Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/06/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.

Maes Awyr Caerdydd

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o hyfywedd Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol? OQ62827

Gofynnodd Gweinidogion am ddadansoddiadau a chyngor mewnol ac allanol wrth ddatblygu'r strategaeth hirdymor ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Disgwylir i'r pecyn cymorthdaliadau a gyhoeddwyd arwain at dwf cyflogaeth cynaliadwy yn y rhanbarth ac effaith gadarnhaol o ran gwerth ychwanegol gros cynyddrannol dros y cyfnod o 10 mlynedd y bydd yn cael ei ddarparu.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r cyhoeddiad diweddar o £206 miliwn ychwanegol o arian trethdalwyr i Faes Awyr Caerdydd yn dod â'r cyfanswm a wariwyd ar y prosiect i'r swm syfrdanol o £400 miliwn ers ei brynu. Nawr, yn anffodus, bu diffyg tryloywder nodedig ynghylch y mater o ran sut y mae'r arian hwn yn cael ei wario a pha fetrigau y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i asesu pa mor effeithiol y bydd yr arian hwn yn cael ei wario. Gwyddom fod y £20 miliwn cyntaf o'r £206 miliwn wedi'i ymrwymo, a hoffem wybod yn erbyn pa gynllun, pa ganlyniadau disgwyliedig y byddwn yn eu gweld? Nid yw'n ymddangos bod unrhyw dryloywder o gwbl.

Nid yw'n ymddangos bod strategaeth hirdymor i atal y baich ariannol hwn rhag parhau i lyncu arian trethdalwyr. Rwyf i a fy nghyd-Aelodau wedi dweud yn glir na all Llywodraeth Cymru redeg maes awyr yn effeithiol, a dylai fod yn gyfrifoldeb ar gwmni preifat i gymryd yr awenau a throi'r maes awyr yn fenter broffidiol. Mae meysydd awyr sydd â nifer tebyg o ddefnyddwyr ledled y DU yn gweithredu'n llwyddiannus o fewn y sector preifat. Ni ddylai fod yn gyfrifoldeb ar y trethdalwr i barhau i sybsideiddio'r pydew arian hwn sy'n tyfu ac yn tyfu. Meddyliwch am y gost cyfle y gallai'r £200 miliwn diwethaf sydd wedi'i addo ei gyflawni pe bai'n cael ei fuddsoddi yn rhywle arall. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf ar beth yn union y mae'r arian hwn yn cael ei wario, a phryd y gallwn weld ble mae'r rhesymeg dros y gwariant hwn? Diolch.

Rwy'n fwy na pharod i ateb y cwestiynau hynny. Camodd Llywodraeth Cymru i'r adwy pan nad oedd perchnogaeth breifat yn gweithio i Gymru. Mewn llawer o rannau eraill o'r byd, perchnogaeth gyhoeddus ar feysydd awyr yw'r norm. Felly, mae ein safbwynt yn ymarferol, nid yn ideolegol, ac rydym am ddod o hyd i ateb sy'n cynnig y gorau i Gymru. Ond wedi dweud hynny, fel y dywedom ym mis Gorffennaf y llynedd, rydym yn agored i ystyried gwahanol fodelau ar gyfer y dyfodol o ran perchnogaeth, cyhyd â'u bod yn cyflawni ein hamcanion. Hoffwn nodi'n glir nad Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg y maes awyr mewn gwirionedd, wrth gwrs; nid yw'r cyfrifoldeb o redeg y maes awyr o ddydd i ddydd yn nwylo Llywodraeth Cymru.

Ond mae gennym rai blaenoriaethau clir iawn o ran sut y byddem yn disgwyl i fuddsoddiad gael ei wario yn y dyfodol. Mae amcanion polisi clir iawn yn gysylltiedig â hynny. Felly, byddai'r rheini'n ymwneud â gwneud y mwyaf o'r cyfle i greu budd i economi a busnesau Cymru. Byddai'n ymwneud â chreu amgylchedd i annog twf cwmnïau hedfan a phartneriaid masnachol, ac i barhau i archwilio cyfleoedd i gysylltu Caerdydd a Chymru'n well â chanolfannau economaidd pwysig yn y DU, Ewrop a gweddill y byd, ac i gefnogi ardal fenter Sain Tathan Caerdydd, ac i weithio gyda Llywodraeth y DU a menter Jet Zero, yn ogystal â Maes Awyr Caerdydd, i leihau effeithiau amgylcheddol hedfanaeth. Felly, credaf ein bod wedi nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion polisi ar gyfer y buddsoddiad yn glir.

Dwi'n anghytuno â Peter Fox pan fo'n dweud na ddylai'r maes awyr fod o dan berchnogaeth y Llywodraeth, ac rwy'n cytuno â chi y byddai'r maes awyr yn siŵr o fod wedi cau oni bai bod y Llywodraeth wedi camu i mewn. Ond mae'r maes awyr wedi bod o dan berchnogaeth y Llywodraeth ers dros 12 mlynedd bellach, a dwi'n siŵr, pwy bynnag rydych chi'n siarad â nhw a all ddefnyddio'r maes awyr, y byddai pawb yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo bod yna unrhyw welliant wedi bod yn y maes awyr yn y cyfnod hynny. Yn aml, dwi'n clywed pobl yn dweud, 'Wel, bydden i'n dwlu defnyddio Maes Awyr Caerdydd—mae e lot agosach ataf i nag unrhyw faes awyr arall, ond does dim digon o awyrennau yn mynd oddi yno ac mae e'n lot drutach na Bryste', ac yn y blaen. Felly, dwi'n clywed am eich blaenoriaethau chi, ond beth yn union ydych chi'n mynd i wneud i sicrhau bod Maes Awyr Caerdydd yn gwella ac yn diwallu anghenion pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a dros dde Cymru gyfan? Diolch yn fawr.

Wel, pan ofynnir i bobl sy'n defnyddio'r maes awyr, rwy'n gwybod bod ymateb cadarnhaol iawn o ran profiadau pobl, ac mae llawer o hoffter tuag at ein maes awyr yng Nghymru hefyd. O ran y pecyn buddsoddi penodol sy'n cael ei gynnig, bydd y buddsoddiad hwnnw'n ariannu twf mewn cyfleusterau cynnal a chadw, atgyweirio a gweithgarwch, hedfanaeth gyffredinol a datblygiadau carbon isel yn ogystal â llwybrau awyr. Felly, bwriad y buddsoddiad yw mynd i'r afael â rhai o'r materion penodol hynny rydych chi wedi'u crybwyll. Ochr yn ochr â hynny, rydym yn ei ystyried yn fuddsoddiad ar gyfer twf, gyda'r potensial i greu 3,000 o swyddi, gan gynnwys y rhai yn y gadwyn gyflenwi a'r economi ehangach. Disgwylir i'r buddsoddiad gynyddu gweithgarwch economaidd uniongyrchol oddeutu £0.5 biliwn dros 10 mlynedd. Mae ein cynghorwyr arbenigol hefyd yn rhagweld effeithiau cadarnhaol ar ddigwyddiadau mawr, buddsoddiad uniongyrchol tramor, allforion, ymweliadau mewnol a chyfleoedd masnachol eraill hefyd. Felly, mae hwn yn fuddsoddiad hirdymor mewn twf economaidd nid yn unig ar gyfer y maes awyr, ond ar gyfer rhanbarth de Cymru yn ei gyfanrwydd.

13:35

Mae cwestiwn 2 [OQ62821] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 3, Natasha Asghar.

Economi Dwyrain De Cymru

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi hwb i economi Dwyrain De Cymru? OQ62836

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'n partneriaid allweddol, gan gynnwys prifddinas-ranbarth Caerdydd, y byd busnes a'r byd academaidd, i gynyddu ffyniant economaidd ledled de-ddwyrain Cymru. Mae ein fframwaith economaidd rhanbarthol wedi nodi datblygu clystyrau twf allweddol fel blaenoriaeth, ochr yn ochr â'n buddsoddiad yn y seilwaith a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni twf economaidd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, arweiniodd arian y gronfa ffyniant gyffredin at gefnogi dros 8,000 o oedolion i ailhyfforddi, ailsgilio a dod o hyd i waith yn ne-ddwyrain Cymru drwy nifer o raglenni—rhywbeth a oedd yn hanfodol i economi'r rhanbarth. Fodd bynnag, mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn dangos bod penderfyniad y Canghellor, Rachel Reeves, i dorri'r gronfa ffyniant gyffredin yn arwain at golli nifer sylweddol o swyddi a phobl yn cael eu hamddifadu o'r cyfleoedd hyfforddi hanfodol hyn. Mae hyn yn cynnwys wyth o swyddi sydd mewn perygl o gael eu colli yng Nghyngor Dinas Casnewydd a 290 o swyddi mewn perygl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, sy'n nifer syfrdanol. Dyna werth y bartneriaeth mewn grym rhwng dwy Lywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r toriadau hyn, pa gamau rydych chi'n eu hystyried i sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu rhaglenni hyfforddi sy'n hanfodol i swyddi a'r economi yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym ar hyn o bryd mewn perthynas â nodi sut olwg fydd ar y rhaglen ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE ar ôl 2026. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r grŵp cynghori, sydd bellach yn cael ei gadeirio gan Carolyn Thomas, ac sy'n cynnull partïon sydd â diddordeb ac yr hoffent gael mynediad at gyllid drwy'r rhaglen honno yn y dyfodol. Mae llywodraeth leol, wrth gwrs, yn allweddol ymhlith y partneriaid hynny.

Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol i ddeall sut y mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei gwario'n lleol, gan nodi beth yw'r goblygiadau a phryd y gallai'r prosiectau hynny ddod i ben. Mae llywodraeth leol wedi nodi eu galwadau arnom ninnau'n glir iawn hefyd. Wrth inni symud drwy'r flwyddyn ariannol hon, rydym yn ymwybodol iawn y byddwn yn cyrraedd y pwynt lle bydd perygl o swyddi'n cael eu colli os na ddarparwn eglurder ar y ffordd ymlaen. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono, yn amlwg, a dyna pam ein bod yn gweithio mor galed i roi eglurder a chysondeb i awdurdodau lleol nawr, fel y gallant wneud y dewisiadau cywir ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Ond hoffwn roi sicrwydd i bawb fod swyddi yn flaenoriaeth gennym wrth inni ddechrau datblygu'r rhaglen ar gyfer 2026 a thu hwnt, a bod y gwaith yn mynd rhagddo'n ddi-oed.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Mae cwestiynau heddiw i'w hateb i gyd gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Mae'r cwestiynau cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Weinidog, ers tro mae eich Llywodraeth wedi pwysleisio pwysigrwydd sgiliau a phrentisiaethau i economi Cymru a'n hadferiad economaidd a'n ffyniant yn y dyfodol. Yn wir, mae'n bersonol i chi, ac rwy'n canmol hynny, ond mae'r data diweddaraf yn adrodd stori eithaf trist. Mae nifer y prentisiaethau newydd wedi gostwng 20 y cant, o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, gyda chwymp arbennig o serth ym maes adeiladu—i lawr 48 y cant—ac mewn rhaglenni lefel 3, sy'n aml yn arwain at waith mwy medrus ar gyflogau gwell. Nid ystadegau'n unig yw'r rhain, maent yn cynrychioli cyfleoedd a gollwyd mewn sectorau hanfodol, fel adeiladu a pheirianneg, sy'n hollbwysig i gyflawni uchelgeisiau ym maes tai, seilwaith a'r sector ynni adnewyddadwy gwyrdd. Felly, ar yr un pryd, mae eich Llywodraeth wedi gostwng ei tharged prentisiaethau o 25,000 o brentisiaethau. Felly, o ystyried hyn oll, sut y gall y cyhoedd fod yn hyderus fod eich Llywodraeth yn cymryd camau difrifol ac effeithiol i adeiladu gweithlu medrus yng Nghymru ar gyfer y dyfodol?

A gaf i ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei gwestiynau ac am y ffordd adeiladol y mae'n tynnu sylw at brentisiaethau a sgiliau, a'r gydnabyddiaeth y mae'n ei rhoi i'r Llywodraeth hon o ran ei huchelgais i gefnogi'r economi drwy ei hymyriadau hyfforddi? Fel y gŵyr, bûm ar y daith honno fy hun, a sylweddolais beth y mae hynny'n ei olygu, a'r hyn y gall ei olygu i gyfleoedd bywyd unigolion ledled Cymru.

Mae'n sôn am at ostyngiad, efallai, yn nifer y prentisiaethau newydd, a chredaf ei bod yn bwysig sylweddoli, eleni, ein bod wedi buddsoddi dros £144 miliwn yn y system. Dyna'r swm mwyaf inni ei fuddsoddi erioed. Roedd yr un peth y llynedd hefyd. Bu chwistrelliad un flwyddyn o gyllid cymdeithasol Ewropeaidd, a arweiniodd at gynnydd wedyn yn nifer y prentisiaethau newydd. A gadewch inni atgoffa ein hunain yma, Lywydd, fod y cyllid Ewropeaidd hwnnw, a mynediad at y cyllid Ewropeaidd hwnnw, yn rhywbeth yr aeth y Ceidwadwyr Cymreig ati'n weithredol i wadu'r cyfle i ni ei gael. Felly, rwy'n credu mai dyna realiti'r sefyllfa ar hyn o bryd.

Pan fo'n tynnu sylw at yr economïau allweddol hynny, fel tai, fel yr agenda werdd, gall y cyhoedd fod yn gwbl sicr fod y buddsoddiad o £144 miliwn, a'r buddsoddiad yn ein rhaglen sgiliau hyblyg eleni—chwe gwaith yn fwy na'r llynedd—eisoes yn gwneud ymyriadau yn y meysydd allweddol hynny, yn ogystal â'n buddsoddiad mewn rhaglenni hyfforddi fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle mae sgiliau Cymreig yn cael eu harddangos ymhlith y goreuon drwy'r byd, ac rydym yn falch iawn o'u cefnogi yn y ffordd honno.

13:40

Rwy'n canmol y gwaith a wnânt, Weinidog, gan fy mod wedi'i weld yn uniongyrchol yng Ngholeg Sir Benfro, gyda rhai o'r myfyrwyr yn camu ymlaen ac yn gwneud yn anhygoel o dda, gan gynrychioli eu gwlad dros y byd wrth wneud hynny. Ond mae'r dadansoddiad a'r data yn pwyntio at stori wahanol i hanes y Llywodraeth hon, gan fod ColegauCymru wedi dangos, yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael gwared ar y brentisiaeth sylfaen lefel 2, fod 1,075 yn llai o brentisiaid adeiladu wedi ymuno â'r gweithlu o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dim ond 569 o unigolion a ddechreuodd gymhwyster sylfaen lefel 2, sy'n golygu bod y sector yn ei gyfanrwydd wedi colli oddeutu 500 o brentisiaid—sector sydd angen y gweithlu. Mae llawer o randdeiliaid yn ystyried ailgyflwyno prentisiaethau adeiladu lefel 2 ar frys fel y ffordd orau o sicrhau mynediad hygyrch at y sector. Felly, pa gamau gweithredu uniongyrchol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i adfer y llwybr hanfodol hwn ac i gefnogi gweithlu adeiladu'r dyfodol?

Unwaith eto, diolch i Sam am y ffordd adeiladol y mae'n nodi hynny. Credaf fod y sector adeiladu yn sector gwerthfawr iawn i economi Cymru ac i'n huchelgeisiau o ran tai a phrosiectau seilwaith mawr. Rwyf innau hefyd wedi cael sgyrsiau ynghylch prentisiaethau adeiladu lefel 2 a phrentisiaethau'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig. Bydd yn gwybod bod Medr wrthi'n cynnal adolygiad o'r holl fframweithiau prentisiaeth, ac roedd sector yr amgylchedd adeiledig ac adeiladu yn mynd i gael eu cynnwys yn rhan gyntaf yr adolygiad hwnnw. Ond rwy'n cymryd ei bwyntiau o ddifrif. Cefais drafodaeth gyda Medr yr wythnos hon, ddydd Llun mewn gwirionedd, a byddaf yn cael trafodaeth bellach gyda hwy yn yr ychydig wythnosau nesaf i weld a oes cyfle, ar y pwynt penodol hwnnw ynghylch adeiladu, i gyflwyno'r adolygiad hwnnw yn gynt, i weld a allwn nodi atebion posibl i'r sefyllfa y mae'n ei hamlinellu a chael rhywbeth ar waith, gobeithio, erbyn mis Medi. Ond yn amlwg, bydd angen inni weld canlyniad yr adolygiad gan Medr, a chael y drafodaeth honno wedyn ynglŷn â sut olwg sydd ar hynny, gan weithio gyda darparwyr a chyrff y diwydiant i nodi'r atebion hynny. Felly, rwy'n cymryd ei bwyntiau ynghylch adeiladu o ddifrif, ac rydym yn mynd ati'n weithredol gyda'r sector i geisio dod o hyd i atebion ar hyn.

Nid wyf yn amau ​​eich ymrwymiad i hyn o gwbl, Weinidog; mae'n teimlo fel oedi pellach cyn symud hyn yn ei flaen pan fo'r sector ei hun eisoes yn dweud beth y maent am ei weld gan y Llywodraeth hon. Felly, mae oedi pellach tan fis Medi, dyweder, yn gwthio'r hyn sydd ei angen ar frys ymhellach i lawr y lôn.

Gan symud ymlaen at adroddiad diweddar gan Estyn, a amlygodd ddirywiad sy'n peri cryn bryder yn y cymorth a'r hyfforddiant sydd ar gael i athrawon mathemateg, ochr yn ochr â diffyg dealltwriaeth eang o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, er mai mater addysg yw hwn yn y bôn—rwy'n derbyn hynny—mae ganddo oblygiadau difrifol i ddisgyblion a gweithlu'r dyfodol, o ystyried bod sgiliau rhifedd cryf yn hanfodol ar draws ystod o sectorau allweddol. Gallai bwlch rhwng y cenedlaethau yn y sgiliau hyn gael effaith negyddol barhaol. Felly, yng ngoleuni hyn, sut y mae eich Llywodraeth yn sicrhau bod anghenion sgiliau cyflogwyr, yn enwedig yn y sectorau STEM a digidol, yn cael eu diwallu drwy raglenni hyfforddi effeithiol ar gyfer pobl ifanc ac oedolion? A pha fesurau penodol sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau sy'n bygwth rhwystro twf economaidd? Ac a wnewch chi ymrwymo o'r diwedd, fel rwyf wedi bod yn ei argymell ers amser, i gynnal archwiliad sgiliau hirddisgwyliedig er mwyn deall yn iawn pa sgiliau sydd eu hangen, nid yn unig ar gyfer nawr ond ar gyfer gweithluoedd y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod hefyd?

13:45

Diolch i Sam Kurtz. Gwn na chafodd gyfle i astudio prentisiaeth, ond dechreuodd fy un i ym mis Medi.

Credaf fod cael y cyfle i adolygu gyda Medr, i weld beth yw canlyniad yr adolygiad hwnnw, ond ei gyhoeddi'n gynt oherwydd yr elfen ddifrifol y mae'n ei nodi—. Gadewch inni weld beth y mae'r adolygiad hwnnw'n ei ddweud, ac yna gadewch inni weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y diwydiant, i gael y garfan newydd honno sy'n dechrau ym mis Medi, o bosibl—[Torri ar draws.] Y mis Medi hwn, gobeithio, Sam. Mae angen inni weld yr adolygiad yn gyntaf, felly gadewch inni gyrraedd y pwynt hwnnw, gyda'r bwriad o weld a oes atebion posibl y gallwn eu nodi ym mis Medi ar y mater penodol hwnnw.

Ac rwy'n derbyn ei bwynt ynghylch—nid wyf am fynd i drafod portffolio fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am addysg—sicrhau bod pynciau STEM ar gael a phwysigrwydd pynciau STEM. Rydym yn cytuno'n llwyr—ni allem gytuno mwy ar bwysigrwydd addysgu pynciau STEM i bobl o oedran ifanc a thrwy gydol eu gyrfa. Unwaith eto, daeth fy niddordeb fy hun yn hyn, mewn peirianneg, o'r ysgol ac ymyriadau fel rhaglen F1 mewn Ysgolion, sy'n cynnig ffordd wych o gefnogi hynny, ac maent yn dal i gefnogi hynny.

Mae'r Aelod yn pwysleisio'r bwlch sgiliau, neu'r bylchau sgiliau ymddangosiadol yn y diwydiant. Hoffwn dynnu sylw eto at y rhaglen sgiliau hyblyg. Mae'n rhaglen lle gall y diwydiant gael mynediad at y cyrsiau byr hynny. Mae'n ymateb i'r union beth y mae'r diwydiant yn gofyn amdano. Mae'n grant lle mae'r Llywodraeth yn darparu arian cyfatebol, gyda'r cyflogwr yn buddsoddi yn eu staff hefyd. Fe wnaethom gynyddu'r gyllideb eleni i £7.5 miliwn. Mae'n gynnydd o chwe gwaith yn y gyllideb. Ers mis Ebrill yn unig, Lywydd, pan aeth y gyllideb honno'n fyw, rydym eisoes wedi cefnogi dros 4,000 o ymyriadau hyfforddi yn y sectorau allweddol hynny yno, felly rydym yn mynd i'r afael â meysydd fel peirianneg, technoleg ddigidol, a llawer o feysydd eraill hefyd.

O ran ei farn ynglŷn â'r archwiliad sgiliau—wel, rydym yn edrych yn gyson ar sgiliau a'r sgiliau sydd eu hangen. Mae ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn cynnig cyfleoedd i gyfrannu mewn perthynas â sgiliau, ac maent yn gwneud hynny'n rheolaidd. Rydym hefyd wedi cael yr adolygiad sgiliau gwyrdd yn ddiweddar iawn, sy'n helpu hynny. Nid wyf am gael fy nenu i ateb y cwestiwn ynglŷn ag archwiliad sgiliau cyffredinol ar hyn o bryd, ond cawn weld yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Gan lynu wrth yr agenda brentisiaethau honno, mae'n werth ailadrodd difrifoldeb y sefyllfa, gan fod y ffigurau hyn gan Medr yn tynnu sylw at argyfwng sydd ar y ffordd yn yr agenda brentisiaethau a sgiliau yma yng Nghymru. Mae'n werth ailadrodd, yn ail chwarter 2024-25, fod nifer y prentisiaethau newydd wedi gostwng, yn enwedig gyda'r gostyngiad o 26 y cant mewn prentisiaethau lefel 3.

Tynnodd y Gweinidog sylw at y cyllid sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Nodaf hynny, ond mae problem sylweddol yn wynebu'r sector o hyd. Mae'n amlwg fod popeth yr oedd y sector yn ei ddweud ychydig fisoedd yn ôl yn adroddiad CBRE bellach yn dod yn wir. Yn anffodus, mae'n edrych fel pe bai'r Llywodraeth yn methu o ran yr agenda sgiliau. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r sector sydd bellach yn gweithio drwy hyn gyda llai o adnoddau? Nid oedd hynny'n glir yn ei ateb i Sam Kurtz.

Diolch am hynny, Luke. Unwaith eto, credaf ei bod yn werth ailadrodd y ffaith ein bod ni fel Llywodraeth bellach yn buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen mewn prentisiaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £144 miliwn mewn prentisiaethau. Cafwyd chwistrelliad yn ystod y flwyddyn yn 2023-24 gyda chyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Nawr, mae ganddo sefyllfa ychydig yn wahanol i'r Ceidwadwyr, lle maent yn mynd ati'n weithredol i geisio atal mynediad at y cyllid hwnnw. Rwy'n sylweddoli na wnaeth ef a'i blaid hynny, ond fe wnaethom fuddsoddi £144 miliwn eleni. Fe geisiodd atal mynediad at hynny. Pe bai dull Plaid Cymru o weithredu yn y gyllideb wedi llwyddo, wel, byddai llai fyth gan y sector, a dyna realiti lle rydym arni.

Nid ydym yn methu'r bwlch sgiliau. Un o'r ymyriadau a wnawn yw prentisiaethau. Rydym yn gwneud llawer mwy o ymyriadau nawr. Byddech wedi clywed mewn ymateb i Sam Kurtz am y 4,000 o ymyriadau hyfforddi mewn diwydiant yn y sectorau pwysig hynny ers mis Ebrill eleni drwy'r rhaglen sgiliau hyblyg. Credaf fod hynny i'w groesawu ac yn sicr yn rhywbeth y byddwn yn ei hyrwyddo yn y dyfodol.

Gan gymryd cam yn ôl am funud, ni wneuthum wadu ar unrhyw bwynt nad oedd gan y sector fynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod cyllid yn creu problem sylweddol o fewn y sector. Efallai, wrth gwrs, ei fod yn tynnu sylw at yr angen i drafod sut rydym yn ariannu'r sector yn y dyfodol, a'r gwahanol fodelau a allai fod ar gael i ni. Hynny yw, mae'n berffaith iawn tynnu sylw at adeiladu fel mater difrifol—y gostyngiad o 48 y cant mewn prentisiaethau newydd. Dylai hynny fod yn seinio larymau drwy'r Llywodraeth, gan mai realiti'r sefyllfa yw—. Rydym yn sôn am ein huchelgais mewn perthynas â sgiliau gwyrdd a thechnoleg werdd, ôl-osod tai—wel, os ydym mewn sefyllfa lle mae prentisiaethau newydd ym maes adeiladu yn gostwng mor isel ag y maent, nid ydym yn mynd i wireddu'r uchelgeisiau hynny, ac rydym wedi methu cyn i ni hyd yn oed ddechrau.

Ac ar adeiladu, mae'n werth nodi bod y llwybr lefel 2 hwnnw wedi'i ddileu o ganlyniad i benderfyniad gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn ganlyniad i adolygiad Cymwysterau Cymru, mae'n wir, ond yr hyn sy'n cael ei ddweud yn gyson gan y sector yw mai'r llwybr lefel 2 hwnnw yw'r ffordd orau a mwyaf effeithlon o fynd i'r afael â'r problemau ym maes adeiladu. Felly, rwy'n nodi eich bod yn aros am yr adolygiad gan Medr, ac y bydd adeiladu wedi'i gynnwys yn rhan gyntaf yr adolygiad hwnnw. Mae hynny i'w groesawu, ond mae angen inni symud ymlaen â hyn cyn gynted â phosibl, gan fod pob eiliad yr arhoswn yn y sefyllfa hon yn eiliad arall a gollwyd ac yn gam arall yn ôl, o ran ôl-osod y tai hynny yng Nghymru a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd y mae pawb yn y Siambr hon eisiau mynd i'r afael ag ef.

13:50

Diolch am hynny, Luke. Os caf dynnu sylw, unwaith eto—. Ac efallai, Lywydd, yr anfonaf ragor o wybodaeth at yr Aelodau am y rhaglen sgiliau hyblyg, gan fod un o'r meysydd allweddol yn y rhaglen sgiliau hyblyg yn cyfeirio at adeiladu ac a all ôl-osod fod yn rhan o hynny. Felly, efallai y gall busnesau yn ei ranbarth ef, neu yn sicr yn rhanbarthau Aelodau eraill, fod eisiau edrych ar hyn a chael mynediad ato. Dros 4,000 o ymyriadau eisoes, ond mae cyllid ar gael o hyd—rydym wedi rhoi hyd at £7.5 miliwn yn y gyllideb derfynol eleni—i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd allweddol y credaf y bydd gan yr Aelod ddiddordeb ynddynt.

Ac yna ar ei bwynt ynghylch prentisiaethau a lefel 2 mewn adeiladu, wel, rwy'n ymwybodol iawn o'r mater. Daeth o adolygiad o gymwysterau, ac mae'n bwysig gwrando ar adolygiadau a chaniatáu i adolygiadau gael effaith. Ond rwyf wedi cael yr un sgwrs ag yntau, rwyf wedi cael yr un sgwrs ag y mae Sam Kurtz wedi'i chael, gyda phartneriaid yn y diwydiant yn y maes hwn, a gallaf ddeall rhai o'r sgyrsiau a pham ein bod yn eu cael. Yr hyn y gofynnais i Medr ei wneud yw ystyried cyflwyno'r gwaith hwnnw yn gynt, lle gallwn gael canlyniad yr adolygiad hwnnw ym maes adeiladu yn benodol, ac efallai penderfyniad ar ateb posibl wrth symud ymlaen, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig caniatáu i hynny ddigwydd. Fel y dywedais, cyfarfûm â hwy ddydd Llun am drafodaeth fer, a byddaf yn cyfarfod â hwy eto yn yr wythnosau nesaf i drafod y ffordd ymlaen ar y mater adeiladu.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Weinidog, a hoffwn gyfarfod hanner ffordd â'r Gweinidog, iawn? Oherwydd soniais, yn y lle cyntaf, fod cyllid yn broblem ac efallai y byddai angen inni edrych ar sut yr ariannwn brentisiaethau yn y dyfodol. Un peth sydd o ddiddordeb i mi yw sut y gallem ddefnyddio Medr fel cyfrwng posibl i adrannau eraill o fewn y Llywodraeth gyfrannu er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cyllido hwnnw. Ni fydd yn datrys popeth, ond gallai wneud rhywfaint i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido. Oherwydd gyda phob cydymdeimlad â'r Gweinidog, rwy'n credu ei bod yn eithaf annheg mewn gwirionedd mai ei adran ef yn unig sy'n gyfrifol am rôl ei adran a rôl yr agenda brentisiaethau. Gwyddom fod yr agenda sgiliau'n gorgyffwrdd â llawer o bortffolios gwahanol, boed yn iechyd, trafnidiaeth, ac addysg hefyd. Mae yma adran drawsbynciol. Felly, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried defnyddio Medr fel cyfrwng i adrannau eraill gyfrannu ato, fel y gallwn fynd i'r afael â'r agenda sgiliau ar draws pob portffolio gwahanol ac fel nad yw'n gyfrifoldeb ar ei adran ef yn unig, ond yn flaenoriaeth drawslywodraethol?

Diolch am eich cwestiynau, Luke. Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn yr ystafell heddiw, a bydd ganddi gryn ddiddordeb yn y drafodaeth gyda Medr, fel y Gweinidog arweiniol sy'n gyfrifol. Mae'n llygad ei le, mae sgiliau'n fater i bawb. Dyna pam, yn y gyllideb derfynol, fod y penderfyniad bwriadol hwnnw gan y Llywodraeth i fuddsoddi mwy mewn sgiliau, drwy'r rhaglen sgiliau hyblyg—cynnydd o chwe gwaith—yn benderfyniad bwriadol gan y Cabinet. Dyna pam ein bod yn gallu gwneud hynny.

Ar ei bwynt ynghylch cyllid wrth symud ymlaen—wel, nid wyf am helaethu ar sut olwg a fyddai ar hynny yn setliadau'r gyllideb yn y dyfodol, ond credaf ei fod yn codi pwynt diddorol: a oes llwybrau eraill i fuddsoddi mwy mewn sgiliau? Rwy'n credu y gallai adolygiad o wariant Cymru yn benodol, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid sy'n arwain ar y gwaith hwnnw, fod eisiau ystyried sut olwg sydd ar fuddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol, gan y credaf mai buddsoddi mewn sgiliau yw un o'r ymyriadau gorau y gallwn eu gwneud ar gyfer yr economi, ac mae pawb—. Mae'r Llywodraeth yn falch iawn o fod yn gwneud yr ymyriadau a wnawn ar hyn o bryd. Ond yn sicr, credaf ei fod yn bwnc i'w drafod yn y dyfodol wrth inni osod cyllidebau newydd.

13:55
Prifysgolion a Datblygiad Economaidd

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am rôl prifysgolion o ran datblygu'r economi? OQ62808

Mae prifysgolion yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad ein heconomi drwy eu cyfraniad at addysg ac addysgu. Maent yn bwysig i'n huchelgeisiau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ar gyfer yr economi ac ar gyfer ein cymunedau, yn ogystal â bod yn gyflogwyr pwysig yn eu hawl eu hunain.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? Gan edrych ar yr economïau mwyaf llwyddiannus yn y byd, mae prifysgolion yn chwarae rhan allweddol yn eu datblygiad economaidd. Mae Caergrawnt, Cornell a Mannheim yn enghreifftiau o brifysgolion sy'n ysgogwyr economaidd. Wrth inni fynd i mewn i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, lle mae daearyddiaeth yn chwarae rhan gyfyngedig mewn llwyddiant, sut y gellir defnyddio sgiliau adrannau prifysgol, yn enwedig mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddorau bywyd, i ddatblygu cwmnïau llwyddiannus, a thrwy hynny, ein heconomi?

Y tu hwnt i'r ardaloedd hynny, rydym wedi gweld Cyden, yr ymwelsom â hwy gyda Julie James, ac a sefydlwyd gan bedwar entrepreneur lleol—athro, gwyddonydd, peiriannydd a pherson busnes. Dechreuodd y cwmni wneud peiriannau tynnu blew golau pwls dwys ar gyfer y diwydiant salonau proffesiynol. Dyma oedd bwriad cynlluniau technium, cyn iddo gael ei droi'n fathodyn ar gyfer uwch ffatrïoedd.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am ei gwestiwn, a hefyd am hwyluso ymweliad hollol wych â Cyden yn Abertawe, a gawsom gyda'n cyd-Aelod Julie James. Ac yno, cawsom gyfle, mewn gwirionedd, i wrando ar bryderon y busnes—yn enwedig ynghylch argaeledd safleoedd masnachol, er enghraifft, pwysigrwydd cymorth ar gyfer roboteg, awtomeiddio, moderneiddio ac yn y blaen. Felly, roedd yn sgwrs werthfawr iawn, a oedd, yn fy marn i, yn adlewyrchu'r sgyrsiau rydym yn eu cael gyda busnesau yn fwy cyffredinol, felly rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.

Ac yna, dylid myfyrio hefyd ar—. Credaf mai un o'r enillwyr mawr heddiw o ran yr adolygiad o wariant yw arloesedd, ac roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad o £86 biliwn o gyllid dros gyfnod yr adolygiad o wariant. A bydd hynny'n darparu cyllid ychwanegol ar gyfer arloesedd, ond yn benodol, mae pot o £30 miliwn a fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i hynny. Felly, roeddwn yn falch iawn y bore yma o fod wedi cael sgyrsiau gyda'r Arglwydd Vallance ynglŷn â'r ffordd orau o dargedu hynny yma yng Nghymru er mwyn cefnogi arloesedd a thwf. A chredaf fod Cyden, fel enghraifft o gwmni sydd wedi deillio o brifysgolion, yn rhywbeth y byddem am ei gefnogi a'i ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.

Mae gennym enghraifft dda iawn yn barod yn yr Hyb Arloesedd Seiber ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hwnnw wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a prifddinas-ranbarth Caerdydd. Ac un o'r metrigau allweddol y tu ôl i hynny yw creu cwmnïau deillio newydd ym maes seiberddiogelwch, sy'n dod yn fwyfwy pwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni.

Ac wrth gwrs, mae Prifysgol Abertawe hefyd yn gwneud llawer o waith gwych o ran darparu ar gyfer cwmnïau lled-ddargludyddion newydd, fel Kubos Semiconductors, yn ei labordai safon diwydiant. Roeddwn yn falch iawn o allu mynychu agoriad y Matrics Arloesi gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar hefyd.

Felly, rwy'n credu bod llawer iawn yn digwydd yn ein prifysgolion sy'n arwain at ddatblygu cwmnïau newydd, cwmnïau deillio newydd ac arloesedd, a fydd yn cael effaith fawr ar ein heconomi, ac yn aml, mewn llawer o achosion, ar yr economi fyd-eang.

Weinidog, yn aml iawn, pan edrychwch ar yr ystadegau, yn anffodus, nid yw Cymru wedi cael cyfran deg o gyllid ymchwil ac arloesi. Pan edrychodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar hyn yn 2023, roeddem oddeutu £145 miliwn yn brin o gymharu â Lloegr ar ffigurau cyfatebol a £175 miliwn yn brin o gymharu â'r Alban ar ffigurau cyfatebol.

Rydych wedi tynnu sylw at yr hyn roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros arloesi yn sôn amdano ar y penwythnos, ynglŷn â dyfodol y gronfa arloesi hon sy'n werth dros £80 biliwn. Sut rydych chi'n mynd i allu gweithio, fel Llywodraeth, gyda phrifysgolion i sicrhau bod Cymru'n gystadleuol wrth ddenu'r lefel honno o gyllid ymchwil ac arloesi a all o leiaf gau'r bwlch a'n rhoi ar y brig ar gyfer sicrhau'r cyllid hwnnw, fel y gall y prosiectau ymchwil hynny sicrhau patentau ar eu cynhyrchion ac ychwanegu gwerth at economi Cymru?

14:00

Dyma'r union sgwrs roeddwn yn ei chael y bore yma gyda chymheiriaid yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, yn nodi nad yw Cymru, yn hanesyddol, wedi cael ei chyfran deg, os mynnwch, o gyllid ymchwil ac arloesi. 

Rwy'n credu ei bod yn gyffrous iawn, ochr yn ochr â'r £30 miliwn sy'n rhan o £0.5 biliwn o gyllid wedi'i dargedu yn ddaearyddol, y bydd gweddill y £86 biliwn yn agored i gystadleuaeth mewn gwirionedd. Credaf mai dyma lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae rôl bwysig iawn yn trefnu ceisiadau am y cyllid cystadleuol hwnnw ymhlith ein prifysgolion ac eraill er mwyn dod â'r cyllid arloesi hwnnw i Gymru. Felly, rwy'n credu bod rôl bwysig i ni yn y gofod penodol hwnnw.

Rwy'n credu hefyd fod pethau allweddol y mae angen inni eu gwneud yn glir i'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, ac rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau ers imi fod yn y swydd hon ynghylch maint y cyllid sydd ar gael. Mewn gwirionedd, yn aml, mae maint y dyfarniad mor fawr fel ei fod yn ormod i'n mentrau bach a chanolig, neu o bosibl yn ormod i rai prifysgolion allu ymdopi ag ef. Felly, dyna pam y bydd potiau llai o gyllid a photiau wedi'u targedu'n well o gyllid hefyd yn bwysig, yn ogystal â'n rôl bwysig yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd i wneud ceisiadau ar y cyd ac yn gydweithredol, a fydd yn helpu yn y dyfodol hefyd. Felly, mae yna bethau wedi bod yn y gorffennol y gallwn eu nodi fel pethau a rwystrai gyllid arloesi rhag dod i Gymru, ac mae angen inni wneud yn siŵr, wrth inni symud ymlaen, fod y rhwystrau hynny'n cael eu lleihau.

Deallusrwydd Artiffisial

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw integreiddio deallusrwydd artiffisial yn y gweithle yn amharu ar hawliau gweithwyr? OQ62812

Diolch. Mae ein dull yn cydbwyso potensial deallusrwydd artiffisial i yrru twf a chynhyrchiant ag ymrwymiad i degwch, tryloywder a diogelwch ar gyfer gweithwyr. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr, undebau llafur ac eraill i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial, pan gaiff ei ei gyflwyno yn y gweithle, yn darparu manteision i weithwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. 

Fis diwethaf, gwahoddais Leticia García a Mathias Bonde o ControlAI i friffio Aelodau a staff am y risgiau a achosir gan ddeallusrwydd artiffisial. Fe wnaethant ofyn cwestiwn hanfodol: pam y mae gwyddonwyr blaenllaw, enillwyr Nobel a hyd yn oed prif swyddogion gweithredol cwmnïau deallusrwydd artiffisial yn rhybuddio y dylai rheoli risgiau deallusrwydd artiffisial fod yn flaenoriaeth fyd-eang, ar yr un lefel ag argyfwng hinsawdd?

Mae undebau llafur yn adrodd am gynnydd mewn gwyliadwriaeth yn y gweithle ac arferion rheoli algorithmig cosbol, ac yn ôl dadansoddiad diweddar gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, mae gweithwyr rheng flaen fel y rhai mewn warysau, canolfannau galwadau a rolau dosbarthu yn arbennig o agored i niwed. Nawr, mae Cyngres yr Undebau Llafur yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith yn y maes hwn. Mae eu hymgyrchu wedi arwain at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddeallusrwydd artiffisial moesegol, ac maent yn cefnogi canghennau undebau i weithredu canllawiau cysylltiedig. Felly, pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar sicrhau bod y deunyddiau, yr egwyddorion a'r arferion hyn yn cael eu hymgorffori'n ystyrlon ar draws gweithleoedd yng Nghymru, a sut y mae'n bwriadu parhau i ymwneud ag effaith deallusrwydd artiffisial ar weithwyr, yn enwedig y rhai mewn swyddi mwy ansicr yn y farchnad lafur?

A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am y cwestiwn, ac yn enwedig y pwyslais ar hawliau gweithwyr yn y cwestiwn? Cytunaf ag ef fod angen crybwyll a chydnabod gwaith TUC Cymru yn y Siambr heddiw. Gweithiais gyda TUC Cymru cyn imi fod yn y Llywodraeth ar yr union fater hwn, ac mae'n dda gweld y mater yn cael ei godi eto, oherwydd mae angen inni ddysgu o hanes yn fy marn i. Pan edrychwn ar fy etholaeth fy hun a newidiadau enfawr i'r economi, yn enwedig yn yr 1980au, rydym yn dal i deimlo effeithiau'r newidiadau enfawr hynny, heb iddynt gael eu gwneud drwy bontio teg gyda'r gweithlu.

Felly, yng Nghymru, mae ymagwedd Llywodraeth Cymru at bob mater hawliau cyflogaeth yn Gymreig iawn, trwy ddull Cymreig partneriaeth gymdeithasol—felly, gweithio ar y cyd gydag undebau llafur a chyflogwyr. Rydym hefyd yn cydnabod y manteision y gall deallusrwydd artiffisial eu cynnig, ond y ffordd orau o wneud hynny yw trwy bartneriaeth.

Soniodd Luke Fletcher am waith y TUC. Rwy'n credu ei bod hefyd yn werth sôn am waith cyngor partneriaeth y gweithlu ar ddefnydd moesegol a chyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r ddogfen honno wedi'i chyhoeddi yn y sector cyhoeddus, ac mae wedi'i rhannu gyda phartneriaid sector cyhoeddus. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw nad ar gyfer y sector cyhoeddus yn unig y mae hi, serch hynny; gellid ei ddefnyddio yn y sector preifat yn yr un modd.

I roi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod hefyd, nid dyna'r unig waith a wnawn yn y gofod hwn. Rydym hefyd yn rhan o'r cynllun cyfleoedd deallusrwydd artiffisial, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu canolfannau technoleg, adnoddau a rennir a chanolfannau data, a sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r manteision economaidd a all ddigwydd. Ond ochr yn ochr â hynny hefyd, bydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn arwain gwaith ar ddeallusrwydd artiffisial, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau hynny, gan gydnabod yr angen i sicrhau pontio teg wrth inni ymdrin â deallusrwydd artiffisial yn y gweithlu, a sicrhau bod gweithwyr yn elwa yn ogystal â chyflogwyr yng Nghymru, ac rwy'n credu bod y pwynt—. Ar bwynt yr Aelod ar ControlAI a chyfrifoldeb byd-eang, wel rwy'n credu bod Cymru yn gwneud yn well na'r disgwyl ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial moesegol, ac rwy'n credu y bydd cenhedloedd eraill a diwydiant yn wir yn edrych ar yr hyn a wnawn, gan weld y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial i wella a gyrru cynhyrchiant, ond yn y ffordd gyfrifol a moesegol honno.

14:05
Yr Ardoll Ymwelwyr

6. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ynghylch goblygiadau'r ardoll ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau mawr? OQ62828

Rwy'n parhau i ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar yr ardoll ymwelwyr a'i goblygiadau i'r economi ymwelwyr. Bydd refeniw a gynhyrchir o fudd i'r ardal leol a'i sector twristiaeth ac er mai awdurdodau lleol fydd yn penderfynu, gallai awdurdodau lleol ddefnyddio refeniw i gefnogi costau cynnal digwyddiadau mawr.

Mae gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, Eisteddfod yr Urdd, yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Y mis diwethaf—roedd yn wych—roedd fy etholaeth yn gartref iddi. Gwthiodd unigolion a deithiodd i Fargam filiynau o bunnoedd i mewn i economi ranbarthol de-orllewin Cymru. Mae eich ardoll ymwelwyr arfaethedig, fel y'i lluniwyd eisoes, mewn perygl o niweidio diwylliant Cymru yn eu hiaith eu hunain. Mae cefnogaeth Llafur Cymru i'r ardoll ymwelwyr wedi bod yn glir. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu ei bod yn dreth ar dwristiaeth. Polisi ein plaid yw cael gwared ar reoliadau fel hyn sy'n niweidio twf. Ysgrifennydd y Cabinet, oni fydd treth dwristiaeth eich Llywodraeth yn niweidio twristiaeth sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â'r iaith Saesneg yn y dyfodol a'r holl swyddi a manteision a ddaw yn eu sgil?

Wel, yn gyntaf oll, fe ddechreuaf lle rydym yn cytuno, sef ynghylch pwysigrwydd Eisteddfod yr Urdd a'r cyfraniad pwysig y mae'n ei wneud i'r economi, yn lleol, ond hefyd i'n diwylliant Cymreig, ein treftadaeth a'r iaith Gymraeg, ac rydym yn falch iawn ei bod yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i arddangos a dathlu iaith a diwylliant Cymru, a thalent ein pobl ifanc wrth gwrs. Gwn fod Jack Sargeant wedi cael ymweliad gwych â'r Eisteddfod.

Yn ddiddorol, rhoddais ddatganiad i'r Senedd ar ddigwyddiadau mawr yn ddiweddar a chefais fy herio pam na wneuthum sôn am Eisteddfod yr Urdd bryd hynny. Y rheswm am hynny oedd oherwydd bod y datganiad digwyddiadau mawr a wneuthum yn cyfeirio at y digwyddiadau sy'n cael eu cefnogi'n ariannol drwy dîm digwyddiadau Llywodraeth Cymru. Nid oes angen cyllid gan Lywodraeth Cymru ar Eisteddfod yr Urdd mewn gwirionedd, oherwydd mae mor llwyddiannus, ac mae'n rhan o'n rhaglen flynyddol reolaidd. Felly, rwy'n credu bod y ffaith ei bod mor llwyddiannus ar ei phen ei hun yn siarad drosto'i hun.

Ond nid wyf yn meddwl y gallwn gytuno bod yr ardoll dwristiaeth arfaethedig mewn unrhyw ffordd yn fygythiad i'r Gymraeg nac i ddiwylliant Cymru. Nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny. Ac i'r gwrthwyneb, rwy'n credu y bydd hyn yn rhoi gallu i awdurdodau lleol fuddsoddi i gefnogi'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, os byddant yn dewis gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod pobl yn dod i Gymru oherwydd ein hiaith Gymraeg, oherwydd ein diwylliant, a bydd y pethau hynny'n flaenllaw ym meddyliau awdurdodau lleol pan fyddant yn edrych ar eu hopsiynau, os penderfynant godi'r ardoll, i weld sut y byddant yn ei gwario, oherwydd pwrpas yr ardoll mewn gwirionedd yw buddsoddi yn y pethau sy'n gwneud dod i Gymru yn wych, sy'n gwneud i ymwelwyr gael profiad gwych yma yng Nghymru, a'r pethau sy'n cefnogi'r economi i gael y dwristiaeth gynaliadwy honno. Pan fydd gennych dwristiaeth gynaliadwy, mae'n dwristiaeth sy'n cefnogi'r Gymraeg ac yn cefnogi diwylliant Cymru. Felly, rwy'n credu bod digon o opsiynau yma i awdurdodau lleol ystyried sut y byddant yn buddsoddi yn y gofod hwnnw, pe baent yn penderfynu codi'r ardoll.

