Y Cyfarfod Llawn
Plenary
10/02/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf heddiw fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Joyce Watson.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau yng Nghymru? OQ63837
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect Porth Wrecsam? OQ63815
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Beth yw blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro dros y deuddeg mis nesaf? OQ63812
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff, tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel? OQ63818
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar statws mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ63836
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi tafarndai a bragdai yng Ngorllewin De Cymru? OQ63811
7. Pa gamau pellach fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r iaith Gymraeg ym mhob rhan o Gymru? OQ63853
Diolch yn fawr i ti, John, a diolch am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg hefyd. Rŷn ni’n falch iawn o’r newid agwedd tuag at y Gymraeg ers inni sefydlu’r Senedd. Mae hyn yn bennaf diolch i ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i’r Gymraeg a’n dymuniad i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i ymrwymo’n llwyr i gryfhau’r Gymraeg ymhob rhan o Gymru drwy ‘Cymraeg 2050’, gan ehangu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n her fawr i adeiladu'r iaith Gymraeg mewn ardaloedd fel Dwyrain Casnewydd, lle nad ydy'n gryf. Mae camau pwysig wedi'u cymryd—addysg cyfrwng Cymraeg, er enghraifft—ond mae llawer o waith i'w wneud i adeiladu defnydd yn y gymuned. Felly, mae'n bryd creu ffyrdd newydd o gryfhau'r iaith yn Nwyrain Casnewydd er mwyn gwneud cynnydd pellach. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried yn ofalus sut i gefnogi'r iaith Gymraeg ymhellach yn Nwyrain Casnewydd?
Diolch yn fawr i ti, John. Mae dy dreigliadau di'n well na fy rhai i, felly llongyfarchiadau ar hynny.
Dwi'n meddwl ei fod e'n anhygoel faint o gynnydd rŷn ni wedi'i weld yn y Gymraeg mewn lle fel Casnewydd. Yn 2013, roedd 620 o blant yn mynychu ysgolion Cymraeg, ac, erbyn 2023, roedd 1,340, felly mae hynny'n fwy na dwbl mewn degawd, a dyna'r cyfeiriad rŷn ni eisiau'i weld. Mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, a dwi'n meddwl bydd yna gyfle, y flwyddyn nesaf yn arbennig, pan ddaw Eisteddfod yr Urdd i Gasnewydd, i sicrhau bod y gymuned yn fwy ymwybodol o'r iaith Gymraeg a'r posibiliadau yna.
Nawr, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dod â rhywbeth i'r Senedd ar 24 Chwefror, lle bydd e'n sôn am weithredu argymhellion cam 1 y Comisiwn Cymunedau Cymraeg—nawr, y rheini yw'r ardaloedd lle mae lot o Gymraeg yn cael ei siarad, ond, ar ôl hynny, yn yr ail gam, bydd y comisiwn newydd yn edrych ar ardaloedd eraill o Gymru lle nad oes cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad, ac, wrth gwrs, bydd Casnewydd yn rhan o hynny, a byddwn ni'n gweld beth mwy rŷn ni'n gallu ei wneud i sicrhau cynnydd y Gymraeg yn eich ardal chi.
Yn olaf, cwestiwn 8—Mike Hedges.
8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ63810
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hynny. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon; mae’r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory wedi cael eu lleihau i 10 munud. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Trefnydd, mi hoffwn i godi heddiw achos Enzo Romano, y chwaraewr pêl-droed ifanc a aned yng Nghaerdydd yn 2009 ond sydd wedi cael ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig wedi ei wrthod ddwywaith. Mi hoffwn i wybod pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi, gan weithio gyda'r Swyddfa Gartref, er mwyn sicrhau bod Enzo yn cael yr hawl hwnnw, oherwydd, fel y byddwch wedi ei weld wythnos diwethaf, dwi’n siŵr, mae Enzo wedi cynrychioli Cymru ar lefel ieuenctid, ac wedi chwarae dros academïau rhai o glybiau blaenllaw Ewrop, gan gynnwys Barcelona. Er gwaethaf cynigion i chwarae i dimau ieuenctid Sbaen a'r Eidal, mae Enzo wedi dewis gwrthod y rhain, gan ddweud ei fod yn benderfynol o gynrychioli Cymru. Mi ddywedodd o ei hun wythnos diwethaf:
'Mae meddwl na allaf i gynrychioli fy ngwlad wrth chwarae pêl-droed oherwydd y sefyllfa hon, yn brifo fi'n fawr iawn.'
Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau gweld Enzo yn chwarae dros Gymru, felly sut mae Llywodraeth Cymru am gefnogi hynny?
