Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/06/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb. Croeso i chi i gyd. Cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Lynne Neagle.

Blaenoriaethau ar gyfer Addysg

1. Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer addysg yn Sir Fynwy Torfaen? OQ64188

Roeddwn i'n falch iawn i'ch croesawu chi a'r Gweinidog addysg a'r Gymraeg i Ysgol Gymraeg Gwynllyw yr wythnos diwethaf, fy hen ysgol i, Niamh Salkeld a Steffan Lewis, wrth gwrs. Mae dalgylch ysgol Gwynllyw yn un hynod o eang, ond mae anghysonder mawr rhwng telerau mynd i'r ysgol honno i ddisgyblion ôl-16. Rwy'n deall bod disgyblion o Flaenau Gwent a rhai o Dorfaen yn gymwys i deithio am ddim, ond mae disgyblion o sir Fynwy yn gorfod talu tua £600 y flwyddyn i gyrraedd yno. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno gyda fi fod codi tâl o £600 y flwyddyn i deithio i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn annheg, ac a wnaiff e hefyd ymrwymo i bwyso ar Gyngor Sir Fynwy i adolygu'r trefniadau hyn er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad teg ac am ddim at addysg cyfrwng Cymraeg?

13:35

Mi oedd hi wir yn bleser gallu ymweld ag ysgol Gwynllyw yr wythnos diwethaf. Buaswn i'n licio diolch yn fawr iawn i'r staff, ac yn arbennig i'r disgyblion, o'r oed cynradd drwyddo i'r uwchradd, am y croeso gawsom ni. Mae'n ysgol sy'n amlwg yn anelu i ragori ym mhopeth y mae hi'n ei wneud. 

Mae'n sicr angen cydnabod bob amser sut mae costau ychwanegol mewn unrhyw ffordd yn gallu bod yn rhwystr i ddewisiadau mewn addysg. Mae'n bwysig iawn cydnabod bod yna rwystrau yn gallu cael eu rhoi mewn lle oherwydd costau sy'n effeithio at fynediad tuag at addysg Gymraeg. Mae hynny'n rywbeth y mae'r Llywodraeth yma yn ei gymryd o ddifrif, ac mi fydd y Gweinidog addysg a'r iaith Gymraeg, wrth gwrs, yn edrych ar bob opsiwn i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i sichrau bod y rhwystrau yna yn cael eu dileu fesul un. 

Gwasanaethau Meddyg Teulu

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gwasanaethau meddygon teulu yng Nghlwyd? OQ64187

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Dan Thomas.

13:45
13:50
Trefniadau Etholiadol y Senedd

3. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr adolygiad sydd ar ddod o drefniadau etholiadol y Senedd yn cryfhau hyder y cyhoedd yn nemocratiaeth Cymru? OQ64136

13:55
Cymorth i Fusnesau

4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau lleol yng Ngŵyr Abertawe? OQ64183

14:00
14:05
Cenedl Noddfa

5. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o risgiau posibl y cynllun Cenedl Noddfa i ddiogelwch y cyhoedd? OQ64186

14:10

Ac yn olaf ar y cwestiwn hwn, Anthony Slaughter.

14:15
Deallusrwydd Artiffisial yn y Gwasanaeth Iechyd

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gwasanaeth iechyd? OQ64135

14:20
Cymorth i Bobl Niwroamrywiol

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo dull trawslywodraethol o wella canlyniadau i bobl niwroamrywiol? OQ64164

Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog. Un o'r pethau sy'n fy nharo wrth siarad â phobl niwroamrywiol, eu teuluoedd a darparwyr arbenigol yw mai'n anaml y mae profiad o wasanaethau cyhoeddus wedi'i gyfyngu i un adran neu wasanaeth, ac maent yn dweud wrthyf yn barhaus fod symiau sylweddol wedi'u buddsoddi dros nifer o flynyddoedd ar draws gwahanol rannau o'r system, ond maen nhw i gyd yn gytûn nid yw'r canlyniadau wedi gwella cymaint ag y disgwyliwyd, ac nid yw'r gwasanaethau wedi'u hintegreiddio ar draws meysydd. Gyda hynny mewn golwg, sut mae Gweinidogion yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod penderfyniadau ariannu a dylunio gwasanaethau niwrowahaniaeth i gyd yn tynnu i'r un cyfeiriad? Diolch.

Mewn ffordd, mae'r ateb yn y cwestiwn hefyd, ac mae'r Aelod yn sylweddoli yr her, ac mae cydweithio ar draws Llywodraeth yn rhywbeth dwi'n gobeithio fydd yn dod yn thema y byddwn ni'n dychwelyd ati dro ar ôl tro. Mae gwaith eisoes yn digwydd o fewn y Llywodraeth o fapio allan sut i wneud i'r cydweithio yna ddigwydd, beth bynnag ydy'r mater.

Yn yr achos hwn, mae gwella canlyniadau i bobl niwroamrywiol yn rhywbeth sy'n barod yn rhedeg ar draws rhaglen gyfan y Llywodraeth. Dyna sy'n bwysig; nid rhywbeth un adran ydy hi, fel mae'r Aelod yn dweud. Rydyn ni'n cyflawni hyn drwy'r rhaglen gwella niwroamrywiaeth, ac mae honno wedi'i halinio yn glir iawn efo'n hymrwymiad ni i un gwasanaeth cyhoeddus Cymru, yn dod â iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, a llywodraeth leol a phartneriaid eraill ynghyd o amgylch canlyniadau sy'n cael eu rhannu gan bob un ohonom ni. Mae'r mesur yn mynd i fod ym mha mor llwyddiannus yr ydym ni'n gwneud i hynny ddigwydd, ond dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo'r egwyddor sy'n cael ei nodi gan yr Aelod, mai cael y cydweithio yna yn iawn ydy'r allwedd i gael yr allbynnau neu'r canlyniadau rydym ni eu hangen i bobl.

14:25
Prosiectau Ynni Gwynt

8. Pa sicrwydd wnaiff y Prif Weinidog ei roi i gymunedau gwledig y bydd sylw gwirioneddol yn cael ei roi i bryderon lleol pan fydd prosiectau ynni gwynt ar raddfa fawr yn cael eu hystyried? OQ64189

Datblygu Economaidd

9. Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod datblygu economaidd yn cefnogi ardaloedd gwledig a threfol? OQ64168

Diolch, Brif Weinidog. Fel gwlad, rydym yn rheolaidd tuag at waelod y tablau economaidd ar ôl dros 26 mlynedd o Lywodraeth Llafur. Mae'r angen i wella a chryfhau economi Cymru yn amlwg, ac mae cynllun economaidd Plaid Cymru a'r syniadau yn y maniffesto yn addewidiol iawn. Ond mae'n rhaid sicrhau bod pawb yn ein gwlad yn medru buddio o'r gwellhad yma a bod ein gweledigaeth ar gyfer yr economi yn gweithio i amryw sectorau a chymunedau. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw ein hardaloedd gwledig yn cael eu hanghofio a'u bod yn derbyn y gefnogaeth maent yn ei haeddu? Diolch.

Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae cyfoeth a bwrlwm economaidd yn gorfod bod yn gallu cael eu teimlo ym mhob rhan o'r wlad, ac mewn cymunedau efo nodweddion gwahanol. Un o'r syniadau tu ôl i Arfor, wrth gwrs, oedd gwneud yn siŵr bod ardaloedd gwledig Cymraeg eu hiaith yn gallu teimlo'r math o fwrlwm economaidd a fyddai’n arfer cael ei gysylltu efo ardaloedd dinesig mawr. Rydyn ni wedi gosod cenhadaeth genedlaethol glir fel Llywodraeth i gau'r bwlch cynhyrchiant efo'r Deyrnas Unedig dros y degawd nesaf, a dim ond os bydd pob rhan o Gymru'n llwyddo y gallwn ni gyflawni hynny. Rydyn ni’n gwreiddio twf daearyddol gytbwys wrth galon ein strategaeth economaidd. Fel y dywedais i mewn ateb i gwestiwn cynharach, mae'n rhaid i fwrlwm, llwyddiant a llewyrch gael eu teimlo ym mhob rhan o'r wlad, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod Cymru wledig a threfol fel ei gilydd yn elwa o fuddsoddiad. 

14:30

Ac yn olaf, Brif Weinidog, cwestiwn 10, Cristiana Emsley. 

Cydlyniant Cymunedol

10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a meithrin ymdeimlad cyffredin o berthyn ledled Cymru? OQ64184

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad

Questions now to the Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution. The first question is from Niamh Salkeld. 

Datganoli Cyllid Rheilffyrdd

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddatganoli cyllid rheilffyrdd? OQ64146

Member
Dafydd Trystan Davies 14:32:52
Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution

Mae sicrhau cyllid rheilffyrdd tecach, ynghyd â llwybr at ddatganoli llawn, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r Prif Weinidog wedi codi cyllid rheilffyrdd gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Gyfunol. Mae'r Dirprwy Weinidog trafnidiaeth wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y mater, ac mae e'n cyfarfod yn fuan gyda'r Gweinidog rheilffyrdd i ddatblygu'r trafodaethau hynny.

14:35
Gwasanaeth Sifil Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog Cabinet gadarnhau pryd oedd y tro diwethaf y cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad sylfaenol o strwythur, gallu ac effeithiolrwydd gwasanaeth sifil Cymru, ac a oes ganddi unrhyw gynlluniau i gomisiynu adolygiad o'r fath? OQ64140

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Adrian Mason.

14:45

A gaf i groesawu'r Gweinidog i'r swydd a dymuno'n dda iddo fe, gan obeithio bod digon o aer yn nheiars y beic gweinidogol swyddogol, a digon o wynt yn ei ysgyfaint e hefyd? 

Weinidog, yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd y Senedd o blaid dod â chynigion deddfwriaethol ymlaen yn ystod blwyddyn gyntaf y Senedd hon i sefydlu corff negodi statudol ar gyfer staff cymorth ysgolion.

Diolch yn fawr i'r llefarydd, a diolch iddo am ei ddymuniadau gorau. Rydw innau'n dymuno'n dda iawn iddo fe. Fe fydd e'n gwybod fy mod i, fel Aelod etholaeth, wedi dilyn dau o'i gydweithwyr ef a oedd yn frwd iawn dros faterion amgylcheddol a chynaliadwy a theithio llesol. Dwi'n talu teyrnged iddyn nhw, os caf i—Jenny Rathbone a Julie Morgan—ac yn dymuno'n dda iddyn nhw yn eu hymddeoliad. 

O ran y rhaglen ddeddfwriaethol, mae yna waith manwl yn digwydd ar hyn o bryd gan y tîm gwasanaethau cyfreithiol i lunio'r rhaglen honno, i ystyried cymhlethdodau y rhaglen sylweddol iawn sydd ger ein bron o ran y ddeddfwriaeth gynradd ac o ran y ddeddfwriaeth eilradd y bydd yn rhaid i ni graffu arni. Hefyd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae rhaglen sylweddol yn sgil Araith y Brenin yn y Deyrnas Gyfunol o legislative consent motions ac ati, ac felly mae'r gwaith hwnnw yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio y byddwn ni, fel Llywodraeth, mewn sefyllfa i ddiweddaru'r Senedd ac i wneud cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau nesaf ar y rhaglen ddeddfwriaethol.

14:50

Dwi'n diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Doedd dim llawer o gadarnhad yn fanna, mae'n rhaid i mi ddweud, a dwi'n gobeithio na fydd cynorthwywyr dysgu, y cogyddion a'r glanhawyr sy'n gwrando ar y drafodaeth hon yn teimlo bod eu buddiannau nhw yn mynd i wynebu strygl uphill, os caf i barhau gyda'r references beicio.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands. 

