Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
18/01/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf, Huw Irranca-Davies.
Adran 127 o Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau cyfreithiol posibl i Lywodraeth Cymru pe cynhelir adolygiad barnwrol o Adran 127 o gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd? OAQ(5)0018(CG)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r felin drafod British Influence wedi gofyn am ganiatâd i adolygiad barnwrol gael ei gynnal mewn perthynas â chymhwysedd Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd o ran y DU, mewn perthynas â Brexit. Nid yw’n glir a fydd caniatâd yn cael ei roi, ond deallaf fod bwriad bellach i gynnal gwrandawiad llafar ar gyfer ‘gadael’ ym mis Chwefror, sef pan fydd dyfarniad y Goruchaf Lys yn yr achos ar Erthygl 50 yn debygol o fod wedi’i dderbyn.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Ac wrth gwrs, mae wedi tynnu ein sylw hefyd at faterion diweddar, gan gynnwys y cais diweddar am adolygiad barnwrol. Felly, a gaf fi ofyn, yn sgil hynny, a’i ateb, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu buddiannau pobl Cymru, gan gofio bod Prif Weinidog y DU wedi awgrymu na fyddai methu â sicrhau mynediad at y farchnad sengl neu barhau ein haelodaeth o’r undeb tollau yn rhwystrau rhag sbarduno erthygl 50?
Wel, y peth cyntaf i’w ddweud yw bod yr achos newydd sy’n cael ei gyflwyno o dan erthygl 127 yn ymwneud â maes pwysig lle y mae’r DU wedi llofnodi cytuniad pwysig. Dylid edrych ar y dadleuon cyfreithiol penodol a gyflwynwyd, yn ôl yr hyn a ddeallwn, yn yr achos penodol hwnnw. Dywedant fod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn agor y drws i ymuno â’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ond nad yw’n rhagamod ar gyfer parhau ein haelodaeth. Dywedant fod y DU yn un o bartïon contractio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn ei hawl ei hun, a bod yn rhaid i’r DU sbarduno erthygl 127 o’r cytundeb er mwyn gadael yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, sy’n weithred wirfoddol yn hytrach na rhwymedigaeth wrth adael yr UE, a bod erthygl 127 yn ddealledig yn gwahardd dulliau eraill o adael yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, megis gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac er bod dau biler ar hyn o bryd i aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd—piler yr UE a philer yr Ardal Economaidd Ewropeaidd—nid oes unrhyw beth i rwystro rhagor o bileri rhag cael eu sefydlu ar y naill ochr a’r llall. Felly, dyna’r dadleuon sy’n cael eu gwneud.
Yn y bôn, mae erthygl 127 o’r cytundeb yn datgan y caiff pob parti dynnu’n ôl o’r cytundeb, ar yr amod eu bod yn rhoi o leiaf 12 mis o rybudd i’r partïon eraill. Ac mae’r DU, wrth gwrs, yn barti i gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac mae’r cytundeb hefyd yn un o gytuniadau’r UE sy’n rhan o wead ein setliad cyfansoddiadol drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, os yw’r achos i fynd ymlaen, drwy’r ymgyfreitha hwn, gofynnir i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt ar dynnu’n ôl o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd o dan erthygl 127. Felly, edrychwn ymlaen at weld yr hyn a fydd gan Lywodraeth y DU i’w ddweud am hynny mewn gwirionedd.
Ac fel y nodwyd yn gyhoeddus eisoes gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, ac rydym yn barod i archwilio pob ffordd arall o gyflawni’r nod hwnnw. Fel yr eglurwyd, mae’r diddordeb yn eithaf amlwg: mae gennym 20,000 o weithwyr yn y diwydiant modurol sy’n dibynnu ar allu allforio i’r UE, a 7,000 o swyddi dur a miloedd lawer o swyddi gweithwyr amaethyddol sy’n ddibynnol iawn ar fynediad at y farchnad honno. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, mae model yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, sy’n caniatáu mynediad at farchnad sengl yr UE i dair o bedair gwladwriaeth Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, yn rhywbeth y dylid yn bendant ei archwilio’n fanwl iawn.
Felly, mewn egwyddor, gallai’r angen i dynnu’n ôl yn ffurfiol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd arwain at faterion tebyg i’r hyn a godwyd yn achos Miller, ac rydym yn aros am ddyfarniad, yn amlwg, gan y Goruchaf Lys ar yr achos hwnnw cyn bo hir. Rydym yn archwilio’r materion hyn. Ni fyddai’n addas gwneud sylw pellach ar hyn o bryd, ond fel y dywedais, mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn glir fod mynediad llawn a dilyffethair at farchnad sengl yr UE yn dda ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf, ac mae’n brif flaenoriaeth, er mwyn diogelu swyddi ac economi Cymru. Felly, mae’n hanfodol nad yw busnesau yng Nghymru o dan anfantais o ganlyniad i rwystrau masnach, cwotâu, neu rwystrau technegol diangen rhag masnachu. Felly, rydym yn monitro’r sefyllfa’n ofalus iawn, a bydd llawer o bethau’n dibynnu ar gynnwys dyfarniad y Goruchaf Lys cyn bo hir.
Byddai aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn caniatáu i’r UE barhau i lunio ein deddfau masnachu, ac yn gwneud rhyddid pobl i symud, sy’n rhywbeth y pleidleisiodd y rhan fwyaf o’ch etholwyr yn ei erbyn, yn ofynnol. Os daw cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y lle hwn, a fyddwch yn pleidleisio gyda’ch etholwyr neu gyda Jeremy Corbyn?
Pontypridd yw fy etholaeth, wrth gwrs, a phleidleisiodd y rhan fwyaf o etholwyr Pontypridd dros aros mewn gwirionedd, felly awgrymaf eich bod yn gofyn i mi weithredu dros ‘aros’. [Chwerthin.] Ond hoffwn ddweud mewn gwirionedd mai fy rôl yma yw Cwnsler Cyffredinol, fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru a diogelu buddiannau cyfansoddiadol Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru.
Gorfodi Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch gorfodi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0016(CG)
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig, ond credaf fod y defnydd o bwerau gorfodi i sicrhau bod deddfwriaeth yn effeithiol yn bwysig iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r gwaith erlyn rwy’n ei wneud i ddiogelu adnoddau naturiol morol a chywirdeb cynnyrch bwyd yng Nghymru drwy orfodi cyfraith Cymru.
Mae un o fy etholwyr yn ecolegydd ac wedi cysylltu â mi eisoes yn mynegi ei bryderon ynglŷn â gorfodi deddfwriaeth Cymru sy’n seiliedig ar gyfarwyddeb cynefinoedd yr UE wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Un enghraifft yw hon ac mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi rhoi enghraifft. Mae eisoes wedi rhoi asesiad o effaith gyffredinol sbarduno erthygl 50 o Gytuniad Lisbon ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. A wnaiff roi sylwadau penodol ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i ddeddfau Cymru?
Yr ateb yw bydd, yn sicr, fe fydd—. Un o’r meysydd rwy’n pryderu yn ei gylch yw sicrhau y gallwn orfodi ein deddfau a’r meysydd o fewn ein hawdurdodaeth yn ddigonol ac yn briodol, waeth pa newidiadau neu fylchau sy’n digwydd mewn perthynas â chyfraith Cymru. Felly, i’r graddau hynny, fe fyddwch yn ymwybodol o’r datganiadau a wneuthum mewn perthynas ag erlyniadau’r pysgodfeydd a’r gwahanol erlyniadau bwyd sydd wedi bod yn mynd rhagddynt.
Rydych yn codi pwynt dilys iawn, ac mae’n bwynt a godwyd gennym yn y Goruchaf Lys mewn perthynas â’r meysydd hynny lle y bydd bylchau sylweddol, yn sydyn, mewn deddfau y bydd yn rhaid eu disodli. Mae nifer y deddfau a’r rheoliadau, mewn gwirionedd, yn sylweddol. Yn wir, rydym yn disgwyl gweld oddeutu 5,200 o reoliadau amgylcheddol, ac wrth adael yr UE, bydd llawer ohonynt yn sydyn yn dod yn fylchau yn y ddeddfwriaeth. Dyna pam ei bod yn dasg mor fawr, a pham fod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflogi cymaint o gyfreithwyr a gweinyddwyr newydd er mwyn ymdrin â’r holl faterion cymhleth hyn.
O ran y gyfraith, bydd yr hyn sydd eisoes wedi’i drosglwyddo i gyfraith Cymru yn aros yn rhan o gyfraith Cymru, a mater i Lywodraeth Cymru ac i’r Cynulliad, wrth gwrs, fydd penderfynu pa ddeddfau y dylid eu cadw wedyn. Lle y bo cyfraith Cymru neu’r DU yn rhoi grym i un o ddeddfau’r UE, bydd nifer o agweddau ar y ddeddf UE honno yn rhai y bydd cynrychiolwyr Cymru, cynrychiolwyr y DU a Llywodraeth y DU ac yn y blaen, wedi eu hyrwyddo ac yn dymuno eu cadw. Felly, os yw’r rhain yn ddeddfau’r UE a gefnogwyd gennym, efallai y byddwn yn awyddus i’w cadw, a lle y bo deddf UE yn gymwys yn uniongyrchol yng Nghymru, ac felly heb ei throsglwyddo i gyfraith Cymru neu’r DU, bydd angen i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad ystyried ai’r polisi sy’n sail i’r ddeddf UE honno yw’r ffordd orau ymlaen i Gymru, a pha newidiadau y dylid eu gwneud i’r ddeddf yng Nghymru er mwyn sicrhau hynny.
Nid yw Eluned Morgan yn y Siambr i ofyn cwestiwn 3. Felly, cwestiwn 4, Jeremy Miles.
Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OAQ(5)0019(CG)].
Cau Llysoedd
4. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ynghylch effaith cau llysoedd yng Nghymru yn ddiweddar? OAQ(5)0017(CG)
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch effeithiau andwyol cau llysoedd ar fynediad at gyfiawnder, a fydd, i lawer o bobl, yn golygu teithiau hwy a drutach er mwyn mynychu’r llys a mynediad llawer mwy cyfyngedig at gyfiawnder.
Yn fy etholaeth i, sef Castell-nedd, rydym bellach wedi colli llys yr ynadon a’r llys sirol. O ran llys yr ynadon, mae hynny’n golygu bod pobl yn teithio i Abertawe. Bellach, ni cheir darpariaeth leol ar gyfer y boblogaeth o 140,000, sef oddeutu maint dinas Caergrawnt, a arferai gael eu gwasanaethu gan y llys hwnnw. Mae gennyf etholwyr sydd wedi colli cyfleoedd i fynd i’r llys am eu bod wedi ceisio cyfuno ymweliadau meddygol gyda bod yn y llys ac yn dibynnu ar wasanaeth bws. Felly, mae’r goblygiadau o ran cyfiawnder cymdeithasol yn sylweddol, fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol. Pa ymateb a gafodd i’r pryderon hynny ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol pan ddaeth â’r sylwadau hyn gerbron Llywodraeth y DU?
Rwy’n ymwybodol iawn o ddiddordebau’r Aelod yn y maes hwn. Caewyd llys ynadon Castell-nedd ym mis Mai 2014, gyda’r gwaith yn cael ei drosglwyddo i Abertawe. Caewyd llys sifil a theulu Castell-nedd a Phort Talbot ym mis Gorffennaf 2016, gyda’r gwaith yn cael ei drosglwyddo i ganolfan gyfiawnder Port Talbot. Yn ogystal, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, mae llysoedd wedi cau yn ddiweddar yn y Guildhall yng Nghaerfyrddin, llysoedd barn Aberhonddu a llysoedd barn Pen-y-bont ar Ogwr, ac wrth gwrs, mae’r effaith mewn ardaloedd gwledig yn arbennig o arwyddocaol, gan fod amseroedd teithio i’r llys wedi cynyddu’n sylweddol.
Wrth gwrs, nid yw cau llysoedd ond yn un rhan o raglen ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder o doriadau sy’n cynnwys llai o fynediad at gymorth cyfreithiol a chodi refeniw, gan gynnwys cynyddu ffioedd llys. Gyda’i gilydd, mae’r newidiadau hyn yn effeithio’n sylweddol ar fynediad pobl a chymunedau sy’n agored i niwed at gyfiawnder. Mae’n werth dweud yn gyffredinol fod nifer y llysoedd yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng yn sylweddol ers 2010. Caeodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi 146 o lysoedd rhwng 2010 a 2015. Mae 86 llys arall yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cau ar hyn o bryd. O’r 42 llys a thribiwnlys sydd ar ôl yng Nghymru yn sgil rhaglenni cau blaenorol, mae naw eisoes wedi cau o dan y rhaglen bresennol, gyda llys arall, yn Llangefni, ar fin cau.
Felly, rydym wedi cyflwyno sylwadau. Rydym yn parhau i gyflwyno’r sylwadau hynny. Yn anffodus, ymddengys nad yw’r sylwadau hynny’n cael eu clywed. Nid yw hwn yn faes sydd wedi’i ddatganoli, wrth gwrs. Pe bai wedi ei ddatganoli, credaf y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i gyfeiriad gwahanol iawn.
Yn dilyn sylwadau’r Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, fel cyn-ynad heddwch, gwn fod cau llys y Fenni, yn fy ardal i, yn ei gwneud bron yn amhosibl i ddiffynyddion fynychu’r ddau lys sydd ar ôl yng Nghwmbrân a Chasnewydd, o ystyried y bydd yn rhaid i lawer ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ôl yr hyn a wyddoch, a ystyriwyd y ffactorau hyn, ac a lwyddodd eich rhagflaenydd i ddylanwadu o gwbl ar y penderfyniadau hyn?
Wel, wrth gwrs, cafwyd ymgynghoriad, ond mae’r pwynt a wnewch yn hollol gywir, a’r un mater yn union a gafwyd yn fy etholaeth fy hun ym Mhontypridd, pan gaewyd y llys hwnnw. Pan gyflwynwyd sylwadau manwl, fel y gwnaed mewn perthynas â Chwmbrân a’r Fenni, i ddangos bod y sail ar gyfer gwneud y penderfyniadau, o ran mynediad at lysoedd, yn ddiffygiol o ran eu sylwedd—fod sicrhau mynediad at lysoedd eraill bron yn amhosibl mewn gwirionedd ar y sail a gâi ei hawgrymu. O’r hyn y gallaf ei weld, mae hynny wedi cael ei anwybyddu’n llwyr.
Achos y Goruchaf Lys ar Erthygl 50
5. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar achos y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0021(CG)[W]
Rwy’n ymddiheuro—tybed a wnewch chi ofyn hynny i mi eto. [Chwerthin.]
Diolch. Nawr eich bod wedi’ch cysylltu, Gwnsler Cyffredinol.
5. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar achos y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0021(CG)[W]
Yr achos a gyflwynwyd gennym gerbron y Goruchaf Lys yn y gwrandawiad ar 8 Rhagfyr oedd bod angen Deddf Seneddol i awdurdodi Llywodraeth y DU i roi hysbysiad o dan erthygl 50. Y Senedd yn unig all wneud newid mor sylfaenol i’r setliad datganoli, a rhaid i newid o’r fath ystyried confensiwn Sewel. Fel y gŵyr yr Aelod yn ôl pob tebyg, disgwylir y dyfarniad cyn bo hir.
Diolch i’r cwnsler am ei ateb. Roeddwn i wedi hanner gobeithio y byddai’r dyfarniad wedi dod erbyn imi ofyn y cwestiwn yma, ond a gaf i groesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £84,000 i amddiffyn buddiannau’r Cynulliad hwn a democratiaeth yng Nghymru? Rydw i’n meddwl yr oedd pob ceiniog yn werth ei gwario, ac rwy’n cymharu’r gwariant yna â’r gwariant gan Lywodraeth San Steffan i herio deddfwriaeth gan y Cynulliad yn y gorffennol, ac yn benodol y Bil ynglŷn â thaliadau cyflogau amaeth—mae gwariant gan un Llywodraeth yn dderbyniol ond ddim gan Lywodraeth arall. Wel, i fi, mae’n dderbyniol iawn bod y cwnsler cyffredinol wedi awdurdodi’r gwariant yma. Heb y gwariant a heb yr achos yma, a heb fod yn rhan o’r achos yn y Goruchaf Lys, rwy’n tybied a fyddem ni wedi cael cystal geiriad yn natganiad ac araith y Prif Weinidog, Theresa May, ddoe, pan y’i gwnaeth hi’n glir bod angen ymgynghori â’r Senedd a Llywodraeth Cymru cyn symud ymlaen â’r broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Felly, rydw i’n meddwl bod amddiffyniad wedi bod o’r Senedd hon yn yr achos yma.
Gan fwrw y bydd yna achos llys, a gan fwrw bod Llywodraeth San Steffan yn credu y bydd achos llys yn mynd yn eu herbyn nhw, beth fydd y camau ymarferol y mae’r cwnsler cyffredinol yn eu hystyried yn briodol i’r Senedd yma eu gwneud wrth symud ymlaen ac ymateb i ‘trigger-o’ erthygl 50?
Wel, yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Efallai fy mod yn anghytuno ag ef i raddau gan ei bod yn gwbl warthus ein bod wedi gorfod gwario £84,000 ar yr achos. Roedd yn hollol iawn ein bod yn y llys ar gyfer yr achos cyfansoddiadol pwysicaf ers 300 mlynedd, ond credaf ei bod yn gwbl anghywir fod Llywodraeth y DU, ar fater sefydlu uchelfraint frenhinol er mwyn mynd heibio i’r Senedd, wedi apelio yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys gan achosi nid yn unig y gost y bu’n rhaid i ni ei hysgwyddo, ond hefyd y gost y bu’n rhaid i Ogledd Iwerddon a’r Alban ei hysgwyddo wedyn. Ac wrth gwrs, nid yw’n syndod fod Llywodraeth y DU, chwe gwaith, wedi gwrthod datgelu’r swm sylweddol y mae hi hefyd wedi’i wario yn ôl pob tebyg. Ond o ran ein safbwynt, credaf ein bod yn hollol gywir: byddem wedi gwneud cam â phobl Cymru pe na baem wedi sicrhau llais i Gymru.
O ran pwysigrwydd yr hyn a allai ddigwydd, os yw’r dyfarniad yn cadarnhau penderfyniad yr Uchel Lys, sy’n galw am ddeddfwriaeth, yr hyn a wna hynny wedyn—mae’n darparu cyfle ar gyfer ymgysylltiad pellach drwy Sewel, ymgysylltiad â’r broses Seneddol, sef yr hyn y mae Sewel yn ei sefydlu, a gallwn edrych ar gyflawni’r nod, yn ein harferion gwaith, y bydd unrhyw ddeddfwriaeth sy’n cael ei chyflwyno er mwyn sbarduno erthygl 50 hefyd yn cynnwys dyletswydd i ymgysylltu ac ymgynghori â Llywodraethau datganoledig, a buaswn hyd yn oed yn dweud â Llywodraethau rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod llais y bobl yn cael ei gynrychioli’n briodol yn y cytundebau sy’n cael eu llunio a fydd yn effeithio ar swyddi a bywydau pobl, ac ar fuddsoddiad yn ein gwlad.
Mae’r Cwnsler Cyffredinol, a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn wir, yn dweud yn gyson eu bod yn parchu barn pobl Cymru o ran pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar 23 Mehefin y llynedd. A fydd yn derbyn bod y defnydd honedig o’r uchelfraint frenhinol i sbarduno erthygl 50 yn yr achos hwn yn ansoddol wahanol i bob defnydd blaenorol o’r uchelfraint frenhinol gan fod hyn yn unol â phenderfyniad pobl Prydain yn y refferendwm hwnnw, ac felly, y byddai sbarduno erthygl 50 yn cyflawni dymuniad clir pobl Prydain yn hytrach na’i lesteirio, ac na ddylid cymeradwyo unrhyw ymgais gan Lywodraeth Cymru i sefyll yn ffordd barn pobl Cymru? Â
Wel, y pwynt sylfaenol nad yw’r Aelod yn ei ddeall, waeth pa mor fanwl yr eglurwyd y peth yn y Goruchaf Lys, yw mai’r ddadl yw nad oes uchelfraint frenhinol i ddisodli cyfreithiau a thanseilio rôl y Senedd. Dyna oedd yr holl bwynt. Nid oes unrhyw uchelfraint frenhinol. Os yw wedi bodoli erioed, fe’i diddymwyd gan y ddeddf hawliau a chan gyfres o benderfyniadau yn y llysoedd. Dyna oedd y pwynt sylfaenol. Ni allai’r Llywodraeth ddibynnu ar uchelfraint nad oedd yn bodoli. Mae’r Senedd yn sofran. Rydym yn gweithredu o dan system o ddemocratiaeth seneddol sofran. Dyna oedd y pwynt sylfaenol. Yn anffodus, ymddengys bod yr Aelod yn dymuno bod yn esgeulus â rheolaeth y gyfraith. A lle y mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol mewn gwledydd eraill, mae wedi arwain at danseilio rheolaeth y gyfraith. Mae’n llwybr peryglus iawn i fynd ar hyd-ddo.
Bil Cymru
6. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion y gyfraith ar Fil Cymru? OAQ(5)0020(FM)[W]
Wel, fe ŵyr yr Aelodau, a’r Aelod yn arbennig, fod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Bydd Bil Cymru yn cael ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Wrth gwrs, roeddwn yn disgwyl ateb tebyg i hwnnw. Un o’r pethau y gwnaethom eu trafod ddoe wrth gymeradwyo’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, hyd yn oed gan y bobl a oedd yn pleidleisio o blaid y cynnig hwnnw, oedd y pryder ynglŷn â’r defnydd o’r geiriau—yn Saesneg, achos mae Bil Cymru ond yn Saesneg, am wn i—’relates to’, neu ‘perthyn i’, a bod hynny’n ffordd efallai o gyfyngu ar y datganoli sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Ar y llaw arall, roedd nifer o bobl yma, yn enwedig ar feinciau’r Ceidwadwyr, yn dweud bod eglurhad digonol wedi’i dderbyn gan Weinidogion y Goron yn San Steffan i ddangos nad yw hwn yn mynd i gael ei ddefnyddio mewn ffordd i gyfyngu neu dorri ar ddemocratiaeth. Felly, mor bell ag y gallwch chi roi eich cyngor neu sylwadau yn y Siambr hon, hoffwn wybod a ydych o’r farn bod y Bil erbyn hyn wedi taro’r cydbwysedd iawn rhwng y model pwerau a gedwir yn ôl a’r ffaith bod—o hyd—Gweinidogion y Goron â’r hawl yma i ymyrryd yn y maes yma o ‘perthyn i’?
Wel, yr ateb i hynny yw bod y Bil yn anfoddhaol ac yn annigonol am nifer o resymau, ac archwiliwyd y rhan fwyaf ohonynt a’u nodi’n fanwl ddoe gennych chi, y Prif Weinidog a sawl un arall. Yr hyn a gafwyd, unwaith eto drwy negodi caled, oedd naratif sy’n esbonio nad tanseilio’r broses ddatganoli a deddfwriaeth ddatganoli oedd bwriad defnyddio ‘perthyn i’. Mae hynny’n rhywfaint o gymorth i’r graddau ei fod yno—yn ysgrifenedig. Ond unwaith eto, fel gyda llawer o’r pethau hyn, mae’n mynd i ymwneud ag ymddiriedaeth ac ewyllys da, a chawn weld a gaiff hynny ei barchu ai peidio pan fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno. Buaswn yn disgwyl iddo gael ei barchu. Credaf iddo gael ei wneud gyda bwriad ac ewyllys da, ond mae’n rhaid i ni weithio ar y sail y bydd hynny’n parhau yn y dyfodol. Os nad yw hynny’n parhau, golyga y bydd mwy o faterion yn mynd i’r Goruchaf Lys.
Roedd y pwynt a wnaeth yr Aelod ddoe, fodd bynnag, yn un pwysig iawn, sef y bydd Sewel yn cyrraedd y llyfr statud. Mae hynny’n hanfodol bwysig. Nid yw hynny ynddo’i hun o reidrwydd yn creu feto ar hyn o bryd, ond golyga na ellir ei ddileu. Mae yno. Mae’n sefydlu confensiwn yn y gyfraith, a thros gyfnod o amser daw’r confensiwn hwnnw’n rhan annatod o’r cyfansoddiad. Felly, bydd mater barnadwyedd yn parhau o ran yr hyn y gellir ei wneud a’r hyn na ellir ei wneud fel arfer. Credaf y bydd y materion hyn yn dod yn rhan o’n dadleuon cyfansoddiadol yn y dyfodol. Felly, mae’n gam ymlaen. Fel gyda llawer o bethau, weithiau ceir un cam ymlaen, a dau gam yn ôl. Mewn gwirionedd, credaf fod hwn yn gam ymlaen mewn rhai meysydd, a cham yn ôl mewn meysydd eraill, ond ar y cyfan bu’n rhaid gwneud penderfyniad ddoe ac rydym yn ymwybodol o’r penderfyniad. Rydym yn gwybod bellach lle rydym mewn perthynas â Bil Cymru, ond fe fydd yna heriau ac fe fydd yna anawsterau.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru). Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch am y cyfle i wneud datganiad mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru), a gyflwynwyd ddydd Llun.
Nod y Bil yw datgymhwyso adrannau 3, 13, 14 a 15 o Ddeddf Undebau Llafur y DU 2016 o ran eu cymhwysedd i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd llawer o’r Aelodau yma’n cofio’r cefndir i’r Bil hwn. Wedi Etholiad Cyffredinol 2015, cyflwynwyd Bil gan Lywodraeth Geidwadol y DU gyda’r nod o gyfyngu ar hawliau undebau llafur a’u haelodau mewn cyfres o feysydd pwysig. Ymyrrodd Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i roi gwybod i Weinidogion y DU ein bod yn credu bod y Bil yn tresmasu’n uniongyrchol ar weithrediad gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ac y dylid diwygio’r Bil i eithrio Cymru o’r darpariaethau hynny sy’n amharu ar gyfrifoldebau’r Cynulliad hwn. Ysgrifennodd fy rhagflaenydd, Leighton Andrews, at ei swyddog cyfatebol, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU ar y pryd, ac ysgrifennodd y Gweinidog Gwladol Ceidwadol dros Sgiliau at ei gydweithwyr yn eu hysbysu fod y cyngor cyfreithiol gan Brif Gwnsler y Trysorlys wedi dod i’r casgliad mai achos gwan iawn oedd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â Chymru. Mewn pleidlais ar 26 Ionawr, gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol ei hun gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu ar gyfer Cymru yn y maes hwn.
