Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/03/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Hannah Blythyn.
1. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, 'Cyfle ein cenhedlaeth: Sefyllfa’r Gymraeg 2021-25'? OQ63969
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r comisiynydd am baratoi adroddiad annibynnol sy’n rhoi trosolwg manwl i ni o sefyllfa’r Gymraeg. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran ein targedau i gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, a’r defnydd a wnaed o’r iaith, ac mae’r adroddiad yn gosod her adeiladol i’r Llywodraeth mewn sawl maes polisi.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd Cabinet. Yn bersonol, fel rhywun sy'n dysgu Cymraeg, dwi'n gwerthfawrogi'r cyfle i ymarfer sgwrsio yn ddyddiol yn y Gymraeg—er enghraifft, drwy ymweld â Siop y Siswrn, neu dros beint yn nhafarndai'r Wyddgrug. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i ehangu cyfleoedd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae defnydd yr iaith yn isel?
Diolch yn fawr unwaith eto i Hannah Blythyn, a llongyfarchiadau am bopeth y mae hi'n ei wneud i ddysgu a defnyddio'r iaith. Wrth gwrs, yn adroddiad y comisiynydd, defnydd yr iaith yw un o'r themâu mwyaf yn yr adroddiad. Mae hi'n tynnu sylw at ddefnydd o'r Gymraeg y tu fas i'r ysgol, yn y gweithle, ac yn y cadarnleoedd, a chyfleon i bobl sy'n dysgu Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol, fel roedd Hannah Blythyn yn dweud. Rydyn ni'n ariannu prosiectau fel yna, trwy'r mentrau iaith. Rydyn ni wedi ehangu prosiect Perthyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Nawr mae mwy o arian yn Perthyn, ac mae pobl yn gallu rhoi cais i mewn am arian unrhyw le yng Nghymru. Dwi'n siŵr, yn etholaeth Hannah Blythyn, y bydd y ceisiadau yna ar gael. Yn barod, rydyn ni'n cefnogi gŵyl gymunedol Gwyddgig, yn yr Wyddgrug, sy'n rhoi cyfleon, gweithgareddau, ac yn y blaen, i deuluoedd, plant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach, i ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi wedi clywed, trwy'r mentrau iaith, am gynllun newydd Cymraeg yn y Coed ym mharc Loggerheads, lle mae pobl yn gallu cerdded a siarad Cymraeg ar yr un pryd.
Mae cwestiwn 2 [OQ63953] wedi'i dynnu yn ôl. Mi awn ni'n syth, felly, i gwestiynau y llefarwyr yr wythnos yma. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
yDiolch, Llywydd. Un o'r pethau dwi'n falch, Ysgrifennydd Cabinet, yr ydym ni wedi gallu ei wneud yn y Senedd hon ydy adeiladu consensws o ran yr iaith Gymraeg. Fel clywsom ni yn yr ateb i gwestiwn Tom Giffard yn gynharach, mae'n glir bod yna o leiaf ddau Aelod o'r Senedd bresennol hon ac efallai mwy yn y Senedd nesaf yn mynd i fod yn erbyn y Gymraeg. Gaf i ofyn pa mor bwysig ydych chi'n credu y mae'r ffaith bod gennym ni dargedau wedi bod o ran sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa gryfach o ran yr iaith? Ydych chi'n credu y byddem ni'n gweld cam yn ôl o ran y Gymraeg pe byddai'r targedau hynny yn diflannu?
