Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/09/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a’r cwestiwn cyntaf gan David Melding.

Meiri Etholedig

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses i sefydlu meiri etholedig yng Nghymru? OAQ(5)0019(FLG)

Member
Mark Drakeford 13:30:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Mae strwythur gwleidyddol, gan gynnwys maer a etholir yn uniongyrchol, yn opsiwn sydd ar gael i bob un o brif gynghorau Cymru, naill ai o ganlyniad i’r cyngor yn penderfynu mynd ar drywydd hynny, neu mewn ymateb i ddeiseb gyhoeddus. Yn y ddau achos, mae angen refferendwm lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn edifar am y penderfyniad i godi’r trothwy sydd ei angen i sbarduno refferendwm? Oherwydd rydym bellach wedi gweld bod y defnydd o feiri etholedig wedi adfywio llywodraeth leol ar hyd a lled y DU ac yn wir, dyna sydd wrth wraidd datganoli yn Lloegr. Mae llawer o bobl yn teimlo y dylid cyflwyno’r cwestiynau hyn i’r etholwyr o leiaf, heb amodau afresymol o uchel i sbarduno’r broses.

Lywydd, nid wyf yn edifar am y lefel o 10 y cant yng Nghymru. Nid wyf yn ei ystyried yn afresymol o uchel. O ystyried bod gennym rai etholaethau cymharol fach mewn rhai cynghorau yng Nghymru, rwy’n credu bod trothwy o 10 y cant o’r etholwyr i sbarduno refferendwm yn ateb ein hanghenion a’n hamgylchiadau.

A yw’r Gweinidog yn ymwybodol fod llawer o bobl yng Nghaerdydd yn credu ein bod angen maer etholedig? Mae’r ddinas yn cael ei rhedeg gan bobl anweledig ar hyn o bryd, sydd, i bob pwrpas, yn cael eu hethol gan lond llaw o bobl. Nawr, rwy’n amau ​​y byddai’n well ganddynt ei chadw felly. Ac rwy’n deall bod detholiadau Plaid Lafur Llanisien bellach yn digwydd yn swyddfa etholaeth yr Aelod ar y chwith i mi—mae’n bosibl y bydd hi eisiau cadarnhau hynny, neu beidio—a’r rhestrau byrion, er enghraifft, neu’r detholiadau, yn cael eu cynnal yn ystafell flaen elît Llafur Newydd. Mae hyn yn creu datgysylltiad rhwng y cyhoedd a’r cyngor, yr aelodau etholedig, ac rydym yn gweld system yn y wlad hon nad yw’n addas at y diben, a bod yn onest. A wnewch chi, fel Gweinidog, gefnogi refferendwm i Gaerdydd ar gael maer etholedig a rhoi amserlen ar waith?

Rwy’n ei chael hi ychydig yn rhyfedd fod yna ddau Aelod yma yn crochlefain am haen ychwanegol o fiwrocratiaeth. Nid wyf yn credu ei bod yn angenrheidiol. Cawsom ymgais yn ddiweddar i gyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol yng Nghaerdydd gan gynghorydd Llafur, Ashley Govier. Bu farw’r syniad i raddau helaeth oherwydd diffyg cefnogaeth boblogaidd. Felly, byddwn yn croesawu’r hyn y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud hyd yma. Pe bai’n gallu rhoi sicrwydd pellach i mi, gyda newid deddfwriaethol pellach yn y Cynulliad hwn, na fydd gennym sefyllfa lle bydd ardal yn cael ei gorfodi i gael maer a etholir yn uniongyrchol pan na fydd yr ardal honno yn dymuno hynny o bosibl.

Lywydd, mae’n bwysig fy mod yn gwneud fy safbwynt yn glir. Rwyf o blaid yr hawl i awdurdodau lleol a phoblogaethau lleol ddewis eu strwythur gwleidyddol eu hunain. Mae hynny’n golygu bod y dewis ar gael i’r awdurdodau a’r poblogaethau hynny lle maent yn dewis cefnogi maer lleol. Lle nad ydynt yn dewis cefnogi hynny, i ateb cwestiwn yr Aelod, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau o gwbl i’w orfodi arnynt.

Cymorth Busnes

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i’r portffolio economi a’r seilwaith mewn perthynas â chymorth busnes ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf? OAQ(5)0024(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mewn ymateb i’r dirywiad economaidd, mae ein ffocws ar dwf a swyddi, gan gynnwys cefnogi’r sector busnes, wedi bod yn sail i ddyraniadau’r gyllideb i’r portffolio economi a’r seilwaith dros y cyfnod hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am fy niddordeb brwd mewn diwygio ariannol, ar ôl mynychu’r grŵp trawsbleidiol ar ddiwygio ariannol yn y Cynulliad blaenorol. Roeddwn yn falch iawn o weld eich bod wedi bachu ar syniad y Ceidwadwyr Cymreig o sefydlu banc datblygu yma yng Nghymru, yn y cyhoeddiad a wnaed ddoe. Mae’n rhywbeth rwyf wedi dadlau drosto ers amser, ac rwy’n falch fod Plaid Cymru hefyd wedi bachu ar y syniad hwnnw yn eu maniffesto blaenorol. A allwch ddweud wrthym yn union pa gymorth fydd ar gael drwy’r banc datblygu a sut y byddwch yn sicrhau bod y buddsoddiadau y bydd yn eu gwneud ar gael ym mhob rhan o Gymru a heb eu cyfyngu i’r de?

Diolch i’r Aelod am hynny. Rwy’n siŵr y bydd yn gyfarwydd â safbwynt yr hanesydd Rhufeinig, Tacitus, fod gan fuddugoliaeth lawer o dadau—mae methiant yn amddifad, ond mae gan fuddugoliaeth lawer o dadau. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi gwneud cyhoeddiad mewn perthynas â’r banc buddsoddi. Caiff ei gefnogi gan gyllid y byddaf yn ei ryddhau drwy fy mhortffolio. Bydd yn gweithredu ar hyd a lled Cymru. Mae’n bwysig iawn—rwy’n cytuno â’r Aelod—fod yn rhaid i ni ddangos ein bod yn bwrw iddi dros Gymru gyfan. Yng ngogledd Cymru, mae ein cynlluniau ar hyn o bryd yn cynnwys buddsoddi mewn 240 a rhagor o gynlluniau, gyda chyfanswm buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn werth mwy na £1.3 biliwn, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y banc buddsoddi yn ein galluogi i barhau i gyflawni’r datblygiad hwnnw ymhellach ac yn gyflymach.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwelsom amgylchiadau, megis yn fy etholaeth i pan wnaeth Tata y cyhoeddiadau ym mis Ionawr, a oedd yn galw am weithredu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, roedd y cymorth busnes a roddwyd i’r busnesau hynny sy’n bwydo i mewn i Tata yn hanfodol yn hynny o beth. A fydd cynllunio’n digwydd yn y dyfodol i sicrhau bod digon o arian yn y portffolio ar gyfer unrhyw gyfleoedd a allai godi yn y dyfodol o ganlyniad i gamau megis rhai Tata fis Ionawr diwethaf?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fe fydd yn ymwybodol fod trafodaethau’n parhau gyda Tata ei hun, yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dros y dyddiau diwethaf yn unig, rwy’n gweld bod y Gweinidog wedi gofyn am unrhyw geisiadau pellach y dymunir eu cyflwyno am ryddhad ardrethi busnes yn yr ardal fenter a grëwyd yn etholaeth yr Aelod. Gallaf ddweud hyn wrtho: wrth baratoi ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, rwy’n parhau’n effro iawn i’r angen i wneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa i ymateb i anghenion y gymuned honno ac i weithio’n agos gyda’r cwmni i sicrhau parhad cynhyrchiant dur yma yng Nghymru.

Gan fod Plaid Cymru wedi bod yn galw am fanc datblygu ers y 1970au, rydym yn falch iawn o weld ei fod yn digwydd o’r diwedd. Ond y cwestiwn sydd gennyf i Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd yw hwn: yn ôl datganiad y Llywodraeth, mae’r benthyca blynyddol yr anelir ato yn y pen draw oddeutu £80 miliwn. Mae hynny’n llai nag un rhan o bump o’r bwlch ariannu o £500 miliwn a ddyfynnwyd gan astudiaeth ddichonoldeb y Llywodraeth ei hun, sef y sail dros greu’r banc. Pam y bwlch rhwng y bwlch ariannu a’r hyn y mae’r Llywodraeth yn argymell ei wneud?

Wel, rwy’n credu bod nifer o atebion i’r cwestiwn hwnnw, Lywydd. Yn gyntaf oll, mae mwy nag un ffordd y gallwn fynd i’r afael â’r bwlch ariannu. Mae hon yn un, ond mae yna ffyrdd eraill, ac rydym yn rhoi camau eraill ar waith yn y maes. Ac yn ail, yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn yr hyn sydd ar gael i ni. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y banc buddsoddi newydd, ac rwy’n credu, yn hytrach na gresynu at yr hyn nad yw’n gallu ei wneud, rwy’n gobeithio y byddwn yn canolbwyntio ar y llawer o bethau da y bydd yn gallu eu cyflawni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galw nesaf ar lefarwyr y pleidiau i ofyn eu cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn gyntaf, llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyhoeddoch y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnes sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd bellach yn cael ei ymestyn ar gyfer 2017-18. Mewn ymgais, efallai, i guddio’r ffaith eich bod yn camu’n ôl rhag un o brif addewidion eich maniffesto yn yr etholiad diweddar, cafodd hyn ei gyflwyno fel toriad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Nawr, ‘does bosibl fod parhau â’r rhyddhad ardrethi cyfredol, pa un a yw’n ei wneud yn barhaol neu fel arall, yn doriad treth? A allwch chi gadarnhau i mi heddiw pa un a ydych yn dal i gredu mai toriad treth yw hwn, neu, yng ngeiriau’r Ffederasiwn Busnesau Bach, ai hwn yw’r math gwaethaf posibl o sbinddoctora a dim mwy nag estyniad o’r gyfundrefn dreth waethaf yn y DU i fusnesau bach?

Mae’n sicr yn doriad treth, Lywydd. Roedd y cynllun presennol i fod i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Pe na bai wedi cael ei ymestyn, ni fyddai gwerth £98 miliwn o ostyngiad yn y dreth ar gael i fusnesau bach. Buasent wedi bod yn talu’r dreth honno. Ni fyddant yn talu’r dreth honno yn awr. Mae’r dreth y buasent wedi gorfod ei thalu, pe na baem wedi gwneud y cyhoeddiad hwn, wedi cael ei thorri. Mae’n doriad treth, ac nid oes amwysedd ynglŷn â hynny.

Nid wyf yn siŵr os yw hyn yn Orwelaidd neu’n Kafkaésg, ond nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i mi. Rydych yn talu’r un trethi yn union; nid yw ond yn doriad treth yng Nghymru yn awr yn ôl pob golwg. Mae yna bethau eraill y gallech fod wedi eu gwneud fel Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi busnesau o ran ardrethi. Gallech fod wedi mynegeio’r lluosydd ardrethi busnes i’r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na’r mynegai prisiau manwerthu er mwyn sicrhau biliau ardrethi mwy cywir ac osgoi gadael i fusnesau ddioddef dirywiad yn eu hincwm. Mewn gwirionedd, gallech fod wedi cyflwyno lluosydd dwbl, lluosydd deuol, gan adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng busnesau mawr a busnesau bach fel y maent wedi’i wneud yn yr Alban ac yn Lloegr. Pam na wnaethoch chi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?

Lywydd, yr hyn a gyhoeddais yw hyn: byddwn yn ymestyn y cynllun. Pe bai’r Aelod yn gwybod fod ganddo fil o £100 i’w dalu y flwyddyn nesaf a fy mod i’n cyflwyno cynllun sy’n dweud wrtho na fyddai angen iddo dalu’r £100 hwnnw wedi’r cyfan, rwy’n credu y byddai’n ei ystyried yn doriad yn y rhwymedigaeth y byddai’n rhaid iddo ei chyflawni fel arall, a dyna’n union rydym wedi’i wneud. Hefyd, yn ogystal ag ymestyn y cynllun am flwyddyn arall, cyhoeddais y bydd yn cael ei wneud yn barhaol wedi hynny. Felly, mae’n doriad treth parhaol i fusnesau bach yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio’r 12 mis nesaf i weithio gyda’r sector busnesau bach ac eraill i weld a oes ffyrdd y gellid gwella’r cynllun ymhellach i gynnig rhagor o gymorth eto. Yn sicr, gall y syniadau y mae’r Aelod yn eu cyflwyno gyfrannu at y drafodaeth honno.

Fe wnaf fy ngorau gyda hwn felly: yn dilyn ailbrisiad ardrethi busnes gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a ddaw i rym ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, mae rhagfynegiadau cyfredol gan y sector manwerthu a busnesau eraill yn dangos y gallai’r puntdal ardrethi a ragwelir ar gyfer Cymru lamu i fyny’n syfrdanol 10 y cant, a fyddai’n golygu mai Cymru fyddai’r lle sydd â’r dreth uchaf a’r lle lleiaf deniadol i wneud busnes ym Mhrydain os bydd eich Llywodraeth yn penderfynu gwneud iawn am y gwahaniaeth a gollir mewn refeniw drwy newid y lluosydd ardrethi busnes unffurf. Yn rhyfedd iawn, gallem fod mewn sefyllfa lle bydd gennym y dreth uchaf a’r cyfraddau gwacter busnes uchaf yn y DU gyfan. A allwch gadarnhau heddiw na fyddwch yn newid y gyfradd fusnes unffurf mewn ymateb i ostyngiad posibl yn refeniw’r Llywodraeth?

Wel, bydd yn rhaid i’r Aelod aros nes 30 Medi, fel pawb arall, i weld beth fydd ailbrisiad ardrethi annomestig Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei ddweud mewn gwirionedd yn hytrach na’r hyn y mae pobl yn dyfalu y gallai ei ddweud. Bydd yr Aelodau yma yn ymwybodol nad cynyddu swm yr arian sy’n cael ei gymryd gan fusnesau mewn unrhyw fodd y mae ailbrisio yn ei wneud, ond sicrhau yn hytrach fod dosbarthiad y cyfraddau hynny’n adlewyrchu’r set ddiweddaraf o amgylchiadau economaidd. Fe welwn beth fydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i’w ddweud ar 30 Medi.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ffigurau a ryddhawyd heddiw gan Cyngor ar Bopeth Cymru yn dangos mai ôl-ddyledion y dreth gyngor mewn gwirionedd yw’r ffactor unigol mwyaf sy’n achosi dyled yng Nghymru o hyd. Yn eich rhaglen lywodraethu, mae sôn am weithio gyda llywodraeth leol i adolygu’r dreth gyngor. Sut yn union rydych chi’n bwriadu cyflwyno hwn ac a ddylem ragdybio efallai y gallai un o’r modelau sydd i’w hystyried, fel yr awgrymodd Plaid Cymru, fod yn rhan o’ch ‘cydweithio’ dros y tymor nesaf hwn?

Diolch am y cwestiwn. Mae’r ffordd rwy’n bwriadu mynd ati i ddatblygu’r dreth gyngor yn rhannu’n ddau gyfnod gwahanol. Rwy’n credu bod rhai camau gweithredu uniongyrchol y gallwn eu cymryd i wella gweithrediad y cynllun sydd gennym ar hyn o bryd ac i’w wneud yn decach i unigolion. Ond rwyf am i ni feddwl yn ehangach na hynny. Rwy’n credu bod yna nifer o ffyrdd y gellid diwygio trethi lleol. Cafwyd cyfres o adroddiadau sy’n ailadrodd manteision ac anfanteision y modelau hynny ar lefel ddamcaniaethol. Rwy’n bwriadu dechrau gwaith yma yng Nghymru a fydd yn edrych yn fanwl ar sut y gallai’r gwahanol fecanweithiau hynny weithio yn y cyd-destun Cymreig. Wedyn, byddwn yn gallu cael trafodaeth gymhwysol, fwy gwybodus i weld a oes unrhyw un o’r modelau hynny yn cynnig ffordd well ymlaen i ni gyda golwg ar y dreth gyngor.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe eich bod yn bwriadu cael 22 o awdurdodau lleol, ond yn awr gyda chydwasanaethau rhanbarthol. Rwy’n credu y bydd hyn newyddion i sawl un, ac nid ydym wedi cael unrhyw fanylion o gwbl am hyn o hyd. A wnewch chi roi’r Siambr ar ben y ffordd heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn cyflwyno hyn? A fydd cynrychiolwyr etholedig yn arwain y cydwasanaethau hyn fel sy’n digwydd mewn awdurdodau cyfunol rhanbarthol yn Lloegr, a pha fesurau strategol sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau cydwasanaethau yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus?

Wel, Lywydd, nid wyf yn credu y bydd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn peri syndod i lawer a fu’n dilyn y trafodaethau sydd wedi bod yn datblygu dros y misoedd diwethaf ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yma yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar i’r Aelod am ei pharodrwydd i gymryd rhan yn y trafodaethau hynny. Ymwelais â phob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru dros y misoedd hynny ac rwy’n credu bod cyfres o syniadau allweddol newydd yn dechrau cadarnhau. Bydd yr Aelodau wedi gweld, o’r datganiad busnes, fy mod i fod i ddod gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref gyda datganiad ar ddyfodol llywodraeth leol ac rwy’n bwriadu amlinellu’r hyn y gobeithiaf y bydd yn ffordd ymlaen ar rai o’r materion hyn i’r Aelodau ei hystyried bryd hynny.

Diolch. Mae eich rhaglen lywodraethu hefyd yn nodi addewid i ddarparu cyllid gwaelodol ar gyfer cyllido llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sôn am gynghorau gwledig nac ystyriaeth ohonynt, a thros dymhorau blaenorol, pwysolwyd yn eu herbyn yn gyson mewn perthynas â’r setliad llywodraeth leol. A wnewch chi ymrwymo i gynnal adolygiad ar unwaith o’r fformiwla ariannu er mwyn sicrhau bod y setliad llywodraeth leol hefyd yn ystyried ac yn cydnabod yr heriau unigryw sy’n wynebu ein cynghorau gwledig?

Lywydd, mae’r fformiwla ariannu yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae grŵp o bobl sy’n arbenigo yn y maes, gan gynnwys cynrychiolaeth o lywodraeth leol, yn edrych ar y fformiwla bob blwyddyn. Maent yn edrych ar ei holl gydrannau: demograffeg, daearyddiaeth, economi a ffactorau cymdeithasol a phob blwyddyn, maent yn cyflwyno cynigion, ac mae llywodraethau, yn fy mhrofiad i, yn derbyn y cyngor y maent yn ei gael—a’r cyngor hwnnw’n dod gan lywodraeth leol ei hun.

Gallaf ddweud wrth yr Aelod, yn yr ymweliadau â’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, fod gan bob un o’r awdurdodau hynny stori i’w hadrodd ynglŷn â pham nad yw eu hamgylchiadau unigryw yn cael eu hadlewyrchu’n gywir yn y fformiwla ariannu, pa un a ydynt yn awdurdodau gwledig sy’n credu nad yw eu natur wledig yn cael ei hadlewyrchu’n briodol neu’n awdurdodau trefol sy’n dadlau nad yw’r problemau sy’n deillio o ddwysedd poblogaethau yn cael eu cydnabod. Mae gan bawb rywbeth unigryw mewn perthynas â’u hamgylchiadau. Dyna pam y mae’n rhaid i ni ddibynnu ar y cyngor arbenigol gorau i wneud yn siŵr fod ein fformiwla mor deg ag y gall fod wrth gydbwyso’r holl ffactorau gwahanol hynny.

Diolch, Lywydd. Mae’r Gweinidog yn ôl pob tebyg yn ymwybodol ein bod yn wynebu problem yn y DU mewn perthynas â chasglu gwastraff. Yn fyr, mae llawer o sbwriel o gwmpas y lle. Yng Nghymru, mae gennym Gyngor Conwy yn cyflwyno casgliadau bob pedair wythnos, ond mae’r math hwn o gynllun eisoes wedi methu ar draws y ffin yn Bury ym Manceinion Fwyaf. Felly, beth yw safbwynt y Gweinidog ar gylchredau casglu bob pedair wythnos?

Lywydd, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael ein perthynas ag awdurdodau lleol yn iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau ac uchelgeisiau allweddol y disgwyliwn i awdurdodau lleol weithio tuag atynt a’u cyflawni. Wedyn, mater i’r awdurdodau lleol eu hunain, a etholwyd yn ddemocrataidd ac sydd â chyfrifoldebau democrataidd eu hunain, yw gwneud y penderfyniadau y maent yn credu sy’n adlewyrchu eu hanghenion a’u hamgylchiadau lleol yn y ffordd orau. Byddant yn cwrdd â’u hetholwyr ym mis Mai eleni. Os nad yw etholaethau lleol yn fodlon â pherfformiad eu hawdurdodau lleol, yna bydd yn rhaid iddynt eu dwyn i gyfrif am hynny. Nid fy nghyfrifoldeb i, fel Gweinidog, yw microreoli pob awdurdod lleol a rhoi fy hun yn lle’r etholwyr lleol hynny y mae’r cynghorau’n atebol iddynt.

Diolch i chi, Weinidog, am y datganiad hwnnw. Rwy’n derbyn eich bod yn gweld gwahaniad rhwng eich pwerau eich hun ac awdurdodaeth yr awdurdodau lleol. Fodd bynnag, efallai y gallem chwarae rhan fwy arweiniol yn y Cynulliad mewn meysydd o’r fath. Nodaf mai llawer o’r ysgogiad i leihau casgliadau sbwriel oedd er mwyn cydymffurfio â thargedau’r UE ar ailgylchu a thirlenwi. Gan ei bod yn ymddangos bellach ein bod yn mynd i adael yr UE, a oes achos i’r Cynulliad wasgu am ddiwygio’r targedau hyn?

Rwy’n falch o glywed yr Aelod yn cydnabod y gwaith ardderchog a wnaeth yr UE yn y maes hwn yn arwain rhai o’r gwelliannau amgylcheddol a welsom ar draws y Deyrnas Unedig. Yr Undeb Ewropeaidd oedd yn gyfrifol am lusgo’r Deyrnas Unedig i gyflawni rhai o’r camau gweithredu hynny sydd wedi gwneud cymaint i wella ein hamgylchedd lleol. Heb yr Undeb Ewropeaidd—mae’n gwneud pwynt pwysig, wrth gwrs—bydd yn rhaid i ni gynllunio ein dulliau polisi ein hunain yn y maes hwn, ac mae’n iawn i nodi y bydd hynny’n rhywbeth y bydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol.

Diolch i chi, Weinidog; diolch i chi am gydnabod y gallai fod rôl yn y Cynulliad i’r ddadl honno. Nodaf hefyd fod rhan fawr o ddeddfwriaeth yr UE yn y maes hwn—mae’n ddrwg gennyf am rygnu ymlaen ar y pwynt hwn—wedi cael ei hysgogi gan yr Almaen a Denmarc, dwy wlad nad oedd ganddynt lawer o safleoedd tirlenwi ar gael. Yn y DU, mae gennym lawer o chwareli a phyllau gro nas defnyddir, felly nid oes angen i ni gydymffurfio â’r targedau hyn, nac oes? Beth yw eich barn ar hynny?

Fel rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn gwybod, ein huchelgais oedd lleihau, a hyd y bo modd, dileu’r defnydd o safleoedd tirlenwi, ac ni welaf unrhyw atyniad o gwbl mewn gwrthdroi ein safbwynt ar y mater hwnnw.

Panel Cynghori Allanol i Adael yr UE

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y panel cynghori allanol i adael yr UE? OAQ(5)0031(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu grŵp cynghori Ewropeaidd, a fydd yn dod ag arbenigedd ynghyd o’r gymdeithas ddinesig a’r gymdeithas wleidyddol yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyngor ar yr effeithiau eang yn sgil ymadawiad Cymru â’r Undeb Ewropeaidd a’r ffordd orau o fynd i’r afael â hwy.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Gan fod hwn yn banel cynghori a grëwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun, rwy’n cymryd y bydd y panel, yn ei gyfarfod cyntaf, yn cael papurau sefyllfa gan Lywodraeth Cymru ar elfennau o’r ymadawiad â’r UE a barn Llywodraeth Cymru ar nifer o’r materion sy’n gysylltiedig â’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd. A yw’n gallu cadarnhau bod hynny’n wir, ac a fyddai’n barod i amlinellu cynnwys rhai o bapurau sefyllfa Llywodraeth Cymru ar adael yr UE?

Wrth gwrs, bydd agenda’n cael ei chreu ar gyfer cyfarfod cyntaf y panel cynghori hwnnw, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud mai diben y panel cynghori yw rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i’r panel.

Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o gamau ar waith i ad-drefnu ei hun yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin. Mae gennych y grŵp cynghori allanol hwn. Rwy’n credu eich bod chi eich hun, Weinidog, yn cadeirio is-bwyllgor y Cabinet ar drafodaethau’r UE, neu mae yna rôl rydych yn ei chwarae yn y Llywodraeth drwy’r is-bwyllgor. A allwch ddweud wrthym sut y bydd y cyngor a allai ddod gan y bwrdd cynghori allanol yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, o ystyried eich bod wedi nodi egwyddorion clir iawn ym mis Mehefin eleni, er ein bod wedi gweld rhai o’r egwyddorion hynny’n mynd ychydig yn fwy hyblyg wrth i’r haf fynd rhagddo? Ond cyflwynodd y Prif Weinidog chwe egwyddor allweddol. Felly, byddai’n ddiddorol gwybod sut y bydd yr egwyddorion hynny yn cael eu haddasu, eu diwygio neu eu cadarnhau wrth ddisgwyl am y cyngor gan y bwrdd cynghori.

Diolch i Andrew Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n aelod o is-bwyllgor y Cabinet, ond mae’n cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog. Bydd y Prif Weinidog yn mynychu cyfarfod cyntaf y panel cynghori, ond byddaf yn ei gadeirio ar ôl hynny, felly fy nghyfrifoldeb i fydd gwneud yn siŵr fod y cyngor y mae’r panel yn ei roi yn cael ei gyfleu’n uniongyrchol i is-bwyllgor y Cabinet. Yn y modd y gofynnodd Steffan Lewis, bydd y grŵp cynghori yn cael gwybod beth yw safbwynt y Llywodraeth—y chwe phwynt a’r ffordd y mae’r ddadl wedi esblygu dros yr haf. Byddant yn rhoi eu cyngor yn y cyd-destun hwnnw, ond bydd yn broses iteraidd a’r peth allweddol am y panel fydd y ffaith fod gennym ni yn y Llywodraeth fynediad at beth o’r cyngor mwyaf arbenigol a gwybodus y gallwn ei gael, er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym gymaint o ddylanwad ag y bo modd mewn trafodaethau yn y DU, a’n bod yn gallu gwneud yn siŵr fod buddiannau Cymru’n flaenllaw yn y trafodaethau hynny bob amser.

Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi, os yw’r panel cynghori hwn yn cael ei stwffio’n llawn o bobl wangalon a oedd o blaid aros yn yr UE, mai cyfyngedig iawn fydd ei werth. Felly, dylid sicrhau bod rôl i bobl a oedd o blaid gadael yr UE fel fi ac Andrew R.T. Davies, er enghraifft, sydd â golwg fwy optimistaidd ar y dyfodol nag ambell un o’r rhai rwyf newydd eu crybwyll. Er ein bod efallai’n cymryd rhan yn yr hyn y gallwn ei alw’n wrthdaro adeiladol yn y Cynulliad hwn, gyda chorff fel y panel hwn, gallem gymryd rhan mewn rhywfaint o ymwneud adeiladol mewn gwirionedd. A minnau wedi bod yn aelod o Gyngor Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd, yn fy achos i—ac yn wir, yn achos Huw Irranca-Davies mae’n debyg—mae yna Aelodau yn y tŷ hwn a allai chwarae rhan adeiladol iawn ar y panel hwn.

Rwy’n clywed yr hyn sydd gan yr Aelod i’w ddweud; byddaf yn gwneud yn siŵr fod y Prif Weinidog yn cael gwybod am ei farn, gan mai’r Prif Weinidog sy’n gyfrifol am wahodd pobl i fod yn aelodau o’r panel. Bydd yn llawn o bobl sydd ag arbenigedd go iawn a safbwyntiau cadarn eu hunain. Eu harbenigedd sy’n rhoi lle iddynt ar y panel yn hytrach nag unrhyw safbwyntiau blaenorol ynglŷn ag a ddylai’r Deyrnas Unedig fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac edrychaf ymlaen at gyfres o drafodaethau grymus iawn yno.

Targedau Awdurdodau Lleol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau? OAQ(5)0022(FLG)[W]

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae awdurdodau lleol yn ddemocrataidd atebol am eu perfformiad eu hunain yn erbyn blaenoriaethau sy’n adlewyrchu amgylchiadau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw drwy gyllid, cyngor a deddfwriaeth.

Buaswn i’n licio defnyddio fel enghraifft un strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru, sef y nod o gael miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Mewn ymateb ysgrifenedig i gwestiwn ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynglŷn â chyfraniad awdurdodau lleol i dargedau cenedlaethol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, yr ateb a gefais oedd nad oedd rhaid i awdurdodau lleol ddilyn unrhyw dargedau, ac rydych chi newydd ategu hynny. Ond, mae hynny’n syndod i mi, oherwydd mae addysg yn elfen allweddol er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr, ac mi fydd yn rhaid i awdurdodau addysg lleol gynllunio cynnydd sylweddol mewn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg os oes gan y Llywodraeth unrhyw obaith o gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr.

Mi gafwyd ffigurau diddorol iawn yn adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn yma. Allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yr awdurdodau sydd yn perfformio gwaethaf o ran y nifer o ysgolion yn yr awdurdod sydd yn cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog ydy’r rhai sydd yn cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur. Yng Nghaerdydd—

Iawn. Mewn gwrthwynebiad i hynny, wrth gwrs, mae cynghorau Plaid Cymru yn perfformio yn dda iawn. Sut fyddwch chi yn sicrhau, felly, bod awdurdodau lleol—ac yn benodol awdurdodau lleol dan reolaeth eich plaid chi—yn gweithredu er mwyn cyflawni’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr ym maes addysg?

Wel, a gaf i ddechrau trwy gytuno gyda’r Aelod am bwysigrwydd yr awdurdodau lleol yn y maes yma? Mae yna lot o bethau y mae’r awdurdodau lleol yn eu gwneud sy’n berthnasol i’r iaith Gymraeg a’r ‘ambition’ sydd gennym ni i dyfu’r nifer y bobl yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg am y dyfodol.

It’s not for me, as local government Minister, to set targets that are in the province of the Minister responsible in this area nor in relation to schools, but I do agree with the general point that the Member was making. Local authorities play a very important role in relation to the Welsh language. That’s why my predecessor commissioned a report that was chaired by Rhodri Glyn Thomas that we discussed here on the floor of the Assembly prior to the summer break, and why I regularly discuss with leaders of local authorities in my meetings with them the work that they can do in this area.

Weinidog, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effaith y toriadau yng nghyllideb Llywodraeth y DU, mae Torfaen, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, yn gorfod gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau ariannol heriol iawn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn lleol. A wnewch chi, felly, ymuno â mi i longyfarch cyngor Torfaen ar eu hadroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn disgrifio’r cyngor fel un sydd â gweledigaeth strategol glir, wedi ei hysgogi gan arweinyddiaeth agored a chynhwysol, ac sy’n mynd ati i ddatblygu ei drefniadau corfforaethol er mwyn cyflawni canlyniadau gwell?

Diolch i’r Aelod am hynny. Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r hyn a ddywedodd ar ddechrau ei chwestiwn. Bydd unrhyw Aelod yma sydd wedi gweld yr adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sy’n cofnodi’r hyn y mae’n ei alw’n effaith eithriadol 11 mlynedd olynol o doriadau i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn cydnabod yr hyn a ddywedodd am y pwysau y mae hynny’n ei roi ar awdurdodau lleol.

Roeddwn yn falch iawn wir o weld adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yn dilyn adroddiad cadarnhaol iawn ar Fro Morgannwg. Dywedodd Hugh Vaughan Thomas, pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, am Dorfaen fod hwn yn

‘adroddiad cadarnhaol iawn y dylai Cyngor Torfaen fod yn falch ohono.’

Rwy’n falch iawn o dalu teyrnged i arweinyddiaeth y cyngor a’r gwaith caled iawn y mae’r rhai sy’n gweithio ar ei ran yn ei wneud bob dydd i ddarparu gwasanaethau i bobl Torfaen.

Ariannu Llywodraeth Leol

5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0026(FLG)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Byddwn yn parhau i gyllido llywodraeth leol drwy gyfuniad o’r setliadau blynyddol a grantiau penodol. Mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn meddu ar bwerau annibynnol i godi refeniw a chyfalaf i ariannu eu gweithgareddau.

Diolch i chi am hynny. Gwrandawais ar eich ateb i Gareth Bennett ac fe ddywedoch mai chi sy’n nodi’r blaenoriaethau a bod llywodraeth leol yn gyfrifol am eu gweithredu fel y gwelant orau yn eu hardal leol. Fodd bynnag, Weinidog, hoffwn ddeall pa allu sydd gennych i ddylanwadu ar degwch y modd y caiff cyllid ei ddefnyddio drwy awdurdod lleol. Un o’r gwasanaethau sinderela yn y pen draw yw gorfodaeth. Nid yw awdurdodau lleol yn hoffi gorfodi am eu bod yn dweud nad oes ganddynt y staff. Maent hefyd yn poeni y bydd pethau’n mynd i apêl ac felly y byddant yn gorfod ymladd brwydr gyfreithiol hir a chostus iawn. Ond gall hynny arwain at feysydd enfawr o annhegwch. Felly, er enghraifft, yn Sir Benfro, mae gennyf o leiaf dair cymuned gyda nifer o filltiroedd rhyngddynt ac mae pob un ohonynt wedi gweld safleoedd anghyfreithlon i Sipsiwn a Theithwyr yn cyrraedd, maent wedi cael eu dychryn a’u brawychu, a’u gorfodi allan o’u cartrefi. Mae’n sefyllfa hollol erchyll. Rwyf wedi bod yn gweld pawb, y Gweinidog blaenorol, yr heddlu, ond yn bennaf, y cyngor sir, oherwydd mae ganddynt alluoedd gorfodi. Fodd bynnag, maent yn gwrthod camu ymlaen am eu bod yn dweud nad oes ganddynt yr arian, maent yn dweud eu bod angen yr arian ar gyfer gwasanaethau hanfodol eraill ac eto rydym yn effeithio’n anghymesur ar grwpiau eraill o bobl. Rwy’n credu ei bod yn sefyllfa hynod o annheg a hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio ei phwerau i sicrhau bod cynghorau lleol yn ystyried yr holl drigolion yn eu hardaloedd yn hytrach na gofalu am leiafrifoedd a warchodir yn unig, oherwydd, credwch fi, pe baech chi neu fi’n ceisio gwneud rhywbeth mor anghyfreithlon â hyn, byddai popeth yn disgyn ar ein hysgwyddau fel tunnell o frics, a’r bobl druenus hyn—mae lefel y brawychiad yn arswydus.

Wel, mae nifer o elfennau gwahanol yn yr hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud. Nid oes gennyf unrhyw ffordd o wybod beth yw’r sefyllfa mewn perthynas â’i phwynt olaf. Byddwn yn siomedig iawn yn wir pe bai’n awgrymu bod rhai grwpiau yn ein cymdeithas yn cael eu trin yn wahanol i eraill. Nid dyna’r ffordd y dylai pethau fod, fel y gŵyr.

Mae ei phwynt cyffredinol yn mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth ateb Lynne Neagle—mewn cyfnod eithriadol o 11 mlynedd o gwtogi, mae awdurdodau lleol yn wynebu canlyniadau’r penderfyniadau a wnaed yn ffôl ac yn wallus er mwyn mynd ar drywydd gwleidyddiaeth caledi ac economeg caledi, a’r canlyniadau y mae hynny wedi eu creu i wasanaethau cyhoeddus. Mewn perthynas â gwasanaethau llywodraeth leol, mae yna wasanaethau sy’n statudol ac sy’n rhaid i lywodraeth leol eu darparu. Mae’n anochel bod mwy o wasgu, fel y dangosodd adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ar y rhannau o’r gyllideb lle nad yw awdurdodau lleol yn wynebu’r un lefel o rwymedigaeth statudol. Rwy’n cydnabod, fodd bynnag, yr hyn y mae’n ei ddweud am freuder rhai gwasanaethau diogelu’r cyhoedd mewn rhannau o Gymru, ac rwy’n gobeithio y bydd gennyf rywbeth i’w ddweud am hynny pan fyddaf yn gwneud fy natganiad ar 4 Hydref.

Rwy’n croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw mewn perthynas ag ymestyn gostyngiadau’r dreth gyngor, ac roeddwn yn falch o gynnal lansiad adroddiad Cyngor ar Bopeth ar ddyledion y dreth gyngor, a grybwyllwyd eisoes yn y Siambr heddiw. Clywsom am lawer o arferion da i gynorthwyo unigolion sy’n cael trafferth gyda dyledion y dreth gyngor ac i gynorthwyo cynghorau i gasglu’r dreth gyngor. A fydd yn cytuno i adolygu argymhellion yr adroddiad a rhoi camau ar waith lle y gall i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd ynddo?

Diolch i Jeremy Miles am dynnu sylw at yr adroddiad ‘Tegwch i bawb’ gan Cyngor ar Bopeth, adroddiad hynod o bwysig yr wyf yn ei gymryd o ddifrif. Ceir tri argymhelliad penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae dau ohonynt yn berthnasol i fy maes cyfrifoldeb fy hun. Y cyntaf oedd parhau â’n cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. Mae’n gynllun drud. Mae’n costio £244 miliwn bob blwyddyn, ac rwy’n falch o bob un o’r punnoedd hynny gan eu bod yn mynd tuag at helpu’r teuluoedd tlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o benderfyniad y Cynulliad hwn i gefnogi’r cynllun hwnnw, a’r cyferbyniad clir iawn y mae’n ei amlygu rhwng sefyllfa teuluoedd yn Lloegr, lle mae miliynau ohonynt yn gorfod talu arian tuag at y dreth gyngor ar adegau pan fo’u budd-daliadau a’u gallu i wneud hynny wedi ei rewi a’i beryglu ymhellach. Felly, roeddwn yn falch iawn yn wir o allu gwneud y cyhoeddiad heddiw y bydd cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor cenedlaethol yn parhau am flwyddyn arall, ac y byddaf yn trafod ei barhad wedi hynny gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn tynnu sylw, yn fy marn i, at dystiolaeth sy’n peri pryder ynglŷn â defnyddio beilïaid. Rwyf eisiau dweud yn glir na ddylid defnyddio beilïaid ac eithrio pan fetho popeth arall, y dylid dihysbyddu camau gweithredu eraill yn gyntaf bob amser, a bod angen i awdurdodau cyhoeddus sydd â chontractau â beilïaid feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â phwy y maent yn ei gontractio. Rwy’n bwriadu comisiynu gwaith ymchwil newydd ar y ffordd y mae’r pethau hyn yn digwydd yng Nghymru er mwyn gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i geisio gwneud yn siŵr, pan fo pobl yn cael anhawsterau i’r graddau hyn, ein bod yn ymateb iddynt yn y modd mwyaf sensitif posibl.

Dinas-ranbarth Bae Abertawe

6. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu bargen ddinesig ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe? OAQ(5)0027(FLG)

Diolch yn fawr i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bargen ddinesig lwyddiannus i ranbarth bae Abertawe. Mater i’r rhanbarth ei hun fydd llunio cynnig buddsoddi cymhellgar i fynd ar drywydd cyllid ar gyfer y fargen ddinesig. Mae rhanddeiliaid lleol yn dal i gael cymorth gan fy swyddogion i a swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda’r dasg honno.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Yn naturiol, pan gyhoeddwyd hyn yn gynharach eleni roedd yna gynlluniau uchelgeisiol iawn wedi’u gosod gerbron, ond roedd pobl yn dweud ar y pryd, ‘Rŷm ni angen gwybod y manylion’, ac mae pobl yn lleol yn dal i aros am y manylion. Felly, a allaf jest roi pwsh ychydig bach ymhellach i chi ynglŷn â faint o drafodaethau a pha drafodaethau yn hollol rydych wedi’u cael efo partneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ynglŷn â gweithio ar y manylion pwysig yma i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwireddu’r dyhead? Diolch yn fawr.

