, weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â’r syniadau hynny, oherwydd nid ydym ni wedi cael dim byd o gwbl o ran syniadau gan y rhai a fu'n ymgyrchu dros Brexit.
A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi nad yw’r math o iaith sy’n cael ei defnyddio gan Brif Weinidog y DU i ymosod ar ein ffrindiau a'n cymdogion ar y cyfandir yn helpu neb o ran y trafodaethau sydd i ddod? Nid yn unig y mae’n pardduo Llywodraeth Theresa May, ond mae hefyd yn bygwth pardduo enw da Cymru. Mae’r Prif Weinidog yn gofyn am syniadau wrth symud ymlaen, i liniaru’r potensial o bardduo enw da Cymru ledled y byd oherwydd yr iaith honno sy’n cael ei defnyddio gan Theresa May. A wnaiff ef ymrwymo i gyflwyno polisi rhyngwladol newydd i Gymru a fyddai'n cynnwys neilltuo aelod o'i Gabinet fel Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion allanol ar gyfer ein gwlad, er mwyn dechrau ailadeiladu’r pontydd y mae San Steffan mor benderfynol o’u llosgi’n llwch?
Roedd iaith yr wythnos diwethaf yn anniplomataidd. Rwy'n credu bod y ddwy ochr, mewn gwirionedd, yn euog o ddangos eu hunain ac mae angen i hynny ddod i ben. Nid rhyfel yw hwn. Nid oes neb wedi ymosod ar wlad unrhyw un arall. Nid ydym ar fin wynebu ein gilydd, i syllu ar ein gilydd dros y sianel neu, yn wir, ar draws ffin Iwerddon. Rydym ni eisiau bod yn ffrindiau ac yn gynghreiriaid ac yn bartneriaid masnachu yn y pen draw. Rydym ni eisoes wedi dechrau edrych ar ein polisi rhyngwladol, yn enwedig lle mae angen i ni gryfhau ein presenoldeb rhyngwladol. Rydym ni’n gwybod ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r llwybr Qatar Airways yn enghraifft arall o sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r maes awyr i gael y llwybr hwnnw, ond y cam nesaf ymlaen yw i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n ceisio cael digon o bresenoldeb a mwy o bresenoldeb yn y marchnadoedd hynny a fydd yn dod yn bwysig i ni.
Canolfannau Siopa Ardal
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfannau siopa ardal mewn dinasoedd? OAQ(5)0586(FM)
Rydym ni’n hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol presennol fel y lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd. Dylai awdurdodau lleol sefydlu strategaethau a pholisïau defnydd tir ac adfywio i gefnogi canolfannau manwerthu a masnachol bywiog, hyfyw a deniadol.
Diolch, Prif Weinidog. Mae Treforys ac Abertawe yn ganolfan siopa ardal o bwys. Ceir canolfannau siopa ardal eraill yn Abertawe ac mewn dinasoedd eraill yng Nghymru. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd canolfannau siopa ardal, fel yn Nhreforys, y Mwmbwls a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Yn Nhreforys, rydym ni wedi colli banciau, tafarndai ac amrywiaeth siopa. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y dylai fod banc mawr ym mhob un o’r canolfannau siopa ardal hyn?
Wel, yn ddelfrydol, byddem yn croesawu cyd-leoli canghennau banc mewn canolfannau siopa ardal, ond materion i’r banciau yw’r rhain yn y pen draw. Ond mae'n bwysig bod y gallu gan fusnesau a chwsmeriaid i dalu arian i mewn a chodi arian yn eu cymunedau. Felly, pan fydd y banciau yn methu â hwyluso hyn, rydym ni’n gwybod bod Swyddfa'r Post yn chwarae rhan bwysig, gan fod gan 95 y cant o holl gwsmeriaid bancio’r DU fynediad at eu cyfrifon banc drwy'r swyddfa bost. Yr hyn y byddwn yn pryderu mwy amdano yw pe byddai unrhyw gyhoeddiad gan Swyddfa'r Post yn y dyfodol am gau canghennau swyddfa'r post, gan fod hynny’n cael gwared, wrth gwrs, ar yr unig swyddogaeth fancio sydd ar ôl mewn cynifer o gymunedau.
Prif Weinidog, mae nifer yr ymwelwyr â strydoedd mawr Cymru wedi gostwng. Mewn cymhariaeth, mae nifer yr ymwelwyr â chanolfannau siopa y tu allan i'r dref wedi cynyddu 4.6 y cant yn ôl gwybodaeth o’r llynedd. Nawr, mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi galw ar awdurdodau lleol a manwerthwyr i weithio gyda'i gilydd i farchnata hunaniaeth stryd fawr yn effeithiol. Hefyd, maen nhw eisiau i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd o ran y system gynllunio. Felly, a gaf i ofyn i chi: sut ydych chi'n meddwl y gall y system gynllunio helpu i fod yn fwy cefnogol i’r stryd fawr?
Rydym ni’n gwybod ei bod yn hynod bwysig bod awdurdodau lleol, pan fyddant yn datblygu eu CDLlau, yn edrych ar sut y gallant gynorthwyo canolfannau manwerthu presennol, gan gynnwys strydoedd mawr. Ond mae'n ymwneud â mwy na hynny. Mae'n hynod bwysig i ganol trefi ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain; faint o ganol trefi sydd â gwefan? Pe bawn i’n mynd i dref yng Nghymru, a allaf i ddarganfod beth sydd yno? A oes gwefan? A oes gan fasnachwyr eu gwefannau eu hunain? Ac, wrth gwrs, y rheswm pam mae pobl yn mynd i ganolfannau siopa y tu allan i'r dref yw cyfleustra llwyr—maen nhw ar agor. Ac maen nhw ar agor ar y Sul yn arbennig, pryd y mae’r rhan fwyaf o bobl, y dyddiau hyn, yn tueddu i siopa. Felly, mae'n hynod bwysig bod manwerthwyr y stryd fawr yn ystyried hyblygrwydd eu horiau agor hefyd. Nid 40 mlynedd yn ôl yw hyn yn pan oedd pobl yn mynd i siopa yn ystod yr wythnos yn ystod y dydd ac roedd siopau ar agor. Ar y cyfan, mae pobl yn siopa am 6, 7, 8 o'r gloch y nos, ac maen nhw’n siopa ar y Sul pan fo llawer o strydoedd mawr wedi cau, felly mae angen rhywfaint o hyblygrwydd ar fasnachwyr hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cyfochri eu horiau agor—ceir terfyn i’r hyn y gallant ei wneud fel unig fasnachwyr—gyda’r patrymau gwaith sydd gan bobl nawr, nid y patrymau gwaith oedd gan bobl, dyweder, 30 neu 40 mlynedd yn ôl. Mae'n hynod bwysig hefyd, yn rhan o’r broses CDLl, y rhoddir digon o le yng nghanol trefi i gael mwy o lety byw a mwy o leoedd swyddfa. Os oes gennych chi’r gweithwyr swyddfa yn ystod y dydd, mae gennych chi’r ymwelwyr yn ystod y dydd i helpu'r manwerthwyr.
Soniodd Mike Hedges am fanciau yn cau ar y stryd fawr a soniasoch chi am swyddfeydd post. Rhan bwysig arall o ardaloedd siopa ardal weithiau yw’r dafarn leol. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw ddiweddariad ynghylch trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn, rwy’n credu, am sut i ddiogelu tafarndai cymunedol.
Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant fel aelod o CAMRA ar y pwynt hwn. Mae'n fater anodd gan ein bod ni’n gwybod, o safbwynt cynllunio, nad yw'n anodd newid y defnydd o dafarn i ddefnydd masnachol neu fanwerthu arall. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, yn aml iawn nid yw tafarndai yn cael eu gwerthu ac maen nhw’n adfeilio oherwydd eu bod yn wag ar ôl ychydig, felly nid yw'n fater hawdd ei ddatrys. Rydym ni’n gwybod, ac mae hyd yn oed CAMRA ei hun yn cydnabod, bod gormod o dafarndai o hyd, o ystyried arferion cymdeithasol presennol pobl. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw gallu gweithio gyda thafarndai sy’n arwain y farchnad—ceir llawer ohonynt, rhai’n fach, rhai’n fawr—i roi esiampl dda i eraill. Ond, yn y pen draw, mae'n fater o sicrhau y gall y tafarndai gynnig yr amrywiaeth ehangaf o wasanaethau posibl i gwsmeriaid. Rwyf i wedi bod mewn gwledydd lle mae'r tafarndai hefyd yn siopau—yng Nghymru, a dweud y gwir. Rwy'n credu fod Cwmdu yn un enghraifft, ger Llandeilo, lle mae'r dafarn hefyd yn siop. Felly, mae edrych ar ffyrdd y gall tafarndai hefyd weithredu fel canolfannau busnes mewn cymunedau, lle gall y siop leol, o bosibl, fod yn swyddfa bost—dyna un ffordd ymlaen i sicrhau bod gan dafarndai ddyfodol dichonadwy.
Gwella Iechyd Meddwl
5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl yng Nghymru? OAQ(5)0579(FM)
Mae 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ein strategaeth iechyd meddwl traws-Lywodraeth, a'r cynllun cyflawni cysylltiedig ar gyfer 2016-19 yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant pobl yng Nghymru.
Diolch. Bythefnos yn ôl roeddwn yn falch o siarad ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd Iechyd yn nathliadau blwyddyn gyntaf Valley Steps, prosiect cymunedol sy'n ceisio gwella llesiant emosiynol trwy gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli straen. Nawr, mae Valley Steps wedi helpu bron i 2,000 o bobl yn ystod eu blwyddyn gyntaf, ac mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ymddangos yn amser priodol i ddathlu ei lwyddiant. Gydag un o bob pedwar o bobl yn dioddef problemau iechyd meddwl, pa arfer gorau all Llywodraeth Cymru ei fabwysiadu o Valley Steps a’i hyrwyddo ymhlith byrddau iechyd eraill ledled Cymru?
Wel, mae Valley Steps yn ddull arloesol: ei nod yw gwella iechyd meddwl a lleihau rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder. Rwyf yn ei longyfarch ar gyrraedd ei ben-blwydd cyntaf, ac rydym ni’n awyddus i ledaenu'r neges o fodelau arloesol fel hyn er mwyn annog cydweithio tebyg i gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl, a bydd y gwaith hwnnw, wedyn, yn hysbysu mentrau newydd, gan gynnwys datblygu’r bond llesiant a'r cynlluniau rhagnodi cymdeithasol arbrofol. Felly, byddwn yn ystyried gwaith sefydliadau fel Valley Steps er mwyn sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cael ei gryfhau o ganlyniad i edrych ar ei brofiad.
Prif Weinidog, bu nifer o farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yn y gorffennol diweddar mewn ysgolion yn fy etholaeth i. Nawr, yn gynharach eleni, gwnaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gyhoeddiad y dylai pob ysgol uwchradd yn Lloegr gael cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy'n dysgu pobl sut i adnabod pobl ifanc a allai fod yn datblygu problem iechyd meddwl, ac mae’r polisi hwn wedi cael croeso da iawn gan elusennau a gweithwyr proffesiynol yn arbennig, ac mae'n rhaid i ni gofio bod llawer o bobl ifanc yn cael trafferth gyda materion fel anorecsia a hunan-niweidio yn ogystal â meddwl am hunanladdiad. Ac roeddwn i’n meddwl tybed, Prif Weinidog, a allech chi ystyried menter debyg yn ein hysgolion ni i geisio atal y marwolaethau gwastraffus hyn.
Wel, sylwais ar gyhoeddiad Prif Weinidog y DU yn ddiweddar pryd y siaradodd am gael rhywun ym mhob ysgol yng Nghymru a Lloegr. Gwn mai camgymeriad ar ei rhan hi oedd hynny, ac mae'r syniad sy’n sail i'r hyn a awgrymwyd ganddi yn un gwerth ei ystyried. Ond, wrth gwrs, yr hyn yr wyf yn atgoffa'r Aelod ohono yw bod gennym ni eisoes gwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru sy’n gallu cynnig y gwasanaeth hwnnw. Rwy'n credu nad darparu cwnselydd yn unig yw’r gamp, ond sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo y gallant fynd i weld y cwnselydd hwnnw. Ac mae hynny’n rhywbeth sy’n anoddach ei wneud. Mynd i weld rhywun mewn gwirionedd a phobl yn darganfod efallai, er ei fod yn gyfrinachol—mae pobl ifanc yn ei gweld hi felly. Gall hwnnw fod yn gam mawr iddyn nhw hefyd.
Mae gennym ni’r cwnselwyr mewn ysgolion eisoes, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth y tu allan i'r ysgol hefyd, yn enwedig mewn amgylchedd lle maen nhw’n teimlo'n gyfforddus.
A ydy’r Prif Weinidog wir yn sylweddoli faint o argyfwng sydd yn ein hwynebu ni o ran gofal iechyd meddwl yng Nghymru? Yn Ynys Môn rydw i’n deall nad oes yna rŵan yr un ymgynghorodd seiciatryddol ar gyfer cleifion iechyd meddwl rhwng 18 a 65 oed. Mae gweithwyr iechyd meddwl yn gweithio dan bwysau na allan nhw ymdopi â fo ac maen nhw’n ofni eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau sydd yn golygu risg i gleifion. Mae diffyg gwlâu yn golygu bod pobl yn cael eu gyrru mor bell â Llundain i dderbyn gofal. Mae dwsinau o blant a phobl ifanc yn cael eu hanfon i Loegr i gael triniaeth. Mae dros 200 o gleifion iechyd meddwl y gogledd wedi cael eu trosglwyddo allan o Gymru yn y 22 mis diwethaf. Mae’r gyfundrefn gyfan ar ei gliniau. Pa bryd mae’r Llywodraeth am weithredu er mwyn gwarchod rhai o fy etholwyr mwyaf bregus i?
Nid ydw i’n derbyn y ffigurau y mae’r Aelod wedi’u dweud yn y Siambr. Mae’n rhaid i fi ddweud yn gyntaf fod y cyllid i iechyd meddwl wedi mynd lan i £629 miliwn yn y flwyddyn ariannol i ddod. Mae hynny, wrth gwrs, wedi cael ei warchod hefyd. Mae’r byrddau iechyd wedi cyrraedd eu targedi nhw—maen nhw wedi heibio eu targedi nhw ynglŷn â gwasanaethu iechyd meddwl mewn rhai rhannau dros y 12 mis diwethaf. Ac wrth gwrs, er bod yna fwy o bobl yn cael eu trosglwyddo i CAMHS mae’r byrddau iechyd yn hyderus bod y sefyllfa yn mynd i ddangos bod pob gwasanaeth CAMHS ym mhob rhan o Gymru nawr yn cyrraedd y targed o 28 diwrnod cyn sefyll am apwyntiad newydd. So, mae lot fawr o bethau da wedi digwydd yn y gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.
Prif Weinidogion Llywodraethau Datganoledig y DU
6. Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â Phrif Weinidogion llywodraethau datganoledig eraill y Deyrnas Unedig i drafod eu perthynas â’r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0580(FM)[W]
Wrth gwrs, mae yna fusnes i’w drafod cyn 8 Mehefin sydd wedi ymyrryd ar hyn o bryd, ond byddaf yn parhau i drafod materion yr Undeb Ewropeaidd mewn cyfarfodydd dwyochrog— tair ochrog, rydw i’n gobeithio—gyda Phrif Weinidog yr Alban a Dirprwy Brif Weinidog a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y pen draw.
Oni fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno bod y trafodaethau tair ochrog yma yn fwy pwysig nag erioed, o ystyried yr hyn sydd yn y Papur Gwyn gyda’r clawr glas golau yma ar adael yr Undeb Ewropeaidd, wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd yn sôn am y sefyllfa ar ôl i hynny ddigwydd? Bydd y pwerau y mae’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn eu dal mewn perthynas â fframweithiau cyffredin yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, gan ganiatáu i’r rheolau wedyn gael eu gosod yno gan Aelodau democrataidd yn cynrychioli. Beth sy’n digwydd inni yn y lle hwn? Sut mae ein barn yn y gweinyddiaethau datganoledig yn dod yn rhan o’r trafodaethau yna?