Diolch i Heledd Fychan. Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi creu consensws tu ôl i'r iaith Gymraeg yn adlewyrchu beth mae pobl sy'n byw yng Nghymru eisiau i ni wneud. Mae hwnna wedi newid dros yr amser dwi wedi bod yn rhan o'r ddadl. Pan oeddwn i'n tyfu lan yng Nghaerfyrddin, roedd ffrae bron bob dydd am yr iaith Gymraeg, a doedd hynny ddim yn helpu neb. Nawr, yn y Siambr hon, rydyn ni bron i gyd yn cefnogi'r iaith Gymraeg ac mae hwnna'n rhan o gryfder yr iaith yng Nghymru heddiw. Mae targedau'n bwysig i hynny, wrth gwrs. Maent yn ein helpu ni gyda'r uchelgais sydd gyda ni. Mae'r targedau sydd gyda ni yn rhai rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw ar draws y Siambr. Dwi eisiau gweld hwnna'n parhau at y dyfodol.
Diolch. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig nad ydyn ni'n gweld y Gymraeg yn cael ei thrin fel rhywbeth i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn y dyfodol. Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu peidio â gwneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon.
Os caf i droi at fater arall, sef yr £14 biliwn o fuddsoddiad a gyhoeddwyd ar gyfer rheilffyrdd, allwch chi amlinellu sut cyrhaeddwyd at y ffigur o £14 biliwn? A wnewch chi ymrwymo at gyhoeddi nodyn yn egluro hyn, gan fod yna amwysedd yn atebion Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â hyn wrth iddo ateb cwestiynau ddoe, wrth iddo gyfaddef y gallai'r ffigur hwn fod yn uwchac y gallai fod yn llai? Dwi’n siŵr eich bod chi'n cytuno ei bod hi’n bwysig, o ran craffu a thryloywder, fod y Senedd yn cael gwybodaeth fanwl o ran faint o arian fydd yn cael ei ryddhau a phryd.
Clywais i Ken Skates yn ymateb i'r cwestiynau ar lawr y Senedd ddoe. Clywais i ef yn esbonio'r ffigurau y tu ôl i'r £14 biliwn. Mae ef a Thrafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen sy'n dangos ble mae'r posibiliadau i fuddsoddi arian yn dod yn y dyfodol. Clywais i Ken Skates yn dweud ei fod e'n barod i roi fwy o wybodaeth am y ffigurau hefyd. So, wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad â fe a threial cael mwy o fanylion i Aelodau. Beth roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ei ddweud oedd, pan fyddwch chi'n edrych ymlaen ac rŷch chi'n treial cynllunio dros ddegawd neu fwy, wrth gwrs mae ffigurau yn gallu newid. Mae'n dibynnu ar lot o bethau a, heddiw, allwn ni ddim rhagweld popeth sy'n mynd i ddigwydd.
Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Wrth gwrs, rydyn ni gyd yn deall hynny, ond pan fydd rhywbeth yn cael ei gyflwyno fel, 'Mae yna £14 biliwn yn bendant yn dod i Gymru', dyna pam rydyn ni'n herio hynny, oherwydd os caf i eich dyfynnu chi eich hun yn 2019, wrth ymateb i gyhoeddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y pryd,
Wel, onid ydy hynny'n wir o ran y £10 biliwn o'r £14 biliwn a gyhoeddwyd hyd yma? Dyna rydyn ni'n trio deall. Mae'ch Llywodraeth chi'n dweud, 'Mae yna £14 biliwn yn bendant yn dod i Gymru.' Dydy hynny ddim yn wir o'r hyn rydyn ni'n ei weld fan hyn.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganlyniadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU i bobl Islwyn? OQ63967
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ryddhad ardrethi busnes ar gyfer tafarndai a bwytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63965
5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o effaith y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn Nwyrain De Cymru? OQ63961
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ba ddyraniadau cyllid canlyniadol Barnett y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cael yng ngoleuni datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU? OQ63973
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd ardoll ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn ei chael ar Ddwyrain De Cymru? OQ63962
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar oblygiadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63974
Diolch yn fawr i Cefin Campbell. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adfer sefydlogrwydd i'r economi a chyllid cyhoeddus. Cadarnhaodd rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd cynhyrchiant, enillion ac incwm gwirioneddol aelwydydd yn cynyddu, buddion a fydd yn cael eu teimlo ledled Cymru drwy wella safonau byw a sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn well eu bywyd a phlant yn cael eu codi allan o dlodi.
