Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/07/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Prynhawn da, bawb. Eitem 1 heddiw yw cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Yn gyntaf, cwestiwn 1, Sera Evans. 

Cwmnïau Cydweithredol a Busnesau sy'n Eiddo i Weithwyr

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gwmnïau cydweithredol a busnesau sy'n eiddo i weithwyr? OQ64285

Member
Adam Price 13:30:20
Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu economi decach, fwy uchelgeisiol yng Nghymru sydd wedi’i gwreiddio yn ein cymunedau. Byddwn yn cryfhau’r cymorth i gwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, gan eu helpu i greu swyddi diogel, cadw cyfoeth yn lleol, tyfu perchnogaeth Gymreig a sicrhau bod llwyddiant economaidd Cymru yn cael ei rannu’n uniongyrchol â chymunedau yn y dyfodol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. 

Os mai gwella cynhyrchiant sydd wrth wraidd agenda economaidd y Llywodraeth, mae angen inni hefyd ystyried y modelau busnes sy’n sicrhau perfformiad cryfach yn gyson. Canfu ymchwil ddiweddar ar gyfer y Gymdeithas Perchnogaeth gan Weithwyr ac Ownership at Work yr amcangyfrifir bod busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr 8 i 12 y cant yn fwy cynhyrchiol na busnesau tebyg nad ydynt yn eiddo i'r gweithwyr ar sail gwerth ychwanegol gros fesul gweithiwr, a’u bod hefyd yn fwy tebygol o fod wedi cynyddu eu helw dros y pum mlynedd diwethaf. Mae etholwr wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod wedi archwilio’r posibilrwydd o sefydlu busnes sy’n eiddo i’r gweithwyr ond sydd wedi gweld y dirwedd bresennol yn eithaf heriol, sy’n codi cwestiynau ynglŷn ag a yw’r system wedi’i hanelu’n ddigonol at sicrhau bod y model hwn yn cael ei fabwysiadu ar raddfa ehangach. Wrth i’r Llywodraeth ddatblygu ei seilwaith cymorth ar gyfer mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, a fydd yn edrych ar sut y gellir ad-drefnu cymorth ariannol a busnes presennol i gefnogi perchnogaeth gan weithwyr yn well a datgloi'r manteision o ran cynhyrchiant? Diolch.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, y cwestiwn atodol. Yn wir, mae'r ymchwil a nodwyd gennych yn hynod ddiddorol. Cyfeiriais ati fy hun yng nghynhadledd cymdeithas y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, ac rydych chi'n llygad eich lle fod tystiolaeth gref iawn y gall perchnogaeth gan weithwyr, perchnogaeth gydweithredol—y modelau hyn—ein helpu i gyflawni'r nod cynhyrchiant cenedlaethol uchelgeisiol. Felly yn sicr, dylem fod yn creu’r amgylchedd a’r cymorth gorau posibl i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwnnw. Felly, rydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i gefnogi ac i ehangu busnesau cydweithredol, busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr, gan roi'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt, gan gynnwys cyllid gan Fanc Datblygu Cymru. Carwn ofyn hefyd, efallai, iddi ofyn i'r etholwr gysylltu â mi'n uniongyrchol, gan ein bod yn awyddus i wybod sut y gallwn wneud hyn yn iawn, gan fod gwobr enfawr i'w chael. Cymru, drwy Robert Owen, a roddodd y fenter gydweithredol i’r byd fel syniad. Gadewch inni adeiladu ar y dreftadaeth honno ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a lle rydym am ei gyrraedd gyda'n nod cynhyrchiant cenedlaethol, a gadewch inni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfle.

Weinidog Cabinet, y ffordd rydych chi'n cefnogi busnesau bach o bob math, gan gynnwys cwmnïau cydweithredol, yw drwy sicrhau nad ydynt yn cael eu gordrethu. A wnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth i bolisi Reform o adolygu’r gyfundrefn ardrethi busnes, gyda golwg ar dorri trethi i fusnesau bach a busnesau’r stryd fawr? Diolch.

Rwyf wedi dweud ein bod eisiau sicrhau mai Cymru yw'r amgylchedd gorau, y lle hawsaf i ddechrau busnes, tyfu busnes a buddsoddi mewn busnes. Fel rhan o hynny, yn amlwg, mae angen inni edrych ar bob un o’r ysgogiadau polisi, gan gynnwys ein polisi ardrethi busnes. Rydym eisoes wedi ymrwymo—mae’n ymrwymiad maniffesto—i adolygu a diwygio’r system ardrethi busnes, fel ein bod yn sicrhau cydbwysedd, yn cael y cydbwysedd yn iawn, o ran sicrhau bod ein cwmnïau bach, ac yn enwedig cwmnïau ein strydoedd mawr, yn enwedig sectorau yng nghanol ein trefi sydd wedi bod o dan bwysau arbennig—. Felly, rydym wedi dechrau ar y gwaith hwnnw. Mae’n debyg y bydd angen inni wneud hynny fesul cam, ond rydym yn sicr yn ymrwymedig iawn i ddefnyddio’r holl ysgogiadau, gan gynnwys diwygio ardrethi busnes, i greu’r amgylchedd busnes gorau posibl ar gyfer ein busnesau bach.

A gaf i ddatgan buddiant fel aelod o’r Blaid Gydweithredol a rhywun sydd wedi bod yn rhan o sawl menter gydweithredol? Rwy’n falch fod Llywodraeth Lafur Cymru, yn nhymor y Senedd ddiwethaf, nid yn unig wedi gosod targed uchelgeisiol i ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, ond mewn gwirionedd, wedi rhagori ar y targed yn eithaf sylweddol cyn etholiad 2026. Nawr, mae budd busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn dra hysbys. Roedd maniffesto fy mhlaid ar gyfer mis Mai yn cynnwys ymrwymiad i ddyblu unwaith eto nifer y cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gymuned, a gwn fod maniffesto eich plaid wedi sôn yn yr un modd am sicrhau bod busnesau mewn dwylo Cymreig, er heb darged penodol ar gyfer mesur llwyddiant. Felly, pa darged y byddech chi'n ei ystyried yn fesur o lwyddiant ar gyfer cynyddu’r model perchnogaeth gydweithredol?

13:35

Ie, yng nghynhadledd y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, nodais y rhagorwyd ar y targedau o ran y sector sy’n eiddo i’r gweithwyr, ac rwy'n credu bod oddeutu 113 o fusnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru, ond fel y dywedwn, nid da lle gellir gwell, felly gadewch inni ragori ymhellach ar ein huchelgais. Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod yn caru targed da—mae'n eich cadw'n atebol. Felly, rydym yn gweithio o dan y pennawd hwnnw, cenhadaeth gynhyrchiant genedlaethol Seren y Gogledd. Mae gwaith manwl wedi bod yn mynd rhagddo ar yr haen nesaf o dargedau. Ac yn sicr, byddaf yn ystyried ei awgrym ynglŷn â chael targed penodol ar gyfer y sector hanfodol bwysig hwn hefyd.

Strategaeth Ynni Genedlaethol

2. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar ddatblygu strategaeth ynni genedlaethol Llywodraeth Cymru? OQ64292

Fel rhan o’n cynllun 100 diwrnod, rydym yn datblygu’r strategaeth genedlaethol ynni. Bydd yn egluro sut y byddwn yn cwrdd â'n hanghenion ynni gan greu manteision i gymunedau ac yn lleihau effeithiau negyddol. Byddwn yn egluro sut y caiff perchenogaeth gymunedol ei chyflawni a rôl ehangach ein cwmni ynni cyhoeddus Cymreig.

Diolch. Mae'r argyfwng costau byw wedi dangos pa mor fregus yw ein system ynni bresennol. Mae cymunedau ledled Cymru yn profi'r effaith yn uniongyrchol, ac mae'n amlwg bod angen newid sylfaenol. Mae hyn yn dangos inni bwysigrwydd ysbrydoli menter yn ein cymunedau a sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r gefnogaeth i adeiladu cyfoeth yn eu cymunedau eu hunain. Er mwyn i brosiectau ynni cymunedol ffynnu, mae angen cefnogaeth gan y Llywodraeth. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod prosiectau ynni sy'n eiddo i'r gymuned yn cael yr arbenigedd a'r cyllid sydd eu hangen arnynt?

Wel, mae sicrhau bod Cymru'n cael y budd o'r potensial ynni adnewyddol glân sydd gyda ni yn greiddiol bwysig i'n polisi ynni ni. Ni oedd wedi, trwy'r cytundeb cydweithio a oedd yn bodoli'n gynt wrth gwrs, creu'r sail ar gyfer creu Ynni Cymru, sydd yn helpu cymunedau i wneud yn union yr hyn rŷn ni'n sôn amdano, sef sicrhau eu bod nhw'n berchen ar adnoddau ynni cymunedol. Dŷn ni wedi gweld yn y gorffennol, wrth gwrs, yn ein hanes ni, sefyllfa lle'r oedd gyda ni gyfoeth mewn ynni o ran glo a wedyn y budd, wrth gwrs, yn cael ei golli o ran yr elw. Dŷn ni ddim eisiau gwneud y camgymeriad yna eto. Felly, mae'r sylfaen wedi cael ei osod yna gydag Ynni Cymru.

Beth rŷn ni am ei wneud nawr, wrth gwrs, ydy adeiladu ar y seiliau hynny trwy greu cwmni ynni cyhoeddus sydd yn dod â'r elfennau gwahanol at ei gilydd. Mae gyda ni Ynni Cymru, sydd yn edrych ar yr haenen gymunedol, ac wedyn mae gyda ni Trydan Gwyrdd Cymru, sydd yn berchen i bobl Cymru ar lefel uwch o ran maint prosiectau, ac wedyn y gwasanaeth ynni. Rŷn ni'n dod â'r rheini i gyd at ei gilydd o dan un ymbarél, fel ein bod ni'n sicrhau bod gyda ni'r capasiti ar bob lefel i weld bod Cymru a phobl Cymru, ar lefel gymunedol, ar lefel genedlaethol, yn cael y budd o'u potensial ynni.

Weinidog Cabinet, fe sonioch chi am ynni adnewyddadwy. Mae adroddiadau diweddar wedi codi pryderon y gallai cydrannau sy’n cynnwys asbestos fod wedi'u defnyddio mewn rhai tyrbinau gwynt yn y Deyrnas Unedig. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i weld a effeithiwyd ar unrhyw dyrbinau yng Nghymru? Pa drafodaethau sydd wedi’u cynnal gyda gweithredwyr, gweithgynhyrchwyr a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu gweithwyr a rhoi sicrwydd i gymunedau lleol? Os caiff cydrannau o’r fath eu nodi yng Nghymru, a wnewch chi gadarnhau mai’r gweithredwyr a’r gweithgynhyrchwyr, ac nid trethdalwyr Cymru, fydd yn talu'r holl gostau archwilio, adfer ac ailosod? Ac yn olaf, oni bai a hyd nes y gall y Llywodraeth roi sicrwydd fod hyd a lled y mater hwn yn hysbys, ac nad oes risg i weithwyr na’r cyhoedd, a wnewch chi ystyried cyflwyno moratoriwm dros dro ar osod tyrbinau gwynt newydd yng Nghymru? Diolch.

13:40

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ei gwestiwn. Nid wyf wedi gweld yr adroddiad y cyfeiria ato, ond yr hyn y byddaf yn ei wneud, felly, yw gofyn i fy swyddogion ddarparu, i mi ac iddo ef—a byddwn yn sicrhau, wrth gwrs, y bydd Aelodau eraill y Senedd yn cael copi o'r ymateb—asesiad manwl yn debyg i'r hyn y mae'n gofyn amdano.

A all y Gweinidog gadarnhau y bydd egni'r llanw yn rhan o'r strategaeth egni genedlaethol? Yn fy swydd flaenorol, bues i ynghlwm â gwaith y comisiwn o arbenigwyr annibynnol a fu'n yn edrych ar egni'r llanw ym moryd Hafren. Fe gyhoeddwyd yr adroddiad yna y llynedd. Os ydy egni'r llanw yn rhan o'r strategaeth, a wnaiff y Gweinidog gytuno i gwrdd gyda fi a rhai o aelodau'r comisiwn hwnnw i drafod mynd â'r prosiect ymhellach?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, a dwi'n gyfarwydd gyda'r adroddiad gafodd ei gyhoeddi, oedd yn arbennig o ddiddorol. Yn sicr, mae'r Llywodraeth yn gefnogol iawn i ni yng Nghymru unwaith eto wneud y budd o'r potensial unigryw sydd gyda ni—yr ail fwyaf, wrth gwrs, yn y byd o ran y potensial. Rŷn ni am wneud y gorau o'r potensial hynny, a byddwn i'n falch iawn o gwrdd â'r rhai oedd wrthi gyda gwaith y comisiwn er mwyn i ni sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen cyn gynted ag sy'n bosib gyda'r sector. 

Weinidog, ddoe, cyhoeddodd y Gweithredwr System Ynni Genedlaethol (NESO) ei ddiweddariad 'Beyond 2030'. Mae’r adroddiad yn dangos yn glir nad yw rhwydwaith trydan Cymru yn addas i’r diben. Fe’i cynlluniwyd dros 60 mlynedd yn ôl i wasanaethu gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil nad oes gan Gymru mohonynt mwyach. Mae'r adroddiad yn nodi'r buddsoddiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r tagfeydd yn y rhwydwaith. Os na chaiff seilwaith trawsyrru ei ddarparu lle bo'i angen, medd yr adroddiad, bydd costau cyfyngiadau'n codi, gan adael trethdalwyr yn wynebu costau uwch a chostau ychwanegol. Bydd yn gohirio cysylltiadau newydd ar gyfer cartrefi, busnesau a chynhyrchiant ynni glân. Bydd hefyd yn atal twf economaidd. Mae'r adroddiad yn nodi'r angen am linell newydd rhwng gogledd Cymru a swydd Amwythig, ac is-orsaf newydd yn y canolbarth. Ochr yn ochr ag effeithlonrwydd a chynhyrchiant sy'n eiddo i'r gymuned, bydd uwchraddio'r rhwydwaith yn datgloi sector ynni gwynt ar y tir gwerth £3.5 biliwn yng Nghymru, gan greu miloedd o swyddi sicr sy’n talu’n dda. Beth fydd y Gweinidog yn ei wneud i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad i uwchraddio rhwydwaith Cymru, ac i ddatgloi gweledigaeth y Llywodraeth o Gymru sy’n annibynnol o ran ynni?

Rwyf eisoes wedi cyfarfod â’r tîm yn NESO a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad pontio y cyfeiria'r Aelod ato. Byddwn yn cael trafodaethau pellach gyda nhw dros y cyfnod o chwe mis pan fyddant yn gwahodd ymatebion i'r cynllun pontio. Yn amlwg, nid oes gennym gyfrifoldeb uniongyrchol dros y rhwydwaith trawsyrru; cedwir hynny yn ôl yn San Steffan. Ond yn amlwg, byddwn yn ffurfio safbwynt yng ngoleuni'r strategaeth ynni genedlaethol, a fydd yn nodi anghenion ynni Cymru, a byddwn yn ymateb yn y cyd-destun hwnnw maes o law.

Rwy'n ddiolchgar iawn hefyd am y cyfle i ofyn cwestiynau ar y pwynt pwysig yma. A dwi'n cefnogi popeth mae Lis wedi'i awgrymu yn ei chwestiwn hi hefyd. Dwi eisiau, os yw hi'n iawn, jest sôn am beth rydych chi wedi ei wneud yn gorffennol—roeddech chi'n sôn yn eich ateb.

Pan oeddem yn wrthblaid, roeddem yn arfer dadlau’n gyson y dylai tanddaearu ddod yn opsiwn diofyn ar gyfer unrhyw seilwaith trydan newydd. Roeddech chi a minnau’n teimlo'n rhwystredig gyda Llywodraeth flaenorol Cymru, a chyda'r grŵp cynghori annibynnol, a oedd i fod i ddarparu eglurder a chyfeiriad, ac ni chafwyd hynny gan y naill na'r llall. Ar ôl mwy na blwyddyn o oedi, canfuom fod y grŵp wedi cyfaddef na allai ddod i'r consensws hwnnw, ac mae cymunedau ledled Cymru ar hyn o bryd yn wynebu'r bygythiad o ddatblygiadau peilonau ar raddfa fawr. Felly, hoffwn glywed gennych: a wnaiff Llywodraeth Cymru fynd ati o'r diwedd i gryfhau 'Polisi Cynllunio Cymru' fel bod rhagdybiaeth o blaid gosod llinellau'n danddaearol a'i bod yn cael ei gorfodi o ddifrif? Diolch yn fawr iawn.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am ei chwestiwn. Ac a gaf i gofnodi unwaith eto, o ran y rhwydwaith dosbarthu, sydd, yn wahanol i'r rhwydwaith trawsyrru, fel y nodais yn fy ymateb cynharach, wedi'i ddatganoli—felly, 132 kV ac is—fod ein polisi'n nodi'n glir iawn ein bod yn credu y dylid ei danddaearu. Ni fyddwn yn caniatáu peilonau ar linellau newydd. Yr unig eithriadau fyddai polion pren neu seilwaith o'r fath nad yw'n tynnu sylw. Byddwn yn nodi hynny yn y lle cyntaf drwy ddatganiad gweinidogol. Rwy'n ymwybodol fod hyn, a ninnau'n trafod cynllunio, er bod yma gyd-destun polisi ynni, o fewn maes cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio—mae’n ddrwg gennyf os oedd y drefn yn anghywir. Ond dyna fyddai’r cam cyntaf, ac yna, yn amlwg, bydd hynny’n cael iteriad pellach drwy’r newidiadau mewn cynllunio. Ond hoffwn ddweud yn gwbl glir: mae ein polisi'n glir ar hyn—nid ydym yn gweld rôl i beilonau ar linellau newydd yn y rhwydwaith dosbarthu.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Jason O'Connell.

Diolch, Lywydd. Ar ôl 27 mlynedd o Lafur caled, wedi'u cynnal gan Blaid Cymru, nid yw lefel yr anghydraddoldeb rhanbarthol ar draws economi Cymru erioed wedi bod yn uwch. Mae llawer o drefi ar draws y Cymoedd yn fy etholaeth yn teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio ac wedi'u gadael ar ôl o ganlyniad. Nawr, mae cyfleoedd diddiwedd ar gyfer busnesau newydd, yn enwedig rhai mawr, wedi cael eu cynnig yn nes at Gaerdydd, gyda nifer o swyddi blaenllaw yn cael eu rhoi i weision sifil, tra bo gweddill Cymru wedi'i gadael â swyddfeydd lloeren sydd bron yn wag, gyda llawer o bobl yn y swyddfeydd hynny'n dewis gweithio gartref. Weinidog, nid yw hyn yn dderbyniol ar gyfer y Gymru wirioneddol ddeinamig yr ydym am ei gweld. Os ydych chi o ddifrif am fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol, byddwch yn lleoli swyddfeydd newydd Awdurdod Datblygu Cymru lle mae eu hangen fwyaf: Merthyr Tudful, Pontypridd, Aberdâr, calon y Cymoedd. Felly, a wnewch chi sicrhau bod holl swyddfeydd Awdurdod Datblygu Cymru yn cael eu lleoli yn yr ardaloedd hyn, eu bod yn cael eu staffio'n llawn amser gan bobl sydd yno yn y cnawd, a darparu swyddi sefydlog, mwy o footballfootfall, mae'n ddrwg gennyf—i fusnesau, gan roi hwb i'r economi leol? Diolch.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n credu bod her wirioneddol bwysig wrth wraidd ei gwestiwn, a dweud y gwir—hyd yn oed wrth inni geisio bwrw ymlaen mor gyflym ag y gallwn ar hyd y llwybr i haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU, fod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg yn ofodol. Ni allwn atgynhyrchu problem economi ehangach y DU, os mynnwch, yn ein cyd-destun ni yng Nghymru, lle mae cyfoeth a chyfleoedd wedi’u crynhoi mewn un gornel benodol. Felly, ym mhopeth a wnawn, rhaid inni sicrhau, pan fyddwn yn cyflawni ein potensial economaidd ar gyfer y genedl gyfan, ein bod yn ceisio gwneud hynny ar gyfer pob rhan o’r genedl gyfan, a phob rhanbarth a phob cymuned.

Gan ei fod yn codi mater yr awdurdod, rwy'n credu bod angen i hynny fod wrth wraidd y llythyr cylch gwaith ar gyfer yr awdurdod. Mae rhan o hynny'n ymwneud â ble rydych chi'n lleoli. Wel, mae rhan o hynny'n ymwneud â chreu adrannau rhanbarthol cryf y rhoddir cyfrifoldeb gweithredol iddynt ar lawr gwlad, ac yna sicrhau bod timau wedi’u lleoli ym mhob rhan o Gymru. Ac oes, mae manteision i hynny o ran football—footfall—ond hefyd—. Llithriad Freudaidd oedd hynny; hoffwn pe baem yng Nghwpan y Byd, ond dyna ni. [Chwerthin.]

Ond ie, edrychwch, 'ym mhob ffordd y gallwn', yw'r ateb cryno. Mae gennyf ddiddordeb mewn unrhyw syniad sy'n cau'r bwlch. Mae pethau eraill yr hoffem eu gwneud. Mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros, y Gweinidog gwledig—

—gwydnwch gwledig a newid hinsawdd—. Mae fel bingo Cabinet, onid yw? 'Cefais yr un hwnnw'n iawn.' [Chwerthin.] Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, gan sicrhau bod y Gymru wledig a’r holl sectorau sy’n arbennig o bwysig yn y Gymru wledig, yn hollbwysig, y Cymoedd hefyd—. Rwy'n dod o'r maes glo carreg. Nid yw’r Cymoedd wedi cael y llwyfan y maent yn ei haeddu. Byddwn yn newid hynny fel rhan o’n strategaeth economaidd gyffredinol, drwy’r awdurdod datblygu, ond drwy bolisïau’r Llywodraeth hefyd.

Diolch. Ar gyfer y cwestiwn nesaf, a gaf i ddatgan buddiant fel cyn-weithiwr ar safle Sain Tathan? Nawr, roedd Sain Tathan yn arfer bod yn safle blaenllaw ar gyfer y sectorau awyrofod ac amddiffyn. Mae'n cael ei danddefnyddio erbyn hyn, ac mae drws nesaf, wrth gwrs, i Faes Awyr Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei danddefnyddio braidd ac sy’n tanberfformio. Ar ôl colli cytundebau amddiffyn allweddol, dywedodd cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:

'Mae pobl wedi cael eu camarwain gan addewidion o filoedd o swyddi ar gyflogau da, ac eto yn y pen draw, mae busnesau a gweithwyr wedi'u gadael yn siomedig iawn.'

Mae'n gas gennyf gyfaddef fy mod yn cytuno â hi. Nawr, heddiw, mae gennym Lywodraeth Plaid Cymru sy'n rhy feddal ar yr economi ac yn feddal ar dwf, gan ddewis curo ar ddrws Rhif 10 yn cardota am sbarion gan DU sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd—Llywodraeth sy’n malio mwy am eu delwedd ar y llwyfan cenedlaethol nag am economi Cymru. Dylem ganolbwyntio ar adfer hyb awyrofod fel Sain Tathan i’w ogoniant blaenorol a gwireddu ei botensial llawn, atgyfnerthu'r ymdrech i greu swyddi, denu busnesau a chael mynediad at gyfleoedd byd-eang yn y sectorau cynnal a chadw, trwsio, atgyweirio a chludo nwyddau. Mae cymaint o botensial yno.

Felly, Weinidog, rydych chi'n honni bod Cymru yn agored i fusnes—beth yw strategaeth eich Llywodraeth ar gyfer y sector awyrofod? Oherwydd nid wyf wedi clywed unrhyw beth am hyn. Sut y gwnewch chi gysylltu eich archwiliad sgiliau arfaethedig â'r swyddi sgiliau uchel sydd eu hangen yn y sector, ac a ydych chi'n mynd i allu sicrhau canlyniad ar gyfer Sain Tathan a'r gymuned awyrofod ehangach o'r diwedd? Diolch.

13:50

Wel, roedd yn well gennyf ail hanner y cwestiwn, sef: beth fyddwn ni'n ei wneud? Edrychwch, rwy'n cytuno bod cyfle enfawr yno. Mae clwstwr pwysig yno eisoes. Mae gennym glwstwr awyrofod. Mae gennym hefyd glwstwr cynnal a chadw, trwsio ac atgyweirio hedfanaeth yn ehangach. Mae gennyf ddiddordeb mewn trafod gydag unrhyw un sydd eisiau gweithio i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr asedau sydd yno. Mae rhai ohonynt yn asedau ffisegol. Mae rhai ohonynt yn asedau cyfalaf dynol—sgiliau ein pobl. Rwyf am inni adeiladu ymhellach ar y sgiliau hynny. Yn sicr, rydym yn ystyried y sector hwn, yn cynnwys y clwstwr o amgylch Sain Tathan a'r maes awyr, yn un o'r clystyrau strategol bwysig i Gymru. Mae'n llwyfan ar gyfer twf. A yw wedi gwneud y mwyaf o'i botensial? Nac ydy, ddim o gwbl. Mae Llywodraeth newydd yma. Edrychwch, os oes gan yr Aelod syniadau, syniadau ymarferol—tymor byr, canolig a hir—mae fy nrws ar agor. Gadewch inni ddod at ein gilydd i drafod hyd yn oed, weithiau, y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau, yn gweithio gyda'i gilydd. Nid oes monopoli ar syniadau da. Mae'n glwstwr strategol bwysig i ni, rydym eisoes wedi nodi hynny, a byddwn yn gweithio gyda'r clwstwr a phawb arall i sicrhau ei fod yn gwireddu ei botensial i'r eithaf.

Diolch am eich ateb. Mae gan Gymru rai o'r ysbytai a rhywfaint o'r seilwaith hynaf yn y DU. Ac eto o ganlyniad i gynllun buddsoddi Keir Starmer ar amddiffyn a gyhoeddwyd yr wythnos hon o'r diwedd, bydd cyllid cyfalaf Cymru’n cael ei dorri a bydd ein cenedl yn dlotach o'r herwydd. Nawr, nid yw Reform yn anghytuno â chynyddu gwariant amddiffyn, ond mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod o'r lle iawn, a'r lle hwnnw yw'r gyllideb les. Am y 13 mlynedd diwethaf, mae'r DU wedi gwario mwy ar les nag y mae wedi'i gael mewn treth incwm. Yn hytrach, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi aberthu Cymru ar allor lles sy'n ymestyn yn barhaus, gan beryglu'r gwaith adeiladu sydd ei angen ar ein pobl sâl ac ifanc, ac amddifadu Cymru o seilwaith a thwf economaidd sydd eu hangen yn daer ar economi Cymru. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Weinidog, fod penderfyniadau gwariant amddiffyn Starmer wedi cosbi Cymru a'n heconomi yn annheg, a pha asesiadau o'r effaith economaidd a gaiff eu cynnal mewn perthynas â hyn? Diolch.

Rwyf bob amser yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin, felly gadewch inni ddechrau lle mae rhywfaint o gytundeb. Nid wyf yn credu y gellir cyfiawnhau'r modd y deuir o hyd i wariant ychwanegol ar amddiffyn drwy ysbeilio'r gyllideb ar gyfer seilwaith cymdeithasol hanfodol bwysig. Mae'n bolisi hynod annheg a byrdymor pan fo opsiynau eraill ar gael. Nawr, dyma'r anghytundeb: yn un o wledydd mwyaf anghyfartal Ewrop, ai'r peth tecaf i'w wneud felly yw ysbeilio'r gyllideb lles, sydd yno i ddarparu o leiaf rywfaint o wellhad yn erbyn y tlodi enfawr sydd gennym yn ein cymdeithas, pan allech fod yn edrych ar ben arall y raddfa incwm, oni allech, ar gyfoeth, a chyflwyno treth ar gyfoeth yn y wlad hon? Felly, os oes diffyg i'w lenwi, pam na ofynnwn am arian o'r pocedi cyfoethocaf a'r ysgwyddau lletaf, yn hytrach na chydbwyso'r gyllideb ar gefnau'r tlodion?

13:55

Diolch, Lywydd. Weinidog, fe ŵyr pob un ohonom fod yr M4 yn rhydweli a ddefnyddir gan lawer iawn o gymudwyr, twristiaid a busnesau. Mae tagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd yn broblem y mae Llywodraeth leiafrifol Plaid Cymru wedi nodi ei bod am ei datrys, ond fe glywn yn glir gan arweinydd cyngor Casnewydd ac eraill nad yw cau cyffyrdd ger Casnewydd yn rhywbeth y mae pobl y ddinas ei eisiau. Byddai cau cyffyrdd yn gorfodi mwy o draffig ar ffyrdd lleol ac i mewn i rai o ardaloedd lleiaf cyfoethog y ddinas, gan waethygu problemau iechyd a llesiant y mae'r bobl sy'n byw yno eisoes yn eu hwynebu. Felly, pa ymgynghori y bwriadwch ei wneud â chymunedau lleol a allai gael eu heffeithio gan gau cyffyrdd, ac a ydych chi'n cydnabod bod y cymunedau yr effeithir arnynt yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau Casnewydd, gan gynnwys yr holl ffordd i Flaenau'r Cymoedd, Cwmbrân a'r Fenni?

Diolch am eich cwestiwn, Vikki. Rwy'n credu bod y ffordd rydych chi'n crynhoi'r mater yn gwbl gywir o ran bod Casnewydd a'r M4 yn system, a phan fyddwch chi'n newid un rhan o'r system, mae'n cael effaith mewn mannau eraill. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny o ran yr atebion y down ar eu traws ac yn ceisio gweithio drwyddynt. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau bod yr Aelodau ar draws y Senedd sy'n lleol i hyn yn cael rhywfaint o friffio technegol yn gynnar ar y pwnc, fel y gall pob un ohonom ddeall a siarad ynghylch yr un cyfleoedd a'r un pryderon.

Rwy'n deall pryderon pobl yng Nghasnewydd, ac mae'n debyg mai Casnewydd yw'r ardal y byddwch yn fy ngweld yn treulio'r rhan fwyaf o fy amser ynddi dros yr ychydig fisoedd nesaf, gan y credaf ei bod hi'n bwysig imi ddeall y materion sy'n codi o safbwynt y gymuned, o safbwynt yr arweinwyr yn yr ardaloedd hynny, a hefyd i sicrhau ein bod yn gwneud rhywbeth sy'n adlewyrchu'r pryderon hynny hefyd. Felly, byddwn yn dod yn ôl yn yr hydref gyda chyfres eithaf cytbwys o fesurau, ac rwy'n gobeithio y bydd y rheini'n bethau a fydd yn cael cefnogaeth eang, sef yr hyn rwy'n chwilio amdano. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y dywedodd y Gweinidog Cabinet, ein bod yn chwilio am feysydd lle gallwn gydweithredu, felly dyma lle rydym yn chwilio am bethau y gallwn gydweithredu arnynt, ac edrychaf ymlaen at gael y sgyrsiau hynny mewn mwy o fanylder gyda'r bobl sy'n cyfrif.

Dylid croesawu briffiau technegol ar gyfer Aelodau lleol a sgyrsiau lleol, yn amlwg, ond ni ddylent ddisodli proses ymgynghori ffurfiol gyda'r cymunedau hynny a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan unrhyw newidiadau.

A chan gadw at y tagfeydd ar yr M4, rwy'n nodi eich bod wedi ymrwymo i adnewyddu'r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Lafur flaenorol Cymru i nodi ffordd glir ymlaen sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio'r corff sylweddol o dystiolaeth sydd eisoes ar gael. Ac rwyf fi a fy nghyd-Aelodau Llafur Cymru yn sicr yn edrych ymlaen at eich adroddiad yn yr hydref ar y ffordd ymlaen y mae eich Llywodraeth yn ei chynllunio. Rhan o'r ateb bob amser fu cynnig dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel i gymudwyr. Felly, pa waith rydych chi wedi'i wneud hyd yma i gyflymu'r gwaith ar y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus, y gorsafoedd Burns fel y'u gelwir, a pha sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar hyn?

Unwaith eto, diolch am y cwestiwn nesaf hwnnw, ac mae hyn yn adeiladu ar lle rydym yn ceisio meithrin dull cydweithredol. Treuliais rywfaint o amser gyda'r Arglwydd Hendy yr wythnos diwethaf ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn yr hyn a oedd yn fy marn i—. Gadawodd pawb yr ystafell gan ddweud, 'Roedd honno'n sgwrs adeiladol iawn.' Rwy'n credu bod pob un ohonom ar yr un dudalen. Rydym yn cydnabod bod y rhain yn faterion i'w datrys.

Mae problem fawr yn yr ystafell, serch hynny, sef bod angen i'r cyllid gael ei ddarparu, i ddangos y gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith. Yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Hendy yn benodol yw, 'A yw Cymru'n barod i ymgymryd â'r gorsafoedd Burns hyn? A yw'r cynlluniau'n barod gennych i wneud i hyn ddigwydd?' Ac roedd yn bleser mawr gennyf ddweud 'ydym', a dyna'r math o beth y maent yn chwilio amdano, oherwydd pan fyddant yn mynd yn ôl at y Trysorlys, nid ydynt eisiau syniad amwys o beth fydd yn digwydd. Yr hyn y maent ei eisiau yw, 'Dyma rydym ni'n mynd i'w wneud. Dyma pryd rydym ni'n mynd i'w wneud.'

Ac yna, gan fynd yn ôl at eich cwestiwn blaenorol, gallwn siarad â phobl Casnewydd a mannau eraill gyda chynlluniau pendant ynghylch pryd y bydd pethau'n digwydd. Unwaith eto, rwy'n credu bod cyfleoedd i sicrhau consensws eang ar hyn, oherwydd fel y saif pethau ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod y llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Casnewydd ac o amgylch Casnewydd yn gweithio mor effeithiol ag y gallant, felly dyma ein cyfle i ddangos fel corff gwleidyddol y gallwn gyflawni'r pethau hyn.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Weinidog Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod gan borthladdoedd rhydd Cymru rôl bwysig i'w chwarae yn cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru? Yn ogystal â chefnogi ein huchelgeisiau o ran ynni adnewyddadwy, bydd y porthladdoedd rhydd yn denu bron i £5 miliwn o fuddsoddiad, yn creu hyd at 16,000 o swyddi ac yn rhoi hwb enfawr i economi Cymru. Fel y gŵyr pob un ohonom, sefydlwyd porthladdoedd rhydd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, David T.C. Davies, yn gweithio'n ddiflino i sicrhau dau borthladd rhydd i Gymru. Pan fanteisiodd Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU ar y rhyddid a ddarparwyd gan Brexit i sefydlu porthladdoedd rhydd, roedd Plaid Cymru yn amheus. Ond nawr, o ystyried y manteision economaidd y mae'r rhain yn eu cynnig, a ydych chi'n derbyn yn llawn y rôl y byddant yn ei chwarae yn hybu twf, yn denu buddsoddiad ac yn creu swyddi yng Nghymru? Ac a ydych chi'n croesawu'r manteision Brexit gwych y byddant yn eu sicrhau?

14:00

Roeddech chi'n gwneud mor dda. Na, edrychwch, i fod yn onest gyda chi, rwy'n deall beth sydd wrth wraidd yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ac nid wyf am wastraffu amser nac egni'n ymladd brwydrau'r gorffennol, mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn ennill gwobrau'r dyfodol. Ac wrth wraidd eich cwestiwn, mae yna wobr enfawr. Mae gennym un o'r lleoedd gorau yn y byd—un o ddim ond tri man mewn gwirionedd lle gallwch chi adeiladu fferm wynt arnofiol ar y môr ar raddfa fawr. Ac felly mae'n ras rhyngom ni, y Koreaid a'r Norwyaid i gyrraedd yno yn gyntaf. Gadewch inni gael mantais y sawl sy'n symud yn gynnar, ac nid yn unig o ran adeiladu'r tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr eu hunain, gadewch inni adeiladu'r tyrbinau, a gadewch inni adeiladu'r tyrbinau ym mhorthladdoedd Cymru. Yr hyn y gallwn ei wneud yn fy marn i yw troi'r porthladdoedd hynny yng Nghymru yn barciau diwydiannol gwyrdd ar raddfa enfawr, os mynnwch, oherwydd lle down â'r ynni i'r lan, gallwn greu system ynni wedyn a fydd yn caniatáu i'n defnyddwyr diwydiannol mawr, yn Tata, Port Talbot, ond yn y porthladdoedd eraill hefyd, greu mantais gystadleuol oherwydd bod gennym yr ased unigryw o ddigonedd o ynni glân. Gadewch inni ei ddefnyddio er budd Cymru.

Weinidog, diolch. Diolch am nodi eich cefnogaeth ddiamwys i borthladdoedd rhydd Cymru. Rwy'n falch fod eich Llywodraeth bellach yn fodlon manteisio ar beth o'r rhyddid y mae Brexit wedi'i wneud yn bosibl. Mae porthladdoedd rhydd yn gweithio am fod y busnesau ynddynt yn elwa o drethi is a llai o fiwrocratiaeth. O ganlyniad, caiff buddsoddiad ei ddenu, caiff swyddi eu creu ac mae twf economaidd yn dilyn. Felly, a ydych chi'n cytuno bod porthladdoedd rhydd yn enghraifft fyw o'r ffaith bod torri trethi a lleihau biwrocratiaeth yn helpu i greu swyddi a ffyniant? Ac os ydych chi bellach wedi rhoi'r gorau i'ch safbwynt o wrthwynebiad i borthladdoedd rhydd ac yn cydnabod yr hyn y gall trethi isel ei wneud, beth am fynd un cam ymhellach a rhoi'r gorau i'r dogma sosialaidd hen ffasiwn sy'n dal Cymru yn ôl gyda'i buddsoddiad menter ledled Cymru? Beth am ddileu'r dreth dwristiaeth, torri ardrethi busnes, ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi—[Chwerthin.] Wel, nid yn llythrennol, os caf ychwanegu. Ymunwch â'r Ceidwadwyr Cymreig, fe wnaf ei ddweud eto, i gefnogi treth isel, llai o fiwrocratiaeth.

Janet, rwy'n gwybod eich bod chi'n un o fy nghefnogwyr mwyaf, ond rwy'n credu eich bod chi wedi mynd yn rhy bell. [Chwerthin.] Felly, rwy'n mynd i orfod eich gadael chi wrth yr allor yma. Ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol yn y dyfodol agos. 

Ond edrychwch, mae gennym borthladdoedd rhydd, mae gennym ardaloedd menter, mae gennym barthau buddsoddi, ac ati. Mae gennyf lai o ddiddordeb yn yr hyn y galwn y pethau hyn. Mae gennyf fwy o ddiddordeb yn yr hyn y gallant ei wneud. Ac os oes unrhyw lifer neu arf yn caniatáu inni adeiladu'n gyflymach, i fynd ymhellach i ble rydym am ei gyrraedd o ran ein nod cynhyrchiant, yna haleliwia. A byddaf yn hapus i ddiolch i unrhyw un a oedd yn gyfrifol am ein helpu ar hyd y daith honno. Gadewch inni beidio â chael ein dal yng ngwleidyddiaeth hyn, a gadewch inni geisio codi ein golygon ychydig ac anelu at y nod.

Y Diwydiant Lled-ddargludyddion

3. Pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o feithrin y sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd Islwyn? OQ64311

Diolch. Fel rhan o'r parth buddsoddi, rydym yn gweithio gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd a CSconnected i ddatblygu cynllun cyflenwi sgiliau i ddiwallu anghenion y clwstwr a datblygu talent y dyfodol. Mae swyddogion hefyd wedi eu cynnwys mewn trafodaethau ynghylch creu canolfan sgiliau bwrpasol ar gyfer y clwstwr.

Diolch am yr ateb yna. 

Yn gynharach y mis hwn, ymwelais â KLA yng Nghasnewydd gyda fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru, Lyn Ackerman. Mae KLA yn gwmni lled-ddargludyddion sydd â hanes balch o ddarparu swyddi ar gyflogau da ac mae'n rhan annatod o glwstwr lled-ddargludyddion de Cymru, a'r cyntaf o'i fath yn y byd. Cyflog cyfartalog y clwstwr yw £67,765 am bob gweithiwr amser llawn, bron i ddwywaith cyfartaledd Cymru. Y gwerth ychwanegol gros cyfartalog am bob cyflogai yw £155,000, ac eithrio gweithgarwch nad yw'n weithgynhyrchu. Mae wedi cyfrannu £436 miliwn at werth ychwanegol gros economi Cymru ac mae'n cefnogi sectorau allweddol, gan gynnwys cyfathrebu uwch, ynni glân, y sector modurol a thrafnidiaeth, a thechnolegau meddygol. Mae'n amlwg fod lled-ddargludyddion yn allweddol i economi de-ddwyrain Cymru a'r genedl ehangach ar gyfer y dyfodol. Er mwyn manteisio ar y cyfle hwn, byddai angen y gweithlu cywir arnom—

14:05

Rwy'n dod at fy nghwestiwn. Felly, sut y gwnewch chi sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu cael mynediad at yrfaoedd yn y sector hwn ac elwa o'r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn?

Wel, cefais innau hefyd y fraint o ymweld â KLA yr wythnos diwethaf a hoffwn annog pob Aelod i fanteisio ar y cyfle hwnnw. Mae'r hyn a welwch yno mor anhygoel oherwydd mae hwn yn glwstwr sbectrwm llawn. Nid yn unig ein bod yn cynhyrchu'r lled-ddargludyddion cyfansawdd, rydym yn cynhyrchu'r peiriannau yn KLA sy'n eu gwneud. Ac i mi, roedd yn eithaf emosiynol, meddwl ein bod wedi mynd o gloddio glo i gloddio data, ac i weld y bobl ifanc yno, yn y clwstwr uwch-dechnoleg mwyaf blaenllaw yn y byd yn yr ardal hon, cwmnïau sy'n arwain y byd. Dywedwyd wrthyf hefyd fod pobl yn y cwmni hwnnw—KLA, SPTS gynt—yn mynd i mewn fel prentisiaid, ac yn dod yn uwch-reolwyr 25, 30 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei wneud.

Felly, fel y dywedais, rydym wrthi'n trafod adeiladu'r ganolfan sgiliau. Ond hefyd rwy'n gwybod bod cyngor Casnewydd yn cynnig rhaglen gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i ysgolion hefyd, fel ein bod yn agor y drws ym meddyliau pobl ifanc i ddychmygu'r hyn y gallent fod. A dyna, ar lefel unigol, yw'r hyn y ceisiwn ei wneud ar lefel y genedl gyfan. Felly, byddwn yn sicr yn gwneud ein rhan i wneud yn siŵr bod y trysor hwn yn cyflawni ei botensial llawn. Dim ond dechrau yw hyn yn fy marn i.

Rhaid imi ddatgan diddordeb fel cyn-filwr a chontractwr yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Gyda'r cynnydd presennol mewn deallusrwydd artiffisial, rhyngrwyd pethau, canolfannau data, technoleg 5G, a'r galw presennol am led-ddargludyddion, mae'n amlwg mai dim ond cynnydd a welwn yn y trywydd. Ychwanegwch anghenion amrywiol y diwydiant arfau yn y fyddin Brydeinig, ac mae gennym ni ein hunain ased allweddol yng Nghasnewydd Islwyn, ac rwy'n falch eu bod wedi dewis Casnewydd yn gartref iddynt. Eu llwybr yw cyflogi 500, gan godi i 900, mewn swyddi medrus iawn, ar gyflogau da ac fel y mae fy nghyd-Aelod eisoes wedi nodi, cyflogau sydd gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd cyffredin ar gyfer yr ardal ei hun. Mae'r prif swyddog technoleg eisoes wedi datgan, ac rwy'n dyfynnu ei eiriau'n uniongyrchol, y byddant yn tynnu ar weithlu medrus Casnewydd.

O ystyried bod Llywodraeth y DU o'r farn bod hyn yn deilwng o oddeutu £250 miliwn ynghyd â buddsoddiad wedi'i gynllunio dros y blynyddoedd i ddod, a llawer ohono'n dod gan y rhiant-gwmni eu hunain, beth yw cynlluniau'r Gweinidog i sicrhau y bydd y diwydiant allweddol hwn yn cael cefnogaeth y Llywodraeth yn y dyfodol, ac i'w cynorthwyo drwy ostwng costau ynni?

Wel, byddaf i'n bersonol fel Gweinidog a byddwn ni fel Llywodraeth yn gwneud popeth a allwn i gefnogi twf y cwmni hwnnw, a'r sectorau twf a'r clystyrau hyn. Rydym yn ffodus yng Nghymru ein bod wedi cynnal ein sylfaen  weithgynhyrchu uwch. Mae gweithgynhyrchu'n dal i fod yn 16 i 17 y cant o'n heconomi gyfan, ond yn ddim ond hanner hynny yn y DU. Ond ni ddylem aros yn llonydd. Dylem ail-ddiwydiannu. Fel y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi nodi, dylem ei gynyddu i 20 y cant, dylem gyrraedd yn ôl i fyny yno. Mae gennym y sylfeini i wneud hynny. Mae angen inni fuddsoddi yn ein sylfaen sgiliau, mae angen inni fuddsoddi yn ein system arloesi, mae angen inni fuddsoddi yn y cwmnïau unigol. Yn ganolog i'r awdurdod datblygu, mae mecanwaith, modd o weithio'n gyflymach mewn ffordd ystwyth a deinamig, fel y gallwn gefnogi cwmnïau fel hyn.

Rydym yn byw mewn oes o aflonyddwch mawr, drwy ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig eraill, ond yn hynny o beth, mae cyfle hefyd, ac rydym mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Mae gennym ddwy ardal twf AI, mae gennym lawer o'r seilwaith caled drwy'r canolfannau data sy'n mynd i mewn, ond rydym eisiau gwneud mwy na chynnal seilwaith caled yn unig, yn yr un modd â'n bod eisiau gwneud mwy na chynnal seilwaith ynni yn unig; rydym eisiau cael y budd ohono. Dyna'r math o strategaeth a fydd yn gyrru ein Llywodraeth.

14:10

Mae Casnewydd yn ganolbwynt i glwstwr lled-ddargludyddion de Cymru sy'n arwain y byd a dros y pedair blynedd nesaf, yr uchelgais yw tyfu refeniw'r clwstwr i dros £1 biliwn a chyrraedd dros 6,000 o swyddi, ac mae hwn yn gyfle enfawr i dyfu talent lleol. Yn rhan o hynny, mae cwmnïau fel KLA a Vishay yn ymgysylltu â phobl ifanc, a rhieni yn wir, oherwydd rwy'n credu bod angen i rieni wybod beth yw rhai o'r swyddi hyn hefyd: swyddi o ansawdd da iawn mewn sector sy'n tyfu, ar garreg eu drws. Rydych chi eisoes wedi sôn am y rhaglen STEM arfaethedig gyda Chyngor Dinas Casnewydd, sy'n mynd i fod yn syniad ardderchog, ac yn meddwl tybed a ydych chi wedi gweld y gwaith y mae Clwb Rygbi'r Dreigiau wedi'i wneud, gan weithio gydag ysgolion a'r diwydiant lled-ddargludyddion, i harneisio'r dalent ifanc honno. A beth arall fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gyda'ch Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, i ddod â hyn i gyd at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn harneisio potensial y dalent leol?

Mae'n wych clywed bod y Dreigiau'n cymryd rhan. A dyna'n union sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer clwstwr, pan fydd yn bwrw gwreiddiau dwfn ar draws y gymdeithas a phan fydd pawb yn teimlo eu bod yn rhan ohono. Felly, mae'n wych clywed hynny. Byddwn yn gwneud popeth a allwn, yn sicr yn yr archwiliad sgiliau yr ydym eisoes wedi'i gyhoeddi, ac yn sicr gyda'r uwchgynhadledd sgiliau, rwy'n siŵr y bydd anghenion a chyfleoedd y sector yn cael lle canolog ynddi.

Fel y clywsom eisoes, rydym yn gweld twf, oherwydd yr hyn sy'n digwydd gyda deallusrwydd artiffisial, ac wrth gwrs, nid yw cyfrifiadura cwantwm mor bell â hynny i ffwrdd nawr a bydd cyfrifiadura cwantwm ei hun yn gyrru'r galw am gynhyrchion y diwydiant hwn. Felly, rydym mewn sefyllfa gref iawn yma, ond ni ddylem orffwys ar ein bri ynghylch y llif o dalent ac ennyn cyffro ac ymagwedd gadarnhaol mewn pobl. Fel cenedl, rydym yn rhai da am adrodd straeon, ond weithiau mae ein gostyngeiddrwydd naturiol yn ein rhwystro rhag gweiddi'n uchel fod gennym glwstwr blaenllaw'r byd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae hynny'n beth enfawr i wlad o 3.1 miliwn o bobl. Rydym ar y blaen mewn sector sy'n mynd i fod yn hanfodol bwysig i'r dyfodol, felly rydym yn barod i wneud popeth a allwn fel Llywodraeth.

Rydym yn sicr yn genedl o rai da am adrodd straeon, ond rwy'n mynd i ofyn am gymorth y Gweinidog Cabinet nawr i frysio drwy gwestiynau eraill, fel y gallwn fynd drwy'r papur trefn. [Chwerthin.

Cwestiwn 4, Carmelo Colasanto.

Twristiaeth

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin? OQ64310

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud y gorau o'r cyfleoedd sy'n deillio o dwristiaeth a gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn cefnogi busnesau twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin drwy weithgareddau Croeso Cymru, gan gynnwys ymgyrchoedd marchnata, cyllid a chymorth i fusnesau a chefnogaeth i fentrau sgiliau.

