Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/01/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Dai Lloyd.

Siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0387(FM)

Ein gweledigaeth yw cael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r iaith erbyn 2050, ac rydym ni wedi ymgynghori ar strategaeth ddrafft er mwyn gwneud hynny.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Wrth gwrs, fel gweddill y Siambr, rydw i’n siŵr, rydw i’n falch iawn i gefnogi eich amcan uchelgeisiol chi o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif. Mae’n gynnydd o ryw 400,000 o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru neu gynnydd ar gyfartaledd o ryw 18,000 o siaradwyr Cymraeg i bob un o’n siroedd presennol ni. Wrth gwrs, mae’r sector addysg, gyda’i WESPs, yn allweddol bwysig i hyn ac, yn sgil hynny, a ydych chi’n credu bod cynyddu capasiti ysgolion cynradd Cymraeg o ryw 20 lle dros y tair blynedd nesaf, fel sy’n cael ei grybwyll yn WESP Pen-y-bont ar Ogwr a chynghorau eraill de-orllewin Cymru—y nifer fach yna—yn ddigonol i gyrraedd eich targed? Ac, os na, beth ydych chi’n mynd i’w wneud i sicrhau bod cynghorau lleol yn deall y rôl hanfodol bwysig sydd ganddyn nhw i’ch cefnogi chi i gyrraedd eich nod chi?

Wel, mae yna ddyletswydd ar gynghorau lleol i gyhoeddi cynlluniau strategol ynglŷn â chefnogi’r iaith Gymraeg yn yr ysgolion. Mae'n rhaid iddyn nhw roi'r rheini i ni er mwyn ein bod ni yn gallu caniatáu nhw. Os oes unrhyw gynllun sydd ddim yn ddigonol, fydd caniatâd ddim felly yn dod o’r Llywodraeth.

A fyddai’r Prif Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd parhaus eisteddfodau'r Urdd i’r iaith Gymraeg, ac a fyddai ef felly yn llongyfarch y bobl sy’n trefnu ac yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd sir Pen-y-bont ym mis Mai a Mehefin eleni ar diroedd coleg Pencoed? Mae’n waith i lawer o wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw’r iaith yn fyw ymysg ein pobl ifanc ac yn rhai o’r cymunedau lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf. Ac, wrth gwrs, byddi di’n siŵr o gael croeso mawr yn Neuadd Werdd yng Nghefn Cribwr dydd Gwener yma i fwynhau’r twmpath dawns a chodi arian hefyd.

Wel, diolch. Rwy’n gobeithio y byddaf yn cael croeso yng Nghefncribwr bob tro. Ar un adeg, wrth gwrs, roedd y pentref ei hunan yn f’etholaeth i, cyn iddo gael ei symud i’w etholaeth ef. Fel rhywun sydd wedi bod yn gweithio’n galed i godi arian dros yr Urdd—rwyf wedi trefnu gyda fy ngwraig dwy noson gwis er mwyn codi arian i’r Urdd—rwy’n gefnogol iawn yn bersonol, a hefyd, wrth gwrs, yn cefnogi pob un sy’n cefnogi’r Urdd yn yr ardal er mwyn sicrhau bod yr eisteddfod yn llwyddiannus eleni ac, wrth gwrs, i sicrhau bod yna fwy o dwf yn nifer defnyddwyr y Gymraeg yn y sir yn y pen draw.

Yn fy nghyfarfod diweddar gyda chyngor Abertawe, awgrymodd y swyddogion y bydd eu ffocws yn ystod y cylch hwn o gynlluniau strategol ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs, ond nid yw’n ymateb i’r galw. Ces i’r argraff gan yr aelod cabinet ei bod hi’n gweld bod y galw llafar presennol am ddarpariaeth yn dod o sector penodol o gymdeithas Abertawe, ac ymatebodd i fy marn i y dylai fod un person o leiaf â sgiliau iaith Gymraeg da ymhob cynllun Dechrau’n Deg gyda pheth amheuaeth. A ydych chi’n cytuno y bydd mynediad cynnar at ein dwy iaith yn ehangu cyfleoedd i blant o’r teuluoedd tlotaf?

Wel, mae hynny’n iawn. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod yna fwy o lefydd ar gael yn yr ysgolion meithrin, ond hefyd sicrhau bod plant sydd yn yr ysgolion meithrin yn dal i fod yn y ffrwd Gymraeg pan fyddan nhw’n mynd i mewn i’r ysgolion cynradd a hefyd i mewn i’r ysgolion cyfun, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n colli’r sgiliau iaith y maen nhw wedi eu cael pan oedden nhw’n ifanc wrth iddyn nhw fynd drwy’r ysgol, a newid iaith fel cyfrwng addysg.

Brif Weinidog, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg bod angen newid radical arnom i'n system addysg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae hi wedi awgrymu y dylem ni ystyried addysgu ym mhob ysgol gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn orfodol i bob plentyn ysgol yng Nghymru ddysgu Cymraeg ers 1999. Ac eto, er gwaethaf hyn, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng.

I am learning Welsh.

Mae arolygon yn awgrymu bod y rhan fwyf o bobl yn gwrthwynebu addysgu gorfodol. A yw'n bryd i ni dderbyn efallai nad yw dull gorfodi yn gweithio, ac yn hytrach na dweud y dylai pawb ddysgu Cymraeg, a allwn ni efallai, yn hytrach na hynny, ei gwneud yn haws i'r rhai sydd wir eisiau dysgu? Diolch.

Nid wyf yn siŵr beth roedd yr Aelod yn ceisio ei ddweud. Rhoddodd yr argraff i mi ei bod yn awgrymu y dylai pob ysgol gynradd fod yn gyfrwng Cymraeg. Rwy'n meddwl bod problemau’n gysylltiedig â hynny, a materion ymarferol yn arbennig, o ran recriwtio athrawon. Rwy’n credu’n gryf ei bod hi’n iawn y dylai ein hieithoedd cenedlaethol fod yn orfodol hyd at 16 oed. Ceir problemau ynghylch y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, yn enwedig drwy'r cwrs byr. Nid wyf yn credu y gallwn ni ddweud, gyda’n llaw ar ein calonnau, ein bod ni wedi creu siaradwyr Cymraeg hyderus yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Dyna pam y bydd y cwricwlwm newydd yn bwysig a pam mae symud oddi wrth y syniad mai maes astudio academaidd yn unig yw’r Gymraeg, a symud mwy tuag at iddi gael ei gweld fel sgìl galwedigaethol—. I’r rhai hynny, wrth gwrs, sydd eisiau ei hastudio’n academaidd, mae hynny'n bwysig, ond mae ei gweld fel sgìl galwedigaethol sydd ei angen drwy’r ysgol yn mynd i fod yn bwysig yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai honno'n ffordd dda o wella'r ffordd y caiff y Gymraeg ei haddysgu a'i dysgu yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.

Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ(5)0402(FM)] yn ôl. Cwestiwn 3, Julie Morgan.

Polisi Rhanbarthol ar gyfer y Dyfodol

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Phrif Weinidog y DU ynghylch polisi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol? OAQ(5)0400(FM)

Rwyf wedi codi’r mater o gyllid cyfnewid, sydd ei angen i ariannu polisi rhanbarthol. Codais hynny yn fy nghyfarfod cyntaf un gyda Phrif Weinidog y DU fis Mehefin diwethaf. Ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn am ein holl flaenoriaethau, gan gynnwys polisi rhanbarthol, ym mhob Cydbwyllgor Gweinidogion ers hynny.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Y tro nesaf y bydd yn cyfarfod y Prif Weinidog Theresa May yng nghyd-destun y trafodaethau Brexit, a fydd e’n sicr o bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw strategaeth economaidd ranbarthol i Gymru? A wnaiff ef bwysleisio bod yn rhaid i gyllid cyfnewid gan Lywodraeth y DU fod o leiaf yr un faint â’r cyllid UE a gollir, ac, yn olaf, bod yn rhaid iddo fod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru?

Gwnaed addewid gan rai yn yr ymgyrch y llynedd na fyddai Cymru yn colli ceiniog pe byddai Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei anrhydeddu. Os na chaiff, yna bydd gan bobl Cymru bob hawl i ofyn pam y cawsant, os yw hyn yn wir, eu camarwain. Yn ail, mae'n hynod bwysig bod y polisïau economaidd yr ydym ni wedi eu datblygu yma, y diweithdra isaf ers blynyddoedd lawer iawn, is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a'r ffigurau buddsoddiad uniongyrchol o dramor gorau ers 30 mlynedd, o fewn rheolaeth lwyr Llywodraeth Cymru i gyflawni’r manteision hynny i bobl Cymru.

Brif Weinidog, es i i frecwast ffermwyr blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn adeilad y Pierhead y bore yma, wedi’i lywyddu gan Paul Davies—digwyddiad gwych, fel bob amser. Roedd ffermwyr yn awyddus, a hynny’n ddealladwy, i gael eglurder ynghylch y system taliadau fferm a fydd yn cael ei chreu ar ôl i’r DU adael yr UE, pan fydd hynny'n digwydd yn y pen draw. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am drafodaethau eich Llywodraeth gyda Llywodraeth y DU ar y ffordd orau o ddiogelu cymorth i ddiwydiant ffermio Cymru yn y dyfodol?

Clywais sylwadau Mr Roberts, llywydd yr FUW, yr wythnos diwethaf, pan fynegodd ei bryder am storm berffaith, ac mae'n iawn i wneud hynny. Ar hyn o bryd, nid oes gennym ni unrhyw eglurder y tu hwnt i 2020. Ceir rhai yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sy'n awgrymu na ddylai fod unrhyw gymorthdaliadau ffermio o gwbl. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem ni’n ei gefnogi fel Llywodraeth. A cheir rhai sy'n awgrymu nad yw'r farchnad Ewropeaidd yn bwysig ar gyfer ffermio—mae 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Ni ellir ei disodli yn hawdd fel marchnad ar gyfer ein nwyddau, felly mae'n rhaid i ni sicrhau, wrth i'r DU adael yr UE, nad oes dim yn ymyrryd â gallu ein ffermwyr i werthu ar yr un telerau ag y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd i’w marchnad fwyaf o bell ffordd.

Cyn 1979, roedd tair elfen i bolisi rhanbarthol y DU—grantiau drwy'r premiymau cyflogaeth ranbarthol, ond hefyd cymhellion ariannol drwy'r dreth cyflogaeth dethol, a benthyciadau rhad. Yn ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yn y fforwm gweinidogol newydd a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, a wnaiff ef ofyn y bydd yr holl ysgogwyr hynny ar gael i ni sicrhau y gall Cymru ddatblygu ei mantais gystadleuol?

Rwy'n credu ein bod ar dir newydd iawn o ran yr hyn y bydd ei angen yn y dyfodol i ddenu buddsoddiad i Gymru. Er enghraifft, ceir materion fel cymhellion treth, yr wyf yn credu bod angen eu datblygu ymhellach. A ddylai fod gallu, er enghraifft, i edrych ar gymhellion treth ar gyfer ymchwil a datblygu, a’u gweld yn cael eu datganoli? Tollau teithwyr awyr—ysgogwr gwych, nid yn unig i Faes Awyr Caerdydd, ond i’r Fali a meysydd awyr eraill yng Nghymru hefyd. Fe’i gwrthodwyd heb unrhyw reswm da heblaw am y ffaith eu bod yn gweld y bu’n gamgymeriad ei ddatganoli i’r Alban, felly, nid yw'n dod i ni. Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth i ni edrych ar yr ychydig flynyddoedd nesaf, bod ffordd arloesol o edrych ar y ffordd y defnyddir cymhellion treth ar draws y DU, yn hytrach na chymryd y safbwynt bod un ateb i bawb.

Brif Weinidog, a wnewch chi groesawu'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi strategaeth ddiwydiannol? Gwell hwyr na hwyrach. Mae’n fy nghalonogi mai un o'r sectorau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu blaenoriaethu yw roboteg ac awtomeiddio. Mae Banc Lloegr wedi amcangyfrif bod 15 miliwn o swyddi ledled y DU mewn perygl o awtomeiddio; 700,000 o swyddi yng Nghymru. Ac a wnewch chi weithio gyda chyflogwyr yng Nghymru i sicrhau eu bod yn paratoi eu gweithlu ar gyfer y dyfodol i ymateb i’r her enfawr hon i ni?

Wel, rwy’n credu bod dau fater o ran y strategaeth ddiwydiannol. Hynny yw, does fawr ddim ynddi y gellid anghytuno ag ef, ond, wrth gwrs, mae'n dipyn o gawdel, gan fod rhai o’r colofnau wedi eu datganoli—nid cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyn nhw. Mae rhai ohonyn nhw, mae rhai ohonyn nhw’n gymysg, felly mae angen mwy o eglurder yn hynny o beth.

Ydw, rwy'n credu y bydd yn demtasiwn awtomeiddio ymhellach, a dyna pam mae angen i ni ganolbwyntio yn arbennig o gryf ar godi cynhyrchiant gweithwyr ledled y DU, er mwyn sicrhau nad yw cyflogwyr yn cael eu temtio i gyfnewid pobl am beiriannau oherwydd mater o gynhyrchiant. Ac mae hynny'n rhywbeth, yn sicr, y byddwn ni’n dymuno canolbwyntio’n gryf dros ben arno—codi lefelau cynhyrchiant, er enghraifft, i lefel yr Almaen o leiaf, i wneud yn siŵr nad yw ein gweithwyr ym Mhrydain o dan anfantais oherwydd y lefelau cynhyrchiant hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, byddwch yn falch o glywed nad wyf i'n mynd i’ch holi am yr Undeb Ewropeaidd heddiw, gan nad wyf eisiau ymddangos fel fy mod wedi fy nheipgastio. A, beth bynnag, cefais y cyfle i wneud hynny ddoe, a byddaf yn gwneud hynny’n ddiweddarach heddiw.

Hoffwn ofyn am y gwasanaeth iechyd, yn enwedig o ran meddygon teulu. Bydd yn gwybod bod niferoedd meddygon teulu yn ddigyfnewid ar y cyfan, ac eto ceir galw cynyddol am eu gwasanaethau. Ac, yn wir, yn 2014—y ffigurau diweddaraf yr wyf i wedi gallu dod o hyd iddynt—gennym ni yng Nghymru oedd y nifer lleiaf yn y DU o feddygon teulu ar gyfer pob 1,000 o bobl. Mae oddeutu 17 y cant o feddygon teulu wedi gofyn am arweiniad neu gyngor ar gyfer straen sy'n gysylltiedig â gwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 84 cant yn poeni y gallent fethu rhywbeth difrifol mewn claf oherwydd pwysau llwyth gwaith, ac mae 56 y cant yn bwriadu gadael maes meddygon teulu neu leihau eu horiau yn y pum mlynedd nesaf. A yw'n derbyn bod argyfwng cynyddol mewn ysbryd ymhlith meddygon teulu yng Nghymru?

Nac ydw, rydym ni wedi bod yn ariannu meddygon teulu, ac, yn wir, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol, ar lefel yr ydym ni’n credu sy'n iawn ac yn briodol. Er enghraifft, os edrychwch chi ar ofal cymdeithasol, rydym ni’n ariannu gofal cymdeithasol ar gyfradd sydd 6 y cant y pen yn uwch nag y mae Lloegr yn ei wneud, a dyna pam nad ydym ni wedi cael yr 'argyfwng dyngarol', i ddefnyddio geiriau’r Groes Goch, y mae Lloegr wedi ei gael yn ei GIG. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i recriwtio meddygon teulu ychwanegol. Mae gennym ni fwy o feddygon teulu yng Nghymru nag erioed o'r blaen, a dyna pam, wrth gwrs, y mae gennym ni’r ymgyrch recriwtio a lansiwyd y llynedd.

Rwy'n falch nad yw’n fy holi am Ewrop, oherwydd ymddangosodd yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliwyd ddoe gyda mi ac arweinydd Plaid Cymru, fel aelod o'r gynulleidfa. Diolchaf iddo am y ffaith ei fod yn gefnogwr mor frwd fel na all ddioddef bod ar wahân i’r ddau ohonom ni, hyd yn oed am ddiwrnod. [Chwerthin.]

Gallwch chi gael gormod o beth da weithiau, ond, yn achos y Prif Weinidog, rwy'n hapus i ddweud nad yw hynny'n wir. [Chwerthin.]

Ond nid yw’n unrhyw ateb i'r cwestiwn a ofynnais funud yn ôl i ddweud bod pethau'n waeth yn Lloegr nag y maen nhw yng Nghymru. Mae'n wir fod gennym ymosodiad o’r ddwy ochr yn y fan yma o alw cynyddol ar feddygon teulu, ac oherwydd nad yw niferoedd meddygon teulu yn cadw i fyny â’r galw cynyddol hwnnw. Mae cyllid y GIG ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru, yn rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru, wedi gostwng ers 2004, o 10 y cant o'r cyfanswm i 7.5 y cant. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud y gallai mwy o wario ar feddygon teulu arbed £90 miliwn y flwyddyn i’r GIG erbyn 2020 pe byddem yn ail-flaenoriaethu meddygon teulu o fewn cyllideb GIG Llywodraeth Cymru. Felly, a yw hynny’n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog yn fodlon ei ystyried?

Wel, mae ein cronfa gofal sylfaenol o £43 miliwn yn cefnogi hynny, gyda'r pwyslais ar ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau. Mae hynny'n golygu darparu gwasanaethau, a datblygu gwasanaethau nyrsys a fferyllwyr, ffisiotherapyddion, a gweithwyr cymdeithasol, i weithio ochr yn ochr â meddygon teulu. Nid yw'n fater syml o gynyddu nifer y meddygon teulu; mae'n fater o sicrhau bod digon o weithwyr proffesiynol ar gael mewn lleoliad penodol—rydym ni’n ei weld, er enghraifft, ym Mhrestatyn—fel y gall pobl gael eu cyfeirio at y gweithiwr proffesiynol priodol, yn hytrach na phentyrru’r holl bwysau ar feddygon teulu, pan allai pobl fynd i rywle arall.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gwybod, mewn rhai ardaloedd o Gymru, bod pwysau cleifion, o ran niferoedd, ar sesiynau meddygfa meddygon yn ormodol erbyn hyn. A all ef roi unrhyw syniad i ni beth yn ei farn ef yw uchafswm y cleifion y gall meddyg teulu ymdrin â nhw yn rhesymol mewn diwrnod gwaith? Yn enwedig o ran ymweliadau cartref i gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthyf, mewn rhai achosion, bod pobl yn gorfod aros hyd at 20 awr i gael ymweliad, sy’n amlwg yn annerbyniol. Mae rhai meddygon yn ymdrin â 120 o gleifion yn ystod pob sesiwn yn hytrach na 50 neu 60. Faint yn union y mae e'n ei feddwl sy’n rhesymol i feddygon eu gweld mewn sesiwn a sut y mae'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fodloni ei tharged chwe awr, sy'n cael ei fethu ym mhob un rhan o’r wlad ar hyn o bryd?

Mae'n dibynnu ar y cleifion sy'n dod drwy'r feddygfa ar y diwrnod penodol hwnnw. I rai pobl, gellir eu gweld mewn pum munud; i bobl eraill, mae'n cymryd mwy o amser. Mae'n dibynnu ar natur y claf. Bydd gan feddygon teulu syniad da o'r cymunedau y maen nhw’n gweithio ynddynt a’r cleifion y maen nhw’n eu gweld yn ystod y diwrnod hwnnw. Ond y pwynt yw, y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw sianelu mwy a mwy o bobl tuag at feddygon teulu. Rydym ni’n dweud wrth bobl, 'Dewiswch yn ddoeth. Ewch i weld fferyllydd yn gyntaf. Os nad, yna ewch i weld nyrs gymunedol neu nyrs practis meddyg teulu. Wedyn, a dim ond wedyn, y mae’r meddyg teulu yn rhywun i fynd i’w weld.'

Ceir problemau o ran cysondeb gwasanaethau meddygon teulu ledled Cymru. Mae cymaint â hynny’n wir. Mae rhai’n cynnig gwasanaethau ehangach nag eraill, maen nhw’n cynnig oriau hwy nag eraill, a dyna pam mae hi mor bwysig gweithio gyda'r coleg brenhinol ac eraill i wneud yn siŵr ein bod ni’n gweld mwy o gysondeb o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, nid wyf i’n mynd i ofyn i chi am erthygl 50 na’r Papur Gwyn a lansiwyd gennym ar y cyd ddoe gan fod datganiadau ar y ddau fater hynny yn dod yn nes ymlaen. Yn hytrach, hoffwn ofyn i chi am faterion yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt. A ydych chi’n derbyn bod llawer o gymudwyr rheilffordd ar reilffyrdd y Cymoedd yn arbennig yn wynebu sefyllfa cael a chael pan ddaw i gyrraedd y gwaith yn brydlon?

Mae hi'n dweud 'gwasanaethau yr ydym ni’n gyfrifol amdanynt', ond nid ydym yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd. Byddwn yn gyfrifol o'r flwyddyn nesaf ac rydym ni’n croesawu hynny. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod masnachfraint Cymru a'r gororau yn gwasanaethu pobl yn briodol gyda cherbydau o ansawdd priodol—nid oes ganddyn nhw hynny ar hyn o bryd—trenau amlach a phrisiau rhesymol i’w talu. Y rheini, ymhlith pethau eraill, fydd ein hegwyddorion arweiniol wrth i ni geisio gosod y fasnachfraint o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Felly, nid yw’n ddim i'w wneud â'r Llywodraeth, felly? Brif Weinidog, mae'n sefyllfa cael a chael i lawer o weithwyr, ac rwy’n gwybod hynny gan fy mod i’n wynebu oedi rheolaidd, fel y mae pawb arall sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Nid ydym byth yn gwybod pryd y bydd trenau’n cael eu hoedi neu eu canslo. Yn wir, bu oedi i’m trên i yn dod i'r gwaith y bore yma. Mae'n digwydd yn feunyddiol. Mae pobl yn teimlo fel pe na byddent yn cael gwerth am arian ac, yn bwysicach, na ellir dibynnu ar y trenau hynny. Ers blynyddoedd, mae Arriva wedi ceisio gwneud i’r gwasanaeth weithio trwy wthio'r trenau presennol i'r eithaf ac mae’r trenau hynny, fel y gwyddoch, yn hen dros ben. Mae'n ymddangos i'r rhai ohonom ni sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel bod y gwasanaeth ar fin torri. Os bydd yn torri, Brif Weinidog, bydd yn rhaid i chi wneud rhywbeth. A yw'n dderbyniol i chi mai’r sefyllfa gorlenwi yn y de yw'r un sy’n tyfu gyflymaf yn y DU y tu allan i Lundain?

Rwy'n falch bod y twf yn cynyddu, ond nid yw arweinydd Plaid Cymru yn sôn am y metro. Holl bwynt y metro yw gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaethau amlach a cherbydau gwell, nad oes gennym ni stoc 40 mlwydd oed wedi’i ailwampio yn rhedeg ar reilffyrdd y Cymoedd heb unrhyw aerdymheru, ac nad oes gennym ni sefyllfa lle mae gweithredwyr y trac a gweithredwyr y stoc yn rhoi'r bai ar ei gilydd am oediadau. Felly, ydym, pan fyddwn ni’n cael rheolaeth dros hyn o'r flwyddyn nesaf ymlaen, rydym ni eisiau gweld system metro, un sy'n cael ei hymestyn yn y dyfodol ac un sy'n cynnig gwasanaeth llawer gwell na’r hyn sydd wedi bod ar gael hyd yn hyn. Bydd hi wedi gweld y sylwadau gan Ysgrifennydd yr economi o ran ei farn ar yr elw y mae Arriva wedi ei wneud, er gwaethaf y gwasanaethau israddol, fel y mae’n ei nodi’n gywir, sydd wedi eu cynnig hyd yn hyn.

Brif Weinidog, ni allwn fforddio i aros am y metro; gallai fod yn flynyddoedd cyn i ni weld y metro ar waith. Roedd fy rhagflaenydd fel arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn feirniad cryf o'r contract masnachfraint rheilffyrdd presennol ar gyfer Cymru. Dywedodd fod y ffordd y mae wedi ei lunio—ie, gan asiantaeth Llywodraeth y DU—wedi arwain at ddegawd o orlenwi, ac mae’r dyfarniad hwnnw’n dal i sefyll heddiw.

Ddydd Gwener diwethaf, dywedodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y byddai angen trenau newydd a disgrifiwyd contract 2003 fel camgymeriad mawr ganddo. Nid yw cymudwyr yn barod i dderbyn cytundeb masnachfraint gwael arall. Eich Llywodraeth chi fydd yn gyfrifol am y fasnachfraint nesaf ac rydym ni eisoes yn gwybod bod y cynllunio ar gyfer hynny ar y gweill, ond, hyd yn hyn, nid ydych chi wedi ei gwneud yn eglur i'r Cynulliad hwn eto pa gerbydau fydd yn cael eu darparu, ac rwy'n sôn am nifer yma, yn ogystal ag ansawdd. Nid ydym wedi cael gwybod pa un a fydd trenau neu gerbydau newydd, os ydynt wedi cael eu harchebu eto, os ydyn nhw’n mynd i fod yn drenau newydd neu os ydyn nhw’n mynd i fod yn ail law neu’n drydedd law hyd yn oed. A wnewch chi ddweud wrthym ni heddiw pa drenau sy’n mynd i fod ar gael ar gyfer y fasnachfraint nesaf ac a wnewch chi roi sicrwydd pendant na fydd camgymeriadau’r contract blaenorol yn cael eu hailadrodd?

Nid oes gennym unrhyw fwriad o ailadrodd y camgymeriadau a wnaed gan Lywodraeth y DU o ran y contract diwethaf. Mae hi’n cyfeirio’n briodol at yr hyn a ddywedodd y cyn-Aelod dros Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones. Fe oedd yn gyfrifol am drafnidiaeth am bedair blynedd, ond prin oedd yr hyn y gallai ei wneud oherwydd y ffaith nad oedd wedi ei ddatganoli. Roeddwn i’n rhannu ei rwystredigaeth. Trenau gwell, trenau amlach a cherbydau mwy modern.

Un o'r problemau sydd gennym ni nawr, a dweud y gwir, yw ei bod hi bron yn amhosibl caffael trenau diesel—maen nhw’n cael eu hystyried yn dechnoleg hynafol. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gweld trydaneiddio. Mae'n rhaid i ni weld yr ymrwymiad, er enghraifft, gan Lywodraeth y DU y bydd yn trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe i gadw'r addewid a wnaeth ac y mae’n cefnu arno erbyn hyn. Mae'n rhaid i ni weld trydaneiddio prif reilffordd y gogledd hefyd. Mae hynny'n hynod bwysig.

O ran sut y bydd y trenau yn edrych yn y dyfodol, byddant yn drenau hybrid—diesel-trydanol—o leiaf. Ond, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y trydaneiddio yn cael ei gyflawni. [Torri ar draws.] Ni fyddant yn cael eu harchebu—. Mae'r fasnachfraint yn rhan o'r trafodaethau. Yr holl bwynt yw eich bod chi’n cael trafodaethau i gytuno’r fasnachfraint, ac, yn rhan o'r trafodaethau masnachfraint, rydym chi’n nodi pa stoc y mae’n rhaid i’r gweithredwr ei ddefnyddio. Mae hynny’n rhan o'r trafodaethau masnachfraint.

Mae'n gofyn cwestiwn—cwestiwn teg: 'A fydd y gwasanaeth yn well?' Yr ateb rwy’n ei roi yw 'bydd'. Rwyf wedi dweud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n fy nwyn i gyfrif ar hynny dros y blynyddoedd nesaf.

Diolch i chi, Lywydd. Pan fyddwch chi’n drydydd ar y rhestr arweinwyr i ofyn cwestiynau, rydych chi’n tybio fel rheol y bydd pwnc y dydd wedi cael ei ofyn gan un o'r ddau arall, felly rwyf innau hefyd yn rhoi'r rhybudd iechyd y byddaf yn gadael fy nghwestiynau Ewropeaidd tan yn ddiweddarach yn y prynhawn. Hoffwn ofyn i chi, Brif Weinidog, yn benodol am adroddiad arolygu Estyn a gyhoeddwyd heddiw. Dywedasoch, nid yn afresymol, pan ddaethoch yn Brif Weinidog gyntaf yn 2009, eich bod chi’n mynd i wneud addysg yn flaenoriaeth. Ychydig cyn y Nadolig, cawsom ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr a oedd yn dangos na fu unrhyw gynnydd o gwbl o ran safleoedd Cymru pan ddaw i ystadegau rhyngwladol. Heddiw, mae adroddiad arolygu Estyn yn dangos ditiad damniol o fethiant arweinyddiaeth ac, yn arbennig, rhagoriaeth mewn addysgu, yn enwedig yn y sector uwchradd, lle, os byddwch chi’n dewis ysgol uwchradd yng Nghymru, mae gennych chi lai na 50 y cant o siawns o fynd i ysgol sydd ag arfer addysgu rhagorol neu dda. A ydych chi’n credu bod hynny'n dderbyniol ar ôl bron i saith mlynedd o fod yn Brif Weinidog?

Ceir dau beth i'w cadw mewn cof yma. Yn gyntaf, nid yw cyflogau ac amodau athrawon wedi eu datganoli eto—byddant yn cael eu datganoli y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n rhoi cyfle i roi pecyn hyfforddiant priodol gyda chyflogau a chydag amodau a fydd yn denu athrawon da i Gymru ac yn gwella hyfforddiant athrawon yng Nghymru. Mae angen y pecyn hwnnw arnom ni. Mae'r Alban wedi ei wneud—nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni allu ei wneud.

Yn ail, mae'r adroddiad yn gwneud y pwynt—sy’n gywir, oherwydd fe’i gwelsom yn PISA, a dweud y gwir—nad oes digon yn cael ei wneud i ymestyn y rhai ar frig y gynghrair academaidd. Dyna’n union y dangosodd PISA. Y rheswm pam roedd y ffigurau PISA yn siomedig yw nad ydym ni’n gwneud yn dda ar y brig, fwy neu lai. Mae gwledydd eraill yn gwneud yn well ar y brig. Os edrychwch chi ar y bandiau canol, rydym yn debyg iawn a dweud y gwir, ond y brig yw’r broblem. Felly, mae’r adroddiad hwnnw wedi dweud wrth athrawon, 'Edrychwch, mae angen i chi wneud mwy i sicrhau bod y cyflawnwyr uchaf yn academaidd yn cael eu gwthio mwy i wneud hyd yn oed yn well'. Rwy'n falch bod yr adroddiad wedi dangos hynny i wneud yn siŵr bod athrawon a gwleidyddion yn deall mai dyna’r hyn y mae angen ei wneud.

Clywais yn eich ateb, Brif Weinidog, eich bod yn siarad am gyflogau ac amodau yn yr Alban. A dweud y gwir, cwympodd canlyniadau’r Alban yn y safleoedd PISA, ac nid yw honno'n unrhyw esiampl i’w dilyn, byddwn yn awgrymu i chi, Brif Weinidog. Rydych chi wedi cael menter ar ôl menter yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, ac, yn wir, ers i Lafur fod yn rhedeg addysg, ers 1999. Rydym wedi cael mentrau llwyth gwaith athrawon; rydym ni wedi cael y consortia rhanbarthol sydd wedi cael eu beirniadu’n arbennig heddiw gan Estyn, gan ddangos fod perfformiad gwael yno o ran gweithio ar y cyd. Mae ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon wedi dweud bod rhwystrau sylweddol i wella perfformiad athrawon mewn ysgolion a mynediad at arfer gorau. A ydych chi'n cydnabod y rhwystrau sylweddol hyn, Brif Weinidog? Yn benodol, rwy’n mynd yn ôl at y pwynt eto: rydym ni wedi cael menter ar ôl menter o dan eich arweinyddiaeth chi, ac eto rydym ni’n dal i gael adroddiadau Estyn saith mlynedd i mewn i'ch cyfnod fel Prif Weinidog, ac rydych chi wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth. Rydych chi’n methu, Brif Weinidog.

Wyddoch chi, mae cael pregeth gan rywun a safodd yn yr etholiad ar sail torri 12 y cant ar wariant ar addysg—12 y cant—yn anghredadwy. Mae cael pregeth gan rywun y mae ei blaid yn methu ag adeiladu ysgolion yn Lloegr—yn methu ag adeiladu ysgolion yn Lloegr—tra ein bod ni’n adeiladu ysgolion yng Nghymru; cael pregeth gan rywun a oedd eisiau dod ag ysgolion gramadeg yn ôl—gan daflu’r rhan fwyaf o blant ar y domen; na, na, nid wyf yn mynd i dderbyn pregeth ganddo fe.

Wrth gwrs bod problemau yn y system addysg. Rydym ni’n gweld gwelliant ac rydym ni’n ei weld. Pam? Mae canlyniadau TGAU yn gwella. Mae canlyniadau Safon Uwch yn gwella. Rydym ni’n gweld mwy o ysgolion sy'n dod allan o gategori o fod yn tanberfformio. Rydym yn gweld y cymorth y mae athrawon ei angen. Mae Estyn wedi tynnu sylw at yr arfer da hefyd. Nid yw’n ddrwg i gyd. Nid yw'n 'dditiad damniol'—nonsens llwyr yw hynny. Mae wedi dangos bod gwendidau penodol y mae angen canolbwyntio arnynt, ac rydym ni’n canolbwyntio arnyn nhw, ond rydym ni’n gwybod bod ein hysgolion yn mynd i'r cyfeiriad iawn, gyda chyllid priodol, ac nad ydynt yn cael eu hamddifadu o gyllid gan ei blaid ef fel mewn mannau eraill ym Mhrydain.

Wel, rydych chi bob amser yn gwybod pan fyddwch chi’n taro nerf gyda'r Prif Weinidog: mae’n crybwyll ystadegau nad ydynt yn sefyll i fyny i unrhyw graffu o gwbl. Rydym yn siarad am y presennol ac adroddiad Estyn a gyflwynwyd heddiw, sydd yn dditiad damniol o'ch stiwardiaeth chi yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar un awdurdod addysg lleol—Caerdydd—mae bron i 50 y cant o benaethiaid wedi gadael eu swyddi yn y tair blynedd diwethaf—50 y cant. Mae bron i 50 y cant wedi gadael. Menter ar ôl menter yr wyf i wedi amlygu eich bod wedi eu cyflwyno, ac rydych chi’n methu â chodi safonau yma yng Nghymru. Un cyfle mae plant yn ei gael i fynd i'r ysgol, Brif Weinidog. Dywedasoch mai addysg yw'r flaenoriaeth; rydych chi wedi methu â chyflawni. Mae'n hen bryd i chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn ac, yn hytrach nag ailadrodd dadleuon ddoe, dechrau mapio gweledigaeth ar gyfer yfory a’r llwyddiant yr ydym ni i gyd eisiau ei weld yn ein system addysg yma yng Nghymru.

Mae, rwy’n credu, swydd ar gael fel ysgrifennydd y wasg Donald Trump i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig trwy ei gyflwyniad o ffeithiau amgen. Mae'n ffaith ddiymwad bod canlyniadau TGAU wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf; mae'n ffaith ddiymwad bod canlyniadau Safon Uwch yn gwella; mae'n ffaith ddiymwad bod ei blaid ef eisiau torri 12 y cant ar wariant ar addysg. Roedden nhw’n ymffrostio yn ei gylch. Cynhyrchwyd maniffesto cryno ganddyn nhw a oedd yn cynnwys y ffigur hwnnw yn y maniffesto cryno—neu ai 'ffaith amgen' yw honno? Y gwir yw, pe byddai ei blaid ef wedi dod yn agos at addysg yng Nghymru, bydden nhw wedi dinistrio’r system addysg trwy doriadau, ni fyddent wedi adeiladu ysgolion, byddai plant wedi parhau i gael eu haddysgu mewn ysgolion a oedd yn syrthio’n ddarnau. Nid ydym ni erioed wedi gwneud hynny. Mae addysg yn symud i'r cyfeiriad iawn, gyda gwelliannau ym mhob maes, a dyna'n union lle y byddwn ni’n mynd ag addysg yn y dyfodol, nid yn ôl i'r dyddiau pan roedd addysg yn cael ei thanariannu gan y Blaid Geidwadol yn Llundain—plaid nad oes ots ganddi o gwbl am addysg i bawb ac nad oes ots ganddi am y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru. Dyna beth yr ydym ni’n sefyll drosto. Ni fyddant byth yn deall beth y mae’n ei olygu i gael addysg dda a chyfleoedd da, oherwydd nid ydyn nhw erioed wedi gorfod ymladd amdano eu hunain.

Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf yn GIG Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn GIG Cymru? OAQ(5)0386(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n parhau i gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol trwy ein cyfarfodydd cynllunio tymhorol cenedlaethol bob tri mis i hysbysu'r gwaith o ddatblygu eu cynlluniau tymhorol, sy'n cynnwys parodrwydd ar gyfer cyfnod y gaeaf.

Diolch. Wel, yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, ei ganllawiau iechyd y cyhoedd ar fynd i'r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf, afiachusrwydd a’r peryglon iechyd sy'n gysylltiedig â chartrefi oer, gan amlinellu nifer o argymhellion a sut y gallai ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol leihau'r perygl o farwolaeth ac afiechyd sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd ac, felly, y pwysau ar y GIG yng Nghymru. O ystyried bod Age Cymru wedi dweud fis Medi diwethaf bod tlodi tanwydd yn un o brif achosion marwolaethau ychwanegol y gaeaf, sut y bydd eich Llywodraeth Cymru chi yn ymateb i'r alwad gan Gynghrair Tlodi Tanwydd Cymru i’r canllawiau NICE hyn gael eu rhoi ar waith gan eich Llywodraeth yng Nghymru?

Wel, edrychwch ar Nest ac edrychwch ar Arbed; maen nhw’n gynlluniau sydd wedi helpu cymaint o bobl, yn enwedig pobl hŷn, i gael cartrefi sy’n gynhesach, i sicrhau y gallant fforddio cynhesu eu cartrefi, i gael systemau gwresogi a systemau boeler sy'n fwy effeithlon nag oedd ganddyn nhw ar un adeg gan eu cadw nhw allan o'r ysbyty oherwydd eu bod nhw mewn cartrefi nad ydynt yn ddigon cynnes. Felly rydym ni’n credu bod gennym ni hanes da o ran hynny, o ran yr arian yr ydym ni wedi ei ddyrannu dros y blynyddoedd i helpu cymaint o bobl ledled Cymru i fyw mewn cynhesrwydd a gallu fforddio eu biliau gwresogi, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n falch ohono.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r hyn y mae’r ffigurau diweddaraf ar amseroedd aros damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—yn enwedig y rhai sy'n aros mwy na 12 awr—yr hyn y maen nhw’n ei ddangos yw ein bod yn wynebu problem capasiti trwy gydol y flwyddyn, gyda chyfartaledd o tua 3,000 o gleifion yn aros yn hwy na 12 awr fis ar ôl mis, ar ôl mis, ar ôl mis? Onid yw hynny’n dystiolaeth o broblem systemig gyda’r ddarpariaeth o ofal brys yng Nghymru, gan ofyn i staff rhagorol gyflawni'r amhosibl, yn hytrach na rhywbeth y gellir ei feio ar dywydd gwael?

Yr hyn sy'n digwydd yn y gaeaf, er bod niferoedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn gostwng mewn gwirionedd, i’r bobl sy'n dod i mewn, mae eu cyflyrau yn tueddu i fod yn gyflyrau anadlol tymor hwy ac maen nhw’n hŷn. Yn yr haf, a dweud y gwir, mae derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yn tueddu i fod yn uwch, ond maen nhw’n tueddu i fod yn anafiadau, er enghraifft, nad oes angen cymaint o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Dyma’r problemau yr ydym ni’n eu hwynebu: mae angen i ni wneud yn siŵr, fel yr ydym ni wedi ei wneud, bod gwariant ar ofal cymdeithasol yn cael ei gadw'n uchel—ac mae'n uwch nag ydyw yn Lloegr. Maen nhw yng nghanol storm anffodus yn Lloegr yn hynny o beth ar hyn o bryd. Mae'n wir i ddweud bod y galw yn uchel ac rwy’n talu teyrnged i'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth am y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu. Ond bydd pob meddyg ymgynghorol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn dweud wrthych—ac, yn wir, fe’i dywedwyd eto heddiw—bod gormod o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys nad oes angen iddyn nhw fod yno. Ac felly yr hyn yr ydym ni’n ei ddweud wrth bobl yw: 'Ewch i weld y fferyllydd, ewch i weld meddyg teulu, a cheir gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae'r rhain i gyd yn ddewisiadau eraill—peidiwch â mynd i adran damweiniau ac achosion brys yn ddifeddwl dim ond oherwydd na all yr adran damweiniau ac achosion brys eich gwrthod'. Mae pobl yn cael eu brysbennu pan fyddant yn cyrraedd adran damweiniau ac achosion brys. Os nad yw pobl yn achosion brys, yna maen nhw’n aros yn hwy—dyna’r gwirionedd; mae’r achosion brys yn cael eu trin yn gyntaf. Felly, oes, mae angen i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain, eu dewisiadau priodol eu hunain, a byddwn ni’n parhau i sicrhau ein bod yn ariannu ein hysbytai a’n hadrannau damweiniau ac achosion brys i fodloni galw sydd wedi bod yn cynyddu ar gyfradd o 7 y cant y flwyddyn.

Gorsaf Bŵer Aberddawan

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan yn sgil dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop fis Medi diwethaf? OAQ(5)0403(FM) [W]

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr amgylcheddol sy’n gyfrifol am addasu trwydded amgylcheddol Aberddawan fel ei bod yn rhoi effaith i’r dyfarniad llys. Rŷm ni fel Llywodraeth, wrth gwrs, yn parhau i fonitro’r cynnydd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE yn ei wneud i sicrhau cydymffurfiaeth.

Roedd yr achos llys fis Medi diwethaf. Cafwyd RWE a’r aelod wladwriaeth, sef Llywodraeth Prydain, yn euog o ganiatáu llygredd anghyfreithlon o orsaf bŵer Aberddawan. Ers hynny, un llythyr sydd wedi cael ei sgwennu gan Gyfoeth Naturiol Cymru at y cwmni, a hwnnw heb ei ateb. Nid oes newid wedi bod i’r permit, i’r drwydded, ar gyfer y llygredd yma. A chadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthyf i wythnos diwethaf bod 1,500 o farwolaethau cynnar yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd llygredd nitrogen deuocsid, sef y llygredd mae gorsaf bŵer Aberddawan yn ei roi allan. Pam ŷm ni yn caniatáu y fath sefyllfa lle mae yna lygredd o orsaf bŵer sy’n torri pob rheol yn cael ei ganiatáu fisoedd ar ôl i achos llys benderfynu bod angen mynd i’r afael â’r broblem hon?

Mae hwn yn rhywbeth i Gyfoeth Naturiol Cymru, ond beth maen nhw’n ddweud wrthym ni yw bod gollwng nitrogen ocsid wedi mynd lawr o Aberddawan ei hunan, ac wedi mynd lawr i lefel sydd ddim yn bell o’r ffin sydd yna nawr, o achos beth ddywedodd y llys. Felly, er ei fod yn rhywbeth i Gyfoeth Naturiol Cymru, mae yn edrych fel bod y gollwng wedi dod lawr ac, wrth gwrs, mae’n fater nawr i weld a oes modd felly caniatáu i’r lle gario ymlaen yn y pen draw.

Roedd gen i ddiddordeb mawr, Brif Weinidog, yn yr ateb yna gan nad wyf i wedi gweld y data, ac roeddwn i’n meddwl y byddai angen rhyw lefel o fuddsoddiad i leihau’r allyriadau hyn, a oedd dros ddwywaith y terfyn Ewropeaidd a gytunwyd. Felly, rwy’n siŵr pe gallech chi roi'r wybodaeth honno yn y Llyfrgell neu ei dosbarthu i'r Aelodau, y byddem yn ddiolchgar dros ben. Ond y peth yw mae’n rhaid i chi weithredu'n gyflym fel y gall y cyhoedd fod yn sicr y byddant yn cael eu diogelu. Bydd yr orsaf bŵer hon yn goroesi hyd at y tymor canolig, er bod hynny ar gyfer galw brig, ond, wyddoch chi, mae ei hallyriadau yn mynd dros Gaerdydd, Bryste a rhannau o orllewin Lloegr; mae hwn yn fater difrifol.

Ydy. Y wybodaeth, fel y dywedais, sydd gennym ni gan Gyfoeth Naturiol Cymru yw bod allyriadau wedi gostwng o’r gwaith ei hun. Ar 6 Ionawr, ysgrifennodd Cyfoeth Naturiol Cymru at RWE yn nodi ei fwriad i ddechrau ar y broses o ddiwygio trwydded Aberddawan. Ategwyd y llythyr hwnnw gan gais ffurfiol am esboniad o gynlluniau cydymffurfio RWE, a 17 Chwefror yw’r dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r cais am wybodaeth. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod RWE wedi buddsoddi yn y gwaith i leihau allyriadau ond, wrth gwrs, mae'n rhaid dod â nhw o fewn y terfyn fel y gallant gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol.

