Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/06/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
Good afternoon and welcome to this afternoon's Plenary meeting. The first item on our agenda this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, and the first question is from John Griffiths.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ar gyflawni'r argymhellion a nodwyd yn adroddiad Comisiwn Burns? OQ62791
1. Will the Cabinet Secretary provide an update on the delivery of the recommendations set out in the Burns Commission report? OQ62791

Our work has confirmed a solid business case for the five new stations. We now want to work with the UK Government to move to construction. We're also working with local authorities on improving transport links in central Newport, and better bus and active travel connections between Cardiff and Newport.
Mae ein gwaith wedi cadarnhau achos busnes cadarn ar gyfer y pum gorsaf newydd. Rydym eisiau gweithio gyda Llywodraeth y DU nawr i symud ymlaen i'r gwaith adeiladu. Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar wella cysylltiadau trafnidiaeth yng nghanol Casnewydd, a chysylltiadau bysiau a theithio llesol gwell rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Cabinet Secretary, I'm hopeful that there will soon be a UK Government announcement on those five new train stations, three of which, of course, are in my Newport East constituency at Magor, Llanwern and Somerton.
Another recommendation from the Burns report, as part of his blueprint for an integrated transport system in the area, is a link road between the M48 and the B4245, which would link with Severn Tunnel Junction train station, with its increased park-and-ride capacity, and also address the issue of the bottleneck on the B4245, which runs through Magor, Undy, Rogiet and Caldicott. Of course that bottleneck is going to get worse because of the recent decision to restrict heavy goods vehicles from using the M48 Severn bridge. Many of those lorries will exit the M4 at junction 23A at Magor and then loop around the roundabout to head back towards Chepstow, and, in using that junction, that is going to exacerbate the existing congestion problems on that B4245 and roads in the area generally. Monmouthshire County Council believes that there is a strong case to be made, Cabinet Secretary, for that link road meeting the requirements of your roads review, and I'm grateful for your recent acceptance of my invitation to meet with Monmouthshire County Council and me on site, and I wonder if you might confirm that that meeting will take place as quickly as possible?
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU cyn bo hir ar y pum gorsaf drenau newydd hynny, y mae tair ohonynt, wrth gwrs, yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd ym Magwyr, Llan-wern a Somerton.
Argymhelliad arall o adroddiad Burns, fel rhan o'i gynllun ar gyfer system drafnidiaeth integredig yn yr ardal, yw ffordd gyswllt rhwng yr M48 a'r B4245, a fyddai'n cysylltu â gorsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren, gyda'i chapasiti mwy ar gyfer parcio a theithio, a hefyd yn mynd i'r afael â phroblem y man cyfyng ar y B4245, sy'n rhedeg drwy Fagwyr, Gwndy, Rogiet a Chil-y-coed. Wrth gwrs, bydd y man cyfyng hwnnw'n gwaethygu oherwydd y penderfyniad diweddar i atal cerbydau nwyddau trwm rhag defnyddio pont Hafren yr M48. Bydd llawer o'r lorïau hynny'n gadael yr M4 wrth gyffordd 23A ym Magwyr ac yna'n troi o amgylch y gylchfan i fynd yn ôl tuag at Gas-gwent, a thrwy ddefnyddio'r gyffordd honno, bydd hynny'n gwaethygu'r problemau presennol gyda thagfeydd ar y B4245 a ffyrdd yr ardal yn gyffredinol. Mae Cyngor Sir Fynwy yn credu bod achos cryf dros sicrhau bod y ffordd gyswllt honno'n bodloni gofynion eich adolygiad ffyrdd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn fy ngwahoddiad yn ddiweddar i gyfarfod â Chyngor Sir Fynwy a minnau ar y safle, a thybed a allech gadarnhau y bydd y cyfarfod hwnnw'n digwydd cyn gynted â phosibl?
Yes, I'd very much like to meet as soon as possible to discuss the potential of the link road. I think it's vitally important that such a piece of infrastructure is reflected as a priority within the regional transport plan as well, and I believe that there is still an opportunity for members of the public to influence that important plan, because, from next year, we're going to be devolving decision making and funding for local transport matters to the region, and therefore having the priority set out in the regional transport plan now is vitally important. And, of course, we're working very closely with National Highways and with UK Government Ministers to minimise disruption whilst that weight limit is in force for safety reasons.
Can I just put on record, in regard to the work of Lord Burns, my thanks to him and also to Professor Simon Gibson, who carried out an enormous amount of work to get the five stations to such an advanced business case position? There is strong support both here and at Westminster for the five new stations, and I don't believe we could have done any more to influence UK Treasury. So, we now await the comprehensive spending review next week. Meanwhile, we are also awarding local authorities in south-east Wales almost £50 million this year to take forward transport priorities across the region.
Wrth gwrs, hoffwn gyfarfod cyn gynted â phosibl i drafod potensial y ffordd gyswllt. Credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod darn o seilwaith o'r fath yn cael ei adlewyrchu fel blaenoriaeth o fewn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol hefyd, a chredaf fod cyfle o hyd i aelodau'r cyhoedd ddylanwadu ar y cynllun pwysig hwnnw, oherwydd o'r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn yn datganoli'r penderfyniadau a'r cyllid ar gyfer materion trafnidiaeth lleol i'r rhanbarth, ac felly mae cael y flaenoriaeth a nodir yn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol nawr yn hanfodol bwysig. Ac wrth gwrs, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda National Highways a Gweinidogion Llywodraeth y DU i leihau'r tarfu tra bo'r terfyn pwysau hwnnw'n weithredol am resymau diogelwch.
Ar waith yr Arglwydd Burns, a gaf i gofnodi fy niolch iddo ef ac i'r Athro Simon Gibson, a wnaeth lawer iawn o waith i ddatblygu achos busnes y pum gorsaf? Mae cefnogaeth gref yma ac yn San Steffan i'r pum gorsaf newydd, ac nid wyf yn credu y gallem fod wedi gwneud mwy i ddylanwadu ar Drysorlys y DU. Felly, rydym yn aros nawr am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos nesaf. Yn y cyfamser, rydym hefyd yn dyfarnu bron i £50 miliwn i awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru eleni i fwrw ymlaen â blaenoriaethau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.
Cabinet Secretary, there's a great deal of concern in Newport about plans to rip out Old Green roundabout and replace it with a traffic light-controlled junction. With 3,000 vehicles using the key route at peak times every day, these mooted changes will cause major motoring mayhem in and around the city centre. Not only that, but there are fears that the project, which has been billed as part of the alternative solution to Labour's decision to axe the much-needed M4 relief road, will further hamper our city's struggling businesses and take us back to the days of gridlocked roads as seen in the 1960s and 1970s.
There's also genuine concern that the whole process has been, indeed, a stitch-up, given the public consultation—and I use that phrase rather loosely, because residents do feel that the option to say that they didn't want to have any change whatsoever did not, indeed, take place. The strength of feeling is clear to see, with a petition launched by a local campaigner, Michael Enea, rapidly gaining momentum with an excess of 1,200 signatures. Old Green roundabout works as it is and is deemed to be doing a good enough job, so, if it's not broken, why fix it? Cabinet Secretary, can I get an ironclad guarantee from you that this Welsh Government will not hand over any money for this scheme, and will you join me in putting pressure on the powers that be to heed the public's feedback and abandon these plans? Thank you.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cryn bryder yng Nghasnewydd ynghylch cynlluniau i gael gwared ar gylchfan Old Green a gosod cyffordd a reolir gan oleuadau traffig yn ei lle. Gyda 3,000 o gerbydau'n defnyddio'r llwybr allweddol hwn ar adegau brig bob dydd, bydd y newidiadau a grybwyllir yn achosi anhrefn i gerbydau yng nghanol y ddinas a'r cyffiniau. Nid yn unig hynny, ond mae ofnau y bydd y prosiect, sydd wedi'i hyrwyddo fel rhan o'r ateb amgen i benderfyniad Llafur i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 sydd ei hangen yn daer, yn amharu ymhellach ar fusnesau ein dinas sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, ac yn mynd â ni'n ôl i ddyddiau tagfeydd y 1960au a'r 1970au.
Mae pryder gwirioneddol hefyd fod y broses gyfan wedi bod yn un dwyllodrus, o ystyried yr ymgynghoriad cyhoeddus—ac rwy'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw mewn ystyr eithaf bras, gan fod y trigolion yn teimlo na chawsant opsiwn i ddweud na hoffent weld unrhyw newid o gwbl. Mae cryfder eu teimladau'n amlwg, gyda deiseb a lansiwyd gan ymgyrchydd lleol, Michael Enea, yn ennill momentwm yn gyflym gyda dros 1,200 o lofnodion. Mae cylchfan Old Green yn gweithio fel y mae, ac ystyrir ei bod yn gwneud ei gwaith yn ddigon da, felly, os nad yw wedi torri, pam ei drwsio? Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i sicrwydd cadarn gennych na fydd Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo unrhyw arian ar gyfer y cynllun hwn, ac a wnewch chi ymuno â mi i roi pwysau ar y rhai sydd mewn grym i wrando ar adborth y cyhoedd a rhoi'r gorau i'r cynlluniau hyn? Diolch.
Well, can I assure the Member that we're working very closely with the region's local authorities to improve traffic flow, and that means improving Old Green roundabout if it is deemed to be necessary? We're listening to the public and we'll ensure that the public's views are at the heart of any decisions that are made.
But, in terms of congestion on the M4, as I've already said, the South East Wales Transport Commission's work has been invaluable in providing the business cases for five stations, which will alleviate congestion on the M4, provide more public transport opportunities for people currently deprived of them, deliver more social justice, whilst, at the same time, ensuring that we develop more options for modal shift.
Wel, a gaf i roi sicrwydd i'r Aelod ein bod yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol y rhanbarth i wella llif traffig, a bod hynny'n golygu gwella cylchfan Old Green os ystyrir bod hynny'n angenrheidiol? Rydym yn gwrando ar y cyhoedd, a byddwn yn sicrhau bod barn y cyhoedd yn ganolog mewn unrhyw benderfyniadau a wneir.
Ond o ran tagfeydd ar yr M4, fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, mae gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddarparu'r achosion busnes ar gyfer pum gorsaf, a fydd yn lleddfu tagfeydd ar yr M4, yn darparu mwy o gyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl sydd wedi'u hamddifadu ohonynt ar hyn o bryd, yn cyflawni mwy o gyfiawnder cymdeithasol, ac ar yr un pryd, yn sicrhau ein bod yn datblygu mwy o opsiynau ar gyfer newid dulliau teithio.
As you know, transport Secretary, Cardiff parkway is one of the key building blocks in the Burns recommendations. It's a key economic development project that is only possible because of the improved sustainable transport development that is led by the private sector. The track, though, remains a UK asset, and improving it is a key aspect of the successful delivery of this significant opportunity to grow the economy with high-quality employment across south-east Wales, and improve public transport. Can you confirm what discussions you are already having around the delivery of this aspect of the transport project with counterparts in the UK Government and the Welsh Government's joint venture partners on the Cardiff parkway board?
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd trafnidiaeth, mae parcffordd Caerdydd yn un o'r blociau adeiladu allweddol yn argymhellion Burns. Mae'n brosiect datblygu economaidd allweddol nad yw ond yn bosibl oherwydd y gwelliant i ddatblygu trafnidiaeth gynaliadwy a arweinir gan y sector preifat. Mae'r trac, fodd bynnag, yn parhau i fod yn ased sy'n eiddo i'r DU, ac mae ei wella yn agwedd allweddol ar gyflawni'r cyfle arwyddocaol hwn yn llwyddiannus i dyfu'r economi gyda chyflogaeth o ansawdd uchel ar draws de-ddwyrain Cymru, a gwella trafnidiaeth gyhoeddus. A allwch chi gadarnhau pa drafodaethau rydych chi eisoes yn eu cael ynghylch cyflawni'r agwedd hon ar y prosiect trafnidiaeth gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a phartneriaid menter Llywodraeth Cymru ar fwrdd parcffordd Caerdydd?
Can I thank Vaughan Gething for his question? He's absolutely right—Cardiff parkway was the first of the South East Wales Transport Commission's stations to be green-lit. It has enormous potential, as has Cardiff Crossrail more widely. It's not just a means of transporting people that this offers; it's about the economy, it's about driving jobs growth, it's about providing better opportunities for people, driving prosperity. I do have regular meetings with UK Ministers regarding parkway and other matters in south-east Wales relating to public transport. I'm looking forward to meeting with the board soon to discuss progress on this particular project, and, indeed, I'm looking forward to meeting with the Member himself to discuss the potential of Cardiff parkway.
A gaf i ddiolch i Vaughan Gething am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le—parcffordd Caerdydd oedd y gyntaf o orsafoedd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i gael ei chymeradwyo. Mae ganddi botensial enfawr, fel sydd gan Cledrau Croesi Caerdydd yn fwy cyffredinol. Nid ffordd o gludo pobl yn unig y mae hyn yn ei chynnig; mae a wnelo â'r economi, mae a wnelo â hybu twf swyddi, mae a wnelo â darparu cyfleoedd gwell i bobl, gan hybu ffyniant. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidogion y DU ynghylch y barcffordd a materion eraill sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r bwrdd cyn bo hir i drafod cynnydd ar y prosiect penodol hwn, ac yn wir, edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Aelod ei hun i drafod potensial parcffordd Caerdydd.
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r system drafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OQ62782
2. What plans does the Government have to improve the transport system in south-east Wales? OQ62782
We're delivering an ambitious programme of investment to transform the transport network across south-east Wales. Our focus is on delivering the metro, which will encompass a high-quality network of integrated and accessible rail and bus services for the region, and, of course, it's complemented by our Bus Services (Wales) Bill.
Rydym yn cyflwyno rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol i drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth ar draws de-ddwyrain Cymru. Ein ffocws yw cyflwyno'r metro, a fydd yn cynnwys rhwydwaith ansawdd uchel o wasanaethau rheilffordd a bysiau integredig a hygyrch ar gyfer y rhanbarth, ac wrth gwrs, caiff ei ategu gan ein Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).
Diolch am yr ateb.
Thank you for that response.
We all welcome the metro in south-east Wales. I'm very pleased that new trains are already servicing Llandaff station in my constituency of Cardiff North, and they'll be added to the Coryton line this summer. I know that this will mean a much better passenger experience as well as being more energy efficient and much quieter for the rail-side neighbours.
However, I'd like to highlight again the continuing problems with the Coryton line. We have been promised a Sunday service. Could the Cabinet Secretary confirm when this will be introduced? The line also currently has two trains an hour, and, in order for this to be increased to four trains an hour, which is Transport for Wales's ambition, a passing loop will be required, and this will require investment from the Welsh Government. Could the Cabinet Secretary confirm whether he will consider this so that people in north Cardiff have a much more regular, reliable train service, where there is great demand?
Mae pob un ohonom yn croesawu'r metro yn ne-ddwyrain Cymru. Rwy'n falch iawn fod trenau newydd eisoes yn gwasanaethu gorsaf Llandaf yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, a byddant yn cael eu hychwanegu at linell reilffordd Coryton yn yr haf. Gwn y bydd hyn yn golygu profiad llawer gwell i deithwyr yn ogystal â bod yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn llawer tawelach i'r cymdogion sy'n byw ger y rheilffordd.
Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw eto at y problemau parhaus gyda llinell reilffordd Coryton. Rydym wedi cael addewid o wasanaeth ar y Sul. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pryd y bydd hyn yn cael ei gyflwyno? Mae gan y llinell reilffordd ddau drên yr awr ar hyn o bryd hefyd, ac er mwyn cynyddu hyn i bedwar trên yr awr, sef uchelgais Trafnidiaeth Cymru, bydd angen dolen basio, sy'n golygu y bydd angen buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd yn ystyried hyn fel bod gan bobl yng ngogledd Caerdydd wasanaeth trên llawer mwy rheolaidd a dibynadwy, gan fod galw mawr yno?
Julie Morgan has long been a passionate advocate for better public transport in her constituency and more widely across the region. I am delighted that new trains will be introduced, from next month, in fact, on the Coryton, Penarth and Caerphilly lines. It's going to be invaluable for the travelling public to experience those brand-new trains. That, of course, is part of our £800 million investment in brand-new rolling stock. We're taking one of the oldest and a tiny fleet of trains that we inherited in 2018 to one of the largest per capita and one of the newest in Europe by next year. So, it's a huge endeavour, but it is something that has been enabled by that £800 million investment. Alongside the introduction of those new trains, I'm very pleased to be able to share with the Member news today that we are looking to operate Sunday services on the Coryton line from this December's timetable change—so, again, providing more services on new trains, providing better options for people to travel by public transport.
Mae Julie Morgan wedi bod yn eiriolwr angerddol ers tro byd dros well trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hetholaeth ac yn ehangach ar draws y rhanbarth. Rwy'n falch iawn y bydd trenau newydd yn cael eu cyflwyno, o'r mis nesaf mewn gwirionedd, ar linellau Coryton, Penarth a Chaerffili. Bydd yn amhrisiadwy i'r cyhoedd sy'n teithio brofi'r trenau newydd sbon hynny. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhan o'n buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon. Rydym yn cyfnewid un o'r fflydoedd hynaf a lleiaf o drenau a etifeddwyd gennym yn 2018 am un o'r rhai mwyaf y pen ac un o'r rhai mwyaf newydd yn Ewrop erbyn y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n ymdrech enfawr, ond mae'n rhywbeth sydd wedi'i alluogi gan y buddsoddiad hwnnw o £800 miliwn. Ynghyd â chyflwyno'r trenau newydd hynny, rwy'n falch iawn o allu rhannu'r newyddion gyda'r Aelod heddiw ein bod yn bwriadu gweithredu gwasanaethau ar y Sul ar linell Coryton yn dilyn y newid i'r amserlen ym mis Rhagfyr—felly unwaith eto, darparu mwy o wasanaethau ar drenau newydd, gan ddarparu gwell opsiynau i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Cabinet Secretary, transport systems across Wales are in need of improvement—that's clear—not least our roads. But these roads must be safe. There are many accident hotspots across the county, not least the A40 junction at Raglan. Sadly, on 31 May, we recently saw another fatal incident in the vicinity of the junction, where a 27-year-old motorcyclist lost his life, and our thoughts go to his family.
I, and many of the local community—indeed, we have community members here today—have written and lobbied you and your predecessor about what we can do about things there. We have met with the South Wales Trunk Road Agent. We have seen plans on paper that could solve the issue, but we’re told that things have to get a lot worse before spades hit the ground. Now, there are some immediate quick wins, as they were coined, and we were told these would be implemented quickly. But I’m afraid to say, Cabinet Secretary, that we have not seen any evidence of this just yet. We really need to see urgent action at Raglan. It cannot continually be ignored. Cabinet Secretary, we know that SWTRA have rules, restrictions, budgets and precedent to follow, but something has to change—it must change. We need a quick and pragmatic approach. So, Cabinet Secretary, how many incidents, close calls, or fatalities will it take before action is taken at Raglan? I implore the Government to address issues at Raglan. Lives are being lost, and this just can’t continue.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen gwella systemau trafnidiaeth ledled Cymru—mae hynny'n amlwg—yn enwedig ein ffyrdd. Ond mae'n rhaid i'r ffyrdd hyn fod yn ddiogel. Mae llawer o fannau problemus o ran damweiniau ledled y sir, yn enwedig cyffordd yr A40 yn Rhaglan. Yn anffodus, ar 31 Mai, gwelsom ddigwyddiad angheuol arall yng nghyffiniau'r gyffordd, lle collodd beiciwr modur 27 oed ei fywyd, ac rydym yn cydymdeimlo â'i deulu.
Rwyf fi, a llawer o'r gymuned leol—yn wir, mae gennym aelodau o'r gymuned yma heddiw—wedi ysgrifennu at ac wedi eich lobïo chi a'ch rhagflaenydd ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â'r sefyllfa yno. Rydym wedi cyfarfod ag Asiant Cefnffyrdd De Cymru. Rydym wedi gweld cynlluniau ar bapur a allai ddatrys y broblem, ond dywedir wrthym fod yn rhaid i bethau waethygu'n sylweddol cyn i rawiau daro'r ddaear. Nawr, mae rhai pethau y gellir eu gwneud ar unwaith, a dywedwyd wrthym y byddai'r rhain yn cael eu gweithredu'n gyflym. Ond mae arnaf ofn, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hyn eto. Mae gwir angen inni weld gweithredu brys yn Rhaglan. Ni ellir parhau i anwybyddu'r sefyllfa. Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddom fod gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru reolau, cyfyngiadau, cyllidebau a chynsail i'w dilyn, ond mae'n rhaid i rywbeth newid—mae'n rhaid i bethau newid. Mae angen dull gweithredu cyflym a phragmatig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, faint o ddigwyddiadau, achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd, neu farwolaethau y bydd yn ei gymryd nes y cymerir camau yn Rhaglan? Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r problemau yn Rhaglan. Mae bywydau'n cael eu colli, ac ni all hyn barhau.
Presiding Officer, I've received correspondence from members of the public and, indeed, from Members of the Senedd, including Laura Jones, regarding the latest incident and the need to improve safety at that particular point on the A40. I've asked my office to make time for urgent discussions with elected members, not just from the Senedd, but also from the local authority and community, as well as with members of the community, so that we can examine what those quick wins might be and the answer that might be possible in the short term.
Lywydd, rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan aelodau o'r cyhoedd, ac yn wir, gan Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys Laura Jones, ynghylch y digwyddiad diweddaraf a'r angen i wella diogelwch yn y man penodol hwnnw ar yr A40. Rwyf wedi gofyn i fy swyddfa drefnu trafodaethau brys gydag aelodau etholedig, nid yn unig o'r Senedd, ond hefyd o'r awdurdod lleol a'r gymuned, yn ogystal ag aelodau o'r gymuned, fel y gallwn archwilio beth y gellir ei wneud ar unwaith a'r ateb a allai fod yn bosibl yn y tymor byr.
Cardiff Crossrail is a significant opportunity to improve transport links within the city and to open up further economic development opportunities. And it would, if fully delivered, make a significant difference to the communities I serve in the south and east of the city. Of course, I’ve been a consistent supporter of rail investment since my previous life on the backbenches, co-authoring a paper with Mark Berry on a Cardiff crossrail project. So, I really do welcome the Welsh Government’s support for this infrastructure improvement, together with Transport for Wales and Cardiff Council. But, transport Secretary, can you confirm when we could expect an update on timescales for the next stage of delivery for Cardiff Crossrail, and when and how you’ll be able to inform Members and the wider public of what that looks like?
Mae Cledrau Croesi Caerdydd yn gyfle sylweddol i wella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn y ddinas ac i agor cyfleoedd datblygu economaidd pellach. A phe bai'n cael ei gyflawni'n llawn, byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r cymunedau rwy'n eu gwasanaethu yn ne a dwyrain y ddinas. Wrth gwrs, rwyf wedi cefnogi buddsoddiad mewn rheilffyrdd yn gyson ers fy mywyd blaenorol ar y meinciau cefn, gan gyd-ysgrifennu papur gyda Mark Berry ar brosiect Cledrau Croesi Caerdydd. Felly, rwy'n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r gwelliant hwn i'r seilwaith, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Ond Ysgrifennydd trafnidiaeth, a allwch chi gadarnhau pryd y gallem ddisgwyl diweddariad ar amserlenni ar gyfer cyflawni cam nesaf Cledrau Croesi Caerdydd, a phryd a sut y byddwch yn gallu rhoi gwybod i'r Aelodau a'r cyhoedd yn fwy cyffredinol ynglŷn â hynny?
Well, can I thank Vaughan Gething for his questions and his support for Crossrail? It’s a hugely important project for the entire region. I’m pleased to say that officials have regular engagement with the local authority, with Cardiff Council, and with Transport for Wales and the UK Government regarding the Cardiff Crossrail project. And we’ve reiterated our support for, of course, the first phase of the scheme, and we’ll continue to work with partners as the proposals are developed. And this project, I think, is another example of our two Governments working together to improve the railways in Wales.
Now, the first phase of the Cardiff Crossrail project will transform connectivity to Cardiff Bay and become a key part of our integrated public transport network. And I’ll make available further information about the timescales for delivery as soon as I’ve had additional discussions with our delivery partners.
Wel, a gaf i ddiolch i Vaughan Gething am ei gwestiynau a'i gefnogaeth i Cledrau Croesi Caerdydd? Mae'n brosiect hynod bwysig i'r rhanbarth cyfan. Rwy'n falch o ddweud bod swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd â'r awdurdod lleol, â Chyngor Caerdydd, a chyda Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch prosiect Cledrau Croesi Caerdydd. Ac rydym wedi ailadrodd ein cefnogaeth, wrth gwrs, i gam cyntaf y cynllun, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid wrth i'r cynigion gael eu datblygu. A chredaf fod y prosiect hwn yn enghraifft arall o'n dwy Lywodraeth yn cydweithio i wella'r rheilffyrdd yng Nghymru.
Nawr, bydd cam cyntaf prosiect Cledrau Croesi Caerdydd yn trawsnewid cysylltedd â Bae Caerdydd ac yn dod yn rhan allweddol o'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig. A byddaf yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr amserlenni ar gyfer cyflawni cyn gynted ag y byddaf wedi cael trafodaethau ychwanegol gyda'n partneriaid cyflawni.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Questions now from the party spokespeople. The Welsh Conservative spokesperson, Gareth Davies.
Diolch, Llywydd. I'd like to raise an issue of growing concern for communities across north Wales, which is the steady exodus of our young people leaving not because they want to, but feel that they have no choice. The resulting brain drain is causing regional skills shortages and is harming our economy. Too many of our towns and villages, from Holyhead to Wrexham, are becoming places where young people grow up, but don't want to grow old. Although rural areas attract older inward migrants, the departure of young people is leading to a demographic imbalance and depopulation. Forty per cent of rural youth are reluctant leavers, meaning they'd prefer to say but feel they have to leave due to a lack of opportunities.
Anglesey has seen a steady net migration outflow of young people aged 15 to 29 and ranks amongst the lowest in Wales for the amount of people in this age group. This is not just a natural demographic trend, it’s a direct result of how the economy has been managed and what opportunities are available to young people. Wales’s young people deserve more than to be seen as an export. We must create an economy where they want to stay, not one that drives them away. Sadly, the 14 per cent cut to the apprenticeship scheme last year would have undoubtedly had an effect. And we know it did—there was a 20 per cent drop in apprenticeship learning programmes starting in 2024-25, compared with 2023-24. The north Wales regional skills plan also identified that 70 per cent of employers in the region are facing this skills challenge. So, what steps is the Welsh Government taking to ensure that young people in north Wales can find well-paid, skilled employment and access to further training without having to leave their communities behind?
Diolch, Lywydd. Hoffwn godi mater sy'n peri pryder cynyddol i gymunedau ledled gogledd Cymru, sef yr ecsodus cyson o bobl ifanc sy'n gadael nid am eu bod eisiau gwneud hynny, ond am eu bod yn teimlo nad oes dewis ganddynt. Mae'r draen dawn sy'n deillio o hyn yn achosi prinder sgiliau rhanbarthol ac yn niweidio ein heconomi. Mae gormod o'n trefi a'n pentrefi, o Gaergybi i Wrecsam, yn dod yn lleoedd lle mae pobl ifanc yn tyfu i fyny, ond nid tyfu'n hen. Er bod ardaloedd gwledig yn denu mudwyr mewnol hŷn, mae ymadawiad pobl ifanc yn arwain at anghydbwysedd demograffig a diboblogi. Mae 40 y cant o bobl ifanc wledig yn ymadawyr anfoddog, sy'n golygu y byddai'n well ganddynt aros ond eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael oherwydd diffyg cyfleoedd.
Mae Ynys Môn wedi gweld all-lif net cyson o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed, ac mae ymhlith yr isaf yng Nghymru o ran nifer y bobl yn y grŵp oedran hwn. Nid tuedd ddemograffig naturiol yn unig yw hon, mae'n ganlyniad uniongyrchol i'r modd y mae'r economi wedi'i rheoli a pha gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc. Mae pobl ifanc Cymru yn haeddu mwy na chael eu gweld fel allforion. Mae’n rhaid inni greu economi lle maent eisiau aros, nid un sy'n eu gyrru ymaith. Yn anffodus, mae'r toriad o 14 y cant i'r cynllun prentisiaeth y llynedd wedi cael effaith yn ddi-os. A gwyddom ei fod wedi cael effaith—bu gostyngiad o 20 y cant mewn rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuodd yn 2024-25, o gymharu â 2023-24. Nododd cynllun sgiliau rhanbarthol gogledd Cymru hefyd fod 70 y cant o gyflogwyr yn y rhanbarth yn wynebu'r her sgiliau hon. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall pobl ifanc yn y gogledd ddod o hyd i swyddi medrus â chyflogau da a mynediad at hyfforddiant pellach heb orfod gadael eu cymunedau?
Can I thank the Member for his question? I do recognise the challenge that many young people face in accessing quality employment and skills opportunities, but these are challenges that we are addressing as a Welsh Government. I shared with my colleagues on Monday the recent conversation that I'd had with a learner at Ysgol Dinas Brân in Llangollen, and we talked about the various challenges that young people face in that particular community, and he highlighted that it's very difficult at times to move in and out of Llangollen because of the bus network, and he said that no young person should be trapped in a valley and have their ambitions curtailed as a result of a lack of access to quality and regular public transport. That is precisely why we are introducing, and why I hope the Conservatives will support, our bus reform measures. They will see a network that delivers for all people, young and old, better connecting communities with places of employment and with institutions that provide skills training.
And just on the very point of skills, the Member mentioned the apprenticeship scheme. I think something that is not celebrated enough in Wales is the success of the apprenticeship scheme. We still have one of the highest completion rates of any apprenticeship scheme in Europe. That is because not only do we have determined and ambitious people undertaking apprenticeships—not just young people, but people of all ages—but we have some of the best skills providers in Europe, including, of course, in north Wales.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n cydnabod yr her y mae llawer o bobl ifanc yn ei hwynebu wrth geisio cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a sgiliau o safon, ond dyma'r heriau rydym yn mynd i'r afael â hwy fel Llywodraeth Cymru. Rhannais gyda fy nghyd-Aelodau ddydd Llun y sgwrs ddiweddar a gefais gyda dysgwr yn Ysgol Dinas Brân yn Llangollen, a buom yn trafod yr heriau amrywiol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn y gymuned benodol honno, ac fe bwysleisiodd ei bod yn anodd iawn mynd i mewn ac allan o Langollen ar brydiau oherwydd y rhwydwaith bysiau, a dywedodd na ddylai unrhyw unigolyn ifanc fod yn gaeth mewn dyffryn a gorfod cyfyngu eu huchelgeisiau o ganlyniad i ddiffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd o safon. Dyna'n union pam ein bod yn cyflwyno, a pham y gobeithiaf y bydd y Ceidwadwyr yn cefnogi, ein mesurau diwygio bysiau. Byddant yn gweld rhwydwaith sy'n cyflawni ar gyfer pawb, hen ac ifanc, gan gysylltu cymunedau'n well â lleoedd cyflogaeth a sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant sgiliau.
Ac ar sgiliau, soniodd yr Aelod am y cynllun prentisiaeth. Credaf fod llwyddiant y cynllun prentisiaeth yn rhywbeth nad yw'n cael ei ddathlu ddigon yng Nghymru. Mae gennym un o'r cyfraddau cwblhau uchaf o unrhyw gynllun prentisiaeth yn Ewrop o hyd, a hynny nid yn unig oherwydd bod gennym bobl benderfynol ac uchelgeisiol yn cyflawni prentisiaethau—nid pobl ifanc yn unig, ond pobl o bob oed—mae gennym hefyd rai o'r darparwyr sgiliau gorau yn Ewrop, gan gynnwys yng ngogledd Cymru.
Well, I appreciate that response, but you're talking about a very micro issue in relation to the question in terms of talking about bus provision, which of course is important, but you've got to also factor in the wider economic situation of those problems, and indeed the global challenges that face people in north Wales generally, rather than just focusing on public transport being the silver bullet to everybody's problems in north Wales. It's one strand and one solution to those problems, but a very minute one at the same time, arguably.
But, secondly, I'd like some clarity on the announcement last week regarding the north Wales metro. The £13 million announced by the Welsh Government for the north Wales metro is less than 1 per cent of the total funding needed. Without a single penny committed by the UK Labour Government, this is not a credible transport strategy and, to many, appears like a public relations exercise to shore up support as the election draws near. We were promised a north Wales metro over a decade ago, and yet delivery remains painfully slow. Let's not forget it was the UK Labour Government that scrapped Conservative plans to electrify the north Wales main line, only now to talk up their ambition with no detail, no costings, and no clear routes of delivery. Perhaps we could afford the investment in our own railways if the Welsh Government fought to have the Oxford to Cambridge line designated as an England-only project. The Conservative UK Government, by contrast, committed £1 billion to electrify the line from Holyhead to Crewe, a game-changing investment.
So, can the Cabinet Secretary lay out what discussions are being had with the UK Government to secure funding for this project in its entirety, and when will he outline the full plan? And lastly, will things change on the ground for people in north Wales, or is this just another promise that quietly disappears after election day?
Wel, rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, ond rydych chi'n sôn am fater bach iawn mewn perthynas â'r cwestiwn o ran siarad am ddarpariaeth bysiau, sydd wrth gwrs yn bwysig, ond mae'n rhaid i chi hefyd ystyried sefyllfa economaidd ehangach y problemau hynny, ac yn wir, yr heriau byd-eang sy'n wynebu pobl yng ngogledd Cymru yn gyffredinol, yn hytrach na chanolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus fel yr ateb i broblemau pawb yn y gogledd. Mae'n un edefyn ac yn un ateb i'r problemau hynny, ond mae'n un bach iawn ar yr un pryd, gellid dadlau.
Ond yn ail, hoffwn rywfaint o eglurder ar y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ynghylch metro gogledd Cymru. Mae'r £13 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer metro gogledd Cymru yn llai nag 1 y cant o gyfanswm y cyllid sydd ei angen. Heb yr un geiniog wedi'i hymrwymo gan Lywodraeth Lafur y DU, nid yw hon yn strategaeth drafnidiaeth gredadwy, ac i lawer, mae'n edrych fel ymarfer cysylltiadau cyhoeddus i ennyn cefnogaeth wrth i'r etholiad agosáu. Cawsom addewid o fetro gogledd Cymru dros ddegawd yn ôl, ond mae'r ddarpariaeth yn parhau i fod yn boenus o araf. Gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Lafur y DU a ddiddymodd gynlluniau'r Ceidwadwyr i drydaneiddio prif linell reilffordd y gogledd, dim ond i frolio nawr am eu huchelgais heb unrhyw fanylion, dim costau, a dim llwybrau cyflenwi clir. Efallai y gallem fforddio'r buddsoddiad yn ein rheilffyrdd ein hunain pe bai Llywodraeth Cymru yn ymladd i gael y llinell o Rydychen i Gaergrawnt wedi'i dynodi'n brosiect ar gyfer Lloegr yn unig. Mewn cyferbyniad, ymrwymodd Llywodraeth Geidwadol y DU £1 biliwn i drydaneiddio'r llinell o Gaergybi i Crewe, buddsoddiad trawsnewidiol.
Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect hwn yn ei gyfanrwydd, a phryd y bydd yn amlinellu'r cynllun llawn? Ac yn olaf, a fydd pethau'n newid ar lawr gwlad i bobl yn y gogledd, neu ai dim ond addewid arall yw hwn a fydd yn diflannu'n dawel ar ôl diwrnod yr etholiad?
You know, they have a brass neck, they really do. Selective memory as well. When Rishi Sunak promised that £1 billion for electrification of the main line, there was no business case behind it. He hadn't even informed the Department for Transport. The reason that he and others in the room were grinning so much was because he knew it was a great big joke—a joke at our expense in north Wales.
Now, you mentioned that the problem with bus transport under this deregulated system that we have is minute. Thirty per cent, I heard last week, 30 per cent of job offers in north Wales to young people are rejected because of a lack of bus services to get them to and from work. That is not a minute problem. That is a problem that we will seek to address through re-regulation, making sure that networks suit passenger needs.
And in terms of network north Wales, first of all, that £13 million is in addition to the money that we're already spending, such as the £800 million introducing brand-new trains. It's important to note that on the north Wales main line 87 per cent of trains are now brand new. Every single train on the Wrexham to Liverpool line is brand new. That's as a result of Welsh Labour investing £800 million in the Welsh railways. Now, I'm looking forward to next week's comprehensive spending review, because we've made the strongest possible case for the delivery of the transport commission's recommendations in south Wales and in north Wales, and those component parts in north Wales are the bedrock of metro infrastructure services. They deal with infrastructure constraints at Chester and Padeswood, and the need to introduce better safety measures along the north Wales main line.
But you ask: will people see benefits? Let me just tell you what benefits they're going to be seeing across north Wales in the next 18 months that have already been planned, that are part of our funded process of upgrading public transport: new and improved services, 50 per cent more services across the north Wales main line, direct into Liverpool. We're going to see new Fflecsi services; we're going to see new TrawsCymru services; we're going to see a doubling of services between the great cities of Wrexham and Chester. And we are also going to see more work being done on the Wrexham to Liverpool line, to make sure that that is the spine of metro services across north Wales in the coming years. We deliver; you just offer empty promises.
Wyddoch chi, mae ganddynt wyneb, oes yn wir. Cof dethol hefyd. Pan addawodd Rishi Sunak £1 biliwn i drydaneiddio'r brif linell, nid oedd unrhyw achos busnes y tu ôl iddo. Nid oedd hyd yn oed wedi rhoi gwybod i'r Adran Drafnidiaeth. Y rheswm pam yr oedd ef ac eraill yn yr ystafell yn gwenu cymaint oedd am ei fod yn gwybod mai jôc oedd hi—jôc ar ein traul ni yng ngogledd Cymru.
Nawr, fe ddywedoch chi fod y broblem gyda chludiant bysiau o dan y system ddadreoleiddiedig hon sydd gennym yn un fach. Clywais yr wythnos diwethaf fod 30 y cant o gynigion swyddi i bobl ifanc yng ngogledd Cymru yn cael eu gwrthod oherwydd diffyg gwasanaethau bysiau i'w cludo i'r gwaith ac yn ôl. Nid problem fach yw honno. Mae honno'n broblem y byddwn yn ceisio mynd i'r afael â hi drwy ailreoleiddio, gan sicrhau bod rhwydweithiau'n addas i anghenion teithwyr.
Ac o ran rhwydwaith gogledd Cymru, yn gyntaf oll, mae'r £13 miliwn hwnnw yn ychwanegol at yr arian rydym eisoes yn ei wario, fel y £800 miliwn i gyflwyno trenau newydd sbon. Mae'n bwysig nodi bod 87 y cant o drenau ar brif linell reilffordd y gogledd bellach yn rhai newydd sbon. Mae pob trên ar y llinell reilffordd rhwng Wrecsam a Lerpwl yn newydd sbon. Mae hynny o ganlyniad i Lafur Cymru yn buddsoddi £800 miliwn yn rheilffyrdd Cymru. Nawr, edrychaf ymlaen at yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos nesaf, gan ein bod wedi dadlau'r achos cryfaf posibl dros gyflawni argymhellion y comisiwn trafnidiaeth yn y de a'r gogledd, a'r darnau cydrannol hynny yn y gogledd yw sylfaen gwasanaethau seilwaith y metro. Maent yn delio â chyfyngiadau ar y seilwaith yng Nghaer a Padeswood, a'r angen i gyflwyno mesurau diogelwch gwell ar hyd prif linell reilffordd y gogledd.
Ond rydych chi'n gofyn: a fydd pobl yn gweld manteision? Gadewch imi ddweud wrthych pa fanteision y byddant yn eu gweld ledled gogledd Cymru yn y 18 mis nesaf sydd eisoes wedi'u cynllunio, sy'n rhan o'n proses sydd wedi'i hariannu o uwchraddio trafnidiaeth gyhoeddus: gwasanaethau newydd a gwell, 50 y cant yn rhagor o wasanaethau ar brif linell reilffordd y gogledd, yn uniongyrchol i Lerpwl. Rydym yn mynd i weld gwasanaethau Fflecsi newydd; rydym yn mynd i weld gwasanaethau TrawsCymru newydd; rydym yn mynd i weld nifer y gwasanaethau'n dyblu rhwng dinasoedd gwych Wrecsam a Chaer. Ac rydym hefyd yn mynd i weld mwy o waith ar y llinell reilffordd o Wrecsam i Lerpwl, i sicrhau mai'r llinell honno yw asgwrn cefn y gwasanaethau metro ledled gogledd Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni'n cyflawni; nid ydych chi'n cynnig dim heblaw addewidion gwag.
I'm afraid they weren't empty promises, as the north Wales investment of £1 billion in the mainline services was part of Network North, which actually connected communities in the north of England with the north Wales coast. As you will know as a north Wales Member yourself, a lot of people in north Wales look to Chester, they look to Liverpool, they look to Manchester and Cheshire rather than Cardiff. So, we need services within north Wales that reflect that reality rather than an ideological pursuit.
But, finally, I want to raise the lack of resources going to north Wales across the board. There is a persistent imbalance in investment between the north and the south of our nation, and I see no evidence that the Welsh Government is addressing it. This year's budget once again highlighted this imbalance. While the Welsh Government announced an increase in local government funding, several north Wales councils received below-average settlements. Gwynedd, Flintshire, Anglesey and Conwy all had rises of 3.8 per cent, only to a funding floor that doesn't go far enough. In contrast, south Wales councils—
Mae arnaf ofn nad addewidion gwag mohonynt, gan fod y buddsoddiad o £1 biliwn yng ngwasanaethau prif linell y gogledd yn rhan o Network North, a gysylltai gymunedau yng ngogledd Lloegr ag arfordir gogledd Cymru. Fel y gwyddoch fel Aelod dros ogledd Cymru eich hun, mae llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn edrych tua Chaer, maent yn edrych tua Lerpwl, maent yn edrych tua Manceinion a swydd Gaer yn hytrach na thua Chaerdydd. Felly, mae angen gwasanaethau arnom yn y gogledd sy'n adlewyrchu'r realiti hwnnw yn hytrach na thrywydd ideolegol.
Ond i gloi, hoffwn sôn am y diffyg adnoddau i ogledd Cymru yn gyffredinol. Mae anghydbwysedd parhaus mewn buddsoddiad rhwng gogledd a de ein gwlad, ac nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag ef. Unwaith eto, tynnodd y gyllideb eleni sylw at yr anghydbwysedd hwn. Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynnydd mewn cyllid llywodraeth leol, derbyniodd sawl cyngor yng ngogledd Cymru setliadau is na'r cyfartaledd. Cafodd Gwynedd, sir y Fflint, Ynys Môn a Chonwy godiadau o 3.8 y cant, dim ond i gyllid gwaelodol nad yw'n mynd yn ddigon pell. Mewn cyferbyniad, cafodd cynghorau de Cymru—
I need you to come to a question. I allowed you to overrun by 50 per cent in the first question, by 75 per cent in the second question. So, I'd like you to only overrun by 15 per cent in this question.
Mae angen ichi ddod at gwestiwn. Fe ganiateais ichi or-redeg 50 y cant yn y cwestiwn cyntaf, a 75 y cant yn yr ail gwestiwn. Felly, hoffwn pe baech chi'n gor-redeg 15 y cant yn unig yn y cwestiwn hwn.
I appreciate your generosity. In regard to the funding disparities between local authorities in north and south Wales, how are you as Cabinet Secretary addressing the unfair allocation of resources across all areas of Government to ensure a genuinely fair deal for the people of north Wales?
Rwy'n gwerthfawrogi eich haelioni. O ran yr anghydraddoldebau cyllido rhwng awdurdodau lleol yng ngogledd a de Cymru, sut rydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r dyraniad annheg o adnoddau ar draws pob un o feysydd y Llywodraeth i sicrhau bargen wirioneddol deg i bobl gogledd Cymru?
Look, I regularly meet with local authority leaders, with lead members of various portfolios across north Wales, and there is concern that as a result of 14 years of austerity, of crashing the economy around like it's a dodgem car, there are still severe constraints on public finances. So, I meet regularly with local authorities to examine the impacts on their services and I meet with lead Members here, principally the finance Minister and the Minister responsible for local government. We are acutely aware of the pressures facing local authorities across north Wales and, indeed, in other parts of Wales, and we are seeking to help wherever we possibly can. We need to grow the economy in order to ensure that we have more tax revenue to spend on public services.
But I'd just like to go back to the point on rail because the Member raised it again. In 14 years, the UK Tory Governments that we saw could have put up the cash for electrification, and didn't. It was in the dying months of a regime that knew it had come to its end that they suddenly promised something they knew they would never ever have to deliver. Whereas within weeks of coming to power, the new UK Labour Government had agreed to take forward work on the north Wales main line that would enable us in Wales, as a Welsh Labour Government working in partnership, to increase service provision by 50 per cent.
Edrychwch, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol, gydag aelodau arweiniol gwahanol bortffolios ledled y gogledd, ac mae pryder, o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni, o drin yr economi fel pe bai'n gar taro, fod cyfyngiadau difrifol o hyd ar gyllid cyhoeddus. Felly, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag awdurdodau lleol i archwilio'r effeithiau ar eu gwasanaethau ac rwy'n cyfarfod ag Aelodau arweiniol yma, yn bennaf y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol. Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau sy'n wynebu awdurdodau lleol ledled y gogledd, ac yn wir, mewn rhannau eraill o Gymru, ac rydym yn ceisio helpu ble bynnag y gallwn. Mae angen inni dyfu'r economi er mwyn sicrhau bod gennym fwy o refeniw treth i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.
Ond hoffwn fynd yn ôl at y pwynt ynglŷn â'r rheilffyrdd gan fod yr Aelod wedi'i godi eto. Mewn 14 mlynedd, gallai Llywodraethau Torïaidd y DU a welsom fod wedi darparu'r arian ar gyfer trydaneiddio, ac ni wnaethant. Yn ystod misoedd olaf cyfundrefn a oedd yn gwybod ei bod yn dod i ben, yn sydyn iawn fe wnaethant addo rhywbeth y gwyddent na fyddai'n rhaid iddynt byth ei gyflawni. Ar y llaw arall, o fewn wythnosau i ddod i rym, roedd Llywodraeth Lafur newydd y DU wedi cytuno i fwrw ymlaen â gwaith ar brif linell reilffordd y gogledd a fyddai'n ein galluogi ni yng Nghymru, fel Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio mewn partneriaeth, i gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau 50 y cant.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Plaid Cymru spokesperson, Peredur Owen Griffiths.
Cabinet Secretary, can you outline what meaningful input the Welsh Government and you personally have had into the upcoming UK Government spending review, particularly with regard to rail infrastructure? Given recent briefings, there's a fair expectation of a significant capital rail investment in Wales, but without transparency on how decisions are being made, especially in non-devolved areas like rail, we risk being sidelined again. Can you confirm whether the heavily trailed announcements on rail funding for Wales will both address the historic underinvestment and, in addition, include consequential funding for the high speed 2 project?
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu pa fewnbwn ystyrlon a gafodd Llywodraeth Cymru a chithau'n bersonol yn yr adolygiad o wariant sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â'r seilwaith rheilffyrdd? O ystyried y briffiau diweddar, mae disgwyl buddsoddiad cyfalaf sylweddol mewn rheilffyrdd yng Nghymru, ond heb dryloywder ynghylch sut y caiff penderfyniadau eu gwneud, yn enwedig mewn meysydd heb eu datganoli fel rheilffyrdd, rydym mewn perygl o gael ein hanwybyddu unwaith eto. A allwch chi gadarnhau y bydd y cyhoeddiadau sydd wedi cael cryn dipyn o sylw ar gyllid rheilffyrdd i Gymru yn mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol, ac yn ogystal, yn cynnwys cyllid canlyniadol ar gyfer prosiect HS2?
I think we have to have patience. The comprehensive spending review is only a week away. I think it's around about this time next week that we'll know the contents, but we have done all we possibly can, working in partnership with the new UK Labour Government, to put the best possible case forward for investment across the Welsh rail network. I am confident that we have done all we can to persuade UK Ministers, and particularly the UK Treasury, to invest to make sure that the historic underfunding that they recognise now is addressed, and to ensure that unfair decisions, such as those relating to HS2, can be addressed as well, but we must await the outcome of the comprehensive spending review. Our position, however, on historic underfunding and on HS2 has not changed.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn amyneddgar. Dim ond wythnos sydd tan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Oddeutu'r adeg hon yr wythnos nesaf y cawn wybod y cynnwys, ond rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur newydd y DU, i ddadlau'r achos gorau posibl dros fuddsoddiad ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Rwy'n hyderus ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu i berswadio Gweinidogion y DU, ac yn enwedig Trysorlys y DU, i fuddsoddi i sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r tanariannu hanesyddol y maent bellach yn ei gydnabod, ac i sicrhau y gellir mynd i'r afael â phenderfyniadau annheg hefyd, fel y rhai'n ymwneud â HS2, ond mae'n rhaid inni aros am ganlyniad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Fodd bynnag, nid yw ein safbwynt ar danariannu hanesyddol ac ar HS2 wedi newid.
Diolch am yr ateb yna.
Thank you for that response.
I'd be interested in understanding how much contact you've had with that spending review. But we also learnt today that £15 billion of funding is going to upgrade the transport network in England. Meanwhile, Labour haven't lifted a finger to do something about that historic underinvestment in Wales, but by your very own estimate, Wales has been underfunded to the tune of between £2.9 billion and £8 billion in the period between 2001 and 2029. This figure of course doesn't include the £4.6 billion that the Secretary of State for Wales Jo Stevens said is owed to Wales from HS2. As I look forward to her honouring that figure now that she is in Government, can you in the meantime confirm whether Wales will receive any consequential funding for the Chancellor's announcement today, and if so, how much?
Hoffwn wybod faint o gyswllt rydych chi wedi'i gael gyda'r adolygiad hwnnw o wariant. Ond fe ddysgasom heddiw hefyd y bydd £15 biliwn o gyllid yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio'r rhwydwaith trafnidiaeth yn Lloegr. Yn y cyfamser, nid yw Llafur wedi codi bys i wneud rhywbeth am y tanfuddsoddi hanesyddol yng Nghymru, ond yn ôl eich amcangyfrif eich hun, mae Cymru wedi cael ei thanariannu rhwng £2.9 biliwn ac £8 biliwn yn y cyfnod rhwng 2001 a 2029. Wrth gwrs, nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys y £4.6 biliwn y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, ei fod yn ddyledus i Gymru o HS2. Wrth imi edrych ymlaen at ei gweld yn anrhydeddu'r ffigur hwnnw nawr ei bod mewn Llywodraeth, a allwch chi gadarnhau yn y cyfamser y bydd Cymru'n derbyn unrhyw gyllid canlyniadol yn sgil cyhoeddiad y Canghellor heddiw, ac os felly, faint?
Well, we must await the CSR next week to understand the sums of consequentials emanating from today's decision, but I do welcome the announcement today. What we heard today was the equivalent, for England, of our local transport grants. Every year, we make available substantial sums to local authorities to invest in their local transport schemes. What we heard today was what the UK Government is doing with the mayoral systems in operation across the border.
And I also welcome the Chancellor's announcement today that she will be moving away from the Treasury Green Book rules that have constrained investment, not just in Wales, but right across the north—indeed, further afield, outside of London. It's finally been recognised. We've been calling for this for years upon years, and we heard the announcement today that they will move away from it and make funding systems much fairer. Because the system that's in place on rail, we've been arguing, is redundant. Where you have all schemes in England and Wales packaged together in what's called the regional network enhancement pipeline it means that projects in Wales are always going to be competing on the business case with projects in affluent areas of the south-east, of London. That means that we are at a disadvantage. So, hearing today's announcement, it is a fantastic move away from the traditional means of calculating benefit-cost ratio for infrastructure projects.
And I also welcome today's announcement, because there are going to be benefits for people living in Wales. For example, the glider-type system that's going to be introduced serving Liverpool John Lennon Airport, that will be used by people living in north Wales. So, there are huge announcements that will benefit Wales. We'll await the CSR next week, but certainly from what we've heard today, we as a Labour Party can take back a phrase that was stolen from us, because we are the builders now.
Wel, mae’n rhaid inni aros am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos nesaf i ddeall y symiau o gyllid canlyniadol sy'n deillio o benderfyniad heddiw, ond rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw. Yr hyn a glywsom heddiw oedd yr hyn sy'n cyfateb, i Loegr, i'n grantiau trafnidiaeth lleol. Bob blwyddyn, rydym yn darparu cyllid sylweddol i awdurdodau lleol ei fuddsoddi yn eu cynlluniau trafnidiaeth lleol. Yr hyn a glywsom heddiw oedd yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud gyda'r systemau maerol sy'n gweithredu dros y ffin.
Ac rwyf hefyd yn croesawu gyhoeddiad y Canghellor heddiw y bydd yn llacio rheolau Llyfr Gwyrdd y Trysorlys sydd wedi cyfyngu ar fuddsoddiad, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws gogledd Lloegr—yn wir, ymhellach i ffwrdd, y tu allan i Lundain. Mae hynny wedi'i gydnabod o'r diwedd. Rydym wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd lawer, a chlywsom y cyhoeddiad heddiw y byddant yn cefnu ar hynny ac yn gwneud systemau ariannu'n llawer tecach. Oherwydd rydym wedi bod yn dadlau bod y system sydd ar waith ar gyfer y rheilffyrdd wedi dyddio. Lle mae gennych bob cynllun yng Nghymru a Lloegr wedi'u pecynnu gyda'i gilydd yn yr hyn a elwir yn ffrwd welliannau'r rhwydwaith rhanbarthol, mae'n golygu y bydd prosiectau yng Nghymru bob amser yn cystadlu ar yr achos busnes gyda phrosiectau mewn ardaloedd cyfoethog yn ne-ddwyrain Lloegr, yn Llundain. Golyga hynny ein bod o dan anfantais. Felly, mae clywed cyhoeddiad heddiw yn newid gwych o'r dulliau traddodiadol o gyfrifo cymarebau cost a budd ar gyfer prosiectau seilwaith.
Ac rwyf innau'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw, gan y bydd manteision i bobl sy'n byw yng Nghymru. Er enghraifft, y system gleiderau a fydd yn cael ei chyflwyno i wasanaethu Maes Awyr John Lennon Lerpwl, a fydd yn cael ei defnyddio gan bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru. Felly, mae yna gyhoeddiadau enfawr a fydd o fudd i Gymru. Fe arhoswn am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos nesaf, ond yn sicr, o'r hyn a glywsom heddiw, gallwn ni fel Plaid Lafur adennill ymadrodd a ddygwyd oddi arnom, gan mai ni yw'r adeiladwyr nawr.
Thank you, and it's good to see that you are confident, at least. So, this week we've had confirmation that the new east-west rail line from Oxford to Cambridge, worth £6.6 billion, will be classified as an England-and-Wales project, even though not a single inch of that track is laid in Wales. It sounds very familiar to the other arguments around HS2, and it's happening all over again. So, I do agree with Alun Davies that the system is broken, and I agree with Lee Waters that the Labour Government has to fix this system, and I'm glad you've finally woken up to the message that Plaid Cymru have been voicing for some time about Westminster's contemptuous treatment of Wales's rail infrastructure needs. The same can't be said for the First Minister, who, once again, despite her latest desperate rebrand as the standard bearer for the red Welsh way, has chosen to prioritise making excuses on behalf of the UK Government, rather than calling out this latest outrage.
So, we have a Labour Government in Westminster that has shamelessly repeated the injustices of its Tory predecessors, and a Labour First Minister who is actually trying to frame spending money on a rail line in England as her party's way of honouring the pledge of correcting historic underinvestment in our rail infrastructure. So, would the people of Wales be right to conclude, on that basis, that you've thrown in the towel on fighting for Wales already?