14:55
Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru

3. Pa gamau mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sefydlu comisiwn cenedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ64145

Mae comisiwn cenedlaethol newydd yn cael ei ddatblygu fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod. Bydd yn goruchwylio cynnydd o ran datganoli pellach, yn ymgysylltu â'r cyhoedd fel rhan o drafodaeth genedlaethol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac yn cryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer rhaglen o ddiwygio. Byddaf yn diweddaru'r Senedd wrth i'r gwaith pwysig hwn fynd rhagddo.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, ac mae'n hen bryd i setliad cyfansoddiadol blêr Cymru gael ei ddatrys. Roedd Llywodraethau Llafur olynol yn fodlon gweld y mater yma'n cael ei ohirio droeon, ond mae'r diffyg gweithredu hwn wedi methu pobl a chymunedau Cymru. Mae Plaid Cymru wedi galw am ragor o bwerau i'n gwlad, nid er mwyn mwy o bwerau yn unig, ond er mwyn cael y cyfle i wneud newidiadau a fydd yn dod ag effaith gadarnhaol i'n pobl a'n cymunedau. Ar y mater hwn, mae'n rhaid cael mwy o weithredu a mwy o symud yn y Senedd hon, a dwi'n falch iawn bod gennych chi lwyth o egni i wneud hynny.

Mae llu o gomisiynau, papurau, llyfrau a barn ysgolheigion wedi bod yn dweud bod angen rhwygo'r setliad presennol i fyny a chreu un newydd sy'n adlewyrchu sefyllfa bresennol Cymru yn yr oes sydd ohoni. Felly, sut bydd y comisiwn yn tynnu ar y gwahanol gomisiynau a phapurau sydd wedi dod o'i flaen? Pa fath o dystiolaeth newydd fydd angen ei chasglu gan y comisiwn cenedlaethol i ategu'r sylfaen wybodaeth bresennol? A sut bydd y sgwrs genedlaethol ar y mater yma yn cael ei hwyluso? Diolch.

Wel, diolch am gyfres o gwestiynau, mewn gwirionedd, yn fanna. Dwi'n credu, er mwyn cychwyn, gawn ni gychwn gydag adeiladu ar y gwaith a fu? Ro'n i'n ffodus iawn i gyfarfod gyda'r cyn-archesgob, Rowan Williams, dros y dyddiau diwethaf, a dwi'n cyfarfod gyda Laura McAllister yn y dyddiau sy'n dod hefyd, oherwydd yr hyn dwi'n gweld y comisiwn newydd yn ei wneud yw adeiladu ar y gwaith da mae'r comisiwn annibynnol wedi'i wneud, a chomisiwn Silk, comisiwn Thomas. Mae yna sail dystiolaeth gadarn yn y fan yna.

Yr hyn dwi am ofyn i'r comisiwn ei wneud ac i drafod ymhellach yw ble mae yna gaps. Ble mae yna elfennau lle mae angen mwy o waith? Ac un enghraifft sydd eisoes wedi dod i'r amlwg yn barod yw rhywfaint o'r gwaith o gwmpas sut byddai function cyfiawnder yn Llywodraeth Cymru yn edrych. Beth yw hyd a lled hwnnw? Beth fyddai siâp hwnnw er mwyn gallu delifro llwyddiant ym maes cyfiawnder ieuenctid, er enghraifft? Felly, dyna'r math o waith y byddwn ni'n gobeithio gweld yn fanna. Ond byddwn i hefyd yn dymuno gweld mwy o waith yn cael ei wneud ar ddemocratiaeth gyfranogol sy'n tynnu pobl i mewn, sy'n tynnu'r sgwrs genedlaethol yna yn ei blaen, ac yn tynnu pob math o perspectives—rŷn ni wedi clywed sawl un heddiw ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru—ac yn tynnu'r holl perspectives hynny at ei gilydd mewn sgwrs genedlaethol wirioneddol wedi ei harwain gan y bobl.

15:00
Datganoli Plismona

4. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid am oblygiadau ariannol datganoli plismona? OQ64137 [R]

15:05

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod. Mae yna nifer o bethau yn fanna o ran gwasanaethau i fenywod sydd ddim yn ddigon da o dan y system gyfiawnder bresennol. Dwi'n credu bod yna waith i'w wneud o ran y system gyfiawnder a datganoli. Mae yna waith i'w wneud o ran y system heddlua sy'n gysylltiedig â datganoli. Er mwyn gwneud cynnydd ar hyn, mae'n rhaid wrth adeiladu perthynas effeithiol a chynhyrchiol gyda Llywodraeth Prydain. Mae yna gyfarfod eisoes wedi'i drefnu gyda Gweinidog heddlua Prydain, y Dirprwy Brif Weinidog a minnau.

Ddydd Mercher diwethaf, roeddwn i yn y Swyddfa Gartref yn y bwrdd gwrth- derfysgaeth gweinidogol ar draws Prydain, lle buon ni'n trafod materion o gydweithio rhwng Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth Prydain. A'r hyn oedd yn drawiadol, hyd yn oed mewn sefyllfa ddifrifol iawn, felly, oedd bod angen cydweithio effeithiol rhwng yr adran gyfiawnder, yr adran iechyd a'r adran addysg.

Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus

5. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn dangos ei hymrwymiad i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru, cyn ceisio unrhyw bwerau pellach? OQ64142

Member
Dafydd Trystan Davies 15:08:47
Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution
15:10
Datganoli Cyfiawnder

6. Pa gamau mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i fwrw ymlaen â'r broses o ddatganoli cyfiawnder, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ64144

Mae safbwynt y Llywodraeth hon yn glir: mi ddylai cyfiawnder gael ei ddatganoli’n llawn i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn ystod yr wythnosau nesaf, mi fyddaf i'n cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro ein safbwynt ac i ddechrau'r trafodaethau hynny. Mi fyddwn ni’n mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona fel un o’n blaenoriaethau yn y maes cyfansoddiadol.

Ein hasesiad ni yw'r union bwyntiau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw yn fanna. Byddai datganoli yn caniatáu inni fabwysiadu dull system gyfan, yn ymgorffori set gyson o werthoedd ag arweinir gan dystiolaeth a thrawma ar draws pob gwasanaeth. Byddai’n rhoi cyfle inni ddod â chyfiawnder a phlismona ynghyd â'r gwasanaethau datganoledig sy'n hanfodol i atal troseddu, cefnogi dioddefwyr ac adsefydlu pobl.

15:15
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

7. Sut bydd y Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr yn y cabinet i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? OQ64141

Ac yn olaf, Weinidog Cabinet, cwestiwn 8, Carrie Harper.

Datganoli Plismona

8. Beth yw safbwynt y Gweinidog Cabinet ar ddatganoli plismona, yng ngoleuni diwygiadau plismona yn Lloegr? OQ64143

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3, felly, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan, os gwelwch yn dda.

Member
Heledd Fychan 15:19:57
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae yna un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae teitl datganiad y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi newid i 'Blaenoriaethau ar gyfer Addysg'. Mae hyn yn golygu y bydd yna ddatganiad ar wahân ar y Gymraeg yn dilyn y mis nesaf er mwyn sicrhau craffu llawn ar y Gweinidog.

Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

15:20

Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi hynny? Mi fyddwn i'n awgrymu eich bod chi yn ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol gyda'r hyn yr hoffech fod yn ei weld. Yn amlwg, mae yna atebion wedi'u rhoi ar y meysydd hyn o'r blaen; mi wnaethoch chi glywed gan y Gweinidog rŵan ynglŷn â'r ffyrdd rydym ni eisiau gweithio o ran cyfiawnder. Felly, byddwn i yn eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid ynghylch dyraniad cyllid rhanbarthol i Gymru. Fel bydd Aelodau'n gwybod, tynnodd Llinos Medi, Aelod Seneddol dros Ynys Môn, sylw at y bwlch sylweddol o £86 miliwn rhwng y £633 miliwn oedd i fod i ddod i Gymru trwy’r gronfa twf lleol, sef y local growth fund, a’r £547 miliwn ddaeth i Gymru. Mae hyn, unwaith eto, yn enghraifft o’r ffordd mae Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig wedi tanseilio datganoli yng Nghymru.

Serch hynny, mae’n bwysig cofio bod gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros sut gall y £547 miliwn gael ei wario. Penderfynodd y Llywodraeth flaenorol roi 70 y cant o’r cyllid i wariant cyfalaf a 30 y cant i refeniw. Wrth siarad gyda’r trydydd sector, mae un neges wedi bod yn gyson: nid yw’r rhaniad hwn yn cynnig sefydlogrwydd tymor hir, nac yn galluogi’r sector i gynnal a chryfhau ei gwasanaethau craidd, sy’n hanfodol i gymunedau fel Merthyr Tudful. Felly, hoffwn ofyn i’r Gweinidog: a fydd y Llywodraeth Cymru newydd yn barod i ailystyried y dyraniad hwn er mwyn sicrhau bod mwy o gyllid refeniw ar gael i flaenoriaethu’r gwasanaethau craidd hynny sy’n cynnal ein cymunedau?

15:25

Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn? Mi ydw i ar y record yn ceisio rhoi pwysau ar y Llywodraeth flaenorol o ran y maes hwn, a nifer eraill ohonom ni yn y Siambr hon. Yn gyntaf, mi hoffwn i fod yn cydnabod y pwysau ariannol mae'r sectorau hyn yn eu hwynebu a'r gwaith gwirioneddol bwysig maen nhw yn ei wneud. Mi oedden ni'n gyson fel gwrthblaid o ran pa mor fregus oedd y penderfyniad hwn yn gadael y sectorau hyn a'r effaith fyddai hyn yn ei gael ar bobl yn ein cymunedau ni.

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn adolygu'r trefniadau ar gyfer y gronfa twf leol y cytunwyd arnynt rhwng y Llywodraeth Cymru flaenorol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r gyfran gyntaf o gyllid eisoes wedi ei darparu i lywodraeth leol ar gyfer 2026-27, ac mi fyddwn ni'n cadw'r trefniadau pontio hyn dan adolygiad i fonitro cynnydd.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi ddylwn i ddatgan, wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, fod hyn o fewn yr etholaeth dwi'n ei chynrychioli ac yn fater fel Aelod lleol y byddwn i yn ymgysylltu efo'r Llywodraeth arno. Yr hyn fyddwn i yn gofyn i'r Aelod ei wneud, oherwydd natur yr hyn mae o wedi ei godi—. Wrth gwrs, mae o yn berthnasol i'r datganiad blaenoriaethau wnaed gan y Gweinidog, ond byddwn i'n argymell bod yr Aelod yn ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet ac yn sicrhau bod yr ymateb hwnnw, felly, yn ffurfiol yn dod ato fo.

15:30

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am godi mater sydd, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig? Ac mi fyddwn i, wrth gwrs, wastad yn annog yr Aelod, pan fydd yna achosion y mae hi'n wybyddus amdanyn nhw, i barhau i fod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Gweinidog dros iechyd i sicrhau eu bod nhw'n gallu ymateb a'u bod nhw'n ymwybodol o hynny. Byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi amlinellu blaenoriaethau lle mae yna benderfynolrwydd i fynd i'r afael â hyn, yn sicr, ac mi fydd yna gyfle pellach i fod yn codi cwestiynau efo fo yn uniongyrchol drwy gwestiynau iddo fo fel Gweinidog.