Cynlluniau’r Grid Cenedlaethol yn Ynys Môn

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau'r Grid Cenedlaethol yn Ynys Môn? OAQ(5)0399(FM) [W]

Rydym ni wedi pwyso’n gyson ar y Grid Cenedlaethol i sicrhau bod ei gynigion ar gyfer y llinell newydd ar draws Ynys Môn yn addas i’r diben ac yn ystyriol o’r amgylchedd y bydd yn rhedeg drwyddo.

Ddydd Mercher diwethaf, mi wnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad clir iawn mae’n dymuniad democrataidd ni yma ydy y dylai’r Grid Cenedlaethol chwilio am ddulliau amgen o wneud cysylltiadau trydan newydd yng Nghymru, yn hytrach na gosod peilonau newydd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yma. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i ni yn Ynys Môn, wrth gwrs, lle rydym ni yn wynebu gweld rhes newydd o beilonau yn cael eu codi yn y blynyddoedd nesaf.

Yng ngoleuni’r ffaith bod y Cynulliad yma wedi dangos ei ewyllys ddemocrataidd wythnos yn ôl, a wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i gysylltu eto i bwyso ar y Grid Cenedlaethol ac Ofgem i’w darbwyllo nhw y dylen nhw wrando ar lais democrataidd ein Cynulliad Cenedlaethol ni ac ailystyried eu cynlluniau? Wedi’r cyfan, mae pob llais sy’n cynrychioli Ynys Môn, ar wahân i un Aelod rhanbarthol UKIP, ac rwy’n cynnwys yn fan hyn fi fel Aelod Cynulliad, yr Aelod Seneddol, cynghorau plwyf, cynghorau cymuned, y cyngor sir, i gyd wedi datgan ein gwrthwynebiad. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yma wedi cefnogi hynny ac mi fyddwn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth y Prif Weinidog i wthio ar y grid ac Ofgem i wrando.

Wel, wrth gwrs, mae sefyllfa’r Cynulliad yn agos iawn at sefyllfa’r Llywodraeth, sef ein bod ni’n moyn gweld ceblau’n cael eu rhoi o dan ddaear. Dyna beth yw’r hoff sefyllfa o’n safbwynt ni ynglŷn â hyn. Rwy’n ddigon hapus, wrth gwrs, unwaith eto, i ddweud wrth y Grid Cenedlaethol taw hon yw barn Senedd Cymru ac felly yn farn y dylen nhw ei hystyried yn fanwl.

Pan drafodais hyn gyda’r Grid Cenedlaethol ychydig yn ôl, dywedasant wrthyf eu bod yn cael eu talu am yr hyn y maen nhw’n ei wneud pa un a yw peilonau yn mynd dros y tir neu o dan y ddaear, ond mae Ofgem yn gwneud gwerth gorau i'r cwsmer yn ofynnol, a bydd hyn yn cael ei dalu trwy filiau ynni cwsmeriaid yn y pen draw. O ystyried bod gwerth gorau yn golygu gwerth ansawdd yn ogystal â phris, pa ddeialog fydd eich Llywodraeth yn ei chael gydag Ofgem, o ystyried y pryder a godwyd gan gynghorau tref a chymuned ledled Ynys Môn bod yr opsiwn peilon wedi ei ddewis 'ar sail cost yn unig'?

Cofiwch, wrth gwrs, bod y rheolau'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, nid gennym ni. Ond mae'n gofyn a fyddem ni’n ail-bwysleisio ein safbwynt blaenorol—byddwn yn parhau i wneud hynny. Y safbwynt yr ydym ni’n ei ffafrio o ran seilwaith grid newydd yw un o dan y ddaear, gan ein bod yn gwybod am y sensitifrwydd amgylcheddol ar draws rhannau helaeth o Gymru yn hynny o beth. Mae'n iawn i ddweud nad y pris yw'r unig beth sy'n penderfynu a yw contract yn cael ei ddyfarnu ai peidio na pha un a yw’r gwaith yn cael ei wneud ai peidio. Rwy’n rhannu ei farn ei bod yn bwysig dros ben ystyried amrywiaeth eang o ffactorau pan fyddwn yn edrych ar y costau cyffredinol, yn amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, pan ddaw i osod seilwaith grid newydd. Dyna pam yr ydym ni o'r farn mai adeiladu o dan y ddaear ddylai fod y safbwynt a ffefrir.

Gwella Gwasanaethau Rheilffordd

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU i wella gwasanaethau rheilffordd presennol de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0397(FM)

Rydym ni mewn trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU ar y materion hyn oherwydd y trefniadau presennol ar gyfer rheoli masnachfraint Cymru a'r gororau, ac, wrth gwrs, rydym ni’n arwain y broses o gaffael y fasnachfraint nesaf, a fydd yn gwella gwasanaethau.

Diolch. Heno ar raglen 'Week In Week Out' BBC Wales, mae Nick Servini yn mynd y tu ôl i’r llenni yn Nhrenau Arriva Cymru wrth iddo ymchwilio i'r gorlenwi gwaethaf ar drenau cymudwyr ers blynyddoedd. Mae fy etholwyr yn Islwyn yn codi mater gorlenwi ar Drenau Arriva Cymru gyda mi yn barhaus, ond mae pwyslais Trenau Arriva Cymru wedi gwneud elw o £133.88 miliwn mewn difidendau i’w riant gwmni ers cymryd drosodd masnachfraint y DU i redeg gwasanaethau trenau Cymru a'r gororau. Roedd ganddo hefyd £70 miliwn yn y banc ar yr adeg y ffeiliodd ei gyfrifon diwethaf ac, fel y dywedwyd wrth arweinydd Plaid Cymru, mae’r fasnachfraint bresennol yn dod i ben ym mis Hydref 2018, sy’n 20 mis poenus i ffwrdd. Mae fy etholwyr yn ofni y byddant yn cael eu dal eto mewn gorsafoedd rheilffordd yn Nhrecelyn, Crosskeys, Rhisga a Phontymister yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad, gan fod y gwasanaeth rhwng Glynebwy a Chaerdydd eisoes dan ei sang. A, gan fod cymaint o oedi o ran trydaneiddio gan Lywodraeth y DU, a gaf i ofyn bod y Prif Weinidog yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ei gwaith a gweithredu, ac i Lywodraeth y DU alw ar Drenau Arriva Cymru i ddod o hyd i ateb dros dro cyn i’r fasnachfraint newydd gael ei dyfarnu? Ac a wnaiff ef amlinellu pa ymchwiliadau sydd wedi eu cynnal i allu Arriva i logi cerbydau rheilffordd cyfoes a allai gael eu tynnu gan injians diesel hŷn?

Yr anhawster sydd gennym ni yw ein bod ni’n gweithio gydag Arriva, mae hynny'n wir, ond, o ran bod gennym ysgogwyr—wel, na, ni fyddant yn cyrraedd tan y flwyddyn nesaf. Mae pam na ddatganolwyd hyn o'r blaen yn gwestiwn da, ond o leiaf bydd y cyfle hwn gennym ni o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Gwn yn y gorffennol bod Arriva wedi cael gafael ar locomotifau i dynnu trenau sy’n cael eu tynnu gan locomotif. Gwnaethant hynny yng nghwm Rhymni am nifer o flynyddoedd ac roedd y trenau hynny’n boblogaidd, a dweud y gwir, gyda chymudwyr. Nid oes unrhyw reswm yn fy marn i pam na allent geisio gwneud hynny eto. Ond yr hyn y mae fy nghydweithiwr yr Aelod dros Islwyn wedi ei amlinellu’n daclus yw'r sefyllfa gwbl hurt lle’r ydym ni’n talu cymhorthdal ​​i weithredwyr rheilffyrdd i ddarparu gwasanaeth israddol tra eu bod nhw’n gwneud elw enfawr. Dyma, mae'n debyg, oedd rhyfeddod preifateiddio yn ôl ar ddechrau’r 1990au. Fy marn i yw y dylem ni fod yn yr un sefyllfa â’r Albanwyr, lle gallwn edrych ar gael asiantaeth sector cyhoeddus, dielw yn rhedeg y llinellau rheilffordd er budd pobl Cymru, ac nid trwy dalu cymhorthdal ​​er mwyn talu cyfranddalwyr.

Mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin wedi dweud yn ddiweddar bod angen brys am drenau newydd ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod teithwyr wedi hen flino ar drenau hen a chyfyng, gyda rhai cerbydau a ddefnyddir dros 40 mlwydd oed. Mae rhai locomotifau yn dal i redeg ar ôl eu dyddiadau terfyn. Gan fod masnachfraint Cymru a'r gororau ar fin cael ei hadnewyddu, Brif Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael o ran darparu trenau modern i wella gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn y de-ddwyrain, a addawyd ers amser maith iawn erbyn hyn?

Mae'r rhain i gyd yn rhan o drafodaethau’r fasnachfraint. Rydym ni eisoes, wrth gwrs, wedi cyflwyno yn gyhoeddus iawn ein cynllun ar gyfer metro, a fydd yn arwain at welliant i amseroedd teithio ac, yn wir, i gyfleusterau a cherbydau, cyn belled ag y mae teithwyr yn y cwestiwn. Am y tro cyntaf, pobl Cymru fydd yn gallu penderfynu sut mae eu gwasanaethau trenau nhw—nid InterCity, ond sut mae eu gwasanaethau trenau nhw yn edrych mewn gwirionedd. Roedd gennym ni’r sefyllfa ryfedd ar un adeg pan ddywedwyd y byddai masnachfraint Cymru a'r gororau yn cynnwys trenau a fyddai’n dechrau a gorffen eu teithiau yng Nghymru yn unig, a fyddai'n golygu, i bob pwrpas, rheilffordd Dyffryn Conwy a dim byd arall i'r gogledd o Ferthyr. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos bod y sefyllfa braidd yn rhyfedd honno wedi cael ei dileu gan Lywodraeth y DU, ond rydym ni’n benderfynol o ddarparu lefel lawer gwell o wasanaeth, nid yn unig i’n pobl ein hunain, ond i'r bobl hynny sy'n byw ar yr ochr arall i'r ffin, ond sy'n defnyddio trenau o fasnachfraint Cymru a'r gororau.

Datganaf fuddiant gan fod fy chwaer yn gweithio i Network Rail. Brif Weinidog, rwyf wedi cael gohebiaeth gan bobl sy’n teimlo'n rhwystredig am gysylltiadau cludiant cyhoeddus annigonol ym Mlaenau Gwent yn ystod y nos. Ar hyn o bryd, mae trên olaf Caerdydd yn stopio yn Llanhiledd, heb unrhyw gysylltiadau cludiant cyhoeddus i fynd ymhellach i fyny'r cwm, gan adael tacsis fel yr unig ddewis, os oes un o'r rheini ar gael. Felly, a all ef roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynlluniau i agor gorsaf newydd yn Abertyleri? Ond yn bwysig, pa gamau a pha ymyraethau y ydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal, a gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol i ddarparu cysylltiadau bws priodol cyn cyflwyno metro newydd?

Rwy’n teimlo bod yr Aelod wedi gwneud ei hun yn ffynhonnell, neu’n dderbynnydd, yn hytrach, yr holl gwynion sy'n gysylltiedig â’r rheilffyrdd yn y Cynulliad o ganlyniad i’w ddatganiad, ond mae'n gwneud pwynt pwysig. Mae Abertyleri, wrth gwrs, wedi ei gynnwys yn y cynlluniau metro fel ardal ehangu. Defnyddiwyd y cledrau rheilffordd ddiwethaf pan oedd pwll glo Rose Heyworth yn dal ar agor tua 30 mlynedd yn ôl erbyn hyn, bron. Ond mae'n gymuned y mae angen ei chysylltu. Lle nad oes unrhyw reilffyrdd trwm presennol, yna ffefrir rheilffyrdd ysgafn yn amlwg; mae'n haws eu hymestyn ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymunedau a gollodd eu cysylltiadau rheilffordd rai blynyddoedd yn ôl yn eu hadennill yn rhan o'r cynlluniau metro.

Atal Twyll

8. Pa ganran o gyllideb Llywodraeth Cymru a gaiff ei dyrannu i atal twyll? OAQ(5)0385(FM)

O ystyried natur integredig y mesurau rheoli mewnol a gynlluniwyd i mewn i systemau a phrosesau at y diben o adnabod twyll posibl, nid yw'n bosibl mesur pa ganran yw ein gwariant mewn gwirionedd, ond, wrth gwrs, ceir uned gwrth-dwyll yn Llywodraeth Cymru, dan arweiniad swyddog heddlu sydd wedi ymddeol.

Diolch. Onid ydych chi’n meddwl ei bod yn eironig bod eich arweinydd, Jeremy Corbyn, yn sôn am system wedi’i rigio y mis hwn, oherwydd, yng Nghymru, Llafur sydd wedi rigio’r system? Daethoch â David Goldstone, sy’n rhoi arian i’r blaid Lafur, i aros yn yr Hilton fel cynghorydd. Gwastraffwyd miliynau gennych chi ar Kancoat; roedd ganddo achos busnes gwan, ond roedd yn digwydd bod wrth ymyl etholaeth y cyn-Weinidog. Derbyniodd Kukd.com grant enfawr ac mae’n cael ei ymchwilio gan Gyllid a Thollau EM erbyn hyn am afreoleidd-dra treth—unwaith eto, mae'r cwmni a roddodd y sicrwydd iddynt yn rhoi arian i’r blaid Lafur. Nid yw Cardiff Aviation yn talu unrhyw rent, ac eto mae eich plaid yn taflu pobl allan o'u cartrefi os nad ydynt yn gallu talu’r dreth ystafell wely. A ydych chi'n hapus â hyn i gyd? A ydych chi’n hapus, Brif Weinidog, â hyn i gyd?

Mae'n debyg bod yr Aelod yn ddoeth i beidio ag ailadrodd yr honiadau hynny y tu allan i'r Siambr, rwy’n credu. Mae ganddo hanes anhapus o achosion enllib, fel y gwyddom. O'n safbwynt ni, y cwbl a gawsom—dim ond ffrwd ymwybyddiaeth ydoedd cyn belled ag y gallaf ddweud. O ran apwyntiadau, maen nhw’n cael eu gwneud yn agored. Mae wedi beirniadu, er enghraifft, penodiad yr ombwdsmon; penodwyd yr ombwdsmon gydag Aelod Plaid Cymru ar y bwrdd a benododd yr ombwdsmon. Caiff y penodiadau eu gwneud gan y Cynulliad, nid gan y Llywodraeth, mewn llawer iawn o achosion. Rydym ni wedi cael achosion lle’r ydym ni wedi ymchwilio i dwyll; mae hynny’n anochel, am wn i, pryd bynnag y bydd gennych sefydliad mawr yn bodoli, a chyflawnir yr ymchwiliadau hynny waeth pwy yw testun yr ymchwiliadau hynny. Os yw'n awgrymu, rywsut, bod cynghorwyr Llywodraeth Cymru wedi bod yn gysylltiedig â thwyll, sef tôn ei ymchwiliad, yna mae angen iddo wneud ei honiadau yn hysbys i'r awdurdodau priodol, neu ddarparu tystiolaeth i gefnogi hynny. Nid Llywodraeth bresennol yr Unol Daleithiau yr ydym ni’n sôn amdani yn y fan yma; rydym ni yng Nghymru.

Brif Weinidog, wrth ddyrannu grantiau cyllid Llywodraeth Cymru i’n busnesau a'n sefydliadau, mae rhywun yn gobeithio bod archwiliadau a phroses fonitro briodol ar y defnydd o arian ein trethdalwyr. Nawr, mae cwestiynau wedi codi yn ddiweddar ynghylch Kukd, Kancoat a sgandal AWEMA, ac rwy’n ymwybodol o £900,000 yn y gogledd lle'r oedd dau gyfarwyddwr cwmni bysiau yn wynebu camau troseddol, a dweud y gwir. Rwyf i hefyd yn ymwybodol o 10 i 12 achos sy’n cael eu hymchwilio nawr o ran sut y mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio—cyllid y maen nhw wedi ei gael gan y Llywodraeth hon. Sut gallaf i dawelu meddyliau fy etholwyr yn Aberconwy eich bod chi’n cymryd y materion hyn o ddifrif, ac yn yr holl drafodion ariannol rhyngoch chi ac unrhyw sefydliadau neu fusnesau, y gallant deimlo'n ffyddiog y byddwch bob amser yn sicrhau cywirdeb ariannol llym wrth wraidd cyllid Llywodraeth Cymru a'r defnydd o arian ein trethdalwyr?

Mae hwnna’n gwestiwn hollol deg, a'r ateb a roddaf yw hwn: fel y dywedais, mae gennym ni uned gwrth-dwyll o dan arweiniad swyddog heddlu sydd wedi ymddeol â chanddo brofiad o arwain unedau troseddau economaidd ac adfer enillion troseddau. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor trefnu Fforwm Twyll Cymru. Fe’i cefnogir gan staff gweinyddol hefyd. Nid yw'r uned yn uned fawr, ond mae'n cyflawni swyddogaeth arweinyddiaeth ac yn manteisio ar gefnogaeth sylweddol gan yr holl weithwyr archwilio, sicrwydd a chyllid proffesiynol. A yw'n bosibl atal pob trosedd? Nac ydy, yn amlwg. Ond yr hyn sy'n bwysig yw bod y drosedd yn cael ei chanfod, ei hymchwilio a’i herlyn, ac mae'r ffaith y cafwyd achosion o ymchwilio yn arwydd, rwy’n gobeithio, y gall yr Aelod weld ein bod ni’n cymryd pob honiad o dwyll o ddifrif, a’u bod yn cael eu hymchwilio a’u herlyn yn wir, pan fo hynny’n briodol.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, mae gennyf nifer o newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad am ddyfarniad y Goruchaf Lys y bore yma ar erthygl 50, ac ar ôl hynny bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad am ‘Sicrhau Dyfodol Cymru' a'r newid o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd gydag Ewrop. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, rwyf wedi gohirio'r ddadl ar yr adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb tan yr wythnos nesaf, a’r datganiad llafar ar gymunedau mwy diogel tan 7 Chwefror. Dangosir y busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y cyhoeddiad datganiad busnes, sydd i’w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i alw am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â’r defnydd o ymgynghorwyr gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, dros y penwythnos, bod pryderon wedi’u mynegi yn y cyfryngau ynglŷn â gwariant o dros £1.5 miliwn gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y tair blynedd diwethaf. Wrth gwrs, mae cyfnod mawr o'r amser hwnnw wedi cael ei dreulio mewn mesurau arbennig ac o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, roedd hwn yn fater y codwyd pryderon yn ei gylch gan yr archwilydd cyffredinol yn ystod asesiad strwythurol yn 2015, lle cafwyd argymhelliad i leihau ei orddibyniaeth ar ymgynghorwyr allanol, na chyflawnwyd arno, mae’n ymddangos. Rwy'n credu bod trethdalwyr yn y gogledd, ac yn wir mewn mannau eraill ar draws y wlad lle mae ymgynghorwyr allanol yn cael eu defnyddio, eisiau gwybod pa werth y mae hynny yn ei ychwanegu at y gwasanaeth iechyd gwladol.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet priodol ynglŷn â gamblo sy’n achosi problem? Byddwch yn gwybod fy mod i wedi bod yn pryderu, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Siambr hon, am broblem gamblo a chyffredinrwydd gamblo yng Nghymru. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Beat the Odds, a drefnwyd gan Stafell Fyw Caerdydd, sy'n annog pobl i gael mis Chwefror heb fetio er mwyn ymdrin â phryderon am broblemau gamblo , ac atal y llanw? A gaf i gofnodi cymaint yr wyf yn cytuno â Jo Stevens, am newid, yn y cyfraniadau y mae hi wedi bod yn eu gwneud yn y Senedd yr wythnos hon am yr angen i ddatganoli pwerau pellach dros gamblo i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fel y gallwn ymdrin â'r mater hwn yn y dyfodol?

Wel, Darren Millar, wrth gwrs, er mwyn cyflawni yn erbyn y pwysau, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn ein gwasanaethau iechyd, yna, ar adegau, mae’n rhaid i fyrddau iechyd wneud defnydd o ymgynghorwyr i sicrhau ein bod yn ymateb ac yn darparu'r gwasanaeth gorau i'n cleifion.

O ran eich ail bwynt, ydym, rydym i gyd yn croesawu mentrau fel yr un y tynnodd Jo Stevens ein sylw ati yn ei hetholaeth yng Nghanol Caerdydd. Ond, wrth gwrs, mae gamblo sy’n achosi problem yn fater cymdeithasol difrifol y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb amdano, o fewn y pwerau a’r cylch gwaith sydd gennym, yn enwedig o ran cefnogi’r mentrau hynny sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac sy’n mynd i'r afael â'r angen hwnnw.

Mae dau fater yr hoffwn eu codi gydag arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ymyrryd pan fydd asedau a thirnodau cymunedol lleol mewn perygl? Yn fy rhanbarth i, mae'r sinema eiconig Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr wedi bod ar gau ers mis Tachwedd oherwydd problemau asbestos, ac mae pryder cynyddol yn y gymuned nad cau dros dro fydd hyn. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i weld pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymyrryd i ddiogelu ac amddiffyn asedau cymunedol.

A gawn ni hefyd ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â phrisiau tocynnau bws annheg? Mae llawer o bryder am bris tocynnau trên a chwyddiant pris tocynnau trên, ond tynnwyd fy sylw bod tocyn bws wythnosol ym Merthyr yn costio £10 ac mae'r tocyn cyfatebol a gyhoeddwyd gan yr un cwmni yng Nglyn Ebwy yn £25. Ymddengys hyn i fod yn anghysondeb anghyfiawn, ac rwy'n credu ei fod yn haeddu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi y Cynulliad hwn.

Rwy’n meddwl, Steffan Lewis, bod eich pwynt am y bygythiad i—wel, yn wir, fe gafodd ei gau, yn anffodus—yr ased cymunedol, y sinema yn eich rhanbarth chi, yn bwysig iawn. O ran perchnogaeth y sinema, dydw i ddim yn ymwybodol—rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn wir, bydd yr awdurdod lleol, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o hyn. Mae hwn yn rhywbeth sy’n fwy anodd, os yw yn y sector preifat, ond mae'n amlwg ei fod yn ased cymunedol sy'n bwysig iawn i'ch etholwyr chi.

O ran eich ail bwynt, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi cynnal yr uwchgynhadledd bysiau cyntaf erioed ddoe. Rwy'n siŵr y cyflwynwyd llawer o'r materion hyn o ran tocynnau, yn enwedig y gwahaniaethau a’r cyferbyniadau yr ydych yn eu nodi o ran lefelau prisiau. Wrth gwrs, bydd lle mae gennym, a lle y bydd gennym, fwy o bŵer mewn cysylltiad â hyn a rheoliad yn bwysig iawn.

Rydym yn cael dadleuon yn y Siambr hon ar iechyd yn rheolaidd. Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth gynnal dadl neu ddatganiad am yr effaith y caiff ffordd o fyw ar iechyd a sut i wella canlyniadau iechyd drwy ddewisiadau ffordd o fyw, hyrwyddo pethau fel bwyta'n iach, rhoi'r gorau i ysmygu ac ymarfer corff, yn enwedig yn rhai o'n cymunedau tlotaf.

Rwy'n credu ein bod wedi cael llawer o ddadleuon defnyddiol yn ddiweddar, Mike Hedges, yn arbennig yn edrych ar, fel y dywedwch—. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno ar draws iechyd meddwl, gordewdra, a gweithgaredd corfforol. Rwy'n credu bod adroddiad y prif swyddog meddygol yn bwysig iawn. Mae’n rhaid i fyw yn iach fod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Rydych chi bob amser wedi tynnu ein sylw at hyn yn nhermau bod eisiau gwasanaeth iechyd, nid gwasanaeth salwch, o ran diffyg cyfle i atal afiechyd. Ond rydym yn gweithio fwyfwy mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth ar y materion hyn, ac mae'n ymwneud â newid canlyniadau iechyd.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer Casnewydd, os gwelwch yn dda? Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cyllideb Cyngor Dinas Casnewydd yn dilyn cynnydd tila o 0.1 y cant mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben yn ddiweddar. Mynegwyd pryderon wrthyf am effaith y toriadau arfaethedig mewn gwariant, yn enwedig ar addysg a gwasanaethau plant. Mae'r cynigion yn cynnwys tynnu cyllid yn ôl oddi wrth ganolfannau cymorth yn wyth ysgol uwchradd Casnewydd, torri swyddi yn nhîm y cyngor sy’n cefnogi plant a theuluoedd sy'n agored i niwed a thoriadau i gyllid disgyblion a bwysolwyd ar sail oedran. A gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch pam mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael bargen mor wael gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda? Diolch.

Wel, wrth gwrs, dwi'n siŵr y byddech yn ymuno â mi, Mohammad Asghar, wrth ddilorni polisïau gwrth gyni parhaus Llywodraeth y DU, sy’n arwain at benderfyniadau cyllidebol anodd, anodd y mae'n rhaid inni eu gwneud. Wrth gwrs, mae hynny'n cael effaith ar ein hawdurdodau lleol hefyd. Rydych yn tynnu sylw at rai o effeithiau hynny a'r anawsterau o ran blaenoriaethau. Gwn y byddwch hefyd yn cydnabod, o ran ein dyraniad i awdurdodau lleol eleni, y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi, a hefyd bwysigrwydd, er enghraifft, yr arian yr ydym yn ei ddarparu i dreialu clybiau cinio a hwyl, sydd, wrth gwrs, yn mynd i fod yn bwysig iawn o ran cyfoethogi gwyliau ysgol ein plant a phobl ifanc.

Rwy’n gwybod bod arweinydd y tŷ a'r holl Aelodau yn ymwybodol mai dydd Gwener yw Diwrnod Cofio'r Holocost, pan fyddwn yn cydnabod pawb a gafodd eu lladd neu a ddioddefodd yng ngwersyll garcharau’r Natsïaidd. Sipsiwn Romani oedd yr ail grŵp mwyaf o bobl a laddwyd ar sail hil yn yr Holocost, ac fe gafodd eu marwolaethau eu hanwybyddu i raddau helaeth tan yr 1980au. Felly, ddydd Iau—diwrnod pan mae’r Aelodau yma yn y Cynulliad—mae’r grŵp trawsbleidiol Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn trefnu gwylnos ar risiau'r Senedd i gofio pawb a ddioddefodd yn yr Holocost. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn annog yr Aelodau i fynychu'r wylnos hon ac annog Ysgrifenyddion Cabinet y Llywodraeth a Gweinidogion i ddod draw hefyd? Yn y dyfodol, efallai y byddai'n bosibl cael datganiad o gwmpas amser Diwrnod Cofio'r Holocost?

Diolch i Julie Morgan am dynnu ein sylw at hyn y prynhawn yma ar draws y Siambr gyfan. Rwy'n siŵr y bydd cefnogaeth, fel yr oedd y llynedd, pan wnaethoch drefnu'r digwyddiad hwn—gwylnos gofio deimladwy a phwysig iawn—ar risiau'r Senedd, a'r ffaith ei fod yn talu teyrnged arbennig i ddioddefwyr Sipsiwn a Roma yr Holocost. Rwy'n credu bod y grŵp penodol hwnnw yn cael ei anghofio yn aml pan fydd y digwyddiadau tywyll hyn yn cael eu cofio. Yn yr wylnos Holocost benodol hon, byddwn yn eu cofio nhw. Rwy'n credu hefyd—cwrddais â llawer yn llofnodi llyfr coffa’r Holocost y daeth Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ag ef i'r Senedd. Rwy'n credu y bydd ar gael yno eto yfory. Yn sicr mae wedi bod ar gael i ni i gyd ei lofnodi heddiw. Mae delweddau pwerus iawn, unwaith eto—a’r gwaith y mae pobl ifanc wedi ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n gwybod y bydd pobl ifanc hefyd yn ymuno â ni yn y wylnos ddydd Iau. Byddwn hefyd yn gobeithio wedyn y gallem gyflwyno datganiad neu ddadl y flwyddyn nesaf i wneud yn siŵr ein bod yn cofio hyn gyda'n gilydd. Rydyn ni i gyd yn awyddus i sefyll gyda'n gilydd i gofio'r rhai a wynebodd yr erledigaeth fwyaf erchyll hon. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn rhoi’r cyfle hwnnw inni.

Rwy’n sylweddoli ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig ar NSA Afan yn fy rhanbarth i. Ond hoffwn ofyn am ddatganiad llafar ar sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hymchwiliad i honiadau o anghysonderau ariannol yn NSA Afan. Ni roddwyd yr un honiad sylweddol iddynt, yn ôl NSA Afan a'r hyn y maent wedi ei ddweud wrthyf. Gadewch i mi ei gwneud yn gwbl glir nad ydw i'n dymuno trafod manylion yr ymchwiliad hwn, ond yn hytrach y ffordd y cafodd ei gynnal. Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru archwilio’r cyrff hynny sy'n derbyn Cymunedau yn Gyntaf, ac fe wnaeth hyn gyda NSA Afan yn ystod blynyddoedd yr achosion o ddwyn a honnir bellach yn erbyn y cyn swyddog ariannol. Bob tro, rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth i NSA Afan. Felly, os yw’r broses archwilio honno wedi’i chynnal, ac os na chafodd materion llywodraethu eu hamlinellu mor ddifrifol ag y gwneir yn awr, rwy’n ceisio deall sut y gall Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad i’w hun yn effeithiol pan mae llawer o bobl a allai fod yn adran y Gweinidog yn cynnal yr ymchwiliadau hynny—a byddent wedi bod yn rhan o’r trefniadau ariannol gyda NSA Afan. Rwyf hefyd yn bryderus o glywed bod sicrwydd ysgrifenedig o gyllid ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn ystod mis Rhagfyr wedi ei wneud gan y cyfarwyddwr cymunedau a threchu tlodi, a ysgrifennodd, ac rwy’n dyfynnu:

Rydym yn awyddus i nodi nad yw’n effeithio ar y berthynas gytundebol rhyngom ni.

Diwedd y dyfyniad. Fodd bynnag, pan gyfarfu NSA Afan gyda'ch swyddogion ddoe, dywedwyd wrthynt na fyddai hyn yn cael ei anrhydeddu ac mae hyn yn gadael y sefydliad nawr mewn sefyllfa lle na all dalu cyflogau, meddan nhw wrthyf.

Hoffwn i gael datganiad llafar yma yn y Siambr gan fy mod yn credu bod hyn yn cyfiawnhau datganiad llafar o ystyried y problemau a gafodd rhai cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol. Dydyn ni ddim eisiau cael problem bosibl arall yn y maes hwn pan fydd y Gweinidog yn gogwyddo tuag at roi'r gorau i Cymunedau yn Gyntaf, ac rwy’n credu y byddai'n synhwyrol i'r Llywodraeth gael y sgwrs honno yn agored.

Wel, rwy’n meddwl y byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fel y dywedoch, o’r datganiad ysgrifenedig y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y prynhawn yma o ran terfynu cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan, a hefyd y datganiad ysgrifenedig ar y camau a gymerwyd i ddiogelu darpariaeth gwasanaethau, yr ydych yn ei godi. Wrth gwrs, Bethan Jenkins, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ateb eich cwestiwn brys yr wythnos diwethaf.

Rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddod yn ôl ac egluro canlyniad hyn. Ond, fel yr ydych yn ymwybodol, mae trafodaethau parhaus, nid yn unig gyda'r awdurdod lleol ar ddiogelu gwasanaethau ond hefyd drafodaethau gyda'r heddlu. Felly, ar hyn o bryd, ni ellir dweud mwy na’r hyn sydd yn y datganiad ysgrifenedig a mwy na’r ateb i'ch cwestiwn yr wythnos diwethaf. Ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bendant yn sicrhau y gellir rhannu canlyniad hwn yn llawn pan fo'n briodol.

A gaf i ofyn a ellir dod o hyd i amser ar gyfer ddatganiad am unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y DU ar nifer yr eiddo sy'n cael eu heithrio o yswiriant rhag llifogydd yng Nghymru, ar ôl symud i'r cytundeb Flood Re gydag yswirwyr? Rwy’n gofyn hyn oherwydd yn dilyn y gorlif sydyn yn ddiweddar yn Ogwr, dechreuais sylweddoli bod eiddo o fewn 200m i afon yn aml yn cael eu heithrio o yswiriant rhag llifogydd. Gallwch gael yswiriant tŷ, yswiriant cynnwys ond dim yswiriant sy’n ymwneud â llifogydd, hyd yn oed os yw’r afon yn bell i ffwrdd oddi wrthych—200m—. Os yw’n 199m, neu os yw'n 50m oddi tanoch a heb achosi llifogydd erioed, gallwch ddal i gael eich eithrio.

Y rheswm yr wyf yn gofyn hyn oedd bod ein huned ymchwil ragorol yma yn y Cynulliad—comisiynais nhw i gael gwybod faint o eiddo yn fy etholaeth i oedd o fewn 200m—wedi triongli hwn o dair ffynhonnell oedd ar gael i'r cyhoedd. Allan o gyfanswm o 33,880 o gartrefi yn fy etholaeth i, mae’r nifer anhygoel o 21,158 o fewn 200m i afon. Mae hyn yn swnio fel esgus rhyfeddol ar gyfer dyfodol y diwydiant yswiriant, sy'n hysbysebu ar y safle Flood Re fel, a dyfynnaf, ‘premiymau a thaliadau dros ben fforddiadwy’ i bawb. Wel, yn sicr, yn ogystal â datganiad dylem o bosibl fod yn gofyn i Paul Lewis o 'Money Box' y BBC neu Martin Lewis o MoneySavingExpert.com i ymchwilio i weld a yw’r diwydiant yswiriant yn rhoi gwerth am arian i'n hetholwyr.

Diolch i'r Aelod am dynnu hynny i'n sylw'r prynhawn yma yn y datganiad busnes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ffwrdd. Rydych chi, wrth gwrs, wedi codi hyn gyda hi ac mae hi'n ymwybodol o'r achos a hefyd wedi ysgrifennu at Gymdeithas Yswirwyr Prydain a Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain. Mae'n anghydfod preifat, yn amlwg, ar y cam hwn rhwng perchennog y tŷ ac yswiriwr perchennog y tŷ, ond rwy’n meddwl bod yr ombwdsmon, yn ôl a ddeallaf, wedi cael ei hysbysu.

Rydych yn tynnu sylw at hyn ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn o ran yswiriant rhag llifogydd. Dylai fod ar gael i'r holl berchnogion tai, ni waeth pa mor agos y maent yn byw at afon, ac mae’r system cymhorthdal ​​Flood Re yn galluogi cartrefi risg uchel—ac mae llawer ohonom yn cynrychioli etholwyr a chymunedau yn y categori hwnnw—i gael yswiriant ar bremiymau fforddiadwy mewn achosion o'r fath, ac mewn gwirionedd mae'n gweithredu gyda dros 90 y cant o'r farchnad gan ei gynnig ar gyfer cartrefi sydd mewn perygl uchel o lifogydd. Ond mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael y neges drosodd i'r diwydiant yswiriant ac i'r rhai sy'n cael eu heffeithio na ddylai byw o fewn 200m i afon eich atal rhag sicrhau yswiriant rhag llifogydd. Mae angen i ni gymryd sylw o'r digwyddiad a'r achos yr ydych wedi ei godi heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch o fod yn aelod o blaid a sefydliad sydd wedi arwain y ffordd ar bwysigrwydd cynrychiolaeth menywod mewn bywyd gwleidyddol. Ond fel ym mhob achos, gallwn bob amser wneud mwy, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud felly, i sicrhau bod lleisiau dros hanner y boblogaeth nid yn unig yn cael eu clywed, ond yn cael eu cynrychioli yn weithredol ac yn llawn yn ein democratiaeth. Felly, a gaf i ofyn a ellir rhoi amser ar gyfer dadl i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ei hun, ar ddydd Mercher, 8 Mawrth?

Hannah Blythyn, diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Mae'r ffaith ein bod—. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy’n credu, o ran diwrnod y Llywodraeth—. Wel, dydd Mercher yw'r wythfed, ynte, ac mae diwrnod y Llywodraeth ar y seithfed? Yn sicr, byddai’r Llywodraeth Cymru hon yn awyddus i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy’n diolch i Hannah Blythyn am godi hynny heddiw, fel Cadeirydd ein grŵp Llafur yn y Cynulliad.

3. 3. Datganiad: Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar ddyfarniad y Goruchaf Lys ar erthygl 50. Ac rwy’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r Goruchaf Lys bellach wedi trosglwyddo dyfarniad yn yr achos hwn. Fel yr eglurais i'r Cynulliad pan oeddwn yn cyhoeddi fy mhenderfyniad i ymyrryd, rwyf o'r farn bod yr achos hwn yn codi materion o bwys difrifol, nid yn unig mewn perthynas â'r cysyniad o sofraniaeth seneddol, ond hefyd o ran trefniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.

Bydd rhoi hysbysiad dan erthygl 50 yn arwain at addasiad o gymhwysedd y Cynulliad a swyddogaethau Llywodraeth Cymru, fel y nodir dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedasom yn ein cyflwyniadau i'r llys na ellir defnyddio’r uchelfraint i hepgor darpariaethau statud cyfansoddiadol yn y modd hwn. Ac, fel y gwnaethom hefyd ddadlau gerbron y llys, yn yr un modd ni ellir cael unrhyw bŵer uchelfraint i osgoi confensiwn Sewel. Byddai hyn yn amddifadu’r Senedd o’r cyfle i ddechrau deialog gyda'r deddfwrfeydd datganoledig am newidiadau i'r fframweithiau datganoli.

Rwyf yn naturiol, felly, yn falch iawn gyda chanlyniad y dyfarniad, gyda’r canlyniad yn y pen draw a gyda chydnabyddiaeth y llys fod confensiwn Sewel yn chwarae rôl gyfansoddiadol bwysig o ran hwyluso perthynas cytûn rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig. I'r rhai hynny nad ydynt yn ymwybodol o ganlyniad yr achos, canfu'r Goruchaf Lys yn erbyn Llywodraeth y DU drwy fwyafrif o wyth i dri. Felly, mae'r llys wedi bod yn glir iawn o ran dyfarniad mai dim ond Senedd y DU all wneud newidiadau cyfansoddiadol sylfaenol, ac nid Gweinidogion y Llywodraeth. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn parchu’r dyfarniad, ac y bydd, yn y dyddiau nesaf, yn cyflwyno Bil a fydd yn cydnabod sofraniaeth y Senedd ac yn rhoi'r cyfrifoldeb am y penderfyniadau terfynol ar delerau gadael lle mae'n briodol.

Felly, rydym yn croesawu'r posibilrwydd o ddadl lawn ac agored yn y Senedd am yr eiliadau mwyaf arwyddocaol hyn yn ein hanes cyfansoddiadol. Rhaid i syniadau o gloi’r Bil i lawr a’i wneud yn un na ellir ei ddiwygio, ildio yn awr i ddull mwy synhwyrol a pharch tuag at y bobl. Mae Aelodau Seneddol eisoes wedi pleidleisio i gefnogi sbarduno erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth, felly does dim esgus dros geisio cyfyngu dadl yn artiffisial ar y materion sylfaenol bwysig hyn.

Wrth i Fil erthygl 50 symud ymlaen drwy'r Senedd, byddem yn disgwyl i Lywodraeth y DU barchu confensiwn Sewel, fel bod y Senedd yn cael y cyfle i wrando ar y Cynulliad, ac ar y deddfwrfeydd datganoledig eraill. Rydym hefyd yn disgwyl i Lywodraeth y DU anrhydeddu'r ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weinidog i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyrraedd sefyllfa y gall pob un o’r pedair cenedl yn y DU uno y tu ôl iddi.

Wrth i ni benderfynu ar ein perthynas yn y dyfodol gyda'r UE, rhaid i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni yn ddidwyll, ac mewn ysbryd o gydweithredu didwyll. Mae'n rhwym yn wleidyddol ac yn foesol i sicrhau ei bod yn deall pryderon yr holl genhedloedd a rhanbarthau yn y DU, a bod y rheini i gyd yn cael eu hystyried yn ofalus. Rhaid dangos parch priodol i farn y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y wlad hon yn wynebu trafodaeth o bwysigrwydd aruthrol, a'i bod yn hanfodol bod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae eu rhan wrth wneud iddo weithio. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i wneud hynny. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu swyddi yng Nghymru, a buddsoddiad yng Nghymru, a byddwn yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried, yn unol â'r broses gyfansoddiadol gywir, y mae’r Goruchaf Lys bellach wedi ei chadarnhau.

Er bod y bobl yn ymddiried mewn sofraniaeth, sef awdurdod y wladwriaeth i lywodraethu ei hun heb ymyrraeth o ffynonellau neu gyrff allanol, i Brif Weinidog a Llywodraeth, ac er bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau'r wythnos diwethaf y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi’r fargen derfynol rhwng y DU a'r UE i bleidlais yn y ddau Dŷ Seneddol cyn iddo ddod i rym, rydym yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys bod angen Deddf Seneddol cyn i erthygl 50 gael ei sbarduno. Nodwn hefyd fod Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn gosod allan ei chamau nesaf i Senedd y DU yn fuan.

Ond, wrth gwrs, rydym hefyd yn nodi'r penderfyniad unfrydol gan y Goruchaf Lys nad yw’n rheidrwydd cyfreithiol ar Lywodraeth y DU i ymgynghori â Chynulliad Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon neu Senedd yr Alban cyn sbarduno erthygl 50. Ond, wrth gwrs, pleidleisiodd pobl Prydain, gan gynnwys pobl Cymru, i adael yr UE, a bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ar hynny, gan sbarduno erthygl 50, yn ôl y bwriad, erbyn diwedd mis Mawrth. Ac nid yw dyfarniad heddiw yn gwneud dim i newid hynny—yr arwyddion gan Senedd y DU yw y bydd y Senedd yn pasio hyn.

Mae'n bwysig cofio bod y Senedd, Senedd y DU, wedi cefnogi’r refferendwm o chwech i un, ac mae eisoes wedi nodi ei chefnogaeth i fwrw ymlaen â'r broses o ymadael, i’r amserlen a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU bellach yn hyrwyddo Teyrnas Unedig hyderus, sy'n edrych tuag allan, yn gynhwysol ac yn masnachu’n fyd-eang. Ond mae'r Prif Weinidog wedi bod yn ofalus iawn i sicrhau bod cyfeiriad at gyfraniad y Llywodraethau a’r Seneddau datganoledig yn cael ei chynnwys yn y broses honno.

Yn awr, o gofio bod y Goruchaf Lys wedi dweud bod cysylltiadau â materion yr UE a materion tramor eraill yn cael eu neilltuo i Lywodraeth y DU a'r Senedd, nid y sefydliadau datganoledig, ac nad yw cwmpas a gweithrediad confensiwn Sewel o fewn cylchoedd gwaith gweithredol y llysoedd, ac nad oes gan y deddfwrfeydd datganoledig felly, feto ar benderfyniad y DU i dynnu'n ôl o'r UE, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad y bydd tynnu allan o’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig, ac yn cael gwared ar y cyfrifoldebau i gydymffurfio â chyfraith yr UE, eto yn y cyd-destun hwnnw? A ydych chi, felly, yn y cyd-destun hwnnw, yn cytuno yn awr, pan ddywedais wrthych chi ym mis Tachwedd—ar ôl i chi gyhoeddi eich cynlluniau i geisio cynrychiolaeth yn yr apêl i benderfyniad yr Uchel Lys fod yn rhaid i Senedd bleidleisio ar y broses o fynd â’r DU allan o'r Undeb Ewropeaidd—bod y materion a godwyd gennych y tu allan i drafodaethau erthygl 50 gyda'r UE ar dynnu'n ôl o’r UE, ac yn lle hynny yn faterion i’w trafod â Llywodraeth y DU a'r gwledydd cartref eraill ar sail ddwyochrog a phedrochr? Ar y pwynt hwnnw, beth yw eich barn am sut y gallai confensiwn Sewel fod yn berthnasol? Neu, ai eich barn gyfreithiol—neu farn gyfreithiol y rhai sy’n eich cynghori chi—yw bod y materion hyn, a oedd ar un adeg yn dod allan o Frwsel yn ôl i’r DU, yn dod yn syth i Lywodraeth y DU, lle maent yn cwmpasu materion datganoledig? Ac os felly, sut ydych chi'n cynnig, yn ddwyochrog neu’r bedrochrog, i symud ymlaen ar y trefniadau fframwaith a allai roi sylw i hynny ar draws pob un o bedair Llywodraeth a Senedd y DU?