Diolch, Weinidog. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar yn amlinellu sefyllfa ariannol hynod heriol y mae eu busnes twristiaeth teuluol yn ei wynebu ar hyn o bryd, gan olygu bod y busnes hwnnw'n wynebu bygythiad difrifol. Yn flaenorol, fe wnaethant sicrhau benthyciad i gefnogi gwelliannau gyda'r nod o wella profiad y cwsmer a phrofiad ymwelwyr, a chryfhau twristiaeth leol, ond roedd cais pellach am grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn aflwyddiannus am nad oedd yn bodloni'r maen prawf o greu swydd lawn amser newydd, er gwaethaf rôl y prosiect yn diogelu cyflogaeth bresennol. Ar hyn o bryd mae'r perchnogion yn talu ychydig dros £1,000 y mis iddynt eu hunain wrth iddynt flaenoriaethu ail-fuddsoddi eu hincwm i gynnal gweithrediadau. Mae eu hymrwymiadau ariannol misol yn sylweddol ac yn fwy na'r arian a ddaw i mewn. Yn ogystal, mae archebion wedi gostwng tua 30 y cant o un flwyddyn i'r llall. Mae'r gostyngiad hwn yn adlewyrchu cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys costau tanwydd cynyddol, pwysau costau byw, ansicrwydd ynghylch polisi a phryderon ymhlith ymwelwyr am amodau teithio yng Nghymru, megis argaeledd tanwydd, effaith y terfyn cyflymder 20 mya ar amseroedd teithio a chosbau posibl. Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i fusnesau lleol fel y rhain fod y Llywodraeth hon ar eu hochr?

14:15

Diolch am y cyfle i roi'r sicrwydd hwnnw. Rydym am weithio mor agos ag y gallwn gyda'r sectorau twristiaeth a lletygarwch ehangach. Maent yn sectorau hanfodol bwysig i ni yn genedlaethol, ac mewn llawer o ardaloedd lleol allweddol yng Nghymru, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin. Byddaf yn cyfarfod â chynrychiolwyr o'r sectorau twristiaeth a lletygarwch i siarad am ffyrdd ymarferol—yn y tymor byr, canolig a hir—y gallwn eu helpu i wireddu eu potensial diamheuol. Mewn perthynas â'r busnes unigol dan sylw, os gall yr Aelod rannu'r manylion gyda mi, os ydynt yn cytuno i hynny, fe ofynnaf i swyddogion weld a oes unrhyw ddulliau eraill y gellid mynd i'r afael â'r materion y maent wedi'u codi gyda chi.

Datblygu Economi Cymru

5. Pa ddiwydiannau y bydd y Gweinidog Cabinet yn eu blaenoriaethu wrth ddatblygu economi Cymru? OQ64235

Byddwn yn blaenoriaethu ardaloedd sydd â'r potensial mwyaf. Mae gwaith ar y gweill i sefydlu comisiwn economaidd a chyllidol i gryfhau dadansoddiad economaidd gronynnog, ochr yn ochr â datblygu awdurdod datblygu cenedlaethol. Bydd hyn yn helpu i alinio buddsoddiad, sgiliau ac arloesedd yn well, gan gefnogi twf cynaliadwy a chreu swyddi o ansawdd uchel ledled Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu mai'r chwe sector twf allweddol yn economi'r byd yw deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio, ynni adnewyddadwy, iechyd digidol, technoleg ariannol, gweithgynhyrchu uwch ac e-fasnach. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi? Mae angen strategaeth ddiwydiannol arnom ar gyfer pob un o'r sectorau hyn, cefnogaeth i bob un ohonynt, gan gynnwys grantiau, ac yn hollbwysig, cefnogaeth i brifysgolion Cymru, a all ddarparu graddedigion, ac yn hollbwysig, ymchwil academaidd. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i gefnogi'r sectorau hyn?

Ar lefel gyffredinol, credaf fod llawer o'r sectorau y mae'n cyfeirio atynt yn amlwg yn rhai lle mae potensial economaidd enfawr yn fyd-eang ac yn wir, i Gymru. Pwynt fy ymateb cychwynnol oedd fy mod yn credu bod yn rhaid inni fynd ag ef i lefel fwy penodol, oherwydd o dan ddiwydiannau adnewyddadwy neu ddiwydiannau gwyrdd ac ati, mae yna israniadau. Bydd gan Gymru fantais gystadleuol gymharol bosibl mewn rhai ohonynt—nid ym mhob un ohonynt—ac mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar dyfu'r meysydd lle mae gennym sylfaen yn barod neu lle gallwn dyfu i mewn i faes cyfagos posibl. Mae hyn yn wir gyda deallusrwydd artiffisial hefyd. Mae'n debyg nad ydym yn mynd i fod yn cystadlu â'r darparwyr canolfannau data enfawr neu'r cwmnïau modelau iaith mawr arloesol fel Anthropic, ond o ran cymhwyso deallusrwydd artiffisial, mae cyfle gwych inni ddatblygu drwy ein hardaloedd twf AI ac yn seiliedig ar ein maes arbenigedd presennol. Mae rôl prifysgolion yn hanfodol yma fel cwmnïau deillio. Yn sicr, bydd ein hadolygiad annibynnol o'r sector yn edrych ar rôl prifysgolion yn ein sylfaen wybodaeth ac o ran yr economi ehangach.

Trafnidiaeth

6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth ar gyfer Casnewydd ac Islwyn? OQ64239

Ein blaenoriaethau yw gwelliannau ymarferol y gall pobl eu gweld: gwell cysylltiadau â chanol dinas a gorsafoedd Casnewydd, cerdded a beicio mwy diogel, bysiau dibynadwy, a gweithredu ar dagfeydd. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol yng Nghasnewydd Islwyn i gyflawni'r blaenoriaethau a rannwn.

Diolch am eich ymateb. Ddirprwy Weinidog, rydym i gyd yn llawer rhy ymwybodol o'r problemau y mae gyrwyr yn eu hwynebu'n rheolaidd ar yr M4 ac o amgylch Casnewydd. O'm rhan i, ffordd liniaru'r M4 yw'r opsiwn gorau o hyd i leddfu'r anhrefn moduro diddiwedd. Rhaid iddo fod yn ateb seiliedig ar ffyrdd, rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi'i addo mewn gwirionedd, nid cau cyffyrdd traffyrdd fel y mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi'i awgrymu. Bydd hyn yn ychwanegu at yr anhrefn a'r aflonyddwch y mae busnesau, trigolion ac ymwelwyr oll yn ei brofi'n rheolaidd.

Yn ddiweddar, cefais lythyr gan un o drigolion Rhymni am ffordd liniaru'r M4, a dynnodd fy sylw at y dull Nazzano o ehangu twnnel. Rwy'n credu bod gohebiaeth debyg wedi'i hanfon at Weinidogion Llywodraeth Cymru hefyd. Er budd yr Aelodau yma yn y Siambr, mae'r dull Nazzano, a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus yn yr Eidal, yn caniatáu i dwnelau gael eu lledu gan eu cadw'n gwbl weithredol ar yr un pryd, drwy adeiladu strwythur mwy o amgylch y turiad gwreiddiol. Er y bydd ffordd liniaru'n parhau i fod yn hoff ateb gennyf, Ddirprwy Weinidog, a oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i ddull Nazzano fel ffordd bosibl o fynd i'r afael â thrafferthion yr M4? Os na, pam? A heddiw, a wnewch chi ddiystyru cau cyffyrdd ar hyd yr M4 yng Nghasnewydd? Diolch.

14:20

Diolch, Natasha, a diolch am eich cwestiwn atodol hefyd. Rwyf am gydnabod eich bod wedi bod yn siarad am y mater hwn yn y Senedd ddiwethaf ac yn y Senedd hon, felly rydych chi wedi bod yn gyson yn hyn ac rydych chi wedi dweud yr un pethau'n gyson. Rydym wedi diystyru ffordd liniaru'r M4, y llwybr du, a hynny oherwydd pryderon amgylcheddol, pryderon am gost a hefyd o ran gallu gwneud pethau mewn modd amserol, oherwydd rwy'n credu bod pobl Casnewydd a phobl ledled Cymru angen ateb y gellir ei gyflawni, a dyna fy ffocws o ran yr hyn sy'n digwydd. 

Mae'r pwynt a grybwyllwyd gennych am y dulliau twnelu yn ddiddorol yn fy marn i, ac yn rhywbeth y clywsom gyfeirio ato yn y Llywodraeth eisoes. Mae gennyf swyddogion sy'n edrych ar hynny ar hyn o bryd. Mae'n edrych fel pe bai ar yr ymyl allanol yr hyn y gallwch ei wneud. Rwy'n credu nad yw rhai o'r pethau hyn wedi'u profi eto, ond maent yn bethau y byddem yn awyddus i edrych arnynt. 

Ar gau cyffyrdd traffordd, pan fyddwch chi'n dechrau newid pethau, mae cau cyffyrdd traffordd yn rhywbeth tebygol a fydd yn digwydd o ran newid, boed yn gau parhaol neu'n gau dros dro. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei gydnabod—ac rwy'n credu mai dyma'r peth allweddol, gan fynd yn ôl at y cwestiwn gan Vikki yn gynharach—yw mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn ymgynghori ac yn cydnabod. A rhaid i ymgynghori fod yn ymgynghoriad go iawn. Gofynnwyd cwestiwn i mi ddoe gan aelodau'r tîm: sut y gallwn ni ymgynghori'n well? Wel, y peth allweddol yw gwrando, ac rwy'n ymrwymedig i wrando ar bryderon pobl Casnewydd a mannau eraill i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y peth iawn. 

Datblygiad a Thwf Busnesau

7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad a thwf busnesau yn Sir Gaerfyrddin? OQ64300

Diolch, Gareth. Rydym yn cefnogi busnesau yn Sir Gaerfyrddin drwy fuddsoddi mewn sgiliau, canol trefi a phrosiectau mawr fel Pentre Awel, ochr yn ochr â chefnogaeth uniongyrchol i gwmnïau bach. Ein ffocws yw creu swyddi sy'n talu'n dda, cryfhau cadwyni cyflenwi a sicrhau bod twf o fudd i gymunedau ledled Llanelli a'r sir ehangach.

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, nid oes un gennyf. Ymddiheuriadau. 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Gadewch i ni fynd ymlaen nawr i'r cwestiynau nesaf: eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg. Cwestiwn 1, Paul Marr. 

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn Ysgolion

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion? OQ64280

Member
Anna Brychan 14:22:57
Cabinet Minister for Education and the Welsh Language

Bydd ein cynllun 100 diwrnod yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol heriau ymddygiad, yn cynnwys presenoldeb, llesiant ac anghenion ehangach, drwy ddull cydgysylltiedig, system gyfan. Drwy alluogi ymyrraeth gynnar ac alinio gwasanaethau cymorth, bydd ein dull yn gwella amgylcheddau dysgu, yn hybu ymgysylltiad a chyrhaeddiad, gan leihau pwysau ar y gweithlu a meithrin hyder a lles.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu ymyriadau cynnar. Roedd yn un o'r ymyriadau sylfaenol yn y gwasanaeth carchardai a weithiodd yn dda iawn. Felly, rwy'n croesawu hynny'n llwyr.

Fodd bynnag, Weinidog, mae rhieni yng Ngheredigion Penfro eisiau gwybod pam y mae disgwyl yn gynyddol i ysgolion ddelio â bygythiad troseddau cyllyll heb adnoddau priodol. Gyda phob parch, Weinidog, nid yw polisïau a chynlluniau'n atal llafnau. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo heddiw i ariannu mesurau diogelwch, gan gynnwys cyfarpar diogelu fel blancedi cyllyll a hyfforddiant ymateb i argyfwng?

Efallai y byddwch chi'n dweud nad oes angen inni uwchgyfeirio i'r mesurau hyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy'n eich atgoffa o'r ymosodiad erchyll ar athro a adroddwyd yn y newyddion yn ddiweddar iawn yn Aberdaugleddau. Rwy'n siŵr y byddai'r athro dan sylw wedi croesawu unrhyw fesur i ddiogelu eu hunain yn ddigonol.

Ac yn olaf, Weinidog, yn fy 20 mlynedd yn y gwasanaeth carchardai, daeth ymosodiadau ar staff gydag arfau â llafn yn ddigwyddiad rheolaidd. Daeth yn norm. Felly, gofynnaf i chi, Weinidog: pa sicrwydd y gall y Llywodraeth hon ei gynnig i athrawon na ddisgwylir i'r niferoedd cynyddol o ddigwyddiadau ddod yn norm newydd iddynt?

Fel y soniais yn fy ateb cynharach, rydym yn gweithio ar fframwaith cenedlaethol mewn perthynas â'r materion hyn. Mae gan bob dysgwr hawl i deimlo'n ddiogel a gwybod eu bod yn perthyn i ysgol, yn gallu mynychu, cymryd rhan a chyflawni. Mae'r un peth yn wir am aelodau o staff, ac mae sicrhau diogelwch a lles ein gweithlu ysgol yn flaenoriaeth i ni yn yr un modd. Yn rhan o hyn, byddwn yn edrych yn fanwl ar sut y mae digwyddiadau'n cael eu rheoli a'u cofnodi i ddeall y problemau a wynebwn mewn cryn fanylder. Fel y gŵyr eisoes o bosibl, rydym hefyd yn gweithio gyda'r pedwar heddlu ledled Cymru a'r rhaglen arfau mewn ysgolion i gryfhau dulliau ataliol, rhannu gwybodaeth ac ymyrraeth gynnar i gefnogi ymddygiad mwy diogel a mwy cadarnhaol ar draws ysgolion. Ac mae'n werth ailadrodd eto fod cario cyllell mewn ysgol yn drosedd.

14:25

Weinidog, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn fframio'r mater hwn yn iawn, oherwydd er bod ymddygiad heriol yn amlwg yn bryder gwirioneddol, rydym yn clywed yn glir iawn gan undebau, ond hefyd gan staff ar lawr gwlad, ei fod yn fwyfwy cysylltiedig ag anghenion heb eu diwallu, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol. Wrth gwrs, mae ein diwygiadau ADY yn ymwneud â chael y lefel gywir o gefnogaeth ar waith yn gynnar drwy system sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cael ei harwain gan anghenion, ond yr hyn y mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn ei ddweud wrthym yn barhaus yw eu bod yn rhy aml yn cael eu gadael i reoli anghenion cynyddol gymhleth heb gymorth o'r fath. Felly, er y gall rhai fframio hyn fel mater o ddisgyblaeth yn unig, onid y realiti lle na chaiff anghenion eu diwallu'n gynnar, yw bod y pwysau hynny'n dod i'r amlwg ac yn gwaethygu yn yr ystafell ddosbarth? Gyda hynny mewn golwg, sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod darpariaeth iechyd meddwl, gan gynnwys cwnsela mewn ysgolion a chefnogaeth ADY ehangach, yn cael adnoddau priodol ar lawr gwlad fel ein bod yn cefnogi'r staff yn hytrach na dim ond disgwyl iddynt ymdopi â hyn?

Diolch. Rwy'n credu mai'r pwyntiau rydych chi wedi'u codi yno yw'r union resymau pam y bydd y rhaglen hon yn edrych ar lesiant, presenoldeb ac anghenion ehangach drwy ddull system gyfan cydgysylltiedig. Mae hi'n crybwyll ADY; mae hwnnw'n fater ehangach  sy'n codi yn ein system, a dyna'n union pam ein bod ni eisiau dod â'r holl feysydd hyn at ei gilydd a chydnabod y rhwystrau i ddysgu sy'n rhan o'r maes pryder hwn i ni. Dyna pam ein bod ni wedi fframio ein hymateb yn y modd hwn.

Y Defnydd o’r Gymraeg

2. Pa gamau y mae’r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws cymunedau Afan Ogwr Rhondda? OQ64283

Rwyf am weld y Gymraeg yn perthyn i bawb yn Afan Ogwr Rhondda—bod modd cael mynediad i'r Gymraeg, defnyddio'r Gymraeg a sicrhau mynediad teg at addysg Gymraeg, a chydweithio â phartneriaid lleol. Byddaf i hefyd yn ymateb i adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg erbyn diwedd y flwyddyn.

Diolch, Weinidog, am yr ateb. Yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, nid mater o ddysgu'r iaith yn unig yw tyfu'r Gymraeg, ond sicrhau cyfleoedd go iawn bob dydd i bobl ei defnyddio'n hyderus. Fel y sonioch chi, mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, boed ein bod ni newydd fagu’r hyder i ddweud ‘bore da’, yn siaradwyr Cymraeg newydd, neu wedi siarad yr iaith ar hyd ein hoes.

Bythefnos yn ôl, lansiwyd ap Defnyddio Fy Nghymraeg gan y cyngor a menter iaith Rhondda Cynon Taf. Mae'r ap yn helpu trigolion ac ymwelwyr i ddod o hyd i gyfleoedd lleol i ddefnyddio'r Gymraeg, beth bynnag yw lefel eu gallu neu eu profiad. Mae'n dod â gweithgareddau, digwyddiadau a grwpiau Cymraeg at ei gilydd mewn un lle. Rwyf wedi’i lawrlwytho, ac mae e'n wych, ac rwy'n annog pob Aelod i'w lawrlwytho hefyd.

Adnoddau ymarferol wedi'u harwain gan y gymuned fel hyn yw'r union fath o gefnogaeth sydd ei angen arnom ni tu allan i'r cadarnleoedd traddodiadol. Felly, sut fydd Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod mentrau tebyg yn cael eu cefnogi, a bod arfer da yn cael ei rannu ar draws cymunedau fel y rhai sydd yn Afan Ogwr Rhondda?

Diolch yn fawr. Rwyf wedi gwneud nodyn i fy hunan i lawrlwytho’r ap ar ôl y sesiwn hon. Rwyf yn croesawu'r cyfle i siarad am bwysigrwydd ei gwneud hi'n hawdd ac yn hwylus i ddod o hyd i gyfleoedd yn lleol i siarad Cymraeg bob dydd. Mae hwn yn cyd-fynd â’r hyn rydym ni'n moyn ei gweld fel rhan o ‘Cymraeg 2050’. Fe wnaf i ofyn i fy swyddogion hefyd edrych ar yr ap arbennig hwn ac ystyried beth rŷn ni'n gallu ei ddysgu o'i ddefnydd e.

Mae'n bwysig hefyd nodi bod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg hefyd yn annog a phwysleisio cyfleoedd HAPUS i ddefnyddio'r Gymraeg—hynny yw, hawdd, amserol, pleserus a sbort. Byddwn yn hanner amau fod y ddau air olaf yna yr un peth, mewn gwirionedd, ond mae’n acronym da, achos rŷn ni'n moyn i bobl fwynhau'r profiad o ddefnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau a chael mynediad rhwydd i'r cyfleoedd hynny. Felly, fe fyddaf i yn edrych ar yr ap yn rhan o hynny.

Ond rwyf hefyd, rwy'n credu, yn moyn pwysleisio ein bod ni'n moyn sicrhau bod y Gymraeg wirioneddol yn perthyn i ni i gyd, ac nad slogan yw hwnna, ond rhywbeth fydd yn teimlo fel realiti bob dydd, dim ots ble yng Nghymru rŷch chi'n byw. A dyna pam rŷn ni eisoes wedi dechrau cynnal adolygiad, er enghraifft, o'r pethau sydd yn rhwystro mynediad teg at addysg Gymraeg, a dyna pam hefyd ein bod ni wedi mynd ati mor fwriadus a'n bod mor benderfynol taw gwaith trawslywodraethol yw hwn sy'n perthyn i ni i gyd fel Llywodraeth, fel y mae e i bawb yng Nghymru.

14:30

Rwy'n parchu'r Gymraeg ac yn cydnabod ei phwysigrwydd i'n treftadaeth genedlaethol, ond nid yw parch at yr iaith yn cael gwared ar y ddyletswydd i ddangos gwerth am arian. Mae fy etholwyr yn Afan Ogwr Rhondda yn disgwyl tystiolaeth fod gwariant cyhoeddus yn darparu canlyniadau go iawn, nid cyllidebau mwy yn unig. Lle mae miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi i hyrwyddo'r Gymraeg, dylai pob punt o arian trethdalwyr gyflawni canlyniadau mesuradwy a gwerth gwirioneddol. A all y Gweinidog Cabinet egluro felly pa dystiolaeth fesuradwy sydd gan Lywodraeth Cymru fod y buddsoddiad hwn yn cynyddu defnydd bob dydd o'r Gymraeg mewn cymunedau fel Afan Ogwr Rhondda, yn hytrach nag ehangu gweinyddiaeth a strategaethau rhaglenni yn unig? A wnaiff hi ymrwymo i gyhoeddi, fesul etholaeth, faint o arian cyhoeddus sydd wedi'i wario, pa ganlyniadau sydd wedi'u sicrhau a sut y mae gwerth am arian wedi'i asesu, fel y gall y Senedd hon farnu'n llwyddiannus yn ôl y dystiolaeth, nid yn ôl dyhead? Diolch.

Diolch yn fawr. Rwy'n falch ei fod yntau'n parchu'r Gymraeg a'i lle yn ein bywyd cenedlaethol. Rwyf innau hefyd yn awyddus i weld bod pob punt Gymreig yn darparu gwerth i bobl Cymru, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i sicrhau y gall dysgwyr yn ein gwlad gael mynediad at y Gymraeg, dod yn ddysgwyr dwyieithog, a gadael yr ysgol yn gallu defnyddio'r Gymraeg. Dyna pam hefyd ein bod yn edrych ar gyfleoedd i adeiladu'r economi wledig, i gynnig swyddi mewn cymunedau lle gall pobl ddefnyddio eu Cymraeg. Mae hynny'n rhan annatod o sicrhau ei bod yn perthyn i ni i gyd. A buaswn yn ei wahodd hefyd i edrych ar rai o'r ystadegau y bûm yn edrych arnynt mewn perthynas â'r gefnogaeth yng nghymunedau Cymru i'r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, ac i'w defnyddio ac i weld ei gwerth, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 18-24 oed. Mae hynny oddeutu 80 i 85 y cant. Rydym yn adeiladu ar gyfer y dyfodol yma, gan barchu ein hiaith a sicrhau y gellir ei defnyddio ym mhobman.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Helen Jenner.   

Diolch, Lywydd. Weinidog Cabinet, y broblem go iawn o ran athrawon yw cadw athrawon yn hytrach na recriwtio, ac mae ymddygiad gwael disgyblion, fel y clywsom gan eraill yn y Siambr heddiw, yn un o'r ffactorau sy'n gyrru athrawon o'r proffesiwn, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Yn seiliedig ar fy mhrofiad o wahanol ysgolion yn y gogledd, er enghraifft, mae gan rai ysgolion systemau ymddygiad cyson ac effeithiol ar waith, ond nid oes systemau o'r fath gan ysgolion eraill. Yn anochel, mae gan yr ysgolion sydd â rheolau llymach a ffiniau cliriach a chyson ganlyniadau addysgol gwell i ddisgyblion, yn ogystal â lefelau uwch o gadw athrawon. Wrth gwrs, nid oes gan bob rhiant allu nac opsiynau trafnidiaeth i symud eu plant o un ysgol sy'n cael ei rhedeg yn wael i ysgol well, sy'n golygu bod llawer o blant yn cael profiad addysgol gwael yn seiliedig ar ddim mwy na ble maent yn byw. Yn aml iawn, i athrawon hefyd, mae profiad gwael mewn un ysgol yn eu hatal rhag addysgu am weddill eu hoes.

Felly, yn amlwg, ni allwn adael hyn i ysgolion unigol mwyach, gan y credaf, fel pob un ohonom yma rwy'n siŵr, fod gan bob plentyn hawl i fynychu amgylchedd dysgu digyffro a chyson ble bynnag y maent yn byw, a dylai pob athro deimlo'n ddiogel yn y gwaith. Felly, fy nghwestiwn yw: sut yn union y mae'r Gweinidog Cabinet yn argymell codi pob ysgol i'r safon? Fe sonioch chi'n gynharach am fframwaith ymddygiad. A fydd hyn yn y gyfraith, neu ai canllawiau'n unig a fyddant i'w dehongli gan ysgolion unigol? Diolch.

Cadw athrawon—rydych chi'n llygad eich lle, mae cadw athrawon yn fater allweddol i ni, a bydd llawer o'n gwaith yn canolbwyntio ar hynny. Recriwtio yw'r peth sy'n tueddu i ddenu penawdau. Mae cadw athrawon hefyd yn hanfodol bwysig. Rwy'n cytuno bod y lefelau'n amrywio ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod yn gweithio mor agos gyda phartneriaid mewn ysgolion ac awdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith sy'n gweithio ac yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi bod yn ymarfer effeithiol mewn ysgolion ledled Cymru. Rwy'n cytuno hefyd fod gan bob myfyriwr hawl i deimlo'n ddiogel yn yr ysgol, fel y dywedais yn gynharach, ac yn yr un modd, fod angen i'r gweithlu deimlo'n ddiogel yn y gwaith. Bydd yr ystyriaethau hyn yn llywio ein fframwaith. Rwy'n barod i edrych ar unrhyw beth sy'n gwneud i hyn weithio. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar y fframwaith hwn, gan fod gennym arferion da a gwybodaeth dda ac ymchwil dda i adeiladu arnynt, a dyna lle rwy'n benderfynol o ddechrau.

14:35

Diolch yn fawr. Rwy'n cytuno, ac rwy'n credu y byddai gweithio gyda rhai ysgolion sydd â pholisïau ymddygiad rhagorol ar waith, a'u cael i arwain y gwaith hwnnw, yn syniad gwych. Diolch yn fawr.

Rydych chi wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion—mae hyn yn sicr yn gysylltiedig â disgyblaeth—ond rydych chi hefyd wedi nodi'n glir, ar y sail honno, mai ysgolion unigol fydd yn penderfynu sut y caiff y cyfyngiadau hyn eu rhoi ar waith. Felly, mae a wnelo hyn â'm cwestiwn blaenorol ynglŷn ag anghysondebau yma. Felly, golyga hynny y gallai rhai ysgolion gyflwyno gwaharddiad llwyr, tra gallai eraill, ychydig filltiroedd i ffwrdd, fabwysiadu dull llawer mwy hamddenol. Rwy'n credu y byddai rhieni eisiau eglurder a chysondeb. Unwaith eto, mae'n loteri cod post braidd os oes gennych rai ysgolion yn gwahardd ffonau, a rhai ohonynt yn caniatáu i ddisgyblion eu defnyddio yn ystod amser egwyl ac amser cinio, er enghraifft. Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod disgyblion ledled Cymru yn cael eu diogelu gan yr un safonau uchel yn hyn o beth, yn hytrach, unwaith eto, na gadael i bob ysgol ddatblygu ei pholisi ei hun?

Diolch. Fel y dywedais pan lansiwyd y bwriad gennym i gyhoeddi canllawiau ac ymgynghori ar hyn, rwy'n awyddus i bob pennaeth glywed y byddaf yn eu cefnogi os ydynt am gyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol, gan gynnwys cyfyngiadau ar draws safle'r ysgol. Ac ar ôl inni gyhoeddi'r canllawiau hyn, os gwelwn fod angen inni fynd ymhellach ac y bydd angen inni ddeddfu, rwyf hefyd yn barod i edrych ar hynny. Rwy'n credu bod rhai cyfyngiadau, yn enwedig o ran monitro cyflyrau meddygol ac ati, lle mae angen inni fod yn siŵr nad ydym yn cael gwared ar yr opsiwn hwnnw. Felly, wrth inni gyhoeddi'r canllawiau hynny ac ymgynghori ar y canllawiau hynny, buaswn yn croesawu adborth gan ysgolion, ond rwy'n credu mai'r man cychwyn i mi oedd nad oedd canllawiau, nad oedd cysondeb, nad oedd neges genedlaethol glir, ac mae hynny'n bodoli bellach.

Iawn, diolch yn fawr. Ac rwy'n credu unwaith eto fod gan rai ysgolion bolisïau rhagorol ar waith, a gallwn ddysgu oddi wrthynt wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.

Felly, fy nghwestiwn olaf: mewn ymddangosiad ar raglen ITV Cymru, Sharp End, gofynnais i un o'ch cyd-Aelodau Plaid Cymru a fyddai ymrwymiad eich Llywodraeth i ddarparu llyfrgell ym mhob ysgol yn berthnasol i ysgolion uwchradd—mae hyn yn rhywbeth sy'n agos at fy nghalon, yn amlwg—yn ogystal ag ysgolion cynradd, a chadarnhaodd y byddai. Felly, roedd fy nghwestiwn, wrth gwrs, yn seiliedig ar y ffaith fy mod wedi cael sawl adroddiad am ysgolion uwchradd yn cau llyfrgelloedd ac yn defnyddio'r lle ar gyfer darpariaeth addysgol arall, fel unedau ymddygiad. A allwch chi gadarnhau i'r Senedd fod yr hyn a ddywedodd eich cyd-Aelod yn bolisi Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd? Ac os felly, a fydd cyllid yn cael ei glustnodi, a sut y bydd Llywodraeth Cymru’n archwilio ysgolion i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar ddarparu llyfrgelloedd, yn hytrach na chael ei amsugno i gyllidebau cyffredinol ysgolion?

Mae ein hymrwymiad maniffesto yn eithaf clir y byddwn ni, yn y Senedd hon, yn cyflwyno llyfrgell ym mhob ysgol gynradd, ond rwy'n falch fod gan fy nghyd-Aelod, pwy bynnag ydoedd, uchelgais hefyd i gynnwys hyn mewn ysgolion uwchradd. Oherwydd un o'r pethau allweddol y mae'n rhaid i ni eu sicrhau, yn enwedig o ran darllen yw bod darllen yn dod â llawenydd a bod y gallu i fwynhau darllen yn trosglwyddo yn fwyaf arbennig o flwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd i flwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd. Felly, mae'n syniad diddorol yr edrychaf ymlaen at ei drafod ymhellach.

Weinidog Cabinet, fel y dywedais wrthych o'r blaen, rwy'n falch o'n cyflawniad ar gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion: ein dull statudol ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, gwasanaeth mewngymorth y gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n gweithio ar draws ysgolion yng Nghymru, a chwnsela yn yr ysgol i bob plentyn ac unigolyn ifanc blwyddyn 6 oed a hŷn. Mae ein hymrwymiad i gwnsela annibynnol mewn ysgolion wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth sylfaenol, y wlad gyntaf i wneud hynny. Ond mae mwy i'w wneud bob amser, a dyna pam y mae'r adolygiad o'r pecyn cymorth cwnsela mewn ysgolion mor hanfodol.

Nawr, fe ysgrifennoch chi ataf ddydd Llun ynglŷn â'r pecyn cymorth, sydd wedi'i gynhyrchu mewn cydweithrediad ag arweinwyr cwnsela mewn ysgolion a Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), sef prif sefydliad achredu cwnsela'r DU. Ac a gaf i ddatgan buddiant, Lywydd, gan fy mod wedi cofrestru ar gwrs tystysgrif lefel 3 mewn astudiaethau cwnsela yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, sydd wedi'i achredu gan BACP? Nawr, fe ddywedoch chi yn eich llythyr y byddwch yn ymgynghori ar y pecyn cymorth diweddaraf pan fyddwch 'yn fodlon fod y pecyn cymorth yn adlewyrchu eich blaenoriaethau ar gyfer llesiant dysgwyr'. Nawr, o ystyried bod y gwaith ar y pecyn cymorth wedi'i wneud gan yr arbenigwyr, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag arweinwyr cwnsela awdurdodau lleol, ym mha ffordd y byddech chi'n rhagweld na fyddai'n cyd-fynd â'ch blaenoriaethau? Ac a fyddech chi'n cytuno â mi na ddylai unrhyw beth, gan gynnwys blaenoriaethau gweinidogol neu wleidyddol, ddod o flaen iechyd meddwl plant?

14:40

Diolch yn fawr. Ni chredaf y dylai gymryd fy sylwadau fel rhyw fath o wrthwynebiad tuag at y syniad o gwnsela mewn ysgolion, ond rwy'n awyddus, fel Gweinidog newydd iawn, i ddeall goblygiadau'r gwaith a wnaf yn fanwl. Ac rwy'n canolbwyntio, yn y lle cyntaf, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ar flaenoriaethau'r 100 diwrnod cyntaf, nad yw'n golygu o gwbl fod iechyd meddwl, yn enwedig pobl ifanc—. Ac rwy'n dymuno'n dda iddi wrth iddi gwblhau'r cymhwyster hwnnw—rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn hoffi gweld mwy o gwnselwyr mewn ysgolion.

Ond mae iechyd meddwl yn rhan allweddol hefyd o'r fframwaith ymddygiad y soniais amdano yn gynharach. Daw'r pethau hyn fel grŵp o faterion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw mewn ffordd ystyriol. Ac mae adeiladu ar y fframwaith llesiant y gwn ei fod wedi'i groesawu mewn ysgolion yn rhywbeth yr hoffwn edrych arno. Diolch yn fawr.

Diolch am eich ateb, ac rwy'n ddiolchgar am eich ymrwymiad i adeiladu ar y fframwaith llesiant. Ac wrth gwrs, ni all fod yn gyfrifoldeb i'r ysgolion yn unig, sy'n rhywbeth y gwn eich bod yn ei gydnabod. Rhaid i hyn fod yn ddull system gyfan o gefnogi pobl ifanc, ac mae'n cynnwys y cysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth yn y gymuned.

Nawr, roedd yna fwrdd gweinidogol yn bodoli'n flaenorol, wedi'i gyd-gadeirio gennyf i a'r cyn-Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Ac er nad wyf yn disgwyl ichi etifeddu'r holl drefniadau a oedd ar waith o dan y Llywodraeth flaenorol, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod mecanweithiau trawslywodraethol ar waith i hybu cynnydd yn y gwaith hwn ac i sicrhau bod cerrig milltir yn cael eu cyrraedd.

Felly, hoffwn ofyn i chi pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Aelod y Gweinidog iechyd meddwl a llesiant, a sut y bwriadwch fabwysiadu dull trawslywodraethol, system gyfan i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ein dysgwyr?

Diolch. Ac rwyf wedi cael nifer o—. O, nid ydynt yno. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd, yn enwedig gyda'r ddwy Ddirprwy Weinidog sy'n ymwneud ag iechyd. Ac mae hwn yn faes rwy’n awyddus i'w archwilio. Rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i edrych ar rai o'r modelau ar lefel awdurdodau lleol, lle bu ymdrech benderfynol a gofalus i ddwyn gwasanaethau addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd ynghyd er mwyn edrych ar y darlun llawn o ran yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr ac ysgolion unigol. Rwy'n credu bod llawer i adeiladu arno yno, sy'n beth da yn y maes hwn sy'n bwysig iddi hi, ac i ysgolion, rhieni a dysgwyr ledled y wlad hefyd.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, y llynedd, ariannodd Llywodraeth Cymru 43,500 o ddysgwyr i fynychu cyrsiau mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. Y nifer gwirioneddol o ddysgwyr a gofrestrwyd y llynedd oedd 47,500. Ni chafodd oddeutu 4,000 o ddysgwyr eu hariannu i fynychu'r cyrsiau yr oeddent eisiau eu mynychu. Ac yn y flwyddyn academaidd hon, ym mis Medi, rhagwelir y bydd 50,000 o ddysgwyr yn cofrestru ar gyrsiau mewn colegau addysg bellach ledled Cymru—ffigur i'w groesawu, wrth gwrs, ond nid oes cyllid ar gael ar gyfer mwy na 46,000 o ddysgwyr ar hyn o bryd.

Felly mae colegau’n wynebu dewis anodd rhwng naill ai ddod o hyd i oddeutu £13 miliwn yn fewnol, rhoi dysgwyr ar restrau aros, neu wrthod dysgwyr, gan fygwth cynyddu nifer y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, wrth gwrs. Felly, Ddirprwy Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym beth rydych chi'n disgwyl ei weld yn digwydd yma? A ydych chi'n disgwyl i restrau aros colegau dyfu, neu a fydd cyllid ychwanegol yn cael ei ganfod i gefnogi’r lleoedd ychwanegol hyn?

Diolch, Sam, am y cwestiwn. 

Rwy'n llwyr gydnabod bod colegau addysg bellach wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr yn y blynyddoedd diwethaf. Ac rwyf hefyd yn cydnabod eu bod yn wynebu heriau a phwysau ariannu oherwydd y cynnydd hwn, ac rydym hefyd yn rhagweld cynnydd pellach ym mlwyddyn academaidd 2026-27.

Nawr, mae Medr eisoes wedi dyrannu buddsoddiad ychwanegol o £6.25 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2026-27, ac wedi darparu hyblygrwydd rhwng ffrydiau cyllido i gydnabod y cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n ymgymryd ag addysg drydyddol o fewn addysg bellach. Ac mae Medr, fel y byddech yn ei ddisgwyl, yn monitro'r sefyllfa'n agos, a byddwn yn ystyried darparu cyllid ychwanegol, os bydd ar gael, yn rhan o'n hystyriaeth ehangach o sefyllfa gyllidebol gyffredinol y Llywodraeth. Bydd y sefyllfa'n dod yn gliriach ym mis Medi wrth gwrs, ond yn sicr erbyn mis Tachwedd, pan fydd y ffigurau cofrestru wedi eu cadarnhau. Byddwn yn penderfynu bryd hynny pa gamau gweithredu y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth.

14:45

Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch chi wedi gweld y duedd hon o'r blaen wrth gwrs, a chithau'n arfer bod yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Pan oeddech yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, roeddech chi'n herio prif weithredwr Medr ynghylch osgoi rhoi myfyrwyr ar restrau aros. Wrth gwrs, mae'n wych cael rhywfaint o gyllid ychwanegol eleni—y £6.25 miliwn a grybwyllwyd gennych—ond mae hynny'n bell o'r £30 miliwn sydd ei angen. Nid ydym am weld myfyrwyr ar restrau aros, yn enwedig y rhai sy'n awyddus i ddysgu, gan ein bod am weld mwy o fyfyrwyr yn dysgu, yn symud ymlaen drwy'r broses honno ac yna i mewn i waith. Pan oeddech chi'n aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Ddirprwy Weinidog, fe dynnoch chi sylw at y £25 miliwn, bryd hynny, o ddarpariaeth heb ei hariannu yr oedd colegau'n gorfod ei hwynebu. Felly, mae bwlch ariannu o hyd, ac mae'n dal i fod yn debygol y bydd myfyrwyr yn cael eu rhoi ar restrau aros os na fydd y cyllid hwnnw ar gael. Roeddech chi'n awyddus i weld y rhestrau aros hynny'n cael eu dileu pan nad oeddech chi mewn grym. A yw eich safbwynt wedi newid bellach?

Wel, rydym yn awyddus i sicrhau bod cymaint o ddysgwyr â phosibl yn cael cyfle i ddilyn eu huchelgeisiau. Fel y soniais eisoes, fe wyddom fod colegau addysg bellach yn wynebu pwysau. Dywedais y byddwn yn cadw llygad barcud ar ddatblygiadau. Ni fyddwn yn gwybod beth fydd y sefyllfa'n union tan fis Medi, ond yn sicr erbyn mis Tachwedd. Rwy'n cael sgyrsiau a thrafodaethau rheolaidd gyda Medr. Rydym yn ymwybodol o'r her sydd ar y ffordd. Rydym yn paratoi cynlluniau wrth gefn ar hyn o bryd. Rydym eisiau cefnogi cymaint o ddysgwyr â phosibl i fynd i golegau addysg bellach, i brentisiaethau, ac i addysg uwch hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc am y gwahanol lwybrau dysgu sydd ar gael iddynt, ac yn eu cefnogi cystal ag y gallwn. Ni allaf ragweld ar hyn o bryd beth fydd y pwysau ym mis Medi, ond rydym yn paratoi cynlluniau ar gyfer unrhyw bosibiliadau.

Canlyniadau Addysgol

3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yn Sir Gaerfyrddin? OQ64302

Mae gwella canlyniadau addysgol yn Sir Gaerfyrddin, ac ym mhob ysgol ledled Cymru yn wir, yn un o genadaethau craidd y Llywodraeth hon. Bydd ein cynllun llythrennedd a rhifedd newydd yn rhoi eglurder ynghylch yr hyn y dylai plant ei ddysgu a phryd, gan gryfhau cynnydd ar draws y system.

Diolch am eich ateb. Un o bwyntiau allweddol addysg dda yw athrawon da, ac fel y crybwyllwyd eisoes, rydym yn ei chael hi'n anodd eu cadw. Maent o dan lawer o bwysau, o bwysau ADY i ddiffyg disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth. Felly, beth a wnawn i gadw'r athrawon da, i gadw addysg, ac addysg well, yma yn Sir Gaerfyrddin a Chymru? Diolch.

Rwy'n credu mai un rhan allweddol o hyn yw'r ffordd y tueddwn i siarad am addysgu. Rwy'n tueddu i ddweud mai dyma'r swydd bwysicaf y gall unrhyw un ei gwneud yn ein cymdeithas. Pe bai mwy ohonom yn siarad yn y termau hynny am athrawon, rwy'n credu y gallai'r amgylchedd lle mae pobl yn gwneud dewisiadau ynghylch eu gyrfaoedd newid. Nid yw hynny'n golygu nad oes heriau, yn enwedig ar ôl COVID, yn ein hysgolion, o ran llesiant, o ran ADY, ymddygiad a llwyth gwaith. Nawr, mae'r rhain oll yn faterion sy'n flaenoriaethau i ni. Rydym eisoes wedi gwneud cyhoeddiadau mewn perthynas â'n cynllun 100 diwrnod.

Rwyf wedi cael sawl cyfarfod gydag undebau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, ac wedi cydnabod ein bod wedi bod yn siarad ers amser maith yn enwedig am lwyth gwaith. Rwy'n credu bod y materion hyn mor gydgysylltiedig fel bod yn rhaid i bob un ohonom ddeall yr elfennau amrywiol sy'n cyfrannu at broffesiwn y mae pobl eisiau ymuno ag ef ac aros ynddo, a'r pethau sy'n eu anghymell rhag gwneud hynny, a bod yn onest amdanynt a mynd i'r afael â nhw. Ond rwy'n credu y byddai cydnabod pwysigrwydd athrawon yn ein cymdeithas yn gam da iawn.

Model Cyllido Cynaliadwy i Brifysgolion

4. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod gan brifysgolion fodel cyllido cynaliadwy a fydd yn sicrhau bod darpar fyfyrwyr o Afan Ogwr Rhondda yn cael y cyfleoedd ehangaf posibl i fynychu addysg uwch? OQ64296

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

14:50

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Rydyn ni'n bwrw ymlaen i gomisiynu adolygiad eang o gyllid addysg uwch o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, gyda'r nod o sicrhau fod y system yn gynaliadwy yn ariannol er budd darpar fyfyrwyr yn Afan Ogwr Rhondda a dros Gymru gyfan.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Fel y gwyddoch, mae llawer o'n sefydliadau addysg uwch yn mynd drwy gyfnodau parhaus o doriadau, diswyddiadau a chael gwared ar gyrsiau. Fel cyn-swyddog undeb Unsain ym Mhrifysgol De Cymru tan yn ddiweddar iawn, gwelais yr effeithiau yr oedd y toriadau hyn yn eu cael ar wead y sector. Yn aml, mae diswyddiadau yn y sefydliadau hyn nid yn unig ar eu lefel uchaf mewn swyddogaethau cynnal, gan amddifadu'r ardal leol o swyddi da, maent hefyd yn arwain at gael gwared ar gyrsiau a chulhau opsiynau posibl, a all ynddo'i hun arwain at ostyngiad pellach yn y gyfradd gyfranogiad yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog amlinellu camau y gallai'r Llywodraeth eu cymryd i sicrhau y gall ein sefydliadau ehangu eu cynnig a dechrau cau'r bwlch cyfranogiad yng Nghymru?

Diolch. Mae addysg uwch yn hollbwysig i ddyfodol cymdeithasol ac economaidd Cymru, gan gefnogi sgiliau, ymchwil, arloesedd a thwf rhanbarthol. Mae ein hwyth prifysgol hefyd yn sefydliadau angori yn eu rhanbarthau, ac yn cyflogi miloedd o bobl. Mae Prifysgol De Cymru yn eich rhanbarth chi yn cyflogi oddeutu 2,850 o bobl, sy'n ei gwneud yn gyflogwr sylweddol. Rydym hefyd yn cydnabod bod y system o dan straen sylweddol gyda chostau cynyddol ac incwm cyfyngedig, a dyna pam ein bod yn credu bod angen adolygiad cynhwysfawr o gyllid a threfniadaeth prifysgolion yng Nghymru fel y gallant fod yn barod i wynebu heriau'r degawd nesaf a thu hwnt. Ond rydym hefyd yn cydnabod yr angen i edrych ar gynaliadwyedd y system cyllid myfyrwyr a sut y mae'n gweithio i fyfyrwyr, graddedigion a phwrs y wlad.

Fe sonioch chi am brifysgolion yn ehangu eu cynnig. Fel y gwyddoch, maent yn sefydliadau ymreolaethol a nhw sy'n penderfynu ar eu portffolios academaidd eu hunain, ond gwn fod Medr wedi cyhoeddi dadansoddiad yn ddiweddar o'r ddarpariaeth ar draws ein prifysgolion, a byddaf yn parhau i weithio gyda nhw a'r prifysgolion i sicrhau eu bod yn cyflawni ar gyfer ein heconomi a'n ffyniant cymdeithasol.

Fe sonioch chi hefyd am yr undebau llafur. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r undebau llafur yn yr ychydig wythnosau nesaf, a byddaf yn ymdrechu i gael perthynas agos â nhw mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol.

Ar eich pwynt olaf, ynglŷn â chau'r bwlch cyfranogiad, sy'n gwbl hanfodol, rydym wedi nodi'n glir yn ein maniffesto ein bod am gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynychu addysg uwch yng Nghymru, yn enwedig o gymunedau mwy difreintiedig, ac rwy'n siŵr y bydd y ddau ohonom yn cefnogi'r nod hwnnw.

Hoffwn ddatgan buddiant perthnasol gan fy mod bron â chwblhau cwrs gradd Meistr ym Mhrifysgol De Cymru. Un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu graddedigion yng Nghymru ar hyn o bryd yw recriwtio graddedigion. Mae wedi'i ddisgrifio fel argyfwng ar lefel y DU, gyda nifer mwy a mwy o ymgeiswyr yn cystadlu dros nifer llai a llai o swyddi gwag yn y system. Mae hyn yn rhannol am fod deallusrwydd artiffisial yn achosi i rai cwmnïau leihau nifer y staff iau y maent yn eu recriwtio. Felly, yng ngoleuni hyn, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i geisio datrys problemau wrth recriwtio graddedigion i sicrhau y gall myfyrwyr o Afan Ogwr Rhondda elwa o'u buddsoddiad o ran addysg? A pha sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i gryfhau'r cysylltiadau rhwng busnesau Cymru a sefydliadau addysg uwch Cymru i helpu'r ddau sefydliad i fwynhau manteision ein pobl ifanc medrus? Diolch.

Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, a gwyddom fod recriwtio graddedigion i fusnesau ac i mewn i waith wedi bod yn heriol. Rydym wedi gweld yr economi'n gwastatáu. Rydym wedi gweld busnesau bach a chanolig yn enwedig yn ei chael hi'n anodd cyflogi prentisiaid, a recriwtio graddedigion hefyd, gan eu bod yn wynebu'r costau, a'r biliau cynyddol y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu, a chynnydd mewn yswiriant gwladol hefyd. Felly, bu llawer iawn o heriau mewn perthynas â'r economi yng Nghymru a ledled y DU. Ond rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd gyda'r Gweinidog dros fenter gan y credaf fod sgiliau a phrentisiaethau, addysg drydyddol, yn chwarae rhan bwysig yn y broses o uwchsgilio ein pobl ifanc, cyflawni eu huchelgeisiau a'u rhoi mewn lle gwell ar gyfer y gweithle. Felly, yr hyn sydd angen inni ei wneud yw gwella twf economaidd yng Nghymru fel y gallwn gynnig cyfleoedd yma yng Nghymru, yn ogystal ag olrhain y rheini sydd wedi gadael Cymru, ac sydd eisiau dychwelyd i Gymru i chwilio am waith yma.

14:55
Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol

5. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud tuag at gyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol? OQ64252

Rydym yn bwrw ymlaen â datblygiad cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd yn unol â'n hymrwymiad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ar y cynllun a'r amserlenni cyn diwedd y tymor ysgol. Byddaf hefyd yn ysgrifennu at ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.

Diolch. Ers 27 mlynedd, mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg yng Nghymru, ac mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain, gyda'r sgoriau PISA isaf yn y DU, y canlyniadau addysgol ôl-16 gwaethaf a disgyblion Cymru yn perfformio ar lefel gymharol â'r plant mwyaf difreintiedig yn Lloegr. Mae Estyn hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod oddeutu 20 y cant o ddisgyblion yn gadael yr ysgol gynradd yn ymarferol anllythrennog. Mae'r ffigurau hyn yn frawychus ac mae angen newid polisi ar frys. Ymrwymodd Plaid Cymru i gyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi amserlen glir ar gyfer cyflwyno'r cynllun hwnnw? Ac yn bwysicach fyth, sut y bydd yn symud y tu hwnt i ddim ond cyhoeddi cynllun arall i gyflawni gwelliannau mesuradwy mewn llythrennedd a rhifedd, gan gynnwys rhoi diwedd ar ddefnyddio dulliau addysgu sydd wedi'u diystyru fel dangos ciwiau, a gafodd eu hyrwyddo o dan Lywodraeth flaenorol Cymru?

Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais yn fy natganiad gwreiddiol ynglŷn â fy mlaenoriaethau, nid problem gyda'n dysgwyr yw hyn. Mae ein dysgwyr yn gallu cyflawni ac mae ganddynt botensial tebyg i unrhyw fan arall yn y byd. Nid yw'n fater o ddiffyg gweithlu parod chwaith. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â diffyg dealltwriaeth o'r disgwyliadau ynghylch cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd, a dyna'n union pam ein bod yn cyflwyno'r cynllun sylfaenol ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Mae angen inni ddeall y sgiliau a'r doniau sydd gan ddysgwyr pan ddônt i mewn i'r system ysgolion. Mae angen inni ddeall sut i'w cefnogi i gyflawni fel y byddem am iddynt ei wneud drwy gydol y daith honno, a dyna mae'r cynllun hwn wedi'i lunio i'w wneud. Rydym yn gweithio ar y manylion ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gofyn am frys. Ar fy ail ddiwrnod fel Gweinidog, fe ysgrifennais at yr ysgolion i ddweud, 'Rydym yn gweithio ar y cynllun hwn nawr. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi erbyn diwedd tymor yr haf a bydd y fframwaith yn cael ei gyflwyno yn yr hydref.' Gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo ein bod yn gweithio'n gyflym.