Well, my view is that those powers should come the people of Wales, and shouldn’t be retained in Westminster or Whitehall. It’s crucial to have frameworks in some parts, such as the fisheries, for example, but those frameworks should actually be agreed, and not imposed upon people without their consent. We must remember that if we’re going to have a single market within the UK, and I agree with that, we have to have rules. But if we don’t have ownership of the rules, nobody’s going to pay any attention to them. And secondly, there is the question of who’s going to police those rules without having a court of law to refer to. So there are many unanswered questions currently. Some people in the UK think we’ll move back to how things were pre 1972, but that isn’t the same United Kingdom that we have now. We don’t have just one government by now, and there’s a great deal of work to be done to ensure that these powers will be transferred from Brussels to Wales, and not via London.
Pan ymwelodd y pwyllgor materion allanol â Brwsel y llynedd, cawsom gyfarfod â dirprwyaeth fasnach Canada a chefais fy nharo gan swyddogaeth taleithiau Canada o ran trafod a chymeradwyo’r cytundeb CETA gyda’r Undeb Ewropeaidd. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, ers hynny, am swyddogaeth Senedd Wallonia o ran cymeradwyo'r cytundeb. Mae trafodaethau masnach gyda'r UE ac, yn wir, y tu hwnt, yn mynd i ddod yn gynyddol bwysig i Gymru a'r DU, ac maen nhw’n ymwneud â llawer mwy na materion tramor ac uchelfraint y Goron; maen nhw’n ymwneud â materion bara menyn bywyd economaidd bob dydd. Felly, a yw'n cytuno â mi y dylai trafodaethau masnach yn y dyfodol, gyda'r UE a thu hwnt, gynnwys llais i Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill o ran trafod a chymeradwyo’r cytundebau hynny sydd mor hanfodol i'n llesiant economaidd?
Ydw, mi ydwyf. Er nad yw masnach, wrth gwrs, fel y cyfryw, wedi ei ddatganoli, mae'n hynod bwysig bod gennym ni lais cryf, oherwydd efallai y bydd gofyn i ni weithredu canlyniadau unrhyw gytundeb masnach, er efallai ein bod ni’n gwrthwynebu’n gryf unrhyw ran benodol o gytundeb masnach. Mae hynny'n hynod bwysig. Felly, er enghraifft, pe byddai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd neu Awstralia, byddai hynny'n cael effaith enfawr ar ein ffermwyr. Er nad yw hynny wedi ei ddatganoli, rwy'n siŵr na fyddai neb yn dadlau yn rhesymegol nad oes gennym unrhyw le, rywsut, o ran mynegi barn yn hynny o beth. Clywsom leisiau o Awstralia dros yr wythnosau diwethaf yn dweud nad oedd yn bosibl cael cytundeb masnach rydd gydag Awstralia a diogelu buddiannau ffermwyr mynydd Cymru. Wel, rwy’n gwybod hynny, oherwydd os oes gennym ni gytundeb masnach rydd o ran amaethyddiaeth, yna, i lawer o'n ffermwyr mynydd, ni fydd ganddynt unrhyw ddyfodol. Mae'n hynod bwysig bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn yn gallu mynegi barn a chael dylanwad cryf iawn, a gwrthod, mewn gwirionedd, rhannau o gytundebau masnach a fydd yn cael effaith hynod andwyol ar ein ffermwyr ein hunain.
Mae’r mater a godwyd gan yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd yn hanfodol, a nodwyd ers sawl mis bellach y bydd llywodraethu marchnad fewnol y DU yn y dyfodol yn cynnig awgrym o ddyfodol cyfansoddiad y wlad hon. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa gynnydd y mae wedi ei wneud o ran darbwyllo ei gymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gytuno y dylai marchnad fewnol y DU yn y dyfodol gael ei llywodraethu ar y cyd gan wledydd y DU, ac na ddylai gael ei gorfodi arnom gan Whitehall?
Ceir gwahaniaeth barn ymhlith y Llywodraethau. Y farn yn yr Alban, yn y bôn, yw 'bydd Annibyniaeth yn datrys y mater.' Mae’r farn yng Ngogledd Iwerddon yn gymysg. Yn sicr, rwyf wedi clywed cyn-Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn dweud na ddylai fod unrhyw reolau cymorth gwladwriaethol o gwbl. Nawr, mae'n rhaid i ni ddod i sefyllfa, sy’n gwbl resymol yn fy nhyb i, lle’r ydym ni i gyd yn dweud pan fo pwerau yn cael eu trosglwyddo yn ôl o Frwsel, eu bod yn dod i’r gweinyddiaethau datganoledig. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellir cytuno ar hynny—mae Prif Weinidog yr Alban yn cytuno â mi am hynny, felly rydym ni yn yr un sefyllfa. Fy marn i, ac nid wyf wedi clywed llais yn mynd yn groes i hyn, yw os ydym ni am gael marchnad sengl fewnol, mae’n rhaid cytuno ar y rheolau ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu plismona gan gorff dyfarnu annibynnol, nid gan Lywodraeth y DU. Sut gall Llywodraeth y DU eu plismona beth bynnag? Os byddwn yn penderfynu eu hanwybyddu, nid oes dim y gallan nhw ei wneud. Nawr, nid yw hynny o fudd i neb. Mae'n rhaid i ni gael system eglur. Mae'n rhaid i ni gael ffydd mewn system sy'n cael ei hystyried yn wirioneddol annibynnol—nid fel sydd gennym ni ar hy n o bryd ym mhroses datrys anghydfod y JMC lle, os oes anghydfod rhyngom ni a Thrysorlys y DU, mae’n cael ei ddatrys yn y pen draw gan Drysorlys y DU. Mae’n rhaid i’r dyddiau hynny fynd. Gellir gwneud hyn yn berffaith synhwyrol ac yn berffaith briodol er mwyn diogelu buddiannau Cymru.
Diogelwch ar Deithiau Maes Dramor
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch disgyblion a myfyrwyr ar deithiau maes dramor? OAQ(5)0585(FM)
Gwnaf, cynhyrchir y cyngor diweddaraf ar gyfer teithiau gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Ceir cyfeiriad at y cyngor hwnnw hefyd yng nghanllawiau Cymru gyfan ar gyfer ymweliadau addysg, wedi eu hysgrifennu gan banel cynghorwyr addysg awyr agored Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac mae hwnnw ar gael o wefan Llywodraeth Cymru.
Ar sawl achlysur, rwyf wedi ymbil ar y Llywodraeth i ymyrryd ymhellach yn achos Glyn Summers, a gollodd ei fywyd ar daith coleg dramor i Sbaen. Mae rhieni Glyn, gydag urddas mawr, wedi mynnu tryloywder llawn o ran yr ymchwiliad gresynus a ddilynodd marwolaeth eu mab, ac maen nhw’n credu y dylai fod hawl awtomatig i ymchwiliad annibynnol o dan amgylchiadau o'r fath. Yn ei lythyr diwethaf i mi ar y mater hwn, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf nad oedd yn credu fod unrhyw beth arall y gallai ef ei wneud o ran eu pryderon, ond ers hynny, mae’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi canfod bod yr ymchwiliad i farwolaeth Glyn yn ddiffygiol. Mae'r ombwdsmon wedi galw ar yr awdurdod lleol i ymddiheuro i rieni Glyn ac wedi galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau ymhellach. A wnaiff y Prif Weinidog ymddiheuro ac a wnaiff ef ailystyried ei wrthwynebiad i'r hawl i ymchwiliad llawn ac annibynnol i farwolaeth ac anafiadau difrifol ar deithiau maes tramor?
Mae’r Aelod yn camliwio’r safbwynt a roddais. Yn gyntaf oll, roedd yn ddigwyddiad ofnadwy, ac mae wedi bod yn ychydig flynyddoedd anodd dros ben, fel y gallwn ni i gyd ei ddychmygu, i rieni Glyn. Mae'r ombwdsmon wedi bod yn gyfrifol am y mater. Mae'r ombwdsmon wedi adrodd erbyn hyn. Ceir argymhellion i ni fel Llywodraeth, a byddwn, wrth gwrs, yn rhoi ystyriaeth hynod ddifrifol i’r argymhellion hynny. Y mater i mi oedd: a oedd unrhyw beth arall y gallem ni ei wneud fel Llywodraeth a fyddai'n ychwanegu at yr hyn yr oedd yr ombwdsmon eisoes wedi ei ganfod yn rhan o'i ymchwiliadau? Byddaf yn cadw hwnnw fel cwestiwn agored, oherwydd credaf fod yn rhaid edrych ar y pethau hyn yn ofalus dros ben, ac o ganlyniad i ganfyddiadau'r ombwdsmon, byddaf yn edrych unwaith eto i weld a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud yn dilyn yr adroddiad ei hun.
Hoffwn adleisio pryderon Steffan Lewis, a hefyd mynegi fy nghydymdeimlad innau i deulu Glyn Summers. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn yw: sut all Llywodraeth Cymru sicrhau bod ysgolion yn gallu myfyrio ar ddigwyddiadau—y digwyddiadau prin hynny—pan fydd rhywbeth niweidiol yn digwydd ar deithiau ysgol? A dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n ei gadw fel cwestiwn agored. A fyddai'n barod i ymhelaethu ar sut y gall ysgolion ddysgu oddi wrth ei gilydd o dan yr amgylchiadau hyn?
Argymhelliad yr ombwdsmon yw y bydd yn ein gwahodd ni fel Llywodraeth i ystyried adolygu ein polisïau a’n canllawiau o ran ymweliadau addysgol dramor. Yn rhan o'r broses honno o adolygu, mae'n hynod bwysig deall beth yw’r arfer gorau, i ymgynghori, unwaith eto, gyda’r panel cynghorwyr addysg awyr agored, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr argymhelliad y mae'r ombwdsmon wedi ei wneud i ni yn cael ei fodloni’n llawn.
Rwy’n rhannu'r pryderon sydd eisoes wedi eu mynegi yn y Siambr, ac, wrth gwrs, y cydymdeimlad â theulu Glyn Summers, ond a fyddech chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod angen i ni gael y cydbwysedd cywir yma o ran unrhyw newidiadau y gallai fod angen eu gwneud, yn y dyfodol, i wella’r prosesau asesu risg o ran teithiau ysgol? Oherwydd rydym ni eisiau i bobl allu cael mynediad at brofiad addysgol cyfoethocach trwy gymryd rhan mewn teithiau, felly mae'n bwysig bod unrhyw newid i ganllawiau Llywodraeth Cymru, unrhyw ganllawiau awdurdod addysg lleol neu, yn wir, unrhyw ganllawiau consortia rhanbarthol, yn rhywbeth nad ydynt yn atal teithiau rhag digwydd ac yn deg a chymesur i bawb sy'n cymryd rhan.
Ni allwn anghytuno â'r geiriau y mae’r Aelod wedi eu defnyddio, ond yn yr achos hwn, bu marwolaeth. Mae'n hynod o bwysig bod cymaint o dryloywder â phosibl, a bod cymaint o wybodaeth â phosibl yn cael ei defnyddio er mwyn cryfhau polisïau cyn belled ag y mae’r dyfodol yn y cwestiwn, ond, wrth gwrs, ni fyddai neb eisiau gweld sefyllfa lle nad yw teithiau ysgol yn digwydd oherwydd yr hyn a ystyrir sy’n rheoliadau rhy feichus. Ond mae'n bwysig, o dan yr amgylchiadau yr ydym ni wedi eu hamlinellu heddiw, bod ymchwiliad llawn yn arwain at gyfres lawn o argymhellion er mwyn sicrhau—ni allwn fyth ddileu risg; mae'n amhosibl; nid felly y mae bywyd—ond i sicrhau bod unrhyw risg bosibl cyn lleied â phosibl yn y dyfodol.
Datganoli Pwerau i Gymru
8. Ar ôl gweithredu Deddf Cymru 2017, pa bwerau eraill ddylai gael eu datganoli i Gymru? OAQ(5)0590(FM)
Gellir dod o hyd i’r pwerau hynny yn y Bil llywodraeth a deddfau yng Nghymru drafft, a gyhoeddwyd gennym.
Iawn. Diolch i chi am eich ateb. Nodaf i chi addo yn gynharach i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond a wnewch chi addo hefyd defnyddio eich pwerau datganoledig i leihau costau i fusnesau, fel y gall cyflogwyr ddechrau cael eu denu i Gymru a darparu swyddi y mae wir eu hangen?
Nid wyf yn siŵr pa bwerau y mae hi'n cyfeirio atynt. Nid oes llawer o'r materion y mae'n cyfeirio atynt wedi eu datganoli. Mae ardrethi busnes—mae hynny'n wir—ond o ran materion fel yswiriant gwladol neu’r dreth gorfforaeth, nid ydyn nhw wedi eu datganoli. Rydym ni’n gwybod y byddwn yn gweld rhywfaint o ddatganoli treth incwm yn ystod y flwyddyn i ddod, ond o'n safbwynt ni, mae gennym ni hanes da iawn: mae gennym ni ddiweithdra sy'n is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac wrth gwrs rydym ni newydd gael y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddi tramor uniongyrchol ers 30 mlynedd yn ddiweddar.
Prif Weinidog, fel y mae Michelle Brown newydd ddweud, bydd Deddf Cymru—y ddeddfwriaeth gyfredol—wrth gwrs, yn darparu ystod o bwerau cyllidol newydd i Lywodraeth Cymru, yn amrywio o fenthyg i bwerau treth incwm a threth stamp. Beth bynnag yr ydych chi eisiau ei wneud gyda’r trethi hynny yn y dyfodol—pa un a ydych chi eisiau eu gadael nhw lle maen nhw, eu cynyddu, neu eu gostwng—yn dibynnu ar Awdurdod Refeniw Cymru cryf, ac mae hwnnw yn y broses o gael ei sefydlu, ac mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ystyried hynny. A ydych chi'n hapus â'r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda datblygiad yr awdurdod hwnnw? A pha fecanweithiau sydd gennych chi ar waith i wneud yn siŵr bod y cynnydd hwnnw yn parhau ar y trywydd cywir, oherwydd, yn amlwg, mae’n hanfodol bwysig?
Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch cynnydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym ni’n gwybod y bydd ar waith mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau, pan fydd trethi’n cael eu datganoli, bod awdurdod ar waith i wneud yn siŵr y gellir casglu’r trethi hynny. Rydym ni wedi deall bod pwysau ar y Llywodraeth, ac rydym ni wedi ymateb i’r pwysau hwnnw. Rydym ni’n hyderus, pan ddaw'r amser y flwyddyn nesaf, y bydd Awdurdod Refeniw Cymru wedi’i sefydlu ac yn barod i ddechrau ar ei waith.
Prif Weinidog, a wnewch chi ymbellhau eich hun o sylwadau a wnaed gan Diane Abbot AS, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid Lafur, a ddywedodd wrth BBC Radio Wales yr wythnos diwethaf nad oedd y Blaid Lafur yn meddwl ei bod, a dyfynnaf, yn 'iawn ar hyn o bryd' i ddatganoli plismona i Gymru? A ydych chi wedi gofyn i Diane Abbott pam mae’n teimlo bod Llywodraeth Cymru, yn unigryw, yn llai galluog na Gweithrediaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran darparu gwasanaethau heddlu? Mae Llywodraeth Cymru yn llawn cynrychiolwyr etholedig Llafur, fel yr wyf yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol—lle nad oes gan Weithrediaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon unrhyw lyffetheiriau meingefnol o’r fath.