Diolch, ac mae'n dda gweld eich bod yn hyderus, o leiaf. Felly, yr wythnos hon, rydym wedi cael cadarnhad y bydd y llinell reilffordd newydd dwyrain-gorllewin o Rydychen i Gaergrawnt, sy'n werth £6.6 biliwn, yn cael ei dosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr, er nad oes un fodfedd o'r trac hwnnw wedi'i osod yng Nghymru. Mae'n swnio'n gyfarwydd iawn ar ôl y dadleuon eraill ynghylch HS2, ac mae'n digwydd eto. Felly, rwy'n cytuno ag Alun Davies fod y system wedi torri, ac rwy'n cytuno â Lee Waters fod yn rhaid i'r Llywodraeth Lafur drwsio'r system hon, ac rwy'n falch eich bod o'r diwedd wedi deffro i'r neges y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei lleisio ers peth amser ynglŷn â'r ffordd ddirmygus y mae San Steffan yn trin anghenion seilwaith rheilffyrdd Cymru. Ni ellir dweud yr un peth am Brif Weinidog Cymru, sydd unwaith eto, er gwaethaf ei hymgais daer ddiweddaraf i ailfrandio ei hun fel arloeswr y ffordd goch Gymreig, wedi dewis blaenoriaethu gwneud esgusodion ar ran Llywodraeth y DU, yn hytrach na chondemnio'r gwarth diweddaraf hwn.
Felly, mae gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan sydd wedi ailadrodd anghyfiawnderau ei rhagflaenwyr Torïaidd heb unrhyw gywilydd, a Phrif Weinidog Llafur yng Nghymru sy'n ceisio fframio gwario arian ar reilffordd yn Lloegr fel ffordd ei phlaid o anrhydeddu'r addewid i unioni'r tanfuddsoddi hanesyddol yn ein seilwaith rheilffyrdd. Felly, a fyddai pobl Cymru yn iawn i ddod i'r casgliad, ar y sail honno, eich bod eisoes wedi rhoi'r gorau i ymladd dros Gymru?
Unbelievable. I'll explain again. I'll explain again. The way that the system operates at the moment—for years I've been saying—is redundant and needs to be changed. Through rail reform, under the excellent leadership of Lord Peter Hendy, we will see reforms taking place, and with the Chancellor's announcement today, we will see more investment outside of the south-east of Britain. That is to be welcomed.
The system that the Member points to, the east-west line, which has been in development, I believe, for around about 20 years now, is part of the rail network enhancements pipeline, where everything in a large footprint, a substantial footprint, including Wales, is packaged together. We're at a disadvantage as a result of that, and that's why I want to see it change. I've been saying it for years. There's nothing new in this story. I've been saying that we need reform for years and suddenly people have woken up to it.
You could point to any scheme in RNEP and say it's unfair that that scheme is classified alongside a scheme in Wales competing with it. You could do vice versa. Cardiff Central station is within RNEP—it is in the plan. And yet an elected Member, let's say, for Sunderland or for Kent might say, 'Well, hang on a second, why is a station obviously just in Wales getting classified as an England-and-Wales project?'
So, the system doesn't work. That's why we've been calling for a reform for a good length of time. That's why we have a dynamic UK Labour Government with Ministers within the Department for Transport determined to reform the system.
Anhygoel. Fe egluraf eto. Fe egluraf eto. Mae'r ffordd y mae'r system yn gweithredu ar hyn o bryd—rwyf wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd—wedi dyddio, ac mae angen ei newid. Drwy ddiwygio'r rheilffyrdd, o dan arweinyddiaeth ragorol yr Arglwydd Peter Hendy, byddwn yn gweld diwygiadau, a chyda chyhoeddiad y Canghellor heddiw, byddwn yn gweld mwy o fuddsoddiad y tu hwnt i dde-ddwyrain Prydain. Mae hynny i'w groesawu.
Mae'r system y cyfeiria'r Aelod ati, y llinell dwyrain-gorllewin, sydd wedi bod yn cael ei datblygu ers oddeutu 20 mlynedd bellach, yn rhan o ffrwd welliannau'r rhwydwaith rheilffyrdd, lle mae popeth mewn ôl-troed mawr, ôl-troed sylweddol, gan gynnwys Cymru, wedi'i becynnu gyda'i gilydd. Rydym o dan anfantais o ganlyniad i hynny, a dyna pam fy mod eisiau ei weld yn newid. Rwyf wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd. Nid oes unrhyw beth newydd yn y stori hon. Rwyf wedi bod yn dweud bod arnom angen diwygio ers blynyddoedd, ac mae pobl wedi deffro i hynny yn sydyn iawn.
Gallech bwyntio at unrhyw gynllun yn ffrwd welliannau'r rhwydwaith rheilffyrdd a dweud ei bod yn annheg fod y cynllun hwnnw wedi'i ddosbarthu ochr yn ochr â chynllun yng Nghymru sy'n cystadlu ag ef. Gallech wneud i'r gwrthwyneb. Mae gorsaf Caerdydd Canolog o fewn ffrwd welliannau'r rhwydwaith rheilffyrdd—mae'n rhan o'r cynllun. Ac eto, gallai Aelod etholedig, dyweder, dros Sunderland neu dros Gaint ddweud, 'Wel, arhoswch eiliad, pam fod gorsaf sy'n amlwg yng Nghymru yn unig yn cael ei dosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr?'
Felly, nid yw'r system yn gweithio. Dyna pam ein bod wedi bod yn galw am ddiwygio ers peth amser. Dyna pam fod gennym Lywodraeth Lafur yn y DU sy'n ddeinamig, gyda Gweinidogion yn yr Adran Drafnidiaeth sy'n benderfynol o ddiwygio'r system.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ar newidiadau i'r terfyn cyflymder diofyn yng Ngogledd Cymru? OQ62770
3. Will the Cabinet Secretary provide an update on changes to the default speed limit in North Wales? OQ62770
We are supporting local authorities to make roads safer. In north Wales, councils have consulted with their communities and are now making changes to ensure the right speeds are in place on the right roads.
Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i wneud ffyrdd yn fwy diogel. Yng ngogledd Cymru, mae cynghorau wedi ymgynghori â'u cymunedau ac maent bellach yn gwneud newidiadau i sicrhau bod y cyflymderau cywir ar waith ar y ffyrdd cywir.
Thank you for your response, Cabinet Secretary. You'll know Wrexham council have announced they are reversing the Welsh Government's 20 mph default speed limits on 52 of their roads. This is a welcome move; welcomed by residents and businesses alike in the area. But it's clear to me, and I'm sure to you also, Cabinet Secretary, that there seems to be an inconsistency of approach to the reversal of the 20 mph default speed limit by councils across Wales.
I've mentioned Wrexham council reversing 52 of their roads. Labour-run Monmouthshire council are refusing to reverse any of their roads back from the 20 mph default speed limit, despite receiving 143 suggested roads with over 1,500 comments provided from residents. Local people's voices are seemingly being ignored.
You know that as Welsh Conservatives we would ditch this default 20 mph speed limit. But in the meantime, what is the Cabinet Secretary doing to ensure that we have a consistent approach and that local authorities are taking notice of what local people have to say in regard to the roads in their area? Thank you very much.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod yn newid terfynau cyflymder diofyn 20 mya Llywodraeth Cymru yn ôl ar 52 o'u ffyrdd. Mae hwn yn gam i'w groesawu; wedi'i groesawu gan drigolion a busnesau fel ei gilydd yn yr ardal. Ond mae'n amlwg i mi, ac i chi hefyd rwy'n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yna anghysondeb o ran y modd y mae cynghorau ledled Cymru yn mynd ati i newid y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn ôl.
Rwyf wedi sôn am gyngor Wrecsam yn newid 52 o'u ffyrdd yn ôl. Mae Cyngor Sir Fynwy sy'n cael ei redeg gan Lafur yn gwrthod newid unrhyw un o'u ffyrdd yn ôl o'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, er i 143 o ffyrdd gael eu hawgrymu gyda dros 1,500 o sylwadau gan drigolion. Mae'n ymddangos bod lleisiau pobl leol yn cael eu hanwybyddu.
Rydych chi'n gwybod y byddem ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn dileu'r terfyn cyflymder diofyn hwn o 20 mya. Ond yn y cyfamser, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod gennym ffordd gyson o fynd ati a bod awdurdodau lleol yn cymryd sylw o'r hyn sydd gan bobl leol i'w ddweud ynglŷn â'r ffyrdd yn eu hardal? Diolch.
Can I thank Sam Rowlands for his question? It's the first that I've heard formally that the Conservatives would ditch the 20 mph default limit. [Interruption.] You've been saying it for months? Well, let me just outline what you risk introducing as a consequence of your promise.
In the last year, fatalities have decreased on those roads by 17.3 per cent. Collisions have decreased by 10.7 per cent. What you are pledging today will, in all likelihood, lead to a significant increase in fatalities, serious injuries and collisions. That is the risk of what you highlight today.
I believe that we have to take an approach to recognise that the right speeds need to be in place on the right roads. That's why I welcome the work of Wrexham council to ensure that, where it can safely be reverted to 30 mph, a road will be reverted to 30 mph. But everywhere else, where it's built up, with the presence of children or vulnerable people, it should remain at 20 mph.
Yes, there is inconsistency across Wales, I acknowledge that, but ultimately, I believe in local democracy and it's for councils to use the guidance that has been developed with them to ensure that they make the right decisions for their people.
A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Dyma'r tro cyntaf i mi glywed yn ffurfiol y byddai'r Ceidwadwyr yn dileu'r terfyn diofyn o 20 mya. [Torri ar draws.] Rydych chi wedi bod yn ei ddweud ers misoedd? Wel, gadewch i mi amlinellu'r hyn rydych chi mewn perygl o'i gyflwyno o ganlyniad i'ch addewid.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer y marwolaethau wedi gostwng 17.3 y cant ar y ffyrdd hynny. Mae nifer y gwrthdrawiadau wedi gostwng 10.7 y cant. Bydd yr hyn rydych chi'n ei addo heddiw yn arwain yn ôl pob tebyg at gynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau, anafiadau difrifol a gwrthdrawiadau. Dyna risg yr hyn rydych chi'n ei nodi heddiw.
Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod bod angen i'r cyflymderau cywir fod ar waith ar y ffyrdd cywir. Dyna pam rwy'n croesawu gwaith cyngor Wrecsam i sicrhau y bydd ffordd yn cael ei throi'n ôl i 30 mya yn ddiogel. Ond ym mhob man adeiledig, gyda phresenoldeb plant neu bobl agored i niwed, dylai barhau'n 20 mya.
Oes, mae yna anghysondeb ledled Cymru, rwy'n cydnabod hynny, ond yn y pen draw, rwy'n credu mewn democratiaeth leol ac mae'n rhaid i gynghorau ddefnyddio'r canllawiau a ddatblygwyd gyda hwy i sicrhau eu bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu pobl.
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ62773
4. What is the Welsh Government doing to improve road safety in Brecon and Radnorshire? OQ62773
We continue to work closely with Powys County Council to improve road safety in Brecon and Radnorshire, supporting infrastructure schemes and active travel routes. Our guidance on 20 mph enables councils to target speed limits where they’re needed, reducing collisions and supporting safer, healthier communities.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Sir Powys i wella diogelwch ar y ffyrdd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, gan gefnogi cynlluniau seilwaith a llwybrau teithio llesol. Mae ein canllawiau ar 20 mya yn galluogi cynghorau i dargedu terfynau cyflymder lle mae eu hangen, gan leihau gwrthdrawiadau a chefnogi cymunedau mwy diogel ac iach.
Thank you, Cabinet Secretary, for your answer. In the Welsh Government's budget deal with the Liberal Democrats, it announced a £400,000 allocation for a feasibility study at the hazardous Pontybat crossroads—a scheme originally estimated at £7.2 million before it was shelved by the roads review. However, anybody with an ounce of common sense will realise that without any additional resources committed to this project, it will not proceed to the design and build stage.
The Liberal Democrats recently have told people of the promise of a new roundabout, but with no concrete plans, it seems the only roundabout they're delivering is the magic roundabout: all spin and no substance. So, can the Cabinet Secretary today clarify whether this money is a genuine commitment to road safety and that funding is there to deliver more than a feasibility study, or is this just an exercise designed to put the next gesture on a Liberal Democrat leaflet when we all see the two-horse race?
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yng nghytundeb Llywodraeth Cymru gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y gyllideb, cyhoeddwyd dyraniad o £400,000 ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb ar groesffordd beryglus Pont-y-bat—cynllun yr amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai'n costio £7.2 miliwn cyn iddo gael ei ddileu gan yr adolygiad ffyrdd. Fodd bynnag, os na chaiff adnoddau ychwanegol eu hymrwymo i'r prosiect hwn, bydd unrhyw un sydd ag owns o synnwyr cyffredin yn sylweddoli na fydd yn datblygu i'r cam cynllunio ac adeiladu.
Yn ddiweddar, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sôn wrth bobl am yr addewid o gylchfan newydd, ond heb unrhyw gynlluniau pendant, mae'n ymddangos mai cylchfan hud o sbin a dim sylwedd yw'r hyn a gyflawnant. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro heddiw a yw'r arian hwn yn ymrwymiad go iawn i ddiogelwch ar y ffyrdd a bod cyllid yno i gyflawni mwy nag astudiaeth ddichonoldeb, neu ai ymarfer yw hwn sydd wedi'i gynllunio i roi geiriau gwag ar daflen y Democratiaid Rhyddfrydol a phawb ohonom yn gweld mai ras dau geffyl yw hi?
I shouldn't come between two opposition parties and their disagreement. But what I will say is a normal process is followed whenever we look at potential new road schemes. First of all, you go through the feasibility study, which is what we're financing, then you look at the options—and you're presented normally with a series of options for improvements—then you move to the business case, and then you move to final funding and basically sign-off. So, that's the process that's followed in every case, and I think it's absolutely vital that as we look to improving road safety, we do examine every junction and every stretch of road that is particularly dangerous. That's what we've done in conjunction with the Welsh Liberal Democrats.
Ni ddylwn ddod rhwng dwy wrthblaid a'u hanghytundeb. Ond mae proses arferol yn cael ei dilyn pryd bynnag y byddwn yn edrych ar gynlluniau ffyrdd newydd posibl. Yn gyntaf oll, rydych chi'n mynd trwy'r astudiaeth ddichonoldeb, sef yr hyn rydym ni'n ei ariannu, yna rydych chi'n edrych ar yr opsiynau—ac rydych chi fel arfer yn cael cyfres o opsiynau ar gyfer gwelliannau—yna rydych chi'n symud at yr achos busnes, ac yna at y cyllid terfynol a chymeradwyaeth. Felly, dyna'r broses sy'n cael ei dilyn ym mhob achos, ac wrth inni geisio gwella diogelwch ar y ffyrdd, rwy'n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn archwilio pob cyffordd a phob darn o ffordd sy'n arbennig o beryglus. Dyna'r hyn a wnaethom ar y cyd â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau trên ar y llinell rhwng Aberystwyth ac Amwythig i fodloni anghenion y cynnydd yn nifer y teithwyr? OQ62768
5. How is the Welsh Government improving rail services on the Aberystwyth to Shrewsbury line to meet the needs of increased passenger numbers? OQ62768
Our investment is enabling Transport for Wales to deliver more services and more capacity where it's most needed. This includes the new 16:28 service between Shrewsbury and Aberystwyth and additional Sunday services on the line over the busy summer period.
Mae ein buddsoddiad yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau a mwy o gapasiti lle mae ei angen fwyaf. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth newydd 16:28 rhwng Amwythig ac Aberystwyth a gwasanaethau ychwanegol ar y Sul ar y llinell dros gyfnod prysur yr haf.
Can I thank the Cabinet Secretary for his answer? I acknowledge that extra service is taking capacity off the 5.30 p.m. service, which had capacity issues previously. I recently met with Shrewsbury-Aberystwyth Rail Passengers Association, the rail user group who do a great job advocating for passengers on the Cambrian line, and what they point out is that 98 per cent of levels recorded before COVID-19—. I should start again, sorry. Recently, numbers using the line have now exceeded up to 98 per cent of the levels recorded before the COVID-19 pandemic, and, of course, those numbers are expected to increase as well. I know I say this in the context of previously it's been said that passenger numbers have declined since the COVID pandemic, and that's why some services needed to change. Given that that is the case, and given that we've had repeated delays of the new rolling stock and the deferral of the promised hourly service until 2026—and even then only in the summer months—I wonder what positive news you can provide today to those using the Cambrian line, particularly in terms of new rolling stock, stopping those increased delays in services, and also making sure that there's reliability and an hourly service all year round.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Rwy'n cydnabod bod gwasanaeth ychwanegol yn tynnu capasiti oddi ar y gwasanaeth 5.30 p.m., a oedd â phroblemau capasiti o'r blaen. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth, y grŵp defnyddwyr rheilffyrdd sy'n gwneud gwaith gwych yn eirioli dros deithwyr ar linell y Cambrian, ac maent yn nodi bod 98 y cant o'r lefelau a gofnodwyd cyn COVID-19—. Mae'n ddrwg gennyf, dylwn ddechrau eto. Yn ddiweddar, mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r llinell bellach wedi codi i 98 y cant o'r lefelau a gofnodwyd cyn pandemig COVID-19, ac wrth gwrs, disgwylir i'r niferoedd hynny gynyddu hefyd. Rwy'n gwybod fy mod i'n dweud hyn yng nghyd-destun yr honiad blaenorol fod nifer y teithwyr wedi gostwng ers pandemig COVID, a dyna pam yr oedd angen newid rhai gwasanaethau. O ystyried hynny, ac o ystyried ein bod wedi gweld oedi dro ar ôl tro cyn cyflwyno cerbydau newydd a gohirio'r gwasanaeth bob awr a addawyd tan 2026—a hyd yn oed wedyn yn ystod misoedd yr haf yn unig—tybed pa newyddion cadarnhaol y gallwch ei roi heddiw i'r rhai sy'n defnyddio llinell y Cambrian, yn enwedig o ran trenau newydd, atal yr oedi cynyddol mewn gwasanaethau, a gwneud yn siŵr fod gwasanaeth bob awr dibynadwy ar gael trwy gydol y flwyddyn.
It's reliability and punctuality that really determine whether people use public transport or not, and we've seen quite a significant improvement in Transport for Wales's performance over the past 12 months. Can I just put on record, Presiding Officer, my thanks to SARPA as well? I know that they're incredibly helpful in advising not just backbenchers here but also Ministers on what needs to be done on the railway line. I very much welcome their work.
Russell George is right about the return to pre-COVID patronage. Right across the network, we've seen a very significant increase in the number of people using Transport for Wales services. It's one of the biggest increases of any operator in Britain. It's very welcome. Where we can provide additional capacity to meet that additional need, we will do so. I'm pleased to say that we are introducing brand-new trains on the Cambrian line from next year, and that we're working very closely at present with Network Rail and also with CAF, who are going to be providing those brand-new trains, to ensure that the infrastructure on the Cambrian line is upgraded. So, we are investing in the rolling stock through CAF, and through Network Rail we're making sure that the infrastructure is ready to take those brand-new trains.
Dibynadwyedd a phrydlondeb sy'n penderfynu a yw pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ai peidio, ac rydym wedi gweld gwelliant go sylweddol ym mherfformiad Trafnidiaeth Cymru dros y 12 mis diwethaf. Lywydd, a gaf innau hefyd gofnodi fy niolch i Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth? Rwy'n gwybod eu bod yn hynod o ddefnyddiol yn cynghori nid yn unig y meinciau cefn yma ond y Gweinidogion hefyd ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud ar y rheilffordd. Rwy'n croesawu eu gwaith yn fawr.
Mae Russell George yn iawn am nifer y teithwyr yn dychwelyd i'r lefelau cyn-COVID. Ar draws y rhwydwaith, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol iawn yn nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Mae ymhlith y lefelau mwyaf o gynnydd gan unrhyw weithredwr ym Mhrydain. Mae i'w groesawu'n fawr. Lle gallwn ddarparu capasiti ychwanegol i ddiwallu'r angen ychwanegol, byddwn yn gwneud hynny. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn cyflwyno trenau newydd sbon ar linell y Cambrian o'r flwyddyn nesaf, a'n bod yn gweithio'n agos iawn ar hyn o bryd gyda Network Rail a hefyd gyda CAF, sy'n mynd i ddarparu'r trenau newydd sbon hynny, i sicrhau bod y seilwaith ar linell y Cambrian yn cael ei uwchraddio. Felly, rydym yn buddsoddi yn y cerbydau trwy CAF, a thrwy Network Rail rydym yn gwneud yn siŵr fod y seilwaith yn barod i gymryd y trenau newydd sbon hynny.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau oedi traffig ffyrdd ar y prif gefnffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ62792
6. What steps is the Welsh Government taking to reduce road traffic delays on major trunk roads in north Wales? OQ62792
I announced the exciting vision for Network North Wales to deliver a network of public transport services, including cross-border services, which will encourage modal shift and reduce delays on our trunk roads. We will continue to invest in road upgrades and maintenance to improve resilience to incidents that cause delays.
Cyhoeddais y weledigaeth gyffrous i Rwydwaith Gogledd Cymru ddarparu rhwydwaith o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau trawsffiniol, a fydd yn annog newid dulliau teithio ac yn lleihau oedi ar ein cefnffyrdd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwaith uwchraddio a chynnal a chadw ffyrdd i wella gwydnwch mewn digwyddiadau sy'n achosi oedi.
Thank you for that answer, Cabinet Secretary. Of course, as you'll be aware, delays on the A55 are nothing new, particularly at this time of year, with a suite of bank holiday weekends and the summer months impending, but what I think compounds the issue of delays on the A55 is a general lack of funding, upgrades and botherment from the Welsh Government about the needs of the people of north Wales since devolution, because what we've got to remember is that it was the Conservative Government of the 1980s that delivered this vital link, and all Welsh Government have appeared to do since devolution is hang off the coat-tails of the glories of yesteryear in this regard.
The original road lamps between Llanddulas and Llanfairfechan weren't fully replaced with the compliant LED bulbs until as late as 2020-21, which is both a standard far behind other areas and a dereliction of duty by the Welsh Government to put the needs of north Wales on its list of priorities. So, what assurances can the Cabinet Secretary make today to the people of north Wales that the Welsh Government are considering the long-term needs of road users on major trunk roads such as the A55 in north Wales, and make sure we are not being left behind, or even going back in time at a push? Because it's important to remember that it seems the ambitions were far more advanced over 40 years ago than what they are today.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fel y gwyddoch, nid yw'r oedi ar yr A55 yn ddim byd newydd, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda chyfres o benwythnosau gŵyl y banc a misoedd yr haf, ond yr hyn sy'n gwaethygu'r oedi ar yr A55 yw diffyg cyllid, gwaith uwchraddio a sylw cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ynghylch anghenion pobl gogledd Cymru ers datganoli, oherwydd mae'n rhaid inni gofio mai Llywodraeth Geidwadol yr 1980au a ddarparodd y cyswllt hanfodol hwn, ac mae'n ymddangos mai'r cyfan y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ers datganoli yw derbyn y clod am ogoniant y gorffennol yn hyn o beth.
Ni chafodd bylbiau LED sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau eu darparu yn lle'r lampau ffordd gwreiddiol rhwng Llanddulas a Llanfairfechan tan mor ddiweddar â 2020-21, sy'n safon ymhell islaw ardaloedd eraill ac yn esgeuluso dyletswydd gan Lywodraeth Cymru i roi anghenion gogledd Cymru ar ei rhestr o flaenoriaethau. Felly, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi heddiw i bobl gogledd Cymru fod Llywodraeth Cymru yn ystyried anghenion hirdymor defnyddwyr ffyrdd ar gefnffyrdd mawr fel yr A55 yng ngogledd Cymru, a sicrhau nad ydym yn cael ein gadael ar ôl, neu hyd yn oed yn mynd tuag yn ôl hyd yn oed? Oherwydd mae'n bwysig cofio ei bod yn ymddangos bod yr uchelgeisiau'n llawer uwch dros 40 mlynedd yn ôl na'r hyn ydynt heddiw.
That's quite something again. We are investing, this year, hugely in our road network. Some £250 million is being invested in our strategic road network across Wales in this financial year, including in north Wales. We're also investing at a local level to fix roads, to fill potholes. In full, we'll see around 70,000 potholes fixed this year, including across north Wales. Indeed, one of the major areas that will see improvements is the Mold area. The Mold bypass will undergo a resurfacing programme, a huge programme of modernisation, making sure that links between Mold and Ruthin, between Ruthin and Deeside, are safe and enhanced.
I can tell Members today that my officials are currently working on commissioning work on the A55/A494 route management strategy to identify issues and key challenges along the route, including, but not limited to, safety, network performance including congestion, environmental and climate concerns, making sure that we grow the economy, and ensuring that future planning processes are fit for purpose for the road network. We are undertaking that work at speed. But we are investing a huge sum of money on the strategic road network and, through local authorities, on the local road network to improve our roads across north Wales.
Mae hynny'n syndod eto. Eleni, rydym yn buddsoddi'n helaeth yn ein rhwydwaith ffyrdd. Mae tua £250 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd strategol ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn buddsoddi ar lefel leol i drwsio ffyrdd, i lenwi tyllau. Gyda'i gilydd, byddwn yn gweld tua 70,000 o dyllau wedi'u trwsio eleni, gan gynnwys ar draws gogledd Cymru. Yn wir, un o'r prif ardaloedd lle gwelwn welliannau fydd ardal yr Wyddgrug. Cyflawnir rhaglen i roi wyneb newydd ar ffordd osgoi yr Wyddgrug, rhaglen enfawr o foderneiddio i sicrhau bod cysylltiadau rhwng yr Wyddgrug a Rhuthun, rhwng Rhuthun a Glannau Dyfrdwy, yn ddiogel ac yn cael eu gwella.
Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fod fy swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio ar gomisiynu gwaith ar strategaeth rheoli llwybrau'r A55/A494 i nodi problemau a heriau allweddol ar hyd y llwybr, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ddiogelwch, perfformiad rhwydwaith gan gynnwys tagfeydd, pryderon yn ymwneud â'r amgylchedd a hinsawdd, i sicrhau ein bod yn tyfu'r economi, a gwneud yn siŵr fod prosesau cynllunio yn y dyfodol yn addas i'r diben ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd. Rydym yn ymgymryd â'r gwaith hwnnw'n gyflym. Ond rydym yn buddsoddi swm enfawr o arian yn y rhwydwaith ffyrdd strategol a thrwy awdurdodau lleol, ar y rhwydwaith ffyrdd lleol i wella ein ffyrdd ar draws gogledd Cymru.
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a phartneriaid eraill ynghylch effaith segura llonydd diogelwch ar y ffyrdd a thagfeydd traffig? OQ62777
7. What discussions has the Cabinet Secretary had with the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs and other partners regarding the impact of stationary idling on road safety and traffic congestion? OQ62777
I'm establishing a national road safety board, and that will be made up of key stakeholders and partners that will adopt a partnership plan for safety in Wales. It will integrate road safety with wider transport policy, collaborate with public health bodies, environmental bodies, and we'll be looking at how we can decarbonise the air.
Rwy'n sefydlu bwrdd diogelwch ffyrdd cenedlaethol, a bydd hynny'n cynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol a fydd yn mabwysiadu cynllun partneriaeth ar gyfer diogelwch yng Nghymru. Bydd yn integreiddio diogelwch ar y ffyrdd â pholisi trafnidiaeth ehangach, yn cydweithio â chyrff iechyd cyhoeddus, cyrff amgylcheddol, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn ddatgarboneiddio'r aer.
Thank you. I really hope that this is something that the Government will be tackling with urgency. Stationary idling, as you'll know, is when people keep their car engines running when they are parked. Stationary idling is something that people do sometimes without thinking, but it is so deeply damaging to children's lungs. I mention children because schools are a particular hotspot for vehicle idling. Parents who park outside the school gates to pick up their children often leave the engine running to listen to the radio or to keep the heating on or the air conditioning on. But just one minute of idling can produce as much as 150 balloonfuls of harmful pollutants like nitrogen oxides, PM2.5, and even small amounts of cyanide.
Children are also at particular risk because of their height—they're closer to the exhaust, they're closer to the fumes that are coming out of the exhausts—and they also have developing lungs, they have a faster breathing rate, and all of those things really do increase their exposure. I think tackling idling was one of the least contentious parts of the Environment (Air Quality and Soundscapes) (Wales) Act 2024. I know Asthma and Lung UK and Healthy Air Cymru are still campaigning on this. Could you, please, tell us when the Welsh Government will be bringing forward a ban on stationary idling? Will that be before the election?
Diolch. Rwy'n gobeithio'n fawr fod hyn yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael ag ef yn gyflym. Segura llonydd, fel y gwyddoch, yw pan fydd pobl yn cadw injans eu ceir i redeg pan fyddant wedi'u parcio. Mae segura llonydd yn rhywbeth y bydd pobl yn ei wneud weithiau heb feddwl, ond mae mor niweidiol i ysgyfaint plant. Rwy'n sôn am blant oherwydd bod ysgolion yn lleoliadau penodol lle ceir llawer o segura llonydd. Mae rhieni sy'n parcio y tu allan i giatiau'r ysgol i godi eu plant yn aml yn gadael yr injan i redeg i wrando ar y radio neu i gadw'r gwres neu'r system aerdymheru ymlaen. Ond gall un funud o segura gynhyrchu cymaint â 150 llond balŵn o lygryddion niweidiol fel ocsidau nitrogen, PM2.5, a hyd yn oed cyfeintiau bach o syanid.
Mae plant hefyd mewn perygl arbennig oherwydd eu taldra—maent yn agosach at y bibell wacáu, maent yn agosach at y mygdarth sy'n dod allan o'r bibell wacáu—ac mae ganddynt ysgyfaint sy'n datblygu, mae ganddynt gyfradd anadlu gyflymach, ac mae'r holl bethau hynny'n cynyddu eu cysylltiad â'r llygryddion hyn mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod mynd i'r afael â segura yn un o'r rhannau lleiaf dadleuol o Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Sainweddau) (Cymru) 2024. Rwy'n gwybod bod Asthma and Lung UK a Healthy Air Cymru yn dal i ymgyrchu ar hyn. A allech chi ddweud wrthym pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwaharddiad ar segura llonydd? A fydd hynny cyn yr etholiad?
I'm supporting the Deputy First Minister in his endeavours to deal with this particular challenge, and my officials are engaging with his on the development of an air quality target, which will include emissions from idling vehicles. I just don't understand this degree of antisocial behaviour. It's truly antisocial, but particularly, as Delyth Jewell identifies, at schools. I witness it regularly, and I just cannot comprehend why parents would leave their cars idling around not just their children but other children. Of course, with the internal combustion engine going the way of the dinosaur in the next few decades, it will become less of a problem that children have to suffer, but in the meantime, as I say, I'm supporting the Deputy First Minister in exploring all options for dealing with this problem.
Rwy'n cefnogi'r Dirprwy Brif Weinidog yn ei ymdrechion i ddelio â'r her benodol hon, ac mae fy swyddogion yn ymgysylltu â'i swyddogion ef ar ddatblygu targed ansawdd aer, a fydd yn cynnwys allyriadau o gerbydau sy'n segura. Nid wyf yn deall y lefel hon o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n wirioneddol wrthgymdeithasol, ond yn enwedig mewn ysgolion, fel y nododd Delyth Jewell. Rwy'n ei weld yn rheolaidd, ac ni allaf ddeall pam y byddai rhieni'n gadael eu ceir i segura nid yn unig o gwmpas eu plant eu hunain ond plant eraill hefyd. Wrth gwrs, gyda dyddiau'r injan tanio mewnol yn dirwyn i ben dros y degawdau nesaf, bydd yn dod yn llai o broblem y mae'n rhaid i blant ei dioddef, ond yn y cyfamser, fel y dywedaf, rwy'n cefnogi'r Dirprwy Brif Weinidog gyda'r nod o archwilio'r holl opsiynau ar gyfer delio â'r broblem hon.
Yn olaf, cwestiwn 8, Natasha Asghar.
Finally, question 8, Natasha Asghar.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru? OQ62764
8. What is the Welsh Government doing to improve road safety across Wales? OQ62764
Yes, of course. We're determined to make roads safer for everyone. We support councils with funding, education and guidance to target the right speeds on the right roads, and we're ensuring that road safety is being embedded into the regional transport plans to create safer, healthier communities.
Ie, wrth gwrs. Rydym yn benderfynol o wneud ffyrdd yn fwy diogel i bawb. Rydym yn cefnogi cynghorau gyda chyllid, addysg ac arweiniad i dargedu'r cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir, ac rydym yn sicrhau bod diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei ymgorffori yn y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol i greu cymunedau mwy diogel ac iach.
Thank you so much for your response, Cabinet Secretary. Whilst we are indeed on the same page when it comes to overall road safety, it is causing me great concern that certain Ministers are floating the idea of 10 mph. As you are well aware, the default 20 mph limit has been a national disaster, costing the Welsh economy over £8 billion and being absolutely, wholeheartedly and completely rejected, not just by one or 10, but hundreds of thousands of people, with a record-breaking Senedd petition in place. I also see, and have seen, that in north Wales there has been an extremely welcome u-turn on 20 mph. We just need to see that same drive and dedication across the rest of Wales.
The fact of the matter is that not many people want this at all, yet one of your colleagues was more than happy to say here in this Chamber that 10 mph or even 5 mph speed limits were indeed 'interesting', I quote, and that Wales has actually welcomed the 20 mph speed limit across Wales. I know that you have a much more common-sense approach than your predecessor, but can you please reassure Welsh taxpayers, Cabinet Secretary, that this will not make its way into your 2026 manifesto, and can you also ensure that your colleagues will not be taking these measures forward? Thank you.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod ar yr un dudalen o ran diogelwch ar y ffyrdd yn gyffredinol, mae'n peri pryder mawr i mi fod rhai Gweinidogion yn crybwyll y syniad o 10 mya. Fel y gwyddoch yn dda, mae'r terfyn diofyn o 20 mya wedi bod yn drychineb cenedlaethol, gan gostio dros £8 biliwn i economi Cymru ac wedi ei wrthod yn llwyr ac yn gyfan gwbl, nid yn unig gan un neu 10, ond gan gannoedd o filoedd o bobl, gyda deiseb i'r Senedd yn torri record. Rwyf hefyd yn gweld, ac wedi gweld, yng ngogledd Cymru fod tro pedol wedi bod ar 20 mya, sydd i'w groesawu'n fawr. Mae angen inni weld yr un ysgogiad ac ymroddiad ar draws gweddill Cymru.
Y gwir amdani yw nad oes llawer o bobl eisiau hyn o gwbl, ond roedd un o'ch cyd-Aelodau'n fwy na hapus i ddweud yma yn y Siambr fod terfynau cyflymder 10 mya neu hyd yn oed 5 mya yn 'ddiddorol' yn wir, a bod Cymru wedi croesawu'r terfyn cyflymder 20 mya ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod gennych lawer mwy o synnwyr cyffredin na'ch rhagflaenydd, ond a allwch chi roi sicrwydd i drethdalwyr Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd hyn yn gwneud ei ffordd i mewn i'ch maniffesto 2026, ac a allwch chi hefyd sicrhau na fydd eich cyd-Aelodau'n bwrw ymlaen â'r mesurau hyn? Diolch.
There's no plan to reduce the default speed limit to 10 mph. It is in existence in certain areas—caravan parks and school parking areas and hospital car parks. It is—[Interruption.] Indeed, indeed, on private sector land, often. It is not going to be introduced as a default speed limit on the road network.
But, you know, when we talk about the right speeds on the right roads, we have heard today the pledge to reverse the 20 mph default speed limit, which, as I said, based on last year's figures, could lead to 17.3 per cent more fatalities and 10.7 per cent more collisions. Our roads are safer. Our roads are safer. Of course it's right to revert back to 30 mph where it's appropriate to, and that means where it's safe to do so. I think that we have gathered the majority of people in Wales at a point where we can agree that the right speeds are being introduced on the right roads. But the 20 mph limit in built-up areas where you have children playing and high streets is the right speed limit to maintain.
Nid oes unrhyw gynllun i leihau'r terfyn cyflymder diofyn i 10 mya. Mae'n bodoli mewn rhai ardaloedd—meysydd carafanau a meysydd parcio ysgolion a meysydd parcio ysbytai. Mae'n—[Torri ar draws.] Yn wir, yn wir, ar dir sector preifat, yn aml. Nid yw'n mynd i gael ei gyflwyno fel terfyn cyflymder diofyn ar y rhwydwaith ffyrdd.
Ond wyddoch chi, pan fyddwn yn siarad am y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir, fe glywsom heddiw yr addewid i newid y terfyn cyflymder diofyn 20 mya yn ôl, cam a allai arwain, fel y dywedais, yn seiliedig ar ffigurau'r llynedd, at 17.3 y cant yn fwy o farwolaethau a 10.7 y cant yn fwy o wrthdrawiadau. Mae ein ffyrdd yn fwy diogel. Mae ein ffyrdd yn fwy diogel. Wrth gwrs ei bod hi'n iawn newid yn ôl i 30 mya lle mae'n briodol, ac mae hynny'n golygu lle mae'n ddiogel i wneud hynny. Rwy'n credu ein bod wedi casglu'r mwyafrif o bobl yng Nghymru ar bwynt lle gallwn gytuno bod y cyflymderau cywir yn cael eu cyflwyno ar y ffyrdd cywir. Ond mae'n gywir cadw'r terfyn 20 mya mewn ardaloedd adeiledig lle mae plant yn chwarae ac ar strydoedd mawr.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.
The next item will be the questions to the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language. The first question is from Mike Hedges.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfarniadau cyflogau'r sector cyhoeddus? OQ62760
1. Will the Cabinet Secretary provide an update on Welsh Government funding for public sector pay awards? OQ62760

Llywydd, last week we announced an above-inflation pay rise for NHS Wales staff, demonstrating our commitment to our healthcare workers. The Government's response to other pay remits will be set out over the next month. We will look to fund these important pay awards through the careful management of our budget.
Lywydd, yr wythnos diwethaf fe wnaethom gyhoeddi codiad cyflog uwch na chwyddiant i staff GIG Cymru, gan ddangos ein hymrwymiad i'n gweithwyr gofal iechyd. Bydd ymateb y Llywodraeth i gylchoedd cyflog eraill yn cael ei nodi dros y mis nesaf. Byddwn yn ceisio ariannu'r dyfarniadau cyflog pwysig hyn trwy reoli ein cyllideb yn ofalus.
Can I thank the Cabinet Secretary for that response? When we discuss public sector pay and funding, it is important to remember two things: firstly, with the Barnett formula and Barnett floor, Wales is funded better per capita than England, despite paying in substantially less; and that this year's settlement is the best since I was first elected in 2011. Has any Welsh Government-funded body had less in its financial uplift than the 2.5 per cent employee national insurance charges and the pay awards of its staff? And if anybody has had less, can the Welsh Government directly fund the difference?
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Pan fyddwn yn trafod cyflog a chyllid y sector cyhoeddus, mae'n bwysig cofio dau beth: yn gyntaf, gyda fformiwla Barnett a llawr Barnett, mae Cymru'n cael ei hariannu'n well y pen na Lloegr, er ei bod yn talu llawer llai i mewn; ac mai'r setliad eleni yw'r gorau ers i mi gael fy ethol gyntaf yn 2011. A oes unrhyw gorff a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi cael llai o gynnydd ariannol na'r taliadau yswiriant gwladol cyflogwyr o 2.5 y cant a dyfarniadau cyflog ei staff? Ac os oes unrhyw un wedi cael llai, a all Llywodraeth Cymru ariannu'r gwahaniaeth yn uniongyrchol?
I thank Mike Hedges for that. Llywydd, I can confirm that all Welsh Government departments saw an increase in their revenue budgets of between 4 per cent and 14 per cent at the final budget, and Mike Hedges is absolutely right that that is the best settlement in many, many years. He is right as well, Llywydd, that Wales is funded better per capita than England. But that is, of course, the bargain that is the United Kingdom, that funding is provided to different parts of the United Kingdom at a level that allows broadly for the same range and quality of services to be provided as would be provided anywhere else. And with an older, sicker, poorer population, that's recognised in the way the funding flows across the United Kingdom, putting Wales in a position where we are able to match that broad level of services elsewhere.
Diolch i Mike Hedges am hynny. Lywydd, gallaf gadarnhau bod holl adrannau Llywodraeth Cymru wedi gweld cynnydd yn eu cyllidebau refeniw o rhwng 4 y cant a 14 y cant yn y gyllideb derfynol, ac mae Mike Hedges yn gwbl gywir mai dyna'r setliad gorau ers blynyddoedd lawer. Mae'n gywir hefyd, Lywydd, fod Cymru'n cael ei hariannu'n well y pen na Lloegr. Ond dyna yw bargen y Deyrnas Unedig, fod cyllid yn cael ei ddarparu i wahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ar lefel sy'n caniatáu'n fras i'r un ystod ac ansawdd gwasanaethau gael eu darparu ag a ddarperid yn unrhyw le arall. A chyda phoblogaeth hŷn, sy'n fwy sâl, yn fwy tlawd, mae hynny'n cael ei gydnabod yn y ffordd y mae'r cyllid yn llifo ar draws y Deyrnas Unedig, gan roi Cymru mewn sefyllfa lle gallwn gael yr un lefel gyffredinol o wasanaethau ag mewn mannau eraill.
Now, evidence, as requested, from the Finance Committee in its scrutiny session highlighted that the following increases to employer national insurance contributions will result in additional costs to the following organisations: £112 million, NHS; local government, £77 million; teachers, £33 million; fire and rescue services, an additional £4 million. Now, the UK Government has announced a 4 per cent pay increase for doctors and dentists, along with a 3.6 per cent increase for NHS staff on Agenda for Change contracts. I'm a little bit concerned, though, what impact the NI contributions will have, with the rise, on public bodies. How will your budget cover this? Thanks.
Nawr, nododd tystiolaeth y gofynnwyd amdani gan y Pwyllgor Cyllid yn ei sesiwn graffu y bydd y cynnydd canlynol i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn arwain at gostau ychwanegol i'r sefydliadau canlynol: £112 miliwn, y GIG; llywodraeth leol, £77 miliwn; athrawon, £33 miliwn; gwasanaethau tân ac achub, £4 miliwn ychwanegol. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi codiad cyflog o 4 y cant i feddygon a deintyddion, ynghyd â chynnydd o 3.6 y cant i staff y GIG ar gontractau Agenda ar gyfer Newid. Rwy'n poeni braidd, fodd bynnag, pa effaith y bydd cyfraniadau yswiriant gwladol yn ei chael, gyda'r cynnydd, ar gyrff cyhoeddus. Sut y bydd eich cyllideb yn talu am hyn? Diolch.
Well, Llywydd, I expect all of my colleagues to make provision within their budgets for anticipated pay awards during the year. Where we see pay awards through the independent pay review bodies coming in higher than that for which provision was made, then I will make funds available from the centre of the Welsh Government, and I'm confident that I have the funding available to allow me to do that, and that's why we were able to make the announcement on 22 May that the Welsh Government will meet the review body on doctors' and dentists' remuneration recommendations in relation to doctors and dentists, and also the pay award of 3.6 per cent for NHS staff on Agenda for Change terms and conditions.
Wel, Lywydd, rwy'n disgwyl i fy holl gyd-weinidogion wneud darpariaeth yn eu cyllidebau ar gyfer dyfarniadau cyflog a ragwelir yn ystod y flwyddyn. Pan welwn ddyfarniadau cyflog drwy'r cyrff adolygu cyflogau annibynnol yn dod i mewn yn uwch na'r hyn y gwnaed darpariaeth ar eu cyfer, byddaf yn sicrhau bod arian ar gael o'r canol yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hyderus fod gennyf y cyllid ar gael i ganiatáu imi wneud hynny, a dyna pam y gallem wneud y cyhoeddiad ar 22 Mai y bydd Llywodraeth Cymru'n diwallu argymhellion tâl y corff adolygu cyflogau meddygon a deintyddion, a hefyd dyfarniad cyflog o 3.6 y cant i staff y GIG ar delerau ac amodau'r Agenda ar gyfer Newid.
Sorry, I was caught between sneezing and needing to call the next question. [Laughter.] So, I'm calling the next question.
Mae'n ddrwg gennyf, cefais fy nal rhwng tisian a'r angen i alw'r cwestiwn nesaf. [Chwerthin.] Felly, dyma alw'r cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2, Heledd Fychan.
Question 2, Heledd Fychan.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hybu'r defnydd o'r Gymraeg gan blant ysgol y tu hwnt i'r dosbarth? OQ62781
2. What action is Welsh Government taking to promote the use of the Welsh language by school children beyond the classroom? OQ62781
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Llywydd, mae cynyddu defnydd plant o’r Gymraeg yn rhan bwysig o’n strategaeth Cymraeg 2050. Rydyn ni’n buddsoddi dros £4 miliwn pob blwyddyn mewn grantiau sydd â'r nod o gynyddu defnydd pobl ifanc o’r Gymraeg.
Thank you very much for the question. Llywydd, increasing children's use of the Welsh language is an important part of our Cymraeg 2050 strategy. We invest over £4 million annually in grants aimed at increasing young people's use of the Welsh language.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Wythnos diwethaf, yn Eisteddfod yr Urdd, fe gyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc. Mi oedd yna rai pethau calonogol yn yr ystadegau, gyda nifer yn awyddus i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn eu bywydau. Cadarnhaodd hefyd y berthynas rhwng rhuglder a lle neu bryd y gwnaeth unigolion gaffael y Gymraeg, gyda'r rhai sydd wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd neu mewn ysgol feithrin yn llawer mwy tebygol o ddatblygu'n siaradwyr Cymraeg rhugl.
Fodd bynnag, mae'r defnydd ehangach gan blant a phobl ifanc o'r Gymraeg wrth greu cynnwys arlein ac ar wahanol gyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol yn gyfyngedig, a Saesneg ydy'r brif iaith y bydd y mwyafrif yn ei ddefnyddio. Mi gyfeiriodd nifer o ymatebwyr hefyd at ddiffyg darpariaeth a phresenoldeb y Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, yn arbennig o ran deunydd oedd yn apelio iddyn nhw. Felly, gaf i ofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb, yn y byd go iawn ond hefyd arlein?
Thank you for that response. Last week, at the Urdd Eisteddfod, the Welsh Language Commissioner published a report on the use of the Welsh language amongst children and young people. There were some encouraging signs in those statistics, with many eager to use more Welsh in their lives. The report also confirmed the relationship between fluency and where and when individuals acquired their Welsh language skills, with those who learned Welsh at home or at nursery school much more likely to develop into fluent Welsh speakers.
However, children and young people's wider use of Welsh when producing online content and on different social media platforms is generally limited, and English is the language used by the majority on those platforms. A number of respondents also referred to a lack of provision and presence in terms of the Welsh language on social media, particularly in terms of materials that were appealing to them. So, may I ask what steps have been taken by the Welsh Government to ensure that Welsh is available to everyone, in the real world but also online?
Wel, diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiynau ychwanegol yna. Wrth gwrs, roedd hi'n wych bod ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf a chlywed plant a phobl ifanc yn defnyddio'r Gymraeg. Rŷn ni'n cydweithio â'r Urdd ac asiantaethau eraill, y mentrau iaith ac yn y blaen, i greu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o'u bywydau nhw. Dwi'n ddiolchgar, wrth gwrs, i Gomisiynydd y Gymraeg am yr adroddiad—adroddiad pwysig. Ac fel roedd Heledd Fychan yn ei ddweud, roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y cyfryngau cymdeithasol wedi newid y byd i bobl ifanc, ac mae nifer fawr o bobl ifanc sy'n rhugl yn y Gymraeg yn defnyddio Saesneg pan fyddan nhw'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Nawr, rŷn ni'n cydweithio â nifer o gwmnïau yn y maes yna i ddatblygu ffyrdd i bobl ifanc a phobl eraill allu defnyddio'r iaith Gymraeg pan fyddan nhw'n defnyddio'r pethau newydd sy'n effeithio ar ein bywydau ni i gyd. Ddoe, Llywydd, roeddwn i yn defnyddio Copilot yn Gymraeg. So, nawr mae'n hollol bosib i roi'r cwestiynau i mewn i Copilot yn Gymraeg a chael yr atebion nôl yn Gymraeg hefyd.
Y peth pwysig yw i ddefnyddio'r posibiliadau yna. Y mwyaf rŷn ni'n eu defnyddio nhw, y gorau fydd y gwasanaeth rŷn ni'n ei gael. A thrwy'r gwaith rŷn ni'n ei wneud gyda Microsoft Teams, er enghraifft, mae Microsoft Teams nawr yn gallu trawsgrifio yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd, ac mae hwnna'n bwysig, dwi'n meddwl. Beth dwi eisiau ei weld yw pobl sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg gyda'i gilydd yn yr un sgwrs, a ble fydd y posibiliadau technolegol yn eu cefnogi nhw i'w wneud e.
Well, thank you very much to Heledd Fychan for those supplementary questions. Of course, it was wonderful to be on the Urdd Eisteddfod field last week and hearing children and young people using the Welsh language. We collaborate with the Urdd and other agencies, the mentrau iaith and so on, in order to provide opportunities for young people to use the Welsh language in all aspects of their lives. I am, of course, grateful to the Welsh Language Commissioner for the report. It's an important report, and, as Heledd Fychan said, the report did highlight the fact that social media has changed the world for young people, and many young people who are fluent in Welsh do turn to English when they're using social media.
Now, we are working with a number of companies in that field in order to develop means whereby young people and others can use the Welsh language when they are using the new technologies that impact all of our lives. Yesterday, Llywydd, I was using Copilot in Welsh. So, now it's perfectly feasible to ask questions in Welsh in Copilot and to get the responses back in Welsh too.
The important thing is that we take advantage of those opportunities. The more we use them, the better the service will be. And through the work that we've done on Microsoft Teams, for example, Microsoft Teams now can transcribe in both Welsh and English simultaneously, and I think that's important. What I want to see is people who can use Welsh and English in the same conversation, and where technological possibilities will support them in doing so.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Dŷn ni wedi sôn o'r blaen, nid dim ond nifer y siaradwyr sy'n bwysig, ond defnydd hefyd, a faint mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg, yn enwedig tu allan i'r dosbarth. A gan edrych ar adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg, un o'r pethau wnaeth sefyll mas i fi oedd taw'r maes chwaraeon oedd y lle mwyaf y tu allan i'r dosbarth lle'r oedd pobl ifanc yn defnyddio'r iaith Cymraeg, yn chwarae chwaraeon mewn clybiau lleol.
Felly, faint yn fwy o gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei roi, nid dim ond i'r big boys, os ydych chi'n moyn, ond i'r clybiau lleol yn ein cymunedau ni, y clybiau pêl-droed a rygbi ac yn y blaen, i sicrhau eu bod nhw'n cael yr anogaeth a'r cymorth fel eu bod nhw'n gallu defnyddio tipyn bach ac wedyn tipyn mwy o Gymraeg gyda phobl sy'n chwarae chwaraeon yn ein cymunedau ni?
Thank you, Cabinet Secretary. We've mentioned previously, it's not just the number of Welsh speakers that's important, but the use of the Welsh language, and how much use people make of the Welsh language, especially outside of the classroom. And looking at the recent report of the language commissioner, one of the things that stood out for me was that the sports arena is the place outside of the classroom where people use the Welsh language most, namely when playing sport in their local clubs.
So, what additional support can the Welsh Government provide, not just to the big boys, if you will, but also those local clubs in our communities, those football and rugby clubs and so on, to ensure that they receive the encouragement and support so that they can use a little bit of Welsh and then a little bit more with those people who play sports in our communities?
Diolch i Tom Giffard. Roedd beth ddywedodd e yn wir. Mae adroddiad y comisiynydd yn tynnu sylw at y ffaith mai un o'r cyd-destunau ble mae pobl ifanc yn defnyddio'r Gymraeg y tu fas i'r dosbarth yw yn y maes chwarae, ond hefyd yn y maes celfyddydau hefyd. So, wrth gwrs, rŷn ni yn cydweithio gyda Chwaraeon Cymru ac asiantaethau fel yr FAW ac yn y blaen i gynyddu nifer y posibiliadau sydd yna i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg y tu fas i'r ysgol mewn agweddau eraill o'u bywydau nhw.
Dwi'n edrych ymlaen at siarad â'r comisiynydd am yr adroddiad ac am yr argymhellion mae hi'n rhoi i ni, a sut y gallwn ni wneud mwy mewn partneriaethau gyda Chwaraeon Cymru, cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau ieuenctid i normaleiddio'r Gymraeg ym mywydau pobl ifanc.
Well, I thank Tom Giffard. What he said is entirely true. The commissioner's report does highlight the fact that one of the areas where young people do use the Welsh language outside the classroom is on sports playing fields, but also in the arts too. So, we do work with Sport Wales and agencies such as the Football Association of Wales and so on in order to increase the opportunities available for young people to use the Welsh language outside of school in other aspects of their daily lives.
I look forward to speaking to the commissioner about the report and the recommendations that she has made, and to consider how we can do more in partnership with Sport Wales, the national governing bodies and youth organisations in order to normalise the use of the Welsh language in the lives of our young people.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Questions now from the party spokespeople. Welsh Conservatives spokesperson, Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, last week you issued a written statement on the state of play following the UK Labour Government's decision to hike employers' national insurance contributions. In it you said that Labour's funding to cover the shortfall for devolved public sector employers is £72 million short of what is needed. As you put it, coming significantly short of what is needed. So, why have your Labour colleagues decided to short-change Wales?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y sefyllfa yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i godi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Ynddo fe ddywedoch chi fod cyllid Llafur i dalu'r diffyg ar gyfer cyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig £72 miliwn yn brin o'r hyn sydd ei angen. Fel roeddech chi'n dweud, mae'n sylweddol brin o'r hyn sydd ei angen. Felly, pam y mae eich cymheiriaid Llafur wedi penderfynu tanariannu Cymru?
Well, Llywydd, the Member is quite right, I set out last week the package of funding that will be available to Welsh public sector employers to meet their new obligations to pay additional employer national insurance contributions. The total cost to the Welsh devolved public services will be £257 million; £185 million of that was provided through the UK Government, leaving a £72 million gap, and half of that gap, £36 million, will now be found from the Welsh Government. The reason for this is because the UK Government chose to use the Barnett formula as a way of providing assistance to public services in Scotland, Northern Ireland and in Wales, and because the public sector is larger in Wales than it is in England, that results in the shortfall that we are now aiming to assist in making good.
Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn hollol iawn, yr wythnos diwethaf nodais y pecyn o gyllid a fydd ar gael i gyflogwyr sector cyhoeddus Cymru i ddiwallu eu rhwymedigaethau newydd i dalu cyfraniadau ychwanegol i yswiriant gwladol cyflogwyr. Cyfanswm y gost i wasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru fydd £257 miliwn; darparwyd £185 miliwn o hwnnw drwy Lywodraeth y DU, gan adael bwlch o £72 miliwn, a bydd hanner y bwlch hwnnw, £36 miliwn, bellach yn dod gan Lywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi dewis defnyddio fformiwla Barnett fel ffordd o ddarparu cymorth i wasanaethau cyhoeddus yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yng Nghymru, ac oherwydd bod y sector cyhoeddus yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr, mae hynny'n arwain at y diffyg yr ydym bellach yn anelu at gynorthwyo i'w lenwi.
Thank you for your response, Cabinet Secretary. But, clearly, this is significantly different to what you would have expected, because in November 2024, you said that
'there will be additional funding for public sector workers to cover the costs of employer national insurance contributions’,
adding that the Treasury
'will provide full funding to deal with the national insurance contributions of employers',
and now, as I just explained, they haven't provided the full funding as you assured Members of this Senedd. So, it is concerning that, in November, you were giving guarantees that you are now having to walk away from because of your colleagues in Westminster. But, indeed, organisations would have heard those assurances and would have made plans based on those assurances only for them not to come to fruition. So, how did you get it so wrong and how can people trust your assurances again in the future?