Ac mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â chost. Ymddengys bod y canlyniad yn dilysu'r pryderon a godwyd yma ym mis Tachwedd, yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig, ac yna eich datganiad llafar, i'r Cynulliad. Ymddengys bod y llys wedi cadarnhau’r pryderon hynny a godwyd.  Gwyddom fod y gost gyhoeddus wedi cael ei chyhoeddi ar rywbeth fel £85,000, ond rydym yn deall y bu nifer o ymweliadau â Llundain, ac, yn amlwg, roedd y rhain nid yn unig yn cynnwys chi eich hun a swyddogion Llywodraeth Cymru, ond cynghorwyr cyfreithiol allanol. Felly, a wnewch chi roi ffigur i'r Cynulliad ar gyfer cyfanswm cost y methiant hwn i sicrhau cymeradwyaeth y Goruchaf Lys i’ch barn y dylai'r Cynulliad hwn gael feto?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. A gaf i ddechrau yn gyntaf drwy ddweud mewn gwirionedd beth oedd y ddau bwynt allweddol a oedd yn destun ein cyflwyniad manwl i'r Goruchaf Lys? Pam wnaethom ni ymyrryd mewn gwirionedd? Un pwynt oedd pwysigrwydd sylfaenol y newid cyfansoddiadol mawr hwn sy’n digwydd yn y Senedd, gan warantu nad yw sofraniaeth seneddol yn cael ei chymryd gan ddefnyddio uchelfraint frenhinol. Mae angen i ni ddeall beth yw’r uchelfraint frenhinol honno. Yr uchelfraint frenhinol yw’r pwerau hynny oedd yn arfer bod gan frenhinoedd a breninesau yn y bôn i wneud beth bynnag yr oeddent yn ei ddymuno, hyd nes, yn effeithiol, i Senedd a datblygiad democratiaeth seneddol roi cyfyngiadau arni ac y dechreuwyd datblygu ein system ddemocrataidd. Felly, roedd yn hanfodol bod yn rhaid i unrhyw newid a ddigwyddodd i statws deddfwriaethol, statws datganoledig, Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill fod o fewn nawdd y Senedd a democratiaeth seneddol. Dyna pam roedd yn hanfodol bod y mater hwnnw gerbron y llys.

Ac roedd y Goruchaf Lys yn ystyried hyn yn sylfaenol bwysig hefyd. Dyma’r penderfyniad cyfansoddiadol pwysicaf am dros 300 o flynyddoedd. Dyna pam roedd pob un arglwydd cyfiawnder mewn gwirionedd yn bresennol, ac mae’r canlyniad gwirioneddol, yr 8:3, yn ardystiad o gryfder y ddadl honno. Pe byddai unrhyw dîm pêl-droed wedi ennill 8-3, rwy’n meddwl y byddem yn dweud bod honno’n fuddugoliaeth fawrfrydig, ac rwy'n credu bod hon yn fuddugoliaeth fawrfrydig—buddugoliaeth i ddemocratiaeth a sofraniaeth seneddol.

Ble mae Sewel yn dod i mewn? Ein dadl ar Sewel yw nad ydym erioed wedi dadlau am feto. Ni fu erioed yn rhan o’n hachos ni, ac rydw i wedi dweud hynny yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Pwysigrwydd Sewel yw bod Sewel yn broses seneddol, ac ni allai Sewel ddechrau, ni allai fod yn effeithiol, oni bai bod y penderfyniadau allweddol hyn yn cael eu cymryd dan nawdd y Senedd a sofraniaeth seneddol. Felly, roedd yn fater o ddemocratiaeth sylfaenol os oeddem yn mynd i gael llais yn y materion sylfaenol hyn, ac roedd yn rhaid i ni lwyddo gyda'r penderfyniad hwn, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo.

O ran beth sy'n digwydd i'r pwerau hynny sydd ym Mrwsel ar hyn o bryd, wel, mae'n amlwg iawn i mi y bydd hynny’n dod yn destun darn arall o ddeddfwriaeth maes o law. Bydd hefyd yn gofyn am ymgysylltiad Sewel, a fydd bron yn sicr yn gofyn am ymgysylltiad y Cynulliad hwn a phleidlais yn y Cynulliad hwn, ac, fel y dywedwyd droeon, dylai’r meysydd hynny sy'n dod o fewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig clir ddod i'r Cynulliad hwn—i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cymru.

O ran y gost, a gaf i ddweud bod gennyf pob cydymdeimlad â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am y gost? Doeddwn i ddim eisiau bod yn y Goruchaf Lys. Dwi ddim yn meddwl fod llawer ohonom eisiau bod yno, gyda'r holl gostau a dalwyd, ond rhaid i mi ddweud mai’r rheswm yr oeddem ni yno—

Gwnsler Cyffredinol, nid ydych yn y llys nawr; nid oes angen i chi aros o fewn pellter rhesymol i'ch meicroffon. [Chwerthin.]

Rwy’n ymddiheuro.

Y rheswm yr oeddem yn y Goruchaf Lys oedd bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu apelio yn erbyn penderfyniad credadwy iawn gan yr Uchel Lys. Dyna pam roedden ni yno, ac mae’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl agored a gonest am y gost. Rydym wedi ateb nifer o geisiadau rhyddid gwybodaeth, gan nodi'r £80,000 i £85,000, sef cost ein hymyrraeth. Ac, fel y dywedais y bore yma, beth yw cost democratiaeth? Mae democratiaeth yn amhrisiadwy. Ond byddwn yn dweud wrth yr Aelod: byddai o gymorth mawr yn awr pe byddai Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn ateb yr un ceisiadau rhyddid gwybodaeth a dweud wrthym beth oedd y costau, oherwydd rwy’n amau ​​eu bod yn aruthrol ac yn fwy nag unrhyw beth a wariwyd gennym ni. Hefyd, eu gweithredu nhw sydd wedi achosi’r holl gostau eraill ar y gweinyddiaethau datganoledig.

A gaf i groesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol a hefyd gymeradwyo ei waith caled hyd yn hyn, yn amlwg, mewn materion yn ymwneud â'r Goruchaf Lys? Fe wnaeth y Llywydd fy sicrhau nad ydym ar hyn o bryd mewn llys, felly mae hynny’n rhoi ffordd gadarnhaol ymlaen i ni. Ond rwy’n croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys y dylai Senedd y DU chwarae ei rhan lawn a chael pleidlais ar sbarduno erthygl 50. Mae llawer wedi newid, yn amlwg, o ran llywodraethu yn yr ynysoedd hyn ers 1973, ers i’r DU ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol, mae llawer wedi newid mewn canrifoedd olynol o ran yr uchelfraint frenhinol. Felly, rydym yn adeiladu ar hynny i gyd. Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, nid oes angen caniatâd gweinyddiaethau datganoledig ar ddyfarniad y Goruchaf Lys.

Rwy’n hoffi eich sylwadau ar gydnabyddiaeth y llys fod confensiwn Sewel yn chwarae rhan gyfansoddiadol bwysig—ie, a dyna mor bell ag y mae'n mynd. Mae'n gonfensiwn gwleidyddol, nid yn ofyniad cyfreithiol. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar y confensiwn gwleidyddol, oherwydd nad oedd y Goruchaf Lys yn rhoi trwydded i Lywodraeth y DU i anwybyddu confensiwn Sewel. Fodd bynnag, mae'n dweud na all y llysoedd benderfynu anghydfodau; mae’r mater yn wleidyddol yn hytrach na chyfreithiol. Rwy’n nodi hynny rhag i unrhyw un fynd i ffwrdd gyda'r syniad nad yw confensiwn Sewel yn bwysig o gwbl.

Fodd bynnag, byddwn yn ffrwyno eich pleser naturiol yn y paragraff hwnnw drwy sôn am ychydig o realaeth ynghylch 'nid yw'n ofyniad cyfreithiol'. Ar hynny, dim ond i ddatblygu'r ddadl, yn amlwg, rydym i gyd yn ymwybodol fod Cymru yn genedl sy’n allforio gyda gwarged masnachol sylweddol â'r UE—mae 200,000 o swyddi ynghlwm wrth y farchnad sengl, a’r undeb tollau a'r gweddill. Dyna pam mae’n bwysig bod gan Gymru ei llais yma. Do, fe wnaethom bleidleisio o blaid Brexit, ond ni wnaethom bleidleisio o blaid colli 200,000 o swyddi.

Yn amlwg, bydd yr ASau Plaid ym mhen San Steffan yr M4 yn cyflwyno gwelliannau maes o law wrth i'r ddeddfwriaeth erthygl 50 fynd rhagddi drwy'r Tŷ. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yma yng Nghymru, os nad yw Aelodau'r Cynulliad yn cael unrhyw gyfle i ddweud eu dweud ar sbarduno erthygl 50—fel y dywedais, yn ôl y gyfraith, ni allwn, rwy’n gwybod, ac rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch am y pwynt moesol yn deillio o Lywodraeth y DU i ddeall ein pryderon a, gobeithio, i’n cynnwys ni—ond, os yw'n ymddangos fel pe nad oes cyfle i Aelodau'r Cynulliad yma gael dweud eu dweud, o ystyried pwysigrwydd sbarduno erthygl 50 a'r ddadl UE gyfan i Gymru, fel yr wyf wedi amlinellu, bydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol i roi llais i ni.

O’n safbwynt ni, mae'n fater syml o ddemocratiaeth y dylai fod gan ddeddfwrfeydd datganoledig ran yn y gwaith o gychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedais, mae trefniadau llywodraethu wedi newid yn yr ynysoedd hyn dros y 40 mlynedd diwethaf ac mae angen cydnabod hynny. Felly—heb siarad yn ormodol am y peth, ond byddwn yn cynnig y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwnnw os na fydd pethau'n digwydd—yn absenoldeb gofyniad cyfreithiol ffurfiol i Lywodraeth y DU ymgynghori â gwledydd datganoledig, pa hyder sydd gan y Cwnsler Cyffredinol y gellir clywed llais Cymru, o gofio nad oes rheswm cyfreithiol i Lywodraeth y DU wrando arnom ni o gwbl? Diolch yn fawr.

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac maen nhw'n bwyntiau sydd wedi cael eu hystyried ac sydd wedi cael eu codi yn y trafodaethau ar y materion hyn yn ystod y mis neu ddau diwethaf. Byddwn i'n dweud bod pob tebygolrwydd o bleidlais gan y bydd y Bil sbardun yn effeithio ar ddeddfwriaeth Cymru. Mae o fewn Rheolau Sefydlog y Cynulliad hwn ar gyfer cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ar y mater o feto, rwyf eisoes wedi egluro'r sefyllfa ynghylch hynny, ac, wrth gwrs, byddai wedi bod braidd yn anghyson i fod yn dadlau dros sofraniaeth y Senedd a feto hefyd—nid dyna yw natur y trefniant cyfansoddiadol oedd gennym. Wrth gwrs, byddai’r un peth yn berthnasol o ran y ddeddfwriaeth ddilynol, sydd, fel yr ydym yn edrych arni, yn tyfu’n fwy ac yn fwy cymhleth bob dydd.

Mae hefyd angen inni feddwl yn ofalus iawn am y ffaith bod cynnwys Bil sbardun o’r fath—. Rwy'n credu y byddai'n rhy gynnar i ddweud gormod am hynny, oherwydd nes iddo gael ei osod, nid ydym yn gwybod yn union beth yr ydym yn ymdrin ag ef a pha fath o ganlyniad y byddem yn ei ddymuno o ddifrif. Serch hynny, rwy’n credu bod llawer o'r materion a’r safbwyntiau eisoes wedi cael eu mynegi yn ystod y misoedd diwethaf yn y Siambr hon.

Mae'n werth pwysleisio hefyd rai o bwyntiau manylaf y dyfarniad. Wrth gwrs, rydym yn dal i fynd drwy'r dyfarniad eithaf hir hwn, ond credaf fod llawer o sylwadau pwysig ar Sewel o fewn y dyfarniad ac o fewn y crynodeb a roddwyd gan yr Arglwydd Neuberger y bore yma. Er enghraifft, dywedodd yr Arglwydd Neuberger y bore yma:

O ran cymhwyso Confensiwn Sewel i’r penderfyniad i dynnu'n ôl o'r UE o ystyried yr effaith ar y cymwyseddau datganoledig, mae'r Confensiwn yn gweithredu fel cyfyngiad gwleidyddol ar weithgaredd Senedd y DU. Felly, mae'n chwarae rhan bwysig yng ngweithrediad cyfansoddiad y DU.

Aeth ymhellach yn y dyfarniad ei hun, i ddweud:

Wrth ddod i'r casgliad hwn nid ydym yn diystyru pwysigrwydd confensiynau cyfansoddiadol, rai ohonynt yn chwarae rhan sylfaenol yng ngweithrediad ein cyfansoddiad. Mae gan Gonfensiwn Sewel ran bwysig wrth hwyluso perthnasoedd cytûn rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig.

Dyna’n union y pwyntiau yr oeddem yn eu gwneud yn y cyflwyniadau ar ran Llywodraeth Cymru i'r Goruchaf Lys. Rwy'n credu eu bod yn ddatganiadau pwysig iawn o fwriad, a rhai y byddem yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn eu gweithredu, nid yn unig o ran y geiriad ond o ran yr ysbryd, oherwydd mai uniondeb cyfansoddiadol cytûn y DU sydd yn y fantol ac yn dibynnu ar hynny.

Rwy’n croesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol, yn enwedig y paragraff lle mae'n sôn am barchu pobl yn y cyd-destun hwn ac am 'ddadl lawn ac agored' yn digwydd yn y Senedd ar y materion hyn, fel pe nad ydym eisoes wedi trafod yr holl faterion hyn hyd at syrffed. Serch hynny, a wnaiff ef gadarnhau, felly, fod parch tuag at y bobl yn y cyd-destun hwn yn golygu y dylem barchu canlyniad y refferendwm, sef gadael yr Undeb Ewropeaidd? Os felly, gan mai sbardun yn unig yw erthygl 50 ar gyfer cyflawni'r canlyniad y mae’r bobl wedi dweud eu bod ei eisiau, dylem wneud popeth yn ein gallu i hwyluso’r penderfyniad y mae’r bobl wedi ei wneud. Os felly, rwy’n ei chael hi’n anodd gweld beth oedd pwynt y frwydr gyfreithiol anferth hon yn y lle cyntaf.

Mae hyd y dramatis personae o gyfreithwyr nodedig ar ddechrau'r dyfarniad yn dangos bod bron hanner y bar wedi cymryd rhan yn yr achos hwn, un ffordd neu'r llall. Beth oedd pwynt hyn i gyd os yw’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i sbarduno gan erthygl 50 eisoes wedi'i wneud ac mae dadl yn y Senedd yn sêl bendith yn unig ar gyfer hynny? Pan atebodd Mark Isherwood funud yn ôl, roedd yn ymddangos fel pe bai’n nodweddu arfer yr uchelfraint frenhinol fel gweithred o ormes, fel pe byddai Siarl y Cyntaf yn dal ar yr orsedd. Onid yw'n derbyn bod gwahaniaeth ansoddol rhwng ymdrechion y Brenin yn yr ail ganrif ar bymtheg i osod trethi ar y bobl heb gydsyniad seneddol —ei fod yn ansoddol yn eithaf gwahanol i benderfyniad yn dilyn refferendwm ymhlith pobl Prydain, y mae Llywodraeth y dydd yn ceisio ei hwyluso? Y defnydd o'r uchelfraint yn yr achos hwn yw peidio â rhwystro democratiaeth ond mewn gwirionedd ei wella—dod ag ef i rym.

Rwyf hefyd yn credu bod y datganiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ar effaith y dyfarniad hwn efallai ychydig yn rhyddfrydol, oherwydd os ydych yn darllen y dyfarniad—rydym i gyd wedi cael amser byr iawn i wneud hynny—ym mharagraff 86, mae Arglwydd Neuberger yn dweud:

Ni ellir arfer yr uchelfraint Frenhinol i wneud a dadwneud cytuniadau, sy'n gweithredu yn gyfan gwbl ar y lefel ryngwladol, mewn cysylltiad â'r Cytuniadau UE, o leiaf yn absenoldeb cosb ddomestig ar ffurf statudol briodol.

Felly, mae’r dyfarniad hwn yn gymwys i'r cytuniadau UE. Nid yw o reidrwydd yn gymwys i unrhyw gytuniadau eraill neu unrhyw weithred arall o'r uchelfraint sy'n effeithio ar ein cysylltiadau â gwledydd eraill yn y byd.  Oherwydd bod system gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd yn un unigryw, yn yr ystyr ei bod yn creu deddfwriaeth sy'n gymwys yn uniongyrchol i'r wlad hon ac i bob unigolyn, ac yn rhoi hawliau i bobl y tu hwnt i'r cyd-destun seneddol y mae’r barnwyr yn yr achos hwn wedi gwneud y penderfyniad y maent wedi ei wneud. Ac mae'n bosibl felly na fydd, fel y dywed y Cwnsler Cyffredinol, y pŵer uchelfreiniol mewn achosion cyfansoddiadol yn cael ei gyfyngu o ganlyniad i'r penderfyniad hwn.

O ran y penderfyniad penodol yn yr achos hwn, a fydd hefyd yn derbyn y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel y dywedodd y barnwyr ym mharagraff 130, mewn gwirionedd, gryfhau pwerau’r Cynulliad hwn? Felly, ymhell o fod yn fygythiad i bwerau'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru, yn wir mae'n gyfle y dylem ei groesawu â breichiau agored.  Mae Arglwydd Neuberger yn dweud:

Bydd cael gwared ar gyfyngiadau’r UE ar dynnu'n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig oni fydd cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno. Yn absenoldeb cyfyngiadau newydd o'r fath, bydd tynnu'n ôl o’r UE yn gwella’r cymhwysedd datganoledig.

Oni ddylem ni i gyd groesawu hynny gyda breichiau agored? Ac rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol am y Llywodraeth yn San Steffan yn peidio â chipio pwerau oddi wrth y Cynulliad hwn. Ac yn hynny o beth bydd ganddo, yn fy marn i, gefnogaeth unfrydol holl Aelodau'r Cynulliad hwn. Yn sicr ni all fod yn wir, o ganlyniad i ddatganoli pwerau o Frwsel i'r Deyrnas Unedig, y byddem yn gweld datganoli pwerau o San Steffan i Gaerdydd yn cael ei leihau. Felly, bydd yn cael cefnogaeth lawn fy mhlaid i—bydd ei Lywodraeth yn cael cefnogaeth lawn fy mhlaid i— mewn unrhyw beth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud hynny'n gwbl eglur.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a'r pwyntiau y mae'n eu codi, sy'n debyg iawn i'r pwyntiau y mae wedi eu codi yn gyson dros y misoedd diwethaf. Gadewch i mi ddweud, yn gyntaf oll, mae wedi bod yn glir iawn ym mhob peth yr wyf wedi ei ddweud, a'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud, ein bod yn parchu canlyniad y refferendwm; y cwestiwn yw sut mae Brexit yn digwydd—ei fod yn digwydd yn yr amgylchedd cyfansoddiadol a chyfreithlon priodol. Dyna beth mae’r achos wedi bod yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd. Dim ond i gyfeirio at y pwynt o ran cytuniadau’r UE yn unig, nid yw hynny'n gywir. Y pwynt sylfaenol oedd na all yr uchelfraint honno, neu unrhyw uchelfraint, gael ei defnyddio i newid cyfreithiau a basiwyd gan y Senedd neu i dynnu hawliau oddi ar ddinasyddion unigol. A byddai hynny'n gymwys mewn amgylchiadau eraill hefyd.

Fe geisiaf ymdrin â'r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud ynghylch beth oedd pwynt hyn i gyd. Roedd yn bwynt sylfaenol bwysig. Rwy’n siomedig iawn ei fod yn dal heb ei ddeall. Y pwynt yw rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth y farnwriaeth. Dyna'r pwynt. Oherwydd bod dwy ffrwd o ddull cyfreithiol: un yw ein bod yn gweithredu trwy reolaeth y gyfraith. Hynny yw, deddf sy'n seiliedig ar egwyddorion a hawliau sylfaenol. Mae'r llall yn ddull cyfreithiol lle mai unig ddiben y gyfraith yw gweithredu galw mawr gan y Llywodraeth, heb ystyried rheolaeth y gyfraith, egwyddorion a hawliau. Ac rydym yn gweld sut y mae’r ddau ddull hynny wedi datblygu mewn hanes. Mae pob unbennaeth sydd wedi digwydd wedi ceisio tanseilio rheolaeth y gyfraith. Y dull y mae’n ei fabwysiadu yw'r dull a fabwysiadwyd gan yr Almaen yn disodli rheolaeth y gyfraith yn yr Almaen, yn Chile, ac yn Rwsia Stalin, a dyna mae rheolaeth y gyfraith mor hanfodol bwysig: cyfreithiau sy'n seiliedig ar egwyddorion. Y dull y mae ef yn ei fabwysiadu yw'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan unbeniaid, y rhai sydd eisiau osgoi hawliau sylfaenol. Ac nid yw’r dull hwnnw yn un y byddwn byth yn argymell ein bod yn ei fabwysiadu o fewn y Cynulliad hwn neu o fewn y DU. Dyna pam y mae’r hawliau hynny mor bwysig, a dyna pam y mae'r penderfyniad heddiw yn y Goruchaf Lys yn sylfaenol, oherwydd ei fod yn sefydlu yn glir iawn, iawn hawliau pobl y wlad hon. Roedd yn tanlinellu ein democratiaeth seneddol a’n system o hawliau sylfaenol, ac mae hynny'n rhywbeth i'w amddiffyn.

Roedd Llywodraeth y DU, wrth gwrs, o fewn ei hawliau cyfreithiol i gyflwyno’r apêl hon i'r Goruchaf Lys. Ond credaf ei fod yn adlewyrchu yn wael iawn arnynt eu bod am gymryd pob cam oedd ar gael iddynt i roi’r penderfyniad hwn y tu allan i ystyriaeth Senedd a etholwyd yn uniongyrchol. Rwy'n ddiolchgar am y datganiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud, ac rwy'n falch ei fod wedi ymyrryd yn yr achos. Rwy’n meddwl bod y canlyniad wedi adlewyrchu'n dda ar y penderfyniad hwnnw. A fyddai'n cytuno â mi nad oes dim byd a ddywedodd y llys am gonfensiwn Sewel, mewn ffordd, allan o'r cyffredin? Yn wir, mae'n ddefnyddiol gweld y llys uchaf yn y wlad yn tanlinellu arwyddocâd gwleidyddol y confensiwn hwn. Mae ychydig o Aelodau wedi dyfynnu araith yr Arglwydd Neuberger pan ddywed:

Bydd cael gwared ar gyfyngiadau’r UE ar dynnu'n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig oni fydd cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno.

A yw'n cytuno â mi mai goblygiad hynny yw y byddai angen i Lywodraeth y DU gymryd camau deddfwriaethol cadarnhaol, nid yn unig os oedd yn dymuno cyfyngu ar bwerau Cynulliad Cymru ar Brexit, ond hefyd os oedd yn dymuno atal estyniad awtomatig y pwerau hynny o ganlyniad i ddod allan o'r UE? A hefyd, er gwaethaf y sylwadau ar gonfensiwn Sewel, ni fydd y Siambr hon yn cael cyfle i bleidleisio ar y penderfyniad erthygl 50. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod unrhyw gytundeb maes o law yn dod i'r Siambr hon i'w ystyried a'i gymeradwyo ar yr adeg honno. Pa gamau fydd yn agored i'r Cwnsler Cyffredinol os bydd Llywodraeth y DU, ar yr adeg honno, er gwaethaf y confensiwn, yn dewis peidio â cheisio cydsyniad y Cynulliad?

Mae'n ymddangos i mi mai’r pwynt pwysig yw bod hwn yn gam mawr ymlaen. Mae'n agor y drws yn glir ac yn gyfansoddiadol mewn ffordd yr ydym ni bob amser wedi ei dadlau dros fuddiannau Cymru o fewn y trafodaethau Brexit, o fewn y cytuniadau lle mae gennym ni, fel gweinyddiaethau datganoledig eraill, fuddiannau penodol o ran swyddi ac o ran buddsoddiadau i sicrhau bod y math o drafodaethau, y math o gytuniad, yn un sydd mewn gwirionedd yn diogelu buddiannau pobl Cymru. Byddwn yn dilyn hyn â dadl lle byddwn yn ymdrin â hynny yn eithaf manwl.

Rwy'n credu bod y dyfarniad hwn yn amserol iawn, oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud yw, yn gyntaf, mae'n rhaid i’r Senedd yn awr ymgysylltu ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw ond, yn ail, mae hynny'n golygu yn awtomatig bod Sewel yn cael y statws yr ydym bob amser wedi dadlau y dylai ei gael ac, yn wir, y bydd yn ei gael. Felly, mae'n rhoi'r llais hwnnw i ni yn y broses, ac mae hynny'n gwbl sylfaenol os ydym i gyflawni ein swyddogaeth, sef amddiffyn buddiannau pobl Cymru. Mae'n siŵr y bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwneud yr un peth, ac nid oes amheuaeth y bydd rhanbarthau Lloegr hefyd yn gwneud yr un peth. Beth fydd ffurf hynny—beth fydd ffurf y Bil sbardun—rhaid aros i weld, a byddwn i'n ofalus ynghylch aros i weld beth ydyw cyn i ni ddechrau meddwl am y broses ei hun. Oherwydd rwy’n credu ein bod ar ffordd hir gyfansoddiadol, nid yn unig o ran y Bil sbardun, ond hefyd y trafodaethau, yr ymgysylltu a’r sefydliadau sy'n cael eu sefydlu. Byddai rhywun yn gobeithio mai amcan sylfaenol Llywodraeth y DU yw ceisio cymeradwyaeth a chydsyniad yr holl sefydliadau datganoledig, oherwydd rhaid mai ein budd sylfaenol yw Teyrnas Unedig gydlynol gyda phwrpas cyffredin. A dyna pam mae ein cyfansoddiad anysgrifenedig nid yn unig yn bwysig, ond hefyd pam mae’r penderfyniad hwn o fewn y broses honno mor bwysig.

Rhaid i mi ddweud, Gwnsler Cyffredinol, nad wyf wedi fy synnu gan y ddau ddyfarniad hyn. Roeddwn yn disgwyl y dyfarniad a bennwyd gan yr Uchel Lys a'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a’r aelod ar y lefel uchaf o'r farnwriaeth o Gymru. Cadarnhawyd y dyfarniad hwnnw, ac roedd yr amrywiol ddadleuon y gallem ni—neu efallai y gallai’r Albanwyr, beth bynnag,— fod wedi cael feto, bob amser yn ymddangos i mi i fod yn gamddealltwriaeth o natur system ffederal sy'n dod i'r amlwg lle, yn anochel, mae'r pŵer i wneud cytuniad yn gorwedd yng nghanol Senedd y wladwriaeth.

Credaf y dylem ystyried y ffaith nad oes gennym gynrychiolydd o Gymru ar y Goruchaf Lys. Rwy'n credu y bydd hynny’n parhau i fod yn broblem os ydym yn gorfod datrys amryw o faterion cyfansoddiadol. Gwn ein bod yn dal i fyw mewn sefyllfa braidd yn baradocsaidd o gael cyfraith Cymru sy'n ymestyn i Gymru a Lloegr ond dim ond yn cael ei defnyddio yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu nad oes gennym ein hawdurdodaeth ein hunain. Ond credaf pan fyddwch yn ystyried y mater heddiw, mae'n gwneud hwn yn bwynt gwirioneddol ymarferol ac nid rhywbeth sy'n haniaethol.

A gaf i ddweud, rwy’n credu y dylai'r pwyslais i Lywodraeth Cymru fod wedi bod yn gyfan gwbl ar y dull rhynglywodraethol o’r cychwyn cyntaf? Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae hyn bob amser wedi bod ar yr agenda. Ond yn hytrach na'r llwybr seneddol mwy deddfol, yn fy nhyb i roedd yn debygol o fod yn well hybu’r Cydbwyllgor Gweinidogion, ac rwy'n falch o weld hynny’n cael ei wneud yn y Papur Gwyn a fydd yn cael ei drafod nesaf. Roedd gan yr hen Gydbwyllgor Gweinidogion Ewrop brofiad gwych o gael safbwynt cyffredin rhwng Llywodraethau'r DU wrth ddadlau pethau fel y polisi amaethyddol cyffredin a materion amgylcheddol, wrth iddynt ddod gerbron Cyngor Gweinidogion Ewrop.

Mae'n ymddangos i mi bod angen y dull cyffredin hwnnw nawr oherwydd pan fydd haneswyr yn ysgrifennu hanes y broses gyfan hon, ac yn sicr beth sydd wedi digwydd yn ystod y saith mis neu lai ers y refferendwm ei hun, y peth mwyaf arwyddocaol fydd bod y dadleuon a gyflwynwyd i bobl Prydain wedyn yn seiliedig ar y byd yn dod yn fwy ac yn fwy agored i fasnach rydd fyd-eang. Beth sydd wedi digwydd ers hynny yw bod y prif amddiffynnydd masnach rydd fyd-eang wedi newid ei bolisi yn ddramatig ac mae bellach yn mynd ar drywydd yr hyn a elwir gan lawer yn ddull mwy amddiffynnol, sydd hyd yn oed yn mynd i arwain—dyna’r hyn yr ydym yn ei glywed, beth bynnag, o ffynonellau penodol— at ail-negodi Sefydliad Masnach y Byd. Bydd hyn yn gofyn am negodi medrus iawn o gytundebau masnach y dyfodol gan Lywodraeth Prydain, lle bydd gennym fudd uniongyrchol iawn, oherwydd efallai na fydd yr hyn sy'n dda, er enghraifft, ar gyfer ffermio da byw er budd gorau ffermwyr grawnfwyd yn Lloegr.

Mae'r rhain yn mynd i fod yn faterion anodd iawn iawn, yn enwedig os yw ffermio yn rhan amlycach o lawer o'n gwneuthuriad diwydiannol nag ydyw yn Lloegr. Felly, rwy’n credu mai’r strwythurau rhynglywodraethol yw’r hyn yr ydym yn canolbwyntio arnynt, a hefyd yr hyn y byddwn yn canolbwyntio arnynt, yn sicr, os ydym yn mynd i sicrhau hyder yr Albanwyr mai dull Prydeinig o ymdrin â’r cwestiynau hyn yw'r ffordd orau ymlaen—oherwydd ymdriniwyd bellach â’r pwynt cul ar hawl Seneddol neu hawl Senedd yr Alban—ond yn sicr mae angen dull gweithredu cyffredin lle ceir y lefel uchaf o gytundeb rhwng gwahanol Lywodraethau’r DU. Os na lwyddwn i gael hynny, yna bydd niwed pellach i undeb y Deyrnas Unedig, fel y digwyddodd, yn anffodus, pan bleidleisiodd yr Albanwyr gyda mwyafrif bron o ddwy ran o dair yn erbyn y ffordd y pleidleisiodd gweddill y DU.

Rwy'n credu y bydd llawer o'r materion hyn yn awr yn cael eu profi yn y Bil diwygio mawr. Sylwaf fod UKIP yn annog y safbwynt mwyaf posibl gan Lywodraeth Cymru, gan ddadlau y dylai’r holl bwerau gael eu dychwelyd i Gaerdydd a Chaeredin. Mae'n debyg mai dyma'r ffordd orau o ddechrau, er fy mod yn credu fwy na thebyg y bydd angen rhai o fframweithiau’r DU ac, unwaith eto, roeddwn yn meddwl bod y Papur Gwyn yn eithaf medrus yn hyn o beth.

Felly, bydd yn rhaid i Sewel, rwy’n credu, weithredu'n effeithiol iawn yn y cyd-destun gwleidyddol ac rwy'n gobeithio y bydd ewyllys da a barn dda ar y ddwy ochr—Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Wel, rwy’n meddwl, fel bob amser, bod yr Aelod yn codi pwyntiau pwysig iawn, iawn. Mae'n amlwg wedi ystyried y materion hyn yn fanwl, ac rwy'n credu bod y sylwadau a wna yn hynod werthfawr ac yn rhai, yn fy marn i, y mae llawer o gytundeb arnynt. Oherwydd yr holl bwynt am Sewel yw, mae’n iawn cyrraedd y cam hwn, ond wedyn mae’n rhaid ei roi ar waith yn ymarferol, nid yn unig o ran deddfwriaeth, ond, fel y dywed, o ran y Cydbwyllgor Gweinidogion a pha bynnag brosesau strwythurol eraill sy’n bodoli i sicrhau bod ymgysylltiad gwirioneddol. Dyna pam rwyf yn meddwl bod y sylwadau gan y Goruchaf Lys am bwysigrwydd Sewel a'i swyddogaeth o fewn ein strwythur cyfansoddiadol mor bwysig. A dyna pam mae mor bwysig, felly, bod y nod o sicrhau consensws a chytundeb rhwng y gweinyddiaethau datganoledig ac â Llywodraeth y DU yn rhan mor hanfodol o hynny. Yr hyn sy’n ofynnol ganddo, fel yn achos amgylchedd lle nad oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig fel y cyfryw, yw llawer o ewyllys da, llawer o ymddiriedaeth a llawer o amcanion gwleidyddol cyffredin. Dyna’r hyn sydd angen inni geisio ei gyflawni, yn amlwg, ac rwy'n siŵr mai dyna'n union—wel, rwy’n gwybod mai dyna’n union—yw safbwynt Llywodraeth Cymru a dyna mae’n ceisio ei gyflawni.

Rwy’n croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys o ran hynny. Fel rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y ddwy Senedd, yn fy marn i, dyna’r penderfyniad cywir.  Deddf seneddol aeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd—y Gymuned Ewropeaidd —a gadarnhawyd gan refferendwm. Mae'r broses yn gweithio fel arall bellach; rydym wedi cael refferendwm yn cynghori’r Senedd beth i'w wneud ac mae’n rhaid i’r Senedd basio Deddf er mwyn mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd.  Dyna'r ffordd orau a’r ffordd fwyaf cyfansoddiadol ymlaen.

Ond mae yna broblem nad oes neb am ei thrafod, a chredaf y dylid ei chrybwyll, sef y syniad chwerthinllyd a hurt, yn yr unfed ganrif ar hugain, ein bod yn dibynnu ar herio uchelfraint frenhinol, ein bod ni'n rhan o frenhiniaeth, ein bod ni'n rhan o rywun na chafodd ei ethol, ond sy’n etifeddu pwerau—sy’n cael eu harfer gan Lywodraeth, mae’n rhaid dweud, ond, serch hynny, mewn theori, yn etifeddu’r pwerau hynny i’w harfer drosom ni. Mae hynny'n annhegwch cyfansoddiadol y mae'n rhaid ei ysgubo o'r neilltu yn hwyr neu'n hwyrach. Gan fod Siarl y Cyntaf wedi’i grybwyll, gadewch i ni gofio beth wnaeth Oliver Cromwell: y peth cyntaf a wnaeth oedd gorymdeithio i'r Senedd, mynd â’r brysgyll i ffwrdd—tegan y ffŵl fel y’i galwodd—ac nid oedd unrhyw uchelfraint frenhinol ar ôl i’r brysgyll fynd, gallaf ddweud wrthych. Felly, gadewch i ni o leiaf gydnabod ein bod wedi symud ymlaen rywfaint ers hynny, ond nid llawer iawn, nid llawer iawn. Os ydym yn herio ein huchelfraint frenhinol yn y Goruchaf Lys, nid ydym wedi dod yn bell iawn mewn 400 mlynedd, ydyn ni?

Ond mae'n ein gadael ni gyda rhai cwestiynau gwirioneddol. Mae'n ein gadael ni gyda rhai cwestiynau gwirioneddol ynghylch confensiwn Sewel. Mae'r Goruchaf Lys wedi cadarnhau bod hwn yn gonfensiwn gwleidyddol, nid trefniant cyfansoddiadol. Yn awr, mae hynny'n beryglus iawn ar gyfer dyfodol democratiaeth Cymru, yn fy nhyb i. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweld y gallwn fwrw ymlaen â hyn pan oeddem yn credu, trwy ymgorffori confensiwn Sewel ym Mil Cymru, sydd eisoes yn Neddf yr Alban, bod hyn yn ei wneud yn rhan o gyfansoddiad y DU? Nid yw'r Goruchaf Lys yn cytuno; mae'n drefniant gwleidyddol. Ac mae’r Goruchaf Lys yn galw neu'n gweddïo am gymorth, fel rhan o'i ddadl dros hyn, achos o'r 1960au, Madzimbamuto v. LARDNER-Burke, achos o dde Rhodesia. Wel, dyna ein rhoi yn ein lle. Rheol drefedigaethol sy'n dweud wrthym fod confensiwn Sewel yn caniatáu i'r pwerau orffwys yn San Steffan i ddweud wrth y Senedd hon yr hyn yr ydym yn ei benderfynu ar gyfer pobl Cymru. Unwaith eto, hyd nes y gallwn sicrhau bod confensiwn Sewel yn llwyddo i fod yn berthynas gyfansoddiadol briodol rhwng pedair Senedd yr ynysoedd hyn, yna ni fydd gennym gyfansoddiad sefydlog a byddwn yn dadlau’r pwyntiau hyn yn barhaus.

Rwy’n gresynu na allai'r Goruchaf Lys wneud y penderfyniad hwnnw drosto’i hun heddiw. Ond rwy'n credu bod hynny'n un o'r pethau allweddol y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddatblygu ymhellach o ran telerau’r trefniadau cyfansoddiadol a’u cyd-destun—y mae'r Prif Weinidog wedi siarad amdanynt yn gyson, i fod yn deg ag ef. Ond bellach mae angen i hynny gael ei ymgorffori a’i ddatblygu, efallai, yn y pwyllgor gweinidogol ar y cyd, fel ffordd ymlaen.

Mae ‘confensiwn' ei hun yn derm peryglus a llithrig. Dim ond yn ddiweddar iawn yr ydym wedi cael confensiwn fod gennym bleidlais yn y Senedd cyn rhyfel, un yr aberthodd Robin Cook ei fywyd gwleidyddol drosto. Cyn hynny, gellid arfer yr uchelfraint frenhinol i fynd i ryfel. Confensiwn yw hynny. Mae angen i ni symud i ffwrdd oddi wrth gonfensiynau ac i mewn i'r berthynas gyfansoddiadol briodol rhwng pob Senedd ar yr ynysoedd hyn. Hyd nes y gwnawn hynny, byddwn, mewn gwirionedd, yn arfer pwerau trefedigaethol. Nawr, nid wyf yn awgrymu ein bod yn gwneud datganiad unochrog o annibyniaeth, ond rwy’n credu bod angen inni symud ymlaen ymhellach ar y perthnasoedd hyn.

Yr ail bwynt yr—. Wel, hoffwn iddo ateb rhywbeth am gonfensiwn Sewel a sut y gallwn ymgorffori hynny. Yr ail bwynt yr hoffwn iddo ei ateb yw cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae'n bron yn anochel y bydd y Ddeddf y bydd San Steffan yn ei thrafod yn effeithio ar ein pwerau ni. Felly gadewch i ni gael y cadarnhad heddiw bod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn briodol, fel y gallwn wybod ein bod yn mynd i drafod a phenderfynu ar hynny.

Mae’r trydydd pwynt a'r olaf yn un yr ydym wedi ei godi sawl gwaith o'r blaen, sef y syniad a'r egwyddor y dylid trafod rhyw fath o Fil parhad yma yn Senedd Cymru o gwmpas y pwerau a gadwyd yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae nifer o Aelodau wedi nodi mai’r sefyllfa yno yw, wrth i bwerau gael eu dychwelyd gan yr Undeb Ewropeaidd, efallai y byddwn yn cael mwy o bwerau—mae hynny'n wir. Ond os ydynt yn dod i ben yn San Steffan, yna ni fyddwn yn cael y rheini, ac rydym eisoes wedi clywed llawer o bobl, gan gynnwys yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig mewn cysylltiad â pholisi amaethyddol ac o ran polisi amgylcheddol, yn siarad am gadw’r pwerau yn Llundain ac nid, yn wir, eu galluogi i lifo yma i fae Caerdydd. Felly, oni fyddai'n ymateb cadarnhaol i'r Bil diwygio mawr sy'n cael ei gynhyrchu bod gennym Fil parhad yma yn y Cynulliad, fel y gallwn drafod a sicrhau bod y pwerau yn cael eu cadw?

Diolch am y sylwadau hynny, a byddaf yn ceisio ymdrin â nhw cystal ag y gallaf. O ran y pwynt olaf, mater y Bil parhad ac yn y blaen, mae gennym ddyfarniad yn awr. Mae'n rhaid i ni ddadansoddi’r dyfarniad yn ofalus iawn. Bydd yn rhaid i ni ddadansoddi yn ofalus iawn yr hyn sy'n digwydd o ran y Bil sbardun, pa brosesau sy’n cael eu rhoi ar waith wedyn, beth fydd yn digwydd wedyn o ran Bil diddymu mawr o bosibl, ac mae'n sicr yn gywir ei bod yn anodd inni ragweld beth fydd yn digwydd i’r strwythur cyfansoddiadol. Ni fu’r galwadau gan y Cynulliad hwn am gonfensiwn cyfansoddiadol erioed yn bwysicach. Mae pob math o faterion anghyson a materion camweithredol o ran strwythur cyfansoddiadol y DU yn gyffredinol, felly mae’n rhaid ymdrin â’r rheini. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonynt yn dod i'r amlwg yn ystod y misoedd sydd i ddod.

O ran y mater o gynnig cydsyniad deddfwriaethol, gadawaf hynny i’r Prif Weinidog i ymateb iddo maes o law. Ond, o ran y pwyntiau a godwch yng nghyswllt uchelfreintiau a Sewel ac yn y blaen, efallai mai'r ffordd orau i grynhoi hynny yw fy mod yn credu ein bod yn rhannu llawer o safbwyntiau cyffredin o ran pwysigrwydd y penderfyniad penodol hwn. O bosibl, gan ddefnyddio’r gymhariaeth a wnaeth yn gynharach, mae'n debyg mai’r hyn y byddwn yn ei ddweud yw: Y Pengryniaid 8,Y Brenhinwyr 3. [Chwerthin.]

Hoffwn i longyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei ymdrechion mawr ar ein rhan ni ac ar ran Cymru yn y Goruchaf Lys. Rwy'n credu bod ei bresenoldeb wedi ei gyfiawnhau’n llwyr ac yn bwysig iawn wrth ddod i'r penderfyniad a wnaed. Rwy’n croesawu ei ddatganiad. Rwy'n credu ei fod yn hanfodol bwysig bod penderfyniad tyngedfennol o'r fath yn cael ei benderfynu arno yn y Senedd. Dywedodd yn ei ddatganiad bod yn rhaid i ni fynd ymlaen nawr a chael dadl lawn, agored, ac ni ddylai fod unrhyw sôn am gynigion na ellir eu gwella. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno ei bod yn bwysig iaawn bod modd gwella’r cynnig hwn, oherwydd gall hynny alluogi trafodaeth lawn. A yw'n hyderus erbyn hyn ein bod yn symud ymlaen at ddadl lawn ac agored?

Gofynnwyd ac atebwyd y rhan fwyaf o'r cwestiynau oedd gennyf am gonfensiwn Sewel eisoes. Ond rwy’n cytuno'n gryf iawn am bwysigrwydd y cyd-drafod rhwng y pedair gwlad, a pha mor bwysig yw hynny a pha mor hanfodol yw hi ein bod yn cyrraedd consensws. Ond a fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod posibilrwydd o leiaf na fydd modd dod i gytundeb â phob un o’r pedair gwlad, a beth yn ei farn ef fyddai canlyniad y sefyllfa honno?