Cwestiwn 9 gan Gareth Davies yn olaf.
9. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr arian a godir o'r ardoll ymwelwyr yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith twristiaeth? OQ63964
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae cynlluniau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Rhwydweithiau Natur yn cysylltu pobl â byd natur? OQ63957
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella ansawdd dŵr mewn afonydd? OQ63977
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella proffidioldeb yn y sector ffermio? OQ63971
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ63947
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella diogeledd bwyd yng Nghymru? OQ63956
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i ddarparu atebion parhaol i lifogydd afonol yn Sir Ddinbych? OQ63963
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lygredd aer a dŵr yn Abertawe? OQ63943
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth wasanaethu pobl Islwyn? OQ63968
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Sioned Williams.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y goblygiadau costau byw i Gymru yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol? TQ1452
Diolch, a diolch am ddod yma i ateb ar ran y Prif Weinidog, gan taw hi sy'n gyfrifol, wrth gwrs, am faterion rhyngwladol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd yr ail gwestiwn gan Hannah Blythyn.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith ffugiadau dwfn mewn perthynas ag etholiad y Senedd eleni, yn dilyn adroddiadau newyddion diweddar? TQ1453
A Sioned Williams.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. A ninnau newydd ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dwi am sôn am un o ferched rhyfeddol Caernarfon.
Yn ganolog i’r stori hon, mae canolfan Noddfa, canolfan gymunedol yng nghalon Ysgubor Goch, sydd bellach yn gartref i brosiectau bwyd, ysgol feithrin, prosiect cerdd a llawer, llawer mwy.
Capel oedd Noddfa yn wreiddiol, a dyma le mae hanes Emily Roberts, neu’r Chwaer Emily, yn dod i mewn i bethau. Roedd Emily yn aelod o Forward Movement. Roedd merched y mudiad yn symud i fyw i ardaloedd difreintiedig ac yn sefydlu ysgolion Sul. A dyna sut ddaeth Emily Roberts i fyw a gweithio i stad Ysgubor Goch yn 1955. Ar y cychwyn, roedd hi'n mynd â phlant i'r capeli yn y dref, ond fe ddaeth hi i gredu yn fuan iawn y dylid cael capel ar y stad, yng nghanol Ysgubor Goch.
Yn 1956, mi wnaeth hi glywed fod yna gapel sinc, capel yn perthyn i'r Wesleaid ym Mhorthmadog, yn cau, ac mi wnaeth hi drefnu i gludo'r capel sinc i Gaernarfon a'i osod o le mae Noddfa heddiw. Agorwyd adeilad mwy parhaol yn 1966.
Oni bai am weledigaeth Emily Roberts, fyddai Noddfa ddim yn bodoli heddiw, a byddai’r gymuned leol ar ei cholled heb yr holl waith da sydd wedi digwydd yno yn ystod y 70 mlynedd diwethaf.
Diolch i Sister Emily am ei gweledigaeth, a phen-blwydd hapus iawn i ganolfan bresennol Noddfa ar ei phen-blwydd yn hanner cant eleni.
I ddilyn datganiad Siân, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dwi eisiau jest sôn am fenyw o Aberhonddu, os gwelwch yn dda.
Diolch, bawb.