Rwy'n gwbl ymwybodol o'r ffaith bod pobl Cymru wedi penderfynu y dylid cael Llywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru y llynedd. Diolchaf iddo am fy atgoffa i o hynny. Nid wyf yn cytuno na ddylai plismona gael ei ddatganoli. Dylai plismona gael ei ddatganoli. Ceir dadl yn y Siambr hon brynhawn yfory pan fydd y mater yn dod yn eglur o ran y ffordd y mae pleidleisiau’n digwydd. Nid oes unrhyw reswm o gwbl—dim o gwbl—pam y dylai plismona gael ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ei ddatganoli i Fanceinion, i Lundain, ond nid i Gymru. Nid oes unrhyw reswm rhesymegol i hynny fod yn wir. Rydym ni’n gwybod y bydd angen cydweithrediad o ran mesurau gwrthderfysgaeth; ceir rhai materion y mae angen ymdrin â nhw ar lefel y DU. Pan ddaw i blismona cymunedol, pam mae Cymru'n cael ei hystyried yn genedl ail ddosbarth gan y Torïaid?
Diolch i’r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud ei datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i amseriad y busnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau hyd y ddadl heddiw ar Gyfnod 3 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i 120 munud. Yn yr un modd, mae’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi eu cyfyngu i 30 munud. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Arweinydd y tŷ, rwy'n siwr y byddwch yn ymuno â mi wrth longyfarch y cynghorwyr lleol niferus sydd wedi eu hethol ar hyd a lled Cymru, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hethol ym Mro Morgannwg, ac yn enwedig y Ceidwadwyr, sef y grŵp mwyaf yn y Cyngor penodol hwnnw bellach, ac sydd, gobeithio, yn edrych ymlaen at bum mlynedd cyffrous ym Mro Morgannwg. Un o'r materion y—[Torri ar draws.] Un o'r materion—. Rwy'n clywed yr Aelod dros Blaenau Gwent yn mwmian yn y fan yna. Nid wyf yn credu y cafodd noson arbennig o dda nos Iau. Un o'r materion mawr, fel y byddwch yn ymwybodol ohono fel yr Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg, oedd llosgydd y Barri. Crybwyllwyd hyn, dro ar ôl tro, yn yr etholiadau lleol ar garreg y drws yn y Barri, ac roedd pryder eang, yn benodol, ynghylch yr angen am asesiad o’r effaith amgylcheddol, na chafodd ei gynnal ar y pryd—ac a ganiatawyd gan y cyngor—ac ynghylch gallu Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gynnal asesiad llawn o’r goblygiadau iechyd. O ystyried bod gan y Barri, fel tref, nifer uwch o achosion o asthma yn y gymuned yno na’r cyfartaledd cenedlaethol, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi datganiad ar ran Llywodraeth Cymru, gan fy mod i’n credu eich bod yn cyflawni dyletswyddau'r Gweinidog dros gynllunio ar hyn o bryd, o ran pa gamau yn union y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn a godir dro ar ôl tro gan etholwyr ym Mro Morgannwg ynghylch diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol ac, yn benodol, asesiad gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro o’r nifer uchel o achosion o asthma a'r effaith bosibl y gallai llosgydd ei chael yn yr ardal. Ac, yn anad dim, hoffwn glywed pa ran y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae bellach wrth asesu trwyddedu’r safle, lle mae llawer o bobl yn amau gallu a chadernid y system honno i ateb ac ymdrin â phryderon lleol mewn gwirionedd? Gofynnaf hefyd am ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â'r cyngor newydd yn y Fro i gyflwyno ffordd osgoi Dinas Powys. Er tegwch i’r Gweinidog dros yr economi, mae wedi nodi mewn gohebiaeth flaenorol i mi y llynedd ei fod yn barod i weithio gyda'r cyngor i ddarparu adnoddau i ymdrin â'r problemau traffig difrifol sy'n bodoli yn ardal Dinas Powys, lle cafwyd gwared ar bedwar cynghorydd Plaid Cymru ac ethol pedwar cynghorydd Ceidwadol yn eu lle a fydd yn gweithio ddydd a nos i wneud yn siŵr bod y materion hyn yn cael sylw.
Rwy'n credu mai’r cwestiwn cyntaf yr ydych yn ei ofyn, Andrew R.T. Davies, ynghylch llosgydd y Barri—. Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd—ac, yn wir, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad —i adrodd fy mod wedi cadeirio cyfarfod neithiwr, cyfarfod lle’r oedd cynrychiolaeth o Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau, ac uwch swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyhoeddais ddatganiad heddiw, y cytunwyd arno bawb a oedd yno neithiwr. Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol iawn er mwyn gwneud yn siŵr—daeth y Prif Weinidog i'r Barri, fel y gwyddoch, a chael trafodaeth gadarn iawn ag aelodau o'r cyhoedd yn ei gyfarfod Carwyn Connect. Ac o ganlyniad i hyn, roeddem yn gallu symud ymlaen a chael estyniad ar gyfnod ymgynghori y drwydded amgylcheddol, ac, wrth gwrs, cytunwyd ar yr estyniad hwnnw gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yr hyn sy'n bwysig iawn ac a drafodwyd neithiwr —a’r pwyntiau a gyflwynwyd gerbron Cyfoeth Naturiol Cymru—yw y byddant, a’u bod wedi cytuno i hynny, ac, yn wir, mai eu dyletswydd yw, ystyried yn llawn effaith y cynigion ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Wrth gwrs, bydd cyfleoedd eraill i ymgynghori ar hynny, wrth iddynt, yn ddiweddarach yn yr wythnos, gyhoeddi amserlen 5—gwelsom ddrafft ohoni neithiwr—sy’n holi rhagor o gwestiynau i'r cwmni, Biomas 2, ynghylch y pryderon, nid yn unig y mae’r cyhoedd wedi eu codi yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond hefyd Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf adeiladol iawn hwnnw am y cyfarfod adeiladol iawn hwnnw neithiwr. Ac, yn wir, cytunwyd i gyfarfod eto, ac rwy'n siwr y byddwch yn clywed hynny gan Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau.
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs bydd gan gyngor y Fro, cyngor newydd y Fro, lawer o heriau o'u blaenau a phenderfyniadau anodd eu gwneud. Rwy'n falch iawn o'r ffaith yr ystyriwyd cyngor y Fro, dan arweiniad Llafur yn ystod y pum mlynedd diwethaf, fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o'r cynghorwyr, y cynghorwyr Llafur newydd, a gafodd eu hethol hefyd ddydd Iau. Ond, yn amlwg, mae'r blaenoriaethau o'n blaenau, a'r heriau, i gyngor newydd y Fro.
Rwy'n siŵr y gwelodd llawer o’r Aelodau y blaid Geidwadol yn targedu cyhoeddiadau rhanbarthol allweddol ar hyd a lled y DU ddydd Gwener diwethaf, gan gynnwys papurau newydd yn y Gogledd a'r 'South Wales Echo', gan dalu am hysbysebion tudalen flaen sy’n rhoi argraff gamarweiniol o duedd gwleidyddol i’r darllenwyr. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ drefnu dadl ar yr ymdriniaeth etholiadol yn y cyfryngau print a'r angen am gydbwysedd a thegwch wrth adlewyrchu gwleidyddiaeth Cymru?
Credaf fod llawer ohonom wedi gorfod dioddef yr hysbysebion parhaus hyn sydd wedi ymddangos mewn llawer o'n hetholaethau ledled Cymru. Byddaf yn gwneud rhai pwyntiau ffeithiol iawn am y ffaith na thrafodir hysbysebu gwleidyddol gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu. Ni chaiff ei ganiatáu, fel y gŵyr yr Aelodau, ar y teledu o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, ond caiff ei ganiatáu mewn print. Cafodd ei gynnwys gan yr ASA hyd nes 1999, pan benderfynodd y Pwyllgor Arferion Hysbysebu beidio â’i gynnwys. Hefyd, arweiniodd Deddf Hawliau Dynol 1998 at bryderon ynghylch rheolaethau ar ryddid mynegiant gwleidyddol. Ond rwy’n credu mai’r pwynt allweddol sydd angen ei wneud hefyd yw bod yn rhaid datgan costau hysbysebu mewn ffurflenni etholiad pleidiau canolog i'r Comisiwn Etholiadol. Felly, mae hynny'n bwynt pwysig i'r cyhoedd ei drafod. Ond nid yw’r un o’r pwyntiau ffeithiol hynny yn golygu na ddylid cael dadl ar y mater hwn, wrth gwrs, ac, os oedd cefnogaeth eang ar gyfer hynny o bob rhan o'r Siambr, rwy’n credu y byddem yn dymuno symud ymlaen. Oherwydd, yn amlwg, mae pob un ohonom yn ceisio sicrhau’r angen am gydbwysedd a thegwch wrth adlewyrchu gwleidyddiaeth Cymru.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn tynnu sylw at yr ystadegau ar danau glaswellt ledled Cymru a'r gostyngiad a welsom. Newyddion da iawn oedd hynny, ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach cafwyd tân glaswellt enfawr yn fy etholaeth i, a dinistriwyd llawer o ardaloedd Mynydd Dinas. A wnewch chi hefyd ymuno â mi i ddiolch i'r diffoddwyr tân am y gwaith a wnaethant? Sicrhaodd eu hymdrechion nhw fod y tân yn cael ei reoli a'i gynnal, ac na chafodd unrhyw eiddo ei ddifrodi. Ond a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet efallai ar y trafodaethau y mae wedi'u cael â'r gwasanaethau tân ac achub ynghylch y strategaethau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn cadw’r achosion hyn i’r nifer lleiaf, a, phan fydd tân yn digwydd, sut y byddwn yn ymateb iddo er mwyn sicrhau y gwneir cyn lleied â phosibl o niwed?
O ran ail bwynt, y bore yma cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar hyfforddiant nyrsio yma yng Nghymru. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad y bydd blwyddyn ychwanegol o fwrsarïau i nyrsys, i gefnogi datblygiad nyrsys yma yng Nghymru, o'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ond a gawn ni, mewn gwirionedd, ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl, yn edrych ar y meysydd eraill y mae angen i ni eu hystyried, sef y nyrsys arbenigol ym meysydd pediatreg, iechyd meddwl a newydd-anedig, a’r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i'w cefnogi yn y meysydd hynny? Efallai y gall ychwanegu a fydd wedyn yn cefnogi'r bwrsarïau i nyrsys ymhellach, oherwydd dim ond ar gyfer un flwyddyn y bydd hyn yn digwydd, a byddai'n braf gweld hyn yn ymrwymiad ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Ac, o ran pwynt olaf, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a gawn ni ddatganiad ganddo ar ddur? Nawr, yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion bod IG Metall, yr undeb llafur yn yr Almaen, yn bryderus iawn am yr uno posibl rhwng ThyssenKrupp a Tata ac, felly, y gallai’r uno fethu. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae'n eu cynnal â Tata i edrych ar y goblygiadau ar wneud dur yma yng Nghymru a'r hyn fydd yn digwydd i'n gweithfeydd dur ni?
Tri chwestiwn pwysig gan David Rees, ac, mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, do, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad yr wythnos diwethaf yn dilyn nifer o danau glaswellt difrifol iawn, Rwy’n credu bod angen i ni gychwyn, yn gyntaf, trwy ddiolch i’r diffoddwyr tân am eu dewrder yn benodol, nid yn unig o ran y tân diweddaraf a ddigwyddodd, yn anffodus, ond ledled Cymru, gan effeithio ar nifer fawr o'n hetholaethau. Mae'n fater anodd o ran gwasanaethau tân ac achub—yn cymryd rhan lawn, fel y gallech ei weld o ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymdrin â'r ffordd ymlaen o ran atal yn ogystal â rheoli.
Rwy'n credu bod eich ail bwynt yn bwysig iawn o ran y rhan o'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon am ymgyrch recriwtio fawr newydd, a lansiwyd i gynyddu nifer y nyrsys yn y GIG yng Nghymru. Rwy’n siŵr y byddai pawb yn croesawu hynny ar draws y Siambr hon. Ond, wrth gwrs, ymgyrch recriwtio yw hon a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid ceisio recriwtio nyrsys i bob rhan o’r gwasanaeth, yn gyffredinol, yn arbenigol, a hefyd, byddwn i’n ei ddweud, mewn gofal sylfaenol. Mae’n rhaid inni gydnabod y rhan gynyddol bwysig y mae’r nyrs practis a'r nyrsys arbenigol yn ei chwarae yn y gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel eilaidd ac arbenigol. Ond hefyd y cyhoeddiad pwysicaf yn y trefniadau ar gyfer cynllun bwrsariaeth y GIG—. Fe’i gwnaeth yn eglur fod Cymru yn croesawu busnes, ac rydym yn cefnogi ein nyrsys, mae gennym ddiddordeb mewn sut y gallwn gefnogi eu rhaglenni addysg a hyfforddiant yng Nghymru, ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallant sicrhau bod y trefniadau hynny sydd bellach yn eu lle ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf—ac yna, fel y dywed ei ddatganiad, yn bwriadu rhoi rhagor o ystyriaeth i drefniadau tymor hwy yn sgil canlyniadau'r adolygiad Diamond, gydag ymgynghoriad llawn. Stori newyddion dda iawn i’n nyrsys a’r bobl ifanc hynny a’r myfyrwyr aeddfed sy'n ystyried gyrfa mewn nyrsio.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Eich trydydd pwynt: ydw, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau o ran Tata a'r gwaith dur, sydd, wrth gwrs, yn effeithio yn benodol ar eich etholaeth chi.
Tybed a oes modd amserlennu dadl, yn ddelfrydol yn yr wythnosau nesaf, ar swyddogaeth Llywodraeth Cymru ym maes diogelwch cymunedol. Rydym ni i gyd yn gwybod, fel Aelodau Cynulliad yn y tŷ hwn o bob plaid, am bwysigrwydd diogelwch cymunedol, yn enwedig o ran presenoldeb mewn lifrai yn y rheng flaen. Roeddwn i’n ddigon ffodus, neu'n anffodus, i dreulio 13 wythnos ar Fil y Swyddfa Gartref a gyflwynodd swyddogion diogelwch cymunedol yr heddlu, ac y buddsoddodd Llywodraeth Cymru—edrych o bell yr oeddwn i ar y pryd—yn fawr ynddynt flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gyson. Ac er fy mod i’n cofio’r Ceidwadwyr ar y pwyllgor hwnnw yn dadlau yn groch yn eu herbyn ar y pryd, ymddengys fod pawb yn eu croesawu erbyn hyn, felly mae’n gam da ymlaen. Ond, byddai dadl o'r fath, pe byddem yn ei chynnal yn ystod y pythefnos nesaf, hefyd yn caniatáu i ni drafod, bryd hynny, fuddsoddi nid yn unig mewn SCCH, ond hefyd mewn heddweision rheng flaen a'r ymrwymiad y mae plaid Lafur y DU wedi’i wneud i gyflwyno 800 yn rhagor ar ein strydoedd—800 yn rhagor o heddweision ar y stryd—pe baem yn ennill yr etholiad cyffredinol.
Wel, rwy'n credu bod y ffaith ein bod, yn erbyn heriau ariannol llwm o ganlyniad i doriadau a chaledi Llywodraeth Torïaidd y DU—yn erbyn hynny i gyd, ein bod wedi dewis fel blaenoriaeth, y Llywodraeth Lafur Cymru hon, i barhau i gefnogi ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol. A’r hyn sy’n glir iawn yw bod y swyddogion cymorth cymunedol hynny yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r heddluoedd ledled Cymru, ac maent yn chwarae rhan mor amlwg yn ein cymunedau, gan gymryd rhan yn yr union bwynt a wnaethoch chi ynglŷn â mynd i'r afael ag amddiffyn diogelwch cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae pobl dan yr anfantais honno, yr anhawster hwnnw, o ran yr angen am ddiogelwch cymunedol. Rydym, wrth gwrs, yn gweld hyn yn flaenoriaeth wirioneddol, ac mae'n dangos unwaith eto ein gwerthoedd sylfaenol i’n cymunedau fel Llywodraeth Lafur Cymru.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Eitem 3 ar yr agenda yw’r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Undebau Llafur (Cymru) ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6298 Mark Drakeford
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. First of all, I would like to thank the Chairs of the, Equality, Local Government and Communities Committee and the Constitutional and Legislative Affairs Committee for their work in carrying out detailed scrutiny of the Bill throughout Stage 1. I would also like to thank the Chair and members of the Finance Committee. I would also like to thank stakeholders and social partners who have participated in the scrutiny process, providing written and oral evidence to the committee and contributing to our consultation on using agency workers during industrial action.