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond yn amlwg, mae hyn yn sylweddol wahanol i'r hyn y byddech chi wedi'i ddisgwyl, oherwydd ym mis Tachwedd 2024, fe ddywedoch chi
'bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr',
gan ychwanegu bod y Trysorlys yn mynd i ddarparu
'cyllid llawn i ddelio â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr',
a nawr, fel rwyf newydd esbonio, nid ydynt wedi darparu'r cyllid llawn fel y gwnaethoch chi sicrhau Aelodau'r Senedd hon y byddent yn ei wneud. Felly, mae'n bryderus eich bod chi, ym mis Tachwedd, yn rhoi gwarantau yr ydych chi bellach yn gorfod cefnu arnynt oherwydd eich cymheiriaid yn San Steffan. Ond byddai sefydliadau wedi clywed y geiriau hynny o sicrwydd ac wedi gwneud cynlluniau yn seiliedig arnynt er na chawsant eu gwireddu. Felly, sut oeddech chi mor anghywir a sut y gall pobl ymddiried yn eich geiriau o sicrwydd eto yn y dyfodol?
Well, the assurances that were given in November were based on the statement of funding policy. The statement of funding policy does seem clear to me. It says that when any one of the four Governments in the United Kingdom takes a decision that creates costs for any other Government, then the Government that creates those costs must meet that bill in full. That, I think, would have been the right way to have dealt with these national insurance contributions. The UK Government takes a different view and has used the Barnett formula instead. We continue to make the case to them for proceeding in a way that I think is consistent with what the statement of funding policy would require.
Wel, roedd y geiriau o sicrwydd a roddwyd ym mis Tachwedd yn seiliedig ar y datganiad o bolisi ariannu. Mae'r datganiad o bolisi ariannu yn ymddangos yn glir i mi. Mae'n dweud, pan fo unrhyw un o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gwneud penderfyniad sy'n creu costau i unrhyw Lywodraeth arall, yna mae'n rhaid i'r Llywodraeth sy'n creu'r costau hynny dalu'r bil yn llawn. Dyna, rwy'n credu, fyddai wedi bod y ffordd iawn o ddelio â'r cyfraniadau yswiriant gwladol hyn. Mae Llywodraeth y DU yn arddel safbwynt gwahanol ac wedi defnyddio fformiwla Barnett yn lle hynny. Rydym yn parhau i ddadlau'r achos dros fwrw ymlaen mewn ffordd sydd, yn fy marn i, yn gyson â'r hyn y byddai'r datganiad o bolisi ariannu yn gofyn amdano.
You must recognise, Cabinet Secretary, that, when assurances are given in this place, organisations expect them to be followed through. I recognise at this stage that some of that has been out of your control, but, again, that flies in the face of the message that you and others want to project, which is that it's the same Government working at both ends of the M4, working together. This is clearly another example of that working together not happening for people here in Wales. And whilst the public sector itself will be damaged as a result of this, the charity sector also, who are huge providers of public services in Wales, are in an even worse position because, of course, there is no additional funding for them to deal with the national insurance increases. Marie Curie, for example, who provide vital hospice care, said that Labour's tax will cost them an additional £2.92 million a year and force them to reduce services. So, can you give assurances, for what they're worth, to organisations like Marie Curie, and many others across Wales, that they will be in a position to be able to provide the vital public sector services in the future, despite not receiving this level of support that they require?
Rhaid ichi gydnabod, Ysgrifennydd y Cabinet, pan roddir sicrwydd yn y lle hwn, fod sefydliadau'n disgwyl iddo gael ei gyflawni. Rwy'n cydnabod ar hyn o bryd fod rhywfaint o hynny wedi bod allan o'ch rheolaeth, ond unwaith eto, mae hynny'n mynd yn groes i'r neges yr ydych chi ac eraill am ei chyfleu, sef mai'r un Llywodraeth sy'n gweithio ar ddau ben yr M4, yn cydweithio. Mae hon yn amlwg yn enghraifft arall nad yw'r cydweithio hwnnw'n digwydd ar gyfer pobl yma yng Nghymru. Ac er y bydd y sector cyhoeddus ei hun yn cael ei niweidio o ganlyniad i hyn, mae'r sector elusennau hefyd, sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar raddfa enfawr yng Nghymru, mewn sefyllfa waeth byth am nad oes cyllid ychwanegol iddynt ddelio â'r cynnydd i yswiriant gwladol. Dywedodd Marie Curie, er enghraifft, sy'n darparu gofal hosbis hanfodol, y bydd treth Llafur yn costio £2.92 miliwn ychwanegol y flwyddyn iddynt ac yn eu gorfodi i leihau gwasanaethau. Felly, a allwch chi roi sicrwydd, beth bynnag fo gwerth hynny, i sefydliadau fel Marie Curie, a llawer o rai eraill ledled Cymru, y byddant mewn sefyllfa i allu darparu'r gwasanaethau sector cyhoeddus hanfodol yn y dyfodol, er nad ydynt yn cael y lefel o gymorth sydd ei hangen arnynt?
Well, Llywydd, I'm glad to hear what the Member has to say about assurances, because we can take it then, and so can all those people who work in our public services in Wales, that when his leader said at the Conservative Party conference in Wales that the Conservative Party would introduce a pay freeze—a pay freeze—for all public sector workers, we can take it that that was an assurance on which they can rely. [Interruption.] Ah, I see it wasn't so reliable after all, because already we hear them trying to unravel what they said.
I continue to work with all my colleagues in the Cabinet to provide funding to those many organisations that work alongside our public services in the third sector, in the hospice movement, to recognise the invaluable contribution they make here in Wales. All of those organisations have seen an uplift in the funding available to them in the current financial year, and that stands in very sharp contrast to what was possible during the long years of austerity when his party was in charge.
Wel, Lywydd, rwy'n falch o glywed beth sydd gan yr Aelod i'w ddweud am sicrwydd, oherwydd gallwn gymryd felly, fel y gall yr holl bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, pan ddywedodd ei arweinydd yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yng Nghymru y byddai'r Blaid Geidwadol yn rhewi cyflogau—rhewi cyflogau—holl weithwyr y sector cyhoeddus, gallwn gymryd bod hynny'n sicrwydd y gallant ddibynnu arno. [Torri ar draws.] A, rwy'n gweld nad oedd mor ddibynadwy wedi'r cyfan, oherwydd eisoes rydym yn eu clywed yn ceisio dad-wneud yr hyn a ddywedasant.
Rwy'n parhau i weithio gyda fy holl gyd-Weinidogion yn y Cabinet i ddarparu cyllid i'r sefydliadau niferus sy'n gweithio ochr yn ochr â'n gwasanaethau cyhoeddus yn y trydydd sector, yn y mudiad hosbis, i gydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y maent yn ei wneud yma yng Nghymru. Mae pob un o'r sefydliadau hynny wedi gweld cynnydd yn y cyllid sydd ar gael iddynt yn y flwyddyn ariannol gyfredol, ac mae hynny'n gwrthgyferbynnu'n glir â'r hyn a oedd yn bosibl yn ystod y blynyddoedd hir o gyni pan oedd ei blaid ef mewn grym.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Plaid Cymru spokesperson, Heledd Fychan.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n siŵr fydd o ddim yn syndod i chi bod cwestiynau wedi bod o ran yswiriant gwladol ddoe i'r Prif Weinidog ac i chithau. Yn amlwg, rydych chi wedi bod yn agored iawn o ran eich rhwystredigaeth chi. 'Anghyfiawnder sylfaenol' oedd y ffordd yr oeddech chi wedi disgrifio'r defnydd o Barnett o ran cyllido'r yswiriant gwladol.
O ran y £72 miliwn yn benodol, a'r ffaith eich bod chi wedi gorfod defnyddio £36 miliwn o'r gronfa wrth gefn, gaf i ofyn, felly, beth fydd ddim yn bosibl ei ariannu rŵan o ganlyniad i'r gostyngiad yma yn y lefelau yn y gronfa wrth gefn? Bydd angen torri unrhyw beth o'r gyllideb bresennol er mwyn gwneud i fyny am y bwlch? A hefyd, fel sydd wedi'i nodi, o ran gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill o ran yr £36 miliwn ychwanegol, rydym ni'n gwybod pa mor gyfyng ydy eu cyllidebau nhw hefyd—beth ydych chi'n disgwyl y byddan nhw'n ei wneud o ran y bwlch hwn? Ai mynd i gronfeydd wrth gefn ydy'r cynllun hefyd? Byddai ychydig o eglurder yn gymorth mawr, dwi'n siŵr.
Thank you very much. I'm sure that it was no surprise to you that these questions have been asked in terms of national insurance, yesterday to the First Minister and to you as Cabinet Secretary. You've been very open in terms of your frustration. 'Fundamental unfairness' is how you described the use of Barnett in terms of funding these national insurance contributions.
In terms of the £72 million, specifically, and the fact that you had to use £36 million of the reserves, may I ask what it won't be possible to fund now as a result of the decrease in the levels of reserves available? Will anything have to be cut from the current budget to make up for that deficit? As has been noted, in terms of working with local authorities and others when it comes to that additional £36 million, we know how limited their budgets are too—what do you expect that they will do in terms of that deficit? Will going to their reserves be the plan too? A little bit more clarity would be of great assistance, I'm sure.
Llywydd, fel y mae Heledd Fychan yn dweud, mae'r arian rydyn ni'n gallu ei roi i helpu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi dod o'r gronfa wrth gefn. Y broblem yw bod y bwlch yn mynd i barhau ym mhob blwyddyn, a'r arian mas o'r gronfa wrth gefn yw arian sydd gyda ni am y flwyddyn bresennol, dim ond y flwyddyn bresennol.
Llywydd, as Heledd Fychan has said, the funding that we can provide to help public services in Wales has come from our reserves. The problem is that that funding gap will remain year on year, and the funding from reserves is funding available for the current year, only the current year.
We are helped in that, Llywydd, by the fact that the Chancellor did agree—and I wrote to the Chair of the Finance Committee earlier in the month to confirm this—that we would have unfettered access to the Welsh reserve in the current financial year. That's not something we've ever had before. It does definitely make managing the current situation more possible. Now, the combination of the £185 million from the UK Government and the £36 million from the Welsh Government means that we are covering 86 per cent of the costs that local authorities and others face. It does mean that they will have to absorb the remainder, the 14 per cent that remains. But, given that they are going to have to absorb these costs not just in this year, but in the years ahead, that's a journey they have to embark upon, and we've done our best to make that journey as practically possible as we can.
Cawn ein helpu o ran hynny, Lywydd, gan y ffaith bod y Canghellor wedi cytuno—ac ysgrifennais at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach yn y mis i gadarnhau hyn—y byddai gennym fynediad dilyffethair at y gronfa wrth gefn yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Nid yw hynny'n rhywbeth yr ydym erioed wedi'i gael o'r blaen. Mae'n bendant yn gwneud rheoli'r sefyllfa bresennol yn fwy posibl. Nawr, mae'r cyfuniad o'r £185 miliwn gan Lywodraeth y DU a'r £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn talu 86 y cant o'r costau y mae awdurdodau lleol ac eraill yn eu hwynebu. Mae'n golygu y bydd yn rhaid iddynt amsugno'r gweddill, y 14 y cant sy'n weddill. Ond o ystyried eu bod yn mynd i orfod amsugno'r costau hyn nid yn unig yn y flwyddyn hon, ond yn y blynyddoedd i ddod, mae honno'n daith y mae'n rhaid iddynt fynd arni, ac rydym wedi gwneud ein gorau glas i wneud y daith honno mor ymarferol bosibl ag y gallwn.
Diolch am yr ymateb hwnnw. Yn amlwg, mae hon yn sefyllfa ddifrifol dros ben, nid dim ond o ran eleni ond y blynyddoedd i ddod hefyd. Gaf i ofyn felly—? Yn amlwg, mae'r bartneriaeth mewn pŵer yn rhywbeth rydym ni wedi ei glywed yn aml, ond oes yna unrhyw symudiad o gwbl gan Lywodraeth San Steffan o ran hyn, unrhyw sicrwydd? Oherwydd, yn amlwg, nid hwn ydy'r unig fater sydd wedi amlygu'r bwlch hwn o ran rhethreg, ond hefyd wedyn gweld beth sy'n digwydd. Mae yna nifer o drafodaethau wedi bod eisoes heddiw o ran arian yn ymwneud efo rheilffyrdd, er enghraifft, sydd yn dangos unwaith eto dydyn ni ddim yn derbyn y cyllid haeddiannol i Gymru. Mi oedd yna awgrym ddoe gan Mick Antoniw o ran peidio â chydweithio gydag LCMs, er enghraifft, fel un ffordd inni ddangos sut ydyn ni'n mynd i herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ydych chi'n cael eich temtio i gymryd y math yna o strategaeth, fel ein bod ni'n gallu sefyll i fyny dros Gymru a dangos dydy hyn ddim yn ddigon da?
Thank you for that response. Clearly, this is a very serious situation, not just in terms of this year, but years to come as well. May I ask therefore—? Clearly, the partnership in power is something that we've heard about often, but is there any movement at all from the Westminster Government in this regard, any assurance? Because, obviously, this isn't the only matter that has highlighted this gap in terms of rhetoric, but also then seeing what is happening. There have been a number of discussions already today in terms of funding for railways, for example, which demonstrates once again that we aren't receiving a fair share of funding for Wales. There was a suggestion yesterday from Mick Antoniw in terms of not collaborating with LCMs, for example, as one way we can demonstrate how we're going to challenge the UK Government. Are you tempted to take that kind of strategy and approach, so that we can stand up for Wales and show that this isn't good enough?
Wel, wrth gwrs mae'r Llywodraeth yma yn y Senedd yn sefyll dros Gymru, ac rydyn ni'n gwneud hynny bob tro mae cyfle yn codi i ni. Nawr, dŷn ni'n gallu ei wneud e gyda Gweinidogion yn San Steffan sy'n fodlon clywed beth sydd gyda ni i'w ddweud a sgwrsio gyda ni amdanyn nhw. Pan fydd hynny'n dod at gasgliad lle dydyn ni ddim yn meddwl bod y casgliad yn addas i Gymru, neu'n deg i Gymru, wrth gwrs dŷn ni'n sefyll lan i ddweud hynny. Ond mae'r ffaith ein bod ni'n gallu cael y sgwrs, ac yn gallu cael y sgwrs gyda Llywodraeth sy'n fodlon clywed beth sydd gyda ni i'w ddweud, mae hynny'n rhoi hyder i fi i ddweud mai dyna yw'r ffordd orau i barhau ymlaen, trwy ffeindio'r ffordd i gydweithio gyda'n gilydd ac i dynnu arian i mewn i Gymru, fel yr £1.6 biliwn sydd gyda ni yn y gyllideb yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Well, of course the Government here in the Senedd will stand up for Wales, and we do that at every possible opportunity. Now, we can do it with Ministers in Westminster who are willing to listen to what we have to say and to discuss those issues with us. When that leads to a conclusion where we don't think that the conclusion is either appropriate for Wales, or fair for Wales, we will of course stand up and say so. But the fact that we can have those conversations, and that we can have those conversations with a Government that is willing to hear what we have to say, that does give me confidence to say that that is the best way forward, by finding a means of working together and drawing funding into Wales, such as the £1.6 billion that we have in the budget for the current financial year.
Ond dwi'n siŵr eich bod chithau, fel finnau, ddim eisiau iddyn nhw jest gwrando, ond gweithredu. Dyna un o'r pethau sydd yn rhwystredig dros ben erbyn hyn, ydy gweld y diffyg gweithredu.
Mi fuoch chi'n brysur tu hwnt yr wythnos diwethaf, felly mi ydw i eisiau gofyn fy nghwestiwn olaf ynglŷn â'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac ymateb Llywodraeth Cymru. Mi fuaswn i hefyd yn gofyn a fydd yna gyfle i ni gael trafodaeth iawn ar lawr y Senedd. Efo 57 o argymhellion, fedraf i ddim gwneud cyfiawnder â hyn yn y 30 eiliad sy'n weddill i fi. Mae'r ymateb wedi bod yn gymysg, gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhoi 33 allan o 100 i ymateb y Llywodraeth, ond hefyd mae nifer wedi nodi siom nad oedd amserlen glir ynglŷn â gweithredu'r argymhellion, ynghyd ag eglurder llawn ynglŷn â pha rai yn union o'r 57 sydd wedi eu derbyn a beth mae 'derbyn yn rhannol' yn ei olygu, a hefyd o ran y cyllid sy'n gysylltiedig â gweithredu'r argymhellion. Ydy hi'n fwriad, felly, gan y Llywodraeth i ddarparu'r wybodaeth yma, ac, os felly, pryd? Ac os nad ydych chi'n bwriadu gwneud hynny, pam dydych chi ddim?
But I'm sure that you, like me, don't just want them to hear, but to act. That's one of the things that's very frustrating, is to see that lack of action.
You were very busy last week, so I want to ask my final question with regard to the Commission for Welsh-speaking Communities and the Welsh Government's response. I would also ask whether there will be an opportunity for us to have a debate on the floor of the Senedd. With 57 recommendations, I can't do justice to all of them in the 30 seconds left to me. The response has been mixed, with Cymdeithas yr Iaith Gymraeg giving 33 out of 100 to the Welsh Government's response, but also a number have noted their disappointment that there's no clear timeline for implementing the recommendations, in addition to a full explanation of which of the 57 have been accepted and what 'accepted in part' means, and also in terms of the funding that is related to the implementation of those recommendations. Is it the Government's intention, therefore, to provide this information, and, if so, when? And if you don't intend to do so, why not?
Wel, gallaf i ddweud wrth yr Aelod heddiw, Llywydd, mai'r bwriad sydd gyda fi yw i ddod nôl i lawr y Senedd gyda datganiad llafar yn yr hydref, ar ôl cael y cyfle i ystyried yr ail adroddiad yng ngham 1. So, fel rŷch chi’n gwybod, mae mwy nag un adroddiad yng ngham 1 o waith y comisiwn. Rŷn ni wedi derbyn—rŷn ni wedi gweld yr adroddiad nawr ar gynllunio, ac mae yn un pwysig. Dwi eisiau cael mwy o amser i drafod yr adroddiad yna gyda’r bobl sydd wedi bod yn gweithio gyda’r comisiwn, a dod nôl i lawr y Senedd yn yr hydref i gael mwy o gyfleon i siarad am yr argymhellion i gyd yn yr adroddiad cyntaf yng ngham 1, ac yn yr ail adroddiad hefyd.
Well, I can tell the Member today, Llywydd, that my intention is to return to the Chamber with an oral statement in the autumn, once we’ve had an opportunity to consider the second report in phase 1. As you know, there will be more than one report in the first phase of the commission’s work. We have now seen the report on planning; it is important. I do want to take more time to discuss that report with those who have been working with the commission, and then return to the Senedd in the autumn to have more opportunities to discuss all of the recommendations in the first report at phase 1, and in the second report too.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi gwariant yn ei chyllidebau nad yw'n darparu gwerth am arian? OQ62794
3. What is the Welsh Government doing to identify spending in its budgets that does not provide value for money? OQ62794
Llywydd, economic appraisal, business case integration and regulatory impact assessment all precede spending decisions. Performance monitoring, internal challenge and independent evaluation then follow. Together they focus on achieving value for money at every stage, in both revenue and capital expenditure.
Lywydd, mae arfarnu economaidd, integreiddio achosion busnes ac asesu effaith rheoleiddiol i gyd yn rhagflaenu penderfyniadau gwario. Mae monitro perfformiad, herio mewnol a gwerthuso annibynnol yn dilyn wedyn. Gyda'i gilydd, maent yn canolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian ar bob cam, mewn gwariant refeniw a chyfalaf.
Cabinet Secretary, at a time when the cost of living is so high, it is important that taxpayers’ money is spent well and spent on key priorities. And I know that the Welsh Government Cabinet Secretaries take their duties very seriously when it comes to taxpayers’ money and making sure they get their bang for the buck. And I’m sure you want to see every penny spent on crucial front-line services. So, I think it’s important that the Welsh Government instructs civil servants and others to identify savings on more ideological spending, and part of that is understanding where the money is going. So, in light of that, and in light of the Supreme Court’s landmark ruling on the definition of a woman, could you please update the Senedd on how much taxpayers’ money the Welsh Government is giving to Stonewall, and whether you expect that funding to continue at current levels in the medium to long term? Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar adeg pan fo costau byw mor uchel, mae'n bwysig fod arian trethdalwyr yn cael ei wario'n dda a'i wario ar flaenoriaethau allweddol. Ac rwy'n gwybod bod Ysgrifenyddion Cabinet Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch eu dyletswyddau mewn perthynas ag arian trethdalwyr a gwneud yn siŵr eu bod yn cael gwerth am arian. Ac rwy'n siŵr eich bod am weld pob ceiniog yn cael ei gwario ar wasanaethau rheng flaen hanfodol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo gweision sifil ac eraill i nodi arbedion ar wariant mwy ideolegol, a rhan o hynny yw deall ble mae'r arian yn mynd. Felly, yng ngoleuni hynny, ac yng ngoleuni dyfarniad pwysig y Goruchaf Lys ar y diffiniad o fenyw, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch faint o arian trethdalwyr y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Stonewall, ac a ydych chi'n disgwyl i'r cyllid hwnnw barhau ar y lefelau presennol yn y tymor canolig i'r tymor hir? Diolch.
Well, Llywydd, that is not a question for me. That’s a question for the Minister, who is in her place. My job is to provide funding to my colleagues. I then don’t micromanage their decisions; it is for individual Cabinet and ministerial colleagues to align the resources I’m able to make available to them with the priorities that they have and the priorities of the Welsh Government.
The Member describes that as 'ideological spending'. But that’s the basis on which we are all elected to this place. We all put our propositions in front of the public, and, when elections are won, you have a mandate to spend that money in line with the promises that we have made. Our support for the LGBTQ+ community was absolutely highlighted in our manifesto and in the action plan that we have subsequently published. Of course we stand by that, and of course we want to see that properly funded.
Wel, Lywydd, nid cwestiwn i mi yw hwnnw. Mae hwnnw'n gwestiwn i'r Gweinidog, sydd yn ei lle. Fy swydd i yw darparu cyllid i fy nghyd-Weinidogion. Nid wyf yn microreoli eu penderfyniadau wedyn; mater i gyd-aelodau o'r Cabinet a chyd-Weinidogion unigol yw alinio'r adnoddau y gallaf eu rhoi iddynt â'r blaenoriaethau sydd ganddynt a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Mae'r Aelod yn disgrifio hynny fel 'gwariant ideolegol'. Ond ar y sail honno y caiff pob un ohonom ein hethol i'r lle hwn. Rydym i gyd yn rhoi ein cynigion gerbron y cyhoedd, a phan gaiff etholiadau eu hennill, mae gennych fandad i wario'r arian hwnnw yn unol â'r addewidion a wnaethom. Amlygwyd ein cefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ yn ein maniffesto ac yn y cynllun gweithredu a gyhoeddwyd gennym wedyn. Rydym yn sefyll wrth hynny wrth reswm, ac wrth gwrs ein bod am weld hynny'n cael ei ariannu'n iawn.
Alun Davies.
Alun Davies.
I'm grateful to you, Presiding Officer. One of the really crucial aspects, of course, of identifying spending, and perhaps holding the Government to account for those spending decisions, is through scrutiny. And I would very gently suggest to opposition Members that scrutiny means more than simply reading out press releases at times like this. And one of the opportunities for scrutiny—a primary opportunity for scrutiny—is, of course, the way that the Welsh Government sets its budget. The Minster—the Cabinet Secretary—has, at different times over the years, spoken about his perhaps attraction to a more legislative process for budget setting, although I’m unsure of what the Government’s position is at the moment. So, perhaps it would be useful for us this afternoon to understand whether the Welsh Government remains attracted by the concept of a more legislative basis to our budget-setting, or whether they believe the current process we use remains relevant and futureproof.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Lywydd. Un o'r agweddau hanfodol iawn ar nodi gwariant, a dwyn y Llywodraeth i gyfrif am y penderfyniadau gwariant hynny, yw trwy graffu. A hoffwn awgrymu'n bwyllog iawn wrth Aelodau'r wrthblaid fod craffu'n golygu mwy na dim ond rhoi datganiadau i'r wasg ar adegau fel hyn. Ac un o'r cyfleoedd ar gyfer craffu—cyfle hanfodol ar gyfer craffu—yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb. Mae'r Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet—wedi siarad ar wahanol adegau dros y blynyddoedd, am ei atyniad, efallai, at broses fwy deddfwriaethol ar gyfer gosod cyllideb, er nad wyf yn siŵr beth yw safbwynt y Llywodraeth ar hyn o bryd. Felly, efallai y byddai'n ddefnyddiol inni ddeall y prynhawn yma a yw Llywodraeth Cymru'n parhau i gael ei denu gan y cysyniad o sail fwy deddfwriaethol i'n gwaith o osod y gyllideb, neu a ydynt yn credu bod y broses bresennol a ddefnyddiwn yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddiogel at y dyfodol.
Well, Llywydd, I think, in a final year of a Senedd term, it is unlikely that we will choose this moment to move from the system that we have used over recent years to a finance Bill, or whatever other vehicle we would have for the future. I continue to be interested in developing the thinking around that, so a future Senedd would be able to make determinations of its own, and I’m keen to continue to work with the Finance Committee, which has done very valuable work in this area, to align the responsibilities we have, the fiscal responsibilities we have, the revenue-raising as well as the revenue-spending responsibilities that the Senedd possesses, and to discharge those in a way that makes sure that there is proper scrutiny of those decisions.
Wel, Lywydd, yn y flwyddyn olaf o dymor y Senedd, rwy'n credu ei bod hi'n annhebygol y byddwn yn dewis y foment hon i symud o'r system yr ydym wedi'i defnyddio dros y blynyddoedd diwethaf i Fil cyllid, neu ba bynnag gyfrwng arall a fyddai gennym ar gyfer y dyfodol. Rwy'n parhau i fod â diddordeb mewn datblygu'r syniadau o gwmpas hynny, fel y byddai Senedd yn y dyfodol yn gallu gwneud penderfyniadau ei hun, ac rwy'n awyddus i barhau i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid, sydd wedi gwneud gwaith gwerthfawr iawn yn y maes hwn, i alinio'r cyfrifoldebau sydd gennym, y cyfrifoldebau cyllidol sydd gennym, y cyfrifoldebau codi refeniw yn ogystal â'r cyfrifoldebau gwario refeniw sydd gan y Senedd, ac i gyflawni'r rheini mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr fod craffu priodol ar y penderfyniadau hynny.
4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith toriadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru? OQ62786
4. What assessment has the Cabinet Secretary made of the impact of the UK Government's proposed cuts to disability benefits on the Welsh Government's spending plans? OQ62786
I thank Jenny Rathbone for that question, Llywydd. Cuts to disability benefits have a direct impact on those individuals and families who lose income, while the potential loss of over £450 million in spending power in the Welsh economy will have a wider adverse impact. The Welsh Government has already increased funding for impartial and specialist advice services to promote the take-up of unclaimed benefits in Wales.
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw, Lywydd. Mae toriadau i fudd-daliadau anabledd yn cael effaith uniongyrchol ar yr unigolion a'r teuluoedd sy'n colli incwm, tra bydd y golled bosibl o dros £450 miliwn mewn pŵer gwario yn economi Cymru yn cael effaith andwyol ehangach. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyngor diduedd ac arbenigol i chwyddo'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru.
The protocol that was agreed by the Cabinet Secretary for Social Justice with the Department for Work and Pensions back in February specifically said that the UK Government would provide appropriate impact assessments when significant changes were being made, and, obviously, the benefit entitlements of disabled and sick people would certainly come under that. Now that the UK Government has published disaggregated data, last month, what assessment has the Welsh Government been able to make of the impact on different communities in Wales and different budget responsibilities?
Roedd y protocol a gytunwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ôl ym mis Chwefror yn dweud yn benodol y byddai Llywodraeth y DU yn darparu asesiadau effaith priodol pan fyddai newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud, ac yn amlwg, byddai hawliau budd-daliadau pobl anabl a sâl yn sicr yn dod o dan hynny. Gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi data wedi'i ddadgyfuno, y mis diwethaf, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei wneud o'r effaith ar wahanol gymunedau yng Nghymru a chyfrifoldebau gwahanol o ran y gyllideb?
I thank Jenny Rathbone for that, Llywydd. Of course, I'm pleased that Welsh-specific claimant data has now been published. It does enable the identification of the number of people in Wales who could potentially be impacted by the reforms of incapacity and disability benefits. That still falls short of what we believe ought to have been carried out to accompany the proposals—that's to say, a stand-alone impact assessment of those proposed changes on people in Wales.
However, we do now have the claimant data included in the full evidence pack published by the UK Government, by the DWP, on 2 May. That will allow us, in the response that the Welsh Government will make to the consultation exercise, to have some more precision in the impact by individual claimant groups and by geography. It will also mean, as to those other organisations that have so helpfully been analysing the potential impact of these changes—Policy in Practice, the Bevan Foundation, the Wales Governance Centre, the Equality and Social Justice Committee, of course—that this is now data that all of those organisations can use to make sure that when we respond to the consultation exercise, we are representing in the best possible way the impact that the changes would have in Wales and to make sure that those impacts are properly taken into account.
Diolch i Jenny Rathbone am hynny, Lywydd. Wrth gwrs, rwy'n falch fod data hawlwyr penodol i Gymru bellach wedi'i gyhoeddi. Mae'n ei gwneud hi'n bosibl nodi nifer y bobl yng Nghymru y gallai diwygiadau i fudd-daliadau analluogrwydd ac anabledd effeithio arnynt. Mae hynny'n dal i fod yn llai na'r hyn y credwn y dylid bod wedi ei gyflawni i gyd-fynd â'r cynigion—hynny yw, asesiad effaith annibynnol o'r newidiadau arfaethedig hynny ar bobl yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae gennym bellach y data hawlwyr wedi'i gynnwys yn y pecyn tystiolaeth llawn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar 2 Mai. Bydd hwnnw'n caniatáu i ni, yn yr ymateb y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ymarfer ymgynghori, gael rhywfaint yn rhagor o gywirdeb yn yr effaith gan grwpiau hawlwyr unigol ac yn ôl daearyddiaeth. Bydd hefyd yn golygu, o ran y sefydliadau eraill hynny sydd, yn ddefnyddiol iawn, wedi bod yn dadansoddi effaith bosibl y newidiadau hyn—Policy in Practice, Sefydliad Bevan, Canolfan Llywodraethiant Cymru, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, wrth gwrs—fod hwn yn ddata y gall pob un o'r sefydliadau hynny ei ddefnyddio i sicrhau pan fyddwn yn ymateb i'r ymarfer ymgynghori, ein bod yn tynnu sylw yn y ffordd orau bosibl at yr effaith y byddai'r newidiadau'n ei chael yng Nghymru ac i sicrhau bod yr effeithiau hynny'n cael eu hystyried yn briodol.
The disability sector want to know what the Welsh Government itself is doing now proactively. You referred to the Bevan Foundation report and Policy in Practice, which found that poverty rates have increased significantly among affected households. The disability sector in Wales is concerned that the UK's current proposals risk further disabling people in Wales by compounding poverty and exclusion—I'm quoting them—and that these cuts may lead to an increase in demand for devolved Welsh services, such as health and social care, funded through the Barnett formula. What, therefore, is your response to their questions as follows: how specifically will the impact of these proposals be measured in Wales? How will any resulting pressures on devolved services be funded, particularly in relation to the adequacy of the Barnett formula? What, if any, concrete steps are the Welsh Government taking to mitigate the impact of these UK Government proposals on disabled people in Wales?
Mae'r sector anabledd am wybod beth y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn ei wneud nawr yn rhagweithiol. Fe gyfeirioch chi at adroddiad Sefydliad Bevan a Policy in Practice, a ganfu fod cyfraddau tlodi wedi cynyddu'n sylweddol ymhlith yr aelwydydd yr effeithir arnynt. Mae'r sector anabledd yng Nghymru yn pryderu bod cynigion presennol y Deyrnas Unedig mewn perygl o analluogi pobl yng Nghymru ymhellach drwy waethygu tlodi ac allgáu—rwy'n eu dyfynnu—ac y gallai'r toriadau hyn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau datganoledig yng Nghymru, megis iechyd a gofal cymdeithasol, a ariennir drwy fformiwla Barnett. Beth, felly, yw eich ymateb chi i'w cwestiynau fel a ganlyn: sut yn benodol y bydd effaith y cynigion hyn yn cael ei mesur yng Nghymru? Sut y bydd unrhyw bwysau sy'n deillio o hynny ar wasanaethau datganoledig yn cael eu hariannu, yn enwedig mewn perthynas â digonolrwydd fformiwla Barnett? Pa gamau pendant, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith y cynigion hyn gan Lywodraeth y DU ar bobl anabl yng Nghymru?
Llywydd, the Welsh Government shares the concerns set out by those disability organisations. It's difficult to give precise answers to some of those questions at this stage, because some of the proposals are still being consulted upon by the UK Government. What we will do is to ensure that, with the new information we have and with the support of those organisations that are analysing it from the perspective of different claimant groups, we bring all of that to the attention of the UK Government in their decision making. More broadly, as you know, and as the Member knows, we’re consulting on the draft disabled people’s rights plan at the moment, and many of those issues are reflected in the work done by the group of people who came together, the disability rights taskforce, and in the proposals that the disabled people’s rights plan sets out.
Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r pryderon a nodir gan y sefydliadau anabledd hynny. Mae'n anodd rhoi atebion manwl gywir i rai o'r cwestiynau hynny ar hyn o bryd, oherwydd bod ymgynghori'n dal i fynd rhagddo gan Lywodraeth y DU ar rai o'r cynigion. Gyda'r wybodaeth newydd sydd gennym a chyda chymorth y sefydliadau sy'n ei dadansoddi o safbwynt gwahanol grwpiau hawlwyr, yr hyn a wnawn yw sicrhau ein bod yn dod â hynny i gyd i sylw Llywodraeth y DU wrth iddynt wneud penderfyniadau. Yn fwy cyffredinol, fel y gwyddoch, ac fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn ymgynghori ar y cynllun drafft hawliau pobl anabl ar hyn o bryd, ac mae llawer o'r materion hynny'n cael eu hadlewyrchu yn y gwaith a wnaed gan y grŵp o bobl a ddaeth at ei gilydd, y tasglu hawliau pobl anabl, ac yn y cynigion y mae'r cynllun hawliau pobl anabl yn eu nodi.
I’m grateful to the Cabinet Secretary for that response. I’m grateful to him and his colleagues throughout the Welsh Government, actually, for the way in which they’ve responded to these proposals. The proposals, of course, have caused some real fear amongst some of the most vulnerable people in our society, and one of the places that will be impacted most seriously by these proposals is, of course, places like Blaenau Gwent. In terms of how we deliver services in Blaenau Gwent and across the Aneurin Bevan health board, they will be significantly impacted if these proposals are delivered. Will the Cabinet Secretary undertake to continue speaking with his Cabinet colleagues and to Blaenau Gwent County Borough Council and health boards and others in the voluntary sector about how they can be supported to deliver services at a time when some of our most vulnerable people are placed under even greater pressure?
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Rwy'n ddiolchgar iddo ef a'i gyd-Aelodau ar draws Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd am y ffordd y maent wedi ymateb i'r cynigion hyn. Mae'r cynigion, wrth gwrs, wedi achosi ofn gwirioneddol ymhlith rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a'r mannau y bydd y cynigion hyn yn effeithio'n fwyaf difrifol arnynt yw lleoedd fel Blaenau Gwent. O ran sut rydym yn darparu gwasanaethau ym Mlaenau Gwent ac ar draws bwrdd iechyd Aneurin Bevan, byddant yn cael eu heffeithio'n sylweddol os caiff y cynigion hyn eu cyflawni. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i barhau i siarad â'i gyd-aelodau o'r Cabinet a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byrddau iechyd ac eraill yn y sector gwirfoddol ynglŷn â sut y gellir eu cefnogi i ddarparu gwasanaethau ar adeg pan fo rhai o'n pobl fwyaf bregus yn cael eu rhoi o dan fwy byth o bwysau?
Well, Llywydd, of course I give the Member that undertaking. And he’s right: these proposals have an impact not just on the lives of individuals—very dramatic and adverse impacts in some cases—but the impacts are concentrated in particular geographies. Four of the top 10 local authorities that will be adversely affected are in Wales, and that shows the disproportionate impact that the proposals have in Wales. Of course, we will work with local authorities and health boards to mitigate the impact of any changes, but the real answer is to make sure that, through a redistributive social security system, money is taken from those who can afford to pay and put in the pockets of those people who need it the most. And that’s the fundamental case that we will go on making.
Wel, Lywydd, rwy'n rhoi'r ymrwymiad hwnnw i'r Aelod wrth gwrs. Ac mae'n iawn: mae'r cynigion hyn yn cael effaith nid yn unig ar fywydau unigolion—effeithiau dramatig ac andwyol iawn mewn rhai achosion—ond mae'r effeithiau'n fwy dwys mewn mannau penodol. Mae pedwar o'r 10 awdurdod lleol a fydd yn cael eu heffeithio'n fwyaf andwyol yng Nghymru, ac mae hynny'n dangos yr effaith anghymesur y mae'r cynigion yn ei chael yng Nghymru. Wrth gwrs, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i liniaru effaith unrhyw newidiadau, ond yr ateb go iawn yw sicrhau, trwy system nawdd cymdeithasol ailddosbarthol, fod arian yn cael ei gymryd gan y rhai sy'n gallu fforddio talu a'i roi ym mhocedi'r bobl sydd ei angen fwyaf. A dyna'r achos sylfaenol y byddwn yn parhau i'w wneud.
5. Sut y bydd polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau manwerthu, yn enwedig busnesau'r stryd fawr, yn y flwyddyn ariannol 2025-26? OQ62775
5. How will the Welsh Government's taxation policy support retail businesses, particularly high-street businesses, in the 2025-26 financial year? OQ62775
Llywydd, the Welsh Government provides a package of non-domestic rates support worth £335 million in 2025-26. Almost half of all ratepayers pay nothing at all, and fewer than one third pay the full amount, and that is thanks to the support available in Wales.
Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn o gymorth ardrethi annomestig gwerth £335 miliwn yn 2025-26. Ni fydd bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi yn talu unrhyw beth o gwbl, a llai na thraean sy'n talu'r swm llawn, diolch i'r cymorth sydd ar gael yng Nghymru.
Thank you, finance Secretary, for your answer. With the recent increase in national insurance contributions from 13.8 per cent to 15 per cent and the lowering of the threshold, many small businesses on our high streets are facing very difficult choices of letting people go or upping their prices, which pushes people out of the high street. Given these challenges and the pressure on businesses and the pressure they have with business rates as well, how does the Welsh Government intend to use the taxation policy it has to support businesses to make sure that we do not have job losses and that we can get people back onto our high streets to make sure that they are thriving in the future?
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd cyllid. Gyda'r cynnydd diweddar i gyfraniadau yswiriant gwladol o 13.8 y cant i 15 y cant a gostwng y trothwy, mae llawer o fusnesau bach ar ein strydoedd mawr yn wynebu penderfyniadau anodd iawn rhwng diswyddo neu godi eu prisiau, sy'n gwthio pobl o'r stryd fawr. O ystyried yr heriau hyn a'r pwysau ar fusnesau a'r pwysau sydd arnynt o ran ardrethi busnes hefyd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r polisi trethiant sydd ganddi i gefnogi busnesau i wneud yn siŵr nad ydym yn gweld swyddi'n cael eu colli ac y gallwn gael pobl yn ôl ar ein strydoedd mawr i wneud yn siŵr eu bod yn ffynnu yn y dyfodol?
Well, Llywydd, as I explained, 85,000 of such properties across Wales already get full or partial business rate relief. The Member will be aware that, last month, the Welsh Government launched a 12-week consultation to introduce differential non-domestic rate multipliers, and the proposal that we put forward is one that will particularly concentrate additional help on high-street retailers. Now, I look forward to the responses to that consultation because, if they are supported, then we will be using, for the first time, a new power that is now available to the Senedd to set those differential multipliers. And my conclusion, in consultation with my officials, was that the first use of those new powers should be to assist those high-street retailers, those bricks-and-mortar retail shops, which, as we know, in recent times have faced competition from online retailers in a way that you might not regard as an entirely level playing field.
Wel, Lywydd, fel yr eglurais, mae 85,000 eiddo o'r fath ledled Cymru eisoes yn cael rhyddhad ardrethi busnes llawn neu rannol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos y mis diwethaf i gyflwyno lluosyddion ardrethi annomestig gwahaniaethol, ac mae'r cynnig a gyflwynwyd gennym yn un a fydd yn targedu cymorth ychwanegol yn arbennig i fanwerthwyr y stryd fawr. Nawr, rwy'n edrych ymlaen at yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw oherwydd, os cânt eu cefnogi, am y tro cyntaf byddwn yn defnyddio pŵer newydd sydd ar gael i'r Senedd bellach i osod y lluosyddion gwahaniaethol hynny. A fy nghasgliad i, mewn ymgynghoriad â fy swyddogion, oedd y dylai'r defnydd cyntaf o'r pwerau newydd hynny gynorthwyo manwerthwyr ar y stryd fawr, y siopau manwerthu ffisegol hynny, sydd, fel y gwyddom, wedi wynebu cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein yn y cyfnod diweddar mewn ffordd nad ydych chi efallai'n ei hystyried yn sefyllfa gwbl deg.
Cabinet Secretary, I welcome the recent consultation to further support our smaller high-street retailers. I have shared it already, and I will be sharing it far and wide in my constituency. I think that we all recognise that our town centres and the way that we shop have changed over the years. I absolutely agree with the rationale to redress the balance in the face of the growth of large online retailers and the impact that they have on those smaller independent retailers that are at the heart of our high streets. I also recognise that it aligns with the collective commitment in the retail action plan to work together to support our retail sector.
I do want to, very briefly, just raise support for the hospitality sector. When I say that, I am not talking about major corporates or pub chains, but those smaller independents that, so much today, from my experience, do drive that footfall into our town centres. Taken together, they are substantial employers. They often support local supply chains. I want to ask the Government to consider how we use the levers that we do have in Wales to unlock that potential, and to do so in a way that not only enables the sustainability of that sector, but benefits the local economy, the people that work within it and the places in which they are situated too. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r ymgynghoriad diweddar i roi cefnogaeth bellach i'n manwerthwyr llai ar y stryd fawr. Rwyf eisoes wedi ei rannu, a byddaf yn ei rannu ledled fy etholaeth. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod bod canol ein trefi a'r ffordd yr ydym yn siopa wedi newid dros y blynyddoedd. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r rhesymeg i unioni'r fantol yn wyneb twf manwerthwyr mawr ar-lein a'r effaith y maent yn ei chael ar fanwerthwyr annibynnol llai sydd wrth galon ein strydoedd mawr. Rwyf hefyd yn cydnabod ei fod yn cyd-fynd â'r ymrwymiad cyfunol yn y cynllun gweithredu manwerthu i weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein sector manwerthu.
Yn gryno iawn, rwyf am ennyn cefnogaeth i'r sector lletygarwch. Pan fyddaf yn dweud hynny, nid wyf yn sôn am gwmnïau mawr neu gadwyni tafarndai, ond y cwmnïau annibynnol llai sydd i'r fath raddau heddiw, yn fy mhrofiad i, yn chwyddo nifer yr ymwelwyr â chanol ein trefi. Gyda'i gilydd, maent yn gyflogwyr sylweddol. Maent yn aml yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Rwyf am ofyn i'r Llywodraeth ystyried sut y defnyddiwn yr ysgogiadau sydd gennym yng Nghymru i ddatgloi'r potensial hwnnw, ac i wneud hynny mewn ffordd sydd nid yn unig yn galluogi cynaliadwyedd y sector hwnnw, ond sydd o fudd i'r economi leol, y bobl sy'n gweithio ynddi a'r lleoedd lle maent wedi'u lleoli hefyd. Diolch.
I thank Hannah Blythyn, Llywydd, and I agree completely with her. I recall very vividly visits that I have made with her to towns like Mold and to Holywell, where those independent high-street retailers give a character to an area, which attracts visitors to it and makes those high streets thrive. The point that she makes is about going beyond our current proposals, which are for high-street retailers rather than the hospitality industry. Of course, I hope that those points will be made by those who support them as part of the consultation exercise. One of the challenges that those who advocate that position will face is how to create a definition that, in law, would allow you to distinguish between the sort of leisure activity that, I think, the Member would not wish to see captured and those that she would wish to see captured. I think we have a definition in relation to high-street retailers that can be made to work. Can we find a similar definition that works in relation to hospitality?
Diolch i Hannah Blythyn, Lywydd, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hi. Rwy'n cofio'n glir iawn ymweliadau a wneuthum gyda hi â threfi fel yr Wyddgrug a Threffynnon, lle mae'r manwerthwyr annibynnol hynny ar y stryd fawr yn rhoi cymeriad i ardal, yn denu ymwelwyr iddi ac yn gwneud i'r strydoedd mawr hynny ffynnu. Mae'r pwynt y mae hi'n ei wneud yn mynd y tu hwnt i'n cynigion presennol, sydd ar gyfer manwerthwyr y stryd fawr yn hytrach na'r diwydiant lletygarwch. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio y bydd y pwyntiau hynny'n cael eu gwneud gan y rhai sy'n eu cefnogi fel rhan o'r ymarfer ymgynghori. Un o'r heriau y bydd y rhai sy'n dadlau dros y safbwynt hwnnw'n eu hwynebu yw sut i greu diffiniad a fyddai, yn y gyfraith, yn caniatáu ichi wahaniaethu rhwng y math o weithgaredd hamdden na fyddai'r Aelod yn dymuno ei weld yn cael ei gynnwys a'r rhai y byddai'n dymuno eu gweld yn cael eu cynnwys. Rwy'n credu bod gennym ddiffiniad mewn perthynas â manwerthwyr y stryd fawr a allai weithio. A allwn ni ddod o hyd i ddiffiniad tebyg sy'n gweithio mewn perthynas â lletygarwch?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth i ddiogelu’r iaith Gymraeg yn y sector amaethyddol? OQ62790
6. Will the Cabinet Secretary outline the Government's plans to safeguard the Welsh language in the agricultural sector? OQ62790
Diolch yn fawr. Mae gan y diwydiant amaeth gyfraniad pwysig i'w wneud i gynaliadwyedd y Gymraeg a'i ffyniant o fewn ein cymunedau. Rydyn ni, felly, yn rhoi ystyriaeth lawn i'r Gymraeg ymhob elfen o'n polisïau amaethyddol.
Thank you very much. The agricultural sector has a vital contribution to make to the sustainability of the Welsh language and its prosperity within our communities. We, therefore, give full consideration to the Welsh language in all elements of our agricultural policies.
Diolch i chi am hynny. Wrth gwrs, mi wnaeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg hefyd ategu pwysigrwydd hynny yn ei adroddiad, gydag un o'i argymhellion yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisïau amaethyddol—rhywbeth yr ydych chi wedi'i ategu nawr.
Ond mae yna ofid, wrth gwrs, yn sgil cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar dreth etifeddiant. Os ydy hwnnw'n codi cwestiwn ar hyfywedd ffermydd teuluol wrth drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall, yna mae hynny'n mynd i godi cwestiwn ynglŷn â chynaliadwyedd yr iaith Gymraeg wrth drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall, a gallu'r unigolion yna i aros yn eu cymunedau ac i barhau i fod yn rhan o'r sector. Felly, a gaf i ofyn i chi gyflwyno achos i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i edrych eto ar eu bwriad nhw o safbwynt y dreth etifeddiant, er mwyn rhoi ystyriaeth benodol i oblygiadau hynny o safbwynt yr iaith Gymraeg?
Thank you for that. Of course, the Commission for Welsh-speaking Communities endorsed the importance of that in their report, with one of the recommendations noting that the Welsh Government should ensure that the Welsh language is a central consideration in agricultural policy, which is something that you have just echoed.
But there is a concern in light of the UK Government's proposals on inheritance tax. If that raises questions about the viability of family farms as they transfer from one generation to the next, then it is going to raise a question about the sustainability of the Welsh language in transferring from one generation to the next, and the ability of those individuals to stay in their communities and to continue to be part of the sector. So, can I ask you to make the case to the UK Government to look again at their intention in terms of the inheritance tax, in order to give specific consideration to the implications of that for the Welsh language?
Dirprwy Lywydd, dwi'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi gwneud hynny yn barod. Mae wedi ysgrifennu at Weinidogion yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan roi gwybodaeth iddyn nhw am y sefyllfa yma yng Nghymru. Dwi'n siŵr y bydd e'n awyddus i gario ymlaen i wneud hynny ac i wneud ar achos am bwysigrwydd y maes i'r iaith Gymraeg.
Dirprwy Lywydd, I know that the Deputy First Minister has done that already. He has written to Ministers in the UK Government, providing them with information about the situation here in Wales. I am sure that he will be eager to continue to make that case for the importance of this issue in terms of the Welsh language.
7. Sut y mae'r Llywodraeth yn annog twf y Gymraeg yn Nwyrain De Cymru? OQ62796
7. How is the Government encouraging the growth of the Welsh language in South Wales East? OQ62796
Drwy ein partneriaid grant, rydym yn cynyddu mynediad at ofal plant cyfrwng Cymraeg, addysg, digwyddiadau cymunedol a dysgu Cymraeg gydol oes yn Nwyrain De Cymru. Mae'r diddordeb mewn dysgu a phrofi'r Gymraeg drwy'r llwybrau hyn ar ei uchaf erioed. Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cefnogi'r twf hwnnw ymhellach.
Through our funded partners, we are increasing access to Welsh-medium childcare, education, community-focused events and adult learning in South Wales East. Participation in learning and experiencing the Welsh language through these avenues has never been higher. The Welsh Language and Education (Wales) Bill will further support that growth.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Buaswn i'n licio datgan buddiant, sef fy mod i'n aelod of fwrdd menter iaith yn fy rhanbarth ac yn aeold o bwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd 2027.
Yr wythnos diwethaf, fe gawson ni'r fraint o fynychu Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam, a rhaid dweud roedd o'n brofiad gwych cerdded o gwmpas y maes, yn y glaw ac yn yr haul, a gweld cymaint o bobl ifanc, teuluoedd ac athrawon yn dod at ei gilydd i ddathlu'r Gymraeg, ac roedd yn gadarnhad clir o gryfder yr iaith pan fydd hi'n cael ei chefnogi'n iawn. Roedd yn arbennig o galonogol clywed cymaint o ddysgwyr, yn ogystal â siaradwyr rhugl, yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol ym mhob agwedd o'r ŵyl.
Rwy'n falch dros ben o'r cyhoeddiad y bydd yr Eisteddfod yn teithio i Gasnewydd yn 2027—y tro cyntaf erioed i'r ŵyl gael ei chynnal yno yn ei bron i ganrif o hanes. Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol i'r ddinas ac yn gyfle arbennig i gryfhau statws y Gymraeg yng Nghasnewydd a'r de-ddwyrain yn ehangach. Fodd bynnag, o ystyried bod canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, hoffwn ofyn: sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod buddion cynnal Eisteddfod yr Urdd yn y ddinas yn mynd y tu hwnt i'r wythnos ei hun, a sut y byddwch yn gweithio gyda'r Urdd, mentrau iaith, yr awdurdod lleol a chymunedau lleol ac eraill i sicrhau bod y Gymraeg yn gadael gwaddol parhaol yn yr ardal, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a dysgwyr?
Thank you very much for that response. I would like to declare an interest as a member of the board of a menter iaith in my region, and as a member of the working committee for the Urdd Eisteddfod in 2027.
Last week, we had the privilege of attending the Urdd Eisteddfod in Margam Park, and I have to say it was a wonderful experience walking around the field, in sunshine and rain, and seeing so many young people, families and teachers coming together to celebrate the Welsh language, which was clear confirmation of the strength of the Welsh language when it's properly supported. It was particularly encouraging to hear so many Welsh learners, as well as fluent speakers, using the Welsh language naturally in all aspects of the festival.
I'm particularly pleased at the announcement that the Eisteddfod will be travelling to Newport in 2027—the first time that the festival has ever been held there in its almost 100-year history. This is a significant milestone for the city and is a great opportunity to strengthen the status of the Welsh language in Newport and the south-east more broadly. But given that the percentage of Welsh speakers in Newport is lower than the national average, I would like to ask: how does the Government intend to ensure that the benefits of holding the Urdd Eisteddfod in the city will go beyond the week itself, and how will you work with the Urdd, the mentrau iaith, the local authority and local communities and others in order to ensure that the Welsh language leaves a permanent legacy in that area, particularly among young people and learners?
Diolch yn fawr i Peredur Owen Griffiths am y cwestiwn. Dirprwy Lywydd, dwi'n cytuno gyda fe—mae'n bwysig dathlu y bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â Chasnewydd yn 2027, a dwi'n siŵr y bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael effaith bositif hirdymor ar y ddinas, ond hefyd ar y rhanbarth cyfan. Mae enghraifft dda gennym ni'n barod, onid oes? Nid jest yr un yr wythnos diwethaf, ond yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, lle roedd pob un yn gweithio gyda'i gilydd nid jest am wythnos yr ŵyl, ond i greu pethau hirdymor. Dwi wedi bod nôl i Bontypridd, fwy na mis yn ôl nawr, i ddathlu gyda phobl leol y pethau sydd wedi parhau ar ôl yr Eisteddfod, i gael yr effaith bositif yna. Dwi'n siŵr y bydd yr Urdd, y mentrau iaith ac yn y blaen, eisiau defnyddio'r cyfle y bydd Eisteddfod yr Urdd yn ei roi i Gasnewydd i greu pethau yn yr hirdymor fel yna.
I thank Peredur Owen Griffiths for that question. Dirprwy Lywydd, I agree with him—it's important to celebrate the fact that the Urdd Eisteddfod will be visiting Newport in 2027, and I'm sure that the Urdd Eisteddfod will have a long-term positive impact on the city, but also on the region as a whole. We have a very good example already, don't we? Not just the Eisteddfod last week, but the National Eisteddfod in Pontypridd, where everyone worked together not just for the week of the festival itself, but to create those long-term impacts. And I've been back to Pontypridd, more than a month ago now, to celebrate with local people the things that have continued after the Eisteddfod, to have that positive effect. I'm sure that the Urdd, the mentrau iaith and so on, will want to use this opportunity that the Urdd Eisteddfod will offer Newport to create those long-term impacts in that way.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Joyce Watson.
And finally, question 8, Joyce Watson.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ardrethi annomestig ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig eu maint? OQ62788
8. Will the Cabinet Secretary make a statement on non-domestic rates for small to medium sized retailers? OQ62788
We continue to provide significant non-domestic rates support for small to medium-sized retailers through our range of fully funded relief schemes. We are also consulting on the proposal to introduce a lower multiplier for small to medium-sized retailers, to rebalance the non-domestic rates system in their favour from 2026-27 onwards.
Rydym yn parhau i ddarparu cymorth sylweddol o ran ardrethi annomestig i fanwerthwyr bach a chanolig drwy ein hamrywiaeth o gynlluniau rhyddhad a ariennir yn llawn. Rydym hefyd yn ymgynghori ar y cynnig i gyflwyno lluosydd is ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig, er mwyn ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig o'u plaid o 2026-27 ymlaen.
Thank you, Cabinet Secretary. There has, of course, been a lot of discussion before my question on the proposed benefit, post consultation, of lowering that rate, and it could be up to 13,000 retail properties across Wales. So, rebalancing the rates system in favour of smaller shops would definitely boost the high street in most of my region. We have an awful lot of wonderful small shops, and I'm sure you frequent them when you visit my area yourself.
But the other side of that, of course, is we've heard concerns being expressed about the changes that would hit hospitality, businesses and larger shops. Hannah Blythyn, my colleague and neighbour here, mentioned that previously. So, we need to allay those fears now before people get so anxious that it causes them distress.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, bu llawer o drafod cyn fy nghwestiwn ar y budd arfaethedig, ar ôl yr ymgynghoriad, o ostwng y gyfradd honno, a gallai fod yn berthnasol i hyd at 13,000 o eiddo manwerthu ledled Cymru. Felly, byddai ailgydbwyso'r system ardrethi o blaid siopau llai yn sicr yn rhoi hwb i'r stryd fawr yn y rhan fwyaf o fy rhanbarth. Mae gennym lawer iawn o siopau bach gwych, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymweld â hwy pan fyddwch yn ymweld â fy ardal.