Mae cwestiwn 7 [OQ62834] Darren Millar wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 8, Mabon ap Gwynfor.

14:10

Diolch, Llywydd. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y gofynion cydsyniad cynllunio ar gyfer—

Gaf i ofyn i ti aros am eiliad? Dŷn ni ddim yn clywed yn iawn. Dweda rhywbeth, Mabon ap Gwynfor.

Helo. Gobeithio eich bod chi'n fy nghlywed i lawr yn y fanna.

Ie, rŷn ni'n dy glywed ti nawr yn glir, o le bynnag wyt ti—yn dy etholaeth, dwi'n meddwl. Caria ymlaen.

Cynlluniau Peilon Mawr

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y gofynion cydsyniad cynllunio ar gyfer cynlluniau peilon mawr? OQ62831

Mae llinellau uwchben sy'n gyfrifoldeb Lywodraeth Cymru yn rhan o'r broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Lle nad yw cynlluniau peilon mawr o fewn cymhwysedd datganoledig, maent yn dod o dan y drefn prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol ac yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb. Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod NESO, the National Energy Systems Operator, yn bwriadu creu cysylltiad tensiwn uchel newydd o Fangor i Abertawe. Fe allai hynny olygu torri trwy barciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, ynghyd â mynyddoedd Elenydd.

Mae rheolau Holford y Grid Cenedlaethol yn dweud y dylai llinellau uwchben foltedd uchel newydd osgoi parciau cenedlaethol yn gyfan gwbl, ac mae'r Llywodraeth yma wedi nodi rhywbeth tebyg. Mae nifer o gynlluniau NESO yn cynnwys ceblau tanddwr. Ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn credu y dylid cadw at y polisïau na ddylai peilonau o'r fath gael eu gosod ar hyd ein parciau cenedlaethol, ac ydych chi'n cytuno mai'r datrysiad gorau fyddai iddyn nhw fynd o dan y môr?

Rydym wedi bod yn glir iawn mai'r safbwynt a ffafriwn yw y dylai llinellau pŵer newydd fod o dan y ddaear lle bo hynny'n bosibl, ac rydym yn disgwyl i ymgysylltiad â'r cyhoedd liniaru'r effaith lle nad yw hynny'n bosibl. Bydd cyd-Aelodau'n gwybod fy mod wedi cynnull y grŵp cynghori annibynnol i fwrw ymlaen â'r gwaith ar ddeall y dulliau posibl o ddarparu seilwaith rhwydwaith trydan, cytuno ar egwyddorion ar gyfer yr atebion mwyaf priodol i Gymru, a chreu sylfaen dystiolaeth gyhoeddus i gefnogi'r egwyddorion. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn gwneud sylwadau ar ail iteriad o'r adroddiad drafft, a bydd yn cyfarfod eto y mis hwn i gwblhau a chytuno ar yr adroddiad. Rwy'n pwysleisio, fodd bynnag, ei fod yn grŵp annibynnol. Serch hynny, rydym yn annog y grŵp i gyhoeddi eu hargymhellion cyn gynted â phosibl fel y gallwn eu hystyried i'n helpu i benderfynu ar y ffordd ymlaen. Rwy'n deall cryfder y teimlad, ond rwy'n credu hefyd fod gennym system gynllunio gadarn, sydd eisoes wedi'i gosod yno i benderfynu sut i fynd ati i osod ceblau o dan y ddaear neu fel arall. Felly, hoffwn ofyn i gyd-Aelodau am ychydig bach mwy o amynedd wrth inni aros am yr adroddiad terfynol hwnnw, a ddylai fod gyda ni erbyn diwedd y mis, a'r bwriad yw ei rannu gyda chyd-Aelodau cyn gynted â phosibl.

Mae 93 y cant o'r ymatebwyr eisoes wedi datgan eu gwrthwynebiad i adeiladu peilonau yn eu hardal. Mae llai nag 1 y cant o fusnesau'n credu y byddai peilonau yn creu cyfleoedd economaidd, ac nid yw 81 y cant yn gweld unrhyw fanteision o gwbl. Nododd y Prif Weinidog, mewn ymateb i Jane Dodds, eu bod yn anelu at gael y cydbwysedd cywir yn yr angen i ddatblygu adnoddau ynni adnewyddadwy a fforddiadwyedd.

Fodd bynnag, mae hyn yn dal i esgeuluso'r elfen hanfodol o ymgysylltu â'r cymunedau lleol. Roedd y Prif Weinidog blaenorol, Mark Drakeford AS, hyd yn oed yn dweud:

'Y polisi yw y dylid gosod ceblau trawsyrru trydan o dan y ddaear lle bo modd, nid yn unig mewn tirweddau dynodedig, ond lle bo modd.'

Felly, dyna ymrwymiad clir gan y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Nawr, rwy'n gwybod fy mod wedi clywed, 'Ond Janet, mae'n fater o gost.' Wel, mae arnaf ofn os yw'r cwmnïau mawr hyn eisiau—. Mae angen yr ynni adnewyddadwy arnom, oes, ond os ydynt eisiau'r elw enfawr sy'n cyd-fynd â hynny, rwy'n credu bod yn rhaid iddynt barchu gwerth ein cefn gwlad. Felly, pa gynnydd a wnaethoch, Ysgrifennydd y Cabinet, ar gyflwyno cymhariaeth gyfredol o gostau ceblau uwchben a cheblau tanddaearol? Oherwydd er ei bod yn ddrytach i fynd o dan y ddaear, ar ôl saith mlynedd, rwy'n deall bod y gost honno—nid yw'n bodoli mwyach, mae'n dod yn gyfartal. Diolch.

Dyna rywfaint o'r gwaith y buom yn gofyn i'r grŵp annibynnol edrych arno, a beth yw cost gosod ceblau o dan y ddaear, ac edrych ar y gwahanol dechnolegau sydd ar gael, oherwydd fe wyddom fod hwn yn faes lle mae arloesedd yn digwydd drwy'r amser hefyd.

Rwy'n credu fodd bynnag fod y pwyntiau ynglŷn â chyfranogiad y gymuned ac ymgysylltiad â'r gymuned yn hollol allweddol, a dyna pam rwy'n falch iawn fod Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 wedi cryfhau ymgysylltiad cymunedol trwy ychwanegu gofynion gwell a chyson i ymgynghori cyn ymgeisio ar bob cais am ganiatâd seilwaith. Yn ogystal â darparu manylion am y cynllun, bydd yn ofynnol i ddatblygwyr nodi buddion cymunedol y cynllun yn eu hymgynghoriad cyn ymgeisio. Bydd y rhain yn dibynnu ar y cynllun, ond gallent fod yn gronfa gymunedol, llwybrau mynediad gwell yn yr ardal neu gyfleoedd prentisiaethau, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod yr holl bethau hynny'n bwysig iawn. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn hollol hanfodol, a byddem yn disgwyl i'r datblygwyr wneud hynny mewn ffordd sy'n gallu dangos manteision unrhyw gynllun, ond gan wrando hefyd ar farn cymunedau wrth iddynt ymateb i gynigion. Felly, fel y dywedaf, fe gyhoeddir yr adroddiad cyn bo hir.

Roedd gennyf ddiddordeb yn y pwynt nad oedd peilonau'n darparu unrhyw fudd economaidd. Byddwn yn dweud bod mynediad at ynni yn darparu budd economaidd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ystyried hynny. Er fy mod yn deall bod y pwynt yn ymwneud â pha mor ddymunol neu fel arall yw peilonau, rwy'n credu hefyd fod yna her yma y mae'n rhaid inni ymrafael â hi, sef y ffaith y bydd angen llawer mwy o drydan arnom yn y dyfodol, a bydd dosbarthu a thrawsyrru'r trydan hwnnw'n rhan o'r her y mae'n rhaid inni ddelio â hi.

14:15
Sectorau Celf a Diwylliant

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sectorau celf a diwylliant ar draws Gorllewin De Cymru? OQ62815

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo a chefnogi prosiectau celf a diwylliant ar draws Gorllewin De Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, lle mae Llywodraeth Cymru yn dewis cefnogi lleoliad diwylliannol neu gelfyddydol ledled Cymru yn ariannol ei bod yn cefnogi lleoedd sy'n ddiogel a chroesawgar i gymaint o bobl â phosibl sy'n dewis ymweld neu hyd yn oed fynd heibio. Mae grŵp o etholwyr Iddewig sy'n byw yn Abertawe, yn fy ardal i, wedi cysylltu â mi i dynnu sylw at y ffaith bod rhai orielau celf sy'n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru, weithiau trwy gyrff hyd braich, wedi arddangos posteri y teimlant eu bod yn eithaf gwrth-semitig ac arddangosfeydd eraill ar gyrion eu safleoedd. Maent yn dweud bod hyn yn gwneud iddynt deimlo'n anniogel, ac nad oes croeso iddynt ymweld. Yn fwyaf arbennig, mae llawer o hyn yn gysylltiedig â'r gwrthdaro parhaus rhwng Israel a Phalesteina, ac yn gwneud i'r etholwyr Iddewig hynny deimlo nad oes croeso iddynt ymweld â'r lle. Nawr, rwy'n siŵr nad yw hynny'n rhywbeth y byddech chi eisiau ei glywed, ac nad dyna yw'r bwriad am yr arian a roddwyd i rai o'r lleoliadau hyn. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i'r Senedd mai eich safbwynt chi yw y dylai'r lleoedd hyn fod, lle bo modd, yn wleidyddol niwtral a pheidio â chymryd ochr ar faterion sy'n gwneud i bobl deimlo nad oes croeso iddynt gerdded trwy eu drysau, oherwydd dylai diwylliant a'r celfyddydau fod ar gyfer pawb?

Wel, a gaf i ddiolch i Tom Giffard am ddod â'r mater hwn i fy sylw ac am godi'r cwestiwn hefyd? Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef y dylai diwylliant fod ar gyfer pawb. Mae hwnnw'n uchelgais yn ein 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', a lansiwyd gennym ychydig wythnosau yn ôl, ac rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, y dylai diwylliant fod yn ddiogel ac yn groesawgar i gymaint o bobl â phosibl. Rwy'n credu ei bod yn amlwg yn anghywir fod eich etholwyr wedi cael eu gwneud i deimlo'n anniogel yn eu cymunedau. Bydd yr Aelod yn gwybod bod ein harian a'n cyllid i'r celfyddydau yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru fel arfer, felly os byddai'n fodlon ysgrifennu ataf gyda manylion yr hyn y mae ei etholwyr wedi dod i gysylltiad ag ef, carwn ofyn i fy swyddogion siarad â Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn iddynt hwy ymchwilio ymhellach i'r mater a rhoi unrhyw sicrwydd i Tom Giffard a'i etholwyr fod y sefydliadau a ariennir yn lleoedd diogel a chroesawgar i bawb, fel y nodir yn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Mike Hedges.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynllun gweithredu ar gyfer dementia? OQ62807

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd gwerthusiad o'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia, a oedd yn asesu ei effaith ar ofal a chymorth dementia yng Nghymru. Rydym hefyd wedi parhau â'n gwaith ymgysylltu trwy holiadur cyhoeddus i siapio ein gweithgareddau ymgysylltu gogyfer â'r cynllun gweithredu olynol ar gyfer dementia.

14:20

Diolch am eich ateb. Nid yw tua 18,000 o bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru wedi cael diagnosis, sy'n golygu bod teuluoedd yn cael trafferth ymdopi heb gymorth a thriniaeth. Dyna 18,000 o unigolion, 18,000 o deuluoedd yn cael trafferth mewn distawrwydd heb wybod beth i'w wneud na ble i droi. Mae'r Gymdeithas Alzheimer's wedi cyhoeddi ymchwil sy'n datgelu bod cost gofal dementia yng Nghymru bellach wedi cyrraedd £2 biliwn y flwyddyn. Amcangyfrifir y bydd y ffigur yn codi i fwy na £4.5 biliwn erbyn 2040.

Yn bwysicach na'r gost ariannol, fe geir y gost ddynol. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith da sy'n cael ei wneud, a diolch i'r rhai sy'n rhedeg yr hyb dementia yng Nghwadrant Abertawe. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu cyn gynted â phosibl, fel y gellir craffu'n briodol ar ddatblygiad y cynllun newydd?

Diolch am godi hyn, Mike Hedges, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll diagnosis. Fel y gwyddom o adroddiad yr Arglwydd Darzi sy'n edrych ar gynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar ddementia, mae diagnosis cynnar yn hollol hanfodol, a'r rheswm am hynny yw y dylai fod gobaith. Mae'n hollol bosibl cael triniaeth adsefydlu ar gyfer dementia, a gallu byw'n annibynnol a gwneud penderfyniadau am eich dyfodol cyn gynted â phosibl, ac i fyw'n dda. Mae hynny'n hollol hanfodol, ac yn rhywbeth sy'n mynd i chwarae rhan go iawn yn y cynllun gweithredu newydd sydd ar y ffordd ar gyfer dementia. Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw cynnig rhywfaint o obaith i bobl. Bob dydd fe glywn am ymchwil newydd a datblygiadau newydd mewn gofal dementia a meddyginiaeth dementia a chefnogaeth a diagnosis, felly rwy'n awyddus iawn i hynny fod yn rhywbeth sy'n dod drwodd yn gryf iawn.

Rwyf am eich sicrhau ein bod yn gweithio'n ddiflino nawr ar y cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Mae'n mynd i gael ei gydgynhyrchu; mae'n mynd i gael ei gydgynhyrchu gan y rhanddeiliaid y sonioch chi amdanynt nawr, fel y Gymdeithas Alzheimer's, a hefyd clinigwyr a phobl â phrofiad bywyd. Rydym yn gwbl ymrwymedig yn Llywodraeth Cymru i gydgynhyrchu, ond nid yw'n gyflym ac ni ddylai fod, ond pan fyddwch wedi'i gael a'i fod wedi'i gydgynhyrchu, mae'n llawer mwy effeithiol. Felly, rwy'n bwriadu dechrau'r ymgynghoriad hwnnw tuag at ddiwedd y flwyddyn. Yna, wrth gwrs, fe fydd yn agored i'r cyhoedd ac unrhyw un arall sydd eisiau cyfrannu mewnbwn iddo. 

Fel y dywedais, rwy'n awyddus iawn i roi gobaith i bobl, fel eu bod yn gofyn am ddiagnosis cynharach, i allu gweld y gallant fyw'n dda ac y gallant gael cefnogaeth yn eu cymuned hefyd. Diolch.

Wel, gyda chynllun dementia newydd i Gymru ar y gweill, triniaethau newydd yn yr arfaeth a nifer yr achosion o ddementia yn parhau i gynyddu, mae'n hanfodol eich bod chi'n gwneud hyn yn iawn. Bythefnos yn ôl, ymwelais â hyb dementia Wrecsam gyda Chymdeithas Alzheimer's Cymru a chyfarfod â grŵp cymorth i bobl sy'n byw gyda dementia, a gofalwyr. Er bod llwybr cymorth cof gogledd Cymru yn gwneud yr hyn a all i ddod â darparwyr gwasanaeth a'r trydydd sector at ei gilydd i ddarparu llwybr i bobl sy'n byw gyda dementia ledled gogledd Cymru, roeddent yn dweud bod yna loteri cod post yn bodoli ac nad oes gwasanaethau, yn cynnwys mynediad at nyrsys cymorth arbenigol, ar gael o hyd i bawb sydd eu hangen. Sut y gallwch chi sicrhau felly fod gan Gymru gynllun gweithredu newydd a gyfer dementia gydag ymrwymiad beiddgar i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, fel y rhai y gwnaethant eu nodi?

Diolch am y cwestiwn, Mark Isherwood. Rwy'n cytuno bod yn rhaid inni ei wneud yn iawn, ac mae'r adborth ynddo'i hun yn hynod ddefnyddiol. Rwy'n ceisio ymweld â chymaint o hybiau dementia ag y gallaf ar draws Cymru. Yn ddiddorol, pan euthum i hyb Abertawe, fel y soniodd Mike Hedges, roeddent yn dweud bod pobl eisiau gallu dim ond galw heibio. Mae mor bwysig ei fod yng nghanol y dref, a'r hyn a welsant oedd nad oedd pobl o reidrwydd eisiau mynd i sesiynau, gweithdai cymorth mentora cymheiriaid, y byddent yn eu cynnal, a hynny am eu bod eisiau parhau i wneud y gweithgareddau yr oeddent eisoes yn eu gwneud, fel bod yn aelod o'r Cerddwyr a mynd i'w dosbarthiadau hanes. Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod pob man yn wahanol, ac mae angen inni gael ystod go iawn o gefnogaeth sy'n gweddu i bawb.

Dyma oedd un o'r cwestiynau yr euthum i'r afael â hwy y bore yma pan oeddwn yn siarad â'r GIG, i edrych ar hyn. Mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn hollol hanfodol i ddarparu cymorth dementia o fewn y cymunedau a chydgysylltu hynny ar draws llywodraeth leol a'r byrddau iechyd. Mae'n rhaid iddynt allu cael cymorth wedi'i deilwra sy'n iawn i'r gymuned, ond wedyn mae angen inni osod y neges a'r thema gyffredinol, a'r hyn a ddywedoch chi wedyn am y llwybr cymorth cof a'r nyrsys cymorth arbenigol yw'r hyn sy'n rhaid iddo fod yn wirioneddol glir o fewn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia.

Felly, rwy'n eich sicrhau bod popeth rydych chi wedi'i ddweud yn cael ei ystyried yn drylwyr. Rwy'n credu ein bod wedi ffurfio sylfaen dda iawn gyda'r cynllun gweithredu gwreiddiol ar gyfer dementia, a'r pethau hyn yw'r union bethau y mae angen inni allu adeiladu arnynt, fel bod gennym y gefnogaeth wedi'i theilwra a'r ymgysylltiad cymunedol, sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth, ond nad oes loteri cod post o ran y llwybr a'r gefnogaeth glinigol y bydd ei hangen arnoch trwy gydol eich oes. Diolch.

14:25
Canser y Pancreas

2. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd i'r afael â diagnosis hwyr canser y pancreas ac i sicrhau mynediad cynharach at offer diagnostig i gleifion? OQ62822

Mae ein dull o wella canlyniadau canser y pancreas yng Nghymru wedi'i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser a chynllun gwella canser y GIG. Mae hyn yn cynnwys gwella canlyniadau a phrofiadau pobl sy'n cael diagnosis o ganser, atal a chanfod canser yn gynharach, a mynd i'r afael ag amseroedd aros.

Diolch am hynny, oherwydd mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar ormod o deuluoedd o hyd. Canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol yng Nghymru. Mae hynny oherwydd bod 80 y cant o bobl yn cael diagnosis yn rhy hwyr i gael triniaeth sy'n achub bywydau, a hanner yn colli eu bywydau o fewn tri mis. Mae'n rhaid inni weld mwy o bobl yn cael eu diagnosis yn gynharach i achub cymaint yn fwy o fywydau gwerthfawr.

Collais fy mam-gu i ganser y pancreas 20 mlynedd yn ôl, ac nid wyf eisiau gweld mwy o deuluoedd yn gorfod mynd drwy'r hyn yr aethom ni drwyddo wrth ei cholli. Rwy'n annog y Llywodraeth i fuddsoddi mewn profion newydd i helpu i ganfod canser y pancreas ar gamau cynharach, mewn ymchwil ystyrlon hefyd, a thrwy fonitro rheolaidd i'r bobl sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddatblygu'r canser hwn. Mae'r rhain yn rhannau hanfodol o ymgyrch 'Unite. Diagnose. Save Lives.' Pancreatic Cancer UK. Rwyf am ofyn: a wnewch chi wneud mynd i'r afael â'r cyfraddau diagnosis ystyfnig hyn yn ffocws i'ch Llywodraeth, os gwelwch yn dda, fel y gallwn achub mwy o'r bywydau sy'n cael eu colli i ganser y pancreas, yn ogystal â chanserau llai goroesadwy eraill yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am y cwestiwn atodol hwnnw? Rwy'n credu ei bod yn iawn fy mod yn dechrau trwy gydnabod bod gan ganser y pancreas rai o'r cyfraddau goroesi gwaethaf. Fel chi, rwyf innau hefyd wedi colli anwyliaid i ganser y pancreas. Mae'n dorcalonnus ei weld yn digwydd, ac mae'n dorcalonnus gweld diagnosis ohono'n digwydd mor hwyr fel y gwyddom, erbyn inni gael y diagnosis, nad oes llawer iawn y gellir ei wneud i atal y clefyd mewn gwirionedd.

Mae hynny'n gysylltiedig yn bennaf â pha mor anodd yw ei ganfod yn y camau cynnar, ac rydym yn gwybod bod canserau eraill mewn categori tebyg. Gwyddom fod canser yr ofarïau yn un o'r rhai sy'n anodd iawn i'w ganfod yn gynnar. Os gallwn ei ganfod yn gynharach, gellir ei drin yn fwy effeithiol wrth gwrs. Dyna'r dull o weithredu yr ydym wedi ceisio ei ddilyn yng Nghymru, i ganolbwyntio ar ddarparu mynediad cyflym i bobl at driniaeth ddiagnostig. Ein ffocws, felly, yw gweithredu'r llwybr y cytunwyd arno'n genedlaethol ar gyfer canser y pancreas o dan y targed amseroedd aros ar gyfer canser.

Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar ansawdd gofal, ac wedi ariannu archwiliad clinigol cenedlaethol i helpu gwasanaethau'r GIG i nodi a gweithredu ar gyfleoedd gwella ansawdd. Rydym yn gweithio gyda'r GIG i benderfynu ar y model gwasanaeth hirdymor ar gyfer llawdriniaethau canser y pancreas a'r afu. Mae ein canolfan lawfeddygol yn ne Cymru wedi cynyddu capasiti llawfeddygol.

Rydym yn gwybod bod arloesedd yn allweddol i rywfaint o hyn, y pethau a nodwyd gennych, ac rydym yn gwybod bod Pancreatic Cancer UK wedi bod yn gwneud llawer o waith ar hynny, ac mae nifer o alwadau y mae Pancreatic Cancer UK yn eu gwneud i Lywodraethau'r DU a Llywodraeth Cymru o ran sut y gallem fynd i'r afael â hynny. Rwyf wedi gweld y meysydd penodol. Maent yn edrych ar gadw gwyliadwriaeth ar bobl sydd â risg uwch, a'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw fy mod yn disgwyl i wasanaethau'r GIG gynnig gweithdrefnau cadw gwyliadwriaeth i bobl ar gyfer canser y pancreas yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal. Maent hefyd yn gofyn i ni fuddsoddi mewn profion diagnostig newydd, ac mae llawer iawn o arloesi ar y gweill ledled y DU ar brofion diagnostig newydd ar gyfer canserau fel canser y pancreas, ac mae'r profion hynny'n arwain at y posibilrwydd o allu canfod y canserau anos i'w canfod hynny y siaradwn amdanynt. Maent hefyd yn galw am fwy o gyllid ar gyfer ymchwil ac arloesedd canser, a chanser yw'r maes unigol o ymchwil iechyd sydd wedi cael y buddsoddiad mwyaf gan Lywodraeth Cymru.

Ond yr hyn rwy'n fwy na hapus i'w wneud, Delyth, yw cytuno y dylem gael cyfarfod gyda Pancreatic Cancer UK i siarad am eu hachos, i siarad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud yn y gofod hwn, a beth yn fwy y gallwn ei wneud efallai i gyflymu'r gwelliant a nodwch o ran diagnosteg a thriniaeth. Diolch.

Weinidog, rydym i gyd yn gwybod am yr effaith ddinistriol y mae canser y pancreas, a chanser yn gyffredinol, yn ei chael ar lawer o deuluoedd ledled Cymru. Mae'n debygol o effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd yn ystod ein bywydau.

Rwy'n falch o weld bod canolfan radiotherapi newydd i fod i agor yn Nevill Hall. Bydd hyn yn sicr yn mynd yn bell nid yn unig i helpu i drin cleifion yng Nghymru, ond hefyd i roi sicrwydd iddynt fod triniaeth ar gael ar garreg eu drws. Yn fy etholaeth i ym Mynwy, bu sawl digwyddiad diweddar sydd wedi codi arian sylweddol ar gyfer canolfannau ac elusennau canser—yn cynnwys dawns elusennol, taith feicio, a hyd yn oed ras fwd. Rwy'n credu y dylem i gyd fod yn ddiolchgar i'r rhai sy'n mynychu ac yn cynnal y digwyddiadau hyn i ariannu ymchwil pellach i ganser.

Fodd bynnag, dangosodd yr ystadegau diweddaraf ar gyfer bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ym mis Mawrth 2025, ar lwybrau lle'r amheuir canser, fod 3,664 yn dal yn agored, yr ail uchaf yng Nghymru, ac mae'n rhaid i hynny wella. Felly, Weinidog, a gaf i ofyn pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella'r ystadegau hyn yn fy ardal i er mwyn cynnig newid gwirioneddol i etholwyr sy'n dioddef ac sy'n aros i gael diagnosis?

14:30

A gaf i ddiolch i Peter Fox am ei gwestiwn atodol? Rwy'n ymuno â chi, yn gyntaf oll, cyn imi symud ymlaen at fy mhrif ateb, i ddathlu'r holl elusennau sy'n codi swm anhygoel o arian i gefnogi ein hymchwil canser a'n helusennau canser. Maent yn gwneud gwaith rhagorol ac yn helpu i ategu'r cyllid y mae'r Llywodraeth yn ei roi tuag at hynny.

Efallai eich bod yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi arwain uwchgynhadledd o arweinwyr gwasanaethau canser ym mis Medi y llynedd. Yna, ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd y bwrdd arweinyddiaeth canser cenedlaethol, a oedd yn ymwneud â chyflymu cynnydd a chydgysylltu mynediad ar draws y system. Mae a wnelo hynny â gwella perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros canser. Yr hyn y gobeithiwn ei sicrhau yw y gall archwiliadau a thriniaeth ddechrau'n gyflymach, yn sicr o fewn 62 diwrnod i'r adeg pan amheuir canser gyntaf.

Yn y llwybr lle ceir amheuaeth o ganser yn y bibell gastroberfeddol uchaf, fe wyddom fod bwrdd Aneurin Bevan yn gwneud yn dda iawn. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch ynghylch llwybrau pob canser, ond o ran y llwybr lle ceir amheuaeth o ganser yn y bibell gastroberfeddol uchaf, rydym yn eu gweld yn gwella eu llwybrau triniaeth a diagnosteg. Ond mae'r angen am welliant ar draws y byrddau iechyd i gyd yn ffocws pendant iawn i'r Llywodraeth. Rydym yn gweld gwelliant sylweddol mewn nifer o fyrddau iechyd, ond mae angen inni weld hynny'n gyson, ledled Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Cwestiynau llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig—i'w hateb gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a'u gofyn gan James Evans.

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae adroddiad diweddar Coleg Brenhinol y Seiciatryddion 'Weight Management and Mental Health: A framework for action in Wales' yn tynnu sylw at y ffaith nad yw strategaethau rheoli pwysau cyfredol Cymru, fel 'Pwysau Iach: Cymru Iach', yn cynnig unrhyw ganllawiau wedi'u teilwra ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd meddwl, er gwaethaf eu cyfraddau gordewdra uchel—bron i 26 y cant o gymharu â 16 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i ddiweddaru cyfarwyddyd a chanllawiau cenedlaethol, fel bod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cael y cyfarwyddyd penodol sydd ei angen arnynt i gefnogi pwysau iach, ochr yn ochr â chymorth lles ac iechyd meddwl?

Diolch am godi hyn, James Evans. Fel y dywedoch chi, ac fel y mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn ei nodi, pan fyddwch yn cael cymorth ar gyfer iechyd meddwl, gall hynny gael effaith fawr weithiau ar eich pwysau a'ch perthynas â bwyd. Credaf ei bod yn bwysig iawn eich bod wedi tynnu sylw at hyn heddiw. Nid yw'n rhywbeth y byddwn yn gallu ymrwymo iddo ar hyn o bryd, a hynny oherwydd, fel rwyf eisoes wedi'i ddweud heddiw, mae popeth a wnawn yn Llywodraeth Cymru yn cael ei gydgynhyrchu gyda'n rhanddeiliaid. Rwyf mor falch fod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi gwneud yr asesiad a'r adroddiad hwn, gan eu bod yn gwneud cymaint o'r rhain, ar draws llawer o wahanol feysydd, ar ein cyfer ni yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n ddechrau ardderchog i allu mynd ati i fynd i'r afael â hyn. Ond byddent wedi seilio hyn ar brofiadau bywyd, ac felly os mai dyna mae'n galw amdano, yna rwy'n cytuno â chi, mae hyn yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Diolch. Mae'n drueni braidd na allwch roi unrhyw sicrwydd i ni heddiw, Weinidog, ond rwy'n mynd i'ch gwthio rywfaint ar hyn, os caf. Nododd fframwaith Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn glir hefyd nad oes safon ar waith ar hyn o bryd sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n cael meddyginiaethau ar bresgripsiwn gael adolygiadau rheolaidd o feddyginiaethau neu archwiliadau iechyd corfforol blynyddol. Fel y dywedoch chi, mae hynny'n rhywbeth pwysig iawn, gan ei fod yn cael effaith ar berthynas pobl â bwyd, ac mae'r cysylltiad hwnnw wedi'i wneud rhwng magu pwysau sylweddol a phobl sydd ar wrth-iselyddion a gwahanol fathau o feddyginiaeth.

Mae'r bwlch o ran monitro'r risg yn cael ei waethygu i bobl sydd â chyflyrau iechyd presennol. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried, gan nad oes angen i bobl sydd eisoes mewn iechyd corfforol gwael oherwydd anghydraddoldeb a'u cefndir weld hynny'n gwaethygu. Felly, mae gennyf gryn ddiddordeb yn y camau pendant y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod yr archwiliadau hyn yn orfodol gan feddygon teulu a chan weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn sicrhau bod archwiliadau iechyd corfforol yn cael eu cynnal ynghyd â'r archwiliadau rheolaidd a gânt ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u lles.

14:35

Diolch yn fawr. Unwaith eto, credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn yma. Byddwn yn dweud, serch hynny, o ran unrhyw beth yn ymwneud â phresgripsiynu a meddyginiaethau, fod hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddo bob amser fynd drwy ganllawiau a gwiriadau NICE, sy'n seiliedig ar dystiolaeth. A hefyd, o ran yr hyn y mae meddygon teulu yn ei gynnig a'r hyn y gellir ei fandadu, fel y dywedoch chi, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid ei negodi drwy'r contract meddygon teulu, sydd, unwaith eto, yn gyfrifoldeb i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fel y gwyddoch, cawsom lawer o lwyddiant eleni gyda'r contract meddygon teulu newydd, a fydd bellach yn golygu bod yn rhaid iddynt roi archwiliadau iechyd blynyddol i bobl ag anableddau dysgu, sy'n gynnydd gwych yn fy marn i, a bydd mewn gwirionedd yn cyffwrdd â llawer o'r pethau yr ydych wedi'u crybwyll heddiw. Unwaith eto, ni fyddaf yn gallu ymrwymo i unrhyw beth yn y Siambr heddiw, ond mae hwn yn ddechrau da iawn i allu cael y drafodaeth hon wrth inni ddechrau edrych tua'r flwyddyn nesaf.

Diolch. Rwy'n credu fy mod am roi fy nodiadau o'r neilltu. Rwy'n credu fy mod yn gwneud yn well hebddynt weithiau. Mae'n siomedig braidd na fyddwch chi'n rhoi unrhyw sicrwydd i ni heddiw, gan y bydd eisiau atebion ar lawer o bobl a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Hoffwn wybod pa adborth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i'r adroddiad hwn i weld sut y gallwn wella hynny ledled Cymru.

Un peth a amlygwyd oedd y diffyg data sydd ar gael yn y maes hwn, ac nid dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gael ei chyhuddo, fel y cyfryw, o beidio â chael y data dibynadwy wrth law ar rai cyflyrau iechyd. Hoffwn wybod sut rydych chi'n mynd i wella data yn y maes hwn. Ac nid o safbwynt iechyd yn unig, mae a wnelo hefyd â gweithio gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, i weld sut y gallwn gael data o'r fan honno.

Un peth a allai fod o gymorth mawr yn hyn o beth yn fy marn i yw cynnwys ein clybiau chwaraeon a Chwaraeon Cymru. Hoffwn wybod sut rydych chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth i chwalu'r seilos hynny i sicrhau, os yw pobl yn cymryd meddyginiaeth, fod y cymorth hwnnw ar gael ar draws y Llywodraeth a sefydliadau'r trydydd sector, i helpu pobl i gael perthynas well â bwyd pan fyddant yn cymryd y feddyginiaeth hon.

Mae angen inni sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi, gan y gwyddom, pan fydd pobl yn cymryd y feddyginiaeth hon, y gall gynyddu pwysau pobl a gall waethygu eu cyflyrau, yn enwedig pobl sy'n dioddef o orbryder a gwahanol fathau o gyflyrau iechyd meddwl—weithiau rydych chi'n dioddef o hynny ac yna rydych chi'n sydyn yn dechrau dioddef o ordewdra, a all waethygu'r broblem, fel y dywedais. Felly, hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud ar draws y maes hwnnw hefyd.

Diolch yn fawr. Er eglurder, yr hyn y gallaf ei ddweud heddiw yw fy mod yn rhoi sicrwydd llwyr i chi y byddaf yn ystyried hyn ac y byddwn yn ei drafod ar draws y Llywodraeth. Mae'n berthnasol i nifer o'n portffolios. Ond dylwn ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi. Rwy'n adnabod pobl a chanddynt brofiadau bywyd o hyn, a gall daro eich hyder ar adeg pan fo angen ichi fod yn ceisio gwella. Rwyf am roi sicrwydd i chi hefyd y byddwn yn gallu anfon fy ymateb i'r adroddiad rydych chi wedi'i drafod heddiw atoch. Yn sicr, nid wyf yn dweud nad ydym yn gwneud dim byd—rwy'n ymrwymo i wneud rhywbeth nawr ar gyfer y dyfodol ac i ddod yn ôl atoch ar hynny.

Ar ddata iechyd meddwl, ydy, mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o bobl wedi'i nodi—nad oes gennym yr un mynediad at ddata ym maes iechyd meddwl yng Nghymru. Ond mae gennym strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol wedi'i chyhoeddi bellach; mae gennym hefyd strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, ac mae'r rhain yn agweddau allweddol ar fynd i'r afael â phopeth a grybwyllwyd gennych chi nawr.

O ran gweithio ar draws y trydydd sector, mae wedi gadael yn anffodus, ond roeddwn eisiau nodi bod y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol bellach wedi darparu cyllid fel y bydd pob clwb pêl-droed yng Nghymru yn gallu cael mynediad at un o oddeutu 1,000 o leoedd hyfforddi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl fel rhan o ymgyrch i gefnogi clybiau'n well i gefnogi eu timau, hyfforddwyr a chwaraewyr, a'u cymuned ehangach. Rwyf wedi dysgu llawer iawn, mewn gwirionedd, drwy wrando ar Jack Sargeant, y Gweinidog, a'r hyn a ddywedodd ynglŷn â sicrhau bod y cymorth cywir ar waith, a bod yn y lle iawn weithiau, lle rydych chi'n barod i ddweud, 'Oes, wyddoch chi beth, mae angen rhywfaint o help arnaf.'

Rwy'n credu bod y cysylltiad rydych chi wedi'i wneud â meddyginiaeth yn hynod o bwysig, oherwydd er ein bod wedi gwneud llawer iawn i leihau'r stigma o siarad am rai problemau iechyd meddwl, rwy'n dal i feddwl bod stigma o amgylch yr angen am feddyginiaeth ar gyfer y problemau hynny, boed hynny yn y tymor byr neu'r tymor hir. Mae llawer o bobl yn ofni hynny, ac rwy'n credu bod llawer mwy o waith i'w wneud mewn perthynas â hynny. Mae'n chwarae rhan enfawr ym mhob dim a wnawn yma.

Fel y sonioch chi, mae hyn yn swnio fel tystiolaeth ardderchog, ond o ran pethau'n ymwneud â phresgripsiynu, bydd yn rhaid imi ystyried hyn ymhellach. Ond rwy'n cytuno â chi: rydym am allu rhoi'r cymorth y gallant ei gael i bawb ffynnu, boed hynny gydag iechyd meddwl a llesiant meddyliol, neu o ran sut y maent yn teimlo amdanynt yn eu hunain yn gorfforol, gan y gwyddom fod iechyd corfforol a meddyliol ac emosiynol mor gydgysylltiedig.

14:40

Cwestiynau llefarydd Plaid Cymru nawr, i'w hateb gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Mabon ap Gwynfor. 

Mae'n Wythnos y Gofalwyr yr wythnos hon, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r cannoedd o filoedd o ofalwyr ledled Cymru am eu cyfraniad aruthrol i iechyd a lles ein cenedl. Ond y gwir anffodus amdani yw bod eu gwaith yn parhau i gael ei danbrisio a'i danwerthfawrogi. Yn wir, mae'r annhegwch a ddioddefwyd gan y lluoedd hyn o arwyr tawel wedi dod yn fwy amlwg byth dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae adroddiad diweddaraf Sefydliad Joseph Rowntree yn paentio darlun gwirioneddol ddifrifol yn hyn o beth. Mae 31 y cant o ofalwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd, sydd hyd yn oed yn uwch na'r lefelau cywilyddus o uchel a welir ar draws y boblogaeth gyffredinol. Ar ben hynny, mae'r bwlch tlodi rhwng gofalwyr a phobl nad ydynt yn ofalwyr wedi ehangu ers 2023.

Felly, mae fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yn un syml: sut ar y ddaear y bu i ni gyrraedd y pwynt hwn lle mae amgylchiadau personol gofalwyr eu hunain yn dod yn fwy annioddefol, wrth i'n dibyniaeth ar y sector gofal gynyddu?

A gaf i ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei gwestiwn ac ymuno ag ef i werthfawrogi a diolch am y gwaith y mae ein holl ofalwyr di-dâl yn ei wneud? Gwyddom yn iawn beth yw cyfraniad gofalwyr di-dâl i'n heconomi genedlaethol, heb sôn am eu cyfraniad i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Gwyddom am yr holl bethau rydych chi wedi'u nodi. Felly, mae'n gwbl gywir, yn ystod Wythnos y Gofalwyr, eich bod yn fy holi am y pwnc penodol hwn.

Fe wyddoch ein bod wedi trafod hyn sawl gwaith. Rydych chi wedi gofyn cwestiynau i mi ynglŷn â hyn o'r blaen. Rwyf wedi mynychu llawer o ddigwyddiadau yn y Senedd, ac rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau'r gofalwyr ar sawl achlysur, ac wedi cyfarfod â gofalwyr di-dâl ar sawl achlysur. Mae'n gwbl gywir, fel Llywodraeth, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi ein gofalwyr di-dâl.

Mae yna heriau sylweddol a nodwyd gennych eisoes ynghlwm wrth eu sefyllfa ariannol. Ac er ei bod yn iawn dweud bod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i gefnogi gofalwyr di-dâl, mae gennym ninnau gyfrifoldeb i helpu i ategu'r cymorth a ddarparwn. Rwyf wedi siarad am hyn o'r blaen, ac nid wyf yn ymddiheuro am siarad amdano eto—y cyllid ychwanegol a ddarparwn, yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir i awdurdodau lleol i dalu am y gofal seibiant sydd ar gael, asesiadau gofalwyr di-dâl, asesiadau o anghenion gofalwyr ac yn y blaen. Rydym yn parhau, drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, i ariannu'r gronfa gymorth i ofalwyr a'r gronfa seibiant byr.

Fel y dywedaf, nid wyf yn ymddiheuro am siarad am hyn eto, gan fod y mathau hynny o bethau'n bwysig iawn yn y darlun mawr. Rydym yn siarad am ofal seibiant o fewn awdurdodau lleol, ond mae'r gronfa seibiant byr yn rhoi seibiant wedi'i deilwra ar gyfer gofalwyr a/neu'r bobl sy'n derbyn gofal. Nid yw'n rhywbeth safonol; caiff ei deilwra i'r unigolyn ac mae'n nodi'r hyn sydd ei angen arnynt. Yn y tair blynedd diwethaf, mae'r cynlluniau hynny wedi rhagori ar eu holl dargedau o ran nifer y bobl yr ydym wedi ceisio eu cyrraedd. Ac rydym wedi buddsoddi mwy na £5 miliwn eleni i barhau. Felly, rydym yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi gofalwyr di-dâl, ond gwyddom fod llawer mwy i'w wneud.

Rydych chi wedi gofyn i mi yn y gorffennol, Mabon, am asesiadau gofalwyr a'r gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn hynny o beth a'r anghysondeb ymddangosiadol yn y ffordd y caiff asesiadau o anghenion gofalwyr di-dâl eu nodi a'u darparu drwy awdurdodau lleol. Felly, rwy'n gweithio'n agos iawn, drwy'r grŵp cynghori gweinidogol, sy'n adrodd yn ôl i mi, ar waith ar hynny, i wella mynediad at asesiadau o anghenion gofalwyr, ac yn gweithio'n gydweithredol iawn gyda fy nghyd-Aelodau, Ysgrifenyddion y Cabinet dros iechyd a llywodraeth leol hefyd, i wneud gwelliannau yn yr asesiadau o anghenion gofalwyr ac i sicrhau cysondeb yn y ffordd y cânt eu darparu.

Diolch am eich ymateb, Weinidog, ond yn anffodus, mae'n annhebygol y bydd y pwysau sy'n wynebu gofalwyr yn lleihau yn fuan. Yn wir, bydd yn dwysáu, yn anochel, o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gyflwyno toriadau dwfn a llym i'r gyllideb les.

Hyd yn oed cyn i Liz Kendall gyhoeddi y byddai'n mynd ymhellach gyda'i thoriadau lles nag y meiddiodd George Osborne hyd yn oed, roedd gofalwyr yn ei chael hi'n anodd, gydag astudiaethau diweddar yn dangos bod mwy nag un o bob tri gofalwr yn gorfod torri'n ôl ar hanfodion fel bwyd a gwresogi ac yn colli £414 y mis o gyflog ar gyfartaledd. I ddyfynnu Carers UK,

'Os bydd y toriadau hyn yn cael eu cyflwyno, bydd hyd yn oed mwy o ofalwyr yn cael eu gwthio i sefyllfa o argyfwng—gan olygu y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyd, gwresogi, a hanfodion eraill.'

A allech chi gadarnhau, felly, faint o ofalwyr yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio'n andwyol gan y newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau a amlinellir yn y Papur Gwyn? Ac a ydych chi'n cytuno â mi mai gweithred Llywodraeth sydd â blaenoriaethau hollol anghydnaws ag anghenion ein cymdeithas yw gwthio mwy o ofalwyr i dlodi yn fwriadol?

14:45

Unwaith eto, diolch am eich cwestiwn, ac rwy'n deall yn iawn y pryderon a fydd gan ofalwyr di-dâl ynghylch ystod eang o faterion. Nid yw'r argyfwng costau byw wedi diflannu, ond rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn cynyddu budd-daliadau i ofalwyr di-dâl, felly mae'r lwfans hwnnw wedi cynyddu.

Mae'n rhaid inni wneud rhywfaint o ddadansoddi mewn perthynas â'r adolygiad o wariant a gyhoeddwyd heddiw. Er i'r Canghellor fod ar ei thraed yn gwneud amryw o gyhoeddiadau, a oedd yn cynnwys codiadau enfawr ar gyfer y 10 mlynedd nesaf i Gymru yn rhan o'r cyhoeddiad hwnnw, fe fyddwch yn deall bod yn rhaid inni gymryd cam yn ôl a dadansoddi hyn oll a gweld beth y mae'n ei olygu mewn gwirionedd o ran ein pwerau gwario a'r hyn y gallwn ei wneud yn y maes hwn. Ond fe ofynnoch chi'n benodol am y newidiadau i fudd-daliadau. Mae'r rhain yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly credaf fod angen inni fod yn glir iawn nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud ar hyn oll. Hyd nes y gwyddom beth yw'r penderfyniadau terfynol hynny a beth y gallai'r newidiadau i fudd-daliadau fod ai peidio, mae'n anodd iawn rhoi ffigur ar faint o bobl a allai gael eu heffeithio.

Ond fel y dywedais wrthych yn gynharach, rwy'n ymrwymedig i wneud beth bynnag a allwn o fewn ein cyfrifoldebau ac o fewn ein cymhwysedd i helpu i gefnogi gofalwyr di-dâl. Yn amlwg, ar y penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, byddwn yn parhau i wneud sylwadau ar unrhyw gynigion y credwn y byddant yn effeithio ar ofalwyr di-dâl.

Dylai canfyddiadau adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree fod yn drobwynt o ran agweddau cymdeithas tuag at ofalwyr, oherwydd fel y saif pethau, mae'r graddau y mae'r system y maent yn cyfrannu cymaint ati yn eu siomi yn warth cenedlaethol, a dweud y gwir. Roedd yr adolygiad o wariant y cyfeirioch chi ato yn gyfle i unioni'r camwedd hwn, ond ymddengys ei fod yn gyfle wedi'i wastraffu gan y Canghellor, felly mae'n hanfodol, yma yng Nghymru, fod llwybr gwahanol yn cael ei ddilyn. Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gronfa gymorth i ofalwyr, mae'r ffaith mai dim ond 15,000 o ofalwyr sydd wedi'u cyrraedd drwy'r gronfa hon ers 2022 yn awgrymu bod angen dull newydd o weithredu. Fel y soniais o'r blaen, rhan o'r broblem yw mai dim ond cyfran fach iawn o ofalwyr ar hyn o bryd sy'n cael yr asesiad sy'n seiliedig ar anghenion y mae ganddynt hawl gyfreithiol iddo. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod cyfrifoldeb moesol ar Lywodraeth Cymru i gondemnio'r newidiadau lles arfaethedig yn y termau cryfaf posibl, ac i ailwerthuso'r mecanweithiau cymorth presennol y maent yn eu darparu i sicrhau bod Cymru bob amser yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'n gofalwyr?

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, a chredaf mai dyna a ddywedais mewn ymateb i'ch cwestiwn diwethaf. Byddwn yn gwneud popeth a allwn o fewn ein pwerau a'n cymhwysedd fel Llywodraeth Cymru i gefnogi ein gofalwyr di-dâl. Rydym wedi gwneud hynny dros nifer o flynyddoedd, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mewn gwirionedd, byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl y gwanwyn nesaf, ac felly rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a grwpiau o ofalwyr di-dâl i lywio'r strategaeth honno. Bydd y strategaeth ddrafft honno'n mynd yn destun ymgynghoriad ar ddiwedd y flwyddyn, a bydd hynny'n sicrhau bod ein camau gweithredu a'n sbardunau polisi wedi'u targedu at y meysydd sydd bwysicaf i ofalwyr di-dâl.

Hoffwn ailadrodd y byddwn yn parhau i gyfleu ein safbwyntiau i Lywodraeth y DU ynghylch unrhyw newidiadau penodol y credwn y byddant yn cael effaith andwyol ar unrhyw grwpiau yn y gymdeithas, ond yn amlwg, rhaid inni weithio o fewn ein cymhwysedd yn hytrach nag o fewn cymhwysedd Llywodraeth arall.