Dirprwy Lywydd, nodais ddibenion y Bil hwn wrth ei gyflwyno ym mis Ionawr, ac nid wyf yn bwriadu mynd dros yr un tir y prynhawn yma. I grynhoi, bydd y Bil yn datgymhwyso nifer o ddarpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU, gan sicrhau nad ydynt yn gymwys i wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae'r darpariaethau hyn yn cynnwys didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres, amser cyfleuster a throthwyon pleidleisio. Rydym yn gwneud hynny er mwyn amddiffyn a hyrwyddo model llwyddiannus o bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a ddatblygwyd yn ofalus ac yn gyson gan Lywodraethau olynol Cymru, sy'n cynnwys tair plaid wleidyddol wahanol a etholwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ers 1999.
Er mwyn osgoi amheuaeth, gadewch i mi hefyd gofnodi eto nad effeithir ar y Bil hwn gan gychwyn Deddf Cymru 2017 y flwyddyn nesaf. Mae'r Bil wedi'i gyflwyno a bydd yn cael ei ddeddfu dan y setliad datganoli presennol. Ar yr amod bod y Bil wedi cyrraedd diwedd Cyfnod 1 erbyn i Ddeddf Cymru gychwyn, gall symud ymlaen drwy'r Cynulliad hwn. Dan yr amserlen bresennol, ni fydd y Bil hwn, os yw’n llwyddo, wedi cyrraedd diwedd Cyfnod 1, ond bydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol cyn i Ddeddf Cymru ddod i rym.
Dirprwy Lywydd, ddiwedd mis Mawrth, ysgrifennais at y pwyllgorau gyda fy mhenderfyniad i gyflwyno gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 2 i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol gan wasanaethau cyhoeddus yn dilyn ymgynghoriad yn hwyr y llynedd. Bwriad yr wybodaeth ychwanegol oedd cynorthwyo'r pwyllgorau perthnasol i graffu ar yr opsiynau deddfwriaethol yn eu trafodaethau, ac rwy’n gobeithio y bydd ein proses ymgynghori, gan dynnu sylw at weithredu arfaethedig yn y maes, yn gallu rhoi iddynt y cwmpas am drafodaethau cytbwys gyda phartneriaid cymdeithasol ar y cynigion. Edrychaf ymlaen at graffu ar agwedd polisi'r Bil yn ystod gweddill proses y Cynulliad.
Dirprwy Lywydd, dim ond nifer fach o argymhellion sydd gan y ddau bwyllgor, ac rwy'n hapus felly i ddarparu ymateb cryno iddynt yn y ddadl hon, ar ôl ysgrifennu atynt i fynd i'r afael â rhai o'r materion mwy technegol a godwyd yn eu hadroddiadau. Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud fy mod yn ddiolchgar am y gefnogaeth aruthrol gan bartneriaid cymdeithasol, a chefnogaeth y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wrth ddwyn y Bil hwn yn ei flaen? Roedd adroddiad y pwyllgor hwnnw yn cynnwys un argymhelliad ffurfiol: bod y Cynulliad hwn yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil y prynhawn yma. Hefyd, roedd y pwyllgor yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno gwelliant Cyfnod 2, gan nodi’r gred y byddai'n cryfhau'r Bil ac y byddai'n gwbl gyson â'i ddiben penodedig a'r effaith a fwriedir. Mae’r argymhelliad hwnnw yn adlewyrchu'r dystiolaeth lethol, rwy’n credu, a gafodd y pwyllgor, a chroesawaf ei adroddiad yn fawr.
Gwnaed tri argymhelliad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Roedd yr argymhelliad cyntaf yn gofyn imi esbonio yn y ddadl hon pam nad wyf wedi cynnwys y gwelliant arfaethedig i'r Bil yn gynharach, ac rwy'n hapus i wneud hynny, wrth gwrs. Mae'r ateb yn gorwedd yn natur ac amseriad y broses gwneud penderfyniadau yn San Steffan. Pasiodd y Llywodraeth etholedig yno ym mis Mai 2015 Ddeddf yn erbyn cyngor ei swyddogion cyfraith ei hun, o Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, a oedd yn gosod trefniadau ar wasanaethau cyhoeddus a ddatganolwyd i Gymru. Ar bob cam yn y broses honno, gwnaed ein gwrthwynebiad yn hysbys. Cafodd fy mhlaid i, ac eraill a etholwyd yma, ei hethol gydag ymrwymiad maniffesto i ddod â deddfwriaeth gerbron y Cynulliad i wyrdroi’r newidiadau hynny.
Ochr yn ochr â'u cynigion ar gyfer y Bil, yn ystod haf 2015, ymgynghorodd Llywodraeth y DU hefyd ar wahân ar gynigion i ddiddymu rheoliad 7 o'r rheoliadau asiantaethau cyflogaeth, sy'n gwahardd asiantaethau cyflogi sy'n cyflenwi gweithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol. Ar adeg etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai y llynedd, nid adroddwyd ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw. Gan nad oedd y Cynulliad Cenedlaethol, felly, wedi mynegi barn yn flaenorol ar y mater, ac am nad oedd wedi ei nodi mewn unrhyw faniffesto, penderfynais y byddai angen ymgynghoriad ar wahân ar y mater hwn. Mae’r ymgynghori hwnnw wedi dod i ben a gwnaed fy mhenderfyniad i yn hysbys i'r pwyllgorau. Bydd y ddwy agwedd yn dod at ei gilydd, os bydd gwelliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 lwyddo. Ac, fel y nodais yn gynharach, roedd y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cefnogi’r dull hwnnw o weithredu.
Mae argymhellion 2 a 3 adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ymwneud â'r pŵer yn adran 2 (2) o'r Bil i wneud darpariaethau trosiannol ac arbed. Cafodd y pŵer hwn ei gynnwys ar adeg ei gyhoeddi, oherwydd, ar y pwynt hwnnw, nid oedd yn hysbys sut y byddai Llywodraeth y DU yn mynd ati i gychwyn Deddf yr Undebau Llafur 2016, a oedd yn cynnwys pwerau tebyg. Yn fy marn i, adlewyrchwyd y pwerau hynny yn synhwyrol yn ein drafft ni ein hunain. Dywedais wrth y pwyllgor pan ymddangosais ger ei fron na fydd angen i ni wneud darpariaethau trosiannol fwy na thebyg. Nawr bod y darpariaethau perthnasol yn Neddf y DU mewn grym, gallwn weld, mewn gwirionedd, na fydd angen y pwerau hynny. Gan ei fod yn bŵer sydd bellach heb bwrpas, rwy’n hapus i ddweud y prynhawn yma y byddaf yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i’w ddileu, ac felly yn rhoi sylw i’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Deputy Presiding Officer, there is far more in the committee reports, and I have responded to these in my letters to the committee Chairs. I would like to thank them once again for giving detailed consideration to the Bill during Stage 1, and for doing so in such a constructive spirit. Although I expect the Bill to cause some dispute between the parties here in the Chamber, what is clear from the evidence gathered from stakeholders and social partners is that there is an overwhelming consensus in favour of the Bill.
My response this afternoon is made in the spirit of that consensus, and I have also dealt with the committees’ recommendations before Members. As is recommended by the Communities, Equality and Local Government Committee, I would ask Members to approve the Bill this afternoon. In this way, we can continue to tackle any issues relating to the workforce, by working on a social partnership basis, providing better public services to the citizens of Wales. Thank you.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor er mwyn helpu i lywio ei waith, gan gynnwys y rhai a roddodd o’u hamser i fynd i’n trafodaethau grŵp ffocws.
Fe achosodd Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn San Steffan yn 2015, gryn drafodaeth a dadlau brwd. Wrth gynnal ein gwaith craffu ar Fil yr Undebau Llafur Llywodraeth Cymru (Cymru), ymgynghorwyd yn eang â rhanddeiliaid a gofyn am amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys rhai gan sefydliadau oedd yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn gyhoeddus. Roedd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar brofi honiad Llywodraeth Cymru y byddai'r darpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur y mae’r Bil yn ceisio eu datgymhwyso yn cael effaith andwyol ar y bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, ac ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn effeithiol.
Rydym yn cael ein hunain yn y sefyllfa anarferol heddiw o gyflwyno adroddiad sy'n cynnwys un argymhelliad—bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae’r argymhelliad hwn, a gefnogir gan saith o bob wyth o aelodau’r pwyllgor, yn seiliedig ar y gefnogaeth lethol i'r Bil yn y dystiolaeth a gawsom. Mae'n anarferol i bwyllgor beidio â bod yn argymell gwelliannau yn ystod proses graffu Cyfnod 1, ond dyna fel y mae hi.
Gan siarad yn dechnegol, Dirprwy Lywydd, mae'r Bil yn syml. Mae'n datgymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf 2016 i awdurdodau datganoledig Cymru. Mae'n gwneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud yn syml ac, yn ein barn ni, yn effeithiol. Mae'r Bil ei hun yn Fil byr o dair adran. Ond rydym yn gwybod nad yw hyd y Bil yn unrhyw arwydd o’i bwysigrwydd, ac nid yw’r Bil hwn yn eithriad. I'r gwrthwyneb, heb y Bil hwn, clywsom y byddai’r trothwy pleidleisio o 40 y cant, sydd eisoes mewn grym yng Nghymru, ynghyd â'r newidiadau yn y dyfodol i ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ac amser cyfleuster, yn fygythiad gwirioneddol all ddigwydd yn fuan i bartneriaeth gymdeithasol.
Y bartneriaeth gymdeithasol hon, meddai’r ymatebwyr wrthym, sy’n hanfodol i reoli a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb heriau ariannol parhaus a newid gweddnewidiol parhaus. Y bartneriaeth gymdeithasol hon, meddai’r GIG yng Nghymru wrthym, oedd
wedi cefnogi datblygiad atebion effeithiol ac o fudd i'r ddwy ochr i heriau sylweddol
yr oedd y gwasanaeth wedi mynd i'r afael â nhw. Y bartneriaeth gymdeithasol hon meddai llywodraeth leol wrthym, oedd
wedi chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod parhad y gwasanaeth wedi bod wrth wraidd rhai penderfyniadau anodd
yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n syndod, felly, bod y sefydliadau hynny sy'n uniongyrchol gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'n cymunedau yn awyddus i’r bartneriaeth gymdeithasol gael ei chadw. Maent yn credu'n gryf bod angen y Bil i sicrhau hyn.
Dirprwy Lywydd, byddaf yn siarad yn fyr am ddarpariaethau sylweddol y Bil. Roedd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth ar gyfer datgymhwyso'r cyfyngiadau yn Neddf 2016 ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres . Adroddodd ymatebwyr fod y trefniadau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres wedi'u hen sefydlu, yn effeithlon, o fudd i bob parti ac ar gost isel i gyflogwyr. Ar y gorau, mae cyfyngiadau yn debygol o fod yn anghyfleus i undebau llafur a chyflogwyr. Ar y gwaethaf, gallent arwain at dynnu'n ôl didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres, a allai yn y pen draw wanhau dwysedd aelodaeth undebau a llesteirio gallu'r undebau i weithredu'n effeithiol fel partneriaid cymdeithasol. Mae'r cyfyngiadau yn dethol tanysgrifiadau undeb llafur o daliadau eraill a wneir gan gyflogwyr ar ran y gweithwyr. Maent yn ddiangen, yn ddiwarant ac ni welwn unrhyw reswm dilys i'w cymhwyso i awdurdodau datganoledig yng Nghymru.
Clywsom fod mynediad at amser cyfleuster yn hanfodol i sicrhau bod cynrychiolwyr undebau llafur nid yn unig yn gallu cyflawni eu dyletswyddau o ran cynrychiolaeth unigol a bargeinio ar y cyd, ond i gymryd rhan yn yr agenda gwella gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Clywsom hefyd dystiolaeth gymhellol am fanteision amser cyfleuster a'r arbedion cost posibl cysylltiedig. Mae hyn yn ein gadael heb unrhyw amheuaeth bod amser cyfleuster yn fuddsoddiad doeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a dylid ei ystyried fel y cyfryw. Os yw undebau llafur i barhau i weithredu'n effeithiol fel partneriaid cymdeithasol a chyfrannu at yr agenda wella, yna mae'n rhaid diogelu’r trefniadau presennol ar gyfer amser cyfleuster.
Mae'n amlwg fod cydbwysedd rhwng partneriaid yn dyngedfennol i unrhyw bartneriaeth lwyddiannus rhwng partneriaid. Bydd trothwy pleidleisio o 40 y cant yn ddi-os yn tanseilio gallu'r undebau llafur i ymgysylltu â chyflogwyr fel partneriaid cyfartal. Mae’r hawl i ymgymryd â gweithredu diwydiannol yn elfen bwysig yn yr egwyddor o fargeinio ar y cyd. Heb yr hawl hon, neu, yn achos Deddf 2016, lle mae’r hawl hon yn cael ei llesteirio gan gyfrwng y trothwy pleidleisio ychwanegol, bydd yn llawer mwy anodd i undebau negodi ar ran eu haelodau. Nid ydym yn credu bod hyn er budd gorau gweithio mewn partneriaeth. Clywsom am y perygl gwirioneddol y bydd y trothwy ychwanegol yn arwain at densiynau diwydiannol uwch a gallai gynyddu'r tebygolrwydd a hyd y gweithredu diwydiannol yn anfwriadol.
Gan symud ymlaen at weithwyr asiantaeth, Dirprwy Lywydd, clywsom y byddai symudiad gan Lywodraeth y DU i godi'r gwaharddiad presennol ar ddefnyddio gweithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol yn cael effaith debyg ar y bartneriaeth gymdeithasol i’r gofyniad trothwy pleidleisio 40 y cant. Ac felly, rydym yn croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i ddiwygio'r Bil i sicrhau bod y gwaharddiad yn parhau, waeth beth yw canlyniad ystyriaethau Llywodraeth y DU ar y mater hwn.
I gloi, nid ydym mewn unrhyw amheuaeth y bydd y darpariaethau perthnasol yn Neddf 2016, i gyd, i raddau amrywiol, yn effeithio’n andwyol ar y bartneriaeth gymdeithasol ac, yn ei dro, ar ddarpariaeth barhaus a gwella gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. I gydnabod hyn, rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac rydym yn argymell bod yr Aelodau yma heddiw yn gwneud yr un peth.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar hefyd fy mod yn dilyn fy nghyd-Aelod, John Griffiths, sydd wedi ymdrin yn fanwl â’r cyd-destun polisi a ystyriwyd gan ei bwyllgor. Mae gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gylch gwaith llawer mwy cul wrth edrych ar y Bil hwn ac rwy'n mynd i siarad am y cylch gorchwyl penodol hwnnw. A gaf i, wrth wneud hynny, ddiolch, fel bob amser, i fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor am eu gwaith craffu cadarn a diwyd iawn ar y Bil bach hwn, wrth iddo fynd yn ei flaen, ond Bil pwysig iawn o ran y materion yr ydym yn eu hystyried. Rwyf hefyd yn diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am sicrhau ei fod ar gael i’w holi yn eithaf trwyadl a hefyd am ei atebion cadarn ac ystyriol?
Adroddwyd ar y Bil hwn ar 7 Ebrill, ac mae'r adroddiad ar gael ar ffurf copi caled ac ar-lein. Rwy’n ei argymell, nid yn unig i gydweithwyr sy’n Aelodau Cynulliad ond hefyd i aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb ac arsyllwyr eraill â diddordeb yng nghynnydd y Bil penodol hwn.
Pan adroddwyd ar y Bil ar 7 Ebrill, gwnaed tri argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet. Byddaf yn ymdrin â’r rheini yn fanwl ond, cyn gwneud hynny, os caf i wneud rhai sylwadau cyffredinol yn gyflym, sy'n bwysig er mwyn egluro ein hystyriaeth o’r Bil penodol. Fel yn achos gwaith craffu ar yr holl Filiau, rydym yn ystyried materion sy'n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, ac fel yr ydym yn nodi yn ein hadroddiad, nid ein swyddogaeth ni yw mynegi barn ynghylch a yw’r Bil o fewn neu y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Yn hytrach, ein swyddogaeth ni yw tynnu sylw at unrhyw faterion y gall Aelodau'r Cynulliad ddymuno eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, neu gynnig neu gefnogi gwelliannau yn ystod camau diweddarach craffu.