Fel llyfrgarwr yn ôl fy addefiad fy hun, rwy'n croesawu'n gynnes yr ymrwymiad maniffesto i gael llyfrgell ym mhob ysgol gynradd. Mae'n hanfodol fod sgiliau llythrennedd yn cael eu datblygu y tu allan i'r ystafell ddosbarth i annog cariad at ddarllen, fel sydd gennyf i, o oedran cynnar. Fodd bynnag, mae perygl y gallai'r cynllun sylfaenol ar gyfer llythrennedd a rhifedd ragdybio bod pob plentyn yn dechrau addysg gyda'r un profiadau. Mae cynlluniau fel Dechrau Da gan BookTrust Cymru yn helpu rhieni i ddarllen gyda babanod a phlant bach, gan sicrhau bod gan y rhai ieuengaf yn ein cymdeithas fynediad at y cyfleoedd y maent yn eu haeddu o'r cychwyn cyntaf. Hoffwn ofyn sut y byddwch chi'n gweithio gyda sefydliadau fel BookTrust Cymru i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at gynlluniau o'r fath cyn dechrau yn yr ysgol, fel nad yw eu cyfleoedd yn gyfyngedig cyn iddynt ddechrau addysg ffurfiol?

Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg. Mae llawer o arbenigedd yn y system ac yng Nghymru i gefnogi dysgwyr gyda'u darllen. Buaswn yn cyfeirio'n ôl hefyd at fy ateb cynharach ynglŷn â'r ddealltwriaeth, wrth i ddysgwyr gychwyn ar eu gyrfa yn yr ysgol, i ddeall ar y pwynt hwnnw beth sydd ei angen arnynt a sut y gallwn sicrhau eu cynnydd o ran darllen ond hefyd yn y sgiliau ehangach y bydd eu hangen arnynt.

15:00
Prentisiaethau

6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y prentisiaethau? OQ64240

Diolch am y cwestiwn.

Drwy Medr, rydym yn cryfhau'r gwaith o ddarparu prentisiaethau, gyda newidiadau o fis Awst 2027 i wella hyblygrwydd, ymateb i alw cyflogwyr ac ehangu mynediad, gan helpu i greu mwy o gyfleoedd ledled Cymru. Cefnogir hyn gan archwiliad sgiliau cenedlaethol ac uwchgynhadledd sgiliau'r dyfodol i lywio blaenoriaethau yn y dyfodol a sicrhau bod y ddarpariaeth yn adlewyrchu anghenion cyflogwyr.

Diolch yn fawr am eich ymateb. Ddirprwy Weinidog, nid yw prifysgol yn gweddu i bawb ac mae prentisiaethau'n llwybr gwych i'r gweithle i'r rhai sydd eisiau ennill a dysgu ar yr un pryd. Ym maniffesto Plaid Cymru yn 2026, addawodd y blaid ehangu profiad gwaith a phrentisiaethau, ond yn seiliedig ar sgwrs ddiweddar a gefais gyda busnes yng Nghasnewydd, rwy'n ofni y bydd cyfyngiadau gyda'r ardoll brentisiaethau yn rhwystro'r ymdrechion hynny yn y dyfodol. Fel yr esboniodd Jane Blackwell, sy'n ddeiliad braint ar bum bwyty McDonald's yn yr ardal, er ei bod hi eisiau cyflogi rhagor o brentisiaid a chymryd rhan mewn mwy o waith ieuenctid, sy'n rhywbeth y mae hi'n teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, oherwydd y meini prawf llym iawn i ryddhau cyllid o'r ardoll, mae hynny'n ei hatal rhag bwrw ymlaen. Mae hyn er bod Jane yn talu symiau enfawr o arian i'r ardoll ei hun. Mae gennym sefyllfa yma lle mae perchennog busnes gyda sawl safle yn cyfrannu tuag at y gronfa brentisiaethau, ond nid yw'n gallu cael mynediad ati i gyflogi ei phrentisiaid ei hun; mae'n hurt, Ddirprwy Weinidog. Yn amlwg, mae angen newid yn y rheolau yma. Felly, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â Jane i drafod y mater hwn a lleddfu'r problemau er mwyn dechrau cael mwy o bobl ifanc yn fy etholaeth i i mewn i waith? Yn y pen draw, bydd hyn o fudd i Aelodau ar draws y Senedd yn ogystal ag i Gasnewydd ac Islwyn. Diolch.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £151 miliwn mewn prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol bresennol i gefnogi cyflawniad ledled Cymru, oherwydd credwn fod prentisiaethau yn gonglfaen i system sgiliau ôl-16 Cymru ac fel y sonioch chi, yn bolisi allweddol ar gyfer twf economaidd, gwaith teg a chynhyrchiant. Maent yn darparu llwybrau o ansawdd uchel i gyflogaeth, gan gefnogi pobl o bob oed a helpu cyflogwyr i ddatblygu'r gweithlu sydd ei angen arnynt. Fodd bynnag—ac mae hyn yn gysylltiedig â'r pwynt rydych chi'n ei wneud—mae angen inni addasu'r cynnig prentisiaethau presennol i adlewyrchu anghenion economaidd sy'n newid, ac anghenion busnesau yn arbennig, sy'n golygu y bydd rhaglen brentisiaethau newydd o fis Awst 2027 yn darparu model mwy hyblyg ac ymatebol i gyflogwyr a phartneriaid cyflawni, wedi'i siapio gan ymgysylltu helaeth, dan arweiniad Medr.

Nawr, dylid ystyried y diwygiad hwn fel rhan o ymgyrch ehangach i greu llwybrau cliriach, gwella parch cydradd â llwybrau academaidd a chryfhau aliniad rhwng sgiliau a thwf economaidd. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cynnal archwiliad sgiliau cenedlaethol, a fydd yn sicrhau bod ein dull o weithredu wedi'i seilio ar dystiolaeth gadarn o anghenion y gweithle fel y gallwn deilwra ein darpariaeth brentisiaethau i sectorau twf y dyfodol.

Byddwn hefyd yn trefnu uwchgynhadledd sgiliau yn yr hydref, ac mae hyn yn berthnasol i gwestiwn yr Aelod yn gynharach, ynglŷn â dod â chyflogwyr a phartneriaid at ei gilydd i helpu i lunio darpariaeth yn y dyfodol a nodi'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu'n gynnar. A byddaf yn dweud mwy am ffurf y diwygio a hefyd yr archwiliad sgiliau a'r uwchgynhadledd sgiliau mewn datganiad llafar yn ystod yr wythnosau nesaf.

Weinidog, yn draddodiadol ac yn hanesyddol, mae prentisiaethau Cymru wedi bod ymhlith y rhai mwyaf llwyddiannus yn y DU o ran y cyfraddau sy'n cwblhau—maent wedi bod yn uchel o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ac mae prentisiaethau'n hanfodol bwysig i leihau'r ffigurau ystyfnig sy'n gysylltiedig â phobl nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant. Ond nid yw eich cyllideb atodol yn rhoi unrhyw fuddsoddiad ychwanegol i ddysgwyr addysg bellach, felly pa ymdrechion rydych chi'n eu gwneud i sicrhau mwy o arian ar gyfer prentisiaethau ac ar gyfer ein colegau a'n dysgwyr?

Rydym wedi ymrwymo i brentisiaethau. Fel y soniais yn gynharach, mae £151 miliwn eisoes wedi'i fuddsoddi mewn rhaglenni i gefnogi pobl ifanc i weithio ac i ymgymryd â phrentisiaethau ac addysg bellach hefyd. Nawr, mae'n peri pryder—fe wnaethoch chi sôn am bobl ifanc NEET—fod gennym tua 13.7 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru ar hyn o bryd yn NEET, a chroesewais adroddiad Alan Milburn yn ddiweddar. Rydym yn cydnabod y risg gynyddol o bobl ifanc yn ymddieithrio rhag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ochr yn ochr â'r pwysau sy'n wynebu darparwyr addysg bellach. Felly, mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei ystyried yn bwysig, rhywbeth rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch. A phan oedd Natasha a minnau ac eraill yn aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fe wnaethom edrych ar lwybrau ôl-16, ac un o'r pwyntiau pwysig a ddeilliodd o'r ymchwiliad a wnaethom oedd bod angen inni gael negeseuon i mewn yn gynt i bobl ifanc am y gwahanol opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae prentisiaethau yn un; addysg bellach ac addysg uwch hefyd. Felly, rydym yn edrych ar hyn i gyd. Mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar ac yn amlwg, byddaf yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog cyllid i weld beth arall y gallwn ei fuddsoddi yn y system er mwyn inni allu cefnogi ein pobl ifanc yn well wrth symud ymlaen.

15:05

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mae prentisiaethau'n rhan allweddol o wella cyfleoedd i ddysgwyr o bob oedran, ond yn enwedig i fynd i'r afael â'r lefel bryderus o uchel o bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, fel y nodoch chi. Dro ar ôl tro, rwy'n clywed gan etholwyr ynglŷn â sut nad oes dim byd ar gael i bobl ifanc. Neithiwr ddiwethaf, siaradais ag etholwr yn Grangetown sy'n poeni am ei frodyr iau ac sy'n dweud nad oes ganddynt ddim i'w wneud—maent yn treulio'u dyddiau'n loetran ar strydoedd gyda'u ffrindiau. Gwelsom y Llywodraeth ddiwethaf yn chwarae gyda'r ffigurau prentisiaethau i wneud iddynt ymddangos fel pe baent wedi cyrraedd eu targed ar gyfer prentisiaethau, gan wneud cam â'r bobl ifanc a oedd angen y cyfleoedd hynny'n fawr, ond rwy'n falch o weld y Llywodraeth hon yn gweithio tuag at ddarparu mynediad i ddysgwyr at addysg a hyfforddiant sy'n gweddu iddynt. Tybed a allai'r Dirprwy Weinidog ddweud wrthyf pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau iau ar gael a bod dysgwyr ifanc yn manteisio arnynt.

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n hoff iawn o brentisiaethau iau. Pan oeddwn i'n llefarydd addysg yn yr wrthblaid, roeddwn yn gefnogol iawn i fenter prentisiaethau iau y Llywodraeth ddiwethaf, a hoffwn weld prentisiaethau iau'n cael eu cyflwyno ledled Cymru gyfan. Dechreuodd fel cynllun peilot cyn symud ymlaen i gynnwys colegau eraill, ond rwy'n credu y dylai fod yn ddarpariaeth gyffredinol. Mae'n targedu'r grŵp oedran 14 i 16, sef yr oedran mwyaf agored i niwed, ac fe wyddom fod llawer ohonynt mewn perygl o ymddieithrio. Felly, drwy gynnig cyfleoedd iddynt gael rhywfaint o brofiad gwaith ynghyd â mentora a chefnogaeth gan golegau addysg bellach ac ysgolion, gallwn fynd â nhw o fod ar drothwy dod yn NEET i ddod yn ddysgwyr sy'n cael eu cefnogi a'u hysgogi'n dda, fel y gallwn sicrhau eu bod yn gwireddu eu potensial. Oherwydd mae gan bob unigolyn ifanc botensial i ddod yn rhywbeth llawer pwysicach nag y mae rhai o'u cefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol eu hunain wedi eu harwain i gredu. Rhaid inni fuddsoddi ynddynt i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni'r uchelgeisiau hynny, ac mae prentisiaethau iau yn sicr yn un ffordd tuag at wneud hynny.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Y cwestiwn olaf, Weinidog: cwestiwn 7—Lindsay Whittle.

Dysgu am Natur, Bioamrywiaeth a'r Amgylchedd

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion i ddysgu am natur, bioamrywiaeth a'r amgylchedd yn yr ysgol? OQ64313

Diolch yn fawr. Mae dysgu am yr argyfwng hinsawdd a natur yn orfodol, gan roi llwyfan cryf i blant ddysgu am natur, bioamrywiaeth a'r amgylchedd. Mae naw o bob 10 ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y rhaglen eco-ysgolion, gan helpu i ddarparu profiadau dysgu cyfoethog, awyr agored a pherthnasol yn lleol i ddysgwyr ledled Cymru.

Diolch am yr ymateb, Weinidog. Mae'r system yn Lloegr wedi pasio TGAU newydd mewn astudiaethau natur yn ddiweddar, gyda ffocws ymarferol sy'n galw'n am o leiaf 20 awr o waith maes awyr agored gorfodol i ddysgu sgiliau gweithredol i fyfyrwyr mewn casglu data, olrhain bioamrywiaeth a rheoli cadwraeth. Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mae gennym dirwedd naturiol odidog, o'n mawndiroedd a'n dyffrynnoedd i'n morfeydd heli arfordirol unigryw, a fyddai'n darparu'r ystafell ddosbarth fyw orau'n bod. Nawr, o ystyried mai'r sgiliau gwyddonol strwythuredig, ymarferol hyn yw'r union beth y mae cyflogwyr yn chwilio amdano i bontio'r bwlch sgiliau gwyrdd, a yw'r Gweinidog yn cytuno y gallai cymhwyster pwrpasol tebyg fod yn offeryn gwych i gysylltu ein pobl ifanc â natur, gwella eu llesiant i ffwrdd oddi wrth sgriniau a rhoi llwybr uniongyrchol iddynt i'n heconomi werdd sy'n tyfu yng Nghymru?

Diolch yn fawr, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn cynnig dadl argyhoeddiadol iawn dros Gymru fel y lleoliad gorau, o bosibl, ar gyfer ystafell ddosbarth awyr agored yn unrhyw le yn y byd. Mae'r TGAU yn Lloegr yn ddatblygiad diddorol, ac rwy'n cytuno bod angen i bobl ifanc ddatblygu gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'u hamgylchedd lleol a bod angen inni feddwl am hynny yng nghyd-destun sgiliau ymarferol a dealltwriaeth wyddonol ac ymwybyddiaeth amgylcheddol a fydd yn cefnogi'r mathau o swyddi a nodwyd gan y Gweinidog menter, seilwaith a chysylltedd yn gynharach. Mae yna gysylltiad diddorol yno—. Ac nid yw yno nawr, felly, nid oes ots os cefais y teitl yn anghywir. [Chwerthin.] Ond mae cysylltiad gwerthfawr yno hefyd â'n cynlluniau a'n rhagolygon economaidd.

Felly, buaswn i'n dweud, fodd bynnag, fod y cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â byd natur, cynaliadwyedd a materion newid hinsawdd eisoes wedi'u hymgorffori ar draws y Cwricwlwm i Gymru ac yn cael eu mynegi yn ein cymwysterau TGAU daearyddiaeth a'r gwyddorau. Er bod y cymwysterau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson, ac mae'r sgwrs honno'n un y buaswn i'n hapus i'w chael gydag ef, rwy'n awyddus hefyd i sicrhau bod yr ystyriaethau hanfodol hyn, yr wybodaeth hanfodol hon ar gyfer dyfodol y blaned ac ar gyfer dyfodol yr economi, hefyd yn bresennol yn y cwricwlwm ehangach ac nid mewn un rhan ohono'n unig.

15:10
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Cwestiwn 1, Sarah Rees.

Hyfforddiant Safonau ac Ymddygiad i Aelodau

1. Pa hyfforddiant mae'r Comisiwn yn ei ddarparu i'r Aelodau ar safonau ac ymddygiad, a sut mae llwyddiant yr hyfforddiant hwn yn cael ei fonitro? OQ64279

Diolch, Sarah. Ddirprwy Lywydd, mae'r Comisiwn yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i'r Aelodau ar safonau ac ymddygiad o ddechrau pob Senedd. Yn dilyn yr etholiad, cafodd ei gynnwys ar sawl pwynt yn y rhaglen groeso, cynefino a sefydlu, gan gynnwys gwybodaeth cyn cyrraedd, y pecyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus, gweithgareddau croeso a sesiynau briffio, a hyfforddiant cam 1 o fewn y pythefnos cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys y cod ymddygiad, cofrestr buddiannau, defnydd o adnoddau'r Senedd, urddas a pharch, arweinyddiaeth ac ymddygiad fel cyflogwyr. Mae presenoldeb a chwblhad yn cael eu monitro drwy gofnodion archebu a phresenoldeb, gan gynnwys drwy'r system rheoli dysgu.

Mae'r Comisiwn yn gosod safonau uchel ac maent wedi'u seilio ar egwyddorion Nolan ac yn ein dyletswydd i barchu urddas a chydraddoldeb. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i hyder y cyhoedd yn y Llywodraeth, a dyna pam y mae cynnal safonau uchel yn hanfodol, ond dim ond hanner y frwydr yw hynny. Drwy eu hymgorffori mewn ymarfer o ddydd i ddydd y caiff ymddiriedaeth y cyhoedd ei ennill neu ei golli. Ni all hyfforddiant fod yn ymarfer ticio blychau goddefol. Rhaid iddo fod yn ymrwymiad gweithredol, parhaus i gynnal hyder yn ein democratiaeth, nid yn unig yn y safonau yr ydym yn eu disgwyl gan ein gilydd, ond yn y safonau y mae'r cyhoedd yn iawn i'w disgwyl gennym ni. Rhaid byw yr egwyddorion hyn drwy gydol pob tymor, nid dim ond eu cydnabod yn ystod y cyfnod sefydlu. 

Mae tryloywder ac atebolrwydd cadarn yr un mor bwysig. Heb oruchwyliaeth drylwyr, mae perygl na fydd yr egwyddorion hyn yn ddim mwy na geiriau ar bapur yn hytrach nag ymddygiad ymarferol. Mae cynnal safonau uchel yn gyfrifoldeb difrifol ac ni ellir ei gymryd yn ysgafn. Rwy'n cydnabod y ddarpariaeth hyfforddiant a amlinellwyd, ond a wnaiff yr Aelod egluro sut y mae'r Comisiwn yn asesu ei effaith ar ymddygiad ac ar gynnal uniondeb y Senedd?

Gwnaf yn wir. Diolch am y cwestiwn atodol. Ac mae'n bwysig nodi bod hon yn rhaglen barhaus, nid rhaglen untro, ac nid yw'n cael ei gwneud er mwyn ei gwneud chwaith, oherwydd rydym yn cydnabod yn y Comisiwn fod ymwybyddiaeth o risgiau cyfreithiol ac i enw da yn allweddol i bob Aelod unigol yn y Senedd, mewn perthynas â'u rôl fel Aelod, ond hefyd fel cyflogwr. Felly, mae'r hyfforddiant ar gael i bob Aelod yn barhaus, a gallant adnewyddu a diweddaru'r hyfforddiant hwnnw hefyd. Fe fydd yn parhau drwy gydol tymor y Senedd o bedair blynedd i Aelodau ac i'w staff. 

Ac rydym yn cydnabod, gyda llaw, fod angen gwybodaeth ar yr Aelodau ar yr adeg iawn; cafodd toreth o wybodaeth ei daflu at yr Aelodau yn ystod yr wythnosau cyntaf, a diolch i'r holl aelodau o staff y Comisiwn a'i darparodd, ond rydym yn cydnabod y bydd angen inni ddod yn ôl. Ond rhaid imi ddweud bod yna nifer da wedi ymrwymo ar y dechrau i'r hyfforddiant cod ymddygiad ar gyrsiau byw, ac mae'n galonogol ar gyfer urddas a pharch hefyd, ac mae rhai o'r Aelodau na allodd fynychu wedi gofyn am gael yr wybodaeth wedi'i hanfon atynt wedyn.

Felly, rwy'n bendant yn cytuno â'r Aelod wrth ddweud bod angen i hon fod yn broses barhaus, ac mae er budd pob Aelod fel cyflogwr, yn ogystal ag o fewn y lle hwn.

Lliniaru Gwres Eithafol ar yr Ystad

2. Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael gyda staff a'u cynrychiolwyr ar liniaru gwres eithafol ar yr ystad? OQ64273

Diolch. Mae'r Comisiwn yn ymgysylltu'n rheolaidd â staff ac undebau llafur cydnabyddedig ar bynciau iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys effaith gwres eithafol. Rhannwyd gohebiaeth ar y gwres eithafol diweddar â chynrychiolwyr undebau llafur. Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar y fewnrwyd i Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn ynghylch sut i aros yn gyfforddus mewn tywydd poeth a sut i reoli tymheredd ystafelloedd ar draws yr ystâd. Cefnogir hyn gan fesurau ymarferol, sy'n cynnwys mynediad at fannau oeri, hydradu a gweithio hyblyg.

Yn ogystal, mae tîm arweinyddiaeth Comisiwn y Senedd, sy'n cynnwys ei holl uwch reolwyr, wedi cael sesiynau briffio, sydd wedi sicrhau ymateb cydgysylltiedig ar draws y sefydliad, gyda'r holl benaethiaid gwasanaeth yn ymgysylltu'n weithredol â'u rheolwyr a'u timau i rannu gwybodaeth, darparu cymorth a gwirio lles staff yn ystod cyfnodau o wres eithafol. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff i adolygu'r trefniadau hyn ac i sicrhau bod yr ystad hon yn parhau i fod yn amgylchedd gwaith diogel a chyfforddus.

15:15

Diolch. Yr wythnos diwethaf, gwelodd Cymru dymheredd uwch nag erioed, gyda rhybuddion oren a choch wedi'u cyhoeddi ledled y wlad. Wrth i'r argyfwng hinsawdd waethygu, mae'r mathau hyn o ddigwyddiadau tywydd eithafol yn mynd i ddod yn fwy cyffredin, ond yn wahanol i lawer o wledydd eraill, nid oes gan Brydain uchafbwynt tymheredd cyfreithiol yn y gweithle, dim ond isafbwynt. Mae'r Gyngres Undebau Llafur ac undebau llafur eraill wedi dweud yn glir fod angen i weithleoedd fod yn fwy parod ar gyfer hinsawdd boethach ac wrth i'r tymheredd godi, mae'r sgwrs honno'n mynd i ddod yn bwysicach. Mae gweithwyr yn haeddu lle diogel a chyfforddus i weithio ynddo, gan gynnwys yn ystod cyfnodau o wres eithafol.

Yn ystod fy nhaith gerdded o amgylch yr ystad yr wythnos diwethaf, gwelais sawl man lle nad oedd yr aerdymheru'n gweithio o gwbl ac roedd angen ei drwsio. Roeddwn i'n arbennig o bryderus am staff yn y ffreutur a'r ardaloedd bwyd, sydd eisoes yn gweithio mewn amodau poethach oherwydd y ceginau, ond roedd yn ymddangos bod ganddynt wyntyllau i'w cadw'n oer. Lywydd, pa drafodaeth y mae'r Comisiwn wedi'i chael gyda staff ac undebau llafur, y cyfeirioch chi atynt eisoes, am yr amodau gwaith hyn yn ystod cyfnodau o wres eithafol, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod yr ystad yn barod ar gyfer y tywydd poeth a welwn yn y dyfodol?

Rwy'n cydnabod ymgyrch faith yr undebau llafur ar uchafbwynt gwres. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ni fwrw ymlaen ag ef yma. Ddirprwy Lywydd, dylwn gyfeirio'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant fy hun ynglŷn ag aelodaeth o undeb hefyd—mae yna sawl undeb. Ond yr hyn y gallasom ei wneud yw gweithio gydag ochr yr undebau llafur yma, mewn dull partneriaeth sefydledig, a dyna'r ffordd rydym ni'n ei wneud yma ar yr ystad hon. Rydym wedi ymwneud â'r holl faterion iechyd a diogelwch, gan gynnwys materion tymheredd, yn cynnwys y digwyddiadau diweddar. Felly, mae'r cydweithio hwnnw wedi cynnwys trafodaethau pwyllgor a gweithgorau i fynd i'r afael â'r amodau amgylcheddol ar yr ystad. Yn y rhybuddion tywydd coch eithafol diweddar iawn—ac efallai y gwelwn fwy o'r rhain yn y dyfodol—fe wnaethom addasiadau i batrymau gwaith a lleoliadau mewn trafodaeth gydag ochr yr undebau llafur, fe wnaethom roi cymorth ychwanegol ar waith i staff agored i niwed, fe wnaethom fwrw ymlaen â chynlluniau parhad busnes mewn perthynas â phethau fel cau ysgolion a oedd yn effeithio ar aelodau o staff hefyd, a gwneud yn siŵr bod hwn yn amgylchedd gwaith diogel. Byddwn yn cadw'r dull partneriaeth hwnnw i fynd. 

Agor Swyddfa yn Abertawe

3. Pa ystyriaeth mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i agor swyddfa yn Abertawe? OQ64281

Diolch, Gwyn. Ni chynhaliwyd unrhyw weithgaredd Comisiwn y Senedd mewn perthynas ag agor swyddfa yn Abertawe. [Torri ar draws.] Diolch, Mike. Yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24, creodd rhaglen Ffyrdd o Weithio Comisiwn y Senedd ffrwd waith i sicrhau sylfaen ranbarthol effeithiol ar gyfer gwasanaethau allgymorth, gwybodaeth i'r cyhoedd, addysg a chyfieithu yng ngogledd Cymru, a hefyd i archwilio cyfleoedd posibl ar gyfer datblygu ôl troed rhanbarthol Comisiwn y Senedd dros amser a chyflwyno cynigion ar gyfer gwneud hynny. Er bod symud swyddfa yng ngogledd Cymru i Gyffordd Llandudno wedi'i gwblhau'n llwyddiannus yn haf 2024, nid oes unrhyw waith pellach wedi'i wneud i archwilio swyddfeydd rhanbarthol pellach ar hyn o bryd oherwydd, yn dilyn ymgysylltiad helaeth ag Aelodau yn y chweched Senedd, ni nodwyd unrhyw alw ar y pryd am gyfleuster o'r fath.

Diolch yn fawr. Er bod gan y Llywodraeth ei hun swyddfa ym Mhenlle'r-gaer, y gobeithiwn ni yn Abertawe yn fawr y bydd yn symud i ganol y ddinas er mwyn rhoi hwb i'w heconomi sy'n edwino, fel y dywedwch yn gywir ddigon, nid yw Comisiwn y Senedd yn gwneud hynny. Ac mae'n bwysig, fel rydych chi'n dweud, fod pobl ledled y wlad yn teimlo ymgysylltiad â'n gwleidyddiaeth, ac felly mae'n bwysig fod y Senedd yn rhoi hwb i'w hymgysylltiad mewn gwahanol rannau. Rwy'n credu ers amser maith, gan fod Abertawe wedi pleidleisio dros ddatganoli ac na wnaeth y ddinas hon, y dylai'r adeilad ffansi hwn yr ydym bellach yn trigo ynddo fod wedi cael ei leoli yn Abertawe. Ond oherwydd y gost, mae'n rhy hwyr i wneud hynny nawr, byddai'n amhosibl adeiladu un arall. Ond fel y soniodd John Davies yr wythnos diwethaf, mae economi Abertawe yn llusgo ymhellach ac ymhellach ar ôl economi Caerdydd, a byddai unrhyw beth, unrhyw beth o gwbl, y gallwch chi ei gynnig i Abertawe yn cael ei groesawu'n eang. Byddai agor swyddfa yn Abertawe yn ennyn cefnogaeth fawr, ac os gwelwch yn dda, a wnewch chi ystyried gwneud hynny eto? Diolch.

15:20

Mae'r Aelod, yn ei eiriolaeth wych dros bopeth Abertawe, wedi derbyn cymeradwyaeth a gwawd yn ystod ei gyfraniad, gan wahanol Aelodau o wahanol ardaloedd. A gaf i ddweud ein bod bob amser yn cadw'n fyw i hyn? Mae ymrwymiad gan Gomisiwn y Senedd i adolygu, fel a phan fydd yr angen yn cael ei nodi ac yn codi. Nid ydym wedi ymgymryd ag unrhyw waith ar hyn o bryd oherwydd, yn y chweched Senedd, fe wnaethant edrych ar hyn ac ni nodwyd unrhyw angen.

Ond a gaf i ddweud ar yr ochr gadarnhaol yma? Ar wahân i symud swyddfeydd ac agor cyfleusterau newydd, fel Comisiwn rydym yn mynychu llawer iawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn gwahanol ardaloedd. Yn wir, yr haf diwethaf roeddem yn sioeau awyr Abertawe. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi mynychu amryw o ddigwyddiadau mewn llefydd fel Prifysgol Abertawe, canolfan amlddiwylliannol Abertawe, YMCA Port Talbot, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a llawer mwy. Felly, rydym yn mynd allan ac yn teithio o gwmpas, er nad ydym yn adleoli neu'n agor swyddfeydd newydd ffisegol. Ond diolch am y cwestiwn.

Nid wyf yn gwybod sut y gallaf guro hynny gyda brwdfrydedd fy nghyd-Aelod, ond diolch am yr ateb hyd yn hyn. Mae'r cefndir i'r cwestiwn hwn yn arwyddocaol oherwydd bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi llofnodi llythyrau o fwriad gyda Chyngor Abertawe i feddiannu lle yn y ganolfan sector cyhoeddus pum llawr sy'n cael ei hadeiladu yno ar hen safle canolfan siopa Dewi Sant yng nghanol y ddinas. Yn dilyn etholiad mis Mai, cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad aethpwyd â'r penderfyniad ymhellach, sy'n drueni enfawr, o ystyried bod lle'n mynd i fod yno erbyn hyn. Yn amlwg, hoffwn ailadrodd y byddem wrth ein bodd yn gweld presenoldeb yno. Fodd bynnag, mae yna ffactor pwysig i'w ystyried yma pan fyddwn yn gwario arian trethdalwyr, oherwydd o ystyried, yn allweddol, fod staff Llywodraeth Cymru fel arfer wedi'u lleoli, fel y nodwyd yn flaenorol, ym Mhenlle'r-gaer, roedd eu presenoldeb dyddiol presennol yno oddeutu 10 y cant, sy'n eithaf gwael. Felly, wrth symud ymlaen, a fyddai'r Comisiwn yn gwneud dadansoddiad o gost a dichonoldeb cael swyddfa yn Abertawe? Ac ie, yng nghanol y ddinas efallai gan fod angen i fwy o bobl fynd yno. Hoffwn ddweud y Mwmbwls, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi wedi dod i bromenâd y Mwmbwls y llynedd, lle gwelsoch yr amddiffynfeydd môr newydd, sy'n glod i Lywodraeth Cymru. Mae'n ased gwych yno, gan fy mod yn arfer bod yn gynghorydd. Ond a wnewch chi ymrwymo i wneud dadansoddiad o gost a dichonoldeb cael swyddfa yn Abertawe? Diolch.

Rwy'n poeni, Ddirprwy Lywydd, ein bod ni'n agor cystadleuaeth gynigion dros yr wythnosau nesaf i bobl sydd eisiau agor swyddfeydd yn eu hardaloedd. Ond rwy'n deall beth y mae'r Aelod yn ei ddweud. Hoffwn i chi ystyried fy ymateb cynharach, sef ein bod bob amser yn cadw hyn yn fyw ac rydym yn chwilio i weld ble mae'r galw a nodir. Ond dywedodd yr Aelod wrthyf hefyd, 'Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud defnydd effeithlon o adnoddau', ac rydym yn cytuno. Ac wrth gwrs, mae gwahaniaeth rhwng swyddfeydd y Senedd a swyddfeydd Llywodraeth Cymru. Felly, ni chaf fy nhynnu i ymateb ar y mater penodol hwnnw, os nad oes ots gennych.

Cymorth Diogelwch i Aelodau

4. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ddigonolrwydd y cymorth diogelwch sydd ar gael i'r Aelodau wrth gyflawni eu dyletswyddau? OQ64307

Mae fframwaith diogelwch cynhwysfawr ar waith i gefnogi Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn cyfuno presenoldeb diogelwch cryf ar ystad y Senedd, yn ogystal â bod gan yr Aelodau fynediad at gyngor wedi'i deilwra, arweiniad, ffordd o adrodd am ddigwyddiadau a mesurau diogelwch yng nghartrefi'r Aelodau a'u swyddfeydd etholaethol. Mae gan Aelodau fynediad hefyd at wasanaeth monitro cyfryngau cymdeithasol pwrpasol, a weithredir drwy gymorth diogelwch y Senedd.

Mae'r trefniadau hyn yn cael eu cryfhau ymhellach drwy weithio mewn partneriaeth agos gyda'r heddlu, gan gynnwys presenoldeb sylweddol ar y safle a rhannu gwybodaeth drwy raglenni cenedlaethol, ochr yn ochr â chydweithio â phartneriaid diogelwch eraill ledled Cymru a'r DU, felly mae gennym ddull cyson a chydweithredol o weithredu diogelwch ar gyfer yr Aelodau. Hefyd, mae yna broses gynllunio flynyddol ar gyfer diogelwch y Senedd, i asesu a chynllunio ar gyfer gofynion adnoddau, ochr yn ochr â dull strwythuredig sy'n asesu'r ddarpariaeth o adnoddau'r heddlu.

Yn olaf, fe gaiff hyn ei ategu, Ddirprwy Lywydd, gan asesiadau risg parhaus a deinamig, a gynhelir gan gymorth diogelwch y Senedd, yr heddlu'n lleol ac yn genedlaethol, a chan bartneriaid y gwasanaeth diogelwch ledled y DU.

15:25

Mae rhai Aelodau wedi wynebu digwyddiadau difrifol, gan gynnwys difrod troseddol i'w cartrefi. Mae pryderon wedi cael eu dwyn i fy sylw ynglŷn â pha mor ymatebol yw'r gefnogaeth o'u cwmpas, ond mae'r broblem hon bellach yn ymestyn y tu hwnt i'r Aelodau. Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Pysgod a Sglodion, bu'n rhaid imi dynnu fideo i lawr, fideo a oedd yn dathlu masnachwyr lleol yn fy etholaeth. Roedd dangos cefnogaeth i fusnes annibynnol wedi gwneud y busnes hwnnw'n agored i gamdriniaeth ar-lein wedi'i dargedu. Mewn gwirionedd, siaradais â BBC Radio Wales am hyn. Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae'n rhaid imi feddwl ddwywaith cyn hyrwyddo caffi neu siop yn gyhoeddus am fy mod yn ofni'r hyn y gallai ei achosi iddynt.

Felly, gofynnaf i'r Comisiynydd: pa sicrwydd y gall y Comisiwn ei roi fod ei gymorth diogelwch i Aelodau yn wirioneddol ddigonol ac wedi'i gydlynu'n briodol gyda'r heddlu, ac a yw'n derbyn bod yr hinsawdd o gam-drin o amgylch bywyd gwleidyddol wedi dod mor ddifäol fel ei fod bellach nid yn unig yn tawelu Aelodau, ond y busnesau a'r etholwyr cyffredin sy'n cael eu dal yn y canol?

Mae'r Aelod yn tynnu sylw pwysig at y ffaith bod llawer o bobl bellach mewn bywyd cyhoeddus—yma yn y Senedd ac yn Senedd y DU, ond unrhyw un mewn gwaith proffil uchel—bellach yn destun craffu o'r math hwn, a all arwain at gamdriniaeth, gelyniaeth, trais a gwaeth, fel y gwelsom. Ac mae'n annerbyniol, a dylid anfon neges o Siambr y Senedd hon ei fod yn annerbyniol. Gallwn gael dadl a gwahaniaeth barn, ond gallwn wneud hynny mewn ffordd barchus nad yw'n arwain at yr elyniaeth a'r trais agored a welwn. 

Rydych chi'n hollol gywir i ddweud, wrth inni fonitro digwyddiadau, ein bod yn gweld themâu cyffredin. Gall hynny gynnwys cam-drin hiliol a misogynedd, rhagdybiaethau diwylliannol gwahaniaethol, aflonyddu wedi'i dargedu, safbwyntiau gwleidyddol a chwynion wedi'u mynegi'n gryf, gyda rhai ohonynt yn cynnwys iaith amhriodol, sydd wedyn yn gwaethygu i fod yn gamdriniaeth a sylwebaeth elyniaethus neu fygythiol, neu waeth, fel y mae'r Aelod wedi dweud, a dylem i gyd gondemnio hynny.

Felly, yn sicr, o ran ein dull o weithredu, mae'r cymorth diogelwch a'r presenoldeb plismona sydd gennym, a'r monitro diogelwch, wedi'i raddnodi'n ofalus iawn, gan ystyried y risg a sicrhau gwelededd a sicrwydd heb fod yn or-ymwthiol, ac mae yna gwestiwn o ymgysylltu â'r Aelodau'n unigol. Os oes gan unrhyw Aelod yma—unrhyw Aelod—unrhyw achos i bryderu, dylent ei godi'n uniongyrchol gyda'n cymorth diogelwch a phresenoldeb plismona er mwyn inni allu ymateb i'w pryderon. Rydym am i bob Aelod fod yn ddiogel wrth wneud eu gwaith a gallu ymgysylltu â'u cymuned.

Fel Aelod newydd, y cyfarfod mwyaf sobreiddiol a gefais yn fy wythnos gyntaf oedd gyda thîm diogelwch y Senedd—fel llawer o rai eraill yma efallai—a chlywed eu cyngor ar ddelio â bygythiadau posibl yn y dyfodol a'r effaith bosibl ar ein teuluoedd, nad ydynt, wedi'r cyfan, wedi dewis cael eu hethol. Mae iaith yn bwysig ac mae canlyniadau i eiriau. Mae perygl y gall pethau a ddywedir yma gael effaith ehangach y tu allan. O ystyried y cynnydd yn nifer y cyfraniadau yn y Siambr dros yr wythnosau diwethaf y gallai rhai eu hystyried yn ymfflamychol, a all y Comisiwn gadarnhau a oedd cysylltiad rhwng y rhain a chynnydd yn y pryderon diogelwch i Aelodau neu angen i wella diogelwch yn y seithfed Senedd hon?

Rydym yn derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, sef y gall y drafodaeth a gawn yma yn y Siambr a'r tu allan naill ai gymedroli a lleddfu ymddygiad ehangach a normau cymdeithasol ehangach, neu gall waethygu a thanio pethau. Gwnaed argraff arnaf yn ddiweddar, pan fynychais ddigwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu'n dda iawn i ddilyn Sefydliad Jo Cox—digwyddiad More in Common; bydd llawer o bobl wedi eu mynychu—i ddod â phobl at ei gilydd mewn cymdogaethau, i ddathlu, mewn llawenydd ac mewn hapusrwydd. Pobl a chanddynt wahanol safbwyntiau, pobl o wahanol gefndiroedd, gwahanol genhedloedd, gwahanol gredoau a lliwiau ac yn y blaen, ond gan ddod â phawb at ei gilydd o amgylch y syniad fod gennym fwy yn gyffredin. Ac os gallwn apelio at yr ymagwedd honno ar y cyd, rwy'n credu y gallwn wneud gwaith da yma yn Siambr y Senedd—yn y Siambr—a thu hwnt hefyd. Mae gwahaniaethau gwleidyddol yn un peth, ond gallwn wneud hynny mewn ffordd sy'n parchu'r gwahaniaethau gwleidyddol hynny ac sy'n anfon neges i gymdeithas ehangach y gallwn arddel safbwyntiau gwleidyddol gwahanol a pharchu ein gilydd ar yr un pryd.

GB News

5. A wnaiff y Comisiwn adolygu ei bolisi ar fynediad i GB News ar draws ystad y Senedd? OQ64298

Gellir cyrchu ystod eang o sianeli teledu a gorsafoedd radio, gan gynnwys GB News, gan ddefnyddio rhwydwaith TG y Senedd ar liniaduron a dyfeisiau eraill a ddarperir gan Gomisiwn y Senedd. Prif bwrpas y system deledu fewnol ar ystad y Senedd yw darparu ffrydiau darlledu o'r Siambr ac ystafelloedd pwyllgor, fel y gall staff ddilyn trafodion busnes. Yn ogystal, ac o dan ein polisi presennol, dim ond y sianeli hynny sydd â rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus fel y nodir yn Neddf Cyfathrebu 2003 y gellir eu cyrchu, gan ychwanegu Sky News i sicrhau lluosogrwydd o raglenni newyddion. Cytunwyd ar y polisi gan y Comisiynwyr blaenorol. Mae ein holl bolisïau'n ddarostyngedig i'w hadolygu'n achlysurol, a gallem ystyried a ddylid gwneud hynny ar yr adeg briodol.

15:30

Mae angen imi ddatgan buddiant; rwy'n aelod o'r Undeb Rhyddid i Lefaru. Fel Aelodau o'r Senedd, mae ysgogiad inni sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i ddigwyddiadau ddatblygu. Mae'r penderfyniad i wahardd GB News, darlledwr Prydeinig mawr sy'n cael ei reoleiddio gan Ofcom, oddi ar ein system deledu fewnol yn gosod cynsail peryglus. Nid yw'n ddigon da dweud y gallwn wylio'r sianel ar ein dyfeisiau personol ein hunain. Yn fy marn i, dylai'r Comisiwn ganiatáu mynediad rhydd a chyfartal at bob darlledwr mawr ar draws ystad y Senedd. Nid oes a wnelo rhyddid y wasg a'r rhyddid i lefaru â chytuno â phob barn a ddarlledir, maent yn ymwneud ag amddiffyn yr egwyddor y dylai pobl fod yn rhydd i gael mynediad at safbwyntiau gwahanol. Mae sôn hefyd am ddatganoli cyfrifoldeb dros reoleiddio'r cyfryngau i Gymru, ond os gellir gwahardd darlledwr a reoleiddir o'r Senedd oherwydd ffafriaeth wleidyddol, pam y dylai unrhyw un ymddiried mewn rheoleiddiwr i weithredu'n ddiduedd? Felly, a wnewch chi ystyried ymagwedd deg ac ystyriol tuag at bob sianel newyddion, yn enw tegwch, rhyddid i lefaru a rhyddid mynegiant y cyfryngau?

Diolch am eich cwestiwn atodol. Rwy'n ailadrodd y gall yr holl Aelodau gael mynediad at y safbwyntiau cyferbyniol hynny ar y dyfeisiau a ddarperir iddynt, boed ar eu gliniaduron neu ddyfeisiau eraill y Senedd, a gallant gael mynediad atynt yma yn eu gofod gweithio hefyd. Rwy'n dod o sefydliad gwleidyddol gwahanol, lle roedd sgriniau gwyrdd yn cael eu defnyddio'n gyffredin. Y prif ddiben oedd rhoi gwybod i'r Aelodau pwy oedd yn siarad yn y siambr ac mewn pwyllgorau. Nid oeddech yn cerdded o gwmpas yn gwylio sgriniau teledu, roeddech chi'n gwylio i weld pwy oedd yn siarad, ac os oeddent yn dda, byddech yn rhedeg i mewn i'w gweld.

Fodd bynnag, fel y nodais, gellir adolygu hyn o bryd i'w gilydd, os oes amser priodol i adolygu. Mewn gwirionedd, mae'r comisiynwyr newydd wedi cael eu penodi'n ddiweddar, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod. Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf yr wythnos diwethaf. Os yw'r Comisiynwyr yn dymuno cyflwyno hyn fel mater i'w drafod, gallwn edrych ar y mater. Ond rwy'n dod yn ôl at y prif bwynt: nid diben y monitorau o amgylch yr adeilad yw gwylio newyddion na theledu dydd na beth bynnag. Eu diben yw dilyn busnes y Siambr a'r pwyllgorau.

Gadewch inni fod yn glir pam y gwaharddwyd GB News o ystad y Senedd yn 2023—[Torri ar draws.] Os hoffech wrando'n barchus. Diolch. Roedd yn dilyn sylwadau a wnaed gan y cyflwynydd Laurence Fox yn gofyn, ac rwy'n dyfynnu, pa 'ddyn a chanddo hunan-barch' a fyddai'n 'mynd i'r gwely' gyda'r newyddiadurwraig Ava Evans. Ac aeth yn ei flaen i ddweud, ac rwy'n dyfynnu,

'Pwy fyddai eisiau siagio honna?'

Ni chafodd hynny ei herio. Gwaethygwyd y sefyllfa ymhellach pan wnaeth yr Aelod Ceidwadol Andrew R.T. Davies sylw byw ar GB News fod y cyn-Lywydd, Elin Jones, yn rhy brysur yn gwneud ei gwallt i ymddangos ar y rhaglen.

Y Llywydd wnaeth y penderfyniad; nid plaid wleidyddol a'i gwnaeth. Ni allaf ddeall sut y gallai Aelodau fod eisiau diddymu gwaharddiad yn y Senedd, o ystyried nad oedd y gwaharddiad yn ymwneud â'i safbwynt gwleidyddol, ond â misogynedd a rhywiaeth. Nid yw hwn yn achos neilltuol. Fel y gwyddom, mae Ofcom wedi canfod dro ar ôl tro fod GB News yn mynd yn torri ei safonau. Felly, Lywydd, rwy'n cefnogi safbwynt y Comisiwn, a buaswn yn awyddus i'w drafod eto pe bai'n cael ei adolygu y ffordd arall. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am eich cwestiwn atodol. Nid oes gennyf fawr ddim i'w ychwanegu at hynny. Hanes hyn, yn wir, yw bod sianel GB News wedi'i gwahardd oddi ar rwydwaith teledu mewnol Comisiwn y Senedd i ddechrau yn dilyn darllediad yr ystyriai Ofcom ei fod wedi torri rheolau darlledu, er mwyn diogelu gwylwyr rhag cynnwys tramgwyddus. Ar y pryd, fe wnaeth y Llywydd y penderfyniad i wahardd y sianel oddi ar y rhwydweithiau mewnol mewn ymateb i ddarllediad yr ystyrid ei fod yn fwriadol sarhaus i fenywod mewn bywyd cyhoeddus yn enwedig, ac i ddadl gyhoeddus urddasol yn fwy cyffredinol. Felly, gan gofio'r sgwrs a gawsom mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, mae angen inni feddwl am hyn yn ofalus iawn wrth symud ymlaen.

15:35
Lleihau Costau Gweithredu

6. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i leihau ei gostau gweithredu er mwyn darparu gwerth gwell i drethdalwyr? OQ64262

Mae'r Comisiwn yn rheoli costau'n dynn gan ddiogelu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Senedd. Drwy ein fframwaith adnoddau tymor canolig, rydym yn herio gwariant, yn rhoi capiau ar lefelau staffio, yn rheoli twf, ac yn targedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf. Mae'n ofynnol i wasanaethau adrodd ar effeithlonrwydd ym mhob blwyddyn ariannol ac rydym yn defnyddio gwell dulliau caffael, offer digidol, awtomeiddio a chydweithio i ddarparu gwell gwerth am arian a lleihau costau diangen.

Diolch am eich ateb. Nid yw'r Comisiwn yn enwog am ei effeithlonrwydd cyllidol, ond mae'n rhentu Tŷ Hywel am dros £2 filiwn y flwyddyn. Mae'r les ar yr adeilad ar fin dod i ben, gyda gwaith adnewyddu arfaethedig yn costio sawl miliwn o bunnoedd i'r Comisiwn. Mae hyn yn costio'n ddrud i'r trethdalwyr, y mae pob un ohonom yn atebol iddynt. Beth y mae Comisiwn y Senedd yn ei wneud i gadw'r costau hyn i lawr, gan gynnwys negodi'r rhent? Sut rydych chi'n gwneud arbedion mewn meysydd eraill i liniaru'r costau hynny? Diolch.

Diolch. Rydych chi'n llygad eich lle nad oes gan y Comisiwn darged penodol o ran arbedion effeithlonrwydd. Fodd bynnag, mae'r Comisiwn yn gosod ei gyllideb bob blwyddyn yn unol ag anghenion y Senedd mewn tryloywder llwyr a chydag asesiad o'r adnoddau sydd eu hangen i'w gefnogi. Rydym bob amser yn chwilio am arbedion effeithlonrwydd a ffyrdd o gefnogi Aelodau mor effeithiol ag y gwnawn nawr naill ai drwy wneud mwy am lai neu drwy wneud mwy gyda'r adnoddau sydd gennym. Ac mae hyn yn cynnwys, gyda llaw, y defnydd priodol o ddeallusrwydd artiffisial ac ailgynllunio prosesau.

O ran ble rydym yn mynd nesaf, rydych chi'n llygad eich lle; mae'r Comisiynwyr a minnau'n canolbwyntio'n llawn ar sicrhau, yn y cynlluniau sydd gennym ar gyfer yr ystad ac wrth symud ymlaen, fod y costau sy'n gysylltiedig ag adnewyddu, lesio adeiladau ac ati yn cael eu hystyried yn llawn mewn penderfyniadau y gellir eu hystyried yma yn y Senedd, ac mewn tryloywder llwyr. Mae gan bob un ohonom ddiddordeb mewn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r arian sydd ar gael i ni, a gallwch fod yn dawel eich meddwl mai dyna rydym yn ceisio'i wneud.

Arwyddion Gwleidyddol

7. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod rheolau sy'n ymwneud â gosod arwyddion gwleidyddol yn ffenestri ystad y Senedd sy'n wynebu'r cyhoedd yn cael eu gorfodi'n gyson, ac i atal achosion o dorri'r Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd gan Aelodau? OQ64275

Mae Comisiwn y Senedd yn disgwyl i bob Aelod gydymffurfio â'r rheolau a'r canllawiau ar ddefnyddio adnoddau'r Senedd bob amser, fel sy'n ofynnol yn ôl y cod ymddygiad. Cyfrifoldeb yr Aelodau unigol a'u staff yw sicrhau cydymffurfiaeth, gan gynnwys defnyddio mannau sy'n wynebu'r cyhoedd fel ffenestri swyddfeydd.