Iechyd Diffoddwyr Tân

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i ddiogelu iechyd diffoddwyr tân? OQ62814

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi codi'r ymchwil i risg canser a amlygwyd gan Undeb y Brigadau Tân gyda'r Cyngor Ymgynghorol ar Anafiadau Diwydiannol. Nid yw cyngor y cyngor wedi newid. Ond bydd y prif swyddog meddygol yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi cyngor i Weinidogion.

14:50

Diolch am yr ateb, Weinidog.

Yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 6 Mai, codais fater diogelu iechyd diffoddwyr tân a gofynnais yn benodol am rôl y prif swyddog meddygol yn y gwaith hwn. Er y bu oedi oherwydd y newid yn y personél, cafwyd cadarnhad gan y Prif Weinidog fod y prif swyddog meddygol wedi cael cais i drin hyn fel blaenoriaeth. Felly, yn dilyn y sgwrs honno, cysylltais â'r prif swyddog meddygol yn uniongyrchol i geisio eglurder pellach ar statws a chwmpas y gwaith hwn. Er fy mod yn croesawu'r sicrwydd fod y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi codi'r mater gyda hwy, nid wyf wedi cael ymateb cadarn eto gan y Llywodraeth na'r prif swyddog meddygol. Mewn gwirionedd, wrth gysylltu â swyddfa'r prif swyddog meddygol, dywedwyd wrthyf y byddent yn gofyn i'r Llywodraeth am gyngor ynglŷn â sut y byddent yn ymateb i mi. Felly, o ystyried bod gennyf gwestiwn heddiw, roeddwn yn meddwl y byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth a allent ddarparu'r diweddariad hwnnw a rhoi dyddiad i ni pan allwn gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ymyrraeth wirioneddol bwysig hon y gallai'r Llywodraeth ei gwneud.

Wrth gwrs. A gaf i yn gyntaf gydnabod eich cefnogaeth i'r mater penodol hwn, Luke? Fel y dywedoch chi, gwn eich bod eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith eich bod wedi codi hyn sawl gwaith a gwn eich bod wedi cael dadl ar hyn yn ddiweddar, a bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, wedi ymateb iddi. Mae'n ymgyrch yr ydym yn ei chefnogi fel Llywodraeth; rydym yn deall yn llwyr yr hyn y mae Undeb y Brigadau Tân a'r cyflogwyr yn ei ddweud ar hyn. Ac mae'n rhaid i bopeth a wnawn, yn amlwg, gael ei lywio gan dystiolaeth, a byddech yn derbyn hynny.

Y cyfan y gallaf ei ddweud wrthych heddiw yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'r prif swyddog meddygol lunio cyngor yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ac y bydd yn adrodd yn ôl pan fydd hynny wedi'i gwblhau. A'r gorau y gallaf ei ddweud wrthych ar hyn o bryd yw ein bod wedi cael gwybod y byddwn yn cael yr adroddiad hwnnw'n ôl gan y prif swyddog meddygol eleni. Byddaf yn ceisio cael mwy o wybodaeth, a dyddiad mwy pendant, ond yn amlwg, fe fyddwch yn deall bod y prif swyddog meddygol yn dal yn gymharol newydd yn ei swydd ac yn amlwg yn gorfod asesu ystod eithaf eang o flaenoriaethau gwaith. Ond byddaf yn ystyried y cwestiwn a ofynnoch chi'n uniongyrchol ac yn gweld a allwn gael amserlen fwy manwl o ran pryd y gallwn gael yr adroddiad hwnnw.

Weinidog, fel y gwyddoch o bosibl, mae ymchwil ddiweddar yn dangos cysylltiad clir rhwng diffoddwyr tân sy'n dod i gysylltiad ag elifion tân ac iechyd meddwl gwael, yn benodol ymyrwyr endocrin fel biffenylau polyclorinedig a geir mewn deunyddiau arafu lledaeniad tân, a all achosi anghydbwysedd yn yr hormonau a phroblemau niwroendocrin, gan gyfrannu at risgiau uwch o iselder a gorbryder. Mae menywod beichiog yn arbennig o agored i niwed, gyda chysylltiad â'r pethau hyn yn cynyddu'r risg o iselder mamol, a all gael effaith negyddol ar ddatblygiad meddyliol, gwybyddol a chorfforol y plentyn. Fel y gwyddoch, rwyf wedi codi'r pryderon hyn o'r blaen gyda'r cyn-Brif Weinidog, Vaughan Gething, ond hoffwn gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau tân ac achub yn rhoi gwybod i staff am y peryglon hyn, a pha fesurau sydd ar waith i orfodi arferion llym sy'n lleihau cysylltiad hirdymor. Diolch.

A gaf i ddiolch i Joel James am ei gwestiwn? Dim ond cwpl o bethau i'w dweud yw bod pob diffoddwr tân sy'n gwasanaethu yn cael archwiliadau ffitrwydd blynyddol ac archwiliadau meddygol llawn bob tair blynedd gan eu cyflogwyr. Ond rydych chi'n llygad eich lle fod ymchwil yn dangos y gallai rhai diffoddwyr tân wynebu risg uwch o rai mathau o ganser, a dyna'r pwynt y credaf fod Luke Fletcher wedi'i godi, a'r gwaith a gomisiynwyd gennym drwy'r Cyngor Ymgynghorol ar Anafiadau Diwydiannol, y mae'r prif swyddog meddygol yn edrych arno nawr.

Ond mae'n eithaf clir fod—. Mae cytundeb rhwng Undeb y Brigadau Tân, y staff a'r cyflogwyr i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol ar gyfer archwiliadau iechyd, gan gynnwys archwiliadau iechyd meddwl, ar gyfer eu gweithlu, ac i sicrhau eu bod yn darparu cyfarpar diogelu personol effeithiol a diheintiedig, oherwydd yr hyn a sefydlwyd gennym oedd mai un o'r problemau a nodwyd yn flaenorol oedd bod peth o'r cyfarpar diogelu personol wedi'i halogi ac o bosibl yn achosi problemau. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd ar waith ac sydd eisoes yn digwydd. Wrth gwrs, os oes unrhyw ddiffoddwyr tân yn teimlo eu bod wedi dod i gysylltiad ag unrhyw berygl penodol, dylent roi gwybod am hynny ar unwaith i'w cyflogwr, a fydd yn sicrhau eu bod yn cael eu gweld fel mater o frys os oes unrhyw risg benodol yn sgil yr hyn y maent newydd fod yn ei wneud.

14:55
Y Contract Optometreg Newydd

4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sut y mae'r contract optometreg newydd ar gyfer 2024-25 yn gweithio i gleifion? OQ62826

Rydym yn hynod falch o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i weithredu'r telerau gwasanaeth contract optometreg newydd ar gyfer darparwyr optometreg gofal sylfaenol er mwyn gwella canlyniadau cleifion. Mae'n diwygio gofal llygaid yn sylweddol, i gyd-fynd â'r ymrwymiadau a nodir yn 'Cymru Iachach' a'n 'Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol'.

Diolch am eich ymateb. Mae llawer o bethau cadarnhaol. Rwy'n sicr wedi gweld hynny fy hun. Ond mae gan un o fy etholwyr hanes hir o broblemau llygaid cymhleth. Roedd ganddynt boen eithafol, aethant i Specsavers a dywedwyd wrthynt fod angen eu hatgyfeirio at arbenigwr. Dywedwyd wrthynt, oherwydd y contract newydd, na allai Specsavers eu hatgyfeirio at eu huwch-arbenigwr llygaid arferol gan nad dyna oedd yr ysbyty agosaf. Bu'n rhaid i'r claf gael llawer o apwyntiadau dros gyfnod o wythnosau yn yr ysbyty lleol cyn iddynt ildio yn y pen draw fod angen iddynt weld yr uwch-feddyg ymgynghorol llygaid mewn ysbyty gwahanol. Arweiniodd hyn at gadw fy etholwr ar lefelau peryglus o uchel o feddyginiaeth llygaid, gyda sgil-effeithiau cryf a llawer o boen am wythnosau. Gwelodd yr uwch-arbenigwr llygaid fod angen llawdriniaeth ar frys, ac roedd yn Llundain o fewn dyddiau i achub ei golwg, ar ôl atgyfeiriad brys. Yn ffodus, roedd y driniaeth yn llwyddiannus, ond gallai'r oedi fod wedi golygu ei bod yn rhy hwyr. Felly, a gaf i ofyn: sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod yr unigolyn yn cael y driniaeth iawn ar yr amser iawn, ac nad oes oedi? Ac a fyddech chi'n barod i gyfarfod â fy etholwr i ddeall ei phrofiadau, fel y gall hynny helpu i lywio triniaethau yn y dyfodol?

Diolch am eich cwestiwn, Heledd Fychan, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am brofiad eich etholwr. Wrth gwrs, ni ddylai hynny ddigwydd, ac mae'r newidiadau yr ydym yn eu cynnig ac sy'n cael eu gweithredu wedi'u cynllunio i osgoi'r union amgylchiadau hynny. Yr hyn y ceisiwn ei wneud yw cyflwyno system lle gall pobl â chyflyrau lefel isel gael ôl-driniaeth yn y gymuned, drwy optometrydd, a bod gofal eilaidd ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol yn unig, yn y lle yr ânt iddo yn gyntaf am driniaeth. Dylai'r system, pan fo'n gweithio yn y ffordd y bwriedir iddi weithio, fod wedi sicrhau bod eich etholwr wedi cael ei thrin mewn ffordd briodol. Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud mewn ymateb i hynny yw os oes rhywbeth y gallwn ei ddysgu gan eich etholwr a'i phrofiad, fel y gallwn sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto ac fel y gallwn lywio'r newid yn y broses, yna rwy'n fwy na pharod i argymell i Ysgrifennydd y Cabinet fod hynny'n digwydd.

Bwriadwyd, yn wir, i gytundeb y contract rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru fynd tuag at gefnogi cwmpas cynyddol gwasanaethau clinigol mewn optometreg gofal sylfaenol, gan leihau'r galw am wasanaethau gofal llygaid mewn ysbytai a chynyddu'r capasiti ar gyfer darpariaeth gofal llygaid arbenigol. Mae cyfanswm y llwybrau a aseswyd fel ffactor risg iechyd R1—aros am apwyntiad cleifion allanol—wedi cynyddu o 155,500 ym mis Ebrill 2024 i 161,350 ym mis Ebrill 2025. Mae nifer y llwybrau cleifion a aseswyd fel ffactor risg iechyd R1 o fewn y dyddiad targed neu 25 y cant y tu hwnt i'r dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol wedi cynyddu i 80,178 o 78,000. Mae'r ffigurau hynny'n cynyddu. Maent yn arbennig o bryderus gyda Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn rhagweld y bydd y galw am wasanaethau yn cynyddu 30 y cant i 40 y cant yn yr 20 mlynedd nesaf. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod angen rhoi cynllun cadarn ar waith ar gyfer y gweithlu fel ffordd o recriwtio mwy o lawfeddygon llygaid ac offthalmolegwyr, er mwyn lleihau hyd yr amser a'r risg o niwed na ellir ei wrthdroi. Mae cleifion, gan gynnwys fy etholwyr yn Aberconwy—. Mae apwyntiadau cataract, a llawer mwy o gyflyrau llygaid, yn cael eu gohirio drachefn a thrachefn. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yn rhaid blaenoriaethu'r cyllid ychwanegol a ddyfernir drwy gytundeb y contract nawr i leihau'r amseroedd aros hyn?

Diolch am eich cwestiwn, Janet. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod hon yn ffordd gwbl newydd, sy'n cael ei chyflwyno'n raddol, o ddarparu gwasanaethau optometreg. Rydym eisoes yn gweld bod dros 3,000 o achosion y mis bellach yn cael eu gweld gan optometryddion presgripsiynu annibynnol, yn hytrach nag yn yr ysbyty. Rydym yn rhyddhau oddeutu 30,000 o apwyntiadau ysbyty. Yn amlwg, mae yna ôl-groniad y mae'n rhaid gweithio drwyddo. Nid yw'r newid yn digwydd dros nos. Gwnaed buddsoddiad sylweddol mewn staffio'r gweithlu optometreg gofal sylfaenol. Mae'r gweithlu wedi'i gryfhau. Rydym yn gweld mwy o bobl yn y gymuned nawr, felly mae hynny'n rhyddhau'r apwyntiadau ysbyty. Gallwn weld y llwybr hwn yn cynyddu o ran gweithgarwch. Ym mis Ebrill eleni, mae'n dangos bod 1,156 o apwyntiadau'n cael eu cyflawni. Mae hynny'n dangos bod gweithgarwch yn cynyddu'n gyflym. Ond mae llawer o ffordd i fynd, oherwydd fel y dywedaf, mae hwn yn ddull graddol, ac mae'n rhywbeth a fydd yn cyflawni gwelliannau, ac sydd yn cyflawni gwelliannau wrth inni fynd ymlaen, ond bydd yn parhau i gyflawni gwelliannau. Rydym wedi gweld bod 51.5 y cant o gleifion wedi cael eu cadw yn y gymuned ar gyfer eu triniaeth glawcoma, fod 25.25 y cant yn cael eu rhyddhau yn ôl i'w hoptometrydd gwreiddiol, fod 25.25 y cant yn cael eu hatgyfeirio ymlaen at wasanaethau llygaid ysbytai ac yn y blaen. Felly, rydym yn gweld y newid. Ond fel y dywedaf, mae'n ddull graddol o gyflwyno gwasanaeth newydd, sydd ar ei gamau cynnar.

15:00
Iechyd Menywod

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth i fenywod sy'n profi poen neu gymhlethdodau yn sgil triniaethau iechyd? OQ62817

Bydd ein cynllun iechyd menywod yn gwella'r gefnogaeth i fenywod a merched, ac yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed gan GIG Cymru. Mae'r ddyletswydd gonestrwydd yn sicrhau gonestrwydd a thryloywder mewn gofal iechyd, ac mae'r trefniadau 'Gweithio i Wella' ar gael i'r rhai sydd wedi profi niwed trwy driniaethau neu lawdriniaethau'r GIG.

Diolch. Tynnais sylw'r Prif Weinidog a chithau y llynedd at brofiadau parhaus ac ofnadwy menywod sydd â mewnblaniadau rhwyll, a gofynnais pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r ymateb i adroddiad Hughes, a alwai am dalu iawndal i'r menywod y mae eu bywydau, ym marn Dr Hughes, wedi cael eu dinistrio mewn modd anghyfiawn. Mae'n siomedig fod miloedd o fenywod, gan gynnwys rhai o fy etholwyr, a gafodd fewnblaniadau rhwyll i drin anymataliaeth a phrolaps organau pelfig mewn poen parhaol, wedi gorfod dioddef sawl llawdriniaeth, menywod nad ydynt yn gallu cerdded, gweithio neu gael rhyw. Mae menywod sydd wedi dioddef cymaint o niwed yn dal i aros am weithredu ar hyn.

Fe ddywedoch chi wrthyf mewn ymateb i fy nghwestiwn y llynedd, fod y Llywodraeth yn ystyried yr argymhellion o'r adroddiad ac yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Wel, Weinidog, mae dros flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad Hughes, a chwe mis ers imi ofyn fy nghwestiynau, ond nid ydym wedi clywed gair gan Lywodraeth Lafur y DU, nac wedi cael ymateb swyddogol gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad. Felly, pryd y gallwn ni ddisgwyl i hynny gael ei wneud a phryd y bydd yr anghyfiawnder ofnadwy hwn, a ddisgrifiwyd fel y sgandal iechyd menywod mwyaf difrifol ers thalidomid, yn cael ei ddatrys yn llawn? Diolch.

Diolch yn fawr am godi hyn heddiw, Sioned Williams, ac am barhau i godi hyn a rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU a minnau yn Llywodraeth Cymru. Mae sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed ym mhob ymwneud rhyngddynt a'r GIG yn agwedd allweddol ar y cynllun iechyd menywod, a bydd yn sicrhau bod pryderon menywod yn cael eu cymryd o ddifrif ac nad ydynt yn cael eu diystyru. Rydym hefyd wedi lansio arolwg profiad pobl ym mis Ebrill i integreiddio profiad pobl sy'n cael gofal iechyd yng Nghymru yn llawn, ond dyna'r lleiaf y dylem ei wneud i sicrhau nad yw'r pethau hyn yn digwydd eto.

Roeddwn hefyd eisiau tynnu sylw at y ffaith bod y defnydd o rwyll pelfig i drin anymataliaeth straen wrinol a phrolaps wedi gostwng yng Nghymru ers inni gyflwyno cyfyngiad gwyliadwriaeth uchel ar lawdriniaethau yn 2018, hyd nes y gellid rhoi ystod o fesurau ar waith i sicrhau bod modd ei ddefnyddio'n ddiogel. Wrth gwrs, rhaid imi adrodd fy mod yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi awgrymu y gallai fod angen deddfwriaeth sylfaenol nawr i fwrw ymlaen ag agweddau iawndal ariannol adroddiad Hughes, felly dyna pam y ceir oedi. Maent yn credu bod angen deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer hynny, a dyna pam ein bod yn parhau i weithio gyda hwy. Ond heddiw rwyf eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi i'ch sicrhau nad ydym yn cicio sodlau.

Yn ddiweddar, mae swyddogion wedi cwblhau dadansoddiad manwl i ddeall maint effeithiau'r defnydd o rwyll pelfig a sodiwm falproad ar fenywod yng Nghymru, ac effaith ariannol bosibl cynllun iawndal. Felly, rydym yn barod i fynd cyn gynted ag y cawn hyn ar waith. Mae swyddogion o'r tîm tystiolaeth ymchwil wyddonol wedi cwblhau asesiad manwl yn ddiweddar i amcangyfrif nifer y menywod yng Nghymru a allai fod wedi cael eu heffeithio gan rwyll pelfig. Roedd yn ddadansoddiad cymhleth sydd wedi cymryd amser, ond mae'n darparu'r dystiolaeth bwysig sydd ei hangen yn ein trafodaethau gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llywodraeth y DU ynghylch maint y broblem i fenywod yng Nghymru.

Defnyddiwyd dwy set ddata. Cafwyd amcangyfrif cymesur â'r boblogaeth, gan ddefnyddio amcangyfrifon o Loegr a'r Alban a ddarparwyd yn adroddiad Hughes, ond roedd gennym hefyd y data Cymreig a ddarparwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer nifer y llawdriniaethau a ddefnyddiodd rwyll pelfig rhwng 2007 a 2017. Mae defnyddio'r ddau ddull i adeiladu'r senarios yn ein dadansoddiad, y data cymesur â'r boblogaeth yn erbyn y data ar sail Cymru, yn rhoi hyder pellach i ni yn yr amcangyfrifon a ddarparwyd.

Felly, fel y dywedais, rwyf am eich sicrhau ein bod yn parhau i gael y sgyrsiau hyn ac yn gwthio am yr iawndal. Rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth. Rwy'n hyderus fod gennym y dystiolaeth nawr i brofi a chefnogi'r iawndal a'r setliad ariannol y dylai menywod Cymru ei gael. Diolch.

15:05
Cludiant i Gleifion Ysbytai

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth cludo cleifion ysbytai gan y GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62829

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i gynllunio a darparu gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys i ddiwallu anghenion lleol, ar y cyd â darpariaeth gwasanaeth y bwrdd iechyd. Darparwyd cyllid ychwanegol ar gyfer cludiant i Hywel Dda yn gynharach eleni i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi llif system.

Diolch am hynny, Weinidog. Un o'r costau mwyaf i'r GIG yw apwyntiadau a gollir, ac fe gollodd un o fy etholwyr dri apwyntiad yn Ysbyty Treforys oherwydd ar y diwrnod cyn yr apwyntiad cafodd eu cludiant i'r ysbyty ei ganslo ar fyr rybudd fel na allent drefnu cludiant eu hunain i'r apwyntiad.

Nawr, gyda Hywel Dda yn y broses o edrych ar ganoli gwasanaethau pellach—naw gwasanaeth critigol bregus y maent wedi'u trafod mewn perthynas â gofal critigol, strôc ac wroleg—mae'n debygol y bydd yn rhaid i gleifion a fy etholwyr deithio ymhellach ar gyfer y gwasanaethau hyn, gan eu gwneud yn fwy dibynnol ar gludiant ysbytai. Felly, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cludiant ysbytai yn addas i'r diben ac nad yw cleifion yn colli apwyntiadau oherwydd canslo munud olaf oherwydd y gost ehangach y mae hynny'n ei chreu i GIG Cymru?

Diolch am y cwestiynau pellach hynny, Sam Kurtz, ac rwy'n deall yn iawn pa mor rhwystredig yw hi pan fydd cludiant cleifion yn cael ei ganslo, a gall fod pob math o resymau pam y mae hynny'n digwydd. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod 70,000 o deithiau wedi'u canslo ar ddiwrnod y cludiant oherwydd bod y claf ei hun wedi canslo heb rybudd ymlaen llaw, ac felly mae gennym broblem fawr mewn perthynas â hynny. Ond yr hyn rydych chi'n gofyn amdano'n benodol yw pan fydd y gwasanaeth cludiant ei hun yn ei ganslo, ac nid yw pobl wedyn yn gallu cyrraedd eu hapwyntiad. Gall newidiadau annisgwyl yn y galw arwain at ganslo, lle mae argyfyngau'n cael y flaenoriaeth, ac yn enwedig pan fydd pobl yn ceisio cyrraedd apwyntiadau arennol ac oncoleg, mae'r rheini'n tueddu i gael blaenoriaeth.

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y tîm gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys—lle mae canslo'n digwydd, mae'r ddarpariaeth o anghenion cludiant yn cael ei flaenoriaethu i'r cleifion sydd â'r lefel uchaf o angen. Felly, y pwynt roeddwn i'n ei wneud—os oes rhaid i rywun gael ei drosglwyddo am ba bynnag reswm, mae'n rhaid bod trefn flaenoriaeth. Ond mae'r hyn sy'n digwydd i liniaru'r risg o ganslo yn bwysig wrth gwrs, ac er bod dulliau ychwanegol wedi'u cyflwyno nawr i atgoffa pobl o'u trefniant cludiant ac i'w gwneud hi'n haws iddynt ddweud wrthynt nad ydynt angen eu cludiant mwyach—hynny yw, lle mae angen iddynt ganslo—mae'r tîm cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys yn parhau i archwilio gwelliannau ym mhrofiad y claf, gan gynnwys archwiliadau lles a chyflwyno hyb gofal uwch, sy'n treialu dulliau newydd o ddarparu cludiant yn fwy effeithiol i gleifion.

Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen inni edrych arno'n arbennig yw'r math o drefniadau contractio sydd gennym gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r bwrdd iechyd i sicrhau bod digon o gludiant i allu trosglwyddo pobl i'r apwyntiadau sydd eu hangen arnynt. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod rhai o'r achosion hynny o ganslo yn digwydd oherwydd amgylchiadau annisgwyl y mae'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans geisio eu rheoli wedyn yn y ffordd fwyaf effeithiol sy'n bosibl.

Mae yna adolygiad o alw a chapasiti, ac mae'r gwasanaeth hefyd yn adolygu ei broffil adnoddau i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cleifion yn y ffordd orau. Mae'r adolygiad hwnnw'n mynd i gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, a dylai ddarparu capasiti ychwanegol i gefnogi'r cynnydd yn niferoedd cleifion wrth i weithgaredd gofal a gynlluniwyd gynyddu. Ac i gydnabod y cynnydd a ragwelir yn y galw am wasanaethau ambiwlans dros gyfnod y gaeaf, rydym bellach wedi dyrannu £400,000 ychwanegol i gomisiynu gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys i ddarparu'r capasiti ychwanegol hwnnw.

Marw-enedigaeth a Marwolaeth Newyddenedigol

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau achosion o farw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol? OQ62813

Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn nodi'r safonau a'r canlyniadau y gall teuluoedd eu disgwyl wrth gael gofal. Mae'r rhwydwaith mamolaeth a newyddenedigol strategol, trwy eu rhaglen cymorth diogelwch, yn gweithio ar draws y system i leihau marwolaethau a dileu niwed y gellir ei osgoi trwy weithredu gwasanaethau diogel ac effeithiol.

15:10

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cefais nifer o negeseuon e-bost gan etholwyr sydd wedi gofyn i mi godi'r mater hwn gyda chi, etholwyr sydd wedi dioddef y profiad torcalonnus o golli plentyn. Mae'r ohebiaeth a gefais yn cydnabod bod llawer i'w wneud o hyd ers 2010, er bod gostyngiad cyffredinol wedi bod yn nifer y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yng Nghymru. Mae unigolion a sefydliadau wedi gofyn am ymrwymiad i dargedau penodol i leihau colli beichiogrwydd a marwolaethau babanod, yn ogystal â dileu anghydraddoldeb mewn colledion. Yn 2022 lansiodd Llywodraeth Cymru raglen gymorth genedlaethol ar ddiogelwch gofal mamolaeth a newyddenedigol. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar gynnydd?

Diolch, Joyce Watson, ac rwy'n adleisio'r hyn rydych chi wedi'i ddweud bod colli babi ar unrhyw gam mewn beichiogrwydd yn brofiad trallodus. Rydym eisiau sicrhau bod pob teulu sy'n profi colli beichiogrwydd yn hwyr mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth, ac rwyf wedi cyfarfod â llawer o'r timau, ac rydym hefyd eisiau sicrhau bod bydwragedd profedigaeth yn cael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt hwythau hefyd.

Fel y dywedoch chi, ym mis Chwefror 2025 cyhoeddwyd datganiad ansawdd ar ofal mamolaeth a newyddenedigol, sy'n nodi ein gweledigaeth genedlaethol ar gyfer y gofal diogel, teg ac o ansawdd uchel hwnnw, gan yrru safonau cyson ledled Cymru a chanolbwyntio ar leihau niwed y gellir ei osgoi, gan gynnwys marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol. Mae'r safon ansawdd yn hyrwyddo gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwelliant parhaus ym mhob bwrdd iechyd. Mae Cymru wedi ymrwymo i gynnwys menywod a rhieni wrth lunio'r gwasanaethau hyn, a chlywed yr holl leisiau sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, a dyna pam y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y fframwaith ymgysylltu amenedigol ym mis Chwefror 2025, sy'n sicrhau bod byrddau iechyd yn gwrando ac yn gweithredu ar yr holl adborth i lywio cynllun a darpariaeth gwasanaethau.

Hefyd mae gennym Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru, sy'n gweithio ar ddatblygu dangosfyrddau cenedlaethol a dangosyddion diogelwch i fonitro canlyniadau amenedigol a chynorthwyo i nodi amrywiadau a gyrru ymatebion wedi'u targedu. Maent hefyd yn cydweithio â sefydliadau rhieni, gan gynnwys yr Elusen Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddenedigol (SANDS), ac arbenigwyr yn y maes i weithredu'r llwybrau gofal profedigaeth cenedlaethol ledled Cymru, yn benodol ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth a cholli babi. Mae gweithgor craidd wedi'i sefydlu yn ddiweddar i ddatblygu'r llwybr. Mae sawl sefydliad trydydd sector yn aelodau o'r grŵp, gan gynnwys SANDS, Bliss, Antinatal Results and Choices a'r Gymdeithas Camesgoriad.

I ateb eich cwestiwn penodol, er nad oes gennym dargedau penodol ar hyn o bryd i leihau colli beichiogrwydd a marwolaethau babanod, rydym wedi ymrwymo i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, a darparu gofal teg trwy weithredu gwasanaethau diogel ac effeithiol i bob teulu. Mae'r holl fyrddau iechyd yn darparu gwaith gwella wedi'i dargedu trwy'r rhaglen cymorth diogelwch gofal mamolaeth a newyddenedigol, gan gynnwys adolygiad clinigol gwell o farwolaethau, mabwysiadu'r system wyliadwriaeth rhybudd cynnar genedlaethol, bwndeli gofal geni cyn amser mwy diogel, a dysgu o ddigwyddiadau trwy adolygiadau strwythuredig o achosion. Bydd angen i'r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a ddarperir gan fyrddau iechyd yng Nghymru wneud gwelliannau i gyflawni'r uchelgeisiau yn y datganiad ansawdd, ac i sicrhau ein bod yn parhau i gael gofal o ansawdd uchel yn gyson, a bod profiad a chanlyniadau mor dda â phosibl. Diolch. 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar Ynys Môn

8. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o berfformiad gwasanaethau iechyd meddwl ar Ynys Môn? OQ62838

Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o safon a sicrhau mynediad i'r rhai sydd ei angen. Mae Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru yn gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd i ysgogi gwelliannau yn y gwasanaethau hyn. Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant—fi—yn cyfarfod â'r bwrdd iechyd bob chwarter i adolygu ei gynnydd.

Diolch am yr ymateb. Mae data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos bod Ynys Môn yn un o ddwy ardal yn y gogledd a fethodd â chyrraedd y targed o sicrhau bod asesiadau iechyd meddwl oedolion yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod mewn 80 y cant o achosion yn 2024-25. Mae llawer, wrth gwrs, yn aros llawer iawn, iawn hirach na hynny, a thu ôl i'r ystadegau mae pobl, unigolion sydd yn dioddef yn wirioneddol. Dŷn ni'n gweld hynny yn yr unigolion a'r teuluoedd sy'n cysylltu efo fi fel Aelod, a dŷn ni'n ei weld o, yn drist iawn, yn y straeon yn y wasg ac ati am bobl sydd yn hunan-niweidio neu waeth wrth iddyn nhw aros am driniaeth. 

A gaf i ofyn i'r Gweinidog, felly, pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r bwrdd iechyd i wella gwasanaethau iechyd meddwl oedolion ar Ynys Môn, a hynny ar frys, fel bod o leiaf targedau yn cael eu cyrraedd, a sicrhau bod pobl Ynys Môn yn cael y gofal maen nhw ei hangen ac yn ei haeddu?

15:15

Diolch am y cwestiynau hynny, Rhun ap Iorwerth. Felly, rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth i ddarparu cymorth iechyd meddwl i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol. Fel y dywedoch chi, nid yw'r targedau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u cyrraedd mewn gofal oedolion. Y ffigurau diweddaraf sydd gennyf, fodd bynnag, yw bod 84.1 y cant o ymyriadau iechyd meddwl oedolion wedi'u cwblhau o fewn 28 diwrnod ym mis Mawrth 2025, a chyflawnwyd y targed ar gyfer y mesur hwnnw mewn naw o'r 12 mis diwethaf.

Rwy'n cyfarfod â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr bob chwarter. Maent yn amlwg yn destun mesurau uwchgyfeiriedig ar hyn o bryd, yn benodol mewn perthynas ag iechyd meddwl, ac mae hynny'n rhannol yn hanesyddol, ac yn rhannol yn mynd i'r afael â ble rydym arni ar hyn o bryd hefyd. Felly, rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd, ac maent yn gorfod rhoi'r cynlluniau hynny ar waith a'r camau hynny ar waith i fynd i'r afael â hyn, ac rwy'n hyderus eu bod yn ei gymryd o ddifrif, a'u bod yn gwneud hynny. Mae perfformiad yn erbyn y mesurau iechyd meddwl amrywiol ar gyfer plant dan 18 oed, er enghraifft, wedi gwella'n sylweddol, gyda 96 y cant o'r asesiadau wedi'u cwblhau o fewn 28 diwrnod ym mis Mawrth 2025, o'i gymharu â 91 y cant ym mis Mawrth 2024. Felly, rydym yn gweld rhywfaint o welliant, ac rwyf eisiau bod yn deg â hwy yn hynny o beth. Ond rydych chi'n hollol iawn, mae unrhyw un sy'n aros—. Ac rydym yn gwybod bod y 28 diwrnod cyntaf hynny'n hollol allweddol. Felly, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i weithio gyda'r bwrdd iechyd ac fel y dywedais, maent yn parhau i fod yn destun mesurau uwchgyfeiriedig, felly mae hyn yn rhywbeth —. Ac mae'n rhaid cyflawni'r targedau.

Roeddwn i hefyd eisiau dweud, fodd bynnag, fod gennym bellach y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol, a'i diben yw sicrhau nad yw pobl yn cyrraedd yr angen hwnnw, lle mae'n rhaid iddynt gael asesiad ac yna efallai y byddant yn aros. Rydym eisiau cael yr atal ar waith a'r model gofal fesul cam un sesiwn hwnnw, oherwydd, pan fydd pobl yn dod i ofyn am help ac yn estyn allan, mae angen iddynt weld rhywun, yn aml ddim ond i gael sgwrs, dim ond i deimlo eu bod wedi eu clywed ac i deimlo eu bod wedi mynd at rywun a chael gwybod, 'Byddwn yn eich rhoi chi ar restr aros; dyma ychydig o feddyginiaeth', neu weithiau, wyddoch chi, 'Efallai fod angen i chi gael cwsg.' Dyna'r math o adborth rwy'n ei gael gan bobl. Os gall pobl gael yr un sesiwn honno, gwyddom ei fod yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth, ac efallai y bydd hynny wedyn yn cyfeirio at wasanaethau eraill, neu efallai y bydd yn cael ei uwchgyfeirio, fel y gallwch gael sgwrs gyda rhywun.

Rydym yn edrych ar hyn o bryd ar ble i gael ein tri chynllun peilot bwrdd iechyd cychwynnol. Mae Betsi Cadwaladr yn awyddus iawn i fod yn un, oherwydd maent yn deall yr heriau, ac maent yn awyddus iawn i wella eu darpariaeth iechyd meddwl ar draws y bwrdd. Felly, rwy'n edrych ar hynny ar hyn o bryd, oherwydd byddem yn amlwg eisiau iddo fod yn llwyddiant. Ond rwy'n credu y byddai hyn yn achos da iawn dros weld hynny'n digwydd.

Ac roeddwn eisiau dweud hefyd fy mod wedi cyfarfod ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yr wythnos hon, ac roeddent yn dweud bod Ynys Môn bellach yn ynys ystyriol o drawma. Fe wnaeth hyn argraff fawr arnynt, ac mae'n rhywbeth sy'n cael ei gydnabod ar draws y maes iechyd yn fyd-eang a rhyngwladol. Felly, rwyf eisiau diolch i'r bobl yno, oherwydd mae'n amlwg fod llawer iawn o ymgysylltiad â'r gymuned yn digwydd, ac mae'n sicrhau bod gennym y gofal cofleidiol yn y gymuned, mae gennym y model gofal fesul cam, ac nad oes angen i bobl gyrraedd y cam hwnnw. Ond pan fyddant yn gwneud hynny, rwy'n cyfarfod â'r bwrdd iechyd yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gwella'r targedau hynny. Diolch.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiwn amserol. Un cwestiwn heddiw, i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac i'w ofyn gan Heledd Fychan.

Prosiect Rheilffordd y Dwyrain a’r Gorllewin

1. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at ailddosbarthu rhaglen rheilffordd y dwyrain a’r gorllewin rhwng Rhydychen a Chaergrawnt o fod yn brosiect 'Lloegr yn unig' i fod yn brosiect 'Cymru a Lloegr'? TQ1348

Wel, rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyllid rheilffyrdd, ac rwy'n falch iawn eu bod wedi cadarnhau buddsoddiad enfawr heddiw i wella seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hyn yn adeiladu ar ein buddsoddiadau, megis £800 miliwn ar drenau newydd sbon, dros £1 biliwn ar linellau craidd y Cymoedd, a dechrau Rhwydwaith Gogledd Cymru wrth gwrs.

Diolch am rannu eich barn ar ateb amherthnasol i'r cwestiwn a ofynnais. Gofynnais yn benodol am y llinell Rhydychen i Gaergrawnt, ac a ydych chi yr un mor falch fod hwnnw wedi'i ailddosbarthu, gan wrthod y gyfran gyfartal o £330 miliwn y byddem wedi'i chael i Gymru pe bai'n dal i fod wedi'i ddosbarthu fel prosiect Lloegr yn unig? Hyd yma, rydym wedi cael gwerth £1.1 miliwn o arian canlyniadol oherwydd ei ddosbarthiad fel prosiect Lloegr yn unig. A ofynnwyd i chi ad-dalu'r arian hwnnw? Oherwydd dyna fyddai'r canlyniad disgwyliedig pe bai hyn yn normal, o ran ei fod yn Loegr a Chymru, a'i fod, fel y soniodd Jo Stevens heddiw—Ysgrifennydd Gwladol Cymru—yn gamgymeriad yn y dynodiad. A ydych chi'n cytuno â'r pwynt hwnnw? Ar ba bwynt y cawsoch chi wybod, fel Llywodraeth Cymru, y byddai ailddosbarthiad yn digwydd? A oedd unrhyw ymgysylltiad? Neu, fel y dynododd y Prif Weinidog, oni wnaethant beidio â thrafferthu dweud wrth Lywodraeth Cymru beth oedd yn digwydd, ac nad ydych chi'n gwybod y rhesymau, ac mai dyna pam na wnaethoch chi ateb fy nghwestiwn?

15:20

Wel, yn amlwg, ni roddodd Llywodraeth y DU linell Rhydychen-Caergrawnt yn y ffrwd wella'r rhwydwaith rheilffyrdd fel y byddent fel arfer yn ei wneud, gan arwain at arian canlyniadol yn dod i Lywodraeth Cymru. Ond rwy'n falch iawn o adrodd, o ganlyniad i ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth, na fydd Llywodraeth y DU yn adfachu unrhyw arian canlyniadol a gawsom. Ac rwy'n ei chael hi'n syndod, ar ddiwrnod pan glywn fod Cymru'n cael £5 biliwn ychwanegol—£5 biliwn—gan gynnwys o leiaf £445 miliwn ar gyfer y rheilffyrdd, fod Plaid Cymru yn dewis lladd ar y buddsoddiad rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru—dwy Lywodraeth Lafur sy'n gweithio mewn partneriaeth. A phan siaradwn am gymhariaeth, gadewch inni edrych ar ble y byddem ym myd annibynnol Plaid Cymru: £2.6 biliwn wedi'i golli bob blwyddyn yn ôl eu ffigurau eu hunain. Mewn cyferbyniad, rydym ni wedi cael cadarnhad heddiw o £5 biliwn ychwanegol. Mae Llafur wedi cyflawni lle nad oedd y Torïaid yn gwneud hynny, lle na all Plaid Cymru wneud hynny, ac yn onest, lle nad yw Reform eisiau cyflawni.

Ysgrifennydd y Cabinet, dynodwyd prosiect llinell Rhydychen-Caergrawnt yn wreiddiol fel cynllun Lloegr yn unig, a fyddai wedi arwain at arian ychwanegol yn anochel yn dod i Gymru. Ond am ryw reswm afresymol, mae eich cymheiriaid Llafur wedi penderfynu ei ailddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr, gan rwystro unrhyw arian rhag llifo i lawr yr M4 i Gymru. Nid ydym yn sôn am newid mân yma, Ysgrifennydd y Cabinet; rydym yn siarad am filiynau a miliynau o bunnoedd. Ac rwy'n gwybod beth rydych chi'n mynd i'w ddweud, a do, fe gyhoeddwyd arian ychwanegol yn yr adolygiad o wariant heddiw, ond diferyn bach yn y môr yw hynny o gymharu â'r hyn sy'n ddyledus i bobl Cymru.

I fod yn glir: mae'r £450 miliwn a gyhoeddwyd yn digwydd dros 10 mlynedd, gan olygu dim ond £45 miliwn y flwyddyn—gryn dipyn yn llai na'r £1 biliwn a mwy a fuddsoddwyd yn y rheilffyrdd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU dros yr un cyfnod o amser. Roedd gwleidyddion Llafur, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gweiddi'n gyson am y biliynau o HS2 pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym, ond nawr maent yn fodlon ar ran fach iawn o'r swm hwnnw ac yn disgwyl i bawb ohonom yma fod yn ddiolchgar. Mae'n amlwg nad yw'r hyn a elwir yn bartneriaeth mewn grym rhwng y ddwy Lywodraeth Lafur yn ddim mwy na geiriau gwag, gan ei fod unwaith eto wedi gadael Cymru ar ei cholled. Yn hytrach na chodi llais a mynnu beth sy'n iawn i bobl Cymru, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cadw ei cheg ar gau, bodloni ar fod yn eilradd a derbyn briwsion San Steffan.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi, er gwaethaf y rhethreg, fod partneriaeth mewn grym Llafur mewn gwirionedd yn niweidio Cymru, a pha mor hir y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i dderbyn cael ei hamddifadu a chael cam gan eich tâl-feistri yn Llundain? Diolch.

Wel, ni ddylem synnu bod penseiri cyni, a anwybyddodd Gymru mor hir, yn lladd ar y buddsoddiad enfawr hwn yng Nghymru gan Lywodraeth y DU—£5 biliwn ychwanegol ar gyfer y cyfnod gwariant hwn.

A hoffwn ychwanegu ychydig mwy o fanylion ar y cyfnod buddsoddi o 10 mlynedd. Mewn gwirionedd, bydd y mwyafrif helaeth o'r buddsoddiad hwnnw—£350 miliwn—yn cael ei wario yn y cyfnod hwn. Pan fydd angen buddsoddiad mwy hirdymor, fel sy'n digwydd yn aml ar brosiectau rheilffyrdd, gall ymestyn y tu hwnt i un cyfnod rheilffyrdd. Ac fel y mae Llywodraeth y DU wedi dweud, mae hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer gwaith pellach ar reilffyrdd Cymru. Rhaid croesawu hynny fel gwarant hirdymor o welliant—gwelliant nad aeth y Torïaid ar ei drywydd.

Y £445 miliwn yw'r arian a gawn ar gyfer trafnidiaeth, yn hytrach na'r £5 biliwn i gyd. Felly, roeddwn i ond eisiau gwneud hynny'n glir.

A ydych chi'n rhwystredig, fel finnau, nad yw'r Trysorlys i'w weld yn dilyn ei reolau ei hun, drwy newid y pyst gôl wrth inni fynd yn ein blaenau, ac un funud, roeddem i fod i gael swm canlyniadol Barnett o tua £330 miliwn ar gyfer y llinell Rhydychen i Gaergrawnt, a'r nesaf, ar amrantiad, ni fyddwn yn ei gael? Felly, a gaf i ofyn: a ydych chi wedi asesu pa gynlluniau ar gyfer y dyfodol a fyddai'n cael eu heffeithio am na fyddwch yn cael y £330 miliwn llawn o'r prosiect hwnnw mwyach, a beth fydd yn rhaid i chi ei ddiddymu neu ei ohirio o ganlyniad i'r penderfyniadau hynny?

Wel, mae llawer o brosiectau'n dechrau fel prosiectau dan arweiniad grantiau trafnidiaeth leol, ac mae'r un peth yn wir yng Nghymru. Rydym yn cymhwyso grantiau trafnidiaeth lleol i'r prosiectau hynny y gellir eu gweithio i fyny'n gyfleoedd rheilffyrdd trwm, fel gorsaf Ganolog Caerdydd, sydd wedyn yn mynd i mewn i ffrwd wella'r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'n ymddangos mai'r hyn sydd wedi digwydd—. Mae angen inni gael cadarnhad cadarn, ond mae'n ymddangos mai'r hyn sydd wedi digwydd yw nad oedd y broses drosglwyddo honno wedi digwydd ar yr adeg briodol, gan olygu, mae'n ymddangos, ein bod wedi cael arian canlyniadol ychwanegol. Ond rwy'n falch iawn o ddweud eto, o ganlyniad i ddwy Lywodraeth Lafur sy'n gweithio mewn partneriaeth mewn grym, na fydd Llywodraeth y DU yn galw am ad-dalu'r arian canlyniadol a gawsom.

15:25

Rwyf am ddod yn ôl at y cwestiwn amserol, sy'n gofyn i chi mewn gwirionedd, gyda'r parch mwyaf, Ysgrifennydd y Cabinet, am rywfaint o wirionedd pendant ynglŷn â pham y cafodd y rhaglen reilffordd Rhydychen i Gaergrawnt ei dosbarthu'n wreiddiol fel prosiect Lloegr, a'i newid wedyn yn brosiect Cymru a Lloegr. 

Os caf fynd â chi'n ôl at rifynnau 2020, 2021, 2023 a 2024 o ddatganiad polisïau cyllido Llywodraeth y DU, dosbarthwyd y rheilffordd fel 'Lloegr yn unig'. Ac oherwydd gwaith David Chadwick AS, AS Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fe wnaethom ddarganfod y newid. Felly, mae cryn dipyn o ddryswch yma, ac rydym eisiau rhywfaint o eglurder, oherwydd pe bai wedi parhau'n brosiect Lloegr yn unig, fy nealltwriaeth i yw y byddem yn cael arian canlyniadol o'r rhaglen honno, yn ogystal â phopeth y siaradoch chi amdano, ond nid am hynny y gofynnwyd yn y cwestiwn amserol.

Felly, gyda'r parch mwyaf, a wnewch chi esbonio, neu efallai fod angen mynd i adolygu'r polisïau rhwng 2020 a 2024 i'n helpu i ddeall, pam fod y newid wedi digwydd, ac a oes ymrwymiad nawr gan y Llywodraeth Lafur newydd hon ei fod wedi'i ailddosbarthu'n gynllun Lloegr yn unig, ac felly ein bod yn cael yr arian canlyniadol sy'n ddyledus i ni? Diolch yn fawr iawn. 

Wel, rwy'n gobeithio, yn y tymor hwy, y byddwn yn gweld diwygio sylweddol trwy'r newidiadau y mae'r Arglwydd Peter Hendy yn mynd ar eu trywydd gyda'i ddeddfwriaeth yn Senedd y DU. Rwy'n credu y bydd y diwygiadau hynny'n arwain at alluogi Gweinidogion Cymru i gael llawer mwy o lais a bod Cymru'n cael cronfa o warantedig o fuddsoddiad dros y tymor hir.

Mae'r hyn a glywsom—. Ac rwy'n derbyn nad yw'r gwrthbleidiau eisiau ei glywed, ond rydym wedi clywed cyhoeddiad heddiw am fuddsoddiad enfawr: £5 biliwn ychwanegol i Gymru, gan gynnwys £445 miliwn ychwanegol i reilffyrdd Cymru. Mae hynny'n fwy nag y byddem wedi'i gael hyd yma mewn arian canlyniadol o HS2, a bydd hynny'n paratoi'r ffordd ar gyfer prosiectau enfawr, trawsnewidiol yng ngogledd Cymru a de Cymru. 

4. Datganiadau 90 eiliad

Felly, fe wnaf i symud ymlaen i'r datganiadau 90 eiliad. Sioned Williams. 

Diolch, Llywydd. Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Babanod yw hi'r wythnos hon, cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol cefnogi iechyd meddwl a llesiant babanod. Y thema eleni, a bennwyd gan y Parent-Infant Foundation, yw 'Pwy sy'n dal y babi?' Mae'n tynnu sylw at y ffaith y gallai rhai rhieni, yn enwedig y rhai sy'n wynebu trawma, anawsterau iechyd meddwl, tlodi neu gam-drin domestig, ei chael hi'n anos creu cysylltiad â'u babanod a diwallu eu hanghenion emosiynol a chorfforol, a bod angen cymorth arbenigol arnynt.

Mae babanod sy'n agored i drawma neu amgylchiadau anodd, heb y gefnogaeth gywir, mewn mwy o berygl o brofi ystod o effeithiau negyddol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol drwy gydol eu bywydau. Mae angen cartrefi diogel a chariadus ar fabanod, a gofal sensitif i hyrwyddo eu datblygiad, o feichiogrwydd ymlaen. Yn anffodus, rŷn ni'n gwybod bod mwy nag un o bob 10 babi yn y Deyrnas Gyfunol heddiw yn byw mewn ofn, dryswch a gofid. Eto i gyd, does dim digon o gefnogaeth arbenigol ar gael i fabanod sy'n fregus a'u teuluoedd yng Nghymru.