Felly, o ran y Bil hwn, archwiliwyd datganiad y Llywydd ar gymhwysedd, y mae'n rhaid iddi ei roi, gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Yn rhan o'i datganiad, dywedodd y Llywydd, er bod y Bil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd y Cynulliad, nododd nad oedd y materion hyn yn syml a bod ei hystyriaeth, yn ei geiriau hi, yn un gytbwys.
Yn awr, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y dystiolaeth a gymerwyd gennym ni oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet a'r cwestiynu a'r dystiolaeth a glywsom, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny o gymorth i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud eu penderfyniadau ar y Bil hwn. Ond yn y pen draw, gallai unrhyw gwestiwn ynghylch a yw Bil o'r fath yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn fater i’r Llys Goruchaf benderfynu arno o safbwynt a yw'r cymhwysedd yn cael ei herio’n briodol.
Felly, trof yn awr at ein tri argymhelliad. Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â phenderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 2 i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Yn awr, ein dewis ni fel pwyllgor, fel yr ydym yn datgan yn yr adroddiad, yw y dylai darpariaeth o arwyddocâd polisi o'r fath yn ddelfrydol gael ei chynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno. Byddai cynnwys y ddarpariaeth wrth gyflwyno’r Bil wedi caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried adroddiad pwyllgor sy'n archwilio ac yn ystyried barn rhanddeiliaid ar y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei hymgynghoriad ei hun ar y cynnig penodol hwn, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, mae ymgynghoriad o'r fath yn broses wahanol i un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymwneud â'r egwyddorion ac union eiriad Bil fel rhan 1 o'r broses graffu ddeddfwriaethol Cyfnod 1.
Felly, roedd ein hargymhelliad cyntaf yn gofyn am eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pam nad oedd y Bil yn cynnwys darpariaeth wrth ei gyflwyno am y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic, ac, yn yr un un modd, gofynnwyd pam na ellid fod wedi gohirio'r Bil am ychydig, o bosibl, ar gyfer sefyllfa o'r fath. Ond rwy’n ddiolchgar iawn heddiw am ymateb manwl ac esboniad pellach a chyfiawnhad Ysgrifennydd y Cabinet. Nodaf, fel yr ydym newydd glywed, fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—boed hynny drwy hap neu, fel arall, gynllunio perffaith, nid wyf yn gwybod—wedi gallu, yn wir, cymryd tystiolaeth ar y mater hwn yn ystod ei graffu Cyfnod 1 ei hun a’i ymgorffori o fewn hynny, gan gynnwys ymgysylltu eang â rhanddeiliaid, ac mae hynny’n galonogol o ran ein hargymhelliad cyntaf.
Ac mae’r ail a'r trydydd argymhelliad a wnaethom yn ymwneud â'r un pŵer a geir yn adran 2 y Bil i wneud is-ddeddfwriaeth. Ac, fel yr ydym wedi clywed yn ystod sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, cafwyd sicrwydd mawr ar hynny, a chroesawaf y newidiadau arfaethedig i'r Bil a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma pan oedd ar ei draed. Mae ein dadansoddiad o’r Bil hwn yn dechnegol iawn ac yn fanwl iawn ac yn gul o ran ei gylch gwaith, ond rwy’n argymell yr adroddiad i Aelodau'r Cynulliad os yw hynny’n eu helpu yn eu hystyriaeth.
Mae braidd yn anffodus fy mod yn teimlo'r angen i sefyll ac yn sylfaenol wrthwynebu egwyddorion cyffredinol cyflwyno'r Bil hwn drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy’n gwneud hynny ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymreig y Cynulliad, ond hefyd ar ran ein trethdalwyr yng Nghymru. Y llynedd, cafodd Deddf yr Undebau Llafur Llywodraeth y DU 2016 ei phasio gan Gydsyniad Brenhinol ar ôl ymgynghori sylweddol ac ymgysylltu â'n gweithwyr rheng flaen, undebau llafur a chafwyd mandad clir gan bleidleiswyr ein gwlad. [Torri ar draws.] Roedd yn y maniffesto. Mae Deddf y Deyrnas Unedig yn nodi darpariaethau ar sail nifer y pleidleiswyr a’r gefnogaeth i streic, proses dryloyw am danysgrifiadau, a'r gofyniad bod didyniadau cyflogres ar gyfer tanysgrifiadau yn cael eu gweinyddu yn unig lle nad yw'r gost yn cael ei hariannu gan y cyhoedd. Yn awr, mae Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn ceisio datgymhwyso rhannau o'r Ddeddf honno yma yng Nghymru.
Yn awr, fel y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru eleni, ystyrir y Bil hwn yn ddiangen, yn feichus ac yn gostus. Rwy'n credu y bydd y trethdalwyr yn cael siom o gael gwybod am yr amser a'r egni a dreuliwyd ar hyn, a’r gost, a allai fod wedi talu am ddatblygu Bil awtistiaeth i Gymru, neu ddeddfu i fynd i'r afael â methiannau niferus a sylweddol Llywodraeth Lafur Cymru.
Mae bod yn agored a thryloyw ynghylch cost wirioneddol undebau llafur a gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus sy'n ymgymryd â gweithgareddau undeb yn hanfodol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na
Yn y pen draw, mae cyllid ar gyfer y gweithgarwch hwn yn dod allan o bwrs y wlad. Canfu Cynghrair y Trethdalwyr, yn 2014, fod undebau wedi cael dros 273,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn y DU. Byddai gwerth gofod swyddfa o'r fath yng Nghaerdydd ar y farchnad yn fwy na £6.2 miliwn, ac eto dim ond £307,000 a godwyd ar yr undebau, sy'n golygu bod y trethdalwr mewn gwirionedd yn rhoi cymhorthdal o filiynau o bunnoedd i weithgareddau’r undebau llafur. Roedd angen mwy o dryloywder ar Ddeddf y DU o ran yr wybodaeth yn ymwneud ag amser cyfleuster, gan ymestyn y gofynion hynny sydd eisoes yn berthnasol i'r gwasanaeth sifil. Credaf ei bod yn iawn fod y Llywodraeth yn monitro hyn er mwyn sicrhau ei fod yn ddefnydd synhwyrol o arian trethdalwyr, a bod lefelau o amser cyfleuster yn parhau i fod yn briodol ac yn angenrheidiol. Yn amlwg, y bwriad yw y bydd arbedion effeithlonrwydd yn cael eu gwneud yn rhinwedd gofyniad i gyhoeddi'r wybodaeth hon. Mae’r cyfnod perthnasol cyntaf yn dechrau ar 1 Ebrill. Felly, bydd yr adroddiadau cyntaf yn barod erbyn 31 Gorffennaf. Mae'n achos pryder nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn credu y byddai'n ddoeth aros i weld canlyniadau cychwynnol yr elfen hon o Ddeddf y DU. Yn hytrach, yma mae’n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwthio ymlaen heb fawr o dystiolaeth ystadegol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn pryderu bod y trothwy 40 y cant yn creu'r potensial ar gyfer streiciau gwyllt—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid wyf yn gallu.
[Yn parhau.]—ac eto, ni chynigiwyd unrhyw dystiolaeth gadarn i gefnogi'r honiad hwn. Ymhellach at hynny, mae'n bryderus nodi, er bod y rhai a oedd yn rhoi tystiolaeth yn y pwyllgor yn siarad am y gost isel ymddangosiadol o brosesu didyniadau cyflogres, na allai neb roi ffigur gwirioneddol ar gyfer hyn. Cyn Deddf y DU, dim ond 22 y cant o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn y DU sy’n codi tâl ar undebau am y gwasanaeth hwn er gwaethaf cost arall i bwrs y wlad. Mewn llywodraeth leol yn unig yng Nghymru, rydym yn gwybod bod dros 30,570 o weithwyr yn talu tanysgrifiadau drwy ddidyniadau cyflogres. Ni all cost gyfunol hynny fod yn ddi-nod. Felly, rydym yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth y DU i sicrhau bod y costau’r undebau yn cael eu talu gan yr undebau.
Mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU hefyd yn cydnabod bod sectorau lle mae gweithredu diwydiannol yn cael effaith ehangach ar aelodau o'r cyhoedd ac mae hynny’n anghymesur ac annheg. Bydd caniatáu i weithwyr asiantaeth gyflenwi yn lle gweithwyr sy’n streicio yn sicrhau y bydd busnesau a llawer o'n gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau i weithredu i ryw raddau. Felly, mae'n bryderus nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cynnwys darpariaeth yn y Bil hwn i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol yn ymwneud ag awdurdodau datganoledig Cymru.
Llywydd—Dirprwy—mae’r Llywodraeth a arweinir gan Geidwadwyr y DU wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth Llywodraeth dryloyw a chlir nad yw'n achosi gormod o faich gweinyddol nac yn creu dryswch cyfreithiol i gyflogwyr. Rydym yn deall na fydd rheoliadau sy’n gysylltiedig â didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres ac amser cyfleuster yn cynnwys cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru o fewn eu cwmpas nes y bydd Deddf Cymru 2017 yn dod i rym, a gwyddom y bydd Deddf Cymru yn egluro bod cysylltiadau diwydiannol yn fater a gedwir yn ôl. Bydd Llywodraeth y DU, rwy’n ffyddiog, yn gweithredu ar y cyfle cynharaf posibl ar ôl cychwyn Deddf Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu diogelu. Mae cyflwyno'r Bil hwn yn sarhad ar bobl Cymru, sy'n wynebu problemau llawer mwy: diffyg meddygon teulu, cludiant gwael, llai o gefnogaeth yn y dosbarth i athrawon, diffyg hygyrchedd i gyffuriau gwarchod bywyd a chynnydd yn y dreth gyngor.
A ydych yn dirwyn i ben os gwelwch yn dda?
Ydw.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sylfaenol yn gwrthwynebu egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Gofynnaf i Aelodau eraill sydd ag unrhyw gydwybod gefnogi'r nod hwnnw.
Diolch. Hannah Blythyn.
Diolch i chi am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon, Dirprwy Lywydd. Rwy’n siarad yn y ddadl hon fel rhywun sy'n falch o fod wedi gwasanaethu pobl sy'n gweithio yn fy swyddogaeth flaenorol, yn gweithio i undeb lafur, ac sydd wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny yn fy swyddogaeth fel Aelod o'r Cynulliad. Mae hefyd yn golygu fy mod yn gallu cyfrannu at y ddadl hon gydag ychydig mwy o ddealltwriaeth efallai na rhai eraill, o'r modd y mae egwyddorion ac arferion partneriaeth gymdeithasol yn gweithio o fewn y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Rydym yn gwneud llawer o’r bartneriaeth gymdeithasol hon a’r ffaith ein bod yn gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru, ac nid dim ond er mwyn bod yn wahanol. Gwn am y dŵr coch clir hwnnw y buom yn siarad amdano flynyddoedd lawer yn ôl, ond mewn gwirionedd rydym yn gwneud hyn gan mai dyma’r peth iawn i'w wneud ac yn wir nid y gweithwyr a’r gweithleoedd yn unig sydd ar eu hennill, ond yr economi a’r gymdeithas hefyd. Bydd peidio â chyflwyno a diddymu’r elfennau hyn yn sicr yn cael effaith andwyol ar y dull partneriaeth gymdeithasol yr ydym yn ei werthfawrogi cymaint yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod llefarydd y Ceidwadwyr wedi dweud ei fod ym maniffesto’r Ceidwadwyr. Wel, mewn gwirionedd, roedd ddiddymu’r elfennau hyn ym maniffesto Llafur Cymru y pleidleisiwyd arno y llynedd.
Wnaethoch chi ddim cael mwyafrif.
Gawsom ni fwy na chi. [Chwerthin.]
Teimlaf ei bod yn angenrheidiol imi sefyll ar fy nhraed eto yn y ddadl hon a cheisio gwrthbrofi rhywfaint o'r rhethreg a'r camddealltwriaeth ynghylch sut y mae undebau llafur yn gweithio'n ymarferol. Felly, y peth cyntaf i sôn amdano, ac rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr eraill yn gwneud hynny hefyd, yw casglu tanysgrifiadau trwy ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres. Mae'n ffordd eithaf syml a hygyrch o wneud hyn ac, mewn gwirionedd, yn y mwyafrif llethol o achosion, gan gynnwys fy awdurdod lleol i, yr undebau mewn gwirionedd sy’n talu am y gost o ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres ac maent yn arbed arian i'r awdurdod lleol. Ar gyfer y cyflogwyr hynny lle ceir cytundeb ar waith—yn bennaf mewn llywodraeth leol—mae’r trefniant mewn gwirionedd yn cynhyrchu incwm i’r awdurdod lleol, er mai swm cymedrol ydyw. Felly, nid yw o reidrwydd yn anfantais ariannol i’r awdurdod lleol. Ni allwn ddeall pan oedd fy nghydweithwyr yn ceisio ymyrryd—rydym yn clywed llawer o wrthwynebiad gan yr wrthblaid am ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres ar gyfer talu tanysgrifiadau undebau llafur, ond nid ydym yn clywed yr un ffwdan yn cael ei wneud am y nifer o ddidyniadau eraill sy’n cael eu tynnu o gyflogau’r gweithwyr, pan godir taliadau fel talebau gofal plant, cynlluniau seiclo i'r gwaith a hyd yn oed yswiriant gwladol.
O ran amser cyfleuster, rwy'n credu bod hwnnw’n darged eithaf hawdd. Clywn lawer o ymosodiadau ar amser cyfleuster, ond mae amser cyfleuster undebau llafur yn cynnig ffordd i staff siarad am eu profiadau, ac yn rhoi mecanwaith clir ar waith ar gyfer datrys cwynion ac anghydfodau, boed yn anffurfiol neu drwy gydfargeinio, cyn i bethau waethygu a chyrraedd adeg pan fydd mewn gwirioneddd yn costio arian i gyflogwr gamu i mewn a chymryd rheolaeth ar y sefyllfa. Bydd cyfyngu ar amser cyfleuster i gynrychiolwyr lleol a'r difrod i bartneriaeth gymdeithasol yn erydu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan undebau llafur i wella cyfle cyfartal, ac yn cael gwared ar y diogelwch gorau sydd gan weithwyr ar hyn o bryd rhag triniaeth wahaniaethol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
A fyddech yn cytuno â mi, Hannah Blythyn, ynghylch yr ymchwil gan Brifysgol Warwick a'r sylw a wnaed gan yr Athro Kim Hoque a ymgymerodd â’r gwaith ymchwil, a ddywedodd:
Yn gyffredinol, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cynrychiolwyr undeb amser llawn a rhan-amser yn y gweithle yn helpu i wella perfformiad yn y sector cyhoeddus a bod rheolwyr yn cydnabod yn eang fod hyn yn wir.
Wrth gwrs, oherwydd, yn amlwg, mae'n darparu mecanwaith ar gyfer datrys y pethau hyn a’u trafod cyn cyrraedd y pwynt pan fyddant yn faich ychwanegol ar y rheolwyr ac ar y sefydliad.
