Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
29/11/2016Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
I call the National Assembly to order.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
Yr eitem gyntaf ar ein busnes y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.
The first item of business this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Janet Finch-Saunders.
Atal Madredd
Sepsis Prevention
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal madredd? OAQ(5)0300(FM)
1. Will the First Minister make a statement on sepsis prevention? OAQ(5)0300(FM)
Tackling sepsis continues to be a top patient safety priority in Wales. Early recognition and diagnosis is crucial to preventing the condition getting worse and to the provision of appropriate and timely treatment. Wales has been recognised at a global level for its work in sepsis awareness and education.
Mae mynd i'r afael â madredd yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau diogelwch cleifion yng Nghymru. Mae nodi a diagnosis cynnar yn hanfodol i atal y cyflwr rhag gwaethygu ac i ddarparu triniaeth briodol a phrydlon. Mae Cymru wedi ei chydnabod ar lefel byd-eang am ei gwaith ym maes ymwybyddiaeth ac addysg madredd.
Thank you. Research published by Dr Tamas Szakmany this week has found that over 7,500 people were admitted to hospitals in Wales with sepsis, resulting in more than 1,500 deaths. That is more than breast and prostate cancer combined. He also highlights a degree of variation in how clinical teams respond to sepsis, as of 290 patients showing signs of sepsis, just 12 per cent were initially screened and treated in line with best practice. Many of those affected describe the sinister effects arising from such a dangerous and life-threatening disease, including amputations and many life-changing consequences—that’s if you survive. A common theme is the blatant lack of awareness, particularly within a health setting, and the saddest part of this is that the majority of cases could be prevented or treated with antibiotics if caught early enough, especially following on—
Diolch. Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Dr Tamas Szakmany yr wythnos hon wedi canfod y derbyniwyd dros 7,500 o bobl i ysbytai yng Nghymru yn dioddef o fadredd, gan arwain at fwy na 1,500 o farwolaethau. Mae hynny'n fwy na chanser y fron a’r brostad gyda’i gilydd. Mae hefyd yn tynnu sylw at rywfaint o amrywiad o ran sut y mae timau clinigol yn ymateb i fadredd, gan, o 290 o gleifion a oedd yn dangos arwyddion o fadredd, dim ond 12 y cant gafodd eu sgrinio i ddechrau a'u trin yn unol ag arfer gorau. Mae llawer o'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn disgrifio’r effeithiau sinistr sy’n deillio o glefyd mor beryglus, sy'n bygwth bywyd, gan gynnwys trychiadau a llawer o ganlyniadau sy’n newid bywyd—os byddwch chi’n goroesi, hynny yw. Un thema gyffredin yw diffyg ymwybyddiaeth amlwg, yn enwedig mewn lleoliad iechyd, a'r rhan dristaf o hyn yw y gellid atal neu drin y rhan fwyaf o achosion gyda gwrthfiotigau os cânt eu dal yn ddigon cynnar, yn enwedig yn dilyn ymlaen o—
Can you get to a question please?
A allwch chi ddod at gwestiwn os gwelwch yn dda?
England have launched a public health campaign ‘Could it be Sepsis?’. Northern Ireland ‘Just say Sepsis’—
Mae Lloegr wedi lansio ymgyrch iechyd y cyhoedd 'Could it be Sepsis?'. Gogledd Iwerddon 'Just say Sepsis'—
The question needs to be asked.
Mae angen gofyn y cwestiwn.
How do you, as First Minister, intend to address the shortfalls and inconsistencies that are evident here in Wales and how immediately do you intend to do this?
Sut ydych chi, fel Prif Weinidog, yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffygion a’r anghysondebau sy'n amlwg yma yng Nghymru a sut ydych chi’n bwriadu gwneud hyn ar unwaith?
Well, we already have in place the national early warning score system in every hospital. The Global Sepsis Alliance recognised the work of NHS Wales for its sepsis awareness and education initiatives at the 2016 Global Sepsis Awards, something, of course, which we very much welcome. But, of course, it is still the case that many are not diagnosed in time as it’s a difficult condition to diagnose—that is recognised. But it is hugely important that we have consistency across our hospitals in terms of how sepsis is identified early, and that system is something that is in place and is widely used across the Welsh NHS.
Wel, mae gennym ni’r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol eisoes ar waith ym mhob ysbyty. Cydnabuwyd gwaith ymwybyddiaeth ac addysg madredd GIG Cymru gan y Gynghrair Fadredd Fyd-eang yng Ngwobrau Madredd Byd-eang 2016, rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n ei groesawu’n fawr iawn. Ond, wrth gwrs, mae'n dal yn wir bod llawer nad ydynt yn cael diagnosis mewn pryd gan ei fod yn gyflwr anodd gwneud diagnosis ar ei gyfer—cydnabyddir hynny. Ond mae'n hynod bwysig bod gennym ni gysondeb ar draws ein hysbytai o ran sut y nodir madredd yn gynnar, ac mae’r system honno yn rhywbeth sydd ar waith ac yn cael ei defnyddio’n eang ar draws GIG Cymru.
First Minister, the national confidential inquiry, as has just been mentioned, into patient outcome and death, published in November 2015, says that sepsis kills more people than breast, bowel and prostate cancer combined in the UK. The report recommends more doctors and nurses use early warning systems and screening checklists to prompt them to check for signs of sepsis. The health Cabinet Secretary says he is open-minded about considering whether to make hospitals screen patients with symptoms in the same way. So, will the First Minister outline how the Welsh Government can ensure the Welsh national health service ensure a universal and consistent approach to screening for sepsis?
Brif Weinidog, mae’r ymchwiliad cyfrinachol cenedlaethol, fel y soniwyd nawr, i ganlyniadau a marwolaeth cleifion, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2015, yn dweud bod madredd yn lladd mwy o bobl na chanser y fron, y coluddyn a’r brostad gyda’i gilydd yn y DU. Mae'r adroddiad yn argymell bod mwy o feddygon a nyrsys yn defnyddio systemau rhybudd cynnar a rhestrau gwirio sgrinio i'w hannog i chwilio am arwyddion o fadredd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn dweud bod ganddo feddwl agored ynghylch ystyried pa un a ddylid gwneud i ysbytai sgrinio cleifion â symptomau yn yr un modd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn sicrhau dull gweithredu cyffredinol a chyson o sgrinio ar gyfer madredd?
Yes. The national early warning score system is part of that consistent approach. Every hospital uses it. It is a simple system that enables staff to assess whether patients are developing sepsis, and, also, ambulance service paramedics are using that system to develop systems for screening patients for sepsis prior to arrival at hospital. Also, staff are using a standard sepsis screening to identify sepsis and instigate rapid action, called the ‘Sepsis Six bundle’. And, so, we are continuing to develop the work that’s already been put in place over the last four years to ensure that more people are diagnosed early with sepsis and fewer people lose their lives because of it.
Gwnaf. Mae'r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol yn rhan o'r dull cyson hwnnw. Mae pob ysbyty yn ei defnyddio. Mae'n system syml sy'n galluogi staff i asesu pa un a yw cleifion yn datblygu madredd, a, hefyd, mae parafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn defnyddio’r system honno i ddatblygu systemau i sgrinio cleifion ar gyfer madredd cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty. Hefyd, mae staff yn defnyddio sgrinio safonol ar gyfer madredd i nodi madredd ac annog gweithredu cyflym, a elwir y 'Sepsis Six Bundle'. Ac, felly, rydym ni’n parhau i ddatblygu'r gwaith a wnaed eisoes yn ystod y pedair blynedd diwethaf i sicrhau bod mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar o fadredd a bod llai o bobl yn colli eu bywydau o’i herwydd.
First Minister, with nearly 2,000 deaths in Wales each year, many of them preventable, sepsis is one of the biggest killers most people aren’t aware of. While educating the public to recognise the signs, and ensuring steps are taken in the NHS to prevent the onset of sepsis are vital, so too is ensuring that our healthcare professionals recognise the signs. Many sepsis survivors owe their lives to a GP who recognised the early onset of sepsis. Therefore, First Minister, what steps is the Government taking to ensure that every GP in Wales receives training to recognise the signs of sepsis as well as how to prevent it?
Brif Weinidog, gyda bron i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, llawer ohonynt y gellid eu hatal, madredd yw un o'r lladdwyr mwyaf nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono. Er bod addysgu'r cyhoedd i adnabod yr arwyddion, a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn y GIG i atal dechreuad madredd yn hanfodol, mae sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn adnabod yr arwyddion hefyd yn bwysig. Mae llawer o oroeswyr madredd yn fyw diolch i feddyg teulu a adnabyddodd ddechreuad madredd yn gynnar. Felly, Brif Weinidog, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn cael hyfforddiant i adnabod arwyddion yn ogystal â sut i'w atal?
Building on what I’ve already mentioned, I mentioned the Sepsis Six bundle. That consists of three quick tests for sepsis, three simple treatments that are proven to combat it and can help to detect and treat the illness at its earliest stages. But, of course, it is hugely important that all health professionals are aware of sepsis, and, indeed, they are, and, indeed, look for the earliest signs, although it can be difficult to diagnose and treat, particularly in the early stages.
Gan ymhelaethu ar yr hyn yr wyf newydd ei grybwyll, soniais am y bwndel Sepsis Six. Mae hwnnw'n cynnwys tri phrawf cyflym ar gyfer madredd, tair triniaeth syml y profwyd eu bod yn ei ymladd ac a all helpu i ganfod a thrin y salwch ar ei gamau cynharaf. Ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o fadredd, ac, yn wir, maen nhw, ac, yn wir, yn chwilio am yr arwyddion cynharaf, er y gall fod yn anodd gwneud diagnosis a’i drin, yn enwedig ar y camau cynnar.
Ardrethi Busnes
Business Rates
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y system ardrethi busnes? OAQ(5)0290(FM)
2. Will the First Minister make a statement on the business rates system? OAQ(5)0290(FM)
Yes. The non-domestic rates system in Wales contributes more than £1 billion towards the funding of local services in Wales.
Gwnaf. Mae'r system ardrethi annomestig yng Nghymru yn cyfrannu mwy na £1 biliwn tuag at ariannu gwasanaethau lleol yng Nghymru.
I thank the First Minister for his answer. Looking ahead to proposals for new business rates arrangements post 2018, is the First Minister able to give an indication of his thinking regarding community sports clubs? I understand that, at the moment, there’s a threshold where 70 per cent of members of such clubs have to be actively participating in that club’s activities to qualify for relief. It seems a very high threshold, considering wider plans and strategies for greater physical activity promotion, especially among younger people. So, I’d appreciate it if the First Minister could give an indication on his thoughts on that matter.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Gan edrych ymlaen at gynigion ar gyfer trefniadau ardrethi busnes newydd ar ôl 2018, a all y Prif Weinidog roi arwydd o’i syniadau am glybiau chwaraeon cymunedol? Deallaf, ar y funud, bod trothwy lle mae’n rhaid i 70 y cant o aelodau clybiau o'r fath fod yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau’r clwb hwnnw i fod yn gymwys i gael rhyddhad. Mae'n ymddangos yn drothwy uchel iawn, o ystyried cynlluniau a strategaethau ehangach ar gyfer mwy o hyrwyddo ymarfer corff, yn enwedig ymhlith pobl iau. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Prif Weinidog roi awgrym o’i syniadau ar y mater hwnnw.
Yes, we are aware of the point that the Member makes, and it does form part of our thinking as we develop a permanent system from 2018 onwards.
Ydym, rydym ni’n ymwybodol o'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae'n rhan o'n syniadau wrth i ni ddatblygu system barhaol o 2018 ymlaen.
First Minister, on many occasions in this Chamber we have heard about the question of relief on plant and machinery in business rates, particularly in areas such as Tata Steel, where we had the blast furnace. Has your Government actually given any further consideration to looking at relief for plant and machinery in the business rates, to ensure that investment can come in to industries, such as the steel industry, and that they will not be penalised as a consequence?
Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rydym ni wedi clywed am y cwestiwn o ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau mewn ardrethi busnes, yn enwedig mewn meysydd fel Tata Steel, lle’r oedd gennym ni’r ffwrnais chwyth. A yw eich Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i edrych ar ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau yn yr ardrethi busnes, er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad ddod i mewn i ddiwydiannau, fel y diwydiant dur, ac na fyddant yn cael eu cosbi o ganlyniad?
It is something that we looked at with the Valuation Office Agency. It is a highly complicated area. What we have done instead, of course, is to put on the table a more generous package for Tata than business rate relief would offer. So, I would argue that what we have on the table goes well beyond what business rate relief on plant and machinery would be able to offer in the first place, especially given the complexities and the time it would take to put such a system in place.
Mae'n rhywbeth a ystyriwyd gennym gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'n faes cymhleth iawn. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn hytrach, wrth gwrs, yw rhoi pecyn mwy hael ar y bwrdd i Tata nag y byddai rhyddhad ardrethi busnes yn ei gynnig. Felly, byddwn yn dadlau bod yr hyn sydd gennym ni ar y bwrdd yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y byddai rhyddhad ardrethi busnes ar offer a pheiriannau yn gallu ei gynnig yn y lle cyntaf, yn enwedig o ystyried y cymhlethdodau a'r amser y byddai'n ei gymryd i roi system o'r fath ar waith.
In light of your answer to me last week, First Minister, saying that you would be able to give full consideration, after the autumn statement, to increasing funding for support to small businesses, how will your Government use the budget consequentials from the Chancellor’s announcement that he will extend rural rate relief to 100 per cent, giving small businesses in England a tax break of up to £2,900?
Yng ngoleuni eich ateb i mi yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, yn dweud y byddech chi’n gallu rhoi ystyriaeth lawn, ar ôl datganiad yr hydref, i gynyddu cyllid ar gyfer cymorth i fusnesau bach, sut bydd eich Llywodraeth yn defnyddio arian canlyniadol y gyllideb o gyhoeddiad y Canghellor y bydd yn ymestyn y rhyddhad ardrethi gwledig i 100 y cant, gan roi gostyngiad treth o hyd at £2,900 i fusnesau bach yn Lloegr?
Well, the revenue consequential is very small—some £35 million, of which £20 million has already been announced. So, we have not been showered with largesse from the UK Government when it comes to revenue funding. Nevertheless, we will look to see how that money can be best used for the good of the people of Wales.
Wel, mae'r arian refeniw canlyniadol yn fach iawn—tua £35 miliwn, y mae £20 miliwn ohono wedi ei gyhoeddi eisoes. Felly, nid ydym ni wedi cael ein boddi mewn haelioni gan Lywodraeth y DU pan ddaw i gyllid refeniw. Serch hynny, byddwn yn edrych i weld sut y gellir defnyddio’r arian yn y modd gorau er lles pobl Cymru.
First Minister, I’ve had countless constituents write to me about business rates—small business holders, people running independent shops—and they’re all telling me that your Government’s business rates are threatening their businesses, may lead them to close or, certainly, lay people off. Why are you hurting small businesses in my region?
Brif Weinidog, rwyf wedi cael etholwyr di-ri yn ysgrifennu ataf am ardrethi busnes—perchnogion busnesau bach, pobl sy’n rhedeg siopau annibynnol—ac maen nhw i gyd yn dweud wrthyf fod ardrethi busnes eich Llywodraeth yn bygwth eu busnesau, y gallent olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau neu, yn sicr, diswyddo pobl. Pam ydych chi’n niweidio busnesau bach yn fy rhanbarth i?
Well, I think the Member has to remember that the last time there was a revaluation was when his party was in Government. I heard no complaints at that point. It’s right to say that, in some parts of Wales, there are particular issues that will need to be addressed, but this is revenue neutral. This is not a way of the Government getting more money. This is a way of rebalancing the business rates system without there being a net gain to Government. That said, of course, we recognise that there will be some parts of Wales where things are difficult, and that’s why we’ve already announced a transitional relief scheme of £10 million, and we will look to see what else we can do in order to smooth the transition process.
Wel, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Aelod gofio mai’r tro diwethaf y bu ailbrisiad oedd pan roedd ei blaid ef mewn Llywodraeth. Ni chlywais unrhyw gwynion bryd hynny. Mae'n iawn i ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru, bod problemau penodol y bydd angen mynd i'r afael â nhw, ond mae hyn yn niwtral o ran refeniw. Nid ffordd i’r Llywodraeth gael mwy o arian yw hon. Mae’n ffordd o ailgydbwyso'r system ardrethi busnes heb fod elw net i'r Llywodraeth. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod y bydd rhai rhannau o Gymru lle mae pethau’n anodd, a dyna pam yr ydym ni eisoes wedi cyhoeddi cynllun rhyddhad trosiannol o £10 miliwn, a byddwn yn edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud er mwyn gwneud y broses bontio yn ddidrafferth.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Questions now from the party leaders. The leader of the UKIP group, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. The Government will be represented at the Supreme Court hearing next week on the case involving article 50, and it’s perfectly reasonable that the Welsh Government’s views should be presented to the court. But what instructions will be given to counsel for the Welsh Government? Will he, or she, be supporting the Government of the United Kingdom, or will he or she be supporting the claimant against the Government of the United Kingdom—i.e. will he be helping to facilitate the wishes of the British people, as expressed in the referendum on 23 June, or the opposite?
Diolch, Lywydd. Bydd y Llywodraeth yn cael ei chynrychioli yn y gwrandawiad Goruchaf Lys yr wythnos nesaf ar yr achos yn ymwneud ag erthygl 50, ac mae'n hollol resymol y dylai barn Llywodraeth Cymru gael ei mynegi i'r llys. Ond pa gyfarwyddiadau fydd yn cael eu rhoi i'r cwnsler dros Lywodraeth Cymru? A fydd ef, neu hi, yn cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu a fydd ef neu hi yn cefnogi'r hawlydd yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig—h.y. a fydd e’n helpu i hwyluso dymuniadau pobl Prydain, fel y’u mynegwyd yn y refferendwm ar 23 Mehefin, neu’r gwrthwyneb?
Neither. The Welsh Government will be representing itself, and the instructions to counsel will be given on the basis of representing the Welsh Government’s position. This is not to do with preventing Brexit; it is to do with making sure that constitutional law is observed.
Ddim y naill na'r llall. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynrychioli ei hun, a bydd y cyfarwyddiadau i'r cwnsler yn cael eu rhoi ar y sail o gynrychioli safbwynt Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn ymwneud ag atal Brexit; mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod cyfraith gyfansoddiadol yn cael ei dilyn.
There is an argument, of course, as to what the constitutional law requires in this particular incident. So, what I’m trying to elicit from the First Minister is on whose side he is going to be—on the view that is held by the United Kingdom Government or the view held by counsel for Mrs Miller, who is the applicant in this case. There are sound legal arguments for saying that an explicit vote in the House of Commons is not required before triggering article 50. In 2008 and in 2011, an Act of Parliament was passed to amend UK legislation to require explicitly a vote in Parliament if there were to be any specific changes to EU law in some areas like common defence policy, the appointment of a European prosecutor, whether Britain should join the euro, whether Britain should join the Schengen agreement, whether we should replace the voting by unanimity by qualified majority voting, and a whole range of incidents. In all those instances, there would be direct effects upon the British people as a consequence of the decision. That’s the essence of the High Court’s decision—that it’s because of those direct effects upon people that an explicit vote in Parliament is required. But as article 50 was not one of the many instances that were set down in an Act of Parliament, then there is certainly no basis for saying that, in this case, there is an implied requirement for the House of Commons or the House of Lords to support a vote in favour of article 50 before the Government is enabled to fulfil the wishes of the British people.
Ceir dadl, wrth gwrs, o ran yr hyn y mae'r gyfraith gyfansoddiadol yn ei wneud yn ofynnol yn yr achos penodol hwn. Felly, yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ennyn gan y Prif Weinidog yw ar ochr pwy y mae’n mynd i fod arni—ar y safbwynt a fynegir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig neu’r safbwynt a fynegir gan y cwnsler dros Mrs Miller, sef y ceisydd yn yr achos hwn. Ceir dadleuon cyfreithiol cadarn dros ddweud nad oes angen pleidlais eglur yn Nhŷ'r Cyffredin cyn sbarduno erthygl 50. Yn 2008 ac yn 2011, pasiwyd Deddf Seneddol i ddiwygio deddfwriaeth y DU i wneud pleidlais yn y Senedd y DU yn ofynnol pe byddai unrhyw newidiadau penodol i gyfraith yr UE mewn rhai meysydd fel polisi amddiffyn cyffredin, penodi erlynydd Ewropeaidd, pa un a ddylai Prydain ymuno â'r ewro, pa un a ddylai Prydain ymuno â chytundeb Schengen, pa un a ddylem ni ddisodli’r pleidleisio drwy unfrydedd gyda phleidleisio mwyafrifol amodol, ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Yn yr holl achosion hynny, byddai effeithiau uniongyrchol ar bobl Prydain o ganlyniad i'r penderfyniad. Dyna hanfod penderfyniad yr Uchel Lys—mai oherwydd yr effeithiau uniongyrchol hynny ar bobl y mae angen pleidlais benodol yn y Senedd. Ond gan nad oedd erthygl 50 yn un o'r enghreifftiau niferus a osodwyd i lawr mewn Deddf Seneddol, yna’n sicr nid oes sail ar gyfer dweud, yn yr achos hwn, bod gofyniad ymhlyg i Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi gefnogi pleidlais o blaid erthygl 50 cyn i'r Llywodraeth allu bodloni dymuniadau pobl Prydain.
If the leader of UKIP is pitching to act as counsel in the Supreme Court, he’s doing a reasonable job for himself. He understands the constitutional issue that has to be resolved in court. We will all have our different positions. The question for us is: can the royal prerogative be used to start what would be an unstoppable process towards changing the constitution of Wales. There are serious legal arguments that need to be explored in the Supreme Court. He has recognised that, and I welcome that. Unfortunately, there are some in his party who see this as some kind of conspiracy to stop Brexit. That is not what this is about. This is about ensuring that if an important constitutional legal principle is examined and judgment given on that, and not just for Brexit, of course, this could be used in the future for other issues as well.
Os yw arweinydd UKIP yn cynnig ei hun i weithredu fel cwnsler yn y Goruchaf Lys, mae'n rhoi cynnig rhesymol arni. Mae'n deall y mater cyfansoddiadol y mae'n rhaid ei ddatrys yn y llys. Bydd gan bob un ohonom ein gwahanol safbwyntiau. Y cwestiwn i ni yw: a ellir defnyddio’r uchelfraint frenhinol i ddechrau’r hyn a fyddai'n broses na ellid ei hatal tuag at newid cyfansoddiad Cymru. Ceir dadleuon cyfreithiol pwysig y mae angen eu harchwilio yn y Goruchaf Lys. Mae ef wedi cydnabod hynny, ac rwy’n croesawu hynny. Yn anffodus, mae rhai yn ei blaid sy'n gweld hyn fel rhyw fath o gynllwynio i atal Brexit. Nid dyna beth yw diben hyn. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau, os caiff egwyddor gyfreithiol gyfansoddiadol bwysig ei harchwilio ac y rhoir dyfarniad ar hynny, ac nid yn unig ar gyfer Brexit, wrth gwrs, gellid defnyddio hyn yn y dyfodol ar gyfer materion eraill hefyd.
Indeed. So, what I’m trying to elicit from the First Minister, and which he still has not given an answer to, is: what will the counsel for the Welsh Government actually be saying in the course of these proceedings? Because the counsel for the Government said nothing in the High Court at all. Is it intended that counsel for the Welsh Government will say something in the Supreme Court hearing, and, if so, will he be arguing against the case of the United Kingdom Government that we should go ahead and trigger article 50 as soon as possible without complicating matters by having further votes in Parliament?
Yn wir. Felly, yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ennyn gan y Prif Weinidog, ac nad yw wedi rhoi ateb iddo o hyd, yw: beth fydd y cwnsler dros Lywodraeth Cymru yn ei ddweud yn ystod yr achos hwn? Oherwydd ni ddywedodd y cwnsler dros y Llywodraeth unrhyw beth o gwbl yn yr Uchel Lys. A fwriedir y bydd y cwnsler dros Lywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth yn y gwrandawiad Goruchaf Lys, ac, os felly, a fydd e’n dadlau yn erbyn achos Llywodraeth y Deyrnas Unedig y dylem ni fwrw ymlaen a chychwyn erthygl 50 cyn gynted â phosibl heb gymhlethu materion trwy gael rhagor o bleidleisiau yn y Senedd?
Well, he’s perfectly welcome to read the grounds, which are public, and he will see the case that we make. We represent ourselves. We are not there to back one side or the other but to put the case on behalf of the people of Wales in terms of what constitutional principles should be followed. It just so happens that Brexit is the issue, but it could be any other issue where this constitutional principle would need to be examined. So, it’s important that it’s examined now.
Wel, rhwydd hynt iddo ddarllen y sail, sy’n gyhoeddus, a bydd yn gweld yr achos yr ydym ni’n ei gyflwyno. Rydym ni’n cynrychioli ein hunain. Nid ydym ni yno i gefnogi’r naill ochr na'r llall ond i gyflwyno’r achos ar ran pobl Cymru o ran pa egwyddorion cyfansoddiadol y dylid eu dilyn. Digwydd bod mai Brexit yw'r pwnc, ond gallai fod yn unrhyw bwnc arall lle byddai angen ystyried yr egwyddor gyfansoddiadol hon. Felly, mae'n bwysig ei fod yn cael ei archwilio nawr.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
The leader of Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. First Minister, a ban on letting agents fees was announced in the recent autumn statement announcement, with England now joining Scotland. When it comes to Wales, your finance Secretary told the BBC that he wanted to wait and see how the ban in Scotland worked first. Do you know which year they banned letting agent fees in Scotland?