Unwaith eto, yn ystod y dyddiau diwethaf, mae trigolion y Waun wedi dioddef ogleuon afiach a llygredd amgylcheddol difrifol yn dod o gyfeiriad ffatri Kronospan. Mae'r trigolion yn nodi pan fo aroglau cemegol yno, maes o law daw trwch o lwch mân wedyn yn gorchuddio pob dim, sy'n cynyddu pryder ei fod ynghlwm efo allbwn tŵr a elwir yn WESP 32. Yr anhawster ydy diffyg systemau monitro amserol ac mae angen system monitro llygredd parhaol yn mesur llygredd mewn amser gwirioneddol. Mae'n anodd i drigolion ac i reoleiddwyr brofi yn union pa lygredd sy'n dod allan ar adegau fel hyn. Mae angen, felly, system monitro gyflawn, cywir, amserol, tryloywder a'r wybodaeth yma ar gael i bawb. A allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog perthnasol am y sefyllfa yma? Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn a'n gwneud ni'n ymwybodol o'r diweddaraf o ran y sefyllfa hon? Mae'n bwysig dros ben fod rheoleiddwyr amgylcheddol yn defnyddio'r grymoedd sydd ganddyn nhw, gan gynnwys sicrhau bod iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd yn cael eu gwarchod. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn parhau i adrodd unrhyw broblemau sy'n deillio o'r safle hwn i Gyfoeth Naturiol Cymru. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod yna ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn sgil rhai problemau ar y safle, ac mae'r Gweinidog Cabinet yn cadw llygad agos iawn ar hynny, fel bod y monitro hwnnw'n digwydd a'n bod ni'n sicrhau bod y rheoleiddwyr yn defnyddio'r grymoedd sydd ganddyn nhw.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yma ac wedi clywed hynny. Yn amlwg, mae ganddi ddatganiad blaenoriaethau'r prynhawn yma, lle mae yna gyfle i unrhyw Aelod godi mater perthnasol i'w phwnc. Felly, yn amlwg, rydych chi wedi rhoi rhagrybudd efallai o rywbeth y byddwch chi yn ei godi, sydd yn help i'r Gweinidog baratoi. Ac, yn sicr, byddwn i wastad yn annog hefyd Aelodau i fod yn codi materion lleol drwy ysgrifennu at y Gweinidogion Cabinet.

15:35

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi glywsoch chi'r sylwadau o ran procurement yn gynharach gan y Prif Weinidog, ond, yn amlwg, mae hwn yn fater penodol iawn rydych chi yn ei godi. Oherwydd natur yr hyn rydych chi wedi sôn amdano fo, mi fyddwn i'n gofyn i chi yn garedig i ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i sicrhau eich bod chi'n cael ateb mor llawn ag sydd ei angen arnoch chi, ac oherwydd, hefyd, natur y wybodaeth sydd gennych chi, er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael yr ateb hwnnw. Yn amlwg, mae atebion felly yn gallu bod ar gael i bob Aelod o'r Senedd hon.

Dwi'n datgan diddordeb bod aelod o'r teulu yn gweithio yn y gwasanaeth eiriolaeth. Hoffwn ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog dros ofal cymdeithasol am ddyfarniad y Goruchaf Lys i gulhau yn sylweddol yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod person sydd heb allu meddyliol yn cael ei amddifadu o'i ryddid. Mae penderfyniad y llys yn golygu y gall llawer o unigolion sy'n byw mewn cartrefi gofal, trefniadau byw â chymorth, a lleoliadau gofal eraill bellach ddisgyn y tu allan i gwmpas amddiffyniadau erthygl 5, a'u llais trwy eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol, os ystyrir eu bod yn fodlon ar eu trefniadau gofal. 

Rydw i, a nifer o fewn y sector gofal, yn pryderu y bydd colli craffu allanol ac annibynnol hollbwysig yn gallu arwain at nifer o bobl anabl yn colli eu hawliau dynol ac yn derbyn gofal sy'n mynd yn groes i'w anghenion a'u dymuniadau. Hoffwn ddatganiad, felly, sydd yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys, a sut y byddant yn sicrhau bod mesuriadau diogelu a llais trwy eiriolaeth yn parhau yn eu lle i'r unigolion sydd yn wynebu newidiadau sylfaenol i'w darpariaethau gofal yn sgil hyn. 

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi mater, wrth gwrs, eithriadol o bwysig? Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymwybodol o'r penderfyniad arwyddocaol hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar gymhwyso'r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yng Nghymru. Mi fyddwn ni yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeall goblygiadau'r dyfarniad yng Nghymru yn llawn, ac i sicrhau cysondeb yn y neges i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Mi fydd yna ddiweddariad i'r Senedd wedi ystyriaeth lawn o oblygiadau hyn i Gymru. 

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi mater sydd, wrth gwrs, o bwys i bawb yn y Siambr hon. A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod ei bod hi'n anodd cael mynediad, ac yn arbennig mewn ardaloedd gwledig fel Powys, ei bod hi hyd yn oed yn anoddach. Yn sicr, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo—mi oedd yna ymrwymiadau pendant yn ein maniffesto ni—o ran ailedrych ar y contract o ran deintyddiaeth NHS. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod nifer o Aelodau sydd bellach yn rhan o'r Llywodraeth wedi ymgyrchu dros agor ysbyty deintyddol newydd hefyd er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau sydd yn bodoli, a sut ydyn ni wedyn yn sicrhau cysondeb ledled Cymru. 

Wrth gwrs, mae hi'n broblem mewn ardaloedd dinesig hefyd, ond mae yna broblem benodol fan hyn. Ac, yn sicr, mi fyddaf yn gofyn i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i sicrhau bod yna ddiweddariad, o ran deintyddiaeth, i'r Senedd. 

15:40

Ac yn olaf, Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Drefnydd, gaf fi ofyn i'r Llywodraeth am ddatganiad ar wella diogelwch tân yng Nghymru? Mae gen i ddiddordeb penodol mewn cryfhau trefniadau diogelwch ar gyfer adeiladau neu safleoedd sy'n cael eu defnyddio'n achlysurol ar gyfer digwyddiadau. Mae pryderon wedi cael eu codi efo fi yn cwestiynu a yw'r math yma o safleoedd bob amser yn cydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Os nad ydyn nhw, wrth gwrs, fe allai hyn roi diogelwch pobl sy'n mynychu'r digwyddiad mewn perygl. Hoffwn weld y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno trefn, drwy'r gwasanaeth tân, o archwiliadau yn ystod perfformiadau neu yn ystod digwyddiadau, er mwyn gwella diogelwch ac, o bosib, osgoi rhai o'r digwyddiadau ofnadwy rydyn ni wedi eu gweld mewn gwledydd eraill dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd y Llywodraeth flaenorol yn monitro gwersi yr oedd angen eu dysgu o'r digwyddiad yn y Swistir. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad i ddiweddaru'r Senedd ar y gwaith hwnnw. Diolch.

Diolch i'r Aelod am godi mater sydd, wrth gwrs, o bwys mawr. Mi welsom ni, wrth gwrs—. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio gweld pa mor erchyll oedd y sefyllfa honno yn y Swistir, a chymaint o bobl ifanc wedi'u heffeithio a theuluoedd wedi'u newid am byth. Yn sicr, mi fyddwch chi'n ymwybodol bod adeiladau cyhoeddus a masnachol wedi eu rheoleiddio gan ddeddfau diogelwch tân llym, sy'n mynnu bod perchnogion a chyflogwyr yn cymryd pob cam posib i leihau'r risg. Mae peidio â gwneud hynny yn gallu cael ei ystyried yn drosedd ddifrifol. Felly, yn sicr, mae'r rheoleiddio yna; sut y mae o'n cael ei weithredu sydd angen edrych arno. Mi wnaf i sicrhau ein bod ni'n gweld pa waith pellach sydd angen ei wneud, a bydd yna ddiweddariad. Mi fyddwn i hefyd yn annog unrhyw Aelod, gan gynnwys yr Aelod a gododd hyn, os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw bryderon penodol, mi fyddwn i yn eich annog chi i fod yn sicrhau bod y rheini yn cael eu hadrodd, ond hefyd eich bod chi'n gwneud y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol hefyd. Diolch.

4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i gytuno teitlau a chylchoedd gwaith pwyllgorau

Eitem 4, cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i gytuno teitlau a chylchoedd gwaith pwyllgorau. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol, Heledd Fychan.

Cynnig NDM9248 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu:

1. Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y blynyddoedd cynnar, addysg (gan gynnwys y Gymraeg mewn addysg), sgiliau, ac iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

2. Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd cyhoeddus a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

3. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): hinsawdd, natur, yr amgylchedd, cynaliadwyedd, a materion gwledig.

4. Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a chyfiawnder cymdeithasol. At hynny, caiff y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol.

5. Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): menter, datblygu economaidd, ymchwil a datblygu, ynni, trafnidiaeth, a chysylltedd.

6. Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, cyfathrebu, y Gymraeg, darlledu, y cyfryngau, a chwaraeon.

7.  Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol, cymunedau, tai, cynllunio, ac adfywio.

8. Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): materion cyfansoddiadol, cyfiawnder, materion allanol (gan gynnwys cysylltiadau o fewn y DU a chysylltiadau rhyngwladol), masnach, materion sy’n ymwneud ag etholiadau’r Senedd, a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, ac i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ar gyfer pwyllgor yn adrannau 7 a 19 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (os bydd y Senedd yn cytuno ar y cynigion perthnasol y mae’n ofynnol eu cyflwyno o dan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024).

9. Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.

10. Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gyflawni’r swyddogaethau fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3, ac ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Caiff y Pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â pheirianwaith ac effeithiolrwydd llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r gwaith gweinyddu a ddarperir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

11. Pwyllgor Deddfwriaeth i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 21 a Rheol Sefydlog 26C, ac ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â deddfwriaeth, o fewn cymhwysedd neu’n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.

12. Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 22.

13. Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 23.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Heledd Fychan 15:42:25
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig o dan Rheol Sefydlog 17.2A i ddyrannu Cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau pleidiau

Gan symud ymlaen, cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau pleidiau. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol, Heledd Fychan.

Cynnig NNDM9255 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:

1. Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—Plaid Cymru.

2. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Llafur Cymru.

3. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig—Reform UK.

4. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol—Plaid Cymru.

5. Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd—Plaid Cymru.

6. Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon—Plaid Cymru.

7. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio—Reform UK.

8. Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol—Plaid Cymru.

9. Y Pwyllgor Cyllid—Ceidwadwyr Cymreig.

10. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus—Reform UK.

11. Y Pwyllgor Deddfwriaeth—Reform UK.

12. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Plaid Cymru.

13. Y Pwyllgor Deisebau—Reform UK.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig o dan Rheol Sefydlog 17.A6 i caniatáu enwebu cadeiryddion Pwyllgorau ar sail rhannu swyddi

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.A6 i ganiatáu enwebu cadeiryddion pwyllgorau ar sail rhannu swyddi. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol, Heledd Fychan.

Cynnig NDM9256 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.A6, yn cytuno bod cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon yn gymwys i enwebu dau Aelod i’w hethol i rannu swydd cadeirydd pwyllgor.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Mae pawb yn dawel heddiw. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch yn fawr iawn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: Blaenoriaethau ar gyfer Addysg

Gan symud ymlaen at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: blaenoriaethau ar gyfer addysg. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan.

