Y Cyfarfod Llawn
Plenary
29/09/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 2, cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Cristiana Emsley.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio'n llawn ac yn brydlon â'u rhwymedigaethau cyfreithiol o ran rhyddid gwybodaeth a mynediad at ddata personol? OQ64609
Mae pob corff cyhoeddus yn gyfrifol ei hun am gydymffurfio efo Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar ddiogelu data. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arfer da drwy ymgysylltu efo cyrff cyhoeddus, tra’n cydnabod ac yn adnabod bod cydymffurfio yn cael ei oruchwylio’n annibynnol, ac yn cael ei rymuso gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i adolygu fformiwla ariannu llywodraeth leol? OQ64607
Mae ein gwasanaethau gwledig wedi'u tangyllido yn hanesyddol ac wedi methu ag adlewyrchu yn gywir cost darparu gwasanaethau gwledig. Dyna pam y dylid croesawu'r adolygiad o'r fformiwla gyllido y mae'r Llywodraeth yma yn ei wneud. Ond onid y realiti yw bod hyn yn dangos yr angen dybryd i newid fformiwla cyllido Cymru o San Steffan i sicrhau tegwch a chyfiawnder, ac y dylai pawb yn y Siambr yma gefnogi'r Llywodraeth yma yn yr alwad honno?
Mae'r Aelod yn hollol iawn. Mae'r gwendid sylfaenol yna yn y model yn gwneud penderfyniadau gwariant, p'un ai ar gyfer ardaloedd trefol neu wledig, yn anghymesur o annheg. Mae'n sicr yn wir y gall cymunedau gwledig wynebu costau a heriau ychwanegol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r adolygiad sydd yn digwydd rŵan yn ystyried teneurwydd poblogaeth ac elfen wledig cymdeithas ochr yn ochr ag amddifadedd a phwysau ehangach ar wasanaethau. Beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy cadw strwythur mewn lle sydd yn adlewyrchu angen go iawn, a sicrhau bod Cymru gyfan yn gallu cael ymddiriedaeth yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud o ran penderfyniadau gwariant mewn Llywodraeth.
Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner.
Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau cerddoriaeth annibynnol a llawr gwlad i ffynnu? OQ64587
Diolch am godi'r cwestiwn yma. Yng Nghaerdydd, mae yna beth wmbreth o waith wedi cael ei wneud i gefnogi yr ecosystem gerdd yn y ddinas drwy strategaeth gerdd sydd nawr dros saith mlynedd oed.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd trigolion Afan Ogwr Rhondda yn elwa o'r strategaeth ynni genedlaethol? OQ64584
Mae Afan Ogwr Rhondda yn enghraifft bwysig, dwi'n meddwl, o sut cafodd adnoddau naturiol Cymru eu defnyddio yn y gorffennol i bweru'r chwyldro diwydiannol, ond lle doedd yna ddim wedyn ddigon o'r budd economaidd yn aros yn y cymunedau lleol hynny. Drwy ein strategaeth ynni genedlaethol a'n cynigion ar gyfer cwmni ynni cyhoeddus yn y dyfodol, mi ydym ni am ddenu buddsoddiad, cefnogi perchnogaeth leol, creu swyddi da a chadw mwy o'r gwerth yn ein cymunedau. Dyna'r wers o'r gorffennol.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r defnydd o agregau o ansawdd uchel, wedi'u hailgylchu a'u golchi, mewn prosiectau adeiladu ledled Cymru? OQ64610
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pellach i Gymru? OQ64589
Cwestiwn 7 [OQ64608], tynnwyd yn ôl. Cwestiwn 8, Niamh Salkeld.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw cyfleoedd plentyn mewn bywyd yn cael eu pennu gan lle maen nhw'n tyfu i fyny? OQ64588
9. A wnaiff y Prif Weinidog sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi ymgyrch y Gwarchodlu Cymreig i geisio'r gwir am ddigwyddiad RFA Syr Galahad ar 8 Fehefin 1982? OQ64576
10. Beth yw blaenoriaethau cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru? OQ64572
11. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith polisi cenedl noddfa ar faint o dai sydd ar gael yng ngogledd Cymru? OQ64566
Diolch, Brif Weinidog.
Symudwn nawr at eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Mae dau ddatganiad llafar wedi eu tynnu yn ôl o'r agenda heddiw, sef yr un ar gomisiwn cenedlaethol Cymru, a hefyd yr un ar iechyd y cyhoedd a iechyd ataliol. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r holl Aelodau yn electronig.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Dwi ddim yn gwybod a ydych chi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ar y mater hwn. Yn amlwg, bydd y Gweinidog yn ateb cwestiynau yn hwyrach y prynhawn yma o ran ein fframwaith, ond mae yna gyfle hefyd wrth gwrs i fod yn codi pryderon o'r fath. Yr hyn y mae'r Gweinidog wedi bod yn ddiamwys amdano fo ydi ein bod ni yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif, bod angen iddyn nhw fod yn atebol am wariant, ac mae hynny'n waith, dwi'n gwybod, sydd wrth galon popeth y mae o a'r tîm, o ran Gweinidogion iechyd, yn bwrw ymlaen ag ef.
Diolch. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol o'n hymrwymiad ni fel Llywodraeth i fod yn Llywodraeth i Gymru gyfan, a'n bod ni'n cydnabod heriau gwirioneddol y cynnydd hwn mewn prisiau—oherwydd materion rhyngwladol yn bennaf—a'r pwysau y mae hynna'n ei roi ar drigolion, ac maen nhw'n bwysau gwirioneddol. Yn amlwg, fel mae'r Aelod wedi sôn, dydy nifer o'r pethau hyn ddim o fewn ein cyfrifoldeb ni, ond mae'r trafodaethau hynny'n digwydd. Mi ydyn ni fel Llywodraeth wastad yn edrych o ran y ddarpariaeth a'r cymorth rydyn ni'n gallu eu rhoi i'r rheini sydd wirioneddol mewn trafferth oherwydd mesurau fel hyn. Mae'r gefnogaeth ar gael, yn dal i fod, drwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig, o ran off-grid, ac mae'r rhain yn drafodaethau byw a pharhaus. Ond yn sicr, mi fyddwn i yn cytuno efo'r Aelod; rydyn ni'n cydnabod bod yna broblemau o ran hyn sy'n effeithio ar rai cymunedau'n benodol yn ddigymesur, ac maen nhw yn drafodaethau byw.
Gaf i ddiolch i'r Aelod am y gwaith y mae hi wedi'i wneud i gefnogi trigolion, a'r ffaith eich bod chi wedi bod yn ddiamwys o ran eich cefnogaeth iddyn nhw? O ran y record, mi ddylwn i ddatgan hefyd fy mod i wedi codi pryderon oherwydd ymgyrchu dwi wedi'i wneud fel Aelod lleol am yr effaith y gall chwareli ei chael ar gymunedau. Dwi'n gwybod bod y trafodaethau rhyngoch chi a'r Gweinidog yn rhai byw iawn ac eich bod chi'n cyfathrebu'n gyson. Yn sicr, mi fyddaf i'n gofyn iddo fo sicrhau eich bod chi'n cael y diweddariad hwnnw, oherwydd mae'n bwysig ein bod ni yn parhau i wneud yr achos ar ran trigolion Gwaelod-y-garth a chymunedau eraill a fydd yn pryderu ynghylch hyn.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Yn amlwg, nid chi yw'r Aelod cyntaf i godi'r mater hwn. Rydyn ni wedi clywed cwestiynau i'r Prif Weinidog yn benodol, ac ymrwymiad gan y Prif Weinidog i ddysgu gwersi. Yn amlwg, nid ni oedd mewn grym pan wnaed y penderfyniadau hyn, ond rwy'n gobeithio bod yr ymrwymiad gan y Prif Weinidog wedi bod yn gyfan gwbl glir i bawb ein bod ni eisiau sicrhau gwerth am arian, sicrhau gwerth o ran y safle, a bod hwnna'n ystyriaeth lawn i'r Llywodraeth hon o ran bwrw ymlaen.
Ar eich pwynt cyntaf, dwi'n siŵr bod pob Aelod yma yn rhannu'r pryderon rydych chi wedi'u mynegi o ran Admiral a Legal & General. Mi fydd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn cwrdd ag Admiral ddydd Iau yma i drafod eu cynlluniau ac i ddeall y rhesymeg yn well. Mae hon yn sefyllfa fyw iawn, ac yn sicr mi fydd o'n diweddaru'r Senedd wrth inni gael gwell dealltwriaeth o beth ydy goblygiadau hwn i Gymru hefyd. Mi fydd swyddogion a'r Llywodraeth yn gweithio gyda'r ddau gwmni er mwyn gweld sut rydyn ni'n gallu diogelu swyddi yma yng Nghymru.
Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb ar y newyddion siomedig y bydd y swyddfa bost ar stryd fawr Bangor yn cau dros dro ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf? Er mai cyfnod o chwe mis o darfu yn unig y mae Swyddfa'r Post yn rhagweld cyn bydd gwasanaeth amgen yn cael ei sefydlu, rwy'n pryderu y bydd y cau dros dro yn cael effaith negyddol sylweddol ar drigolion Bangor a'r ardaloedd cyfagos sy'n dibynnu ar y gangen i gael mynediad at wasanaethau hanfodol. Hoffwn ddatganiad gan y Gweinidog sy'n ymhelaethu ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch diogelu rhwydwaith y canghennau Swyddfa'r Post yng Nghymru a'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau allweddol Swyddfa'r Post yn parhau i fod yn hygyrch i bawb.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mi ydw i, a nifer o Aelodau yma, dwi'n siŵr, wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd i frwydro dros barhad swyddfeydd post yn ein hetholaethau ni oherwydd y rôl hanfodol bwysig maen nhw'n ei chwarae. Wrth feddwl am stryd fawr Bangor, wrth gwrs rydych chi'n meddwl pa mor bwysig ydy hwnnw fel gwasanaeth. Mi wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb gwrdd â Swyddfa'r Post heddiw. Yn amlwg, dydy hwn ddim yn wasanaeth sydd wedi ei ddatganoli, ond, oherwydd yr effaith mae o'n ei gael ar bobl yn ein cymunedau ni, mae'r rhain yn drafodaethau byw iawn ac, yn sicr, os oes gan unrhyw Aelod bryder fel hyn ynglŷn â gwasanaethau Swyddfa'r Post, gan ein bod ni'n cael cyfarfodydd rheolaidd drwy swyddogion, neu drwy'r Dirprwy Brif Weinidog, rydym ni wastad yn barod i godi materion o bwys.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Yn amlwg, fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb, dwi'n cymryd y mater hwn o ddifrif. Dyna pam rydym ni'n edrych ar strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd, sydd yn edrych ar sut mae ein safleoedd hanesyddol ni yn cael eu trin, oherwydd mae yna danfuddsoddi wedi bod a thanwerthfawrogiad o hanes Cymru, ac mae hwnna'n rhywbeth rydym ni'n ei gydnabod fel Llywodraeth. Mae yna brosesau ffurfiol mae swyddogion yn gorfod mynd trwyddyn nhw. Mi oeddwn i wedi dweud, wrth gwrs, wrth swyddogion Cadw i gwrdd gydag Aelodau sydd ag unrhyw bryder, ac, yn sicr, pan fyddaf i yn yr ardal, byddwn i'n barod iawn i ymweld. Mae'n bwysig iawn hefyd, a byddwn i'n annog unrhyw Aelod yma—. Mae'r alwad am dystiolaeth ar gyfer y strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd ar agor tan 18 Rhagfyr. Dwi eisiau clywed gennych chi am y pethau sy'n bwysig i chi, sy'n bwysig i'r rhai rydych chi'n eu cynrychioli. Felly, os gwelwch yn dda, ewch drwy'r broses honno, oherwydd mae hwn yn rhywbeth mae'n rhaid inni ddod i'r afael efo fo.
Diolch i'r Aelod am godi dau fater eithriadol o bwysig. Yn amlwg, mi oedd yna lot o gyhoeddusrwydd ynglŷn â Martha's rule yn ddiweddar yma, ac, yn sicr, os ydym ni'n edrych ar yr hyn rydym ni'n trio ei gyflwyno dros y gwasanaeth iechyd o ran Galwad am Bryder, mae hyn yn ceisio mynd i'r afael yn yr un modd. Dwi'n gwybod y byddai'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn hapus iawn i drafod hyn ymhellach efo chi'n uniongyrchol. Dwi'n siŵr ein bod ni yn unfrydig o ran y galwadau hynny. Mae o'n fater o weithredu, a dwi'n gwybod bod yna enwau gwahanol i'r math yma o arfer mewn gwledydd eraill—er enghraifft, yn Awstralia, Ryan's rule ydy o. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithredu'r arfer da rhyngwladol o ran hyn.
O ran yr ail bwynt, o ran trafnidiaeth ysgol, dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn cydnabod, ledled y Siambr hon, fod hon yn her genedlaethol. Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth wedi bod yn cwrdd gydag ymgyrchwyr ac wedi bod yn gweithredu ar hyn. Dydy'r atebion ddim yn hawdd. Mae rhai pethau yn ofnadwy o heriol, ond rydym ni yn cydnabod bod yna rwystrau ar y funud sydd yn creu anawsterau o ran cludiant ysgol. Dwi'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog yn parhau i weithio ar hyn. Byddwn i hefyd yn annog unrhyw Aelod sydd efo unrhyw bryderon uniongyrchol o ran eu hetholaethau nhw i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog.
Mae hwn yn fater o bwys mawr, ac mi wnaed lot fawr o waith manwl drwy graffu trawsbleidiol yn ystod y Senedd ddiwethaf oedd yn dangos bod angen llawer mwy o gefnogaeth a bod yr heriau hyn yn rhai mae'n rhaid dod i'r afael â nhw. Mi fyddwn i'n gofyn i'r Aelod ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet os yw am sgwrs bellach o ran y pryderon hyn. Wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion craffu i bwyllgorau hefyd i sicrhau bod yna weithredu'r argymhellion blaenorol, oherwydd dwi'n gwybod bod yna nifer o Aelodau sydd wedi eu hailethol i'r Siambr hon a fu yn rhan o'r gwaith hwn efo diddordeb i'r byw ynddo. Mi glywon ni'n uniongyrchol gan bobl oedd wedi eu heffeithio, o ran pobl ifanc a gweithlu, ac mae hwn yn rhywbeth mae'n rhaid i ni ddod i'r afael â fo, ond dydy'r datrysiadau ddim yn hawdd chwaith.
Prynhawn da, Drefnydd. Dwi eisiau cario ymlaen tipyn bach efo'r mater yna, os gwelwch chi'n dda.
Diolch i’r Aelod am godi’r mater hwn. Yn amlwg, mae'r adroddiad yn frawychus, ac mae'r pwynt rydych chi’n ei wneud, sef dydyn ni ddim gyda'r data yna yng Nghymru, yn rhywbeth mae swyddogion yn edrych arno fo rŵan, ac mae'r Gweinidog Cabinet wedi gofyn i ni edrych ar sut rydyn ni'n casglu’r data hwn i ddeall beth ydy'r sefyllfa yma yng Nghymru. Mae hefyd, wrth edrych ar yr adroddiad, yn edrych ar ba wersi y gallwn ni eu dysgu o'r argymhellion hynny.
Mi oedden ni wedi ailddechrau'r Wales Leaving Care Forum, sydd yn gwneud gwaith eithriadol o bwysig, felly mi fydd y gwaith hwn yn parhau, ond dwi'n gobeithio fy mod i wedi rhoi'r sicrwydd roeddech chi'n edrych amdano fo ein bod ni yn edrych i ddysgu'r gwersi a'n bod ni'n edrych i gael y data perthnasol, oherwydd mae'n bwysig bod hynny ar gael i ni yma yng Nghymru hefyd.
Byddwn i'n gofyn i'r Aelod ddarparu unrhyw dystiolaeth, oherwydd, yn amlwg, mi oedd yna ymrwymiad i ni weithredu, ac mi ofynnwyd cwestiynau yn syth o ran hynny. Mi oedd fy ymateb i yn gyfan gwbl ddiamwys ar y pryd o ran nid dyma ein disgwyl ni o ran gweithredu, ond, yn amlwg, fedrith o ddim, heb inni gael y wybodaeth honno, fod yn rhywbeth rydyn ni'n gallu gweithredu arno fo. Ac mi fyddwn i'n annog unrhyw Aelod i godi unrhyw bryderon gydag awdurdodau lleol. Mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn cydweithio efo ni fel Aelodau etholedig. Dyna ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth. Felly, byddwn i yn gofyn i chi ddarparu'r wybodaeth honno, yn benodol felly i Siân Gwenllian fel y Gweinidog Cabinet dros lywodraeth leol.
Diolch am godi'r mater hwnnw. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, a hefyd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, wedi codi'r mater rydych chi wedi ei godi. Os nad ydych chi wedi ysgrifennu atyn nhw eto, byddwn i'n gofyn i chi wneud hynny. Mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol mai materion i'r byrddau iechyd ydy'r math yma o benderfyniadau, a, drwy'n gwaith a'n hymrwymiad o ran iechyd ataliol, mi ydym ni'n edrych ar sicrhau bod yna fynediad cydradd i wasanaethau ledled Cymru. Ond penderfyniadau unigol i fyrddau iechyd ydyn nhw, a dyna pam byddwn i'n gofyn i chi fod yn codi'r materion hyn, fel ei fod o'n rhan o'n hystyriaeth ni o ran edrych ar y gwasanaethau ataliol a hefyd sut mae sicrhau yr un mynediad, ble bynnag eich bod chi'n byw yng Nghymru, i wasanaethau.
Yn olaf, Drefnydd, David Hughes.