Rwy’n falch o allu rhoi sicrwydd i’r Aelod fod dinas-ranbarth Bae Abertawe a’r cytundeb dinas ar ei gyfer yn cael eu trafod yn rheolaidd iawn, drwy fy nghysylltiadau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig—deuthum â’r mater i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys; rwyf wedi siarad yn uniongyrchol â Changhellor y Trysorlys ynglŷn â’r mater—a bod hynny’n cael ei adlewyrchu mewn cyfres o gyfarfodydd gweithgar iawn sy’n digwydd rhwng partneriaid lleol. Cyfarfûm â phob un o bedwar arweinydd yr awdurdodau lleol, i drafod y pwnc hwn yn unig, yn ôl ar 9 Awst. Mae’n parhau i fod yn wir, ac mae’n gywir i dynnu sylw at hyn, fod yna lawer o waith sy’n dal i fod angen ei wneud mewn cyfnod byr o amser. Mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig, mae fy nhrafodaethau wedi bod yn adeiladol ond mae’n ymddangos i mi eu bod yn cael eu cynnal mewn cyd-destun ehangach lle mae’r brwdfrydedd yn Llywodraeth y DU ynglŷn â chytundebau dinas yn lleihau o bosibl o ganlyniad i newidiadau personél yng ngweinyddiaeth y DU. Mae hyn yn golygu bod angen i’r holl rai hynny yn Abertawe a’r dinas-ranbarth ehangach ymroi ar frys yn awr i’r gwaith o flaenoriaethu prosiectau o ran eu sylwedd, sy’n angenrheidiol er mwyn nodi effeithiau gofodol ac economaidd unrhyw gytundeb, ac i nodi hynny’n drefnus mewn modd cydlynol, a chadarnhau’r trefniadau llywodraethu a fydd yn goruchwylio cytundeb o’r fath os yw’n mynd i fod yn llwyddiannus. Rwy’n optimistaidd y gellir gwneud y gwaith hwnnw, ond mae llawer sy’n rhaid ei gyflawni o hyd ac mae angen canolbwyntio ar hynny ar frys.

A gaf fi gysylltu fy hun â’r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd? Rwy’n credu bod bron bawb, os nad pawb, sy’n cynrychioli’r ardal, ac yn sicr y bobl sy’n byw yn yr ardal, yn pryderu ei bod i’w gweld yn cymryd amser hir i’r cytundeb dinas ddwyn ffrwyth yn Abertawe yn wahanol i lefydd eraill ym Mhrydain.

Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i’r Gweinidog yw: beth arall sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cyllid y cytundeb dinas yn cael ei ryddhau i ddinas-ranbarth Bae Abertawe? Os ydych yn dweud, o’r hyn a ateboch yn gynharach, fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn ei gallu, yna bydd angen rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol a Llywodraeth San Steffan, ond yr hyn nad wyf am ei weld yn digwydd i mi ac i eraill yw clywed, ‘Wel, Llywodraeth Cymru sydd heb wneud popeth sydd angen iddi ei wneud’.

Wel, Lywydd, mae’n bwysig nodi tensiwn penodol yn safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chytundeb dinas Abertawe. Rwy’n parhau i fod eisiau i ni chwarae ein rhan weithredol yn llunio’r cytundeb hwnnw, rhoi cyngor yn ei gylch, sicrhau ei fod yn dwyn ffrwyth yn llwyddiannus, lobïo ar ei ran gyda Llywodraeth y DU ac yn y blaen, ond yn y pen draw, mae’n rhaid i’r rhai sy’n cynnig y cytundeb gyflwyno achos i Lywodraeth Cymru dros ryddhau’r arian sydd yno. Felly, mae’n rhaid i ni gael rhywfaint o bellter er mwyn i ni allu herio’r cytundeb, yn ogystal â bod yn rhan o’r gwaith o helpu’r broses o’i wireddu, ac rydym yn gwneud ein gorau i chwarae’r ddwy ran honno mewn perthynas â’r mater. Felly, fy ngwaith i fel Gweinidog cyllid yw gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cyllid ar gael, os yw cytundeb yn llwyddiannus. Drwy fy swyddogion, rydym yn parhau i gymryd rhan ym mhob un o’r trafodaethau sy’n digwydd i lunio’r cytundeb, ond yn y pen draw, mater yw hwn i’r partneriaid lleol yn yr awdurdodau lleol, yn y brifysgol, sydd wedi chwarae rhan mor adeiladol yn y cytundeb hwn, a’r partneriaid sector preifat yn ogystal—mae’n rhaid iddynt wneud y gwaith caled sy’n angenrheidiol ar y pwynt hwn yn y broses i wneud yn siŵr fod ganddynt gynnig cadarn er mwyn rhyddhau’r cyllid sydd ar gael.

Ie, a gaf fi hefyd fy nghysylltu â’r sylwadau hynny? Ac mae Mike Hedges yn llygad ei le pan ddywed ein bod i gyd yn eithaf pryderus ynglŷn â hyn.

Mae aelodaeth y bwrdd yn eithaf cytbwys rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ond nid oes lle arno i grwpiau aelodaeth busnesau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach neu sefydliadau allweddol eraill a allai fod o gymorth gwirioneddol i wneud y mwyaf o’r defnydd o gadwyni cyflenwi lleol yn yr hyn a ddylai fod yn weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y rhanbarth hwn. Cyfarfûm â Chymdeithas Porthladdoedd Prydain mewn derbyniad ym Mae Caerdydd yn ddiweddar a synnais glywed, bryd hynny, nad oeddent wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau ar weledigaeth cytundeb dinas ar gyfer y bae. A wnewch chi atgoffa’r Cynulliad sut y cafodd aelodaeth y bwrdd ei benderfynu, ac a oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai natur unigolyddol iawn cynrychiolaeth y sector preifat—ac nid wyf yn gwneud unrhyw sylwadau am yr unigolion dan sylw—o gymharu â’r gynrychiolaeth fwy corfforaethol gan awdurdodau lleol, gyfyngu ar ba mor gyflym y mae’r cytundeb yn datblygu? Mae’n mynd i alw am gefnogaeth gref gan sector preifat eang yn y bae i ddatblygu unrhyw syniadau ar gyfer ‘Mittelstand’ posibl, er enghraifft, ac nid wyf yn gweld unrhyw arwydd o’r pethau hyn yn cael eu hysbysu i unrhyw un ohonom. Diolch.

Diolch i’r Aelod am y pwyntiau hynny; rwyf wedi gwrando’n ofalus arnynt. Mae’n debyg mai fy ymateb uniongyrchol yw bod angen i’r bobl sydd wedi bod yn rhan o’r holl waith a wnaed ar y cytundeb hyd yn hyn ddal ati yn awr a sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau. Pan fydd gennym gytundeb wedi ei gytuno ac y bydd modd ei ariannu, yna rwy’n credu y bydd y pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â sicrhau bod gan y bobl o gwmpas y bwrdd allu cynrychiadol i adlewyrchu busnes yn yr ardal yn bwysig iawn, a byddaf yn sicrhau bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y trafodaethau y byddwn yn eu cael gyda hwy.

Perfformiad Cynghorau Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad cynghorau Cymru? OAQ(5)0021(FLG)

Diolch i’r Aelod. Cafodd data perfformiad awdurdodau lleol ar gyfer 2015-16 eu cyhoeddi ar 7 Medi. Roeddent yn dangos bod perfformiad wedi gwella ar 65 y cant o ddangosyddion cymaradwy dros y 12 mis blaenorol. Mae’r bwlch perfformiad rhwng awdurdodau hefyd wedi culhau ar dros hanner y dangosyddion.

Diolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy’n credu ein bod wedi gweld awdurdodau lleol yn gwneud yn eithriadol o dda gyda llai o arian. Roedd manylion yr uned ddata llywodraeth leol ar berfformiad cynghorau yn ddiddorol iawn yn fy marn i. Fodd bynnag, ni allaf ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod awdurdodau mwy o faint yn perfformio’n well nag awdurdodau canolig neu fach. A all y Gweinidog ddod o hyd i’r dystiolaeth honno o’r data?

Os yw’r Aelod yn awgrymu nad oes cysylltiad anochel rhwng maint awdurdod lleol a’i berfformiad, yna mae’n amlwg yn llygad ei le. Mae awdurdodau mawr yn gwneud rhai pethau’n dda ac mae awdurdodau bach yn gwneud rhai pethau’n dda. Nid oes dim yn anochel am y peth. Nid yw hynny’n golygu, yn fy marn i, nad oes rhai agweddau lle na fydd y gallu i dynnu ar boblogaeth ehangach a nifer ehangach o staff, er enghraifft, yn helpu i greu gwasanaethau mwy gwydn o bosibl.

Caffael Contractau Rheoli Gwastraff

8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu a yw Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ai peidio i awdurdodau lleol ynghylch caffael contractau rheoli gwastraff? OAQ(5)0023(FLG)

Diolch i’r Aelod am hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau caffael i awdurdodau lleol ar gyfer contractau rheoli gwastraff o fewn y rhaglen seilwaith gwastraff trefol. Mae cyngor ynglŷn â chaffael gwasanaethau casglu gwastraff ar gyfer awdurdodau lleol ar gael hefyd mewn dogfennau polisi megis cynllun y sector trefol a’r glasbrint casgliadau.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno’n garedig i edrych ar y mater y tynnais ei sylw ato ddoe yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog mewn perthynas â phenderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wahardd y cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru, Potter Group, rhag cynnig am gontract rheoli gwastraff am nad oes ganddo drosiant blynyddol o fwy na £50 miliwn. Deallaf fod hyn yn unol â rheoliad 58 o’r rheoliadau contract cyhoeddus 2015, ond rwy’n mawr obeithio y byddech yn cytuno na all fod yn iawn i reoliad atal cwmnïau mawr o Gymru rhag gwneud cais am y contractau hyn yng Nghymru. Felly, o ystyried ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i wella polisi caffael ddoe, a wnewch chi hefyd ymrwymo i edrych ar y mater hwn i sicrhau y gall cwmnïau mawr o Gymru wneud cais am gontractau sector cyhoeddus mawr yng Nghymru?

Wel, diolch i chi, Lywydd. Roeddwn yn y Siambr ddoe pan soniodd yr Aelod wrth y Prif Weinidog am hyn, a gwn ei fod wedi ymrwymo i ysgrifennu ato gyda manylion, a byddaf yn sicr yn ymrwymo i rannu unrhyw ymateb i’r amgylchiadau penodol y mae’n eu hamlinellu. Ers i’r mater gael sylw ddoe, rwyf wedi gwneud rhai ymholiadau cychwynnol gyda fy swyddogion ar y mater hwn. Maent yn dweud wrthyf eu bod wedi cyfarfod â’r cwmni dan sylw ar 15 Medi, yr wythnos diwethaf, ac er iddynt gael trafodaeth ddefnyddiol yno am fuddsoddiadau arfaethedig mewn dau safle bach yng nghanolbarth Cymru sy’n troi gwastraff yn ynni, ni chrybwyllwyd contract Pen-y-bont ar Ogwr yn y cyfarfod hwnnw, ac felly nid aethom ar drywydd y mater. Ond rwy’n sicr yn ymrwymo i edrych ymhellach ar gynnwys ei drafodaeth gyda’r Prif Weinidog ddoe.

Dyraniad y Gyllideb i Bortffolio yr Amgylchedd a Materion Gwledig

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i bortffolio yr Amgylchedd a Materion Gwledig? OAQ(5)0018(FLG)

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel yr amlinellwyd yn y gyllideb atodol a gafodd ei chymeradwyo ym mis Gorffennaf, mae £276 miliwn o gyllid refeniw a £107 miliwn o gyllid cyfalaf wedi’u dyrannu yn y gyllideb eleni ar gyfer y portffolio amgylchedd a materion gwledig.

Diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb yna. Mae rhaglen llywodraethu Cymru ar gyfer y Llywodraeth a gyhoeddwyd ddoe yn cyfeirio at gynllun grantiau bach a fydd yn y cynllun datblygu gwledig. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a allwch chi gadarnhau a fydd yr arian yma ar gael yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer y cynllun hwn? Os felly, faint o arian a fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi at y cynllun? Efallai y gallech chi gymryd y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar ariannu’r cynllun yma.

Lywydd, nid yw’r wybodaeth fanwl gywir gennyf wrth law ar hyn o bryd ac ni fyddwn am wneud unrhyw beth heblaw gwneud yn siŵr fod yr Aelod yn cael yr wybodaeth orau y mae’n gofyn amdani. Rwy’n hapus iawn i ysgrifennu ato i roi’r ateb i’r cwestiwn y mae wedi ei ofyn y prynhawn yma.

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

3. 3. Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Felly, eitem 3 ar yr agenda yw’r cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor, ac rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Paul Davies.

Cynnig NDM6099 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os nad oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. 4. Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Eitem 4 ar yr agenda yw’r cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor. Rwy’n galw eto ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6100 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Nathan Gill (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Michelle Brown (UKIP).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Cynnig i Ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad ac rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6101 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Adam Price (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Broses y Gyllideb

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar broses y gyllideb. Hwn yw’r datganiad cyntaf gan Gadeirydd pwyllgor yma yn y pumed Cynulliad. Rwy’n gobeithio y bydd yn arwain at nifer o Gadeiryddion pwyllgor yn cymryd y cyfle i roi datganiadau fel hyn gerbron y Cynulliad yma. Felly, rwy’n galw ar y datganiad cyntaf gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.

Diolch, Lywydd. Rwyf innau’n gobeithio y bydd hwn yn arwain at nifer o ddatganiadau o’r fath. Rwy’n falch iawn o wneud y datganiad hwn heddiw. Rwy’n croesawu penderfyniad doeth y Pwyllgor Busnes i alluogi Cadeiryddion pwyllgor i roi gwybod i’r Siambr am waith a blaenoriaethau eu pwyllgorau. A hithau’n ddechrau tymor newydd yn y Cynulliad, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn brysur yn trefnu ei raglen waith, ac mae hwn yn gyfle inni rannu ein syniadau â chi.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous a heriol i Gymru wrth i faterion cyllidol gael eu datganoli ac wrth i brosesau cyllidebol newydd gael eu cyflwyno. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyfarfu’r pwyllgor â’i randdeiliaid allweddol i drafod yr heriau hyn ac i edrych ar ein dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Un o brif rolau’r Pwyllgor Cyllid yw ystyried y gyllideb ddrafft a sut y bydd datganoli cyllidol i Gymru yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Bwriedir cyhoeddi’r gyllideb eleni ar 18 Hydref ac rydym eisoes wedi cynnal ymgynghoriad, sydd yn dod i ben heddiw. Fodd bynnag, gan fod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal cyn bod rhanddeiliaid yn cael cyfle i weld y cynlluniau gwariant, rydym yn bwriadu lansio sgwrs deialog—dull ap Dialogue, hynny yw—a fydd yn caniatáu i bartïon â diddordeb roi eu barn. Gobeithio y bydd hyn, ynghyd â’r ymgynghoriad ffurfiol, yn darparu tystiolaeth nid yn unig i’r Pwyllgor Cyllid, ond i’r pwyllgorau eraill hefyd ar gyfer eu sesiynau craffu hwythau ar y gyllideb. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad i randdeiliaid ym Merthyr Tudful.

Dyma’r flwyddyn olaf i’r gyllideb gael ei hystyried o dan y Rheolau Sefydlog presennol—rydym yn gobeithio—a, dim ond y bore yma yn y pwyllgor, gwnaethom drafod papur ar y newidiadau arfaethedig. Fel y bydd Aelodau’n gwybod ac yn cofio, bydd Cymru yn gyfrifol am gasglu a rheoli dwy dreth newydd o fis Ebrill 2018 ymlaen, sef y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cael pwerau benthyca newydd ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf o hyd at £500 miliwn, a phwerau i fenthyg hyd at £500 miliwn arall i reoli amrywiadau cyllidebol tymor byr sy’n deillio o ddatganoli trethi. Bydd y newidiadau hyn yn arwain at newidiadau i’n gweithdrefnau cyllidebau, a byddaf yn sôn am hynny maes o law.

Yn ystod y Cynulliad diwethaf, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Dyma’r Ddeddf sy’n sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r trethi datganoledig hyn. Erbyn hyn, mae’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) wedi’i gyflwyno i’r Cynulliad. Cawsom ni ein sesiwn graffu gyntaf y bore yma yn y pwyllgor. Bydd y tymor, felly, yn brysur iawn i’r pwyllgor wrth iddo graffu ar y Bil technegol a chymhleth hwn, sef—mae’n dda gennyf ddweud wrth y Cynulliad—y darn hiraf o ddeddfwriaeth i gael ei chyflwyno i’r Cynulliad hyd yma. Bydd y Bil yn effeithio ar nifer fawr o’r cyhoedd yng Nghymru, felly bydd yn hanfodol inni ymgysylltu er mwyn sicrhau ei fod yn glir, yn gadarn ac yn ymarferol fel darn o ddeddfwriaeth sydd wedi’i chreu i ddiwallu anghenion Cymru.

Mae llawer o’r rhanddeiliaid allweddol ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn dod o gefndiroedd proffesiynol a chyfreithiol. Felly, bydd y pwyllgor yn cynnal digwyddiad grŵp trafod ag achrediad datblygu proffesiynol parhaus gydag amrywiaeth o sefydliadau proffesiynol, cwmnïau cyfreithiol a gweithwyr o faes treth a thrawsgludo i drafod goblygiadau’r Bil, yn ogystal â chais cyffredinol am dystiolaeth a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y pwyllgor.

Bydd y Biliau treth hyn yn arwain at bwerau codi refeniw i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n fy arwain at un o’n prif flaenoriaethau ni ar gyfer y cyfnod nesaf, sef ystyried newidiadau i broses y gyllideb er mwyn ymdrin â’r datblygiadau cyllidol newydd hyn ac er mwyn sicrhau bod trefniadau ariannu yn addas ar gyfer amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru. Wrth baratoi ar gyfer y newidiadau hyn, gwnaed gwaith gan y Pwyllgor Cyllid yn y pedwerydd Cynulliad i ystyried proses y gyllideb yn y dyfodol.

Mae angen proses newydd ar gyfer y gyllideb yn barod ar gyfer cyllideb ddrafft 2018-19, y bydd y pwyllgor yn dechrau craffu arni yr hydref nesaf. Mae’n hanfodol bod gan y Cynulliad brosesau cadarn ar waith i graffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion y Cynulliad wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod opsiynau am broses a phrotocol anstatudol dros dro ar gyfer y gyllideb, a gaiff eu cyflawni drwy newidiadau i Reolau Sefydlog—rwy’n gobeithio—a thrwy ddiweddaru’r protocol presennol rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru.

Wrth ystyried y broses hon, rydym yn gobeithio datblygu model sy’n rhoi cymaint o amser â phosib i’r Pwyllgor Cyllid, pwyllgorau perthnasol eraill a’r cyhoedd i graffu’n ystyrlon ar gynlluniau Llywodraeth Cymru o ran gwariant, trethi a benthyca. Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod partneriaid cyflenwi yn cael cadarnhad, cyn gynted â phosib, ynglŷn â faint o gyllid sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’r gwaith hwn ar ddatganoli cyllidol yn gyfnod cyffrous i’r Pwyllgor Cyllid ac, rwy’n gobeithio, i’r Cynulliad cyfan, ac rydym yn gobeithio y bydd Bil Cymru yn ein galluogi ni i roi ein gweithdrefnau cyllidebol ar sail statudol drwy gael Bil ar y gyllideb flynyddol, sy’n gam pellach yn esblygiad y Cynulliad hwn i fod yn Senedd lawn.

Rwy’n croesawu’r datganiad gan y Cadeirydd a’r arfer newydd o sicrhau bod Cadeiryddion pwyllgorau yn adrodd i’r Cyfarfod Llawn. A gaf fi longyfarch pwy bynnag a feddyliodd am hynny fel syniad, oherwydd rwy’n credu ei fod yn helpu’r Cynulliad i wneud yn siŵr nad yw pwyllgorau’n gweithio mewn seilos bach, ond yn hytrach yn rhoi gwybod i weddill y Cynulliad yn union beth sy’n digwydd?

Wrth i ni symud o ddyrannu adnoddau yn unig i system lle mae incwm yn cael ei godi yn ogystal, mae angen i ni newid y ffordd y mae’r Pwyllgor Cyllid yn gweithio. Rwy’n cytuno â’r Cadeirydd ein bod angen protocol diwygiedig, sy’n diweddaru’r protocol cyfredol rhwng y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru. A gaf fi, ar y pwynt hwn, dalu teyrnged i’r cyn-Weinidog Cyllid a chyn-gadeirydd y pwyllgor hwn am y gwaith a wnaethant ar y protocol diwethaf? Credaf fod y ddwy ohonynt wedi gweithio’n dda iawn i geisio sicrhau bod y Pwyllgor Cyllid mewn sefyllfa i graffu ar y gyllideb a bod y protocol yn gallu gweithio’n effeithiol. Felly, rwy’n credu bod angen i ni fod yn ddiolchgar iddynt oherwydd bydd beth bynnag a wnawn yn y dyfodol yn adeiladu ar y gwaith a wnaeth y ddwy.

A yw’r Cadeirydd yn cytuno fod angen i ni ystyried a ddylid craffu ar drethiant a gwariant ar yr un pryd neu ar wahân, fel y maent yn ei wneud yn San Steffan? Ac a oes angen mecanwaith adolygu treth arnom i sicrhau bod y system drethiant ar gyfer codi refeniw yng Nghymru yn gweithio’n effeithiol?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod hefyd am fod y cyntaf i ofyn cwestiwn i Gadeirydd pwyllgor, a byddaf yn sicr yn trosglwyddo ei longyfarchiadau i’r bobl oleuedig a feddyliodd am y syniad hwn. Hoffwn ychwanegu fy niolch innau hefyd i’r Cadeirydd blaenorol a’r Gweinidog cyllid blaenorol am eu gwaith yn hyn o beth. Mae llawer o’r hyn a ddywedais yn y datganiad yn adeiladu—fel y gŵyr, fel aelod o’r pwyllgor blaenorol—ar waith y pwyllgor blaenorol hwnnw.

Rwy’n credu iddo ofyn dau gwestiwn penodol i mi. Yn gyntaf, sut rydym yn ymdrin â threthiant a gwariant. Ie, rwy’n credu bod y broses o graffu ar hynny’n fater agored i’r pwyllgor a’r Cynulliad ei drafod. Yr hyn a fyddai orau gennyf fi fyddai ein bod yn gwneud y ddau beth gyda’i gilydd. Rwy’n credu eich bod yn edrych ar dreth a gwariant gyda’i gilydd. Rwy’n credu bod edrych arno yn ei gyfanrwydd yn ffordd well o wneud hynny, ond mae gan sefydliadau eraill ffyrdd eraill o’i wneud, fel y nododd, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y mae angen i ni ei gadw mewn cof, gan ddysgu o leoedd eraill, ond byth yn copïo lleoedd eraill, o reidrwydd.

Mae mecanwaith adolygu treth, rwy’n credu, yn bwynt diddorol. Rwy’n credu ei fod, mewn gwirionedd, yn mynd â ni at wraidd y rheswm pam fod trethi yn cael eu datganoli i Gymru. Nid swyddogaeth weinyddol yn syml ydyw, fel y byddai pobl efallai yn ei gredu, mae’n beth allweddol sydd, mewn gwirionedd, yn rhoi grym i Lywodraeth Cymru ac yn pweru atebolrwydd Llywodraeth Cymru, oherwydd am y tro cyntaf bydd gennym Lywodraeth sy’n gyfrifol am ran o’r refeniw y mae’n ei wario. Rwy’n credu y byddai unrhyw Lywodraeth, felly, eisiau proses ar gyfer adolygu’r refeniw treth a byddai ganddi fecanwaith ar gyfer y ffordd fwyaf effeithiol a’r ffordd fwyaf effeithlon o godi trethi. Rwy’n credu y bydd hynny’n cadw’r pwyllgor yn brysur iawn dros y pum mlynedd nesaf.

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei ddatganiad y prynhawn yma—y cyntaf o’i fath yn hanes y sefydliad hwn a datblygiad cyffrous? Hefyd, a gaf fi ddiolch iddo am ganiatáu i holl Aelodau’r Cynulliad gael golwg cynnar ar y datganiad cyn y Cyfarfod Llawn heddiw, sydd wedi osgoi’r shifflo papurau sy’n digwydd weithiau pan fo nifer y copïau o ddatganiadau llafar yn gyfyngedig? Mae’n bosibl fod hynny’n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn hoffi ei ystyried yn y dyfodol hefyd.

Mae sylwedd y datganiad yn hanfodol bwysig, fel y mae Simon Thomas wedi’i ddweud: datganoli pwerau treth a datblygu capasiti ariannol Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Rydych yn gwneud y pwynt amlwg yn eich datganiad, Simon, fod yr ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi cyn i randdeiliaid weld y cynlluniau gwariant—sy’n ddealladwy o ran amser, ond nid yn gwbl foddhaol. Pa fath o ddeialog, trafodaeth, y rhagwelwch y byddwn yn ei chael gyda rhanddeiliaid o hyn ymlaen i gael eu safbwyntiau pan fo’r wybodaeth honno ar gael yn iawn?

Fel y dywedwch, un flaenoriaeth allweddol yw ystyried newidiadau i broses y gyllideb, sef y rheswm dros adroddiad pwyllgor y pedwerydd Cynulliad yr oeddwn yn ymgyfarwyddo â’i gynnwys unwaith eto yn gynharach. A ydych yn fodlon fod yr argymhellion, y 12 argymhelliad, a wnaed yn yr adroddiad hwnnw—gwn nad dyna o reidrwydd yw ein cylch gwaith yn y Cynulliad hwn, ond a ydych yn hyderus fod yr argymhellion hynny’n cael eu dilyn, ar y cyfan o leiaf?

Fe sonioch am ddatganoli pwerau treth a’r Awdurdod Cyllid Cymru newydd. Cafwyd un neu ddau o gyfarfodydd, yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, ar sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a phenodi cadeirydd dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Pa ran y rhagwelwch y bydd y Pwyllgor Cyllid yn ei chwarae yn y broses barhaus o greu Awdurdod Cyllid Cymru ac o ddethol aelodau’r bwrdd, ac yn wir, y cadeirydd? Roeddem yno ar gychwyn y ddeddfwriaeth—a fydd gennym rôl barhaus yn goruchwylio sut y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn datblygu?

Ac yn olaf, rydych yn dweud eich bod yn gobeithio datblygu model o graffu ar y gyllideb sy’n sicrhau cymaint o amser â phosibl ar gyfer craffu’n ystyrlon ar Lywodraeth Cymru. Sut y bydd y model hwn yn gweithio? Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol nad mater o’r pwyllgor yn dod o hyd i’r amser yn unig yw hyn, mae hefyd yn fater o Lywodraeth Cymru yn dod o hyd i’r amser i gael ei harchwilio. Felly mae’n rhaid i’r ddwy elfen honno weithio ar y cyd. Ond diolch i chi am eich datganiad—y cyntaf o’i fath yn hanes y pumed Cynulliad.

Diolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau, ac am ei groeso, yn amlwg, i’r broses hon. Rwy’n credu, yn gyntaf oll, o ran y rhanddeiliaid, ei fod wedi rhoi ei fys ar broblem barhaus, wrth gwrs, sef bod yr ymgynghoriad sydd gennym ar y gyllideb yn digwydd cyn i ni weld y gyllideb ei hun neu gyllideb ddrafft, ac yn wir, cyn i ni weld y rhaglen lywodraethu, na chafodd ei lansio tan ddoe. Yn ddelfrydol, byddech am sicrhau bod rhaglen lywodraethu’n cyd-fynd â dyraniad adnoddau, cyn creu rhyw fath o gyfres o argymhellion ynglŷn â’u priodoldeb, eu heffeithiolrwydd neu eu heffeithlonrwydd. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu’n galetach fel pwyllgor i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ôl i ni weld y gyllideb ddrafft, o 18 Hydref ymlaen.

Soniais am yr ap Dialogue rydym yn mynd i’w ddefnyddio. Mae’n beth cymharol newydd o safbwynt y Cynulliad, ond mae wedi cael ei ddefnyddio dros yr haf, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, i ymgysylltu ag unigolion gwahanol ac i ymgynghori. Mae’r ap yn caniatáu i bobl nid yn unig i ymateb, ond hefyd i ymateb i sut y mae pobl eraill wedi ymateb. Felly mae’n caniatáu trafodaeth iteraidd ar flaenoriaethau a syniadau. Felly rwy’n credu, ac rwy’n gobeithio, y bydd hynny’n cyfoethogi’r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â’r pwyllgorau eraill sy’n edrych ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud am eu cylch gwaith hefyd. Ac mae gennym hefyd, fel y dywedais, gyfarfod ffurfiol â rhanddeiliaid ym Merthyr Tudful, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ei fynychu, yn ogystal ag ymgynghoriad ffurfiol. Felly, rydym yn ceisio taflu’r rhwyd ​​mor eang â phosibl i sicrhau cefnogaeth pobl.

Ond mae hynny mewn gwirionedd yn dibynnu ar y ffordd rydym yn symud ymlaen. Roedd yna gyfres o argymhellion, fel y sonioch, gan y pwyllgor blaenorol. Rwy’n hyderus fod ysbryd yr argymhellion hynny yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae angen rhywfaint o drafod a rhywfaint o gytundeb rhwng ochr y Cynulliad ac ochr y Llywodraeth, o ran yr union amserlen, pa bryd y bydd yn digwydd, sut y bydd y toriadau’n cael eu cynnwys yn rhan o’r amserlen, sut rydym yn ymdrin â hyn yn y Rheolau Sefydlog, fel bod gan y Llywodraeth yr hyblygrwydd cywir sydd ei angen arni i gynhyrchu cyllideb, ond mae gennym amser. A nod hyn i gyd—fel y bydd yn cofio o’r argymhellion—yw cynyddu’r amser ar gyfer craffu ar gynigion gwirioneddol, cynigion y gyllideb, a hefyd er mwyn caniatáu i bwyllgorau eraill gael dull mwy cydlynol o graffu ar y gyllideb eu hunain, gyda’r Pwyllgor Cyllid, o bosibl, â ffordd gyfeiriol ychydig yn fwy strategol o helpu’r pwyllgorau eraill hynny, pwyllgorau pwnc unigol, i wneud eu gwaith ar y gyllideb yn ogystal.

Nid oes unrhyw un wedi gofyn yn ffurfiol i mi fod yn rhan o unrhyw broses mewn perthynas â phenodi unrhyw aelodau o Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n sicr y bydd y pwyllgor yn awyddus i barhau i graffu ar yr awdurdod hwnnw a’r broses honno, ac rwy’n sicr y byddwn ninnau, ymhen amser, yn dymuno gwahodd aelodau a chadeirydd yr awdurdod i mewn i’w craffu ac i sesiynau lle y gallwn eu holi a gweld y dull a weithredir gan yr awdurdod cyllid newydd. Ond megis dechrau y mae hynny, wrth gwrs.

Credaf ein bod wedi ymdrin â model gwaith craffu wrth drafod sut y byddwn yn bwrw ymlaen ag argymhellion y pwyllgor blaenorol.

Rydw i’n croesawu yn fawr y datganiad ei hun, wrth gwrs, a’r arloesi cyfansoddiadol mae e’n cynrychioli, sydd hefyd yn adlewyrchu tyfu’r sefydliad hon fel senedd, sy’n mynd â ni i graidd y datganiad, a dweud y gwir: yr angen i adolygu ac addasu’r broses o gytuno’r gyllideb, sydd, fan hyn, ar hyn o bryd, o gymharu â sawl Senedd arall yn y byd, yn rhoi llawer gormod o bŵer i’r Weithrediaeth a rhy ychydig i’r lle hwn. Mae hawl, fel rwy’n deall, gan y Pwyllgor Cyllid i wneud argymhellion, ond nid oes hawl gan y Cynulliad i wneud gwelliant i’r cynnig cyllideb terfynol, er bod y pŵer yma, wrth gwrs, yn bodoli mewn ffyrdd anghyfyngedig mewn sawl Senedd—rwy’n meddwl am y Gyngres yn yr Unol Daleithiau, ond, hyd yn oed yn San Steffan, mae hawl i dorri gwariant, ac, wrth gwrs, i amrywio’r argymhellion trethiannol drwy Fil cyllid, ac, yn Sweden, wrth gwrs, mae gan y pwyllgorau yr hawl i benderfynu ar ddosrannu’r arian o fewn eu pynciau penodol. A fyddai’r pwyllgor yn edrych ar rai o’r opsiynau yna wrth i ni asesu newidiadau i Reolau Sefydlog?

Ac, yn ail ac yn olaf, Lywydd, i ba raddau byddai’r pwyllgor hefyd yn gallu edrych ar y cwestiwn o’r wybodaeth sy’n cael ei roi i’r Cynulliad er mwyn i ni gyflawni’n rôl o graffu? Mae’r wybodaeth ychydig bach yn dila, ychydig bach yn arwynebol ar hyn o bryd—hynny yw, penawdau yn hytrach na rhaglenni unigol, a dim gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad disgwyliedig ynghylch y gwariant. Gallem ni edrych ar arfer da yn rhyngwladol ar dryloywder cyllidebol, er enghraifft, wedi cyhoeddi gan yr OECD, ac, er mwyn caniatáu i’r Senedd hon gyflawni’i rôl yn effeithiol, oni ddylem ni fuddsoddi mewn capasiti arbenigol, rhywbeth yn debyg i beth sydd gan y Gyngres—y Congressional Budget Office—sy’n annibynnol o’r Llywodraeth, yn atebol i ni fel Cynulliad, a fyddai’n sail i ni wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth mwy arbenigol?

Diolch i Adam am y cwestiynau. Ni fyddwn wedi disgwyl llai na chwestiynau treiddgar a diddorol ganddo fe, ac mae’n wir bod—. Tri pheth, a dweud y gwir, rwy’n meddwl sydd gyda fe dan sylw: yn gyntaf oll, yr wybodaeth dila, fel mae’n cael ei disgrifio, ac mae’n wir bod hynny wedi bod yn bryder i aelodau’r pwyllgor ers sawl blwyddyn bellach. Yr un mwyaf amlwg efallai yw pan fyddwch chi’n edrych ar y dosraniad arian ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, sydd jest yn syml iawn i fyrddau iechyd, ac nid oes dealltwriaeth o sut mae’r arian wedyn yn cael ei ddefnyddio o dan hynny. Mae gan y pwyllgor ddiddordeb i wella hynny. Mae’n rhaid i ni wneud e ar y cyd, wrth gwrs, ac mewn cytundeb gyda Llywodraeth Cymru, felly mae’n dod lawr i’r protocol byddem ni’n gallu cytuno â nhw, ond rwyf hefyd yn awgrymu bod rôl gan y pwyllgorau eraill, y pwyllgorau pwnc hefyd, i ofyn am fwy o wybodaeth. Ac weithiau, yn wir, erbyn i’r pwyllgorau pwnc edrych ar y gyllideb, mae mwy o wybodaeth wedi cael ei ddarparu. Rwy’n gobeithio bod y ddau beth rydym ni wedi awgrymu, y protocol a mwy o amser, yn mynd i ychwanegu at y cyfle i dynnu allan mwy o’r wybodaeth yna, ond, yn y bôn, mae Adam yn gofyn am fwy o wybodaeth yn y lle cyntaf. Rwy’n credu bod y Pwyllgor Cyllid wedi gwrando ar y neges yna ac yn awyddus i ddarparu.

Yr ail ran, wrth gwrs, yw beth a wnewch chi gyda’r wybodaeth ac a oes angen rhyw fath o graffu annibynnol ar hynny, ac, yn ddiddorol iawn, fe gododd hyn mewn tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn y pwyllgor y bore yma. Bydd Adam yn gwybod bod y cytundeb fframwaith cyllidol yn yr Alban wedi golygu bod yn rhaid sefydlu swyddfa cyllidol annibynnol er mwyn adrodd ar y sefyllfa ariannol cyllidol er mwyn unioni, neu o leiaf cael llais unioni, tu fewn i unrhyw anghydfod rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth San Steffan. Ac mae’r un peth yn wir—fe soniodd yr Aelod am Gyngres, ond mae’r un peth yn wir yng Nghanada, er enghraifft. Fe fydd yna, rwy’n credu, angen i chwilio am y llais annibynnol yna yn y broses yma. Nawr, a ydy hynny’n dod drwy swyddfa annibynnol neu ryw fath o brotocolau eraill gyda, er enghraifft, y Swyddfa Cyfrifoldeb Gyllidebol yn Llundain a defnyddio’u hadnoddau nhw a’u sgiliau nhw nid ydym wedi trafod fel pwyllgor eto. Mae, yn sicr, yn rhywbeth yr ydym yn effro yn ei gylch ac rydym ni’n awyddus i arwain y drafodaeth yn y Cynulliad hwn.

Y pwynt olaf—ie, wel, diddorol iawn. Pan fyddwch chi’n edrych ar gyllideb yn cael ei chynnig, ei derbyn neu ei gwrthod yw’r dewis, wrth gwrs. Dyma beth yr oeddwn yn cyfeirio ato tua diwedd y datganiad pan oeddwn i’n sôn am y posibiliad o symud tuag at Fil cyllidebol. Wrth gwrs, unwaith yr ydych yn cyflwyno Bil, mae modd gwella’r Bil ac mae modd newid y Bil. Mae yna gwestiynau diddorol iawn yn dod yn sgil hynny. Nid oes amser mynd drwyddyn nhw i gyd, mae’n siŵr, ond mae yna gwestiynau diddorol iawn: a oes modd i’r Cynulliad ychwanegu at wariant neu dim ond tynnu oddi ar wariant, a oes modd i’r Cynulliad gynyddu trethi neu dim ond lleihau trethi? Mae rheolau gwahanol-fel byddai Adam Price yn gwybod yn fwy na fi—mae rheolau gwahanol mewn gwahanol wledydd. Ond, o safbwynt y pwyllgor yn edrych ar hyn, mae’n dda gennyf gadarnhau ein bod ni wedi cael cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda swyddfa seneddol gyllidebol Canada lle yr oedd hwn yn faes trafod a lle’r oeddem ni’n trafod beth oedd Canada yn ei wneud o safbwynt, wrth gwrs, seneddau ffederal a seneddau rhanbarthol, taleithiol, felly. Felly, mae’n gwestiwn byw iawn ond, yn sicr, os yw’r lle yma i dyfu yn Senedd go iawn mae angen i bob pwrpas i’r gyllideb gael ei chyflwyno fel Bil y mae modd ei wella gan Aelodau’r Cynulliad neu’r Senedd.

A gaf i ddiolch hefyd i’r Cadeirydd am amlinellu blaenoriaethau’r pwyllgor dros y flwyddyn nesaf? Mae’n amlwg ein bod ni’n mynd i gael hydref bishi tu hwnt gyda’r Bil anferth yma ar ddatganoli treth ar dir ac rydym ni’n mynd i fod yn sgrwtineiddio’r gyllideb ddrafft, wrth gwrs, a’r posibilrwydd nawr y byddwn ni’n sgrwtineiddio’r dreth ‘landfill’. Felly, mae lot o waith gyda ni ar y gweill.

I was extremely keen to become a member of the Finance Committee because I think this is a great place to gain an overview of where the Government sets its financial priorities, which obviously reflects its political priorities. The hair-raising predictions of the Institute for Fiscal Studies last week in terms of cuts to public expenditure in future years was extremely sobering. I think at some point there may need to be a much more radical approach to our delivery of services when those cuts continue to come down the track towards us. Health, of course, is an area that takes up almost half of the Welsh budget and I’d also like to press the point that was made by Adam Price: we do have, I think, a restricted ability to scrutinise in this area in the sense that the responsibility for that detailed expenditure is with the health boards and I do think that that is an area—I’m glad to see that you agree that we do need a better ability to scrutinise there.

I think there’s an interesting overlap between the Finance Committee and the Public Accounts Committee. I largely see that division as being the Public Accounts Committee taking an overview of value for money and effectiveness of Government expenditure, whereas our responsibility is directed more towards future expenditure. I think there are a few crucial weeks ahead for the finance Minister in the negotiation of the financial framework of the UK Government. I’d like to ask whether we will make time to ensure that we are able to scrutinise any deal that is landed by the Minister in that regard. I’m particularly interested in knowing about the borrowing aspects of any new financial agreement. I’d just like confirmation that that is something we will make time for.