Ni wnaeth hynny unrhyw wahaniaeth. Aeth Llywodraeth y DU yn ei blaen beth bynnag, gan honni bod eu ‘hachos gwan iawn’ yn ddigonol i atal cymhwysedd y Cynulliad hwn yn y maes. Gadewch i mi ddelio ar unwaith, felly, â’r mater hwnnw o gymhwysedd. Mae’r Goruchaf Lys wedi dweud yn glir, ar yr amod bod darpariaeth Bil yn ymwneud yn deg ac yn realistig ag un neu fwy o’r pynciau yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac nad yw’n dod o dan yr eithriadau yn yr Atodlen honno, nid oes gwahaniaeth a ellir hefyd ei ddosbarthu fel un sy’n ymwneud â phwnc nas datganolwyd, megis hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol.
Mae elfennau pwysig o Ddeddf Llywodraeth y DU yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sy’n gyfrifoldebau datganoledig diamwys yng Nghymru. Cyfeiria’r Ddeddf yn benodol at wasanaethau iechyd, addysg rhai o dan 17 oed a’r gwasanaethau tân—pob un ohonynt yn amlwg wedi eu datganoli. Credwn ei bod yn anghynaladwy i Weinidogion y DU ddadlau bod yn rhaid ystyried bod eu deddfwriaeth yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig. Barn y Llywodraeth hon yw bod darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006, i’r graddau eu bod yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus, wedi eu nodi yn adran 108 ac Atodlen 7 i’r Ddeddf honno a’u bod yn gosod darpariaethau’r Bil hwn yn bendant o fewn cymhwysedd datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Nawr, Lywydd, roedd hyn oll yn hysbys a chafodd ei ailadrodd yn helaeth pan oedd Bil gwreiddiol y DU yn mynd drwy ddau Dŷ’r Senedd. Er hynny, penderfynodd y Llywodraeth yn San Steffan fwrw yn ei blaen beth bynnag. Nid oedd ganddynt fandad gwleidyddol i wneud hynny ar gyfer Cymru, nid oedd ganddynt hawl cyfansoddiadol i wneud hynny ac nid oedd ganddynt unrhyw sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny, ond ni allai dim o hynny atal eu penderfyniad ideolegol i ymosod ar hawliau llafur cyfundrefnol.
Pan ddaeth hynny’n amlwg, ymrwymodd fy rhagflaenydd i gyflwyno Bil yn y pumed Cynulliad i wyrdroi effaith y darpariaethau hyn ac i adlewyrchu canlyniad y ddadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Adlewyrchwyd y safbwynt hwnnw ym maniffesto’r Blaid Lafur yn yr etholiad fis Mai y llynedd, fe’i cadarnhawyd gan y Prif Weinidog wrth iddo nodi’r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn gyntaf tymor y Cynulliad hwn ar 28 Mehefin y llynedd, a chynnyrch yr hanes hwnnw yw’r Bil sydd ger eich bron heddiw. Mae’n Fil byr, ond mae ganddo’r dasg sylweddol o ddiogelu traddodiad hir a llwyddiannus partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, gan mai dyna sydd wrth wraidd ein gwrthwynebiad i Ddeddf Undebau Llafur y DU.
Gellir gweld canlyniad yr ymagwedd wrthdrawiadol tuag at gysylltiadau diwydiannol bob dydd dros y ffin, lle y mae gwleidyddiaeth rhaniad cymdeithasol yn arwain yn anochel at niwed i’r economi ac i wasanaethau cyhoeddus. Yma yng Nghymru, mae ein hanes yn wahanol iawn. Yn 2014, pan oedd diffoddwyr tân ar streic yn Lloegr, daethom i gytundeb gydag Undeb y Brigadau Tân yng Nghymru gan osgoi streic yma. Yn 2015, pan oeddwn yn Weinidog iechyd yma yng Nghymru, roedd nyrsys, bydwragedd, therapyddion galwedigaethol ac eraill ar streic yn Lloegr. Yma, buom yn negodi, ac yn negodi’n galed, gyda’n staff ‘Agenda ar gyfer Newid’ i ddod o hyd i ganlyniad a oedd yn dderbyniol iddynt hwy ac yn fforddiadwy i ninnau. Ni chynhaliwyd unrhyw streiciau yng Nghymru. Yn 2016, creithiwyd y gwasanaeth iechyd yn Lloegr gan yr anghydfod chwerw â meddygon iau, a llwyddasom i osgoi hynny yma yng Nghymru.
Lywydd, ni ddaw’r niwed i ben pan ddaw streic i ben. Mae’r hyn a adewir ar ôl yn real ac mae’r niwed yn parhau. Ochr yn ochr â’i Deddf Undebau Llafur, ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar gynigion i ddiddymu rheoliadau sy’n atal darparu gweithwyr asiantaeth yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol. Rydym wedi ymgynghori felly ar gynigion i gynnal yr egwyddor na ddylid defnyddio gweithwyr asiantaeth yn y ffordd honno. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben bellach ac mae’r canlyniadau’n cael eu dadansoddi. Un opsiwn fyddai i ni gynnwys darpariaeth yn y ddeddfwriaeth hon drwy ddiwygio ar gamau diweddarach, cyhyd â bod y Bil yn mynd yn ei flaen. Byddaf yn darparu datganiad arall ar gyfer yr Aelodau wedi i’r broses o ddadansoddi’r ymgynghoriad ddod i ben.
Nawr, Lywydd, hyn oll yw’r rheswm pam rydym yn gweithio mor galed i sicrhau bod y model partneriaeth gymdeithasol yn gweithio yng Nghymru. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig o ansawdd uchel yn ddibynnol ar weithlu diwyd ac ymroddedig. Ar gyfer ein gwasanaethau allweddol, mae recriwtio, cadw, datblygu a galluogi gweithlu sefydlog a diwyd yn hanfodol wrth lunio’r gwasanaethau hynny a diogelu eu dyfodol. Ac er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ag awdurdodau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys cyflogwyr, gweithwyr a’u cynrychiolwyr. Peryglir y model partneriaeth gymdeithasol gan ddarpariaethau ymrannol Deddf y DU. Ein barn glir ni, a’r undebau llafur a chyflogwyr y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yw y bydd ei heffaith yn arwain at berthynas fwy gwrthdrawiadol rhwng cyflogwyr a gweithwyr ac felly’n tanseilio darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Yn syml, nod ein Bil yw atgyfnerthu a diogelu ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol drwy gynnal y trefniadau sefydlog presennol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, sydd wedi cefnogi perthynas gadarnhaol rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan gynnwys hawl undebau llafur i drefnu, a phan fo pob llwybr arall wedi methu, i weithredu’n ddiwydiannol. Mae’n galw am ddiwylliant o onestrwydd, didwylledd ac ymddiriedaeth, gyda’r nod cyffredin o ddatrys anghytundeb a sicrhau consensws yn gynnar, hyd yn oed pan fo penderfyniadau anodd i’w gwneud.
Lywydd, mae gennym fodel llwyddiannus yma yng Nghymru. Nid lle Gweinidogion y DU yw dyfeisio rhyw athrawiaeth newydd sy’n honni bod ganddynt hawl i ymyrryd mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n ddigamsyniol i’r Cynulliad yn unol â thelerau ein setliad presennol, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwbl groes i’n hymagwedd tuag at y gwasanaethau cyhoeddus. Mater i’r Cynulliad hwn, a hynny’n gywir, yw penderfynu sut y dymunwn weld y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu yng Nghymru. Dyna’r safbwynt y mae ein Bil yn ei gynnal, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Aelodau yma ac eraill er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y llyfr statud.
Buaswn i’n leicio dechrau fy nghyfraniad i heddiw drwy atgoffa pawb fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’n gryf Deddf Undebau Llafur 2016 y wladwriaeth Brydeinig pan gyflwynwyd hi yma yn ystod y Cynulliad diwethaf, oherwydd, wrth gwrs, mae Plaid Cymru’n credu yn gryf ym mhwysigrwydd gwaith yr undebau llafur yn y gymdeithas ac yn eu cefnogi nhw. Dim ond drwy bartneriaeth rhwng gweithwyr, diwydiant, cyflogwyr a’r Llywodraeth y gallwn wneud ein gorau dros ein heconomi, a thrwy barchu’r gweithlu’n llawn y gallwn leihau anghydfod a lleihau’r angen am weithredu diwydiannol.
Mi fydd pawb yn y Siambr yma yn cofio’r helynt ar safle ffatri Ferodo yn f’etholaeth i ar droad y ganrif yma. Beth ddangosodd helynt Friction Dynamics yn bennaf oedd diffyg cyfiawnder i’r gweithwyr a sut wnaeth anghydbwysedd cyfraith cyflogaeth gynorthwyo ymgais y cyflogwyr i ddinistrio undebau llafur yn y gweithle. Gwnaeth hynny arwain yn y pen draw at gau’r ffatri ar draul y gymuned. Er i’r streicwyr ddilyn yr holl reolau cymhleth sydd yn rheoli gweithredu diwydiannol, fe dorrodd y cwmni nifer o reolau heb i unrhyw un weithredu yn eu herbyn nhw. Roedd hon yn bennod dywyll iawn yn hanes f’ardal i ac mae’n rhaid inni osgoi sefyllfa debyg yn y dyfodol.
Mae’r Bil yma, felly, yn ymgais glir gan y sefydliad cenedlaethol yma i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru, mewn meysydd sydd wedi’u datganoli yn benodol i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae’r Bil yma yn annemocrataidd yn ôl y Torïaid yn Llundain, sydd yn honiad haerllug iawn, os caf ddweud. Trafod ydw i y drafodaeth am y trothwyon, ac ar sail hynny rwyf am rannu ryw senario fach ddiddorol efo’r Siambr: beth fyddai’n digwydd petaem ni’n defnyddio’r hyn mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddiffinio fel trothwy rhesymol a mandad democrataidd ar gyfer gweithredu diwydiannol sy’n dod o dan y Ddeddf Undebau Llafur i ganlyniad yr etholiad cyffredinol yn 2015? Rwyf yn sôn yn benodol am y trothwy 50 y cant a 40 y cant. Os mai dyna fuasai’r sefyllfa, dyma fuasai’n digwydd: fe gafodd y Torïaid 37 y cant o’r bleidlais genedlaethol ar sail cyfanswm y bleidlais o 66 y cant. O gyflwyno trothwy 40 y cant, mae’r ffigwr yna yn disgyn yn ddramatig i 24 y cant o’r rhai sydd â hawl i bleidleisio. Buasai hynny wedi golygu na fyddai’r Torïaid wedi cyrraedd y trothwy angenrheidiol ac felly ni fyddent wedi cael eu hethol. Buasai wedi creu sefyllfa ddiddorol iawn.
Yr hyn sy’n wir am ddemocratiaeth yng Nghymru, wrth gwrs, yw bod cymryd rhan mewn pleidlais ddemocrataidd yn ddewis, heb i drothwyon penodol gael eu penderfynu gan unrhyw Lywodraeth. Beth bynnag fo’r gwahaniaethau rhyngom fel pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad yma, efo Plaid Cymru yn aml yn herio’r Llywodraeth Lafur bresennol yn rheolaidd ynglŷn â’i ffordd o drin gwasanaethau cyhoeddus, mae’n ffaith nad yw Cymru yn wlad sy’n dioddef effeithiau gweithredu diwydiannol yn aml. Fel y sonioch chi am dair enghraifft, mae’r undebau llafur yn llai tebygol o weithredu yn ddiwydiannol yma, ac fe fyddwn i yn dadlau, fel rydych chi, fod hyn oherwydd bodolaeth y bartneriaeth gymdeithasol. Mae hynny’n wir yn yr Alban hefyd. Mae hynny wedi dod i’r amlwg dros y flwyddyn diwethaf efo streic y meddygon iau a ddigwyddodd yn Lloegr yn unig. Ddigwyddodd o ddim yma yng Nghymru nag yn yr Alban, ac yn bennaf mae hyn oherwydd yr agwedd bartneriaeth gymdeithasol a gymerir yma.
Mae Llafur yn honni mai hi ydy plaid yr undebau a’r gweithwyr, ond yn anffodus mae safiad y blaid ers dyddiau Tony Blair yn gwrthddweud hynny ar brydiau. Yn wir, ers dyddiau tywyll teyrnasiad Thatcher, pryd y cyflwynwyd nifer o reolau newydd gyda’r bwriad o wanhau’r mudiad undebau, megis gwneud picedi eilaidd yn anghyfreithlon, ni wnaeth y Blaid Lafur ddim oll i wyrdroi’r polisïau niweidiol hyn yn ystod cyfnod Tony Blair fel Prif Weinidog. Ond rwyf yn falch o weld ymdrech yn y Cynulliad hwn, o leiaf—. [Torri ar draws.] Rwyf yn falch, ar ôl dweud hynny—ar ôl dweud pethau am y Blaid Lafur a record sydd ddim efallai yr hyn yr hoffai rhywun fod wedi ei gweld dros flynyddoedd cyfnod Llafur Newydd—rwyf yn falch o weld ymdrech yn y Cynulliad yma, o leiaf, i herio’r ymosodiadau mwy diweddar gan y Ceidwadwyr ar hawliau gweithwyr yma yng Nghymru. Trychineb mwyaf y Mesur hwn ydy anallu Llywodraeth Cymru o dan y setliad datganoli presennol, ac i’r dyfodol o dan Fesur Cymru y rhoddwyd sêl bendith iddo fo yma ddoe, i ymestyn a diogelu hawliau gweithwyr tu allan i’r sector gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd gydweithio yn drawsbleidiol ar y mater yma er mwyn amddiffyn a hyrwyddo y rhan gadarnhaol y gall ac y dylai undebau llafur ei chwarae yng nghymdeithas Cymru heddiw.
Diolch yn fawr i Sian Gwenllian am y sylwadau yna. Rwy’n cydnabod, wrth gwrs, fod Plaid Cymru yn rhan o’r gwrthwynebiad i’r Bil gwreiddiol yn San Steffan ac yma ar lawr y Cynulliad hefyd. Ac roedd y pethau roedd Plaid Cymru yn eu dweud ar y pryd yn canolbwyntio ar bartneriaeth a’r ffordd rydym yn trio gwneud pethau yma yng Nghymru. Rwy’n cofio’n llawn sefyll tu fas i Ferodo yng Nghaernarfon gyda’r Prif Weinidog diwethaf, Rhodri Morgan, yn siarad â’r bobl a oedd yn dioddef o’r pethau a oedd yn mynd ymlaen yn y ffatri yna. Yn fy marn i, os ydym yn gallu bwrw ymlaen mewn ffordd drawsbleidiol, bydd hynny yn help mawr i gefnogi’r Bil ac i gefnogi y camau rydym eisiau eu defnyddio yma yng Nghymru i fwrw ymlaen yn y ffordd lwyddiannus rydym wedi ei datblygu yma yng Nghymru, ac i gadw hynny am y dyfodol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn derbyn bod undebau llafur yn sefydliadau gwerthfawr yng nghymdeithas Prydain, a bod gan lawer o undebwyr llafur ymroddedig hanes cadarn o weithio’n galed i gynrychioli eu haelodau, ymgyrchu am well diogelwch yn y gwaith a darparu cymorth i’w haelodau pan fo angen. Fodd bynnag, nid yw ond yn deg fod hawliau undebau yn gytbwys â hawliau ein trethdalwyr gweithgar sydd mor ddibynnol ar ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Nod Deddf Undebau Llafur y DU 2016 yw ailgydbwyso buddiannau cyflogwyr, gweithwyr a’r cyhoedd â rhyddid undebau llafur i streicio. Mae wedi gwarchod gwasanaethau cyhoeddus rhag y bygythiad—y bygythiad—[Torri ar draws.]
Mae’n ddrwg gennyf, Janet. A gaf fi ofyn i’r wrth-ddadl yn erbyn y datganiad hwn, o bosibl, gael ei gwneud a’i chlywed? Diolch, Janet.
[Yn parhau.]—o gael eu dal yn wystlon gan nifer bychan o aelodau undebau a allai amharu ar fywydau miliynau o gymudwyr, rhieni, gweithwyr a chyflogwyr ar fyr rybudd, a hynny heb gefnogaeth glir gan aelodau’r undeb. Ysgrifennydd y Cabinet, os yw athro neu reolwr gwasanaeth cyhoeddus ar gyflog uchel—£40,000 neu £50,000—yn streicio, effeithir ar lawer o rieni ar gyflogau llawer is. Hwy yw’r rhai nad ydynt yn gallu anfon eu plant i’r ysgol; hwy yw’r rhai nad ydynt yn gallu mynd i’w gwaith eu hunain; hwy yw’r rhai sy’n colli cyflog. Onid yw hyn yn ymwneud ag effeithio ar ein—. Onid effeithio ar weithwyr dosbarth canol ein sector cyhoeddus yn unig y mae hyn ar draul ac er anghyfleustra aelodau economaidd-gymdeithasol is ein cymdeithas?
Lywydd, mae’n gwbl synhwyrol na ddylid cynnal streiciau o’r fath ac eithrio ar sail nifer rhesymol o bleidleiswyr a phleidlais sylweddol o blaid streicio gan y rhai sy’n gymwys i bleidleisio. Dylai fod ganddynt y rhyddid hwnnw i ddewis. Onid y gwirionedd, fodd bynnag, yw nad yw hyn yn ymwneud â diogelu ein gweithwyr; yn syml, mae hyn yn ymwneud â Llafur Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yn gwobrwyo barwniaid yr undebau llafur y mae eich plaid mor ddibynnol arnynt, yn ariannol, yn enwedig ar adeg etholiad? Rwy’n gweld gwrthdaro buddiannau sylweddol ar ran eich plaid a’r Llywodraeth hon.
Cyn Deddf y DU, nid oedd saith o bob 10 undeb llafur, a oedd â’u cronfeydd gwleidyddol ym Mhrydain, yn gwneud unrhyw gyfeiriad yn eu ffurflenni aelodaeth at yr hawl i optio allan o gronfeydd gwleidyddol. Pa mor deg yw hyn i weithwyr diwyd ein sector cyhoeddus? Ble mae’r rhyddid? Ble mae’r dewis? Mae Deddf y DU yn ei gwneud yn ofynnol i undebwyr llafur optio i mewn—polisi llawer tecach a llawer mwy cyfartal—i gyfrannu at gronfeydd gwleidyddol, fel sydd wedi gweithio mor llwyddiannus yng Ngogledd Iwerddon ers y 1920au. Mae mesurau o’r fath yn golygu bod undebau llafur yn cael eu trin yn yr un modd â rhoddion corfforaethol, fel yr amlinellir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hyn yn rhywbeth y bydd eich Bil arfaethedig yn ceisio’i ddiddymu?
Ar ôl i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymru hirddisgwyliedig gael ei basio ddoe, mae’n siomedig eich bod eisoes yn ceisio tanseilio’r setliad datganoli newydd hwn sydd ar y ffordd drwy gyflwyno Bil Undebau Llafur (Cymru). Nid wyf yn sicr a yw fy etholwyr yn Aberconwy yn ystyried bod y mater hwn yn un o’u blaenoriaethau, ac yn sicr nid ydynt yn ei ystyried yn flaenoriaeth i chi a’r Llywodraeth hon. Ymgais amlwg yw hon i danseilio un o Ddeddfau Senedd y DU sy’n diogelu ein gweithlu cyhoeddus ac yn ceisio osgoi tarfu mawr ar ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Llywydd wedi nodi yn ei gohebiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y gellid dyfarnu nad yw pob un neu rai o ddarpariaethau gweithredol y Bil hwn yn rhan o gymhwysedd y Cynulliad pe bai’r Bil yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, neu’n cael ei herio ar ôl Cydsyniad Brenhinol. Felly, hoffwn ofyn i chi heddiw: pa ddadansoddiad cost a budd a wnaethoch ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o’r fath, yn enwedig ar fater a fydd, cyn bo hir, wedi ei godeiddio’n llawn yn y gyfraith fel mater a gedwir ar lefel y DU? A yw’r gwasanaeth sifil wedi archwilio i ba raddau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar ein pobl yng Nghymru? A pha waith craffu a ystyriwyd gennych neu a wnaethoch o ran yr effaith ar gwmnïau trawsffiniol a allai’n hawdd benderfynu cynnal eu busnes y tu allan i Gymru o ganlyniad i hyn?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi gwybod i ni pam y credwch y bydd diddymu Deddf Senedd y DU sy’n diogelu pobl gyffredin weithgar rhag streiciau annemocrataidd yn arwain at fwy o dryloywder, a sut y mae dargyfeirio arian trethdalwyr o’r gwasanaethau cyhoeddus i swyddogion undebau yn syniad da ar gyfer pobl Cymru? Credaf ei bod yn warthus eich bod hyd yn oed yn ystyried cyflwyno’r Bil hwn. Rwy’n bwriadu gwneud gwelliannau iddo a byddaf yn sicr yn ei wrthwynebu.
Diolch yn fawr. Mae’n anodd gwybod sut i ddechrau ateb y fath restr o ystrydebau hen a newydd. Credaf fod safbwynt y Torïaid wedi’i ddarlunio’n dda iawn ym mrawddeg gyntaf cyfraniad Janet Finch-Saunders wrth iddi geisio gwneud yr hyn y mae’r Torïaid yn ei wneud o hyd, sef troi un grŵp o bobl yn erbyn y llall, pan gyfeiriodd at weithwyr, nid trethdalwyr, fel pe na bai gweithwyr yn drethdalwyr, ac eto, mae pob undebwr llafur yr effeithir arnynt gan y Bil hwn yn drethdalwyr yn eu hawl eu hunain. Ond mae ceisio troi un grŵp o bobl yn ein cymdeithas yn erbyn y llall yn ymagwedd Dorïaidd hollol gyffredin. Dyna pam roedd eu Bil gwreiddiol mor ddiffygiol. Bydd yn ychwanegu at y risg o gysylltiadau diwydiannol gwael yn hytrach na’i lleihau. Y rheswm pam rydym mor benderfynol o gyflwyno ein Bil yw ein bod yn hyderus y bydd yn gwella cysylltiadau diwydiannol yng Nghymru. Bydd yn osgoi’r angen am streiciau, gan y bydd yn gwneud y gwaith caled o sicrhau partneriaeth gymdeithasol.
Nawr, pan oeddwn yn siarad â barwniaid undebau llafur y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â’r streiciau dros y ffin, nid oeddwn yn gwneud hynny am fod yr her sy’n ein hwynebu yng Nghymru yn llai na mewn mannau eraill, ond am fod dod â phobl o amgylch y bwrdd, bod yn barod i wrando’n ofalus ar yr hyn a oedd ganddynt i’w ddweud, bod yn barod i gydnabod y safbwynt roeddent yn ei fynegi ar ran eu haelodau, a gwneud y gwaith caled wedyn o geisio dod o hyd i ffordd o ymdopi â’r anawsterau hynny wedi sicrhau ein bod wedi osgoi’r sefyllfa y mae’r GIG yn Lloegr wedi’i hwynebu dro ar ôl tro.
Lywydd, nid wyf yn dymuno bod yn anghwrtais, ond mae’n debyg fod yn rhaid i mi ddweud y byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn pe bai’r Aelod wedi llwyddo i ddarllen tri chymal y Bil cyn y prynhawn yma. Mae’n Fil byr iawn, wedi’r cyfan. Credaf y byddai wedi sylweddoli bod y dadansoddiad cost a budd y gofynnai amdano yno yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Byddai wedi caniatáu iddi beidio â gwneud ei phwynt olaf am gwmnïau’n mynd â’u busnes dros y ffin, pan fo’r Bil hwn yn ymwneud yn gyfan gwbl â darparu gwasanaethau cyhoeddus. Felly, credaf nad oes llawer o’r bwganod y mae’r Aelod wedi eu codi ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma yn bodoli wedi’r cyfan. Mae diben y Bil yn hollol groes i’r hyn a ddywedodd. Bydd yn helpu i osgoi streiciau, bydd yn helpu i hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol, bydd yn gwneud pethau mewn ffordd sy’n iawn i Gymru, ac edrychaf ymlaen at ei gwrthwynebu ar bob cam o’r Bil hwn.
Mae UKIP yn cymeradwyo ymagwedd Llywodraeth Cymru o ran partneriaeth gymdeithasol, gan nad oes unrhyw un yn ei iawn bwyll yn dymuno gweld gwrthdaro mewn perthynas â chysylltiadau diwydiannol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn ddigon hen i gofio adeg pan gafwyd cryn wrthdaro mewn diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus yn y wlad hon. Dyna pam y cyflwynwyd diwygiadau undebau llafur y 1980au. Yn y 1970au, câi cyfartaledd o 13 miliwn o ddyddiau eu colli yn sgil streiciau bob blwyddyn. Yn y 1980au hanerodd hynny i 7 miliwn; yn y 1990au gostyngodd i 660,000, ac nid yw’r ffigur wedi newid ers hynny, a siarad yn fras. Dyna pam na wnaeth y Llywodraethau Llafur o dan Tony Blair a Gordon Brown unrhyw ymgais i ddiddymu’r ddeddfwriaeth roeddent hwy a’u rhagflaenwyr wedi’i gwrthwynebu mor gryf pan oedd yn mynd drwy Dŷ’r Cyffredin yn y 1980au.
Os yw model partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru mor llwyddiannus, ac ymddengys ei fod, ni allaf ddeall pam eu bod yn meddwl bod y mesur arfaethedig sy’n cael ei gyflwyno yn San Steffan yn gymaint o fygythiad i’r berthynas dda sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng undebau gwasanaethau cyhoeddus a’r llywodraeth ar ei gwahanol ffurfiau yng Nghymru. Oherwydd bydd ymagwedd Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd y bygythiad ymddangosiadol o orfod cael pleidlais ar streic i gyrraedd y trothwyon o dan y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael ei sbarduno hyd yn oed. Felly, tybed beth yw diben cyflwyno’r Bil, a defnyddio amser y Cynulliad hwn, pan fo sawl mater pwysicach y gallwn ddefnyddio’r amser ar ei gyfer. Mae’n ffaith fod undebau llafur bron iawn wedi diflannu’n llwyr, neu’n segur o leiaf, y tu hwnt i’r sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig heddiw. Yn y byd go iawn, fel petai, lle y mae’n rhaid i bobl farchnata eu gwasanaethau, ymddengys nad oes gan undebau llafur fawr o rôl erbyn hyn. Fel sefydliadau gydag aelodaeth wirfoddol, mae’n rhaid iddynt berswadio pobl i dalu am eu tanysgrifiadau aelodaeth, ac nid ydynt wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth berswadio eu darpar aelodau i wneud hynny. Yn y sector cyhoeddus, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn. Mae cyfran uchel iawn o bobl yn ymuno ag undeb, a hynny am mai’r gwahaniaeth rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat yw bod penderfyniadau yn y sector cyhoeddus, yn y pen draw, yn benderfyniadau gwleidyddol, am fod y cyflogwyr, yn y pen draw, yn wleidyddion, ac fel hyn, felly, y caiff pwysau ei roi arnynt.