Member
Anna Brychan 15:43:59
Cabinet Minister for Education and the Welsh Language

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi am gyflwyno blaenoriaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer addysg. Fi yn amlwg sydd hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg yn ehangach, gan weithio gyda holl aelodau'r Cabinet, gan fod y Gymraeg yn rhan o'n gwaith a'n cenhadaeth ni i gyd. Felly, byddaf i'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau addysg heddiw, gan gynnwys yn amlwg addysg Gymraeg, ond byddaf i yn gwneud datganiad pellach—datganiad llafar pellach, felly—ar y Gymraeg cyn yr haf.

Addysg dda yw’r cychwyn gorau y gallwn ni ei roi i’n plant a’n pobl ifanc. Addysg yw’r allwedd i ddatgloi potensial ein cenedl, a dyma pam mae’r Llywodraeth hon wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth genedlaethol, i godi safonau yn ein hysgolion a sicrhau'r amodau gorau ar gyfer dysgu ac addysgu.

Mae’r system addysg ar hyn o bryd yn methu gormod o’n plant a’n pobl ifanc. Nid diffyg talent yw’r broblem, na diffyg ymrwymiad. Mae gyda ni blant a phobl ifanc llawn potensial, a gweithlu abl ac ymroddedig. Y broblem yw nad yw’r system gyfan bob amser yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi a datgloi potensial ein dysgwyr, nac ychwaith yn rhannu data a dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i sicrhau cynnydd ym mhob ysgol, ym mhob ardal, yn gyson ac yn rymus.

Rydyn ni'n moyn i’r system addysg weithredu fel un system gysylltiedig, i gefnogi’n plant o’r blynyddoedd cynnar tan y pwynt pan maen nhw’n dechrau gweithio. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw codi safonau i bob plentyn ym mhob cymuned. Rwyf am sicrhau bod ein haddysg yn rhoi sylfeini cryf i’n plant a’n pobl ifanc i lwyddo—yn yr ysgol, yn y coleg, mewn gwaith ac mewn bywyd. Mewn pedair blynedd rwyf am sicrhau fod mwy o bobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda’r lefelau uchaf posib o lythrennedd a rhifedd, bod llai o blant yn gadael yr ysgol heb sgiliau sylfaenol, a bod mwy o blant yn llwyddo i gael cymwysterau defnyddiol.

Mae angen hwyluso gwaith ysgolion, awdurdodau lleol a’r dysgwyr eu hunain drwy nodi’n gliriach beth yw ein disgwyliadau ni a rhoi canllawiau cenedlaethol clir i’n hysgolion. Bydd hynny yn rhan ganolog o’r cynllun sylfaenol llythrennedd a rhifedd. Dyma beth mae’n partneriaid ni yn y system addysg wedi gofyn amdano, dyma beth mae rhieni a dysgwyr ei angen. Drwy ei ffocws clir ar lythrennedd a rhifedd, dyma beth mae Estyn hefyd yn ei flaenoriaethu.

Mae gyda ni ddata i adeiladu arno eisoes, ond defnydd annigonol ohono. Byddaf yn amlinellu sut y byddwn ni’n defnyddio’r data yn ein cynllun ni yn y man. Ond rwyf hefyd am i blant feithrin cariad at ddarllen. Mae hwnna'n allweddol bwysig. Felly byddwn ni hefyd yn sicrhau bod llyfrgell gyda ni ym mhob ysgol gynradd yn ystod tymor y Senedd hwn. Rwyf wedi addo i bob ysgol y byddaf yn cysylltu eto gyda nhw cyn diwedd yr haf i ymhelaethu ar ein cynllun ni, a byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Mae hyn yn dod â fi at flaenoriaeth bwysig pellach.

Mae’n hanfodol bod gennym ni system addysg gynhwysol, felly byddwn ni’n sicrhau bod y gefnogaeth i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn gliriach i deuluoedd ac i’r system gyfan. Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu model gynaliadwy ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol wedi blynyddoedd o bwysau sylweddol.

Mae’r Gymraeg hefyd yn rhan greiddiol o’r un system addysg gynhwysol honno. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dwi am sicrhau cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddysgu a mwynhau'r Gymraeg trwy weithredu llawn botensial Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Yn ogystal â chryfhau darpariaeth mewn ysgolion dwy iaith ac ysgolion cyfrwng Saesneg, rŷn ni am osod seiliau i sicrhau bod 50 y cant o'n plant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050—y targed mwyaf uchelgeisiol gan unrhyw Lywodraeth o safbwynt twf y Gymraeg. Byddwn yn ehangu darpariaeth Gymraeg yn ystod y blynyddoedd cynnar ar y naill law, ac addysg bellach ac uwch ar y llall, yn cael gwared â’r rhwystrau i gael addysg cyfrwng Cymraeg gan sicrhau llwybr iaith ac addysg barhaus a di-dor.

Mae hynny'n arbennig o bwysig wrth bontio o addysg statudol i addysg drydyddol neu gyflogaeth. O ran y Gymraeg, rŷn ni'n gwybod bod gormod o bobl ifanc yn colli cyswllt â'r iaith ar y cyfnod hwn, gan fod y cyfleoedd i gadw cyswllt yn lleihau yn sylweddol. I ormod o bobl ifanc, mae'r system yn teimlo'n gymhleth ac yn ddarniog, ac mae hynny'n golygu bod potensial yn gallu cael ei golli, eu bod nhw'n rhy aml wedyn yn ffeindio'u hunain mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw mewn gwaith, addysg na hyfforddiant. Ein rôl ni yw creu llwybrau cliriach, rhoi gwell cyngor a chanllaw a chefnogi'n dysgwyr yn well i barhau i astudio, hyfforddi a gweithio yn y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, a dysgu o brofiad a thystiolaeth fyd-eang. 

Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth oherwydd bod dyfodol Cymru yn dibynnu arnom ni'n gwneud hynny. Mae'n huchelgais economaidd yn dibynnu ar y system addysg, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arni. Heb system addysg gref, fyddwn ni ddim yn gallu datgloi llawn botensial Cymru.

Mae angen bod yn onest: bydd hi yn anodd ac yn heriol ar adegau, rŷn ni'n gwybod hynny, a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o dro i dro. Ond mae'r weledigaeth yn glir, a gofynnwn i'n partneriaid yn y sector addysg weithio gyda ni i'w gwireddu. 

Bydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio'n egnïol ar godi safonau i gefnogi'r gweithlu, i gryfhau sgiliau, ac adeiladu system addysg sy'n gweithio i bob dysgwr, yn y Gymraeg ac yn Saesneg—ein dwy iaith genedlaethol—ac yn anad dim, i Gymru. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg am ei datganiad heddiw. Mae llawer iawn y medraf gytuno ag ef yn y datganiad yna. Yn amlwg, mae gwneud yn siŵr ein bod ni'n recriwtio athrawon ar gyfer pynciau allweddol yn bwysig iawn o ran llenwi bylchau. Mae denu athrawon i mewn i'r proffesiwn yn hollbwysig, ac edrychaf ymlaen i glywed sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cynnig hwn.

16:00

Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Fe wnaf i fynd trwyddyn nhw, ond gallaf sicrhau'r Aelod gyferbyn hefyd fy mod i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda hi a gyda'r llefaryddion addysg eraill—rwy'n gwybod ein bod ni'n trefnu cyfarfodydd ar hyn o bryd—oherwydd mae gyda hi gyfraniad a phrofiad gwerthfawr i'w gynnig i'r maes yma. Ac fe fyddwn i'n dweud ar fy rhan i ac ar ei rhan hithau: dŷn ni ddim wedi cael ein gludo i unman yn y 27 mlynedd diwethaf. Mae'r ddwy ohonom ni wedi gweithio yn y system addysg. Ond ni fyddaf i chwaith yn ymddiheuro am roi pwysau ar y Llywodraeth flaenorol ynglŷn â materion fel prydau ysgol am ddim, sydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i deuluoedd o dan bwysau.

Rwy'n cytuno gyda hi fod cadw athrawon yn llawn mor bwysig â'u recriwtio nhw, yn enwedig o ystyried y buddsoddiad sylweddol mae system addysg Cymru yn rhoi i mewn i'r broses o hyfforddi athrawon. Rwyf ar goedd yn aml yn dweud fy mod i o'r farn mae hon yw'r rôl proffesiwn pwysicaf yn ein cymdeithas ni—ac rwy'n siŵr bydd pobl fan hyn yn anghytuno, ond dyna fy marn i—ac wedyn bod angen cadw'r profiad yna yn yr ystafell ddosbarth. Fel rhan o'n gwaith ni, gallaf i hefyd ei sicrhau hi y byddwn ni'n gweithio gydag athrawon, awdurdodau lleol a chydag undebau yn y bartneriaeth gymdeithasol sydd gyda ni i edrych ar symud ymlaen gyda'r gwaith manwl ynglŷn â gostwng baich gwaith, i daclo, i bob pwrpas, yr amodau y mae athrawon yn gweithio ynddyn nhw, ac mae hwnna'n waith pwysig sydd yn adeiladu ar beth o'r gwaith a wnaethpwyd gan y Llywodraeth flaenorol, ond rŷn ni'n ymwybodol bod yna lot yn fwy i'w wneud. Felly, rwy'n croesawu ei phwyslais hi ar hwnna ac yn cytuno gydag e.

O ran ymddygiad hefyd, rŷn ni wedi ymrwymo yn y maniffesto i weithio ar fframwaith a fyddai'n ein cynorthwyo ni i daclo rhai o'r materion hynny sydd yn peri problem yn ein hysgolion ni ac yn broblem i'r gweithlu, ac rŷn ni'n frwd wedyn i sicrhau ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Felly, mae yna gynllun pendant gyda ni i symud ymlaen yn y maes hwnnw. Rŷn ni'n gwybod ei fod e'n effeithio ar ein gallu ni i gadw athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Mae yna heriau cymdeithasol ehangach sydd yn effeithio ar blant a phobl ifainc yn ein hysgolion ni. Ni all y cyfrifoldeb am ddelio gyda'r rheini i gyd orwedd dim ond yn yr ysgol. Mae cydweithio gydag asiantaethau a chefnogaeth arall yn allweddol bwysig hefyd.

Gwnes i sylwi hefyd ar y cyfeiriadau at hyblygrwydd. Rwy'n frwd i edrych ar y graddau yr ydym ni'n gallu cyflwyno elfen o hyblygrwydd yn y tymor ysgol i weld a allwn ni ryddhau y baich er mwyn ffocysu ar flaenoriaethau eraill. Rwy'n credu y cyfeirioch chi at arholiadau, ond rwy'n credu ei fod e'n bwysig hefyd edrych i weld i ba raddau y gallwn ni gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol, er enghraifft, o fod yn gallu creu amserlen fwy hyblyg. Felly, mae lot o waith i'w wneud, ond rŷn ni yn mynd ati yn fwriadus i’w gychwyn e, ac rŷn ni'n falch iawn o unrhyw gefnogaeth a chyfraniad ac arbenigedd mae eraill yn yr ystafell hon yn gallu dod i'r gwaith hwnnw. Felly, diolch yn fawr.

16:05
16:10
16:15
16:20
Member
Anna Brychan 16:20:51
Cabinet Minister for Education and the Welsh Language

Diolch yn fawr am y cwestiynau. Rwy'n croesawu’r ei ymrwymiad e i graffu ar y cynnydd rŷn ni’n ei wneud dros gyfnod y Senedd hon. Dyna'r union, rwy'n credu, fath o drafod rŷn ni'n moyn ar faes mor bwysig â hwn, ac mae arbenigedd pobl ar draws y Siambr a’r cwestiynau crafog dros y cyfnod nesaf yn mynd i fod yn bwysig i ni fedru dal ein hunain i gyfrif, hefyd, yn yr un modd ag yr oedd fy nghydweithwyr fan hyn—dwi ddim yn cofio ei deitl e—yn dangos i ni. Achos yr allbynnau yna fydd yn bwysig i sicrhau ein bod ni'n gallu dweud wrth bobl yng Nghymru ein bod ni wedi llwyddo yn y meysydd rŷn ni wedi eu blaenoriaethu ac yn gallu rhannu'r wybodaeth yna gyda nhw i ddangos y cynnydd hwnnw, a byddwn ni'n rhannu manylion y rheini yma hefyd.

