Y Cyfarfod Llawn - Y Chweched Senedd

Plenary - Sixth Senedd

25/03/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sydd gyntaf heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Ynni Adnewyddadwy

1. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn Nwyrain De Cymru? OQ64040

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflymu'r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy drwy ein bargen newydd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy, sy'n cwmpasu pob math o dechnoleg adnewyddadwy. Drwy fuddsoddiad y sector preifat a Llywodraeth Cymru, rydym yn adeiladu system ynni fwy gwydn yn Nwyrain De Cymru a ledled Cymru gyfan.

Diolch yn fawr. Mae potensial ynni adnewyddadwy Cymru yn enfawr, ac mae'n rhaid ei gefnogi os ydym am adeiladu gwydnwch a diogelu ein cyflenwad ynni rhag digwyddiadau rhyngwladol. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod rhai llinellau coch o ran lleoliad y datblygiadau hyn, sy'n aml yn enfawr. Dylai un o'r llinellau coch hyn gynnwys safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, sy'n cwmpasu 12 y cant yn unig o dir Cymru. Fel y gwyddoch, mae nifer o ddatblygiadau'n bygwth gwastadeddau Gwent, sy'n dirwedd SoDdGA unigryw yn fy rhanbarth, ac sy'n gartref i lawer o rywogaethau fflora a ffawna prin. Mae'r ardal wedi cael ei galw'n fforest law Amazon Cymru gan rai cadwraethwyr. Mae effaith ecolegol gwaith solar gweithredol Llan-wern ar wastadeddau Gwent wedi dangos dirywiad difrifol yn y nythfa gornchwiglod a gweithgarwch cardwenyn meinlais, gostyngiad sylweddol ym mhoblogaeth yr ystlumod gwarchodedig, ac mae garanod prin iawn a oedd yn bridio yno wedi diflannu'n gyfan gwbl. Ni ddylem adael i hyn ddigwydd mewn mannau eraill ar y gwastadeddau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad rydych chi wedi'i wneud o effaith prosiect ynni solar Llan-wern ar natur o'i gwmpas, a ydych chi'n cytuno na allwch achub yr amgylchedd drwy ei ddinistrio, ac a ddylid rhoi mwy o warchodaeth i dir SoDdGA nag sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y wlad hon? Diolch.

Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gynigion na cheisiadau cynllunio penodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi'n glir iawn fod datblygu ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn annerbyniol yn gyffredinol fel mater o egwyddor, ac mae'r safbwynt polisi hwnnw'n llywio'r holl gynigion datblygu cyfredol a rhai'r dyfodol ar wastadeddau Gwent sydd wedi'u lleoli mewn SoDdGA. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn darparu safbwyntiau clir a chadarn iawn ar SoDdGAau. Er bod y dull 'stepwise' yn fodd o sicrhau budd net i fioamrywiaeth y gellir ei gyflawni ym mhob achos, mae Polisi Cynllunio Cymru yn gofyn am ddull mwy penodol o ystyried SoDdGAau, lle dylai datblygiadau osgoi SoDdGAau oni cheir dewis arall rhesymol. Mae ymgynghoriad ar y gweill ar y canllawiau cynllunio atodol ar gyfer gwastadeddau Gwent, felly rwy'n annog fy nghyd-Aelodau a phartïon â diddordeb i ymateb i hwnnw—mae'n cau ar 31 Mawrth. Bydd y canllawiau hynny'n cefnogi ac yn ychwanegu manylion i weithredu gofynion polisi 9 yn 'Cymru'r Dyfodol', i wella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau ar wastadeddau Gwent.

Ysgrifennydd y Cabinet, gŵyr pob un ohonom fod teuluoedd a busnesau'n cael eu gwasgu o bob cyfeiriad ar hyn o bryd, gydag ansefydlogrwydd byd-eang yn cynyddu prisiau tanwydd. Nawr, er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ein hatgoffa ni oll nad eu cyfrifoldeb nhw yw diogeledd ynni, ond ar yr un pryd, maent yn helpu i gyflwyno ynni adnewyddadwy heb unrhyw strategaeth wirioneddol, heb gynllun grid a heb ffordd gydlynol o gadw'r manteision yma yng Nghymru. Gofynnir i ni gael y seilwaith yma, ond nid ydym yn cael y diogeledd, y strategaeth na'r llais. Onid yw'n bryd inni gael sgwrs onest am ein holl opsiynau ynni, gan gynnwys olew a nwy sy'n cael eu hechdynnu yn y DU, yn hytrach na cheisio esgus bod y status quo yn ddigon? Ysgrifennydd y Cabinet, os yw'r Gweinidogion wir yn credu mai ynni adnewyddadwy yw'r dyfodol, pam nad oes cynllun priodol ar waith o hyd i'w gyflenwi mewn ffordd sy'n diogelu aelwydydd Cymru rhag siociau byd-eang yn y dyfodol?

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn sicr o ddifrif ynglŷn â phwysigrwydd diogeledd ynni. Rydym wedi gweld yn yr wythnosau diwethaf pam ei bod mor bwysig fod diogeledd ynni yn cael blaenoriaeth o ran sut rydym ni'n ymdrin ag ynni adnewyddadwy ac ynni yn fwy cyffredinol. Wrth gwrs, dyna pam, os bydd y Blaid Lafur mewn sefyllfa i arwain Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, fod annibyniaeth ynni yn rhan hollbwysig o'n cynnig i bobl yng Nghymru, a byddant yn deall o ddigwyddiadau diweddar pam y mae hynny mor bwysig.

Yr wythnos diwethaf, lansiais ein bargen sector ynni adnewyddadwy. Roedd honno'n foment bwysig iawn o ran cydweithio â'r diwydiant i gyflymu'r gwaith o gyflwyno ynni gwynt ar y tir, ynni gwynt alltraeth, ynni solar, ynni’r môr ac ynni dŵr ledled Cymru er mwyn cyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol iawn ar gyfer 2030-35. Mewn gwirionedd, mae bargen y sector eisoes yn gwneud gwahaniaeth o ran y ffordd rydym yn gweithio gyda'r diwydiant a chyda sectorau cymunedol. Mae eisoes wedi gwella'r mathau o sgyrsiau a gawn. Ac mae a wnelo bargen y sector ag edrych ar y rhwystrau i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, ond hefyd ar sut y gallwn wneud yn well o ran cadw'r manteision yma yng Nghymru i gymunedau, gan wneud hynny drwy'r gadwyn gyflenwi, er enghraifft, ond hefyd drwy greu swyddi da iawn o ansawdd uchel drwy ein cynnig sgiliau. Felly, buaswn yn dweud bod y gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau, a gallwch weld, ledled Cymru, y cyhoeddiadau cyffrous iawn a wnaed yn ddiweddar iawn ar ynni glân ac ynni adnewyddadwy yn benodol.

13:35

Rwy'n falch o weld y sgwrs yn troi at ddiogeledd ynni fel rhan o ynni adnewyddadwy. Fel y dywedais ddoe, ac fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae ynni adnewyddadwy a niwclear gyda'i gilydd yn rhan hanfodol o'r gwaith o sicrhau diogeledd ynni a'n rhwymedigaethau i'r hinsawdd. Yn llawer mwy na hynny, serch hynny, mae cyfleoedd datblygu economaidd sylweddol, gyda gwaith hirdymor ar gyflogau da, ond hefyd yr arloesi sydd i'w weld yn y sector hwn, gydag ynni alltraeth gan y bobl o sir Benfro, yn y digwyddiad a noddwyd gan Sam Kurtz yn gynharach heddiw, i fferm wynt Llŷr sydd eto i gael cydsyniad, a hefyd y ffaith bod gennym fferm wynt Erebus eisoes wedi cael cydsyniad. Y gadwyn gyflenwi honno o orllewin Cymru, yr holl ffordd i'r de-ddwyrain, a'r potensial ar gyfer ynni môr-lynnoedd hefyd—camau go iawn sydd wedi'u cymryd. Ac rwy'n gwbl argyhoeddedig, mewn strategaeth ddiwydiannol yn y dyfodol, y dylai gweithgynhyrchu uwch ac ynni glân fod wrth ei gwraidd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi egluro eich uchelgais ar gyfer y ddau sector allweddol hyn, a'r gwaith rydych chi eisoes yn ei wneud gyda'r gadwyn gyflenwi i sicrhau y gall y swyddi a'r cyfleoedd o'r sectorau hyn ddod yma i Gymru, fel y gall pobl a busnesau Cymru fod yn llwyddiannus nawr ac yn y dyfodol?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, ac yn enwedig y ffocws ar arloesi, gan fod Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran arloesi ar draws ystod eang o dechnolegau. Yr un sy'n dod i'r meddwl yn benodol yw ffrydiau llanw. Roeddwn ym Morlais yn ddiweddar—mae gan Lywodraeth Cymru gyfran ecwiti yn y prosiect hwnnw, ac mae'n lle gwirioneddol ar gyfer arloesi gyda'r camau nesaf, os mynnwch, mewn ynni o'r fath.

Ond o ran ynni niwclear, unwaith eto, newyddion cyffrous iawn o ran Wylfa. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Great British Energy—Nuclear a Rolls Royce yn gallu llofnodi'r contract hwnnw cyn bo hir. Credaf y bydd hynny wedyn yn rhoi hyder gwirioneddol i'r gymuned fod y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen ac y bydd yn arwain at fanteision mawr o ran swyddi a swyddi medrus yn yr ardal. Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Jack Sargeant ar hynny i sicrhau ein bod yn gallu gwneud y mwyaf o'r manteision hynny i'r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, yn enwedig felly yn y gogledd, ond hefyd y pwyntiau hynny am sgiliau. Yn Llywodraeth Cymru, rydym eisoes wedi sefydlu bwrdd rhaglen sy'n edrych ar holl feysydd y Llywodraeth y bydd angen iddynt ddod ynghyd i sicrhau bod y cyfleoedd o amgylch ynni niwclear newydd yn Wylfa yn llwyddiant. Mae hynny'n cynnwys timau o bob maes, yr iaith Gymraeg, er enghraifft, tai, sgiliau ac eraill. Felly, mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill.

Ac yn yr un modd, cawsom gyhoeddiadau cyffrous iawn mewn perthynas â'r sector ynni adnewyddadwy. Ac fe roddais ddatganiad ysgrifenedig i gyd-Aelodau yn gynharach y mis hwn mewn perthynas â'r cynllun gweithredu gwynt ar y môr, ac fe nododd hwnnw, ar draws tair tudalen, rwy'n credu, y gwaith rydym eisoes yn ei wneud yn y maes hwnnw i sicrhau, unwaith eto, ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i gytuno â Peredur Owen Griffiths ynghylch yr angen i ddarparu'r warchodaeth fawr ei hangen i wastadeddau Gwent? Fel y gwyddoch, rwy'n cadeirio'r gweithgor ar wastadeddau Gwent—mewn gwirionedd, mae gennym gyfarfod ddydd Gwener yr wythnos hon—ac mae pryder mawr yn y gymuned leol fod natur y gwastadeddau hynny, gyda'u holl fioamrywiaeth ryfeddol, natur, eu tirwedd unigryw, a'u hanes, dan fygythiad gan ffermydd solar ar raddfa fawr. Mae'r grŵp yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, ac yn dal i'w wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, i gryfhau'r warchodaeth drwy'r system gynllunio. Ond tybed a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r hyn sydd angen i ni ei weld yng Nghymru, o ran ynni adnewyddadwy, yw dull sy'n llawer mwy seiliedig ar y gymuned ac sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac nad yw'n ddull echdynnol o ran cwmnïau'n tynnu gwerth allan o'r gymuned leol, ond dull sy'n seiliedig ar y gymuned ac sy'n cael ei gefnogi gan y gymuned. Ac os caiff ei roi ar waith yn y ffordd honno, credaf y byddai'r system gynllunio'n cefnogi'r cynigion sy'n codi yn y ffordd honno.

13:40

Rwy'n ddiolchgar iawn i John Griffiths am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud i gefnogi'r ystyriaeth a datblygiad ein gwybodaeth ynghylch gwastadeddau Gwent a'r hyn y mae hynny'n ei olygu ar gyfer cynllunio. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch iddo ar ein rhan am yr holl waith pwysig hwnnw.

Hefyd, gan gytuno â phwysigrwydd sicrhau y ceir ffocws cymunedol cryf, roedd hynny, unwaith eto, yn un o'r rhannau y buom yn gweithio arnynt ym margeinion y sector ynni adnewyddadwy i geisio sicrhau, er y bydd Llywodraeth Cymru’n chwarae ei rhan yn chwalu rhwystrau yno a chyflymu'r broses benderfynu, er enghraifft, a sicrhau bod y gadwyn gyflenwi ar waith gennym a sicrhau bod gennym weithlu medrus, sy'n angenrheidiol, ond bod gan ddatblygwyr ran bwysig iawn i'w chwarae hefyd yn ymgysylltu cyn gynted â phosib â chymunedau, a sicrhau hefyd fod y manteision cymunedol a ddaw yn fanteision ystyrlon hefyd. Felly, credaf ei fod wedi bod yn waith da iawn, gan ddod â'r ddwy ochr, os mynnwch, at ei gilydd.

Ac unwaith eto y mis hwn, gallais gyhoeddi ychydig o ganllawiau ar gyfer datblygwyr sy'n cynnig prosiectau arwyddocaol. Felly, roeddent yn ganllawiau a ddatblygwyd i sicrhau bod datblygwyr yn deall y ffordd orau o gyfathrebu a'r ffordd orau o ymgysylltu â chymunedau yn gynnar iawn. Unwaith eto, mae hynny wedi'i groesawu'n fawr.

Ffrwydro mewn Chwareli

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd pan ganfyddir bod ffrwydro mewn chwarel yn torri amodau cynllunio mewn perthynas ag ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd? OQ64059

Mae rheolaeth gynllunio o ddydd i ddydd, gan gynnwys gorfodaeth mewn perthynas â thorri amodau, yn fater i'r awdurdod cynllunio lleol. Mae hawl statudol i apelio at Weinidogion Cymru yn erbyn camau gorfodi, ac felly ni allaf wneud sylwadau ar fanylion unrhyw achos gorfodi penodol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r sefyllfa sy'n wynebu cymuned Glyn-coch, sy'n byw yng nghysgod chwarel sy'n eiddo i gwmni rhyngwladol. Yn eich llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 3 Mawrth, fe ddywedoch chi y byddech yn ystyried tystiolaeth newydd gadarn ar ffrwydro, ansawdd aer neu lwch—tystiolaeth a gefnogir gan gonsensws gwyddonol. Mae trigolion yn ei chael hi'n anodd iawn cael eu tystiolaeth wedi'i gwirio. Mewn arolwg a gynhaliais, mae'n amlwg iawn eu bod yn bryderus iawn am yr effaith ar eu hiechyd, gyda thrigolion yn dweud bod dros 90 y cant ohonynt yn credu bod y chwarel wedi niweidio eu hiechyd neu iechyd teuluoedd neu gymdogion. Maent yn nodi trafferthion anadlu, asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ac yn y blaen, gyda bron bob ymatebydd yn sôn am hyn. Mae'r rhan fwyaf hefyd yn nodi bod yr amodau amgylcheddol lleol yn wael iawn, gyda llawer yn disgrifio effeithiau negyddol sylweddol ar eu lles meddyliol. O ystyried hyn, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen cymorth ar gymunedau fel Glyn-coch i allu casglu'r dystiolaeth gadarn honno? Ac yn niffyg asesiad o'r effaith ar iechyd, torri amodau'r llain glustogi 200m a thystiolaeth o ddifrod strwythurol, a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid inni ailedrych ar nodyn cyngor technegol mwynau 1 ar unwaith fel y gellir gwneud diwygiadau ar frys?

Rydym wedi dweud yn glir iawn o ran MTAN 1 fod yr egwyddorion hynny'n darparu polisi cynllunio cynhwysfawr, sy'n gadarn o ran rheoli effeithiau chwarela. Ac rydym hefyd wedi dweud yn glir iawn y dylid ei ddarllen ar y cyd â 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd, ac sy'n nodi'r polisïau cyffredinol ar gyfer pob datblygiad mwynau. Mae'n nodi mai un o egwyddorion allweddol echdynnu mwynau yw diogelu nodweddion amgylcheddol a diwylliannol lleoedd, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu trysori'n fawr am eu rhinweddau cynhenid, fel bywyd gwyllt, tirweddau, coetiroedd hynafol a nodweddion hanesyddol, ond yn bwysig iawn, diogelu iechyd a diogelwch a lles cyffredinol pobl hefyd. Felly, os oes pryderon penodol, yn y lle cyntaf—ac rwy'n siŵr fod fy nghyd-Aelod eisoes wedi gwneud hyn—codwch hynny gyda'r awdurdod cynllunio lleol. Credaf fod rôl hefyd i'r dystiolaeth y dywedoch chi ei bod wedi'i chasglu drwy'r arolwg, a gwn y byddai fy swyddogion yn awyddus i weld canlyniad yr arolwg hwnnw, felly rwy'n awyddus iawn ichi rannu hynny gyda ni cyn diddymu'r Senedd.

Mae pryderon ynghylch ffrwydro chwareli wedi'u codi ar nifer o achlysuron yn y Senedd hon. Wrth gwrs, un a'u cododd ar sawl achlysur oedd Hefin David. Fe wnaeth godi'r mater yn rheolaidd yma. Rwy'n gohebu nawr â Chyngor Caerdydd a Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn ag effaith ffrwydro yn chwarel Ffynnon Taf a chwarel Creigiau a'r effaith y mae'n ei chael ar gymunedau cyfagos. Materion tebyg i'r rhai y mae Heledd Fychan wedi'u codi: trigolion yn cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch aflonyddwch sŵn, llwch ac effaith dirgryniadau ar eiddo. Ysgrifennodd preswylydd sy'n byw dros filltir o chwarel Creigiau ataf a dweud:

'Pan fyddant yn ffrwydro, gall wneud i'n ffenestri ysgwyd, felly ni allaf ddychmygu'r sefyllfa i'r bobl sy'n byw yn nes.'

Clywsom dystiolaeth yn y Pwyllgor Deisebau a oedd yn debyg iawn i hyn. Mae eraill wedi sôn wrthyf am dai'n crynu a chraciau newydd mewn waliau a nenfydau mewnol. Er fy mod yn deall o'ch ateb i Heledd Fychan mai materion i'r awdurdod lleol yw'r rhain, a wnewch chi ymgynghori â'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch pa gamau y gellir eu cymryd ar lefel Llywodraeth Cymru i ddiogelu hawliau trigolion i fwynhau eiddo mewn tawelwch, yn enwedig pan fyddant yn byw'n agos at chwareli, oherwydd ar hyn o bryd, fe glywn nad ydynt yn gallu mwynhau eu heiddo eu hunain mewn tawelwch? Diolch yn fawr.

13:45

Ar y cwestiwn hwnnw, efallai y gofynnaf i'r Aelod ysgrifennu ataf, ac fe geisiaf gael sgyrsiau pellach ar y pwynt penodol hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau'r llefarwyr sydd nawr. Mae cwestiynau heddiw i gyd i gael eu hateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Mae'r cwestiynau cyntaf gan Gareth Davies.

Diolch, Lywydd. Datgelodd adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Degawd o doriadau', ddegawd o fethiant gan Lafur o ran ariannu diwylliant, celfyddydau a chwaraeon, gyda Chymru'n gwario £69.68 y pen yn unig ar wasanaethau diwylliannol, y lefel isaf ond un yn Ewrop. Cafodd Cyngor Celfyddydau Cymru doriad o 29 y cant mewn termau real, cafodd Chwaraeon Cymru ostyngiad o 9 y cant, a chafodd National Theatre Wales eu gorfodi i gau. Mae 16 o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad hefyd mewn perygl, mae llawer o leoliadau chwaraeon yn wynebu gorfod cau, ac mae ein hamgueddfeydd yn llythrennol yn cwympo'n ddarnau.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwadu bod argyfwng ac yn cyfeirio at eu cynnydd diweddar, sy'n sicr i'w groesawu, ond mae'n rhy hwyr mewn sawl ystyr, gan fod pobl Cymru’n gwylio eu treftadaeth yn dirywio ar ôl blynyddoedd o danariannu. Nid yw'n syndod fod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn gwarchod ein diwylliant, ein treftadaeth chwaraeon a'n balchder cenedlaethol.

Cyn i'r Gweinidog ymateb, a gaf i ddweud mai dyma fy nghyfle olaf i'ch holi fel Gweinidog cyn diddymu'r Senedd? Felly, a gaf i ddweud ei bod wedi bod yn bleser craffu arnoch drwy gydol tymor y Senedd hon? Rwyf bob amser wedi edmygu eich angerdd a'ch ymroddiad i'ch portffolio, yn enwedig o ran prentisiaethau, y gwn eich bod yn angerddol iawn amdanynt yn bersonol.

Ond fel cwestiwn, a wnaiff y Gweinidog gyfaddef o'r diwedd y niwed y mae toriadau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, ac ymrwymo i gynnal lefelau gwariant Cymru ar lefel gyfartalog Ewrop, neu a wnewch chi barhau i drin ein trysorau cenedlaethol fel pe baent yn ddibwys?

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod. Fe wnaeth hyd yn oed ddeffro ei gefnogwr Sam Rowlands heddiw, sy'n rhywbeth newydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei sylwadau y prynhawn yma. Rwyf bob amser wedi bod yn ddiolchgar i Gareth Davies am yr her adeiladol ond cadarn y mae'n ei chyflwyno i mi yn rheolaidd, yma yn y Siambr ac mewn fforymau eraill hefyd.

Yr hyn nad yw Gareth yn cyfeirio ato yn ei sylwadau yw'r £40 miliwn a wariwyd ar dri phrosiect yn unig ar gyfer y sector diwylliant: CELF, Theatr Clwyd yn y gogledd, ac amgueddfa bêl-droed Cymru. Dyna £40 miliwn yn nhymor y Senedd hon ar dri phrosiect yng ngogledd Cymru.

Nid yw'n crybwyll y ffaith na chefnogodd gynnydd i gyllideb cyngor y celfyddydau. Nid yw'n crybwyll y cymorth o £10 miliwn i'r diwydiant cerddoriaeth drwy Cymru Greadigol. Nid yw'n crybwyll, Lywydd, y cymorth i'r sector ffilm a theledu, sydd wedi dod â dros £400 miliwn yn ôl i economi Cymru.

Yr unig beth annisgwyl yng nghyfraniad yr Aelod yw ei fod yn parhau, gyda'i gyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig, i ddilorni Cymru a dilorni'r sector diwylliant. Nid wyf am gael fy nenu i wneud hynny. Rwy'n falch o'n sector diwylliant, ac rwy'n falch o fod wedi'i gefnogi mewn nifer o wahanol ffyrdd, yn enwedig y ffyrdd y soniais amdanynt y prynhawn yma.

Hoffwn ddweud yn glir nad wyf erioed wedi dilorni Cymru, rwy'n dilorni Llafur. Dyna fydd eich tynged yn etholiadau mis Mai, o bosib.

Mae grant diwylliant llawr gwlad Llywodraeth Cymru, a gaeodd y llynedd, yn cynnwys cafeat na all sefydliadau sy'n gwneud cais gael eu harwain na bod er budd unigolion gwyn, heterorywiol nad ydynt yn anabl. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cymryd bod y math hwn o nonsens gwahaniaethol, croestoriadol wedi dod yn amhoblogaidd ymhlith yr asgell chwith yn y blynyddoedd diwethaf, ond yn amlwg, nid yng Nghymru. Dosbarthwyd oddeutu £234,000 o arian trethdalwyr gan Diverse Cymru i sefydliadau a redir gan neu sydd ar gyfer categorïau hunaniaeth penodol. Rwy'n deall mai'r bwriad yw bod yn gynhwysol, ond mae'n amlwg fod y mathau hyn o grantiau'n eithrio. Mae rhannu ein poblogaeth yn grwpiau hunaniaeth a darparu cyllid ar sail y categorïau hynny yn gam yn ôl, ac nid yw'n flaengar. Mae'n allgáu pobl ac yn ymrannol, ac mae'n cyfateb i wahaniaethu gyda chefnogaeth y wladwriaeth. Tra bo lleoliadau'n cau a'n treftadaeth yn pydru, ni ddylai Llywodraeth Cymru chwarae gwleidyddiaeth hunaniaeth gyda chyllid diwylliannol ac artistig. Mae cynnig grantiau fel hyn yn eithrio'r rhan fwyaf o bobl Cymru, ac a ydych chi'n cydnabod sut y gallent fod yn broblemus? Ac os byddwch yn parhau yn eich swydd, a wnewch chi geisio hyrwyddo grantiau sy'n croesawu pob ymgeisydd?

13:50

Lywydd, rydym wedi'u clywed, onid ydym, ar ddiwrnod olaf tymor y Senedd hon, dyddiau olaf y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd? Rydym wedi clywed y cyfan, onid ydym? Efallai eich bod newydd glywed perfformiad diweddaraf Gareth Davies fel cyfweliad i Reform UK. Edrychwch, nid wyf am gael fy nenu i mewn i ryfel diwylliant ar ddiwrnod olaf tymor y Senedd, Lywydd. Nid wyf am ganiatáu i'r Aelod benderfynu beth y mae diwylliant yn ei olygu i bobl Cymru. Lle pobl Cymru yw penderfynu beth yw diwylliant.

Roeddwn yn credu y byddai wedi gadael y nonsens hwn yn yr hen Siambr. Ymddengys ei fod wedi pardduo'r Siambr newydd hon ag ef hefyd. Yn yr un anadl, mae'n galw am ymyrraeth wleidyddol yn y sector diwylliannol gan ddweud nad cynnwys gwleidyddiaeth yw'r peth iawn i'w wneud. Mae angen iddo benderfynu, Lywydd. Nid wyf am gael fy nenu i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod. Fel y dywedais yn fy sylwadau cynharach, rwy'n falch iawn o'r sector diwylliant. Gallai fod wedi manteisio ar y cyfle fel gogleddwr i ddathlu amgueddfa bêl-droed Cymru, i ddathlu'r buddsoddiad yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, i ddathlu'r buddsoddiad gwerth £60 miliwn mewn chwaraeon, y mae wedi'i weld yn uniongyrchol.

Lywydd, roeddem yn Ysgol Rydal Penrhos yn chwarae hoci gyda'n gilydd. Fe saethodd ataf bryd hynny, ac fe fethodd. Mae wedi gwneud hynny eto heddiw. [Chwerthin.]

Rwy'n credu y gall y Gweinidog ddyfalu beth rwy'n mynd i ofyn yn ei gylch. Fe fydd yn ymwybodol o'r llythyr a anfonwyd at y Prif Weinidog gan gadeirydd dros dro'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau a ddaeth i'r casgliad ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dewis a dethol y data i honni ei bod wedi cyrraedd ei tharged o 100,000 o brentisiaethau newydd. Sut y byddai'r Gweinidog yn ymateb i'r llythyr hwnnw?

Diolch am godi'r cwestiwn hwnnw. Clywais ei gyfraniad ddoe, ac rwy'n ymwybodol o'r llythyr. Dywedaf yn glir iawn, fel rwyf wedi'i wneud, fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud, ac fel y mae'r Gweinidog Cyflawni wedi'i wneud, fod dwy set o ddata ar brentisiaethau'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru a Medr. Rydym wedi cyhoeddi hynny ers amser maith. Mae'r ddwy set yn ddata cadarn, ac mae'r data ynghylch cyflawni 100,000 o brentisiaethau yn adlewyrchu ymrwymiad y rhaglen lywodraethu yn gywir. Dywedaf hynny gyda hyder, ac fe'i dywedaf gyda balchder.

Onid dyna'n union yw'r broblem yma, serch hynny? Y gwir amdani, ac rydych chi'n llygad eich lle, yw bod dau fesur wedi'u cyhoeddi gan Medr i feincnodi prentisiaethau yng Nghymru, ond yn gyson, mae'r Llywodraeth wedi defnyddio'r mesur mwyaf trylwyr. Mae bron bawb yn amau nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged o 100,000 o brentisiaethau newydd, felly rwy'n credu y bydd cwestiwn 'do' neu 'naddo' yn eithaf defnyddiol yma, neu'n ateb eithaf defnyddiol yma. A yw'r mesur trylwyr wedi'i ddefnyddio'n gyson yn ystod tymor y Senedd hon a rhai blaenorol i fesur cynnydd? A ddefnyddiwyd y mesur trylwyr wrth adolygu'r targed o 125,000 i 100,000? Ac a ddefnyddiwyd y mesur trylwyr i ategu'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth ei bod wedi cyrraedd ei tharged?

Lywydd, nid wyf yn siŵr sut i ateb hyn yn gliriach. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio dwy set o ddata drwy gydol tymor y Senedd hon. Mae'n glir iawn. Mae'r data wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a chan Medr yn y ffordd honno. Ni allaf fod yn gliriach na hynny. Mae'r ffigur 100,000 yn adlewyrchu ymrwymiad y rhaglen lywodraethu yn gywir: 100,000 o brentisiaethau wedi'u cychwyn. Mae'n gyflawniad hynod falch gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae dros 200,000 wedi'u cychwyn yn y degawd diwethaf, a'r degawd cynt, roeddwn innau'n un ohonynt. Gwn am y gwahaniaeth y gall prentisiaethau ei wneud, ac fe wn am y gwahaniaeth y gall cyllideb o £150 miliwn ei wneud, cyllideb y pleidleisiodd fy nghyd-Aelodau ar fy llaw chwith yn ei herbyn, ac yr ymatalodd fy nghyd-Aelodau ar fy llaw dde arni yn y gyllideb ddiwethaf.

Felly, mae pawb yn anghywir. Mae'r sector addysg bellach yn anghywir. Mae darparwyr prentisiaethau eu hunain yn anghywir. Ac wrth gwrs, mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau hefyd yn anghywir i godi'r mater hwnnw, lle mae'r Llywodraeth wedi mynd ati'n fwriadol i newid y ffordd y mae'n mesur, neu'r flaenoriaeth y mae'n ei rhoi i'r mesur trylwyr, i nodi a yw wedi cyrraedd targedau prentisiaethau ai peidio. Mae pob un ohonom wedi camddeall y sefyllfa, a'r unig wirionedd yw'r hyn a ddywedir gan y Gweinidog, a neb arall.

Dyma realiti gwirioneddol y sefyllfa rydym ynddi nawr. Drwy symud y pyst gôl ar y funud olaf, ychydig cyn etholiad, rydych chi wedi tanseilio ymddiriedaeth yn nata'r Llywodraeth. Dyna a nodwyd hefyd yn y llythyr a anfonwyd gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Nid fi'n unig sy'n dweud hyn; maent hwythau'n dweud hyn hefyd. Felly, rydych chi wedi cael dau gyfle nawr i ddweud yn onest a yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r mesur trylwyr i ategu'r cyhoeddiad o 100,000 o brentisiaethau newydd. Rhoddaf gyfle arall ichi gydnabod y camgymeriad, cywiro'r cofnod ac ailadeiladu ymddiriedaeth. Onid yw'n bryd gwneud hynny nawr, pan fo pawb, y sector a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, oll yn anghytuno â'r honiad fod y Llywodraeth wedi cyrraedd ei tharged o 100,000 o brentisiaethau?

13:55

Mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, fel rwyf wedi'i ddweud, na allaf fod yn gliriach na'r ddau ateb rwyf wedi'u rhoi heddiw, yr atebion a roddais yn y sesiwn gwestiynau economi flaenorol, y cwestiwn a atebwyd gan y Gweinidog Cyflawni, y cwestiynau y mae'r Prif Weinidog wedi'u hateb. Ni allwn fod yn gliriach ar hyn. Nid wyf am newid fy ateb i'r cwestiwn, gan mai dyna'r ateb i'r cwestiwn.

Mae'r ddau fesur yn mynd drwy'r un sicrwydd ystadegol. Mae'r ddau fesur yn mynd drwy'r un sicrwydd ystadegol, ac maent wedi cael eu cyhoeddi yn y ffordd honno. Mae'r Aelod yn sôn am y sector. Wel, roeddwn yn falch iawn o dderbyn llythyr gan y sector neithiwr yn diolch i mi a'r Llywodraeth am arweinyddiaeth ar brentisiaethau, gan gydnabod y gwahaniaeth y gall prentisiaethau ei wneud.

Mae'n sôn am ymddiriedaeth, Lywydd. Wel, mae’n ddrwg gennyf, nid wyf am dderbyn pregeth gan Blaid Cymru ar ymddiriedaeth. Fe wnaethant golli ymddiriedaeth ddoe. Fe wnaethant bleidleisio yn erbyn cyfraith Hillsborough. Rwy'n dweud wrthych, ymddiriedaeth pobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru, wel, maent wedi torri'r ymddiriedaeth yno, rwy'n dweud wrthych.

Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei phenderfyniad i dynnu cynllun datblygu lleol Wrecsam yn ôl? OQ64061

Ar 16 Mawrth, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i mi o dan adran 66(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, cyfarwyddwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i dynnu eu cynllun datblygu lleol yn ôl.

Wrth gwrs, mae CDLl Wrecsam wedi bod yn destun cryn ddadlau yn y blynyddoedd diwethaf. Dyma'r unig gynllun lleol i gael ei wrthod gan ei gynghorwyr ei hun, i fod drwy gyfres o achosion llys yn arwain at y Goruchaf Lys, a lle mae cynghorwyr, wrth gwrs, wedi cael eu bygwth â dedfrydau carchar am sefyll dros eu cymunedau lleol. Yng ngoleuni tynnu'r CDLl yn ôl, sy'n newyddion da iawn i bobl yn Wrecsam, ac yn wir i ddemocratiaeth leol, mae rhai cwestiynau heb eu hateb o hyd. Yn benodol, beth fydd yn digwydd i'r apeliadau presennol gan ddatblygwyr tai i adeiladu 600 o dai ar Ffordd Holt a 1,500 o dai ar Ffordd Rhuthun? Ymddengys bod y sail dros yr apeliadau hynny, y cynllun datblygu lleol, bellach wedi diflannu. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth yw statws yr apeliadau hynny nawr a chadarnhau eich dealltwriaeth ohonynt, os gwelwch yn dda?

Iawn. Hyd nes y bydd CDLl newydd yn cael ei fabwysiadu yn Wrecsam, bydd 'Cymru'r Dyfodol', a gyhoeddwyd yn 2021, a'r cynllun datblygu unedol ar gyfer 2006 i 2011 yn parhau i wasanaethu fel y cynllun datblygu mabwysiedig ar gyfer yr ardal, er bod dyddiad y CDU wedi hen fynd heibio. Fel rhan ddiweddaraf y cynllun, byddai 'Cymru'r Dyfodol' yn cael blaenoriaeth dros y CDU lle ceir gwrthdaro o ran polisi. Effaith tynnu'r cynllun yn ôl yw y bydd y CDLl diweddaraf yn peidio â bodoli, ac mae hynny'n golygu y bydd y polisïau o fewn y CDLl a dynnwyd yn ôl yn cael eu heithrio rhag cael eu hystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Gall sylfaen dystiolaeth y CDLl a dynnwyd yn ôl fod yn ystyriaeth berthnasol o hyd, yn dibynnu ar ei oedran a'i gysondeb â 'Polisi Cynllunio Cymru', nodiadau cyngor technegol, 'Cymru'r Dyfodol' ac ystyriaethau perthnasol eraill, a mater i'r penderfynwr fydd gwneud penderfyniadau ynghylch hynny.

Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n nodi'r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd, ac yn amlwg, byddem yn annog y cyngor nawr i fwrw ymlaen â'r gwaith o baratoi CDLl newydd cyn gynted â phosib, oherwydd yn amlwg, mae'r sefyllfa bresennol yn gwneud yr ardal yn agored i ddatblygu hapfasnachol, nad yw o fudd i unrhyw un.

Gadewch inni fod yn gwbl glir: pan gafodd y cynllun datblygu lleol hwn, y CDLl, neu CDLl2 i roi ei enw priodol, ei ddiddymu gan yr Uchel Lys fis Mai diwethaf, a phan gadarnhaodd apeliadau dilynol i'r Llys Apêl a'r Goruchaf Lys nad oedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i gyngor Wrecsam fabwysiadu'r CDLl, daeth hyn i ben â'r ymgyrch gan ddatblygwyr a Llywodraeth Cymru i bob pwrpas. Dyma pam fod Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo y dylid ei dynnu'n ôl yn ffurfiol. Ond pe bai Gweinidogion wedi gwrando ar y cyngor dair blynedd yn ôl, byddent yn llawer agosach bellach at gynllun newydd. Fel y dywedodd y cynghorydd Ceidwadol Cymreig Hugh Jones, a gefnogodd yr her gyfreithiol,

'Bydd hyn yn rhoi cyfle nawr inni ddatblygu cynllun newydd a fydd yn adlewyrchu anghenion pobl Wrecsam yn well'.

Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru hanes yn y maes hwn, ar ôl dweud wrth gyngor Wrecsam yn flaenorol am ddileu CDLl1 a dechrau eto pan oeddent yn gyngor cyntaf Cymru i gyhoeddi cynllun drafft. Gan adeiladu ar gwestiwn blaenorol fy nghyd-Aelod, sut fyddwch chi'n mynd i'r afael â'r penderfyniadau a wnaed tra bo'r ail gynllun hwn yn cael ei ddefnyddio a'r cynnydd mewn datblygu hapfasnachol a fydd yn deillio o hyn nawr tra nad oes CDLl gan Wrecsam, lle mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth Llywodraeth Cymru?

14:00

I fod yn glir, mae hon yn sefyllfa anffodus y mae'r cyngor wedi mynd iddi, felly mater i'r cyngor nawr yw bwrw ymlaen â'r gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol newydd cyn gynted â phosib. Mae fy swyddogion yn parhau i fod ar gael i ddarparu'r cyngor a'r gefnogaeth angenrheidiol i'r cyngor er mwyn bwrw ymlaen yn amserol â chynllun datblygu lleol newydd. Ond fel y mae cyd-Aelodau wedi cydnabod, gallai diffyg cynllun datblygu lleol cyfredol arwain at effeithiau andwyol sylweddol iawn i Wrecsam a'r cymunedau o'i fewn. Rydym yn disgwyl y byddai'r cyngor heb gynllun cyfredol am o leiaf dair blynedd arall, a gallai hynny effeithio ar gyfraniad datblygwyr tuag at dai fforddiadwy ac ysgolion newydd, er enghraifft.

Cronfa Twf Lleol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut y bydd y gronfa twf lleol yn cefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn y Rhondda? OQ64051

Bydd y gronfa twf lleol yn buddsoddi mwy na £0.5 biliwn dros y tair blynedd nesaf i godi cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru. Bydd pob rhanbarth yng Nghymru yn gallu cyfeirio cyllid at lle mae anghenion a chyfleoedd penodol ar gyfer buddsoddi.

Diolch. Mae rhai trigolion yn y Rhondda yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo'n siomedig. Ni wnaethant bleidleisio dros y Brexit sydd gennym nawr. Maent yn teimlo eu bod wedi'u camarwain gan yr addewidion ffug a wnaed, fel y £350 miliwn a addawyd i'n GIG ar fws mawr coch Nigel Farage. Roedd Cymru a'r Rhondda yn fuddiolwyr net o'r Undeb Ewropeaidd, felly mae Brexit wedi achosi niwed gwirioneddol i ni. Er nad ydym bob amser yn cytuno gyda Llywodraeth y DU, rydym wedi derbyn setliad cyllid gwell nag erioed, ac rydym ni yng Nghymru yn cael penderfynu ble y caiff ei wario, a dyna pam ein bod yn gweld gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr, fel presgripsiynau am ddim a thocynnau bws am ddim i bensiynwyr. Os ydym yn troi ein cefn ar drafodaethau cadarn ac yn dewis ymwahanu pellach oddi wrth weddill y DU yn lle hynny, fel y mae Plaid Cymru yn ei gynnig, rydym mewn perygl o ailadrodd y niwed a achoswyd gan Brexit. A ydych chi'n cytuno mai partneriaeth a chydweithrediad cryf yw'r ffordd orau ymlaen o hyd, ac a wnewch chi nodi sut y bydd y gronfa twf lleol o fudd i'r Rhondda?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r ffordd y mae Brexit wedi'i ddisgrifio yn y cwestiwn hwnnw. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen: roedd yn syniad gwael ar y pryd, ac mae'n parhau i fod yn syniad gwael nawr. Ond mae annibyniaeth a Brexit yn ddwy ochr i'r un geiniog, yn yr ystyr eu bod yn cael eu harwain gan ddogma ac nad ydynt yn ystyried yr hyn sydd er budd gorau Cymru, ac rwy'n credu y bydd pobl yn cydnabod hynny. 

O ran y £0.5 biliwn sy'n dod i Gymru nawr, rwy'n credu bod hwnnw'n rhoi cyfle cryf iawn inni fynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu mewn perthynas â chynhyrchiant ac anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru. Rydym wedi ffocysu'r blaenoriaethau ar gyfer y cynllun yn y gofod hwnnw, ac mae hyn yn rhywbeth y credaf ei fod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol. Byddem yn disgwyl gweld canlyniadau allweddol iawn mewn mannau, gan gynnwys y Rhondda, gyda mwy o arloesedd a thwf busnes, busnesau newydd, mwy o swyddi o safon yn cael eu creu a help i bobl gamu ymlaen tuag at waith. Byddem hefyd yn disgwyl gweld safleoedd, adeiladau a seilwaith ynni a thrafnidiaeth yn cael eu huwchraddio o ganlyniad i'r buddsoddiad sy'n dod yn ôl i Gymru.

Wrth gwrs, yn hytrach na bod £350 miliwn yr wythnos yn fwy i'r GIG yng Nghymru, mae mwy yn mynd i mewn i GIG Cymru heddiw, cannoedd o filiynau o bunnoedd, yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ffaith nad ydym yn anfon £18 biliwn i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd a dim ond yn cael £9 miliwn yn ôl. Mae'n ffaith, Weinidog, fod eich cymheiriaid yn Llundain wedi torri £80 miliwn o'r gronfa ffyniant gyffredin, a'i hail-frandio'n gronfa twf lleol. Mae hynny'n ffaith, ac mae'n ddrwg gennyf na thynnodd yr Aelod dros y Rhondda sylw at y ffaith bod Llafur wedi torri arian adfywio i Gymru. Felly, a wnewch chi gywiro'r cofnod a thynnu sylw at yr arian y mae Llafur wedi'i dynnu allan ohono, a cheisio galw ar eich cymheiriaid yn San Steffan i roi'r £80 miliwn yn ôl?

14:05

Rwy'n credu ei bod hi'n ffaith bod eich plaid wedi arwain y wlad hon i gredu na fyddai Cymru geiniog yn dlotach ac na fyddai'n colli unrhyw bwerau o ganlyniad i Brexit, ac nid yw hynny'n wir. Yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, gan wybod popeth a wyddom nawr, ni allaf gredu bod Andrew R.T. Davies yn dal i amddiffyn Brexit, pan fo pawb arall yn gallu gweld ei fod yn gamgymeriad mawr.

Yr Economi ym Mhreseli Sir Benfro

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Mhreseli Sir Benfro? OQ64039

Rydym yn cefnogi Preseli Sir Benfro drwy fuddsoddiad mawr yng nghytundeb dinas bae Abertawe, uwchraddio seilwaith digidol, rhaglen Forol Doc Penfro, gwaith adfywio Trawsnewid Trefi, y gronfa fuddsoddi yn nhwristiaeth Cymru, a chyllid y banc datblygu, ochr yn ochr â'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg o'r porthladd rhydd Celtaidd i hybu swyddi, sgiliau a thwf cynaliadwy.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae economi Preseli Sir Benfro yn un wledig i raddau helaeth sy'n cynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig bywiog, ac sy'n chwarae rhan enfawr yn ein cymunedau lleol. Mae llawer o'r busnesau hynny dan bwysau, maent yn wynebu mwy o drethi a rheoleiddio nag erioed o'r blaen, ac yn fy marn i, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i gydnabod ac ymateb i'r heriau y mae busnesau gwledig yn eu hwynebu a chreu amodau i'r sector preifat allu tyfu.

Cyhoeddodd y grŵp trawsbleidiol ar dwf gwledig, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz, adroddiad pwysig yn ôl yn 2024 yn nodi rhwystrau i dwf mewn cymunedau gwledig, ac yn hollbwysig darparodd gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi'r economi wledig yn well. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym faint o'r argymhellion hynny yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gweithredu mewn gwirionedd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb brwd iawn mewn cefnogi'r economi wledig. Dyma pam y mae'r Prif Weinidog wedi cynnal cyfarfod Cabinet penodol i edrych ar yr economi wledig. Gofynnodd i mi arwain gwaith i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i wella'r rhagolygon yn yr economi wledig. Dywedodd ddoe, er bod amaethyddiaeth mor hanfodol i'r economi wledig, ei bod yn cydnabod bod amrywiaeth o sectorau eraill yn yr economi wledig sy'n hanfodol.

Mae'r economi sylfaenol yn hanfodol yn ein cymunedau gwledig hefyd. Mewn sawl man, mae'n un o'r prif gyflogwyr. Ond hefyd, yn gynyddol, fe welwn arloesedd yn digwydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym am weld mwy ohono drwy'r strategaeth ddiwydiannol yr ydym yn gweithio arni ochr yn ochr â Llywodraeth y DU. Nid oes unrhyw reswm pam na all y Gymru wledig elwa o fuddsoddiad cynyddol, yn enwedig mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, a welwn ym mhob rhan o Gymru, ond hefyd mewn peth o'r arloesedd a'r ymchwil a'r datblygu sy'n dod ochr yn ochr â rhai o'r sectorau cyffrous eraill, fel technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial.

Cefnogi Diwylliant yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwylliant yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ64045

Diolch. Rydym yn parhau i gefnogi prosiectau diwylliant yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu fel Theatr Clwyd ac amgueddfa bêl-droed Cymru. Mae enghreifftiau eraill o'n cefnogaeth ariannol yn cynnwys Canolfan Grefft Rhuthun, un o'r rhwydwaith o orielau Celf, ac wrth gwrs, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Gwelais y sylw i'r amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam ac mae'r hyn sy'n digwydd yno'n gyffrous iawn. A gaf i ddatgan fy mod yn aelod o'r Theatr Clwyd eiconig? Mae wedi mynd o adeilad a oedd yn wynebu'r perygl o gau i un sydd wedi'i drawsnewid yn llwyr gan fuddsoddiad enfawr y Llywodraeth hon. Mae'r theatr yn perthyn i bawb ac mae ganddi le arbennig yn fy nghalon. Rwy'n ymweld gyda fy nheulu yn aml iawn, ac fe wneuthum noddi seddi yno er cof am fy mab, a berfformiodd ar y llwyfan yno gyda'r band jazz sirol.

Yn ogystal â bod yn gyflogwr pwysig a lle pwysig ar gyfer y celfyddydau, mae Theatr Clwyd yn gynhwysol. Mabwysiadodd y gwasanaeth cerddoriaeth pan oedd mewn perygl o chwalu. Mae'r panto gwych yn cael ei sgrinio i mewn i 60 o gartrefi gofal. Mae yna ganolfan ieuenctid, gofod mamau a phlant bach, gofod ystyriol o dementia, gardd synhwyraidd, toiled Changing Places, a lle gwylio tawel arbennig i bobl ag anghenion synhwyraidd. Mae yna siop, bwyty gwych, y bûm ynddo—mae'n hyfryd—gofod corfforaethol, prentisiaethau, gwirfoddolwyr anhygoel, a golygfeydd gwych dros fryniau Clwyd. Weinidog, sut ydych chi'n gweithio gyda phartneriaid yng ngogledd-ddwyrain Cymru i wella enw da cynyddol y theatr yn yr ardal ymhellach? Diolch.

14:10

Diolch, Carolyn. Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn am Theatr Clwyd a sefydliadau diwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Lywydd, o ran sefydliadau diwylliannol yng ngogledd Cymru, rwy'n meddwl am Theatr Clwyd fel seren y gogledd. Mae'n dod â phobl i mewn o bob cwr i gael mynediad at ddiwylliant yn y gogledd-ddwyrain, ac rydym yn falch iawn o'r gefnogaeth y mae Carolyn wedi'i roi i'r theatr. Rydym hefyd yn falch o ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i fuddsoddi yn y theatr yn y maniffesto diwethaf, ac mae'r buddsoddiad gwerth £25 miliwn yno i bawb ei weld.

Ond mae Carolyn yn iawn, mae'n fwy na'r buddsoddiad yn y theatr yn yr Wyddgrug, ond y buddsoddiad sy'n digwydd ar draws gogledd Cymru, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain. Ymunodd Rob McElhenney â mi yn Wrecsam ychydig benwythnosau yn ôl i weld amgueddfa bêl-droed Cymru, i weld y buddsoddiad yno, dros £6 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru. Ond roeddem yn gallu trafod buddsoddiad ehangach y Llywodraeth yn Wrecsam, gan gynnwys buddsoddiad 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' mewn llefydd fel Tŷ Pawb, £25 miliwn ar gyfer prosiect Porth Wrecsam, buddsoddiad gwerth £10 miliwn mewn Trawsnewid Trefi yng nghanolfan greadigol Wrecsam, yn y gwaith ar wella marchnad Wrecsam, mewn gwelliannau i'r stryd fawr hefyd.

Y buddsoddiad hwn a'r gwaith partneriaeth parhaus yn gweithio gyda phobl leol yng ngogledd-ddwyrain Cymru fydd yn rhoi Wrecsam mewn lle gwych i'w cais i fod yn ddinas ddiwylliant. Mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod â'r tîm yn Wrecsam i drafod pa gymorth pellach y gallai Llywodraeth Cymru ei gynnig yno. Fel rhywun o ogledd-ddwyrain Cymru a aeth i'r brifysgol yn Wrecsam, rwy'n falch iawn o'r buddsoddiadau a'n cyflawniad yn yr ardal, ac rwyf am weld hynny'n parhau yn y dyfodol.