Credaf fod unrhyw beth sy’n ei gwneud yn haws i alw streic o dan yr amgylchiadau hyn yn fygythiad i fudd y cyhoedd yn gyffredinol. Wedi’r cyfan, mae undebau llafur a’u haelodau yn fuddiannau adrannol, yn hytrach na’r cyhoedd yn gyffredinol, ac rydym yn siarad yma, 100 y cant, am wasanaethau cyhoeddus y bydd yr holl etholwyr a phlant yr etholwyr yn eu defnyddio ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn. ‘Does bosibl na ddylai budd y cyhoedd gael blaenoriaeth dros fuddiannau adrannol, ac felly mae’n iawn cael trothwy rhesymol cyn galw streic. Dylai streiciau fod yn ddewis olaf yn hytrach na’r dewis cyntaf. Gofynnaf felly i Ysgrifennydd y Cabinet: pam rydym yn chwarae â thân yn yr achos hwn?
Ni fydd yn syndod i’r Aelodau yma nad wyf yn cytuno â’r hyn y mae’r Aelod yn ei gofio o hanes, ond nid ei ddirnadaeth o’r gorffennol yn unig sydd ar fai yma, ond ei ddealltwriaeth o’r presennol hefyd. Ei syniad nad oes undebau ynghlwm wrth gwmnïau preifat yng Nghymru—onid yw wedi clywed am Ford neu Tata neu Toyota neu sawl cyflogwr arall o’r sector preifat y gallwn eu crybwyll? Mae’n rhaid i mi ddweud yr un peth wrtho ag y dywedodd y Prif Weinidog wrtho ddoe: nid oedd ei ddiddordeb mewn trothwyon rhesymol mor amlwg yn ystod ymgyrch y refferendwm, pan nad oedd unrhyw ddiddordeb ganddo mewn cyflwyno trothwyon artiffisial yn y bleidlais honno.
Gofynnodd i mi ynglŷn â’r darpariaethau yn ein Bil. Gadewch i mi roi un enghraifft iddo pam ein bod mor benderfynol o weithredu. Mae Bil Llywodraeth y DU yn gosod rhwystrau newydd rhag cynrychiolaeth yn y gweithle. Nawr, pam y credwn fod cael amser priodol ar gyfer cynrychioli eich aelodau mor bwysig? Oherwydd na allwch gael model partneriaeth gymdeithasol oni bai bod yr holl bartneriaid wrth y bwrdd yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i gyflawni eu cyfrifoldebau. Mae’n gwneud y tebygolrwydd o streiciau’n fwy, nid yn llai, os nad yw cyflogwyr yn gallu siarad yn uniongyrchol ac mewn modd amserol ar ran y bobl y maent yn eu cynrychioli. Y cyfan y mae ein Bil yn ei wneud yw cadw’r status quo yn hynny o beth—y status quo sydd wedi bod yn llwyddiannus. Byddai ei ffordd ef o wneud pethau’n mynd â ni tuag at yn ôl.
Ein nod yw sicrhau bod dyfodol cysylltiadau diwydiannol ein gwasanaethau cyhoeddus gwych yn cael ei gynnal yn briodol drwy gydbwyso’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a gweithwyr. Dywedaf eto wrth Aelodau’r Cynulliad: nid undebau llafur yn unig sy’n cefnogi’r Bil hwn, caiff ei gefnogi gan gyflogwyr gwych y gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Maent yn ymwybodol o fanteision cynrychiolaeth briodol ar gyfer eu gweithwyr, gan mai dyna sut y maent yn sicrhau’r ddeialog sydd ei hangen arnynt er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r ddwy ochr, a’u datrys.
Mewn gwirionedd, mae gwrando ar y Torïaid yn rhoi rhyw fath o gysur, gan eich bod yn sylweddoli mai’r un hen Dorïaid ydynt wedi’r cyfan ac nad oes unrhyw beth wedi newid. Ond a gaf fi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd gwaith yn ymgyrchu ac yn ymladd yn erbyn deddfwriaeth wrth-undebau llafur ac yn erbyn ymosodiadau ar weithwyr, a’i bod yn braf iawn clywed eich datganiad heddiw? Gwelir bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwrthdroi’r ymosodiadau diweddaraf ar undebau llafur gan yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel y Bil undebau llafur mwyaf dialgar a welsom yn y blynyddoedd diwethaf. Fel y dywedodd Neil Hamilton yn ei gyfraniad, mae nifer y streiciau yn is, nid yw gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, fel y cyfryw, wedi bod yn gwrthdaro yng Nghymru ac yn y blaen, ond er hyn oll—er gwaethaf y nifer isaf o ddyddiau streic ers cyn cof—mae gennym Fil undebau llafur a gyflwynwyd i geisio atal streiciau.
Mae nifer o bethau rwy’n eu croesawu yn y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy’n arbennig o awyddus i siarad am y trothwy artiffisial ar gyfer gweithredu diwydiannol a grybwyllodd Sian Gwenllian, a chytunaf yn llwyr â’r pwyntiau yr oedd yn eu gwneud. Er mai dewis olaf bob amser yw gweithredu diwydiannol a rhywbeth rydym wedi’i osgoi i raddau helaeth yma yng Nghymru, fel y dywedwch yn eich datganiad, mae’n rhaid i ni gydnabod, mewn cymdeithas rydd, fod yn rhaid iddo fod yn offeryn sydd ar gael fel dewis olaf i weithwyr. Os ydym yn dechrau mynd ar hyd y llwybr llithrig o ddweud na ddylai hynny ddigwydd, rydym hefyd yn mynd ar hyd y llwybr llithrig tuag at dotalitariaeth. Yn sicr, ni fyddai unrhyw unigolyn teg yn deall rhesymeg gosod trothwyon ar gyfer pennu canlyniad democrataidd pleidlais ar weithredu diwydiannol—mae’n wahanol i bob proses ddemocrataidd arall sydd gennym yn ein gwlad. Fel y dywedodd Sian Gwenllian eisoes, pe baem yn cymhwyso hynny, ni fyddem yn siarad am Brexit; pe baem yn cymhwyso hynny, 25 y cant yn unig o ASau Torïaidd fyddai wedi cael eu hethol; pe baem yn cymhwyso hynny, ni fyddai’r un ohonom yn yr ystafell hon yn eistedd yn y Cynulliad; pe baem yn cymhwyso hynny, ni fyddai gennym gynghorydd yng Nghymru. Felly, gadewch i ni anghofio’r nonsens fod hyn, rywsut, yn ffordd deg o ymdrin â gweithwyr.
A dweud y gwir, fy asesiad o’r hyn a glywais gan y Torïaid, drwy gydol taith y Bil undebau llafur yn Lloegr, yw nad yw’r bobl hyn yn deall, mewn gwirionedd, sut y mae undebau llafur yn gweithio. Treuliais 30 mlynedd yn gweithio fel swyddog undeb llafur, a fy mhrofiad i, pan oedd pleidlais ar weithredu diwydiannol, sef y dewis olaf bob amser—bob amser—o ran unrhyw beth a wnai’r gweithwyr, roedd gan bobl hawl i bleidleisio neu beidio, fel y dewisent. Yn fy mhrofiad i, os oeddent yn dewis peidio â chymryd rhan yn y bleidlais, pa un a oeddent wedi cymryd rhan ai peidio, roeddent yn parchu canlyniad democrataidd y bleidlais yn yr un ffordd yn union ag y mae fy etholwyr, pa un a ydynt wedi pleidleisio drosof fi ai peidio, pa un a ydynt wedi pleidleisio dros unrhyw un ai peidio, wedi gorfod derbyn mai fi yw cynrychiolydd etholedig Merthyr Tudful a Rhymni yn awr. Nid yw’n wahanol o gwbl i undebau llafur sy’n pleidleisio ar weithredu diwydiannol.
Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod aelodau undebau llafur yn deall rôl eu cynrychiolwyr etholedig a’u swyddogion wrth iddynt negodi gyda chyflogwyr, a phan fo’r cynrychiolwyr hynny’n rhoi argymhellion iddynt, maent yn hapus i’w derbyn, ac nid oes angen iddynt gael eu clymu gan drothwy pleidleisio ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â gweithredu diwydiannol.
Felly, yn y pen draw, Ysgrifennydd y Cabinet—oherwydd rwy’n cyrraedd y pwynt roeddwn am ei roi i chi—mae’r Llywodraeth yn Lloegr, o dan bwysau gan yr Arglwyddi, wedi cytuno yn y Ddeddf Undebau Llafur i gynnal arolwg o bleidleisio electronig, gan mai dyna oedd un o’r rhwystrau mwyaf i undebau llafur o ran denu aelodau i bleidleisio. Ar ôl cael gwared ar bleidleisio yn y gweithle, daeth yn anodd iawn sicrhau’r lefel honno o gyfranogiad. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylid croesawu unrhyw fecanwaith sy’n cymell rhagor i bleidleisio? Oherwydd mae undebau llafur, er gwaethaf yr hyn a glywsom, yn awyddus i weld eu haelodau’n rhan o’r prosesau hyn. A gaf fi ofyn iddo, yn hytrach na dibynnu ar arolwg o fanteision pleidleisio electronig yn unig, a fyddai’n ystyried mynd gam ymhellach a chaniatáu pleidlais electronig, neu bleidleisio yn y gweithle, hyd yn oed, yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ddymchwel yr achos y ceisiodd rhai o’r Aelodau ei wneud y prynhawn yma mewn perthynas â throthwyon pleidleisio mewn modd mor effeithiol? Mewn bywyd blaenorol, Lywydd, byddai’n rhaid i mi eistedd, fel Gweinidog iechyd, gyferbyn â’r Aelod pan oedd yn swyddog undeb llafur amser llawn, ac roedd yn swyddog undeb llafur rhagorol. Wrth feddwl yn ôl at y cyfnod hwnnw, cofiaf ambell i noson ddigwsg, pan oeddwn yn poeni ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â rhai o’r pethau yr oedd hi’n dymuno eu cael ar ran ei haelodau. Ond yn anad dim, cofiaf y gwaith anhygoel a wnaed ganddi hi a’i chydweithwyr yn yr undeb hwnnw’n ddyddiol, er mwyn atal problemau—a allai fod wedi gwaethygu ac arwain at ragor o anawsterau—y modd y byddent yn mynd ati, yn cynrychioli eu haelodau ac yn datrys y problemau hynny. Am ased aruthrol i’n gwasanaethau cyhoeddus yw cael grŵp o bobl o’r fath sy’n gwneud y gwaith hwnnw’n ddyddiol ar ran y gweithwyr yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Ar y pwynt a nododd yr Aelod ynglŷn â phleidleisio electronig, a’r arolwg annibynnol o bleidleisio electronig, sydd bellach wedi dechrau, ac a sicrhawyd fel consesiwn drwy ymdrech lew pan oedd y Ddeddf ar ei thaith drwy’r Senedd, credaf fod gan bleidleisio electronig botensial amlwg i gynyddu lefelau cyfranogiad mewn pleidleisio democrataidd ar weithredu diwydiannol, ac mae hynny i’w groesawu. Mae’r ffaith fod arolwg annibynnol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, i ystyried y dadleuon a chymryd tystiolaeth, yn gam arall ymlaen a sicrhawyd gan y mudiad undebau llafur. Edrychaf ymlaen yn fawr at ganlyniad yr arolwg, ac at weld pa ddefnydd y gallwn ei wneud ohono wedyn yma yng Nghymru.
Mae gennyf restr hir o siaradwyr sy’n dymuno gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet o fewn yr awr. Mae prif lefarwyr y pleidiau bellach wedi cyfrannu, felly gyda chwestiynau cryno gan yr Aelodau, gobeithiaf fynd drwy bob un o’r ceisiadau. Datganiad yw hwn, nid dadl. Bethan Jenkins.
Diolch. Hoffwn adleisio’r hyn a ddywedwyd eisoes gan Sian Gwenllian, yn ogystal â nodi’r pwyntiau a wnaed mor huawdl gan Dawn Bowden o ran y ffaith nad wyf yn credu bod rhai pobl yn y Siambr hon yn deall sut y gwneir penderfyniadau mewn undebau llafur. Nid wyf erioed wedi bod yn rhan o drafodaeth lle roedd streicio’n ddewis cyntaf—mae bob amser wedi ymwneud â bod yn rhagofalus mewn gwirionedd, a bod yn awyddus i wneud unrhyw beth ond cyrraedd y pwynt hwnnw.
Yn amlwg, rydym wedi gweld bod cynsail yma, mewn perthynas â’r Bil cyflogau amaethyddol, a hyd y gwelaf, mae’r ffordd yn glir, felly, i’r Cynulliad gyflwyno’r Bil hwn. Ond mae yna bob amser ‘ond’, ac rwy’n pryderu ynglŷn â pha mor hir y bydd unrhyw Ddeddf yn para. Felly, fy nghwestiwn yw: a gaf fi sicrwydd gan Lywodraeth Cymru, os ydych wedi cael sicrwydd gan eich swyddogion, eich bod wedi cyrraedd y ddealltwriaeth na chaiff y Ddeddf ei disodli gan Fil Cymru? Beth sy’n atal Llywodraeth y DU rhag cyflwyno deddfwriaeth bellach a fydd yn diddymu’r Bil hwn? A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau wrth gefn ar gyfer y posibilrwydd hwn? Ac a ydych yn cyfiawnhau defnyddio amser ac adnoddau ar y sail y gallai hyn fod yn realistig? O glywed y sylwadau a amlinellodd Janet Finch-Saunders heddiw, rwy’n rhagweld y gallai hynny’n bendant fod yn rhywbeth y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio’i wneud, er gwaethaf y ffaith fod ganddynt ddigon o waith yn barod yn ceisio sicrhau bargen deg i ni mewn perthynas â Brexit.
Hoffwn gyfeirio hefyd yn gryno at y pwynt a wnaed mewn perthynas â mater cymhwysedd. Dywed y Torïaid fod amheuaeth ynghylch y cymhwysedd, ond oni fyddech yn cytuno ei bod yn rhagrithiol i’r Ceidwadwyr ddweud nad yw o fewn y cymhwysedd, a hwythau wedi pleidleisio yn wreiddiol? ‘Does bosibl na ddylent fod wedi ymatal ar y pwynt hwnnw, os oeddent yn ystyried bod amheuaeth ynghylch y cymhwysedd sydd bellach wedi dod i’r amlwg.
Dyna yw fy nghwestiynau yma heddiw. Ond credaf fod angen i ni gofio yn hyn oll nad yw’n ymwneud â barwniaid gwleidyddol, nid yw’n ymwneud ag arian yn mynd i ba bynnag blaid wleidyddol—mae’n ymwneud ag ymladd dros hawliau a lles y gweithwyr hynny. A gwae i ni fethu cydnabod hynny, oherwydd pa un a ydych yn aelod o blaid wleidyddol ai peidio, rhaid i ni gofio nad yw pobl yn gweithredu’n ddiwydiannol ar chwarae bach, a’u bod yn gwneud hynny er mwyn cynorthwyo eu teuluoedd a chefnogi eu cymunedau. A dyna pam fod y Bil hwn yn bwysig—nid rhyw fath o ddadl wleidyddol gymhleth ynglŷn ag a ddylai ddigwydd ai peidio.
Cytunaf yn llwyr â’r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, ac mae’n bwynt pwysig i’w gofnodi. Cytunaf â hi hefyd—mae’r ffaith fod pleidlais wedi’i chynnal yma ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad blaenorol, a’r ffaith fod pleidiau gwleidyddol ar draws y Cynulliad wedi cymryd rhan yn y bleidlais yn awgrymu bod y pleidiau gwleidyddol hynny’n cytuno bod mater cymhwysedd yn y fantol yma.
Roedd ei chwestiwn cyntaf ynglŷn ag a fydd y Bil yn cael ei ddisodli gan Fil Cymru. Er eglurder, fel y gŵyr yr Aelodau yma, mae’r Bil hwn yn dechrau o dan y setliad datganoli sydd gennym heddiw, ar yr amod y gallwn gwblhau Cam 1 cyn i Fil Cymru ddod i rym. Yna, bydd yn parhau o dan ein setliad presennol. Rydym yn hyderus ein bod wedi amseru pethau i ganiatáu i ni wneud hynny.
Mae ei hail gwestiwn, fodd bynnag, yn gwestiwn anoddach, onid yw? Oherwydd, yn y pen draw, fel y gwyddom, mae Tŷ’r Cyffredin yn cadw’r gallu i wrthdroi unrhyw beth a wnawn, waeth beth yw’r ddadl ynglŷn â chymhwysedd. Yr unig beth a ddywedaf yw y byddai’n warth democrataidd pe bai’r Cynulliad yn trafod y Bil hwn, yn cytuno ar y Bil hwn, yn ei roi ar y llyfr statud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli’n llwyr yma yng Nghymru, a bod corff y tu allan i’r Cynulliad hwn yn ceisio ei wrthdroi.
Er tryloywder—ac er nad yw’n fuddiant cofrestradwy—dylwn egluro fy mod yn aelod o’r Conservative Workers and Trade Unionists. Mae llawer o angerdd gwleidyddol wedi bod ynghlwm wrth hyn heddiw, ond rwy’n awyddus i wybod pam, Ysgrifennydd y Cabinet, o bob rhan o Ddeddf yr undebau llafur—gwn ein bod wedi trafod llawer ar y trothwyon heddiw—eich bod wedi dewis diwygio adran 172A ac adran 116B. Oherwydd ni chredaf, o ran y diwygiad i adran 172A, fod unrhyw gyfyngiadau yn yr adran wreiddiol honno; gofyniad o ran adrodd yn unig ydyw, sy’n ymwneud, hyd y gwelaf, â sicrhau’r defnydd effeithlon o arian cyhoeddus, ac wrth gwrs, dylai hynny fod o ddiddordeb i chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â chyflogwyr a gweithwyr. Maent yn adolygu costeffeithiolrwydd eu gweithgareddau a’u gweithdrefnau a ariennir gan bwrs y wlad yn gyson. Nid wyf yn hollol siŵr pam fod cynrychiolwyr yr undebau llafur, sy’n aml wedi’u lleoli yn yr un adeiladau, yn cael eu hesgusodi rhag hynny. Yn yr un modd, pan fo’r cyflogwr yn talu holl gostau gweinyddu’r tanysgrifiadau, ‘does bosibl nad y cwestiwn arall, gydag aps fel Pingit ac yn y blaen, yw pa mor gyfredol bellach yw’r rhagdybiaeth mai rôl y cyflogwr yw gwneud hyn.
Felly, fy nghwestiynau yw: pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i ba mor ddefnyddiol yw’r wybodaeth y gellid ei chasglu o dan adran 172A o ran helpu i reoli cyllid cyhoeddus? Pa ystyriaeth a roddwyd i gosteffeithiolrwydd dulliau eraill o gasglu tanysgrifiadau a pha un a yw’n rhesymol i undebau llafur cyfoethog—nid yr aelodau unigol, ond yr undebau llafur eu hunain—gyfrannu at gost eu gweithgareddau pan fo’r costau yn cael eu hysgwyddo’n gyfan gwbl ar hyn o bryd gan y cyflogwr—gweithgareddau y mae’r ddwy adran honno’n ymdrin â hwy?
O gofio eich datganiad ysgrifenedig a’r gwaith rydych yn ei wneud ar waith asiantaeth, a allwch gadarnhau bod y Bil hwn fel y mae, i bob pwrpas yn Fil ceffyl pren Troea, a’ch bod yn bwriadu cyflwyno nifer o ddiwygiadau i gwmpasu gwaith nad ydych wedi gallu ei gyflawni mewn pryd er mwyn cyflwyno’r Bil hwn pan wnaethoch hynny, a’ch bod wedi cyflwyno’r Bil yn sgil pleidlais ranedig yr Arglwyddi yn ddiweddar? Mae hwn yn fater pwysig i’r Cynulliad oherwydd, o’r hyn a welaf yn eich memorandwm esboniadol, mae eich ymgynghoriad wedi’i gyfyngu i gyngor y gweithlu, nad yw’n cwmpasu Cymru gyfan, ac fe’i cynhaliwyd ar Fil y DU yn hytrach na manylion penodol y Bil hwn. Yn ychwanegol at hynny, mae’n gwbl aneglur ar ba broses ddeddfwriaethol y bydd y Cynulliad yn craffu mewn perthynas â chychwyn y Bil hwn, ac o ystyried eich bod yn bwriadu cychwyn y Bil drwy reoliadau, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi rhywfaint o eglurder ar hynny.
Yn gyntaf, er eglurder, mae cyngor partneriaeth y gweithlu yn cwmpasu Cymru gyfan. Mae’n gorff ar gyfer Cymru gyfan; mae aelodau arno sydd â chylch gwaith ar gyfer Cymru gyfan. Nid oedd yr ymgynghoriad ar weithwyr asiantaeth yn gyfyngedig mewn unrhyw ffordd i gyngor partneriaeth y gweithlu; roedd modd i unrhyw sefydliad neu unigolyn yng Nghymru, a thu hwnt yn wir, gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Nid Bil ceffyl pren Troea mohono. Yn wir, mae’n unrhyw beth ond hynny. Mae’n Fil cul, penodol a chyfyng, lle y caniateir diwygiadau os gellir eu cyflawni o fewn y cwmpas cyfyng a phenodol iawn hwnnw yn unig. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng amseriad y Bil ac unrhyw beth a ddigwyddodd yn Nhŷ’r Arglwyddi neu unrhyw beth a ddigwyddodd yma mewn perthynas â Bil Cymru. Fel yr eglurais yn fy natganiad, roedd hwn yn ymrwymiad ym maniffesto’r Blaid Lafur; soniodd y Prif Weinidog amdano yn ôl ym mis Mehefin y llynedd a damwain o ran yr amseru a dim mwy na hynny yw’r ffaith fod y pethau hyn wedi digwydd dod gerbron y Cynulliad yn ystod yr un wythnos.
O ran cwestiynau’r Aelod ynglŷn â chynnwys y Bil, dyma’r ateb: rydym yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau ychwanegol hynny y mae Bil y DU yn eu gosod i atal aelodau undebau llafur rhag gallu talu eu tanysgrifiadau mewn ffordd syml, ac i atal yr undebau llafur eu hunain rhag gallu cyflawni eu cyfrifoldeb ar ran yr aelodau hynny. Yn syml, rydym yn ceisio cynnal y status quo. Y Blaid Geidwadol sy’n ceisio ychwanegu rhwystrau newydd rhag gwneud pethau yn y ffyrdd hynny. Rwy’n gwbl hyderus fod yr holl fesurau yn y Bil hwn yn cyd-fynd â’n nod o sicrhau partneriaeth gymdeithasol effeithiol.
Rwy’n siarad heddiw fel Aelod sy’n falch o fod wedi gwasanaethu gweithwyr yn fy rôl flaenorol fel swyddog undeb llafur, ac sy’n falch o fod wedi ymrwymo, fel Aelod Cynulliad, i barhau i ddadlau dros weision cyhoeddus gweithgar nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigon aml. Golyga hynny hefyd fy mod yn deall y materion ychydig yn well, efallai, na rhai o’r bobl eraill sydd wedi cyfrannu heddiw. Rydym yn ymfalchïo yn ein partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, ac nid yn unig er mwyn gwneud pethau’n wahanol i San Steffan, ond yn hytrach am ei bod yn sicrhau canlyniadau mewn gwirionedd, a hynny er budd y gweithiwr, y gweithle a’r Llywodraeth. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am drafodaethau’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ flwyddyn neu ddwy yn ôl, lle y cefais innau’r fraint o eistedd ar yr ochr arall i’r bwrdd. Er bod y trafodaethau hynny’n anodd a bu’n rhaid cyfaddawdu, daethom i gytundeb yn y pen draw. Cymharwch hynny â’r hyn a ddigwyddodd gyda fy nghydweithwyr ar y pryd dros y ffin yn Lloegr, pan gaewyd y drws yn glep yn eu hwynebau, gan arwain yn y pen draw at weithredu diwydiannol na welsom mohono yma.
Bydd cyfyngiadau ar amser cyfleuster i gynrychiolwyr lleol yn niweidio’r bartneriaeth gymdeithasol hon ac yn erydu’r gwaith a wnaed gan undebau llafur i wella cyfle cyfartal ac arferion, ac yn cael gwared ar un o’r amddiffyniadau gorau sydd gan weithwyr ar hyn o bryd rhag triniaeth wahaniaethol. Mae potensial gan amser cyfleuster i fod o fudd i gyflogwyr ac i weithwyr, a gall yr ymosodiadau hyn ar amser cyfleuster yn neddfwriaeth Llywodraeth y DU niweidio cynhyrchiant yn y gweithle a lles y gweithiwyr. Mae bwlch amlwg rhwng y rhethreg ailadroddus rydym yn ei chlywed yn y ddadl hon a realiti bywyd go iawn. Gallai peidio â sicrhau amser cyfleuster digonol arwain, mewn gwirionedd, at gost uwch i’r cyflogwr, gan y bydd yn rhaid iddynt negodi ac ymgynghori â gweithwyr unigol. Gallai llwyth achosion y cyflogwr gynyddu hefyd o bosibl, gan fod llawer o amser yr undebau llafur yn cael ei dreulio ar ddatrys y materion hyn cyn iddynt ddatblygu’n achosion llawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddweud: a ydych yn cydnabod realiti’r gwaith y mae cynrychiolwyr undebau lleol yn ei wneud, a’i fod yn ddefnyddiol yn hytrach na’n niweidiol, a bod amser cyfleuster yn rhan hanfodol o rymuso gweithwyr y dylid ei ddiogelu a’i barchu?