Mae yna fwlch. Dyw'r sefyllfa, dyw ein system addysg ni, ddim yn y fan y dymunwn iddyn nhw fod. Rwy'n credu bod yna gytundeb ar hynna ymysg y gweithlu a'r gymdeithas yn ehangach, a dyna pam rŷn ni'n canolbwyntio ar y pethau elfennol yma ac yn fwriadus yn mynd ati i osod y math o dargedau y mae modd i ni dal ein hunain i gyfrif arnyn nhw, a hefyd bod yna eglurder disgwyliadau yn y trafodaethau rŷn ni'n eu cael gyda llywodraeth leol ac ysgolion hefyd. Yn absenoldeb hynny, mae e weithiau'n anodd i bobl weld pa gynnydd maen nhw'n ei wneud. Felly, rwyf yn ymrwymo hefyd i hynny.

O ran PISA, mi fydd canlyniadau PISA yn cael eu cyhoeddi eto ym mis Medi. Mi fyddaf i’n mynd ati yn fwriadus i fynd â’r wybodaeth fwyaf defnyddiol o hwnna. Mae'n ehangach na'r rhifau. Mae yna lot o ddata defnyddiol, ac rwy'n credu y gallwn ni ddefnyddio hynny'n fwriadus i fwydo hefyd ein cynlluniau rhifedd a llythrennedd ni. Ond, yn ogystal â hynny, rwy'n frwd iawn ein bod ni â dealltwriaeth o berfformiad ein system addysg ni yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, a’n bod ni ddim wastad yn ddibynnol, efallai, ar edrych nôl, sef beth mae PISA yn caniatáu i ni ei wneud, ond bod gyda ni ddealltwriaeth fanwl o sut mae'r system yn perfformio nawr.

Rwy'n derbyn hefyd ei bwynt ef ynglŷn â recriwtio athrawon. Pan wnaethon ni'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn cynyddu'r gefnogaeth i £20,000 ar gyfer y rheini sydd yn hyfforddi i wneud y pynciau prin, mi fyddwn ni yn cynyddu hwnna, ac wedi ymrwymo i hynny hefyd dros gyfnod y Senedd, i'r un lefelau ag sydd ar gael yn Lloegr.

O ran ffonau symudol a'r cais am gyfarwyddyd a chanllawiau cenedlaethol, does dim cyfarwyddyd na chanllawiau cenedlaethol ar hyn o bryd, a dyna'n hunion fwriad: symud i ganllawiau statudol o fis Medi. Felly, rwy'n gobeithio bod hwnna'n rhoi cysur iddo fe yn y maes hwnnw hefyd.

Y pwynt olaf, rwy'n credu, oedd yr un ynglŷn â phrifysgolion a phrentisiaethau, a dod â’n hystyriaethau ni o'r system drydyddol at ei gilydd fel bod y naill yn cefnogi'r llall. Yn hynny o beth, rwy'n credu bod hwnna’n cydfynd yn llwyr gyda'r sylwadau roeddwn i’n eu gwneud amboutu’r angen am un system genedlaethol, a bod cefnogaeth i'r syniad yna i'w chroesawu, yn y modd hefyd fe allai fe gyfrannu at gynaliadwyedd y sector yn y tymor hir. Ond, wrth gwrs, rŷn ni'n blaenoriaethu ar hyn o bryd yr ymrwymiad yna i adolygu'r system ariannu addysg uwch ac yn symud i roi'r broses honno yn ei lle dros yr wythnosau nesaf. Diolch yn fawr.

16:25

Gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog Cabinet am y datganiad heddiw?

Diolch yn fawr, Alun Cox, a diolch yn fawr hefyd i staff ysgol Llwyncelyn a Chwm Rhondda am y gwaith gwerthfawr maen nhw'n ei wneud. Rydym ni wrthi'n gweithio ar y cynllun rhifedd a llythrennedd ar hyn o bryd. Mi fyddaf i yn ac rwyf wedi ymrwymo eisoes y bydd y ffocws ar y gefnogaeth a hefyd ar y targedau—dyna'r math o gynllun rŷn ni'n ei roi at ei gilydd. Byddaf i yn ac rwyf wedi ymrwymo'n barod i rannu mwy o fanylion am y cyfeiriad rŷn ni'n mynd iddo fe gydag ysgolion erbyn diwedd tymor yr haf fel eu bod nhw â syniad o'r hyn y byddan nhw'n ymwneud ag ef yn y flwyddyn academaidd newydd—rwy'n credu bod hwnna'n bwysig yn ei hunan—ac wedyn byddaf i'n rhannu'r manylion mwy pendant yn yr hydref.

Rwy'n credu hefyd a phwynt arall y bydden i yn dymuno ei wneud yw'r ffaith bod nifer fawr o'n hysgolion ni yn gweithio'n effeithiol ac yn darparu safonau i'w deisyfu ym mhob man. Felly, mae yna elfen yn fan hyn o dynnu ar yr arbenigedd hwnnw a'i fwydo fe'n fwy effeithiol i'r system i sicrhau ein bod ni'n dysgu o'r ysgolion hynny sydd eisoes yn llwyddiannus iawn. Fe wnes i ymweld ag un yr wythnos diwethaf, er enghraifft, a doedd yna ddim gwahaniaeth o gwbl yn y safonau oedd yn cael eu cyrraedd gan ddisgyblion oedd yn gymwys i gael prydau bwyd am ddim a'r rhai doedd ddim yn gymwys, ac mae hwnna'n rhywbeth sydd wedi bod yn darged anodd iawn i'w gyrraedd ers blynyddoedd. Felly, os oes rhai ysgolion yn gallu llwyddo i wneud hyn, mae lot mwy o arbenigedd i dynnu arno fe'n effeithiol nag efallai rŷn ni weithiau yn meddwl.

16:30

Gaf i gynnig dymuniadau gorau i'r Gweinidog a dweud ei bod hi'n dda gweld, ynddi hi ac ynof fi, dau gyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn y Senedd? Yr ysgol honno, wrth gwrs, oedd yr ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg gyntaf erioed i gael ei sefydlu, a mater o falchder i mi, felly, yn ystod fy nghyfnod fel arweinydd Cyngor Caerdydd, fu cyflawni twf sylweddol mewn darpariaeth addysg Gymraeg yn y brif ddinas. Bellach, mae'r ddinas yn ystyried sut y gellid agor pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yma. Yn gynharach eleni, derbyniais i ymateb cadarnhaol gan y Gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford, i fy nghais yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu'r tir sydd yn ei heiddo ar Sgwâr Callaghan i Gyngor Caerdydd fel safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd hon. A gaf i gadarnhad heddiw gennych chi fod y cynnig hwnnw'n dal i sefyll o dan y Llywodraeth newydd?

Ac a gaf i holi ymhellach ac yn fwy cyffredinol, gyda chynghorau sir fel Caerdydd yn edrych i gynyddu'r ystod ddaearyddol o ysgolion Cymraeg mewn cyfnod lle mae cyfraddau genedigaethau'n disgyn, a fyddwch chi'n darparu ariannu pellach i gynghorau i gynnal y gwarged, y surplus, o lefydd fydd yn bodoli mewn ysgolion presennol wrth i ysgolion newydd gael eu hagor?

Diolch yn fawr am dynnu sylw at ysgol gynradd Aberystwyth yn y cwestiwn, sefydliad gafodd effaith fawr ar fy addysg i, ac yntau hefyd, mae'n siŵr. Rwy'n ymwybodol fy mod i i fod yn ofalus iawn o ran gwneud datganiadau ar faterion sydd yn ymwneud â dyrannu llefydd ysgol, rhag ofn bydd y rheini'n rhai wedyn bydd yn rhaid i Weinidogion wneud sylw arnyn nhw yn y man. So, rhag tramgwyddo yn fy natganiad llafar cyntaf erioed, gaf i, os gwelwch yn dda, ofyn amynedd ganddo fe i fi gael gwirio i ba raddau mae e'n addas i fi fynd i fanylder ar y cwestiwn a gododd e ynglŷn â phedwaredd ysgol uwchradd yng Nghaerdydd?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n braf gweld cymaint mwy o blant ledled de-ddwyrain Cymru bellach yn cael y cyfle i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anffodus, ni chafodd fy rhieni i’r un cyfle, ond fe weithion nhw’n galed i sicrhau fy mod i, fy mrawd a fy chwaer yn gallu dysgu a defnyddio’r Gymraeg, fel heddiw—hawl nad oedd ar gael iddyn nhw.

Er bod gan Flaenau Gwent un o’r canrannau isaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, rwy’n gweld bob dydd yr ymdrech sydd yn bodoli i newid hynny. Mae gwaith rhagorol yn digwydd drwy’r fenter iaith, Cymdeithas Gymraeg Blaenau Gwent, y sesiynau sgwrsio ym Mhentref Tyleri, ein gŵyl ddwyieithog gyntaf erioed, ac, wrth gwrs, drwy sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn Nhredegar. Felly, Weinidog Cabinet, beth yw eich gweledigaeth ar gyfer cryfhau addysg Gymraeg yn ein Cymoedd, ac yn arbennig mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent, lle mae yna heriau ond hefyd gymaint o uchelgais a brwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg?

Diolch yn fawr, Niamh, am y cwestiwn yna. Tra ein bod ni'n rhannu ein straeon personol, mae e'n arbennig o galonogol i fi, fel merch i fam o Flaenau Gwent a ddysgodd Gymraeg fel oedolyn, i weld y cyfleoedd yma na chafodd hi ar gael bellach yn ei chynefin. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i dynnu sylw at y gwaith mawr sy'n digwydd ym Mlaenau Gwent, ac yn y Cymoedd yn ehangach hefyd.

Fel soniais i yn y datganiad, mae'r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o Gymru, ac mae ei chryfhau hi fel iaith fyw yn ogystal â iaith addysg yn beth pwysig ac yn flaenoriaeth rŷn ni'n rhannu cyfrifoldeb amdani ar draws y Llywodraeth. Felly, yn y maes hwn, mi fyddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i wireddu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg sy'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent, lle mae heriau amlwg, ond hefyd, fel roedden ni'n clywed gynnau, ymrwymiad, egni ac uchelgais gwirioneddol i gynyddu'r defnydd. Felly, byddwn ni yn ymateb i ail adroddiad y comisiwn, ac mae hwn yn berthnasol yn y cyd-destun yma, erbyn diwedd 2026—eleni, felly—gan nodi cynllun clir ar gyfer gweithredu ar draws ardaloedd sydd â dwysedd canolig ac is o ran siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd. Diolch yn fawr.

16:35
6. Datganiad gan y Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon: Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon

Felly'r eitem olaf ar gyfer y diwrnod, heddiw, datganiad gan y Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon: blaenoriaethau ar gyfer diwylliant a chwaraeon. Galwaf ar y Trefnydd, y Prif Chwip a'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan.

Member
Heledd Fychan 16:35:23
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Wel, braint yw cael y cyfle heddiw i nodi blaenoriaethau y Llywodraeth newydd hon ar gyfer diwylliant, y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, darlledu a chwaraeon. Dyma ddechrau ar unioni’r diffyg strategaeth, gweledigaeth a chefnogaeth ar eu cyfer oedd yn nodwedd mor amlwg dros y 15 mlynedd diwethaf, a dwi’n falch o rannu heddiw fod y gwaith hwn bellach ar droed.