Trefnydd, fedrwch chi ofyn i'r Gweinidog addysg uwch wneud datganiad ar frys am sylwadau cwbl warthus Reform am Brifysgol Bangor? Mae pennaeth polisi Reform UK, Zia Yusuf, wedi dweud hyn wrth sôn am gyllid Prifysgol Bangor:
Hynny yw, mae Reform yn bygwth cymryd arian mawr oddi ar y brifysgol, ac felly yn peryglu dyfodol y brifysgol. Mae hyn yn dangos nad ydy Reform yn ffit i lywodraethu a dydy Reform ddim yn deall fy etholaeth i. Prifysgol Bangor ydy un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, yn rhoi gwaith i gannoedd, i drydanwyr lleol a darlithwyr sy'n hyfforddi nyrsys a meddygon y dyfodol. Mae sylwadau Reform yn gwbl annerbyniol ac maen nhw am greu panig yn lleol. Mae'r brifysgol yn ganolog i fywyd cymunedol ac economaidd yr ardal ac wedi cael ei sefydlu drwy ymdrech chwarelwyr Arfon. A wnaiff y Llywodraeth ymuno efo fi i gondemnio'r datganiad yma gan Reform ar unwaith? Mae bwlian a bygwth ein sefydliadau addysg uwch ni à la Trump yn gwbl, gwbl warthus ac yn mynd yn hollol groes i'n gwerthoedd yma yng Nghymru.
Ac yn olaf, Tom Giffard.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 yw'r datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar wythnos prentisiaethau. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 4 yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9141 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y cynnig.
Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o’r rheoliadau, a gofynnaf i’r Aelodau gymeradwyo’r rheoliadau heddiw.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Mi fyddwn i'n hoffi cadarnhau heddiw y bydd Plaid Cymru'n cefnogi'r rheoliadau yma—ddim yn sioc, gobeithio, i'r Ysgrifennydd Cabinet, a minnau wedi crybwyll hynny y tro diwethaf roeddem ni'n trafod hyn. Ond dwi yn meddwl y byddwn i'n hoffi gwneud y pwynt, yn amlwg, o ran croesawu, ein bod ni wedi bod yn annog y Llywodraeth i ddefnyddio pwerau newydd dros ardrethi annomestig er mwyn gwella a chefnogi busnesau lleol ers sbel. Rydym ni'n credu bod hwn yn mynd i greu sefyllfa fwy ffafriol ar gyfer y sector manwerthu, ac felly yn ei groesawu o.
Mi fyddwch chi'n ymwybodol, o drafodaethau blaenorol, o'r cwestiynau a fu o ran peidio cynnwys lletygarwch. Mi fyddwn i'n hoffi cymryd y cyfle hwn i wneud y pwynt eto bod hwn yn sector sydd hefyd angen cefnogaeth, ac y byddwn i, felly, yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth nesaf yn edrych ar ffyrdd i estyn y gefnogaeth sydd ar gael i'r sector hon. Ond dwi'n gobeithio bod y cadarnhad yna yn help i'r Ysgrifennydd Cabinet heddiw o ran deall y byddwn ni'n cefnogi hwn, ond byddem ni'n hoffi gweld y Llywodraeth nesaf yn edrych ar beth arall sy'n bosib i gefnogi busnesau eraill hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi am gefnogaeth Plaid Cymru i beth sydd o flaen y Senedd heddiw. Dwi'n siŵr, ar ôl yr holl waith roedd Luke Fletcher wedi ei wneud i dynnu sylw'r Senedd at y posibiliadau newydd, bydd e'n falch o glywed beth ddywedodd yr Aelod.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9142 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Symudaf y cynnig.
Fel arfer, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau. Rwyf wedi ystyried ac ymateb i'r pwyntiau craffu a gafodd eu codi. Bydd nifer fach o fân gywiriadau yn cael eu gwneud i'r rheoliadau cyn eu llofnodi os bydd y Senedd yn eu cymeradwyo'r prynhawn yma. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6, Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9140 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr i'r Cadeirydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9145 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y tro olaf y prynhawn yma.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9144 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 9, Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9143 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Y Dirprwy Brif Weinidog i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 heddiw, Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM9139 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11, cynnig cydsyniad deddfwriaethol, y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jeremy Miles.
Cynnig NDM9138 Jeremy Miles
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau ym Mil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) 2026. Mae'r rhain wedi'u nodi yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r Bil hwn yn gwneud darpariaeth bwysig ac angenrheidiol ar gyfer blaenoriaethu lleoedd ar raglenni hyfforddiant meddygol y Deyrnas Unedig i fyfyrwyr meddygaeth, o ble bynnag maen nhw'n dod, sydd wedi graddio o ysgolion meddygol yn y wlad. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi hefyd i nifer bach o fyfyrwyr sydd wedi graddio o wledydd eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol llwyddiannus i feddygon sydd wedi hyfforddi yng Nghymru yn ogystal â sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd y meddygon sydd eu hangen arno yn y dyfodol.