A gaf i ddweud bod y dyfarniad, yn amlwg, yn gosod y sylfeini sy'n ein galluogi i symud ymlaen? Fel y dywedais, mae bellach yn agor y drws ac yn sefydlu fframwaith clir, a gobeithio y bydd consensws a chytundeb o ran holl fuddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dylai cyflawni consensws a chymeradwyaeth fod yn rhan sylfaenol o hynny. O ran y goblygiadau o ran diffyg consensws, wel, rwy'n optimydd gwirioneddol, gan fy mod yn credu bod y rhan fwyaf o bobl—ac ar draws y pleidiau—yn dymuno ein gweld yn mynd drwy hyn, ac yn llwyddo o ran buddiannau cyffredin. Mae'n gyfrifoldeb ar bawb i chwarae eu rhan, felly credaf ei fod yn gyraeddadwy. Ond yr hyn y credaf sydd wedi bod yn bwysig am ein swyddogaeth hyd yn hyn yw bod gennym lais Cymreig penodol iawn yn y prosesau hyn. Heb hynny, heb y Cynulliad hwn, heb Lywodraeth Cymru, ni fyddem wedi cael y llais hwnnw. Ni fyddem wedi gallu gwneud y sylwadau hynny, ac ni fyddem wedi gallu herio yn y modd yr ydym yn ei wneud. Nid yw hynny'n golygu bod y pethau sydd o’n blaenau yn hawdd, na fydd anawsterau sylweddol, nad oes rhaid i ni fod yn effro, oherwydd, fel y dywedais, ni allwn ragweld beth fydd yn digwydd i’r strwythur cyfansoddiadol, mae’r broses yn newid, ac fe fydd heriau y mae’n rhaid i ni eu hwynebu. Ond rwy’n mynd i fod yn optimydd, oherwydd credaf mai dyna yw ein swyddogaeth, ac rwy’n credu mai ein swyddogaeth ni yw cyflawni'r gorau y gallwn i bobl Cymru. Rwy'n meddwl bod y Papur Gwyn a gaiff ei drafod cyn bo hir yn mynd i fod yn gyfraniad pwysig at y ddadl honno ac at y broses honno.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i hefyd ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad heddiw, sydd wedi mwy nag egluro i ni pwysigrwydd cyfansoddiadol gwleidyddol y cyfan mae o wedi gallu ei wneud? Mi fuaswn i’n cyfeirio yn gryno at dair elfen: yn gyntaf, bod y gwledydd datganoledig a’r Llywodraethau wedi siarad â thri llais, ond yn canu bron yn unsain, neu o leiaf mewn cynghanedd gyflawn, sef bod y dadleuon oedd yn cael eu cyflwyno yn ddadleuon oedd yn dangos yn glir natur cyfansoddiad y deyrnas. Mae hynny wedi bod yn gyfraniad allweddol.

Rydw i’n meddwl hefyd fod y drws sydd wedi cael ei agor yn glir iawn yn y dyfarniad yma gan y Goruchaf Lys ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd pan ddeuir mas o’r Undeb Ewropeaidd ac fel y bydd y cymwyseddau yn y sefydliadau datganoledig yn gallu cael eu newid—bod y ffenest yna wedi ei dangos inni yn glir iawn. Yn y cyd-destun yma, os caf i helpu efallai ychydig ar ddealltwriaeth Simon Thomas o’r materion hyn, yn y sefyllfa yna y mae confensiwn Sewel mor allweddol. Oherwydd ar yr un pryd ag yr ydym ni’n trafod y materion yma, mae confensiwn Sewel bellach yn Neddf yr Alban ac yn Neddf Cymru. Mae’r broses ar y ddwy Ddeddf yna wedi ei gwblhau, sy’n golygu felly fod yr arfer confensiynol o beidio â deddfu yn groes yn Senedd San Steffan neu yn Senedd Cymru ynglŷn â’i gilydd wedi dod yn ddeddf. Beth sy’n bwysig, byddwn i’n ei awgrymu, Gwnsler Cyffredinol, yw bod yr egwyddor yna’n ymestyn i ddeddfwriaeth Ewropeaidd fel y mae hi’n cael ei dadwneud yn ei heffaith ar y Deyrnas Unedig ac felly bod y cymwyseddau priodol yn dod i’r lle hwn.

Felly, rydw i’n credu bod eich dadansoddiad chi o ble’r ydym ni yn cyfiawnhau’r gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru, a mwy o rym ichi yn y dyfodol.

Diolch am y sylwadau hynny. Rhoddaf sylw i’r pwynt a wnaeth yr Aelod am gonfensiwn Sewel yn cael ei ymgorffori ym Mil Cymru—yr hyn a ddaw yn Ddeddf Cymru, gobeithio— ymdriniwyd â’r mater hwnnw, er bod hynny’n ymwneud â'r Alban, ond dyma’r hyn a ddywedodd y Goruchaf Lys:

mae’n cydnabod y confensiwn am yr hyn ydyw, sef confensiwn gwleidyddol, ac mae’n datgan yn effeithiol ei fod yn nodwedd barhaol o'r setliad datganoli perthnasol. Mae hynny'n dilyn o natur y cynnwys, ac yn cael ei gydnabod gan y geiriau ("cydnabyddir" a " fel arfer ni fydd").

Felly, mae'n dod yn nodwedd barhaol. Mae'n nodwedd na all ddiflannu ac ni ellir ei thanseilio. Mae'n dod yn rhan sylfaenol o'n trefniadau cyfansoddiadol. Yn wir, gyda chyfansoddiad anysgrifenedig, gall yr hyn a all ddechrau fel confensiwn gwleidyddol ddatblygu i fod, dros gyfnod o amser, yn rhan sylfaenol o'r cyfansoddiad gweithredol. Dyna natur cyfansoddiadau anysgrifenedig.

Mae'n briodol bod y drws ar agor. Mae'n iawn, hefyd, fod yna faterion yn codi o ran dychwelyd pwerau a ddylai fod o fewn y meysydd datganoledig.  Mae'r rheini yn faterion y mae'r Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau arnynt, y mae eraill wedi gwneud sylwadau arnynt o bryd i'w gilydd, ac yr ydym yn effro iawn iddynt. Y pwynt sylfaenol y mae’n ei wneud hefyd, wrth gwrs, yw hyn: rydym mewn gwirionedd wedi gweld hegemoni ymysg y gweinyddiaethau datganoledig nad wyf yn meddwl oedd yn bodoli. Nid yw hynny'n golygu nad oes gennym faterion yr ydym yn anghytuno arnynt, neu nad oes gennym faterion yr ydym yn anghytuno arnynt o ran yr agenda tymor hwy, ond o ran egwyddorion sylfaenol rheolaeth y gyfraith, roedd cytgord llwyr ar y pwyntiau penodol hynny, ac mae hynny'n galonogol iawn, iawn.

4. 4. Datganiad: ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’: Symud o’r Undeb Ewropeaidd at Berthynas Newydd ag Ewrop

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, symud o’r Undeb Ewropeaidd at berthynas newydd ag Ewrop. Galwaf ar y Prif Weinidog, felly, Carwyn Jones.

Diolch, Lywydd. Wel, rydym nawr wedi cyhoeddi ein datganiad polisi manwl ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein safbwynt wedi ei lunio ar y cyd gyda Phlaid Cymru, drwy ein trefniadau cyswllt, ac, felly, mae ganddo gefnogaeth sylweddol yn y Cynulliad hwn—ac rwy’n gobeithio bod llawer yn y ddogfen hon a fydd yn ennyn cefnogaeth Aelodau eraill hefyd. Yr ehangaf yw’r consensws y gellir ei sefydlu yn y Cynulliad hwn, y mwyaf pwerus fydd y neges gan Gymru o ran diogelu ein buddiannau.

Lywydd, mae’r papur yn gwneud chwe phrif bwynt. Y cyntaf yw y dylem barhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Yn ôl Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i wledydd yn y farchnad sengl, felly pam ar y ddaear y byddem ni’n wirfoddol yn ildio mynediad iddi? Ar hyn o bryd, mae gennym integreiddio llwyr rhwng y DU a'r farchnad sengl. Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd dylem fod â’r nod o gadw'r integreiddio hwnnw’n llawn, neu gymaint ohono ag y gallwn. Mae gwahanol ffyrdd y gellid gwneud hynny, ond mae’r pwynt hanfodol yn glir: mae ar ein busnesau angen parhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl fel y gallant barhau i werthu eu cynnyrch heb anfantais gystadleuol yn Ewrop.

Rydym hefyd yn credu y dylai'r DU barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau, o leiaf am y tro. Mae hyn yn galluogi trefniadau masnach rydd gyda mwy na 50 o wledydd eraill y tu hwnt i'r UE ac nid oes rheswm da i droi ein cefnau ar hynny. Mae'r posibilrwydd wedi cael ei grybwyll y gallai’r DU, dros amser, ffurfio cysylltiadau masnachu newydd ag economïau mawr eraill fel yr Unol Daleithiau, India a Tsieina. Efallai y byddai cytundebau o'r fath yn werth eu cael, ond yn amodol ar gydsyniad manwl. Efallai y byddem yn eu croesawu, ond byddai cynnwys cytundebau o'r fath yn gwbl hanfodol. Ond ar yr adeg hon, mae'n rhaid inni fod yn bragmatig am fuddiannau Cymru. Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod datblygu cytundebau masnach newydd yn broses lafurus ac angen ymdrech hirdymor, yn sicr rhwng pump a 10 mlynedd. Ac mae hynny pan fo pethau'n symud ymlaen yn llyfn a llywodraethau newydd yn parhau i fod o’r un farn â’u rhagflaenwyr, sy’n bell o fod yn sicr. Felly, er ein bod o blaid chwilio am gyfleoedd masnach newydd i’n busnesau, hoffem amddiffyn y marchnadoedd sydd gennym eisoes. Os daw gwell cyfleoedd yn y dyfodol, gadewch inni edrych arnynt â meddwl agored, ond ni welwn ddim mantais yn awr o ddatgymalu buddiannau presennol clir heb reswm amlwg.

Rydym yn derbyn bod pryderon am fudo yn rhan o'r hyn a gymhellodd rai pobl i bleidleisio 'gadael', a dyma yw ein hail bwynt. Hoffwn fod yn glir iawn: mae dinasyddion yr UE yn chwarae rhan gadarnhaol iawn ym mywyd Cymru, a hoffwn i’w statws gael ei wneud yn glir ar frys. Yn y dyfodol, bydd angen o hyd inni recriwtio o Ewrop ar gyfer swyddi mewn meysydd lle ceir prinder a dyma'r pwynt allweddol: mae’n rhaid rheoli mudo o'r UE yn ddomestig a’i gysylltu'n benodol â gwaith. Mae arnom angen cyfreithiau a orfodir yn glir i sicrhau nad oes camfanteisio ar weithwyr mudol na’u bod yn cael eu defnyddio gan gyflogwyr diegwyddor i ostwng cyflogau nac i ostwng telerau ac amodau gweithwyr. Credwn mai dyma’r sail ar gyfer dull cytbwys sy'n cysylltu mudo â swyddi ac arferion cyflogaeth da, wedi’u gorfodi'n briodol, sy'n amddiffyn pob gweithiwr o ba bynnag wlad y mae’n dod yn wreiddiol.

Yn drydydd, mae Cymru yn cael tua £680 miliwn bob blwyddyn o gronfeydd yr UE. Yn ystod y refferendwm, cafodd pleidleiswyr eu perswadio gan ymgyrchwyr 'gadael' na fyddai Cymru yr un geiniog yn dlotach o ganlyniad i adael yr UE. Mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am yr addewid hwnnw a hyderaf y bydd gennym gefnogaeth y Siambr gyfan hon yn hynny o beth. Ni fydd y bobl a’n hanfonodd ni yma yn disgwyl dim llai.

Byddwn, wrth gwrs, yn gadael prif raglenni’r UE a ni yma yng Nghymru fydd yn cael y cyfrifoldeb am reoli amaethyddiaeth a chefn gwlad, ac am ddatblygu economaidd rhanbarthol. Mae'n hanfodol bod y cyfrifoldebau hynny'n cael adnoddau priodol, ac rydym yn disgwyl i’r Trysorlys gynnal ein gwariant ar y lefelau presennol. Mae rhai o raglenni llai yr UE sy'n cyfrannu'n sylweddol at ein lles ac y gallem o bosibl ddal i fod yn gymwys ar eu cyfer y tu allan i'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys Horizon 2020, arian i ysgogi ymchwil ac arloesi ac Erasmus, sy'n galluogi cyfnewid myfyrwyr.

Mae Cymru yn rhannu ffin forol ag Iwerddon ac mae porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro yn hollbwysig ac ar reng flaen unrhyw newidiadau. Rydym yn arbennig o awyddus ein bod yn parhau i fod yn gymwys i gael llinyn Cymru-Iwerddon ffynhonnell gyllid INTERREG yr UE. Mae'r symiau o arian yn eithaf bach mewn termau cymharol, ond mae'r rhaglen yn helpu i greu cydweithrediad deinamig rhwng rhanbarthau ffin forol Cymru ac Iwerddon. Bydd y cydweithredu hwn yn dod yn bwysicach, nid yn llai pwysig, yn y dyfodol. Rydym yn mwynhau perthynas ardderchog â’n cymdogion yn Iwerddon, ac rydym yn rhoi gwerth uchel ar adeiladu ar ein cyd-fuddiannau a’n buddiannau cymdogol yn y blynyddoedd i ddod. Fel yr wyf i ac eraill wedi ei ddweud droeon: rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop.

Mae ein pedwerydd pwynt yn ymwneud â datganoli a dyfodol y DU. Mae’n rhaid i bwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i'r Cynulliad hwn a’r Llywodraeth hon barhau i fod yn ddatganoledig. Gadewch inni beidio ag anghofio bod ein pwerau hefyd wedi dod o ganlyniad i ddau refferendwm ymhlith y Cymry; byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i fachu pwerau o'r fath iddi ei hun. Rydym yn fodlon iawn i gydnabod y bydd angen cytundeb ar draws pob un o'r pedair llywodraeth mewn rhai meysydd polisi i sicrhau, pan fyddwn y tu allan i'r UE, nad ydym yn gwneud dim byd i atal marchnad fewnol neu farchnad sengl y DU—llif rhydd masnach o fewn y DU. Bydd hyn yn golygu bod angen cyd-barch ymhlith y pedair llywodraeth a pharodrwydd i ddatblygu'r mecanweithiau a fydd yn ein galluogi i ffurfio cytundebau o'r fath, gan gynnwys cyflafareddu annibynnol. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle i adnewyddu ac adfywio arferion democrataidd yn y DU ac ni ddylid gwastraffu’r cyfle hwnnw ar ganoli trwm na fyddai’n cyflawni dim heblaw meithrin dicter a thanseilio cryfder hirdymor yr undeb.

Mae degawdau o aelodaeth yr UE wedi creu etifeddiaeth o fuddiannau sy’n cwmpasu sawl agwedd ar fywyd, a dyma ein pumed pwynt. Mae gweithwyr yn mwynhau amrywiaeth o amddiffyniadau cyflogaeth ac mae ansawdd ein hamgylchedd wedi cael ei wella'n fawr. Wrth inni adael yr UE, ein nod ye gwarchod y gwelliannau hyn i fywyd bob dydd yng Nghymru, a byddwn yn gwrthwynebu’n rymus unrhyw ymgais i dorri corneli a chreu amodau gwaeth. Mae ein Cymru ni yn wlad sy'n gwerthfawrogi pobl a hoffem wella ansawdd bywyd ein holl ddinasyddion.

Y pwynt olaf a wnawn yn ein dogfen yw bod angen negodi cyfnod pontio, fel y gall y trefniadau presennol fod yn berthnasol am gyfnod ar ôl i'r DU adael yr UE mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg o gwmpas gwanwyn 2019. Nid yw'n glir eto a fydd cytundeb ar berthynas y DU gyda'r UE yn y dyfodol yn seiliedig ar yr un amserlen â'r cytundeb ar gyfer gadael yr UE. Ond mae llawer o amrywioldebau yma a bydd yn rhaid inni aros i weld. Ond, beth bynnag, bydd angen amser ar fusnesau, cyrff cyhoeddus, ffermwyr, prifysgolion a llawer o bobl eraill i asesu realiti newydd wrth i’r realiti hwnnw ddod yn gliriach. Am y rheswm hwn, rydym yn credu bod angen cyfnod pontio, fel bod pawb yn cael amser i baratoi ar gyfer yr amgylchiadau newydd, ac rydym yn credu y dylai hyn fod yn un o flaenoriaethau negodi cynnar y DU.

Lywydd, rwy’n credu bod y Papur Gwyn hwn yn cynrychioli safbwynt cydlynol a manwl ynglŷn â thrafodaethau am yr UE sy'n diogelu buddiannau Cymru ac yn darparu fframwaith credadwy a chadarn ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Rwy'n gobeithio y gwnaiff pob Aelod ei ystyried yn fanwl. Rwy’n bwriadu trefnu dadl ymhen wythnos neu ddwy, a fydd yn rhoi cyfle i ni ddangos cefnogaeth i fudd cenedlaethol Cymru. Rydym yn gadael yr UE—mae’r drafodaeth honno drosodd—ond rwy’n annog pob Aelod i feddwl am delerau gadael yr UE â buddiannau Cymru yn glir mewn golwg.

Yn olaf, Lywydd, rydym eisoes wedi clywed gan y Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys heddiw. Mae'n iawn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael cyfle i gael dadl am y ddeddfwriaeth sbardun ar gyfer erthygl 50, ac rydym yn bwriadu trefnu dadl o'r fath yn amser y Llywodraeth ar yr adeg briodol.

Brif Weinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rwy’n credu bod eich sylwadau diwethaf yn benodol am fyfyrio ar gynnwys y Papur Gwyn yn gywir. Mae'n bwynt i’w ddadlau, mae'n bwynt i’w drafod, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn edrych arno yn adeiladol a naill ai’n cynnig dewis arall, neu, yn amlwg, yn cefnogi rhai o'r teimladau yn y papur. Rwyf am gyfleu pethau’n glir; ar yr ochr hon i'r Siambr, mae yna ddarnau o’r Papur Gwyn hwn y gallwn ddod o hyd i dir cyffredin yn eu cylch. Ni all fod yn iawn ein bod yn mynd benben wrth ddadlau a thrafod materion mor bwysig, ac os gallwn ddod i gonsensws, bydd llais Cymru yn llawer cryfach oherwydd y consensws hwnnw.

Mae hynny'n dod â mi at ddechrau’r datganiad, lle mae’r Prif Weinidog yn sôn am y consensws ehangach y gellir ei sefydlu ar draws y Cynulliad, sy'n arwain at neges fwy pwerus gan Gymru. Rwy’n gresynu’n chwerw iawn, iawn bod y Prif Weinidog wedi dewis peidio â hyd yn oed cychwyn unrhyw drafodaethau o gwbl â’r ochr hon i'r Siambr. Rwy’n derbyn y gallai'r trafodaethau hynny fod wedi troi yn eu hunfan a pheidio â chyrraedd unlle. Yn yr un modd, mae’n ddigon posibl y byddent wedi gwneud cynnydd, a gallem fod wedi cael cyfres o egwyddorion—[Torri ar draws.] Mae’n ddigon hawdd i’r cenedlaetholwyr draw fan yna rygnu ymlaen, a byddaf yn ymdrin â'ch sylwadau chi’n nes ymlaen, ond gallai fod wedi bod yn fuddiol iawn. Fel y mae datganiad y Prif Weinidog yn ei nodi, pan fo’r Siambr hon yn siarad ag un llais, mae’r llais hwnnw’n llawer mwy, mae'n gryfach ac mae'n gliriach. Felly, yn anffodus, rwy’n gresynu na wnaeth y Prif Weinidog ddewis gwneud hynny, yn sicr yn y dyddiau cynnar, i archwilio rhai o'r dewisiadau hynny. A byddwn yn ddiolchgar o gael deall pam na wnaeth y Prif Weinidog ddewis edrych ar y llwybrau hynny pan wnaethpwyd y cynnig iddo i archwilio pa gymorth oedd ar gael, fel yn fy neges i ato ar 24 Mehefin am archwilio'r posibilrwydd o gydweithio i ddod o hyd i atebion i rai o'r problemau a'r materion y gallai canlyniad y refferendwm eu cyflwyno.

Hoffwn hefyd ofyn i'r Prif Weinidog yn arbennig—. Pan fyddwn yn sôn am y farchnad sengl, a mynediad i’r farchnad sengl, does neb eisiau gweld cyfyngiadau ar fasnach, boed hynny ar lwyfan byd-eang neu ar lwyfan Ewropeaidd. Ond mae'n ffaith bod pobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. A drwy fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, roedd gennych hawl i fod yn aelod o'r farchnad sengl. Nawr, mae rhai o’r daliadau sy'n sail i’r farchnad sengl honno yn ymwneud â mewnfudo yn broblemus os ydych chi’n ceisio cael mynediad i'r farchnad, neu gymryd rhan yn y farchnad. Byddwn yn ddiolchgar o gael deall sut y mae'r Prif Weinidog yn gweld naill ai aelodaeth, cyfranogiad, neu fynediad, oherwydd mae’r ddogfen yn sôn am bob un o'r tri wrth sôn am y farchnad sengl a gallu cwmnïau o Gymru a chyfleoedd i Gymru o fewn y farchnad honno.

Mae yna'n symud ymlaen i ddiffinio am swyddi ac, yn arbennig, sut y mae un o'r atebion y mae’r Prif Weinidog a Phlaid Cymru yn eu cynnig i ateb y cwestiwn mewnfudo a oedd, i rai pobl, yn ganolog i'w pleidlais yn y refferendwm, sef y gallu i reoli mewnfudo. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi cyflwyno’r cynnig y dylai fod gan bobl swydd neu y dylent gael dod i mewn i'r wlad am gyfnod i ddod o hyd i swydd. Byddwn yn ddiolchgar o gael deall beth fyddai'r Prif Weinidog yn penderfynu ei ddosbarthu fel swydd a fyddai’n caniatáu mynediad i'r Deyrnas Unedig. Oherwydd mae hyn yn wirioneddol bwysig wrth benderfynu a yw’r dewis hwn mewn gwirionedd yn gwneud synnwyr ai peidio.

Yna, afraid dweud y byddwn i gyd yn ymladd yn y Siambr hon i sicrhau cyfran Cymru o adnoddau, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein sector addysg uwch, ein heconomi wledig ac, yn wir, ein cronfeydd strwythurol yn gallu elwa ar yr arian hwnnw sy'n dod i mewn i Gymru. Nid oes dadl am hynny, a byddwn yn gweithio'n ddiflino gydag unrhyw un yn y Siambr hon sy'n rhannu'r teimlad hwnnw. Mae'n hanfodol cyflwyno neges gadarnhaol, pan gaiff yr arian hwnnw ei ddyrannu, y byddwn yn dechrau defnyddio'r arian hwnnw i’n symud oddi ar waelod y tablau cynghrair, sydd wedi difetha economi Cymru mewn cynifer o ffyrdd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw, a dweud y gwir, os ydym am sicrhau cyfran deg o'r arian hwnnw—ac efallai hyd yn oed gyfran fwy o'r arian hwnnw—ein bod, yn y meysydd hyn, yn edrych ar fframwaith i’r DU gyfan i ddadlau a thrafod sut y gall yr arian hwnnw ddod i Gymru, ac, yn wir, i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog ateb ynghylch beth yw ei farn am fframwaith y DU o ran amaethyddiaeth, o ran cronfeydd strwythurol ac o ran cyllid AU, oherwydd rwy’n credu, unwaith eto, bod hwnnw’n faes pwysig iawn i'w ystyried o ran sut yr ydym mewn gwirionedd yn ailgylchu’r arian o amgylch y Deyrnas Unedig.

Rwy’n credu ei bod yn debyg mai’r paragraff ar drefniadau cyfansoddiadol yw’r paragraff pwysicaf yn y datganiad hwn. Mae llawer iawn o waith i'w wneud i ddarganfod sut y bydd y Deyrnas Unedig yn ei llywodraethu ei hun ac yn ei chynnal ei hun ar ôl y trafodaethau Brexit. Ategaf y sylwadau y mae David Melding ac eraill yn y Siambr hon wedi sôn amdanynt, ac, mewn gwirionedd, gallwn gael effaith uniongyrchol yma, os ydym mewn gwirionedd yn ymgysylltu'n gadarnhaol ac o ddifrif yn y maes pwysig iawn hwn o drafodaethau ar ôl Brexit.

Gallaf ddeall yr angerdd a gallaf ddeall yr ymrwymiad sydd gan lawer yn y Siambr hon i geisio trafod pethau nad ydynt yn nwylo’r Siambr hon, ond, a dweud y gwir, ar drefniadau cyfansoddiadol, gallwn gael effaith enfawr. Unwaith eto, hoffwn glywed gan y Prif Weinidog am sut, ochr yn ochr â'r trafodaethau ar Brexit, y mae'n gweld Llywodraeth Cymru ac, yn wir, y Papur Gwyn hwn, yn rhoi sail inni i allu cyrraedd y pwynt lle byddai’r trefniadau hynny yn gadarn, yn hirdymor ac, yn anad dim, yn ateb y cwestiwn mewn Teyrnas Unedig ar ôl yr UE—bod gennym y trefniadau hynny ar waith. Dim ond 730 o ddiwrnodau fydd gennym ar ôl sbarduno erthygl 50—mae’n gyfnod byr iawn.

Y pwynt arall yr wyf yn credu ei fod yn bwynt gwirioneddol hanfodol yn y datganiad hwn yw’r trefniadau pontio. Nawr, gallwn ganolbwyntio ar y trefniadau pontio o gwmpas gadael yr UE, ond mae'n bwysig ein bod yn adlewyrchu ar drefniadau pontio o fewn y DU ei hun. Felly, rydym yn edrych ar ba drefniadau pontio y gallai fod angen eu rhoi ar waith, nid yn unig gyda'r UE, os mai dyna beth sydd ei angen, ond sut y byddai’r trefniadau pontio hyn yn gweithio mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig. Ac, unwaith eto, ychydig neu ddim amser—o'r hyn y gallaf ei weld yn y papur, ac, yn wir, yn y drafodaeth ehangach—sydd wedi edrych ar yr agwedd benodol honno, sef sut y gallai neu na allai fod angen iddo weithio, gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau hynny.

Fel y dywedais ar ddechrau fy natganiad, rwy’n gresynu’n chwerw bod y Prif Weinidog wedi cau'r drws ar gydweithredu. Ond, o'r ochr hon i'r tŷ, byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, sy’n deall eu pethau yn y trafodaethau hyn, i wneud yn siŵr bod pennaf les Cymru yn cael sylw. Ac rwy’n croesawu'r mynediad ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad gan fy nghydweithwyr i weithio gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr hon i sicrhau yr hyn sydd er pennaf les Cymru cyn gynted â bod y trafodaethau hyn wedi dod i ben.

Gwrandewais yn astud ar sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. A gaf i ddweud nad oedd yn fy nharo bod llawer o dir cyffredin rhyngom? Nid wyf yn gwybod beth yw ei farn am ddyfodol y DU, ar wahân i'r ffaith ei fod yn dweud y dylai'r DU edrych tuag allan. Rydym i gyd yn cytuno â hynny, ond y tu hwnt i hynny, nid oes gennym unrhyw syniad beth yw ei farn am drefniadau pontio, beth yw ei farn am fynediad i’r farchnad sengl, a beth yw ei farn am ba fath o berthynas y dylai fod gennym ni â’r UE. Mae gen i ddiddordeb yn y safbwyntiau hynny, ond nid wyf wedi eu clywed. Mae'n anffodus, o ystyried y dôn adeiladol y mae wedi ei mabwysiadu heddiw, ei fod wedi disgrifio, ar Twitter, cyhoeddiad y Papur Gwyn fel cyhoeddi'r copi diweddaraf o 'The Beano'. Nawr, ni all, ar y naill law, ddweud hynny ac yna, ar y llaw arall, awgrymu bod hon yn drafodaeth o ddifrif—[Torri ar draws.] Nid oeddent yn gwybod hynny ar ei fainc gefn. Gallaf weld hynny—dyna a ddywedodd. [Torri ar draws.] Nawr, gadewch inni gael trafodaeth aeddfed am hyn oherwydd nid wyf—[Torri ar draws.] Nid wyf yn meddwl bod defnyddio’r math hwnnw o ymadrodd yn gydnaws ag awydd gwirioneddol i gydweithio, ond, wyddoch chi, rwy’n mynd i roi mantais yr amheuaeth iddo i weld pa syniadau, yn wir, y gwnaiff eu cynnig yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Gyda'r farchnad sengl—[Torri ar draws.] Na. Gyda'r farchnad sengl, un peth y mae wedi'i ddweud, a oedd yn fy mhoeni, yw ei fod wedi awgrymu, neu ei fod wedi dweud yn yr erthygl a ysgrifennodd ar gyfer 'The Sunday Times' ein bod yn or-ddibynnol ar y farchnad Ewropeaidd. Nawr, nid wyf erioed wedi clywed am neb yn dweud, 'Mae angen inni werthu llai mewn marchnad.' Dim o gwbl—rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gwerthu mwy i'r farchnad Ewropeaidd, ac, yn wir, i farchnadoedd eraill o amgylch y byd. Felly, ni allaf gytuno ag ef ein bod yn or-ddibynnol ar farchnad yr ydym yn gwerthu 67 y cant o'n cynnyrch iddi, a 90 y cant o'n bwyd a diod fel allforion. Dylem fod yn ceisio cynyddu ein cyfran o'r farchnad honno, nid ei lleihau.

Mae wedi sôn am ryddid i symud. Credaf fod y model y mae a Norwy wedi ei fabwysiadu yn cynnig model diddorol, cyn belled ag yr ydyn ni yn y cwestiwn. Mae hwnnw'n rhoi rhyddid i symud i weithio—mae gennym ni hynny eisoes—ac maent yn cymryd rhan yn y farchnad sengl. Felly, mae'n bosibl cael y model hwnnw o ryddid i symud a pharhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl.

Mae hefyd yn sôn, fel y mae eraill wedi ei wneud, am fynediad i'r farchnad sengl a pha mor bwysig yw hynny. Dywedodd ei Brif Weinidog ei hun yr hoffai gael cymaint â phosibl o fynediad i'r farchnad sengl. Rwy'n cytuno. Mae hynny'n hynod o bwysig. Felly, mae hi wedi gadael digon o le iddi ei hun yn y fan yna i ddatblygu dadl ar y ddwy ochr i’r ffens. Yr un peth sydd gennyf i’w ddweud wrthi—ac mae Aelodau yn syrthio i'r fagl hon bob tro ynglŷn â gadael i bobl ddod i mewn i'r DU—ni fydd gan y DU ffin. Sawl gwaith y mae’n rhaid inni ymchwilio i hyn? Pan wyf yn codi hyn gyda Gweinidogion Whitehall, nid oes ganddynt unrhyw ateb. Y gwir yw, os ydych yn dymuno dod i mewn i'r DU, ewch i mewn i Iwerddon, ac yna gallwch ddod i mewn heb ddim archwiliad o gwbl. Felly, nid yw’r syniad y gall y DU gyflwyno ffiniau, a awgrymwyd ar adeg yr ymgyrch y llynedd—nid wyf am ail-ymladd hynny; mae wedi gorffen—yn wir. Yn syml, nid yw'n mynd i ddigwydd, oherwydd oni bai eich bod yn cael cydweithrediad Gweriniaeth Iwerddon, a bod gan Weriniaeth Iwerddon yr un polisi mewnfudo, ac ni fyddant yn gwneud hynny oherwydd byddant yn rhan o'r UE a bydd ganddynt ryddid i symud, yna, a dweud y gwir nid yw’n bosibl monitro pwy sy'n dod i mewn i'r DU a phwy sydd ddim. Felly, mae angen cydweithrediad â gwledydd eraill. Mae angen cydweithrediad â’r UE, yn eironig, er mwyn i’r DU reoli ei ffiniau ei hun; fel arall ni all reoli ei ffiniau ei hun. Felly, bydd hynny’n ystyriaeth bwysig wrth inni symud ymlaen.

O ran adnoddau, mae'n bwysig ein bod yn cadw’r adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd. Mae hefyd yn bwysig mai pobl Cymru sy’n rheoli’r adnoddau hynny, drwy eu Cynulliad a'u Llywodraeth, ac na chânt eu rheoli o fannau eraill. Mae'n bwynt teg i ddweud y byddai fframwaith i’r DU gyfan, mewn rhai meysydd, yn gwneud synnwyr. Mae iechyd anifeiliaid yn un maes, ac mae cymorth gwladwriaethol yn un arall. Os nad oes rheolau cymorth gwladwriaethol, mae pawb ar ei ben ei hun. Ni fyddai unrhyw beth i’n hatal ni rhag taflu arian at Faes Awyr Caerdydd i geisio cau Bryste. Does gen i ddim amheuaeth y byddai Bryste yn cwyno am hynny, ac, o'u safbwynt hwy, yn ddigon teg. Felly, bydd angen cadw rhyw fath o fframwaith ar draws y DU ar gyfer ymdrin â materion fel cymorth gwladwriaethol. Ond y mater allweddol yw hwn: nid yw'r fframweithiau hynny yno i gael eu gosod gan Whitehall; maent yno i'r pedair Llywodraeth gytuno arnynt. Os edrychwn ni ar amaethyddiaeth, bydd DEFRA yn gofalu am fuddiannau ffermwyr yn Lloegr. Maent wedi gwneud hynny erioed oherwydd eu llais nhw sydd gryfaf—mae hynny’n golygu’r ffermwyr grawnfwyd, mae'n golygu tir âr, mae'n golygu llaeth ar raddfa fawr. Nid oes ganddynt gymaint o ddiddordeb, ar y cyfan, mewn ffermwyr mynydd, ac rwy’n dweud hynny fel rhywun sydd wedi ymdrin â DEFRA am nifer o flynyddoedd o dan y ddwy blaid. Nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol. Credaf fod hynny'n ffordd o feddwl yn Whitehall sy'n anodd ei hosgoi. Fyddwn i ddim yn ymddiried yn DEFRA i gynhyrchu polisi amaethyddol ar gyfer Prydain gyfan. Felly un, o bosibl, y gellid cytuno arno fel fframwaith: ie. Un sy'n cael ei orfodi: dim o gwbl.

Felly, y cwestiwn nesaf yw: sut, felly, yr ydym ni’n creu mecanwaith o'r fath yn gyfansoddiadol i gael y cytundeb hwnnw? Wel, a dweud y gwir, mae eisoes wedi bodoli yn y gorffennol. Pan oeddwn yn fy nghyfnod cyntaf fel Gweinidog amaethyddiaeth, byddem yn cyfarfod bob mis, yn Llundain, y pedwar Gweinidog, i gytuno ar safbwynt y DU yn y Cyngor Gweinidogion Ewrop nesaf. Nid oeddem i gyd o'r un blaid, ac eto roeddem yn dal i allu cytuno ar yr hyn y dylai'r sefyllfa fod, ac mae’r model hwnnw wedi parhau. Nawr, roedd hynny’n gweithio ar gyfer amaethyddiaeth. Gydag agwedd aeddfed a gyda synnwyr ar bob ochr, nid oes unrhyw reswm pam na ellir defnyddio hwnnw fel model ar gyfer mecanwaith y DU.

Nid yw'r CBG yn gweithio. Nid yw’n mynd i fod yn addas i’w ddiben yn y dyfodol. Ni allwn fod mewn sefyllfa, er enghraifft, os bydd anghydfod rhwng Llywodraeth ddatganoledig a Llywodraeth y DU, lle mai Llywodraeth y DU yw’r canolwr yn y pen draw. Ni all hynny fod yn iawn. Os oes gennym anghydfod â’r Trysorlys, y Trysorlys sy'n penderfynu ar yr anghydfod hwnnw. Mae’n rhaid cael proses annibynnol o ddatrys anghydfod. Nawr, i mi, mae hynny'n golygu peidio â chael CBG, ond cyngor o Weinidogion, cyngor o Weinidogion Prydain, lle mae'r pedair Llywodraeth yn edrych ar feysydd o fudd a meysydd polisi cyffredin ac yn ceisio dod i gytundeb. Dyna'r ffordd o sicrhau ein bod yn gwarchod y farchnad sengl fewnol yn y DU ac eto yn diogelu sefyllfa'r tair gwlad lai o fewn y Deyrnas Unedig ei hun, ac yn y pen draw yn diogelu’r undeb, oherwydd dewch inni beidio ag esgus nad yw'r DU ei hun o dan bwysau o ganlyniad i Brexit, oherwydd mae hi. Rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw’n amherthnasol i fater Brexit, gallaf ei sicrhau o hynny. Rydym yn gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban. Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i wneud yn siŵr nad yw hen ysbrydion y gorffennol yn dod yn ôl i aflonyddu arnom wrth i’r DU adael yr UE.

Ar ei bwynt olaf, am drefniadau pontio, rwy’n cytuno'n llwyr. Rwyf wedi siarad â phobl sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau masnach, ac maent i gyd yn dweud wrthyf ei bod yn cymryd dwy flynedd i gytuno i ddechrau’r trafodaethau, heb sôn am gyrraedd sefyllfa lle gellir cytuno arnynt. A bydd y trefniadau pontio hyn yn hynod o bwysig i alluogi ein hallforwyr, nid dim ond i gael mynediad i'r farchnad Ewropeaidd, ond y 50 o wledydd y mae gan yr UE gytundebau masnach rydd â nhw; byddai pob un ohonynt yn diflannu pe na byddai gennym drefniadau pontio, gan ein gadael, i bob diben, ar ein pennau ein hunain.

Yn y pen draw, fy ofn mawr yw hyn: wrth i’r DU sôn am fasnach rydd a globaleiddio, bod gweddill y byd yn mynd i'r cyfeiriad arall, America yn arbennig, ac mae'r rhain yn faterion y mae'n rhaid inni eu hystyried yn ofalus iawn, iawn. Rwy’n adleisio'r pwynt a wnaeth David Melding, ac rwy’n credu ei fod yn hollol gywir; bydd angen trin hyn yn fedrus iawn, iawn, o ystyried y ffaith nad yw’r hyn a oedd yn gywir ym mis Mehefin y llynedd yn gywir bellach cyn belled ag y mae rhai o economïau mwyaf y byd yn y cwestiwn.

Roeddwn yn falch ac yn hapus i lansio’r Papur Gwyn hwn gyda’r Llywodraeth ddoe, a pha bynnag anghytundeb sydd rhwng y pleidiau yn y fan yma ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus a’r busnes craffu o ddydd i ddydd, ar fater gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol, cyn belled ag y gallwn, bod Cymru yn siarad ag un llais ac yn creu safbwynt sy'n adlewyrchu budd cenedlaethol Cymru. Mae hwn yn gwestiwn rhy fawr i un blaid ei ateb. I ni ym Mhlaid Cymru, roedd y cyfle i ddylanwadu ar y Papur Gwyn hwn a’i lunio yn un yr oeddem yn awyddus i’w gymryd. Drwy broses o drafod, rydym wedi llwyddo i godi proffil nifer o'n blaenoriaethau allweddol.

Cyn gofyn rhai cwestiynau, hoffwn amlinellu rhai o'r pwyntiau hynny o ddatganiad y Prif Weinidog. Rwy’n croesawu’r ffaith ei bod bellach yn well ganddo barhau i gyfranogi yn y farchnad sengl a bod ystod o ffyrdd y gellir cyflawni hyn. Bu dadl fywiog am hyn, ond yr hoff ddewis sydd wedi dod i'r amlwg yw bod angen inni ddiogelu’r dau draean hynny o’n hallforion sy'n mynd i'r farchnad sengl a bod angen inni osgoi tariffau a rhwystrau eraill.

Rwy’n croesawu'r egwyddor barhaus o blaid rhyddid pobl i symud. Rwy'n falch bod ymrwymiad i ddiogelu lefelau gwariant presennol rhaglenni'r UE, yn enwedig y cyllid amaethyddol hanfodol sy'n cynnal ein cymunedau ffermio, ein bywyd cefn gwlad a'n hiaith Gymraeg. Ceir neges gref hefyd na ellir caniatáu lleihau pwerau datganoledig o gwbl. Ni ellir caniatáu unrhyw israddio i hawliau gweithwyr nac i fesurau diogelu amgylcheddol. Ac ynglŷn â phwerau datganoledig, rydym eisoes wedi clywed heddiw sut y mae’r llysoedd yn ystyried bod y materion sy'n ymwneud â'r confensiwn Sewel yn fater gwleidyddol yn hytrach na chyfreithiol, a byddai hyn yn awgrymu i ni, wedi i’r Bil Cymru basio, bod angen inni gychwyn y ddadl am y cam cyfansoddiadol nesaf cyn gynted ag y bo modd. Fel y dywedodd Simon Thomas yn y drafodaeth ddiwethaf, gadewch inni ddod â’r rheoli trefedigaethol hwn i ben.

Brif Weinidog, rwy'n falch yn bennaf oll bod gan Gymru gynllun nawr. Yn absenoldeb unrhyw beth cadarn o San Steffan, yn absenoldeb unrhyw syniad o gwbl gan y bobl a arweiniodd yr ymgyrch ‘gadael’, erbyn hyn mae gan Gymru gynllun sy’n seiliedig ar dystiolaeth. A byddwn yn dweud wrth y rhai hynny ohonoch, yn enwedig y gwleidyddion Brexiteer hynny a oedd yn feirniadol o’r ymgyrch hon—lluniwch eich cynllun eich hun. Os nad ydych chi’n hoffi ein datrysiadau, lluniwch eich rhai eich hun.

Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar weithredu’r Papur Gwyn a'r trafodaethau. Rwyf ar ddeall bod y CBG nesaf ym mis Chwefror. A yw’r cyfarfod hwnnw’n fforwm ar gyfer trafodaethau Ewropeaidd? A fyddwch chi’n cynnal cyfarfodydd dwyochrog gyda'r Gweinidogion datganoledig perthnasol cyn y cyfarfod hwnnw? Ac os ydym am gymryd ymrwymiad Llywodraeth y DU i ymgysylltu â phob ewyllys da, a fydd cyfleoedd i weithio'n uniongyrchol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU?

Ar lefel ehangach, wrth i’r broses o amgylch erthygl 50 fynd rhagddi, mae ar Blaid Cymru eisiau gweld cymaint o gydweithredu â phosibl rhwng Cymru a'r gwledydd datganoledig eraill. Bydd buddiannau a rennir ar ystod o faterion, yn enwedig ar faterion rheoliadau ac amddiffyniadau’r UE. Mae'n ganolog i'n cred na ddylai manylion y modd yr ydym yn gadael yr UE gael eu gwneud yn Llundain na’u gwneud yn San Steffan, ond y dylai fod dull sydd wir yn cynnwys y pedair gwlad. Mae llais Cymru wedi ei gryfhau yn sylweddol gan gefnogaeth amlbleidiol y Cynulliad hwn, ond i gryfhau’r llais hwnnw ar lwyfan y DU, dylid cydlynu pethau’n agos gyda’r gweinyddiaethau eraill hynny. Felly, a allwch chi gadarnhau y byddwch yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ac a wnewch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, ym mha ffordd y byddwch yn gwneud hynny?

Gan droi at broses bontio’r UE gartref, yma yng Nghymru mae angen inni sicrhau bod y gwahanol sectorau sydd â diddordeb yn ein heconomi yn cael gwybodaeth a briffiau llawn am safbwynt negodi Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn debygol o gymryd llawer mwy o sylw o’n safbwynt os ydym wedi cyfathrebu â busnes, ffermio, addysg uwch a'r holl sectorau eraill y mae hyn yn effeithio arnynt ac wedi eu gwahodd i gefnogi’r cynllun hwn yn gyhoeddus.

Mae angen i'r cynllun fynd yn ehangach na Llywodraeth Cymru neu Blaid Cymru. Mae angen i gymdeithas Cymru gyfan ei ddeall, gan gynnwys y rhai a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond y gallai fod yn well ganddynt barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl. A wnewch, felly, sicrhau bod y gwahanol gyrff a chwmnïau sydd â diddordeb yng Nghymru yn cael eu hysbysu a'u briffio am y safbwynt negodi a’u bod yn cael eu gwahodd i ddangos eu cefnogaeth iddo mewn ffordd gyhoeddus? Diolch.

A gaf i ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau? Gwnaethpwyd gwaith da rhwng ein pleidiau o ran datblygu Papur Gwyn y Llywodraeth. Gallaf ei sicrhau bod cyfarfod llawn nesaf y CBG yn cyfarfod ddydd Llun, 30 Ionawr. Fel rhan o'r hyn sy'n digwydd o amgylch y cyfarfod llawn CBG, mae'n eithaf arferol i gael cyfarfodydd dwyochrog. Siaradais ddiwethaf â Phrif Weinidog yr Alban ychydig cyn y Nadolig, ond rwy'n llawn ddisgwyl siarad â hi yn ystod y cyfarfod dwyochrog yn ystod yr wythnos nesaf. Hefyd, wrth gwrs, mae'n eithaf arferol cynnal cyfarfodydd dwyochrog gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ogystal. Cefais gyfarfod, dros y ffôn, gyda David Davis, Ysgrifennydd Brexit, neithiwr.

Byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r Alban. Bydd diweddbwynt yr Alban yn wahanol i’n un ni, ond rydym yn rhannu llawer o fuddiannau cyffredin. Mae Gogledd Iwerddon yn anoddach—roedd yn anodd hyd yn oed cyn y digwyddiadau yng Ngogledd Iwerddon oherwydd y safbwyntiau sylfaenol wahanol sydd gan ein Prif Weinidog ni a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Nawr, wrth gwrs, does dim penaethiaid Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon y gallwn mewn gwirionedd gwrdd â nhw. Efallai y bydd cyfleoedd i gyfarfod â Gweinidogion Gogledd Iwerddon; cawn weld pa gynrychiolaeth a ddônt gyda nhw i gyfarfod llawn y CBG.