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd gwaharddiad ar ffioedd asiantau gosod yn y cyhoeddiad datganiad yr hydref diweddar, gyda Lloegr yn ymuno â’r Alban bellach. Pan ddaw i Gymru, dywedodd eich Ysgrifennydd cyllid wrth y BBC ei fod eisiau aros i weld sut mae'r gwaharddiad yn yr Alban yn gweithio yn gyntaf. A ydych chi'n gwybod ym mha flwyddyn y gwnaethant wahardd ffioedd asiantau gosod yn yr Alban?
Yes. The position in Scotland is this: that the Rent (Scotland) Act 1984 makes the payment of any premium in respect of granting, renewal or continuance of a protected tenancy an offence. That definition has been in place since 30 November 2012. So, practically, since 2012, that has been in place. I can say, however, that we are looking again at this issue. Our fear was that if fees were abolished, then that would be loaded onto rents. The evidence from Scotland is interesting in that regard. I know this is an issue that my colleague, Jenny Rathbone, has been particularly concerned about, given the effect on her constituency.
Ydw. Dyma’r sefyllfa yn yr Alban: mae Deddf Rhent (Yr Alban) 1984 yn gwneud talu unrhyw bremiwm o ran rhoi, adnewyddu neu barhau tenantiaeth warchodedig yn drosedd. Mae’r diffiniad hwnnw wedi bod ar waith ers 30 Tachwedd, 2012. Felly, yn ymarferol, mae hynny wedi bod ar waith ers 2012. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ein bod ni’n ailystyried y mater hwn. Ein hofn, pe byddai ffioedd yn cael eu diddymu, oedd y byddai hynny’n cael ei lwytho ar renti wedyn. Mae'r dystiolaeth o'r Alban yn ddiddorol yn hynny o beth. Gwn fod hwn yn fater y mae fy nghydweithiwr, Jenny Rathbone, wedi bod yn arbennig o bryderus yn ei gylch, o ystyried yr effaith ar ei hetholaeth.
I’m glad you raised that point about Scotland, because the banning of letting fees there has shown, according to the ONS, that rents in Scotland and Wales rose at a substantially lower rate than in England over the past six years, with rents in Scotland actually falling over the past year. So, it shows that this ban on letting fees doesn’t actually increase rents. Now, you’re right—Scotland banned these fees in 2012. So, how much longer do tenants in Wales have to wait, then? I would have thought that four years was long enough. The fact is that you've been even slower on this vitally important social justice question than even the Tories in Westminster.
Now, First Minister, home ownership is becoming a crucial issue for this generation of young people; it's becoming almost impossible to get on the property ladder. Getting their rent paid is now the top priority, and, in the rented sector, moving home can bring about a set of unjustified fees, with Shelter Cymru’s mystery-shopping exercise a few years ago suggesting that it can cost up to £1,000 extra. Unless action is taken, it will only be Wales that will have these letting fees. I would welcome a firm commitment from you this afternoon, First Minister, explaining to us how you are going to ban these letting agent fees. Will you give us that commitment today?
Rwy'n falch eich bod wedi codi'r pwynt yna am yr Alban, gan fod gwahardd ffioedd gosod yno wedi dangos, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bod rhenti yng Nghymru a'r Alban wedi cynyddu ar gyfradd sylweddol is nag yn Lloegr dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae rhenti yn yr Alban wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae'n dangos nad yw'r gwaharddiad hwn ar ffioedd gosod yn cynyddu rhenti mewn gwirionedd. Nawr, rydych chi'n iawn—gwaharddwyd y ffioedd hyn gan yr Alban yn 2012. Felly, faint yn hwy y mae’n rhaid i denantiaid yng Nghymru aros? Byddwn wedi meddwl bod pedair blynedd yn ddigon hir. Y ffaith yw eich bod wedi bod yn arafach fyth ar y cwestiwn cyfiawnder cymdeithasol hanfodol bwysig hwn na’r Torïaid yn San Steffan hyd yn oed.
Nawr, Brif Weinidog, mae perchentyaeth yn dod yn fater hollbwysig i’r genhedlaeth hon o bobl ifanc; mae'n mynd bron yn amhosibl cael troed ar yr ysgol eiddo. Talu eu rhent yw’r brif flaenoriaeth nawr, ac, yn y sector rhentu, gall symud cartref arwain at gyfres o ffioedd na ellir eu cyfiawnhau, wrth i ymarfer siopa cudd Shelter Cymru rai blynyddoedd yn ôl awgrymu y gall gostio hyd at £1,000 yn ychwanegol. Oni bai fod camau’n cael eu cymryd, dim ond Cymru fydd â’r ffioedd gosod hyn. Byddwn yn croesawu ymrwymiad pendant gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog, yn egluro i ni sut yr ydych chi’n mynd i wahardd y ffioedd asiantau gosod hyn. A wnewch chi roi’r ymrwymiad hwnnw i ni heddiw?
I can say this is something that is actively under consideration. I understand the point that she makes; it would look strange for Wales to have letting agent fees while England and Scotland didn't. There is some evidence now from Scotland that the effect in terms of rental increases was not as great as was feared, and that is something that will play in very strongly to the action we will take over the next few months.
Gallaf ddweud bod hyn yn rhywbeth sydd o dan ystyriaeth weithredol. Rwy’n deall y pwynt y mae hi'n ei wneud; byddai'n edrych yn rhyfedd i Gymru fod â ffioedd asiantau gosod er nad ydynt gan Loegr a'r Alban. Ceir rhywfaint o dystiolaeth bellach o'r Alban nad oedd yr effaith o ran y cynnydd rhent mor fawr ag yr ofnwyd, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn cael effaith gref iawn ar y camau y byddwn ni’n eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf.
First Minister, last year, Plaid Cymru tabled amendments to the Renting Homes (Wales) Bill, but you declined at that point to take up the opportunity to ban excessive letting fees, apparently against the wishes of your own backbenchers. And banning excessive letting agency fees is not the only issue on which your backbenchers have wanted to vote with Plaid Cymru amendments to improve legislation; we wanted to ban zero-hours contracts in social care. But there always seems to be an excuse, First Minister: either you don't have the power, or the amendment wasn't drafted correctly, or, my favourite, ‘We haven't consulted on the issue’, even after 17 years of being in power. Why is it, First Minister, that when Plaid Cymru tries to implement policies that help those on the lowest incomes to get out of poverty, your Government votes against us?
Brif Weinidog, y llynedd, cynigiodd Plaid Cymru welliannau i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), ond fe wnaethoch chi wrthod manteisio ar y cyfle i wahardd ffioedd gosod gormodol bryd hynny, yn groes i ddymuniadau'r rhai ar eich meinciau cefn eich hun, mae’n debyg. Ac nid gwahardd ffioedd asiantau gosod gormodol yw'r unig fater y mae eich meinciau cefn wedi dymuno pleidleisio gyda gwelliannau Plaid Cymru i wella deddfwriaeth; roeddem ni eisiau gwahardd contractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol. Ond mae’n ymddangos bod esgus bob amser, Brif Weinidog: naill ai nid yw’r pŵer gennych chi, neu ni chafodd y gwelliant ei ddrafftio’n gywir, neu, fy ffefryn i, 'Nid ydym wedi ymgynghori ar y mater’, hyd yn oed ar ôl 17 mlynedd o fod mewn grym. Pam, Brif Weinidog, pan fydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno polisïau sy'n helpu’r rhai ar yr incwm isaf ddianc rhag tlodi, mae eich Llywodraeth chi yn pleidleisio yn ein herbyn?
Well, I do remember that her party was in Government for four years, which is often conveniently forgotten. And there will be issues—the issue of zero-hours contracts attached to the social services Bill, if I remember rightly, was an issue. The fear was the entire Bill would be referred to the Supreme Court. It’s not an issue of disagreement on principle, not in the slightest—far from it; we’re at the same place when it comes to zero-hours contracts. In the same way, we will revisit the issue of letting agents fees in the light of the evidence that is there from Scotland, through Shelter, and it is right to say that it would look unusual for Wales to have letting agents fees with England and Scotland not. The concern that we have, that this would simply be added to rents, appears from the evidence in Scotland now to be less of a concern than before.
Wel, rwy’n cofio bod ei phlaid hi mewn Llywodraeth am bedair blynedd, sy’n aml yn cael ei anghofio yn gyfleus. A bydd problemau—roedd y mater o gontractau dim oriau ynghlwm wrth y Bil gwasanaethau cymdeithasol, os cofiaf yn iawn, yn broblem. Yr ofn oedd y byddai'r Bil cyfan yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys. Nid yw'n fater o anghytuno mewn egwyddor, ddim o gwbl—ymhell ohoni; rydym ni o’r un safbwynt pan ddaw i gontractau dim oriau. Yn yr un modd, byddwn yn ailystyried y mater o ffioedd asiantau gosod yng ngoleuni'r dystiolaeth sydd ar gael o'r Alban, drwy Shelter, ac mae'n iawn i ddweud y byddai'n edrych yn anarferol i Gymru fod â ffioedd asiantau gosod ac i Loegr a’r Alban fod hebddynt. Mae’n ymddangos nawr, o’r dystiolaeth yn yr Alban, bod y pryder sydd gennym ni, y byddai hyn yn cael ei ychwanegu at renti, yn llai o bryder nag o'r blaen.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
The leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.
Thank you very much, Presiding Officer. First Minister, if I could return to the first question today, on sepsis, I'd like to commend my colleague, Angela Burns, who now chairs the all-party group on this particular issue—after going through some pretty horrendous experiences herself she is able to bring those personal experiences to the table. This is an issue that, obviously, through recent media coverage, really has come to the forefront of people's thinking, but has been quietly lurking in the background in health professionals’ minds for quite some time. And, in fairness to the Welsh Government, they've brought forward a strategy to try and tackle some of the areas that people do face when they present and want to be assessed in hospital. But it is a fact that only one in 10 people is receiving the right treatment and the right assessments in hospitals. What type of target can we aim for this time next year? Because I hear the warm words and, rightly, the words that people want to hear, but they actually want hear progress on this particular issue. So, what progress can we specifically hold you to on screening and treatment in 12 months’ time, First Minister?
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, os caf ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf heddiw, ar fadredd, hoffwn ganmol fy nghydweithiwr, Angela Burns, sy’n cadeirio'r grŵp hollbleidiol ar y mater penodol hwn erbyn hyn—ar ôl bod trwy brofiadau eithaf echrydus ei hun, mae hi’n gallu dod â’r profiadau personol hynny at y bwrdd. Mae hwn yn fater sydd, yn amlwg, trwy sylw diweddar yn y cyfryngau, wir wedi dod i flaen meddyliau pobl, ond sydd wedi bod yn llechu’n dawel yn y cefndir ym meddyliau gweithwyr iechyd proffesiynol ers cryn amser. Ac, er tegwch i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi cyflwyno strategaeth i geisio mynd i'r afael â rhai o'r meysydd y mae pobl yn eu hwynebu pan fyddant yn cyflwyno eu hunain ac eisiau cael eu hasesu yn yr ysbyty. Ond mae'n ffaith mai dim ond un o bob 10 o bobl sy’n cael y driniaeth gywir a'r asesiadau cywir mewn ysbytai. Pa fath o darged allwn ni ystyried fel y nod yr adeg hon y flwyddyn nesaf? Gan fy mod i’n clywed y geiriau gwresog ac, yn gywir, y geiriau y mae pobl eisiau eu clywed, ond maen nhw eisiau clywed bod cynnydd ar y mater penodol hwn mewn gwirionedd. Felly, pa gynnydd allwn ni eich dwyn i gyfrif yn benodol amdano o ran sgrinio a thriniaeth ymhen blwyddyn, Brif Weinidog?
Well, it’s part of the 1000 Lives programme that we have to make sure that more people are given the chance to survive and given the chance to have the right level of treatment for the illness itself. He asks are there any particular figures in terms of a target. The answer to that is ‘no’; there's no particular figure, but what I can say is we want to see more people diagnosed early to give them the opportunity of surviving. We have already in place, as I said, the early warning score system, the Sepsis Six analysis scheme as well. We believe that all these things, taken together, will increase awareness of sepsis, particularly awareness amongst medics, so that they are able to diagnose more quickly and, therefore, more people are diagnosed and therefore will survive.
Wel, mae'n rhan o’r rhaglen 1000 o Fywydau sydd gennym ni i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn cael y cyfle i oroesi ac yn cael y cyfle i dderbyn y lefel gywir o driniaeth ar gyfer y salwch ei hun. Mae'n gofyn a oes unrhyw ffigurau penodol o ran targed. ‘Nac oes’ yw’r ateb i hynny; nid oes ffigur penodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni eisiau gweld mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw oroesi. Mae gennym ni ar waith eisoes, fel y dywedais, y system sgôr rhybudd cynnar, cynllun dadansoddi Sepsis Six hefyd. Rydym ni’n credu y bydd yr holl bethau hyn, gyda'i gilydd, yn cynyddu ymwybyddiaeth o fadredd, yn enwedig ymwybyddiaeth ymhlith meddygon, fel eu bod yn gallu gwneud diagnosis yn gyflymach ac, felly, bod mwy o bobl yn cael diagnosis ac felly’n goroesi.
Thank you for that, First Minister. I was specifically looking for a target from yourself, as the First Minister and the Government. I appreciate there might not be hard and fast figures there at the moment, but the figure I did put to you is that, at the moment, only one in 10 patients are actually receiving that screening and that support that most probably would help and actually save their lives. Now, that’s a figure none of us want to leave at. We want to push that on, and you have the ability as a Government to push on from that figure.
When you actually think that 15 times more people are killed by sepsis in Wales, or die from sepsis in Wales, than in road accidents—we’ve had a huge programme, a successful programme, of road traffic safety and road traffic information—this is an area that the Welsh Government need to be at the forefront of, and delivering tangible results within our health service. Pockets of good practice are just not good enough, as was identified in the recent report. So, I’ll use my second question of three, if I may, to try and push you to try and get a hard figure out of you of where we will be this time next year when it comes to hospital screening for sepsis and actually being able to deliver the treatments that are required.
Diolch am hynna, Brif Weinidog. Roeddwn i’n chwilio’n benodol am darged gennych chi, fel y Prif Weinidog a'r Llywodraeth. Rwy’n sylweddoli efallai na fydd ffigurau eglur a phendant ar gael ar hyn o bryd, ond y ffigur a roddais i chi yw mai dim ond un o bob 10 o gleifion sy’n derbyn, ar hyn o bryd, y sgrinio a’r gefnogaeth honno y mae’n debyg fyddai'n helpu ac yn achub eu bywydau a dweud y gwir. Nawr, mae hwnnw'n ffigur nad yw’r un ohonom ni eisiau ei adael. Rydym ni eisiau gwthio hwnnw yn ei flaen, ac mae gennych chi’r gallu fel Llywodraeth i fwrw ymlaen o'r ffigur hwnnw.
Pan fyddwch chi’n meddwl mewn gwirionedd bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn cael eu lladd gan fadredd yng Nghymru, neu’n marw o fadredd yng Nghymru, na mewn damweiniau ffordd—bu gennym ni raglen enfawr, rhaglen lwyddiannus, o ddiogelwch traffig ffyrdd a gwybodaeth traffig ffyrdd—mae hwn yn faes lle mae angen i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad, a sicrhau canlyniadau pendant yn ein gwasanaeth iechyd. Nid yw pocedi o arfer da yn ddigon da o gwbl, fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddar. Felly, hoffwn ddefnyddio fy ail gwestiwn o dri, os caf, i geisio eich gwthio chi i geisio cael ffigur pendant gennych chi o ran ble y byddwn ni yr adeg hon y flwyddyn nesaf, pan ddaw i sgrinio ar gyfer madredd mewn ysbytai a gallu darparu'r triniaethau sydd eu hangen.
Well, there is already a consistent approach through the national early warning score system. That is in place across all hospitals in Wales. It’s widely used by staff in community hospitals and in residential homes for the elderly and indeed in mental health services. I mentioned earlier that the ambulance service is developing systems for screening patients for sepsis prior to arrival. Velindre uses the system across all its clinical areas and out-patient chemotherapy units, ensuring that it meets the needs of cancer patients, and then of course I mentioned the Sepsis Six bundle. What does that mean in terms of numbers? Well, we work with the UK Sepsis Trust; there’s a very good working relationship. We want to see that figure of one out of 10 improve in the future so that more people have a chance of survival, and we’re confident that will happen.
Wel, ceir dull cyson eisoes drwy'r system sgôr rhybudd cynnar genedlaethol. Mae honno ar waith ar draws pob ysbyty yng Nghymru. Fe’i defnyddir yn eang gan staff mewn ysbytai cymuned ac mewn cartrefi preswyl i'r henoed ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl, mewn gwirionedd. Soniais yn gynharach fod y gwasanaeth ambiwlans yn datblygu systemau ar gyfer sgrinio cleifion ar gyfer madredd cyn cyrraedd. Mae Felindre yn defnyddio system ar draws ei holl feysydd clinigol ac unedau cemotherapi cleifion allanol, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cleifion canser, ac yna wrth gwrs, soniais am y bwndel Sepsis Six. Beth mae hynny'n ei olygu o ran niferoedd? Wel, rydym ni’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Madredd y DU; ceir perthynas waith dda iawn. Rydym ni eisiau gweld y ffigur hwnnw o un allan o 10 yn gwella yn y dyfodol fel bod gan fwy o bobl gyfle i oroesi, ac rydym ni’n hyderus y bydd hynny'n digwydd.
I appreciate I don’t seem to be able to get a figure out of you today, First Minister. I have paid tribute to the actions the Government have taken so far, but it is quite clearly identified that there are only pockets of good practice, regrettably, in the Welsh NHS. I’ve given you the figure of one in 10 and I’ve given you the figure that 15 times more people die of sepsis than of road accidents, so I would hope that maybe the Cabinet Secretary could make a written statement to indicate where the Government wants to be in 12 months’ time, so that we can see how open his mind is to actually bringing forward real progress in this area.
But one area where real progress can be made is in the recruitment and retention of doctors and medical staff. I appreciate again this is a UK-wide issue, this is, and in certain disciplines it’s more pronounced in other parts of the United Kingdom than maybe here in Wales. But, regrettably, the Royal College of Surgeons have pointed out that 40 per cent of consultant posts are vacant here in Wales, and many of them do not actually attract—vacant positions I’m talking about, not actually staff positions—40 per cent of vacancies do not receive any reply to the adverts put out there. What progress will the Welsh Government be doing and undertaking over the next 12 months to actually attract and retain clinicians to our NHS so that, when it comes to sepsis and other conditions, we have the expertise at the coalface to actually deliver those diagnoses to improve treatments for patients entering the NHS here in Wales?
Rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n ymddangos fy mod i’n gallu cael ffigur allan ohonoch chi heddiw, Brif Weinidog. Rwyf wedi talu teyrnged i'r camau y mae’r Llywodraeth wedi eu cymryd hyd yn hyn, ond nodwyd yn gwbl eglur mai dim ond pocedi o arfer da sydd yn y GIG yng Nghymru, yn anffodus. Rwyf wedi rhoi’r ffigur o un o bob 10 i chi ac rwyf i wedi rhoi’r ffigur i chi bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn marw o fadredd nag mewn damweiniau ar y ffyrdd, felly byddwn yn gobeithio efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ysgrifenedig i nodi ble mae'r Llywodraeth eisiau bod ymhen blwyddyn, fel y gallwn weld pa mor agored yw ei feddwl i sicrhau cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn.
Ond un maes lle y gellir gwneud cynnydd gwirioneddol yw recriwtio a chadw meddygon a staff meddygol. Rwy’n gwerthfawrogi eto bod hwn yn fater y DU gyfan, ac mewn rhai disgyblaethau mae'n fwy amlwg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig nag efallai yma yng Nghymru. Ond, yn anffodus, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi tynnu sylw at y ffaith bod 40 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol yn wag yma yng Nghymru, ac nid yw llawer ohonynt yn denu—rwy'n sôn am swyddi gwag, nid swyddi staff gwirioneddol—nid yw 40 y cant o swyddi gwag yn derbyn unrhyw ateb i'r hysbysebion a gyhoeddir. Pa gynnydd fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn ei gynnal dros y flwyddyn nesaf i ddenu clinigwyr i'n GIG a’u cadw yno, fel bod yr arbenigedd gennym, pan ddaw i fadredd a chyflyrau eraill, ar y rheng flaen i wneud y diagnosis hwnnw i wella triniaethau i gleifion sy’n mynd i mewn i'r GIG yma yng Nghymru?
I’m not quite sure where he gets the 40 per cent figure from. The vacancy figure is around 4 per cent in the Welsh NHS. We continue to be proactive in our recruitment. We’ve been in London and Harrogate at events recently in order to present Wales as a good place to be a doctor. We’ve had, at the last count, 280 very hard and solid responses and enquiries to our campaign—it’s a very good campaign. We are confident that we will be able to attract the physicians at all levels, and surgeons at all levels, into the Welsh NHS to make sure that enough people get the service they require.
Nid wyf yn hollol siŵr o le mae'n cael y ffigur o 40 y cant. Tua 4 y cant yw’r ffigur swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru. Rydym ni’n parhau i fod yn rhagweithiol o ran ein recriwtio. Rydym ni wedi bod yn Llundain a Harrogate mewn digwyddiadau yn ddiweddar er mwyn cyflwyno Cymru fel lle da i fod yn feddyg ynddo. Ar y cyfrif diwethaf, rydym ni wedi cael 280 o ymatebion ac ymholiadau pendant a chadarn iawn i’n hymgyrch—mae'n ymgyrch dda iawn. Rydym ni’n hyderus y byddwn ni’n gallu denu'r meddygon ar bob lefel, a llawfeddygon ar bob lefel, i mewn i GIG Cymru i sicrhau bod digon o bobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt.
Cynlluniau Datblygu Lleol
Local Development Plans
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran llunio cynlluniau datblygu lleol? OAQ(5)0295(FM)
3. Will the First Minister make a statement on the Welsh Government's role in the formation of local development plans? OAQ(5)0295(FM)
Yes. The Government proactively engages with local planning authorities to ensure national planning policy as set out in ‘Planning Policy Wales’ and associated technical advice notes is appropriately reflected in local development plans.
Gwnaf. Mae'r Llywodraeth yn ymgysylltu’n rhagweithiol ag awdurdodau cynllunio lleol er mwyn sicrhau bod polisi cynllunio cenedlaethol fel y nodir ym 'Mholisi Cynllunio Cymru' a nodiadau cyngor technegol cysylltiedig yn cael ei adlewyrchu’n briodol yn y cynlluniau datblygu lleol.
Thank you for your answer, First Minister. You will be aware that the Welsh Government publish letters to chief planning officers that supplement Welsh planning policy in Wales. Can you confirm whether or not these letters constitute Welsh Government planning policy, which local authorities are obliged to follow, or whether they are merely guidance and advice, which can be accepted or rejected in the formation of LDPs? Also, I would be grateful if you could set out what pressure the Welsh Government has exerted on Powys County Council in directing them to include local search areas for renewable energy schemes over and above existing strategic search areas across the county?
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llythyrau at brif swyddogion cynllunio sy'n ategu'r polisi cynllunio yng Nghymru. A allwch chi gadarnhau pa un a yw’r llythyrau hyn yn gyfystyr â pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru, y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn, neu ai canllawiau a chyngor yn unig ydynt, y gellir eu derbyn neu eu gwrthod wrth lunio CDLl? Hefyd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi pa bwysau y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar Gyngor Sir Powys o ran ei gyfarwyddo i gynnwys ardaloedd chwilio lleol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy yn ychwanegol at yr ardaloedd chwilio strategol presennol ar draws y sir?
We have not directed Powys council to amend their LDP. Government officials have engaged with Powys County Council to provide advice and guidance on national policy, including renewable energy, and including responding at formal consultation stages. Local authorities do have to bear in mind the guidance that comes from Welsh Government, because of course that guidance will be taken into account when the LDP is examined by the inspector, who, of course, has the final say as to whether an LDP is accepted or not.
Nid ydym wedi cyfarwyddo cyngor Powys i ddiwygio ei CDLl. Mae swyddogion y Llywodraeth wedi ymgysylltu â Chyngor Sir Powys i roi cyngor ac arweiniad ar bolisi cenedlaethol, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, a chan gynnwys ymateb yn ystod camau ymgynghori ffurfiol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gadw mewn cof y canllawiau a ddaw gan Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, bydd y canllawiau hynny’n cael eu cymryd i ystyriaeth pan fydd y CDLl yn cael ei archwilio gan yr arolygydd, sydd, wrth gwrs, â’r gair olaf ynghylch pa un a yw CDLl yn cael ei dderbyn ai peidio.
First Minister, your Government’s role in Cardiff’s LDP is the plan to dump thousands of dwellings on our countryside. Cardiff Plaid will make sure that Cardiff council passes a motion to demand that the Assembly revokes Cardiff’s local destruction plan. Will you support that motion to save Cardiff’s green fields?
Brif Weinidog, swyddogaeth eich Llywodraeth yn CDLl Caerdydd yw’r bwriad i daflu miloedd o anheddau ar ein cefn gwlad. Bydd Plaid Cymru Caerdydd yn sicrhau bod cyngor Caerdydd yn pasio cynnig i fynnu bod y Cynulliad yn diddymu cynllun difa lleol Caerdydd. A wnewch chi gefnogi'r cynnig hwnnw i achub meysydd glas Caerdydd?