Eitem 5 ar ein hagenda ni yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: cofrestru buddiannau’r Aelodau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9203 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 3, 4 a 5 mewn perthynas â Chofrestru Buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: datgan buddiannau’r Aelodau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9204 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 13, 15 a 17 mewn perthynas â datgan buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: busnes seneddol yn y seithfed Senedd. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9205 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11.10 a 12.6(i)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Aelod. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9206 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26: Biliau Aelod’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau cyhoeddus. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9207 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 Deddfau’r Senedd, a newidiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 26A Deddfau Preifat y Senedd, 26B Deddfau Hybrid y Senedd a 26C Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: deisebau’r cyhoedd. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9208 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23 – Deisebau’r Cyhoedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y Llywydd i ateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru', a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM9200 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Mae'r gallu i gynhyrchu a phrosesu bwyd, wrth gwrs, yn asedau cenedlaethol strategol pwysig, ac rŷm ni'n gwybod am gyfraniad y sector bwyd a diod yng Nghymru, yn cynnal bron i 0.25 miliwn o swyddi, yn gyfrifol am tua 17 y cant o holl gyflogaeth Cymru. Wrth wraidd y cyfan, wrth gwrs, mae'r cynhyrchwyr cynradd craidd yna, yn bennaf amaethyddiaeth, ond dyframaeth a garddwriaeth hefyd. Ond eto i gyd, mae 95 y cant o ddosbarthiad bwyd y Deyrnas Unedig yn cael ei ddominyddu gan dim ond llond llaw fach o archfarchnadoedd mawr. Mae’r crynodiad pŵer yna yn gallu gwasgu cynhyrchwyr, yn aml iawn, ac wrth gwrs yn allforio gormod o elw mas o’n cymunedau ni. Un o’r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym ni yng Nghymru i ail-gydbwyso hynny yw caffael cyhoeddus, wrth gwrs, ac, ar hyn o bryd, beth yw e, dim ond rhyw 50 y cant, 55 y cant o wariant caffael y sector gyhoeddus sy’n aros yng Nghymru. Wel, wrth gwrs, mae angen cynyddu hynny yn sylweddol, i fod yn agosach at 75 y cant a thu hwnt. Mae hynny’n bwysig, wrth gwrs, oherwydd am bob 1 y cant yn ychwanegol rŷn ni’n cadw o’r gwariant yna yng Nghymru, yna mae’n cynhyrchu miloedd o swyddi. Felly, os gallwch chi gadw 10 y cant yn fwy, mae un ffigur dwi wedi'i weld yn awgrymu y byddai cymaint â 20,000 yn ychwanegol o swyddi o fewn economi Cymreig. Beth sy’n wych am hynny, wrth gwrs, yw eich bod chi'n cynhyrchu'r gwerth ychwanegol yna gyda'r un gwariant. Dŷch chi ddim o reidrwydd yn gwario'ch arian mewn ffordd wahanol, dim ond yn gwario'n ddoethach ac yn dewis cynhyrchwyr Cymreig.
Pan fydd ysgolion yn gweini cyw iâr wedi’i fewnforio o bellafion y byd, fel rŷn ni wedi cael ein hatgoffa ohono fe yn ddiweddar, wrth gwrs, tra, ar yr un pryd, bod cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru weithiau'n cael hi’n anodd goroesi, wel, dyw hynny ddim yn rhywbeth sydd yn anochel. Mae hynny'n ddewis, onid yw e? Mae'n ddewis sy'n cael ei yrru gan arferion caffel yma yng Nghymru, ac mae angen i hynny newid.
Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ddiwygio caffel fynd law yn llaw gyda chryfhau capasiti prosesu, ac mae hynny'n cynnwys amddiffyn lladd-dai lleol a chyfleusterau prosesu rhanbarthol fel bod y gwerth yna yn aros yng Nghymru, a bod ein cadwyni cyflenwi ni yn fyrrach, ac felly yn fwy gwydn a hefyd yn fwy sofren.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn hefyd i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am wneud y gwaith pwysig ar yr ymchwiliad i brosesu bwyd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb.