Mae hi'n gywir wrth ddweud bod yn rhaid i bob un o bedair gwlad y DU weithio drwy fanylion y ffordd yr ydym yn gadael. Mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddweud, hyd yn hyn, y bydd yn digwydd. Mae'n rhaid inni aros i weld a wnaiff hynny ddigwydd mewn gwirionedd o ganlyniad i'w geiriau.

O ran trefniadau pontio’r UE gartref, mae cyngor ar gyfer adnewyddu economaidd ddydd Iau. Bydd cyfle yno, wrth gwrs, i’r rhai sy'n aelodau o’r fforwm hwnnw ofyn cwestiynau, o ran y Papur Gwyn, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn ystyried sut i ledaenu cynnwys y Papur Gwyn mor eang â phosibl.

Mae'r Papur Gwyn ei hun yn gyfraniad diffuant, rwy’n credu, at y ddadl. Nid yw'n ceisio ymosod ar neb nac ar unrhyw Lywodraeth. Hwn yw’r mater mwyaf sylfaenol bwysig y mae’r DU wedi ei wynebu ers blynyddoedd maith. Mae'n hynod o bwysig bod y Papur Gwyn yn ffurfio rhan ganolog nid yn unig o feddyliau Llywodraeth y DU, ond o’r meddyliau canolog ynglŷn â sut y gall Cymru ffynnu yn y dyfodol o dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu.

A gaf i groesawu’r datganiad ac, yn arbennig, diolch i'r Prif Weinidog am gyfarch fy mhresenoldeb yn ei gynhadledd i'r wasg ddoe â chwrteisi siriol? O'r olwg daranllyd ar wyneb arweinydd Plaid Cymru, nid wyf yn meddwl ei bod hi mor falch o fy ngweld. Roedd yn bwysig, rwy’n meddwl, fy mod i yno, oherwydd roedd yn gyfle yn ogystal â heddiw i holi’r Prif Weinidog am rannau o'r cynllun, yn enwedig ynglŷn â mudo.

Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn adleisio teimladau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gynharach na chafodd ei blaid ef na fy un innau eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau â Llywodraeth Cymru am sut i helpu i symud Cymru ymlaen yng nghyd-destun realiti newydd Brexit. Yn enwedig o ran mudo, mae’r atodiad ystadegol yn dangos bod 86 y cant o bobl Cymru yn credu y dylid lleihau mewnfudo i Brydain—86 y cant—ac eto dywedodd arweinydd Plaid Cymru ddoe, yn y gynhadledd i'r wasg, nad oedd hi’n meddwl bod mewnfudo yn broblem o gwbl. [Torri ar draws.] Felly, mae’r rhan o'r cynllun hwn am fudo, sydd wedi’i gydnabod yn natganiad y Prif Weinidog fel y rheswm pam y pleidleisiodd llawer o bobl dros ‘gadael’, wedi’i lyffetheirio o'r cychwyn gan ei gynghrair gyda phlaid sy’n gwadu’r holl broses. Mae'n ymddangos, felly, yn eithaf cwicsotig ei fod yn rhoi’r fath bwysigrwydd i blaid sy’n gwadu’r realiti, ac eto ei fod yn anwybyddu'r pleidiau ar yr ochr hon i'r tŷ a oedd, wedi'r cyfan, ar ochr fuddugol y ddadl.

Rwy’n gobeithio y gwnaiff ef gytuno, er bod fy nghydweithwyr a minnau wedi ein disgrifio cyn inni gyrraedd y Cynulliad hwn fel aflonyddwyr annioddefol, ein bod wedi gwneud ein gorau i chwarae rhan adeiladol yn nhrafodion y sefydliad hwn a’n bod yn awyddus i chwarae rhan, cyn belled ag y mae ein gwahaniaethau gwleidyddol yn caniatáu inni wneud hynny, yn y broses o gael y canlyniad gorau i Gymru o'r broses hon. Felly, yn y dyfodol, os gwnaiff ein cynnwys ni, i'r graddau nad yw'n anghyson ag amcanion gwleidyddol Llywodraeth Cymru, rwy’n gobeithio y gwnaiff wneud hynny.

O ran yr adran o'r cynllun ar fudo, dywedodd wrthyf ddoe ei fod yn meddwl mai model Norwy oedd y ffordd ymlaen, ond nid yw hynny'n tawelu dim ar bryderon y cyhoedd am fewnfudo o’r UE heb ei reoli. Mae 450 miliwn o bobl y tu allan i Brydain yn yr UE sydd â hawl cyfreithiol i ddod yma i weithio ac i fyw. Pe byddem yn mabwysiadu model Norwy, ni fyddai hynny'n newid o gwbl, gan fod Norwy mewn gwirionedd yn y cytundeb Schengen, wrth gwrs, ac felly mae ganddi hyd yn oed lai o reolaeth dros ei ffiniau nag sydd gan Brydain ar hyn o bryd. O dan gyfraith bresennol yr UE, sydd mewn grym yn Norwy, nid yn unig mae gan ddinasyddion yr UE yr hawl i dderbyn cynigion o swyddi yn Norwy, ond mae ganddynt hefyd yr hawl i fynd yno er mwyn chwilio am waith. I bob diben, gallant fynd â’u dibynyddion gyda nhw; felly, nid yw’r agwedd honno ar ei gynllun yn gynllun o gwbl, oherwydd nid yw hyd yn oed yn dechrau ymdrin â'r broblem o reoli ein ffiniau ein hunain.

O ran y datganiad am yr undeb tollau, rwy’n gweld hwnnw braidd yn rhyfedd ar adeg pan fo Arlywydd yr Unol Daleithiau, ein partner masnachu cenedlaethol unigol mwyaf yng Nghymru—ydy, mae’r Unol Daleithiau yn genedl, a hi yw ein partner masnachu mwyaf sy’n genedl unigol—ein bod yn diystyru'r posibilrwydd o wneud cytundebau masnach rydd â gweddill y byd, sef 85 y cant o'r economi fyd-eang. O ystyried bod Awstralia, Seland Newydd a llawer o wledydd eraill eisoes wedi cysylltu â ni i archwilio cytundebau masnach—gwledydd eraill a chanddynt drefniadau presennol ar gyfer masnach rydd neu fasnach ffafriol gyda'r UE, ac rydym yn rhan o'r trefniadau hynny nawr—pam y dylem ei chael hi mor anodd i allu parhau â nhw? Efallai fod y sôn am bump i saith mlynedd o negodi yn berthnasol i'r UE, lle mae angen i 28 o wledydd gytuno â dogfen, ond pan ein bod yn trafod yn ddwyochrol, mae popeth yn dod yn llawer symlach, yn enwedig pan fyddwn yn negodi â gwledydd sydd, yn ysbrydol, yn llawer agosach atom ni a'n golwg ni ar y byd na llawer o'r rheini y cawsom ein clymu atynt am fwy neu lai y 40 mlynedd diwethaf yn yr UE.

Hoffwn ofyn un cwestiwn hefyd i’r Prif Weinidog am anobaith di-baid ei gynllun a'r sail ystadegol y mae nifer o'i haeriadau wedi'u seilio arni. Ar dudalen 9 y ddogfen, mae'n dweud y ceir consensws cryf ymhlith proffwydi economaidd prif ffrwd—rhywbeth na fyddwn i’n cytuno ag ef—y

gallai disodli cyfranogiad yn y Farchnad Sengl â rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) arwain at economi'r DU sydd hyd at 8 – 10% yn llai nag y byddai wedi bod fel arall.

Ni allaf ddeall sut y mae’n bosibl i hynny fod yn wir, oherwydd pe na byddai gennym unrhyw allforion o gwbl i'r UE, byddai hynny'n dileu 11 y cant o'n cynnyrch mewnwladol crynswth. Felly a yw mewn gwirionedd yn seilio ei gynllun ar y tebygolrwydd na fyddem yn gwneud unrhyw fasnach o gwbl â'r Undeb Ewropeaidd? A yw'n disgwyl y caiff wal ei hadeiladu i lawr canol y Sianel? Sut y gallai hynny fod yn wir ar unrhyw gyfrif, o ystyried na fyddai hanner ein masnach o dan reolau’r WTO yn ddarostyngedig i unrhyw dariff o gwbl gyda'r UE, ac y byddai’r tariff cyfartalog o dan reolau’r WTO yn 3.5 y cant, sut y gallai’r sail ystadegol hon fod ag unrhyw hygrededd o gwbl?

Mae'r pwynt olaf y mae’n rhaid imi ei wneud yn ymwneud â’r dyfodol a Llywodraeth y DU yn sicrhau y dylai Cymru gael pob ceiniog o'r hyn yr ydym ei gael ar hyn o bryd o arian trethdalwyr Prydain drwy'r UE. Yn hyn o beth, rwyf 100 y cant yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, a gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran deg o elw a buddiannau Brexit, sy'n cynnwys nid yn unig yr arian a gawn ar hyn o bryd drwy Frwsel, ond hefyd y difidend Brexit o’r £8 biliwn y flwyddyn o arian trethdalwyr Prydain sy'n cael ei wario ar hyn o bryd mewn rhannau eraill o'r UE. Felly, yn hynny o beth, unwaith eto, mae popeth ar gael i ni ymgeisio ato yn y fan yma, os gallwn gyflwyno ein hachos yn y ffordd fwyaf perswadiol, a'r ffordd orau o wneud hynny yw sefydlu’r consensws yr honnodd arweinydd Plaid Cymru yr hoffai ei weld ar draws y Siambr hon a chynnwys yr holl bleidiau a gynrychiolir yma yn y broses hon, fel y gallwn, cyn belled ag y bo'n bosibl, a does bosib yn yr agwedd hon na allwn i gyd o leiaf gytuno’n unfrydol bod yn rhaid i Gymru gael cymaint allan o hyn ag sy’n bosibl.

Wel, arweinydd—. Wel, gadewch imi ddechrau yn y diwedd. Rwy’n croesawu ei gefnogaeth i geisio sicrhau nad yw Cymru yn colli un geiniog o arian. Fel y dywedais, roedd yn bresennol ddoe yn y gynhadledd i'r wasg. Rwy’n credu ei fod wedi meddwl fy mod i’n mynd i’w daflu allan; wnes i ddim gwneud hynny. Ceisiodd ofyn cwestiwn. Rwy’n credu ei fod wedi meddwl y byddwn yn anwybyddu'r cwestiwn; wnes i ddim gwneud hynny. Rwyf i o'r farn ei bod yn well bod gennym bobl yno a chael tynnu eu coes, yn hytrach na’u taflu allan. Ond rwy’n gwerthfawrogi'r ffaith ei fod wedi dod. Fel y dywedais, nid oedd wedi dod o bell—rydym yn gwybod hynny—ond serch hynny, nodwyd ei gefnogaeth.

Yn gyntaf oll, mae'n wir mai’r canfyddiad yn ein gwlad yw bod mewnfudo’n rhy uchel. Mae'r gwirionedd yn wahanol. Rydym yn gwybod bod 79,000 o ddeiliaid pasbort yr UE yn byw yng Nghymru. Er nad ydym yn gwybod y ffigur, rwy’n amau mai Gwyddelod yw nifer sylweddol ohonynt mewn gwirionedd ac, o ganlyniad, maent yn cael eu cyfrif fel deiliaid pasbort UE. Mae saith deg un y cant yn gweithio yma, nid yw'r 29 y cant arall yn gweithio. Y gwirionedd yw mai myfyrwyr yw’r rhan fwyaf o'r rheini, ac nid ydym, does bosib, eisiau gweld llai o fyfyrwyr yn dod i mewn i Gymru a'r DU. Maen nhw’n darparu gallu meddyliol ac arian sylweddol i’n prifysgolion, ac i bob diben maent yn talu arian i’r system sydd o gymorth i’r rhai sydd o Gymru.

Nawr, ni ddywedodd neb wrthyf ar garreg y drws, 'Yr hyn sydd ei angen arnom yw llai o feddygon, llai o nyrsys, llai o fyfyrwyr o wledydd eraill.’ Ni ddywedodd neb—neb—hynny o gwbl. Ac felly mae’r rhyddid i symud i fynd i swydd, rwy’n credu, yn safbwynt cwbl resymegol, synhwyrol i'w gymryd. Mae ar waith yn Norwy: os nad oes gennych swydd yn Norwy o fewn tri mis, mae’n rhaid ichi adael. Nawr, rydym yn credu mai dyna beth mae’r rheolau yn ei ddweud mewn gwirionedd. Mae'r DU wedi dehongli’r rheolau’n fwy hael na gwledydd eraill, ond dyna sy’n digwydd yn Norwy, ac mae honno’n system, rwy’n credu, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ei hystyried yn synhwyrol ac yn ei chefnogi.

Mae'n sôn am gytundebau masnach rydd. Nawr, i mi, nid yw disodli cytundeb masnach rydd gyda'r UE ag un gyda Seland Newydd yn gyfnewid teg. Mae 500 miliwn o bobl yn yr UE, mae 4.8 miliwn yn Seland Newydd. Nid yw'n farchnad fawr. Yr hyn sydd gan Seland Newydd yw'r gallu i ddileu ffermio yng Nghymru. Felly, mae unrhyw gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd sy'n cael gwared ar gwotâu neu dariffau yn lladd ffermio yng Nghymru, dyna’r gwir. Nid wyf yn ymddiried yn Whitehall i hyd yn oed gydnabod y pwynt hwnnw, ar wahân i un neu ddau o Weinidogion. Nid yw Awstralia yn farchnad fawr. Wrth gwrs, byddent yn hoffi cael cytundeb masnach rydd â'r DU; mae'r DU yn llawer mwy na nhw, felly, wrth gwrs mae'n mynd i fod o fudd iddynt yn fwy hirdymor. Nid wyf yn eu beio; dyna'n union beth fyddwn i'n ei wneud pe byddwn i yn eu sefyllfa. Cofiwch nad oes gan y DU unrhyw brofiad o hyn; mae dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r DU negodi unrhyw beth. Mae Seland Newydd yn llawer mwy medrus ac yn llawer mwy profiadol wrth negodi trefniadau a chytundebau masnach rydd na'r DU. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn nad ydym, yn y pen draw, yn trafod gyda phobl ac yn cael pen llym y fargen oherwydd ein diffyg profiad ni ein hunain. Ac felly, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ystyried yn y dyfodol.

Mae'n sôn am yr Unol Daleithiau. A oedd yn gwrando ar yr hyn a ddywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau? Dywedodd America yn gyntaf, America yn gyntaf. Does gan America ddim diddordeb mewn masnach rydd mwyach. Ei hunig ddiddordeb yw diogelu ei buddiannau ei hun. Dyna lle mae America yn y cyfnod hwn yn ei hanes. Nid wyf yn credu am eiliad y byddai unrhyw fath o gytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau yn arwain at unrhyw beth ond budd i'r Unol Daleithiau ac anfantais i'r DU. Sut arall y gallai Donald Trump ar unrhyw gyfrif werthu’r peth i’w bobl ei hun fel arall? Ac felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn o'r hyn y byddai ei eisiau ar yr Unol Daleithiau. A fyddai eisiau—? Roedd ei blaid yn llwyr yn erbyn TTIP, ond nawr mae o blaid cytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau. Roedd yn llwyr yn erbyn hynny ar ddechrau'r flwyddyn ddiwethaf. Beth sydd wedi newid? A fyddwn ni’n gweld sefyllfa lle mae, er enghraifft, gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd ac addysg yn cael eu preifateiddio a chwmnïau o’r Unol Daleithiau yn cael eu rhedeg? Gwelais Nigel Farage yn ymgyrchu’n ddiddiwedd yn erbyn TTIP—'Peidiwch â chael cytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau', meddai. Felly, beth sydd wedi newid? Yn sydyn iawn, mae’r Unol Daleithiau’n hynod o boblogaidd. Mae diffyg cysondeb clir o ran yr hyn y mae UKIP wedi ei ddweud.

Mae'n gofyn y cwestiwn am grebachu’r economi drwy dariffau. Mae’n anghofio bod ein haelodaeth bresennol o’r UE yn golygu bod gennym gytundeb masnach rydd gyda 50 o wledydd eraill, nid dim ond yr UE, felly rydym yn cael mynediad i’r marchnadoedd hynny hefyd—marchnadoedd mawr iawn, iawn gan gynnwys Tsieina. Felly, mewn gwirionedd, rydym yn colli’r trefniant masnach rydd hwnnw gyda Tsieina oni bai ei fod yn cael ei ailnegodi yn gyflym iawn. Dyna pam y bydd ein heconomi’n crebachu. Does bosib y gall neb ddadlau’n synhwyrol bod gosod tariffau yn beth da. Beth fyddai hynny'n ei olygu? Byddai'n golygu, er enghraifft, y byddai ein bwyd a’n diod yn wynebu tariff o hyd at 50 y cant o bosibl wrth fynd i’w brif farchnad. Byddai'n golygu, ie, gosod tariffau ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU, ond pwy sy'n talu’r tariffau hynny? Y cyhoedd. Ef. Fi. Pawb ohonom yn y Siambr hon. Nid busnesau sy'n talu tariffau; aelodau'r cyhoedd sy’n gwneud hynny. Byddai chwyddiant yn mynd i fyny. Rydym yn mewnforio hanner ein bwyd o reidrwydd; ni allem byth fod yn hunangynhaliol o ran bwyd oherwydd ein hinsawdd a'n daearyddiaeth. Byddem yn gweld llawer iawn o bethau’n mynd yn ddrutach i’r bobl hynny sy’n ei chael yn anoddaf fforddio’r pethau hynny. Ac o'n safbwynt ni—. Wel eto, welwch chi—. Bobl bach, mae ceisio siarad ag UKIP—. Onid yw UKIP yn deall, os nad oes cytundeb â’r UE, bod rheolau'r WTO yn berthnasol? Dyna ni. Iawn? Does dim cwestiwn am y peth; maent yn awtomatig. Mae'r DU yn awyddus i ymuno â'r WTO yn ôl UKIP—iawn—ond ar yr un pryd rydych yn dweud y gwnewch anwybyddu rheolau'r WTO. Nid dyna sut y mae’n gweithio. Os ydych chi’n mynd i ddweud eich bod yn mynd i anwybyddu'r rheolau ar y dechrau, ewch chi ddim i mewn yn y lle cyntaf. Ac felly, gadewch inni gael rhywfaint o realaeth yn y ddadl hefyd.

Felly, ar sail yr hyn y mae arweinydd UKIP wedi ei ddweud, nid wyf yn meddwl bod llawer o dir cyffredin y gallem fod wedi cytuno arno ar hyn o bryd. Ond, serch hynny, rwy’n ategu’r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud: rydym ni wedi rhoi ein cardiau ar y bwrdd, gadewch inni weld y syniadau eraill; gadewch inni weld manylion y syniadau eraill posibl. Does dim pwynt i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddweud, 'Ein safbwynt ni yw safbwynt Llywodraeth y DU'. Datblygwch eich safbwynt eich hun. Mae gennych chi ddigon o bobl ar eich meinciau cefn sydd â digon o allu meddyliol i allu gwneud hynny. Datblygwch eich safbwynt eich hun. Gadewch i ni wybod. Gadewch inni eich gweld yn dadlau'r achos. Cyflwynwch achos yn hytrach na dweud, 'Bydd popeth yn iawn ar y noson.' Mae hynny’n wir am UKIP hefyd: cyflwynwch eich cynllun manwl eich hun fel y gallwn ei weld a’i ddadlau. Does dim cynllun manwl. Y cynllun manwl yn y bôn yw hyn: 'Bydd popeth yn iawn. Does dim angen inni wneud dim gwaith. Bydd popeth yn iawn. Bydd yr UE yn rhedeg atom ni.' Yr un fath â gwneuthurwyr ceir yr Almaen. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd pan aeth Owen Paterson allan i'r Almaen yr wythnos diwethaf. Roedd gwneuthurwyr ceir a busnesau’r Almaen yn syllu arnynt ac yn tybed beth ar y ddaear yr oeddent yn siarad amdano. Realaeth. Mae'n rhaid inni gael realaeth ac mae’n rhaid inni gael cyfraniadau at y ddadl.

Daw amser pan fydd yn rhaid i bobl i gamu allan ar y maes a gwneud yn siŵr bod pobl yn deall yr hyn y gallant ei wneud. Mae'n fater o bobl eraill yn dod oddi ar y llinellau ochr. 'Dewch oddi ar y llinellau ochr', rwy’n clywed y dorf yn gweiddi, 'ewch ar y cae a dangoswch inni beth yn union yr ydych eisiau ei wneud.' Rydych yn ennill yr hawl i feirniadu drwy ddatblygu eich safbwynt eich hun. Nid ydych wedi ennill yr hawl honno eto.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn hwn yn gynnes ac rwyf hefyd yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Phlaid Cymru i’w ddatblygu. Rwy’n meddwl bod bygythiad Brexit mor enfawr fel y bydd yn hanfodol i bob un ohonom sydd eisiau rhoi buddiannau Cymru a'n cymunedau yn gyntaf i weithio gyda'n gilydd. Mae gen i ddau gwestiwn penodol. Fel y mae’r prif Weinidog yn gwybod, mae fy etholaeth i yn ddibynnol iawn ar weithgynhyrchu, yn enwedig gweithgynhyrchu modurol. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad yn y ddogfen hon i gynnal y mynediad ehangaf posibl i’r farchnad sengl, ond a gaf i ofyn pa gamau eraill y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod y sector modurol wedi’i ddiogelu, gan gynnwys sut y mae'n bwriadu sôn am anghenion y sector modurol yn ei drafodaethau â Llywodraeth y DU?

Yr wythnos diwethaf, bûm mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe i edrych ar oblygiadau Brexit i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mynegwyd pryderon yn y gynhadledd honno nad yw’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi rhoi rhyw lawer o ystyriaeth i’r goblygiadau i blant a phobl ifanc, ac rwy'n siŵr eich bod hefyd yn ymwybodol bod llawer o bobl ifanc yn teimlo'n ddig iawn bod penderfyniad mor hanfodol i'w dyfodol wedi’i wneud drostynt gan bobl eraill a bleidleisiodd yn y refferendwm. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad yn y ddogfen hon i sicrhau ein bod yn gwrando ar farn plant a phobl ifanc, ond a gaf i ofyn am ychydig mwy o fanylion, os gwelwch yn dda, am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod hyn yn realiti yn y dyfodol?

Wel, yn gyntaf, o ran gweithgynhyrchu modurol, mae’n arbennig o ddibynnol ar y farchnad Ewropeaidd—yn arbennig. Mae cynifer o weithrediadau modurol yn y DU yn rhan o weithrediad Ewropeaidd: mae Ford yn un, mae Toyota yn un, mae Nissan yn un arall. Mae rhai pobl wedi dweud y dylem chwilio am farchnadoedd eraill. Does gan y ffatri peiriannau Ford ddim marchnad arall; dim ond i'r UE y mae’n gallu allforio. Does ganddi ddim unman arall i allforio peiriannau iddo ar wahân i'r UE, felly mae unrhyw beth sy'n amharu ar ei gallu i allforio yn amlwg yn ddrwg i’r ffatri honno oherwydd y realiti yw nad oes ganddi unman arall i fynd. Mae’r un fath i rai eraill sy'n darparu cydrannau, seddi ar gyfer ceir—mae'r rhain yn weithrediadau Ewropeaidd integredig. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr nad yw'r DU yn cael ei gweld fel ynys alltraeth, wedi ysgaru oddi wrth y brif farchnad, yn hytrach nag yn rhan o'r brif farchnad, ond efallai â threfniadau gwahanol.

Cyn belled ag y mae plant a phobl ifanc dan sylw, rwy’n meddwl bod yna raniad eithaf peryglus yn y gymdeithas ar hyn o bryd. Rydym i gyd yn gwybod hynny, ond mae'n arbennig o amlwg rhwng pobl hŷn a phobl iau, sydd â barn wahanol iawn, iawn am Ewrop. Mae fy merch 16 mlwydd oed, cafodd hi ei syfrdanu gan y cyfan, gan feddwl, 'Wel, hyn sy’n normal; pam fydden ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd?' Mae ei barn yn adlewyrchu—dydy hi ddim yn arbennig o wleidyddol, er gwaethaf ei thad, ond mae hi a llawer o blant eraill wedi mynegi’r farn honno; roedd pobl ifanc yn mynegi’r farn honno. Mae'n hynod o bwysig, felly, eu bod yn gallu gwneud hynny drwy'r fforymau sydd gennym. Mae gennym, wrth gwrs, y comisiynydd, sydd hefyd yn gallu cynrychioli barn plant a phobl ifanc, ac efallai y byddai hynny’n rhywbeth yr hoffai’r comisiynydd edrych arno: sut yr ydych yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y ddadl hon yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl?

Diolch, Brif Weinidog, am y Papur Gwyn a’ch atebion i gwestiynau heddiw. Mae gen i un neu ddau o gwestiynau i chi fy hun a'r cyntaf yw eich sylw y bydd angen inni ddal i recriwtio o Ewrop yn y dyfodol ar gyfer swyddi mewn meysydd lle ceir prinder. Nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl bod angen i bobl ddod i mewn i'r DU, i mewn i Gymru hefyd, i lenwi’r prinderau swyddi hynny— fe enwoch chi rai yn eich atebion cynharach—ond roeddwn yn meddwl tybed a allwch chi egluro pa un a ydych yn meddwl y dylai dinasyddion yr UE gael triniaeth ffafriol o ran bodloni’r angen hwnnw. Rwy'n meddwl y gellid dadlau y dylent, ond hoffwn glywed beth yw eich dadl chi am hynny.

Yn ail, hoffwn ychwanegu fy llais at y rheini sydd wedi gresynu nad oedd y broses o baratoi'r ddogfen hon yn un gwbl gynhwysol. Yn fwy nag unrhyw blaid arall yng Nghymru, rwy’n meddwl ein bod ni wedi cynrychioli barn pobl Cymru, gan ein bod ni wedi cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau; nid oeddem yn cynrychioli un farn. Fel y cyfryw, efallai y byddem wedi bod yn bartner defnyddiol wrth y bwrdd yn y trafodaethau cynnar hyn, ac rwy’n meddwl ei bod yn werth cofio, o ran y bleidlais boblogaidd, ein bod ni a Phlaid Cymru wedi cael tua'r un faint o bleidleisiau ac, wrth ein heithrio ni o'r bwrdd, rydych wedi eithrio yn y cyfnodau cynnar hyn y bobl hynny a bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn etholiadau Cynulliad Cymru. Wedi dweud hynny, mae yna bethau yn y Papur Gwyn hwn yr wyf yn meddwl y gallwn gytuno â nhw ac rwy'n falch o gael y cyfle nawr, er y dylem fod wedi ei gael yn gynharach. Wedi dweud hynny, gan fod Llywodraeth Cymru yn hwyrach na'r gwledydd eraill i gyrraedd y bwrdd i gyflwyno safbwynt, tybed a fyddai wedi bod yn werth ichi aros dim ond cwpl o ddyddiau eraill nes i’r pwyllgor materion allanol lunio ei adroddiad. Mae hwnnw'n grŵp trawsbleidiol sydd wedi cael, drwy ddulliau trawsbleidiol, tystiolaeth gan drydydd parti, ac wedi craffu arni, ac o ganlyniad, wedi llunio adroddiad â chytundeb trawsbleidiol. Byddai hynny wedi eich helpu, rwy’n meddwl, i berswadio pobl eraill yn y Siambr hon eich bod wedi bod yn fwy cynhwysol nag y buoch, oherwydd nid yw’r adroddiad hwnnw wedi ei ddefnyddio mewn ymgais—nid ydych chi wedi cael y cyfle i ddefnyddio’r adroddiad hwnnw i ddylanwadu ar yr hyn yr ydych wedi ei roi yn y Papur Gwyn. Diolch.

O ran rhoi ffafriaeth i ddinasyddion yr UE, os edrychwch ar feddygaeth, er enghraifft, mae’r amgylchedd rheoleiddio yr un fath, felly byddai pobl wedi arfer gweithio yn amgylchedd y DU, oherwydd eu bod wedi arfer gweithio yn amgylchedd cyffredin yr UE, felly mae'n debyg y byddai ganddynt fantais yn hynny o beth. Mae'r ffaith bod cydnabyddiaeth gyffredin i gymwysterau yn bwysig. Nawr, un o'r materion ymhlith llawer y mae’n rhaid eu datrys yw: a fydd y gydnabyddiaeth gyffredin yno yn y dyfodol? A fydd meddygon o’r DU yn gallu gweithio yn Ewrop? Y lleill, wrth gwrs, y rhai bach, y rhai sy'n ymddangos yn fach, y mae’n rhaid inni edrych arnynt, yw pethau fel: a fyddwch yn cael gyrru dramor â thrwydded Brydeinig? A fyddwch yn cael gyrru dramor ag yswiriant car Prydeinig? A fyddwch yn cael gyrru dramor a mwynhau manteision cerdyn yswiriant iechyd Ewrop? Ac, os na fyddwch chi, a fydd eich premiymau’n mynd i fyny? Mae llawer o glebran o feinciau cefn UKIP, ond dyna sut yr arferai fod. Dyna sut yr arferai fod: nid oeddech yn cael gyrru y tu allan i'r DU oni bai bod gennych drwydded yrru ryngwladol wahanol. Rwy’n cofio hynny. Yn ail, nid oedd eich yswiriant car yn ddilys os oeddech yn gyrru y tu allan i'r DU: roedd yn rhaid ichi ffonio’r cwmni yswiriant i’w wneud yn ddilys. Nawr, oni bai bod y pethau hyn yn cael eu datrys, yn syml, byddwn yn mynd yn ôl at hynny ac mae'r rhain yn bethau nad ydynt hyd yn oed yn meddwl amdanynt o ran y manylion.

Ond, beth bynnag, o ran y materion eraill a gododd yr Aelod, Suzy Davies, a gaf i awgrymu, cyn inni geisio consensws ar draws y Siambr hon, y gallai hi geisio consensws yn ei phlaid ei hun? Oherwydd rwy’n gwybod, o fewn ei phlaid, bod safbwyntiau gwahanol iawn o ran yr hyn y dylai'r dyfodol ei gynnig. A dyma fy her i'r Ceidwadwyr: dewch at eich gilydd, ffurfiwch gonsensws yn eich plaid eich hun, a lluniwch eich dogfen eich hun. Yna, unwaith y byddwch wedi llunio eich dogfen eich hun, gallwn siarad. Ar hyn o bryd, mae fel siarad â nifer o ieir heb bennau i gyd ar unwaith. Does gennym ni ddim syniad beth yw eich safbwynt. Mae gennym rai ohonoch sydd hyd yn oed y tu hwnt i UKIP, eraill sy’n bendant o blaid, neu a fyddai wedi bod yn bendant o blaid, aelodaeth o’r UE. Fy her i chi yw: pam na wnewch chi ddod at ei gilydd mewn gwirionedd a datrys eich problemau eich hun a'ch tensiynau eich hun, cyn cwyno eich bod y tu allan i'r broses? Ac yna byddwch mewn sefyllfa lle bydd hi’n haws gwrando arnoch.

Y pwynt arall yw hwn: does neb—. Un o'r pethau sydd—[Torri ar draws.] Roedd dyn ar yr ystlys ym Mhen-y-bont flynyddoedd yn ôl, a’r oll yr oedd yn ei wneud mewn gemau oedd gweiddi, dim ond unwaith y gêm—‘Ydy buddy bar’, meddai. Doedd neb yn gwybod beth yr oedd yn ei ddweud; doedd neb yn gwybod beth yr oedd yn ei ddweud o gwbl. Roedd yn gymeriad; doedd neb yn gwybod beth yr oedd yn ei olygu, ond roedd pawb yn gallu ei glywed. Dyna arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Does neb yn gwybod beth y mae'n ei ddweud; yr oll y gallant ei wneud yw gwrando ar y llestr gwag yn diasbedain. Rwy'n dweud wrtho eto: does dim pwynt iddo eistedd yn y fan yna, yn lladd ar bawb arall pan nad yw wedi codi oddi ar ei ben-ôl i gynhyrchu ei gynllun Brexit ei hun, gan alw ar y bobl sydd ganddo yn ei grŵp ei hun. Yna, gallwn ddechrau, efallai, ei gymryd o ddifrif.

Y mater arall, wrth gwrs, nad ydym yn ei weld yma neu nad ydym yn gwrando arno—yn ei glywed, yn hytrach—gan feinciau'r Ceidwadwyr yw beirniadaeth o gynnwys y Papur Gwyn ei hun. Rydym wedi clywed beirniadaeth o'r broses, ond does neb wedi dweud—. Mae pwyntiau wedi'u gwneud am fudo, ond, a dweud y gwir, beth ydych chi'n anghytuno ag ef yn y Papur Gwyn? Beth ydych chi'n anghytuno ag ef? Nawr, dyna her: os gallwch ganfod, yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, meysydd yr ydych yn anghytuno â nhw, yna gadewch inni glywed hynny, yn hytrach na chwerthin yn foddhaus a gweiddi, heb gyfrannu mewn gwirionedd at y ddadl. Felly, fy her i chi yw: ydym, rydym yn fwy na bodlon i weithio gyda phleidiau eraill, ond mae'n ddyletswydd ar bleidiau eraill i benderfynu beth yw eu safbwynt eu hunain mewn gwirionedd ymysg ei gilydd, yn hytrach na dadlau ymysg ei gilydd, er mwyn iddynt edrych yn unedig er mwyn gweithio gyda phleidiau eraill. Rwy'n ofni nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn agos at hynny ar hyn o bryd.

Rwy’n croesawu’r datganiad heddiw, ac yn falch iawn bod gan Gymru lais clir, rhesymol a chreadigol ar y mater hollbwysig yma. Rwy’n falch iawn bod Plaid Cymru wedi chwarae rôl ganolog ynddi. Hefyd, a gaf i gytuno gyda sylwadau’r Aelod dros Dorfaen? Mae hwn yn fater mor bwysig mae’n hollbwysig i ni ddod at ein gilydd er lles ein buddiannau cenedlaethol ni.

Wrth gwrs, wrth wraidd hyn oll yw’n buddiannau economaidd a hefyd ein buddiannau cyfansoddiadol. Yn yr amser byr iawn heddiw, hoffwn i ffocysu fy nghwestiynau i ar agweddau’r Papur Gwyn lle mae gan Lywodraeth a Chynulliad Cymru'r awdurdod i weithredu’n syth. Er enghraifft, mae tudalen 26 yn crybwyll creu confensiwn cyfansoddiadol i ail-lunio’r cyfansoddiad Prydeinig i fod yn un fwy ffederal. Ai bwriad, felly, y Lywodraeth yw cynnig hynny yn ffurfiol yn y JMC ar ddydd Llun, neu efallai yn y dyfodol? Neu a ydy’r Prif Weinidog yn ystyried mynd hyd yn oed ymhellach, a chynnal uwch-gynhadledd ei hunan yma yng Nghymru a gwahodd y Llywodraethau eraill er mwyn dechrau’r gwaith ar gonfensiwn cyfansoddiadol newydd?

Mae tudalen 28 yn codi’r syniad o’r Cynulliad yma yn deddfu os yw Bil diddymu San Steffan, ‘a great repeal Bill’, yn ymyrryd ar gyfansoddiad Cymru. Cawsom dystiolaeth ddoe yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid oedd yn dweud bod cyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn mewnbynnu i’r broses gyda chyfreithwyr San Steffan ar hyn o bryd ar y Bil diddymu. A ba bryd ydy’r Prif Weinidog yn tybio y gwelwn ni ymyrraeth wleidyddol, neu gydweithredu gwleidyddol, rhwng y ddwy Lywodraeth?

Mae tudalen 23 yn nodi’r pwysigrwydd o adnewyddu ein perthynas gyda Gweriniaeth Iwerddon. Rwy’n falch oedd y Prif Weinidog wedi sôn am hyn yn ei ddatganiad ef hefyd, ac wedi denu sylw at ddyfodol ein porthladdoedd ni, a phrosiect INTERREG rhwng y ddwy genedl. Pryd yw’r Prif Weinidog, felly, yn bwriadu dechrau’r broses o adnewyddu ein perthynas ni gyda Gweriniaeth Iwerddon? Mae pwerau gyda’r Cynulliad a’r Llywodraeth eisoes i gael perthynas o’r fath. A ydy e’n bwriadu cwrdd â’r Taoiseach yn y dyfodol agos er mwyn cyflawni hyn? Yn yr un adran, ar dudalen 23, mae dymuniad i gryfhau proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. A allaf i ofyn i’r Prif Weinidog i gyhoeddi drafft o bolisi rhyngwladol newydd i Gymru sy’n cynhwysfawr er mwyn i ni ei thrafod yn y Cynulliad yma? Gall ffocysu ar fasnach a denu buddsoddiad pellach i Gymru, ond hefyd gweledigaeth ar gyfer Cymru fydol ehangach hefyd, gan dynnu sylw, wrth gwrs, at y cyd-destun gwleidyddol newydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn olaf, mae amryw o amcanion yn y Papur Gwyn yn ymwneud â chadw Cymru yn rhan o brosiectau sydd yn agored i wledydd nad ydynt yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, nifer ohonynt yn ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli. Felly, pa drafodaethau ydy’r Prif Weinidog yn bwriadu cychwyn yn y dyfodol agos iawn i gadw Cymru, er enghraifft, yn rhan o gynlluniau fel Erasmus+ a Euro-Plus?

A gaf i orffen drwy ddiolch i’r Prif Weinidog ac i’r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid am eu cydweithrediad yn y cyfnod diwethaf er mwyn i ni ddod at ein gilydd i greu Papur Gwyn cenedlaethol a, thrwy wneud hynny, llais cryf cenedlaethol, yn yr amser pwysig yma i’n cenedl?

Ynglŷn â’r Papur Gwyn, bydd yna drefniadau i gyhoeddi’r Papur Gwyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn swyddogol. Mae hwn yn rhywbeth rydym ni’n edrych ar drefnu ar hyn o bryd. Ynglŷn â gweithio gyda Llywodraethau eraill—wel, Gogledd Iwerddon, ar hyn o bryd, nad oes modd i wneud hynny o achos y sefyllfa bresennol. Gyda'r Alban, yn hanesyddol, ateb yr Alban oedd, ‘Wel, rŷm ni’n ystyried ffordd arall, sef annibyniaeth, felly nid oes llawer o bwynt i ni weithio ynglŷn â chonfensiwn cyfansoddiadol.’ Gobeithio y bydd pethau yn newid, ond dyna beth oedd y sefyllfa bryd hynny.

Ynglŷn â beth sy’n digwydd yn y JMC, wel, wrth gwrs, y JMC ei hunan yw’r lle ble mae trafod yn cymryd lle, neu y bydd yn cymryd lle, ynglŷn â phrosiectau fel Erasmus+, fel Horizon 2020, fel INTERREG, yn y pen draw. Rŷm ni wedi ‘signal-o’ yn barod y bydd rhain yn rhywbeth y byddwn ni am fod yn rhan ohonynt yn y pen draw. Ynglŷn ag Iwerddon, rwy’n mynd i’r Iwerddon yn yr wythnosau nesaf er mwyn cwrdd â’r Taoiseach. Mae yna berthynas agos gyda ni ag Iwerddon ei hunan, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y berthynas honno yn parhau. Byddaf yn mynd hefyd i America diwedd mis nesaf. Rwyf wastad yn tueddi mynd i Washington ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac fel yna y bydd hi tro hyn hefyd. Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad sydd yn hollbwysig i Gymru. Nhw yw’r buddsoddwyr mwyaf yn economi Cymru. Mae’n hollbwysig felly ein bod ni’n sicrhau bod y buddsoddiad yna yn dal i ddod, wrth glywed beth ddwedodd yr Arlywydd Trump yr wythnos diwethaf.

Ynglŷn â sut bydd pethau yn gorfod newid, ar hyn o bryd mae hi’n anodd iawn i denu buddsoddiad o unrhyw gwmni sydd yn moyn cynhyrchu rhywbeth, achos nid ydyn nhw’n cael unrhyw sicrwydd ynglŷn â pha fath o fynediad fydd gyda nhw i mewn i’r Undeb Ewropeaidd neu’r farchnad Ewropeaidd. Mae yna rhai cwmnïau, wrth gwrs, lle nad yw hynny’n bwysig—cwmnïau sydd efallai yn cynnal ‘engines’ er enghraifft, neu gwmnïau sydd yn gweithio mewn rhan o’r farchnad lle nad yw’n hollbwysig iddyn nhw. Yn y fanna, wrth gwrs—dyna lle ar hyn o bryd mae’n rhaid i ni edrych i gael buddsoddiad o achos y ffaith bod ansicrwydd yno ynglŷn â beth fydd natur y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Ond y pwynt rwyf wastad wedi’i wneud yw: mae Cymru yn dal ar agor i fusnes ac rydym yn dal, wrth gwrs, yn mynd i wledydd. Bydd sawl Gweinidog yn mynd i sawl gwlad ar Ddydd Gŵyl Dewi i werthu Cymru unwaith eto. Un o’r pethau rydym ni’n moyn sicrhau yw nad yw pobl yn cael yr argraff bod drysau wedi cael eu cau ynghylch buddsoddi yng Nghymru er bod yna ansicrwydd ar hyn o bryd. Rydym yn dal i groesawu buddsoddiad sy’n creu swyddi o’r ansawdd gorau yma yng Nghymru.

Ddoe, disgrifiodd y Prif Weinidog ei Bapur Gwyn fel rhywbeth sy’n cydbwyso’r neges a roddodd pobl Cymru i ni â'r realiti economaidd. Mae'n awgrymu nad yw pobl Cymru yn deall eu buddiannau na’u realiti economaidd, a’u bod rywsut yn dioddef o ryw ymwybyddiaeth gyfeiliornus a bod yn rhaid iddyn nhw blygu i’r Prif Weinidog er lles eu buddiannau economaidd. Dywed y bydd y Llywodraeth, ynghyd â Phlaid Cymru, yn siarad dros Gymru, ond yn yr achos hwn, nid ydyn nhw yn siarad dros Gymru. A ydyn nhw’n methu â deall—[Toriad ar draws.] Ydym. Mae pum deg tri y cant yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ac maen nhw yn cael eu hanwybyddu gan y Prif Weinidog. Mae’n well ganddo ef ymuno â Phlaid Cymru mewn clymblaid o gollwyr a ddywedodd wrth y bobl yng Nghymru am bleidleisio dros 'aros', ond fe’u hanwybyddwyd gan 53 y cant o'r bobl hynny sy'n deall eu buddiannau yn well nag y mae ef yn ei wneud.

Yn awr, un peth yr ydym yn ei ddysgu oddi wrth y papur hwn yw pam mae safbwynt y Prif Weinidog wedi bod mor ddigyswllt. O symud oddi wrth alw ar unwaith am barhad symudiad rhydd at droi i’r gwrthwyneb i hynny, yr hyn a welwn yw ei fod wedi ceisio cael rhyw siâp ar safbwynt cyffredin gyda Phlaid Cymru, ond mae i’r safbwynt cyffredin hwnnw sylwedd jeli gwyn. Mae'n cyfeirio at fynediad cwbl ddilyffethair i'r farchnad sengl ac yna'n mynd rhagddo i ddweud y cyfeiriwyd at hynny yn y ddogfen fel 'cyfranogiad yn y farchnad sengl'. Ond ymadrodd twyllodrus yw 'cyfranogiad yn y farchnad sengl' : nid oes ystyr iddo. Ni ddylid rhoi ystyriaeth fwy difrifol iddo nag i’r ‘Beano'.