I’m also extremely keen as a committee member to look at the mid- to long-term financial prospects for Wales. Whilst we are in this age of Brexit, and any forecasts in relation to the economy and regulatory framework and trade framework are difficult at the moment, I think we need to take a long, hard look at the demographic changes that are going to be coming down the track in Wales. We need to do some long-term financial planning and I think that that is a role that I would like our committee to take on and I’d like to ask you whether you would agree with that. I look forward to working with the Chair and all of the members of the committee, because I think this is a crucial committee for the Assembly.

Diolch i Eluned Morgan am ei geiriau caredig ac am dynnu sylw at ba mor brysur yr oeddem cyn gofyn i ni wneud rhagor o waith. [Chwerthin.] Credaf fod honno’n ffordd briodol iawn o symud ymlaen. Ar y pwynt cyntaf, os caf ddweud, drwy’r Llywydd, os oes un peth cadarnhaol wedi dod o’r datganiad cyntaf hwn, credaf ei bod yn amlwg fod aelodau o wahanol bleidiau wedi bod yn mynnu, neu o leiaf yn gofyn am ragor o wybodaeth am broses y gyllideb er mwyn craffu ar Lywodraeth Cymru a chredaf fod hynny ynddo’i hun wedi bod yn ffordd werthfawr o wyntyllu’r pethau hyn gan fod hyn yn ymwneud â gwell gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell. Yn sicr, nid pan fyddwn yn edrych ar broses y gyllideb yn y pwyllgor fydd hyn, ac nid yw’n ymwneud ag ymagwedd wleidyddol o reidrwydd; mae hyn yn ymwneud â chwestiynau allweddol a ofynnwyd ganddi, ac fel y dywedodd, cwestiynau a ofynnwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd, ynglŷn â phwy sy’n ysgwyddo’r baich hwnnw. Bydd yn ymwybodol o’r adroddiad—ac roeddwn yn awyddus i fynd i’r cyfarfod briffio gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid—pe byddem er enghraifft yn sicrhau diogelwch o 1 y cant neu 2 y cant i iechyd yng Nghymru, byddai toriadau i lywodraeth leol yn saethu i fyny i’r raddfa rhwng 10 y cant a 12 y cant a hyd at 17 y cant. Mae’n edrych yn eithaf brawychus. Dyma’r prif benderfyniadau sydd angen eu gwneud.

Fel Cynulliad ac yn ein strwythur pwyllgorau, ‘does bosibl na ddylem gynorthwyo’r Llywodraeth o leiaf i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer gwneud y penderfyniadau hynny ac er mwyn archwilio, gyda’r cyhoedd, sut y mae’r penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud. Yn y pen draw, pan fydd y Llywodraeth yn gwneud penderfyniad, y Llywodraeth fydd yn atebol amdano, ond fel pwyllgor dylem daflu cymaint o oleuni â phosibl ar y broses honno.

O ran y berthynas gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae’r Cadeirydd yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd, wrth gwrs, sy’n helpu pethau. Bydd yn ymwybodol hefyd ar ôl bore yma ein bod ni, fel Pwyllgor Cyllid, yn gyfrifol am y refeniw gwirioneddol, neu’n hytrach, am amcangyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Felly, mae gennym berthynas yn y fan honno. Ond yn gyffredinol, byddwn yn cytuno â hi—credaf fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried gwerth am arian. Mae’n broses ddysgu ôl-weithredol, sy’n ddefnyddiol iawn wrth gwrs, ac sy’n denu cryn dipyn o sylw o bryd i’w gilydd, yn y ffordd y mae’n gwneud hynny, ac mae hynny’n anochel, ond credaf fod gennym ddull o weithredu sy’n edrych ymlaen ac yn cynllunio llawer mwy. Credaf fod angen i’r ddau ohonom—hynny yw, y ddau bwyllgor—weithio gyda’n gilydd yn hynny o beth.

Credaf fod y pwynt olaf, a’r prif bwynt, a wnaed ganddi, wrth gwrs, yn ymwneud â newidiadau cynllunio tymor canolig a hirdymor demograffig. Nid gwaith ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn unig fyddai hyn, bydd yn rhaid i’r holl bwyllgorau pwnc wneud rhywfaint o’r gwaith hwnnw hefyd. Ond cytunaf y dylem fod yn ei ystyried yn y tymor hir. Mae’n ddibynnol ar gael fframwaith ariannol sy’n ddigon cadarn i’r Cynulliad hwn gymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Cymru. Ymwneud â hynny y mae yn y bôn. Gwyddom ein bod yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i gyd-drafod â San Steffan ynglŷn â hynny. Cymerodd Llywodraeth yr Alban amser hir, neu yn hytrach cymerodd San Steffan amser hir—nid wyf yn hollol sicr pwy sydd ar fai, ond cymerasant amser hir. Cawsom gadarnhad yn y pwyllgor y bore yma, mewn sesiwn gyhoeddus, fod y Gweinidog yn cyfarfod yn fisol o leiaf â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Felly, mae yna broses ar y gweill, a chytunaf â’r Aelod y dylai’r Pwyllgor Cyllid roi ei farn ar y broses honno er mwyn helpu a llywio a dangos ac arddangos, i San Steffan yn enwedig, fod rhan gennym ninnau yn hyn fel Cynulliad cyfan.

Lywydd, a gaf fi eich llongyfarch chi a’r Pwyllgor Busnes am gyflwyno’r weithdrefn hon. Carwn pe bai wedi’i rhoi ar waith yn ystod y pedwerydd Cynulliad pan oeddwn yn Gadeirydd pwyllgor. Efallai fod cyswllt uniongyrchol â’r ffaith nad wyf bellach yn Gadeirydd y gellir ymddiried ynom yn awr i gyflawni’r fath waith craffu ac adborth yn y Siambr.

Credaf fod y ffordd y mae’r Llywodraeth yn cyflwyno ei chyllideb a’r dogfennau ategol yn brawf allweddol o ba mor agored yw unrhyw ddemocratiaeth. Credaf fod angen i’n gweithdrefnau ddarparu cymaint o dryloywder ac eglurder â phosibl. Credaf ei bod yn anochel fod cyllidebau’n heriol, ond mae modd cyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd anhryloyw iawn ac nid yw hynny o gymorth i neb, gan gynnwys y cyhoedd, y rhai sydd â diddordeb a’r sector dinesig. Roeddwn yn falch o glywed, gyda llaw, am ddatblygiad yr ap Dialogue. Rwy’n sicr y bydd yn ein cysylltu’n fwy eang â’r byd allanol, neu o leiaf â’r rhai hynny y tu allan yng Nghymru y bydd ein penderfyniadau yn dylanwadu arnynt.

Credaf fod atebolrwydd yn allweddol hefyd o ran caniatáu dadansoddi effeithiol, er mwyn gallu olrhain penderfyniadau cyllidebol o flwyddyn i flwyddyn—yn aml, mae’n anodd iawn gwneud hynny, gyda llaw—a sicrhau cymaint o gysondeb â phosibl hefyd o ran y ffordd y caiff gwybodaeth ariannol ei chyflwyno. Gwyddom fod llywodraethau yn fwystfilod pwerus ac nad yw o bwys pwy sy’n eu rhedeg, ond weithiau, un ffordd o osgoi embaras yw cyflwyno’r cyfrifon mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r ffordd y gwnaed hynny yn y gorffennol, a gall fod yn anodd iawn eu dadansoddi. Yn anad dim, credaf fod angen amser arnom i drafod y mesurau hyn. Credaf fod gennym hanes eithaf da yn y Cynulliad hyd yn hyn, ond wrth gwrs, mae ein llwyth gwaith yn mynd yn fwy cymhleth a helaeth yn awr o ran ei gyfrifoldebau ariannol. Gobeithiaf na ddaw’r dydd pan fyddwn yn rhoi’r gilotîn i bethau ac yn lleihau’r amser ar gyfer craffu ac ystyried yn effeithiol. Yn olaf, a gaf fi ofyn i’r Pwyllgor Cyllid ystyried y ffyrdd rydym yn dadansoddi meysydd polisi cyhoeddus pwysig a’r cynlluniau y mae’r Llywodraeth yn eu cyflwyno mewn meysydd sy’n croesi ar draws adrannau. Gall fod yn anodd iawn gwybod faint o arian sy’n cael ei wario, er enghraifft, ar wella iechyd a lles meddyliol, gan fod cymaint o feysydd y Llywodraeth yn cael eu heffeithio, neu’n wir, enghraifft arall sy’n bwysig iawn i mi’n bersonol—plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal. Pan fo Llywodraeth yn cyhoeddi menter fawr mewn maes polisi cyhoeddus trawsbynciol, credaf fod honno’n adeg dda i’r Pwyllgor Cyllid wneud rhyw fath o amcangyfrif o beth yw cyfanswm y gwariant, sut y mae’n newid a pha mor effeithiol ydyw. Diolch.

Diolch i David Melding am ei gwestiynau, a chofiaf nad oeddwn yn ymwybodol ei fod yn gyndyn i roi ei farn yn y Cynulliad blaenorol ar unrhyw adeg, a chredaf ei fod wedi gwneud y gorau o’r cyfle, ond rwy’n falch iawn fod mwy o gyfleoedd eto yn awr i Gadeiryddion a phwyllgorau hysbysu’r Cynulliad.

Credaf ei fod yn nodi pwynt pwysig ynghylch olrhain newidiadau o flwyddyn i flwyddyn a gallu gweld pa mor effeithiol, fel y byddwn yn ei roi, yw rhaglenni’r Llywodraeth. Nid wyf yn credu mai pwyllgor cyfrifon yw’r Pwyllgor Cyllid, a chredaf ein bod yn well, o bosibl, pan nad ydym yn edrych arno fel ffordd o gadw cyfrifon, ond edrych yn hytrach ar y symiau cyffredinol—neu’n hytrach, y symiau gweddol flaenllaw—ac edrych ar effeithiolrwydd y gwariant, ac a oes digon o adnoddau ar gael i’r Llywodraeth gyflawni’r hyn y mae’n dweud ei bod yn bwriadu ei wneud. Ond rwy’n sicr yn cytuno, wrth i ni symud at y broses newydd hon, fod angen i ni ddeall, o dan ein Rheolau Sefydlog, sut y gallwn ddilyn y ceiniogau, neu o leiaf y degau neu gannoedd o filiynau, a sut y gellid gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr, gan ein bod yn gweld, er enghraifft, pan fydd y cyfrifoldeb gweinidogol am raglen yn newid, y gall ddiflannu o linell benodol a bod yn anodd iawn ei weld.

Credaf fod David Melding wedi rhoi ei fys ar un neu ddwy o ffyrdd allweddol eraill y gallwn wneud hyn, sef ystyried ac olrhain materion trawsbynciol. Fe sonioch am iechyd meddwl a phlant sy’n derbyn gofal; cytunaf â hynny. O safbwynt Cadeirydd y pwyllgor, byddwn hefyd yn ychwanegu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 at hynny, deddf sydd bellach yn gyfrifoldeb i’r Gweinidog sy’n adrodd fwyaf i’r pwyllgor hwn, ond sydd, wrth gwrs, wedi ei chynllunio i effeithio ar wariant y Llywodraeth a’r ffordd y caiff adnoddau’r Llywodraeth eu defnyddio yn gyffredinol, ac nid yw’n perthyn yn hwylus i un pwyllgor. Felly, credaf fod rôl i rywbeth fel y Pwyllgor Cyllid gael trosolwg ar bethau fel Deddf cenedlaethau’r dyfodol ac amcanion tebyg gan y Llywodraeth sydd ‘â bwriadau da, ond gadewch i ni weld sut y maent yn cyflawni’. Mewn gwirionedd, mae’n ymwneud wedyn â pha un a yw’r Llywodraeth yn rhoi adnoddau tuag at yr hyn y mae’n dweud y dymuna ei gyflawni, o dan, dyweder, ei chwech neu saith amcan neu beth bynnag y bydd o dan Fil, neu Ddeddf fel y’i gelwir wedyn. Mae honno’n un ffordd glir y gall y Pwyllgor Cyllid helpu a chynorthwyo pwyllgorau eraill heb dresmasu ar gyfrifoldebau pwyllgorau eraill.

Diolch i’r Cadeirydd pwyllgor, ac rwy’n sicr wedi dysgu llawer o’r datganiad y prynhawn yma. Mae’n braf gweld yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd yma i wrando ar y datganiad gan y Cadeirydd pwyllgor.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Y Gymraeg fel Ail Iaith

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Paul Davies.

Rydym ni’n symud nesaf at ddadl Plaid Cymru ar yr agenda ac rwy’n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6095 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu ‘Cymraeg ail iaith’ a sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg yn ei le.

2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod ‘o’r farn bod y cysyniad ‘Cymraeg fel ail iaith’ yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol’.

3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

4. Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw’r cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio’r Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a fyddai’n golygu arholi’r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020; 

(b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac

(c) buddsoddi’n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu’n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg sy’n dysgu drwy’r Gymraeg.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n symud y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw y ddadl yma y prynhawn yma er mwyn nodi ei bod hi bellach yn dair blynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies, a oedd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ar sefyllfa’r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg gael ei gyhoeddi. Casgliad yr adroddiad, wrth gwrs, oedd ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Roedd yr adroddiad yn dweud bod lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall, a phe bai hyn wedi cael ei ddweud am fathemateg neu am y Saesneg, diau y byddem ni wedi cael chwyldro, meddai’r adroddiad. Os ydym ni o ddifri felly ynglŷn a datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad a hynny fel mater o frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Nawr, dim ond rai misoedd ynghynt, mi roedd y cyfrifiad wedi paentio darlun i ni o safbwynt cwymp y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Fis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, mi argymhellodd canlyniadau’r Gynhadledd Fawr gan y Llywodraeth—os ydych chi’n cofio honno—fod angen newidiadau sylweddol iawn ar addysg Gymraeg ail iaith. Ym mis Awst 2014, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei hun yn ei ddogfen bolisi ‘Iaith fyw: iaith byw—Bwrw mlaen’, fod angen, ac rwy’n dyfynnu, i

‘holl ddysgwyr Cymru—p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgolcyfrwng Saesneg...siarad y Gymraeg yn hyderus.’

Ac ym mis Tachwedd 2014, blwyddyn gyfan ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Athro Davies, mi wnaeth yr Athro Davies fynegi gofid nad oedd yna ddim byd llawer wedi digwydd, meddai hi, ers iddo gael ei gyhoeddi. O’r holl bethau yr oedd hi wedi’u hawgrymu, meddai’r Athro Davies, roedd yna bethau y gallent fod wedi cael eu gwneud dros nos, ond roedd yna bethau eraill, fel adeiladu capasiti, a fyddai’n cymryd llawer iawn o flynyddoedd, meddai hi.

‘Fe ddwedes i yn yr adroddiad ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Dwi ddim yn gwybod be sy’n dod ar ôl unfed awr ar ddeg. Ond fyswn i’n dweud bod y cloc bron wedi taro eto dwi’n credu.’

Mi oedd hynny flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad. Wrth gwrs, rŷm ni bellach dair blynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ac, i bob pwrpas, yn dal i ddisgwyl.

Yn lle symud i ffwrdd o’r gyfundrefn Gymraeg ail iaith, wrth gwrs, beth welsom ni yn gynharach eleni oedd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar y cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith ac yn dod i’r casgliad eu bod nhw am gadw’r cymhwyster am y tro, beth bynnag, er bod mwyafrif ymatebwyr yr ymgynghoriad wedi dweud, wrth gwrs, fod angen dileu TGAU Cymraeg ail iaith—er mai polisi Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw dileu TGAU Cymraeg ail iait—ac er bod academyddion, addysgwyr, cyrff a mudiadau o bob lliw a llun am ddileu Cymraeg ail iaith.

Nawr, er tegwch, wrth gwrs, mae Cymwysterau Cymru yn dweud mai cam dros dro yw hyn, ond, wrth gwrs, nid oes yna eglurder o gyfeiriad Llywodraeth Cymru beth yn union yw ystyr ‘dros dro’. Ac felly, rydw i yn deall ac yn cydymdeimlo, mae’n rhaid i fi ddweud, â’r gofid a rhwystredigaeth y mae nifer wedi mynegi bod cymaint o amser wedi pasio ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies heb weithredu pendant a heb weithredu penderfynol ar yr agenda yma, ac yna, wrth gwrs, yn gweld Cymwysterau Cymru yn ymddangosiadol beth bynnag, yn cario ymlaen i ddiwygio’r hen gyfundrefn. Rydw i’n deall, felly, yr amheuaeth a yw’r ymrwymiad yna mewn gwirionedd gan Lywodraeth Cymru i newid y drefn yn y maes yma.

Wrth gwrs, mae’n rhaid atgoffa ein hunain bod y Prif Weinidog wedi dweud mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod e a’r Gweinidog addysg blaenorol wedi dod i’r un casgliad, a’u bod nhw o’r farn bod cysyniad Cymraeg fel ail iaith,

‘yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.’

Er gwaethaf hynny i gyd, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i yn falch i weld, yng ngwelliant Llywodraeth Cymru, ddatganiad sy’n dweud,

‘o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith’

Rwy’n croesawu hynny, ond mi fuaswn i’n hoffi i’r Gweinidog gadarnhau nid a fydd y cwricwlwm newydd ar gael a’r cymhwyster newydd ar gael i bawb erbyn 2021, ond y bydd e’n cael ei ddefnyddio gan bawb, a’r cymhwyster newydd yn cael ei arholi yn 2021, a, hynny yw, bod yr hen gyfundrefn wedi mynd. Dyna’r sicrwydd, rwy’n meddwl, y mae nifer yn chwilio amdano fe, a Chymwysterau Cymru yn eu plith nhw, rwy’n siŵr.

Nid yw ail gymal gwelliant y Llywodraeth ddim cweit cystal, ac efallai ei fod e’n rhy annelwig a chyffredinol yn fy marn i. Mae e’n dileu, yn anffodus, cymalau 4(b) a 4(c) yn y cynnig gwreiddiol, sy’n sôn am weithredu, ac yn rhoi gwelliant sydd yn sôn am ‘nodi’ rhywbeth yn ei le. Nawr, mae’r Llywodraeth, efallai’n licio ‘nodi’ llawer o bethau; yr hyn rŷm ni eisiau ei weld, wrth gwrs, yw gweithredu.

Rŷm ni wedi crybwyll, wrth gwrs, yn ein cynnig gwreiddiol ni, yr angen i fabwysiadu mesurau, er enghraifft i gynyddu nifer yr ymarferwyr addysg sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond nid yn unig hynny, wrth gwrs, ond y gefnogaeth dysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swyddi’n barod, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill, a’r angen, wrth gwrs, am adnoddau ychwanegol i gyflawni hynny.

Mae’r her o gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn un sylweddol, ac mae angen gweithredu, wrth gwrs, yn effeithiol ac yn brydlon. Yn ôl adroddiad blynyddol y Llywodraeth ei hunain ar ei strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, nid yw’r cynnydd yn y niferoedd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ddigonol. Nid wyf yn meddwl y gall neb wadu hynny. Rŷm ni wedi gweld, ers 2001, cynnydd o 0.1 y cant. Nawr, nid dyna’r uchelgais; nid dyna’r tirlun addysgiadol, trawsnewidiol sydd ei angen i gyrraedd y nod uchelgeisiol hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae rhywun wedi dweud wrthyf i y bydd hi’n cymryd 800 mlynedd i sicrhau bod pob un person ifanc yng Nghymru yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar y raddfa yna o gynnydd. Rwy’n gwybod bod olwynion llywodraeth yn dueddol o droi’n araf deg, ond nid yw hyd yn oed olwynion Llywodraeth Cymru, does bosib, yn troi mor araf â hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rydw i, ac mae Plaid Cymru, o’r farn bod hyn yn annerbyniol. Mae addysgwyr o’r sector addysg o’r farn bod hyn yn annerbyniol ac, yn wir, mae polisi Llywodraeth Cymru ei hunain yn datgan, i bob pwrpas, fod hynny yn annerbyniol. Gadewch i ni, felly, fynd ati yn bendant ac yn benderfynol i greu’r un continwwm dysgu Cymraeg yma. Nid yw’n ddigon ar ei ben ei hun, ond mae e’n rhan allweddol o strategaeth ehangach cyffredinol, ac os gwnawn ni hynny, efallai—efallai—y byddwn ni’n llwyddo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith; a

b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a’r broses asesu ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Alun Davies 15:00:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Yn ffurfiol.

Diolch. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r dull o feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau’n Deg.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig.

A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â mater y Gymraeg fel ail iaith yn ôl i’r Siambr mor gyflym y tymor hwn? Mae gwelliant y Llywodraeth yn dangos bod yna gyfyngiadau, a gawn ni ddweud, ar eich perthynas glyd, wedi’r cyfan. Ond, gan ddod â fe nôl mor glou, mae’n dangos y gall rhai pethau gael eu gwneud yn gyflym, ac rydym yn cefnogi’n llwyr y pwynt bod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu amser ers adroddiad Sioned Davies. Am y rheswm hwnnw, byddai’n well gennym ni gefnogi’r cynnig heb welliant y Llywodraeth, os yn bosib, oherwydd ein bod yma i ddal y Llywodraeth i gyfrif ac atgoffa pobl Cymru bod pobl ifanc yn dal i gyrraedd a gadael ein system addysg heb fantais y gall y system ei rhoi iddynt, sef sgiliau iaith Gymraeg gwell.

Hefyd, byddai dileu pwynt 4 y cynnig yn gwrthod wynebu her ganolog, sef sgiliau’r gweithlu. Mae’n amhosib dweud unrhyw beth ystyrlon am ansawdd cymwysterau, neu symud ymlaen o’r gwahaniaeth rhwng iaith gyntaf ac ail iaith, oni bai eich bod yn wynebu’r ffaith bod rhaid i athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill gyflawni hyn, ac nid yw’r capasiti yno eto i wneud hynny.

Hoffwn ganolbwyntio ar y materion yma: ansawdd a gallu, a pham rydym ni wedi cyflwyno ein gwelliannau fel y maent mewn dadl am gymwysterau. Mae cyflwyno arholiadau yn 2020 neu’r flwyddyn wedyn yn golygu y byddai unrhyw un sy’n dechrau blwyddyn 7 eleni neu flwyddyn nesaf yn mynd i sefyll yr arholiadau hynny. Bydden nhw wedi cael y profiad o’r system gynradd cyfrwng Saesneg fel y mae nawr. Er gwaethaf y ffaith bod y Gymraeg wedi bod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ar gyfer pob oedran ers 1999, mae’n deg dweud y bydd llawer o blant yn cyrraedd drws eu hysgol uwchradd gyda chyn lleied o gyfarparu o ran sgiliau, dealltwriaeth a hyder i ddechrau gwersi Cymraeg ag y byddent â gwersi Ffrangeg. I rai, bydden nhw’n ei hystyried fel gwers arall am ieithoedd modern yn hytrach na siawns i ddatblygu rhan greiddiol o’u hunaniaeth a’u sgiliau bob dydd.

Felly, fy nghwestiwn ar ran y garfan hon o bobl ifanc yw: sut bydd y cwricwlwm newydd yn eu helpu nhw i gyflawni safon uwch yn y tri agwedd yna—uwch na’r rhai sydd wedi mynd o’r blaen? Ni fydd eu profiad o ysgol gynradd yn wahanol i’r rhai a aeth o’u blaen, ac mae’r profiad hwnnw, dawn unigol pobl ifanc a’r newid yn nisgwyliadau athrawon, rwy’n meddwl, yn ei gwneud yn afrealistig i ddisgwyl i’r garfan hon o blant sefyll yr un math o arholiad â’u cyfoedion sydd wedi dod i fyny drwy addysg cyfrwng Cymraeg.

Nid yw hynny, wrth gwrs, yn golygu na all cynnwys y cwrs ysgol uwchradd fod yn fwy heriol ac yn reddfol. Ond nid oes unrhyw bwynt cael cwrs mwy heriol ac uno i mewn i gontinwwm oni bai bod plant yn cyrraedd yr ysgolion uwchradd ar ôl llawer mwy o gyswllt â’r Gymraeg fel rhan annatod o’u profiad ysgol gynradd. Nid wyf am i ddisgyblion fethu arholiadau Cymraeg yn 2020 a 2021 oherwydd bod eu bywyd cynnar yn yr ysgol wedi methu â’u paratoi. Dyna pam na ddylai pwyntiau 4(b) ac 4(c) gael eu dileu o’r cynnig hwn—maen nhw’n berthnasol i’r sector cynradd hefyd.

Fy unig broblem gyda’r cynnig hwn yw yr amserlen. Os byddai newid sylfaenol i le’r Gymraeg yn ein hysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn cael ei gyflawni heddiw, ni fyddai’r plant hynny yn cymryd TGAU tan 2027. Nhw yw’r plant sydd gyda’r siawns o wneud yr un arholiad â’u cyfoedion o ysgolion Cymraeg.

Felly, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r arholiad yn y cyfamser i amddiffyn ei enw da a’r safon a nifer y bobl sy’n ei basio? A ydym yn ystyried rhywbeth tebyg i TGAU gwyddoniaeth, gyda chwricwlwm ac arholiadau gwahaniaethol efallai? Nid wyf yn gwybod beth yw’r cynlluniau ar hyn. Ond, wrth gwrs, nid yw hwn yn nod hirdymor. Diben ein gwelliannau heddiw yw atgyfnerthu’r neges hon: i normaleiddio’r Gymraeg i bawb, i greu system addysg sy’n gallu gwneud hyn, ac arholiadau sy’n adlewyrchu hyn, mae’n rhaid i ni ddechrau cyn i blant fynd i’r ysgol. Rhaid cynnwys y gweithlu hwnnw dan bwyntiau 4(b) a 4(c).

Dim ond pwynt atgoffa oedd gwelliant 4. Rwy’n dod i ben yn y fan hon. Mae’r Gymraeg yn sgil yn y gweithle, yn sgil cyfathrebu ac yn rhan o’n ffordd o fyw. Nid yw’n dod i ben pan fo drws yr ysgol yn cau. Diolch yn fawr.

Diolch i chi am ganiatáu i mi gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae’r iaith Gymraeg yn fater pwysig. Tybed a fyddai wedi bod yn well treulio ychydig mwy o amser ar y mater hwn na’r hanner awr a ddyrannwyd. Rydym yn trafod gadael yr UE eto—mae fel ‘groundhog day’.

Cytunaf â’r egwyddorion sy’n sail i’r cynnig hwn, ond teimlaf efallai na fydd yn llwyddo i gyflawni ei fwriad yn llawn. Felly, byddaf yn cefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, er fy mod yn cefnogi tri phwynt cyntaf cynnig Plaid Cymru. Rwyf wedi darllen y llythyr a dderbyniodd yr holl Aelodau gan Cymwysterau Cymru yn ofalus, ac rwyf hefyd wedi dilyn y dadleuon a gyflwynwyd heddiw gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn eu llythyr, dywed Cymwysterau Cymru:

‘wrth gyflwyno newidiadau sylweddol i gymwysterau rhaid sicrhau amser digonol i athrawon a dysgwyr i baratoi; gall newid cymwysterau yn frysiog greu anawsterau i athrawon ac i ddysgwyr a pheryglu llwyddiant unrhyw gymhwyster newydd.’

Nid wyf yn credu eu bod yn awgrymu 800 mlynedd, fodd bynnag, ond credaf ei fod yn adlewyrchu—os wyf wedi deall yn iawn—rhai o’r gwirioneddau a nodwyd gan Suzy Davies.

Yn fy ngalwedigaeth flaenorol, roeddwn yn cynllunio, dilysu, monitro a darparu cymwysterau. Yn fy marn i, ar sail y profiad hwnnw, yw mai’r allwedd i lwyddiant yw gosod y dysgwr yn ganolog i’r rhaglen rydych yn ei chreu; beth yw anghenion y dysgwyr, beth yw eu cymhellion, beth yw eu gobeithion ar gyfer y dyfodol? Teimlaf mai dyhead dros ein hiaith, ac nid o reidrwydd dros ein dysgwyr, sydd wrth wraidd pwynt (a) yn y cynnig. Mae’n ddyhead da sydd hefyd yn codi cwestiwn gwleidyddol: pam nad ydym wedi teithio’n bellach na lle’r ydym heddiw? Mae’n gwestiwn rhesymol i’w ofyn, a dylid ei ofyn i’r Gweinidog, ac yn wir, dylai’r Gweinidog ei ateb, ond nid yw’n gwestiwn sydd o gymorth i’r dysgwyr rydym eisiau eu cefnogi, yn fy marn i. Yn ymarferol, gallai pwynt 4(a) wneud y gwrthwyneb i’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni, sef pontio’r bwlch rhwng dyhead a chyflawniad ymarferol.

Dysgais y Gymraeg fel ail iaith hyd at lefel TGAU, yn ôl pan oedd ysgolion cyfrwng Saesneg, yn y bôn, yn rhoi dewis o dderbyn hynny neu beidio. Llwyddais gael gradd A, ond nid euthum ymlaen i astudio ar gyfer Safon Uwch yn y Gymraeg gan nad oedd yr hyder gennyf i astudio ymhellach. Rwy’n dal i deimlo nad yw’r hyder hwnnw gennyf o ran y Gymraeg. Mae’r ffaith fy mod yn rhoi’r araith hon heddiw yn Saesneg yn dangos methiant mwy hirdymor y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i fynd i’r afael ag ef, a gofynnwn y cwestiwn heddiw: beth yn rhagor y gallwn ei wneud? Ond mae yna fater diwylliannol dwfn rwyf wedi’i weld yn aml yn fy nghymuned sy’n galw am ystyried yn drwyadl unrhyw ymyrraeth gan y Llywodraeth. I roi enghraifft i chi, pan glywaf Aelodau yn siarad yn y Siambr hon ac mae’n rhaid i mi godi’r clustffonau, rwy’n teimlo’n rhwystredig nad yw fy nealltwriaeth o’r iaith yn ddigon da ac mae’n deimlad na fydd siaradwyr Cymraeg rhugl o bosibl yn ei werthfawrogi bob amser yn y cyd-destun hwnnw. Ac eto, mae’n rhwystr cyffredin i ddysgu rydym oll wedi’i wynebu. Pan fo rhywbeth yn anodd, sut rydym yn cymell ein hunain, sut rydym yn osgoi rhoi’r gorau iddi a gwrthod rywbeth—yn yr achos hwn, yr iaith Gymraeg—sy’n rhy anodd i’w gyflawni?

Mae strategaeth addysgu a dysgu dda yn mynd i’r afael â’r her hon, ond mae hefyd yn cymryd amser i ddatblygu, weithiau drwy brofi a methu. Mae’r cynnig yn cydnabod hyn mewn rhannau, a gallech ddweud bod adrannau (b) ac (c) efallai yn cydnabod hyn o bosibl, ond wrth nodi 2018 yn derfyn amser ar gyfer llunio a datblygu’r cymhwyster, mae’n cyfyngu ar yr amser sydd gennym i ystyried dulliau asesu priodol. Nid wyf yn credu y bydd adnoddau ychwanegol, megis gwario arian ar hyfforddiant athrawon, yn ddigon ar eu pen eu hunain. Mae amser a datblygiad diwylliannol yn faterion allweddol hefyd.

Fel y dywedais, rwy’n cefnogi egwyddor y cynnig, ond yn realistig, teimlaf na allwn gyflawni’r nod ym mhwynt 4(a) cyn cyflawni’r diwygiadau angenrheidiol i’r cwricwlwm. Am y rhesymau hyn, byddaf yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd ei hun yn ymrwymo i gyhoeddi amserlen realistig ar gyfer newid.

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n mynd i gyfeirio at rif 3 yn y cynnig, sef pwysigrwydd y gyfundrefn addysg yn ei chyfanrwydd, felly, er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n mynd i drafod addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na’r cymhwyster ail iaith fel y cyfryw. Rwyf yn nodi bod Llywodraeth Cymru, yn yr ymgynghoriad sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd ynglŷn â chynyddu i filiwn y siaradwyr Cymraeg, yn nodi fel hyn, o dan y pwynt ynglŷn ag addysg:

‘Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr.’

Felly, yn amlwg, mae addysg yn allweddol i chi fel Llywodraeth hefyd yn y maes yma.

Heddiw, mae mwyafrif llethol y sawl sy’n siarad Cymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol, tra bod mwyafrif llethol y sawl a anwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf a chyn hynny wedi bod yn dysgu’r Gymraeg gartref—gwybodaeth ydy hyn sy’n dod o adroddiad Comisiynydd y Gymraeg. Ac un o’r prif resymau am y newid yma ydy nad ydy trosglwyddiad iaith yn y cartref mor effeithiol heddiw ag yr oedd yn y gorffennol. Nid bod rhieni Cymraeg eu hiaith yn llai tebygol o drosglwyddo’r Gymraeg; nid dyna ydy’r broblem, ond bod yna llai o deuluoedd lle mae’r ddau riant yn siarad yr iaith. Felly, os ydym ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae’n hanfodol bod nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu. Yn amlwg, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol nag addysg cyfrwng Saesneg o gynhyrchu siaradwyr Cymraeg. Ond, yn anffodus, fel yr ydym ni wedi ei glywed yn barod, nid ydy’r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu. Roedd canran yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn is yn 2014-15 nag yr oedd hi yn 2010-11. Ac nid ydy nifer y plant sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ymddangos i fod yn cynyddu ryw lawer chwaith. Felly, mae’n hollol amlwg bod rhaid inni fod llawer iawn mwy uchelgeisiol.

Mae’n rhaid inni gael gwared ar yr anghysondeb yma sydd ar draws Cymru lle mae gennych chi sefyllfa lle, yng Nghaerdydd, allan o 124 o ysgolion yn yr awdurdod, dim ond 19 sydd yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwy ffrwd. Ym Merthyr Tudful, allan o 28 o ysgolion yn yr awdurdod, dim ond tair sydd yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwy ffrwd. Mewn gwrthwynebiad llwyr, yng Ngwynedd a Cheredigion, mae bron pob ysgol yn un cyfrwng Cymraeg neu’n ddwyieithog—cyfanswm o 167 o ysgolion.

Mae’r cynlluniau strategol addysg Gymraeg felly yn allweddol, a dyna pam yr oeddwn i’n codi’r cwestiwn yn gynharach efo Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, achos nid oes yna ddim targedau yn y rheini ar hyn o bryd, ac felly nid oes modd eu dal nhw i gyfrif, ac felly, sut ydym ni’n mynd i symud ymlaen i wneud cynnydd sylweddol? Rydym ni’n gorfod cael targedau realistig ac amserlenni realistig. Nid fi sydd wedi dweud hynna, ond Alun Davies a ddywedodd hynna’r bore yma mewn pwyllgor, lle yr oeddwn i. Mae o’n cytuno, sydd yn wych.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol mynd yn ôl at argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Cynulliad diwethaf—17 o argymhellion pwysig iawn sy’n cynnig ffordd ymlaen o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, rhif 13:

‘Dylai’r Gweinidog ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddo o dan ddeddfwriaeth bresennol i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu Cynlluniau Strategol.’

Dim ond un argymhelliad ydy hwnnw; mae yna rai eraill da iawn yn y fan hyn.

Felly, yn sicr, mae angen codi’r gêm ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, neu nid ydym ni byth yn mynd i gyrraedd at y targed clodwiw iawn o filiwn o siaradwyr. Mae yna lot fawr o waith i’w wneud yma, ac mae angen drilio reit i lawr er mwyn gwneud yn siŵr bod yna weithredu’n digwydd. Diolch.

Rwy’n cymeradwyo’r teimladau a nododd Hefin David yn ei araith, a theimlaf yn debyg iawn iddo, oherwydd bûm yn ddigon anlwcus, pan oeddwn yn yr ysgol, yn ôl yn y 1960au, i wynebu dewis annymunol yn 14 oed: parhau i astudio’r Gymraeg neu newid i Almaeneg. Ar y pryd, penderfynais newid i Almaeneg. Y canlyniad yw y gallwn wneud araith weddol dderbyniol yma yn Almaeneg, ond yn anffodus, ni allwn wneud yr un peth yn Gymraeg. Ond erbyn diwedd fy nghyfnod yn y lle hwn gobeithiaf y byddaf yn medru’r iaith yn weddol rugl.

Bydd UKIP yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, a gwelliannau’r Ceidwadwyr hefyd, a byddwn yn gwrthwynebu gwelliant y Llywodraeth, gan fod gwelliant y Llywodraeth yn cael gwared ar y teimlad o frys yn y cynnig, a dyna sydd ei angen arnom yn awr. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd yn ei araith, mae’r unfed awr ar ddeg ar yr iaith Gymraeg, ac er bod cyfrifiad 2011 wedi dangos rhai arwyddion calonogol yn y tablau haeniad oedran, y bobl iau sy’n gallu siarad yr iaith, ac arolygon dilynol yn 2013, mae’r rhain yn hunan-ddetholus, ac ni ellir ymddiried yn llwyr yn y ffigurau hynny.

Yn yr Eisteddfod eleni, dywedodd yr archdderwydd na fyddai gennym unrhyw beth heb yr iaith. Nid oeddwn yn cytuno ag ef yn llwyr os cymerwch hynny’n llythrennol, ond gwn beth oedd yn ei olygu, a chytunaf â’i deimladau, gan fod iaith yn un o’r arwyddion o dras cenedl. Mewn gwirionedd, dyna sy’n gwneud y genedl Gymreig yn wahanol, ac mae’n asgwrn cefn hanfodol i ymdeimlad cenedlaethol yng Nghymru. Rydym yn ffodus yn hynny o beth o gymharu ag Iwerddon. Crefydd yw hanfod eu cenedlaetholdeb hwy wedi bod, ond yng Nghymru credaf fod yr iaith yn un o’i brif nodweddion, a chymeradwyaf hynny. Cymeradwyaf yr uchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chymeradwyaf hefyd y cam i benodi’r Gweinidog i’w swydd. Fel unigolyn cadarn ac ymosodol, ef yw tarw dur y weinyddiaeth, ac os gall unrhyw un gyflawni’r amcan hwn, ef fydd hwnnw, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddo.

Y broblem fawr sy’n ein hwynebu yng nghyd-destun globaleiddio, wrth gwrs, yw goruchafiaeth y Saesneg yn fyd-eang a bygythiad hynny i’r holl ieithoedd llai neu leiafrifol. Dyna’r anhawster ymarferol y mae’n rhaid i ni ei wynebu yng Nghymru, ond yr hyn sy’n rhaid i ni geisio ei sicrhau yw bod y Gymraeg yn dod yn iaith y buarth, yn iaith hamdden ac iaith y cartref, gan mai felly y mae sicrhau ei chadwraeth a’i chynnydd.

Mae’n ddadl fer iawn. Cytunaf â Hefin David—roedd yn haeddu llawer mwy na 30 munud. Nid wyf yn dymuno mynd â gormod o amser, ond rwyf am gofnodi bod UKIP yn llwyr gefnogi’r teimladau sy’n sail i’r cynnig a drafodir heddiw, a gobeithiaf y byddwn yn cael cyfleoedd eraill i archwilio’r pethau y gofynna’r cynnig amdanynt ar achlysur arall.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.

Member
Alun Davies 15:17:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf hefyd yn ychwanegu fy niolchiadau i Llyr a Phlaid Cymru am ffeindio’r amser i gynnal trafodaeth ar hyn y prynhawn yma. Mi fydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliannau i gyd y prynhawn yma, nid oherwydd yr ydym yn meddwl bod y rhain yn arafu’r ‘progress’ yr ydym yn ei weld, ond oherwydd ein bod ni eisiau pwysleisio ble mae yna gytundeb o gwmpas y Siambr y prynhawn yma. Rwy’n credu bod yna dipyn bach mwy o gytundeb nag efallai mae’r drafodaeth wedi ei adlewyrchu hyd yn hyn. Fe wnaf i drio y prynhawn yma, yn yr amser sydd gen i, bwysleisio ble mae’r cytundeb hynny.

Mae Sian Gwenllian a Suzy Davies wedi pwysleisio pwysigrwydd addysg yn y strategaeth newydd y byddwn ni yn ei lansio’r flwyddyn nesaf. Rwy’n cytuno â chi: mae addysg yn hanfodol o bwysig i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr. Mae Sian Gwenllian wedi gofyn a fuaswn i yn ymyrryd petai yna gynlluniau yn dod gerbron sydd ddim yn ddigonol. Yr ateb yw: mi fyddaf i yn ymyrryd. Rwyf wedi gwneud hynny yn gwbl glir yn y Siambr yma, ac mi fydd Kirsty Williams yn gwneud hynny yn glir gydag awdurdodau lleol wrth gyfarfod â nhw yfory. Rydym ni o ddifri pan rydym ni’n sôn am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac rydym ni o ddifri amboutu sut yr ydym yn mynd i wneud hynny. A phan rwy’n dweud ‘o ddifri’, rwyf yn gwrando ar eiriau Hefin David, a’n gwrando ar beth roedd e’n dweud amboutu’r diwylliant yr ydym yn gweithio ynddo fe. Mae’n bwysig iawn cydnabod nad yw Cymru fel buasem ni i gyd yn licio ei gweld, ond y Gymru fel y mae hi heddiw. Mae hynny’n meddwl symud o ble rydym ni, gyda’r math o gyflymder yr ydym eisiau symud ynddo, a’r cyflymder y gallwn ei gael, gan dderbyn lle’r ydym ni heddiw.