Felly, gaf i ddweud bod adroddiad y pwyllgor yn dangos cyfleoedd a heriau hefyd? Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddiwydiant prosesu bwyd sy'n ffynnu, yn gynaliadwy, ac yn wydn, gan gefnogi busnesau, cynorthwyo cymunedau, a darparu ar gyfer Cymru, heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Cadeirydd y pwyllgor nawr i ymateb. Andrew R.T. Davies.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r adroddiad wedi cael ei nodi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig eto, 'Cronfa Twf Lleol'. Y Cadeirydd fydd yn cyflwyno. Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM9201 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Gronfa Twf Lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw dadl ar Gyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9210 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Roedd aelodau o'r gymuned fyddar a'r grwpiau sy'n eu cynrychioli nhw yn gwylio o'r galeri ac ar-lein yn ystod ein trafodion Cyfnod 3 yr wythnos diwethaf. Fe hwyluswyd hyn, wrth gwrs, drwy ddarpariaeth dehonglwyr BSL. Fe ddywedodd rhai ohonyn nhw wrthyf i wedyn pa mor rymus oedd hi i weld y fath ymrwymiad ar draws y pleidiau i'r gymuned BSL fyddar, ac i weld sut mae dealltwriaeth a chydnabyddiaeth Aelodau o BSL wedi datblygu a dyfnhau yn ystod y broses graffu, a'r anghydraddoldebau a'r anfantais mae'r gymuned yn eu hwynebu.
Felly, mae pasio'r Bil hwn yn gam cyntaf yn y broses o sicrhau bod hynny yn parhau, a bod y gwaith mawr sydd angen ei wneud nawr yn dechrau. Maen nhw'n gwylio nawr, mae rhai ohonyn nhw yn y galeri, a dwi'n gwybod eu bod nhw hefyd yn gwylio drwy lif byw yng Nghanolfan yr Urdd ar draws y ffordd. Roedd hi'n fraint i ddathlu gyda nhw heddiw ac i'w llongyfarch ar y gwaith caled a'r dyfalbarhad, a'u hamynedd nhw hefyd wrth ymgyrchu'n ddiflino dros eu hawliau ieithyddol.
Wrth gwrs, byddwn ni hefyd eisiau rhoi teyrnged i Mark Isherwood am gael y maen i'r wal. Mae hi wedi bod yn brofiad fyddaf i fyth yn ei anghofio, gweithio ar y Bil hwn, ac mae wedi bod yn wers bwysig. Mae'r cydweithio gyda'r gymuned fyddar yn drawsbleidiol gyda Mark a'r Ysgrifennydd Cabinet wir wedi dangos, dwi'n meddwl, sut mae modd inni, drwy ein Senedd, fod yn flaengar ac yn uchelgeisiol, drwy ddod ynghyd er budd y bobl rŷn ni'n eu cynrychioli, yn enwedig y rhai sydd heb gael y sylw y dylen nhw fod wedi ei gael am yn rhy hir.
Mae Plaid Cymru felly yn falch o gefnogi'r Bil hwn, ac mi fyddwn ni hefyd yn falch o barhau i gefnogi'r gwaith fydd yn dilyn ohono dros y blynyddoedd nesaf, achos mae disgwyliadau wedi cael eu codi gan y Bil ac mae'r Bil hwn yn addewid y mae'n rhaid ei gadw.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
A galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, gohirir y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 14, dadl ar adroddiad y bwrdd adolygiad o Senedd sy'n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd, a galwaf ar Joyce Watson i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9199 Joyce Watson
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r adroddiad ar yr Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd, 'Senedd i Bawb', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Dwi am wneud tri phwynt yn y ddadl heddiw. Mae'r cyntaf o gwmpas yr angen am fecanweithiau statudol i sicrhau balans rhywedd yn Seneddau'r dyfodol. Yn ail, dwi am sôn am y cynnydd hynod bryderus mewn sylwadau sarhaus a chamdriniaeth o ferched ar-lein. Ac yn drydydd, dwi am ddadlau bod angen i'r gwaith o greu Senedd sy'n arddel cydraddoldeb mewn cynrychiolaeth a chyfranogiad ar draws y nodweddion sy'n cael eu gwarchod fod yn fater ar gyfer y sefydliad yn ei gyfanrwydd, nid yn waith sy'n cael ei yrru gan rai merched a grwpiau lleiafrifol ymroddedig yn unig.