Yn ei sylwadau, mae Leanne Wood yn cyfeirio i gychwyn at barhau i gyfranogi yn y farchnad sengl. Eto i gyd, mae’n mynd yn ei blaen wedyn i glodfori’r papur am ei fod yn cadarnhau'r egwyddor o ryddid i symud, ac felly, o gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl. Rydym wedi gweld hyn yn y cynnig a oedd gan Blaid Cymru y llynedd yn galw arnom i aros yn y farchnad sengl. Bu'r Prif Weinidog yn chwipio ei gefnogwyr i bleidleisio, gyda ni, yn erbyn y cynnig hwnnw, gan ei fod yn anghyson â neges pobl Cymru fod yn rhaid i ryddid i symud ddod i ben. Yna, yn fwy diweddar, cytunodd â’u gwelliant yn cefnogi aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a / neu EFTA—sydd, a dweud y gwir, yn hollol druenus a diystyr. Mae'n estyn hyd y ddogfen hon—ac mae ef am i ni gyfeirio at y ddogfen. Yn y paragraff hwn, mae'n dweud bod amryw o opsiynau

a allai olygu aelodaeth y DU yng Nghymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA), yr oedd y DU yn aelod ohoni cyn ymuno â'r UE, a thrwy hyn y byddai’n para i fod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Nid trwy’r EFTA y mae Norwy a Gwlad yr Iâ yn aelodau o'r AEE. Maen nhw’n aelodau oherwydd eu bod wedi ymuno â’r AEE. Mae’r Swistir yn aelod o’r EFTA ond nid yw’n aelod o’r AEE. Mae hynny oherwydd bod yr AEE yn beth gwahanol iawn iawn i EFTA. Cytundeb masnach rydd yw EFTA. Mae'r AEE yn awgrymu derbyn corff cyfan o gyfraith a dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn y gyfraith honno ac mae hefyd yn awgrymu ei bod yn cyrraedd hyd at ein heconomi gartref. Mae'n siarad am reoliad yr UE, ac eto pan fyddwn yn allforio i'r UE mae'n rhaid i ni ufuddhau i’w reoliadau. Ond a ddylem ni ufuddhau hefyd i'r holl reoliadau dros ein holl economi gartref o bobl nad ydyn nhw yn allforio, ac a ddylai Llys Cyfiawnder Ewrop fod â’r gair olaf yn ein cyfreithiau? Dyna’r cwestiynau allweddol, ac mae cyfeirio at 'gyfranogi yn y farchnad sengl' neu 'ymuno â’r AEE a'r / neu'r EFTA' yn chwerthinllyd, a dweud y gwir.

Mae arweinydd yr wrthblaid yn cyfeirio at y Beano. Keith Vaz mewn gwirionedd, fel Gweinidog Llafur dros Ewrop, a gyfeiriodd gyntaf at y Beano yng nghyd-destun Siarter Hawliau Sylfaenol—byddai ganddi ond grym y Beano—hyd nes i hynny gael ei ddehongli mewn gwirionedd fel cyfeiriad uniongyrchol at ein holl ddeddfau. Nid yw ef yn gallu penderfynu chwaith beth yw’r safbwynt cyffredin gyda Phlaid Cymru, ac mae’r ymadrodd truenus 'cyfranogi yn y farchnad sengl’ yn cuddio’r diffygion—neu a yw’n cuddio’r diffygion yn ei ddealltwriaeth ei hun? Nid yw'n ymwybodol fod Prydain yn aelod o Sefydliad Masnach y Byd. Mae'n cyfeirio at y cytundeb masnach sydd gan yr UE â Tsieina. O ble ar y ddaear y cafodd y syniad hwn? Onid yw ef yn deall nad cytundeb masnach rydd yw’r Bartneriaeth Fasnach a Buddsoddi Drawsatlantig? Cytundeb y tu ôl i ddrysau caeedig ydyw, gyda buddiannau corfforaethol am gael man rheoleiddio unigol lle mae'n anghyfreithlon gwerthu unrhyw beth oni fydd yn dilyn y rheoliad unigol a wnaed dros yr Iwerydd heb gyfeirio at ein Cynulliadau na’n Seneddau democrataidd. Mae angen iddo benderfynu ar ei safbwynt ei hun, yn hytrach na cheisio cuddio’r sefyllfa trwy ddymuniad gorffwyll i gofleidio Plaid Cymru mor dynn ag y gall ar y mater hwn. A dweud y gwir, yr unig rai sydd wedi eu heithrio o hynny yw'r rhai a arferai bleidleisio dros ei blaid ef—y 53 y cant a bleidleisiodd dros adael—a bydd llawer iawn o'r rhain, yn hytrach na phleidleisio dros ei blaid ef pan ddaw eu cyfle, yn pleidleisio i ni.

Pa mor ddiolchgar yr ydym i gyd i Mark Reckless am iddo ddod i Gymru a dweud wrthym bob un, drueiniaid ag yr ydym ni, yr hyn nad oeddem yn ei wybod o'r blaen. Pa mor wych yw hi fod pŵer ei ymennydd anhygoel ar gael i ddangos i ni ein bod i gyd yn anghywir a’i fod ef yn llygad ei le. Mae’r safbwynt a gymerodd y tu hwnt i bob dychan. Gadewch i mi ddyfynnu dau beth iddo. Yn gyntaf oll, model Norwy sydd dan ei lach: 'Model Norwy yw'r cynllun a ffefrir gennym ni' meddai Arron Banks—Arron Banks, dyn yr arian sy’n cefnogi UKIP. Dyna beth ddywedodd ef. Nid fy ngeiriau i ydy’r rhain; geiriau ei blaid ei hun ydyn nhw. Dywedodd Daniel Hannan yr un peth—model Norwy. Rwy’n cofio’r ddadl. Rwy’n cofio’r ddadl yn ystod y refferendwm pan ddywedwyd wrth bobl, 'Peidiwch â phoeni, mae model Norwy ar gael i ni,' ac mae’r chwedl wedi mynd ar led, rywsut, mai pleidlais dros Brexit caled oedd hon. Nage wir.

Nid oes gan ei blaid unrhyw gynghorwyr o gwbl yng Nghymru. Gallaf addo iddo os yw’n credu y bydd pleidleiswyr Llafur yn dilyn cyn AS Ceidwadol drwy bleidleisio i UKIP, yna bydd yn rhaid iddo ailystyried ei safbwynt, er gwaethaf rhagoriaeth amlwg ei ddeallusrwydd. A gaf i ei atgoffa bod y DU wedi erfyn yn daer i ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd? Roedd yn dyheu yn enbyd am gael ymuno, ac nid wyf i am fod mewn sefyllfa o’r fath byth eto yn y dyfodol pan fydd y DU yn daer i ymuno ag unrhyw beth. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn rheoli'r broses hon yn briodol ac yn effeithiol.

Dywedodd fod ein safbwynt ni fel jeli gwyn. Does gen i ddim syniad beth mae’r trosiad hwnnw yn ei olygu, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod ei safbwynt ef yn llawn tyllau, fel caws y Swistir—dyna drosiad gwell. Yn y bôn dyma yw’r swm a’r sylwedd : 'Byddwn yn ymadael â’r UE, a bydd yr UE yn cwympo wrth ein traed.' A allaf awgrymu iddo mai hwn yw'r safbwynt mwyaf naïf y gallai unrhyw wleidydd yn y Siambr hon neu yn rhywle arall ei ddewis?

A gaf i hefyd sôn am rai o'r materion eraill a godwyd ganddo? Hon yw’r broblem sylfaenol sydd gennyf gyda'r pwynt a wnaeth ar reoliadau'r UE. Mae’n iawn: os ydym am werthu i'r farchnad Ewropeaidd, byddwn yn dilyn rheolau Ewrop. Ond os ydym am werthu ym marchnad y DU, ni fyddwn yn eu dilyn. Felly, mewn geiriau eraill, bydd y farchnad yn y DU yn derbyn nwyddau o ansawdd gwaeth—stwff salach—gan y bydd safonau yn y DU yn is na'r safonau yn unrhyw le arall yn y byd. Mae hynny'n golygu na fydd allforwyr y DU yn gallu allforio a byddai'r DU yn ôl yn y sefyllfa yr oedd ynddi yn y 1970au pan oedd gan lawer o ddiwydiant y DU enw am gynhyrchu sbwriel. Nid ydym am ddychwelyd i’r sefyllfa honno eto. Rydym am wneud yn siŵr bod y DU a Chymru yn economi y mae pobl yn gweld ein bod yn cynhyrchu nwyddau o'r ansawdd uchaf ynddi, wedi eu prisio yn deg a hefyd, wrth gwrs, nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu am bris uchel ar gyfer y marchnadoedd gwerth uchel hynny. Yr hyn y mae’n ei awgrymu yw dyfodol pan fydd y DU yn eistedd ar ei phen ei hun—dyfodol gwarchodol—ac yn ceisio cytundebau masnach rydd gyda gwledydd nad oes ganddynt ddiddordeb mewn cytundebau masnach rydd.

Rwyf yn erfyn arno: dangoswch beth realaeth. Dangoswch beth realaeth. Os ydych yn dymuno beirniadu, mae gennych berffaith hawl i wneud hynny, ond lluniwch eich cynllun eich hun. Peidiwch â dweud, 'Mae hyn i gyd yn anghywir, ac mae’r hyn yr ydym ni yn ei ddweud i gyd yn iawn.' Nid wyf wedi gweld unrhyw gynllun o gwbl gan UKIP. Fe daflodd e’r fricsen drwy'r ffenestr; rhaid i ni glirio’r llanast. Helpwch i wneud hynny, o leiaf, yn hytrach na sefyll draw ar y palmant yn beirniadu pobl sydd yn ceisio gwneud hynny. Nawr, rwy'n siŵr ein bod wedi ein goleuo gan y rhagoriaeth anghymesur a ddangosodd i ni yn y Siambr, ond rwyf yn dweud hyn wrtho: byddwn bob amser, fel y bydd Plaid Cymru, drwy'r Papur Gwyn hwn, yn amddiffyn buddiannau cenedlaethol Cymru, a buaswn yn ei annog ef i wneud yr un fath.

Nid wyf am oedi gyda’r materion ehangach a drafodwyd hyd syrffed yma heddiw. Mae rhai o'r gwahaniaethau barn wedi bod yn eithaf mawr. Rwyf am ganolbwyntio ar un man lle gellid cael mwy o gytundeb. Gan ddweud hynny, wrth agor y sylwadau hyn, a gaf i groesawu yma siarad pwyllog RT Davies yn hyn o beth? Wrth gyfeirio at bennod 7—sy’n trafod diwygio cyfansoddiadol ar ôl Brexit—mae'n amlwg ei fod yn bwnc sydd wedi ennyn diddordeb y pwyllgor yr wyf yn ei gadeirio. Yn wir, Brif Weinidog, nid oes gen i ddim amheuaeth y bydd gwahoddiad yn cael ei anfon ar adennydd chwim i’ch swyddfa er mwyn i chi ddod i siarad gyda ni, am y cynigion a pha mor ymarferol fydd gweithredu arnyn nhw, ac efallai, hefyd, y posibilrwydd o gael rhywfaint o gydsyniad ehangach ar rai cynigion eithaf beiddgar—nid yw pob un ohonyn nhw yn newydd; rydym wedi gweld rhai ohonyn nhw yn cael eu hailadrodd gan Lywodraeth Cymru a chan bleidiau eraill yma cyn hyn—ond i ddod â nhw at ei gilydd yn y ddogfen hon, ac awgrymu, mewn gwirionedd, y gall bellach nid yn unig fod yn angenrheidiol bwrw ymlaen gyda rhai o'r cynigion hyn, ond hefyd gall fod yn gyfle i fwrw ymlaen â nhw er mwyn lleddfu ar rai o'r rhaniadau sydd wedi codi—fel yr ydym newydd ei glywed, ac sydd yn para i fod yn gyffredin drwy’r wlad—oherwydd y refferendwm ar yr UE. Nawr, dyna bwnc diddorol, tybiaf, y gallwn ddatblygu peth ystyriaeth ar y cyd arno, ac efallai rhywfaint o gytundeb arno.

Rydych yn cyfeirio ym mhennod 7 at y rhaniadau mawr hynny. Un ffordd o fwrw ymlaen â hyn fyddai edrych drachefn ar fater confensiwn cyfansoddiadol a fyddai'n edrych ar y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, a pherthynas y gweinyddiaethau datganoledig â Llywodraeth y DU a Senedd y DU. Rydych yn dweud yn gwbl blaen, yn eich barn chi ac ym marn y Papur Gwyn hwn, y dylai'r DU gael ei hailfodelu ar strwythurau newydd mwy ffederal.

Rydych yn rhoi’r syniad gerbron eich bod am chwarae rhan weithredol wrth fwrw ymlaen â strwythurau cymwys i fodoli yn y fframwaith ôl-Brexit hwn, ac rydych yn cydnabod y bydd angen fframwaith ar draws y DU. Ond wrth wneud hynny rydych yn dynodi egwyddorion clir. Fe hoffwn ofyn i chi efallai am ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny. Eich egwyddorion chi yw cydsyniad rhydd y tair senedd a llywodraeth ddatganoledig i gymryd rhan ar delerau cyfartal â Llywodraeth y DU. Byddwch yn gweld Llywodraeth y DU yn cynrychioli buddiannau Lloegr, yn hyn o beth. A byddwch yn gweld model sy'n cadw o leiaf y mesurau presennol o hyblygrwydd er mwyn y gwledydd a'r rhanbarthau datganoledig hynny. Yn olaf, y trydydd pwynt yw bod yn rhaid cael dulliau cymodi cadarn sy’n wirioneddol annibynnol i ddatrys unrhyw anghydfodau.

Yn awr, mae’r rhain yn egwyddorion clir. Rwy'n credu ei bod yn werth i bob Aelod yn y Cynulliad ystyried a oes modd edrych ar y rhain ac a oes rhywfaint o gytundeb ar gefnogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r Papur Gwyn ei hun. Credaf y byddai hynny yn helpu i fwrw ymlaen â'r fframwaith cywir.

Un neu ddau o bwyntiau eraill. O ran trafodaethau masnach ryngwladol a pholisi ar gystadleuaeth, rydych yn nodi

y bydd rheoli'r meysydd polisi hyn yn gofyn am ddulliau rhynglywodraethol a strwythurau llawer mwy difrifol a thrylwyr ... na'r rhai sydd yn eu lle ar hyn o bryd

a’ch bod yn bwriadu ceisio mynd ati’n weithredol i ddatblygu’r rhain gyda thirwedd wleidyddol a chyfansoddiadol newydd.

Rydych yn cyfeirio at Gydbwyllgor y Gweinidogion a'r angen am ailwampio llwyr ym marn y Papur Gwyn hwn. Rydych yn cynnig y dylid ei ad-drefnu yn gyngor o Weinidogion y DU, sy'n cwmpasu agweddau ar bolisi lle mae’n ofynnol cael cytundeb pob un o’r pedair llywodraeth —eto, ar y cydraddoldeb hwnnw; ar y cydraddoldeb rhwng y rheini â’i gilydd.

Yn olaf, y pwynt arall sydd o gryn ddiddordeb, wrth gwrs, yw eich cynigion yma ar y Bil diddymu mawr a’r hyn y gellid ei wneud ynglŷn a’r meysydd cymhwysedd datganoledig a pam mae hyn—gan edrych ar y strwythur ar ôl Brexit, ac yn y cyfnod pontio—cyn bwysiced ag y mae. Felly, mae yna hen ddigon o swmp cyfansoddiadol yn y Papur Gwyn hwn. Byddem fel pwyllgor yn croesawu’r cyfle i’ch holi ymhellach am hyn yn ogystal â’r hyn yr ydych wedi gallu ei ddweud heddiw, a’ch bod yn ymddangos ger ein bron cyn gynted â phosibl, a gweld a yw'r mesurau hyn yr ydych yn eu cynnig yn ymarferol, yn bosibl i’w gweithredu, o fewn ein cyrraedd, ac y gallent yn wir gael cytundeb ehangach o fewn y Siambr hon hefyd; oherwydd, yn sicr, buasai hynny er lles gorau Cymru.

Rwyf yn diolch i’m cyd-aelod am y sylwadau hynny. Wrth galon hyn y mae’r mater fydd yn ein hwynebu dros y blynyddoedd nesaf, a hynny yw na ddylai Brexit gael ei weithredu yn y fath fodd, wrth i Brydain adael yr UE, fel na fyddai Prydain yn bodoli yn y dyfodol oherwydd bod y DU yn rhanedig. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y rhwygiadau hynny yn cael eu lleddfu. Nid oes ffordd well o waethygu pethau na Whitehall yn ceisio cymryd pwerau oddi ar y llywodraethau datganoledig, neu ymyrryd ym materion datganoledig mewnol Cymru. Nid wyf yn credu y bydd y DU yn goroesi wedi’r math hwnnw o driniaeth.

Felly, bydd rhaid i ni wneud yn siŵr bod peirianwaith y DU yn addasu i wir natur yr unfed ganrif ar hugain. Mae hynny yn golygu bod yn ddarostyngol i gynllun cymodi annibynnol lle bo anghydfodau. Mae'r pwynt wedi ei wneud, wel, os ydym o fewn y farchnad sengl, y gallem ni fod yn gaeth i farn Llys Cyfiawnder Ewrop. Ond y gwir amdani yw y byddwn yn gaeth i ddyfarniadau Llys Hawliau Dynol Ewrop o hyd. Byddwn yn sicr yn gaeth i Lys y Byd. Os byddwn yn ymrwymo i gytundeb masnach rydd gydag unrhyw wlad, yna byddwn yn ildio cyfran o sofraniaeth, oherwydd byddwn yn ildio’r sofraniaeth i ddyfarnwr annibynnol. Mae Llys Cyfiawnder Ewrop mewn llawer ffordd yn ganolwr mewn cyfres o gytundebau. Ac felly, os oes gan y DU 50 o gytundebau masnachu rhydd, bydd 50 o beirianweithiau cymodi amrywiol er mwyn ymdrin â’r cytundebau hynny a fyddai’n drech na Senedd y DU. Unwaith eto, nid yw'n rhywbeth sydd wedi ei ystyried yn fanwl cyn belled ag y bo cytundebau masnach rydd dan sylw. Ac felly, i mi, yr hyn sydd angen gweithio arno yw: sefydlu beth fydd i bob pwrpas yn Gyngor Gweinidogion y DU; cryfhau neu adeiladu ar beirianwaith presennol Cydbwyllgor y Gweinidogion; cael cydsyniad Whitehall bod llawer o feysydd yn y dyfodol lle bydd yn rhaid cael cytundeb ac nid gorfodaeth—mewn amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae mynediad i bysgodfeydd yn fater mawr a chymhleth o ran lle bydd y mynediad yn cael ei ganiatáu, faint o gwota fydd i Gymru, ac, yn wir, pa fath ar gychod fydd yn cael y cwota hwnnw, oherwydd bod lles pysgotwyr Cymru yn hollol wahanol i'r Alban, ac, er enghraifft, gogledd-ddwyrain Lloegr. Bydd yn rhaid datrys yr holl faterion hyn. Ni ellir eu datrys ond drwy beirianwaith priodol sydd yn gallu gwireddu penderfyniad a chytundeb, lle bydd cynllun cymodi annibynnol ar wahân i Lywodraeth a Thrysorlys y DU. Wrth wneud hynny, rwy’n credu y bydd yn helpu nid yn unig i warchod marchnad sengl y DU, ond yn helpu hefyd y berthynas dda rhwng cenhedloedd y DU ei hun.

5. 5. Datganiad: Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar leihau maint dosbarthiadau babanod a chodi safonau, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.

Diolch i chi, Lywydd. Ers fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet, mae wedi bod yn fraint ymweld ag ysgolion a chwrdd ag athrawon, disgyblion a rhieni ar draws y wlad. Un uchafbwynt penodol oedd agor yr ysgol newydd yn Llandysul. Yn debyg i’m cydweithwyr yn y Siambr hon, rwyf bob amser yn edmygu ymroddiad, brwdfrydedd ac uchelgais y mwyafrif helaeth o'r proffesiwn addysgu, nid yn unig ar gyfer eu hysgol a’u disgyblion eu hunain, ond ar gyfer pobl ifanc ym mhob rhan o’n system addysg. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, rwy’n cydnabod na all unrhyw ysgol na system addysg fod yn gryfach na'u hathrawon a'u haddysgu nhw. Dyna pam y mae angen i ni roi'r offer sydd eu hangen ar athrawon a phenaethiaid ysgolion ar gyfer y swydd. Mae hyn yn cynnwys trawsnewid addysg gychwynnol ar gyfer hyfforddi athrawon, lansio safonau proffesiynol newydd, dull cenedlaethol o ddysgu a datblygu proffesiynol, a chymell graddedigion newydd ac aeddfed i fod yn rhan o'r proffesiwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dro ar ôl tro, mae rhieni ac athrawon yn dweud wrthyf eu bod yn pryderu am faint dosbarthiadau. Rydym wedi gwrando ar y pryderon hyn, wedi ystyried y dystiolaeth ryngwladol, a heddiw rydym yn cyhoeddi manylion am y gronfa newydd gwerth £36 miliwn i fynd i'r afael â maint dosbarthiadau babanod. Bydd y buddsoddiad hwn, yn gysylltiedig â’n diwygiadau eraill, yn gwella cyrhaeddiad y blynyddoedd cynnar, yn cael effaith sylweddol ar gyfer disgyblion tlotach a difreintiedig, yn cefnogi athrawon i fod yn arloesol ac yn cynyddu ymgysylltiad â disgyblion.

Nawr, yn rhy aml, mae trafodaeth sy’n ymwneud â maint dosbarthiadau yn arwain at ddewis ffug rhwng dosbarthiadau llai a pholisïau eraill ar gyfer gwella addysg. Nid wyf yn derbyn bod y farn gul hon ynglŷn â maint dosbarthiadau yn ffactor amherthnasol o ran perfformiad a lles ein pobl ifanc. Ond, Ddirprwy Lywydd, nid wyf ychwaith yn ei chynnig fel ateb sicr i’n system addysg. Nid yw'n bolisi a gaiff ei gyflwyno ar ei ben ei hun. Ar ôl adolygu gwaith ymchwil a thystiolaeth ryngwladol, mae'n dangos bod lleihau maint dosbarthiadau yn cael yr effaith fwyaf ar y grŵp oedran ieuengaf. Rydym hefyd yn gwybod bod yr effaith yn gryfach ar gyfer disgyblion o gefndiroedd tlotach a/neu sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol. Ac mae lleihau yn cael yr effaith fwyaf pan gyfunir hynny â newidiadau a diwygiadau i addysgu ac addysgeg.

Felly, yn seiliedig ar y dystiolaeth, bydd ein buddsoddiad mewn refeniw a chyllid cyfalaf yn targedu’r ysgolion sydd â’r dosbarthiadau mwyaf o ran maint, lle mae angen gwella addysgu a dysgu, lle mae lefelau uchel o amddifadedd a lle nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn ieithoedd cyntaf.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil mwyaf arwyddocaol yn y DU i faint dosbarthiadau, gan y Sefydliad Addysg mwyaf blaenllaw y byd yng Ngholeg y Brifysgol Llundain. Gan olrhain dros 20,000 o ddisgyblion mewn dros 500 o ddosbarthiadau ar draws 300 o ysgolion, daeth y gwaith ymchwil i'r casgliad bod maint dosbarthiadau yn cael effaith glir iawn ar gyflawniad academaidd yn ystod y blynyddoedd cynnar, a bod disgyblion o grwpiau cyrhaeddiad isel mewn addysg yn benodol wedi elwa ar ddosbarthiadau llai. Mae'r canlyniadau hyn yn debyg i brosiectau ac ymyriadau polisi cyffelyb a gynhaliwyd yng Ngogledd America.

Yn 2003, adroddodd Estyn fod buddion i’w cael o addysgu grwpiau penodol o blant yn rhan o grŵp bach—yn benodol, y plant ieuengaf, y plant hynny ag anghenion arbennig, y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn iaith heblaw eu hiaith gyntaf, a'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd lle mae pobl dan anfantais gymdeithasol a diwylliannol.  Yna, argymhellodd Estyn y dylid targedu’r grwpiau hyn o blant os penderfynwyd dilyn polisi o leihau mwy ar faint dosbarthiadau.

Rydym yn ystyried yn strategol yr hyn y gellir ei gyflawni drwy’r buddsoddiad hwn. Wrth wneud cais am arian, er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y rheng flaen a lle y mae ei angen fwyaf, bydd y meini prawf yn cynnwys: ysgolion â dosbarthiadau o 29 neu fwy; lefelau uchel o brydau ysgol am ddim; canlyniadau sy’n is na’r cyfartaledd, a lle y bernir bod ysgol yn goch neu'n oren yn ôl ein system gategoreiddio genedlaethol; lefelau uchel o anghenion dysgu ychwanegol; lefelau uchel o ddisgyblion nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt; ac o bosibl, gydleoli a darpariaeth integredig y cyfnod sylfaen gyda chynnig gofal plant ein Llywodraeth.

Bydd awdurdodau lleol, drwy gonsortia, yn gwneud cais am gyllid i gefnogi ysgolion yn erbyn y meini prawf hyn. Wrth wneud hynny, byddai angen iddynt gyflwyno achos busnes ar gyfer pob cynnig, a fyddai hefyd yn cynnwys manylion am ba gymorth ychwanegol a ddarperir i'r ysgolion hynny a phwyslais presennol y grant amddifadedd disgyblion a’r grant gwella addysg. Byddai'n rhaid i bob achos busnes hefyd gynnwys canlyniadau penodol yn ymwneud â gwelliannau o ran perfformiad, presenoldeb, cymarebau disgybl athro a chynaliadwyedd. Bydd angen i geisiadau ystyried amrywiaeth eang o ddata, gan gynnwys capasiti ysgolion, cymarebau disgybl athro, presenoldeb, perfformiad—gan gynnwys perfformiad y plant sy’n cael prydau ysgol am ddim—categoreiddio, gweithredu gan yr ysgol a nifer y disgyblion sydd wedi cael datganiad o AAA.

Byddai athrawon ychwanegol a sicrheir drwy leihau maint dosbarthiadau yn cefnogi cydymffurfiad â chymarebau sylfaen ac, yn bwysig iawn, byddai hefyd yn darparu mwy o amser yng nghwmni athro cymwysedig, sy'n hanfodol ar gyfer gweithredu’n effeithiol addysgeg y cyfnod sylfaen. Ceir cysylltiad clir rhwng fy nghyhoeddiad i a datblygu ein cynnig gofal plant. Byddaf yn disgwyl i geisiadau ystyried gweithio ar y cyd ac arbedion effeithlonrwydd ar brosiectau cyfalaf lle mae angen cyfleusterau gofal plant ychwanegol, yn ogystal â dosbarthiadau babanod ychwanegol i gyflwyno cyfnod sylfaen.

Ddirprwy Lywydd, i grynhoi, mae ein diwygiadau addysg yn ceisio codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol. Heddiw, rydym yn ymateb i bryderon rhieni ac athrawon, gan gyflwyno polisi 'gwnaed yng Nghymru' wedi’i siapio gan dystiolaeth ryngwladol ac yn gwarantu £36 miliwn o fuddsoddiad a fydd yn lleihau maint dosbarthiadau babanod fel ein bod yn codi safonau i bawb.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Gwn fod ganddi farn gadarn ar y mater hwn, ac mae'n debyg mai dyna’r arf y gwnaeth hi ei ddefnyddio i gornelu Carwyn i fod yn rhan o’i Gabinet—yn sicr roedd hyn wedi helpu i drefnu eu bargen. Ond pan ddaw at lunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth, ni allaf ddeall mewn gwirionedd pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar drywydd y mater penodol hwn.

Clywsom dystiolaeth, fel Cynulliad, dim ond chwe mis yn ôl, gan yr Athro David Reynolds, arbenigwr addysg enwog a chynghorydd i Lywodraeth Cymru. Awgrymodd y dystiolaeth nad canolbwyntio ar leihau maint dosbarthiadau i 25 oedd y ffordd i wella safonau, ac o ran sicrhau canlyniadau ar fuddsoddiadau, roedd ffyrdd llawer mwy cynhyrchiol o wario arian mewn addysg gynradd. Nid David Reynolds yw’r unig un sydd â’r farn hon—mae prif arolygydd ysgolion Ei Mawrhydi yn Estyn hefyd yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,

nad yw maint dosbarth yn ymddangos i fod yn ffactor mawr yn ein canlyniadau arolygu.

Yn wir, dywed mai dim ond ychydig bach o wahaniaeth y bydd lleihau dosbarthiadau i 25 yn ei wneud.

Ac mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sydd wedi bod yn destun llawer o ddadlau yn y Siambr hon yn ddiweddar, yn enwedig ers cyhoeddi canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, bod

maint y dosbarth yn amherthnasol i berfformiad cyffredinol y system ysgol.

Felly, mae gennych lawer o bobl—côr o leisiau—sy’n dweud, 'Edrychwch, os ydych chi am gael y gwrth gorau am eich arian, er mor ddeniadol yw gwario arian ar leihau meintiau dosbarth ac y byddai heb amheuaeth yn gwneud rheoli dosbarthiadau’n haws, nid hynny yw’r ffordd orau o fuddsoddi’r arian hwnnw.’ Yn wir, mae Ymddiriedolaeth Sutton, elusen addysg ffurfiannol, sy'n ymroddedig i wella symudedd cymdeithasol—nod yr ydym ni i gyd yn ei rhannu yn y Siambr hon—drwy addysg, wedi dweud bod hynny yn un o'r ffyrdd lleiaf effeithiol o wella perfformiad yr ysgol.

Wrth gwrs, mae llawer ar feinciau cefn y Llywodraeth wedi mynegi pryderon am y polisi hwn. Nid oes yr un ohonyn nhw yma heddiw—tybed ai dyma pam mae rhai o’r Siambr wedi gadael meinciau cefn y Llywodraeth yn ystod eich datganiad.

Felly, tybed, Weinidog, pa gyngor ydych chi wedi’i geisio a pha gyngor a roddwyd gan swyddogion y Llywodraeth yn natblygiad y polisi penodol hwn, neu a oedd hyn yn rhywbeth yr oeddech chi’n benderfynol o’i gyflwyno, yn anad dim, heb ystyried y cyngor efallai a roddir i chi gan swyddogion? A gaf i hefyd ofyn, gan na wnaethoch chi unrhyw gyfeiriad ato yn eich datganiad, pa gyngor a geisiwyd gan y consortia addysg rhanbarthol yn natblygiad y polisi? Rwy'n siŵr y byddai ganddo lawer o feysydd blaenoriaeth eraill y bydd o bosibl yn dymuno gwario £36 miliwn arnyn nhw pe byddai’r dewis ganddo.

Rwyf hefyd yn cwestiynu’r rhifyddeg a sut yr ydych chi wedi cyfrifo mai £36 miliwn sydd ei angen i gyflawni amcanion eich polisi. Gwyddom eich bod wedi rhannu’r arian hwn yn awr dros gyfnod o bedair blynedd, a’ch bod wedi’i rannu’n ddau rhwng gwariant cyfalaf a buddsoddi mewn refeniw. Ond, yn sicr, os ydych am fuddsoddi mewn refeniw, mae costau parhaus am fod y tu hwnt i'r cyfnod pedair blynedd, y mae’n ymddangos eich bod chi wedi ymrwymo iddo. A wnewch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi’n disgwyl i'r ysgolion hynny—? A ydych chi eisiau diddymu unrhyw gostau refeniw ychwanegol ac unrhyw aelodau ychwanegol o staff y mae nhw wedi’u darparu er mwyn cyflawni’r polisi hwn ar ôl y cyfnod pedair blynedd? Hynny yw, sut yr ydych chi’n disgwyl y gallant ymdopi?

A beth yw eich rhesymeg ar gyfer y £20 miliwn? Mae'n ymddangos i mi fel pe baech chi wedi rhoi bys i fyny yn yr awyr a dweud, 'rwy'n credu mai tua £20 miliwn fydd ei angen arnom i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion.' Ni welais unrhyw dystiolaeth yn unrhyw le yng Nghymru mai dyna'r swm o arian y byddai angen ei ddyrannu a’i fuddsoddi yn ein system ysgolion er mwyn cyflawni’r polisi penodol hwn. Ac ni allaf weld unrhyw dystiolaeth ychwaith mai £16 miliwn y byddai ei angen i leihau maint dosbarthiadau ledled Cymru i wneud yn siŵr eu bod nhw i gyd â llai na 25 o blant. Felly, byddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr cael gweld mwy o dystiolaeth gennych chi ynglŷn â hynny.

Yn ogystal â hyn, tybed a wnewch chi ddweud wrthym am y rhesymeg y tu ôl galw am fwy o athrawon, a rhoi pwysau ychwanegol ar recriwtio athrawon, ar adeg pan fo argyfwng ar fin digwydd o ran recriwtio athrawon yma yng Nghymru. Gwyddom fod problemau gyda rhai pynciau mewn ysgolion uwchradd, ond ceir hefyd broblemau yng nghyd-destun ysgolion cynradd, yn enwedig yn y sector cyfrwng Cymraeg. Gwelwyd tystiolaeth sydd newydd gael ei chyhoeddi yn ddiweddar iawn sy'n dangos bod cwymp wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n cwblhau hyfforddiant athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg—yn wir, mae wedi haneru bron yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Mae hynny'n bryder mawr i mi, ac ni wn sut yr ydych chi'n mynd i ddarparu’r athrawon ychwanegol hyn, y mae angen iddyn nhw fod yn rhan o’r system beth bynnag er mwyn cymryd lle’r rhai hynny sy'n gadael—sy’n gadael weithiau oherwydd y cânt eu digalonni ac weithiau am ei bod yn swydd nad ydyn nhw’n teimlo ei bod yn dymuno ei chyflawni mwyach, neu oherwydd eu bod yn ymddeol. Sut ydych chi'n mynd i recriwtio’r aelodau ychwanegol hyn o staff er mwyn llenwi'r bylchau hyn a gwireddu’r polisi penodol hwn?

Ni wn ychwaith ba asesiad yr ydych chi wedi’i wneud o allu awdurdodau lleol i adeiladu ystafelloedd dosbarth ychwanegol ar safleoedd ysgolion arbennig. Nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth— dim tystiolaeth o gwbl—mai hon yw'r ffordd gywir ymlaen.

A wnewch chi ddweud wrthyf hefyd, o ystyried cyhoeddiad yr adroddiad Estyn heddiw, a oedd yn nodi mai ansawdd yr addysgu ac arweinyddiaeth oedd y ddau fater mawr y canfuwyd drwy ei brosesau arolygu fel y problemau a'r heriau yng Nghymru, pa gyfran o'r arian hwn, os o gwbl, sydd am gael ei buddsoddi mewn arweinyddiaeth a’i buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus? Rwy’n sylwi yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at rai o'r camau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd, ond nid ydych wedi sôn am yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth, nid ydych chi wedi sôn am rai o'r cymhellion eraill efallai y byddwch chi’n dymuno eu cynnig i ddenu pobl i’r proffesiwn addysgu, ond y mae’r rheini’n bethau sy’n bwysicach, yn fy marn i, ac sydd angen mynd i’r afael â nhw. Felly, tybed beth ydych chi’n ei wneud i ymdrin â'r problemau hynny hefyd, oherwydd eu bod nhw, i mi, yn ymddangos yn llawer pwysicach na cheisio lleihau maint dosbarthiadau i 25 pan na cheir tystiolaeth i gefnogi eich honiadau fod hyn yn mynd i fod y chwyldro sydd ei angen. Mae'n rhaid i mi hefyd ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet—

Dyma fy mhwynt olaf un. Mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn Aelod o'r Cynulliad ers 10 mlynedd bellach, ac nid oes neb erioed, ar garreg y drws, ac nid oes yr un athro, ychwaith, erioed wedi siarad â mi i ddweud mai maint dosbarth yw'r mater pwysig y mae angen inni fynd i’r afael ag ef yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy’n cytuno â Julie Morgan ar y canlynol: nid oes unrhyw un wedi siarad â hi, ychwaith, yn y blynyddoedd y mae hi wedi bod yn AS neu’n AC. Felly, tybed lle mae’r mater pwysig hwn yn eich bag post, oherwydd nid oes tystiolaeth ohono yn fy un i.

Diolch yn fawr iawn, a gaf i ddiolch i Darren am ei gwestiynau y prynhawn yma? Os caf roi tro ar ateb pob un, dechreuodd drwy ddyfynnu tystiolaeth yr Athro David Reynolds, a byddwn yn nodi bod yr Athro Reynolds wedi gwneud y sylwadau hynny heb unrhyw wybodaeth fanwl am y cyhoeddiad polisi. Yn wir, byddai’r rhai hynny ohonoch a wyliodd newyddion ITV neithiwr wedi gweld yr Athro David Reynolds yn llwyr gefnogi’r polisi a'r dull a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth. Felly, mae’r Athro Reynolds yn llawn gymeradwyo'r dull yr wyf yn ei gymryd.

Yna, aethoch chi ymlaen i grybwyll y mater ynglŷn ag Estyn, ac es i’r afael â hynny yn fy sylwadau agoriadol. Dywedodd Estyn yn 2003, pe bai polisi o leihau maint dosbarthiadau yn cael ei weithredu, y byddai’n rhaid iddo dargedu dysgwyr penodol lle’r oedd y mwyaf o fudd yn ôl cydnabyddiaeth Estyn. Y rhai hynny yw ein plant ieuengaf, ein plant tlotaf, a’r plant sydd yn ein hysgolion nad yw’r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Rwy’n dilyn y cyngor y darparodd Estyn yn 2003 ac rwy’n targedu'r adnoddau yn y fath fodd.

Nawr, yn dilyn hynny, gwnaethoch chi ddyfynnu’r Ymddiriedolaeth Sutton hefyd. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Sutton nad defnyddio’r premiwm disgyblion yn Lloegr na'r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru i leihau maint dosbarthiadau oedd y ffordd orau i ddefnyddio'r adnodd hwnnw. Ac nid wyf yn defnyddio arian y Grant Amddifadedd Disgyblion i leihau maint dosbarthiadau. Felly, eto, rwyf yn llwyr ddilyn y cyngor a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Sutton. Ac yna aeth Darren ymlaen i sôn am y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. A gaf i ddweud wrthych yr hyn a ddywedodd y Sefydliad hwn y mis diwethaf am faint dosbarthiadau? Dywedodd hyn yn ei adroddiad llawn:

Ar gyfartaledd ar draws gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gwnaeth disgyblion mewn dosbarthiadau llai adrodd yn amlach na myfyrwyr mewn dosbarthiadau mwy o faint, bod eu hathrawon yn addasu eu cyfarwyddyd i anghenion, gwybodaeth a lefel dealltwriaeth y disgyblion.

Dim ond heddiw, yn adroddiad Estyn, agorwyd ein llygaid at y ffaith nad ydym yn gwneud digon ar gyfer ein plant mwy galluog a thalentog. Mae gallu athro i wahaniaethu yn y dosbarth er mwyn diwallu anghenion pob disgybl—yr holl ddisgyblion: y rhai hynny sydd ar ei hôl hi, y rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai sy'n fwy galluog a thalentog, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i ni ddod o hyd i ffordd well o gyfeirio at y grŵp penodol hwnnw o blant—. Gallwn wneud hynny’n well os oes gan athrawon lai o blant yn yr ystafell ddosbarth. Nid yw addysgu’n bodoli, nid yw addysgu’n digwydd mewn gwagle. Caiff ansawdd yr addysgu, Darren, ei ddylanwadu gan ei gyd-destun—bydd unrhyw athro yn dweud hynny wrthych chi—fel maint y dosbarthiadau, y cyfle i arloesi yn yr ystafell ddosbarth, i weithredu gwahanol ffyrdd o addysgu gan fod gennych lai o ddisgyblion yn eich ystafell ddosbarth, yn ogystal â rhyngweithio rhwng disgyblion ac ymddygiad yn y dosbarth. Nid yw'n gweithredu mewn gwagle. Ac nid wyf yn gwybod pa athrawon yr ydych chi'n siarad â nhw, ac nid wyf yn gwybod pa undebau athrawon yr ydych chi'n siarad â nhw, ond a gaf i eich atgoffa, heb fod mor bell â hynny yn ôl, roedd athrawon yn Lloegr ar streic a'u prif reswm dros wneud hynny oedd pryder ynghylch maint dosbarthiadau. Felly, nid wyf yn gwybod pa ysgolion yr ydych chi’n ymweld â nhw, nid wyf yn gwybod pa athrawon ysgol yr ydych chi'n siarad â nhw, ond, credwch chi fi, mae hyn yn broblem i’n proffesiwn addysgu.

Rydych chi’n dweud, 'O ble y daw’r athrawon hyn?' Wel, eto, mae tystiolaeth yn dangos bod lleihau maint dosbarthiadau yn elfen hanfodol wrth recriwtio a chadw athrawon. Efallai na fyddwn yn colli rhai o'n hathrawon os ydym yn ymdrin â'r pryderon hyn. Efallai y gallwn ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn oherwydd y byddan nhw’n gwybod y byddan nhw’n arfer eu crefft a'u medrau mewn amgylchedd sy'n caniatáu iddyn nhw wneud hynny, nid mewn amgylchedd sy'n cyfyngu ar eu gallu fel y gweithwyr proffesiynol y maen nhw’n dymuno bod.

Soniasoch am bwy yr ydym wedi trafod hyn gyda nhw. Nawr, credwch chi fi, Darren, byddai wedi bod yn well gennyf i weithredu’r polisi hwn ar y diwrnod cyntaf, ond y rheswm dros gymryd yr holl amser hwn yw oherwydd inni drafod yn helaeth gydag awdurdodau lleol a chyda'r consortia rhanbarthol ynglŷn â’r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater hwn. Rydym wedi bod yn astudio'r dystiolaeth. Rydym wedi bod yn mireinio ein gallu i ddylanwadu ar yr agenda hon ac yn gweithio gyda'n partneriaid—gan nad ni fydd yn ei chyflwyno hyn, caiff ei chyflwyno gan y sector—ar y ffordd orau i wneud hynny. Felly, mae ein dull ni o weithredu wedi’i hysbysu'n llawn, ac mae'r ffigurau yr ydym wedi gallu eu rhoi at ei gilydd wedi’u hysbysu'n llawn gan adborth a gafodd fy swyddogion drwy siarad â’r consortia rhanbarthol a siarad ag awdurdodau lleol unigol.

Nawr, rydych chi yn llygad eich lle, a dywedais hynny yn fy natganiad i, hynny ar ei ben ei hun, nid dyma’r ateb sicr i fynd i'r afael â'r materion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw o fewn y system addysg yng Nghymru, ac nid wyf yn lleihau’r problemau hynny, Darren; rydych chi’n gwybod hynny. Rwy’n gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n ein hwynebu, ond fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, nid y polisi hwn yw'r unig bolisi yr ydym yn ei ddilyn. O ran gwella safonau dysgu ac addysgu, rydym eisoes wedi cyhoeddi, ac rydym eisoes yn rhan o, raglen ddiwygio enfawr ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon. Dim ond ddoe, roeddwn yn cwrdd â’r Drindod Dewi Sant i glywed am y newidiadau y maen nhw’n eu gwneud yn awr, a'r newidiadau y byddan nhw’n parhau i’w gwneud er mwyn sicrhau bod hyfforddiant athrawon yn well nag y mae wedi bod.

Rydym yn gweithio yn awr gyda’r Athro Mick Waters i ddatblygu set newydd o safonau addysgu proffesiynol a safonau ar gyfer penaethiaid a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. Gwyddoch fy mod i’n sefydlu fy academïau arweinyddiaeth er mwyn i ni sicrhau arweinyddiaeth gadarn. Drwy ddweud mai dyma’r unig beth rydym yn ei wneud, rydych chi’n camddeall yn llwyr y drefn ddiwygio yr ydym yn ei datblygu, ei gweithredu a’i gyrru ymlaen ar hyn o bryd, ac y bydd hyn yn rhan ohono.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, am gyfle i ofyn cwestiwn neu ddau, efallai, os oes amser ar ôl i wneud hynny.

Rwyf innau hefyd yn cychwyn gyda’r mater yma o dystiolaeth, oherwydd mae dyfyniadau wedi cael eu rhoi—rhai yr oeddwn i’n bwriadu eu rhoi—ond, yn amlwg, rydych chi’n cyfaddef mai nid ‘magic bullet’ yw hwn, ac rwy’n deall hynny. Ond, wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa lle mae adnoddau yn brin ac felly mae’n rhaid blaenoriaethu adnoddau lle rŷm ni’n hyderus y byddan nhw’n cael yr effaith fwyaf gwerthfawr. Felly, mae pwysau’r dystiolaeth, yn fy marn i, yn awgrymu bod yna fwledi llawer mwy ‘magic’ y gallech chi fod yn eu saethu gyda £36 miliwn.

Nawr, roeddwn i’n mynd i ddyfynnu Estyn, ac mae’n amserol iawn o gofio, wrth gwrs, yr adroddiad rŷm ni wedi ei weld heddiw yn ymddangos, gyda’r pwyslais ar wella safonau fel mater strategol pwysig iawn, wrth gwrs. Rwyf wedi cael fy mrawychu braidd eich bod chi’n gorfod dibynnu ar adroddiad gan Estyn o 2003. Mae hynny bron iawn mewn oes arall. Roeddwn i’n dal i ddefnyddio peiriant ffacs yn y dyddiau yna. Mae’r byd wedi newid ac, yn sicr, nid oedd yr adroddiad ar sail y cynnig sydd gerbron heddiw. Os rwy’n cofio’n iawn, yn 2003, y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Cymru, felly os oedd yn gymaint o ‘issue’ adeg hynny, mae’n resyn na wnaethant benderfynu mynd i’r afael ag ef bryd hynny. Yn sicr, roeddent yn rhan o’r Llywodraeth, beth bynnag, yn 2003. [Torri ar draws.] Wel, nid fy nadl i yw hi; fe gewch chi ymateb pan fydd lle i ymateb.