Mae’r Llywodraeth hon yn gweld ein diwylliant a chwaraeon fel meysydd o bwys ac nid yn rhywbeth opsiynol neu’n braf eu cael. Ac mi ydyn ni’n benderfynol ein bod ni am weithio yn drawsbortffolio i wireddu eu potensial er budd pobl, cymunedau ac economi Cymru. Mae ein man cychwyn yn heriol. Mae’r blynyddoedd diwethaf a’r toriadau sylweddol sydd wedi eu gwneud i’r cyllidebau hyn wedi creu sefyllfa argyfyngus. Mae cannoedd o swyddi wedi cael eu colli a lleoliadau wedi gorfod cau. Yn hytrach na bod ar gael i bobl Cymru eu mwynhau, mae gormod o'n casgliadau cenedlaethol yn cael eu cartrefu mewn stordai ac adeiladau sydd angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol oherwydd y toriadau a wnaed.

O ran chwaraeon, mae ein hisadeiledd yn fregus. Bach yw’r cynnydd sydd wedi ei wneud o ran gwireddu potensial y celfyddydau a chwaraeon o ran yr agenda ataliol, ac mae sicrhau mynediad cydradd i bawb o ran cyfranogiad angen gwaith sylweddol. 

Ac eto, er gwaethaf hyn oll, mae yna waith arloesol ac o bwys rhyngwladol yn digwydd yma yng Nghymru. Fel enghraifft o Gymru yn arwain ar lwyfan y byd, roeddwn wrth fy modd i gymryd rhan nos Sul yng ngwobr gyntaf Annwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mi gefais i fy ysbrydoli gan y dulliau arloesol o adrodd straeon gan artistiaid o bob cwr o'r byd, a llongyfarchiadau mawr i'r enillwyr, Colored (Noire), gyda'u dehongliad o fywyd Claudette Colvin.

Ond mae’r gwaith sydd yn digwydd yn y meysydd hyn yn sicr yn trawsnewid bywydau ac mae o'n cynnig mewnwelediad i ni o’r manteision y gellid eu cael o roi ffocws o’r newydd. A dyna’r gwaith sydd ar droed gen i a’r Llywodraeth hon: i ddatblygu Cymru fel pwerdy diwylliannol a chwaraeon, lle mae’r sectorau hyn yn ffyniannus ac yn dod â budd i bawb. Ddim rhagor ar yr ymylon, ond yn galon i’n gweledigaeth ar gyfer creu Cymru hyderus, gynhwysol a blaengar, ac yn dod ag adferiad o ran iechyd pobl, a hefyd ein heconomi.

Yn ein 100 diwrnod cyntaf, mi ydyn ni yn gosod y sylfeini ar gyfer gwneud y gwaith caib a rhaw angenrheidiol i wireddu hyn yn y tymor byr, canolig a'r hirdymor, ac mi fyddaf i'n amlinellu heddiw sut ydyn ni'n mynd â’r gwaith hwn yn ei flaen.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar lansio ymgynghoriad ar strategaeth newydd, un uchelgeisiol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, ac mi fydd hyn yn digwydd o fewn y 100 diwrnod cyntaf. Dwi wedi bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid i sicrhau bod eu lleisiau yn llywio ein penderfyniadau o'r cychwyn cyntaf, ac mi ydyn ni yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ymgorffori diwylliant a chwaraeon mewn meysydd polisi ehangach. Mi fyddwn ni hefyd yn unioni gwendid blaenoriaethau diwylliant y Llywodraeth ddiwethaf, drwy sicrhau bod y diwydiannau creadigol wedi eu hymgorffori yn y strategaeth newydd hon.

Mae hyn yn ymwneud â dylunio system wrth wraidd y Llywodraeth lle mae diwylliant a chwaraeon yn chwarae rhan allweddol wrth atal a thrin salwch, ysgogi twf economaidd, a chyfrannu at ddyfodol ffyniannus i bob cymuned. Mi fydd ein gweledigaeth a'n penderfyniadau yn cael eu hategu gan ddata a thystiolaeth gadarn i dargedu cymorth lle mae'r effaith fwyaf.

Cam pwysig yw datblygu dealltwriaeth glir o gyflwr presennol diwylliant a chwaraeon am ein bod ni'n etifeddu sefyllfa lle nad oes data digonol yn bodoli ar y funud, na dealltwriaeth glir o anghenion y sectorau hyn. Rwyf felly wedi dechrau’r gwaith o gomisiynu archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol i lywio buddsoddiad cyfalaf wedi'i dargedu dros dymor y Llywodraeth a thu hwnt. Mi ydw i wedi dechrau'r gwaith hwn ochr yn ochr â'n partneriaid cyflenwi yn Chwaraeon Cymru, ac mi fydd ein buddsoddiadau ni fel Llywodraeth yn fwy strategol, yn dilyn lle mae'r dystiolaeth a'r data yn mynd â ni. 

Mi oeddwn i'n falch o gyhoeddi cronfa gyfalaf Cyngor Celfyddydau Cymru gwerth £8 miliwn i gefnogi sefydliadau celfyddydol gyda'u hanghenion seilwaith eleni. Mi gefnogwyd hyn gan waith archwilio sylweddol i sefydlu anghenion y blaenoriaethau, a bydd y gwaith o ddeall beth yw'r gwir angen o ran buddsoddiad yn parhau.

Mi fyddwn ni hefyd yn mynd ati i ddeall pa fuddsoddiadau eraill a sefydliadau sydd eu hangen ar Gymru os ydyn ni am wireddu'r weledigaeth hon. Fel rhan o hyn, bydd y gwaith yn parhau o ran ein huchelgais o gael oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru.

Lywydd, rwyf eisoes wedi ddechrau trafodaethau trawslywodraethol hanfodol ynghylch sut y gall diwylliant a chwaraeon ynghyd fod yn driniaeth feddygol, ynghyd â sut y gallan nhw gyfrannu at ein hagenda ataliol. Un enghraifft yw ein hymrwymiad i nofio ysgol a gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn gadael yr ysgol gynradd gyda'r gallu i nofio, sydd wrth gwrs yn sgìl bwysig a all achub bywydau. Mi fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun gweithredu o fewn ein 100 diwrnod cyntaf.

Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod manteision iechyd a lles ataliol y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon. Mae tystiolaeth gynyddol y gall y sectorau hyn gefnogi dulliau ataliol a gwella canlyniadau. Yn ein 100 diwrnod cyntaf, rydym yn comisiynu adolygiad o gyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon i lywio'r amcan o weld cynnydd cynyddol mewn gwariant yn y meysydd hyn. Dim ond yr wythnos diwethaf, mi ges i drafodaeth bwerus gyda chyngor y celfyddydau ynghylch sut y gallwn wneud mwy o ran cyflawni ymyriadau a all gael effaith ar y galwadau ar y gwasanaeth iechyd. Ac nid sefydliadau cenedlaethol yn unig sy'n chwarae rôl: mae ein rhwydwaith o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi iechyd a lles, economi a chymunedau ledled Cymru. Maen nhw hefyd yn gwneud gwaith arloesol.

Am rhy hir, mae diwylliant, celfyddydau a chwaraeon wedi cael eu gosod yn erbyn y gwasanaeth iechyd, yn hytrach na chydnabod eu bod yn gwbl gysylltiedig ag ef. Nid yw'r sectorau hyn yn 'braf i'w cael'; maen nhw'n rhan o'r ateb i greu cymdeithas iachach. Mae ein maniffesto yn ymrwymo i wneud diwylliant a chwaraeon yn hygyrch i bawb. Mae hynny'n cynnwys mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn mynediad, boed hynny oherwydd cost, daearyddiaeth, anabledd neu rwystrau eraill. Mae'r ymrwymiad hwn yn cynnwys sicrhau cynnal mynediad am ddim i bawb i'n hamgueddfeydd cenedlaethol, ac mi ydw i eisoes wedi cael trafodaethau cadarnhaol ar hyn gydag Amgueddfa Cymru, ac mae gwaith pellach i'w wneud i wireddu hawl pawb i gyfranogi mewn diwylliant a chwaraeon.

Am wlad sy'n gymharol fach, mae'r dalent a'r dyhead sydd gennym yma yng Nghymru i gystadlu ar brif lwyfannau rhyngwladol yn un mawr, ac mae'n rhaid i ddigwyddiadau mawr sydd yn cael eu cynnal yma fod yn sbardun economaidd, diwylliannol a chwaraeon pwysig. Mae cyfleoedd fel y Tour de France ac Euro 2028 yn dod i Gymru yn dangos sut y gall digwyddiadau ddarparu manteision economaidd uniongyrchol, ond hefyd gwaddol tymor hir. Dyma ein cyfle i ysbrydoli cenhedlaeth newydd a sefydlu cynlluniau gwaddol fel bod effaith y digwyddiadau hyn yn cael ei theimlo ymhell y tu hwnt i'r digwyddiad.

Ochr yn ochr â'n blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, chwaraeon a threftadaeth, rydym hefyd eisiau amgylchedd cyfryngau cryfach sy'n adlewyrchu Cymru hyderus a ffyniannus. Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer darlledu a'r cyfryngau yn glir. Mae Cymru'n haeddu tirlun cyfryngau hyderus, amrywiol a chynaliadwy wedi'i wreiddio mewn gwerth cyhoeddus ac uchelgais genedlaethol. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i Gymru gael llais yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnom ni. Dyna pam rydym ni'n benderfynol o barhau i wneud yr achos am ddatganoli pwerau dros ddarlledu. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, ac mae hwn yn gam cyntaf hanfodol i adeiladu'r gallu sefydliadol sydd ei angen ar Gymru i yrru tirlun cyfryngau cryfach a mwy atebol.

Rwyf hefyd yn datblygu cynlluniau i gefnogi newyddiaduraeth er budd y cyhoedd a diogelu darpariaeth newyddion o ansawdd uchel, fel bod Cymru mewn sefyllfa dda i gwrdd â chyfleoedd a heriau tirlun cyfryngau sy'n newid yn gyflym yn y dyfodol.

Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o fy mlaenoriaethau, yn enwedig o ran cynyddu'r defnydd cymdeithasol o'r iaith drwy gyfranogiad mewn diwylliant a chwaraeon. Eleni, mi ydyn ni'n dathlu 850 mlynedd o'r Eisteddfod Genedlaethol, carreg filltir bwysig yn ein hanes fel cenedl. Bydd cyfraniad o £0.25 miliwn gan y Llywodraeth yn cefnogi rhaglen o weithgareddau i ysbrydoli pobl i ddefnyddio'r iaith a chodi proffil rhyngwladol yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd ein cefnogaeth ariannol hefyd yn sicrhau bod teuluoedd lleol ar incwm isel yn cael mynediad am ddim i'r ŵyl. Mae'n hollbwysig bod pawb yn cael cyfle i fwynhau ein diwylliant, ein hiaith a'n prifwyl.

Mae'r blaenoriaethau hyn yn nodi dechrau taith a dechrau pennod newydd i ddiwylliant a chwaraeon yng Nghymru. Yn ganolbwynt i bopeth byddaf yn ei wneud dros y blynyddoedd i ddod fydd gwireddu'r weledigaeth dwi wedi'i rhannu gyda'r Senedd heddiw, er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu profi, cymryd rhan ac elwa o'n diwylliant a chwaraeon. Mae hyn oherwydd bod y Llywodraeth hon yn credu yng ngrym diwylliant a chwaraeon i drawsnewid bywydau, i gyfrannu i'r weledigaeth o symud tuag at agenda iechyd ataliol er mwyn gosod ein gwasanaeth iechyd ar sylfaen fwy cynaliadwy, a hefyd gan ein bod yn benderfynol o adeiladu Cymru lle mae creadigrwydd yn ffynnu. Diolch.