Cefnogi Busnesau

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau yng Ngogledd Cymru i ehangu a pharhau i fod yn gystadleuol? OQ64053

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi twf busnes yng ngogledd Cymru drwy gyngor teilwredig Busnes Cymru, cyllid Banc Datblygu Cymru, rhaglenni sgiliau ac arloesi, a buddsoddiad mewn seilwaith digidol a thrafnidiaeth. Mae partneriaethau rhanbarthol a chyllid wedi'i dargedu yn helpu cwmnïau i arloesi, ehangu ac i barhau'n gystadleuol mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod mai gogledd-ddwyrain Cymru, Fflint Wrecsam, yw pwerdy economaidd gogledd Cymru a'i fod yn cyfrannu'n enfawr at ddegau o filoedd o swyddi yng Nghymru, gan ddarparu ffyniant i ddegau o filoedd o bobl, eu cefnogi i brynu eu cartrefi cyntaf, cefnogi eu teuluoedd a chaniatáu iddynt fyw'r bywydau y maent am eu byw. Un o gysylltiadau pwysicaf Fflint Wrecsam yw'r un â'r economi yng ngogledd-orllewin Lloegr ac yn y DU gyfan, rhan bwysig iawn o'n heconomi yn y rhan honno o'r byd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n cytuno â mi mai un o'r risgiau mwyaf i fusnes a ffyniant yng ngogledd Cymru ac yn Fflint Wrecsam yw agenda ymwahanol Plaid Cymru, sy'n daer am weld Cymru'n annibynnol oddi ar weddill y Deyrnas Unedig? Gwyddom y byddai hynny'n costio £20 biliwn y flwyddyn i drethdalwyr yng Nghymru, ymrwymiad heb ei ariannu o gwbl gan Blaid Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi mai dyna'r risg fwyaf i bobl a busnesau Fflint Wrecsam?

Nid oeddwn wedi disgwyl cytuno'n llwyr â Sam Rowlands yn fy nghwestiynau olaf yn y tymor Senedd hwn, ond rwy'n llwyr ategu popeth a oedd ganddo i'w ddweud.

Sero Net a Thwf Economaidd

8. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ymgyrch tuag at sero net ar dwf economaidd yn Nwyrain De Cymru? OQ64037

Mae mynd ar drywydd allyriadau carbon sero net yn cyfrannu at ymdrechion i liniaru effeithiau newid hinsawdd byd-eang, gan ddarparu cyfleoedd twf er mwyn i fusnesau, gweithwyr a'r economi gyfan yng Nghymru allu bod yn fwy gwydn.

Fe wnaethoch chi siarad am ddogma yn gynharach. Am 27 mlynedd, mae Llafur, wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru, wedi gwthio'r polisïau sero net gwyrdd hyn er anfantais i'n heconomi a fy etholwyr yn Nwyrain De Cymru. A nawr gwelwn gynigion lleol fel fferm solar Candwr, sy'n ymestyn ar draws sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yn fy rhanbarth i—cynllun difeddwl, cwbl anaddas sy'n bygwth tir amaethyddol cynhyrchiol o'r radd flaenaf mewn rhanbarth sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a thwristiaeth. Beth am dwristiaeth? Beth am amaethyddiaeth? Mae Cymru'n dibynnu ar y diwydiannau allweddol hyn hefyd. Pam eich bod chi'n aberthu ein tir fferm gorau a'n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ar allor y targedau chwerthinllyd hyn, gan orchuddio Cymru mewn peilonau a phaneli gan yrru'r union ddiwydiannau y dibynnwn arnynt i ffwrdd? Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi a Reform fod angen inni flaenoriaethu ynni fforddiadwy, dibynadwy i warchod ein tir ac ailddiwydiannu Cymru fel ein bod unwaith eto yn lle difrifol i fuddsoddi ac adeiladu ynddo? Diolch.

14:15

Mae'r daith tuag at sero net a mynd i'r afael â newid hinsawdd yn rhywbeth sy'n mynd i fod o fudd i ni. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amcangyfrif, ar lefel fyd-eang, fod cost diffyg gweithredu yn llawer uwch na chost gweithredu. Maent wedi amcangyfrif y gallai'r niwed yn sgil cynnydd o 3 y cant yn y tymheredd byd-eang cyfartalog weld gostyngiad o tua 8 y cant yng nghynnyrch domestig gros y DU erbyn dechrau'r 2070au, sy'n sylweddol uwch na'r hyn a amcangyfrifent yn flaenorol. Mewn cyferbyniad, gallai cyfyngu cynnydd yn y tymheredd cyfartalog byd-eang i lai na 2 y cant gyfyngu'r gostyngiad i gynnyrch domestig gros i tua 3 y cant. Ac mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cyfrifo bod cost diffyg gweithredu ar newid hinsawdd yn £650 biliwn y flwyddyn, neu'r hyn sy'n gyfwerth â 5 y cant i 6 y cant o gynnyrch domestig gros blynyddol Ewrop, tra bod cost gweithredu yn ddim ond 1 y cant i 1.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Felly, mae'n amlwg y bydd o fudd i ni, o ran y blaned a'r amgylchedd, ond hefyd o ran yr economi.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Oedi wrth Ryddhau o Ysbytai

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau oedi wrth ryddhau o ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ64048

Rydym ni wedi buddsoddi £30 miliwn ledled Cymru i gryfhau trefniadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys £6.5 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol yn y gogledd, a £146 miliwn arall i gefnogi gofal cymunedol integredig. Mae canllawiau clir a chadarn a dulliau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol, fel rhaglenni cynllunio ar gyfer y gaeaf a gwella trefniadau rhyddhau o’r ysbyty, yn helpu i ryddhau cleifion mewn modd amserol a diogel ar draws y gogledd.

Ond er gwaethaf hynny i gyd, mae yna tua 300 o gleifion mewn gwlâu ysbyty yng ngogledd Cymru sydd ddim angen bod yna. Maen nhw'n barod i adael, ond does dim darpariaeth ar gael iddyn nhw yn y gymuned. Mae tua 300 o delayed discharges, sy'n cyfateb i werth Ysbyty Glan Clwyd cyfan o wlâu wedi cael eu defnyddio na ddylid fod wedi'u defnyddio, mewn gwirionedd. Dyna, yn fy marn i, sy'n esbonio llawer ar y logjam yn yr NHS fel y mae hi, ac mae'r polisi o gau a cholli gwlâu yn y gymuned dros y 15 mlynedd diwethaf wedi'n gadael ni gyda 20 y cant yn llai o wlâu yn y system, tra bod y boblogaeth yn heneiddio, wrth gwrs, a'r galw yn cynyddu. Pa ryfedd fod gan ogledd Cymru y rhestrau aros gwaethaf, yr amserau gwaethaf o safbwynt aros mewn coridorau i gael gofal, a hefyd oedi pan mae'n dod i A&E.

Felly, a ydych chi'n derbyn bod methiant eich Llywodraeth chi i sicrhau darpariaeth ddigonol yn y gymuned wedi cynyddu'r pwysau ar ein hysbytai cyffredinol ni ac wedi achosi llawer o'r trafferthion sy'n llethu'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru heddiw?

Mewn gwirionedd, yr hyn a welsom yw bod cyfanswm y diwrnodau o oedi hefyd wedi gostwng dros 24 y cant ers i ryddhau o'r ysbyty gael ei ddyrchafu'n un o flaenoriaethau'r Prif Weinidog. Mae hyn wedi arwain at leihad o saith diwrnod y claf yng nghyfanswm y diwrnodau o oedi, ar gyfartaledd. Mae hynny'n golygu bod cleifion yn treulio cymaint â hynny'n llai o amser yn yr ysbyty. Mae hyd cyfartalog arhosiad yn yr ysbyty wedi gostwng saith diwrnod, fel y dywedais, ac mae mwy na 19,000 yn llai o ddiwrnodau o oedi bob mis. Mae'n gyfraniad enfawr i fynd i'r afael â'r her sy'n dal i fodoli mewn perthynas â llif drwy'r ysbyty. Rydym i gyd eisiau gweld hynny'n gwella ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi darparu tîm o bobl i weithio gyda'r bwrdd iechyd i wella llif drwy ysbytai. Bydd hynny o fudd i gleifion ym mhob rhan o ogledd Cymru.

Fe wnaethoch chi sôn am welyau: rydym yn comisiynu gwelyau cam-i-fyny cam-i-lawr, sy'n lleihau nifer y bobl a gaiff eu derbyn i'r ysbyty, a dyna beth rydym am ei weld hefyd drwy gefnogi cyfleusterau yn y gymuned, ac maent yn cael eu comisiynu'n helaeth yng ngogledd Cymru fel rhan o gyllid y gronfa integreiddio ranbarthol. Mae mwy i'w wneud, yn sicr, ond mae cynnydd gwirioneddol i'w weld ar gael pobl wedi'u rhyddhau adref yn ddiogel.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe fynychoch chi gyfarfod gyda mi yn Wrecsam, ynghyd â llawer o'r darparwyr gofal cymdeithasol yn yr etholaeth, lle buom yn trafod y problemau gydag oedi wrth drosglwyddo gofal a'r hyn y gellid ei wneud i leddfu rhai o'r problemau. Ac yn ogystal â'r heriau, awgrymwyd llawer o atebion hefyd. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, roeddech chi'n cyfarfod â swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.

Yn sicr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dyrannu £35 miliwn ychwanegol er mwyn cefnogi'r bwrdd iechyd a'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol i reoli mwy o gleifion yn y gymuned, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a gwella llif, gyda gofal cymdeithasol integredig yn rhan o hynny. Ac yn y trafodaethau a gefais yn y cyfarfod y cyfeiriwch chi ato, mae'n amlwg fod integreiddio ffyrdd o weithio rhwng y bwrdd iechyd a rhwng gofal cymdeithasol yn gwbl ganolog i'r ffordd y gall y rhanbarth weld gwelliant yn y lefelau rhyddhau o'r ysbyty a'r gofal sydd ei angen ar gleifion.

Mae'r grant trawsnewid llwybrau gofal, y £30 miliwn yr ydym wedi'i ryddhau i gefnogi'r GIG a darparwyr gofal ledled Cymru, yn gwella cyflawniad y targed yn rhanbarthol ac yn hollbwysig, yn cydlynu lleoliadau cartrefi gofal drwy gynyddu eu gallu i gomisiynu'n effeithiol. Felly, y math o negeseuon roeddwn yn eu clywed yn y cyfarfod, y buoch chi mor garedig â'i hwyluso, yw'r math o egwyddor, y math o weithredu sy'n sail i'r defnydd o'r cyllid hwnnw. A dyna pam ein bod yn gweld cynnydd. Mae llawer mwy o ffordd i fynd, ond rydym yn gweld cynnydd.

14:20
Darparwyr Gofal Iechyd yn Lloegr

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr yn Lloegr i sicrhau bod pobl yn cael gafael ar ofal? OQ64029

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio, diogelu a darparu gwasanaethau iechyd i'w poblogaethau lleol, gan gynnwys comisiynu gofal iechyd yn Lloegr, os yw'n briodol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan eich goruchwyliaeth, mae pobl ym Mhowys yn aros yn hirach am ofal yn Lloegr am nad yw'r cyllid yno i dalu am eu triniaeth, er bod capasiti yn system Lloegr i'w trin. Tra bod byrddau iechyd eraill yn derbyn degau o filiynau o bunnoedd i ddelio â rhestrau aros, derbyniodd Powys £115,000 yn unig, llai na 0.1 y cant o'r cyfanswm a roddwyd i mewn i'r system gennych chi. Nid yw hyn yn ddigon da i'r bobl sy'n talu eu trethi ym Mhowys. Felly, a allwch chi esbonio sut y cyrhaeddwyd y penderfyniad cyllido hwnnw a pha ffactorau a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r dyraniad? Ac a gafodd anghenion llawn cleifion Powys eu hadlewyrchu'n iawn yn y broses honno, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu gofal iechyd yn Lloegr?

Wrth gwrs. Rwyf wedi ei esbonio i'r Aelod sawl gwaith, ac rwy'n hapus i wneud hynny iddo eto. Mae'r cyllid yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar yr un meini prawf ag y mae cyfrifiad pob bwrdd iechyd yn seiliedig arnynt. Fel y mae'n gwybod yn iawn, mae nifer o'r cleifion y mae'n cyfeirio atynt yn cael eu trin mewn rhannau eraill o'r GIG yng Nghymru ac mae'r byrddau iechyd hynny, fel darparwyr, wedi cael y cyllid er mwyn cyflymu triniaeth cleifion Powys. Mae'n gwybod hyn yn dda iawn. Mae byrddau iechyd yn cael eu hariannu ym mhob rhan o Gymru i ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol. Mae gan Bowys heriau arbennig yn sgil eu natur wledig; mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y dyraniad. Nid oes ganddi ysbyty cyffredinol dosbarth; mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y dyraniad. Mae'r fformiwla dyrannu'n deg, mae'n gyson ac mae'n cefnogi cleifion Powys i gael y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch chi'n gwybod bod trigolion y Fflint a Wrecsam yng ngogledd Cymru yn dibynnu ar wasanaethau trawsffiniol gan ddarparwyr yn Lloegr. Yn benodol, rwy'n meddwl am wasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Countess of Chester a gwasanaethau arbenigol mewn llefydd fel Lerpwl a Manceinion. Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol fod Plaid Cymru yn amlwg yn daer am i Gymru fod yn annibynnol oddi ar y Deyrnas Unedig a chael gwared ar y berthynas gref â gwasanaethau yn Lloegr. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, mai un o'r pethau gwaethaf a allai ddigwydd i bobl y Fflint a Wrecsam o ran cael mynediad at y gwasanaethau hynny, y gwasanaethau arbenigol pwysig hynny dros y ffin yn Lloegr, yw dilyn agenda Plaid Cymru o dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, ar gost o £20 biliwn y flwyddyn i drethdalwyr yma yng Nghymru? A fyddech chi'n cytuno â mi mai dyna'r risg fwyaf i fy etholwyr yng ngogledd-ddwyrain Cymru?

Edrychwch, yr hyn sy'n rhaid inni ei weld yw parhad y ffyrdd da o weithio sydd gennym eisoes rhwng byrddau iechyd yng Nghymru ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr i wasanaethu anghenion poblogaethau ar y ddwy ochr i'r ffin. Mae gennym gleifion o Gymru sy'n cael eu trin yn Lloegr a chleifion o Loegr sy'n cael eu trin yng Nghymru, ac mae hynny'n digwydd yn rheolaidd, mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae'r math hwnnw o gydweithio'n bwysig iawn, yn enwedig i'r bobl sy'n byw ar y ffin, ond hefyd am fod gennym arbenigeddau yng Nghymru nad ydynt ar gael yn naearyddiaeth uniongyrchol Lloegr dros y ffin, ac fel arall.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu bod trigolion Powys yn haeddu eglurder ar amseroedd aros Powys, ac mae'n bwysig eu bod yn deall y ffeithiau'n glir. Fe wnaethoch chi ysgrifennu ataf yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a dweud bod Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad ychwanegol sylweddol i leihau amseroedd aros ledled Cymru a bod trigolion Powys wedi elwa'n uniongyrchol o'r cyllid hwn drwy weithgarwch a gyflawnwyd gan fyrddau iechyd eraill a darparwyr GIG yn Lloegr. A allwch chi egluro sut y mae trigolion Powys wedi elwa'n uniongyrchol o weithgarwch a gyflawnwyd gan ddarparwyr GIG yn Lloegr o'r buddsoddiad sylweddol, fel y dywedwch, gan Lywodraeth Cymru?

14:25

Yn sicr. Mae'r cyllid a ddarparwyd i Bowys yn adlewyrchu ei rôl fel comisiynydd gwasanaethau gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd eraill. Felly, mae'r cyllid yn ystyried hynny. Unwaith eto, mae'r Aelod yn rhoi cyfle i mi egluro hyn iddo. Y sefyllfa—[Torri ar draws.] Mae'r sefyllfa sy'n wynebu trigolion Powys yr un fath â thrigolion mewn unrhyw ran arall o Gymru. Mae byrddau iechyd, gan gynnwys Powys, yn cael eu hariannu i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol. Gwneir hynny ar fformiwla dyrannu tryloyw. Mae'r targedau y mae gan gleifion ym Mhowys hawl i gael eu trin o'u mewn yr un peth â'r targedau yn unrhyw ran arall o Gymru. Mae ganddo hawl i gyflwyno dadl, fel y mae'n ei wneud yn aml yn y Siambr, dros driniaeth wahanol a ffafriol i drigolion Powys, ond pe bai'n Ysgrifennydd iechyd sy'n gyfrifol am Gymru gyfan, ni fyddai'n gweld y ddadl honno'n un sy'n argyhoeddi, ac nid wyf innau chwaith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, cyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid adroddiad ar gyflwr polisïau Llywodraeth Cymru ar wariant cyhoeddus. Mae'r adroddiad hwn yn anhygoel o ddamniol, fel y gwyddoch, ac yn cydnabod y ffaith nad cyllid yw'r broblem o ran canlyniadau gofal iechyd yng Nghymru, ond blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod amseroedd aros yng GIG Cymru yn uwch na chyn y pandemig ac mae mesurau cymaradwy yn uwch nag yn Lloegr neu'r Alban. Ar ben hynny, mae gan GIG Cymru fwy o gyllid a staff na'r lefelau cyn y pandemig, ond nid yw gweithgarwch ysbytai wedi cynyddu'n gymesur, gan brofi bod rhywbeth o'i le'n sylfaenol ar y system. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n anghytuno â chanfyddiadau'r adroddiad hwn, ac o gael dewis, beth fyddech chi wedi'i newid am ymagwedd eich Llywodraeth at gyllid gofal iechyd?

Mae hwnnw'n gwestiwn llawer llai cyfeillgar na'r un a ofynnoch chi i mi y tro diwethaf i ni wynebu ein gilydd ar draws y Siambr. Edrychwch, yn hollol ddifrifol, mae blaenoriaeth y Llywodraeth yn cael ei chefnogi gan y cyllid a ddarparwn i'r GIG. Pan ddaeth y Prif Weinidog yn Brif Weinidog ym mis Awst 2024, roedd hi'n glir iawn mai'r hyn yr oeddem am i'r GIG ganolbwyntio ar ei wneud oedd lleihau'r amseroedd aros hiraf, lleihau maint y rhestr aros, a gwneud hynny mewn dwy ffordd bwysig. Yn gyntaf, cael rhaglen gofal a gynlluniwyd i edrych ar ffyrdd newydd o weithio, ac mae hynny wedi digwydd ac mae'n gweithio; a chyllid ychwanegol i'r system, ac mae hynny'n gweithio ac mae hynny wedi digwydd hefyd. O ganlyniad i hynny, yr hyn a welwn yw gostyngiad, y gostyngiad parhaus hiraf erioed ym maint y rhestr aros yng Nghymru, a gostyngiadau sylweddol o fis i fis yn yr amseroedd aros hiraf. Dyna a addawyd gennym, a dyna rydym yn ei wneud.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n amlwg fod rhywbeth o'i le'n sylfaenol gyda'r system yn ei chyfanrwydd, yn hytrach na lefelau cyllido'n unig, ac mae angen inni symud heibio i ddull y Llywodraeth hon o ymdrin â phroblemau wrth iddynt godi. Yn hytrach, mae angen inni ganolbwyntio ar atal, sy'n fwy effeithiol ac effeithlon yn ariannol, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n cytuno â hynny. Canlyniad methu canolbwyntio ar atal yw bod mwy o bobl yn ein hysbytai yn dioddef o gyflyrau y gellid bod wedi eu rheoli neu eu hosgoi. Rydych chi wedi siarad llawer am atal, ond mae llawer o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y siaradais â nhw'n dweud bod bwlch enfawr rhwng y rhethreg a chyflawniad Llywodraeth Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymddangos bod y bwlch rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd yn ehangu. Rydych chi wedi codi'r angen am gyllid dwbl o'r blaen, ond wedi methu ei weithredu'n iawn hyd yn hyn. Sut y byddech chi'n cynghori Llywodraeth nesaf Cymru i weithredu'r agenda ataliol, a beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol, pe byddech chi'n cael y cyfle?

Nid felly y mae hi. Rydych chi a minnau wedi trafod o'r blaen y rhaglen Cymunedol o'r Cychwyn y mae'r Llywodraeth yn ei hyrwyddo, ac er mwyn cyflawni honno, fel y dywedais wrthych o'r blaen, mae angen inni ddarparu cyllid ychwanegol, er enghraifft i bractisau meddygon teulu. Rydym yn gwneud hynny. Rydym wedi dod i gytundeb aml-flwyddyn gyda meddygon teulu, sy'n rhoi sicrwydd o gyllid iddynt, nid yn unig eleni, ond y flwyddyn nesaf hefyd, fel y gallant wneud yn union hynny, sef darparu mwy o wasanaethau yn y gymuned, gan adeiladu eu capsiti i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn y dyfodol, gan fodloni'r flaenoriaeth hollbwysig honno. Ac rwy'n cytuno â chi ynghylch atal. Mae'r Llywodraeth hon yn Llywodraeth sy'n gwbl ymrwymedig i atal. Mae ein rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint, ymestyn sgrinio canser y coluddyn, mynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd ehangach drwy sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl Marmot—mae yna restr hir o bethau y dylem ymfalchïo ynddynt, ym mhob rhan o'r Siambr hon, sy'n mynd i wraidd y flaenoriaeth honno. Ac rydych chi'n iawn; rwy'n bendant yn rhannu hynny.

14:30

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n thema gyffredin yr wyf wedi bod yn ei phrofi, pan fyddaf yn siarad â Gweinidogion neu'n gwrando arnynt, ac yna pan fyddaf yn gwrando ar y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu, ac mae yna bob amser wahaniaeth barn ar hyn. Dyma un lle mae gwahaniaeth barn amlwg ar ba mor gyflym yr ydym yn symud i mewn i'r agenda ataliol.

I symud ymlaen, fodd bynnag, tynnodd datganiad y Prif Weinidog ddoe sylw at yr hyn a ddisgrifiodd fel llwyddiannau. Fodd bynnag, ni all llawer ohonom yma gytuno â'i safbwynt. Mae'r Llywodraeth hon yn honni ei bod wedi llwyddo i leihau amseroedd aros ar y lefelau uchaf erioed, ond mae wedi anghofio pwy a adawodd i'r rhestrau aros hyn fynd mor ddrwg yn y lle cyntaf. Roedd y Prif Weinidog hefyd yn brolio am y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar hyfforddi staff GIG newydd. Fodd bynnag, deallwn fod Llywodraeth Cymru, yr wythnos hon yn unig, wedi cyhoeddi dyraniadau lleoedd hyfforddi i weithwyr iechyd proffesiynol mewn prifysgolion yng Nghymru, gan leihau'r niferoedd a bygwth hyfywedd darpariaeth lai. Nid dyma'r ffordd i drin ein gwasanaeth iechyd na'r rhai sydd am weithio yn y sector gofal iechyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gallwch chi ddisgwyl i bobl Cymru fod yn ddiolchgar am ostyngiadau byrdymor ymylol mewn rhestrau aros pan fydd eich Llywodraeth ar yr un pryd yn tanseilio ein gweithlu yn y dyfodol drwy dorri lleoedd hyfforddi a bygwth hyfywedd ein hysgolion meddygol? Onid ydych chi'n methu mynd i'r afael â rhai o'r problemau sylfaenol a systemig yn ein gwasanaeth gofal iechyd?

Ac Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai hwn yw fy nghyfle olaf i siarad, er ein bod yn anghytuno ar lawer o bolisïau, nid wyf erioed wedi amau eich awydd personol i helpu eich etholwyr a phobl Cymru gyfan. Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi yn y dyfodol.

Diolch am hynny, Peter. Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ac rwyf wedi mwynhau cael y cyfle i ateb eich cwestiynau dros y cyfnod diwethaf. Ond nid yw'r hyn a ddywedwch am gomisiynu hyfforddiant gofal iechyd yn wir. Fel y gwyddoch, fe wneuthum ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl yn nodi dull y Llywodraeth hon o gomisiynu lleoedd hyfforddi. Mae gwerth y contractau sydd wedi'u comisiynu yr un fath â'r llynedd yn fras; mae hynny wedi ei wneud yn fwriadol, i sicrhau sefydlogrwydd a pharhad. Gwyddom ein bod wedi gweld enghreifftiau, gan gynnwys yn ddiweddar, lle mae nifer fwy o raddedigion yn dod allan o'n prifysgolion na nifer y swyddi sydd ar gael iddynt yng Nghymru. Nid ydym am weld y sefyllfa honno—nid yw honno'n ffordd synhwyrol o symud ymlaen. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym batrwm comisiynu sefydlog.

Felly, fel y nodais yn fy natganiad ychydig wythnosau yn ôl, dyna'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf—contractau o'r un gwerth, sefyllfa sefydlog, sy'n caniatáu i'r Llywodraeth yn y Senedd newydd gymhwyso'r lens honno ar gyfer anghenion mwy hirdymor rhai rhannau o'r proffesiynau yn arbennig. Felly, rydym wedi blaenoriaethu hynny'n fwriadol, a bydd prifysgolion nawr yn ymateb i'r trefniant comisiynu hwnnw gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn y ffordd gydweithredol y maent wedi bod yn ei harfer ers blynyddoedd lawer. Dyma'r seithfed flwyddyn y mae'r cylch cynllunio hwn wedi'i weithredu, ac rwy'n hyderus y bydd yn mynd â ni i'r lle iawn.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethoch chi sefyll yma a lansio cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i fynd i'r afael â rhyddhau o'r ysbyty a thrwsio llif ein GIG. Ers hynny, mae'r Llywodraeth wedi arllwys £90 miliwn i her 50 diwrnod, £30 miliwn i gyllid llwybrau, y cyfeirioch chi ato yn gynharach, a £50 miliwn ychwanegol i becynnau adferiad. Dywedwyd wrth y cyhoedd y byddai'r buddsoddiad hwn yn achub bywydau. Yn hytrach, adroddodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng ddoe fod 2025 wedi gweld y perfformiad gwaethaf erioed yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Yn fwyaf dinistriol, amcangyfrifir bod 965 o bobl wedi marw yng Nghymru y llynedd yn gysylltiedig yn benodol ag amseroedd aros o 12 awr neu fwy. Dyna 18 marwolaeth bob wythnos. Er gwaethaf y cynlluniau integredig, mae nifer y bobl sy'n ffit yn feddygol i adael yr ysbyty ond sy'n gaeth mewn gwely wedi codi eto ym mis Chwefror. Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl gwario degau o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr, pam mai'r unig beth sy'n llifo yn ein hysbytai yw'r don uchaf erioed o farwolaethau ychwanegol? Ai dyma'r elw ar fuddsoddiad a addawyd inni?

Rwy'n credu ei bod yn bwysig seilio'r sgwrs hon ar ffeithiau. Yr hyn y mae'r coleg brenhinol wedi'i wneud yw amcangyfrif ffigurau. Felly, o ystyried sensitifrwydd y mater, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y pwynt hwnnw. Mae'r buddsoddiad a wnaethom ar gyfer llif yn ein hysbytai wedi bod yn sylweddol, ac fel y soniais yn fy ateb i'ch cyd-Aelod ychydig funudau yn ôl, mae'n dwyn ffrwyth: nifer sylweddol o filoedd o ddyddiau gwely ychwanegol ar gael oherwydd bod pobl yn cael eu rhyddhau'n gyflymach; pobl yn treulio wythnos yn llai yn yr ysbyty ar gyfartaledd nag y byddent wedi'i wneud fel arall. Unigolion yw'r rhain; nid darnau o ddata. Mae'r rhain yn unigolion sy'n treulio llai o amser yn yr ysbyty. Ac mae hynny'n beth da—dylent fod adref ac yn cael eu rhyddhau'n ddiogel.

Mae yna lawer o ffordd i fynd wrth gwrs, ond mae'n hollol gywir ein bod yn cydnabod y gwaith enfawr sy'n digwydd ym mhob rhan o Gymru rhwng y GIG ac awdurdodau lleol, ac yn cydnabod y ffaith ei fod yn dwyn ffrwyth. 

14:35

Mae'r ffigurau cenedlaethol a ryddhawyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng yn drasiedi, ond mae'r data rhanbarthol yn gondemniad o reolaeth y Llywodraeth hon ar ogledd Cymru. Er mai dim ond dau ysbyty yng Nghymru a lwyddodd i gadw arosiadau 12 awr o dan 10 y cant, gwelodd pob ysbyty mawr yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fwy nag un o bob pump o gleifion yn aros dros 12 awr. Yn Ysbyty Glan Clwyd, roedd bron i 30 y cant o gleifion—bron un o bob tri—yn wedi wynebu oedi peryglus o'r fath. Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu, gyda chynnydd syfrdanol o 8 pwynt canran mewn arosiadau 12 awr mewn blwyddyn yn unig. Nid deillio o ymchwydd annisgwyl yn nifer y cleifion y mae hyn; mae'r data'n dangos bod y niferoedd sy'n mynychu'r safleoedd hyn yn parhau i fod yn wastad i raddau helaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf goruchwyliaeth uniongyrchol y Llywodraeth hon ar fwrdd Betsi Cadwaladr, pam y mae claf yn y Rhyl neu Wrecsam dair gwaith yn fwy tebygol o orfod aros am 12 awr na chlaf yng Nghaerdydd? Pam y mae eich statws mesurau arbennig wedi methu darparu diogelwch sylfaenol mewn argyfwng i bobl gogledd Cymru?

Rwy'n credu ei bod yn bwysig rhoi'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud mewn cyd-destun. Rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw lefel y perfformiad mewn gofal brys ac argyfwng yn ysbytai gogledd Cymru lle mae angen iddo fod. Ond mae'n bwysig darparu cyd-destun i'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud. Wrth edrych ar draws Cymru, yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau brys cyn brysbennu oedd 16 munud, ac roedd pobl fel arfer yn aros awr a 15 munud cyn cael eu hasesu gan uwch feddyg. Roedd yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau brys cyn eu derbyn i'r ysbyty neu fynd adref yn llai na thair awr. Dyna brofiad y rhan fwyaf o bobl yn y system gofal iechyd y rhan fwyaf o'r amser. Ac rwy'n credu bod y cyd-destun ar gyfer y pwynt a wnewch yn bwysig.

Rwy'n derbyn yn llwyr nad yw'r lefel o amrywiad rhanbarthol yr ydych chi'n gywir i'w nodi yn dderbyniol, ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda'r bwrdd iechyd mewn perthynas â hynny. Dyna pam y maent yn parhau i fod yn destun mesurau arbennig—un o'r rhesymau—oherwydd nad yw'r perfformiad hwnnw lle mae angen iddo fod. Fe fyddwch chi'n gwybod hefyd, cyn y Nadolig, fy mod wedi darparu tîm arbenigol i'r bwrdd iechyd i weithio gyda'r uwch dîm gweithredol yno ar y mater pwysig hwn yn benodol, gan gydnabod pa mor bwysig yw hi i gleifion yng ngogledd Cymru weld yr un gwelliannau a'r un manteision â chleifion mewn rhannau eraill o Gymru.

Diolch am yr ateb yna, Ysgrifennydd Cabinet. Rŵan, wrth i chi baratoi i gamu lawr o swydd gyhoeddus gyda chraffu di-baid, a'r pwysau sydd yn dod yn sgil hynny, a chyda degawd o wasanaeth ymroddedig i'r Senedd yma, y Llywodraeth ac i bobl Cymru, dwi am orffen drwy fynegi fy niolch diffuant i chi am eich cyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru. Dwi am roi ar record eich bod chi wedi bod yn barchus ac yn serchog i fi bob amser, ac, er ein gwahaniaethau gwleidyddol, mi ydych chi wedi bod yn raslon bob tro. Dymuniadau gorau i chi, felly, wrth i chi fynd ati i ddysgu Sbaeneg, mwynhau haul Sbaen am ryw gyfnod, cyn symud ymlaen i gyfrannu unwaith eto, dwi'n siŵr, at fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Felly, diolch i chi.

Ond, wrth inni edrych ymlaen at Lywodraeth newydd, ac at Weinidog newydd, mae'n rhaid inni fod yn onest. Mi fu camgymeriadau a heriau sylweddol dros y blynyddoedd. Eto i gyd, bu hefyd adegau pan weithiodd y system fel y dylai. Ein blaenoriaeth yn awr ydy sicrhau mai gwneud pethau'n iawn ydy'r norm ac nid yr eithriad. Felly, gyda hynny mewn golwg, dwi am ofyn: wrth adlewyrchu ar eich amser yn arwain ar un o bortffolios mwyaf heriol y Llywodraeth, beth ydych chi'n ystyried ydy'r rhwystrau sylfaenol pennaf er mwyn cyflawni'r newidiadau systemig sydd eu hangen a sicrhau'r canlyniadau y mae cleifion a staff ein gwasanaeth iechyd a gofal yn eu haeddu?

Wel, diolch i'r Aelod am ei sylwadau agoriadol, ac am ei garedigrwydd yn hynny o beth. Mae wedi bod yn bleser cael y cyfle hefyd i ateb cwestiynau ganddo fe. Mae hefyd wedi bod yn beth calonogol i allu cael ambell i sgwrs breifat gadarnhaol gydag e hefyd.

Rwy'n mynd i'w siomi fe gan nad ydw i'n mynd i'w helpu fe gyda'i gynllun ar gyfer yr etholiad. [Chwerthin.] Mae'n amlwg, fel roedd y Prif Weinidog yn dweud ddoe, fod gormod o rannau o'ch cynlluniau chi sydd yn mynnu meddwl pellach, a mynnu ystyriaeth bellach. Felly, dwi ddim yn mynd i fod yn rhan o'r broses honno ar ei ran e. Beth ddywedaf i yw hyn, o ddifrif: beth ŷn ni yn gweld nawr ar sail buddsoddiad a'r newidiadau—nid jest yr arian, ond y newidiadau sydd wedi bod ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn benodol, ond cyn hynny hefyd—rŷn ni'n gweld y gwasanaeth iechyd yn dod nôl i fod yn gytbwys.

Felly, mae'r arbenigeddau lle mae'r cynnydd mwyaf wedi bod a lle mae'r galw mwyaf, byddwn i'n dweud bod yr 20 mwyaf pwysig o'r rheini nawr mewn sefyllfa lle maen nhw'n gynaliadwy. Mae hynny'n rhoi cyfle pwysig i'r gwasanaeth iechyd nid jest i barhau i berfformio, fel rŷn ni'n gweld, ar lefelau sy'n torri recordiau ar hyn o bryd, ond hefyd i ddefnyddio'r cyfle hynny i ddiwygio ymhellach sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Mae'r gorwel yn glir i allu gwneud hynny, a pharhau i wneud hynny, ac rŷn ni wedi gweld dros y ddwy flynedd ddiwethaf fod hynny'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr, a dyna beth rwy'n gobeithio y gwelwn ni, ac rwy'n ffyddiog bod hynny'n bosib.

14:40
Brechlyn MenB

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyflenwad o frechlyn MenB i fferyllfeydd i'w gynnig yn breifat i drigolion Islwyn? OQ64060

Mae cyflenwadau preifat o frechiadau mewn fferyllfeydd neu ddarparwyr eraill nad ydynt yn rhan o'r GIG y tu allan i drefniadau caffael Llywodraeth Cymru. Mae'r brechiad MenB yn cael ei gynnig yn rhan o'r rhaglen plentyndod arferol i blant wyth wythnos, 12 wythnos a 12 mis oed, ac nid oes unrhyw broblemau wedi'u hadrodd gyda'r cyflenwad.

Diolch. Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth y DU wedi gofyn i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ailarchwilio cymhwysedd ar gyfer brechlyn llid yr ymennydd ar gyfer grŵp ehangach o bobl, yn dilyn yr achosion diweddar yng Nghaint. A thra ydym yn aros am ganlyniad yr ailarchwiliad, bu cynnydd yn y galw gan bobl sy'n ceisio prynu brechlyn llid yr ymennydd B o fferyllfeydd ar gyfer eu plant.

Cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod 20,000 o frechlynnau ychwanegol ar gael i fferyllfeydd. Mae'r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol wedi rhybuddio y bydd y nifer hwn yn annhebygol o ddiwallu'r lefelau presennol o alw ledled y DU. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, os oes angen, i sicrhau bod fferyllfeydd ledled Islwyn yn gallu ateb y galw cyhoeddus am frechlyn llid yr ymennydd B?

Fel y dywedoch chi yn eich cwestiwn, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar gyngor clinigol arbenigol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar gyfer sefydlu polisi brechu. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ledled y DU, i sicrhau ein bod yn cadw'r datblygiadau pwysig hyn dan wyliadwriaeth agos, a phan gawn gyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, byddwn yn ei ystyried yn y ffordd arferol o ran ein polisi brechu yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gadw cyngor iechyd cyhoeddus o dan oruchwyliaeth gyson. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu at yr Aelodau yn ystod y dyddiau diwethaf yn nodi safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â hynny. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi darparu adnoddau ychwanegol, i brifysgolion ac i'r cyhoedd mewn perthynas â hyn.

Fel y gwyddoch, fel y soniwyd gennych yn eich cwestiwn, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU sy'n rheoli caffael brechlynnau ar gyfer pob gwlad yn y DU. Fel Llywodraeth, nid oes gennym unrhyw ran uniongyrchol yn hynny, ond rwy'n hyderus y bydd trefniadau Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn ddigonol. Nid yw fferyllfeydd yng Nghymru wedi codi unrhyw bryderon gyda Phrif Swyddog Fferyllol Cymru. Ceir dealltwriaeth fod eu cyflenwad yn dod o dan eu busnes masnachol nad yw'n gysylltiedig â'r GIG, fel y byddech yn ei ddisgwyl.

Marwolaethau Diangen

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau diangen sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? OQ64031

Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu ar ddadansoddiadau annibynnol, gan gynnwys gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r rhaglen Gwneud Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf, sy'n dangos cysylltiad rhwng yr arosiadau hiraf a niferoedd uwch o farwolaethau. Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gyfrifol am fonitro data, uwchgyfeirio pryderon at Lywodraeth Cymru a dal byrddau iechyd i gyfrif o ran marwolaethau ychwanegol.

Diolch, Weinidog. Clywais Mabon ap Gwynfor yn eich holi yn ei gyfraniad am y ffigurau a ryddhawyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng, felly mae mynd â rhan nesaf fy nghwestiwn, ac fe glywais eich ateb. Ond fe wyddom, am bob 72 o gleifion sy'n aros rhwng wyth a 12 awr am wely, fod un farwolaeth ychwanegol yn digwydd. Dyma ofal mewn coridorau ar ei fwyaf angheuol. Nid yw hynny'n dderbyniol i gleifion ac mae'n torri ysbryd staff gweithgar. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn haeddu gwybod a yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod y canfyddiadau penodol hyn. Gyda phob parch, chi sy'n gyfrifol am hyn ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal asesiad ffurfiol o'r cysylltiadau hyn rhwng yr amseroedd aros eithafol hyn a marwolaethau cleifion. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo—hyd yn oed ar y cam olaf hwn heddiw—i ymchwiliad tryloyw penodol i Gymru i'r marwolaethau ychwanegol hyn er mwyn sicrhau nad yw aros am wely yn arwain at ddedfryd marwolaeth yn ein GIG mwyach? Gwnewch hynny, Weinidog—trosglwyddwch y baton i Mabon, a bydd y canlyniadau ar ei ddesg erbyn mis Mai.

14:45

Nid wyf yn gwybod am hynny, ond roeddech chi'n dda yn y darn cyntaf. [Chwerthin.]

A gaf i awgrymu ein bod yn dewis ein hiaith yn ofalus mewn perthynas â maes mor sensitif? Mae gennych berffaith hawl i—

Mae gennych berffaith hawl i ofyn eich cwestiwn i mi, a byddaf yn ei ateb nawr, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, o ystyried sensitifrwydd y pwnc, ein bod yn mynd i'r afael ag ef yn ofalus.

Y pwynt rwy'n ei wneud i chi—ac fe wneuthum y pwynt hwn wrth ateb Mabon ap Gwynfor—yw bod y Llywodraeth yn cydnabod difrifoldeb hyn. Yn yr ateb cyntaf a roddais i chi, roeddwn yn cydnabod y cysylltiad rhwng amseroedd aros gormodol a marwolaethau. Mae'r Llywodraeth yn deall difrifoldeb y mater. Mae gennym raglen sylweddol i allu gwella profiad pobl o safbwynt profiad cleifion a safbwynt diogelwch cleifion yn ein hadrannau brys ac argyfwng ym mhob rhan o Gymru.

Rwy'n hapus i restru'r amrywiaeth o ymyriadau sydd gennym ar waith, ond rwy'n siŵr eich bod yn gyfarwydd â nhw. Mae aros am fwy na 12 awr yn brofiad annerbyniol i unrhyw un, o ran eu profiad clinigol a'u profiad o fod yn yr adran frys. Nid yw hynny'n dderbyniol. Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod nad dyna yw profiad y mwyafrif helaeth o bobl sy'n cyrraedd ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, lle mae cyfanswm cyfartalog yr amser aros rhwng rhyddhau neu dderbyn i'r ysbyty yn llai na thair awr. Nawr, rydym am weld hynny'n gostwng, ac mae hynny hefyd wrth wraidd y cyllid sylweddol iawn sy'n mynd i'r GIG i fynd i'r afael â'r union fater hwn.

Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng yn adrodd bod dros chwarter y cleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam, bron i draean yn Ysbyty Glan Clwyd a dros bumed y cleifion yn Ysbyty Gwynedd wedi aros 12 awr neu fwy am benderfyniad gofal fis diwethaf. Ar draws Cymru, roedd 14 y cant wedi aros 12 awr neu fwy, y mis Chwefror gwaethaf a gofnodwyd erioed. Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng yn amcangyfrif bod marwolaethau sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros o 12 awr neu fwy wedi cynyddu i o leiaf 965 y llynedd, gyda chyfartaledd o 18 marwolaeth ddiangen yr wythnos. Cofnododd data ciplun a ddarparwyd ganddynt o 12 adran frys Cymru 22 y cant o gleifion mewn mannau heb eu dynodi. Roedd 43 y cant o'r rhain yn aros am welyau cleifion mewnol, a 32 y cant yn cael eu trin mewn mannau heb eu dynodi—y cleifion mwyaf sâl yn aml. Fel y dywed y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng fodd bynnag, nid yw gorlenwi mewn adrannau brys yn anochel. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i wella llif drwy ysbytai a lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu hatal? Ac o ystyried bod GIG Lloegr wedi mabwysiadu diffiniad cenedlaethol o ofal mewn coridorau ac y bydd yn dechrau cyhoeddi data misol ar gyfer gofal mewn coridorau o fis Mai, a fyddwch chi'n gwneud yr un peth, neu a ydych chi'n gadael hyn i Lywodraeth nesaf Cymru?

Wel, nid fi fydd y Gweinidog ym mis Mai, ond rwyf wedi ymrwymo'n flaenorol i sicrhau bod y data hwnnw ar gael. Mae'n bwysig fod pobl yn gallu edrych arno. Yn y ddwy ymgyrch a gawsom, ar ddiwedd y llynedd ac ar ddechrau'r flwyddyn hon, rydym wedi gallu gwella'r ffordd y caiff y data hwnnw ei gasglu. Mae'n amlwg yn bwysig ei fod yn cael ei gasglu ar sail gyson ac mewn ffordd gynhwysfawr sy'n ein galluogi i gael darlun clir. Mae hynny'n gwella, ond nid ydym eto wedi cael y system i le lle mae'n cael ei gasglu mewn ffordd ddigon dibynadwy. Rwy'n eithaf hyderus y bydd hynny'n cael ei ddatrys erbyn yr haf, buaswn yn meddwl. Felly, bydd hynny'n galluogi'r Llywodraeth a'r Senedd newydd i gyhoeddi'r data hwnnw os yw'n dewis gwneud hynny. Rwy'n cytuno, mae'n bwysig ar gyfer tryloywder.

Ar yr amrywiaeth o bethau eraill yr ydym yn eu gwneud, rydym yn ariannu trefniadau cydlynu ar gyfer cwympiadau, rydym yn ariannu pwyntiau mynediad sengl, rydym wedi ehangu capasiti gofal brys ar yr un diwrnod, rydym yn tynhau prosesau rhyddhau o'r ysbyty a rheolaeth weithredol, rydym wedi darparu £30 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd yn benodol ar gyfer trawsnewid llwybrau gofal, ac mae gan bob bwrdd iechyd gynllun, sef Gwneud Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf, wedi'i gymeradwyo, er mwyn gwella llif yn yr adran frys a thrwy'r ysbyty.

14:50

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid oes unrhyw un ohonom am godi bwganod, mae hynny'n bwysig iawn. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hwn gan y coleg brenhinol yn bryderus iawn. Beth bynnag yw'r niferoedd, maent yn niferoedd uchel o bobl sydd wedi bod yn aros—sydd yn aros—ac  nad ydynt yn gadael yr ysbyty, yn anffodus. Mae hynny'n anodd iawn, yn enwedig os ydych chi'n hen, os ydych chi'n agored i niwed, os ydych chi'n anabl, ac nad oes gennych unrhyw un yno i godi llais, ac i siarad ac i ddweud, 'Beth sy'n digwydd?' Ac mae yna grŵp cyfan o bobl sydd, yn anffodus, heb unrhyw un yno gyda nhw i eirioli ar eu rhan. Felly, er fy mod yn deall yr hyn sydd gennych i'w ddweud, ac nid ydym am godi bwganod, nid ydym am i bobl fod yn ofnus, mae yna gryn dipyn o bryder o hyd. Rydych chi wedi siarad llawer am hyn, ac nid wyf am ofyn yr un cwestiwn i chi, ond mae'n bwysig fod y Llywodraeth, yn eich ymateb—. Rydych chi wedi cydnabod bod angen gwella, ond beth arall y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod y bobl agored i niwed hynny'n cael eu diogelu ac yn cael llais pan fyddant yn aros i rywun ddod i ofalu amdanynt? Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n ddiolchgar i chi am y ffordd y gofynnoch chi'r cwestiwn, ac rwy'n credu fy mod wedi rhestru'r camau yr ydym yn eu cymryd yn benodol er mwyn cefnogi gwell profiad i gleifion yn y rhan frys ac argyfwng o'n system iechyd. Rydym yn gweld gwelliannau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod hynny, ond mae yna rannau o'r system lle nad yw hynny'n digwydd yn ddigon cyflym, fel y cydnabûm yn fy ateb i Mabon ap Gwynfor yn gynharach heddiw. Mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio ar hynny. Mae'n ariannu cannoedd o filiynau o bunnoedd i fyrddau iechyd yn ogystal â'i gyllid craidd i allu gwella'r profiad, ac rydym yn gweld y gwelliant hwnnw. Rydym am weld hynny'n digwydd ym mhobman ac yn gyflymach.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n warth cenedlaethol. Mae un farwolaeth yn un farwolaeth yn ormod. Mae pobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys i gael eu gwella. Maent yn disgwyl gofal brys amserol. Yn lle hynny, gwelwn adroddiadau gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng fod gormod o bobl yn aros mewn coridorau, gormod o bobl yn aros am 12 awr a mwy, ac nid yw'r sylw y maent yn ei gael mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wrth aros yn ddigon da. Mae gennyf restr cyn hired â fy mraich o etholwyr sydd wedi aros 15 awr, 18 awr, 22 awr. Rwy'n un o'r rheini. Roedd gennyf ŵr bonheddig wrth fy ymyl a oedd wedi aros hyd yn oed yn hirach. Roedd yn 80 mlwydd oed, roedd ganddo dorgest enfawr yn gwthio allan ohono, ac eto aeth adref am na allai aros yn hirach. Ni chaf fy synnu gan yr adroddiadau hyn o gwbl. Nid yw'r adroddiadau hyn sy'n dangos marwolaethau ychwanegol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn syndod, ond nid yw'n adlewyrchiad o'r staff brys sy'n gweithio'n galed iawn ac sydd ar ben eu tennyn. Ond mae hyn yn warth cenedlaethol, Ysgrifennydd y Cabinet. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ymddiheuro i fy etholwyr ar ran eich Llywodraeth, a'r teuluoedd hynny sydd wedi colli anwyliaid oherwydd hyn? Ac a ydych chi'n difaru eich bod wedi caniatáu i hyn barhau yn ystod eich amser fel Ysgrifennydd y Cabinet?

Nid wyf yn derbyn y pwynt olaf yng nghwestiwn yr Aelod, yn amlwg. Mae'n ddrwg gennyf dros unrhyw un sydd wedi cael profiad mewn unrhyw ran o'r GIG nad yw'n cyrraedd y safonau yr ydym i gyd yn eu disgwyl. Rwy'n gobeithio ei bod yn gweld yr atebion a roddais i gyd-Aelodau'n ddefnyddiol i ateb ei phwyntiau eraill.

Llwyddiant ysgubol yn ein GIG—a dylem gydnabod llwyddiant ysgubol—yw ein hunedau mân anafiadau. Rydych chi wedi fy nghlywed yn sôn am y rhain o'r blaen. Mae cymaint â 100 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed amser aros o bedair awr yn uned mân anafiadau Ysbyty'r Barri. Er, mae yna broblem go iawn: dim ond o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 15:30 y mae'r uned mân anafiadau wych honno ar agor. Yn ogystal, mae'r anafiadau a'r afiechydon y gellir eu trin yn gyfyngedig. Credaf y byddai ehangu'r gwasanaeth yn uned mân anafiadau'r Barri ac unedau mân anafiadau eraill yn lleihau'r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys fel Pen-y-bont ar Ogwr, y Mynydd Bychan a Llantrisant. Er fy mod eisoes mewn cysylltiad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â'r hyn rwy'n ei ystyried yn botensial anhygoel yn y Barri, a ydych chi'n cytuno â mi y gallai ehangu gwasanaethau meddygol yn ne Morgannwg helpu i leihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys mewn mannau eraill yn y rhanbarth? Diolch yn fawr.

Wel, mae ehangu mynediad i unedau mân anafiadau yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno ac yn ei gyflawni ym mhob rhan o Gymru. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr fod y cyfuniad o wasanaethau'n bodloni disgwyliadau'r cleifion, a bod pobl yn mynd i'r lleoedd iawn ar gyfer y driniaeth iawn. Mae hynny'n amlwg yn heriol mewn tirwedd iechyd eithaf cymhleth. Wrth gwrs, er mwyn cael dealltwriaeth glir o ble yw'r lle gorau i fynd am y gofal sydd ei angen arnom, GIG 111 yw'r man gorau i unrhyw glaf sy'n edrych i weld ble y gall gael y gwasanaeth sydd ei angen arno yn fwyaf cyflym.