It’s a legal nonsense, as well he knows. He doesn’t like incomers much, does he? It’s one of the things that we do notice about him. He doesn’t like people coming to live in Cardiff. Perhaps he wants to consider which party he should be a member of, but that’s a matter for him. The reality is that it’s for the local authorities to adopt their LDPs, it’s for the local authorities to decide what to do with their LDP. The Assembly has no legal role or power to rescind the LDP of a local authority, nor can there ever be a vote on the floor of this Chamber to rescind an LDP. It’s a matter of local democracy that a local council can produce its LDP, taking into account national planning policy, and taking into account what the inspector says as part of that LDP process. That’s exactly what Cardiff council has done.
Lol gyfreithiol yw hyn, fel y mae’n gwybod yn iawn. Nid yw'n hoff iawn o fewnfudwyr, nac ydy? Mae'n un o'r pethau yr ydym ni’n ei sylwi amdano. Nid yw'n hoffi pobl yn dod i fyw yng Nghaerdydd. Efallai yr hoffai ystyried pa blaid y dylai fod yn aelod ohoni, ond mater iddo ef yw hynny. Y gwir amdani yw mai mater i’r awdurdodau lleol yw mabwysiadu eu CDLlau, mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu beth i'w wneud â'u CDLl. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw ran na grym cyfreithiol i ddiddymu CDLl awdurdod lleol, ac ni ellir byth cael pleidlais ar lawr y Siambr hon i ddiddymu CDLl ychwaith. Mae'n fater o ddemocratiaeth leol y gall cyngor lleol lunio ei CDLl, gan gymryd polisi cynllunio cenedlaethol i ystyriaeth, a chan ystyried yr hyn y mae’r arolygydd yn ei ddweud yn rhan o'r broses CDLl honno. Dyna’n union y mae cyngor Caerdydd wedi ei wneud.
Cwestiwn 4, David Rowlands.
Question 4, David Rowlands.
Cynllun Gwella’r M4
M4 Improvement Scheme
Diolch, Lywydd. First Minister, given that a large proportion of all Irish exports, both to the UK—
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, o ystyried bod cyfran fawr o holl allforion Iwerddon, i'r DU—
You need to ask the—
Mae angen i chi ofyn y—
[Continues.]—and to the EU pass along the M4 motorway.
[Yn parhau.]—ac i'r UE yn teithio ar hyd traffordd yr M4.
You need to ask the question on the order paper.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn.
I’m sorry. Well, I just missed two of the words or something out of it. If I have, I apologise to the First Minister—
Mae'n ddrwg gen i. Wel, gadewais ryw air neu ddau allan ohono. Os wyf i wedi, ymddiheuraf i’r Prif Weinidog—
Just ask the question again.
Gofynnwch y cwestiwn eto.
[Continues.]—but the whole ethos of the thing—. Right, I’ll start again, First Minister.
[Yn parhau.]—ond mae holl ethos y peth—. Iawn, mi ddechreuaf eto, Brif Weinidog.
4. A wnaiff y Prif Weinidog archwilio'r posibilrwydd y gallai rhan o gostau cynllun gwella'r M4 gael ei thalu gan Lywodraeth Iwerddon, o gofio bod tri chwarter holl allforion Iwerddon i'r UE a'r DU yn defnyddio'r ffordd honno? OAQ(5)0301(FM)
4. Will the First Minister explore the possibility of part of the cost for the M4 improvement scheme being borne by the Irish Government, given that three quarters of all Irish exports to the EU and UK pass along that road? OAQ(5)0301(FM)
No, it’s for the Welsh Government to maintain the trunk roads and motorways of Wales.
Na wnaf, mater i Lywodraeth Cymru yw cynnal cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru.
I thank the First Minister for the answer, but this is a serious proposition, as I understand Ireland may be able to access funds from the trans-European highways fund. [Interruption.] Very ironic, you say. And here I quote—[Interruption.] And here—[Interruption.]
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb, ond mae hwn yn gynnig o ddifrif, gan fy mod i’n deall y gallai Iwerddon gael mynediad at gyllid o'r gronfa priffyrdd traws-Ewropeaidd. [Torri ar draws.] Eironig iawn, rydych chi’n dweud. Ac yma rwy’n dyfynnu—[Torri ar draws.] Ac yma—[Torri ar draws.]
I am interested in hearing the question.
Mae gen i ddiddordeb mewn clywed y cwestiwn.
And here I quote fund allocation principles:
‘Although we have been investing a lot in improving transport infrastructure, there is under investment in many smaller cross-border sections’—
Ac yma rwy’n dyfynnu egwyddorion dyrannu cyllid:
Er ein bod ni wedi bod yn buddsoddi llawer mewn gwella seilwaith trafnidiaeth, ceir tanfuddsoddiad mewn llawer o rannau trawsffiniol llai—
I can’t hear the question, and I don’t think the First Minister can. Can everybody quieten down, please? Can you ask the question again? I don’t think—[Interruption.] And I’d like it to be—I want you to be heard in quiet.
Ni allaf glywed y cwestiwn, ac nid wyf yn credu y gall y Prif Weinidog. A all pawb dawelu, os gwelwch yn dda? A wnewch chi ofyn y cwestiwn eto? Nid wyf i’n meddwl—[Torri ar draws.] A hoffwn iddo gael—hoffwn i chi gael eich clywed mewn distawrwydd.
Llywydd, I’m glad they realise what they’re saying, and that we now can get funds from the EU, post Brexit, of course. I shall start again, First Minister.
I thank the First Minister for his answer, but this is a serious proposition, as I understand Ireland may be able to access funds from the trans-European highways fund. Here I quote fund allocation principles—[Interruption.]
Lywydd, rwy'n falch eu bod nhw’n sylweddoli'r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ac y gallwn ni gael cyllid gan yr UE nawr, ar ôl Brexit, wrth gwrs. Mi ddechreuaf eto, Brif Weinidog.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond mae hwn yn gynnig o ddifrif, gan fy mod i’n deall y gallai Iwerddon gael mynediad at gyllid o'r gronfa priffyrdd traws-Ewropeaidd. Yma rwy’n dyfynnu egwyddorion dyrannu cyllid—[Torri ar draws.]
I have asked for this question to be heard quietly. Can everybody allow this question to be heard? I want to get to the end of this question.
Rwyf wedi gofyn i'r cwestiwn hwn gael ei glywed mewn distawrwydd. A wnaiff pawb ganiatáu i’r cwestiwn hwn gael ei glywed? Rwyf eisiau cyrraedd diwedd y cwestiwn hwn.
And so do I, Llywydd. Thank you very much.
‘There is under investment in many smaller cross-border sections, and bottlenecks’.
I trust the First Minister would agree that the M4 at Brynglas would certainly qualify for the description ‘bottleneck’.
A finnau hefyd, Lywydd. Diolch yn fawr iawn.
Ceir tanfuddsoddiad mewn llawer o rannau trawsffiniol llai, a thagfeydd.
Hyderaf y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai'r M4 ym Mryn-glas yn sicr yn gymwys ar gyfer y disgrifiad 'tagfa'.
Well, the Member seems to be urging on me that I should urge the Irish Government to apply for European funding to pay for Welsh roads. He has been a member of a party and indeed campaigned in June to end European funding for Welsh roads. He cannot, I suggest, now go to an EU member state and ask them to make up the shortfall that he himself campaigned to engineer in the first place.
There’s a second point as well. We must be very careful here in the sense that England could turn around and say that the M4 goes across the Severn bridge, all the traffic that goes across the Severn bridge goes to Wales, much of the M4 is used by Welsh traffic and, therefore, there should be a Welsh contribution to the M4 east of the Severn bridge. The French authorities could say that the vast majority of freight that comes from the UK goes through Calais, so the UK Government should pay for port infrastructure in Calais and the roads that lead from Calais. Where is the argument then? No; we have to be responsible for the maintenance and upkeep of our own roads in our own countries.
Wel, mae’n ymddangos bod yr Aelod yn fy narbwyllo y dylwn i annog Llywodraeth Iwerddon i wneud cais am gyllid Ewropeaidd i dalu am ffyrdd Cymru. Mae wedi bod yn aelod o blaid ac wedi ymgyrchu ym mis Mehefin i roi terfyn ar gyllid Ewropeaidd ar gyfer ffyrdd Cymru. Ni all, rwy’n awgrymu, fynd at aelod-wladwriaeth yr UE nawr a gofyn iddi wneud iawn am y diffyg y gwnaeth ef ei hun ymgyrchu i’w greu yn y lle cyntaf.
Ceir ail bwynt hefyd. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yma yn yr ystyr y gallai Lloegr droi atom a dweud bod yr M4 yn croesi pont Hafren, bod yr holl draffig sy'n croesi pont Hafren yn mynd i Gymru, bod llawer o'r M4 yn cael ei defnyddio gan draffig yng Nghymru, ac felly , dylid cael cyfraniad gan Gymru at yr M4 i'r dwyrain o bont Hafren. Gallai awdurdodau Ffrainc ddweud bod mwyafrif llethol y nwyddau sy'n dod o'r DU yn mynd trwy Calais, felly dylai Llywodraeth y DU dalu am seilwaith y porthladd yn Calais a'r ffyrdd sy'n arwain o Calais. Ble mae'r ddadl wedyn? Na; mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol am gynnal a chadw ein ffyrdd ein hunain yn ein gwledydd ein hunain.
This is a surreal question, even by the standards of this year. But I must say, Mr Rowlands’s question is reminiscent of a chap who once had a plan to build a wall around his country and bill his next-door neighbours for the work. I’m not sure what happened to that gentleman.
In terms of future co-operation between Wales and Ireland on infrastructure projects, there is a potential scope for a formal arrangement, a bilateral arrangement, between Wales and Ireland, through the Belfast agreement where two or more members can enter into bilateral agreements together. Will the First Minister consider a formal arrangement with the Irish state so that we can have future joint working on infrastructure projects, even tapping in—dare I say—to European funding so that we can formalise it into a Celtic sea alliance that gives some hope to our western regions and the eastern regions of the Irish state?
Mae hwn yn gwestiwn swreal, hyd yn oed yn ôl safonau eleni. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae cwestiwn Mr Rowlands yn atgoffa rhywun o ddyn a oedd â chynllun unwaith i adeiladu wal o amgylch ei wlad a rhoi bil i’w gymdogion drws nesaf am y gwaith. Nid wyf yn siŵr beth ddigwyddodd i'r gŵr bonheddig hwnnw.
O ran cydweithio yn y dyfodol rhwng Cymru ac Iwerddon ar brosiectau seilwaith, ceir lle posibl ar gyfer trefniant ffurfiol, trefniant dwyochrog, rhwng Cymru ac Iwerddon, trwy gytundeb Belfast lle gall dau neu fwy o aelodau ymrwymo i gytundebau dwyochrog gyda'i gilydd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried trefniant ffurfiol gyda gwladwriaeth Iwerddon fel y gallwn ni gael cydweithio ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol, gan fanteisio hyd yn oed—os meiddiaf ddweud—ar arian Ewropeaidd fel y gallwn ei ffurfioli yn gynghrair môr Celtaidd sy'n rhoi rhywfaint o obaith i'n rhanbarthau gorllewinol a rhanbarthau dwyreiniol gwladwriaeth Iwerddon?
Yes, the Celtic sea alliance is based on, I think, the co-operation between Norway and Sweden as a model as to how that would work. It is likely that we will lose INTERREG funding as far as Wales is concerned, which will have an effect particularly on our ferry ports. I’m keen to explore new relationships around the Irish sea, whether it’s with the republic, Northern Ireland or with the Isle of Man, to see how we can help to ensure that there is minimal disruption when the UK leaves the European Union. Of course, the British-Irish Council is a useful body in terms of exploring some of these issues with those countries that border the Irish sea.
Ydy, mae’r gynghrair môr Celtaidd wedi ei seilio, rwy’n credu, ar y cydweithrediad rhwng Norwy a Sweden fel model o ran sut y byddai hynny'n gweithio. Mae'n debygol y byddwn ni’n colli cyllid INTERREG cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, a fydd yn cael effaith ar ein porthladdoedd fferi yn benodol. Rwy'n awyddus i archwilio perthynas newydd o amgylch môr Iwerddon, pa un a yw gyda’r weriniaeth, Gogledd Iwerddon neu gydag Ynys Manaw, i weld sut y gallwn ni helpu i sicrhau bod cyn lleied o amharu â phosibl pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gorff defnyddiol o ran archwilio rhai o'r materion hyn gyda’r gwledydd hynny sy'n ffinio môr Iwerddon.
Cwestiwn 5—Jenny Rathbone.
Question 5—Jenny Rathbone.
Gwahardd Ffioedd Asiantaethau Gosod
Banning Letting Agency Fees
The leader of Plaid Cymru has already stolen my question, but I’ll ask it for the record anyway.
In light of the measures announced in the autumn statement, will the Welsh Government consider joining England—
Mae arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi dwyn fy nghwestiwn, ond rwyf am ei ofyn ar gyfer y cofnod beth bynnag.
Yn wyneb y mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymuno â Lloegr—
Sorry, questions are not stolen in this place. Somebody has asked your question before you got to it. So, just ask the question on the order paper.
Mae'n ddrwg gennyf, nid yw cwestiynau’n cael eu dwyn yn y lle hwn. Mae rhywun wedi gofyn eich cwestiwn cyn i chi ei gyrraedd. Felly, gofynnwch y cwestiwn ar y papur trefn.
5. Yn sgil y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymuno â'r Alban a Lloegr a gwahardd ffioedd asiantaethau gosod? OAQ(5)0306(FM)
5. In light of the measures announced in the Autumn Statement, will the Welsh Government consider joining England and Scotland in banning letting agency fees? OAQ(5)0306(FM)
It’s a matter of where questions are asked, of course, when these things arise, but I give the Member the same answer I gave to the leader of Plaid Cymru, which is: we are studying the impact of the ban in Scotland and, together with the final details of proposals in England, that will inform any action that we take. And as I mentioned earlier on, I thank the Member for the advocacy she has shown to so many tenants in her constituency, where they have been exploited over some years. This is a matter I know she has been very active in combating.
Mae'n fater o ble mae cwestiynau’n cael eu gofyn, wrth gwrs, pan fydd y pethau hyn yn codi, ond rhoddaf yr un ateb i’r Aelod a roddais i arweinydd Plaid Cymru, sef: rydym ni’n astudio effaith y gwaharddiad yn yr Alban ac, ynghyd â manylion terfynol cynigion yn Lloegr, bydd hynny’n llywio unrhyw gamau a gymerwn. Ac fel y soniais yn gynharach, diolchaf i'r Aelod am yr eiriolaeth y mae hi wedi ei ddangos ar ran cymaint o denantiaid yn ei hetholaeth, lle maen nhw wedi dioddef camfanteisio am rai blynyddoedd. Mae hwn yn fater y gwn ei bod hi wedi bod yn weithgar iawn o ran ei wrthwynebu.
Just to put some details on the bones of that issue, I’ve got information that Citizens Advice says the average tenancy fee is £337, Shelter says that 15 per cent of renters are using an agency where they’ve had to pay up £500 or more, and tenants in Cardiff have said that fees are around £450.
Too many agents, certainly operating in my constituency, are charging exploitative levels of fees, frequently far in excess of the actual cost, and also putting on hidden fees, often on people who are very young and are tentatively working their way through what are their rights. You can charge £60 or more for a credit check—a check that the firm will be doing for as little as £5. The renewal fee for staying in the same property can be as high as £300, when it amounts to little more than printing off a contract to sign. So, too many unscrupulous agents have got away with excessive fees and double-charging landlords.
I just want to refer the First Minister to a report from Shelter. Shelter’s research shows—it isn’t just the ONS—that landlords in Scotland were no more likely to have increased rent since 2012 than landlords elsewhere in the UK. So, can you confirm that the Welsh Government has not ruled out action to prevent letting agents charging exorbitant and hidden fees?
Dim ond i roi rhai manylion ar esgyrn y mater hwnnw, mae gennyf wybodaeth fod Cyngor ar Bopeth yn dweud mai £337 yw’r ffi tenantiaeth gyfartalog, mae Shelter yn dweud bod 15 y cant o rentwyr yn defnyddio asiantaeth lle bu’n rhaid iddyn nhw dalu hyd at £500 neu fwy, ac mae tenantiaid yng Nghaerdydd wedi dweud bod ffioedd oddeutu £450.
Mae gormod o asiantau, yn sicr yn gweithredu yn fy etholaeth i, yn codi lefelau ffioedd sy’n camfanteisio, yn aml yn llawer uwch na’r gost wirioneddol, a hefyd yn ychwanegu ffioedd cudd, yn aml i bobl sy'n ifanc iawn ac yn gweithio eu ffordd trwy beth yw eu hawliau yn betrus. Gallwch godi £60 neu fwy am archwiliad credyd—archwiliad y bydd y cwmni’n ei gynnal am gyn lleied â £5. Gall y ffi adnewyddu am aros yn yr un cartref fod mor uchel â £300, pan ei fod yn aml yn gyfystyr â fawr mwy nag argraffu contract i’w lofnodi. Felly, mae gormod o asiantau diegwyddor wedi gallu codi ffioedd gormodol a chodi tâl dwbl ar landlordiaid.
Hoffwn gyfeirio'r Prif Weinidog at adroddiad gan Shelter. Mae gwaith ymchwil Shelter yn dangos—nid yw’n ymwneud â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn unig—nad oedd landlordiaid yn yr Alban yn ddim mwy tebygol o fod wedi codi rhent uwch ers 2012 na landlordiaid mewn mannau eraill yn y DU. Felly, a allwch chi gadarnhau nad yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru camau i atal asiantau gosod rhag codi tâl afresymol a chudd?
Yes, I can confirm that. The Member, of course, makes a strong case for the abolition of such fees. I know that the Minister is actively looking at how this can be taken forward in the future and examining the emerging evidence from Scotland.
Gallaf, mi allaf gadarnhau hynny. Mae’r Aelod, wrth gwrs, yn cyflwyno achos cryf dros ddiddymu ffioedd o'r fath. Gwn fod y Gweinidog yn edrych yn ymarferol ar sut y gellir bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol ac yn archwilio'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r Alban.
First Minister, there seems to have been some confusion at the time—when we debated this previously, in the previous Assembly—over whether you had the powers, or not. And I understand that you were able to give backbench Labour Assembly Members advice to suggest that it wasn’t, in fact, legal for you to do so, something that wasn’t shared with the rest of us as part of that particular debate. I would like to ask here today, First Minister, if you’re minded to bring forward any future debate or any future legislation, if you could put forward that advice to the Assembly, so that we can analyse it independently so that we can assess the way forward, because we seem to be hearing one thing from backbenchers and another from Government.
Brif Weinidog, ymddengys y bu rhywfaint o ddryswch ar y pryd—pan drafodwyd hyn gennym o'r blaen, yn y Cynulliad blaenorol—ynghylch pa un a oedd y pwerau gennych chi ai peidio. Ac rwy’n deall eich bod wedi gallu rhoi cyngor i Aelodau Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn yn awgrymu nad oedd, mewn gwirionedd, yn gyfreithlon i chi wneud hynny, rhywbeth na rannwyd gyda’r gweddill ohonom ni yn rhan o'r ddadl benodol honno. Hoffwn ofyn yma heddiw, Brif Weinidog, os ydych chi’n bwriadu cyflwyno unrhyw ddadl yn y dyfodol neu unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol, a wnewch chi rannu’r cyngor hwnnw gyda’r Cynulliad, fel y gallwn ei ddadansoddi’n annibynnol fel y gallwn asesu’r ffordd ymlaen, gan ei bod hi’n ymddangos ein bod ni’n clywed un peth gan aelodau'r meinciau cefn a rhywbeth arall gan y Llywodraeth.
Well, the Member’s not a member of the group on this side of the Chamber, and how she is aware of what was and wasn’t said is a matter for her, but what I can say is that anything is potentially open to challenge, because of the inadequate nature of our devolution settlement, which is why, even though the opportunity hasn’t been grasped properly by the UK Government, we need to make sure there is greater clarity. We will look to proceed on the basis that we will do for the people of Wales what is proposed in England and in Scotland. The fact that the Government, the UK Government in England, I would argue, has already conceded in any event that they believe this is devolved, because they’ve only talked about England in this regard, is something that is, of course, helpful to any future potential reference to the Supreme Court.
Wel, nid yw'r Aelod yn aelod o'r grŵp ar yr ochr hon i'r Siambr, a mater iddi hi yw sut y mae hi'n ymwybodol o'r hyn a ddywedwyd ac na ddywedwyd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod unrhyw beth yn agored i her bosibl, oherwydd natur annigonol ein setliad datganoli, a dyna pam, er na fanteisiwyd ar y cyfle’n iawn gan Lywodraeth y DU, bod angen i ni wneud yn siŵr bod mwy o eglurder. Ein bwriad fydd bwrw ymlaen ar y sail y byddwn yn gwneud dros bobl Cymru yr hyn a gynigir yn Lloegr ac yn yr Alban. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth, Llywodraeth y DU yn Lloegr, byddwn yn dadlau, eisoes wedi cyfaddef beth bynnag ei bod yn credu bod hyn wedi ei ddatganoli, oherwydd dim ond am Loegr y maen nhw wedi sôn yn hyn o beth, yn rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol i unrhyw gyfeiriad posibl at y Goruchaf Lys yn y dyfodol.
First Minister, these fees are something of a horror. There aren’t many goods and services where we actually get charged for the process of purchase, and there’s clear support all around the house for action to be taken on this. These fees do distort the market. They’re a disincentive to the mobility of labour, and the clear experience in Scotland is that the charges would be absorbed by those offering homes to rent, which is where they’ve traditionally been.
Brif Weinidog, mae’r ffioedd hyn yn codi dipyn o arswyd. Nid oes llawer o nwyddau a gwasanaethau y codir tâl arnynt am y broses o’u prynu, a cheir cefnogaeth eglur ym mhob rhan o’r tŷ i gamau gael eu cymryd ar hyn. Mae'r ffioedd hyn yn ystumio'r farchnad. Maen nhw’n anghymhelliad i symudedd llafur, a'r profiad eglur yn yr Alban yw y byddai'r ffioedd yn cael eu talu gan y rhai sy'n cynnig cartrefi i'w rhentu, a dyna ble maen nhw wedi bod yn draddodiadol.
I don’t argue against what the Member has said; that evidence that Shelter has produced in terms of Scotland is useful and strong evidence that will inform the way forward as far as Wales is concerned.
Nid wyf yn dadlau yn erbyn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud; mae’r dystiolaeth honno y mae Shelter wedi ei chynhyrchu o ran yr Alban yn ddefnyddiol ac yn dystiolaeth gref a fydd yn llywio'r ffordd ymlaen cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn.
Dail ar y Rheilffyrdd
Leaves on the Line
6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ag awdurdodau'r rheilffyrdd ynghylch oedi a gaiff ei achosi i wasanaethau oherwydd dail wedi'u cywasgu ar y rheilffordd? OAQ(5)0305(FM)
6. What discussions has the Welsh Government had with rail authorities about delays to services caused by compacted leaves on the line? OAQ(5)0305(FM)
Well, this isn’t, of course, a devolved issue, but underperformance by Network Rail in providing quality public services is not acceptable. We will continue to call for the devolution of rail powers so we can have greater accountability for railway services provided in Wales.
Wel, nid yw hwn, wrth gwrs, yn fater datganoledig, ond nid yw tanberfformiad gan Network Rail o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn dderbyniol. Byddwn yn parhau i alw am ddatganoli pwerau rheilffyrdd fel y gallwn gael mwy o atebolrwydd am wasanaethau rheilffyrdd a ddarperir yng Nghymru.
Thanks for that, First Minister. Yes, I’m aware it’s a problem that is essentially dealt with by Network Rail. Are there regular channels of communication between the Welsh Government and Network Rail?
Diolch am hynna, Brif Weinidog. Ydw, rwy’n ymwybodol ei bod hi’n broblem yr ymdrinnir â hi gan Network Rail yn y bôn. A oes sianeli cyfathrebu rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Network Rail?
Yes, there are. I’ve met with Network Rail, but the more regular channel of communication will be between officials and Network Rail. It is not acceptable that services should be curtailed in this way. The problem is that, if there are compacted leaves on the line—and it’s an old joke, but the reality is, what happens is, if a train skids, it can actually damage the wheels to the extent that the wheels have to be re-ground. So actually it takes the entire locomotive out of action and, potentially, carriages as well, because of that effect.
I would not want to think that Network Rail are not spending as much money as they should be doing on trackside maintenance, thus causing more leaves to fall. That is something that we will need to talk to Network Rail about in order to rule out that possibility.
Oes, mae yna. Rwyf i wedi cwrdd â Network Rail, ond mae’r sianel gyfathrebu fwy rheolaidd rhwng swyddogion a Network Rail. Nid yw'n dderbyniol y dylai gwasanaethau gael eu cwtogi fel hyn. Y broblem yw, os oes dail cywasgedig ar y rheilffordd—ac mae'n hen jôc, ond y gwir yw, yr hyn sy'n digwydd yw, os bydd trên yn sgidio, y gall ddifrodi'r olwynion i'r graddau bod yn rhaid ail-lyfnhau’r olwynion. Felly, mewn gwirionedd, mae'n golygu na ellir defnyddio’r locomotif o gwbl ac, o bosibl, cerbydau hefyd, oherwydd yr effaith honno.
Fyddwn i ddim eisiau meddwl nad yw Network Rail yn gwario cymaint o arian ag y dylen nhw fod ar gynnal a chadw ymyl y cledrau, gan achosi mwy o ddail i ddisgyn. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni siarad â Network Rail amdano, er mwyn diystyru’r posibilrwydd hwnnw.