I wneud hynny, rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i sicrhau dull cydlynol o flaenoriaethu hyfforddiant meddygol. Mae'r Bil hwn yn sefydlu fframwaith statudol ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer blaenoriaethu ymgeiswyr i raglen sylfaen a rhaglenni hyfforddiant meddygol arbenigol yn ystod cyfnodau o ordanysgrifo. Mae system flaenoriaethu ledled y Deyrnas Unedig yn hanfodol i ddiogelu lleoedd hyfforddiant ar gyfer meddygon sydd wedi hyfforddi yn y wlad. Mae system o'r fath hefyd yn hanfodol i reoli'r pwysau cynyddol sy'n deillio o'r cynnydd mewn ceisiadau. Bydd y dull hwn yn lleihau oedi, yn osgoi dyraniadau cadw lle ac yn caniatáu i'r system addasu dros amser wrth i anghenion y gweithlu esblygu.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Peter Fox.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Mae angen gwneud mwy er mwyn cefnogi a chryfhau ein gweithlu domestig yma. Does dim amheuaeth am hynny. Yn wir, dwi'n cofio codi hyn sawl blwyddyn yn ôl bellach, gan ddadlau y dylid efelychu prosiect academi prentisiaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a oedd yn hyfforddi ei weithlu nyrsio ei hun yn yr achos yna. Yn wir, mae Cymru yn arbennig o agored i golli cyfoeth o dalent sy'n cael ei feithrin yn ein prifysgolion oherwydd diffyg lleoliadau a chyfleoedd. Dros y misoedd diwethaf, dwi wedi cael fy llethu gan straeon o raddedigion meddygol Cymreig sydd yn methu â sicrhau cyflogaeth yng Nghymru ac sy'n cael eu gorfodi, yn y pen draw, i ystyried eu hopsiynau yn rhywle arall. Yn amlwg, mae'n rhaid i hyn newid. Mae'n sefyll i reswm, felly, ein bod ni’n cefnogi egwyddorion craidd y Mesur.
Ond er ein bod ni'n cytuno ag egwyddorion craidd y Mesur yn hynny o beth, mae'r ystyriaeth o'i effaith ar Gymru wedi bod yn gwbl anfoddhaol. Mae'r ffaith fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penderfynu, oherwydd y diffyg amser a neilltuwyd ar gyfer y craffu, nad ydyn nhw'n gallu adrodd ar y cynnig cydsyniadau deddfwriaethol yma yn enghraifft arall o ddiffygion sylfaenol proses fethedig yr LCM, ac yn adlewyrchu sut mae Cymru'n cael ei thrin, yn rhy aml, fel ôl-ystyriaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Dwi'n ategu sylwadau y pwyllgorau LJC ac iechyd a gofal yn hynny o beth.
Gadewch inni fod yn glir yma—mesur er cyfleustra ydy hwn er mwyn i Lywodraeth San Steffan gytuno i ofynion y BMA yn Lloegr, ond nid i ofynion gofal iechyd yng Nghymru. Felly, er mwyn tawelu'r dyfroedd yn Lloegr, maen nhw wedi cyflwyno Bil ar gyfer Lloegr, ond fydd, yn y pen draw, yn effeithio ar Gymru, heb unrhyw ystyriaeth o amgylchiadau Cymru. Mae hyn yn annerbyniol.
Mae hefyd yn bryderus bod yr LCM yma yn creu pwerau cydredol, concurrent powers, i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol ddeddfu mewn maes datganoledig heb unrhyw rwymedigaeth i ymgynghori â Gweinidogion Cymru. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld tuedd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Gyfunol i anwybyddu confensiwn Sewel gyda'r un difaterwch di-hid â'r Llywodraeth Dorïaidd flaenorol.
Gan nad oes set gynhwysfawr o dystiolaeth ar gael i ni ynghylch effaith y Bil ar Gymru, ac nad ydyn ni'n fodlon bod digon o ystyriaeth wedi ei rhoi i ddatganoli yn ei ddyluniad, ond ein bod ni'n gweld gwerth egwyddorion craidd y Mesur, mi fyddwn ni'n atal ein pleidlais.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 12 heddiw yw'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM9137 Julie James
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynnig.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Item 13 is Stage 4 of the Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill. I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion—Jayne Bryant.
Cynnig NDM9150 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Hoffwn i gymryd y cyfle heddiw i ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu gwaith caled a'u cydweithrediad parhaus wrth ein helpu ni i siapio'r Bil yma. Diolch hefyd—diolch o waelod calon—i'r unigolion sydd wedi rhannu eu profiadau uniongyrchol o fod yn ddigartref efo ni wrth inni baratoi'r gwaith yma, gan gynnwys diolch i Scotty a Phil sydd efo ni heddiw yma.
Mae Plaid Cymru wastad wedi pwysleisio'r angen am well data o ran tai cymdeithasol, wedi pwysleisio'r angen i symud yn gyflym at ddulliau ataliol, a hefyd yr angen i roi mwy o gefnogaeth i’r bobl fwyaf agored i niwed. Mae’r Bil yn sefydlu’r egwyddor bod digartrefedd yn broblem sydd angen help pawb i’w datrys. Yr wythnos yma, mae’r Salvation Army wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn dangos, mewn 318 o sefyllfaoedd, cafodd pobl eu rhyddhau o ysbytai heb gartref i fynd iddo fo. Mi fydd y Bil yn dechrau sicrhau bod gweithwyr iechyd yn ein hysbytai a gweithwyr eraill ar draws y sectorau yn 'gofyn a gweithredu'—yr 'ask and act' pwysig sydd yn y Bil yma—pan fyddan nhw'n tybio bod person yn wynebu digartrefedd.