14:55
Apwyntiadau a Gollir

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng nifer yr apwyntiadau a gollir ar draws gwasanaethau'r GIG? OQ64033

Rwyf wedi datgan yn glir fy nisgwyliad fod yn rhaid i'r GIG leihau nifer yr apwyntiadau a gollir. Mae targed cenedlaethol o 5 y cant neu lai fel canran o'r holl apwyntiadau wedi'i osod ar gyfer nifer yr apwyntiadau nad ydynt yn cael eu mynychu, ac mae'r strategaeth genedlaethol ar gyfer cleifion allanol bellach yn darparu'r offer sydd eu hangen i helpu'r GIG i gyflawni hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynlluniau trychinebus i ganoli gwasanaethau yn Hywel Dda—llawdriniaeth gyffredinol argyfwng i ffwrdd o Ysbyty Llwynhelyg a gwasanaethau strôc i ffwrdd o Ysbyty Bronglais. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Chymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru, y mae eu hymchwil yn dangos bod dros 60 y cant o'u teithiau i apwyntiadau iechyd. Yn allweddol, ni fyddai tua thraean o'r cleifion hynny'n gallu mynychu heb y cymorth hwnnw, a thrwy hynny o bosib yn colli neu'n canslo apwyntiadau. O ystyried cynlluniau'r bwrdd iechyd i symud gwasanaethau i ffwrdd oddi wrth etholwyr, y mae llawer ohonynt yn dibynnu ar drafnidiaeth gymunedol a gwirfoddol, mae hyn, wrth gwrs, yn cynyddu'r risg o golli apwyntiadau. Felly, a allwch chi gadarnhau, wrth benderfynu ar ei gynllun i ganoli gwasanaethau i ffwrdd o'r ddau ysbyty, a wnaeth y bwrdd iechyd gynnal adolygiad o drafnidiaeth, ac yn benodol trafnidiaeth gymunedol, ac a wnaed asesiad o'r cynnydd posib yn nifer yr apwyntiadau a gollir ai peidio?

Wel, fel y gwyddoch, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud yn derfynol ar gyfluniad gwasanaethau ym Mronglais. Ac o ran y gwasanaethau yn Llwynhelyg, mae trefniadau eisoes i gludo cleifion rhwng Llwynhelyg a Glangwili. Bydd yr Aelod yn gwybod, o'r cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus a gynhaliais gyda'r bwrdd iechyd mewn perthynas â'i gynllun gwasanaethau clinigol, fy mod wedi ceisio sicrwydd fod cynlluniau ar gyfer yr elfen drafnidiaeth o ddarparu'r gwasanaeth yn cael eu hystyried yn llawn wrth i'r newidiadau hynny i'r gwasanaeth gael eu gweithredu. Ac os nad yw'r Aelod wedi cael cyfle i edrych ar hynny, buaswn yn argymell ei fod yn gwneud hynny.

Wrth gwrs, mae apwyntiadau a gollir yn broblem hynod ddifrifol, ac rydym yn gwybod y bydd nifer o apwyntiadau'n cael eu colli neu eu canslo ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg o ganlyniad i'r ffordd y mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn trin eu hymwelwyr iechyd. Cawsom gwestiwn am frechiadau llid yr ymennydd B, a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y rhaglen frechu plentyndod. Wel, pwy yw'r bobl sy'n cynghori ar y rhaglen honno i rieni? Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn datrys y mater hwn cyn gynted â phosib.

Y diweddaraf yn yr anghydfod hwn yw: mae ymwelwyr iechyd wedi cael slipiau cyflog, ond nid ydynt wedi cael eu talu; maent wedi cael arian wedi'i dynnu'n ôl oddi wrthynt; maent wedi cael gwyliau blynyddol wedi'u canslo a'i dynnu'n ôl, er iddo gael ei gytuno cyn y streic; ac ar ben hynny nawr, rydym yn gweld y bwrdd iechyd yn ceisio torri'r streic drwy allanoli o fewn y gwasanaeth. A byddai wedi bod modd osgoi hynny i gyd. Roedd yr ymwelwyr iechyd eu hunain yn barod i sicrhau bod 80 y cant o'r gwasanaethau'n dal i ddigwydd yn ystod cyfnod y streic. Felly, roedd yn sefyllfa y gellid bod wedi ei hosgoi'n llwyr. Gallwn fynd ymlaen.

Wrth gwrs, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at bartneriaeth gymdeithasol fel un sy'n hynod bwysig i ddatrys yr anghydfod hwn, ond nid yw partneriaeth gymdeithasol ond yn gweithio pan fo'r ddwy ochr yn fodlon dod at y bwrdd, ac mae Cwm Taf Morgannwg wedi profi dro ar ôl tro nad ydynt yn fodlon dod at y bwrdd. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â chladdu ei ben yn y tywod, ac i gamu i'r adwy nawr, gan orfodi partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n gofyn iddo ymrwymo nawr i ymchwiliad i sut y mae bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gweithredu yn ystod yr anghydfod hwn. Rwy'n eithaf siŵr y byddai ymchwiliad yn datgelu rhai arferion brawychus.

[Anghlywadwy.]—pobl yw datrys yr anghydfod hwn cyn gynted â phosib. Mae'n anghydfod lleol. Nid fy marn i'n unig yw hynny; dyna hefyd yw barn Unite a barn y bwrdd iechyd. Rwyf wedi cyfarfod â'r bwrdd iechyd ac ag Unite, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod yn disgwyl i'r anghydfod hwn gael ei ddatrys a'i ddatrys yn gyflym. Rwyf wedi gofyn i'r dyddiadau ACAS gael eu dwyn ymlaen ac o ganlyniad, mae hynny wedi digwydd. Fy nealltwriaeth i yw bod y ddwy ochr yn ôl yn ACAS cyn diwedd yr wythnos hon. Ac rwy'n credu ei bod yn bryd i'r ddwy ochr ddatrys yr anghydfod hwn. Bydd hynny'n galw am gyfaddawd, ac nid yw'n hawdd, ond dyna beth y maent yno i'w wneud. Ac rwyf wedi gwneud fy nisgwyliad yn glir fy mod am i'r anghydfod hwn gael ei ddatrys am yr union reswm y mae'r Aelod yn ei nodi. Rydym am wneud yn siŵr fod yr ymwelwyr iechyd hynny, sy'n gwneud gwaith mor bwysig, yn gallu bod yno i gefnogi mamau a'u plant.

Un o'r pethau y gellir eu gwneud i helpu i leihau nifer yr apwyntiadau a gollir yw gwneud mynediad at y gwasanaeth iechyd yn haws ac yn fwy eang. Mae hynny'n ymwneud â symud gwasanaethau allan o ysbytai, yn aml, ac allan o leoedd lle cânt eu darparu. Mae enghreifftiau da yn y gwasanaeth Dewis Fferyllfa, y ffordd y mae brechiadau'n cael eu cyflwyno mewn fferyllfeydd, ac wrth gwrs, y ffordd y mae gwasanaeth archwiliad iechyd llygaid Cymru yn llwyddo i fynd â gwasanaethau i mewn i optometreg y stryd fawr. Mae yna gyfle i wneud hynny hefyd gydag awdioleg—gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dibynadwy sy'n gallu gweithio mewn cymuned i helpu i ddarparu mynediad mewn gwasanaeth y gellir ymddiried ynddo. Fe wnaethom weld hynny gydag optometreg a fferylliaeth—mae'r cyhoedd yn ymddiried yn y bobl hynny, maent yn gwybod eu bod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, ac nid yw'n tanseilio'r GIG. Mae'n ychwanegu at fynediad, a phrofiad llawer gwell i'r unigolyn sydd angen gofal a thriniaeth.

A wnewch chi ystyried defnyddio'r rhwydwaith hwnnw o awdiolegwyr, y mae rhai ohonynt yn gweithio o fewn y GIG, a rhai ohonynt yn gweithio gyda chontractwyr annibynnol, yn union fel optometreg y stryd fawr, i sicrhau bod mwy o fynediad at wasanaethau awdioleg, i helpu i leihau amseroedd aros, ac yn hanfodol, i wella profiad a chanlyniadau'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu?

15:00

Rwy'n cytuno â'r Aelod ei bod yn wirioneddol bwysig gwneud popeth yn ein gallu i symud gwasanaethau'n agosach at lle mae pobl yn eu defnyddio. Mae'n iawn i ddweud bod profiad pobl o optometreg wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym bellach yn sicrhau y gellir atgyfeirio pobl yn uniongyrchol ar gyfer cataractau gan optometryddion, sy'n gam mawr ymlaen. O safbwynt awdioleg, yn amlwg, pan fyddwn yn edrych ar ble mae gwasanaethau wedi'u lleoli, mae'n gwbl hanfodol sicrhau bod y sgiliau a'r capasiti yn y lle iawn i gyflawni hynny. Rwyf ar fin, neu efallai fy mod eisoes wedi—ni allaf gofio'r amseriad yn iawn—cyhoeddi datganiad mewn perthynas â'r safonau ansawdd ar gyfer awdioleg. Os nad yw wedi'i gyhoeddi eto, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gweld camau cadarnhaol yn y gofod hwnnw pan gaiff ei gyhoeddi.

Cynllun Iechyd Menywod

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â phoen yng Nghynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru? OQ64046

Gwnaf. Rydym wedi clywed yn gyson fod menywod a merched yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed, a bod eu poen a'u symptomau'n cael eu hanwybyddu neu eu diystyru. Bydd sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed bob tro y byddant yn rhyngweithio â'r GIG yn hanfodol, ac yn hollbwysig, bydd yn gwella canlyniadau a phrofiadau menywod o wasanaethau.

A gaf i groesawu'r geiriau rydych chi wedi'u dweud? Rwyf wedi croesawu'r cynllun iechyd menywod, sy'n rhywbeth rwyf i ac eraill wedi galw amdano ers amser maith. Rwyf am dalu teyrnged i'r hyn y mae Sarah Murphy wedi'i wneud ochr yn ochr â chi ar hyn. Mae gormod o fenywod wedi gorfod ymdopi â phoen diangen wrth gael mynediad at ofal iechyd. Faint o fenywod, tybed, sydd wedi cael gwybod ar ryw adeg yn eu bywydau gan feddygon, 'Gallai hyn frifo', gyda disgwyl iddynt ddioddef y boen fel rhywbeth normal? Mae niferoedd syfrdanol o fenywod yn dioddef o gyflyrau fel endometriosis ac wedi gorfod ymladd i gael eu symptomau wedi'u cydnabod, ar ôl cael eu diystyru dro ar ôl tro gan ormod o glinigwyr sydd wedi amau eu tystiolaeth.

Mae rhai meddygon gwych yn deall hyn, ond mae gormod ohonynt o hyd nad ydynt yn deall. Dylid credu menywod am eu cyrff eu hunain. Mae'n rhaid herio normaleiddio poen menywod fel hyn. Felly, ydw, rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â hyn, ond a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen inni fynd gymaint pellach, fel nad oes unrhyw fenywod yn ofni mynd at eu meddyg ac fel nad oes yn rhaid i unrhyw fenyw dderbyn ei phoen fel rhan anffodus ond normal o fywyd?

Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid credu profiadau menywod mewn perthynas â'u poen. Rwy'n ategu'r sylwadau a wnaethoch mewn perthynas â hynny. Mae Sarah Murphy, wrth gwrs, wedi arwain ar ran y Llywodraeth mewn perthynas â'r gwaith pwysig hwn. Rwy'n talu teyrnged iddi, a hithau ar ei habsenoldeb mamolaeth, am y gwaith y mae wedi mynd ati'n rhagweithiol i'w wneud i gyflawni un o flaenoriaethau allweddol y Prif Weinidog yn y maes hwn. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru hyb iechyd menywod erbyn hyn. O'r wythnos ddiwethaf ymlaen, lansiwyd gwefan iechyd menywod newydd i ddarparu cymorth, gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio i fenywod. Bydd hefyd yn gwybod bod camau sylweddol wedi'u cymryd—soniodd yn benodol am endometriosis yn ei chwestiwn—bydd yn gwybod bod camau sylweddol wedi'u cymryd, o dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru, i gomisiynu hyfforddiant i feddygon a chlinigwyr eraill er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r her y mae'n ei nodi'n gwbl gywir. Mae llawer o ffordd i fynd i sicrhau bod y profiad gorau'n cael ei rannu'n llawer ehangach ac i sicrhau mai dyma brofiad pob menyw wrth iddi weld ei meddyg teulu.

Mae cryn dipyn o amser wedi bod ers i Suzy Davies, yr Aelod benywaidd blaenorol yma, dynnu sylw at y ffaith bod gormod o bobl—menywod—yn dioddef o endometriosis a'r boen eithafol sy'n dod gydag ef. Mae gan un o bob 10 y cyflwr hwn. Mae gan Gymru oddeutu 1.6 miliwn o fenywod a merched, ac mae 10 y cant o hynny oddeutu 150,000 i 160,000 o fenywod. Mae'r ffigur hwn yn debygol o fod wedi'i danamcangyfrif, gan nad yw llawer o achosion yn cael diagnosis ac mae llawer o fenywod yn teimlo gormod o embaras i fynd at feddyg teulu. Ar gyfartaledd, gall menywod yng Nghymru aros oddeutu 10 mlynedd am ddiagnosis. Mae'r cyflwr yn achosi poen cronig, lludded a phroblemau ffrwythlondeb. A wnewch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, sicrhau wrth symud ymlaen fod pwy bynnag sy'n cymryd yr awenau gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet newydd dros iechyd yn pwysleisio'r angen i fynd i'r afael ag endometriosis yn y sector iechyd menywod? Oherwydd, fel y dywedais, rydym yn sôn amdano'n aml, mae angen inni weld gweithredu'n digwydd nawr. Diolch.

15:05

Wel, i adlewyrchu'r pwynt a wnaeth Delyth Jewell, yn ogystal â'r pwynt rydych chi newydd ei wneud, mae gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i hyfforddiant ar endometriosis. Fe wnaethom ariannu gwefan Endometriosis Cymru, sy'n cynnwys adnoddau, gwybodaeth a thraciwr symptomau. Ym mis Mawrth y llynedd, cynhaliodd AaGIC weminar hyfforddi meddygon teulu dan arweiniad arbenigwyr ar endometriosis mewn ymdrech i nodi symptomau'n gynharach, sy'n gwbl hanfodol. Ac mae AaGIC yn datblygu modiwlau hyfforddi pellach, a fydd ar gael i'r holl staff, ac yn allanol hefyd. Yn fwyaf diweddar, ym mis Rhagfyr, lansiwyd deunyddiau dysgu i nyrsys ysgol eu defnyddio mewn ysgolion uwchradd i gefnogi ymwybyddiaeth, a chefais sgwrs am hyn gyda menyw ifanc mewn ysgol yn fy etholaeth yr wythnos diwethaf.

Ac yn olaf, rwyf am ddweud bod grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu o glinigwyr allweddol â sgiliau arbenigol o'r rhwydwaith gweithredu clinigol gynaecolegol, ac mae'n datblygu manylebau gwasanaeth gofal endometriosis trydyddol hefyd, gan gynnwys llwybrau i fenywod. Felly, rwy'n credu bod corff sylweddol o waith eisoes ar y gweill ar y mater pwysig hwn.

Arweinydd Clinigol Cardiaidd Cymru

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar recriwtio i rôl arweiniol glinigol cardiaidd Cymru? OQ64026

Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wrthi'n adolygu eu rolau arweinyddiaeth glinigol fel rhan o waith ailgynllunio sefydliadol ehangach. Mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi i benodi arweinydd clinigol cenedlaethol dros dro ar gyfer cardioleg, gyda'r swydd i fod i gael ei hysbysebu erbyn mis Ebrill eleni.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch yn iawn, mae rôl yr arweinydd clinigol ar gyfer cardioleg yng Nghymru wedi bod yn wag ers mis Hydref 2025. Mae arweinwyr clinigol yn hanfodol i ddarparu gofal cyson o ansawdd uchel ac i ddiogelu diogelwch cleifion ledled Cymru. Maent yn rhoi cipolwg ar sut y mae gwasanaethau'n gweithredu yn y byd go iawn a chymhlethdodau gofal cleifion, gan gynnwys rheoli risg, llif gwaith clinigol a gweithredu polisi yn ymarferol. Heb oruchwyliaeth glinigol genedlaethol, mae Cymru mewn perygl o gael cynlluniau tameidiog, o fabwysiadu arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn anghyson ac o wneud cynnydd arafach ar ddiogelwch ac ansawdd. Mae mwy na 400,000 o bobl yng Nghymru'n byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, a 63,000 o'r rheini yn fy mwrdd iechyd lleol fy hun yn ardal bwrdd Aneurin Bevan.

Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod gwella canlyniadau diogelwch cleifion i'r rhai yr effeithir arnynt gan glefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd rôl yr arweinydd clinigol ar gyfer cardioleg yn cael ei llenwi'n gyflym? Rwy'n gwerthfawrogi'r dyddiad a roesoch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac nid y rôl gardioleg yn unig sy'n wag; nid yw rôl arweinydd clinigol Cymru ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol wedi'i llenwi chwaith. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio ar gyfer y swydd hon hefyd, o ystyried bod bron i 1 filiwn o bobl yng Nghymru'n byw gydag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol yma? Diolch yn fawr.

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn fwy na pharod i glywed y dyddiad a roddais mewn perthynas â phenodi'r arweinydd clinigol ar gyfer cardioleg. Y pwynt ehangach yw hwn, serch hynny: mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru'n sefydliad sydd wedi'i ailgynllunio. Mae wedi esblygu o Weithrediaeth GIG Cymru a holl ddiben y gwaith ailgynllunio hwnnw oedd cyfeirio'r adnoddau a'r arbenigedd sydd ar gael yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru at flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer y GIG. Ac o reidrwydd, wrth wneud y newid hwnnw, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae'n debyg, mae yna broses, felly, o ailalinio'r gallu a'r adnoddau hynny o fewn Perfformiad a Gwella GIG Cymru, fel y gall ffocysu'n fanwl ar yr holl flaenoriaethau hynny. Felly, mae'r broses honno eisoes ar y gweill. Mae'n amlwg yn digwydd o fewn Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Felly, mae sicrhau bod y rolau arweinyddiaeth glinigol hynny'n canolbwyntio ar lle mae angen i'r gwelliant fod yn hanfodol i hynny. Dyna'r broses sydd ar y gweill. Rwy'n hyderus mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Gwn hefyd y bydd yna sefydliadau sy'n pryderu bod yr ad-drefnu hwnnw ar y gweill. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw ei fod yn digwydd mewn ffordd strategol ac rwy'n hyderus y bydd yn ein galluogi i gefnogi'r system yn well nag y gallasom ei wneud yn y gorffennol.

Gofal a Chymorth Iechyd yn y Rhondda

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ofal a chymorth iechyd i drigolion yn y Rhondda? OQ64044

Y byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu mynediad at wasanaethau gofal iechyd diogel o ansawdd uchel i'w poblogaeth leol. Rydym yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i wneud gwelliannau gyda chyllid ychwanegol, ymyrraeth uniongyrchol a chymorth gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.

15:10

Mae ymwelwyr iechyd yn rhaff achub, ymwelwyr iechyd fel Gemma a Joanne yn y Rhondda. Yn aml, nhw yw'r unigolion cyntaf y mae teuluoedd yn troi atynt pan fyddant yn poeni, yn ei chael hi'n anodd neu ddim ond angen sicrwydd. Maent yn deall y pwysau y mae pobl yn ei wynebu ac yn camu i mewn yn gynnar cyn i bryderon bach ddod yn broblemau mwy. Mewn cymunedau fel y Rhondda, mae'r gefnogaeth honno'n bwysig. Pan nad yw'r ymwelwyr iechyd yno, mae teuluoedd yn teimlo'r golled honno, ac felly hefyd y gwasanaethau ehangach sy'n dibynnu ar eu gwaith. Dyna pam fy mod yn parhau i gefnogi eu penderfyniad i streicio. Nid oes unrhyw un yn streicio ar chwarae bach, yn enwedig mewn rôl sydd wedi'i gwreiddio mor ddwfn mewn gofal ac ymrwymiad i eraill. Mae trigolion y Rhondda eisiau gwybod bod popeth yn cael ei wneud nid yn unig i adfer y gefnogaeth hanfodol i deuluoedd lleol ond i sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn cael eu gwerthfawrogi a'u talu ar gyfradd y maent yn ei haeddu. Nawr, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyffwrdd â'r mater hwn, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi pa drafodaethau a gawsoch gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch y sefyllfa hon, a pha gefnogaeth neu gamau y gallwch eu darparu i helpu i sicrhau datrysiad teg a chyflym.

Ac rwy'n credu hefyd fy mod yn gofyn eich cwestiwn olaf i chi—rwy'n credu efallai fy mod i'n iawn—yma heddiw, felly hoffwn ddymuno'r gorau i chi gyda beth bynnag y penderfynwch chi ei wneud yn y dyfodol.

Mae'r Aelodau wedi bod yn hael iawn eu canmoliaeth heddiw. Rwy'n ddiolchgar am hynny.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r gwaith y mae Gemma a Joanne ac eraill yn ei wneud, a pha mor bwysig yw hi ein bod yn cydnabod pa mor hanfodol yw gwaith ymwelwyr iechyd, a dyna'n union pam fy mod wedi dweud yn glir iawn fod angen datrys yr anghydfod. Er nad yw'n anghydfod cenedlaethol, siaradais â'r bwrdd iechyd ac Undeb Unite ddechrau'r wythnos diwethaf; anogais y ddwy ochr i weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gymdeithasol i ddatrys yr anghydfod. Gofynnais i'r bwrdd iechyd gyfarfod ag ACAS yn gynharach, ac maent wedi cytuno i wneud hynny, ac rwyf wedi nodi fy nisgwyliad clir fod angen anrhydeddu'r broses werthuso swyddi. Mae proses genedlaethol ar wahân y mae Cyflogwyr GIG Cymru'n ei chydlynu ar draws ystod o ddisgrifiadau swyddi, er mwyn inni allu osgoi sefyllfa o'r fath rhag codi yn y dyfodol, a gofynnais i Undeb Unite gymryd rhan yn hynny hefyd. Bydd o fudd i'w haelodau yn y dyfodol mewn rhannau eraill o Gymru, mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd. Felly, rwy’n fwy na pharod i ailadrodd y safbwynt hwnnw heddiw yn y Siambr. Mae angen datrys yr anghydfod hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddwy ochr yn cymryd pob cam sydd ar gael iddynt i wneud hynny'n gyflym.

Muchas gracias, Ministro.

Y cwestiynau—[Torri ar draws.] .

A gaf innau fanteisio ar y cyfle, Lywydd, os caf, am eiliad, i ddiolch yn fawr i'r holl bobl sydd, bob mis, y tu ôl i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar baratoi atebion i'r cwestiynau hyn? Nid ydynt yn cael y clod y maent yn ei haeddu yn y Siambr. [Cymeradwyaeth.]

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Yr unig gwestiwn i gael ei dderbyn heddiw yw'r un gan David Rees.

Y Diwydiant Dur

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith strategaeth ddur Llywodraeth y DU ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? TQ1456

Rwy'n croesawu strategaeth ddur y DU, sydd hefyd yn cael ei chroesawu gan gynhyrchwyr dur ac undebau llafur. Bydd cynhyrchwyr Cymru fel Tata Steel a 7 Steel yn elwa o'r strategaeth, gan gynnwys yr ymrwymiad y bydd mwy o'r dur a ddefnyddir ym Mhrydain yn cael ei wneud ym Mhrydain.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwyf innau'n croesawu'r strategaeth hefyd, er ei bod yn hen bryd ei chael. Ond rydym bellach yn mawr werthfawrogi'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd i edrych ar sut y gallwn gefnogi'r sector dur yn y DU, ac yn enwedig yma yng Nghymru. Roeddwn yn falch o ymuno â'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf pan ymwelodd â gwaith dur Port Talbot gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Peter Kyle, i lansio'r strategaeth honno.

Roedd y datganiad a wnaeth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, y datganiad ysgrifenedig, yn iawn, ond rwyf eisiau gwybod i ble rydym ni'n mynd o'r fan hon, gan ei bod yn bwysig ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd nesaf. Cafodd ei groesawu gan yr undebau llafur, ond unwaith eto, beth sy'n digwydd nesaf? Nawr, er enghraifft, cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a ddywedodd,

'Disgwylir i ddur Cymru gyfrif am hanner y dur a fydd yn cael ei gynhyrchu yn y DU yn y dyfodol.'

Gwych. Ac y byddant yn

'Cadarnhau'r ffwrneisi arc trydan...fel yr un sy’n cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot, fel dyfodol cynhyrchu dur ym Mhrydain'.

Mae hynny'n wych. Ond wedyn, mae'n nodi:

'Lansio gweithgor trawslywodraethol i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o fetel sgrap ar gyfer gwneuthurwyr dur yn y DU',

sef yr hyn sydd ei angen arnom ni. Hoffwn wybod beth yw rhan Llywodraeth Cymru yn hyn. Beth yw eich mewnbwn er mwyn sicrhau bod lleisiau Cymru’n cael eu clywed wrth y byrddau lle bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud?

Hefyd, mae'n dweud y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cynnull menter newydd gyda'r gronfa gyfoeth wladol a'r sector preifat i ddatgloi buddsoddiadau yn nur Cymru a diwydiannau cysylltiedig. Ble mae llais Llywodraeth Cymru yn y broses honno i sicrhau, unwaith eto, fod gwneuthurwyr dur Cymru a gweithwyr dur Cymru’n cael manteision y strategaeth ddur hon? Mae hynny'n hanfodol bwysig.

Felly, o ble mae'r buddsoddiad ychwanegol mewn dur yn dod? Ble rydych chi'n ei wneud? Beth sy'n digwydd? Pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda Tata a 7 Steel? Oherwydd maent yn fusnesau preifat, ond mae angen y buddsoddiad hwnnw arnynt. Ac i ble maent yn mynd gyda'r buddsoddiad? Gan eu bod wedi cael sicrwydd ynghylch dyfodol y farchnad ddur, beth yw eu cynlluniau a sut y gallwn ni eu helpu? Oherwydd mae'n wych cael ffwrnais arc drydan, ond mae angen mwy na hynny arnom. Mae angen gwaith rhydwytho haearn uniongyrchol arnom i helpu i gefnogi gwahanol briodweddau dur. Felly, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda'r buddsoddwyr hynny i roi sicrwydd?

A'r cyfleoedd cyflogaeth. Mae llawer o bobl wedi gadael y diwydiant dur. Gwyddom fod dros 2,000 eisoes wedi mynd. Mae llawer wedi mynd i leoedd eraill yn y DU, ac maent yn iawn am y tro. Maent yn teithio. Mae ganddynt swyddi. Ond pan ddaw'r prosiectau hynny i ben, fe fyddant yn dychwelyd, mae'n debyg. Beth fydd yma iddynt? Sut rydym ni'n mynd i'w hailhyfforddi a'u datblygu? A sut rydym ni'n mynd i sicrhau y bydd diwydiannau'r dyfodol yno yn yr ardal, boed mewn ynni gwynt alltraeth neu mewn dur, gan sicrhau eu bod yn dod yn ôl i rywle, a bod economi ein tref yn cryfhau?

Rydym yn falch o glywed bod y ffwrnais arc drydan wedi gwneud cynnydd. Fe'i gwelais yr wythnos diwethaf. Mae cynnydd yn cael ei wneud. Ond mae angen inni wybod y bydd y cynaliadwyedd a'r cyfle yno i bobl ifanc a'r rhai sy'n dychwelyd. Mae'r holl faterion hyn ynglŷn â buddsoddi yn y dyfodol yn allweddol. Rydym yn gwneud coil, ond rydym hefyd yn gwneud dur. Nid yw coil yn cael ei ddefnyddio ym mhobman, ond gellir defnyddio'r dur. Ond mae angen ei briodweddau arnom. Felly, beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod dyfodol hirdymor y strategaeth hon yn cael ei gyflawni ym Mhort Talbot?

15:15

Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i David Rees am ei lais cryf hirdymor dros y gymuned ddur yma yng Nghymru, sy'n parhau heddiw.

Rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddur. Cynrychiolais Lywodraeth Cymru ar y Cyngor Dur, ac rwy'n siŵr y bydd cyfle gan Weinidogion y dyfodol i fod yn rhan o'r Cyngor Dur hwnnw. Fe gawsom ein cyfarfod diweddaraf yr wythnos diwethaf, a chytunwyd bod rôl bendant i'r cyngor hwnnw wrth symud ymlaen, er y gallai esblygu ac ehangu ei aelodaeth o bosib. Mae ystod o ffrydiau gwaith penodol oddi tano y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn rhan ohonynt, unwaith eto, yn enwedig, er enghraifft, mewn perthynas â sgrap, sy'n bwysig iawn i ni ac i ddyfodol dur yng Nghymru.

O ran y buddsoddiad, mae gan Lywodraeth y DU y gronfa gyfoeth wladol ar waith, ac roeddwn yn falch iawn fod y strategaeth ddur yn sôn am gyd-fuddsoddi gyda'r diwydiant dur. Rwy'n credu y bydd hynny'n helpu i ddadrisgio rhai o'r dewisiadau y bydd angen i'r cwmnïau preifat eu gwneud. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth cadarnhaol iawn a oedd yn y strategaeth ddur.

Rwy'n credu bod y gydnabyddiaeth yn y strategaeth i bwysigrwydd datblygu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol yn bwysig iawn. Unwaith eto, rwy'n falch iawn o weld bod cydnabyddiaeth benodol fod yn rhaid bod llinell i flaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn sôn am gyllido a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil gan Medr. Mae'n sôn am y buddsoddiad pwysig a wnawn drwy ein rhaglen sgiliau hyblyg a'r archwiliad sgiliau cenedlaethol sydd ar y ffordd i Gymru. Felly, mae cydnabyddiaeth glir i'r cyd-destun datganoledig o fewn y sgwrs bwysig honno ynglŷn â sgiliau dur ar gyfer y dyfodol.

Mewn sgyrsiau eraill, rwyf wedi gallu cynrychioli buddiannau Cymru a Llywodraeth Cymru yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach. Cawsom ein cyfarfod diweddaraf ychydig wythnosau yn ôl, ac roedd dur yn eitem benodol ar yr agenda honno hefyd. Felly, cafwyd sawl cyfle drwy'r strwythurau ffurfiol hynny, ac yna hefyd drwy gyfarfodydd dwyochrog gyda'r Gweinidog Diwydiant, Chris McDonald, er enghraifft, i sôn am sector dur Cymru a'n blaenoriaethau yma yng Nghymru.

Rwy'n credu bod yr ymgysylltu wedi bod yn dda. Yn amlwg, bydd yn rhaid i'r ymgysylltiad hwnnw barhau yn y dyfodol hefyd. Ac wrth gwrs, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynychu'r cyfarfod nesaf o fwrdd pontio Tata Steel yfory, a gwn fod David Rees wedi chwarae rhan allweddol ynddo yn ddiweddar hefyd. Edrychaf ymlaen at drafod sut y gellir rhoi bywyd i'r strategaeth ddur ym Mhort Talbot a'r cyffiniau.

15:20

Rwy'n ddiolchgar i David Rees am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn heddiw. Fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ei ganmol am y gwaith y mae wedi'i wneud o'r meinciau cefn yn eirioli dros weithfeydd dur yn ne Cymru’n benodol. Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: o ystyried pwysigrwydd dur i'n sector amddiffyn ar hyn o bryd, a'r cythrwfl byd-eang cyfnewidiol yr ydym yn ei deimlo, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael, neu wedi'u cael, gyda Llywodraeth y DU ynghylch eu strategaeth amddiffyn, sydd eto i'w chyhoeddi, a rôl dur Cymru a dur Prydain yn ein galluoedd amddiffyn a chaffael amddiffyn? Yn ail, o ystyried bod costau ynni yn un o'r elfennau mwyaf rhagnodol o ran aneffeithlonrwydd dur Prydain, a ydych chi wedi archwilio gyda'ch swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU y posibilrwydd o gynhyrchu trydan yn uniongyrchol ar y safle yn ne Cymru i leihau cost trydan ar gyfer creu dur mewn ffwrnais arc drydan newydd ym Mhort Talbot?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiynau. Ar amddiffyn, unwaith eto, rwy'n falch iawn fod y strategaeth ddur yn cydnabod pwysigrwydd amddiffyn yn benodol, ond pwysigrwydd ein diwydiant dur ni hefyd i allu gwasanaethu'r diwydiant amddiffyn sy'n tyfu gennym yng Nghymru. Bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r fargen twf amddiffyn, y buom yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU arni a chyflawni hynny i Gymru. Dyna fuddsoddiad o £50 miliwn yn ein diwydiant amddiffyn yma yng Nghymru.

Rydym eisoes yn gartref i wyth o'r 10 cwmni amddiffyn mwyaf yn y byd, ond hefyd, yr un mor bwysig, i ystod wirioneddol fywiog o gwmnïau'r gadwyn gyflenwi sy'n gweithredu yng Nghymru. Byddem yn disgwyl i'r sector hwnnw dyfu, a chredaf ein bod mewn sefyllfa dda i wneud hynny. Roeddwn yn falch iawn o lansio'r clwstwr amddiffyn yn ddiweddar, gan ddod â'r prif gwmnïau ynghyd, ond hefyd, yn hollbwysig eto, y gadwyn gyflenwi a mentrau bach a chanolig eu maint i allu datblygu eu gallu i wneud y gorau o gontractau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn y blaen, a fydd yn deillio o ganlyniad i'r gwariant cynyddol ar amddiffyn. Mae'n dda gweld y cysylltiad â'r strategaeth ddur.

Unwaith eto, mae lleihau prisiau trydan yn rhan allweddol o'r strategaeth ddur. Mae'n cyfeirio at genhadaeth uwch-bŵer ynni glân Llywodraeth y DU, a'r cynllun hirdymor sydd ganddi ar gyfer cynhyrchu ynni rhatach, mwy diogel a glân yma. Mae hefyd yn sôn am y gwaith a wnânt drwy gynllun iawndal diwydiannau ynni-ddwys Llywodraeth y DU i gyflawni'r nod o ddod â chostau trydan yn agosach at rai mewn gwledydd sy'n cystadlu â ni er mwyn cynyddu cystadleurwydd diwydiannol. Felly, rwy'n credu bod yna gamau gweithredu da iawn yr ydym wedi gallu eu croesawu yn y strategaeth ddur.

Wrth gwrs, mae'r strategaeth ddur yn ddogfen i'w chroesawu. Nodwyd eisoes ei bod yn hwyr yn dod, ond rwy'n credu nawr ein bod wedi'i chael, ei bod yn arwydd clir o fwriad ynghylch y cynnydd i'r diwydiant dur. Rwy'n croesawu'n arbennig rai o'r tariffau a gyhoeddwyd yn rhan o'r strategaeth honno. Yr hyn y credaf fod gweithwyr yn chwilio amdano yn y strategaeth ddur, a nifer ohonom yn y Siambr hon hefyd, ac mae Dai Rees wedi cyfeirio at hyn eisoes, yw beth yw'r cynllun nawr ar gyfer y diwydiant sydd wedi'i leoli yma yng Nghymru, beth y mae'r strategaeth hon yn ei olygu mewn gwirionedd ar lawr gwlad i weithwyr ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill ledled Cymru.

Yr hyn yr hoffwn geisio ei gael allan ohonoch yw'r manylion penodol ynghylch yr hyn yn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnig amdano fel rhan o'r gronfa ddur honno, fel rhan o'r gronfa gyfoeth wladol, iddo ddod i Gymru. Felly, er enghraifft, faint y dylid ei glustnodi ar gyfer Cymru? Beth yw'r ffigur y mae'r Llywodraeth wedi'i roi i Lywodraeth y DU? A fyddwn yn gweld melin ddur plât, rhywbeth y mae pob un ohonom ar draws y Siambr hon wedi bod yn galw amdano ers peth amser bellach? A fyddwn yn gweld dur hydrogen yn cael ei ddatblygu ar yr ochr arall i'r ffordd yn 7 Steel? A fyddwn yn gweld coleg sgiliau dur? Mae'r rhain oll yn gwestiynau rwy'n eu gweld yn cael eu gofyn nawr, nid yn unig gan nifer ohonom yn y Siambr hon, ond gan ein hetholwyr hefyd sy'n gweithio yn y diwydiant hwnnw. Mae llawer o addewidion wedi'u gwneud i weithwyr yn y diwydiant dur dros y blynyddoedd gan wahanol Lywodraethau. Rwy'n credu ei bod yn bryd nawr inni ddechrau rhoi cynigion clir ar y bwrdd, a dechrau bwrw ymlaen â'r cynigion hynny.

O ran y gweithlu, mae ymgysylltu â'r gweithlu yn gwbl hanfodol. Eisteddais gyda chynrychiolwyr o'r amrywiaeth o undebau sy'n cynrychioli gweithwyr dur yng Nghymru a chlywed ganddynt yn uniongyrchol am eu pryderon. Roeddent yn awyddus iawn i weld cyhoeddi'r strategaeth ddur er mwyn iddynt allu deall lle mae'r camau nesaf ar gyfer y diwydiant yma yng Nghymru. Rwy'n credu ei fod wedi cael ei groesawu gan y gweithlu nawr.

Un o'r pethau a ddaeth i fy meddwl yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor Dur oedd sut y mae'r gwaith hwn wedi bod yn enghraifft dda iawn o'r math o ddull partneriaeth gymdeithasol yr ydym yn ei ffafrio yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod dod â'r diwydiant a'r undebau o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac eraill wedi bod yn ffordd gynhyrchiol iawn o fynd i'r afael â'r hyn sy'n her wirioneddol o ran rhoi'r diwydiant dur yn y DU ar sail gref ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu bod y ffordd honno o weithio yn bendant wedi talu ar ei chanfed.

Pan gyfarfûm â'r Gweinidog Diwydiant, Chris McDonald, ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn yn awyddus iawn i bwysleisio pa mor bwysig yw hi i Weinidogion Llywodraeth y DU eistedd gyda'r undebau llafur pan fyddent yn dod at Tata i lansio'r cynllun. Rwy'n credu bod y ffaith bod y sgyrsiau hynny wedi digwydd yn wirioneddol bwysig o ran parhau'r berthynas honno. Rhaid i gyfathrebu fod yn gwbl allweddol yn y dyfodol. Rwy'n credu bod mwy y gall Llywodraeth y DU—a ninnau—ei wneud o ran cyfathrebu â'r undebau dur. Wrth gwrs, mae gennym fwrdd pontio Tata yfory, a fydd yn gyfle i gael rhai o'r sgyrsiau hynny.

O ran y meysydd blaenoriaeth a welsom ar gyfer y strategaeth, un o'r meysydd y siaradais gryn dipyn amdano yn y sgyrsiau a gefais gyda Llywodraeth y DU ac eraill oedd sicrhau bod gallu a chapasiti blaenllaw Cymru mewn ymchwil, datblygu ac arloesi yma yn cael eu cydnabod, ac rwy'n falch iawn eu bod yn cael eu cydnabod yn y strategaeth. Bydd Llywodraeth y DU ac asiantaethau partner yn parhau i gefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi dur drwy ystod o lwybrau cyllido, gan gynnwys £11 miliwn dros saith mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol i raglen ymchwil IGNITE. Rwy'n credu bod sawl cyfle i Brifysgol Abertawe yn benodol, ond eraill hefyd, ymgysylltu a chwilio am bartneriaethau a chydweithio ar yr ochr academaidd ac ymchwil a datblygu.

Mae'r Cyngor Dur wedi dechrau gwaith ar sefydlu gweithgor diwydiant i alinio gweithgareddau ymchwil, datblygu ac arloesi ag anghenion y diwydiant, gyda'r nod o wella cystadleurwydd y sector hefyd. Mae hynny i gyd yn bwysig iawn. Ond hoffwn sôn hefyd am ba mor bwysig yw caffael yn y gofod hwn. Er gwybodaeth i fy nghyd-Aelodau, ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, rwy'n cyhoeddi nodyn polisi caffael Cymru. Ei deitl yw 'Caffael dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith mawr yng Nghymru', ac mae'n gofyn i bob awdurdod contractio yng Nghymru adrodd ar brosiectau gwerth dros £2 filiwn lle mae dur yn gydran. Bydd yn caniatáu mwy o welededd i'r cyfleoedd sydd yn yr arfaeth a mwy o dryloywder o ran faint o ddur a wnaed ym Mhrydain a ddefnyddir yn y contractau hynny.

15:25

Fy nghyfraniad sylweddol cyntaf yn y lle hwn bron i ddegawd yn ôl oedd dadlau'r achos dros safle Tata yn Shotton fel rhan o’r ymgyrch Achubwch Ein Dur ar y pryd. Rwyf eisiau torri’r cylch a sicrhau bod dur fel sector sylfaenol yn ffynnu, nid goroesi'n unig o un argyfwng i’r llall, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ôl pob golwg. Rwy'n credu bod y strategaeth ddur hirddisgwyliedig ac angenrheidiol yn ddechrau, ynghyd â’r targed o 50 y cant ar gyfer cynhyrchu dur yn ddomestig, a ddylai arwain at fanteision. Rydym eisiau dod â’r manteision hynny i safleoedd ledled Cymru.

Fel y clywsom gan eraill, mae angen targedau clir, mesuradwy ac uchelgais yn rhan o'r cynllun hwnnw wrth symud ymlaen. Mae rôl amlwg i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cymorth ariannol wedi'i glustnodi ar gyfer fan hyn ac ar gyfer safleoedd yng Nghymru. Ond yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn sesiwn y pwyllgor y bore yma gyda'r sector dur yw rôl y diwydiant yn y sector ei hun a'r angen iddynt gynllunio y tu hwnt i'r cyfnod pontio a chynllunio ymhell i'r dyfodol o ran sut olwg sydd ar y buddsoddiadau hynny. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i weithio gyda'r sector i'w cael i ddangos gweledigaeth ac ymrwymiad mwy hirdymor a'u bod yn llythrennol yn rhoi eu harian ar eu gair? Diolch.

Bydd y rhannau o'r strategaeth ddur sy'n edrych ar sut y gellir ariannu cymorth yn wirioneddol bwysig i'r diwydiant wrth symud ymlaen. Rwyf wedi sôn am y gronfa gyfoeth wladol. Dyna £5.8 biliwn o gyfalaf i'w ddyrannu ar draws pum sector ynni glân a gweithgynhyrchu uwch dros dymor Senedd y DU, ac mae hynny'n cynnwys dur. Rwy'n sicr yn annog busnesau i siarad â'r gronfa gyfoeth wladol am yr ystod o gynhyrchion sydd ar gael, gan gynnwys dyled, ecwiti a gwarantau ar gyfer prosiectau cyfalaf-ddwys. Ond ochr yn ochr â hynny, mae cymorth ychwanegol ar gael drwy Fanc Busnes Prydain, UK Export Finance, a'r banc buddsoddi cenedlaethol. Felly, mae llawer o gyfleoedd i'r diwydiant archwilio sut y gallant weithio gyda'r Llywodraeth i gael mynediad at gyllid ar gyfer buddsoddi.

15:30

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, y cefndir i hyn yw nad yw Cymru'n gweld Llywodraeth y DU yn camu i mewn dros Bort Talbot, ond fe wnaeth hynny ar gyfer Scunthorpe a Rotherham. Felly, mae angen inni gael hyn yn iawn, ac adfer hyder, oherwydd mae dur yn ein gwaed, mae'n asgwrn cefn ein heconomi. Fel y clywsom, mae diffyg eglurder Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ac amserlenni ar gyfer dur Cymru yn achosi pryder. Mae oedi amlwg yn y gwaith o adeiladu cadwyn gyflenwi yn y wlad hon. Mae Sam Kurtz wedi siarad am y diwydiant amddiffyn, ond rwyf eisiau'r gadwyn gyflenwi yn y wlad hon ar gyfer y sector gwynt ar y môr yn arbennig. Heb hynny, mae'n bygwth ein diwydiant a'r pontio i ynni gwyrdd. Felly, rydych chi wedi ateb llawer o gwestiynau yma, ond a gaf i ofyn un cwestiwn penodol i chi, sef: a allech chi gadarnhau y bydd y ffwrnais arc drydan yn Tata Steel yn weithredol erbyn 2027, gan mai'r hyn a ddeallaf yw mai yn 2028 y mae i'w ddisgwyl erbyn hyn? A allwch chi gadarnhau hynny? Diolch. 

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn i Tata yn hytrach nag i mi. Rwy'n credu y gall unrhyw un sy'n gyfarwydd â'r ardal weld bod yna rawiau yn y ddaear, mae pethau'n digwydd ac mae'r buddsoddiad i'w weld. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bositif iawn. Bydd cyfle, rwy'n credu, i ni gael y sgwrs benodol honno gyda Tata yng nghyfarfod y bwrdd pontio yfory. Rwy'n gwybod y byddant eisiau rhoi diweddariad ar gynnydd i ni yn y cyfarfod hwnnw.

Wedyn, rwy'n credu bod y pwynt am adfer hyder yn bwysig iawn, oherwydd nod y strategaeth ddur ei hun yw sefydlogi'r sector a sicrhau ei hyfywedd ar gyfer y dyfodol. Rwy'n cydnabod y pryderon sydd wedi'u codi gan gyd-Aelodau am yr amser y mae wedi'i gymryd i ddarparu'r strategaeth ddur—mae'r rhain yn bryderon yr ydym ni hefyd wedi'u codi gyda Llywodraeth y DU. Ond mewn gwirionedd, yn y digwyddiad, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y strategaeth wedi'i chyhoeddi ar yr un pryd â mesurau masnach ddur y DU. Rwy'n credu bod dod â'r ddau beth hynny at ei gilydd, a gwneud hynny cyn diwedd mis Mawrth, a oedd yn ddyddiad allweddol i'r sector, wedi bod yn bwysig iawn i roi darlun llawn o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio diogelu dur yn uniongyrchol, yn enwedig mewn perthynas â masnach gyda'r UE a'r Unol Daleithiau, ond hefyd, o ran yr hyn y bydd yn ei wneud i adfer cynhyrchiant domestig i lefelau sy'n uwch na'r darlun presennol, a'r awydd i ddychwelyd i lefelau cynaledig diweddar o tua 40 y cant i 50 y cant o alw am ddur domestig, o'i gymharu â 30 y cant yn 2024. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n uchelgais da, ac mae'n sicr yn un y credaf fod y strategaeth ddur bellach yn ein rhoi ar sylfaen gadarn i'w gyflawni.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae i'w groesawu fod gennym bellach strategaeth ddur ar gyfer Cymru a'r DU, ac rwy'n ddiolchgar i Weinidogion y Llywodraeth, y diwydiant a'r undebau am eu gwaith arni. Fodd bynnag, rwy'n credu bod angen ei gwneud yn realiti ar lawr gwlad fel mater o frys. Rydym yn gwybod ein bod yn byw mewn byd cynyddol gyfnewidiol ac ansefydlog, ac mae'n rhaid cefnogi ein diwydiant dur strategol i gynhyrchu nwyddau ar gyfer ein diwydiannau gweithgynhyrchu, amddiffyn ac adeiladu. Yn Llan-wern, yn Nwyrain Casnewydd, mae gennym weithlu ifanc ac ymroddedig iawn, sy'n awyddus i chwarae rhan yn y dyfodol dur gwyrdd y gallwn ei gael. Pan gyfarfûm â nhw ddiwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethant bwysleisio'r capasiti a'r brwdfrydedd yn Llan-wern i gynhyrchu cynhyrchion newydd, i leihau'r ddibyniaeth sydd gennym ar fewnforion. Rydych chi wedi amlinellu peth o'r cynnydd sy'n cael ei wneud ac sy'n ddisgwyliedig, ond mae llawer i'w wneud; rydym yn dal i fewnforio llawer o gynhyrchion dur y gallem eu cynhyrchu i ni ein hunain.

Felly, tybed a wnewch chi fy sicrhau, Ysgrifennydd y Cabinet—yn amlwg, rydym yn aros am Lywodraeth nesaf Cymru—eich bod yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau dibyniaeth ar fewnforion, ac y gall gweithfeydd fel Llan-wern chwarae rhan bwysig yn cyflawni'r cynnydd hwnnw.

15:35

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, ac rwy'n siŵr y bydd unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol eisiau gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i gefnogi ein diwydiant dur yng Nghymru, gan gydnabod pa mor hanfodol ydyw. Ac rwy'n siŵr y byddai unrhyw Lywodraeth Cymru—o leiaf rwy'n gobeithio y byddent—eisiau gwneud mwy i ysgogi'r galw am ddur domestig hefyd, er mwyn galluogi ein diwydiant dur ein hunain yma yng Nghymru i gael mwy o obaith o waith yn y dyfodol, a mwy o allu hefyd i fuddsoddi mewn cynhyrchion newydd ac yn y blaen ar gyfer y dyfodol. 

Rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth wirioneddol i ba mor hanfodol yw'r diwydiant dur i ni yma yng Nghymru, o ran cyflogaeth, ond nawr rwy'n credu bod mwy o ddealltwriaeth nag erioed, o ystyried y sefyllfaoedd anwadal a'r amseroedd yr ydym yn byw ynddynt yn fyd-eang, o ba mor bwysig yw hi ein bod yn gallu ateb cymaint o alw domestig ag y gallwn.

Mae tri Aelod bellach wedi gofyn beth yw cyrchfan y map ffordd hwn, ac nid wyf yn credu ein bod wedi clywed y manylion gennych chi y prynhawn yma, o ran yr hyn y gofynnodd David Rees i chi, sef beth y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amdano'n benodol, am beth y maent yn chwilio. Gofynnodd fy nghyd-Aelod Luke Fletcher, er enghraifft, am y felin ddur plât, neu'r coleg sgiliau dur. A yw'r pethau hynny—? Rydych chi wedi siarad am y cydweithio a chlywed llais y gweithlu, ac wedi siarad am weithio gyda'r byd academaidd, ond beth yw eich gweledigaeth? Beth ydych chi am ei weld yn realiti ar lawr gwlad, yn dod allan o'r strategaeth sgiliau hon, ar gyfer y gweithwyr rwy'n eu cynrychioli?