Diolch i'r Aelod am godi'r materion hyn. Dwi'n gobeithio y byddwch chi wedi clywed yn gynharach heddiw ymateb y Prif Weinidog o ran y pryderon a godwyd ynglŷn â setliad ariannol llywodraeth leol, o ran y cydweithio pwysig sydd efo'r Llywodraeth hon, a'r gydnabyddiaeth hefyd, fel gwrthblaid, ein bod ni wedi blaenoriaethu sicrhau setliad gwell i awdurdodau lleol ledled Cymru, a bod hwnnw'n rhan o'r gyllideb eleni a bleidleisiodd nifer o Aelodau o'r Senedd hon yn ei herbyn. Felly, os ydyn ni eisiau diogelu gwasanaethau cyhoeddus, mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio. Dyna oedd y math o agwedd oedd gennym ni fel gwrthblaid, ac fel Llywodraeth, rydym ni'n dangos yr ymrwymiad hwnnw i gydweithio gyda llywodraeth leol.
Rydyn ni hefyd yn cydnabod, wrth gwrs, pwysigrwydd y trydydd sector. Mae'r trydydd sector yn cyflawni gwaith eithriadol o bwysig, ac yn sgil y toriadau rydyn ni wedi eu gweld dros 15 mlynedd a mwy, maen nhw wedi dod yn wasanaethau sydd wedi gorfod cymryd baich oddi ar lot o wasanaethau a ddylai fod yn cael eu darparu gan y pwrs cyhoeddus. Felly, yn sicr mae hwn yn rhywbeth rydyn ni'n ymrwymo i gydweithio efo'r trydydd sector arno, a chydweithio efo llywodraeth leol, a byddwn i'n gofyn i bawb yma ystyried sut rydyn ni'n gallu gweld a sicrhau bod y cyllid ar gael, a chyllid teg i Gymru hefyd gan San Steffan i ni fedru diogelu'r trydydd sector a llywodraeth leol.
Diolch, Trefnydd.
Symudwn nawr at eitem 4: datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, adolygiad o'r fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Dwi'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiad yn ein cynllun 100 diwrnod cyntaf i gomisiynu adolygiad o effeithiolrwydd fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth gwasanaeth iechyd cenedlaethol Cymru.
Mi gafodd yr adolygiad ei gomisiynu i sicrhau bod ein trefniadau ar gyfer atebolrwydd, goruchwyliaeth, cymorth ac ymyrraeth yn dal yn addas i'r diben mewn amgylchedd gofal iechyd sy'n mynd yn fwyfwy cymhleth. Mae trafodaethau efo sefydliadau'r GIG dros y misoedd diwethaf wedi atgyfnerthu'r angen am fframwaith sy'n gliriach, yn fwy cyson, ac yn canolbwyntio'n fwy ar sicrhau gwelliant cynaliadwy.
Mi ddaeth yr adolygiad i'r casgliad bod trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn chwarae rhan bwysig wrth nodi pryderon, cryfhau goruchwyliaeth, a darparu cymorth wedi'i dargedu lle bo angen. Er hynny, mi wnaeth yr adolygiad hefyd nodi cyfleoedd i gryfhau'r cysylltiad rhwng prosesau atebolrwydd arferol a threfniadau ymyrryd ffurfiol. Yn benodol, roedd awydd i symud oddi wrth system sy'n canolbwyntio'n bennaf ar lefelau uwchgyfeirio at system newydd, system sy'n rhoi mwy o bwyslais ar asesu parhaus ac ymyrryd yn gynnar, helpu sefydliadau i wella ac, yn y pen draw, sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.
Heddiw, rydym ni'n cyhoeddi fframwaith atebolrwydd a chymorth newydd, sy'n cyflwyno un dull clir a chydlynol o ymdrin ag atebolrwydd, sicrwydd, cymorth ac ymyrraeth ledled gwasanaeth iechyd cenedlaethol Cymru. Mae'n sefydlu fframwaith cliriach a mwy tryloyw sy'n helpu Llywodraeth Cymru a sefydliadau'r GIG i asesu sut maen nhw'n perfformio, nodi risgiau'n gynnar, a chytuno ar y camau sydd eu hangen i gefnogi gwelliant. Mae hefyd yn egluro'n well sut mae cyfarfodydd atebolrwydd, trefniadau goruchwylio perfformiad arferol, cymorth i wella a gweithgarwch ymyrryd yn cyd-fynd efo'i gilydd.
Yn bwysig, mae'r fframwaith yn cydnabod bod atebolrwydd a chymorth yn mynd law yn llaw. Mae'n rhaid i sefydliadau barhau i fod yn atebol am ddarparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy ac o safon uchel, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gael y cymorth cywir pan fydd heriau'n codi. Dyna pam mae'r fframwaith yn ceisio taro'r cydbwysedd iawn rhwng her adeiladol a chymorth ymarferol, gan ddefnyddio arbenigedd i helpu sefydliadau i wella. Y nod ydy helpu sefydliadau i feithrin eu gallu eu hunain i wella, yn hytrach na dibynnu ar oruchwyliaeth allanol.
Mi gafodd y fframwaith ei ddatblygu drwy weithio'n agos efo swyddogion Llywodraeth Cymru, sefydliadau'r GIG a rhanddeiliaid allweddol. Mae'n adlewyrchu ein huchelgais ar y cyd i gryfhau atebolrwydd, gwella tryloywder a helpu sefydliadau i sicrhau gwelliant cynaliadwy i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu.
Mae adolygu'r hen fframwaith a datblygu'r fframwaith newydd yn gam pwysig ymlaen yn y ffordd rydyn ni'n goruchwylio perfformiad ac yn helpu sefydliadau i wella ledled gwasanaeth iechyd cenedlaethol Cymru. Mae'r fframwaith newydd yn dod ag atebolrwydd, trefniadau uwchgyfeirio a chymorth i wella ynghyd mewn un system integredig. Mae'n darparu atebolrwydd cliriach, goruchwyliaeth fwy cymesur a chymorth cynharach pan fydd risgiau'n dod i'r amlwg. Mae hynny'n helpu i gryfhau tryloywder a chanolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell i gleifion, staff a chymunedau ledled Cymru.
Yn y pen draw, nod y newidiadau hyn ydy rhoi mwy o hyder i bobl Cymru y bydd gwasanaethau'r gwasanaethau iechyd yn cael y cymorth sydd ei angen i ymateb i heriau a gwella. Mi fydd y fframwaith newydd yn helpu i nodi problemau'n gynharach, darparu cymorth mwy cyson i sefydliadau, a sicrhau bod pryderon yn cael sylw'n brydlon ac yn dryloyw. I gleifion a chymunedau, mae hyn yn golygu gwasanaethau gwell, mwy diogel a dibynadwy, gofal mwy cyson, a sicrhau bod pawb yn cael y driniaeth a'r cymorth y maen nhw'n eu haeddu. Diolch.
Croesawaf gyhoeddiad y fframwaith cyfrifoldeb a chefnogaeth genedlaethol newydd, yn enwedig y pwyslais ar ganfod ymyrraeth gynnar ac ymyrraeth bwrpasol. Fel dywedodd Benjamin Hodge Mckenna, dyw'r fframwaith presennol ddim yn gweithio. Mae atal a'i gwneud hi'n haws i fynd i'r afael â heriau cyn iddynt ddod yn argyfwng yn agwedd rwy'n cytuno â hi, a dwi'n meddwl y bydd pawb yn y Siambr yn cytuno gyda hwnna hefyd. Dwi'n falch ei fod e'n cael ei ddefnyddio ym maes iechyd a'r gwasanaeth iechyd, ond hefyd yn fwy eang, fel egwyddor arweiniol cyffredinol.
Gobeithiaf y bydd y fframwaith newydd yn cryfhau cyfrifoldeb ac yn gwella gwasanaethau, ond o ystyried y gwahaniaethau mawr yn rhanbarthol mewn gwasanaethau a pherfformiad—rhywbeth dwi fy hun yn siarad yn aml amdano—sut byddwch chi'n sicrhau bod y fframwaith yn cael ei gymhwyso'n gyson ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru, lle mae cymaint o amrywiaeth? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Gwyn, am y cwestiynau yna. A dwi’n gyndyn bob tro o fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau y mae clinigwyr arbenigol fel Gwyn, ac, yn wir, Safa, yn medru ymgymryd â nhw, felly, dwi’n falch ein bod ni’n sôn am rywbeth mwy technegol fan hyn.
Ond mae’r Aelod yn berffaith gywir, Lywydd, i nodi bod ymyrraeth gynnar yn greiddiol i egwyddor y Llywodraeth yma—gwneud yn siŵr ein bod ni’n adnabod problem ac ein bod ni’n mynd i’r afael ag e cyn ei fod o’n digwydd. A dyna pam mae hynna yn ganolog i’r fframwaith newydd yma. Ond sut mae sicrhau bod cysondeb yn y ddarpariaeth ar draws Cymru? Mi fydd hwnna trwy’r ffaith ein bod ni’n ymgynnull rhanddeiliaid—HIW, fel dwi’n dweud, Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r byrddau iechyd eu hunain—er mwyn cael y cysondeb yna pan fo materion yn codi, a'i fod o’n cael ei weithredu gan NHSPI, a bod hwnna i gyd yn gyhoeddus.