16:45

Dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd nawr. Dwi wedi mwynhau dysgu'r iaith, ond mae'n anodd. Dwi angen cefnogaeth. Gwna i ymarfer efo chi yn yr Eisteddfod eleni.

16:50

Diolch i'r Aelod am yr ymateb hwnnw. Braf iawn oedd clywed y Gymraeg yn fanna. Dwi'n edrych ymlaen i'ch gweld chi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dwi'n gofyn i Aelodau ailddychmygu beth mae'r celfyddydau a chwaraeon yn edrych fel efo Llywodraeth sy'n gweld eu gwerth nhw ac sy'n fodlon cael data a strategaeth iawn. Does yna ddim strategaeth wedi bod yn y meysydd hyn. Mae gwario wedi bod yn cael ei wneud heb sail data. Dyna dwi wedi'i etifeddu. Yn yr wrthblaid, ro'n i'n credu eu bod nhw'n cuddio'r data hwn oddi wrthyf i, ond dydy o ddim yn bodoli.

O ran yr hyn sydd angen ei wneud, dwi'n bod yn berffaith onest efo chi rŵan fy mod i eisiau sail dystiolaeth gadarn a data er mwyn gyrru'r newid rydyn ni ei angen. Yn yr wrthblaid, mi ro'n i'n cael llond bol, fel aelod o bwyllgor, o weld yr un adroddiad yn dod drwodd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn dweud ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n symud at agenda ataliol, a dim byd yn newid o gwbl. Pan ro'n i'n arwain dadl ynglŷn â phwysigrwydd diwylliant yn y Siambr hon, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog oedd efo cyfrifoldeb dros ddiwylliant weiddi arnaf i ar y pryd, 'Ond beth am y NHS?', yn lle gweld gwerth hwn o ran triniaeth feddygol ynghyd â'r agenda ataliol. Felly, mae hwn yn newid sylweddol.

Dwi'n deall y pwyntiau wnaethoch chi ynglŷn â'r sefyllfa ariannol heriol, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny. A doedden ni ddim yn rhan o'r toriadau hynny. Mi fyddwch chi wedi gweld yn gyson bod yna waith trawsbleidiol wedi'i wneud yn gwneud yr achos dros fuddsoddi mewn diwylliant a chwaraeon. Mi fyddwn i'n annog pob Aelod newydd yma i edrych ar waith y pwyllgor diwylliant a chwaraeon a wnaed yn ystod y chweched Senedd, oedd yn dangos pam bod rhaid i ni stopio torri yn y meysydd hyn os oedden ni am newid hynny.

Mae'r ymrwymiad hwnnw yn ddiamwys gennym ni, a'r hyn ro'n i'n ei amlinellu heddiw oedd gweledigaeth drawsbleidiol—nid mewn seilos, ond trawsbleidiol. Dwi wedi cael sgyrsiau gwirioneddol gadarnhaol gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol ynglŷn â sut rydym ni'n galluogi ein swyddogion i gydweithio er budd. Felly, o ran canrannau, beth fydd gennych chi yn y strategaeth fydd ffordd wahanol o weithredu, un fydd yn atebol i'r Senedd hon, ond mae hi yn ffordd newydd. Felly, dwi'n gobeithio y dewch chi efo ni ar y daith hon, a byddwch chi hefyd yn gweld gwerth yn y gwaith hwn, a'n bod ni, o'r diwedd, yn gweld diwylliant a chwaraeon yn cael y sylw teilwng yn y Senedd hon a gan Lywodraeth.

16:55

Gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cyfraniad hwnnw a'i groesawu o i'r rôl craffu hefyd?

Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yn y cyfraniad hwnnw wendid y blaenoriaethau diwylliant diwethaf a'r ffaith nad oedd y diwydiannau creadigol yn rhan o hynny. Dyna'n union beth rydym ni eisiau ei unioni efo hyn. Mae'r ffaith bod y diwydiannau creadigol yn cael eu gweld fel rhywbeth ar wahân wedi bod yn wendid aruthrol, a dyna pam rydym ni'n gorfod ailedrych ar strategaeth newydd rŵan. Mae'r adolygiad o Cymru Greadigol er mwyn sicrhau ein bod ni'n gweld sut mae hynny yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol hefyd yn eithriadol o bwysig, oherwydd mae yna bethau gwirioneddol dda wedi dod allan o Cymru Greadigol, ond mae yna ffyrdd hefyd lle rydym ni'n gallu sicrhau bod y manteision hynny'n parhau, ein bod ni'n parhau hefyd yn gystadleuol, oherwydd mae hynna'n broblem wrth i lefydd fel Manceinion allu cystadlu mwy efo Cymru a bod yn denu cynyrchiadau ac ati. Felly, mae angen yr adolygiad hwnnw. 

A dwi'n meddwl hefyd—. Roeddwn i'n adlewyrchu ar eich pwynt chi ynglŷn â Grand Theft Auto—dim y geiriau roeddwn i'n disgwyl eu dweud yn ystod fy ymateb cyntaf fel Gweinidog, ond dyna ni, dyma le rydyn ni. [Chwerthin.] Roeddech chi'n sôn am y buddsoddiad a wnaed gan y Llywodraeth i alluogi hynny, y bartneriaeth efo prifysgolion. Wel, dyna'n union dŷn ni eisiau ei wneud efo'r strategaeth hon—galluogi twf sectorau fel hyn i sicrhau bod yna swyddi yma yng Nghymru a'r budd hwnnw, oherwydd y budd efo hynny ydy, dim ots lle dŷch chi'n gweithio yn y diwydiannau hynny, fedrwch chi fod yng Nghymru wledig, fedrwch chi fod mewn dinas, fedrwch chi fod yn y Cymoedd—dyna ydy strategaeth ddiwylliant gwirioneddol, lle dŷn ni'n sicrhau'r bartneriaeth honno. Mae rôl prifysgolion er mwyn sicrhau ein bod ni'n gweld hynny yn allweddol bwysig. Ond mi fedrwn ni weld hwn fel ffordd o ddenu pobl ifanc nôl i Gymru a'u cadw nhw yma mewn swyddi da iawn. Felly, dwi'n falch iawn o weld y gefnogaeth i hynny. 

Mi fydd yr Aelod, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o sefyllfa cerddoriaeth yma yng Nghymru. Mi oedd yna adroddiad y llynedd a oedd yn dangos bod cerddoriaeth draddodiadol, yn benodol, mewn perygl o ddiflannu yn llwyr. Dŷn ni'n gwybod bod sefydliadau dŷn ni i gyd, dwi'n siŵr, wedi eu mwynhau dros y blynyddoedd yn fregus dros ben, neu wedi diflannu. Mae yna bryder gwirioneddol fod cymaint o bobl rŵan ddim yn cael cyfleoedd i ddysgu offeryn, ein bod ni'n gweld diffyg bandiau yn dod drwodd oherwydd diffyg cyfleon iddyn nhw, ein bod ni'n gweld hi'n anodd i bobl greadigol allu cynnal bywoliaeth a pharhau yma yng Nghymru—eu bod nhw un ai'n gorfod gadael Cymru neu newid trywydd yn llwyr. 

Felly, yn sicr, dwi'n gweld y strategaeth yma yn cydfynd hefyd efo'r strategaeth sgiliau, oherwydd os dŷn ni'n edrych ar beth sy'n digwydd mewn ysgolion ar y funud, efo llai o blant a phobl ifanc yn cymryd TGAU mewn cerddoriaeth, drama a chelf, wel, lle mae hynny'n mynd i'n gadael ni yn y dyfodol? Mae prifysgolion yn torri cyrsiau yn y meysydd hyn, yn gweld eu bod nhw ddim yn bethau sydd yn werth buddsoddi ynddyn nhw, ond eto maen nhw. Felly, gobeithio y byddwn ni wedyn, drwy edrych ar hyn yn ei ystod, yn gallu gweld bod yna ddyfodol i bobl ddiwylliannol fod yma yng Nghymru, a dyfodol i'r sectorau hyn sy'n cael eu gweld fel budd economaidd.

17:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'r datganiad heddiw yn amlinellu nifer o fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gefnogi sectorau diwylliannol, celfyddydau a chwaraeon Cymru. Dwi'n croesawu ymrwymiad newydd Gweinidog y Cabinet i ddatblygu strategaeth diwylliant Cymru, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y strategaeth honno yn ymateb i'r heriau strwythurol hirdymor sy'n wynebu'r sector, megis costau gweithredol cynyddol, anghydraddoldebau o ran mynediad a'r angen i sicrhau twf cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae Gweinidog y Cabinet wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad ar y strategaeth hon yn digwydd. Nawr, mae Llywodraethau blaenorol wedi cael eu cyhuddo o siarad â'r un sefydliadau a'r un bobl. Sut fyddwch chi'n sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn ystyrlon ac yn dal ystod ehangach o safbwyntiau? 

Nawr, dim ond os oes ganddi ddigon o adnoddau y gall strategaeth fod yn effeithiol, felly dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog Cabinet yn cadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru o hyd yw darparu cyllid blynyddol i'r sector. Ac er fy mod yn sylweddoli eu bod yn ddyddiau cynnar o hyd, byddwn yn ddiolchgar am arwydd o faint o gyllid ychwanegol y mae hi'n bwriadu ei ddarparu i'r sector ar ddechrau'r Senedd hon, o ystyried mai Cymru oedd â'r ail wariant isaf fesul person ar wasanaethau diwylliannol yn Ewrop, a'r trydydd isaf ar hamdden a chwaraeon. 

Mae'r datganiad heddiw yn cydnabod bod sefydliadau diwylliannol yn dibynnu ar leoedd arloesol sy'n addasu'n gyson, a'r gwir amdani yw bod angen cefnogaeth wirioneddol ar lawer o'r lleoliadau a'r cyfleusterau hyn. Mae Gweinidog y Cabinet wedi comisiynu adolygiad o gyfleoedd i fuddsoddi yn y sectorau hyn, a byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad hwn. Er enghraifft, gyda phwy mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu a phwy sy'n rhan o'r broses adolygu hon, ynghyd â phryd y bydd yn dod i ben? Ac efallai y gallai hefyd ddweud wrthym ni pa bartneriaethau a ffynonellau allanol ychwanegol y mae'n ystyried eu harchwilio o ran cynhyrchu buddsoddiad ar gyfer y sector hwn. 

Nawr, yn fy marn i, mae diwylliant yn cael ei fyw trwy gyfranogiad, ac mae Llywodraeth Cymru'n iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd chwaraeon i'n hiechyd a lles. Dwi’n falch bod Llywodraeth Cymru'n comisiynu archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol. Yn anffodus, mae gormod o blant a phobl ifanc yn dal i wynebu rhwystrau i gyfranogiad, boed hynny oherwydd cost, argaeledd cyfleusterau neu ddaearyddiaeth. Felly, a fydd Gweinidog y Cabinet yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru'n chwalu rhwystrau i gyfranogiad ac yn sicrhau y gall mwy o blant a phobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd chwaraeon ledled Cymru?