Mi oedd maniffesto Llafur, wrth gwrs, yn ymrwymo i wario £100 miliwn ar wella safonau. A allwch chi gadarnhau unwaith ac am byth fod y £36 miliwn yma y gwnaethoch chi ei gyhoeddi ddoe, ond rydych yn dod a dweud wrthym ni amdano heddiw, yn dod o’r swm yna? Rwy’n gofyn oherwydd rŷm ni’n gwybod beth yw barn rhai o Aelodau Cynulliad Llafur am y ‘prospect’ o ddefnyddio’r arian yna i’r diben yma. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei geryddu gan nifer ohonyn nhw hefyd yn hallt llynedd.

Nawr, mae yna rywfaint o dystiolaeth yn dweud os cewch chi faint dosbarth lawr i 20 a llai, yna wedyn rŷch chi o bosib yn gweld ychydig o effaith mewn gwirionedd. Nawr, yn ôl eich maniffesto chi, wrth gwrs, fel Democratiaid Rhyddfrydol, mi oeddech chi’n gosod targed o 25 ar gyfer maint dosbarth. Nid yw e’n ‘explicit’, mae’n rhaid i mi ddweud, yn y datganiad yma—a allwch chi gadarnhau mai dyna yw’r targed o hyd? A allwch chi gadarnhau na fyddwch chi, er enghraifft, yn cefnogi ceisiadau oni bai eu bod nhw’n arwain at ganlyniad o ddosbarth llai na 25? A allwch chi hefyd ddweud mai’ch bwriad chi yw rholio hyn allan yn y pen draw ar draws Cymru gyfan ac erbyn pryd y byddech chi’n gobeithio gwireddu hynny?

Rŷch chi hefyd yn dweud yn eich datganiad fod y dystiolaeth yn awgrymu—y dystiolaeth yn eich ôl chi—fod buddsoddiad fel hyn yn cael yr effaith fwyaf ar wella cyflawniad yn y blynyddoedd cynnar. Nid ydw’n i’n gweld y datganiad yma yn uniongyrchol eto i fod yn ‘explicit’ bod yr arian sydd ar gael yn benodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Yn sicr, nid yw e yn un o’r elfennau yn y criteria. Rwy’n tybio y byddech chi’n licio cadarnhau a ydych chi yn benodol yn targedu’r blynyddoedd cynnar yn unig; neu fel arall, wrth gwrs, rŷch chi’n cyfaddef nad ŷch chi’n defnyddio’r arian i’w bwrpas mwyaf effeithiol o bosibl.

Mae yna ffigur moel o £36 miliwn yn y datganiad. Mae’n debyg bod yna adroddiadau yn y wasg wedi bod ynglŷn â beth yw proffil y gwariant yna. Yn sicr, nid yw e yn y datganiad ac nid yw e mewn unrhyw wybodaeth rydw i wedi’i derbyn fel Aelod Cynulliad ar y mater yma. Rwy’n deall bod yna sblit cyfalaf a refeniw; mae cyfeiriad wedi bod ato fe cyn nawr ac rwy’n meddwl eich bod chi wedi cael eich cwestiynu ar ba sail y mae hynny wedi cael ei wneud, ond nid ydw i’n siŵr a ydw i wedi clywed yr ateb. Ac mae’r cwestiwn yma ynglŷn â chynaliadwyedd y buddsoddiad hefyd yn un arall y mae angen clywed mwy ynglŷn ag ef. Mae’r gair ‘cynaliadwyedd’ yn ymddangos yn y datganiad. Wel, onid dweud mai disgwyl i’r ysgolion dalu yn y pen draw ŷch chi? Oni ddylech chi ddweud hynny’n blwmp ac yn blaen? Achos mae’n ymddangos i mi fod yr ariannu yma am gyfnod penodol ac ar ôl hynny bydd y buddsoddiad yna, yn y pen draw, yn troi mewn i doriad ac fe fyddwn ni’n colli gwerth y buddsoddiad os nad yw’r awdurdod lleol neu’r ysgol yn mynd i gadw i dalu’r buddsoddiad eu hunain.

Yn olaf gen i—ac rwyf wedi codi hyn gyda chi’n flaenorol yn y pwyllgor—a oes yna beryg y gwelwn ni nid dosbarthiadau llai, ond mwy o gynorthwywyr dosbarth? Rwy’n gwybod am enghreifftiau, ac rwy’n gwybod bod yna elfen o bres cyfalaf fan hyn, ond rwy’n gwybod bod yna nifer fawr o ysgolion lle nad oes y gwagle dysgu ar gyfer darpariaeth y tu hwnt i nifer y dosbarthiadau sydd yna nawr. Nid ydw i’n credu bod y swm cyfalaf sydd gerbron fan hyn yn ddigonol i gwrdd â’r angen—efallai y byddech chi’n cytuno â hynny—a liciwn i wybod a oes yna gysylltiad neu berthynas strategol rhwng yr arian cyfalaf rŷch chi’n cyfeirio ato fan hyn â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, oherwydd yn y mwyafrif o ysgolion, rwy’n meddwl, lle y mae yna gyfyngiadau fel hyn, problemau cyfalaf sydd i gyfrif am y broblem yn aml iawn.

Diolch yn fawr iawn i Llyr. Llyr, y cyfan y gallaf ei ddweud yw os ydych chi’n dymuno dadlau dros ddosbarthiadau mwy o faint, ochr yn ochr â'r Ceidwadwyr Cymreig, dyna eich rhagorfraint chi; nid dyna beth y mae'r Llywodraeth hon yn ei gynrychioli. Rydych chi’n gofyn, 'Pam ydych chi’n cyfeirio at adroddiad Estyn yn 2003?' Dyna'r tro olaf y gwnaeth Estyn waith sylweddol ar y mater hwn. Ond a gaf i ddweud wrthych chi, bu nifer o astudiaethau rhyngwladol a gynhaliwyd dros gyfnod hir o amser hyd yn hyn—byddaf yn anfon manylion atoch am yr union astudiaethau—a dim ond tri o dros 100 o astudiaethau mewn gwirionedd a lwyddodd i ddod o hyd i’r dystiolaeth? Felly, y dystiolaeth bendant lethol o’r astudiaethau rhyngwladol yw bod hyn yn gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn dweud wrth yr Aelod, mae enghreifftiau o systemau addysg sydd wedi lleihau maint dosbarthiadau a pholisïau dosbarthiadau llai yn ystod y blynyddoedd diweddar yn cynnwys Denmarc, y Ffindir, Israel, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Sweden, Tennessee yn yr Unol Daleithiau, Wisconsin yn yr Unol Daleithiau, California, talaith Ontario yng Nghanada, yn ogystal â rhannau eraill. Mae enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi cynhyrchu gwaith ymchwil cadarnhaol yn cynnwys prifysgolion ar draws y byd.

Dywedodd yr Aelod mai’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn gyfrifol am addysg pan oeddem yn y glymblaid. Rwy’n ceisio cofio, ond os wy’n cofio’n iawn, nid oeddem ni erioed yn gyfrifol. Y celfyddydau, diwylliant, llyfrgelloedd—ie. Datblygiad economaidd a materion gwledig—ie. Mewn gwirionedd, os caf atgoffa'r Aelod—a gallwch wirio hyn—yn wir, yn rhan o'r glymblaid, roedd polisi lleihau maint dosbarthiadau babanod a gafodd ei ddilyn gan y Llywodraeth ac roedd cyllid pwrpasol ar gael gan y Llywodraeth glymblaid i weithredu'r polisi hwnnw. Yr hyn sydd efallai'n rhyfeddach, Llyr, yw’r hyn a ddigwyddodd i'r ymrwymiad yn Llywodraeth Cymru'n Un, yr un oedd Simon Thomas yn gynghorydd arbennig iddi—a gallwch bori drwy’r ddogfen ar y rhyngrwyd—a oedd yn dweud y byddai’r Llywodraeth yn lleihau maint dosbarthiadau? Byddai cryn ddiddordeb gennyf wybod pa gamau a gymerwyd mewn gwirionedd yn Llywodraeth Cymru'n Un. Hmm—efallai nid cymaint.

Mae'r Aelod yn hollol iawn i ddyfynnu ymrwymiad maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol i mi, ac, os byddai’n ei ddyfynnu’n llawn, byddai’n gwybod ei fod yn dweud y byddem yn dechrau â'r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf. Byddwn wrth fy modd yn lleihau maint dosbarthiadau i’n plant i gyd, ond mae’n rhaid i mi wneud hynny yng nghyd-destun y cyllidebau sydd ar gael i mi. Ac mae'r Aelod yn dweud bod angen i mi sicrhau’r gwerth gorau am arian a dyna pam y byddwn ni’n targedu’r dosbarthiadau hynny y mae’r dystiolaeth yn dweud a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Felly, byddwn ni’n dechrau â'r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf, a byddaf yn dweud yn eithaf clir eto, os na ddywedais yn ddigon clir: bydd yr arian hwn ar gael ar gyfer maint dosbarthiadau babanod, oherwydd dyna lle mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym, os ydym ni am sicrhau’r gwerth gorau am arian, yna dyna lle mae angen i ni dargedu ein cefnogaeth.

Mae'r Aelod yn hollol iawn i siarad am gynaliadwyedd; dyna pam y caiff ei grybwyll yn y datganiad. Nid wyf eisiau creu problemau ar gyfer cyllidebau ysgolion, ac mae'n ddrwg gennyf nad atebais gwestiwn Darren Millar am yr hyn sy'n digwydd ar ôl pedair blynedd. Ni wn beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwn o Lywodraeth, ymhen pedair blynedd. Gallaf ond siarad am yr hyn y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud ar gyfer y pedair blynedd nesaf.  Bydd yr hyn sy'n digwydd ar ôl hynny yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth wahanol, Gweinidog Addysg gwahanol—pwy a ŵyr? Y cyfan y gallaf i ei wneud yw siarad am yr hyn y byddaf i’n ei wneud a beth fydd y Llywodraeth hon yn ei wneud tra’r ydym yma. Dyna pam ei bod am bedair blynedd. Ni allaf ymrwymo y tu hwnt i hynny, oherwydd bydd etholiad a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl hynny?

Mae'r Aelod wedi holi am y £100 miliwn; bydd £6 miliwn o’r polisi hwn yn dod o'r £100 miliwn ychwanegol sydd ar gael ar gyfer safonau ysgolion a bydd gweddill y gyllideb—y £30 miliwn—yn dod o'r gyllideb addysg yr wyf i’n gyfrifol amdani.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am y gronfa newydd gwerth £36 miliwn i fynd i'r afael â maint dosbarthiadau babanod. Ni all neb ddadlau o ddifrif—ar wahân i un neu ddau o Aelodau sy’n bresennol—ei fod yn beth da bod 7.6 y cant o ddisgyblion ysgol babanod yng Nghymru mewn dosbarthiadau o fwy na 30. Hynny yw, 8196 o blant ifanc yn cystadlu am sylw a chefnogaeth eu hathrawon a chynorthwywyr dysgu mewn ystafell ddosbarth lawn. Bu Estyn yn bendant fod hwn yn bolisi sydd o’r budd mwyaf i’r disgyblion mwyaf difreintiedig a’r disgyblion hynny nad yw’r Saesneg neu’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru i'w chanmol ar y dystiolaeth ganlynol i sicrhau y caiff yr arian hwn ei dargedu'n briodol i godi safonau ar gyfer pob un o'n disgyblion. Mae’r ffaith y bydd targedu ysgolion lle ceir lefelau uchel o amddifadedd wrth wraidd y gronfa newydd hon yn galonogol. Ar gyfer etholaeth fel fy un i, mae'n hanfodol ein bod ni’n ceisio mynd i'r afael â'r cylch tlodi sy'n cyfyngu ar gyfleoedd addysgol a bywyd plant ifanc, yn enwedig o fewn cymunedau Islwyn.

Byddwn yn gofyn am eglurhad, er hynny, ar y broses ymgeisio sy’n ofynnol er mwyn cael gafael ar y cyllid hwn. Mae eich datganiad yn cyfeirio at y ffaith y bydd awdurdodau lleol, drwy gonsortia, yn gwneud cais am arian i gefnogi ysgolion yn erbyn y meini prawf a ragnodwyd. Mae’r meini prawf hynny yn cynnwys achosion busnes yn cael eu gwneud sy'n cymryd i ystyriaeth amrywiaeth eang o ddata, gan gynnwys capasiti ysgolion, cymhareb disgybl athro, perfformiad o ran presenoldeb, gan gynnwys perfformiad o ran prydau ysgol am ddim, categoreiddio, gweithredu gan yr ysgol a nifer y disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig â datganiad. Pa sicrwydd, felly, y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i mi, ac y gallwch chi ei roi, hefyd, i addysgwyr, ymarferwyr ac awdurdodau lleol sydd wedi mynegi pryder ynglŷn â haen ychwanegol bosibl o fiwrocratiaeth yn gweithredu fel rhwystr rhwng cael yr arian gan Lywodraeth Cymru i’r ystafell ddosbarth? Diolch.

A gaf i ddiolch i Rhiannon am iddi groesawu’r fenter? Rwy’n credu os edrychwch chi ar yr ystadegau yn ymwneud â lle mae gennym ni feintiau dosbarth arbennig o fawr yn y sector babanod yng Nghymru, mewn etholaethau fel eich un chi, ond hefyd yma yn y brifddinas, mae gennym rai o'r cyfrannau uchaf o blant ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau sydd dros 30.

Roedd y dystiolaeth ryngwladol, ac un o'r astudiaethau a gynhaliwyd yn Ontario, a’r brifysgol yn Ontario, yn cydnabod bod y polisi hwn, ochr yn ochr â pholisïau eraill, yn arbennig o fuddiol i blant mwy difreintiedig. Mae’n rhaid inni gydnabod nad oes gan y plant sy’n rhan o’r system addysg yr un manteision i gyd. Felly, rwy’n credu bod gan y Llywodraeth swyddogaeth ddilys yn ei system addysg i geisio mynd i'r afael â'r gwahaniaethau, a mynd i'r afael â’r anfantais honno. Rwy’n credu mai swyddogaeth ddilys y wladwriaeth yw honno, ac, fel rhyddfrydwr nad yw’n hoffi’r wladwriaeth yn ymyrryd gormod mewn pethau, i mi, mae hon yn swyddogaeth ddilys o ymyrraeth y wladwriaeth i geisio unioni'r cydbwysedd ar gyfer y plant hynny. Oherwydd weithiau, heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, nid oes gan y plant hynny unrhyw un arall i frwydro drostyn nhw, a dyna yw ein gwaith ni yma.

Nawr, mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng sicrhau bod arian ar gael, ond hefyd i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr adnoddau cywir. Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr arian ar gael cyn gynted ag y bo modd drwy, fel y dywedais, weithio gyda phartneriaid ein hawdurdodau lleol a’n consortia rhanbarthol. Os ydyn nhw’n canfod bod y broses bresennol sydd gennym ar waith ar gyfer y rownd gyntaf yn rhy fiwrocrataidd, yna rwyf bob amser yn barod i ystyried mireinio hynny wrth inni fynd â'r grant yn ei flaen. Felly, os oes pryderon am lefel y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â'r grant, yna rwyf bob amser yn hapus iawn i ystyried hynny. Ond mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng bodloni eich hun ei fod yn cael ei ddefnyddio at y dibenion priodol, a sicrhau bod ganddom ni’r dystiolaeth i fwrw ymlaen â’r polisi. Oherwydd byddwn yn chwilio am ganlyniadau a gwahaniaethau y bydd y buddsoddiad hwn yn eu gwneud, ac mae’n rhaid i ni brofi ein hunain yn gyson fod y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud yn arwain at ganlyniadau y byddem yn dymuno eu gweld. Felly, mae angen i ni werthuso ein perfformiad ein hunain wrth wneud y penderfyniadau polisi hyn.

I ateb cwestiwn Llyr Griffiths am gyfalaf, ceir rhaniad rhwng refeniw a chyfalaf, oherwydd rwy’n cydnabod yn fawr iawn yr hyn a ddywedodd Llyr, y ceir problem o bryd i’w gilydd o ran gofod sy'n achosi trafferthion. Yr hyn y mae gennyf i ddiddordeb arbennig i’w wneud yw ystyried hynny yng nghyd-destun y cynnig gofal plant hefyd. Gwyddom y bydd y cynnig gofal plant yn cael ei gyflwyno yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac mae cyfle gwych i sicrhau synergedd yma rhwng ein cynnig cyfnod sylfaen yn ogystal â'n cynnig gofal plant. Os gallwn wneud hynny ar yr un safle, mae’n rhaid i hynny fod o fudd i rieni hefyd os gallan nhw gael gafael ar yr holl ymyriadau a chymorth ar gyfer eu plant mewn un ardal benodol.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi’n llygad eich lle bod maint y dosbarth yn ffactor perthnasol ar gyfer cyrhaeddiad addysgol plant, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gywir wrth iddi gyfaddef nad maint y dosbarth yw'r unig ffactor y mae angen ymdrin ag ef. Tybed pam mae’r fenter hon ond yn ceisio ymdrin â'r mater ynglŷn â maint dosbarthiadau er mwyn gwella addysg babanod. Beth fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i leihau maint dosbarthiadau ar lefel ysgolion cynradd?

Rydych chi wedi dweud wrthym y bydd camau eraill yn cael eu cymryd, ond ni cheir manylion am unrhyw un ohonyn nhw, a hyd yn hyn nid oes cyllid arfaethedig ar eu cyfer. A wnewch chi hefyd roi mwy o fanylion am beth yn union a olygir gan lefelau uchel o anghenion dysgu ychwanegol, ac yn arbennig yr hyn yr ydych yn ei olygu wrth 'lefelau uchel'? Pa bryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried bod gan ysgol lefelau uchel o anghenion dysgu ychwanegol, neu brydau ysgol am ddim, ac ati?

Yn olaf, rydych chi’n sôn am awdurdodau lleol yn gorfod gwneud cais am yr arian a gwneud achos busnes. Nid wyf yn credu y bydd rhiant unrhyw blentyn mewn ysgol sy'n methu, nad yw'n cael arian o'r cronfeydd newydd, yn fodlon â'r esboniad pam mae ysgol eu plentyn, ac felly eu hanghenion drwy hynny, wedi methu â chyrraedd trothwy achos busnes yr aelod Cabinet. Mae'r rhain yn blant, nid rhwymedigaethau neu asedau busnes, ac rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi bod gan bob plentyn yr hawl i gael addysg o safon, pa bynnag ysgol y maen nhw’n ei mynychu, ni waeth beth yw amgylchiadau neu statws yr ysgol. Sut ydych chi'n mynd i wella perfformiad mewn ysgol sy'n methu nad yw'n cyflwyno achos busnes digon da i leihau maint dosbarthiadau? O ystyried y pryderon hynny, a fyddwch chi’n cyflwyno unrhyw gynigion ynghylch sut y bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i'r Siambr hon i'w cadarnhau gan yr Aelodau Cynulliad cyn y caiff y meini prawf eu gweithredu? Diolch.

Diolch i Michelle Brown am ei chwestiynau a'i chydnabyddiaeth fod hwn yn bwnc llosg i rieni ac athrawon, ac rwy’n cytuno â hi. Gofynnodd Michelle pam mai dim ond ar gyfer babanod y defnyddir hyn. Fel yr eglurais, byddwn i wrth fy modd yn lleihau maint dosbarthiadau ar draws y sector addysg i gyd, ond mae’n rhaid i mi wneud hynny mewn ffordd sy'n ymwybodol o'r cyllidebau sydd ar gael i mi, yn ymwybodol o'r ffaith bod yna raglenni eraill y mae angen i ni eu hariannu i wella addysg yng Nghymru, a dilyn y dystiolaeth. Dyma lle mae'r dystiolaeth hon yn dweud y bydd yr arian hwn yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Holodd Michelle am ddosbarthiadau gyda niferoedd mawr o anghenion dysgu ychwanegol. Gwyddom fod gan rai ysgolion gyfran uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn y dosbarth, ac mae hynny, eto, yn faes lle’r ydym yn gwybod y bydd yr arian hwn yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Felly byddwn yn ystyried a yw rhai dosbarthiadau, sydd â nifer fawr o ddisgyblion ynddyn nhw, ond hefyd sydd â chyfran sylweddol neu nifer uwch na'r cyfartaledd o blant ag anghenion dysgu ychwanegol—yn ystyried a fyddan nhw’n gallu elwa ar hyn.

Mae'r Aelod yn hollol iawn fod pethau eraill y mae angen i ni eu gwneud, ac rwy’n berffaith ymwybodol o hynny. Unwaith eto, os caf ddyfynnu gwaith a wnaed gan Brifysgol Toronto, a byddaf yn dyfynnu yn uniongyrchol o hwn:

Ni ellir cyflawni manteision llawn y broses o leihau maint dosbarthiadau os caiff ei rhoi ar waith heb dalu sylw i ffactorau eraill sy'n cefnogi arferion arloesol. Mae rhai o'r ffactorau pwysicaf yn cynnwys y ffyrdd y mae athrawon a disgyblion yn gweithio gyda'i gilydd; y cwricwlwm a ddefnyddir; a chyfleoedd i athrawon ddysgu strategaethau addysgu newydd.

Wrth gwrs, dyna'n union beth yr ydym yn ei wneud. Pan fyddwch chi’n dweud eich bod eisiau manylion eraill, rydych chi yn ymwybodol—ac mi wn, oherwydd eich bod wedi cwrdd â'r Athro Donaldson eich hun, rwy’n deall—o’n newidiadau ar gyfer diwygio'r cwricwlwm. Rwyf eisoes wedi amlinellu yn fy natganiad ein bod ni’n ymgymryd â gwaith diwygio radical o hyfforddiant cychwynnol i athrawon. Byddwn ni’n cyhoeddi safonau addysgu newydd yn nes ymlaen eleni. Felly, ni wneir hyn ar ei ben ei hun. Mae hyn, eto, yn dilyn y cyngor rhyngwladol gorau, fod y polisi hwn yn cael ei ddarparu ar y cyd â'r holl gamau a diwygiadau eraill yr ydym yn gwybod fydd yn sicrhau bod y polisi hwn yn rhan lwyddiannus o'n rhaglen ddiwygio. Ac mae cyllidebau yn gysylltiedig â phob un o’r rhaglenni hynny. Gwn eich bod yn gwybod hynny gan eich bod wedi gofyn cwestiynau anodd iawn am hynny pan ddeuthum i i'r pwyllgor—ynglŷn â sut roeddwn i’n gwario arian ar y cwricwlwm. Felly, gwn eich bod yn gwybod beth yw’r dyraniadau cyllideb, gan ein bod wedi ateb cwestiynau ar hynny yn y pwyllgor. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad yma heddiw. Fel cyn athro fy hun, yn union fel fy nghyd-Aelod Rhiannon Passmore, yr Aelod dros Islwyn, rwy’n gwybod o brofiad personol bod hwn yn fater allweddol i fy nghydweithwyr i mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Rwyf hefyd yn gwybod bod maint dosbarthiadau yn fater pwysig iawn ar stepen drws fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr mewn etholaethau ledled y wlad hefyd. Croesawaf yn arbennig y manylion ychwanegol yr ydych wedi’u rhoi yma yn y Siambr y prynhawn yma hefyd ynglŷn â sut y gallai'r polisi weithio gyda'n cynnig gofal plant ledled Cymru. Roedd hwnnw’n fater a godwyd mewn gwirionedd gyda mi ar ymweliad ag Ysgol Craig yr Hesg, sy'n ysgol fraenaru dda iawn yn fy etholaeth i sydd mewn gwirionedd yn hyfforddi ysgolion eraill gan ddefnyddio arferion rhagorol.

Mae fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn yr un trywydd â chwestiwn fy nghydweithiwr Llyr Gruffydd, ac mae'n ymwneud â’r ffordd ymarferol y gellid rhoi’r polisi ar waith. Roeddwn i, hefyd, yn bryderus am broblemau posibl ynghylch y gofod ffisegol y byddai ei angen i rannu dosbarthiadau er mwyn cyflawni'r polisi, a tybed a ydych chi wedi ystyried sut y gellid datrys hynny o bosibl drwy weithio gyda'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain y mae'r Llywodraeth yn ei chynnig ar hyn o bryd?

Diolch i chi am hynny. Rwyf i o hyd yn ymwybodol iawn, Ddirprwy Lywydd, wrth ateb cwestiynau gan naill ai Rhiannon neu Vikki, fod ganddyn nhw arbenigedd a phrofiad proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth. Nid wyf i erioed wedi cael y profiad hwnnw ac rwyf bob amser mewn perygl o ddysgu pader i berson, ac ni fyddwn i eisiau gwneud hynny. Ond, fel y dywed Vikki, mae hon yn broblem i nifer o athrawon, oherwydd gwyddom, os yw maint dosbarthiadau yn llai, bod hynny’n galluogi athrawon i gyflwyno dulliau addysgeg newydd o addysgu dosbarth efallai na fyddan nhw ar gael os yw eu dosbarth o faint penodol. Felly, dyna’r sail, a dyna’r rhesymau pam yr ydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â hyn.

Byddwn i wrth fy modd yn ymweld â'r ysgol y mae’r Aelod wedi ei chrybwyll. Nid wyf yn credu fy mod i wedi cael cyfle i ymweld ag ysgol yn eich etholaeth chi ers dechrau’r cynnig hwn, ac rwyf i bob amser yn arbennig o awyddus i gwrdd ag ysgolion sy'n fodlon mynd gam ymhellach er lles y disgyblion yn eu hysgol eu hunain. Mae angen system ysgol sy’n gwella ei hunan arnom, lle gall pobl weithio ar draws ysgolion i roi hwb i safonau. Rwy'n croesawu'n fawr iawn ymrwymiad athrawon yn yr ysgolion sy'n fodlon gwneud hynny. Yr hyn sy’n fy nharo i yw eu bod yn cydnabod bod ganddynt gyfrifoldeb i'w plant ond hefyd bod ganddynt gyfrifoldeb i system addysg Cymru. Pe byddai'r Aelod gystal â threfnu cyfle i ymweld â’r ysgol, byddwn i’n falch iawn o fynd gyda hi i edrych ar yr arferion da sydd ar waith yno.

Rydych chi'n hollol iawn; fel y crybwyllodd Llyr Huws Gruffydd, weithiau mae’r mater ynghylch maint dosbarthiadau wedi codi oherwydd cyfyngiadau ffisegol yr adeilad. Mae'r bobl yno yn gwybod nad yw'n ddelfrydol, ond nid ydyn nhw’n gwybod beth arall y gallant ei wneud. Dyna pam rydym wedi gwrando ar hynny. Mae gan y gyllideb hon linell refeniw, yn ogystal â llinell gyfalaf. Bydd yn gweithio ar y cyd â rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydym hefyd yn cydnabod efallai y bydd yn rhaid i rai o'r prosiectau hynny fod ychydig ar y tu allan, ond byddwn yn edrych unwaith eto i sicrhau bod cynaliadwyedd yn rhan o hynny. Nid ydym eisiau ychwanegu ystafelloedd dosbarth os bydd ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn ei lle yn fuan wedyn. Yn bwysicach fyth, rydym yn datblygu hyn ar y cyd â'r cynnig gofal plant. Rydym yn gwybod bod hynny ar fin digwydd. Nid yw’n syndod i unrhyw un; ac felly mae angen i ni ddefnyddio'r adnoddau i adeiladu cyfleusterau a fydd yn ein helpu i gyflawni amcanion y polisi mewn ffordd sy’n ddefnyddiol, sy’n atgyfnerthu'r safonau addysgeg da sydd gennym yn y cyfnod sylfaen, y gellir eu hefelychu a’u datblygu yn y cynnig gofal plant, yn ogystal â darparu safleoedd lle mae mynediad rhwydd i rieni fel y gallan nhw fanteisio ar y cyfnod sylfaen a gofal plant.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu bod y feirniadaeth ynglŷn â diffyg tystiolaeth gan Plaid Cymru braidd yn eironig gan eu bod wedi defnyddio proses y gyllideb i fynnu £50 miliwn ar gyfer cynllun ffordd â budd isel iawn i gymarebau cost er mwyn cynnal ei sylfaen wleidyddol. Lleddfwyd unrhyw bryderon a oedd gennyf ynglŷn â’r polisi hwn gan y newidiadau a wnaethoch chi. Rwy’n croesawu'n fawr y targedau ychwanegol y byddwch yn eu rhoi ar waith, ac rwy’n croesawu'n wresog y cyllid ychwanegol i ysgolion. Yn fy etholaeth i, mae ysgolion wedi gorfod diswyddo staff y llynedd, ac unwaith eto eleni; toriad o £3.7 miliwn gan gyngor Plaid Cymru, a’r posibilrwydd y bydd 135 o aelodau staff yn colli eu swyddi. Felly, pa fesurau diogelu allwch chi eu rhoi ar waith i sicrhau na fydd yr arian a gaiff ei dargedu i leihau maint dosbarthiadau yn cael ei lyncu drwy leddfu ergyd toriadau Plaid yn Llanelli?

Diolch i chi, Lee, am hynny. Rwy'n ddiolchgar i chi, oherwydd bod yr her adeiladol y cyfeiriwyd ati mewn ffordd negyddol gan rai pobl yn y Siambr hon ynghylch agwedd pobl fel chi a Jenny Rathbone wedi gwneud i mi fynd yn ôl a phrofi'r dystiolaeth ar gyfer hyn yn drylwyr. Mae hyn wedi arwain at fireinio’r polisi, gan ein bod yn dymuno sicrhau ein bod yn ei wneud yn gywir. Fel y dywedais, byddwn i wedi dwlu ar allu gwneud cyhoeddiad mawr ysgubol o'r diwrnod cyntaf, ond rydym wedi cymryd amser i fyfyrio ar bryderon pobl ac i ymchwilio yn ddwfn er mwyn i ni allu darganfod ble bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth. Rwy'n ddiolchgar; rwy'n hollol ddiolchgar. Ni all llywodraeth ond bod cystal â'r her y mae'n ei derbyn, ac nid gwaith y gwrthbleidiau yn unig yw herio'r Llywodraeth. Mae traddodiad anrhydeddus mewn gwleidyddiaeth o aelodau mainc gefn y blaid lywodraethol yn darparu’r her honno, ac rwy’n croesawu hynny. Nid wyf i’n ystyried bod hynny yn rhywbeth y dylid ei watwar gan bobl eraill o gwmpas y Siambr hon. Rwy'n credu ei fod yn beth da i’r broses wleidyddol yng Nghymru ein bod yn datblygu’r diwylliant hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sydd wedi bod ar goll o'r Siambr hon. Nid wyf yn ei ystyried yn beth drwg. Rwy’n ei ystyried yn beth da, ac mae'n helpu i ddatblygu polisi gwell. Rwy’n dymuno rhoi hynny ar gofnod, Ddirprwy Lywydd.

O ran yr hyn sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol unigol, mae'r mwyafrif helaeth o’r arian ar gyfer addysg yn cael ei ddarparu drwy'r grant cynnal refeniw yn yr awdurdodau lleol. Roedd gan weinyddiaethau blaenorol—y Llywodraeth Cymru flaenorol—darged o geisio diogelu 1 y cant o gyllidebau ysgolion. Rydym ni, yn y cylch cyllideb hwn, wedi ceisio amddiffyn llywodraeth leol. Mae llywodraeth leol ei hun wedi cyfaddef ei bod wedi cael setliad gwell na’r disgwyl. Rwyf i’n disgwyl y byddan nhw’n ymdrin yn deg ag ysgolion yn eu hardal awdurdod lleol. Rwy'n gwybod bod pethau'n anodd i awdurdodau lleol—nid wyf yn esgus fel arall—ond mae’n rhaid i addysg fod yn flaenoriaeth iddyn nhw, ac mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin yn deg â'u hysgolion. Byddwn i’n disgwyl gweld tystiolaeth bod awdurdodau lleol yn gwneud hynny. Ni ddylid defnyddio hyn i lenwi unrhyw fylchau. Ychwanegedd yw hyn, ac ni ddylid ei ddefnyddio i lenwi unrhyw fylchau—bod awdurdodau lleol yn credu y gallan nhw daflu llwch i lygaid drwy ddefnyddio'r arian hwn ac yna wneud toriadau mewn lle arall. Dyna pam y bydd gennym broses lem iawn wrth edrych ar sut mae'r arian yn cael ei ddyrannu.

6. 8. Dadl: Gweithio gyda Chymunedau i Greu Amgylcheddau Lleol Gwell

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen at eitem 8 ar yr agenda, sef y ddadl ar weithio gyda chymunedau i greu amgylcheddau lleol gwell, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6211 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.

2. Yn cefnogi:

a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a

b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 17:35:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â sut y gallwn sicrhau gwelliannau hanfodol i ansawdd bywyd pobl ac i'w lles. Rwyf eisiau tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng llawer o faterion amgylcheddol lleol sy'n cyfuno i wneud lleoedd yn ddigalon ac yn afiach. Gall y materion hyn gael effaith hefyd ar gydlynu cymunedol, rhagolygon buddsoddi a’r gallu ar gyfer buddsoddiant a’r gallu i gael gafael ar wasanaethau.

Yn y gorffennol, rydym wedi mynd i'r afael â dulliau gwael o reoli gwastraff, sbwriel, tipio anghyfreithlon, graffiti, baw cŵn, ansawdd gwael yr aer, sŵn, llifogydd lleol, ynghyd â'r angen am fannau gwyrdd a choed trefol, a'r angen i ailgylchu’n well fel materion unigol. Fodd bynnag, mae'r cysylltiadau rhyngddyn nhw i gyd yn amlwg, ac mae pobl mewn cymunedau ledled Cymru yn dioddef eu heffeithiau cyfunol. Mewn rhai meysydd, megis rheoli gwastraff ac ailgylchu, rydym yn gwneud cynnydd rhagorol. Cymru sydd yn arwain y DU ac mae'n bedwerydd yn Ewrop o ran perfformiad ailgylchu. Mae’r cyflawniad hwn o ganlyniad i ymgysylltu’n effeithiol â'r cyhoedd ac, i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mae ailgylchu yn gwbl naturiol erbyn hyn. Er hynny, mae angen i bawb ailgylchu, sy'n golygu darganfod sut i ddylanwadu ar y bobl nad ydyn nhw’n gwneud hynny ar hyn o bryd. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried yn fanylach yr agweddau ar newid ymddygiad wrth ymdrin â hyn a phroblemau amgylcheddol lleol eraill.

Rwyf wedi clywed y gwahanol alwadau i wahardd rhai cynwysyddion bwyd neu ddiodydd penodol, gweithredu ardollau, neu gyflwyno system cael arian yn ôl wrth ddychwelyd cynhwysyddion diodydd. Rwy’n bwriadu edrych ar hyn yn gyffredinol wrth i ni adolygu a diweddaru ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, gan nad wyf yn dymuno defnyddio atebion tameidiog. Rwyf wedi gofyn am astudiaeth ar y potensial ar gyfer deddfwriaeth newydd i i ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr yng Nghymru, i wneud cynhyrchwyr cynhyrchion a deunydd pecynnu yn fwy atebol yn ariannol am y gwaith rheoli gwastraff diwedd oes, gan gynnwys sbwriel. O ran cwpanau papur cludfwyd, rydym yn archwilio gyda’r diwydiant diodydd beth arall y gellir ei wneud i ailgylchu cwpanau yng Nghymru, gan gynnwys darparu biniau ailgylchu a'r potensial i’r cwpanau gael eu hailgynllunio.

Rydym i gyd yn cydnabod y manteision o gael strydoedd glân, mannau gwyrdd tawel, coed trefol ac aer glân. Fodd bynnag, mewn rhai cymunedau, mae amodau o'r fath yn wahanol iawn i brofiad cyfredol pobl. Gwyddom o'n dadl fis Mehefin diwethaf cymaint o niwed a all ddod o lygredd aer. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael o bob safbwynt bosibl, gan gynnwys cynlluniau gweithredu cenedlaethol a lleol, mesurau trafnidiaeth, cynllunio trefol a phlannu coed. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu â chydweithwyr trafnidiaeth ac iechyd ar fanteision lluosog teithio llesol, yn arbennig ei gyfraniad at ostyngiad mewn llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae datblygiadau ceir trydan a gwell trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn fesurau pwysig.

Roedd ein hymgynghoriad diweddar ar ansawdd aer a rheoli sŵn lleol yn gofyn am atebion i gwestiynau pwysig ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â'r materion hyn yn fwy effeithiol drwy bethau fel gwell trefniadau adrodd, gweithredu mwy integredig a defnyddio adnoddau mewn modd mwy cydweithredol ac effeithiol. Byddaf yn cyhoeddi datganiad i Aelodau'r Cynulliad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyn diwedd mis Mawrth, gan esbonio sut y byddwn yn newid y system reoli ansawdd aer a sŵn lleol yng Nghymru yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd.

Yna ceir y pethau hynny y mae pobl yn eu gweld bob dydd: baw cŵn, sbwriel, tipio anghyfreithlon a dulliau gwael o drin gwastraff, sy'n dinistrio’r balchder sydd gan bobl yn y cymunedau lle maen nhw’n byw, a’r meddwl sydd ganddyn nhw ohonynt. Mae rhai trigolion yn bodoli mewn rhyw fath o barlys, yn methu â gweld unrhyw bwynt mewn ceisio gwella’r man lle maen nhw’n byw, ac yn aml yn dioddef effeithiau andwyol ar eu hiechyd. Mae hefyd yn amlwg y gall y problemau hyn arwain at ymddygiad mwy gwrthgymdeithasol a throsedd. Rwy'n arbennig o awyddus i weld y drosedd tipio anghyfreithlon yn cael ei thrin yn fwy effeithlon ar draws ffiniau awdurdodau lleol, ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon ar raddfa fach. Mae pobl sy'n byw mewn amgylchedd o ansawdd gwael yn fwy tebygol o ddioddef gorbryder ac iselder drwy aros yn niogelwch cymharol eu cartrefi i osgoi strydoedd budr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o beidio â chael digon o ymarfer corff ac o ddioddef problemau iechyd fel diabetes, trawiad ar y galon a strôc.

Mae plant yn dioddef, hefyd, oherwydd ddiffyg lleoedd glân, diogel i chwarae y tu allan. Dyma lle y mae mynediad at fannau gwyrdd a llwybrau teithio llesol mor bwysig, ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r rheiny hefyd gael eu cadw yn rhydd o sbwriel a thipio anghyfreithlon neu, yn syml, ni fydd pobl yn eu defnyddio. Mae mannau gwyrdd a choed hefyd yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â llifogydd lleol, aer o ansawdd gwael a sŵn. Mae hyn yn enghraifft dda o’r ffaith mai’r atebion gorau a mwyaf cost-effeithiol i faterion amgylchedd lleol yw'r rhai sy'n mynd i'r afael â mwy nag un broblem. Mae grant refeniw unigol fy adran i, i awdurdodau lleol, wedi'i gynllunio'n benodol i annog cyflawni buddion lluosog o'r fath.

Mae effaith amgylchedd o ansawdd gwael ar economi leol yn glir. Mae isadeiledd yn dioddef ac mae cyflwr gwael cyffredinol lle yn atal buddsoddi. Ceir costau hefyd sy'n gysylltiedig â gweithgareddau glanhau cyson gan awdurdodau lleol, sy’n defnyddio cronfeydd arian prin. Felly, mae'n rhaid i'r angen i atal sbarduno’r camau a gymerwn. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg na all llywodraeth genedlaethol na lleol fod yn effeithiol heb gyfranogiad unigolion a chymunedau.

Gallwn, wrth gwrs, geisio cryfhau mesurau deddfwriaethol a rheoleiddio ac rwyf bob amser yn barod i archwilio achosion cryf dros wneud hynny. Fodd bynnag, fel y mae awdurdodau lleol yn aml yn ein hatgoffa, mae deddfwriaeth yn costio arian i’w gweinyddu a’i gorfodi. Mae atal cynnar effeithiol bob amser yn well na cheisio casglu dirwyon gan bobl nad ydyn nhw bob amser yn gallu eu fforddio. Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 newydd yn ddeddfwriaeth o fath gwahanol, er hyn, sy’n ein hannog i ganolbwyntio ar atal, i gynnwys pobl mewn mesurau sydd wedi'u hintegreiddio'n dda a chydweithredu ar draws sefydliadau wrth i ni weithio i gyrraedd atebion cynaliadwy hirdymor.

Bydd cydweithredu ar draws pob sector yn hanfodol i atal effeithiol, gan gynnwys y trydydd sector, tirfeddianwyr a busnesau lleol, sydd â budd personol mewn gwella amodau amgylchedd lleol. Mae problemau yn codi mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol ac, ym mhob lle, mae’r bobl sy'n byw ac yn gweithio yno yn hanfodol i ddatblygu atebion lleol effeithiol. Rwy’n credu bod pobl yn cael eu dylanwadu’n gryfach, yn ôl pob tebyg, gan farn eu cyd-ddinasyddion nag y cânt gan y Llywodraeth. Mae angen i ni helpu dinasyddion gofalgar i ddod o hyd i lais a llwyfan i ddylanwadu mewn ffyrdd ymarferol ar ymddygiad pobl eraill yn eu hardaloedd.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd gwraig yn y gogledd ataf, sydd wedi bod yn ymgyrchydd gweithredol yn erbyn sbwriel am flynyddoedd lawer, i ofyn i bwyntiau gael eu hychwanegu at drwyddedau gyrru pobl sy'n caniatáu sbwriel i gael ei daflu allan o’u ceir. Yn fy ymateb iddi hi, eglurais nad oes gennym yng Nghymru y pwerau i wneud i hynny ddigwydd, er y byddaf yn codi ei syniad gyda DEFRA ac Adran Drafnidiaeth y DU. Yn ei llythyr ataf i, roedd y wraig hon yn siarad yn angerddol iawn am ei gwaith casglu sbwriel gyda phlant ac am yr angen am fesurau cryfach i atal y broblem. Gwnaeth ei geiriau argraff gref iawn arnaf. Meddai, ‘Onid oes modd i ni weithio gyda'n gilydd a gwneud iddo ddigwydd?’

Rydym i gyd yn adnabod pobl fel y wraig hon ym mhob cymuned—yn barod i wneud rhywbeth ac yn benderfynol. Os gallwn ni eu helpu i gydweithio â'r Llywodraeth, yn genedlaethol ac yn lleol, i fynd i'r afael â'r problemau sy’n amharu ar eu bywydau, gyda’r cymorth a’r anogaeth iawn, gallan nhw fod yn rym cryfach fyth er lles ein cymunedau.

Wrth gwrs, nid yw pob sbwriel o ganlyniad i ymddygiad grŵp gwrthgymdeithasol o bobl. Gall hefyd fod o ganlyniad i drin gwastraff ac ailgylchu yn ddiofal gan drigolion neu gan y rhai hynny sy'n ei gasglu a’i gludo. Felly, mae angen i bawb fod yn ofalus ac yn ystyriol.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n awyddus iawn i glywed syniadau adeiladol pob Aelod yn y Siambr ar unrhyw fesurau a fydd yn helpu i feithrin balchder mewn lle a grymuso pobl a sefydliadau i sicrhau gwelliannau gwirioneddol yn 2017. Diolch.

Diolch. Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ein bod yn croesawu'r ddadl hon ac y byddwn yn cefnogi'r cynnig? O ran y pwyslais y bydd gennym yr wythnos hon, yn fras, ar faterion gwella ansawdd bywyd, ynghyd â'n dadl yfory—y ddadl plaid leiafrifol y mae’r Ceidwadwyr wedi’i nodi ar yr amgylchedd trefol—rwy’n credu ei bod yn iawn ein bod yn treulio llawer o amser ar y materion ansawdd bywyd hyn. Rwy’n croesawu'r ymagwedd o bwysleisio'r angen am amrywiaeth o asiantaethau a chyfranogwyr i gyfuno ac, yn anad dim, cyfranogiad y dinasyddion, sydd hefyd—ni wnaethom siarad â'n gilydd pan gyflwynwyd y cynigion hyn, ond mae'n ymddangos bod galwad am gyfranogiad cymdogaeth a dinasyddion yn allweddol i'n dadl hefyd.

Roeddwn yn falch hefyd o glywed am y datganiad sydd i ddod ar yr ymatebion yr ydych chi wedi eu cael i’r strategaeth ansawdd aer a llygredd sŵn hefyd. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno bod angen diweddaru'r strategaeth honno. Roedd y ddogfen ymgynghori hon a gyflwynwyd gennych, rwy’n credu, yn un ddiddorol ac roedd llawer o bethau ynddi a oedd yn dangos ffordd o symud ymlaen a fyddai’n cael cefnogaeth ar draws y Cynulliad hwn.