Lywydd, cytunaf yn llwyr â phwynt yr Aelod. Wrth gwrs, mae amser cyfleuster o fudd i gyflogwyr. Gwnaed y pwynt hwnnw ddoe gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eu datganiad i groesawu’r Bil. Y rheswm am hynny yw bod cyflogwyr yn cydnabod y gwaith y mae cynrychiolwyr undebau lleol yn ei wneud bob dydd ym mhob rhan o’n gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n bwynt a wneuthum wrth ymateb i’r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Yn fy mhrofiad i, fel Gweinidog ar y pryd gyda chyfrifoldeb am un o’n gwasanaethau cyhoeddus pwysig, roedd sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n gweithredu’n effeithiol, datrys problemau yn y gwasanaethau hynny, a chorlannu tystiolaeth gan weithwyr ynglŷn â sut y gellid gwella’r gwasanaeth—gwnaed y pethau hynny’n well o lawer o ganlyniad i’r ffaith fod cynrychiolwyr lleol ar gael a oedd yn gwbl ymroddedig i’r gwasanaethau cyhoeddus hyn ac a allai dynnu sylw’r cyflogwyr at y materion hynny drwy ddefnydd synhwyrol ac effeithiol o amser cyfleuster.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Cytunaf fod undebau’n chwarae rhan bwysig yn y gweithle, yn enwedig o ran unioni unrhyw anghyfiawnder y gallai gweithwyr ei wynebu. Dros flynyddoedd lawer, maent wedi gwella amodau gwaith ledled y Deyrnas Unedig. Ond y broblem i lawer o bobl yw bod llawer o’r undebau hynny wedi’u gwleidyddoli, ac yn arbennig, y datgysylltiad rhwng yr hyn y mae ysgrifenyddion cyffredinol llawer o’r undebau hynny’n ceisio’i gyflawni yn yr arena wleidyddol a’r gweithwyr a ymaelododd â’r undebau hynny yn hanesyddol. Mae clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad oes mandad gan Lywodraeth y DU yn fy nghythruddo i raddau. Roedd hyn yn rhan o’r maniffesto a gymeradwywyd gan bobl Prydain yn 2015, a thra bo Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am y model cymdeithasol yma yng Nghymru, rwy’n darllen yn awr am y streic a fydd yn digwydd ym mwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg, lle y mae trefnydd Unsain yno’n dweud,
Nid yw staff sterileiddio’r ysbytai’n teimlo bod y bwrdd iechyd yn gwrando arnynt na’n deall y gwaith a wnânt yn iawn.
Datganiad yw hwn. [Torri ar draws.] Hoffwn dderbyn yr ymyriad, ond mae’n ddrwg gennyf, ni allaf ei dderbyn. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod y staff yn teimlo fel pe baent newydd gerdded i mewn oddi ar y stryd.
Ychydig cyn y Nadolig, roeddem yn delio â streic yn yr amgueddfeydd cenedlaethol, ac roedd Llywodraeth Cymru yn arbennig o araf yn delio â hynny. Bydd llawer ohonom yn cofio, pan oeddech chi’n Weinidog iechyd yma yng Nghymru, fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi bod mor hy â thynnu sylw at y trafferthion a oedd yn wynebu’r gwasanaeth iechyd ym mis Medi 2014, ac fe’u gwawdiwyd gan y Prif Weinidog ar lawr y Siambr hon am feiddio tynnu sylw at rai o ddiffygion y GIG yng Nghymru. Cymerasant y cam digynsail o sicrhau bod pob un o gadeiryddion eu pwyllgorau, o’u pwyllgor meddygon ymgynghorol i’r pwyllgor meddygon iau, yn anfon llythyr at bob Aelod yn y Siambr hon. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â cheisio paentio darlun gogoneddus nad yw’n bodoli; efallai ei fod yn bodoli yn eich byd dychmygol chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych nad yw’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd.
Byddwn yn herio’r Bil hwn ar ei daith drwy’r Cynulliad, ac yn y pwyllgor hefyd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, nid oherwydd ein bod yn gwrthwynebu rôl yr undebau, gan y credwn fod gan undebau rôl werthfawr iawn yn gwella hawliau gweithwyr. Ond rydym yn gwrthwynebu gwleidyddoli’r hyn y mae’r ysgrifenyddion cyffredinol yn ceisio’i gyflawni drwy weithio law yn llaw â’r Blaid Lafur. Ond mae’r cwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ymwneud yn benodol â’ch paragraff olaf, lle y mae’n dweud,
Mater i’r Cynulliad hwn, a hynny’n gywir, yw penderfynu sut y dymunwn weld y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu yng Nghymru.
Os credwch fod gennych achos i ddeddfu ar delerau ac amodau, a ydych yn credu felly eich bod yn agor cil y drws ar gyflogau rhanbarthol, ac y byddwch mewn gwirionedd yn gwneud anghymwynas enfawr â gweithwyr sector cyhoeddus yn y wlad hon drwy ddwyn eich achos yn ei flaen dros roi’r Bil hwn ar y llyfr statud? Credaf eich bod yn cynnig cyflwyno cyflogau rhanbarthol drwy barhau â’r Bil hwn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfraniad. Nid wyf yn cytuno â’i bwynt olaf. Credaf ei fod yn ymestyn y ddadl ymhell y tu hwnt i’r ffeithiau os yw’n awgrymu bod y Bil hwn, nad yw’n gwneud dim mwy na datgymhwyso nifer o faterion sy’n gysylltiedig ag undebau llafur, yn agor cil y drws rywsut ar gyflogau rhanbarthol yng Nghymru. Nid wyf yn derbyn ei ddadl yn hynny o beth.
Rwy’n credu y dylwn dynnu ei sylw at y ffaith y byddai streic ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg, pe bai’n digwydd, wedi cyrraedd y trothwyon yn y ddeddfwriaeth y mae ei blaid wedi eu rhoi ar y llyfr statud. Felly, ni fyddai modd gwneud dim am hynny.
O ran ei bwyntiau am Gymdeithas Feddygol Prydain, rwy’n meddwl ei fod yn ychwanegu at yr achos a wneuthum. Nid yw’r model partneriaeth gymdeithasol yn ymwneud â pherthynas glyd lle rydych bob amser yn cytuno, ond yn hytrach â bod yn barod i barhau i eistedd o amgylch y bwrdd gyda phobl sydd â safbwyntiau gwahanol i’ch rhai chi, a bod yn barod i gymryd rhan yn ddifrifol a gwrando’n astud ar y pwyntiau a wnaed ganddynt a gallu dangos iddynt, lle y mae’r pwyntiau hynny’n berthnasol, eich bod yn barod i weithredu gyda hwy er mwyn datrys y mater. Roeddwn yn cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain bob chwe wythnos tra oeddwn yn Weinidog iechyd. Nid oedd y cyfarfodydd hynny’n gyfforddus bob amser, ond y ffaith eu bod yn gwybod y byddent bob amser yn cael gwrandawiad ac y buaswn bob amser yn barod i feddwl yn ofalus am yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud oedd y rheswm pam yr argymhellodd Cymdeithas Feddygol Prydain y dylai ei haelodau yma yng Nghymru barhau i weithio pan oedd meddygon iau ar streic yn Lloegr. Mae’r model partneriaeth gymdeithasol yn cael ei gadarnhau’n llwyr gan y pwynt a wnaeth.
Rwy’n credu y dylid cymryd unrhyw wleidydd sy’n cwyno am wleidyddoli gyda mwy na phinsiad o halen. Dechreuodd drwy ddweud wrthyf fod hwn yn Fil a oedd yn dilyn ymlaen o faniffesto plaid wleidyddol yn Lloegr. Os nad yw hynny’n wleidyddoli, nid wyf yn gwybod beth sydd.
Rwy’n croesawu datganiad—ailddatganiad yn wir—Ysgrifennydd y Cabinet am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau unigol a chyfunol gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod y cyfyngiadau y mae’r Bil hwn yn ceisio mynd i’r afael â hwy yn bethau a oedd yn rhy wenwynig hyd yn oed i’r Llywodraeth Geidwadol honno yn y 1980au eu cyffwrdd, Llywodraeth a oedd yn eithriadol o elyniaethus tuag at yr undebau llafur. Mae’n werth i ni gadw hynny mewn cof.
Hoffwn gyffwrdd ar un o’r rhannau llai amlwg, sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, sef tynnu tanysgrifiadau undeb o becynnau cyflog. Mae’n fodd syml a hygyrch i aelodau unigol dalu eu tanysgrifiadau undeb yn amserol. Yn groes i’r awgrym yng nghwestiwn Suzy Davies, rwy’n credu, fel arfer yr undebau sy’n talu canran o’r rheini i’r cyflogwr er mwyn talu’r costau, fel nad oes cost i bwrs y wlad o ddarparu’r cyfryw wasanaeth.
Mae’n fy nharo bod gennym Geidwadwyr yn San Steffan, ac ar y meinciau gyferbyn sy’n eu cefnogi, sy’n gyfarwydd â chael arian wedi’i dynnu ar gyfer eu pensiynau a’u haelodaeth o gampfa a’u cynlluniau beicio i’r gwaith ac yn y blaen, ond sy’n gwrthod hyn ar gyfer gweithwyr unigol yng Nghymru, sy’n arwydd o ymgais amlwg i gyfyngu ar hawliau democrataidd unigolion i ddod yn aelodau o undeb llafur.
Felly, a wnaiff fanteisio ar y cyfle hwn, yn wahanol i Lywodraeth y DU, i ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru y buasai’n dymuno gweld cymaint o weithwyr y sector cyhoeddus ag y bo modd yn aelodau gweithgar o undebau llafur?
Cytunaf yn llwyr â Jeremy Miles. Yr hyn rydym eisiau ei weld yw aelodau o undeb llafur sy’n cymryd rhan weithredol yng ngwaith eu hundeb ac yn mynegi eu hymroddiad dyddiol i’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu drwy wneud y cyfranogiad hwnnw’n rhan o’r cyfryw gyfraniad. Cytunaf â’r pwynt a wnaeth ar y dechrau hefyd. Mae Deddf undebau llafur 2016 yn diwygio Deddf 1992, a oedd yn ddigon da ar gyfer 13 mlynedd o Lywodraethau Ceidwadol. Ac rwyf am wneud y pwynt eto: nid y Llywodraeth hon yng Nghymru sy’n ceisio newid y status quo yma; yn syml, rydym eisiau i bethau sydd wedi gweithio’n llwyddiannus i barhau i weithio’n llwyddiannus. Daw’r newid gan y rhai sydd ag agenda o fath gwahanol iawn.
Pan ddywedodd arwr Llafur Newydd, Tony Blair, ei fod yn difaru cyflwyno Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, nid am nad oedd yn mynd yn ddigon pell y dywedai hynny; yr hyn a olygai oedd ei bod wedi rhoi mynediad i bobl at wybodaeth y byddai’n well ganddo pe na baent wedi’i chael. Efallai fod Tony Blair wedi gadael ei swydd, ond mae Llafur Cymru yn parhau ar ei ôl i obeithio cadw gwybodaeth rhag y cyhoedd.
Mae eu cynnig i wrthod deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddatgelu i’r cyhoedd faint o amser y mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn ei dreulio ar weithgareddau undeb yn ymgais ddigywilydd i guddio gwybodaeth y mae Llafur yn teimlo na fydd y cyhoedd yn ei hoffi. Mae’n rhaid bod Llafur yn gwybod y buasai’r wybodaeth yn achosi dicter ymhlith trethdalwyr Cymru, fel arall ni fyddai unrhyw reswm dros ei chadw’n ôl. Pe bai pobl yn gofyn faint o arian sy’n cael ei wario a faint o amser sy’n cael ei dreulio ar unrhyw weithgaredd arall a gyflawnir gan weithwyr y sector cyhoeddus, ni fyddai gwrthod rhoi atebion i’r cyhoedd yn cael ei oddef. Os yw’r ddeddfwriaeth hon yn mynd rhagddi, rwy’n meddwl y byddai’n gyfiawn i mi ffeilio cais rhyddid gwybodaeth bob wythnos, yn gofyn faint o amser a dreuliwyd ar weithgaredd undeb, ac i roi gwybod i’r cyhoedd fy hun.
Rwyf hefyd yn rhannu barn y cyhoedd y dylai pleidlais i streicio fod yn amodol, fan lleiaf, ar lefel ofynnol o gymeradwyaeth gan aelodau undeb. Rwy’n bryderus ynglŷn â hawliau gweithwyr ac mae’n bwysig cofio bod undebau wedi gwneud llawer iawn i wella amodau a chyflogau gweithwyr. Ond mae’n ymddangos yn rhesymol y dylid cael trothwy isaf o gefnogaeth yr aelodau cyn y gall gweithredu diwydiannol ddigwydd. I’r rhai sy’n honni y byddai’r rheolau newydd yn rhwystro undebau rhag cynrychioli eu haelodau, buaswn yn dweud hyn: os na allwch gael digon o gefnogaeth gan eich aelodau o blaid streic, yn amlwg nid ydych yn cynrychioli eu safbwyntiau. Os bydd pleidlais i streicio yn methu cyrraedd y lefel honno o gefnogaeth, ni fydd bai ar neb ond yr undebau. Ymddengys bod y cyhoedd yn cefnogi trothwy isaf ar gyfer streicio, a’r unig reswm a all fod dros wrthwynebiad Llafur iddo yw bod eu cyfranwyr o blith yr undebau yn bwysicach iddynt na thryloywder a’r hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau. Mae angen i Lafur gofio bod y sector cyhoeddus yno i wasanaethu’r trethdalwr, nid fel arall. Diolch.
Lywydd, rwy’n meddwl bod Aelodau ar draws y Siambr wedi ymdrin â mater y trothwy yn llwyddiannus iawn y prynhawn yma. Ni fyddai’r Aelod ei hun yma pe bai’n darostwng ei hun i’r ddadl y mae hi mor awyddus i ddarostwng eraill iddi. Ynglŷn â’i phwynt cyntaf am wybodaeth, rwy’n gobeithio y gallaf ei helpu gyda hwnnw: gallwn roi gwybod iddi mai 2.2 y cant o weithleoedd yn y sector preifat sydd â chynrychiolydd undeb llafur amser llawn; 2.8 y cant o weithleoedd yn y sector cyhoeddus sydd â chynrychiolydd amser llawn; roedd 84 y cant o gyflogwyr yn cytuno gyda’r datganiad fod cael cynrychiolydd o’r fath yn gymorth iddynt gyflawni eu gwaith. Mae’r wybodaeth honno, ymhell o fod yn gyfrinachol neu’n cael ei chadw rhag y cyhoedd, i’w gweld wedi’i chyhoeddi gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ac mae croeso i’r Aelod fynd ar drywydd y ffynhonnell honno am fwy o wybodaeth o’r math y mae hi i’w gweld mor awyddus i’w chael.
Wel, mae wedi bod yn ddadl sy’n goleuo a daeth sawl peth yn eglur ynddi. Y peth cyntaf a ddaeth yn amlwg iawn yw’r celwydd mai UKIP yw plaid y dosbarth gweithiol, gan mai’r cyfan y maent wedi’i wneud heddiw yw siarad yn erbyn y cyfleoedd rydym yn ceisio’u rhoi ar waith ar gyfer pobl weithgar. Gan ein bod yn siarad am ‘bobl weithgar’—trethdalwyr ac eraill—buaswn yn herio rhai o’r datganiadau a wnaed heddiw am gynrychiolwyr undebau llafur yn dod i’r golwg rywsut o gorneli tywyll, pobl nad ydynt yn drethdalwyr, yn amlwg, pobl nad ydynt yn rhieni, yn amlwg, a phobl nad ydynt yn cynrychioli eu cymunedau neu’r sefydliadau y maent yn gweithio ynddynt, ac sy’n amlwg wedi cael eu cyflwyno gan Janet Finch-Saunders, arweinydd y blaid Dorïaidd a phawb arall o’r ochr honno i’r Siambr heddiw. Nid wyf yn gwybod sut nad yw’r Torïaid yn deall nad yw eu hunig dric yn gweithio rhagor. Dyma eu hunig dric: os gosodwch y gweithwyr yn erbyn y penaethiaid, os gosodwch y cyfoethog yn erbyn y tlawd, ac os rhowch y bobl sydd angen cynrychiolaeth a’r bobl sy’n ceisio’i roi ar ochrau gwahanol, nid yw’n gweithio.
Felly, cawsom y gwaradwydd ddoe, gan arweinydd y blaid Dorïaidd, o gymharu’r bobl sy’n ceisio cynrychioli pobl eraill fel pe baent yn llai haeddiannol nag eraill rywsut. Rwyf am gywiro’r camargraff yma heddiw. Rwyf am gywiro’r camargraff oherwydd mae TUC Cymru wedi datblygu rhwydwaith o gynrychiolwyr cydraddoldeb, a chyflwynwyd hynny yn 2012 gan Lywodraeth Cymru. Y rheswm pam y’i cyflwynwyd—pam y cyflwynwyd y cynrychiolwyr undebau llafur hyn—oedd oherwydd y gellid eu hyfforddi i gynorthwyo’r bobl sydd fwyaf mewn perygl o wynebu gwahaniaethu yn y gweithle. Felly, pwy fyddai’r bobl hynny? Dyma’r bobl sydd ag awtistiaeth. Dyma’r bobl sydd ag anableddau dysgu. Dyma’r bobl sydd angen llais pan nad oes unrhyw lais arall ganddynt. Dyma pam ein bod yn awyddus i roi amser i’r cynrychiolwyr undebau allu cyflawni’r gynrychiolaeth honno. Anghofiwch eich unig dric oherwydd nid yw’n gweithio. Gadewch i ni ei dweud hi fel y mae. Rwy’n siŵr fod rhai ohonoch yma yn aelodau o undebau llafur. Fe fetiaf eich bod. Fe fetiaf fod digon o Aelodau draw yno sy’n aelodau o undebau llafur.
A ydych chi’n annerch Ysgrifennydd y Cabinet neu blaid wleidyddol? Mae angen i chi ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwy’n mynd i ddweud mewn gwirionedd mai’r hyn y mae’r Ddeddf hon—. Yr hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yn erbyn y Ddeddf hon yw ein rhwystro ni, y gweithwyr yng Nghymru, rhag cael ein cymharu gan bwyllgor y Sefydliad Llafur Rhyngwladol i Ddeddf a roddwyd mewn grym sy’n fwy diarbed nag a gafwyd ers dyddiau Thatcher ac sydd wedi ein rhoi yn yr un cae bellach â Qatar, Zimbabwe, Bangladesh ac eraill. Dyna’n union ble y mae eich Deddf. Mae’n gywilyddus, mae’n warthus, fel rhai o’r sylwadau a glywais heddiw. A dyna pam yr wyf am dynnu sylw atynt. Dyna pam yr wyf am dynnu sylw at y celwydd am y bobl hynny na fydd yn—
Joyce Watson, mae angen i chi ddod â’ch sylwadau i ben yn awr a gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly, rwyf am ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn credu y bydd y Bil hwn yn helpu i leihau’r gwrthdaro y clywsom amdano heddiw, ac yn anogaeth i ddatrys y gwrthdaro hwnnw yng ngweithlu’r sector cyhoeddus?
Lywydd, mae’r Aelod wedi tynnu sylw yn fedrus iawn at yr agenda partneriaeth cymdeithasol ehangach y mae cael undebau llafur sy’n gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn ei rhoi i Gymru. Rydym wedi canolbwyntio yn y datganiad hwn ar gynnal cysylltiadau diwydiannol uniongyrchol, ond mae partneriaeth gymdeithasol yn llawer mwy na hynny. Nid chafodd tir cynyddol ei ennill erioed heb frwydr, boed mewn materion cydraddoldeb, materion yn ymwneud â gwahaniaethu, neu yma yng Nghymru drwy’r camau rydym wedi’u cymryd ar gosbrestru yn y sector adeiladu, neu sicrhau cyflog byw yn y GIG yng Nghymru, neu’n cynhyrchu cod gweithlu dwy haen ar ei newydd wedd i Gymru, ar ôl iddynt droi cefn ar hynny ar yr ochr arall i’n ffin. Mae’r model partneriaeth gymdeithasol yn mynd y tu hwnt i gynnal cysylltiadau diwydiannol ar raddfa fach i gynfas ehangach o lawer achosion blaengar yma yng Nghymru. Cytunaf yn llwyr â’i phwynt olaf fod yr enillion hynny’n llawer mwy tebygol o ddigwydd pan fydd gennych berthynas adeiladol a phan fyddwch yn gallu dod o amgylch y bwrdd gyda’ch gilydd. Lluniwyd y Bil hwn i ddiogelu’r safbwynt hwnnw yng Nghymru, ac i’n diogelu ni rhag y model gwrthdrawol sy’n gynhenid yn y Ddeddf sydd ar hyn o bryd ar y llyfr statud.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiadau 90 eiliad. Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Ddoe, yn un o’i weithredoedd olaf fel un o Arlywyddion gwych yr Unol Daleithiau, cyhoeddodd Barack Obama fod Chelsea Manning i gael ei rhyddhau o’r carchar. Bydd y weithred hon yn cael ei chroesawu gan lawer yng Nghymru. Er mai dinesydd yr Unol Daleithiau yw hi, addysgwyd Chelsea Manning, fel Bradley Manning, yn Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd. Cafodd ei disgrifio gan ffrind ysgol yno fel person unigryw, hynod o unigryw, gwahanol iawn, cadarn ei barn, gwleidyddol iawn, clyfar iawn, huawdl iawn. Yn 2010, fel swyddog yn gwasanaethu ym myddin yr Unol Daleithiau, rhyddhaodd Chelsea Manning lawer iawn o ddata cyfrinachol yn answyddogol i Wikileaks a phapur newydd ‘The Guardian’. Datgelodd y wybodaeth a ryddhaodd faint a difrifoldeb troseddau hawliau dynol yn y dwyrain canol yn dilyn ymyrraeth filwrol. Ni ffodd Chelsea Manning rhag cyfiawnder, ond wynebodd ganlyniadau ei gweithredoedd a chynhaliwyd achos llys yn ei herbyn. Yn ystod y broses hon mynegodd ei dymuniad i gael ei hystyried yn fenyw. Mae ei chosb wedi bod yn drwm: dedfryd o 35 mlynedd mewn carchar milwrol, i’w dreulio fel menyw mewn carchar milwrol i ddynion. Mae hi wedi cael cyfnodau hir o garchar mewn cell ar ei phen ei hun. Arweiniodd ymateb yr awdurdodau i ymgais i gyflawni hunanladdiad at gyfnod arall o garchar mewn cell ar ei phen ei hun. Mae hi wedi dioddef yn aruthrol ac yn anghymesur am ei throsedd. Wedi’r cyfan, mae gan yr Unol Daleithiau bellach ddarpar Arlywydd sy’n galw’n gyhoeddus am hacio sefydliadau democrataidd yn anghyfreithlon. Mae’r Arlywydd Obama wedi dangos tosturi tuag at Chelsea Manning, ac wrth wneud hynny mae wedi cynnal gwerthoedd yr wyf fi, a’r Cynulliad gobeithio, yn eu hystyried yn bwysig.
Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ffodus, mae diffibrilwyr awtomataidd brys yn dod yn fwy a mwy cyffredin yng Nghymru, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yr un mor siomedig â minnau i glywed bod dau o’r diffibrilwyr a ddarparwyd gan elusennau a rhai a fu’n codi arian yn lleol yn fy rhanbarth wedi cael eu fandaleiddio’n ddiweddar. Lluniwyd diffibrilwyr allanol awtomataidd i gael eu defnyddio’n hawdd pan fo angen help, yn enwedig pan fydd rhywun wedi dioddef trawiad ar y galon. Y bwriad yw i bobl heb unrhyw hyfforddiant meddygol eu defnyddio, ac ni fyddant yn darparu pwls trydanol oni bai eu bod yn canfod curiad calon afreolaidd neu pan fo curiad y galon yn absennol. Ar ôl trawiad ar y galon, mae’r gobaith o oroesi yn gostwng 14 y cant am bob munud sy’n mynd heibio heb driniaeth, felly mae gallu darparu triniaeth cyn gynted ag y bo modd yn allweddol, a defnyddir y diffibrilwyr hyn yn effeithiol iawn yn ystod y cyfnod o amser cyn i’r gwasanaethau brys priodol gyrraedd. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon a Calonnau Cymru ymhlith yr elusennau sy’n gweithio i osod mwy o’r dyfeisiau hyn ledled Cymru a chynyddu ymwybyddiaeth. A hyd yma, mae Calonnau Cymru wedi gosod 482 o ddiffibrilwyr mewn canolfannau cymunedol, siopau, a hen flychau ffôn hyd yn oed.
Er nad yw’r enghreifftiau o fandaliaeth a grybwyllais yn gynharach yn arferol, maent wedi helpu i dynnu sylw at y modd y mae ein cymunedau yn cefnogi’r diffibrilwyr hygyrch hyn. Mae’r gefnogaeth a gynigir gan grwpiau lleol i godi arian ar gyfer y gwaith atgyweirio, yn enwedig ar un o’r blychau hyn, wedi bod yn hollol wych—yn y Mwmbwls. Mae darparu diffibrilwyr a hyfforddiant a sgiliau sylfaenol ar gyfer achub bywyd mewn argyfwng yn ddwy enghraifft o’r modd y gall grwpiau cymunedol, elusennau, busnesau a gwasanaeth ambiwlans Cymru weithio gyda’i gilydd i achub bywydau. Yn ystod y Cynulliad hwn, gobeithio y bydd y gefnogaeth i ddiffibrilwyr a sgiliau achub bywyd mewn argyfwng yn cryfhau fwyfwy. Diolch.
Jayne Bryant.
Yfory yw diwrnod olaf tymor yr Arlywydd Obama yn y Tŷ Gwyn. Yn 2014, ymwelodd â fy etholaeth ar gyfer uwchgynhadledd NATO yn y Celtic Manor. Ysgrifennodd Stephen Bowen, llywodraethwr ysgol a chynghorydd cymuned yn Nhŷ-du, lythyr grymus at yr Arlywydd Obama gyda chynnig na allai ei wrthod: ymweliad ag Ysgol Gynradd Mount Pleasant. Roedd y car arlywyddol, gyda baneri’r Unol Daleithiau a Chymru arno, yn olygfa heb ei hail. Croesawodd y disgyblion drwy ddweud ‘Bore da’, ac eisteddodd drwy un o’r gwersi, gan siarad, chwerthin a chellwair gyda’r plant, a rhoddodd gyfle iddynt ofyn cwestiynau. I’r plant hynny, ynghyd â’r cannoedd lawer a oedd wedi ymgasglu y tu allan, roedd hwn yn gyfle unwaith mewn oes, na fyddant byth yn ei anghofio.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Llysgennad yr Unol Daleithiau, Matthew Barzun:
Roedd cynhesrwydd eich croeso nid yn unig yn dangos y gorau o letygarwch Cymru, roedd yn brawf o’ch ysbryd cymunedol gwych. Mae’n gyffrous ei fod wedi gadael ei ôl ar feddyliau’r genhedlaeth nesaf.
Rwy’n deall mai’r unig beth yr oedd yr Arlywydd yn edifar yn ei gylch oedd na chafodd gyfle i chwarae rownd o golff yn y Celtic Manor.