Yr wythnos hon, cawn ein hatgoffa bod cefnogi perthnasoedd cynnar ac iechyd meddwl babanod yn ymwneud â buddsoddi mewn dyfodol iachach i bob plentyn. Rwy'n annog pob Aelod i helpu i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Babanod ac i hyrwyddo'r gefnogaeth y mae ei hangen ar fabanod a'u teuluoedd i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Diolch.

15:30

Mae Cymru'n genedl noddfa. Mae hynny'n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn falch ohono. Ar adeg pan fo cymdeithas yn dod yn fwyfwy rhanedig a thoredig, mae'n ein hatgoffa, fel bodau dynol, ein bod yn rhan o rywbeth mwy, a bod Llywodraethau'n gallu gwneud gwahaniaeth.

Gall unigolion a grwpiau cymunedol wneud gwahaniaeth hefyd, a hoffwn dalu teyrnged i PONT, elusen yn fy etholaeth sydd wedi gwneud yn union hynny. Mae wedi trawsnewid bywydau a rhagolygon cannoedd o filoedd o bobl yn Mbale, yn Uganda. Ffurfiwyd PONT yn 2005 gan grŵp o wirfoddolwyr ym Mhontypridd, er bod gwreiddiau'r elusen yn dyddio'n ôl i'r 1980au, pan welodd gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio mewn gwersylloedd yn ystod newyn Ethiopia gyfle i wella bywydau pobl dlawd yn Affrica drwy feithrin cysylltiadau personol uniongyrchol rhwng y ddwy gymuned.

Dan arweiniad fy etholwr a fy nghyfaill, Dr Geoff Lloyd, mae'r tîm wedi datblygu PONT i fod yn rhaglen gymorth effeithiol o un gymuned i'r llall. Mae wedi adeiladu ysgolion, darparu rhaglenni addysgol, a gwasanaethau gofal iechyd i bentrefi anghysbell na fyddai ganddynt fel arall unrhyw un o'r gwasanaethau hyn a gymerwn yn ganiataol. Mae rhaglenni PONT yn ymestyn o ddarparu hanfodion, fel rhwydi mosgitos, i raglen wirfoddoli hynod lwyddiannus lle mae meddygon, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill o Gymru yn gweithio mewn pentrefi gwledig, ac i raglen gynhyrchu incwm yn seiliedig ar fod yn berchen ar eifr.

Y mis hwn, mae elusen PONT yn dathlu ei hugeinfed pen-blwydd. Bydd yn cynnal cynhadledd arbennig ym Mhontypridd i ddathlu, lle bydd y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn westai arbennig. Mae gan Carwyn gysylltiad agos â PONT, ac ymwelodd â Mbale gyda Geoff yn ôl yn 2014. Gyda chefnogaeth gan PONT, mae eu model wedi cael ei fabwysiadu gan sefydliadau mewn rhannau eraill o Gymru. Pan siaradais â Geoff yn ddiweddar, ystyriodd yr hyn roedd PONT wedi'i gyflawni. Dywedodd wrthyf, yn y frwydr yn erbyn tlodi, fod gefeillio trefi'n gweithio. Mae gan dros 0.5 miliwn o bobl fynediad at ofal iechyd sylfaenol bellach lle nad oedd ganddynt cyn PONT. Gall pob un ohonom fod yn falch fod Cymru yn llawn o bobl fel gwirfoddolwyr PONT, sy'n dod â'r byd yn agosach, un gymuned ar y tro. Diolch.

Mehefin yw mis Balchder, amser i ddod at ein gilydd fel cymuned i ddathlu ac ymgyrchu dros newid.

Ganwyd Pride o'r angen a'r ewyllys i brotestio, ymateb i hawliau a wrthodwyd, i gael ein gweld, i fod yn ni ein hunain, i gael ein derbyn a'n parchu. Bum deg â phump o flynyddoedd ar ôl y digwyddiad Pride a ddilynodd derfysgoedd Stonewall, 53 mlynedd ers y digwyddiad Pride cyntaf yn y DU, a 40 mlynedd ers yr orymdaith gyntaf yma ym mhrifddinas Cymru, mae Pride yn parhau i fod yr un mor berthnasol a phwysig ag erioed, yn rym cadarnhaol er daioni sy'n dod â'r gymuned LHDTC+ a'r gymuned ehangach hefyd ynghyd.

Nid oes raid i Pride fod yn fawr i fod yn brydferth, ac nid i ddinasoedd yn unig y mae'n perthyn. Mae a wnelo â chael eich gweld, cael eich gwerthfawrogi, a gall fod yn hanfodol. Nid yw'n fygythiad i hunaniaeth tref, mae'n adlewyrchiad o'r amrywiaeth sydd eisoes yn bodoli. Rwyf wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau Pride ledled y wlad, ond y digwyddiadau Pride sydd wedi cael effaith barhaol arnaf yw'r rhai sydd wedi digwydd yn agosach at adref. Y llynedd, cynhaliodd y Fflint, y dref lle'r euthum i'r ysgol uwchradd, ei digwyddiad Pride cyntaf erioed, rhywbeth na allwn byth fod wedi meiddio breuddwydio amdano yn fy arddegau. Y penwythnos diwethaf, cynhaliwyd digwyddiad Pride cyntaf Prestatyn. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl o bob cwr o'r gymuned, a chymaint o gefnogaeth, wrth i'r orymdaith wneud ei ffordd ar hyd y stryd fawr. Er gwaethaf y tywydd gwlyb, ni lawiodd ar ein gorymdaith. Ymhellach i lawr yr arfordir, ychydig wythnosau'n ôl, roedd yr haul yn tywynnu eto ar drydydd digwyddiad Pride Bae Colwyn ar y prom, a'r flwyddyn nesaf, bydd Casnewydd yn cynnal digwyddiad Pride y DU.

Mae'r digwyddiadau Pride hyn yn bwysig ac maent yn gwneud gwahaniaeth. Nid moethusrwydd ydynt, ond rhaff achub. Nid yw cynnydd yn anochel, ac mae Pride yn dal i fod yn brotest. Felly, y mis Pride hwn, a phob mis, gadewch inni sefyll gyda'n gilydd i gefnogi ein cymuned LHDTC+. Diolch.

Ganwyd Syr William John Boston yn Angelina Street, Butetown ym 1934. Roedd Billy yn un o fechgyn y dociau, gyda'i dad, John, morwr o Sierra Leone, a'i fam, Nellie, yn un o gymuned Wyddelig fywiog Caerdydd. Dechreuodd chwarae rygbi'r undeb i Glwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd, clwb enwog, a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed y flwyddyn nesaf. Mae llawer wedi'i ysgrifennu ynglŷn â sut oedd Billy'n dyheu am chwarae i Gaerdydd a Chymru, ond ni ddaeth yr alwad gan y clwb na'r wlad erioed. Mae'n anodd credu mai methiant y system sgowtio'n unig oedd yn gyfrifol am hyn, a dim i'w wneud â lliw ei groen.

Fe wnaeth clwb rygbi'r gynghrair Wigan gydnabod gallu enfawr Billy. Y stori a adroddir amlaf am ei arwyddo yw bod Nellie wedi mynnu bod Wigan yn dyblu eu cynnig cyn i Billy fynd tua'r gogledd. Fe wnaethant hynny, a bu'n llwyddiant ysgubol. Dengys y ffigurau ei fod wedi sgorio 478 cais mewn 488 o gemau i Wigan; 24 mewn 31 gêm brawf dros Brydain. Nid yw'r ffigurau'n dweud wrthych ei fod yn arloeswr: y person cyntaf o liw i gael ei ddewis i chwarae dros Brydain. Nid yw bod y cyntaf byth yn hawdd, ond roedd yn arwr ac yn fodel rôl ar y cae ac oddi arno ar adeg pan oedd pobl ddu yn wynebu rhagfarn agored bob dydd.

Mae wedi cymryd 130 mlynedd i rygbi'r gynghrair gael marchog. Yma yng Nghymru, rydym wedi cymryd gormod o amser i gydnabod Billy. Roedd iddo gerfluniau yn Wigan a Wembley ymhell cyn i gerflun y Torwyr Cod anfarwoli Billy, Clive Sullivan a Gus Risman o'r diwedd, yn edrych yn ôl ar eu dinas. Gobeithio na fydd Cymru'n anghofio'r hyn a aeth drwyddo a'r hyn a gyflawnodd. Mae llawer mwy o rai tebyg iddo'n haeddu cael eu cofio.

15:35

Diolch am y datganiadau pwerus yna.

Eitem 5 sydd nesaf, a diddymiad pwyllgorau yw hwn. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig ar yr eitem yma yn cael eu cymryd gyda'i gilydd i ddiddymu'r Pwyllgor Biliau Diwygio a diddymu Pwyllgor Senedd y Dyfodol—i'w grwpio ar gyfer dadl, felly, ond pleidleisiau ar wahân. Oes yna unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nac oes.

5. Diddymu pwyllgorau

Felly, aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol.

Cynnig NDM8922 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei sefydlu ar 12 Gorffennaf 2023 at ddiben craffu ar y Biliau yn ymwneud â diwygio'r Senedd a gyfeiriwyd ato gan y Pwyllgor Busnes.

2. Yn nodi nad yw'r Pwyllgor Busnes yn bwriadu cyfeirio rhagor o faterion at y Pwyllgor.

3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Biliau Diwygio ddod i ben.

Cynnig NDM8924 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd Pwyllgor Senedd y Dyfodol ei sefydlu ar 16 Hydref 2024 i ystyried a chyflwyno adroddiadau erbyn 9 Mai 2025 ar: trefniadaeth busnes yn y Seithfed Senedd; rhwystrau i gyfranogiad cynrychiolwyr; a’r trothwyon a nodir yn y Rheolau Sefydlog.

2. Yn nodi bod y Pwyllgor wedi gosod ei adroddiadau ar 28 Chwefror 2025 a 9 Mai 2025.

3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai Pwyllgor Senedd y Dyfodol ddod i ben.

Cynigiwyd y cynigion.

Mae'r cynigion wedi'u gwneud. Y cwestiwn yn gyntaf, felly, yw: a ddylid derbyn cynnig NDM8922? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yr ail gwestiwn yw: a ddylid derbyn cynnig NDM8924? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd'

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sydd nesaf: 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd'. Ac felly, dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone. 

Cynnig NDM8918 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd' a osodwyd ar 6 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain sy'n ymuno â ni y prynhawn yma. A diolch i Gomisiwn y Senedd am sicrhau ein bod yn cael ei gwasanaethau heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a gyfrannodd i'n hymchwiliad, sy'n dilyn y ddadl ar-lein.

Mae ein teitl wedi'i ysbrydoli gan ein 65 o gyfranwyr sydd â phrofiadau bywyd—yr unigolion argyhoeddiadol, talentog a thrawiadol y rhoddodd eu tystiolaeth obaith a ffydd i'r pwyllgor y gellir cyflawni unrhyw beth gyda'r gefnogaeth gywir.

Mae'r bwlch cyflogaeth anabledd yn un o'r anghydraddoldebau mwyaf dyfal yn y farchnad lafur. Er gwaethaf amryw o eiriau cynnes, mae pobl anabl yn dal i fod yn llawer llai tebygol o gael eu cyflogi o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Mae'r ystadegau diweddaraf yng nghynllun hawliau pobl anabl Llywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond hanner y bobl anabl rhwng 16 a 64 oed sydd mewn gwaith, o gymharu ag ychydig dros bedwar o bob pump o bobl nad ydynt yn anabl yn y grwpiau oedran hynny. Nid ystadegyn sy'n ymwneud â'r economi neu'r farchnad lafur yn unig yw hwn; mae'n broblem i bob un ohonom gan fod pawb yn cael eu hamddifadu o dalentau a chreadigrwydd rhan gyfan o gymdeithas. Mae cost a budd i unrhyw un sydd eisiau gweithio ac anfantais yn sgil segurdod gorfodol o ran llesiant meddyliol a chorfforol.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r llu o rwystrau y mae angen eu chwalu. Dylem ddechrau gyda'r ymwybyddiaeth isel o ddeddfwriaeth cydraddoldeb a'r lefelau cydymffurfiaeth isel â hi. Datgelodd arolwg ar ran Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru fod gan dros chwarter y bobl anabl gyflogwyr a fethodd wneud addasiadau rhesymol ar eu cyfer, hyd yn oed pan fo cost gyfartalog addasiadau rhesymol ond yn £75 i gyflogwr. Mae'r cyflogwyr culfrydig hyn yn anwybyddu cronfa o staff dibynadwy, sy'n llai tebygol o symud ymlaen at gyflogwr gwahanol cyn gynted ag y cânt eu traed o dan y bwrdd, ac sy'n fwy tebygol o fod eisiau profi bod eu cyflogi gyda'u hamhariad yn fuddsoddiad doeth iawn.

Mae ein neges graidd yn glir: dylai pobl anabl sy'n gallu ac sydd eisiau gweithio gael eu cefnogi'n briodol i wneud hynny. Nid oes unrhyw beth systematig am yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, ac fel gwlad a chenedl, rydym ymhell o fod yn cofleidio'r model cymdeithasol o anabledd. Nid lle'r dinesydd anabl yw newid, ond y gymdeithas sy'n gwahaniaethu yn erbyn yr unigolyn ag anabledd. Ac mae hynny'n arbennig o berthnasol i bobl ag anabledd dysgu.

Nid oes amheuaeth ynghylch uchelgais ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r model cymdeithasol. Mae adroddiad 'Drws ar Glo' 2021, a'r tasglu hawliau pobl anabl a gydgynhyrchwyd ar draws sawl maes sy'n effeithio ar fywydau pobl anabl, yn arwyddion o ymrwymiad i fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn. Ydy, mae cydgynhyrchu'n cymryd amser. Fodd bynnag, mae'r tair blynedd y mae wedi'u cymryd i Lywodraeth Cymru gynhyrchu'r cynllun gweithredu hawliau pobl anabl, sydd bellach yn destun ymgynghoriad, bedair gwaith yr amser y mae'n ei gymryd i gael babi. A naw mis yn ôl, rhannodd yr Athro Debbie Foster, a gyd-gadeiriodd y tasglu hawliau pobl anabl, y pryder fod Llywodraeth Cymru yn rhedeg allan o amser i weithredu ei huchelgeisiau. Ac ar ben hynny, nid yw'n dal i fyny â'r tswnami posibl sydd ar y gorwel ar ffurf y toriadau arfaethedig i fudd-daliadau lles, a ddatgelwyd lai na phythefnos ar ôl i'n hadroddiad gael ei gyhoeddi.

Rhybuddiodd y llythyr at Lisa Nandy a Liz Kendall, a lofnodwyd gan gyrff a oedd yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a'r Sherman, a llawer o gyrff diwylliannol eraill ar draws y DU, fod cael gwared ar y gefnogaeth y gall pobl anabl ei chael ar hyn o bryd, gobeithio, drwy daliadau annibyniaeth personol a Mynediad at Waith, yn creu risg o eithrio pobl anabl o'r gweithlu'n gyfan gwbl.

Cawsom dystiolaeth fod pobl yn gorfod aros 20 wythnos i gael cymorth drwy'r cynllun Mynediad at Waith. Pa gyflogwr a fydd yn gallu aros cyhyd i weithiwr newydd ddechrau? Mae'r pwyllgor yn rhannu rhai o'r pryderon a fynegwyd ynghylch y newidiadau hyn, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, cyflogwyr, a phob haen o lywodraeth, i gael trefn ar bethau cyn gweithredu unrhyw newidiadau. Ond nid yw'r methiannau i gydymffurfio â'r gyfraith ac i gynnig addasiadau rhesymol yn rhagweithiol ac yn gyson i bobl anabl wedi digwydd o ganlyniad i ddiffyg canllawiau, yn ôl ein tystiolaeth ni. Mae canllawiau da iawn gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gall unrhyw fusnes gael mynediad atynt yn rhad ac am ddim cyn dod yn gyflogwr.

Felly, mae arnom eisiau gwybod sut y mae Busnes Cymru yn mynd i'r afael â diffyg ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau cyflogwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yn eu cyfeirio at gymorth. Hoffem wybod beth yw canlyniad yr adolygiad a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023 ar y gwasanaeth a ddarperir gan Busnes Cymru. Os gallwch ei rannu gyda ni, pa dargedau a osodwyd i leihau'r bwlch cyflogaeth anabledd? Oherwydd yn amlwg, y bobl hyn yw'r bobl orau i gefnogi cyflogwyr i gyflogi mwy o bobl anabl, sef y peth iawn i'w wneud, yn economaidd ac yn gymdeithasol, ac o ran cyfiawnder.

Mae gan gynllun Hyderus o ran Anabledd, a hyrwyddwyd gan Lywodraeth y DU ers 2016, enw drwg iawn ymhlith pobl anabl. Ar y lefelau achredu isaf, mae'n ymarfer ticio blychau. Nid yw'n cynnwys unrhyw asesiadau allanol, ac mae'r diffyg trylwyredd hwn yn awgrymu nad yw wedi trosi'n ganlyniadau ystyrlon i bobl anabl. Naill ai bydd ymdrechion cyfunol Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, i sicrhau mwy o drylwyredd i'r broses yn dwyn ffrwyth, neu bydd y pwyllgor, neu ein holynydd, yn galw am drefniant arall pwrpasol i Gymru, gyda'r holl gostau sydd ynghlwm wrth hynny. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud cynnydd gyda Llywodraeth y DU ar wneud y cynllun Hyderus o ran Anabledd yn llawer mwy ystyrlon a sicrhau canlyniadau.

Yn gwbl briodol, mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd ar fod yn arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Ond mae'n destun pryder mai dim ond cyfran fach iawn o gyrff cyhoeddus datganoledig sy'n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn gynhwysol, sydd hyd yma wedi dangos eu bod o ddifrif ynglŷn â'r gofyniad i beidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau yn eu polisïau cyflogaeth.

Fe welwch o'r ffeithlun ar dudalen 38 yn ein hadroddiad mai dim ond pedwar bwrdd neu ymddiriedolaeth iechyd allan o 12 yng Nghymru sydd wedi cyflawni statws arweinydd Hyderus o ran Anabledd hyd yma, a dim ond dau allan o'r 22 awdurdod lleol. Nid yw hyn yn ddigon da. Dyna pam ein bod yn ei gwneud yn ofynnol yn argymhelliad 5 i'r sector cyhoeddus gamu i'r adwy yng Nghymru a gosod targed i ddod yn arweinwyr Hyderus o ran Anabledd, h.y. y lefel uchaf a asesir gan gyrff allanol, ac mae'n rhaid iddynt wneud hynny mewn ffordd benodol ac amserol. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau pobl eraill ar ein hadroddiad.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae'r bwlch cyflogaeth anabledd a wynebwn yn annheg. Rwy'n cytuno'n llwyr â Chadeirydd y pwyllgor, Jenny Rathbone, wrth iddi ddatgan bod gormod o bobl anabl yn wynebu rhwystrau diangen i gyflogaeth yng Nghymru. Mae 'Os yw'r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani!' yn darparu dadansoddiad perthnasol ond amserol ochr yn ochr ag argymhellion perthnasol. Yn aml yn fy swydd fel Ysgrifennydd Cabinet yr wrthblaid, y problemau hyn sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb yw'r rhwystrau y mae angen eu goresgyn i adeiladu cymdeithasau mwy cyfiawn. Yn anffodus, mae'n amlwg o dystiolaeth tystion arbenigol fod y cynnydd hyd yn hyn yn llai cadarn.

Roedd y bwlch cyflogaeth anabledd yn 2023-24 yn arbennig o amlwg yn fy rhanbarth i mewn gwirionedd, yn awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Yn aml, mae peirianwaith y Llywodraeth yn dangos bwriad. Mae'r adroddiad yn datgan bod y pwyllgor yn nodi nad yw hawliau pobl anabl yn cael eu crybwyll yn unman ar y rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol a ddyrannwyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, nac unrhyw bortffolio arall. Roedd cyd-gadeirydd y tasglu hawliau pobl anabl, Debbie Foster, yn bryderus, ac yn nodi bod pethau wedi llithro. Rwy'n credu y dylai fod o leiaf un Gweinidog penodol yn arwain yma. A wnaiff Llywodraeth Cymru wneud meysydd cyfrifoldeb perthnasol gan ddeiliaid portffolio yn gliriach, er mwyn cynyddu atebolrwydd mewnol?

Er bod polisïau dryslyd Llywodraeth Cymru yn aml yn gadael cwestiynau heb eu hateb, mae'r nifer fawr o weithgorau sydd gan y tasglu hawliau pobl anabl, dryswch ynghylch rolau a gorgyffwrdd cyfrifoldebau a'r ymdeimlad cyffredinol o weithio mewn seilos yn awgrymu bod problemau gyda'r dull cyffredinol o weithredu. Nawr, wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol fod y trefniadau cymhleth hyn yn cael eu symleiddio a'u cydweddu er mwyn cyflawni canlyniadau gwirioneddol—mae'r hen status quo yn rhy fiwrocrataidd, yn rhy seiliedig ar ffocws ac yn rhy lletchwith.

Ar ben hynny, rwy'n hynod o bryderus ynglŷn â faint o gyflogwyr sy'n anghytuno ynghylch gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth a chymorth mewn perthynas â gwneud addasiadau. Mae grwpiau fel Anabledd Dysgu Cymru o'r farn fod pasbortau addasiadau rhesymol yn gweithio'n dda, gan eu bod yn dileu dyblygu gormodol a'r angen i ymgeiswyr ailadrodd eu hanghenion bob tro yr ânt drwy hyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar gefnogi camau tebyg? Rwy'n cwestiynu pa mor effeithiol yw hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl pan wyddom, drwy Terry Mills, nad oes targed i fesur effeithiolrwydd.

Rwy'n cefnogi argymhelliad 3 yn gryf, ar adeg pan nad yw 26 y cant o unigolion anabl mewn cyflogaeth wedi cael addasiadau rhesymol o gwbl. Fodd bynnag, yn addawol, mae ymchwil y Fforwm Anabledd Busnes a BrightHR yn datgelu mai dim ond £75 y pen yw costau addasiadau rhesymol ar gyfartaledd, fel y dywedodd y Cadeirydd. Gwyddom yn bendant nad yw trin pobl anabl yn briodol yn ddrud, ond yn anffodus, mae rhwystrau'n dal i fodoli. Mae gan y pwyllgor bryderon ynghylch cymwysterau arweinyddiaeth y cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Cododd Isabel Linton, yn gywir ddigon, y ffaith bod problemau gynaecolegol yn aml yn dal i gael eu hystyried yn faterion tabŵ, fod pobl yn teimlo gormod o gywilydd i siarad amdanynt, neu'n cael clywed bod pethau fel poen pelfig yn rhan o fywyd y mae'n rhaid i bawb ymdopi â hi, a bod symptomau sy'n gysylltiedig â hormonau'n cael eu trin fel jôc. Ar ben hynny, dywed fod pobl â phroblemau iechyd anweladwy yn ofni na chânt eu credu, neu heb hyder i ofyn am addasiadau rhesymol. Gwyddom fod cleifion â chyflyrau fel endometriosis yn wynebu oedi dinistriol mewn poen ofnadwy, naw mlynedd ac 11 mis ar gyfartaledd, cyn cael diagnosis.

Mae Dan Biddle yn tynnu sylw at sut y mae'r ystadegau'n dangos, os ydych chi'n anabl a heb fod mewn cyflogaeth pan fyddwch yn 26 oed, ei bod yn debygol na fyddwch chi byth mewn cyflogaeth. Nid yw hyn yn ddigon da, yn anffodus. Rydym yn gwneud cam â phobl ifanc drwy hyn, gyda'r bwriadau gorau. Daw'r pwyllgor i'r casgliad yn ei adroddiad y dylai cymaint o bobl â phosibl gael cyfle i fwynhau'r manteision y gall y byd gwaith eu darparu—

15:50

Fe gymeraf ychydig yn fwy o amser, oherwydd fy ngwddf.

Na, rydych chi wedi cael eich amser. Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.

—y gall gweithio eu darparu o ran gwobr ariannol, ymgysylltiad cymunedol a hunan-barch. Hoffwn wybod mwy ynglŷn â sut y mae ffactorau fel argaeledd trafnidiaeth yn dylanwadu ar gyfranogiad pobl anabl yn y gweithle. I symud ymlaen, rydym eisiau bathodynnau glas parhaol, nid ailasesiadau niwsans.

Yn olaf, mae'n hanfodol fod argymhelliad 1 yn cael ei roi ar waith—

Rwy'n dirwyn i ben, Syr—i gyflawni'r gwaith sy'n weddill yn ystod y tymor hwn. Ein dyletswydd i bobl anabl yw gwneud hyn ar frys, gadewch inni wneud hyn yn iawn ar y cyd. Diolch.

Mae'r adroddiad hwn wedi dod yn fwy arwyddocaol wrth gwrs ers i ni fel pwyllgor ymgymryd â'n gwaith ar ddeall pam fod gan Gymru'r bwlch cyflogaeth anabledd uchaf yn y DU, sef 30.9 y cant. Mae eironi creulon i deitl yr adroddiad, 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani!', oherwydd wrth inni glywed, fel pwyllgor, am yr heriau ychwanegol a'r rhwystrau systemig y mae pobl anabl yn eu hwynebu, cyhoeddwyd y byddai cefnogaeth hanfodol i'w galluogi i gynnal cyfleoedd gwaith yn mynd i gael ei thorri.

Mae barn unfrydol ymhlith arbenigwyr polisi a sefydliadau pobl anabl fod cael gwared ar gefnogaeth yn y ffordd hon yn gwthio pobl i dlodi, nid cyflogaeth. Roedd yn siomedig na chawsom unrhyw dro pedol ar hyn heddiw gan y Canghellor Llafur. Ac mae'n arwyddocaol, efallai, nad yw Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i'n hadroddiad, yn cyfeirio at y newidiadau, a fydd yn cael effaith drychinebus ar sefyllfa ariannol a gallu'r bobl anabl y mae'n eu gwasanaethu i allu gweithio, p'un a ydynt eisoes mewn cyflogaeth, neu'n wir, pe baent yn dod o hyd i waith.

A ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod argymhellion yr adroddiad hwn yn cael eu tanseilio gan weithredoedd Llywodraeth Lafur San Steffan? A allwch chi ddweud wrthym sut y mae eich ymatebion wedi ystyried y diwygiadau arfaethedig hyn? Ac a ydych chi'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed gan y pwyllgor yn ein llythyr ynghylch ein hadroddiad at yr Adran Gwaith a Phensiynau fod yn rhaid mynd i'r afael â'r rhwystrau penodol y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gyflogaeth, a nodwyd yn ein hadroddiad, cyn gweithredu newidiadau i gymhwysedd a chefnogaeth i bobl anabl?

Yr wythnos diwethaf, o'r diwedd, cyhoeddwyd y cynllun hawliau pobl anabl hirddisgwyliedig. Gofynnodd ein hadroddiad am dargedau yn y cynllun hwnnw, ond nid oes unrhyw darged yn y cynllun drafft. Nid ydych yn egluro pam yn eich ymateb, felly efallai y gallech wneud hynny heddiw.

Hefyd, gofynnwyd i chi gyflawni ymrwymiad eich rhaglen lywodraethu i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru yn ystod y tymor Senedd hwn. Byddai ymgorffori'r confensiwn yn sicrhau bod yr effaith ar bobl anabl yn cael ei hystyried ym mhob cyfraith a pholisi a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru. Byddai'n golygu, mewn gwirionedd, y byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r holl anghydraddoldebau sy'n rhwystrau i gyflogaeth, ac sy'n wynebu pobl anabl yng Nghymru sy'n gallu ac sydd eisiau gweithio.

Gwyddom o'n gwaith craffu ar yr ymrwymiad hwn nad yw cynnydd wedi'i flaenoriaethu, nad oes digon o adnoddau wedi'u darparu ar ei gyfer, ac mae'r ymateb i'n hargymhelliad ar hyn yn siomedig. Felly, a wnewch chi ymrwymo, heddiw, i ddyrannu'r adnoddau angenrheidiol i alluogi'r gweithgor opsiynau deddfwriaethol i gyflwyno argymhellion ar ddeddfwriaeth i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl cyn gynted â phosibl? A ydych chi'n dal i yn ymrwymedig i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny? Rwy'n credu bod pobl anabl yn haeddu gonestrwydd ynglŷn â hyn.

Yn olaf, rwyf am droi at ganfyddiadau'r adroddiad ynghylch pobl anabl iau, ac yn enwedig y pryderon sylweddol a mynych ynghylch y cyfleoedd y maent yn eu colli oherwydd canllawiau cyfyngedig neu drwy gael eu llywio at ddetholiad cul o bynciau a llwybrau gyrfa sy'n darparu'n fwy hwylus ar gyfer addasiadau rhesymol. Roedd yn anodd clywed y dystiolaeth a oedd yn disgrifio'r diffyg uchelgais a'r disgwyliadau isel gan y rhai sydd â'r dasg o gynghori myfyrwyr anabl, yn enwedig y rhai ag anableddau dysgu—y rhai na ofynnir iddynt, 'Beth hoffech chi ei wneud pan fyddwch chi'n hŷn?'; y rhai nad ydynt wedi'u cynnwys mewn cynlluniau lleoliadau gwaith. Er gwaethaf y geiriau o sicrwydd gan y Llywodraeth a chyrff fel Gyrfa Cymru y dylai hyn fod yn digwydd, dangosodd y dystiolaeth a glywsom nad yw'n digwydd. Felly, a wnewch chi sicrhau ffocws gwell ar godi dyheadau mewn ysgolion i'r plant a'r bobl ifanc hyn?

Mae bwriad Llywodraeth Cymru i archwilio un model gweithredu ar gyfer cyflogaeth â chymorth yn galonogol. Mewn ateb i gwestiwn gan Hefin David, sydd wedi dadlau mor gryf o blaid hyn, mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi gwerthfawr o'r prosiect Ymgysylltu i Newid ac i ehangu mynediad at hyfforddiant swyddi arbenigol a cherfio swyddi. A allech chi roi mwy o fanylion ynglŷn â sut y mae darpariaeth cyflogaeth â chymorth yn y dyfodol yn cael ei datblygu, ac a allwch roi sicrwydd i ni y bydd hyfforddiant swyddi arbenigol yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon?

Mae cynnydd ar y mater hwn yn gyffredinol wedi bod yn gywilyddus o araf, ac mae pobl anabl bellach yn cael eu gwneud i deimlo hyd yn oed mwy o bwysau o ganlyniad i'r bygythiad o golli cefnogaeth cyn bod digon o gynnydd wedi'i wneud i roi diwedd ar ragfarn cyflogwyr, newid agweddau diwylliannol ac addysgol a chynyddu cyfleoedd i bobl anabl allu ymgymryd â chyflogaeth. Rhaid inni gofio nad eu cyfrifoldeb hwy yw hyn, ond cyfrifoldeb y gymdeithas, a rôl y Llywodraeth yw arwain y newid hwnnw. Diolch.

15:55

Fel bob amser, rwy'n datgan buddiant. Mae fy merch yn awtistig ac mae ganddi anabledd dysgu difrifol, a bydd unrhyw benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn effeithio ar ei dyfodol hi lawn cymaint ag ar ddyfodol unrhyw un arall.

Roeddwn eisiau diolch Sioned am sôn am fy marn a fy mhrofiadau. Un o'r pethau am fod yn aelod o'r pwyllgor yw fy mod yn eithaf hoff o fod yn rhyw fath o aelod nomadaidd o bwyllgorau, gan fynd i wahanol bwyllgorau lle mae gwahanol ymchwiliadau ar waith. Mae hwn yn ymchwiliad y byddwn wedi bod wrth fy modd yn cymryd rhan ynddo. Yn enwedig ar bennod 4 a phennod 5, roeddwn eisiau sôn—gan barhau o ble y gorffennodd Sioned Williams—am y dystiolaeth a gawsoch gan Ymgysylltu i Newid. Credaf fod cynnwys yr adroddiad yn eithriadol ac yn cwmpasu'r safbwyntiau, yn enwedig o'r prosiect enfawr hwnnw ym Mhrifysgol Caerdydd a sicrhaodd waith i 1,300 o bobl ifanc, 40 y cant ohonynt mewn cyflogaeth barhaus, tra bo'r ffigur ledled y DU yn 4 y cant. Dyna a wnaeth Ymgysylltu i Newid.

Yn anffodus, daeth cyllid Ymgysylltu i Newid i ben, felly maent wedi dod i ben erbyn hyn, ond byddai cael rhaglen o'r fath ar waith yn llawn amser ledled Cymru yn bwysig iawn. A hoffwn roi ychydig o hwb i rai o'r argymhellion sy'n dod o bennod 4 a phennod 5, ac ychwanegu rhai o fy argymhellion fy hun at hynny, efallai, rhywbeth y credaf y gallai fod mewn maniffesto plaid pe bai etholiad ar y gorwel rywbryd. Rwy'n credu'n wirioneddol y gallai hyn fod yn rhywbeth y gallai pob plaid ei ddeall a gallai fod yn fuddiol, a dof at hynny mewn eiliad.

Cyn hynny, rwy'n credu mai'r dudalen allweddol, os hoffech droi ati, yw tudalen 40, o dan cyflogaeth â chymorth. Teitl y bennod yw 'Cefnogi cyfleoedd cyflogaeth', ond wrth gwrs, nid dyna yw cyflogaeth â chymorth. Cyflogaeth â chymorth yw creu swyddi a hyfforddiant mewn swyddi a chadw pobl mewn swyddi sy'n addas i'w hanghenion unigryw. Fe wnaeth rhywbeth a ddywedodd Jenny Rathbone yn gynharach argraff fawr arnaf; mae a wnelo â'r sgiliau unigryw sydd gan y bobl hyn. Ni all fy merch ddarllen yn dda iawn, ni all gyfrif yn dda iawn, ond rhowch rywfaint o blastisin o'i blaen a bydd yn creu pethau anhygoel sy'n mynd ymhell y tu hwnt i unrhyw beth y gallwn i ei wneud.

Mae a wnelo â chydnabod y sgiliau sydd gan y bobl hyn a cherfio'r swyddi, siapio'r swyddi ar gyfer y sgiliau hynny, fel bod gan y bobl ifanc, pan fyddant yn mynd i mewn i waith, swyddi sydd wedi'u siapio ar eu cyfer. Dyna'n union a wnaeth Ymgysylltu i Newid i'r bobl ifanc a oedd angen y gefnogaeth honno. Ac rwy'n dweud 'pobl ifanc' o hyd. Yn y digwyddiad a gynhaliwyd gennym yn y Pierhead, nid pobl ifanc yn unig a oedd yno. Mae pobl o bob oed angen y gefnogaeth ac a fyddai'n elwa ohoni. Mae casgliad 6 yn nodi:

'Rydym yn cytuno y dylai darpariaeth cyflogaeth â chymorth yn y dyfodol adeiladu ar lwyddiant cynlluniau fel y prosiect Ymgysylltu i Newid ac y dylai hyfforddiant swyddi arbenigol fod yn flaenoriaeth ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol.'

Mae'n nodi hefyd fod Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Mencap Cymru a Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru wedi adleisio'r galwadau gan Anabledd Dysgu Cymru i sefydlu strategaeth hyfforddiant swyddi genedlaethol i Gymru. Dyma yr hoffwn roi hwb iddo. Hoffwn droi'r casgliad hwnnw'n argymhelliad, a'r hyn yr hoffwn ei weld yn benodol—os gallaf ei eirio'n iawn—yw strategaeth gyflogaeth anableddau dysgu i Gymru. Felly, dylai'r rhan hyfforddiant swyddi fod yn un rhan o'r strategaeth, nid y strategaeth ei hun. Y strategaeth yw strategaeth gyflogaeth anableddau dysgu i Gymru. Credaf mai dyma'r math o beth—Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi sôn amdano fel un model gweithredu, ond mewn gwirionedd, gallai hon fod yn strategaeth bwysig. Dyma'r math o beth a fydd yn ymgorffori mewn cyflogaeth, yn y gymdeithas, y pethau y mae Ymgysylltu i Newid yn eu gwneud. Mae hynny'n gyfle go iawn.

Felly, beth fyddai'n ei gynnwys? Gallaf hyd yn oed ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet—. Gallaf hyd yn oed roi'r pethau yr hoffwn i chi eu cynnwys yn y strategaeth hon, os gallwn wneud hynny cyn yr etholiad nesaf; efallai ddim. Hoffwn weld gwasanaeth hyfforddiant swyddi cenedlaethol ar gyfer pobl ag anableddau. Os gallwch ddechrau gyda gwasanaeth hyfforddiant swyddi cenedlaethol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Hoffwn weld: cynnig interniaeth â chymorth cenedlaethol a fyddai'n darparu 12 mis o hyfforddiant yn y swydd gyda chyflogwr mawr, rhwydweithiau lleol a'r posibilrwydd o swydd â thâl ar y diwedd, fel nad yw'n brofiad gwaith yn unig, ond yn swydd go iawn; grant datblygu cyflogwyr hyblyg a allai gefnogi gweithwyr drwy sybsideiddio cyflogau neu gostau cyflogwyr eraill dros gyfnod o chwech i 12 mis; a hyfforddwr swydd sy'n cael eu haseinio i'r unigolyn ac sydd â'r gallu i hyfforddi'r unigolyn drwy'r gwaith fel y gallant gael swydd wedi'i cherfio, swydd wedi'i siapio—swydd sydd wedi'i cherfio ar eu cyfer, ond mae ganddynt gefnogaeth bersonol wedyn i'w harwain drwy'r gwaith hwnnw ac i ddod i arfer ag ef dros amser. Rwy'n credu mai dyna sut rydych chi'n cadw pobl yn y gwaith. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ei wneud yn fy marn i. Efallai y bydd y Blaid Lafur yn ei gymryd ar gyfer eu maniffesto, ond mae croeso i unrhyw un arall ei ddwyn. Mae Altaf yn nodio.

Rwy'n gobeithio mai dyma ddechrau'r sgwrs honno, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth yn gwrando ac yn dechrau ar y daith honno tuag at y pethau y gofynnais amdanynt. Cyn imi gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Jack Sargeant, am ddod i ymweld ag Ymgysylltu i Newid, a hefyd i Sarah Murphy, a wnaeth hynny hefyd. Maent wedi gweld beth drostynt eu hunain beth yn union sy'n digwydd yno.

16:00

Heddiw, mae llawer gormod o bobl anabl yn teimlo'n siomedig. Maent yn cael eu hamddifadu, ond yn bwysicach fyth, rydym ni'n cael ein hamddifadu. Yn ein cymdeithas, cawn ein hamddifadu o bobl hynod hyfforddedig a medrus iawn. Yn hytrach na chael eu grymuso, mae pobl yn cael eu gwthio o'r neilltu, yn cael eu gadael i lywio drwy storm o angen cynyddol a chefnogaeth sy'n crebachu. Fel y dywedodd Sioned, fe wnaethom yr adroddiad hwn a'r ymchwiliad mewn cyd-destun lle roeddem yn clywed y gallai hyd at 90 y cant o bobl yma yng Nghymru sy'n cael y gyfradd safonol o daliad annibyniaeth personol ar gyfer bywyd bob dydd ar hyn o bryd golli hwnnw o dan gynigion newydd San Steffan. Dyna 190,000 o bobl yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y diwygiadau hyn yn ymwneud â chael Prydain i weithio, ond darlun arall a welir gan ein pwyllgor. Mae'r bwlch cyflogaeth, fel y clywsom, rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru yn 31 y cant, ac mae hynny'n gywilyddus. Ac mewn rhai cymunedau, fel Castell-nedd Port Talbot, mae mor uchel â 42 y cant. 

Mae'r cynllun hawliau pobl anabl hirddisgwyliedig wedi bod ar y gweill ers pedair blynedd, ac mae'n teimlo'n fwy fel disgrifiad o'r broblem nag ateb iddi. Ni wnaeth Damian Joseph Bridgeman, a gadeiriodd ran o'r gwaith, wastraffu geiriau. Galwodd y cynllun yn

'gasgliad o fwriadau amwys wedi'u gwisgo i fyny fel cynnydd... Dim targedau. Dim dannedd. Dim atebolrwydd yn y byd go iawn.'

Ac o'n hymchwiliadau, mae'n anodd iawn anghytuno. 

Yn gywilyddus, rydym hefyd yn gweld materion tebyg yn codi yn ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad ac i'r argymhellion, ond rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw at dri maes allweddol, oherwydd mae llawer ohonynt eisoes wedi'u trafod. Yn gyntaf, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at fethiant dwfn yn y ffordd y mae cyflogwyr ledled Cymru yn cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol. Mae'n ddiffyg ymwybyddiaeth, mae'n ddiffyg addysg. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y cyflogwyr hynny'n fwy ymwybodol. Dyna'r allwedd. Mae'n rhaid i'r baich fod ar gyflogwyr, nid ar y gweithwyr. Mae nifer yn dal i gredu'n anghywir fod staff anabl yn llai cynhyrchiol, er gwaethaf y dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Dim ond £75 yw cost gyfartalog addasiad, ond dim ond 38 y cant o gyflogwyr sy'n gwybod ble i gael arweiniad. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod ein cyflogwyr ledled Cymru yn cael arweiniad clir i sicrhau eu bod yn gwybod (a) beth yw eu cyfrifoldebau, ac yn ail, beth y maent yn ei golli?

Ac rydym wedi gweld hefyd, yn y sector cyhoeddus, eu bod yn methu arwain trwy esiampl. Er gwaethaf eu cyfrifoldebau, dim ond dau awdurdod lleol a phedwar bwrdd ac ymddiriedolaeth GIG sydd wedi cyflawni'r statws arweinydd Hyderus o ran Anabledd—cyfle a gollwyd ac arwydd pryderus o hunanfodlonrwydd. 

16:05

Dim ond i ddweud, yr hyn y gall cyflogwr ei wneud yw cael gwared ar y disgrifiad swydd, cael gwared ar fanyleb y person, edrych ar y gwaith sydd ganddynt a siapio'r gwaith yn ôl galluoedd yr unigolyn o'u blaenau. A fyddech chi'n cytuno bod honno'n ffordd dda o fynd ati?

Yn sicr, unrhyw beth sy'n cynnwys ac yn arwain at drawstoriad llawer ehangach o bobl yn ymuno â hwy—yn enwedig, fel y clywsom, pobl fedrus iawn, profiadol iawn, pobl barod iawn sydd eisiau ymuno â'r gweithlu, ond sydd er hynny'n cael eu heithrio.

Mae'r broblem yn mynd yn ôl eto at y cynllun hawliau pobl anabl, sy'n cynnwys camau perthnasol, ond nid oes unrhyw ofyniad penodol i gyrff cyhoeddus fodloni safonau Hyderus o ran Anabledd neu gau'r bwlch cyflogaeth. Ac efallai ei bod yn fwy o destun pryder fod Llywodraeth Cymru yn parhau i osgoi ei rhwymedigaeth sylfaenol i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru. Er ei bod yn rhan o'r rhaglen lywodraethu gan y Blaid Lafur a'r unig argymhelliad i Gymru gan bwyllgor perthnasol y Cenhedloedd Unedig saith mlynedd yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod heb fabwysiadu confensiwn y Cenhedloedd Unedig. Felly, rwy'n erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i gymryd hawliau pobl anabl o ddifrif a chyflawni eu hymrwymiad i ymgorffori'r confensiwn yn y gyfraith.

Yn olaf, mae hyn i gyd yn ymwneud ag arweinyddiaeth, mae'n ymwneud â modelu. Yma yn y Senedd, gofynnais am rywfaint o ymchwil ar faint o bobl anabl a gyflogwn yma. Mae gennym 11.2 y cant o'r gweithlu yng Nghymru wedi'u cofrestru'n anabl, ac yma yn y Senedd, dim ond 7.49 y cant a gyflogir gennym. Rydym ymhell ar ei hôl hi. Dylem fod yn arwain a dylem fod ymhell uwchlaw'r 11.2 y cant os ydym o ddifrif ynglŷn â hyn. Os credwn fod unrhyw beth yn gyraeddadwy, gadewch inni brofi hynny trwy weithredoedd, nid geiriau'n unig. Diolch yn fawr iawn.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r saith argymhelliad yn yr adroddiad hwn yn derbyn pump o'r rhain mewn egwyddor yn unig. Nid yw'n ymateb derbyniol o ystyried bod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi rhoi ymrwymiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Ionawr 2018 i roi diwedd ar yr arfer hwn yng ngoleuni pryderon yr Aelodau nad oedd derbyn mewn egwyddor yn ymateb digonol. Ymhellach, unwaith eto, nid yw'n glir sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'r argymhellion, hyd yn oed mewn egwyddor. Er bod ymatebion Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at weithgareddau eraill sy'n cael eu cyflawni, mae gweithredu'n galw am fonitro, gwerthuso ac amserlen glir.

Mae tri o bum ymateb derbyn mewn egwyddor Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y cynllun hawliau pobl anabl drafft a oedd heb ei gyhoeddi ar y pryd, ond sydd wedi'i gyhoeddi ers hynny, a'i gamau cysylltiedig, gan nodi, er enghraifft:

'Mae'r cynllun hwn yn cynnwys ystyried y gwahaniaethau cyflogaeth a chyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, a'r mesurau sydd eu hangen i leihau'r amrywiadau hyn.

Ac y byddai prosiectau allweddol ar gyfer yr uned tystiolaeth gwahaniaethau ar sail anabledd yn 2025-26 yn cynnwys

'rhaglen waith newydd i werthuso gweithrediad ac effaith y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.'

Fel y dywedais yma yr wythnos diwethaf, fodd bynnag, rwyf wedi ymgynghori â'r sector ar y cynllun hwn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd. Fe wnaethant fynegi siom ynghylch y diffyg mesurau gweithredadwy yn y tymor byr, a nodwyd bod llawer o'r amcanion mwy hirdymor heb ymrwymiadau cadarn ynghlwm wrthynt. Cyfeiriais hefyd at feirniadaeth o fewn y sector nad oes gan y cynllun dargedau pendant, gan ei gwneud hi'n amhosibl dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar gynnydd. Dywedodd Dr Natasha Hirst, a gadeiriodd weithgor mynediad at wasanaethau tasglu hawliau pobl anabl Llywodraeth Cymru, mai un pryder allweddol oedd diffyg mecanwaith ar gyfer craffu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, yn ogystal â diffyg targedau clir a chadarn a dim cyllid newydd ar gyfer gweithredu'r camau gweithredu. Yn yr un modd, dywedodd Joe Powell, prif weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru, a gadeiriodd weithgor mynediad at gyfiawnder y tasglu hawliau pobl anabl:

'er mwyn i'r cynllun hwn lwyddo, rydym ni angen y buddsoddiad priodol yn y seilwaith a'r gwasanaethau i wireddu'r dyhead hwn. Rydym ni angen targedau eglur o ran sut rydym ni'n mynd i gyflawni hyn. Heb y rhain, mae'n anodd iawn gweld sut y bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl yng Nghymru.'

Cyfeiriodd Jane Dodds at Damian Bridgeman, a gadeiriodd weithgor tai a chymuned y tasglu hawliau pobl anabl. Dywedodd fod y ddogfen ddrafft yn 'llen fwg' yn hytrach na chynllun. Tynnodd sylw at absenoldeb arian newydd a diffyg mecanwaith i olrhain cyflawniad y cynllun gweithredu ymhellach, gan ychwanegu,

'Mae pobl anabl wedi cael eu hadolygu i'r eithaf. Gweithredu sydd ei angen arnom ni—a does dim o hynny yma.'