Beth bynnag, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ansawdd yr aer ac yn wir i danlinellu’r hyn yr wyf newydd ei ddweud, mae’r angen i wella ansawdd yr aer a gwneud hynny gyda gweithredu ar y cyd rwy’n meddwl yn cael ei dderbyn ar lefel Cymru a lefel y DU. Yn wir, yr hydref diwethaf, galwodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin ar Lywodraeth y DU i, ac rwy’n dyfynnu,

weithredu nawr i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.

Credaf fod llawer ohonom bellach yn ei weld felly. Yn wir, y flwyddyn ddiwethaf, dyfarnodd yr Uchel Lys hefyd nad yw Llywodraeth y DU yn bodloni ei holl ofynion cyfreithiol ar ansawdd yr aer ar hyn o bryd, felly nid wyf yn sôn am Lywodraeth Cymru yn benodol.

Ond fel y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod, a bod yn deg, mae’r sefyllfa yng Nghymru, i ryw raddau, yn adlewyrchu’r sefyllfa yn Lloegr a gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae angen dulliau cyffredin hefyd i sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf ar leihau llygredd.

Dim ond i atgoffa'r Aelodau bod lefelau llygredd yng Nghymru—dwi'n ddefnyddio ffigurau 2015—yn isel ar 204 o ddiwrnodau, yn gymedrol ar 137 o ddiwrnodau, yn uchel ar 16 o ddiwrnodau ac yn uchel iawn ar wyth diwrnod. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod yna lawer o bobl yn ein cymuned sy'n arbennig o agored i niwed, yn enwedig y bobl ifanc a phobl hŷn sy'n fregus. Gall effaith ansawdd aer gwael mewn gwirionedd fod yn sylweddol iawn, iawn. Clywsom, Weinidog, yn y pwyllgor amgylchedd yr wythnos diwethaf, rywfaint o dystiolaeth bwerus iawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac rwy’n eu cymeradwyo am y gwaith y maen nhw’n ei wneud—mae’n drylwyr iawn, ac rwy’n meddwl bod ansawdd y dystiolaeth a glywsom ganddyn nhw, a hefyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, yn uchel iawn, iawn ac yn ddefnyddiol iawn.

Felly, mae angen i ni ganolbwyntio ar hyn, o ran ei effaith ar ein pobl fwyaf agored i niwed ac, fel y nodwyd gan y Gweinidog, pobl yn rhai o'n hardaloedd tlotaf. Daw hynny â mi at ein gwelliant, sy'n canolbwyntio ar y 40 o ardaloedd rheoli ansawdd aer. Mae’r ffordd y mae'r rhain yn cael eu rheoli yn rhan o'r ymgynghoriad, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed rhai o safbwyntiau cychwynnol y Gweinidog ar hyn, efallai.

O'r 40 o ardaloedd rheoli ansawdd aer hynny, dim ond pedwar sydd wedi cael eu dirymu erioed, ac mae'r rhan fwyaf wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy’n credu bod angen i ni gadw hynny mewn cof. Dydw i ddim yn dweud bod gwelliant ac yna dirymu’r gorchmynion hyn yn arbennig o hawdd—maent yn heriol iawn ac yn aml mae materion dwfn o ran seilwaith ynghlwm â nhw—ond rwy’n credu bod angen i ni ofyn i’n hunain os mai dim ond 10 y cant sydd erioed wedi cael eu dirymu, a oedd y cynlluniau gweithredu a roddwyd ar waith gennym yn ddigonol.

Rwyf hefyd yn credu—mae hyn yn rhan o'r ymgynghoriad—bod angen seilio strategaeth yn fwy ar ddull cyffredinol o fynd i’r afael ag ansawdd yr aer, gan fod y rhan fwyaf o'r niwed, mewn gwirionedd, yn digwydd y tu allan i'r ardaloedd risg uchel. Ond rwy'n credu i ategu hynny, bod angen gwaith dwys yn ogystal â’r dull cyffredinol hwnnw yn yr ardaloedd risg uchel, oherwydd mae hynny wir yn hanfodol er mwyn eu gweld yn gwella. Credaf mai un dull fyddai rhestru'r camau ymarferol gofynnol sydd eu hangen i wella ansawdd yr aer yn yr ardaloedd risg uchel. Weithiau, mae angen gwneud rhai dewisiadau eithaf pendant, ond rwy’n meddwl y dylent o leiaf fod ar yr agenda er mwyn i ni allu cael dadl iawn ac ymgysylltu’n effeithiol â dinasyddion.

A gaf i orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gyfeirio at yr enghraifft Norwyaidd ddiweddar yn Oslo, lle byddant yn cau traffig diesel i Oslo pan fydd y lefelau llygredd yn codi'n uwch na safonau derbyniol? Nid wyf yn dweud y dylem ddilyn hynny, o reidrwydd, ond mae honno'n enghraifft o gymryd camau effeithiol iawn, iawn. Diolch.

Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ddadl hon, ac rwy’n croesawu hefyd gynnwys araith Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y gallai’r cynnig fod wedi cynnwys ychydig mwy o fanylion, ac rwy'n credu bod gan gynnig y Ceidwadwyr yfory, i fod yn deg, fwy o fanylion a mwy o syniadau, felly byddwn yn cefnogi’r ddau—gadewch i ni gael consensws i ddatblygu hyn .

Rwyf eisiau dechrau yn lle y gorffennodd David Melding, mewn gwirionedd, ar lygredd aer, a chredaf ei fod yn ei ddisgrifio yn gywir, fel y byddwn innau, fel argyfwng iechyd cyhoeddus erbyn hyn yng nghyd-destun Cymru. Cawsom ddiwrnod arall heddiw pan ddywedodd Maer Llundain ei fod yn cynghori pobl i beidio â gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Pan eich bod yn meddwl am y peth, y math hwnnw o argyfwng ynghylch yr amgylchedd a greodd y Ddeddf Aer Glân yn ôl yn y 1950au, a wnaeth lanhau Llundain. Ni wnaeth lanhau'r gymuned yr oeddwn i’n byw ynddi, oherwydd roedd gennym ni’r gweithfeydd golosg, a oedd yn creu y tanwydd di-fwg. Felly, mae materion i'w ystyried yn y fan hon, ac mae'n aml yn ardal gyfoethocach yn erbyn ardal dlotach o ran cyflawni ansawdd aer. Felly, mae cyfiawnder cymdeithasol yn rhywbeth y mae angen inni gofio amdano yn hyn o beth hefyd.

Nawr, yn ei sylwadau agoriadol, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet fanteision y dull gwirfoddol, neu yn hytrach cael pobl i weithio gyda'i gilydd ac, wrth gwrs, siaradodd am y gost o reoleiddio. Ond mae’n hanfodol hefyd, rwy’n meddwl, pan fo gennym reoliadau, bod yn rhaid i ni fynnu a sicrhau bod y rheoliadau hynny yn cael eu rhoi ar waith. Ac felly nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog heddiw, am orsaf bŵer Aberddawan.

Canfuwyd bod yr orsaf bŵer honno yn gollwng mwy, mewn ffigyrau uchel—dwywaith yn fwy, rwy’n credu—na’r lefelau allyriadau a ganiateir ar gyfer nitrogen deuocsid yn ôl ym mis Medi. A chafodd Llywodraeth y DU ei chyfarwyddo gan Lys Cyfiawnder Ewrop i gymryd camau gweithredu. Nawr, nid Llywodraeth y DU yw’r rheoleiddiwr yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw. Ac felly dywedodd y Prif Weinidog wrthym yn gynharach heddiw eu bod wedi ysgrifennu at y cwmni, yn mynnu rhyw fath o gamau gweithredu, a bod yn rhaid iddynt ymateb i'r llythyr erbyn 17 Chwefror. Ac roeddwn i’n meddwl, ‘Wel, roedd y penderfyniad ym mis Medi. Mae ganddyn nhw lythyr y mae'n rhaid iddyn nhw ymateb iddo erbyn 17 Chwefror. A oes unrhyw gysylltiad yn y fan hon â’r ffaith fy mod i wedi ei godi ar 17 Ionawr, a’u bod nhw wedi cael mis i ymateb iddo, tybed?’ Tybed beth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ei wneud yn y fan yma. Yn sicr nid yw wedi cymryd unrhyw gamau ynghylch y drwydded. Mae hynny'n sicr yn golygu ein bod yn dal â gormod o allyriadau o'r orsaf bŵer, fel y cadarnhaodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac mae hynny’n cyfrannu, fel y dywedodd David Melding, at y dystiolaeth bwerus iawn honno o waith manwl gywir gyda thystiolaeth dda a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod mater gronynnol yn achosi 1,300 o farwolaethau cynnar y gellid eu hosgoi yng Nghymru, a bod nitrogen deuocsid ei hun yn gyfrifol am 1,100 o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn flynyddol. Ac os ydym ni’n edrych, felly, ar swyddogaeth rheoleiddio wrth fynd i’r afael â gollyngiadau a nwyon tŷ gwydr a newid yn yr hinsawdd, yna yn amlwg mae angen inni weld mwy o weithredu gan y Llywodraeth ac, os oes angen, cyfarwyddo sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd y camau cywir hynny i ddiogelu ein hamgylchedd ac i ddiogelu iechyd yng Nghymru. Nid yw’n ymwneud â’r hyn yr ydym yn ei weld trwy'r ffenestr yn unig, mae'n ymwneud â’r hyn yr ydym yn ei anadlu a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Felly, mae hon yn broblem wirioneddol i weithredu arni gan y Llywodraeth hon ar Aberddawan a'r cwestiwn ehangach o lygredd aer, y gwnaeth David Melding ymdrin ag ef.

Hoffwn hefyd weld, gan wneud cysylltiad â’r amgylchedd yn fwy lleol, mwy o waith ar swyddogaeth coed a phlannu coed mewn amgylcheddau trefol i ymdrin â hyn. Mae digon o dystiolaeth, eto a glywyd gan y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ynghylch sut y gall coed—os ydyn nhw'n cael eu plannu’n gywir, oherwydd, mewn gwirionedd, gall plannu’r math anghywir o goed yn y modd anghywir ddal gronynnau mewn amgylchedd trefol, ond os ydynt yn cael eu plannu’n gywir, maent mewn gwirionedd yn sgwrio gronynnau a nwyon yn naturiol allan o'r amgylchedd lleol. Ac, wrth gwrs, maent yn edrych yn dda hefyd. Maen nhw’n creu’r ymdeimlad o lesiant, maen nhw’n ei gwneud yn haws, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, i bobl fynd allan am dro a theimlo eu bod yn rhan o amgylchedd y maent eisiau bod yn rhan ohono, ac yna, yn ei dro, yn ei barchu. Felly, mae pawb ar eu hennill ym mhob ffordd pan fyddwch yn plannu coed: rydych chi’n glanhau’r awyr, ond rydych hefyd yn gwneud yr amgylchedd yn well i’r rhai sy’n ei ddefnyddio.

Ac mae'n bwysig pwysleisio bod cysylltiad gwirioneddol rhwng amddifadedd, sbwriel, troseddu a beth mae pobl yn ei feddwl am eu hamgylchedd trefol. Canfu adroddiad DEFRA yn 2014 bod 28 y cant o safleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn is na'r safon dderbyniol ar gyfer sbwriel, ac mae hynny naw gwaith yn waeth na'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ac mae'n gylch dieflig. Rydym ni i gyd yn gwybod, pan fyddwch chi’n dechrau gweld yr holl gwpanau a’r holl fwyd brys yn cronni ar y darn gwyrdd lleol y tu allan i'r tai, yna mae pobl yn fwy amharod i drin hwnnw â pharch ac mae'n denu sbwriel. Mae'n fath o rym magnetig i ddenu sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei dro.

Rwy’n croesawu’n fawr yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am archwilio'r angen am reoleiddio ychwanegol o ran plastig, gwydr a chynlluniau arian ar gadw ar gyfer caniau yng Nghymru. Rwy’n credu bod gwir angen i ni fynd ar y trywydd hwnnw. Bydd unrhyw un sydd wedi glanhau traeth neu amgylchedd lleol yn gwybod bod yr eitemau hyn yn ymddangos dro ar ôl tro. Ac yn yr Almaen, lle maent wedi cyflwyno system arian ar gadw gorfodol un ffordd, mae 98.5 y cant o boteli y gellid eu hail-lenwi yn cael eu dychwelyd gan ddefnyddwyr. Ni arweiniodd y ffordd ar fagiau plastig, a gallwn arwain y ffordd ar boteli plastig hefyd.

A gaf i ymuno â Simon Thomas a David Melding i groesawu'r ddadl hon? Mae'r amgylchedd y mae pobl yn byw ynddo yn hynod o bwysig iddyn nhw. Mae cyflwr ein hamgylchedd yn bwysig ar gyfer sut yr ydym yn byw nawr a’r etifeddiaeth y byddwn yn ei gadael i genedlaethau'r dyfodol. Er bod Brexit yn dominyddu trafodaethau’r Cynulliad, cyflwr yr amgylchedd y mae fy etholwyr i yn sôn amdano wrthyf i—nid dim ond mewn cymorthfeydd, ond pan fyddaf yn cerdded i lawr y ffordd, yn mynd i fy siopau lleol, yn yr archfarchnad, yn y clwb ac ar y maes chwarae. Cyflwr yr amgylchedd maen nhw’n sôn amdano. Bydd pobl yn aml yn tynnu fy sylw pan fydd pethau wedi cael eu gollwng, pan fo baw cŵn ac amrywiaeth helaeth o bethau eraill. Dyna, mewn gwirionedd, yw’r pryderon—sbwriel, tipio anghyfreithlon, gall fod yn sŵn, yn enwedig pan fydd pobl yn gwneud hynny yn hwyr yn y nos. Mae canclwm yn fy etholaeth i, sy'n creu problem enfawr nad oes gan bawb yr anfantais o fod ag ef.

Tai gwag tymor hir ac eiddo gwag—adeiladau sydd wedi cael eu gadael nes eu bod yn disgyn i lawr. A fyddech chi'n hoffi byw drws nesaf i dŷ a oedd wedi cael ei adael yn wag am 10 neu 15 mlynedd, gyda gordyfiant, yn ôl pob tebyg, o bryd bynnag y gadawyd y tai hynny yn wag dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf? Baw cŵn, sy’n broblem fythol—er gwaethaf gwaith caled cyngor Abertawe, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol o ran cael biniau baw cŵn, rwyf yn aml yn poeni na all cŵn ddarllen yn dda iawn a’u bod yn methu â rhoi eu llanast yn y biniau, ac mae’n amlwg nad yw eu perchnogion yn gallu darllen o gwbl. Ac wedyn ansawdd yr aer.

Dechreuaf gydag un o straeon llwyddiant mawr y blynyddoedd diwethaf—ailgylchu a’r gostyngiad mewn tirlenwi. Yn ôl ffigurau a welais yn ddiweddar, mae gostyngiad o dros 70 y cant wedi bod yn y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi gan awdurdodau lleol o’i gymharu â phan oedd hynny ar ei anterth. Mae Llywodraeth Lafur Cymru, a'r rhan fwyaf o fy etholwyr i, a minnau eisiau gweld Cymru ddiwastraff. Ni fydd hynny'n bosibl oherwydd bydd gennych bob amser rywfaint o wastraff gweddilliol, ond mae angen i ni symud tuag at cyn lleied o wastraff ag y gallwn mewn gwirionedd. Mae cenedl ddiwastraff yn uchelgais gwych. Mae cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu'n fwy nag mewn unrhyw le arall ledled y DU yn ystod y degawd diwethaf, ac mae Cymru bellach yn arwain y DU o ran ailgylchu gwastraff trefol. Pe byddem yn wlad ar ein pennau ein hunain, byddem yn bedwerydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dylai llawer o'r clod am hyn fynd i awdurdodau lleol—eu harweinwyr cyngor sy’n ei hyrwyddo, a'r rhai hynny sy'n gweithio ym maes sbwriel ac ailgylchu sy'n gwneud iddo ddigwydd. Mae problem troseddau gwastraff—neu dipio anghyfreithlon, fel y caiff ei alw gan amlaf—yn gost sylweddol i awdurdodau lleol. Yn anffodus, mae pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn mynd i rai o'r lleoedd mwyaf anhygyrch—i lawr lonydd bach ac ati—sydd hefyd yn creu problem enfawr i’w gasglu wedyn. Gallai fod yn beryglus i'r amgylchedd, gallai fygwth iechyd pobl, gallai hefyd fod yn beryglus i anifeiliaid, ond mae bob amser yn hyll—ble bynnag y mae, mae’n hyll—pa un a yw'n beryglus ai peidio, mae'n hyll ac mae'n broblem. Rwyf bob amser yn gofyn y cwestiwn, ‘A fyddwn i'n hoffi byw mewn ardal lle caiff gwastraff sylweddol ei daflu?’ Os mai fy ateb i yw ‘na’, mae'n rhaid mai 'na' fyddai ateb gweddill fy etholwyr hefyd.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi defnyddio pwerau newydd i gryfhau gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd camau cyflymach a mwy effeithiol i fynd i'r afael â’r gyfran fach iawn o weithredwyr anghyfreithlon sy’n perfformio’n wael yn y diwydiant gwastraff. Rydym yn edrych ar y Bil presennol sydd ar ei daith drwy’r Cynulliad, a bydd hwnnw, gobeithio, gydag awgrymiadau gan y Gweinidog, Mark Drakeford, yn golygu bod pobl sydd yn sefydlu eu safleoedd anghyfreithlon eu hunain yn gorfod talu ddwywaith, a dylai hynny roi diwedd ar y mater.

Mae tipio anghyfreithlon yn bla ar gymunedau. Ni ellir cyflwyno dirwy cosb benodedig yn ddigon cyflym yn fy marn i. Dal pobl a rhoi dirwy iddyn nhw, yn hytrach na gorfod mynd drwy'r broses gyfan o fynd â nhw i'r llys. Gadewch i ni gael dirwy cosb benodedig. Gadewch i ni ddal y tipwyr anghyfreithlon hyn. Nid dim ond pobl yn dympio ambell i fag yw hyn—weithiau mae'r tipio anghyfreithlon wedi’i drefnu pan fo llwythi lori yn cael eu dympio, yn aml mewn ardaloedd lle nad oes llawer iawn o dai o'u cwmpas, lle y mae pobl yn ceisio osgoi talu pris i gael gwared ar y gwastraff sydd ganddyn nhw.

Rwyf am ymuno â phawb arall yn awr drwy sôn am dagfeydd traffig, allyriadau carbon a chyflwr yr aer. Effeithir ar rai cymunedau, fel Hafod yn Abertawe, gan lefelau uchel o lygredd o drafnidiaeth ffyrdd. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i'w helpu i weithredu eu cyfrifoldebau rheoli ansawdd aer lleol, ac i dargedu ardaloedd sy’n achosi problemau drwy gynlluniau gweithredu ar ansawdd aer lleol. Weithiau, gellir cyflawni hyn drwy gael mwy o bobl i gerdded a beicio. Ar adegau eraill, mae angen ffordd osgoi arnom er mwyn sicrhau nad yw ceir yn llonydd neu'n symud yn araf drwy ein cymunedau. Ceir prif ffyrdd—mae ffordd Castell-nedd sy’n mynd trwy Hafod yn brif ffordd—lle mae traffig yn symud yn araf ac sydd mewn cwm lle y mae’r aer yn symud yn y fath fodd fel bo’r gronynnau yn cael eu cadw’n agos at y ddaear. Mae yna rai pobl a fydd yn dweud nad ffordd ychwanegol yw'r ateb. Wel, rwy’n croesawu ffordd ddosbarthu Morfa sy’n agor yn fuan, ac a fydd yn lleihau traffig yn yr Hafod. I'r rhai hynny nad ydyn nhw’n credu mewn gwaith ffordd o'r fath, dyma ddau awgrym: ceisiwch fyw yno a gofyn i'r bobl sydd yn byw yno. Nid ffyrdd newydd yw'r ateb ym mhob man, ond ni ellir eu diystyru fel dewis.

Yn olaf, fel rhywun a aned ac a dreuliodd ei fywyd cynnar yng nghwm isaf Abertawe pan allai fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ffilm a oedd eisiau dangos tirwedd drefol wedi’i chreithio gan ddiwydiant, rwyf eisiau gadael gwell amgylchedd i’m plant.

Mae'r ddadl heddiw yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, felly byddaf yn canolbwyntio ar un agwedd, sef ansawdd yr aer. Mae ansawdd yr aer yn bwysig i bawb, felly mae'n iawn ein bod ni’n cymryd pob cam y gallwn yn y Cynulliad i’w wella. Rydym ni yn UKIP yn cefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n mynd i'r afael â'r mater fod gan Lywodraeth Cymru y gallu i weithredu Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, mewn lleoedd lle y mae ansawdd aer yn arbennig o wael, ond dim ond mesurau dros dro yw’r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer hyn i fod, tan fydd ansawdd yr aer yn gwella, a chaiff yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eu dirymu bryd hynny. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, fel yr ydym wedi clywed gan David Melding, dim ond pedwar allan o 42 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer sydd erioed wedi’u dirymu ac, mewn dau o'r achosion hynny, cawsant eu disodli’n gyflym gan Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eraill yn cwmpasu’r ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw. Felly, mewn gwirionedd, dim ond dau allan o 42 sydd erioed wedi’u dirymu i bob pwrpas a phrin y gellir galw llwyddiant o lai na 5 y cant yn chwa o awyr iach.

Felly, beth allwn ni ei wneud i wella ansawdd yr aer? Wel, byddai’r problemau a all achosi dirywiad yn ansawdd yr aer gynnwys cynyddu nifer y ffaniau echdynnu mewn ardal gymharol fach. Defnyddir y rhain yn aml mewn safleoedd lle y ceir ceginau. Ond pan fyddaf yn ystyried sut y mae dwy ardal ychydig y tu allan i ganol dinas Caerdydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diweddar, hynny yw Cowbridge Road yn Nhreganna a Heol y Ddinas yn y Rhath, mae mwy a mwy o drwyddedau wedi’u rhoi i fwytai, caffis a siopau bwyd brys. Mae llawer o'r siopau bwyd cyflym hefyd yn defnyddio cerbydau danfon. Ni all cymaint o ddatblygiadau o’r math yma wneud dim ond gwaethygu ansawdd yr aer yn yr ardaloedd hynny. Felly, un cwestiwn yw: sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu ei chamau gweithredu o ran ansawdd aer wrth ymdrin â chynghorau lleol yn eu swyddogaeth o fod yn awdurdodau trwyddedu a pha mor effeithiol yw'r mesurau hyn?

Ffactor pwysig arall o ran y dirywiad yn ansawdd yr aer yw’r cynnydd mewn tagfeydd traffig. Nawr, rwyf hefyd yn gweld bod nifer o sefydliadau mawr i fod i symud i Sgwâr Canolog Caerdydd o’r maestrefi ymylol, yn benodol Cyllid y Wlad, BBC Cymru a MotoNovo Finance. Nawr, rwy’n gwybod bod lleoedd parcio yn cael eu cyfyngu yn y Sgwâr Canolog, ond rwyf hefyd yn weddol siŵr y bydd llawer o weithwyr o'r sefydliadau hyn, serch hynny, yn dewis gyrru i mewn i'r dref i weithio, gan gynyddu tagfeydd traffig a gwaethygu ansawdd yr aer. Felly, nid yw'r pryderon hyn am ansawdd yr aer wedi gwneud dim i atal datblygiad y Sgwâr Canolog, sy'n cael ei wthio gan gyngor Llafur, ac mae'n gynllun sydd wedi ei gymeradwyo’n frwd gan Lywodraeth Cymru. Felly, pa mor bwysig, mewn gwirionedd, yw ansawdd yr aer i Lywodraeth Cymru? Pa ystyriaeth a roddir i bryderon am ansawdd yr aer yn y mathau hyn o benderfyniadau cynllunio?

Effaith olaf sylweddol ar ansawdd yr aer yw’r cynnydd yn y cyflenwad tai mewn ardal gymharol lawn, ac eto mae gan Gaerdydd gynllun datblygu lleol, wedi’i lunio gan ei gyngor Llafur, sy'n cynllunio ar gyfer cynnydd mawr mewn adeiladu tai ar y llain las. Bydd hyn yn cael effaith amlwg ar ansawdd yr aer. Felly, pa gamau y gall y Gweinidog eu cymryd i ddiogelu ansawdd yr aer rhag y mathau hyn o gynlluniau datblygu lleol sy’n niweidiol i'r amgylchedd? Diolch.

Rwy'n credu fy mod i’n cytuno â phopeth y mae pawb wedi’i ddweud. Rwy’n credu, ar y mater hwn, ei bod yn bwysig bod gennym gonsensws oherwydd mae mynd i'r afael ag ansawdd yr aer yn bwnc aruthol o bwysig. Nid oes y fath beth â lefelau diogel o ronynnau ac, a dweud y gwir, bydd rhai o'r camau y bydd angen i ni eu cymryd yn ei gwneud yn ofynnol i ni fynd i'r afael â'r modurwr hunangyfiawn, a bydd hynny yn amlwg yn eithaf dadleuol ymhlith rhai pobl yn ein cymuned.

Rwy'n credu bod rhai o'r materion y mae Gareth newydd eu codi yn bwysig iawn, ac er bod cyfiawnhad i gael lle parcio ar gyfer gweithwyr camera y BBC sy'n cario gwerth miloedd o bunnoedd o offer—mae’n rhaid iddyn nhw deithio mewn car—mae'n amlwg nad yw’n wir bod angen i’r rhai sy'n gwneud gwaith desg ddod i ganol y ddinas mewn car. Mae hynny'n rhywbeth sydd angen ei adlewyrchu yng nghynllun datblygu Caerdydd.

Roeddwn i’n dymuno canolbwyntio yn bennaf ar agweddau eraill sydd yn llawer llai dadleuol ond er hynny yn bwysig dros ben. Rwy’n cynrychioli’r etholaeth fwyaf trefol ac adeiledig yng Nghymru, rwy’n credu, yng Nghaerdydd Canolog, ac felly mae creu rhagor o fannau gwyrdd yn gwbl hanfodol i wella ansawdd yr aer. Mae Simon eisoes wedi crybwyll pwysigrwydd coed, a hoffwn innau dynnu sylw at un ffaith, sef y gall un goeden dynnu 26 pwys o garbon deuocsid o'r atmosffer bob blwyddyn, sy'n gyfwerth ag 11,000 o filltiroedd o allyriadau ceir. Mae dwy fil pum cant o droedfeddi sgwâr o laswellt yn rhyddhau digon o ocsigen i deulu o bedwar ei anadlu. Mae'r rhain yn ffigurau pwysig iawn, a dylai hyn ganolbwyntio ein meddyliau ar ein dull o gynllunio trefol, gan fod angen i bob cymuned elwa ar hyn. O ran mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, os oes gennym fannau gwyrdd, mae'n atal yr effeithiau cynhesu yn sgil arwynebau palmentog, yn adlenwi cyflenwadau dŵr daear, ac yn diogelu llynnoedd a nentydd rhag llygredd dŵr ffo. Mae'n lleihau erydiad pridd—mae gorchudd trwchus o blanhigion a thomwellt yn dal y pridd yn ei le, yn cadw gwaddod i ffwrdd o ddraeniau storm a ffyrdd, ac yn lleihau llifogydd, llithriad tir a stormydd llwch. Mae'r rhain yn faterion hynod bwysig i ni i gyd, ni waeth pa ran o Gymru yr ydym yn byw ynddi.

Bydd gardd dyweirch iach yn amsugno glawiad chwe gwaith yn fwy effeithiol na chae gwenith a phedair gwaith yn well na chae gwair. Rwy’n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn, oherwydd dŵr erbyn hyn yw’r aur newydd; ni allwn oroesi hebddo. Mae mannau gwyrdd yn lleihau straen ac yn rhoi hwb i rychwant sylw plant. Mae ymchwil arall sydd wedi darganfod bod symptomau anhwylder diffyg canolbwyntio mewn plant yn cael eu lleddfu drwy gysylltiad â natur. Mae cael gwyrddni mewn amgylchedd bob dydd plentyn, hyd yn oed gweld gwyrddni drwy’r ffenestr, yn lleihau eu symptomau ADD. Gan fod hynny yn digwydd fwyfwy ymhlith disgyblion, mae hyn, o bosibl, yn ganfyddiad pwysig iawn ac yn rhywbeth y dylem ei ystyried yn ein holl ysgolion.

Felly, beth yw'r ysgogiadau y gall y Llywodraeth eu defnyddio i wneud mwy o'r math hwn o beth? Roedd yn ddiddorol i mi gofio’r cynllun gweithredu ar gyfer bwyd a dyfir yn y gymuned, a lansiwyd yn 2010, rwy’n credu gan y Llywydd, i hyrwyddo, cefnogi ac annog tyfu bwyd yn y gymuned yng Nghymru, ac i wella diogelwch bwyd drwy gynyddu’r cynnyrch garddwriaethol sydd ar gael sydd wedi’i dyfu yn lleol, gan gysylltu pobl â'r gadwyn fwyd, cynyddu nifer y bobl sydd â diddordeb mewn tyfu bwyd, a gwella iechyd a lles yn y broses. Rwy’n cofio bod llawer o brosiectau LEADER ardderchog wedi eu hariannu gan y rhaglen UE flaenorol, a weddnewidiodd rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn wirioneddol, ond na chawsant erioed eu troi’n arfer prif ffrwd i gymunedau difreintiedig eraill, a oedd wir yn gyfle a gollwyd.

Rwy’n cofio, bod rhestrau aros hir ar gyfer rhandiroedd, weithiau, ac maen nhw’n aml yn anhygyrch i bobl heb gar beth bynnag. Felly, mae dod o hyd i dir ar gyfer prosiectau tyfu newydd yn her y mae angen i ni ymdrin â hi, yn fy marn i. Talaf deyrnged i rai o'r sefydliadau a’r cymunedau yng Nghaerdydd sydd wedi helpu i oresgyn yr anawsterau hyn a chael rhagor o bobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain. Mae gennym y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol, sydd â 49 o brosiectau tyfu cymunedol ledled ein dinas. Ac mae gan y prosiect rhandir cymunedol Glanyrafon, sy’n cynnwys, yn rhan annatod ohono, weithgareddau'r Gymdeithas Marchnad Gymunedol, le cynyddol nepell i’r gogledd o Gaerdydd, lle gall pobl ddysgu sut i dyfu bwyd mewn awyrgylch cymdeithasol a chefnogol.

Mae Farm Caerdydd yn broses fapio dan arweiniad y gymuned, sydd wedi nodi dros 400 o fannau cyhoeddus ar gyfer tyfu bwyd a phlanhigion eraill. Rwy'n cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r prosiect Cynefin, a arweiniodd at osod planwyr perlysiau ar Heol Albany, sef canol tref fy etholaeth i ac yn ôl pob tebyg yr amgylchedd mwyaf trefol mewn unrhyw fan, gan nad oes braidd dim mannau gwyrdd yn yr ardal gyfagos. Mae llain o dir a elwir yn ardd gymunedol Mackintosh, hefyd ym Mhlasnewydd, a ddechreuodd ar raddfa fach iawn ac sydd bellach yn datblygu twneli tyfu ac yn helpu i addysgu carfannau cyfan o blant ysgol o ysgolion sy’n jyngl concrid, am o ble mae bwyd yn dod. Mae fy swyddfa i yn gweithio gydag ysgolion yn Llanedeyrn a Phentwyn, sydd, yn wahanol i Adamsdown a Phlasnewydd, yn cynnwys llawer o leiniau sylweddol o dir, ond, hyd yn hyn, nid oes llawer o dyfu yn digwydd arnyn nhw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n falch o ddweud bod un ysgol wedi cytuno i neilltuo darn o'i thir ar gyfer gardd gymunedol. Fy uchelgais yw y bydd pob ysgol yn gwneud rhywbeth tebyg i ysbrydoli pobl yn y gymuned hon sydd â rhannau helaeth ohoni yn wynebu her ariannol i ddechrau tyfu eu cynnyrch eu hunain yn eu gerddi eu hunain, neu mewn mannau cyfun hygyrch. Mae hwn yn bwnc anhygoel o bwysig yn wyneb yr heriau niferus sy’n effeithio ar ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y bydd gennym achos i fyfyrio yn fanwl ar y fantais o droi ein hamgylchedd yn wyrdd yn ein holl gymunedau.

A gaf i sôn yn gyntaf, fel y mae llawer wedi ei wneud, am lygredd aer o ran allyriadau o gerbydau, a pheiriannau diesel yn arbennig, sydd, fel y gwyddom, yn niweidiol iawn i iechyd pobl. Rwyf wedi crybwyll o'r blaen yn y Siambr fy mod i wedi cwrdd â Calor, fel sefydliad, a siaradodd am newid o diesel i nwy Calor, yn enwedig efallai ar gyfer fflydoedd tacsi, ond gellid cymhwyso hyn yn fwy cyffredinol ac yn ehangach. Gall y gost, mae'n debyg, gael ei hadennill o fewn dwy flynedd—cost y gwaith addasu cychwynnol. Wrth gwrs, mae'n fuddiol iawn i iechyd y cyhoedd, drwy leihau yn fawr cynnwys y gronynnau mewn allyriadau o’r cerbydau hynny. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud rhywfaint am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl am gefnogi’r addasiadau hynny, a allai wneud rhywbeth ymarferol iawn ac amserol iawn i helpu i gyfrannu at leihau'r allyriadau niweidiol iawn hyn, a chyn, efallai, ein bod yn trafod atebion mwy parhaol megis ceir trydan a cherbydau trydan yn fwy cyffredinol.

Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod pa mor gryf y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill a Gweinidogion eraill ar agendâu sy'n bwysig i greu amgylchedd mwy addas ar gerrig drws pobl—y rhai hynny ar rai o'n hystadau cyngor blaenorol a’n hystadau cyngor presennol yng Nghasnewydd, er enghraifft ar ystâd Ringland. Bu’n destun trosglwyddo stoc i Gartrefi Dinas Casnewydd. Mae Cartrefi Dinas Casnewydd yn edrych ar yr amgylchedd ehangach, ar ôl gwneud llawer o waith ar ffabrig yr adeiladau, ac rwy’n credu eu bod yn agored i syniadau am sut maen nhw’n creu amgylchedd o’r ansawdd gorau i bobl leol. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth, yn fy marn i—Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhai o'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig—os ydym am gyflawni'r atebion gorau. Un o'r materion hefyd, er enghraifft ar Hendre Farm Drive ar ystâd Ringland, yw cyflymder y traffig. Mae rhai mesurau arafu traffig ar waith, ac, ar rai rhannau o'r ffordd, mae yna derfyn cyflymder o 20 mya ar waith, ond nid yw hyn ar hyd y ffordd gyfan. Mae llawer o barcio dwbl a llawer o blant yn chwarae, ond mae rhai rhieni yn amharod i ganiatáu i'w plant fynd allan i fwynhau'r amgylchedd awyr agored oherwydd peryglon traffig yn goryrru ar y ffordd. Felly, rwy'n credu bod honno'n un enghraifft o sut mae angen i ni edrych yn eang a chydweithio o fewn Llywodraeth Cymru, ac â phartneriaid eraill, os ydym am greu'r amgylchedd a fydd yn golygu y bydd ein poblogaethau yng Nghymru yn fwy egnïol, yn fwy cysylltiedig â'u hamgylcheddau lleol, yn eu gwerthfawrogi’n fwy, ac yna, gobeithio, yn ad-dalu’r meddwl a’r gwaith hwnnw drwy ddangos agweddau mwy cyfrifol, boed hynny trwy gymryd rhan mewn cynlluniau ailgylchu, peidio â gollwng sbwriel, peidio â thipio yn anghyfreithlon, neu fwynhau'r amgylchedd ehangach.

Y trydydd mater yr hoffwn sôn amdano, unwaith eto o ran cysylltu poblogaethau lleol â’u hamgylcheddau lleol, yw, rwy’n credu, llwybrau cylchol sy'n cysylltu cymunedau lleol â llwybr yr arfordir. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r syniadau gwreiddiol pan wnaethom siarad am ddatblygu llwybr yr arfordir, y byddem yn annog y llwybrau cylchol hyn. Nid wyf yn ymwybodol o fodolaeth cymaint â hynny ohonynt yng Nghymru, ond yn sicr hoffwn i weld y rhai sydd wedi’u datblygu yng Nghasnewydd, a fyddai'n cysylltu ystadau fel Ringland, nad ydyn nhw mor bell â hynny oddi wrth lwybr yr arfordir, gyda'r llwybr arfordirol hwnnw. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig am ba un a fydd ystyriaeth, a gobeithio gweithredu, yn fuan iawn i gyflawni’r llwybrau cylchol hynny, a fyddai, yn fy marn i, yn fuddiol iawn, ac y gellid yn amlwg eu datblygu drwy Gymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl—Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 18:14:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am y ddadl adeiladol iawn, ac mae'n dda cael cefnogaeth pawb. Mae'n rhaid i mi ddweud, ers i mi ddechrau yn y swydd, mae’n debyg mai ansawdd yr aer sy’n llenwi’r rhan fwyaf o fy mag post gan Aelodau’r Cynulliad eu hunain. I droi yn gyntaf at welliant y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n hapus iawn i gefnogi hwnnw. Soniodd Gareth Bennett am yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, a dylwn i ddweud mai awdurdodau lleol sy'n nodi ardaloedd yn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, nid Llywodraeth Cymru, ac nid yw’r ffaith nad ydyn nhw wedi cael eu dirymu yn golygu nad yw ansawdd yr aer yn well nag y byddai pe na byddai wedi ei nodi. Felly, rydym yn hapus iawn, fel y dywedais, i gefnogi hynny.

Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael ag awdurdodau lleol sy'n tanberfformio, ac, yn sicr, rydym ni wedi cael yr ymgynghoriad bellach ar ansawdd aer a sŵn. Cawsom tua 50 o ymatebion, felly mae swyddogion wrthi'n dadansoddi'r ymatebion hynny ar hyn o bryd ac, fel y dywedais, byddaf yn adrodd yn ôl drwy ddatganiad i'r Aelodau erbyn diwedd mis Mawrth. Ond, yn sicr, rwyf eisiau cyhoeddi canllawiau, rheoliadau uniongyrchol—gallaf i wneud hynny i gyd—ond mae angen hefyd i mi allu gweithredu, rwy’n credu, yn llawer mwy cadarn gydag awdurdodau lleol.

Os caf i droi at rai o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, ac, fel y dywedais, rwy’n credu bod pawb wedi cyfeirio at ansawdd yr aer. Rwy'n credu bod ansawdd yr aer yng Nghymru yn dda ar y cyfan, ond mae rhai heriau sylweddol, yn arbennig yng nghyffiniau ffyrdd prysur, y mae angen i ni roi sylw iddyn nhw. Roeddwn i’n meddwl ei bod yn holloll iawn i gynnal ymgynghoriad pan y gwnaethom, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at sut y gallwn wella pethau.

Soniodd David Melding am Oslo, ac efallai y bydd yr Aelodau’n cofio pan ddes i’n ôl o Marrakesh, fy mod i wedi cwrdd â dirprwy faer Oslo a buom yn siarad am hynny. Fel y dywedwch, ni ddylem o reidrwydd ddilyn yn hynny o beth, ond yr oedd yn ddiddorol iawn yn fy marn i, i weld yr hyn y mae Oslo yn ei wneud ynglŷn â thrafnidiaeth.

Soniodd Simon Thomas am iechyd y cyhoedd a chyfiawnder cymdeithasol ar y cyd, ac rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Rydym yn mynd i orfod defnyddio mesurau llymach o ran ansawdd aer, yn arbennig, yn fy marn i, o ran cerbydau sy’n creu llawer o lygredd. Soniodd John Griffiths am LPG, ac rwyf wedi gofyn am gyngor ar ddatblygu hynny, oherwydd eich bod wedi codi hynny o'r blaen yn y Siambr, John, gyda mi.

Soniodd Simon Thomas hefyd am Aberddawan, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE o ran addasiadau i'r drwydded amgylcheddol. Rwyf wedi cwrdd â’r ddwy ochr yn dilyn dyfarniad y llys i siarad â nhw amdani. Mae swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd ac yn monitro'r addasiadau i'r drwydded. Mae RWE wedi buddsoddi'n sylweddol mewn atal llygredd, ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol, ond, yn amlwg, mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn dod o fewn y cyfyngiadau amgylcheddol sydd wedi eu cyflwyno.

Soniodd nifer o'r Aelodau am blannu coed a phwysigrwydd plannu coed yn gywir. Unwaith eto, cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe i siarad am hyn, oherwydd rydych chi’n hollol gywir, Simon Thomas, gallan nhw sgwrio gronynnau, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael eu plannu yn y modd cywir.

Rwy’n credu bod Mike Hedges wedi codi sawl pwynt sy'n llenwi ein holl fagiau post gan ein hetholwyr: baw cŵn, tipio anghyfreithlon—ac, unwaith eto, rydym yn ymgynghori ar dipio anghyfreithlon ar raddfa fach oherwydd bod arweinwyr cynghorau, yn arbennig, wedi dweud wrthyf fod angen iddyn nhw ymdrin â'r un bag du o sbwriel sydd wedi ei daflu. Felly, unwaith eto, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd.

Mae Mike Hedges hefyd yn iawn ynglŷn â’r stori dda sydd gennym i’w hadrodd ar ailgylchu. Cawsom ddadl dda iawn yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ailgylchu, ac rydym ar flaen y gad yn y DU—yn bedwerydd yn Ewrop. Ond mae'r uchelgais i gael gwlad ddiwastraff yn hollol gywir. Soniais, yn fy sylwadau agoriadol, fod angen i ni berswadio’r bobl nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd, a’r bag du hwnnw sy’n dal i gynnwys 50 y cant o ddeunyddiau y gellid eu hailgylchu.

Soniodd Jenny Rathbone am fannau gwyrdd, seilwaith gwyrdd a choed, a ches i gyfarfod diddorol iawn gyda Julie Morgan yr wythnos diwethaf, oherwydd bod Julie wedi sôn mewn cwestiynau am erddi cymunedol a welodd hi yn Efrog Newydd. Mae pob man yn Efrog Newydd y gellir ei droi naill ai yn wely blodau neu blannu coed neu ffrwythau a llysiau arno, yn cael ei ddefnyddio. Felly, unwaith eto, rydym yn edrych i weld beth y gellir ei ddatblygu yn yr ystyr hwnnw. Rwy'n credu bod menter yn Abertawe y gallwn edrych arni i weld a allwn ni ledaenu yr arfer gorau hwnnw.

O ran polisi cynllunio, soniodd Gareth Bennett am bolisi cynllunio, ac rydym yn adolygu’r polisi cynllunio i weld a allwn ni roi pwyslais cryfach ar les ac iechyd, a byddai hynny’n berthnasol yn hynny o beth.

I ddychwelyd at bwysigrwydd rhannu cyfrifoldeb am y materion pwysig hyn, rwy’n credu bod angen egni ac ymrwymiad pawb yng Nghymru i’n helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Rwy'n credu bod angen i bobl mewn cymunedau weithio gyda ni, tirfeddianwyr preifat, busnesau bach, busnesau mawr, datblygwyr, adeiladwyr tai, sefydliadau’r trydydd sector a’r holl gyrff cyhoeddus hefyd.

Gofynnodd John Griffiths am weithio ar draws y llywodraeth, a chredaf ei fod yn amlwg yn gyfrifoldeb traws-bortffolio. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu ar y cyd ar draws pob maes polisi. Soniais fy mod i'n gweithio gyda Rebecca Evans ar deithio egnïol, ac yn amlwg gyda Ken Skates ar drafnidiaeth.

Gall newidiadau bach, a all fod yn syml ac yn fforddiadwy, wneud gwahaniaeth mawr. Felly, mae mynd yn ôl at osod rhagor o finiau gwastraff, rhagor o finiau ailgylchu a biniau gwastraff cŵn, rwy’n credu, yn bwysig iawn allan yna.

Siaradodd Simon Thomas am boteli plastig a chwpanau y gellir eu hailgylchu. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â siop goffi adnabyddus iawn ar y stryd fawr.

Starbucks, ie. [Chwerthin.] Roedden nhw'n dweud wrthyf am gynllun treialu sydd ganddyn nhw yn Llundain, lle mae biniau ar gael i bobl wagio unrhyw beth sydd ar ôl yn y gwpan, a bin arall wedyn lle mae modd ailgylchu eu cwpan. Felly, mae gwaith yn digwydd. Dywedais y byddem yn hapus iawn i gael cynllun treialu yma yng Nghymru, yn y dyfodol.

Felly, credaf ei fod yn glir iawn, o'r consensws yn y Siambr, bod manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y mater hwn, yno i bawb eu gweld. Diolch.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig NDM6211 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy’n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.

2. Yn cefnogi:

a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a

b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella’r mannau lle y maent yn byw.

3. Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.

The proposal is therefore to agree the motion as amended. Does any Member object? The motion as amended is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.