Nawr, o ran y cysondeb, yr un elfen na fydd yn gyson, hwyrach, drwy’r amser yw bod problemau unigol, unigryw yn mynd i fod mewn rhanbarthau gwahanol, a bod y byrddau iechyd yn rhoi mewnbwn yn y broses yma. Felly, bydd yna elfennau ychydig yn wahanol er mwyn galluogi ar gyfer y gwahaniaethau rhanbarthol, ond mi fydd y drefn, y fframwaith a'r system yn gweithio oddi fewn yn gyson ar draws Cymru.
Diolch am hwnna. Dwi yn siomedig eich bod chi'n cymryd y cyfle yma i wneud pwyntiau gwleidyddol am faterion sydd y tu hwnt i'r hyn rydym ni'n edrych arno. Hynny ydy, rydych chi'n gwybod yn iawn fod y Llywodraeth yn methu ymyrryd yn y broses sydd yn mynd ymlaen ar hyn o bryd pan fo'n dod i ail-edrych ar drefniadau darpariaeth iechyd ym Mhowys, neu yn unrhyw fwrdd iechyd arall. Byddwn i'n gobeithio bod pawb sy'n bresennol yn gwbl, gwbl ymwybodol o'r rheolau sy'n dweud nad yw Gweinidog yn gallu ymyrryd yn y broses honno; mae wedi bod yn wybyddus erioed. Felly, dwi ddim yn mynd i drafod y broses sydd yn mynd ymlaen ym Mhowys ar hyn o bryd.
Mae Powys mewn lefel 4 o ran y drefn uwchgyfeirio presennol pan fo'n dod i gyllideb, strategaeth a chynllunio. Mae hynny'n benderfyniad a gafodd ei wneud gan y rhanddeiliad, fel dwi wedi sôn. Ac unwaith eto, pan fydd hi'n dod at edrych ar ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ym Mhowys yn ei gyfanrwydd, yn yr un modd ag unrhyw fwrdd arall, mi fyddan nhw'n cael eu mesur yn erbyn yr un drefn ag y mae pob bwrdd iechyd arall yn mynd i gael ei fesur yn ei erbyn. Ond mi fyddwn i yn annog pobl i gysylltu os oes ganddyn nhw bryderon am yr hyn sydd yn digwydd o ran argymhellion Powys. Does yna ddim penderfyniad wedi'i wneud eto—mae'n broses fyw. Felly, os ydy pobl eisiau cyfrannu at y broses yna, yna gwnewch hynny, cysylltwch efo'r bwrdd iechyd. Yn fwy na hynny, cysylltwch efo Llais—gwnewch yn siŵr bod Llais yn ymwybodol o unrhyw bryderon neu gefnogaeth sydd gennych chi. Dwi wedi'i gwneud hi'n glir, mewn unrhyw ail-drefnu darpariaeth gwasanaeth mewn unrhyw ranbarth yng Nghymru, fod yn rhaid ystyried ffactorau fel pa mor wledig ydy'r ardal, trafnidiaeth leol, mynediad at wasanaethau. Mae'r rhain i gyd yn gorfod bod yn ystyriaethau wrth i unrhyw fwrdd iechyd lunio cynllun gwasanaethau iechyd lleol yn eu hardal nhw.
Yn olaf, Weinidog Cabinet, Anna Nicholl.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn i Anna Nicholl am y gyfres yna o gwestiynau andros o bwysig pan fo'n dod i edrych ar sut mae sicrhau ein bod ni'n creu'r lle yna i wella arweinyddiaeth. Mae arweinyddiaeth yn ganolog yn y fframwaith newydd yma. Mae'n un o'r pethau yna lle rydym ni'n ymwybodol, os ydy'r diwylliant yn iawn o'r brig, yna mi fydd hynny'n arwain at ganlyniadau gwell ar draws y bwrdd. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod Hywel Dda mewn lefel 4, ac, yn wir, lefel 3 ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, ac, yn wir, mae Digital Health and Care Wales mewn lefel 4 hefyd. Felly, does dim un o'r byrddau iechyd mewn sefyllfa ddelfrydol. Dydyn ni ddim eisiau eu gweld nhw yn y sefyllfa yma. Mae'r fframwaith rydym ni wedi ei lunio yn un sydd yn mynd mor bell ag y gallwn ni o fewn y fframweithiau deddfwriaethol sydd gennym ni, sef yr National Health Service (Wales) Act 2006, yr National Health Service Finance (Wales) Act 2014, yr Health and Social Care (Quality and Engagement) (Wales) Act 2020, a'r Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. Oddi fewn i'r rheini i gyd, a'r fframweithiau eraill, mae hyn yn mynd i fynd â ni mor bell â phosib er mwyn inni fedru dal byrddau iechyd i gyfrif, ond, yn fwy na hynny, sicrhau bod yna adnabyddiaeth gynnar, mor gynnar â phosib, o unrhyw broblemau, fod yna gymorth yn cael ei roi fewn yno, a'n bod ni'n mynd â byrddau iechyd ar daith i wella, er mwyn inni wella—yr union bwynt hynny—canlyniadau i bobl Cymru. Oherwydd nid y bwriad bellach ydy pwyntio bys a beirniadu a defnyddio'r fframwaith uwchgyfeirio fel erfyn gwleidyddol; ein bwriad ni rŵan ydy creu fframwaith sydd yn mynd i fynd â byrddau iechyd ar daith er mwyn gwella canlyniadau pobl yng Nghymru, o Fôn i Fynwy.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen i'r datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, diwygio fframwaith datblygu cenedlaethol a sgwrs genedlaethol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, mae'n bleser gen i roi gwybod i'r Aelodau fy mod wedi lansio sgwrs genedlaethol am ddyfodol Cymru drwy greu fframwaith datblygu cenedlaethol newydd. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol wrth wraidd y system gynllunio yng Nghymru, yn darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer cynlluniau datblygu rhanbarthol a lleol, a'r fframwaith ar gyfer penderfyniadau cynllunio a datblygu ledled Cymru. Wrth i Gymru barhau i ymateb i heriau sylweddol, gan gynnwys newid hinsawdd, adferiad natur, yr angen am dai, twf economaidd a chyflenwi seilwaith, mae'n hanfodol bod ein fframwaith cynllunio cenedlaethol ni yn addas i'r diben ac yn gallu cefnogi uchelgais ein cenedl ar gyfer y dyfodol.
O fewn 100 niwrnod cyntaf y Llywodraeth newydd yma, fe lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus i nodi dechrau'r broses ar gyfer diwygio’r fframwaith a dechrau sgwrs genedlaethol am ddyfodol hirdymor Cymru. Yn hytrach nag ymgynghori ar faterion cynllunio yn unig, fe fydd y gwaith ymgysylltu drwy gydol y broses yn gwahodd pobl i ystyried dyfodol hirdymor Cymru a rôl lleoedd, cymunedau, seilwaith, yr amgylchedd, yr iaith Gymraeg a diwylliant wrth lunio dyfodol ein gwlad hyd at 2050.
Rydym ni’n gwahodd pobl Cymru i helpu i lunio cyfeiriad, blaenoriaethau a chwmpas y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio efo awdurdodau lleol, partneriaid rhanbarthol a rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu fframwaith sy'n diwallu anghenion Cymru, yn grymuso llywodraeth leol, ac yn lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu. Mae hefyd yn cefnogi ein huchelgais i symud tuag at ddull cynllunio sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan roi llais go iawn i gymunedau ar sut rydym ni’n diogelu'r cartrefi, y gweithleoedd a'r seilwaith sydd eu hangen arnynt. Fe fydd y fframwaith yn chwarae rôl gyffredinol allweddol yn y ffordd y mae'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Yn bwysig, fe fydd y sgwrs genedlaethol hefyd yn helpu i gydlynu ar draws ystod o gynlluniau a strategaethau sy'n cael eu symud ymlaen yn ystod tymor y Llywodraeth hon, fel yr amlinellir yn ein rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Bydd y dull cydweithredol a chydgysylltiedig yma o alinio blaenoriaethau cenedlaethol yn sicrhau bod amcanion y Llywodraeth yn cael eu cyflawni'n fwy effeithiol.
Mae'r penderfyniadau a wneir drwy'r system gynllunio yn cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd bob dydd. Maen nhw’n dylanwadu ar ble mae cartrefi yn cael eu hadeiladu, sut mae pobl yn teithio, ble mae busnesau yn buddsoddi, sut mae ynni yn cael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu, a sut rydym ni’n diogelu ac yn gwella ein hamgylchedd naturiol. Dyna pam mae hi mor bwysig bod y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd yn cael ei siapio gan ystod eang o leisiau, profiadau a thystiolaeth. Dwi am i hon fod yn sgwrs genedlaethol agored, gynhwysol ac ystyrlon. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn perthyn i bawb o ystyried ei bwysigrwydd wrth ddarparu fframwaith ar gyfer datblygiadau newydd ledled Cymru gyfan. Rydyn ni’n croesawu ac yn annog sylwadau gan bawb, ac mae gan bob grŵp, sefydliad, busnes ac unigolyn gyfraniad i'w wneud wrth ddatblygu'r cynllun gofodol cenedlaethol.