Diolch yn fawr am eich ateb. Ymhellach, mae arwyddion ymgyrchu gwleidyddol wedi cael eu harddangos yn ddiweddar yn ffenestri swyddfeydd Aelodau Plaid Cymru ar ystad y Senedd, yn weladwy i aelodau'r cyhoedd y tu allan i'r adeilad hwn. O ystyried bod y Senedd yn adeilad a ariennir yn gyhoeddus, adeilad y telir amdano gan drethdalwyr o bob safbwynt gwleidyddol, ac na ddylid defnyddio adeiladau cyhoeddus fel ysgolion, ysbytai a mannau addoli i arddangos deunyddiau ymgyrchu pleidiau gwleidyddol, a yw'r Comisiwn yn credu bod hyn yn gyson â'r rheolau a'r canllawiau ar ddefnydd yr Aelodau o adnoddau'r Senedd? Os yw'r rheolau wedi'u torri, pa gamau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd? A yw'r Comisiwn yn disgwyl, ar ôl cael gwared ar yr arwyddion gwleidyddol, y dylai'r Aelodau Plaid Cymru dan sylw gydnabod na ddylid defnyddio cyfleusterau a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer deunydd ymgyrchu pleidiau gwleidyddol a chyhoeddi ymddiheuriad cyhoeddus? Diolch.

Ar y pwynt hwn—a diolch am godi'r mater pwysig hwn, sy'n berthnasol i bob Aelod yn y Siambr—fe geir canllawiau sefydledig clir iawn ar y defnydd priodol o adnoddau'r Senedd, y cyfeiriais atynt yn gynharach. Mae'r rheolau a'r canllawiau ar y defnydd o'r adnoddau hyn, gan gynnwys swyddfeydd ac yn y blaen, a'r cod ymddygiad, wedi'u darparu i bob Aelod ar ddechrau'r seithfed Senedd hon. Cefnogir yr Aelodau hynny hefyd drwy gyngor ac eglurhad lle bo angen. Os oes unrhyw Aelodau'n amau eu bod yn syrthio'n fyr o'r safonau, gallant ddod i geisio cyngor ac eglurhad. Mae hefyd wedi'i gynnwys, wrth gwrs, mewn sesiynau hyfforddi a thrafodaethau un i un.

O ran rheol 1 yn y rheolau a'r canllawiau ar y defnydd o adnoddau'r Senedd, o ran atebolrwydd personol, mae'r Aelodau'n atebol yn bersonol am ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn sydd ar gael iddynt, ac mae’n rhaid iddynt beidio â'u defnyddio ar gyfer gweithgarwch pleidiau gwleidyddol, nac at unrhyw ddiben heblaw cyflawni eu dyletswyddau fel Aelod. Mae'r pwynt ynglŷn â deunydd sy'n wynebu'r cyhoedd wedi'i wneud yn dda; mae'n enghraifft amserol i atgoffa pawb yma yn yr adeilad.

15:40

Y cwestiwn olaf, Janet Finch-Saunders. 

Staff y Comisiwn

8. Faint o staff y Comisiwn sy'n gweithio pum diwrnod yr wythnos ar ystad y Senedd? OQ64271

Mae Comisiwn y Senedd yn mynd ati'n weithredol bob amser i reoli ac adolygu perfformiad ei staff yn erbyn nodau strategol, gofynion gwasanaethau ac amcanion unigol. Rydym hefyd yn monitro presenoldeb ar y safle, yn ogystal â lefelau absenoldeb oherwydd salwch, gwyliau blynyddol a gweithio hyblyg. Fodd bynnag, nid yw'r Comisiwn yn casglu gwybodaeth am gyfraddau dyddiol gweithio gartref ymhlith ei staff. Caiff presenoldeb ar y safle ar draws y sefydliad ei bennu gan anghenion busnes, blaenoriaethau gweithredol a gofynion rolau.

Fodd bynnag, ceir nifer o weithwyr y Comisiwn, megis staff diogelwch, porthorion a staff blaen y tŷ, na allant gyflawni eu gwaith yn unman ond ar ystad y Senedd. Yn seiliedig ar y dadansoddiad diweddaraf o'r gweithlu, mae'r rolau hyn yn cyfateb i 12 y cant o staff y Comisiwn. Mae gan bob rôl arall allu i weithio gartref lle mae hyn yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau a'r cytundeb rheoli.

Diolch. Wrth gwrs, mae 65 y cant o wariant refeniw gweithredol y Comisiwn yn ymwneud â chostau staffio, gyda Chomisiwn y Senedd yn cyflogi oddeutu 500 o aelodau staff cyn ehangu'r Senedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn yn gomisiynydd yn nhymor y Senedd ddiwethaf, ond cyn hynny, rwyf wedi gweld gwahaniaethau ers inni newid—lle mae nifer o staff yn gweithio o gartref. Rwy'n ei chael hi'n anos cysylltu â staff a phethau felly.

Fodd bynnag, mae gennym bellach 96 o Aelodau, ac mae Comisiwn y Senedd yn gwario £2.7 miliwn ar rent Tŷ Hywel yn unig. Ar wahân i ddydd Mawrth a dydd Mercher, mae'n deg dweud bod yr adeilad hwn yn gymharol wag i bob golwg. Yn aml, dim ond llond llaw o geir sydd yn y maes parcio, yn enwedig ar ddydd Gwener. Mewn perthynas â'r gwaith adnewyddu costus iawn ar Dŷ Hywel—

A wnewch chi ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Iawn. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd fel Comisiwn i annog mwy o aelodau staff i ddychwelyd i weithio ar ystad y Senedd, yn enwedig o ystyried bod sawl miliwn o bunnoedd bellach yn mynd i gael eu gwario ar Dŷ Hywel? A bod yn onest, mae angen inni weld ein staff yn dod yn ôl i'r gwaith.

Un peth i'w ddweud, fel y bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn ohono cyn bo hir, yw na fydd y lle hwn yn gweithredu ar ddydd Mawrth a dydd Mercher yn unig. Mae eisoes wedi dechrau gweithio ar ddydd Llun a dydd Iau gyda'r pwyllgorau. Ac mae rhai o'r Aelodau druain ar ddau bwyllgor, felly byddant yma bedwar diwrnod yr wythnos. Bydd y staff sydd eu hangen i wasanaethu'r pwyllgorau hynny a'r gwaith a wnânt ar gael. Os yw'r Aelodau'n teimlo bod yr effaith weithredol yn effeithio arnynt, rhowch wybod i ni. Ond mae'n rhaid imi ddweud mai'r adborth a gawn yn gyson yw bod ein ffyrdd o weithio, lle gall staff weithio'n hybrid, er enghraifft, neu yma ar y safle, ond gan wneud yn siŵr eu bod ar gael er mwyn sicrhau'r canlyniadau sydd eu hangen ar yr Aelodau, yn effeithiol iawn.

O ran y mathau o rolau sydd gennym, mae gennym rolau sy'n seiliedig ar rotâu, mae gennym drefniadau hybrid, mae gennym ofynion penodol i dimau, gan gynnwys y rhai sy'n gwasanaethu pwyllgorau. Efallai na fydd un mesur fel dweud wrth staff, 'Byddwch yn cael eich monitro bum niwrnod yr wythnos ar y safle' yn rhoi unrhyw fewnwelediad ystyrlon i ba mor effeithiol yw'r aelodau staff hynny. Wedi dweud hynny, rydym yn adolygu ein data a'n cofnodion yn rheolaidd i sicrhau bod gennym yr wybodaeth gywir i gefnogi tryloywder a rheolaeth effeithiol ar draws yr ystad.

4. Cwestiynau Amserol

 Eitem 4, cwestiynau amserol. Sarah Rees. 

Daeargrynfeydd yn Venezuela

Yn gyntaf, hoffwn ddatgan buddiant fel cyn-lefarydd ar ran Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru.

1. Pa gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn dilyn y daeargrynfeydd diweddar yn Venezuela ar 24 Mehefin? TQ1477

Member
Sioned Williams 15:44:29
Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality

Diolch. Mynychais lansiad apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys ar gyfer Venezuela yn gynharach heddiw. Mae pobl ledled Cymru yn rhoi’n hael i’r apeliadau hyn, gan gydnabod bod angen rhoi cymorth ar frys i'r rhai mewn angen. Rwy’n cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu £50,000 i gefnogi’r ymgyrch cymorth dyngarol.

Rwy'n croesawu ymateb y Dirprwy Brif Weinidog i'r digwyddiadau trasig. Y bore yma, siaradais â Miguel Delguarto, a dreuliodd ddau ddiwrnod heb glywed gan ei fam yn La Guaira cyn dysgu o'r diwedd ei bod yn fyw ond ei bod wedi colli ei chartref, a bod ei gyfnither a'i phlentyn tair oed wedi marw. Rydym yn cydymdeimlo â phob teulu sydd wedi colli anwyliaid. Mae Miguel yn cael ei gefnogi gan ei gymuned leol, a soniodd am y tebygrwydd rhwng La Guaira a Chymru, lleoedd lle mae pawb yn adnabod ei gilydd, lle maent yn cefnogi ei gilydd ac yn dod ynghyd mewn argyfwng.

Mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys bellach wedi lansio ei apêl yn dilyn y daeargrynfeydd, sydd wedi lladd mwy na 1,700 o bobl, ac wedi gadael degau o filoedd yn rhagor o bobl ar goll. Gwyddom o apeliadau blaenorol, ar gyfer Wcráin a Thwrci, er enghraifft, pa mor hael yw pobl Cymru pan fyddant yn gweld eraill mewn argyfwng. Gan nodi bod yr arian a ddefnyddir yn uniongyrchol ar lawr gwlad yn Venezuela yn darparu'r gwerth gorau a'r cymorth cyflymaf, pa gyngor y gall y Dirprwy Brif Weinidog ei gynnig ar y mathau o gymorth a fydd yn cyrraedd y cymunedau mewn angen a bregus hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol?

15:45

Diolch am y cwestiwn ychwanegol.

Fe glywais innau Miguel ar Radio Wales y bore yma. Roedd yn wirioneddol dorcalonnus, onid oedd, ei glywed yn sôn am ei deulu? Ni allai siarad mewn gwirionedd. Roedd y cyfweliad mor effeithiol, yn dangos i bob un ohonom pa mor gyflym y gall bywyd newid, mewn amrantiad, a’r dinistr sydd wedi taro pobl Venezuela: y ddau ddaeargryn, un ar ôl y llall, yn 7.2 a 7.5, a darodd mor agos at y brifddinas, lle mae poblogaeth fawr; yr ail ddaeargryn oedd y cryfaf i daro’r wlad mewn mwy na chanrif. Mae awdurdodau Venezuela wedi datgan sefyllfa o argyfwng, gydag amcangyfrif fod mwy na 2 filiwn o bobl wedi'u heffeithio gan y trychineb. Felly, mae hwn yn argyfwng dyngarol difrifol.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru, i gefnogi'r gwaith o gydgysylltu ymdrechion codi arian yng Nghymru pan fyddant yn ymateb i drychinebau fel hyn. Mae'n dod ynghyd â sefydliadau blaenllaw yn y DU i godi arian ar gyfer argyfyngau tramor, mae'n cydgysylltu ymateb dyngarol effeithiol, gan sicrhau bod y cymorth hwnnw'n cyrraedd y bobl sydd ei angen yn gyflym ac yn y ffordd fwyaf costeffeithiol. Felly, mae rhoi arian i'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf o'i angen yn y ffordd fwyaf effeithiol sy'n bosibl. Felly, buaswn yn annog pawb sy'n gallu rhoi i wneud hynny drwy wefan y Pwyllgor Argyfyngau Brys.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Brif Weinidog.

Jest i fynd nôl i'r eitem ddiwethaf, mi oedd Niamh eisiau dod i mewn efo datganiad byr. Sori mod i wedi dy fethu di.

Mae'n ocê.

Diolch. Dylwn fod wedi datgan buddiant yn y cwestiwn atodol i Gomisiwn y Senedd ar amodau gwaith staff yn ystod cyfnodau o wres eithafol gan fy mod yn aelod o Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, a hoffwn i hynny gael ei gofnodi. Diolch.

5. Datganiadau 90 eiliad

Eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Gwyn Williams.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roedd Safa, Peredur a minnau'n ddigon lwcus i fynychu hanner canmlwyddiant sefydliadau Adferiad yr wythnos diwethaf, yn Nhŷ Norton yn Abertawe. Peredur, wrth gwrs, oedd cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau, felly ef yw'r unigolyn mwyaf profiadol yn y Siambr ar y pwnc hwn.

Dyma un o sefydliadau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau mwyaf a phwysicaf Cymru, ac fe gafodd ei ffurfio drwy uno Gwasanaeth Gwybodaeth Alcohol Cyngor, Hafal a'r Ganolfan Gymreig ar gyfer Caethiwed a Dibyniaeth. Mae'n bwysig cydnabod hefyd pan fo problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn cyd-daro, gan fod y trawsgroesi rhyngddynt, fel y gwelsom, yn eithaf sylweddol a difrifol. Fe wnaethom wrando ar lawer o straeon brawychus gan bobl a oedd wedi cael cymorth gan yr elusen hollbwysig hon, sy'n cyflogi 750 o staff arbenigol a gwirfoddolwyr ledled Cymru—llais cenedlaethol wedi'i wreiddio mewn cymunedau lleol.

Er mawr gywilydd i ni fel cymdeithas, mae ein cyn-filwyr yn dioddef yn anghymesur o gamddefnyddio sylweddau ac anhwylderau iechyd meddwl, a chyfuniad o'r ddau. Maent yn cael cymorth drwy Adferiad drwy raglen Newid Cam. Clywsom hefyd gan Elin Jones, y llywydd oes, ac fe'n hysbrydolwyd yn fawr gan eu gwaith. Felly, hoffwn ddweud pen-blwydd hapus i Adferiad yn hanner cant oed, a boed i'r 50 mlynedd nesaf fod yr un mor dda. Diolch.

Diolch. Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf yw'r diwrnod cenedlaethol ar gyfer gwerthfawrogi gweithwyr allweddol yn y diwydiant manwerthu. Mae pob un ohonom yn rhyngweithio â gweithwyr manwerthu, boed yn ein siopau papurau newydd lleol, archfarchnadoedd, siopau dillad neu siopau tasgau'r cartref. Mae undeb llafur y manwerthwyr USDAW—Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol—yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Manwerthu ddydd Sadwrn, sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd i dynnu sylw at werth gweithwyr manwerthu yn ein siopau a'n cymunedau.

Ceir 2.8 miliwn o swyddi manwerthu, sy'n cyfateb i bron i 10 y cant o'r holl swyddi yn economi Prydain. Gyda'i gilydd, dyma'r cyflogwr sector preifat mwyaf yn y wlad. Rwyf i, ochr yn ochr ag USDAW, yn gofyn i'r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth i weithwyr siopau a rhannu'r neges fod gweithwyr manwerthu yn rhan ganolog o'n cymunedau. Mae'r staff wrth wraidd llwyddiant y diwydiant manwerthu, sy'n hanfodol i economi'r DU ac yn rhan hanfodol o'n strydoedd mawr a'n cymunedau. Mae Diwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Manwerthu yn gyfle gwych i ddiolch i bob gweithiwr manwerthu am y gwaith caled a wnânt bob dydd.

Mae undeb llafur y gweithwyr manwerthu, USDAW, yn cynrychioli cannoedd o filoedd o weithwyr ar draws sector manwerthu'r DU. Mae USDAW yn parhau i wneud gwahaniaeth i weithwyr manwerthu drwy negodi cyfraddau cyflog uwch, contractau cyflogaeth mwy diogel, galw am gamau gweithredu i helpu i adfywio ein strydoedd mawr, cyflawni ar ran aelodau yn y gweithle, gan gynnwys negodi polisïau cefnogol ar y menopos, mwy o gymorth ar faterion iechyd meddwl a gofalu am blant a theuluoedd, a gweithio gyda chyflogwyr, y Llywodraeth a'r heddlu i fynd i'r afael â cham-drin, bygythiadau a thrais tuag at weithwyr manwerthu a darparu amddiffyniadau cyfreithiol newydd hanfodol. Rwy'n croesawu Ddeddf Troseddu a Phlismona 2026 i fynd i'r afael â'r epidemig o droseddau manwerthu ac ymosodiadau ar weithwyr siopau sy'n digwydd yn llawer rhy aml. Mae angen i bob un ohonom barchu a gwerthfawrogi gweithwyr manwerthu.

15:50

Yr wythnos diwethaf, daeth gyrfa ddisglair un o gewri'r byd rygbi i ben. Ers ennill ei gap gyntaf dros ei wlad yn 18 oed, aeth y cawr o Fôn, George North, ymlaen i wisgo'r crys coch 121 o weithiau, gan groesi'r llinell wen ar 47 achlysur. Mae'n diolch ni i gyd yn fawr i George, nid yn unig am ei gyfraniad ar y cae, ond hefyd am ei ysbrydoliaeth i genhedlaeth nesaf o athletwyr ar draws Cymru.

Ac ar hynny, hoffwn ddymuno'n dda i bob un o'r 115 sy'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad dros Gymru fis yma yn Glasgow, yn enwedig i'r rheini o Fangor Conwy Môn. Yn benodol, hoffwn ddymuno'r gorau i Cari Hughes o Fôn, yr athletwraig gyntaf i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad sydd eisoes wedi cystadlu dros Ynys Môn yng Ngemau'r Ynysoedd. Mae hyn yn gamp anferthol ac yn amlygu rôl bwysig Gemau'r Ynysoedd, sy'n rhoi llwyfan i athletwyr lleol a sail gwirioneddol i feithrin talent a datblygu profiad.

Ac yn olaf, o Glasgow i Le Mans yn Ffrainc, hoffwn hefyd ddymuno'n dda i Martha Glwys Jones o Lanrwst, un o bedair sydd wedi'u dewis i gynrychioli tîm marchogaeth Prydain ym mhencampwriaeth Ewrop. Llongyfarchiadau gwresog i Martha—pob dymuniad da i ti, ac, wrth gwrs, i Cognac y ceffyl.

6. Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Cyn inni ddechrau'r eitem hon, mae'r Aelod wedi rhoi gwybod i mi ymlaen llaw y bydd y ddadl yn codi pynciau sensitif y gallai rhai Aelodau a phobl sy'n gwylio eu cael yn anodd. Felly, cofiwch fod yn ymwybodol o hynny. Galwaf ar Beca Brown i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9253 Beca Brown

Cefnogwyd gan Lynne Neagle, Janet Finch-Saunders, Carrie Harper, Marc Jones, John Davies, Jane Dodds, Gwyn Williams, Mair Rowlands, Sarah Rees, Zaynub Akbar, Lis McLean, Sara Crowley, Matthew Jones, Leticia Gonzalez, Elyn Stephens, Elfed Williams, Kiera Marshall, Sarah Cooper-Lesadd, Nick Carter, Paul Rock, Becca Martin

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod effaith ddwfn a pharhaol trawma ar unigolion drwy gydol eu bywydau, a'r ffordd y mae'n siapio profiadau ar draws pob agwedd ar fywyd.

2. Yn cydnabod bod tua hanner yr oedolion yng Nghymru wedi profi o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n gysylltiedig â risg uwch o ganlyniadau iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwael, camddefnyddio sylweddau, a datblygu cyflyrau cronig yn ddiweddarach mewn bywyd.

3. Yn nodi bod camau i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod eisoes wedi'u hymgorffori ar draws ystod o feysydd polisi Llywodraeth Cymru.

4. Yn croesawu cyhoeddi Pecyn Cymorth Cyfathrebu Partner Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru 2026, ac yn cydnabod y cyfle y mae'n ei gyflwyno i gefnogi a chryfhau dulliau sy'n ystyriol o drawma ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau ag ymdrechion i integreiddio gwaith i atal ac ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar draws gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau’r ymdrechion hynny.

6. Yn galw ar Gomisiwn y Senedd i ystyried:

a) datblygu cynlluniau i fabwysiadu dulliau sy'n ystyriol o drawma ar draws holl weithgareddau a gwasanaethau'r Senedd, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cymorth i Aelodau a'u staff, yn ogystal ag ymgysylltu â'r cyhoedd ac allgymorth;

b) cynyddu ymwybyddiaeth o effaith trawma ymhlith Aelodau, staff y Comisiwn, a'r rhai sy'n ymgysylltu â'r Senedd, gan gynnwys drwy hyfforddiant a chanllawiau; ac

c) hyrwyddo dulliau sy'n rhoi unigolion wrth wraidd gwasanaethau, gan sicrhau bod prosesau, cyfathrebu ac amgylcheddau yn hygyrch, sensitif, ac nad ydynt yn ail-drawmateiddio unigolion yn anfwriadol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Felly, rydym yn aml yn clywed yr ymadrodd, 'Mae'n cymryd pentref i fagu plentyn.' Rydym yn ei glywed ac yn nodio'n daer. Rydym yn ei ddweud, ac wrth gwrs, rydym yn ei olygu, ond a ydym yn ystyried beth y mae'r ymadrodd hwnnw'n ei olygu mewn gwirionedd, neu o leiaf beth y dylai ei olygu? Dylai bod yn bentref i blant ac i bob plentyn olygu ymrwymo i hyrwyddo eu llesiant, eirioli dros eu hanghenion a'u gwarchod rhag niwed bob amser. Mae'n waith i bawb. Dyma ein gwaith ni fel pobl allan yno yn y byd. Ac fel gwleidyddion, mae'n gyfrifoldeb arnom i roi mesurau ar waith sy'n cefnogi ac yn cynnal y pentref meithringar y mae pob un ohonom ei eisiau ar gyfer ein plant.

Dylai bod yn rhan o'r pentref hwnnw olygu bod yn chwilfrydig ac yn hunanymwybodol. A ydym yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud bywydau plant yn well, yn fwy diogel, yn iachach, yn hapusach? A phan fydd pethau'n mynd o chwith i blentyn neu unigolyn ifanc, sut rydym ni'n eu trin? Sut rydym ni'n eu helpu i wella? Sut rydym ni'n siarad â nhw? Pa fath o eiriau a ddefnyddiwn? A sut rydym ni'n siarad amdanynt a pha naratifau rydym ni'n eu creu o amgylch pobl ifanc y mae eu trawma'n eu gwneud yn gymhleth, yn anodd rhagweld eu hymddygiad ac weithiau'n waith caled? A ydym yn eu gweld? Ac yn bwysicach fyth, a ydynt yn teimlo ein bod ni'n eu gweld?

Mae a wnelo fy nadl heddiw â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma, gan fod gormod o bobl yn byw gyda thrawma cymhleth iawn sy'n aml yn deillio o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod. Mae oddeutu hanner yr oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae'n gysylltiedig â risg uwch o iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, risg uwch o gamddefnyddio sylweddau, a'r tebygolrwydd uwch o ddioddef o gyflyrau cronig yn nes ymlaen mewn bywyd.

Fel arfer, mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael eu grwpio mewn tri chategori: cam-drin—emosiynol, corfforol, rhywiol; esgeulustod—emosiynol a chorfforol; heriau yn y cartref, sy'n cynnwys y canlynol—rhiant neu ofalwr â salwch meddwl, rhiant neu ofalwr â phroblem defnyddio sylweddau, rhieni'n gwahanu neu'n ysgaru, bod yn dyst i drais domestig, aelod o'r cartref yn cael eu carcharu. Y 10 profiad hyn yw'r rhai a ddefnyddir amlaf mewn ymchwil ac iechyd y cyhoedd. Ond mae llawer o ymchwilwyr bellach yn cydnabod nad ydynt yn cynnwys pob profiad niweidiol arwyddocaol, ac y gall profiadau eraill gael effeithiau parhaol. Mae'r rhain yn cynnwys bwlio, hiliaeth neu droseddau casineb, trais cymunedol, tlodi a diffyg diogeledd bwyd, bod mewn gofal neu fyw mewn lleoliadau lluosog, marwolaeth rhiant neu frawd neu chwaer, salwch difrifol y plentyn neu aelod agos o'r teulu, profiadau ffoaduriaid neu geiswyr lloches, gwrthdaro rhwng rhieni, digartrefedd neu ansefydlogrwydd o ran tai.

A phrin fod y sefyllfa o fod yn ddigartref neu brofi ansicrwydd tai yn cael ei thrafod o gwbl fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod, sy’n rhyfeddol, a dweud y gwir, o ystyried mai 'cartref yw popeth', yng ngeiriau Shelter Cymru. Mae cartref yn hanfodol i blentyn deimlo’n ddiogel. Mae’n fwy na dim ond brics a mortar, ac yn ei gartref, mae plentyn yn dysgu ymlacio a chau’r drws ar helyntion y byd. Pan nad yw’r sail yna ar gael i blentyn, mae llety dros dro yn gallu creu, gwaethygu a pharhau trawma. Mae byw mewn llety dros dro yn amharu ar addysg, cwsg, iechyd, cylchoedd cyfeillgarwch a bywyd teuluol. Mae rhieni sy’n profi digartrefedd yn wynebu cynnydd mewn straen, gorbryder ac iechyd meddwl gwael, sy’n effeithio’r teulu cyfan.

Ond nid hoff gan bawb ei gartref bob amser, a gall y man lle dylai plentyn deimlo'n ddiogel, a theimlo cariad fod yn lle o ofn a thrawma. Amcangyfrifir bod 25,000 o blant a phobl ifanc yn cael eu cam-drin yn rhywiol bob blwyddyn yng Nghymru—ystadegyn gwirioneddol erchyll. Mae'r rhan fwyaf o blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn cael eu cam-drin gan rywun y maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, yn aml o fewn y teulu neu amgylchedd ehangach y cartref. Gall cam-drin ddigwydd yng nghartref y plentyn, cartref y cyflawnwr, neu leoliad cyfarwydd arall, yn ogystal ag ar-lein. Mae'n digwydd mewn sefydliadau, ysgolion, clybiau chwaraeon, lleoliadau crefyddol, a thrwy gamfanteisio ar-lein. Nid oes unrhyw ffiniau i gam-drin plant, a daw troseddwyr o bob math o gefndir. A'r eiliad y dywedwn wrthym ein hunain nad yw'r math hwnnw o beth yn digwydd yma yw'r eiliad y byddwn mewn perygl o wneud cam â phlentyn.

Mae grŵmio plant a phobl ifanc gan oedolion at ddibenion cam-drin rhywiol yn un o'r troseddau mwyaf niweidiol a ffiaidd mewn cymdeithas. Rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd yn cael eu dysgu sut i nodi ac adrodd am arwyddion o grŵmio drwy hyfforddiant proffesiynol a thrwy addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae nodi perthnasoedd ac ymddygiadau niweidiol yn rhan allweddol o addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mae ganddi botensial i chwarae rhan sylweddol yn lleihau cyfraddau trallod a niwed i blant yng Nghymru.

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn creu haenau o drawma sy'n dilyn dioddefwyr a goroeswyr drwy gydol eu bywydau. Nid yw dwy ran o dair o blant yn datgelu camdriniaeth pan fo'n digwydd iddynt. Mae ymchwil i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod yn dangos ei bod yn cymryd 26 mlynedd ar gyfartaledd i ddioddefwyr a goroeswyr ddatgelu eu bod wedi cael eu cam-drin.

Mae cynnydd o 80 y cant wedi bod yn nifer yr atgyfeiriadau a wneir gan linell gymorth y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant i'r heddlu ac awdurdodau lleol ers y cyfyngiadau symud. Roedd 349 o blant yn aros am gymorth gyda cham-drin domestig neu rywiol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yng Nghymru. Mae amseroedd aros am gymorth i blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol wedi mwy na dyblu ers 2015, ac yn dorcalonnus, mae plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ddwy i bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi rhagor o gam-drin rhywiol, corfforol neu emosiynol yn ystod eu hoes.

Hoffwn ddiolch i Venus am ganiatáu imi rannu ei stori gyda chi heddiw. Cyfeiriwyd Venus at Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru gan Heddlu Sussex yn ystod ymchwiliad gweithredol i gam-drin rhywiol estynedig yn ystod plentyndod, a ddigwyddodd dros oddeutu 14 mlynedd, gan ddechrau pan oedd hi'n dair oed. Ymhlith y problemau yr ymgyflwynodd â nhw roedd cynlluniau a synio am hunanladdiad, iselder, gorbryder, anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth, datgysylltiad, dicter, anhwylderau bwyta, anawsterau gyda'i haddysg a chyflogaeth, ofn, ynysigrwydd, euogrwydd, cywilydd, hunan-barch isel, ansefydlogrwydd o ran iechyd meddwl, colli incwm, anhunedd, anawsterau gyda pherthnasau, hunllefau, nodweddion anhwylder obsesiynol-gorfodaethol, pyliau o banig, hunan-niweidio hanesyddol a chyfredol a theimladau hunanladdol.

Dyma sydd gan Venus i'w ddweud am ei phrofiad o gael ei chefnogi gan Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru. 'Ni theimlais nad oedd neb yn fy nghredu. Cefais fy nhrin â pharch bob amser, ac ni chyfeiriwyd at fy mhrofiadau fel honiadau cyn yr achos. Roedd y gefnogaeth a gefais yn canolbwyntio arnaf i a fy nheimladau, yn hytrach na cheisio gosod label arnaf neu fy ffitio i fodel clinigol. Roedd eu dull o weithredu ystyriol o drawma yn golygu eu bod yn cydnabod sut y gall trawma effeithio ar ymddiriedaeth, cyfathrebu, emosiynau a bywyd bob dydd. Cefais fy nghynorthwyo i ddeall fy hun yn well. Roeddent yn gweithio ar fy nghyflymder i, ac roeddwn yn teimlo eu bod yn fy neall i fel unigolyn, yn hytrach na fy mod yn cael fy niffinio gan rywbeth a oedd wedi digwydd i mi.'

'Wrth i bethau wella, teimlais fy mod wedi fy ngrymuso i rannu fy stori oherwydd hyn. Fe wnaethant fy helpu i ddarganfod drosof fy hun beth oedd yn gwneud imi deimlo'n ddiogel a beth roeddwn i'n ei fwynhau, yn hytrach nag awgrymu strategaethau neu ddweud wrthyf beth y dylwn ei wneud. Fe wnaeth hyn fy helpu i feithrin hyder yn fy ngallu fy hun i ymdopi. Cefais le diogel heb unrhyw feirniadaeth i fynegi fy hun pryd bynnag y teimlwn yr angen i wneud hynny, heb bwysau i gael yr holl atebion na manylu ar fanylion fy nhrawma. Cefais fy nghefnogi drwy gydol y broses gyfiawnder troseddol gyfan, gyda'r gefnogaeth yn addasu ar bob cam wrth i fy anghenion newid.

'Ni wnaethant roi’r gorau i fy helpu, hyd yn oed ar yr adegau pan oeddwn yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu neu siarad. Fe wnaeth eu hamynedd, eu cysondeb a’u cefnogaeth barhaus wahaniaeth sylweddol, ac nid oeddwn yn poeni ar unrhyw adeg y byddai’r gefnogaeth yn dod i ben yn ddirybudd. Roedd gwybod bod parhad ac na fyddwn yn cael fy rhyddhau'n ddirybudd yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch a sefydlogrwydd i mi—rhan bwysig o fy adferiad.'

Diolch, Venus, am eich dewrder, am rannu eich stori ac am ein helpu i ddeall effeithiau cymhleth camdriniaeth a phwysigrwydd gweithio sy'n ystyriol o drawma, a diolch i Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, am eich gwaith gwych.

Os ydym am greu pentref sy'n mynd ati'n weithredol i hybu, cefnogi a galluogi profiadau cadarnhaol yn ystod plentyndod, pentref sy'n magu plant hapus, iach a diogel, rhaid inni ymrwymo i atal trallod hyd y gallwn a bod yn barod bob amser i ofyn, 'A yw'r plentyn hwnnw'n iawn?' Ni allwn atal pob niwed, ond sut y gallwn helpu plentyn sydd wedi dioddef trallod, beth bynnag y bo? Ni ddylai plentyn gael eu diffinio gan brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, ac o gael yr amgylchedd cywir a'r gefnogaeth gywir, gall y plentyn hwnnw fynd yn eu blaen i ffynnu.

Rhaid inni ymrwymo i gefnogi profiadau cadarnhaol yn ystod plentyndod a blaenoriaethu cyfleoedd ar gyfer perthnasoedd therapiwtig, llawn ymddiriedaeth. Dywed ymchwil gan Gymdeithas Seicolegol Prydain wrthym nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus wedi'u ffurfio mewn ffyrdd sy'n rhoi'r unigolyn a'r perthnasoedd yn gyntaf. Mae gwasanaethau cyhoeddus perthynol yn rhai sydd wedi'u hadeiladu ar gysylltiadau dynol yn hytrach na biwrocratiaeth. Maent yn trin perthnasoedd, nid prosesau, nid targedau, nid trafodiadau, fel y prif fecanwaith ar gyfer newid. Pan ddaw gwasanaethau'n berthynol, maent yn rhoi'r gorau i wneud pethau i bobl ac yn dechrau gweithio gyda nhw.

Gallem ymgorffori iechyd perthynol ar draws Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, sicrhau bod ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn blaenoriaethu perthnasoedd cadarnhaol, cryfderau a chydweithio â phobl yn hytrach na gwasanaethau trafodaethol neu wedi'u gyrru gan brosesau. Gallwn fuddsoddi mewn atal drwy hyrwyddo profiadau cadarnhaol yn ystod plentyndod, creu polisïau sy'n cryfhau perthnasoedd rhwng rhieni a phlant, perthnasoedd therapiwtig a chryfderau teuluol, a chydnabod effaith tlodi ar iechyd perthynol.

Dyna sut olwg a allai fod ar bentref cydweithredol sy'n magu plant Cymru—lle sy'n wirioneddol gyfeillgar i blant ac sydd bob amser yn cefnogi ei blant, lle mae llais y plentyn yn ganolog i bopeth a wnawn. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan yn creu'r pentref hwnnw, drwy gadw plant yn ddiogel rhag niwed a thrwy gynorthwyo pob plentyn i ffynnu. Diolch yn fawr.

16:00

Mae'r cynnig hwn yn sôn bod hanner yr oedolion yng Nghymru wedi profi o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Rwyf am fod yn onest gyda'r Senedd hon heddiw—rwy'n un ohonynt. Ni ddysgais am hyn o bapur polisi. Roeddwn i'n eu byw.

Ni ddechreuodd fy stori gyda mabwysiadu. Fe ddechreuodd gyda cholled. Bu farw fy mam fiolegol pan oeddwn i'n dair wythnos oed. Roedd ganddi seicosis ôl-enedigol, cyflwr difrifol, brawychus ac un yr oedd modd ei drin, ac ni chafodd y cymorth oedd ei angen arni mewn pryd. Heddiw, gyda'i hanes yn hysbys, gallai fod wedi cael ei gweld cyn i argyfwng ddigwydd, ei chefnogi drwy ei beichiogrwydd, ei monitro yn yr wythnosau dilynol, ei chadw'n ddiogel. Syrthiodd drwy bob un o'r bylchau yn y system, a thalwyd y pris uchaf ganddi hi a chan fabi tair wythnos oed, sef fi, a aeth i mewn i'r system ofal am nad oedd modd achub y fam a oedd yn ei charu. Cefais gartref gan fy nhad biolegol am gyfnod, ac yna rhoddodd yntau y gorau i ofalu amdanaf hefyd. Felly, cyn imi fod yn ddigon hen i ddeall y byd, roeddwn eisoes wedi cael fy rhoi ymaith ddwy waith. Ni ddywedwyd wrthyf sut y bu farw fy mam tan fy mod yn 10 oed. Mae pobl weithiau'n cymryd yn ganiataol na allwch alaru am rywun nad oeddech chi erioed yn eu hadnabod. Gallwch, fe allwch. Nid ydych chi'n galaru am bwy oeddent, ond am bopeth na chawsoch chi fod. Rwyf wedi galaru am fy mam ar hyd fy mywyd. Mae gennyf ddau lun, ac ni chlywais mo'i llais un waith.

Felly, ni ddeuthum at y materion hyn drwy sesiynau briffio, deuthum atynt fel y plentyn yn y ffeil, rhif achos, lleoliad. Cefais fy mabwysiadu yn saith oed, ac fe ddywedaf y gwir am hynny hefyd, oherwydd rydym yn llawer rhy gyfforddus gyda'r fersiwn daclus—y plentyn a achubwyd, y diweddglo hapus. Cefais fy magu mewn teulu ond bob amser yn westai ynddo rywsut, yn cael fy ngoddef yn fwy na fy eisiau, fy lle bob amser yn rhywbeth oedd yn rhaid imi ei ennill ac yr ofnwn y gallwn ei golli. Ni ddaeth fy nhrawma i ben gyda mabwysiadu, rhoddodd siâp newydd iddo, ac fel y gwnaeth Kiera Marshall ein hatgoffa, nid yw gorchymyn mabwysiadu yn setlo popeth y mae plentyn yn ei gario. Dyna beth y mae trawma yn ei wneud. Nid yw'n cau'r ffeil am fod y gwaith papur yn dweud bod y plentyn wedi setlo.

Ond nid wyf yn sefyll yma fel rhywun a gafodd gam, oherwydd roedd yna eraill na wnaeth gam â mi. Ni chyrhaeddais yma ar fy mhen fy hun. Ar hyd y ffordd roedd pobl, ffrind i'r teulu, athrawon, eraill a roddodd amser i wrando, a welodd heibio'r ffeil at yr unigolyn ac a ddangosodd i mi fod y byd yn fwy na'r un a roddwyd i mi. Ni wnaethant unrhyw beth anarferol, ond fe wnaethant ddewis fy ngweld i a chredu y gallwn fod yn rhywbeth cyn imi feiddio credu hynny fy hun. Ac fe newidiodd hynny gwrs fy mywyd.

A dyna yw craidd y peth. Anaml y bydd y gwahaniaeth rhwng plentyn sy'n ffynnu a'r un nad yw'n ffynnu yn fater o dalent, a byth yn fater o werth. Mae'n ymwneud ag a oes rhywun yn y system yn dewis eu gweld. A dyma beth y mae ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn ei olygu—nid slogan, nid pecyn cymorth sy'n hel llwch, ond diwylliant lle mae'r fydwraig, yr athro, y nyrs, y gweithiwr cymdeithasol wedi'u paratoi i weld yr unigolyn, nid yr achos yn unig.

Ac nid tystiolaeth feddal yn unig yw hi. Mae plentyndod heb ei wella yn dod yn fywyd oedolyn y gellir ei fesur fel un sy'n ddrutach ac yn fyrrach. Felly mae hyn yn fater o atal cyhoeddus ac o arian cyhoeddus. Mae pob £1 a werir yn gweld mam sy'n ei chael hi'n anodd neu blentyn ofnus yn £1 na chaiff ei gwario yn ddiweddarach yn ein hysbytai, ein llysoedd neu ein gwasanaethau argyfwng, ac fe welwn ffigurau llwm am blant sydd â phrofiad o ofal, sydd â chyfradd uwch o ddigartrefedd. Mae'r ffigurau'n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod.

Felly, gadewch imi gynnig tri pheth penodol: yn gyntaf, y dylai hyfforddiant sy'n ystyriol o drawma fod yn ofynnol i'r rhai ar y rheng flaen, yn ail, y dylai person orfod dweud ei stori unwaith yn unig, nid ail-fyw'r gwaethaf am eu bywyd wrth bob desg newydd, ac yn drydydd, ein bod yn cydnabod nad yw trawma'n parchu ein hymylon garw gweinyddol—nid yw'n dod i ben wrth fabwysiadu, nid yw'n gorffen yn 18 oed, nid yw'n gorffen ar ôl i'r ffeil gael ei chau, ac felly ni ddylai cymorth ddod i ben ar yr adegau hynny chwaith.

Rwyf am orffen lle dechreuais, gyda hi. Rwy'n y bywyd hwn yn rhannol i fyw bywyd na chafodd hi gyfle i'w fyw, ac i anrhydeddu mam y cefais ei hadnabod am dair wythnos ond a gariais gyda mi bob dydd ers hynny. Ac ni ddaw ei hanrhydeddu i ben gyda'r cynnig hwn. Byddaf yn parhau i bwyso ar y Senedd yr wythnos nesaf a thu hwnt i roi i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, nid geiriau cynnes, ond amddiffyniadau y gallant ddibynnu arnynt go iawn. Mae'n cynnwys fy nadl ar rianta corfforaethol ddydd Mercher nesaf.

Os yw fy mhresenoldeb yma yn golygu unrhyw beth, gadewch iddo olygu hyn—ein bod yn adeiladu Cymru sy'n gweld mam sy'n ei chael hi'n anodd a'r plentyn ofnus cyn ei bod yn rhy hwyr. Y gallai Cymru fod wedi ei hachub.

16:05

Mae'n anodd iawn dilyn y cyfraniad hwnnw. A gaf i ddiolch i chi, Sarah, am eich dewrder a'ch gonestrwydd? Rwy'n credu y bydd clywed eich stori yn wirioneddol bwerus i bawb, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar straeon fel hynny a'n bod ni'n gweithredu ar yr hyn a glywsom.

Roeddwn i eisiau diolch i Beca Brown hefyd am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw, ac roeddwn yn falch iawn o'i gefnogi. Roeddwn i'n meddwl bod eich araith yn gynhwysfawr iawn ac yn rhoi llawer inni feddwl yn ei gylch. Nid wyf yn siŵr y gallwn wneud cyfiawnder â'r mater hwn mewn awr yn y Siambr hon, ond rwy'n falch ein bod ni'n cael y drafodaeth.

Roeddwn eisiau diolch i Beca am ei chydnabyddiaeth fod camau i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod eisoes wedi'u hymgorffori ar draws ystod o bolisïau Llywodraeth Cymru, ac roeddwn yn falch iawn pan oeddwn yn y Llywodraeth o helpu i lansio fframwaith Cymru sy'n ystyriol o drawma gyda fy nghyn gyd-Aelod Julie Morgan. Datblygwyd y fframwaith hwnnw gan Hyb Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod Cymru a Straen Trawmatig Cymru, a hoffwn ddiolch i'r ddau sefydliad am eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus yn y maes hwn, ac yn enwedig Dr Jo Hopkins yn yr hyb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi bod yn gyrru'r gwaith hwn ers blynyddoedd. Rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr i edrych ar y fframwaith, oherwydd mae rhywbeth yno i bawb. Mae'n seiliedig ar bedair lefel ymarfer: ymwybyddiaeth o drawma, sgiliau trawma, dull ystyriol o drawma ac ymyriadau arbenigol. Mae ymwybyddiaeth o drawma yn berthnasol i bawb ac yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o drawma a thrallod, cydnabod eu heffaith ac ymateb gyda thosturi, empathi a pharch. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn ein helpu ni i gyd i feddwl beth arall y gallwn ei wneud yn y gofod hwn. Gallwn i gyd elwa o drin ein gilydd gyda charedigrwydd ac empathi. 

Mae'r lefel sy'n ymwybodol o drawma yn gwneud imi feddwl hefyd am ymgyrch y Samariaiad Small Talk Saves Lives. Fe'i datblygwyd yn wreiddiol i atal marwolaethau drwy hunanladdiad ar y rheilffyrdd, ac mae'n grymuso pobl i ddechrau sgwrs syml os ydynt yn meddwl nad yw rhywun yn iawn mewn man cyhoeddus. Y gwir amdani yw y gallwn ni i gyd gael sgwrs sy'n achub bywydau. Rwyf wedi siarad o'r blaen am bob rhyngweithiad yn ymyrraeth i iechyd meddwl pobl ifanc, ac rwy'n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu o hynny mewn lleoliad gweithle, hyd yn oed un sydd â safbwyntiau mor begynol â'r hyn a welwn yma.

Nawr, fel y nododd Beca, mae rôl hanfodol gan ddull ystyriol o drawma i'w chwarae yn ein hysgolion. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Shav yn gynharach, mae cymaint o'r ymddygiad a welwn mewn ysgolion yn dystiolaeth o angen heb ei ddiwallu, ac rwy'n credu bod pob ymddygiad yn gyfathrebu mewn plant a phobl ifanc. Byddwn yn siarad yn nes ymlaen am y pwysau yn ein system ADY, ond mae llawer o'r bobl ifanc sydd ag anghenion cynyddol gymhleth yn byw gyda thrawma.

Roedd yn bleser llwyr cael ymweld ag Ysgol Gyfun Llangefni y llynedd i weld eu gwaith fel ysgol sy'n ystyriol o drawma, ac yn wir, mae gan Ynys Môn yr enw o fod yn ynys sy'n ystyriol o drawma. Cefais fy syfrdanu gan fy ymweliad ag Ysgol Gyfun Llangefni, sef yr ysgol uwchradd gyntaf, a hyd y gwn i, yr unig ysgol uwchradd sy'n ystyriol o drawma yn y DU—cyflawniad yr oeddwn yn falch iawn o dynnu sylw ato pan fynychais yr uwchgynhadledd ryngwladol ar y proffesiwn addysgu ym mis Mawrth. Ategir y rhaglen gan bwysigrwydd perthnasoedd cryf, ac mae perthnasoedd yn hollbwysig yn y gofod hwn, a chael oedolion sydd ar gael yn emosiynol i helpu i gefnogi pobl ifanc. Un enghraifft o'r hyn a wnânt yn Ysgol Gyfun Llangefni yw bod staff yn cyfarfod â phob unigolyn ifanc oddi ar y bws yn y bore, staff sy'n eu hadnabod ac yn deall eu diddordebau a'u hanghenion, gan ofyn pethau fel, 'Sut aeth y rygbi neithiwr? A ddigwyddodd unrhyw beth diddorol i ti neithiwr?' Y diben yw i'r bobl ifanc hynny wybod bod oedolyn bob amser yn eu cadw mewn cof, ac mae pŵer hynny, yn enwedig i blentyn nad oes ganddo berthnasoedd cryf gartref, yn anfesuradwy. Mae'n ymwneud yn llwyr â chreu pentref o amgylch y plentyn, ac os nad yw pobl ifanc yn cael hynny gartref, rhaid inni chwilio am ffyrdd eraill o'i wneud.

Un o'r pethau olaf a wneuthum fel Gweinidog oedd cyhoeddi cyllid newydd o dros £1.6 miliwn ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant mewn ysgolion dros y tair blynedd nesaf, ar ben yr oddeutu £12 miliwn a gaiff ei wario bob blwyddyn yng Nghymru. Aeth peth ohono i Ganolfan Anna Freud i ddatblygu strategaethau ar gyfer diogelwch a llesiant i ddysgwyr ym mlwyddyn 5 a blwyddyn 7, i roi gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth iddynt am iechyd meddwl a sut i gael gafael ar gymorth, ac fe'i lluniwyd i annog pobl ifanc i ofyn am gymorth pan fydd ei angen arnynt. Ond hefyd cyhoeddais gyllid i ddatblygu'r broses o gyflwyno ymarfer sy'n ystyriol o drawma mewn ysgolion ledled Cymru, yn seiliedig ar y gwaith a welais yn Llangefni, ac mae'r cyllid hwnnw'n mynd i gael ei sianelu drwy Dysgu. A hoffwn wneud apêl i'r Llywodraeth newydd fy mod i'n gobeithio'n fawr y bydd y mentrau hynny'n parhau. Rwy'n credu bod consensws ynglŷn â chefnogi ein pobl ifanc gydag ymarfer perthynol cryf, ac rwy'n gobeithio, beth bynnag y bo'r gwahaniaethau gwleidyddol, y gallwn ni i gyd gytuno ar hynny. Diolch yn fawr.

16:15

Hoffwn ddiolch i Beca Brown am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch hefyd i Sarah Cooper-Lesadd am ei chyfraniad ac am rannu hynny gyda ni.

Fel yr Aelod, rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i siarad am brofiad unigryw pobl sydd wedi'u mabwysiadu. Rwyf wedi bod yn siarad ag eiriolwr o Gaerdydd ar hyn, James Evans, ac fe'i mabwysiadwyd o ofal maeth yn 2004, a chyda'i ganiatâd, hoffwn adrodd rhan fach o'i stori. Felly, ar ôl i'w orchymyn mabwysiadu gael ei ganiatáu, cafodd James a'i rieni eu hanfon ymaith gan yr awdurdod lleol a'r asiantaeth fabwysiadu ranbarthol heb gymorth ac roedd disgwyl iddynt ymdopi ar eu pen eu hunain. Fel pe bai mabwysiadu, i blentyn dwy oed, yn rhyw fath o ddiweddglo stori dylwyth teg hapus y byddech chi'n ei weld mewn ffilm Disney, ac am fod ganddo amgylchedd cariadus a gofalgar nawr, cartref am byth, y byddai'n debyg i bob plentyn arall, ond y gwrthwyneb oedd yn wir mewn gwirionedd. Cafodd ei fagu'n blentyn gorofalus, wedi'i drawmateiddio, yn boddi yn y trawma a ddioddefodd ac a welodd yn ei flynyddoedd cynnar, yn ymdrechu'n barhaus i oroesi. Heb i'w drawma gael ei gydnabod, nid oedd ef na'i rieni'n gallu cael mynediad at y gefnogaeth yr oeddent ei hangen. Mae wedi cael ei adael i ymladd ac eirioli ar y mater hwn byth ers hynny.

Os ydym o ddifrif ynglŷn â chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial ac i ffynnu, rhaid inni gydnabod y trawma y maent wedi'i brofi yn ogystal â'u cefnogi. Heb y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth, gall plentyn mabwysiedig gael ei adael gyda thrawma, iechyd meddwl gwael a phroblemau ymddygiad. Ac mae hyn yn annheg, nid yn unig ar y person ifanc mabwysiedig, ond ar eu teuluoedd mabwysiadol hefyd. Yr hyn sydd angen inni ei weld yw cydnabyddiaeth o drawma blaenorol a'r gefnogaeth sy'n mynd ochr yn ochr â hynny, a dyna pam fy mod yn cefnogi cynnig yr Aelod yn llwyr heddiw. Ar ben hyn, hoffwn weld statws unigryw pobl fabwysiedig yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol, fel y gellir rhoi'r gefnogaeth ar waith.