Ond yr ochr arall i hynny, wrth gwrs, yw'r pryderon y clywsom eu mynegi ynglŷn â'r newidiadau a fyddai'n effeithio ar letygarwch, busnesau a siopau mwy. Soniodd Hannah Blythyn, fy nghyd-Aelod a fy nghymydog yma, am hynny yn gynt. Felly, mae angen inni dawelu'r ofnau hynny nawr cyn i bobl fynd mor bryderus fel bod hyn yn peri gofid iddynt.
Thanks, Joyce Watson, for that. I'm grateful for the chance to mention that I spent a very enjoyable morning in Narberth recently at the proclamation of the National Eisteddfod there, and Narberth is a really fine example, isn't it, of a thriving local town with a high street genuinely full of independent retailers.
I want to be clear that there is nothing in the proposals that the Welsh Government has made that would disadvantage hospitality organisations. What we are proposing is a multiplier system in which the additional help that we propose making for shops, kiosks or post offices is paid for by an additional sum of money levied through the very large retailers. It's not taking money out of hospitality in order to provide more help to retailers. So, I hope we can reassure people that that's not part of the proposal.
At the end of this, Dirprwy Lywydd, we would for the first time have three different multipliers in Wales. It's a result of the powers that come to the Senedd through the Local Government Finance (Wales) Act 2024. I think that we will be able to go on having conversations about how we can use that new tool in future. I'm keen that we use it in the first year that it's available. I am keen that we use it in a way that allows the system to settle in. It will be a big change for non-domestic ratepayers as well as the collection system. That's why we've made the rather specific proposal we have made, but I think that that can be a start of that wider conversation about how that new policy tool can allow us to go on helping those businesses who make such a difference in those different localities in all parts of Wales, and particularly in the Member's constituency.
Diolch, Joyce Watson. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddweud fy mod wedi treulio bore pleserus iawn yn Arberth yn ddiweddar yn seremoni gyhoeddi'r Eisteddfod Genedlaethol yno, ac mae Arberth yn enghraifft wych iawn, onid yw, o dref leol lewyrchus a chanddi stryd fawr sy'n llawn o fanwerthwyr annibynnol.
Hoffwn nodi'n glir nad oes unrhyw beth yng nghynigion Llywodraeth Cymru a fyddai'n anfantais i sefydliadau lletygarwch. Yr hyn rydym yn ei gynnig yw system luosydd lle mae swm ychwanegol o arian a godir drwy'r manwerthwyr mawr iawn yn talu am y cymorth ychwanegol rydym yn cynnig ei ddarparu i siopau, ciosgau neu swyddfeydd post. Nid yw'n golygu mynd ag arian o letygarwch er mwyn rhoi mwy o gymorth i fanwerthwyr. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn roi sicrwydd i bobl nad yw hynny'n rhan o'r cynnig.
Ar ddiwedd hyn, Ddirprwy Lywydd, am y tro cyntaf, byddai gennym dri lluosydd gwahanol yng Nghymru. Mae hynny o ganlyniad i'r pwerau sy'n dod i'r Senedd drwy Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Credaf y byddwn yn gallu parhau i gael sgyrsiau ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio'r offeryn newydd hwnnw yn y dyfodol. Rwy'n awyddus i ni ei ddefnyddio yn y flwyddyn gyntaf y bydd ar gael. Rwy'n awyddus i ni ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n caniatáu i'r system ymsefydlu. Bydd yn newid mawr i dalwyr trethi annomestig yn ogystal â'r system gasglu. Dyna pam ein bod wedi gwneud y cynnig eithaf penodol a wnaethom, ond credaf y gall hynny fod yn ddechrau ar sgwrs ehangach ynglŷn â sut y gall yr offeryn polisi newydd hwnnw ganiatáu inni barhau i helpu busnesau sy'n gwneud gwahaniaeth mor fawr yn y gwahanol leoliadau ym mhob rhan o Gymru, ac yn enwedig yn etholaeth yr Aelod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae cwestiynau 1 a 2 [OQ62780 a OQ62776] wedi'u tynnu nôl, felly, cwestiwn 3, Andrew R.T. Davies.
Item 3 is questions to the Senedd Commission. Questions 1 and 2 [OQ62780 and OQ62776] have been withdrawn, so I'll turn to question 3, Andrew R.T. Davies.
3. A wnaiff Comisiwn y Senedd ddarparu diweddariad ar ei waith i addasu'r Siambr ar gyfer 96 o aelodau? OQ62793
3. Will the Senedd Commission provide an update on its work to modify the Siambr to accommodate 96 members? OQ62793

Members have been engaged and consulted throughout the design process in the form of a Member reference group made up of Senedd Commissioners; Members of all political parties; architects, RSHP; and contractors, CBRE. All Members have had the opportunity to engage via drop-in sessions, which were well attended, and briefings for all party groups by Commission officials. The timetable for the works has seen the Senedd move its Plenary proceedings to this temporary Chamber, and that happened as from Easter 2025 until February 2026.
The Commission has awarded the contract for the Siambr 2026 building works to a local Welsh contractor following a competitive tender process. The works have commenced and are on track. The cross-party Member reference group for this project has met to receive a progress update and to discuss any issues arising. That also met yesterday, and all political parties represented in this Chamber were included in that meeting.
Ymgysylltwyd ac ymgynghorwyd ag Aelodau drwy gydol y broses gynllunio ar ffurf grŵp cyfeirio Aelodau sy'n cynnwys Comisiynwyr y Senedd; Aelodau o bob plaid wleidyddol; penseiri, RSHP; a chontractwyr, CBRE. Mae pob Aelod wedi cael cyfle i ymgysylltu drwy sesiynau galw heibio, a fynychwyd gan lawer o bobl, a briffiau i bob plaid gan swyddogion y Comisiwn. Mae amserlen y gwaith wedi golygu bod y Senedd wedi symud trafodion ei Chyfarfod Llawn i'r Siambr dros dro hon, a hynny o'r Pasg 2025 tan fis Chwefror 2026.
Mae'r Comisiwn wedi dyfarnu'r contract ar gyfer gwaith adeiladu Siambr 2026 i gontractwr Cymreig lleol yn dilyn proses dendro gystadleuol. Mae'r gwaith wedi dechrau ac ar y trywydd iawn. Mae'r grŵp cyfeirio Aelodau trawsbleidiol ar gyfer y prosiect hwn wedi cyfarfod er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac i drafod unrhyw faterion sy'n codi. Cyfarfu'r grŵp ddoe hefyd, a chafodd pob plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Siambr hon eu cynnwys yn y cyfarfod hwnnw.
Thank you, Commissioner. That's the most comprehensive answer I've had from the lectern, I think, in fairness. There must be something in the air. Perhaps the First Minister needs to pay attention to your capabilities. [Laughter.]
Commissioner, there's a difference of opinion whether we should have 96 Members or not, and I accept that two thirds of this Senedd voted to have the 96 Members. So, the work is progressing, hence that's why we're sitting in this Chamber. But can you confirm, additional to the answer you've given me, that the reconfiguration will be undertaken within budget and within time frame, as you specified there? Because I think the plan is for Members to return for the latter part of February 2026 and March 2026. So, can you confirm that the plans are to budget and also to time?
Diolch, Gomisiynydd. Credaf mai dyna'r ateb mwyaf cynhwysfawr a gefais o'r ddarllenfa, a bod yn deg. Mae'n rhaid bod rhywbeth yn yr awyr. Efallai fod angen i'r Prif Weinidog dalu sylw i'ch galluoedd. [Chwerthin.]
Gomisiynydd, mae gwahaniaeth barn ynglŷn ag a ddylem gael 96 Aelod ai peidio, ac rwy'n derbyn bod dwy ran o dair o'r Senedd hon wedi pleidleisio i gael y 96 Aelod. Felly, mae'r gwaith yn mynd rhagddo, dyna pam ein bod yn eistedd yn y Siambr hon. Ond a allwch chi gadarnhau, yn ogystal â'r ateb rydych chi wedi'i roi i mi, y bydd y gwaith ad-drefnu'n cael ei gwblhau o fewn y gyllideb ac o fewn yr amserlen, fel y'i nodwyd gennych? Oherwydd credaf mai'r cynllun yw i'r Aelodau ddychwelyd ar gyfer rhan olaf mis Chwefror 2026 a mis Mawrth 2026. Felly, a allwch chi gadarnhau bod y cynlluniau o fewn y gyllideb a hefyd ar amser?
On the issue of time, we had in the Members reference group yesterday a clear indication that February is on target. There are obviously snagging issues that will need to take place at the end of the process, but that looks to be completed by a recant in February 2025.
With regard to the cost, the resource impact assessment that was set out for the legislation that was passed to introduce Senedd reform was undertaken before we knew what the content of the legislation was going to exactly be. So, getting that exactly on target with the RIA would certainly be a challenge. But if you listened to the budget I delivered last year for the Senedd Commission, you'll see that it was within 8 per cent. Given the fact that that extra information came after the legislation, I think that's a pretty good hit to that target.
Ar yr amser, cawsom ni yng ngrŵp cyfeirio'r Aelodau ddoe arwydd clir fod mis Chwefror ar y trywydd iawn. Yn amlwg, mae problemau y bydd angen eu datrys ar ddiwedd y broses, ond ymddengys y bydd hynny wedi'i gwblhau erbyn yr ailgynnull ym mis Chwefror 2025.
Ar y gost, cynhaliwyd yr asesiad o'r effaith ar adnoddau a osodwyd ar gyfer y ddeddfwriaeth a basiwyd i ddiwygio'r Senedd cyn inni wybod beth yn union fyddai cynnwys y ddeddfwriaeth. Felly, byddai cyflawni hynny yn union ar y targed gyda'r asesiad o'r effaith ar adnoddau yn sicr yn her. Ond os gwrandewch ar y gyllideb a gyflwynais y llynedd ar gyfer Comisiwn y Senedd, fe welwch ei fod o fewn 8 y cant. O ystyried y ffaith bod y wybodaeth ychwanegol honno wedi dod ar ôl y ddeddfwriaeth, rwy'n credu bod hynny'n eithaf agos ati o ran y targed hwnnw.
The changes to the Chamber are an opportunity to look again at how friendly it is to disabled Members, staff and the public, and I wondered whether any engagement has taken place with disabled people and disabled charities to ensure the systems are in place that are suitable for those that need them, because it does seem a good opportunity to reassess all that. It's very encouraging that we know that there'll be better BSL provision in the Chamber.
Mae'r newidiadau i'r Siambr yn gyfle i edrych eto ar ba mor gyfeillgar ydyw i Aelodau, staff ac aelodau'r cyhoedd sy'n anabl, ac roeddwn i'n meddwl tybed a gafwyd unrhyw ymgysylltiad â phobl anabl ac elusennau pobl anabl i sicrhau bod systemau ar waith sy'n addas i'r rhai sydd eu hangen, gan ei bod yn ymddangos bod hwn yn gyfle da i ailasesu hynny i gyd. Mae'n galonogol iawn ein bod yn gwybod y bydd gwell darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain yn y Siambr.
That question was raised in the Members reference group yesterday by Jane Dodds. She was very concerned to see exactly what you're talking about, and we received reassurances as well, including from the design consultants and the architects. They've actually got a disability consultant engaged in the process, and it will be a fully accessible Chamber. It'll be better than the Chamber was previously. There will be ramps and the incline of the desks will be slightly lower, and that will be to accommodate disability access as well. So, it's been at the forefront of the designers' minds as this process has gone on, and I think you will be pleased with the result.
Codwyd y cwestiwn hwnnw yng ngrŵp cyfeirio'r Aelodau ddoe gan Jane Dodds. Roedd yn awyddus iawn i weld yn union yr hyn rydych chi'n sôn amdano, a chawsom sicrwydd hefyd, gan gynnwys gan yr ymgynghorwyr cynllunio a'r penseiri. Mae ganddynt ymgynghorydd anabledd yn rhan o'r broses mewn gwirionedd, a bydd yn Siambr gwbl hygyrch. Bydd yn well na'r Siambr fel yr oedd o'r blaen. Bydd yna rampiau, a bydd gogwydd y desgiau ychydig yn is, a hynny er mwyn darparu ar gyfer mynediad i bobl anabl hefyd. Felly, mae wedi bod yn flaenoriaeth i'r cynllunwyr wrth i'r broses hon fynd rhagddi, ac rwy'n credu y byddwch yn falch o'r canlyniad.
Diolch i'r Comisiynydd.
I thank the Commissioner.
Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi eu derbyn heddiw.
No topical questions have been accepted today.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. A bydd y datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.
So, we'll move on to item 5, the 90-second statements. And the first statement will be from Jenny Rathbone.
This Sunday is the forty-third anniversary of the Sir Galahad disaster. My constituents Karen Edwards and Dawn Newbury mourn the loss of their brother Stephen Newbury, missing, presumed dead. They testify that their father went to an early death, plagued by the unanswered questions surrounding Lance Corporal Newbury's sacrifice. Fellow Welsh Guardsman Simon Weston is the ultimate survivor, despite 46 degree burns. Everywhere he goes, people want to speak to him or get a selfie in recognition of his courage and his commitment to many good causes, including justice for the Welsh Guards.
Survivors and the bereaved need to know why the Welsh Guards and other personnel were left on board an undefended ship for five hours in broad daylight in full view of the enemy. They have been cynically told that they must wait until 2065 for the conclusions of a 1982 board of inquiry to be published. Amongst the evidence that has been reclassified as no longer secret is the assertion that tactical control of ship-to-shore movements was delegated to the command of the 5th Infantry Brigade. The army had absolutely no control of the logistics to get them to the front line, and this is a complete fabrication by the overall commander of the Falklands campaign, Admiral Fieldhouse, no less. We need to learn from our mistakes, not bury them, particularly if we want to reverse the decline in recruitment and retention of people willing to serve in the military. That is why we now need a court martial so the truth can be told.
Ddydd Sul, bydd yn 43 mlynedd ers trychineb Sir Galahad. Mae fy etholwyr Karen Edwards a Dawn Newbury yn galaru dros eu brawd Stephen Newbury, a gollwyd, ac y tybir ei fod wedi marw. Maent yn tystio i'w tad farw'n gynamserol, wedi ei blagio gan gwestiynau heb eu hateb ynghylch aberth yr Is-gorporal Newbury. Ei gyd-aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, Simon Weston, yw'r goroeswr eithaf, er gwaethaf llosgiadau i 46 y cant o'i gorff. Ym mhobman yr â, mae pobl eisiau siarad ag ef neu dynnu hunlun i gydnabod ei ddewrder a'i ymrwymiad i lawer o achosion da, gan gynnwys cyfiawnder i'r Gwarchodlu Cymreig.
Mae angen i oroeswyr a'r rhai sydd wedi cael profedigaeth wybod pam y gadawyd y Gwarchodlu Cymreig a phersonél eraill ar fwrdd llong heb ei hamddiffyn am bum awr yng ngolau dydd yng ngolwg y gelyn. Dywedwyd wrthynt, yn gwbl sinigaidd, fod yn rhaid iddynt aros tan 2065 i gasgliadau bwrdd ymchwilio 1982 gael eu cyhoeddi. Ymhlith y dystiolaeth a ail-gategoreiddiwyd yn dystiolaeth nad yw'n gyfrinachol mwyach y mae'r honiad fod rheolaeth dactegol dros symudiadau o'r llong i'r lan wedi'i dirprwyo i orchymyn Brigâd 5 y Milwyr Traed. Nid oedd gan y fyddin unrhyw reolaeth o gwbl dros y logisteg i'w cludo i'r rheng flaen, ac mae hon yn stori ffug gan neb llai na phrif gomander ymgyrch y Falklands, y Llyngesydd Fieldhouse. Mae angen inni ddysgu o'n camgymeriadau, nid eu claddu, yn enwedig os ydym am wrthdroi'r dirywiad mewn recriwtio a chadw pobl sy'n fodlon gwasanaethu yn y fyddin. Dyna pam fod angen llys milwrol arnom nawr fel y gellir dweud y gwir.
The first week of June is Volunteers Week, and I would like to take this opportunity to remember Graham Benfield OBE, who has recently passed away. Graham was the chief executive of WCVA, the Wales Council for Voluntary Action, for 25 years. He promoted partnership working in every institution in Wales and developed effective relationships across the UK, Europe and globally.
Prior to leading the WCVA, Graham was the chief executive of West Glamorgan council for voluntary services, now known as Swansea council for voluntary service. Graham was ideally suited to the voluntary sector. He was a deep thinker with a compassionate approach, and a real interest in people. He always promoted the value of volunteers and the independence of the sector. Graham worked closely with the Welsh Government, providing invaluable research and data, as well as standing up for overlooked communities. Graham also developed the third sector partnership council, an arrangement that remains unique in the world, where representatives of the voluntary sector meet with Welsh Ministers twice a year and contribute to policy and practice discussions.
Graham retired from the WCVA in 2014, but of course remained active as a volunteer in the sector until very recently. Graham sadly died in March, and a celebration of his life was held at St Illtud's church in Llantwit Major last month, which was attended by the Cabinet Secretary and his local MS, Jane Hutt. Graham leaves his wife, two sons and six grandchildren. His legacy will live on with them and the many people whose lives have been impacted by his vision and commitment.
Wythnos gyntaf mis Mehefin yw Wythnos y Gwirfoddolwyr, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofio Graham Benfield OBE, a fu farw'n ddiweddar. Bu Graham yn brif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am 25 mlynedd. Hyrwyddodd weithio mewn partneriaeth ym mhob sefydliad yng Nghymru a datblygodd gysylltiadau effeithiol ledled y DU, Ewrop a'r byd.
Cyn arwain Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, roedd Graham yn brif weithredwr cyngor gwasanaethau gwirfoddol Gorllewin Morgannwg, a elwir bellach yn gyngor gwasanaethau gwirfoddol Abertawe. Roedd Graham yn gweddu i'r dim i'r sector gwirfoddol. Roedd yn feddyliwr dwfn a chanddo ymagwedd dosturiol, a diddordeb mawr mewn pobl. Roedd bob amser yn hyrwyddo gwerth gwirfoddolwyr ac annibyniaeth y sector. Gweithiodd Graham yn agos gyda Llywodraeth Cymru, gan ddarparu ymchwil a data amhrisiadwy, yn ogystal â sefyll dros gymunedau a oedd yn cael eu hanghofio. Datblygodd Graham gyngor partneriaeth y trydydd sector hefyd, trefniant sy'n parhau i fod yn unigryw yn y byd, lle mae cynrychiolwyr y sector gwirfoddol yn cyfarfod â Gweinidogion Cymru ddwywaith y flwyddyn ac yn cyfrannu at drafodaethau polisi ac ymarfer.
Ymddeolodd Graham o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn 2014, ond wrth gwrs, parhaodd i fod yn weithgar fel gwirfoddolwr yn y sector tan yn ddiweddar iawn. Bu farw Graham ym mis Mawrth, a fis diwethaf, cynhaliwyd dathliad o’i fywyd yn eglwys Sant Illtud yn Llanilltud Fawr a fynychwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet a’i Aelod lleol o'r Senedd, Jane Hutt. Mae Graham yn gadael gwraig, dau fab a chwech o wyrion. Bydd ei waddol yn byw drwyddynt hwy a’r bobl niferus yr effeithiwyd ar eu bywydau gan ei weledigaeth a’i ymroddiad.
This weekend, on Sunday 8 June, we will celebrate World Ocean Day. Here in Wales, around 68 per cent of people live in coastal areas, and eight out of 10 people say that visiting the sea is good for their mental health. It's where we go to think, to breathe and to feel at one with nature.
I welcome the United Nations ocean global treaty on the high seas, agreed in 2023, which covers areas beyond national jurisdiction under the UN convention. The UK Government is a signatory on behalf of devolved Governments. Sir David Attenborough's latest film on oceans highlights the decline in life in the world's oceans and their importance to the planet's support system.
The ocean clearly has a huge effect on our lives and yet it is under threat. Fewer than half of our marine protected areas are in a favourable condition. We are still waiting for a consultation on marine conservation zones. The Marine Conservation Society's Beachwatch data showed a 4 per cent increase in the average amount of litter found on Welsh beaches in 2024. The ocean does so much for us, and I wonder what we can do in return.
Let's remind ourselves this World Ocean Day of what we can do. We need to protect what we say is protected, ensuring our MPAs live up to their name. We need to see effective litter policies that go beyond recycling policies, which tackle waste at its source. And we need to see better marine spatial planning, to ensure we aren't addressing climate change at the expense of nature. Because the ocean is not simply a backdrop to our lives; it sustains us, it inspires us, and it needs us. So, let's make sure we're giving back not just this World Ocean Day, but every day.
Y penwythnos hwn, dydd Sul 8 Mehefin, byddwn yn dathlu Diwrnod Cefnforoedd y Byd. Yma yng Nghymru, mae oddeutu 68 y cant o bobl yn byw mewn ardaloedd arfordirol, ac mae wyth o bob 10 o bobl yn dweud bod ymweld â'r môr yn dda i'w hiechyd meddwl. Dyna ble'r awn i feddwl, i anadlu ac i deimlo'n un â natur.
Rwy'n croesawu cytuniad cefnforoedd byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar y moroedd mawr, a gytunwyd yn 2023, sy'n cwmpasu ardaloedd y tu hwnt i awdurdodaeth genedlaethol o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig. Mae Llywodraeth y DU yn un o'r llofnodwyr ar ran y Llywodraethau datganoledig. Mae ffilm ddiweddaraf Syr David Attenborough ar gefnforoedd yn tynnu sylw at y dirywiad ym mywyd cefnforoedd y byd a'u pwysigrwydd i'r system sy'n cynnal y blaned.
Mae'n amlwg fod y cefnfor yn cael effaith enfawr ar ein bywydau, ac eto, mae o dan fygythiad. Mae llai na hanner ein hardaloedd morol gwarchodedig mewn cyflwr ffafriol. Rydym yn dal i aros am ymgynghoriad ar barthau cadwraeth morol. Dangosodd data Beachwatch y Gymdeithas Cadwraeth Forol gynnydd o 4 y cant yn y lefelau sbwriel cyfartalog ar draethau Cymru yn 2024. Mae'r cefnfor yn gwneud cymaint i ni, ac rwy'n meddwl tybed beth y gallwn ni ei wneud yn ôl.
Gadewch inni atgoffa ein hunain ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd o'r hyn y gallwn ei wneud. Mae angen inni ddiogelu'r hyn y dywedwn sy'n warchodedig, gan sicrhau bod ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig yn gwneud cyfiawnder â'u henw. Mae angen inni weld polisïau sbwriel effeithiol sy'n mynd y tu hwnt i bolisïau ailgylchu, ac sy'n mynd i'r afael â gwastraff wrth ei ffynhonnell. Ac mae angen inni weld gwell cynllunio gofodol morol, er mwyn sicrhau nad ydym yn mynd i'r afael â newid hinsawdd ar draul natur. Oherwydd nid dim ond cefndir yn unig i'n bywydau yw'r cefnfor; mae'n ein cynnal, mae'n ein hysbrydoli, ac mae arno ein hangen. Felly, gadewch inni sicrhau ein bod yn rhoi yn ôl nid yn unig ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd, ond bob dydd.
Diolch, bawb.
Thank you, all.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar ddeiseb P-06-1476, 'Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Carolyn Thomas.
Item 6 is next, the debate on petition P-06-1476, '1000 meter mandatory buffer zone for all new and existing quarries'. I call on the Chair of the committee to move the motion. Carolyn Thomas.
Cynnig NDM8910 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1476, 'Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol', a gasglodd 11,473 o lofnodion.
Motion NDM8910 Carolyn Thomas
To propose that the Senedd:
Notes the petition P-06-1476 '1000 meter mandatory buffer zone for all new and existing quarries’, which received 11,473 signatures.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch, Deputy Presiding Officer. On behalf of the Petitions Committee, thank you for the opportunity to introduce this debate. The petition was submitted by Monika Golebiewska, and closed on 10 October 2024 with 11,473 signatures. The petition reads:
'Ensure mandatory buffer zone for all new and existing quarries in Wales. We propose at least 1,000.00 meters buffer zone from all residential areas, schools, hospitals, and care facilities. Currently the law allows for quarries to be located as close as 200 meters away from residential areas and schools. This is affecting people's health and causing damage to property. The bigger buffer zone we can have the better.'
We met the petitioners last November, and their evidence about the impact of the Craig-yr-Hesg quarry on their lives was very powerful. Monika said, 'I'm worried about my health and structural damage to my home.' Young people from Glyncoch had helped gather over 11,000 signatures, showing the strength of local feeling. Although we debated Heledd Fychan's legislative proposal for quarry buffer zones in October, the committee thought it was important for Members to consider the further evidence we have received. I'm grateful to the Cabinet Secretary, the leader of Rhondda Cynon Taf County Borough Council, quarry owners Heidelberg Materials and the petitioners for their evidence.
We were also contacted by the Mineral Products Association, representing the bulk of operators in Wales. In the interest of balance, I was happy to meet with them before today's debate to hear their concerns about how mandatory buffer zones could affect an industry that employs around 4,000 people and provides vital materials to the Welsh construction industry.
The challenge here is how we safeguard the health and well-being of communities, particularly our most deprived and vulnerable citizens, prevent biodiversity loss, and support the Welsh economy. Quarry locations are dictated by where the materials are to be found, and often, quarries predate the communities that have grown up around them. The MPA also point out the technical evidence and environmental impact assessments undertaken before permissions are granted.
But these are people's lives, and we can't turn back the clock. It is the safety of the children on the way to and from school, with quarry lorries going past. It is the worry about airborne dust in communities, with high rates of serious respiratory conditions. It's the fear about the structural damage to homes, and it's the shock people experience when blasting takes place. It's hard to watch a video of vulnerable children being terrified by blasting operations.
Often on the Petitions Committee, we meet people who feel that their voices have not been heard and that the needs of big businesses are being put above their own. Although this petition calls for wide buffer zones for all quarries, it centres on the lived experience of the community at Craig-yr-Hesg quarry. The expansion of operations there has caused great concern, and as a committee we wanted to shine a spotlight on that.
We're also mindful that there are mothballed quarries across Wales that could reopen in future, so this is a live issue in all our communities. The aggregates levy fund was an important mechanism for affected communities to drive some compensatory benefits from quarrying. That fund no longer exists, as it was considered to become unsustainable. European funding for these kinds of community benefits is also gone, so a question for Welsh Government is how to otherwise guarantee ring-fenced funds to compensate communities. Could we see the reintroduction of the aggregates levy fund in Wales?
We also need to ensure the industry does everything possible to mitigate the effects of its activities. Can more be done about the impact of quarry lorries, for example? They have become bigger, they have become heavier, and they have become noisier.
Community liaison groups are vital in areas where there is quarrying. The council say that setting up a group in Glyncoch has not been without its challenges, but I'm pleased this is now happening and that the council has also set up an online portal at the residents' request. I hope everything possible will be done to help residents. Local representatives, public health experts and the operator need to all work together to address local concerns.
The Cabinet Secretary has explained that she does not support legislative changes that could have adverse consequences, and thinks planning policy and guidance is better able to take account of local circumstances, monitor activity and respond to any breaches by operators. I look forward to hearing Members' contributions and also the Cabinet Secretary's response today on what more could be done to show that we are listening to the voices of those most profoundly affected by quarrying activities in Wales. Thank you.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Monika Golebiewska, ac fe gaeodd ar 10 Hydref 2024 gyda 11,473 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn nodi:
'Sicrhau clustogfa orfodol ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol yng Nghymru. Rydym yn cynnig clustogfa o 1,000.00 metr o leiaf oddi wrth yr holl ardaloedd preswyl, ysgolion, ysbytai a chyfleusterau gofal. Ar hyn o bryd mae'r gyfraith yn caniatáu i chwareli gael eu lleoli mor agos â 200 metr i ffwrdd o ardaloedd preswyl ac ysgolion. Mae hyn yn effeithio ar iechyd pobl ac yn achosi difrod i eiddo. Gorau po fwyaf maint y glustogfa y gallwn ei chael.'
Fe wnaethom gyfarfod â'r deisebwyr fis Tachwedd diwethaf, ac roedd eu tystiolaeth am effaith chwarel Craig-yr-Hesg ar eu bywydau yn bwerus iawn. Dywedodd Monika, 'Rwy'n poeni am fy iechyd a'r difrod strwythurol i fy nghartref.' Fe wnaeth pobl ifanc o Lyn-coch helpu i gasglu dros 11,000 o lofnodion, gan ddangos cryfder y teimladau lleol. Er inni drafod cynnig deddfwriaethol Heledd Fychan ar gyfer parthau clustogi mewn chwareli ym mis Hydref, roedd y pwyllgor o'r farn ei bod yn bwysig i'r Aelodau ystyried y dystiolaeth bellach a gawsom. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, perchnogion y chwarel, Heidelberg Materials, a'r deisebwyr am eu tystiolaeth.
Cysylltodd y Gymdeithas Cynhyrchion Mwynol â ni hefyd, fel y sefydliad sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o weithredwyr yng Nghymru. Yn enw cydbwysedd, roeddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â hwy cyn y ddadl heddiw i wrando ar eu pryderon ynghylch sut y gallai parthau clustogi gorfodol effeithio ar ddiwydiant sy'n cyflogi oddeutu 4,000 o bobl ac sy'n darparu deunyddiau hanfodol i ddiwydiant adeiladu Cymru.
Yr her yma yw sut y mae diogelu iechyd a lles cymunedau, yn enwedig ein dinasyddion mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, atal colli bioamrywiaeth, a chefnogi economi Cymru. Mae lleoliadau chwareli yn cael eu pennu yn ôl ble mae'r deunyddiau i'w cael, ac yn aml, mae chwareli'n rhagddyddio'r cymunedau sydd wedi tyfu o'u cwmpas. Mae'r Gymdeithas Cynhyrchion Mwynol hefyd yn tynnu sylw at y dystiolaeth dechnegol a'r asesiadau o'r effaith amgylcheddol a gynhaliwyd cyn rhoi caniatadau.
Ond bywydau pobl yw’r rhain, ac ni allwn droi’r cloc yn ôl. Mae a wnelo hyn â diogelwch y plant ar y ffordd i’r ysgol ac yn ôl, gyda lorïau'r chwarel yn mynd heibio. Mae a wnelo â'r pryder am lwch yn yr awyr mewn cymunedau, gyda chyfraddau uchel o gyflyrau anadlol difrifol. Mae a wnelo â'r ofn am y difrod strwythurol i gartrefi, a’r sioc y mae pobl yn ei chael pan fydd ffrwydradau’n digwydd. Mae’n anodd gwylio fideo o blant agored i niwed yn cael eu brawychu gan weithgarwch ffrwydro.
Yn aml yn y Pwyllgor Deisebau, rydym yn cyfarfod â phobl sy'n teimlo nad yw eu lleisiau wedi cael eu clywed a bod anghenion busnesau mawr yn cael eu rhoi uwchlaw eu hanghenion eu hunain. Er bod y ddeiseb hon yn galw am barthau clustogi eang ar gyfer pob chwarel, mae'n canolbwyntio ar brofiad bywyd y gymuned yn chwarel Craig-yr-Hesg. Mae ymestyn gweithgarwch yno wedi peri cryn bryder, ac fel pwyllgor, roeddem am daflu goleuni ar hynny.
Rydym hefyd yn ymwybodol fod chwareli segur ledled Cymru a allai ailagor yn y dyfodol, felly mae hwn yn fater byw yn ein holl gymunedau. Roedd cronfa'r ardoll agregau yn fecanwaith pwysig i gymunedau yr effeithiwyd arnynt allu sicrhau buddion digolledu o chwarela. Nid yw'r gronfa honno'n bodoli mwyach, gan yr ystyriwyd ei bod yn anghynaliadwy. Mae cyllid Ewropeaidd ar gyfer y mathau hyn o fuddion cymunedol hefyd wedi diflannu, felly cwestiwn i Lywodraeth Cymru yw sut i warantu cronfeydd wedi'u neilltuo i ddigolledu cymunedau. A allem weld cronfa'r ardoll agregau yn cael ei hailgyflwyno yng Nghymru?
Mae angen i ni sicrhau hefyd fod y diwydiant yn gwneud popeth yn ei allu i liniaru effeithiau ei weithgarwch. A ellir gwneud mwy ynglŷn ag effaith lorïau chwarel, er enghraifft? Maent yn fwy o faint bellach, maent yn drymach, ac maent yn fwy swnllyd.
Mae grwpiau cyswllt â chymunedau yn hanfodol mewn ardaloedd lle ceir chwarela. Dywed y cyngor nad yw'r gwaith o sefydlu grŵp yng Nglyn-coch wedi bod heb ei heriau, ond rwy'n falch fod hyn yn digwydd nawr a bod y cyngor hefyd wedi sefydlu porth ar-lein ar gais y trigolion. Rwy'n gobeithio y bydd popeth posibl yn cael ei wneud i helpu trigolion. Mae angen i gynrychiolwyr lleol, arbenigwyr iechyd y cyhoedd a'r gweithredwr gydweithio i fynd i'r afael â phryderon lleol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi egluro nad yw'n cefnogi newidiadau deddfwriaethol a allai gael canlyniadau andwyol, ac yn credu bod polisi a chanllawiau cynllunio yn gallu ystyried amgylchiadau lleol, monitro gweithgarwch ac ymateb yn well i unrhyw achos o dorri rheolau gan weithredwyr. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau a hefyd at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet heddiw ynglŷn â beth arall y gellid ei wneud i ddangos ein bod yn gwrando ar leisiau'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan weithgarwch chwarela yng Nghymru. Diolch.
I fully support the existence of buffer zones between quarries and residential areas, schools, hospitals and care facilities. It is important that we recognise and continue to remember the fact that quarrying not only has an environmental impact but also has an impact on those who live and work by them, and it is necessary to ensure public safety.
We have seen time and again in Wales, and most recently for those living in Glyncoch near Craig-yr-Hesg quarry, situations whereby the local community is unnecessarily impacted by quarrying activity, and it is right that the situation is properly looked into. As such, I can certainly see why this petition has been brought forward and has had such strong support. The community feel a strong sense that the quarry is not sympathetic to the impact it is having, especially during blasting, where the noise and sometimes the tremors are felt throughout the village and the wider local area.
I have myself visited several quarries over the years, including Craig-yr-Hesg, and I've met with quarry management staff. I've also met with residents concerned about the impact that quarrying has had on the local area. For both sides of the fence, I can see the concerns and I believe much more needs to be done in terms of reconciliation and to mitigate the effects of the industry on the surrounding communities. I think this is true for many industries, not just quarrying.
Dirprwy Lywydd, it is important that businesses that have an impact on their environment and on the communities that we live and work in around them are sensitive to the disruption that they may cause. But we also have to be mindful of how quarrying is an essential part of our economy. I therefore believe there needs to be a greater effort by those who manage quarries to be coexistent and not in conflict with the communities that live near them.
Wales has over 2,500 people employed in the mining and quarrying sector, and provides over £170 million to the Welsh economy. It is important that we do not lose these jobs, but it is equally important that communities do not have to live at the mercy of quarrying activities, which can have substantial negative impacts in terms of noise, dust and traffic.
In terms of quarrying and other similar industries, they have a limited choice where they operate, and if communities want employment or want jobs, they also need to engage and form a good working relationship, one that enables both parties to thrive. Minimum buffer zones are a good place to start, and I think there is potential for other provisions to be included that could help communities and quarries exist together in co-operation. I therefore urge the Members here to note this petition. Thank you.
Rwy'n llwyr gefnogi bodolaeth parthau clustogi rhwng chwareli ac ardaloedd preswyl, ysgolion, ysbytai a chyfleusterau gofal. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod ac yn parhau i gofio bod chwarela nid yn unig yn effeithio ar yr amgylchedd ond hefyd ar y rhai sy'n byw ac yn gweithio wrth eu hymyl, ac mae angen sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Rydym wedi gweld dro ar ôl tro yng Nghymru, ac yn fwyaf diweddar i'r rhai sy'n byw yng Nglyn-coch ger chwarel Craig-yr-Hesg, sefyllfaoedd lle mae'r gymuned leol yn cael ei heffeithio'n ddiangen gan weithgarwch chwarela, ac mae'n iawn fod y sefyllfa'n cael ei hymchwilio'n drylwyr. O'r herwydd, rwy'n sicr yn gweld pam fod y ddeiseb hon wedi'i chyflwyno ac wedi cael cefnogaeth mor gref. Mae'r gymuned yn teimlo'n gryf nad yw'r chwarel yn cydymdeimlo â phobl ynghylch yr effaith y mae'n ei chael, yn enwedig yn ystod y ffrwydradau, lle mae'r sŵn ac weithiau'r cryndod yn cael eu teimlo drwy'r pentref a'r ardal leol ehangach.
Rwyf wedi ymweld â sawl chwarel dros y blynyddoedd, gan gynnwys Craig-yr-Hesg, ac rwyf wedi cyfarfod â staff rheoli'r chwarel. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â thrigolion sy'n pryderu am yr effaith y mae chwarela wedi'i chael ar yr ardal leol. Ar y ddwy ochr i'r ffens, gallaf weld y pryderon a chredaf fod angen gwneud llawer mwy o gydbwyso a lliniaru effeithiau'r diwydiant ar y cymunedau cyfagos. Credaf fod hyn yn wir am lawer o ddiwydiannau, nid chwarela'n unig.
Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig fod busnesau sy'n cael effaith ar eu hamgylchedd ac ar y cymunedau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt o'u cwmpas yn sensitif i'r aflonyddwch y gallent ei achosi. Ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o sut y mae chwarela'n rhan hanfodol o'n heconomi. Felly, rwy'n credu bod angen mwy o ymdrech gan y rhai sy'n rheoli chwareli i gydfodoli ac nid i wrthdaro â'r cymunedau sy'n byw gerllaw.
Mae gan Gymru dros 2,500 o bobl yn gweithio yn y sector mwyngloddio a chwarela, ac mae'n darparu dros £170 miliwn i economi Cymru. Mae'n bwysig nad ydym yn colli'r swyddi hyn, ond mae hi'r un mor bwysig nad oes yn rhaid i gymunedau fyw ar drugaredd gweithgarwch chwarela, a all gael effeithiau negyddol sylweddol o ran sŵn, llwch a thraffig.
Mewn chwarela a diwydiannau eraill tebyg, mae'r dewis yn gyfyngedig o ran ble maent yn gweithredu, ac os yw cymunedau eisiau cyflogaeth neu eisiau swyddi, mae angen iddynt hefyd ymgysylltu a ffurfio perthynas waith dda, un sy'n galluogi'r ddwy ochr i ffynnu. Mae parthau clustogi gofynnol yn lle da i ddechrau, a chredaf fod potensial i gynnwys darpariaethau eraill a allai helpu cymunedau a chwareli i gydfodoli a chydweithredu. Felly, rwy'n annog yr Aelodau yma i nodi'r ddeiseb hon. Diolch.
I want to consider four questions this afternoon: (1) is the current buffer zone enough; (2) is new legislation needed; (3) are there health implications; and finally, is the case-by-case basis working for the people of Wales.
Hoffwn ystyried pedwar cwestiwn y prynhawn yma: (1) a yw'r parth clustogi presennol yn ddigonol; (2) a oes angen deddfwriaeth newydd; (3) a oes goblygiadau iechyd; ac yn olaf, a yw ystyriaeth fesul achos yn gweithio i bobl Cymru.
Firstly, is the current buffer zone enough? To put it in context, 200m is from the Senedd steps to the Norwegian church. Who here would think it'd be appropriate to have such noise and such pollution so near to our national legislature, let alone so near to where children live, are educated and play? A site, and we've seen the videos and photos, that can raise clouds up to the tree line, as seen in photos that have been submitted by campaigners to the Petitions Committee. Heledd Fychan raised, in a letter to our committee, that the small distance of 200m, from the steps to the Norwegian church, isn't in fact what's happening at the moment. The blasting in the Craig-yr-Hesg quarry is only 134m from Cefn Primary School and is only 109m from the rugby club, Glyncoch rugby field. That, ironically, is only the length of the rugby field itself—109m. So, clearly, the current buffer zone is not enough.
Do we need new legislation? Evidence submitted by the company that runs the Craig-yr-Hesg quarry states that they are fully compliant with all regulations and legislation. Assuming that they are correct, and I have no reason to doubt them on that point, surely this is further evidence that current legislation does not go far enough. The ideal legal situation is when companies comply with the law, that the citizens then are happy with that. That clearly is not the case in this matter. Every time this matter is discussed in the Petitions Committee, the public gallery is full, we can see the support here, and we can see it from the photographs and the videos that the campaigners have submitted. The feelings of the local community are clear.
Thirdly, are there health implications? While, technically, it's true that there are no cases of silicosis that have been documented among members of the general public in Britain, that doesn't mean that non-occupational silicosis cannot or will not happen, nor does it mean that no other health issues might arise from living in close proximity to the quarry. Internationally, we've seen cases of non-occupational silicosis that have already been well documented. Research has also shown a link between living within 500m of a quarry and increased incidence of eye and nasal allergy, chest tightness, chronic coughs, asthma, bronchitis—[Interruption.] I haven't got time, sorry—rhinitis and more. Many of us have seen the black handkerchiefs of coal miners. If we suspect that this is an issue now, we need to take action on it.
Finally, is the case-by-case basis working for the people of Wales? The Cabinet Secretary has argued that these cases are more appropriately considered on a case-by-case basis, but I fear that leads to only a deepening of structural inequality. More deprived areas are unlikely to be able to field the defence against a larger company with a well-resourced objection that a less deprived area would. The area of Glyncoch closest to the quarry, described by Welsh data scientists as 'Glyncoch 1', is currently ranked 51 out of 1,909 areas in Wales for overall deprivation, making it one of the most deprived areas in Wales. This puts it in the top 3 per cent of the most deprived areas in Wales. Meanwhile, the company that owns the quarry, Heidelberg Materials, reported a £21,156 million revenue for the year 2024, and £1,980 million profit in the year 2024. For context, the Welsh Government budget is only slightly higher than that.
Not for one minute, and I agree with the comments of Joel James, do I say we shouldn't welcome investment from large companies, but it's the Welsh Government's job to prevent our most vulnerable communities, our most vulnerable societies from being forced to play David fighting Goliath with no support or protection offered. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf, a yw'r parth clustogi presennol yn ddigonol? I'w roi mewn cyd-destun, mae'n 200 metr o risiau'r Senedd i'r eglwys Norwyaidd. Pwy yma sydd o'r farn y byddai'n briodol cael cymaint o sŵn a llygredd mor agos at ein deddfwrfa genedlaethol, heb sôn am mor agos at ble mae plant yn byw, yn cael eu haddysgu ac yn chwarae? Safle, ac rydym wedi gweld y fideos a'r ffotograffau, a all godi cymylau hyd at y coed uchaf, fel y gwelir mewn ffotograffau sydd wedi'u cyflwyno gan ymgyrchwyr i'r Pwyllgor Deisebau. Mewn llythyr at ein pwyllgor, nododd Heledd Fychan nad ydynt ar hyn o bryd yn cadw at y pellter bach o 200 metr, o'r grisiau i'r eglwys Norwyaidd, hyd yn oed. Mae'r ffrwydradau yn chwarel Craig-yr-Hesg 134 metr yn unig o Ysgol Gynradd Cefn a 109 metr yn unig o'r clwb rygbi, cae rygbi Glyn-coch. Yn eironig, dim ond hyd y cae rygbi ei hun yw hynny—109 metr. Felly, yn amlwg, nid yw'r parth clustogi presennol yn ddigonol.
A oes angen deddfwriaeth newydd arnom? Mae tystiolaeth a gyflwynwyd gan y cwmni sy'n rhedeg chwarel Craig-yr-Hesg yn nodi eu bod yn cydymffurfio'n llawn â'r holl reoliadau a deddfwriaeth. Gan gymryd eu bod yn gywir, ac nid oes gennyf unrhyw reswm i'w hamau ar y pwynt hwnnw, rhaid bod hyn yn rhagor o dystiolaeth nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn mynd yn ddigon pell. Y sefyllfa gyfreithiol ddelfrydol yw pan fydd cwmnïau'n cydymffurfio â'r gyfraith, a bod y dinasyddion wedyn yn hapus ynghylch hynny. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir yn yr achos hwn. Bob tro y caiff y mater hwn ei drafod yn y Pwyllgor Deisebau, mae'r oriel gyhoeddus yn llawn, gallwn weld y gefnogaeth yma, a gallwn ei gweld o'r ffotograffau a'r fideos y mae'r ymgyrchwyr wedi'u cyflwyno. Mae teimladau'r gymuned leol yn glir.
Yn drydydd, a oes goblygiadau iechyd? Er, yn dechnegol, ei bod yn wir nad oes unrhyw achosion o silicosis wedi'u dogfennu ymhlith aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol ym Mhrydain, nid yw hynny'n golygu na all neu na fydd achosion o silicosis nad yw'n alwedigaethol yn codi, ac nid yw'n golygu na allai unrhyw broblemau iechyd eraill godi o fyw'n agos at y chwarel. Yn rhyngwladol, rydym eisoes wedi gweld achosion wedi'u dogfennu'n dda o silicosis nad yw'n alwedigaethol. Mae ymchwil hefyd wedi dangos cysylltiad rhwng byw o fewn 500 metr i chwarel a chynnydd yn nifer yr achosion o alergedd y llygaid a'r trwyn, tyndra yn y frest, peswch cronig, asthma, broncitis—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, mae'n ddrwg gennyf—rhinitis a mwy. Mae llawer ohonom wedi gweld hancesi duon glowyr. Os ydym yn tybio bod hon yn broblem nawr, mae angen inni fynd i'r afael â hi.
Yn olaf, a yw ystyried pob achos yn unigol yn gweithio i bobl Cymru? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dadlau ei bod hi'n fwy priodol ystyried pob achos yn unigol, ond rwy'n poeni bod hynny'n arwain at ddyfnhau anghydraddoldeb strwythurol. Mae'n annhebygol y bydd ardaloedd mwy difreintiedig yn gallu amddiffyn eu hunain yn erbyn cwmni mwy o faint â gwrthwynebiad sydd â digon o adnoddau nag y byddai ardal lai difreintiedig yn gallu ei wneud. Mae'r ardal o Lyn-coch sydd agosaf at y chwarel, a ddisgrifir gan wyddonwyr data Cymru fel 'Glyn-coch 1', ar hyn o bryd yn safle 51 allan o 1,909 o ardaloedd yng Nghymru o ran amddifadedd cyffredinol, gan ei gwneud yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn ei rhoi yn y 3 y cant uchaf o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Yn y cyfamser, adroddodd y cwmni sy'n berchen ar y chwarel, Heidelberg Materials, refeniw o £21,156 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2024, ac elw o £1,980 miliwn yn y flwyddyn 2024. I roi hynny yn ei gyd-destun, dim ond ychydig yn uwch na hynny yw cyllideb Llywodraeth Cymru.
Nid wyf yn dweud am funud, ac rwy'n cytuno â sylwadau Joel James, na ddylem groesawu buddsoddiad gan gwmnïau mawr, ond gwaith Llywodraeth Cymru yw atal ein cymunedau mwyaf agored i niwed, ein cymdeithasau mwyaf agored i niwed rhag cael eu gorfodi i chwarae Dafydd yn ymladd yn erbyn Goliath heb gael cynnig unrhyw amddiffyniad na chymorth. Diolch yn fawr.
Can I thank Carolyn Thomas and the Petitions Committee for your careful consideration of this important matter? I'm not one to over-dramatise or over-use words, but I think it is scandalous what is happening to the community of Glyncoch. And I'd like to pay tribute to campaigners for the fact that they are fighting this and that they are having to come up with evidence themselves without a lot of support to try and prove what they know is happening within the community.
It is scandalous that their concerns are dismissed because they can't provide all the evidence. And even when they provide the evidence, which they've been doing diligently, it's dismissed or doubted, rather than people taking notice. So, I hope from today's debate that we can take notice and that we also support the community of Glyncoch and actually provide that support that they're requesting to understand what exactly is the impact on communities like Glyncoch. So, I really hope that that can be an outcome.
Their plight was recently highlighted in a Nation.Cymru article by Emily Price—in an article with the headline, 'Valleys community describes life near quarry as "slow Aberfan disaster" '. It's a very harrowing read, and I would urge every Member of the Senedd to read it if you haven't yet. I will circulate via e-mail a copy to all following this debate.
We know that pennant stone is a valuable resource. It's prized for its skid-resistant properties. However, this stone contains approximately 70 per cent silica—a substance that, as has been mentioned, is known to pose several health risks when airborne in fine particulate form. Evidence found by local campaigners confirms that silica dust from the quarry is infiltrating nearby homes. A 2014 study by the University of the West of England found that silica-based dust concentrations were nearly 2.4 times higher in homes close to the quarry boundary compared to those situated several hundred metres away. A recent 2024 dust analysis further revealed that up to 50 per cent of dust samples collected near residential areas consisted of silica dust.
Now, local people have shared their stories of ill health with me, convinced that living with almost constant dust inside their homes, on their cars and in the air, is contributing to their various ailments, such as asthma, chronic obstructive pulmonary disease, respiratory difficulties, lung cancers, throat cancers, pneumonia, bronchitis—these are all conditions that have been associated with long-term low-level exposure to silica dust, or shorter term higher levels of exposure. These are considered dangerous, that's why there are stringent health and safety precautions for employees.
I'm sure we can therefore understand why they are so concerned. I frequently visit residents in Glyncoch, and I did so recently, especially with those who live just over the hedge from where a crusher operates. They showed me the dust that covers their cars and homes. In fact, my own car, after being in Glyncoch for just four hours, was completely covered. It doesn't happen when I visit other areas.
The truth is that regulators and Government cannot be sure whether the concerns people have about the impact of dust on health are based on fear or on reality. Why do we leave it up to campaigners to determine what is safe or not? In terms of the current 200m buffer zone, I'm glad that Rhys ab Owen mentioned the fact that we're not even sticking to that when it comes to this quarry. So, this is about expanding the buffer zone. But I would really like to hear from the Cabinet Secretary why the 200m buffer zone was not adhered to when it came to the expansion of Craig-yr-Hesg quarry—nobody has ever been able to explain or justify that to me.
The evidence does suggest that a buffer is far from adequate to protect human health and well-being, but when it's not even adhered to, questions have to be asked. I would like to call for a review of the minerals technical advice note 1 regulations, as my colleague Hefin David also suggested in the previous debate, and a review of the 'Planning Policy Wales' guidance on this matter. This has to happen—can we have that commitment today?
Secondly, can I ask the Cabinet Secretary to meet with myself and any other Senedd Member concerned about this issue, and with campaigners, and go through, with officials, all the evidence collated, to truly understand? I am fed up of hearing responses that are so standardised and don't take into account the lived experiences. For too long, our natural resources have been exploited and our communities have suffered. They've been ignored. Enough is enough. What is the Government willing to do to support communities like Glyncoch?
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas a'r Pwyllgor Deisebau am eich ystyriaeth ofalus o'r mater pwysig hwn? Nid wyf yn un sy'n gorddramateiddio neu'n gorddefnyddio geiriau, ond credaf fod yr hyn sy'n digwydd i gymuned Glyn-coch yn sgandal. A hoffwn dalu teyrnged i ymgyrchwyr am frwydro yn erbyn hyn a'u bod yn gorfod dod o hyd i dystiolaeth eu hunain heb lawer o gefnogaeth i geisio profi'r hyn y gwyddant ei fod yn digwydd yn y gymuned.
Mae'n sgandal fod eu pryderon yn cael eu diystyru am nad ydynt yn gallu darparu'r holl dystiolaeth. A hyd yn oed pan fyddant yn darparu'r dystiolaeth, ac maent wedi bod yn gwneud hynny'n ddiwyd, mae'n cael ei diystyru neu ei hamau, yn hytrach na bod pobl yn cymryd sylw. Felly, rwy'n gobeithio o'r ddadl heddiw y gallwn gymryd sylw a'n bod ni hefyd yn cefnogi cymuned Glyn-coch ac yn darparu'r gefnogaeth y maent yn gofyn amdani i ddeall beth yn union yw'r effaith ar gymunedau fel Glyn-coch. Felly, rwy'n gobeithio y gall hynny fod yn ganlyniad.
Tynnwyd sylw at eu sefyllfa yn ddiweddar mewn erthygl Nation.Cymru gan Emily Price—erthygl o dan y pennawd, 'Valleys community describes life near quarry as "slow Aberfan disaster"'. Mae'n ddarn dirdynnol iawn, ac rwy'n annog pob Aelod o'r Senedd i'w ddarllen os nad ydych chi wedi gwneud hynny eto. Fe anfonaf gopi drwy e-bost at bawb yn dilyn y ddadl hon.
Gwyddom fod carreg pennant yn adnodd gwerthfawr. Mae'n enwog am ei briodweddau gwrth-lithro. Fodd bynnag, mae'r garreg hon yn cynnwys tua 70 y cant o silica—sylwedd y gwyddys ei fod, fel y nodwyd, yn peri sawl risg i iechyd pan gaiff ei gludo yn yr awyr ar ffurf gronynnau mân. Mae tystiolaeth a ddarganfuwyd gan ymgyrchwyr lleol yn cadarnhau bod llwch silica o'r chwarel yn ymdreiddio i gartrefi cyfagos. Canfu astudiaeth yn 2014 gan Brifysgol Gorllewin Lloegr fod crynodiadau llwch silica bron i 2.4 gwaith yn uwch mewn cartrefi sy'n agos at ffin y chwarel o'i gymharu â chartrefi rai cannoedd o fetrau i ffwrdd. Mewn dadansoddiad llwch diweddar yn 2024 datgelwyd ymhellach fod hyd at 50 y cant o'r samplau llwch a gasglwyd ger ardaloedd preswyl yn cynnwys llwch silica.
Nawr, mae pobl leol wedi rhannu eu hanesion o salwch gyda mi, yn argyhoeddedig fod byw gyda llwch cyson yn eu cartrefi, ar eu ceir ac yn yr aer, yn cyfrannu at eu gwahanol anhwylderau, megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, anawsterau anadlol, canser yr ysgyfaint, canser y gwddf, niwmonia, broncitis—mae'r rhain i gyd yn gyflyrau sy'n gysylltiedig â chysylltiad hirdymor lefel isel â llwch silica, neu lefelau uwch o gysylltiad dros gyfnod byrrach. Mae'r rhain yn cael eu hystyried yn beryglus, a dyna pam y ceir rhagofalon iechyd a diogelwch llym i weithwyr.
Rwy'n siŵr y gallwn ddeall felly pam eu bod mor bryderus. Rwy'n ymweld â thrigolion Glyn-coch yn aml, ac fe wneuthum hynny yn ddiweddar, yn enwedig y rhai sy'n byw ar yr ochr arall i'r gwrych o'r fan lle mae malwr ar waith. Fe wnaethant ddangos y llwch sy'n gorchuddio eu ceir a'u cartrefi. Mewn gwirionedd, ar ôl bod yng Nglyn-coch am gwta bedair awr, roedd fy nghar i wedi'i orchuddio'n llwyr. Nid yw'n digwydd pan fyddaf yn ymweld ag ardaloedd eraill.
Y gwir amdani yw na all rheoleiddwyr a'r Llywodraeth fod yn siŵr a yw'r pryderon sydd gan bobl am effaith llwch ar iechyd yn seiliedig ar ofn neu ar realiti. Pam ei adael i ymgyrchwyr benderfynu beth sy'n ddiogel ai peidio? O ran y glustogfa 200 metr bresennol, rwy'n falch fod Rhys ab Owen wedi sôn nad ydym hyd yn oed yn cadw at hynny yn achos y chwarel hon. Felly, mae hyn yn ymwneud ag ymestyn y glustogfa. Ond hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pam na chydymffurfiwyd â'r glustogfa o 200 metr wrth ymestyn chwarel Craig-yr-Hesg—nid oes neb erioed wedi gallu esbonio na chyfiawnhau hynny i mi.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod clustogfa ymhell o fod yn ddigonol i ddiogelu iechyd a lles pobl, ond pan na chydymffurfir â hynny hyd yn oed, rhaid gofyn cwestiynau. Hoffwn alw am adolygiad o'r rheoliadau nodyn cyngor technegol mwynau 1, fel yr awgrymodd fy nghyd-Aelod Hefin David hefyd yn y ddadl flaenorol, ac adolygiad o ganllawiau 'Polisi Cynllunio Cymru' ar y mater hwn. Rhaid i hyn ddigwydd—a gawn ni'r ymrwymiad hwnnw heddiw?