Rwy'n credu ei fod bron yn methu'r pwynt fod y diwydiant yn mynd i fod yn allweddol wrth arwain rhywfaint o hyn. Felly, fe fydd gofyn i ddiwydiant fuddsoddi. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eisiau creu'r amodau i ddiwydiant fuddsoddi, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod mwy o welededd i'r galw arfaethedig. Mae'n ymwneud â sicrhau bod amgylchedd galluogi lle rydym yn buddsoddi mewn sgiliau a sicrhau bod gan y diwydiant y gweithwyr medrus sydd eu hangen arno ar gyfer y dyfodol. Mae'n ymwneud â sicrhau bod lefelau uwch o alw. Ni allwn dynnu'r diwydiant allan o'r sgwrs honno, felly mae angen i'r diwydiant ei hun hefyd ddeall ble mae'r cyfleoedd. Ac rwy'n credu bod y strategaeth ddur yn mynd ati i wneud hynny. Ac rwy'n credu bod y ffaith ei bod yn nodi'r uchelgais o symud i sicrhau bod tua 50 y cant o'r galw am ddur domestig yn ddur o Brydain yn gosod cyfeiriad teithio clir. Bydd diwydiant yn gwybod ble mae'r cyfleoedd mewn perthynas â hynny. Ac rydym yn siarad â'r undebau—mae ganddynt syniadau cryf iawn y byddant eisiau eu cyfleu i fusnesau. 

Ar hyn o bryd, mae ffocws Tata'n gadarn ar gyflenwi'r ffwrnais arc drydan. Rwy'n gwybod y byddant eisiau meddwl am y camau nesaf, ond ni allwn benderfynu hynny ar eu rhan. Yr hyn y gallwn ei wneud yw ceisio creu'r amgylchedd galluogi lle mae ganddynt hyder i fuddsoddi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. 

Ac ar ran pob un ohonom, rwy'n siŵr, hoffwn ddymuno'n dda i chi wrth i chi adael y Senedd hon yn ystod yr oriau nesaf. [Cymeradwyaeth.]

4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Recriwtio a chadw athrawon'

Eitem 4 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Recriwtio a chadw athrawon'. A'r Cadeirydd sy'n gwneud y cynnig—Buffy Williams. 

Cynnig NDM9224 Buffy Williams

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ‘Recriwtio a chadw athrawon’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2026.

Yn nodi'r ymateb gan Lywodraeth Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'n fraint agor yr hyn a fydd yn ddadl olaf y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nhymor y Senedd hon. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi dod ag ystod eang o faterion i sylw'r Siambr. Wrth wraidd pob un ohonynt roedd profiadau bywyd go iawn plant a phobl ifanc, a dyna sydd wedi siapio ein gwaith yn fwy nag unrhyw beth arall. Weithiau mae hynny'n golygu rhannu straeon anodd a phwerus. Byddaf bob amser yn cofio ein dadl ar wasanaethau gofal, pan oedd yr oriel gyhoeddus yn llawn o blant, pobl ifanc a'r bobl sy'n eu cefnogi, yn ein gwylio, yn ein dal i gyfrif ac yn ein hatgoffa'n union pam y mae'r gwaith hwn yn bwysig. Clywsom yr un lleisiau pwerus hynny wrth inni edrych ar brofiadau plant anabl a'u teuluoedd mewn addysg a gofal plant. Arhosodd y straeon hynny gyda ni a siapio'n uniongyrchol yr argymhellion a wnaethom a'r newidiadau y gwnaethom wthio amdanynt. Rydym hefyd wedi mynd i'r afael â phopeth o ddiwygio addysg a chymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch i lwybrau ôl-16, lefelau presenoldeb ac aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, ymhlith nifer o bethau eraill.

15:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae wedi bod yn fraint enfawr cael bod yn rhan o'r pwyllgor hwn a hyd yn oed yn fwy felly i'w gadeirio ers mis Mai 2024. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi bod yn rhan ohono dros y tymor hwn. Ond yn fwy na dim, rwyf am ddiolch i bawb y tu allan i'r Siambr hon sydd wedi cyfrannu, boed hynny drwy dystiolaeth ysgrifenedig, siarad â ni ar ymweliadau, cymryd rhan mewn sesiynau ymgysylltu, neu roi tystiolaeth yn bersonol. Chi yw sylfaen popeth a wnawn. Mae eich amser, eich gonestrwydd a'ch profiadau wedi siapio ein gwaith, ac rydym yn hynod ddiolchgar.

Fe symudaf ymlaen nawr at ein hadroddiad terfynol, yr ydym yn ei drafod heddiw: 'Recriwtio a chadw athrawon'. Deilliodd yn uniongyrchol o'n gwaith craffu ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Roedd yn amlwg o'n gwaith craffu deddfwriaethol fod angen inni edrych ar faterion recriwtio a chadw yn ehangach. Diolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, yn ogystal â'r sefydliadau, athrawon presennol, cyn-athrawon ac arweinwyr ysgolion a roddodd amser o'u swyddi dyddiol prysur iawn i gyfrannu at ein hymchwiliad. Unwaith eto, eich profiad bywyd chi sydd wedi helpu i roi siâp i'n hargymhellion.

Efallai eich bod wedi gweld galwadau gan benaethiaid yn y wasg dros y penwythnos yn dweud y dylai recriwtio a chadw athrawon fod yn brif flaenoriaeth. Mae'n fater real a dybryd, ac rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw. Un cyfle y mae plant yn ei gael yn yr ysgol: un cyfle i roi'r blociau adeiladu iddynt ar gyfer gweddill eu bywydau, un cyfle i ennyn diddordeb nad oedd y plentyn yn gwybod ei fod ganddynt, ac mewn rhai achosion, un cyfle i ddangos i blentyn eu bod yn bwysig.

Cyn troi at wleidyddiaeth, treuliais y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith mewn ysgolion. Roeddwn wrth fy modd. Ond rwy'n gwybod am yr heriau hefyd—y problemau sy'n gallu mynd yn drech na'r gweithiwr proffesiynol mwyaf ymroddedig hyd yn oed. Ac mae'r heriau hyn wedi ehangu a chynyddu ers i mi fod mewn ystafell ddosbarth.

Mae yna broblem canfyddiad yn gysylltiedig ag addysgu. Nid ydym am osgoi'r heriau real iawn y mae athrawon yn eu hwynebu, ond nid oeddem eisiau lladd ar addysgu chwaith neu hybu portreadau negyddol. Mae addysgu'n newid bywydau mewn ffordd uniongyrchol ac arwyddocaol iawn, ac nid yn achlysurol yn unig, ond bob dydd, wythnos, mis a blwyddyn. Faint o swyddi neu yrfaoedd eraill sy'n gwneud hyn mewn ffordd mor gynaledig?

Gwir uchafbwynt yr ymchwiliad hwn oedd pan wnaethom ofyn i bobl pam eu bod wedi mynd i'r byd addysg neu pam eu bod wedi aros. Gwelsom wynebau'n goleuo, brwdfrydedd yn berwi. Hoffwn yn fawr pe baem yn gallu costrelu'r positifrwydd hwnnw am addysgu a'i rannu ledled Cymru er mwyn i ni allu ennyn diddordeb a brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf o athrawon. Roedd yn sicr yn fy atgoffa o fy adegau hapusaf i yn yr ystafell ddosbarth. Mae angen i bawb chwarae eu rôl yn dathlu'r gwaith anhygoel y mae athrawon yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Er bod ein hymchwiliad wedi canolbwyntio ar athrawon, rwyf am fod yn glir iawn nad ei hathrawon yn unig sy'n creu ysgol a gweithlu ysgol—mae'n cynnwys y cynorthwywyr addysgu sy'n gweithio mor agos gyda nhw yn yr ystafell ddosbarth, y gofalwyr sy'n sicrhau bod yr adeilad yn gweithio, staff y swyddfa sy'n gwneud yn siŵr bod popeth yn drefnus, y staff arlwyo sy'n gwneud yn siŵr fod pawb yn cael eu bwydo, y glanhawyr sy'n gwneud yn siŵr fod ein hysgolion yn lleoedd glân a diogel i bawb, y gweithwyr cymorth bugeiliol sy'n cefnogi plant a theuluoedd. Ond roedd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar athrawon ac felly, bydd gweddill fy sylwadau'n cadw'r ffocws hwn.  

Fe wnaethom gyfanswm o 16 argymhelliad. Derbyniwyd pob un ohonynt gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei diddordeb cadarnhaol yn ein gwaith. Yn ystod ein sesiwn graffu, roedd hi'n amlwg fod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn yr heriau sy'n wynebu'r proffesiwn addysgu ac nad oedd yn cilio rhagddynt. Rydym yn gobeithio y bydd y teimladau cadarnhaol hyn yn trosi'n newidiadau y gellir eu teimlo gan athrawon presennol, ond hefyd yn annog mwy o bobl i fynd i mewn i'r byd addysg yn y lle cyntaf.

Fel y gwelir yn ymateb Llywodraeth Cymru, mae llawer o bwyslais wedi'i roi ar gynllun strategol y gweithlu addysg. Cyhoeddwyd hwn yr wythnos diwethaf. Roedd yn dda gweld bod ein hadroddiad wedi llywio'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y cynllun hwn. Mae llawer ynddo sy'n cyd-fynd â'n canfyddiadau a'n tystiolaeth. Er hynny, ac efallai nad yw hyn yn syndod, rwy'n credu y gallai'r cynllun elwa o amserlenni, cerrig milltir a chanlyniadau cliriach i helpu'r Senedd nesaf a rhanddeiliaid i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei gyflawniad a'i effaith. Mewn rhai mannau, bydd yn anodd asesu a yw'r Llywodraeth neu randdeiliaid allweddol eraill wedi cyflawni camau penodol. Buaswn yn croesawu barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y mae hi'n rhagweld y bydd cyflawniad ac effaith yn cael eu monitro.

Mae'r pum thema allweddol yn y cynllun yn adlewyrchu'r materion a gafodd eu dwyn i'n sylw. Yn fwyaf arbennig, rwy'n falch fod un o'r themâu allweddol yn mynd i'r afael â materion llwyth gwaith. Llwyth gwaith yw un o'r ffactorau mwyaf sy'n gwneud i athrawon ymroddedig adael y proffesiwn. Mae hefyd yn gwneud y proffesiwn yn llai deniadol i athrawon newydd posib. Rydym i gyd yn gwybod bod ysgolion wedi wynebu lefelau aruthrol o newid dros y blynyddoedd diwethaf, rhai o ganlyniad i newidiadau polisi fel y cwricwlwm newydd a diwygiadau ADY, eraill oherwydd ffactorau y tu allan i reolaeth pawb, fel y pandemig. Mae wedi creu storm berffaith, gan gynyddu llwyth gwaith.

Ochr yn ochr â hyn, mae cymdeithas, awdurdodau lleol, y Llywodraeth, rhieni, pob un ohonom, yn disgwyl i ysgolion wneud cymaint mwy nag yr arferent ei wneud o'r blaen. Er bod ysgolion yn gallu gwneud cymaint, rhaid inni fod yn realistig ynglŷn ag i ba raddau y gallant ddatrys problemau ehangach cymdeithas. Mae angen i ysgolion allu canolbwyntio ar eu prif bwrpas.

Clywsom fod gwaith y grŵp cydlynu llwyth gwaith, er ei fod yn bwysig, wedi canolbwyntio ar lefel arweinwyr ysgol. Nid oes effaith wedi bod eto ar ystafelloedd dosbarth unigol. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae'n rhagweld y bydd y camau gweithredu yn y cynllun ar gyfer y gweithlu'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â llwyth gwaith athrawon dosbarth, ac erbyn pryd y byddai hi eisiau gweld athrawon yn sylwi ar ostyngiad yn eu llwyth gwaith?

Rwyf eisoes wedi cyffwrdd â'r heriau canfyddiad y mae addysgu yn eu hwynebu a sut y gall hyn effeithio ar y niferoedd sy'n hyfforddi. Nid oes gennym ddigon o newydd-ddyfodiaid i addysgu. Mae'r heriau hyn yn wirioneddol acíwt ar gyfer rhai pynciau uwchradd ac mewn rhai ysgolion.

Pan fydd athro'n ymuno â'r proffesiwn, mae angen inni sicrhau bod cefnogaeth fel y gallant adeiladu a datblygu yn ystod y blynyddoedd cyntaf cynnar, allweddol o addysgu. Fe wnaeth ein hadroddiad dynnu sylw at bryderon nad oes digon o gefnogaeth a chyfleoedd datblygu. Felly, croesewir y ffaith bod cynllun y gweithlu yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer datblygu a chyflawni llwybr gyrfa cynnar strwythuredig i gefnogi athrawon yn ystod eu hyfforddiant ond hefyd yn ystod blynyddoedd cyntaf eu gyrfa.

Rwyf hefyd yn croesawu'r cam gweithredu yn y cynllun ar gyfer mwy o gyfleoedd i athrawon uwchradd wella eu gwybodaeth pwnc. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle mae gennym athrawon mewn llawer o ysgolion yn addysgu y tu allan i'w harbenigedd pwnc eu hunain. Clywsom y gall hyn gael effaith uniongyrchol ar ansawdd yr addysgu a'r dysgu a gynigir, a gall effeithio hefyd ar ddewisiadau pwnc dysgwyr. Gall hyn wedyn ddod yn gylch dieflig, heb ddigon o ddysgwyr yn dewis astudio pynciau fel ffiseg, cemeg neu ieithoedd tramor modern i lefel TGAU, Safon Uwch neu radd. Mae hyn wedyn yn lleihau nifer yr athrawon posib yn y dyfodol, ac mae'r cylch cyfan yn dechrau eto.

I gloi, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, a chynllun y gweithlu. Rwy'n gobeithio y bydd unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol o ddifrif ynghylch y mater hwn, ac yn adeiladu ar gynllun y gweithlu i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Diolch.

15:45

Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, aelodau'r pwyllgor, clercod y pwyllgor a hefyd yr holl dystion am eu gwaith caled ar adroddiad manwl a chadarn, gyda nifer gymhleth ac eang o faterion. Hoffwn grybwyll ychydig o feysydd, os caf, yr wyf yn eu hystyried yn arbennig o bwysig i recriwtio athrawon a chadw athrawon. Er fy mod, ochr yn ochr ag aelodau eraill y pwyllgor, yn diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, mae yna ychydig o gwestiynau heddiw yr hoffwn ateb iddynt, os gwelwch yn dda.

Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, canfu'r pwyllgor fod anawsterau sylweddol wrth ddenu myfyrwyr i gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon. Er fy mod yn cydnabod, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn aros am werthusiad eich Llywodraeth eich hun ar addysg gychwynnol i athrawon 2026, rwy'n pryderu bod y problemau hyn, a phroblemau wrth recriwtio ar gyfer pynciau penodol yn wir, yn mynd i gael eu gwaethygu gan gau cyrsiau gan rai prifysgolion yng Nghymru. Er enghraifft, mewn tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r pwyllgor, clywsom y gallai fod cysylltiad rhwng y prinder mynych yn nifer yr athrawon technoleg a mathemateg yng ngogledd Cymru â llai o gyrsiau ym Mhrifysgol Bangor. Felly, hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae eich cynllun gwaith strategol, ar wahân i nodi meysydd pwnc â blaenoriaeth, yn mynd i fynd i'r afael â'r posibilrwydd o gau cyrsiau gwerthfawr a gynigir ar y cam addysg gychwynnol i athrawon yn y tymor byr.

Fel pwyllgor, roeddem yn arbennig o bryderus am y prinder difrifol o athrawon ffiseg arbenigol yng Nghymru. Mae'n syndod mawr i mi fod y Sefydliad Ffiseg wedi rhoi tystiolaeth fod gan Gymru lai o athrawon ffiseg arbenigol nag a geir o ysgolion uwchradd. Byddaf yn nodi meysydd pellach o bryder gan y Sefydliad Ffiseg, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mewn perthynas ag addysg gychwynnol i athrawon, pa fesurau y mae eich Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i godi'r fwrsariaeth pwnc â blaenoriaeth i gyd-fynd â Lloegr, a sut ydych chi'n archwilio ffyrdd amgen o ariannu addysg gychwynnol i athrawon mewn perthynas â chyrsiau ffiseg? A fyddwch chi hefyd o bosib yn cyflwyno cyrsiau gwella gwybodaeth pwnc cyn addysg gychwynnol i athrawon, fel y gall graddedigion nad ydynt wedi graddio mewn ffiseg hyfforddi fel arbenigwyr?

Ar ben hynny, canfu'r pwyllgor fod un o bob pump o fyfyrwyr sy'n astudio TAR i ddod yn athrawon uwchradd wedi gadael yn 2023-24, gyda'r mwyafrif o fyfyrwyr yn gadael oherwydd oriau hir, pwysau a llwyth gwaith o fewn y proffesiwn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae eich cynllun gweithlu yn sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn aros ar eu cwrs TAR? Rwy'n nodi bod polisïau trosfwaol helaeth ar lwyth gwaith o fewn y cynllun gweithlu ei hun, sy'n mynd i'r afael yn arbennig â'n pryderon yn argymhelliad 9, ond sut ydych chi'n sicrhau bod hyn yn cael ei leihau o'r diwrnod cyntaf i atal athrawon uwchradd o ansawdd da rhag gadael y proffesiwn mor gynnar?

Gan droi at argymhelliad 15 ar y cynllun gweithlu athrawon, rwy'n falch eich bod wedi cyhoeddi eich cynllun strategol ar gyfer y gweithlu yr wythnos diwethaf, ac rwy'n adleisio geiriau'r Cadeirydd. Nodaf hefyd fod athrawon cyflenwi hefyd yn cael eu crybwyll yn eich cynllun, ac mae gennyf ddiddordeb ym mhwynt 4.14, ar ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer asiantaethau cyflenwi. Yn benodol, deallaf fod y Pwyllgor Materion Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi canfod bod Llywodraeth Cymru yn codi ffi ad-daliad o 0.5 y cant ar asiantaethau athrawon cyflenwi, sydd, ac rwy'n dyfynnu o ymateb Llywodraeth Cymru,

'yn cynhyrchu oddeutu £500,000 y flwyddyn'.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod y cytundeb presennol ar gyfer asiantaethau athrawon cyflenwi sydd gan eich Llywodraeth yn addas i'r diben ac yn werth am arian mewn gwirionedd? Pa fathau eraill o systemau archebu athrawon cyflenwi rydych chi wedi edrych arnynt?

Gan droi'n ôl at feysydd arbenigol, rwy'n falch eich bod chi wedi cyfaddef yng nghynllun y gweithlu fod yna brinder difrifol. Fodd bynnag, yn ôl data cofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg, cafodd bron i un o bob pump o athrawon mathemateg a bron i un o bob pedwar athro Saesneg eu hyfforddi mewn pwnc gwahanol. Mae hyn yn waeth yn y gwyddorau mewn gwirionedd, gan nad oedd dros hanner yr athrawon cemeg, a 56 y cant o'r athrawon sy'n cael eu cyflogi i addysgu ffiseg, wedi'u hyfforddi yn y pynciau hyn. Rwy'n nodi bod y Sefydliad Ffiseg wedi nodi nifer o feysydd i'w diwygio, sy'n adlewyrchu'r brys yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r argymhellion polisi ar gyfer ffiseg yn adroddiad y pwyllgor yn mynd i gael eu colli, a bod sefydliadau sy'n cynrychioli pynciau â phrinder yn cymryd rhan weithredol ac yr ymgynghorir â nhw'n ffurfiol ar ddatblygu polisi recriwtio, cadw a hyfforddi athrawon.

Yn olaf, gan droi at argymhelliad 11, ar reoli ymddygiad, rwy'n wirioneddol falch unwaith eto fod Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn. Rwy'n teimlo, fodd bynnag, na fu cydnabyddiaeth o'r brys ar y mater a'ch bod wedi gadael llawer o'r gwaith heb ei wneud wrth inni gyrraedd diwedd y Senedd hon. Er enghraifft, fe wnaethoch chi sôn bod y fforymau ar ffonau symudol a gwahardd o'r ysgol a chadw ar ôl ysgol yn dal i gwblhau eu gwaith. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn yn fawr pe baech chi'n fodlon mentro heddiw, yn y sesiwn ddiwethaf sydd gennym, a gwahardd ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth, gweithio gyda Llywodraeth y DU i wahardd cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl dan 16 oed, a gostwng y nifer cynyddol o waharddiadau. Gallaf eich sicrhau y byddai'r pethau hyn yn cael croeso gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, deallwn fod Cyngor Caerdydd yn arwain ar arfau sy'n cael eu cludo i mewn i ysgolion. Hoffwn wybod pryd y bydd yr adnoddau newydd hyn yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion ledled Cymru. Ac ydych chi'n cefnogi gwaharddiadau awtomatig am gario arf? Rwy'n gwybod fy mod wedi dweud hyn o'r blaen, ond os ydym yn ei adael yn rhy hir, rwy'n ofni y gwelwn fwy o fygythiadau arfau, fel y rhai yn Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Ysgol Basaleg, ac yn anffodus, digwyddiadau gwaeth, fel yr hyn a welsom eleni yn Aberdaugleddau. Diolch yn fawr.

15:50

Fe fyddwn i'n licio cofnodi wrth i ni ddod i ben â'r chweched Senedd yma fy niolch diffuant iawn i Gadeirydd a chyd-aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r tîm clercio, a'r holl bobl sydd wedi cynnig tystiolaeth. Mae eich cydweithrediad parod chi wedi bod yn rhywbeth gwerthfawr iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod wir yn fraint cael bod yn aelod o'r pwyllgor.

Mae'r adroddiad ar recriwtio a chadw athrawon wedi amlygu nifer o ffactorau sydd wedi ac yn parhau i gyfrannu at ganfyddiad negyddol o'r proffesiwn. Mae'r rhain yn cynnwys baich gwaith anghynaliadwy, biwrocratiaeth di-angen, camymddygiad heriol gan ddisgyblion, ac athrawon yn gorfod delio ag achosion cynyddol o broblemau iechyd meddwl a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Ac er bod gyda ni weithlu ymroddedig a chydwybodol, mae’r heriau hyn yn rhoi pwysau annioddefol arnyn nhw.

Mae gan athrawon rôl allweddol i’w chwarae o ran siapio dyfodol ein pobl ifanc ymhell ar ôl iddyn nhw adael yr ystafell ddosbarth, ac yn wir yn gallu newid eu bywydau nhw. Maen nhw'n swyddi sy’n gallu rhoi boddhad mawr, ond, yn anffodus, mae cymaint â 25 y cant yn gadael y proffesiwn bob blwyddyn. Gan ystyried bod 75 y cant o’n hathrawon ni yn fenywod, mae nifer yn cyfaddef bod methu â chael y balans yna'n iawn rhwng gwaith a bywyd teuluol yn un o’r rhesymau maen nhw'n gadael dysgu, gyda nifer yn nodi eu bod yn gweithio rhwng 50 a 60 awr yr wythnos. Felly, byddwn i'n hoffi gofyn i'r Llywodraeth beth maen nhw'n bwriadu ei wneud er mwyn lleihau'r baich gwaith yma ar athrawon.

O ran recriwtio athrawon, yn arbennig i’r sector uwchradd, mae targedau’r Llywodraeth yn cael eu methu blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r ffigurau diweddaraf gafodd eu rhannu gyda’r pwyllgor yn dangos bod y Llywodraeth 56 y cant o dan y targed ar gyfer recriwtio i bynciau lle mae prinder, fel y gwyddorau, pynciau STEM, ieithoedd tramor ac, wrth gwrs, pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

O ran cyrsiau hyfforddiant athrawon, mae prifysgolion yn Lloegr yn cynnig cymhellion ariannol hael iawn o’u cymharu â beth sydd ar gael yng Nghymru. Er enghraifft, mae bwrsarïau ar gyfer astudio rhai pynciau gwyddonol cymaint ag £14,000 yn uwch. Does dim syndod, felly, fod cymaint o’n pobl ifanc yn cael eu temtio i ddilyn cyrsiau yn Lloegr, a beth sydd yn digwydd wedyn yw eu bod nhw'n cael swyddi yno ac yn setlo yno, ac rŷn ni'n colli'r talent ifanc yma. Felly, eto, beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn newid y patrwm hwn? Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir, os ŷn ni o ddifrif am recriwtio, mae’n rhaid inni gau’r bwlch a gwneud dysgu yng Nghymru yn fwy deniadol a chystadleuol.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod angen ystyried amodau gwaith mwy hyblyg er mwyn lleihau’r baich gwaith: pethau fel caniatáu i amser CPA ddigwydd bant o’r ysgol, oriau gwaith mwy hyblyg, mwy o hyfforddiant proffesiynol yn gyffredinol, ond yn arbennig ar sut i gefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, a gwell canllawiau ar ddelio â chamymddygiad yn y dosbarth—pethau mae Plaid Cymru yn cytuno’n llwyr â nhw.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rôl lefel A wrth lunio'r gweithlu addysg yn y dyfodol. Mae ymchwil gan Brifysgolion Cymru yn dangos mai dim ond 33 y cant o bobl ifanc yng Nghymru sy'n astudio lefel A, o'i gymharu â 47 y cant yn Lloegr. Mae hynny'n wahaniaeth sylweddol, ac mae ganddo effaith uniongyrchol ar faint o bobl sy'n gallu symud ymlaen i fod yn athrawon. Mae hyn yn arbennig o amlwg o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod yr heriau o ran recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, ac mae'r nifer isel o athrawon sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc ar gyfer lefel A yn ychwanegu at y pwysau hwnnw. Ac mae ymchwil yn dangos bod angen tua 400 o athrawon ychwanegol arnom ni bob blwyddyn os ŷn ni am gyrraedd targedau 'Cymraeg 2050'.

I gloi, felly, mae addysgu yn un o'r proffesiynau pwysicaf a mwyaf gwerth chweil. Mae athrawon yn newid bywydau pobl ifanc bob dydd, ond y realiti nawr yw bod athrawon yn wynebu llwyth gwaith sy’n eu gyrru nhw i’r eithaf ac yn eu gorfodi nhw i adael y proffesiwn, achos dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi na’u parchu’n ddigonol. Felly, i gloi, oni bai ein bod ni'n newid pethau, bydd ein system addysg byth yn cyrraedd ei photensial llawn a byddwn ni'n gadael cenhedlaeth arall o blant i lawr. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau'r pwyllgor, y clercod a phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwn.

Mae athrawon wedi gofyn am fwy o hyblygrwydd. Câi ei hystyried ar un adeg yn swydd a gefnogai deuluoedd a gofal plant, gyda gwyliau ysgol i ffwrdd gyda'i gilydd, ond gall holl bwysau ychwanegol cynllunio, asesiadau a'r holl bethau ychwanegol y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni nawr lyncu amser gwerthfawr, gan gynnwys dyddiau Sul a chyda'r nos. Ar ôl COVID, maent yn gweld swyddi sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd, gweithio gartref ac oriau byrrach, felly cânt eu temtio i newid. Yn aml gofynnir iddynt ddod yn weithwyr cymdeithasol hefyd, gan helpu plant ag anghenion mwy cymhleth.

Mae angen inni hyrwyddo swyddi addysgu a'u gwerthfawrogi, rhoi parch newydd iddynt. Maent mor bwysig; gallant ysbrydoli a newid bywyd plentyn. Ac rwy'n croesawu'r ymgyrch athrawon ysbrydoledig sy'n cael ei lansio. Mae ailhyfforddi hefyd, a chefnogaeth yn hanfodol i athrawon. Rwy'n aml iawn yn clywed sut y mae cael pennaeth da sy'n gwrando ac sy'n gallu darparu hyblygrwydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

Cafwyd tanariannu yn ystod cyni, ac mae cynghorau wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Rydym wedi ceisio diogelu cyllid lle bynnag y gallwn, ond mae angen i'r cyllid godi'n unol â'r angen. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y DU ar gyfer anghenion addysgol arbennig, fel cânt eu galw, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Cymru newydd a gaiff ei hethol yn sicrhau ei fod yn mynd at anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi cael deisebau'n galw am neilltuo cyllid addysg ac ADY. Rwy'n gwybod na all hynny ddigwydd, mai penderfyniad awdurdodau lleol ydyw, ond mae angen inni wneud yn siŵr fod cyllid yn mynd iddynt.

Mae cynorthwywyr addysgu hefyd yn hynod werthfawr, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llafur Cymru yn ceisio sicrhau y byddant yn cael cyflog drwy gydol y flwyddyn os caiff Llafur Cymru eu hethol. Rwy'n croesawu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu addysg. Diolch.

16:00

Rwy'n ddiolchgar am adroddiad y pwyllgor, sy'n cydnabod nifer o newidiadau y mae addysg yng Nghymru wedi'u gweld dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a'r effaith y mae hynny wedi'i chael ar staff addysgu ymroddedig, a staff ysgolion yn gyffredinol, fel y pwysleisiodd Buffy Williams. Nid oes a wnelo hyn â'r staff addysgu yn unig, ond holl staff yr ysgol. Mae'r staff wedi cael y dasg o gyflawni'r newidiadau hyn yn erbyn cefndir o bwysau cyllido a chyllidebol, adeiladau ysgol sy'n heneiddio, ac sy'n anaddas mewn llawer o achosion, a phlant ag ymddygiad heriol sydd angen cefnogaeth, cefnogaeth sy'n aml heb fod yno.

Mae'r adroddiad yn rhestru nifer o bethau sy'n achosi pwysau, ac mae rhai ohonynt, gyda dealltwriaeth, buddsoddiad ac ailstrwythuro, yn bethau y gellir eu hosgoi. Mae'r status quo, o'm darlleniad i o'r adroddiad, yn cyfrannu at lesiant gwael ac yn un o'r prif resymau pam fod athrawon yn gadael y proffesiwn. Nid yw'n syndod nad yw undebau'r athrawon yn anghytuno â'r adroddiad. Maent yn sôn yn eu hymateb am argyfwng morâl, problemau cadw athrawon, diffyg cefnogaeth wedi'i thargedu ac arweinwyr ysgolion yn diffygio. Dyna ein profiad ni fel Aelodau pan fyddwn yn siarad â phobl o'r proffesiwn addysgu.

Mae'r naratif a gyflwynir gan yr adroddiad yn mynd i'r afael â materion pwysig i'r proffesiwn addysgu, lle mae staff addysgu a ddechreuodd eu gyrfaoedd gyda'r bwriadau gorau yn colli eu hysbryd ac yn gadael eu gyrfaoedd. Yn ddiweddar, gofynnodd fy swyddfa i nifer o ysgolion am eu darpariaeth lesiant ar gyfer staff addysgu a pha ddarpariaeth sydd yn eu cyllideb ysgol i allu cynnig darpariaeth o'r fath. Yr atebion a gefais, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd 'dim', gyda staff yn dweud, 'Wel, rydym yn tueddu i gefnogi ein gilydd.'

Nid oes darpariaeth o fewn cyllideb i arweinydd ysgol gynnig darpariaeth lesiant i staff ysgolion. Mae awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaeth ffôn, gwasanaeth cwnsela, ond rwy’n credu mai'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw, ar adeg o argyfwng, pan fo'r athro ar ben eu tennyn, mai'r cyfan y gallant ei wneud, efallai, yw siarad â llais diwyneb. Hoffwn wybod sut y mae hynny'n cymharu â'r ddarpariaeth a gynigir mewn meysydd eraill yn y sector cyhoeddus, oherwydd fel y gwnaeth Buffy Williams ein hatgoffa wrth agor, mae athrawon a staff ysgolion yn ymgymryd â rhai o rolau pwysicaf cymdeithas, nid yn unig rôl athro neu addysgwr, ond yn aml iawn, rôl gweithiwr cymdeithasol, cyfaill, nyrs neu reoli torfeydd, i enwi ond ychydig. Ysgrifennydd y Cabinet, gallech restru llawer mwy na hynny. Maent angen darpariaeth les a llesiant strwythuredig arnynt. Yn fy marn i, mae methu cyllidebu ar gyfer hyn, i werthfawrogi a chefnogi staff yn iawn yn economi ffug yn y tymor hir. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eich annog i weithio gyda'r holl undebau athrawon i sicrhau bod lles ein staff addysgu'n cael ei flaenoriaethu. Diolch yn fawr.

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hadroddiad. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd ac Aelodau'r pwyllgor am eu dadansoddiad trylwyr o'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru ac am ymgysylltu ag ystod eang o'n rhanddeiliaid allweddol. Mae'r canfyddiadau'n cyflwyno darlun clir: er bod ein gweithlu yn parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr, mae'r pwysau ar y system yn cynyddu, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru’n derbyn pob un o'r 16 argymhelliad.

Cyn mynd i'r afael â rhai o'r manylion yn yr adroddiad a rhai o sylwadau'r Aelodau, roeddwn eisiau cyfeirio at ein cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg mewn ysgolion, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r cynllun yn darparu rhaglen weithredu gynhwysfawr ar gyfer y system gyfan i gryfhau a chefnogi ein gweithlu ysgolion. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer proffesiwn hyderus a gwydn wedi'i gefnogi'n dda, ac yn mynd y tu hwnt i'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor, ac yn wir, yn cwmpasu'r holl feysydd a godwyd yn y cyfraniadau heddiw.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n haddysgwyr, undebau llafur, awdurdodau lleol ac ystod eang o bartneriaid i ddatblygu'r cynllun i sicrhau ei fod yn adlewyrchu eu safbwyntiau a'u blaenoriaethau. Mae hefyd yn pwyso ar arferion gorau a thystiolaeth ryngwladol, ac rwy'n hyderus fod y cynllun yn cyd-fynd â'r hyn y mae systemau sy'n perfformio ar lefel uchel yn ei wneud i ddyrchafu a chynnal eu proffesiynau addysgu. Ac mewn ymateb i sylwadau'r Cadeirydd, y bwriad bob amser oedd i'r cynllun fod yn gynllun lefel uchel, i ddod ynghyd â'r holl waith y mae angen inni ei wneud yn y maes hwn. Yn amlwg, y Llywodraeth nesaf fydd yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw nawr, ond rwy'n hyderus fod gennym yr holl gynlluniau ar waith i wneud hynny.

Gan droi felly at adroddiad y pwyllgor, mae'r tri argymhelliad sy'n ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon yn adlewyrchu ein cyfeiriad presennol. Ar hyn o bryd, mae gennym lwybrau rhan-amser a chyflogedig achrededig i mewn i addysgu ochr yn ochr â llwybrau traddodiadol, a byddwn yn adolygu pob llwybr i mewn i addysgu i sicrhau eu bod yn hyfyw, o ansawdd uchel ac yn hygyrch.

Ar gymelliadau addysg gychwynnol i athrawon, roedd y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor yn adlewyrchu ein safbwyntiau a'n hymchwil nad oes un ateb syml. Mae gwerthusiad llawn o bolisi addysg gychwynnol i athrawon ar y gweill, gan gynnwys pa un a yw costau'n datgymell darpar athrawon, ac mae'r dystiolaeth yn gymysg ar hyn o bryd ynghylch gwerth cymelliadau addysgu. Mae ymrwymiad yma i edrych ar hynny, ond mae llawer o'r dystiolaeth ryngwladol yn awgrymu mai pethau fel llesiant a mynd i'r afael â llwyth gwaith sy'n gwneud y gwahaniaeth wrth ddenu pobl i'r proffesiwn. Bydd y gwerthusiad yn adrodd yn haf 2026, ond rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar adolygu'r gofyniad presennol fod yn rhaid i 50 y cant o radd hyfforddai uwchradd fod yn berthnasol i'w pwnc addysgu.

Tynnodd yr adroddiad sylw at y pwysau difrifol mewn recriwtio cyfrwng Cymraeg, ac rwyf wedi disgrifio i'r pwyllgor yn fanwl ein gwaith gyda phartneriaid i gryfhau ac ehangu hyn, ac nid un ateb sydd i hyn. Rydym yn buddsoddi oddeutu £4 miliwn y flwyddyn i ddatblygu sgiliau iaith addysgwyr, gan gynnwys ar gyfer y mwy na 1,500 o athrawon a allai addysgu drwy'r Gymraeg ond nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i adolygu cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg i ddatblygu camau gweithredu pellach sy'n cefnogi amcanion Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.

Mae gwella'r canfyddiad o addysgu yn hanfodol wrth gwrs, a soniodd Buffy Williams ynglŷn â sut rydym yn nodi'r straeon ysbrydoledig ynghylch cymaint y mae ein hathrawon ac arweinwyr ysgolion yn mwynhau'r hyn a wnânt, ac rwyf wedi clywed cymaint o arweinwyr ysgolion yn dweud wrthyf mai dyma'r swydd orau yn y byd. Ac nid tanbrisio'r heriau yw'r bwriad, ond cydnabod pa mor wych a gwerth chweil yw'r swyddi hyn i bobl yn ein hysgolion. Rydym yn cydnabod yr angen i wneud mwy ar hynny. Dyna pam, yr wythnos diwethaf, y gwnaethom gyhoeddi llysgenhadon addysgu newydd, sy'n athrawon brwdfrydig iawn a fydd yn mynd allan ac yn helpu i adrodd y stori honno ar ein rhan.

Rydym hefyd wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i egluro nad oes unrhyw rwystrau i athrawon sydd wedi'u hyfforddi yn Lloegr rhag gweithio yma, a bydd ein hymgyrchoedd newydd yn hyrwyddo pwysigrwydd cael gweithlu o addysgwyr sy'n adlewyrchu'r cymunedau amrywiol y maent yn eu gwasanaethu, gan gynnwys athrawon o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Tynnodd y pwyllgor sylw, yn gywir ddigon, at werth cyfleoedd i athrawon a chynorthwywyr addysgu ddatblygu eu harbenigedd, a byddwn yn sefydlu llwybrau gyrfa cliriach, fel y mae'r cynllun yn eu nodi, gan gynnwys cefnogaeth gryfach o lawer yn y blynyddoedd cyntaf o addysgu, lle gwyddom ein bod yn fwyaf tebygol o golli ein hathrawon os ydynt yn penderfynu mynd i rywle arall. Byddwn hefyd yn mynd ar drywydd argymhelliad 6 drwy hyrwyddo cyfleoedd i addysgwyr gael mynediad at gyfleoedd sabothol a secondiadau, i ddyfnhau gwybodaeth am bynciau, gwneud ymchwil neu gyfrannu at waith polisi cenedlaethol.

Mae Aelodau wedi sôn am lwyth gwaith. Mae hynny'n parhau i fod yn bryder dybryd iawn, a amlygwyd gan y pwyllgor. Mae ein grŵp strategol ar gydlynu llwyth gwaith eisoes wedi ein helpu i symleiddio gofynion adrodd, ymgorffori asesiadau llwyth gwaith a chytuno ar egwyddorion ymgysylltu cenedlaethol, ond rwy'n llwyr gydnabod mai arweinwyr sydd wedi elwa fwyaf o hynny a bod gennym fwy i'w wneud o ran athrawon ystafelloedd dosbarth. Gwnaeth y pwyllgor argymhellion ar bethau fel amser cynllunio, paratoi ac asesu, ac mae sawl Aelod wedi codi materion ynghylch gweithio hyblyg. Mae'r materion hynny'n heriol iawn mewn addysgu yn arbennig, yn enwedig pan fyddwn mewn sefyllfa lle mae'n anodd mewn rhai ysgolion, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cael athro cemeg cyfrwng Cymraeg, dyweder, i sefyll o flaen dosbarth, heb sôn am edrych ar yr hyblygrwydd hwnnw. Ond rydym wedi ymrwymo i wneud y gwaith hwnnw yn rhan o'n cynllun.

Nawr, Natasha, fe wnaethoch chi rai pwyntiau am ymddygiad. Rwy'n gwrthod yn llwyr y syniad fod pethau wedi'u gadael heb eu gorffen. Gallwn sefyll yma a siarad am o leiaf awr am yr holl waith a wnawn ar fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad mewn ysgolion. [Torri ar draws.] Na, rwy'n gwybod na allaf wneud hynny. [Chwerthin.] Ac rwy'n credu y byddai'n anghyfrifol imi sefyll yma a mentro, fel y dywedwch, a chyhoeddi gwaharddiad ar unwaith ar ffonau symudol mewn ysgolion. [Torri ar draws.] Na, na, na, nid ydynt wedi gwneud hynny mewn gwirionedd. Yr hyn y maent wedi'i wneud yw dweud bod—. Nid dyna a wnaethant. Ac os edrychwch ar y canllawiau, nid oes unrhyw ganllawiau sy'n cefnogi hynny o gwbl. Nid wyf yn barod i sefyll yma a dweud pethau. Fy rôl i yw cefnogi'r proffesiwn i weithredu polisïau, nid adrodd sloganau. Nid dyna sut rydym yn gweithio. Rydym yn gwneud pethau yng Nghymru i gefnogi'r proffesiwn, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Os maddeuwch i mi, roeddwn eisiau ymateb i bwyntiau Rhys am lesiant, sy'n hynod bwysig. Mae gennym ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yng Nghymru, ac mae hynny ar gyfer ein staff hefyd. Mae gennym enghreifftiau rhagorol lle mae staff ysgolion yn cael eu cefnogi'n dda iawn. Mae Castell-nedd Port Talbot yn un ohonynt, lle mae eu gwasanaeth cwnsela ysgolion hefyd yn darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth i staff. Rydym yn ariannu cymorth addysg i helpu ein staff, ond rwy'n cydnabod bod angen inni wneud mwy. Hoffwn weld y modelau goruchwyliaeth a chymorth mewn ysgolion, ac mae wedi'i gynnwys yn ein cynllun.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, roeddwn eisiau gorffen drwy gofnodi fy niolch i'r holl staff sy'n gweithio yn ein hysgolion—arweinwyr ein hysgolion, ein hathrawon, ein cynorthwywyr addysgu a phawb sy'n gweithio mewn ysgolion. Braint fwyaf fy mywyd fu gwneud y swydd hon, ac mae eu gwaith yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc, eu hymrwymiad a'u penderfyniad rhyfeddol wedi fy ysbrydoli bob dydd. Diolch o galon.

16:10

Rwy'n teimlo'n eithaf emosiynol nawr. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. Fel y gallwn weld o'r amrywiaeth o sylwadau, mae'r heriau o ran recriwtio a chadw athrawon yn eang ac yn gymhleth. Nid oes un ateb syml a fydd yn eu datrys ar unwaith. Bydd yn galw am gamau gweithredu parhaus a phenodol dros nifer o flynyddoedd.

Yn fy sylwadau fy hun, dim ond ar nifer fach o faterion y canolbwyntiais. Gallwn fod wedi sôn am yr heriau penodol sy'n wynebu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion gwledig neu ysgolion ffydd. Gallwn fod wedi sôn am yr heriau penodol sy'n wynebu arweinwyr ysgolion. Gallwn fod wedi sôn ynglŷn â sut rydym yn sicrhau bod y gweithlu addysgu'n cynrychioli'r holl gymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Gallwn fod wedi sôn am yr effaith y mae'r materion hyn yn ei chael ar ddysgwyr neu'r gweithlu addysg ehangach, neu ar gyflawni diwygiadau addysgol allweddol. Felly, rwy'n falch fod rhai o'r materion hyn wedi cael eu crybwyll gan fy nghyd-Aelodau.

Rwyf wedi clywed ymrwymiad clir ar draws y Senedd heddiw i fynd i'r afael eto â'r mater hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yn flaenoriaeth ar gyfer y Senedd nesaf. Mae'r sector addysg ar groesffordd hollbwysig. Mae cyflawni'r uchelgeisiau a'r nodau a rennir gan bob un ohonom ar gyfer ysgolion Cymru yn dibynnu ar gael gweithlu sefydlog, wedi ei gefnogi'n dda ac sy'n cael ei werthfawrogi, gan sicrhau bod gennym y nifer cywir o athrawon yn yr ysgolion cywir gyda'r sgiliau cywir.

Soniodd Natasha am brinder athrawon yn y gwyddorau. Rydym wedi clywed hynny dro ar ôl tro, yn enwedig yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg. Roedd hynny'n bryder mawr i'r pwyllgor. Soniodd Cefin am y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae hwn yn fater roeddem yn bryderus iawn yn ei gylch: athrawon yn gweithio'n hwyr yn y nos, ar benwythnosau. Unwaith eto, roedd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn frwydr, ac mae athrawon yn gwneud hynny am eu bod yn ymroddedig ac wedi ymrwymo i'r disgyblion sydd yn eu hystafelloedd dosbarth ac y maent yn teimlo'n gyfrifol amdanynt.

Crybwyllodd Carolyn pa mor bwysig yw hi i blant gael model rôl pwysig—rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cyffwrdd â hynny—yr unigolyn hollbwysig sydd ei angen ar ein pobl ifanc i'w hysbrydoli ac y maent am fod yn debyg iddynt. Rwy'n credu bod angen inni wneud mwy o hynny yn ein hysgolion, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn ein tystiolaeth.

Soniodd Rhys am lesiant ein staff. Roedd hyn yn bryder i'r pwyllgor ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid bod o ddifrif yn ei gylch—o dimau uwch-reolwyr i'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i hyn yn uniongyrchol gyda Rhys.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Unwaith eto, diolch i'r holl Aelodau, rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi cyfrannu at waith ein pwyllgor dros y pum mlynedd diwethaf. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'n tîm clercio anhygoel, sydd wedi bod o gymorth enfawr i mi dros y flwyddyn ddiwethaf, ac am y pum mlynedd diwethaf. Rwy'n credu mai fi yw'r unig aelod gwreiddiol o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Weithiau, rwy'n credu bod yr Aelodau wedi teimlo'n eithaf rhwystredig am mai dim ond fi oedd wedi gweithio ar adroddiadau penodol, ac mae gorfod trosglwyddo'r holl wybodaeth honno wedi bod yn dipyn o her, onid yw, Cefin? Ond mae wedi bod yn fraint enfawr, ac mae gweithio gyda'r tîm clercio wedi bod yn wych. Unwaith eto, mae bod yn rhan o'r pwyllgor hwn a bod yn Gadeirydd yn fwy diweddar wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy amser yn y Senedd. Hoffwn ddiolch i bawb eto am eu hamser a'u hamynedd. Diolch.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? 

Nid ydych chi'n gwrthwynebu, ydych chi? Rydych chi'n—[Chwerthin.]

Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cymraeg i bawb?'

Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cymraeg i bawb?' Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.

Cynnig NDM9234 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cymraeg i bawb?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar y cychwyn, hoffwn i ddiolch i dîm y pwyllgor, rhai ohonyn nhw sydd gyda ni yn y galeri heddiw, am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn, ond hefyd pob ymchwiliad yn ystod y Senedd yma. Ar gyfer yr ymchwiliad yma yn arbennig, dwi'n diolch i Osian Bowyer, ond hefyd buaswn i'n hoffi diolch i'r tîm clercio, Richard a Haidee, i Lowri, i Catrin, i Manon ac i bawb sydd wedi bod yn rhan wych o'n tîm. Mae'n fraint cael siarad am y tro olaf yn ystod tymor y Senedd hwn i agor y ddadl ar 'Cymraeg i bawb?', sef ymchwiliad ein pwyllgor i sut y gallwn gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymunedau â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg.

Dechreuon ni'r gwaith hwn gyda chwestiwn syml: sut allwn ni sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i bawb mewn gwirionedd? Aethon ni ati i geisio deall teithiau iaith pobl drwy gyfrwng y Gymraeg, y pwyntiau mynediad sy'n denu pobl i mewn, a'r rhwystrau sy'n parhau i'w dal yn ôl. Dwi'n ddiolchgar iawn i bawb a roddodd yn hael o'u hamser, oherwydd dyw polisi iaith byth yn rhywbeth haniaethol—mae'n ymwneud â phobl a pherthyn. Hoffwn hefyd nodi adroddiad diweddar y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gymunedau â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg. Bydd eu canfyddiadau nhw yn helpu i lywio camau nesaf y broses weithredu, ochr yn ochr â’n hargymhellion ni ac, wrth gwrs, ymateb y Llywodraeth.

Hoffwn i groesawu'n fawr yr ymateb adeiladol gan Lywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Maen nhw wedi derbyn llawer o'n hargymhellion ni yn gyfan gwbl, wedi derbyn eraill mewn egwyddor, ac wedi nodi camau gweithredu sydd eisoes ar y gweill.

Gadewch i mi ddechrau gyda gwyliau a gwaddol. Roedd y dystiolaeth yn bendant: mae gwyliau yn chwarae rhan bwysig wrth normaleiddio'r Gymraeg a gallant fod yn sbardun i newid ymddygiad ymhell ar ôl i'r babell olaf gael ei thynnu i lawr. Ond mae'r momentwm hwnnw'n fregus heb gamau bwriadol i gynllunio’r gwaddol. Dyna pam y gwnaethon ni argymell fframwaith gwaddol strategol clir fel nad yw'r momentwm yn pylu, ond yn parhau i fwrw gwreiddiau mewn ysgolion, gweithleoedd a chymunedau. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Gwnaethon ni hefyd alw am gronfa bwrpasol i helpu'r mentrau iaith a phartneriaid lleol i sicrhau'r gwaddol hwnnw yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r Eisteddfod ymweld ag ardal benodol. A gwnaethon ni argymell hefyd y dylai'r Llywodraeth sicrhau mynediad am ddim neu gost isel i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer aelwydydd incwm isel.

Edrychodd ein hymchwiliad ar y dyfodol digidol hefyd. Cytunodd tystion fod Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu technoleg iaith Gymraeg, ond rhaid i bolisi fod yn hyblyg ac yn adweithiol. Pwysodd y pwyllgor am ddata agored cryfach a thrwyddedau agored, ac am gael gwared ar rwystrau diangen sy'n atal rhannu data mewn ffordd gyfrifol er mwyn datgloi technoleg iaith Gymraeg. Gwnaethon ni argymell y dylid symud o fodelau cyllido blynyddol i fodelau cyllido amlflwyddyn ar gyfer technoleg iaith Gymraeg er mwyn caniatáu i sefydliadau, fel Canolfan Bedwyr ac eraill, gynllunio ar draws blynyddoedd ariannol. Rwy'n falch o nodi bod y Llywodraeth wedi cadarnhau newid i gyllido dros gyfnodau o hyd at dair blynedd o fis Ebrill ymlaen.