Mae tystiolaeth yn dangos bod seneddau sydd yn gydradd o ran rhywedd yn sefydliadau mwy effeithiol o ran democratiaeth, gan fod lleisiau yn gydradd o gwmpas y bwrdd.
o gwmpas y bwrdd. Mae hynny yn ei dro yn arwain at sylw priodol i faterion sy'n effeithio ar ferched ym mhob man, yn ogystal â'r materion sy'n effeithio ar dynion neu'r boblogaeth gyfan. O faterion yn ymwneud â'r misglwyf a'r menopos i ofalwyr di-dâl—lle mae'r mwyafrif helaeth yn ferched—i ddiogelwch merched a thrais yn erbyn menywod.
Fy mhryder mawr i ydy na fydd Seneddau'r dyfodol yn agos at fod yn gydradd o ran rhywedd. Rydym ni wedi disgyn yn ôl yn y Senedd yma. Felly, dydy dulliau gwirfoddol ddim yn gweithio. Mi oedd o'n siom mawr i mi na wireddwyd yr ymrwymiad i greu cwotâu rhywedd statudol—sef yr unig ffordd i sicrhau cynrychiolaeth gydradd ar draws y pleidiau yn y Senedd.
Dwi'n falch fod argymhelliad 4 yr adroddiad sydd gerbron heddiw ynglŷn â datganoli'r cynhwysedd i alluogi deddfu i gefnogi amrywiaeth ymgeiswyr etholiadol; fod hwn wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad— ac mae hwn yn argymhelliad holl bwysig ar gyfer y Llywodraeth nesaf. Mae hyn yn wreiddiol i wireddu'r nod o Senedd gyfartal.
Dwi'n falch fod fy mhlaid i wedi sicrhau fod hanner ein hymgeiswyr yn ferched, gyda merched ar frig y rhestrau mewn hanner neu fwy o etholaethau ar gyfer etholiad mis Mai. Y siom ydy nad ydy hynny'n debygol o fod yn wir ar gyfer rhai pleidiau eraill, ag y byddwn ni, fel Senedd gyfan, wedi disgyn yn ôl ymhellach o ran cydraddoldeb rhywedd ar ôl yr etholiad.
Yn troi at fy ail bwynt, sef y cynnydd hollol annerbyniol mewn camdriniaeth a sylwadau sarhaus yn erbyn menywod ar lein. Mae adroddiad Prifysgol Caerdydd yn tynnu sylw at hyn—at y lefel hunllefus o gamdriniaeth ar lein yn erbyn menywod. Mae'n holl bwysig fod y peilot sydd ar waith ar hyn o bryd sy'n monitro cyfrifon cyfryngau cymdeithasol nifer ohonon ni—bod y peilot yna'n parhau ac yn dod yn un sefydlog yn y Senedd nesaf. Dwi'n meddwl—a dwi'n cyd-fynd efo beth mae Joyce Watson newydd ei ddweud—fod angen hefyd bod y system monitro yma yn digwydd yn ystod y cyfnod nesaf sydd o'm mlaenau, y cyfnod etholiadol. Ac mae'n bwysig fod yr argymhellion yn yr adroddiad o gwmpas y maes yma yn cael eu gweithredu.
Mae'r hinsawdd bresennol o ymosodiadau personol diddiwedd i Aelodau Seneddol benywaidd ar lein yn rhwystro merched rhag rhoi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr. Dwi wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers deng mlynedd erbyn hyn, a dwi wedi gweld cynnydd syfrdanol dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig mewn ymosodiadau; ymosodiadau arnaf fi, fel menyw mewn gwleidyddiaeth, fel menyw hyn mewn gwleidyddiaeth, ac fel menyw sydd yn siarad Cymraeg yn fy mywyd cyhoeddus. Mae'r ymddygiad yn gywilyddus o wael. Weithiau, mae'r sylwadau yn croesi'r trothwy troseddol, a dyna le mae'r peilot mor werthfawr, a'r gweithredu sy'n gallu digwydd wedyn er mwyn dal y troseddwyr i gyfrif a drwy hynny, ddiogelu merched ymhobman.