Ochr yn ochr â'r cyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a chyflwyno tystiolaeth i gefnogi'r gwaith diwygio, mae'r ymgynghoriad presennol yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ledled Cymru sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd yfory, 30 Medi, yn Aberystwyth ar 6 Hydref ac yn Llandudno ar 23 Hydref. Maen nhw’n rhoi cyfle i bawb, gan gynnwys awdurdodau lleol, busnesau, datblygwyr, darparwyr seilwaith, sefydliadau amgylcheddol, cyrff tai, grwpiau cymunedol, pobl ifanc ac aelodau o'r cyhoedd i gael lleisio eu barn.
Bydd tystiolaeth hefyd yn chwarae rôl hanfodol drwy gydol y broses yma. Drwy'r ymgynghoriad yma, dwi’n gwahodd rhanddeiliaid i gyfrannu gwybodaeth, ymchwil, dadansoddiad a mewnwelediad ar y cyfleoedd a'r heriau y mae Cymru yn debygol o’u hwynebu dros y degawdau nesaf. Bydd y dystiolaeth hon yn helpu i lywio'r gwaith o baratoi'r fframwaith newydd, ei weledigaeth gyffredinol, yr opsiynau a fydd yn cael eu hystyried a'r polisïau fydd yn cael eu cynnwys ynddo.
Yn ei hanfod, mae cynllunio yn ymwneud â chreu lleoedd gwell i bobl a'r amgylchedd. Felly, rhaid i'r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd gefnogi twf economaidd cynaliadwy, cymunedau gwydn, stiwardiaeth amgylcheddol a lles hirdymor cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Felly, dwi'n annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol Cymru i fod yn rhan o'r ymgynghoriad yma a chyfrannu at y sgwrs genedlaethol bwysig yma. Mae modd cyflwyno ymatebion ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post, hyd at 20 Tachwedd eleni, ond mi fydd yna fwy o gyfleon i ymgysylltu maes o law hefyd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna, a diolch yn arbennig am y syniadau a wnaethoch chi gyflwyno ar ddiwedd eich anerchiad—y syniadau ynglŷn â phethau ymarferol y gellid eu gwneud. Dyna'n union ydy pwrpas yr ymgynghoriad yma: i wahodd pobl fel chi, fel pawb ohonom ni yn y Siambr yma, i feddwl o ddifrif am sut allwn ni wella'r gyfundrefn gynllunio fel ei bod hi'n gallu ymateb yn gynt i geisiadau cynllunio pan fydd yna broblemau yn codi efo'r materion roeddech chi'n sôn amdanyn nhw. Felly, mae ambell syniad yn fanna yn werth ymchwilio ymhellach iddo fo, a dwi'n gwahodd ambell un ohonoch chi sydd efo diddordeb yn y maes yma—nifer ohonom ni wedi bod yn gynghorwyr sir ac yn ymwybodol iawn, iawn fod y system gynllunio weithiau'n gallu dal datblygiadau tai yn ôl. Dyna'n union pam rydyn ni'n cynnal yr ymgynghoriad yma.
Mae'n ymgynghoriad ynglŷn â sut mae'r broses gynllunio angen cael ei gwneud yn fwy effeithiol, ond mae o hefyd yn ymgynghoriad ynglŷn â'n gweledigaeth tymor hir ni ar gyfer Cymru. Y rheswm ein bod ni'n gwneud hyn ydy ein bod ni'n teimlo, dros fodolaeth y Senedd yma, fod y cyfeiriad clir ar gyfer dyfodol ein gwlad ni ddim wedi bod yn ddigon amlwg. Felly, mae yna gyfle, efo Llywodraeth newydd, i ddefnyddio'r broses sydd yna mewn statud yn barod, sef diwygio'r fframwaith datblygu cenedlaethol, i gael y sgwrs yna efo pobl Cymru ynglŷn â dyfodol hirdymor ein gwlad ni.
Mae Plaid Cymru yn coelio mewn adeiladu Cymru, mewn adeiladu'r genedl, a chreu Cymru sy'n gweithio i bobl Cymru, gan gysylltu Cymru'n well o ran trafnidiaeth, er enghraifft. Dydy hynny ddim yn digwydd ar hyn o bryd, fel y mae rhywun yn gwybod wrth geisio teithio o gwmpas ein gwlad ni. Dydyn ni ddim yn cael ein cysylltu, felly mae trafnidiaeth yn dod i mewn o dan yr ymgynghoriad yma.
Mae cyfle i drafod polisi ynni. Rydyn ni'n gwybod bod yna heriau o'n blaenau ni o ran symud ymlaen efo mwy o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy. Felly, o dan y fframwaith yma, mae yna nifer o gynlluniau eraill yn mynd i fod yn gorwedd. A dwi'n deall beth rydych chi'n ei ddweud ynglŷn â strategaethau a chynlluniau, ac yn y blaen, a dwi'n rhannu rhywfaint o rwystredigaeth efo hynny. Beth rydyn ni ei eisiau ydy gweithredu, gweld pethau yn digwydd. Ond mae'n rhaid iddyn nhw ddigwydd mewn ffordd sydd wedi'i chydlynu ac mewn ffordd sydd wedi cael ei thrafod o ran y cyfeiriad hirdymor rydyn ni am weld ein gwlad ni'n mynd iddo fo. A dwi ddim yn meddwl bod 'Future Wales', y cynllun sydd yna rŵan, yn rhoi'r darlun clir yna o ba fath o ddyfodol sydd ei angen ar Gymru. Ac yn sicr, dydy 'Future Wales', y cynllun sydd yna ar hyn o bryd, ddim wedi gallu adnabod rhai o'r heriau mawr, rhai ohonyn nhw sy'n datblygu wrth i ni siarad, wrth gwrs, achos mae'r cynllun yn hen, ond mae yna heriau newydd yn dod i'n hwynebu ni drwy'r amser ac mae'n rhaid i ni, felly, ddiwygio er mwyn ein bod ni'n cymryd i ystyriaeth y materion eraill sydd yn rhan o'n gweledigaeth ni ar gyfer datblygu'n gwlad. Diolch.
Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn, Vikki, am groesawu'r ffaith ein bod ni'n ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Yn sicr, dydy ymgynghori ar hwn ddim yn golygu nad ydyn ni'n gwneud pethau eraill yn y cyfamser. Gyda 'Polisi Cynllunio Cymru', er enghraifft, mae yna ffordd i ni fod yn dod â diwygiadau i mewn i'r polisi hwnnw, fel yr oeddwn i'n sôn yn flaenorol, er mwyn prysuro rhai o'n huchelgeisiau ni. Ond dwi yn grediniol bod yn rhaid i ni gael gweledigaeth hirdymor ar gyfer ein gwlad, a dyna, mewn ffordd, ydy'r cyfle rŵan, a chyfle i wrando ar beth mae pobl Cymru yn eu gweld fel y prif heriau. Mi fydd y fframwaith yma yn fframwaith gofodol, mae'n debyg—dyna'r ffordd i egluro'r peth—er mwyn bod rhywun yn gallu gweld ar fap sut byddai'r datblygiadau mewn gwahanol feysydd yn ffitio at ei gilydd.
O ran yr ymgysylltu, mae'r broses o ymgysylltu ar y fframwaith yma wedi cael ei gosod i lawr mewn deddfwriaeth yn mynd yn ôl i 2015, cyn fy mod i yn y Senedd yma, hyd yn oed. Yn ystod y cyfnod yna, pasiwyd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac yn hwnna mae yna ofyniad i'r Llywodraeth fod yn creu strategaeth ddatblygu genedlaethol. Wedyn, mae'r Ddeddf hefyd yn gosod allan y math o broses sydd angen digwydd er mwyn diwygio neu greu fframwaith newydd. Cyn 2015, doedd yna ddim fframwaith cenedlaethol statudol. Bydd rhai ohonoch chi'n cofio'r Wales spatial plan, ond doedd yna ddim statud y tu ôl iddo fo. Dwi'n meddwl roedd hi'n rhywbeth i'w groesawu pan ddaeth y ddeddfwriaeth newydd yma i mewn. Mae'r broses o greu a diwygio'r fframwaith yn un hirwyntog, buaswn i'n cytuno efo hynny, a dwi'n siŵr efallai bod angen diwygio hynny.