Nid oes anghytundeb yn y Siambr yma amboutu adroddiad Sioned Davies. Nid oes anghytundeb. Nid oes anghytundeb yn fan hyn bod rhaid inni symud o sefyllfa ble nad yw Cymraeg ail iaith yn llwyddo i greu siaradwyr Cymraeg. Ac mae’n rhaid symud i gontinwwm o ddysgu Cymraeg, o’r blynyddoedd cynnar at ddiwedd y cyfnod yn yr ysgol.

Mae’n rhaid inni symud o le’r ydym ni, i ble rydym eisiau bod. Y drafodaeth rydym angen ei chael, rwy’n meddwl, yw sut rydym ni’n gwneud hynny, nid, efallai, yr amserlen, achos rydym i gyd yn gwybod—ac i ateb cwestiwn Llyr yn ei araith agoriadol—y byddwn yn symud at gwricwlwm newydd yn 2021, ac y byddwn ni yn symud i edrych ar y math o gymwysterau sydd gyda ni ar y pryd i edrych ar ba fath o gymwysterau fydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol. So, mi fyddwn ni yn ystyried hynny yn 2021.

So, beth ydym ni’n gwneud rhwng heddiw a 2021? Rwy’n meddwl bod rhaid inni ddatblygu’r gweithlu i’n galluogi ni i sicrhau ein bod yn gallu ymestyn ac ehangu dysgu Cymraeg yn fwy dwfn nag yr ydym wedi gwneud yn y gorffennol. Mae’n rhaid inni sicrhau bod gennym yr adnoddau—yr adnoddau yn y gweithlu a’r adnoddau yn yr ysgolion i wneud hynny. Mae’n rhaid inni newid y cwricwlwm a newid y ffordd rydym wedi bod yn dysgu. Rydym yn newid y cwricwlwm, ac rwy’n credu bod y llythyr rydym i gyd wedi derbyn gan Qualifications Wales yn ein helpu ni gyda hynny, achos mae’n dangos ein bod ni yn newid, a’n newid y flwyddyn nesaf, sut mae’r Gymraeg yn mynd i gael ei dysgu.

Mae pob un ohonom ni—. Rwy’n gwerthfawrogi geiriau Hefin. Ces i’r un fath o ddewis ag yr oedd gan Neil Hamilton yn yr ysgol. Gadewais i’r ysgol heb air o Gymraeg—heb allu canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Ni fydd yr un plentyn, gobeithio, yn gwneud hynny ar ôl i’r newidiadau yma ddod i rym. Felly, rydym ni wedi symud ac rydym yn symud. Rydym yn mynd i sicrhau bod yna dargedau realistig. Fe allem ni ddechrau dadlau nawr am beth sy’n realistig a beth sydd ddim yn realistig. Rwy’n derbyn hynny ac rwy’n edrych ymlaen at y drafodaeth. Ond rwyf eisiau bod yn hollol glir: ni fydd Cymraeg ail iaith yn rhan o’r cwricwlwm newydd. Mi fydd continwwm o ddysgu Cymraeg yn y cwricwlwm newydd. Cyn y byddwn yn symud at hynny, rwy’n gobeithio na fydd plant Cymru yn cael eu methu yn ystod y cyfnod hwnnw, oherwydd rydym yn mynd i bwysleisio siarad a defnyddio’r Gymraeg, nid jest dysgu mewn llyfrau ond siarad Cymraeg, defnyddio’r Gymraeg, teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg, a rhoi cyfle i bobl loywi eu hiaith a sicrhau bod pobl a phlant yn gadael yr ysgol yn teimlo fel eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg. Rydym yn mynd i fod yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf.

Ni fydd yr enw, efallai, yn plesio pob tro. Mi fyddwn yn gofyn i’r rhai sy’n becso am y peth yma i edrych ar y cynnwys ac edrych ar y cwricwlwm. Pan fyddwn yn gwneud hynny, rwy’n credu y bydd tipyn bach yn fwy o gytundeb nag efallai y byddai rhai yn meddwl.

So, rwy’n gobeithio’r prynhawn yma—. Rwyf yn falch ein bod wedi cael y cyfle i drafod ac ystyried y peth prynhawn yma. Ac rwy’n gobeithio y cawn y cyfle i wneud hynny yn fuan eto. Ond, plîs, peidied neb â gadael y drafodaeth yma yn meddwl nad oes ymrwymiad gan y Llywodraeth yma i newid y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu yn ysgolion Saesneg Cymru. Nid oes unrhyw ffordd ein bod ni’n mynd i adael i blant Cymru adael yr ysgol os nad ydyn nhw’n gallu siarad Cymraeg.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu, ac am y gefnogaeth, mewn gwirionedd, i’r bwriad. Y gwahaniaeth yw, wrth gwrs, sut rydym yn mynd ati, fel mae’r Gweinidog wedi dweud, a pha mor gyflym mae gwahanol elfennau’n dod at ei gilydd. Wrth gwrs, mae hynny yn ei gwneud hi’n hyd yn oed yn fwy poenus i feddwl bod yna dair blynedd wedi mynd a’n bod yn dal yn aros i’r Llywodraeth ddweud beth yw’r cynllun, a beth yw’r amserlen. Meddyliwch faint o adeiladu capasiti a fyddai wedi gallu digwydd yn y tair blynedd yna er mwyn dod â ni ychydig yn nes at y nod. Ond rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog, ac rwy’n sicr y bydd yr angerdd yn ei lais, gobeithio, yn cael ei adlewyrchu yn y modd y bydd y Llywodraeth yma’n gweithredu.

Rwy’n clywed yr hyn y mae Hefin David yn ei ddweud, ac rwy’n diolch iddo fe am ei gyfraniad. Rwy’n meddwl ei fod yn gywir i ddweud efallai nad oes digon o ffocws wedi bod ar y dysgwr, efallai—o safbwynt y cynnig, ond yn ehangach hefyd. Ond, wrth gwrs, beth rwy’n ei weld yw adroddiad Robert Hill yn 2013 yn dweud mai dim ond mewn rhyw un ysgol o bob 10 y mae disgyblion yn gwneud cynnydd ardderchog wrth gaffael sgiliau Cymraeg ail iaith. Ac mi oedd hynny cyn adroddiad yr Athro Sioned Davies. Wel, mae’r gyfundrefn yna’n gadael y dysgwr i lawr, a dyna sy’n fy ngwneud i yn ddiamynedd, os liciwch chi, i weld y newid yma’n digwydd.

Rwy’n cytuno 100 y cant â Sian Gwenllian bod gan y cynlluniau strategol addysg Gymraeg lawer i’w hateb drosto fe, ac rwy’n falch i glywed bod y Gweinidog yn barod i ymyrryd. Wrth gwrs, beth rŷm ni ei eisiau yw dod i bwynt lle nad oes angen ymyrryd oherwydd bod y gwaith caib a rhaw wedi digwydd wrth iddyn nhw gael eu creu. Felly, edrychwn ni ymlaen at hynny. Fe allem ni fod tair blynedd yn nes i’r lan, ond nid ydym. Rwy’n clywed beth y mae’r Gweinidog yn ei ddweud, ac rwy’n gobeithio bod y ddadl yma heddiw o leiaf wedi sicrhau ein bod ni wedi cael yr ymrwymiadau yna tipyn bach yn gryfach nag, efallai, yn y gorffennol. Felly, diolch i bawb am eu cyfraniadau.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddaf yn gohirio’r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Aelodaeth o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef dadl arall gan Blaid Cymru, ar aelodaeth o farchnad sengl Ewrop. Galwaf ar Adam Price i gynnig y cynnig. Adam.

Cynnig NDM6096 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi pwysigrwydd aelodaeth lawn o farchnad sengl Ewropeaidd i economi Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Un nod syml sydd i’r cynnig un llinell hwn: rhoi rhywfaint o eglurder i’r sefyllfa gyfredol o ran polisi’r Llywodraeth ar adael yr UE. Rydym wedi gweld polisi sy’n ddryslyd, yn anhrefnus ac yn gwbl wag o unrhyw hygrededd. Mae’n amlwg y bydd hynny’n arwain at ganlyniadau hynod o niweidiol i fuddiannau pobl Cymru wrth i ni wynebu un o’r heriau mwyaf y mae unrhyw un ohonom wedi eu hwynebu yn ystod ein bywydau.

Gyda’r ymgais ddiweddaraf gan y Prif Weinidog, nid yw’n gymaint o dro pedol ganddo ag o birwét bob tro y saif ar ei draed. Ar ôl yr ymgais ddiweddaraf i egluro, yn y ‘Western Mail’, roeddwn yn fwy dryslyd nag erioed. Ymddengys nad oes ots beth rydym yn ei alw, felly gallwn ddweud beth a fynnwn, fel y mae ef yn ei wneud yn aml. Mae’n debyg ei fod o blaid mynediad i’r farchnad sengl, ac nid aelodaeth. Wel, i ddyfynnu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae mynediad at y farchnad sengl yn gysyniad sydd bron â bod yn ddiystyr. Mae gan bob gwlad Ewropeaidd fynediad i’r farchnad ac ati o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae’n ymwneud â thelerau darparu’r mynediad hwnnw. Mae aelodaeth o’r farchnad sengl, fel y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi’i ddweud, yn golygu dileu rhwystrau i fasnach mewn ffordd nad oes unrhyw gytundeb masnach, undeb tollau neu gytundeb masnach rydd presennol yn gallu ei chynnig.

Rwy’n ei chael hi’n rhyfedd, ac nid wyf yn deall yn iawn pam fod y Prif Weinidog wedi ochri â’r rhai sy’n cefnogi telerau llym wrth adael yr UE—gydag UKIP a David Davis—yn erbyn Prif Weinidog yr Alban a Maer Llundain, sy’n gadarn o blaid aelodaeth o’r farchnad sengl. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd, efallai, mae’r Prif Weinidog hefyd wedi ochri â Jeremy Corbyn, sydd hefyd wedi dweud ei fod yn erbyn aelodaeth o’r farchnad sengl. Dyma oedd gan ei wrthwynebydd, Owen Smith, i’w ddweud am y farn honno, a rennir bellach gan Lywodraeth Cymru:

Bydd degau o filoedd o aelodau’r Blaid Lafur ac undebwyr llafur yn bryderus wrth glywed ei bod yn ymddangos bod Jeremy Corbyn yn cytuno â David Davis nad yw ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl yn werth ymladd drosti.

Wrth gwrs, rydym wedi gweld y cysyniad ffug hwn o fynediad i’r farchnad sengl heb ryddid i symud yn cael ei gyflwyno fel polisi, ac eto, hyd yn oed yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi clywed llu o leisiau—y bobl a fydd yn penderfynu mewn gwirionedd ar y cytundeb terfynol ar gyfer gadael yr UE—yn dweud bod hyn yn amhosibl o safbwynt geowleidyddol. Mae Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn, wedi dweud hynny yn ystod y dyddiau diwethaf; mae Guy Verhofstadt, prif drafodwr Senedd Ewrop, a fydd â phleidlais ar y cytundeb gadael, wedi dweud y byddai’n rhaid i’r DU dderbyn rhyddid i symud os yw eisiau mynediad i’r farchnad sengl. Mae’r gwledydd Visegrád yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop—pedair ohonynt—wedi dweud y byddant yn rhoi feto ar unrhyw gytundeb gadael a fydd yn atal rhyddid eu dinasyddion i symud. Mae Taoiseach Iwerddon wedi dweud na fydd yr UE yn caniatáu mynediad rhydd i’r farchnad sengl heb ryddid i symud ar y naill ochr a’r llall. A dywedodd Prif Weinidog Malta—a fydd, gyda llaw, yn Llywydd yr Undeb Ewropeaidd pan fydd y trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE yn dechrau—nad yw’n credu bod yna unrhyw sefyllfa y gellir trafod mynediad i’r farchnad sengl heb ryddid i symud.

Realiti hyn, wrth gwrs, yw bod safbwynt presennol Prif Weinidog Cymru yn hynod o niweidiol i Gymru. Mae Llywodraeth Japan wedi dweud yn glir fod busnesau Japaneaidd yn y DU wedi buddsoddi yma gan gredu y byddent yn gallu masnachu â gweddill yr UE ar yr un telerau ag unrhyw le arall yn Ewrop. Os nad ydym yn aelodau o’r farchnad sengl, o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, byddwn yn colli mynediad at Horizon 2020 ac Erasmus. Nid wyf yn ei ddeall.

Y rheswm pam mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn mabwysiadu’r safbwynt hwn yw oherwydd rhyddid i symud. Ac unwaith eto, ystyriaf fod hyn yn rhyfedd iawn, oherwydd, fel y nodwyd yn y Siambr, ar 24 Mehefin, y diwrnod ar ôl y canlyniad, dywedodd y Prif Weinidog, ac fe’i dyfynnwyd ar ITV a Wales Online, ac ar wefan Julie Morgan, fod cadw rhyddid pobl i symud yn un o’i linellau coch. Roedd hynny ar 24 Mehefin, y diwrnod ar ôl y canlyniad. Gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid pa bryd y newidiodd y polisi; ni chefais ateb. Gwiriais y datganiad gwreiddiol i’r wasg, ac mae’n wir nad oedd y datganiad ar wefan Llywodraeth Cymru—nid oedd y trydydd o’r chwe blaenoriaeth ar 24 Mehefin yn crybwyll rhyddid i symud. Ond—un o ryfeddodau bod yn ddwyieithog—gwiriais y fersiwn Gymraeg, sy’n sôn am ryddid i symud o dan y trydydd pwynt mewn gwirionedd, yn rhyfedd iawn. A yw hyn yn achos o ddatblygu polisi’n ôl-weithredol? Rydych yn newid eich meddwl, ac felly’n mynd yn ôl ac yn newid y polisi a’r datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd ar y pryd.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r Llywodraeth yn awr wedi cadarnhau eu bod wedi newid y datganiad gwreiddiol i’r wasg, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ryddid i symud, a’u bod wedi anghofio newid y fersiwn Gymraeg. Yn ogystal â bod yn gamarweiniol, maent yn ddi-glem hefyd. Am gyfuniad i’w gael yn y Llywodraeth ar yr adeg hon. Gofynnais i Weinidog y Cabinet pryd y newidiodd y polisi. Wel, gwyddom yn union pryd bellach. Oherwydd aeth y datganiad gwreiddiol i’r wasg, yn Saesneg hefyd, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ryddid i symud, allan am 9.20 y bore ar 24 Mehefin, ac fe’i cywirwyd am 10.20 y bore. Felly, yn ystod y cyfnod hwnnw o 44 munud, cawn ein harwain i gredu—. Yn ôl pob tebyg, roedd yna gyfarfod Cabinet, onid oedd? Yn ôl pob tebyg cafwyd trafodaeth gydag aelodau eraill y grŵp Llafur, a chydag aelod y Democratiaid Rhyddfrydol o’r Llywodraeth. Ni chyflwynwyd polisi ar fater sylfaenol gerbron y Cynulliad hwn; cafodd ei newid drwy ddictad mewn 44 munud. Nid dyna’r ffordd i redeg Llywodraeth mewn perthynas ag unrhyw beth, yn enwedig yng nghyswllt un o’r heriau pwysicaf sy’n wynebu ein pobl yn y genhedlaeth hon, mae’n debyg.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael mynediad i Farchnad Sengl yr UE.

2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a’r UE, ar ôl i’r DU adael yr UE.

3. Yn croesawu’r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r fargen orau i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynigiaf welliant 1, gan nodi pa mor bwysig yw cael mynediad i Farchnad Sengl yr UE i economi Cymru; gan alw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a’r UE ar ôl i’r DU adael yr UE; gan groesawu’r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd; a chan alw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r fargen orau i Gymru.

Fel y clywsom, ymddengys bod Carwyn Jones wedi anghofio ei ymrwymiad i gadw’r rhyddid i bobl symud. Roedd ei ddatganiad ar 13 Medi yn galw am barhau mynediad i’r farchnad sengl i nwyddau a gwasanaethau. Ond roedd ei ddatganiad ar 24 Mehefin wedi mynd ymhellach, pan ddywedodd,

mae’n hanfodol i’r Deyrnas Unedig gynnal trafodaethau i gadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl, a pharhau i ganiatáu i bobl symud yn rhydd.

O ystyried bod yr UE yn mynnu bod aelodaeth lawn o’r farchnad sengl Ewropeaidd yn galw am ryddid i symud nwyddau, gwasanaethau a phobl, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, felly, ei fod bellach yn ceisio mynediad yn hytrach nag aelodaeth lawn?

Fel y nodais yr wythnos diwethaf, ddau fis yn ôl, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd fod gan y DU 10 o gytundebau masnach yn yr arfaeth eisoes ar gyfer y cyfnod wedi i Brydain adael yr UE. Dywedwyd wrthym y byddem yng nghefn y ciw am gytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau, ond ymddengys bellach ei bod yn bosibl y ceir cytundeb rhwng y DU ac UDA cyn y ceir cytundeb rhwng yr UE ac UDA. Mae’n bosibl fod yr un peth yn wir am Ganada, sy’n sicr â mwy o ddiddordeb mewn cytundeb dwyochrog â Llundain nag mewn dadleuon diddiwedd â diffyndollwyr cyfandirol. O Awstralia i Uruguay, mae gwledydd yn awyddus iawn i arwyddo cytundebau masnach â’r Deyrnas Unedig.

Pan ymwelodd Theresa May â Chymru am y tro cyntaf fel Prif Weinidog ym mis Gorffennaf, dywedodd ei bod am i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o’r trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE. Yn amlwg, rydym yn cefnogi hynny’n fawr. Felly, gadewch i ni ddod at ein gilydd i hyrwyddo mentrau megis ymgyrch New Opportunities Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru i sicrhau bod ffermio, yr economi wledig a’r amgylchedd yng Nghymru yn cael eu trin fel blaenoriaeth wrth i’r DU baratoi ar gyfer gadael yr UE. Maent yn optimistaidd ac yn gweld potensial sylweddol i wneud pethau’n well, ond er mwyn gwneud hyn, maent yn galw ar Lywodraethau Caerdydd a San Steffan i weithio gyda’i gilydd i flaenoriaethu amaethyddiaeth ac allforion bwyd mewn trafodaethau ar adael yr UE a thrafodaethau masnach, a gwella diogelwch i ddefnyddwyr a’r amgylchedd, gan leihau’r baich ar fusnesau.

Pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE ar 23 Mehefin, roeddent yn pleidleisio dros reolaeth. Mae hynny’n golygu mai mater i bobl Prydain a Chymru, a’r Seneddau a’r Llywodraethau y maent yn eu hethol, yw’r hyn y mae Prydain yn ei wneud ar ôl i ni adael yr UE. Nid yw’r broses hon yn ymwneud â dewis pa rannau o’n haelodaeth o’r UE rydym yn eu hoffi ac yn awyddus i’w cadw; mae’n ymwneud â chreu rôl newydd i ni ein hunain yn y byd—cytundeb wedi’i lunio’n bwrpasol ar ein cyfer ni, nid cytundeb parod. Nid cytundeb fel un y Swistir neu gytundeb fel un Norwy fydd hwn, nac unrhyw wlad arall y gallwch feddwl amdani; bydd yn gytundeb ar gyfer y DU. Mae Prydain yn genedl feiddgar sy’n edrych tuag allan, neu a ddylwn ddweud ‘teulu o genhedloedd’? Mae’n bumed economi fwyaf yn y byd; yr economi fawr a dyfodd gyflymaf ond un drwy’r byd y llynedd, ac sydd ymysg y chwe gwlad orau yn y byd fel lle i wneud busnes, gyda chyflogaeth ar ei lefel uchaf a bron ddwy ran o dair o’r diffyg wedi ei dorri ers ei uchafbwynt yn 2010. Felly, gallwn fod yn hyderus ynglŷn â chryfderau sylfaenol economi’r DU ac yn optimistaidd am y rôl y byddwn yn ei chreu ar gyfer y DU a Chymru, gan adeiladu ar ein cryfder fel undeb gwych o genhedloedd sy’n masnachu yn y dyfodol.

Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a byddwn yn creu perthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd. Bydd y berthynas newydd honno yn cynnwys rheolaeth dros ryddid pobl i symud o’r UE i’r DU, ond bydd hefyd yn cynnwys y cytundeb cywir o ran masnachu nwyddau a gwasanaethau. Dyna sut i fynd ati. Dywedodd Theresa May wrth Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddoe ein bod wedi ymrwymo i roi mwy o reolaeth i bobl Prydain ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd hefyd nad oedd y DU wedi pleidleisio’n fewnblyg wrth gefnogi’r syniad o adael yr UE, ac na fyddai’r DU yn troi cefn ar ein partneriaid yn y byd. Amen i hynny.

Credaf ei bod yn werth ailadrodd nad oeddem yn dymuno gadael yr UE, ond roedd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn anghytuno, ac er fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig Simon Thomas ar ran Plaid Cymru, gan nodi pwysigrwydd aelodaeth o’r farchnad sengl Ewropeaidd, sydd wedi bod yn hynod o bwysig i economi Cymru, roedd canlyniad y refferendwm yn glir. A’r unig ffordd y gallwn fod yn aelodau o’r farchnad sengl Ewropeaidd yw drwy fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Felly, ni allwn gefnogi’r cynnig. Rydym yn cefnogi gwelliant Paul Davies, gan fod mynediad at y farchnad sengl yn rhywbeth y mae’r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro ein bod yn ei gefnogi—mynediad llawn a dilyffethair.

Ond mae’n eironig gweld y Torïaid yn gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder. Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw eglurder i ni. Hwy sydd wedi ein rhoi ar y llwybr i adael yr UE; hwy sydd wedi methu cynllunio ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd nesaf. Nid oeddem eisiau gadael. Buom yn rhybuddio am y canlyniadau economaidd. Rhybuddiodd y Prif Weinidog y byddai Cymru ar ei cholled pe baem y tu allan i’r farchnad sengl. Cawsom addewidion gan ein Hysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, y byddem yn ffynnu y tu allan i’r UE. Ei gyfrifoldeb ef a Phrif Weinidog y DU yn awr yw egluro’n union sut y gallwn wneud hynny.

Fy mhryder yw sut yr awn i’r afael â’r anfodlonrwydd sylfaenol a daniodd y bleidlais i adael. Yn fy marn i, bloedd o boen oedd y refferendwm. Roedd pleidleiswyr y siaradais â hwy yn Llanelli wedi cael llond bol ac yn meddwl nad oedd ganddynt unrhyw beth i’w golli. Ers datganoli, rydym wedi llwyddo i sefydlogi perfformiad economaidd Cymru ond rydym wedi bod yn nofio yn erbyn llif y model economaidd sy’n crynhoi cyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr ac yn dibynnu arno i ddiferu i lawr i rannau eraill. Mae’r dull hwnnw wedi methu. Roedd y bleidlais i adael yn brotest yn erbyn hynny lawn cymaint ag yr oedd yn brotest yn erbyn yr UE. Gallem ddefnyddio gadael yr UE fel sbardun i ddatblygu strategaeth economaidd radical sy’n mynd i’r afael â chanlyniadau tebygol gadael yr UE, ac sy’n ailsefydlu Cymru fel ffwrnais orllewinol o arloesedd a diwydiant.

Mae’r chwyldro digidol yn trawsnewid y byd rydym yn byw ynddo yn gyflymach nag erioed. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir neu byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd gennym. Mae gwaith yr Athro Karel Williams ar yr economi sylfaenol wedi ei seilio ar ei astudiaeth o’i dref enedigol, Llanelli. Efallai nad ydynt yn sectorau deniadol, ond mae llawer y gallwn ei wneud gyda’r pethau bob dydd: bwyd, ynni a gofal iechyd. Mae cwmnïau mawr preifat yn dominyddu’r sectorau hyn bellach. Dyma ble mae angen i ni adfer rheolaeth; nid chwalu rheolau masnach y dibynnwn arnynt, ond adfer rheolaeth ar ein heconomi leol er lles ein cymunedau a’r pedwar o bob 10 o weithwyr Cymru a gyflogir yn y sectorau bob dydd hyn.

Gwrandewais â diddordeb ar araith Adam Price. Y penderfyniad i adael yr UE oedd y sioc fwyaf mewn polisi tramor ers y rhyfel. Mae wedi ansefydlogi’r marchnadoedd. Nid oes rhyfedd ei fod wedi ansefydlogi Llywodraethau. Mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol iawn fod yr achos dros adael yr UE wedi cael ei werthu ar sail yr arian ychwanegol i’r GIG a system bwyntiau fel Awstralia. Nid oeddem yn cefnogi hynny, ond roedd ein pleidleiswyr yn ei gefnogi, ac ni ddylem anwybyddu’r gwersi hynny. Mae’n rhaid i ni roi lle i Lywodraeth y DU ddod o hyd i atebion. Rhannaf ei amheuaeth na fydd hynny’n gweithio. Rwy’n rhannu’r amheuaeth. [Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser i ildio.

Rhannaf ei amheuaeth, ond gadewch i ni roi lle iddynt brofi y gallant gyflawni’r hyn yr oeddent yn dweud y gallent ei gyflawni.

Diolch i’r Aelod dros Lanelli am ildio. A all gadarnhau, yn seiliedig ar yr hyn y mae newydd ei ddweud, sy’n arwyddocaol iawn yn fy marn i, mai polisi Llafur Cymru bellach yw cefnogi system bwyntiau fel Awstralia yn bolisi mewnfudo yn y Deyrnas Unedig? [Torri ar draws.] Dyna pam rwy’n gofyn am eglurhad.

Wel, rwy’n hapus i egluro. Wrth gwrs, nid yw hynny—nid mai fi sy’n penderfynu ar bolisi Llafur Cymru. Fy mhwynt yw fy mod yn ceisio esbonio safbwynt y Prif Weinidog, sef ei fod yn ymwybodol iawn o’r neges a anfonodd ein pleidleiswyr, mewn cyferbyniad â’r neges a roesom iddynt hwy. Gwrandawsant ar gelwyddau’r ymgyrch dros adael y byddai gadael yr UE yn arwain at ymagwedd wahanol at fewnfudo ac arian ychwanegol ar gyfer y GIG. Rhannaf yr amheuaeth y caiff hynny ei gyflawni. Ond ni allwn ddweud yn syml, ‘Ni chlywsom y neges honno ac rydym yn cefnogi rhyddid i symud fel y mae wedi’i ffurfio ar hyn o bryd.’ Gadewch i ni roi lle i Lywodraeth y DU lunio cytundeb, fel y maent wedi dweud y byddant yn ei wneud. Rwy’n amau ​​y bydd y cytundeb yn ymarferol, a dyna pam y credaf efallai y byddwn yn dychwelyd at y cwestiwn hwn. Ond nid ein lle ni yw llenwi’r bylchau yn yr hyn y maent yn ei feddwl. Yr hyn rwy’n ei ddweud yw, ‘Dewch i ni ganolbwyntio ar y pethau a gymhellodd ein pleidleiswyr i wrthod Ewrop.’ Dywedir, ‘Peidiwch byth â gwastraffu argyfwng.’ Felly, gadewch i ni beidio â gwastraffu’r cyfle hwn i ailwampio ein heconomi, i ailffocysu ar yr hyn sy’n bwysig.

Wel, unwaith eto rydym yn gweld Plaid Cymru eisiau anwybyddu dymuniadau etholwyr Cymru. A yw hyn oherwydd nad yw Plaid Cymru yn credu bod y proletariat yn ddigon deallus i wneud penderfyniad gwybodus? Un o’r rhesymau allweddol a glywsom dro ar ôl tro ar garreg y drws oedd ‘Dim rhyddid i bobl symud.’ Pa bryd y bydd Plaid Cymru yn gwrando ar y bobl?

[Anghlywadwy.]—cytuno â chi yn awr, David. Felly, wyddoch chi, dathlwch fuddugoliaeth; maent yn cytuno â pholisi UKIP.

Diolch. [Torri ar draws.] Ar bob cyfrif, ond nid yw hynny’n cydnabod y ffaith eich bod yn anwybyddu ewyllys y Cymry, a roddwyd i chi mewn pleidlais ddemocrataidd.

Mae gallu fy nghyfaill anrhydeddus i fod yn gryno i’w ganmol yn wir. [Chwerthin.] Nid wyf yn sicr y byddaf yn gallu ei efelychu, ond yr hyn sy’n rhaid i rywun ei wneud, rwy’n meddwl, ym mhob un o’r dadleuon hyn ar y farchnad sengl yw cadw pethau mewn persbectif. Mae cyfanswm yr allforion i’r UE—gan siarad am y DU yn awr—oddeutu 5 y cant o’r cynnyrch domestig gros ac o’r 5 y cant hwnnw, byddai 65 y cant o’r fasnach yn ddarostyngedig i lefel tariff o 4 y cant o’r uchafswm pe na baem yn dod i unrhyw gytundeb o gwbl gyda’r UE. Felly, tua thraean o hynny’n unig—1.5 y cant o’r cynnyrch domestig gros—a fyddai’n ddarostyngedig i lefel gyfartalog o dariffau o tua 15 y cant. Nid ydym yn sôn am set o ffigurau sy’n newid popeth yma. Wrth gwrs, byddai’n creu problemau trosiannol i rai diwydiannau pe na bai cytundeb masnach yn cael ei wneud gyda’r UE, ond mae’n bendant iawn yn fanteisiol i’r UE ddod i drefniant masnach rydd gyda ni. Bydd y diffyg yn ein masnach â’r UE eleni yn agos at £100 biliwn y flwyddyn.

Os edrychwn ar geir er enghraifft, mae’r diffyg mewn ceir yn unig yn £23 biliwn ac o’r £23 biliwn hwnnw, mae £20 biliwn ohono gyda’r Almaen yn unig. Rydym yn prynu 820,000 o geir o’r Almaen yn y wlad hon bob blwyddyn. A yw’n debygol y bydd Llywodraeth yr Almaen yn hwyluso sefyllfa lle nad oes cytundeb masnach olynol gyda’r DU? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl. Mae’r Almaen nid yn unig yn injan i economi Ewrop, gan fod hanner economïau yr UE yn anobeithiol, yn bennaf oherwydd eu bod yn ardal yr ewro, ond economi’r Almaen yw injan economi Ewrop ac wrth gwrs, hi yw pwerdy penderfyniadau gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Wrth gwrs, mae’r Canghellor Merkel yn awr mewn trafferthion gwleidyddol difrifol iawn yn ei gwlad ei hun oherwydd ei methiant i gydnabod y problemau gwleidyddol a achosir gan fewnfudo torfol heb reolaeth, i mewn i’r UE ac o’i fewn. Yn syml iawn, mae hyn yn rhywbeth sy’n rhaid ei gydnabod. Ni allaf ddeall ymagwedd gibddall Plaid Cymru a rhai yn y Blaid Lafur hefyd sydd i’w gweld yn meddwl nad yw mewnfudo torfol yn broblem. Felly, mae’n annirnadwy yn fy marn i fod y Llywodraeth—unrhyw Lywodraeth—yn dilyn canlyniad y refferendwm, yn gallu mabwysiadu polisi o aelodaeth lawn o’r farchnad sengl mewn unrhyw fodd, oherwydd, fel y dywedodd Simon Thomas, mae Lee Waters yn byw mewn ffantasi os yw’n credu y gallwch fod yn y farchnad sengl heb gael mewnfudo heb reolaeth. Felly, mae bod fel Norwy, yn rhan o’r farchnad sengl, hefyd yn golygu bod rhaid i chi gael rhyddid i bobl symud o fewn yr UE ac unrhyw wledydd sydd â chytundeb â’r UE.

Felly, rwy’n meddwl bod rhaid i ni weld mai mantais go iawn yr opsiynau y mae’r refferendwm yn eu rhoi i ni yw ein rhyddid i fasnachu â gweddill y byd a tharo bargeinion masnach gyda gwledydd eraill, fel y mae Mark Isherwood wedi nodi, yn hytrach nag aelodaeth o’r farchnad sengl. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â’r rhyddid i’n Llywodraeth benderfynu drosom ein hunain y polisi sy’n mynd i lywodraethu ein pobl ein hunain a’r deddfau sy’n cael eu gwneud yn y wlad hon fel bod ein gwleidyddion eu hunain, sy’n atebol i’r etholwyr mewn etholiadau, yn gyfrifol mewn gwirionedd am wneud y penderfyniadau hynny.

Felly, mae hwn yn gyfle gwych. Mae yna heriau, wrth gwrs, ond mae’r heriau’n fach o’u cymharu â’r cyfleoedd, ac felly rwy’n croesawu’r ffaith fod y Prif Weinidog wedi troi at bolisi UKIP ar ymfudo ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn heintio’r pleidiau eraill hefyd a bod Llywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd yn gweld y cyfleoedd enfawr sy’n agored i Gymru o ganlyniad i benderfyniad y bobl, a orfodwyd arnynt ar 23 Mehefin.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:48:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a dechrau drwy ddweud ein bod, fel Llywodraeth, wedi bod yn hollol glir am bwysigrwydd mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE? Mae hon yn flaenoriaeth sylfaenol. Mae’n rhaid i ni gael mynediad di-dariff i nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr UE heb unrhyw rwystrau technegol.

Rydym hefyd wedi bod yn hollol glir fod Cymru ar agor i fusnes ac nid ydym wedi gwyro oddi wrth y neges hon ers y bleidlais i adael yr UE. Mae’r hanfodion sy’n gwneud Cymru yn lle gwych i fyw, gweithio a buddsoddi yn parhau. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwaith sylweddol a heriol ar ddadansoddi ystod eang o ddata ac opsiynau i helpu i lywio safbwynt Cymru.

Nid yw’r materion hyn yn syml. Mae’r grŵp ymgynghorol Ewropeaidd yn cyfarfod yr wythnos nesaf ac mae gan Gyngor Adnewyddu’r Economi gyfraniad pwerus i wneud. Ar draws y sectorau, rydym yn gwrando ac wrth gwrs, rydym yn gwrando yma yn y Siambr hon. Rydym yn croesawu cyfraniadau i’r ddadl am ein buddiannau yn y dyfodol. Maes o law, byddwn yn nodi manylion llawnach am ein dull o weithredu mewn perthynas â’r trafodaethau er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bobl Cymru. Yr hyn na ddylem ei wneud yn awr yw caniatáu i’r drafodaeth ganolbwyntio ar derminoleg yn hytrach na sylwedd. Mae hyn yn ymwneud â diogelu swyddi a thwf economaidd, ac rwy’n meddwl y dylem i gyd gytuno ar hynny.

Ein rheswm dros wrthwynebu’r cynnig yw ein bod o’r farn fod siarad am aelodaeth lawn o’r farchnad sengl yn drysu yn hytrach nag egluro’r hyn a olygwn, gan mai aelod-wladwriaethau’n unig sy’n aelodau diamheuol o’r farchnad sengl ac mae parhau aelodaeth o’r UE yn amlwg yn anghydnaws â chanlyniad y refferendwm. Yr hyn sydd gan wledydd eraill y tu allan i’r UE—fel Norwy, Gwlad yr Iâ, y Swistir ac eraill—yw cytundebau amrywiol ac wedi eu trafod â’r Undeb Ewropeaidd. Bwriad datganedig Llywodraeth y DU yw peidio â chymryd model sy’n bodoli eisoes oddi ar y silff, ond trafod cytundeb penodol sy’n adlewyrchu diddordebau amrywiol y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Dyna yw bwriad Llywodraeth y DU, a’n nod ni yw sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli’n llawn ac yn bresennol yn y trafodaethau hynny.

Felly, yn y ddadl hon, gadewch i ni ganolbwyntio ar sylwedd. Mae ein prif nod economaidd yn un syml, ac yn un rwyf wedi bod yn gwbl glir yn ei gylch ers 23 Mehefin. Rhaid i ni barhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr UE. Mae ‘dilyffethair’ yn golygu heb dariffau, cwotâu na rhwystrau technegol. Rwy’n derbyn bod Plaid Cymru wedi dweud droeon—er enghraifft, mae Steffan Lewis ei hun wedi ei ddweud—os mai aelodaeth lawn o’r farchnad sengl yw’r opsiwn gorau i Gymru, dyna beth y dylai Prif Weinidog Cymru ddadlau drosto. Rwy’n derbyn safbwynt Plaid Cymru, ond ni allaf gytuno ag ef am y rheswm syml nad yw bod yn aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn golygu bod yn aelod o’r farchnad sengl yn awtomatig. Yn wir, gadewch i ni weld sut y maent yn disgrifio eu hunain ar eu gwefan eu hunain. Maent yn dweud mai cytundeb rhyngwladol yw Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop sy’n galluogi’r tair gwladwriaeth hon yng Nghymdeithas Masnach Rydd Ewrop i gymryd rhan yn y farchnad sengl, nid i fod yn aelodau o’r farchnad sengl. Mae bod yn aelodau o’r farchnad sengl yn golygu bod gennych hawliau pleidleisio, bod gennych hawl i wneud penderfyniadau—mae’n golygu bod yn aelod o’r UE. [Torri ar draws.] Gadewch i ni gael ychydig o ostyngeiddrwydd yn y Siambr hon. Fe golloch chi ar 23 Mehefin. Collwyd y bleidlais. Fe gollon ni i gyd—fe gollon ni gyda’n gilydd. Gadewch i ni dderbyn hynny. Y gwahaniaeth yw fy mod yn derbyn yr hyn a ddywedodd pobl Cymru. Nawr, rwy’n credu eich bod wedi gwneud penderfyniad dewr neu feiddgar yn eich cynnig i anwybyddu hynny.

Mae’n dweud wrthym nad yw aelodaeth o’r farchnad sengl yn bodoli y tu allan i’r UE mewn gwirionedd. Felly, pam oedd cyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, Owen Smith, yn dweud mai dyna yw ei bolisi? A oedd yntau ond yn dweud hynny hefyd?

Ni allaf siarad ar ran Owen Smith, ond y pwynt rydych yn ei wneud yw y byddech yn dymuno i Gymru, yn erbyn ewyllys y bobl, i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, pan oedd y canlyniad yn glir iawn ar 23 Mehefin. Ni allwch fod yn aelod o’r farchnad sengl heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Fe sonioch am ostyngeiddrwydd ychydig yn gynharach. Mae’n rhaid eich bod yn cydnabod bod safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid ers 24 Mehefin, pan oedd pwynt 3 o’r chwe phwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn sôn am nwyddau, gwasanaethau a phobl. Sylwaf nad ydych wedi dweud ‘pobl’ unwaith heddiw. Rwy’n digwydd cytuno â’r pwyntiau rydych yn eu gwneud, ond rydych wedi symud y safbwynt, ac mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid.

Dof at y pwynt ynglŷn â phobl, ond os caf eich atgoffa o’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrthych yn uniongyrchol mewn ymateb i gwestiwn ddoe, pan ofynnoch yr un cwestiwn iddo am symudiad pobl, fe ddywedodd:

‘Mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yw’r llinell goch; mae’r mater o symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a’i drafod yn rhan o’r trafodaethau.’

Oherwydd mae’r mater sy’n rhaid i ni ei ddadansoddi yn gymhleth iawn. Yr hyn rwyf eisiau ei wneud yw sicrhau bod yr hyn a gawn o’r cytundeb er lles gorau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Fel rwy’n dweud, rydym eisiau—[Torri ar draws.] Fel rwy’n dweud, mae’n amlwg iawn ein bod eisiau mynediad dilyffethair i’r farchnad sengl fel bod Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fuddsoddwyr ac allforwyr. Rydym hefyd eisiau setliad cadarn, yn amlwg, i wneud iawn am unrhyw wariant a gollwyd o’r Undeb Ewropeaidd, ac rydym eisiau sector ffermio diogel.

Mae economi Cymru mewn sefyllfa hynod o gryf. Rydym yn perfformio’n well na rhannau eraill o’r DU o ran gostwng lefelau diweithdra ac yn wir, gwelsom y gostyngiad cyflymaf yn y gyfradd ddiweithdra dros y 12 mis diwethaf. Ond rhaid i ni adeiladu ar ein llwyddiannau a datblygu blaenoriaethau economaidd sy’n cyflawni dros bawb yng Nghymru ym mhob cymuned yn ein gwlad, fel y dywedodd Lee Waters yn gywir.