17:05

Gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau arbennig o bwysig yna. Mi wnaf i roi'r ymrwymiad hwn i'r Senedd hon rŵan: dwi yn parchu'r egwyddor hyd braich. Dydy hynna ddim wastad wedi digwydd, ac mae angen inni fod yn glir am hynna, gan Lywodraethau'r gorffennol. Mae bod hyd braich yn bwysig, ac un o'r pethau dwi'n barod yn edrych arnyn nhw ydy'r llythyr cylch gorchwyl, a sut mae'n bartneriaeth wirioneddol rhwng y Llywodraeth a'r cyrff hyn, gan fynd yn ôl hefyd i'w bwriad gwreiddiol nhw. Felly, mae hwnna'n ymrwymiad cyfan gwbl, oherwydd, i fi, mae angen i hon fod yn sgwrs genedlaethol.

Mi fyddwch chi i gyd fel Aelodau'n ymwybodol o effaith y toriadau sydd wedi bod yn y meysydd hyn, a'r pethau y mae pobl wir yn gwerthfawrogi yn ein cymunedau ni, pethau y mae pobl yn cael budd gwirioneddol ohonyn nhw. Dwi'n meddwl mai gwendid mawr y strategaeth y gwelsom ni gan y Llywodraeth diwethaf—os gallwch chi ei galw hi'n strategaeth, oherwydd nifer o frawddegau oedden nhw, a oedd yn nodi, efallai, rhai sylwadau ynglŷn â diwylliant yn hytrach na strategaeth wirioneddol—y gwendid mawr oedd, mi oedd yr ymgysylltu wedi'i wneud efo rhai pobl, ond ddim gyda phawb, ddim gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, ac, yn bwysicach, y rheini nad oeddynt yn cael cyfle i gyfranogi. Felly, yn hytrach na mynd ar ôl y sylwadau gan yr un un sefydliadau, dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar y dystiolaeth a ddaeth i law, ac yna gwaith y strategaeth newydd fydd edrych ar y bylchau hynny.

Does yna ddim strategaeth o ran chwaraeon gan y Llywodraeth. Byddwn i'n gofyn i rai Aelodau edrych ar beth oedd y strategaeth gan Lywodraeth Lafur Cymru—‘Dringo’n Uwch’, ‘Climbing Higher’—a oedd i fod yn strategaeth 20 mlynedd. Dwi'n trio gweithio allan ar ba bwynt y stopiodd y gwaith hwnnw. Pam ein bod ni mewn sefyllfa na fu i'r mesurau hynny gael eu cyrraedd? Mae hynny'n rhywbeth dwi wedi gofyn i swyddogion rŵan i egluro i fi—sut, efo’r un un blaid mewn grym am 27 mlynedd, y methwyd pob un targed yn y strategaeth hirdymor honno, a pha wersi y gallwn ni eu dysgu i sicrhau bod yr hyn dŷn ni'n ei wneud yn fesuradwy, yn uchelgeisiol, ein bod ni hefyd yn cyflawni a bod y gwaith hwn ddim yn mynd yn angof.

O ran yr adnoddau a'r cyllid, yn sicr, mae'r ffaith ein bod ni'n edrych yn drawsbortffolio—. Os edrychwch chi ar adroddiad a wnaed i Gyngor Celfyddydau Cymru gan Brifysgol Bangor a hefyd gan Brifysgol Edge Hill—dwi'n barod iawn i rannu copi o hwn—mae o'n dangos yr arbedion y gall buddsoddi yn y celfyddydau ei wneud o ran y gwasanaeth iechyd. Mae potensial i arbed hyd at £3.5 miliwn y flwyddyn drwy leihau costau salwch staff a staff yn gadael, felly dydy o ddim jest ynglŷn â chleifion, ond hefyd staff. O wneud hyn yn iawn, mi fedrwn ni arbed arian i'r NHS a sicrhau bod yna fuddsoddiad ar gael. Felly, dwi'n deall bod hyn yn newid ffocws, ond dwi'n gobeithio eich bod chi'n gweld ein bod ni'n gyfan gwbl ymrwymedig i newid hyn er budd pawb yng Nghymru.

O ran gweithio efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn amlwg mae yna bartneriaeth gadarnhaol o ran Ewro 2018, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr i fynd â'r gwaith hwnnw rhagddo. Ac mae yna gyfleoedd eraill efo digwyddiadau mawr ac ati. Dydw i ddim eto wedi cyfarfod efo'r Gweinidogion perthnasol, ond dŷn ni eisiau perthynas adeiladol lle dŷn ni yn gallu cydweithio. Ac yn sicr, mi fyddwch chi'n cael yr ymrwymiad yma gen i: os oes yna arian ar gael i Gymru, mi fyddaf yn sicrhau ein bod ni'n trio ei gael o yma i Gymru.

17:10

Diolch yn fawr iawn am y datganiad yna. Mae'n rhaid imi ddweud, cyn dod i'r cyfarfod heddiw, roedd rhywun wedi ysgrifennu rhywbeth neis iawn imi ei ddweud, ond ar ôl clywed y datganiad mor ysbrydoledig yna, mae e wedi newid yn gyfan gwbl beth dwi'n mynd i'w ddweud, achos dwi'n teimlo, fel rhywun sydd wedi gweithio yn y maes celfyddydau a'r Gymraeg ers 20 mlynedd, dyna'r peth gorau dwi wedi'i glywed yn dod mas o'r ystafell yma ers 27 o flynyddoedd, a dwi y tu ôl iddo fe 100 y cant. 

Mae'n rhaid ysgogi uchelgais, onid oes, a dŷn ni ddim yn cael hynny heb gael y sefydliadau mawr yng Nghymru. Ond sut ydyn ni'n ymbweru pobl mewn cymunedau i gael yr uchelgais yna? Dyna beth sy'n bwysig. So, dwi wedi meddwl am gwestiwn. [Chwerthin.] Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i sicrhau hyfywedd ein sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad fel y byddant mewn sefyllfa i ysgogi uchelgais? 

Gallaf i ddweud hefyd un pwynt—? [Torri ar draws.] Na, ocê. Byddaf i ddim yn ei ddweud e. [Chwerthin.]

Diolch i'r Aelod. Dwi'n hapus iawn i gael sgyrsiau pellach y tu hwnt i'r Siambr hon er mwyn clywed y syniadau hyn. Yn sicr, dyna pam mae edrych ar beth ydy'r sefyllfa ar lawr gwlad, nid jest o fewn ein sefydliadau cenedlaethol ni, ond ar lawr gwlad, mor, mor bwysig. Mae o'n syndod i fi ein bod ni ddim wedi gweld dealltwriaeth o hynny gan y Llywodraeth ddiwethaf—eu bod nhw ddim yn gwybod beth oedd yr angen a beth oedd yn fregus—er mwyn sicrhau bod pob £1 sy'n cael ei wario yr un fwyaf effeithiol.

Rŵan, fedraf i ddim dweud wrth Aelodau y bydd yr holl arian ar gael i wneud popeth dŷn ni eisiau o fewn tymor yma—fedraf i ddim rhoi'r ymrwymiad yna—ond mae'n rhaid inni wybod beth ydy'r angen a chael cynllun, oherwydd beth mae pobl wedi dweud wrthyf i ydy dyma sut y byddwn ni hefyd yn gallu denu nawdd i nifer o'r prosiectau hyn, i ymgysylltu efo'r diaspora, gan y bydd yr ymrwymiad o'r Llywodraeth yn hollol glir, ac y byddwn ni'n trio ein gorau i gael gymaint o'r buddsoddiad angenrheidiol er mwyn denu buddsoddiad. Felly, dyna fy ymrwymiad i chi. Mae'n rhaid i fi ddeall beth ydy'r sefyllfa er mwyn cael cynllun iawn. Ac mae hynna yn mynd i gymryd amser, ond dydy o ddim yn mynd i gymryd pedair blynedd. Dwi'n gofyn i swyddogion wneud y gwaith hwn yn drylwyr, a dwi hefyd eisiau bod y data hwnnw yn aros yn gyson, ei fod o fel dashboard byw, inni wir ddeall beth sydd at risk, er mwyn inni allu sicrhau dyfodol i'r rhain. Ond mae gormod o'n sefydliadau ni yn fregus. Mae'r diffyg strategaeth yn warth, dwi'n credu, a dwii ddim yn hapus fy mod i'n etifeddu sefyllfa fel hon.

Diolch, Weinidog Cabinet, am y datganiad heddiw. 

17:15

Diolch yn fawr iawn. Fel y soniwyd yn y datganiad, rydym ni'n ffodus yng Nghymru, dros y blynyddoedd nesaf, i fod yn croesawu digwyddiadau chwaraeon mawr megis Pencampwriaeth Ewropeaidd Dan-19 UEFA yng ngogledd Cymru'r haf hwn, y Tour de France y flwyddyn nesaf ac Ewro 2028. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc ar draws y wlad. Bydd gwneud y mwyaf o’r cyfleon sydd o’n blaenau ni yn medru cael effaith gadarnhaol fawr ar ein cymunedau trwy gefnogi clybiau chwaraeon llawr gwlad a helpu efo agenda iechyd ataliol y Llywodraeth. Sut bydd y Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau cynnydd mewn cyfranogiad ar gefn y digwyddiadau mawrion yma a sicrhau’r holl fuddion a all ddod o hynny i'n cymunedau ni? Diolch.

17:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mi fydd Aelodau oedd yma yn y chweched Senedd yn gwybod bod hwn yn fater roedd gen i ddiddordeb mawr ynddo fo ac mi oeddwn i'n cwestiynu'r Llywodraeth ddiwethaf arno fo, oherwydd roedd o'n rhwystredigaeth i fi. Mi oedd yna ffocws ar ddenu digwyddiadau mawr, ond dim meddwl pam ac i ba bwrpas. A dyna'r cwestiwn byddaf i wastad yn gofyn i fi fy hun cyn inni roi ein henwau gerbron er mwyn galluogi hyn i ddigwydd: pam? Dydy o ddim jest er mwyn dweud, 'Rydym ni wedi cael y Tour de France yma yng Nghymru.' Dydy hynna'n golygu dim os nad oes yna waddol gwirioneddol a bod hynny'n rhan o'r cynllunio o'r dechrau.

Mae gen i gyfle rŵan i roi stamp Plaid Cymru o ran yr Ewros yn 2028, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. O ran y Tour de France, fy her gyntaf i i swyddogion oedd, 'Beth ydy'r gwaddol i bobl Cymru? Faint mwy o bobl fydd yn beicio?' Oherwydd dydw i ddim eisiau ein bod ni jest yn denu ymwelwyr i Gymru i ddod ar eu beics, dwi eisiau gwybod beth ydy'r newid yn ein cymunedau ni, oherwydd, drwy gynrychioli'r Cymoedd, dwi'n gwybod pa mor heriol ydy diffyg ffaith bod gennym lwybrau beicio neu'r holl frynnoedd sydd gennym ni ac ati. Os dydych chi ddim efo beic electrig, yna does yna ddim lot o obaith, meddai rhywun sydd yn byw ar ben bryn fan hyn.

Ond mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiwn hwnnw, 'Pam?' bob tro, onid oes? A dyna fy ymrwymiad i o ran digwyddiadau mawr: maen nhw i bwrpas, mae yna waddol yn gorfod bod yn gysylltiedig â nhw, neu fedraf i ddim sefyll yma a chyfiawnhau degau o filiynau weithiau o wariant ar rywbeth sydd yn digwydd mewn amrantiad a fflach ac yn gadael dim ar ei ôl.

Diolch, Weinidog Cabinet. Diolch, bawb, hefyd. Does dim cyfnod pleidleisio heddiw, felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:22.