The First Minister will be aware of comments by the UK transport Secretary a few weeks ago that pressing for the electrification of the rail line from Cardiff to Swansea was jumping the gun and, most recently, comments by the chair of Network Rail that it was not a done deal. He’ll appreciate that my constituents in Neath and, I dare say, those of colleagues west of Cardiff will hear that as a rowing back on previous commitments by the UK Government. I wonder if you can outline what steps the Welsh Government can take to press the UK Government to hold its commitments.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o sylwadau gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU ychydig wythnosau yn ôl bod pwyso am drydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe yn gynamserol ac, yn fwyaf diweddar, sylwadau gan gadeirydd Network Rail nad oedd y cytundeb wedi’i gadarnhau. Bydd yn gwerthfawrogi y bydd fy etholwyr yng Nghastell-nedd a, mentraf ddweud, rhai cydweithwyr i'r gorllewin o Gaerdydd yn clywed hynny fel troi cefn ar ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU. Tybed a allwch chi amlinellu pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadw at ei hymrwymiadau.
Well, these are promises that were given, that there would be electrification. Originally, of course, the promise was electrification as far as Cardiff, and then from Bridgend to Swansea; I wondered what I’d done to the UK Government that there should be a gap between my constituency and Cardiff. In reality, it was because they failed to realise there are actually two railway lines between the two settlements. That promise was given, and I expect that promise to be kept. On top of that, it is quite clear that Cardiff Central railway station needs a significant revamp in order for it to be fit for the future, and I expect to see—I would want to see—the UK Government making the right level of contribution to Network Rail’s plans for that station as well. It is not good enough, on the one hand, to say the railways cannot be devolved, and on the other hand not spend enough money on Welsh railways. The UK Government cannot have it both ways.
Wel, mae'r rhain yn addewidion a wnaed, y byddai trydaneiddio. Yn wreiddiol, wrth gwrs, yr addewid oedd trydaneiddio cyn belled â Chaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe; roeddwn i’n meddwl tybed beth yr oeddwn i wedi ei wneud i Lywodraeth y DU i olygu bod bwlch rhwng fy etholaeth i a Chaerdydd. Mewn gwirionedd, roedd oherwydd eu bod wedi methu â sylweddoli bod dwy reilffordd rhwng y ddau anheddiad. Gwnaed yr addewid hwnnw, ac rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei gadw. Hefyd, mae'n eithaf amlwg bod angen ailwampio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog yn sylweddol er mwyn iddi fod yn addas ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n disgwyl gweld—byddwn eisiau gweld—Llywodraeth y DU yn gwneud y lefel cywir o gyfraniad at gynlluniau Network Rail ar gyfer yr orsaf honno hefyd. Nid yw'n ddigon da, ar y naill law, i ddweud na ellir datganoli’r rheilffyrdd, ac ar y llaw arall peidio â gwario digon o arian ar reilffyrdd Cymru. Ni all Llywodraeth y DU ei chael hi bob ffordd.
Buaswn i’n cefnogi, yn naturiol, y sylwadau y mae Jeremy Miles newydd eu gwneud ynglŷn â’r angen dybryd i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe. Mae rhai ohonom ni wedi bod yn dadlau am hynny ers degawd a mwy. Ond mae’r cwestiwn gwreiddiol yn y fan hyn ynglŷn â dail ar y lein. Yn naturiol, rydym yn cael hydref bob blwyddyn ac mae’r dail yn cwympo bob blwyddyn. Rwy’n deall y pwynt nad yw’r system yma wedi cael ei datganoli, ond nid wyf yn gwybod a oes rhywun wedi dweud hynny wrth y dail. Ond rwy’n credu bod yna sgôp yn y fan hyn i arloesi mewn trafodaethau i wneud yn siŵr ein bod ni yn dod i fyny efo atebion sy’n cael gwared ar y broblem yma unwaith ac am byth.
Naturally, I would support the comments of Jeremy Miles on the dire need to electrify the main line to Swansea. Some of us have been making that case for a decade and more. But the original question here is on leaves on the line. Naturally, autumn comes round every year and the leaves fall annually. I understand the point that this system is not devolved, but I don’t know if anyone’s told the leaves that. But I think there is scope here to innovate in negotiations in order to ensure that we come up with solutions that eradicate this problem once and for all.
Wel, mae hynny’n hollol iawn, wrth gwrs, ond beth sy’n bwysig yw bod Network Rail yn sicrhau bod yna ddigon o waith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y coed yn cael eu torri nôl i stopio dail rhag cwympo ar y lein yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd, beth sydd ddim yn glir yw a ydyn nhw’n gwneud digon er mwyn sicrhau bod y broblem yn cael ei lleihau, o gofio’r ffaith ein bod ni yn gwybod bod dail yn cwympo bob blwyddyn yn y wlad hon—o’r rhan fwyaf o goed.
Well, that’s perfectly true, of course, but the important point is that Network Rail ensures that sufficient work is undertaken in order to ensure that trees are cut back in order to stop the leaves falling on the line in the first place. Because at present, what is not clear is whether they are doing enough to ensure that the problem is reduced, bearing in mind that we do know that the leaves fall each year in this country—from the majority of trees.
I contacted Arriva Trains Wales after disruption to services on the Wrexham-to-Bidston line at the end of October caused by leaf fall and weather conditions. They replied that they’d been trying to overcome the issue for a number of years, and were working in partnership with colleagues on the line to try and reduce the effect on their customers. They produced a paper in March of this year, supported by local user groups and bodies on the line, but unfortunately it wasn’t supported by the Welsh Government. Why was that, First Minister?
Cysylltais â Threnau Arriva Cymru ar ôl tarfu ar wasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston ddiwedd mis Hydref a achoswyd gan ddail yn disgyn a'r tywydd. Fe wnaethom ateb eu bod wedi bod yn ceisio datrys y broblem am nifer o flynyddoedd, ac yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar y rheilffordd i geisio lleihau'r effaith ar eu cwsmeriaid. Cynhyrchwyd papur ganddynt ym mis Mawrth eleni, wedi’i gefnogi gan grwpiau defnyddwyr lleol a chyrff ar y rheilffordd, ond ni chafodd ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn anffodus. Pam oedd hynny, Brif Weinidog?
That’s not correct. What he is suggesting—well, he points out, actually, that there’s a weakness in the system; that is, that the rail track operator and owner is divorced from the actual train company, but that is a system his own party put in place. It would be a far better system, to my mind, where the train operating company and the rail track operator and owner were one and the same body, so one can’t blame the other if there are any disruptions to services. But that is a system his party put in place and want to preserve.
Nid yw hynny’n gywir. Mae’r hyn y mae'n ei awgrymu—wel, y mae'n ei ddweud, a dweud y gwir, bod gwendid yn y system; hynny yw, bod gweithredwr a pherchennog y rheilffordd wedi ei ysgaru oddi wrth y cwmni trenau ei hun, ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ei hun. Byddai'n system llawer gwell, yn fy marn i, pe byddai’r cwmni trenau a gweithredwr a pherchennog y rheilffordd yn un corff, fel na all un roi'r bai ar y llall os oes unrhyw darfu ar wasanaethau. Ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ef ac y mae eisiau ei chadw.
Cyllid Ychwanegol i Gymru
Additional Funding for Wales
7. Sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu defnyddio cyllid ychwanegol i Gymru sy'n deillio o Ddatganiad yr Hydref? OAQ(5)0296(FM)
7. How does the First Minister plan to utilise additional funding for Wales resulting from the Autumn Statement? OAQ(5)0296(FM)
Our focus will be on restoring in part the previous cuts to our capital budget imposed by the UK Government and delivering our investment priorities as set out in ‘Taking Wales Forward’.
Byddwn yn canolbwyntio ar adfer yn rhannol y toriadau blaenorol i’n cyllideb gyfalaf a orfodwyd gan Lywodraeth y DU a chyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi fel y nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen'.
Thank you. First Minister, the autumn statement will deliver over £400 million over the next five years for infrastructure—good news. Will you make sure that all areas of Wales benefit from this extra funding, including rural areas like Monmouthshire, my constituency, which receives one of the lowest local government settlements but which would really benefit from additional investment in infrastructure projects and projects like the Cardiff city deal and the south Wales metro?
Diolch. Brif Weinidog, bydd datganiad yr hydref yn darparu dros £400 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer seilwaith—newyddion da. A wnewch chi sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa ar yr arian ychwanegol hwn, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Sir Fynwy, fy etholaeth i, sy'n derbyn un o'r setliadau llywodraeth leol isaf ond a fyddai wir yn elwa ar fuddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith a phrosiectau fel cytundeb dinas Caerdydd a metro de Cymru?
Monmouthshire is part of both projects, of course. Monmouthshire is an active part of the Cardiff capital region deal, and certainly the leader of Monmouthshire has been somebody who’s been very proactive in moving that deal forward, and also the metro. There are opportunities for Monmouthshire to benefit from the metro, particularly as we look to improved bus services and possibly light rail services into his constituency in the future.
Mae Sir Fynwy yn rhan o’r ddau brosiect, wrth gwrs. Mae Sir Fynwy yn rhan weithredol o gytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac yn sicr mae arweinydd Sir Fynwy wedi bod yn rhywun sydd wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth symud y cytundeb hwnnw yn ei flaen, a’r metro hefyd. Ceir cyfleoedd i Sir Fynwy elwa ar y metro, yn enwedig wrth i ni edrych ar well gwasanaethau bws a gwasanaethau rheilffordd ysgafn, o bosibl, i mewn i’w etholaeth yn y dyfodol.
The Government’s autumn statement demonstrated a very blasé attitude by the Tories towards an impending care crisis, and their failure to provide for our increasingly aging population means that there will be huge pressures now on the NHS. Will the First Minister make a commitment to work very closely with the Welsh Local Government Association to make sure that such a crisis does not occur in Wales?
Dangosodd datganiad yr hydref y Llywodraeth agwedd ddi-hid iawn gan y Torïaid tuag at argyfwng gofal sydd ar ddod, ac mae eu methiant i ddarparu ar gyfer ein poblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy yn golygu y bydd pwysau aruthrol bellach ar y GIG. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymiad i weithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud yn siŵr na fydd argyfwng o'r fath yn digwydd yng Nghymru?
Yes, absolutely. We already spend 6 per cent more per head on health and social services in Wales than is the case in England. We never saw the sense of taking money from social services in order to plug gaps in health funding, which is what England did. You can’t divorce one from the other, and we will continue to ensure that there is sufficient funding for both.
Gwnaf, yn sicr. Rydym ni eisoes yn gwario 6 y cant yn fwy y pen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru nag sy'n wir yn Lloegr. Ni welsom y synnwyr erioed mewn cymryd arian oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn llenwi bylchau mewn cyllid iechyd, sef yr hyn a wnaeth Lloegr. Ni allwch ysgaru un oddi wrth y llall, a byddwn yn parhau i sicrhau bod digon o gyllid ar gael ar gyfer y ddau.
Some of the autumn statement money in England is going to be used to build hyperfast broadband capability through fibre to the premises. Isn’t there an opportunity here for us in Wales, as we begin to think beyond Superfast Cymru, instead of investing in a privately owned monopoly, which is highly problematical, as Ofcom’s decision today demonstrated, to create a publicly owned digital infrastructure network for Wales, something that his party leader at the UK level has recently called for for the UK?
Mae rhywfaint o arian datganiad yr hydref yn Lloegr yn mynd i gael ei ddefnyddio i adeiladu gallu band eang hypergyflym trwy ffeibr i'r safle. Onid oes cyfle yma i ni yng Nghymru, wrth i ni ddechrau meddwl y tu hwnt i Gyflymu Cymru, yn hytrach na buddsoddi mewn monopoli sy'n eiddo preifat, sydd yn peri llawer o broblemau, fel y dangosodd penderfyniad Ofcom heddiw, greu rhwydwaith seilwaith digidol eiddo cyhoeddus i Gymru, rhywbeth y mae arweinydd ei blaid ar lefel y DU wedi galw amdano ar gyfer y DU yn ddiweddar?
I think that’s certainly worth exploring. The immediate objective is making sure that the current Superfast Cymru scheme is extended and completed in the middle of next year. Beyond that, of course, it’s right to say that we can’t sit back and say, ‘Well, that’s it. The technology will stay as it is for the next five years, 10 years or the next two years.’ So, yes, it is hugely important to continue to invest in greater bandwidth and greater speeds, of course, as far as broadband is concerned and we’ll continue to consider that.
Rwy'n credu ei bod yn sicr yn werth ymchwilio i hynny. Yr amcan uniongyrchol yw gwneud yn siŵr bod cynllun presennol Cyflymu Cymru yn cael ei ymestyn a'i gwblhau erbyn canol y flwyddyn nesaf. Y tu hwnt i hynny, wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud na allwn eistedd yn ôl a dweud, 'Wel, dyna ni. Bydd y dechnoleg yn aros fel ag y mae am y bum mlynedd nesaf, y 10 mlynedd nesaf neu’r ddwy flynedd nesaf.' Felly, ydy, mae'n hynod bwysig parhau i fuddsoddi mewn mwy o led band a mwy o gyflymder, wrth gwrs, cyn belled ag y mae band eang yn y cwestiwn a byddwn yn parhau i ystyried hynny.
Gwasanaethau Dŵr
Water Services
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau dŵr yng Nghymru? OAQ(5)0302(FM)[W]
8. Will the First Minister make a statement on water services in Wales? OAQ(5)0302(FM)[W]
Mae ein strategaeth ddŵr i Gymru yn datgan ein polisi ar gyfer gwasanaethau dŵr yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cwrdd yn rheolaidd â’r diwydiant dŵr yng Nghymru i drafod pob agwedd ar wasanaethau dŵr a charthffosiaeth.
Our water strategy for Wales states our policy for Water services in Wales. The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs meets regularly with the Welsh water industry to discuss all aspects of water and sewage services.
Will the First Minister join with me in supporting calls for a phase 2 investigation by the Competition and Markets Authority into the proposed purchase of Dee Valley Water by Severn Trent Water? Clearly, there are huge implications for customers and for jobs, especially in north-east Wales, as well as wider implications for the water industry here in Wales. Will you also support the appeal for existing shareholders to do what they can to retain those jobs in north-east Wales and to ensure that Welsh Water is run in future from Wales and not from Coventry?
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gefnogi galwadau am ymchwiliad cam 2 gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i’r pryniant arfaethedig o Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy gan Severn Trent Water? Yn amlwg, ceir goblygiadau enfawr i gwsmeriaid ac i swyddi, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, yn ogystal â goblygiadau ehangach i’r diwydiant dŵr yma yng Nghymru. A wnewch chi hefyd gefnogi'r apêl i gyfranddalwyr presennol wneud yr hyn a allant i gadw'r swyddi hynny yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac i sicrhau bod Dŵr Cymru yn cael ei redeg o Gymru yn y dyfodol, ac nid o Coventry?
I would not support any change that would result in the loss of Welsh jobs. The Competition and Markets Authority have launched an investigation into the deal. Comments are invited by 1 December, so we will be looking to provide comments, as I’m sure other Members will as well.
Ni fyddwn yn cefnogi unrhyw newid a fyddai'n arwain at golli swyddi yng Nghymru. Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi lansio ymchwiliad i’r cytundeb. Gwahoddir sylwadau erbyn 1 Rhagfyr, felly rydym yn bwriadu gwneud sylwadau, fel yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau eraill hefyd.
Brif Weinidog, mae ein hamgylchedd naturiol ni, yn cynnwys ein hamgylchedd dŵr, yn gallu darparu nifer o fanteision i wella ansawdd ein bywydau, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ehangu mynediad at ein hadnoddau naturiol. Efallai eich bod chi yn ymwybodol o gynlluniau i drawsnewid cronfa ddŵr Llys-y-frân, yn fy etholaeth i, i mewn i barc dŵr er mwyn denu mwy o ymwelwyr i’r ardal. Nawr, yn sgil y cynlluniau hyn, pa gymorth ychwanegol y gall eich Llywodraeth chi ei gynnig i brojectau fel hyn sydd, wrth gwrs, yn hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol ni ac yn dod â manteision i’n hardaloedd gwledig ni?
First Minister, our natural environment, including our water environment, can provide a number of benefits to improve the quality of our lives, so it’s crucial that we do everything we can to enhance access to our natural resources. You may be aware of proposals to change the Llys-y-frân reservoir, in my constituency, into a water park in order to attract more visitors to the area. Now, in light of these proposals, what additional support can your Government give to projects such as this one, which, of course, do promote our natural environment and bring benefits to our rural areas?
Wel, o adnabod yr ardal yn weddol dda, mae hyn yn rhywbeth, rwy’n credu, efallai a fyddai o les i’r ardal ei hunan. Yn y ffordd arferol, wrth gwrs, byddai angen i unrhyw gynllun ofyn am gymorth ac i ni, wrth gwrs, ystyried a fyddai cymorth ar gael iddyn nhw. Felly, byddwn i’n dweud wrthyn nhw i ystyried pob math o help ariannol er mwyn sicrhau bod y project yn gallu parhau.
Well, in knowing that area quite well, I believe that this would probably be of benefit to the area itself. In the usual manner, of course, any scheme would have to request financial support and we would then, of course, have to consider whether that support would be forthcoming. Therefore, I would tell them to consider all types of financial support in order to ensure that the project can proceed.
Diolch i’r Prif Weinidog.
I thank the First Minister.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
Rwyf wedi derbyn tri chwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
I have accepted three urgent question under Standing Order 12.66. I call on Russell George to ask the first urgent question.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro? EAQ(5)0083(HWS)
Will the Cabinet Secretary make a statement on the decision to suspend the activities of the board of Sport Wales? EAQ(5)0083(HWS)
Last Wednesday, all Sport Wales board activities were suspended by Welsh Government until a governance assurance review is completed. I provided a written statement to Members yesterday setting out the circumstances and the terms of reference for the assurance review. It would be inappropriate of me to comment further on this matter until the review has been completed.
Ddydd Mercher diwethaf, ataliwyd holl weithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru nes y bydd adolygiad o sicrwydd llywodraethu wedi ei gwblhau. Darperais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau ddoe yn nodi'r amgylchiadau a'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad o sicrwydd. Ni fyddai'n briodol imi roi sylwadau pellach ar y mater hwn tan y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau.
Well, I hope that still allows me to ask a number of questions, Minister. [Laughter.] Of course, the abrupt nature of the board’s suspension is an unprecedented intervention by Welsh Government, so there are some questions here that I would like to ask.
Can I ask when did you first know that Sport Wales had become dysfunctional? Did you and the Government have confidence—or do you in the Government have confidence in the chair of Sport Wales, and if not, does the legitimacy of his review into Sport Wales carry any weight? And, indeed, do you recognise the findings of the leaked report? I would ask whether the vote of no confidence was linked to the findings of the chair’s leaked report?
Wel, gobeithio bod hynny yn dal i ganiatáu i mi ofyn nifer o gwestiynau, Weinidog. [Chwerthin.] Wrth gwrs, mae natur sydyn yr ataliad o’r bwrdd yn ymyrraeth ddigynsail gan Lywodraeth Cymru, felly mae rhai cwestiynau yn y fan yma yr hoffwn eu gofyn.
A gaf i ofyn pryd yr oeddech chi’n gwybod gyntaf bod Chwaraeon Cymru wedi mynd yn gamweithredol? A oedd gennych chi a’r Llywodraeth hyder—neu a oes gennych chi yn y llywodraeth hyder yng ngallu cadeirydd Chwaraeon Cymru, ac os nad oes, a yw dilysrwydd ei adolygiad o Chwaraeon Cymru yn cario unrhyw bwysau? Ac, yn wir, a ydych chi’n cydnabod canfyddiadau'r adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol? Rwyf am ofyn a oedd y bleidlais o ddiffyg hyder yn gysylltiedig â chanfyddiadau adroddiad y cadeirydd a ddatgelwyd yn answyddogol?
I thank you for those questions. I think it’s important to recognise that Welsh Government did act swiftly and appropriately and in the best interests of the organisation. Officials had been aware that there were some tensions within the board over the past two to three weeks, but the expectation really was that the normal governance processes would enable the board to manage this and arrive at an agreed solution. But this wasn’t the case. Sport Wales is a Welsh Government sponsored body and, as such, it does have a well-developed governance process, so we will only intervene in exceptional circumstances, and in general, we expect all of our sponsored bodies to resolve problems themselves. They were unable to use the governance process to resolve the issues, and when this happens, issues can then be raised with Welsh Government. But a conclusion of dysfunctionality, which is where we’re at now, was based upon the fact that the board had reached a point where they adopted the vote of no confidence without exhausting both of those avenues.
The chair’s review and the assurance review that Welsh Government has commissioned are separate. They do seem to be conflated in the recent press reports. It’s worth mentioning that I did meet two of the four members of the independent panel, which is working on the chair’s review this morning to discuss the way forward with that chair’s review. Those panel members I met were also representing the other two members of the panel who couldn’t be here today.
I just want to take this opportunity to applaud the panel for the integrity that they’ve displayed in the work that they’ve undertaken this far. They are very clear that the emerging themes in the chair’s review will now require peer review. So, I expect this work to conclude early in the new year, once the assurance review has been completed. The finished report will also then provide us with guidance on the way forward for the sector. And, of course, I’m keen to keep Members updated.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn briodol ac er lles gorau y sefydliad. Bu swyddogion yn ymwybodol o densiynau ar y bwrdd yn ystod y ddwy neu dair wythnos diwethaf, ond y disgwyliad mewn gwirionedd oedd y byddai'r prosesau llywodraethu arferol yn galluogi'r bwrdd i reoli hyn a chyrraedd datrysiad cytûn. Ond ni ddigwyddodd hynny. Mae Chwaraeon Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac, fel y cyfryw, mae ganddo broses lywodraethu ddatblygedig, felly ni fyddwn ond yn ymyrryd mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn gyffredinol, rydym yn disgwyl i bob un o'n cyrff noddedig ddatrys eu problemau eu hunain. Nid oeddent yn gallu defnyddio'r broses lywodraethu i ddatrys y problemau, a phan fydd hyn yn digwydd, gellir codi’r problemau wedyn gyda Llywodraeth Cymru. Ond daethpwyd i’r casgliad bod camweithredu, a dyna lle'r ydym ni yn awr, ar sail y ffaith bod y bwrdd wedi cyrraedd pwynt o fabwysiadu pleidlais o ddiffyg hyder heb ddilyn holl gamau’r ddau lwybr hynny.
Mae adolygiad y cadeirydd, a'r adolygiad o sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gomisiynu, ar wahân. Mae’n ymddangos eu bod wedi’u cyfuno yn yr adroddiadau diweddar yn y wasg. Mae'n werth nodi fy mod wedi cwrdd â dau o'r pedwar aelod o'r panel annibynnol, sy'n gweithio ar adolygiad y cadeirydd y bore yma i drafod y ffordd ymlaen ar gyfer yr adolygiad hwnnw gan y cadeirydd. Roedd yr aelodau o’r panel y cyfarfûm â nhw hefyd yn cynrychioli’r ddau aelod arall o'r panel nad oeddent yn gallu bod yma heddiw.
Rwyf eisiau achub ar y cyfle hwn i ganmol y panel am yr uniondeb y maen nhw wedi’i ddangos yn y gwaith a wnaed hyd yn hyn. Maen nhw’n glir iawn y bydd y themâu sy'n dod i’r amlwg yn adolygiad y cadeirydd yn ei gwneud yn adolygiad gan gymheiriaid yn ofynnol. Felly, rwy’n disgwyl i'r gwaith hwn ddod i ben yn gynnar yn y flwyddyn newydd, pan fydd yr adolygiad o sicrwydd wedi’i gwblhau. Bydd yr adroddiad terfynol wedyn yn darparu canllawiau i ni hefyd ar y ffordd ymlaen ar gyfer y sector. Ac, wrth gwrs, rwy'n awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.
Will you appoint an interim board to take things forward and will you accept concerns from wider afield, from, maybe, organisations interacting with the body already? And I suppose my main question is: how can we arrive at this point where the organisation’s board was suspended last week? Shouldn’t these things have been resolved before coming to this point?
A wnewch chi benodi bwrdd dros dro i symud pethau ymlaen ac a wnewch chi dderbyn pryderon yn ehangach, gan, efallai, sefydliadau sydd eisoes yn rhyngweithio â’r corff? Ac mae'n debyg mai fy mhrif gwestiwn yw: sut ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn pryd yr ataliwyd y bwrdd yr wythnos diwethaf? Oni ddylai’r pethau hyn fod wedi eu datrys cyn cyrraedd y pwynt hwn?
I think I’ve described the situation under which the decision was arrived at last week. There’s no intention to appoint an interim board while the assurance review is undertaken over the course of the next eight weeks, because governance arrangements currently exist for Sport Wales. So, any business or any issues that the chief executive would normally bring to the attention of the board will now be brought to the attention of a senior Welsh Government official.
Credaf fy mod i wedi disgrifio’r sefyllfa a achosodd cyrraedd y penderfyniad yr wythnos diwethaf. Nid oes bwriad i benodi bwrdd dros dro wrth i’r adolygiad o sicrwydd gael ei gynnal yn ystod yr wyth wythnos nesaf, oherwydd bod trefniadau llywodraethu yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer Chwaraeon Cymru. Felly, bydd unrhyw fusnes neu unrhyw faterion y byddai'r prif weithredwr fel arfer yn eu dwyn i sylw'r bwrdd yn awr yn cael eu dwyn i sylw uwch swyddog Llywodraeth Cymru.