Nawr, gan ddychwelyd at y pwynt ynglŷn â rhyddid pobl i symud a grybwyllodd yr Aelod o’r wrthblaid, arweinydd y blaid Geidwadol, yn gyntaf, gadewch i mi fod yn glir iawn ynglŷn â’n safbwynt fod dinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn aelodau a werthfawrogir o’n cymdeithas ac felly, yn sicr dylent allu aros yma ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae ein heconomi, ein diwylliant, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymdeithas wedi elwa’n aruthrol o gyfraniad dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru. Gadewch i mi gondemnio’n gwbl glir unrhyw senoffobia neu hiliaeth a anelir at aelodau o’r gymuned o fewnfudwyr, boed yn ddinasyddion yr UE neu fel arall.

Roedd ymfudo yn bwnc arwyddocaol iawn yn nadl refferendwm yr UE, ac mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i gyflwyno mesurau rheoli pellach. Mae hyn ymhlith y materion y byddwn yn eu trafod â Llywodraeth y DU, gyda’n partneriaid datganoledig a’n rhanddeiliaid. Mae ymfudwyr yn rhan hanfodol o’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn gweithio i ddeall yn fwy manwl beth yw ein hanghenion ar gyfer y dyfodol. Nid ydym am weld rheolaethau’n cael eu cyflwyno a fyddai’n amharu ar ddiogelwch swyddi neu greu swyddi ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, ac ni fyddem yn dymuno gweld niwed yn cael ei achosi i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Gadewch i mi ddatgan yn glir iawn na fyddwn yn goddef unrhyw fath o hiliaeth neu ragfarn yng Nghymru. Aelodau, gallaf eich sicrhau, er y byddwn efallai yn gwrando ar bryderon ynglŷn â mewnfudo, ac yn ymateb iddynt, byddwn hefyd yn sefyll yn gadarn yn erbyn gwahaniaethu.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Adam Price i ymateb i’r ddadl yn fyr, diolch.

Wel, rwy’n meddwl bod yn rhaid bod yr hyn rydym newydd ei glywed gan y Gweinidog yn ein llenwi ni i gyd â theimlad o anobaith. Gan fy mod yn sylweddoli bod gwahanol safbwyntiau yn y Siambr hon o ran y ffordd orau i Gymru adael yr UE, a chânt eu harddel am resymau dilys a diffuant, ond rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno bod angen eglurder ac arweiniad gan y Llywodraeth, gan eu bod yn brin ar hyn o bryd. Nawr dywedir wrthym y bydd mwy o fanylder—mwy o fanylion—yn ymddangos ar ryw bwynt ynglŷn â pholisi’r Llywodraeth.

Rydym wedi clywed y Gweinidog yn honni nad yw aelodaeth o’r farchnad sengl tu allan i’r UE yn bodoli. Fe’i gelwir yn Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae wedi bodoli ers 1992. Cafodd ei chreu ar yr un pryd â’r Act Ewropeaidd gyfun. Wyddoch chi—[Torri ar draws.]—Ydy, mae’n wir nad yw pob aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond mae’r rhai sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn aelodau o’r farchnad sengl, ac fe ddywedaf wrthych pam ei fod o bwys, Lee Waters. Mae o bwys i rai o’r cwmnïau cydrannau modurol yn eich etholaeth, oherwydd, os nad ydych yn aelodau o’r farchnad sengl, yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn cyrraedd ffin yr UE yw bod yn rhaid cynnal profion gorfodol ar yr holl gydrannau. Mae hynny’n golygu 10 diwrnod o oedi. Yn oes cynhyrchu mewn union bryd, mae hynny’n lladd eich cadwyn gyflenwi yn y sector modurol. Dyna pam y mae aelodaeth o’r farchnad sengl yn bwysig.

A siarad am ostyngeiddrwydd: rwyf newydd rannu gydag Aelodau’r Cynulliad y ffaith fod y Llywodraeth nid yn unig wedi newid ei pholisi heb ddweud wrthym, mewn gwirionedd maent wedi newid y datganiad i’r wasg gwreiddiol roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfeirio ato. Pam- I arbed cywilydd i’r Prif Weinidog? Nid wyf yn siŵr ai llanast neu gynllwyn yw hyn, ond nid yw’n dderbyniol i chi ddweud un peth, ac yna, pan fydd eich barn yn newid, neu eich amgylchiadau’n newid, rydych yn newid y datganiad i’r wasg ac nid oes ymddiheuriad hyd yn oed yn cael ei roi i Aelodau’r lle hwn.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Felly, byddwn yn gohirio’r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas.

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth yng ngogledd Cymru a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y cynnig—Mark.

Cynnig NDM6093 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr.

2. Yn credu bod y cynigion o fewn ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55 i fynd i’r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain galed mewn rhai ardaloedd;

(b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei huwchraddio;

(c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru;

(d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro Gogledd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn dilyn cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer twf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru a’i chyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae’r cynnig hwn yn ddiedifar yn ymwneud â gogledd Cymru.

Cefnogir y weledigaeth gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe awdurdod unedol yn y rhanbarth, Clwb Busnes Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria a choleg Grŵp Llandrillo Menai.

Mae Gogledd Cymru yn rhanbarth unedig gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth, ac mae’r weledigaeth yn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio yn y dyfodol. Mae’n nodi nodau a dyheadau a rennir

‘Rhanbarth hyderus, cydlynol sydd â thwf economaidd cynaliadwy, sy’n elwa i’r eithaf o lwyddiant sectorau economaidd gwerth uchel a’i gysylltiad ag economïau Pwerdy’r Gogledd ac Iwerddon’.

Er ein bod yn cytuno â gwelliant 1 Plaid Cymru am bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer Cymru gyfan, nid yw’n briodol ar gyfer y ddadl hon sydd ar ogledd Cymru yn benodol. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru, sy’n cyfateb i gynigion y Ceidwadwyr Cymreig am gerdyn teithio ar drafnidiaeth integredig ar gyfer Cymru gyfan, gan gydnabod y byddai cynllun penodol i ogledd Cymru yn fater ar gyfer gogledd Cymru o dan y pwerau datganoledig y mae’n eu ceisio. Mae ein cynnig yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr, ac mae’n credu bod y cynigion sydd wedi eu cynnwys yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd gogledd Cymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU, yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2016 ei bod yn agor

‘y drws i gynllun twf ar gyfer gogledd Cymru’

ac y byddai, yn hollbwysig, yn disgwyl i Lywodraeth nesaf Cymru ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw gytundeb yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi annog partneriaid lleol i flaenoriaethu eu cynigion, sef yn union yr hyn y mae’r weledigaeth hon ar gyfer twf yn ei wneud wrth alw am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, gan ddweud y byddai hyn yn hybu’r economi, swyddi a chynhyrchiant, yn creu o leiaf 120,000 o swyddi ac yn chwyddo gwerth yr economi leol o £12.8 biliwn i £20 biliwn erbyn 2035.

Fel y mae’r weledigaeth yn datgan:

‘Mae’r rhanbarth wedi’i baratoi ac yn barod i dderbyn cyfrifoldebau a phwerau newydd ar benderfyniadau allweddol sy’n effeithio arno... drwy ymagwedd "Tîm Gogledd Cymru”.’

Ymhlith yr enghreifftiau y maent yn eu darparu mae:

‘Integreiddio rhaglenni cyflogaeth a sgiliau ar y lefel ranbarthol’,

gan gynnwys mentrau sgiliau Llywodraeth Cymru

‘i fynd i’r afael â diweithdra mewn ffordd lawer mwy ystyrlon ac effeithiol’;

cronfa fuddsoddi wedi’i gwarantu gan asedau y gellid ei chyflawni pe bai asedau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru ‘yn cael eu pwlio’;

‘Cynllunio defnydd tir strategol... adnabod cyflenwad tir sydd ei angen ar gyfer twf tai’

a thwf economaidd

‘yn fwy rhanbarthol a strategol, ynghyd ag adnabod safleoedd strategol;’

‘Awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol gyda’r cyfle i flaenoriaethu cynlluniau’

o bob rhan o’r rhanbarth;

‘Tîm cefnogi busnes a masnach’;

a chyda chyfraddau busnes wedi’u datganoli i Gymru,

‘Pwerau cyllidol newydd ar y lefel ranbarthol’

yn enwedig ‘prosiectau Cyllid Cynyddu Treth’ a ariannir drwy enillion refeniw treth ardrethi busnes ychwanegol ‘o weithgareddau datblygu’r economi’.

Felly, mae angen i ogledd Cymru a Llywodraeth y DU glywed gan Lywodraeth Cymru sut y mae’n bwriadu ymateb a symud hyn yn ei flaen. Mae’n destun pryder felly fod arweinydd y tŷ Llywodraeth Cymru, pan alwais am ymateb Llywodraeth Cymru i’r weledigaeth ar gyfer twf gogledd Cymru yma yr wythnos diwethaf, wedi dweud eu bod yn aros am ymateb Llywodraeth y DU. Wel, oes, mae angen ymateb Llywodraeth y DU, ond byddwn yn dadlau ein bod angen ymateb Llywodraeth Cymru yn gyntaf, ac mae gogledd Cymru angen clywed ymateb Llywodraeth Cymru o ystyried mai eu prif alwadau yw’r rhai ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli’n fewnol. Nid oedd safbwynt Llywodraeth Cymru, fel y’i disgrifiwyd ddoe, yn ddigon da felly, ac rydym yn gobeithio clywed gwell heddiw.

Byddai polisi’r Ceidwadwyr Cymreig, a amlinellwyd yn etholiad cyffredinol Cymru 2016, yn creu pwerdy gogledd Cymru. Trwy weithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau busnes a’r sector gwirfoddol, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn datganoli ysgogwyr economaidd allweddol ac yn darparu gwir ddatganoli i ogledd Cymru, gan ddatganoli pwerau i fwrdd rhanbarthol gogledd Cymru, cyflwyno ysgogwyr twf economaidd i ogledd Cymru a gadael i fusnesau a phobl gymryd rheolaeth. Byddai’r rhain yn cynnwys pwerau ychwanegol dros ardrethi busnes, cynllunio a thrafnidiaeth integredig drwy gorff annibynnol.

Mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2012, a fynychwyd gan arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol a’r gymuned fusnes yng ngogledd Cymru, ac a gadeiriwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, David Jones, cytunwyd y byddai Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn datblygu achos busnes ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd o Gaergybi i Crewe ac yn datblygu camau gweithredu a strategaethau ar gyfer trafnidiaeth yng ngogledd Cymru.

Cyhoeddwyd adroddiad Growth Track 360 ym mis Mai 2016 gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Partneriaeth Leol Swydd Gaer a Warrington a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i alw am fuddsoddi sylweddol yn y rheilffyrdd i alluogi twf yn economi trawsffiniol gogledd Cymru a rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy. Cyn hyn, nododd dogfen gogledd Cymru a Phwerdy’r Gogledd, ‘Fast Track to Growth’ fod gogledd Cymru, ardal Mersi a’r Ddyfrdwy yn Swydd Gaer a choridor yr M56 a’r A55 yn ffurfio economi ranbarthol sy’n werth £35 biliwn, ac mae 1 filiwn o deithiau cymudo trawsffiniol rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr bob mis. Ychwanegodd, fodd bynnag, mai yng ngogledd Cymru y mae’r gyfran uchaf o bobl sy’n teithio i’r gwaith yn y car yn y DU, ac mae seilwaith trafnidiaeth gwael yn tagu twf economaidd; er bod twristiaeth yn werth £1.8 biliwn i economi gogledd Cymru, sy’n cyfateb i 40,000 o swyddi, mae’r gwasanaethau trên presennol yn llyffetheirio cystadleurwydd y rhanbarth; a bod trafnidiaeth cludo nwyddau o Iwerddon yn cyrraedd Caergybi ar gerbydau nwyddau trwm gyrru mewn ac allan, ac yn parhau eu taith ar hyd ffyrdd llawn tagfeydd.

Mae gwerth ychwanegol gros, fel y gwyddom, yn mesur gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau fesul y pen o’r boblogaeth a gynhyrchir mewn economi. Mae datblygu economaidd wedi cael ei ddatganoli i ddwylo Llywodraeth Cymru ers 1999. Yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gynnwys pedair o siroedd gogledd Cymru—Ynys Môn Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych—sydd â’r gwerth ychwanegol gros isaf o holl is-ranbarthau’r DU, ar 64 y cant o gyfartaledd y DU. Ynys Môn sydd â’r gwerth ychwanegol gros isaf o bob ardal leol yn y DU, ar 53.5 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Mae hyd yn oed gwerth ychwanegol gros y pen yn Wrecsam a Sir y Fflint, a oedd yn 99.3 y cant o gyfartaledd y DU yn 1999, wedi gostwng bellach i 86 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Felly, yn y cyd-destun hwn y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn datgan:

Mae’r Weledigaeth yn ategu’r strategaeth sy’n datblygu ar gyfer Pwerdy’r Gogledd, wedi’i hintegreiddio’n llawn â chyflwyniad Cais Strategaeth Twf Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington, ac yn cynnwys cynllun Growth Track 360 ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn ganolog iddo. Trwy adeiladu strategaeth fuddsoddi o amgylch y weledigaeth hon sy’n edrych tuag allan gallwn lwyddo i fanteisio ar y cyfleoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru gan ychwanegu gwerth i set gydgysylltiedig a chronnus o gynlluniau rhanbarthol ar gyfer Gogledd Lloegr ac economi ehangach y DU.

Felly, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55. O ran yr A55, mae’r ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf’ yn galw am brosiectau strategol, gan gynnwys gwelliant hirddisgwyliedig Aston Hill, llwybr amgen pont Sir y Fflint, problemau tagfeydd yn Helygain ac Abergele, cyffordd yr A483/A55 ym mharc busnes Caer, y fynedfa i borthladd Caergybi a chroesiad y Fenai. Mae trydydd croesiad y Fenai wedi bod ar yr agenda ers mwy na degawd. Nododd ymgynghoriad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2007 wyth opsiwn i leddfu ôl-groniad traffig ar bont Britannia, ond ni wnaed dim ers hynny. Felly, dyfalwch beth, neidiwch ymlaen i fis Awst 2016 ac mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bod ymgynghorwyr i gael eu llogi yn ddiweddarach eleni i edrych ar lwybrau ar gyfer croesiad newydd arfaethedig i Ynys Môn. Gallai sinig ddweud ei bod yn ‘groundhog day’ unwaith eto. Ni all Gogledd Cymru fforddio rhagor o gamau gweithredu ymddangosiadol fel llen fwg i beidio â gwneud dim am naw mlynedd.

Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn cyflwyno gwelliannau i reilffordd gogledd Cymru. Ochr yn ochr â thrydaneiddio, mae’r ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf’ yn galw am wella amlder y gwasanaethau a chyflymder, gwelliannau i gynhwysedd y rhwydwaith, gwelliannau i’r stoc cerbydau a gwella gorsafoedd yng Nglannau Dyfrdwy, ac mae llawer o hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Llywodraeth y DU.

Mae tua 30 y cant o economi Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac ni all fod yn dderbyniol mai 1 y cant yn unig sy’n teithio i’r gwaith ar y rheilffyrdd yn Sir y Fflint a 0.9 y cant yn Wrecsam, neu fod un o bob pump o’r bobl sy’n ymgeisio am waith ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi gwrthod cyfweliadau neu gynnig swyddi wedyn oherwydd anhygyrchedd—yn cynnwys fy mab hun bellach.

Yn dilyn buddsoddiad o £10.7 miliwn gan Lywodraeth y DU, cymeradwyodd awdurdod cyfunol dinas-ranbarth Lerpwl achos busnes llawn a chamau i ryddhau arian ychwanegol ar gyfer cyflawni cynllun troad Halton ym mis Ebrill, gan gynnig cysylltiadau newydd rhwng Lerpwl, Maes Awyr John Lennon Lerpwl, Runcorn, Frodsham, Helsby a Chaer, ond ‘yn y dyfodol’ yn unig y mae cysylltiadau â gogledd Cymru am fod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed fel arfer.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu metro gogledd Cymru, er bod cynigion Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn amwys ac wedi’u datgysylltu oddi wrth y dull cydweithredol a geisir yn y weledigaeth ar gyfer twf nad yw hyd yn oed yn sôn am fetro gogledd Cymru. Fel y mae’r ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf’ yn casglu, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i gael amrywiaeth o gyfrifoldebau newydd, ac mae’n hyderus y bydd y pwerau cyd-drafod a ddatganolir i’r rhanbarth yn cael effaith gadarnhaol, gan roi hwb i lefelau cynhyrchiant a gwella rhagolygon cyflogaeth ein trigolion—gweledigaeth a gefnogir gan arweinwyr Plaid Cymru, arweinwyr Llafur, arweinwyr annibynnol, cabinetau gydag aelodau o bob plaid, gan gynnwys fy mhlaid fy hun, a’r holl gymuned fusnes a’r trydydd sector. Felly, mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw cyflawni hyn.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.

Gwelliant 1—Simon Thomas

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru, a rhwng Cymru a gweddill y DU ac Ewrop.

Gwelliant 2—Simon Thomas

Dileu is-bwynt 3(c) a rhoi yn ei le:

‘cyflwyno cerdyn teithio clyfar ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cysylltu pob cymuned drwy system drafnidiaeth integredig.’

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl yma, fel cysgod Weinidog ar isadeiledd. Fel mae Mark wedi crybwyll eisoes, mae yna nifer o bethau yn fan hyn y gallwn ni i gyd gytuno â nhw. Yn sylfaenol, mae’r drafodaeth yma ynglŷn â thrafnidiaeth a phwysigrwydd hynny a’r dylanwad mae’n ei gael ar yr economi leol. Ni fuaswn i ddim yn anghytuno â hynna. Wrth gwrs, mae’n rhoi cyfle i fi ofyn ichi nodi, o’r ffordd rwy’n ynganu yn Gymraeg, fy mod yn wreiddiol yn dod o sir Feirionnydd ta beth, ac mae’r materion hyn yn dal yn agos at ein calonnau ni.

Nawr, wrth gwrs, mae yna nifer o gyfleoedd er mwyn hybu gweithgaredd trawsffiniol rhwng y gogledd a Lloegr, ac wrth gwrs, mewn cenedl sydd yn aeddfed, nid ydym ni’n meindio siarad am weithio trawsffiniol, a hyd yn oed hybu’r gweithgaredd trawsffiniol yna er mwyn hybu economi ranbarthol y gogledd. Ond, ni ddylai’r holl sôn yna am hybu gweithgaredd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr ddim amharu, na bod ar draul, adeiladu economi annibynnol hefyd yng Nghymru ynddi ei hun wrth wella cysylltiadau yma yng Nghymru rhwng ein gwahanol cymunedau ni a datblygu ein hisadeiledd trafnidiaeth mewnol ni ein hunain, a dyna ydy sail y gwelliannau sydd gerbron. Achos mae yna un Llywodraeth ar ôl y llall ar raddfa yn Llundain, a hefyd yma yng Nghymru, wedi canolbwyntio gormod, rwy’n credu, ar ddefnyddio dinasoedd mawr i yrru twf economaidd, gan obeithio am obaith rhaeadru i ardaloedd megis gogledd Cymru. Nid ydy hynny wedi digwydd. Gobeithio bod pethau yn ‘trickle-o’ i lawr—nid ydy o ddim wedi digwydd, ac mae’n agwedd gyfan gwbl anghywir, wrth gwrs.

Wrth gwrs, mae yna sôn yn y cynnig am adroddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sy’n credu bod gweithio ar lefel ranbarthol yn allweddol i ddatgloi potensial ardal y gogledd. Ac, wrth gwrs, mi fuaswn i’n cytuno 100 y cant â hynna, ac wrth gwrs, dyna pam yr ydym ni fel plaid, wrth gytuno â’r cysyniad yna, wedi lansio ein polisi ni yn ein rhaglen wrthblaid a fuasai’n sefydlu asiantaethau datblygu rhanbarthol er mwyn datgloi potensial economaidd, gyda pholisïau economaidd rhanbarthol. Ie, cytuno yn gryf iawn â hynna.

Ond, jest i droi, yn yr amser sydd gyda fi ar ôl, i sôn yn benodol am drafnidiaeth a sôn am ein gwelliannau ni. Mae’r cyntaf yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru a rhwng Cymru a gweddill Prydain ac Ewrop, yn ogystal â sôn am yr angen i gyflwyno un cerdyn trafnidiaeth i Gymru i gysylltu ein holl gymunedau mewn system drafnidiaeth integredig. Rwy’n falch o’r gefnogaeth i’r dyhead yna, ond ar draws gwlad—ac yr ydym ni i gyd wedi bod yn ymgyrchu am nifer o flynyddoedd—un o’r cwestiynau sylfaenol sydd wastad yn cael eu gofyn ydy: pam mae hi’n cymryd mor hir i fynd o’r de i’r gogledd, neu i fynd o’r gogledd i’r de yma yng Nghymru? Ac mae’r cwestiwn yn dal heb gael ei ateb. Mae’n cymryd tair i bedair awr. Rŷch chi’n gwybod, pan fo gyda chi gyfarfod yn y gogledd—neu os ydw i’n mynd i weld teulu yn y gogledd—rŷch chi’n gwybod mae hi’n mynd i gymryd y dydd cyfan, ac mae’n rhaid ichi fod yn cynllunio ymlaen llaw, ac mae wastad yn teimlo yn bell iawn i ffwrdd. Nid dyna’r modd i ddatblygu gwlad ac undod cenedl. Mae’n rhaid inni ddod yn nes at ein gilydd—

Diolch i chi am ildio, Dai. Cytunaf yn llwyr â chi am fanteision datblygu system cerdyn clyfar integredig. A fyddech yn cytuno y byddai cael amserlenni dibynadwy cwbl integredig yn ddechrau, fel y gallech, drwy bwyso botwm yn unig, weld yn union i ble mae’r gwasanaethau hynny’n mynd?

Buaswn i’n cytuno 100 y cant, a hefyd, pan mae yna fws neu drên yn dweud ei fod e’n mynd i droi i fyny ar ba bynnag amser, ei fod e’n troi i fyny ar yr amser hynny. Mae’n rhaid inni gael gwasanaeth dibynadwy hefyd.

Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â’r pellter yma o’r gogledd i’r de pan na ddylai fe ddim bod. Mae gwledydd eraill â her fwy sylweddol na sydd gyda ni i glymu gogledd a de y wlad efo’i gilydd wedi llwyddo i wneud hynny yn nhermau trafnidiaeth, ac eto nid ydym ni’n gallu ei wneud e. Ydy, mae’n bwysig i’n huno ni fel cenedl, ac mae’n bwysig i dwf yr economi yn rhanbarthol a hefyd yn genedlaethol ein bod ni’n gallu gwella ein cysylltiadau. Ond yn nhermau bod yn y Senedd yma ac yn siarad am unrhyw ranbarth o Gymru, rydym ni’n sôn am yr angen i dyfu’r lle hwn i arwain cenedl unedig Gymreig yma yng Nghymru. Mae hynny’n dechrau, yn y bôn, â phethau syml fel ein gallu i gyrraedd y gogledd yn eithaf cyflym, fel nad ydyw i’w weld fel petai yn bell i ffwrdd, a bod pobl sydd yn byw yn y gogledd ddim yn credu bod y de hefyd yn bell i ffwrdd, a ddim eisiau dod yma, a’i fod yn llawer haws mynd dros y ffin a cholli allan ar beth mae gweddill y genedl yn ei gynnig iddyn nhw.

Yn y diwedd, rydym yn sôn am drafnidiaeth, ond rydym ni hefyd yn sôn am yr angen gwirioneddol i dyfu cenedl. Yn y bôn, fel yr hen air,

‘Cawsom wlad i’w chadw, / darn o dir yn dyst / ein bod wedi mynnu byw.’

Diolch yn fawr.

Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol sydd newydd ei ethol ar faterion trawsffiniol hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad a fy sylwadau heddiw ar heriau a chyfleoedd cydweithio trawsffiniol a’r angen am well cysylltedd rhwng gogledd Cymru a Phwerdy’r Gogledd sy’n datblygu yng ngogledd Lloegr. Trwy gadarnhau bod gogledd Cymru yn rhan bwysig o’r rhanbarth economaidd newydd hwn, mae gennym botensial, rwy’n credu, i weld twf sylweddol yng ngogledd Cymru ac ail-gydbwyso economi Cymru rhag gorddibyniaeth ar Gaerdydd a de Cymru.

Nid wyf yn ceisio bychanu neu anghytuno â’r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd mewn perthynas â gwell cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de ond, Lywydd, mae symudiadau trawsffiniol yn ffaith reolaidd, rwy’n meddwl, i bobl sy’n byw mewn llawer o rannau o Gymru. Yng ngogledd Cymru, mae’n hollol hanfodol i economi gogledd Cymru; ceir economi gyfunol ar hyd coridor yr M56 a’r A55 sy’n werth £31 biliwn—yn ôl adroddiad Hansard. Yn hytrach nag edrych i’r de tuag at Gaerdydd, y ffaith amdani yw bod pobl a busnesau canolbarth a gogledd Cymru yn tueddu i edrych tuag at Lerpwl, Manceinion a chanolbarth Lloegr, ac o ganlyniad, ni ddylai’r ffin fod yn rhwystr economaidd. Rwy’n gwybod y bydd y Gweinidog yn sicr yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, gan ei fod yn byw lle mae’n byw yng Nghymru hefyd.

Ond bydd economi gogledd Cymru heb os yn parhau i elwa’n drwm o’r ffyniant a’r twf yng ngogledd Lloegr, gan gynnig cyfleoedd cyflogaeth a busnes i bobl yn rhanbarth gogledd Cymru. Mae’r aliniad economaidd agos yn golygu ei bod yn fwyfwy pwysig sicrhau bod cydweithredu trawsffiniol yn digwydd ar gyflawni prosiectau seilwaith. Nawr, mae llawer o bobl sy’n byw ger y ffin yn y gogledd yn cymudo ar draws y ffin bob dydd. Nodaf o waith ymchwil fod 85 y cant o’r teithiau trawsffiniol hyn yn digwydd ar hyd y ffyrdd. Felly, rwy’n meddwl y gellir priodoli hyn yn rhannol i’n gwasanaethau trên araf a gwael, ac annibynadwy yn aml, felly rhaid i seilwaith trafnidiaeth allu hwyluso llif pobl ar draws y ffin yn ddigonol, a nwyddau o ran hynny hefyd, os yw pobl yng ngogledd Cymru yn mynd i newid eu harferion teithio.

Nawr, mae’n iawn, rwy’n credu, fod Llywodraeth Cymru yn gweithio i gryfhau’r seilwaith trafnidiaeth o amgylch coridor yr A55 er mwyn sicrhau y gall cymunedau gysylltu â’r diwydiant a chyfleoedd buddsoddi yng ngogledd Lloegr, a fydd, yn eu tro, yn rhoi hwb i ffyniant a thwf cymdeithasol ac economaidd yng ngogledd Cymru. Ar ben hynny, mae’r rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Lloegr ar hyn o bryd yn elwa o gyfres o fuddsoddiadau Llywodraeth y DU, a bydd y gwelliannau hyn yn y rhwydwaith trafnidiaeth yn Lloegr yn sicrhau manteision sylweddol, rwy’n meddwl, i bobl sy’n byw yng ngogledd Cymru. Felly wrth gwrs, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n effeithiol â’r datblygiadau hynny.

Yn fy marn a fy mhrofiad i, fel rhywun sy’n byw ac yn cynrychioli etholaeth drawsffiniol fy hun, neu etholaeth ar y ffin, rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fynd ymhellach i adeiladu perthynas gryfach gyda’i gilydd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y mae wedi cryfhau’r berthynas hon yn dilyn pryderon a nodwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes blaenorol nad yw perthynas Llywodraeth Cymru gyda Transport for the North yn debyg i’r berthynas waith agos sydd rhwng Transport Scotland a’r corff hefyd. Rwy’n gobeithio y byddai’r Gweinidog yn gwneud sylwadau ar hynny.

Carwn ddweud yn ogystal fy mod wedi ysgrifennu yn ddiweddar, Ysgrifennydd y Cabinet, at ddau o’ch swyddogion i ofyn iddynt a fyddent yn mynychu’r grŵp trawsbleidiol ar faterion trawsffiniol er mwyn deall rhai o heriau gweithio’n drawsffiniol. Nid wyf wedi cael ateb eto; dim ond wythnos neu ddwy sydd ers hynny. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech nodi eich parodrwydd iddynt fynychu’r grŵp trawsbleidiol, os yw hynny’n dderbyniol, Ysgrifennydd y Cabinet.

I gloi, Lywydd, mae gan ogledd Cymru gymuned fusnes uchelgeisiol ac mae angen gwelliannau seilwaith er mwyn helpu i gyflawni’r uchelgais a nodir gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Ychydig iawn o gig oedd ar asgwrn y rhaglen lywodraethu a amlinellwyd ddoe gan y Prif Weinidog, y tu hwnt i ymrwymiad llac i ddatblygu system metro gogledd Cymru. Ond rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’r cyfle yn ei ymateb i’n dadl heddiw i roi cnawd ar esgyrn rhai o’i gynlluniau.

Fel gogleddwr balch—nid wyf yn siŵr a grybwyllais i hynny yma erioed o’r blaen—croesawaf y ddadl heddiw a’r cyfle i allu cyfrannu. Fel y mae eraill wedi dweud, nid cysylltiad ffisegol llythrennol yn unig sydd gan ogledd Cymru â’n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr, rydym wedi ein cysylltu yn economaidd hefyd. Mae uwchraddio a buddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth ein rhanbarth yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth i dyfu a gwella ein heconomi ac yn y pendraw i ddatgloi potensial economaidd gogledd Cymru.

Amlinellodd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer gogledd Cymru weledigaeth i gysylltu ein rhanbarth mewn dull mwy strategol ac i gynorthwyo i sicrhau twf economaidd cryfach ar gyfer yr ardal. Roedd y maniffesto’n dweud—peidiwch â phoeni, nid wyf yn mynd i’w ddarllen air am air yn awr—y byddem, o fewn 100 diwrnod i ffurfio Llywodraeth Lafur Cymru newydd, yn cynnal uwchgynhadledd o arweinwyr o ardal Mersi a’r Ddyfrdwy a Phwerdy’r Gogledd i fapio’r ffordd orau o greu economi ddynamig sydd o fudd i ddwy ochr y ffin. Ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd a wneir ar fapio’r llwybr er mwyn ein ffyniant economaidd.

Ac ar bwnc llwybrau—neu ffyrdd, yn agosach ati—fel y dywedodd ef, ac fel y dywedodd siaradwyr eraill blaenorol, mae uwchraddio ffyrdd fel yr A55 a’r A494 yn rhan hanfodol o alluogi’r economi ddynamig hon. Gwyddom fod y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin, ac fel arall, yn llwybr allweddol ar gyfer teithio i ac o’r gwaith yn yr ardal. Gan edrych yn agosach ar drafnidiaeth gyhoeddus, deallaf fod tasglu ar reilffyrdd wedi ei sefydlu i chwilio am atebion i’r problemau a’r heriau cyfarwydd a glywyd droeon sy’n ein hwynebu yng ngogledd Cymru, boed hynny o ran seilwaith neu’r gwasanaethau eu hunain. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, a yw’r tasglu hwn yn gwbl weithredol, ac a allem gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd.

Yn ogystal, o ganlyniad i ddarnio gwasanaethau bws yn gyson a pharhaus, gall cysylltiadau bws fod yn heriol, a dweud y lleiaf. Mae etholwyr rwy’n siarad â hwy—nid yw etholwyr o reidrwydd yn ei gweld hi’n broblem gorfod mynd ar ddau fws, mae’n broblem pan fo’r bws y maent yn teithio arno yn cyrraedd 10 munud ar ôl i’r bws roeddent am fynd arno nesaf adael. Felly, mae angen i ni edrych hefyd ar gysylltiadau gwell, nid rhwng gwasanaethau bws, ond cysylltiadau â gwasanaethau trên yn y rhanbarth hefyd. Felly, byddwn yn annog rhoi sylw i hyn hefyd fel rhan o strategaeth gyffredinol ar gyfer trafnidiaeth a’r economi yng ngogledd Cymru. Diolch.

Wrth gwrs, roedd llawer o’r addewidion cyn datganoli ac un o ddaliadau craidd datganoli yn ymwneud â lleihau’r rhaniad rhwng gogledd a de Cymru. Yn wir, roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 1999 yn dweud hyn:

Rydym yn credu bod gwella cysylltiadau gogledd/de yn hanfodol i gydlyniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol.

Ac roedd yn addo mynd i’r afael â’r angen, y pryd hwnnw, am wella cysylltiadau ffyrdd a chyflwyno gwasanaeth trên newydd, cyflymach. Roedd eu partneriaid yn y glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, yn addo gwella ansawdd y rhwydwaith ffyrdd strategol rhwng y gogledd a’r de. Ac roedd maniffesto Plaid Cymru yr un flwyddyn yn nodi gwella cysylltiadau yng Nghymru rhwng y gogledd a’r de fel amcan allweddol, gan addo gwasanaeth trên cyflym o’r gogledd-orllewin i Gaerdydd fel blaenoriaeth frys, ynghyd â

rhwydwaith ffyrdd gweddus "ffigur wyth" i roi cysylltiadau gogledd-de i bob cwr o Gymru a chysylltiadau â’r prif lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin, megis yr A40, yr A55 a’r M4.

Dyma ni, 17 mlynedd yn ddiweddarach—17 mlynedd o addewidion wedi eu torri gan Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ddiweddar, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â gwneud digon i werthuso manteision ei buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru. Trenau Arriva Cymru sydd â’r cerbydau hynaf yn y DU, gyda phob trên yn 27 mlwydd oed ar gyfartaledd, ac mae’r cymhorthdal ​​i gyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn bellach wedi codi 27 y cant eto mewn blwyddyn, gan gostio mwy na £1 filiwn bob blwyddyn i’r trethdalwyr. Ac wrth i Lywodraeth Cymru dorri 1.7 y cant oddi ar ei gwariant ar draffyrdd, cefnffyrdd, rheilffyrdd a theithiau awyr yn gyfunol yn ei chyllideb ar gyfer 2016-17, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyllideb ar drafnidiaeth 3.6 y cant, a gwelwyd cynnydd o 4.6 y cant yng ngwariant Llywodraeth yr Alban ar draffyrdd, cefnffyrdd a gwasanaethau trên.

Nawr, yn 2016, addawodd Llafur ryddhau potensial gogledd Cymru drwy ddatblygu system metro gogledd Cymru, ac uwchraddio’r A55, ac eto nid oes unrhyw fanylder, na chynllun na gweledigaeth o gwbl o hyd yn y rhaglen lywodraethu gyfredol. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn mynd ati i archwilio’r gwaith o drydaneiddio rheilffordd y gogledd, gan barhau ei buddsoddiad o £70 biliwn yn nhrafnidiaeth y DU i gynnwys y buddsoddiad o £10.7 miliwn yn nhroad Halton, treblu’r buddsoddiad blynyddol yn y ffyrdd, ac ymrwymo £300 miliwn yn gynharach eleni ar gyfer prosiectau mawr, megis rheilffordd ‘cyflym 3’ a’r twnnel ar draws y Pennines. Ar ben hynny, maent hefyd wedi rhoi £900 miliwn mewn pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru, i’w ddefnyddio dros gyfnod o bum mlynedd, i gyflwyno gwelliannau mawr eu hangen i’r seilwaith, gan gynnwys yr A55. Eto i gyd, hyd yn hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu defnyddio’r pwerau hyn i sicrhau unrhyw welliannau yn rhanbarth Gogledd Cymru.

Lywydd, yn ddiweddar roedd gan BBC Wales erthygl ar deithio o ogledd Cymru i’r de, o’r enw ‘A jigsaw piece missing’. I’r rhai ohonom—ac rwy’n golygu fi fy hun fel Aelod Cynulliad sy’n teithio bob wythnos, pobl sydd am wneud busnes yma yn y brifddinas, a rhai sy’n ymweld â chartref datganoli yma ym Mae Caerdydd—sy’n gwneud, neu’n ceisio gwneud, y daith hon yn rheolaidd, efallai y byddem yn dadlau bod mwy nag un darn ar goll.

Mae gan ardal gogledd Cymru asedau, mae ganddi bobl ac mae ganddi entrepreneuriaeth, busnesau a syniadau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod yn awr fod ganddi gyfrifoldeb am ardal lawer ehangach na swigen Bae Caerdydd, a bod yn rhaid iddi roi camau go iawn ar waith, gan ddefnyddio’r pwerau benthyca gan Lywodraeth y DU i wella ac uwchraddio cysylltiadau trafnidiaeth o fewn, i ac o ardal ogoneddus gogledd Cymru.

Rai blynyddoedd yn ôl, penderfynwyd y dylid cael cyffordd ychwanegol ym Mrychdyn oddi ar yr A55 i wasanaethu Airbus a’r parc manwerthu oedd newydd ei adeiladu. Mae’r gyffordd newydd, ar y cyd â’r hen un, yn arwain at dynnu traffig oddi ar yr A55 ym mhen uchaf pentref Brychdyn ac yna drwy’r pentref. Nid oes ffordd o deithio i’r gorllewin o’r parc manwerthu ym Mrychdyn ac Airbus heb fynd drwy’r pentref. Mae cynllun gwael y gyffordd honno bellach yn achosi tagfeydd go iawn ym Mrychdyn a’r cylch. Wrth edrych ar hyd yr A55, fe welwch enghreifftiau eraill o gynllunio eithriadol o wael: roedd gosod cylchfannau ym Mhenmaenmawr a mannau eraill yn hurt yn fy marn i. Arweiniodd at greu pwynt lle mae mwy o risg o ddamweiniau a thagfeydd, sydd bellach yn golygu bod angen cael gwared arnynt.

Mae’r cynnig yn crybwyll bod yna ddiffyg llain galed mewn mannau. Mewn gwirionedd, rwy’n ei chael hi’n anodd meddwl am ddarn o’r A55 sydd â llain galed briodol. Nid oes llain galed ar y rhan fwyaf ohoni, sy’n golygu bod cerbydau sy’n torri i lawr heb unrhyw le i fynd. Mae nifer y wagenni ar yr A55 yn ei gwneud yn ffordd unffrwd i bob pwrpas. Arweiniodd diffyg blaengynllunio ar bont Britannia ar Ynys Môn at ffordd ddeuol bob ochr i’r bont, er mai ffordd unffrwd sydd ar y bont, gan achosi tagfeydd ar y ddwy ochr. Mae’r rhain a llawer o faterion eraill wedi bod yn gyfarwydd i bobl gogledd Cymru a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal ers blynyddoedd lawer. Mae’n hen bryd i ni glywed rhai cynlluniau cadarn a chynigion pendant gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha welliannau’n union sy’n mynd i gael eu gwneud i’r A55 a pha bryd y cânt eu gwneud mewn gwirionedd. Diolch.

Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru heddiw. Mae llawer o’r pwyntiau roeddwn yn mynd i’w gwneud eisoes wedi cael eu gwneud, felly nid wyf am fynd dros hen dir. Yn wahanol i Hannah Blythyn, byddwn yn dweud fy mod o dan anfantais nad wyf Aelod balch dros ogledd Cymru—rwy’n Aelod balch dros dde Cymru—ac nid oes gennyf y wybodaeth leol fwy manwl y mae Michelle Brown newydd ei mynegi. Felly, bydd fy sylwadau ychydig yn fwy cyffredinol.

Fe fyddwn yn dweud, fodd bynnag, fy mod yn credu, ar ôl bod yn y Siambr hon bellach ers bron i 10 mlynedd, ein bod wedi cael nifer o ddadleuon am ogledd Cymru ac rwy’n teimlo bod pobl y gogledd yn rhy aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanghofio, eu gadael ar ôl, eu heithrio, sut bynnag rydych am ei roi—wedi eu hynysu efallai—oddi wrth y Cynulliad hwn a’r penderfyniadau sy’n aml yn cael eu gwneud yma. Gallai hwnnw fod yn fater o ganfyddiad ac efallai nad yw’n farn gywir, ond yn rhy aml dyna yw barn pobl yn y gogledd, ac mae’n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn i gau’r bwlch hwnnw. Fel y dywedais, rwy’n dweud fel AC o dde Cymru sy’n byw ychydig i fyny’r ffordd ac yn ei chael yn eithaf hawdd cyrraedd adref, boed ar y ffordd, ar y trên neu ar fws—pa fath bynnag o drafnidiaeth ydyw.