Roedd cryfhau'r defnydd o'r iaith ar lawr gwlad yn llinyn arall yn ein gwaith. Gwnaethon ni alw am gymorth wedi'i dargedu i helpu sefydliadau cymunedol a chlybiau chwaraeon i greu cyfleoedd newydd yn y Gymraeg. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn hyn mewn egwyddor. Byddwn yn annog ffocws parhaus ar grantiau bach sy'n helpu clybiau a grwpiau cymunedol i fabwysiadu ethos dwyieithog, gan wneud y Gymraeg yn weladwy, yn glywadwy ac yn arferol, canys mae chwaraeon yn gyfaill pwerus yn hyn oll. Mae ymchwil yn dangos bod plant a phobl ifanc yn fwyaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg gyda hyfforddwyr a chyfoedion yn ystod gweithgareddau chwaraeon—normaleiddio’r iaith ym mywyd bob dydd, dyna ydy'r peth.

Mae mannau gwaith yn faes arall. Gwnaethon ni argymell canolbwyntio ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, gan gynnwys yn y sector preifat, ac alinio â'r fframwaith CEFR a gyflwynwyd o dan Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Mae ymateb y Llywodraeth yn ymrwymo i gynnwys targedau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol yn y strategaeth genedlaethol, yn ogystal â chael canllawiau cliriach i sectorau gwaith, a chydgysylltu darpariaeth Cymraeg Gwaith â’r fframwaith CEFR newydd. Dirprwy Lywydd, dyma rai o’n hargymhellion.

Mae'r ymadrodd neu'r cwestiwn 'Cymraeg i bawb?' yn her, ond mae e hefyd yn wahoddiad. Yr her yw mynd i’r afael â’r rhwystrau ystyfnig—daearyddol, ariannol, diwylliannol a digidol—rheini sy'n dal i gyfyngu ar ddefnydd o’r Gymraeg. Y gwahoddiad yw adeiladu, gyda'n gilydd, y rhwydweithiau a'r ymdeimlad o berthyn sy'n gwneud i'r iaith deimlo fel cartref. Mae ein hargymhellion yn cynnig camau ymarferol ar gyfer y gwaith hwnnw. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau.

16:25

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch diffuant i holl Aelodau'r pwyllgor diwylliant am eu gwaith drwy gydol tymor y Senedd hon, er mai dim ond am y 12 mis diwethaf y bûm arno. Mae wedi bod yn bleser bod yn aelod o'r pwyllgor ochr yn ochr â phawb. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod y pwyllgor, y mae eu harbenigedd a'u hymroddiad yn aml heb ei weld ond yn gwbl hanfodol i ansawdd y craffu yn y lle hwn. Rwy'n talu teyrnged arbennig i'r Cadeirydd, Delyth Jewell, am ei harweinyddiaeth feddylgar ac ystyriol wrth gyflwyno'r gwaith pwysig hwn.

Yn fy marn i, mae 'Cymraeg i Bawb?' yn adroddiad realistig ac uchelgeisiol. Nid yw'n osgoi maint yr her sydd o'n blaenau fel cenedl, ond nid yw'n colli golwg ar yr hyn sy'n bosib os gwneir y dewisiadau cywir. Rwy'n falch o ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr ag argymhellion y pwyllgor, yn enwedig y rhagdybiaeth ganolog, os ydym am gyflawni'r uchelgais o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, fod yn rhaid inni edrych y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Nid yw hynny'n lleihau pwysigrwydd addysg—ymhell o fod. Mae ein hysgolion a'n hathrawon yn chwarae rhan hanfodol yn cyflwyno'r iaith i bobl ifanc. Ond mae’n rhaid inni fod yn onest hefyd nad yw'r ysgol fel lleoliad ar gyfer dysgu'r iaith bob amser yn meithrin cariad gydol oes at yr iaith i bawb. I rai, mae'n agor drysau i dreftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyfoethog. I eraill, yn anffodus, gall gael effaith i'r gwrthwyneb a datgymell diddordeb pellach.

Nid rhywbeth i'w dysgu'n unig yw iaith. Rhaid ei byw, rhaid ei phrofi—yn y gweithle, yn ein cymunedau, yn ein bywyd diwylliannol, ac mewn sgyrsiau bob dydd. Rhaid i ni gydnabod o'r cychwyn cyntaf hefyd fod yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yn anodd yn ei hanfod. Mae cadw a hyrwyddo unrhyw iaith leiafrifol yn frwydr anodd i lywodraethau ledled y byd. Mae'n galw am ymdrech barhaus a meddwl hirdymor, ac mae’n rhaid ymdrechu i newid diwylliant.

Yn yr oes fodern, mae'r her honno hyd yn oed yn fwy amlwg. Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi'n gywir ddigon, mae goruchafiaeth ieithoedd byd-eang, yn enwedig ar-lein, yn creu rhwystrau sylweddol. Mae'r byd digidol yn Saesneg ei iaith i raddau helaeth iawn, ac mae hynny'n anochel yn siapio arferion a dewisiadau, yn enwedig ymhlith pobl iau. Ond gellir sicrhau'r manteision hefyd drwy bethau fel deallusrwydd artiffisial, ac mae'r adroddiad yn cydnabod hynny'n gywir ddigon.

Mae'r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar wyliau a seilwaith diwylliannol. Mae'n amlwg nad yw digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd yn ddibenion ynddynt eu hunain, ond yn hytrach yn gatalyddion i ddysgu'r iaith. Mae argymhellion 1 a 2 yn gwneud pwynt syml ond pwysig: os na fyddwn yn cynllunio'n iawn ar gyfer yr hyn sy'n digwydd ar ôl gwyliau mawr ac yn ariannu'r gwaith dilynol hwnnw, bydd y manteision yn pylu'n gyflym. Byddai cynllun etifeddiaeth clir, wedi'i gefnogi gan gyllid wedi'i dargedu ar gyfer mentrau iaith mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg, yn helpu i sicrhau bod yr effaith yn para.

Mae a wnelo argymhelliad 3 â thegwch, a sicrhau y gall pobl fynychu digwyddiadau am ddim neu am bris isel, gan sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, beth bynnag y bo'u hincwm. I lawer o bobl mewn cymunedau â dwysedd isel o siaradwyr Cymraeg, gall gwyliau a digwyddiadau diwylliannol Cymraeg fel yr Eisteddfod edrych ar yr wyneb fel amgylcheddau dosbarth canol iawn ac nid yn lleoedd cynhwysol.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell ein bod yn mesur yn iawn beth sy'n gweithio, gan fod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn rhy aml heb dystiolaeth gref. Bydd gwaith ymchwil gwell, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg, yn helpu i wella polisi yn y dyfodol. Yn fwy cyffredinol, mae'r adroddiad yn cydnabod bod angen y gefnogaeth gywir ar dechnoleg i lwyddo, buddsoddiad mewn sgiliau, hyrwyddo cynnwys Cymraeg yn well, a rheolau sy'n cyd-fynd â datblygiadau newydd, gan fod pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol o ddarlledu Cymraeg yn unig.

Ar lefel gymunedol, mae argymhelliad 7 yn canolbwyntio’n gywir ddigon ar weithgarwch ar lawr gwlad, gan gefnogi grwpiau lleol a chlybiau chwaraeon, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan lai o bobl, sy’n allweddol i wneud yr iaith yn rhan o fywyd bob dydd. At ei gilydd, mae’r argymhellion hyn yn nodi newid yn y dull o fynd ati'n weithredol i gynyddu ei defnydd bob dydd, sy’n hanfodol i gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nod a rennir gan y rhan fwyaf o’r pleidiau yn y Siambr hon.

Mae'r adroddiad hwn yn darparu cynllun clir ac ymarferol i Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn llywio'r ffordd orau o gyflawni'r nod hwnnw, a fydd, gobeithio, yn arwain at gynnydd llawer gwell na'r hyn a welwyd yn y maes hwn dros y degawd diwethaf.

Fel troednodyn i fy nghyfraniad, o ystyried mai dyma fy nghyfraniad olaf i'r chweched Senedd yn ôl pob tebyg, hoffwn ddiolch i bawb a dymuno'r gorau i bawb ar gyfer y dyfodol, beth bynnag a ddaw. Diolch.

16:30

Rwy'n ddiolchgar i chi. Ac rwy’n ddiolchgar hefyd i ti, Delyth, am dy arweinyddiaeth dros y pum mlynedd dŷn ni wedi bod ar y pwyllgor gyda'n gilydd. Dwi wedi mwynhau dy gwmni a dwi wedi mwynhau dy arweinyddiaeth hefyd, a dwi'n credu ei bod hi'n bwysig nodi hynny, a hefyd nodi gwaith staff a secretariat y pwyllgor. Dŷn ni wedi bod yn lwcus iawn gyda'r staff dŷn ni wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd diwethaf. A dwi'n credu bod pob un ohonom ni ar draws y Siambr yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

A dwi'n ddiolchgar i ti hefyd, Delyth, am dy gyflwyniad di. Roeddet ti'n dweud, fel rhan o dy gyflwyniad di, fod y targed o filiwn o siaradwyr yn her, ond hefyd yn wahoddiad. Dyna'r tro cyntaf i fi feddwl amdano fe fel gwahoddiad. Her oedd e pan oeddem ni'n trafod y polisi, a her i ni yn y Llywodraeth, a her i Gymru. Ond wnaethon ni ddim ystyried y peth fel gwahoddiad, a dwi'n falch dy fod ti wedi newid, os dŷch chi'n licio, y ffordd dŷn ni wedi ysgrifennu a gosod y targed fel gwahoddiad. Dwi'n credu bod hynny'n beth pwysig i ni. Achos yr her dŷn ni'n ei rhannu—. A dwi'n credu mai un peth sydd wedi bod yn bwysig yn ystod, bron, y deng mlynedd ers inni osod y targed o filiwn o siaradwyr yw'r ffaith fod y targed wedi uno pobl. Mae wedi uno pobl. A dwi'n ddiolchgar iawn am gyfraniadau Gareth Davies yn hyn i gyd.

Fel mae'r pwyllgor wedi newid dros y blynyddoedd, dyw'r cydbwysedd ddim wedi newid, a dyw'r cytundeb ar faterion iaith ddim wedi newid. Efallai bydd hynny'n newid ar ôl yr etholiad, ond ar hyn o bryd, mae gennym ni gonsensws ar draws y Siambr yma ar ddyfodol y Gymraeg. [Torri ar draws.] Wel, mae gennym ni gonsensws. Ac rwy'n credu ei fod e'n bwysig, oherwydd dŷn ni eisiau newid nid jest faint o bobl sy'n siarad Cymraeg, ond mae hynny'n meddwl ein bod ni'n newid Cymru. Dŷn ni'n newid y fath o wlad yr ydym ni. Dŷn ni'n newid y fath o genedl dŷn ni'n mynd i fod. Mae hyn yn mynd i fod yn hollbwysig i ni. Ac mae hynny'n meddwl bod yn rhaid inni herio nid jest y Llywodraeth, ond herio ninnau hefyd.

Roeddwn i wedi gweld bod pobl wedi cyhoeddi faint o Gymraeg mae pob un ohonom ni wedi bod yn siarad yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a llongyfarchiadau i Siân Gwenllian, wrth gwrs, sy'n tsiampion y Gymraeg yn y Siambr yma. Mae wedi siarad mwy o Gymraeg na dim un ohonom ni. Ac mae'n her i fi i ddefnyddio fy Nghymraeg yn fwy fan hyn. Ac fel dŷn ni'n herio ein hunain, dwi'n credu bod yn rhaid inni herio'r Llywodraeth hefyd a newid y ffordd y mae'r Llywodraeth yn meddwl amboutu'r Gymraeg ac yn gweithredu dros y Gymraeg. A dwi'n credu ein bod ni wedi gweld y Llywodraeth yn ymateb i'r her.

Ac fel dwi wedi diolch i ti, Delyth, dwi eisiau diolch i ti hefyd, Mark. Fel Gweinidog, rwyt ti wedi arwain y broses fwyaf cyrhaeddol o ddeddfu dwi'n gallu cofio ar ran y Gymraeg. Dwi'n credu bod y Mesur dŷch chi wedi ei gyflwyno, ac sydd nawr yn Ddeddf gwlad, yn mynd i gael mwy o impact ar ddyfodol y Gymraeg na bron unrhyw beth dwi wedi gweld yn fy mywyd i. A dwi'n credu bod hynny'n hollbwysig. Achos trwy osod fframwaith ar gyfer addysg y dyfodol, dŷn ni'n gosod fframwaith i greu siaradwyr newydd. A dwi'n credu bod hynny'n hollbwysig.

Mae'r Ddeddf yma'n bwysig hefyd achos dŷn ni hefyd yn defnyddio'r gyfraith i newid y diwylliant, a newid y diwylliant mewn ysgolion Saesneg hefyd, fel bod y Gymraeg yn cael ei chyflwyno i bobl. Ymunais â Lynne Neagle fis yn ôl yn Nhredegar. Un o'r pethau dwi wedi mwynhau'r mwyaf ers i fi fod yn Aelod yma yw mynd i Dredegar ac agor ysgol Gymraeg newydd yn Nhredegar. Daeth fy mam-gu i Dredegar i fyw ganrif yn ôl erbyn hyn, ac, wrth gwrs, doedd hi ddim yn siarad unrhyw Saesneg achos roedd hi wedi cael ei geni ym Mhenparcau yn Aberystwyth. Ac yn ysgolion Tredegar ar y pryd, roedd rhaid defnyddio'r Saesneg. A nawr mae'r olwyn wedi'i throi. Mae plant nawr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg, i ddeall y Gymraeg hefyd ac i ddysgu'r Gymraeg.

Felly, mae gennym ni flaenoriaethau newydd. Mae gennym ni flaenoriaeth i sicrhau dyfodol cymunedau ble mae'r Gymraeg yn cael ei siarad, a diolch yn fawr i Simon Brooks am y gwaith mae e wedi bod yn ei wneud yn y fan yna. Mae gennym ni'r flaenoriaeth mewn addysg, ac mae gennym ni fframwaith newydd ar gyfer addysg, ac mae hynny yn meddwl bod yn rhaid inni newid y ffordd dŷn ni'n defnyddio'r Gymraeg. Y defnydd ydy'r peth pwysig, dwi'n meddwl—y defnydd o'r Gymraeg—newid ambell waith o'r Saesneg i'r Gymraeg, defnyddio'r Gymraeg fel y mae hi, a defnyddio'r Gymraeg pob man dŷn ni'n gallu. Ac os ydyn ni'n gwneud hynny, mi fyddwn ni fel Senedd wedi newid mwy amboutu dyfodol ein cenedl na bron unrhyw beth arall dŷn ni wedi ei wneud wrth inni fod yn eistedd yma.

16:35

Un o'r pethau sydd wedi fy nharo i yn yr wythnosau diwethaf yma ydy faint o adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi o ran y Gymraeg, a hyd yn oed yr wythnos yma, fel y cyfeiriwyd ati eisoes, rydyn ni wedi gweld yr ail ran i'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael ei chyhoeddi. Rydyn ni hefyd wedi gweld yr adroddiad blynyddol, adroddiad pum mlynedd y comisiynydd. Mae yna nifer fawr o adroddiadau wedi bod, ond mae yna gysondeb yn y neges honno sydd hefyd yn cael ei chyfleu yng ngwaith y pwyllgor hwn a'r adroddiad hwn. Dwi'n meddwl mai un o'r pethau y dylem ni i gyd fod yn falch o'i weld, yn enwedig ni fel pwyllgor ar ôl ein gwaith craffu, ydy'r cysondeb hwnnw o ran y cytundeb o'r hyn sydd angen i'r Llywodraeth nesaf ei wneud i fynd â'r Gymraeg yn ei blaen.

Mi oedd Alun Davies yn cyfeirio o ran defnydd, ac mae hwnnw yn dod drosodd yn glir yn ein hadroddiad ni heddiw, ac ymhob adroddiad: sut ydym ni'n mynd i'r afael â'r her honno? Roedd Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn pwysleisio, fel y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, o ran pwysigrwydd addysg, ond hefyd o ran creu gweithleoedd Cymraeg. Felly, rydyn ni'n gwybod yr hyn sydd angen digwydd, ac mae gennym ni nifer fawr o argymhellion a datrysiadau. Mae yna 31 o argymhellion yn ail ran y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Felly, gan gymryd y rheini efo'r rhai cyntaf, mae lot fawr o bethau mae angen i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael â nhw.

Ond dwi'n meddwl mai un o'r pethau mae'n rhaid inni sicrhau ydy ein bod ni i gyd yn gytûn mai nad ar hap mae achub iaith neu sicrhau parhad iaith. Dwi'n meddwl ei fod o'n adrodd cyfrolau bod y ddau Aelod Reform ddim yn y Siambr hon, a'r hyn rydyn ni hefyd wedi ei glywed gan Reform o ran yr iaith: cael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg, cael gwared ar dargedau. Beth y mae pob un o'r adroddiadau yma'n dangos i ni ydy pwysigrwydd deddfu, pwysigrwydd targedau a phwysigrwydd buddsoddi, neu fel arall—. Os ydych chi'n ystyried, mae gennym ni gytundeb trawsbleidiol fan hyn, mae gennym ni strategaeth uchelgeisiol 'Cymraeg 2050', ond hyd yn oed efo hynny i gyd, rydyn ni'n dal yn gytûn bod mwy angen ei wneud, oherwydd ein bod ni'n gweld nad ydy'r Gymraeg mewn sefyllfa unigryw fan hyn; mae'n rhaid inni i gyd gofio bod pob iaith leiafrifol ledled y byd dan fygythiad. Ac mewn nifer o wledydd, maen nhw'n edrych at Gymru ac yn edmygu'r hyn rydyn ni'n ei wneud ac eisiau dysgu gennym ni.

Mi allem ni fod yn hunanfodlon iawn fan hyn, a gallem ni ddweud, 'Mae gennym ni'r strategaeth yma, mae gennym ni bopeth. Mae yna rai pethau gwych yn digwydd a "Dewch i'r Eisteddfod Genedlaethol am wythnos, ac mi welwch chi pa mor wych ydy diwylliant Cymraeg ac ati", neu, "Dewch i Eisteddfod yr Urdd a chwaraeon yr Urdd".' Ond mae yna un peth dwi'n gobeithio rydyn ni i gyd yn gallu cytuno arno fo: rydyn ni ddim yn fodlon setlo ar hynny. Mae yna fwy i'w wneud, a dyna'r neges dwi'n gobeithio y gallwn ni heddiw roi i'r seithfed Senedd: mae'n rhaid cael y targedau, mae'n rhaid cael deddfu ac mae'n rhaid cael buddsoddiad. Oherwydd heb hynny, fyddwn ni ddim yn gweld nid dim ond y targedau yn cael eu cyrraedd, ond bod yna gyfle i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

Rydyn ni'n aml yn dweud bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Efallai ei bod hi'n perthyn, ond yr hyn wnaeth sylwadau Nigel Farage ddangos i ni yr wythnos diwethaf ydy bod pobl Cymru yn malio am y Gymraeg, os ydyn nhw'n ei siarad hi neu beidio, ac ni fyddan nhw'n caniatáu i neb sarhau'r iaith. Efallai fod yna ormod o bobl wedi colli'r cyfle i gael y Gymraeg am amryw o resymau dros y degawdau diwethaf yma. Efallai fod yna blant yn dal yn cael eu geni heddiw lle dydy'r Gymraeg ddim yn cael ei rhoddi iddyn nhw mewn ffordd hawdd, a bod yn rhaid dal i frwydro am wasanaethau, hyd yn oed gyda chomisiynydd, hyd yn oed gyda deddfu. Ond yr hyn sy'n sicr ydy: mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb os bydd y Llywodraeth hefyd yn cefnogi hynny.

Felly, dwi yn mawr obeithio, wrth inni adlewyrchu ar waith y pwyllgor hwn, ein bod ni i gyd yn gallu cytuno bod mwy i'w wneud—mwy o lawer i'w wneud—a bod angen rŵan gweithredu. Mae'n ddiwedd ar jest slogans a bodloni ar yr hyn sydd wedi bod. Mae'n amser am fwy o weithredu. Felly, yr hyn y byddwn ni yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet wrth adlewyrchu, efallai—. Yn amlwg, rydyn ni heb gael amser i drafod nifer o adroddiadau pwysig dros ben. Beth ydych chi'n eu gweld fel y camau nesaf ac angenrheidiol? Rydyn ni'n colli tir o ran pobl ifanc, yn sicr. Mae yna berygl ar YouTube, ar TikTok—pa bynnag blatfform maen nhw eisiau i'r defnydd yna fod—ein bod ni yn colli tir, felly mae angen brys hefyd.

Mi hoffwn i gymryd y cyfle, i gloi, os caf i—ac mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd—i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei harweiniad hi. Diolch i'r clercod a'r tîm ymchwil, ond diolch hefyd i bawb sy'n gweithio'n ddiflino ledled Cymru i gadw'r Gymraeg fel iaith i bawb, ac sydd yn gwneud gwyrthiau, weithiau ar gyllidebau bach dros ben. Diolch.

16:40

Wrth ystyried i ba raddau y mae digwyddiadau diwylliannol fel eisteddfodau, gwyliau Cymraeg, o ran yr impact maen nhw'n eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn enwedig mewn iaith lle mae yna lai o siaradwyr—. Es i nôl i feddwl am enghraifft dda yn ddiweddar, sef yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Pa well ffordd, efallai, i ddechrau'r cyfraniad yma na mynd i edrych ar gywydd croeso yr Eisteddfod honno gan Aneirin Karadog? Dyma ddiwedd y cywydd croeso hwnnw:

'Meiddio a wna'n cymoedd ni / ddod â dawn yn ddadeni. / Iawn, byt! Nawr, cer obeutu / Â biwt o iaith i bob tŷ.'

Dyna beth rŷn ni'n ceisio ei wneud fan hyn, yntefe? Dyna beth yw ein gobaith ni fan hyn. Dyna beth rŷn ni'n moyn ei weld yng Nghymru, eto fel dywedodd y Aneirin Karadog:

'Ein hiaith a'i hegni'n drwch, / Ein hiaith ym mhob tŷ'.

Ond sut mae cyflawni'r fath ddadeni—dadeni mewn ardaloedd dwysedd canolig neu isel o siaradwyr? Sut mae modd cryfhau'r iaith mewn ardaloedd fel Pontypridd, man geni ein hanthem genedlaethol a'r man lle ysgrifennwyd 'O bydded i'r heniaith barhau'?

Dwi'n ddiolchgar iawn am waith arbenigol Simon Brooks. Dwi'n dymuno'n dda iddo, a dwi'n gobeithio, yn y Senedd nesaf, y bydd modd edrych yn fwy manwl ar ei adroddiadau pwysig ef. Dwi'n credu bod y lle yma yn enghraifft o arfer da. Mae wedi bod braf y tymor yma gweld cynifer o Aelodau yn cyfrannu yn Gymraeg, yn cyfrannu am y tro cyntaf yn Gymraeg, a gweld eu hyder yn cynyddu o gyfraniad i gyfraniad. Hefyd, mae'r un peth yn wir ynglŷn â staff Comisiwn y Senedd a staff ein swyddfeydd ni. Mae'r cynigion mae’r lle yma yn eu rhoi i bobl ddysgu ac i ymarfer eu Cymraeg yn arfer da dwi'n credu y byddai modd ei drosglwyddo i fannau eraill.

Fel y dywedodd Dr Ruth Kircher, mae gwneud yr iaith yn hwyliog ac yn hwyl yn bwysig. Mae Alun Davies wedi dweud hyn droeon, bod hynny wedi bod yn rhan bwysig iddo fe yn dysgu'r Gymraeg, bod yr iaith wedi bod yn beth hwyliog, cymdeithasol iddo ef. Yn fy swyddfa i, mae yna lot o hwyl yn cael ei wneud yn y gwahaniaeth rhwng iaith Gymraeg sir Conwy ac iaith Gymraeg Caerdydd. Ond yn y bôn, ar ôl ystyried neu gysidro'r her, mae ffyrdd i ni 'efo' neu 'gyda' ein gilydd i 'hala' neu 'roi' yr anrheg o hyder i bawb.

Wrth gwrs, mae Dr Robert Talbot yn iawn. Does dim modd dyfeisio hwyl—mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ddigymell, ond gallwn ni helpu. Mae digwyddiadau a gwyliau diwylliannol lle mae pobl yn cael eu trochi yn yr iaith yn hollbwysig. Ond mae hefyd angen creu mwy o ofodau dwyieithog, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o siaradwyr. Gallwn gefnogi trefnu'r digwyddiadau a gwyliau i fabwysiadu ethos dwyieithog.

Rhaid inni ddysgu o dystiolaeth gan Amgueddfa Cymru, y mentrau iaith a Chomisiynydd y Gymraeg fod mynediad am ddim neu gost isel yn ehangu lefelau cyfranogiad, yn lliniaru rhwystrau economaidd-gymdeithasol ac yn atgyfnerthu'r egwyddor bod y Gymraeg mewn gwirionedd yn fwy na jest slogan i bawb—ei bod hi mewn gwirionedd ar gael i bawb.

I'r Gymraeg ffynnu, mae'n rhaid iddi fod yn addas i'n bywyd modern. Roedd Heledd Fychan yn sôn am y dechnoleg ddiweddaraf. Mae hon yn broblem i'r iaith Gymraeg, problem rŷm ni wedi siarad o'r blaen amdani, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n anodd ffeindio apiau yn y Gymraeg, ac wrth inni ystyried yr hwyl, yr aspect hwyl, mae dim ond 9 y cant o’r apiau Cymraeg sydd yn gemau. Mae fy mhlant i yn chwarae gemau ar eu tablets yn Saesneg. Fel dywedodd yr ymgyrchydd a'r arbenigwr technoleg Carl Morris, does dim digon o hwyl mewn technoleg yn y Gymraeg. Rŷn ni’n gwybod bod plant yn chwarae ar eu Xbox, Playstation a Nintendo, ond yn Saesneg mae’r rhain, gwaetha’r modd. Ac ar ôl brwydro cymaint i sicrhau sieciau yn y Gymraeg, mae chip and pin ac apiau bancio yn dal yn uniaith Saesneg.

Cytunaf 100 y cant gyda barn y pwyllgor bod yn rhaid blaenoriaethu gweithgareddau lleol—chwaraeon, cerddoriaeth, hamdden—sy’n adlewyrchu’r hyn mae pobl ifanc eisiau ei wneud. Llwyddodd fy nhad a’i dîm i osod esiampl wych o hwn yng Nghaerdydd trwy sefydlu Clwb Ifor Bach, lle mae nifer ohonom ni wedi ymlacio, canu, dawnsio a chymdeithasu yn Gymraeg. Dwi’n credu roedd arweinydd Plaid Cymru yn bownser yng Nghlwb Ifor Bach back in the day, clwb lle mae llawer ohonom ni wedi cael hwyl, clwb lle mae llawer o bobl wedi cwrdd â’u partneriaid ac yna wedi magu plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna wnaeth yr Ifor Bach gwreiddiol yn yr ail ganrif ar ddeg, dyna wnaeth fy nhad a’i gyfeillion yn y ganrif ddiwethaf, a dyna beth mae Aneirin Karadog yn ein hannog i’w wneud nawr:

'Â chorn gwlad codwn adain, / dathlwn a gwaeddwn uwch gwain / y cledd, ynghyd â’r heddwch, / y daw’r iaith a’i hegni’n drwch.’

Ie, yn drwch dros Gymru gyfan. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch i’r pwyllgor a’r staff am yr adroddiad pwysig yma. Fel yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd ers blynyddoedd, mae’n dda iawn gweld yr iaith Gymraeg yn tyfu dros yr amser hwn yng Nghasnewydd. Dwi’n croesawu ffocws yr adroddiad ar yr iaith ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd fel Casnewydd, lle dydy’r iaith ddim yn gryf. Mae llawer o waith yn digwydd yn y ddinas trwy’r awdurdod lleol a menter iaith, er enghraifft, a bydd yn grêt i groesawu’r Urdd i Gasnewydd yn 2027. Dwi’n gobeithio y bydd y Llywodraeth Cymru nesaf yn parhau i adeiladu’r iaith Gymraeg yng Nghasnewydd a ledled Cymru. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i’r pwyllgor am ei waith ar yr adroddiad ‘Cymraeg i bawb?’ Mae’r dystiolaeth rydych chi wedi’i chasglu, a’r dadansoddiad rydych chi wedi’i gyflwyno, yn werthfawr inni at y dyfodol.

Mae adroddiad y pwyllgor, Dirprwy Lywydd, fel rŷn ni wedi clywed, yn ychwanegu at becyn o waith newydd y mis yma sy’n dangos y ffordd ymlaen: adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, ac adroddiad terfynol ail gam Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Gyda’i gilydd, mae’r tri yn pwyntio at gasgliadau cyffredin, a dyma ble dwi’n meddwl, fel roedd Heledd Fychan yn gofyn, gallwn ni weld y camau nesaf yn dod mas o’r negeseuon cyffredin yn yr adroddiadau yna.

Mae’r casgliadau cyffredin yn gynnwys bod yr her fwyaf i’r Gymraeg yw sicrhau ein bod ni’n gallu ei defnyddio o ddydd i ddydd ym mhob rhan o Gymru trwy greu'r amodau a gofodau cywir yn ein bywydau bob dydd, yn y gwaith, gydag ein teuluoedd ac yn ein hamser rhydd.

Dirprwy Lywydd, argymhelliad cyntaf adroddiad y pwyllgor yw cytuno ar fframwaith i lywio cynllunio gwaddol fel bod effaith gwyliau Cymraeg cenedlaethol a rhanbarthol allweddol yn cael eu troi'n rhywbeth mwy parhaus yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Rwy’n falch o gadarnhau'r wythnos diwethaf ein bod ni wedi cyhoeddi fframwaith strategol sy'n cryfhau a chydlynu'r gwaith o sicrhau gwaddol parhaol i'r Eisteddfod Genedlaethol, gan ddod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd, a diolch yn fawr i'r pwyllgor am arwain ar y syniad hwnnw. Mae'r fframwaith hwnnw'n adlewyrchu'r ffaith bod y gwaith yn dechrau ymhell cyn yr ŵyl ac yn parhau ymhell ar ôl y digwyddiad, gan adael gwaddol ar gyfer ein hiaith mewn meysydd fel addysg, y gymuned, yr economi ac arloesi digidol. Mae'r fframwaith yn gosod strwythurau clir ar lefel leol a chenedlaethol a sicrhau ein bod ni'n rhannu arfer da o flwyddyn i flwyddyn. Rydw i'n gweld hwn yn mynd law yn llaw â'r cynllunio strategol hirdymor sy'n cael ei ddisgrifio gan y pwyllgor.

Mae'r pwyllgor hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau ein bod ni i gyd â mynediad at y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd dwysedd canolig ac is. Rydw i wedi sôn ein bod ni, ddydd Llun yma, wedi derbyn adroddiad terfynol ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sy'n mynd i'r afael â hyn yn union, ac, fel mae'r Aelodau eraill wedi'i ddweud, dwi mor ddiolchgar i aelodau'r comisiwn, i'r Athro Elin Gruffydd Jones a Dr Simon Brooks, am eu gwaith dros gyfnod y Senedd hon i gyd.

Mae pwyslais adroddiad y comisiwn ar y Gymraeg fel iaith sy'n perthyn i ni i gyd, ym mhob rhan o Gymru, ym mhob cymuned, yn neges gref a phwysig. Mae'n neges rydw i'n ei chefnogi'n llwyr. Ynghyd â'i ffocws ar roi sylw i'r iaith mewn cynnwys digidol, mae pwyslais y comisiwn ar greu gofodau lleol lle gallwn ni ddefnyddio'r iaith yn naturiol yn adleisio llawer o argymhellion y pwyllgor—argymhellion mae'r Llywodraeth wedi gallu eu derbyn. Mae'r rhain yn cynnwys argymhelliad 3, ar fynediad i wyliau mawr, argymhelliad 7, mewn perthynas â mentrau yn y gymuned, ac argymhellion 5 a 6, sy'n ymwneud â thechnolegau newydd a'r Gymraeg. Felly, mae pwyslais y pwyllgor ar bwysigrwydd creu cyfleoedd ymarferol, perthnasol a chynhwysol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llefydd bob dydd yn amlwg yn cyd-fynd â ffocws y comisiwn ar greu gofodau sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio eu Cymraeg.

Dirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod Cymru mewn sefyllfa gref o ran gofodau digidol a thechnolegol—nid trwy ddamwain, ond oherwydd gwaith paratoi'r Llywodraeth dros nifer o flynyddoedd. Rydym ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws Cymru a thu hwnt ar dechnoleg fel ffordd o'i gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio eu Cymraeg, ar ddefnyddio technoleg i sicrhau mynediad at y Gymraeg ac yn cryfhau sut mae'r Gymraeg yn gweithio o fewn deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n gyfrifol gyda data agored, cefnogi arloesi a sicrhau bod sefydliadau a datblygwyr yn gallu cynllunio'n hirdymor.

Dirprwy Lywydd, un thema olaf i uno'r tri adroddiad rydw i wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma yw pwysigrwydd y gweithlu fel ffocws i'r iaith. Daw hyder drwy ddefnydd, ac mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithlu yn gyfle arbennig o bwysig i sicrhau ein bod ni'n cyflawni teitl adroddiad y pwyllgor, 'Cymraeg i bawb?' 

I gloi, Dirprwy Llywydd, hoffwn ailadrodd fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn a hefyd i'r comisiynydd am ei hadroddiad hi. Hoffwn i hefyd ddiolch i'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg am baratoi adroddiad manwl, o sylwedd. Rwy'n edrych ymlaen at ei ddarllen yn ofalus, ac, fel yr oedd Rhys ab Owen yn dweud, bydd cyfleon i'r Senedd nesaf edrych yn fanwl i mewn i'r mwy na 100 o bosibiliadau mae'r ddau adroddiad yn dangos i ni.

Mae'r adroddiadau hyn i gyd yn her adeiladol i Lywodraeth nesaf Cymru barhau â'r gwaith i adfywio'n hiaith ni a sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu defnyddio, rhannu ac ymfalchïo yn y Gymraeg. Yn gryno, mae hwn yn cadarnhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac, fel yr oedd Alun Davies yn dweud, felly hefyd yn gyfrifoldeb i ni i gyd am ei dyfodol. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, diolch yn fawr iawn i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. I ddechrau, diolch i Gareth am dy sylwadau. Mae Gareth wedi ein gadael, ond diolch i Gareth am ei sylwadau ac am y ffaith ei fod e wedi diolch i dîm y pwyllgor.

Mae'r adroddiad hwn, fel y nododd Gareth, yn nodi'r hyn sy'n bosib. Bydd cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr yn galw am feddwl, gweithgarwch a chreadigrwydd, ac fel y dywedodd Gareth, nid rhywbeth i'w dysgu'n unig yw iaith; mae'n rhaid ei byw.

Wel, geiriau gwir, y rheini. Mae hyn wedi bod yn faes lle mae cymaint o dir cyffredin wedi bod rhwng Aelodau. Roedd hwnna'n rhywbeth roedd Alun wedi sôn amdano hefyd, ond mae'r tir yna'n dod yn fwyfwy anwastad oddi tanom ni; mae'n rhaid inni sicrhau dyw hyn ddim yn cael ei golli. A diolch i ti, Alun; rwyf i wedi mwynhau dy gwmni di hefyd. Diolch am dy garedigrwydd a diolch am roi dy ddiolch di hefyd ar y record i'r staff, y staff pwyllgor ffantastig rŷn ni wedi gweithio gyda nhw.

Ie, her a gwahoddiad ydy'r targed. Mae consensws ar hyn o bryd, ond mae yna rwyg yn hynny. Roedd un o'n beirdd wedi sôn am 'rhwyg yn y fforest ddi-ffenestr'; mae yna rwyg y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol iawn ohono. Ac roedd Alun wedi sôn am fel mae fframweithiau ond yn ddefnyddiol os ydyn nhw'n arwain at newidiadau mewn bywyd go iawn. Defnydd o'r Gymraeg—dyna sy'n bwysig; defnyddiwch eich Cymraeg fel y mae hi, gorfoleddwch yn eich Cymraeg amherffaith berffaith, plîs. Mae'n rhaid inni gofio ein hanes, o le y daethom, a gorfoleddu yn y ffaith bod gennym ni'r cyfle yma nawr. Diolch hefyd i Alun ac i Rhys am ddiolch i Simon Brooks; dŷn ni i gyd yn anfon ein dymuniadau gorau iawn ato.

Soniodd Heledd am y cyd-destun ehangach a'r cysondeb yn yr argymhellion sy'n cael eu gwneud. Roeddwn i'n hoffi'n fawr iawn y ffaith roedd Heledd yn dweud nid ar hap mae achub iaith. Ac ie, yr eliffant sydd wedi bod yn yr ystafell, fel dywed y Sais, yw'r ffaith bod lleisiau yn ein gwleidyddiaeth sydd yn tanseilio'r targedau, sydd yn tanseilio'r angen am fuddsoddiad. Mae'r Gymraeg yn wleidyddol. Mae ein hanes wedi dangos hynny. Mae hyn wedi cael ei brofi tro ar ôl tro. Mae'n rhaid i ni fel gwleidyddion sicrhau ei dyfodol. Ac ie, Heledd, yn wir, mae angen inni weld diwedd ar sloganau'n unig a bodloni gyda fel y mae pethau. Diolch yn fawr iawn i ti am hynny.

A diolch, Rhys, am ddyfynnu'r cywydd gan Aneirin Karadog, 'Ein hiaith ym mhob tŷ'. Wel, da i gael y gynghanedd yn ein Siambr ar ddiwrnod olaf ein Senedd bresennol. Diolch, Rhys, am gael y gynghanedd ar y record. Ie, mae wedi codi calon i weld a chlywed mwyfwy o Aelodau'n cyfrannu yn y Gymraeg yn y Senedd. Mae hwnna'n dangos eto bod yn rhaid i'r iaith fod yn fyw, yn ei holl amherffeithrwydd perffaith. Rwy'n hoffi'n fawr iawn y ddelwedd honno o'r Gymraeg fel anrheg. Ie, trysor yw'r Gymraeg, ond trysor bob dydd, i'w rhyfeddu trwy ei defnydd yn hwylus. Diolch i ti, Rhys, a diolch i dy dad hefyd am bopeth roedd e wedi'i wneud.

A gwych i'ch clywed chi'n siarad Cymraeg, John. Mae lot fawr iawn i'w ddathlu mewn llefydd fel Casnewydd, a bydd yr Eisteddfod yn gyfle gwych. Wel, dyna i ni i gyd wahoddiad arall: mae'n rhaid i ni fynd i Gasnewydd i glywed mwy o'r iaith. Ond mae e wedi bod yn ffantastig i'ch clywed chi yn defnyddio'r Gymraeg mor berffaith. Diolch yn fawr iawn, John.

A diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich cyfraniad. Dwi ddim dim ond yn golygu eich cyfraniad y prynhawn yma yn y Siambr; eich cyfraniad ehangach dwi'n ei olygu hefyd. Diolch, Mark.

Ac, oes, mae yna gasgliadau cyffredin ar draws nifer o adroddiadau, yr her a'r gwahoddiad eto yw sicrhau bod gofodau a chyfleoedd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg. Mynediad ydy'r meistr, boed hynny'n ganolfannau hamdden neu'n wefannau ac apiau. Ac, oeddwn, roeddwn i'n hoffi fel oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud hyn: 'Daw hyder drwy ddefnydd'. Wel, ie yn wir, ac mae nifer o Aelodau sydd yn y Siambr heddiw yn brawf o hynny. Rhaid, fel oedd e'n dweud, i ni ymfalchïo yn ein hiaith.

Dirprwy Lywydd, hoffwn i ar y diwedd bwysleisio, unwaith eto, tri pheth sydd eu hangen. Yn gyntaf, sicrhau gwaddol â phwrpas. Mae yna gonsensws am yr angen am hynny, i wyliau fod yn sbardunau yn hytrach nac yn ddiweddglo. Yn ail, technoleg sy'n gwasanaethu pobl. Yn olaf, dylai'r Gymraeg fod yn iaith bob dydd yn y lleoedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Ar draws y tri phwynt, mae yna thema gyffredin, sef hyder, hyder sy'n deillio o groeso, o fforddiadwyedd, perthnasedd a gwybod nad prawf yw'r Gymraeg, ond eto mae hi'n wahoddiad. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Boed i ni greu Cymru a chymdeithas sy'n ddathliad o hynny. Gobaith fo'r meistr. Diolch i chi i gyd.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A gan mai dyna'r ddadl olaf o'r chweched Senedd ar adroddiadau pwyllgor, hoffwn gofnodi diolch y Senedd i'r holl staff a oedd yn ymwneud â gwaith y pwyllgorau.

Mae eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u proffesiynoldeb yn eithriadol, gan ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar yr Aelodau i ymgymryd â'u gwaith. Felly, diolch unwaith eto i'r holl staff ar holl waith y pwyllgorau. [Cymeradwyaeth.]

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llywodraeth Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan, gwelliant 3 yn enwau James Evans a Laura Anne Jones, a gwelliant 4 yn enw Russell George. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Cymru. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9235 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru, wedi'u cefnogi gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi methu â gwella bywydau pobl Cymru, ac mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun credadwy i drwsio Cymru a chael Cymru'n gweithio.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a 'co ni off, dadl ddiwethaf y chweched Senedd.

Heddiw, rydym yn trafod cwestiwn syml. Ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, wedi ei chynnal dro ar ôl tro gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, a yw pobl Cymru yn well eu byd? Oherwydd os yw'r Llywodraeth i'w barnu yn ôl canlyniadau, nid bwriadau, mae'r ateb yn glir mewn gwirionedd, mae'r Llywodraeth wedi methu. Dyna pam ein bod yn cyflwyno'r cynnig hwn, mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun credadwy i gael Cymru i weithio eto.

Gadewch inni ddechrau gyda'r hyn sy'n hollol glir. Er gwaethaf nifer o newidiadau yn yr arweinyddiaeth a bron i dri degawd mewn grym, mae Llafur wedi rhedeg allan o esgusodion. Maent wedi cael amser, maent wedi cael cyllid, ac maent yn sicr wedi cael cyfle. Yr hyn nad ydynt wedi'i gyflawni yw canlyniadau. Yn hytrach, beth a welsom? Prosiectau'n cael eu haddo, astudiaethau drud yn cael eu cynnal, a'r prosiectau'n cael eu gadael, fel ffordd liniaru'r M4. Gwasanaeth iechyd o dan bwysau di-baid, wedi'i staffio gan staff rheng flaen gweithgar, ond yn cael cam gan arweinyddiaeth wleidyddol sy'n gwneud llawer o addewidion, ond nad yw'n gallu cyflawni newid mawr ei angen. Busnesau, ffermwyr, tafarndai, swyddfeydd post sy'n brwydro i oroesi o dan gostau cynyddol, ac economi sy'n parhau i lusgo ar ôl pob gwlad a rhanbarth arall yn y Deyrnas Unedig. Ar ôl 27 mlynedd, ni ddylai Cymru fod ar ei hôl hi, dylai fod yn ffynnu.

Cymerwch yr economi. Cymru heddiw sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain. Ei hanweithgarwch economaidd yw'r uchaf ym Mhrydain, a'i chyflogau yw'r isaf—ar gyfartaledd, £4,100 yn llai na chyfartaledd y DU. Nid ystadegyn yn unig yw hwnnw, Ddirprwy Lywydd, ond realiti sy'n cael ei deimlo ym mhob cymuned: safonau byw is, llai o gyfleoedd a llai o ragolygon ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae cyflogau is yn golygu llai o arian yn cael ei wario a busnesau'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, a pham? Oherwydd bod agenda treth uchel, gwrth-dwf Llafur wedi mygu menter, cosbi uchelgais a'i gwneud hi'n anos i fusnesau greu swyddi a ffyniant. Clywyd y neges hon yn uchel ac yn glir pan gynhaliodd Paul Davies a minnau gymhorthfa ardrethi busnes ar y cyd gyda bron i 150 o fusnesau a oedd yn cael trafferth o dan bwysau ardrethi busnes cynyddol yma yng Nghymru.

Gadewch i ni droi at addysg nawr. Cymru sydd â'r sgôr Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr waethaf yn y Deyrnas Unedig. Fe ailadroddaf hynny: y gwaethaf. Er eu bod yn cael mwy o gyllid y pen na Lloegr, mae Llafur yn gwario llai fesul disgybl ac yn cyflawni canlyniadau gwaeth. Er gwaethaf gwaith caled staff addysgu, mae gormod o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Fe wnaeth technegau addysgu aflwyddiannus fel ffoneg barhau am lawer gormod o amser cyn cael eu hanghofio yn ddistaw bach ar ôl i'r gwir ddod yn hysbys. Mae lefelau presenoldeb ymhlith y disgyblion mwyaf agored i niwed yn gostwng ac nid oes gan y Llywodraeth atebion i fynd i'r afael â hyn. Mae aflonyddwch yn yr ystafell ddosbarth yn cynyddu gyda nifer fwy nag erioed o ymosodiadau ar athrawon a nifer y gwaharddiadau wedi codi i'r entrychion.

Addysg yw sylfaen cyfle, ond o dan Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r sylfaen honno'n cracio. A chyda phŵer yn llithro o'u gafael, un ymdrech olaf anobeithiol yn sir Benfro, addewid heb ei gyllido i ailadeiladu ysgol Aberdaugleddau, addewid wedi'i gonsurio o ddim ac y gall y gymuned weld drwyddo fel dim mwy nag addewid etholiadol gwag na fydd y Llywodraeth hon o gwmpas i'w gyflawni.

Ac yna'r GIG: mae'r ffigurau'n llwm. Ceir dros 700,000 o lwybrau cleifion, sy'n cyfateb i bron un o bob pedwar o bobl yng Nghymru. Mae mwy na 5,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, o'i gymharu â dim ond 200 yn Lloegr. Ac rwy'n casáu cymharu Cymru â Lloegr fel Cymro, a Chymro balch, ond mae'r ystadegau'n dangos yn amlwg fod y Llywodraeth hon wedi gwneud cam â Chymru. Roedd bron 10,000 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn adrannau brys mewn un mis ac mae targedau triniaeth canser yn cael eu methu dro ar ôl tro. Targedau'n cael eu gosod, a'u methu. Yn drasig, mae bron i 40,000 o bobl wedi marw wrth aros ers etholiad diwethaf y Senedd.

Ac eto, yn eu hanobaith, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gorymdeithio cymunedau gorllewin Cymru yn ôl i fyny bryn ysbyty newydd sbon. A dyfalwch beth? Mae hwn unwaith eto yn ymrwymiad heb ei ariannu, nid yn seiliedig ar realiti, ond ar geisio helpu Prif Weinidog i gadw ei sedd. Gall pobl sir Benfro, Ceredigion a sir Gaerfyrddin weld drwy'r ymdrechion anobeithiol hyn. Nid system dan bwysau yn unig yw hon; mae'n system nad yw'n gweithio. Mae'n system sy'n siomi cleifion ac mae'n costio mewn bywydau, a'r hyn y mae Llafur yn ei adael ar eu holau yw pob un o fyrddau iechyd Cymru yn destun rhyw lefel neu'i gilydd o ymyrraeth.

Yng nghefn gwlad Cymru, mae'r darlun yr un mor llwm, Ddirprwy Lywydd. Ffermwyr yn cael eu gwasgu gan gynlluniau wedi'u cynllunio'n wael, addewidion wedi'u torri a pholisïau niweidiol fel y dreth fferm deuluol gan eu teulu Llafur yn Llundain. Cafodd y cynllun ffermio cynaliadwy ei ruthro drwodd, gan adael ffermwyr heb fawr o amser i addasu. Yn wir, mae cyhoeddiadau'n dal i gael eu gwneud ynglŷn â sut olwg fydd ar y cynllun terfynol. Mae taliadau cymorth wedi cael eu torri. Mae rheoliadau fel parthau perygl nitradau'n cael eu gosod ar ffurf un dull i bawb sy'n anwybyddu realiti amaethyddiaeth a'r Gymru wledig.

Nid wyf wedi cyffwrdd â'r niwed a'r gofid a achosir gan TB mewn gwartheg a methiant Llywodraeth Cymru i ddileu'r clefyd dinistriol hwn sy'n achosi niwed enfawr i ffermwyr, eu da byw a'u bywoliaeth. Mae ffermwyr wedi troi at brotestio i ddangos cryfder eu teimlad, gan ddod i'r tu allan i'r Senedd hon mewn niferoedd mwy nag erioed, ond mae Llywodraeth Cymru'n gwrthod symud. Nid partneriaeth â ffermwyr yw hyn, ond polisi sy'n cael ei wneud iddynt, nid gyda nhw. Mae'n adlewyrchu'r ymagwedd ni-sy'n-gwybod-orau sydd wedi dod i nodweddu'r Llywodraeth Lafur hon.

Mae olion bysedd Plaid Cymru dros y methiannau hyn hefyd, ar ôl cefnogi cyllideb Lafur ar ôl cyllideb Lafur, gan gadw'r Llywodraeth Lafur hon mewn grym a chaniatáu iddi barhau i niweidio Cymru.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o fod wedi sefyll yma am bum mlynedd fel Ceidwadwr Cymreig, y blaid y cefais fy ethol i'w chynrychioli, ac rwy'n falch o'm cyfraniadau i amddiffyn y Gymru wledig, i sefyll dros wasanaethau iechyd lleol ac i eirioli dros ein sectorau ynni, twristiaeth a lletygarwch pwysig, a'r holl rai sy'n creu swyddi a chyfoeth ledled Cymru. Ac rwy'n falch o fynd i mewn i'r etholiad hwn fel Ceidwadwr Cymreig, plaid sydd â chynllun, a gwleidyddion profiadol, ymroddedig, plaid y mae ei hagwedd tuag at yr economi o blaid twf ac o blaid menter, plaid sydd â chynllun i dorri costau ynni a chefnogi busnesau, gydag ymrwymiad i wella'r GIG a lleihau amseroedd aros, gyda ffocws ar godi safonau mewn addysg, a phlaid a fydd bob amser yn dangos cefnogaeth gadarn i ffermwyr a chymunedau gwledig.