Dwi'n troi at fy mhwynt olaf, sef yr angen i'r Senedd fel sefydliad arwain y newid sydd ei angen. Rydym wedi bod yn flaengar yng Nghymru ac mae angen dathlu hynny. Mae llawer o hynny wedi digwydd oherwydd ymdrechion unigol nifer o ferched dros gyfnod hir. Maen nhw wedi cael eu cefnogi gan gynghreiriaid o blith y dynion, ie. Mae nifer o'r merched sydd wedi gyrru'r newid efo ni heddiw yn y Siambr. Nifer yn ymddeol eleni—
Siân, mae'n rhaid i ti orffen, os gwelwch yn dda.
–ac mae ein diolch yn fawr iawn iddyn nhw ag i'r merched fu yma o'u blaenau nhw.
Mi fues i mewn digwyddiad wedi ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar yn trafod yr hyn sydd gerbron heddiw yma, a'r neges glir gan yr Athro Sarah Childs a'r Athro Rosie Campbell oedd hyn: mae'n rhaid i'r newid ddigwydd ar lefel y sefydliad cyfan. Mae llawer o ferched wedi gorfod defnyddio eu cyfalaf gwleidyddol er mwyn symud yr agenda ymlaen yn y gorffennol. Mae’n bryd i’r gwaith godi i lefel sefydliad cyfan, a dyna ydy fy anogaeth i’r Comisiwn heddiw.
Mae hwn yn adroddiad pwysig, a dwi'n meddwl ei fod e'n gofyn cwestiwn sylfaenol i ni fel Senedd, yn enwedig wrth i ni edrych ymlaen tua'r dyfodol wedi'r broses yna dŷn ni wedi mynd drwyddi o ran diwygio seneddol: pa fath o sefydliad democrataidd ŷn ni eisiau bod? Ac i ateb y cwestiwn yna, mae'n rhaid inni ofyn cyfres arall o gwestiynau: pwy sy’n gallu gweld eu hunain yma? Pwy sy’n teimlo bod lle iddyn nhw yma? A pha rwystrau sydd yn eu ffordd? Felly, mae’r adolygiad yma, dwi'n meddwl, yr adroddiad, yn ystyried y cwestiynau yma, yn edrych ar sut y dylem ni weithio fel sefydliad o ran ein diwylliant, o ran ein ffyrdd o weithio, ac ar y cyfleusterau sydd ar gael i Aelodau a staff. A dwi'n meddwl bod y neges yn glir o'r adroddiad: os ŷn ni'n moyn bod yn Senedd sy'n wirioneddol cynrychioli Cymru, yna mae’n rhaid inni wneud newidiadau. A dwi'n croesawu llawer o’r argymhellion yn yr adroddiad. Mae fe'n nodi, fel rŷn ni wedi clywed, fod gan y Senedd hanes cryf o ran cynrychiolaeth a chynhwysiant, yn enwedig o ran cynrychiolaeth menywod. Ond mae hefyd yn rhybuddio, fel y clywsom ni gan Siân Gwenllian, allwn ni ddim cymryd hynny’n ganiataol. Felly, mae’n rhaid i ni wreiddio'r arferion cynhwysol yma i strwythur y sefydliad ac nid dibynnu, fel y dywedodd Jane Dodds, ar arferion anffurfiol yn unig.