Wrth gau, amser cinio heddiw roedd yn bleser gennyf gamu i mewn a chroesawu digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd o bartneriaeth dysgu sy’n newid bywydau rhwng y Brifysgol Agored a'r TUC yng Nghymru. Cyn cael fy ethol am y tro cyntaf y llynedd, treuliais yn agos i ddegawd yn gweithio yn y mudiad undebau llafur a gwelais drosof fy hun y gwahaniaeth y mae dysgu undebau llafur yn ei wneud i fywydau pobl, a’r drysau i ddatblygu a dysgu yn y gweithle sy’n cael eu datgloi a'r cyfleoedd sy’n agor i’r gweithwyr. Yng Nghymru, rydym yn parhau i gefnogi mentrau fel Cronfa Ddysgu Undebau Cymru; yn San Steffan mae’r Torïaid wedi torri ar y cyfle hwn i weithwyr gyflawni. Credaf fod hyn yn dangos i mi, yn wahanol i'r hyn y byddai rhai pobl yn hoffi i chi ei gredu o’r negyddol—bod undebau llafur yn rhyw fwgan, os mynnwch—mewn gwirionedd, bod gan undebau llafur ran gadarnhaol i'w chwarae, ac maent yn dod â buddion nid yn unig i'r gweithle ond, yn wir, i'n heconomi ac i'n cymdeithas. Rwy'n credu bod y Bil hwn yn briodol yn ceisio gwyrdroi elfennau o ddeddfwriaeth y Ceidwadwyr sy'n ymwneud â'n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ac y byddai hynny nid yn unig yn cael gwared ar bartneriaeth gymdeithasol ond hefyd ein holl wead cymdeithasol.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rydym ni hefyd yn croesawu’r awydd i gyflwyno gwelliant ynglŷn â’r defnydd o weithwyr asiantaeth, er yn cytuno y byddai, efallai, wedi bod yn well i’w gynnwys o’r cychwyn, fel mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei ddweud.
Bydd y Bil yma, wrth gwrs, yn datgymhwyso agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016 y Deyrnas Unedig, ac fe ddaeth y Ddeddf honno i rym ym mis Mawrth eleni gan danseilio hawliau gweithwyr. Mae unrhyw ymgais i ddiogelu rhai o’r hawliau hynny i’w groesawu, ond yn y pen draw, mae angen i ni yng Nghymru gael y grymoedd llawn i amddiffyn hawliau gweithwyr ac i ddatblygu ffordd o gydweithio teg rhwng cyflogwyr a gweithwyr—ffordd a fyddai yn adlewyrchu ein gwerthoedd ni fel cenedl.
Mae Deddf Undebau Llafur 2016 yn ymosodiad diangen ar hawliau gweithwyr. Fe fydd hi’n llawer anoddach i weithwyr gael codiad cyflog, i atal colli swyddi neu i negodi gwell amodau gwaith yn y man gwaith yn sgil y Ddeddf yma. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n anoddach i undebau wneud eu gwaith o ddydd i ddydd yn delio efo problemau yn y man gwaith cyn iddyn nhw ddatblygu yn anghydfod, ac mae’r Ddeddf yn mygu protest, ac mae hynny yn mygu rhan anhepgorol o’n democratiaeth ni. Mae’n anodd osgoi dod i’r casgliad bod y Llywodraeth Dorïaidd yn benderfynol o wanhau undebau llafur er mwyn gallu ymosod ar hawliau, tâl ac amodau gwaith pob gweithiwr.
Mae bargeinio rhwng y cyflogwyr a’r cyflogedig yn gweithio, oherwydd bod gan y ddwy ochr rym. Dyna pam fod y mwyafrif helaeth o drafodaethau’n diweddu nid mewn streic, ond mewn datrysiad. Mae agwedd fel honno’n helpu aelodau undebau a rhai sydd ddim yn aelodau yn yr un modd. Mae agwedd fel honno’n helpu cynnal gwasanaethau cyhoeddus. Mae trin gweithwyr efo parch ac urddas yn arwain at weithlu sydd yn fodlon rhoi’r cyhoedd yn gyntaf, o’r cleifion yn ein hysbytai a’r rhai sy’n derbyn gofal i’r gwasanaeth casglu sbwriel ac ailgylchu. Mae trin gweithwyr efo parch yn gwneud synnwyr busnes. Ond mae Deddf Undebau Llafur 2016 wedi symud y grym ac mae’r glorian yn pwyso’n llawer rhy drwm i un cyfeiriad.
Dyma ymgais ddiweddaraf y Torïaid yn eu hanes hir o ymosod ar hawliau gweithwyr—hawliau sydd mewn hyd yn oed mwy o berig yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dros yr 1980au a’r 1990au cynnar, pasiwyd nifer o Ddeddfau a oedd wedi’u llunio gan y Llywodraeth Dorïaidd yn ymosod ar undebau llafur a hawliau gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys Deddf Cyflogaeth 1980, Deddf Cyflogaeth 1982 a Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993. Fe gafodd Llafur, rhwng 1997 a 2010, gyfle i ddadwneud gwaith y Torïaid, ond ni chymerwyd y cyfle. Yn ei maniffesto ar gyfer etholaeth gyffredinol 1997, dywedodd y Blaid Lafur y byddai elfennau allweddol deddfwriaeth undebau llafur y 1980au yn parhau. Felly, mae’r gwaharddiadau ar bicedi a’r mwyafrif o gyfyngiadau balot yn parhau i sefyll. Mae’n wir dweud y gwnaed ymdrech, ond ymdrech dila i gryfhau hawliau drwy’r Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 a’r Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 2004. Ond o ran nifer yr hawliau pwysig a gafodd eu tynnu oddi ar weithwyr yn ystod yr 1980au a’r 1990au cynnar, pan gafodd Lafur y cyfle i’w hadfer, roedd yr ymdrech yn dila, a dweud y lleiaf. Ni wnaed ymdrech wirioneddol i rowlio’r niwed yn ôl. Ni wnaed ymdrech wirioneddol i amddiffyn gweithwyr rhag drygioni’r Torïaid.
Mae Llywodraeth Cymru’n gorfod rhuthro’r Bil yma trwodd rŵan. Unwaith y daw Deddf Cymru i rym, fe fydd materion cysylltiadau diwydiannol yn cael eu cadw yn benodol yn San Steffan. Bydd ymgais Llywodraeth Cymru i ddefnyddio manteision y pwerau a roddwyd yn cael eu dileu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dyna wendid sylfaenol Deddf Cymru a pham fod angen Deddf arall ar fyrder. Cymhelliant gwleidyddol sydd ar waith yn y fan hyn. Mae’r Torïaid yn San Steffan yn ceisio sicrhau polisi cysylltiadau diwydiannol unffurf a chreulon ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, gan ddiystyru cynhwysedd datganoledig y Cynulliad fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd, gan ddiystyru’r ffaith nad gwledydd unffurf ydym ni. Hynny yw, mae yna ‘power grab’ yn mynd ymlaen.
Mae Deddf Cymru’n ddyfais i rowlio pwerau yn ôl o’r Cynulliad Cenedlaethol, gan leihau’r sgôp o beth y gallwn ni ei wneud dros ein pobl yma yng Nghymru. Mae perig gwirioneddol bod y Torïaid yn cynllwynio i ddwyn mwy o bwerau yn ôl i’r canol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Bydd Plaid Cymru yn amddiffyn gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru pob cam o’r ffordd. Diolch.
Mae'r Bil hwn yn ymwneud â'r math o wasanaethau cyhoeddus yr ydym am eu gweld yng Nghymru. A ydym yn dymuno gweld gwasanaethau cyhoeddus lle mae cydweithio yn nodwedd ohonynt, neu a ydym am weld gwasanaethau cyhoeddus lle mae hynny'n galetach fyth? Rydym ni, ar y meinciau hyn, am weld gwasanaethau cyhoeddus cryf a gyflwynir yn effeithiol, a chyflogaeth deg. Rydym yn credu yn y model partneriaeth gymdeithasol yr ydym wedi clywed cymaint amdano heddiw, a chefais fy synnu gan nifer y cyflogwyr a oedd yn ymateb yn bositif i'r ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn argymell cefnogaeth i safbwynt y Llywodraeth yma, gan wrthdroi deddfwriaeth y Torïaid y flwyddyn ddiwethaf.
Nid absenoldeb anghydfod yw partneriaeth gymdeithasol. Fe fydd llawer o anghytundebau, fe fydd llawer o wahaniaethau barn ac, o bryd i'w gilydd, fe fydd gwahaniaethau o ran blaenoriaeth. Ond mae'n cynnig fframwaith ar gyfer rheoli anghytundeb yn effeithiol heb lawer o darfu arno. Ond nid ffordd o reoli anghytundeb yn unig yw hyn. Mae hefyd yn ffordd o reoli newid a darpariaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol er budd y cyhoedd, ac yn aml mae hynny’n ymwneud â rheoli newid anodd ac addasu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill.
Ond mae'n ddyletswydd arnom hefyd i edrych ymlaen at rai o'r bygythiadau a'r pwysau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, o ganlyniad i ddewis gwleidyddol gan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan i osod trefn o gyni. Gall hynny, sydd wedi’i waethygu oherwydd y galw cynyddol a'r risg i weithlu'r sector cyhoeddus o’r ansicrwydd ynghylch dinasyddion yr UE, fod yn fygythiad i gadernid rhai gwasanaethau cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru—ar draws y DU. Yr ateb i'r heriau dwys hynny yw mwy o gydweithio, dim llai o gydweithio. Ac nid yw’n ymwneud yn unig ag osgoi gwrthdaro; mae hefyd yn ymwneud â fframwaith sy'n annog deialog greadigol am y ffordd yr ydym yn ymdrin â rhai o'r bygythiadau a'r pwysau sydd o’n blaenau. Ond y gwir amdani yw bod y ddeddfwriaeth hon, deddfwriaeth 2016 y Ceidwadwyr, yn symudiad gwleidyddol yn unig. Ni fu cyn lleied o streicio yn y DU erioed —mae'n isel yn Lloegr; mae hyd yn oed yn is yng Nghymru—ac mae natur wleidyddol yr ymosodiad yn glir pan fyddwch yn edrych ar rai o'r darpariaethau craidd yn y Ddeddf, sy’n ei gwneud yn anos i undebau drefnu yn y gweithle. Ac fel y clywsom, ar adeg pan mae cyflogwyr da yn ei gwneud yn haws i weithwyr brynu beiciau, ymuno â'r gampfa, cyfrannu at bensiynau, mae’r Ddeddf hon mewn gwirionedd yn ei gwneud yn anoddach i wneud rhywbeth mor sylfaenol â thalu eich tanysgrifiad undeb.
Felly, does dim dwywaith amdani. Mae'r Bil hwn yn gwrthdroi ymosodiad gwleidyddol noeth gan y Ceidwadwyr yn San Steffan—ymosodiad Torïaidd ar hawl pobl sy’n gweithio i drefnu, ymosodiad Torïaidd ar wasanaethau cyhoeddus cydweithredol, ac ymosodiad Torïaidd ar gadernid gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU. A byddaf yn falch o gefnogi Bil y Llywodraeth.
Mae Bil yr Undebau Llafur, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno yma i’w drafod heddiw, yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei graffu yn bur faith yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yr wyf i'n aelod ohono, yn ogystal â'r pwyllgor cyfansoddiadol, nad ydw i’ aelod ohono, felly ni allaf ond siarad am y peth o ochr y pwyllgor yr wyf i’n aelod ohono.
Clywsom lawer o dystiolaeth, ac roedd consensws clir yn dod i'r amlwg ar ochr y cyflogwyr a’r undebau o blaid y Bil hwn. Mae UKIP yn fras yn cefnogi'r Bil hwn gan ein bod yn credu ei fod yn hybu achos gwella amodau gwaith yng Nghymru, sydd yn nod canmoladwy. Wrth gwrs, dylem ymdrechu i wella amodau gwaith pob gweithiwr, nid dim ond gweithwyr y sector cyhoeddus, sy'n digwydd bod mewn undebau llafur. Ond nid oes unrhyw synnwyr rhesymegol mewn gwaethygu amodau yn fwriadol i weithwyr y sector cyhoeddus, a gwaethygu amodau yw’r hyn y mae'r Gweinidog, Mark Drakeford, wedi dweud wrthym fydd yn digwydd os nad yw deddfwriaeth Llywodraeth Geidwadol y DU yn cael ei diddymu. Roedd bron pob un o'r tystion a glywsom yn y pwyllgor yn tueddu i gytuno â'r farn hon, gan gynnwys, yn fwyaf nodedig, y cyflogwyr eu hunain.
Roedd problem yn codi o ran cymhwysedd cyfreithiol. A oedd gan y Cynulliad gymhwysedd cyfreithiol dros arferion cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, neu a oedd y cymhwysedd gan San Steffan? Wel, cafodd y pwyllgor ei sicrhau gan Mark Drakeford bod achos cyfreithiol cryf bod y cymhwysedd gennym ni yma. Felly, rydym ni yn UKIP wedi derbyn ei air gyda phob ewyllys da, ac rydym yn cefnogi’r Bil ar y sail honno, er mai’r llysoedd, o bosibl fydd yn penderfynu pwy sy'n iawn yn y pen draw.
Yr hyn na soniwyd amdano mewn gwirionedd yn y cam pwyllgor ac nid yw wedi codi heddiw yw bod Deddf Undebau Llafur y Ceidwadwyr yn y DU, a basiwyd y llynedd, yn gamarweiniol braidd. Y bwriad gwreiddiol y tu ôl i'r Ddeddf oedd torri rhywfaint ar y cyllid ar gyfer y Blaid Lafur oddi wrth yr undebau. Ond gan fod Theresa May eisiau cefnogaeth Llafur dros Brexit, cafodd y rhan hon o'r Bil ei chadw o’r ddeddfwriaeth a basiwyd yn y pen draw gan San Steffan. Yr hyn oedd ar ôl oedd cyfres o fân ddadleuon dros bethau fel amser cyfleuster, didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres a throthwy'r ganran a bleidleisiodd dros streic gyfreithiol. Yn ein barn ni, dylai gweithwyr gael yr hawl gyfreithiol i streicio os yw pleidlais wedi cael ei hennill, ac ni ddylai fod cyfyngiad gan ryw drothwy a osodwyd yn fympwyol. Mae amser cyfleuster, yn ôl pob tebyg, yn gyffredinol yn caniatáu i gynrychiolwyr undebau ymdrin â materion rheoli gweithiwr cyn iddynt fynd yn streiciau—pwynt a wnaeth Hannah Blythyn pan drafodwyd y pwnc hwn y tro cyntaf, ac mae hi wedi ei wneud yn effeithiol eto heddiw. Mae amser cyfleuster, pe gellid ei gyfrifo, yn ôl pob tebyg yn arbed arian cyhoeddus, a hefyd, yn y cyswllt hwn, yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn nad ydym am ei wneud yn awr yw gwastraffu amser drwy geisio recordio, cofnodi a chyfrifo amser cyfleuster yn ddiddiwedd. Byddai hyn mewn gwirionedd yn gyfystyr â gwastraff gwirioneddol o arian cyhoeddus. Mae didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres yn syml yn ddidyniad awtomatig o gyflog gweithiwr—heb fod yn wahanol iawn, yn ei hanfod, i unrhyw ddidyniad arall. Ni wnaeth neb o ochr y cyflogwyr yn y gwrandawiadau pwyllgor fynegi unrhyw awydd i orffen neu gyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres. Felly, i grynhoi, rydym yn cefnogi'r egwyddor o hawliau gweithwyr, ac rydym hefyd yn cefnogi darpariaeth effeithiol o wasanaethau cyhoeddus. Rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn cynorthwyo’r ddau beth, felly rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.
Diolch yn fawr iawn. Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o siarad heddiw o blaid Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru. Rwy'n cymeradwyo’r ffordd brydlon y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag agwedd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru sydd wedi dangos yr arweinyddiaeth gref a sefydlog sydd ei hangen ar Gymru. Mae dull Llywodraeth y DU wedi bod yn llym ac wedi peri rhwyg. Mae Llywodraeth y DU nid yn unig wedi ceisio effeithio ar y ffordd y mae undebau llafur yn gweithio, gan danseilio eu gallu i gynrychioli eu haelodau; maent hefyd wedi gwneud ymosodiad ar y setliad datganoli ei hun, gan geisio datod y pwerau a ddatganolwyd i Gymru.