Mae’r Arlywydd wedi gadael etifeddiaeth fawr ar ei ôl: cyflwyno Obamacare, cynnydd ar atal newid yn yr hinsawdd, cyfreithloni priodas un rhyw, a llawer mwy. Gwnaeth hyn gan arwain gydag unplygrwydd, cynhesrwydd a ffydd lwyr yn naioni bobl. Rwy’n siŵr y bydd y Siambr yn ymuno â mi i ddymuno’r gorau iddo ef a’i deulu ar gyfer y dyfodol. Ac mae croeso nôl iddo bob amser yng Nghasnewydd i gael y rownd honno o golff yn y Celtic Manor.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Caroline Jones, a gwelliant 3 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei dad-ddethol.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Cymru ar Tata Steel, ac rwy’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig. Adam Price.
Cynnig NDM6208 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Brif Weinidog Cymru—yn absenoldeb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU—i gwrdd â Chadeirydd dros dro Tata Steel i wella telerau’r cytundeb a gynigir gan isadran y cwmni yn y DU i weithwyr dur yng Nghymru; ac y dylai cynnig diwygiedig o’r fath gynnwys ymrwymiadau cyfrwymol ac ysgrifenedig ar gyflogaeth, buddsoddi a diogelu hawliau pensiwn cronedig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon â diddordeb i baratoi strategaeth arall pe byddai’r cynnig presennol yn cael ei wrthod gan y gweithlu dur yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy’n codi i siarad o blaid dur unwaith eto yn y Siambr hon—dros y gweithwyr dur, dros bensiynwyr dur, dros gymunedau dur, dros sector sy’n sylfaen greiddiol iawn i’n heconomi. Efallai y byddai’n well gan rai i mi fod yn dawel, ond cefais fy ngorchymyn i gau fy ngheg gan gynghorwyr Llafur byth er pan oeddwn yn fachgen yn neuadd les y glowyr yn Rhydaman. Ni wrandewais ar eu cyngor bryd hynny ac nid wyf yn mynd i ddechrau gwneud hynny yn awr chwaith.
Ac mewn gwirionedd, yn rhannol oherwydd y profiad hwnnw yn fy machgendod—a mynd drwy’r ing fel teulu o wynebu gorthrymder diswyddiadau a diweithdra a phob dim yr oedd hynny’n ei gynrychioli ac yn wir, cynllun pensiwn a gafodd ei ddwyn, gyda llaw—am y rheswm hwnnw nid wyf yn credu y gallwn aros yn dawel. Rwy’n cofio cyfarfod â John Benson a’i gydweithwyr o Allied Steel and Wire am y tro cyntaf yn yr adeilad drws nesaf, 15 mlynedd yn ôl—pobl a oedd wedi colli eu gwaith a’u pensiwn, a 15 mlynedd yn ddiweddarach, maent yn dal i ymladd—yn dal i ymladd—am gyfiawnder a wadwyd iddynt. Pan feddyliaf am bobl fel John, yr hyn y mae’n chwilio amdano, rwy’n meddwl, a’r hyn y mae pobl sy’n gweithio yn chwilio amdano mewn arweinwyr gwleidyddol, yw arweinyddiaeth, bod yn llais i’r di-lais mewn gwirionedd, dweud y pethau sydd heb eu dweud, gofyn y cwestiynau sydd heb eu hateb, hyd yn oed pan fo’n anghyfforddus, a bod yno hefyd i fynegi’r hyn na allant siarad amdano’n agored eu hunain.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r gweithwyr dur, yn y gorffennol a’r presennol, sydd wedi estyn allan atom i ddiolch i ni am ddweud, a chofnodi, yr hyn y mae llawer ohonynt yn ei deimlo’n breifat. Rwy’n credu bod y cwestiwn sydd ar flaen ein meddyliau ar hyn o bryd mewn perthynas â chynigion Tata yn un deublyg: un, a yw’n darparu dyfodol cynaliadwy, hyfyw i’r diwydiant dur yng Nghymru yn y dyfodol? Ac yn ail, a yw’n deg i’r holl randdeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, gweithwyr dur a phensiynwyr dur? Ac yn sicr mae gennym ni ar y meinciau hyn bryderon go iawn, a chredaf fod llawer yn y gweithlu yn eu rhannu, a dyna y byddaf yn ceisio mynd i’r afael ag ef yn fy sylwadau yma y prynhawn yma. Byddaf yn cynnwys y tri phrif faes a gwmpesir yn y cynnig—cyflogaeth, buddsoddiad a phensiwn—ac yna’n dweud rhywbeth am y fargen gyffredinol ac yn hollbwysig, beth y gellir ei wneud. Dyna yw’r ffocws, ‘does bosibl, i ni yn y lle hwn: beth y gellir ei wneud i wella’r sefyllfa hon.
Nawr, o ran cyflogaeth, mae’r cynnig, fel y nodwyd yn gyhoeddus—rwy’n dibynnu ar y wybodaeth honno, a’r wybodaeth a gefais wrth siarad â gweithwyr dur fy hun—yn datgan bod yna ymrwymiad i geisio osgoi diswyddiadau dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r broblem, wrth gwrs, yn amlwg ar unwaith: mewn gwirionedd nid yw ‘ceisio osgoi’ yn ymrwymiad cadarn a chlir o gwbl. Rwyf wedi ysgrifennu sawl maniffesto yn fy amser—rwy’n adnabod iaith o’r fath. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw’n addewid sicr, yn anffodus.
Nawr, mae mecanwaith y cytundeb cyflogaeth mewn gwirionedd yn deillio o gyfandir Ewrop—mae wedi bod ar waith yn Tata Steel yn yr Iseldiroedd; yn wir, mae’n mynd yn ôl i ddyddiau Corus yn 1999. Byddai’n ddiddorol cymharu a chyferbynnu’r cytundeb cyflogaeth newydd sydd newydd gael ei gytuno’n ddiweddar ar gyfer Tata Steel yn yr Iseldiroedd am y cyfnod nesaf o bum mlynedd. Ond ceir rhai ymrwymiadau manwl yno yr adroddwyd yn eu cylch, er enghraifft hawl i ailhyfforddiant ac adleoli o fewn 21 mis i bob gweithiwr yr effeithir arnynt gan ailstrwythuro. Felly, unwaith eto, yn bendant rydym yn gweld lefel uwch o ymrwymiad o ran manylder y cytundeb cyflogaeth. Y rheswm pam y mae’r warant o gyflogaeth yn hanfodol yw oherwydd ein bod yn gwybod bod yna fwriad i symud ymlaen i uno â ThyssenKrupp. Yn wir, mae prif swyddog gweithredol ThyssenKrupp, Heinrich Hiesinger, wedi dweud yn ddiweddar fod y trafodaethau hynny’n parhau. Ac fe’i cofnodwyd yn dweud mai un rheswm yn unig sydd yna dros yr uno wrth gwrs, sef cael gwared ar gapasiti. Beth y mae capasiti yn ei olygu? Mae’n golygu swyddi. Pwy sy’n mynd i fod ar reng flaen y toriadau hynny? Wel, fe roddaf gliw i chi: nid wyf yn credu mai ThyssenKrupp fydd yno. Nid wyf yn credu mai Tata Steel yn yr Iseldiroedd fydd yno. Felly, gallwch lenwi’r bylchau. Ac yn anffodus, fel y’i lluniwyd ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod y warant honno o gyflogaeth yn rhoi i ni, ac yn sicr nid yw’n rhoi i’r gweithwyr dur, y math o hyder y maent yn ei haeddu.
Yn yr un modd gyda’r cynllun buddsoddi: £1 biliwn dros gyfnod o 10 mlynedd—gyda llaw, nid yw hynny mewn gwirionedd ond yn caniatáu i ni gynnal y lefel bresennol o fuddsoddiad cyfalaf yn unig. Nid yw’n lefel drawsnewidiol o fuddsoddiad. Ein galluogi i gadw’r gwaith dur i fynd ar y raddfa bresennol o effeithlonrwydd yn unig a wna. Ond unwaith eto, mae’n amodol, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, ar elw gros, ar enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddiad o £200 miliwn y flwyddyn gan Tata Steel UK—fe ildiaf i’r Aelod anrhydeddus.
Diolch i’r Aelod am ildio. Er eglurder yn unig, nid elw gros yw’r enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddiad mewn gwirionedd, ond elw costau gweithredol, yn yr ystyr mai’r hyn ydyw yw’r elw net yn ogystal â’r llog, y dreth, y dibrisiant, ac amorteiddiad. Felly, nid yr elw gros ydyw mewn gwirionedd.
Wel, elw gweithredu ydyw. Gallech ei ystyried yn—. Hynny yw, nid oes diffiniad ffurfiol iddo mewn gwirionedd yn yr ystyr honno. Ond y pwynt yw, os yw hwnnw’n amodoldeb caled—fod y cynllun buddsoddi hwn yn gwbl ddibynnol ar y lefel honno o elw gweithredu parhaus, mewn cyd-destun lle y gwyddom—. Dyma un o’r diwydiannau mwyaf cylchol o’r cyfan—. Gadewch i ni gofio ein bod wedi mynd o sefyllfa lle y dywedwyd wrthym ar un adeg fod Port Talbot yn colli £1 miliwn y dydd i sefyllfa yn awr pan fo’n gwneud elw. Ac eto mae gennym gynllun buddsoddi sy’n ddibynnol ar lefel flynyddol o enillion net—beth bynnag y dymunwch ei alw—bydd yn amodol ar lefel fanwl tu hwnt o berfformiad. Rwy’n siŵr na fyddai’r Aelod anrhydeddus yn anghytuno â hynny. Dylai’r cynllun buddsoddi fod yn seiliedig ar ymrwymiad cadarn, oherwydd dyna’r unig sail hirdymor, mewn gwirionedd, ar gyfer creu’r math o fframwaith o ymddiriedaeth sy’n angenrheidiol ar y ddwy ochr i sicrhau’r dyfodol cynaliadwy, llwyddiannus yr ydym am ei weld. A ydym yn dweud, er enghraifft, os nad ydynt yn cyrraedd y targed hwnnw, nad yw’r buddsoddiad yn mynd i mewn? Rydych mewn cylch dieflig felly, onid ydych? Oherwydd os bydd y buddsoddiad yn mynd i mewn, nid ydych yn mynd i gyrraedd y targedau hynny yn yr ail flwyddyn hefyd.
Gadewch i ni droi yn olaf at y cynnig ar y pensiwn. Dyma’r elfen fwyaf rhyfedd o’r cyfan yn fy marn i. Rwy’n ei chael hi’n anodd deall beth sy’n gyrru hyn mewn gwirionedd, gan fod yr ymgynghoriad ffurfiol yn ymwneud â symud yr aelodau sy’n weddill o gynllun pensiwn Dur Prydain ymysg y gweithwyr—mae wedi cau i ymgeiswyr newydd eisoes, wrth gwrs—i gynllun cyfraniadau diffiniedig. Ond nid yw’n ymwneud â gostwng cost cyfraniadau pensiwn i’r gweithlu presennol, nag ydyw? Gan mai torri cyfraniad Tata Steel o 11.5 y cant o’r cyflog i 10 y cant yn unig a wna, effaith ddibwys y mae’n ei chael ar eu costau. Nid yw’n ymwneud hyd yn oed â chau’r diffyg presennol yn y pensiwn, oherwydd dywedir wrthym ei fod wedi gostwng; yn y prisiad actiwaraidd diwethaf, mae i lawr i £50 miliwn. Felly, nid yw’n ymwneud â hynny.
Felly, beth sydd wrth wraidd hyn mewn gwirionedd? Wel, rwy’n credu bod yn rhaid i ni gasglu mai’r hyn y mae’n ceisio ei wneud mewn gwirionedd yw cael gwared ar y rhwymedigaeth sydd gan gynllun pensiwn Dur Prydain ar hyn o bryd dros waith Ijmuiden, gwaith y mae Tata Steel, yn fyd-eang, bob amser wedi ei ystyried yn drysor pennaf. Mae hynny’n rhwystr mawr i’w dymuniad, wrth gwrs, i symud ymlaen gyda’r uno â ThyssenKrupp y cyfeiriais ato eisoes. Dyna sydd wrth wraidd hyn, mae’n ymddangos i mi, awydd i symud ymlaen gyda’r cynllun hwnnw, nad yw o reidrwydd, hoffwn awgrymu’n ostyngedig, er budd y diwydiant dur yng Nghymru a Phrydain. Y rhwymedigaeth honno—nid oes prisiad actiwaraidd y gallaf ddod o hyd iddo yn nogfennaeth cronfa bensiwn Dur Prydain o’r warant sydd ganddynt dros waith Ijmuiden, ond mae yna gliw i ni, rwy’n credu, yn nadansoddiad adran actiwaraidd y Llywodraeth sy’n dweud pe bai Tata Steel yn datgysylltu ei hun oddi wrth y cynllun pensiwn fel ei fod mewn gwirionedd yn dod yn hunangynhaliol i bob pwrpas, buasai’n rhaid i chi roi tua £3 biliwn neu £4 biliwn i mewn, nid yr ychydig gannoedd o filiynau y nododd y wasg fod Tata yn ei gynnig er mwyn cael gwared ar y cysylltiad â’r gronfa bensiwn.
Mae’r rhain yn bryderon go iawn. Gellir mynd i’r afael â hwy. Gellir cryfhau’r cynnig hwn. Gellir gwneud y warant o gyflogaeth yn warant gadarn. Gellir gwneud y cynllun buddsoddi yn ymrwymiad cadarn, a gallwn gael ymrwymiad clir na fydd Tata, yr uwchgwmni, uwchgwmni proffidiol—mae’n gwneud 12.5 cant o elw ar gyfalaf yn gyffredinol ac mae’n gwneud biliynau o bunnoedd o elw—yn troi cefn ar ei rwymedigaethau i’r gronfa bensiwn. Mae’r rhain yn ofynion rhesymol y gobeithiaf y bydd Tata yn gwrando arnynt, wrth iddo ymgynghori ar hyn o bryd, er mwyn i ni allu cael y math o ymddiriedaeth a’r math o hyder sy’n darparu platfform sicr y mae pawb ohonom angen ei weld ar gyfer sicrhau dyfodol hyfyw, cynaliadwy a theg ar gyfer y diwydiant dur yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig, Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Felly galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol ac allweddol y diwydiant dur i Gymru a’i heconomi.
2. Yn croesawu’r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi er mwyn helpu i sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu a bod swyddi dur yn cael eu cadw ar holl safleoedd TATA yng Nghymru.
3. Yn nodi’r trafodaethau diweddar rhwng undebau llafur a TATA ynghylch pensiynau ac yn cydnabod mai penderfyniad i’r gweithwyr fydd unrhyw newidiadau i’r cynllun pensiwn drwy bleidlais ddemocrataidd ac na ddylai fod unrhyw ymyrraeth wleidyddol.
4. Yn annog TATA i egluro’n glir ac yn fanwl i’r gweithwyr oblygiadau’r cytundeb y maent wedi cytuno arno.
5. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi arwain trafodaethau ag uwch reolwyr TATA dros y misoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod hawliau’r gweithwyr yn cael eu diogelu ac y bydd y trafodaethau hynny’n parhau dros yr wythnosau nesaf.
6. Yn cydnabod y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu gweithwyr, eu swyddi ac i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei henw hi. Caroline.
Ymddangosodd gwelliant 2 ar yr agenda fel a ganlyn.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno â gweithwyr ac undebau o weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot na ddylai gwleidyddion fod yn ceisio dylanwadu ar weithwyr ynghylch y cynnig arfaethedig i gadw’r gweithfeydd ar agor.
2. Yn credu ei bod hi’n hanfodol bod gweithwyr yn cael yr amser a’r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad ar y cynigion ar sail gwybodaeth.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cred UKIP na ddylem fod yn trafod y cynnig hwn sydd gerbron heddiw. Amlinellaf ein safbwynt yn syml. Ar 16 Chwefror, bydd gweithwyr ym Mhort Talbot yn gwneud un o’r penderfyniadau pwysicaf ynglŷn â dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru. Mae’r undebau wedi gweithio’n galed ac wedi negodi’r canlyniad gorau posibl ar gyfer gweithwyr. Mae’n benderfyniad sy’n rhaid i’r gweithwyr eu hunain ei wneud, ac ni ddylem geisio dylanwadu ar y broses honno. Hanner blwyddyn yn ôl, roedd gweithwyr Tata yn wynebu’r posibilrwydd o golli eu swyddi. Yn awr, gofynnir iddynt wneud newidiadau i’w trefniadau pensiwn yn gyfnewid am ailfuddsoddiad sylweddol yn y gwaith dur ym Mhort Talbot—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Ddim ar hyn o bryd, Suzy, diolch. Rydym i gyd am weld gwaith dur Port Talbot yn goroesi ac yn ffynnu, ond nid ein gwaith ni fel gwleidyddion yw dweud wrth weithwyr beth yw’r cynnig gorau ar eu cyfer. Nid oes gwahaniaeth a yw rhywun yn meddwl ei fod yn gynnig da neu’n gynnig gwael yn ein sefyllfa ni; yr unig safbwyntiau sy’n cyfrif yn y mater hwn yw rhai’r gweithlu a’u teuluoedd. Maent yn negodi ar sail yr holl wybodaeth; maent yn siarad â’u cydweithwyr; maent yn siarad i gael cyngor gan yr undebau, ac nid ein lle ni yw dylanwadu ar eu penderfyniadau. Ein gwaith ni, fel gwleidyddion, yw camu’n ôl, caniatáu i’r gweithwyr wneud dewis gwybodus ar sail y wybodaeth a roddir a beth sydd orau iddynt hwy a’u teuluoedd, a bod yn barod wedyn i sicrhau, beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais, ein bod yn gwneud popeth a allwn i sicrhau dyfodol hirdymor i gynhyrchu dur yng Nghymru.
Rwy’n annog Plaid Cymru i roi’r gorau i geisio dylanwadu ar farn y gweithlu a chanolbwyntio yn lle hynny ar geisio perswadio’r byd i brynu’r dur gorau yn y byd, sef dur Cymru. Gallent ddechrau gyda’u ffrindiau yn yr Alban, a benderfynodd brynu dur rhad o Tsieina ar gyfer pont ffordd y Forth yn hytrach na dur Cymru o’r radd flaenaf.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Na wnaf. Ond rydym i gyd yn gwybod nad yw bod yn genedlaetholwr yn golygu gwneud yr hyn y maent yn ei bregethu bob amser. Poeni am fantais wleidyddol y maent. Rwy’n annog yr Aelodau—
Gan eich bod yn ymosod arnaf, a wnewch chi ildio?
Dim diolch. Rwy’n annog yr Aelodau i wrthod cynnig Plaid Cymru heddiw a chefnogi un o’r gwelliannau.
Mae UKIP, Llafur Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig yn unedig yn y gred na ddylem fod yn ymyrryd mewn ymgynghoriad democrataidd rhwng Tata a’i weithlu. Yn yr ysbryd hwn—[Torri ar draws.] Yn yr ysbryd hwn ni fyddaf yn—[Torri ar draws.]
Ie, iawn. A gawn ni wrando?
Yn yr ysbryd hwn ni fyddaf yn bwrw ymlaen â gwelliant 2, a gyflwynwyd yn fy enw. Yn hytrach, bydd UKIP yn cefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy’n annog yr Aelodau i wneud yr un peth.
Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 3—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi sylwadau’r Prif Weinidog ar y cynnig i weithwyr Tata Steel a’i effaith ar ddyfodol hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU o ran cefnogi’r diwydiant dur drwy gyflwyno’r rheolau newydd ar gaffael cyhoeddus a thrwy gynyddu cymorth ynghylch costau ynni, gan sicrhau arbedion o £400 miliwn i’r diwydiant erbyn diwedd tymor Senedd bresennol y DU.
3. Yn cydnabod mai dyma’r unig gynnig sydd ar gael i weithlu Tata Steel ar hyn o bryd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu strategaeth amgen pe digwydd i’r cynnig hwn gael ei wrthod.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i gynnig gwelliant 3 yn enw Paul Davies, mewn cyfnod sy’n heriol iawn, a dweud y lleiaf, ar hyn o bryd, ac amser sensitif yn ogystal. Yr adeg hon y llynedd, yn amlwg, roedd y Siambr hon yn treulio’r newyddion am y gyfres gyntaf o gyhoeddiadau’n ymwneud â diswyddiadau ar safle Port Talbot—a’r safleoedd eraill, yn amlwg. Gadewch i ni beidio ag anghofio, nid ymwneud â Phort Talbot yn unig y mae hyn. Mae’n ymwneud â Throstre, â Llanwern, â Shotton yn y gogledd, a llawer o ddiwydiannau cysylltiedig hefyd sy’n dibynnu ar y safleoedd hyn i allu gweithio, a llawer o is-gontractwyr oddi ar y safle sy’n dibynnu ar gadw’r safleoedd hyn ar agor. Gyda hynny mewn cof, yn amlwg, rydym wedi cyflwyno ein gwelliant i’r cynnig heddiw. Yn fy marn i, nid yw’n iawn o gwbl i ddweud nad yw Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio mewn modd rhagweithiol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r sector dur, i geisio llunio dyfodol i’r diwydiant dur yma, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Bydd y gwelliannau a wnaed ym maes caffael cyhoeddus, er enghraifft, y gwelliannau o ran prisiau ynni, a fydd yn golygu bod £400 miliwn yn cael ei ddychwelyd i ddefnyddwyr ynni uchel dros oes y Senedd hon—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych yn siomedig felly, fel yr wyf fi, fod Llywodraeth y DU wedi oedi dros y cais i’r UE am gymorth gwladwriaethol mewn perthynas ag ymestyn y diwydiannau ynni-ddwys? Ond a ydych yn siomedig hefyd fod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi gwrthod cais i ddod atom i siarad ag Aelodau yn y grŵp trawsbleidiol ar ddur ar y materion hyn ac a yw Llywodraeth y DU yn ymdrin â hwy mewn gwirionedd? Oherwydd, o’r hyn rwy’n ei weld, nid ydynt yn gwneud dim.
Wel, rwy’n gwrthod yr asesiad braidd yn llwm hwnnw. Rwy’n derbyn pam rydych yn gwneud yr asesiad hwnnw, David—
Mae’n wir.
[Yn parhau.]—oherwydd, yn amlwg, rydych yn cynrychioli Aberafan ac rydych yn Aelod Llafur yn y Cynulliad hwn. Ond mae’n werth ystyried bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn fab i gyn-weithiwr dur gydag oddeutu 30 mlynedd o wasanaeth, rwy’n credu, ar safle Port Talbot, ac mae’n falch iawn. Yn falch iawn. [Torri ar draws.] Wel, os byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn hoffi ymyrryd yn ogystal, fe eisteddaf yn llawen a gwrando arni hithau hefyd, ond rwy’n amau a fuaswn yn dysgu llawer. Ond y mater gerbron yw bod gennym Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy’n ymladd yn y pen draw ar ran y gymuned ddur y mae ef ei hun yn hanu ohoni. Mae’r Prif Weinidog—. Mae’r ddau Brif Weinidog wedi gweithio—
Lee Waters a gododd—
Fe gymeraf ymyriad mewn munud, Lee, ond gadewch i mi wneud ychydig o gynnydd, os caf. Maent ill dau’n gweithio ar hyn yn ddiflino gyda’r Llywodraeth i wneud yn siŵr fod yna ddyfodol, fel y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo, i ddiwydiant dur Prydain, y nodwyd ei fod yn rhan annatod o’r strategaeth weithgynhyrchu a’r strategaeth ddiwydiannol y mae Theresa May wedi’u rhoi wrth wraidd polisi Llywodraeth y DU. Fe gymeraf yr ymyriad.
Diolch yn fawr iawn i chi am ildio. Rwy’n clywed yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud am y balchder sydd gan Alun Cairns yn ei etifeddiaeth o ran cynhyrchu dur, ond beth y mae wedi’i gyflawni? Pan gyfarfu David Rees a John Griffiths a minnau â phrif weithredwr Tata Steel UK cyn y Nadolig, roedd yn glir iawn: roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu, ac wedi cyflwyno cymorth ymarferol, a hyd yn hyn nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflawni dim. Ei eiriau ef, nid fi.
Wel, rydych yn siarad o hyd am yr hyn mae Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu. Rwyf wedi tynnu sylw at y £400 miliwn sy’n cael ei ddychwelyd i ddefnyddwyr ynni uchel. Rwyf wedi siarad am help a chymorth yn sgil mynd i Ewrop a gofyn am osod tariffau ar ddur. Ond nid yw mor syml â gosod tariffau ar ddur. Rhaid i chi edrych ar y strategaeth gyfan i sicrhau nad yw sector arall, megis cwmnïau hedfan, er enghraifft, yn cael eu cosbi yn ogystal. Mae hynny wedi bod yn rhan o ymagwedd gydgysylltiedig i sicrhau bod y diogelwch yn cael ei roi ar waith i atal dympio dur. Aeth ad-daliadau ynni uchel yn ôl i mewn i’r sector dur, ond rwyf am wneud y pwynt hwn: cefais y cwestiwn ysgrifenedig hwn yn ôl gan Brif Weinidog Cymru yr wythnos hon. Gofynnais gwestiwn cymharol syml ar ôl cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, am ei fod yn gwneud y pwynt nad yw’n ymddangos bod Prif Weinidog y DU yn gwneud unrhyw beth. Gwneuthum y pwynt hwn:
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau faint o gyfarfodydd y gofynnwyd amdanynt gyda Theresa May ers ei phenodi’n Brif Weinidog yn ymwneud yn benodol â datblygiadau gyda’r argyfwng Tata Steel yng Nghymru?
Daeth yr ateb yn ôl:
Mae dyfodol cynhyrchu dur gan Tata yng Nghymru wedi cael ei sicrhau i raddau helaeth drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r rheolwyr a’r staff yn Tata Steel. Rydym wedi gweithio hefyd, wrth gwrs, gyda Llywodraeth y DU.