Cychwyn y broses ydyn ni heddiw a gofyn am dystiolaeth o bob cyfeiriad. Ar ôl hynny, mi fydd yna gyfleoedd pellach. Os edrychwch chi ar yr ymgynghoriad presennol, mae o'n gofyn cwestiynau ynglŷn ag ydyn ni'n gofyn y cwestiynau cywir ac yn rhoi cyfle i bawb i feddwl, 'Dydyn ni ddim yn gofyn am hyn, dydyn ni ddim yn mynd ar ôl y mater yma, efallai y dylem ni fod yn gwneud hynny.' Wedyn, mae yna broses o ail ymgynghoriad. Mae hwn yn mynd i gymryd dwy neu dair blynedd i ni weithredu arno fo. Dyna ydy'r Ddeddf.
Ydw i'n cytuno efo hynna i gyd? Nac ydw, mae'n debyg. Mi ddylem ni allu gwneud rhywbeth llawer iawn cynt, ond dyna'r sefyllfa rydyn ni ynddi hi ar hyn o bryd. Felly, yn ogystal â'r tri gweithdy, bydd yna lawer iawn mwy o gyfleoedd i bawb yng Nghymru gymryd rhan a bod yn rhan o'r sgwrs yma. Mi fyddwch chi'n clywed mwy gennyf i ar y pwnc yma dros y ddwy neu dair blynedd nesaf yma.
Diolch yn fawr iawn a diolch am godi nifer o bwyntiau pwysig yn fan hyn. Tra bod yr ymgynghoriad yma yn digwydd, ac mae'n ymgynghoriad pwysig, wrth gwrs, mae llawer iawn o weithredu yn digwydd hefyd gan y Llywodraeth yma. Fel mam a fu'n magu pedwar o blant ar fy mhen fy hun, dwi'n gwybod yn iawn beth ydy jyglo rhwng gwahanol ofynion a chadw lot o blatiau yn troi ar yr un pryd. Felly, dydy sôn bod rhywun jest yn gwneud un peth ac yn methu â gwneud llu o bethau eraill ddim yn realistig yn fy mhrofiad i. Rydw i a nifer o'r Gweinidogion efo peth wmbreth o wahanol bethau a materion maen nhw'n gweithredu arnyn nhw wrth inni fod yn siarad heddiw.
Mae'r ymgynghoriad yma yn un peth dwi'n canolbwyntio arno fo a dwi'n meddwl bod hwnna'n hollbwysig. Ond dwi hefyd yn canolbwyntio ar gyflawni'r targed o 20,000 o dai cymdeithasol newydd erbyn diwedd cyfnod y Senedd yma. Dwi'n croesawu eich ymrwymiad chi i fod yn cynyddu'r stoc tai cymdeithasol. Mae'r hawl i bawb gael cartref yn greiddiol i'r gwaith dwi'n ei wneud yn y Senedd yma. Ond cymerwch gam yn ôl rŵan. Mae'r cynllun datblygu a'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma hefyd yn edrych ar faterion yn ymwneud efo tai. Mae o hefyd yn edrych ar faterion yn ymwneud efo twf yr economi.
Fy ngobaith i ydy, ar ôl gwrando a sgwrsio, y bydd gennym ni gynllun newydd a fydd yn creu gweledigaeth realistig ar gyfer datblygu pob rhan o Gymru. Fel roeddech chi'n sôn, mae hynna yn hollbwysig. Mae angen i'r cynllun a'r fframwaith yma ein galluogi ni i ddosbarthu cyfoeth a thwf i bob rhan o Gymru, gan gadw'r grym economaidd sydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ond hefyd y twf economaidd yn cyrraedd y gogledd, y canolbarth a'r de-orllewin. Felly, mae angen strategaethau rhanbarthol ystyrlon, a fydd yn rhan o'r weledigaeth hirdymor yna.
Rydych chi'n sôn am leihau biwrocratiaeth a'r prosesau cynllunio. Wel, dowch â'ch syniadau ymlaen. Mae pawb yn dweud wrthyf fi bod eisiau prysuro'r gyfundrefn gynllunio, bod eisiau gwneud pethau'n haws, a dwi'n cytuno, ac mae gen i rai syniadau ynglyn â sut i symud hynny ymlaen. Dwi'n hapus iawn i glywed syniadau ymarferol ynglân â sut ydyn ni'n gwneud hynny, yn ymarferol, ar lawr gwlad, fel ein bod ni yn tynnu rhai o'r rhwystrau yma sydd yn dal datblygiadau yn ôl, gan gynnwys datblygiadau hollbwysig, sef tai.
Diolch yn fawr iawn. Gwnes i sôn ar y dechrau bod angen fframwaith datblygu cenedlaethol newydd oherwydd bod yna heriau a chyfleoedd newydd yn wynebu Cymru, yn wahanol i 2015 pan ddechreuwyd y broses yma, ac yn wahanol i gyfnod 2020-21 pan ffurfiwyd y fframwaith sydd yn dal yn bodoli heddiw. Mae yna heriau newydd yn dod ar ein traws ni, ac un o'r rheini ydy canolfannau data. Medraf i ddweud wrthych chi fod y Gweinidog economi a menter, beth bynnag ydy enw Adam Price y dyddiau yma, ei rôl o—. Mae fy nghydweithiwr Adam Price wedi comisiynu gwaith sydd yn mynd i fod yn edrych ar ganolfannau data a'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac yn y blaen, achos yn ei bortffolio fo fel Gweinidog mae'r maes penodol yna.
Fel roeddwn i'n sôn, dyma un o'r pethau newydd sydd yn dod ymlaen, ac mae'n bwysig ofnadwy i ni gydnabod, efo'r twf mewn canolfannau data yng Nghymru, bod angen fframwaith polisi sydd yn un cadarn ac un sydd yn mynd i fod yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol. Mae'n debyg bod angen inni wneud hynny mewn ffordd sydd yn rhoi balans rhwng y buddion economaidd, ond hefyd yn cydnabod y pryder gwirioneddol sydd gan bobl ar lefel cymunedol, a hefyd y pryder ynglŷn â defnydd o ynni a dŵr ac yn y blaen, a defnydd tir. Dwi'n meddwl bod Adam Price wedi gosod allan yr wythnos diwethaf y byddwn ni yn dod â pholisi gerbron cyn gynted â phosib. Yn amlwg, dydy o ddim yn briodol i fi wneud sylwadau am y cynllun penodol rydych chi'n sôn amdano fo.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n cydymdeimlo efo'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Mae'r broses gynllunio'n cymryd gormod o amser. Mae'r broses gynllunio'n gymhleth. Dydy llais y gymuned ddim yn cael ei chlywed digon o fewn y broses o ddatblygu cynlluniau datblygu lleol, er enghraifft. Mi fedrwn i fynd ymlaen ac ymlaen. Rydych chi fel cynghorydd lleol wedi dod ar draws y rhwystredigaeth yna pan ydym ni'n ceisio cael datblygiadau i ddigwydd.
Mae'n rhaid dweud, wrth gwrs, fod adrannau cynllunio—. Heb sôn am y broses ei hun, mae adrannau cynllunio o dan bwysau sylweddol yn ein cynghorau sir ni. Un o ganlyniadau blynyddoedd o dorri ar wasanaethau cyhoeddus ydy torri ar wasanaethau cynllunio ac ar wasanaethau o'r math yna er mwyn, wrth gwrs, gwarchod addysg a gwasanaethau cymdeithasol ac ati. Felly, mae gen i gydymdeimlad mawr efo'r crebachu sydd wedi digwydd ar ein hunedau cynllunio ni ar lawr gwlad, ac mae'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol wedi tynnu sylw mewn adroddiad diweddar at hyn ac yn bryderus nad oes gennym ni ddigon o gyflenwad o gynllunwyr yn dod trwy'r system, hyd yn oed pe baem ni'n newid y broses, er mwyn medru delio efo'r gwaith.
Mi ydym ni fel Llywodraeth yn ceisio gwneud rhyw fymryn ynghylch hynny, ac rydym ni wedi cefnogi'r gwaith o hyfforddi cynllunwyr cymwys newydd ledled Cymru ac wedi creu cynllun bwrsariaeth newydd hefyd ar y cyd efo Cyngor Sir Ceredigion i greu hyd at 12 o gynllunwyr cymwys ychwanegol mewn ardaloedd gwledig, lle mae'r heriau recriwtio hyd yn oed yn waeth.
Felly, cytuno efo rhan o beth rydych chi'n ei ddweud; pwyntio allan, wrth gwrs, fod yna broblemau o fewn y system fel mae hi ar hyn o bryd, ond mae yna gyfle gwych i chi rŵan i roi eich sylwadau i mewn yn yr ymgynghoriad—a ddim jest rhoi o yn yr ymgynghoriad, ysgrifennwch ataf i, pawb ohonoch chi, efo syniadau ymarferol o sut rydym ni'n gallu cael datblygiadau i ddod yn eu blaenau'n gynt nag y maen nhw ar hyn o bryd.