Mae'r etholiad hwn yn ddewis: dewis rhwng parhau ar hyd yr un ffordd sydd wedi gadael Cymru'n llusgo ar ôl, diolch i bolisïau Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol; anhrefn Reform, sy'n llawn o wleidyddion hunanlesol, dan arweiniad gwerthwr oel nadroedd sy'n ymosod ar Gymru, yn ymosod ar y Gymraeg ac yn byw ym mhoced Donald Trump; neu'r dewis i gael Cymru i weithio gyda'r Ceidwadwyr Cymreig. Ddirprwy Lywydd, un tro olaf, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heno. Diolch yn fawr.

17:10

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Jane Hutt. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi record Llywodraeth Lafur Cymru o gyflawni dros bobl Cymru, gan gynnwys:

a) y lleihad mwyaf, a mwyaf parhaus, ar gofnod yn y rhestr aros gyffredinol a'r gostyngiad cyflymaf ar gofnod mewn arosiadau dwy flynedd;

b) bron i £4 biliwn wedi’i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion a cholegau newydd ym mhob rhan o Gymru;

c) creu neu ddiogelu mwy na 50,000 o swyddi yn y sector preifat y tymor hwn;

d) cyflawni gwelliannau o ran ffyrdd, trawsnewid y fflyd rheilffyrdd, a chyfraith newydd sy'n dod â gwasanaethau bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus;

e) y cyflenwad parhaus uchaf o dai cymdeithasol mewn bron i ddau ddegawd;

f) Cymru'n parhau i fod yn ail yn y byd o ran ailgylchu, i fyny o bump y cant yn cael ei ailgylchu ar ddechrau datganoli i dros 68 y cant heddiw;

g) dros £7 biliwn wedi'i fuddsoddi i gadw arian ym mhocedi pobl; a

h) y buddsoddiad mwyaf mewn gwasanaethau cyhoeddus yn hanes datganoli, drwy'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. 

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod 27 mlynedd o Brif Weinidogion Llafur yng Nghymru, yn ogystal â Llywodraethau Ceidwadol a Llafur y DU wedi methu â gwella bywydau pobl Cymru.

2. Yn credu ymhellach na fydd pleidiau nad yw eu ffocws ar Gymru'n unig, ac nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru, fyth yn blaenoriaethu buddiannau pobl Cymru, ac mai dim ond Plaid Cymru sydd â chynllun cyflawn a chredadwy i sicrhau’r arweinyddiaeth newydd y mae Cymru ei hangen.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n—fe roddaf hyn i'r Ceidwadwyr—mae'n gynnig beiddgar. Mae nifer y bobl sy'n ystyried mai'r Ceidwadwyr yw'r ateb i'r problemau sydd gan Gymru yn fach iawn. Mae'r syniad bod plaid a dorrodd bopeth a gyffyrddodd ag ef mewn 14 mlynedd o Lywodraeth yn San Steffan bellach yn gallu trwsio Cymru drwy ryw ryfedd wyrth mor chwerthinllyd fel mai ychydig iawn o bobl sy'n gallu bod o ddifrif yn ei gylch.

Gwyddom i gyd fod arweinydd presennol y grŵp Ceidwadol wedi bod yn hyrwyddwr rhywogaeth angerddol a dygn dros y wiwer goch yn ystod y tymor seneddol hwn. Amcangyfrifir mai dim ond tua 1,500 o wiwerod coch sydd ar ôl yn y gwyllt yng Nghymru. Ond os credir yr arolwg ddoe, mae'n 1,499 yn fwy o wiwerod coch nag a welir o Aelodau Ceidwadol o'r Senedd ar ôl yr etholiad. A'r un Aelod hwnnw fydd yr Aelod presennol ar gyfer Gorllewin Clwyd. Yn y Senedd nesaf, efallai y dylai rhywun ofyn i'r gwiwerod coch hyrwyddo rhywogaeth mewn perygl y Ceidwadwyr. Ond ar nodyn cadarnhaol o leiaf, mae'r arolwg yn awgrymu y bydd y gwiwerod yn cael cadw eu hyrwyddwr yn Darren Millar.

Ni fydd pleidiau sydd wedi bwrw eu hunain i ebargofiant gwleidyddol ac sydd wedi gweld mwy o bobl yn troi cefn ar eu rhengoedd nag sydd ganddynt o bolisïau credadwy byth yn ateb i'r heriau y bydd y Llywodraeth nesaf yn anochel yn eu hwynebu.

Llywydd, mae'r heriau hynny, wrth gwrs, yn niferus iawn ac mi fydd angen Llywodraeth sydd yn glir iawn ei hamcanion ac yn ddigyfaddawd yn ei huchelgais er mwyn sicrhau cynnydd ar draws yr ystod yna o feysydd sydd o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru. Mae pobl Cymru yn caledu eu barn, dwi'n credu, am waddol 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur: gwasanaeth iechyd sy'n profi amodau annerbyniol o heriol i staff a chleifion; safonau addysg sy'n cymharu'n anffafriol â bron pob gwlad Ewropeaidd, yn sicr y gwledydd Ewropeaidd cyfatebol; economi sy'n ystyfnig o ddi-symud.

Rwy'n cytuno ag asesiad y Prif Weinidog fod pobl Cymru eisiau pennod newydd, ond mae'n amlwg nad ydynt eisiau i Lafur fod yn awdur y bennod nesaf honno. Mae etholiad y Senedd ymhen ychydig dros chwe wythnos yn ras rhwng dwy blaid bellach sy'n cynnig dau ddyfodol gwahanol iawn i Gymru. Cynnig Plaid Cymru o Gymru fwy gobeithiol, decach, fwy uchelgeisiol, neu wleidyddiaeth ymrannol ac anhrefnus Reform a ysbrydolwyd gan Trump, a fyddai'n ein bwrw'n ôl ddegawdau. Lle mae Plaid Cymru o ddifrif am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Cymru, mae Reform yn cynnig yr un rhaglenni heb eu costio, a'r un mor annifrifol â'r Torïaid. Ac am yr ymgeiswyr, neu ddiffyg ymgeiswyr, onid yw'n hynod annemocrataidd fod y blaid sy'n sefyll mewn etholiad sy'n digwydd ymhen 43 diwrnod eto i gyhoeddi rhestr o ymgeiswyr? 'Beth y maent yn ei guddio?' yw'r cwestiwn y mae pobl Cymru yn ei ofyn heddiw.

Rwy'n credu'n gryf y gall Cymru droi'r ddalen ar gyfnod newydd fis nesaf, un a ddiffinnir gan obaith, gan hyder a'r arweinyddiaeth y mae ein cenedl yn ei haeddu. Ar ôl mwy na chwarter canrif o dan yr un arweinyddiaeth, mae pobl Cymru'n barod am newid, yn barod am arweinyddiaeth sy'n gwrando, yn uno ac yn cyflawni. A beth bynnag yw eich barn ynghylch y cwestiwn cyfansoddiadol ehangach—[Torri ar draws.] Yn fyr iawn, gan fy mod yn dod i ben.

17:15

A ydych chi wedi cynnal y Llywodraeth Lafur hon dros y 27 mlynedd diwethaf ai peidio?

Mae Plaid Cymru wedi llwyddo i ddefnyddio ein dylanwad yn y Senedd hon. Nid yw'r Ceidwadwyr, dros 27 mlynedd, wedi cyflawni dim byd o gwbl. Nid oes unrhyw beth wedi'i gyflawni o ethol unrhyw Aelod Ceidwadol o'r Senedd pan edrychwch yn ôl dros y 27 mlynedd diwethaf, ac nid yw'n syndod y bydd pobl yn penderfynu peidio â dod â mwy o Aelodau Ceidwadol yn ôl i'r Senedd hon yn yr etholiad ym mis Mai.

Beth bynnag yw eich barn am y cwestiwn cyfansoddiadol ehangach, mae pobl Cymru'n barod am Lywodraeth sy'n codi llais yn erbyn system San Steffan sy'n rhy aml yn trin ein cenedl fel ôl-ystyriaeth. Mae'r cynnig Ceidwadol yn deillio o ymagwedd negyddol, wag nodweddiadol, sydd wedi diffinio agwedd y blaid honno yn y Senedd hon ers ei dyddiau cynharaf: dim dylanwad a dim gobaith. Gwrthwynebwch y cynnig heddiw a phleidleisiwch dros welliant Plaid Cymru, sy'n troi cefn ar y gorffennol ac yn rhoi cipolwg i chi ar y dyfodol.

Rwy'n gwybod mai hon yw dadl olaf y Senedd hon cyn yr etholiad, ond hoffwn glywed y cyfraniadau. Rwy'n gofyn, felly, i'r Aelodau allu siarad heb orfod gweiddi i gael eu clywed. Gofynnaf i bob Aelod feddwl yn ofalus yn ystod eu hamser yn y Siambr.

Galwaf ar James Evans i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 3—James Evans, Laura Anne Jones

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru a gefnogwyd gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn fethiant i bobl Cymru.

2. Yn cydnabod mai dim ond Reform UK sydd â chynllun credadwy i roi pobl Cymru yn gyntaf.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy'n credu bod angen inni ddechrau'r ddadl hon gydag ychydig o onestrwydd. Mae 27 mlynedd yn amser hir mewn Llywodraeth—[Torri ar draws.] Peidiwch â chynhyrfu, newydd ddechrau wyf i. Mae 27 mlynedd yn amser hir mewn Llywodraeth. Nid yw 27 mlynedd mewn grym heb newid go iawn yn arwydd o lwyddiant. Mae'n arwydd rhybudd. Rydym wedi ei weld mewn gwledydd eraill. Po hiraf y mae un blaid yn aros mewn grym, y lleiaf o gymhelliant sydd yna i drwsio'r hyn nad yw'n gweithio. Mae'n ddigon hir fel na allwch barhau i bwyntio tuag yn ôl, ac mae'n ddigon hir fel bod pobl yn ddisgwyl gwelliannau diriaethol go iawn yn eu bywydau, a hynny'n briodol ddigon.

Mae'r cynnig gan y Ceidwadwyr yn dweud bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud cam â Chymru, ac rwy'n cytuno â hynny, ond rwyf wedi cyflwyno ein gwelliant am ei bod yn bwysig ein bod ni'n glir ynglŷn â ble mae'r cyfrifoldeb. Nid Llafur ar eu pen eu hunain yn unig yw hyn. Dro ar ôl tro, mae Llafur wedi cael eu cynnal mewn grym gan Blaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar adegau— labeli gwahanol, yr un cyfeiriad, yr un canlyniadau. A phan edrychwch ar y canlyniadau hynny, nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl y tu allan i'r Siambr hon yn dweud bod pethau lle dylent fod.

Gadewch i mi droi at welliant y Llywodraeth, oherwydd mae'n nodi rhestr hir iawn o gyflawniadau. Clywn am restrau aros yn lleihau, biliynau wedi'u buddsoddi mewn ysgolion, swyddi wedi'u creu, gwelliannau seilwaith, darparu tai, ac mae hyd yn oed yn sôn am gyfraddau ailgylchu. Nid wyf yn mynd i sefyll yma a dweud nad oes dim o hyn wedi digwydd. Wrth gwrs bod gwario wedi bod. Wrth gwrs bod rhaglenni wedi bod. Ond y cwestiwn go iawn yw a yw pobl yn teimlo'r gwelliannau hynny yn eu bywydau bob dydd.

Cymerwch y GIG, oherwydd dyna beth y mae pobl yn ei godi gyda mi yn fwy na dim —

Fe wnaf dderbyn ymyriad gennych chi, Joyce, yn bendant.

Fe wnaethoch chi ddweud 'cymerwch y GIG'—onid dyna'n union beth rydych chi'n bwriadu ei wneud, tynnu'r GIG allan o'r sector cyhoeddus ac i ddwylo preifat, fel na all pobl ei fforddio mewn gwirionedd? Felly, 'cymryd y GIG' yw'r hyn y bwriadwch chi ei wneud.

Fe wnaf y pwynt eto nad yw Reform UK yn mynd i breifateiddio'r GIG. Bydd yn parhau i fod am ddim yn y man darparu, ac rydym wedi ymrwymo i hynny. [Torri ar draws.] Janet, gadewch imi wneud rhywfaint o gynnydd ac fe ddof yn ôl atoch chi, rwy'n addo.

Do, cafwyd rhai gostyngiadau mewn amseroedd aros, ond mae'r darlun cyffredinol yn dal i fod o dan bwysau go iawn. Mae gormod o bobl yn dal i aros yn llawer rhy hir. Mae gormod o bobl yn sownd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae gormod o bobl yn cael trafferth cael mynediad at apwyntiadau meddygon teulu. 

Ar addysg, oes, mae croeso i adeiladau newydd sbon, ond nid yw adeiladau newydd yn awtomatig yn golygu canlyniadau gwell. Mae rhieni eisiau gwybod bod eu plant yn cael cefnogaeth. Maent angen i'r safonau wella a'r cyfleoedd i blant pan fyddant yn gadael yr ysgol. A beth a welwn yma yng Nghymru? Dim o hynny.

Ar swyddi, mae'r Llywodraeth hon bob amser yn dyfynnu ffigurau am swyddi a gafodd eu creu a'u diogelu, ond nid yw hynny'n adlewyrchu'r realiti mewn sawl rhan o Gymru. Mae pobl yn dal i'w chael hi'n anodd ar gyflogau isel, cyfleoedd cyfyngedig, a phobl ifanc yn gadael Cymru am na allant weld dyfodol yn lleol.

Ar drafnidiaeth, clywn am drawsnewid, ond mae pobl yn dal i eistedd ar drenau hwyr—rwyf wedi clywed hynny ddigon o weithiau yn y Siambr hon gan Janet Finch-Saunders—neu'n dibynnu ar wasanaethau bws gwledig cyfyngedig, pan na fyddwn yn cydnabod unrhyw drafnidiaeth gymunedol arall. Nid yw dod â bysiau'n ôl i reolaeth gyhoeddus ond yn bwysig os yw'r gwasanaeth yn gwella i'r bobl sy'n ei ddefnyddio.

Ar dai, mae'r rhifau'n cael eu dyfynnu, ond mae gennym bobl o hyd yn methu cael troed ar yr ysgol dai, a chymunedau lle mae pobl leol yn teimlo eu bod wedi'u prisio allan o'r farchnad. Nid dyna beth y mae Llywodraeth go iawn yn ei olygu. Mae Llywodraeth go iawn yn golygu cyflawni, ac mae'r Llywodraeth hon wedi methu cyflawni ers 27 mlynedd.

Gan droi at Blaid Cymru, maent yn galw eu hunain yn ddewis arall, ond gadewch inni fod yn hollol glir dros beth y mae Plaid Cymru yn sefyll: eu nod canolog fel plaid yw rhwygo Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Maent yn eu hanfod yn blaid ymwahanol, a dylem fod yn onest am y canlyniadau i Gymru. Iawn, Janet.

17:20

A wnaethoch chi ddatgan yn gyhoeddus, ar ffilm rwy'n credu, bod Reform yn ofnadwy, y byddai Refrom yn preifateiddio'r gwasanaeth iechyd? Nawr a wnaf i ofyn i'ch mam, neu a gaf i ofyn i chi: ai eich efaill oedd hwnnw, neu ai chi wnaeth hynny?

Wel, Janet, fe fyddaf yn onest, nid wyf yn hollol siŵr a oes gennyf efaill. Bydd yn rhaid i chi ofyn i fy mam. Ond fel y dywedais wrth Tom Giffard, gall person doeth newid eu meddwl, nid yw ffŵl yn gwybod sut i wneud hynny, ac rwy'n ofni mai dyna pam y mae'r Ceidwadwyr yn mynd i fod yn amherthnasol ar ôl mis Mai.

Nod canolog Plaid Cymru yw rhwygo Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Mae dadansoddiad annibynnol wedi dangos y byddai Cymru'n colli £20 biliwn y flwyddyn mewn cyllid cyhoeddus pe baem yn gadael y Deyrnas Unedig. Ar adeg pan fo'r GIG dan bwysau, pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo straen, a phan fo teuluoedd eisoes yn teimlo'r wasgfa, mae'r syniad o gerdded allan o'r Deyrnas Unedig yn fwriadol yn hollol fyrbwyll.

Mae Plaid Cymru wedi helpu i gynnal y Llywodraeth hon y maent yn ei beirniadu erbyn hyn. Maent wedi eu cefnogi, maent wedi eu cadw mewn grym, ac maent wedi cefnogi eu holl bolisïau. Ni allwch gynnal system am flynyddoedd ac yna honni mai chi yw'r newid—[Torri ar draws.]

Nid oes gennyf amser, Llyr. Buaswn wedi ei dderbyn fel arall. 

Mae pobl Cymru eisiau newid. Mae'n amlwg ar garreg y drws eu bod eisiau newid. Nid Plaid Cymru yw'r newid. Mae angen Reform ar bobl Cymru. Ar ôl 7 Mai, os byddant yn pleidleisio dros hynny, fe gânt Reform.

Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 4—Russell George

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu ag ymyrryd ym mhenderfyniad Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i fabwysiadu argymhellion y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, a oedd yn cynnwys cau canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn barhaol.

Yn credu:

a) y dylai Llywodraeth nesaf Cymru ymyrryd i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn parhau i fod yn weithredol yn y Trallwng a Chaernarfon;

b) y dylai byrddau iechyd Cymru ac ymddiriedolaethau iechyd Lloegr weithio'n agos gyda'i gilydd er budd cleifion, waeth ble maent yn byw;

c) ei bod yn anesgusodol i fyrddau iechyd Cymru ofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr arafu'n fwriadol y broses o ddarparu triniaeth i gleifion, er bod gan y darparwyr hynny yn Lloegr ddigon o gapasiti;

d) bod y Llywodraeth bresennol wedi methu trigolion Powys drwy beidio ag ariannu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i lefel sy'n ei alluogi i brynu capasiti gofal iechyd yn Lloegr yn unol â thargedau amseroedd aros Lloegr; ac

e) y dylai llywodraeth nesaf Cymru sicrhau na ddylai unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru gael ei ganiatáu i ofyn i ddarparwyr yn Lloegr ohirio triniaeth y GIG ar gyfer cleifion o Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn fy enw i. Yn fyr, mae fy ngwelliant yn ceisio gwneud dau beth: diogelu canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon, ac atal cleifion o Gymru rhag cael eu trin fel dinasyddion eilradd yn ysbytai Lloegr. Nid yw fy ngwelliant yn gofyn i'r Llywodraeth hon wneud unrhyw beth—mae wedi cael ei chyfle ac wedi methu. Mae fy ngwelliant yn ceisio rhwymo Llywodraeth nesaf Cymru i weithredu lle nad yw'r un hon wedi gwneud hynny.

Fe siaradaf am bob rhan o fy ngwelliant, ac fe af i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â chanolfannau ambiwlans awyr Cymru yn gyntaf. Mae ambiwlans awyr Cymru yn wasanaeth o'r radd flaenaf, wedi'i ddarparu gan dimau medrus iawn. Maent yn darparu rhai o'r gwasanaethau achub bywyd gorau yn y byd. Gallant gyflwyno trallwysiadau gwaed a chyflawni llawdriniaethau brys yn lleoliad digwyddiad, cyn hedfan claf yn uniongyrchol i ofal arbenigol. Roedd pobl ar draws canolbarth a gogledd Cymru'n bryderus iawn ac yn synnu pan gyflwynwyd cynigion i gau'r ddwy ganolfan bwysig. Ac eto yn gynharach eleni, cytunodd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i fwrw ymlaen, gyda bwriad i gau'r ddwy ganolfan.

Mae'r Gymru wledig eisoes dan anfantais. Nid oes ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwael ac amseroedd teithio hirach i ofal brys. Felly nid moethusrwydd yn unig yw ymatebion brys cyflym, maent yn gwbl hanfodol. Nid yw un ganolfan ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru yn ddigon da pan ystyriwch y daearyddiaeth a'r amodau tywydd. Ond nid yw'n rhy hwyr i weithredu. Mae'r ddwy ganolfan yn parhau i fod ar agor ac yn weithredol. Nid oes caniatâd cynllunio wedi'i gytuno ar gyfer safle newydd. Ac i fod yn glir, nid mater i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn unig yw hwn; mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng yr elusen a GIG Cymru. GIG Cymru sy'n comisiynu'r gwasanaeth, ac mae'r elusen wedi dweud y bydd bob amser yn cydymffurfio â phenderfyniad y pwyllgor hwnnw.

Er bod rhai wedi ceisio dweud, 'Mae hwn yn fater i adolygiad barnwrol, sydd wedi'i gwblhau', roedd yr adolygiad barnwrol, wrth gwrs, yn edrych ar y broses o wneud penderfyniadau, nid y penderfyniad a pha mor gyfiawn neu fel arall yw'r penderfyniad. Mae'r pwyllgor a wnaeth y penderfyniad yn atebol i Lywodraeth Cymru. Gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru fod wedi ymyrryd ac fe ddylent fod wedi ymyrryd, a gall Gweinidog Llywodraeth Cymru yn y dyfodol wneud hynny o hyd. Os nad oes unrhyw beth yn newid, bydd bywydau'n cael eu rhoi mewn perygl gan y bydd dwsinau o gymunedau ar draws canolbarth a gogledd Cymru yn wynebu amseroedd ymateb hirach. Bydd bywydau'n cael eu rhoi mewn perygl, a gall Llywodraeth nesaf Cymru atal hynny rhag digwydd o hyd.

Mae ail ran fy ngwelliant yn cyfeirio at ofal trawsffiniol. Dylai cleifion gael eu trin yn seiliedig ar angen, nid cod post, ond mae cleifion Powys yn cael eu gorfodi i aros yn hirach, hyd yn oed pan fydd ysbytai Lloegr yn gallu eu trin yn gynt. Mae hynny'n anghywir, mae hynny'n anamddiffynadwy. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno bod hynny'n annerbyniol, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth i atal hyn rhag digwydd. Ymateb Llywodraeth Cymru yn fyr yw bod cyllid yn gysylltiedig ag amseroedd aros llawer arafach Cymru, sy'n golygu bod cleifion Powys yn aros yn hirach na chleifion o Loegr, hyd yn oed pan fyddant yn cael eu trin yn yr un ysbytai gan yr un clinigwyr.

Mae Llafur yn siarad am degwch, ond mae hon yn system ddwy haen. Mae'n deillio o fethiant i ariannu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn briodol. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud, ac rwy'n eu dyfynnu, eu bod wedi gwneud y penderfyniad am fod yn rhaid iddynt fyw o fewn y disgwyliadau ariannol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae pobl wedi cael llond bol ar y bwrw bai yn ôl ac ymlaen rhwng y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru. Mae pobl yn fy etholaeth yn aros blynyddoedd mewn poen, er bod pobl ychydig filltiroedd i lawr y ffordd yn cael eu gweld yn llawer iawn cyflymach ar gyfer eu triniaeth. Mae pobl eisiau i'r Llywodraeth weithredu, nid hel esgusodion. Dylai pob un o'r saith bwrdd iechyd gael eu hariannu'n deg. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ni ddylai unrhyw fwrdd iechyd byth gael ei ganiatáu i ofyn am oedi gofal cleifion yn y ffordd a nodais.

Nid wyf yn disgwyl i Aelodau Llafur gefnogi fy ngwelliant heddiw, ond gofynnaf i'r Ceidwadwyr Cymreig, Reform, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru: cefnogwch fy ngwelliant heddiw. Bydd un ohonoch yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, neu gyfuniad ohonoch, ac mae pobl fy etholaeth a Phowys eisiau gwybod beth yw eich safbwyntiau ar y mater pwysig hwn.

17:25

Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu pobl rhag niwed dinistriol 14 mlynedd o gyni Llywodraeth y DU a thoriadau i les. Pan gododd Llywodraeth Geidwadol y DU oedran tocynnau bws i 67, fe wnaeth Llywodraeth Cymru eu cadw ar 60. Presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai, clybiau brecwast, a helpodd gyda gofal plant yn ogystal â bwydo plant llwglyd, a phrydau ysgol am ddim wedyn.

Creodd Llywodraeth Cymru lwybr arfordirol Cymru gyfan, sy'n cysylltu pobl â'r awyr agored hyfryd. Creodd 4,000 o leoedd lleol ar gyfer natur, a thyfu bwyd, gyda 20,000 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan, gan drawsnewid eu bywydau'n gorfforol ac yn feddyliol. Mae wedi gofalu am yr amgylchedd gyda miloedd o safleoedd pryfed peillio, perllannau cymunedol a gerddi therapiwtig ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.

Gwelai Clement Attlee fynediad at dai gweddus a natur fel rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol, a datblygu parciau cenedlaethol, ac rwy'n cefnogi ymgyrch y Llywodraeth hon dros barc cenedlaethol newydd i Gymru. O dan y Llywodraeth hon yng Nghymru, rydym wedi dod yn ailgylchwyr sy'n arwain y byd, gan ddod â busnesau i Gymru am eu nwyddau casgledig gwerthfawr, ac agor caffis atgyweirio ac ailddefnyddio, a chyn bo hir byddwn yn cyflwyno'r cynllun dychwelyd ernes i helpu i roi'r gorau i daflu sbwriel. Pan gododd prisiau tanwydd yn sylweddol, camodd Llywodraeth Cymru i mewn gyda thalebau tanwydd drwy'r gronfa cymorth dewisol a banciau tanwydd.

Ar adeiladu cymunedau cryf, gallwch weld cyfleusterau sydd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, fel menter Willow yn y Rhyl, y siop gymunedol yn Llandyrnog, y Farchnad Fenyn yn Ninbych, clwb pêl-droed Treffynnon a'r clwb golff newydd yn y Rhyl. Mae yna ysgolion newydd sy'n creu amgylchedd dysgu gwell, a chartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, yn ogystal â'r rhai presennol sydd wedi'u hôl-osod i ostwng biliau a gwella canlyniadau iechyd.

Yn ystod cyni, camodd Llywodraeth Cymru i mewn dro ar ôl tro i ddiogelu'r gwasanaethau sylfaenol a'r swyddi sydd eu hangen i dyfu ein heconomi, i'n cadw'n ddiogel ac wedi ein haddysgu. Mae wedi bod yn gymaint o ryddhad cael Llywodraeth newydd yn y DU gwta 20 mis yn ôl, un sy'n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Felly, gall y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, unwaith eto, nid yn unig geisio atal dinistr y Torïaid, ond buddsoddi a dod â rhestrau aros i lawr, buddsoddi yn ein seilwaith priffyrdd. Roeddwn mor falch o basio'r gyllideb ddiwethaf honno, a fuddsoddodd yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Un y pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei herbyn.

Ac nid dim ond ein swyddi gwasanaeth cyhoeddus y ceisiodd y Ceidwadwyr eu diddymu, ond sectorau eraill hefyd. Un o'r galwadau cyntaf a gefais oedd i achub swyddi yn RAF y Fali. Roedd Rishi Sunak eisiau cael gwared ar gontractau Babcock oddi yno a'u dychwelyd i'w etholaeth ei hun yn swydd Efrog. Ond fe wnaethom ymladd yn ôl, gan weithio gydag Unite, a sicrhau bod contract newydd yn cael ei roi i'r Fali ar gyfer datgymalu'r jetiau Hawk ar gyfer deunydd sbâr ac atgyweiriadau. Yr ail alwad oedd sicrhau bod yr uned beirianneg yng ngholeg y Rhyl yn mynd yn ei blaen. Caiff Rhyl ei gategoreiddio fel man sy'n wynebu risg o lifogydd. Sicrhaodd Llywodraeth Cymru fod cyllid ar gyfer yr adeilad yn cael ei ddiogelu tra bod y materion cynllunio'n cael eu datrys. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £100 miliwn mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, gyda'r prosiect diweddaraf gwerth £60 miliwn yn y Rhyl wedi'i gwblhau'n ddiweddar, a'r bonws ychwanegol sydd i'w groesawu o ardal chwarae yn y blaen, am fod cynghorau a llywodraethau Llafur Cymru yn gwybod bod y cyfleusterau cymunedol hynny'n bwysig.

Fe wneuthum gyflwyno deiseb i'r Senedd o'r enw 'Bysiau i bobl nid er elw', ac roeddwn mor falch fod Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi pasio'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), gan ailreoleiddio gwasanaethau yng Nghymru fel y bydd bysiau'n seiliedig ar angen—mewn ardaloedd gwledig hefyd, nid rhai trefol proffidiol yn unig. Unwaith eto, pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei erbyn.

Rwy'n falch fod y Llywodraeth hon wedi buddsoddi £800 miliwn yn y rhwydwaith rheilffyrdd, gan ddarparu trenau a gwasanaethau newydd, sy'n cynyddu nifer y teithwyr a lefel y boddhad. Mae wedi buddsoddi yn Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn darparu gwasanaeth trafnidiaeth gwirioneddol integredig. Mae angen inni weld buddsoddiad parhaus, a fydd yn digwydd o dan Lywodraeth Lafur Cymru.

Tra bo Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyflwyno Estyn Llaw drwy Fwyta Allan o dan COVID ac wedi gwastraffu biliynau ar gyfarpar diogelu personol a thracio ac olrhain aflwyddiannus, gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol a oedd â'r arbenigedd mewn tracio ac olrhain. Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ymagwedd ystyriol.

Ac mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn malio am les anifeiliaid, gan weithio gyda sefydliadau lles anifeiliaid gyda'u harbenigedd, buddsoddi yng nghynllun Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, gwahardd trapiau glud a maglau, cyflwyno teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, gwahardd hela trywydd ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyflwyno cyfraith Lucy, gwahardd rasio milgwn, sy'n gweld cŵn fel nwyddau a gwastraff, a pheidio â difa moch daear ar raddfa fawr, gan ddewis cael profion mwy cywir yn lle hynny, a defnyddio bioddiogelwch a dilyn y dystiolaeth wyddonol. Mae moch daear wedi byw yma ers miloedd o flynyddoedd. Maent yn rhan o'n tirwedd, ein hecosystemau, gan gyfoethogi cynefinoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu o blaid ailgyflwyno afancod a'u hychwanegu at ei rhestr y rhywogaethau a warchodir. Rwy'n edrych ar hyrwyddwr y rhywogaeth yno. Rydym wedi buddsoddi yn y gronfa Rhwydweithiau Natur, mewn adfer mawndir ac mewn morwellt fel atebion ar sail natur i lifogydd a newid hinsawdd. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth hon yn arwain y ffordd gyda lles anifeiliaid, yr amgylchedd, pobl, cymunedau a'r gymdeithas.

17:30

Ymhen ychydig wythnosau yn unig, bydd pobl Cymru’n wynebu dewis mewn etholiad Senedd hynod bwysig. Mae'r dewis yn glir. Naill ai pedair blynedd arall o fethiant parhaus gan Lafur a'u ffrindiau cenedlaetholgar ym Mhlaid Cymru, neu newid taer ei angen gyda'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i wrthdroi'r dirywiad a'r niwed y mae Llafur a Phlaid Cymru wedi'i wneud i'n gwlad dros y 27 mlynedd diwethaf. Nid yw'n mynd i fod yn dasg hawdd, ond mae'n dasg yr ydym yn barod i fynd i'r afael â hi. O dan arweinyddiaeth Darren Millar, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir, uchelgeisiol a chredadwy i drwsio Cymru. Ni yw'r unig ddewis arall yn lle'r sosialwyr a'r cenedlaetholwyr.

Mae Reform UK yn gwneud eu gorau i geisio dangos eu bod yn chwa o awyr iach, ond mae'r realiti'n gwbl wahanol. Ymddengys bod eu harweinydd yng Nghymru yn dal i fod wedi drysu rhwng Coed-duon a Chaerfaddon, maent yn brin o ymgeiswyr ac yn amlwg yn ei chael hi'n anodd llunio eu polisïau eu hunain. A yw hynny'n swnio fel darpar Lywodraeth i chi? Oherwydd yn sicr, nid yw'n swnio fel un i mi.

Er bod y rhestr o fethiannau diddiwedd Llafur mor hir â fy mraich a mwy, hoffwn ganolbwyntio ar ein haddysg. Rwy'n derbyn bod fy nghyd-Aelod Sam Kurtz wedi sôn am hyn, ond nid yw'n ddim ond blas o'r hyn y mae Llafur a Phlaid Cymru wedi'i wneud i'n system addysg dros y 27 mlynedd diwethaf. Mae gennym ni yma yng Nghymru—. Mae Cymru ar waelod y rhestrau rhyngwladol o ran addysg: y canlyniadau addysgol gwaethaf, 20 y cant o blant yn gadael yr ysgol gynradd yn weithredol anllythrennog, ysgolion wedi'u tanariannu'n ddifrifol, er bod y Llywodraeth yn cael 20 y cant yn fwy y pen mewn cyllid na'r ochr arall i'r ffin, y lefelau uchaf erioed o ymosodiadau corfforol ar athrawon, y nifer o ddisgyblion sy'n cael eu gwahardd am gyfnod penodol wedi treblu, lefelau presenoldeb yn isel iawn o hyd, safonau mathemateg gwael, argyfwng recriwtio a chadw athrawon, arian yn cael ei wastraffu ar brosiectau gwirion fel creu byd rhithwir gwrth-hiliol, beth bynnag yw hynny, cyw iâr wedi'i rewi o wledydd fel Tsieina yn cael ei weini mewn ffreuturiau ar draul ein ffermwyr ein hunain, cynllun llythrennedd yn rhacs, ceisiadau i brifysgolion yn parhau i ostwng, cyfraddau cyfranogiad Safon Uwch i lawr, ffioedd dysgu'n codi i dalu am godiadau yswiriant gwladol Llafur, a methiant i ehangu gradd-brentisiaethau. Yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.

Diolch byth, mae gan fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau gynllun i drawsnewid ein system addysg, ac mae’n rhaid imi bwysleisio nad yw'r sefyllfa bresennol yn adlewyrchiad o gwbl o'n hathrawon a'n staff ysgol gweithgar. Mae'n ganlyniad i Lywodraethau Llafur olynol a gynhaliwyd gan Blaid Cymru. Mae Llafur wedi gwneud cam â'n plant a'n staff ysgolion, ac os bydd Plaid Cymru’n ffurfio Llywodraeth, bydd pethau'n parhau i fynd o ddrwg i waeth. Bydd Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru’n codi safonau mewn cymwysterau academaidd a galwedigaethol ac yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwael yn ein hysgolion. Byddwn yn anelu at gynyddu cyllid ar gyfer ysgolion, gan wneud addysg uwch ac addysg bellach yn fwy hygyrch a deniadol, yn ogystal â darparu cymelliadau i bobl ifanc aros yng Nghymru, cyfrannu at ein heconomi a chyrraedd eu potensial llawn.

Gan droi oddi wrth addysg am eiliad, hoffwn edrych ar yr hyn y mae Llafur wedi'i wneud yn fy ardal i. Mae fy etholwyr yng Nghasnewydd ac Islwyn wedi cael eu llorio gan Lywodraethau Llafur olynol a chynghorau dinas dan reolaeth Lafur. Ni all newid ddod yn ddigon buan iddynt. Yng Nghasnewydd ac Islwyn—gadewch imi roi cipolwg arall i chi—diolch i Lafur, mae gennym restrau aros GIG hir iawn, gan adael fy etholwyr yn dioddef mewn poen, mwy o arian yn cael ei wasgu allan o drigolion, biliau'r dreth gyngor yn codi gyda dirywiad mewn gwasanaethau, tipio anghyfreithlon allan o reolaeth, a Chasnewydd yn cael ei galw'n brifddinas tipio anghyfreithlon Cymru—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:35

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Roeddech chi gyda mi a nifer o gyd-Aelodau eraill ar draws y Siambr mewn cyfarfod gyda bwrdd Aneurin Bevan, lle buont yn sôn am y gostyngiad mawr mewn rhestrau aros. Onid oeddech chi'n credu y dylech godi'r pryderon hyn bryd hynny?

Rwy'n cyfeirio at broblemau ar draws y bwrdd iechyd, ond o ran ein hymweliad â'r ysbyty, rwy'n gwerthfawrogi bod bwrdd Aneurin Bevan wedi derbyn fy awgrym, a wneuthum yn 2021, i ehangu'r adran ddamweiniau ac achosion brys, rhywbeth y maent wedi'i wneud, ac mae pobl yn ddiolchgar am hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd eu llwyddiant yn parhau.

Ond gan ddychwelyd at y methiannau, gadewch inni sôn amdanynt a chanolbwyntio ar y rheini. Mae gennym dyllau enfawr yn ein strydoedd, yn creu perygl i ddefnyddwyr ffyrdd, tyllau nad ydynt yn cael eu hatgyweirio'n iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf lonydd beicio gwarthus yn cael eu gosod ar draws y ddinas. Mae gennyf gylchfan Old Green yn cael ei rhwygo allan a goleuadau traffig yn dod yn eu lle, cam sydd wedi achosi anhrefn anghredadwy. Mae canol ein dinas yn crefu am adfywio a rhywfaint o ofal. Rwyf wedi gweld methiant i adeiladu ffordd liniaru'r M4, gan arwain at dagfeydd a phroblemau traffig rheolaidd ar draws yr ardal. Rydym wedi gweld terfynau cyflymder 20 mya gwirion lle nad oes eu hangen, ac mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol allan o reolaeth yn llwyr. Nid yn unig hynny—rydym newydd sôn am yr adran ddamweiniau ac achosion brys, ond gadewch imi sôn am y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sydd wedi'u symud i ysbyty'r Faenor, rhywbeth yr wyf wedi bod yn ymgyrchu i'w wrthdroi. Yn syml: mae Llafur a Phlaid Cymru wedi methu ar ran Casnewydd ac Islwyn ac yn parhau i fethu ar ran fy etholwyr. Mae'n rhaid i hynny newid, a dim ond pan fydd gennym Lywodraeth Geidwadol yng Nghymru yma ym mis Mai y bydd hynny'n newid.

Mae gan bobl Cymru gyfle i ddweud, 'Digon yw digon' ar 7 Mai a chicio Llafur allan o rym, atal Plaid Cymru rhag bwrw ymlaen â'r cynlluniau annibyniaeth peryglus, ac atal yr anhrefn a fyddai'n datblygu pe bai Reform yn cael eu dwylo'n agos at awenau grym. Ddirprwy Lywydd, nid oes unrhyw amheuaeth na fyddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru, o dan arweinyddiaeth Darren Millar, yn gwastraffu unrhyw amser yn trwsio Cymru a chael y wlad hon i weithio eto.

Gan mai hwn fydd fy nghyfraniad olaf yn y chweched Senedd, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am eich arweiniad yma yn y Siambr—yn gytbwys ac yn deg bob tro?

Hoffwn fynd i'r afael â sylwedd gwelliant Russell George sydd ger ein bron, oherwydd yn wahanol i'r cynnig y mae'n ceisio ei ddiwygio, mae materion yma sy'n bwysig i'r bobl rwy'n eu cynrychioli.

O ran dyfodol y canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Dinas Dinlle, rwy'n rhannu pryderon dwfn cynifer o gymunedau fod y broses wedi cyrraedd y pwynt hwn. Rwy'n parhau i fod â phryderon difrifol y gallai cymunedau gwledig ac ynysig fod ar eu colled o dan gynigion i ganoli darpariaeth. Yn fy etholaeth i, nid dotiau ar fap yn unig yw cymunedau fel Llwyngwril neu Aberdaron, maent yn lleoedd lle mae daearyddiaeth, pellter a thirwedd yn rhwystrau go iawn i ofal brys amserol. Dywedir wrthym y bydd cerbyd ymateb cyflym heb ei ddiffinio hyd yma yn pontio'r bwlch hwnnw, ond fwy na dwy flynedd yn ddiweddarach, nid ydym fawr callach ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod sut olwg fydd ar y gwasanaeth hwn, pwy fydd yn ei staffio, boed yn barafeddygon, uwch-ymarferwyr neu eraill, neu ble fydd y cerbydau hynny wedi'u lleoli. Eto, dyma'r union wasanaeth sydd i fod i sicrhau nad yw cymunedau gwledig ar eu colled. I bob pwrpas, mae'n cydnabod y risg wirioneddol a achosir gan ganoli os nad yw'r mesurau lliniaru hynny ar waith. Dyna pam y mae eglurder yn hanfodol. Heb gynlluniau clir a chredadwy, gofynnir i bobl roi eu hyder mewn rhywbeth sy'n parhau i fod heb ei ddiffinio.

17:40

Diolch. Rwy'n cytuno â phopeth rydych chi wedi'i ddweud hefyd, Mabon. A fyddech chi hefyd yn cytuno, yn y broses ymgynghori, ein bod wedi cael clywed dro ar ôl tro na fyddai unrhyw ganolfan yn cau tan y byddai'r cerbydau ymateb cyflym hyn ar waith? Ac nid yw'r ymrwymiad hwnnw, yn anffodus, wedi dod gan y cyd-bwyllgor comisiynu na Llywodraeth Cymru.

Ydy, mae'n bryder gwirioneddol, ac rwy’n poeni ein bod yn dechrau gweld pethau'n symud o Ddinas Dinlle wrth inni siarad. Dywedir wrthym hefyd y bydd ambiwlans tir yn cyrraedd yn gyntaf, ond nid yw'r amseroedd ymateb cystal ag y dylent fod. Rydym eisoes yn gweld cerbydau'n aros y tu allan i ysbytai am oriau neu'n teithio pellteroedd hir ar draws gogledd Cymru, gan adael bylchau yn y ddarpariaeth.

Ar bwynt (b), ynglŷn â chydweithredu rhwng byrddau iechyd Cymru ac ymddiriedolaethau iechyd Lloegr, rwy'n cytuno'n llwyr. I etholwyr ym Mhowys ac ar hyd y ffin, nid yw gofal iechyd yn dod i ben wrth Glawdd Offa. Rhaid i wasanaethau weithio'n ddi-dor ar draws y ffin honno. Ond mae'n rhwystredig iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, na fu unrhyw ymgysylltu ystyrlon, strwythuredig ar lefel y Llywodraeth i ddatrys y materion trawsffiniol hyn. Rhaid i hynny newid ar frys.

Ar bwynt (c), os yw triniaeth cleifion o Gymru’n cael eu gohirio'n fwriadol yn Lloegr lle mae capasiti ar gael, yn amlwg ni ellir cyfiawnhau hynny. Dylid trin cleifion ar sail angen clinigol, nid ffiniau gweinyddol. Mae hynny'n galw am eglurhad a datrysiad ar frys.

Ac ar bwynt (d), mae gennyf safbwynt ychydig yn wahanol. Er bod angen adnoddau ychwanegol bob amser, ni ellir lleihau'r mater i lefelau ariannu ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn unig. Y gwir amdani yw bod ymddiriedolaethau Lloegr yn gosod eu tariffau heb fewnbwn ystyrlon gan Bowys, sy'n gadael y bwrdd iechyd heb fawr o ddylanwad ac yn dal i fod yn ddibynnol ar y darparwyr hynny. Nid partneriaeth gyfartal yw hynny. Mae'n system lle mae un ochr yn gosod y telerau ac mae’n rhaid i'r llall eu derbyn. Mae dewisiadau eraill yn bodoli, yn ddamcaniaethol, yn y gogledd neu ymhellach i'r de, ond yn ymarferol, maent yn golygu teithiau hirach, systemau gwahanol a tharfu sylweddol ar gleifion a chlinigwyr fel ei gilydd. Felly, nid oes a wnelo hyn â chyllid yn unig, mae a wnelo â thegwch, dylanwad a strwythur comisiynu trawsffiniol.

Ac yn olaf, ar bwynt (e), os gofynnir i fyrddau iechyd Cymru neu os ydynt yn teimlo rheidrwydd i ofyn am oedi triniaeth i gleifion Cymru, rhaid mynd i'r afael â hynny ar unwaith.

Ddirprwy Lywydd, mae'r rhain yn faterion difrifol, ond maent yn haeddu trafodaeth a gweithredu penodol. Maent hefyd yn haeddu cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau eu hunain, nid eu hatodi ar gynnig a fwriadwyd yn bennaf i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Bydd Plaid Cymru’n parhau i sefyll o blaid cymunedau gwledig, o blaid mynediad teg at ofal iechyd ac o blaid cleifion ar y ddwy ochr i'r ffin, ac fe wnawn hynny drwy ganolbwyntio ar atebion.

Am 27 mlynedd, mae Llafur Cymru wedi addo gwell i bobl Cymru, ac am 27 mlynedd, maent wedi cael eu siomi. Nid yw'r methiant hwnnw i'w weld yn fwy llym, yn fwy personol, yn fwy poenus yn unman nag yn y ffordd y caiff ein GIG ei redeg. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy nag ystadegau na thargedau'n unig, mae a wnelo â phobl. Mae a wnelo â'r unigolyn sy'n gorwedd ar lawr eu hystafell fyw, yn aros yn rhy hir am ambiwlans a ddylai fod wedi bod yno pan oeddent ei angen fwyaf. Mae a wnelo â chleifion sy'n cael eu trin mewn coridorau am nad oes digon o welyau. Mae a wnelo â theuluoedd yn eistedd am oriau, weithiau dyddiau, mewn adrannau damweiniau ac achosion brys sydd wedi cael eu disgrifio, nid gan wleidyddion ond gan gleifion eu hunain, fel parthau rhyfel. A'r wythnos hon, gwelsom feirniadaeth ddamniol arall, gyda bron i 1,000 o farwolaethau'n gysylltiedig ag arosiadau hir mewn adrannau brys.

Nawr, mae hynny nid yn unig yn fethiant o ran rheoli, mae'n warth cenedlaethol. A gadewch inni fod yn glir: nid pwynt pleidiol mo hwn. Mae clinigwyr yn dweud hyn. Mae cleifion yn ei ddweud. Mae'r dystiolaeth yn llethol. Mae ein GIG yng Nghymru o dan bwysau anghynaliadwy, a chyflawniad Llafur Cymru sydd wedi ein harwain yma. Felly, pan fydd y Prif Weinidog yn codi ac yn dweud, 'Fe wyddom fod amseroedd aros wedi bod yn rhy hir'—rhy hir? Ar ôl 27 mlynedd, nid yn unig fod hynny'n danddatganiad, mae'n gyfaddefiad o fethiant. A'r hyn a glywn dro ar ôl tro gan y Llywodraeth hon yw hunan-glod dan gochl cynnydd. Maent yn brolio am leihau rhestrau aros, ond o dan eu goruchwyliaeth nhw y cyrhaeddodd y rhestrau aros y lefelau uchaf erioed yn y lle cyntaf. Maent yn cyfeirio at niferoedd staffio, ond siaradwch ag unrhyw feddyg, unrhyw nyrs, unrhyw feddyg teulu, a byddant yn dweud yr un peth wrthych: maent o dan ormod o bwysau, ni chânt eu gwerthfawrogi'n ddigonol ac maent yn gweithio mewn system nad yw'n ateb y galw. Dyma realiti GIG Llafur yng Nghymru.

Ac eto, mae'n rhaid inni fod yn onest am eraill yn y Siambr hon hefyd. Ni all Plaid Cymru olchi eu dwylo o'r hanes hwn. Maent wedi cynnal Llafur dro ar ôl tro, wedi galluogi'r Llywodraeth hon, wedi cefnogi ei chyllidebau ac wedi perchnogi ei methiannau. Nid nhw yw'r dewis arall; maent yn rhan o'r broblem. Ac am Reform, wel, nid oes ganddynt unrhyw syniadau gwreiddiol. Byddant yn brin o broffesiynoldeb, profiad a hygrededd. Maent—[Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr, Mabon.

17:45

A allwch chi fy atgoffa: oni wnaethoch chi geisio dod i gytundeb â'r Llywodraeth ar y gyllideb eleni?

Fe wnaethom, yn sicr, mewn ffordd adeiladol, ond ni wnaethom—[Torri ar draws.] Ni wnaethom—[Torri ar draws.] Ni wnaethom—[Torri ar draws.] Ni wnaethom gynnal y Llywodraeth am 27 mlynedd.

Ni wnaethom ildio. Ni wnaethom ildio, fel y gwnaethoch chi.

Ond fel roeddwn i'n ei ddweud—. Fel roeddwn i'n ei ddweud—

Fel roeddwn i'n ei ddweud nid yw Reform yn ddim byd mwy nag oportiwnwyr. Maent yn dweud wrth bawb yr hyn y maent eisiau ei glywed. Hyd yn oed yn eu rhengoedd eu hunain, maent wedi cyfaddef hynny, gan alw eu syniadau'n boblyddol ac yn aneffeithiol. Nawr, mae Cymru'n haeddu gwell na hynny. Felly, mae gennym gynllun, un sy'n cydnabod maint yr argyfwng a adawyd gan Lafur ac sy'n nodi camau gweithredu. Byddwn yn datgan argyfwng iechyd cenedlaethol, nid i greu penawdau, ond i ennyn ymdeimlad o frys a ffocws ar draws y Llywodraeth. Byddwn yn cymryd camau ar unwaith—[Torri ar draws.] Rhianon, wrth gwrs.

Diolch yn fawr. Ar eich sylwadau diwethaf, a ydych chi'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y 15 mlynedd o doriadau llythrennol i gyllideb Cymru?

Na. Rydych chi wedi cael 27 mlynedd o gyllideb heb ei neilltuo. Gallech fod wedi gwario'r arian fel y mynnoch. Fe wnaethoch eich dewisiadau. Fe ddewisoch chi beidio â'i wario bob amser ar iechyd. Fe wnaethoch ei wario mewn llu o feysydd eraill—eich problem chi, chi a'i hachosodd.

Felly, byddwn yn cymryd camau ar unwaith i leihau'r amseroedd aros hynny a mynd i'r afael â'r ôl-groniad sydd wedi cael ei ganiatáu i dyfu y tu hwnt i reolaeth. Byddwn yn gwarantu apwyntiadau meddyg teulu o fewn saith diwrnod fel y gall pobl gael mynediad at ofal pan fydd ei angen arnynt, nid wythnosau'n ddiweddarach. Byddwn yn buddsoddi yn ein gweithlu, oherwydd heb feddygon, nyrsys ac arbenigwyr sy'n teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, nid oes GIG. A byddwn yn ehangu, gan ailagor wardiau sydd wedi cau, darparu unedau mân anafiadau newydd a sefydlu canolfannau llawfeddygol fel bod pobl yn cael eu trin yn gyflymach ac yn fwy effeithiol, a hynny oll wedi'i gefnogi gan gynnydd mewn cyllid termau real a ffocws di-baid ar sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen, lle mae ei angen.