Felly, yn rhy aml, mae gogledd Cymru yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso. Mae angen i ni wneud yn siwr eu bod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn gofalu amdanynt, a dyna pam y mae hi mor bwysig datblygu’r prosiectau mawr megis gwelliannau’r A55 sydd wedi cael eu crybwyll a thrydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru yn y dyfodol.

Ni allwch wadu bod cyfran fawr o’r boblogaeth yn byw yn y de-orllewin a’r de-ddwyrain, a bydd ACau de Cymru bob amser—rwy’n gweld David Rowlands yn nodio—yn cyflwyno’r achos dros wario’r gwariant seilwaith yma, ac wrth gwrs mae angen gwelliannau i’r M4, wrth gwrs, rydym angen trydaneiddio prif reilffordd de Cymru, ond mae angen i’r gogledd deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a bod prosiectau’n cael eu datblygu yno. Fel y dywedodd Mark Isherwood, mae angen i ni fanteisio ar gyfleoedd y gogledd, ac mae cyfleoedd yno a chyfleoedd sy’n tyfu. Mae angen i ni gysylltu’r gogledd â phwerdy gogledd Lloegr wrth iddo ddatblygu, a datblygu ein pwerdy gogledd Cymru ein hunain hefyd o bosibl.

Mae gwelliannau trafnidiaeth, wrth gwrs, yn allweddol i hyn, ac rwy’n cytuno’n llwyr â’r sylwadau a wnaeth Dr Dai Lloyd yn gynharach, ac mae’r cysyniad, fel y dywedais wrth ymyrryd, o system docynnau integredig sengl ar draws gogledd Cymru yn un gwych. Mae’n un sydd gennym yn ein cynnig, ac mae’n un y mae Plaid Cymru a phleidiau eraill yn amlwg yn cytuno yn ei gylch. Y broblem yw, os goddefir yr ymadrodd o adroddiad blaenorol y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, mae’n beth cythreulig o anodd i’w gyflawni. Felly iawn, gadewch i ni ei gael fel uchelgais, ond gadewch i ni beidio â rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged honno yn y tymor byr. Gadewch i ni weithio ar ddatblygu pethau sy’n haws eu gwneud ar unwaith, megis gwella amserlennu a dibynadwyedd y gwasanaethau sydd gennym. Ond iawn, rydych yn llygad eich lle, Dai: gadewch i ni wneud yn siŵr yn y tymor canolig a’r tymor hwy mai ein huchelgais yw cysylltu’r gogledd a’r de a chanolbarth Cymru, a’i gwneud yn hawdd i fynd ar-lein ac archebu eich tocyn oddi yma i Ynys Môn—mor hawdd ag y gallwn ei wneud.

Metro gogledd Cymru: wel, mae’n rhan o hyn. Mae’n dal i fod yn bell i ffwrdd, mae’n amlwg, ac mae’n ddealladwy ar hyn o bryd fod ffocws Llywodraeth Cymru ar fetro de Cymru. Deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros y seilwaith trafnidiaeth—gadewch i ni gael y derminoleg yn gywir—yn methu gwneud popeth ar unwaith—nid chi yw Superman eto, Ken, felly rhaid i chi flaenoriaethu—ond nid yw hynny’n golygu na allwn ddechrau datblygu cynllun busnes ar y pwynt hwn ar gyfer metro gogledd Cymru. Credaf y byddai pobl y gogledd yn edrych ar hynny fel arwydd fod buddiannau’r gogledd yn bwysig i’r Cynulliad hwn.

Yn olaf, Lywydd, mae’n bwysig ein bod yn datblygu’r cysylltiadau hynny rhwng y dwyrain a’r gorllewin ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a’r seilwaith wedi gwneud y pwyntiau hyn dros yr haf. Ydym, rydym i gyd yn awyddus i ddatblygu’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de, ond i fod yn realistig, mae llawer o’r cysylltiadau economaidd hanfodol hynny, ac fe fyddant yn y dyfodol agos, rhwng y dwyrain a’r gorllewin. Yn y de, byddant yn croesi i Fryste a Llundain. Yn y gogledd, byddant yn mynd i ddinasoedd mawr y gogledd, yn enwedig wrth i Bwerdy’r Gogledd ddatblygu. Felly, gadewch i ni beidio â thynnu ein llygaid oddi ar y bêl yn y mater hwn. Gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ystyried y cynnig hwn yn yr ysbryd y’i cyflwynwyd. Fel y dywedais, ni allwch wneud popeth ar unwaith, ond a allwn gael ychydig bach mwy o ffocws ar economi gogledd Cymru, ar ddatblygu’r cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol hynny, a manteisio ar y cyfleoedd y mae gogledd Cymru yn eu rhoi i ni? Gadewch i ni edrych at Gymru yn y dyfodol lle gall y gogledd a’r de chwarae rhan gyfartal yn datblygu economi Cymru, a lle bydd poblogaeth Cymru gyfan yn teimlo eu bod wedi eu cynnwys.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl. Ken Skates.

Member
Ken Skates 16:35:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Rwy’n sylweddoli bod peth sinigiaeth i’w deimlo gan rai o Aelodau’r gwrthbleidiau; rwy’n maddau iddynt am hynny a dweud, yn gyffredinol, fy mod yn credu ein bod i gyd yn gytûn i’r graddau fod angen tyfu ein heconomi yng ngogledd Cymru.

Nid yw creu economi fewnol gref yng Nghymru a thyfu economi drawsffiniol o ogledd Cymru drosodd i ogledd-orllewin Lloegr yn annibynnol ar ei gilydd, ond yn fy marn i, maent yn ategu ei gilydd. Fe’i gwneuthum yn glir fy mod yn gweld gogledd Cymru yn chwarae rhan lawn a gweithredol yn y Pwerdy Gogleddol ac yn creu bwa o weithgaredd economaidd sy’n ymestyn o Gaergybi i Fanceinion a thu hwnt.

I ateb cwestiwn Hannah Blythyn, yn wir fe ddechreuais yr haf o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon gydag uwchgynhadledd yng ngogledd Cymru, gyda rhanddeiliaid trawsffiniol allweddol. Cynhaliwyd honno, fel y dywedais, o fewn y 100 diwrnod cyntaf ac arweiniodd at gytundeb ar weledigaeth ranbarthol gydlynol, sy’n alinio â chynllun blaenllaw Pwerdy’r Gogledd, ac a fydd hefyd yn cyfrannu tuag at y cytundeb twf posibl wrth iddo gael ei ddatblygu.

Ond eisoes mae llawer iawn yn digwydd yma. Rydym yn symud ymlaen ar welliannau mawr i ffyrdd, gan gynnwys achos busnes dros drydydd croesiad i’r Fenai; adeiladu ffordd osgoi Caernarfon; pont Afon Dyfrdwy; ac wrth gwrs, rydym hefyd yn asesu opsiynau i fynd i’r afael â thagfeydd ar goridor yr A494-A55 yng Nglannau Dyfrdwy. Er bod cyllido buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd yn fater wedi’i gadw’n ôl, rydym wedi defnyddio ein pwerau i fuddsoddi mewn gwelliannau ar reilffordd y Cambrian a’r rhwydwaith rhwng Saltney a Wrecsam.

Cyfeiriodd yr Aelod yn ei gynnig at y ddogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’. Cyflwynwyd y ddogfen i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ym mis Awst gan awdurdodau lleol ac mae’n amlinellu cyfeiriad strategol wedi’i gytuno ar gyfer economi gogledd Cymru. Derbyniais y ddogfen, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae’n ddogfen bwysig, ac ynghyd ag enghreifftiau eraill o waith da, megis yr adroddiad Growth Track 360, mae’n rhoi sylfaen gadarn i ni allu gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru i ddatblygu blaenoriaethau economaidd ar gyfer y rhanbarth.

Ond er mwyn datblygu trafodaeth ar gytundeb dwf penodol a ariennir ar y cyd, rydym yn aros am gyhoeddiad ffurfiol gan Lywodraeth y DU y byddant yn agor trafodaethau, ac rwy’n mawr obeithio y byddant yn gwneud hynny. Mae’n waith cyffrous a allai—a allai—gydweddu’n berffaith â chytundeb twf posibl ar gyfer partneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, fel y nododd yr Aelod.

Hoffwn gofnodi fy niolch i ACau ar draws y Siambr ac i ASau, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion eraill yn Swyddfa Cymru, am gefnogi cais twf trawsffiniol dynamig a chreu economi gryfach yng ngogledd Cymru.

Cyflwynodd Russell George a Nick Ramsay achosion grymus iawn dros fynd ar drywydd buddsoddiad mewn seilwaith trawsffiniol, a byddai’n anodd anghytuno gyda’r naill neu’r llall. Siaradodd Russell George hefyd am ail-gydbwyso’r economi ar draws Cymru. Rwy’n cytuno’n llwyr ac am y rheswm hwnnw, penderfynais y dylid lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd, sef yr un rheswm pam rwy’n credu y dylai pencadlys banc datblygu yng Nghymru fod yng ngogledd Cymru.

Yn fy marn i hefyd, rhaid i ni adeiladu perthynas gryfach, fel y nododd yr Aelod yn gywir, gyda Transport for the North. Mewn ateb i Hannah Blythyn, mynychais gyfarfod diweddaraf y tasglu ar reilffyrdd, yn gynharach yr wythnos hon, dan gadeiryddiaeth wych arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Samantha Dixon, lle buom yn siarad am yr angen i sicrhau bod gwell cyfathrebu rhwng partneriaid ac ar draws ffiniau. Byddwn yn falch o fynychu’r grŵp trawsbleidiol ar weithgarwch trawsffiniol, ac o ran sicrhau ein bod yn creu cysylltiadau economaidd cryf ar draws ffiniau, byddwn yn dweud mai fy ngweledigaeth i yw ein bod yn creu tri bwa o ffyniant a gweithgarwch economaidd: un, fel y dywedais, sy’n deillio o Gaergybi drosodd i Fanceinion; un arall sy’n croesi o arfordir Cymru drwy ganolbarth Cymru ac i ganolbarth Lloegr; a thrydydd bwa sy’n mynd o dde-orllewin Cymru ar hyd yr M4 ac i dde-orllewin Lloegr—

Mark Isherwood a gododd—

Sut rydych yn ymateb—efallai eich bod yn mynd i ddod at hyn, ond nid ydych wedi sôn amdano eto—i egwyddor ganolog y ddogfen ar weledigaeth ar gyfer twf i ogledd Cymru, sef y galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros rai o’r ysgogwyr ar gyfer yr economi a thwf yn fewnol i’r bwrdd?

Ie, yn hollol. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi ei roi yn ein maniffesto, maniffesto Llafur Cymru. Mewn gwirionedd fe ddywedon ni y byddem yn ystyried ac yn sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli i ranbarthau megis gogledd Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei gael yw penderfyniad clir i fwrw ymlaen â’r cytundeb twf, oherwydd os nad oes cytundeb twf yn mynd i fod, yna bydd yn rhaid i ni edrych ar ffyrdd eraill o ddatganoli cyfrifoldeb a chreu twf economaidd yn yr ardal honno.

Gallaf rannu gyda’r Aelodau y byddaf yn cyfarfod, yn ystod y misoedd nesaf, gyda’r Arglwydd O’Neill i drafod y cytundeb twf ac i drafod materion eraill, a byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y cynnydd. Ond rwyf hefyd wedi penderfynu cyfarfod â chyn-Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, oherwydd credaf y byddai’n werth gwneud hynny, am fy mod wedi dweud ar sawl achlysur fod arnaf ofn y bydd y ffaith ei fod wedi gadael y Trysorlys yn golygu y gallai prosiect Pwerdy’r Gogledd gael ei ohirio. Am y rheswm hwnnw, rwy’n meddwl, er gwaethaf y gwahaniaethau lawer a allai fod rhyngom ar yr economi a chymdeithas yn gyffredinol, gallai fod yn gynghreiriad i ogledd Cymru wrth fynd ar drywydd agenda Pwerdy’r Gogledd.

Gan droi at bwynt 3 y cynnig, hoffwn egluro yn gyntaf ein bod eisoes wedi cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer gwelliannau i’r A55 ar ffurf y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015. Rydym eisoes wedi buddsoddi’n sylweddol mewn llwybrau allweddol ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys rhaglen o welliannau i gynyddu cydnerthedd yr A55, yn cynnwys gosod lleiniau caled yn ogystal â lonydd gwrthlif mewn argyfwng ac wrth gwrs, rhaglen waith sy’n werth £42 miliwn i wella safon twneli’r A55.

Nodaf yr hyn a ddywedodd yr Aelod am Frychdyn a’r angen i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â’r gyfnewidfa a’r gyffordd, sydd ar hyn o bryd yn golygu bod traffig o’r A55 i gyfeiriad y dwyrain yn gorfod mynd drwy’r pentref. Mae’n rhywbeth y mae fy swyddogion yn ei drafod gyda chynghorwyr a swyddogion Cyngor Sir y Fflint. Rydym hefyd yn buddsoddi tua £32 miliwn i uwchraddio cyffyrdd 15 a 16 ar yr A55 i wella diogelwch a dibynadwyedd amseroedd teithio. Mae contract gwaith draenio datblygedig yn cael ei gyflymu yn awr, a bydd yn gweithredu rhwng cyffyrdd 12 a 13 o’r A55 i helpu, unwaith eto, i leihau’r perygl o lifogydd a gwella llif y traffig yn sgil hynny.

Rwyf eisoes wedi datgan bod yr uwchgynhadledd wedi’i chynnal ym mis Gorffennaf, ymhell cyn y terfyn 100 diwrnod, fod y tasglu ar reilffyrdd wedi cyfarfod yr wythnos hon, a fy mod wedi cyhoeddi cynllun pum pwynt. Mewn ymateb i’r cwestiwn am y rhwydwaith bysiau, cyhoeddais gynllun gweithredu pum pwynt mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf, ac rwy’n meddwl ei fod yn cael ei gydnabod ledled y DU fel rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU ei ddilyn. Mae’n rhaid i mi ddweud pan fydd rheoleiddio’n digwydd, credaf y dylem ddefnyddio’r pwerau hynny i wneud mwy na datblygu rhwydwaith wedi ei ddadreoleiddio, ond dylem gael newid mawr yn y ffordd y mae ein rhwydwaith bysiau’n gweithredu.

Symudaf ymlaen at y rheilffyrdd, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod yr achos economaidd dros fuddsoddi mewn trydaneiddio yn ystod cyfnod rheoli 6, a byddwn yn annog Llywodraeth y DU i gefnogi hyn. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod 12 miliwn o deithiau yn digwydd ar draws gogledd Cymru a ffin gogledd-orllewin Lloegr bob blwyddyn a dim ond 1 y cant o’r teithiau hynny a wneir ar drên. Wrth i ni gynllunio camau nesaf yr anghenion gwella rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, mae angen i ni wthio Llywodraeth y DU hefyd i sicrhau bod cyfran deg o’i buddsoddiad i wella cysylltedd o fewn gogledd Cymru a rhwng gogledd Cymru a rhanbarthau eraill yn cael ei wireddu, oherwydd, a bod yn onest, yn draddodiadol, mae buddsoddiad Network Rail wedi bod yn llawer is na’r hyn y byddem wedi ei gael pe bai wedi dod drwy fformiwla Barnett i Gymru.

Eto, mewn ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd gan Hannah Blythyn, yr Aelod dros Delyn, integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys trefniadau tocynnau amlfoddol ac amlweithredwr, fydd egwyddor sylfaenol metro gogledd-ddwyrain Cymru. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny wrth roi mwy o ystyriaeth i wasanaethau trên a bws. Rydym hefyd yn datblygu argymhellion yn nyffryn Conwy a fydd yn integreiddio gwasanaethau bws a thrên gyda threfniadau ar y cyd ar gyfer tocynnau, gwasanaethau gwell a lefel is o gymhorthdal ​​bysiau.

Er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd ar gyfer cysylltedd trawsffiniol, bydd metro gogledd-ddwyrain yn ymestyn i’r gogledd ac i’r dwyrain i mewn i ogledd a chanolbarth Lloegr er mwyn creu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon ac integredig o ansawdd da ar draws yr is-ranbarth a thu hwnt. Mae cyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth gogledd Cymru a metro’r gogledd-ddwyrain, gan nodi atebion a ffafrir ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth ar draws y rhanbarth, yn flaenoriaeth gynnar. Rwy’n edrych ymlaen at allu rhannu manylion gyda’r Aelodau cyn y Nadolig. Y rheswm nad oedd yn ymddangos yn Growth Track 360 oedd am fod Growth Track 360 wedi ei baratoi cyn maniffesto Llafur Cymru lle cyhoeddwyd y metro yn gyntaf.

Roedd Mark Isherwood yn gywir i nodi’r nifer o heriau i bobl sy’n ceisio cael gwaith, ond yn methu am nad oes digon o wasanaethau bysiau neu drenau ar gael neu am eu bod yn costio gormod. Am y rheswm hwnnw—a thynnodd sylw at Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy—fel prosiect â blaenoriaeth ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain, rydym yn edrych ar argaeledd gorsafoedd newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a gwaith uwchraddio i Shotton hefyd.

Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n ymuno â mi i baratoi’r achos dros economi gryfach a rhwydwaith trafnidiaeth gwell ar draws gogledd Cymru sy’n cydnabod y realiti fod llawer iawn o bobl yn croesi’r ffin yn ddyddiol ond yn dymuno byw neu weithio yng ngogledd Cymru.

Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy’n falch iawn o glywed rhai o’r cyhoeddiadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma o ran ychydig mwy o wybodaeth am rai o’r gwelliannau arfaethedig i’r A55, ac yn wir, y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â ble mae pethau arni gyda’r metro. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth, wrth gwrs, cyn y Nadolig. Byddwn yn eich dwyn i gyfrif am y datganiad hwnnw yn awr. Rwy’n siomedig braidd, fodd bynnag, ei fod i’w weld bellach yn clymu datganoli pwerau a chyfrifoldeb i ogledd Cymru wrth gyllid sydd i ddod gyda chytundeb twf. Y realiti yw fy mod newydd edrych ar eich maniffesto ar-lein ac nid oes dim ynddo o gwbl am orfod aros am gytundeb twf cyn y datganolir unrhyw bwerau pellach i’r awdurdodau yn y gogledd. Credaf ei bod yn ddyletswydd arnoch fel Llywodraeth, ar y cyd—pawb ohonoch fel Gweinidogion Cabinet, a’r Prif Weinidog—i feddwl ynglŷn â’r lle gorau i roi’r ysgogwyr hynny. Oherwydd mae pobl gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd, mae’r rhanddeiliaid wedi cynhyrchu yr hyn sy’n weledigaeth gyffrous ar gyfer y rhanbarth, ac rwy’n credu’n wirioneddol y bydd yn arwain at fuddsoddiad sylweddol a thwf sylweddol yn yr economi os cânt fwrw ymlaen â hyn, ond nid yw bod â dwylo gludiog gyda phwerau ym Mae Caerdydd yn mynd i newid y sefyllfa honno.

Ond ‘does bosibl na fyddai’r Aelod hefyd yn cydnabod mai’r hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthym, yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, yw y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio er budd pobl gogledd Cymru, a byddai’n llawer gwell integreiddio ein polisïau â pholisïau Llywodraeth y DU o ran twf economaidd. Mae hynny’n golygu y dylem geisio plethu ein dull o ddatganoli unrhyw bŵer â’r hyn y byddai menter gan Lywodraeth y DU, megis y cytundeb twf, yn ceisio ei gyflawni.

Wrth gwrs, mae’n bwysig fod Llywodraethau yn gweithio gyda’i gilydd, o Fae Caerdydd i San Steffan a Llundain, a llywodraeth leol a neuaddau tref, yn wir, yn gweithio gyda chi hefyd. Ond yn y pen draw, y rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru—yr awdurdodau lleol, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y prifysgolion, y sector addysg bellach, y trydydd sector a phawb o gwmpas y bwrdd—sydd wedi cynhyrchu cynllun y credant fod modd ei gyflawni a’i roi ar waith pe bai mwy o bwerau yn cael eu datganoli i’r rhanbarth. Felly, rwy’n meddwl bod angen i chi roi ystyriaeth ddifrifol i hynny, nid ei wrthod a cheisio taflu’r baich ar Lywodraeth y DU. Yn y pen draw, mae Llywodraeth y DU yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatganoli pwerau i ranbarthau. Rydym oll wedi gweld beth sydd wedi bod yn digwydd ledled Lloegr gyda’r partneriaethau menter lleol, sydd, wrth gwrs, yn cael pwerau economaidd sylweddol dros eu heconomïau lleol er mwyn creu gwelliannau. Rwy’n falch eich bod yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington yn arbennig, o ran eu cynnwys er mwyn cefnogi gweledigaeth ar gyfer economi gogledd Cymru. Mae eu mewnbwn, wrth gwrs, yn bwysig tu hwnt.

O ran y seilwaith rheilffyrdd, wrth gwrs byddem i gyd yn hoffi gweld rheilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio. Mae’n bwysig i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i edrych ar yr achos busnes dros hynny a’i ddatblygu. Ond wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig i’r awdurdodau lleol ac eraill yng ngogledd Cymru wneud popeth yn eu gallu i hyrwyddo’r achos a gweiddi o doeau’r tai, mewn gwirionedd, am y posibiliadau y gallai hynny eu creu yn y rhanbarth. Mae rhai o’r cysylltiadau trawsffiniol hynny’n hynod o bwysig i’r rhanbarth. Gwyddom fod yr economi dwyrain-gorllewin yn llawer pwysicach i ogledd Cymru nag economi gogledd-de. Rwy’n derbyn yr hyn rydych yn ei ddweud, Dai. Rwy’n gwybod y byddech wrth eich bodd yn tynnu llen o lechen ar draws y ffin, ond yn y pen draw, mae’n hynod o bwysig fod gogledd Cymru yn cael mynediad at farchnad fwyaf gogledd Cymru, sef gogledd-orllewin Lloegr. Mae’n union yr un fath i ganolbarth Cymru gyda rhannau o Ganolbarth Lloegr, fel y dywedodd Russell George yn gwbl gywir. [Torri ar draws.] Felly, rydych chi wedi clywed gan—

Yr Arglwydd Elis-Thomas a gododd—

Mae’n ddrwg gennyf ymyrryd, gan nad wyf wedi dilyn y ddadl i gyd—rwy’n siŵr ei bod yn annerbyniol i mi sefyll hyd yn oed—ond pam rydym yn cyfeirio at ffiniau o hyd? Ni fu ffin rhwng Cymru a Lloegr ers 1,500 o flynyddoedd, hyd y gwn i.

A hir y parhaed y sefyllfa honno—hir y parhaed y sefyllfa honno. Ond wrth gwrs, mae yna ffiniau gweinyddol, ac wrth gwrs, byddai llawer o aelodau o’ch grŵp yn hoffi i’r ffiniau hynny fod yn fwy pwysig, gawn ni ddweud, mewn termau economaidd nag y maent ar hyn o bryd.

Ond mae’n bwysig ein bod yn rhoi cyfle i ogledd Cymru dyfu, ein bod yn datganoli’r pwerau, ein bod yn sicrhau bod cyllid ar gael. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn mynd i sicrhau bod y banc datblygu yn cael ei leoli yn y gogledd. Fel y dywedais yn gynharach yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, rhaid cael cyfran deg o fuddsoddiad gan y banc datblygu yn y rhanbarth. A charwn ofyn i chi, Weinidog, ystyried y cynllun sydd ar y bwrdd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a’r rhanddeiliaid eraill a gyfrannodd at ei lunio, gan mai hwnnw, yn fy marn i, sydd â’r allwedd i ryddhau potensial gogledd Cymru, a byddwn ni, ar y meinciau hyn yn sicr, yn cefnogi’r weledigaeth honno ar gyfer y rhanbarth bob cam o’r ffordd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Paul Davies.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar ysgolion gramadeg, ac rwy’n galw ar Michelle Brown i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6094 Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod rôl bwysig ysgolion gramadeg o ran hyrwyddo symudedd cymdeithasol a rhoi cyfle i blant o gefndiroedd tlawd gael mynediad at addysg o’r radd flaenaf.

2. Yn nodi bod llai o symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion gramadeg.

3. Yn credu mewn amrywiaeth mewn addysg uwchradd, sy’n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw rhieni’n dymuno hynny, ac yn cefnogi statws uwch ar gyfer addysg dechnegol a galwedigaethol ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru i greu system addysgol sy’n rhoi’r cyfle gorau i blant o bob gallu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Pwy allai fod wedi rhagweld 20 mlynedd yn ôl y byddai tîm Prydain yn mynd yn ei flaen i ennill 27 o fedalau aur yn y Gemau Olympaidd? Neb yn y Blaid Lafur yn ôl pob tebyg. Pam? Oherwydd bod yr enw ‘Llafur’ wedi dod yn gyfystyr â methiant, ac oherwydd nad oes ganddynt uchelgais dros eu gwlad a’u pobl eu hunain. Yn hytrach, maent yn dewis bychanu’r bobl sydd wedi ymddiried pŵer iddynt. Yn yr un modd ag y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn dewis peidio â gwneud cais am Gemau’r Gymanwlad, mae’n ymddangos eu bod hefyd yn hapus i rwystro cenedlaethau’r dyfodol rhag elwa ar system addysg y mae llawer ohonynt eu hunain wedi elwa arni. Fesul tipyn, mae’r ysgol yn cael ei chodi o afael pobl ifanc. Yn gyntaf cafodd ysgolion gramadeg eu diddymu i bob pwrpas, ysgolion a oedd, i lawer o bobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc o deuluoedd dosbarth gweithiol, yn cynnig yr unig obaith o gael gyrfa gadarn a dyfodol da. Yna cyflwynwyd ffioedd dysgu, sydd wedi gosod dyled yn faich ar genedlaethau o bobl ifanc, fel cosb am lwyddiant academaidd. Mae’n bryd i’r Llywodraeth Lafur hon ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU a chyflwyno deddfwriaeth yn y Siambr hon i ganiatáu i awdurdodau lleol gynnig cymysgedd mwy amrywiol o ddewisiadau addysgol yn ôl anghenion yr ardal a dymuniadau rhieni. Felly, rwy’n defnyddio’r cyfle hwn i alw ar y Llywodraeth i wneud hynny. Mae parhau i wneud fel arall yn peri anfanteision i bobl ifanc, yn enwedig o gefndiroedd dosbarth gweithiol, na fyddant byth yn cael cyfle i fynychu ysgol o’r ansawdd gorau, tra bydd plant a aned i rieni ariannog yn elwa ar addysg breifat.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 16:53:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 16:53:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na wnaf.

Rwyf hefyd yn galw ar fy nghyd-Aelodau Ceidwadol i ymuno â mi i roi pwysau ar y Llywodraeth i wella rhagolygon cenedlaethau o bobl ifanc yn y dyfodol ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir ariannol.

I’r rhai sy’n credu bod ysgolion gramadeg yn grair o ryw oes sepia o’r gorffennol, rwy’n cynnig un gair: PISA. Y mis Rhagfyr hwn, cyhoeddir y canlyniadau PISA diweddaraf, ac mae arwyddion cynnar yng nghoridorau’r lle hwn fod Llywodraeth Cymru eisoes yn paratoi ei hesgusodion. Ers 2007, mae Cymru wedi llithro i lawr y safleoedd PISA. Wrth i fwy o wledydd ymuno, mae Cymru wedi disgyn o safle 22 mewn gwyddoniaeth i rannu safle 36, mae wedi disgyn 10 safle mewn mathemateg, ac wedi disgyn o safle 29 mewn darllen i safle 41. Pa syndod annisgwyl a ddaw gyda PISA y tro hwn? Yn 2012, perfformiodd Cymru yn waeth ar gyfartaledd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a Saesneg na Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Ar y pryd, trydarodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams:

Yn drist ac yn ddig fod 14 mlynedd o Bolisi Addysg Llafur Cymru wedi ein harwain at y canlyniadau #PISA hyn.

Nawr, fel Ysgrifennydd addysg, a fydd Kirsty Williams yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’r datganiad hwn ac yn bwrw ymlaen â pholisi sy’n sicrhau newid go iawn?

Mae’r amser wedi dod am weledigaeth newydd feiddgar ar gyfer addysg yng Nghymru, a dylai egwyddor amrywiaeth fod yn ganolog i’r weledigaeth hon—amrywiaeth o arddulliau addysgu, amcanion a blaenoriaethau ysgol. Yn 2006, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolion Gramadeg, cynhyrchodd disgyblion yn yr 164 o ysgolion gramadeg yn Lloegr fwy na hanner cyfanswm y graddau A Safon Uwch yn y pynciau Safon Uwch mwy cadarn na’r hyn a gynhyrchwyd mewn hyd at 2,000 o ysgolion cyfun. Mae’n amlwg fod ysgolion gwladol detholus wedi cynhyrchu rhai o’r perfformiadau gorau mewn arholiadau, yn seiliedig ar dablau cynghrair. O’r profiad hwn—[Torri ar draws.] O’r profiad hwn, fel y mae gwas sifil uchaf Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am ansawdd addysg, y prif arolygydd ysgolion blaenorol, Chris Woodhead, yn datgan yn ddiamwys,

mae ysgolion gramadeg wedi cyfrannu mwy at symudedd cymdeithasol nag unrhyw sefydliad arall y mae’r wlad hon wedi ei adnabod erioed.

Yn ei ddatganiad aeth Chris Woodhead ymhellach a dweud efallai y gellid gweld diddymu ysgolion gramadeg hefyd fel ceisio gosod un system addysg sy’n addas i bawb mewn ardal.

Yn ffodus i blant yn Lloegr, mae’r Llywodraeth wedi gwrando ar gyngor yr arbenigwyr ac wedi ailfeddwl ynglŷn â’r penderfyniad trychinebus cynharach i atal sefydlu ysgolion gramadeg newydd. Ond beth am Gymru? A fydd y Llywodraeth—[Torri ar draws.] A fydd y Llywodraeth yn rhoi dogma gwleidyddol o’r neilltu ac yn gosod pobl ifanc o flaen ideoleg? A wnewch chi hynny? Pan gyhoeddwyd y canlyniadau PISA ddiwethaf, dyfynnwyd y Prif Weinidog yn dweud wrth bob un o’r tair gwrthblaid, ‘Os nad ydych yn ei hoffi, beth fyddech chi’n ei newid?’ Felly, wrth Carwyn Jones, ar ran y plant ysgol sydd wedi’u difreinio a’u hanghofio ym mhob man, rwy’n dweud, ‘dewis’.

Mae ysgolion gramadeg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel ddianc o afael tlodi a chael addysg o safon heb orfod troi at y sector sy’n talu ffioedd.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 16:56:00

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Na wnaf.

Mae nifer y myfyrwyr y mae Rhydychen a Chaergrawnt yn eu derbyn o ysgolion gwladol wedi gostwng ers diddymu ysgolion gramadeg i raddau helaeth ac mae astudiaethau wedi dangos bod symudedd cymdeithasol wedi lleihau. [Torri ar draws.] Gwrandewch eto: mae symudedd cymdeithasol wedi lleihau ers diddymu ysgolion gramadeg. Os nad ydych yn malio am blant dosbarth gweithiol, parhewch â’ch polisi. I’r rhai sy’n dweud mai ar gyfer yr elît y mae ysgolion gramadeg, rydym yn dweud, ‘Ie, maent ar gyfer yr elît academaidd, nid yr elît ariannol’. Yn yr un ffordd ag y mae ysgolion gramadeg yn gyfle i’r plant sy’n alluog yn academaidd, dylem ddatblygu colegau galwedigaethol i gynnig y cyfleoedd iawn i blant sydd â dyheadau gwahanol.

Cyfaddefodd rhagflaenydd Ms Williams, Mr Lewis, yn flaenorol y gallai fod cwestiynau ynglŷn â’r ffaith ein bod wedi tynnu ein llygaid oddi ar y bêl yng nghanol y 2000au mewn perthynas â’r pethau sylfaenol mewn addysg. Serch hynny, roedd yn dal i fynnu bod Gweinidogion Cymru yn cymryd sylw o’r sgoriau PISA gwael blaenorol yn 2009 a sefydlodd un o’r rhaglenni diwygio mwyaf radical ac uchelgeisiol a welodd y byd addysg yng Nghymru erioed. Ond y gwir amdani yw nad oedd unrhyw beth yn radical am y diwygiadau hyn. Mae’r Llywodraeth hon yn parhau i dincran â’r ymylon, yn debyg i aildrefnu’r cadeiriau haul ar y Titanic. Mae’r syniad y gallai menter polisi ysgafn arall neu ad-drefnu biwrocrataidd gyflawni newid o’r maint sydd ei angen yn nonsens llwyr. Mae arnom angen gwell addysg i bawb, ond mae cyflawni hynny’n galw am gamau beiddgar. Fel y mae’r cyn-brif arolygydd ysgolion yn ei gwneud yn glir, nid yw un ateb yn addas i bawb—mae’n dal i fod yn berthnasol. Ac mae’r syniad y dylai plant fod o dan anfantais am resymau gwleidyddol yn foesol anghywir ac ni ellir ei amddiffyn. Mae pobl ifanc angen i’w Llywodraeth gynrychioli eu buddiannau ac ymladd dros eu dyfodol. Mae eu hamddifadu o ddewis yn eu hamddifadu o gyfle.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod wedi mabwysiadu polisi UKIP i’w groesawu, ond yn awr, yma yn y Siambr hon, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i greu system sy’n gweithio i bawb. Mae angen i ni roi cyfle i bobl leol ddweud eu barn ynglŷn â pha systemau ysgol sy’n gweithio yn eu hardal ar gyfer eu plant. Rydym yn galw ar y Siambr hon i gefnogi’r cynnig hwn ac ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i bobl leol, lle bo hynny’n ymarferol ac yn ddymunol, i greu ysgolion gramadeg newydd. Diolch.

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig ac rydw i’n galw ar Darren Millar i gynnig y chwech gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Darren Millar.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw dethol yn y system addysg yn briodol i ysgolion yng Nghymru.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu mai ymestyn dewisiadau rhieni a disgyblion yw’r ffordd orau o wella safonau yn ein hysgolion.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ym mhwynt 3, dileu:

‘sy’n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw rhieni’n dymuno hynny’.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ym mhwynt 3, dileu:

‘ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg’.

Gwelliant 5—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod miloedd o blant bob blwyddyn yng Nghymru yn cael eu gwrthod o’r ysgolion y byddai orau ganddynt hwy a’u rheini am fod ysgolion da, llwyddiannus yn llawn.

Gwelliant 6—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau ysgolion o reolaeth awdurdodau lleol a galluogi ysgolion poblogaidd i ehangu er mwyn galluogi rhagor o ddisgyblion i gael mynediad i’r ysgolion y maent hwy a’u rhieni yn eu dewis.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig yr holl welliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies AC. Mae’n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, na fyddwn yn cefnogi cynnig UKIP y prynhawn yma am fod y Ceidwadwyr Cymreig, a dweud y gwir, yn cydnabod bod Cymru yn wahanol i Loegr. Rydym yn credu bod y dirwedd addysg yn wahanol, ac o ganlyniad i hynny, nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd—[Torri ar draws.] Nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd mai cynnwys dethol yn ein system addysg yw’r ffordd gywir ymlaen i ysgolion yma. Yn lle hynny, credwn y dylai’r system addysg fod yn un sy’n ffynnu ar ddewis—dewis disgyblion, dewis dysgwyr, ac yn wir, dewis rhieni—ac un peth sy’n gwbl druenus ar hyn o bryd yw bod llawer o bobl yn cael eu hamddifadu o’r gallu i ddewis yr ysgol y maent am ei mynychu. Bob blwyddyn mewn rhai ysgolion, caiff cannoedd o ddisgyblion eu gwrthod gan yr ysgolion hynny yn syml am nad oes digon o leoedd ynddynt. Mae yna rwystrau ar hyn o bryd sy’n atal yr ysgolion hynny rhag cael creu mwy o lefydd ar gyfer y disgyblion sydd eisiau mynychu’r ysgolion hynny. Mae hynny’n anghywir. Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i gael gwared ar y rhwystrau hynny er mwyn i ysgolion da a llwyddiannus allu ffynnu, a thyfu lle mae galw am leoedd ynddynt.

Nawr, rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru bolisi lleoedd gwag yma yng Nghymru, sy’n peri i awdurdodau lleol edrych ar y ddarpariaeth yn eu hardaloedd er mwyn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau hyn. Ond yn anffodus, mae cyflymder y newid o ran gallu darparu ar gyfer y galw am leoedd ychwanegol mewn ysgolion llwyddiannus yn golygu na ellir diwallu’r galw hwnnw ar hyn o bryd. Rydym am weld gallu ysgolion o’r fath i ehangu yn cyflymu. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn garedig yn ei hymateb i’n cyfraniad i’r ddadl hon y prynhawn yma oherwydd, fel hi, rwyf am weld ysgolion Cymru ymysg y gorau yn y byd. Rwy’n credu’n wirioneddol fod gennym rai ysgolion sydd ymhlith y gorau yn y byd ar garreg ein drws. Ond yn anffodus, nid yw pob ysgol yn ysgol wych yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni dderbyn y ffaith honno ac mae angen i ni sicrhau bod pob ysgol yn gwella er mwyn i bob person ifanc gael y cyfle gorau posibl mewn bywyd y gall eu hysgol eu paratoi ar eu cyfer.

Nawr, rwy’n wleidydd na fydd byth yn dweud ‘byth’ wrth unrhyw syniad. Os daw adeg yn y dyfodol pan fo’r dystiolaeth yn awgrymu bod symudedd cymdeithasol yn gwella drwy gael ysgolion gramadeg neu drwy ddethol yn y system, yna byddaf yn barod i edrych ar hynny. Ond ar hyn o bryd, nid ydym yn argyhoeddedig fod y dystiolaeth yno.

Rwyf wedi edrych gyda diddordeb ar y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon lle mae mwy o ysgolion gramadeg yn y system wladol wrth gwrs. Mae eu perfformiad o ran cyrhaeddiad TGAU a Safon Uwch yn hynod o dda. Ond wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr arall yng Ngogledd Iwerddon yw bod yna nifer fawr o ysgolion ffydd. Felly, beth sy’n arbennig am Ogledd Iwerddon sy’n gwneud y gwahaniaeth i gyrhaeddiad addysgol a pherfformiad ysgolion? Ni all unrhyw un roi ei ys ar y peth mewn gwirionedd a dweud mai ysgolion gramadeg yw’r rheswm. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud â dethol yn unig chwaith. Felly, rwyf am weld rhagor o dystiolaeth ar hyn.

Nid wyf yn argyhoeddedig fod y sefyllfa yng Nghymru yn galw am newid i gynnwys dethol yn ein system addysg. Ond rwy’n credu mai’r ysgogiad gorau i wella perfformiad mewn ysgolion yw darparu ar gyfer dewis rhieni a chynnig mwy o ddewis i rieni a disgyblion yn gyffredinol. Tybed, Weinidog, mewn ymateb i’r ddadl hon heddiw, a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau i ganiatáu i ysgolion da a llwyddiannus, lle mae galw ychwanegol, i ehangu. Nid wyf yn credu ei bod hi’n iawn nad yw miloedd o blant bob blwyddyn yn cael mynd i’r ysgolion y maent eisiau ei mynychu.

Gan fentro pechu rhai ACau mewn perthynas â thystiolaeth anecdotaidd—gwelaf fod Lee Waters newydd adael y Siambr—hoffwn ddweud efallai’n wir mai fi yw’r unig AC sy’n bresennol a brofodd addysg mewn ysgol uwchradd fodern ac mewn ysgol ramadeg, gan fy mod yn gyntaf wedi mynychu—[Torri ar draws.] Fe wnaf eithriad o fy nghyd-Aelod yn y fan honno, sydd hefyd wedi gwneud hynny o bosibl. Mynychais y gyntaf cyn mynd ymlaen i’r ail. Dywedaf hynny oherwydd roedd modd mynd o ysgol ramadeg i ysgol uwchradd fodern hefyd. Felly, efallai fod gennyf olwg unigryw ar y ddadl hon. Gallaf sicrhau’r Siambr hon fy mod, yn ystod fy amser yn yr ysgol uwchradd fodern, wedi cael fy nysgu fy mod i fod yn aelod cynhyrchiol a gwerthfawr o’r gymdeithas ac yn wir, pe bawn yn cael fy mhrentisiaeth, gallwn wneud beth bynnag y dymunwn ei wneud.