Rwy’n casglu o hynny: dim. Gofynnais sawl cyfarfod y gofynnodd amdano. Nid yw wedi gofyn am un cyfarfod—dim un cyfarfod. Dyna Brif Weinidog Cymru. Roedd gennym ddull cydgysylltiedig, trawsbleidiol o gefnogi’r sector dur yma yng Nghymru mewn gwirionedd, ac fe weithiodd hwnnw’n llwyddiannus iawn, buaswn yn awgrymu, ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf ac ar ddechrau’r Cynulliad hwn. Rydym ar adeg sensitif iawn yn y trafodaethau, ac mae’n bwysig fod y gweithlu, fel y pwysleisiodd Caroline Jones, yn cael lle i drafod, ystyried a threulio canlyniadau’r cynnig sydd ar y bwrdd mewn gwirionedd. Nid wyf yn derbyn nad ein lle ni yw dadlau a thrafod hyn. Rwy’n credu ei bod hynny’n bwysig i wleidyddion oherwydd, yn y pen draw, os nad yw’r cytundeb yn llwyddo, bydd gwleidyddion ar flaen y gad yn ceisio gweithio drwy ddewis amgen neu’n rhoi atebion ar waith. Ond nid yw’n iawn i wleidyddion godi bwganod mewn gwirionedd neu ledaenu straeon sy’n cynhyrfu’r dyfroedd. Nid wyf yn dweud fy mod wedi gweld hynny, rhaid i mi ddweud; nid wyf wedi gweld hynny. Ond gallai’n hawdd ddod i hynny.
Y pwynt y mae angen i ni fyfyrio arno yma yw bod y diwydiant cynhyrchu dur wedi bod yn ddiwydiant cyfnewidiol ers degawdau. Yr adeg hon y llynedd roedd hi’n gywir i nodi bod y gwaith ym Mhort Talbot yn colli £1 filiwn y dydd. Yn y pen draw, mae’r newidiadau yng nghyfraddau arian wedi ei wneud yn amgylchedd llawer mwy cystadleuol i werthu’r dur hwnnw ar farchnad y byd mewn gwirionedd. Ond oni bai ein bod yn sicrhau’r buddsoddiad gan Tata Steel, sy’n uwchgwmni byd-eang—a dim ond uwchgwmnïau byd-eang sy’n gallu rhoi arian o’r fath tuag at weithgarwch ym Mhort Talbot, Shotton, Trostre a Llanwern—bydd y dyfodol yn llwm iawn.
Felly, rwy’n gobeithio y rhoddir amser a lle i’r gweithlu ddatblygu a thrafod y cynigion sydd gerbron a phleidleisio’n unol â hynny. Rwy’n gobeithio y bydd y consensws a oedd yn bodoli ar y pen hwn i’r M4 ac ar ben arall yr M4 yn parhau i ddatblygu’r strategaeth i ddiogelu cynhyrchiant dur yma yn y Deyrnas Unedig ac yn anad dim, fod gwleidyddion yn ymateb i’r her wrth i ni symud ymlaen. Beth bynnag fydd canlyniad y cynnig, bydd dur yn parhau i fod yn farchnad gyfnewidiol iawn wrth i ni symud ymlaen yn ystod y degawd nesaf.
Diolch yn fawr iawn. Bethan Jenkins.
Diolch. Rwyf wedi ystyried y dadleuon y mae rhai gwleidyddion wedi’u gwneud, ac eraill yn y byd gwleidyddol, y dylem gadw ein trwynau allan o’r cytundeb hwn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd gan Tata i’w weithlu. Gallaf weld yr hyn y maent yn ei ddweud, ond wedyn roeddwn yn ystyried pa bryd erioed y bu’n wir nad oedd gan wleidyddion farn ar faterion o’r fath. Cyfeiriodd Adam Price at bensiynau glowyr. Gweithwyr ASW—soniodd Adam eto am John Benson, a oedd yma yn y Cynulliad heddiw, yn lobïo pobl wrth iddynt ddod i mewn. Visteon, Tata. Roedd gwleidyddion ym Mhort Talbot ar y platfform, os cofiaf, pan gawsom y ddadl hon dros bensiynau gyntaf, gyda barn ar y ffordd ymlaen. Rwy’n meddwl bod rhwymedigaeth foesol arnom fel gwleidyddion i arwain yn hyn o beth, ac i ddangos bod gennym farn a ffordd ymlaen. Nid wyf yn dweud y dylem ddweud wrth y gweithwyr sut y dylent bleidleisio, ond rwy’n dweud bod angen i ni fod yn rhan o’r drafodaeth ar sut y bydd y broses honno’n digwydd. Ac rwy’n credu—ac rwy’n credu’n gadarn—nad yw’r undebau llafur wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwnnw. Bron yn ddyddiol, rwy’n siarad â gweithwyr sy’n dweud, ‘Rwyf am iddynt ddweud wrthyf. Rwyf am iddynt gymryd safbwynt, er mwyn i mi gael yr holl wybodaeth mewn modd cydlynol ac adeiladol. Rydym yn mynd i sioeau teithiol Tata Steel—mae hynny’n dda, mae angen i’r gweithlu gael y wybodaeth honno gan Tata Steel. Ond mae angen felly i ni gael arweiniad gan yr undebau llafur ynglŷn â sut y dylem bleidleisio’.
Rwy’n credu nad ydynt yn cymryd y cyfrifoldeb y dylent ei gymryd, ac nid ydynt yn cynrychioli eu gweithwyr fel y dylent fod yn ei wneud. David Rees.
Diolch i’r Aelod am ganiatáu i mi ymyrryd. A ydych yn derbyn y ffaith—rydych yn siarad am y sioeau teithiol—fod cynrychiolwyr undebau llafur hefyd yn y sioeau teithiol hynny hefyd yn cyflwyno gwybodaeth i’r rhai sy’n eu mynychu? Felly, mae’r undebau llafur yn cyflwyno gwybodaeth i’r aelodau mewn gwirionedd os ydynt yn mynychu’r sioeau teithiol hefyd.
Mae’n wir, ond nid oes ganddynt safbwynt ar y cytundeb hwn, ac rwy’n meddwl y dylai fod ganddynt safbwynt. Os ydynt yn credu mai dyma’r cytundeb iawn i’w gymryd, yna dylent ddweud hynny, ac nid wyf wedi eu clywed yn mynd mor bell â hynny.
Yn gyffredinol, gwelais fod y gweithwyr dur y siaradais â hwy wedi’u rhannu’n ddau grŵp. Nid gwahaniaethu ar sail oed yw dweud bod y staff hŷn yn fwy diysgog, yn fwy tebygol o bleidleisio ‘na’ i unrhyw gynnig sy’n cau cynllun pensiwn Dur Prydain—a phwy all eu beio? Ers y 1980au, mae Llywodraethau olynol wedi ceisio ailddiffinio pensiynau fel buddion. Mae hyn yn dal i fod yn boenus o wir yn achos cyn-weithwyr ASW. Cyflogau gohiriedig yw pensiynau—mae hynny’n ffaith. Dylai’r gweithlu gael yr hawl, felly, i gael y pensiwn hwnnw pan fyddant yn ymddeol.
Rwy’n credu y gall y cwmni gyfrif ei hun yn lwcus ei fod wedi ei chael hi mor hawdd gan y cyfryngau. Mae’n amlwg bellach fod y colledion mawr a hysbysebwyd yn groes i’r cynllun—yr hyn y gobeithiai’r cwmni ei ennill—nid colledion go iawn. Fel y crybwyllodd Adam yn gynharach, rydym hefyd wedi gweld y diffyg yn y cynllun pensiwn yn mynd i fyny ac i lawr, fel llong bleser ar y môr mawr yn cael ei chwipio gan y corwynt. Roedd yn £2.5 biliwn, yn £2 biliwn, yn £700 miliwn, yn £480 miliwn ac yn fwyaf diweddar, yn £50 miliwn. Ac yn awr rwy’n darllen ei fod yn anelu’n ôl at £2 biliwn. Mae’r rhesymau a roddwyd yn niferus ac yn amrywiol, ond dyma’r hyn nad wyf yn ei ddeall: os yw Tata mor bryderus am gynllun pensiwn Dur Prydain, pam ei fod yn rhedeg i mewn i freichiau ThyssenKrupp, a’i gronfa bensiwn €9.7 biliwn a oedd wedi’i thanariannu o ddwy ran o dair chwe mis yn ôl? Efallai y bydd yn gwneud yr un math o adferiad gwyrthiol ag y gwelsom gyda chynllun pensiwn Dur Prydain.
Gwn fod y gweithwyr dur iau yn poeni mwy ynglŷn â sut y bydd yr ymrwymiadau, nid y gwarantau, yn gweithio mewn gwirionedd—a fydd ganddynt fywyd gwaith mewn dur. I’r perwyl hwnnw, ceir pob math o gwestiynau am y buddsoddiad a addawyd o £1 biliwn. Unwaith eto, daw hwn gydag amodau ynghlwm wrtho. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, mae’n ddrwg gennyf, David.
Gan ddarllen rhwng llinellau’r hyn y mae Tata a’r aml-undeb wedi’i ddweud, nid yn unig bydd y gweithrediadau presennol yn y DU yn ariannu’r buddsoddiad hwn, ond mae’n ddibynnol ar safleoedd y DU yn gwneud dwywaith cymaint â hynny bob blwyddyn. Mae’r ffigur o £200 miliwn y flwyddyn yn darged yn y cynllun trawsnewid a ddechreuodd gyda thros 1,000 o swyddi’n cael eu colli ar ddechrau’r flwyddyn hon. Er bod y cynnig hwn wedi’i archwilio a’i gymeradwyo gan ymgynghorwyr ar ran yr undeb, mae’n parhau i fod yn ofyniad mawr mewn marchnad fyd-eang lle y mae gormod o gapasiti a mewnforion rhad yn parhau i fod yn broblemau parhaus, beth bynnag am y gostyngiadau yng nghost ynni.
Rwyf wedi crybwyll sioeau teithiol Tata, ac rwyf wedi sôn am y ffaith fod llawer o bobl yn dal i fethu penderfynu beth y dylent ei wneud am y cytundeb penodol hwn. Fe orffennaf gyda dyfyniad a gefais gan un o’r gweithwyr dur. Mae’n dweud, ‘Rwyf wedi rhoi dros 30 mlynedd o fy mywyd gwaith i’r gwaith. Yn y cyfnod hwnnw, rwyf wedi gweld llawer o newid, a llawer o fechgyn da yn mynd a dod. Rwy’n cofio Dur Prydain, Corus, ac yn awr Tata. Yn yr amser hwnnw, rydym wedi dod yn well ac yn well am wneud dur, gan gyrraedd nodau cynhyrchu uwch nag erioed o’r blaen, un ar ôl y llall, ac mae’r gwaith sydd gennym yn mynd yn hŷn ac yn hŷn. Dyn dur wyf fi; rwy’n gwneud dur. Rwy’n hoffi meddwl fy mod i’n dda am ei wneud. Hoffwn pe bai fy undeb yn dda am ofalu amdanaf. Rwy’n eu talu i wneud hynny; yn lle hynny, tawelwch. Rwy’n mynd adref ac mae fy ngwraig yn gofyn i mi, "Wel, beth y mae hyn i gyd yn ei olygu?", ac nid wyf yn gwybod. Rwy’n ddigon clyfar i wybod, pan fyddwch yn cynhyrchu mwy nag erioed o’r blaen a bod eich cyflogwr yn ymateb drwy dorri swyddi a bygwth cau, mae angen edrych yn fanwl ar unrhyw gytundeb y mae’n ei roi ar y bwrdd. Y cyfan yr wyf am ei wybod yw pwy fydd yn ein helpu? Rydym wedi arfer â gwleidyddion yn ein hanwybyddu; mae’n ymddangos bellach fod ein hundebau llafur ein hunain yn gwneud yr un peth. Mae arnom angen eu cymorth.’
Gadewch i ni fod yn glir beth rydym yn ei wynebu yma: rydym yn wynebu blacmel economaidd gan gwmni rhyngwladol sy’n chwarae Llywodraethau a gweithwyr yn erbyn ei gilydd er mwyn ceisio lleihau ei gostau a gwneud yr elw mwyaf. Cofiaf gau gwaith Glynebwy, ac ar y pryd, fe ddywedodd cadeirydd Corus, Brian Moffat, wrth Bwyllgor Dethol Cymreig Tŷ’r Cyffredin fod ei gwmni yn y busnes o wneud arian, nid gwneud dur. Mae’r gweithwyr ledled Cymru wedi bod drwy gyfres o argyfyngau, ac mae eu dicter yn ddealladwy. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda gweithwyr o fy etholaeth sy’n gweithio yng ngwaith Trostre ac yng ngwaith dur Port Talbot. Maent yn dweud stori ar ôl stori am fod wedi treulio degawdau’n gweithio saith sifft ar ôl ei gilydd, gweithio sifftiau drwy benwythnosau a gwyliau banc, nosweithiau, dyddiau hir yn gweithio mewn amgylcheddau anodd a chaled—ar yr addewid y gallent ymddeol yn 55 ar bensiwn gweddus. Ar ôl blwyddyn erchyll a hwythau wedi wynebu ymyl y dibyn, rhaid iddynt roi’r gorau yn awr i’r hawliau pensiwn y maent wedi gweithio’n galed i’w sicrhau. Maent wedi colli ffydd yn eu cwmni. Disgrifiodd un ohonynt y peth yn drawiadol iawn: ‘Gofynnir i ni neidio i mewn i dwll du, tra’u bod hwy’n sibrwd, ‘Fe ddaliwn ni chi.’
Mae’r dicter yn real ac yn ddealladwy ac mae yna berygl go iawn y bydd y bleidlais yn cael ei cholli. Mae angen i Tata wrando ar hyn. Os ydynt o ddifrif eisiau i’r fargen hon gael ei derbyn, mae angen iddynt ystyried pa gonsesiynau pellach y gallant eu cynnig, yn enwedig i’r gweithwyr dur sydd o fewn 10 mlynedd i ymddeol, sy’n peri’r bygythiad mwyaf i’r bleidlais, rwy’n credu. Ond rwy’n poeni am y gemau gwleidyddol sy’n cael eu chwarae. Byddai’n drychineb i economi Cymru pe bai Tata yn rhoi ei gweithrediadau yng Nghymru yn llaw’r derbynnydd, ac mae’n amlwg mai dyna y maent yn bygwth ei wneud. Pe bai hynny’n digwydd, nid yn unig y byddai’r gwaith yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ond byddai pensiynau’n mynd i’r gronfa ddiogelu pensiynau, a byddai’r hawliau’n diflannu. Byddent yn colli nid yn unig y 10 y cant, ond fel yr oedd John Benson yn dadlau’n llwyddiannus heddiw o’r cynsail a osododd Allied Steel and Wire, bydd swm y pensiwn y byddent yn ei gael yn y pen draw yn nes at 50 y cant.
Cymharwch hyn â ble yr oeddem 10 mis yn ôl. O leiaf mae gennym rywfaint o ymrwymiad yn awr. Mae amheuaeth ynglŷn â pha mor ddiffuant yw’r ymrwymiad hwnnw. [Torri ar draws.] Iawn.
A yw’n derbyn bod gwahaniaeth yma? Oherwydd, wrth gwrs, mae gan Tata riant-gwmni ac yng nghyfraith Cymru a Lloegr yn unig, ceir atebolrwydd anghyfyngedig o dan Ddeddf Pensiynau 2014. Gall y rheoleiddiwr pensiynau fynd ar ôl asedau Tata mewn gwirionedd pa un a ydynt yn Ewrop, India, neu ble bynnag ar draws y byd.
Ni’m gwelwch yn amddiffyn Tata yn y sefyllfa hon, ac nid oes gennyf unrhyw syniad pa drefniadau sydd gan Tata ar waith i ymdrin â’r posibilrwydd o golli’r bleidlais hon. Ond nid ydynt yn wirion ac maent yn glir iawn eu barn, os byddant yn colli’r bleidlais, byddant yn mynd. A beth a wnawn ni wedyn? Dyma pam rwy’n credu ei bod yn anghyfrifol i annog y pleidleiswyr, i chwarae ar y dicter dealladwy hwn, eu hannog i bleidleisio ‘na’, oherwydd ble rydym ni wedyn? Roedd y pwynt a wnaeth Adam Price am y cymhellion sy’n sail i hyn a’r rhwymedigaethau ar y gronfa bensiwn a’r gystadleuaeth o’r gwaith yn yr Iseldiroedd yn ddadl argyhoeddiadol iawn, ond y ffaith galed amdani o hyd yw mai dyma’r cynnig sydd gennym ar y bwrdd—dyma’r cytundeb gorau y gallai’r undebau llafur ei negodi a dyma’r unig gynnig oedd Tata yn barod i gytuno iddi, er gwaethaf y pwysau a’r cymhellion a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. Oni bai am y buddsoddiad £4 miliwn sydd ar y bwrdd gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai cynnig yn bodoli yn y lle cyntaf. A daw’r £4 miliwn gydag amodau ynghlwm wrtho. Rydym wedi gwneud popeth a allwn i’w dynnu’n ôl o ymyl y dibyn ac yn awr mae’n rhaid i’r gweithlu ddewis. Ond rwy’n argymell gofal ar ran y rhai yn y Siambr hon sy’n galw ar y gweithwyr i’w wrthod, oherwydd bydd y cyfrifoldeb arnynt yn drwm os yw’r gweithfeydd yn methu.
Ein hunig rym go iawn—dyma ble y mae gennym ddewis—yw osgoi bod yn y sefyllfa hon eto. Mae angen i ni leihau ein dibyniaeth ar gwmnïau rhyngwladol mawr o dramor. Mae angen i ni groesawu arloesedd ac wynebu’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae’n ffaith sobreiddiol fod y 7,000 o swyddi sydd yn y fantol yn Tata yn ddim o gymharu â’r 700,000 o swyddi yng Nghymru sydd dan fygythiad yn sgil awtomeiddio. Dyna’r hyn y dylem fynd i’r afael ag ef yma: edrych ymlaen er mwyn dod allan o’r argyfwng tymor byr hwn a dechrau cynllunio ar gyfer dyfodol lle rydym yn cofleidio’r economi sylfaenol ac arloesedd. Rwy’n gobeithio y bydd gweithwyr Tata yn pleidleisio o blaid derbyn y pecyn, nid am fy mod yn credu ei fod yn gytundeb perffaith—nid wyf yn meddwl hynny—ond hyd nes y lluniwn strategaeth economaidd newydd radical a fydd o fudd i weithwyr ar draws Cymru, dyma’r unig gynnig sydd gennym.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma. Rydw i’n credu y dylem ni fod yn cael dadl ar y pwynt yma, i adrodd yn ôl ar un o’r pwyntiau a grybwyllwyd eisoes. Mae pob peth yn fater gwleidyddol p’un a ydym yn ei licio fe ai peidio. Rydw i’n credu buasai pawb yn cytuno yn y Siambr yma ein bod ni eisiau gweld diwydiant dur yma yng Nghymru sy’n llwyddo, ac, yn wir, yn ffynnu, am ddegawdau i ddod. Rydym ni wedi gweld y penawdau, ac nid ydw i yn mynd i ailadrodd y dadleuon bendigedig sydd wedi cael eu gosod gerbron gan Adam Price a Bethan Jenkins eisoes. Wrth gwrs, mae yna nifer o atebion hefyd wedi cael eu gwyntyllu dros y misoedd diwethaf a thrafod rôl y Llywodraeth yma yng Nghymru a beth yn union gallwn ni ei wneud ynglŷn â phroblem Tata ym Mhort Talbot. Rydym ni wedi bod yn cael y dadleuon ynglŷn â chyfraddau busnes a’r angen sylfaenol i fuddsoddi mewn sgiliau, ac, wrth gwrs, yr holl fusnes o chaffael cyhoeddus.
Mae’n rhaid i ni gael strategaeth fwy eang, a fy mwriad i yn yr ychydig yma o’r ddadl ydy edrych yn fwy eang, efallai, ar sut y gallwn ni gael cynllun sy’n mynd i wthio’r ffordd ymlaen. Achos mae’n anodd iawn i Lywodraeth Cymru, gyda phob parch, allu dylanwadu ar y marchnadoedd byd eang, ond rydw i’n credu y gall Llywodraeth Cymru weithredu i greu marchnad fwy iach i ddur yma yng Nghymru drwy greu strategaeth ddiwydiannol—strategaeth ddiwydiannol gydag elfennau creiddiol yn canolbwyntio ar sgiliau a’r angen i fagu rhagor o sgiliau, ac sy’n mynd i’r afael â’r holl fusnes o gaffael cyhoeddus a sut yr ydym ni’n gwneud hynny, ac, wrth gwrs, yn wirioneddol mynd i’r afael â’r holl fusnes o isadeiledd a’r angen i fynd ar ôl isadeiledd, fel ffordd o’n cael ni allan o’r picl economaidd yr ydym ni ynddo fo yma ar hyn o bryd.
Rydym ni wedi cael sawl dadl eisoes ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru, y NICW bondigrybwyll. Ac, wrth gwrs, mae trafodaethau yn mynd ymlaen ac rydym ni’n wedi eu chael ac yn gobeithio dwyn perswâd, er mae’n dal yn wir ar hyn o bryd nad yw ein NICW ni ym Mhlaid Cymru yn ymdebygu i’ch NICW chi yn y Llywodraeth. Ond mae yna arwyddion bod pethau yn gallu newid hefyd, ac, wrth gwrs, mae angen i bethau newid. Mae yna £40 biliwn gwerth yr arian enfawr yna o isadeiledd sydd yn aros i’w adeiladu. Mae’n rhaid i ni ryddhau’r potensial yna yn ariannol, gan, wrth gwrs, ddefnyddio adnoddau megis dur yn lleol i’n helpu ni gyflawni’r gwaith sydd angen ei wneud.
Cawsom ni newyddion cyffrous ynglŷn â’r morlyn môr llanw bae Abertawe wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae yna faterion ariannol eto i’w cytuno ar ochr arall yr M4, ond mae yna gyffro mawr, ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r isadeiledd a sgiliau a deunydd crai ddod o rywle, a dyna pam fo angen datblygu strategaeth gynhwysol ddiwydiannol yma yng Nghymru, gyda dur yn rhan hanfodol ohono fo. Felly, mae’r ddadl yma y prynhawn yma yn hynod bwysig. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cael y ddadl. Nid ydw i’n credu bod yna achos lle dylem ni byth fod ddim yn cynnal dadl pan fo gyda ni bobl yn ein hetholaethau sydd yn cael eu peryglu yn uniongyrchol gan beth sy’n mynd ymlaen ynglŷn â dyfodol eu swyddi nhw a’u pensiynau. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gynnal y ddadl, ac nid oes yna ddim ffrwyno ar yr awydd i ni allu gwyntyllu ein profiadau a beth rydym ni’n poeni amdano fo ar sail profiad y sawl sydd yn byw yn ein hetholaethau ni. Ond hefyd mae angen i Lywodraeth Cymru edrych yn ehangach a gweithio yn rhagweithiol a chreu strategaeth ddiwydiannol i Gymru gyda dur yn ei chanol. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddatgan fy mod yn aelod balch o Unite, un o’r undebau a gynrychiolir yn y gwaith dur, wrth gwrs, ynghyd â Community a GMB? Rwy’n gobeithio erbyn hyn y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn ymwybodol o fy angerdd dros y diwydiant dur, fy nghred mewn dyfodol cryf, hyfyw, fy mharch tuag at y gweithwyr dur, a fy ymrwymiad llwyr iddynt hwy, eu teuluoedd a fy nghymunedau.
Roedd yr argyfwng dur yn gwbl glir dros 18 mis yn ôl pan gyhoeddodd SSI fod Redcar yn cau, a dechreuodd Llywodraeth y DU ddod ychydig yn fwy effro mewn gwirionedd i’r heriau sy’n wynebu un o’n diwydiannau sylfaenol. Gwta 12 mis yn ôl y cyhoeddwyd y byddai dros 1,000 o swyddi’n cael eu colli yn Tata Steel UK, a dechreuwyd gweld effaith yr argyfwng hwnnw yma yng Nghymru—wedi’i ddilyn ymhen ychydig fisoedd gan gyhoeddiad y byddai gwaith Tata Steel UK yn cael ei werthu. Ers hynny, mae gweithwyr dur a’u teuluoedd, yn enwedig y rhai yn fy nhref enedigol, wedi mynd drwy uffern heb wybod a fyddai gwaith dur ar ôl yn y dref mewn gwirionedd, a swydd i fynd iddi.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Llywodraeth Lafur hon a’r undebau dur wedi rhoi arweiniad cryf er mwyn diogelu cynhyrchiant dur yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn warthus nad yw Llywodraeth y DU wedi dangos yr un ymrwymiad i’n diwydiant dur. Yn wir, ers newid y Prif Weinidog, ers yr haf diwethaf, prin y clywsom unrhyw gyfeiriad mewn gwirionedd at gynnal diwydiant dur cryf a hyfyw gan unrhyw aelod o Lywodraeth Theresa May. Mae angen i hynny newid. Mae angen iddynt wneud y gefnogaeth honno’n fwy cyhoeddus.
Nid yw’r heriau sy’n wynebu ein diwydiant dur wedi diflannu. Do, mae’r gostyngiad yng ngwerth y bunt wedi helpu’r sector i wella ei sefyllfa ariannol, ond ni ellir seilio cynaliadwyedd hirdymor ar yr amrywiadau, sy’n gyfnewidiol, yn y cyfraddau cyfnewid. Yn yr UE a’r DU, cafwyd cynnydd o 0.8 y cant yng nghyfradd y twf yn y galw am ddur yn 2016 ac mae cynnydd o 1.4 y cant yn y rhagolygon ar gyfer 2017. Mae hynny’n dal i fod dros 20 y cant yn is na ffigurau’r galw ar gyfer 2007. Mewn gwirionedd, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn amcangyfrif y bydd gorgapasiti o 700 miliwn tunnell o ddur yn fyd-eang y flwyddyn nesaf—gyda 400 miliwn tunnell ohono’n ddur o Tsieina, gyda llaw—a bydd y gystadleuaeth fyd-eang honno’n parhau i fod yn heriol a dympio’n dal i fod yn fygythiad.
Pan ychwanegwn at hyn effaith debygol Brexit a’r cyhoeddiad ddoe y bydd y DU yn gadael y farchnad sengl—ac mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod Tata yn allforio tair gwaith cymaint i 27 gwlad yr UE ag y mae’n ei wneud i unrhyw wlad arall—mae’n amlwg fod yna ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau bod y diwydiant yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Rhaid i ni barhau i wneud yr hyn a allwn i gyflawni hynny.
Mae’r Llywodraeth Lafur eisoes wedi cytuno ar dros £16 miliwn o fuddsoddiad i Tata i gefnogi hyfforddiant sgiliau ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, ac ar gyfer gwaith ar ailddatblygu’r gwaith pŵer ym Mhort Talbot fel rhan o’r £16 miliwn a glustnodwyd fel cymorth ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru—arian sy’n amodol ar ymrwymiad gan Tata i barhau gyda dwy ffwrnais chwyth ym mhen trwm y gwaith ym Mhort Talbot—a buddsoddi yn y dyfodol. Mae hefyd wedi dangos uchelgais i sefydlu canolfan ymchwil dur ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, i geisio gwneud Cymru yn ganolfan ar gyfer cynhyrchu dur premiwm.