Oherwydd nid yw hyn yn haniaethol. I lawer o bobl ledled Cymru, dyma'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth yn llythrennol. Ar ôl 27 mlynedd, ni all Cymru fforddio rhagor o esgusodion, ni all fforddio rhagor o hunanfodlonrwydd, ac yn sicr, ni all fforddio mwy o'r un peth. Mae'n bryd newid; yn bryd cael atebolrwydd ac yn bryd adeiladu GIG yng Nghymru sydd unwaith eto yno i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac sy'n deilwng o'r wlad yr ydym yn falch o'i galw'n gartref.

Felly, Ddirprwy Lywydd, gwaddol o fethiant a adewir gan y Llywodraeth hon, a hynny ar gynifer o lefelau, boed ym maes iechyd, yr economi, addysg a seilwaith, ond gall y Ceidwadwyr Cymreig ddarparu'r newid gwirioneddol sydd ei angen ar y wlad hon. Diolch.

Mae'n rhaid imi ddweud, Peter, mae'r syniad o newid i'r Ceidwadwyr Cymreig yn swnio fel tipyn o hunllef. Gwyddom sut olwg sydd ar Lywodraeth Geidwadol. Rydym wedi cael profiad o Lywodraethau Ceidwadol. Ac rwy'n gwrando ar Sam Kurtz. Rwyf bob amser yn mwynhau gwrando ar Sam Kurtz; mae'n drueni na fydd yn ennill ei etholiad. Ac rwy'n gwrando arno—[Torri ar draws.] Rwy'n gwrando arno—[Torri ar draws.] Rwy'n gwrando arno'n dweud eu bod yn blaid sydd o blaid twf, ond gwyddom mai'r realiti yw mai nhw yw plaid diffyg twf, oherwydd rydym wedi gweld hynny—dim twf o gwbl dros ddegawd yn y Deyrnas Unedig. Rydym wedi gweld enillion pobl yn dirywio mewn termau real o dan Lywodraeth Geidwadol. Rydym wedi gweld—. Rydym wedi gweld—. Rydym wedi gweld y Ceidwadwyr yn colli £30 biliwn—£30 biliwn—mewn awr. Mewn awr. A beth a wnaethoch chi? Fe wnaethoch chi gymeradwyo Liz Truss. Pob un ohonoch. Fe wnaethoch chi gymeradwyo Liz Truss—[Torri ar draws.] Nid wyf wedi dechrau arnynt hwy eto; rwy'n dal arnoch chi, gyfaill. Ac roedd yr hyn a wnaethoch, yr hyn a wnaethoch chi yno, yn un o'r enghreifftiau mwyaf o anallu economaidd a chyllidol a welais yn yr 20 mlynedd diwethaf, ac yna rydych chi'n dod yma i bregethu wrthym—i bregethu wrthym ni—am ddarparu newid. Gadewch imi ddweud wrthych: yr hyn a wnaethom ar yr ochr hon i'r Siambr dros ddau ddegawd yw diogelu Cymru, ymladd dros Gymru, sefyll o blaid Cymru a buddsoddi yn y bobl, y cymunedau a'r lleoedd yng Nghymru. Ac rwyf wedi gweld y buddsoddiad hwnnw yn fy etholaeth i.

Roeddwn yn falch o dreulio peth amser, fel rwyf eisoes wedi sôn y prynhawn yma, gyda Lynne Neagle y mis diwethaf, yn agor ysgol newydd, ysgol gynradd newydd Glyncoed yng Nglynebwy, ysgol sy'n darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i rai o'r plant tlotaf yn y wlad hon, ac yna, awr yn ddiweddarach, yn agor ysgol Gymraeg newydd Tredegar, gan fuddsoddi nid yn unig yn nyfodol ein plant, ond dyfodol ein diwylliant a'n hiaith hefyd. Yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o hynny. Nid oes angen Llywodraeth arnom sy'n cael ei harwain gan rywun sy'n credu ein bod yn estroniaid. Nid oes angen hynny arnom. A beth bynnag fydd ei angen ar y wlad hon yn y dyfodol, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw mwy o fuddsoddi yn ein pobl a mwy o fuddsoddi yn ein lleoedd.

Rwyf wedi gweld y buddsoddiad ym Mlaenau'r Cymoedd. Rwyf wedi gweld y buddsoddiad yn adeiladu coridor economaidd newydd ar draws Blaenau'r Cymoedd, un o rannau tlotaf y wlad hon, a dim ond Llywodraeth Lafur a fuddsoddodd ynddo. Rwy’n cofio—. A gwn fod gan Rhun gof dethol ar rai o'r pethau hyn, ond roedd fy nhymor cyntaf yma gyda Llywodraeth glymblaid, wrth gwrs, gyda Llywodraeth Cymru'n Un. Roedd yn Llywodraeth dda, a bod yn deg, ond yr hyn a ddigwyddodd oedd bod ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi cael ei hoedi, rhoddwyd stop arni, am fod blaenoriaethau eraill gan Blaid Cymru. Nid oeddent yn buddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd, nid oeddent yn buddsoddi yn y bobl y cefais fy anfon yma i'w cynrychioli. Nid ydynt yn buddsoddi yn ein pobl, a dyna a welsom bryd hynny.

Yr hyn a welsom hefyd yw buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd, cyfleoedd newydd, ac rydym wedi gweld buddsoddiad mewn sgiliau a chyfleoedd newydd i bobl ifanc. Roedd yn wych gweld canolfan HiVE yn agor yng Nglynebwy y llynedd, gan ddarparu sgiliau peirianneg o'r radd flaenaf i bobl, cyfleoedd newydd i bobl. Mae hwnnw'n fuddsoddiad arall yn ein pobl, ein cymunedau, ein gwlad.

Ond mae'n rhaid inni symud ymlaen, ac ni allwn edrych yn ôl bob amser. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud, ac y gobeithiaf y byddwn yn ei wneud—. Ac rwy'n siarad yn uniongyrchol â chi, Brif Weinidog, nawr. Pan fyddwch yn dychwelyd yma fel Prif Weinidog ar 8 Mai, gadewch imi ddweud hyn—gan ddyfynnu Tony Blair, rhywbeth nad wyf yn ei wneud yn aml, mae'n rhaid imi ddweud—rydym ar ein gorau pan fyddwn ar ein mwyaf beiddgar, a chredaf fod y bennod newydd rydych chi wedi sôn amdani yn galw am weithredu beiddgar. Mae'n galw am syniadau newydd. Nid yw'n galw am gysur ailadrodd areithiau'r gorffennol. Mae'n galw am her newydd, i edrych ar draws tir mawr Ewrop a chyfandir Ewrop am syniadau ynglŷn â sut y gallwn barhau i fuddsoddi yn ein gwlad. Rwyf am ein gweld yn mewnforio syniadau o wledydd fel Gwlad yr Iâ ac Estonia. Rwyf am inni edrych y tu hwnt i'r dyfroedd. Rwyf am inni edrych y tu hwnt i'n ffiniau. Rwyf am inni chwilio am syniadau newydd fel y gallwn ddod â'r gorau o'r byd i'r wlad hon. A'r hyn rwyf am inni allu ei wneud yw adeiladu cymdeithas yn y lle hwn sy'n wahanol i'r hyn a welsom yn y gorffennol.

A gadewch imi ddweud hyn hefyd: dros yr ychydig wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac efallai'r blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld llanw—rydym wedi gweld llanw—o hiliaeth yn ein gwlad, wedi'i sbarduno gan Reform. Llanw o hiliaeth wedi'i sbarduno gan Reform: hiliaeth, rhagfarn, culni ac ymraniad. Nid oes angen y math hwnnw o ddyfodol ar Gymru, ac ni chredaf fod Cymru eisiau'r math hwnnw o ddyfodol. Rwy'n cydnabod y rhaniadau ar draws y Siambr hon, ac mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn arfer y gwahaniaethau hyn—

17:50

—ond yn y pen draw, mae'n rhaid i bob un ohonom sefyll o blaid cwrteisi cyffredin yn ein trafodaethau gwleidyddol a chyhoeddus, ac mae’n rhaid inni sefyll hefyd yn erbyn y math o ymraniad y mae gormod o bobl eisiau ei fewnforio i'r wlad hon.

Wel, dyma ni, cyfarfod olaf un y chweched Senedd—diwedd cyfnod. Ac wrth gwrs, mae hyn yn naturiol yn ein hannog i hel atgofion. Mae llawer wedi newid ers imi gael fy ethol gyntaf yn 2011, ac mae un peth yn sicr: mae rhagor o newid i ddod ymhen chwe wythnos yn bendant. Ond wrth imi edrych yn ôl, rwy'n sylweddoli bod Llafur wedi rhoi rhywfaint o gysondeb i Gymru, a bod yn deg, mewn un maes, sef methiant. Mae methiannau Llafur Cymru yn y 27 mlynedd diwethaf yn llawer rhy niferus i'w crybwyll, ac mewn sawl ffordd, nid oes angen i mi eu rhestru, gan fod pobl Cymru’n byw gyda chanlyniadau bywyd o dan Lywodraeth Lafur bob dydd. Maent yn teimlo poen bod yn gaeth ar restr aros GIG Cymru am driniaeth achub bywyd. Maent yn byw gyda'r pryder y bydd eu plant yn gadael yr ysgol yn weithredol anllythrennog. Ac maent yn teimlo rhwystredigaeth oherwydd y posibilrwydd o orfod gadael y wlad y maent yn ei charu, Cymru, i gael cyflogaeth well. A pham? Pam ein bod yn y llanast hwn? Oherwydd un penderfyniad gwael ar ôl y llall, ynghyd ag ymarferion arbed wyneb a gwrthod cyfaddef pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad. Dro ar ôl tro, mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi gadael i drethdalwyr Cymru dalu'r bil, talu am ei chamgymeriadau, yn hytrach na gwrando ac ailfeddwl: £7.35 miliwn o arian trethdalwyr wedi'i wastraffu ar drychineb Cylchffordd Cymru; £172 miliwn mewn benthyciadau a grantiau Llywodraeth Cymru ar faes awyr aflwyddiannus Caerdydd; y penderfyniad brysiog a gwael i wario £4.2 miliwn ar brynu Fferm Gilestone, safle na ellir ei ddefnyddio gan fod gweilch y pysgod yn nythu yno. Ac rwy'n hoff o weilch y pysgod, ond—. Heb sôn am y £114 miliwn ar ffordd liniaru'r M4, sydd ei hangen mor daer ond y rhoddwyd y gorau iddi.

Nawr, nid wyf am adael i Blaid Cymru ddianc yn ddigerydd, oherwydd am y rhan fwyaf o'r amser hwn, rydych chi wedi bod yn dal eu dwylo. Dylai ffigurau fel y rhain, fodd bynnag, miliynau o bunnoedd wedi'u gwastraffu, a'r difaterwch ynghylch arian trethdalwyr a enillwyd drwy waith caled synnu pob un ohonom. Ond rydym wedi dod mor gyfarwydd ag ef fel nad yw'n ein synnu mwyach. Brif Weinidog, fe ddywedoch chi y diwrnod o'r blaen eich bod wedi agor yr ysbyty hwn fan hyn, eich bod wedi buddsoddi hyn a'r llall fan draw; rydych chi'n siarad fel pe baech yn gwario eich arian eich hun. Ac fel y dywedodd y diweddar annwyl Margaret Thatcher, nid oes y fath beth ag arian y Llywodraeth; arian trethdalwyr ydyw.

O ddyddiau COVID ymlaen, mae Llafur Cymru wedi bod yn benderfynol o wneud pethau'n wahanol er mwyn gwneud pethau'n wahanol, ac mae hynny wedi costio i'n pobl, gyda phandemig COVID yn un o'r enghreifftiau mwyaf digalon o hyn. A gallwch chwerthin a gallwch wawdio’r hyn a wnaeth neu na wnaeth Rishi Sunak, ond fe gadwodd ein gwlad, y Deyrnas Unedig, i fynd yn ystod argyfwng byd-eang. Fe geisioch chi neilltuo eich hunain oddi wrth Lywodraeth Geidwadol y DU heb unrhyw reswm rhesymegol, ac mae'r camau hynny wedi costio mewn bywydau i bobl yn ein cartrefi nyrsio a phobl yn ein hysbytai. Rydych chi wedi gwrthod ymchwiliad COVID annibynnol llawn i Gymru, gan wadu atebion i deuluoedd y rheini sydd wedi colli eu bywydau, ac rydych chi wedi gwastraffu cyfle i ddysgu unrhyw wersi gwerthfawr. Ymhell o ddysgu gwersi, mae GIG Cymru bellach mewn cyflwr gwaeth nag erioed. Rydym yn dal yn gwegian yn sgil adroddiad y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng yr wythnos hon a'r datguddiad syfrdanol fod 18 o farwolaethau yr wythnos yng Nghymru yn gysylltiedig ag arosiadau 12 awr mewn ysbytai. A dywedodd un o fy nghyd-Aelodau yma fod 40,000 o bobl wedi marw ledled Cymru—nid yw hynny'n destun chwerthin.

Ac fe ddywedaf rywbeth wrthych chi nawr, ac ni fyddaf yn siarad am hyn nawr tan ar ôl yr etholiad, gobeithio, ond mae'n deg dweud bod rhai ohonoch chi'n gwbl anghywir. Rydych chi'n amharchu ein hetholwyr, rydych chi'n amharchu ein trigolion, am eich bod chi'n dweud pethau na fyddech chi'n cael rhwydd hynt i'w dweud pe na bai gennych fraint seneddol. Nid wyf yn llawenhau wrth ddweud y bydd gwaddol Llafur Cymru’n un o ddinistr a methiant. Nid oes enillwyr pan fydd Llywodraeth yn methu, yn enwedig pan fyddant yn methu mor drychinebus am gymaint o amser.

17:55

Iawn, fe wnaf, a diolch.

Rwy'n gobeithio ac yn gweddïo y bydd y bobl yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig. Nid ydym wedi cael ein dwylo ar y llyw eto. Gwn y gallwn wneud hynny. Byddwn yn rhoi Cymru ar y trywydd at adferiad. Byddwn yn glanhau'r llwybr o ddinistr y mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi'i adael ar ôl. Diolch.

18:00

Nid wyf wedi bod yma ers 27 mlynedd, ond rwy'n gwybod bod yr hyn y llwyddasom i'w wneud yn y 15 mlynedd diwethaf yn llawer iawn gwell na'r hyn sydd wedi'i gyflawni gan Lywodraethau ar ben arall yr M4 hyd yn hyn. Mae Llywodraeth Lafur y DU bellach yn addasu ein cynlluniau brecwast am ddim ni, y buom yn eu gweini i'n plant ers 2004. Mae hynny'n ganmoliaeth i'r hyn a wnawn.

Rwy'n ofni nad yw gwelliant Plaid Cymru'n cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hyd yn oed, bron iawn. Yn sicr, rhaid inni allu dysgu gan wledydd eraill. Ni allwn gael syniadau sydd ond yn dod allan o rywbeth sydd wedi'i leoli yng Nghymru, felly roeddwn i'n ei ystyried yn eithaf digalon.

Rwy'n sicr yn teimlo mai un o'r cyflawniadau mwyaf balch yn y bedwaredd Senedd y teimlwn fy mod wedi helpu i'w wneud oedd helpu i ffurfio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a luniwyd gan Carl Sargeant. Rwy'n anhygoel o siomedig o ddarllen bod y Torïaid bellach yn bwriadu diddymu comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn hytrach na dathlu'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei chymeradwyo ledled y byd, gan gynnwys yn y Cenhedloedd Unedig. Syfrdanol. Syfrdanol. Yn ogystal â Dau Dŷ'r Senedd yn San Steffan, sydd i gyd bellach yn siarad am y pwyllgor cenedlaethau'r dyfodol y maent eisiau ei ffurfio.

A allwch chi enwi tri chyflawniad sydd wedi deillio o rôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r comisiwn ei hun?

Yn bendant. Y ffocws ar fwyd, y ffocws ar lesiant, y ffaith bod ffyniant yn ymwneud â mwy nag arian yn unig, y ffocws ar gymunedau. Rwy'n credu bod yna gyfoeth o bethau. Ond fe wnaf barhau, fel arall byddaf yn brin o amser.

Un o gyflawniadau pwysicaf Llywodraeth Cymru yn y bumed Senedd oedd atal yr hawl i brynu yn 2019, sydd wedi bod yn garreg sylfaen i'r buddsoddiad mewn 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w gosod ar rent yn y Senedd hon. Mae'n rhywbeth rwy'n ei ystyried yn rhyfeddol, nad yw Llywodraeth bresennol y DU, dros 20 mis mewn grym ar ôl cael ei hethol, yn dal heb lwyddo i'w wneud, ac nid wyf yn gwybod yn iawn sut y credant y gallant berswadio awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, fel y gwnaethom ni yng Nghymru, os ydynt yn mynd i gael eu bachu gan hapfasnachwyr eiddo ar unwaith.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn wych ein bod wedi blaenoriaethu tai ffrâm bren sero net, sy'n galluogi pobl i fyw mewn cartrefi wedi'u hinswleiddio'n dda gyda'r nesaf peth i ddim biliau gwresogi. Mae hynny'n hollol wych. Yn amlwg mae gennym lawer mwy o waith i'w wneud ar hynny.

Rwy'n credu bod y cwricwlwm i Gymru'n hollol wych. Mae ymhell o flaen unrhyw beth y maent yn ei ddysgu yn Lloegr, lle maent yn gorfod addysgu'r hyn sy'n cael ei gyfarwyddo gan Whitehall, ond yma gallant siapio'r cwricwlwm i anghenion y disgyblion o'u blaenau. Ac rwyf wedi gweld hynny ar waith mewn sawl ysgol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae'n eithaf rhyfeddol mewn gwirionedd.

Yn y chweched Senedd, rwyf am dalu teyrnged i Huw Irranca-Davies a Jane Hutt am y gwaith a wnaethant ar wella diogeledd bwyd Cymru. Rwy'n credu bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn sylfaen gadarn ar gyfer yr amaethyddiaeth sydd ei hangen arnom i ddiwallu anghenion ein dinasyddion yn ogystal ag i fasnachu â chenhedloedd eraill. Mae parhau i ddibynnu ar fewnforio llysiau a ffrwythau'n llawn o risg, ac mae hynny'n cael ei amlygu bob dydd, gan nad ydym yn gwybod beth a ddaw yn sgil y rhyfel yn y dwyrain canol.  Rwy'n credu y bydd y ffordd y mae prosiectau bwyd cymunedol yn blodeuo, prosiectau sydd wedi'u lleoli mewn eglwysi, canolfannau cymunedol ac mewn ysgolion, fel y gwelodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ein hymchwiliad diwethaf, yn helpu i ddarparu'r gwydnwch y gallai fod ei angen ar gymunedau os nad yw'r rhyfel yn y dwyrain canol yn cael ei ddatrys. Felly, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru am ei gwaith.

18:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi eisiau dechrau nid gydag ystadegau, nid gyda'n record, na hyd yn oed gyda'r Llywodraeth hon, ond gyda phobl Cymru, achos dyna lle ddylen ni ddechrau bob amser, a dyna lle mae'n gymwys inni orffen.

Rwyf am ddechrau heddiw nid gydag ystadegau, ond gyda phobl: y teuluoedd yn y Cymoedd a oedd angen cartref; y cleifion mewn poen a oedd wedi aros yn rhy hir; yr unigolyn ifanc yn Wrecsam a oedd angen rhywun i agor drws; y gofalwr di-dâl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd wedi ymlâdd, wedi rhoi popeth a dim ond angen rhywun i roi rhywbeth yn ôl; y plentyn a eisteddodd i gael pryd o fwyd cynnes yn yr ysgol am ein bod ni wedi gwneud yn siŵr y gallai wneud hynny. Nid ystadegau yw'r rheini, ond pobl. Ac fe gafodd popeth a wnaethom, pob dadl, pob cyllideb, pob penderfyniad anodd, ei wneud gyda nhw, nid yn unig yn ein meddyliau, ond yn ein calonnau. A phan ddeuthum i'n Brif Weinidog, fe wneuthum addewid. Ni fyddai'r Llywodraeth hon yn cael ei barnu yn ôl yr hyn a ddywedodd; byddai'n cael ei barnu yn ôl yr hyn a wnaeth. Ac fe wnaethon ni adeiladu Llywodraeth a ffocysodd ar un peth, ar gyflawni.

Golygai hynny gyflymder, brys, diwylliant o atebolrwydd a oedd yn rhedeg o'r Cabinet i'r rheng flaen. Ond wrth gwrs y tu ôl i bob penderfyniad a wnawn, mae yna werthoedd sy'n ein gyrru. Deuthum i mewn i wleidyddiaeth am un rheswm, y gred na ddylai amgylchiadau eich geni byth bennu llwybr eich bywyd. Roedd honno'n wers a ddysgais wrth dyfu i fyny yn y ficerdy yn Nhrelái, ac un rwy'n ei gweld yr un mor glir heddiw yn ninas fechan Tyddewi lle rwy'n byw. 

Fe ddaethom i mewn i'r tymor hwn yn wynebu'r amgylchiadau anoddaf yr oedd unrhyw Lywodraeth Cymru erioed wedi'u hwynebu: pandemig a oedd wedi gwthio ein GIG i'w derfynau, yn ymrafael â chanlyniadau Brexit a chwyddiant cynyddol, argyfwng costau byw yn taro teuluoedd a oedd eisoes bron â'u llethu'n llwyr, a degawd o gyni Torïaidd yn sugno ein cyllidebau. A hoffwn oedi yma a diolch i Rebecca Evans, a wasanaethodd yn dawel ac yn ddiwyd fel Gweinidog yn y Llywodraeth am 12 mlynedd, y mae ei gwaith fel Ysgrifennydd cyllid yn ystod blynyddoedd anoddaf y pandemig a chyni, a'i gwaith nawr fel Ysgrifennydd yr economi wedi dangos bod y fenyw hon yn gallu troi ei llaw at unrhyw beth. Diolch am bopeth a wnaethoch dros y wlad hon, ac rydym yn dymuno'n dda i chi wrth i chi symud ymlaen o'r Siambr hon.

Nid dogfen strategaeth oedd ein hateb i'r heriau wynebwn, nid ymgynghoriad, nid datganiad o weledigaeth; ein hateb oedd cyflawni—newid real, diriaethol, mesuradwy y gall pobl ei weld a'i deimlo ac y gallant ddibynnu arno, bob dydd. A gadewch imi ddweud wrthych beth y mae hynny wedi ei olygu, nid yn iaith y Llywodraeth, ond yn iaith bywyd. Mae iechyd gwell wedi golygu'r gostyngiad mwyaf a mwyaf parhaus yn amseroedd aros y GIG erioed, gyda rhestrau aros yn gostwng am wyth mis yn olynol, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflwyno 40,000 o lawdriniaethau cataract eleni. A hoffwn dalu teyrnged i Jeremy Miles am ei waith yn y portffolio anoddaf yn y Llywodraeth, am ei lwyddiant yn lleihau rhestrau aros. Diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud yn gwasanaethu pobl Cymru dros gymaint o flynyddoedd, ac rwy'n dymuno'n dda iawn i chi wrth i chi symud ymlaen i'ch pennod newydd.

A'r tu ôl i'r niferoedd hynny mae bywydau go iawn: y fenyw sy'n gallu cerdded i'r siop heb boen, y dyn sy'n gallu gweld wynebau ei wyrion eto, y teulu sydd o'r diwedd wedi cael yr alwad y maent wedi bod yn aros amdani. O ran mwy o gartrefi, mae hynny'n golygu cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol gyda 3,643 o gartrefi wedi'u cyflenwi y llynedd, y nifer uchaf erioed. Oherwydd nid moethusrwydd yw cartrefi, nhw yw'r sylfaen y mae popeth arall yn dibynnu arno, a gallwch ei weld ledled Cymru: cartrefi'n mynd i fyny, allweddi'n cael eu trosglwyddo, teuluoedd yn setlo mewn; plentyn â rhywle i wneud eu gwaith cartref, rhiant â rhywle diogel i fagu eu teulu, dyfodol sy'n teimlo'n ddiogel o'r diwedd.

Gwell trafnidiaeth: mae ein buddsoddiad mewn rheilffyrdd wedi arwain at gyfradd foddhad o 92 y cant. Trenau newydd, gwasanaethau newydd, sy'n bwysig am fod cysylltiadau da yn golygu mwy na mynd o A i B yn unig, mae'n ymwneud â mynd i'r gwaith, i'r coleg, i gyfle. A mwy o swyddi: mae hynny wedi golygu dros 50,000 o gyfleoedd wedi'u cefnogi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn y sector preifat yn ystod tymor y Senedd hon. Nid rhif ar daenlen yn unig yw hwnnw; mae'r rhain yn bobl mewn swyddi yn cael eu codi allan o dlodi, yn ennill bywoliaeth, yn adeiladu bywyd.

A Lywydd, rwyf am siarad am rywbeth arall a fydd yn parhau ymhell ar ôl i'r tymor hwn ddod i ben. Naw mlynedd ar hugain yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli. Fe wnaethant ymddiried ynom â'n Senedd ein hunain. Ac yn y tymor seneddol hwn, rydym wedi gwneud i'r Senedd gyflawni. Rydym wedi pasio 27 darn o ddeddfwriaeth sylfaenol—27 o gyfreithiau Cymreig a wnaed yma, dros Gymru a chan Gymru. Dyna beth y mae Llafur Cymru yn ei wneud: rydym yn troi ein gwerthoedd yn weithredoedd. Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, achos a hyrwyddwyd gan Mark, gan Julie, gan Jane ac eraill, ond a gafodd ei yrru drwodd gan Dawn Bowden, sydd wedi ymrafael ag un o'r portffolios mwyaf anodd yn y Llywodraeth. A hoffwn ddiolch i'r fenyw hon o Ferthyr a fabwysiadwyd o Fryste am bopeth y mae hi wedi'i wneud yn y portffolio hwn ac mewn portffolios eraill a fu ganddi. Diolch, Dawn.

Ni all rhai sydd eisiau llywodraethu Cymru ddweud wrthych beth y mae eu prif bolisïau'n ei gostio. Ni allant ddweud wrthych chi beth fyddent yn ei wneud gyda'n GIG, ein bysiau, ein tai, dim ond y byddent yn ei wneud yn wahanol ac y byddent yn llunio cynllun. Byddai rhai yn dweud wrthych y gallwch chi dorri trethi a chryfhau gwasanaethau cyhoeddus ar yr un pryd. Mae rhai'n masnachu mewn rhaniadau, rhai ag atebion hawdd i broblemau cymhleth, gan osod cymuned yn erbyn cymuned. Nid arweinyddiaeth yw hynny. Nid Llywodraeth ddifrifol yw hynny. Nid dyma'r amser i dynnu eich troed oddi ar y sbardun, oherwydd gan weithio gyda Llywodraeth Lafur y DU, mae gennym gyfle nawr i fynd ymhellach ac yn gyflymach gyda dros £1.5 biliwn eisoes wedi'i ddatgloi i Gymru a llawer mwy o fewn cyrraedd.

Nawr, cyn i mi orffen, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am yr hyn a wnaethoch i wasanaethu pobl Cymru. Aelodau o'r meinciau cefn a fydd yn ein gadael, pobl fel Jenny Rathbone a Mark Isherwood, sydd wedi brwydro dros eu cymunedau ac wedi gwasanaethu fel Cadeiryddion pwyllgorau, diolch i chi am eich blynyddoedd o wasanaeth. Diolch i Julie James, Julie Morgan, John Griffiths, Mick Antoniw, Lesley Griffiths, Lee Waters, Joyce Watson. Gobeithio fy mod wedi crybwyll y rhai hynny ohonoch nad ydych yn sefyll eto i gyd, ac eithrio dau yr hoffwn eu crybwyll ymhellach.

Y cyntaf yw Jane Hutt, sydd wedi cael yr yrfa fwyaf rhyfeddol yn y lle hwn. Rhaid mai hi sy'n dal y record byd am wasanaethu ar y fainc flaen ac yn sicr o ran y math o wydnwch sydd gan y fenyw hon, y math o egni sydd ganddi. Mae'n hyfryd gweld ei theulu yn yr oriel heno. Wyddoch chi beth? Gallwch ei chael hi'n ôl oherwydd rydym ni wedi ymlâdd. Mae hi wedi gwneud gwaith gwych a dylech fod yn hynod falch ohoni. A hefyd, rwyf am sôn am Mark Drakeford, sydd wedi gwneud pethau anhygoel i'r wlad hon. Rydym mor ddiolchgar i chi, Mark, am bopeth a wnaethoch drosom, dros bobl Cymru ac am yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gennych ar adeg a oedd yn anhygoel o heriol.

Hoffwn ddiolch i chi, Lywydd. Rydych chi wedi gwasanaethu ers 10 mlynedd yn y rôl bwysig hon ac rwy'n credu eich bod wedi gwneud gwaith eithaf da yn cadw trefn arnom. [Torri ar draws.]

18:10

Rydym yn ddiolchgar iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn am eich arweinyddiaeth. 

Diolch ichi am bopeth rŷch chi wedi ei wneud yn eich rôl fel Llywydd. Mae wedi bod yn anrhydedd i fod yn rhan o'r Senedd yma. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eich arweiniad chi. 

Rwyf hefyd eisiau diolch i chi i gyd am y gwaith caled y mae pawb ohonoch chi'n ei wneud yn eich cymunedau—yr oriau dirifedi, y penwythnosau hir, y llwyth o gamdriniaeth. Felly, pam rydym ni'n ei wneud? Rydym yn ei wneud am ein bod ni i gyd yn malio. Rydym yn ei wneud am ein bod ni'n malio. Felly, i bob cyd-Aelod yn y Senedd hon, i bob gwas cyhoeddus, i bob partner sydd wedi ein helpu i gyflawni'r tymor hwn, diolch. Ac i bobl Cymru, diolch am eich ymddiriedaeth. Rwy'n credu ym mhobl Cymru, yn eu gwydnwch, eu cynhesrwydd, eu hiwmor, eu gwrthodiad ystyfnig a gwych i dderbyn na all pethau wella.

Mae Cymru'n well oherwydd yr hyn rŷn ni wedi'i gyflawni.

Mae Cymru'n well oherwydd yr hyn rydym wedi'i gyflawni yma. Ond mae gennym lawer mwy i'w wneud, a gadewch imi fod yn glir: nid ydym wedi gorffen eto. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

18:15

Diolch, Lywydd. Saith mlynedd ar hugain o reolaeth Lafur Cymru. Ie, wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ac rydym  i gyd yn gwybod beth yw'r hyn a gyflawnwyd: y rhestrau aros GIG hiraf yn y Deyrnas Unedig; yr wythnos hon, dywedir bod 1,000 o bobl wedi marw'n ddiangen—dyna'r amcangyfrif, nid gennym ni, ond gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng—y llynedd yn unig; y system addysg waethaf yn y DU; a'r cyflogau isaf. Ynghyd â threthi cyngor uwch, ardrethi busnes uwch, llai o ofal plant am ddim nag ar yr ochr arall i'r ffin, ac wrth gwrs, y terfynau cyflymder 20 mya diofyn rhwystredig hynny ar ffyrdd sydd mor llawn o dyllau nes ei bod hi'n anodd cyrraedd 20 mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd, mae'n hanes o fethiant yn ôl mesur unrhyw un. Ac ar ben hyn, wrth gwrs, rydych chi wedi gwneud cam â'n ffermwyr, rydych chi wedi gwneud cam â chefn gwlad Cymru, rydych chi'n sicr wedi gwneud cam â phobl Powys, sy'n cael eu trin fel dinasyddion eilradd pan fyddant yn mynd i ysbytai yn Lloegr i gael eu triniaeth.

Clywais Carolyn Thomas yn siarad am y Rhyl. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi gwneud cam â phobl y Rhyl. Ni wnaeth ddarparu'r ysbyty yr addawodd ei ddarparu. Dylai fod wedi cael ei adeiladu erbyn hyn. Ac mae'n dal i fod yn un o'r rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur. Mae'r hanes yn wirioneddol ofnadwy. Ac mae'n hollol wir nad methiant Llafur yn unig ydyw. Mae'n fethiant ar ran Plaid Cymru hefyd, ac mae'n rhaid ichi dderbyn cyfrifoldeb am hynny.

Fe wnaethoch chi gyfeirio'n garedig at fy rôl fel hyrwyddwr un o'r rhywogaethau eiconig Gymreig, y wiwer goch. Fe wneuthum chwiliad Google cyflym am y rhywogaeth rydych chi'n ei hyrwyddo—y frân goesgoch. Am addas. Fe wneuthum edrych ar ychydig o ffeithiau am y frân goesgoch, a deall, yn briodol iawn, fod ei statws cadwraeth yn 'wyrdd'. Pan fydd yn cynhyrfu, mae'n gwneud sŵn mawr tebyg i ratl bêl-droed. Ac mae ganddi big fawr goch—'bill' yn Saesneg—a dyna'n union fyddwch chi'n ei adael i bobl Cymru, pe baech chi byth yn rhwygo Cymru'n rhydd o'n Teyrnas Unedig werthfawr.

Mae fy neges i Blaid Cymru yn syml iawn: ni allwch barhau i gynnal Llywodraeth Lafur sy'n methu, llofnodi cytundebau partneriaeth, ymrwymo i gytundebau cydweithio, cael clymbleidiau ffurfiol, pleidleisio dros gyllidebau Llafur a deddfwriaeth Lafur, a glanio ar garreg y drws pobl adeg yr etholiad a dweud, 'Rydym ni'n cynnig newid', oherwydd ni allai unrhyw beth fod ymhellach o'r gwir. Nid ydych chi'n blaid sy'n cynnig newid; chi yw pen ôl, ar hyn o bryd, y ceffyl pantomeim aflwyddiannus, sef y deuopoli Llafur-Plaid Cymru sydd wedi bod yn trotian dros lwyfan y pantomeim ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru. Rydych chi'n blaid sy'n cynrychioli mwy o'r un peth, mwy o barhad, mwy o fethiant asgell chwith.

Ac nid Reform yw'r ateb i broblemau Cymru chwaith. Fel y bydd pawb yn y Siambr hon yn gwybod, rwy'n gyfan gwbl o blaid tröedigaethau ar y ffordd i Ddamascus. Yn bendant iawn. Ond mae'r ffordd y trodd James Evans oddi wrth y Ceidwadwyr ac at Reform yn anhygoel ar ôl rhai o'r pethau y mae wedi'u dweud am Reform, yn y Siambr hon a'r tu allan i'r Siambr hon hefyd. Roedd yn dröedigaeth nad wyf i'n credu ynddi, i fod yn onest.

Gall Reform gynhyrchu penawdau, gallant gynhyrchu clipiau cyfryngau cymdeithasol slic, ond pan fyddwch chi'n crafu o dan yr wyneb, nid ydynt yn blaid ddifrifol. Gadewch imi ddweud hyn: nid ydym angen plaid i redeg Cymru sydd â'i chyn-arweinydd yn y carchar am gymryd llwgrwobrwyon Rwsiaidd, ac yn sicr nid ydym angen anhunwyr, damcaniaethwyr cynllwyn a phobl sy'n ystyried y Gymraeg yn iaith dramor yn gyfrifol am ein cenedl falch.

Lywydd, mae pobl Cymru yn haeddu llawer gwell na hyn. Maent yn haeddu Llywodraeth sy'n deall egwyddor syml iawn, sef os ydych chi'n cefnogi pobl sy'n gweithio'n galed drwy dorri treth incwm, gallwch dyfu'r economi. Os ydych chi'n cefnogi busnesau bach drwy leihau ardrethi busnes, gallwch dyfu'r economi. Os ydych chi'n cefnogi perchnogaeth ar gartref drwy adfer yr hawl i brynu a dileu'r dreth stamp, gallwch dyfu economi Cymru. Ac os ydych chi'n cefnogi teuluoedd drwy ymestyn gofal plant am ddim i alluogi rhieni i fynd yn ôl i'r gwaith, rydych chi'n tyfu'r economi. Rydym wedi dweud yn glir iawn sut y byddwn ni'n ei wneud. Rydym wedi gosod cynllun clir ar gyfer newid, i drawsnewid y genedl hon a rhyddhau ei chyfle. Dyna yw ein cynllun i drwsio Cymru a chael Cymru i weithio.

Mae Llafur wedi cael 27 mlynedd. Mae Plaid Cymru wedi cael ei gyfle—mae wedi cwyno am bethau y gallai fod wedi eu newid pe bai wedi cyflawni cytundebau cyllidebol gwell a chytundebau deddfwriaethol gwell, ac rydych chi wedi methu'n llwyr. Reform—rwy'n gobeithio na fyddant byth yn cael cyfle i ddifetha ein cenedl. Felly mae'r dewis yn yr etholiad yn glir: mwy o fethiant, Reform peryglus, neu bâr diogel o ddwylo gyda'r Ceidwadwyr Cymreig i drwsio Cymru a chael ein gwlad i weithio unwaith eto.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cwestiynau Amserol

Dwi wedi derbyn un cwestiwn amserol i'w gymryd cyn diwedd ein gwaith ni y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn yma i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac i'w ofyn gan Adam Price.

Adolygiad Rycroft

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o Adolygiad Rycroft, a sut fydd yn sicrhau bod y cap newydd ar roddion a'r gwaharddiad ar roddion cryptoarian ledled y DU yn cael eu cymhwyso'n effeithiol yng Nghymru cyn etholiad 2026 y Senedd? TQ1459

Diolch, Adam. Rwy'n croesawu adolygiad Rycroft ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithredu ei argymhellion ar etholwyr tramor a rhoddion cryptoarian, a fydd yn gymwys o heddiw ymlaen. Bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol arall yn cael ei osod gerbron y seithfed Senedd, a bydd pwyllgor yn cael cyfle i graffu ar bob agwedd ar y Bil fel y'i diwygiwyd cyn i'r Senedd bleidleisio ar gynnig i dderbyn y cynigion.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru'n cefnogi cap ledled y DU ar roddion gwleidyddol a gwaharddiad ar roddion cryptoarian, ond rydym yn rhwystredig iawn fod Llywodraeth y DU wedi gweithredu mor hwyr fel na all y newidiadau hanfodol hyn gael eu craffu'n briodol, ac fel na ellir ystyried unrhyw gynnig deddfwriaethol cyn i'r Senedd gael ei diddymu. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylai Llywodraeth y DU fod wedi gweithredu'n gynt fel y gallai'r Senedd hon fod wedi craffu'n briodol ar newidiadau i reolau cyllid etholiadol Cymru, heb eu gollwng arnom yn ystod y Cyfarfod Llawn diwethaf cyn diddymu, gydag etholiad 2026 bron ar ein gwarthaf?

Yng ngoleuni'r sgandalau diweddar yn ymwneud â dylanwad tramor a rhoddion gwleidyddol—achos Nathan Gill sy'n gysylltiedig â Rwsia a Reform UK, a'r achos ysbïo Tsieineaidd honedig yn ymwneud â ffigyrau o fewn Llafur Cymru—a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo nawr i ddull cryfach, wedi'i arwain gan Gymru o ddiogelu uniondeb ein democratiaeth, gan sicrhau bod y capiau newydd hyn ar roddion a'r gwaharddiadau ar gryptoarian yn cael eu gorfodi'n gadarn yng Nghymru, a gwneud yn glir nad yw etholiadau Cymru yn cael eu gadael yn agored i ymyrraeth ariannol o dramor a llygredd gwleidyddol?

Diolch, Adam. Yn hollol, mae hwn yn symudiad arwyddocaol iawn heddiw gan Lywodraeth y DU, ac mae'n ymwneud â diogelu ein democratiaeth rhag y rhai sy'n ceisio ei thanseilio. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu pob un o'r 17 argymhelliad yn llawn.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio bod yr adolygiad hwn wedi'i orchymyn gan Lywodraeth Lafur y DU yn sgil euogfarn cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, Nathan Gill, am dderbyn llwgrwobrwyon o ffynonellau'n gysylltiedig â Rwsia. Dywed Philip Rycroft yn ei adroddiad nad oedd yn pwyso'r botwm panig, ond yn canu'r gloch larwm am y risg o ymyrraeth dramor yn system wleidyddol y DU. Bydd y rheolau'n gymwys heb ofn na ffafr i Aelodau o bob plaid, fel yr oedd y gyfraith lwgrwobrwyo a arweiniodd at garcharu cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, Nathan Gill.

Rwy'n deall amseriad rhyddhau hyn. Mae'n symudiad pwysig, ond fel y dywedais yn yr ymateb cychwynnol, mater i'r Senedd nesaf fydd gwneud y craffu hwnnw. Ond rwy'n falch iawn fod hwn yn symudiad ôl-weithredol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ei fod yn symudiad ôl-weithredol. Bydd yn sicrhau y bydd cap blynyddol o £100,000 ar roddion gan etholwyr tramor a gwaharddiad ar bob rhodd cryptoarian, a fydd yn atal gweithredwyr diegwyddor rhag defnyddio dulliau na ellir eu holrhain o ddylanwadu ar etholiadau.

18:25

Rwy'n cytuno'n fawr â'r pwyntiau a godwyd gan Adam Price, ac rwy'n croesawu'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma. Fodd bynnag, rwy'n credu bod angen amddiffyniadau cryfach arnom ar gyfer ein hetholiadau. Rydym wedi gweld bod Reform yn blaid wleidyddol a ariennir o dramor i raddau helaeth, gyda £9 miliwn gan un rhoddwr yng Ngwlad Thai. Nid wyf am i wleidyddiaeth y wlad hon gael ei phrynu gan biliwnyddion tramor. Nid wyf am i'r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yma fod ym mhocedi biliwnyddion ac unbeniaid tramor. Rwy'n credu y dylem ofyn i Lywodraeth y DU ar unwaith i weithredu i ddiogelu ein democratiaeth ac uniondeb ein hetholiadau. Nid wyf yn credu y dylai fod unrhyw le i roddion tramor i bleidiau gwleidyddol sy'n gweithredu yn y DU. Nid wyf yn deall pam ein bod ni'n caniatáu i bobl nad ydynt yn byw yma, nad ydynt yn rhan o'n cymuned, gyfrannu hyd at £100,000. Nid wyf yn deall hynny. Nid wyf yn deall chwaith pam nad ydym yn rhoi amddiffyniadau pellach ar waith i atal cyfryngau cymdeithasol rhag prynu ein disgwrs cyhoeddus. Dyna a welwn ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod angen rheoliadau llawer cryfach arnom i warchod uniondeb ein democratiaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn falch iawn pe gallech chi fynd â materion ymhellach gyda Llywodraeth y DU yn ystod y toriad i ddiogelu ein hetholiadau.

Diolch, Alun. Yn hollol, rwy'n cytuno bod hyn yn ymwneud â diogelu ein democratiaeth rhag y rhai sy'n ceisio ei thanseilio. Fel y dywedais, bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu pob un o'r 17 argymhellion o'r adroddiad hwnnw yn llawn. Fel y dywedais, mae'r agwedd ôl-weithredol yn bwysig iawn. Mae'n mynd i fod mewn grym o ddydd Mercher nesaf, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud nad yw'n barod i ganiatáu unrhyw ffenest o gyfle lle gall gweithredwyr maleisus sydd wedi'u lleoli dramor sianelu arian tywyll i mewn i'n gwleidyddiaeth. Hoffwn feddwl bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno yma.

Mae cryptoarian yn fygythiad arbennig i uniondeb etholiadol oherwydd ei allu i fod yn anhysbys. Rwy'n bwriadu siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau hefyd drwy gydol y toriad. Fe gyfarfûm â'r Comisiwn Etholiadol heddiw. Rwy'n cyfarfod â nhw'n rheolaidd. Un o'r pethau y siaradais â nhw amdano y bore yma oedd uniondeb ein hetholiadau. Mae llawer o waith yn digwydd ar hyn, a bydd cyfarwyddyd yn mynd i holl Aelodau'r Senedd dros gyfnod y toriad hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fe wnaethoch chi siarad am warchod ein huniondeb etholiadol, ac mae hwn yn bendant yn gam arwyddocaol i roi'r gorau i ddylanwadu ar ein gwleidyddiaeth, a fydd, fel y dywedoch chi, yn digwydd o ddydd Mercher nesaf. Mae'n symudiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n falch o'i weld yn cael ei fabwysiadu ar unwaith.

Ond wrth gwrs, elfen arall o ddylanwad ar ein gwleidyddiaeth yw rôl dichell fwriadol. Fel y gwyddoch, mae rhai ohonom wedi bod yn gwthio—ac rydym yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol—i hynny fod yn ei le ar gyfer ein hetholiadau yn y dyfodol. Nid yw hynny wedi digwydd, am nifer o resymau. Ond mae'n ymddangos yn anghyson ein bod yn gallu mabwysiadu'r mesur hwn ar unwaith, ac eto ni allwn fabwysiadu mesur arall sy'n sicrhau nad yw pobl yn dweud celwydd yn fwriadol yn ystod ein hetholiadau ac ar ôl ein hetholiadau, rhywbeth sy'n cael dylanwad negyddol iawn, nid yn unig ar ein democratiaeth, ond ar ddiogelwch pobl yn yr ystafell hon. Oherwydd pan fydd celwyddau'n cael eu dweud, maent yn dechrau gwneud i bobl eraill ymuno â hynny a rhoi pobl fel ni mewn perygl, yn enwedig menywod, oherwydd maent yn dechrau dadl fawr a llu o bobl yn dod i mewn ar hynny. Felly, a gaf ofyn i chi, os gwelwch yn dda, aelod o'r Cabinet, beth yw'r rhesymau pam na allwn fabwysiadu'r cam penodol hwnnw ar unwaith, o ystyried ein bod yn mynd i fabwysiadu argymhellion adolygiad Rycroft? Diolch yn fawr iawn.

18:30

Diolch, Jane. Rwy'n gwybod bod y pwnc hwn wedi cael ei drafod sawl gwaith drwy'r Senedd hon, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-aelod o'r Cabinet, y Gweinidog Cyflawni a'r Cwnsler Cyffredinol, wedi arwain yr ymateb hwnnw. Ond yn amlwg, nid yw hon yn drosedd, bydd yn waharddiad ar cryptoarian, felly mae gwahaniaeth. Ac rwy'n credu bod hwn yn symudiad pwysig gan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn siarad â Llywodraeth y DU drwy gydol y broses hon hefyd. Mae hyn yn rhywbeth y credaf y dylid ei groesawu'n gynnes gan bawb, ac rwy'n falch iawn y bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu'r holl argymhellion sydd wedi'u cyflwyno yn yr adroddiad.

8. Dadl Fer: Ffarweliad: Pum tymor fel AS—Myfyrio ar fy nghyfnod fel Aelod o'r Senedd

Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer. Mark Isherwood sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y balot ar gyfer y ddadl fer. Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Ar ôl mynychu oddeutu 1,600 o sesiynau Cyfarfod Llawn ers cael fy ethol gyntaf yn 2003 fel Aelod Cynulliad, yna fel Aelod o'r Senedd, dyma fy un olaf. Rwy'n edrych yn ôl ar bum tymor a 23 o flynyddoedd a oedd weithiau'n hwyliog, bob amser yn eithriadol o brysur ac yn aml yn rhwystredig yn y rôl hon. Yn ôl fy nghyfrif i, dim ond chwech o'r Aelodau a oedd yma yn 2003 sy'n dal i fod yn Aelodau erbyn hyn, ac mae ein hanner yn ymddeol.

Wrth imi gerdded i lawr coridorau'r Senedd Gymreig hon, maent yn llawn o ysbrydion dychmygol. Pan gyrhaeddais, sydd weithiau'n teimlo fel ddoe ac weithiau'n 100 mlynedd yn ôl, ymunais â Chynulliad a oedd yn dal i fod yn un corff corfforaethol yn y gyfraith, ond a oedd eisoes yn gweithredu i raddau helaeth fel pe bai'r gwahaniad pwerau cyfreithiol rhwng y Senedd a'r Llywodraeth, a oedd i ddilyn, eisoes wedi digwydd. Gwneuthum gyfeillion ar draws yr holl bleidiau, er bod bron bob un o'r grŵp cynnar hwnnw o gyfeillion wedi symud ymlaen neu wedi ein gadael ers hynny. Rwy'n cofio hefyd sut y gwnaeth Peter Law a John Marek roi'r gwir o flaen dictad drwy ymwrthod â chwip Llafur.

Ar ôl gweithio yn y sector cymdeithasau adeiladu yn flaenorol, lle cefais gymwysterau bancio proffesiynol, ac ar ôl dal sawl swydd wirfoddol, gan gynnwys bod yn aelod o fwrdd cymdeithas dai a chadeirydd llywodraethwyr ysgol, cyrhaeddais yma gyda gwybodaeth a dealltwriaeth weithredol o lawer o'r materion sy'n effeithio ar bobl Cymru, gan gynnwys yr hyn a oedd ar y pryd yn fygythiad o argyfwng tai, ond un y gellid ei osgoi, gan gynnwys yr hyn a oedd ar y pryd yn fygythiad o chwalfa economaidd, ond un y gellid ei hosgoi, gan gynnwys y lefelau pryderus o uchel o dlodi parhaus yn ein cymunedau, gan gynnwys, o brofiad personol, y rhwystrau systemig sy'n wynebu plant â'r hyn a alwem bryd hynny'n anghenion addysgol arbennig, ac yn cynnwys honiadau difrifol yn ymwneud â chyrff cyhoeddus penodol. Gwae unrhyw chwythwr chwiban egwyddorol a feiddiai ddweud y gwir; thema sydd wedi parhau drwy gydol fy mlynyddoedd fel Aelod yma ac sy'n parhau i fod yn gyffredin yng Nghymru Llafur heddiw. O 2003 ymlaen, nid 2010, y dechreuais dynnu sylw at y materion hyn yn y Siambr, mewn pwyllgorau a grwpiau trawsbleidiol, yn y cyfryngau ac yn fy ymateb i ymholiadau allanol.