Un gwelliant hollbwysig ddaru basio yn ystod Cyfnod 2 oedd dileu adran 35. Ni ddylai’r cyfrifoldeb dros benderfynu pwy sy’n gymwys i gael tai cymdeithasol fod yn nwylo awdurdodau lleol; mae hynny’n tanseilio egwyddor rydym ni’n credu’n gryf ynddi hi. Ond mae hi’n siomedig bod ein gwelliant yn ymwneud ag ansawdd llety dros dro heb basio. Mi fyddai hwn wedi sicrhau na fyddai’n bosib ystyried llety sy’n cynnwys perygl categori 1 fel un sy'n addas ar gyfer llety dros dro. Ddylai neb orfod byw mewn llety sy’n anaddas ac yn anniogel. Mae diogelwch yn y cartref yn sylfaenol, ac felly mae hi’n destun siom bod absenoldeb rhai Aelodau yn y Siambr wythnos diwethaf wedi cyfrannu at fethiant i gryfhau’r Bil. Ond mi fyddaf i'n parhau i wthio am y ddarpariaeth yma, ac yn chwilio am gyfleoedd i gymryd camau i wahardd llety dros dro sy’n cynnwys peryglon difrifol.
I gloi, hoffwn bwysleisio pa mor hollbwysig fydd sefydlu cynllun gweithredu cadarn yn dilyn pasio’r Bil yma. Rhaid i'r cynllun gynnwys hyfforddiant amserol a phriodol i staff ar draws y gwahanol sectorau. Bydd angen dangos cynnydd pendant a chadarnhaol, yn enwedig tuag at ddileu’r prawf angen blaenoriaethol, a gwneud datblygiad gwirioneddol yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r nifer o bobl sy’n cysgu ar y strydoedd yng Nghymru. Mae angen cynllun gweithredu cadarn er mwyn sicrhau'r cynnydd yna. Ac ar yr un pryd, mae'n rhaid darparu’r gefnogaeth angenrheidiol i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw fynd ati efo'u gwaith ymroddedig tuag at gyflawni’r nodau sydd yn y Bil yma.
Mae’r drafodaeth yma wedi bod yn digwydd yn y Senedd yma ers i mi ddod yn Aelod bron i 10 mlynedd yn ôl bellach. Rŵan, mae'n bryd troi'r deddfu yna yn weithredu. Diolch.
Dwi innau hefyd yn croesawu'r Bil pwysig yma sydd o’n blaenau ni heddiw. Dwi wedi gweld â llygaid fy hunan y cynnydd aruthrol yn nifer y digartref yn ein prifddinas ni, a nifer y digartref sy'n defnyddio'r gefnogaeth sy'n cael ei chynnig i'r digartref yng nghanol ein prifddinas ni dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi wedi dysgu llawer o'r bobl hynny, a dwi’n gwerthfawrogi yn fawr eu cwmni, ond y gwir yw dydyn ni ddim eisiau gweld pobl yn gorfod defnyddio’r gwasanaethau felly. Rŷn ni'n gwybod pam ŷm ni angen y Bil yma. Roedd yna risg mawr byddai digartrefedd yn cynyddu, yn parhau i gynyddu: 24 y cant erbyn 2041 petai’r Llywodraeth hon a'r Senedd hon ddim yn gweithredu. Felly, dwi mor falch ein bod ni wedi gweithredu.
Wrth gwrs, byddwn i wedi licio gweld o leiaf un, efallai—hyd yn oed un—o fy ngwelliannau yn pasio. Wnaeth hwnna ddim digwydd, ond dwi’n gobeithio, o'r ffaith ein bod ni wedi cael y drafodaeth, y bydd hyn nawr yn flaenoriaeth i'r Senedd nesaf. Byddwn i wedi hoffi gweld angen blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol yn dod i ben cyn yr wythfed Senedd, ond dyw hynna ddim yn mynd i ddigwydd. Mae'n drueni na fyddai'n digwydd yn y Senedd nesaf, y seithfed Senedd. Dwi hefyd yn siomedig yn enwedig o ran y gwelliannau hynny ble roedd yna gyfartaledd rhwng y Llywodraeth ac Aelodau o'r gwrthbleidiau. Roeddem ni mor agos at basio'r gwelliannau yna, fyddai'n wirioneddol wedi gwneud gwahaniaeth, ond, oherwydd absenoldeb, rhaid bod hynny wedi methu digwydd. Gobeithio, o'r ffaith ein bod ni wedi codi'r materion yma, bydd modd gweld rheoliadau o fewn y seithfed Senedd bydd yn delio â rhai o'r pwyntiau yn y gwelliannau gwnes i eu codi.