Of course, it is concerning that the board has been suspended, which does indicate a certain amount of lack of co-ordination, but of course it’s good that the normal activities of Sport Wales will continue in the meantime, and hopefully with minimal disruption. I’m sure the staff at the organisation will be able to run the show for the next few weeks without the contribution of the board. Of course, as we know, board members are sometimes political appointments, so sometimes staff do get on better without them butting their noses in. But we will await your report in eight weeks’ time with interest. Thank you.
Wrth gwrs, mae'n destun pryder bod y bwrdd wedi ei atal dros dro, sy'n awgrymu rhywfaint o ddiffyg cydlynu, ond wrth gwrs mae'n dda y bydd gweithgareddau arferol Chwaraeon Cymru yn parhau yn y cyfamser, a gobeithio y bydd hyn gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Rwy'n siŵr y bydd staff y sefydliad yn gallu parhau i redeg pethau yn ystod yr wythnosau nesaf heb gyfraniad y bwrdd. Wrth gwrs, fel y gwyddom, mae aelodau'r bwrdd weithiau yn benodiadau gwleidyddol, felly mae staff weithiau yn gweithredu yn well hebddyn nhw yn busnesu. Ond byddwn yn disgwyl am eich adroddiad ymhen wyth wythnos gyda diddordeb. Diolch.
I thank you for giving me this opportunity to put on record my thanks to all of the staff at Sport Wales who are doing a really great job in really difficult circumstances. So, I appreciate the opportunity to put on record that thanks and also to reassure Members that the day-to-day business of Sport Wales is continuing throughout this period.
Diolch i chi am roi'r cyfle hwn i mi gofnodi fy niolch i bob aelod o’r staff yn Chwaraeon Cymru sy'n gwneud gwaith gwirioneddol wych o dan amgylchiadau hynod anodd. Felly, rwyf yn gwerthfawrogi'r cyfle i gofnodi’r diolch hwnnw ac i roi sicrhau'r Aelodau y bydd busnes o ddydd i ddydd Chwaraeon Cymru yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.
Diolch i’r Gweinidog.
I thank the Minister.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
Rwy’n galw nawr ar Simon Thomas i ofyn yr ail gwestiwn brys.
I call on Simon Thomas to ask the second urgent question.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynlluniau i sefydlu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin? EAQ(5)0081(EI)[W]
Will the Minister make a statement on the progress of plans to establish Yr Egin centre in Carmarthen? EAQ(5)0081(EI)[W]
Yes. Officials have been discussing various aspects of this project over the last two years and I’ve asked that discussions continue to determine whether a satisfactory business case can be submitted, demonstrating financial viability and the economic, cultural and linguistic benefits of the development, and explaining the need for public sector intervention.
Gwnaf. Bu swyddogion yn trafod gwahanol agweddau ar y prosiect hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwyf wedi gofyn bod trafodaethau yn parhau i benderfynu a ellir cyflwyno achos busnes boddhaol, sy’n dangos hyfywedd ariannol a manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ac sy’n egluro’r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a diolch iddo fe am gadarnhau bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers dwy flynedd a rhagor am y cynllun hwn. Bu peth dryswch dros y Sul bod y cynllun hwn yn ymwneud ag adleoli S4C i Gaerfyrddin. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes sôn o gwbl am arian Llywodraeth Cymru yn mynd at adleoli S4C—mae hynny’n benderfyniad i gorfforaeth S4C ei hunan? Ond, wrth gwrs, mae Yr Egin yn ymgais gan y brifysgol a phartneriaid i greu clwstwr ar gyfer diwydiannau creadigol yn y gorllewin ac yng Nghaerfyrddin, ac a fydd yn gartref i S4C a nifer eraill o gyrff a diwydiannau creadigol yn ogystal, gan greu hyd at 100 o swyddi o ansawdd da yn y gorllewin.
Wrth fynd ymlaen, a wnaiff y Gweinidog hefyd gadarnhau bod y cynllun—nid oes penderfyniad eto, wrth gwrs, i fuddsoddi ai peidio yn y cynllun—yn gydnaws â strategaeth ddiwydiannau creadigol y Llywodraeth ac yn gydnaws hefyd â strategaethau adeiladu’r economi iaith y Llywodraeth? Yn olaf, pryd y cawn ni ddisgwyl penderfyniad gan y Llywodraeth ynglŷn â sefydlogrwydd y cynllun hwn er mwyn tawelu meddyliau pobl sydd, efallai, wedi camgymryd bod hwn yn rhywbeth i wneud â S4C?
I thank the Cabinet Secretary for his statement and I thank him for confirming that discussions and negotiations have been ongoing for two years and more on this proposal. There was some confusion over the weekend that this scheme relates to the relocation of S4C to Carmarthen. Will the Cabinet Secretary confirm that there is no mention at all of Welsh Government funding being provided for the relocation of S4C—that is a decision for the S4C corporation itself? But, of course, Yr Egin is an attempt by the university and partners to create a cluster for the creative industries in west Wales and in Carmarthen, and which will house S4C as well as a number of other creative industries bodies, creating up to 100 high-quality jobs in west Wales.
In moving forward, will the Minister also confirm that the proposal—there have been no decisions of yet, of course, to invest or not in the proposal—is in keeping with the Government’s creative industries strategy and is also in keeping with strategies for building the Government’s language economy? Finally, when can we expect a decision from Government on the stability of this plan in order to actually put people’s minds at rest who may have believed that this related in some way to S4C?
I’d like to thank the Member for his questions and say I do hope that a conclusion will be reached very soon on this matter. The Member is also right that we need to distinguish between S4C’s move and the entirety of Yr Egin project, which is an ambitious creative industries hub for Carmarthen. In terms of S4C funding for its share of the project, S4C has already indicated that it believes it is fully funding its share of the development. In terms of the additional resource as well, it was the original intention for Trinity Saint David to draw down structural funds to meet what is now the shortfall, but the allocation of significantly lower sums to the regional infrastructure priority for structural funds means that this money is no longer an option, so the Welsh Government has been approached to see and determine whether we would be able to grant aid to the development to meet the indicated shortfall. I do applaud the university for its ambition to drive social and cultural, and, indeed, economic development in the region, and I think it’s worth noting that both SA1 and phase 2 of Yr Egin have both secured the support of the city region board for development.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod i’n gobeithio y deuir i gasgliad yn fuan iawn ar y mater hwn. Mae’r Aelod hefyd yn gywir bod angen i ni wahaniaethu rhwng S4C yn symud a chyfanrwydd prosiect Yr Egin, sy'n ganolbwynt uchelgeisiol i ddiwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin. O ran cyllid S4C ar gyfer ei chyfran o'r prosiect, mae S4C eisoes wedi nodi ei bod yn credu ei bod yn ariannu ei chyfran hi o'r datblygiad yn llawn. O ran y cyllid ychwanegol hefyd, y bwriad gwreiddiol oedd bod y Drindod Dewi Sant yn darparu cronfeydd strwythurol i ddiwallu yr hyn sydd erbyn hyn yn ddiffyg, ond mae’r symiau sylweddol is a ddyrannwyd i'r flaenoriaeth seilwaith rhanbarthol ar gyfer cronfeydd strwythurol yn golygu nad yw’r arian hwn yn ddewis bellach, felly mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ystyried a phenderfynu a fyddem ni’n gallu rhoi cymorth grant i'r datblygiad i ateb y diffyg a nodwyd. Cymeradwyaf y brifysgol am ei huchelgais i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol, ac, yn wir, economaidd, yn yr ardal, a chredaf ei bod yn werth nodi bod SA1 a cham 2 Yr Egin wedi cael cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer y datblygu.
Mae S4C yn gwneud cyfraniad, nid jest yn ddiwylliannol i Gymru ond yn economaidd trwy chwistrelliad o dros £81 miliwn, ac mae llawer o’r arian yma yn mynd tuag at dalu nifer o fusnesau cyfryngau bychan i fwydo’r sianel, fel y digwyddodd yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd. Beth yr ydym ni wedi ei weld yw diwydiant llewyrchus yn datblygu. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod potensial economaidd lleol y mudo o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn mynd i gael ei wireddu os nad yw canolfan Yr Egin yn mynd i gael ei datblygu a’i hariannu gan y Llywodraeth yng Nghymru?
S4C makes a contribution, not just culturally to Wales but economically through the injection of over £81 million, and much of this money goes towards paying small media companies to feed the channel, as happened in Cardiff over many years. What we’ve seen is a very prosperous industry developing. Will the Cabinet Secretary explain how Welsh Government is going to ensure that the local economic potential transferring from Cardiff to Carmarthen will be realised if Yr Egin centre is not developed and funded by the Welsh Government?
I’d like to thank Eluned Morgan for her question. Just as Simon Thomas indicated, the creative industries are of enormous benefit to the Welsh economy. They are growing faster here in Wales than anywhere else in the UK, bar London, and it’s our intention to ensure that the creative industries go from strength to strength. The Government has a proud record, I believe, in supporting the creative industries, and, in particular, Welsh-language television and film. The project is indeed promising considerable economic benefits, above and beyond S4C’s move, and Trinity’s ambition is to build on S4C’s decision to move to Carmarthen. For example, there could be other anchor tenants in Yr Egin, including Boom, Gorilla and the BBC. It’s also worth reflecting on the fact that the SA1 partnership has already been able to turn £300,000 of Welsh Government revenue support into £5 million in capital investment, 50 new jobs and five business start-ups. So, as I’ve already said, officials have been in discussions with Trinity for some time. It’s my hope that a conclusion to those discussions can take place, but investment must be delivered on the basis of adding value, and that’s what we’re going to be determining through examining the business case.
Hoffwn ddiolch i Eluned Morgan am ei chwestiwn. Yn union fel y nododd Simon Thomas, mae’r diwydiannau creadigol o fudd enfawr i economi Cymru. Maen nhw’n tyfu'n gynt yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, ac eithrio Llundain, a'n bwriad yw sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn mynd o nerth i nerth. Mae gan y Llywodraeth hanes balch, yn fy marn i, o gefnogi'r diwydiannau creadigol, ac, yn benodol, teledu a ffilm cyfrwng Cymraeg. Mae'r prosiect yn sicr yn addo buddiannau economaidd sylweddol, ymhell y tu hwnt i S4C yn symud, ac uchelgais y Drindod yw manteisio ar benderfyniad S4C i symud i Gaerfyrddin. Er enghraifft, gallai fod prif denantiaid eraill yn Yr Egin, gan gynnwys Boom, Gorilla a'r BBC. Mae’n werth ystyried hefyd y ffaith fod y bartneriaeth SA1 eisoes wedi gallu troi £300,000 o gymorth refeniw gan Lywodraeth Cymru yn £5 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf, yn 50 o swyddi newydd ac yn bum busnes newydd. Felly, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, mae swyddogion wedi bod yn trafod â’r Drindod ers peth amser. Rwy'n gobeithio y gall y trafodaethau hynny ddod i ddiweddglo, ond mae'n rhaid cyflawni buddsoddiad ar y sail o ychwanegu gwerth, a dyna’r hyn y byddwn yn penderfynu arno trwy archwilio'r achos busnes.
I think the location in Carmarthen is likely to stimulate the use of the Welsh language within the economy, as it would wherever it’s situated in Wales. But, of course, this particular county has faced some fragility in the robustness of its growth of the Welsh language and has had some difficulties with its Welsh in education statutory plans in the past. So, the location of Yr Egin in this particular part of Wales, I think, perhaps does add that extra value that you were talking about in your closing comments just now. I also realise that you’ve mentioned the city deal, and while, perhaps, when we talk about Wylfa B, the role of the Welsh language in the north-east of Wales is much more to the forefront, I’m afraid to say, than it is with the city deal, despite the comments that you’ve made at the moment. So, would you agree with me that, actually, having this particular facility in this part of Wales brings extra value to the city deal, as it will be located in a part of Wales where growth in the Welsh language is something we should be looking for—new growth, as opposed to protecting existing use of the language in daily life? Thank you.
Rwy'n credu bod y lleoliad yng Nghaerfyrddin yn debygol o ysgogi’r defnydd o’r Gymraeg yn yr economi, fel y byddai'n ei wneud lle bynnag y’i lleolir yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bu rhywfaint o freuder yn y sir benodol hon o ran cadernid twf y Gymraeg ac mae wedi cael rhai anawsterau yn ei chynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg yn y gorffennol. Felly, mae lleoli Yr Egin yn y rhan benodol hon o Gymru, yn fy marn i, efallai yn ychwanegu’r gwerth ychwanegol yr oeddech chi’n sôn amdano yn eich sylwadau wrth gloi yn y gan yna. Rwyf hefyd yn sylweddoli eich bod wedi crybwyll y fargen ddinas, ac er, efallai, wrth sôn am Wylfa B, bod y Gymraeg yn y gogledd-ddwyrain yn llawer mwy amlwg, mae arnaf ofn, nag y mae yn y fargen ddinas, er gwaethaf y sylwadau yr ydych newydd eu gwneud. Felly, a fyddech chi’n cytuno â mi, mewn gwirionedd, bod cael y cyfleuster penodol hwn yn y rhan hon o Gymru yn rhoi gwerth ychwanegol i'r fargen ddinas, gan y bydd wedi ei leoli mewn rhan o Gymru lle mae twf y Gymraeg yn rhywbeth y dylem fod yn chwilio amdano—twf newydd, yn hytrach na gwarchod y defnydd presennol o'r iaith mewn bywyd bob dydd? Diolch.
I’d like to thank Suzy Davies for her questioning and say that I’d be keen to look at new growth of the Welsh language and businesses that support the Welsh language anywhere in Wales, whether it’s in north-west, south-west, south-east or mid and west Wales, anywhere across Wales. So, I’m keen to support any project that can deliver economic, cultural and social benefits to the communities in which it is based, but it must be viable and deliverable.
Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a dweud y byddwn i'n awyddus i edrych ar dwf newydd yn y Gymraeg a busnesau sy'n cefnogi'r Gymraeg mewn unrhyw le yng Nghymru, boed hynny yn y gogledd-orllewin, y de-orllewin, y de-ddwyrain neu’r canolbarth a’r gorllewin, mewn unrhyw le ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a all gyflawni manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i'r cymunedau y mae wedi’i leoli ynddyn nhw, ond mae’n rhaid iddo fod yn hyfyw ac yn gyflawnadwy.
Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi fod angen i ni fod yn gwbl eglur, ac yn gwbl dryloyw, ynglŷn â’r achos yma. Mae yna dipyn o ddiddordeb ynddo fo. Roeddech yn sôn bod diffyg ariannol ar gyfer y cynllun yma. Pryd ddaeth hynny i’r amlwg, ac ydy hynny yn wahanol i’r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd ers dwy flynedd? A ydym ni’n sôn am rywbeth newydd, mwy diweddar ynglŷn â’r diffyg ariannol roeddech chi’n sôn amdano? Ac ydy’r cynllun i adleoli pencadlys S4C yn ddibynnol ar yr arian sy’n cael ei geisio ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru?
I’m sure you would agree with me that we need to be entirely clear and entirely transparent on this case. There is quite some interest in it. You mentioned that there was a financial deficit for this plan. When did that emerge, and is that different to the negotiations that have been taking place over a period of two years? Are we talking about a more recent development in terms of this deficit that you mentioned? Is the plan to relocate the S4C headquarters reliant on the funding that has been applied for from Welsh Government?
Well, it is disappointing that a gap in funding was only discovered after the project was publicly announced, but the role of S4C is to add weight to Yr Egin and act as an anchor tenant that can attract more businesses to start up and to prosper from there. And, as I’ve already said, S4C have been able to demonstrate, through a £3 million up-front rental payment, that their investment in the project is secure, and it’s still their intention to move to Carmarthen.
Wel, mae'n siomedig mai dim ond ar ôl i'r prosiect gael ei gyhoeddi y sylwyd bod bwlch yn y cyllid, ond swyddogaeth S4C yw ychwanegu rhywbeth o bwys at Yr Egin a gweithredu fel y prif denant a all ddenu rhagor o fusnesau i gychwyn ac i ffynnu yno. Ac, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, mae S4C wedi gallu dangos, drwy daliad rhent gwerth £3 miliwn ymlaen llaw, bod eu buddsoddiad yn y prosiect yn ddiogel, a’u bod yn dal yn bwriadu symud i Gaerfyrddin.
Minister, as far as I can see, Yr Egin will support the Welsh Labour goal and the Welsh Government’s goal of new technical hubs in rural areas, and so I’m 100 per cent behind this. The question I would like to ask you—. I’m very well aware that the funding has been in place. I’m very well aware, as I know you are, that S4C carried out due diligence, looked at a number of different locations around Wales, and in the end settled on Carmarthen. I’m very well aware that the intention is to build and create a services industry around it, and to support the work of the film industry in Swansea, and, of course, our own industry here in Cardiff as well, so that we have a long sweep down our southern coast of a creative services industry.
Of course, being on the back of a university is absolutely excellent for this. So, Cabinet Secretary, I wonder if you would also perhaps give us a quick indication of the other support packages that Welsh Government might be looking at in order to help to promote a creative services hub based on Yr Egin, based on Carmarthenshire, based on the anchor companies of S4C, and perhaps some of the other companies that you’ve already mentioned that I know are currently looking at moving into that building, and particularly thinking about apprenticeships, and about retaining young graduates with a lot of talent in west Wales, to carry on developing our cultural and linguistic database, and that essence that is Wales.
Weinidog, cyn belled ag y gallaf i weld, bydd Yr Egin yn cefnogi nod Llafur Cymru a nod Llywodraeth Cymru o gael canolfannau technegol newydd mewn ardaloedd gwledig, ac felly rwy'n cefnogi hyn 100 y cant. Y cwestiwn yr hoffwn ei ofyn i chi—. Rwy'n ymwybodol iawn y bu’r cyllid ar gael. Rwy'n ymwybodol iawn, fel y gwn eich bod chithau, bod S4C wedi ymarfer diwydrwydd dyledus, wedi edrych ar nifer o wahanol leoliadau o amgylch Cymru, ac yn y pen draw wedi penderfynu ar Gaerfyrddin. Rwy'n ymwybodol iawn mai'r bwriad yw adeiladu a chreu diwydiant gwasanaethau o'i gwmpas, a chefnogi gwaith y diwydiant ffilm yn Abertawe, ac, wrth gwrs, ein diwydiant ein hunain yma yng Nghaerdydd hefyd, fel bod gennym ddiwydiant gwasanaethau creadigol amlwg ar hyd ein harfordir deheuol.
Wrth gwrs, mae bod yn gysylltiedig â phrifysgol yn gwbl ardderchog ar gyfer hyn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi hefyd efallai roi syniad cyflym i ni o'r pecynnau cymorth eraill y gallai Llywodraeth Cymru fod yn eu hystyried i helpu i hyrwyddo canolfan gwasanaethau creadigol yn yr Yr Egin, yn seiliedig yn Sir Gaerfyrddin, yn seiliedig ar y prif gwmnïau sef S4C, ac efallai rhai o'r cwmnïau eraill yr ydych eisoes wedi sôn amdanyn nhw y gwn eu bod yn ystyried symud i’r adeilad hwnnw ar hyn o bryd, gan feddwl yn arbennig am brentisiaethau, ac am gadw graddedigion ifanc â chanddynt lawer o dalent yn y gorllewin, i barhau i ddatblygu ein cronfa ddata diwylliannol ac ieithyddol, a’r hanfod hwnnw sy'n gwneud Cymru yr hyn ydyw.
It’s a very interesting question, and I think it is worth reflecting, not just on this model, but also models that are emerging elsewhere in Wales. For example, we cut the ground recently at the Menai Science Park in north-west Wales, and I think that offers a similar approach where you could have vertically integrated systems that drive the growth of an anchor tenant, be it in north-west Wales, Wylfa Newydd, or in north-east Wales, where we announced a similar advanced manufacturing research institute—Airbus. You can have vertically integrated systems that replicate, to some degree, old models from the past, where you had within a single company, everything built, everything provided for, but then they were hollowed out. In the twenty-first century, the key is going to be in linking in university spaces, integrating university spaces, which can offer open, creative space, with businesses large and small, that are then based on not just feeding the requirements of the major companies, the anchor tenants, but also in driving innovation throughout that network.
So, I do think that this model is a very interesting one that we could examine for elsewhere in Wales, but the other point that I would make is that I don’t think we can adopt a single model for everywhere in Wales. I think it’s essential that we take the unique skills and opportunities that exist in each community and then base this sort of hub growth model on those unique elements of Welsh communities.
Mae'n gwestiwn diddorol iawn, ac rwy’n credu bod gwerth ystyried, nid yn unig y model hwn, ond hefyd modelau sy'n dod i'r amlwg mewn mannau eraill yng Nghymru. Er enghraifft, gwnaethom dorri tywarchen yn ddiweddar ym Mharc Gwyddoniaeth Menai yn y gogledd-orllewin, a chredaf fod hynny yn cynnig dull tebyg lle y gellid cael systemau fertigol integredig sy'n hybu twf prif denant, boed hynny yn y gogledd-orllewin, Wylfa Newydd, neu yn y gogledd-ddwyrain, lle y gwnaethom gyhoeddi sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch tebyg—Airbus. Gallwch gael systemau fertigol integredig sy'n efelychu, i ryw raddau, hen fodelau o'r gorffennol, lle'r oedd gennych o fewn un cwmni, bopeth wedi’i adeiladu, popeth wedi’i ddarparu, ond newidiodd hynny wedyn. Yn yr unfed ganrif ar hugain, yr hyn a fydd yn allweddol fydd cysylltu mannau prifysgol, integreiddio mannau prifysgol, a all gynnig mannau agored, creadigol, gyda busnesau mawr a bach, a fydd wedyn yn cael eu seilio nid yn unig ar gyflenwi gofynion y prif gwmnïau, y prif denantiaid, ond a fydd hefyd yn hybu arloesedd ar draws y rhwydwaith.
Felly, rwy’n credu bod y model hwn yn un diddorol iawn y gallem ei ystyried ar gyfer rhywle arall yng Nghymru, ond y pwynt arall yr hoffwn ei wneud yw nad wyf i’n credu y gallwn ni fabwysiadu un model i bob man yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni gymryd y sgiliau a'r cyfleoedd unigryw sydd ar gael ym mhob cymuned, ac wedyn seilio’r math hwn o fodel twf canolfan ar yr elfennau unigryw hynny ar gymunedau Cymru.
Ac yn olaf, Adam Price.
And finally, Adam Price.
Wrth gwrs, rwyf yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i fuddsoddi yn y de-orllewin, yn y diwydiannau creadigol. Rydym wedi gweld buddsoddiad fan hyn yng Nghaerdydd yn Gloworks—Gloworks 2 efallai ar y gorwel—a Pontio ym Mangor. Mae eisiau buddsoddi yn y diwydiannau creadigol ym mhob rhan o Gymru, ac mae eisiau gweld hynny yn y de-orllewin. A gaf ofyn iddo fe—? Rwyf eisiau gweld pob rhan o Gymru yn llwyddo, felly a gaf ofyn iddo fe i edrych, wrth iddo fe asesu y strategaeth economaidd newydd i Gymru, ar y rôl bositif y mae ad-leoliadau yn gallu cyflawni? Mae e wedi mynegi y bwriad, wrth gwrs, i gael pencadlys y banc datblygu yng ngogledd Cymru, ac rwy’n cefnogi hynny o beth. Pam na allwn ni gael yr awdurdod refeniw Cymreig newydd yn y gogledd-orllewin, wrth gwrs, i wneud yn iawn am y swyddi sydd wedi cael eu colli yno drwy Gyllid y Wlad? Ac, a ydym ni’n gallu cael cynllun cenedlaethol i Gymru gyfan? Roedd yna seiliau iddo fe yn y cynllun gofodol—y ‘spatial plan’—ac, yn anffodus, mae hynny wedi mynd off yr agenda. A allwn ni gael hynny nôl yn greiddiol, fel rhan o’n strategaeth economaidd, fel ein bod ni’n gallu gweld buddsoddiadau ym mhob rhan o Gymru a’r sector cyhoeddus, lle mae’n gallu, yn chwarae ei ran yn hynny?
Of course, I do urge the Cabinet Secretary to invest in the south-west, in the creative industries. We’ve seen industry here in Cardiff with Gloworks—maybe Gloworks 2 might be on the horizon—and Pontio in Bangor. We need investment in the creative industries in every part of Wales, and we wish to see that in the south-west too. May I ask him—? I want to see every part of Wales succeeding, so may I ask him, as he assesses the new economic strategy for Wales, to look at the positive role that relocations can play? He has expressed his intention to have the headquarters of the development bank in north Wales and I support that. Why can’t we have the new Welsh revenue authority in the north-west in order to compensate for those jobs that have been lost at HMRC there? Can we have a pan-Wales national scheme? There was some kind of basis for it in the spatial plan, but, unfortunately, that’s gone off the agenda. Can we have that back in the centre as a core part of our economic strategy, so that we can see investments in every part of Wales, and the public sector, where it can, playing its role in that?
I’d like to thank Adam Price for his questions, and say that I do think he’s absolutely right. First of all, I think there’s a temptation for many—well, for all of us—to speak as backbenchers on behalf of our respective regions and constituencies. But it’s essential to recognise that there are opportunities to drive wealth creation all across Wales. Whilst today we are talking primarily about Carmarthen, I do think that the creative industries offer opportunities the length and breadth of the country, as do other key sectors. I would agree with Adam Price that decentralising and relocating, particularly public sector organisations, out to areas where economic growth can then be driven by their presence is absolutely essential. I think it will be an interesting element of the work of officials at the moment, concerning the economic strategy, in terms of how we use the public pound and the public sector to drive growth in the private sector, where there is potential, but there isn’t yet that spark that is required to get the sectoral growth actually driven.
Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud fy mod i’n credu ei fod yn hollol iawn. Yn gyntaf, credaf fod temtasiwn i lawer—wel, i bob un ohonom—siarad fel aelodau'r meinciau cefn ar ran ein rhanbarthau a’n hetholaethau priodol. Ond mae'n hanfodol i gydnabod y ceir cyfleoedd i hybu’r broses o greu cyfoeth ledled Cymru. Er ein bod yn sôn yn bennaf heddiw am Gaerfyrddin, rwyf yn credu bod y diwydiannau creadigol yn cynnig cyfleoedd ar hyd a lled y wlad, fel y mae sectorau allweddol eraill. Rwyf yn cytuno ag Adam Price fod adleoli a diganoli, yn arbennig sefydliadau'r sector cyhoeddus, i ardaloedd lle y gall twf economaidd wedyn gael ei sbarduno gan eu presenoldeb, yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu y bydd hyn yn elfen ddiddorol o waith swyddogion ar hyn o bryd, sy’n ymwneud â'r strategaeth economaidd, o ran sut yr ydym yn defnyddio arian cyhoeddus a'r sector cyhoeddus i sbarduno twf yn y sector preifat, lle y ceir potensial, ond nad oes yr ysgogiad angenrheidiol hwnnw eto i sbarduno’r twf yn y sectoraidd mewn gwirionedd.
And, finally, finally, Julie Morgan.
Ac, yn olaf, yn olaf, Julie Morgan.
S4C at the moment is based in my constituency, on the Llanishen trading estate in Cardiff North. I have to be absolutely honest, I regret that it’s leaving and I have said that in this Chamber before. I think it is a mistaken decision. One of the things I am concerned about is that any grant that does go to Trinity St David’s is not going to subsidise S4C, because broadcasting is not devolved. I think it would be a big mistake if this Government was to use grant money when it really should be a Westminster Government department that should be doing that. So, I wonder whether the Cabinet Secretary could clarify that. And could he clarify how dependent the development in Trinity St David’s is on S4C going there?
Mae S4C ar hyn o bryd wedi'i lleoli yn fy etholaeth i, ar ystâd fasnachu Llanisien yng Ngogledd Caerdydd. Mae'n rhaid i mi fod yn hollol onest, yr wyf yn gresynu ei bod yn gadael ac rwyf wedi dweud hynny yn y Siambr hon o'r blaen. Rwy'n credu bod y penderfyniad yn gamgymeriad. Un o'r pethau sy’n fy mhoeni yw na fydd unrhyw grant a roddir i'r Drindod Dewi Sant yn golygu cymhorthdal i S4C, gan nad yw darlledu wedi'i ddatganoli. Rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad mawr i’r Llywodraeth hon ddefnyddio arian grant pan mai Llywodraeth San Steffan ddylai fod yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro hynny. Ac a wnaiff egluro pa mor ddibynnol yw’r datblygiad yn y Drindod Dewi Sant ar S4C yn symud yno?
I’d like to thank Julie Morgan for her questions. And it would perhaps be appropriate at this point to say that any questions concerning S4C’s decision, based on their competition to relocate, whether it be to Carmarthen or Caernarfon, are for S4C to answer. Likewise, the matter of relocating from Cardiff is an issue for S4C rather than Welsh Government to address, in terms of the questions about why the decision was taken. We would not be subsidising S4C’s move if we were to support this project. This project must demonstrate additionality. The vision of Yr Egin is for a creative hub—a major creative hub—and, in scrutinising the business plan, we need to be confident that the support that may be forthcoming would, indeed, lead to the creation of jobs that would not otherwise be generated solely by S4C’s move to Carmarthen.
Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau. Ac efallai y byddai'n briodol ar y pwynt hwn i ddweud mai lle S4C yw ateb unrhyw gwestiynau ynghylch penderfyniad S4C, ar sail eu cystadleuaeth i adleoli, boed hynny i Gaerfyrddin neu Gaernarfon. Yn yr un modd, mae’r mater o adleoli o Gaerdydd yn fater i S4C ymdrin ag ef yn hytrach na Llywodraeth Cymru, o ran y cwestiynau ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad. Ni fyddem yn rhoi cymhorthdal i S4C symud pe byddem yn cefnogi'r prosiect hwn. Mae’n rhaid i’r prosiect hwn ddangos chwanegedd. Gweledigaeth Yr Egin yw bod yn ganolfan greadigol—yn ganolfan greadigol o bwys—ac, wrth graffu ar y cynllun busnes, mae angen i ni fod yn hyderus y byddai'r cymorth a allai fod ar gael, mewn gwirionedd, yn arwain at greu swyddi na fyddai’n cael eu creu fel arall ond trwy fod S4C yn symud i Gaerfyrddin.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
[R] signifies the Member has declared an interest. [W] signifies that the question was tabled in Welsh.
Rwy’n galw nawr ar Jeremy Miles i ofyn y trydydd cwestiwn brys.
I now call on Jeremy Miles to ask the third urgent question.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreitha a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o’r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd? EAQ(5)0015(CG)
Will the Counsel General outline his assessment of the potential legal implications of the planned litigation against the UK Government in relation to Article 127 of the European Economic Area Agreement? EAQ(5)0015(CG)
Well, thank you for that urgent question. I can tell you that my assessment is, indeed, at a very preliminary stage. I think we were all made aware of this issue in an article that appeared over the weekend, which was the first announcement that there might be legal action. The British Influence think tank plan to write to the Secretary of State for Exiting the European Union, to ask him to clarify his position on UK membership of the European Economic Area after Brexit. This process may see proceedings being brought, but no court proceedings are currently live. So, it’s clear that any litigation is still some way off. The UK Government has been asked to clarify its position on withdrawal from the European Economic Area under article 127 of that agreement, and we look forward to hearing what they have to say about that.
Wel, diolch i chi am y cwestiwn brys yna. Gallaf ddweud wrthych fod fy asesiad, mewn gwirionedd, ar gyfnod cynnar iawn. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r mater hwn trwy erthygl a ymddangosodd dros y penwythnos, sef y cyhoeddiad cyntaf y gellid cymryd camau cyfreithiol. Mae’r felin drafod British Influence yn bwriadu ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, i ofyn iddo egluro ei safbwynt ar aelodaeth y DU o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE. Gallai’r broses hon arwain at ddwyn achos, ond nid oes achos llys yn bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae'n amlwg bod unrhyw ymgyfreitha yn dal i fod ymhell yn y dyfodol. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt ar dynnu allan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd o dan erthygl 127 o'r cytundeb hwnnw, ac edrychwn ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddi i'w ddweud am hynny.
I thank the Counsel General for his answer. Would he not agree with me that the principles being discussed here, in a sense, lie on the fault line between a hard and a soft Brexit, if you like? The UK will now leave the EU, but the question is: do we then also leave the EEA and the access to the single market that that brings? Article 127 suggests that that is a separate question and—if I may say—one that the voters haven’t been asked. So, would he share my concern that the UK Government seems to be losing sight of its legal obligations here in its rush to make political judgments about what the British people have voted for.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Oni fyddai'n cytuno â mi bod yr egwyddorion sydd dan sylw yma, i raddau, yn dibynnu ar y ffawtlin rhwng Brexit caled a meddal, os mynnwch chi? Bydd y DU bellach yn gadael yr UE, ond y cwestiwn yw: a fyddwn ni wedyn yn gadael yr AEE a'r mynediad at y farchnad sengl a ddaw yn sgil hynny? Mae erthygl 127 yn awgrymu bod hwnnw yn gwestiwn ar wahân ac—os caf ddweud—un na ofynnwyd i’r pleidleiswyr. Felly, a yw'n rhannu fy mhryder ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn colli golwg ar ei rhwymedigaethau cyfreithiol trwy ruthro i wneud penderfyniadau gwleidyddol am yr hyn y mae pobl Prydain wedi pleidleisio drosto.
Well, we also have, as you know, the hearing starting in a week’s time, on 5 December, at which the Welsh Government will be represented, which is going to certainly determine the mechanism for constitutional change. What I can say is that I think the litigation exposes, even now, the UK Government’s total lack of planning, strategy and preparedness for Brexit, and there appears to be a complete lack of thought regarding the UK’s constitution and the rule of law. A state of unparalleled chaos appears to exist at the heart of the Government whose sole strategy appears to be to want to have their cake and to eat it.
Wel, mae gennym hefyd, fel y gwyddoch, y gwrandawiad yn cychwyn ymhen wythnos, ar 5 Rhagfyr, a bydd cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru yno, a fydd yn sicr yn penderfynu ar ddull y newid cyfansoddiadol. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i o’r farn bod yr ymgyfreitha yn datgelu, hyd yn oed yn awr, diffyg llwyr Llywodraeth y DU o ran cynllunio, strategaeth a pharodrwydd ar gyfer Brexit, ac ymddengys bod diffyg ystyriaeth llwyr o gyfansoddiad y DU a rheolaeth y gyfraith. Ymddengys y ceir sefyllfa o anhrefn digynsail yn bodoli wrth wraidd y Llywodraeth, a’i hunig strategaeth yn ôl pob golwg yw ei bod eisiau cael ei ffordd ei hun ym mhopeth.
I thank the Member for Neath for tabling this urgent question. Can the Counsel General clarify his view on this matter—whether the triggering of article 127 is a necessary legal step, and whether that should be done concurrently with the triggering of article 50? If so, can he also clarify whether—if there is litigation down the line—the Welsh Government will intervene in any legal proceedings, as it has done in the UK Government’s appeal to the Supreme Court on the triggering of article 50? And finally, can he also give a commitment that he will assess whether there are opportunities in the process of triggering article 127 for sub-state entities, such as Wales, to potentially leave or remain in a different way than the state as a whole?
Diolch i'r Aelod dros Gastell-nedd am gyflwyno'r cwestiwn brys hwn. A all y Cwnsler Cyffredinol egluro ei farn ar y mater hwn—pa un a yw sbarduno erthygl 127 yn gam cyfreithiol angenrheidiol, ac a ddylai hynny ddigwydd ar yr un pryd â chychwyn erthygl 50? Os felly, a wnaiff hefyd egluro pa un a—os bydd proses ymgyfreitha yn y dyfodol—fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd mewn unrhyw achos cyfreithiol, fel y mae wedi gwneud yn apêl Llywodraeth y DU i’r Goruchaf Lys ar gychwyn erthygl 50? Ac yn olaf, a all ef hefyd ymrwymo i asesu pa un a oes cyfleoedd yn y broses o gychwyn erthygl 127 i endidau is-wladwriaeth, fel Cymru, o bosibl i adael neu aros mewn ffordd wahanol i'r wladwriaeth yn ei chyfanrwydd?
Well, thank you. You’ve asked a number of questions, I think, that raise complex, specific and highly technical legal questions, which the Welsh Government will want to consider carefully and thoroughly in due course. With regard to the triggering of article 127, I think some of those issues may well be determined on the matter of principle in the article 50 case that’s being heard in the Supreme Court next week, where we will probably anticipate judgment sometime in early January. So, in terms of the process, that may actually be the mechanism. In terms of what the implications might be for Wales, the agreement on the European Economic Area is one of the EU treaties that is woven into the fabric of our constitutional settlement by the Government of Wales Act 2006, so, when we know precisely what has happened, when we know precisely what the UK Government’s response is to that, and when we’ve seen the outcome of the article 50 case, if there are any specific issues that are directly relevant to Wales and Wales’s interest, then we will consider those accordingly and I will advise accordingly.
Wel diolch. Rydych chi wedi gofyn nifer o gwestiynau, yn fy marn i, sy’n codi cwestiynau cyfreithiol cymhleth, penodol a hynod dechnegol, a bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i ystyried y rhain yn ofalus ac yn drylwyr maes o law. O ran cychwyn erthygl 127, rwy’n credu y gall rhai o'r materion hynny gael eu penderfynu gan y mater o egwyddor yn yr achos erthygl 50 sy'n cael gwrandawiad yn y Goruchaf Lys yr wythnos nesaf, a byddwn yn ôl pob tebyg yn rhagweld dyfarniad rywbryd yn gynnar ym mis Ionawr. Felly, o ran y broses, efallai mai hynny fydd y dull mewn gwirionedd. O ran yr hyn y gallai’r goblygiadau posibl fod i Gymru, mae’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn un o'r cytundebau UE sydd wedi ei wau i wead ein setliad cyfansoddiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, felly, pan fyddwn yn gwybod yn union beth sydd wedi digwydd, pan fyddwn yn gwybod beth yn union yw ymateb Llywodraeth y DU i hynny, a phan fyddwn wedi gweld canlyniad yr achos erthygl 50, os bydd unrhyw faterion penodol sy'n berthnasol yn uniongyrchol i Gymru a buddiant Cymru, yna byddwn yn eu hystyried yn briodol a byddaf yn eich hysbysu yn unol â hynny.
You mentioned the think tank British Influence, and they said there’s no provision in the European Economic Area agreement for UK membership to lapse if the UK withdraws from the EU, and therefore the UK will have to extract itself from the European Economic Area separately to its departure from the EU itself. However, professor of European law at the University of Cambridge, Kenneth Armstrong, has pointed out that the UK neither signed nor ratified the agreement because it wasn’t within its power and competencies—it was within the EU power and competencies—and therefore, once the UK was outside the EU, the agreement would only be enforceable for very limited purposes. On what legal grounds, therefore, would you challenge the UK Government position, which has been stated, which is that the UK is party to the EEA agreement only in its capacity as an EU member state, and once the UK leaves the EU it will automatically cease, therefore, to be a member of the EEA?
Soniasoch am y felin drafod British Influence, ac maen nhw’n dweud nad oes darpariaeth yn y cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd i aelodaeth y DU ddod i ben os yw’r DU yn tynnu allan o'r UE, felly bydd yn rhaid i'r DU dynnu ei hun allan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn proses ar wahân i adael yr UE ei hun. Fodd bynnag, mae Kenneth Armstrong, athro cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt, , wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw’r DU wedi llofnodi na chadarnhau’r cytundeb oherwydd nad oedd ganddo’r pŵer na’r cymhwysedd i wneud hynny—pŵer a chymhwysedd yr UE oedd hynny—felly, pan fyddai’r DU y tu allan i'r UE, byddai modd gorfodi’r cytundeb ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn yn unig. Ar ba sail gyfreithiol, felly, y byddech chi’n herio safbwynt Llywodraeth y DU, sydd wedi ei ddatgan, sef bod y DU yn rhan o'r cytundeb AEE dim ond yn rhinwedd y ffaith ei bod yn aelod wladwriaeth o’r UE ac y bydd yr aelodaeth o’r AEE yn dod i ben yn awtomatig, ar ôl i’r DU adael yr UE?
Well, thank you very much for that. You’ve raised the valid counterpart of the argument that has been put as the reason why a judicial review pre-action protocol letter has actually been sent to the UK Government. So, the first thing we need to know is what the actual UK Government’s response is to that. As I understand the chronology of events, we left EFTA in 1973, when we joined the European Union. The European economic area agreement was agreed in 1992 and came into effect in 1994. It has the unusual provision in that not only does it of course include the signing of Iceland, Liechtenstein and Norway—the EFTA states—but it also includes the European Union as a signatory as well as every individual state. Whether that is a legal anomaly or whether it raises constitutional issues I think will depend on a number of matters, one part of which may be determined as a result of the article 50 Supreme Court hearing in respect of the constitutional issue in respect of process. But the issues that are raised we will give consideration to when we know clearly what the UK Government's position is.
Wel, diolch yn fawr iawn am hynna. Rydych chi wedi codi’r elfen gyfatebol ddilys i’r ddadl a nodwyd fel y rheswm pam yr anfonwyd llythyr protocol cyn-gweithredu ar gyfer adolygiad barnwrol i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd. Felly, yn gyntaf mae angen i ni wybod beth yw ymateb gwirioneddol Llywodraeth y DU i hynny. Yn ôl fy nealltwriaeth i o gronoleg y digwyddiadau, gadawsom Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop ym 1973, pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Cytunwyd ar y cytundeb ardal economaidd Ewrop ym 1992, a daeth i rym ym 1994. Mae’n cynnwys y ddarpariaeth anarferol o ran nad yw wrth gwrs ddim ond yn cynnwys llofnod Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy—y gwladwriaethau EFTA—ond mae hefyd yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd fel llofnodwr yn ogystal â phob gwladwriaeth unigol. Rwy’n credu y bydd penderfynu pa un ai anghysondeb cyfreithiol yw hynny neu a yw’n codi materion cyfansoddiadol yn dibynnu ar nifer o faterion, a gellid cael penderfyniad ar un ohonynt o ganlyniad i wrandawiad y Goruchaf Lys ar erthygl 50 o ran y mater cyfansoddiadol o ran y broses. Ond byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r materion sy'n cael eu codi, pan fyddwn yn gwybod yn glir beth yw safbwynt Llywodraeth y DU.
Isn't it about time the remoaners stopped trying to frustrate the freely expressed wishes of the British people in June? The question was plain and simple: do we want to remain in the EU or leave the EU? There was no if or but. There was no qualification or condition. There was nothing about whether it should be a soft Brexit or a hard Brexit. The decision taken by the British people under the terms of the referendum Act that was passed to facilitate this was: do you want to stay or to leave? And the British people voted to leave. The Conservative party, in its manifesto before the last general election, included a paragraph that said:
‘We believe in letting the people decide: so we will hold an in-out referendum on our membership of the EU before the end of 2017.’
The Government has a mandate to implement its manifesto pledge, and all this wriggling by the very inaptly named British Influence, which is a front organisation for European influence, should be ignored, and we should move as quickly as possible to trigger article 50 and, if necessary, article 127 and leave the EU, consequent upon the freely expressed wish, unconditionally, by the British people.
Onid yw'n hen bryd i’r rhai sy’n cwyno am adael yr UE roi’r gorau i geisio rhwystro’r dymuniadau a fynegwyd yn rhydd gan bobl Prydain ym mis Mehefin? Roedd y cwestiwn yn ddigon syml: a ydym ni eisiau aros yn yr UE neu adael yr UE? Nid oedd dim os nac oni bai. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau nac amodau. Nid oedd unrhyw sôn am ba un a ddylai fod yn Brexit meddal neu galed. Y penderfyniad a gymerwyd gan bobl Prydain o dan amodau Deddf y refferendwm a basiwyd i hwyluso hyn oedd: a ydych chi eisiau aros neu adael? A phleidleisiodd pobl Prydain i adael. Cynhwysodd y blaid Geidwadol, yn ei maniffesto cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, baragraff a oedd yn dweud:
Rydym yn credu mewn caniatáu i'r bobl benderfynu: felly byddwn yn cynnal refferendwm mewn-allan ar ein haelodaeth o'r UE cyn diwedd 2017.
Mae gan y Llywodraeth fandad i weithredu ar ei haddewid maniffesto, a dylid anwybyddu’r holl wingo hyn gan y British Influence, sydd wedi’i gamenwi’n llwyr, ac sydd yn sefydliad ffrynt ar gyfer dylanwad Ewropeaidd, a dylem symud mor gyflym â phosibl i gychwyn erthygl 50 ac, os oes angen, erthygl 127 a gadael yr UE, yn unol â’r dymuniad a fynegwyd yn rhydd, ac yn ddiamod, gan bobl Prydain.
Well, unlike the Member, I'm not in a position to show complete contempt for our constitution and for the rule of law. It seems to me that we have a legal system that has well-established principles. Some of these are before the highest court of the land at the moment, and we should actually give due recognition to the fact that that court will be exercising its jurisdiction and giving a decision as an independent judiciary. I seem to recall that, last week, I asked the Member to repudiate and dissociate himself from the attempts by the then leader of his party to have a sort of torchlight march upon the Supreme Court to intimidate the judges. I never heard him repudiate that. My job, as Counsel General, is to stand up for the constitution and to stand up for the rule of law and, unlike him, I will actually carry out that duty.
Wel, yn wahanol i'r Aelod, nid wyf mewn sefyllfa i ddangos dirmyg llwyr i’n cyfansoddiad a rheolaeth y gyfraith. Ymddengys i mi fod gennym system gyfreithiol ag iddi egwyddorion sefydledig. Mae rhai o'r rhain gerbron llys uchaf y wlad ar hyn o bryd, a dylem ni mewn gwirionedd roi cydnabyddiaeth ddyledus i’r ffaith y bydd y llys hwnnw yn arfer ei awdurdodaeth ac yn rhoi penderfyniad fel barnwriaeth annibynnol. Mae gennyf ryw gof fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi gofyn i'r Aelod wrthod a datgysylltu ei hun o ymdrechion arweinydd ei blaid ar y pryd i gynnal rhyw fath o orymdaith â ffaglau i’r Goruchaf Lys i godi ofn ar y barnwyr. Ni chlywais ef yn gwrthod hynny. Fy swydd i, fel Cwnsler Cyffredinol, yw amddiffyn y cyfansoddiad ac amddiffyn rheolaeth y gyfraith ac, yn wahanol iddo ef, byddaf mewn gwirionedd yn cyflawni'r ddyletswydd honno.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol.
I thank the Counsel General.
Pwynt o drefn yn codi allan o gwestiynau—Neil McEvoy.
A point of Order arising from questions—Neil McEvoy.
Diolch o galon, Lywydd.
I'm raising a point of order under 13.9(iv) and 13.9(v). My background is Irish-English, and my grandfather arrived in Cardiff on a boat from the Yemen. The First Minister suggested that I was somehow anti-immigration, and he accused me of not liking incomers. I have dealt with racism all my life. I have fought racism all my life, and it’s not acceptable for our First Minister—[Interruption.]
My sincere thanks, Llywydd.
Rwyf yn codi pwynt o drefn o dan 13.9 (iv) a 13.9 (v). Rwy’n dod o gefndir Gwyddelig-Seisnig, a daeth fy nhaid i Gaerdydd ar gwch o'r Yemen. Awgrymodd y Prif Weinidog fy mod i rywsut yn erbyn mewnfudo, ac fe’m cyhuddodd o beidio â hoffi mewnfudwyr. Rwyf wedi ymdrin â hiliaeth ar hyd fy oes. Rwyf wedi ymladd yn erbyn hiliaeth ar hyd fy oes, ac nid yw'n dderbyniol i’n Prif Weinidog— [Torri ar draws.]
What is a point—[Interruption.] Just hold on a minute. I will decide on what is a point of order; I do not need advice on that from Ministers. Carry on, Neil McEvoy.
Beth yw pwynt— [Torri ar draws.] Arhoswch am funud. Fi fydd yn penderfynu ar yr hyn sy’n bwynt o drefn; nid wyf angen cyngor ar hynny gan Weinidogion. Ewch ymlaen, Neil McEvoy.
Thank you. Diolch. I’ve fought racism all my life. I do not think it's acceptable for the First Minister of Wales to use such irresponsible language. Under 13.9(iv): it was discourteous; 13.9(v): it was offensive to somebody, especially with my background, and it has detracted from the dignity of this Assembly.
Diolch i chi. Diolch. Rwyf i wedi ymladd yn erbyn hiliaeth ar hyd fy oes. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol i’r Prif Weinidog ddefnyddio iaith mor anghyfrifol. O dan 13.9 (iv): roedd yn anghwrtais; 13.9 (v): roedd yn sarhaus i rywun, yn enwedig rhywun o’m cefndir i, ac y mae wedi dilorni urddas y Cynulliad hwn.
Thank you for the point of order. I did not hear anything out of order in the First Minister's comments today, but I will review the Record.
Diolch am y pwynt o drefn. Ni chlywais unrhyw beth annerbyniol yn sylwadau'r Prif Weinidog heddiw, ond byddaf yn adolygu'r Cofnod.
Thank you. Diolch.
Diolch i chi. Diolch.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
The next item on our agenda is the business statement and announcement, and I call on Jane Hutt.
Llywydd, the only change I have to this week's business is to reduce the time allocated to the Counsel General for questions tomorrow. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement found among the meeting papers available to Members electronically.
Lywydd, yr unig newid sydd gennyf i fusnes yr wythnos hon yw lleihau’r amser a ddyrennir i'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer cwestiynau yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Last week, the cross-party group on haemophilia and contaminated blood held a meeting to hear about the experiences of those people that had been infected during the 1970s and 1980s, and their families—the dreadful experiences they’d had—and to discuss the payments that are being consulted on at the moment by the Welsh Government. That consultation is going ahead, but the other issue that was raised was the lack of a full public inquiry into how these dreadful things happened in the 1970s and the 1980s. One of the things that the cross-party group would like to do is to make sure that the Westminster Government is aware of our feelings. We’d like the opportunity to debate this in some way or other in this Chamber, so could the business Minister suggest any way forward?
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig gyfarfod i glywed am brofiadau’r bobl hynny sydd wedi’u heintio yn ystod y 1970au a'r 1980au, a’u teuluoedd—y profiadau ofnadwy a gawson nhw—ac i drafod y taliadau y cynhelir ymgynghoriad yn eu cylch ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwnnw’n mynd yn ei flaen, ond y mater arall a godwyd oedd y diffyg o ran ymchwiliad cyhoeddus llawn i sut y digwyddodd y pethau ofnadwy hyn yn y 1970au a'r 1980au. Un o'r pethau yr hoffai’r grŵp trawsbleidiol ei wneud yw gwneud yn siŵr bod Llywodraeth San Steffan yn ymwybodol o'n teimladau. Hoffem gael y cyfle i drafod hyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn y Siambr hon, felly a allai’r Gweinidog busnes awgrymu unrhyw ffordd ymlaen?