Ar y pwynt hwn, rhaid i mi ddiolch i fy staff amyneddgar, sydd ymhlith y rhai sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y Senedd, am fy nghefnogi yn y rolau gweinidogol cysgodol lluosog rwyf wedi'u dal, ac am wneud y gwaith caled ar fy llwyth achosion a oedd yn cynyddu'n barhaus. Mae wedi bod yn fraint cadeirio'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystod y chweched Senedd a'r pwyllgor deddfwriaeth yn ystod trydydd tymor y Senedd. A diolch i'r timau clercio gweithgar ac aelodau'r pwyllgorau hynny. Mae wedi bod yn fraint cadeirio grwpiau trawsbleidiol pwrpasol ar lawer o faterion cyfiawnder cymdeithasol a oedd yn aml yn gysylltiedig, ddoe a heddiw, dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys y rhai ar anabledd, ar awtistiaeth, ar faterion pobl fyddar, ar gyflyrau niwrolegol, ar hosbisau a gofal lliniarol, ar angladdau a phrofedigaeth, ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, ar drais yn erbyn menywod a phlant y tymor diwethaf, ac ar ogledd Cymru. Mae hefyd wedi bod yn fraint bod yn hyrwyddwr rhywogaethau Cymru ers 2016 ar ran rhywogaeth odidog y gylfinir sydd dan fygythiad, gan weithio gyda Gylfinir Cymru i dynnu sylw at y manteision lluosog ac amlrywogaethol y byddai adferiad y gylfinir yn eu cynnig.

Y tu ôl i'r rhethreg am hawliau anabledd a'r model cymdeithasol o anabledd, rwy'n parhau i glywed bob dydd gan ac am oedolion anabl a phlant â chyflyrau niwroddatblygiadol a phobl â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd sy'n dal i gael eu beio, eu bwlio a'u labelu gan uwch swyddogion cyhoeddus sy'n gwrthod gwneud yr hyn sy'n iawn yn y gyfraith ac mewn ymarfer ac sy'n parhau i gael eu caniatáu i wneud hynny. Y tu ôl i'r holl ddeddfwriaeth, y strategaethau a'r cynlluniau, mae angen gwirioneddol am gynhwysiant, tegwch a dealltwriaeth wedi'i seilio ar brofiad bywyd, fel y gall pobl a'u teuluoedd gymryd rhan lawn yn eu cymunedau, ffynnu, profi hapusrwydd a chael llais a rheolaeth wirioneddol dros eu bywydau. Bydd hyn yn galw am ymagwedd hollol wahanol i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol yn ymarferol yn ogystal â mewn geiriau, gan gydnabod mai'r bobl sy'n gwybod beth sydd orau i'w cymunedau yw'r bobl sy'n byw ynddynt.

Gwariodd Llywodraeth Lafur Cymru £0.5 biliwn ar eu rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i fynd i'r afael â thlodi yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ond methodd wneud hynny. Ar ôl iddynt wario biliynau o gyllid strwythurol i gau'r bwlch ffyniant, gan Gymru oedd y lefel ffyniant isaf y pen o bob un o wledydd y DU, gyda'r cyflogau isaf a'r gyfran uchaf o swyddi ar gyflog isel ym Mhrydain. Mae aelodau awdurdodau lleol y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol yng Nghymru bellach wedi mynegi pryder mawr y bydd olynydd arfaethedig Llywodraeth Lafur y DU i gronfa ffyniant gyffredin y DU, sef y gronfa twf lleol, yn chwalu gwasanaethau a gefnogir yng Nghymru ar hyn o bryd gan gronfa ffyniant gyffredin y DU.

Fe wnaeth Aelodau Llafur a Phlaid Cymru wawdio pan rybuddiais, 22 mlynedd yn ôl, y byddai benthyca Gordon Brown yn arwain at ddydd o brysur bwyso. Fe wnaethant wawdio pan ddywedais, 21 mlynedd yn ôl, fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio bod system fancio'r DU yn fwy agored i ddyled eilaidd nag unrhyw le arall yn y byd. Fe wnaethant wawdio pan ddywedais fod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi rhybuddio Trysorlys Gordon Brown, dair blynedd cyn i Northern Rock fod yn agos iawn at fynd yn fethdalwr, fod angen iddo sefydlu cynlluniau brys i ymdrin ag argyfwng bancio, ond ni wnaeth unrhyw beth yn ei gylch. Fe wnaethant wawdio pan ddywedais fod yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol wedi adrodd ar bwyslais gwleidyddol gan Lywodraeth Blair-Brown yn y DU ar yr angen iddynt fod yn ysgafn yn eu dull o reoleiddio banciau. Felly, fe wnaeth pensaer cyni, Gordon Brown, adael economi ar fin chwalu, gyda'r lefel uchaf o ddyled yn y G20 fel cyfran o gynnyrch domestig gros, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE, a'r diffyg cyllidebol uchaf yn hanes y DU mewn adeg o heddwch. Os oes gennych ddiffyg mawr, mae'r benthycwyr yn berchen arnoch chi ac yn gosod y telerau, ac fe wnaeth y gwledydd a oedd â lefel uchel o ddiffyg, a wrthododd yr hyn yr ydym yn ei alw bellach yn gyni, gael mesur llawer iawn mwy ohono.

Mae tua 30 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd, ac mae Llafur a Phlaid Cymru wedi beio Llywodraethau Ceidwadol y DU ar ôl 2010 am hynny, gan osgoi'r realiti fod tlodi plant yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf yn unrhyw un o'r gwledydd ar 32 y cant cyn y wasgfa gredyd yn 2008, pan oedd Llywodraethau Llafur mewn grym ar ddau ben yr M4. Mewn gwirionedd, mae 27 mlynedd o sosialaeth ddatganoledig wedi gadael Cymru â'r cyfraddau tlodi uchaf yn y DU a'r cyfraddau cyflogaeth isaf a'r cyfraddau anweithgarwch economaidd uchaf ym Mhrydain. Mewn termau dynol, golyga hyn y pryder am lythyrau heb eu hagor, y cyfrif yn yr archfarchnad, y llyncu balchder wrth ofyn am help. Dyma hanes cyson o fethiant pur.

Mae tai yn allweddol i adfywio cymunedol. Fodd bynnag, mae gan Gymru argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy a chymdeithasol nad oedd yn bodoli pan ddaeth Llafur i rym yma yn 1999. Fe wneuthum ymgyrchu gyda'r sector o 2003 ymlaen i atal hyn, ond anwybyddodd Llafur y rhybuddion nes bod y niwed wedi ei wneud, gan achosi'r argyfwng tai a digartrefedd yng Nghymru. Nododd Adolygiad Tai y DU 2011/12 , fod gan glymblaid Llafur a Phlaid Cymru, erbyn 2010, y lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai o unrhyw un o'r pedair gwlad yn y DU. Hyd yn oed y llynedd, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld llai o gofrestriadau cartrefi newydd nag yn 2012, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru bellach yn ystwytho'r ffigurau i esgus eu bod yn mynd i gyrraedd eu targed tai alaethus o annigonol.

Mae cyrff gwirfoddol a chymunedol yn allweddol i gymunedau Cymreig ffyniannus, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau, ond mae cyllidebau economaidd anllythrennog Llywodraeth Cymru wedi eu llwgu o adnoddau, a thrwy hynny, wedi creu pwysau costau llawer uwch i'n hysbytai a'n gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi'u gorlwytho. Rydych chi'n gwybod am bwy rwy'n siarad. Mewn cyferbyniad, rydym ni eisiau Cymru lle mae gwaith anhepgor grwpiau a hybiau cymunedol yn cael ei gydnabod, ei barchu a'i gefnogi. Oherwydd nid rhywbeth braf i'w gael yw gweithredu cymunedol ond buddsoddiad deallus mewn lles cymdeithasol ac economaidd.

Mae plismona a chyfiawnder yn allweddol i ddiogelwch cymunedol, gan weithredu ar sail dwyrain-gorllewin ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw mewn neu gerllaw rhanbarthau sy'n cyffinio â Lloegr. Fodd bynnag, gyda Llywodraeth Cymru yn rheoli gwasanaethau allweddol sy'n cefnogi atal ac adsefydlu, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o garchariadau yng ngorllewin Ewrop. Ond mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn galw am ddatganoli plismona a chyfiawnder, gan ddyfynnu o adroddiadau nad ydynt yn cyfeirio at y cydweithio sefydledig, dwfn gyda heddluoedd cyfagos ar draws ffin anweledig trosedd a chyfiawnder â Lloegr sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin. Am ein bod ni'n blaenoriaethu diogelwch cymunedol yn hytrach nag ideoleg, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i wrthwynebu hyn.

Mae Llafur Cymru yn gweithredu o fewn y gaethwasgod ideolegol a etifeddodd gan Farcsiaeth—do, fe wneuthum innau ei hastudio hefyd—sydd wedi eu hatal rhag cymryd y camau sydd eu hangen i drwsio Cymru. Mae Plaid Cymru wedi gweithredu fel cynhalwyr niweidiol Llafur, drwy glymblaid, cytundebau cydweithio neu gytundebau cyllidebol. Maent yn ceisio rhannu pobl Prydain a dinistrio ein Teyrnas Unedig, yn union fel y mae ein gelynion yn ceisio ansefydlogi democratiaethau'r gorllewin, gan fradychu'r gwir waddol o undod ymhlith y Brythoniaid, y Cymry, ar draws Prydain, a labelwyd yn anghywir yn 'estron' neu'n 'oresgynnwr', 'Wealas' neu 'Welsh' gan y goresgynnydd yn yr Oesoedd Tywyll. Mewn gwirionedd, un ydym.

Ac yna mae gennym gynghrair dros dro Nigel 'Homer Simpson' Farage o gowbois, twyllwyr, damcaniaethwyr cynllwyn, mentrwyr, siarlataniaid a'r rhai sy'n wynebu heriau economaidd. Y tro diwethaf i gang Farage ffurfio grŵp yn y Senedd, fe chwalodd o fewn wythnosau a thanseilio craffu effeithiol ar Lywodraeth Cymru am bum mlynedd.

Fodd bynnag, gadewch i mi orffen ar nodyn cadarnhaol, drwy ddiolch—[Torri ar draws.]—drwy ddiolch—[Torri ar draws.] Mae'n rhwystredig iawn gadael y lle hwn gyda breuddwydion i fynd i'r afael â'r materion hynny ac ar ôl wynebu'r rhwystrau parhaus hyn a gwrthodiad i ddeall a gwrando, neu feddwl mewn caethwasgod. Fodd bynnag, gadewch imi orffen ar nodyn cadarnhaol, fel y dywedaf, drwy ddiolch i'r Aelodau ar draws y pleidiau sydd wedi gweithio'n gadarnhaol gyda mi ar lawer o faterion, gan gynnwys y grwpiau trawsbleidiol, drwy ddiolch i'r Senedd hon am alluogi fy Mil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) i ddod yn ddeddfwriaeth a thrwy ddiolch i bobl gogledd Cymru am ganiatáu imi eu gwasanaethu ers 2003. Mae wedi bod yn anrhydedd cael gwneud hynny. [Cymeradwyaeth.]

18:40

Mae'r Comisiwn yn ymateb i'r ddadl hon. Rwy'n rhoi'r amser i Joyce Watson, Comisiynydd sy'n ymddeol, i fyfyrio ar ei hamser hi yn y Senedd hon. Joyce Watson.

Diolch, Lywydd. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ethol yn 2007, fel Rhif 2 ar y rhestr ranbarthol, felly mae cael sefyll yma heddiw yn dipyn o fonws. Mae wedi bod yn daith annisgwyl mewn gwirionedd. Roedd fy nhad yn labrwr fferm o Lanbrynmair, a ymunodd â'r fyddin i ymladd yn yr ail ryfel byd. Cefais fy magu yn Nhywyn a gwersyll Maenorbŷr, yn un o wyth o blant. Roedd fy mam yn ofalwr ysgol a chogydd gwesty. Gadawais yr ysgol yn 15 oed a dychwelyd i fyd addysg fel mam sengl ifanc.

Ni freuddwydiais erioed y byddwn i'n cael fy ethol i wasanaethu'r bobl a'r lleoedd rwy'n eu hadnabod ac yn eu caru cymaint. Felly, mae gwneud hynny am y 19 mlynedd diwethaf wedi bod yn anrhydedd fawr fy mywyd. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymddiried ynof—y blaid, y pleidleiswyr, fy nhîm ffyddlon sydd wedi rhoi gwasanaeth maith, staff a chyd-Aelodau'r Comisiwn, y nifer o bobl a sefydliadau y cefais y pleser o weithio gyda nhw ac ymgyrchu ochr yn ochr â nhw, a fy nheulu amyneddgar. Rydych chi i gyd wedi fy helpu i fwynhau a chyflawni'r rôl freintiedig hon hyd eithaf fy ngallu.

Mae fy ngwleidyddiaeth wedi bod a bob amser yn mynd i fod yn reddfol, weithiau'n ddi-lol, wedi'i geni o brofiad, wedi'i hysgogi gan annhegwch ac wedi'i chymell i helpu eraill i ffynnu. Rwy'n arbennig o falch o fy ngwaith ar hawliau menywod, o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod i hyrwyddo menywod yn y diwydiant adeiladu i sefydlu cawcws menywod y Senedd.

Mae cynrychioli rhanbarth harddaf Cymru—ac rwy'n hawlio'r teitl hwnnw—wedi fy ysbrydoli i ymladd dros ein hamgylchedd, gan gynnig deddfwriaeth i leihau dŵr ffo, pleidleisio yn erbyn difa moch daear, ac ymgyrchu i wella ansawdd dŵr a hefyd i ailgyflwyno afancod. Euthum benben ag ambell un wrth gwrs, ond mae bob amser wedi bod gyda bwriadau da, argyhoeddiadau cryf ac anghytundeb gonest.

Fel Comisiynydd, rwyf wedi gwasanaethu'r sefydliad hwn yn fewnol, ac rwyf wedi cael yr anrhydedd o'i gynrychioli'n rhyngwladol hefyd yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad, Seneddwragedd y Gymanwlad, y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, a Chyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop, ac mae'n amlwg fod thema gyffredin yno: ni chaniateir enwau byrion. Ond hefyd, fel Comisiynydd cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn y Senedd hon am y 10 mlynedd diwethaf, rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy nghefnogi gan dîm o'r Comisiwn sy'n gwthio'r agendâu hynny mewn gwirionedd, ac rydym wedi gwneud llawer iawn o waith ar wneud y lle hwn y gweithiwn ynddo—yn gwasanaethu'r bobl sydd yma—y gorau y gallwn ei wneud.

Felly, mae ffarwelio bob amser yn anodd. Byddaf yn parhau i groesi llwybrau gyda llawer ohonoch yn y dyfodol, os nad cleddyfau, ond maent hwythau'n bwysig hefyd. Felly, hwyl fawr, a diolch. [Cymeradwyaeth.]

18:45
9. Datganiadau i Gloi

Eitem 9 sydd nesaf, datganiadau i gloi yw'r rhain. Mae pedwar Aelod yn cyfrannu fan hyn, pob un o Blaid Lafur, am resymau digon amlwg, a'r cyntaf ohonyn nhw fydd Julie Morgan.

Diolch, Lywydd. Rwyf i, fel Joyce, bob amser wedi synnu fy mod wedi cyrraedd y fan hon, oherwydd ar ôl bod yn gynghorydd lleol gyda Jane, Mark a Mick yng nghyngor De Morgannwg, ac yna'n Aelod Seneddol yn San Steffan am 13 mlynedd, nid oeddwn yn disgwyl bod yma, er fy mod ymrwymedig iawn i ddatganoli. Mae bob amser wedi bod yn fater teuluol, a dyma lle roedd Rhodri eisiau bod. Felly, am flynyddoedd, roeddwn i yn San Steffan pan oedd ef yma, ac yna deuthum yma ar ôl iddo ef adael. Felly, nid oeddem yn yr un lle etholedig gyda'n gilydd byth, ond roedd y ddau ohonom yn ymrwymedig i egwyddorion datganoli a sosialaeth.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn arbennig i ddiolch i aelodau o staff o bob plaid am yr holl gefnogaeth a wnaeth fy helpu drwy'r adegau teuluol anodd iawn pan oeddwn yn Aelod etholedig yn fy ail dymor, ac roedd hwnnw'n help a chefnogaeth gan bawb, o bob plaid, a chan aelodau o staff, pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth arlwyo, y gwasanaethau diogelwch. Cefais lawer iawn o gefnogaeth, felly hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am hynny, a diolch o galon.

Rwyf wedi gweld taith ddeddfwriaethol datganoli o'r dechrau i'r presennol. Roeddwn yn Siambr Tŷ'r Cyffredin pan aeth y Ddeddf datganoli gyntaf drwodd, Deddf a drafodwyd gan bwyllgor o'r Tŷ cyfan. Cynigiais y cymal cydraddoldeb ym mis Mawrth 1996, gan weithio ar y cyd, y tu ôl i'r llenni, gyda Val Feld, cyn Aelod o'r Senedd hon, ac mae ei phlac porffor i'w weld ar wal allanol y Senedd. Dilynwyd hyn wedyn yn Nhŷ'r Arglwyddi gan Dafydd El. Ac rydym i gyd wedi gweld y pwerau'n tyfu a'r polisïau unigryw sydd wedi nodweddu Llywodraeth Cymru.

Mae wedi bod yn daith gynhyrfus, ond byddwn yn symud i'r seithfed Senedd gyda nifer addas i'r diben o Aelodau a Senedd sydd wedi'i sefydlu'n gadarn yn seice pobl Cymru. A thros y 27 mlynedd diwethaf, mae pŵer wedi dod yn agosach at y bobl, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o bwerau i ddod. Rydym yn bwrw ymlaen gyda Senedd go iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad enfawr.

Un o'r breintiau mwyaf yn y swydd fu gweithio gyda dinasyddion Cymru: y Sipsiwn a'r Teithwyr, dioddefwyr y sgandal gwaed halogedig, hynafgwyr Windrush, y menywod sy'n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb ac i gael eu llais wedi'i glywed yn gyson, a'r holl grwpiau a phobl eraill y cawsom y fraint o weithio gyda nhw yn y Siambr hon.

Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn y dyfodol yn parhau, yn fwyaf arbennig, â'r gwaith o wneud hawliau plant yn rhan allweddol o'r agenda, yn ganolog i bopeth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, yn enwedig i'r plant hynny yr ydym yn gyfrifol amdanynt, plant sydd â phrofiad o ofal, y mae gennym gyfrifoldeb corfforaethol amdanynt. Ein plant ni ydynt, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf yn feiddgar yn ei chynlluniau. Roedd tynnu elw o'r system ofal, treialu'r incwm sylfaenol cyffredinol a gwneud cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon i gyd yn gamau beiddgar, ond mae angen inni wneud llawer mwy.

Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r Senedd hon wedi'i gyflawni. Fel y dywedaf, rwy'n teimlo fy mod wedi cael cyfran ynddo o'r cychwyn cyntaf. Mae wedi bod yn anhygoel bod yn rhan o dwf sefydliad newydd sy'n rhoi anghenion pobl Cymru yn y canol, ac rwy'n gwybod y bydd gan y rhai sy'n ein dilyn yr un ymrwymiad i wneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru. Felly, rwy'n rhoi'r gorau i fod yn wleidydd etholedig, ond nid wyf yn rhoi'r gorau i wleidyddiaeth, fel y dywedodd rhywun, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich cyfeillgarwch a'ch cynhesrwydd. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

18:50

Diolch, Lywydd, a diolch am roi cyfle i mi wneud un araith olaf yn y Siambr. Efallai nad yw'n syndod fod hon yn adeg ar gyfer cryn dipyn o fyfyrdod personol, ac rwyf wedi bod yn meddwl yn arbennig am fy nghyfraniad cyntaf yma ar ôl fy ethol yn ôl yn 2007. Ar yr achlysur hwnnw, cefais fy ngalw i ofyn cwestiwn atodol i'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a chwestiwn 15 ydoedd—cwestiwn atodol i gwestiwn 15. Nid wyf yn credu y bydd hynny'n digwydd eto'n fuan.

Ond am fraint yw gwasanaethu yma ers 19 mlynedd, yn cynrychioli etholaeth wych Wrecsam. Roedd hefyd yn fraint gwasanaethu yn Llywodraeth Cymru am dros 14 mlynedd, ac rwy'n falch o fod wedi gweithio ar gymaint o bolisïau a deddfwriaeth newydd sydd wedi helpu i wella bywydau pobl Cymru. Un o'r pethau rwy'n fwyaf balch ohonynt oedd tywys Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 drwy'r lle hwn. Roedd ei gwneud hi'n orfodol i sefydliadau bwyd arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn rhywbeth y teimlwn yn angerddol yn ei gylch, ar ôl cael achosion difrifol o E. coli yn fy etholaeth yn 2008. Roedd yn un o'n hymrwymiadau maniffesto yn 2011 ac yn rhywbeth a enynnodd gefnogaeth drawsbleidiol. A phan welaf y sticeri gwyrdd hynny ar ffenestri a drysau sefydliadau bwyd ledled y wlad, yn enwedig y rhai sydd â sgôr 5, rwyf bob amser yn gwenu'n dawel bach.

Rwyf hefyd yn falch fy mod i, fel Gweinidog yr amgylchedd, wedi datgan argyfwng hinsawdd ar ran Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2019. Gellir dadlau mai newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i'n byd ac i genedlaethau'r dyfodol. Nid oes cynllun B, na phlaned B o ran hynny, ac mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan drwy wneud popeth a allwn i sicrhau bod yr argyfwng hinsawdd yn parhau i fod ar frig yr agenda wleidyddol, er gwaethaf datganiadau anonest y rhai a ddylai wybod yn well.

Bydd llawer ohonoch yn gwybod fy mod yn caru bwyd a diod, felly roedd bod yn Weinidog gyda chyfrifoldeb am amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd a diod am wyth mlynedd yn bleser enfawr—er na fu'n llawer o help rhag ennill pwysau o bosib. Ond rwy'n cofio'r nifer o ymweliadau fferm lle roedd y bwrdd yn gwegian gan fwyd Cymreig anhygoel a chacennau enfawr.

Fodd bynnag, mae cynrychioli etholaeth arbennig Wrecsam, lle cefais fy magu, lle euthum i'r ysgol, a lle gweithiais a magu fy nwy ferch, wedi bod yn un o freintiau mwyaf fy mywyd. Mae Wrecsam yn ddinas o lawer o bobl arbennig sydd eisiau ei gwneud yn lle gwell: y bobl sy'n rhedeg ein helusennau a'n grwpiau cymunedol; yr unigolion sy'n gwirfoddoli yn y banc bwyd, yr hosbis, yr ysbyty a'r holl leoedd a sefydliadau eraill sy'n helpu cymaint o bobl; menywod ysbrydoledig Parc Caia, sy'n codi menywod eraill i'w helpu i wneud a chyflawni cymaint. Maent oll yn gwneud Wrecsam yn lle gwell gyda'u gofal, eu caredigrwydd a'u gwaith caled, ac mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda nhw i gyd.

Wrth gwrs, mae ffocws byd-eang ar Wrecsam erbyn hyn, ac yn sicr ni allaf gymryd unrhyw glod am hynny. Pan brynodd dau actor Hollywood fy annwyl glwb pêl-droed Wrecsam, un peth nad oeddwn i'n ei ddisgwyl oedd y ffordd angerddol a chynnes y maent yn ymgysylltu â'r gymuned a'r hwb y mae'n sicr wedi'i roi i'r ddinas gyfan.

Un o'r rhannau mwyaf gwerth chweil o fy swydd dros y 19 mlynedd diwethaf, ac rwy'n gwybod y bydd llawer ohonoch yn cytuno â hyn, yw ymweld ac ailymweld â'r ysgolion yn fy etholaeth. Mae gennyf 32, ac mae bob amser wedi bod yn bleser ymweld â nhw i gyd. Roeddwn i bob amser yn ei weld yn rhan hanfodol o fy swydd i siarad â phlant a phobl ifanc am wleidyddiaeth a'r gymdeithas ddinesig ehangach. Roeddwn i bob amser yn mwynhau eu cwestiynau, a oedd yn aml yn dechrau gyda, 'Felly, faint ydych chi'n ei ennill?', ac yna, 'A ydych chi wedi cyfarfod ag unrhyw un enwog?' Ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gyfarfod â llawer o bobl wirioneddol ysbrydoledig—Barack Obama, Jacinda Ardern a Julia Gillard i enwi dim ond tri. Ond roedd yn gwneud llawer mwy o argraff ar y plant bob amser pan fyddwn yn dweud wrthynt fy mod wedi cyfarfod â Gareth Bale neu Sam Warburton. Ac wrth gwrs, y dyddiau hyn, maent yn gofyn yn amlach na pheidio, 'A ydych chi wedi cyfarfod â Ryan a Rob?'

Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn, Lywydd, i ddiolch i bawb sy'n gweithio yn yr adeilad hwn. Wrth ein cefnogi ni i gyd fel Aelodau, maent hefyd yn gweithio ac yn chwarae rhan werthfawr ar ran pobl Cymru. Mae gormod o bobl i'w rhestru, ond maent i gyd yn gweithio'n ddiflino, ac mae llawer heb gael cydnabyddiaeth ddigonol am eu cyfraniad, ond mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

Byddaf yn gweld colli dod yma. Byddaf yn gweld colli'r bobl yma sydd wedi bod yn rhan o fy mywyd ers 19 mlynedd. Byddaf yn gweld colli'r chwaeroliaeth. Mae cryfder fy nghyd-Aelodau benywaidd ym mhob rhan o'r Siambr yn rhywbeth rwyf wedi dysgu ohono ac wedi pwyso arno yn ystod yr adegau anodd. Nid wyf yn siŵr y byddaf yn gweld colli'r teithio. Fel y dywedwn bob amser wrth gyd-Aelodau a fyddai'n cwyno wrthyf, 'Mae'n ffordd bell i'r gogledd', 'Ydy, mae'n ffordd bell, fel y mae hi o'r gogledd i lawr i'r de.'

Rwy'n falch o fod wedi chwarae rhan yn sicrhau bod Senedd Cymru bellach yn rhan o wead y Gymru fodern. Rwyf wedi mwynhau'r ffordd gydweithredol rydym yn aml yn gwneud ein gwleidyddiaeth, gan gredu ei fod yn rhoi deddfau gwell i ni, polisïau gwell, ac yn bwysig, canlyniadau gwell i'r bobl a wasanaethwn. Fodd bynnag, mae fy niolch mwyaf oll i bobl Wrecsam am fy ethol i'w cynrychioli yn y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]

18:55

Rydych chi i gyd yn ffefrynnau i mi, ond mae gennyf hoffter arbennig o  ddosbarth 1999, a John Griffiths yw'r nesaf.

Diolch, Lywydd. Lywydd, tua 29 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n hapus yn gweithio fel cyfreithiwr yn Rhisga ychydig y tu allan i Gasnewydd, ar ôl mynd drwy gyfnod hir o arholiadau TGAU, Safon Uwch, gradd yn y gyfraith ac arholiadau terfynol cymdeithas y gyfraith fel myfyriwr aeddfed gyda theulu ifanc. Roeddwn i'n ffodus i weithio mewn cwmni cymorth cyfreithiol cyfeillgar yn y Cymoedd wedi'i wreiddio mewn cymunedau lleol, a gallwn fyfyrio ar fy nhaith o ddiweithdra i yrfa werth chweil. Ond roeddwn wedi ymuno â'r Blaid Lafur ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi dod yn gynghorydd dinas Casnewydd, a phan gyhoeddodd Llywodraeth Lafur y DU yn 1997 refferenda cynnar ar eu cynigion datganoli, roeddwn yn awyddus i gymryd rhan, wrth ystyried y posibilrwydd o ailddosbarthu grym a chyfleoedd i Gymru a'i gwleidyddiaeth i'r chwith o'r canol.

Fe wneuthum gadeirio Newport Says Yes. Fe wnaethom ymgyrchu'n galed a gwneud cynnydd sylweddol, ond ar noson y cyfrif, dywedodd cyfwelydd y BBC wrthyf fod y bleidlais 'na' o 60:40 yng Nghasnewydd, ynghyd â'r canlyniadau cynnar mewn mannau eraill, yn golygu bod y freuddwyd o ddatganoli yng Nghymru wedi marw am genhedlaeth arall. Atebais fod Casnewydd wedi dod yn bell ers 1979 a'r refferendwm bryd hynny, pan oedd dros 7:1 yn erbyn, a bod 60:40 y tro hwn yn awgrymu bod y canlyniad cyffredinol yn agos iawn. Diolch byth, penderfynodd pobl Cymru roi cyfle i ddatganoli, a thua 12 mlynedd yn ddiweddarach, fe bleidleisiodd yn bendant—gan gynnwys Casnewydd—dros bwerau deddfu llawn, gan baratoi'r ffordd ar gyfer ein Senedd, gwobr gyfoethog, Senedd i Gymru, y mae cenedlaethau o Gymry wedi ymladd drosti.

Felly, Lywydd, mae'n fraint fawr bod wedi gwasanaethu yn ein Cynulliad a'n Senedd ers y dechrau, a bod yn rhan o dynnu pŵer i lawr i'n gwlad i gyflawni ar gyfer ein cymunedau, ac i fod wedi bod yn Weinidog am tua 13 mlynedd mewn nifer o bortffolios, o greu comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd ac agor llwybr arfordir Cymru i roi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar y llyfr statud, o weithio gyda'n sectorau addysg bellach, sgiliau a dysgu gydol oes fel Gweinidog sgiliau, i weithio gyda grwpiau amgylcheddol, natur a lles anifeiliaid fel Gweinidog yr amgylchedd, a chyda'n sectorau diwylliant a chwaraeon yn y portffolio hwnnw. Roedd mor galonogol gweithio gyda chymaint o sefydliadau ac unigolion ymroddedig a dyfeisgar a oedd yn ymdrechu ac yn cyflawni dros ein pobl.

Ac yna i fod yn Gadeirydd pwyllgor, y pwyllgorau sy'n gwneud cymaint o'r gwaith trwm yma yn ein Senedd, gyda'r timau gwych o glercod ac ymchwilwyr sy'n ein cefnogi, yn craffu a datblygu polisi ar gydraddoldeb, cymunedau, tai a llywodraeth leol, gan weithio gyda'r holl weithredwyr allanol hynny—y trydydd sector, llywodraeth leol, busnesau, ein cymunedau—yn rhoi i mewn i'r pwyllgorau hynny i wneud y gwaith yn bosib ac yn ystyrlon; gan adrodd, er enghraifft, ar sut y byddai gwell cymorth i geiswyr lloches yn helpu cydlyniant cymdeithasol ac integreiddio yng Nghymru, a sut y dylid gwasanaethu a diogelu ein ffoaduriaid yn well, gan gynnwys gwneud ein gwlad yn genedl noddfa, a mynd i'r afael â'r annhegwch a ddioddefir gan ein cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, yn ogystal â mynd i'r afael â digartrefedd a diogelwch adeiladau. A Lywydd, mae cadeirio sawl grŵp trawsbleidiol, y credaf unwaith eto eu bod yn hynod bwysig i'r ffordd y mae ein Senedd yn gweithio, mae hynny wedi bod yn werth chweil wrth bartneru â'r trydydd sector i gysylltu â chymunedau i hyrwyddo achosion pwysig a chyflawni cynnydd sylweddol mewn meysydd polisi.

Lywydd, rwy'n credu'n gryf fod Cymru a'r Senedd wedi dod yn bell ers 1999, gan rymuso ein pobl â llais cryfach i fynd i'r afael ag anghenion ac uchelgeisiau penodol ein cenedl, agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru, gyda'n rhaglen o blaid Affrica yn uchafbwynt arbennig i mi. Mae cenhedlaeth wedi tyfu i fyny nad ydynt ond yn adnabod Cymru ddatganoledig, ac un o'r rhannau gorau o'r swydd yw croesawu ysgolion lleol i'r Senedd ac ymweld â'r ysgolion hynny yn yr etholaeth. Rydym wedi bod ar flaen y gad o ran cynrychiolaeth menywod, defnydd o'r Gymraeg, technoleg fodern, a darparu pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed. Er, wrth gwrs, mae yna bob amser ffordd i fynd i weithio i wneud ein Senedd yn fwy cynrychioliadol o bob rhan o'n cymunedau, gan gynnwys ar ddosbarth cymdeithasol, ac mae bob amser mwy i'w wneud i wella ein gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu ein heconomi.

Ond rwy'n credu ein bod wedi gwneud rhai pethau pwysig iawn yma. Mae ein system bleidleisio gyfrannol yn golygu ein bod wedi gweithio'n drawsbleidiol ac wedi dangos bod gwleidyddiaeth aeddfed o drafodaeth, negodi a chytuno yn gweithio yma yng Nghymru. I mi, mae bod yn Aelod o'r Senedd wedi fy ngalluogi i chwarae rhan yn adeiladu Cymru sydd â mwy o allu a chapasiti i redeg a siapio ei materion, i benderfynu ar ei thynged yn unol â'i phrofiad, ei gwerthoedd, ei chredoau a'i hegwyddorion ei hun, ac i ymgyrchu a gweithio dros wleidyddiaeth flaengar i'r chwith o'r canol y credaf ei bod wedi darparu, ac y bydd yn darparu tegwch ac ansawdd bywyd i bawb yma yng Nghymru.

Gan weithio dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, a chyda chymorth fy nhîm swyddfa gwych, ar brosiectau penodol fel Casnewydd fwy egnïol a diogelu gwastadeddau Gwent, cefais y fraint enfawr o wasanaethu pobl Cymru a chynrychioli Casnewydd, y ddinas lle cefais fy ngeni a fy magu ynddi, am y 27 mlynedd hynny, a gweld cymaint o swyddi uwch-dechnoleg o ansawdd uchel yn dod i Gasnewydd, gweld ein diwydiant dur yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol, a gweld Casnewydd yn dod yn fwyfwy amlwg Gymreig, gyda'r Gymraeg yn tyfu'n gryf iawn.

Lywydd, byddaf yn gweld colli gwleidyddiaeth rheng flaen a'r Senedd a'r holl staff sy'n gweithio yma, fel y soniodd Lesley Griffiths. Gyda dim ond 60 o Aelodau o'r Senedd, rydym fel teulu estynedig, onid ydym, gyda'r holl dreialon, y trafferthion, a'r drasiedi weithiau sy'n dod gyda hynny. Wrth gwrs, mae ein barn yn wahanol iawn ar draws y Siambr, ond rydym hefyd yn cydweithio mewn pwyllgorau, fel y dywedais, ac mewn mannau eraill, ac rydym yn meithrin cyfeillgarwch a pharch ar draws y rhaniadau gwleidyddol.

Felly, nawr, Lywydd, hoffwn gloi drwy ddymuno'r gorau ar gyfer y dyfodol i bawb yma na fydd yn sefyll eto yn yr etholiad hwn, i bawb sy'n sefyll, ac i bawb yn y seithfed Senedd.

Pob lwc i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]

19:05

Cyfeiriodd y Prif Weinidog at hyd gwasanaeth Jane Hutt fel Gweinidog Llywodraeth. Rwyf wedi edrych, ac yn y DU, dim ond dau Weinidog Llywodraeth sydd wedi gwasanaethu'n hirach na Jane Hutt: Alfred Balfour am 28 mlynedd, Winston Churchill am 29 mlynedd, Jane Hutt am dros 25 mlynedd. Ewch amdani, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 19:06:57
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd, a diolch i chi i gyd.

Diolch am roi cyfle i mi ddweud ychydig eiriau heddiw ar ddiwedd y chweched Senedd fel un o ddosbarth 1999. A gaf i eich llongyfarch ar eich 10 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus fel ein Llywydd? Llongyfarchiadau, Elin Jones. [Cymeradwyaeth.]

Rwyf am ganmol fy holl gyd-Aelodau Llafur Cymru, y rhai na fydd yn sefyll, sydd wedi rhoi cymaint o flynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol fel Gweinidogion, Prif Weinidogion, Mark a Vaughan, Cadeiryddion pwyllgorau, Comisiynwyr, meinciau cefn, pob cynrychiolydd etholedig ymroddedig sy'n gwasanaethu ein plaid a'ch etholaethau. Ac fel Prif Chwip, a gaf i ddiolch i'm grŵp? Diolch am aros gyda mi. Diolch am wrando arnaf, nid drwy'r amser, rhaid i mi ddweud. Diolch am ateb y negeseuon testun pan fyddaf yn dweud wrthych am ddod yn ôl i lawr i bleidleisio. Rwy'n credu bod ein chwipiau'n gwybod y teimlad ac yn gwybod am y profiad.

Ond nid yw'n syndod fy mod am ddweud ychydig eiriau am y ffordd yr ydym wedi ymdrechu gyda'n gilydd i gyflawni'r nod o Gymru decach, fwy cynhwysol i'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. Roedd fy wyrion yma yn gynharach heddiw, efallai eich bod wedi clywed babi'n crio. Nid ydynt yma gyda ni nawr, ond maent yn bendant yn gobeithio gweld ychydig mwy o'u mam-gu. Ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau i'n plant a'n pobl ifanc ledled Cymru, ac mae hynny'n unol â'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fyd-enwog.

Ond rwyf am adael y Senedd hon gan wybod y bydd y gwaith a wnaethom dros y 25 mlynedd diwethaf yn parhau i wneud Cymru'n lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol, i wneud Cymru'n genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+, ac yn genedl lle mae hawliau pobl anabl yn cael eu parchu a'u cyflawni. A chyda fy angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol, ni allwn fod yn fwy ffodus i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â chael portffolios mawr eraill ym maes iechyd, addysg a chyllid wrth gwrs.

Mae gennym ffordd bell i fynd i gyflawni'r nodau a osodais, y gwaith a wnaethom dros y pum, chwe blynedd diwethaf. Mae gennym ffordd bell i fynd i sicrhau cydraddoldeb i fenywod yng Nghymru. Ond rwy'n credu bod y dathliad heddiw o'r menywod sydd wedi gwasanaethu'r Senedd hon, cyfarfod trawsbleidiol yn y Senedd heddiw, yn ddathliad gwych ac yn adlewyrchiad o'n cynrychiolaeth a'n dylanwad fel menywod. Ac rwy'n diolch i bawb ar draws y Siambr hon a drefnodd y digwyddiad hwnnw.

Cymaint o gamau ymlaen dros y ddau ddegawd diwethaf a mwy, ond mae'n torri fy nghalon i orfod dweud bod trais yn erbyn menywod yn dal i fod yn falltod ar gymdeithas. Ond mae gennym y penderfyniad—ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei fynegi'n eang—yr offer a'r liferi i fynd i'r afael â hyn. Mae gennym gyfreithiau Cymreig, mae gennym gyllidebau cynyddol, mae gennym bartneriaethau cryf , mae gennym gynghreiriaid gwrywaidd, mae gennym leisiau goroeswyr yn arwain y ffordd, a hyn i gyd o ganlyniad i ddatganoli.

Drwy'r Cwricwlwm newydd i Gymru, rydym yn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan helpu pobl ifanc i herio stereoteipiau a chofleidio amrywiaeth eu treftadaeth. Ac rydym mor falch fod gennym ymrwymiad i wneud hanes pobl dduon yn rhan allweddol o'u dysgu, a'u bod yn dysgu gyda'i gilydd i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus. Rwy'n credu y gallwn fod yn falch fel Llywodraeth Lafur Cymru ac ar draws y Siambr hon o'r ffordd rydym wedi diogelu hawliau plant, fel y clywsom gan Julie Morgan heddiw. Hoffwn ddweud hefyd pa mor bwysig yw hi ein bod wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim i blant cynradd i helpu i fynd i'r afael â malltod tlodi plant.

Ac rwyf am ddweud rhywbeth am hyn: mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gweithio gyda phleidiau eraill dros y chwe thymor yn y Senedd i gyflawni nodau cyffredin. Cytundebau cydweithio, clymblaid—clywsom ychydig am y glymblaid, a'r ffordd y gweithiodd Jocelyn Davies a minnau a chwarae rhan yn hynny, yn gynharach heddiw. Rydym wedi cael trafodaethau ffrwythlon ar y gyllideb sydd wedi cryfhau datganoli: mwy o arian ar gyfer prentisiaethau, geni'r gronfa gofal integredig, ac yn fwy diweddar, mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth i bobl ifanc, gofal cymdeithasol a gofal plant. Roeddwn i'n gwerthfawrogi'r trafodaethau y cymerais ran ynddynt fel Gweinidog cyllid a Threfnydd, fel y gwnaeth cyd-Aelodau eraill, oherwydd fe allwn weld y canlyniadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

Mae'r ffordd hon o weithio yn adlewyrchiad o'r ffordd rydym wedi datblygu gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac rwy'n credu ei fod yn mynd yn ôl i ymgyrch 'Ie dros Gymru', oherwydd, Lywydd, roedd llawer ohonom sy'n gadael y Senedd yn ymgyrchwyr 'Ie dros Gymru', fel y dywedodd John. Fe wnaethom ddod â gwleidyddion a phleidiau blaengar o blaid datganoli at ei gilydd i ymgyrchu dros y bleidlais nodedig honno yn 1997. Ac rydym wedi adeiladu ar y traddodiad hwn dros y blynyddoedd. Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i gyflawni llawer o ganlyniadau pwysig i bobl Cymru a nawr edrychwn ymlaen at gyflwyno'r diwygiadau i'r Senedd y byddwn yn eu croesawu yn yr wythnosau i ddod, yn arwain at 7 Mai.

Felly, yn olaf, Lywydd, a gaf i ddiolch i bob un o'r 60 Aelod o'r chweched Senedd hon am eich gweithredoedd niferus o garedigrwydd a thosturi dros y pum mlynedd diwethaf? Meddyliwch am yr hyn rydym wedi bod drwyddo gyda'n gilydd, gan ddod allan o'r pandemig ac i mewn i argyfwng costau byw, y ffordd rydym wedi sefyll gyda'n gilydd ar adegau o argyfwng, fel goresgyniad Putin o Wcráin, gan groesawu 8,000 o Wcreiniaid i'n cenedl noddfa, yr adegau rydym wedi rhoi gwleidyddiaeth plaid o'r neilltu ac wedi cytuno ar yr hyn sy'n iawn i'w wneud. Beth sy'n iawn i'w wneud? Y deddfau rydym wedi'u pasio gyda'n gilydd, y polisïau rydym wedi bwrw ymlaen â nhw o ymchwiliadau pwyllgorau, y cyllidebau rydym wedi'u cryfhau. Felly, i'r rhai sy'n sefyll eto ac i'r ymgeiswyr eraill yn yr etholiad, rydym yn dymuno'n dda i chi, fenywod a dynion cryf a dewr sy'n adlewyrchu cryfderau mawr ac amrywiaeth wych Cymru.

Pob lwc i chi i gyd, a diolch i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]

19:10

Felly, dyma fy nghyfle i nawr ac fy ngeiriau olaf i fel Llywydd yn y chweched Senedd hon. Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth diweddar, mae'n debyg fy mod i wedi siarad 80 y cant o'm amser i fel Llywydd yn Gymraeg.

Ond bydd fy ngeiriau olaf yn Saesneg. Yr adegau hynny yn y gadair hon pan wyf wedi bod yn siarad Saesneg, mae wedi digwydd yn bennaf i ddweud y drefn wrth rai ohonoch, sy'n golygu fy mod i mae'n debyg wedi treulio 20 y cant o fy amser yn y gadair hon yn dweud y drefn wrthych neu'n dweud wrthych am frysio. Fel y darganfu Ann Jones, roedd fy amynedd yn tueddu i redeg yn brin os oedd fy siwgr gwaed yn rhy isel, a gwnaeth yn siŵr fod gennyf gyflenwad o gnau Ffrengig i fy nghynnal. Dylent fod gennyf neithiwr, rwy'n meddwl, pan ddechreuodd Julie James a Joyce herio fy mhenderfyniad ar bwynt o drefn.

Roedd y cais rhyddid gwybodaeth a grybwyllais nawr hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod David Rees wedi cadeirio 73 y cant o'i amser yn y Gymraeg. [Cymeradwyaeth.] Byddech chi'n disgwyl i mi gadeirio'n bennaf yn Gymraeg, ond rwy'n fwy balch o gyflawniad David yn cadeirio yn Gymraeg. Diolch, David. Nid yw David wedi fy nghynnal â chnau Ffrengig fel y gwnaeth Ann, gyda llaw, ond rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a'r cyngor doeth y mae David wedi'i roi i mi dros y pum mlynedd diwethaf yn y swydd. Sut y gallwn i fod wedi gwrthod cwestiwn amserol iddo heddiw ar ddur ym Mhort Talbot? Roedd rhaid ei gael.

Wrth edrych yn ôl, beth sy'n sefyll allan i mi dros y 10 mlynedd diwethaf? Yn gyntaf, roeddwn mor falch o'r ffordd yr ymatebodd y Senedd i bandemig COVID-19. Roedd yr ystwythder i symud craffu ar-lein yn gyflymach nag unrhyw Senedd arall yn y byd yn ôl pob tebyg, yn drawiadol. Y ffordd y cododd y Prif Weinidog, Gweinidogion y Llywodraeth, arweinwyr pleidiau a llefarwyr i ysgwyddo'r cyfrifoldeb a orfodwyd arnynt, gydag etheg gwaith a thosturi, buaswn yn dweud na allai hynny fod wedi cael ei wneud yn well gan unrhyw Senedd arall yn y byd.

Ym mis Mai 2020, ar anterth COVID, daeth y Cynulliad, yn ffurfiol ac yn ôl y gyfraith, yn Senedd. Mae'n debyg mai un o'r cwestiynau mwyaf arbenigol mewn cwis tafarn yn y blynyddoedd i ddod fydd: o ble y cadeiriwyd y cyfarfod cyntaf o Senedd Cymru? A'r ateb fydd o fy soffa i yn Aberaeron.

Yn ail, ac mae'n debyg mai hon yw fy unig neges i fy olynydd ym mis Mai, pwy bynnag fyddant: peidiwch â dim ond gwneud y swydd, gwnewch rywbeth gyda'r swydd. I mi, diwygio'r Senedd oedd hynny. Roedd yna deimlad anochel bob amser i'r ddadl fod rhy ychydig o Aelodau yn y lle hwn i arfer swyddogaethau Llywodraeth a chraffu llawn ac y byddai angen mwy ryw ddydd. Mae'r chweched Senedd hon wedi gwneud y penderfyniad ac wedi gosod y sylfaen ar gyfer Senedd sydd â digon o gapasiti i wasanaethu Cymru am weddill y ganrif hon. Mae'r wal gefn ffug wedi dod i lawr, ac i'r 96 Aelod a etholir ym mis Mai, ac mewn misoedd Mai i ddod, ni fydd lle i guddio, yn llythrennol, a bydd gan bobl Cymru ddisgwyliadau uchel iawn o bawb a etholir.

Ac yn drydydd, i orffen, yn y degawd olaf, mae ein Senedd wedi rhedeg ochr yn ochr â thair Senedd Ieuenctid. Ac er fy mod wedi bod yn falch o'r cyfraniadau niferus y mae'r rhan fwyaf ohonoch wedi'u gwneud yn y Siambr hon, gydag ychydig o eithriadau—nid wyf yn edrych ar unrhyw un—rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan onestrwydd, uniondeb a gobaith cyfraniadau ein seneddwyr ifanc. Weithiau rwy'n clywed gwleidyddion hŷn yn poeni, yn codi bwganod hyd yn oed, am ddyfodol Cymru a'n cymunedau. Rwy'n dweud, 'Peidiwch â phoeni.' Wrth gadeirio'r Senedd Ieuenctid, rwyf wedi cael cipolwg ar y dyfodol, ac rwy'n rhagweld, i'r Senedd hon ac i'r wlad hon, i ni, fod y gorau eto i ddod.

Wrth i mi orffen fy Nghyfarfod Llawn diwethaf yn y chweched Senedd, sut ydw i'n dymuno cael fy nghofio? Rwy'n credu ei fod wedi cael ei gyfleu orau gan Natasha amser cinio. Mae wedi bod yn fraint wirioneddol i fod yn  'speaker in a sneaker' y Senedd hon.

Diolch i chi, gyd-Aelodau, am eich cydweithio parod. Diolch hefyd i'r staff sy'n ein cynorthwyo ni fel Aelodau, yn staff gwleidyddol a staff y Comisiwn a'r contractwyr hefyd. Mae pawb mor wych. Rŷn ni'n Aelodau ffodus iawn, a dwi wedi bod yn Llywydd ffodus iawn.

Mae gennym un orchwyl arall i'w chyflawni, ein gorchwyl arferol.

Rŷn ni angen pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.]

A ydych chi eisiau i mi ganu'r gloch?

19:15

Mae fy mheiriant wedi rhewi. Rwyf wedi mewngofnodi ers oriau. Nid yw'n beth munud olaf; nid oes unrhyw beth yn digwydd pan fyddaf yn gwasgu'r bysellfwrdd.

Peidiwch â phoeni, fe'ch galwaf i bleidleisio, Lynne. Gadewch inni weld sut mae'r bleidlais hon yn mynd, felly.

10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais y prynhawn yma, heno, ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.

19:20

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.: O blaid: 24, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf—gwelliant yn enw James Evans yw hwn. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, 52 yn erbyn. Ac mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw James Evans.: O blaid: 2, Yn erbyn: 52, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ar y pwynt hwn, gallwn wneud gyda rhai o'r cnau Ffrengig yr arferai Ann Jones eu darparu i mi. [Chwerthin.]

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Russell George. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, 12 yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod. 

19:25

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Russell George.: O blaid: 17, Yn erbyn: 26, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Sydd yn golygu bod dim byd wedi cael ei dderbyn. 

Ar ôl yr holl ymdrech, ni dderbyniwyd unrhyw beth. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr ichi i gyd. Pob dymuniad da i'r rhai ohonoch chi sy'n ymddeol, a phob dymuniad da i'r gweddill ohonoch chi sydd ar fin sefyll etholiad. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni. 

Daeth y cyfarfod i ben am 19:26.