Ni allaf weld ffordd well o orffen fy nghyfraniad na chyda geiriau James ei hun:

'Ni ddylai cefnogaeth fod yn rhywbeth y dylai rhieni mabwysiadol, gofalwyr sy'n berthnasau a gwarcheidwaid arbennig orfod ymladd drosto; dylai fod yno o'r dechrau. Yn union fel na allwch ddisgwyl i flodyn flodeuo heb ddŵr, ni allwch ddisgwyl i blentyn mabwysiedig ffynnu heb gefnogaeth therapiwtig barhaus wrth iddynt dyfu i fyny. Mae'r cariad y mae teulu mabwysiadol yn ei gynnig fel y pridd y caiff blodyn ei blannu ynddo, ond heb y dŵr i'w helpu i dyfu, nid yw'r cariad yn ddigon i helpu'r plentyn i dyfu.'

Diolch.

Rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r cynnig hwn yma heddiw, ac yn sicr yn ddiolchgar i'r Aelod am ei gyflwyno, ac i bawb sydd wedi siarad mor bwerus hyd yma yn y lle hwn.

Rydym eisoes wedi clywed sut y gall trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith ddofn ar fywydau pobl, ac rydym eisoes yn ymwybodol, wrth gwrs, nad drwy eu plentyndod yn unig y bydd hynny'n digwydd, ond gallant siapio canlyniadau addysgol, iechyd meddwl, perthnasoedd, cyflogaeth a lles corfforol ymhell i mewn i'w bywydau fel oedolion. Ac wrth gwrs, mae'n bwysig iawn fod ymyrraeth gynnar yn digwydd, ond mae angen inni sicrhau hefyd fod mynediad at y gefnogaeth gywir yn cael ei chynnig i bobl sy'n datgelu, neu sy'n ail-fyw profiadau trawmatig yn ddiweddarach fel oedolion hefyd.

Clywsom gan yr Aelod a gyflwynodd y cynnig y gall gymryd 26 mlynedd ar gyfartaledd cyn i ddioddefwyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod ddatgelu'r gamdriniaeth honno. Ar y cam hwnnw, maent ymhell i mewn i'w bywydau fel oedolyn ac mae angen cymorth priodol arnynt drwy hynny. Yn y cyd-destun hwnnw, yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o dreulio amser gyda Cerrig Camu, sydd wedi'u lleoli yn fy etholaeth i, Fflint Wrecsam, elusen wych sy'n cefnogi oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol yn ystod eu plentyndod, yn ogystal â chefnogi eu teuluoedd, eu gofalwyr a'u ffrindiau ehangach. Roedd gweld eu gwaith yn uniongyrchol yn atgoffa'n bwerus, er bod polisi'n bwysig, fod yn rhaid ei wneud yn iawn. Yn aml, elusennau a sefydliadau cymunedol sy'n darparu'r gefnogaeth y mae pobl yn dibynnu arni o ddydd i ddydd. Er eu bod wedi'u comisiynu gan gyrff cyhoeddus o bosibl, boed yn awdurdodau iechyd neu awdurdodau lleol, yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig fod y sefydliadau hynny'n bodoli oddi allan i Lywodraeth ar un ystyr, oherwydd materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth a all ddigwydd ar adegau, gyda gwasanaethau sydd wedi bodoli i bobl yn y gorffennol.

Y staff ymroddedig a'r cwnselwyr proffesiynol yn Cerrig Camu sy'n darparu amgylchedd a gwasanaethau diogel, gyda'r nod o ddiogelu a gwarchod iechyd da meddyliol a chorfforol pobl sydd wedi bod yn ddioddefwyr cam-drin rhywiol, ac yn arbennig drwy ddarparu ymyrraeth therapiwtig a chwnsela i unigolion ac mewn grwpiau. Gall y math hwnnw o gymorth cwnsela a chymorth therapiwtig wneud gwahaniaeth enfawr, nid yn unig drwy helpu unigolion yn y sefyllfa y maent ynddi heddiw, ond hefyd drwy atal heriau rhag dod yn fwy difrifol gan alw am wasanaethau cyhoeddus mwy dwys yn nes ymlaen—rhywbeth y cyfeiriwyd ato eisoes yn y lle hwn y prynhawn yma.

Ond Ddirprwy Lywydd, roedd un mater a gafodd ei ddwyn i fy sylw yr wythnos diwethaf yn sefyll allan mewn gwirionedd, sef eu bod, er gwaethaf y gwaith hanfodol a wnânt, yn gweithredu gydag ansicrwydd sylweddol am fod llawer o'u cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail flynyddol, ac mae angen i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny wybod bod y gwasanaethau hynny a'r gefnogaeth honno yno nid ar gyfer eleni yn unig, ond ar gyfer blynyddoedd i ddod hefyd. Mae cefnogaeth hirdymor yn gwbl angenrheidiol. Felly, ar hyn o bryd, bob blwyddyn, rhaid i'r sefydliad hwn, Cerrig Camu, ailymgeisio am gyllid heb unrhyw warant y bydd yn parhau. Yn aml, ni chaiff penderfyniadau eu cadarnhau tan ymhell i mewn i'r flwyddyn ariannol, gan ei gwneud hi'n anhygoel o anodd cynllunio gwasanaethau, cadw staff profiadol neu fuddsoddi ar gyfer y dyfodol.

Weinidog Cabinet, rwy'n derbyn bod cyllid cyhoeddus o dan bwysau, ond ni ddylai sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol sy'n ystyriol o drawma orfod treulio cymaint o amser yn poeni a fyddant yn dal i fodoli yn y flwyddyn ganlynol. Fel y dywedais, mae angen i'r bobl sydd angen y gefnogaeth honno wybod bod gwasanaethau yno yn y dyfodol hefyd. Felly, yn ymateb y Gweinidog Cabinet, tybed a fyddai'n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno trefniadau cyllido mwy hirdymor ar gyfer elusennau fel hyn, a chyllid aml-flwyddyn lle bo hynny'n briodol, ac a fyddai hynny'n darparu mwy o sefydlogrwydd, yn caniatáu i sefydliadau fel Cerrig Camu gynllunio ymlaen llaw, cadw cwnselwyr medrus a chanolbwyntio eu hamser ar gefnogi'r rhai sydd eu hangen, yn hytrach na gorfod gwneud ceisiadau'n barhaus am grantiau cyllid tymor byr.

Os ydym o ddifrif ynglŷn â chefnogi pobl sydd wedi mynd drwy brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â darparu'r gefnogaeth gynaliadwy honno i'r sefydliadau sy'n gwneud y gwaith hwn o ddydd i ddydd. Rwy'n sicr yn ddiolchgar i bawb yn Cerrig Camu am fy nghroesawu yr wythnos diwethaf ac am rannu eu profiadau. Mae eu hangerdd a'u hymroddiad yn glir iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr heriau a nodwyd ganddynt. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Diolch yn fawr iawn i chi, Beca, am ddod â'r mater yma o'n blaenau ni.

A diolch arbennig iawn i Sarah am rannu eich profiad yn ddewr iawn. Diolch yn fawr iawn. Roedd hynny'n bwysig iawn inni ei glywed.

Roeddwn i'n weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant am 25 mlynedd cyn i mi fynd i San Steffan ac yna i'r Senedd, a bydd fy nghofrestr buddiannau'n dangos bod fy ngŵr yn dal i fod yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant. Er gwaethaf y blynyddoedd hynny o brofiad, rwy'n parhau i ddysgu, ac i mi mae hynny mor bwysig.

Yn ystod fy amser ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fel yr oedd, daeth un peth yn hollol glir i mi: nad yw profiadau niweidiol plant yn digwydd yn annibynnol ar bob dim arall. Maent yn nifer helaeth o broblemau, ac mae'n rhaid inni geisio mynd i'r afael â'r rhain i atal profiadau niweidiol i blant.

Hoffwn ddechrau gyda rhywun yr effeithir arnynt. Fel y clywsom yn bwerus iawn am James, rwyf i am siarad am Mimi o sir Gâr. Cafodd ei mabwysiadu o Wlad Thai pan oedd yn fabi, ac mae hi'n ystyried bod trawma cynnar yn gysylltiedig â chael ei rhoi mewn gofal pan oedd yn fabi wedi siapio llawer o'r anawsterau a wynebodd yn ddiweddarach. Dywedodd hefyd fod siarad ag eraill â phrofiadau tebyg, drwy rwydweithiau cymorth, wedi ei helpu i wneud synnwyr o'r hyn y mae hi wedi bod drwyddo. Meddai

'Mae fy iechyd meddwl yn well na'r hyn ydoedd y llynedd, ond rwy'n dal i gael dyddiau lle rwy'n crio llawer, yn gorfeddwl pethau a heb unrhyw ysgogiad i wneud dim byd.'

Felly, rwy'n gobeithio y gallwn feddwl am yr hyn y gallwn ni ei wneud—wel, rydym wedi siarad am atal—a'n bod yn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod lle bynnag y gallwn. I mi, mae hynny'n golygu buddsoddi mewn teuluoedd yn gynnar, cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng, drwy wasanaethau blynyddoedd cynnar cryf, cymorth rhianta a mynd i'r afael â thlodi plant. Mae hefyd yn golygu ymgorffori hawliau plant ym mhob penderfyniad a wnawn. Y llynedd, fe ddatblygais i ac Aelodau eraill yn y Senedd ar y pryd, yn draws-sector, y Bil pob plentyn, a oedd yn ymwneud â sicrhau bod buddiannau plant yn cael lle blaenllaw ym mhob penderfyniad a wnawn.

Yn ail, mae angen inni ymateb yn well. Ni ddylai profiad niweidiol yn ystod plentyndod byth ddiffinio dyfodol rhywun. Dyna pam y mae rhaglenni fel Palix mor bwysig. Maent yn helpu oedolion i ddeall sut y mae trawma plentyndod wedi siapio eu meddyliau, eu hymddygiadau a'u perthnasoedd, ac rwyf wedi gweithio gyda'r rhaglen hon ac wedi gweld y canlyniadau. I lawer o gyfranogwyr, gall deall pam eu bod wedi teimlo neu ymateb mewn ffyrdd penodol fod yn gam cyntaf tuag at adferiad. Ond rhaid i'n sefydliadau ddod yn ystyriol o drawma hefyd, a buaswn yn dadlau bod angen i ni yn y Senedd ddod yn ystyriol o drawma. Mae angen i ni edrych ar hyfforddiant ystyriol o drawma ein hunain.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod pobl sydd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod oddeutu 20 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu carcharu na'r rhai sydd heb gael profiadau o'r fath. Ond fe allwn newid hyn. Dyna pam y dylem archwilio hyfforddiant sy'n ystyriol o drawma ar gyfer barnwyr ac ynadon a'r rhai sy'n gweithio yn ein system farnwrol. Mae Seland Newydd eisoes yn hyfforddi barnwyr mewn trawma, datblygiad plant a thrais teuluol. Y canlyniad yw bod penderfyniadau mwy gwybodus yn cael eu gwneud, mwy o ffocws ar adsefydlu a mwy o obaith o dorri'r cylch o aildroseddu. Mae hynny'n sicr yn ddull sy'n werth mynd ar ei drywydd yma yng Nghymru, ac yn un y gallwn ei wneud o fewn ein deddfwriaeth bresennol.

Yn olaf, mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn fusnes i bawb. Maent yn effeithio ar ein hysgolion, ein GIG, ein gwasanaethau tai a'n system gyfiawnder. Ni allwn newid gorffennol plentyn, ond gallwn newid y ffordd yr ymatebwn yn y dyfodol. Os ydym yn cael atal yn iawn, yn darparu'r gefnogaeth gywir ac yn adeiladu sefydliadau sy'n ystyriol o drawma, gallwn sicrhau nad yw profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn pennu dyfodol rhywun. Gadewch inni wneud hyn ar ran yr holl blant y gweithiais gyda nhw, yr holl blant y mae fy ngŵr yn parhau i weithio gyda nhw, yr holl blant ac oedolion yng Nghymru nawr sydd angen inni ddeall a gwrando arnynt. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Hoffwn ddiolch i'r Aelod Beca Brown am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, i Sarah am ei chyfraniad dewr, ac i bawb sydd wedi cyfrannu a gwneud pwyntiau hynod, hynod o bwysig. Mae'n amlwg o'r hyn rydym ni wedi ei glywed fod angen gwneud mwy i gydnabod effaith trawma yn ystod plentyndod. Mae'r profiadau erchyll hyn yn llunio bywydau unigolion ac yn cael effaith sylweddol ar eu bywyd o ddydd i ddydd. Ni ddylid byth diystyru neu anwybyddu unrhyw hanes o drawma ac mae'n hanfodol bod gan bobl y wybodaeth i ddeall yn llawn ei effaith a'r sgiliau i gefnogi dioddefwyr.

Dwi am ddefnyddio fy nghyfraniad i dynnu sylw at y gwaith blaengar sydd eisoes yn cael ei wneud yn fy etholaeth, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r Aelod Lynne Neagle am sôn am y gwaith gwych yn Ysgol Gyfun Llangefni a Chyngor Sir Ynys Môn. Diolch i arweiniad Cyngor Sir Ynys Môn, dwi'n hynod o falch o'i statws fel ynys sy'n wybodus o drawma.

Mae'n daith barhaus i wella a dysgu, gan gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion a chymunedau. Yn ymarferol, mae rhan o hyn yn golygu rhoi pwyslais ychwanegol ar gefnogi lles ein plant a'n pobl ifanc, a hynny, er enghraifft, drwy weithgareddau awyr agored; mae'n golygu sicrhau bod iaith gyffredin o ran deall trawma yn cael ei defnyddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn y sir; ac mae'n golygu grymuso cynghreiriau cymunedau lleol i gyfrannu i raglenni sy'n llunio dyfodol eu milltiroedd sgwâr. Ond yn fwy na dim, fel mae rheolwr gwasanaethau plant a theuluoedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi dweud,

'Nid yw bod yn gymuned sy'n ystyriol o drawma yn rhywbeth atodol, yn ymyriad neu yn rhywbeth y mae rhai yn ei wneud. Mae'n ddiwylliant.'

Dwi'n falch o'r gwaith sy'n digwydd ar draws Ynys Môn i feithrin y diwylliant hwnnw ar draws sefydliadau, ysgolion a gwasanaethau lleol er budd ein cymunedau a'n trigolion. Dwi'n annog cyrff cyhoeddus eraill i ddilyn arweiniad Cyngor Sir Ynys Môn ac yn edrych ymlaen at glywed y Gweinidog yn sôn am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Diolch.

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.

Member
Sioned Williams 16:29:47
Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i Beca Brown am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn ac i bawb sydd wedi rhannu profiadau personol mewn ffordd mor rymus, yn enwedig Sarah. Diolch yn fawr am dy ddewrder ac am rannu dy wybodaeth di gyda ni.

Rydyn ni wedi clywed profiadau etholwyr a hefyd wedi clywed am brofiad mewn Llywodraeth—rhywun fel Lynne, sydd wedi gweld pwysigrwydd y gwaith o fewn Llywodraeth sydd angen cael ei wneud ar hyn. Mae'n gwbl glir i fi o glywed y drafodaeth yma heddiw. Gaf i ddweud rhywbeth hefyd am safon y drafodaeth heddiw? Mae'r cyfraniadau i gyd wedi bod nid yn unig yn rymus, ond yn hyddysg a hefyd yn cynnig ac yn codi cwestiynau ymarferol a defnyddiol. Dyma beth ddylai trafodaeth a dadl yn y Senedd yma fod. 

Mae'n gwbl glir, fel y dywedais i, bod angen inni weithredu ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae corff mawr o dystiolaeth gyda ni o Gymru ac o weddill y byd, ac rydym ni wedi clywed sôn amdano fe y prynhawn yma. Mae'n dangos y cysylltiad cryf yna rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau gwael wedyn drwy gydol bywyd. Mae hynny ar draws y meysydd polisi—ar draws addysg, ar draws iechyd ac iechyd meddwl, ar draws tai, ar draws gwasanaethau plant, y system gyfiawnder, fel y soniodd Jane Dodds. Dwi'n cydnabod hefyd y gwaith sydd angen ei wneud o ran atal tlodi a hefyd y pwyslais sydd angen ei roi ar hawliau plant o ran polisi.

Mae atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod nid yn unig yn hanfodol i iechyd a lles unigolion, mae'n hanfodol i les ein cenedl. Mae'r gost o beidio â gwneud hynny yn effeithio nid yn unig ar yr unigolyn o ran y cyfle a gollwyd i fwynhau bywyd hir, hapus, iach a chynhyrchiol, ond hefyd yn cael ei deimlo gan deuluoedd, cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi. Amcangyfrifodd un astudiaeth a edrychodd ar gost ariannol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru a Lloegr fod y costau blynyddol bron yn £43 biliwn, sy'n cyfateb i oddeutu £1,800 y flwyddyn i bob aelwyd. Felly, yn ogystal â rhwymedigaeth foesol, mae rheidrwydd economaidd i weithredu ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Fel y dywedais o'r blaen, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Fe wyddom pa mor bwysig yw hyn i'n hiechyd corfforol a meddyliol a'n llesant a'n ffyniant yn y dyfodol. 

Ac ar ben hynny, rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r profiadau yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf a'r blynyddoedd cynnar. Felly, o ystyried hyn i gyd, mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu babanod a rhieni i ffurfio perthynas gadarnhaol â'i gilydd. Mae'n rhaid i'n plant fod yn ddiogel rhag niwed a theimlo'n ddiogel. Mae angen i ni greu amgylcheddau lle gall babanod a phlant ffynnu, gan osod sylfeini cadarn i'w helpu i gyflawni eu potensial, a meithrin eu gallu i ymdopi'n hyderus â heriau bywyd. Mae angen i hyn ddigwydd yn y cartref, yn y gymuned, yn ein lleoliadau gofal plant ac yn ein hysgolion. 

Mae llawer gormod o'n teuluoedd yn parhau i'w chael hi'n anodd. Dyna pam mae lleihau tlodi plant a gwella cyfleoedd bywyd i blant a theuluoedd yn ddau o'r prif flaenoriaethau i mi ac i'r Llywodraeth. Rŷn ni wedi ymrwymo i weithio bob dydd i wella bywydau pobl Cymru, ac mae hyn yn golygu mynd i'r afael â'r materion a'r rhwystrau sy'n gallu atal plant rhag cael y dechrau gorau mewn bywyd, pa un a yw hynny'n deillio o brofiadau o fewn y teulu, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, neu o anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol, fel tlodi a gwahaniaethu o bob math. 

Mae'n ddegawd bellach ers i'r astudiaeth gyntaf yng Nghymru ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael ei chyhoeddi. Arweiniodd canfyddiadau ysgytwol yr astudiaeth honno at alwad drawsbleidiol glir i weithredu, a dwi'n falch o glywed yr un alwad heddiw. Mae astudiaethau pellach wedi gwella ein dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. 

Mae'r berthynas rhwng profiad a chanlyniad yn gymhleth. Gall amrywiaeth eang o ffactorau ddylanwadu ar y risg o ddod i gysylltiad â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a phrofi canlyniadau gwael, gan gynnwys nodweddion personol amrywiol, hil, rhyw, statws economaidd-gymdeithasol, a elwir yn aml yn groestoriadedd. Gwyddom fod dosbarthiad profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar draws y gymdeithas yn anghyfartal, fel y mae eu heffaith. Fe wyddom fod croestoriadedd yn cynyddu'r tebygolrwydd o brofi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond gall hefyd weithredu fel ffactor sy'n eu gwaethygu. Felly, gall nodweddion personol unigolyn gynyddu'r risg a'r tebygolrwydd o brofi canlyniadau gwaeth sy'n gysylltiedig â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Er enghraifft, fe wyddom fod pobl o gymuned ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yn profi lefelau uwch o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae'r rhai sy'n profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod mewn mwy o berygl o anfantais economaidd-gymdeithasol pan fyddant yn oedolion. Dyna pam y mae'n bwysig fod ein dull yn gyfannol, yn drawslywodraethol ac yn amlddisgyblaethol. Rhaid i'n dull o fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod wedi'i osod yng nghyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangach bywyd teuluol a phenderfynyddion ehangach iechyd, yn hytrach na mabwysiadu ffocws cul ar ymddygiadau rhieni yn unig.

Mae ein rhaglenni yn y blynyddoedd cynnar, magu plant, cymorth i deuluoedd a gofal plant yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau ein bod yn adnabod ac yn atal profiadau niweidiol yn gynnar, yn cynnig cymorth amserol, ac yn adeiladu gwytnwch ymhlith plant a theuluoedd. Yn ganolog i'r gwaith hwn mae Hyb ACE Cymru, y ganolfan arbenigedd ar drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu unigolion, gwasanaethau a chymunedau sy'n ystyriol o drawma. O ganlyniad, mae'r hyb wedi bod yn allweddol i'n hymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Elfen sylfaenol o waith yr hyb yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ddulliau a gwasanaethau sy'n ystyriol o drawma, ac mae'r hyb yn llwyddo i wneud hynny drwy'r ymgyrch Amser i fod yn Garedig. Rwy'n falch iawn bod yr ymgyrch honno wedi cael ei chydnabod yn y cynnig ar gyfer y ddadl.

Mae'r cynnig yn galw ar y Llywodraeth i gryfhau a chefnogi dulliau sy'n ystyriol o drawma ar draws y sector cyhoeddus. Yn y bôn, mae dull sy'n ystyriol o drawma yn ymwneud â charedigrwydd, tosturi, empathi a dealltwriaeth, sef gofyn, fel y dywedodd Beca, 'Beth ddigwyddodd i chi?' yn hytrach na, 'Beth sy'n bod arnoch chi?' Gall hynny drawsnewid bywydau drwy helpu rhai sydd wedi'u heffeithio gan brofiadau newidiol a thrawma i wella, adennill ymddiriedaeth, a meithrin perthynas gadarnhaol ag eraill. Rwy'n siŵr y byddai Hyb ACE Cymru yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Chomisiwn y Senedd pe bai'n penderfynu dod yn sefydliad sy'n ystyriol o drawma.

Ond nid hyfforddiant yn unig sydd ei angen. Mae angen newid meddylfryd, diwylliant a ffyrdd o weithio. Mae dod yn ystyriol o drawma yn daith yn hytrach na chyrchfan. Mae'r hyb wedi datblygu ystod eang o adnoddau i helpu sefydliadau a gwasanaethau i ddod yn fwy ystyriol o drawma. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth sy'n addas i bawb, ynghyd â hyfforddiant mwy cynhwysfawr i’r rhai sy'n cefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan drawma. Mae hefyd wedi cynhyrchu pecyn cymorth i helpu sefydliadau i ddod yn ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae gan yr hyb brofiad helaeth o weithio gyda sefydliadau a gwasanaethau ar draws ystod eang o sectorau i'w cefnogi yn y gwaith hwn.

Ond rwy'n cydnabod—ac rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—pwysigrwydd mabwysiadu dull trawslywodraethol cyfannol, system gyfan o fynd i'r afael â thrallod a thrawma yn ystod plentyndod, wedi'i arwain gan y dystiolaeth ac arferion gorau. Mae ymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod eisoes wedi'i ymgorffori ym mholisïau, rhaglenni a strategaethau Llywodraeth Cymru, ond byddaf yn parhau i annog a gwthio am hyn wrth i bolisïau a rhaglenni newydd gael eu datblygu, ac i sicrhau bod arferion da yn cael eu parhau a'u rhannu. Diolch.

16:35

Galwaf ar y Llywydd i ymateb ar ran Comisiwn y Senedd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno a chefnogi'r ddadl hon ac wedi siarad ynddi. Mae'r cyfraniadau wedi bod yn galonogol ac fel y clywsom, wedi'u llywio'n aml gan brofiad personol, ac felly maent wedi bod yn anhunanol, yn hael ac yn ddewr iawn hefyd.

Mae'r ddadl hon yn ymdrin â mater o bwys mawr—effaith trawma, yn enwedig profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ar unigolion ac ar y gymdeithas gyfan ledled Cymru. Wrth gydnabod y materion pwysig hyn sydd wedi cael eu gosod gan yr Aelodau, mae'n glir bod trawma'n gallu achosi canlyniadau parhaol a phellgyrhaeddol. Mae'n effeithio ar brofiadau ar hyd oes, gan ddylanwadu ar iechyd, llesiant, cydberthnasau a chyfleoedd.

Mae'r dystiolaeth bod cyfran sylweddol o oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod yn pwysleisio maint y broblem hon a phwysigrwydd ymateb cynaliadwy ar y cyd. Rwy'n siŵr, yn ôl beth yr ydym wedi'i glywed heddiw, y bydd Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi wynebu o leiaf un yn ystod eu bywydau.

Mae'r cysylltiadau rhwng profiadau o'r fath a chanlyniadau gwael, fel y clywsom, boed mewn iechyd corfforol neu feddyliol neu mewn cyfleoedd bywyd ehangach, wedi'u sefydlu'n drwyadl, ond maent yn gymhleth. Ond nid effeithiau unigol neu ynysig yn unig sydd i'r rhain, maent hefyd yn faterion sy'n effeithio ar gymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a gwydnwch ein cymdeithas gyfan. Felly, mae'n galonogol fod camau i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod eisoes wedi'u hymgorffori ar draws ystod o feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae cyhoeddi pecyn cymorth cyfathrebu i bartneriaid Hyb Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod Cymru hefyd yn gam pellach sylweddol ymlaen. Mae'n cynnig cymorth ymarferol i gryfhau dulliau ystyriol o drawma ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus. Os cymerwn y rhain gyda'i gilydd, mae'r pwyntiau hyn yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gynyddol ac ymrwymiad cynyddol ledled Cymru i ymateb i drawma mewn ffordd fwy ystyriol a mwy tosturiol.

Gan droi at y materion a godwyd ym mhwynt 6 o'r cynnig, sy'n ymwneud yn benodol â Chomisiwn y Senedd, gadewch imi fynd i'r afael â phob un yn eu tro. Yn gyntaf, ar y cwestiwn o ddatblygu cynlluniau i fabwysiadu dulliau ystyriol o drawma ar draws gweithgareddau a gwasanaethau'r Senedd, mae'r Comisiwn yn cydnabod yn gryf pa mor bwysig yw ystyried sut y gall ein harferion gwaith, ein gwasanaethau a'n hymgysylltiad adlewyrchu dealltwriaeth o drawma. Mae'r Senedd nid yn unig yn gorff deddfwriaethol, mae hefyd yn sefydliad cyhoeddus, ac mae'n briodol ein bod yn ystyried sut y mae ein hamgylchedd yn cefnogi Aelodau, staff a'r rhai sy'n ymgysylltu â ni. Mae hyn yn cynnwys ein hystyriaeth o'n diwylliant sefydliadol, ein hygyrchedd a'r ffordd y lluniwn wasanaethau ac y darparwn y gwasanaethau hynny.

Yn ail, ar gynyddu ymwybyddiaeth o effaith trawma ymhlith Aelodau, ymhlith staff y Comisiwn ac ymhlith eraill sy'n ymgysylltu â'r Senedd, mae'r ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth hon yn seiliau hanfodol i ddull sy'n ystyriol o drawma. Mae gwerth amlwg mewn sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y Senedd ac ochr yn ochr â hi yn meddu ar yr wybodaeth a'r arweiniad priodol. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i ddysgu, ar gyfer hyfforddiant, rhannu arferion da, galluogi unigolion i ddeall yn well effaith bosibl trawma ar ein hymddygiad, ein cyfathrebu a'n hymgysylltiad.

Yn drydydd, ar hyrwyddo'r dulliau sy'n rhoi unigolion wrth wraidd gwasanaethau, mae'n bwysig sicrhau bod ein cyfathrebu, ein prosesau, ein hamgylcheddau ffisegol a digidol, yn hygyrch ac yn sensitif a'u bod yn gynhwysol. Mae dull sy'n ystyriol o drawma yn ein hannog i ystyried sut y mae unigolion yn profi'r gwasanaethau a ddarparwn, a'n bod yn ceisio osgoi trallod anfwriadol neu ail-drawmateiddio. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â'n hegwyddorion ehangach, sef urddas, parch a chynhwysiant, sy'n sail i waith y sefydliad hwn.

Wrth gefnogi'r dull hwn, mae'r Comisiwn yn cydnabod bod gwneud pobl yn wirioneddol ganolog i'r hyn a wnawn yn ei gwneud hi'n ofynnol inni wrando ac adlewyrchu profiad bywyd yn y ffordd y gweithiwn. Gwnawn hyn fwyfwy drwy ein hymgysylltiad â'n rhwydweithiau staff a chyda grwpiau cynrychioladol, sy'n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r ffordd y mae polisïau ac arferion yn cael eu profi mewn gwirionedd. Drwy siapio ein dulliau o weithredu mewn partneriaeth â'r lleisiau hynny, gallwn alinio a llunio ein gwasanaethau a'n hamgylcheddau'n well fel rhai sy'n gynhwysol, yn sensitif ac sy'n seiliedig ar brofiad go iawn, yn hytrach na gweithio ar ragdybiaeth.

Aelodau, mae'r materion sydd wedi cael eu codi gan y cynnig hwn yn tynnu sylw nid yn unig at yr heriau sy'n gysylltiedig â thrawma, ond hefyd at y cyfle a'r cyfrifoldeb sydd gan gyrff cyhoeddus i ymateb mewn modd meddylgar ac effeithiol. Bydd Comisiwn y Senedd yn parhau i fyfyrio ynghylch sut y gall ei rôl, ei gyfrifoldebau a'i wasanaethau gyfrannu at y nod hwn, a hynny mewn modd sy'n gyson â'i ddyletswyddau a'i adnoddau. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch, Lywydd. Galwaf ar Beca Brown i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr. Diolch o galon i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n gwybod nad yw'n bwnc hawdd ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhai sydd wedi teimlo eu bod yn gallu siarad. Diolch i'r rhai sydd wedi rhannu straeon etholwyr. Mae pob gair yn cyfrif. Diolch, Lynne, am eich holl waith ar y mater hwn. Diolch, Jane, am eich pwyntiau ynglŷn â charcharu.

Diolch, Mair, am dalu teyrnged ddyledus i Gyngor Sir Ynys Môn am eu gwaith gwych, a dwi'n falch o ddeall bod Cyngor Gwynedd hefyd ar yr un trywydd, a gobeithio y bydd y gwaith yna yn datblygu yn fuan iawn.

Ond a gaf i ddiolch yn arbennig iawn i Sarah am ei chyfraniad? Roedd hi mor ddewr yn rhannu stori mor bersonol. Rwy'n diolch iddi o waelod fy nghalon, a bydd ei geiriau'n aros gyda mi am amser hir iawn.

Diolch i'r Gweinidog ac i'r Llywydd am gyfleu dealltwriaeth mor ddofn o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac am nodi'r cyfleoedd a gyflwynir gan Hyb Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod Cymru, ac am rannu sut y gallwn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud.

Hoffwn ddweud wrth unrhyw ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth, neu unrhyw dristwch plentyndod, trallod a thrawma sy'n gwrando heddiw: mae'n ddrwg gennyf fod hyn wedi digwydd i chi, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n cael y gefnogaeth a'r gofal sydd ei angen arnoch.

Mae 'dysgu gwersi' yn ymadrodd sy'n gallu swnio mor wan, oni bai bod gwir fwriad yn dod i'w ganlyn. Ac ar gam-drin rhywiol, mae'n hanfodol fod y gwersi poenus a gynigiwyd gan adroddiad 'Clywch', a gyhoeddwyd yn 2004, a'r adroddiad 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder', a gyhoeddwyd y llynedd, yn cael eu dysgu'n llawn, yn drwyadl ac yn ystyrlon.

Plant aeth i'r ysgol. Plant oedd i fod yn saff.

Plant a aeth i'r ysgol. Plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel. Gadewch inni ymrwymo i greu Cymru lle gall pob plentyn gyfrif cymaint o brofiadau plentyndod cadarnhaol fel nad oes ganddynt ddigon o fysedd a bysedd traed, a bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn brin iawn. Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn cryfhau'r ymdrech i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a defnyddio hynny fel sylfaen ar gyfer y gwaith a wnawn yma yn y Senedd hon. Gadewch inni fod yn bentref cydweithredol i blant Cymru, a gadewch inni weithio gyda'n gilydd i'w wneud y gorau y gall fod. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Diolch i chi i gyd heddiw am y cyfraniadau tuag at y ddadl yma.

7. Dadl Reform UK: Cenedl Noddfa

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enwau Heledd Fychan, Lynne Neagle, Jane Dodds, Anthony Slaughter a Paul Rock.

Rŷn ni'n symud ymlaen i ddadl Reform UK, cenedl noddfa. Galwaf ar Dan Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9278 Dan Thomas

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r cynllun Cenedl Noddfa.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn yn fy enw i, ar ran Reform Cymru.

Y llynedd, canfu arolwg barn ITV fod 49 y cant o bobl yng Nghymru eisiau cael gwared ar y genedl noddfa, o'i gymharu â dim ond 34 y cant a oedd o blaid ei chadw. Ac yn dilyn etholiad mis Mai, mae gan y rhai sy'n gwrthwynebu cenedl noddfa lais cryf iawn yn y Senedd hon, ac mae gan Reform fandad cyfreithlon i gyflwyno'r cynnig hwn. Bydd cyfraniadau i'r ddadl hon gan Aelodau Reform yn amrywiol ac yn bersonol, oherwydd mae'r rhai sy'n gwrthwynebu'r polisi hwn yn gwneud hynny am resymau gwahanol ond yr un mor ddilys. Ac mae gwrthwynebwyr yn ceisio cwestiynu ein cymhellion, gan awgrymu ein bod ni'n ceisio rhannu neu ladd ar bobl. Ni allant ddeall bod gorfodi'r polisi cenedl noddfa ar bobl nad ydynt ei eisiau ynddo'i hun yn ymrannol.

Nawr, pe na bai gennym fewnfudo heb ei reoli, heb ei gynllunio, rwy'n credu y byddai'r wlad hon yn fwy unedig. Ni fydd Reform yn cael ei atal gan y labeli a roddir arnom gan ein gwrthwynebwyr—labeli sy'n cael eu lluchio o gwmpas yn rhy hawdd mewn trafodaethau gwleidyddol heddiw. Ac ni roddir pwysau arnom gan rai'n cerdded allan na phrotestiadau cyhoeddus gan y lleiafrif llafar. Tactegau ciwed ryddfrydol, anoddefgar yw'r rheini sy'n ceisio atal dadl.

Nawr, mae rhai o gefnogwyr y genedl noddfa wedi dweud wrthyf eu bod yn ystyried bod fy safbwyntiau'n sarhaus. Wel, er fy mod yn credu y dylai dadl fod yn sifil ac yn barchus, mewn democratiaeth sy'n hyrwyddo gwir ryddid i lefaru, mewn democratiaeth go iawn, nid oes gan neb hawl i beidio â chael ei ddigio. Ac rwy'n fy nghynnwys i fy hun yn hynny. Ac yn digwydd bod, caf fy nigio gan yr awgrym y dylai ymfudwyr anghyfreithlon elwa o bolisi ailsefydlu sy'n eu trin yn well na phobl sydd wedi byw yn y DU drwy gydol eu hoes. Ac i mi, mae'r polisi hwnnw'n hynod annheg, ond os oes unrhyw un yn y Siambr hon eisiau cefnogi polisi o'r fath, dyna yw eu hawl, ac fel seneddwr, fe fyddaf yn gwrando ar eu dadleuon. 

Nawr, mae'r gyfran fawr o bleidleiswyr sy'n gwrthwynebu'r genedl noddfa yn bobl sy'n haeddu cael eu clywed, ac fel y darganfu Llafur yn yr etholiad diwethaf, gwae ni os gwnawn eu hanwybyddu. Mae ganddynt bryderon gwirioneddol am y polisi a'i rôl yn croesawu a gwasgaru mewnfudwyr anghyfreithlon yn arbennig. Mae ganddynt bryderon ynghylch diogelwch. Ac yn ddealladwy, maent yn wyliadwrus o gynnig noddfa i ddynion ifanc sydd wedi cael eu smyglo i'r wlad hon, dynion nad ydym yn gwybod dim amdanynt, ac mewn llawer o achosion, dynion sy'n dod o wledydd sydd â hanes gwael iawn o ran hawliau menywod. O dan y genedl noddfa, mae'r dynion hyn yn byw mewn llety gwasgaru ledled Cymru, yn rhydd i fynd a dod a chrwydro'r strydoedd.

Nawr, yn ystod etholiad y Senedd, roedd gwleidyddion a oedd o blaid y genedl noddfa yn awyddus i awgrymu bod llai na 100 o geiswyr lloches yn byw mewn gwestai yng Nghymru. Ond yr hyn y gwnaethant ei gadw'n gudd yn gyfleus iawn oedd mai cyfanswm nifer y ceiswyr lloches sy'n cael cymorth yng Nghymru ym mis Mawrth 2026, ac yn ôl ymchwil y Senedd, yw 3,400 o ymfudwyr. Dyna'r cyfanswm pan fyddwn yn cynnwys mathau eraill o lety a chymorth sydd wedi'u labelu'n amwys fel llety wrth gefn neu lety gwasgaru, sy'n aml yn golygu tai amlfeddiannaeth.

Nawr, mae'r mwyafrif o'r 3,400 mewn darpariaethau llety ar draws Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, a dim ond lleiafrif bychan o'r rheini sy'n rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym i gyd yn gwybod bod y genedl noddfa'n bodoli cyn goresgyniad anghyfreithlon Wcráin, ac rydym o'r farn fod Llywodraeth y DU a Chymru yn iawn i gefnogi ffoaduriaid Wcráin. Fe ddaethant yma drwy lwybrau cyfreithiol. Menywod a phlant gyda dogfennaeth oeddent yn bennaf. Ond nid oedd angen inni fod yn genedl noddfa agored i bawb i gefnogi'r ffoaduriaid go iawn hynny. Gallem fod wedi cael rhaglen gymorth benodol ar eu cyfer.

Ceisiodd cefnogwyr y genedl noddfa gau dadl ar y pwnc drwy ein hatgoffa bod mewnfudo yn fater nad yw wedi'i ddatganoli, ac rydym yn deall hyn. Ond mae'r genedl noddfa yn ymateb uniongyrchol i fater mewnfudo, ac mae ei bodolaeth yn anfon neges i San Steffan fod Cymru'n barod i chwarae ei rhan ym mholisi mewnfudo anhrefnus a direolaeth y DU. Yn y bôn, mae Cymru'n dweud wrth Lundain ei bod hi'n iawn iddynt eu hanfon atom.

Nawr, mae hyn yn gorgyffwrdd â'r pryder gwirioneddol fod cenedl noddfa ddiamod, agored i bawb yn ffactor sy'n denu'r rhai sydd eisiau smyglo pobl i'r DU ac ymlaen i Gymru, ac mae'n anfon y neges, sut bynnag y cyrhaeddwch chi, yn gyfreithlon ai peidio, wedi eich gwahodd ai peidio, y cewch chi eich croesawu a chael cynnig noddfa. Ac yn wir, pan hyrwyddwyd y cysyniad o genedl noddfa gyntaf, dathlodd y Gweinidog Llafur ar y pryd y ffaith bod ceiswyr lloches a gyrhaeddodd drwy lwybrau dirybudd fel y'u gelwir yn cael croeso. Roedd 'dirybudd' yn ddisgrifiad diddorol, a byddai'r rhan fwyaf o bobl yn galw'r llwybrau hynny'n anghyfreithlon ac yn beryglus.

Mae gennym bryderon hefyd am gymhellion ymfudwyr anghyfreithlon, ac a yw'r rhai sy'n cyrraedd ar gychod bach yn geiswyr lloches go iawn. Pam y mae'r rhai sy'n honni eu bod yn geiswyr lloches yn pasio drwy sawl gwlad ddiogel i gyrraedd y DU? Yn sicr, os ydynt yn ffoi am eu bywydau, byddent yn hapus i aros yn y wlad ddiogel gyntaf y byddant yn ei chyrraedd. A ble mae'r rhai honedig orthrymedig—[Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

16:50

Diolch. Tybed a hoffai'r Aelod fyfyrio ar ddatganiad:

'Mae gan Barnet hanes balch o ddarparu noddfa i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth. Ein bwrdeistref ni oedd y fwrdeistref gyntaf yn Llundain i ailsefydlu ffoaduriaid o Affganistan ac rwy'n falch ein bod yn gallu cynnig cyfle i gyfanswm o bum teulu o Affganistan ailsefydlu yn Barnet. Rydym yn parhau i weithio gyda'r Llywodraeth a sefydliadau lleol i gynnig croeso cynnes i'r teuluoedd'.

'Rwy'n falch fod Barnet yn cynnal ein henw da fel bwrdeistref groesawgar, gyfeillgar i deuluoedd drwy gefnogi'r rhai mewn angen.'

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth gyn-arweinydd Cyngor Barnet, y Cynghorydd Dan Thomas, a pham y credwch chi ei fod yn anghywir?

Diolch am roi'r cyfle hwnnw i mi. Mae hynny'n profi, yn gyntaf oll, fy mod yn credu mewn lloches go iawn. A phan oeddwn i'n arweinydd y cyngor hwnnw, roedd y bobl yr oeddem yn eu croesawu yn fach o ran nifer—fel y dywedoch chi, pump—ac fe wnaethant helpu ein milwyr Prydeinig yn Affganistan. Roeddent yn siarad Saesneg. [Torri ar draws.] Roeddent yn siarad Saesneg. Roeddent yn barod i integreiddio. Roeddent yn ffoaduriaid go iawn. Roeddem wedi eu fetio. [Torri ar draws.] Lywydd—[Torri ar draws.] Lywydd—. Roeddem wedi eu fetio. [Torri ar draws.] Rwy'n esbonio. Roeddem wedi eu fetio, ac roedd eu nifer yn fach. Ac ers hynny, mae'r llifddorau wedi agor. Maent yn dod draw mewn cychod bach. Rydych chi'n cymharu dau beth cwbl wahanol. Ac rwy'n sefyll wrth hynny. Mae'n dangos fy mod i'n wleidydd rhesymol, ac rwy'n sefyll wrth hynny.

Nawr, o ble y daw'r dynion ifanc hyn? Maent yn dod o wledydd honedig orthrymedig, o wledydd y trydydd byd, ac maent yn dod o hyd i symiau mawr o arian i dalu masnachwyr pobl, yn wahanol i'r ceiswyr lloches a nodwyd gennych chi nawr. Ac os yw eu gwlad mor anniogel, pam y maent yn gadael eu gwragedd, eu plant a'u pobl hŷn ar eu pen eu hunain mewn mamwlad beryglus? Gofynnwyd i mi unwaith roi fy hun yn esgidiau rhywun sy'n ceisio cyrraedd y DU ar gwch bach. Ac atebais innau, pe bai Cymru byth yn profi rhyfel neu ormes creulon, y peth olaf y buaswn i'n ei wneud fel gŵr, tad, mab a brawd, yw gadael fy nheulu diamddiffyn ar eu pen eu hunain a theithio am filoedd o filltiroedd dros gyfnod o fisoedd i aros mewn tŷ amlfeddiannaeth mewn gwlad bell. Gadewch inni fod yn onest, bawb—nid yw'n dal dŵr. A yw'n wir fod y rhai sy'n cyrraedd mewn cychod yn ffoi rhag erledigaeth? Neu a ydynt, fel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei gredu, yn ymfudwyr economaidd sy'n ceisio osgoi'r broses fisa a fetio y mae ymfudwyr eraill wedi mynd drwyddi ers degawdau?

Yna mae'r pryder am dai. Mae gennym brinder tai yng Nghymru wedi'r cyfan, ac mae ein cymunedau sydd wedi'u gadael ar ôl yn iawn i ofyn pam ein bod ni'n cartrefu 3,400 o ymfudwyr pan fo pobl sydd wedi'u magu yng Nghymru ar restrau aros am dai.

Lywydd, mae'r genedl noddfa yn wahoddiad agored i bob pwrpas sy'n croesawu'r byd i Gymru, beth bynnag y bo'u cefndiroedd, eu cymhellion, eu sgiliau, neu eu cofnod troseddol. Ac mae'r polisi hwn yn rhoi'r rhai sy'n cyrraedd yn anghyfreithlon ar flaen y ciw. Nawr, mae Plaid Cymru yn honni mai hi yw plaid pobl Cymru, ond mae'r honiad hwnnw'n cael ei danseilio gan gynllun y genedl noddfa a'u parodrwydd i wario arian cyhoeddus dramor tra bod gennym y canlyniadau addysg a'r canlyniadau GIG gwaethaf yn y DU.

Mae angen inni roi diwedd ar y brolio rhinweddau, mae angen inni roi Cymru a'i phobl yn gyntaf, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.

16:55

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan, Lynne Neagle, Jane Dodds, Paul Rock, Anthony Slaughter

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cenedl noddfa yn ddull o gefnogi pobl sy'n ceisio lloches, gan gynnwys ffoaduriaid o Wcrain sy’n ffoi rhag rhyfel ymosodol anghyfreithlon Putin;

b) bod polisi mewnfudo, gan gynnwys lloches a phenderfyniadau ynghylch lleoli pobl a nifer y bobl a leolir yng Nghymru, wedi’i gadw yn ôl i Lywodraeth y DU; ac

c) bod gan Gymru hanes hir o groesawu pobl sy'n ffoi rhag trais neu erledigaeth gyda pharch a thosturi.

2. Yn gresynu at y drafodaeth a'r rhethreg sy'n ceisio troi mewnfudo a lloches yn fater sy’n rhannu pobl a chymunedau.

3. Yn penderfynu cynnal egwyddor undod rhyngwladol a chefnogi cymunedau diogel, unedig trwy weithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl sy'n ceisio noddfa i integreiddio a chyfrannu'n gadarnhaol i'n cenedl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Sioned Williams 16:58:12
Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality

Yn ffurfiol.

Cyn i mi ddweud rhagor, roeddwn eisiau dweud fy mod i'n cynnig y gwelliant ar y cyd y gwnaethom ei gyd-gyflwyno gyda'r lleisiau blaengar yn y Senedd, rwy'n falch o ddweud—gyda Phlaid Cymru, y Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Nawr, nid ymwneud â ffoaduriaid y mae'r ddadl hon mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud ag a yw Cymru'n dewis hyder neu ofn. Ychydig wythnosau yn ôl, wrth gwrs, fe siaradais yn y Siambr. Mae wedi cael llawer o sylw. Siaradais am fy nhad a sut y cafodd groeso gan Bort Talbot, sut y cafodd groeso gan Gaerdydd, sut y cafodd groeso gan Ben-y-bont ar Ogwr. Ac rwy'n falch iawn o'r ffaith fy mod i bellach yn cael cynrychioli Caerdydd Ffynnon Taf, a'r bobl anhygoel a wnaeth fy magu wrth gwrs, ac mae rhai ohonynt yma heddiw.

Oherwydd heddiw rydym yn dadlau mewn gwirionedd am y math o Gymru rydym ni'n dewis bod. Rwy'n meddwl yn ôl i ddechrau'r 1990au, pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cathays, a ffoaduriaid yn cyrraedd o wledydd wedi'u rhwygo gan ryfel. Roeddent yn dod atom yn blant. Roeddent yn cario llawer o drawma, ansicrwydd a phrofiadau na allai'r rhan fwyaf ohonom mo'u dychmygu byth. Ar y pwynt hwnnw, nid oedd gennym y math o gymorth sy'n bodoli heddiw, ond roedd gennym rywbeth arall. Roedd gennym ddealltwriaeth reddfol. Drwy glwb iaith syml, helpodd gwirfoddolwyr fel fi lawer o bobl i ddysgu Saesneg, i ddod o hyd i'w traed ac i ddechrau teimlo fel pe baent yn perthyn. Yr oedran hwnnw hyd yn oed, roeddem yn deall rhywbeth llawer symlach. Roedd y rhain yn bobl agored i niwed yma yng Nghymru a oedd angen ein help. Oherwydd nid yw'r reddf honno o undod ac o dosturi yn newydd. Mae'n rhan o hanes Cymru, o'n gwead. Fe wnaethom groesawu faciwîs yn ystod yr ail ryfel byd. Fe wnaethom gynnig lloches i'r rhai a oedd yn ffoi rhag rhyfel cartref Sbaen. A'n gwasanaeth iechyd gwladol, a anwyd o Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a gweledigaeth Aneurin Bevan—system wedi'i hadeiladu ar y syniad fod pawb yn cyfrannu a bod pawb yn cael gofal—nid oes dim sy'n fwy Cymreig na hynny. Ac eto heddiw—heddiw—mae gennym Reform a fyddai am i ni gredu ei fod yn rhywbeth gwahanol iawn mewn gwirionedd, fod y genedl noddfa rywsut yn gyfrifol am bwysau ar ein GIG, am brinder tai, am ansicrwydd yn ein cymunedau. Nid yw hynny'n wir. Nid tystiolaeth yw hynny—creu bychod dihangol ydyw.

Felly, gadewch inni fod yn glir ynglŷn â beth yw'r polisi mewn gwirionedd. Nawr, rydych chi'n iawn, nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu pwy sy'n dod i'r wlad. Nid yw'n rheoli'r ffiniau. Nid yw'n rhoi lloches. Oherwydd San Steffan sy'n gwneud y penderfyniadau hynny, wrth gwrs. Ond mae'r genedl noddfa yn dechrau ar ôl i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud. Mae'n gofyn cwestiwn syml iawn: pan fydd pobl eisoes yma, yn gyfreithiol erbyn hynny, boed yn deuluoedd o Wcráin sy'n dianc rhag rhyfel, yn deuluoedd o Affganistan a fu'n sefyll ochr yn ochr â lluoedd Prydain, neu'n deuluoedd o Syria sy'n ffoi rhag rhyfel cartref, mae'n gofyn a ydym ni'n eu helpu i ailadeiladu ac i gyfrannu, neu a ydym ni'n ei gwneud hi'n anos iddynt deimlo eu bod yn perthyn?