Dwi eisiau rhoi ffocws i ddau o’r argymhellion—maen nhw'n sefyll mas i fi—sef y ddarpariaeth gofal plant a’r egwyddor o rannu swyddi. Mae'n rhaid i'r Senedd ymrwymo i’r egwyddor o ddarparu gofal plant ar y safle, dwi'n meddwl, ar gyfer Aelodau, staff ac aelodau o'r cyhoedd. Fe ddechreuais i fy ngyrfa broffesiynol i yn 1994 yn BBC Cymru yma yng Nghaerdydd, ac, fel sefydliad cenedlaethol o bwys a chyflogwr da,
a chyflogwr da, roedd crèche yno ym 1994, pum mlynedd cyn i ni gael datganoli. Roedd yn syfrdanol deall pan ddes i yma yn 2021 i sefydliad cenedlaethol, os nad ein prif sefydliad cenedlaethol, nad oedd crèche yma.
Rŷn ni'n sefydliad sy’n gwneud deddfau ar gyfer Cymru gyfan. Rŷn ni'n trafod polisïau cydraddoldeb ac effaith hynny ar deuluoedd, a chyfrifoldebau gofalu bron yn wythnosol y Siambr. Ond mae diffyg crèche yn rhoi neges glir nad ŷn ni am gefnogi teuluoedd yma yn y modd mwyaf sylfaenol.
Yr ail fater wedyn sydd angen gweithredu brys arno, dwi'n meddwl, yw rhannu swyddi. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 sydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywydd gynnig sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid llenwi rhai swyddi yn y Senedd drwy rannu swyddi. Felly, hoffwn i ofyn pa waith sydd wedi digwydd o ran paratoi at hyn.
Wedyn dwi eisiau sôn eto am fy mhrofiad personol: rhannu swydd ym Mhrifysgol Abertawe wnaeth ganiatáu i fi ddychwelyd i'r byd gwaith fel mam i ddau o blant bach. Dwi'n gwybod, fe glywais i gan fy rheolwr—roedd y ddwy ohonom ni yn famau oedd yn rhannu swydd—fod y brifysgol wedi elwa o hynny, o gryfderau, personoliaethau a phrofiad gwahanol mewn un tîm, wrth inni ymgymryd â thasgau y rôl yna. Felly, pam na ddylai ein democratiaeth hefyd elwa ar y math yna o hyblygrwydd cadarnhaol fyddai'n cymell pobl, a menywod yn benodol, i fedru rhannu o'u doniau? Dyw'r syniad yma ddim yn ymwneud â lleihau’r gwaith. Mae’n ymwneud ag ehangu pwy all wneud y gwaith hwnnw.
Y pwynt olaf hoffwn i ei wneud, sy'n gysylltiedig, ar hynny, yw ar hyn o bryd bod gormod o bobl anabl yn gweld gwleidyddiaeth fel rhywbeth sy’n amhosibl iddyn nhw, nid oherwydd diffyg gallu, ond oherwydd bod yna strwythurau sydd heb eu cynllunio gyda phawb mewn golwg. Felly, un peth hoffwn i grybwyll wrth orffen yw sôn am sicrhau gwell fynediad i bobl anabl i'r Senedd.
Mae'r adroddiad yn nodi i'r pwyllgor drafod y posibilrwydd o alw am seibiannau rheolaidd mewn trafodion. Daethon nhw i'r casgliad mwyafrifol mai’r Llywydd a Chadeiryddion pwyllgorau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall pryd mae angen seibiannau mewn trafodion. Dwi'n credu bod y casgliad yma yn arddangos yn gwbl eglur pam fod angen ymgorffori mesurau yn strwythurol yn hytrach na'u gadael nhw i hap, achos a fydd gan Lywydd neu Gadeiryddion y dyfodol brofiad a dealltwriaeth o anabledd neu gyflwr iechyd sy'n gwneud seibiau rheolaidd yn hanfodol? Fydd gyda nhw y ddealltwriaeth o hynny? Fel rhywun sydd a phrofiad o gadeirio a mynychu cyfarfodydd sy'n cynnwys pobl anabl, gallaf i ddweud wrthych chi byddai barn y rhelyw yn wahanol iawn i un y pwyllgor sydd, hyd y gwn i, yn bobl heb anabledd. Felly, hoffwn glywed ymateb penodol i'r pwynt yna. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.