Bydd Cymru, y digartref, a'r rhai sydd mewn risg o ddigartrefedd mewn lle llawer gwell a chadarnach pan ddaw'r Ddeddf yma i rym. Dwi'n gofyn i chi beidio aros yn ormodol i weithredu'r Ddeddf yma, ac i weithredu rhannau o'r Ddeddf yma. Felly, dwi yn ddiolchgar. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i graffu. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i godi pwyntiau. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gydweithio â'r elusennau digartref arbennig sydd gyda ni yng Nghymru, a dwi'n diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am sicrhau, gyda'ch swyddogion a'ch cydweithwyr chi, fod y Bil arbennig o bwysig yma—ac rŷn ni'n defnyddio geiriau fel hyn efallai'n rhy aml, ond mae'r Bil yma'n arbennig o bwysig—sy'n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. A dwi yn ddiolchgar eich bod chi wedi gallu sicrhau bod y Bil yma yn dod o flaen y Senedd cyn diwedd y Senedd hon. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 7, y rheoliadau treth trafodiadau tir. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, un yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Bydd y bleidlais nesaf ar eitem 8, Gorchymyn cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Bydd y bleidlais olaf ar eitem 13, Cyfnod 4 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn inni ailgynnull. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:48.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni nawr yn cyrraedd yr amser ar gyfer Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).
Grŵp 1 o welliannau fyddwn ni yn ei drafod yn gyntaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd o dan Ran 1 o'r Bil. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Janet Finch-Saunders).
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb—Huw Irranca-Davies.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 9 wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Cynigiwyd gwelliant 10 (Janet Finch-Saunders).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 10. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 10 wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Cynigiwyd gwelliant 11 (Janet Finch-Saunders).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad, unrhyw un? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 11. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 11 wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Cynigiwyd gwelliant 12 (Janet Finch-Saunders).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 12 wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Cynigiwyd gwelliant 13 (Janet Finch-Saunders).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 13? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 13. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 13 wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Grŵp 2 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud ag adroddiad diogelu a gwella’r amgylchedd. Gwelliant 53 yw'r prif welliant, a Delyth Jewell sy'n cynnig y gwelliant yna.
Cynigiwyd gwelliant 53 (Delyth Jewell).
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad i welliant 53. Mae Plaid Cymru yn croesawu'r Bil hwn, sydd yn hirddisgwyliedig. Wedi trychineb Brexit, bu bwlch yn cael ei adael i Gymru ei lenwi pan fo hi'n dod i lywodraethiant amgylcheddol. Mae angen cau'r bwlch hwnnw ar frys, a dyna, wrth gwrs, mae'r Bil yn ei wneud.
Ond mae'r Bil hwn hefyd yn ymwneud â mwy na dim ond prosesau a strwythurau. Wrth ei galon, mae'n ymwneud â rhoi llais cryfach i drigolion Cymru a'n cymunedau sydd wedi dioddef ers amser rhy hir o gyflwr gwarthus ein gwyrddni, heb y pŵer i newid neu roi sialens i hynny. Fel dywedodd Gerallt Lloyd Owen, yn rhy aml, rŷn ni efallai'n gweld, os ydw i'n gallu aralleirio ei eiriau, gwerth cynnydd fel gwarth cenedl. Rhaid sicrhau bod yr etifeddiaeth rŷn ni'n ei rhoi i'n plant yn well na hynny.
Mae byd natur wastad wedi ysbrydoli ein barddoniaeth, ein cerddoriaeth, ein hunaniaeth fel gwlad. Ysbrydolwyd ein hanthem gan lif yr afonydd ym Mhontypridd. Mae gennym ddyletswydd i gadw'r gân yn fyw.
Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed ymateb y Llywodraeth i hyn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet.
Delyth Jewell sy'n ymateb nawr.
Diolch i'r ddau Aelod am hynna. Roeddwn i'n meddwl, ac rwyf dal yn meddwl, ei bod hi'n bwysig cael y drafodaeth hon ar lawr y Senedd i sicrhau bod y pwyntiau hynny ar y record a'u bod nhw'n cael eu clywed, a pha mor bwysig fydd e i hynna ddigwydd. Rwyf yn cymryd y pwyntiau mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi rhoi mewn i ystyriaeth yn fan hyn, yn enwedig y ddau bwynt olaf o ran yr hyn sydd wedi ei wneud yn glir yn yr explanatory memorandum a hefyd y pwynt am yr angen i ymbweru Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, ac wrth gwrs y pwynt technegol hefyd. Felly, o ran hynny, rwy'n hapus i, felly, ddim symud y gwelliant hwn i bleidlais.
Iawn. Mae'r gwelliant wedi'i symud. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, gwawn ni ddim cymryd pleidlais ar y gwelliant, gan fod yr Aelod wedi dweud ei bod hi'n hapus i dynnu'r gwelliant yn ôl. Os nad oes yna wrthwynebiad, a does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r gwelliant yna wedi'i dynnu nôl.