Beirniadodd ymhellach y diffyg gweithredu ar rai o'r argymhellion mwyaf ymarferol ac angenrheidiol a ddeilliodd o gam cydgynhyrchu'r broses, y dywedodd nad oeddent

'hyd yn oed wedi cael eu cynnwys yn y cynllun terfynol'

am nad oedd Llywodraeth Cymru,

'yn gwybod sut i'w cyflawni.'

Mae'r sector hefyd yn pryderu bod llwybrau presennol Llywodraeth y DU yng nghynigion y Papur Gwyrdd mewn perygl o anablu pobl yng Nghymru ymhellach trwy waethygu tlodi ac allgáu, gan roi pwysau pellach ar wasanaethau datganoledig, megis iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar ddigonolrwydd cyllid drwy fformiwla Barnett.

Ym mis Ionawr, cyflwynais y gwobrau yn nigwyddiad dathlu'r rhaglen waith ac iechyd yn Wrecsam. Mae'r rhaglen gymorth cyflogaeth hon, a lansiwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU ac a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Remploy, yna Maximus, gyda chefnogaeth elusennau lleol, sefydliadau cymunedol a chyrff cyhoeddus, wedi bod yn allweddol i helpu pobl anabl, unigolion â chyflyrau iechyd a grwpiau eraill i ddod o hyd i waith ac i aros mewn gwaith. Er y bydd y gefnogaeth yn parhau tan fis Gorffennaf 2026 i bawb a oedd eisoes wedi'u hatgyfeirio at y rhaglen, caewyd y rhaglen i atgyfeiriadau newydd ar 30 Medi 2024.

Er bod y yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi canllawiau ar grantiau i Gymru ar gyfer rhaglen olynol Cysylltu â Gwaith Llywodraeth y DU, nid yw wedi'i lansio eto, gan greu perygl o amddifadu pobl anabl yng Nghymru o atgyfeiriad at raglen gyfatebol am flwyddyn neu fwy. Mae darparwyr trydydd sector yng Nghymru hefyd yn mynegi pryder ar sail tystiolaeth fod y rhaglen newydd mewn perygl o wanhau ac felly, o leihau cefnogaeth i'r bobl anabl ac awtistig niferus sydd eisiau gweithio, ond sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf cymhleth i gyflogaeth, boed yn cael eu gyrru gan broses, ymagweddau, agweddau corfforol, technolegol neu'n syml gan ddiffyg dealltwriaeth a rhagfarn. Fel y mae pobl anabl wedi dweud wrth y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd, ar awtistiaeth ac ar faterion pobl fyddar, canlyniad i'r rhwystrau hyn, nid dewis, yw eu diffyg cyflogaeth. Diolch.

16:10

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a hoffwn groesawu'r cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain. Rwy'n gobeithio y byddwn yn cyrraedd sefyllfa cyn bo hir lle nad oes rhaid inni wneud sylwadau arno, y bydd rhywun yma bob tro, a bydd hynny'n rhoi mwy o fynediad i bobl anabl mewn ffordd weladwy iawn.

Yn amlwg, mae'r bwlch cyflogaeth anabledd yng Nghymru yn rhywbeth sy'n ofidus iawn. Mae wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf—4.5 y cant dros naw mlynedd, rwy'n credu—ond mae'n ystyfnig o fawr, a dyma'r mwyaf yn y DU.

Hoffwn ddefnyddio fy amser heddiw i ganolbwyntio ar bobl ifanc anabl. Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc anabl yn cael cyfle i weithio, rhaid iddynt gael pob cyfle'n agored iddynt ar oedran ifanc, a dyna pam y mae'r adroddiad hwn yn mynd law yn llaw ag adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar fynediad plant anabl at addysg. Os nad oes gan bobl ifanc anabl fynediad at leoliadau addysg addas, ni fydd ganddynt fodd o drosglwyddo i fyd gwaith. Rhaid i'n system addysg sicrhau bod pawb, pwy bynnag ydynt, yn cyflawni eu potensial.

Clywsom am rai sefyllfaoedd trallodus. Yn ei dystiolaeth, soniodd Arthur Beechey, prif swyddog gweithredol Agoriad, am enghraifft o unigolyn anabl yn cael ei anwybyddu a'i amddifadu o leoliad gwaith. Dywedodd:

'Rwyf bob amser yn cofio stori arswyd, lle'r oedd gan bob un o'r plant mewn ysgol, a fydd yn aros yn ddienw, leoliadau i fynd iddynt, ac eithrio merch ifanc anabl, oherwydd roedd yn ormod o drafferth i gael un iddi, a hi yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ysgol yn ei blwyddyn, ac mae pawb arall allan. Mae rhywbeth o'i le yno'.

Yna cawsom dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd addysg a chan gyrff gyrfaoedd eraill i'n sicrhau bod pob ymdrech wedi'i wneud i ddarparu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc anabl. Ond mae'r ffaith bod yr un stori honno—rydym yn gobeithio ei bod yn unigryw—wedi ein cyrraedd yn ofidus iawn. A thrwy ddarlledu'r pethau hyn yn y Siambr hon heddiw, rwy'n gobeithio y gallwn gynnig y momentwm y mae Hefin David gymaint o'i eisiau.

Dywedodd un o'r tystion y clywsom dystiolaeth ganddynt, Dan Biddle, a oedd yn eiriolwr dros hawliau pobl anabl, fod ystadegau'n dangos os nad ydych mewn gwaith erbyn eich bod yn 26 oed, y tebygolrwydd yw nad ydych chi'n mynd i gael gwaith o gwbl. Felly, dyna pam ei bod mor bwysig dechrau'n gynnar, i wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc anabl yn cael hawliau hollol gyfartal o'r dechrau un. Felly, rhaid iddynt gael mynediad llawn ac agored i gyfleoedd addysg, prentisiaethau a chynlluniau gwahanol o oedran cynnar iawn.

Ond awn ymlaen wedyn at gyflogwyr, ac mae cryn dipyn wedi'i ddweud am gyflogwyr eisoes heddiw. Ni fydd pobl ifanc yn cael cyflogaeth oni bai bod cyflogwyr yn cael gwared ar ragdybiaethau ffug ac agweddau negyddol tuag at bobl anabl yn y gweithle. Ac yn anffodus, yn y dystiolaeth a glywsom, fe wnaethom glywed bod y rhagdybiaethau ffug a'r agweddau negyddol hyn yn bodoli, a chafodd ei ddweud wrthym gan bobl sy'n gweithio yn y maes. Felly, rwy'n credu y dylai cyflogwyr fod yn rhagweithiol yn eu dull o sicrhau bod gweithleoedd yn hygyrch i bawb, ac y dylid gwneud addasiadau i ateb gofynion pob unigolyn. Rydym yn gwybod nad yw hyn yn digwydd yn rheolaidd, ac yn ôl Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, dywedodd dros chwarter y bobl anabl fod cyflogwyr wedi methu gwneud addasiadau rhesymol ar eu cyfer.

Felly, rwy'n credu bod yna lawer o bwyntiau pwysig iawn yn yr adroddiad ac rwy'n gwybod y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar y pwyntiau hyn, ac mae'n rhaid inni weld gweithredu ar frys fel nad oes gennym ran o'n cymdeithas nad yw'n gallu cael y cyfleoedd cyflogaeth y maent yn eu haeddu a'u heisiau, ac fel y dywedwyd yma heddiw eisoes, rhan o'n cymdeithas y cawn ein hamddifadu o'u sgiliau. Er mwyn cael cymdeithas gyfan, weithredol, cymdeithas iach, mae angen i bawb gael cyfle i wneud yr hyn a allant i gyfrannu tuag at gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Felly, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn un o'r adroddiadau pwysicaf a wnaethom.

16:15

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 16:18:13
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i Jenny Rathbone, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a holl aelodau eraill y pwyllgor am eu hymchwiliad rhagorol a'u hadroddiad craff? Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd â phrofiad bywyd a gyfrannodd at yr ymchwiliad, a chroesawu arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain y prynhawn yma.

Rwy'n ymateb i'r ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru gyfan, o ystyried natur drawsbynciol yr ymchwiliad a'i argymhellion, sy'n cwmpasu cyfrifoldebau Gweinidogion, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ac addysg hefyd yn wir. Fel y dywedais yn fy natganiad ar y cynllun hawliau pobl anabl yr wythnos diwethaf, mae sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas yn allweddol i werthoedd y Llywodraeth hon. Dyna pam y gwnaethom sefydlu'r tasglu hawliau pobl anabl a pham fy mod wedi derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Ond mae'r ddadl hon yn bwysig—mae'n hanfodol er mwyn i ni drafod mwy wedyn, rhoi cnawd ar yr argymhellion, ac i mi ymateb fel y Gweinidog arweiniol.

Archwiliodd gweithgor penodedig y tasglu ar gyflogaeth ac incwm, a gadeiriwyd gan yr Athro Debbie Foster, y materion allweddol sy'n ymwneud â dileu rhwystrau sy'n atal cyfranogiad, cadw a chynnydd pobl anabl yn y gweithle. Dyna sydd ei angen arnom—mae angen cynnwys a hybu pobl anabl yn y gweithle. Mae gwella canlyniadau cyflogaeth pobl anabl yn un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru, wedi'i ategu gan ein carreg filltir genedlaethol i ddileu'r bylchau cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050.

Mae ein cynllun hawliau pobl anabl drafft 10 mlynedd, sydd wedi'i grybwyll heddiw, yn glir yn ei uchelgais trosfwaol ar gyfer cyflogaeth, incwm ac addysg. Rydym eisiau dull cynhwysol o weithredu ar gyflogaeth sy'n cefnogi pobl anabl i gael mynediad cyfartal at waith boddhaus a theg, a hefyd lle gall plant a phobl ifanc anabl—ac rwy'n falch fod hyn wedi codi eto y prynhawn yma yn y ddadl—gael mynediad at eu hawl i addysg, a theimlo'n ddiogel ac wedi'u cynnwys yn eu lleoliadau addysgol.

Dyna pam y ceir aliniad clir rhwng ein cynllun ac adroddiad y pwyllgor, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Wrth wraidd ein dull o weithredu—ac rwy'n credu bod hyn yn cael ei groesawu'n fawr gan adroddiad y pwyllgor—mae'r model cymdeithasol o anabledd. Fe wyddom fod pobl yn cael eu hanablu gan rwystrau ac agweddau mewn cymdeithas, nid gan eu hamhariadau neu wahaniaethau. Yn bwysig, mae ein dull o weithredu hefyd yn cefnogi'r egwyddorion a nodir yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Rwy'n cefnogi argymhellion y pwyllgor yn llwyr mewn perthynas â'n hymrwymiad i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru. Fe wnaethom sefydlu ein gweithgor opsiynau deddfwriaethol i'n cefnogi yn hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda hwy a chael ein harwain ganddynt. Byddwn yn hapus iawn i wahodd llefarwyr i'n grŵp cynghori ar hawliau dynol, fel y gallant hwythau hefyd rannu cynnydd ar yr amcan pwysig hwnnw.

16:20

A fyddech chi cystal â derbyn ymyriad byr iawn os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet? Diolch am ymateb i'r cwestiwn ynglŷn ag ymgorffori datganiad y Cenhedloedd Unedig. A gaf i ofyn i chi am amserlenni yno, mewn perthynas â phryd y bydd y pwyllgor neu'r grŵp hwnnw'n adrodd yn ôl, a sut y bydd yn gwneud hynny, o ystyried bod hyn wedi bod ar y gweill ers peth amser, a bod angen peth cyflymder a brys? Diolch.

Wel, fe wnaf eich gwahodd i gyfarfod â'r pwyllgor. Fe fyddwch yn glir iawn—. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r materion cymhwysedd o ran y gwladwriaethau sy'n barti; yn wir, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban ar y mater hwn, sydd hefyd yn awyddus i ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Ond rwy'n hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny.

Rwyf am symud ymlaen i gydnabod pwysigrwydd Busnes Cymru—mynegwyd hyn heddiw—i gefnogi cyflogwyr i ddarparu arferion recriwtio a gweithio teg a chynhwysol. Rwy'n rhannu eich barn fod angen inni fanteisio ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o Busnes Cymru—mae'r adnodd ar gael; adolygiad llawn o Busnes Cymru a gynhaliwyd yn 2023. Ac rydym wedi ymrwymo i archwilio sut y gallwn wella'r gwasanaeth a ddarperir i gyflogwyr a chodi ymwybyddiaeth o gynghorwyr a hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl. Wrth gwrs, cafodd hyn ei godi gan Altaf Hussain hefyd. Mae ein hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl yn chwarae rhan hanfodol, ac rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw eu gwaith. Hefyd, rwy'n awyddus iawn i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar eu gwaith a'u heffaith.

Diolch hefyd i'r pwyllgor am eu hargymhellion a'u casgliadau ar y cynlluniau Hyderus o ran Anabledd a Mynediad at Waith, oherwydd mae'r rhain yn rhan o'r gwaith ehangach sy'n gysylltiedig, yn wir, â Phapur Gwyrdd 'Llwybrau ar Waith' Llywodraeth y DU a'r Adolygiad Cadw Prydain i Weithio. Felly, rwyf wedi codi hyn gyda Gweinidog Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd Llywodraeth y DU, ynglŷn â Hyderus o ran Anabledd a Mynediad at Waith—mae'n amlwg fod lle i wella yn y ddau. Ac fe achubais ar y cyfle hefyd i hysbysu'r Gweinidog am adroddiad ardderchog y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Ond Ddirprwy Lywydd, mae angen i'r system nawdd cymdeithasol gynorthwyo pobl anabl yn effeithiol i mewn i gyflogaeth. Mae diwygiadau yn y Papur Gwyrdd a allai ddechrau mynd i'r afael â phryderon sydd gan bobl anabl yng Nghymru am y system bresennol a'r rhwystrau ar eu llwybr i gyflogaeth. Rwyf wedi clywed am y rhwystrau hynny. Ond gwyddom fod llawer o bobl anabl yn bryderus iawn am y newid i feini prawf cymhwysedd y taliadau annibyniaeth personol a'r hyn y byddent yn ei olygu iddynt hwy, yn enwedig o ystyried mai gan Gymru y mae'r gyfran uchaf o'r boblogaeth yn derbyn budd-daliadau yr effeithir arnynt gan y newidiadau arfaethedig. Byddaf yn gwneud y pryderon hyn yn glir iawn yn fy ymateb ac yn ei gyhoeddi, fel y dywedais, mewn ymateb i ymgynghoriad y Papur Gwyrdd.

Rwyf am sôn, gan edrych ar yr amser, ein bod heddiw wedi cyhoeddi adroddiad a gydgynhyrchwyd gan aelodau o'r tasglu hawliau pobl anabl a'n huned tystiolaeth gwahaniaethau ar sail anabledd. Ni allaf danlinellu digon pa mor bwysig yw'r uned newydd honno, gwerth yr uned dystiolaeth honno.

Ond mae'r adroddiad hwn yn archwilio'r potensial i wella'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, sydd wedi codi y prynhawn yma, ac yn eich adroddiad yn wir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod yr adroddiad hwn, a gyhoeddwyd heddiw, wedi cael ei groesawu gan gydgynhyrchwyr y tasglu, ac mae hynny'n cynnwys yr aelodau a grybwyllwyd heddiw: yr Athro Debbie Foster, Damian Joseph Bridgeman, Dr Natasha Hirst, Willow Holloway a Joe Powell, y cyfrannodd pob un ohonynt yn hael o'u hamser, eu harbenigedd a'u profiad bywyd i'r ymchwil. Gobeithio y byddwch yn darllen yr adroddiad ac yn gweld sut y gwnawn ddefnyddio hyn mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am y cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Mae'n bwysig, yn yr amser sydd ar ôl imi ymateb, ein bod yn cefnogi barn y pwyllgor yn llawn fod yn rhaid i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru arwain drwy esiampl i helpu i leihau'r bwlch cyflogaeth anabledd. Ac fel y dywedodd Jane Dodds, mae hyn yn ymwneud ag arweinyddiaeth. Rhaid i'n cyflogwyr gymryd yr awenau, gyda'r sector cyhoeddus ar flaen y gad. Diolch hefyd i Hefin David a Sioned Williams am ein hatgoffa, unwaith eto, o wersi cadarnhaol y rhaglen Ymgysylltu i Newid, ac am gydnabod bod y Llywodraeth, o'r Prif Weinidog i'r Gweinidogion a ymgysylltodd ac a ymwelodd ag Ymgysylltu i Newid mewn gwirionedd, eisoes wedi dechrau prif ffrydio darpariaeth cyflogaeth â chymorth, hyfforddiant swyddi, yn ein rhaglen bresennol Twf Swyddi Cymru, ac wedi darparu mwy o hyblygrwydd yn ein rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, gan sicrhau y gall hyn helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth. 

Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl, gan edrych ar sefydliadau fel ELITE, DFN Project SEARCH a sefydliadau addysg bellach sy'n cynnig interniaethau â chymorth i bobl anabl. Unwaith eto, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y cymorth hyfforddiant swyddi arbenigol i bobl ag anableddau dysgu, fel y nododd Hefin David.

16:25

Fe wnaf orffen nawr trwy ddiolch i Julie Morgan hefyd am sicrhau ein bod wedi edrych ar hyn o safbwynt plant a phobl ifanc. Mae cynhwysiant yn ganolog i ddiwygio addysg yng Nghymru, ac rwy'n falch eich bod yn cydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gallu eich sicrhau o hyn, pan roddodd hithau dystiolaeth i'r pwyllgor hefyd. 

Mae cael gwared ar rwystrau—

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cadw'r Aelodau at yr amser; rwy'n mynd i gadw Gweinidogion at yr amser hefyd, os gwelwch yn dda. Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi.

Diolch yn fawr. Unwaith eto, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymateb i'r ymgynghoriad ar y cynllun 10 mlynedd, y cynllun hawliau pobl anabl. Diolch yn fawr.

Diolch am eich holl gyfraniadau. Rwy'n credu ein bod wedi cwmpasu llawer o dir newydd, sy'n dda iawn. Tynnodd Altaf Hussain a Jane Dodds sylw at yr ymateb annigonol gan gyflogwyr, sy'n anodd iawn i'w ddeall. Nid yw darganfod y wybodaeth mor anodd â hynny. Yn amlwg, mae gan Busnes Cymru rôl yma, a byddwn yn dweud bod gan yr undebau llafur rôl gyda chwmnïau mwy o faint. Mae angen iddynt hwythau hefyd fod yn hyrwyddwyr pobl anabl.

Roeddwn yn falch hefyd o glywed Altaf Hussain yn siarad am bobl â phroblemau iechyd anweledig, fel endometriosis, ac fe gawsom dystiolaeth yn hynny o beth—pobl sy'n teimlo'n amharod i ddweud wrth eu cyflogwr am yr heriau penodol y maent yn eu hwynebu rhag iddynt wahaniaethu yn eu herbyn a rhag ofn mai hwy fydd y cyntaf i fynd os yw pobl yn mynd i gael eu diswyddo.

Cawsom ymyriad ardderchog ar y pwynt hwn gan Hefin David. Mae'n wir fod rhai cyflogwyr yn addasu eu polisïau recriwtio i alinio â sgiliau bywyd, yn hytrach na'r darnau o bapur y gofynnir amdanynt. Rwy'n credu bod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn un sydd wedi gwneud hynny. Mae angen inni gydnabod bod arferion da yn digwydd. Ond rwy'n credu mai un o'r pwyntiau mwyaf damniol a wnaed yw'r pwynt a wnaed gan Dan Biddle: os nad ydych chi mewn gwaith erbyn eich bod yn 26 oed, mae'n annhebygol iawn y byddwch chi byth yn cael eich cyflogi. Ailadroddwyd hynny gan Julie Morgan ac Altaf Hussain.

Roedd yn dda clywed Sioned yn codi mater confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, ac rwy'n credu y dylem ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wahodd cynrychiolwyr i fynd i gyfarfod â'r gweithgor sy'n edrych ar gymhlethdodau'r materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hynny, fel y gallwn ddeall yn union sut y gallwn symud ymlaen. Ond rwy'n credu bod un o'r problemau'n bendant yn ymwneud â sut y gallwn sicrhau bod pobl ifanc, pan fyddant yn dal yn yr ysgol, pan fyddant yn dal yn y coleg, yn mynd i allu cael y gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen arnynt nad yw wedi'i gyfyngu gan eu hoedran cronolegol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod argymhelliad 6, sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn, wedi'i dderbyn. Bydd hynny, rwy'n gobeithio, yn sicrhau ein bod yn gweld gwasanaeth llawer mwy di-dor i bobl ag anableddau i sicrhau eu bod yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt. Rwy'n clywed beth a ddywedwch, Hefin David, fod y casgliad ar adeiladu ar lwyddiant Ymgysylltu i Newid yn rhywbeth y dylem fod wedi'i wneud yn argymhelliad o bosibl. Yn amlwg, mae eich arbenigedd a'r problemau a'r heriau penodol sy'n wynebu eich merch awtistig, sydd, serch hynny, yn amlwg yn unigolyn artistig iawn—. Mae'n enghraifft glasurol o sut y gall pawb wneud rhywbeth. Mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar yr hyn y gallant ei wneud a sut i addasu'r cynnig o swydd i weddu i anghenion yr unigolyn.

Mae'n wych clywed bod Jack Sargeant a Sarah Murphy wedi ymweld ag Ymgysylltu i Newid. Mae Julie Morgan a minnau yn mynd i ymweld â'r prosiect sydd ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Diolch hefyd am y sylwadau gan Mark Isherwood, un arall sy'n hyrwyddo hawliau pobl anabl. Mae yna bryderon, nid yn unig gan Mark Isherwood, ond gan Sioned Williams a Jane Dodds hefyd, ynglŷn â'r targedau cadarn sydd eu hangen i wthio ymlaen i chwalu'r rhwystrau. Fel y dywedodd Julie Morgan, mae'r bwlch cyflogaeth anabledd wedi lleihau, ond mae'n dal i fod yn ystyfnig o fawr. Mae'n dda iawn clywed bod Jane Hutt yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae hwn yn waith anodd iawn, oherwydd mae cael y Llywodraeth gyfan i wneud rhywbeth yn waith caled, ond rwy'n siŵr bod Jane yn dal ati.

Rydym yn brin o amser. Mae'n rhaid inni fwrw ymlaen ag ef nawr. Nid ymwneud â slipiau cyflog a chynhyrchiant y mae hyn. Mae'n ymwneud ag annibyniaeth, urddas, cyfle cyfartal, a'r hyn sydd mor bwysig i les yr unigolyn a lles y gymdeithas gyfan. Gadewch inni edrych arnom ein hunain. Sut y byddai arnom ni pe bai gennym anabledd penodol, fel y disgrifiodd ein tystion? Rhaid i ni newid. Rhaid i gymdeithas newid, nid y bobl anabl sy'n cael eu taro nôl o hyd ac o hyd. Mae angen gweithredu heddiw, ac mae angen chwalu'r rhwystrau.

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Yr Economi werdd'

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Yr Economi Werdd', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM8919 Andrew R.T. Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr economi werdd, a osodwyd ar 14 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i ar y papur trefn.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Paul Davies, fy rhagflaenydd fel Cadeirydd, a arweiniodd y pwyllgor yn ei waith ar yr ymchwiliad hwn. Er mai dim ond ar ôl i'w waith craffu ar y pwnc hwn ddod i ben y cefais y fraint o ymuno â'r pwyllgor, gwnaethpwyd yr heriau a'r cyfleoedd a gyflwynwyd gan yr economi werdd yn glir trwy'r trafodaethau dilynol wrth inni gwblhau'r adroddiad i'w gyhoeddi. Er nad wyf yn ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y pwyllgor, rwy'n falch o allu rhoi trosolwg heddiw o rai o'r argymhellion allweddol, gyda'r nod o ddangos sut y gall Cymru fanteisio ar y cyfleoedd i reoli pontio teg i'r economi werdd a medi manteision economaidd posibl.

Hefyd, hoffwn ddiolch i glercod, ymchwilwyr a thystion y pwyllgor, a gymerodd ran yn y gwaith o gwblhau'r adroddiad hwn. Cyn imi durio i'r manylion, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb cadarnhaol ar y cyfan i'r adroddiad hwn. Gallaf weld eich bod chi'n gwenu arnaf, felly mae'n rhaid fy mod wedi dweud rhywbeth yn iawn.

Bydd datgarboneiddio'r economi nid yn unig yn helpu Cymru i gyflawni ein rhwymedigaeth o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bydd hefyd yn darparu cyfleoedd economaidd a chyfle i greu swyddi medrus ar gyflogau da yn y meysydd lle mae eu hangen fwyaf. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn glir na fydd hyn yn digwydd ar hap. Bydd symud i economi werdd yn galw am arweinyddiaeth glir gan Lywodraeth Cymru a chydweithrediad â phartneriaid ar bob lefel o lywodraeth, ar draws diwydiannau a chyda chymunedau.

Mae'r pwyllgor yn cydnabod y rôl allweddol a chwaraeir gan Lywodraeth y DU yn y maes hwn, ac felly daeth i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru a'r DU weithio'n gyflym i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol sy'n darparu gweledigaeth glir ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru. Mae'r pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i ddatblygu'r strategaeth ddiwydiannol sydd ar y ffordd, ac edrychwn ymlaen at weld pa ganlyniadau diriaethol i economi Cymru sy'n deillio o hyn. 

Galwodd y pwyllgor hefyd ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y mae'n bwriadu denu datblygwyr masnachol i ddod yn bartneriaid gweithredol yn y newid i economi werdd. Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi tynnu sylw at yr uwchgynhadledd fuddsoddi fel rhywbeth sydd, yn ei geiriau hi, yn ymgysylltiad gweithredol pwysig gyda chyfleoedd enfawr ar gyfer cydweithio. Mae hyn yn galonogol a hoffem ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar ganlyniadau'r uwchgynhadledd. 

Gan symud ymlaen at gymunedau a pha rôl y gallant ei chwarae, nododd y pwyllgor fod llawer o gyfle posibl i'r rhai sy'n cynnal seilwaith adnewyddadwy trwy gynlluniau budd cymunedol. Fodd bynnag, mynegodd y pwyllgor bryderon ynglŷn â darnio tirwedd budd cymunedol, a dadleuodd fod angen dull mwy strategol.

Y trydydd argymhelliad oedd i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid gyhoeddi canllawiau cyson i ddatblygwyr i gefnogi dull strategol o gyflawni buddion cymunedol ar draws prosiectau ynni adnewyddadwy. Roedd y pwyllgor yn falch fod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo gydag Ynni Cymunedol Cymru a'i bartneriaid i ystyried y canllawiau presennol. Mae'r pwyllgor hefyd yn nodi bod Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar gynigion i'w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy ledled Prydain dalu i mewn i gronfeydd budd cymunedol.

Clywsom fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei tharged ar gyfer capasiti ynni adnewyddadwy sy'n eiddo lleol, ac mae'r pwyllgor yn croesawu hynny. Fodd bynnag, clywsom bryderon hefyd am fylchau posibl yn y diffiniad o 'berchnogaeth leol' sy'n ei wneud yn agored i ecsbloetio, a chredwn fod angen mynd i'r afael â'r rhain. Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud eu bod yn cael eu hystyried gan Ynni Cymunedol Cymru a'i bartneriaid, a byddem yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y datblygiadau hyn.

Ni fydd yn syndod fod y sector ynni adnewyddadwy yn wynebu nifer o rwystrau y bydd angen eu goresgyn er mwyn darparu'r cynhyrchiant ynni sydd ei angen ar Gymru. Er bod rhai o'r meysydd ar gyfer y gwaith hwn heb eu datganoli, mae'r system gynllunio yn gyfrwng allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano. Roedd wythfed argymhelliad yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r diffyg adnoddau yn y system gynllunio. Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n nodi ystod o fesurau uniongyrchol a gymerir i gyflymu penderfyniadau ar gynlluniau seilwaith, i'w groesawu, a chawn weld pa mor llwyddiannus y bydd i helpu i fynd i'r afael â'r oedi.

Roedd diffyg ffrwd o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cael ei ystyried yn rhwystr allweddol i wneud y gorau o'r cyfleoedd economaidd posibl sydd ar gael. Byddai datblygu ffrwd yn rhoi mwy o sicrwydd i fuddsoddwyr ac yn helpu i adeiladu diwydiant cryf, cynaliadwy sy'n darparu cyflogaeth o ansawdd uchel.

Awgryma tystiolaeth a gymerwyd gan y pwyllgor na fydd y pontio i sero net yn effeithio ar gymunedau yn gyfartal. Unwaith eto, dyma lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth, gan weithio gydag eraill i fanteisio ar gyfleoedd, rheoli'r effaith a chyfyngu ar aflonyddwch posibl i weithwyr a chymunedau. Mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd ati'n rhagweithiol i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer pontio teg i gefnogi'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o effeithiau negyddol o'r newid. Ers inni gyhoeddi ein hadroddiad, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd statudol wedi gwneud argymhelliad tebyg, ac rydym yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i yrru cynnydd yn y maes hwn.

Cyfeiriodd sawl tyst at brinder sgiliau fel pryder allweddol. Os yw Cymru am fanteisio'n llawn ar y pontio i economi werdd, bydd angen i'r Aelodau gytuno y dylai sicrhau bod y sgiliau cywir gan ein gweithlu fod yn un o brif amcanion blaenoriaethol Llywodraeth Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, bydd yn hanfodol i Lywodraeth Cymru ddeall pa sgiliau sy'n bodoli eisoes a'r hyn y bydd ei angen arnom yn y dyfodol. Roedd argymhelliad 12 o adroddiad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal neu gomisiynu archwiliad sgiliau. Mae'r pwyllgor yn nodi'r heriau i'r gwaith a amlygwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb, sef cyfyngiadau data. Fodd bynnag, mae'n galonogol fod ei chyd-Weinidog, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, yn cynnal adolygiad o sgiliau gwyrdd ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r adolygiad hwn yn y dyfodol.

Clywodd y pwyllgor fod angen cynyddu'r buddsoddiad mewn datgarboneiddio yn gyflym ac y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei hadnoddau cyfyngedig ar fuddsoddiadau sy'n denu cyllid sector preifat. Dylai weithio gyda phartneriaid i ddefnyddio'r holl ysgogiadau ariannol posibl, gan gynnwys cyd-ariannu prosiectau os mai dyna'r dull gorau o weithredu. Er ei bod yn siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod galwad y pwyllgor i ddatblygu strategaeth fuddsoddi sero net hirdymor, rydym yn cytuno â'r teimlad fod angen gweithredu a chyflawni, a byddwn yn parhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn y meysydd hyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau eraill ar y mater pwysig hwn ac at weld yr adroddiad yn cael ei weithredu.

16:40

Hoffwn ddiolch i Andrew R.T. Davies, fel Cadeirydd presennol y pwyllgor, am agor y ddadl a chyflwyno'r cynnig hwn, ac i'w ragflaenydd Paul Davies am gadeirio'r ymchwiliad. Fel aelod o'r pwyllgor, rwy'n gyffrous iawn ynghylch yr adroddiad hwn, oherwydd mae'n ymwneud â photensial, nid â pholisi'n unig. Yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae'r môr Celtaidd yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth. Mae gan y Porthladd Rhydd Celtaidd allu i drawsnewid economi werdd Cymru, gan ddarparu ynni adnewyddadwy, swyddi o ansawdd uchel, a'r diogelwch economaidd ac ynni sydd ei angen ar ein cenedl ar frys. Rwy'n falch o weld bod y porthladd rhydd wedi cael ei gefnogi heddiw gan Lywodraeth y DU, gan barhau cefnogaeth Llywodraeth flaenorol y DU.

Caiff y newid hwn ei adeiladu ar waddol y diwydiant hydrocarbon, diwydiant sydd nid yn unig yn parhau i ddarparu ynni a swyddi medrus, ond mewn llefydd fel sir Benfro, y cwmnïau hyn—RWE, Valero, Dragon LNG a South Hook LNG, a holl fusnesau y gadwyn gyflenwi—sy'n helpu i arwain y newid tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Y gwir yw y bydd hydrocarbonau yn parhau i fod yn rhan o'n cymysgedd ynni am flynyddoedd lawer i ddod. Byddant yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi datblygiad diwydiannau newydd a diwydiannau presennol, ac yn datgloi potensial ynni llawn ein dyfodol, boed yn wynt ar y môr, solar, llanw neu niwclear. Ac i'r busnesau olew a nwy yn sir Benfro a ledled Cymru, rwy'n diolch i chi, ac rwy'n gwerthfawrogi eich cyfraniad i economi Cymru.

Wrth wraidd y cyfle hwn mae Doc Penfro, canolfan forwrol hanesyddol sydd bellach yn ailddyfeisio ei hun ar gyfer yr economi werdd. Gyda phorthladd dŵr dwfn, lleoliad strategol a gweithlu medrus, mae Doc Penfro mewn sefyllfa berffaith i gefnogi prosiectau ynni gwynt ar y môr ac ynni morol. Mae cwmnïau lleol fel Mainstay Marine Solutions, cwmni allweddol ym maes peirianneg forol, Ledwood Mechanical Engineering, a Jenkins and Davies Engineering, sydd â hanes llwyddiannus ym maes seilwaith ynni mawr, eisoes yn dangos yr hyn y gall gallu lleol ei gyflawni o gael y gefnogaeth gywir.

Ond i wireddu'r potensial hwn, Ddirprwy Lywydd, mae angen inni ganolbwyntio ar gyflawni. Wrth edrych ar rai o'r argymhellion yn yr adroddiad, gwelaf fod argymhelliad 9 yn galw, yn gywir ddigon, am flaenoriaethu buddsoddiad ym mhorthladdoedd Cymru. Rhaid i Ddoc Penfro fod yn ganolog i hyn. Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd yn gweithredu trwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr, ond fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yw pryd y bydd cyllid yn cyrraedd llawr gwlad. Mae angen sicrwydd ar fusnesau lleol, boed yn wneuthurwyr, yn beirianwyr morol, yn ddarparwyr logisteg neu hyd yn oed yn arbenigwyr adnoddau dynol, i allu paratoi.

Ar argymhelliad 12, mae'r pwyllgor wedi galw am archwiliad sgiliau llawn, rhywbeth y gofynnais i'r Gweinidog yn ei gylch heddiw yn ystod y cwestiynau. Mae hyn yn rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser maith, oherwydd synnwyr cyffredin yw y dylem wybod pa sgiliau sydd gennym ar hyn o bryd a pha sgiliau y bydd eu hangen arnom i ateb y galw yn y dyfodol. Ar gyfer ardaloedd gwledig ar draws sir Benfro, sir Gaerfyrddin a gorllewin Cymru gyfan, nid yw'n opsiynol, mae'n hanfodol, oherwydd gall ein colegau a'n darparwyr hyfforddiant gyflawni, ond bydd angen eglurder arnynt ynghylch y galw yn y dyfodol. Felly, rwy'n gofyn hyn i Ysgrifennydd y Cabinet: sut y gellir sicrhau nad yw etholaethau ac ardaloedd fel fy un i yn ôl-ystyriaeth mewn cynlluniau sgiliau cenedlaethol?

Mae argymhelliad 5 yn ymwneud â llafur a chadwyni cyflenwi lleol. Mae'n hanfodol fod prosiectau adnewyddadwy mawr yn cynnwys targedau clir ar gyfer cyflogi a chaffael yn lleol. Ar draws ardaloedd fel Caerfyrddin, Arberth a Thalacharn, mae pobl eisiau gweld manteision y datblygiadau ynni hyn ac nid gweld tyrbinau ar y gorwel yn unig. Os nad ydynt yn teimlo perchnogaeth ar y prosiectau hyn, trwy adnabod pobl sydd wedi gweithio arnynt neu weld budd materol i'w cymunedau, mae'n mynd i fod yn anodd sicrhau eu cefnogaeth. Felly, a all y Llywodraeth ymrwymo i sicrhau disgwyliadau gorfodadwy ar ddatblygwyr i gyflogi a phrynu'n lleol, yn enwedig pan fo arian cyhoeddus ynghlwm wrth hyn?

Ac yn olaf, ar argymhelliad 14, lle mae'r Llywodraeth wedi gwrthod galwad am strategaeth fuddsoddi hirdymor, mae hyn, i mi, braidd yn bryderus. Oherwydd mae buddsoddiad strategol yn ymwneud â mwy na biwrocratiaeth yn unig, mae'n rhoi hyder i gymunedau, buddsoddwyr, a busnesau bach a chanolig hefyd.

Ac felly yng ngorllewin Cymru mae angen yr eglurder hwnnw arnom i ddenu partneriaeth sector preifat ystyrlon. Dyna lle rwy'n credu bod strategaeth fuddsoddi hirdymor yn cynnig cyllid sbarduno neu gynaliadwyedd, yr hyder i'r sector preifat er mwyn gallu denu cyllid preifat mawr ei angen, a fydd yn helpu i gyflawni nifer o'r prosiectau hyn. Oherwydd fe wyddom na fydd cyllid y Llywodraeth yn unig yn cyflawni'r prosiectau sydd eu hangen a'r newid sydd ei angen, gan ddod â ffyniant yn ôl i ardaloedd o Gymru sydd, yn anffodus, wedi gweld ffyniant a chyfleoedd yn gadael dros y degawd a mwy diwethaf.

Felly, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, nid newid cenedlaethol yw hwn, mae'n un lleol hefyd. Mae gan sir Benfro y porthladd, y bobl a'r potensial, nawr mae angen i'r Llywodraeth gyflawni. Diolch yn fawr.

16:45

Wrth gwrs, ar y cychwyn, hoffwn ddiolch i'r cadeirydd presennol, Andrew R.T. Davies, am nodi adroddiad y pwyllgor, ond hefyd, i'r rhagflaenydd, Paul Davies, a'n harweiniodd trwy lawer o'r ymchwiliad hwnnw, ac wrth gwrs, i gyd-aelodau'r pwyllgor, y clercod a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor.

Hoffwn ddechrau trwy gytuno â Sam Kurtz ynglŷn â'r siom ynghylch yr argymhelliad ar y strategaeth fuddsoddi. Ers nifer o flynyddoedd, neu o leiaf yn ystod y tymor Senedd hwn, mae pob Aelod yn y Siambr wedi bod yn feirniadol ar ryw adeg neu'i gilydd ynghylch diffyg strategaeth ddiwydiannol. Wel, mae hyn yn rhan hanfodol o strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig pan fydd y strategaeth ddiwydiannol honno'n ceisio canolbwyntio ar fuddsoddiadau gwyrdd a buddsoddiadau mewn technoleg werdd. Ond nid dyna fyrdwn fy nghyfraniad heddiw. Yr hyn rwyf eisiau canolbwyntio arno mewn gwirionedd yw sgiliau, oherwydd, fel y nodais yng nghwestiynau'r llefarwyr yn gynharach heddiw, os yw Cymru am adeiladu economi werdd gref, mae'n rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â sgiliau. I'w roi'n blaen, nid yw ein system sgiliau bresennol yn cyflawni. Mae'n gwneud cam â phobl ifanc, mae'n gwneud cam â busnesau ac mae'n gwasgu'r brêc ar ein heconomi. Ac fel y soniais yn gynharach heddiw, rydym yn gweld canlyniadau hyn yn digwydd mewn amser real.

Yn 2024 canfu'r Brifysgol Agored fod bron i hanner y busnesau sy'n eiddo i bobl Cymru yn wynebu prinder sgiliau. Yn 2022 adroddodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod 80 y cant o gwmnïau bach yn cael trafferth recriwtio. Dywedodd llawer o'r busnesau hynny eu bod eisiau tyfu, ond na allent wneud hynny am na allent ddod o hyd i'r bobl sy'n meddu ar y sgiliau cywir. Dyna gysylltiad uniongyrchol rhwng ein system sgiliau doredig a'n diffyg twf economaidd. Mae hyn yn ein rhoi o dan anfantais gystadleuol. Mae'n gwneud Cymru'n fwy agored i dramori ac allanoli ac mae'n cyfyngu ar allu ein busnesau ein hunain i ehangu a chreu swyddi. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy rhwystredig yw bod polisi sgiliau yn un o'r ychydig ysgogiadau y mae gennym reolaeth lawn arnynt yma yng Nghymru, a dylem fod yn ei ddefnyddio er ein mantais, ond nid ydym yn gwneud hynny, ac mae yna bethau y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud.

Ar hyn o bryd nid oes gennym ddarlun clir o beth yn union yw anghenion sgiliau Cymru yn y presennol a'r dyfodol. Ac rwy'n credu ein bod i gyd ar fai yma, gan fy nghynnwys i, oherwydd nid ydym erioed wedi bod yn glir ynglŷn â'r hyn a olygwn pan fyddwn yn dweud ein bod am weld mwy o fuddsoddi mewn sgiliau gwyrdd. Dyna pam y mae argymhelliad 12 yn bwysig iawn. Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi ei dderbyn—yr angen am archwiliad sgiliau yn yr adroddiad i nodi'n union beth a olygwn pan fyddwn yn siarad am sgiliau gwyrdd. Clywodd y pwyllgor gan ColegauCymru, sy'n dadlau dros strategaeth addysg alwedigaethol a hyfforddiant i fapio beth sydd ei angen, ble mae'r bylchau, ac yna sut y gallwn ymateb mewn ffordd sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau ein diwydiannau a'n heconomi a'n cymunedau. Mae enghraifft o'r gwaith hwn eisoes ar y gweill yng Ngrŵp Colegau Castell-Nedd Port Talbot, sydd ar hyn o bryd yn datblygu model archwilio sgiliau ar gyfer y gwaith sgiliau gwyrdd y byddant yn ei wneud ar sbardunwyr cadwyni cyflenwi. Nawr, dyma'r math o gynllunio hirdymor wedi'i arwain gan ddata sydd ei angen arnom ar draws y system gyfan.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd, Jeremy Miles, fod drafft cychwynnol o gynllun sgiliau wedi'i gynhyrchu. Ar ôl ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar sgiliau sero net, ychwanegodd fod cynlluniau i gyhoeddi iteriadau cyntaf y cynllun hwnnw yn hydref 2024. Mae hyn yn awgrymu i mi fod syniadau o'r fath eisoes ar y gweill yn y Llywodraeth, felly byddai'n dda clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw hi'n parhau â'r gwaith hwnnw ai peidio, a phryd y gallwn weld canlyniadau hynny.

Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud yw bod angen inni sicrhau bod capasiti o fewn y system i ddarparu'r cyrsiau cywir hefyd. Cyfeiriodd tystion at y ffaith bod heriau capasiti clir yn y system bresennol, a chylch dieflig o ran y ddarpariaeth o gyrsiau. Yn aml, nid yw darparwyr yn cynnal cyrsiau am eu bod yn credu nad oes digon o alw, ond achosir y diffyg galw'n rhannol gan y canfyddiad nad oes cyrsiau o'r fath yn bodoli yn y lle cyntaf. Mae hyn yn creu cylch rhwystredig lle caiff cyfleoedd eu colli ar y ddwy ochr. Roedd tystiolaeth Dr Alison Parken i'r pwyllgor yn berthnasol yn hyn o beth. Yn ei hymchwil ar y pontio teg, tynnodd Dr Parker sylw at y ffaith bod sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn awyddus i gymryd rhan yn y gofod hwn, ond yn parhau i fod yn ansicr ynglŷn â ble mae'r gwir alw.

Felly, rydym yn delio nid yn unig ag ansicrwydd ynghylch y galw, ond hefyd â diffyg ymwybyddiaeth, ac mae'r ddau'n rhwystrau mawr i ddarparwyr sy'n ceisio cynllunio a darparu'r hyfforddiant sydd ei angen arnom. Rwy'n credu y gallai fod lle i gyngor gyrfaoedd gwell. Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl ifanc yn cael eu cyfeirio tuag at addysg uwch heb gael gwybodaeth go iawn am brentisiaethau neu lwybrau galwedigaethol eraill sydd ar gael. Mae colegau'n aml yn cael eu cloi allan o ysgolion, ac mae'r system ariannu bresennol yn creu cystadleuaeth, nid cydweithrediad. Rhaid i hynny newid. 

Felly, mae'r achos yn glir fod angen strategaeth eglur arnom i ddarparu sicrwydd i ddarparwyr prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, buddsoddiad priodol a system gydgysylltiedig sy'n gweithio i ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr. Os ydym yn onest, nid oes dim o hyn yn arloesol. Rydym wedi bod yn siarad am hyn ers blynyddoedd bellach. Y cwestiwn allweddol yw: a yw'r Llywodraeth yn mynd i fwrw ymlaen ag ef?

16:50

Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon ar ein hadroddiad ar yr economi werdd. Rwy'n credu mai dyma'r ddadl gyntaf i mi gael cyfle i gyfrannu ati ers imi fod yn ôl ar y pwyllgor hwnnw. Hoffwn innau hefyd ddechrau trwy ddiolch i'r Cadeirydd presennol a'r cyn-Gadeirydd, a'r tîm cyfan a phawb a oedd yn gysylltiedig â'r adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn cyflwyno gweledigaeth glir, ymarferol ac uchelgeisiol ar gyfer economi werdd sy'n gweithio i bawb, ond mae hefyd yn tynnu sylw, yn briodol ddigon, at y brys a graddfa'r gweithredu sydd ei angen.

Fel y clywsom, mae'r pwyllgor wedi nodi nifer o argymhellion, ac rwyf am gofnodi fy nghefnogaeth iddynt. Rwy'n credu eu bod yn darparu sylfaen gadarn, ond gallent hefyd ddatgloi'r potensial sy'n darparu Cymru decach a gwyrddach. Ond rwyf hefyd yn meddwl bod yn rhaid inni symud ymhellach ac yn gyflymach.

Un o'r argymhellion pwysicaf a wnaethom yw'r alwad am strategaeth ddiwydiannol werdd hirdymor, drawslywodraethol, strategaeth sy'n rhoi datgarboneiddio yn y canol, yn cysylltu sgiliau, arloesedd, buddsoddiad a seilwaith, ac yn darparu manteision gwirioneddol i bobl ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n cefnogi hyn yn llwyr, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach eto trwy ymgorffori cynlluniau cyflawni clir gyda chanlyniadau mesuradwy a diweddariadau cyhoeddus rheolaidd, fel y gallwn olrhain cynnydd a dwyn ein hunain i gyfrif. Ac wrth gwrs, mae angen i'r gweithlu, trwy eu hundebau llafur, fod ar flaen y gad yn hyn, oherwydd mae'n ymwneud nid yn unig â thargedau, ond â chreu cyfleoedd ystyrlon.

Yn fy etholaeth fy hun ac ar draws gogledd Cymru, gwelaf drosof fy hun y gwahaniaeth y gall economi werdd ei wneud. Ychydig fisoedd yn ôl yn unig, gosododd Hafod Renewable Energy, busnes lleol ger Llanelwy, baneli solar i gynhyrchwr bwyd ar Ynys Môn, gan dorri allyriadau a biliau ynni mewn un cam. Dyna swyddi lleol, sgiliau lleol, a'r gadwyn gyflenwi leol i gyd yn elwa o fuddsoddiad gwyrdd.

Ond fe wyddom na ddaw'r cyfleoedd hynny ar eu pen eu hunain. Mae angen inni gael gwared ar y rhwystrau sy'n dal gormod o brosiectau yn ôl. Dyna pam y mae argymhellion y pwyllgor ynghylch cynllunio a seilwaith grid yn hanfodol. Mae angen i'r system gynllunio fod â'r capasiti a'r arbenigedd i ddelio â chymwysiadau ynni adnewyddadwy yn effeithlon, ac mae angen buddsoddi yn y grid, yn enwedig yng ngogledd Cymru, i sicrhau nad yw cymunedau a busnesau'n cael eu gadael ar ôl.