Yn ail, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod â mi ac unrhyw Aelod arall o'r Senedd sy'n pryderu am y mater hwn, a chyda'r ymgyrchwyr, a mynd drwy'r holl dystiolaeth sydd wedi'i choladu gyda swyddogion, er mwyn deall yn iawn? Rwyf wedi cael llond bol ar glywed ymatebion mor safonedig nad ydynt yn ystyried profiadau bywyd. Ers llawer gormod o amser, mae ein hadnoddau naturiol wedi cael eu hecsbloetio ac mae ein cymunedau wedi dioddef. Maent wedi cael eu hanwybyddu. Digon ydy digon. Beth y mae'r Llywodraeth yn fodlon ei wneud i gefnogi cymunedau fel Glyn-coch?
I'll pick up where Heledd Fychan left off. I was pleased to support her legislative proposal last year. The only reservation I had, as you know, was making quarries developments of national significance, which would mean the Welsh Government would take the decision on planning applications. I would rather they stayed local to local authorities. But, at the same time, I think the direction of the legislative proposal was very much in the direction of the petition statement, particularly with the 1,000m rule.
Now, we've got a quarry in Gelligaer, run by a company called Bryn quarry at Gelliargwellt Uchaf Farm. The planning application to extend the quarry was recently approved, despite the objection of residents who live nearby. That quarry has created both blast nuisance and dust nuisance in the communities of Penybryn and Gelligaer. Now, the issue here is not one of lung damage, though, because I set up, in partnership with Caerphilly council, a liaison group, which brought Public Health Wales, Natural Resources Wales and environmental health together. Through that, with residents on board as well, we carried out, through Public Health Wales, dust monitoring, through Petri dishes, in the community in Gelligaer and Penybryn. The dust monitoring was placed at the places where residents wanted them placed. I'm glad to say that the level of silica particulate that was identified was low, and, relative to other areas, was normal. So, we haven't got those same concerns about silica dust problems and lung health in Gelligaer, but it remains, though, a dust nuisance and it remains a blast nuisance. When blasts happen, residents' windows shake. It can be quite a shock, and we have very little warning as to when these blasts are occurring.
So, as Heledd Fychan said, I've asked for MTAN 1 to be reviewed. It hasn't been updated since it was introduced in March 2004. Surely, there must be an opportunity to look at this. When the Cabinet Secretary responded to Heledd Fychan last year, she said:
'I will explore these issues that have been raised in the Chamber...with officials, and should evidence suggest that that policy or advice is no longer up to date then we'll certainly give consideration to reviewing that guidance.'
She said that
'The minimum distances of the buffer zones that are currently set out in MTAN 1 of 200m for hard rock.... Introducing a mandatory buffer zone of 1,000m could bring about some unintended consequences'.
Well, we need to know how those unintended consequences balance against public nuisance. I think having that discussion—. I'd like to take part—. If the Cabinet Secretary agrees to Heledd Fychan's request, I'd like to take part in that meeting, and have a conversation about balancing those negative unintended consequences against public nuisance.
The Cabinet Secretary also said:
'MTAN 1, though, does make it clear that the potential impact on health must always be considered in relation to proposals for aggregates extraction, and a health impact assessment should be carried out for any proposal for a new quarry'.
But it doesn't just affect health in a physical sense, it can also affect mental health. One of the issues we had when residents saw that quarry being approved for expansion, through Caerphilly council's planning committee, was the fact that it was affecting their mental health. That wasn't a material planning consideration, unfortunately, and therefore it didn't have that effect. Now, if you'd strengthen MTAN 1 to include a bigger buffer zone, so that the quarry could not be expanded towards the community of Gelligaer and Penybryn, then that would have aided their cause and they could have made that case.
So, what I'm really asking the Cabinet Secretary is: will she reconsider her position on MTAN 1, and please could we have that meeting so we can raise those concerns that don't just affect the quarry that Heledd Fychan refers to but also affects the community that I represent in Caerphilly as well?
Fe wnaf barhau o ble y gorffennodd Heledd Fychan. Roeddwn i'n falch o gefnogi ei chynnig deddfwriaethol y llynedd. Yr unig amheuaeth a oedd gennyf, fel y gwyddoch, oedd gwneud chwareli'n ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, a fyddai'n golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â cheisiadau cynllunio. Byddai'n well gennyf i hynny aros yn lleol gydag awdurdodau lleol. Ond ar yr un pryd, rwy'n credu bod cyfeiriad y cynnig deddfwriaethol yn sicr yr un fath â chyfeiriad datganiad y ddeiseb, yn enwedig gyda'r rheol 1,000 metr.
Nawr, mae gennym chwarel yng Ngelligaer, sy'n cael ei rhedeg gan gwmni o'r enw Bryn Quarry ar Fferm Gelliargwellt Uchaf. Cymeradwywyd y cais cynllunio i ymestyn y chwarel yn ddiweddar, er gwaethaf gwrthwynebiad trigolion sy'n byw gerllaw. Mae'r chwarel honno wedi creu niwsans ffrwydro a niwsans llwch yng nghymunedau Pen-y-bryn a Gelligaer. Nawr, nid niwed i'r ysgyfaint yw'r broblem yma er hynny, oherwydd mewn partneriaeth â chyngor Caerffili, fe wneuthum sefydlu grŵp cyswllt, a ddaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac iechyd yr amgylchedd at ei gilydd. Drwyddo, gyda chefnogaeth trigolion hefyd, fe wnaethom gynnal gwaith monitro llwch, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy ddefnyddio dysglau Petri, yn y gymuned yng Ngelligaer a Phen-y-bryn. Gosodwyd yr offer monitro llwch yn y mannau lle roedd trigolion eisiau iddynt gael eu gosod. Rwy'n falch o ddweud bod lefel y gronynnau silica a nodwyd yn isel, ac o'i gymharu ag ardaloedd eraill, roedd yn normal. Felly, nid oes gennym yr un pryderon am broblemau llwch silica ac iechyd yr ysgyfaint yng Ngelligaer, ond mae'n parhau i fod yn niwsans llwch fodd bynnag, ac mae'n parhau i fod yn niwsans ffrwydro. Pan fydd ffrwydradau'n digwydd, mae ffenestri trigolion yn ysgwyd. Gall fod yn dipyn o sioc, ac ychydig iawn o rybudd a roddir ynghylch pryd y mae'r ffrwydradau hyn i ddigwydd.
Felly, fel y dywedodd Heledd Fychan, rwyf wedi gofyn i MTAN 1 gael ei adolygu. Nid yw wedi cael ei ddiweddaru ers iddo gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2004. Rhaid bod cyfle i edrych ar hyn. Pan ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i Heledd Fychan y llynedd, dywedodd:
'Fe archwiliaf y materion a godwyd yn y Siambr...gyda swyddogion, ac os yw'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r polisi neu'r cyngor hwnnw'n gyfredol mwyach, byddwn yn sicr yn ystyried adolygu'r canllawiau hynny.'
Dywedodd
'Cyrhaeddwyd pellteroedd gofynnol y parthau clustogi a nodwyd ar hyn o bryd yn MTAN 1 sef 200m ar gyfer craig galed.... Gallai cyflwyno parth clustogi gorfodol o 1,000m arwain at ganlyniadau anfwriadol'.
Wel, mae angen inni wybod sut y mae'r canlyniadau anfwriadol hynny'n cydbwyso yn erbyn niwsans cyhoeddus. Rwy'n credu bod cael y drafodaeth honno—. Hoffwn gymryd rhan—. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â chais Heledd Fychan, hoffwn gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw, a chael sgwrs am gydbwyso'r canlyniadau anfwriadol negyddol hynny yn erbyn niwsans cyhoeddus.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd:
'Mae MTAN 1, serch hynny, yn dweud yn glir fod yn rhaid ystyried yr effaith bosibl ar iechyd bob amser mewn perthynas â chynigion ar gyfer cloddio am agregau, a dylid cynnal asesiad o'r effaith ar iechyd ar gyfer unrhyw gynnig am chwarel newydd'.
Ond gall effeithio ar iechyd meddwl hefyd yn ogystal ag ar iechyd corfforol. Un o'r problemau a gawsom pan welodd trigolion y chwarel yn cael ei chymeradwyo i'w hymestyn, trwy bwyllgor cynllunio cyngor Caerffili, oedd y ffaith ei bod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Nid oedd honno'n ystyriaeth gynllunio berthnasol yn anffodus, ac felly ni chafodd yr effaith honno. Nawr, pe byddech chi'n cryfhau MTAN 1 i gynnwys clustogfa fwy o faint, fel na ellid ymestyn y chwarel tuag at gymuned Gelligaer a Phen-y-bryn, byddai hynny wedi helpu eu hachos a gallent fod wedi gwneud y ddadl honno.
Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd yw: a wnaiff hi ailystyried ei safbwynt ar MTAN 1, ac a allwn ni gael cyfarfod er mwyn inni allu codi'r pryderon sydd nid yn unig yn effeithio ar y chwarel y mae Heledd Fychan yn cyfeirio ati ond y gymuned rwy'n ei chynrychioli yng Nghaerffili hefyd?
It's an excellent debate, I have to say. So, the petition does call for a mandatory buffer zone for all new and existing quarries in Wales. It has 11,473 signatures—that's fantastic. The proposals of this petition rightly aim to protect the health of residents. It does raise very interesting questions that do need to be considered and addressed. This has the potential to impact many residents across the whole of Wales who currently live near quarry sites. The current law allows for quarries to be located as close as 200m away from residential areas and schools, and there are many quarries across the whole of Wales, with many of them located very near to homes. So, I do—. I noticed in the petition itself it mentioned about—. What do you call it, when it’s afterwards that you get the—?
Mae'n ddadl ardderchog, mae'n rhaid imi ddweud. Felly, mae'r ddeiseb yn galw am glustogfa orfodol ar gyfer pob chwarel newydd a phresennol yng Nghymru. Mae wedi denu 11,473 o lofnodion—mae hynny'n wych. Nod cynigion y ddeiseb yw diogelu iechyd trigolion. Mae'n codi cwestiynau diddorol iawn y bydd angen eu hystyried a'u datrys. Gallai hyn effeithio ar lawer o drigolion ledled Cymru gyfan sydd ar hyn o bryd yn byw ger safleoedd chwarel. Mae'r gyfraith bresennol yn caniatáu i chwareli gael eu lleoli mor agos â 200 metr o ardaloedd preswyl ac ysgolion, ac mae llawer o chwareli ledled Cymru gyfan, gyda nifer ohonynt wedi'u lleoli'n agos iawn at gartrefi. Felly, rwy'n—. Sylwais yn y ddeiseb ei hun ei bod yn sôn am—. Beth ydych chi'n ei alw, pan fyddwch chi wedyn yn cael—?
Retrospective.
Ôl-weithredol.
That's the one. Yes, retrospective. I'm just a little bit concerned on that aspect, because we have a Heidelberg Materials Aggregates in Penmaenmawr, making some of the finest rock aggregate for roads and things. And I've been around to see them, and they do work very closely with the community. They dampen down on days that they’re blasting and things like that. So, there are measures that can be introduced. Should these local quarry companies provide, maybe, a community fund that helps to offset some of the problems that they create? Some people live near active and inactive quarry sites, so, then, again, we’d need to know just what exactly is being asked for here.
I notice also that, too often, people will come to see me on an issue—and I have mentioned that particular site—where they have found dust all over their properties, their windows, the fronts of the houses, their cars. Are they making their residents aware before blasts, as they used to? They used to have the sirens going off. Is that happening as much as it should be? And when I check into these things, I do worry that people buy houses, and that during conveyancing, they’re not advised of the impacts. It doesn’t come up on local searches even. So, it’s a really delicate area that we’re talking about.
The quarry in Penmaenmawr—it’s history dates back to the 1830s. And, as I say, the aggregates are transported by rail, and I just worry about that. Friends of the Earth have quite rightly highlighted that people living near quarries are more likely to suffer from shortness of breath, coughs, allergies, eye problems like dry eye, soreness or tearing. There are so many issues here, and I really wish you well in taking this forward.
I do think further clarity is needed from the Cabinet Secretary on what ongoing conversations are taking place with the necessary stakeholders about the health and well-being of residents located near quarry sites. We’ve just done the soundscapes Bill, and the pollution on that. Why, perhaps, were these not classified as witnesses at the time? And then, of course, with new operations, I think there have to be some stark changes to permissions, or else we’re just going to keep storing up these problems year after year.
So, will the Cabinet Secretary provide a statement on how this proposed buffer zone will impact those who are already living less than 1,000m away from existing quarries? Diolch.
Dyna fe. Ie, ôl-weithredol. Rwyf braidd yn bryderus ynghylch yr agwedd honno, oherwydd mae gennym Heidelberg Materials Aggregates ym Mhenmaenmawr, sy'n gwneud peth o'r agregau cerrig gorau ar gyfer ffyrdd a phethau. Ac rwyf wedi bod yn eu gweld, ac maent yn gweithio'n agos iawn gyda'r gymuned. Maent yn lleithio ar ddyddiau pan fyddant yn ffrwydro a phethau felly. Felly, mae yna fesurau y gellir eu cyflwyno. A ddylai'r cwmnïau chwarel lleol hyn ddarparu cronfa gymunedol, efallai, sy'n helpu i wrthbwyso rhai o'r problemau y maent yn eu creu? Mae rhai pobl yn byw ger safleoedd chwarel gweithredol a segur, felly, unwaith eto, byddai angen inni wybod beth yn union y gofynnir amdano yma.
Rwy'n sylwi hefyd, yn rhy aml, y bydd pobl yn dod i fy ngweld ar fater—ac rwyf wedi sôn am y safle penodol hwnnw—lle maent wedi cael llwch dros eu heiddo, eu ffenestri, blaenau'r tai, eu ceir. A ydynt yn rhoi gwybod i drigolion cyn ffrwydro, fel y byddent yn arfer ei wneud? Roeddent yn arfer seinio seirenau. A yw hynny'n digwydd cymaint ag y dylai? A phan fyddaf yn edrych ar y pethau hyn, rwy'n poeni bod pobl yn prynu tai, ac nad ydynt yn cael gwybod am yr effeithiau yn ystod y broses drosglwyddo. Nid yw'n dod yn amlwg mewn chwiliadau lleol hyd yn oed. Felly, mae'n faes sensitif iawn.
Mae'r chwarel ym Mhenmaenmawr—mae'n dyddio'n ôl i'r 1830au. Ac fel y dywedais, mae'r agregau'n cael eu cludo ar y rheilffordd, ac rwy'n poeni am hynny. Mae Cyfeillion y Ddaear wedi tynnu sylw at y ffaith bod pobl sy'n byw ger chwareli'n fwy tebygol o ddioddef o ddiffyg anadl, peswch, alergeddau, problemau llygaid fel llygaid sych, dolur llygaid neu lygaid dyfrllyd. Mae cymaint o bethau'n codi yma, ac rwy'n dymuno'n dda i chi wrth i chi fwrw ymlaen â hyn.
Rwy'n credu bod angen eglurder pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pha sgyrsiau parhaus sy'n digwydd gyda'r rhanddeiliaid angenrheidiol am iechyd a lles trigolion ger safleoedd chwarel. Rydym newydd wneud y Bil seinweddau, a'r llygredd hwnnw. Pam na chafodd y rhain eu categoreiddio'n dystion ar y pryd? Ac yna, wrth gwrs, gyda gweithgarwch newydd, rwy'n credu bod rhaid cael newidiadau llym i ganiatadau, neu fel arall rydym yn mynd i barhau i bentyrru'r problemau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu datganiad ar sut y bydd y glustogfa a argymhellir yn effeithio ar y rhai sydd eisoes yn byw lai na 1,000 metr o'r chwareli presennol? Diolch.
I speak in support of this petition. My colleague Heledd Fychan, as has been said, introduced a motion to the Senedd some months ago, which would have achieved something similar. Living near a quarry can seriously affect your health. And as we’ve heard from what Hefin has said already, residents in Gelligaer and Penybryn, who live near one of these quarries, suffer every time there’s a blast from the site, with the dust that’s sent over their houses, that cakes their cars in soot, the vibrations in their homes, the noise pollution, unpleasant smells. If a mandatory buffer zone were in place, where there had to be 1,000m between any such site, and people’s houses, or schools, it would vastly improve people’s quality of life.
The quarry is a constant worry for people living in Gelligaer and Penybryn. They worry about structural damage to their properties. Some of them have shown me the cracks that they say appeared with the blasts. They’re worried about how it could affect their insurance, and whether, now that that quarry has been extended, their homes could be devalued. But most of all they are worried about their children. One resident has written to me talking about how the machinery and the noise have woken her sleeping baby, how she has to keep doors and windows closed in the hot weather because of an ugly cliff face of pure dust. She fears for her children's lungs. Her other child, who is five, often speaks about the noise and the foul smell that comes from the quarry. She's only glad that her five-year-old is in school when they blast, because the windows, the doors, the crockery all shake. She feels sad and angry. The air these residents breathe is affected by this dust. I've long called for enhanced and independent monitoring of the air quality near these quarries. These residents are choking with the dust. We have to see change. And most of all, as we've already heard, we need a system that empowers local residents, not silencing them, I'm afraid, as is happening at the moment. That same resident who wrote to me has said that MTAN 1 quarry guidance is out of date and needs revising, that there is no trust in the quarry from the community—'It feels like everything is against us.' I would add my voice to those points and to what's been said by Heledd Fychan and Hefin David, and I would like, Cabinet Secretary, to be in that meeting to discuss how MTAN 1 can be revised. Change is here patently needed, and it does feel like a farce sometimes, when you look at how these decisions are allowed to be taken in the systems that we have. When that permission was granted for this quarry in particular to be extended, it was passed by a single vote, and, as Hefin has said, it has caused anger and anguish for that community. We need to change how these quarries operate, how closely they can be allowed to people's homes—to where people live their lives and where they breathe every day. I'm urging the Government to listen to this petition and to act on it.
Rwy'n siarad i gefnogi'r ddeiseb hon. Fel y dywedwyd, cyflwynodd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan gynnig i'r Senedd rai misoedd yn ôl, a fyddai wedi cyflawni rhywbeth yn debyg. Gall byw ger chwarel effeithio'n ddifrifol ar eich iechyd. Ac fel y clywsom o'r hyn a ddywedodd Hefin eisoes, mae trigolion Gelligaer a Phen-y-bryn, sy'n byw ger un o'r chwareli hyn, yn dioddef bob tro y ceir ffrwydrad ar y safle, gyda'r llwch sy'n cael ei daflu dros eu tai, sy'n cacennau eu ceir mewn huddygl, y dirgryniadau yn eu cartrefi, y llygredd sŵn, arogleuon annymunol. Pe bai clustogfa orfodol ar waith, lle byddai'n rhaid cael 1,000 metr rhwng unrhyw safle o'r fath a thai pobl, neu ysgolion, byddai'n gwella ansawdd bywyd pobl yn sylweddol.
Mae'r chwarel yn bryder cyson i bobl sy'n byw yng Ngelligaer a Phen-y-bryn. Maent yn poeni am ddifrod strwythurol i'w heiddo. Gwelais y craciau y dywedant eu bod wedi ymddangos gyda'r ffrwydradau. Maent yn poeni y gallai effeithio ar eu hyswiriant, ac y gallai eu cartrefi golli eu gwerth ers i'r chwarel gael ei hymestyn. Ond yn bennaf oll maent yn poeni am eu plant. Mae un preswylydd wedi ysgrifennu ataf yn sôn sut y mae'r peiriannau a'r sŵn yn deffro ei babi, sut y mae'n rhaid iddi gadw drysau a ffenestri ar gau yn y tywydd poeth oherwydd lluwch hyll o lwch pur. Mae hi'n ofni am ysgyfaint ei phlant. Mae ei phlentyn arall, sy'n bump oed, yn aml yn siarad am y sŵn a'r arogl drwg sy'n dod o'r chwarel. Mae hi'n falch fod ei phlentyn pump oed yn yr ysgol pan fyddant yn ffrwydro, oherwydd mae'r ffenestri, y drysau, y llestri i gyd yn ysgwyd. Mae hi'n teimlo'n drist ac yn ddig. Mae'r aer y mae'r trigolion hyn yn ei anadlu wedi'i effeithio gan y llwch hwn. Rwyf wedi bod yn galw ers amser maith am fonitro ansawdd aer yn annibynnol ger y chwareli hyn. Mae'r trigolion hyn yn tagu oherwydd y llwch. Mae'n rhaid inni weld newid. Ac yn bennaf oll, fel rydym eisoes wedi clywed, mae angen system sy'n grymuso trigolion lleol, nid eu tawelu fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, mae arnaf ofn. Mae'r un preswylydd ag a ysgrifennodd ataf wedi dweud bod canllawiau chwareli MTAN 1 wedi dyddio ac angen eu hadolygu, ac nad oes gan y gymuned unrhyw hyder yn y chwarel—'Mae'n teimlo fel pe bai popeth yn ein herbyn.' Rwyf am ategu'r pwyntiau hynny a'r hyn a ddywedwyd gan Heledd Fychan a Hefin David, ac Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn fod yn y cyfarfod i drafod sut y gellir adolygu MTAN 1. Mae'n amlwg fod angen newid yma, ac mae'n teimlo fel ffars weithiau, pan edrychwch ar sut y caniateir i'r penderfyniadau hyn gael eu gwneud yn y systemau sydd gennym. Pan roddwyd caniatâd i ymestyn y chwarel hon, cafodd ei basio o un bleidlais, ac fel y dywedodd Hefin, mae wedi achosi dicter a gofid i'r gymuned honno. Mae angen inni newid y ffordd y mae'r chwareli hyn yn gweithredu, pa mor agos y gellir eu caniatáu at gartrefi pobl—at ble mae pobl yn byw eu bywydau a lle maent yn anadlu bob dydd. Rwy'n annog y Llywodraeth i wrando ar y ddeiseb hon ac i weithredu arni.
It's a pleasure to take part in this debate this afternoon. I've really enjoyed listening to the contributions, particularly with the health aspects, given my interest in health, and some of those symptoms as a result of living near quarries, and the consequences of some of those geographical realities.
The idea that quarry developments, especially new ones or extensions, should not take place in close proximity to homes and communities without a robust precautionary planning framework—. Residents across Wales are increasingly raising concerns about the impacts of quarries: dust, noise, traffic, long-term environmental degradation and damage to homes caused from the seismic activities. These are not minor inconveniences; they are real threats to well-being, biodiversity and local amenities. The call for a 1,000m buffer zone reflects that anxiety, and I believe we should be listening closely.
If I may, I'd like to speak to one case where such an approach is urgently needed—the proposed extension of Denbigh quarry in my own constituency, which I'm completely opposed to. I regularly meet with the Denbigh Save Our Green Spaces group, who are leading the campaign against Breedon's plans to extend the quarry. It's in the middle of a medieval town such as Denbigh, where an extension would be detrimental to those communities, and particularly those ones in upper Denbigh. That development would devastate grass fields, destroy local woodland and eliminate habitat for protected species such as dormice, bats and peregrine falcons. It runs contrary to the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, the net zero strategy and the Government's own biodiversity targets to reverse nature loss by 2030. Local residents have mobilised with credible data and the environmental assessments submitted were limited and, frankly, inadequate.
Denbighshire County Council's decision to reject the extension was correct, and I'm pleased that the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning has agreed to meet with me on this issue, and I hope that we can schedule this as soon as possible to discuss the myriad of issues that approving the Denbigh quarry extension would cause. But Denbigh is not unique, as we've heard in this debate. It's a symptom of a wider issue: a planning system that still too often favours industrial expediency over environmental integrity and community voice. We need national planning policy that is clearer, fairer and firmer, one that balances the economic need for raw materials with our duties to future generations. This petition reflects that public demand for change, so I'd ask the Cabinet Secretary to take on board the sentiments in the petition and look to ensure a solution that ensures the rights of residents are upheld with regard to the new quarries, or quarry extensions for that matter. Thank you very much.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y cyfraniadau, yn enwedig yr agweddau ar iechyd, o ystyried fy niddordeb mewn iechyd, a rhai o'r symptomau o ganlyniad i fyw ger chwareli, a chanlyniadau peth o'r realiti daearyddol hwnnw.
Mae'r syniad na ddylai datblygiadau chwarel, yn enwedig rhai newydd neu estyniadau, ddigwydd yn agos at gartrefi a chymunedau heb fframwaith cynllunio rhagofalus cadarn—. Mae trigolion ledled Cymru yn codi pryderon cynyddol am effeithiau chwareli: llwch, sŵn, traffig, diraddiad amgylcheddol hirdymor a difrod i gartrefi a achosir o'r gweithgareddau seismig. Nid manion anghyfleus yw'r rhain; maent yn fygythiad gwirioneddol i lesiant, bioamrywiaeth ac amwynderau lleol. Mae'r alwad am glustogfa o 1,000 metr yn adlewyrchu'r pryder hwnnw, ac rwy'n credu y dylem wrando'n astud.
Os caf, hoffwn siarad am un achos lle mae angen dull gweithredu o'r fath ar frys—yr estyniad arfaethedig i chwarel Dinbych yn fy etholaeth, estyniad rwy'n ei wrthwynebu'n llwyr. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â grŵp Save Our Green Spaces Dinbych, sy'n arwain yr ymgyrch yn erbyn cynlluniau Breedon i ymestyn y chwarel. Mae yng nghanol tref ganoloesol Dinbych, lle byddai estyniad yn niweidiol i'r cymunedau hynny, ac yn enwedig y rhai yn Ninbych uchaf. Byddai'r datblygiad hwnnw'n dinistrio caeau glaswellt, yn dinistrio coetir lleol ac yn dileu cynefin i rywogaethau gwarchodedig fel pathewod, ystlumod a hebogau tramor. Mae'n mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y strategaeth sero net a thargedau bioamrywiaeth y Llywodraeth ei hun i wrthdroi colli natur erbyn 2030. Mae trigolion lleol wedi casglu data credadwy ac roedd yr asesiadau amgylcheddol a gyflwynwyd yn gyfyngedig, ac yn annigonol a dweud y gwir.
Roedd penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i wrthod yr estyniad yn gywir, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gyfarfod â mi i drafod y mater, ac rwy'n gobeithio y gallwn drefnu hyn cyn gynted â phosibl i drafod y llu o faterion y byddai cymeradwyo estyniad chwarel Dinbych yn eu hachosi. Ond fe y clywsom yn y ddadl hon, nid yw Dinbych yn unigryw. Mae'n symptom o broblem ehangach: system gynllunio sy'n rhy aml o hyd yn ffafrio hwylustod diwydiannol dros uniondeb amgylcheddol a llais y gymuned. Mae angen polisi cynllunio cenedlaethol arnom sy'n gliriach, yn decach ac yn fwy cadarn, un sy'n cydbwyso'r angen economaidd am ddeunyddiau crai â'n cyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol. Mae'r ddeiseb hon yn adlewyrchu'r galw cyhoeddus am newid, felly rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried y teimladau yn y ddeiseb a cheisio sicrhau ateb sy'n gwneud yn siŵr fod hawliau trigolion yn cael eu cynnal mewn perthynas â'r chwareli newydd, neu estyniadau i chwareli. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
I call on the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans.

Thank you very much for the opportunity to respond to the Petitions Committee debate this afternoon concerning the 1,000m buffer zones for all new and existing quarries. And as the Petitions Committee Chair highlighted, we did debate a legislative proposal on this very issue back in October last year, where I outlined a number of reasons why the Welsh Government believes that a mandatory 1,000m buffer zone would not be appropriate for all new and existing quarries, because that is very much a blunt tool. But I'm, of course, very happy to set out our position again today and grateful to colleagues for setting out a real range of important points this afternoon.
This morning, I took the opportunity to visit Cornelly quarry in Bridgend, where I learned about its strategic economic importance to the south Wales region. Cornelly has supported Tata Steel in Port Talbot, it has supplied aggregate for the upgrading of the Heads of the Valleys road, and it has supplied to Cardiff rivers to help alleviate flooding. It will also be playing a really important role in the resurfacing of the M4 between Cardiff and Newport in the coming months. I do think it’s fair to say that the contribution of the minerals industry to the economy is very often overlooked, as is the crucial role that they play in delivering our infrastructure, our housing, for example, our schools and our hospitals. So, I do think that we also need to acknowledge that angle in the debate this afternoon.
I am, though, very aware that residents have raised concerns relating to activities at Craig-yr-Hesg quarry in particular. Local planning authorities do have the powers to investigate potential breaches of planning control, and responsibility for enforcing that planning control does lie with local authorities, and that includes the conditions that were attached to the planning permission, which was granted following a successful appeal. The possibility of enforcement action does mean that the case may well again be presented to Welsh Ministers and this time—[Interruption.]—just let me finish this important point, if you don't mind—this time to determine an enforcement appeal. And I know that colleagues will, for that reason, understand that I can't comment on the planning merits for this site, to avoid prejudicing those proceedings, but I do acknowledge how frustrating that is for both colleagues and also for residents as well.
Diolch am y cyfle i ymateb i ddadl y Pwyllgor Deisebau y prynhawn yma ynglŷn â'r clustogfeydd 1,000 metr ar gyfer pob chwarel newydd a phresennol. Ac fel y nododd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, fe wnaethom drafod cynnig deddfwriaethol ar yr union fater hwn yn ôl ym mis Hydref y llynedd, pan amlinellais nifer o resymau pam y mae Llywodraeth Cymru yn credu na fyddai clustogfa orfodol o 1,000 metr yn briodol ar gyfer pob chwarel newydd a phresennol, oherwydd bod hwnnw'n arf di-awch. Ond wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i nodi ein safbwynt eto heddiw ac yn ddiolchgar i gyd-Aelodau am nodi ystod go iawn o bwyntiau pwysig y prynhawn yma.
Y bore yma, manteisiais ar y cyfle i ymweld â chwarel Corneli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle dysgais am ei phwysigrwydd economaidd strategol i ranbarth de Cymru. Mae Corneli wedi cefnogi Tata Steel ym Mhort Talbot, mae wedi cyflenwi agregau ar gyfer uwchraddio ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac wedi darparu deunydd i afonydd Caerdydd i helpu i liniaru llifogydd. Bydd hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o roi wyneb newydd ar yr M4 rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod cyfraniad y diwydiant mwynau i'r economi yn aml iawn yn cael ei anghofio, fel y mae'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae yn darparu ein seilwaith, ein hadeiladau, ein hysgolion a'n hysbytai er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod angen i ni hefyd gydnabod yr agwedd honno ar y ddadl y prynhawn yma.
Rwy'n ymwybodol iawn fod trigolion wedi codi pryderon ynglŷn â gweithgarwch yn chwarel Craig-yr-Hesg yn enwedig. Mae gan awdurdodau cynllunio lleol bwerau i ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio, ac awdurdodau lleol sydd â'r cyfrifoldeb am orfodi'r rheolaeth gynllunio honno, ac mae hynny'n cynnwys yr amodau a oedd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio, a roddwyd yn sgil apêl lwyddiannus. Mae'r posibilrwydd o gamau gorfodi'n golygu y gallai'r achos gael ei gyflwyno eto i Weinidogion Cymru a'r tro hwn—[Torri ar draws.]—gadewch imi orffen y pwynt pwysig hwn, os nad oes ots gennych—y tro hwn i benderfynu ar apêl yn erbyn gorfodaeth. Ac rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau, am y rheswm hwnnw, yn deall na allaf wneud sylwadau ar rinweddau cynllunio yn achos y safle hwn, er mwyn osgoi peryglu'r trafodion hynny, ond rwy'n cydnabod pa mor rhwystredig yw hynny i gyd-Aelodau ac i drigolion hefyd.
Thank you very much, Cabinet Secretary. I know you say there, and it is true, that local authorities do make these decisions, and quite rightly so, but when they're contested or called in, as it's called, that's subject to ministerial sign-off, which would indeed be yourself. So, where do you assess your role within that in terms of the capabilities and the powers that you have in order to address the concerns raised in this debate that we could directly speak to?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod eich bod chi'n dweud yno, ac mae'n wir, fod awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniadau hyn, a hynny'n gywir ddigon, ond pan gânt eu herio neu eu galw i mewn, fel y'i gelwir, mae hynny'n destun cymeradwyaeth weinidogol, sef chi. Felly, ble rydych chi'n asesu eich rôl chi yn hynny o ran y galluoedd a'r pwerau sydd gennych er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn y ddadl hon y gallem siarad yn uniongyrchol amdanynt?
So, I think that that goes back to that point about enforcement action, and that might well find itself with Welsh Ministers again in future, which is why I'm not able to say more in relation to that, because my role then might be to make a determination in relation to an appeal. And I absolutely understand how frustrating that must be for residents when they hear that, that we're not able to engage directly with the specific points that have been made by colleagues this afternoon, but there are good legal and planning reasons for that.
As I did mention, though, the sustainable supply of minerals and aggregates is essential to support our economic development in Wales, and it is then the role of the planning system to seek to balance society's need for minerals against the protection of amenity. I do appreciate that these issues are very, very controversial at times, and, as I set out in the previous debate, they are also very localised, and that’s why they are best, I think, dealt with locally through the appropriate policies in local development plans. And I think, actually, the contributions in the debate this afternoon have only served to reinforce that. They’ve been very, very local, very locally focused contributions, absolutely quite rightly, because that is what our roles are as Members of the Senedd, to make the case on behalf of our constituents. But I do think that that has emphasised that local point.
Rwy'n credu bod hynny'n mynd yn ôl at y pwynt ynglŷn â gweithgarwch gorfodi, ac efallai y bydd hynny'n ystyriaeth i Weinidogion Cymru eto yn y dyfodol, a dyna pam na allaf ddweud mwy mewn perthynas â hynny, oherwydd fy rôl i wedyn fyddai gwneud penderfyniad mewn perthynas ag apêl. Ac rwy'n deall yn iawn pa mor rhwystredig yw hi i drigolion pan fyddant yn clywed hynny, na allwn drafod yn uniongyrchol y pwyntiau penodol a wnaed gan gyd-Aelodau y prynhawn yma, ond mae yna resymau cyfreithiol a rhesymau cynllunio da am hynny.
Fel y soniais fodd bynnag, mae cyflenwad cynaliadwy o fwynau ac agregau yn hanfodol i gefnogi ein datblygiad economaidd yng Nghymru, a rôl y system gynllunio felly yw ceisio cydbwyso angen cymdeithas am fwynau yn erbyn diogelu amwynder. Rwy'n deall bod y materion hyn yn ddadleuol iawn ar adegau, ac fel y nodais yn y ddadl flaenorol, maent hefyd yn lleol iawn, a dyna pam mai'r ffordd orau o ddelio â hwy yw yn lleol trwy'r polisïau priodol mewn cynlluniau datblygu lleol. Ac rwy'n credu bod y cyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma wedi atgyfnerthu hynny. Maent wedi bod yn gyfraniadau lleol iawn, yn gyfraniadau sydd wedi canolbwyntio ar sefyllfaoedd lleol iawn, yn gywir ddigon, oherwydd dyna yw ein rolau fel Aelodau o'r Senedd, gwneud yr achos ar ran ein hetholwyr. Ond rwy'n credu bod hynny wedi pwysleisio'r pwynt eu bod yn lleol.
I think that the key issue that comes with that localism is that the rules that have been set for councils mean that councillors have no choice but to vote in favour of planning applications, because officers tell them, 'If you go to appeal, you'll be defending this yourself, and you haven't got a leg to stand on because of the rules.' So, what we're asking for is: help those councillors out to make better local decisions, because MTAN 1 has not been reviewed for 21 years, and, in that 21 years, you've heard all the experiences that Heledd Fychan, that Rhys, that Delyth and Gareth and Janet have mentioned. It must be listened to.
Rwy'n meddwl mai'r mater allweddol sy'n dod gyda'r lleoliaeth honno yw bod y rheolau sydd wedi'u gosod ar gyfer cynghorau yn golygu nad oes gan gynghorwyr unrhyw ddewis ond pleidleisio o blaid ceisiadau cynllunio, oherwydd mae swyddogion yn dweud wrthynt, 'Os ewch chi i apêl, fe fyddwch chi'n amddiffyn hyn eich hun, ac nid oes gennych goes i sefyll arni oherwydd y rheolau.' Felly, yr hyn y gofynnwn amdano yw: helpwch y cynghorwyr hynny i wneud penderfyniadau lleol gwell, oherwydd nid yw MTAN 1 wedi cael ei adolygu ers 21 mlynedd, ac yn yr 21 mlynedd hynny, rydych chi wedi clywed yr holl brofiadau y mae Heledd Fychan, Rhys, Delyth a Gareth a Janet wedi sôn amdanynt. Rhaid gwrando ar hynny.
I will be coming on to the point about MTAN 1 and also the points that you've made in previous debates on this, but I'll just move on to say that we don't agree that a blanket 1,000m buffer zone on new and existing quarries would be appropriate or effective, because, as I said, those circumstances do vary. But 'Planning Policy Wales' and 'Minerals Technical Advice Note (Wales) 1: Aggregates', MTAN 1, are the principal sources of national planning policy, and we do believe that they do provide comprehensive and robust guidance about controlling the impacts of quarrying.
Planning policy is nuanced, and it is capable of being more locally place-based and sensitive, reflecting local circumstances. And also, though, it is kept under regular review, so should evidence suggest policy or advice is no longer up to date, consideration will be given to reviewing guidance. So, I know colleagues this afternoon have made reference to a number of sets of evidence that they say has changed the situation since MTAN 1 came into force, so, please, let's have that evidence and explore that evidence, because, as I say, we do keep things constantly under review.
One of the key principles within our policy is to provide for the safeguarding and the working of mineral resources to meet society's needs, both now and in the future, encouraging the efficient and appropriate use of those high-quality materials. The system does already require that the consideration of impacts on the environment, biodiversity, and public health are assessed as part of the planning process for new quarries and for the extensions to existing quarries. The primary purpose of those buffer zones is to limit the impact of mineral working and to protect land uses that are most sensitive to the impact of mineral operations by establishing that separation distance between potentially conflicting land uses. And as colleagues have said, the minimum distances of the buffer zones currently set out in MTAN 1 of 200m for hard rock and 100m for sand and gravel were arrived at through careful consideration and consultation with a range of interested and informed stakeholders.
So, introducing that mandatory buffer zone of 1,000m could bring about some unintended consequences, preventing the use of land for other uses, and that might then prohibit or adversely impact on the provision of key infrastructure, and I've mentioned house building as an example.
MTAN 1 is clear that the potential impact on health must always be considered in relation to proposals for aggregates extraction and a health impact assessment should be carried out for any proposal for a new quarry or sand and gravel pit located within 1 km of an existing community.
Our policy recognises that well-established liaison committees do help to provide the better local understanding of the impacts to be expected from aggregates extraction, and many quarries have already established those liaison committees and they do act as a forum for regular discussion and explanation, and those fora can be set up through the initiative of the operator or through the local planning authority, and I can't see any reason why a liaison committee would not be set up around a quarry, especially if it's a quarry where there are particular local concerns, because I think that that could be a really important forum for the exchange of information and exploring ways in which you can work together to address some of the concerns.
As I mentioned earlier, minerals are essential for our continued economic development, and quarries provide the essential raw materials to enable the building of homes and schools and infrastructure, but also the green energy projects that we are developing as well, and of course they play an absolutely vital role in our construction sector. The construction sector represents 6 per cent of the Welsh economy, with a turnover of over £6.1 billion, providing 88,000 jobs—
Fe ddof at y pwynt am MTAN 1 a hefyd y pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud mewn dadleuon blaenorol ar hyn, ond rwyf am symud ymlaen i ddweud nad ydym yn cytuno y byddai clustogfa gyffredinol o 1,000 metr ar chwareli newydd a phresennol yn briodol nac yn effeithiol, oherwydd, fel y dywedais, mae'r amgylchiadau'n amrywio. Ond 'Polisi Cynllunio Cymru' a 'Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (Cymru) 1: Agregau', MTAN 1, yw prif ffynonellau polisi cynllunio cenedlaethol, ac rydym yn credu eu bod yn darparu canllawiau cynhwysfawr a chadarn ar reoli effeithiau chwarela.
Mae polisi cynllunio'n fanwl, a gall fod yn fwy lleol ei natur ac yn sensitif, gan adlewyrchu amgylchiadau lleol. A hefyd, fodd bynnag, mae'n cael ei adolygu'n rheolaidd, felly os bydd tystiolaeth yn awgrymu nad yw polisi neu gyngor yn gyfredol mwyach, rhoddir ystyriaeth i adolygu canllawiau. Felly, rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau y prynhawn yma wedi cyfeirio at nifer o setiau tystiolaeth y dywedant eu bod wedi newid y sefyllfa ers i MTAN 1 ddod i rym, felly, os gwelwch yn dda, gadewch inni gael y dystiolaeth honno ac archwilio'r dystiolaeth honno, oherwydd, fel rwy'n dweud, rydym yn adolygu pethau'n gyson.
Un o'r egwyddorion allweddol yn ein polisi yw darparu ar gyfer diogelu a gweithio adnoddau mwynol i ddiwallu anghenion cymdeithas, nawr ac yn y dyfodol, gan annog defnydd effeithlon a phriodol o'r deunyddiau ansawdd uchel hynny. Mae'r system eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ystyriaeth o effeithiau ar yr amgylchedd, bioamrywiaeth ac iechyd y cyhoedd gael ei hasesu'n rhan o'r broses gynllunio ar gyfer chwareli newydd ac ar gyfer estyniadau i chwareli presennol. Prif bwrpas y parthau clustogi hynny yw cyfyngu ar effaith gwaith mwynau a diogelu mathau o ddefnydd tir sy'n fwyaf sensitif i effaith gweithgarwch mwynau trwy sefydlu pellter gwahanu rhwng mathau o ddefnydd tir a allai fod yn gwrthdaro. Ac fel y mae cyd-Aelodau wedi dweud, cyrhaeddwyd pellter isaf y parthau clustogi a nodir ar hyn o bryd yn MTAN 1 o 200 metr ar gyfer craig galed a 100 metr ar gyfer tywod a graean trwy ystyried ac ymgynghori gofalus ag ystod o randdeiliaid perthnasol a gwybodus.
Felly, gallai cyflwyno parth clustogi gorfodol o 1,000 metr greu canlyniadau anfwriadol, gan atal mathau eraill o ddefnydd tir, a gallai hynny wedyn wahardd neu effeithio'n andwyol ar ddarparu seilwaith allweddol, ac rwyf wedi sôn am adeiladu tai er enghraifft.
Mae MTAN 1 yn glir fod yn rhaid ystyried yr effaith bosibl ar iechyd bob amser mewn perthynas â chynigion ar gyfer echdynnu agregau a dylid cynnal asesiad o'r effaith ar iechyd yn achos unrhyw gynnig newydd ar gyfer chwarel neu bwll gro a thywod sydd wedi'i leoli o fewn 1 km i gymuned bresennol.
Mae ein polisi yn cydnabod bod pwyllgorau cyswllt sydd wedi sefydlu'n dda yn helpu i ddarparu'r ddealltwriaeth leol well o'r effeithiau sydd i'w disgwyl o echdynnu agregau, ac mae llawer o chwareli eisoes wedi sefydlu'r pwyllgorau cyswllt hynny ac maent yn gweithredu fel fforwm ar gyfer trafod ac esbonio rheolaidd, a gellir sefydlu'r fforymau hynny gan y gweithredwr neu drwy'r awdurdod cynllunio lleol, ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na fyddai pwyllgor cyswllt yn cael ei sefydlu o amgylch chwarel, yn enwedig os yw'n chwarel lle ceir pryderon lleol penodol, oherwydd rwy'n credu y gallai hwnnw fod yn fforwm pwysig iawn ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac archwilio ffyrdd o weithio gyda'ch gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon.
Fel y soniais yn gynharach, mae mwynau'n hanfodol ar gyfer ein datblygiad economaidd parhaus, ac mae chwareli'n darparu'r deunyddiau crai hanfodol i'w gwneud hi'n bosibl adeiladu cartrefi ac ysgolion a seilwaith, ond hefyd y prosiectau ynni gwyrdd yr ydym yn eu datblygu hefyd, ac wrth gwrs maent yn chwarae rhan hollol hanfodol yn ein sector adeiladu. Mae'r sector adeiladu yn 6 y cant o economi Cymru, gyda throsiant o dros £6.1 biliwn, gan ddarparu 88,000 o swyddi—
Cabinet Secretary, you will need to conclude—
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd angen i chi ddirwyn i ben—
—so that's a really important sector.
—felly mae hwnnw'n sector pwysig iawn.
—and I've given allocated time for the interventions, so you need to conclude.
—ac rwyf wedi rhoi amser ar gyfer yr ymyriadau, felly mae angen ichi ddod i ben.
Apologies, I will conclude.
So, ultimately, we are seeking to actively reduce the proportion of primary aggregates that are used in relation to secondary recycled or waste materials and there's more work that we're doing in that area that I can share with colleagues. But, really, I do want to thank the petitioners themselves for bringing forward this issue for us to debate this afternoon. I clearly can recognise the strength of feeling, and the strength of feeling that has been brought forward by the representatives of those constituents as well, but I also hope I've been able to set out how difficult this is, to have that balance between the need for minerals and also the protection of local amenity.
Ymddiheuriadau, fe wnaf orffen.
Felly, yn y pen draw, rydym yn ceisio lleihau cyfran yr agregau crai sy'n cael eu defnyddio mewn perthynas â deunyddiau ailgylchu neu wastraff eilaidd ac rydym yn gwneud mwy o waith yn y maes hwnnw y gallaf ei rannu gyda chyd-Aelodau. Ond rwyf am ddiolch i'r deisebwyr eu hunain am ddod â'r mater hwn gerbron i ni ei drafod y prynhawn yma. Rwy'n amlwg yn gallu cydnabod cryfder y teimlad, a chryfder y teimlad a ddangoswyd gan gynrychiolwyr yr etholwyr hynny hefyd, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu nodi pa mor anodd yw hyn, a sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am fwynau a diogelu amwynderau lleol.
A galwaf ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl.
And I call on Carolyn Thomas to reply to the debate.
I'd like to thank the Members for all their contributions. We've heard today about the current buffer zone not being enough. The existing buffer zone has not been adhered to. I saw evidence from witnesses that we met, from people living close to the quarries, of a video where children were attending a youth club and they were shaking. It was vibrating and shaking with the vibration of the blast. I saw clouds of smoke—well, it's dust containing silicosis, as we've heard—very close. And the loud crusher is less than 200m away from houses and residents.
We've heard about the review of planning policy guidance MTAN 1 needing changing. It's been existing for 10 years. In the last 10 years, quarry lorries have grown huge. They're massive, they're noisy, they cause vibrations. At this quarry, they operate 40 per cent of the time between seven and nine in the morning, when most children are trying to get to school, when school buses are trying to pass them. Things have changed, and I think that that does need reviewing.
I did meet with representatives of quarrying, and I do understand the importance of quarrying for businesses, but I really think that the balance needs shifting towards communities, because they've had to come forward with evidence to us, to our Petitions Committee, for us to do something about it because they don't feel they're being listened to.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu holl gyfraniadau. Rydym wedi clywed heddiw nad yw'r parth clustogi presennol yn ddigonol. Nid ydynt wedi cadw at y parth clustogi presennol. Gwelais dystiolaeth gan dystion y cyfarfuom â hwy, gan bobl sy'n byw yn agos at y chwareli, o fideo lle roedd plant yn mynychu clwb ieuenctid ac roeddent yn crynu. Roedd yn crynu gyda dirgryniad y ffrwydrad. Gwelais gymylau o fwg—wel, llwch sy'n cynnwys silicosis, fel y clywsom—yn agos iawn. Ac mae'r peiriant malu swnllyd lai na 200 metr o dai a thrigolion.
Clywsom am yr angen i newid yr adolygiad o gyfarwyddyd polisi cynllunio MTAN 1. Mae wedi bod ar waith ers 10 mlynedd. Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae lorïau chwareli wedi tyfu'n enfawr. Maent yn enfawr, maent yn swnllyd, maent yn achosi dirgryniadau. Yn y chwarel hon, maent yn gweithredu 40 y cant o'r amser rhwng saith a naw yn y bore, pan fydd y rhan fwyaf o blant yn ceisio cyrraedd yr ysgol, pan fydd bysiau ysgol yn ceisio eu pasio. Mae pethau wedi newid, ac rwy'n credu bod angen adolygu hynny.
Cyfarfûm â chynrychiolwyr y diwydiant chwarela, ac rwy'n deall pwysigrwydd chwarela i fusnesau, ond credaf yn gryf fod angen symud y cydbwysedd tuag at gymunedau, gan eu bod wedi gorfod cyflwyno tystiolaeth i ni, i'n Pwyllgor Deisebau, er mwyn inni wneud rhywbeth amdano gan nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu clywed.
Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
I will.
Gwnaf.
Do you agree with me we have the future generations Act in Wales? Actually, when RCT council had this presented to them, they cited the future generations Act and refused the planning application, but it was Welsh Government that gave the permission to go ahead. Do you think we need to reflect the future generations Act, because that's been since MTAN 2014, and also the World Health Organization in terms of safe levels has changed dramatically? Do you think the Welsh Government should be taking notice of those from what you've heard in terms of evidence?
A ydych chi'n cytuno â mi fod gennym Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru? Mewn gwirionedd, pan gyflwynwyd hyn i gyngor Rhondda Cynon Taf, fe wnaethant ddyfynnu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a gwrthod y cais cynllunio, ond Llywodraeth Cymru a roddodd y caniatâd iddynt fwrw ymlaen. A ydych chi'n credu bod angen inni adlewyrchu Deddf cenedlaethau'r dyfodol, gan fod hynny wedi digwydd ers MTAN 2014, a hefyd mae canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar lefelau diogel wedi newid yn sylweddol? A ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru roi sylw i'r rheini o'r dystiolaeth a glywsoch?
Yes, I think we need to have regard to the well-being of future generations Act, the pollution and soundscapes Bill as well, and other legislation that we've passed since as a Senedd. I think that we need to look at it from a health point of view as well as a business point of view, going forward. It would be appreciated if the Cabinet Secretary would meet with stakeholders, as has been suggested, just so that we can get our view across to you, as well as the side of business. That would be really appreciated.
Cabinet Secretary, I know you spoke about the importance of businesses, but I really do think we need to balance up the health and well-being here, going forward. As was said, it is down to local planning, but when they wanted to object to this planning application, it went to appeal and then charges were put against the local authority by Heidelberg. There's always a threat of that hanging over them, should the appeal go against them.
So, to sum it up, basically, I think that we'd like to have a meeting going forward. We need the MTAN 1 looking at, and we need to have a shift of balance. I'd like to thank the Business Committee for granting time for this important debate, but I'd like to thank all the petitioners and campaigners for fighting to have their voices heard in this Parliament. I hope that you have been heard today and that you feel that you have people putting your point across here. Thank you, Deputy Presiding Officer, for the time. Thank you.
Ydw, rwy'n credu bod angen inni ystyried Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y Bil llygredd a seinweddau hefyd, a deddfwriaeth arall a basiwyd gennym ers hynny fel Senedd. Credaf fod angen inni edrych ar hyn o safbwynt iechyd yn ogystal â safbwynt busnes, wrth symud ymlaen. Byddai'n galonogol pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â rhanddeiliaid, fel yr awgrymwyd, er mwyn inni allu cyfleu ein barn i chi, yn ogystal â safbwynt busnes. Byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod wedi siarad am bwysigrwydd busnesau, ond credaf yn gryf fod angen inni gydbwyso'r iechyd a'r lles yma, wrth symud ymlaen. Fel y dywedwyd, mae'n dibynnu ar drefniadau cynllunio lleol, ond pan oeddent am wrthwynebu'r cais cynllunio hwn, aeth i apêl a hawliwyd costau yn erbyn yr awdurdod lleol gan Heidelberg. Mae'r bygythiad hwnnw bob amser uwch eu pennau, pe bai'r apêl yn mynd yn eu herbyn.
Felly, i grynhoi, yn y bôn, rwy'n credu yr hoffem gael cyfarfod wrth symud ymlaen. Mae angen inni edrych ar MTAN 1, ac mae angen inni newid y cydbwysedd. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am roi amser ar gyfer y ddadl bwysig hon, ond hoffwn ddiolch i'r holl ddeisebwyr ac ymgyrchwyr am ymladd i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn y Senedd hon. Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael eich clywed heddiw a'ch bod yn teimlo bod gennych bobl i ddadlau eich safbwynt yma. Diolch am yr amser, Ddirprwy Lywydd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r deiseb? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to note the petition. Does any Member object? No, therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Jane Hutt, and amendment 2 in the name of Heledd Fychan. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.
Item 7 today is the Welsh Conservatives' debate on Betsi Cadwaladr University Health Board. I call on Gareth Davies to move the motion.
Cynnig NDM8911 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 8 Mehefin 2025 yn nodi deng mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi dan fesurau arbennig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Motion NDM8911 Paul Davies
To propose that the Senedd:
1. Notes that 8 June 2025 marks ten years since Betsi Cadwaladr University Health Board was placed in special measures.
2. Calls on the Welsh Government to initiate a public inquiry into Betsi Cadwaladr University Health Board.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr iawn, Deputy Llywydd. I’m pleased to be able to move this motion today in the name of my colleague Paul Davies.
We have laid this debate today to confront a stark reality. Ten years after Betsi Cadwaladr University Health Board was placed into special measures in 2015, the first health board in Wales to face such escalation, it remains mired in systemic failure, with no clear timeline for recovery. A decade on, the Welsh Government has acknowledged that Betsi could languish in this state indefinitely. This is not just a failure of management, it’s a failure of accountability, leadership and political will under Labour’s stewardship. The Welsh Conservatives call for an urgent public inquiry into Betsi Cadwaladr University Health Board to uncover the root causes of this prolonged crisis and deliver justice for the people of north Wales.
The evidence is damning. When combined, Betsi has spent longer in special measures than any other organisation in the history of the NHS. Political expediency saw the Welsh Labour Government prematurely lift Betsi out of special measures, only for dire realities—safety breaches, patient harm and operational chaos—to force its reinstatement back in 2023. And let’s have a look at the numbers. In June 2015, just two people waited over two years for treatment. Today, that figure stands at 5,747—a staggering 287,250 per cent increase. Of the 8,389 pathways in Wales waiting over two years, 68 per cent of those are in Betsi. Patients in north Wales are 1,460 times more likely to face such delays than in England. A quarter of all NHS waiting lists in Wales, whether for diagnostics, therapies or treatment, fall under Betsi’s jurisdiction, despite it serving just a fraction of the population.
The human cost is alarming. The Health and Safety Executive fined Betsi Cadwaladr £250,000 after the tragic deaths of three elderly patients from preventable falls, with the inspector noting that the board failed to follow its own safety policies. Audit Wales’s 2024 report paints a grim picture of ongoing leadership instability and a lack of coherent long-term planning. Over 8,000 ambulance hours were lost to handover delays back in 2024 alone, with emergency department waits averaging 8.5 hours. Betsi’s A&E performance is the worst in Wales, with over 39 per cent of patients waiting over four hours, 17 per cent over 12 hours—far below the national average.
Cancer pathways and ambulance response times are deteriorating and diagnostic waits are abysmal. Over a third of tests are taking longer than eight weeks, undermining the health Secretary’s promise to restore an eight-week diagnostic target by March 2026. And the staff are struggling too. Staff still report feeling undervalued, with engagement scores below the Welsh average, and corporate governance, described as lacking coherence before special measures, remains weak, with inadequate risk scrutiny and financial oversight.