Tynnwyd gwelliant 53 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Grŵp 3 sydd nesaf. Mae gwelliannau'r grŵp yma yn ymwneud â sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru o dan Rhan 2 o'r Bil, a materion sy'n gysylltiedig. Gwelliant 33 yw'r prif welliant. Janet Finch-Saunders sy'n cynnig y prif welliant. Janet Finch-Saunders.
Cynigiwyd gwelliant 33 (Janet Finch-Saunders).
Dŷn ni'n cefnogi gwelliannau 33 a 25 yn enw Janet, er rŷn ni yn erbyn gwelliant 26.
Yn ystod Cyfnod 2, cynigodd Janet Finch-Saunders welliant a fyddai wedi sicrhau bod y swyddfa nid yn unig gyda gwefan ond, yn bwysicach, yn cynnwys ar y wefan yna restr o'r awdurdodau cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i oruchwyliaeth y swyddfa. A dwi'n credu bod hyn yn bwysig am dryloywder.
Doeddwn i ddim yn credu bod problem gyda'r gwelliant, ond methodd gael cefnogaeth gan fwyafrif. Mae'n dilyn, felly, fy mod i'n ystyried sut mae posib cyflawni y nod cyfreithiol, sef, yn y bôn, sicrhau bod y swyddfa gyda gwefan sy'n weledol wedyn i'r cyhoedd. Ac mae cynsail i hyn, fel rŷch chi'n gwybod yn iawn, Dirprwy Brif Weinidog—Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025. Mae rhan 71, a dwi'n dyfynnu, yn dweud hyn:
'Rhaid i'r Awdurdod sefydlu a chynnal gwefan, neu gyfleuster electronig arall (megis cymhwysiad meddalwedd), y gall y cyhoedd ei chyrchu neu ei gyrchu yn ddi-dâl.'
Os nad ydych am gefnogi'r gwelliant—a dwi'n gweld ar y slip fan hyn eich bod chi ddim; dwi'n gweld y coch yn amlwg wrth fy ngwelliannau i—fyddech chi mor garedig ag egluro pam mae gwefan yn angenrheidiol i'r awdurdod tomenni a ddim i'r swyddfa fan hyn? A pham nad ydych chi am sicrhau bod ein swyddfa ni yn manteisio o arfer da o'r swyddfa yn Lloegr a Gogledd Iwerddon? Diolch yn fawr.
Yr Ysgifennydd Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. [Torri ar draws.]
Felly, mae gwelliant 33 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 25 (Janet Finch-Saunders).
Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 25. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly byddaf yn cau'r bleidlais ac yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 25. Ac felly, mae'r gwelliant yn cwympo, gyda 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Gwelliant 46 nesaf. Ydy e'n cael ei symud gan Delyth Jewell?
Dyw e ddim yn cael ei symud. Felly, dim pleidlais ar welliant 46.
Ni chynigiwyd gwelliant 46 (Delyth Jewell).
Cynigiwyd gwelliant 26 (Janet Finch-Saunders).
Oes gwrthwynebiad i welliant 26? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Fe gymerwn bleidlais felly ar welliant 26. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Cynigiwyd gwelliant 32 (Carolyn Thomas).
A oes gwrthwynebiad i welliant 32? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gymerwn ni bleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 32 wedi ei dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Gwelliant 8, Rhys ab Owen. Dyw e ddim yn cael ei symud. Felly, dim pleidlais.
Ni chynigiwyd gwelliant 8 (Rhys ab Owen).
Grwp 4 o welliannau. Mae'r grwp yma yn ymwneud â diben cyffredinol Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Gwelliant 36 yw'r prif welliant. Delyth Jewell sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 36 (Delyth Jewell).
Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig y gwelliannau yn fy enw yn y grŵp, gwelliannau 36 a 47.
Bydd pawb yn falch iawn o glywed nad ydw i'n bwriadu ailadrodd y sylwadau i gyd a godais o blaid y gwelliannau hyn yn nhrafodion Cyfnod 2, ond dwi'n cynnig y dylai fod y swyddfa newydd yn gweithredu mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r Aarhus convention. Beth fydd hynny'n ei olygu, dwi'n eich clywed chi'n holi? Wel, mae'n sicrhau tri hawl i'r cyhoedd ar faterion amgylcheddol: hawl i dderbyn gwybodaeth amgylcheddol sy'n cael ei ddal gan gyrff cyhoeddus; hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau amgylcheddol; ac, yn drydydd, hawl i gael adolygiad gan lys neu gorff annibynnol arall er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn parchu'r hawliau dwi wedi’u hamlinellu, a chyfraith amgylcheddol yn gyffredinol. Pa mor aml ŷn ni'n cael gohebiaeth oddi wrth etholwyr ar y materion yma?