I thank the Member for that question. Julie Morgan, of course, has been chairing the cross-party group on haemophilia and contaminated blood since she was elected to this Chamber, and I indeed joined that meeting last week at the end of the meeting and saw not just the strength of numbers, but the strength of feelings and experience. Of course, the Cabinet Secretary was there for that meeting. He is currently consulting those affected in relation to the payments and the way forward for Wales. He of course was there to update the cross-party group on haemophilia last week. As an interim measure, in fact, payments for the remainder of this financial year, as Julie Morgan will know, will be at the same levels as England, in line with the package of reforms they’ve put in place there. But, of course, there needs to be a response and ideas about how we can best make sure that, for those affected, their everyday living is secured. That’s why we’re looking for further schemes, and further ideas and views for a new scheme from April 2017 onwards. I think this is to ensure that those, as I said, who’ve been affected are properly supported to ensure that the Cabinet Secretary is advised fully in making those considerations and decisions.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Bu Julie Morgan, wrth gwrs, yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig ers iddi gael ei hethol i'r Siambr hon, ac yn wir ymunais â’r cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf ar ddiwedd y cyfarfod a sylwi nid yn unig ar y niferoedd sylweddol, ond ar y teimladau a’r profiadau sylweddol. Wrth gwrs, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yno ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Mae wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â’r rhai yr effeithir arnynt mewn cysylltiad â'r taliadau a'r ffordd ymlaen i Gymru. Roedd ef, wrth gwrs, yno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia yr wythnos diwethaf. Fel mesur dros dro, bydd y taliadau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, mewn gwirionedd, fel y bydd Julie Morgan yn gwybod, ar yr un lefelau â Lloegr, yn unol â'r pecyn o ddiwygiadau y maent wedi’i weithredu yno. Ond, wrth gwrs, mae angen ymateb a syniadau ynghylch y ffordd orau y gallwn ni wneud yn siŵr, ar gyfer y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt, fod diogelwch o ran eu bywyd pob dydd. Dyna pam yr ydym ni’n chwilio am gynlluniau pellach, a syniadau a barn bellach ar gyfer cynllun newydd o fis Ebrill 2017 ymlaen. Rwy'n credu bod angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y rhai hynny, fel y dywedais, yr effeithiwyd arnynt yn cael eu cefnogi'n briodol i sicrhau y cynghorir Ysgrifennydd y Cabinet yn llawn wrth wneud yr ystyriaethau a'r penderfyniadau hynny.
Leader of the house, I would like to identify myself with the sentiments of the Member for Cardiff North. As someone, along with Jenny Randerson, who was in the third Assembly dealing with this matter, progress needs to be made on this, and whilst announcements keep coming out, either from Westminster or from here, with the best intentions, it cannot be right that this has been allowed to drag on, and progress is somewhat stilted, shall we say, in resolving the matters around this issue.
I’d also like to ask for a statement in relation to the signs on the motorway that you find—the digital signs. I was approached by a constituent this week who highlighted some of the trivial notices that appear on these signs. Last week, between the Severn bridge and Newport, this constituent of mine pointed out that they were advertising a point about getting your eyes tested. There must be a protocol that is actually adhered to, as to what messages are put out on the—[Interruption]. The point being that people’s attention is distracted. I hear the flippancy of the remark, but you only need one person to take their eye off the road unnecessarily and all of a sudden you’re in the back end of a truck, or you’re in the back end of another car. Surely having signs that say ‘Get your eyes tested’—I’m not quite sure how that informs a motorist about road traffic safety or safety measures they should be taking about the current flow of the traffic. So, could we have a statement from the transport Minister to identify exactly what protocols are in place that govern these displays so that there is a more co-ordinated approach in the messaging that is put up? Sometimes, some of the stuff is quite farcical that appears on there.
Arweinydd y tŷ, hoffwn fynegi’r un teimladau â’r Aelod dros Ogledd Caerdydd. Fel rhywun, ynghyd â Jenny Randerson, a oedd yn ymdrin â'r mater hwn yn y trydydd Cynulliad, mae angen cynnydd o ran hyn, ac er bod cyhoeddiadau’n parhau i ymddangos, naill ai o San Steffan neu oddi yma, gyda'r bwriadau gorau, ni all fod yn iawn fod hyn wedi’i adael i lusgo ymlaen, a bod cynnydd braidd yn herciog, gawn ei roi felly, wrth ddatrys y materion yn ymwneud â’r mater hwn.
Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad mewn cysylltiad â'r arwyddion ar y draffordd y daethoch o hyd iddynt—yr arwyddion digidol. Daeth etholwr ataf yr wythnos hon a thynnu fy sylw at rai o'r hysbysiadau dibwys sy'n ymddangos ar yr arwyddion hyn. Yr wythnos diwethaf, rhwng pont Hafren a Chasnewydd, tynnodd yr etholwr hwn fy sylw at y ffaith eu bod yn hysbysebu pwynt ynglŷn â chael prawf llygaid. Mae’n rhaid cael protocol y cedwir ato mewn gwirionedd, ynghylch pa negeseuon a arddangosir ar y— [Torri ar draws]. Y pwynt yw bod hyn yn amharu ar allu pobl i ganolbwyntio ar y ffordd. Rwy'n cydnabod ysmaldod y sylw, ond dim ond un gyrrwr sydd ei angen i fynd â’i lygaid oddi ar y ffordd yn ddiangen ac yn sydyn rydych chi yng nghefn lori, neu rydych chi yng nghefn car arall. Yn sicr, mae cael arwyddion sy'n dweud 'Ewch am brawf llygaid’—nid wyf yn hollol siŵr sut y mae hynny’n hysbysu modurwyr am ddiogelwch traffig ar y ffyrdd neu am y mesurau diogelwch y dylen nhw fod yn eu dilyn neu am lif presennol y traffig. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth er mwyn nodi yn union ba brotocolau sydd ar waith sy’n rheoli’r arddangosfeydd hyn, fel y ceir dull mwy cydlynol o ran y negeseuon a arddangosir? Weithiau, mae rhai o'r pethau sy'n ymddangos arnynt yn eithaf chwerthinllyd.
I think, in response to your first point, Andrew R.T. Davies, clearly, this is a very important issue. There is a cross-party group, which has been—indeed, we have been working very hard to find a way forward. But, as I said earlier on, the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport is consulting on the way forward, and we are in line, at present, with the arrangements that are being implemented in England in terms of those reforms. We’re looking to see whether we can learn from that but also take this forward for a new scheme for Wales from April onwards. I think we can only note your point today in terms of those signs on the motorway, which I’m sure, in terms of road safety and the importance of public health messages, particularly when you’re driving, are very pertinent.
Rwy’n credu, mewn ymateb i'ch pwynt cyntaf, Andrew R.T. Davies, yn amlwg, mae hwn yn fater pwysig iawn. Ceir grŵp trawsbleidiol, sydd wedi bod—yn wir, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ond, fel y dywedais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn ymgynghori ar y ffordd ymlaen, ac rydym ni’n dilyn, ar hyn o bryd, y trefniadau sy'n cael eu gweithredu yn Lloegr o ran y diwygiadau hynny. Rydym ni’n edrych i weld a allwn ddysgu oddi wrth hynny, ond hefyd datblygu hyn i gael cynllun newydd i Gymru o fis Ebrill ymlaen. Rwy'n credu mai dim ond nodi eich pwynt y gallwn ni ei wneud heddiw o ran yr arwyddion hynny ar y draffordd yr wyf yn siŵr, o ran diogelwch ar y ffyrdd a phwysigrwydd negeseuon iechyd cyhoeddus, yn enwedig wrth yrru, eu bod yn berthnasol iawn.
I’m looking for a statement from the Minister for local government about the survey that I raised last week of all female councillors. There was another resignation yesterday of another female councillor from Cardiff council. The Labour group across the way has now lost more than a third of female members, and a council member contacted me today to talk of the ritual sexist abuse that she has to go through. Now, we’re very good at using words in this Chamber, but I noticed that you passed the ball last week to the Presiding Officer, who has no jurisdiction over local government. So, I’m asking that we get a statement from the local government Minister that there will be a survey to assess the experience of our colleagues in local government.
Secondly, this is the third week running now, and the answer you gave last week really didn’t stand up, so I’ll say it again: within a stone’s throw of this Assembly, there are class A drugs being dealt openly on the streets of Butetown. When will we get a statement from the Government? When will we get action? I will invite the Minister to get out of his ministerial car and maybe join me on the streets of Butetown talking to people about their experiences. When will this matter be addressed through a statement?
Rwy'n chwilio am ddatganiad gan y Gweinidog dros lywodraeth leol ynglŷn â’r arolwg o’r holl gynghorwyr benywaidd a godais yr wythnos diwethaf. Roedd rhywun arall wedi ymddiswyddo ddoe, sef cynghorydd benywaidd arall o gyngor Caerdydd. Mae'r grŵp Llafur ar draws y ffordd bellach wedi colli mwy na thraean o'i aelodau benywaidd, a chysylltodd aelod o’r cyngor â mi heddiw i sôn am y cam-drin rhywiaethol y mae’n rhaid iddi ei ddioddef yn ddefodol. Nawr, rydym ni’n dda iawn am ddefnyddio geiriau yn y Siambr hon, ond sylwais eich bod wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb yr wythnos diwethaf i’r Llywydd, sydd heb unrhyw awdurdodaeth dros lywodraeth leol. Felly, rwy'n gofyn ein bod yn cael datganiad gan y Gweinidog dros lywodraeth leol y bydd arolwg i asesu profiad ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol.
Yn ail, dyma’r drydedd wythnos yn olynol nawr, ac nid oedd yr ateb a roddwyd gennych yr wythnos diwethaf yn dal dŵr mewn gwirionedd, felly byddaf yn dweud eto: o fewn tafliad carreg i’r Cynulliad hwn, caiff cyffuriau dosbarth A eu cyfnewid yn agored ar strydoedd Butetown. Pryd y byddwn ni’n cael datganiad gan y Llywodraeth? Pryd y bydd gweithredu’n digwydd? Byddaf yn gwahodd y Gweinidog i gamu allan o'i gar gweinidogol ac efallai ymuno â mi ar strydoedd Butetown i siarad â phobl am eu profiadau. Pryd fydd y mater hwn yn cael sylw trwy ddatganiad?
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.
I think the most important point that came out of the debate—the outcome of the debate—last week, was the agreement that a survey of female councillors would be useful and, of course, that was a positive outcome that will be taken forward.
I think, in terms of your issues in terms of substance misuse and concerns about it, particularly in communities and how communities are affected by it, I did respond last week and highlighted the progress that the Minister is making in terms of our substance misuse delivery plan, which is the delivery plan for 2016-18. Of course, it is a plan for working together to reduce harm and it does explain what the Welsh Government is doing over the next two years to improve the outcomes of those affected by substance misuse.
Rwy'n credu mai’r pwynt pwysicaf a godwyd yn y ddadl—canlyniad y ddadl—yr wythnos diwethaf, oedd y cytundeb y byddai arolwg o gynghorwyr benywaidd yn ddefnyddiol ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ganlyniad cadarnhaol a gaiff ei ddatblygu.
Rwy’n credu, mewn cysylltiad â’ch materion chi o ran camddefnyddio sylweddau a phryderon am y peth, yn enwedig mewn cymunedau a sut y mae’n effeithio ar gymunedau, fe wnes i ymateb yr wythnos diwethaf ac amlygu’r cynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud o ran ein cynllun cyflawni yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, sef y cynllun cyflawni ar gyfer 2016-18. Wrth gwrs, cynllun ydyw ar gyfer gweithio gyda'n gilydd i leihau niwed ac mae'n esbonio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ystod y ddwy flynedd nesaf i wella’r canlyniadau ar gyfer y rhai hynny yr effeithir arnynt gan gamddefnyddio sylweddau.
Following the autumn statement made in Westminster, can I ask for a Welsh Government statement on the Swansea bay city region to include a description of Welsh Government financial support, transportation proposals and plans for supporting the economic development of the region?
Yn dilyn datganiad yr hydref a wnaed yn San Steffan, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddinas-ranbarth bae Abertawe i gynnwys disgrifiad o’r cynigion o ran cludiant, y cynlluniau ar gyfer cefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth a’r gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru?
I think that Mike Hedges would have been very pleased that his calls for recognition of a Swansea bay city region and the prospects for a deal in relation to the region have been heeded because of the hard work led by the Cabinet Secretary for Finance and Local Government in partnership with, of course, the authorities leading the city region proposals. So, I think the fact that it was acknowledged in the autumn statement that there is progress being made on this is very encouraging.
Credaf y byddai Mike Hedges wedi bod yn falch iawn o’r ffaith y cymerwyd sylw o’i alwadau am gydnabyddiaeth o ddinas-ranbarth bae Abertawe a'r rhagolygon am fargen mewn cysylltiad â’r rhanbarth oherwydd y gwaith caled dan arweinyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn partneriaeth, wrth gwrs, â’r awdurdodau sy’n arwain y cynigion ar gyfer y dinas-ranbarth. Felly, rwy’n credu bod y ffaith y caiff ei gydnabod yn natganiad yr hydref, a’r ffaith bod cynnydd yn cael ei wneud o ran hyn, yn galonogol iawn.
In addition to endorsing Julie Morgan’s call regarding haemophilia and contaminated blood, having also attended that cross-party group last week, I call for a statement by the health and social services Minister on HIV/AIDS, recognising that Thursday 1 December marks World Aids Day. The Terrence Higgins Trust’s theme for World Aids Day this year is HIV ‘It’s Not Over’. They say we’ve come a long way in tackling HIV in Wales. People living with HIV, diagnosed early and on treatment, now have a normal life expectancy ahead of them. Also, when an individual living with HIV is successfully on treatment and no HIV virus is detected in their blood, it’s impossible to transmit HIV. So, treatment equals prevention.
But, one in six people living with HIV are unaware they have the virus, putting their own health at risk and unwittingly passing on the virus. In Wales, half of new people diagnosed with HIV last year were diagnosed late, the highest rate in the UK. With HIV affecting both gay people and heterosexuals, 68 per cent of all new diagnoses last year were in people aged 25 to 49. Although rates of HIV and sexually transmitted infections continue to rise across Wales, and fewer people were on HIV antiretroviral treatment in 2015 than the previous year, access to sexual health services across Wales continues to deteriorate, with no current statutory sexual health service provision of any kind in Powys, sexual health prevention and health promotion services decommissioned in three Welsh health boards—Betsi Cadwaladr, Cwm Taf and Hywel Dda—and support services only funded by the lottery, with funding coming to an end at the end of next March.
The Terrence Higgins Trust is calling for an inquiry into the current level of access to sexual health services across Wales, and the impact in areas where there’s no, or low, access to services. So, we need to know from the Minister what measures he’s taking to tackle HIV in Wales, what action the Welsh Government is taking to address the unacceptably high number of people being diagnosed with HIV late in Wales, and whether the Minister will make a statement to mark World Aids Day, recognising both the importance of that event, but also the worrying figures and statistics highlighted by the Terrence Higgins Trust in Wales.
Yn ogystal â chymeradwyo galwad Julie Morgan ynglŷn â hemoffilia a gwaed halogedig, ar ôl bod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw’r wythnos diwethaf hefyd, galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar HIV/AIDS, gan gydnabod ei bod hi’n Ddiwrnod Aids y Byd ddydd Iau 1 Rhagfyr. Thema Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ar gyfer Diwrnod Aids y Byd eleni yw HIV ‘It’s Not Over’. Maen nhw’n dweud ein bod wedi dod yn bell wrth fynd i'r afael â HIV yng Nghymru. Bellach, mae gan bobl sy'n byw â HIV, sydd wedi cael diagnosis cynnar ac yn cael triniaeth, ddisgwyliad oes arferol o’u blaenau. Hefyd, pan fo unigolyn sy'n byw â HIV yn cael triniaeth yn llwyddiannus ac na chaiff unrhyw feirws HIV ei ganfod yn eu gwaed, mae'n amhosibl trosglwyddo HIV. Felly, mae triniaeth yn cyfateb i atal.
Ond, mae un o bob chwech o bobl sy'n byw â HIV yn anymwybodol o’r ffaith bod ganddynt y feirws, gan roi eu hiechyd eu hunain mewn perygl a throsglwyddo’r feirws yn ddiarwybod. Yng Nghymru, roedd hanner y bobl newydd a gafodd ddiagnosis o HIV y llynedd wedi’u diagnosio’n hwyr, y gyfradd uchaf yn y DU. Gan fod HIV yn effeithio ar bobl hoyw a phobl heterorywiol, roedd 68 y cant o'r holl achosion newydd y llynedd mewn pobl rhwng 25 a 49 oed. Er bod cyfraddau HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi ar draws Cymru, ac roedd llai o bobl yn cael triniaeth HIV wrthretrofirol yn 2015 na'r flwyddyn flaenorol, mae’r gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru yn parhau i leihau, heb unrhyw ddarpariaeth gwasanaeth iechyd rhywiol statudol o unrhyw fath ar hyn o bryd ym Mhowys, a gwasanaethau atal iechyd rhywiol a hybu iechyd wedi’u dadgomisiynu mewn tri bwrdd iechyd yng Nghymru—Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda—a gwasanaethau cymorth yn cael eu hariannu gan y loteri yn unig, a chyllid yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth nesaf.
Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn galw am ymchwiliad o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru ar hyn o bryd, ac effaith hynny ar ardaloedd lle nad oes modd cael gafael ar wasanaethau neu ardaloedd lle mae’n anodd cael gafael arnynt. Felly, mae angen i’r Gweinidog roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â HIV yng Nghymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â’r nifer annerbyniol o uchel o bobl sy’n cael diagnosis hwyr o HIV yng Nghymru, ac a fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad i nodi Diwrnod Aids y Byd, gan gydnabod pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw, ond hefyd y ffigurau a'r ystadegau sy’n peri pryder a amlygwyd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yng Nghymru.
I thank Mark Isherwood for both those questions and points on the business statement—and, of course, acknowledging that you were also present, Mark, at the cross-party group on haemophilia and contaminated blood—but also the opportunity to draw Members’ attention to the statement that was made by the Minister for Social Services and Public Health on 23 November, the statement on sexual health in Wales, which does address many of the points, highlighting and updating many of the points following a review of the sexual health and well-being action plan for Wales 2010 to 2015. Particularly, you give some of the information in terms of the latest trends on rates of sexually transmitted infections. If we look at rates of STIs and HIV in Wales, although the statement recognises they’ve been high in recent years, laboratory-confirmed data for the first six months of this year show falls in rates of sexually transmitted infections and HIV compared to the same period for 2014, which is encouraging.
But obviously the Minister is recognising that we can’t be complacent; we need to take account of circumstances. So, again, she’s announced in her written statement, which I do encourage Members to look at, an acknowledgement of World Aids Day on 1 December, and she’s undertaking a review that’s going to start next year. And also that’s going to be led by, overseen by, a sexual health programme board, chaired by the chief medical officer. And she also, in that statement, acknowledges that we’re going to be introducing a new human papilloma virus vaccination programme, for example, which is relevant to this question today.
Diolchaf i Mark Isherwood am y ddau gwestiwn a'r pwyntiau hynny ynglŷn â’r datganiad busnes—ac, wrth gwrs, gan gydnabod eich bod chithau hefyd yn bresennol, Mark, yn y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig—ond hefyd y cyfle i dynnu sylw’r Aelodau at y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 23 Tachwedd, y datganiad ar iechyd rhywiol yng Nghymru, sydd yn mynd i’r afael â llawer o'r pwyntiau, gan amlygu a diweddaru llawer o'r pwyntiau yn dilyn adolygiad o’r cynllun gweithredu ar gyfer iechyd a lles rhywiol yng Nghymru 2010-2015. Yn arbennig, rydych chi’n rhoi rhywfaint o'r wybodaeth o ran y tueddiadau diweddaraf yn ymwneud â chyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Os edrychwn ar gyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a chyfraddau HIV yng Nghymru, er bod y datganiad yn cydnabod y buont yn uchel yn y blynyddoedd diwethaf, mae data a gadarnhawyd mewn labordy, ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, yn dangos cwymp o ran cyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV o’i gymharu â'r un cyfnod yn 2014, sy'n galonogol.
Ond, mae’n amlwg bod y Gweinidog yn cydnabod na allwn fod yn hunanfodlon; mae angen i ni ystyried yr amgylchiadau. Felly, eto, mae hi wedi cyhoeddi yn ei datganiad ysgrifenedig, yr wyf yn annog yr Aelodau i edrych arno, gydnabyddiaeth o Ddiwrnod Aids y Byd ar 1 Rhagfyr, ac mae hi'n cynnal adolygiad sy’n mynd i ddechrau’r flwyddyn nesaf. A hefyd, arweinir a goruchwylir hwnnw gan fwrdd rhaglen iechyd rhywiol, a gadeirir gan y prif swyddog meddygol. Ac mae hi hefyd yn cydnabod, yn y datganiad hwnnw, ein bod am gyflwyno rhaglen frechu feirws papiloma dynol newydd, er enghraifft, sy'n berthnasol i'r cwestiwn hwn heddiw.
Rwy’n mynd i ddatgan diddordeb cyn siarad ar hwn, achos mae gen i nifer o aelodau o’r teulu yn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Ond mae yna nifer o gwestiynau yn dal i godi yn fy meddwl i ers iddi ddod i’r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cais am filiynau o bunnoedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer prosiect sy’n cynnwys adleoli 55 o swyddi S4C i Gaerfyrddin. Nid ydw i’n hapus ein bod ni wedi cael atebion clir cyn belled heddiw, ac rydw i’n gofyn am ddatganiad llawn ar y mater gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar yr economi. A’r math o atebion clir rydym ni eu hangen ar hyn o bryd ydy: beth yw pwrpas yr arian a geisir gan y Llywodraeth? Faint o bres sydd yn cael ei ofyn amdano fo? A ydy hwn yn cynrychioli’r diffyg ariannol—y ‘shortfall’—y soniwyd amdano fo yn gynharach gan yr Ysgrifennydd Cabinet? A oes yna berig i brosiect Caerfyrddin fynd i’r gwellt yn llwyr heb yr arian ychwanegol sy’n cael ei ofyn amdano fo? Ac, os na fydd y prosiect yn symud ymlaen, beth sy’n mynd i ddigwydd i gynllun adleoli S4C? Mae yna nifer fawr o gwestiynau sydd angen atebion. A fyddwn i’n licio gwybod hefyd: beth ydy’r broses yn mynd i fod o hyn ymlaen o ran y Llywodraeth, o ran edrych ar yr achos busnes, a sut y byddwch chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n bod yn gwbl dryloyw efo’r cyhoedd ynglŷn â beth sydd yn digwydd rŵan? A hefyd, sut byddwch chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi yn dod i benderfyniad cadarn ynglŷn â hyn, ac ynglŷn â hefyd yr agwedd lleoliad pencadlys S4C?
I’m going to declare an interest before speaking on this, because I have a number of family members working in the creative industries. But I do have a number of questions that I would like to raise, as it has become evident that the Welsh Government are considering a bid for millions of pounds from the University of Wales Trinity Saint David for a project that includes relocating 55 S4C posts from Cardiff to Carmarthen. I’m not happy that we have received clear answers to date today, and I do ask for a full statement on this issue from the Cabinet Secretary for the economy. The kind of clear answers that we need at present are: what is the purpose of the funding that is sought from the Government? How much money is being requested? Does this represent the financial shortfall alluded to earlier by the Cabinet Secretary? Is there a risk that the Carmarthen project will actually disappear altogether without this additional funding being secured? If the project does not progress, what will happen to the S4C relocation scheme? There are a great number of questions that require answers. I would also like to know what the process will be from now on in from the point of view of the Government, and in looking at the business case, and how you will ensure that you are completely transparent with the public as regards what is happening now. Also, how will you ensure that you come to a robust decision on this, and also on the location of the S4C headquarters?
Sian Gwenllian was able to ask a question following the urgent question today, and I think it’s important that we note your further points on the business statement. I’m going to again repeat that, over the last two years, the Welsh Government has had various discussions with S4C and other partners involved in the move of its HQ to Carmarthen, and those wider developments at the site. But it does remain the case, as the Cabinet Secretary said, that any support from the Welsh Government can only be considered if a detailed and compelling business case is provided that fully articulates and evidences the economic, cultural and linguistic benefits of the development, and demonstrates why public sector intervention is needed to deliver it.
Roedd Sian Gwenllian yn gallu gofyn cwestiwn yn dilyn y cwestiwn brys heddiw, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n nodi eich pwyntiau ychwanegol ynglŷn â’r datganiad busnes. Rwyf am ailadrodd eto fod Llywodraeth Cymru, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi cael amrywiaeth o drafodaethau ag S4C a phartneriaid eraill sy'n gysylltiedig â’r broses o symud ei phencadlys i Gaerfyrddin, a’r datblygiadau ehangach hynny ar y safle. Ond mae'n parhau i fod yn wir, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, y gellir ond ystyried unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru os caiff achos busnes manwl a chymhellol ei ddarparu sy'n mynegi’n llawn ac yn rhoi tystiolaeth o fanteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ac yn dangos pam mae angen ymyrraeth gan y sector cyhoeddus i’w gyflawni.