The Welsh Conservatives have a bold plan to turn this around. On day 1, we will declare a health emergency, launch a public inquiry into Betsi Cadwaladr University Health Board and implement the largest recruitment and retention plan in Welsh NHS history. We would guarantee a GP appointment within seven days, cap waits at one year and fast track surgeries with evening and weekend theatre access.
This Government here in Cardiff Bay, opposite, has no plan. What we are witnessing is the inevitable consequence of a tired, statist administration that has run out of energy, ideas and legitimacy. Labour’s model, centralised command and control, beholden to the unions and allergic to reform, has failed not just in theory, but tragically in practice. Their instinct is always to throw away money, regulate harder and avoid accountability, even when patients suffer and staff despair. This is not the result of unfortunate circumstances or bad luck, it is the product of a world view that confuses bureaucracy with care. North Wales is paying the price for a Government that has surrendered to inertia, clinging to the failed left-wing dogmas of a bygone age, utterly unsuited to the challenge of a twenty-first century health service.
Deputy Llywydd, the people of north Wales deserve better than a health board trapped in perpetual crisis. We are proud of our NHS and the fantastic, hard-working staff within it, but they are being let down by those in Government, as well as the patients. We cannot afford to wait another 10 years. Lives are at stake, and the damage is deepening by the day. A public inquiry isn't just necessary, it is absolutely critical and must happen now. The situation demands immediate action, and I implore this Senedd to pass this motion tonight, without delay, for the sake of restoring trust, demanding accountability and salvaging what hope remains for our NHS services in north Wales. Thank you.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu gwneud y cynnig hwn heddiw yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies.
Rydym wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw i gydnabod realiti llwm. Ddeng mlynedd ar ôl rhoi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig yn 2015, y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i wynebu camau uwchgyfeirio o'r fath, mae'n parhau i ddangos methiant systemig, heb amserlen glir ar gyfer adferiad. Ddegawd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gallai bwrdd Betsi barhau yn y cyflwr hwn am gyfnod amhenodol. Nid methiant rheolaethol yn unig mohono, mae'n fethiant o ran atebolrwydd, arweinyddiaeth ac ewyllys wleidyddol o dan stiwardiaeth Llafur. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ymchwiliad cyhoeddus brys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatgelu achosion sylfaenol yr argyfwng hirhoedlog hwn ac i sicrhau cyfiawnder i bobl gogledd Cymru.
Mae'r dystiolaeth yn ddamniol. At ei gilydd, mae bwrdd Betsi wedi treulio mwy o amser o dan fesurau arbennig nag unrhyw sefydliad arall yn hanes y GIG. Er hwylustod gwleidyddol, tynnodd Llywodraeth Lafur Cymru fwrdd Betsi allan o fesurau arbennig cyn pryd, dim ond i'r realiti difrifol—torri mesurau diogelwch, niwed i gleifion ac anhrefn gweithredol—eu gorfodi i'w roi yn ôl o dan fesurau arbennig yn 2023. A gadewch inni edrych ar y ffigurau. Ym mis Mehefin 2015, dim ond dau unigolyn a arhosodd am fwy na dwy flynedd am driniaeth. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw'n 5,747—cynnydd syfrdanol o 287,250 y cant. O'r 8,389 o bobl ar lwybrau gofal yng Nghymru sy'n aros ers dros ddwy flynedd, mae 68 y cant ohonynt ym mwrdd Betsi. Mae cleifion yng ngogledd Cymru 1,460 gwaith yn fwy tebygol o wynebu oedi o'r fath nag yn Lloegr. Mae chwarter holl restrau aros y GIG yng Nghymru, boed ar gyfer diagnosteg, therapïau neu driniaeth, o dan awdurdodaeth bwrdd Betsi, er mai dim ond cyfran fach o'r boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu.
Mae'r gost ddynol yn frawychus. Cafodd bwrdd Betsi Cadwaladr ddirwy o £250,000 gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar ôl marwolaethau trasig tri chlaf oedrannus yn dilyn cwympiadau y gellid bod wedi'u hatal, gyda'r arolygydd yn nodi bod y bwrdd wedi methu dilyn ei bolisïau diogelwch ei hun. Mae adroddiad Archwilio Cymru ar gyfer 2024 yn cynnig darlun difrifol o ansefydlogrwydd arweinyddol parhaus a diffyg cynllunio hirdymor cydlynol. Collwyd dros 8,000 o oriau ambiwlans oherwydd oedi wrth drosglwyddo cleifion yn 2024 yn unig, gydag arosiadau o 8.5 awr ar gyfartaledd mewn adrannau achosion brys. Perfformiad adrannau achosion brys bwrdd Betsi yw'r gwaethaf yng Nghymru, gyda dros 39 y cant o gleifion yn aros dros bedair awr, 17 y cant dros 12 awr—ymhell islaw'r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae llwybrau canser ac amseroedd ymateb ambiwlansys yn dirywio ac mae arosiadau diagnostig yn drychinebus. Mae dros draean o brofion yn cymryd mwy nag wyth wythnos, gan danseilio addewid yr Ysgrifennydd iechyd i adfer targed diagnostig o wyth wythnos erbyn mis Mawrth 2026. Ac mae'r staff yn ei chael hi'n anodd hefyd. Mae staff yn dal i adrodd eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, gyda sgoriau ymgysylltu islaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, ac mae llywodraethiant corfforaethol, y nodwyd ei fod yn brin o gydlyniant cyn y mesurau arbennig, yn parhau i fod yn wan, gyda threfniadau annigonol ar gyfer craffu ar risgiau a goruchwyliaeth ariannol.
Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun beiddgar i newid y sefyllfa. Ar ddiwrnod 1, byddwn yn datgan argyfwng iechyd, yn lansio ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn rhoi'r cynllun recriwtio a chadw staff mwyaf yn hanes GIG Cymru ar waith. Byddem yn gwarantu apwyntiad â meddyg teulu o fewn saith diwrnod, yn cyflwyno cap o flwyddyn ar amseroedd aros ac yn rhoi llawdriniaethau ar lwybr cyflym gyda mynediad at theatrau gyda'r nos a phenwythnosau.
Nid oes gan y Llywodraeth hon ym Mae Caerdydd, gyferbyn, unrhyw gynllun. Yr hyn a welwn yw canlyniad anochel gweinyddiaeth flinedig, wladoliaethol sydd wedi rhedeg allan o egni, syniadau a dilysrwydd. Mae model Llafur, sef gorchmynion a rheolaeth ganolog, dan ddyled i'r undebau a diwygio'n wrthnaws iddi, wedi methu nid yn unig mewn theori, ond yn ymarferol. Eu greddf bob amser yw lluchio arian ymaith, rheoleiddio'n llymach ac osgoi atebolrwydd, hyd yn oed pan fo cleifion yn dioddef a staff yn anobeithio. Nid canlyniad amgylchiadau anffodus nac anlwc yw hyn, ond canlyniad byd-olwg sy'n drysu rhwng biwrocratiaeth a gofal. Mae gogledd Cymru'n talu'r pris am Lywodraeth sydd wedi ildio i lesgedd, gan lynu wrth ddogmâu asgell chwith aflwyddiannus oes a fu, yn gwbl anghymwys i wynebu her gwasanaeth iechyd yr unfed ganrif ar hugain.
Ddirprwy Lywydd, mae pobl gogledd Cymru yn haeddu gwell na bwrdd iechyd sydd mewn argyfwng parhaus. Rydym yn falch o'n GIG a'r staff gwych, gweithgar ynddo, ond mae'r rhai sydd yn y Llywodraeth yn gwneud cam gwael â hwy, yn ogystal â'r cleifion. Ni allwn fforddio aros 10 mlynedd arall. Mae bywydau yn y fantol, ac mae'r difrod yn dyfnhau bob dydd. Nid yn unig fod ymchwiliad cyhoeddus yn angenrheidiol, mae'n gwbl hanfodol, ac mae'n rhaid iddo ddigwydd nawr. Mae'r sefyllfa'n galw am weithredu ar unwaith, ac rwy'n erfyn ar y Senedd hon i basio'r cynnig hwn heno, heb oedi, er mwyn adfer ymddiriedaeth, mynnu atebolrwydd ac achub unrhyw obaith sy'n weddill i wasanaethau ein GIG yng ngogledd Cymru. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
I have selected the amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. I call on the Cabinet Secretary for Health and Social Care to move amendment 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r gwelliannau sydd wedi’u gwneud hyd yma o dan y gyfundrefn mesurau arbennig a'r gwaith sydd ar ôl o hyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei wneud, fel y nodwyd yn yr adroddiad cynnydd dwy flynedd a gyhoeddwyd fis Mawrth.
Amendment 1—Jane Hutt
Delete point 2 and replace with:
Notes the improvements made under the special measures regime to date and the work Betsi Cadwaladr UHB still has to do to, as highlighted in the two-year progress report, published in March.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.

Yn ffurfiol.
Formally.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
I call on Mabon ap Gwynfor to move amendment 2, tabled in the name of Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn canmol gwaith caled staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan amodau heriol tu hwnt.
Yn gresynu:
a) bod y gwaith caled hwn wedi’i danseilio gan gamweithredu cronig hanesyddol ar lefel y bwrdd dros nifer o flynyddoedd, yn ogystal â’r methiannau a’r diffyg tryloywder yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y fframwaith mesurau arbennig - gan gynnwys tynnu’r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig yn gynamserol yn 2020 er hwylustod gwleidyddol; a
b) bod trigolion gogledd Cymru yn wynebu amseroedd aros anghymesur am driniaeth o gymharu â gweddill Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion adroddiad Plaid Cymru ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’ yn llawn, i wella mecanweithiau llywodraethu ac atebolrwydd yn Betsi Cadwaladr - gan gynnwys diwygio’r fframwaith mesurau arbennig a sefydlu rheolau ymgysylltu safonol ar gyfer uwch arweinwyr i sicrhau na chaiff trefniadau atebolrwydd eu tanseilio na’u gweithio o amgylch.
Amendment 2—Heledd Fychan
Delete point 2 and replace with:
Commends the hard work of staff at Betsi Cadwaladr University Health Board under exceptionally challenging conditions.
Regrets:
a) how this hard work has historically been undermined by chronic dysfunctionality at the board level over many years, as well as the failures and lack of transparency in the Welsh Government’s approach to the special measures framework - which included taking the health board out of special measures prematurely in 2020 for political expediency; and
b) that residents in north Wales face disproportionately longer waits for treatment compared to the rest of Wales.
Calls on the Welsh Government to fully implement the recommendations of Plaid Cymru’s report ‘The Welsh Health System: Accountability, Performance and Culture’, to improve governance and accountability mechanisms at Betsi Cadwaladr - including reforming the special measures framework and establishing standardised rules of engagement for senior leaders to ensure that accountability arrangements are not undermined or worked around.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Amendment 2 moved.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. At the start of April, the Public Services Ombudsman for Wales published a damning report, outlining significant shortcomings in the post-operative care received by a cancer patient in north Wales. A few weeks later, a freedom of information request from Plaid Cymru revealed that patients were misled as to the temporary closure of Penley community hospital. These are but the latest chapters in a long story of chronic failure, executive dysfunction and organisational chaos that has bedevilled the north Wales health board since its creation.
After all, this is a health board that has been in special measures for over two thirds of its entire existence; where less than 60 per cent of cancer patients receive the necessary treatment within the clinically recommended timescale; where almost 17 per cent of all A&E visits last longer than 12 hours; where over a quarter of patients are stuck on waiting lists for longer than a year. It's also worth reminding ourselves of the history of the north Wales health board, which demonstrates that, despite the frequent churn in ministerial personnel, Labour's record of broken promises to both the patients and staff alike in north Wales has been consistent.
Back in 2009, the merger of the six local health boards in north Wales, as part of the wider reorganisation of the NHS in Wales under the then health Minister, Edwina Hart, was framed as a means of reducing geographical health inequalities, fostering more robust strategic planning, and defusing conflicts between NHS bodies. Not only have these benefits conspicuously failed to materialise, if anything, discord, regional discrepancies in care, and strategic incoherence have become even more pronounced over the past 16 years.
We could spend all day discussing the problems at Betsi Cadwaladr, but what the residents of north Wales are really crying out for is an end to the excuse making and the buck passing, and some tangible evidence of progress towards improved standards. The Conservative motion calls for a public inquiry to this end, and while I do have considerable sympathy with that view, there are a number of reasons why, on a practical level, I don't believe that this is the right course of action at this stage.
Firstly, as I've already alluded to, the failures at Betsi Cadwaladr University Health Board are deep-rooted and multifaceted. So, a full public inquiry would take many years and many tens of millions of pounds to reach its conclusions. Moreover, while the situation at Betsi is undoubtedly the most egregious example of Labour's mismanagement of our precious health service, it's far from unique. We need only look at the recent upheaval at Hywel Dda to realise that, if we have an inquiry into Betsi, we might as well have an inquiry into the Welsh NHS as a whole.
Certainly, there are particular elements of the sorry saga of Betsi that merit further scrutiny, not least the shameful decision by this Government to prematurely lift the health board out of special measures in November 2020 due to political opportunism, thereby undoing any fledgling progress that may have started to take root. We consistently called for a public inquiry into this decision, which unfortunately fell on deaf ears. So, ultimately, the Labour Party will have to account to the voters of north Wales as to why they prioritised short-term political self-interest over the healthcare needs of the region.
But, most importantly of all, the need for a public inquiry has been superseded by the fact that we now have a plan for the NHS in Wales. At the end of last year, Plaid Cymru published our report, 'The Welsh Health System: Accountability, Performance and Culture', the motivation for which primarily arose from our sheer frustration with the Government's ducking of responsibility for failings at Betsi Cadwaladr. It outlines clear and pragmatic steps to improve governance and accountability mechanisms in the NHS, such as reforming the special measures framework, which currently commands little confidence amongst healthcare professionals, and establishing standardised rules of engagement for senior leaders, the absence of which has been a recurring issue at Betsi.
The recent publication of the separate report by the independent ministerial advisory group has confirmed what we long suspected: that the Government has been less than proactive in delivering long-overdue reforms to the governance architecture of the NHS, and that several of the recommendations made in our report remain outstanding. So, instead of constructively engaging with our proposals from the outset, this Government's misplaced pride and proclivity for obfuscation has resulted in six months of potential progress being squandered.
Now the Government has the opportunity to make amends by supporting our amendment and finally demonstrate its seriousness about cleaning up the mess they've made of healthcare in north Wales. Anything less would further underline what has already become clear in the minds of many in north Wales: that only a change in Government will lead to a purposeful shift towards the improved standards that they desperately crave.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adroddiad damniol, yn amlinellu diffygion sylweddol yn y gofal ôl-driniaethol a gafodd claf canser yng ngogledd Cymru. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, datgelodd cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru fod cleifion wedi cael eu camarwain ynghylch cau ysbyty cymunedol Llannerch Banna dros dro. Dim ond y penodau diweddaraf yw'r rhain mewn stori hir o fethiant cronig, camweithredu gweithredol ac anhrefn sefydliadol sydd wedi plagio bwrdd iechyd gogledd Cymru ers iddo gael ei greu.
Wedi'r cyfan, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod o dan fesurau arbennig am dros ddwy ran o dair o'i fodolaeth; lle mae llai na 60 y cant o gleifion canser yn derbyn y driniaeth angenrheidiol o fewn yr amserlen a argymhellir yn glinigol; lle mae bron i 17 y cant o'r holl ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn para'n hirach na 12 awr; lle mae dros chwarter y cleifion ar restrau aros am fwy na blwyddyn. Mae hefyd yn werth atgoffa ein hunain o hanes bwrdd iechyd gogledd Cymru, sy'n dangos, er gwaethaf y newid mynych mewn personél gweinidogol, fod hanes Llafur o dorri addewidion i'r cleifion a'r staff fel ei gilydd yn y gogledd wedi bod yn gyson.
Yn ôl yn 2009, cafodd y broses o uno'r chwe bwrdd iechyd lleol yng ngogledd Cymru, fel rhan o ad-drefnu ehangach y GIG yng Nghymru o dan y Gweinidog iechyd ar y pryd, Edwina Hart, ei disgrifio fel ffordd o leihau anghydraddoldebau iechyd daearyddol, meithrin trefniadau cynllunio strategol mwy cadarn, a thawelu gwrthdaro rhwng cyrff y GIG. Nid yn unig na wireddwyd y manteision hyn, os rhywbeth, mae anghytgord, anghysondebau rhanbarthol mewn gofal, a diffyg cydlyniant strategol wedi dod hyd yn oed yn fwy amlwg dros yr 16 mlynedd diwethaf.
Gallem dreulio'r diwrnod cyfan yn trafod y problemau ym mwrdd Betsi Cadwaladr, ond yr hyn y mae trigolion gogledd Cymru'n crefu amdano yw diwedd ar esgusodion a thaflu'r baich, a rhywfaint o dystiolaeth weladwy o gynnydd tuag at safonau gwell. Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r perwyl hwn, ac er bod gennyf gydymdeimlad sylweddol â'r safbwynt hwnnw, mae nifer o resymau pam nad wyf yn credu, ar lefel ymarferol, mai dyma'r cam cywir ar hyn o bryd.
Yn gyntaf, fel y nodais eisoes, mae'r methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddwfn ac yn amlweddog. Felly, byddai ymchwiliad cyhoeddus llawn yn cymryd blynyddoedd lawer a degau lawer o filiynau o bunnoedd i ddod i'w gasgliadau. Ar ben hynny, er mai'r sefyllfa ym mwrdd Betsi yw'r enghraifft waethaf heb os o gamreolaeth Llafur ar ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr, mae ymhell o fod yn unigryw. Nid oes ond angen inni edrych ar yr aflonyddwch diweddar yn Hywel Dda i sylweddoli, os cawn ymchwiliad i fwrdd Betsi, waeth i ni gael ymchwiliad i GIG Cymru yn ei gyfanrwydd.
Yn sicr, mae elfennau penodol o saga drist bwrdd Betsi y dylid craffu ymhellach arnynt, yn enwedig y penderfyniad cywilyddus gan y Llywodraeth hon i ddod â'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig cyn pryd ym mis Tachwedd 2020 oherwydd oportiwnistiaeth wleidyddol, gan ddadwneud unrhyw gynnydd a allai fod wedi dechrau gwreiddio. Fe wnaethom alw'n gyson am ymchwiliad cyhoeddus i'r penderfyniad hwn, ond fe syrthiodd hynny ar glustiau byddar yn anffodus. Felly, yn y pen draw, bydd yn rhaid i'r Blaid Lafur egluro i bleidleiswyr gogledd Cymru pam y gwnaethant flaenoriaethu hunan-les gwleidyddol tymor byr dros anghenion gofal iechyd y rhanbarth.
Ond yn bwysicaf oll, mae'r angen am ymchwiliad cyhoeddus wedi'i ddisodli gan y ffaith bod gennym gynllun ar gyfer y GIG yng Nghymru bellach. Yn hwyr y llynedd, cyhoeddodd Plaid Cymru ein hadroddiad, 'System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant', y cododd y cymhelliad i'w wneud yn bennaf o'n rhwystredigaeth lwyr â'r ffaith bod y Llywodraeth yn osgoi cyfrifoldeb am fethiannau ym mwrdd Betsi Cadwaladr. Mae'n amlinellu camau clir a phragmatig i wella mecanweithiau llywodraethu ac atebolrwydd yn y GIG, megis diwygio'r fframwaith mesurau arbennig, nad yw'n ennyn llawer o hyder ar hyn o bryd ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sefydlu rheolau ymgysylltu safonol ar gyfer uwch arweinwyr, y mae eu diffyg wedi bod yn broblem gyson ym mwrdd Betsi.
Mae cyhoeddi'r adroddiad ar wahân gan y grŵp cynghori gweinidogol annibynnol yn ddiweddar wedi cadarnhau'r hyn roeddem wedi'i amau ers tro: fod y Llywodraeth wedi bod yn llai na rhagweithiol wrth gyflawni diwygiadau hirddisgwyliedig i bensaernïaeth llywodraethu'r GIG, a bod nifer o'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad yn parhau i fod heb eu rhoi ar waith. Felly, yn hytrach na gweithredu ein cynigion o'r cychwyn cyntaf, mae balchder ffôl a thuedd y Llywodraeth hon i gymylu pethau wedi arwain at wastraffu chwe mis o gynnydd posibl.
Mae gan y Llywodraeth gyfle nawr i wneud iawn am hyn drwy gefnogi ein gwelliant a dangos o'r diwedd eu bod o ddifrif ynglŷn â glanhau'r llanast a wnaethant o ofal iechyd yng ngogledd Cymru. Byddai unrhyw beth llai yn tanlinellu ymhellach yr hyn sydd eisoes wedi dod yn glir ym meddyliau llawer o bobl y gogledd: mai dim ond newid Llywodraeth a fydd yn arwain at newid pwrpasol tuag at y safonau gwell sydd eu hangen yn daer.
Of course, Betsi Cadwaladr University Health Board was created when Plaid were in Government with Labour.
Our call on the Welsh Government to initiate a public inquiry into Betsi Cadwaladr University Health Board has been long in the making, and 8 June, as we've heard, marks 10 years since the Welsh Government first placed this health board in special measures.
After the health board attended the Senedd's Public Accounts and Public Administration Committee in March 2022, I wrote to them as Chair regarding concerns about some of the responses they had provided to us. Our letter referred to various reports over the previous decade, including the Holden, Ockenden, Health and Social Care Advisory Service and Public Accounts Committee reports, and included, 'We were disappointed by the lack of ownership and responsibility taken by the executive of the problems at the board.'
Despite the Senedd's Public Accounts and Public Administration Committee and its predecessors having consistently reported concerns regarding both board functionality and oversight of the health board by the Welsh Government, including reports published in 2013, in 2016, in 2019, and despite the North Wales Community Health Council having raised these concerns throughout, matters were allowed to reach this head.
A written statement by the health Minister, now First Minister, in February 2023, stated that she'd agreed it was time for independent members of the board to step aside. However, in their subsequent letter to the First Minister, these independent members stated, 'We're writing to express our sincere concerns about the future of health services in north Wales following this morning's meeting with the health Minister when we were left with no option but to resign as independent members with immediate effect.' They said, 'We're gravely concerned that the Minister's focus on independent members rather than the operational executive and their delivery exposes patients across north Wales and the organisation to significant risk going forward.'
These former independent health board members subsequently told me that, through her actions, the Minister has wiped the memory of the organisation. Those who battled to see the organisation learn from past failings have been replaced. At the Public Accounts and Public Administration Committee meeting on 3 May 2023, we also heard from former independent health board members that their forced resignation followed their attempts to hold certain executive members of the board to account through purposeful challenge and scrutiny.
A Flintshire constituent recently wrote to me stating he had had procedures at Wrexham and found the consultants and doctors excellent. However, he described poor emergency care for his 98-year-old mother-in-law, overworked staff and inadequate facilities. As he put it, 'There is no benefit in just throwing money at a broken system.'
Unfortunately, I experienced this myself when I spent New Year's Eve in Wrexham Maelor's A&E as a patient. The staff were brilliant, but the system was clearly breaking. When I told a cardiologist it must be worse because it was New Year's Eve, he said, 'No, this is not exceptional.' The waiting room screen said two and a half hours to treatment, but triage told me to ignore that as it would be at least eight. I spent the night on a trolley in the majors ward and had to ask for a blanket at 3 a.m. I subsequently reported this to the chief executive. When I visited A&E with a relative in April the screen was blank, but my relative was told in triage that the day began with 16-hour waiting times, but they were now down to 11 hours. She ultimately waited seven.
At a briefing in February, a Betsi Cadwaladr University Health Board emergency medicine consultant explained how even she had to personally search the hospital for trolleys when she should be treating patients at times when ambulances were queuing up outside A&E. Although it is good news that two-year waits have fallen, they remain at 8,389 in Wales, compared with only 147 in England, with the majority—5,747—in Betsi Cadwaladr University Health Board.
Llais North Wales, the people's voice in health and social care, told me two weeks ago that the health board remains the primary concern reported to them. Meanwhile, the health board continues to pursue false economies in third sector partner funding, which will add to the cost pressures upon it, ranging from hospices to emergency department services to the postcode lottery across north Wales in access to services for people living with dementia. Because we must not allow the facts to be buried, the buck to be passed and the whistleblowers to be bullied, north Wales needs a public inquiry into Betsi Cadwaladr University Health Board.
Wrth gwrs, crëwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pan oedd Plaid Cymru mewn Llywodraeth gyda Llafur.
Mae ein galwad ar Lywodraeth Cymru i gychwyn ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn yr arfaeth ers tro, ac mae 8 Mehefin, fel y clywsom, yn nodi 10 mlynedd ers i Lywodraeth Cymru roi'r bwrdd iechyd hwn o dan fesurau arbennig am y tro cyntaf.
Ar ôl i'r bwrdd iechyd fynychu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ym mis Mawrth 2022, ysgrifennais atynt fel Cadeirydd ynghylch pryderon ynglŷn â rhai o'r ymatebion a ddarparwyd ganddynt i ni. Cyfeiriai ein llythyr at adroddiadau amrywiol dros y degawd blaenorol, gan gynnwys adroddiadau Holden, Ockenden, y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac roedd yn cynnwys y frawddeg, 'Cawsom ein siomi nad oedd y weithrediaeth yn cymryd cyfrifoldeb am y problemau yn y bwrdd.'
Er bod Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd a'i ragflaenwyr wedi adrodd yn gyson am bryderon ynghylch gweithrediad y bwrdd a goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o'r bwrdd iechyd, gan gynnwys adroddiadau a gyhoeddwyd yn 2013, yn 2016, yn 2019, ac er bod Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi codi'r pryderon hyn yn gyson, gadawyd i faterion gyrraedd y pwynt hwn.
Mewn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd, sydd bellach yn Brif Weinidog, ym mis Chwefror 2023, nodwyd ei bod wedi cytuno ei bod yn bryd i aelodau annibynnol y bwrdd ymddiswyddo. Fodd bynnag, yn eu llythyr dilynol at y Prif Weinidog, dywedodd yr aelodau annibynnol hyn, 'Rydyn ni'n ysgrifennu i fynegi ein pryderon diffuant o ran dyfodol gwasanaethau iechyd yn y gogledd yn dilyn y cyfarfod y bore yma gyda'r Gweinidog pan nad oedd gennym ni unrhyw ddewis ond ymddiswyddo fel aelodau annibynnol ar unwaith.' Dywedasant, 'Rydym yn pryderu'n ddifrifol fod ffocws y Gweinidog ar aelodau annibynnol yn hytrach na'r weithrediaeth weithredol a'u cyflawniad yn gwneud cleifion ledled Cymru a'r sefydliad yn agored i risg sylweddol wrth symud ymlaen.'
Dywedodd y cyn-aelodau annibynnol hyn o'r bwrdd iechyd wrthyf wedi hynny fod y Gweinidog, drwy ei gweithredoedd, wedi dileu cof y sefydliad. Mae'r rhai a frwydrodd i weld y sefydliad yn dysgu o fethiannau'r gorffennol wedi cael eu disodli. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 3 Mai 2023, clywsom hefyd gan gyn-aelodau annibynnol o'r bwrdd iechyd fod eu hymddiswyddiad gorfodol wedi dilyn eu hymdrechion i ddwyn rhai o aelodau gweithredol y bwrdd i gyfrif drwy her a chraffu pwrpasol.
Ysgrifennodd etholwr o sir y Fflint ataf yn ddiweddar i ddweud ei fod wedi cael llawdriniaethau yn Wrecsam a bod y meddygon a'r meddygon ymgynghorol wedi bod yn rhagorol. Fodd bynnag, disgrifiodd ofal brys gwael i'w fam-yng-nghyfraith 98 oed, staff wedi'u gorweithio a chyfleusterau annigonol. Fel y dywedodd, 'Nid oes unrhyw fudd mewn taflu arian at system doredig.'
Yn anffodus, profais hyn fy hun pan dreuliais Nos Galan yn adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty Maelor Wrecsam fel claf. Roedd y staff yn wych, ond roedd y system yn amlwg yn methu. Pan ddywedais wrth gardiolegydd fod yn rhaid ei bod yn waeth gan ei bod yn Nos Galan, dywedodd, 'Na, nid yw hyn yn eithriadol.' Roedd sgrin yr ystafell aros yn nodi dwy awr a hanner i gael triniaeth, ond dywedodd y gwasanaeth brysbennu wrthyf am anwybyddu hynny gan y byddai'n wyth awr o leiaf. Treuliais y noson ar droli ar y ward achosion difrifol, a bu'n rhaid imi ofyn am flanced am 3 y bore. Rhoddais wybod am hyn i'r prif weithredwr yn ddiweddarach. Pan ymwelais ag adran damweiniau ac achosion brys gyda pherthynas i mi ym mis Ebrill, roedd y sgrin yn wag, ond dywedwyd wrth fy mherthynas pan gafodd ei gweld gan y gwasanaeth brysbennu fod y diwrnod wedi dechrau gydag amseroedd aros o 16 awr, ond eu bod bellach i lawr i 11 awr. Bu'n rhaid iddi aros am saith awr yn y pen draw.
Mewn sesiwn friffio ym mis Chwefror, eglurodd un o feddygon ymgynghorol meddygaeth frys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod yn rhaid iddi hi, hyd yn oed, chwilio’r ysbyty am drolïau pan ddylai fod yn trin cleifion ar adegau pan oedd ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’r adran ddamweiniau ac achosion brys. Er ei bod yn newyddion da fod amseroedd aros dwy flynedd wedi gostwng, maent yn parhau i fod yn 8,389 yng Nghymru, o gymharu â dim ond 147 yn Lloegr, gyda’r rhan fwyaf ohonynt—5,747—ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Llais Gogledd Cymru, llais y bobl mewn iechyd a gofal cymdeithasol, wrthyf bythefnos yn ôl mai'r bwrdd iechyd yw'r prif bryder a adroddir iddynt o hyd. Yn y cyfamser, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fynd ar drywydd arbedion ffug yng nghyllid partneriaid y trydydd sector, a fydd yn ychwanegu at y pwysau ariannol sydd arno, yn amrywio o hosbisau i wasanaethau adrannau brys i'r loteri cod post ar hyd y gogledd o ran mynediad at wasanaethau i bobl sy'n byw gyda dementia. Gan na ddylem ganiatáu i'r ffeithiau gael eu claddu, i'r baich gael ei daflu ac i'r chwythwyr chwiban gael eu bwlio, mae'r gogledd angen ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
I welcome this debate as it gives me the opportunity to say thank you to the dedicated and hard-working staff right across Betsi Cadwaladr University Health Board, but particularly those based in my constituency of Wrexham. Whilst of course more improvement is needed, particularly around waiting times and some specialties, I do want to highlight areas of improvement.
It also gives me the opportunity to do something my constituent Phil Lee has asked me to do, and that is pass on his thanks and details of his experience in the Siambr. I've already passed them directly to the health board and to the Cabinet Secretary for Health and Social Services, as he requested. Mr Lee e-mailed me specifically because he believes the NHS across the UK, not just in Wales, does not publicise its successes enough. He told me, and I quote, he is ‘fed up with the press having a pop at the service whenever they like’.
Mr Lee had a heart attack last month. He states the cardiac team were the epitome of professionalism. It was not just him being treated by the team, but four others too. Five lives saved in 24 hours. He talked about all staff in positive and complimentary terms. He was full of admiration and gratitude for the care he received and continues to receive, and I'm very grateful he took the time to write to me. I've been able to ensure his thanks have been heard, and I wish him well in his recovery.
Another area where huge improvements have been made is supporting people living with dementia who require in-patient care or treatment in the emergency department. I met with the consultant dementia nurse last week to hear about the innovative work she and her team are doing.
Ultrasound and x-rays are now routinely undertaken at weekends and in the evening, something that did not happen a decade or so ago, demonstrating things are being done differently to ensure patients are not waiting for unacceptable lengths of time for diagnostic tests. Orthopaedic waiting times are also significantly reducing. I spoke with a constituent last Friday who saw his surgeon in out-patients 10 days previously and had now received a date for his second hip replacement, on 17 June. So thank you to everyone at the health board for providing such wonderful care and treatment and for often going beyond the call of duty. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon gan ei bod yn rhoi'r cyfle imi ddiolch i'r staff ymroddedig a gweithgar ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli yn fy etholaeth i yn Wrecsam. Er bod angen mwy o welliant wrth gwrs, yn enwedig o ran amseroedd aros a rhai arbenigeddau, hoffwn dynnu sylw at feysydd sydd wedi gwella.
Mae hefyd yn rhoi cyfle imi wneud rhywbeth y mae fy etholwr Phil Lee wedi gofyn i mi ei wneud, sef trosglwyddo ei ddiolch a manylion am ei brofiad yn y Siambr. Rwyf eisoes wedi'u trosglwyddo'n uniongyrchol i'r bwrdd iechyd ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y gofynnodd i mi ei wneud. Anfonodd Mr Lee e-bost ataf yn benodol am ei fod yn credu nad yw'r GIG ledled y DU, nid yn unig yng Nghymru, yn rhoi digon o gyhoeddusrwydd i'w lwyddiannau. Dywedodd wrthyf ei fod 'wedi blino ar y wasg yn lladd ar y gwasanaeth pryd bynnag y mynnant'.
Cafodd Mr Lee drawiad ar y galon fis diwethaf. Dywed fod y tîm cardiaidd yn enghraifft berffaith o broffesiynoldeb. Nid ef yn unig a oedd yn cael ei drin gan y tîm, ond pedwar o bobl eraill hefyd. Achubwyd pum bywyd mewn 24 awr. Soniodd am yr holl staff mewn termau cadarnhaol a chanmoliaethus. Roedd yn llawn edmygedd a diolchgarwch am y gofal a gafodd ac y mae'n parhau i'w gael, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo am roi amser i ysgrifennu ataf. Rwyf wedi gallu sicrhau bod ei ddiolchiadau wedi cael eu clywed, ac rwy'n dymuno'n dda iddo gyda'i adferiad.
Maes arall lle mae gwelliannau enfawr wedi'u gwneud yw cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ac sydd angen gofal neu driniaeth cleifion mewnol yn yr adran achosion brys. Cyfarfûm â'r nyrs ymgynghorol dementia yr wythnos diwethaf i glywed am y gwaith arloesol y mae hi a'i thîm yn ei wneud.
Mae archwiliadau uwchsain a phelydr-x bellach yn digwydd yn rheolaidd ar benwythnosau a chyda'r nos, rhywbeth nad oedd yn digwydd ddegawd neu fwy yn ôl, gan ddangos bod pethau'n cael eu gwneud yn wahanol i sicrhau nad yw cleifion yn aros am amser annerbyniol o hir am brofion diagnostig. Mae amseroedd aros orthopedig hefyd yn lleihau'n sylweddol. Siaradais ag etholwr ddydd Gwener diwethaf a welodd ei lawfeddyg yn yr adran cleifion allanol 10 diwrnod ynghynt ac roedd bellach wedi derbyn dyddiad ar gyfer ei ail lawdriniaeth i ailosod clun, ar 17 Mehefin. Felly, diolch i bawb yn y bwrdd iechyd am ddarparu gofal a thriniaeth mor wych ac am fynd y tu hwnt i'r galw yn aml. Diolch.
Lesley Griffiths is absolutely right to praise the efforts of staff, whether doctors, nurses or whichever types of staff they may be, in Betsi Cadwaladr University Health Board. But they would say that they could do so much better if only they were working in a system that worked well for them and for the patients that they so desperately want to support to the best of their ability every single day. I must declare at this point, Llywydd, my relatives who work in the health board as well. I'm aware of the work that they carry out every single day in supporting patients in north Wales.
But it's not by chance that Betsi Cadwaladr University Health Board has been in special measures for the past 10 years. Despite the efforts, as Lesley Griffiths pointed out, by those hard-working staff, people in north Wales have experienced a decade of decline, despair and despondency when they're trying to access those health services that they so desperately need. It hasn't happened by mistake either. This is a direct result of choices—often political choices—made by a Labour Government here in Cardiff.
North Wales far too often is an afterthought for the Labour Party—a place far, far away from the Cardiff Bay bubble, a place that gets less funding, doesn't get the infrastructure investment it requires, and sadly lags behind the rest of Wales in public service capacity. And it has a health board that, despite that hard work by those staff that I agree with Lesley Griffiths on, has not been fit for purpose for too long, and people in North Wales know this all too well.
Colleagues have already pointed out some of the statistics that point to this truth. Colleagues have already pointed out that a decade ago, the amount of people in the pathways waiting for treatments was 86,000. That number is now at 198,000. Gareth Davies mentioned that a decade ago, just two people were waiting more than two years for treatment. Now, it's nearly 6,000 people languishing for two years or more.
What I don't understand, and perhaps the Cabinet Secretary will be able to respond to these particular points in his response, is why every opportunity to reduce those waits is not being utilised. Time and time again, I've had both independent and third sector organisations approaching me to share their frustration at the lack of engagement by the health board. Indeed, Specsavers—I was with them just recently—talked about their audiology services. They say that they could clear those waiting lists within three years in audiology, and they're not getting the engagement from the health board to enable them to do that.
British Red Cross have just had their contract supporting Wrexham Maelor A&E removed. They will no longer be supporting patients in Wrexham Maelor A&E, the same patients, as Mark Isherwood described himself as one very recently, where the British Red Cross are able to supply services to those people to make their wait as comfortable as possible. Their contract has now been removed.
We've heard from colleagues already not just the statistics, but also the reports that seemingly aren't making the impact that they should be. We heard from Gareth that in April, the health board was fined £0.25 million due to safety failings in the death of three elderly patients. We've heard of the ombudsman report slamming the wholly inadequate contract monitoring arrangements. I could go on.
What I want to take a moment to focus on is that all of these reports, all of these statistics, are real people's lives that are being impacted here day by day. I decided to just quickly look in my inbox at the most recent days of constituents getting in touch about their issues. I have one constituent who's been waiting for two years for a musculoskeletal appointment, a child who's been in CAMHS for a decade and still hasn't had their neurodiversity assessment, and a patient who had a cannula left in her arm that should have been removed, causing an infection.
Those are just three quick examples from recent days of my constituents getting in touch with me, and I can guarantee it has been repeated time and time again with my colleagues in this Chamber and by patients who also aren't getting in touch because they've just given up on the system. Of course, it would be remiss of me not to remind the Senedd of the then health Minister's decision in 2020 to lift Betsi out of special measures just before the 2021 Senedd election, plunging it back into special measures just after. Call me cynical, but I'm sure there was some political gerrymandering going on with that decision.
That's why I urge support for our motion this evening. The time has come for a full public inquiry into Betsi Cadwaladr University Health Board. It's what we're calling for today. We've had enough of the Welsh Government dodging accountability, of them leaving the people of north Wales to languish. There needs to be light shed on the entire situation. No more sweeping this problem under the carpet. Let's have it opened up so north Walians can finally have the confidence that something is being done to right the wrongs of the last 10 years and beyond. I call on all Senedd Members to support our motion this evening and support a public inquiry into Betsi. Diolch yn fawr iawn.
Mae Lesley Griffiths yn llygaid ei lle yn canmol ymdrechion staff, boed yn feddygon, yn nyrsys neu'n staff o unrhyw fath, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ond byddent yn dweud y gallent wneud cymaint yn well pe baent ond yn gweithio mewn system sy'n gweithio'n dda iddynt ac i'r cleifion y maent mor awyddus i'w cefnogi hyd eithaf eu gallu bob dydd. Mae'n rhaid imi ddatgan ar y pwynt hwn, Lywydd, fod gennyf berthnasau sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd hefyd. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a wnânt bob dydd i gefnogi cleifion yn y gogledd.
Ond nid ar hap a damwain y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig am y 10 mlynedd diwethaf. Er gwaethaf ymdrechion y staff gweithgar hynny, fel y nododd Lesley Griffiths, mae pobl yn y gogledd wedi profi degawd o ddirywiad, anobaith a digalondid wrth iddynt geisio cael mynediad at y gwasanaethau iechyd y mae eu hangen arnynt mor daer. Nid yw wedi digwydd drwy gamgymeriad ychwaith. Dyma ganlyniad uniongyrchol dewisiadau—dewisiadau gwleidyddol yn aml—a wnaed gan Lywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd.
Yn rhy aml, mae gogledd Cymru'n ôl-ystyriaeth i'r Blaid Lafur—lle ymhell, bell o swigen Bae Caerdydd, lle sy'n cael llai o gyllid, lle nad yw'n cael y buddsoddiad mewn seilwaith sydd ei angen arno, ac sydd yn anffodus ar ei hôl hi o gymharu â gweddill Cymru o ran capasiti gwasanaethau cyhoeddus. Ac er gwaethaf y gwaith caled gan y staff y cytunaf â Lesley Griffiths yn eu cylch, mae ganddo fwrdd iechyd nad yw wedi bod yn addas i'r diben ers gormod lawer o amser, ac mae pobl y gogledd yn gwybod hyn yn rhy dda.
Mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi tynnu sylw at rai o'r ystadegau sy'n amlygu'r gwirionedd hwn. Mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi nodi mai nifer y bobl ar y llwybrau gofal a oedd yn aros am driniaethau ddegawd yn ôl oedd 86,000. Mae'r nifer bellach yn 198,000. Soniodd Gareth Davies, ddegawd yn ôl, mai dim ond dau o bobl a oedd yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth. Nawr, mae bron i 6,000 o bobl yn aros am ddwy flynedd neu fwy.
Yr hyn nad wyf yn ei ddeall, ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i'r pwyntiau penodol hyn yn ei ymateb, yw pam nad yw pob cyfle i leihau'r amseroedd aros hynny'n cael ei ddefnyddio. Dro ar ôl tro, mae sefydliadau annibynnol a thrydydd sector wedi dod ataf i rannu eu rhwystredigaeth ynghylch y diffyg ymgysylltiad gan y bwrdd iechyd. Yn wir, roedd Specsavers—roeddwn gyda hwy yn ddiweddar—yn sôn am eu gwasanaethau awdioleg. Dywedant y gallent glirio'r rhestrau aros hynny o fewn tair blynedd mewn awdioleg, ac nid yw'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu â hwy i'w galluogi i wneud hynny.
Mae contract y Groes Goch Brydeinig sy'n cefnogi adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty Maelor Wrecsam newydd gael ei ddiddymu. Ni fyddant yn cefnogi cleifion yn adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty Maelor Wrecsam mwyach, yr un cleifion ag y soniodd Mark Isherwood nawr ei fod ef ei hun yn un ohonynt yn ddiweddar iawn, lle mae'r Groes Goch Brydeinig yn gallu darparu gwasanaethau i'r bobl hynny i wneud eu harhosiad mor gyfforddus â phosibl. Mae eu contract bellach wedi'i ddiddymu.
Rydym eisoes wedi clywed gan gyd-Aelodau, nid yn unig am yr ystadegau, ond hefyd yr adroddiadau nad ydynt, yn ôl pob golwg, yn cael yr effaith y dylent fod yn ei chael. Clywsom gan Gareth fod y bwrdd iechyd wedi cael dirwy o £0.25 miliwn ym mis Ebrill oherwydd methiannau diogelwch yn gysylltiedig â marwolaeth tri chlaf oedrannus. Clywsom am adroddiad yr ombwdsmon yn beirniadu'r trefniadau monitro contractau cwbl annigonol. Gallwn barhau.
Yr hyn yr hoffwn ganolbwyntio arno am eiliad yw bod yr holl adroddiadau hyn, yr holl ystadegau hyn, yn fywydau pobl go iawn sy'n cael eu heffeithio yma o ddydd i ddydd. Penderfynais edrych yn gyflym yn fy mewnflwch ar yr etholwyr sydd wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf ynglŷn â'u problemau. Mae gennyf un etholwr sydd wedi bod yn aros ers dwy flynedd am apwyntiad cyhyrysgerbydol, plentyn sydd wedi bod yn y gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc ers degawd ac sydd heb gael ei asesiad niwroamrywiaeth eto, a chlaf â chanwla yn ei braich y dylid bod wedi'i dynnu, gan achosi haint.
Dyna dair enghraifft sydyn o'r etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn y dyddiau diwethaf, a gallaf warantu bod fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon wedi wynebu'r un peth dro ar ôl tro, a cheir cleifion eraill nad ydynt yn cysylltu am eu bod wedi anobeithio â'r system. Wrth gwrs, byddai'n esgeulus ohonof i beidio ag atgoffa'r Senedd o benderfyniad y Gweinidog iechyd ar y pryd yn 2020 i ddod â bwrdd Betsi allan o fesurau arbennig ychydig cyn etholiad Senedd 2021, cyn ei roi yn ôl o dan fesurau arbennig ychydig ar ôl hynny. Galwch fi'n sinigaidd, ond rwy'n siŵr fod rhywfaint o jerimandro gwleidyddol ynghlwm wrth y penderfyniad hwnnw.
Dyna pam fy mod yn annog cefnogaeth i'n cynnig heno. Mae'r amser wedi dod am ymchwiliad cyhoeddus llawn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dyna rydym yn galw amdano heddiw. Rydym wedi cael digon o Lywodraeth Cymru yn osgoi atebolrwydd, yn gadael i bobl gogledd Cymru ddihoeni. Mae angen taflu goleuni ar y sefyllfa gyfan. Dim mwy o ysgubo'r broblem o dan y mat. Gadewch i ni daflu goleuni arni fel y gall pobl y gogledd gael hyder o'r diwedd fod rhywbeth yn cael ei wneud i unioni camweddau'r 10 mlynedd diwethaf a mwy. Galwaf ar holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig heno ac i gefnogi ymchwiliad cyhoeddus i fwrdd Betsi. Diolch yn fawr iawn.
Over the last couple of years, we have seen real positive change with Betsi Cadwaladr University Health Board, with the promised stabilisation under new leadership. It's going to take a while to get to where we need to be. The health board is a big, complex umbrella organisation and change takes time to embed. But over the last few years, there's been the development of medical training centres, well-being hubs, extended minor injuries at community hospitals, prescribing pharmacists and physiotherapy being delivered in community centres.
We really need to start celebrating what is good about our health service. Many people receive fantastic treatment, people having hip operations, and newly refurbished wards in Wrexham, and an orthopaedic hub soon to be complete in Llandudno, which will transform elective orthopaedic services and provide benefits for patients, staff and the wider north Wales community, by delivering a planned 1,900 procedures a year. Thanks to the Welsh Government, we have seen significant investment to increase recruitment into the health board as well, including the north Wales medical school at Bangor University and nursing and allied health professional training at the new medical facilities at Wrexham Glyndŵr.
However, retention remains an issue, as morale continues to be a factor, which is why I always listen when anybody who works in our health service wants to speak to me about what they see, where improvements can be made, and I feed that in, and the health board are always listening and wanting to learn. But it's why I refuse to talk down our wonderful NHS. If politicians continue to talk down the health board, it will continue to struggle to recruit people. The NHS is its staff. It is terribly demoralising. We must celebrate their efforts and successes, and not forget the many people who receive excellent care day in, day out. Our NHS is one of the most efficient healthcare systems in the world, and we must not take it for granted. In the US, people are paying tens of thousands of dollars to give birth, and hip ops can cost up to £45,000. We must protect healthcare free at the point of use and put in the necessary investment to ensure our NHS is sustainable.
I'm really concerned that both the Conservatives and Reform believe that there are further efficiencies to be made in public services, attempting to run it into the ground, so that privatisation is the only option. From 2000 to 2010, under UK Labour, NHS resources increased in real terms by 50 per cent in line with need. But from 2010, when the Tories took over, austerity and the decline really started in the NHS across the UK. Year after year of cuts, weakening and stretching public services, including social care, and housing and preventative services such as leisure moved to breaking point. Capital funding had been cut dramatically as well under the UK Conservative Government, and it's only since the UK Labour Government came into power less than a year ago that we've seen funding going back into public services, with fully funded pay rises, not found down the back of the sofa, as used to happen before under the Tories.
Original plans for the Royal Alexandra had to be put on hold, as the cost of materials spiralled, along with the effects of the global pandemic and subsequent economic downturn, which the Conservative Party needs to take ownership of. They rendered this original scheme unaffordable. I hope the increased availability of capital funding will now allow for the redevelopment of the Royal Alexandra, and business plans will be put forward soon, which I understand will include a minor injuries unit and intermediate care beds.
The health board still does face ongoing challenges, I accept that, and it recognises that people are frustrated and concerned about waiting times. But Betsi has made real inroads in reducing some of the waiting times for the longest waiters, and will continue to prioritise reducing waiting times as we move forward. Thank you.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld newid cadarnhaol go iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda'r sefydlogi a addawyd o dan arweinyddiaeth newydd. Bydd yn cymryd peth amser i gyrraedd lle mae angen inni fod. Mae'r bwrdd iechyd yn sefydliad ymbarél mawr a chymhleth ac mae newid yn cymryd amser i wreiddio. Ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, datblygwyd canolfannau hyfforddi meddygol, canolfannau llesiant, gwasanaethau mân anafiadau estynedig mewn ysbytai cymunedol, fferyllwyr-bresgripsiynwyr a ffisiotherapi yn cael ei ddarparu mewn canolfannau cymunedol.
Mae angen inni ddechrau dathlu'r hyn sy'n dda am ein gwasanaeth iechyd. Mae llawer o bobl yn cael triniaeth wych, pobl sy'n cael llawdriniaethau clun, a wardiau wedi eu hadnewyddu yn Wrecsam, a chanolfan orthopedig sydd i'w chwblhau yn Llandudno yn fuan, a fydd yn trawsnewid gwasanaethau orthopedig dewisol ac yn darparu manteision i gleifion, staff a'r gymuned ehangach yng ngogledd Cymru, drwy gyflawni 1,900 o lawdriniaethau a gynlluniwyd y flwyddyn. Diolch i Lywodraeth Cymru, rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol i gynyddu recriwtio i'r bwrdd iechyd hefyd, gan gynnwys ysgol feddygol gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor a hyfforddiant nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y cyfleusterau meddygol newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Fodd bynnag, mae cadw staff yn parhau i fod yn broblem, gan fod morâl yn parhau i fod yn ffactor, a dyna pam fy mod bob amser yn gwrando pan fydd unrhyw un sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd eisiau siarad â mi am yr hyn y maent yn ei weld, lle gellir gwneud gwelliannau, ac rwy'n pasio'r sylwadau hynny ymlaen, ac mae'r bwrdd iechyd bob amser yn gwrando ac eisiau dysgu. Ond dyna pam fy mod yn gwrthod lladd ar ein GIG gwych. Os yw gwleidyddion yn parhau i ladd ar y bwrdd iechyd, bydd yn parhau i'w chael hi'n anodd recriwtio pobl. Y GIG yw ei staff. Mae'n lladd ysbryd pobl. Rhaid inni ddathlu eu hymdrechion a'u llwyddiannau, a pheidio ag anghofio'r bobl niferus sy'n cael gofal rhagorol ddydd ar ôl dydd. Ein GIG yw un o'r systemau gofal iechyd mwyaf effeithlon yn y byd, ac mae’n rhaid inni beidio â'i gymryd yn ganiataol. Yn yr Unol Daleithiau, mae pobl yn talu degau o filoedd o ddoleri i roi genedigaeth, a gall llawdriniaethau clun gostio hyd at £45,000. Rhaid inni ddiogelu gofal iechyd sy'n rhad ac am ddim lle caiff ei ddefnyddio a gwneud y buddsoddiad angenrheidiol i sicrhau bod ein GIG yn gynaliadwy.
Rwy'n bryderus iawn fod y Ceidwadwyr a Reform yn credu bod mwy o arbedion effeithlonrwydd i'w gwneud mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan geisio ei ddinistrio'n raddol fel mai preifateiddio yw'r unig opsiwn. O 2000 i 2010, o dan Blaid Lafur y DU, cynyddodd adnoddau'r GIG mewn termau real 50 y cant i gyd-fynd â'r angen. Ond o 2010, pan gymerodd y Torïaid yr awenau, dechreuodd y cyni a'r dirywiad yn y GIG ledled y DU. Blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau, gwanhau ac ymestyn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gofal cymdeithasol, ac fe gyrhaeddodd gwasanaethau tai a gwasanaethau ataliol fel hamdden ben eu tennyn. Cafwyd toriadau helaeth i gyllid cyfalaf hefyd o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, a dim ond ers i Lywodraeth Lafur y DU ddod i rym lai na blwyddyn yn ôl y gwelsom gyllid yn dychwelyd i wasanaethau cyhoeddus, gyda chodiadau cyflog wedi'u hariannu'n llawn, yn hytrach na'u canfod i lawr cefn y soffa, fel yr hyn a arferai ddigwydd o dan y Torïaid.
Bu’n rhaid gohirio'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra, wrth i gost deunyddiau gynyddu i'r entrychion, ynghyd ag effeithiau’r pandemig byd-eang a’r dirywiad economaidd a ddilynodd, dirywiad y mae angen i’r Blaid Geidwadol gymryd perchnogaeth arno. Gwnaethant y cynllun gwreiddiol hwn yn anfforddiadwy. Rwy'n gobeithio y bydd y cynnydd mewn cyllid cyfalaf bellach yn caniatáu i Ysbyty Brenhinol Alexandra gael ei ailddatblygu, a bydd cynlluniau busnes yn cael eu cyflwyno’n fuan, a fydd, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, yn cynnwys uned mân anafiadau a gwelyau gofal canolraddol.
Mae'r bwrdd iechyd yn dal i wynebu heriau parhaus, rwy'n derbyn hynny, ac mae'n cydnabod bod pobl yn rhwystredig ac yn bryderus ynghylch amseroedd aros. Ond mae bwrdd Betsi wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar leihau rhai o'r amseroedd aros i'r rhai a fu'n aros hiraf, a bydd yn parhau i flaenoriaethu lleihau amseroedd aros wrth inni symud ymlaen. Diolch.
Well, well, well, here we are once again, the Welsh Conservative group highlighting the ongoing failings within our local health board, otherwise known as the Betsi Cadwaladr University Health Board.
This Sunday marks 10 years since this board was placed in special measures. Now, at that time, it was classed as an emergency situation with urgent need for so many of our patients who had been failed, and yet here we are, as I've just said, 10 years later. It was the first health board in Wales to ever be placed in full special measures, and the Welsh Government have acknowledged that there is no timeline to remove it from these escalated measures. Now, these measures actually mean it's this Welsh Government—it's you, Welsh Minister, Cabinet Secretary—that is responsible for the running of this board. Even though you delegate some of that responsibility, the buck stops with you.
Now, one of the main reasons that it was placed in special measures was the horrendous situation, and we heard about shocking incidents that were taking place with our patients requiring mental health service and treatment, especially in Glan Clwyd. A decade on, we still have a greater failing of mental health services in north Wales. Interesting, though, as my colleague Sam Rowlands has mentioned, it was just months before the last Senedd election in 2021 that it was withdrawn from special measures. Now, if that wasn't a political manoeuvre, I don't know what can be classed as one. And then, of course, it soon found its way back into falling under the responsibility of the Welsh Government Minister. Even with direct Welsh Labour oversight and after years of special measures, auditors discovering at least £122 million not being accounted for. No repercussions for those staff and those officers involved in that.
Wel, wel, wel, dyma ni unwaith eto, grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn tynnu sylw at y methiannau parhaus yn ein bwrdd iechyd lleol, a elwir hefyd yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ddydd Sul, bydd hi'n 10 mlynedd ers i'r bwrdd hwn gael ei roi o dan fesurau arbennig. Nawr, ar y pryd, cafodd ei galw'n sefyllfa frys gydag angen brys ar gyfer cymaint o'n cleifion a oedd wedi cael cam, ac eto dyma ni, fel y dywedais, 10 mlynedd yn ddiweddarach. Dyma'r bwrdd iechyd cyntaf erioed yng Nghymru i gael ei osod o dan fesurau arbennig llawn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad oes amserlen ar gyfer ei dynnu allan o'r mesurau uwchgyfeirio hyn. Nawr, mae'r mesurau'n golygu mewn gwirionedd mai'r Llywodraeth hon—chi, Weinidog Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet—sy'n gyfrifol am redeg y bwrdd hwn. Er eich bod chi'n dirprwyo rhywfaint o'r cyfrifoldeb hwnnw, chi sy'n gyfrifol yn y pen draw.