Nawr, nid elusen yw integreiddio, ond synnwyr cyffredin. Nid yw unigolyn sy'n dysgu Cymraeg neu Saesneg, yn dod o hyd i waith ac yn cyfrannu yn faich mewn gwirionedd. Maent yn ased llwyr. Felly, y cwestiwn go iawn yw hwn: a all Cymru fforddio methu integreiddio? Oherwydd mae allgáu yn costio arian i ni. Mae ynysu yn costio arian i ni. Mae integreiddio yn ei arbed mewn gwirionedd. Ac yng Nghymru, nid siarad yn unig am integreiddio a wnawn, rydym yn ei gyflawni. Felly, drwy raglenni fel cynllun WARD, rhaglen Grŵp Meddygon a Deintyddion Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru, rydym yn cefnogi meddygon a deintyddion sy'n ffoaduriaid i ailgymhwyso a gweithio yn ein GIG. Efallai mai'r meddyg rydych chi'n ei gefnogi heddiw fydd yr un sy'n eich trin chi yfory. Dyna sut y mae'r genedl noddfa yn gweithio'n ymarferol. Ac rydym eisoes yn gweld y cyfraniad hwnnw ar draws ein gwasanaeth iechyd, a llawer o feysydd eraill hefyd.

Ychydig cyn yr etholiad, cyfarfûm â Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd, BAPIO, sy'n cynrychioli meddygon nid yn unig o dras Indiaidd ond hefyd o dras rhyngwladol sy'n cynnal ein GIG bob dydd—pobl sydd wedi dewis byw yma, i wasanaethu ein cymunedau ac i ofalu am y bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Nid gwendid yw hynny mewn gwirionedd, dyna un o'n cryfderau mwyaf, y gallwn helpu teuluoedd Cymreig neu helpu'r rhai sydd hefyd yn chwilio am noddfa. Nawr, mae rhai pobl yn meddwl bod un peth yn digwydd ar draul y llall yma, ond nid yw'n wir. Nid oes unrhyw glaf yn cael ei drin yn gyflymach am fod rhywun yn cael ei amddifadu o gyfle i integreiddio. Nid oes unrhyw restr aros byth yn lleihau drwy wahardd rhywun. Nid bychod dihangol sy'n mynd i drwsio ein gwasanaethau cyhoeddus mewn gwirionedd. Oherwydd pan fyddwch chi'n annog ofn yn hytrach na thystiolaeth, rhaniadau yn hytrach nag atebion, nid arweinyddiaeth yw hynny. Ac ni ddylai Cymru byth ddod i arfer â'r math hwnnw o wleidyddiaeth. Oherwydd, yng Nghymru, roeddem yn deall rhywbeth yn gynnar iawn, ac yn llawer dyfnach. Mae ein cymunedau'n gryfach pan fydd pobl yn perthyn, yn fwy diogel pan fydd cymdogion yn adnabod ei gilydd, yn fwy ffyniannus pan fydd pawb yn gallu cyfrannu. Perthyn sy'n adeiladu cenhedloedd; nid yw rhaniadau erioed wedi gallu gwneud hynny.

Felly, gadewch inni fod yn glir: nid oes a wnelo'r ddadl hon â ffoaduriaid mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â ni. Mae'n ymwneud â ni. Pa fath o Gymru rydym ni'n dewis bod: Cymru sy'n llywodraethu gyda hyder, neu un sy'n cilio mewn ofn? Rwy'n gwybod pa Gymru rwy'n credu ynddi: Cymru sy'n ddigon tosturiol i berthyn, yn ddigon hyderus i integreiddio ac yn ddigon cryf i wrthod gwleidyddiaeth ofn. Cymru sy'n deall rhywbeth syml—ein bod ni'n edrych ar ôl ein gilydd. Dyna'r Gymru y byddaf i bob amser yn falch o'i galw'n gartref. [Cymeradwyaeth.]

17:00

Os gallwn dorri drwy'r rhethreg yn y Siambr hon heddiw, mae angen inni seilio'r ddadl hon mewn ffeithiau caled, nid mythau a chamwybodaeth lwyr. Gadewch inni edrych ar y niferoedd gwirioneddol. Mae'r rhaglen cenedl noddfa, y mae rhai yma eisiau ei darlunio fel rhyw faich enfawr, gormodol, mewn gwirionedd yn swm bychan—0.05 y cant—o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. A gadewch inni fod yn glir: mae tua 91 y cant o'r arian hwnnw'n mynd yn uniongyrchol i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll yn Wcráin—rhyfel, gyda llaw, sydd wedi para'n hwy na'r rhyfel byd cyntaf, ac ar wahân i'r bywydau Wcreinaidd, mae wedi hawlio hanner miliwn o filwyr Rwsia. Nid af i mewn i'r niferoedd o Wcráin. Mae Afffganistan wedi cael ei grybwyll. Rwy'n falch iawn o'r ffaith mai fi yw'r unig wleidydd o Gymru sydd wedi ymweld â'n milwyr yn Affganistan a siarad â'r cyfieithwyr a beryglodd eu bywydau yn diogelu milwyr Prydain, ac maent wedi dod yma i geisio diogelwch am fod y Taliban yn bobl arbennig o ddrwg.

Nid rheoli mewnfudo y mae'r rhaglen cenedl noddfa yn ei wneud, fel y cawsom ein hatgoffa. Nid yw'n penderfynu pwy sy'n dod i Gymru. Mae'r hyn y mae'n ei wneud yn ymarferol ac yn fater o synnwyr cyffredin. Mae'n cefnogi'r bobl sydd eisoes yma, gan eu helpu i ddysgu Saesneg—neu Gymraeg, wrth gwrs—i gael addysg, dod o hyd i swydd a thalu i mewn i'r system. Dyna beth rydym ei eisiau i bawb, onid e, ac eto rydym yn eistedd yma ac yn gwrando ar ddadleuon sy'n gwrth-ddweud eu hunain yn llwyr. Mae rhai'n mynnu bod pobl yn integreiddio, yna rydych chi'n gwrthwynebu'r union arfau sy'n gwneud i'r integreiddio hwnnw ddigwydd. Os ydych chi eisiau i bobl siarad Saesneg, peidiwch â phleidleisio yn erbyn gadael iddynt gael gwersi Saesneg. Os ydych chi eisiau i bobl weithio, peidiwch â gwrthwynebu eu cymorth cyflogaeth. Os ydych chi eisiau iddynt gyfrannu, pam ar y ddaear y byddech chi'n gwrthwynebu'r union fodd iddynt allu gwneud hynny? Mae unrhyw rethreg ymrannol heddiw yn cael ei weld am yr hyn ydyw: gwrth-ddweud pur, wedi'i adeiladu ar gamgyfleu a diffyg ystyriaeth lwyr o'r dystiolaeth.

Ond Lywydd, y tu hwnt i'r llinellau cyllideb, mae rhywbeth llawer dyfnach yn y fantol heddiw. Gadewch imi ddweud wrthych amdano. Gwrandewch os gwelwch yn dda, oherwydd mae'n stori am ein cenedl a phwy ydym ni fel pobl. Cefais fy magu ar ystad o dai cyngor 12 milltir o'r fan hon ym Mhenyrheol, ac yn y 1950au a'r 1960au, roedd fy stryd i'n gartref i bedwar teulu Pwylaidd, un Eidalaidd, un Gwyddelig a hyd yn oed teulu Cocni, a oedd yn gwisgo eu siacedi mam y perl pan fyddem yn cael carnifal neu'n dod at ein gilydd, fel yr arferent ei wneud yn y 1950au a'r 1960au. Nid oeddem yn gweld yr amrywiaeth honno fel bygythiad: dyna oedd gwead ein cymuned, dyna oedd bywyd cyffredin. Ac yn ein trefi a'n pentrefi, fel y soniwyd eisoes, y glowyr yn y 1930au, Jack Russia, a oedd yn byw ar draws y ffordd—gallwch ddyfalu ei fod yn aelod o'r blaid gomiwnyddol; Jack Roberts oedd ei enw go iawn—fe aeth i Sbaen i ymladd ffasgiaeth. Croesawyd plant o Wlad y Basg i Abertridwr yn y 1930au, meddai fy mam wrthyf, pan oeddent yn ffoi rhag yr un rhyfel, ac fel y dywedodd fy mam wrthyf, 'Fe wnaethom eu dilladu a'u bwydo ac nid oedd gennym ddwy geiniog i'w rhwbio gyda'i gilydd ein hunain, oherwydd Llywodraeth y dydd ar y pryd.'

Yn y 1970au, camodd ein pentref i'r adwy i gefnogi pobl y cychod o Fietnam, a phan gaeodd gwesty lleol a chlwb cymdeithasol yn yr 1980au, daeth y glowyr lleol at ei gilydd yn Senghenydd, gan adlewyrchu bywydau a chyfraniadau enfawr y bobl a wnaeth eu cartrefi yno, ac yn hytrach na'r 'Universal Hotel', fe'i gelwid yn 'The Ukrainian Club of Senghenydd'. Roedd fy nhad-cu yn arfer yfed yno. Newidiodd o, 'Beth am beint yn yr Uni?' i 'Beth am beint yn yr Uki?' gan mai dyna pa mor agos oedd y bobl hyn. Ac felly, y genedl noddfa, sef testun y ddadl hon, nid rhyw ddyfais fodern newydd yw hon—dyma pwy ydym ni.

Aeth fy nhad-cu i Ewrop i ymladd. Genhedlaeth yn ddiweddarach, aeth fy nhad i ryfel. Rwy'n mynd i Ewrop i gysylltu, i ddysgu, i rannu, ac yn wir, i fynd ar wyliau a mwynhau fy hun. Oherwydd rwy'n gweld fy hun nid yn unig fel Cymro balch, ond fel rhyngwladolwr Cymreig. Mae hyn yn rhywbeth a ddysgais yn gynnar iawn. Mae Cymru ar ei gorau—. Nid ydym byth yn edrych tuag at i mewn; rydym yn wynebu tuag at allan, yn hyderus yn ein hunaniaeth ein hunain, ac yn ddigon mawr i groesawu eraill. Felly, gadewch inni beidio ag esgus bod y ddadl hon a gafodd ei chyflwyno gan Reform heddiw yn fater o ddim ond llinell mewn cyllideb. Mae'n ddewis ynglŷn ag a ydym yn caniatáu camwybodaeth a naratifau cul, a gelyniaethus, mae arnaf ofn, i ddiffinio Cymru, neu a ydym yn ymfalchïo yn ein hanes ac yn cefnogi'r polisïau ymarferol, cymesur sy'n helpu pobl i integreiddio a ffynnu. Ni allwch honni bod integreiddio yn methu gan bleidleisio yn erbyn yr union bolisïau a luniwyd i wneud iddo weithio. Lywydd, gallaf weld bod fy amser ar ben. Fe wnaf orffen. Mae Cymru bob amser wedi bod ar ei gorau fel gwlad sy'n edrych allan, nid i mewn, cenedl sy'n adeiladu yn hytrach na rhannu, cenedl sy'n hyderus i estyn llaw yn hytrach na throi ein cefnau, ac rwy'n hynod o falch o hynny. [Cymeradwyaeth.]

17:10

Byddaf yn siarad o blaid y cynnig Reform. Rwy'n dechrau gyda stori wir o'r adeg pan oeddwn i'n gweithio fel athro llanw mewn ysgol yn ne Cymru. Un diwrnod, dywedodd y dirprwy bennaeth wrthyf fod ceisiwr lloches 16 oed—gadewch inni ei alw'n Andy; nid ei enw go iawn—o wlad Ffrangeg ei hiaith yn ymuno â'r ysgol, ac a allwn i ddysgu ychydig o Saesneg i Andy. Ar ôl tua wythnos o wersi Saesneg un i un, dywedwyd wrthyf fod yr heddlu wedi darganfod llun o gerdyn adnabod Andy ar ei ffôn a oedd yn dangos bod Andy'n 20 oed mewn gwirionedd. Roeddwn i wedi gwneud fy ngorau i helpu'r plentyn mewn angen honedig hwn, ac roeddwn i'n teimlo ei fod wedi manteisio ar fy ngharedigrwydd. Ac mae llawer yn y wlad hon yn teimlo bod pobl yn camfanteisio ar ein caredigrwydd. Wrth gwrs, nid wyf yn dweud bod pob ceisiwr lloches yn gelwyddgi. Ond mae rhai. Eleni, adroddodd y BBC fod ymfudwyr yn honni ar gam eu bod wedi dioddef cam-drin domestig neu'n honni ar gam eu bod yn hoyw er mwyn hawlio lloches, ac maent yn llwyddo mewn rhai achosion.

Dywedodd Andy wrthyf ei fod wedi aros am dair wythnos yn Calais cyn dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon a dod i Gymru wedyn. Pam nad arhosodd Andy, siaradwr Ffrangeg, yn Ffrainc? Wel, mae'r Prif Weinidog ei hun wedi cydnabod bod cyfundrefn loches bresennol y DU yn ffactor sylweddol sy'n eu denu, ac yn fwy goddefgar na'r brif ffrwd Ewropeaidd. Mae polisi mewnfudo, wrth gwrs, wedi'i gadw'n ôl i San Steffan, ond mae gan Gymru ffin agored â Lloegr ac os yw Llywodraeth Cymru'n cyflwyno Cymru fel un sy'n unigryw o groesawgar drwy bolisïau fel y genedl noddfa, dylai o leiaf ystyried a yw hynny'n atgyfnerthu'r canfyddiad ein bod yn gyrchfan deniadol. Gadewch inni beidio â denu mwy o Andys.

Ond hyd yn oed yn achos ceiswyr lloches go iawn, buaswn yn dadlau y dylem flaenoriaethu ein dinasyddion ein hunain, oherwydd nid yw'n fater o, 'A ydym yn helpu'r ceiswyr lloches hyn ai peidio?' Rwy'n dadlau mai'r darlun ehangach, wedi'i fframio'n fwy cywir, yw hyn: dyma geisiwr lloches; dyma ddinesydd mewn angen. Gyda'n hadnoddau cyfyngedig, a ydym ni'n blaenoriaethu'r sawl nad yw'n ddinesydd neu'r dinesydd? Mae Reform yn dweud heb oedi, 'Rhowch flaenoriaeth i'r dinesydd.' Mae'n rhinweddol i flaenoriaethu'r dinesydd. Ni fyddai unrhyw berson rhesymol yn y Siambr, pe bai eu teulu mewn angen, yn rhoi eu bwyd i ddieithriaid tra bod eu plant eu hunain yn llwglyd. Nid oes unrhyw ddiwylliant na chrefydd fawr, hynafol neu fodern, yn y dwyrain neu'r gorllewin, yn dweud wrthych am helpu dieithryn tra bod eich plant eich hun yn llwglyd.

Gadewch imi roi ychydig o enghreifftiau. Mewn Hindŵaeth, mae'r cysyniad o dharma yn dweud bod dyletswydd gyntaf rhywun tuag at y rhai agosaf atoch chi. Roedd gan yr athronydd Rhufeinig Cicero syniad tebyg, mai'r cwlwm agosaf yw'r teulu, ac yna daw cyd-ddinasyddion. Dywedodd Sant Tomos o Acwin y dylai elusen fod yn fwy tuag at y rhai sydd wedi'u huno'n agosach â ni. Mae'r Testament Newydd yn dweud bod unrhyw un nad yw'n darparu ar gyfer eu perthnasau, ac yn enwedig ar gyfer eu cartref eu hunain, wedi gwadu'r ffydd. Felly, ie, carwch eich cymydog, ond gofalwch am eich pobl eich hun yn gyntaf.

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad? Mae'n ddrwg gennyf.

Mae'n ddrwg gennyf, ond hoffwn wneud cynnydd. Sori.

 Felly—

[Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gennyf, a ydych chi'n derbyn ymyriad neu beidio? 

Fe af i'r afael â'r pwynt hwnnw yn nes ymlaen.

Felly, mae'n rhinwedd darparu ar eich cyfer eich pobl eich hun yn gyntaf cyn helpu eraill. Os ydych chi'n mynd i frolio rhinwedd gyda phethau fel y genedl noddfa, o leiaf gwnewch yn siŵr bod eich rhinwedd yn y drefn gywir: rhowch ddinasyddion yn gyntaf.

Rydych chi'n poeni am dlodi plant—diddymwch y genedl noddfa a helpwch o leiaf rai o'n plant ein hunain a fydd yn mynd i'r gwely'n llwglyd heno. Yn ôl fframwaith monitro strategaeth tlodi plant swyddogol Llywodraeth Cymru, yn y cyfnod ariannol rhwng 2022 a 2024, roedd 9 y cant o blant yng Nghymru, tua 50,000 o blant, yn byw mewn amddifadedd materol, sy'n golygu na all eu teuluoedd fforddio hanfodion bob dydd sylfaenol, gan arwain yn uniongyrchol at fywydau wedi'u deifio gan newyn ac oerfel. Gallai'r miliynau o bunnoedd a werir ar y genedl noddfa helpu o leiaf rai o'n plant mewn angen ni ein hunain.

Wrth gwrs, rydych chi'n dal i fod yn rhydd fel unigolion i helpu ffoaduriaid gyda'ch arian eich hun, ac yn nameg y Samariad Trugarog, roedd Iesu'n siarad am unigolion, nid am y wladwriaeth. Ond mae'r ddadl hon yn ymwneud ag arian trethdalwyr. I annerch yr eliffant yn yr ystafell, efallai y byddech chi'n dweud wrthyf, 'Ond, Josh, rydych chi'n fewnfudwr.' Gadewch imi fod yn glir: rwy'n ddinesydd yn gyntaf, yn fewnfudwr yn ail. Fel dinesydd, rwyf eisiau'r hyn sydd orau i'r wlad hon, ac mae rhoi dinasyddion yn gyntaf o fudd i'r wlad hon. Dyna pam y mae'r mewnfudwr hwn, sydd bellach yn ddinesydd, yn cefnogi cynnig Reform i ddiddymu'r genedl noddfa, am mai gwir rinwedd yw gofalu am eich dinasyddion eich hun yn gyntaf. Diolch.

17:15

Rwyf am ddechrau o safbwynt o ddifrifoldeb a chyfrifoldeb. Mae Cymru yn, ac wedi bod erioed, yn genedl groesawgar i bobl fel y rhai a welsom o Wcráin, a dylem fod yn falch o hynny. Rydym yn sefyll gydag Wcreiniaid a oedd angen help, ac nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag a ddylai Cymru helpu Wcreiniaid sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth; fe ddylem, ac fe wnawn. Y cwestiwn go iawn yw a yw'r gefnogaeth honno'n galw am fframwaith cenedl noddfa parhaol, trosfwaol. Nid ydym yn credu ei bod. Er tegwch, mae gan y cyhoedd hawl i gwestiynu sut y mae eu harian yn cael ei wario, yn enwedig os yw'n cael ei wario ar y rhai a gyrhaeddodd yma'n anghyfreithlon, gan nad yw'n swyddogaeth ddatganoledig wrth gwrs. Rhaid inni beidio ag anghofio y gellir darparu cymorth ymarferol i'r rhai sydd ei angen drwy wasanaethau cyhoeddus presennol, awdurdodau lleol a rhaglenni wedi'u targedu, heb gynnal strategaeth ar wahân sy'n cwmpasu maes polisi nad yw wedi ei ddatganoli.

Fel cyn-arweinydd, fe wneuthum innau hefyd groesawu cyfieithwyr o Affganistan i sir Fynwy. Roedd y rhain yn bobl a ymladdodd ochr yn ochr â fy mab yn Affganistan, ac roedd hi'n iawn ac yn briodol ein bod ni'n cynnig noddfa iddynt yn sir Fynwy, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny. Mae rhai wedi dadlau bod y cynllun hwn yn hanfodol ar gyfer integreiddio, ond nid yw'r dystiolaeth yn cefnogi'r honiad hwnnw. Lloegr, heb gynllun trosfwaol tebyg, sy'n cartrefu'r mwyafrif helaeth o geiswyr lloches y DU—tua 88 y cant o'r cyfanswm—heb strwythur tebyg i'r un sydd gennym ni yma. Felly, gallwn fod yn dosturiol a chefnogol heb bolisi cenedl noddfa. Mewn gwirionedd, nid yw llawer o'r gwrthwynebiad i'r cynllun cenedl noddfa wedi'i gyfeirio at y gefnogaeth ymarferol a ddarperir i bobl gyfreithlon mewn angen; caiff ei gyfeirio at y cynllun trosfwaol ei hun.

Mae'r Ceidwadwyr yn credu y gall Cymru barhau i ddarparu cymorth lle mae ei angen, heb gynnal rhaglen sydd wedi dod yn fwyfwy ymrannol a dadleuol. Rydym yn cefnogi cymorth i Wcreiniaid sy'n ffoi rhag y rhyfel, ond nid ydym yn credu bod angen inni gadw rhaglen ehangach mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli sy'n targedu cymorth i'r rhai a gyrhaeddodd yma'n anghyfreithlon. Os yw Llywodraeth Cymru yn credu bod cefnogaeth i Wcreiniaid yn dangos llwyddiant y cynllun, nid yw bodolaeth—fel y clywsom—argyfwng Wcráin yn profi bod angen cynllun cenedl noddfa. Fel y clywsom, roedd cynllun y genedl noddfa yn gweithredu am fwy na thair blynedd cyn goresgyniad Wcráin. Ni chafodd ei greu mewn ymateb i'r argyfwng hwnnw, ac felly ni all y Llywodraeth ddefnyddio Wcráin yn unig fel prawf fod y fframwaith ehangach yn angenrheidiol.

Er nad ydym yn credu bod angen polisi cenedl noddfa, nid ydym yn rhannu ymagwedd Reform. Mae Reform wedi mynd â'r ddadl hon i eithafion, yn enwedig yn eu safiad tuag at Wcráin, megis eu cais i dynnu baner Wcráin i lawr. Ni fyddwn ni'n dilyn y llwybr hwnnw. Ni fyddwn yn cwestiynu cefnogaeth i Wcráin, ni fyddwn yn tanseilio'r undod hwnnw, ac ni fyddwn yn defnyddio rhethreg sy'n creu perygl o niweidio ein statws rhyngwladol. Mae yna safbwynt cyfrifol a chytbwys yma, a dyna lle rwyf i a'r Ceidwadwyr yn sefyll.

Felly, gadewch imi fod yn glir: rydym yn cefnogi helpu'r rhai mewn gwir angen, ac rydym yn cefnogi sefyll gydag Wcráin, ond nid ydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r fframwaith hwn i gynnig cefnogaeth, gan y gellir darparu cymorth drwy fesurau ymarferol a mecanweithiau presennol, yn hytrach na thrwy strategaeth drosfwaol annibynnol, sef y genedl noddfa. Gall Cymru barhau i helpu'r rhai mewn gwir angen heb gadw fframwaith cenedl noddfa parhaol, ac am y rhesymau hynny, rydym yn cefnogi diddymu cynllun y genedl noddfa, gan barhau i sefyll yn gadarn gydag Wcráin ac eraill sydd fwyaf o angen ein cymorth. Diolch.

17:20

Lywydd, os gall yr Aelodau gofio'n ôl i 2011, efallai y byddant yn cofio sut y lledaenodd y gwanwyn Arabaidd ar draws gogledd Affrica a chyrraedd Libya yn y pen draw. Yn y diwedd, fe wnaeth 435,000 o bobl ffoi o'u cartrefi yn ystod y gwrthdaro hwnnw. Gwyddom fod tua 21,500 o bobl wedi cael eu lladd ynddo. Cafwyd ymgyrch ragorol gan Swyddfa Dramor a Chymanwlad Prydain—ymgyrch wych—a lansiwyd i achub dinasyddion a oedd yn gaeth yn Libya, ac roedd y dinasyddion hynny'n cynnwys gweithiwr dur o ogledd Cymru, a oedd wedi'i leoli mewn cyfleuster arbennig o fregus yn yr anialwch.

Roedd wedi bod yn weithiwr dur yn Shotton ac fel llawer o bobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru, cafodd drafferth dod o hyd i waith tebyg ar ôl i fwy na 8,000 o bobl golli eu gwaith mewn un diwrnod yng ngwaith dur Shotton. Felly, fe wnaeth llawer ohonynt eu ffordd dramor i ddod o hyd i waith. Cyrhaeddodd y dyn hwn Libya, ac roedd wedi bod yn hyfforddi prentisiaid yno—prentisiaid o Libya ei hun, o Chad, o Irac, o'r Aifft ac o wledydd pellach. Roedd hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r turnau trwm yn y cyfleuster hwnnw. Ac wrth i wrthryfelwyr ddynesu ac wrth i filisia a lluoedd arfog Gaddafi wthio'n ôl yn erbyn y gwrthryfel, daeth yn amlwg iawn fod gwladolion tramor mewn perygl o gael eu lladd.

Daeth y cyfleuster yr oedd y dyn wedi'i leoli ynddo yn fater o bwys mawr i Lywodraeth y DU yn Libya oherwydd gwerth y cronfeydd olew yno. Roedd cyswllt â'r cyfleuster wedi cael ei golli ac nid oedd modd cysylltu â'r dynion o Brydain am sawl diwrnod. Ond gwrthododd yr un o Gymru adael y safle pan ddechreuodd eraill ffoi. Gwrthododd adael y bobl yr oedd wedi'u hyfforddi: ei ffrindiau, pobl nad oedd ganddynt Lywodraethau a fyddai'n eu hachub, pobl a fyddai'n debygol o farw yn nwylo'r gwrthryfelwyr neu'r milisia neu luoedd arfog Gaddafi. Gadawodd yr unigolyn hwnnw y safle yn y pen draw a gweld creulondeb ofnadwy wrth iddo wneud ei ffordd i Misrata ac yna ar draws Tripoli i'r maes awyr rhyngwladol, lle roedd yr awyren achub Brydeinig olaf yn aros ar y rhedfa am y dinasyddion Prydeinig olaf a oedd ar ôl yn Libya. Rwy'n gwybod hyn i gyd am mai'r unigolyn hwnnw oedd fy niweddar dad, ac fe arhosodd gyn hired ag y gallai am nad oedd eisiau gadael neb ar ôl i farw, beth bynnag eu hil neu eu cenedligrwydd.

Y tro cyntaf a'r unig dro imi weld fy nhad yn crio oedd pan ddywedodd wrthyf fod yn rhaid iddo ffarwelio, gyda rhai o'i gydweithwyr yn erfyn arno i'w helpu i ddianc o'r rhyfel a mynd yn ôl at eu teuluoedd, pan ddywedodd wrthyf yn fanwl iawn am y modd creulon y cafodd menywod a phlant eu curo, er iddo geisio ymyrryd, menywod a phlant a oedd ond yn ceisio ffoi o Libya a chael noddfa mewn unrhyw fan a fyddai'n eu derbyn. Fe wnaeth y Prydeinwyr ddianc, fe wnaeth yr Americanwyr ddianc, y rhai o Ganada hefyd, yr Almaenwyr, y Ffrancwyr, yr Eidalwyr, ond ni chlywodd fy nhad gan rai o'i ffrindiau byth wedyn, ac ni chlywodd eu teuluoedd ganddynt chwaith. Felly, rwy'n gofyn hyn: a allech chi edrych i mewn i lygaid ffrind y gwyddoch y gallai fod yn farw mewn oriau'n unig am nad oes lloches i'w derbyn, a dweud wrthynt nad ydych chi'n credu mewn noddfa? [Cymeradwyaeth.]

Rwy'n mynd i orfod addasu ychydig o'r hyn rwy'n ei ddweud am fod Lindsay a Shav wedi dweud llawer o'r pwyntiau yr oeddwn am eu dweud, ond rwy'n un sy'n gallu addasu ac fe weithiaf o gwmpas hynny. Yn gyntaf oll, rwyf y math o berson sy'n hoffi ceisio deall pam y mae sefyllfa fel y mae—gwyddonydd clinigol, os mynnwch—ac nid wyf yn dueddol o arfer unrhyw rethreg ymrannol o gwbl, rwy'n siŵr y byddwch chi'n hapus i wybod, oherwydd nid wyf yn bwriadu ei defnyddio.

O safbwynt syml, mae'r genedl noddfa, fel y clywsom, yn helpu ffoaduriaid sydd eisoes yma i ymgartrefu, ac o safbwynt haelionus, mae'n beth caredig a da, ac o safbwynt sinigaidd hyd yn oed, byddai'n lleihau'r perygl y bydd unrhyw broblemau'n digwydd. Ond mae ar gyfer ffoaduriaid sydd yma beth bynnag. Felly, mae'n gwestiwn o: pam y byddai pobl yn ei erbyn?

Yn gyntaf, rhaid inni gydnabod y ffaith bod llawer o bobl yn ei erbyn. A buaswn hyd yn oed yn dweud, ar yr ochr hon i'r cylch hefyd, fod gennym ffrindiau, teulu a hyd yn oed cydweithwyr yn y gwaith—wel, cydweithwyr yn dechnegol, oherwydd mae pawb ar yr ochr hon i'r cylch yn ei erbyn—ond hyd yn oed yn ein gwahanol weithleoedd, mae gennym gydweithwyr sy'n ei erbyn hefyd, pobl sydd fel arall yn bobl dda, pobl sydd â bwriadau da. Ac a ydynt y math o bobl ymosodol, pobl hiliol sy'n cefnogi Tommy Robinson neu wylwyr Voice of Wales? Na, pobl gyffredin ydynt, pobl garedig, pobl neis, pobl weddus, fel pobl yn rhengoedd Reform hefyd, rwy'n siŵr. John Clark. Y tro cyntaf imi ddod ar ei draws, fe gynigiodd ddod â gwydraid o ddŵr i mi. Nid dyna weithred dyn ffyrnig o hiliol. Ac mae llawer ohonoch chi'n bobl dda, oherwydd rwyf wedi dod i adnabod sawl un ohonoch. Felly y cwestiwn wedyn yw, 'Pam?'

Rwy'n falch eich bod wedi defnyddio adran ymchwil y Senedd, oherwydd fe wneuthum innau hefyd. A gofynnais bum cwestiwn iddynt, ac fe wneuthum eu dewis yn benodol am fy mod i'n meddwl na fyddai modd dadlau yn erbyn y dystiolaeth. A nawr eich bod chi wedi eu defnyddio hefyd, Mr Thomas, rwy'n falch. Gwych.

Felly, y cwestiwn cyntaf yw: faint o geiswyr lloches sydd yna yng Ngŵyr Abertawe? A daeth yr ateb yn ôl: 677, er nad yw 18 ohonynt mewn unrhyw lety, sydd i lawr o 844. Ac fel y dywedoch chi, yng Nghymru gyfan, mae 3,391. Yr ail gwestiwn a ofynnais oedd: faint ohonynt sy'n Wcreiniaid? A'r ateb yw: yn Abertawe, 353, sydd ychydig yn fwy na hanner. A gofynnais, er eich bod chi wedi ateb y cwestiwn hwnnw eisoes: faint sydd mewn gwestai? 'Dim' oedd yr ateb. Yr unig le lle maent mewn gwestai yw yng Nghaerdydd, ac mae'r nifer yn llai na 100, tua'r un nifer ag sydd yn y cylch yma wrth inni siarad, os ydych chi'n cynnwys y Llywydd a'r fainc yno.

Felly, gyda'r niferoedd yn gymharol fach ac yn gostwng, pam y byddai pobl mor ffyrnig yn ei erbyn, os ydym i gyd yn defnyddio'r un set ddata? A'r ateb yw, 'Nid ydym.' A dyna pam ein bod mor freintiedig i fod yn wleidyddion, oherwydd rydym yn canfasio ac rydym yn mynd o gwmpas y tai. Mae nifer nad yw'n ddibwys o bobl yn Abertawe yn erbyn y genedl noddfa, ac maent yn amrywio. Os nad oeddent y math o bobl a fyddai'n fy erlid i lawr llwybr yr ardd gan wneud imi ofni am fy niogelwch fy hun, byddwn yn gofyn iddynt ac yn ceisio rhesymu gyda nhw. A byddwn i'n dweud, 'Pam? Pam ydych chi'n erbyn y genedl noddfa?' Ac roeddent yn dweud, 'Mae'r niferoedd yn rhy uchel.' A'r hyn y dylwn fod wedi ei wneud, oherwydd fe wneuthum nodyn o gymaint o'r niferoedd hyn, ond ni chefais unrhyw gymeradwyaeth foesegol i gynnal astudiaeth a'i chyhoeddi, ond byddai wedi bod yn ddiddorol iawn, am fod y niferoedd yn amrywio'n helaeth, ac nid oedd yr un ohonynt yn gywir. Yr uchaf oedd 177,000 yn Abertawe yn unig, sef mwy na hanner nifer y bobl yn y ddinas ei hun. A byddai llawer o bobl yn sôn am westai lleol. Nid wyf am enwi'r gwestai rhag mynd i helynt, ond euthum i'r drafferth i ffonio'r gwestai i ddweud, 'A oes gennych chi ymfudwyr?' Oherwydd roeddent mor argyhoeddedig. A'r ateb oedd, 'Na, mae ar y cyfryngau cymdeithasol. Na, fe roddwn rywbeth allan yn y wasg.'

Ond yn y newyddion, rydych chi'n dod ar draws pobl sy'n pryderu, sy'n mynd i'r traeth i wylio rhag i ymfudwyr ddod i mewn, ac maent yn mynd â'u binocwlars er mwyn iddynt allu gwneud nodyn ohonynt, heb sylweddoli mai Lloegr sydd ar yr ochr draw i'r môr yn Abertawe. Ond nid oes neb wedi dod i'r lan. Felly, pam y mae hyn yn digwydd? Oherwydd pe baech chi'n credu'r holl niferoedd hyn, efallai y byddech chi'n newid eich meddwl. Felly os caf ddyfynnu 'Mae yna gelwyddau, mae yna gelwyddau noeth, ac yna mae Facebook.' Er, i ddyfynnu Richard Dawkins, 'Bydd pobl dda'n gwneud pethau da, bydd pobl ddrwg yn gwneud pethau drwg, ond er mwyn i bobl dda wneud pethau drwg, mae angen Facebook.' Dyna rywbeth arall. Oherwydd mae'n fwy o ymgyrch twyllwybodaeth nag o gamwybodaeth.

A'r pedwerydd cwestiwn a ofynnais oedd: a yw polisi'r genedl noddfa yn annog ymfudo anghyfreithlon? Mae yna lawer o gyfeiriadau yma. Yr ateb yw 'na'. Rwy'n brin o amser, felly fe nodaf y pumed yn gyflym: beth yw achos y twyllwybodaeth? Bla, bla, bla. Llawer iawn o gyfeiriadau. Rwsia. Peidiwch â chefnogi Rwsia. Ymladdwch dros ein gwlad, dros gymoedd Cymru, dros gymoedd Prydain—dros yr ochr hon hefyd—a gwrthodwch, pleidleisiwch yn erbyn y Bil hwn. Pleidleisiwch yn ei erbyn, os gwelwch yn dda. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

17:25

Fel Gwyn, rwyf mewn sefyllfa lle mae llawer o'r hyn y byddwn wedi bod am ei ddweud wedi'i ddweud, ond mae yna bethau i'w dweud o hyd. Mae'n amlwg yn siomedig tu hwnt ac yn destun cywilydd gweld cymunedau agored i niwed, pobl agored i niwed, a chydlyniant cymunedol ledled Cymru yn cael eu trin fel pêl-droed wleidyddol yn y Siambr hon. A'r hyn oedd yn ddiddorol yn sylwadau agoriadol arweinydd Reform ar y cynnig hwn ynghylch y genedl noddfa, oedd ei fod prin yn sôn am y genedl noddfa. Siaradodd am lwyth o bethau digyswllt. Gallaf eich sicrhau bod pobl yn y Siambr hon ar yr ochr flaengar, pobl sy'n gwylio, uwchben a gartref, yn gwybod beth yw pwrpas y ddadl hon. Rydym yn eich gweld, rydym yn eich clywed, ac rydym yn eich gwrthwynebu.

Mae pobl wedi sôn am ffeithiau. Mae yna ffeithiau ac emosiynau yn y drafodaeth hon. Fel y clywsom eisoes, mae goblygiadau cyllidebol y genedl noddfa yn fach, ond mae ei heffaith ar fywyd Cymru yn enfawr. Mae'n ymarferol ac yn fater o synnwyr cyffredin. Gan adeiladu ar waddol diwylliannol y lletygarwch cynnes Cymreig y cyfeiriwyd ato, mae'r genedl noddfa yn helpu pobl sydd â hawl i fod yma i integreiddio, i fod yn annibynnol a chyfrannu at gymdeithas Cymru. Mae'n helpu i baru sgiliau pobl sy'n dod i Gymru â'r bylchau economaidd a chyflogaeth sydd eisoes yn bodoli yma—11,000 o swyddi gwag ym maes adeiladu, 5,000 yn y GIG, 5,500 yn y sector gofal cymdeithasol hollbwysig.

Mae paru'r sgiliau a'r cyfleoedd hyn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo'r manteision o fod yn genedl noddfa. Mae'n osgoi gwastraffu arian cyhoeddus ar wasanaethau ar wahân drwy gydgrynhoi anghenion ceiswyr lloches. Mae'n galluogi cymdogaethau a chymunedau i adeiladu atebion a chydlyniant sy'n para ac o fudd i bawb. A gadewch inni fod yn glir, ni fydd cael gwared ar y genedl noddfa yn atal ceiswyr lloches rhag dod i'r DU neu ddod i Gymru. Mae awgrymu fel arall yn gamwybodaeth fwriadol ac ymrannol. Ac ar y pwynt hwn, fodd bynnag, mae angen inni gofio bod gan bawb sy'n ffoi rhag erledigaeth, rhyfel ac erchyllterau hawl i geisio lloches yn y DU o dan gyfraith ryngwladol.

Nid yw cael gwared ar y genedl noddfa yn gwneud unrhyw synnwyr. Nid yw dull mwy anhrefnus, llai cydgysylltiedig o fudd i neb. Byddai'n dileu'r strwythur sy'n caniatáu i bawb elwa o integreiddio, a byddai ei ddileu hefyd yn tanseilio cydlyniant cymunedol. Yn olaf, rwyf wedi cyffwrdd â hyn mewn cyfraniadau blaenorol, ond rhaid i Aelodau'r Senedd fod yn ymwybodol fod y sgwrs hon yn arwain at effeithiau a chanlyniadau. Mae geiriau'n bwysig. Pan fyddant yn ymrannol, maent yn gosod y cywair ar gyfer sgyrsiau ar hyd a lled y wlad, gan adael cymunedau'n ynysig ac yn ofnus.

Yn anffodus, mae llawr y Siambr yn cael ei ddefnyddio heddiw unwaith eto i wneud cymdeithas yn fwy pegynol ac i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na chreu dyfodol gwell i bobl Cymru. Nid ydym yma i fwydo eich algorithmau. Nid oes lle i gamwybodaeth yn y Siambr hon. Mae Plaid Werdd Cymru—Paul a minnau—yn falch o gyd-gyflwyno'r gwelliant hwn, ochr yn ochr â'r pleidiau blaengar eraill yn y Siambr. Mae'n dangos i bobl Cymru ein bod yn deall beth yw hanfod y ddadl hon. Mae'n darparu'r gobaith a'r gred y gall Cymru barhau i gefnogi cymunedau diogel ac unedig—Cymru y mae pawb ohonom ei heisiau, Cymru y byddwn yn ei chreu, ac y gallwn ei chreu; mae hi eisoes yno. Cymru lle nad oes gan rethreg wleidyddol ymrannol gartref a lle nad oes iddi wrandawiad mwyach. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

17:30

Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn gan Reform, ac rwy'n mynd i roi fy rhesymeg, yn ogystal â fy nghefndir fy hun, i amlinellu pam fy mod yn credu hynny. Roedd fy rhieni'n fewnfudwyr, rwy'n fewnfudwr. Cefais fy ngeni yn Baden, Aargau, y Swistir, ym 1964. Gadawodd fy rhieni dde'r Eidal, ac ynghyd â miloedd o Ewropeaid, fe wnaethant ymgartrefu yn y Swistir yn y 1960au cynnar wrth i'r Llywodraeth honno geisio gwella ei heconomi a'i seilwaith. Aeth fy rhieni yno fel mewnfudwyr economaidd, gan ddianc rhag tlodi de'r Eidal ar y pryd, yn y gobaith o ddod o hyd i gartref a gallu magu a dechrau teulu. Derbyniwyd yr holl bobl hyn i gantonau'r Swistir, ond roeddent yn ddarostyngedig i wiriadau ac amodau llym yn seiliedig ar ble y deuent ohono, yn ogystal â pha setiau sgiliau oedd ganddynt a sut y gallent gyfrannu ac integreiddio i'r cymunedau hynny. Rhoddwyd llyfr teulu i bob teulu, a oedd yn cynnwys enwau a manylion y teulu, yn ogystal â chrynodeb o amodau Llywodraeth y Swistir ar gyfer trigolion yno.

Yn dilyn y cyfnod hwnnw a'r mewnlifiad i Gymru gan lawer o Eidalwyr, gwnaeth fy rhieni gais i ddod i Gymru—unwaith eto, fel mudwyr economaidd—drwy'r llwybr arferol. Gwnaeth fy nhad gais, ac yna cafodd ei gyfweld gan yr heddlu a chynrychiolwyr y Swyddfa Gartref a chafodd gerdyn adnabod ym 1970, yn nodi'r amodau ar gyfer ei arhosiad ef a ninnau yn y wlad hon. Roedd yn ofynnol iddo gadw'r cerdyn hwn gydag ef bob amser a'i gyflwyno os a phan fyddai'r heddlu neu unrhyw un o swyddogion y Swyddfa Gartref yn gofyn amdano. Roedd fy rhieni hefyd yn ddarostyngedig i wiriadau a fetio pellach, ac roedd y ddau ohonynt yn croesawu hynny. Dangosai iddynt fod y wlad yr oeddent yn mynd iddi'n wlad ddiogel a oedd yn diogelu ei phobl. Ar ôl cyrraedd, ni chynigiwyd cartref nac unrhyw fudd-daliadau eraill i fy rhieni, dim lwfansau na chronfeydd i gymathu yn y gymdeithas, na dosbarthiadau iaith—ac nid oeddent yn disgwyl hynny chwaith. Roeddent wedi gwneud dewis clir i geisio bywyd gwell mewn man lle gallent gyfrannu a'i alw'n gartref. Roedd fy rhieni, yn enwedig fy nhad, yn credu mewn gwneud eu ffordd eu hunain yn y byd hwn. Roedd wedi colli ei dad a'i fam ei hun pan oedd yn 14 oed. O fod wedi gwneud penderfyniad i ddod yma, credai mai ef oedd yn gyfrifol yn y pen draw am ei weithredoedd ei hun ac am allu cynnal ei deulu ei hun.

Nawr, ymlaen at y prif bwynt yr hoffwn ei wneud: mae prosiect y genedl noddfa, er ei fod yn gymeradwy yn ei allu i nodi a chynorthwyo pobl sy'n ffoi rhag rhyfeloedd, wedi dod, rywsut, yn faner i groesawu unrhyw un sy'n dymuno dod i'r wlad. Mae'n ddraen ar yr adnoddau yr oedd fy rhieni ac eraill eisiau eu diogelu ac sy'n cael eu defnyddio a'u dargyfeirio oddi wrth y bobl a'r gwasanaethau mwyaf anghenus yn ein cymdeithas. Bydd y rhai sy'n amddiffyn y genedl noddfa yn nodi mai newid mân yw'r arian hwn. Ar y cyfrif diwethaf, roedd yn £64 miliwn, fel pe bai'n arian mân y daethoch o hyd iddo i lawr cefn y soffa. Ond mae pob punt a werir ar fewnfudwr anghyfreithlon sydd wedi dod yma i hawlio bywyd economaidd gwell, heb gyfrannu at economi Cymru, yn bunt na ellir ei gwario ar bobl oedrannus, eiddil, difreintiedig a digartref Cymru. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ond gyda phob parch, rwy'n mynd i barhau. Mae'n stori eithaf personol am fy rhieni, felly rwy'n mynd i barhau. Heb sôn am y gwasanaethau sydd angen mwy o gyllid ac sydd ar fin chwalu.

Rwy'n clywed pobl yn gweiddi 'hiliol' yn gyson, nad yw'n ddim mwy na sarhad bwriadol gyda'r bwriad o fygu trafodaeth briodol ynghylch yr hyn rwyf i a fy etholwyr yn nodi'n glir ei fod yn fater pwysig iddynt, wrth iddynt frwydro yn erbyn y costau cynyddol a gwasanaethau sy'n methu. A gadewch inni fod yn glir iawn, rwy'n gwybod beth yw hiliaeth. Ni sefais mewn llinell biced, ni chefais gyfarfod briffio arno, ni fynychais ddosbarth ar-lein. Fe'i dioddefais. Fe wnaeth fy rhieni ei dioddef. Gwyliais wrth i bobl gam-drin fy mam a fy nhad yn hiliol a'u gwawdio am na allent siarad Saesneg yn iawn. Rhaid inni ymbellhau oddi wrth hyn. Mae fy mhrofiad i yn brofiad bywyd, fel rwy'n siŵr ei fod i bobl eraill yn y Siambr hon. Roedd yn anghyfforddus, yn frawychus iawn weithiau, ond roedd fy rhieni bob amser yn fodlon ac yn ddiogel, a hynny am eu bod yn gwybod nad gwirio eu cefndir a'u haddasrwydd yn unig oedd diben yr holl fetio yr aethant drwyddo, ond er mwyn rhoi sicrwydd iddynt hwy ac i eraill yn y wlad hon nad oeddem wedi caniatáu i bobl nad oeddent i fod yma ddod i'r wlad hon.

Mae polisi'r genedl noddfa yn rhoi straen ar ein heconomi nad yw'n gynaliadwy, yn ogystal â rhoi pobl Cymru mewn perygl wrth i bobl a allai—a allai—fod eisiau gwneud niwed i ni, a throseddwyr na chawsant eu gwirio ailsefydlu yng Nghymru. Mae'r genedl noddfa wedi dod yn olau landin wedi'i adael ymlaen gan berchennog y tŷ. Yn anffodus, drwy ei hysbysebu mor gryf, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad bwriadol i fynd i lawr y grisiau a gadael drws y tŷ ar agor i bawb. Prif rwymedigaeth unrhyw wlad yw sicrhau lles a diogelwch ei phobl. Ar hyn o bryd, ni chredaf fod y Llywodraeth hon yn cyflawni'r rhwymedigaeth syml honno. Am y rheswm hwnnw, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn gan Reform heddiw. Diolch.

17:35

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.

Member
Sioned Williams 17:38:10
Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n gwrthod y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Nid oherwydd bod y Llywodraeth hon yn amharod i drafod mudo, integreiddio, ceisio lloches—ac mae ceisio lloches a mudo yn rhywbeth gwahanol—neu bwysau ar gymunedau. Rŷn ni'n fwy na pharod i wneud hynny. Ond oherwydd bod y cynnig yma yn ddim mwy na slogan yn lle trafodaeth ddifrifol ar adeg pan fo Cymru angen atebion ymarferol. Mae 'scrap the nation of sanctuary' yn swnio'n syml, ond dyw e ddim yn ateb o unrhyw fath. Mae'n dweud beth ddylai fynd, ond yn dweud dim byd am beth ddylai fod yna i gymunedau Cymru, i'r bobl sy'n chwilio am noddfa, i'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio i'w cefnogi.

Gadewch i fi ddweud yn glir beth mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud a beth dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gallu ei wneud. Achos mae'n amlwg i fi, o gyfraniadau Reform, nad ydych chi'n deall hynny o gwbl. Dŷn ni ddim yn gallu penderfynu ar statws mewnfudo unigolyn. Dŷn ni ddim yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau am geisiadau am loches. Dŷn ni ddim yn gallu penderfynu pwy sy'n cael ei leoli yma yng Nghymru, faint o bobl sy'n cael eu lleoli yma, nac i ba gymunedau y maen nhw'n mynd. Penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yw'r rheini, ac mae'r Aelodau gyferbyn yn gwybod hynny'n iawn. Ond mae'r cyhoedd yn haeddu gwybodaeth onest am hyn. Maen nhw'n haeddu'r gwirionedd.

Dyw'r cynnig yma ddim yn gallu newid y nifer o bobl sy'n cael eu lleoli yng Nghymru na ble maen nhw'n cael eu lleoli, ond fe fyddai'n diddymu'r cymorth sy'n galluogi pobl i integreiddio i ardal a diwylliant newydd, cymorth sy'n helpu pobl i ddysgu Cymraeg neu Saesneg, gwella eu sgiliau a'u gwneud yn fwy parod i weithio neu ddeall ein systemau ni a'r hyn sy'n ddisgwyliedig ohonyn nhw gan eu cymdogion. Byddai'n diddymu'r gwaith sy'n cael ei wneud i feithrin perthynas a helpu cymunedau i gyd-fyw yn well, gan fanteisio ar fuddiannau mudo. Byddai'n diddymu'r cymorth sy'n cael ei roi i weithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chymunedau i sicrhau bod unrhyw bwysau ar y gymuned yn cael eu deall ac yn cael sylw priodol. 

Dyw'r cynnig hwn ddim yn sôn am roi unrhyw beth arall yn ei le. Dyw cael gwared â chymorth ddim yn gwneud i'r heriau yma ddiflannu, ond mae'n eu gwneud yn llawer anoddach i'w rheoli ac yn llawer drutach i'w datrys yn nes ymlaen. Oherwydd heb y math yma o gynllun, byddai mwy o bobl yn debygol o fod yn ddigartref ac yn anghenus, byddai'r peryglon diogelu yn gallu cynyddu a'r gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod delio â phroblemau mwy cymhleth a mwy costus. Dyna'r gwir amdani. Nid arweinyddiaeth fyddai hynny, ond troi cefn ar gyfrifoldebau.

Oherwydd y cwestiwn go iawn yw hwn: pan fydd pobl yn cyrraedd Cymru, yn unol â phenderfyniad Llywodraeth y DU, sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb? A ydym yn cefnogi ymdrechion gan gymunedau a gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a rheoli unrhyw bwysau a meithrin cydlyniant, neu a ydym yn camu'n ôl ac yn caniatáu i broblemau waethygu? Mae'r Llywodraeth hon yn dewis gweithredu a gwneud gwahaniaeth.