Cyn cael fy ethol ym mis Mai y llynedd, roeddwn yn dysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghaerffili. Fel y cyfryw, roeddwn yn cael fy nghyflogi yn un o'r gwasanaethau cyhoeddus pwysig hynny yr anelwyd Bil Llywodraeth y DU atynt, er gwaethaf y ffaith bod rheolaeth dros addysg yn rhan allweddol o'r setliad datganoledig o'r cychwyn cyntaf. Beth oedd goblygiadau Bil atchweliadol gwrth undebau llafur Llywodraeth y DU i mi a fy nghydweithwyr? Yn gyntaf, byddai adran 3 wedi gosod trothwy ar ein gallu i bleidleisio dros streic. I bob gweithiwr, streic yw'r cam olaf—y cyfle olaf i sefyll dros hawliau gweithwyr. Fel y gwelsom yn achos y meddygon iau yn Lloegr, mae'r Ceidwadwyr yn benderfynol o erydu a difa hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus i raddau na allai hyd yn oed Thatcher freuddwydio amdanynt. Ond ar yr un pryd ag y mae Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar yr hawl i streicio, nid ydynt yn gwneud unrhyw ymdrech i wthio cwotâu annemocrataidd cyffelyb ar fathau eraill o etholiadau. Fel sy’n digwydd bob amser gyda'r Ceidwadwyr, mae'n un rheol i un, ac un rheol i un arall.
Yn ail, byddai adrannau 13 a 14 wedi ceisio tanseilio egwyddorion amser cyfleuster. Mae undebau llafur yn cynrychioli eu haelodau yn rheolaidd mewn anghydfodau lle mae angen help ar weithwyr ac mewn cyfarfodydd gyda rheolwyr ar ystod o faterion. Byddai gallu stiwardiaid undeb llafur i wneud hyn ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w haelodau wedi lleihau. Byddai llai o gynrychiolaeth i’r gweithwyr; byddai pwerau’r undeb yn llai.
Yn drydydd, byddai adran 15 wedi bygwth hyfywedd undebau i’r un graddau. Mae'r gostyngiad mewn talu tanysgrifiadau yn y tarddiad yn ergyd a anelwyd yn glir at allu undebau i weithredu. Mae diben Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn yn glir: gallai aelodaeth o undeb llafur fod yn gyfyngedig. Byddai amser ac adnoddau undebau llafur yn cael eu gwastraffu yn mynd ar drywydd talu tanysgrifiadau.
Byddai pob un o’r pedair adran wedi bygwth nid yn unig allu a hyfywedd fy undeb i fy nghynrychioli i a fy ngyrfa flaenorol, byddent wedi bygwth gallu undebau’r sector cyhoeddus i gynrychioli gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru. Gan fod tua thri o bob 10 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, byddai effaith deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn sylweddol. Ar ben hynny byddai dull dialgar Llywodraeth y DU wedi bod yn seiliedig ar sathru’r setliad datganoli a phwerau’r corff hwn. Nid yw hyn yn dderbyniol ac nid yw'n argoeli'n dda cyn dychwelyd pwerau gan yr Undeb Ewropeaidd.
Dilynais â diddordeb mawr yr ymchwiliad Cam 1 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i Fil arfaethedig Llywodraeth Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am y darn defnyddiol hwn o dystiolaeth. Yr hyn oedd yn fy nharo oedd y gefnogaeth aruthrol i egwyddorion cyffredinol y Bil. Daeth hyn nid yn unig gan y rhai y byddem yn disgwyl iddynt gefnogi’r Bil, fel yr undebau llafur, daeth hefyd o dystiolaeth a ddarparwyd ar ran cymdeithasau proffesiynol ac, yn hollbwysig, gyflogwyr y sector cyhoeddus. Ymunodd yr holl leisiau hyn mewn corws o gymeradwyaeth i’r Bil. Corws a gyhoeddodd fod dogmatiaeth styfnig Llywodraeth y DU yn benderfynol o wrthdroi egwyddorion partneriaeth gymdeithasol y mae Llywodraethau olynol Cymru wedi seilio eu dull o weithredu cysylltiadau diwydiannol arnynt. Ar ben hynny, clywodd y pwyllgor y byddai cynlluniau Llywodraeth y DU nid yn unig yn dryllio’r athrawiaeth, ond hefyd pe bai cyfran gyfartal gan y partneriaid wrth ddarparu gwasanaethau, byddai eu cynlluniau hefyd yn effeithio ar ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny eu hunain. Fel y dywedodd Cymdeithas y Radiograffwyr, byddai effaith newidiadau Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn
fwy anodd i’n haelodau roi’r cleifion yn gyntaf
a byddai yn cael effaith andwyol ar ofal cleifion.
Edrychaf ymlaen at gefnogi Bil Llywodraeth Cymru, ac, wrth wneud hynny, gefnogi gweithwyr y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus heddiw.
Diolch yn fawr iawn, ac rwyf yn awr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Fel y clywsoch, mae cefnogaeth gref i'r Bil yn y Cynulliad y prynhawn yma. Diolch i John Griffiths am yr hyn a oedd, yn fy marn i, yn grynodeb cryno o'r dystiolaeth a gymerodd ei bwyllgor. Ym mhob agwedd ar y Bil, roedd cefnogaeth lethol, fel y dywedodd, gan randdeiliaid i Fil syml ac effeithiol. Clywodd yr Aelodau gan Gareth Bennett, a eisteddodd drwy'r dystiolaeth ac a gafodd ei argyhoeddi ddigon ganddi i ymrwymo i gasgliad syml, clir y pwyllgor y dylai'r Bil gael ei gefnogi.
Of course, I recognise the support of Plaid Cymru, as set out by Sian Gwenllian, helping us safeguard workers’ rights here in Wales and to provide fairness in the workplace for those working in our public services here in Wales.
Dirprwy Lywydd, rydych chi wedi clywed Aelodau eraill yma yn egluro mai pwrpas y Bil hwn yw cefnogi’r llwyddiant a gawsom yng Nghymru wrth ddatblygu dull partneriaeth gymdeithasol. Mae Jeremy Miles yn llygad ei le pan ddywedodd nad oedd y dull partneriaeth gymdeithasol yn ymwneud ag absenoldeb anghydfod; mae'n ymwneud â'r gwaith llawer, llawer anoddach o wynebu heriau, mynd o amgylch y bwrdd gyda'n gilydd, ystyried, trafod, dadlau ac, yn y diwedd, dod i gytundeb ar ffordd ymlaen lle mae'r broblem ei hun yn anodd a lle nad yw'r ateb yn hawdd dod o hyd iddo, ond mae partneriaeth gymdeithasol yn mynnu eich bod yn gwneud y gwaith caled, yn hytrach nag yn y ffordd yr ydym wedi clywed gan y Ceidwadwyr yma'r prynhawn yma—byddai'n well ganddynt hwy gilio y tu ôl i faricedau gwrthdaro cymdeithasol ymrannol dull gwrthwynebol i gynnal cysylltiadau diwydiannol.
Yr hyn y mae’r Bil hwn yn ei wneud, Dirprwy Lywydd, yn eithaf sicr, yw datgelu’r gwir am y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru. Mae'n eu datgelu fel y grym adweithiol ag ydynt pan ddaw at bartneriaeth gymdeithasol. Mae ymateb Pavlovian—mae ymateb Pavlovian gan Blaid y Ceidwadwyr Cymreig. Dim ond ichi grybwyll y geiriau 'undebau llafur', ac maent ar unwaith yn dechrau glafoerio dros hen frwydrau. Dro ar ôl tro, yn y Siambr hon, rydw i wedi gorfod gwrando ar Aelodau'r Blaid Geidwadol yn sôn am ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond yn ceisio condemnio'r gwasanaethau y mae’r bobl hynny yn eu darparu, ac eto pan fydd y bobl hynny yn troi allan i fod yn undebwyr llafur, maent yn mynd o fod yn arwyr gwasanaethau cyhoeddus i fod yn bobl y mae'n rhaid gwarchod y cyhoedd yn gyffredinol yn eu herbyn rhag y peryglon y maent yn eu creu. Wel, mae honno'n ddadl na fydd yn ddigon da ar lawr y Cynulliad hwn.
Yr ail reswm pam mae’r Bil yn datgelu’r gwir am y Blaid Geidwadol, ac roeddwn i’n credu bod hyn yn rhan hollol gywilyddus o'r un cyfraniad a glywsom gan y Blaid Geidwadol, yw ei fod yn eu datgelu ar fater datganoli hefyd. Mae hwn yn Fil sy'n cael ei gymryd drwy fforwm Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'n Fil sy'n ceisio gwneud pethau yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd yr ydym ni yng Nghymru yn dewis trefnu ein busnes, ac eto i gyd mae'r Blaid Geidwadol yn fodlon chwifio ffon Llywodraeth San Steffan yn barod i wrthdroi ewyllys democrataidd y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf o’r farn y bydd dicter democrataidd, os digwydd hynny, ac rwy'n siomedig ac yn drist iawn o glywed ei fod yn cael ei awgrymu ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma. Yn hytrach, bydd y Bil bach ond pwysig hwn yn gwneud pethau yn y ffordd yr ydym yn dymuno eu gwneud nhw yma yng Nghymru—y ffordd yr ydym yn gwybod sy’n effeithiol; y ffordd yr ydym yn gwybod fydd yn arbed arian, fydd yn atal streiciau, fydd yn amddiffyn y cyhoedd ac yn gwella ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd bydd yn defnyddio'r gronfa enfawr o ewyllys da a gweithredu effeithiol y mae undebwyr llafur ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus yn eu rhoi i’r gwaith y maent yn ei wneud, gan wneud y cyfraniad a wnânt: cyfraniad a gydnabyddir gan gyflogwyr, a gydnabyddir gan bartneriaid cymdeithasol, a gydnabyddir gan bleidiau eraill yma yn y Siambr y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y bleidlais a gynhelir arno.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Bydd y bleidlais dan yr eitem hon yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cynnig i gymeradwyo’r penderfyniad ariannol ar gyfer Bil yr Undebau Llafur (Cymru). A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig?
Cynnig NDM6299 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil yr Undebau Llafur (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol, Cadeirydd.
Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl hon, a gan ein bod wedi gohirio’r bleidlais ar egwyddorion cyffredinol y Bil, rwyf am ohirio’r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym wedi cytuno y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn Cyfnod 3, cyn i ni fynd ymlaen i Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf yn awr am symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Canu'r gloch. Iawn. Canwch y gloch os gwelwch yn dda.
Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.
Iawn, symudwn ymlaen i bleidleisio ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rwyf yn galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 36, Yn erbyn 11, Ymatal 1.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6298
Symudwn nawr at gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ar gyfer Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rwyf yn galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 37, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 37, Yn erbyn 11, Ymatal 1.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6299
Cyn i ni symud at ddadl Cyfnod 3 Bil iechyd y cyhoedd, bydd y sesiwn yn cael ei atal am 10 munud. Bydd y gloch gael ei chanu ar ôl pum munud, ac a gaf i annog pob un ohonoch i ddychwelyd i'r Siambr cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni fwrw ymlaen yn hwylus? Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:32.
Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:42, gyda’r Llywydd yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r Cyfnod 3 ar Fil iechyd y cyhoedd.
Grŵp 1: Mynd i’r Afael â Gordewdra (Gwelliannau 3, 4, 2, 1)
Mae’r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â mynd i’r afael â gordewdra. Gwelliant 3 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i’n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y prif welliant, ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Rhun ap Iorwerth.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Rhun ap Iorwerth).
Diolch, Llywydd, ac mae’n bleser mawr gen i gyflwyno’r gwelliannau yma yn ffurfiol heddiw i ddechrau ein trafodion ni ar Gyfnod 3 Bil iechyd y cyhoedd. Rydym ni wedi bod yma o’r blaen, wrth gwrs. Ond, wrth i’r Bil gyrraedd y cyfnod yma y tro diwethaf, ac wrth iddo fo gael ei ailgyflwyno yn y Cynulliad yma, nid oedd yna ddim cyfeiriad ynddo fo at y brif broblem iechyd gyhoeddus, o bosibl, rydym ni yn ei hwynebu fel cenedl. Rŵan, mae yna gyfle, drwy ein gwelliannau ni, i newid hynny, i roi taclo gordewdra ar wyneb y Bil yma, ac i sicrhau bod strategaeth yn cael ei pharatoi, a’i gweithredu, i fynd i’r afael â’r argyfwng yma, achos mae o yn argyfwng.
Rydw i’n ddiolchgar am y gefnogaeth eang sydd wedi ei dangos i’r gwelliannau heddiw. Rydw i’n ddiolchgar i Cancer Research UK, er enghraifft, sydd, rydw i’n gwybod, wedi bod yn annog Aelodau’r Cynulliad i gefnogi’r gwelliant yma. Mae’r cyswllt rhwng gordewdra a chanser yn glir, medden nhw, ond mae yna ormod o bobl sydd ddim yn sylweddoli hynny. Hefo eu ffigurau nhw’n dangos bod 59 y cant o oedolion Cymru dros eu pwysau yn 2015, a thros chwarter o blant Cymru dros eu pwysau neu’n ordew, mae Cancer Research UK yn argyhoeddedig y bydd cael strategaeth genedlaethol yn fodd i ddechrau mynd i’r afael â’r sefyllfa yma.
I am delighted to be tabling the amendments today, in the context of having had positive discussions with Government on this, the most acute, perhaps, of public health problems facing us in Wales. And I am grateful to the Minister for agreeing with me that this is the place, on the face of this Bill, to put measures in place to try to address this national crisis.
This is a matter that I feel very strongly about personally. But there’s one man in my constituency who has been very influential in strengthening my resolve to ensure the Assembly, and Welsh Government, take action in this area. Ray Williams was the featherweight weightlifting gold medallist for Wales at the 1986 Commonwealth Games, but he’s still very much a champion—a champion of getting his town of Holyhead, getting Anglesey, and our nation, fitter and healthier. I spoke with Ray this morning and he is delighted that we are now in a position where, today, hopefully, we can win Assembly support for this vital amendment where what he sees as something that has blighted our nation’s well-being for decades is now going to be the focus of a clear Government strategy. Get the strategy right and he believes that not only can we be a healthier and a fitter nation, but a happier one too—and it’ll save money, he says. And he’s right, of course. Cancer Research UK estimates that obesity costs the NHS £73 million a year. When you add to that illnesses like diabetes type 2, largely caused by obesity, then the figure rises to hundreds of millions of pounds annually.
Now, with the amendments, hopefully, passed and the Bill enacted, then the work begins, of course, of making sure that there is a strong, a focused, ambitious, and deliverable strategy. Ray—I know—and many like him will only be too pleased to contribute to the formulation of that strategy. It is in the interests of all of us here, all of us in Wales, but first I ask you to support our amendments today.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu cefnogi'r holl welliannau yn yr adran hon oherwydd rydym wedi bod yn bryderus iawn nad yw’r Bil iechyd y cyhoedd arfaethedig wedi gwneud fawr i fynd i'r afael â'r mater o ordewdra. Yn y trafodion ar ôl cwestiynau ar ôl datganiad, codir pryderon gan bob plaid ynglŷn â’r achosion o ordewdra yng Nghymru a'r pwysau cyfatebol y mae afiechydon fel diabetes, pwysedd gwaed uchel a chlefyd y galon, sy'n cael eu gwaethygu neu eu hachosi gan ordewdra, yn eu rhoi ar yr unigolyn a'r GIG. Ni ellir gorbwysleisio cost economaidd a dynol gordewdra. Gall bod dros bwysau neu'n ordew arwain at gyflyrau meddygol cronig a difrifol. Dros yr 20 mlynedd nesaf, gallai lefelau cynyddol o ordewdra arwain at 230,000 o achosion ychwanegol o ddiabetes math 2, 80,000 o achosion ychwanegol o glefyd coronaidd y galon, a dros 32,000 o achosion o ganser.
Mae’r GIG yng Nghymru yn gwario dros £1 miliwn yr wythnos ar drin gordewdra, a rhagwelir erbyn 2050 y gallai cymaint â 60 y cant o ddynion a 50 y cant o fenywod fod yn ordew. Gyda chyfraddau o fod dros bwysau a gordewdra yn parhau i godi, erbyn 2050 bydd hyn yn costio £465 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, gyda chost i gymdeithas ac i'r economi yn gyffredinol o tua £2.4 biliwn. Nid oes unrhyw arwyddion bod lefelau gordewdra yn gostwng ar hyn o bryd, felly rydym yn credu ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ateb traws-bortffolio i fynd i'r afael â’r her gynyddol hon.