Fel rhywun sy'n falch o hanu o ogledd Cymru, rwy'n credu'n gryf yn y potensial i fy rhan i o'r wlad fod ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd, gan fuddsoddi yn ein pobl a'n lleoedd, a dod â buddion ehangach i'r economi a'r amgylchedd, boed yn ehangu porthladd Mostyn i adeiladu angorfa newydd i allu ymdopi â'r genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt arnofiol ar y môr, neu Gwynt y Môr, Gwastadeddau'r Rhyl a Gogledd Hoyle, prosiectau ynni ffrwd lanw newydd, a llawer mwy.

Gan droi'n ôl at yr adroddiad, maes arall lle rwy'n cefnogi casgliadau'r adroddiad yn gryf yw sgiliau a phontio teg. Os ydym eisiau Cymru wyrddach, mae angen inni wneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i fod yn rhan ohoni, boed yn unigolyn ifanc yn yr Wyddgrug sy'n ystyried gyrfa ym maes technoleg werdd, neu rywun sy'n ailhyfforddi yn y Fflint ar ôl gweithio mewn diwydiant mwy traddodiadol. Rwy'n credu bod yr argymhellion i gryfhau'r cydgysylltiad ar draws darparwyr addysg a hyfforddiant yn hanfodol, ond hefyd, hoffwn weld cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y rhanbarth yn cael eu teilwra i anghenion ein cymunedau a'n heconomïau.

Mae perchnogaeth gymunedol a budd lleol hefyd yn cael sylw helaeth yn yr adroddiad, ac yn briodol felly. Rwy'n croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Ynni Cymru a'r ymrwymiad i adeiladu dyfodol ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd. Ond fel y noda'r adroddiad, mae angen diffiniadau cliriach o'r hyn y mae 'perchnogaeth gymunedol' yn ei olygu mewn gwirionedd, ac mae angen inni ei weld yn rhan annatod o'r modd y caiff prosiectau eu cynllunio, eu hariannu a'u cyflawni. Nid yw cynhyrchu ynni glân yn ddigon—rhaid inni gynhyrchu gwerth parhaol i'r cymunedau sy'n cynnal ac yn cefnogi'r cynlluniau hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn siarad yn y gorffennol ynglŷn â sut y mae Ynni Cymru o fudd i fy nghymuned gyda'r buddsoddiad yng Nghlwb Pêl-droed Treffynnon, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r clwb. Mae'r clwb pêl-droed wedi dod yn hunangynhaliol yn ei ddefnydd o ynni, gyda phaneli solar, cyfleuster storio batri, pympiau gwres a goleuadau deuod allyrru golau craff, gan sicrhau 80 y cant o ostyngiad yng nghostau rhedeg y clwb, ond mae'r effaith yn mynd y tu hwnt i hynny. Mae'r clwb yn ail-fuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad, yn gwella cyfleusterau cymunedol, a hyd yn oed yn rhedeg rhaglen sgiliau gwaith coed Twf Swyddi Cymru + i gefnogi pobl ifanc lleol.

Yn olaf, rwyf eisiau dweud rhywbeth am fusnesau bach. Ar draws fy etholaeth i ac ar draws gogledd Cymru, mentrau bach a chanolig yw asgwrn cefn ein heconomi a chalon ein strydoedd mawr. Mae nifer eisiau datgarboneiddio ond yn wynebu heriau o ran gwybod ble i ddechrau neu sut i'w ariannu. Mae'r adroddiad yn galw, yn briodol ddigon, am gymorth wedi'i dargedu, ac rwy'n gwybod bod cynlluniau Llywodraeth Cymru, fel y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd, yn gwneud gwahaniaeth. Ond unwaith eto, gallwn fynd ymhellach trwy symleiddio mynediad, gan ei gwneud hi'n haws i bob busnes fod yn rhan o'r newid ar y cyd. Nid yw'r economi werdd yn agenda arbenigol nac yn rhywbeth 'braf i'w gael'. Mae'n hanfodol ac yn sylfaen i'n heconomi yn y dyfodol, a hoffwn annog pawb i gefnogi'r adroddiad hwn. Diolch.

16:55

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.

Diolch i'r holl gyd-Aelodau, ac yn enwedig i'r pwyllgor, am adroddiad ac ymchwiliad defnyddiol iawn. Fe ddechreuaf gyda sylw amserol ar yr hyn y credaf ei fod yn amlwg i bawb yng Nghymru, ar wahân i arweinydd Reform pan fo'n penderfynu ymweld, sef nad yw dyfodol economaidd ffyniannus i Gymru yn galw am ailagor ein pyllau glo. Er gwaethaf yr hyn y byddai Reform am i ni ei gredu, nid yw pobl ifanc Cymru yn crefu am fywyd i lawr y pwll. Er ein bod yn falch iawn o'n treftadaeth lo, gwyddom fod pobl ifanc yn deall mai mewn diwydiannau uwchdechnoleg glân y ceir dyfodol ffyniannus, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn mabwysiadu dull strategol o ddatblygu'r economi werdd, sy'n gonglfaen i'n cenhadaeth economaidd ac sy'n cyd-fynd yn dda ag uchelgeisiau Llywodraeth y DU i yrru twf economaidd er lles y DU.

Mae pontio i economi werdd eisoes wedi dechrau a bydd yn parhau mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU trwy'r strategaeth ddiwydiannol. Nid ydym yn mynd ar drywydd twf er mwyn twf ac am unrhyw bris. Rydym yn mynd ar drywydd twf i fuddsoddi yn y pethau sy'n gwneud Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, ac sy'n rhoi ein hymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith. Wrth fynd ar drywydd twf, rydym yn sicrhau bod cymunedau'n cael eu cefnogi i elwa o'r newid, ac rydym wedi cyhoeddi cyfoeth o ganllawiau ar berchnogaeth leol ar brosiectau a sut y gellir cadw'r cyfoeth a gynhyrchir yn lleol. Er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau ynni adnewyddadwy, rwyf wedi nodi fy mwriad i negodi cynnig i'r sector ynni adnewyddadwy, sy'n cwmpasu'r holl dechnolegau sefydledig ac arloesol, gan egluro rolau a chyfrifoldebau'r Llywodraeth a'r diwydiant wrth inni weithio gyda'n gilydd i wireddu'r economi wyrddach honno. Rwyf wedi rhoi gwybod i'r Senedd o'r blaen ynglŷn â sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr, y gofynnais iddo gydlynu gwaith ar draws sectorau, o borthladdoedd a chadwyni cyflenwi i sgiliau a gofynion y gweithlu. Bydd y sector hwn yn dod yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd i ddod. Rwyf hefyd wedi cyflwyno ystod o fesurau uniongyrchol i gyflymu penderfyniadau cynllunio ar gynlluniau seilwaith, yn cynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy, i roi hyder i'r sector ac i yrru cyflawniad yn ei flaen.

Er mwyn sicrhau pontio teg, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar fframwaith pontio teg a bydd yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Mae gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith yn thema drawsbynciol i ddysgwyr rhwng tair ac 16 oed yn ein cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod addysg gyrfaoedd yn rhan o ddysgu plant drwyddo draw ac yn gwneud cysylltiadau pwysig â meysydd allweddol, fel ein heconomi werdd. Rydym yn annog datblygwyr i rannu gwybodaeth a chyfleoedd gydag ysgolion a cholegau. Enghraifft o hyn yw prosiect ffrwd lanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn, sy'n helpu i baratoi'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol, Gyrfa Cymru, yn darparu ystod o gymorth i'n hysgolion, gan gynnwys adnoddau i'w helpu i sefydlu gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm, digwyddiadau dysgu proffesiynol i helpu i feithrin eu sgiliau, a chynnig partneriaeth busnes addysg wedi'i hwyluso, sy'n darparu cyfleoedd i ddysgwyr, eu hathrawon, a rhieni'n aml, gyfarfod a rhyngweithio â chyflogwyr. Nod yr holl weithgareddau hyn yw hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc mewn perthynas â'u cyfleoedd gyrfa, gan gynnwys cyfleoedd mewn sgiliau gwyrdd. Er mwyn sicrhau ein bod yn barod i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar y gorwel, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gwneud gwaith cwmpasu ar archwiliad sgiliau ar gyfer Cymru, i ystyried y dulliau sydd wedi'u defnyddio mewn mannau eraill. Mae adolygiad o sgiliau gwyrdd eisoes ar y gweill, dan arweiniad y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a bydd yn parhau i gryfhau ein dealltwriaeth o anghenion yn y presennol a'r dyfodol. Yn dilyn y cyfarfod bord gron a gynhaliodd y Gweinidog ar hyn, ceir ymgysylltiad pellach wedi'i dargedu i lywio argymhellion ar gyfer y ddarpariaeth sgiliau yn y dyfodol.

17:00

Rwy'n ymwybodol fy mod yn mynd â chi'n ôl ychydig drwy eich araith nawr, ond roeddwn yn prosesu'r pethau roeddech chi'n sôn amdanynt ynglŷn â chyngor gyrfaoedd a dewisiadau i ddysgwyr wrth iddynt fynd drwy'r ysgol. Beth yw'r datgysylltiad, felly, yn eich barn chi? Oherwydd, ar bapur, o'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, mae'n swnio fel pe na bai unrhyw broblem, a bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau nad oes problem, ond mae'n ymddangos bod datgysylltiad, gan ein bod yn cael adborth cyson gan etholwyr, a chan ddarparwyr addysg bellach hefyd, nad ydynt yn gallu cael mynediad at fyfyrwyr. Nawr, mae enghreifftiau da, peidiwch â'm camddeall; tynnodd Hefin David sylw, yn ei adroddiad, at rai o'r arferion da sydd i'w cael yng Nghaerffili. Ond mae pawb bron yn derbyn nad yw hynny'n digwydd ar draws gweddill Cymru. Felly, beth yw'r datgysylltiad yma? Dyna rwy'n ceisio'i ddeall.

Rwy'n credu y bydd gwaith y pwyllgor a'r cyfraniadau'r prynhawn yma, gan gynnwys y trafodaethau yn gynharach mewn perthynas â chwestiynau'r Gweinidogion, yn bendant yn rhoi rhai pethau i ni y mae angen i ni eu hystyried ymhellach o ran sicrhau bod arferion gorau, y gwyddom eu bod yn bodoli, yn dod yn norm a bod gan bobl ifanc fynediad at yr holl gyfleoedd sydd eu hangen arnynt. A chredaf fod hyn yn mynd yn ôl at y ddadl flaenorol a gawsom y prynhawn yma hyd yn oed, a sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cael cyfle i ddeall y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt, a bydd llawer o'r gyrfaoedd cyffrous hynny yn y maes gwyrdd. Felly, byddwn yn sicr yn myfyrio ymhellach ar waith y pwyllgor a'r cyfraniadau y prynhawn yma.

Felly, rwyf wedi sôn am y sgiliau gwyrdd, sydd eisoes yn cael eu hadolygu, ond roeddwn hefyd eisiau trafod ariannu'r newid, sydd unwaith eto'n agwedd bwysig arall y mae'r pwyllgor wedi edrych arni. Mae ystod o fesurau ar waith i gefnogi hynny. Cyfeiriwyd at uwchgynhadledd fuddsoddi'r Prif Weinidog yn nes ymlaen eleni, a byddwn yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cyd-Aelodau ynglŷn â hynny. Bydd yn gyfle inni arddangos y cyfleoedd gwyrdd sydd gennym yng Nghymru i fuddsoddwyr a datblygwyr ledled y byd.

Ochr yn ochr â hynny, mae gennym Fanc Datblygu Cymru, ac mae hefyd yn chwarae ei ran yn cefnogi busnesau Cymru i ddod o hyd i'w lle yn yr economi werdd. Mae wedi sefydlu cynllun benthyciadau busnes gwyrdd, sydd wedi bod ar waith ers 2023, gan ddarparu dros £7.5 miliwn o gyllid ad-daladwy i fusnesau bach a chanolig i fuddsoddi mewn technolegau arbed ynni. Mae Banc Datblygu Cymru hefyd yn gweithredu cronfa ynni lleol gwerth £12.5 miliwn i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy a arweinir gan y gymuned.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU drwy ddatblygu'r strategaeth ddiwydiannol a'i chynlluniau sector ategol, ac rydym yn gweithio i sicrhau y ceir dull cydgysylltiedig o weithredu fel y gallwn wneud y mwyaf o'n hysgodiadau datganoledig mewn sectorau allweddol fel diwydiannau glân.

Roedd yn ddiddorol clywed gan arweinydd Reform a'i addewid i ailagor y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Wel, wrth gwrs, byddem wedi ffafrio pontio teg i ddur mwy gwyrdd, ond mae pob arbenigwr dur a Tata eu hunain wedi dweud yn glir nid yn unig fod aildanio'r ffwrneisi hynny'n anymarferol, mae'n amhosibl. Felly, nid oes a wnelo hyn â diogelu swyddi na diwydiant; mae a wnelo â chreulondeb camddefnyddio pryderon pobl er budd gwleidyddol. Ond mewn cyferbyniad, mae gennym y gronfa gyfoeth wladol, ac mae honno'n ysgogiad difrifol ar gyfer cyflawni cenhadaeth twf glân Llywodraeth y DU. Mae'n adlewyrchu uchelgais clir a chredadwy i hybu twf economaidd, cefnogi creu swyddi medrus mewn ynni adnewyddadwy, a chyflymu'r broses o bontio i economi carbon isel. Rydym yn cefnogi'r cyfeiriad strategol a nodwyd, gan ysgogi buddsoddiad y sector preifat, datblygu llif prosiectau cryf a helpu cymunedau fel Port Talbot i sicrhau dyfodol go iawn, nid un wedi'i adeiladu ar addewidion ffug.

Felly, i gloi, mae'r pwyllgor wedi nodi nifer o feysydd ar gyfer gweithredu, ac rwyf wedi derbyn y mwyafrif helaeth o'r argymhellion hyn, er bod ambell un mewn egwyddor. Bydd fy swyddogion a minnau'n parhau i weithio ar draws adrannau a chyda Llywodraeth y DU i'w rhoi ar waith cyn belled ag y bo modd.

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf am gadw'r Senedd yn rhy hir, gan y gwn fod Janet yn awyddus iawn i ddod at y ddarllenfa. Nid yw wedi ffoi i'r ochr arall. [Chwerthin.] Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Yr un peth a ddaeth yn glir i mi oedd ei bod yn llawer brafiach bod yn Gadeirydd yn y Siambr hon nag yn arweinydd, oherwydd pan fydd siaradwyr yn codi, maent yn diolch i chi pan fyddwch yn Gadeirydd y pwyllgor; pan fyddwch yn arweinydd, maent yn eich diawlio. Ond roedd yn ddadl dda, er yn un fyr, oherwydd yn amlwg, casglwyd y dystiolaeth hon dros gyfnod tuag at ddiwedd 2024.

Yn ei sylwadau, tynnodd Sam Kurtz sylw at sut y mae gan y sector etifeddol, hynny yw y diwydiant olew a diwydiannau tanwydd ffosil eraill, rôl allweddol i'w chwarae wrth inni bontio i'r economi werdd, ac yn amlwg, maent yn chwarae eu rhan yn y newid hwnnw. A thynnodd sylw at sut y mae llawer o'r cwmnïau hynny wedi'u lleoli yn sir Benfro, yn ogystal â'r diwydiannau ategol, fel Ledwood a chwmnïau peirianneg eraill, a chyda dynodiad y porthladd rhydd yn yr ardal benodol honno, mae hynny'n gyfle euraidd i blethu'r cyfan at ei gilydd. Ond y diffyg sylfaenol a grybwyllwyd gan Luke hefyd, a Hannah, oedd y diffyg sgiliau a gafodd sylw mewn llawer o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor, ac yn enwedig anallu cwmnïau i ehangu.

Cyflwynodd Luke i'r ddadl y ffaith allweddol, os edrychwch chi ar ystadegau'r Brifysgol Agored, fod 50 y cant o gwmnïau—50 y cant o gwmnïau—wedi dweud eu bod wedi'u cyfyngu yn eu cynlluniau ehangu, oherwydd yn amlwg, ni allent gael pobl â'r sgiliau cywir. Ac fe gafodd hynny ei amlygu hyd yn oed yn fwy gan yr ystadegau gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, a nododd fod 80 y cant o fusnesau wedi tynnu sylw at ddiffyg sgiliau fel cyfyngiad allweddol ar eu gallu i dyfu. Nawr, mae honno'n her wirioneddol i'r Llywodraeth, ac rwy'n gweld bod amryw o Weinidogion yma—mae Jack yma a Rebecca yma—i dynnu sylw at y mater a sicrhau bod y wybodaeth honno'n cyrraedd y colegau, yr ysgolion a'r darparwyr fel y gall yr economi elwa o'r cynnydd cydgysylltiedig hwnnw i sgiliau a fyddai'n cael ei sicrhau pe bai'r wybodaeth honno ar gael i golegau allu cynnal y cyrsiau, a'r darparwyr hyfforddiant. Rwy'n derbyn y pwynt a grybwyllwyd gan Luke. Rwyf wedi bod yma ers 17 mlynedd bellach, ac rydym wedi bod yn sôn am gydgysylltu hyn dros y 17 mlynedd i gyd, a dyma ni o hyd yn siarad am yr ystadegau hyn. Felly, rwy'n erfyn ar y Llywodraeth, gyda'r dystiolaeth y mae'r adroddiad hwn wedi'i chyflwyno, i fynd i'r afael â hyn ac i ddarparu'r cymorth y mae darparwyr hyfforddiant a cholegau ac ysgolion yn teimlo bod ei angen arnynt, a byddwn yn datrys y broblem hon yn y pen draw os nad unrhyw beth arall, gan fod y diffyg sgiliau a welwn yn gyfyngiad gwirioneddol ar y diwydiant.

Soniodd Hannah am glwb pêl-droed yn ei hetholaeth sydd wedi gweld budd gwirioneddol o'r newid ac sydd bellach yn 80 y cant hunangynhaliol o ran ei anghenion ynni. Clwb Pêl-droed Treffynnon, rwy'n credu ichi ddweud, Hannah? Ac mae honno'n enghraifft bendant lle gellid rhoi'r arian a arbedir yn ôl i'r cyfleuster cymunedol hwnnw i gefnogi'r timau, cefnogi chwaraewyr newydd, ac yn y pen draw, sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Ond soniodd yr holl siaradwyr am bwysigrwydd cyfranogiad cymunedol yn yr economi werdd a phrosiectau gwyrdd. Ac oni bai ein bod yn cael y model ariannu, y model sgiliau a'r model cymorth yn gywir, bydd Cymru'n parhau i fod yn ddim mwy na chartref i lawer o'r prosiectau hyn, yn hytrach na buddiolwr, a bydd cymunedau'n teimlo'n flin eu bod yn cael eu gorfodi arnynt, yn hytrach na bod ganddynt gyfran ynddynt. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n gydbwysedd allweddol y mae'n rhaid inni geisio ei daro yma. A gall y Llywodraeth yn enwedig, drwy'r system gynllunio, ddefnyddio'r dulliau sydd ganddi—tynnodd y Gweinidog sylw at rai o'r pethau y maent eisoes wedi'u rhoi ar waith—i sicrhau bod cwmnïau'n deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i ddarparu budd cymunedol gwirioneddol mewn llawer o'r cynlluniau hyn, a sicrhau bod y system gynllunio yn ymatebol nid yn unig i'r datblygwyr, ond yn bwysig, i'r cymunedau lle bydd llawer o'r datblygiadau hyn wedi'u lleoli, oherwydd fel arall, bydd y dicter hwnnw'n tyfu, a bydd pob un ohonom yn dlotach o'r herwydd.

Felly, diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r economi werdd yn faes polisi hanfodol y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef er mwyn inni allu cael Cymru lewyrchus ar gyfer yfory, er mwyn sicrhau y gall Cymru fod yn lle gwych i fyw i'n plant ni a'u plant hwythau. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd argymhellion y pwyllgor yn helpu i siapio cynnydd cyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn fater y bydd ein pwyllgor yn parhau i'w fonitro, ac rwy'n siŵr y bydd gan ein holynwyr yn y Senedd nesaf gryn ddiddordeb ynddo hefyd. Ddirprwy Lywydd, wrth imi gloi, hoffwn ailadrodd fy niolch i'r tystion, i staff y pwyllgor ac i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o lunio'r adroddiad hwn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd yr adroddiad yn yr ysbryd y'i bwriedir i gryfhau'r economi werdd yma yng Nghymru, a gadael i Gymru ddod yn oleufa o ymchwil, datblygu ac arloesi a fydd yn cyfoethogi economi Cymru. Diolch yn fawr.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni solar

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Symudwn ymlaen at eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ynni solar. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8917 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod paneli solar ar dir amaethyddol;

b) cynnal adolygiad o botensial ynni solar yng Nghymru; ac

c) datblygu strategaeth solar ar gyfer Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. O awdurdodau lleol i San Steffan, mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ar ddatblygiadau solar yng Nghymru, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru yma ym Mae Caerdydd. Nawr, er mai dyma'r ddadl gyntaf, yn ôl pob tebyg, ar ynni solar yn unig, ni chredaf mai hon fydd yr olaf, gan ein bod yn gweld cymaint o gynlluniau enfawr yn dod atom yng Nghymru. Nawr, drwy'r broses ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru newydd gytuno i fferm solar ar oddeutu 14 cae ym Mro Morgannwg. Mewn gwirionedd, mae oddeutu 20 o ffermydd solar eraill yn aros am benderfyniad, gan gynnwys cae solar Gwenlais yn Abertawe, 31 hectar o dir amaethyddol, fferm solar Plas Power yn Wrecsam, 136 hectar o dir, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori ar hyn o bryd, a fferm solar Alaw Môn yn Ynys Môn, sy'n cynnwys 268 hectar o dir amaethyddol, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori. Nawr, rwy'n sylweddoli na all Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar y ceisiadau unigol a phenodol hyn, ond mae'r pwynt rwy'n ei wneud yn eithaf clir: bydd cannoedd o hectarau o dir amaethyddol yn newid nawr o ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd i gynhyrchu trydan.

Mae 40 y cant o fwyd y DU bellach yn cael ei fewnforio, o gymharu ag oddeutu 22 y cant yng nghanol y 1980au. Mae hunangynhaliaeth y DU mewn llysiau ffres, sy'n allweddol i gynnal iechyd ein cenedl, ar ei hisaf—roeddwn yn chwilio am Jenny, Jenny Rathbone, ond nid yw hi yma heddiw, ond—mae ar ei hisaf ers i gofnodion ddechrau ym 1988, ar 53 y cant. Nawr, er bod y datblygwyr enfawr hyn ar gyfer y cynlluniau enfawr hyn yn ceisio dadlau y gall defaid bori'r tir o amgylch paneli solar o hyd, y gwir amdani yw y bydd incwm amaethyddol yn aml yn cael ei golli. Ni all defaid bori tra bo'r safleoedd hyn yn cael eu hadeiladu, ac yna wedi hynny, rwy'n deall mai oddeutu hanner y stoc yn unig y gallant ei ddefnyddio ar y tir hwnnw. Mae'r cyfaddefiad y bydd incwm amaethyddol yn cael ei golli yn dystiolaeth glir fod ffermydd solar yn achosi i gynhyrchiant bwyd ddirywio.

Nawr, erbyn mis Awst 2024, roedd yr Ysgrifennydd diogeledd ynni newydd, y Gwir Anrhydeddus Ed Miliband, eisoes wedi cymeradwyo tri datblygiad enfawr, dadleuol, yn gorchuddio 2,500 hectar o dir fferm, gan anfon neges glir ei fod bellach yn barod i'n caeau gwyrdd ddod yn ddolydd o fetel a gwydr. Ac mae penderfyniad Llafur Cymru i ddileu ein cynnig cyfan—. Nid ein bod yn synnu—i ddileu'r cyfan, dyna'r norm yma, ond wyddoch chi, mae hynny'n anfon yr un neges yn union, ac mae'n rhaid i hyn ddod i ben. Dylai'r Senedd wneud safiad drwy gyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod paneli solar ar dir amaethyddol. Bydd saib o'r fath yn galluogi'r Senedd hon i ddatblygu strategaeth solar i Gymru, gan edrych ar ble rydym eisiau i'r paneli hynny gael eu gosod a ble y cânt eu creu. Mae 40 y cant o baneli ffotofoltäig solar y DU yn cael eu mewnforio o Tsieina. Nawr, mewn cyfnod o densiynau byd-eang cynyddol, ni allwn ddibynnu ar hynny fel cenedl. Yn syfrdanol, GB-Sol yw'r unig wneuthurwr paneli solar confensiynol yn y DU, ac maent wedi'u lleoli yma yng Nghymru, ac maent wedi bod yn cynhyrchu ers 1994. Roedd Romag a Sharp yn ffatrïoedd paneli solar nodedig eraill yn y DU, ond mae eu gweithgarwch wedi dod i ben erbyn hyn, yn anffodus.

Felly, gallwch weld i ble rwy'n mynd gyda'r ddadl hon: os ydym yn mynd i gael ffermydd solar, yn gyntaf oll, mae angen inni sicrhau bod cymaint â phosibl o'r cynnyrch hwnnw wedi'i wneud yng Nghymru neu yn y DU. Mae potensial enfawr i ehangu'r farchnad weithgynhyrchu paneli solar yn y DU yn sylweddol a lleihau'r ddibyniaeth ar gynhyrchion sy'n aml yn israddol ac sy'n cael eu mewnforio o Tsieina, ac i Gymru barhau i arwain, yn briodol ddigon, o ystyried yr arbenigedd sydd gennym yma a'r potensial i roi strategaeth ar waith. Mae hwnnw'n ddatganiad rhyfedd i mi ei wneud, gan nad wyf yn hoff o strategaethau. Rwy'n gefnogol iawn, serch hynny, i weithredu lle rydym yn sylweddoli bod angen datrys problemau.

17:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae angen i ni hefyd ystyried sut y mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn cyrraedd ein caeau yma yng Nghymru yn y pen draw. Hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y gwaith y mae'n ei wneud ar y cynllun enfawr sy'n dod i Ynys Môn, gan y credaf ein bod yn eithaf unedig ar yr erchyllterau hyn; nid yw'r cynlluniau enfawr hyn o fudd i Gymru.

Mae adnewyddu hen fwyngloddiau yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar adnoddau gwerthfawr ac ymestyn oes safleoedd presennol. Mae angen 7 miliwn megatunnell o gopr arnom ar gyfer y farchnad. Felly, pam ein bod yn mewnforio paneli o Tsieina pan allem fod yn cynhyrchu'r copr sydd ei angen? Bydd y ffocws ar greu mwy o baneli solar yng Nghymru ac yn y DU yn helpu'n anochel i ddatblygu'r set sgiliau gwyrdd sydd ei hangen yn ddybryd, ac rydym newydd fod yn ei thrafod yn y dadleuon blaenorol.

Mae'r alwad hon wedi'i chefnogi gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a gadeirir gan neb llai na'r Gwir Anrhydeddus Andrew R.T. Davies. Mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru'n sefydlu strategaeth ar gyfer cyflwyno targedau a chwotâu ar gyfer defnyddio gweithwyr a chontractwyr lleol wrth ddatblygu gosodiadau ynni adnewyddadwy. Bydd hyn, ynghyd â'r argymhelliad i Lywodraethau Cymru a'r DU weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r bwlch mewn amrywiaeth yn y gweithlu ynni adnewyddadwy, yn ein galluogi i fanteisio ar setiau sgiliau gwahanol a fydd ond yn cryfhau ein sector ynni adnewyddadwy, yn ogystal â gweithio gyda Gyrfa Cymru i sicrhau bod y setiau sgiliau gwyrdd hyn yn cael eu cefnogi a'u meithrin ar bob cam yn y system addysg. Bydd hyn oll yn sicr o helpu i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ein taith tuag at sero net.

Hefyd, nododd y pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod y cymunedau lle caiff y datblygiadau eu lleoli yn cael eu cefnogi. Mae angen inni sicrhau bod mwy o'r cyfoeth a gynhyrchir gan y sector ynni adnewyddadwy yn cael ei gadw gan y cymunedau lle caiff y datblygiadau hyn eu lleoli. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i roi'r argymhellion hyn ar waith.

Ynghyd â chreu cymaint o baneli solar â phosibl yng Nghymru gyda deunyddiau a gweithlu o Gymru, mae angen inni ystyried yn ofalus ble y dylid eu gosod. Gallwn ddysgu gan wledydd eraill. Mae sefydliad wedi canfod y gellid gosod 287 GW o gapasiti ynni solar ar hyd ffyrdd a rheilffyrdd, uwchben meysydd parcio mewn archfarchnadoedd, mewn ardaloedd diwydiannol a masnachol. Mae hynny'n digwydd yn yr Almaen. Byddai hynny'n fwy na digon i gyflawni'r targed o 200 GW y mae'r Almaen wedi'i osod ar gyfer 2040 i ehangu systemau ar y llawr.

Mae Sun-Ways wedi gosod 100m o baneli solar ar draciau yn Buttes yng ngorllewin y Swistir, ac nid dyma'r tro cyntaf i ynni solar gael ei integreiddio i seilwaith rheilffyrdd. Mae prosiectau yn yr Almaen, yr Eidal, Ffrainc a Japan yn profi paneli solar rhwng y cledrau. Pam nad ydym yn rhoi paneli rhwng y cledrau ar yr oddeutu 1,000 o filltiroedd o drac sydd gennym ni? Mae mwy o bobl yn yr Iseldiroedd a'r Almaen, ynghyd â gwledydd eraill fel Japan, yn gosod paneli solar ar ffensys—nid ar y ffensys eu hunain, maent yn creu ffensys wedi'u gwneud o baneli solar.

Mae gwledydd eraill wedi defnyddio dull hyd yn oed yn fwy arloesol o gynhyrchu ynni glân gan ddefnyddio paneli solar. Yn Sejong, De Korea, mae llwybr beicio 5.5 milltir o hyd wedi'i orchuddio â phaneli solar. Ac mewn llawer o ysgolion, pan fyddaf yn ymweld â hwy nawr, mae eu penaethiaid yn dweud wrthyf, 'Edrychwch ar y to enfawr hwn sydd gennym yma. Byddem wrth ein boddau'n cael paneli solar ar ein toeau i helpu i redeg ein hysgolion ac i storio mwy o ynni a thrydan yn y grid.' Ond maent wedi gofyn i'w hadrannau addysg, ac nid ydynt yn gwybod sut i fynd ati i wneud hyn. Mae gennych athrawon blaengar yn dweud, 'Pam nad ydych chi'n gwneud hyn?'

Ar draws yr Undeb Ewropeaidd, bydd paneli solar yn ofynnol ar bob adeilad masnachol a chyhoeddus newydd erbyn y flwyddyn nesaf, ar adeiladau masnachol a chyhoeddus sy'n destun gwaith adnewyddu penodol erbyn 2027, ar adeiladau preswyl newydd erbyn 2029, ac ar adeiladau cyhoeddus presennol erbyn 2030. Mae Japan wedi pasio rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod paneli solar ar bob tŷ newydd a adeiladir yn Tokyo gan gwmnïau adeiladu tai mawr ar ôl mis Ebrill eleni. Mewn cyferbyniad, nid oes gofyniad gorfodol i osod paneli solar ar dai newydd yng Nghymru. Mae gennym raglen yng Nghymru nawr—neu mae gennych chi raglen, Llywodraeth Cymru—i ddarparu'r holl dai newydd hyn. Pam o pam nad oes gofyniad nawr i osod paneli solar arnynt?

Mae angen dysgu gwersi pwysig o gynllun ECO4. Mae pobl yn cysylltu â mi nawr, gan fy mod wedi codi hyn gymaint o weithiau yma yn y Siambr, ynglŷn â gwaith gwael iawn a wnaed ar gynllun ECO4 yn enwedig, gyda phaneli'n gollwng, a pherchnogion yr eiddo yn aml yn agored i niwed neu'n oedrannus. Roedd un fenyw o Gaerffili yn ei dagrau ar y ffôn gyda mi ddoe. Mae'n rhaid iddi ddod o hyd i £80,000 nawr i ailosod y tŷ yn ôl fel yr oedd cyn y cynllun ECO4, a oedd yn werth oddeutu £20,000 pan y'i gosodwyd. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall. Rwy'n credu'n wirioneddol, lle mae arian trethdalwyr yn mynd tuag at ariannu cynlluniau o'r fath fel ynni solar, y dylai'r wladwriaeth sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau i'r safon gywir.

Fel y mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi'i nodi'n gywir ddigon, mae'r economi werdd yn gyfle sy'n rhaid ei fachu'n gyflym. Dylai Llywodraeth Cymru weithio'n gyflym gyda'r sectorau cyhoeddus a phreifat i gefnogi datgarboneiddio, wedi'i ategu gan bontio teg, i helpu Cymru i wireddu'r cyfleoedd yn llawn. Ond yr hyn na ddylem ei wneud yma yng Nghymru yw caniatáu darnau helaeth, hectarau o dir gyda'r paneli solar enfawr hyn sydd mewn gwirionedd yn peryglu ein cefn gwlad, yn peryglu ein diogeledd bwyd ac yn peryglu ein ffermwyr yn y tymor hir. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen, ond dywedodd Brynle Williams wrthym oddeutu 20 mlynedd yn ôl y byddem yn wynebu problem diogeledd bwyd un diwrnod. Rydym yn wynebu hynny nawr, ac felly ni ddylem droi ein tiroedd pori amaethyddol gwych yn gaeau o baneli solar. Rwy'n eich annog felly i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i gydweithio â datblygwyr ar gyfer prosiectau solar fel y bo angen, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn deall y polisïau cynllunio cadarn sydd mewn grym yng Nghymru; a

b) parhau i fynd i’r afael â’r gwaith ar y cynnig i’r sector ynni adnewyddadwy, a fydd yn cynnwys technolegau solar, gan barhau â gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wynt ar y Môr.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig.

Gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor y tu ôl i gynnig y Ceidwadwyr. Mae'r pryder cynyddol ynghylch colli tir amaethyddol i ddatblygiadau solar mawr yn ddifrifol, ac rydym yn cytuno bod angen gweithredu ar frys, ond byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn heddiw, ac rwyf am egluro pam.

Mae'r cynnig, fel y'i cyflwynwyd, yn rhy ffwr-bwt ar gyfer problem sy'n llawer mwy cymhleth. Rwy'n credu bod llawer i gytuno ag ef yng nghyfraniad Janet Finch-Saunders, ond mae'n dangos cymhlethdod y mater hwn. Caiff y gair 'moratoriwm' ei daflu o gwmpas yn rhy hawdd ar nifer o faterion. Yn yr achos hwn, bydd moratoriwm cyffredinol ar bob cais am baneli solar ar dir amaethyddol yn ddiwahân a heb fanylu yn arwain at ganlyniadau anfwriadol ac annheg. Er enghraifft, o dan y cynnig hwn, pe bai ffermwr unigol eisiau gosod nifer cymedrol o baneli solar ar eu tir eu hunain, i bweru eu fferm efallai, a thorri allyriadau neu gynhyrchu ychydig o incwm ychwanegol, byddent yn cael eu gwahardd rhag gwneud hynny. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr.

Yr hyn sydd ei angen yw rhywbeth ychydig yn fwy cynnil, dull sy'n ystyried ceisiadau fesul achos, gan ystyried graddfa'r datblygiad, ansawdd y tir a'r effaith ehangach ar y gymuned, a'r holl bethau a nodwyd gan Janet yn ei chyfraniad, fel capasiti gweithgynhyrchu—mae angen inni fod yn cynhyrchu ac yn gweithgynhyrchu'r paneli solar hyn yma yng Nghymru er mwyn teimlo manteision y diwydiant solar sy'n datblygu. Mae materion yn codi mewn perthynas â'r broses gynllunio, a sicrhau ein bod yn gallu rhoi paneli solar ar doeau adeiladau cyhoeddus. Fe sonioch chi am ysgolion; edrychwch ar yr adeilad rydym ynddo ar hyn o bryd, gyda tho enfawr nad yw'n cael ei ddefnyddio'n llawn o gwbl.

Rwy'n pwysleisio eto, Lywydd, fod materion real a dybryd yn gysylltiedig â ffermydd solar mawr ar dir amaethyddol, pryderon dilys ynghylch y bygythiad hirdymor y mae'r datblygiadau hyn yn ei achosi i ddiogeledd bwyd, y diwydiant amaethyddol ac i fywoliaeth pobl mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru. Nid yn unig fod ein tir amaethyddol gorau yn ased cenedlaethol, mae'n sylfaen i'n heconomïau gwledig ac yn sylfaen i gymdeithas ehangach. Mae'n cefnogi swyddi lleol a chadwyni cyflenwi lleol ac yn sicrhau bod cyfoeth yn cael ei gadw yn ein cymunedau. Ni allwn ddweud yr un peth am y datblygiadau solar mawr hyn. Dyna pam fod yn rhaid inni ddiogelu'r tir hwnnw a sicrhau bod cynhyrchiant bwyd a chynaliadwyedd gwledig yn ganolog yn y polisi cynllunio. Dyna pam fod angen strategaeth solar arnom.

17:25

Fel Ceidwadwr, credaf yn gryf ac yn angerddol yn yr angen i ddiogelu ein hamgylchedd. Mae gan ein plaid hanes cryf o gyflwyno deddfwriaeth sy'n diogelu ein bioamrywiaeth, yn ogystal â chofleidio technoleg werdd ar gyfer y dyfodol. Mewn gwirionedd, roedd gan ein maniffesto diwethaf lawer o bolisïau a oedd yn cofleidio amgylcheddaeth, yn ogystal â chefnogi busnesau a gweithwyr.

Fodd bynnag, mae pob un ohonom yn credu bod yn rhaid inni fabwysiadu dull ymarferol o weithredu seilwaith newydd sy'n galluogi datblygiadau gwyrdd. O ran seilwaith ynni solar, fel y saif pethau, nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth solar genedlaethol gynhwysfawr i lywio buddsoddiad, rheoleiddio nac integreiddio'r grid. Ac mae hynny'n amlwg o'r ffordd y cânt eu gosod.

Mae llawer o fy etholwyr yn bryderus iawn am fferm solar arfaethedig, a grybwyllais yn y Siambr hon, ger Pont-hir, a allai ddefnyddio dros 120 hectar o dir os caiff ei chaniatáu. Nid yn unig fod 300 erw o dir fferm defnyddiadwy yn cael ei beryglu, rwy'n teimlo bod yr arfer ei hun yn anfoesegol, pan fo un dyhead amgylcheddol—ar gyfer ynni adnewyddadwy, yn yr achos hwn—yn bygwth ein hasedau amgylcheddol eraill. Nid yw hynny'n swnio'n iawn.

Mae her yn cael ei chyflwyno yn erbyn y cynnig hwnnw, Lywydd. Mae gan Gomisiwn Dylunio Cymru, corff annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ganllawiau hanfodol i'w dilyn. Mae'r canllawiau'n pwysleisio y bydd ffermydd solar yn cael eu cynllunio mewn modd sy'n ategu rhinweddau tirweddau presennol. Yn amlwg, nid yw'r fferm solar arfaethedig hon yn gwneud hynny.

Yn ychwanegol at hynny, mae'r canllawiau'n tynnu sylw at y ffaith bod cynllun ffermydd solar yn ei hanfod yn her mewn perthynas â chynllunio tirwedd ac integreiddio ystod eang o ddisgyblaethau ecolegol a chadwraeth â sgiliau rheoli gwaith adeiladu, prosiectau a pheirianneg. Mae angen i'r math hwn o newid tirwedd wneud cyfraniad cadarnhaol i'r tirweddau hyn. Dylai'r cynllun ddibynnu ar fwy na mesurau lliniaru i leddfu effeithiau golygfaol a natur yn unig.

Unwaith eto, rwy'n dadlau'n gryf y byddai llawer o'r ffermydd solar mawr a gynigir ledled Cymru, yn enwedig y rheini yng nghanol cefn gwlad, yn dibynnu'n llwyr ar fesurau lliniaru, yn hytrach na gwneud unrhyw gyfraniad cadarnhaol i'r dirwedd. Rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd yn gweld yr agweddau negyddol y gallai ffermydd solar arfaethedig, fel yr un yn fy etholaeth i, eu cael ar y gymuned honno a'r rhai eraill ledled Cymru.

Yn hytrach nag adeiladu’n ddiangen ar dir amaethyddol da ledled Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru geisio defnyddio mwy o’r lleoedd amlwg hynny a welwn dramor—toeau, adeiladau cyhoeddus, meysydd parcio dan do, ac ati—yn hytrach na defnyddio tir fferm neu beryglu amgylcheddau amrywiol ledled Cymru. Mae moratoriwm ar osod paneli solar ar dir amaethyddol yn hanfodol os ydym am sicrhau ein bod yn defnyddio pob llwybr arall cyn dinistrio ein cefn gwlad.

Nid Nimbyiaeth yw hyn, ond gofal am ein system fwyd a dyfodol ein hamgylchedd. Mae’n rhaid inni ystyried hefyd pwy sy'n buddsoddi yn y parciau solar mawr hyn, gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn eiddo i fusnesau tramor, gyda chwmnïau Prydeinig yn cyflwyno'r cais.

Mae'n debyg y bydd y fferm solar yn cael ei gwerthu sawl gwaith wedyn i amryw o gwmnïau tramor eraill. Er fy mod yn llwyr dderbyn yr angen am fuddsoddiad yng Nghymru, mae’n rhaid inni fod yn ofalus ynghylch y cymhellion y tu ôl i'r busnesau hyn. Ni allwn werthu rhannau o harddwch naturiol Cymru i'r cynigydd uchaf, er mwyn iddynt gael eu defnyddio fel buddsoddiad yn unig. Mae angen i fusnesau falio go iawn am yr amgylchedd ac am Gymru.

Y ffaith syml amdani yw mai ynni gwyrdd yw dyfodol ein seilwaith a'n heconomi. Nid yn unig fy mod yn derbyn hynny, rwy'n croesawu hynny. Ond mae'n rhaid inni ystyried yn ofalus ble i leoli'r seilwaith. Mae gan Gymru gyfle gwych i fanteisio ar ddyfodol ynni gwyrdd. Ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd bragmatig, ac mae'n rhaid inni gael strategaeth glir ar gyfer cyflwyno hynny. Heb un, rydym mewn perygl o wneud llawer mwy o ddrwg nag o les i'n hamgylchedd hardd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.

17:30

A gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw? Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio ar draws y pleidiau yn y Siambr yma ar fater sydd yn wirioneddol o bwys i gymunedau ym mhob cwr o Gymru. Dwi'n cytuno efo'r rhelyw o'r sylwadau a glywsom ni gan Janet Finch-Saunders. Dwi'n cytuno efo'r rhan fwyaf o'r cynnig hefyd, a dyna pam dwi eisiau canolbwyntio ar yr elfen lle mae yna gytundeb rhyngom ni yn fan hyn, oherwydd mae cydweithio'n bwysig.

Mae yna beryg go iawn ar hyn o bryd bod y math o ddatblygu solar sydd yn digwydd—ac mae yna enghraifft dda iawn ohono yn fy etholaeth; fe wnaf i gyfeirio ato yn y munud—yn peryglu amaeth, yn peryglu cymunedau, yn peryglu cynhyrchiant bwyd, yn enghraifft arall o'r echdynnu sydd wedi bod yn nodwedd o hanes diwydiannol Cymru dros y blynyddoedd. A dyma pam dwi'n credu'n gryf iawn fod angen inni gael strategaeth ar sut i ddefnyddio'r ffynhonnell ynni ragorol yma er ein budd ni yng Nghymru, a lliniaru lle mae yna beryglon.

Dwi'n gweld bod Cyngor Sir Ynys Môn newydd roi to solar dros un o feysydd parcio'r cyngor. Mae'n cynnig cysgod yn y glaw, hefyd, ond mae'n enghraifft o'r math o arloesi y gallwn ni ei wneud. Rydyn ni wedi clywed am enghreifftiau o osod paneli solar ar ochr y ffyrdd, ar ochr rheilffyrdd, eu defnyddio nhw fel ffensys, yn sicr i sicrhau bod yna baneli solar ar bob to cyhoeddus, o bosib ar bob to yng Nghymru, hyd yn oed. Mae hynny'n golygu'r angen i fuddsoddi yn y grid, ac ati, ond dyma pam rydym ni angen strategaeth. Ac yn y gwactod yna, heb strategaeth, y mae'r cwmnïau mawr yn dod i mewn ac yn gweld sut maen nhw'n gallu gwneud eu miliynau oddi ar ein tirwedd ni, oddi ar ein tir amaethyddol ni ac oddi ar ein cymunedau ni.

Lle dwi'n anghytuno efo'r cynnig, gyda llaw, ydy'r galw am foratoriwm ar osod paneli solar ar dir amaethyddol full stop. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n anodd dychmygu lle byddai ffermwr eisiau gallu elwa o osod paneli o gwmpas caeau, neu ble y byddai cymuned, o bosib, yn gofyn am gael datblygiad cymharol fach ar dir yn ei hardal hi. Neu beth am le mae hi'n amlwg bod yna dir o safon isel? Mae'r cynnig yma'n dweud, 'Dim byd yn unlle', a dwi ddim yn meddwl mai dyna'r agwedd gywir. Rydyn ni angen gallu dangos ein bod ni'n eiddgar i wneud yr hyn y gallwn ni i ddatblygu buddiannau allan o ynni solar.

Diolch yn fawr iawn i ti, Rhun, am hynny. 

I ddod yn ôl ar y pwynt hwnnw, rwy'n cytuno, ond yr hyn a awgrymwn yma yw moratoriwm byr, fel y gellir dod â hyn i mewn tra bod y strategaeth solar yn cael ei datblygu. Felly, mae hynny'n rhan annatod ohono—o ganiatáu i'r ffermwyr sy'n dymuno cael solar yng nghorneli caeau. Yna gellir integreiddio hynny yn y strategaeth solar, sydd ei hangen wedyn ar draws Cymru gyfan ar yr un pryd. Rwy'n credu ein bod ni'n dadlau am wahanol bethau.

Ond nid dyna beth y mae'r cynnig yn ei ddweud. Mae'n dweud, 'Gadewch i ni roi stop ar bopeth.' Ac yn yr ysbryd o ddangos ein bod o ddifrif am ddefnyddio ynni solar mewn ffordd sy'n gweithio i ni, nid yw bod mor ffwr-bwt â hynny'n llawer o help. Cefais rywun yn dod draw i gyfarfod cyhoeddus a gynhaliais yn ddiweddar, gyda Llinos Medi, yr AS dros Ynys Môn, a oedd yno i wthio'n ôl yn erbyn ein gwrthwynebiad i solar. Ond gwrandawodd ar yr hyn oedd a gennym i'w ddweud, a gadawodd yn cytuno â ni ac yn meddwl, 'Mawredd, nid yr ymagwedd echdynnol hon ar rannau helaeth o dir yw'r ffordd y dylem symud ymlaen.' Mae angen inni ddod â hwy gyda ni hefyd.