Nawr, un o'r prif resymau pam ei fod wedi cael ei osod o dan fesurau arbennig oedd y sefyllfa enbyd, a chlywsom am ddigwyddiadau ofnadwy a oedd yn digwydd gyda'n cleifion a oedd angen gwasanaeth a thriniaeth iechyd meddwl, yn enwedig yng Nglan Clwyd. Ddegawd yn ddiweddarach, mae methiant gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn fwy. Yn ddiddorol, fodd bynnag, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Sam Rowlands, ychydig fisoedd yn unig cyn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021, fe gafodd ei dynnu allan o fesurau arbennig. Nawr, os nad oedd hwnnw'n benderfyniad gwleidyddol, nid wyf yn gwybod beth sydd. Ac yna, yn fuan wedyn daeth o hyd i'w ffordd yn ôl o dan gyfrifoldeb Gweinidog Llywodraeth Cymru. Hyd yn oed gyda goruchwyliaeth uniongyrchol Llafur Cymru ac ar ôl blynyddoedd o fesurau arbennig, mae archwilwyr yn darganfod na roddwyd cyfrif am o leiaf £122 miliwn. Dim goblygiadau i'r staff a'r swyddogion sydd ynghlwm wrth hynny.
And let me make it clear: thank you, nurses, consultants, junior doctors, cleaners, everybody who works in our health service. And thank you for whenever I access health services at any time on behalf of myself or a relative, and thank you for thanking us for what we do in highlighting the horrendous situations that you are working under.
Now, there has always been, since special measures began here, highlighted serious concerns about leadership and governance. And the chief execs come and they go. We've had, well, four or five chief execs and a couple of chairmen. And when they come in, they promise everything, but it's the same old, same old. They just pass the buck all the time. It's completely unacceptable, and clearly demonstrates how the Welsh Labour Government have been running the NHS in Wales. And forget your 14 years of austerity, or call it what you like. For the last 26 years, Welsh Labour Government have been responsible for health in Wales.
Now, of the 8,389 pathways in Wales waiting more than two years, just under 6,000—well, 5,747, to be precise—of them are in Betsi. And I can tell you that despite the First Minister yesterday suggesting that treatment waiting times are improving and large numbers have been removed off this list, I can tell you, I have GPs in my constituency who do not believe now the waiting times announced on the website of the Betsi board itself because they are witnessing now where it's saying one figure and then patients are going in saying, 'Well, my consultant's told me it's two and three times that time limit.' So, I'd like the Cabinet Secretary to explain to me why GPs are telling me this.
Now, in 2015, 15 per cent of patients were waiting more than four hours in A&E services. That figure is now 32 per cent of patients. And I can tell you—and I'll declare an interest—I have a very, very close relative, 100 years old, who has had to go into hospital on more than one occasion quite recently. But he's fairly tough, and thank goodness he's come out, and he's very grateful for the treatment that he's had. However, on Monday morning, early, he was experiencing an angina attack. The ambulance was there, they were wonderful with him, but he refused to go into hospital. And do you know why? Because on two or three occasions that he's had to go in recently, he has had to stay in a chair for two or three days, and he has been in pain. And he was so terrified on Monday morning that he signed a document. They made him sign a document that he would refuse to go into hospital. Imagine his worry. He spoke to me, and he's worried about that decision that he took at the time. But it was a better option than going into hospital and just being left for two or three days in a chair. I've raised it before. On one occasion, he went in and he ended up with sores. It's unacceptable.
There are people waiting to start treatment for life-threatening illnesses such as cancer pushed back at least six months. That's not how it's meant to be. The treatment waiting times tell us that that's not how it's meant to be. And it is a fact, we know, with cancer, that the sooner you catch it, the greater the survivability rate. I've even known of a case that's included a wait of three to four years for a constituent to be seen by neurodevelopment services. Even the most recent Cymru Versus Arthritis NHS waiting times update shows that this health board has nearly 17,000 cases waiting to start trauma and orthopaedics treatment. Five thousand—
A gadewch imi ddweud yn glir: diolch, nyrsys, feddygon ymgynghorol, feddygon iau, lanhawyr, a phawb sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd. A diolch am bob tro y byddaf yn defnyddio gwasanaethau iechyd ar unrhyw adeg ar fy rhan fy hun neu berthynas, a diolch i chi am ddiolch i ni am yr hyn a wnawn i dynnu sylw at y sefyllfaoedd enbyd yr ydych chi'n gweithio ynddynt.
Nawr, ers i'r drefn mesurau arbennig ddechrau yma, nodwyd pryderon difrifol am arweinyddiaeth a llywodraethiant. Ac mae'r prif weithredwyr yn dod ac yn mynd. Rydym wedi cael, wel, pedwar neu bump o brif weithredwyr ac un neu ddau o gadeiryddion. A phan ddônt i mewn, maent yn addo popeth, ond yr un hen stori yw hi. Maent yn taflu'r baich i rywle arall trwy'r amser. Mae'n gwbl annerbyniol, ac mae'n dangos yn glir sut y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn rhedeg y GIG yng Nghymru. Ac anghofiwch eich 14 mlynedd o gyni, neu beth bynnag yr hoffwch ei alw. Am y 26 mlynedd diwethaf, Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru.
Nawr, o'r 8,389 o lwybrau yng Nghymru sy'n aros dros ddwy flynedd, mae ychydig o dan 6,000—wel, 5,747, i fod yn fanwl gywir—ohonynt ym mwrdd Betsi. A gallaf ddweud wrthych, er i'r Prif Weinidog awgrymu ddoe fod amseroedd aros am driniaeth yn gwella a bod niferoedd mawr wedi dod oddi ar y rhestr, mae gennyf feddygon teulu yn fy etholaeth nad ydynt bellach yn credu'r amseroedd aros a gyhoeddwyd ar wefan bwrdd Betsi ei hun am eu bod yn gweld nawr lle mae'n dweud un ffigur ac yna mae cleifion yn mynd i mewn ac yn dweud, 'Wel, fe ddywedodd fy meddyg ymgynghorol wrthyf ei fod yn ddwy a thair gwaith yr amser hwnnw.' Felly, hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet esbonio i mi pam y mae meddygon teulu yn dweud hyn wrthyf.
Nawr, yn 2015, roedd 15 y cant o gleifion yn aros mwy na phedair awr mewn gwasanaethau damweiniau ac achosion brys. Mae'r ffigur hwnnw bellach yn 32 y cant o gleifion. A gallaf ddweud wrthych chi—ac rwy'n datgan buddiant—mae gennyf berthynas agos iawn, 100 oed, sydd wedi gorfod mynd i'r ysbyty ar fwy nag un achlysur yn eithaf diweddar. Ond mae'n eithaf gwydn, a diolch byth mae wedi dod allan, ac mae'n ddiolchgar iawn am y driniaeth a gafodd. Fodd bynnag, fore Llun, yn gynnar, fe gafodd bwl o angina. Roedd yr ambiwlans yno, roeddent yn wych gydag ef, ond fe wrthododd fynd i'r ysbyty. A wyddoch chi pam? Oherwydd ar ddau neu dri achlysur y bu'n rhaid iddo fynd i mewn yn ddiweddar, mae wedi gorfod aros mewn cadair am ddau neu dri diwrnod, ac mae wedi bod mewn poen. Ac roedd mor ofnus fore Llun nes iddo arwyddo dogfen. Fe wnaethant wneud iddo arwyddo dogfen y byddai'n gwrthod mynd i'r ysbyty. Dychmygwch ei bryder. Siaradodd â mi, ac mae'n poeni am y penderfyniad a wnaeth ar y pryd. Ond roedd yn opsiwn gwell na mynd i'r ysbyty a chael ei adael am ddau neu dri diwrnod mewn cadair. Rwyf wedi ei godi o'r blaen. Ar un achlysur, aeth i mewn ac fe gafodd friwiau pwyso. Mae'n annerbyniol.
Mae yna bobl sy'n aros i ddechrau triniaeth ar gyfer afiechydon sy'n peryglu bywyd fel canser yn gorfod aros am o leiaf chwe mis. Nid dyna sut y dylai fod. Mae'r amseroedd aros am driniaeth yn dweud wrthym nad dyna sut y dylai fod. Ac fe wyddom, gyda chanser, mae'n ffaith mai'r cynharaf y gwnewch chi ei ddal, y gorau yw'r gyfradd oroesi. Rwy'n gwybod am achos lle bu'n rhaid aros tair i bedair blynedd i etholwr gael ei weld gan wasanaethau niwroddatblygiadol. Mae hyd yn oed y diweddariad diweddaraf o amseroedd aros Cymru Versus Arthritis y GIG yn dangos bod gan y bwrdd iechyd hwn bron i 17,000 o bobl yn aros i ddechrau triniaeth trawma ac orthopedig. Mae pum mil—
Janet Finch-Saunders, I've been extremely—
Janet Finch-Saunders, rwyf wedi bod yn eithriadol—
Oh, gosh, you have, yes.
O, mawredd, ydych wir.
Yes, I have. Thank you for acknowledging that fact, and if you can bring your comments to a close.
Ydw. Diolch am gydnabod y ffaith, ac os gallwch chi ddirwyn eich sylwadau i ben.
We will keep bringing these debates here. We will keep scrutinising and challenging you, Minister, and your Government. But I would ask, at some stage, please listen to us, listen to our constituents, and actually make some positive differences. It is not acceptable what is going on now. Diolch.
Byddwn yn parhau i ddod â'r dadleuon hyn yma. Byddwn yn parhau i graffu arnoch a'ch herio, Weinidog, chi a'ch Llywodraeth. Ond rwyf am ofyn i chi wrando arnom, gwrando ar ein hetholwyr, a gwneud gwahaniaethau cadarnhaol. Nid yw'r hyn sy'n digwydd nawr yn dderbyniol. Diolch.
Okay, yes, and it is the Minister now to respond—Jeremy Miles.
O'r gorau, iawn, a'r Gweinidog i ymateb nawr—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n falch o gael ymateb i'r ddadl hon heddiw i roi ar gofnod, unwaith eto, y cynnydd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf o dan y gyfundrefn mesurau arbennig, ynghyd â’r meysydd lle mae angen ffocws pellach a sylw wedi ei dargedu. Byddaf i'n gwneud rhai o'r un sylwadau ag y gwnes i yn fy natganiad i'r Aelodau dri mis yn ôl, pan gyhoeddais i yr ail adroddiad cynnydd blynyddol ar y mesurau arbennig. Mae'r bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd cynaliadwy mewn sawl maes. Rwy'n credu bod angen inni gefnogi'r bwrdd iechyd a'r miloedd o staff yr NHS sy'n gweithio ar draws y gogledd i barhau i wneud y newidiadau positif hyn.
Yr hyn y dylem ni fod yn ei drafod, mewn gwirionedd, yw sut mae'r bwrdd iechyd yn rhoi'r blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer gwelliant cynaliadwy a chanlyniadau iechyd a lles gwell i gymunedau'r gogledd, a hoffwn i ddiolch i'r staff am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i'r gwaith hwn. Maen nhw'n troi lan bob dydd i wneud y gwaith gorau posibl, a hynny mewn amgylchiadau heriol iawn, wrth wynebu beirniadaeth ddi-baid yn aml iawn.
Mae'r rhesymau pam y cafodd y bwrdd iechyd ei roi mewn mesurau arbennig yn hysbys ac wedi bod yn destun craffu yn y Siambr hon sawl gwaith. Dwi ddim am eu hailadrodd nhw heddiw. Dwi ddim chwaith am ddadansoddi'r penderfyniad i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig yn 2020. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rŷn ni wedi gweld newid sylweddol er gwell. Yn y flwyddyn gyntaf, gwelwyd gwelliannau mewn llywodraethiant corfforaethol ac yn arweinyddiaeth y bwrdd. Yn yr ail flwyddyn, rŷn ni wedi gweld pwyslais gwirioneddol ar ansawdd a diogelwch, gyda'r bwrdd yn ymateb i lawer o faterion etifeddol mewn ffordd agored a thryloyw. Erbyn hyn, mae'r gwaith yn ymwneud â gwella gafael ar reolaeth weithredol, cytuno ar fodel gweithredu newydd a'i roi ar waith, gwella perfformiad, a gwreiddio'r sylfeini angenrheidiol fydd yn galluogi'r sefydliad i fod yn llwyddiannus yn y tymor hir.
Thank you, Llywydd, and I’m pleased to reply to this debate today to put on record, once again, the progress made by Betsi Cadwaladr University Health Board over the past two years under the special measures regime, in addition to areas where further focus and attention is required. I will be making some of the same comments that I made in my statement to Members three months ago, when I published the second annual progress report on special measures. The health board is making sustainable progress in several areas. I think we need to support the health board and the thousands of NHS staff working across north Wales to continue to make these positive changes.
What we should be discussing, in reality, is how the health board is putting the building blocks in place for sustainable improvement and better health outcomes for north Wales communities, and I would like to thank the staff for their commitment to this work. They turn up every day to do the best work possible in very challenging circumstances, whilst facing unending criticism very often.
The reasons why the health board was placed in special measures are well known and have been the subject of scrutiny in this Chamber many times. I don’t want to rehearse those today, and neither am I going to analyse the decision to withdraw the board from special measures in 2020. Over the past two years, we have seen substantial improvements. In the first year, we have seen improvements in corporate governance and in the leadership of the board. In the second year, we have seen a real emphasis on quality and safety, with the board responding to many inherited issues in an open and transparent manner. By now, the work relates to improving management and agreeing on a new operational model, putting it into operation, improving performance, and rooting the necessary foundations that will enable the organisation to be successful in the long term.
Llywydd, the number of people waiting more than two years for treatment has almost halved from just over 10,000 people in December 2024 to just over 5,700 at the end of March. Despite the reduction, this is the highest number in all of Wales, and we must see urgent improvements if we are to meet our ambitious plans to continue to cut waiting times for people this year. Performance against the 62-day cancer target is also lower than elsewhere and, as is the case across Wales, waiting times at the urgent and emergency care departments are too long. As I said in the Chamber yesterday, Welsh Government officials are now working alongside health board staff to focus on improving the planned care position.
Llywydd, the new Llandudno orthopaedic centre, which will open later this year, will help to manage demand by delivering a planned 1,900 procedures a year, and the long-awaited plans for the redevelopment of the Royal Alex in Rhyl will help to support Ysbyty Glan Clwyd. We are hoping to receive the business case in September.
I turn to mental health services. The Minister for Mental Health and Well-being and I have had the opportunity to visit many of the sites across north Wales, and we have seen the best and the worst. The Ablett site is of course in urgent need of redevelopment. This is not news to the health board, which is developing plans to make sure it is suitable for the local population, and we will review and progress that business case once it is received. And the board continues to make progress against the recommendations in the review undertaken last year by the Royal College of Psychiatrists.
Performance against the mental health measures shows there has been a 5.6 per cent increase in local primary mental health assessments completed within 28 days, and a 5.2 per cent increase in people starting a therapeutic intervention within 28 days for all ages since February 2023. Mental health leadership has been enhanced through the appointment of a substantive director for the division. Llywydd, these are signs of an improving mental health service, although there remains more to be done, and the Minister and I will continue to support the health board to make further improvements.
The health board has ambitious plans for the year ahead. For the first time ever, it has submitted a balanced three-year plan, after last year achieving financial balance. It has made £5.5 million available to improve access to NHS dentistry across the region, and a new dental practice will open in Connah's Quay later this year. Llywydd, I know of course that not everyone in north Wales is seeing or feeling these signs of revival yet. Too many people are still frustrated by the length of time they are waiting to see a GP, a dentist, for a blood test, an operation, results or emergency treatment. These are all areas the health board must urgently address, and the health board shares this view. But there is, alongside this, genuine good news too. Betsi Cadwaladr is leading the way on the design and implementation of a mental health electronic health record. It is the first in Wales to introduce a new intravenous access service, which provides specialist care for people with difficult veins and long-term therapy needs. The health board is the first in Wales to have a community audiology van. Ysbyty Gwynedd is the first NHS robotic training centre in Wales to train other surgeons in robotic knee surgery. Surgeons in Abergele Hospital are trialling augmented reality technology for total knee replacement surgery. Doctors in training have ranked Ysbyty Gwynedd's emergency department as the best place to train in Wales, for a second year running.
Llywydd, I listened carefully to the contributions in the debate, and, of the five opposition contributions, one Member found one item of progress to report. I think fair-minded residents in north Wales will know why that is. It is important, as we all support the health board in its improvement journey, that we try to give a rounded view of areas of progress and areas where more progress is needed. For our part as a Government, we will continue to provide the support and the constructive challenge that the health board needs in order to improve services and outcomes for people in north Wales.
Lywydd, mae nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth bron wedi haneru, o ychydig dros 10,000 o bobl ym mis Rhagfyr 2024 i ychydig dros 5,700 ddiwedd mis Mawrth. Er gwaethaf y gostyngiad, dyma'r nifer uchaf yng Nghymru gyfan, ac mae'n rhaid inni weld gwelliannau ar frys os ydym am gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i barhau i leihau amseroedd aros i bobl eleni. Mae perfformiad yn erbyn y targed canser 62 diwrnod hefyd yn is nag mewn mannau eraill ac fel sy'n digwydd ledled Cymru, mae amseroedd aros yn yr adrannau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn rhy hir. Fel y dywedais yn y Siambr ddoe, mae swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio ochr yn ochr â staff y bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar wella'r sefyllfa mewn gofal a gynlluniwyd.
Lywydd, bydd canolfan orthopedig newydd Llandudno, a fydd yn agor yn ddiweddarach eleni, yn helpu i reoli'r galw drwy ddarparu 1,900 o lawdriniaethau y flwyddyn, a bydd y cynlluniau hirddisgwyliedig ar gyfer ailddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl yn helpu i gefnogi Ysbyty Glan Clwyd. Rydym yn gobeithio cael yr achos busnes ym mis Medi.
Rwy'n troi at wasanaethau iechyd meddwl. Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a minnau wedi cael cyfle i ymweld â llawer o'r safleoedd ar draws gogledd Cymru, ac rydym wedi gweld y gorau a'r gwaethaf. Mae safle Ablett angen ei ailddatblygu ar frys. Nid yw hyn yn newyddion i'r bwrdd iechyd, sy'n datblygu cynlluniau i wneud yn siŵr ei fod yn addas i'r boblogaeth leol, a byddwn yn adolygu ac yn symud yr achos busnes hwnnw yn ei flaen pan ddaw i law. Ac mae'r bwrdd yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn yr argymhellion yn yr adolygiad a gynhaliwyd y llynedd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Mae perfformiad yn erbyn y mesurau iechyd meddwl yn dangos bod cynnydd o 5.6 y cant wedi bod mewn asesiadau iechyd meddwl sylfaenol lleol a gwblhawyd o fewn 28 diwrnod, a chynnydd o 5.2 y cant yn nifer y bobl sy'n dechrau ymyrraeth therapiwtig o fewn 28 diwrnod ar gyfer pob oedran ers mis Chwefror 2023. Mae arweinyddiaeth iechyd meddwl wedi'i gwella yn sgil penodi cyfarwyddwr parhaol ar gyfer yr adran. Lywydd, mae'r rhain yn arwyddion o wasanaeth iechyd meddwl sy'n gwella, er bod mwy i'w wneud o hyd, a bydd y Gweinidog a minnau'n parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd i wneud gwelliannau pellach.
Mae gan y bwrdd iechyd gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Am y tro cyntaf erioed, mae wedi cyflwyno cynllun tair blynedd cytbwys, ar ôl cyflawni cydbwysedd ariannol y llynedd. Mae wedi sicrhau bod £5.5 miliwn ar gael i wella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ar draws y rhanbarth, a bydd practis deintyddol newydd yn agor yng Nghei Connah yn ddiweddarach eleni. Lywydd, rwy'n gwybod nad yw pawb yng ngogledd Cymru yn gweld nac yn teimlo'r arwyddion hyn o adfywiad eto. Mae gormod o bobl yn dal i fod yn rhwystredig ynghylch yr amser y maent yn aros i weld meddyg teulu, deintydd, am brawf gwaed, llawdriniaeth, canlyniadau neu driniaeth frys. Mae'r rhain i gyd yn feysydd y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â hwy ar frys, ac mae'r bwrdd iechyd yn rhannu'r farn hon. Ond ochr yn ochr â hyn, mae yna newyddion da go iawn hefyd. Mae Betsi Cadwaladr yn arwain y ffordd ar lunio a gweithredu cofnod iechyd electronig ar gyfer iechyd meddwl. Dyma'r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno gwasanaeth mewnwythiennol newydd, sy'n darparu gofal arbenigol i bobl sydd â gwythiennau anodd ac anghenion therapi hirdymor. Y bwrdd iechyd yw'r cyntaf yng Nghymru i gael fan awdioleg gymunedol. Ysbyty Gwynedd yw canolfan hyfforddiant robotig gyntaf y GIG yng Nghymru i hyfforddi llawfeddygon eraill mewn llawfeddygaeth robotig ar y pen-glin. Mae llawfeddygon yn Ysbyty Abergele yn treialu technoleg realiti estynedig ar gyfer llawdriniaeth i osod pen-glin cyfan newydd. Mae meddygon dan hyfforddiant wedi graddio adran frys Ysbyty Gwynedd fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru, am yr ail flwyddyn yn olynol.
Lywydd, gwrandawais yn ofalus ar y cyfraniadau yn y ddadl, ac o'r pum cyfraniad gwrthblaid, canfu un Aelod un eitem o gynnydd i'w hadrodd. Rwy'n credu y bydd trigolion teg yng ngogledd Cymru yn gwybod pam hynny. Wrth i bawb ohonom gefnogi'r bwrdd iechyd ar ei daith wella, mae'n bwysig ein bod yn ceisio rhoi golwg gyflawn ar feysydd lle gwneir cynnydd a meysydd lle mae angen mwy o gynnydd. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth a'r her adeiladol sydd ei hangen ar y bwrdd iechyd er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i bobl yng ngogledd Cymru.
Darren Millar nawr, sy'n ymateb i'r ddadl.
Darren Millar now to reply to the debate.

Thank you, Llywydd, and thank you to everyone who has taken part in this very important debate. We know that, over the weekend, we will face an anniversary in north Wales that is not an anniversary that any of us are proud of, and that is that the Betsi Cadwaladr University Health Board will be marking its tenth anniversary since it initially went into special measures back in June 2015, after a scandalous report was published into, and I quote,
'institutional abuse on the Tawel Fan ward.'
Of course, further reports have been published into services in the Betsi Cadwaladr University Health Board since that date, and they included references to all sorts of other failures in the health board, not just its mental health services. This is in spite, of course, of the hard work of dedicated staff in our NHS in north Wales, who, frankly, are battling in a system that is very challenging and difficult, where they too, I am afraid, are victims, alongside those patients who have regrettably come to harm, some of whom have died. We have read report after report after report by the coroner, by the Health and Safety Executive, by Healthcare Inspectorate Wales, and by independent people who've been brought into north Wales to look at its services, which have identified serious failings. Now, special measures was designed to try to make things better, to improve things, but what have the results of these special measures actually been? Well, I'm afraid the performance of the health board has gone backwards on almost every single measure. We just heard the Cabinet Secretary popping the champagne corks again about progress against two-year waiting time targets. The reality is that people in north Wales are being let down, because you're 1,460 times more likely to face a two-year wait for treatment in north Wales than you are over the border in England. That is an absolute scandal. And what is happening is that that waiting time target—. It was promised to be eliminated by the Welsh Government over two years ago and dealt with, but it hasn't been dealt with.
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon. Gwyddom y byddwn yn wynebu pen-blwydd yng ngogledd Cymru dros y penwythnos nad yw'n ben-blwydd y mae unrhyw un ohonom yn falch ohono, sef y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn nodi deng mlynedd ers iddo fynd o dan fesurau arbennig yn gyntaf yn ôl ar ddechrau mis Mehefin 2015, ar ôl i adroddiad erchyll gael ei gyhoeddi i
'gamdriniaeth sefydliadol ar ward Tawel Fan.'
Wrth gwrs, mae adroddiadau pellach wedi'u cyhoeddi ar wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers y dyddiad hwnnw, ac roeddent yn cynnwys cyfeiriadau at bob math o fethiannau eraill yn y bwrdd iechyd, nid ei wasanaethau iechyd meddwl yn unig. Mae hyn er gwaethaf gwaith caled staff ymroddedig yn ein GIG yng ngogledd Cymru, sydd, a bod yn onest, yn brwydro o fewn system sy'n heriol ac yn anodd iawn, lle mae arnaf ofn eu bod hwythau hefyd yn ddioddefwyr, ochr yn ochr â'r cleifion sydd wedi cael niwed, a rhai ohonynt wedi marw. Rydym wedi darllen adroddiad ar ôl adroddiad ar ôl adroddiad gan y crwner, gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a chan bobl annibynnol sydd wedi cael eu dwyn i mewn i ogledd Cymru i edrych ar y gwasanaethau, ac sydd wedi nodi methiannau difrifol. Nawr, cynlluniwyd mesurau arbennig i geisio gwneud pethau'n well, i wella pethau, ond beth yw canlyniadau'r mesurau arbennig hyn mewn gwirionedd? Wel, rwy'n ofni bod perfformiad y bwrdd iechyd wedi mynd tuag yn ôl ar bron bob mesur. Rydym newydd glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn llawenhau unwaith eto ynglŷn â chynnydd yn erbyn targedau amser aros dwy flynedd. Y gwir amdani yw bod pobl yng ngogledd Cymru yn cael cam, oherwydd rydych chi 1,460 gwaith yn fwy tebygol o wynebu dwy flynedd o aros am driniaeth yng ngogledd Cymru nag ydych chi dros y ffin yn Lloegr. Mae hynny'n sgandal. A'r hyn sy'n digwydd yw bod y targed amser aros hwnnw—. Addawyd y byddai'n cael ei ddileu gan Lywodraeth Cymru dros ddwy flynedd yn ôl, ond ni ddeliwyd ag ef.
And it's not just the waiting time targets for planned procedures; the emergency departments in north Wales are failing too. Their performance has deteriorated and they are now the worst in Wales and amongst the worst in the whole of the United Kingdom. One in three patients are waiting in the emergency departments for four hours or more—left languishing—and 17 per cent of patients, by the current figures, are in the emergency departments for more than 12 hours. Again, on both of those counts, they are the worst-performing hospitals in Wales.
So, special measures is not working, and it's not working because, in Wales, we have a politicised arrangement for special measures, which is not the case in other parts of the United Kingdom. A health board cannot go into special measures without the say-so of a Minister. That is unacceptable, because it means that there's pressure around election periods to remove special measures, even when it's not appropriate or prudent to do so, in order to protect the reputation of Ministers in a failing Labour Government, rather than because it is the right thing to do. And that's exactly what we saw in advance of the last Senedd elections, back in 2021. And I'm afraid that there are hints that that's the direction of travel that we're going in now, because of the complacency that we're seeing from the current Cabinet Secretary and, of course, the current First Minister, who was of course a health Minister, and the former First Minister, who was a health Minister, and the former First Minister before that, who was also a health Minister. There seems to be a pattern here in terms of the way that things are being dealt with.
The performance is supposed to get better when you're in special measures; Betsi has actually gotten worse. So, it tells us that special measures aren't working. Independent investigations have come up with recommendations to be implemented; they're not being implemented. There was a report done just last year, which suggested that only half of the recommendations that should have been implemented from various reports on mental health alone had actually been implemented in the Betsi Cadwaladr University Health Board. We know that the governance arrangements—. And the Welsh Government seem completely and utterly incapable of turning the situation around. So, the victims of this mess—and I call them 'victims' deliberately—the patients and the staff are actually getting a worse deal in north Wales than any other part of the country. It is intolerable, and that's why we've got to make sure that we get to the bottom of this situation once and for all. We owe it to every person who has had a relative who has come to harm and every single person who has lost their relatives or loved ones as a result of this disaster in north Wales to make sure that we get to the bottom of these problems.
And of course we acknowledge that there are efforts being made by hard-working staff, but the culture in the organisation is still wrong. I had people come to my surgery just last week to tell me that they felt bullied, they couldn't speak out about concerns about patient care. I've had other people working in the NHS in north Wales tell me that they are discouraged from reporting serious incidents and properly recording them in the Datix system, because they do not want the spotlight to be shone on the health board. This is wrong. You don't develop a learning culture when you have a situation where people are discouraged from reporting things that they identify as wrong, and you don't have a learning culture when you're getting report after report from the coroner that are identifying the same themes, and yet those issues are not being addressed.
So, we've got to change the culture, we've got to make sure that we deliver these improvements, and one of the ways that we do that is by having a fully independent public inquiry to get to the bottom of these issues and to make sure that we deliver the change that we need. It is not right that the Betsi Cadwaladr health board has been in special measures longer than any other NHS organisation in the history of our national health service.
I'm surprised that Plaid Cymru aren't voting for this motion today, by the way. I heard Mabon's contribution. It was a good contribution, because you identified many of the problems that are there, but you fell short of committing yourself to get over the line to make sure that we have a public inquiry, and I was surprised by that, because we know that all of these other things haven't worked, Mabon. So, more of the same isn't going to cut the mustard and deliver the change that people need in north Wales, and that's why I would invite you to reconsider the position of your party.
Ac mae'n fwy na dim ond y targedau amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau a gynlluniwyd; mae'r adrannau brys yng ngogledd Cymru yn methu hefyd. Mae eu perfformiad wedi dirywio a hwy bellach yw'r gwaethaf yng Nghymru ac ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae un o bob tri chlaf yn aros yn yr adrannau brys am bedair awr neu fwy—wedi'u gadael i ddihoeni—ac mae 17 y cant o gleifion, yn ôl y ffigurau presennol, yn yr adrannau brys am fwy na 12 awr. Unwaith eto, ar y ddau gyfrif, hwy yw'r ysbytai sy'n perfformio waethaf yng Nghymru.
Felly, nid yw'r drefn mesurau arbennig yn gweithio, ac nid yw'n gweithio oherwydd, yng Nghymru, mae gennym drefniant gwleidyddol ar gyfer mesurau arbennig, nad yw'n digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ni all bwrdd iechyd fynd o dan fesurau arbennig heb i Weinidog ddatgan hynny. Mae hynny'n annerbyniol, oherwydd mae'n golygu bod pwysau o gwmpas cyfnodau etholiadol i gael gwared ar fesurau arbennig, hyd yn oed pan nad yw'n briodol nac yn ddoeth i wneud hynny, er mwyn diogelu enw da Gweinidogion mewn Llywodraeth Lafur sy'n methu, yn hytrach nag am mai dyna'r peth iawn i'w wneud. A dyna'n union a welsom cyn etholiadau diwethaf y Senedd, yn ôl yn 2021. Ac mae arnaf ofn fod yna awgrymiadau mai dyna'r cyfeiriad teithio yr ydym yn mynd iddo nawr, oherwydd yr hunanfodlonrwydd a welwn gan yr Ysgrifennydd Cabinet presennol ac wrth gwrs, y Prif Weinidog presennol, a oedd yn Weinidog iechyd, a'r cyn-Brif Weinidog, a oedd yn Weinidog iechyd, a'r cyn-Brif Weinidog cyn hynny, a oedd hefyd yn Weinidog iechyd. Mae'n ymddangos bod patrwm yma o ran y ffordd yr eir i'r afael â phethau.
Mae'r perfformiad i fod i wella pan fyddwch chi o dan fesurau arbennig; mae bwrdd Betsi wedi gwaethygu mewn gwirionedd. Felly, mae'n dweud wrthym nad yw mesurau arbennig yn gweithio. Mae ymchwiliadau annibynnol wedi cynnig argymhellion i'w gweithredu; nid ydynt yn cael eu gweithredu. Fe wnaed adroddiad y llynedd, a oedd yn awgrymu mai dim ond hanner yr argymhellion y dylid bod wedi eu gweithredu o adroddiadau amrywiol ar iechyd meddwl yn unig a gafodd eu gweithredu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd. Fe wyddom fod y trefniadau llywodraethu—. Ac mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwbl analluog i newid y sefyllfa. Felly, mae dioddefwyr y llanast hwn—ac rwy'n eu galw'n 'ddioddefwyr' yn fwriadol—mae'r cleifion a'r staff yn cael bargen waeth yng ngogledd Cymru nag yn unrhyw ran arall o'r wlad. Mae'n annioddefol, a dyna pam y mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i wraidd y sefyllfa hon unwaith ac am byth. Ein dyletswydd i bob unigolyn sydd â perthynas a gafodd niwed a phob unigolyn sydd wedi colli eu perthnasau neu anwyliaid o ganlyniad i'r trychineb hwn yng ngogledd Cymru yw gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i wraidd y problemau hyn.
Ac wrth gwrs ein bod yn cydnabod bod ymdrechion yn cael eu gwneud gan staff gweithgar, ond mae'r diwylliant yn y sefydliad yn dal yn anghywir. Daeth pobl i fy nghymhorthfa yr wythnos diwethaf i ddweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu bwlio, nad oeddent yn gallu codi llais am bryderon ynglŷn â gofal cleifion. Rwyf wedi cael pobl eraill sy'n gweithio yn y GIG yng ngogledd Cymru yn dweud wrthyf eu bod wedi cael eu hannog rhag adrodd am ddigwyddiadau difrifol a'u cofnodi'n briodol yn y system Datix, am nad ydynt eisiau i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan y chwyddwydr. Mae hyn yn anghywir. Nid ydych chi'n datblygu diwylliant o ddysgu pan fydd gennych sefyllfa lle mae pobl yn cael eu hannog rhag adrodd am bethau y nodant eu bod yn anghywir, ac nid oes gennych ddiwylliant o ddysgu pan fyddwch chi'n cael adroddiad ar ôl adroddiad gan y crwner sy'n nodi'r un themâu, ond nad yw'r materion hynny'n cael eu datrys.
Felly, mae'n rhaid inni newid y diwylliant, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r gwelliannau hyn, ac un o'r ffyrdd o wneud hynny yw trwy gael ymchwiliad cyhoeddus cwbl annibynnol i fynd at wraidd y materion hyn ac i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r newid sydd ei angen arnom. Nid yw'n iawn fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig yn hirach nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Rwy'n synnu nad yw Plaid Cymru yn pleidleisio dros y cynnig hwn heddiw, gyda llaw. Clywais gyfraniad Mabon. Roedd yn gyfraniad da, oherwydd fe wnaethoch chi nodi llawer o'r problemau sydd yno, ond roeddech chi'n methu ymrwymo i fynd dros y llinell i wneud yn siŵr ein bod yn cael ymchwiliad cyhoeddus, ac roedd hynny'n fy synnu, oherwydd fe wyddom nad yw'r holl bethau eraill hyn wedi gweithio, Mabon. Felly, nid yw mwy o'r un peth yn mynd i weithio a chyflawni'r newid sydd ei angen ar bobl yng ngogledd Cymru, a dyna pam rwy'n eich gwahodd i ailystyried safbwynt eich plaid.
Will you take an intervention?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Absolutely.
Yn sicr.
As I explained in my contribution, we've developed a comprehensive plan for the NHS, so we've worked out the plan. It seems to me that you're trying to outsource the Conservatives' plan to an organisation outside, which will take 10 years.
Fel yr eglurais yn fy nghyfraniad, rydym wedi datblygu cynllun cynhwysfawr ar gyfer y GIG, felly rydym wedi llunio'r cynllun. Mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n ceisio allanoli cynllun y Ceidwadwyr i sefydliad allanol, a fydd yn cymryd 10 mlynedd.
We're not trying to outsource anything, and there are things that can be done immediately that we've called for as well. So, for example, we'd love to see more minor injuries units opened in north Wales, we'd love to see that new hospital built in Rhyl, we'd love to see the delivery of the mental health unit—all of these are years and years overdue. We'd love to see some of the beds that have been closed in our current community hospitals recommissioned, to take pressure off our district general hospitals. So, there are all sorts of things that can be done in the immediate future in order to improve the performance of the health board and to deliver a better service, but they're not going to get to the bottom of the root of the problem in this health board, which the Welsh Government seem completely incapable of being able to deal with. I'll happily take the intervention.
Nid ydym yn ceisio allanoli unrhyw beth, ac mae yna bethau y gellir eu gwneud ar unwaith yr ydym wedi galw amdanynt hefyd. Felly, er enghraifft, byddem wrth ein bodd yn gweld mwy o unedau mân anafiadau yn agor yng ngogledd Cymru, byddem wrth ein bodd yn gweld yr ysbyty newydd yn cael ei adeiladu yn y Rhyl, byddem wrth ein bodd yn gweld yr uned iechyd meddwl yn cael ei darparu—mae'r rhain i gyd flynyddoedd maith ar ei hôl hi. Byddem wrth ein bodd yn gweld rhai o'r gwelyau sydd wedi'u cau yn ein hysbytai cymunedol presennol yn cael eu hailgomisiynu, er mwyn tynnu pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol dosbarth. Felly, mae yna bob math o bethau y gellir eu gwneud yn y dyfodol agos er mwyn gwella perfformiad y bwrdd iechyd ac i ddarparu gwell gwasanaeth, ond nid ânt i wraidd y broblem yn y bwrdd iechyd hwn, ac mae Llywodraeth Cymru i'w gweld yn gwbl analluog i ddelio â hynny. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Would you accept that hospitals have had extended minor injuries units, that there are new facilities being opened up, including the orthopaedic hub, that we are looking at the Royal Alexandra? In Flint, the community hospital closed, but they have a new facility there now for step up, step down. So, there are lots of new buildings happening. And do you accept that it's only since this year that we've had investment from a UK Labour Government, capital investment, to be able to do this work?
A fyddech chi'n derbyn bod ysbytai wedi cael unedau mân anafiadau estynedig, fod cyfleusterau newydd yn cael eu hagor, gan gynnwys y ganolfan orthopedig, ein bod yn edrych ar Ysbyty Brenhinol Alexandra? Yn y Fflint, fe gaeodd yr ysbyty cymunedol, ond mae ganddynt gyfleuster newydd yno nawr ar gyfer camu i fyny, camu i lawr. Felly, mae yna lawer o adeiladau newydd yn digwydd. Ac a ydych chi'n derbyn mai dim ond ers eleni y cawsom fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur y DU, buddsoddiad cyfalaf, i allu gwneud y gwaith hwn?
The reality is that the number of beds in our national health service in north Wales has gone down. We've not only seen the closure of Flint Community Hospital, we saw the closure of a hospital in Prestatyn, the closure of community hospital beds in Rhyl, in Denbigh, in Ruthin, and in all sorts of other places across north Wales, and that has contributed to the catastrophe that we're facing. That is partly because the Welsh Government has allowed it to happen, but it's also because the special arrangements measures do not work, because they're politicised.
In England, the inspectorate there can get involved in a health organisation and turn it around quickly, because it doesn't have the shackles of the political interference of Ministers, and I think that's the sort of independence that we need to give to our inspectorate here too. So, I would encourage you all, notwithstanding your reservations that you expressed before, to give the support to this motion that we believe it needs. There is some common ground in terms of the work that still needs to be done, and I want to recognise the efforts of staff, but the current arrangements are not working. This is the only way to make sure that they deliver on the promise that everybody in this Chamber wants to make to people in north Wales, and that is that their NHS will be fit for purpose and safe and there when they need it.
Y gwir amdani yw bod nifer y gwelyau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yng ngogledd Cymru wedi gostwng. Rydym wedi gweld cau Ysbyty Cymunedol y Fflint, rydym wedi gweld cau ysbyty ym Mhrestatyn, cau gwelyau ysbyty cymunedol yn y Rhyl, yn Ninbych, yn Rhuthun, ac ym mhob math o lefydd eraill ar draws gogledd Cymru, ac mae hynny wedi cyfrannu at y trychineb a wynebwn. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu iddo ddigwydd, ond mae hefyd oherwydd nad yw'r trefniadau mesurau arbennig yn gweithio, oherwydd eu bod yn wleidyddol.
Yn Lloegr, gall yr arolygiaeth fwrw iddi mewn sefydliad iechyd a'i wella'n gyflym, am nad oes ganddo hualau ymyrraeth wleidyddol Gweinidogion, ac rwy'n meddwl mai dyna'r math o annibyniaeth y mae angen i ni ei roi i'n harolygiaeth ni yma hefyd. Felly, rwy'n eich annog i gyd, er gwaethaf yr amheuon a fynegwyd gennych yn gynt, i roi'r gefnogaeth y credwn fod ei hangen i'r cynnig hwn. Mae rhywfaint o dir cyffredin o ran y gwaith sydd i'w wneud o hyd, ac rwyf am gydnabod ymdrechion staff, ond nid yw'r trefniadau presennol yn gweithio. Dyma'r unig ffordd o wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni'r addewid y mae pawb yn y Siambr hon eisiau ei rhoi i bobl gogledd Cymru, sef y bydd eu GIG yn addas i'r diben ac yn ddiogel ac yno pan fyddant ei angen.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will therefore defer voting until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, yna fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Felly, y bleidlais gyntaf fydd ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Unless three Members wish for the bell to be rung, we will move immediately to our first vote, and the first vote will be on item 7, the Welsh Conservatives debate on Betsi Cadwaladr University Health Board, and I call for a vote on the motion without amendment tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour, 13, no abstentions, and 33 against. Therefore, the motion is not agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Item 7. Welsh Conservatives Debate - Betsi Cadwaladr University Health Board. Motion without amendment: For: 13, Against: 33, Abstain: 0
Motion has been rejected
Gwelliant 1, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
We'll move to amendment 1; if amendment 1 is agreed, amendment 2 will be deselected. And I call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, and 23 against. Therefore, the amendment is agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Item 7. Welsh Conservatives Debate - Betsi Cadwaladr University Health Board. Amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt: For: 24, Against: 23, Abstain: 0
Amendment has been agreed
Mae gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol, felly.
Amendment 2 is therefore deselected.
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Amendment 2 deselected.
Y cynnig wedi ei ddiwygio sydd nesaf.
We will now vote on the motion as amended.
Cynnig NDM8911 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 8 Mehefin 2025 yn nodi deng mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi dan fesurau arbennig.
2. Yn nodi'r gwelliannau sydd wedi’u gwneud hyd yma o dan y gyfundrefn mesurau arbennig a'r gwaith sydd ar ôl o hyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei wneud, fel y nodwyd yn yr adroddiad cynnydd dwy flynedd a gyhoeddwyd fis Mawrth.
Motion NDM8911 as amended:
To propose that the Senedd:
1. Notes that 8 June 2025 marks ten years since Betsi Cadwaladr University Health Board was placed in special measures.
2. Notes the improvements made under the special measures regime to date and the work Betsi Cadwaladr UHB still has to do to, as highlighted in the two-year progress report, published in March.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, and 23 against. The motion as amended is agreed.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Item 7. Welsh Conservatives Debate - Betsi Cadwaladr University Health Board. Motion as amended: For: 24, Against: 23, Abstain: 0
Motion as amended has been agreed
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio.
And that concludes voting for this afternoon.
Ond mae gennym dwy ddadl fer nawr i'w clywed. Mae'r cyntaf o'r dadleuon byr hynny gan John Griffiths.
But we do have two short debates. The first of those is to be presented by John Griffiths.
I'll let some of the Members leave quietly, so we can progress with the work. John Griffiths, in your own time.
Rwyf am adael i rai o'r Aelodau adael yn dawel, fel y gallwn symud ymlaen gyda'r gwaith. John Griffiths, yn eich amser eich hun.
Diolch, Llywydd. Newport—a city on the rise economically, socially and culturally. Llywydd, back in February this year, the business journalist Douglas Friedli wrote,
'Best thing about London? It's less than two hours from Newport'.
Being proud to represent my home city, I thoroughly agree with that assessment and those words. Newport is a place with a very significant past, a strong present and a very promising future.
In terms of the past, we saw many, many years ago the Romans sailing up the River Usk to settle in Caerleon, and, of course, more recently, the Chartist uprisings in the vanguard of the campaign for political reform for working-class communities, and, in more modern times, a strong industrial and commercial scene from the development of the steelworks at Llanwern in the 1960s to hosting the 2014 North Atlantic Treaty Organization summit, which, at the time, was described as the most important since the fall of the Berlin wall.
But also, as I mentioned, a very exciting future and that has been reflected in more and more people moving to the city and making Newport their home. Of course, Newport has long welcomed new arrivals from all over the world. I was born in the multicultural Pill area in the city, and my own mother came over to the area from Ireland. The city is much more diverse now. A recent feature has been significant numbers moving over the border from Bristol. Between the last two censuses, if that's the right plural, the city's population has increased by 9.5 per cent from just over 145,000 in 2011 to just under 160,000 in 2021. Newport now has Wales's second lowest average median age at 38, and the number of people aged 25 to 34 rose by just over 5,000, an increase of over 27 per cent.
There really is a sense of the city growing in confidence and being on the rise. Economically, of course, Newport has a very strong set of economic clusters, particularly seen in the development and growth of the semiconductor industry. Newport is rapidly becoming central, not just to the UK, but across the whole world in terms of that semiconductor industry. The opening of KLA's new research and development centre in the west of Newport, my colleague Jayne Bryant's constituency, a couple of weeks ago being testament to that. That new facility, costing around £100 million, will create around 750 jobs. It builds on the company's 40-year long association with the city, with another base, this time in Newport East, close to the Coldra roundabout in Ringland, having produced microchips for many years. And, of course, all of that powering the everyday technology that we all use and rely upon. They are part of that, I think, very impressive culture, which also includes Vishay, formerly Newport Wafer Fab, which, again, is a very strong element of that presence in the city.
Diolch, Lywydd. Casnewydd—dinas ar i fyny yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Lywydd, yn ôl ym mis Chwefror eleni, ysgrifennodd y newyddiadurwr busnes Douglas Friedli,
'Y peth gorau am Lundain? Mae'n llai na dwy awr o Gasnewydd'.
Gan fy mod yn falch o gynrychioli fy ninas enedigol, rwy'n cytuno'n llwyr â'r asesiad hwnnw a'r geiriau hynny. Mae Casnewydd yn lle ag iddo orffennol arwyddocaol iawn, presennol cryf a dyfodol addawol iawn.
O ran y gorffennol, flynyddoedd lawer yn ôl gwelsom y Rhufeiniaid yn hwylio i fyny afon Wysg i ymgartrefu yng Nghaerllion, ac wrth gwrs, yn fwy diweddar, gwrthryfeloedd y Siartwyr ar flaen y gad yn yr ymgyrch dros ddiwygiadau gwleidyddol i gymunedau dosbarth gweithiol, ac yn y cyfnod mwy modern, sîn ddiwydiannol a masnachol gref o ddatblygiad y gwaith dur yn Llan-wern yn y 1960au i gynnal uwchgynhadledd Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd (NATO) yn 2014, a gafodd ei ddisgrifio ar y pryd fel yr un bwysicaf ers cwymp wal Berlin.
Ond dyfodol cyffrous iawn hefyd, fel y soniais, ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu gan y niferoedd cynyddol o bobl sy'n symud i'r ddinas ac yn ymgartrefu yng Nghasnewydd. Wrth gwrs, mae Casnewydd wedi croesawu newydd-ddyfodiaid o bob cwr o'r byd ers amser maith. Cefais fy ngeni yn ardal amlddiwylliannol Pilgwenlli yn y ddinas, a daeth fy mam fy hun i'r ardal o Iwerddon. Mae'r ddinas yn llawer mwy amrywiol nawr. Un nodwedd ddiweddar yw'r niferoedd sylweddol sy'n symud dros y ffin o Fryste. Rhwng y ddau gyfrifiad diwethaf, mae poblogaeth y ddinas wedi cynyddu 9.5 y cant, o ychydig dros 145,000 yn 2011 i ychydig o dan 160,000 yn 2021. Casnewydd bellach sydd â'r oedran canolrifol cyfartalog isaf ond un yng Nghymru, sef 38, ac mae nifer y bobl rhwng 25 a 34 oed wedi codi ychydig dros 5,000, cynnydd o dros 27 y cant.
Mae yna deimlad gwirioneddol fod y ddinas yn tyfu yn ei hyder ac ar gynnydd. Yn economaidd, wrth gwrs, mae gan Gasnewydd set gref iawn o glystyrau economaidd, a welir yn arbennig yn natblygiad a thwf y diwydiant lled-ddargludyddion. Mae Casnewydd yn prysur ddod yn ganolog, nid yn unig yn y DU, ond ledled y byd i gyd o ran y diwydiant lled-ddargludyddion hwnnw. Mae agor canolfan ymchwil a datblygu newydd KLA yng ngorllewin Casnewydd, etholaeth fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, ychydig wythnosau yn ôl yn dyst i hynny. Bydd y cyfleuster newydd hwnnw, sy'n costio tua £100 miliwn, yn creu tua 750 o swyddi. Mae'n adeiladu ar gysylltiad 40 mlynedd y cwmni â'r ddinas, gyda chanolfan arall, y tro hwn yn Nwyrain Casnewydd, yn agos at gylchfan y Coldra yn Ringland, wedi bod yn cynhyrchu microsglodion ers blynyddoedd lawer. Ac wrth gwrs, mae hynny i gyd yn pweru'r dechnoleg bob dydd y mae pawb ohonom yn ei defnyddio ac yn dibynnu arni. Maent yn rhan o'r diwylliant trawiadol hwnnw, sydd hefyd yn cynnwys Vishay, Newport Wafer Fab gynt, sydd, unwaith eto, yn elfen gref iawn o'r presenoldeb hwnnw yn y ddinas.
Since the election of the UK Labour Government last year, we have seen a strong partnership with our Welsh Labour Government, which has been able to secure and safeguard the hundreds of jobs at that plant. In total, there are 14 semiconductor businesses in a 30-mile radius of the city and a number of higher education institutions within close proximity, giving access to thousands of technology and engineering students. This is a great strength for Newport, and I know that the Welsh Government is very keen to continue working with the sector and our city council, and the UK Labour Government as well, to help deliver further highly skilled job opportunities over the coming years.
Linked to all of this and something that the city council and its leader, Dimitri Batrouni, are very keen to take forward are the proposals by SAE Renewables at the Uskmouth Sustainable Energy Park, which will be critical to delivering the power for the data city vision that is another powerful part of the future, also including an AI investment zone and a battery storage facility. All of this fitting together, I think, in a very exciting set of proposals.
The manufacturing base is also strong more widely, including CAF rail, manufacturers of trains, based next to Tata Steel plant at Llanwern, and of course, that Llanwern plant itself has great potential in terms of the growth of green steel. It’s an industry for the future, as well as having a very strong historic past in the area.
More widely, Newport—. I mentioned the NATO summit that took place at the Celtic Manor Resort. That Celtic Manor Resort is a major player locally and it now includes the International Conference Centre. And the Celtic Manor Resort, as well as hosting that NATO summit, also hosted the 2010 Ryder Cup, which was huge in putting the city and Wales on the international map.
There are many more examples that I could mention. And, of course, underlying all of this is the lifeblood of the city’s economy and, indeed, the economy of Wales: all of those small and medium-sized enterprises, which, in Newport, are very strong in terms of the independent traders populating our city centre, giving it that individual feel, which is so appealing, I think, to visitors and local residents alike. All of that, Llywydd, puts us, I think, in a very good place in terms of the current scene in Newport, but also the potential for the future.
Newport’s cultural offer, I believe, is very impressive as well. I’ve mentioned the Roman and Chartist histories. We, of course, have the iconic transporter bridge, which will soon see the opening of a new visitor centre, with major investment from Welsh Government, in partnership with Newport City Council. The city’s cultural offer is growing in momentum, and the creative industries employ over 5,000 people locally. This includes many freelancers, and we are home to more than 40 cultural venues. Of course, these numbers matter; they show the scale and importance of the cultural economy and the potential for growth if it continues to be nurtured. Newport’s cultural scene has long been vibrant and diverse. Currently, we have the Riverfront Theatre and Arts Centre working very closely with community groups such as Ballet Cymru, which is going from strength to strength, and Urban Circle, which has added the biennial Reggae and Riddim Festival to its many other activities and productions.
Ers ethol Llywodraeth Lafur y DU y llynedd, rydym wedi gweld partneriaeth gref gyda'n Llywodraeth Lafur yng Nghymru, sydd wedi gallu sicrhau a diogelu'r cannoedd o swyddi yn y ffatri honno. Gyda'i gilydd, mae 14 o fusnesau lled-ddargludyddion o fewn radiws o 30 milltir o'r ddinas a nifer o sefydliadau addysg uwch yn agos, gan roi mynediad i filoedd o fyfyrwyr technoleg a pheirianneg. Mae hyn yn gryfder mawr i Gasnewydd, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i barhau i weithio gyda'r sector a chyngor y ddinas, a Llywodraeth Lafur y DU hefyd, i helpu i ddarparu rhagor o gyfleoedd swyddi medrus iawn dros y blynyddoedd i ddod.
Yn gysylltiedig â hyn i gyd a rhywbeth y mae cyngor y ddinas a'i arweinydd, Dimitri Batrouni, yn awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef yw cynigion SAE Renewables ym Mharc Ynni Cynaliadwy Aber-wysg, a fydd yn hanfodol i ddarparu'r pŵer ar gyfer gweledigaeth y ddinas ddata sy'n rhan bwerus arall o'r dyfodol, gan gynnwys parth buddsoddi deallusrwydd artiffisial a chyfleuster storio batri. Mae hyn i gyd yn dod at ei gilydd mewn set gyffrous iawn o gynigion.
Mae'r sylfaen weithgynhyrchu hefyd yn gryf yn fwy cyffredinol, yn cynnwys CAF, gweithgynhyrchwyr trenau, sydd wedi'u lleoli wrth ymyl ffatri Tata Steel yn Llan-wern, ac wrth gwrs, mae gan ffatri Llan-wern ei hun botensial mawr mewn perthynas â thwf dur gwyrdd. Mae'n ddiwydiant ar gyfer y dyfodol, un sydd â gorffennol hanesyddol cryf iawn yn yr ardal hefyd.
Yn ehangach, mae Casnewydd—. Soniais am uwchgynhadledd NATO a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Celtic Manor. Mae Gwesty'r Celtic Manor yn weithredwr pwysig yn lleol ac mae bellach yn cynnwys y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol. Ac yn ogystal ag uwchgynhadledd NATO, fe gynhaliodd Gwesty'r Celtic Manor gystadleuaeth Cwpan Ryder 2010, a oedd yn enfawr o ran rhoi'r ddinas a Chymru ar y map rhyngwladol.
Mae yna lawer mwy o enghreifftiau y gallwn eu crybwyll. Ac wrth gwrs, yn sail i hyn i gyd mae anadl einioes economi'r ddinas, ac economi Cymru yn wir: yr holl fentrau bach a chanolig hynny, sydd, yng Nghasnewydd, yn gryf iawn o ran y ffaith bod masnachwyr annibynnol yn poblogi canol ein dinas, gan roi naws unigryw iddo, sydd mor ddeniadol i ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd. Rwy'n credu bod hynny i gyd, Lywydd, yn ein rhoi ni mewn lle da iawn o ran yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghasnewydd, ond hefyd y potensial ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n credu bod cynnig diwylliannol Casnewydd yn drawiadol iawn hefyd. Soniais am yr hanes Rhufeinig ac am y Siartwyr. Wrth gwrs, mae gennym y bont gludo eiconig, lle bydd canolfan ymwelwyr newydd yn agor yn fuan, gyda buddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. Mae cynnig diwylliannol y ddinas yn tyfu mewn momentwm, ac mae'r diwydiannau creadigol yn cyflogi dros 5,000 o bobl yn lleol. Mae hyn yn cynnwys llawer o weithwyr llawrydd, ac rydym yn gartref i fwy na 40 o leoliadau diwylliannol. Wrth gwrs, mae'r niferoedd hyn yn bwysig; maent yn dangos graddfa a phwysigrwydd yr economi ddiwylliannol a'r potensial ar gyfer twf os yw'n parhau i gael ei feithrin. Mae sîn ddiwylliannol Casnewydd wedi bod yn fywiog ac amrywiol ers amser maith. Ar hyn o bryd, mae gennym Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn gweithio'n agos iawn gyda grwpiau cymunedol fel Ballet Cymru, sy'n mynd o nerth i nerth, ac Urban Circle, sydd wedi ychwanegu'r Ŵyl Reggae a Riddim eilflwydd at ei weithgareddau a chynyrchiadau niferus eraill.