Rwyf wedi ymweld â chymunedau, wedi siarad ag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a gweithwyr rheng flaen, ac wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl am y profiadau a ddaeth â nhw yma—profiadau o wrthdaro, o drawma, o golledion na all fawr neb ohonom ddechrau eu dychmygu. Ac rwyf hefyd wedi gweld beth sy'n digwydd pan fydd cymorth ar gael—pobl yn ailadeiladu eu bywydau, pobl yn dysgu, yn gweithio ac yn cyfrannu, pobl yn dod yn rhan o'u cymunedau.

Mae hyn eisoes yn digwydd. Nid rhywbeth damcaniaethol mohono. Mae plant sy'n cyrraedd Cymru yn dysgu Cymraeg, yn integreiddio yn eu cymunedau lleol, yn gwneud ffrindiau ac yn teimlo'n falch o fod yn rhan o'u cymunedau newydd. Mae Leyla, mam sengl a gyrhaeddodd i chwilio am noddfa, wedi datblygu My Sister's House, busnes bwyd Cwrdaidd llwyddiannus yng Nghaerdydd sy'n dod â phobl ynghyd ac yn cefnogi'r economi leol. Mae'r tîm sy'n gyfrifol am Coffi Kava yng Nghaerffili wedi creu caffi llewyrchus sy'n cyfuno diwylliannau, yn darparu swyddi ac yn cynnig lle croesawgar i'r gymuned ehangach, gan ddod â dylanwadau Cymreig ac Wcreinaidd ynghyd.

Mae'r rhain yn enghreifftiau go iawn a chyfredol o'r cyfraniad y mae pobl sy'n ceisio noddfa yn ei wneud ledled Cymru. A yw'r Aelodau ar feinciau Reform wedi ymweld ag unrhyw un o'r mentrau hyn yn eu cymunedau eu hunain neu wedi gweld effaith unrhyw un ohonynt? Nid yw'r rhain yn straeon neilltuol; maent yn ganlyniad i ddull cyson o weithredu sy'n cefnogi integreiddio ac yn cryfhau ein cymunedau. Mae'n golygu cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion, gwasanaethau iechyd, darparwyr cyngor a chymunedau i reoli newid yn dda. Mae'n golygu atal amddifadedd, lleihau pwysau a chynorthwyo pobl i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau.

Nid polisi ar gyfer un grŵp ar draul grŵp arall mo hwn; mae'n bolisi ar gyfer cymunedau cydlynus. Gwelwn hynny yn y ffordd y mae cymunedau ledled Cymru wedi ymateb, boed i bobl o Wcráin, Affganistan, Syria neu lefydd eraill. Pa fath o genedl ydym ni am fod—un sy'n ymateb gyda pharch, undod a chwarae teg, neu un sy'n troi ei chefn ac yn caniatáu i ymraniad ymledu?

A hoffwn fynd i’r afael â’r hyn a ddywedwyd am y ffydd Gristnogol, fel diacon fy hun. Mae Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, wedi dweud nad yw’r alwad i garu ein cymydog erioed wedi cael ei chyfyngu gan ffiniau, a bod croesawu’r dieithryn fel cymydog yn un o’n rhwymedigaethau Cristnogol cliriaf.

Lywydd, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithredu'n gyfrifol, bydd yn parhau i gefnogi cymunedau ledled Cymru. Ac o ran y cyhuddiad gwarthus o frolio rhinweddau, nid yn unig eich bod yn brin o dosturi, rydych chi'n hanesyddol anllythrennog. Ar ôl erchyllterau'r ail ryfel byd, helpodd Prydain a'i chynghreiriaid i sefydlu'r egwyddor fod ffoaduriaid yn haeddu cyfle teg i geisio lloches. Sicrhawyd bod y datganiad 'byth eto' yn rhan o gyfraith ryngwladol. Ni fyddai cefnau byth eto'n troi pan fyddai pobl yr ystyrid eu bod yn anghyfreithlon—yr ystyrid eu bod yn anghyfreithlon—pobl a amddifadwyd o'u dinasyddiaeth a'u hawliau, yn cael eu dad-ddyneiddio a'u herlid, fel Iddewon Ewrop—. Ni fyddai cefnau byth eto'n troi. Rhaid diogelu'r etifeddiaeth honno. Pan ddywedwn 'byth eto', rhaid inni ei olygu, rhaid inni ei fyw, ni ddylem ei danseilio byth. Am y rhesymau hynny, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig hwn a derbyn y gwelliant. [Cymeradwyaeth.]

17:45

Galwaf ar Francesca O'Brien i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Lywydd. Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan y prynhawn yma yn yr hyn a oedd, heb os, yn mynd i fod yn ddadl danbaid. Rydym wedi clywed unwaith eto heddiw fod yr un rhethreg yn cael ei hailadrodd gan Lafur a Phlaid Cymru bob tro y caiff y pwnc hwn ei drafod. Mae'r genedl noddfa yn ymrwymiad agored sy'n rhan o bolisi Llywodraeth Cymru ac sy'n arwydd i bawb, sut neu pam bynnag y daethant yma, fod Cymru yn lle i ddod iddo. Mae'r polisi'n anfon neges glir at y rhai sy'n cyrraedd yn anghyfreithlon y gofelir amdanynt. A nodwch, fe ddywedais 'yn anghyfreithlon', nid am fy mod i'n dweud hynny, ond am fod y gyfraith yn dweud hynny.

Mae llwybrau diogel a chyfreithlon yma, ac mae'r rhyfel yn Wcráin yn enghraifft berffaith o hynny, gyda menywod a phlant yn bennaf yn ffoi o wledydd sydd wedi'u dinistrio gan ryfel—hyd at 90 y cant ohonynt yn fenywod a phlant—yn wahanol i'r rheini a welwn yn cael eu crybwyll gan gyd-Aelodau yma. Nid yw Llywodraeth Cymru—rydych chi'n llygad eich lle, Aelodau sydd wedi gwneud sylwadau yma y prynhawn yma—yn rheoli mewnfudo. Mae hynny'n gywir. Ond mae Llywodraeth Cymru yn sicr yn rheoli'r neges y mae'n ei hanfon a'r cymorth y mae'n ei roi a'r arian y mae'n ei ddefnyddio i'w cefnogi. Pan fyddwch chi'n brandio eich hun fel cenedl noddfa gyntaf y byd, rydych chi'n gwneud dewis. Rydych chi'n gosod arwydd neon uwchben Cymru.

A dyma lle na allaf gytuno ag Aelodau ar draws y Siambr nad yw hyn yn cael effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus, a dyma pam: cost polisi o'r fath mewn termau ariannol erbyn 2025—mae dros £63 miliwn wedi'i wario ar y cynllun. Ond dim ond y dechrau yw hynny. Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn amcangyfrif bod y ceisiwr lloches cyffredin gydag achos a ganiatawyd o dan erthygl 8 o gonfensiwn Ewrop ar hawliau dynol yn costio dros £140,000 y pen dros eu hoes. Mae hynny'n cynnwys tai, budd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus, a chredir bod hyn ar ben isaf yr amcangyfrif. Mae hyn oll yn rhoi pwysau ar ein gwasanaethau, hoffi hynny ai peidio. Hyd yn oed yn Nenmarc o dan y sosialwyr, mae astudiaethau wedi dangos y gallai'r gost wirioneddol fod yn agosach at £0.5 miliwn y pen hyd yn oed. Felly, ar gyfer y 3,400 o geiswyr lloches sydd gennym yng Nghymru, dros eu hoes, gallai hynny fod yn £1.7 biliwn. Gadewch inni edrych ar dai—[Torri ar draws.] Mae'n ffaith. [Torri ar draws.] Na, mae'n ffaith.

Gadewch inni edrych ar dai—[Torri ar draws.] Gadewch inni droi at dai, gan ein bod wedi trafod tai o'r blaen. Dyma lle mae dadl y Llywodraeth yn chwalu'n llwyr. Pan ofynnodd fy nghyd-Aelod Steven Rodaway i'r Gweinidog Cabinet ychydig wythnosau yn ôl a oedd rhaglen y genedl noddfa yn ffactor yn y targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol, cyfaddefodd y Gweinidog nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu'r data ar y tai cymdeithasol y mae Cymru'n eu dyrannu i'r rhai sydd â statws ffoaduriaid, ac fe'i cyfeiriodd at y Swyddfa Gartref. Mae Gwyn Williams wedi cadarnhau heddiw hefyd, gyda'i ymchwil gyda'r Senedd, fod hyn wedi'i gadarnhau, gan iddo nodi nad yw pob un ohonynt mewn gwestai. Maent yn ein cymunedau mewn tai amlfeddiannaeth a llety rhent arall.

Ni waeth beth y mae Llafur neu Blaid Cymru yn ei ddweud, nid oes gennych fonopoli ar dosturi. Mae pob un ohonom yn chwarae ein rhan yn cefnogi cymunedau, ond pan fydd ein ffyrdd yn dirywio a gwasanaethau cyhoeddus mewn anhrefn, a chostau byw allan o reolaeth, rhaid i bobl Cymru ddod yn gyntaf, ac rydym ni yma i'w cynrychioli.

Nawr, gadewch imi fynd i'r afael â'r cwestiwn, Aelodau Plaid Cymru a Llafur, a oedd yn mwynhau cymylu'r dyfroedd—. Am bwy'n union rydym ni'n sôn? Oherwydd byddai'r Llywodraeth am ichi gredu bod pob unigolyn sy'n cyrraedd yma o dan y system loches wedi croesi'r sianel i ffoi rhag rhyfel ar y cwch cyntaf sydd ar gael. Mae'r realiti, fel y clywsom gan fy nghyd-Aelodau, yn eithaf gwahanol. Mae'r rhan helaethaf o'r rhai sy'n cyrraedd ar gychod bach wedi teithio drwy nifer o wledydd diogel i gyrraedd yma. Mae Ffrainc wedi arwyddo'r confensiwn ffoaduriaid, yn ogystal â'r Almaen, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Eidal—pob un ohonynt. O dan egwyddor rheoliad Dulyn, mae ceiswyr lloches i fod i hawlio amddiffyniad yn y wlad gyntaf y maent yn ei chyrraedd. Nid yw'r penderfyniad i osgoi'r holl wledydd hynny a pharhau i'r Deyrnas Unedig yn benderfyniad gan rywun sy'n ffoi rhag perygl, mae'n ddewis cyrchfan.

Gadewch imi droi at fater diogelwch y cyhoedd, gan y gwn fod y pwnc hwn yn gwneud i Aelodau'r blaid gyferbyn deimlo'n anghyfforddus iawn. Fel y nodwyd eisoes gan fy nghyd-Aelodau, canfu dadansoddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddarparwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth, rhwng 2021 a 2023, fod gwladolion tramor wedi'u cael yn euog o droseddau rhywiol ar gyfradd o 71 y cant yn uwch na phoblogaeth Prydain yn gyffredinol. Nid yw'r ffigurau hynny wedi'u dyfeisio gan Reform UK, maent—[Torri ar draws.] Ie, ewch amdani.

17:50

Diolch. Hoffwn ddweud, fel menyw, fy mod wedi cael llond bol ar glywed hyn yn gyson fel esgus dros ymosod ar y genedl noddfa. Pan lofruddiwyd Sarah Everard gan Wayne Couzens, ble roedd y dicter? Pan ymosodwyd ar fenyw Sikhaidd yng ngorllewin canolbarth Lloegr a'i threisio oherwydd ei chrefydd a lliw ei chroen, ble roedd y dicter? Pan gafodd dros 2,000 o fenywod eu llofruddio gan ddynion o bob math o wahanol gefndiroedd yn y DU ers 2014, ble roedd y dicter? [Cymeradwyaeth.]

Dyna ni. Diolch. Nid wyf am dderbyn pregeth gan yr ochr arall ar amddiffyn menywod a phlant. Yn yr wythnosau diwethaf, rwy'n credu bod hynny'n anfoddhaol braidd. Felly, na, nid wyf yn credu.

Pam ein bod yn eu caniatáu? Pam ein bod yn eu caniatáu? Rwyf newydd roi'r ystadegau i chi—cyfradd o 71 y cant yn uwch na phoblogaeth Prydain yn gyffredinol, ac rydym yn caniatáu iddynt ddod i mewn. Diolch.

Francesca, mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi rhoi mwy o amser i chi oherwydd yr ymyriad, ond os gallech symud ymlaen i'ch sylwadau clo.

Lywydd, ni allaf glywed oherwydd yr—[Anghlywadwy.]. Rwy'n credu bod protocol—[Anghlywadwy.]

Iawn, fe wnaf gyflymu. Diolch, Lywydd. Nid Reform UK sydd wedi dyfeisio'r ffigurau hynny, ffigurau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ydynt. Felly, nid wyf am wrando ar unrhyw bregethau ar hynny.

Rwyf am gloi drwy ddyfynnu geiriau preswylydd yn fy etholaeth a gysylltodd â mi yn ddiweddar am eu bod yn gwybod ein bod yn trafod y peth:

'Mae ansawdd bywyd wedi dirywio, nid yw'r strydoedd mor lân mwyach, mae balchder cymunedol wedi lleihau, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd, nid wyf i'n teimlo'n ddiogel bellach yn cerdded o gwmpas fy nghymdogaeth liw nos. Efallai fod polisi'r genedl noddfa wedi'i gyflwyno gyda bwriadau da, ond mae'r realiti ar lawr gwlad yn dra gwahanol. Mae cymunedau fel fy un i yn wynebu'r canlyniadau tra bo disgwyl iddynt aros yn dawel.'

A dyna'r pwynt allweddol. Nid yw pobl am gael eu tawelu mwyach. Nid yw cael y ddadl hon yn creu ymraniad, mae ymraniad go iawn yn digwydd pan fyddwch chi'n mygu lleisiau pobl. Rwy'n galw nawr am gefnogaeth i'r cynnig hwn yn enw Dan Thomas.

Cyn imi symud ymlaen i gyflwyno'r cynnig hwn ac i weld a oes unrhyw wrthwynebiad, a gaf i ddiolch i Elfed Williams am roi gwybod ymlaen llaw i mi am bwynt o drefn yr hoffech ei godi? Elfed.

Diolch, Lywydd. Pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9(v). Cyfeiriodd Dan Thomas at fewnfudwyr fel 'anghyfreithlon' yn ei ddatganiad agoriadol. Mae hyn yn anghywir. O dan gyfraith y DU a chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ym 1951, nid yw ceisiwr lloches yn anghyfreithlon. Nid yw cyrraedd drwy lwybr anarferol yn gwneud unigolyn yn anghyfreithlon. Mae iaith o'r fath yn camgyfleu'r gyfraith ac yn bygwth urddas y Senedd hon, a gofynnaf ichi wneud dyfarniad ar hyn, os gwelwch yn dda, Lywydd.

Diolch yn fawr iawn. A diolch am yr hysbysiad ymlaen llaw, gan fy mod wedi gallu ystyried gyda fy nhîm clercio hefyd. Rydych chi'n ceisio gwneud cywiriad ffeithiol. Nid yw hwn yn bwynt o drefn. Nid yw'n fater i mi, ond fe roddaf gyfle i'r Aelod, os yw'n dymuno, egluro ei sylwadau yng ngoleuni'r pwynt a wnaed—os yw'r Aelod yn dymuno gwneud hynny.

Diolch, Lywydd. Mae'n anghyfreithlon dod i mewn i'r wlad hon heb basbort, ar gwch, ar ôl talu miloedd o bunnoedd i smyglwr pobl, Duw a ŵyr o ble. Mae torri i mewn i'r wlad hon yn weithred anghyfreithlon. Ni allwch fynd dramor—ni allwch fynd i Ffrainc heb basbort. Felly, rwy'n dal at yr hyn a ddywedais, Lywydd. Diolch.

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

17:55
8. Dadl Llafur Cymru: Cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2026-27

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Rydyn ni'n symud nawr i eitem 8, dadl Llafur Cymru ar gyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2026-27. Galwaf ar Lynne Neagle i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9277 Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei chyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2026-27 i ddyrannu cyllid canlyniadol o wariant Llywodraeth y DU ar anghenion addysgol arbennig i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Rwyf am ddechrau'r ddadl hon gyda'r ffocws lle dylai fod a lle rwy'n gobeithio y bydd yn aros drwy gydol y ddadl hon heddiw—ar ein plant a'n pobl ifanc.

Bellach, mae gan dros 40,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru gynllun anghenion dysgu ychwanegol statudol, a elwir yn gynllun datblygu unigol. Mae hyn yn gynnydd sylweddol iawn ar nifer y plant a'r bobl ifanc a oedd â chynllun statudol o dan y system anghenion addysgol arbennig flaenorol, ac mae'r rhain yn rhai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn ein hysgolion a'n cymunedau.

Buddsoddi mwy o gyllid i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol yn y gyllideb atodol hon yw'r peth iawn i'w wneud. Dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hyn, dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer eu teuluoedd a dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein hysgolion. Mae buddsoddi yn y cymorth cywir yn gwbl hanfodol i sicrhau y gall y plant, y bobl ifanc hyn a'u teuluoedd gyrraedd eu potensial. Mae'n hanfodol sicrhau y gall plant fynychu'r ysgol, ac mae'n hanfodol er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r problemau ymddygiad sydd gennym yn ein hysgolion.

Nawr, mae'n dra hysbys fod penderfyniad Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn cymorth i gynghorau, ysgolion a phlant ag AAA ac anableddau yn golygu bod £327 miliwn ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru eleni—£550 miliwn dros dair blynedd. Mae'r angen yno, mae'n glir iawn; mae ein hysgolion o dan bwysau eithafol. Cyhoeddwyd yr arian hwn ym mis Mawrth, ychydig cyn yr etholiad ac ar ôl i'r gyllideb derfynol ar gyfer eleni gael ei phasio. Er hynny, fe ddadleuais yr achos dros ddyrannu arian i ADY, ond dywedwyd wrthyf y byddai angen i hyn fod yn fater i'r Llywodraeth newydd ac i'r gyllideb atodol.

Mae'r galw am gymorth anghenion dysgu ychwanegol yn ysgolion Cymru yn cynyddu. Mae anghenion plant a phobl ifanc yn galw am gymorth mwy cymhleth, dwys a hirdymor. Mae nifer y plant sydd angen lleoliadau arbenigol yn tyfu, ac mae nifer y plant mewn ysgolion arbennig wedi codi draean. Yn y gwanwyn, adroddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cymhlethdod cynyddol yr angen yn creu straen ariannol anghynaliadwy. Dywedasant mai addysg oedd un o'r pwysau mwyaf acíwt a nodwyd gan gynghorau, gan fod gwariant ADY yn fwy na chwarter yr holl bwysau ar gyllidebau ysgolion. A dyna pam y mae pob cyngor o bob lliw gwleidyddol yng Nghymru a holl undebau'r athrawon wedi galw am i'r arian hwn fynd i ysgolion. Ac mae Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi lansio deiseb yn galw am i'r cyllid gael ei wario ar gefnogi anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Cafodd y ddeiseb honno ei lansio ddoe ddiwethaf, ac mae eisoes wedi cael mwy na 2,000 o lofnodion. Bydd yn cyrraedd y trothwy ar gyfer dadl mewn dim o dro.

Nawr, mae'r Llywodraeth wedi rhoi llawer o sylw i'r ffaith bod y system yn wahanol yng Nghymru, nad yw awdurdodau lleol wedi cronni dyledion enfawr, nad ydym wedi defnyddio mesur lliniaru statudol yng Nghymru. Ond mae'r pwysau sy'n wynebu awdurdodau lleol yn enfawr. Mae bron i draean ein hysgolion mewn diffyg cyllidebol. Yn gynyddol, mae awdurdodau lleol yn cyhoeddi hysbysiadau rhybuddio statudol i ysgolion ynghylch diffygion. Ac rydym wedi cael streiciau mewn rhai ysgolion, oherwydd ailstrwythuro staff, cam na ellir honni nad yw'n ddim i'w wneud â phwysau cyllidebol. Ac eto, er gwaethaf hyn, nid yw Plaid Cymru wedi dyrannu'r un geiniog o'r £340 miliwn sydd ar gael i blant ag anghenion dysgu ychwanegol i ysgolion yng Nghymru. Gwyddom beth sydd angen ei wneud. Comisiynais adolygiad deddfwriaethol cynhwysfawr o'r system ADY. Nododd hwnnw bum blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Un oedd datblygu gweledigaeth fwy hirdymor ar gyfer addysg gynhwysol yng Nghymru.

Nawr, mae'r Llywodraeth wedi dweud nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy. Mae'r Llywodraeth wedi sôn am fynd i'r afael â hyn pan ddaw cyllid cylchol ar gael yn 2028-29. Mae'r Llywodraeth wedi dweud bod angen ateb hirdymor arni. Rwy'n cytuno, ond mae angen i'r gwaith ar ateb hirdymor ddechrau nawr gyda'r arian hwn.

Mae angen buddsoddi mewn uwchsgilio'r gweithlu fel bod y gweithlu cyfan wedi'i hyfforddi i gefnogi plant ag ADY. Mae angen yr adnoddau arnom ar gyfer addysgu gwahaniaethol yn ein hystafelloedd dosbarth, ac mae angen inni fanteisio ar arbenigedd rhyfeddol ein hysgolion arbennig drwy fodel prif ganolfan a lloerennau, ond mae angen inni wneud hynny nawr. Buddsoddi yn llesiant a dyfodol ein plant a'n pobl ifanc yw'r peth pwysicaf y gall llywodraeth ei wneud. Mae'n ddyletswydd, ac mae cefnogi'r cynnig hwn heddiw yn ddyletswydd ar bob un ohonom, ac rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn dewis cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

18:00

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cost gynyddol y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi cael ei hariannu'n wahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

2. Yn nodi'r £113 miliwn o gyllid ychwanegol a sicrhawyd ar gyfer llywodraeth leol o ganlyniad i'r cytundeb ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer 2026-27, sy'n gynnydd o 4.5 y cant i'r setliad gwreiddiol.

3. Yn nodi bod y gyllideb atodol a gyflwynwyd ar 23 Mehefin yn cadw dyraniadau Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer darpariaeth ADY, ysgolion a gwasanaethau llywodraeth leol yn ehangach.

4. Yn credu bod y model presennol o gyllid ADY yn anghynaliadwy, fel y nodwyd gan ganfyddiadau adroddiad diweddar Archwilio Cymru.

5. Yn cydnabod mai athrawon, ysgolion, awdurdodau lleol a theuluoedd sydd wedi gorfod rheoli'r pwysau cynyddol yn y system ADY.

6. Yn ymrwymo i weithio gyda'r sector addysg, llywodraeth leol a phartïon eraill i sicrhau bod y system ADY yn gynaliadwy yn ariannol ac yn arwain at ddeiliannau gwell i ddisgyblion.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gallwn i gyd gytuno yn y Siambr hon fod gwella'r sefyllfa i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn hanfodol, a bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn haeddu'r gefnogaeth orau y gallwn ei chynnig. Ymhellach, fel y bydd llawer o'r Aelodau'n gwybod ac fel rhywun sydd â phrofiad bywyd sylweddol o ADY, rwy'n ymwybodol iawn fod gwella'r system a'r gefnogaeth bresennol yn hanfodol, a dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar y ffordd orau o wneud hyn, sut y gallwn newid strwythurau cymorth ADY ac nid yn unig darparu mwy o atebion dros dro. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu hynny.

Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Lynne Neagle yn cyflwyno'r ddadl hon ar bwnc mor bwysig, ac rwy'n diolch i chi, Lynne, am hyrwyddo addysg yn gyson, ac ADY yn arbennig. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn glir am y mater hwn. Mae rhai o'r wrthblaid wedi ceisio fframio cynlluniau'r Llywodraeth fel mynd ag arian oddi wrth ADY, ond nid yw hyn yn wir. Ni fydd ADY yn cael ceiniog yn llai o'r gyllideb atodol. Diolch i Blaid Cymru, rydym wedi sicrhau £113 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer llywodraeth leol i gefnogi'r galw cynyddol am eu gwasanaethau, gan gynnwys ADY. Fodd bynnag, fe wyddom fod pwysau cynyddol o hyd a bod angen rhagor o waith i sicrhau sefydlogrwydd hirdymor awdurdodau lleol, gan gynnwys newid parhaol a chynaliadwy i'r ffordd y cefnogwn y rhai sydd ag ADY.

Mae angen dull o weithredu newydd arnom sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd hirdymor y sector, ac sy'n lleddfu'r pwysau nid yn unig ar gyfer y presennol, ond ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae angen dull o weithredu arnom sy'n gweld canlyniadau ein gwaith fel y nod ac nid penawdau'r swm a werir yn unig. Mae'n amlwg fod angen ffordd wahanol ymlaen, un sy'n sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, gan weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i sicrhau'r canlyniadau gorau er budd y rhai sydd ei angen. Rhaid inni edrych y tu hwnt i'r gyllideb atodol uniongyrchol tuag at y Gymru rydym am ei gweld, Cymru sy'n rhoi cefnogaeth go iawn ac ystyrlon i'r rhai sydd ag ADY. Diolch.

Bydd Reform yn cefnogi'r cynnig hwn. Dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a bydd y penderfyniad i ddargyfeirio'r holl arian a allai fod wedi cael ei ddefnyddio i wella eu bywydau yn plagio Llywodraeth newydd Plaid Cymru am amser hir. Ymosododd Llafur Starmer ar yr henoed, mae Plaid Cymru Rhun wedi mynd gam ymhellach drwy fynd ar ôl plant anabl.

Ychydig o dan dri mis yn ôl, rhyddhaodd Archwilio Cymru adroddiad o'r enw 'Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol: system dan straen'. Roedd yr adroddiad yn dweud, ymhlith pethau eraill, fod ganddynt

'bryderon ynghylch cynaliadwyedd ariannol y system'.

Ond, wrth gwrs, nid oes angen i mi wneud y ddadl hon. Mae hyd yn oed gwelliant Plaid Cymru i'r ddadl yn dweud bod cyllid ADY yn anghynaladwy. Mae Plaid Cymru'n cytuno bod angen mwy o arian ar y system, ac eto ei hateb yw peidio â rhoi mwy o arian i'r system. Sut y mae hynny'n gweithio? Wel, yr esgus hanner pob a roddodd y Gweinidog oedd nad oedd dyledion addysg arbennig a gronnwyd gan lywodraeth leol yn Lloegr,

'yn bodoli yn yr un ffordd yng Nghymru.'

Efallai nad ydynt yn bodoli yn yr un ffordd, ond nid yw hynny'n golygu nad yw'r dyledion yno. Rhwng 2020 a'r flwyddyn ariannol hon, cynyddodd cyllidebau sy'n gysylltiedig ag ADY 95 y cant yng Nghaerdydd, fy etholaeth i. Dywedodd briff cyllideb y cyngor a anfonwyd ataf ddoe fod ADY wedi dod yn faes pwysau mwyaf y cyngor. Os bydd Llywodraeth Cymru yn methu trosglwyddo dim o'r arian hwn i'r system ADY, mae'n debygol y bydd fy etholwyr yn cael eu gorfodi i ysgwyddo pwysau yn y system drwy dreth gyngor uwch.

Daw tystiolaeth bellach fod peidio â chyfeirio cyllid ychwanegol tuag at ADY yn gamgymeriad gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, sy'n dweud bod arweinwyr ysgolion wedi anfon dros 5,000 o lythyrau at Weinidogion Llywodraeth Cymru yn galw am ddiogelu'r cyllid canlyniadol, a'i glustnodi a'i fuddsoddi mewn darpariaeth ADY. Nawr, gyda'r arian hwnnw'n cael ei wario mewn mannau eraill, maent wedi dweud y bydd athrawon a chynorthwywyr addysgu yn colli eu swyddi ac y bydd disgyblion yng Nghymru dan anfantais annheg o gymharu â Lloegr. Plaid Cymru, Plaid pobl Cymru—ydych chi'n siŵr mai dyna ydych chi? Gobeithio y gall meinciau cefn Plaid Cymru egluro wrth eu cyd-Aelodau yn y Llywodraeth nad ydynt yn barod i bleidleisio dros amddifadu dysgwyr ag ADY o'u rhaff achub, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd gyfan y prynhawn yma yn anfon neges glir i'r Llywodraeth hon na chaiff ei wneud yn ein henw ni. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:05

Heddiw wrth gwrs rydym yn trafod y defnydd o'r cyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol drwy'r gyllideb atodol gyntaf. Ond yn ei hanfod, mae hyn yn ymwneud ag i ba raddau y mae'r system ariannu yn cadw i fyny â'r realiti yn ein hysgolion—ac fe roddaf eiliad i ddatgan buddiant posibl fel llywodraethwr AALl mewn ysgol yng ngogledd Cymru. Nid oes unrhyw un yn amau pwysigrwydd sicrhau bod angen i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r ddyletswydd honno'n sylfaenol mewn system addysg deg. Ond y cwestiwn y mae'n rhaid inni ei ofyn yw a yw'r cyllid yn cyrraedd y rheng flaen mewn ffordd sy'n adlewyrchu maint a brys yr angen heddiw.

Yn sicr, mae angen dadl ynglŷn â chyllid cynaliadwy ar gyfer ADY, ond nid ydym yn mynd i'r afael â'r angen sy'n bresennol iawn heddiw, a tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi deall hyn yn iawn. Clywsom ychydig funudau yn ôl gan y Gweinidog addysg blaenorol ei bod hi, pan gyhoeddwyd yr arian hwnnw, yn gofyn am i'r arian gael ei basbortio drwodd i ysgolion ar gyfer ADY. Nid wyf yn siŵr bod y Gweinidog addysg nawr yn gofyn yr un cwestiynau i'r Gweinidog cyllid, a yw hi'n codi llais dros weld yr arian hwnnw'n mynd i ysgolion yma yng Nghymru, oherwydd ledled Cymru, mae ysgolion dan bwysau ariannol sylweddol wrth i ofynion ADY barhau i gynyddu. Byddent eisiau i'w Llywodraeth yma yng Nghymru sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n briodol i gefnogi'r plant hynny.

Mae penaethiaid a chyrff llywodraethu yn cael eu gorfodi fwyfwy i amsugno costau o fewn cyllidebau sydd eisoes dan bwysau, ac mewn llawer o achosion, mae ysgolion yn gweithredu ar ddiffyg, nid oherwydd camreoli, ond am eu bod yn gorfod bodloni cyfrifoldebau statudol heb ddigon o gyllid amserol i gyd-fynd â'r angen cynyddol. Ac yn hytrach na bod y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn cael adnoddau llawn drwy system gydlynol, mae'r baich wedi'i symud ar ysgolion unigol. Gofynnir i staff wneud mwy gyda llai, ac mae cyllidebau ysgolion yn cael eu hymestyn i'r pen. Nid yw hynny'n gynaliadwy ac mae'n creu perygl o danseilio canlyniadau addysgol a lefelau cadw staff.

Yma yng Nghymru, yn rhy aml, mae ysgolion yn cael eu gadael i ysgwyddo'r risg ariannol yn uniongyrchol, gyda diffygion yn cronni ar lefel yr ysgol yn hytrach na chael eu rheoli'n iawn ar lefel y system, ac rwy'n credu mai dyma lle mae peth o'r gamddealltwriaeth wedi digwydd. Rydym eisoes wedi clywed gan gyd-Aelodau ar draws y Siambr fod y ddyled yn gysylltiedig â chyllid ADY ar lefel ysgolion unigol. Nid yw dweud na fydd cynghorau yn derbyn yr un cyllid untro i ddileu dyledion addysg arbennig a gronnwyd gan lywodraeth leol yn Lloegr am nad yw'r dyledion hynny yn bodoli yng Nghymru yn yr un ffordd yn adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad. Wrth gwrs, ni fydd y rhan fwyaf o'r pwysau hyn yn ymddangos wedi'u labelu'n daclus fel dyled ADY ar gyfriflyfr cyllideb, ond nhw yw'r rheswm pam y mae cymaint o ysgolion yng Nghymru bellach yn gweithredu cyllidebau diffyg sylweddol. Mae gan ysgolion ddegau o filiynau o bunnoedd o ddiffyg. Mae honno'n ddyled real iawn yn ein system addysg, ac mae ADY yn rhan sylweddol o'r pwysau. Ac oes, mae'n rhaid bod ffordd gynaliadwy o ddelio â hynny, ond mae'n rhaid ei gydnabod a rhoi sylw iddo heddiw hefyd.

Felly, er bod y cynnig heddiw yn canolbwyntio'n gywir ar gyllid canlyniadol a phwysigrwydd sicrhau bod arian a fwriedir ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol, mae angen inni sicrhau hefyd fod llif cyllid yn dryloyw, yn amserol ac yn ddigonol i ateb y galw gwirioneddol heddiw. Os ydym o ddifrif ynglŷn â gwella canlyniadau i ddysgwyr ag ADY, ni allwn barhau â sefyllfa lle mae ysgolion yn sybsideiddio'r system i bob pwrpas drwy ddiffyg cyllidebol. Mae'r dull hwnnw, sy'n digwydd ar hyn o bryd, yn gwagio darpariaeth ehangach ysgolion, wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio oddi wrth staff cymorth addysgu a lles dysgu ehangach. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol: sut y gwnewch chi sicrhau bod y pwysau ar anghenion dysgu ychwanegol heddiw yn cael ei ddileu? Yn bendant, rhaid cael dadl ynglŷn â chyllid ADY cynaliadwy, ond mae'r arian yno heddiw i ddelio â phwysau heddiw ac i ddelio â'r diffygion y mae ysgolion wedi'u cronni o ganlyniad i ADY. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn sydd o'n blaenau heddiw.

18:10

Rwy'n llywodraethwr ysgol, ac mae hynny ar fy natganiad o fuddiannau. Mae cynghorau yng Nghymru yn parhau i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ond mae'r galw a'r costau cynyddol yn ei gwneud hi'n anos ei gynnal. Mae ffigurau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dangos bod disgwyl i'r gwariant ar anghenion dysgu ychwanegol a chymorth blynyddoedd cynnar gynyddu tua 6 y cant yn 2026-27, sy'n gyfystyr â chynnydd o tua £46 miliwn ledled Cymru. Roedd cynghorau unigol yn rhagweld cynnydd o hyd at 14 y cant.

Mae ysgolion ledled Cymru wedi cyrraedd y pen. Mae nifer sylweddol o gyllidebau ysgolion mewn diffyg ar hyn  bryd—i lawer, mae'n argyfwng sy'n cael ei yrru'n uniongyrchol gan ddarpariaeth ADY wedi'i thanariannu'n ddifrifol. Mae ysgolion a oedd ag arian sylweddol dros ben wedi gweld yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu ADY, a phan werir yr arian unwaith, ni ellir ei wario eto. Mae gwariant ar ddiwygio ADY wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, gan godi'n sylweddol gyflymach na'r cyllid sydd ar gael. Ni all arweinwyr ysgolion ac awdurdodau lleol gynnal y pwysau hwn heb gymorth.

Diolch i fuddsoddiadau mawr a gyhoeddwyd ar gyfer darpariaeth anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr, mae disgwyl i Gymru gael £500 miliwn, gyda £322 miliwn ohono yn 2026-27 a £197 miliwn yn gylchol o 2028-29 mewn cyllid canlyniadol drwy fformiwla Barnett. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod trosglwyddo'r arian ymlaen i ysgolion. Mae'n sylfaenol annheg fod plant yn Lloegr yn elwa o fwy o fuddsoddiad tra bod dysgwyr Cymru'n cael eu gadael ar ôl. Rwyf am i'r cyllid canlyniadol llawn sy'n deillio o wariant AAA yn Lloegr gael ei ddyrannu i ddarpariaeth ADY yng Nghymru. Ac rwy'n aros i rywun ym Mhlaid Cymru egluro bod awtistiaeth yn wahanol yn Lloegr i'r hyn ydyw yng Nghymru. Dyna maent wedi bod yn ei ddweud, onid e—nad yw'r pwysau yr un fath. Mae'n union yr un pwysau ar yr un plant yn union gyda'r un problemau yn union. Rhaid i'r cyllid lifo'n uniongyrchol i awdurdodau lleol ac i'r ysgolion sy'n darparu cymorth ar lawr gwlad.

Rwy'n cofio, o adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn gynharach eleni, fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y system sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru yng nghyd-destun newidiadau a achoswyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Edrychodd yr archwilydd cyffredinol i weld a yw cyrff cyhoeddus yn deall y galw ADY, capasiti'r gweithlu, a maint y costau a chanlyniadau. Mae'r canfyddiadau'n dangos nad oes gan gyrff cyhoeddus ddarlun cyflawn o'r materion hyn—nid oes ganddynt ddigon o wybodaeth ar gyfer cynllunio a chyllidebu'n effeithiol ac i asesu gwerth am arian. Roedd gan yr archwilydd cyffredinol bryderon am berfformiad presennol y system i gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.

Mae'r data sydd ar gael yn dangos bod gostyngiad o 58 y cant yn nifer y dysgwyr ysgol a gofnodwyd fel rhai ag ADY neu AAA rhwng 2018-19 a 2024-25. Mae'r rhesymau'n destun dadl. Buaswn i'n dweud mai dyfais ydyw er mwyn ceisio gwneud i gyllidebau gyfateb yn hytrach na lleihau angen. Dros yr un cyfnod, cynyddodd nifer y dysgwyr ysgol ag ADY sy'n cael cymorth statudol drwy gynllun datblygu unigol 164 y cant.

Mae'r gwariant sy'n gysylltiedig â chefnogi dysgwyr ag ADY wedi bod yn cynyddu, gan roi pwysau ar gyllidebau ehangach. Ni allai'r archwilydd cyffredinol roi ffigur pendant arno. Mae'r symiau y gellir eu hadnabod yn hawdd yn awgrymu bod y gwariant blynyddol presennol yn agosáu at £1 biliwn. Nid dyma'r darlun llawn, ac mae'n debygol y bydd y gost lawn yn uwch. Cynyddodd gwariant cyllidebol cynghorau ar ADY 34 y cant mewn termau real rhwng 2018-19 a 2025-26. Daeth yr archwilydd cyffredinol i'r casgliad nad oes gan y system ddata digon da i ddeall maint y galw a'r cymhlethdod cynyddol. Mae data tameidiog am y gweithlu yn cyfyngu ar ddealltwriaeth y system o ystod o heriau capasiti a sgiliau. Nid oes gan gyrff cyhoeddus ddealltwriaeth ddigon da o gostau ADY, ac roedd gan yr archwilydd cyffredinol bryderon am gynaliadwyedd ariannol y system.

Mae nodau'r system ADY yn glir, ond dim ond darlun cyfyngedig a geir i weld a yw'n darparu canlyniadau da i ddysgwyr, ac mae'r system yn parhau i fod yn wrthwynebus, er gwaethaf tystiolaeth o rywfaint o welliant. Mae pob rhiant y siaradais â nhw am ddarpariaeth ADY yn dechrau gyda'r un datganiad: 'Roedd yn rhaid inni ymladd amdani ar bob cam o'r ffordd'. Mae darpariaeth un i un yn y cynllun, ond yn aml iawn mae'n un i ddau ac weithiau'n un i dri neu bedwar. Mae cynorthwywyr addysgu a neilltuwyd ar gyfer cymorth un i un i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn aml yn cael eu tynnu o'u rôl ddynodedig i gynorthwyo'r dosbarth ehangach, rheoli ymddygiad neu gefnogi'r athro gyda thasgau cyffredinol. Mae hyn yn gwanhau'r gefnogaeth bersonol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn y mae gan ddisgyblion ADY hawl iddi a gall fod yn wirioneddol niweidiol, yn enwedig i blant ag anawsterau cyfathrebu sy'n dibynnu ar gysondeb y berthynas honno i deimlo'n ddiogel a chael mynediad at ddysgu.

Nid beirniadaeth o benaethiaid yw hyn. Maent yn gorfod gweithio gyda chyllidebau tynn iawn ac yn gorfod ceisio rheoli ysgolion mewn amgylchiadau anodd iawn. Nid oes digon o arian yn y system ADY i ddiwallu'r holl anghenion. Mae arian wedi dod i Gymru o ganlyniad i wariant ADY yn Lloegr. Mae angen ei wario ar anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, fel y mae'n cael ei wario yn Lloegr. Rwy'n annog pobl i gefnogi hyn.

18:15

Hoffwn ddechrau lle credaf ein bod ni i gyd yn cytuno ar y mater hwn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno ynghylch yr angen am gyllid i blant ag anghenion ADY, nid yn unig oherwydd ei bod yn ddyletswydd arnom fel cymdeithas i ofalu am y plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond hefyd oherwydd fy mod yn credu ei fod yn gwneud synnwyr yn economaidd. Po fwyaf o'r plant hyn sy'n cael eu cefnogi drwy gyllid ADY, y mwyaf tebygol ydynt o fynd ymlaen i lwyddo mewn bywyd a dod yn aelodau cynhyrchiol o gymdeithas mewn cyflogaeth, gan ganiatáu i'r Llywodraeth, yn y tymor hir, elwa'n ôl ar ffurf derbyniadau treth incwm a mathau eraill o fudd economaidd.

Rwy'n cytuno â'r Llywodraeth hefyd fod hon yn system y mae angen ei hystyried mewn ffordd strategol. Ni fyddwch chi byth yn fy ngweld i'n codi yn y Siambr hon ac yn dadlau yn erbyn ceisio dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon o wario arian y Llywodraeth i ddatrys problem. Ond y broblem fawr ar hyn o bryd yw'r hyn y cyffyrddwyd arno gan Aelodau eraill eisoes, yn enwedig gan Sam Rowlands, sef, tra'n bod ni'n gweithio i geisio dod o hyd i ffordd fwy deallus o ariannu'r broblem, nid yw hynny'n golygu bod pwysau costau uniongyrchol y broblem yn diflannu. Drwy fethu darparu'r cyllid ychwanegol ar gyfer ADY heddiw, mae risg fod pwysau'r costau hynny'n gwaethygu i'r pwynt, erbyn y cyrhaeddwn ni 2028-29 pan ddaw'r cyllid cylchol i mewn, efallai na fydd bellach yn ddigon i gael gwared ar y pwysau cynyddol sydd wedi codi.

Fe wnaeth fy nghyd-Aelod, Cai, gyffwrdd â phwynt gwych hefyd o ran y sylwadau nad yw'r ddyled yn bodoli yn yr un modd. Heb i'r cyllid hwn gael ei roi tuag at leddfu pwysau costau ar ADY, rydym i bob pwrpas yn trosglwyddo'r baich ymlaen i dalwyr y dreth gyngor, ymlaen i gynghorau lleol lle mae trethi cyngor wedi codi'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan roi awdurdodau lleol mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt ddewis cynyddu'r dreth gyngor i bobl sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw ar hyn o bryd, neu dorri gwasanaethau eraill y maent yn dibynnu arnynt er mwyn diwallu'r angen statudol i ariannu'r gwariant ADY.

O ran y cynllun hirdymor, rhywbeth yr hoffwn weld y Llywodraeth yn siarad amdano yw beth yw'r manylion ar hyn. Fe wyddom y bydd y cyllid cylchol yn dod i mewn yn 2028-29, ond pa waith sydd eisoes wedi'i wneud ar nodi'r ffyrdd o ariannu anghenion ADY yn fwy cynaliadwy, a phryd y bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gyhoeddi fel y gall y Siambr hon ei graffu? Rwy'n credu hefyd ein bod wedi gosod cynsail peryglus braidd o ran y cyllid canlyniadol sy'n dod o San Steffan i ariannu anghenion ADY yng Nghymru. Os nad ydym yn defnyddio'r arian hwnnw, pa warant sydd gennym na fydd y Llywodraeth yn 2028-29, pan ddaw'r arian canlyniadol ychwanegol, yn defnyddio'r arian ar gyfer ADY ar y pwynt hwnnw chwaith? Felly, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i geisio mynd i'r afael â'r pwysau costau sy'n bodoli heddiw i ddarparu rhywfaint o gefnogaeth uniongyrchol i'n hysgolion, i'n hawdurdodau lleol, i reoli pwysau costau ADY cyn i'r model cynaliadwy mwy cylchol ar gyfer cyllid allu dod i mewn. Felly, rwy'n falch o ddweud y byddaf yn cefnogi'r cynnig Llafur heddiw. Rwy'n credu y dylem ddyrannu hyn i rai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac rwy'n annog pawb arall yn y Siambr i gefnogi'r cynnig hefyd. Diolch.

Mae'n peri dryswch ein bod ni'n cael y ddadl hon, onid yw, oherwydd mae cydnabyddiaeth ar bob ochr i'r Siambr fod yr her o ddiwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn acíwt ac yn tyfu. Siaradodd Sera'n bwerus iawn am ei phrofiadau. Mae cydnabyddiaeth hefyd yn y Siambr o werth a phwysigrwydd atal ac ymyrraeth gynnar fel egwyddor i bolisi. Cawsom ddadl o ansawdd uchel ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynharach. Faint o'r plant hynny yn ein hysgolion heddiw sy'n profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fydd ag angen dysgu ychwanegol hefyd? Tybed i ba raddau y bydd eu canlyniadau oes gyfan yn cael eu heffeithio'n well drwy gael y ddarpariaeth addysg fwyaf priodol cyn gynted â phosibl.

Ond er gwaethaf y consensws hwn, nid yw Llywodraeth Plaid Cymru yn dangos unrhyw frys i weithredu nawr i fynd i'r afael  â'r pwysau ariannu, fel y dengys eu gwelliant, yn anffodus. Mae'n ymateb sy'n dod yn nodweddiadol o'r Llywodraeth newydd: 'Gadewch inni drefnu cyfarfod, gadewch inni gael trafodaethau, gadewch inni beidio â gweithredu'—er bod gennych bŵer i wneud hyn.

Mae angen gwneud, nid dweud. Dyna pam gwnes i, o leiaf, fynd i mewn i wleidyddiaeth—i gyflawni newid er gwell.

Nawr, ni cheir dim sy'n fwy o gyhuddiad o system doredig na'r ffaith bod Llywodraeth Dorïaidd olaf y DU—mae'n ddrwg gennyf dynnu sylw at hyn, Sam—wedi gorfod troi at fesur lliniaru statudol er mwyn i gynghorau yn Lloegr ysgwyddo costau ADY fel dyled. Ac mae'n arddangosiad o sut y mae Llywodraeth Lafur y DU nawr yn clirio'r llanast hwnnw drwy ddarparu'r cyllid sydd ganddynt i gynghorau Lloegr er mwyn dod â'r sefyllfa hon i ben. Arian canlyniadol y penderfyniad hwnnw sydd wedi rhoi hwb ariannol o dros £300 miliwn i Lywodraeth Cymru.

Nawr, dwi'n derbyn yr egwyddor, jest oherwydd bod yr arian yna wedi cael ei wario ar rywbeth yn Lloegr, dylai'r consequentials hynny gael eu gwario ar yr un peth yng Nghymru. Dwi'n derbyn yr egwyddor hynny. Er gwaethaf hynny, jest achos bod cynghorau yng Nghymru wedi cael eu rheoli yn well a'u hariannu yn well nag yn Lloegr, dydy hynny ddim yn golygu nad ydy'r pwysau a'r wasgfa ar y sector addysg yma yn urgent ac yn acíwt. Jest edrychwch ar faint y deficit sy'n cael ei gario nawr gan ysgolion yng Nghymru.

Ac mae cyfle i fynd i'r afael â hynny nawr, diolch i Lywodraeth Lafur sy'n ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus ar ochr Lloegr i'r ffin. Fe ganolbwyntiaf ar y cyllid, o ystyried fy rôl fel llefarydd, oherwydd bydd rhai ar feinciau'r Llywodraeth yn honni nad yw'r cyllid yno i wneud hyn. Nid wyf yn derbyn hyn. O dan gyllideb atodol y Llywodraeth, maent yn bwriadu cadw £246 miliwn fel arian wrth gefn heb ei ddyrannu yn ystod y flwyddyn, gan roi'r arian hwnnw yn y banc i bob pwrpas yn hytrach na'i ddefnyddio i helpu ysgolion. Efallai y bydd eraill yn dadlau bod angen yr arian wrth gefn i reoli pwysau yn ystod y flwyddyn yn y gwasanaeth iechyd. Unwaith eto, rwy'n gwrthod yr honiad hwnnw.

Gadewch inni gymharu faint o adnoddau heb eu dyrannu sydd ar gael yn y gyllideb atodol eleni gyda blynyddoedd blaenorol. Yn y gyllideb atodol gyntaf y llynedd, dim ond £1.8 miliwn o gyllid heb ei ddyrannu oedd ar gael. Ar yr un pwynt yn y flwyddyn flaenorol, roedd yn £36 miliwn; y flwyddyn cyn hynny, £60 miliwn. Nid yw cario £246 miliwn o adnoddau heb eu dyrannu, fel yr argymhellir o dan y gyllideb, yn nodweddiadol. Rhaid ichi fynd yn ôl i gyfnod COVID i ddod o hyd i amser pan oedd gan y gyllideb atodol lefel uwch o gyllid nad oedd wedi'i ddyrannu. Oes, mae pwysau ariannol o gyfeiriad y GIG. Mae yna bob amser bwysau ariannol o gyfeiriad y GIG. Swydd y Gweinidog iechyd, y Gweinidog cyllid a'r Gweinidog dros effeithlonrwydd y Llywodraeth nawr yw rheoli'r pwysau hynny'n gynaliadwy, fel y mae Llywodraethau blaenorol wedi gwneud. Rwy'n ofni—. Ac rwy'n gobeithio fy mod i'n anghywir, ond rwy'n ofni mai'r gwir reswm dros gadw cymaint o arian yn ôl heb ei ddyrannu yw i dalu am faniffesto heb ei chostio Plaid Cymru, ac yn fy marn i, mae gwneud hynny ar draul ein hysgolion yn anghywir.

Rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau am y mater hwn, ac rwyf am orffen heddiw drwy ddyfynnu e-bost gan brifathro yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd Penarth a gefais ychydig oriau yn ôl: 'Byddai cyllid ADY ychwanegol', meddai, 'yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Byddai'n caniatáu i ysgolion gyflogi a chadw staff arbenigol, yn darparu ymyrraeth gynharach cyn i anghenion waethygu, yn lleihau dibyniaeth ar staff asiantaeth drud, yn datblygu darpariaethau dysgu mwy hyblyg ar gyfer disgyblion ag anghenion mwy cymhleth, yn diogelu cyllidebau addysgol craidd rhag cael eu dargyfeirio i dalu am bwysau ADY heb eu hariannu ac yn cefnogi cynhwysiant yn well gan sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu.' Nid ateb dros dro, ond gwahaniaeth ystyrlon. Dyna'r cyfle sydd gennym heddiw—i wneud gwahaniaeth ystyrlon. [Torri ar draws.] Mae fy amser bron ar ben, Darren.

18:20

Rwy'n deall hynny. Ymyriad byr iawn yn unig. Edrychwch, rydym yn cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau heddiw. Rydym am weld mwy o arian yn mynd tuag at gymorth anghenion dysgu ychwanegol. Ond a ydych chi'n derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb fel Plaid Lafur am y llanast yr ydym ynddo ar hyn o bryd, o ran cyllidebau ysgolion ac o ran y system anghenion dysgu ychwanegol nad yw'n gynaliadwy ac nad yw'n gweithio'n iawn?

Os gwnaiff y Dirprwy Lywydd ganiatáu imi ymateb i hynny, rwy'n edrych ar fy mhrofiad blaenorol o arwain Cyngor Caerdydd, ac mae sawl enghraifft ledled Cymru—cyllidebau addysg sydd wedi'u diogelu, ochr yn ochr â gwasanaethau cymdeithasol, i ymateb i'r angen sydd wedi tyfu fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf; rwy'n credu bod Mike yn sôn am gynnydd o 34 y cant yn Abertawe. Caiff hynny ei adlewyrchu ledled Cymru. Mae'r cyllid wedi mynd i mewn, ond bu'n rhaid i wasanaethau eraill ddioddef i dalu amdano. 

Felly, heddiw mae gennym gyfle ystyrlon i wneud gwahaniaeth i'n hysgolion, i ddysgwyr mwyaf agored i niwed Cymru. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr. 

18:25

Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni yma heddiw yn trafod anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n bwnc mor bwysig i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, a'n hysgolion ledled Cymru. 

Cyn dechrau, hoffwn ddatgan buddiant personol. Mae fy chwaer yn gweithio fel ALNCo—cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol—mewn ysgol uwchradd, a thrwy ei phrofiadau hi rwy’n gweld yn uniongyrchol y pwysau sydd ar athrawon ac ar ysgolion bob dydd—y llwyth gwaith, cymhlethdod y system a’r ymrwymiad di-flino i wneud y peth iawn i bob dysgwr, er gwaethaf yr heriau.

Nid oes amheuaeth bod y system o dan bwysau. Mae teuluoedd yn ei weld, mae dysgwyr yn ei deimlo, ac mae staff ein hysgolion a’n hunedau arbennig yn ei fyw bob dydd. Ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n i gryfhau’r system anghenion dysgu ychwanegol, a gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy a chynhwysfawr.

Rwy’n cytuno bod angen gweithredu, ond nid yw’r cynnig gerbron heddiw yn mynd i’r afael â’r heriau sylfaenol sydd gennym ni. Mae angen ateb tymor hir arnom, system sydd ar seiliau cadarn, sy’n gweithio i deuluoedd ac i ddysgwyr ym mhob rhan o Gymru. Mae hynny’n golygu symleiddio’r system, sicrhau cysondeb rhwng awdurdodau lleol, a rhoi hyfforddiant cywir i athrawon. Mae’n golygu hefyd adeiladu dull gwirioneddol integredig, dod ag addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau ieuenctid at ei gilydd i gefnogi’r plentyn cyfan.

Rwy’n gweld enghreifftiau cadarnhaol o hyn eisoes yn lleol, er enghraifft yng nghyngor Ynys Môn, lle mae ymdrechion i integreiddio gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol, cynhwysiant a gofal cymdeithasol i greu gwasanaeth mwy cydlynol. Dyma’r math o newid strwythurol sydd ei angen. Ac mewn ardaloedd gwledig, rhaid i ni hefyd fod yn onest am yr heriau penodol—mynediad at arbenigedd, capasiti, a daearyddiaeth a darpariaeth Gymraeg—ac ymateb i hynny’n briodol.

Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynllunio ar sail gadarn a chynaliadwy ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, gyda gwerthusiad llawer mwy cynhwysfawr o’n sefyllfa bresennol o ran cyllid ADY, a sut y gall y Llywodraeth gynllunio gwasanaeth sy’n darparu’n well i rieni a phlant, yn deg, ledled Cymru, ac mewn ffordd sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Ac yn olaf, Vikki Howells. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad heddiw i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Lynne Neagle, a byddaf yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr yn ein colegau, ein sector addysg bellach. Oherwydd nid dim ond mater sy'n dod i ben pan fydd ein pobl ifanc yn gadael yr ysgol yw hwn. 

Rwyf am ddweud yn glir fy mod yn deall y pwyntiau y mae Plaid Cymru wedi'u gwneud ac y bydd yn eu gwneud ynglŷn â symiau canlyniadol Barnett. Rwy'n eu deall, ond yn yr achos hwn, rwy'n eu gwrthod. Yn gyntaf, mae'n bwynt ymarferol. Mae hon yn Senedd lle nad oes gan un blaid fwyafrif. Nid yw hynny'n ddim byd newydd; rydym wedi bod yma o'r blaen. Ond gwyddom fod hynny'n golygu bod angen ymdrin â pholisi a'r broses o wneud penderfyniadau mewn ysbryd o gonsensws. Ac rwy'n annog y Prif Weinidog a'i Lywodraeth i wrando.

Ac yn ail, mae'n bwynt o egwyddor. Mae'n ymwneud â chefnogi rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Ni all unrhyw awydd i wneud pethau'n wahanol i San Steffan gyfiawnhau cymryd arian sydd ar gael i gefnogi dysgwyr ag ADY, fel eu bod nhw ar eu colled, fel eu bod nhw'n cael bargen waeth na phobl ifanc yn Lloegr. Ac mae fy safbwynt wedi ei lywio gan fy mhrofiad fy hun fel cyn Weinidog dros Addysg Bellach ac Uwch yn nhymor diwethaf y Senedd. Yn ystod fy nghyfnod yn y Llywodraeth, ymwelais â phob coleg yng Nghymru fwy nag unwaith, ac yn gyson ar yr ymweliadau hynny, y pwysau mwyaf a gâi ei ddwyn i fy sylw gan brifathrawon, gan staff a chan fyfyrwyr oedd ADY. Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig iawn nad yw fy olynydd, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, yn y Siambr heddiw i glywed y pwyntiau hyn. 

Diolch i ColegauCymru a phawb yn y sector sydd wedi siarad â mi wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon heddiw. Rydym yn y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu ADY yn y sector addysg bellach. Mae colegau'n wynebu heriau sylweddol wrth gyflawni agweddau ar eu dyletswyddau statudol. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o lwyth gwaith sy'n gysylltiedig â newid—pwynt a nodwyd yn adolygiad blaenorol Llywodraeth Cymru o'r fframwaith deddfwriaethol ADY yn gynnar y llynedd—a heriau eraill ynghylch rheoli gwybodaeth ac ymgysylltu â dysgwyr a rhanddeiliaid. Ac mae her allweddol wedi dod i'r amlwg gyda chynllun cod a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru), yn enwedig yn ystod tymor yr hydref. Disgwylir i golegau gynnal adolygiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cynlluniau datblygu unigol, a gweithredu darpariaeth ddysgu ychwanegol, gan reoli nifer cynyddol o drefniadau mynediad at arholiadau ar yr un pryd, ac mae'r sector yn dweud wrthyf yn gyson bod hyn yn profi'n anodd iawn i'w gyflawni'n gydamserol.

Fel Llywodraeth, llwyddodd Llafur Cymru i ddarparu £3.2 miliwn ychwanegol o gyllid i sefydliadau addysg bellach yn gynharach eleni, gan adeiladu ar ddegau o filiynau o gyllid ychwanegol yr oeddem eisoes wedi'i ddyrannu. Mae hynny'n ychwanegol at fuddsoddiad cyfalaf o £5 miliwn i greu amgylcheddau dysgu mwy hygyrch a chynhwysol yn ein colegau.

Mae pryderon eraill yn y sector yn ymwneud â sut y maent yn bodloni gofynion staffio i sicrhau y gallant gyflawni eu dyletswyddau yn y flwyddyn i ddod. O'r 13 coleg addysg bellach yng Nghymru, dim ond pedwar sy'n teimlo'n hyderus y gallant wneud hyn. Mae yna heriau pellach yn gysylltiedig â diffyg platfform digidol cydlynol ledled y sector ar gyfer cynlluniau datblygu unigol. Mae mynd i'r afael â hyn yn galw am fuddsoddiad, rhywbeth y mae'r sector yn teimlo ei fod y tu hwnt i'w gallu ariannol ar hyn o bryd.

Efallai ei fod yn swnio fel pe bawn yn canolbwyntio ar strwythur a staffio, ond dyma'r sgaffaldiau sydd eu hangen i sicrhau bod anghenion y dysgwyr hynny'n cael eu diwallu. Mae cwestiwn yn codi hefyd ynghylch y ffordd orau o ddiwallu anghenion addysg a hyfforddiant pobl ifanc ag anghenion cymhleth iawn. Mae'r galw am leoliadau cost uchel mewn darpariaeth arbenigol annibynnol wedi bod yn cynyddu. Mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau cynyddol gydag ariannu'r rhain, ac mae'r pwysau hwn yn debygol o ddwysáu yn dilyn adolygiad barnwrol y llynedd, a eglurodd ddisgwyliadau ynghylch y potensial ar gyfer lleoliadau am gyfnodau estynedig. Rhaid ystyried goblygiadau ariannol hirdymor diwallu'r anghenion hyn, a gwneud hynny yn y ffordd fwyaf teg ac effeithiol.

Mae hyn i gyd yn tanlinellu pam rwy'n ei hystyried yn anhygoel fod Llywodraeth Plaid Cymru'n rhoi'r gorau i'r holl waith a gwblhawyd gennyf yn y Llywodraeth i baratoi ar gyfer ailwampio'r system drydyddol gyfan—ein colegau, ein rhwydweithiau dysgu oedolion a'n prifysgolion. Maent yn gwneud hynny o blaid adolygiad newydd a fydd yn canolbwyntio ar addysg uwch yn unig, gan esgeuluso anghenion ein dysgwyr ôl-16 sydd bellaf o'r farchnad swyddi, gan esgeuluso anghenion dysgwyr ôl-16 sydd ag ADY, gan droi eu cefnau ar y bobl ifanc mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Yn sicr, nid gweithredoedd y Llywodraeth flaengar y maent yn honni bod yw'r rhain. Ac mae gwrthodiad Plaid Cymru i gefnogi galwad Llafur Cymru i fuddsoddi'r cyllid canlyniadol hwn yn nyfodol ein pobl ifanc yn dangos hyn yn glir.

Cyn imi orffen, rwyf am droi at welliant y Llywodraeth. Mae'n nodi anghynaliadwyedd y model cyllido presennol ac yn cydnabod pwysau o fewn y system, ond nid yw'n ymrwymo i weithredu a defnyddio'r arian sydd ar gael i wneud pethau'n well. Mae hynny'n anesboniadwy ac yn waeth na dim, mae'n gwneud cam â'n dysgwyr, mae'n gwneud cam â'u teuluoedd ac mae'n gwneud cam â Chymru.

18:30

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones.

Ddirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl yma. Mae'r rhain yn faterion pwysig i blant, teuluoedd ac ysgolion ledled Cymru. Dwi am ddechrau drwy fod yn glir: mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud ymrwymiad i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Rŷn ni'n mabwysiadu dull strategol i wneud y system anghenion dysgu ychwanegol yn gynaliadwy, system sydd wir yn taclo'r heriau sylfaenol yn hytrach na jest ymateb i bwysau tymor byr.

Mae ein maniffesto yn cynnwys cyfres o fesurau i'r perwyl yma, ac mae'r Gweinidog addysg eisoes yn gweithio ar flaenoriaethau anghenion dysgu ychwanegol, rhai ymarferol a chyllidebol. Mae hwn yn fater cymhleth ac mae angen cyfres o ymatebion cymhleth iddo, a dyna pam mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno'r gwelliant heddiw.

Yn gyntaf, dwi am ymdrin â'r dybiaeth sylfaenol sy'n sail i'r cynnig yma. Mae'n awgrymu y dylai'r cyllid sy'n dod i law o ganlyniad i benderfyniadau yn Lloegr gael ei drosglwyddo i'r un maes polisi yng Nghymru. Nid felly mae datganoli'n gweithio. Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut mae cyllid yn cael ei neilltuo. Dyma'n union sut roedd Llywodraeth flaenorol Cymru'n gweithio, a dyna sut bydd y Llywodraeth yma hefyd yn gweithredu.

Yn ail, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni fod yn glir am natur y cyllid canlyniadol penodol yma. Dyw'r cyllid canlyniadol a ddaeth i law ddim yn adlewyrchu buddsoddiad newydd i wella gwasanaethau yn Lloegr. Mae'n gyllid y mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ei roi i ddileu diffygion ariannol hanesyddol oedd wedi cronni mewn awdurdodau lleol yn Lloegr mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig. Yn Lloegr, felly, dyw'r cyllid ychwanegol yma ddim yn mynd i gefnogi gwasanaethau addysg arbennig, a dyw'r cyllid canlyniadol ddim yn recurrent. Cyllid untro'n unig yw'r arian am y flwyddyn eleni, ac mae'r cyllid recurrent i gyrraedd yn 2028-29.

Mae adroddiad Archwilio Cymru, sy'n cael ei grybwyll yn ein gwelliant ni, yn rhoi darlun clir o system sy'n rhoi straen gynyddol ar ein hawdurdodau lleol. Mae gwariant awdurdodau lleol ar ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol bellach yn tynnu tuag at o leiaf £1 biliwn y flwyddyn. Ar ben hyn, yn ôl yr adroddiad, does gan y system ddim trefniadau cadarn ar gyfer casglu data, does gan gyrff cyhoeddus ddim dealltwriaeth iawn o'r costau, ac mae anghysondeb mawr o ran darpariaeth a mynediad teg. Mae gwaith mawr o flaen y Llywodraeth i daclo'r diffygion yma i gyd a chreu cyfundrefn llawer mwy effeithiol a chynaliadwy.

Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod ac yn cytuno â'r dadansoddiad a amlinellwyd gan Lynne Neagle wrth gyflwyno'r ddadl hon. Rydych chi'n gwybod yn well na'r mwyafrif, Lynne, am y pwysau yn ein hysgolion ac o fewn anghenion dysgu ychwanegol sy'n cyfrannu at hynny. Rydym yn cytuno bod angen i'r ateb ddechrau y flwyddyn ariannol hon, ond nid oes angen cyllideb atodol o reidrwydd i ddechrau'r gwaith; mae eisoes ar y gweill, fel y dywedais, gan Weinidog y Llywodraeth. 

Mae'n bwysig ar y pwynt hwn, rwy'n credu, i ailadrodd eto beth yw'r dyraniadau adnoddau a gynigir yn y gyllideb atodol hon. Mae'n adnodd ychwanegol o £164 miliwn o fewn y flwyddyn yn unig, a'r rhan fwyaf ohono yw'r £100 miliwn i'r GIG i leihau amseroedd aros. Er y bydd ei ddefnydd yn wahanol i ffordd y Llywodraeth flaenorol o fynd i'r afael â rhestrau aros, yn ei hanfod, mae yr un faint o arian ag a wariwyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol ar gynllun rhestrau aros a ddaeth i ben yn sydyn ychydig cyn yr etholiad.

Mae'r ail ddyraniad mwyaf i ofal plant: £45 miliwn. Gadewch inni ddadansoddi'r £45 miliwn hwn. Mae'n cynnwys tair rhan: £18 miliwn i ariannu'r ymrwymiad a wnaed gan y Llywodraeth flaenorol yn llawn a heb ei ariannu yn y gyllideb a'i drosglwyddo i ni; mae £7 miliwn arall ar gyfer ymrwymiad i gynyddu cyfraddau'r gweithlu a wnaed gan y Llywodraeth flaenorol, ond heb ei ariannu; a dim ond dyraniad o £20 miliwn i ddechrau cyflwyno darpariaeth gofal plant ychwanegol Plaid Cymru.

Wedyn daw'r dyraniad adnoddau trafnidiaeth o £10 miliwn: £8 miliwn ohono i ymestyn y cynllun peilot tocyn bws £1 i bobl ifanc tan ddiwedd mis Mawrth, cynllun a ddechreuwyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, ac sydd bellach yn cael ei barhau gan y Llywodraeth hon; yna, mae £2 filiwn ar gyfer y llwybr bws o'r gogledd i'r de—unwaith eto, cynllun a ddechreuwyd gan y Llywodraeth flaenorol. Yn wir, prynwyd yr wyth bws ar gyfer y llwybr hwn gan Weinidog trafnidiaeth y Llywodraeth flaenorol. Cyfraniad Plaid Cymru yn y gyllideb atodol hon yw dyrannu cyllid adnoddau i roi gyrwyr yn y bysiau.

Rhan olaf y gyllideb atodol yw dyraniad o £9 miliwn i flaenoriaethau a nodwyd yn bennaf fel ymrwymiadau maniffesto Plaid Cymru: prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd; Cynnal, y taliad tlodi plant; a'r rhaglen nofio i ysgolion. Dim ond £9 miliwn o'r dyraniad adnoddau o £164 miliwn yw hyn.

Wrth bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw, a yw'r Aelodau'n gofyn i'r Llywodraeth ailddyrannu'r £9 miliwn hwn i addysg ADY, neu'r cyfanswm o £344 miliwn i ADY, fel y cynigiwyd gan Mike Hedges? Neu a ydych chi'n dweud, fel Aelodau, nad ydych chi am inni wario ar leihau rhestrau aros o gwbl, peidio â gwario ar ymrwymiadau gofal plant a wnaed gan Lafur mewn grym, peidio â pharhau'r tocyn bws £1 i bobl ifanc, oherwydd o ble arall y daw'r arian?

A dyma ni'n dod at graidd sefyllfa ariannol y Llywodraeth hon, fel y'i hetifeddwyd gan y Llywodraeth flaenorol. Felly, do, pan ddeuthum yn Weinidog cyllid, dywedwyd wrthyf fod arian canlyniadol untro nad yw'n arian cylchol o dros £300 miliwn i gyllideb Cymru o ganlyniad i ddileu dyled awdurdodau lleol yn Lloegr. Ond ar yr un pryd, dywedwyd wrthyf fod pwysau ariannol heb eu hariannu yn y gyllideb a etifeddais o dros £300 miliwn yn y GIG a mwy mewn mannau eraill, gan gynnwys gofal plant, fel y nodais eisoes. Felly, ar amrantiad, roeddwn £300 miliwn ar fy ennill a £300 miliwn ar fy ngholled. Dyna pam y mae'r gyllideb atodol yn cynnwys £246 miliwn o adnoddau heb eu dyrannu i ddelio â phwysau yn ystod y flwyddyn.

Nawr, bydd ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i flaenoriaethu'r cyllid heb ei ddyrannu dros y misoedd nesaf, ond mae'n rhy gynnar i wneud hynny eto yn y gyllideb atodol gyntaf hon, ddau fis yn unig ers ffurfio'r Llywodraeth newydd. A gall pethau newid dros y misoedd nesaf. Mewn gwirionedd, maent eisoes wedi newid ers fy ymddangosiad ger bron y Pwyllgor Cyllid bore ddoe. Mae cynllun buddsoddiad amddiffyn y DU ddoe gan Lywodraeth Lafur y DU yn mynd i gael effaith negyddol ar ein cyllideb gyfalaf. Byddai ein hamcangyfrif o doriad o 1 y cant yng nghyllideb gyfalaf Llywodraeth y DU, pe bai'n cael ei gymhwyso'n gyfartal ar draws holl adrannau'r DU, yn arwain at ostyngiad o £25 miliwn i £30 miliwn fan lleiaf yng nghyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, gyda gostyngiadau pellach tebyg yn y blynyddoedd i ddod hyd at 2029-30. Bydd hyn yn fwyfwy sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru, nid yn fach iawn fel y mae rhai wedi awgrymu, gydag effaith uniongyrchol ar fuddsoddiad mewn ysgolion, ysbytai a thrafnidiaeth. Fe wyddom hefyd fod Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd angen dod o hyd i £4.7 biliwn arall yng nghyllideb yr hydref. Felly, y £25 miliwn i £30 miliwn hwn yw'r lleiafswm o doriad y gallwn ddisgwyl ei wynebu. Gallai gael ei dorri ymhellach yn y flwyddyn ariannol hon.

Rwy'n amau bod y dis eisoes wedi'i fwrw ar y bleidlais ar y cynnig hwn heddiw. Dros fy amser yn y Senedd hon, rwyf wedi gweld llawer o gynghreiriau a chlymbleidiau'n dod ac yn mynd. Mae'n ymddangos heddiw y gallwn weld geni cynghrair fawr newydd yn seithfed tymor y Senedd hon: cynghrair dde-chwith-de, cynghrair eglwys ehangach nag a welwyd erioed o'r blaen, cynghrair wedi'i ffurfio o gyfle gwleidyddol i rai y tu ôl i mi yn hytrach na gwerthoedd a rennir. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi gwelliant y Llywodraeth.

Rwy'n gorffen gyda chynnig diffuant i'r rhai sydd â diddordeb yn y Siambr hon i ddefnyddio'r foment hon, i ddefnyddio'r ffocws hwn ar anghenion dysgu ychwanegol, ac i weithio gyda ni ar y meinciau hyn, gydag awdurdodau lleol, i lunio cynllun cynaliadwy, fforddiadwy ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol sy'n darparu canlyniadau gwell i'n pobl ifanc, ac i wneud hynny mewn ffordd hirdymor ac effeithiol.

18:40

Diolch. Galwaf ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn yr amser sydd gennyf, fe geisiaf ymateb i gymaint o bwyntiau ag y gallaf. Sera, os caf ddechrau gyda chi, diolch am eich cyfraniad, ac rwyf am gydnabod eich profiad bywyd eich hun yn y maes hwn, sy'n hanfodol bwysig. Ond fe wnaethoch chi a Mair Rowlands bwyntiau sydd i'w gweld yn crisialu safbwynt Plaid Cymru ar hyn o bryd, sef bod angen ateb hirdymor i hyn. Rhaid imi ddweud wrthych fod y gwaith hwnnw wedi'i wneud. Cefais adolygiad deddfwriaethol. Gofynnais am arian o ddatganiad y gwanwyn. Roedd yr arian hwnnw'n seiliedig ar yr hyn a ddywedodd swyddogion wrthyf y gallem ei wario yn ystod y flwyddyn. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi'i wneud. Rydym i gyd yn gwybod bod angen inni symud tuag at system fwy cynhwysol. Nid oes neb yn awgrymu y gallai'r system aros yr un fath. Ond mae symud i system gynhwysol yn golygu buddsoddiad—buddsoddi yn y gweithlu, buddsoddi mewn staff—a gweithio gyda'n gilydd yn wahanol. Ni ellir ei wneud heb y cyllid.

Diolch, Cai Parry-Jones, am eich cefnogaeth chi i'r ddadl hefyd. Sam, fe wnaethoch chi bwyntiau pwysig iawn sydd i'w croesawu'n fawr am y pwysau ar ysgolion o'ch profiad fel llywodraethwr, ac rwyf wedi gweld y pwysau hynny bob amser. Diolch, Mike, rydych chi bob amser yn tynnu sylw at y pwysau ar lywodraeth leol, ac rydym yn gwybod bod y pwysau'n hollol enfawr.

Un o'r pethau roeddwn i'n mynd i dynnu sylw atynt a ddaeth allan o'r adolygiad deddfwriaethol, mewn perthynas â phwyntiau Mike lle dywedodd fod teuluoedd yn dweud ei bod bob hi amser yn frwydr, daeth hynny drwodd yn gryf iawn yn yr adolygiad deddfwriaethol. Dyna pam y gwnaethom lansio pecyn cymorth i rieni ar ADY. Ond gwnaethpwyd gwaith arall; fe wnaethom gomisiynu adolygiad o wasanaethau eiriolaeth. Hoffwn weld gwasanaeth eiriolaeth annibynnol yn gweithredu ledled Cymru. Ni all hynny redeg ar awyr iach. Mae angen adnoddau i dynnu'r frwydr allan o'r peth.

Mae sawl Aelod wedi codi mater data. Nid wyf yn anghytuno o gwbl ar hynny. Dyna pam y gwneuthum fwrw ymlaen ag ymgynghoriad a newidiadau dilynol ar ddata, fel bod gennym set lawer cyfoethocach o wybodaeth, inni allu gweld beth sy'n digwydd yn y system.

A gaf i ddiolch i Benjamin Hodge Mckenna am ei bwyntiau yn y ddadl, ac rwy'n meddwl eu bod wedi'u gwneud yn dda iawn? Rydych chi'n hollol iawn; fel y dywedaf, nid oes neb yn sôn am wneud yr un peth drosodd a throsodd. Rydym yn siarad am symud tuag at system gynhwysol, a fydd yn galw am adnoddau. Fe wnaethoch chi bwynt arbennig o bwysig, pan ddywedoch chi y byddai oedi cyn ymateb i hyn yn gwaethygu'r pwysau, a dyna fy ofn i—os cyrhaeddwn 2028-29, bydd y system dan bwysau mor ddifrifol nes y bydd bron â chwalu, ac ni allwn adael iddi gyrraedd y sefyllfa honno.

Diolch am eich sylwadau, Huw. Os caf fynd ar drywydd un neu ddau o'r pwyntiau hynny, do, fe gawsom ddadl am drawma yn gynharach. Ac nid yw'r hyn a welwn bellach mewn ysgolion yn anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystyr draddodiadol yr oeddem wedi arfer â hi; rydym yn gweld plant nad ydynt yn gallu dysgu am nad ydynt yn barod ar gyfer yr ysgol, am nad yw eu lleferydd a'u hiaith wedi'u datblygu, am nad yw rhieni wedi bod yn siarad â nhw yn yr un ffordd ag o'r blaen. Rwyf wedi cael penaethiaid yn dweud wrthyf eu bod wedi cael ystafelloedd dosbarth cyfan lle mae'r plant i gyd bron yn ddi-eiriau, ac nid yw'n deillio o unrhyw gyflwr iechyd, mae'n ganlyniad i'r ffaith nad ydynt yn barod ar gyfer yr ysgol a heb ddatblygu lleferydd ac iaith. Mae'r un peth yn wir am drawma. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw ein bod yn symud at system lle caiff holl anghenion plant eu diwallu'n effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.

Fe wnaethoch chi bwynt pwysig iawn ynglŷn â'r swm o arian y mae Llywodraeth Plaid Cymru yn ei adael heb ei ddyrannu. Elin, ni allwch ddweud eich bod wedi etifeddu sefyllfa ariannol anodd iawn pan oeddech chi'n rhan o'r gyllideb a gytunwyd. Pan wnaethom adael £120 miliwn mewn cyfalaf i chi a'r holl arian refeniw, y gofynnais amdano ac na allwn ei ddyrannu ar gyfer addysg, ni allwch ddweud hynny ac yna dweud eich bod wedi etifeddu sefyllfa ariannol wael. Rwy'n poeni am y swm o arian rydych chi'n ei adael heb ei ddyrannu, ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych, os ydych chi'n cynilo'r arian hwnnw ar gyfer diwrnod glawog, mae'n bwrw glaw nawr ar addysg ac mae angen yr arian hwnnw arnom nawr. Gobeithio y gwnaiff yr Aelodau gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

18:45

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod pump Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dadl Reform UK, cenedl noddfa. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Dan Thomas. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, ymatal dim, yn erbyn 52, cyfanswm 90. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Cenedl Noddfa. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 38, Yn erbyn: 52, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, ymatal dim, yn erbyn 38, cyfanswm 90. Mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

18:50

Eitem 7. Dadl Reform UK - Cenedl Noddfa. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 52, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM9278 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cenedl noddfa yn ddull o gefnogi pobl sy'n ceisio lloches, gan gynnwys ffoaduriaid o Wcrain sy’n ffoi rhag rhyfel ymosodol anghyfreithlon Putin;

b) bod polisi mewnfudo, gan gynnwys lloches a phenderfyniadau ynghylch lleoli pobl a nifer y bobl a leolir yng Nghymru, wedi’i gadw yn ôl i Lywodraeth y DU; ac

c) bod gan Gymru hanes hir o groesawu pobl sy'n ffoi rhag trais neu erledigaeth gyda pharch a thosturi.

2. Yn gresynu at y drafodaeth a'r rhethreg sy'n ceisio troi mewnfudo a lloches yn fater sy’n rhannu pobl a chymunedau.

3. Yn penderfynu cynnal egwyddor undod rhyngwladol a chefnogi cymunedau diogel, unedig trwy weithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl sy'n ceisio noddfa i integreiddio a chyfrannu'n gadarnhaol i'n cenedl.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 52, ymatal dim, yn erbyn 38, cyfanswm 90. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Cenedl Noddfa. Cynnig wedi’i ddiwygio. : O blaid: 52, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dadl Llafur Cymru, cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y gyllideb atodol cyntaf ar gyfer 2026-27. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Os gwrthodir y cynnig, byddwn ni'n pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 46, ymatal tri, yn erbyn 41, cyfanswm 90. Mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl Llafur Cymru - Cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2026-27. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 46, Yn erbyn: 41, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Creu uchelgais fawr i’r stryd fawr—Datrys heriau Bangor Conwy Môn

Ymlaen i'r ddadl fer. Os ydych chi'n gadael y Siambr, plis gwnewch hynny yn dawel ac yn sydyn. 

Os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda, er mwyn inni allu symud ymlaen at y ddadl fer. Diolch yn fawr.

Symudaf yn awr i ddadl fer heddiw. Galwaf ar Mair Rowlands i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi wedi cael dau gais am gyfraniad i'r ddadl—gan fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Bangor Conwy Môn, Elfed Williams, a Peredur Owen Griffiths. Byddaf yn rhoi munud yr un iddynt gyfrannu. 

O dreftadaeth forwrol Caergybi i bensaernïaeth Fictoraidd Llandudno, stryd fawr hyfryd Llanrwst, a'r stryd fawr hiraf yng Nghymru gyfan ym Mangor, sy'n cael ei chydnabod fel y ddinas hynaf yng Nghymru, mae etholaeth Bangor Conwy Môn yn gartref i nifer o ganol trefi a strydoedd mawr adnabyddus a phoblogaidd, pob un â'u hanes a'u hunaniaeth unigryw eu hunain. Ymhell o fod yn ganolfannau mewn enw yn unig, roedd y lleoedd hyn unwaith yn ganolfannau twf economaidd a gweithgarwch cymunedol, ond mae'r duedd ehangach sy'n wynebu strydoedd mawr ledled Cymru a'r DU o ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a'r trosiant ochr yn ochr â chynnydd mawr mewn manwerthu ar-lein a siopau gwag yn golygu bod llawer o'n canol trefi lleol wedi gweld dyddiau gwell.

Mae'n bwysig nodi ar ddechrau'r ddadl hon, er gwaethaf yr hinsawdd gynyddol heriol sy'n wynebu ein strydoedd mawr, fod nifer o enghreifftiau rhagorol o hyd ym Mangor Conwy Môn ac ar draws Cymru, rwy'n siŵr, o fusnesau a mentrau cymunedol sy'n cadw ein canol trefi'n fyw. Dylem fod yn benderfynol o wella'r amodau i'r rhai sy'n dal yno, ac o ddarparu canol trefi bywiog i'n cymunedau lleol, gan ein hysgogi i anelu'n uchel ar ran ein strydoedd mawr dros y tymor seneddol hwn a thu hwnt.

Ddirprwy Lywydd, yn aml mae'r drafodaeth ynghylch adfywio strydoedd mawr yn canolbwyntio ar adfer beth oedd yno o'r blaen, yn hytrach nag ailddychmygu ac ailddiffinio beth allai ein canol trefi fod yn y dyfodol. Yr hyn y byddwn i'n ei annog heddiw wrth edrych tuag at ddyfodol ein strydoedd mawr yw ein bod ni'n gwneud yn union hynny: edrych ymlaen, nid edrych yn ôl. Ie, defnyddio'r gorffennol fel conglfaen ar gyfer hunaniaeth ein trefi, ond nid fel glasbrint ar gyfer gwireddu strydoedd mawr addas i bwrpas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Dywedodd Edward Thomas Jones a Carl Mather o Brifysgol Bangor yn eu herthygl ddiweddar ar strydoedd mawr y ddinas ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, er mwyn symud ymlaen, fod angen i'r ffocws symud tuag at greu profiadau ystyrlon ac annog ymgysylltiad go iawn yng nghanol y ddinas. Mae hynny'n golygu rhoi llais clir i bobl lunio'r hyn y maent eisiau ei weld a'i wneud. Gwrando nid yn unig ar ddefnyddwyr gwasanaethau, ond ar ddarparwyr gwasanaethau, fydd yr allwedd os ydym am ddarparu'r atebion sydd eu hangen i ddod â bywyd newydd i'n strydoedd mawr ym Mangor Conwy Môn.

Beth yw'r atebion hynny? I fusnesau sydd eisoes ar ein strydoedd mawr, rhaid i sicrhau chwarae teg gael blaenoriaeth. Roeddwn yn falch o sefyll ar faniffesto a oedd yn ymrwymo i ddiwygio ardrethi busnes er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hirsefydlog sy'n golygu bod siopau ar gyrion y dref y cael mwy o gefnogaeth na busnesau yng nghanol y dref, a buaswn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwnnw yn ei ymateb.

Ond ni fydd cefnogi busnesau presennol yn unig yn ddigon i fynd i'r afael â'r eiddo gwag, sy'n aml wedi'i fyrddio ac sydd, yn anffodus, wedi dod yn gyffredin ar ein strydoedd mawr. Er mwyn dod ag egni newydd i ganol y dref, rhaid inni annog creu busnesau newydd a manteisio ar yr ysbryd entrepreneuraidd ymhlith y genhedlaeth iau yn enwedig. Ym Mangor Conwy Môn, mae'n golygu gwneud yn fawr o'n cryfderau a defnyddio ein hanes a'n hadnoddau yn llawer mwy effeithiol fel llwyfannau ar gyfer twf economaidd a chreu busnesau yng nghanol ein trefi. Mae'n golygu defnyddio ein henw da am gynhyrchu bwyd i gefnogi ein sector lletygarwch. Mae'n golygu defnyddio ein hagosrwydd at lan y môr a'r ucheldir fel ei gilydd i gryfhau'r sector hamdden. Ac mae'n golygu defnyddio'r sector twristiaeth ffyniannus fel bloc adeiladu ar gyfer y sector manwerthu. Mae gennym yr holl elfennau i greu busnesau ffyniannus ar ein strydoedd mawr ym Mangor Conwy Môn, ond mae'n rhaid inni greu'r ecosystem economaidd gywir iddynt dyfu.

Wrth droi at wasanaethau, mae’n anodd cuddio’r difrod y mae’r cwymp sylweddol mewn gwasanaethau ar ein strydoedd mawr wedi’i gael ar eu prysurdeb: banciau masnachol yn anghofio’u dyletswydd i’w cwsmeriaid mewn cymunedau cefn gwlad drwy gau’r gangen olaf o fewn amser teithio rhesymol; fferyllfeydd yn canoli gwasanaethau; asiantaethau teithio yn cynnig gwell bargenion ar-lein; busnesau yn cynnig apwyntiadau rhithiol er mwyn arbed costau swyddfa. Nid yw pob un o’r enghreifftiau yna’n afresymol; i’r gwrthwyneb, mae rhai ohonynt yn gwneud cael mynediad at wasanaethau yn haws. Ond mae pob un ohonynt yn golygu bod y nifer o resymau sydd gan bobl i alw draw i’r stryd fawr yn lleihau. Ond, fel sy'n wir gyda’n hagwedd tuag at fusnesau, rhaid i’r egwyddor o arloesi yn hytrach nag adfer fod yn ganolog i’r strategaeth at wasanaethau hefyd.

Yng Nghaergybi, fel enghraifft, mae’r hwb fancio newydd, sydd yn cynnig yr holl wasanaethau dydd i ddydd fyddai banc masnachol yn ei gynnig, wedi profi i fod yn ased gwerthfawr i’r gymuned, yn dilyn nifer o ganghennau yn cau yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r cynlluniau sydd ar y gweill i ddefnyddio’r gwagle hirsefydlog mewn eiddo masnachol ym Mangor ar gyfer hwb iechyd nid yn unig yn ateb y galw am fwy o wasanaethau meddygol mewn poblogaeth oedrannus, ond hefyd yn denu mwy o bobl i’r stryd fawr yn hytrach nag i’n hysbytai. Mae’n anochel yn yr oes dechnolegol sydd ohoni fod defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth yn newid eu harferion, ond drwy arloesi a symud gyda’r amser, nid oes rhaid i’n strydoedd mawr golli allan o’u herwydd. 

Ar y cwestiwn o bwy sy’n gyfrifol am yrru’r gwaith ymlaen, dwi’n credu mai’r Prif Weinidog atebodd hynny orau ar lawr y Siambr rai wythnosau yn ôl pan ddywedodd mai 'partneriaeth' oedd y gair allweddol. Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, busnesau, buddsoddwyr preifat, byrddau iechyd, prifysgolion a nifer o rhanddeiliaid allweddol eraill—mae gan bawb eu rhan i’w chwarae. Ond, yn bwysicaf oll, pobl a chymunedau lleol. Nhw sydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer ein strydoedd mawr, a chyfrifoldeb y gweddill ohonom yw ymateb i’r galw hwnnw.

Fe wnaf orffen lle dechreuais, ar strydoedd cobls Conwy, gyda sŵn afon Menai yn yr aer ym Mhorthaethwy a'r olwg ar chwarel y Penrhyn ar y gorwel ym Methesda. Gall ein strydoedd mawr ym Mangor Conwy Môn, a ledled Cymru, ddod yn ganolfannau twf economaidd, gweithgarwch a bywyd cymunedol unwaith eto, ond nid trwy edrych ar atebion ddoe y gwnawn gyflawni hynny, ond trwy ymateb i anghenion a chyfleoedd heddiw ac yfory. Diolch yn fawr.

18:55

Hoffwn ganolbwyntio ar stryd fawr ymhellach i'r de, yn fy etholaeth i, Casnewydd Islwyn. Mae strydoedd mawr fel un Casnewydd yn fwy na dim ond llefydd i siopa. Dyma lle mae pobl yn cyfarfod, lle mae busnesau bach yn gwneud eu bywoliaeth a lle mae cymeriad dinas yn cael ei siapio. Rwy'n gwybod hyn o brofiad personol. Ar ôl y brifysgol, dechreuodd fy ngyrfa fy hun mewn banc ar stryd fawr Casnewydd, a gwelais drosof fy hun pa mor bwysig yw'r busnesau hynny fel cyflogwyr ac angorau cymunedol. Ond mae'r pwysau'n glir. Mae busnesau mawr yn gadael y strydoedd mawr, mae nifer yr ymwelwyr yn newid ac mae gormod o unedau gwag yn dod yn arwyddion gweladwy o ddirywiad. Mae hynny'n effeithio ar fasnachwyr annibynnol, busnesau lletygarwch a hyder lleol. Mae ardrethi busnes yn ganolog i hyn. I lawer o fasnachwyr, dyna yw'r gost sefydlog fwyaf, ni waeth a yw derbyniadau'n codi neu'n gostwng. Felly, a all y Gweinidog nodi pa ystyriaethau pellach sy'n cael eu rhoi i ddiwygio ardrethi busnes a pha ddisgwyliadau sy'n cael eu gosod ar awdurdodau lleol i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i gefnogi strydoedd mawr fel un Casnewydd? Diolch yn fawr.

19:00

Dwi'n diolch i'r Aelod am godi mater sydd mor gyfredol ym Mangor Conwy Môn. Gyda'r etholaeth yn gartref i nifer fawr o gymunedau gwledig, mae gan ein strydoedd mawr rôl annatod i'w chwarae wrth sicrhau bod trigolion gyda mynediad cyfleus at wasanaethau allweddol. Ond fel mae'r Aelod eisoes wedi nodi, mae'r dirywiad yn ein canol trefi dros y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod nifer o'r gwasanaethau hynny wedi diflannu, a chymunedau cefn gwlad sydd rŵan ar eu colled.

Wrth fynd ati i ailadeiladu ein strydoedd mawr yn y dyfodol, mae'n rhaid sicrhau bod anghenion cymunedau gwledig yn ganolog i'r drafodaeth a bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i arloesi fel bod y gwasanaethau sy'n hanfodol i fywyd pob dydd ar gael yn gyfartal i bawb, beth bynnag eu cod post. Diolch.

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i ymateb i'r ddadl—Siân Gwenllian.

Member
Sian Gwenllian 19:02:01
Cabinet Minister for Local Government, Housing and Planning

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Mair Rowlands am ddod â'r ddadl bwysig yma i'r Senedd. Mae'n fater sy'n bwysig nid yn unig i gymunedau ym Mangor Conwy Môn, ond yn fater pwysig ar draws Cymru gyfan, ac mae Peredur Owen Griffiths wedi tynnu'n sylw ni at y sefyllfa yng Nghasnewydd. Diolch hefyd i Elfed am sôn yn benodol am gymunedau gwledig sydd hefyd yn wynebu rhwystrau. Mae'r stryd fawr a chael stryd fawr fywiog yn galon i'n cymunedau ni ac i'n heconomïau lleol ni. Mae'r Llywodraeth yma wedi ymrwymo i sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn llefydd gwydn, yn llefydd amrywiol ac yn llefydd cynaliadwy i'r dyfodol.

Dwi'n gyfarwydd iawn efo stryd fawr Bangor ac efo dinas Bangor. Roedd yn fraint imi fod yn cynrychioli'r ddinas yma yn y Senedd ddiwethaf. Mae'n braf gweld Mair yn parhau i ymorol dros Fangor a dros y stryd fawr. Dŷn ni'n gwybod bod cyflwr rhannau o'r stryd fawr a'r defnydd ohonyn nhw yn peri pryder gweladwy i bobl leol. Mae'r sefyllfa ym Mangor yn adlewyrchu newidiadau strwythurol ehangach yn y ffordd y mae pobl yn siopa, yn gweithio ac yn defnyddio canol ein trefi ni.

Ar draws Bangor Conwy Môn, dŷn ni'n gweld pwysau tebyg, ac ar draws Cymru yn ogystal: eiddo gwag, newid o ran faint sy'n ymweld â'r stryd fawr, pobl yn cael eu denu i'r canolfannau tu allan i'r canolfannau trefol traddodiadol, a'r angen i ddod ag adeiladau yn ôl i ddefnydd. Mae'r rhain i gyd yn rhan o'r darlun cyfarwydd i ni ar draws Cymru. Ond mae yna gyfleoedd clir hefyd, ac mae'n rhaid inni fynd ati i ailddiffinio canol ein trefi ni ar gyfer y dyfodol. Dim ond os byddan nhw'n esblygu y bydd canol ein trefi ni'n llwyddo, ac rydyn ni yn y Llywodraeth yma'n benderfynol o gefnogi'r newid hwnnw.

Mae yna rywfaint o waith adfywio i'w weld ar draws Cymru ac ar draws rhanbarth Bangor Conwy Môn. Mae gweithio efo awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni newid gwirioneddol ar lawr gwlad yn dechrau digwydd mewn sawl lle. Er gwaetha'r problemau ym Mangor, mae yna gamau wedi cael eu cymryd i dargedu mynd i'r afael ag eiddo gwag a chefnogi'r gwaith o ailddefnyddio adeiladau allweddol. Mae hyn yn digwydd ochr yn ochr â gwaith i gryfhau'r cysylltiadau rhwng canol y ddinas, y brifysgol, Pontio a Storiel, er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr. Ac ar draws Conwy, mae yna waith yn digwydd ar brosiectau fel safle Plas yn Dre yn Llanrwst i ddatgloi safle canol tref allweddol ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol. Mae hynny'n cynnwys tai a defnydd masnachol, gan ddangos sut mae mynd ati i adfywio mewn trefi gwledig a chanolfannau mwy fel ei gilydd.

Mewn ardaloedd eraill ar draws y rhanbarth, dŷn ni'n gweld lle mae gwaith adfywio yn creu canlyniadau cadarnhaol, mewn trefi fel Bethesda a Blaenau Ffestiniog. Mae buddsoddiad wedi cefnogi gwaith adfywio o dan arweiniad y gymuned, lle mae partneriaid lleol wedi perchnogi eiddo canol trefi a'u defnyddio nhw'n llwyddiannus unwaith eto fel busnesau cymunedol a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gwaith sy'n digwydd efo sefydliadau fel Cwmni Bro Ffestiniog, Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog a Tabernacl (Bethesda) Cyf ym Methesda, lle mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi helpu mewn blynyddoedd diweddar i sbarduno gweithgarwch economaidd ehangach ac adfywio dros y tymor hwy.

Ar Ynys Môn, mae'r gefnogaeth yn helpu i gyflwyno prosiectau mewn llefydd fel Caergybi sy'n canolbwyntio ar adfywio, gweithgarwch economaidd a gwella'r arlwy yng nghanol y dre, ochr yn ochr â chynlluniau fel terfynfa forol Amlwch, sy'n gwneud defnydd o safleoedd allweddol unwaith eto ac yn cefnogi swyddi. Mae hyn yn adlewyrchu dull sy'n seiliedig ar leoedd, gan weithio efo partneriaid lleol i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd penodol ymhob ardal, a sicrhau bod gwaith adfywio yn cael ei wreiddio yn anghenion cymunedau lleol. Mae dull o greu canolfannau trefi bywiog defnydd cymysg sy'n diwallu anghenion cymunedau rŵan ac yn y dyfodol yn hollbwysig i'r Llywodraeth yma.

Ond, wrth gwrs, rhan o'r darlun ydy hynny. Dŷch chi i gyd yn gyfarwydd iawn â'r ochr arall sydd i bethau hefyd. Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i gefnogi canol trefi i barhau i fod yn berthnasol i sut mae pobl yn byw. Mae hynny'n golygu dod â mwy o gartrefi i ganol trefi, gwneud gwell defnydd o ofodau uwchben siopau a sicrhau bod gwasanaethau, busnesau a gweithgarwch cymunedol yn datblygu yng nghanol ein trefi ni. Ac mae hynny'n cydnabod bod angen atebion gwahanol ar gyfer gwahanol lefydd, boed hynny'n cryfhau cysylltiadau mewn canolfannau mwy fel Bangor, neu ddatgloi cyfleoedd newydd mewn trefi llai a gwledig fel Llanrwst a'r rheini ar draws Ynys Môn.

Mae angen gwneud llawer iawn mwy. Dŷn ni i gyd yn gwybod hynny. Wrth edrych ymlaen, dwi yn benderfynol o wneud mwy i fynd i'r afael â'r heriau strwythurol sy'n wynebu'n strydoedd mawr. Mae hyn yn cynnwys diwygio ardrethi busnes, fel yr oedd yr Aelod yn holi, ac fel, dwi'n meddwl, yr oedd Mair hefyd yn sôn, yr angen i greu balans gwell o ran ardrethi busnes. Felly, mae'r gwaith yna wedi cychwyn i gefnogi busnesau'r strydoedd mawr yn well. Mae o'n cynnwys cefnogaeth barhaus i'r sector lletygarwch a'i gwneud hi'n haws i ddod ag adeiladau yn ôl i ddefnydd.

At ei gilydd, mae hyn i gyd yn golygu sicrhau bod canol trefi'n parhau i fod yn llefydd deniadol i redeg busnes, i fuddsoddi ac i dreulio amser ynddyn nhw. Fel rhan o'r gwaith yma, dŷn ni wrthi'n sefydlu tasglu canol trefi fydd yn dod ag arbenigedd at ei gilydd i sbarduno atebion ymarferol a chyflymu'r gwaith cyflawni ar lawr gwlad. Mi fydd y tasglu'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r rhwystrau allweddol i adfywio—ac ardrethi busnes, ie, ydy un o'r rhwystrau rheini, ond mae problemau cynllunio, problemau pan mae rhywun eisiau newid defnydd adeilad. Mae yna lot o rwystrau, ond dŷn ni'n benderfynol, drwy'r tasglu yma, i roi ffocws clir ar sut i ddatrys y problemau yna ac ar sut y gall canol ein trefi ni barhau i addasu ac ymateb i anghenion sy'n newid. Ac mae o'n golygu gweithio mewn ffyrdd sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd yn well, tynnu partneriaid at ei gilydd yn well a chanolbwyntio ar weithredu, gan sicrhau ein bod ni nid yn unig yn cefnogi gweithgarwch yng nghanol ein trefi ni, ond hefyd yn creu'r amodau cywir ar gyfer newid hirdymor cynaliadwy.

Dŷn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth efo awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau ar draws Bangor Conwy Môn i gefnogi'r gwaith o adfywio ein stryd fawr ac i wneud yr un math o beth, yn amlwg, ar draws Cymru.

Felly, er bod yr heriau yn rhai sylweddol, mae yna hefyd gyfleoedd clir i ail-greu, i ail-lunio, i ailddiffinio canol ein trefi ni i adlewyrchu yn well sut mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser heddiw. Felly, drwy gydweithio parhaus a ffocws cryf ar gyflawni, mi fyddwn ni'n sicrhau y gall canol ein trefi ni addasu, denu gweithgarwch a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.

Felly, diolch yn fawr iawn i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl bwysig yma. Dwi'n edrych ymlaen at fanylu ar nifer o'r materion dwi ddim ond wedi cyffwrdd â nhw heddiw, gan gynnwys dod ag adroddiad ar gynnydd efo sefydlu'r tasglu canol trefi o fewn can diwrnod cyntaf y Llywodraeth yma. Diolch.

19:10

Diolch, Weinidog, a diolch i chi am eich cyfraniadau eto heddiw. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:12.