Weinidog, yn wahanol i'r Aelod o Reform UK, rwy'n croesawu'n fawr y pwyslais ar gynnal sgwrs genedlaethol am ddyfodol cynllunio yng Nghymru. Y mwyaf o bobl a all ymwneud â'r ymgynghoriad yna, y gorau oll: yn y pen draw, nhw fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau cynllunio. Gan fod y sgwrs bellach ar y gweill, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn sut rydym yn sicrhau ei bod yn cyrraedd y bobl nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â'r system gynllunio.
Mewn llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd ac mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol, gall bobl gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan benderfyniadau cynllunio mawr, ond efallai na fyddent yn ymateb i ymgynghoriadau ffurfiol a mynychu cyfarfodydd cyhoeddus, nac yn teimlo, o reidrwydd, fod y system gynllunio wedi'i chynllunio i'w galluogi i gymryd rhan. A allwch sôn ychydig am sut mae'r Llywodraeth yn mynd ati'n rhagweithiol i gyrraedd y cymunedau hynny yn ystod y broses hon, a sut byddwch yn asesu wedyn a yw'r sgwrs genedlaethol wedi llwyddo i ehangu cyfranogiad y tu hwnt i'r rhai sydd eisoes yn ymgysylltu â chynllunio?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Dwi'n meddwl bod yna ddwy ran i'ch cwestiwn chi. Yn gyntaf, ynglŷn ag ymgysylltu ynglŷn â'r broses benodol yma o greu fframwaith datblygu cenedlaethol newydd, dwi'n cytuno'n llwyr efo chi: mae rhaid inni wneud ymdrech fawr i gyrraedd pawb ar draws Cymru fel bod llais pawb yn cael ei chlywed. Fel roeddwn i'n dweud, rownd gyntaf ydy'r ymgysylltu sydd yn digwydd cyn y Nadolig, ac mae'r rheini wedi bod yn ddigwyddiadau, neu maen nhw'n ddigwyddiadau, sydd yn cael eu hyrwyddo drwy grwpiau trydydd sector fel Cymorth Cynllunio Cymru, er enghraifft, i annog cymaint o bobl i gymryd rhan ynddyn nhw. Wrth i ni symud i gamau nesaf y broses, dwi yn awyddus iawn i edrych ar hwyluso'r ymgysylltiad yn union fel rydych chi'n sôn amdano fo, efo mwy o ffocws ar y grwpiau hynny sy'n anoddach i'w cyrraedd, yn enwedig, efallai, mewn cymunedau sy'n wynebu mwy o heriau costau byw, er enghraifft. Felly, byddwn i'n meddwl o ddifrif ynglŷn â'r ail gam o'r ymgynghori.
O ran eich cwestiwn mwy eang chi ynglŷn â sut i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses gynllunio drwyddi draw ac i gymryd diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd, dwi yn meddwl bod yna gyfle o fewn datblygu cynlluniau datblygu lleol i lais y gymuned allu cael ei chlywed llawer iawn yn gynt ac yn fwy pwerus, yn fwy grymus, o fewn y broses honno. Pan mae o'n gweithio, pan mae'r gymuned wedi bod yn ymwybodol o'u gallu nhw i helpu siapio dyfodol eu cymunedau nhw—. Dwi wedi ei weld o ar waith, yn digwydd mewn ffordd sydd yn caniatáu datblygiadau tai, er enghraifft, sydd efallai'n gallu bod yn gynhennus mewn rhai ardaloedd, ond os ydy pobl wedi bod yn rhan o'r broses o'r cychwyn cyntaf mae llawer iawn o'r pryderon yn diflannu. Ac felly, dwi yn awyddus i edrych ar yr agwedd yna yn benodol. Felly, diolch i chi am dynnu sylw at hynny.
A'r cwestiwn olaf, Weinidog. John Clark.
Dwi'n cytuno'n llwyr efo chi, fel rhywun sydd yn cynrychioli ardal yn yr union le rydych chi'n sôn amdano fo yn y gogledd-orllewin, ac wedi bod yn cynrychioli'r ardal, ac â'r fraint o gael gwneud hynny, ers dros 10 mlynedd bellach. Felly, peidiwch â sôn wrthyf fi am y ffaith bod cymunedau yn y gogledd-orllewin yn teimlo weithiau eu bod nhw'n cael eu hanghofio. Dydy'r Llywodraeth yma ddim yn mynd i fod yn anghofio'r un gymuned ar draws Cymru. Dyna'r weledigaeth, yn y pen draw, gobeithio, fydd yn gallu cael ei datblygu fel rhan o'r fframwaith newydd yma—fod pob rhan o Gymru yn bwysig a bod angen dosbarthu cyfoeth, dosbarthu'r twf economaidd a chyfleon economaidd ar draws Cymru i gyrraedd bob rhan.
Ie, mae'n mynd i gymryd sbel, achos rydym ni'n sôn am rywbeth sydd yn bwysig iawn—dyfodol ein gwlad ni. Fedrwn ni ddim jest wneud o mewn wythnos neu ddwy; mae'n rhaid inni fod yn cael y sgyrsiau yna a dod â phobl efo ni yn ystod y sgyrsiau yna. Ond dydy hynna ddim yn golygu nad ydym ni'n gwneud pethau eraill hefyd. Yfory nesaf, dwi yn cyfarfod y tasglu canol trefi, sydd yn ymgynnull am y tro cyntaf a bydd yn dod ag argymhellion clir erbyn dechrau flwyddyn nesaf ynglŷn â rhai o'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi ni, efo argymhellion am ffyrdd o weithredu er mwyn gwella ein strydoedd mawr ni. Ac mae yna nifer o faterion fel yna yn digwydd wrth i ni siarad.
Dwi wedi sôn am y tasglu, dwi wedi sôn am dai cymdeithasol, mae yna waith yn digwydd ynglŷn ag uwchraddio tai, retrofit ac yn y blaen—ac mae hwnna jest yn fy mhortffolio fi. Gall bob un Gweinidog sôn wrthoch chi am o leiaf 10 o bethau maen nhw heddiw yn gweithio arnyn nhw, yn gweithio i newid. Ond mae'n rhaid inni feddwl am y pen draw a'r dyfodol hefyd a pheidio ag anghofio, yng nghanol gwneud y pethau dydd i ddydd pwysig iawn yma sydd yn gwella bywydau pobl, fod rhaid inni gael gweledigaeth glir ar gyfer adeiladu ein gwlad ni i fod yn wlad sydd yn ffit ar gyfer y dyfodol, ac sydd yn crynhoi dyheadau pawb yma inni fod yn llawer mwy uchelgeisiol yn sut rydym ni'n mynd ati i gynllunio ac i drefnu'n hunain i'r dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet.
Mae eitem 6 wedi'i gohirio.
Felly, symudaf ymlaen i eitem 7, datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, gwella gofal newyddenedigol sy'n canolbwyntio ar y teulu yng Nghymru, cynnydd tuag at siarter babanod Bliss. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n falch o roi diweddariad i’r Aelodau ac i'r Siambr ar y cynnydd ledled Cymru i wella profiadau babanod a theuluoedd sy’n derbyn gofal newyddenedigol, a hynny drwy siarter babanod Bliss. Dyma arwydd o’n hymrwymiad parhaus i wasanaethau diogel, tosturiol a theg, sy’n canolbwyntio ar deuluoedd.
Ym mis Medi 2025, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi bron i £100,000 i Bliss ar gyfer sefydlu rhaglen gwella gwasanaethau newyddenedigol genedlaethol i Gymru. Ers hynny, mae pob uned newyddenedigol naill ai wedi cyflawni achrediad lefel efydd neu wedi cyflwyno tystiolaeth i’w hasesu o dan siarter babanod Bliss. Mae hon yn garreg filltir bwysig i’r gwasanaethau hyn yng Nghymru. Ond nid dyna ddiwedd yr hanes. Rydyn ni wedi gweld rhagor o gynnydd eto: mae un uned wedi cyflawni achrediad lefel arian yn barod, ac mae tair uned arall yn paratoi i gyflwyno cais am asesiad ar y lefel hon. Felly, mae ymrwymiad ein timau i wella’n barhaus yn gwbl amlwg. Maen nhw’n awyddus i sicrhau bod babanod a theuluoedd sy’n derbyn gofal ganddyn nhw yn cael profiad gwell.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Bliss wedi gweithio’n uniongyrchol gyda thimau mewn unedau dros Gymru gyfan. Mae unedau wedi cael cymorth i asesu eu sefyllfa yn erbyn safonau’r siarter, i gynnal adolygiadau ac archwiliadau, i nodi blaenoriaethau lleol, ac i ddatblygu camau ar gyfer gwella. Diolch i’r rhaglen, mae gan wasanaethau gyfle hefyd i rannu arferion da a’r hyn y maen nhw wedi ei ddysgu ar hyd y daith.