Felly, nid oedd methu arholiad yn 11 oed yn brofiad erchyll fel y mae rhai sylwebyddion yn ceisio ei ddisgrifio, gyda thrueiniaid yn cael eu condemnio i fin sbwriel y ddynoliaeth. Yn wir, câi unrhyw ddisgyblion a ddangosai rinweddau academaidd penodol eu trosglwyddo i ysgol ramadeg fel mater o drefn.

Yr hyn yr hoffwn ei wneud, ac rwy’n cydnabod eich bod wedi cael eich profiadau, yw gofyn i chi: pan oeddech yn yr ysgol uwchradd ac roeddent yn sefydlu prentisiaethau ar eich cyfer, ac rwy’n llwyr gefnogi hynny, a oeddent mewn gwirionedd yn eich annog chi hefyd i ddod yn athrawon y prentisiaethau hynny?

Yn bendant. Roedd hyn i gyd yn ymwneud â’ch galluoedd, a chymryd pob disgybl yn ôl ei alluoedd gwahanol.

Yn anffodus, mae dyfodiad ysgolion cyfun gyda chynifer â 1,500 o ddisgyblion wedi golygu bod y disgyblion sy’n meithrin sgiliau ymarferol yn hytrach nag academaidd yn cael eu gadael ar ôl. Ar wahân i ormodedd o addysg Technoleg Gwybodaeth, mae pynciau ymarferol wedi diflannu o gwricwlwm yr ysgol. Canlyniad anochel hyn yw prinder enfawr o drydanwyr medrus, plymwyr medrus, gwneuthurwyr offer medrus, ac yn y blaen, fel y profwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â chenhedlaeth gyfan o bobl ifanc wedi’u dadrithio sy’n credu nad ydynt o fawr o werth i gymdeithas. Trwy wahanu’r disgyblion gwirioneddol academaidd oddi wrth y rhai sydd â sgiliau mwy ymarferol, gallwn ganolbwyntio ar amlygu potensial pob disgybl, waeth beth yw eu galluoedd academaidd. Wrth gwrs, dylid trosglwyddo disgyblion, fel pan oeddwn i’n ifanc, ond ar fformat estynedig o bosibl. Ni ddylai arholiad oddeutu 11 oed gael ei weld fel system o wahanu’r cyflawnwyr oddi wrth y rhai nad ydynt yn cyflawni, ond yn ddull syml o nodi galluoedd, dewisiadau a thueddiadau disgyblion unigol.

Mae Plaid Annibyniaeth y DU yn enwog am eu halergedd i ffeithiau a barn arbenigol. Felly, gadewch i ni roi ychydig o ffeithiau i UKIP am ysgolion gramadeg. Yn gyntaf, nid yw ysgolion gramadeg yn hyrwyddo symudedd cymdeithasol. Nid oeddent yn gwneud hynny yn y 1950au ac nid ydynt yn gwneud hynny yn awr. Mae’r Athrofa Addysg wedi dangos bod rhaniad cymdeithasol, wedi’i fesur yn ôl cyflogau, yn fwy mewn ardaloedd o Loegr sy’n dethol eu disgyblion nag yn yr ardaloedd sy’n cynnwys ysgolion cyfun. Yn syml, mae ysgolion gramadeg yn cadarnhau rhaniad cymdeithasol.

Yn ail, nid yw ysgolion gramadeg yn rhoi mynediad i blant o gefndiroedd tlotach at addysg o’r radd flaenaf, gan nad yw’r plant hynny’n mynd i ysgolion gramadeg yn y lle cyntaf. Dim ond 2.6 y cant o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn Lloegr sy’n cyrraedd ysgolion gramadeg. Mae hynny o gymharu â thua 15 y cant mewn ysgolion cyfun. Roedd yn wir yn y 1950au ac mae’n wir heddiw.

Yn drydydd, ni fu erioed yn oes aur ar addysg ysgolion gramadeg y gallem ddychwelyd ati, hyd yn oed pe baem eisiau gwneud hynny. Yn 1959, ar anterth addysg ddetholus, pan oedd ysgolion gramadeg yn addysgu’r 20 y cant mwyaf disglair, methodd bron i 40 y cant o ddisgyblion ysgolion gramadeg gael mwy na thri lefel O. Dim ond 0.3 y cant o blant dosbarth gweithiol a lwyddodd i gael dau lefel A—0.3 y cant. Byddai unrhyw ysgol yng Nghymru a fyddai’n cynhyrchu canlyniadau o’r fath yn dod yn destun mesurau arbennig yn go gyflym. Ni fu unrhyw oes aur. Roedd ysgolion gramadeg yn sathru ar gyfleoedd bywyd plant tlotach yn y 1950au ac maent yn sathru arnynt yn awr. Dyna pam nad ydym eu heisiau yng Nghymru. Ond fel y dywedais, nid yw UKIP yn ymwneud â ffeithiau, nac ydyw? Felly, gadewch i ni ofyn ychydig o gwestiynau iddynt yn lle hynny.

Y cwestiwn cyntaf: pwy fydd yn penderfynu pa ysgol mewn ardal sy’n dod yn ysgol ramadeg newydd? Ar ba feini prawf y seilir y penderfyniad hwnnw? Mae eich cynnig yn gwneud iddo swnio fel pe bai pawb sydd eisiau newid i ysgol ramadeg yn cael gwneud hynny. Rydych yn dweud ‘Rhowch hawl i blant fynd i ysgol ramadeg’. Rydych yn sylweddoli mai’r ffordd y mae ysgolion gramadeg yn gweithio yw drwy amddifadu’r hawl honno i’r mwyafrif, onid ydych?

Yr ail gwestiwn: pan wneir y penderfyniad, beth a ddywedwch wrth holl lywodraethwyr, athrawon, rhieni a disgyblion yr holl ysgolion eraill yn yr ardal er mwyn eu darbwyllo y byddai eu hysgol yn well fel ysgol uwchradd fodern? A pheidiwch â thaflu llwch i’n llygaid ynglŷn â statws uwch addysg dechnegol a galwedigaethol—ysgol uwchradd fodern fydd hi.

Y trydydd cwestiwn: sut y mae UKIP yn bwriadu gwasgu’r sector cyfrwng Cymraeg yn rhan o’r system newydd y maent am ei mewnforio o Loegr? Mewn llawer o lefydd, mae llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg ac maent yn fwy gwasgaredig. Pa mor bell fydd UKIP yn disgwyl i blant deithio bob dydd i gael mynd i ysgol ramadeg cyfrwng Cymraeg? 20 milltir, 50 milltir, mwy? Y gwir yw nad ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i addysg Gymraeg.

Y pedwerydd cwestiwn: sut ydych chi’n argymell gorfodi’r system hon a fewnforiwyd ar awdurdodau lleol sydd â systemau trydyddol? A ydych yn cynnig y dylid gwthio ein colegau addysg bellach i’r cyrion? Faint y mae’n mynd i gostio i wrthdroi’r diwygiadau a gynlluniwyd yn ofalus yn yr ardaloedd hynny?

Mae’n ddigalon sefyll yma heddiw a chynnig gwrthddadleuon i bolisi ysgolion sombi a ddylai fod wedi marw a bod wedi’i gladdu ers amser maith bellach. Ond os oes rhaid i ni ymladd dros ddiogelu dyfodol ein plant rhag polisïau tu hwnt i’r bedd UKIP, yna fe wnawn ni hynny. Mae Llafur Cymru yn parhau’n ymrwymedig i bolisi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi ei seilio ar ffeithiau a thystiolaeth. Rydym yn ceisio dysgu gan y goreuon. Nid yw’r system ysgolion sy’n perfformio orau ym Mhrydain yn rhan o system ddetholus Caint; fe gewch hyd iddi yn yr Alban, heb yr un ysgol ramadeg yn perthyn iddi. Yn gyson, mae’r system sy’n perfformio orau yn Ewrop ac yn y byd i’w gweld yn y Ffindir—system gyfun gant y cant.

Nid yw’r polisïau a fydd yn gwella ein system ysgolion i’w cael drwy deithio drwy amser i’r gorffennol. Maent gennym yn awr: yn hyrwyddo rhagoriaeth drwy ein consortia a thrwy Her Ysgolion Cymru, yn codi disgwyliadau athrawon drwy’r cytundeb newydd, yn mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y lleiaf ariannog a’r gweddill drwy’r grant amddifadedd disgyblion a Dechrau’n Deg. Rydym yn galw am, ac yn gweithio tuag at system sy’n cyflawni mwy o drylwyredd a safonau gwell i bawb, nid i rai yn unig, oherwydd mae pob plentyn yn haeddu hynny. Gall UKIP ddweud yr hyn y maent yn ei ddweud yn y cynnig hwn oherwydd un peth yn unig: oherwydd eu bod yn credu hyn—mae rhai yn unig sy’n haeddu; rhai ysgolion yn unig, rhai athrawon yn unig, rhai plant yn unig, ac i’r gweddill, bydd ysgol uwchradd fodern yn gwneud y tro. Rydym oll wedi gweld sut y gall rhethreg ddi-dystiolaeth UKIP niweidio gwaith cydsyniol dros ddegawdau. Mae’n bryd i bawb sy’n poeni am gydlyniant cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol wneud safiad—a gwrthod y cynnig gwag hwn.

Rwy’n cymeradwyo cyfraniad Cadeirydd y pwyllgor addysg. Mae hi’n berffaith iawn i danlinellu’r ffaith fod y rhai sydd o blaid ysgolion gramadeg am resymau’n ymwneud â gwella symudedd cymdeithasol i’w gweld yn gyndyn iawn i dderbyn y ffeithiau. Mae’n ymddangos bod gennych obsesiwn â’r sefyllfa yn Lloegr. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau yn Lloegr, oherwydd llai na 3 y cant o’r holl ddisgyblion sy’n mynd i ysgolion gramadeg sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim o gymharu â chyfartaledd o 18 y cant mewn ysgolion eraill yn yr ardaloedd lle maent wedi eu lleoli. Yng Nghaint, lle mae gennym y crynodiad mwyaf o ysgolion gramadeg, cofnodwyd mai 2.8 y cant yn unig o’r disgyblion a fynychai ysgolion gramadeg a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, o’i gymharu â 13.4 y cant yn ysgolion uwchradd annetholiadol Caint. Mae myfyrwyr difreintiedig yn economaidd- gymdeithasol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sy’n byw mewn cymdogaethau tlawd yn llawer llai tebygol o gofrestru mewn ysgolion gramadeg, hyd yn oed os ydynt yn sgorio’n uchel ym mhrofion cyfnod allweddol 2. Dyna’r ystadegau o Gaint.

Rhaid i mi ddweud, wyddoch chi, fod yr holl systemau addysg gorau yn y byd yn rhai cyfun. Clywsom am y Ffindir yn y cyfraniad blaenorol—Korea, Canada ac eraill. Nid ydym bellach yn byw mewn byd lle mae’n gwneud synnwyr i 20 y cant yn unig o’r boblogaeth gael addysg academaidd o safon uchel. Y llynedd, daeth adroddiad y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant i’r casgliad fod anghydraddoldeb incwm yn y Deyrnas Unedig rhwng gwahanol grwpiau dosbarth cymdeithasol wedi cynyddu’n sylweddol ers 1979, ond daw i’r casgliad eu bod wedi eu seilio ar dri ysgogwr cymdeithasol ac economaidd cyffredin: yn gyntaf, newidiadau strwythurol yn y farchnad swyddi; yn ail, effaith barhaus a chynyddol cefndir ar ganlyniadau i oedolion; ac yn drydydd, mynediad anghyfartal at addysg uwch a swyddi proffesiynol—dim sôn o gwbl am y toriad yn nifer yr ysgolion gramadeg fel ffactor. Yn wir, mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i ddweud bod yr hen ‘11-plus’ wedi creu rhaniad cymdeithasol ar ddiwedd yr ysgol gynradd. Fe’i beirniadwyd yn haeddiannol am y manteision a gynigiai i rai plant yn hytrach nag i eraill.

Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi synnu bod y Torïaid, ar lefel y DU yn arbennig, yn efelychu UKIP ar y mater penodol hwn, ac nid oes ganddynt unrhyw fandad, mae’n amlwg. Fe’i diystyrwyd yn bendant gan David Cameron pan oedd yn Brif Weinidog. Dywedodd nad yw’n syniad da, nid yw’n syniad y gellir ei werthu ac nid yw’n syniad cywir. Ond mae hynny’n golygu fy mod hyd yn oed wedi fy nrysu’n fwy byth yn awr gan agwedd y Ceidwadwyr Cymreig, gan fod gennym lefarydd addysg a oedd yn dweud ychydig o ddyddiau yn ôl na ddylem ei ddiystyru. Roedd y llefarydd addysg blaenorol yn dweud y dylid cyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru pan oedd David Cameron yn eu diystyru mewn gwirionedd. Yn awr mae Theresa May yn eu hystyried, ac rydych yn cyflwyno gwelliannau sy’n mynd yn groes i bolisi eich plaid eich hun. O ddifrif, ni allech greu’r fath beth.

Mae yna beth a elwir yn ddatganoli; efallai nad ydych wedi sylwi arno. Mae gennym bolisïau gwahanol yng Nghymru i’r hyn sydd gan eich plaid yn Lloegr, am fod ein system addysg yn wahanol; mae gan Gymru anghenion gwahanol. Nawr, yr hyn a ddywedais y diwrnod o’r blaen oedd na ddylem byth ddweud ‘byth’ a chau’r drws yn llwyr ar unrhyw syniadau. Nid ydym yn barod i wneud hynny. Mae’n ymddangos eich bod chi’n gallu rhagweld beth y gallai fod gan y dyfodol i’w ddweud o ran tystiolaeth, ond a bod yn onest, rhowch y gorau i refru am Loegr; dywedwch wrthym beth yw eich polisi chi ar y pethau hyn yma yng Nghymru.

Gallwn anghofio am arholiad yr ‘11-plus’, mae gennym ‘11 a mwy’ o agweddau gwahanol tuag at ysgolion gramadeg ar y meinciau Ceidwadol hyn yma’n unig, iawn. Wyddoch chi, gallwch alw eich hun yn blaid yr wrthblaid—plaid ddynwaredol ydych chi, rhaid i mi ddweud, yn efelychu a dynwared UKIP ar ormod o bolisïau yn fy marn i. Gadewch i ni fod yn glir ar hyn, iawn. Lle ceir ysgolion gramadeg heddiw, dengys ymchwil fod mynediad atynt yn gyfyngedig i’r rhai mwyaf cefnog. Ac mae cyrhaeddiad y rhai sy’n methu mynd i mewn i ysgolion gramadeg yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Maent yn annog anghydraddoldebau addysgol a dyna pam y mae Plaid Cymru eisiau sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at yr un cyfleoedd, waeth beth yw eu cefndir, a dyna pam y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig y prynhawn yma.

Pan euthum i goleg hyfforddi athrawon gyntaf, roedd y dirwedd addysg yn wahanol iawn i’r hyn a welwn heddiw. Roedd y rhai â thueddiad academaidd yn mynd i ysgolion gramadeg, ond roedd y rhai a oedd yn tueddu mwy at alwedigaeth yn mynd i ysgol uwchradd fodern. Roedd ysgolion gramadeg gwladol yn addysgu cannoedd o filoedd o ddisgyblion, ac yn cynnig addysg am ddim y gellid ei chymharu ag addysg ysgolion a oedd yn codi ffioedd. Yn anffodus, lansiwyd ymgyrch gan y rhai oedd â gwrthwynebiad ideolegol i unrhyw fath o ddethol i ddinistrio pob ysgol ramadeg yn y wlad a chyflwyno’r system gyfun. Rhoddodd y system gyfun ddiwedd ar ddethol academaidd a gorfodi pob disgybl i fynd i’w hysgol leol, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu dosbarthiadau mwy o faint ac addysg israddol. O dan y system gyfun, rydym wedi gweld cyrhaeddiad disgyblion yn gostwng, rwy’n teimlo. Mae dosbarthiadau mwy o faint wedi golygu bod llai o gyswllt un i un rhwng athro a disgybl, ac mewn llawer o achosion, mae rôl yr athro wedi cael ei chyfyngu i rôl hwylusydd yn hytrach na hyfforddwr.

Mae un astudiaeth ar ôl y llall wedi dangos bod prosiect peirianneg gymdeithasol y system gyfun yn methu. Rydym wedi gweld y gostyngiad yn y safonau’n cyflymu ac rydym yn disgyn ar ôl ein cymheiriaid yn y tablau cynghrair rhyngwladol.

Na, mae’n ddrwg gennyf, Llyr, ni wnaf.

Mae’r galw am ysgolion gramadeg yn yr ychydig bocedi lle maent yn dal i fodoli wedi saethu i’r entrychion. Felly, unwaith eto, nid ydym yn edrych ar yr hyn y mae pobl ei eisiau, rydym yn edrych ar orfodi rhywbeth nad ydynt ei eisiau o bosibl. Yn anffodus, nid yw’r ysgolion gramadeg hyn ond yn bodoli yn y rhannau cyfoethocach o dde Lloegr ac yn ogystal â phrisiau tai yn codi, mae hynny wedi golygu bod llai a llai o ddisgyblion o gefndiroedd tlotach yn mynychu ysgolion gramadeg.

Bachwyd ar hyn ac fe’i hystyriwyd yn dystiolaeth fod ysgolion gramadeg yn cyfyngu ar symudedd cymdeithasol ac felly y dylid ei wrthwynebu. Ni ddylid cyfyngu addysg ragorol i’r cyfoethog yn unig—y rhai sy’n gallu fforddio talu am addysg breifat neu symud i ardal gydag ysgolion rhagorol. Dylai addysg ragorol fod ar gael i bawb a dylai herio ein plant mwyaf disglair yn ogystal. Addysg ragorol yw’r llwybr go iawn at symudedd cymdeithasol.

Dyma beth y mae cynnig UKIP ger eich bron heddiw yn ei argymell. Rydym am weld ysgolion gramadeg yn cael eu hailgyflwyno yng Nghymru i gynhyrchu system addysg sy’n cynnig y cyfleoedd gorau i blant o bob gallu ac o bob cefndir. Pam y dylai plant o gefndiroedd tlotach gael eu hamddifadu o addysg o’r radd flaenaf? Pam y dylai plant nad ydynt yn alluog yn academaidd gael eu hamddifadu o addysg o’r radd flaenaf, sy’n canolbwyntio ar bynciau technegol a galwedigaethol? A pham y dylai gwleidyddiaeth barhau i lesteirio dyfodol ein plant?

Pe baem yn gwbl ymrwymedig i gael gwared ar fraint, byddem wedi diddymu addysg breifat yn hytrach na mynd i ryfel yn erbyn ysgolion gramadeg. Ond o gofio bod llawer o wleidyddion wedi bod mewn ysgol breifat, nid oedd hynny byth yn mynd i ddigwydd. Bydd ysgolion gramadeg yn cynnig dewis i rieni: dewis i anfon eu plant i ysgol sy’n cynnig addysg gyfartal i’r hyn a geir yn y sector preifat; dewis i anfon eu plant i ysgol a fydd yn eu herio ac yn hyrwyddo’u potensial i’r eithaf; a dewis i anfon eu plant i ysgol nad yw’n poeni am eu cefndir cymdeithasol, ond sy’n cynnig symudedd cymdeithasol iddynt.

Anogaf yr Aelodau i gefnogi ein cynnig, ond hoffwn ddweud nad wyf i’n berson a aeth i ysgol ramadeg. Methais yr ‘11-plus’, ond nid yw’n eich dal yn ôl, am eich bod yn mynd i ysgol uwchradd fodern a rhywbeth yn y canol a fynychais i: Ysgol y Pant. Roedd yn cynnig yr un cyfleoedd i mi ag ysgol ramadeg, yn addysgol. Os ydych o ddifrif eisiau mynd ar drywydd addysg, gallwch ddod â hynny i sylw’r athrawon. Ond wrth ddod allan o goleg hyfforddi athrawon, digalon iawn oedd gweld yn sydyn nad oeddech yn gwybod pwy oedd y disgyblion—roedd gennych lun o’ch blaen i’ch atgoffa pwy oeddent. Nid yw hynny’n ffafrio dysgu. Nid yw hynny’n ffafrio’r bregus mewn cymdeithas—

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Aethoch yn eich blaen i gael hyfforddiant athrawon, cefais innau hyfforddiant athrawon, a chredwch fi, roeddwn yn adnabod pob un o’r disgyblion y bûm yn eu dysgu. Nid oedd angen lluniau arnaf—

Roeddwn yn dysgu mewn ysgol gyfun, roeddwn yn adnabod y disgyblion ac yn fwy na hynny, roedd yr addysg a gawsant cystal â’r un. Nid yw’n ymwneud ag addysg ysgol ramadeg, mae’n ymwneud â’r modd y caiff addysg ei darparu.

Rwy’n anghytuno’n llwyr â chi ar y pwynt hwnnw. Credaf fod dosbarthiadau llai ac ysgolion llai—rydych yn helpu’r mwyaf bregus yn yr ysgolion hynny, ond rydych yn eu colli yn y system gyfun. Diolch.

Mae’r cynnig hwn yn mynd at wraidd yr hyn y mae UKIP yn ei wneud mewn gwirionedd, sef dethol a gwahanu. Mae Cylchlythyr 10/65 yn drobwynt pwysig a roddodd siâp i addysg yn y wlad hon yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Hanner cant ac un o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n dal i fod yn un o lwyddiannau blaengar diffiniol Llywodraeth Lafur radical Wilson 1964-1970, a byddwn yn sôn am ychydig o arbenigwyr ac ychydig o bobl deilwng yn fy araith. Anthony Crosland oedd yr Ysgrifennydd Addysg a anfonodd femorandwm pwysig at yr awdurdodau lleol. Roedd y ddogfen yn cyfarwyddo swyddogion lleol i ddechrau newid ysgolion gramadeg yn ysgolion cyfun. Roedd Anthony Crosland yn gawr yn y mudiad Llafur ac yn gyfan gwbl benderfynnol o ddiddymu ysgolion gramadeg anflaengar ac ôl-syllol, ac rwy’n rhannu safbwynt Crosland. Rwy’n falch iawn o godi yn y ddadl hon i wrthwynebu’r cynnig hwn gan UKIP sydd i’w weld fel pe bai wedi ei estyn o gypyrddau llychlyd Pencadlys y Blaid Geidwadol yn y 1950au, er fy mod yn deall nad ydynt hwy mewn gwirionedd yn cytuno.

Mae’n bwysig i ni atgoffa ein hunain am destun y memorandwm hwn, un o’r rhai prydferthaf a ysgrifennwyd erioed yn fy marn i, ac mae’n dweud fel hyn:

Amcan datganedig y Llywodraeth yw rhoi diwedd ar ddethol drwy arholiad yn 11 oed a dileu ymwahaniaeth mewn addysg uwchradd. Cymeradwywyd polisi’r Llywodraeth gan Dŷ’r Cyffredin mewn cynnig a basiwyd ar 21 Ionawr 1965.

Ac mae hyn yn bwysig:

o fod yn ymwybodol o’r angen i godi safonau addysg ar bob lefel, ac o fod yn gresynu bod gwireddu’r amcan hwn yn cael ei rwystro gan wahanu plant i wahanol fathau o ysgolion uwchradd, noda’r Tŷ hwn gyda chymeradwyaeth ymdrechion awdurdodau lleol i ad-drefnu addysg uwchradd ar batrwm cyfun a fydd yn diogelu popeth sy’n werthfawr mewn addysg ysgol ramadeg i’r plant sy’n ei chael ar hyn o bryd ac yn sicrhau ei bod ar gael i fwy o blant; mae’n cydnabod y dylai dull ac amseriad ad-drefnu o’r fath amrywio yn ôl anghenion lleol; ac mae’n credu ei bod bellach yn bryd cael datganiad o bolisi cenedlaethol.

Mae’r angen, fel y mae’r memorandwm yn dweud,

i godi safonau addysgol ar bob lefel

mor allweddol heddiw ag yr oedd 51 mlynedd yn ôl ac fel y nododd Aelodau eraill yn y Siambr hon. Mae’n gwbl druenus fod aelodau o UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, nid yn unig yn dymuno cael gwared ar eu harweinydd cenedlaethol yng Nghymru, yr AC annibynnol newydd, Nathan Gill, ond maent hefyd yn awyddus i yrru plant Cymru yn ôl dros hanner canrif i oes y trowsus byr, rhaniadau dosbarth a byd o gyfleoedd cyfyngedig.

Pwy oedd yn gyfrifol am ddisodli’r cylchlythyr hwn? Gadewch i mi ddyfalu: un o’r enw Margaret Thatcher, yn debyg i Theresa May sydd ar hyn o bryd yn dal i gefnogi hynny, pan ddaeth yn Ysgrifennydd addysg yn 1970, ac mae hyn yn bwysig yn y cyd-destun. Mae gennych y cyfan sydd angen i chi ei wybod pan fydd UKIP yn canu clodydd Margaret Thatcher, ac mae ganddynt yr wyneb i bortreadu eu hunain fel etifeddion Llafur yng Nghymoedd de Cymru. Ar ôl y penderfyniad i adael yr UE, nid oes ganddynt ddim i’w gynnig i bobl Cymru ond polisïau Torïaidd a’r syniad o faes awyr Maggie Thatcher, ond rwy’n crwydro. Fel y dywedodd yr Arlywydd Obama yn gofiadwy unwaith, gallwch roi minlliw ar wyneb mochyn, ond mochyn fydd e o hyd.

Rydym i gyd yn gwybod am gynghorwyr annibynnol ar gynghorau sy’n rhy ofnus i sefyll dan faner y Torïaid. Nawr, mae gennym UKIP Cymru—cartref i wleidyddion a wrthodwyd gan y Torïaid gyda’u harweinydd yng Nghymru yn Aelod annibynnol—gyda’r Torïaid, eu cyfeillion, yn y Siambr, gyferbyn. Felly, beth sy’n ysbrydoli—[Torri ar draws.] Ni chlywais hynny. Beth sy’n ysbrydoli’r chwiw anflaengar hon gan Brif Weinidog y DU? Gadewch i ni ofyn cwestiwn difrifol iawn. Beth sy’n ei hysbrydoli yn awr gydag aelodau UKIP ar ei hochr?

Yn sicr nid yw’n awydd poblogaidd ymysg y bobl. Un o bob tri o bobl Lloegr yn unig sy’n credu bod Llywodraeth y DU yn iawn i gynyddu nifer yr ysgolion gramadeg a dethol mwy o ddisgyblion ar sail gallu academaidd. Rydym wedi clywed pam yn y fan hon y prynhawn yma, oherwydd o ran addysgeg, mae’n hen ffasiwn, mae’n anflaengar ac nid yw’n gweithio. Gadewch i ni edrych ar y Ffindir am atebion; gadewch i ni beidio ag edrych ar draws y ffin ar Loegr. Os ydych yn parchu ac yn deall, mae yna bôl piniwn YouGov ar gyfer ‘The Times’ sy’n dweud mai 34 y cant yn unig o’r rhai a holwyd a gefnogai’r polisi—sef cael gwared ar ysgolion gramadeg—ac nid oedd y gweddill yn ei gefnogi.

Felly, mae gwahanu cymdeithasol drwy addysg yn amrywio. Y rhai sy’n parhau i wadu yn unig sydd ar ôl. Maent yn rhyw lun o geisio datgladdu’r corff, fel Heathcliff anobeithiol yn rhefru am ei Catherine yn ‘Wuthering Heights’, er bod yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arwr Byronaidd annhebygol.

Felly, beth yw barn yr arbenigwyr addysg? Dywedais y byddwn yn siarad am y rheini. Ar y mater hwn, mewn gwirionedd fe lwyddodd y cynigydd, Theresa May, i uno’r cyn-Ysgrifenyddion addysg Llafur a Cheidwadol, yr undebau addysgu a’r Blaid Lafur seneddol yn eu gwrthwynebiad. Felly, yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ni allodd y Prif Weinidog May ddyfynnu un arbenigwr sy’n cefnogi camau i ymestyn ysgolion gramadeg. Gadewch i ni edrych ar Syr Michael Wilshaw felly, pennaeth mawr ei barch a’i glod y corff gwarchod addysg yn Lloegr, y Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau. Mae Syr Michael wedi datgan bod y model addysg ddetholus, a dyfynnaf, ‘yn gam mawr yn ôl’. Pennaeth y corff gwarchod yn Lloegr yw hwn.

Mae’n ddrwg gennyf, ni wnaf. Ac ymhellach, fod ei hanes o dderbyn plant o gefndiroedd heb fod yn ddosbarth canol ‘yn eithaf truenus’. Rydym wedi clywed y geiriau hynny eisoes—eithaf truenus. Gwn y byddai aelodau UKIP yn hoffi pe baem yn byw ym myd Michael Gove a’i fydysawd cyfochrog. Datganodd y cyn-Ysgrifennydd Addysg Torïaidd hwnnw’n gynharach eleni,

Rwy’n credu bod pobl yn y wlad hon wedi cael digon ar arbenigwyr.

Wel, gadewch i mi ddweud wrth y Siambr hon fod pobl Cymru sy’n frwd ynghylch lles addysg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn dal i gredu mewn arbenigwyr, ac yn benodol, maent yn credu mewn arbenigwyr addysgol ac maent yn credu mewn penaethiaid. Felly, pan fydd pennaeth Ofsted yn Lloegr yn dweud wrth uwchgynhadledd addysg i gynghorau Llundain—

Iawn. Y cwestiwn y byddwn yn ei ofyn i’r rhai sy’n crochlefain am gael dychwelyd at system ddethol yw: a ydych chi wir eisiau gwahanu disgyblion Cymru? Mae’r ateb yn glir: rydych yn dymuno rhannu a gwahanu plant Cymru. Rwy’n gwrthwynebu’r cynnig hwn yn gryf.

Rhai troeon ymadrodd diddorol yn y fan honno. Rwy’n credu bod y Blaid Lafur wedi diddymu ysgolion gramadeg pan oedd y Blaid Lafur yn Blaid Lafur. Nid wyf yn siŵr beth yw hi bellach. O ran y ddadl, mae ysgolion gramadeg yn amlwg yn syniad gwael. Maent yn ymrannol; rydych yn diystyru pobl yn 11 oed. Mae’r dystiolaeth yno nad oedd y system yn gweithio, ond nid yw hynny’n golygu bod yr hyn sydd gennym heddiw yn gweithio. Rwy’n credu mai’r Prif Weinidog a ddywedodd yn ystod y tymor diwethaf fod y Llywodraeth wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl. Byddwn yn cytuno â hynny oherwydd rwy’n credu nad yw’r addysg y mae llawer o’n plant yn ei chael yn awr yn ddigon da. Nid yw’r adeiladau mewn cyflwr digon da, mae gormod o doriadau, mae gormod o ddileu swyddi, mae gweithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn gyfyngedig—ac rwy’n siarad fel athro gyda 23 mlynedd o brofiad. Y broblem fwyaf ym maes addysg yw’r farchnad, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr ac a barhawyd gan y Blaid Lafur. Os edrychwch ar y farchnad gymwysterau, nid ydynt yn gweithio. Yr hyn rydym ei angen yw safonau aur y gall pawb anelu atynt, oherwydd, ar y funud, ceir llu o gymwysterau ac mae rhai cwmnïau preifat yn gwneud llond sach o arian ar hynny.

Rwy’n edrych ar y diwylliant sy’n cael ei ysgogi gan dargedau—[Torri ar draws.] Nid wyf am ildio. Mae’r diwylliant a ysgogir gan dargedau yn beth gwael. Mae’n dadbroffesiynoli addysgu, ac rwy’n credu bod hynny’n gyffredin ym mhob man.

Rhai syniadau’n unig, a dweud y gwir. Os edrychwch ar Estyn, rwy’n meddwl bod y gwerth yn amheus. Rwy’n credu y byddai’n llawer gwell i ni gael athrawon profiadol iawn ar gyfnodau sabothol i arolygu, ond mewn modd sy’n debycach i fentora, yn hytrach na cheisio dal pobl ar eu bai. Rwy’n meddwl bod yr holl—

Na, ni wnaf. Na wnaf. Yr holl beth am addysg yng Nghymru yw ei fod, i mi, yn rhy wleidyddol, ac rwy’n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei weld, mewn gwirionedd, yw comisiwn hollbleidiol ar addysg sy’n edrych 20 mlynedd i’r dyfodol, gan fod popeth yng Nghymru heddiw yn fyrdymor tu hwnt. Os edrychwch ar y Ffindir—. Wel, mae’r Ysgrifennydd addysg yn ysgwyd ei phen; nid wyf yn gwybod pam. Mae popeth yn fyrdymor. Os edrychwch ar y Ffindir, mae ganddynt ddosbarthiadau o 15. Felly, os ydych yn mynd i gyflwyno dosbarthiadau llai o faint, yn y bôn, gwych, ond o un neu ddau? Wyddoch chi, beth yw’r pwynt? Rwy’n meddwl bod angen cwestiynu’r gwariant yno, oherwydd, os ydych yn mynd i leihau maint dosbarthiadau o ddwsin, bendigedig; gadewch i ni fwrw ymlaen â hynny, gadewch i ni fod yn radical.

Ieithoedd modern: mae gennym gyfle gwych yng Nghymru i fagu pawb yn ddwyieithog o dair oed ymlaen. Pam ddim? Dylai pob plentyn ddysgu Cymraeg o dair oed ymlaen. Dylent ddysgu iaith Ewropeaidd hefyd—Sbaeneg, Ffrangeg. Pan gyrhaeddant flynyddoedd yr arddegau efallai, beth am ddysgu iaith economi sy’n datblygu? Maent yn ei wneud yn yr Iseldiroedd; pam na allwn ei wneud yma? Ond er mwyn cael y sgiliau sydd eu hangen, unwaith eto, byddwn yn dweud bod angen i chi gael cynllun 20 mlynedd, yn fras.

Dof â fy sylwadau i ben yn awr, ond rwyf am ddweud un peth, gan fod pawb yn sôn am addysg. Rwyf wedi clywed hyn o bob rhan o’r Siambr, gan gynnwys gennyf fi, ond rwyf am ofyn cwestiwn yn hytrach na rhoi ateb. A’r cwestiwn yw: beth rydym ei eisiau o’n system addysg mewn gwirionedd? Hyd nes y byddwn yn gwybod hynny—. Ac nid wyf yn golygu safonau uwch yn unig, a rhethreg wleidyddol. Beth rydym ei eisiau o ran addysg mewn gwirionedd? Beth rydym ei eisiau gan y plant sy’n dod allan ar y pen arall? A hyd nes yr atebwn y cwestiwn hwnnw, hyd nes y byddwn yn gwybod yn union beth rydym ei eisiau a lle rydym yn mynd, nid wyf yn credu ein bod yn mynd i fod yn llwyddiannus.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyfrannu i’r ddadl. Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb, ac anobaith ar adegau, ar bopeth sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma. Nawr, er bod y cynnig mewn trefn yn ddi-os, mae hon yn ddadl na ddylem fod yn ei chael. Nid a ddylem ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru ddylai’r cynnig fod—ysgolion sy’n rhan o system addysg hen ffasiwn, ymrannol y rhoddwyd y gorau iddi yn ein gwlad bron i 50 mlynedd yn ôl. Dylai’r drafodaeth ymwneud â sut rydym yn gwneud yn siŵr fod pob un—ac rwy’n golygu pob un—o’n plant yn cael addysg o’r radd flaenaf. Mae fy ffocws ar wella addysg ym mhob un o’n hystafelloedd dosbarth, ym mhob un o’n hysgolion, ac i bob un o’n disgyblion. Ac a dweud y gwir, nid oes gennyf fawr o ddiddordeb mewn strwythurau. Nid dyna fy mlaenoriaeth. Ansawdd yr addysg sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc, nid pa fath o ysgol y maent yn ei mynychu. Ac yn sicr, Lywydd, nid wyf yn meddwl bod edrych yn ôl at orffennol euraid yn fuddiol iawn i Gymru.

Mae’r cynnig a gynigiwyd gan Michelle Brown yn mynd yn groes i dystiolaeth ryngwladol. Bythefnos yn ôl, ymwelais â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—yr OECD. Cyfarfûm ag arbenigwyr sy’n arwain y byd fel Andreas Schleicher, ac mae’r dystiolaeth ryngwladol o’r OECD yn glir: nid oes cyswllt o gwbl rhwng dethol disgyblion mewn systemau ysgolion a gwella sgoriau. Ac nid oes cyswllt rhwng hynny ychwaith a chynyddu symudedd cymdeithasol. Cadarnhawyd hyn gan dystiolaeth gan Ymddiriedolaeth Sutton y mae Lynne Neagle, Cadeirydd y pwyllgor addysg, a Llyr Huws Gruffydd eisoes wedi cyfeirio ati heddiw. Gwelsant fod llai na 3 y cant o blant ysgolion gramadeg yn cael prydau ysgol am ddim, o gymharu â 20 y cant ar draws gweddill y wlad. Ac mae pennaeth presennol OFSTED hyd yn oed wedi dal ei ben mewn anobaith ynglŷn â’r argymhellion ar draws y ffin ac wedi dweud nad ydynt yn gwneud dim—ac rwy’n ailadrodd, nid yw ysgolion gramadeg yn gwneud dim—i wella symudedd cymdeithasol.

Lywydd, pan gynhaliodd yr OECD eu hadolygiad o addysg yng Nghymru yn 2013, nid oeddent yn dal unrhyw beth yn ôl. Roeddent yn glir ac yn ddiamwys iawn ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu ein system addysg, ac maent yn heriau rwy’n barod i’w hwynebu. Roeddent yn nodi’n glir iawn beth oedd angen ei newid, ond roeddent hefyd yn nodi bod ein system gyfun yma yng Nghymru yn un o’n cryfderau. Pam y byddem eisiau newid hynny? Dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant cyntaf Paul Davies i’r cynnig yma y prynhawn yma. Ond, yn union fel Llyr Huws Gruffydd, rwy’n ddryslyd braidd, gan mai bythefnos yn ôl yn unig y dywedodd llefarydd addysg y Torïaid fod digon o dystiolaeth i gefnogi ysgolion gramadeg ar sail symudedd cymdeithasol, a dyfynnaf,

Ni ddylai rhieni a phobl ifanc gael eu hamddifadu o’r cyfle i ddewis ysgol ramadeg.

Nawr, rwy’n rhoi’r bai am hynny efallai ar swyddog y wasg brwdfrydig iawn a ryddhaodd y datganiad cyn i Darren ei weld. [Torri ar draws.] Ond rwy’n croesawu’n fawr iawn yn wir heddiw y datganiad clir iawn na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi dychwelyd at addysg ddetholus.

Mae ein hymgyrch i wella safonau yn seiliedig ar dystiolaeth, o ddiwygio’r cwricwlwm—. A byddwn yn dweud wrth Mr McEvoy, os ydych am wybod beth y mae’r Llywodraeth hon ei eisiau o’i system addysg, yna darllenwch Donaldson. Mae’n gwbl glir—yn glir iawn. O ddiwygio’r cwricwlwm i wella arferion addysgeg, dyna rydym yn ei wneud, ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud y cynnydd cywir. Dyna pam y gofynnais i’r OECD, pan gyfarfûm â hwy, ddychwelyd i Gymru i roi cyngor i mi ar ba un a oes gennym strategaethau cywir ar waith i ymateb i’w hadolygiad a gyhoeddwyd yn 2014, a byddant yn gwneud hynny yr hydref hwn.

Rwyf o ddifrif ynglŷn â dysgu gan y gorau ym mhob cwr o’r byd er lles Cymru, a dyna pam rwy’n gwrthwynebu ail welliant Paul Davies i’r cynnig. Mae ein polisïau’n ymwneud â chodi safonau yn ein holl ysgolion, fel bod pob plentyn, waeth ble mae’n byw, yn cael y profiad dysgu gorau posibl. [Torri ar draws.] Na, Darren.

Ni ddylai dewis i rieni ymwneud yn unig â phwy sy’n gallu gweiddi uchaf am gael mynd i’r ysgolion gorau. Dylai pob ysgol yng Nghymru fod yn rhagorol, ac mae’r OECD eto, Darren, yn cydnabod bod systemau ysgolion sy’n perfformio’n dda â systemau cydweithredu yn ganolog iddynt, ac nid y gystadleuaeth sydd ymhlyg yn eich gwelliant.