Nawr, mewn ymateb i fy ngwelliannau yng Nghyfnod 2, eglurodd y Dirprwy Brif Weinidog nad ydy e, yn ei farn e, yn addas i sicrhau bod y swyddfa yn cydymffurfio gydag Aarhus. Mae hyn er bod y confensiwn yn gytundeb rhyngwladol sydd wedi cael ei gefnogi gan y Deyrnas Unedig. Blwyddyn diwethaf, roedd penderfyniad gan bwyllgor cydymffurfio'r confensiwn yn dweud bod y Deyrnas Unedig yn methu gyda'i chydymffurfiad. Yn fy marn i, mae safbwynt y Dirprwy Brif Weinidog a safbwynt Llywodraeth Cymru ar fy ngwelliannau yn dystiolaeth nid yn unig bod y Deyrnas Unedig yn methu, ond bod Cymru hefyd yn methu gyda chydymffurfio â'r confensiwn.
Yn unol ag erthygl 10 o gonfensiwn Aarhus, mae partïon yn adolygu gweithrediad y confensiwn yn barhaus ar sail adroddiadau rheolaidd gan y partïon. Er enghraifft, mae adroddiad 2021 y Deyrnas Unedig yn nodi, fel tystiolaeth o gydymffurfio gyda'r confensiwn yma yng Nghymru, ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gofynnaf yn garedig i chi i gyd ystyried pam na ddylai'r Bil amgylchedd yma gael ei gynnwys yn y rhestr, ac felly cefnogi fy ngwelliannau. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet.
Delyth Jewell yn ymateb.
Diolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl fer hon. Rwy'n ddiolchgar yn arbennig i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei sylwadau cefnogol i'r gwelliannau yn fy enw i yn y grŵp hwn, a gobeithio y bydd y balans nawr yn gweithio yn dda. Mae yna bwyntiau diddorol sydd wedi cael eu codi, dwi'n meddwl, gan Rhys am ei welliant ei hun am gonfensiwn Aarhus. Dwi hefyd yn cydnabod y sialensau a all godi os ydy'n cael ei basio, felly byddwn ni'n ymatal ar y gwelliant hwn. Ond dwi'n meddwl, oni bai am y sialensau hynny, byddem ni wedi'i gefnogi e.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r gwelliant yna wedi'i basio.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rhys ab Owen, gwelliant 1. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 1 (Rhys ab Owen).
Mae'n cael ei symud. Os gwrthodir gwelliant 1, bydd gwelliant 7 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae fe. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, 11 yn ymatal, 35 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod, felly.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Methodd gwelliant 7.
Gwelliant 47. Ydy e'n cael ei symud, Delyth Jewell?
Cynigiwyd gwelliant 47 (Delyth Jewell).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 47? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 47. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 47. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Mae gwelliant 47 wedi'i dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Grŵp 5 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â strategaeth Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Gwelliant 27 yw'r prif welliant. Janet Finch-Saunders sy'n cyflwyno.
Cynigiwyd gwelliant 27 (Janet Finch-Saunders).
[Anghlywadwy.]—welliant 27. Hoffwn i hefyd roi fy nghefnogaeth i welliant 34 yn enw Joyce, sydd yn y grŵp hwn. Byddai gwelliant 34 yn rhoi gofyniad ar Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru i osod mas ei strategaeth am sut y bydd yn bwriadu gweithio gyda'r CCC. Mae hynny'n debyg i welliant oedd wedi cael ei gyflwyno yng Nghyfnod 2 ac rwy'n gefnogol o hyn. Tra bydd y swyddfa yn gweithio gyda nifer o fawr o gyrff—. Dwi'n gweld y Llywydd—. Ydych chi eisiau imi gario ymlaen? Tra bydd y swyddfa yn gweithio gyda nifer o fawr o gyrff, byddai'r gwelliant hwn yn cynnig eglurder a bydd yn gwella atebolrwydd ynglŷn â'r berthynas gyda'r corff hollbwysig hwn. Bydd yn help hefyd i'r swyddfa llywodraethiant amgylcheddol i gael y cyd-drefniant hwn, felly dwi'n gefnogol o'r gwelliant.
Yr Ysgrifennydd Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Tynnwyd gwelliant 27 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Cynigiwyd gwelliant 34 (Joyce Watson, gyda chefnogaeth Delyth Jewell).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 34.
Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal a dau yn erbyn. Mae gwelliant 34 wedi'i wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Ni chynigiwyd gwelliant 28 (Janet Finch-Saunders).
Ni chynigiwyd gwelliant 29 (Janet Finch-Saunders).
Ni chynigiwyd gwelliant 30 (Janet Finch-Saunders).
Dyna ni, felly. Dyna ddiwedd ar grŵp 5.
Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â monitro ac adrodd gan Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Gwelliant 37 yw'r prif welliant. Delyth Jewell sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 37 (Delyth Jewell).
Yr Ysgrifennydd Cabinet i siarad.
Diolch. Rwy'n hapus—wel, na, dwi ddim yn hapus, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog. Dwi ddim yn hapus am yr hyn dwi wedi'i glywed, ond rwyf i yn cydnabod y pwyntiau technegol sydd wedi cael eu gwneud. Rwy'n hapus, felly, i ddim gwthio hyn i bleidlais.
Felly, mae'r cynigydd yn dweud ei bod hi ddim eisiau gwthio gwelliant 37 i bleidlais. Os nad oes rhywun yn gwrthwynebu hynny, fe wnawn ni gymryd bod yna ddim pleidlais ei angen ar welliant 37.