Mae’r undebau dur wedi gweithio’n ddiflino i ddod i gytundeb ar y cynllun trawsnewid, i herio Llywodraethau’r DU a’r UE ac i sicrhau buddsoddiad a diogelwch swyddi ar gyfer y gweithlu. Mae’r cynnig presennol sy’n cael ei ystyried gan y gweithwyr dur yn benllanw trafodaethau caled a maith gan yr undebau gyda’r nod hwnnw. Maent wedi bod yno ac fe fyddant yno ar gyfer eu haelodau, ac mae’n resyn fod unrhyw un yn honni eu bod yn gwneud cam a’u haelodau. Dylai unrhyw un sy’n gwneud sylwadau o’r fath eu tynnu’n ôl yn fy marn i, ac ymddiheuro i’r undebau.
Nawr yw’r amser i ddangos parch at weithwyr dur a chaniatáu iddynt chwilio am ffeithiau llawn y cytundeb sy’n cael ei gynnig. Rwy’n cytuno gyda fy nghyd-Aelod o Lanelli; nid yw’r cynigion hyn yn wych, nid ydynt yn ardderchog ac mae yna heriau difrifol. Fy marn bersonol yw hyn: pan godwyd materion yn ymwneud â’r sector cyhoeddus dan Lywodraeth y DU, roeddwn yn gyfan gwbl o blaid sicrhau bod unrhyw un a oedd mewn cynllun yn cael caniatâd i aros yn y cynllun hwnnw—roeddent wedi prynu i mewn iddo, dylent gael aros ynddo. Dyna yw fy marn o hyd. Nid wyf wedi newid fy meddwl. Ond yn yr achos hwn, nid wyf yn mynd i fynegi barn ynglŷn â pha ffordd y dylent bleidleisio ar hyn.
Mae’n bwysig ein bod yn eu galluogi i chwilio am y ffeithiau llawn o amryw o ffynonellau—ac fe grybwyllais hyn wrth Brif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK mewn gwirionedd: ‘Sicrhewch gyngor annibynnol ar gyfer eich gweithwyr a gwnewch yn siŵr ei fod yn annibynnol’—er mwyn iddynt bwyso a mesur y cynigion a’r canlyniadau posibl, felly pa ffordd bynnag y byddant yn pleidleisio, bydd yn seiliedig ar eu hystyriaethau personol ac nid ar sïon neu ystryw wleidyddol.
Lywydd, mae cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn y broses hon, i anwybyddu’r trafodaethau a chymryd lle’r undebau mewn unrhyw drafodaethau pellach gyda’r cwmni ar gytundeb ar gyfer y gweithwyr. Dyna y mae’n ei ddweud. Gobeithio nad yw Plaid Cymru yn awr yn dweud na ddylai’r undebau gael rôl mwyach yn y broses o lunio cytundebau gyda’r cwmni ac y dylai Llywodraethau roi cynigion i mewn i’r aelodau yn lle hynny.
Rydym i gyd yn deall bod y diwydiant dur yn fusnes cyfnewidiol a chylchol. Mae’n hynod o sensitif i amrywiadau’r economi fyd-eang.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Fe ildiaf, gwnaf.
Rwy’n ddiolchgar. Clywsom yn y ddadl gynharach, oni wnaethom, am bwysigrwydd y model partneriaeth gymdeithasol, sy’n fodel teiran—cwmni, undebau a’r Llywodraeth. ‘Does bosibl, yng nghyd-destun y diwydiant dur, nad oes yna rôl gwbl ganolog i’r Llywodraeth ac rwy’n cytuno, i Lywodraethau—lluosog; Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Rwy’n credu bod ail bwynt y cynnig mewn gwirionedd yn amlygu bod cydweithio’n bwysig. Mae pwynt cyntaf y cynnig yn dweud y dylai’r Llywodraeth gymryd lle’r undebau yn y trafodaethau. Felly, mae’n wahaniad—yn gymysgedd o’r ddau. Yn 2016, fe welsom Brexit, Trump a Rwsia sy’n fwyfwy rhyfelgar. Yn 2017, rydym eisoes yn gweld heriau gyda Tsieina a’r byd masnachu gan weinyddiaeth Trump, a allai gael mwy o effaith ar Ewrop, ac rydym yn aros i weld beth fydd sgil-effaith hynny ar ein diwydiant dur. Mae gennym ffordd bell i fynd. Mae’n ansicr ac yn ansefydlog. Mae angen i ni greu diwydiant cynaliadwy. Mae’n rhaid i lywodraethau a gwleidyddion weithio gydag undebau a gweithwyr dur i gyflawni hynny. Ein gwaith ni yw gweithio gyda hwy, fel yr ydych yn ei nodi’n hollol gywir, mewn partneriaeth, ond nid datgan ein safbwyntiau ni wrthynt.
Fel Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru, wrth gwrs, ac fel rhywun sy’n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae’n bwysig ein bod yn cofio bod hyn yn ymwneud â mwy na Phort Talbot yn unig, fel y mae’r Aelodau eisoes wedi ein hatgoffa. Roedd llawer iawn o ofid a gwae y tro diwethaf i mi ymweld â gweithwyr dur Shotton y llynedd. Roedd y cwmwl a oedd yn hongian dros holl fenter Tata wedi ymestyn hyd yn oed at un o’r safleoedd mwyaf proffidiol ac arloesol yn gyson lle y mae 700 o weithwyr, wrth gwrs, yn cynhyrchu deunyddiau arloesol a dur gorffenedig sy’n cael ei allforio ar draws y byd. Ond fel y soniwyd eisoes yn y gorffennol yn y Siambr hon, mae’n cael ei ddefnyddio yn helaeth yng Nghymru yn ogystal: mae Stadiwm y Mileniwm, y mwyaf eiconig o’n hadeiladau cenedlaethol, wrth gwrs, wedi ei orchuddio â dur unigryw Shotton.
Er iddynt gynhyrchu elw dros y degawd diwethaf, nid yw gweithwyr dur yn Shotton wedi cael codiad cyflog yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac er gwaethaf y cyfraniad y maent yn ei wneud i’r cwmni, mae llawer ohonynt yn teimlo bod gwn yn cael ei ddal wrth bennau gweithwyr mewn perthynas â phensiynau ac mae’r teimlad hwnnw, yn ddealladwy, yn arbennig o amlwg ymhlith y rhai sydd dros 50 oed, y gallai rhai ohonynt, fel y gwyddom, golli swm sylweddol os yw’r cynnig pensiwn yn pasio. Mae’r cynnig pensiwn yn seiliedig ar addewid tymor byr. Fel y clywsom, ac fel y cawsom ein hatgoffa gan Adam, nid yw’n addewid sicr. Nid oes gennym unrhyw sicrwydd na fydd Port Talbot dan fygythiad eto ymhen pum mlynedd neu lai na hynny hyd yn oed a bydd y gweithwyr yn y cyfamser yn gadael gyda phensiwn salach.
Wynebodd Shotton ei awr waethaf yn 1980, wrth gwrs, pan gyhoeddwyd y nifer fwyaf o ddiswyddiadau mewn un diwrnod yng ngorllewin Ewrop gan olygu bod 6,500 o weithwyr dur yn colli eu swyddi. Parodd y dinistr economaidd a achosodd hynny i Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint i gyd a thu hwnt am genhedlaeth wrth gwrs a rhaid i hynny beidio â digwydd i Bort Talbot: cymuned a adeiladwyd yn yr un modd ar ddur a’r un mor ddibynnol. Rwy’n ffyddiog ynglŷn â dyfodol gwaith dur Shotton—man sydd wedi addasu ac arloesi ers y dyddiau tywyll hynny—ac rwyf yr un mor obeithiol mai’r cytundeb sydd angen i ni ei weld a’r cytundeb rydym i gyd eisiau gweld y gweithlu’n ei gael o ran cyflogau a chyflog gohiriedig—pensiynau—fydd yr un iawn er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair. Ond wrth gwrs, ni fydd yn digwydd oni bai bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn mynd ati’n fwy dygn i fynnu ei fod yn digwydd.
Hannah Blythyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i allu siarad unwaith eto dros weithwyr dur yn fy nghymuned ar safle Shotton ac wrth gwrs, ar draws y wlad. Ar fater cynllun pensiwn Dur Prydain, o’r sgyrsiau a’r ohebiaeth a gefais, ceir pryder nad yw Tata yn darparu ar gyfer y gweithlu yr holl fanylion sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniad gwybodus ar y goblygiadau ar gyfer eu dyfodol. Deallaf fod y cyflogwr yn ateb y gweithwyr drwy ddweud nad yw’n gwybod, mewn gwirionedd, sy’n annigonol—neu’n fwy cywir, nid yw’n ateb cwestiynau. Testun ansicrwydd a diffyg eglurder penodol arall yw’r mecanweithiau ar gyfer gwahanu posibl—effaith buddion cronedig a man gorffwys cynllun pensiwn Dur Prydain. Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod yn rhaid i Tata fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac ateb cwestiynau eu gweithlu sy’n gweithio’n galed ar draws Cymru a’r DU.
Yn ogystal, rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o’r ansicrwydd a’r pryder sy’n cael ei greu gan ddiffyg strategaeth a gweithredu ymddangosiadol Llywodraeth y DU mewn perthynas â diwydiant sylfaenol dur. Mae wedi cael ei amlygu, yn ôl y gweithwyr y siaredais â hwy, mewn adroddiadau diweddar fod Llywodraeth y DU yn ôl pob golwg wedi gwrthod gwarantu y bydd dur Prydeinig yn cael ei ddefnyddio yn y gwaith o adeiladu rheilffordd cyflymder uchel 2, HS2. Sylwais fod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU yn cefnogi’r diwydiant dur drwy gyflwyno rheolau caffael newydd. Rwy’n credu bod angen hyn yn ymarferol, nid ei ysgrifennu mewn egwyddor yn unig, ac mae ein diwydiant dur—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Onid ydych yn cydnabod bod 95 y cant o’r holl ddur a ddefnyddir ar reilffyrdd Prydain yn ddur Prydain a bod Chris Grayling wedi rhoi ymrwymiad i Dŷ’r Cyffredin ei fod am weld dur Prydain yn cael ei ddefnyddio ar HS2 ond bod yna weithdrefnau caffael sy’n rhaid gweithio drwyddynt?
Roeddwn am fynd ymlaen i ddweud nad geiriau’n unig sydd eu hangen arnom yn awr: rydym angen gweld gweithredu heb oedi. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod y gweithlu a’r rheolwyr yn Shotton yn cydnabod y cymorth a’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, ond buaswn yn gofyn i chi a chyd-Aelodau ac eraill yma i ymuno â ni i osod pwysau ychwanegol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod o ddifrif am ddyfodol dur, ein bod yn ymrwymo i ddefnyddio dur wedi’i gaffael yn y DU a’n bod yn rhoi arian i ganlyn ein geiriau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gweld ein diwydiant dur nid yn unig yn cael ei gynnal a’i achub, ond yn tyfu yn y dyfodol.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith—Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac am eu diddordeb parhaus yn y pwnc pwysig hwn? Hoffwn hefyd ddatgan fy aelodaeth o Unite the Union ar y cam hwn ac awgrymu: ar y cychwyn, gadewch i ni gytuno, pawb ar draws y Siambr hon, na ddylai neb wneud na dweud unrhyw beth i danseilio dyfodol dur Cymru neu swyddi gweithwyr dur. I’r rhai sy’n dibynnu ar ddur—gweithwyr Tata, eu teuluoedd, pobl yn y gadwyn gyflenwi ac wrth gwrs, trefi a phentrefi o amgylch y safleoedd ar draws Cymru—mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gwbl erchyll, ac rwy’n credu mai ein dyletswydd yw dod â gobaith a sicrwydd lle y ceir ofn, nid ei gynnal drwy ysgogi drwgdybiaeth neu drwy droi pobl yn erbyn ei gilydd.
Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi dod yn bell ers mis Ionawr diwethaf. Gwnaed llawer iawn o waith dros yr amser hwnnw gan y gweithwyr, gan Lywodraeth Cymru, gan undebau llafur, gan reolwyr yn y ffatri, a chan bartneriaid ar draws y sector, ond nid ydym allan o berygl eto. Fel y dywedodd arweinydd y blaid Geidwadol, mae hwn yn dal i fod yn gyfnod sensitif. Fodd bynnag, diolch i gyfraniadau ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac yn sgil y cynllun newid cyfeiriad sy’n cael ei gyflwyno ym Mhort Talbot, yn arbennig, mae gobaith unwaith yn rhagor.
Cyn gynted ag y cyhoeddodd Tata ddiswyddiadau arfaethedig, Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag undebau llafur, a aeth ati i ddod â phartneriaid at ei gilydd i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Cyn gynted ag y cyhoeddodd Tata eu bod yn bwriadu gwerthu’r gweithfeydd yn y DU, Llywodraeth Cymru a gynigiodd £60 miliwn o gymorth i’r cwmni drwy gyfuniad o fenthyciadau a grantiau. Ac fel rhan o’r pecyn hwnnw cyn y Nadolig, cyhoeddais £4 miliwn o fuddsoddiad mewn sgiliau ar draws safleoedd Tata yng Nghymru, ac £8 miliwn arall tuag at y buddsoddiad o £18 miliwn yng ngwaith pŵer Port Talbot er mwyn sicrhau gweithrediadau mwy effeithlon, lleihau costau ynni, a thorri allyriadau wrth gwrs. Yn ogystal, cyhoeddais gynigion ar gyfer sylfaen ymchwil a datblygu newydd yn Abertawe, am fod ein ffocws bob amser wedi bod ar sicrhau presenoldeb cynhyrchu dur cynaliadwy yma yng Nghymru. Mae’r buddsoddiadau a gyhoeddwyd gennym hyd yn hyn wedi cael eu cynllunio i’w gwneud hi’n bosibl darparu arbedion effeithlonrwydd gwirioneddol ar draws y gweithfeydd yng Nghymru, ac i helpu i ddiogelu swyddi yn y dyfodol, pwy bynnag fydd y perchnogion yn y dyfodol. Oherwydd, fel y dywedodd Lee Waters yn gywir, awtomeiddio a chystadleuaeth yw’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae’n rhaid i ni drawsnewid yr heriau hynny’n gyfleoedd drwy ymchwil a datblygu a moderneiddio.
Hefyd, elfen bwysig mewn unrhyw ateb cynaliadwy i ddur yng Nghymru oedd datrys mater pensiwn. Dyna pam y credaf fod y cytundeb arfaethedig rhwng Tata a’r undebau llafur yn gam cadarnhaol ac arwyddocaol tuag at sicrhau’r dyfodol cynaliadwy hwnnw. Rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio bod dyfodol cynllun pensiwn Dur Prydain yn broblem i bawb a fynegodd ddiddordeb mewn prynu gweithrediadau Tata yng Nghymru. A phenderfyniad i’r gweithwyr ei wneud yw derbyn y cynnig a gytunwyd ai peidio.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
[Yn parhau.]—nad yw materion pensiwn wedi’u datganoli. Fodd bynnag, yn ein—gwnaf.
Diolch. Ar y pwynt olaf, mewn gwirionedd, cafwyd cryn dipyn o sôn heddiw ynglŷn â beth yw rôl y Llywodraeth o ran barn a chynghori. O’r hyn a glywaf, rydych wedi dweud yn glir mai mater o farn yn unig yw unrhyw beth y gallai’r Prif Weinidog fod wedi’i ddweud yma, er enghraifft, ac nad yw’n cynghori. A oes adeg, neu a oedd yna adeg yn ystod eich trafodaethau wrth roi pecyn Llywodraeth Cymru at ei gilydd—ac nid wyf yn ei fychanu mewn gwirionedd—pan ofynnwyd am eich cyngor yn hytrach na’ch barn?
Yn gyntaf oll, mae pensiynau yn fater sydd heb ei ddatganoli, ac mae’r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn gwbl glir, yn absenoldeb unrhyw gyfle, dewis neu drafodaeth arall, mai dyma’r unig gynnig sydd ar gael. A chwestiwn i’r gweithwyr ei benderfynu yw a ddylent dderbyn y cynnig sy’n cael ei gyflwyno iddynt neu ei wrthod a thrwy hynny greu amheuaeth ynglŷn â’r diwydiant dur cyfan yng Nghymru a thu hwnt. Mae hwn yn gwestiwn y mae angen i’r gweithwyr eu hunain ei ateb a ffurfio barn yn ei gylch.
Ond rwy’n credu ei bod yn eithaf amlwg, yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd Hannah Blythyn a’r hyn y mae eraill wedi’i annog, fod yn rhaid gwneud yn siŵr fod—[Torri ar draws.] Ddim ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr yn y cyfnod yn arwain at y bleidlais fod Tata’n cymryd cyfrifoldeb llawn am ddarparu gwybodaeth werthfawr i weithwyr a sicrhau eu bod yn rhyngweithio’n llawn â’r gweithlu, fel y gallant egluro’n fanwl beth yw goblygiadau’r cytundeb sy’n cael ei lunio.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio ar y pwynt penodol hwn. Yr hyn sy’n bwysig, yn y cyfnod yn arwain at unrhyw bleidlais, yw hyder.
Hyd yn hyn, mae hyder y gweithlu wedi cael ei chwalu—rwyf wedi dweud hyn droeon wrth y Prif Weinidog ac wrthych chi. A wnewch chi hefyd ymuno â mi, efallai, i alw ar gadeirydd newydd Tata Sons i wneud datganiad cyhoeddus i geisio dechrau ailadeiladu hyder yn yr hyn y maent yn ei ddweud?
Gwnaf, fe fuaswn yn gwneud hynny. Roedd hyn yn rhywbeth, unwaith eto, a drafodwyd gennym ddydd Llun, y Prif Weinidog a minnau, gyda Bimlendra Jha, prif weithredwr Tata Steel. Rwy’n credu bod ailadeiladu ymddiriedaeth yn hollol hanfodol—nad yw’n cael ei lleihau ymhellach, ond ei bod yn cael ei hailadeiladu. Mae hynny’n hanfodol, nid yn unig ar gyfer y cwmni—mae’n gwbl hanfodol ar gyfer gweithwyr, yr undebau a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.
Pwynt o wybodaeth ydyw mewn gwirionedd. Pan ddywed mai dyma’r unig fargen ar y bwrdd, mae’n ymwybodol, yn amlwg, o gais Excalibur, cais y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ariannu mewn gwirionedd—
Yn wir.
A yw’n dweud nad yw hwnnw’n gais gweithredol mwyach?
Na, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae Excalibur yn dal i gynnig yr hyn yr oeddent yn ei gynnig y llynedd. Ond hyd yn oed i Excalibur, roedd mater pensiynau dur yn un real ac yn un difrifol iawn y buasai’n rhaid iddynt ymgiprys ag ef. Roedd pob un o’r partïon a oedd â diddordeb yn y gwaith dur yn cyfaddef fod mater dur yn broblem fawr i’w goresgyn.
Rwy’n credu ei bod yn werth nodi yn y fan hon fod—. Hoffwn ailadrodd yr apeliadau a wnaed gan yr undebau llafur fod angen cynnal y bleidlais mewn ffordd sy’n rhydd rhag ymyrraeth wleidyddol. Ni all unrhyw un amau ymrwymiad Llywodraeth Cymru o ran sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer dur yng Nghymru. Nawr, mae cadw swyddi a chynhyrchiant ym mhob un o weithfeydd Tata Steel yng Nghymru yn parhau’n brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon o ran diwydiant. A thrwy gydol y broses hon, rydym wedi gweithio’n agos gyda Tata ac wedi ymateb yn gyflym i’r newidiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn gweithio yn y ffordd hon ar sail barhaus, ond mae yna heriau sylweddol o’n blaenau.
Mae trafodaethau’n ymwneud â’r posibilrwydd o fenter ar y cyd gyda ThyssenKrupp yn fater masnachol, ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â diddordeb mawr mewn unrhyw fargen yn y dyfodol. Fel y dywedais, mae’r gefnogaeth rydym wedi’i darparu drwy Lywodraeth Cymru yn amodol a bydd yr amodoldeb hwnnw’n berthnasol i unrhyw fenter ar y cyd. Mae’r Prif Weinidog a minnau wedi dweud yn ein cyfarfod gyda Tata yr wythnos hon fod amddiffyn hawliau gweithwyr yn hollol hanfodol, a beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais, bydd ein hymrwymiad i ddiogelu’r hawliau hynny’n parhau.
Mae llawer wedi’i ddweud am rôl Llywodraeth y DU ac rwy’n credu bod amser o hyd i Lywodraeth y DU wneud cyfraniad sylweddol iawn. Mae’r hyn y mae Prif Weinidog Cymru wedi’i ofyn yn gyson i Lywodraeth y DU, sef sefydlu pecyn cymorth ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys, yn parhau i fod yn ddilys, gan fod prisiau ynni’n rhy uchel. A mynegwyd hyn wrthym unwaith eto yr wythnos hon.
Yng nghyd-destun yr opsiwn Brexit caled a amlinellodd Prif Weinidog y DU yr wythnos hon, mae’n bwysicach fyth fod ein diwydiant dur yn wirioneddol gystadleuol, o gofio y bydd, yn fuan iawn, y tu allan i’r farchnad sengl. Rydym yn awyddus i sicrhau dyfodol hirdymor ar gyfer ein diwydiant dur ac mae’n hanfodol gweithredu ar hyn yn awr.
Ddirprwy Lywydd, er nad penderfyniadau i ni eu gwneud yw’r rhai sy’n ymwneud â dyfodol y gweithfeydd, byddaf yn parhau i sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n llawn â phob parti i sicrhau bod negeseuon ynglŷn â swyddi, buddsoddi a gwarchod gweithwyr yn cael eu clywed gan uwch gynrychiolwyr Tata. Ond fel Dai Rees, fel y mae Lee Waters ac fel y mae eraill wedi dweud, nid dyma’r amser i wleidydda, nid dyma’r amser i siarad gorchest—
Mae’n ddrwg gennyf, rwyf wedi caniatáu i chi gael ymyriadau hefyd, felly a allwch chi—?
Ac mae swyddi, bywoliaeth a thynged y cymunedau angen ein cefnogaeth.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Adam Price i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl werthfawr. Gwn y bydd y gweithwyr dur sydd wedi cysylltu â ni wedi gwerthfawrogi clywed yr ystod o safbwyntiau, o farn, mewn perthynas â’r pecyn o gynigion a fydd yn cael eu rhoi iddynt cyn bo hir. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud llawer fod pob un o’r Aelodau a siaradodd o’r meinciau cefn sydd â gweithfeydd dur yn eu hetholaethau wedi mynegi pryderon difrifol iawn ynghylch y cynigion presennol. A chredaf fod hynny’n cyfiawnhau’r angen i ni gael y ddadl hon, ac i roi pwysau ar Tata i gynnig cytundeb gwell sy’n ateb y pryderon rhesymol a fynegwyd yn y Siambr heddiw. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth Caroline Jones, rwy’n anghytuno â bron popeth a ddywedodd, ond mae hi’n dal i fod yn berson neis. Ond rhaid i mi ddweud o ddifrif, er mai penderfyniad i weithwyr dur yw hwn o reidrwydd yn y pen draw, ni allwn er hynny drosglwyddo ein cyfrifoldeb fel Senedd etholedig i rywun arall. Os nad ydym yn siarad am rywbeth mor bwysig â hyn, am beth y dylem siarad? Rhaid i mi ddweud, er na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, rwy’n meddwl fy mod yn croesawu’r ffaith fod Andrew R.T. Davies yn derbyn rôl bwysig cael dadl ar ddyfodol y diwydiant dur, ac yn bwysig, mae eu gwelliant yn cyfeirio at yr angen am gynllun wrth gefn. Oherwydd os derbyniwn hawl y gweithwyr i wrthod y cytundeb hwn, yna rhaid i ni, fel Senedd etholedig a Llywodraeth y wlad, ddod o hyd i gynnig amgen sy’n ymateb i’r sefyllfa newydd honno.
Diolch i’r Aelodau ar fy ochr am eu cyfraniadau—yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i Bethan Jenkins. Nid oes neb wedi bod yn agosach at y gweithwyr dur—gan fynd yn ôl dros lawer iawn o flynyddoedd erbyn hyn—ac mewn gwirionedd, y rheswm pam rydym wedi dweud yr hyn rydym wedi’i ddweud yn gyhoeddus yw oherwydd bod gweithwyr dur wedi gofyn i ni wneud hynny. Rydym yn cydnabod bod yna amrywiaeth o safbwyntiau ymysg y gweithlu hefyd, ond mae’n bwysig fod y pryderon hynny’n cael eu mynegi’n gyhoeddus. Mae’n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, yn anffodus. Rwy’n meddwl mai’r pwynt pwysig yw bod gan y Llywodraeth rôl yn awr, yn yr amser sydd ar gael, cyn diwedd y mis pan bleidleisir ar y cynigion hyn—mae arnom angen Llywodraeth Cymru i mewn yno’n dweud wrth Tata, ‘Edrychwch, mae posibilrwydd gwirioneddol y gallai’r bleidlais hon gael ei cholli os nad ydych yn ateb y pryderon rhesymol hyn.’ Dyna pam y mae angen i Lywodraeth Cymru fod i mewn yno mewn rôl arweiniol, i geisio ymateb mewn gwirionedd i’r hyn a glywsom heddiw.
Mae’n rhaid i mi ddweud wrth Lee Waters, fe ddechreuodd, ac roeddwn yn cytuno gydag ef—mae hon yn weithred o flacmel economaidd, ac yna gwnaeth yr achos dros ildio iddi’n llwyr. Roedd yna ymadrodd am hynny—[Torri ar draws.] Mae arnaf ofn nad oes gennyf amser. Roedd yna ymadrodd am hynny—nid oes gennyf amser. Roedd yna ymadrodd am hynny: ‘Nid oes unrhyw ddewis arall’. Roedd yn ymadrodd y clywsom lawer o ddefnydd ohono yn y 1980au. Nid dyna’r math o wleidyddiaeth y dylem ei derbyn. Mae yna ddewis arall. Clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun fod yna gynnig arall ar y bwrdd gan gwmni sy’n cynnig cyfran o 25 y cant i’r gweithlu. Cânt eu gwahodd yn y cynnig hwn i ariannu eu pecyn achub eu hunain o’u pensiwn eu hunain, wel pam nad edrychwn ar y cynnig arall hwnnw mewn gwirionedd? Roedd yna ddarpar brynwr arall dros y penwythnos a ysgrifennodd yn uniongyrchol at gynllun pensiwn Dur Prydain—[Torri ar draws.]