Gadewch imi siarad am y cynlluniau yn Ynys Môn—

—dau brosiect enfawr. Mae 3,700 o erwau o dir amaethyddol yn Ynys Môn. Mi ofynnais i wrth ddatblygwr cynllun arall yn Ynys Môn, 'Rhowch enghraifft i fi o sut mae hwn yn gweithio er ein lles ni.' 'Llai o draffig amaethyddol', oedd yr ateb roddon nhw. Hynny yw, beth mae traffig amaethyddol yn ei gynrychioli ydy swyddi. Mae o'n golygu gweithgarwch economaidd, ac yn y blaen. Ond, mae yna niwed go iawn yn gallu cael ei greu gan y cynlluniau yma, achos mae llawer ohonyn nhw ar dir da. 

Nid yw'n syndod fod cymaint o bobl ar Ynys Môn wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori ac wedi gwneud eu gwrthwynebiad yn hysbys, a'u bod yn poeni ynghylch defnyddio cymaint o gapasiti grid, defnyddio cymaint o dir cynhyrchiol. Ac os edrychwn ar brosiect Alaw Môn, y datblygiad y mae gan Ysgrifennydd y Cabinet gyfrifoldeb am benderfynu yn ei gylch—rwy'n gwybod na all wneud sylwadau arno—nid yn unig ei fod yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru o ddatblygu ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas, mae'n ei chwalu'n llwyr. Mae 392 erw o'r datblygiad 660 erw yn dir gorau a mwyaf amlbwrpas, wyth gwaith yn fwy na throthwy Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiad sylweddol ar dir gorau a mwyaf amlbwrpas. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dilyn polisi Llywodraeth Cymru ei hun, nid oes unrhyw reswm pam y dylai ganiatáu i'r datblygiad penodol hwnnw fynd yn ei flaen, ac rwy'n ei hannog i ystyried hynny wrth wneud ei phenderfyniad, y gwn y bydd yn digwydd yn fuan.

A dwi yn ein hannog ni i gario ymlaen, i weithio efo'n gilydd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynllunio ar gyfer dyfodol solar yng Nghymru, a pheidio â gadael i hwn fod yn un o'r pethau eraill yna sydd yn digwydd i ni, heb y buddiannau yn aros yn ein cymunedau ni.

17:35

Nid yw Cymru, fel y gwyddom i gyd yn dda, yn brin o law, ond nid ydym ychwaith wedi ein bendithio â gormodedd o heulwen. Ac eto mae ein bryniau, ein porfeydd a'n dyffrynnoedd, yr un tiroedd ag a fu'n bwydo ein pobl ers canrifoedd ac yn siapio ein diwylliant, yn cael eu troi fwyfwy yn gaeau silicon a gwydr yn enw rhinwedd gwyrdd.

Nawr, rwy'n gadarn o blaid lleihau allyriadau. Pwy na fyddai? Ond gadewch inni wneud hynny mewn ffordd synhwyrol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Dylai polisi hinsawdd gael ei fesur yn ôl canlyniadau, nid yn ôl bwriadau. A'r realiti empirig yw bod gorchuddio tir fferm cynhyrchiol â phaneli solar yn ffordd hynod o aneffeithlon o leihau allyriadau. Hyd yn oed mewn hinsoddau heulog, mae ynni'r haul yn parhau i fod yn ysbeidiol ac yn ddefnydd dwys o dir. Yma yng Nghymru, lle mae'r tywydd heulog yn bleser anarferol i ni, mae'r enillion hyd yn oed yn fwy prin. Am bob erw o dir fferm sydd wedi'i dagu gan baneli, rydym yn colli erw o gynhyrchiant bwyd, ar adeg pan fo prisiau bwyd byd-eang yn codi a chadwyni cyflenwi yn fwy bregus nag ar unrhyw adeg ers y rhyfel. Y pryder ymhlith llawer yn y gymuned ffermio yw bod y defnydd o dir amaethyddol ar gyfer ffermydd solar yn ymgais gudd arall gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ar dda byw, yn enwedig yn dilyn iteriad cyntaf y cynllun ffermio cynaliadwy, a fyddai wedi gweld colli 122,000 o unedau da byw.

Y ffurf fwyaf moesol o ynni yw'r hyn sy'n rhad, yn ddibynadwy ac yn doreithiog. Mae'r mwyafrif o'n ffynonellau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn dibynnu ar y tywydd, sydd nid yn unig wedi gwneud ynni'n ddrytach, mae wedi'i wneud yn llai diogel hefyd. Dylai solar fod yn rhan o seilwaith ynni amrywiol. Ni allwn roi ein holl wyau yn y fasged wynt a solar. Mae angen inni weld mwy o fuddsoddi ym mhŵer y llanw a thrydan dŵr. Yn hytrach na gorchuddio tir fferm â phaneli solar, mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar greu cymhellion ariannol pellach ar gyfer gosod paneli solar. Nawr, nid yw pawb yn gymwys ar gyfer cynllun Nyth Cartrefi Clyd, ac rwy'n gwybod, o siarad ag etholwyr a oedd yn gymwys, nad yw cael cymorth ar gyfer gosod paneli solar yn hawdd. Mae llawer o adeiladau cyhoeddus, ysgolion a chartrefi yn dal i fod heb baneli solar ar y to oherwydd cost neu ddiffyg cynllun Llywodraeth, a dylai hyn fod y flaenoriaeth cyn i baneli solar gael eu hystyried ar gyfer tir amaethyddol.

Er ei bod yn ddefnyddiol lleihau'r galw ar y grid ynni, os caiff ei ddefnyddio fel ffynhonnell ynni sylfaenol, mae cost ynni solar yn anferthol oherwydd yr adnoddau storio batri sydd eu hangen. I ddangos hyn, pe bai'r Unol Daleithiau yn cael eu pweru'n gyfan gwbl gan ynni solar, byddai'r gost o storio batri bum gwaith cymaint â chynnyrch domestig gros yr Unol Daleithiau, a byddai angen newid y batris hynny bob 15 mlynedd. Mae'n bwysig cydnabod hefyd fod paneli solar yn aml yn cynnwys plwm, cadmiwm a chemegau gwenwynig eraill, ac os cânt eu difrodi, gallant ollwng cemegau gwenwynig i'r pridd, sy'n golygu na ellid ei ddefnyddio eto fel tir âr. Mae'r galw am fwyd yn cynyddu, gan roi pwysau ar dir âr, gyda chost tir amaethyddol hefyd yn codi ledled Ewrop, ynghyd â phrisiau bwyd, ac yn dilyn pandemig COVID-19 a'r rhyfel yn Wcráin, dylem fod wedi dysgu pa mor bwysig yw diogeledd bwyd.

Yn olaf, gadewch inni siarad am flaenoriaethau. Mae ffermwyr Cymru yn stiwardiaid ar y tir, nid yn unig ar gyfer bwyd ond ar gyfer bioamrywiaeth a chymuned. Hwy yw'r ateb, nid y broblem. Mae gosod aráe ddiwerth o baneli solar wedi'u hadeiladu â gwydr a dur o ffatrïoedd sy'n llygru, yn Tsieina'n bennaf, yn tanseilio holl egwyddorion cynaliadwyedd. Nid oes angen inni ddewis rhwng dyfodol gwyrdd ac un diogel, ond mae angen inni fod yn onest am gostau, cyfaddawdau a chanlyniadau. Mae gan ynni solar rôl, ond ni ddylai byth ddod ar draul ein cyflenwad bwyd, ein ffermwyr na'n tir.

Felly, i gloi, Lywydd, gadewch inni gyfeirio buddsoddiad solar tuag at doeau, safleoedd tir llwyd a thir diraddiedig, nid y porfeydd gwyrdd sy'n cynnal ein heconomi a'n hunaniaeth. Gadewch inni beidio ag aberthu ein diogeledd bwyd er mwyn un math o ynni gwyrdd pan fo dewisiadau amgen ar gael. Pan ofynnir i chi ddewis rhwng symbolaeth a sylwedd, rwy'n eich annog i ddewis sylwedd.

17:40

Mae Plaid Cymru yn falch o fod yn blaid sy'n gyson gyfrifol yn amgylcheddol, ac fel y clywsom gan Luke a Rhun, dyna pam na allwn gefnogi'r cynnig hwn sydd wedi'i eirio'n ffwr-bwt a gyflwynwyd gan y Torïaid heddiw. Nid ydym yn blaid sy'n credu y gallai neu y dylai prosiectau ynni adnewyddadwy gael eu lleoli yn unrhyw le, doed a ddelo. Mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Yn fy rhanbarth i, mae gennyf rai o'r enghreifftiau mwyaf dybryd o ddatblygiadau solar wedi'u lleoli'n wael. Rwy'n dweud 'enghreifftiau' oherwydd maint a nifer y ceisiadau arfaethedig. Mae gwastadeddau Gwent yn enwog yn rhyngwladol fel cynefin hanesyddol ar gyfer amrywiaeth gyfoethog, amrywiol a phrin o ffawna a fflora. Eto, mae chwe datblygiad solar enfawr yn yr arfaeth a allai'n hawdd newid cydbwysedd bregus yr ecosystem unigryw hon. Pe bai pob cais yn cael ei gymeradwyo, gallai bron i un rhan o bump o gyfanswm arwynebedd safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig gwastadeddau Gwent fod o fewn ffiniau datblygu. I roi hyn yn ei gyd-destun, byddai'n cyfateb i fwy na 1,000 o gaeau rygbi maint rhyngwladol o dir SoDdGA wedi'i orchuddio i raddau helaeth gan baneli. Ar gyfer un o'r safleoedd o diddordeb gwyddonol arbennig yr effeithir arnynt, gallai cymaint â 43 y cant o gyfanswm ei arwynebedd fod o fewn y ffiniau datblygu pe bai pob un yn cael eu hadeiladu.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn bryderus iawn ynglŷn â difrod posibl y datblygiadau hyn, ac maent yn iawn i fod yn bryderus. Nid yw'r dystiolaeth o un datblygiad gorsaf ynni solar a gymeradwywyd flynyddoedd yn ôl yn dda. Gwyddom o adroddiad monitro ôl-adeiladu Llywodraeth Cymru ei hun ar wastadeddau Gwent, a ddaeth allan dair blynedd ar ôl i fferm solar Llan-wern ddechrau gweithredu, nad yw mesurau diogelu wedi gweithio a bod bywyd gwyllt wedi dioddef. Nid yw'r ardal liniaru newydd a gyfer y gornchwiglen wedi denu'r un pâr o gornchwiglod dair blynedd ar ôl ei hadeiladu. Mae niferoedd rhywogaethau gwenyn allweddol wedi gostwng, gan gynnwys gostyngiadau sylweddol ym mhoblogaethau'r gardwenynen feinlais a'r gardwenynen lwydfrown yn ardaloedd yr araeau solar. Mae prysurdeb ystlumod wedi gostwng, ac mae'r garan wedi mynd. Cyn adeiladu'r fferm solar, gwelwyd pâr o'r adar mawreddog hyn yn yr ardal, ond ni chawsant eu gweld ers hynny.

Mae Natalie Buttriss o Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn crynhoi safbwynt Plaid Cymru ar hyn i'r dim pan ddywed:

'Wrth gwrs ein bod o blaid ynni adnewyddadwy, ond gallai effaith cwymp dinistriol y dominos hyn fod yn drychinebus i ecosystem gymhleth gwlyptiroedd Gwastadeddau Gwent'.

Dyma'r rheswm pam, er na allwn gefnogi'r cynnig oherwydd y ffordd ffwr-bwt y mae wedi'i eirio, na allwn gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth, nad ydynt yn cynnig y diogelwch y mae ardaloedd fel gwastadeddau Gwent, gyda'u bywyd gwyllt cyfoethog, ei angen ac yn ei haeddu. Diolch.

Rwy'n rhannu'r pryderon, Lywydd, ynglŷn â chynigion ar gyfer ffermydd solar mawr ar wastadeddau Gwent. Mae wedi achosi llawer o bryder yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, ac rwy'n cadeirio gweithgor gwastadeddau Gwent, sy'n ystyried yr holl faterion hynny. Ac mae'n fater o effaith gronnus, pan fo cymaint o geisiadau ar gyfer ffermydd solar mawr ar wastadeddau Gwent, sydd, wrth gwrs, yn hynod sensitif o ran eu hansawdd amgylcheddol, natur hanesyddol gwastadeddau Gwent, eu pwysigrwydd i fioamrywiaeth, y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a llawer o bethau eraill yn wir.

Rwy'n credu bod llawer o bobl ar wastadeddau Gwent, fel mewn mannau eraill yng Nghymru, yn derbyn bod angen llawer mwy o ynni adnewyddadwy wrth gwrs, yn cynnwys ynni solar, ond fel erioed—ac mae hyn yn berthnasol i unrhyw gais yn unrhyw le mewn gwirionedd—mae'n amlwg fod yn rhaid iddo fod yn y lle iawn. Weithiau, mae polisi Llywodraeth Cymru wedi'i dargedu'n fwy at nodi ardaloedd addas ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy, ac weithiau efallai heb ei ddatblygu'n ddigonol. Ond rwy'n croesawu'n fawr y newidiadau diweddar i 'Polisi Cynllunio Cymru', sydd yn fy marn i'n cynnig llawer mwy o ddiogelwch drwy'r system gynllunio rhag lleoli rhai o'r ffermydd solar mawr hyn mewn lleoliadau amhriodol, er enghraifft, lle ceir safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae angen eu diogelu a'u gwarchod.

Felly, mae pennod 6 o 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r profion yn ymwneud â datblygiadau cwbl eithriadol a fyddai'n gwella ansawdd amgylcheddol yr ardal mewn gwirionedd, yn hytrach na'i niweidio, yn rhwystr sylweddol i'w oresgyn ymhlith y gofynion polisi cynllunio cyffredinol sy'n berthnasol. Rydym eisoes wedi clywed am y monitro ôl-adeiladu ar wastadeddau Gwent mewn perthynas â datblygiadau presennol, sydd unwaith eto'n dangos yr angen am fwy o ddiogelwch a mwy o amddiffyniad i'r amgylchedd hynod sensitif a gwerthfawr hwnnw.

Felly, un peth y gwn ei fod yn destun pryder mawr i drigolion ac ymgyrchwyr lleol yw'r modd y cymhwysir datblygiadau diweddaraf 'Polisi Cynllunio Cymru' mewn perthynas â ffermydd solar mawr ar dir safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac maent yn amlwg yn awyddus iawn i arolygwyr fod yn gwbl ymwybodol o hynny wrth iddynt wneud eu penderfyniadau, ac yn bwysicach fyth, iddynt ei gymhwyso'n gyson. Mae'n rhaid iddo gael effaith ymarferol, ac mae'n rhaid i'r ymgyngoreion statudol, yn yr un modd, wireddu'n llawn y safbwynt cynllunio diweddaraf sy'n berthnasol yng Nghymru ac adlewyrchu hynny, unwaith eto, yn eu safbwyntiau a'r ddogfennaeth a ddarparant yn rhan o'r broses gynllunio.

Felly, yn fyr, rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa well nawr gyda newidiadau diweddar i 'Polisi Cynllunio Cymru' a sut y maent yn berthnasol i geisiadau ffermydd solar mawr ar dir safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ond yr her yw sicrhau bod unrhyw benderfyniadau gwirioneddol a wneir ar y datblygiadau diweddaraf hynny'n cael eu cymhwyso'n llawn ac yn effeithiol.

17:45

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sydd nawr yn cyfrannu at y ddadl, Rebecca Evans.

Diolch. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i ymateb i'r ddadl hon ar ynni solar. Er ein bod yn cytuno bod hwn yn fater hynod bwysig i ni ei drafod heddiw, nid ydym yn cefnogi'r cynnig fel y saif.

Rydym yn gwybod bod cael ffynhonnell ddibynadwy a gwyrdd o ynni yn hanfodol a hyd yn oed yma yng Nghymru, mae gan ynni solar rôl bwysig i'w chwarae. Rydym wedi gosod uchelgais i Gymru gynnal digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein defnydd o drydan erbyn 2035 ac i gadw i fyny â'r twf yn y galw wedi hynny, yn ogystal â darparu mwy o fanteision i'n heconomi a'n cymdeithas na'r system sydd gennym heddiw. Mae hwn yn darged uchelgeisiol, gan ein bod yn gwybod y rhagwelir y bydd y galw am drydan yn tyfu'n sylweddol. Rydym hefyd yn gwybod y bydd angen ystod o dechnolegau arnom i gyrraedd y targed hwn. Wrth inni barhau i leihau cost ynni i ddefnyddwyr, gwyddom fod ynni solar yn parhau i fod yn un o'r technolegau cost isaf ym maes cynhyrchu ynni.

Fel y dengys ein hadroddiad ar gynhyrchu ynni a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ceir dros 86,000 o brosiectau solar ledled Cymru. Mae'r mwyafrif helaeth o'r rhain ar doeau ein hadeiladau ac yn ei gyfanrwydd, mae ynni solar yn cynhyrchu tua 15 y cant o gyfanswm ein cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Rydym am weld newid sy'n cyflymu twf yng Nghymru ac yn dod â swyddi a chyfleoedd newydd i genedlaethau'r dyfodol. Wrth inni newid y ffordd y cynhyrchwn ac y defnyddiwn ynni, rydym wedi cydgomisiynu'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol i ddatblygu cynllun ynni gofodol strategol. Nod y cynllun yw datblygu'r system sy'n costio leiaf i ddiwallu ein hanghenion ynni presennol ac yn y dyfodol, ac mae hyn yn hynod bwysig i bob un ohonom, i sicrhau bod gennym system effeithlon sy'n ystyried cost cynhyrchiant, ond hefyd ein blaenoriaethau gofodol ehangach, gan gynnwys adfer natur. Mae'n hanfodol fod gennym fframwaith polisi cryf i'w gymhwyso pan fydd prosiectau'n cael eu cyflwyno.

Mae ein polisi cynllunio'n gadarn. Mae'n bwrw golwg gytbwys ar draws pob maes polisi wrth ystyried ceisiadau. Rhan allweddol o hyn yw ein hymrwymiad clir i ddiogelu tir amaethyddol. Mae'r polisi tir gorau a mwyaf amlbwrpas yn rhoi cryn bwysau ar ddiogelu tir gradd 1, 2 a 3a, gan ei gydnabod yn adnodd cyfyngedig a gwerthfawr. Mae'r dull hwn wedi bod yn effeithiol wrth ddiogelu ein tir amaethyddol a bydd yn parhau i lywio datblygiadau ynni adnewyddadwy cyfrifol a chynaliadwy. Ac wrth i gyd-Aelodau siarad yn y ddadl, cefais fy atgoffa o lythyr prif swyddog cynllunio a anfonodd fy rhagflaenydd, Julie James, yn 2022, ac roedd hwnnw'n wirioneddol eglur ac yn helpu i egluro'r polisi ymhellach trwy ddweud, 

'oni bai fod ystyriaethau perthnasol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod rhoi caniatâd.'

Mae'n parhau:

'Os daw ceisiadau aráe paneli solar ffotofoltaig ar dir amaethyddol BMV gerbron yr Adran Newid Hinsawdd, bydd yr Adran yn gwrthwynebu colled o dir amaethyddol BMV oni bai fod ystyriaethau perthnasol eraill yn drech na'r angen i ddiogelu tir o'r fath yn unol â pholisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru'.

Felly, roeddwn i'n meddwl bod hynny'n ddefnyddiol iawn i egluro'r polisi.

Ers amser hir, mae ein polisïau wedi cefnogi dull lle mae seilwaith ynni newydd yn cael ei ddatblygu gyda chymunedau, ac mae'n rhoi ffafriaeth glir i berchnogaeth leol. Ac rwy'n falch iawn ein bod eisoes wedi cyrraedd ein targed perchnogaeth leol o 1 GW erbyn 2030, ac rydym am gyflawni o leiaf 1.5 GW o ynni adnewyddadwy lleol erbyn 2035. Ac unwaith eto, gan ystyried y cyfraniadau yn y ddadl, mae'r pwynt ynglŷn â sicrhau ein bod yn cynnal y gwerth yma yng Nghymru cymaint ag y gallwn yn bwysig iawn, a dyna pam rwy'n ystyried, hyd yn oed nawr, gyda Trydan Gwyrdd Cymru yn ei fabandod cymharol, ble fydd ei rôl nesaf. Ac wrth gwrs, mae ein prosiectau cychwynnol yn canolbwyntio ar ynni gwynt ar ystad Llywodraeth Cymru, ond mewn gwirionedd, rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud ar amserlen gyflymach yn y gofod solar hefyd.

Rydym hefyd yn cydnabod bod gan fusnesau unigol, y sector cyhoeddus, landlordiaid ac aelwydydd rôl i'w chwarae—

17:50

Diolch, Rebecca. Rydych chi wedi dweud yn glir iawn nad ydym yn mynd i fod yn adeiladu ar dir gorau a mwyaf amlbwrpas 1, 2 a 3a; tybed a allwch chi roi sicrwydd tebyg ynghylch tir safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, oherwydd, yn amlwg, mae'r effeithiau ar fyd natur yn ddifrifol iawn, fel y nododd Peredur Owen Griffiths a John Griffiths. Ac yn eich cynllun ynni gofodol, a oes gennych unrhyw uchelgais i gynnal adolygiad, archwiliad cenedlaethol o'r holl doeau addas? Oherwydd mae ganddynt botensial, yr 1 miliwn o doeau hyn, i gynhyrchu popeth sydd ei angen arnom ar gyfer ynni brig yn y gaeaf.

Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Ac wrth gwrs, bydd pob datblygiad yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun yn unol â pholisi cynllunio. Ond rwy'n credu bod John Griffiths wedi nodi'n ddefnyddiol iawn, y prynhawn yma, y newidiadau diweddar a wnaed ac fe gyfeiriodd at 'Polisi Cynllunio Cymru', pennod 6, sy'n nodi:

'na ddylai unrhyw ddatblygiad beri colled sylweddol o ran cynefinoedd neu boblogaethau rhywogaethau, yn lleol nac yn genedlaethol a rhaid i’r datblygiad weithio ochr yn ochr â natur a bod o fantais net i fioamrywiaeth a gwella cydnerthedd ecosystemau neu alluogi hynny i ddigwydd.'

Ac rwy'n credu unwaith eto fod hwnnw'n ddatganiad cryf iawn gafodd ei gynnwys gennym nawr yn ein polisi cynllunio i osod y cyfeiriad ac i helpu i ystyried penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau cynllunio, sydd bob amser yn anodd ac yn gymhleth. Ond rwy'n credu bod yr eglurder hwnnw, ar ben yr eglurder a ddarperir yn y llythyr y cyfeiriais ato'n flaenorol, yn wirioneddol ddefnyddiol.

Ac yn bendant, mae llawer mwy y gallwn ei wneud o ran sut y defnyddiwn ein toeau. Felly, mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yno i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i'r sector cyhoeddus yn y lle cyntaf. Yn y ddadl, clywsom am ysgolion nad ydynt yn gwybod ble i fynd am gyngor i wireddu'r budd hwnnw, ond mae'r gwasanaeth yno, felly fe edrychaf i weld beth y gallaf ei wneud i hyrwyddo'r gwasanaeth hwnnw'n fwy eto i'n sector cyhoeddus.

Rydym yn cydnabod bod gan fusnesau unigol, landlordiaid y sector cyhoeddus ac aelwydydd rôl i'w chwarae, a gallant elwa o ynni adnewyddadwy yn eu hadeiladau, felly mae gennym ystod o bolisïau ar waith i hyrwyddo'r defnydd o ynni solar ar doeau addas. Drwy ein rheoliadau adeiladu, mae gennym ofyniad i gartrefi ac eiddo annomestig leihau eu hallyriadau carbon, a byddwn yn cynyddu'r gofyniad hwn yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn disgwyl i dechnoleg solar chwarae rôl wirioneddol arwyddocaol a phwysig wrth gyflawni'r gofynion hynny.

A hefyd, eleni, rydym wedi dyrannu £93 miliwn i ddatgarboneiddio ein stoc tai cymdeithasol trwy ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, ac mae hwnnw'n ariannu pecynnau o fesurau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae'r rhain yn ymyriadau sy'n darparu aer glanach, cartrefi iachach, biliau ynni mwy sefydlog a chyfleoedd gwaith newydd mewn cymunedau ledled Cymru, ac unwaith eto, mae ynni solar yn rhan bwysig o'r cynnig hwnnw.

Mae gennym hefyd Fanc Datblygu Cymru, ac maent yn treialu cynllun benthyca â chymhellion i gynorthwyo aelwydydd yng Nghymru i ddatgarboneiddio, ac mae mesurau cymwys yn y gofod hwnnw hefyd yn cynnwys cynhyrchu ynni drwy systemau solar ffotofoltäig, yn ogystal â'r batris i sicrhau'r budd ariannol mwyaf posibl i'r aelwyd. Clywsom gyfeiriad at Ynni Cymru mewn dadl flaenorol a'r gwaith gwych sy'n digwydd yno drwy ddarparu ymyriadau, gan gynnwys prosiectau solar, ar draws grwpiau cymunedol a chlybiau, y sector cyhoeddus a busnesau bach.

Felly, er mwyn cyflawni ein blaenoriaeth ar gyfer swyddi gwyrdd, rydym yn gweithredu nawr i sicrhau bod cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn elwa o'r buddsoddiad sydd ei angen. Drwy ein dull o reoli ein hadnoddau naturiol, byddwn yn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur sy'n wynebu Cymru. Bwriad y cynnig i'r sector ynni adnewyddadwy, y soniais amdano mewn dadl flaenorol, yw parhau i gefnogi ein cymunedau ac i sicrhau ein bod i gyd yn deall y rôl y mae'n rhaid inni ei chwarae i gyrraedd ein targedau ynni. Felly, bydd y cynnig rwy'n ei ddatblygu ar hyn o bryd yn cynnwys technolegau solar, gan gynnwys cyfleoedd arloesol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan ein prifysgolion. Ac wrth gwrs, cyfeiriais at y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr, sydd hefyd yn mynd i fod yn rhan o'r gwaith sy'n arwain at y cynnig hwnnw i'r sector.

Ac wrth dynnu tua'r terfyn, mae Solar Energy UK wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar fap llwybr solar, ac mae hwnnw'n mynd i ddarparu llawer iawn o wybodaeth berthnasol i ni ei hystyried wrth i ni ddatblygu'r cynnig hwnnw i'r sector ymhellach ar gyfer Cymru.

Felly, yn amlwg, mae gan ynni solar ran bwysig i'w chwarae yn nyfodol ein cymysgedd ynni i sicrhau bod gennym ynni dibynadwy, fforddiadwy, a bod gennym ddiogeledd ynni yn gyffredinol. Felly, rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r gwelliant heddiw, a gweithio gyda ni i gyflawni'r newid i ynni cynaliadwy ar gyfer Cymru.

17:55

Diolch, Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. I fynd i'r afael â phwynt Plaid Cymru fod hon yn ddadl ffwr-bwt, pan fyddwn yn siarad am dir amaethyddol a datblygu ynni solar ar y tir, boed yn brosiectau mawr neu'n brosiectau bach dan arweiniad ffermwyr yn eu corneli eu hunain, os cymerwn gam yn ôl ac oedi, pan edrychwn ar ddatblygu strategaeth solar, rwy'n credu ei bod hi'n iawn fod yr holl ddatblygiadau hynny'n cael eu hystyried yn eu cyfanrwydd, a dyna yw ethos y cynnig a gyflwynwyd yma heddiw. Ond pe bawn i'n Weinidog ac yn cyflwyno Bil, a bod Plaid Cymru wedi awgrymu gwelliant iddo, byddwn yn agored i weithio ar y cyd ar rywbeth yn y dyfodol mewn perthynas â hyn, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod ffermwyr sy'n awyddus i ddatblygu ynni adnewyddadwy ar eu tir yn cael pob cyfle i wneud hynny. Yn wir, roedd un o fy ngwelliannau i'r Bil amaethyddol yn ymwneud â gallu i ffermwyr gael gwell mynediad at ddarparu ynni adnewyddadwy ar eu ffermydd, gyda'r ffocws ar ofod to. Rydych chi wedi clywed cryn dipyn y prynhawn yma am yr erwau o ofod to sydd ar gael i ni, nid yn unig mewn amaethyddiaeth, ond yn y sector preifat, y sector cyhoeddus, a chyfleoedd eraill i ddatblygu ynni solar cyn i ni ddechrau edrych ar ddefnyddio tir amaethyddol a lleihau'r gallu i ni gynhyrchu bwyd.

Rwy'n credu mai dyna lle byddwn ni'n edrych cyn toriad yr haf, cyn y Nadolig efallai, cyn diwedd y chweched Senedd hon, ar rywbeth yn fwy cyfannol fel cynnig ar y cyd neu lais ar y cyd o'r Senedd hon ynghylch yr hyn rydym yn ei feddwl am ddatblygiadau solar. Rwy'n credu y byddai hynny'n bwynt cryf i ni. Os yw'r Llywodraeth yn dymuno gweithio gyda ni hefyd fel llais unedig go iawn, rwy'n credu y byddai hynny'n cael ei groesawu, oherwydd mae'r ofn yn y cymunedau lle mae'r datblygiadau mawr hyn yn digwydd yn real. Maent yn gweld yr agwedd echdynnol ar hyn, a soniais amdani yn y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gynharach heddiw: pan fydd cymunedau'n teimlo bod pethau'n cael eu gwneud iddynt, heb unrhyw fudd iddynt, mae'n anodd iawn ennyn eu cefnogaeth, a'r hyn a welant yw paneli solar yn cael eu dwyn i mewn, tir amaethyddol a chyflogaeth amaethyddol yn cael eu colli, a'r electronau'n cael eu trosglwyddo allan o'r gymuned a'r elw'n cael ei drosglwyddo allan o'r gymuned hefyd. Felly, os oes ffordd o gydweithio ar hynny yn y dyfodol, rwy'n credu y byddai hynny'n wirioneddol bwysig.

Rwy'n credu bod y cynnig hwn hefyd yn un sy'n edrych ar synnwyr cyffredin. Nid yw'n wrth-ynni adnewyddadwy, ymhell o fod. Rydym yn blaid sy'n cefnogi ynni adnewyddadwy ac yn cefnogi'r cyfleoedd y mae ynni adnewyddadwy yn eu cynnig ar ffurf cyflogaeth newydd, sgiliau newydd, diogeledd ynni, ond rydym angen i'n ddiogeledd bwyd gael ei gynnal ochr yn ochr â hynny i'r un graddau hefyd. Rwy'n credu mai dyna yw craidd y cynnig, ystyried am eiliad, o gofio bod y datblygiadau hyn, byddwn yn dadlau, y datblygiadau mawr hyn, wedi cyflymu ymhellach ac yn gyflymach yn y meysydd hyn nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Felly, gadewch inni ystyried am eiliad a meddwl, 'Am funud bach, ai dyna'r bwriad pan fyddwn ni'n cyflwyno datblygiadau solar?', 'Ai dyna oedd y bwriad pan sefydlwyd y rheolau cynllunio am y tro cyntaf ynghylch hynny?'  Ac rwy'n credu mai arwydd o gryfder yw gallu dweud, 'Gadewch inni oedi am eiliad, gadewch inni ystyried, gadewch inni ddeall ai dyma'r ffordd iawn ymlaen.' Ac rwy'n credu mai dyna beth y mae'r cynnig hwn yn ceisio ei wneud heddiw.

Ac rwy'n credu bod y strategaeth solar, fod cyflwyno honno—. Rwy'n herio Ysgrifennydd y Cabinet ar y gwelliant y mae hi'n ei gyflwyno, a gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr. Mae'n teimlo fel defnyddio gwaith rhywbeth mewn technoleg ynni adnewyddadwy hollol wahanol i siarad wedyn am ynni solar—mae'n rhyw fath o fethu'r pwynt. Oes, mae yna rai sgiliau trosglwyddadwy ynghlwm wrth hyn, ond pan fyddwn yn siarad am wynt ar y môr yn y môr Celtaidd neu ym môr Iwerddon neu ble bynnag, ac yna'n siarad am ynni solar ar dir amaethyddol, rwy'n credu ei fod yn dipyn o naid i allu cymryd gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw a'i gymhwyso i ynni solar. Felly, dyna pam y mae'n rhaid cael strategaeth solar i Gymru.

Ond rwyf wedi mwynhau'r ddadl hon yn fawr. Rwy'n mwynhau'r ffaith bod consensws ynglŷn â hyn ac edrychaf ymlaen at weithio arno yn y dyfodol, a hoffwn annog pawb—. Rwy'n deall y pwynt y mae Plaid Cymru yn ei wneud, ond rwy'n annog pawb yn y Siambr y prynhawn yma i bleidleisio dros y cynnig. Diolch yn fawr.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r eitem yma, o ran pleidleisio, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl Plaid Cymru: Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 9 sydd nesaf. Dadl Plaid Cymru ar adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yw'r ddadl yma, a Heledd Fychan sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM8923 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi casgliadau ei hadolygiad o wariant ar 11 Mehefin.

2. Yn gresynu bod penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith anghymesur ar Gymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno bil tegwch economaidd sydd:

a) yn sicrhau cyllid teg i Gymru;

b) yn datganoli pwerau i greu bandiau treth incwm newydd; ac

c) yn cynyddu terfynau tynnu i lawr a phwerau benthyca yn unol â chwyddiant.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) mynd i’r afael â’r tanfuddsoddiad hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, ymrwymo i’r £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2 a datganoli pwerau a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru;

b) adfer y taliad tanwydd gaeaf fel darpariaeth gyffredinol a chael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn yn ddi-oed;

c) ad-dalu Llywodraeth Cymru yn llawn am effaith codiadau yswiriant gwladol cyflogwyr; a

d) cyflwyno treth ar gyfoeth, gan sicrhau bod y baich ar yr unigolion a’r corfforaethau sy'n gallu ysgwyddo cyfran decach o’r dreth gyffredinol a delir.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. Cyllid teg i Gymru: dyna sydd wrth wraidd y ddadl heddiw, ac rwy'n gobeithio, fel Senedd, y gallwn ddod o hyd i dir cyffredin y prynhawn yma a chytuno, er bod rhywfaint o newyddion i'w groesawu i Gymru yn yr adolygiad o wariant heddiw, mae'r cyhoeddiadau a wnaed yn parhau'r gwirionedd hysbys fod Cymru'n parhau i gael cam gan San Steffan ac yn cael ei heffeithio'n anghymesur gan lawer o'r penderfyniadau a wneir. Mae'r ffordd y cawn ein hariannu yn sylfaenol ddiffygiol ac nid yw'n diwallu anghenion ein poblogaeth.

Felly, pam y mae hyn yn bwysig? Wel, hyd nes y caiff y ffordd y cawn ein hariannu ei datrys, bydd ein Llywodraeth ni a'n Llywodraethau yn y dyfodol bob amser wedi'u cyfyngu ac yn ddibynnol ar chwiwiau Llywodraeth y DU, o ba bynnag liw, ynghylch y cyllid sydd ar gael i'w wario ar ein blaenoriaethau fel Senedd ac fel cenedl. Rwy'n ei hystyried yn sarhaus, a bod yn onest, ein bod i fod i ddathlu a bod yn ddiolchgar am ba bynnag arian sy'n cael ei gynnig, hyd yn oed pan fo gryn dipyn yn llai na'r hyn sy'n ddyledus. Mae gwell na dim neu well nag a gawsom gan y Torïaid yn far isel iawn ac ni ddylai unrhyw un ohonom fodloni ar hynny. Mae'n debyg i sefyllfa lle mae arian yn ddyledus i chi a'ch bod yn hapus ac yn ddiolchgar pan fyddwch chi'n derbyn 10 y cant yn unig o'r arian sy'n ddyledus. Fe fyddech chi'n dweud 'diolch', ond fe fyddech chi hefyd yn holi, 'Ble mae'r gweddill?' Byddech o leiaf eisiau gwybod pryd i'w ddisgwyl, gyda chynllun talu wedi'i gytuno. Dyna pam, yn rhan o'r cynnig, ein bod yn galw am Fil tegwch economaidd a fyddai'n cyflawni tri pheth i Gymru. Yn gyntaf, byddai'n sicrhau cyllid teg i Gymru yn lle fformiwla Barnett nad yw'n gymwys mwyach. Yn ail, byddai'n rhoi pwerau i ni, fel Senedd, i greu bandiau treth incwm newydd. Ac yn drydydd, byddai'n cynyddu terfynau tynnu i lawr a phwerau benthyca yn unol â chwyddiant. Felly, mae'n siomedig gweld Llywodraeth Cymru yn tynnu'r alwad hon o'r cynnig yn eu gwelliant, a dim ond yn nodi'r adolygiad o wariant. Rhaid bod Cymru'n haeddu gwell gan ei Llywodraeth ei hun, ac yn sicr mae'r rhain yn ofynion y byddai unrhyw Lywodraeth eisiau eu gweld yn cael eu cyflawni. Hefyd, dilëwyd ein galwadau i gyflwyno treth ar gyfoeth a fyddai'n sicrhau y byddai'r baich yn disgyn ar yr unigolion a'r corfforaethau sydd ag ysgwyddau lletach i gario cyfran decach o'r dreth gyffredinol a delir. Byddai hyn yn help aruthrol i'n gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi'n anodd.

Hefyd, mae ein galwadau i ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau wedi'i ddileu gan Lywodraeth Cymru. Pam? Yn enwedig yng ngoleuni adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree a gyhoeddwyd ddoe. Oni allwn gytuno bod angen i'r polisi creulon hwn, sy'n gwthio mwy o deuluoedd i dlodi dwfn, gael ei ddiddymu?

Felly, ni waeth sawl gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn lleisio'r sbin fod y bartneriaeth mewn grym yn gweithio i Gymru, gadewch inni edrych ar y ffeithiau. Y cyfan a gawsom oedd y swm canlyniadol Barnett am yr hyn oedd ei angen i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus. Gadawodd ddiffyg o £72 miliwn yn ein cyllideb, gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn gorfod dyrannu ei hanner o gronfa wrth gefn Cymru gyda'r sector cyhoeddus yn gorfod talu'r gweddill. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yr wythnos diwethaf, bydd hon yn broblem barhaus, a bydd angen i'r diffyg naill ai gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, neu ei ganfod o'r sector cyhoeddus ym mhob cyllideb yn y dyfodol. Ac nid dyna'r cyfan. Mae'r toriadau i fudd-daliadau pobl anabl, trethu ffermydd teuluol bach, a'r diffyg gweithredu ar filiau ynni—mae'r rhain i gyd yn effeithio ar Gymru. Ac ar gyllideb Llywodraeth Cymru ei hun hefyd wrth iddi geisio llenwi'r bylchau. Mae'n amlwg fod yn rhaid datganoli budd-daliadau i Gymru er mwyn inni allu creu system decach a mwy tosturiol sy'n cefnogi plant a phobl anabl.

Ac yna, wrth gwrs, mae trafnidiaeth, a chyllid rheilffyrdd yn benodol. Felly, gadewch imi fod yn glir iawn ynglŷn â'r cyhoeddiad heddiw: mae croeso i £445 miliwn wrth gwrs, fel i unrhyw arian sy'n dod i Gymru, ond—ac mae hwn yn 'ond' mawr—nid yw'n agos digon o gymharu â'r hyn sydd ei angen, ac nid yw'n agos at yr hyn sy'n ddyledus. I ddyfynnu'r Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd, mae'n 'druenus o brin' o fod yn ddatrysiad systematig. Yn gyntaf, caiff yr arian ei wasgaru dros gyfnod o ddegawd cyfan. Dyna £44.5 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd, o'i gymharu â'r gwerth £66 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf arfaethedig sydd eisoes wedi'i sugno allan o Gymru yn yr wyth mis ers cyllideb yr hydref, neu'r £385 miliwn y cyfrifodd comisiwn Burns y byddai'n ei gostio dros bum mlynedd i gyflawni eu hargymhellion. Ac er bod y Blaid Lafur wedi awgrymu bod yr arian hwn yn gysylltiedig â'r rhaglen HS2, maent yn parhau i wrthod ailddosbarthu'r prosiect fel un Lloegr yn unig. Felly, mae hynny'n golygu y byddwn yn dal i fod £4.15 biliwn yn brin o'r gwerth £4.6 biliwn o arian canlyniadol sy'n ddyledus i ni. Felly, yn hytrach na gwneud iawn am sgandal, i ddyfynnu'r Ysgrifennydd dros gyllid, neu anrhydeddu dyled i Gymru y dylid 'ei thalu'n llawn', i ddyfynnu Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, mae'r arian hwn, sydd wedi'i wasgaru'n denau dros flynyddoedd lawer, yn ddiferyn bach yn y môr o'r arian y dylem ei gael. Dyna pam y dylem i gyd uno heddiw i ofyn: pryd y cawn ni'r gweddill?

Yn gynharach, clywsom Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn gwrthod ateb fy nghwestiynau ynglŷn ag ailddosbarthu'r llinell Rhydychen i Gaergrawnt fel prosiect Cymru a Lloegr, ar ôl bod yn brosiect Lloegr yn unig o'r dechrau. Gyda chyhoeddiad o £2.5 biliwn heddiw ar gyfer y llinell honno'n unig, byddem yn cael £137 miliwn ychwanegol dros gyfnod yr adolygiad o wariant pe na bai'r ailddosbarthu wedi digwydd. Ac ar HS2 heddiw, mae £25.3 biliwn i'w fuddsoddi ar gyfer cyfnod yr adolygiad o wariant. Pe bai'n brosiect Lloegr yn unig, byddem yn cael £1.3 biliwn. Dyma ddwy enghraifft sy'n dangos pam nad ydym yn hapus i fodloni ar y £445 miliwn a gyhoeddwyd dros ddegawd. Mae hynny cyn inni ystyried y gwerth £2.9 biliwn i £8 biliwn o danfuddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru y mae Llywodraeth Cymru eu hunain wedi'i amcangyfrif dros y cyfnod rhwng 2001 a 2029. Unwaith eto, dyma Gymru'n cael cynnig briwsion o'r bwrdd a chlywed y dylai fod yn ddiolchgar amdanynt. Ac mae'r Blaid Lafur yma yng Nghymru yn dweud wrthym am fod yn hapus gyda'r briwsion am ei fod yn well na dim. Oherwydd, i lawer o bobl, mae £445 miliwn yn swnio'n llawer o arian, ond nid pan fyddwch chi'n cymharu â'r hyn sy'n ddyledus. Nid yw'n cyfateb i'r lefel o wariant a addawyd i rannau eraill o'r DU heddiw, gyda bron i £15.8 biliwn ar gyfer trafnidiaeth leol a rhanbarthol ledled Lloegr wedi'i gyhoeddi hefyd yn rhan o'r adolygiad o wariant. Pan fo mwy yn ddyledus i ni, nid ydym am fodloni ar lai.

Felly, yn ystod y ddadl heddiw, rwy'n gobeithio na fyddaf yn clywed sbin, na Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel llefarydd ar ran Llywodraeth y DU yma yn y Siambr, fel y gwelsom yn barhaus ers yr etholiad cyffredinol diwethaf, ond yn hytrach, penderfyniad i sicrhau cyllid teg i Gymru gan bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yma yn ein Senedd—cydnabyddiaeth nad dyma'r gorau y gall Cymru ei gael. Rydym yn haeddu mwy. Ni ddylem fod yn ddibynnol ar chwiw pwy bynnag sy'n dal yr allweddi i 10 Stryd Downing. Dyna beth y mae sefyll dros Gymru'n ei olygu. Mae'n golygu gofyn am yr un fath ag y gofynnoch chi amdano cyn yr etholiad.

18:05

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

18:10

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU, gan nodi'r goblygiadau i Gymru, ar ôl iddi ddadansoddi'r goblygiadau hynny, yn dilyn cyhoeddiadau ar 11 Mehefin.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Symud.

Galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. 

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi cyflwyno lwfans Tanwydd Gaeaf Cymru;

b) gwario codiad llawn Barnett ar gyfer iechyd, ar iechyd;

c) pwyso ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;

d) pwyso ymhellach ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r dreth ffermydd teuluol; ac

e) cadarnhau y bydd symiau canlyniadol sy'n deillio o wariant HS2 yn cael eu gwario ar brosiectau Cymru yn unig.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ydw, rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Mae'r adolygiad o wariant heddiw yn fwy o'r un peth gan Lafur: ambell bennawd bachog, ond claddu'r gwirionedd go iawn, sef nad yw Llafur yn poeni am Gymru go iawn. Ymhell o'r bartneriaeth arfaethedig y canai Aelodau Llafur amdani yn ystod yr etholiad, gwelsom bolisïau niweidiol yn dod gan eu cymheiriaid yn San Steffan, a dim byd ond geiriau amddiffynnol gan Weinidogion Cymru yma. Cofiwch mai'r peth cyntaf a wnaeth y Llywodraeth Lafur oedd torri taliadau tanwydd y gaeaf i bensiynwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan effeithio'n anghymesur ar bensiynwyr yng Nghymru. Do, cafwyd tro pedol enfawr ar y polisi ofnadwy hwn, ond erys y ffaith bod gormod o bensiynwyr wedi gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta dros y gaeaf diwethaf. Mae hyn yn embaras, a dylai'r Prif Weinidog ymddiheuro. Ond na, ni wnânt gyfaddef eu bod wedi ei gael yn anghywir hyd yn oed. Mae Rachel Reeves yn dal i geisio dweud nad yw'n dro pedol o gwbl. Mae'r haerllugrwydd yn syfrdanol. 

Nawr, gadewch inni droi at y cynnydd i yswiriant gwladol, y clywsom amdano eisoes—a byddaf yn ailadrodd llawer o'r hyn a ddywedodd Heledd. Mae'r cynnydd i yswiriant gwladol nid yn unig wedi costio'n ddrud i fusnesau, mae wedi effeithio'n anghymesur ar sector cyhoeddus Cymru. Bydd y cynnydd hwn hefyd yn effeithio ar awdurdodau lleol, a fydd yn y pen draw yn ysgogi rhagor o godiadau treth gyngor. Roedd y polisi ar fin codi ar y sector cyhoeddus a oedd eisoes yn brin o arian, ac addawyd cyllid i ni wneud iawn am y gwahaniaeth hwnnw. Nawr, fel y clywsom, gwelwn fod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i £72 miliwn i wneud iawn am y diffyg o ganlyniad i fwy o danariannu gan San Steffan. Nawr fe wyddom fod Llywodraeth Cymru yn debygol o dalu ei hanner efallai, gan olygu mai'r gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau sy'n talu'r £36 miliwn arall.

Nawr, er bod lle bob amser i groesawu arian ychwanegol i wella seilwaith rheilffyrdd, ac rwy'n croesawu'r gorsafoedd Burns yr ydym yn debygol o'u gweld o ganlyniad, nid yw'n dod yn agos at y ffigur yr oedd gwleidyddion Llafur yn ei fynnu pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym. Ar sawl achlysur yn y Siambr fe glywsom bobl yn dweud wrthym fod £4 biliwn yn ddyledus i ni—£4.6 biliwn; nid wyf yn gwybod beth ydoedd. Roeddent yn gweiddi'r alwad hon arnom o bob ochr. Nawr, maent yn hapus i fodloni ar ran fach iawn o'r hyn roeddent eisiau'n flaenorol. Yn amlwg, mae Llafur yn chwarae gwleidyddiaeth eto. Ac fel y clywsom, o dan y Llywodraeth Geidwadol, dynodwyd bod llinell Rhydychen-Caergrawnt yn brosiect Lloegr yn unig, ac felly fe gâi Cymru gyfran o gyllid ychwanegol. Nawr, daeth Gweinidogion Llafur yn San Steffan i mewn a'i newid yn brosiect Cymru a Lloegr, gan amddifadu Cymru o £360 miliwn amcangyfrifedig. Naw wfft i Lafur yn cefnogi Cymru. Yn lle hynny, nid ydym yn cael yr hyn y dylem ei gael a dywedir wrthym fod angen inni fod yn ddiolchgar am hynny. Nid yw'r arian newydd yn dod yn agos at y £1.8 biliwn sy'n ddyledus i Gymru hyd yma o ganlyniad i'r £36 biliwn arfaethedig a wariwyd hyd yma ar HS2, rhywbeth yr oedd gwleidyddion Llafur yma ac yn San Steffan yn galw amdano, fel y soniais yn gynharach. Ac yn syml iawn, nid oes arian ychwanegol ar gyfer y seilwaith ffyrdd na hyd yn oed i ailedrych ar bethau fel ffordd liniaru'r M4 neu uwchraddio'r A55.