Nawr, dyw pob uned ddim yn union yr un fath. Maen nhw’n amrywio o ran eu maint, maen nhw'n amrywio o ran y ddarpariaeth arbenigol sy’n cael ei chynnig ganddyn nhw, ac o ran eu cyfleusterau a’u hadnoddau, a’u staff. Maen nhw hefyd yn gwasanaethu gwahanol gymunedau. Mae’r siarter yn gosod uchelgais genedlaethol i bob uned ar y cyd, ond mae hi hefyd yn caniatáu i bob gwasanaeth yn unigol
i bob gwasanaeth yn unigol ganolbwyntio ar newidiadau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn lleol.
Ni fyddai hyn yn bosibl heb ymroddiad staff yr unedau newyddenedigol ledled Cymru, a hoffwn i dalu teyrnged i ymrwymiad a gwaith caled y staff hynny. Bydd cyflawni’r rhaglen hon yn gofyn am arweinyddiaeth ac ymgysylltu parhaus, ochr yn ochr â’r pwysau dyddiol sy’n gysylltiedig â darparu gofal arbenigol. Mae nyrsys, meddygon, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, seicolegwyr, gweithwyr cymorth ac eraill yn gweithio gyda’i gilydd i roi mwy o bwyslais ar gynnwys teuluoedd wrth ddatblygu’r ddarpariaeth, a gwneud gwelliannau ystyrlon i ofal.
Mae siarter babanod Bliss yn cefnogi’r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Hwn sydd yn amlinellu ein gweledigaeth genedlaethol, sef darparu gofal diogel a theg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Argymhelliad y datganiad ansawdd yw y dylai byrddau iechyd ddilyn safonau’r siarter. Mae hefyd yn cydnabod bod gwrando ar brofiadau teuluoedd, a’u cynnwys, yn gwbl sylfaenol i sicrhau ansawdd a diogelwch.
Mae’r gwelliannau sy’n deillio o’r rhaglen hon yn rhan o’n hymateb ehangach, wrth gwrs, i argymhellion adroddiad 'Y llwybr tuag at ddechrau mwy diogel yng Nghymru'. Mae’r gwaith hwnnw yn cadarnhau pwysigrwydd sicrhau trefniadau arweinyddiaeth genedlaethol gyson a llywodraethiant effeithiol. Mae hefyd yn cadarnhau pa mor bwysig yw hi ein bod ni wir yn gwrando ar deuluoedd, gan barhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch, ansawdd a thegwch.
Weinidog, mae gen i naw Aelod sydd eisiau dod i mewn a chyfrannu, ac mae gen i wyth munud a hanner ar ôl. Felly, dwi'n gofyn am eich amynedd. Dwi eisiau trio cynnwys pawb, a dwi'n gofyn i'r Aelodau fod yn gryno os gwelwch yn dda.
Ocê, ac i fi fod yn gryno, fi'n cymryd, hefyd.
Byddwn i ddim yn mynd mor bell â dweud wrth y Gweinidog i fod yn gryno, ond—. Sara Crowley.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn ategu geiriau'r Gweinidog a Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r newyddion hynod o drist am farwolaeth babi ym Mangor, sy'n ergyd drom i'r gymuned leol. Dyma hefyd ddatgan buddiant, gan fy mod i am sôn ychydig am brofiad personol.
Rydw i'n croesawu'r ffocws ar ofal newyddenedigol sy'n canolbwyntio ar y teulu a'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy siarter babanod Bliss. Mae'n fater personol iawn i mi. Cafodd fy mab ei eni'n gynamserol ar ôl 32 wythnos, a threuliodd bron i fis yn uned gofal arbenigol babanod Ysbyty Gwynedd. Cawsom ofal arbennig gan y staff yno, a byddaf bob amser yn ddiolchgar am hynny.
Roedd y profiad hefyd yn amlygu'r heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu, sy'n cynnwys fy mhartner dal yn gorfod gweithio yn ystod y cyfnod yna, a hefyd, oherwydd yr ôl-ofal rôn i'n ei dderbyn, ni chefais weld fy mab am nifer o oriau, ac rôn i mewn ward efo nifer o famau eraill efo'u babanod newydd, efo fy mab i mewn incubator yn yr uned arbenigol.
Ond un o'r pethau pwysicaf i ni oedd cael ein cynnwys yng ngofal ein mab. Roedd y staff yn ein trin fel rhan o'r tîm o'i gwmpas, ac mae hynny'n adlewyrchu egwyddorion y siarter. Roedd hyn yn cynnwys pethau yr un fath â dysgu ni sut i'w fwydo fo trwy diwb, yr elfen skin-to-skin, ac mi roedd yna lety ar gael yno i ni aros, ond efallai bod yr adnoddau ddim y gorau y gallen nhw fod—[Torri ar draws.]
Mair, a allwn ni gael y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Sori. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod yr arferion gorau hyn yn cael eu rhannu a'u hymgorffori'n gyson ym mhob rhan o Gymru, a sut ydych chi'n sicrhau bod barn rhieni a'u profiadau nhw'n cael eu casglu a'u defnyddio'n rheolaidd i lywio gwelliannau pellach i wasanaethau? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Mair, am rannu eich stori chi. Rydw i'n falch iawn i glywed bod y gofal roeddech chi wedi'i gael a'ch teulu wedi'i gael mor gefnogol i chi. Mae yna nifer o heriau rydych chi wedi sôn amdanyn nhw fanna o ran dewis iaith, o ran y ffaith roedd eich partner chi'n dal i weithio. Gallaf i ond dychmygu pa mor anodd oedd hwnna, felly fi wir yn ddiolchgar i chi am rannu hynna gyda ni.
gyda ni. Ond fel roeddech chi'n dweud, pan mae hyn yn gweithio'n dda, bydd teuluoedd a rhieni yn cael eu cynnwys yng nghofal eu plentyn. Mae angen i ni sicrhau fod—. Beth dŷn ni angen ei wneud yw cysoni hyn a sicrhau fod profiadau teuluoedd dros Gymru'r un mor gadarnhaol achos bydd profiadau teuluoedd yn siapio fel y mae hyn yn digwydd. Mae'n rhaid i ni fod yn gwrando ar deuluoedd ac mae'n rhaid i ni gymryd y feedback yna gan deuluoedd pan mae problemau'n digwydd er mwyn sicrhau fod prosesau, systemau a phobl yn dysgu o hynny achos dylai pob teulu cael yr un gofal. Diolch, Mair.
Mae'n glir, onid ydy, bod yna gefnogaeth i'r siarter dros y Siambr, a dwi'n falch o ddweud, wrth gwrs, fod y Democratiaid Rhyddfrydol yma yng Nghymru yn ei gefnogi o hefyd. A allaf jest gofyn: sut ydych chi am sicrhau bod yna weithlu arbenigol ar gyfer y siarter yma? Achos rydych chi wedi sôn am ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, yn ddwyieithog, a dwi'n siŵr ei fod o'n anodd trio recriwtio a chadw staff dros y gweithlu. Felly, a oes gennych chi gynllun i sicrhau bod staff yn y maes yma yn cael eu cadw yn y maes ac yn cael eu recriwtio a chael y gefnogaeth hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane, ac yn gyntaf, diolch am eich cefnogaeth chi hefyd. Mae fe'n codi calon bod yna feysydd fel hyn a fydd yn uno bob person yn y Siambr yma, achos dŷn ni i gyd eisiau sicrhau dyfodol gwell i'n babanod ni. Felly, diolch am hwnna.
O ran gweithlu arbenigol a sicrhau bod y sgiliau ieithyddol, fel roeddech chi wedi sôn amdanynt, ar gael, mae fe'n rhywbeth ar gyfer y byrddau iechyd i sicrhau eu hunain. Ond, dwi'n meddwl bod hwnna yn codi cwestiwn rili pwysig, felly buaswn i'n gofyn ichi os byddwch chi'n fodlon ysgrifennu ataf i, efallai y byddwn ni'n gallu cael sgwrs bellach am hwnna, achos mae fe'n rhywbeth dwi eisiau—. Dwi'n ceisio meddwl sut i ddweud hyn yn Saesneg.
—gyda hwnna. Felly, buaswn i'n gwerthfawrogi os byddwch chi'n gallu ysgrifennu, ac efallai y byddwn ni'n gallu cael sgwrs bellach. Fel dwi'n dweud, mae fe'n fater ar gyfer byrddau iechyd, ond byddwn ni i gyd eisiau sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd. Felly, diolch, Jane.
Ac yn olaf, Weinidog, Darren Millar.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Mae'n iawn. Diolch i bawb am eu hamynedd.
Yn union. Mae cwestiynau pawb yn bwysig o hyd, ond ie, diolch am adael i ni ymestyn am awr.
Mae eitem 8, yr eitem nesaf, wedi cael ei thynnu'n ôl.
Felly, cyn i fi ddod â thrafodion heddiw i ben, mae gen i ganlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth. Mae gen i nifer y pleidleisiau ar gyfer Cai Parry-Jones 15, Cristiana Emsley 52, ymatal eu pleidleisiau saith, a phleidleisiau sydd wedi eu difetha 0. Felly, rwy'n datgan fod Cristiana Emsley wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth. Llongyfarchiadau. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn i chi.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:28.