Fodd bynnag, rwy’n cefnogi trydydd a phedwerydd gwelliant Paul Davies y prynhawn yma. Mae’n iawn y dylai addysg uwchradd fod yn amrywiol. Mae’n iawn y dylai addysg uwchradd feddu ar gynnig academaidd a galwedigaethol cyfoethog. Mae’n iawn y dylem gael addysg sy’n darparu’r cyfleoedd gorau i bob person ifanc.

Os caf wneud rhywfaint o gynnydd, os gwelwch yn dda. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ansawdd addysgu a dysgu, mewn gwirionedd mae gan Gymru stori gadarnhaol iawn i’w hadrodd ar y cynnig galwedigaethol. Ers rhai blynyddoedd rydym wedi bod â pholisi cryf iawn ar gyfer y llwybr dysgu 14-19, sy’n darparu cwricwlwm eang i ddysgwyr. Fe ildiaf.

Diolch. Os yw’r system gyfun wedi bod mor wych, ac wedi gweithio mor dda, pam rydym yn siarad yn awr—? Bob tro y byddaf yn clywed unrhyw un yn siarad am addysg yn y Siambr hon, mae’n ymwneud â newid pethau, addasu pethau; fod yn rhaid gwneud pethau’n well. Pam eich bod yn sydyn yn awr, ar ôl 50 mlynedd o system gyfun, yn dihuno i’r ffaith fod cymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn ddau beth gwahanol, a bod yna wahanol ddisgyblion sy’n rhaid eu defnyddio o ran y ddau allu academaidd gwahanol hynny?

Ac mae’r disgyblion hynny yn gwneud defnydd o gwricwlwm eang yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Ond nid wyf fi, yn bendant, yn barod i orffwys ar fy rhwyfau, Mr Rowlands. Rwyf eisiau ysgolion sydd hyd yn oed yn well yng Nghymru—ar gyfer fy mhlant, ac ar gyfer holl blant y wlad hon. Mae gennym rai enghreifftiau gwych o ysgolion yn cydweithio â cholegau addysg bellach, sydd, fel y dywed Lynne Neagle, i’w gweld wedi eu hanghofio’n llwyr yn y geiriau hallt a gawsom gan UKIP y prynhawn yma. Mae gennym beirianneg a gweithgynhyrchu yn cael eu cynnig yng Ngholeg Menai. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdod lleol y brifddinas i gyflwyno cyrsiau galwedigaethol yn nwyrain y ddinas. Mae Coleg Penybont yn cynnig cyrsiau gyda’r hwyr ar gyfer pob dysgwr rhwng 14 a 19 oed, ac maent yn helpu i gyflwyno’r Safon Uwch ar ran Ysgol Gyfun Pencoed. Mae gennym gysylltiadau cryf iawn, ac rwyf am weld y rheini’n cael eu datblygu.

Gan droi at bumed gwelliant Paul Davies, rwy’n pwysleisio ein bod unwaith eto yn gweithio’n galed i godi safonau ym mhob ysgol. Mae gennym raglen ddiwygio uchelgeisiol. Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol ac yn cymryd rhan mewn prosiectau OECD allweddol, megis yr ysgolion dysgu cynnar rhyngwladol ac ysgolion fel sefydliadau dysgu, ac asesu cynnydd mewn meddwl yn greadigol ac yn feirniadol. Ac rydym yn gweithio gyda’r proffesiwn addysgu. Rwyf am i bob ysgol fod yn rhagorol ac nid oes unrhyw ddisgybl nac unrhyw ysgol yn cael eu gadael ar ôl.

Mae chweched gwelliant Paul Davies yn galw am gyflwyno ysgolion rhydd ac academïau ac rwy’n credu mai ffurf arall ar ddethol yw hynny. Rwy’n gwrthwynebu’r polisi hwn yn gryf. Rwyf wedi ymrwymo i system addysg gyfun sy’n gwasanaethu pob dysgwr yng Nghymru. Unwaith eto, rwy’n ailadrodd bod yn rhaid i ni ddilyn y dystiolaeth. Yn syml iawn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod ysgolion rhydd neu academïau yn ateb i bob problem mewn perthynas â chodi safonau. Mae adroddiad y Gyfnewidfa Bolisi yn 2015 yn datgan na cheir tystiolaeth i gefnogi’r honiadau fod ysgolion rhydd yn codi safonau, a dywedodd adroddiad gan bwyllgor addysg Tŷ’r Cyffredin nad oedd unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol o’r effaith ar gyrhaeddiad. Yn wir, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth y DU roi’r gorau i orliwio llwyddiant yr ysgolion hyn.

Mae’r gorau a geir yng Nghymru yn cynnwys traddodiad o hunan-wella, gwybodaeth sy’n democrateiddio ac arweinyddiaeth addysgol. Mae ein diwygiadau addysg wedi eu hysbrydoli gan y gwerthoedd hynny. Mae’r ychydig flynyddoedd nesaf yn allweddol er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau sy’n cael eu rhannu a’u mynnu ar draws Cymru: cyflwyno cwricwlwm newydd a wnaed yng Nghymru, ond wedi ei siapio gan y gorau o bedwar ban byd; un a fydd yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu byw bywydau boddhaus, yn bersonol, yn ddinesig ac yn broffesiynol mewn democratiaeth fodern.

Rwyf am i bob rhiant fod yn hyderus fod eu plentyn yn mynd i ysgol sy’n eu helpu i dyfu fel dinasyddion galluog, iach a chyflawn. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i athrawon gael eu cynorthwyo i fod y gorau y gallant fod, gan godi safon y proffesiwn yn ei gyfanrwydd. Mae athrawon yn rhannu cenhadaeth fel unigolion, yn broffesiynol ac yn genedlaethol i helpu ein plant i lwyddo. Gan weithio’n agos gyda’r proffesiwn, byddwn yn gwella safonau addysgu a chyfleoedd ar gyfer datblygu. Nid wyf fi, Lywydd, yn mynd i gael fy nargyfeirio oddi ar y llwybr hwn ac ni fydd y Llywodraeth hon. Rwy’n ofni nad yw’r alwad hon am ysgolion gramadeg yn ddim mwy na dargyfeiriad.

Rwy’n credu y gallwn i gyd gytuno ein bod wedi cael dadl ysbrydoledig a difyr. Rwy’n siomedig nad yw Rhianon Passmore yn fy ngweld fel arwr Byronaidd, ond heddiw’n unig yw hynny. Pe bai wedi fy adnabod 40 mlynedd yn ôl, gallai fod wedi dod i gasgliad gwahanol. Ond rwy’n hapus iawn i gyfnewid cyfeiriadau llenyddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda hi: mae hi wedi fy atgoffa, gyda’r angerdd y cyflwynodd ei haraith heddiw, am gymeriad yn ‘A Tale of Two Cities’, sef Madame Defarge, y weuwraig a eisteddai wrth waelod y gilotîn ac a anfonai negeseuon cod at bwyllgor diogelwch y cyhoedd yn ôl cyflymder ei gweu i nodi’r rhai a oedd i’w condemnio i’r gilotîn. Felly, mae’n dangos o leiaf ei bod hi wedi cael addysg weddus gan ei bod yn deall pwynt fy sylw bachog.

Ond dechreuasom y ddadl gyda’r darlun difyr o fy ffrind, Darren Millar, yn sefyll ar ei ben. Mae’n anodd gweld pam y dylai’r Blaid Geidwadol yng Nghymru fod mor amlwg o wahanol yn ei pholisi ar addysg i’r drefn newydd yn Lloegr, gan fod Theresa May wedi cyfiawnhau’r newid yn y polisi yn sylfaenol ar sail dewis i rieni. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n credu na ddylid amddifadu pobl Cymru ohono. Mae tua saith o bob 10 o Brydeinwyr, yn ôl datganiad i’r wasg Llywodraeth y DU, am weld y gwaharddiad ar ysgolion gramadeg newydd yn cael ei godi ac mae wyth o bob 10 yn credu y gall ysgolion gramadeg hybu symudedd cymdeithasol pan gaiff pleidleiswyr sydd heb benderfynu eu heithrio.

Wrth gwrs, rydym wedi cael gan wahanol gyfranwyr i’r ddadl—Llyr Gruffydd a Lynne Neagle; rwy’n parchu’r ddau ohonynt yn fawr fel seneddwyr—cawsom ganddynt amrywiol honiadau fod system yr ysgolion gramadeg i’w chondemnio am eu bod yn gwadu mynediad i blant rhieni cymharol dlawd, ac mae hynny’n wir yn Lloegr gan mai dim ond 163 ohonynt sydd ar ôl. Yn Lloegr, yr hyn a gewch yw dethol ar sail cyfoeth yn hytrach na dethol ar sail gallu, oherwydd bod pobl yn symud i ddalgylchoedd yr ysgolion gorau. Mae hynny’n rhywbeth na ellir ei gefnogi. Wrth gwrs, nid oes gennym broblem o’r fath yng Nghymru oherwydd nid oes gennym ysgolion gramadeg. Ond mae hynny hefyd yn golygu bod gennym system sy’n un ateb i bawb.

Gan Lynne Neagle a Rhianon Passmore, cawsom olwg ar y gorffennol ynghylch gorfodi system gyfun. Cafodd Anthony Crosland ei grybwyll gan Rhianon ac wrth gwrs, roedd yn enwog am ei ddatganiad na fyddai’n fodlon hyd nes ei fod wedi dinistrio pob effing ysgol ramadeg yn y wlad. Polisi o orfodaeth oedd ganddo a chael gwared ar ddewis rhieni. Nid wyf yn meddwl fod hynny’n rhywbeth y dylem ei gefnogi yn y byd modern.

Yn y cynnig hwn nid ydym yn argymell y dylem ddychwelyd at y sefyllfa fel yr oedd yn y 1950au a’r 1960au. Euthum i ysgol ramadeg, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, yn y 1960au ac roedd yn fyd o ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern. Dangosodd David Rowlands a Caroline Jones efallai nad oedd lawn mor anhyblyg yn eu hardaloedd ag y gallai fod wedi bod mewn mannau eraill. Y cyfan y mae’r cynnig hwn yn ei wneud, nid yw’n alwad i ddychwelyd at ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern fel yr oeddent, ond yn hytrach i gyflwyno strwythur llawer mwy hyblyg i’r system addysg, fel yn yr Almaen, er enghraifft, lle mae gennych bedwar math gwahanol o ysgol uwchradd, yn seiliedig, yn y bôn, ar allu neu a ydych am gael addysg fwy academaidd neu dechnegol a galwedigaethol. Ymwneud â hynny y mae’r cyfan. Nid yw’n ymwneud â rhannu’r plant yn 11 oed yn ddefaid a geifr; rydym am gael system hyblyg gan fod plant yn datblygu ar gyflymder gwahanol ar oedrannau gwahanol, wrth gwrs. Y broblem fawr gyda’r system ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern yn fy nydd oedd nad oedd ganddynt ddigon o hyblygrwydd, ac mae’n wir mai’r ysgolion uwchradd modern oedd sinderela’r system addysg. Nid oes neb yn gofyn am gael dychwelyd at hynny. Yr hyn rydym ei eisiau yw fersiwn wedi ei huwchraddio a’i moderneiddio o’r system ddewis i rieni, nad yw’n ddadleuol mewn gwledydd eraill.

Y broblem fawr gydag agwedd Kirsty Williams at addysg yw ei bod hi’n mynnu cynnwys cyfyngiad yn y system addysg sy’n golygu, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch ysgol nad yw’n cynnig addysg weddus i blant, eich bod yn cael eich gorfodi i dderbyn y canlyniad hwnnw ac ni allwch symud o un i’r llall. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud—a rhai o welliannau’r Ceidwadwyr rydym yn eu cymeradwyo—. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud yw dweud mai rhieni, yn y pen draw, a ddylai ysgogi polisi addysg, yn hytrach na gwleidyddion a biwrocratiaid. Mae hynny, mewn byd modern a democrataidd—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf yn siŵr fod gennym amser i wneud hynny. Mae gennym, oes?

A allech egluro eich safbwynt drwy’r cynnig hwn mewn perthynas ag ysgolion gramadeg cyfrwng Cymraeg?

Wel, mae problem, yn amlwg, gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg—[Torri ar draws.] Wrth gwrs bod, yn syml oherwydd, ar hyn o bryd, ac mae hyn yn mynd yn ôl at y ddadl gynharach a gawsom ar yr iaith Gymraeg—efallai, mewn rhai rhannau o Gymru, na fyddai’n gymaint o broblem, ond mewn rhannau eraill o Gymru, mae’n sicr y byddai, gallu darparu’r ddarpariaeth hon. Felly, yn y pen draw, ni all fod yr un math o ddewis â sydd gennych yn y sector preifat, fel y mwynhaodd Kirsty Williams, lle mae gan rieni ryddid llwyr i ddewis anfon eu plant i ble bynnag y maent yn dymuno.

Mr Hamilton, darllenais gyda diddordeb eich sylwadau ar ddewis fy rhieni. Rwy’n credu eich bod ar fai yn ymosod ar fy rhieni, nad ydynt bellach yn fyw ac felly’n methu ateb dros eu penderfyniadau. Yn sicr, yr hyn a fyddai’n llawer mwy perthnasol, Mr Hamilton, yw’r dewisiadau rwyf fi wedi eu gwneud ar gyfer fy mhlant, ac rwy’n falch iawn eu bod yn mynychu ysgolion cyfun yn fy etholaeth.

Mae Kirsty Williams yn camgymryd bwriad fy sylw. Nid oeddwn yn ymosod ar ei rhieni mewn unrhyw fodd—rwy’n eu canmol, mewn gwirionedd, am y dewisiadau a wnaethant. Mae’n amlwg eu bod wedi gweithio. Ond yr hyn rwyf am ei ddweud yw y dylai pob rhiant gael y math hwnnw o ddewis. Hwy yw’r rhai a ddylai benderfynu drostynt eu hunain, fel y mae hi’n ei wneud dros ei phlant, ynglŷn â’r math o addysg y mae hi ei eisiau iddynt. Ymwneud â hynny y mae hyn i gyd. Wrth gwrs, ni allwn ailadrodd hynny mewn system addysg wladol. Rhaid cael rhyw fath o system benderfynu weinyddol, ond dylem wneud y gorau o allu rhieni i fod yn ysgogwyr go iawn y ffordd y mae’r system yn gweithio. Arian y trethdalwyr sy’n darparu’r system addysg. Yn y pen draw, dylai trethdalwyr gael mwy o lais yn y system o wneud penderfyniadau a’r polisïau sy’n cael eu cyflawni.

Felly, efallai mai’r gyntaf o lawer o ddadleuon y byddwn yn eu cael ar addysg yw hon. Mae amryw o’r Aelodau heddiw wedi gwatwar safbwyntiau UKIP, ond fe gawn gyfle efallai i ganiatáu i’r cen syrthio oddi ar eu llygaid drwy gael mwy o brofiad ohonom mewn dadleuon yn y dyfodol. Felly, byddaf yn ystyried hon yn ddadl archwiliadol ar y pwnc yn unig, ac rwy’n gobeithio y gallwn archwilio priffyrdd a chilffyrdd pellach maes o law. Ond yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â dewis i rieni a sicrhau cymaint â phosibl o ryddid i rieni benderfynu drostynt eu hunain pa bolisïau mewn addysg sydd orau ar gyfer eu plant, a bydd y canlyniadau sy’n deillio o hynny, rwy’n meddwl, yn bendant yn welliant ar y system bresennol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

11. 11. Cyfnod Pleidleisio

Fe wnawn ni yn gyntaf bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru. Felly, rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Dau ddeg dau o blaid, un yn ymatal, a 24 yn erbyn. Mae’r cynnig felly wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 22, Yn erbyn 24, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6095.

Rydw i’n galw felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Dau ddeg pedwar o blaid, 12 yn ymatal ac 11 yn erbyn. Mae’r gwelliant felly wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 24, Yn erbyn 11, Ymatal 12.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6095.

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg saith o blaid, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae’r gwelliant felly wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6095.

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies, ac rydw i’n agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg saith o blaid, dim yn ymatal, a neb yn erbyn. Ac felly mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6095.

Rydw i’n galw yn awr am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg saith o blaid, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6095.

Rwy’n galw yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6095 fel y’i diwygiwyd.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu ‘Cymraeg ail iaith’ a sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg yn ei le.

2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod ‘o’r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol’.

3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

4. Yn nodi:

a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith; a

b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a’r broses asesu ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion.

5. Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r dull o feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau’n Deg.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, un yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6095 fel y’i diwygiwyd: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6095 fel y’i diwygiwyd.

Y bleidlais nesaf yw ar ddadl Plaid Cymru ar aelodaeth o’r farchnad sengl. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Saith o blaid, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 40, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6096.

Rydw i’n symud at welliant 1 ac rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg un o blaid, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Ac felly mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 41, Yn erbyn 0, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6096.

Rydw i’n galw yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6096 fel y’i diwygiwyd.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael mynediad i Farchnad Sengl yr UE.

2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a’r UE, ar ôl i’r DU adael yr UE.

3. Yn croesawu’r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r fargen orau i Gymru.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg o blaid, neb yn ymatal, saith yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6096 fel y’i diwygiwyd: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6096 fel y’i diwygiwyd.

Rydw i’n symud yn awr at bleidlais ar ddadl UKIP ar ysgolion gramadeg, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Chwech o blaid, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 6, Yn erbyn 41, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6094.

Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg un o blaid, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 41, Yn erbyn 6, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6094.

Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, a 37 yn erbyn. Ac felly mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 10, Yn erbyn 37, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6094.

Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Ac felly mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 41, Yn erbyn 6, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6094.

Galw am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pedwar deg un o blaid, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Mae’r gwelliant, felly, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 41, Yn erbyn 6, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6094.

Galw am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Un ar ddeg o blaid, neb yn ymatal a 36 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 11, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6094.

Galw am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Un ar ddeg o blaid, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 6, felly, wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 11, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6094.

Cynnig NDM6094 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu nad yw dethol yn y system addysg yn briodol i ysgolion yng Nghymru.

2. Yn nodi bod llai o symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion gramadeg.

3. Yn credu mewn amrywiaeth mewn addysg uwchradd, ac yn cefnogi statws uwch ar gyfer addysg dechnegol a galwedigaethol yng Nghymru i greu system addysgol sy’n rhoi’r cyfle gorau i blant o bob gallu.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Deg o blaid, neb yn ymatal, 36 yn erbyn ac mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd felly wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd cynnig NDM6094 fel y’i diwygiwyd: O blaid 10, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6094 fel y’i diwygiwyd.

Gan nad yw’r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.

12. 12. Dadl Fer: Rhyddhau Potensial Naturiol Plant—Rôl Addysg Awyr Agored yn y Broses Ddysgu

Rŷm ni’n symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl fer. Rydw i’n galw, felly, ar Vikki Howells i gyflwyno’r Ddeddf—y Ddeddf—i gyflwyno’r ddadl yn ei henw hi ar ryddhau potensial naturiol plant a rôl addysg awyr agored yn y broses ddysgu. Os gwnaeth Aelodau’r Cynulliad adael—. Mae’r Cynulliad yn dal mewn sesiwn.

If I can ask Members of the Assembly if they’re leaving to do so quietly and respectfully. And I ask Vikki Howells to introduce her debate.

Diolch, Lywydd. Bydd llawer o gyd-Aelodau yma yn y Siambr yn ymwybodol fy mod, tan fis Mawrth eleni, yn athrawes amser llawn. Yn sicr, fe fwynheais fy 16 mlynedd yn yr ystafell ddosbarth, ond fy atgofion gorau o’r swydd oedd yr amser a dreuliwyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Wrth ddweud hyn, nid cyfeirio rwyf at y gwyliau hir honedig y mae athrawon yn ei gael, sydd gyda llaw, gallaf gadarnhau, yn cael ei lenwi â marcio, cynllunio a nifer o rolau eraill, ond at yr adegau a dreuliais gyda fy nosbarthiadau yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu y tu allan i gyfyngiadau’r pedair wal. Dyma fydd ffocws fy nadl fer heddiw.

Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau a Marc Withers o Ignite Up am eu help yn awgrymu adnoddau y gallwn eu defnyddio yn fy nghyfraniad. Rwyf hefyd yn falch i gynnig munud yr un o fy amser siarad i Rhianon Passmore a Julie Morgan.

Mae wedi cael ei hen gydnabod bod amser sy’n cael ei dreulio y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn gallu bod yn fuddiol iawn i addysg disgyblion. O fy mhrofiadau fy hun o ddysgu hanes a daearyddiaeth mewn ysgol uwchradd, gwelais fod yna bob amser rywbeth gwirioneddol hudolus am ddysgu a ddigwyddai y tu allan i’r ystafell ddosbarth, boed yn ymchwilio castell yn ymarferol, yn wers geogelcio gystadleuol i dimau, yn daith maes at afon lle byddai disgyblion yn mynd i mewn i’r dŵr a mesur lled, dyfnder a llif dŵr, neu hanner awr fach hyd yn oed allan ar dir yr ysgol yn ymchwilio i ficrohinsoddau trwy fesur cyflymder gwynt, tymheredd ac yn y blaen.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, yn eu tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’w blaenoriaethau ar gyfer tymor y Cynulliad hwn, yn rhestru’n gryno y manteision i addysg person ifanc o gyswllt o’r fath â’r awyr agored. Nid wyf am ailadrodd y rhestr, ond rwyf am sôn am rai enghreifftiau sy’n atgyfnerthu fy nealltwriaeth hun o fanteision y math hwn o ddysgu. Mae addysg awyr agored yn creu profiadau cofiadwy, yn datblygu arweinyddiaeth, cyfathrebu, hyder a gwaith tîm drwy ddysgu drwy brofiad. Mae’n ehangu gorwelion myfyrwyr, yn grymuso rhai a all wneud yn well mewn amgylcheddau dysgu llai ffurfiol ac yn ei gwneud hi’n bosibl datblygu ac ymgorffori ystod o sgiliau dysgu hanfodol ac ymarferol.

Mae hefyd yn hyrwyddo iechyd a lles, a hynny o ran gweithgarwch corfforol ac o ran y manteision i iechyd meddwl y gall y profiadau hyn eu rhoi. Pan edrychwn ar ardaloedd megis fy etholaeth fy hun, Cwm Cynon, gyda lefelau uchel o ordewdra, problemau iechyd meddwl ac ysmygu, gwelwn y manteision y gallai hyrwyddo mwy o gyswllt â’r awyr agored eu creu. Yn wir, efallai fod y manteision hyn i iechyd yn gweithredu ar sail hyd yn oed yn fwy sylfaenol. Ysgrifennodd academyddion yn yr Unol Daleithiau, Dr Finlay a Dr Arrietta yn ddiweddar yn y ‘Wall Street Journal’ am y genhedlaeth o blant a warchodwyd rhag cysylltiad microbaidd sy’n hanfodol ar gyfer datblygu system imiwnedd iach. Os rhwystrwn ein plant rhag chwarae a dysgu yn yr awyr agored, gall eu haddysg a’u hiechyd ddioddef.

Gall hyn hefyd greu datgysylltiad oddi wrth fyd natur, gyda chanlyniadau difrifol o ran ein hymagwedd tuag at y byd naturiol o’n cwmpas. Mae plant rhwng 11 oed a 15 oed yn treulio hanner eu bywydau effro o flaen rhyw sgrin neu’i gilydd, gan effeithio ar eu gallu i gysylltu â’r byd naturiol. Yn ogystal, mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod tri chwarter y plant yn y DU yn treulio llai o amser yn yr awyr agored na charcharorion mewn carchardai. Mae’r naturiaethwr Stephen Moss wedi siarad am ‘anhwylder diffyg natur’. Dangosodd ymchwil gan yr RSPB mai 13 y cant yn unig o blant Cymru sy’n ystyried bod ganddynt gysylltiad agos â byd natur. Mae’n is na’r Alban, Gogledd Iwerddon, a Llundain yn wir. Efallai fod yr ystadegyn yn fwy brawychus byth pan ystyriwn agosrwydd unigryw holl ardaloedd trefol Cymru â’n tirwedd wledig.

Mae dysgu yn yr awyr agored yn hyrwyddo dealltwriaeth a chyfrifoldeb amgylcheddol, ac mae’n allweddol er mwyn creu dinasyddion sydd wedi ymrwymo i egwyddorion cynaliadwyedd, a’r rheini yw’r dinasyddion sydd eu hangen arnom yn y byd yn yr unfed ganrif ar hugain er mwyn goresgyn yr heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau. Mae gan athrawon ac addysg ffurfiol rôl bwysig i’w chwarae yn cyflawni hyn, ac mae arolygiaethau ysgol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi herio ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn cael dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth oherwydd y manteision i ddysgwyr ac oherwydd y sensitifrwydd amgylcheddol y mae’n ei feithrin.

Ond rhaid i ni wneud mwy i newid arferion, cyfleoedd a ffyrdd o fyw na gobeithio’n unig y gall ysgolion lenwi’r bylchau drwy ychwanegu dysgu yn yr awyr agored at y wers achlysurol. Rwy’n credu y gallwn ddysgu gwersi pwysig o arfer rhagorol mewn gwledydd eraill. Mae rhai o’r gwledydd hyn wedi bod yn hyrwyddo addysg awyr agored yn gyson ers llawer hirach. Er enghraifft, sefydlodd Cymdeithas Awyr Agored Sweden ysgolion Skogsmulle a ddarparai addysg awyr agored ar y penwythnosau i blant 5-6 oed. Erbyn eu hanner canrif yn 2007, roedd un o bob pump o blant Sweden—tua 2 filiwn o blant—wedi mynychu ysgolion Skogsmulle mewn gwirionedd. Mae plant yn Sweden yn treulio rhan o bob diwrnod ysgol yn yr awyr agored, waeth beth fo’r tywydd, ac arweiniodd dull Skogsmulle at sefydlu cyn ysgolion mewn-glaw-neu-hindda, lle mae’r sefydliad yn gwbl seiliedig ar y cysyniad o addysg yn yr awyr agored. Canfu ymchwilwyr fod y plant a fynychai’r ysgolion hyn yn gallu canolbwyntio ddwywaith cystal â’u cyfoedion, eu bod yn meddu ar sgiliau echddygol gwell a bod eu lles yn fwy datblygedig.

Lledaenodd ethos a model Skogsmulle yn llawer pellach i wledydd eraill yn Ewrop, ond hefyd i Dde Korea a Libanus. Yn wir, ceir dros 2,000 o athrawon Skogsmulle yn Japan yn unig. Credaf yn gryf fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gywiro hyn ac wedi integreiddio dysgu yn yr awyr agored yn fwy sylfaenol yn y ffordd rydym yn addysgu ein plant. Mae dysgu gweithredol trwy brofiad yn allweddol i’n cyfnod sylfaen arloesol ac yn sail i nifer o feysydd dysgu statudol y cyfnod. Mae llawer o ysgolion yng Nghymru bellach yn elwa o ystafelloedd dosbarth awyr agored o ganlyniad i ymgyrch Llywodraeth Cymru. Gellir defnyddio’r rhain i ddarparu gweithgareddau awyr agored sy’n cynnwys profiad ymarferol o ddatrys problemau go iawn a dysgu am gadwraeth a chynaliadwyedd.

Mae’r dull hwn eisoes yn dwyn ffrwyth wrth i’r cyfnod sylfaen arwain at leihad yn y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys, gan awgrymu rhai o’r ffyrdd hanfodol bwysig y gall addysg awyr agored helpu i ryddhau potensial ein plant. Yn yr un modd, mae’r Athro Donaldson wedi siarad am y gwerth aruthrol sydd i addysg awyr agored yn y broses ddysgu. Byddwn yn awgrymu na lwyddwn i gyflawni’r pedwar diben y mae’n eu nodi ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru heb ddatblygu cyfleoedd sylweddol ar gyfer gweithgareddau a dysgu awyr agored gwerth chweil.

Byddwn hefyd yn awgrymu bod yna bosibiliadau i wneud rhywbeth creadigol i gyflawni’r trawsnewid hwn, yng Nghymoedd de Cymru yn enwedig. Soniais am yr heriau i iechyd yn gynharach. Mae’n bosibl iawn fod canfyddiad anghywir gan bobl nad ydynt yn dod o’r Cymoedd o dirweddau llwm, ôl-ddiwydiannol. Ond mewn gwirionedd, mae dadeni’r amgylchedd naturiol drwy’r ardal yn darparu cyfleoedd di-ri, fel y mae papur diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, yn archwilio cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol y Rhondda, yn ei gydnabod.

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr, un o drysorau Cwm Cynon, yn gartref i grŵp natur Ladybird i rieni a phlant bach, cynllun sydd wedi pwyso ar y model Sgandinafaidd a hefyd wedi dysgu o ganlyniadau cadarnhaol grwpiau tebyg yn yr Alban. Mae’r fenter hon wedi arwain ymhellach at gyflogaeth a chyfleoedd economaidd lleol yn fy etholaeth. Mae’r fenter wedi bod mor llwyddiannus fel bod y tîm sy’n gyfrifol amdani bellach ar y ffordd i agor ysgol feithrin gyntaf Cymru yn seiliedig ar natur i blant rhwng dwy a phump oed ym Mharc Gwledig Cwm Dâr y gwanwyn nesaf. Bydd 90 y cant o’r dosbarthiadau yn rhai awyr agored, ac mae’r trefnwyr yn credu y bydd y plant sy’n mynychu yn iachach, yn well o ran eu lles, yn datblygu sgiliau gwell ac yn meddu ar ddealltwriaeth graffach o fyd natur. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud ym Mharc Gwledig Cwm Dâr wedi cael sylw rhyngwladol—cymaint felly fel bod y lle bellach wedi ei ddewis fel lleoliad ar gyfer symposia Skogsmulle rhyngwladol 2017, gan ddod ag addysgwyr awyr agored o bob cwr o’r byd at ei gilydd.

Rwy’n hynod falch fod darparwr addysg yn fy etholaeth fy hun yn arwain y ffordd o ran darparu addysg awyr agored yng Nghymru. Nid oes amheuaeth am yr amrywiaeth eang o fanteision y mae addysg awyr agored yn eu creu. Mae’n gwella’r gallu i ganolbwyntio, yn cynorthwyo gyda dysgu gwybyddol, yn gwella sgiliau cymdeithasol, yn galluogi plant i gysylltu â’r amgylchedd naturiol hardd sydd gennym i’w gynnig ac yn bwysicaf oll, mae’n helpu i ryddhau potensial ein plant. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn longyfarch Vikki Howells ar ddewis pwnc mor hanfodol bwysig ar gyfer y ddadl hon. Roeddwn am gyfeirio at fy ymweliad â Denmarc rai blynyddoedd yn ôl, gyda dirprwyaeth i edrych ar y ddarpariaeth addysg. Ymwelais â chyn ysgol fel y cyfeiriodd hi, yn Sweden, rwy’n meddwl, ar gyfer plant dwy a thair oed. Roedd y plant dwy a thair oed yn chwarae y tu allan yn yr eira. Roedd hi’n ofnadwy o oer. Roeddent yn cropian ar goeden fawr a oedd wedi cwympo, rhyw fath o hen goeden wedi pydru, ac roeddent yn sgrialu drosti ac roedd ganddynt siwtiau undarn coch llachar i orchuddio pob rhan ohonynt ac roeddent yn cael amser hollol wych. Pan welais y plant hynny, roeddwn yn teimlo o ddifrif y byddem gartref, yn ôl pob tebyg, wedi maldodi plant yr un oed yn ofalus mewn ystafelloedd wedi eu gorgynhesu, ar yr adeg honno.

Felly, dyna pam rwy’n meddwl ei bod mor dda—ac rwy’n falch fod Vikki Howells wedi crybwyll hyn—ein bod yn gwneud cynnydd o’r fath yn y cyfnod sylfaen, gan wneud yn siŵr fod yna ystafelloedd dosbarth awyr agored a bod cyfleoedd i blant gysylltu â natur ar oedran cynnar iawn. Ac rwyf hefyd yn awyddus i ganmol y mudiad ysgolion coedwig a’r ffaith fod plant yn cael yr holl gyffro mawr wrth allu cynnau tanau a bod allan mewn amgylchedd naturiol, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn rhywbeth y bydd Cymru yn gallu ei ddatblygu ac y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn gallu ymestyn y cyfleoedd hyd yn oed ymhellach ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Felly, diolch yn fawr iawn i chi.

Galwaf yn awr ar Rhianon Passmore i wneud ei chyfraniad.

Diolch i chi—ni ddywedaf ‘Llywydd’—Ddirprwy Lywydd—?

Dro dro—iawn, diolch. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd ddiolch i chi, Vikki. Fel cyn athrawes, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Gwm Cynon am godi’r mater pwysig hwn, ac rwy’n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg awyr agored drwy gydol y cyfnod sylfaen. Yn fy etholaeth i, cyfleusterau rhyfeddol megis Ffordd Goedwig Cwmcarn a Chanolfan Gweithgareddau Awyr Agored Ynys Hywel sy’n galluogi grwpiau ysgol i archwilio’r amgylchedd naturiol o amgylch eu hysgolion a’u cartrefi, ac rydym yn ffodus iawn yn ne-ddwyrain Cymru i gael mynediad i ardaloedd coediog gwych y Cymoedd, lle gall plant a phobl ifanc ddysgu am natur a dod i gysylltiad â bywyd gwyllt.

Mae addysg awyr agored yn hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir, fel y dywedodd Vikki, yn gallu elwa’n gorfforol ac yn emosiynol o fod yn yr awyr agored, ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gydnabod rôl addysg awyr agored yn cynorthwyo gallu plant, fel y dywedwyd mewn perthynas ag ysgolion coedwig, i ganolbwyntio ac i ddatblygu yn yr ystafell ddosbarth. Gyda’r cyfnod sylfaen arloesol rydym wedi arwain arno mewn gwirionedd, a’r cynnydd yn y grant amddifadedd disgyblion yn awr, a mynediad Donaldson fel y soniwyd, mae’n hanfodol ein bod yn gwthio’n ehangach i wneud defnydd o ddysgu trwy brofiad, fel y soniwyd. Mae hon yn elfen bwysig, yn fy marn i, o gwricwlwm wedi’i gyfoethogi Llywodraeth Lafur Cymru, a diolch i Vikki Howells unwaith eto am dynnu sylw at y pwnc, ac rwy’n gwybod ei fod yn fater y bydd Cymru’n parhau i’w hyrwyddo. Diolch.

Diolch. Hoffwn alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl—Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Vikki, Julie a Rhianon am y cyfraniad i’r ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i gadarnhau ein hymrwymiad i bwysigrwydd a gwerth unigryw dysgu yn yr awyr agored i blant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru. Mae’r dystiolaeth, fel y dywedodd Vikki, yn glir: mae manteision mawr i ddysgu yn yr awyr agored yn helpu plant i ddeall sut y mae pethau’n gweithio, ac mae defnyddio amrywiaeth o weithgareddau dan do ac awyr agored yn eu helpu i ddatblygu ffyrdd gwahanol o ddatrys problemau. Dyna pam y mae’r cyfnod sylfaen i’n plant tair i saith oed yn rhoi pwyslais mor gryf ar ddysgu trwy brofiad. Mae dysgu trwy wneud yn ganolog i’n dull ar gyfer y cyfnod sylfaen, a rhoddir pwys mawr ar ddefnyddio’r awyr agored i ymestyn dysgu y tu hwnt i ffiniau’r ystafell ddosbarth.

Yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’ tynnodd yr Athro Donaldson sylw at bwysigrwydd dysgu tu hwnt i ffiniau’r ystafell ddosbarth ar gyfer dysgwyr o bob oed. Mae’n cyflwyno achos clir fod angen i ddysgwyr ddeall perthnasedd yr hyn y maent yn ei ddysgu a gallu gwneud cysylltiadau gyda’r byd y tu hwnt i giatiau’r ysgol. Mae angen i ysgolion ac ysgolion meithrin annog plant i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas. Os yw plant yn cael eu hysgogi a’u hysbrydoli, ac yn mwynhau set amrywiol o brofiadau, gwyddom fod eu dysgu a’u datblygiad yn gwella, ac rwy’n falch iawn fod gennym gwricwlwm gyda’r ffocws hwnnw.

Mae dysgu yn yr awyr agored yn parhau i fod yn rhan bwysig o’n hysgol ac yn dysgu profiadau dysgu ac addysgu bob dydd. Roedd y gweithgareddau a welais yn ddiweddar mewn ysgolion yn cynnwys ceginau llaid, llwybrau natur, ystafelloedd dosbarth y goedwig, safleoedd adeiladu—maent i gyd yn atgyfnerthu dysgu’r plant ac yn caniatáu i athrawon a rhieni gefnogi eu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas. Ac mae Estyn wedi annog ysgolion yng Nghymru i fanteisio mwy ar fanteision dysgu plant ifanc yn yr awyr agored, yn fwyaf nodedig yn y gwyddorau.

Mae Estyn yn pwysleisio bod y profiad dysgu yn yr awyr agored wedi gwella lles plant yn gyffredinol, ei fod wedi gwella eu hymddygiad, eu datblygiad corfforol, eu gwybodaeth am y byd a’u dealltwriaeth ohono a dywedodd fod plant dan bump oed yn dysgu’n well ac yn datblygu’n gyflymach gyda gwersi yn yr awyr agored. Mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf, gwelais athro’n dysgu gramadeg i blant ar fuarth yr ysgol wrth iddynt redeg o gwmpas, gan nodi rhai mathau o eiriau ar ddarnau o bapur lliw. Roeddent yn dysgu’n gyflym tu hwnt. Mewn gwirionedd, nid oeddent yn sylweddoli eu bod yn dysgu o gwbl; roeddent yn mwynhau bod yn yr ysgol ar gyfer y wers honno. Felly, dyma’r uchelgais, fod y dulliau hyn o ddysgu trwy brofiad a dysgu yn yr awyr agored yn cael eu defnyddio ar draws yr ysgol ac wrth gyflwyno’r cwricwlwm. Dylai plant a phobl ifanc gael cyfleoedd i ddysgu o arbenigedd a phrofiad o’r tu allan i’w hysgolion.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chanllawiau ar ddysgu yn yr awyr agored, ‘Y camau cyntaf yn yr awyr agored’, a chanllawiau ychwanegol, ‘Rhagor o gamau yn yr awyr agored’, yn 2014. Yn fuan byddaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu ac yn ei roi ar waith ar gyfer canolbwyntio ar gysondeb cyflwyno’r cyfnod sylfaen ledled Cymru, gan gynnwys agweddau at, a dulliau o ddysgu yn yr awyr agored. Un ffordd y gallwn gynnig profiad dysgu yn yr awyr agored yw drwy ddull ysgolion coedwig fel y soniodd Julie Morgan, sy’n cynnwys defnydd rheolaidd o goetir neu fan awyr agored arall fel adnodd dysgu. Ceir hanes o ysgolion meithrin yn yr awyr agored, fel y clywsom hefyd, mewn gwledydd eraill megis Sweden, sydd wedi arwain at y mudiad ysgolion coedwig yma yn y DU ac mewn mannau eraill. Mae’n galonogol iawn gweld y bydd ysgol feithrin natur gyntaf Cymru yn agor y flwyddyn nesaf mewn coedwig yn Rhondda Cynon Taf, a bydd yn darparu ar gyfer hyd at 30 o blant 2 i 5 oed, a fydd yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn dysgu yn yr awyr agored. Fel y dywedodd Vikki, dyma fydd ysgol feithrin gyntaf y DU wedi’i hysbrydoli gan Skogsmulle. Mae’r athroniaeth hon o Sweden ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n seiliedig ar fanteision dysgu yn yr awyr agored eisoes wedi ymwreiddio, fel y dywedodd Vikki, mewn gwledydd fel Sweden, Denmarc, Norwy, yr Almaen a Japan. Bydd yn wych cael un yma yng Nghymru.

Fel y dywedodd Julie, mae profiad y plant hynny’n beth mor gadarnhaol, ac mae’n fy atgoffa o ddywediad a oedd gan fy nain: nad oedd ychydig o faw erioed wedi brifo neb, ac nad oedd y fath beth â thywydd gwael, dim ond dewis gwirioneddol wael o ddillad. Mae manteision dysgu yn yr awyr agored i blant yn glir. Mae’n gwella eu sgiliau corfforol a’u sgiliau echddygol yn ogystal â’u sgiliau cymdeithasol a gwybyddol, ac yn gwella eu hiechyd cyffredinol a’u ffitrwydd corfforol, rhywbeth na allwn ei anwybyddu yn ein gwlad. Rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo manteision a defnydd cynyddol o ddysgu yn yr awyr agored, y gwyddom ei fod yn gallu helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc Cymru yn hyderus, yn iach, ac yn anad dim, yn ddysgwyr uchelgeisiol. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.