Nid yw’r Aelod am ildio.
[Yn parhau.]—yn awyddus i gynnig mwy o arian i’r gronfa bensiwn. [Torri ar draws.]
Nid yw’n ildio.
Mae yna ddewis arall i Tata hefyd. Gallent gryfhau’r cynnig. Daeth Ratan Tata allan o ymddeoliad oherwydd ei fod yn arswydo at y math o ymagwedd slaes a llosgi fyrdymor yr oedd Cyrus Mistry wedi’i chwistrellu i mewn i’r cwmni. Mae ei arweinyddiaeth newydd yn arwydd o ddychwelyd at werthoedd traddodiadol Tata o degwch ac ymagwedd hirdymor, ac rwy’n meddwl y dylem apelio yn awr ar gadeirydd emeritws dros dro Tata Steel ar lefel fyd-eang. Gadewch i ni gael y tegwch hwnnw. Gadewch i ni gael yr ymagwedd hirdymor honno. Nid yw gweithwyr dur Cymru yn haeddu dim llai.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Jane Hutt.
Symudwn yn awr at eitem 5, sef dadl Plaid Cymru ar geblau’r Grid Cenedlaethol, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig. Simon.
Cynnig NDM6209 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) y dylai’r Grid Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny’n ymarferol;
b) y dylai fod rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac
c) y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o’r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol a’u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf wrth fy modd yn agor y ddadl hon, nad oes ganddi unrhyw gysylltiad â’r ddadl flaenorol, o bosibl, ar wahân i’r ffaith fod peilonau’n cael eu gwneud o ddur. Tra bydd gennym beilonau, gadewch i ni eu gwneud allan o ddur Cymru, yn sicr. Ond mewn gwirionedd, mae’r ddadl hon yn ymwneud mwy â’n dyfodol trydan, a sut rydym yn cynllunio, yn y tymor hir, ar gyfer dyfodol trydan sy’n cryfhau ein hunangynhaliaeth. Mae ynni adnewyddadwy, yn enwedig yng Nghymru, yn cryfhau’r broses o ddatganoli’r grid trydan i ddarparu lle a phosibiliadau ar gyfer cyflwyno mwy o brosiectau cymunedol ac yn rhoi sylw i, ac yn mynd i’r afael â mater poenus, mae’n rhaid dweud—sef effaith weledol datblygiadau ynni yng Nghymru, ac yn enwedig yr effaith weledol a achosir gan beilonau trydan. Oherwydd mae pawb ohonom yn derbyn, os ydym yn mynd i gynhyrchu trydan mewn rhannau o Gymru, yna rhaid trosglwyddo’r pŵer hwnnw i’r mannau lle y bydd pobl angen defnyddio’r trydan. Y ffaith amdani yw y bydd y rhannau o Gymru sy’n tueddu i fod gyfoethocaf mewn adnoddau naturiol ar gyfer cynhyrchu trydan, sef y mynyddoedd a’r môr, a’r holl rannau hynny o Gymru sydd â hanes o gynhyrchu ynni, megis Wylfa ar Ynys Môn, bydd arnynt angen rhyw fodd o drosglwyddo’r pŵer hwnnw. Ond yn aml iawn, gall effaith weledol peilonau trydan fod yn hynod o ymwthiol.
Er, gan fy mod wedi delio â hyn o bryd i’w gilydd ers 15 mlynedd, mewn fforymau gwahanol, nid wyf yn ddall i’r ffordd y mae pobl yn cefnogi neu’n siarad am gynhyrchu ynni a pheilonau, ac er fy mod yn derbyn, ar adegau, fod peth o’r gwrthwynebiad i beilonau mewn gwirionedd yn esgus dros wrthwynebu’r prosiect ei hun yn y lle cyntaf, rwy’n credu bod yna ffordd o gynllunio’n well yma yng Nghymru. Dywedaf hynny am fy mod wedi’i weld fy hun. Rwyf wedi gweld dewisiadau eraill. Pan oeddwn yn straffaglu mewn Cynulliad blaenorol ar brosiectau cynhyrchu ynni canolbarth Cymru—na welodd y golau gwyrdd, yn anffodus, o ran ynni adnewyddadwy, am fod Gweinidog y Democratiaid Rhyddfrydol wedi nogio rhag cymeradwyo hynny ar y funud olaf—. Ond un o’r pethau a fyddai wedi digwydd yng nghanolbarth Cymru oedd toreth o beilonau, ac roedd llawer o bryder am effaith weledol y peilonau hynny. Roedd y pryder am y peilonau yn ehangach na’r pryder am y ffermydd gwynt, er bod pryder ynglŷn â’r ffermydd gwynt yn ogystal, rwy’n derbyn hynny.
Yn arbennig, roedd pryder y gallai fod effaith sylweddol ar ardaloedd y mae pobl yn eu hystyried yn werthfawr iawn naill ai’n hanesyddol neu ynddynt eu hunain oherwydd eu harddwch, ond nad oeddent wedi’u dynodi fel y cyfryw. Gallwch gael ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac mae gennym barciau cenedlaethol; mae yna reolau o fewn y cyd-destunau hynny, ond nid yw ardal fel Meifod yng nghanolbarth Cymru yn ardal o harddwch naturiol eithriadol ddynodedig, ond mae’n ardal hanesyddol iawn, ac mae’n ddyffryn y mae pobl yn ei werthfawrogi. Yn sicr bûm yn ymwneud nid yn unig gyda’r ymgyrchwyr ond â’r Grid Cenedlaethol hefyd i ddeall sut na allent gladdu’r ceblau i fynd drwy Feifod mewn gwirionedd, a oedd, yn y diwedd, yn gytundeb y gwnaeth y Grid Cenedlaethol ei ddarparu, er nad yw’n mynd yn ei flaen yn awr beth bynnag, am nad oes ganddynt ffermydd gwynt yn dod i mewn. Ac fel rhan o hynny, cefais fynd i weld prosiect sy’n cael ei gynnal gan y Grid Cenedlaethol i gladdu ceblau mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Yn anffodus, nid oedd hynny yng Nghymru, gan nad ydynt yn claddu unrhyw geblau yng Nghymru. Roedd yn rhaid i mi fynd i Swydd Henffordd, bu’n rhaid i mi fynd i ddyffryn Gwy y tu allan i Gymru a’i weld yn digwydd gyda fy llygaid fy hun.
Nawr, nid yw claddu ceblau yn waith heb unrhyw effeithiau o gwbl. Mae’n eithaf budr a swnllyd, ac yn dipyn o graith ar draws y dirwedd ar y pryd. Ond bydd y rhai ohonom sydd wedi gweld ceblau a’r bibell nwy, er enghraifft, o Sir Benfro, yn cael eu claddu dros y blynyddoedd yn gwybod, gydag amser, fod y tir yn ymadfer ac nid yw’r ceblau i’w gweld, nid yw’r pibellau i’w gweld ac mewn gwirionedd, blip bach dros dro sydd gennych ar y dirwedd, os gallaf ei roi felly, yn hytrach na’r dolur llygad mwy parhaol ar y dirwedd a achosir gan beilonau. Felly, diben y ddadl heddiw yw ceisio ein cael i symud oddi wrth rai o’r dadleuon lleol sydd gennym ynglŷn â pheilonau a chael ymagwedd genedlaethol tuag at hyn, a chysyniad cenedlaethol o ble rydym am fynd â’n cynhyrchiant ynni a’n cynlluniau ar gyfer hynny.
Mae gwledydd eraill yno eisoes. Y llynedd, pasiwyd deddf ceblau pŵer gan yr Almaen—wel, rwy’n dweud y llynedd, ond roedd hyn ar ddiwedd 2015, felly mae ychydig mwy na hynny bellach—yn y Bundestag, i sicrhau bod cysylltiadau pŵer mawr yn cael eu hadeiladu fel ceblau o dan y ddaear, yn hytrach na cheblau dros y tir. Yn Nenmarc, gwlad yr ymwelais â hi fis Hydref diwethaf, cafwyd consensws trawsbleidiol ers dros ddegawd bod ceblau mawr, a oedd—yn y cynnig roeddem yn sôn am y Grid Cenedlaethol, oherwydd, yn amlwg, cyfrifoldeb y cwmnïau dosbarthu yw’r ceblau lleol a chânt eu hystyried yn wahanol. Ond dylid claddu ceblau mawr, y Grid Cenedlaethol yn y cyd-destun hwn. Dyna 3,200 km o linellau 150 kV a 132 kV i’w claddu yn Nenmarc fel rhan o’u cynlluniau ar gyfer ynni adnewyddadwy yn y dyfodol. Felly, mae Denmarc yn gwneud pob math o bethau, megis gwahardd ceir diesel o Copenhagen a newid i drydan adnewyddadwy 100 y cant, ond maent yn claddu’r ceblau. Maent yn gwybod y bydd pobl yn derbyn rhan o’r darlun. Byddant yn derbyn, efallai, y newidiadau yn eu tirlun a ddaw yn sgil yr angen i newid at ddyfodol sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon, ond nid ydynt yn ei dderbyn yn ddiamod. Maent am weld y rhai sy’n gyfrifol am gynllunio a chynhyrchu trydan yn eu cyfarfod hanner ffordd. Un o’r ffyrdd y gallwn wneud hynny yw drwy sicrhau bod gennym bolisïau cyson ar draws Cymru, nid yn ein parciau cenedlaethol a’n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn unig, ond ar draws Cymru, polisïau sy’n parchu gwerthfawrogiad pobl o’u tirwedd ac yn eu galluogi i wneud hynny ac i osod ceblau o dan y ddaear, i bob pwrpas.
Mae gosod ceblau o dan y ddaear yn costio mwy, ac mae yna ystod o gostau—ystod o gostau y dywedir yn aml eu bod oddeutu saith gwaith yn fwy. Ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn cynnwys y ffaith nad yw ceblau o dan y ddaear yn agored i dywydd garw, maent yn fwy dibynadwy os ydych yn ei wneud yn iawn. O’i wneud yn iawn, fel y gwelais pan ymwelais â’r gwaith gosod ceblau o dan y ddaear yn nyffryn Gwy, mae’n hynod o bwysig i’r beirianneg fod yn fanwl gywir. Mae’n broses go dechnegol a manwl, ond os gallwch ei wneud yn fanwl gywir—os gallwch ei wneud yn iawn—yna mae gennych system gadarnach sy’n mynd i bara. Buasai pob un ohonom am weld, yn enwedig wrth i ni symud efallai at grid ynni mwy ymatebol gyda llai o orgynhyrchu—rhag ofn y bydd 1 filiwn o bobl yn berwi’r tegell ar yr un pryd hanner ffordd drwy rownd derfynol y cwpan, neu beth bynnag—i grid mwy ymatebol gyda chynhyrchiant ynni lleol, dosbarthu lleol, a system genedlaethol, felly mae angen i ni fod yn fanwl gywir gyda’n peirianneg, ac mae hynny’n golygu bod angen grid llawer mwy cadarn na fydd yn gwegian neu’n cael ei effeithio gan dywydd garw, un a fydd yno ac a fydd yn ddibynadwy.
Felly, pan fyddwch yn cynnwys y ffactorau hynny, mae’r gost o osod ceblau o dan y ddaear rhwng dwy a phum gwaith yn fwy na gosod pentwr o beilonau dros dirwedd. Rwy’n meddwl bod hynny’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni eu hwynebu: y gallai hyn gostio mwy i ni. Ond fel rhan o ddatblygu system ynni lawer mwy cadarn, ac un a all fod yn barod ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, boed yn forlyn llanw, fel yr wyf am ei weld ym mae Abertawe, neu ddatblygiadau ar Ynys Môn, datblygiadau ynni ar y tir neu ar y môr gyda gwynt—neu hyd yn oed, oherwydd mae’n dal i fod rhywfaint o botensial ar gyfer datblygiadau gwynt ar y tir—rydym eisiau gweld hynny’n cael ei osod o dan y ddaear cymaint â phosibl. Felly, fe fyddai costau cynnal a chadw is; costau trosglwyddo is; llai o effeithiau tywydd garw; a ffordd o ddangos i bobl Cymru ein bod am weithio gyda hwy, gan barchu eu gwerthfawrogiad o’u hamgylchedd naturiol a gweithio gyda hwy i sicrhau’r dyfodol ynni hwnnw.
Gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn ein galluogi i daflu goleuni ar y mater. Yn sicr, mae Aelodau Plaid Cymru yn awyddus i siarad am eu hardaloedd eu hunain, i siarad am ddatganoli’r grid, i siarad am ynni adnewyddadwy, ac rwy’n gobeithio y bydd gwelliannau’r Llywodraeth, y sylwaf nad ydynt yn mynd yn ddigon pell—. Ond rwy’n gobeithio, ar ddiwedd y ddadl hon, y byddwn o leiaf wedi dod i ryw fath o gytundeb, felly pan fyddwn yn siarad ag Ofgem a phan fyddwn yn bwrw iddi i lunio cynlluniau hirdymor ynglŷn â ble sy’n rhaid i’r cwmnïau ynni hyn fuddsoddi cyfalaf, fe fanteisiwn ar y cyfle hwnnw i sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn enw pobl Cymru ac yn enw cynaliadwyedd a chadernid hirdymor economi Cymru.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Yn is-bwynt (b) dileu ‘y dylai fod rhagdybiaeth o blaid’ a rhoi yn ei le ‘y dylid ffafrio’.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Yn is-bwynt (c) dileu ‘y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o’r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol a’u disodli’ a rhoi yn ei le ‘y dylai Ofgem ymrwymo i gynnal ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er mwyn cael gwared ar y peilonau presennol a’u disodli’.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn. Sian Gwenllian.
Ynghyd â’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, mi fues i’n rhoi tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad statudol cyntaf y Grid Cenedlaethol ar gysylltiad gogledd Cymru, sef y cynllun a fyddai’n creu llinell o beilonau ar draws Môn ac Arfon. Yn Arfon, yn benodol, roeddem ni yn galw am dwnel o dan yr afon Menai yn hytrach na pheilonau newydd oherwydd yr effaith weledol hollol negyddol y byddai hynny yn ei gael ar ardal o harddwch naturiol. Roedd gennym ni bryderon ynglŷn ag effaith peilonau ar yr ardal leol ac ar barc cenedlaethol Eryri, sy’n gyfagos. Rwy’n falch bod yr ymgyrch honno wedi bod yn llwyddiannus, efo thwnnel o dan y Fenai yn rhan o’r cynllun erbyn hyn, er fe allai hynny newid, wrth gwrs.
Yn yr ymgynghoriad diwethaf, fe ddywedais y dylid tanddaearu’r darn bychan, 1 km o hyd, o beilonau ar y tir mawr yn Arfon, sy’n parhau i fod yn rhan o’r cynllun sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, a hynny hefyd oherwydd effaith weledol o’r parc cenedlaethol. Mae’r parc yn ased hanfodol ar gyfer lles economaidd a diwylliannol yr ardal, rŵan ac i’r dyfodol, ac fe allai unrhyw ddatblygiad a all effeithio’n negyddol ar fwynhad pobl o olygfeydd y parc gael effaith andwyol ar yr economi leol, drwy dwristiaeth ac yn y blaen.
Mae Plaid Cymru’n credu, wrth gwrs, y dylai pwerau dros y grid, yn ogystal â phwerau llawn dros brojectau ynni o dan y drefn gynllunio, fod yn nwylo pobl Cymru. Yn fan hyn y dylem ni fod yn gwneud y penderfyniadau. Felly, ni fuasai’n rhaid inni ddibynnu ar ewyllys da y Grid Cenedlaethol efo mater y twnnel o dan y Fenai, er enghraifft.
Yn y cyfamser, mae’n rhaid inni fod yn edrych ar sut i liniaru pethau mewn ffordd fwy realistig, efallai. Yn y cyfamser, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Wrth brosesu prosiectau, mae arafwch mawr yn y drefn gynllunio. Yr awdurdodau cynllunio sy’n gyfrifol am sicrhau bod effaith weledol prosiectau trosglwyddo trydan yn cael eu lliniaru, ac mae’n rhaid i’r Grid Cenedlaethol ystyried effaith weledol gwahanol dechnolegau a llwybrau posibl ar gyfer trosglwyddo trydan er mwyn sicrhau caniatâd cynllunio, ac mae hynny i gyd yn cymryd amser. Mae peilonau yn achosi llawer o ddrwgdeimlad lleol oherwydd eu heffaith weledol niweidiol, ac mae hyn i gyd yn achosi oedi mawr yn y drefn gynllunio—ar gyfartaledd, gohiriad o rhwng wyth a 10 mlynedd. Petai’r opsiwn tanddaearu yno o’r cychwyn, ni fyddai’r oedi yna’n digwydd.
Mae llawer o sylw yn cael ei roi i’r gost o danddaearu. Yn 2014, dywedodd yr Infrastucture Planning Commission fod ceblau dan ddaear rhwng 4.5 a 5.7 gwaith yn ddrytach na pheilonau traddodiadol. Mae hwnnw’n swnio yn swm mawr. Ond, pan rydych yn edrych ar bethau fel costau cynnal a chadw, colli trydan, yr effaith ‘Downton’ a’r ffaith, fel yr oeddwn yn sôn, fod penderfyniadau cynllunio yn gallu cymryd cymaint o amser, a phan rydych yn cymryd hynny i gyd i ystyriaeth, mi oedd y ffigwr yn gostwng i rhwng dwy a phump gwaith drytach. Nid oes yna neb yn dadlau nad ydy tanddaearu, ar hyn o bryd, yn ddrytach, ond gall hynny newid, wrth gwrs, wrth i’r dechnoleg wella. Hyd yn oed wedyn, mae o’n llai na 2 y cant o’r gost o gynhyrchu trydan. Mae hynny o arwyddocâd cymharol fechan o gymharu ag effaith negyddol peilonau, a fyddai o bwys mawr i’r economi yn lleol.
Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar bwnc pwysig iawn, mewn gwirionedd. Rhyddhaodd lledaeniad y cyflenwad trydan yn y 1920au a’r 1930au lawer o bobl rhag llawer o waith caled, ond fe farciodd ein tirwedd a’i thrawsnewid mewn ffordd hyll. Er bod y beirdd rhamantaidd yn ystyried bod Cymru yn un o’r ardaloedd mwyaf dyrchafedig a phrydferth, yn rhy aml yn awr, rhaid i ni edrych ar yr hyn a fuasai’n olygfeydd gwych oni bai am y peilonau anferth sy’n gorymdeithio ar eu traws mewn nifer o ardaloedd. Felly, rwy’n meddwl bod hyn yn rhywbeth sydd o ddifrif yn werth ei ystyried wrth i ddewisiadau amgen ddod yn amlwg bellach. Nodaf—ac fe gyfeiriodd Simon Thomas ato’n fyr—fod gan y Grid Cenedlaethol ei hun gynllun ar hyn o bryd i gael gwared ar y peilonau mwyaf o fannau prydferth o amgylch y DU, ac mae Eryri a Bannau Brycheiniog wedi eu cynnwys yn y rhaglen honno. Mae’n mynd i gostio £500 miliwn yn y cam cyntaf, sy’n swnio’n llawer o bosibl, ond mewn gwirionedd, nid ydych yn gallu claddu cymaint â hynny gyda’r math hwnnw o fuddsoddiad. Ond mae’n arwydd o leiaf eu bod yn sylweddoli bod pethau’n newid mewn ymateb i alw cyhoeddus, ac awydd hefyd i weld y dirwedd yn cael ei hadfer.
Sylwaf fod y ddadl yn Ynys Môn wedi bod yn arbennig o boeth. Rwy’n meddwl bod hynny’n arwydd o bethau i ddod, a dweud y gwir, oherwydd bydd pobl yn gofyn cwestiynau eithaf sylfaenol: ‘Os oes yn rhaid i ni oddef gorsaf ynni, pam fod gennym y ffordd leiaf deniadol o drosglwyddo’r ynni hwnnw?’ Onid yw’n rhan o’r fargen rydych yn ei gwneud gyda’r economi leol eich bod yn ceisio eu helpu cymaint ag y bo modd? Nid yw’r costau’n ansylweddol. Yn fras, mae’n costio dwywaith cymaint i gladdu cebl na’i gael uwchben. Ond rwy’n credu y dylid ystyried y dewis arall hwn bob amser.
Mae yna fanteision cyffredinol hefyd sy’n mynd y tu hwnt i’r manteision amlwg i’r dirwedd. Mae ceblau wedi’u claddu yn gwrthsefyll tywydd garw’n well. Mae fy ymchwilydd yma wedi rhoi mewn cromfachau ‘ar wahân i ddaeargrynfeydd’; wel, nid wyf yn mynd i gynnwys y rheini. Mae’n ffenomen naturiol, felly efallai y dylem fod yn ymwybodol ohoni, ond yn ffodus nid ydym yn dioddef o ddaeargrynfeydd cryf iawn yng Nghymru. Ceir llai o berygl: mae’r diogelwch i bobl, bywyd gwyllt ac awyrennau o gladdu ceblau yn sylweddol. Hefyd, nid ydynt angen cymaint o dir, credwch neu beidio, er gwaethaf y ffaith eu bod yn cael eu claddu, gan—[Torri ar draws.] Na, nid ydynt angen cymaint. Os claddwch gebl, ni fydd angen ond hanner cymaint o dir ag y byddai ei angen arnoch ar gyfer llinellau uwchben.
Felly, mae yna lawer o fanteision. Mae yna anfanteision, a’r gost yw’r un amlwg, ond maent hefyd yn anos i’w hatgyweirio a’u cynnal, felly mae angen i ni gadw hynny mewn cof. Fodd bynnag, rwy’n credu nad yw hynny’n tynnu dim oddi wrth y ddadl gyffredinol o blaid claddu ceblau lle bynnag y bo modd, a gweithredu rhaglen, yn sicr, i gladdu ceblau lle bynnag y bo hynny’n ymarferol mewn ardaloedd o harddwch naturiol gwych.
Lle y mae gennym geblau uwchben, rwy’n meddwl y dylem ystyried fersiynau llai ymwthiol pan fyddant yn cael eu hadnewyddu. Rwy’n falch fod yr hyn a elwir yn beilon T yn cael ei dreialu yn awr. Mae’n llawer teneuach a hefyd yn fyrrach na pheilonau traddodiadol, felly efallai fod honno’n ffordd, lle y mae’n rhaid i ni ddefnyddio peilonau uwchben, o adael iddynt ymdoddi ychydig yn fwy, beth bynnag, i’r dirwedd.
A gaf fi ddweud y byddwn yn cefnogi’r cynnig? Os cyrhaeddwn y gwelliannau, byddwn yn cefnogi’r gwelliannau hefyd. Rwy’n meddwl y dylid parhau’r rhaglen darpariaeth effaith weledol. Mae angen i ni edrych i weld sut y gallwn gynllunio rhaglen waith o’r fath, gan ei fod yn fuddsoddiad mawr. Bydd yn cymryd amser, ond rwy’n falch ein bod yn trafod y mater y prynhawn yma. Mae’n beth teilwng iawn, ac rwy’n siŵr y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch i ni os gwnawn hyn yn flaenoriaeth arbennig yn awr.
Diolch am y cyfraniadau hyd yma. Mae Ynys Môn a’i chynrychiolwyr yn unfrydol yn erbyn y cynlluniau gan y grid i godi rhes o beilonau ar draws yr ynys. Mi ydw i, y cyngor sir, yr Aelod Seneddol, y cynghorau cymuned a miloedd o drigolion yr ynys wedi bod yn gyson iawn yn ein gwrthwynebiad i gynlluniau’r grid, ac nid oes yna prin ddim ymateb cadarnhaol wedi dod gan y grid i’r corws yna o leisiau.
Yn syml iawn, maen nhw’n mynd am yr opsiwn rhataf. Ydyn, maen nhw wedi trio rhoi’r argraff eu bod nhw wedi cyfaddawdu rhywfaint drwy gytuno i roi ceblau mewn twnnel o dan y Fenai, ond y gwir amdani ydy nad oedden nhw erioed yn bwriadu ceisio cael caniatâd i roi rhes arall o wifrau ar draws y Fenai, sydd wrth gwrs yn ardal o harddwch eithriadol.
Ond a oedd yna ddewis ganddyn nhw ond mynd am opsiwn y peilonau ar draws yr ynys? Yr ateb, yn syml iawn, ydy, ‘Oedd, wrth gwrs.’ Mae cysylltiadau tanfor a thanddaearol yn rhai cyffredin iawn. Rydw i’n cofio yn fy nghyfarfod cyntaf un i efo swyddogion y grid yn 2013, y swyddogion hynny yn dweud, ‘Wrth gwrs y gallwn ni roi ceblau o dan y môr; mi fyddai’n her dechnegol, ond wrth gwrs y gallem ni ei wneud o.’ Ers hynny, nid ydy’r syniad wir wedi cael ei ystyried yn llawn fel ag y dylai, efo dadleuon technegol yn cael eu dyfynnu dro ar ôl tro. Mae hynny er gwaethaf cysylltiadau tanfor yn cael eu datblygu mewn rhannau eraill o Brydain. Mae’n anodd iawn i leygwyr fel fi ddadlau yn erbyn dadleuon technegol y grid, ond rydw i’n dal yn gwbl argyhoeddedig bod hwn yn opsiwn a allai weithio.
Ond beth os derbyniwn ni fod yr her dechnegol o gysylltu gorsaf niwclear drwy wifrau tanfor yn ormod? Wel, nid oes yna ddim byd yn newydd mewn technoleg tanddaearu, ac a dweud y gwir mae yna ddigon o dystiolaeth ei fod yn dechnoleg fwy effeithiol o ran colled o ynni o’r grid, a gwytnwch mewn tywydd garw, fel yr ydym wedi clywed. Ydy, mae’n gadael craith dros dro, ac ydy, mae’n fwy costus, a chost sydd wrth wraidd cynlluniau’r grid ym Môn. Peilonau ydy’r cyswllt rhataf. Mae’r gost byr dymor i’r grid yn is nag opsiynau eraill—rhyw £400 miliwn, gyda llaw, ydy’r gost ychwanegol, yn ôl y grid, o danddaearu. Ond beth am gost o osod peilonau i bobl Môn ar werth eu heiddo nhw, i fusnesau, i dwristiaeth, heb sôn, wrth gwrs, am yr effaith ar safon byw? Yn hytrach na rhoi’r pwysau ariannol ar bobl Môn—