Er bod y prif welliant hwn, yr ydym yn ddiolchgar iawn i Blaid Cymru amdano, yn gam yn y cyfeiriad cywir, mae yna bryderon nad oes sylfaen dystiolaeth i fod yn sail i strategaeth ystyrlon ac effeithiol yng Nghymru. Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu ei bod yn hollbwysig y dylai’r Gweinidog ymgynghori ac ymgysylltu’n eang ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod pob sefydliad yn cydweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion hyn. Yn y modd hwn, gellir lleihau achosion o ddyblygu, gellir targedu heriau lleol, a gallwn ddechrau datblygu dealltwriaeth fanylach o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â lefelau gordewdra a beth y gellir ei wneud i'w lleihau.
Rydw i’n falch i godi i gefnogi’r gwelliannau yma ar yr angen i fynd i’r afael â gordewdra. Fel rydym ni wedi ei glywed, mae hwn wedi gweld ychydig bach o daith yng nghanol ein trafodaethau ni efo’r Bil iechyd cyhoeddus, ac rydym ni i gyd yn falch iawn i’r Gweinidog gytuno i’r newid sylfaenol yma, wedi gwrando ar yr holl dystiolaeth sydd wedi dod gerbron y pwyllgor iechyd. Fel rydym ni wedi ei glywed, mae 59 y cant o oedolion dros eu pwysau yn y wlad yma—un mewn pedwar gyda gordewdra. Ac ie, mae gordewdra yn bwysig. Ie, mae’r cysylltiad yna efo clefyd y galon a’r clefyd siwgr, fel yr ydym wedi ei glywed, ond hefyd, fel clywsom ni oddi wrth Rhun, y cysylltiad yna efo canser. Nid ydych chi yn ymwybodol weithiau, ond mae yna fwy o siawns o gael canser os ydych chi dros eich pwysau, ac mae hynny yn ffaith erbyn rŵan, ac mae yna ddigon o ymchwiliadau meddygol sydd yn profi’r pwynt yna.
Felly, gordewdra ydyw’r her amserol fwyaf sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac mae’n weddus felly bod ein Bil iechyd cyhoeddus cyntaf ni hefyd nawr yn mynd i’r afael efo’r her sylweddol yna. Oes, mae gan addysg ran i’w chwarae—bwyta’n iach ac ati. Mae cadw’n heini efo ei ran i’w chwarae, fel rwyf wedi’i grybwyll yma o’r blaen—10,000 o gamau bob dydd. Ond hefyd, mae gan ddeddfu ran i’w chwarae, fel deddfu i sicrhau safonau maeth yn ein bwyd yn ein hysbytai a’n cartrefi gofal; a mynd i’r afael â’r dreth siwgr. Mae gyda ni hawliau ar hyn o bryd, ond efallai nid yn y dyfodol o dan Ddeddf Cymru 2017. Byddai’n dda cael isafswm pris o 50c ar bob uned o alcohol. Mae’r pwerau hynny gyda ni ar hyn o bryd, ond efallai nid yn y dyfodol o dan Ddeddf Cymru 2017. Mae yna sawl her yn fan hyn. Byddai’n dda hefyd cyfyngu ar hysbysebion bwydydd afiach. Felly, y cyfuniad hwnnw: mae addysg yn allweddol bwysig ond, fel yr ydym wedi ei weld gydag ysmygu—. Roeddem ni, yn enwedig fel meddygon a nyrsys, wedi bod yn addysgu’r cyhoedd am ddegawdau ynglŷn â pha mor ddrwg i’ch iechyd chi oedd ysmygu. Ond, beth sydd wedi gwirioneddol leihau graddfeydd ysmygu yw deddfu ar y pwnc a’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Felly, mae addysg a deddfu yn dod efo’i gilydd i wella safonau iechyd cyhoeddus. Dyna pam rwy’n falch i weld y diwygiad yma yn y Bil iechyd cyhoeddus y prynhawn yma, felly cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr iawn.
Bydd UKIP yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Roeddem yn ei chael hi’n anodd cysoni’r ffaith bod Bil iechyd y cyhoedd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus fwyaf sy'n wynebu ein cenedl—gordewdra. Fel yr amlygais yn ystod trafodion yr wythnos diwethaf ar ddiabetes, mae'n fater o gywilydd cenedlaethol bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru a thraean o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. Mae'n rhaid i ni ei gwneud yn glir bod mynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, a’i gwneud yn ofynnol iddynt lunio strategaeth glir gyda chamau gweithredu clir yw'r ffordd orau o gyflawni hyn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae mynd i'r afael â gordewdra yn her fawr i bob Llywodraeth yn y byd datblygedig. Mae'n gofyn i amrywiaeth eang o sefydliadau weithredu ar y cyd o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ogystal ag unigolion eu hunain. Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno cynigion ar gyfer strategaeth gordewdra genedlaethol yng Nghyfnod 2 o broses ystyried y Bil, ac am y gwelliannau diwygiedig sy’n cael eu hystyried heddiw. Pan gafodd y gwelliannau gwreiddiol eu cyflwyno yng Nghyfnod 2, nodais fy mod yn gallu gweld gwerth dod ag ystod o fesurau at ei gilydd drwy strategaeth gordewdra genedlaethol gydlynol. Fodd bynnag, o ganlyniad i rai pryderon ynghylch manylion y cynigion, nid oeddwn yn gallu cefnogi'r gwelliannau ar eu ffurf wreiddiol. Felly, rwy’n diolch i Rhun ap Iorwerth am gytuno i weithio gyda'r Llywodraeth i ystyried y mater ymhellach, ac am y gwelliannau diwygiedig gerbron y Cynulliad heddiw. Rwy'n hyderus bod y gwelliannau bellach yn cyflawni ein hamcanion er budd pobl Cymru. Rwy'n falch fy mod erbyn hyn yn gallu cefnogi pob un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am ystyried y pwyntiau a wnes, ac am weithio ar y cyd i fireinio manylion y cynigion ymhellach. Rwy'n arbennig o falch bod y gwelliannau diwygiedig yn caniatáu ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid a chanolbwyntio ar atal. Rwy'n hyderus y bydd y gwelliannau hyn yn cryfhau'r Bil drwy osod gwaith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus sylweddol hon ar sail statudol. Rwy'n hyderus y bydd y gwelliannau yn sicrhau newid cadarnhaol ar gyfer pobl Cymru, ac felly rwy’n gofyn i’r Aelodau eu cefnogi.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n gwerthfawrogi bod y consensws sydd wedi cael ei glywed yn ystod taith y Bil yma drwy’r pwyllgor wedi cael ei adlewyrchu yma unwaith eto yn y Siambr heddiw. Roedd pob un ohonom ni, rwy’n meddwl, ar ddechrau’r daith yma, yn ymwybodol ein bod ni’n sôn am broblem ac argyfwng yn fan hyn yr oeddem i gyd yn dymuno dod o hyd i ffordd i’w gynnwys o yn y Bil. Beth rydym wedi llwyddo i’w wneud drwy drafod, drwy chwilio ar y ffordd ymlaen ar y cyd rhyngom ni a’r Llywodraeth yw sicrhau ein bod ni wedi gallu cyrraedd y nod hwnnw. Rwy’n ailadrodd mai’r her rŵan—neu’r gwirionedd rŵan—yw mai dechrau’r daith yw hyn. O gael cytundeb i weithio tuag at strategaeth, mae eisiau troi’r egwyddor yna yn strategaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwelliannau yma’n cael eu cymeradwyo’n ffurfiol rŵan ac yn edrych ymlaen at weld datblygiad y strategaeth honno a allai fod yn dechrau’r daith tuag at daclo’r argyfwng yma sy’n gymaint o niwed i ni fel cenedl.
Os na dderbynnir gwelliant 3, bydd gwelliannau 4, 2 ac 1 methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4, Rhun ap Iorwerth.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Rhun ap Iorwerth).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 2: Ysmygu—Mangreoedd Di-fwg (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 5)
Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â mangreoedd di-fwg. Gwelliant 6 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Rebecca Evans).
Diolch, Llywydd. Byddai'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, am y tro cyntaf erioed, yn gwneud tri man awyr agored yn ddi-fwg. Y rhain yw: tir ysgol, tir ysbyty a meysydd chwarae cyhoeddus. Rwyf wedi bod yn falch o weld y gefnogaeth eang i’r cam arwyddocaol hwn sydd wedi bod yn glir drwy gydol y broses graffu. Yn ystod ystyriaeth Cyfnod 1 o’r Bil, gwnaed nifer o awgrymiadau ar gyfer mannau awyr agored ychwanegol a ddylai fod yn ddi-fwg. Rwyf wedi bod yn glir drwy’r adeg bod cymhlethdodau cynhenid yn gysylltiedig â darpariaethau o'r fath, ond dywedais y byddwn yn rhoi ystyriaeth weithredol i bedwerydd lleoliad, sef lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, yn uniongyrchol mewn ymateb i dystiolaeth trafodaethau rhanddeiliaid a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. O ganlyniad i'r ystyriaeth honno, rwy'n falch o fod wedi dwyn ymlaen y gwelliannau yn y grŵp hwn a fyddai'n ychwanegu mannau awyr agored lleoliadau gofal cofrestredig ar gyfer plant at y rhestr o fangreoedd di-fwg. Mae hwn yn gam nesaf naturiol sy'n amddiffyn plant ymhellach rhag effeithiau niweidiol ysmygu a’i weld fel gweithgaredd arferol, bob dydd.
Gwelliant 8 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Mae'n rhoi manylion y lleoliadau i’w cynnwys, sef lleoliadau gofal dydd cofrestredig ar gyfer plant a gwarchodwyr plant sy'n darparu gofal yn eu safle domestig eu hunain. Ni fydd y mannau awyr agored yn ddi-fwg oni bai bod y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofalu am blant. O ran gwarchodwyr plant, ni fydd mannau awyr agored eu cartrefi yn ddi-fwg oni bai bod un neu fwy o blant yn derbyn gofal yn y man awyr agored. Mae hyn yn sicrhau bod cydbwysedd priodol yn cael ei daro rhwng amddiffyn plant a hawliau unrhyw ysmygwyr sy'n byw yng nghartref y gwarchodwr plant.
Mae gwelliannau 6 a 7 yn berthnasol i'r rhai sy'n rheoli neu sy'n ymwneud â rheoli'r safleoedd gofal dydd, neu sydd wedi’u cofrestru i weithredu fel gwarchodwr plant. Disgwylir iddynt gymryd camau rhesymol i atal pobl rhag ysmygu yn y mangreoedd di-fwg, ac mae'r gwelliannau hefyd yn ei gwneud yn drosedd i beidio â gwneud hynny.
Mae gwelliant 5 yn adlewyrchu’r gofynion di-fwg ychwanegol yn nheitl hir y Bil, ac mae gwelliant 9 yn ychwanegu’r adran newydd i'w chyflwyno gan welliant 8 i restr o fangreoedd a ddynodir yn ddi-fwg gan y Bil.
Mae gweddill y gwelliannau yn y grŵp hwn yn egluro na ellir gwneud mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd yn ddi-fwg drwy ddefnyddio'r pŵer o dan adran 10 y Bil. Maent hefyd yn darparu’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gellir gwneud mangre a ddefnyddir yn rhannol fel annedd yn ddi-fwg yn y dyfodol, gan ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 10.
Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn, a fydd yn darparu mesurau diogelwch ychwanegol pwysig i blant yng Nghymru.
Er y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliannau yn yr adran hon, rydym yn pryderu bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o gael yr effaith fwyaf ar arferion gwaith busnesau bach. Ar lawer agwedd, mae llwyddiant y Bil hwn yn dibynnu ar allu cwmnïau bach i gydymffurfio â'r newidiadau mewn deddfwriaeth, felly mae'n hanfodol bod busnesau’n gallu deall goblygiadau'r Bil yn llawn.
Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaethom gyflwyno gwelliannau i'r Bil a oedd yn ceisio darparu mwy o eglurder ynglŷn â rhoi mangreoedd di-fwg ar waith, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio gartref, gan alw ar y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau wedi'u targedu a thrylwyr i fusnesau bach a allai ddangos beth a ddisgwylir ganddynt o ran newidiadau yn y gyfraith. Bryd hynny, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd y byddai unrhyw ganllawiau a gyhoeddir ynglŷn â mangreoedd di-fwg, ac yr wyf yn dyfynnu,
yn nodi cyfrifoldebau pobl yng ngeiriau lleygwr, ac felly’n helpu’r bobl yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth i ddeall beth yw eu cyfrifoldebau newydd.
Aeth y Gweinidog ymlaen i roi sicrwydd pellach y byddai'r canllawiau a gyhoeddwyd ar y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn 2007 yn cael ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi. Felly, yn seiliedig ar hynny, fe wnaethom gytuno i beidio ag ailgyflwyno’r gwelliannau yng Nghyfnod 3.
O ran gwelliant 6, mae’n rhaid i’r Gweinidog roi sicrwydd y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i roi eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir gan unigolion o ran y ddyletswydd hon, gan nad yw hyn wedi'i nodi eto yn y memorandwm esboniadol. Mae'n hanfodol bod rhai sefyllfaoedd enghreifftiol yn cael eu cyflwyno i benderfynu beth a ddisgwylir gan warchodwyr plant er mwyn hybu cydymffurfiad â'r gyfraith.
Yn yr adran hon, roedd geiriad cychwynnol y Bil hwn wedi creu pŵer i Weinidogion Cymru weithredu mangreoedd di-fwg ychwanegol ar y sail —a dyfynnaf—os ydynt yn
fodlon bod gwneud hynny yn debygol o gyfrannu tuag at hyrwyddo iechyd pobl Cymru.
Gallai hynny o bosibl arwain at waharddiad cyffredinol ar draws Cymru gyfan. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi’r mater hwn yn helaeth, oherwydd er ein bod yn derbyn ei bod yn annhebygol iawn y byddai gwaharddiad cyffredinol yn cael ei roi ar waith, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn dangos bod gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol yn creu deddfwriaeth gadarn, a bod y pŵer cyffredinol hwn yn gyfyngedig. Er gwaethaf hynny, ar lefel pwyllgor, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd nad oedd unrhyw fwriad i ddeddfu gwaharddiad cyffredinol a dilëwyd ein gwelliant. Felly, mae hi braidd yn eironig, ond i’w groesawu'n fawr, gweld bod y Gweinidog yng Nghyfnod 3 wedi cyflwyno gwelliannau pellach i adran 10 y Bil sy'n ceisio cyfyngu ar y cymal hwn, er gwaethaf ei honiadau nad oedd hynny’n angenrheidiol. Croesewir y cyfyngiad hwn, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant 10. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod y Gweinidog wedi annog pobl eraill i wrthod gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2.
Mae UKIP yn cefnogi ymestyn deddfwriaeth ddi-fwg i bob lleoliad lle gallai plant gael eu hamlygu i fwg ail-law, ac felly bydd yn cefnogi gwelliannau'r Gweinidog yn y grŵp hwn. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i’r ddadl.
Diolchaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i’r mesurau hyn o fewn y Bil. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailadrodd y sicrwydd a roddais yng Nghyfnod 2 ynghylch cyhoeddi canllawiau priodol.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 7, Gweinidog.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Rebecca Evans).
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 8, Gweinidog.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Rebecca Evans).
Yn ffurfiol.
Os na dderbynnir gwelliant 8, bydd gwelliant 5 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 8.
Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 9, Gweinidog.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Rebecca Evans).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 9.
Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 10, Gweinidog.
Cynigiwyd gwelliant 10 (Rebecca Evans).
Ie, cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 10.
Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 11, Gweinidog.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Rebecca Evans).
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 11.
Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 12, Gweinidog.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Rebecca Evans).
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 12.
Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 13, Gweinidog.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Rebecca Evans).
Ie, cynnig.