Tynnwyd gwelliant 37 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Grŵp 7 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â sylwadau gan swyddfa llywodraethiant amgylcheddol Cymru ac ymchwiliadau a gynhelir ganddi. Gwelliant 38 yw'r prif welliant. Delyth Jewell i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 38 (Delyth Jewell).
Diolch, Llywydd. Rydych chi'n clywed gennyf i eto, mae arnaf i ofn. Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog a'i swyddogion am eu cymorth gyda gwelliannau 38 a 39, ac rwy'n symud y gwelliannau hynny.
Tryloywder sydd wrth wraidd gwelliant 2. Mewn ymateb i'r gwelliant yma yng Nghyfnod 2, eglurodd y Dirprwy Brif Weinidog fod risg bod y newid yma yn achosi'r swyddfa i wneud penderfyniadau yn rhy gynnar. Doeddwn i ddim yn deall hwnna ar y pryd, a dwi'n dal ddim yn deall, felly os allech chi, efallai, esbonio hynny yn fwy i fi. Dywedodd un aelod Llafur o'r pwyllgor fod yn rhaid i ni gofio weithiau fod pobl yn codi pryderon amgylcheddol yn destun cyhoeddusrwydd a sylwadau anffafriol, ac felly, yn amlwg, ein bod ni ddim yn moyn i hynny ddigwydd. Ond dwi'n credu, i ateb y consyrn yma, fydd y gwelliant yma'n ddarostyngedig i adran 27, sef gofynion cyfrinachedd y swyddfa, felly, dydw i ddim yn credu bod angen poeni ar y pwynt yna.
Byddai gwelliant 3 yn cyflwyno cofnod o sylwadau. Dwi wedi cymryd amser i edrych ar wefan yr OEP, a gallaf weld eu bod yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd
a gallaf weld eu bod yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar y wefan yna, yn manylu ar y cwynion y maent yn eu trin. Er enghraifft, mae ymchwiliadau ar hyn o bryd i DEFRA, yr asiantaeth amgylcheddol, ynglŷn â safon dŵr, addasu ardaloedd gwarchodaeth arbennig yn Lloegr, addasu ardaloedd gwarchodaeth arbennig yn Gogledd Iwerddon. Y fantais amlwg o hyn, wrth gwrs, yw ei fod e'n lleihau'r angen i eraill i gyflwyno cwynion am fater sydd eisoes yn cael ei ymchwilio. Bydd e'n arbed amser ac adnoddau i'r swyddfa. Yn wir, bydd dim angen i bobl gyflwyno cwyn achos eu bod nhw'n gallu gweld bod y gwyn yn cael ei ymchwilio yn ôl y cofnod, neu bod y mater wedi cael ei ystyried yn barod neu wedi cael ei wrthod am reswm teilwng. Felly, dwi'n credu y byddai hyn yn gallu arbed lot o amser i'r swyddfa a gwneud ei gwaith yn llawer mwy effeithiol a gwneud y swyddfa yn llawer mwy tryloyw i'r cyhoedd. Dwi'n annog y Senedd i sicrhau bod y swyddfa yn dysgu o arferion da o swyddfeydd eraill yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i gyfrannu, Huw Irranca-Davies.
Delyth Jewell i ymateb.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar unwaith eto am sylwadau'r Dirprwy Brif Weinidog. Dwi'n meddwl, gyda'r gwelliannau sydd gen i yn y grŵp hwn, dyma un o'r rhesymau pam dwi'n fwy hoff o'r gair Cymraeg 'gwelliant' na'r gair Saesneg 'amendment' achos weithiau mae yna ffordd, wir, o wella'r ddeddfwriaeth. Mae'n niwtral yn Saesneg, lle rydyn ni'n dweud,
Mae tryloywder, wrth gwrs, yn hollbwysig, a dwi'n meddwl mai dyna ydy bwriad o leiaf pob welliant yn y grŵp.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly cymerwn ni bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 38 wedi ei dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Ydy gwelliant 39 yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 39 (Delyth Jewell).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 39? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 39. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Mae gwelliant 39 wedi ei gymeradwyo, felly.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Gwelliant 2. Rhys ab Owen, ydy e'n cael ei symud? Na, dyw e ddim yn cael ei symud i bleidlais.
Ni chynigiwyd gwelliant 2 (Rhys ab Owen).
Nesaf, felly, gwelliant 3. Ydy e'n cael ei symud? Na, dydy hynny chwaith ddim yn cael ei symud.
Ni chynigiwyd gwelliant 3 (Rhys ab Owen).
Grŵp 8 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â thargedau bioamrywiaeth o dan adran newydd 6B o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gwelliant 40 yw'r prif welliant. Delyth Jewell sy'n cynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 40 (Delyth Jewell).
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar eto i'r Llywodraeth am eu cymorth gyda rhai o'r gwelliannau yn y grŵp hwn—dim pob gwelliant, wrth gwrs, ond rhai ohonynt.