In March 2015, the UK Government passed under section 67 of the Serious Crime Act 2015 a law that made it a criminal offence for an adult to send a sexual communication to a child. This Assembly passed a legislative consent motion to enable that the previous month. However, over a year and a half later, this law, which could help police and stop potential groomers in their tracks, has still not been commenced by the UK Government. Could I therefore ask for a statement from the Cabinet Secretary for Communities and Children on details of any discussions the Welsh Government has had with the UK Government and Ministry of Justice to enact section 67 of the Serious Crime Act to ensure that children in Wales are protected, and that police are given the powers they need to deal with offenders?
Ym mis Mawrth 2015, pasiodd Llywodraeth y DU dan adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 gyfraith sy'n ei gwneud yn drosedd i oedolyn gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn. Pasiodd y Cynulliad hwn gynnig cydsyniad deddfwriaethol er mwyn galluogi hynny, y mis cynt. Fodd bynnag, dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae’r gyfraith hon, a allai helpu'r heddlu a stopio pobl a allai feithrin perthynas amhriodol â phlant rhag gwneud hynny, dal heb ei gweithredu gan Lywodraeth y DU. A gaf i felly ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymwneud â manylion am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddeddfu adran 67 y Ddeddf Troseddau Difrifol i sicrhau y caiff plant yng Nghymru eu diogelu, ac y rhoddir i’r heddlu y pwerau sydd eu hangen arnynt i ymdrin â throseddwyr?
I thank Lynne Neagle for that question. I think, since being made aware of the National Society for the Prevention of Cruelty to Children’s Flaw in the Law campaign, officials have been in touch with the Ministry of Justice office to look at the current position regarding the commencement of section 67 of the Serious Crime Act 2015, which Lynne Neagle draws our attention to today. We’re still waiting in fact—we’re still waiting for a response. We’re fully supportive of the inclusion of this section in the Act. We would welcome an update on timing for enactment from the Ministry of Justice’s office, so it’s very welcome that you’ve brought this to the whole Assembly’s attention today. And the Cabinet Secretary for Communities and Children is following this up with a letter to Liz Truss MP imminently.
Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu, ers cael gwybod am ymgyrch Gwendid yn y Gyfraith, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, fod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn asesu’r sefyllfa bresennol o ran gweithredu adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 y mae Lynne Neagle yn tynnu ein sylw ati heddiw. Rydym ni’n dal i aros mewn gwirionedd—rydym ni’n dal i aros am ymateb. Rydym ni’n gwbl gefnogol i gynnwys yr adran hon yn y Ddeddf. Byddem ni’n croesawu diweddariad ynglŷn ag amseru ar gyfer deddfu gan swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, felly croesewir yn fawr y ffaith eich bod chi wedi tynnu sylw’r Cynulliad cyfan at hyn heddiw. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn anfon llythyr dilynol at Liz Truss AS yn fuan.
May I ask the leader of the house for a further statement by the Cabinet Secretary for communities before the Christmas break on the Rent Smart Wales scheme? It has been reported that more than 13,000 private landlords in Wales may be letting properties illegally after the Rent Smart Wales scheme became law. Last week, I met a constituent, an elderly lady, who owns only one property, which she has rented out for more than 10 years without any problem. Now, the Welsh Government insist that she should pay a registration fee and undergo training in her responsibilities and obligations as a landlord. How many other old-age people or old-age pensioners are in a similar boat? And I would like to know that this country is very friendly to those people who own properties. Can we have a statement again so that the Cabinet Secretary can explain why my constituent has to pay the same fee as someone who owns multiple properties, and why the Welsh Government is putting an excessive burden on good landlords? This lady is going to pay the same fee as the person who owns multiple properties, by the way, so, Welsh Government is putting an excessive burden on good landlords, instead of effectively targeting the bad ones in Wales. So, I’ll be very grateful if the Minister would look into this again, and I ask for another statement. Thank you.
A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau cyn gwyliau'r Nadolig ar y cynllun Rhentu Doeth Cymru? Adroddwyd efallai bod mwy na 13,000 o landlordiaid preifat yng Nghymru yn gosod eiddo yn anghyfreithlon ar ôl i'r cynllun Rhentu Doeth Cymru ddod yn gyfraith. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag etholwr, gwraig oedrannus, sy'n berchen ar un eiddo yn unig, y mae hi wedi’i rentu allan am fwy na 10 mlynedd heb unrhyw broblem. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y dylai hi dalu ffi gofrestru a chael hyfforddiant yn gysylltiedig â’i chyfrifoldebau a’i rhwymedigaethau fel landlord. Faint o bobl oedrannus eraill neu bensiynwyr sydd mewn sefyllfa debyg? A hoffwn wybod bod y wlad hon yn gyfeillgar iawn tuag at y bobl hynny sy'n berchen ar eiddo. A gawn ni ddatganiad eto fel y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam mae’n rhaid i’m hetholwr dalu'r un ffi â rhywun sy'n berchen ar fwy nag un eiddo, a pham mae Llywodraeth Cymru yn rhoi baich gormodol ar landlordiaid da? Bydd y wraig hon yn talu'r un ffi â rhywun sy'n berchen ar fwy nag un eiddo, gyda llaw, felly, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi baich gormodol ar landlordiaid da, yn hytrach na thargedu'n effeithiol y rhai drwg yng Nghymru. Felly, byddaf yn ddiolchgar iawn pe byddai'r Gweinidog yn rhoi sylw i hyn eto, ac rwy’n gofyn am ddatganiad arall. Diolch.
The Cabinet Secretary for Communities and Children did make a full statement on this last week. I haven’t got the Record of Proceedings in front of me; I’m sure you asked questions of the Cabinet Secretary at that time. This is an important scheme that was backed in terms of legislation, progressive legislation, on this side of the Chamber, and, of course, in terms of implementation, opportunity for scrutiny last week was important. And the implementation of it, of course, will take into account the points that have been raised.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad llawn ar hyn yr wythnos diwethaf. Nid oes gennyf i Gofnod y Trafodion ger fy mron; rwy'n siŵr eich bod wedi gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd. Mae hwn yn gynllun pwysig a gafodd ei gefnogi o ran deddfwriaeth, deddfwriaeth flaengar, ar yr ochr hon o’r Siambr, ac, wrth gwrs, o ran gweithredu, roedd y cyfle i graffu yr wythnos diwethaf yn bwysig. Ac, wrth gwrs, bydd y pwyntiau a godwyd yn cael eu hystyried wrth ei weithredu.
Could we have a statement from the Cabinet Secretary for environment, energy and climate change regarding future Welsh Government policy towards farming payments and farm support systems in particular? I’m very concerned that the decision to leave the European Union is being used as a Trojan horse by some people to get a land grab onto Welsh devolved policy. We heard the leader of the Welsh Conservatives only this week claiming that farmers would be happier for Westminster to decide farming policy rather than here in our democratically elected Parliament. Well, I’m not happy, and the farmers I talk to aren’t happy about that.
They’re not always happy about what the Welsh Government does, of course not, but there’s a difference between Government and Parliament and it shouldn’t be right that the decision to leave the European Union is being used by the Conservatives not only to take back farming policy from Wales—and, in turn, environmental policy, because they go hand in hand—but also already we’ve heard that convergence and regional development funding policy should also be retained by Westminster.
We want Westminster’s sticky hands off our policies that have already been devolved so that future Governments here can take the decision for the Welsh people. What’s really at the heart of this, of course, is the Conservatives know they will never win a majority in this Parliament so they use the back-door method of a Conservative Government—[Interruption.]—a Conservative Government in Westminster to decide policies for Wales. We fought against that for 40 years and we won that fight and we won’t fight again.
I have to say to the Minister that what’s lacking is there’s a bit of a vacuum. Because the Welsh Government isn’t coming forward with clear plans that Welsh farmers can get hold of, can critique or possibly agree with or say something different should be done, there’s a vacuum for these pernicious ideas to be circulated by the Conservatives. So, I think it would be very valuable for the Welsh Government now to set out its principles for how it will take this forward.
A final point on that that I think the statement should address is there’s a world of difference between four nations coming together at a UK level and agreeing things that are a common good in the field of farming and environment, including things like animal welfare and standards of slaughter and all that kind of—animal diseases. There’s a world of difference between that and Westminster deciding and then telling us what to do.
The second element that I’d like a statement on, because I think it’s related but slightly separate, is how the Welsh Government intends to deal with a potential crisis in migrant farm workers next year. It’s already been flagged up that late-season crops—cauliflowers, potatoes and so forth—at the moment, we’ve about 70 per cent of the migrant workforce that we need to pick those crops. That’s maybe not seen to be a huge issue for Wales at the moment, and more an issue for Lincolnshire and parts of England, but we do have between 20,000 and 30,000 migrant farm workers and food production workers coming into Wales each year, and, if we see a reduction similar to that next year then we will struggle to maintain our abattoirs, we will struggle to maintain some of our seasonal crop picking, and we will struggle to maintain our food production facilities in Wales. If the UK Government is not prepared to give the necessary assurances for EU workers to come and do that migrant work, then we need to look afresh at the idea of Welsh work visas and arguing the case for that, because our agricultural needs and workforce needs must be met in order to ensure that there’s food on our plates. So, I hope we can have two statements from the Government on those matters.
A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, ynni a newid hinsawdd o ran polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ynghylch taliadau ffermio a systemau cefnogi ffermydd yn arbennig? Rwy'n bryderus iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio fel ceffyl pren Caerdroea gan rai pobl i ennill tir o ran polisi datganoledig Cymru. Dim ond yr wythnos hon y clywsom arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn honni y byddai ffermwyr yn hapusach pe byddai San Steffan yn gwneud penderfyniadau o ran polisi ffermio yn hytrach nag yma yn ein Senedd ni a etholir yn ddemocrataidd. Wel, nid wyf i’n hapus, ac nid yw’r ffermwyr yr wyf i’n siarad â nhw yn hapus am hynny.
Nid ydyn nhw bob amser yn hapus â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, wrth gwrs, ond ceir gwahaniaeth rhwng Llywodraeth a Senedd, ac ni ddylai fod yn iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Ceidwadwyr nid yn unig i adennill y cyfrifoldeb dros bolisi ffermio oddi ar Gymru—ac, yn ei dro, y polisi amgylcheddol, gan eu bod yn mynd law yn llaw—ond hefyd rydym ni eisoes wedi clywed y dylai San Steffan gadw rheolaeth dros bolisi cyllido cydgyfeirio a datblygu rhanbarthol hefyd.
Rydym eisiau i San Steffan gadw ei dwylo blewog oddi ar ein polisïau sydd eisoes wedi’u datganoli fel y gall Llywodraethau’r dyfodol yma wneud penderfyniadau dros bobl Cymru. Yr hyn sydd wir wrth wraidd hyn, wrth gwrs, yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr yn gwybod na fyddant byth yn ennill mwyafrif yn y Senedd hon, felly maen nhw’n defnyddio dull drws cefn Llywodraeth Geidwadol—[Torri ar draws.]—Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wneud penderfyniadau o ran polisïau ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi bod yn brwydro yn erbyn hynny am 40 o flynyddoedd ac enillasom y frwydr honno ac ni fyddwn yn brwydro eto.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog mai’r hyn sydd ar goll yw’r ffaith y ceir rhywfaint o wactod. Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau clir y gall ffermwyr Cymru gael gafael arnyn nhw, fynegi barn arnyn nhw neu, o bosibl, gytuno â nhw neu ddweud y dylid gwneud rhywbeth gwahanol, ceir gwactod lle y caiff y syniadau niweidiol hyn eu dosbarthu gan y Ceidwadwyr. Felly, rwy’n credu y byddai'n werthfawr iawn i Lywodraeth Cymru yn awr, nodi ei hegwyddorion o ran sut y bydd yn bwrw ymlaen â hyn.
Pwynt olaf ynglŷn â hynny, yr wyf o’r farn y dylai’r datganiad fynd i'r afael ag ef, yw’r ffaith y ceir byd o wahaniaeth rhwng pedair gwlad yn dod at ei gilydd ar lefel y DU a chytuno ar bethau sydd o les cyffredin ym maes ffermio a'r amgylchedd, gan gynnwys pethau fel lles anifeiliaid a safonau cigydda a’r holl fath hynny o—glefydau anifeiliaid. Ceir byd o wahaniaeth rhwng hynny a San Steffan yn penderfynu ac wedyn yn dweud wrthym ni beth i'w wneud.
Yr ail elfen yr hoffwn ddatganiad yn ei chylch, gan fy mod yn credu bod hyn yn gysylltiedig ond ychydig ar wahân, yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â'r argyfwng posibl o ran gweithwyr fferm mudol y flwyddyn nesaf. Wedi’i hamlygu eisoes yw’r ffaith bod cnydau hwyr yn y tymor—blodfresych, tatws ac ati—ar hyn o bryd, mae gennym ni oddeutu 70 y cant o'r gweithlu mudol sydd ei angen arnom i hel y cnydau hynny. Efallai nad ymddengys fod hynny’n broblem fawr i Gymru ar hyn o bryd, a’i bod yn fwy o broblem i Swydd Lincoln a rhannau o Loegr, ond mae gennym rhwng 20,000 a 30,000 o weithwyr fferm mudol a gweithwyr cynhyrchu bwyd yn dod i Gymru bob blwyddyn, ac, os ydym ni’n gweld gostyngiad tebyg i hynny y flwyddyn nesaf, yna byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein lladd-dai, byddwn ni’n ei chael yn anodd parhau i hel rhai o’n cnydau tymhorol, a byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein cyfleusterau cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i roi'r sicrwydd angenrheidiol i weithwyr yr UE ddod i wneud y gwaith mudol hwnnw, yna mae angen i ni ystyried o'r newydd y syniad o fisâu gwaith yng Nghymru a dadlau'r achos dros hynny, oherwydd bod yn rhaid bodloni ein hanghenion amaethyddol a’n hanghenion o ran gweithlu er mwyn sicrhau bod bwyd ar ein platiau. Felly, rwy’n gobeithio y cawn ddau ddatganiad gan y Llywodraeth ar y materion hynny.
I thank Simon Thomas for raising that today. In fact, Lesley Griffiths, the Cabinet Secretary, was at the Royal Welsh winter fair yesterday. I think it was warmly welcomed; her announcement about payments by 1 December was warmly welcomed—I certainly read the quotes from the farmers’ unions—and recognising, once more, that agriculture is a fully devolved matter and has been since 1999 and we have delivered in partnership with the farming community, with the agricultural sector, in partnership in Government with you and in Government with Welsh Liberal Democrats, and also, of course, in partnership with the farming community. And that’s how we wish to take it forward. If you look at EU regulatory frameworks, of course, when they cease to apply it is for the devolved administrations, it’s for us here in Wales, Scotland, Northern Ireland, to decide if and how—as you say, there are areas where there may be UK-wide frameworks with the UK Government—but it is our responsibility.
Now, I would dispute—in terms of the Cabinet Secretary’s engagement, it’s been full since the referendum result. Not only has she made statements that responded to this, but I think it’s worth saying again not only meeting farmers unions, industry representatives but also hosting those round table discussions on the implications of the UK’s exit from the EU.
The other point that is worth making is that, as it’s clearly been shown, Andrew R.T. Davies—we wonder what his colleagues think about his statements, I would say, over the last few days. I recognise that he’s not here today, but what appetite would there be anyway, in Westminster, to retake responsibility over agriculture in Wales? Actually, in those round-table discussions, the engagement with farmers and the unions and partners in the sector has been about how they can work with us to develop distinctively Welsh agricultural policies.
I think your second point is also very important—it’s on the record—and of course we will consider, again, how we can raise this. Of course, the Cabinet Secretary for Finance and Local Government is involved in the EU committee that’s been set up; he sits on it alongside ministerial colleagues from other devolved administrations and, indeed, UK Government Ministers as well, looking at those very issues in terms of the farming workforce, which will have a particular impact not just on Wales, but on the rest of the UK.
Diolchaf i Simon Thomas am godi hynny heddiw. Mewn gwirionedd, roedd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffair aeaf Frenhinol Cymru ddoe. Rwy'n credu ei fod wedi cael croeso cynnes; bod ei chyhoeddiad ynglŷn â thaliadau erbyn 1 Rhagfyr wedi cael croeso cynnes—yn sicr darllenais i’r dyfyniadau gan undebau’r ffermwyr—gan gydnabod, unwaith eto, fod amaethyddiaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr ac wedi bod felly ers 1999, ac rydym wedi cyflawni mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio, â'r sector amaethyddol, mewn partneriaeth mewn Llywodraeth â chi ac mewn Llywodraeth â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a hefyd, wrth gwrs, mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio. A dyna sut yr ydym ni’n dymuno ei ddatblygu. Os edrychwch chi ar fframweithiau rheoleiddio’r UE, wrth gwrs, pan na chânt eu gweithredu mwyach, mater ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, mater ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon ydyw i benderfynu sut ac os—fel yr ydych chi’n dweud, ceir meysydd lle y gall fod fframweithiau ar draws y DU gyda Llywodraeth y DU—ond ein cyfrifoldeb ni ydyw.
Nawr, byddwn yn dadlau—o ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet, y bu’n gant y cant ers canlyniad y refferendwm. Nid yn unig y mae hi wedi gwneud datganiadau a oedd yn ymateb i hyn, ond rwy’n credu ei bod yn werth dweud eto, nid dim ond cwrdd ag undebau ffermwyr, cynrychiolwyr y diwydiant, ond hefyd cynnal y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn o ran y goblygiadau ynghlwm wrth y DU yn gadael yr UE.
Y pwynt arall sy'n werth ei wneud yw bod Andrew R.T. Davies, gan ei fod wedi’i ddangos yn glir—tybed beth y mae ei gydweithwyr yn ei feddwl am ei ddatganiadau, y byddwn i’n dweud, dros y dyddiau diwethaf. Rwy’n cydnabod nad ydyw yma heddiw, ond pa awydd a fyddai beth bynnag, yn San Steffan, i adennill cyfrifoldeb dros amaethyddiaeth yng Nghymru? A dweud y gwir, yn y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn, mae’r broses o ymgysylltu â ffermwyr a'r undebau a’r partneriaid yn y sector wedi bod ynglŷn â sut y gallan nhw weithio gyda ni i ddatblygu polisïau amaethyddol yng Nghymru.
Rwy’n credu bod eich ail bwynt hefyd yn bwysig iawn—mae wedi’i gofnodi—ac wrth gwrs byddwn ni’n ystyried, unwaith eto, sut y gallwn ni godi hyn. Wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn rhan o bwyllgor yr UE sydd wedi’i sefydlu; mae'n eistedd arno ochr yn ochr â chydweithwyr gweinidogol o weinyddiaethau datganoledig eraill ac, yn wir, Weinidogion Llywodraeth y DU hefyd, gan edrych ar yr union faterion hynny o ran y gweithlu ffermio, a fydd yn cael effaith arbennig, nid yn unig ar Gymru, ond ar weddill y DU.
I’d like to ask the leader of the house for a statement relating to the steel industry. I’ve been pre-empted a little bit by the statement, which I saw when I sat down this afternoon, but over the last couple of weeks, we’ve actually seen some progress in relation to, perhaps, moving forward in the steel industry. Only this weekend, we saw the news that it’s likely that Tata Steel are selling their speciality steels to Liberty Steel, and that seems to be moving forward, but that still leaves the strip products. I note that the statement that we received this afternoon from the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure highlights that he has written to Ratan Tata and that he is expecting some answer, but I think it’s time we have the opportunity to have an oral statement, on which we can ask some serious questions based on fact and not rumours that are happening in the steel industry, to ensure that the uncertainty that is still hanging over some of our areas, particularly in my constituency, is cleared up as much as possible—that we see a bright future and that the Welsh Government is taking steps forward. I appreciate that some of those levers are with the UK Government, but perhaps we can also have a link in to what actions and discussions they’ve had with the UK Government on the future of steel.
Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad sy'n ymwneud â'r diwydiant dur. Mae’r datganiad eisoes wedi crybwyll yr hyn sydd gennyf i’w ddweud, a welais pan eisteddais i lawr y prynhawn yma, ond yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd mewn gwirionedd o ran datblygiad, efallai, yn y diwydiant dur. Dim ond y penwythnos hwn, gwelsom y newyddion ei bod hi’n debygol bod Tata Steel yn gwerthu eu dur arbenigol i Liberty Steel, ac ymddengys fod hynny’n mynd yn ei flaen, ond mae hynny'n dal i adael y cynhyrchion strip ar ôl. Nodaf fod y datganiad a gawsom y prynhawn yma gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn amlygu ei fod wedi ysgrifennu at Ratan Tata a'i fod yn disgwyl ateb o ryw fath, ond rwy’n credu ei bod hi’n amser i ni gael y cyfle i gael datganiad llafar, y gallwn ni ofyn cwestiynau difrifol yn ei gylch yn seiliedig ar ffeithiau ac nid sïon a geir ynglŷn â’r diwydiant dur, er mwyn sicrhau y ceir gwared ar yr ansicrwydd sy’n dal i fodoli yn rhai o'n hardaloedd, yn enwedig yn fy etholaeth i, gymaint ag y bo modd—ein bod yn gweld dyfodol disglair a bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ymlaen. Rwy’n sylweddoli bod gan Lywodraeth y DU rai o’r dulliau ysgogi hynny, ond efallai y gallwn ni gael gwybod pa gamau a thrafodaethau y maen nhw wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar ddyfodol dur.
There’s no question that the Cabinet Secretary will want to engage, as he has shown this afternoon, and update Members accordingly.
Does dim amheuaeth y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i gymryd rhan, fel y mae wedi dangos y prynhawn yma, a rhoi diweddariad i’r Aelodau yn unol â hynny.
Leader of the house, can I call for two statements, please? The first is from the Cabinet Secretary for health. Last week was atrial fibrillation awareness week and Members of this house will be aware that one in five people who suffer from a stroke—6,000 of them every year here in Wales—will have had an atrial fibrillation episode prior to them suffering a stroke. I’d like to know what the Welsh Government is doing in order to promote awareness of AF amongst the general public and, indeed, medical practitioners, because many of these strokes can be prevented if AF is treated.
Secondly, can I ask for an update from the Cabinet Secretary responsible for regeneration on the Government’s progress towards legal action against Lambert Smith Hampton following the regeneration investment fund for Wales scandal? Obviously, in response to the Public Accounts Committee report earlier this year, the Welsh Government said that it was pursuing a legal process against Lambert Smith Hampton, following the advice that the RIFW board received, which resulted in taxpayers losing out on tens of millions of pounds because a good proportion of the land was sold off at rock-bottom prices, including in Abergele in my own constituency, where a piece of land was sold to South Wales Land Developments by the Welsh Government for £100,000 and subsequently sold on for £1.9 million within a very short period of time thereafter. Taxpayers want justice, leader of the House, and I think it is appropriate, now that so much time has elapsed, that Assembly Members receive an update on this very important matter.
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth o ffibriliad atrïaidd yr wythnos diwethaf a bydd Aelodau'r tŷ hwn yn ymwybodol y bydd un o bob pump o bobl sy'n dioddef strôc—6,000 ohonyn nhw bob blwyddyn yma yng Nghymru—wedi profi achos o ffibriliad atrïaidd cyn iddyn nhw ddioddef strôc. Hoffwn wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn hybu ymwybyddiaeth o AF ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol ac, yn wir, ymhlith ymarferwyr meddygol, oherwydd gellir atal llawer o’r strociau hyn os caiff AF ei drin.
Yn ail, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am adfywio, ar gynnydd y Llywodraeth o ran cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Lambert Smith Hampton yn dilyn y sgandal yn ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio? Yn amlwg, mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach eleni, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dilyn proses gyfreithiol yn erbyn Lambert Smith Hampton, yn dilyn y cyngor a gafodd bwrdd CBCA, a olygodd fod trethdalwyr yn methu â chael degau o filiynau o bunnoedd oherwydd bod cyfran dda o'r tir wedi’i gwerthu am bris isel iawn, gan gynnwys yn Abergele yn fy etholaeth i, lle y gwerthwyd darn o dir gan Lywodraeth Cymru i South Wales Land Developments am £100,000 ac y cafodd ei werthu ymlaen yn ei dro am £1.9 miliwn o fewn cyfnod byr iawn o amser ar ôl hynny. Mae trethdalwyr eisiau cyfiawnder, arweinydd y tŷ, ac rwy'n credu ei bod yn briodol, nawr bod cymaint o amser wedi mynd heibio, fod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hynod bwysig hwn.
The Member raises two important issues. On your first point, of course, in terms of AF and the prevention and detection to prevent strokes—that is a very important point. I think it’s important to note that, from the most recent stroke annual report, over the last 10 years, survival rates following a stroke for people aged 74 and under have improved and the number of people dying from strokes is also reducing. But that has to be partly due to the raising of awareness as you describe, and we will be taking that forward. On your second point, of course, these are recommendations that were made regarding RIFW by the Public Accounts Committee—you were the Chair at the time—and those recommendations are being implemented.
Mae'r Aelod yn codi dau fater pwysig. O ran eich pwynt cyntaf, wrth gwrs, o ran AF a’r broses o atal a chanfod er mwyn atal strôc—mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Credaf ei bod hi’n bwysig nodi, o'r adroddiad blynyddol diweddaraf yn ymwneud â strôc, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod cyfraddau goroesi yn dilyn strôc ar gyfer pobl 74 oed ac iau wedi gwella a bod nifer y bobl sy'n marw o strôc hefyd yn lleihau. Ond mae’n rhaid bod hynny’n rhannol o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth, fel y gwnaethoch chi ddisgrifio, a byddwn ni’n bwrw ymlaen â hynny. O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae'r rhain yn argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch CBCA—chi oedd y Cadeirydd ar y pryd—a chaiff yr argymhellion hynny eu gweithredu.