Ac yn olaf, nid yw'r adolygiad o wariant a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud unrhyw beth i gefnogi ffermwyr sy'n wynebu'r dreth anhygoel o niweidiol sy'n cael ei chodi ar deuluoedd fferm a'u busnesau, gyda llawer o'r ffermydd hynny wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau. Maent wedi gweld y cynnwrf a'r protestiadau digon teg gan y gymuned ffermio ac mae'n rhaid iddynt wrando. Mae Llafur wedi colli ei chyfle i unioni'r camgymeriad hwn, a fydd yn parhau i gostio mor ddrud i'r sector ffermio. Mae'n amlwg nad oes gan Lafur fawr o syniad am fywyd ffermio a beth y mae ffermio yn ei olygu i'n cymunedau gwledig neu i economi Cymru. 

Ddirprwy Lywydd, mae'r adolygiad o wariant wedi bod yn gyfle a gollwyd i Gymru. Flwyddyn wedi i Lafur ddod i rym yn San Steffan, fe welwn effaith polisïau cibddall sydd wedi'u gweithredu'n wael. Dim ond trwy ethol llywodraeth Geidwadol Gymreig y flwyddyn nesaf y mae gan Gymru obaith o wrthsefyll Llafur yn San Steffan a chael llywodraeth i godi'r wlad yn ôl, gyda'i buddiannau yn ganolog iddi. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein gwelliant. Diolch.

18:15

Gwyddom o fanylion a gyhoeddwyd heddiw fod Llywodraeth Lafur San Steffan yn buddsoddi £15 biliwn mewn seilwaith rheilffyrdd yn Lloegr yn yr adolygiad o wariant hwn. Yma yng Nghymru, mae gennym 11 y cant o drac rheilffordd y DU. Fel y gwyddom, nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ond pe bai Cymru'n cael cyllid teg a buddsoddiad teg o'r adolygiad o wariant hwn yn unig, dylem fod yn cael £1.65 biliwn, ac nid yw hynny'n cyfrif yr anghyfiawnder hanesyddol. Yn hytrach, dim ond £445 miliwn a gawn a hynny dros 10 mlynedd.

Fe wyddom fod y llinell Rhydychen i Gaergrawnt wedi cael ei hailddosbarthu'n brosiect Cymru a Lloegr ers i Lafur ennill etholiad diwethaf San Steffan, ac yn sgil y cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau diwethaf fod hwn yn brosiect gwerth £6.6 biliwn, pe bai wedi parhau fel y cafodd ei ddynodi gan Lywodraeth flaenorol, byddai'n darparu £330 miliwn i Gymru, a dros gyfnod yr adolygiad o wariant cyfredol, byddai hyn yn cyfateb i £137 miliwn mewn arian canlyniadol i Gymru. Felly, fel cywiriad Trysorlys i gamgymeriad canfyddedig, rydym yn colli buddsoddiad. Mae hynny cyn inni ddechrau gwneud y dadleuon am HS2 a'r biliynau yr arferai Llafur gytuno â ni yn eu cylch, gwerth £4 biliwn. A gallwch weld pam y mae'r cyhoeddiad heddiw yn siomedig. Hyd yn oed os yw'r Llywodraeth wedi newid eu meddyliau ynghylch tegwch mynnu'r £4 biliwn sy'n ddyledus i ni dros brosiect cyfan HS2, mae arian canlyniadol HS2 ar gyfer cyfnod yr adolygiad o wariant presennol yn £1.3 biliwn, sy'n llawer mwy na'r £445 miliwn y mae disgwyl inni fod yn ddiolchgar amdano. Pan fyddwn yn ystyried hyn, ni ddylai cyhoeddiadau heddiw fod yn achos dathlu. Clywais ddatganiadau ar y cyfryngau, ac mae'n amlwg fod Llafur bellach yn ceisio honni bod y £445 miliwn yn arian canlyniadol HS2 am yr hyn sydd wedi'i wario ar HS2 hyd yma, gan honni hefyd fod y cyllid hwn yn mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol ar y rheilffyrdd yng Nghymru. Gadewch inni fod yn glir: nid yw'n gwneud hynny. Ond os oedd hyn yn wir pam nad ydynt wedi ailddosbarthu'r prosiect? Byddai gwneud hynny'n gwarantu cyllid teg i Gymru o gyllid yn y dyfodol hefyd. Dyna fyddai'r peth cywir a theg i'w wneud, felly galwaf ar Lywodraeth Cymru i gael ymrwymiad wedi'i gofnodi y byddwn yn cael y biliynau llawn dros oes y prosiect, yn ogystal â buddsoddiad teg ar gyfer y rheilffyrdd, a bod HS2 yn cael ei ailddosbarthu'n swyddogol.

Os yw'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn hapus gyda'r cyllid, maent yn cyfaddef mai'r unig wariant ar y seilwaith rheilffyrdd y dylai Cymru ei gael yw'r hyn a gaiff o HS2, ac nid o unrhyw un o'r prosiectau Cymru a Lloegr sydd wedi bod, ac sy'n dal i fod o fudd i Loegr yn unig. Maent wedi addo trydaneiddio prif linell gogledd Cymru, ac wedi beirniadu'r Torïaid yn flaenorol am wneud ymrwymiadau gwariant wedi'u tanariannu. Eto, gyda'r lefel hon o wariant ar y seilwaith rheilffyrdd gan eu cymheiriaid yn San Steffan, ni fyddant yn gallu ariannu prif linell gogledd Cymru.

Mae'r canlyniadau yr un fath, boed yn Dorïaid neu Lafur yn San Steffan: tanfuddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae pobl Cymru'n gwylio, ac ni wnânt dderbyn y cam a wneir â hwy eto, ac ni wnawn ninnau ychwaith. Diolch yn fawr.

Rhaid fy mod yn darllen sgript arall, dyna'r cyfan y gallaf ei ddweud. Am y tro cyntaf, rydym wedi cael setliad hanesyddol i'r Senedd. Mae'n hanesyddol, a dyma'r setliad mwyaf erioed i Gymru. Rwyf am ei groesawu; nid wyf eisiau cwyno yn ei gylch. Nid wyf eisiau ceisio ailysgrifennu hanes fel y gwnâi'r Torïaid, oherwydd mae croeso iddo, ac rwy'n gwybod y bydd y bobl sy'n cael swyddi o'r gwariant ar fuddsoddiad rheilffyrdd o £445 miliwn hefyd yn ei groesawu. Rwy'n gwybod y bydd y bobl a fydd yn cael prentisiaethau a chyfleoedd gwaith hefyd yn ei groesawu. Rwy'n gwybod hefyd y bydd y bron i £5 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf hefyd yn cael croeso. [Torri ar draws.] Na, ddim nawr, mewn munud. Rwyf wedi clywed digon o gwyno, ac rwy'n mynd i fod yn bositif. Bydd y £22.4 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd i Lywodraeth Cymru rhwng 2026-27 a 2028-29 ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael croeso mawr, oherwydd mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dioddef ergydion mawr dros y cyfnod yr oedd y Torïaid mewn grym, ond fe wnaethant anghofio sôn am hynny wrth gwrs. Ac yna mae'r £211 miliwn o gyllid twf lleol yng Nghymru am y tair blynedd nesaf, ac mae hwnnw'n cefnogi'r genhadaeth twf y mae'r Llywodraeth hon, gan weithio gyda Llywodraeth San Steffan, yn benderfynol o'i chyflawni. Fe wnaf dderbyn ymyriad.

18:20

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Dau beth: sut ydych chi'n ystyried bod y £450 miliwn, o'i gymharu â'r £4.5 biliwn y galwodd yr Ysgrifennydd Gwladol Llafur amdano ar gyfer HS2 yn unig, yn newyddion da i Gymru, a sut ydych chi hefyd yn ystyried bod cynnydd o £1.4 biliwn y flwyddyn yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant i Gymru, o'i gymharu â chynnydd o £2.5 biliwn i Gymru o dan y Torïaid hyd yn oed, yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant diwethaf, yn newyddion da i Gymru?

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yn ôl wrthych, oherwydd eich bod chi eisiau annibyniaeth, yw sut ydych chi'n mynd i dalu amdano: ble fydd eich codiadau pan fyddwch chi wedi penderfynu? Yr hyn rwyf am ei ddweud yn ôl wrthych hefyd yw: a ydych chi'n mynd i bleidleisio dros y gyllideb y tro hwn? A ydych chi'n mynd i ddweud unwaith eto nad yw'n ddigon, felly, nid ydym eisiau dim ohono? I mi, rwy'n cofio, pe bawn i'n cynnig ychydig o losin i fy mhlant, ac nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael digon, efallai y byddent yn strancio. Mae'n swnio'n debyg i hynny i mi—[Torri ar draws.] Mae'n swnio'n debyg i hynny i mi: 'Nid yw'n ddigon, felly nid wyf eisiau dim ohono.' A dyna yw eich agwedd chi drwy'r amser: cwyno, cwyno, cwyno.

Felly, rwy'n mynd i groesawu'r £180 miliwn yn ystod y Senedd hon yn San Steffan a fyddai'n cefnogi diogelwch tomenni glo, yn ogystal â'r £25 miliwn, a'r gydnabyddiaeth fod hwnnw'n hynod o bwysig i'r bobl sy'n byw'n agos at y tomenni glo hynny, a'r rhaglen brand Cymru newydd gwerth £2.4 miliwn sy'n gwerthu Cymru i'r byd.

Nawr, mae angen rhoi trefn ar lawer o hyn wrth gwrs, ac mae llawer mwy i ddod. Ond pan fydd setliad mwy nag erioed, byddai'n eithaf braf, oni fyddai, pe bai'n cael ei groesawu, yn hytrach nag ymddwyn fel plant, a dweud, 'Nid yw'n ddigon, felly nid ydym yn mynd i bleidleisio drosto.' [Torri ar draws.]

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd yr adolygiad o wariant yr wythnos hon yn gyfle i Lywodraeth Lafur y DU wneud camau pwrpasol ar hyd llwybr blaengar o gydraddoldeb, ailddosbarthiad a thegwch, llwybr y mae wedi gwyro oddi arno mor amlwg yn ddiweddar. O ystyried bod yr adolygiad o wariant yn cyd-fynd â chyhoeddi adroddiad diweddaraf Joseph Rowntree ar dlodi yng Nghymru, sydd wedi canfod bod dros un rhan o bump o'n poblogaeth gyfan a thros draean o'n plant yn byw mewn tlodi, ac nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud mewn dros ddau ddegawd i gywiro'r symptom mwyaf mileinig hwn o fethiant cymdeithasol, nid yw'r angen i fynd i'r afael â thlodi erioed wedi bod yn fwy difrifol. Felly, beth a welsom heddiw a fyddai'n helpu i liniaru'r tlodi dybryd sy'n dyfnhau yng Nghymru? Wel, dyma ddau ddyfarniad, sy'n berthnasol i ni yma yng Nghymru, yn anffodus. Dywedodd y Gynghrair Dileu Tlodi Plant na fydd y cyhoeddiadau'n gwneud cynnydd sylweddol yn y gwaith o fynd i'r afael â thlodi plant. Dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant nad yw adferiad cenedlaethol yn dechrau gyda thlodi plant sy'n uwch nag erioed.

Mae yna bethau i'w croesawu, yn enwedig y cyhoeddiad ar wariant ar dai cymdeithasol, y gobeithiaf y byddai'n arwain at arian canlyniadol yma i ni gael mwy o ffocws ar adeiladu tai cymdeithasol. Canfu adroddiad Joseph Rowntree nad yw cyfraddau tlodi ymhlith rhentwyr cymdeithasol wedi gostwng yng Nghymru ers 2004, gyda'r pwynt uchaf yn 52 y cant yn 2005 i 2008, a'r pwynt isaf yn 44 y cant rhwng 2012 a 2015. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na phedwar o bob 10 rhentwr cymdeithasol, sef 46 y cant, a thraean y rhentwyr preifat, yn byw mewn tlodi ar ôl talu costau tai. Mae tlodi ymhlith rhentwyr cymdeithasol yn anghymesur oherwydd incwm isel, felly, er bod croeso i fwy o dai fforddiadwy wrth gwrs, rhaid mynd i'r afael ag annigonolrwydd incwm i dalu costau hanfodol o ddydd i ddydd.

Dangosodd yr adroddiad yn glir, dros y 30 mlynedd diwethaf, fod plant yn gyson wedi wynebu'r cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru, ac mae'r gyfradd dlodi i blant mewn teuluoedd â thri neu fwy o blant ddwywaith mor uchel â'r gyfradd dlodi i blant mewn teuluoedd ag un neu ddau o blant. Drwy wrthod cael gwared ar y terfyn dau blentyn creulon, yn ogystal â'u penderfyniad parhaus i weithredu toriadau dinistriol i les, toriadau sy'n anfoesol a bod yn onest, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn San Steffan yn cefnu ar ei threftadaeth sosialaidd. Lle'r oedd teimlad ysig o ddyletswydd ar un adeg i'r genhadaeth o ddileu malltod tlodi, nawr gwelwn system les sydd eisoes yn fregus yn cael ei diberfeddu gan wybod y bydd hynny'n gwthio miloedd, yn cynnwys plant a phobl anabl i fyw mewn tlodi dyfnach. A lle'r oedd yna Blaid Lafur yng Nghymru ar un adeg yn barod i roi dŵr coch clir rhyngddynt eu hunain a San Steffan, erbyn hyn mae gennym efelychiad gwan a diystyr, y ffordd goch Gymreig, sy'n arwain i unman heblaw at eiriau tila o esgusodion am ddyfnhau lefelau tlodi yng Nghymru, a ffug drallod diymadferth a llwybr cyfansoddiadol pengaead i daith ddatganoli Cymru.   

Unwaith eto, gwelwn ddewisiadau amgen blaengar i gymryd lle cyni, megis trethi ar gyfoeth, yn cael eu diystyru'n ddisymwth, a pharodrwydd i dderbyn unrhyw gynnydd gan y Trysorlys yn hytrach na mynnu'r hyn sy'n ddyledus i Gymru mewn gwirionedd, gyda phenderfyniad ymddangosiadol Llywodraeth y DU i beidio â herio annhegwch llwyr fformiwla Barnett nad yw'n gymwys mwyach, ond i ddod o hyd i ffyrdd newydd o'i chamddefnyddio ar draul Cymru. 

Mae angen inni weld argyhoeddiad gan Lafur i dorri'n rhydd o'r status quo cyllidol sydd wedi gadael cymaint o'n cymunedau wedi'u caethiwo mewn trobwll o ddirywiad, tlodi ac anobaith ers degawdau. Clywais lawer o wleidyddion Llafur Cymru yn siarad heddiw am obaith. Ond i'r un o bob pump o'n pobl sydd, ers 20 mlynedd, heb weld eu bywydau'n gwella, y 700,000 o unigolion sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys 400,000 o oedolion oedran gweithio, 200,000 o blant a 100,000 o bensiynwyr, mae gwactod yn lle gobaith, gwactod a grëwyd gan addewidion toredig Llafur ynghylch newid, ac yn y gwactod hwn, mae'r dde eithafol wedi bod yn ffynnu, yn bwydo, fel y gwnânt bob amser, ar siom ac anobaith pobl sydd, yn ddealladwy, yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio gan y rhai a arferai ddadlau drostynt. Oherwydd os mai ffordd Starmer o ymateb i'r bygythiad cynyddol hwn yw'r adolygiad o wariant hwn, rwy'n ofni ei fod yn gadael y gatiau'n llydan ar agor i'r dde eithafol barhau i orymdeithio drwyddynt.

Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru, a'r Llywodraeth hon, wedi cyrraedd fforch dyngedfennol yn y ffordd. Gallant barhau i roi eu holl egni i amddiffyn yr anamddiffynadwy, ac ildio i gymnasteg feddyliol ystumiedig i gyfiawnhau'r ffaith bod buddiannau Cymru'n cael eu tanseilio'n weithredol ac yn ddybryd gan awch eu partneriaid mewn grym i arddel polisïau sy'n taro'n anghymesur ar bobl fwyaf agored i niwed Cymru, sydd, gadewch inni beidio ag anghofio, yn cynyddu'r angen am wariant ar y GIG yma, yn hytrach nag atal y niwed i iechyd y mae tlodi'n ei achosi—fe wnaf orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—

18:25

—neu gallant ddefnyddio'r amser sydd ganddynt ar ôl i ddangos drwy weithredoedd yn ogystal â geiriau fod ffordd goch Cymru yn darparu llwybr at ddewis arall blaengar drwy gefnogi ein galwadau i gyflwyno taliad plant yng Nghymru, drwy ddatblygu strategaeth dlodi gyda thargedau clir, drwy sicrhau bod budd-daliadau'n cael eu datganoli, drwy ehangu gofal plant—

—dyma fy mrawddeg olaf—a thrwy wrthod cydweithredu â'r llu o gynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n gorlifo'r Senedd ar hyn o bryd. Rydym angen i San Steffan fynd i'r afael o ddifrif â blaenoriaethau Cymru, yn enwedig y rheini yng Nghymru sydd â'r anghenion mwyaf. Diolch.

Ac roedd hynny'n fwy nag un frawddeg. Rwy'n atgoffa'r Aelodau fod gennych derfyn amser a dyna'r rheswm—fel y gallwn gynnwys pawb i siarad. Rhys ab Owen.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn dynnu sylw yn fy nghyfraniad at bum maes lle rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru, ond yn bwysicach fyth, pobl Cymru, wedi cael cam gan yr adolygiad o wariant.

Yn gyntaf, fel y soniodd eraill, y diffyg o ran yswiriant gwladol yng Nghymru—mae hynny'n dal heb ei ddatrys. Er bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu arian o'i chronfeydd wrth gefn ar gyfer eleni, ni all y diffyg hwn ddigwydd bob blwyddyn. Mae hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU yn y bôn yn gorfodi Cymru i wneud toriadau mewn mannau eraill, toriadau na fydd yn rhaid i unrhyw wlad arall yn y DU eu gwneud—sy'n fawr o ddiolch i'r unig wlad sydd wedi cadw'r Blaid Lafur mewn grym yn gyson dros y degawdau.

Yn ail, bydd y toriadau i fudd-daliadau'n effeithio ar economi Cymru a chyllideb Llywodraeth Cymru. Drwy gyfyngu ar fynediad at daliadau annibyniaeth personol, bydd y Canghellor yn lleihau'r cymorth misol i berson sengl ar gredyd cynhwysol heb blant i ddim ond £421.14 y mis—gostyngiad enfawr o 68 y cant i incwm aelwydydd. Mae adroddiad gan Policy in Practice wedi canfod y bydd 190,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio. Mae hynny'n 6.1 y cant o'n poblogaeth, a byddai'n arwain at golli £470 miliwn o economi Cymru.

Fodd bynnag, wrth gwrs, byddwn yn wynebu effaith hyd yn oed yn fwy na dim ond yr arian na ellir ei wario yn ein cymunedau lleol. Byddwn yn gwthio pobl yn ddyfnach i dlodi. Bydd y Canghellor yn dechrau effaith ddomino ofnadwy o ddioddefaint, o ddigartrefedd, iechyd corfforol gwael, canlyniadau addysgol gwael, problemau iechyd meddwl, a theuluoedd yn chwalu. Yn ei hadolygiad o wariant, dywedodd y Canghellor hyn:

'Roedd cyni'n ddewis dinistriol i wead ein cymdeithas.'

Wel, mae'r effaith negyddol y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael ar bobl Cymru, sydd eisoes, ar gyfartaledd, yn salach, yn dlotach ac yn hŷn na gweddill y DU, hefyd yn ddewis dinistriol i wead ein cymdeithas yng Nghymru. Unwaith eto, mae gennym Lywodraeth arall yn y DU sy'n hapus i fantoli'r cyfrifon ar draul Llywodraeth Cymru, ond yn fwy dinistriol, ar draul pobl Cymru.

Yn drydydd, yr anghydraddoldeb parhaus mewn pŵer benthyca. Nid yw egwyddorion economaidd y Canghellor ar fenthyca ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf yn cael eu trosglwyddo i Gymru. Yn dilyn ei rheolau ei hun, gall Llywodraeth y DU fenthyca biliynau'n fwy ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf, ond mae pwerau benthyca Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gymharol fach, heb unrhyw newid. Ar hyn o bryd, mae gan awdurdodau lleol lawer mwy o bwerau benthyca na Llywodraeth Cymru, o'i gymharu â maint y boblogaeth a wasanaethwn.

Mae Llywodraeth Cymru, a bod yn deg, wedi arloesi gyda hyn gyda'r model buddsoddi cydfuddiannol, ond golyga ein bod yn talu cyfraddau llog i gwmnïau preifat i bob pwrpas. Mae'n llawer uwch na'r hyn y byddem yn ei dalu pe baem yn gallu benthyca yn yr un ffordd â Llywodraeth y DU. Pe bai'r ffordd Gymreig o fenthyca'n rhatach, yn sicr byddai Llywodraeth y DU yn dilyn. I bob pwrpas, rhaid i Gymru dalu mwy o arian i fuddsoddi.

Yn bedwerydd, y toriadau i ariannu amddiffyn. Dewis yw hynny. Mae rheolau benthyca'r Canghellor yn rhai a osodwyd ganddi hi ei hun, a gallant fod yn wahanol. Nid oes rhaid inni dorri incwm pobl dlawd a phobl anabl yn ein cymdeithas i ariannu amddiffyn, i ariannu arfau. Dewis gwleidyddol yw hynny. Os edrychwn ar yr Almaen, mae wedi pleidleisio o blaid eithrio gwariant ar amddiffyn o'r rheolau cyllidol. Mae'n diogelu dinasyddion rhag tlodi a hefyd rhag y bygythiad posibl a achosir gan Rwsia.

Yn olaf, dewis pwy sy'n cario baich toriadau i fudd-daliadau. Mae'r Canghellor wedi gwrthdroi ei phenderfyniad ar lwfans tanwydd y gaeaf i'r rhai sydd ag incwm o dan £35,000. Fodd bynnag, yn fy marn i, mae'n amlwg fod hwn yn benderfyniad sy'n seiliedig ar bleidleisiau ac nid ar anghenion. O blith yr holl grwpiau, plant sy'n fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi, fel y nododd Sioned Williams eisoes—mae 30 y cant o blant yn y DU yn byw mewn tlodi, o'i gymharu â 16 y cant o bensiynwyr.

Gallai rhywun sinigaidd ddweud mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod pensiynwyr yn pleidleisio ond nad yw plant yn gwneud hynny; fod lwfans tanwydd y gaeaf wedi'i adfer tra bo'r cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau'n parhau. Ac rwy'n gorffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd: efallai nad yw hwn yn ddatganiad poblogaidd, ond yn realistig, mae yna blant yng Nghymru sydd angen llawer mwy o gymorth na phensiynwyr gydag incwm blynyddol o ychydig o dan £35,000. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno y dylid targedu cymorth ar sail anghenion, yn hytrach nag at bwy sy'n debygol o bleidleisio mewn etholiad.

18:30

Ddirprwy Lywydd, tybed sut y byddai rhai Aelodau wedi ymateb i'r un adolygiad o wariant pe bai wedi cael ei gyflwyno gan y Torïaid. Ni ddylid penderfynu ar ba mor uchel yw'r bar derbynioldeb yn ôl pwy a'i gosododd, oherwydd mewn cymaint o rannau o'r adolygiad hwn, mae Cymru wedi cael ei thrin fel ôl-ystyriaeth.

Ar y tomenni glo, ydw, rwy'n croesawu'r arian a addawyd tuag at ddiogelwch tomenni glo. Dyma'r lleiaf y gallai San Steffan ei wneud, o ystyried bod y tomenni'n waddol diwydiant a amddifadodd ein Cymoedd o'u cyfoeth ac a adawodd y sbwriel—yn llythrennol y sbwriel—a wasgarwyd ar draws ein mynyddoedd ar ôl i ni.

Ni fydd y £118 miliwn a addawyd yn ddigon i dalu'r costau o glirio'r tomenni hynny. Gallwn ddisgwyl cael llai na £40 miliwn y flwyddyn, rwy'n tybio, o'r ymrwymiad hwn dros dair blynedd. Dyna'n fras fyddai'r gost o glirio dwy domen lo y flwyddyn yn unig. Costiodd fwy na hanner y swm hwnnw i glirio tirlithriad tomen lo Tylorstown yn unig a ddigwyddodd yn 2020.

18:35

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Dyma'r lleiaf y dylai Llywodraeth y DU ei wneud, fel y dywedwch. Ar hyn o bryd, maent yn cytuno i dalu tua phumed ran o gyfanswm y gost amcangyfrifedig. Pe bai Llywodraeth y DU ond yn cytuno i dalu pumed ran o gost sgandal Swyddfa'r Post, neu bumed ran o gost y sgandal gwaed halogedig, byddai pobl yn protestio'n groch. Dylent fod yn gwneud yr un fath yma.

Wrth gwrs, ni allaf anghytuno. O na bai rhaglen ddadlennol ar ITV ynglŷn â hyn yn yr un ffordd ag a gafwyd ar sgandal Swyddfa'r Post, gan mai Toby Jones i raddau helaeth a sicrhaodd fod gwaith yn digwydd ar hynny o'r diwedd.

Gadewch inni fod yn glir. Mae'r arian hwn yn ddyledus i Gymru. Nid haelioni'r Trysorlys yw hyn. Maent yn rhoi'r lleiaf sy'n ddyledus i ni ar ôl degawdau o esgeulustod drwy adael y tomenni hyn i gau'r awyr allan. Y llynedd, llithrodd un domen yng Nghwmtyleri. Ni allwn wybod eto faint yn rhagor a gaiff eu hansefydlogi yn y blynyddoedd nesaf gyda mwy o law. Felly, ydw, rwy'n croesawu'r arian, ond pam ar y ddaear y mae wedi cymryd cymaint o amser i unrhyw Lywodraeth yn San Steffan, Llafur neu Dorïaidd, i gydnabod y niwed sydd wedi'i wneud gyda'r tomenni hyn a'r ddyletswydd sydd arnynt i'w clirio? Faint o flynyddoedd eto fydd hi'n ei gymryd i glirio'r tomenni hyn o'u cydwybod?

Ar y rheilffyrdd, mae Heledd a Peredur wedi ymhelaethu ar hyn, ond mae'n werth ei ailadrodd. Mae disgwyl i Gymru gael £445 miliwn ar gyfer y rheilffyrdd, a bydd hynny dros 10 mlynedd. Mae Cymru unwaith eto'n cael cam, oherwydd, hyd yn oed pe baem yn ei gael i gyd gyda'i gilydd, fel y clywsom, ni fyddai'r ffigur yn dechrau gwneud iawn am y biliynau sy'n ddyledus i ni o HS2. Byddai'r arian a gollwn am fod llinell Rhydychen i Gaergrawnt wedi'i hailddynodi'n brosiect Cymru a Lloegr yn ei fwrw i'r cysgod bron yn llwyr. Mae Llafur y DU wedi colli ei chwmpawd moesol a'i chwmpawd—ei gafael ar ddaearyddiaeth ac ar uniondeb.

Ni all unrhyw driciau gan y Trysorlys newid y ffeithiau moel. Bydd Cymru bob amser yn ôl-ystyriaeth i San Steffan a Whitehall. Cieiddiwch cyfansoddiadol yw ein twyllo yn y ffordd hon. Rhaid eu bod wedi chwerthin yn y Trysorlys pan wnaethant gynllunio'r twyll, 'O, y llinell Rhydychen i Gaergrawnt, gadewch inni ddweud bod honno ar gyfer Cymru hefyd.' Pa mor hir y mae'n rhaid i ni oddef hyn? Adolygiad o wariant sy'n addo un peth mewn penawdau ac yn manylu ar rywbeth arall yn llwyr yn y print mân. [Torri ar draws.] Iawn, Mike, fe wnaf dderbyn ymyriad.

Diolch am hynny. A ydych chi'n meddwl bod Cymru'n gyfrannwr net i'r Trysorlys, neu a ydych chi'n credu, fel finnau, ein bod yn talu tua 75 y cant o'r arian i mewn ac yn cael tua 105 y cant allan?

Diolch, Mike. Mae adolygiad ar ôl adolygiad wedi dangos nad yw'r ffordd y cawn ein hariannu trwy fformiwla Barnett yn deg. Ond os nad ydym hyd yn oed yn cael arian canlyniadol am rywbeth, oherwydd—yn wahanol i'r Alban, yn wahanol i Ogledd Iwerddon—ei bod hi'n ymddangos bod y Trysorlys yn ceisio ein twyllo drwy ddweud bod hyn yn rhywbeth a fydd o fudd i Gymru—. Nid wyf yn meddwl y gallai unrhyw un ddadlau y bydd llinell Rhydychen i Gaergrawnt o fudd i Gymru mewn ffordd a fyddai'n wahanol i'r Alban neu unrhyw beth tebyg. Felly rwy'n credu bod hyn bron yn chwerthinllyd, os gwelwch y mapiau neu'r graffeg sy'n dangos pa mor bell i ffwrdd yw'r rheilffordd. Ond diolch am yr ymyriad.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ar yr arian i'r tomenni glo eto, mae'n debyg y bydd rhywfaint o hwnnw'n cael ei ddefnyddio hefyd i addasu ein tir at ddibenion twf economaidd. Bydd yn rhaid inni weld y manylion, ond mae'n swnio'n bryderus o bosibl y gallai ecsbloetio'r tir eto, os bydd cwmnïau preifat yn gweld yr elw. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni edrych arno. Dywedir weithiau fod y diafol yn y manylion. Po fwyaf o fanylion a welwn o'r adolygiad hwn, y mwyaf dieflig yw'r twyll i'w weld. Fe ddylai pethau, a rhaid i bethau fod yn well na hyn.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n dechrau, yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyfraniadau Plaid Cymru, drwy edrych ar yr hyn y mae'r cynnig yn ei ddweud. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae yna lawer yn y cynnig y byddem yn cytuno ag ef ac sydd eisoes yn bolisi gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Mae'r cynnig yn gofyn am gyllid teg i Gymru. Wel, dyna fu ein polisi dros lawer iawn o flynyddoedd. Mae'n gofyn am bwerau i greu bandiau treth incwm newydd. Bydd rhai o'r Aelodau yma'n gwybod ein bod eisoes wedi cyhoeddi gwaith yng Nghymru i edrych ar ein pwerau treth incwm a'u gwneud yn fwy defnyddiadwy na'r rhai sydd gennym ar hyn o bryd. Mae'n gofyn am gynnydd yn ein terfynau tynnu i lawr a'n pwerau benthyca. Mae hynny ym maniffesto Llafur y DU, ac edrychaf ymlaen at gyflawni hynny gyda diweddariad o'r fframwaith cyllidol.

Mae'r cynnig yn galw am adfer lwfans tanwydd y gaeaf fel darpariaeth gyffredinol. Mewn gwirionedd, dyna'n union beth y mae'r Canghellor wedi'i wneud. Mae hi wedi gweithredu mewn ffordd hollol sosialaidd. Bydd pawb yn cael lwfans tanwydd y gaeaf, ac i'r rhai ohonom sydd ar incwm uwch na lefel benodol, bydd y system dreth yn ei gymryd yn ôl gennym. Dyna'n union sut y byddwn yn disgwyl i Lywodraeth Lafur weithredu: gwasanaeth cyffredinol a threthiant flaengar i ddelio â'r canlyniadau.

Mae'r cynnig yn galw am ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a minnau ddatganiad ysgrifenedig yn galw am yn union hynny bythefnos yn ôl. Mae'n galw am ad-dalu'r cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr yn llawn. Ni allwn fod wedi bod yn gliriach ar lawr y Senedd, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn credu bod y llyfr rheolau wedi'i gymhwyso'n amhriodol yn y ffordd y penderfynwyd ar iawndal i gyflogwyr y sector cyhoeddus yn y Trysorlys. Ac wrth gwrs, nid mater unigryw i Gymru yw hwnnw. Clywaf Rhys ab Owen yn cael hynny'n hollol anghywir. Credaf ein bod yn haeddu gwell na hynny, gan nad problem i Gymru yw hi. Mae'n broblem i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon hefyd.

Ac yna yn olaf, mae'r cynnig yn galw am gyflwyno treth ar gyfoeth yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn, gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ac eto gyda'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, i gyfarfod â'r sefydliad Patriotic Millionaires yn ddiweddar, a chyfarfûm yr wythnos hon â'r Rhwydwaith Cyfiawnder Treth, dau sefydliad sydd wedi cyflwyno cynigion pendant ar gyfer trethi ar gyfoeth yn y Deyrnas Unedig. Nid yw wedi'i gynnwys yn ein cynnig ni, am na all y Senedd hon basio deddfwriaeth i wneud i hynny ddigwydd. Ond gallwn ychwanegu ein llais at y rhai sy'n cyflwyno'r achos dros hynny, a dyna'n union a wnawn.

Ond beth am droi at yr adolygiad o wariant, gan mai ymwneud â hynny roedd y rhan fwyaf o'r ddadl hon? Mae tri rheswm da iawn pam y dylid croesawu'r adolygiad o wariant yma yng Nghymru. Yn gyntaf oll, am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, mae gennym bellach gyllidebau sy'n ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gorwel tair blynedd ar gyfer refeniw, rhagolygon pedair blynedd ar gyfer cyfalaf. Mae hynny'n golygu y gallwn wneud gwell defnydd o'r arian sy'n dod i Gymru, oherwydd mae gennym orwel, yn enwedig ar gyfer gwariant cyfalaf, sy'n ein galluogi i gynllunio ymlaen llaw, gwneud y buddsoddiadau hynny, gwarantu y byddwn yn cael y gwerth gorau o'r buddsoddiadau hynny i Gymru. Ni chawsom hynny ers y tro diwethaf imi fod yn Weinidog cyllid, sy'n amser maith yn ôl erbyn hyn.

Yn ail, trwy osod cyllidebau adnoddau a chyfalaf, mae'r adolygiad o wariant yn golygu y bydd Cymru'n cael £5 biliwn ychwanegol dros gyfnod yr adolygiad o wariant. Cawsom £1.6 biliwn ychwanegol eleni, a bydd hwnnw'n cael ei rannu'n gyfartal dros y tair blynedd—y cynnydd y byddwn yn ei gael ar gyfer pob un o'r tair blynedd nesaf. Mae hwnnw'n fyd gwahanol i'r byd y bu'n rhaid i'r Senedd fyw ynddo yn ystod y 14 mlynedd o gyni. Twf gwirioneddol yn ein cyllidebau a'r gallu i gynllunio ymlaen llaw i'w defnyddio. Ac wrth gwrs, mae arian y tu allan i'r £1.6 biliwn hwnnw, oherwydd mae'r arian rheilffyrdd y tu hwnt i'r hyn a adlewyrchir yn y ffigurau hynny.

Unwaith eto, mae'n siomedig clywed llefarydd Plaid Cymru yn gwneud camgymeriad syml yn yr hyn a ddywedodd yno. Ar y £450 miliwn, daw £350 miliwn ohono yn y tair blynedd gyntaf. [Torri ar draws.] Mae'r £350 miliwn, gadewch inni fod yn glir—. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi newyddion da, ond gadewch inni wneud yn siŵr—[Torri ar draws.] Rwy'n dweud wrthych. Fi yw'r Gweinidog cyllid yma. A hoffech chi wrando arnaf? Oherwydd gallaf ddweud wrthych.

18:40

Mae arweinydd Plaid Cymru yn wael iawn am wrando ac yn wael iawn hefyd am—

18:45

Mae'r ymyriad yn un syml iawn. Fe ddywedodd y Canghellor yn ei chyhoeddiad fod £445 miliwn yn dod dros 10 mlynedd. Dyna oedd ei geiriau.

Gadewch i mi ei esbonio i chi fel nad ydych chi'n gwneud yr un camgymeriad y pedwerydd tro y prynhawn yma. Mae arweinydd Plaid Cymru yn wael iawn am wrando ac yn wael iawn am refru ar bobl o'i sedd—nid yw'n nodwedd ddeniadol, gallaf ddweud hynny wrtho.

Nawr, o'r arian hwnnw, fel y gall yr Aelodau yma ddeall, daw £350 miliwn yn y tair blynedd gyntaf. Mae £95 miliwn yn ychwanegol at hynny sy'n rhan o'r strategaeth fuddsoddi 10 mlynedd. Bydd Cymru'n elwa o'r ddau, ac mae'n sicr fod hynny'n gydnabyddiaeth i'w chroesawu fod Cymru, am lawer gormod o amser, wedi cael ei thanariannu at ddibenion rheilffyrdd a nawr gallwn ddechrau gwireddu uchelgeisiau adolygiad Burns yn briodol.

Ddirprwy Lywydd, cymerodd hyd nes ymyriad Delyth Jewell i gydnabod bod £118 miliwn wedi'i gyhoeddi ar gyfer diogelwch tomenni glo heddiw, yn ychwanegol at yr hyn y byddwn yn ei gael yn y £1.6 biliwn hwnnw. Mae hynny wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Lafur. Bydd y buddsoddiad ar y cyd nawr gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn fwy na £220 miliwn, arian sydd wedi'i gynllunio i wneud y tomenni glo'n ddiogel, er mwyn tawelu meddyliau'r cymunedau hynny. Dywedodd Delyth, 'A fyddem wedi bod yn dweud y pethau hyn pe bai'r adolygiad o wariant wedi'i gyflwyno gan y Torïaid?' Eisteddais mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gofyn am arian i'n helpu gyda diogelwch tomenni glo yn syth ar ôl tirlithriad Tylorstown, ac ni chawsom yr un geiniog.

Diolch am hynny. A fyddech chi'n derbyn y gall y ddau beth fod yn wir ar yr un pryd yma? Do, fel y dywedais, rwy'n croesawu'r arian hwn. Rwy'n croesawu'r arian hwn, ond ar yr un pryd, rydym wedi bod yn aros ers llawer gormod o amser. Fel y dywedais, mae Llywodraethau Llafur a Thorïaidd yn San Steffan dros ddegawdau—degawdau—wedi methu rhoi i Gymru'r hyn sy'n ddyledus i ni ar gyfer hyn. Gall y ddau beth hynny fod yn wir, ac maent yn wir, ar yr un pryd. A fyddech chi'n derbyn hynny?

Y ffeithiau, yn amlwg, yw'r rhain: yn yr holl flynyddoedd o Lywodraeth Dorïaidd, ni chawsom yr un geiniog; o dan Lywodraeth Lafur, sy'n llai na blwydd oed, cawsom £25 miliwn ym mis Hydref y llynedd a nawr mae gennym gyfanswm buddsoddiad o £118 miliwn. Rwy'n credu bod y cyferbyniad yn ddigon clir. Rwy'n eithaf siŵr y bydd pobl sy'n byw yn y cymunedau hynny lle mae tomenni glo'n ymgodi drostynt bob dydd yn gwybod pa Lywodraeth sydd wedi dod i'w helpu.

Ond fel y clywsom dro ar ôl tro, Ddirprwy Lywydd, ni waeth faint o arian a fyddai wedi dod gan San Steffan heddiw, i gefnogwyr y cynnig hwn, ni fyddai byth wedi bod yn ddigon. Yn wir, dywedodd arweinydd Plaid Cymru wrth y Prif Weinidog ddoe, beth bynnag fyddai canlyniad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, ei fod yn benderfynol o ladd arno. [Torri ar draws.] Wel, dyna'n union a ddywedodd wrth y Prif Weinidog. Beth bynnag sydd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, meddai, ni fydd yn ddigon i ni—beth bynnag a fyddai. Wel, mae hynny'n iawn i blaid sy'n fodlon bod yn wrthblaid barhaol. Ond i Lywodraeth, i'r Llywodraeth Lafur hon, mae datganiad y Canghellor heddiw'n ymwneud â dyfodol lle mae'n rhaid gwneud dewisiadau ac nid areithiau. Mae'r dewisiadau hynny'n ymwneud â thyfu'r economi, adfer safonau byw a diogelu ein gwasanaethau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau, nid i ladd ar ragolygon Cymru yn y dyfodol, ond i wneud i'r dewisiadau hynny weithio i'n cenedl.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon. 

Dechreuais y ddadl drwy ddweud bod hyn yn ymwneud â chyllid teg i Gymru, nad oeddem yn mynd i fod yn hapus os na fyddai Cymru'n cael cyllid teg, ac fe wnaethom ofyn am undod wrth sefyll dros Gymru. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet nad yw'n anghytuno â llawer o bethau yn ein cynnig, felly pam 'dileu popeth'? Pam ddim anfon y neges glir honno i San Steffan heddiw ein bod o ddifrif ynglŷn â bod eisiau cyllid teg i Gymru drwy bleidleisio dros y cynnig fel y mae? Ni allwn roi'r gorau i ailadrodd y galwadau hynny a ninnau'n parhau i gael ein hanwybyddu, ein hanwybyddu gan Lywodraethau olynol y DU o bob lliw, ar ddiwygio fformiwla Barnett nad yw'n gymwys mwyach—rhywbeth rydym yn cytuno yn ei gylch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond cafodd ei ddileu o'r cynnig hwn. Y cap dau blentyn ar fudd-daliadau—dylem ei ailadrodd yn wythnosol hyd nes ei fod yn diflannu, mae'r polisi creulon hwnnw'n parhau i achosi tlodi yn ein cymunedau. Ni allwn 'ddileu popeth' os ydym o ddifrif ynglŷn â sefyll dros Gymru. Mae cymharu'r arian a gynigir i ni fel gwrthod losin am ein bod yn dweud nad yw'n ddigon yn—[Torri ar draws.] Ac mae cael ein galw'n 'blentynaidd' am fynnu rhywbeth yr oeddech chi'n arfer cytuno â ni yn ei gylch yn gywilyddus.

18:50

A ydych chi'n mynd i dderbyn ymyriad? Yr hyn a ddywedais oedd eich bod chi'n ymddwyn—. Rwy'n credu eich bod chi'n ymddwyn yn blentynnaidd—rwy'n sefyll wrth hynny—a'r hyn a wneuthum oedd ei gymharu â phan oeddwn yn cynnig losin i fy mhlant, a byddent yn eu gwrthod os oeddent yn meddwl nad oeddent yn ddigon. Dyna'r gymhariaeth â phlant. Nid wyf yn dweud bod yr arian hwn fel cynnig losin. Rydych chi newydd ei droi ar ei ben, fel rydych chi bob amser yn ei wneud. Nid oeddwn yn disgwyl unrhyw beth arall, ond rwy'n gwybod y byddwch chi'n dal ati i gwyno yr un fath.

Nid yw'n fater o gwyno; mae'n fater o fynnu'r hyn sy'n ddyledus i ni a bod yn unedig. Roeddech chi'n arfer cytuno â ni ar hyn. Roedd eich Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn arfer cytuno â ni ar hyn. Beth sydd wedi newid? Etholiad. Os ydych chi'n dweud eich bod chi'n cytuno â'r cynnig, pleidleisiwch drosto fel y mae.

Ar rai o'r pethau a drafodwyd gennym heddiw, Peter Fox, rwy'n cytuno â chi—mae'n dro pedol ar lwfans tanwydd y gaeaf, un sydd i'w groesawu, ond ni ddylai byth fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Y ffaith ein bod wedi gweld ofn yn ein cymunedau ymhlith pobl hŷn, a gwybod am y niwed a achosodd, rwy'n falch fod tro pedol wedi bod, ond bu'n rhaid i Lafur ddisgyn yn isel yn y polau piniwn i'r polisi hwnnw newid.

Ar rai o'r pethau eraill a glywsom gan gyd-Aelodau, Sioned Williams, diolch i chi am amlinellu a sicrhau ffocws ar y mater y dylem i gyd fod yn unedig yn ei gylch—sicrhau bod tlodi plant yn cael ei ddileu o'n cymunedau. Gwyddom am yr effaith y mae blynyddoedd creulon cyni wedi'i chael. Ydy, mae'n fuddsoddiad i'w groesawu, ond nid yw'r ffaith ei fod yn well na'r Torïaid yn golygu y dylem fod yn hapus, yn fodlon ac yn dathlu pan fo biliynau'n fwy yn ddyledus i ni. Nid ydym yn mynd ymddiheuro na bodloni ar lai.

Rhys, dwi'n cytuno'n llwyr o ran y toriadau lles. Maen nhw'n mynd i achosi mwy o wariant gan y gwasanaeth iechyd, ac ati. Mae o'n mynd i fod yn rhywbeth sy'n mynd i gael oblygiadau o ran cyllidebau Llywodraeth Cymru, ac mae'r anghyfiawnder o ran benthyciadau yn amlwg. 

Rwy'n falch fod Delyth Jewell wedi cyfeirio at ddiogelwch tomenni glo. Gwyddom fod y gost amcangyfrifedig o glirio'r tomenni'n amcangyfrif ceidwadol o £600 miliwn. Mae'n cael ei groesawu wrth gwrs, ond hoffwn wybod sut yr awn ati i sicrhau ein bod ni'n gallu talu'r ffigur o £600 miliwn hyd yn oed. Gallai fod yn llawer mwy na'r amcangyfrifon gan arbenigwyr. Yr her yno hefyd, fel y gwelsom gyda Tylorstown ac yn y blaen, yw bod newid hinsawdd yn ansefydlogi'r tomenni hyn ar gyfradd nad yw gwyddonwyr yn siŵr yn ei chylch. Rwy'n credu bod cael rhaglen glir yn rhywbeth i'w groesawu, ond eto mae'r ffigur o £600 miliwn yn dal yno.

Hoffwn annog Aelodau'r Senedd yma heddiw i ystyried beth y mae'n ei olygu pan fyddwn yn siarad am sefyll dros Gymru a bod yn unedig. Nid yw hyn yn newyddion da i Gymru—mae hynny'n glir iawn. Gallwn roi sbin arno, gallwn, ond ein rôl ni yma yw cynrychioli ein cymunedau, cynrychioli Cymru. Mae hynny'n golygu galw am gyllid teg i Gymru. Nid yw hwn yn setliad teg. Ni wnawn fodloni arno. Dyna pam rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd o bob plaid uno y tu ôl i'n cynnig, sy'n galw am gyllid teg i Gymru, dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, ad-daliad yswiriant gwladol llawn a threth ar gyfoeth. Dyna'r pethau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru, nid yr adolygiad o wariant hwn.

18:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Ocê.

10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ynni solar. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant. Agor y bleidlais.

Felly, pleidleisio ar y cynnig heb ei ddiwygio.

Cau'r bleidlais. O blaid 13, 10 yn ymatal, 23 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ynni solar. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 23, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly rwy'n arddel fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ynni solar. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, dadl Plaid Cymru ar adolygiad o wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig.

Pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, byddwn ni'n pleidleisio ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais yn awr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Rwy'n arddel fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

19:00

Dwi'n gofyn nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.

Eitem 9, Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 12, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Unwaith eto, gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei wrthod. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:00.