Newport City Council, Llywydd, has recently unveiled its new cultural strategy, reflecting all of these strengths and providing new energy, matched by a vibrant grass-roots scene, which I think has great promise in taking the city's cultural offer forward. It's very good news, not just for artists and musicians, but everybody living in the city. We also see film studios develop, for example, at Queensway Meadows. In fact, between 2015 and 2022, Newport saw the fastest growth in the creative sector of any city in Wales, at an astonishing 125 per cent.
People are very familiar, I think, with Newport's musical past, with legendary venues such as TJ's. But we now have some new venues, such as the Corn Exchange, and existing or previous ones such as Le Pub and, indeed, the Cab—again, part of that very vibrant music and cultural scene in Newport. Earlier this year, we had the Newport Music Trail, which was run in partnership with FOCUS Wales, and brought over 15,000 additional visitors to our city centre in just 36 hours. It had over 96 acts across various venues in the city, again taking advantage of that vital infrastructure. So, there is much to say, and I hope that I have outlined some of it.
One further aspect is Newport's medieval ship, which again has captured a lot of people's imagination. It is one of the most significant archaeological finds in European maritime history. Experts have described it as the most important medieval ship found in the world. Talks are ongoing, I believe, between Newport City Council and the Welsh Government's Minister for Culture, Skills and Social Partnership, in terms of ensuring an adequate and dedicated home for that medieval ship. Once that is established, it will allow visitors and residents alike to see the ship and learn more about its history.
Personally, I'm very keen to also emphasise Newport's very notable sporting history and present. Newport is a green city, which facilitates much of that physical activity and sport. Newport has notable parks and, of course, the Gwent levels, which include the Royal Society for the Protection of Birds wetlands. We have lots of urban greening going on through organisations like Greening Maindee.
I'm keen to promote Active Newport to encourage greater physical activity and sport for very obvious reasons: the health and well-being of the population and the fact that it's also fun and vital in so many ways for the future of the city. Part of that are the city's parkruns. Newport was an early adopter of parkrun, launching the second 5 km event in Wales at Tredegar House in 2011, and the first ever junior parkrun in Wales in 2013. Parkrun has continued to flourish in the city, with the launch of the riverfront parkrun, serving the inner-city communities, in 2017.
I have a vested interest, as most Saturdays I am at one or the other of those Newport parkruns. We have had almost 34,000 finishes from almost 10,000 individuals, and over 4,000 volunteering occasions from almost 900 individual volunteers over the past year. I was very pleased, last Saturday, to run the riverfront parkrun with my 11-year-old grandson, who reduced his personal best by a whole two minutes and was very pleased indeed. I was also very pleased as a very proud grandfather.
Llywydd, in general, I'm keen to grow that physical activity and sport in our city for all the reasons that I've mentioned. Of course, as well as the grass roots, we have the big players, such as Newport County, the Dragons and Newport Live, our leisure trust, all working very hard to take that agenda forward in our city.
Of course, there will always be challenges, and in a city with a growing population, on the rise, as I hope I have outlined, those challenges are considerable. One of those is creating an integrated transport system. I'm very pleased that we have the Burns commission blueprint to take forward, including the five railway stations, with four of them, in fact, in Newport, three of them in my constituency of Newport East, at Magor, Llanwern and Somerton. I hope that very soon we will have some important announcements to take forward that crucial integrated transport system, to deal with the problems of congestion that cities with rising populations particularly face.
Llywydd, in the short time available to me, I hope I have outlined just some of the history, the present and the future potential for Newport. I believe very strongly that, in economic, cultural and social terms, Newport has so much to offer, with potential, I believe, not just for Newport and the region that surrounds Newport, but for the whole of Wales. So, I hope we continue to see the Welsh Government, Newport City Council and the UK Government working together to continue to show just how we can realise that potential that I believe is so strong and so important for our future here in Wales. Diolch yn fawr.
Lywydd, yn ddiweddar mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi datgelu ei strategaeth ddiwylliannol newydd, sy'n adlewyrchu'r holl gryfderau hyn ac yn darparu egni newydd, ynghyd â sîn lawr gwlad fywiog, y credaf ei bod yn addawol iawn ar gyfer datblygu cynnig diwylliannol y ddinas. Mae'n newyddion da iawn, nid yn unig i artistiaid a cherddorion, ond i bawb sy'n byw yn y ddinas. Rydym hefyd yn gweld stiwdios ffilm yn datblygu, yn Queensway Meadows er enghraifft. Mewn gwirionedd, rhwng 2015 a 2022, gwelodd Casnewydd 125 y cant o dwf yn y sector creadigol, y twf cyflymaf o gymharu ag unrhyw ddinas arall yng Nghymru.
Mae pobl yn gyfarwydd iawn â gorffennol cerddorol Casnewydd, gyda lleoliadau chwedlonol fel TJ's. Ond mae gennym leoliadau newydd erbyn hyn, fel y Corn Exchange, a rhai presennol neu rai blaenorol fel Le Pub a Cab—unwaith eto, rhan o sîn gerddorol a diwylliannol fywiog iawn yng Nghasnewydd. Yn gynharach eleni, cawsom Lwybr Cerdd Casnewydd, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â FOCUS Cymru, a daeth â dros 15,000 o ymwelwyr ychwanegol i ganol ein dinas mewn dim ond 36 awr. Roedd ganddo dros 96 o artistiaid ar draws gwahanol leoliadau yn y ddinas, gan fanteisio unwaith eto ar y seilwaith hanfodol hwnnw. Felly, mae llawer i'w ddweud, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi amlinellu rhywfaint ohono.
Un agwedd arall yw llong ganoloesol Casnewydd, sydd unwaith eto wedi dal dychymyg pobl. Mae'n un o'r darganfyddiadau archeolegol mwyaf arwyddocaol yn hanes morwrol Ewrop. Mae arbenigwyr wedi ei disgrifio fel y llong ganoloesol bwysicaf yn y byd. Rwy'n credu bod trafodaethau'n parhau rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, i sicrhau cartref digonol a phenodol i'r llong ganoloesol honno. Pan gaiff ei sefydlu, bydd yn caniatáu i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd weld y llong a dysgu mwy am ei hanes.
Yn bersonol, rwy'n awyddus iawn i bwysleisio stori chwaraeon nodedig iawn Casnewydd yn y gorffennol a'r presennol. Mae Casnewydd yn ddinas werdd, sy'n hwyluso llawer o'r gweithgarwch corfforol a'r chwaraeon hynny. Mae gan Gasnewydd barciau nodedig, a gwastadeddau Gwent wrth gwrs, sy'n cynnwys gwlyptiroedd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Mae gennym lawer o wyrddu trefol yn digwydd trwy sefydliadau fel Gwyrddu Maendy.
Rwy'n awyddus i hyrwyddo Casnewydd Actif i annog mwy o weithgarwch corfforol a chwaraeon am resymau amlwg iawn: iechyd a lles y boblogaeth a'r ffaith ei fod hefyd yn hwyl ac yn hanfodol mewn cymaint o ffyrdd ar gyfer dyfodol y ddinas. Rhan o hynny yw gweithgareddau parkrun y ddinas. Roedd Casnewydd yn un o'r mannau cyntaf i fabwysiadu parkrun, gan lansio'r ail ddigwyddiad 5 km yng Nghymru yn Nhŷ Tredegar yn 2011, a'r parkrun iau cyntaf erioed yng Nghymru yn 2013. Mae parkrun wedi parhau i ffynnu yn y ddinas, gyda lansiad parkrun glan yr afon, sy'n gwasanaethu cymunedau canol y ddinas, yn 2017.
Mae gennyf ddiddordeb personol, gan fy mod, ar y rhan fwyaf o Sadyrnau, yn un neu'r llall o ddigwyddiadau parkrun Casnewydd. Rydym wedi gweld bron i 10,000 o bobl yn gorffen 34,000 o ddigwyddiadau parkun, a dros 4,000 o sesiynau gwirfoddoli gan bron i 900 o wirfoddolwyr unigol dros y flwyddyn ddiwethaf. Ddydd Sadwrn diwethaf, roeddwn yn falch iawn o redeg y parkrun ar lan yr afon gyda fy ŵyr 11 oed, a dorrodd ddau funud cyfan oddi ar ei amser gorau ac roedd yn falch dros ben. Roeddwn innau hefyd yn dad-cu balch iawn.
Lywydd, yn gyffredinol, rwy'n awyddus i dyfu'r gweithgarwch corfforol a'r chwaraeon yn ein dinas am yr holl resymau a nodais. Wrth gwrs, yn ogystal â chwaraeon llawr gwlad, mae gennym y chwaraewyr mawr, fel tîm pêl-droed Casnewydd, y Dreigiau a Casnewydd Fyw, ein hymddiriedolaeth hamdden, i gyd yn gweithio'n galed iawn i fwrw'r agenda honno yn ei blaen yn ein dinas.
Bydd yna heriau bob amser, ac mewn dinas gyda phoblogaeth sy'n tyfu, dinas ar gynnydd, fel y gobeithiaf fy mod wedi'i ddangos, mae'r heriau hynny'n sylweddol. Un o'r rhain yw creu system drafnidiaeth integredig. Rwy'n falch iawn fod gennym lasbrint comisiwn Burns i'w ddatblygu, gan gynnwys y pum gorsaf reilffordd, gyda phedair ohonynt yng Nghasnewydd, tair ohonynt yn fy etholaeth i, sef Dwyrain Casnewydd, ym Magwyr, Llan-wern a Somerton. Rwy'n gobeithio y cawn gyhoeddiadau pwysig yn fuan iawn i fwrw ymlaen â'r system drafnidiaeth integredig hanfodol honno, i ddelio â'r problemau tagfeydd y mae dinasoedd sydd â phoblogaethau sy'n tyfu, yn enwedig, yn eu hwynebu.
Lywydd, yn yr amser byr sydd ar gael i mi, gobeithio fy mod wedi amlinellu rhywfaint o hanes Casnewydd, a'i phresennol a'r potensial i Gasnewydd yn y dyfodol. Rwy'n credu'n gryf iawn, mewn termau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol, fod gan Gasnewydd gymaint i'w gynnig, gyda photensial, nid yn unig i Gasnewydd a'r rhanbarth o gwmpas Casnewydd, ond i Gymru gyfan. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i weld Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd i barhau i ddangos sut y gallwn wireddu'r potensial hwnnw sydd mor gryf ac mor bwysig i'n dyfodol yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Can I thank John Griffiths for allowing me to contribute in this short debate here today? Newport is a fantastic place to live, work and visit, and I'm really proud to say to anyone who asks me that I was born there, I was raised there, and no matter where I've lived and worked in the world, my family home is my ultimate sanctuary.
Having been in this job since 2021, I've come across a lot of people, and what I love the most about this is that I encounter people who've gone through many of the same experiences that I have whilst growing up in Newport. I learnt how to walk in Ridgeway, I learnt how to swim in the Newport leisure centre, ride the wave machine, which I have to say had many issues and perhaps was one of the most deadly things I've ever rode in my life, but, nonetheless, it was a great experience and a wonderful place to grow up. I spent many of my summers on the high street, going to Wildings, testing make-up and feeling really sorry for those poor assistants who had to suffer with myself and my friends trying to pick out our favourite lip glosses and things like that.
We have to say that Newport, whatever the case may be—. I know, as parties, as politicians, we often talk about transport links and how much of a problem it is, but Newport, where it's situated and the way it is placed, is absolutely wonderful, and one thing I have to highlight is the location, you just can't beat it. It connects to every single part of Wales, regardless of where you are—north, south, east or west—and the viability is great. We all admit that there are issues when it comes to potentially speed limits on motorways, on roads et cetera, but I love the fact that Newport is a diverse place. There are so many different people from so many different communities who all get on coherently, cohesively with each other, and they're the ones who truly bring the place to life.
Let's be honest, Newport is a place that we all, regardless of our political affiliations, want to see thrive. However, the city's economic prospects are being seriously, unfortunately, hampered by the Labour Government in Westminster. More than 4,000 adults were supported to retrain, reskill and find work under the previous UK Conservative Government's shared prosperity fund in Newport. Now the decision by Chancellor Rachel Reeves to cut this fund has resulted in significant job losses across the city, with thousands of jobseekers missing out on employment training and support—something that previously supported our local economy and businesses. A freedom of information—
A gaf i ddiolch i John Griffiths am ganiatáu imi gyfrannu yn y ddadl fer hon yma heddiw? Mae Casnewydd yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, ac rwy'n falch iawn o ddweud wrth unrhyw un sy'n gofyn i mi fy mod wedi cael fy ngeni yno, cefais fy magu yno, a ble bynnag y bûm yn byw ac yn gweithio yn y byd, fy nghartref teuluol yw fy hafan.
Ar ôl bod yn y swydd hon ers 2021, rwyf wedi dod ar draws llawer o bobl, a'r hyn rwy'n ei garu fwyaf am hyn yw fy mod yn cyfarfod â phobl sydd wedi mynd trwy lawer o'r un profiadau a gefais i wrth imi dyfu i fyny yng Nghasnewydd. Dysgais sut i gerdded yn Ridgeway, dysgais sut i nofio yng nghanolfan hamdden Casnewydd, reidio'r peiriant tonnau, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod ganddo lawer o broblemau ac efallai ei fod yn un o'r pethau mwyaf peryglus y bûm arno erioed, ond roedd yn brofiad gwych er hynny ac yn lle gwych i dyfu i fyny ynddo. Treuliais lawer o fy hafau ar y stryd fawr, mynd i Wildings, profi colur ac yn teimlo'n ddrwg iawn dros y cynorthwywyr y bu'n rhaid iddynt fy nioddef i a fy ffrindiau yn ceisio dewis ein hoff finlliw a phethau felly.
Mae'n rhaid i ni ddweud bod Casnewydd, beth bynnag am—. Fel pleidiau, fel gwleidyddion, rwy'n gwybod ein bod ni'n aml yn siarad am gysylltiadau trafnidiaeth a faint o broblem ydynt, ond mae Casnewydd, lle mae wedi'i leoli a'i gynllun, yn hollol wych, ac un peth y mae'n rhaid i mi dynnu sylw ato yw'r lleoliad, ni allwch ei guro. Mae'n cysylltu â phob rhan o Gymru, ble bynnag rydych chi—gogledd, de, dwyrain neu orllewin—ac mae'r bywiogrwydd yn wych. Rydym i gyd yn cyfaddef bod yna broblemau o ran terfynau cyflymder posibl ar draffyrdd, ar ffyrdd ac ati, ond rwy'n caru'r ffaith bod Casnewydd yn lle amrywiol. Mae cymaint o wahanol bobl o gymaint o gymunedau gwahanol sydd i gyd yn cyd-fyw â'i gilydd yn gydlynol, a hwy yw'r rhai sy'n dod â'r lle yn fyw mewn gwirionedd.
Gadewch inni fod yn onest, mae Casnewydd yn lle y mae pawb ohonom, beth bynnag yw ein cysylltiadau gwleidyddol, eisiau ei weld yn ffynnu. Fodd bynnag, yn anffodus mae rhagolygon economaidd y ddinas yn cael eu llesteirio'n ddifrifol gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Cafodd mwy na 4,000 o oedolion eu cefnogi i ailhyfforddi, ailsgilio a dod o hyd i waith yng Nghasnewydd o dan gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Nawr mae penderfyniad y Canghellor Rachel Reeves i dorri'r gronfa hon wedi arwain at golli swyddi sylweddol ledled y ddinas, gyda miloedd o bobl sy'n chwilio am waith yn colli hyfforddiant a chymorth cyflogaeth—rhywbeth a oedd yn flaenorol yn cefnogi ein heconomi a'n busnesau lleol. Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth—
This is a one-minute contribution that I've been very generous on already.
Cyfraniad munud yw hwn ac rwyf wedi bod yn hael iawn eisoes.
Thank you so much, Presiding Officer; I appreciate that. A freedom of information request to Newport City Council has confirmed that eight local authority jobs are at risk of redundancy due to the cuts. Not only that, but as a result of the cuts—
Diolch, Lywydd; rwy'n gwerthfawrogi hynny. Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth i Gyngor Dinas Casnewydd fod wyth swydd awdurdod lleol mewn perygl o wynebu diswyddiadau oherwydd y toriadau. Nid yn unig hynny, ond o ganlyniad i'r toriadau—
I'm going to have to bring it a close, because you carried on regardless.
Rwy'n mynd i orfod dod ag ef i ben, oherwydd fe wnaethoch chi fwrw ymlaen beth bynnag.
That's absolutely fine. Thank you so much, Presiding Officer. Just a final sentence. It's clear to me, with the way things are, that the UK Government has shown a level of short-sightedness, particularly when it comes to putting Newport on the map, and I want to see it rise and thrive, just like all of my colleagues who will contribute today, and I really hope they'll take note and do just that. Thank you.
Mae hynny'n hollol iawn. Diolch, Lywydd. Un frawddeg olaf. Mae'n amlwg i mi, gyda'r ffordd y mae pethau, fod Llywodraeth y DU wedi dangos lefel o annoethineb, yn enwedig o ran rhoi Casnewydd ar y map, ac rwyf am ei gweld yn codi ac yn ffynnu, yn union fel fy holl gyd-Aelodau a fydd yn cyfrannu heddiw, ac rwy'n gobeithio y byddant yn cymryd sylw ac yn gwneud hynny. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i John am ddod â'r ddadl yma gerbron. Dwi eisiau jest amlygu tri o'r nifer o fudiadau sydd yn cefnogi'r ddadl heddiw fod Casnewydd yn ddinas ar i fyny'n economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Thank you very much to John for bringing forward this debate. I just want to highlight three of the number of organisations that support the debate today and the argument today that Newport is a city on the rise economically, socially, and culturally.
Firstly, I'd like to highlight KidCare4U. I know, John, you're well aware of the fantastic work that they do with diverse ethnic communities and bringing together young people—over 300 young people—on a regular basis, getting fantastic experiences within the city.
Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw at KidCare4U. Rwy'n gwybod, John, eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith gwych y maent yn ei wneud gyda chymunedau ethnig amrywiol, yn dod â phobl ifanc at ei gilydd—dros 300 o bobl ifanc—yn rheolaidd, i gael profiadau gwych yn y ddinas.
Yn ail, y gwaith gwych mae menter iaith Casnewydd yn ei wneud, bod yn hollol weithgar ar draws y ddinas, yn dod â bwrlwm yr iaith Gymraeg i bobl y ddinas, a'r gallu i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, neu wersi Cymraeg, neu baned a sgwrs fore Gwener, neu fynd am bryd o fwyd yn y farchnad. Yn drydydd, fel rydw i wedi sôn yn gynharach yn y Siambr yma heddiw fel is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd 2027, mae Eisteddfod yr Urdd yn dod i Gasnewydd yn y flwyddyn honno, ac mi fydd hwn yn blatfform gwych i Gasnewydd ddangos ein bod ni'n ddinas sydd ar ei fyny yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Y cwestiwn mawr i'r Llywodraeth ydy sut maen nhw'n mynd i fod yn cefnogi hyn. Diolch yn fawr.
Second, the excellent work that the menter iaith in Newport does, being extremely active across the city, bringing excitement to the Welsh language for people in the city and being able to socialise through the medium of Welsh, from Welsh lessons to coffee and a chat on a Friday morning, or to go for a meal in the market. And third, as I've mentioned earlier in the Siambr today, as vice-chair of the working group for the Urdd Eisteddfod in 2027, the Urdd Eisteddfod is coming to Newport in that year, and that will be an excellent platform for Newport to show that it's a city that is on the rise socially, culturally and economically. The question for the Government is how are they going to be supporting that. Thank you.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol sy'n ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant.
The Cabinet Secretary for local government to reply to the debate. Jayne Bryant.

Diolch, Llywydd. It's a pleasure to respond to this debate from one Newportonian to another. Thank you to John and to all who've contributed today.
Newport has a proud and long history from its Roman history, its medieval maritime routes and industrial heritage. It has emerged as a dynamic centre of innovation, renewal and cultural vibrancy. Newport's bid for city status over 24 years ago highlighted its deep historical roots with indoor market stallholders celebrating its Roman heritage, and this legacy extends to the Chartist uprising, a defining moment in British democracy, which is commemorated every year. The Chartist tower, built in 1966, has since been redeveloped through our Transforming Towns programme, now housing a hotel, offices and retail spaces, reinforcing Newport's regeneration efforts.
Soon the city will welcome one of the UK's first net-zero in operation leisure and well-being centres, supported by over £10 million of Welsh Government funding. This project preserves leisure facilities in the city centre while also enabling Coleg Gwent's Nash campus relocation, embedding education opportunities within Newport's urban fabric.
The historic market arcade refurbishment was backed by £1.2 million of funding, strengthening Newport's retail offering, and the old station building has been remodelled into a tech incubation hub, attracting start-ups and innovators through £1.3 million of funding. The area by the train station is evolving, with redevelopment enhancing the urban landscape.
Kings Sports Bar, supported by placemaking funding, has been brought back into use, while Kings Chambers will introduce new office and retail spaces, keeping the district dynamic. With just over £246,000 in grant funding, Tramshed Tech has refurbished Griffin House, creating flexible workspaces that foster entrepreneurial growth. These initiatives are shaping Newport's future, ensuring that regeneration drives both economic prosperity and community well-being.
Building on this momentum, the city continues to strengthen its business ecosystem and commitment to inclusive growth. Newport City Council's strategic equality plan 2024-28, embedded with the socioeconomic duty, ensures that regeneration remains inclusive and equitable. Through the fairness and equality impact assessment process, urban development is guided by accessibility, representation and economic opportunity, fostering a thriving connected city.
Meanwhile, Newport's economic evolution is being shaped by semiconductors, advanced manufacturing and renewable energy, positioning the city as a hi-tech leader with global influence. Vishay's acquisition of Newport Wafer Fab in spring 2024 is accompanied by £300 million of investment, with potential expansion to £1 billion, securing 480 jobs and paving the way for further growth. Similarly, as John mentioned, KLA, employing 600 people in Newport, which manufactures the equipment used to produce chips that power everyday technology we all rely on, has launched a £100 million research and development manufacturing centre, which is projected to support 750 employees.
Further strengthening Newport's industrial footprint, AerFin's new headquarters in Indurent Park enhances aviation and defence services, ensuring Newport remains globally competitive. The port of Newport's clean growth hub advances a sustainable industry, integrating renewable energy, hydrogen technology and carbon capture, supporting next-generation businesses committed to sustainability and innovation.
Newport is shaping Wales's technology-driven future with the investment zone proposals accelerating semiconductor innovation through collaboration between the UK Government and Cardiff capital region. At the same time, Newport City Council is driving digital economy growth, working with Cardiff capital region on data science innovation and skills projects to strengthen the city's tech ecosystem.
Yet even as Newport embraces innovation, its retail sector remains a foundation of economic strength, adapting to meet the evolving needs of residents and visitors alike. Newport's retail sector remains diverse and resilient, with over 400 active businesses shaping the city's identity and future prosperity. Despite high street closures post pandemic, we continue to support recovery, ensuring businesses can grow, create jobs and attract investment. Meanwhile, Newport's business improvement district strengthens collaboration among local enterprises, offering a unified voice and competitive edge in shaping the city's future.
Newport's cultural vibrancy is equally transformative. The culture strategy for 2025-35 is positioning the city as a creative powerhouse, blending heritage with contemporary artistic expression. Events like Newport Rising and the Urdd Eisteddfod 2027 highlight Newport's evolving identity, fostering community spirit and artistic engagement.
John, Natasha and Peredur mentioned Newport's community groups, which do excellent work and really do make our city. The city's music scene is thriving, with Le Pub securing its future while expanding capacity and accessibility. The Corn Exchange, the city's largest venue, has become a hub for major touring artists and Welsh acts, hosting live music, conferences and business events. Newport Museum and Art Gallery has preserved the city's history for over a century, while heritage initiatives like the restoration of the iconic transporter bridge, Newport's medieval ship conservation and Caerleon Roman projects ensure Newport's past remains central to its future.
John has mentioned Newport's important sporting prowess, and importantly touched on his own. I think we'd all like to congratulate his grandson, Cian, on his personal best as well. But the sporting part of Newport is so important. We have Rodney Parade, we have the Dragons, Newport County AFC, and we also importantly have the opportunity to mention Newport RFC's one-hundred-and-fiftieth anniversary, which they've finished with a dinner this week.
Through the strategic investment in renewal, culture and community, and engagement with the local authority, businesses and community groups will all help to shape a vibrant, modern city ready to seize future opportunities. Diolch yn fawr.
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser ymateb i'r ddadl hon fel un o bobl Casnewydd i'r llall. Diolch i John ac i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw.
Mae gan Gasnewydd hanes balch a hir o'i hanes Rhufeinig, ei llwybrau morwrol canoloesol a'i threftadaeth ddiwydiannol. Mae wedi datblygu'n ganolfan ddeinamig o arloesedd, adnewyddiad a bywiogrwydd diwylliannol. Roedd cais Casnewydd am statws dinas dros 24 mlynedd yn ôl yn tynnu sylw at ei gwreiddiau hanesyddol dwfn gyda stondinau marchnad dan do yn dathlu ei threftadaeth Rufeinig, ac mae'r gwaddol hwn yn cynnwys gwrthryfel y Siartwyr, moment ddiffiniol yn nemocratiaeth Prydain, sy'n cael ei choffáu bob blwyddyn. Ers hynny, mae tŵr y Siartwyr, a adeiladwyd ym 1966, wedi cael ei ailddatblygu trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, ac mae bellach yn gartref i westy, swyddfeydd a siopau, gan gryfhau'r ymdrechion i adfywio Casnewydd.
Cyn bo hir bydd y ddinas yn croesawu un o ganolfannau hamdden a llesiant sero net cyntaf y DU, gyda chefnogaeth dros £10 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiect hwn yn cadw cyfleusterau hamdden yng nghanol y ddinas gan ei gwneud hi'n bosibl adleoli campws Nash Coleg Gwent, ac ymgorffori cyfleoedd addysg oddi mewn i wead trefol Casnewydd.
Cefnogwyd y gwaith o adnewyddu arcêd hanesyddol y farchnad gan £1.2 miliwn o gyllid, gan gryfhau cynnig manwerthu Casnewydd, ac mae hen adeilad yr orsaf wedi'i ailfodelu i fod yn ganolfan ddeori technoleg, gan ddenu busnesau newydd ac arloeswyr trwy £1.3 miliwn o gyllid. Mae'r ardal ger yr orsaf drenau'n esblygu, gydag ailddatblygu'n gwella'r dirwedd drefol.
Mae Kings Sports Bar, gyda chefnogaeth cyllid creu lleoedd, wedi dod yn ôl i ddefnydd, tra bydd Kings Chambers yn cynnig gofod swyddfeydd a siopau newydd, gan gynnal deinameg yr ardal. Gydag ychydig dros £246,000 o gyllid grant, mae Tramshed Tech wedi adnewyddu Griffin House, gan greu gweithfannau hyblyg sy'n meithrin twf entrepreneuraidd. Mae'r mentrau hyn yn siapio dyfodol Casnewydd, gan sicrhau bod adfywio'n gyrru ffyniant economaidd yn ogystal â lles cymunedol.
Gan adeiladu ar y momentwm hwn, mae'r ddinas yn parhau i gryfhau ei hecosystem fusnes a'i hymrwymiad i dwf cynhwysol. Mae cynllun cydraddoldeb strategol Cyngor Dinas Casnewydd 2024-28, gyda'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wedi'i gwreiddio o'i fewn, yn sicrhau bod adfywio'n parhau i fod yn gynhwysol ac yn deg. Drwy'r broses asesu effaith ar degwch a chydraddoldeb, mae datblygiad trefol yn cael ei arwain gan hygyrchedd, cynrychiolaeth a chyfle economaidd, gan feithrin dinas gydgysylltiedig ffyniannus.
Yn y cyfamser, mae esblygiad economaidd Casnewydd yn cael ei siapio gan led-ddargludyddion, gweithgynhyrchu uwch ac ynni adnewyddadwy, gan sicrhau statws y ddinas fel arweinydd uwch-dechnoleg gyda dylanwad byd-eang. Cafwyd £300 miliwn o fuddsoddiad wrth i Vishay brynu Newport Wafer Fab yng ngwanwyn 2024, gyda phosibilrwydd o ehangu i £1 biliwn, gan sicrhau 480 o swyddi a pharatoi'r ffordd ar gyfer twf pellach. Yn yr un modd, fel y soniodd John, mae KLA, sy'n cyflogi 600 o bobl yng Nghasnewydd, ac sy'n gweithgynhyrchu'r offer a ddefnyddir i gynhyrchu sglodion sy'n pweru'r dechnoleg bob dydd y mae pawb ohonom yn dibynnu arni, wedi lansio canolfan weithgynhyrchu ymchwil a datblygu gwerth £100 miliwn, y rhagwelir y bydd yn cynnal 750 o weithwyr.
Gan gryfhau ôl troed diwydiannol Casnewydd ymhellach, mae pencadlys newydd AerFin ym Mharc Indurent yn gwella gwasanaethau hedfan ac amddiffyn, gan sicrhau bod Casnewydd yn parhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang. Mae hyb twf glân porthladd Casnewydd yn hyrwyddo diwydiant cynaliadwy, gan integreiddio ynni adnewyddadwy, technoleg hydrogen a dal carbon, a chefnogi busnesau'r genhedlaeth nesaf sy'n ymrwymedig i gynaliadwyedd ac arloesedd.
Mae Casnewydd yn siapio'r dyfodol a yrrir gan dechnoleg yng Nghymru gyda'r cynigion ar gyfer y parth buddsoddi yn cyflymu arloesedd lled-ddargludyddion drwy gydweithio rhwng Llywodraeth y DU a phrifddinas-ranbarth Caerdydd. Ar yr un pryd, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gyrru twf yr economi ddigidol, gan weithio gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd ar arloesedd gwyddor data a phrosiectau sgiliau i gryfhau ecosystem dechnolegol y ddinas.
Ond hyd yn oed wrth i Gasnewydd gofleidio arloesedd, mae ei sector manwerthu yn parhau i fod yn sylfaen o gryfder economaidd, gan addasu i ddiwallu anghenion esblygol trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae sector manwerthu Casnewydd yn parhau i fod yn amrywiol ac yn wydn, gyda dros 400 o fusnesau gweithredol yn siapio hunaniaeth a ffyniant y ddinas yn y dyfodol. Er bod siopau stryd fawr wedi cau ar ôl y pandemig, rydym yn parhau i gefnogi adferiad, gan sicrhau bod busnesau'n gallu tyfu, yn creu swyddi ac yn denu buddsoddiad. Yn y cyfamser, mae ardal gwella busnes Casnewydd yn cryfhau cydweithrediad rhwng mentrau lleol, gan gynnig llais unedig a mantais gystadleuol wrth siapio dyfodol y ddinas.
Mae bywiogrwydd diwylliannol Casnewydd yr un mor drawsnewidiol. Mae'r strategaeth ddiwylliant ar gyfer 2025-35 yn hyrwyddo'r ddinas fel pwerdy creadigol, gan gyfuno treftadaeth â mynegiant artistig cyfoes. Mae digwyddiadau fel Gŵyl Gwrthryfel Casnewydd ac Eisteddfod yr Urdd 2027 yn tynnu sylw at hunaniaeth esblygol Casnewydd, gan feithrin ysbryd cymunedol ac ymgysylltu artistig.
Soniodd John, Natasha a Peredur am grwpiau cymunedol Casnewydd, sy'n gwneud gwaith rhagorol ac yn greiddiol i'n dinas mewn gwirionedd. Mae sîn gerddoriaeth y ddinas yn ffynnu, gyda Le Pub yn sicrhau ei ddyfodol gan ehangu capasiti a hygyrchedd. Mae'r Corn Exchange, lleoliad mwyaf y ddinas, wedi dod yn ganolfan i artistiaid teithiol mawr ac artistiaid Cymreig, gan gynnal cerddoriaeth fyw, cynadleddau a digwyddiadau busnes. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi gwarchod hanes y ddinas ers dros ganrif, tra bod mentrau treftadaeth fel adfer y bont gludo eiconig, gwaith cadwraeth ar long ganoloesol Casnewydd a phrosiectau Rhufeinig Caerllion yn sicrhau bod gorffennol Casnewydd yn parhau i fod yn ganolog i'w dyfodol.
Mae John wedi sôn am fedr pwysig Casnewydd yn y byd chwaraeon, ac yn bwysicach, fe soniodd am ei hanes ei hun yn y maes hwnnw. Rwy'n credu yr hoffai pawb ohonom longyfarch ei ŵyr, Cian, ar ei amser gorau personol hefyd. Ond mae byd chwaraeon Casnewydd mor bwysig. Mae gennym Rodney Parade, mae gennym y Dreigiau, Clwb Pêl-droed Casnewydd, a dyma gyfle pwysig hefyd i sôn am ben-blwydd Clwb Rygbi Casnewydd yn gant a hanner oed, gyda'r dathlu'n dod i ben gyda chinio yr wythnos hon.
Bydd y buddsoddiad strategol mewn adnewyddu, diwylliant a chymuned, a'r ymgysylltiad â'r awdurdod lleol, busnesau a grwpiau cymunedol yn helpu i siapio dinas fywiog, fodern sy'n barod i fanteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am y ddadl fer yna a'r ymateb.
Thank you very much for that short debate and the response.
Yr eitem nesaf fydd y ddadl fer ar ynni batri i bawb gan Llyr Gruffydd.
The next item will be the short debate on a battery energy free-for-all from Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Today, I bring forward a debate on a topic that's fast becoming an urgent issue for many of our communities across Wales, namely the rapid and largely unregulated rise of battery energy storage systems. Let me be absolutely clear from the outset: I don't oppose battery energy storage systems technology, quite the opposite in fact. I recognise it as vital infrastructure in our national mission to reach net zero. But what I do oppose is risking the safety of our communities and the integrity of our planning system in what is clearly now a rush to deliver developments without the proper scrutiny that they deserve.
Let's begin by acknowledging the importance of BESS. Battery energy storage systems are a cornerstone of Wales's strategy to achieve net-zero emissions and to transition to a clean, resilient energy future. As the country accelerates the shift away from fossil fuels towards renewable energy sources like wind, solar and tidal power, the importance of effective energy storage can't be overstated. Renewables are inherently variable—we know that. The sun doesn’t always shine, the wind doesn’t always blow. BESS technology addresses this challenge by storing excess electricity generated during peak production times and releasing it when demand is high or when generation dips. Now, that stabilises the grid, ensuring a constant and reliable energy supply, regardless of fluctuations in generation. For Wales, which is rapidly becoming a net exporter of renewable electricity, BESS offers a practical solution to balance supply and demand and make the most of our clean energy assets.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno dadl ar bwnc sy'n prysur ddod yn fater pwysig i lawer o'n cymunedau ledled Cymru, sef y cynnydd cyflym, a heb ei reoleiddio i raddau helaeth, mewn systemau storio ynni batri. Gadewch imi fod yn hollol glir o'r cychwyn cyntaf: nid wyf yn gwrthwynebu technoleg systemau storio ynni batri, i'r gwrthwyneb mewn gwirionedd. Rwy'n cydnabod ei fod yn seilwaith hanfodol yn ein cenhadaeth genedlaethol i gyrraedd sero net. Ond yr hyn rwy'n ei wrthwynebu yw peryglu diogelwch ein cymunedau ac uniondeb ein system gynllunio yn yr hyn sy'n amlwg bellach yn rhuthr i gyflawni datblygiadau heb y craffu priodol y maent yn ei haeddu.
Gadewch imi ddechrau trwy gydnabod pwysigrwydd systemau storio ynni batri. Mae systemau storio ynni batri yn gonglfaen i strategaeth Cymru i gyflawni allyriadau sero net ac i bontio i ddyfodol ynni glân a gwydn. Wrth i'r wlad gyflymu'r newid o danwydd ffosil tuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ynni gwynt, solar a llanw, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd storio ynni'n effeithiol. Mae ynni adnewyddadwy yn gynhenid amrywiol ei natur—rydym yn gwybod hynny. Nid yw'r haul bob amser yn gwenu, nid yw'r gwynt bob amser yn chwythu. Mae technoleg systemau storio ynni batri yn mynd i'r afael â'r her hon trwy storio trydan dros ben a gynhyrchir yn ystod amseroedd cynhyrchu brig a'i ryddhau pan fo'r galw'n uchel neu pan fydd cynhyrchiant yn gostwng. Nawr, mae hynny'n sefydlogi'r grid, gan sicrhau cyflenwad cyson a dibynadwy o ynni, beth bynnag y bo'r amrywiadau mewn cynhyrchiant. I Gymru, sy'n cyflym ddatblygu'n allforiwr net o drydan adnewyddadwy, mae systemau storio ynni batri'n cynnig ateb ymarferol i gydbwyso'r cyflenwad a'r galw a gwneud y gorau o'n hasedau ynni glân.
In addition to grid stability, of course, BESS supports energy resilience at both local and national levels. In rural and coastal communities, where grid access may be more vulnerable, decentralised storage systems offer back-up during outages, and reduce dependency on large-scale fossil fuel-based infrastructure. That resilience is especially important as extreme weather events, of course, increase due to climate change.
BESS also plays a key role in decarbonising other sectors. As electric vehicles and heat pumps become more common, the pressure on the grid will intensify and battery storage helps to manage that growing demand efficiently, ensuring that renewable energy powers the transition in transport and heating, as well as electricity. Furthermore, investing in BESS creates economic opportunities for Wales. It can stimulate job creation in green technology, in engineering and innovation, while positioning our country, of course, as a leader in sustainable infrastructure. However, for BESS to truly serve Wales's net-zero goals, development must be guided by strong planning policy, strong safety standards, and, of course, strong and meaningful community engagement. Projects should be well sited, they should be transparent and designed with public trust in mind. In a nutshell, BESS technology isn't a luxury, it's a necessity for a net-zero Wales. It allows renewable energy to be used when it’s needed most, it strengthens grid resilience, it reduces emissions, and supports a cleaner, more secure energy future for all. Clean energy and smart infrastructure must be encouraged, but a careful balance needs to be struck. Too often, communities are an afterthought in this conversation, but this energy transition needs to put people first.
Most of the projects being proposed aren’t happening in remote industrial parks, they're being planned within metres of homes, schools and places of work. And the concerns raised by local residents aren't Nimbyism, they're real, evidence-based fears, particularly around thermal runaway fires, which have caused serious incidents in countries around the world. Now, one such incident is the Moss Landing battery energy storage facility in California, one of the world's largest. It experienced a significant fire just in January of this year, just gone, highlighting the potential risks associated with large-scale lithium-ion battery storage. The fire destroyed approximately 80 per cent of the batteries in the affected building and led to the evacuation of around 1,500 residents due to concerns over toxic smoke emissions. The incident raised environmental concerns, as elevated levels of heavy metals such as manganese, cobalt and nickel were detected in nearby Elkhorn Slough, a sensitive wetland ecosystem. Now, these contaminants, linked to the battery materials, pose potential risks for both the environment and public health. The technology used at Moss Landing is identical to what is proposed in many of the 80-plus—80-plus—BESS developments currently under consideration here in Wales, although maybe the storage configuration might be different, of course. Now, we can't build public confidence in this technology unless we put transparency and safety at the heart of how it's planned and how it's delivered.
The urgency of decarbonisation is real. We all feel it. But we mustn't let that urgency override the need for caution and care. If we make mistakes now through poor siting, weak regulation or inadequate safety measures, then of course we could burden communities for many years to come. We need to build energy infrastructure that isn't only green, but is also fit for purpose, futureproof and safe for all. So, let's not ignore the very real risks that BESS systems pose. Thermal runaway events that can cause large, long-lasting fires. In some cases abroad, these fires have taken millions of litres of water to extinguish, releasing toxic run-off into surrounding environments. Right here in Wales, communities in my region, places like Gwyddelwern, Northop and elsewhere are facing plans for installations just 120m and 35m from their homes.
Yn ogystal â sefydlogrwydd y grid, wrth gwrs, mae systemau storio ynni batri yn cefnogi gwydnwch ynni ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mewn cymunedau gwledig ac arfordirol, lle gall mynediad i'r grid fod yn fwy bregus, mae systemau storio datganoledig yn cynnig darpariaeth wrth gefn yn ystod toriadau pŵer, ac yn lleihau dibyniaeth ar seilwaith tanwydd ffosil ar raddfa fawr. Mae'r gwydnwch hwnnw'n arbennig o bwysig wrth i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddigwydd yn amlach oherwydd newid hinsawdd.
Mae systemau storio ynni batri hefyd yn chwarae rhan allweddol yn datgarboneiddio sectorau eraill. Wrth i gerbydau trydan a phympiau gwres ddod yn fwy cyffredin, bydd y pwysau ar y grid yn dwysáu a bydd systemau storio ynni batri yn helpu i reoli'r galw cynyddol hwnnw'n effeithlon, gan sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn pweru'r newid mewn trafnidiaeth a gwresogi, yn ogystal â thrydan. Yn ychwanegol at hynny, mae buddsoddi mewn systemau storio ynni batri yn creu cyfleoedd economaidd i Gymru. Gall ysgogi creu swyddi mewn technoleg werdd, mewn peirianneg ac arloesedd, gan sicrhau bod ein gwlad yn arweinydd mewn seilwaith cynaliadwy. Fodd bynnag, er mwyn i systemau storio ynni batri wasanaethu nodau sero net Cymru yn iawn, mae'n rhaid i'r datblygiad gael ei arwain gan bolisi cynllunio cryf, safonau diogelwch cryf, ac wrth gwrs, ymgysylltiad cymunedol cryf ac ystyrlon. Dylai prosiectau fod wedi'u lleoli'n dda, dylent fod yn dryloyw a dylent gael eu cynllunio gydag ymddiriedaeth y cyhoedd mewn golwg. Yn gryno, nid moethusrwydd yw technoleg systemau storio ynni batri, mae'n rhywbeth sy'n angenrheidiol ar gyfer Cymru sero net. Mae'n caniatáu i ynni adnewyddadwy gael ei ddefnyddio pan fo'i angen fwyaf, mae'n cryfhau gwydnwch y grid, mae'n lleihau allyriadau, ac yn cefnogi dyfodol ynni glanach a mwy diogel i bawb. Rhaid annog ynni glân a seilwaith clyfar, ond mae angen taro cydbwysedd gofalus. Yn rhy aml, mae cymunedau'n ôl-ystyriaeth yn y sgwrs hon, ond mae angen i'r trawsnewid i ynni adnewyddadwy roi pobl yn gyntaf.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r prosiectau sy'n cael eu cynnig yn digwydd mewn parciau diwydiannol anghysbell, maent yn cael eu cynllunio o fewn metrau i gartrefi, ysgolion a mannau gwaith. Ac nid Nimbyiaeth yw'r pryderon a godir gan drigolion lleol, maent yn ofnau go iawn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig ynghylch tanau ymchwydd thermol, sydd wedi achosi digwyddiadau difrifol mewn gwledydd ledled y byd. Nawr, cafwyd un digwyddiad o'r fath yng nghyfleuster storio ynni batri Moss Landing yn Califfornia, un o'r rhai mwyaf yn y byd. Cawsant dân difrifol ym mis Ionawr eleni a amlygodd y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â systemau storio ynni batri ïon lithiwm ar raddfa fawr. Dinistriodd y tân oddeutu 80 y cant o'r batris yn yr adeilad yr effeithiwyd arno, a bu'n rhaid symud oddeutu 1,500 o drigolion oherwydd pryderon ynghylch allyriadau mwg gwenwynig. Cododd y digwyddiad bryderon amgylcheddol, gan fod lefelau uwch o fetelau trwm fel manganîs, cobalt a nicel wedi'u canfod gerllaw yn Elkhorn Slough, ecosystem gwlyptir sensitif. Nawr, mae'r halogion hyn, sy'n gysylltiedig â deunyddiau batri, yn peri risgiau posibl i'r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Mae'r dechnoleg a ddefnyddid yn Moss Landing yn union yr un fath â'r hyn a gynigir mewn llawer o'r 80 a mwy—80 a mwy—o ddatblygiadau systemau storio ynni batri sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd yma yng Nghymru, er y gallai'r cyfluniad storio fod yn wahanol, wrth gwrs. Nawr, ni allwn feithrin hyder y cyhoedd yn y dechnoleg hon oni bai ein bod yn rhoi tryloywder a diogelwch wrth wraidd y ffordd y caiff ei chynllunio a sut y caiff ei gweithredu.
Mae'r brys i ddatgarboneiddio yn real. Mae pob un ohonom yn ei deimlo. Ond ni ddylem adael i'r brys hwnnw oresgyn yr angen am ofal. Os gwnawn gamgymeriadau nawr drwy leoli gwael, rheoleiddio gwan neu fesurau diogelwch annigonol, gallem osod baich ar gymunedau am flynyddoedd lawer i ddod. Mae angen inni adeiladu seilwaith ynni sydd nid yn unig yn wyrdd, ond sydd hefyd yn addas i'r diben, yn ddiogel at y dyfodol ac yn ddiogel i bawb. Felly, gadewch inni beidio ag anwybyddu'r risgiau real iawn y mae systemau storio ynni batri yn eu hachosi. Digwyddiadau ymchwydd thermol a all achosi tanau mawr, sy'n para'n hir. Mewn rhai achosion dramor, roedd angen miliynau o litrau o ddŵr i ddiffodd y tanau hyn, gan ryddhau dŵr ffo gwenwynig i'r amgylchedd cyfagos. Yma yng Nghymru, mae cymunedau yn fy rhanbarth i, lleoedd fel Gwyddelwern, Llaneurgain a mannau eraill yn wynebu cynlluniau ar gyfer cyfleusterau 120 metr a 35 metr yn unig o'u cartrefi.
The proposed Ynni Celyn scheme by developers NatPower in Gwyddelwern in my region, as I said, is set to be one of the largest battery energy storage projects in the UK, and among the biggest in the whole of Europe. Now, the development plans to house millions of batteries across nearly 1,000 shipping containers on a 75-acre greenfield site close to the village. Now, if you want to know or understand how big that scheme is projected to be, the investment needed to build it is estimated to be around £1.2 billion. Now, that's almost exactly the same as the cost of the electric arc furnace proposals for Port Talbot. That's the scale of the scheme near a little, old village in Denbighshire.
Now, understandably, the scale and proximity of the project to homes has sparked serious concern among local residents. A community campaign group has voiced strong objections, not only about the size and location of the facility, but also regarding the nature of the developer's engagement with the community. Many feel the communication and consultation have been inadequate and indeed dismissive of local worries.
Similar concerns are also being expressed about other large-scale BESS proposals in places like Northop, Rhostyllen and elsewhere across the country. Residents frequently express deep scepticism towards the developer's reassurances on safety. Reassurances, I have to say, that do little to alleviate public concern.
Going back to the Ynni Celyn site, a fire at that site would pose a serious risk to the River Dee catchment, which, of course, provides drinking water for over 1 million people, and the environmental consequences there could be quite devastating.
Now, we can't ask residents to simply hope that nothing goes wrong. That isn't good enough, is it? Developers and Government must guarantee safety, no exceptions. Only this week, the Government presented us with the proposed Environment (Principles, Governance and Biodiversity Targets) (Wales) Bill. One of the core principles of that piece of legislation, laid out by the Government this very week, is the precautionary principle. Well, surely we need a dose of that principle here. The responsibility for guaranteeing the safety of our infrastructure has to rest with developers, operators and Government alike. Communities shouldn't be expected to take a leap of faith in the assurances surrounding a technology's safety. It needs to be demonstrated beyond reasonable doubt that battery energy storage systems can be trusted to be safe and responsible neighbours.
Now, due to recent reorganisation by NESO, the National Energy System Operator, which is the independent, public corporation that has the responsibility, of course, of planning and operating the whole of Great Britain's energy system, the current planning system has become—and I've said this in the Chamber before on numerous occasions—a free-for-all. And in this vacuum, developers are rushing forward with applications that often fall far short of the safety or location assurances that communities deserve.
Now, while tonight's debate focuses on battery energy storage, it is important to recognise that this issue sits within a broader context of energy infrastructure planning. The current hub-and-spoke model of large, centralised energy generation is placing disproportionate and unsustainable pressure on certain communities in Wales. A prime example, again, in my region, is Cefn Meiriadog near Bodelwyddan in Denbighshire. Owing to its geographic position, this small community is experiencing an overwhelming concentration of both existing and proposed energy infrastructure.
Multiple offshore windfarm connections make landfall here, accompanied by substations and an international interconnector. Added to that are proposals for a large-scale solar farm and a battery energy storage system. Now, of course, while each of these projects individually are valuable and collectively important to our transition to net zero, the cumulative impact on this single community is creating significant stress and anxiety for local residents, but also, of course, is undermining public support for the energy transition that we all want to see.
So, it's time to reconsider our approach to grid development. Rather than persisting with that centralised hub-and-spoke model, we should be moving to a more distributed, 'spider's web' approach—one that spreads infrastructure more evenly and fairly across our country. That would allow us to pursue our clean energy goals while respecting the rights of the people who live alongside these developments. However, that wider issue is probably a debate for another day.
So, coming back to what we have before us, I'm calling on the Government to take back control of this space with a strong, national framework that better balances the interests of industry with the rights of local people, that includes clear, science-based criteria for where and how BESS can be sited, and that restores public trust in the integrity of our planning system.
Given the current risks, gaps in oversight and deep community concern, I'm calling on the Government today to impose a moratorium on large-scale BESS projects. Those that exceed 250 MWh in capacity and those that are located within a kilometre of homes. Now that's not a call to stop clean energy, but it's a call to deliver it responsibly. The 250 MWh threshold, by the way, allows smaller, lower risk projects to proceed; 250 MWh or larger projects, I believe, fall into the category of substantial developments. Developments of this scale typically involve sites with a minimum of around 50 shipping container-type units used to house all the battery units and the additional infrastructure required to house auxiliary hardware such as transformers, switching gear and other components. And the 1 km buffer mirrors the new safety regulations adopted in California, introduced after the Moss Landing fire that I mentioned earlier in the debate.
A moratorium gives us time to do things right. It protects communities and it aligns us with international best practice. But alongside the moratorium, I'm urging the Welsh Government to launch a full, independent risk assessment into the safety and environmental impacts of large-scale BESS. Now, this assessment must prioritise public health, environmental protection and community voices. It needs to review all current and proposed sites across Wales. It needs to establish clear, national safety guidelines based on evidence, and it needs to remain fully independent of commercial interests. The result of that assessment then should shape new national planning policy that is informed, transparent and robust.
Wales mustn't repeat the mistakes of the past where poorly regulated development was justified in the name of progress. Clean energy needs to be safe energy, and climate action needs to be community driven, and the infrastructure of the future needs to be built on the foundation of trust, safety and fairness. So, my demand is clear: a moratorium on the planning process for BESS projects in Wales that are over 250 MWh and are within a kilometre of the nearest home until the Government has conducted a full risk assessment into the safety implication of such projects on nearby communities and the wider environment. That isn't opposition, that's protection. It's not delay, it's due diligence. So, let's work together to build a net-zero Wales, but one that is safe, sustainable and worthy of the trust of our people.
Mae cynllun arfaethedig Ynni Celyn gan y datblygwyr NatPower yng Ngwyddelwern yn fy rhanbarth i, fel y dywedais, ar fin dod yn un o'r prosiectau storio ynni batri mwyaf yn y DU, ac ymhlith y rhai mwyaf yn Ewrop. Nawr, mae'r datblygiad yn bwriadu cadw miliynau o fatris ar draws bron i 1,000 o gynwysyddion llongau ar safle maes glas 75 erw gerllaw'r pentref. Nawr, os hoffech wybod neu ddeall pa mor fawr y rhagwelir y bydd y cynllun hwnnw, amcangyfrifir y bydd angen buddsoddiad o oddeutu £1.2 biliwn i'w adeiladu. Nawr, mae hynny bron yn union yr un fath â chost y cynigion ffwrnais arc drydan ar gyfer Port Talbot. Dyna raddfa'r cynllun hwn ger hen bentref bach yn sir Ddinbych.
Nawr, yn ddealladwy, mae maint ac agosrwydd y prosiect at gartrefi wedi ennyn cryn bryder ymhlith trigolion lleol. Mae grŵp ymgyrchu cymunedol wedi lleisio gwrthwynebiad cryf, nid yn unig ynghylch maint a lleoliad y cyfleuster, ond hefyd ynghylch natur ymgysylltiad y datblygwr â'r gymuned. Mae llawer yn teimlo bod y cyfathrebu a'r ymgynghori wedi bod yn annigonol, a'u bod wedi diystyru pryderon lleol yn wir.
Mae pryderon tebyg yn cael eu mynegi ynghylch cynigion ar gyfer systemau storio ynni batri ar raddfa fawr eraill mewn mannau fel Llaneurgain, Rhostyllen a mannau eraill ledled y wlad. Yn aml, mae trigolion yn mynegi amheuaeth ddofn ynghylch geiriau o sicrwydd y datblygwr ynglŷn â diogelwch. Geiriau o sicrwydd, mae'n rhaid imi ddweud, nad ydynt yn gwneud fawr ddim i leddfu pryderon y cyhoedd.
I fynd yn ôl at safle Ynni Celyn, byddai tân ar y safle hwnnw’n creu risg ddifrifol i ddalgylch afon Dyfrdwy, sydd, wrth gwrs, yn darparu dŵr yfed i dros 1 filiwn o bobl, a gallai’r canlyniadau amgylcheddol yno fod yn eithaf trychinebus.
Nawr, ni allwn ofyn i drigolion fodloni ar obeithio nad aiff unrhyw beth o'i le. Nid yw hynny'n ddigon da. Rhaid i ddatblygwyr a'r Llywodraeth warantu diogelwch, heb unrhyw eithriadau. Yr wythnos hon, cyflwynodd y Llywodraeth gynnig Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) i ni. Un o egwyddorion craidd y ddeddfwriaeth honno, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yr wythnos hon, yw'r egwyddor ragofalus. Wel, mae angen dos o'r egwyddor honno arnom yma. Rhaid i'r datblygwyr, y gweithredwyr a'r Llywodraeth fel ei gilydd ysgwyddo'r cyfrifoldeb am warantu diogelwch ein seilwaith. Ni ddylid disgwyl i gymunedau gynnig eu ffydd yn ddall yn y sicrwydd a roddir ynghylch diogelwch technoleg. Mae angen dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol y gellir ymddiried mewn systemau storio ynni batri i fod yn gymdogion diogel a chyfrifol.
Nawr, oherwydd ad-drefnu diweddar gan y Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol, sef y gorfforaeth gyhoeddus annibynnol sy'n gyfrifol am gynllunio a gweithredu system ynni gyfan Prydain, mae'r system gynllunio bresennol—ac rwyf wedi dweud hyn yn y Siambr o'r blaen ar sawl achlysur—bellach yn rhydd i bawb wneud fel y myn. Ac yn y gwactod hwn, mae datblygwyr yn rhuthro i gyflwyno ceisiadau sy'n aml yn brin o'r sicrwydd y mae cymunedau'n ei haeddu o ran diogelwch neu leoliad.
Nawr, er bod y ddadl heno'n canolbwyntio ar systemau storio ynni batri, mae'n bwysig cydnabod bod y mater hwn yn rhan o gyd-destun ehangach cynllunio'r seilwaith ynni. Mae'r model 'prif ganolfan a lloerennau' presennol o gynhyrchu ynni'n ganolog ar raddfa fawr yn rhoi pwysau anghymesur ac anghynaliadwy ar rai cymunedau yng Nghymru. Enghraifft berffaith, unwaith eto, yn fy rhanbarth i, yw Cefn Meiriadog ger Bodelwyddan yn sir Ddinbych. Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae'r gymuned fach hon yn profi crynodiad llethol o seilwaith ynni presennol ac arfaethedig.
Mae nifer o gysylltiadau ffermydd gwynt ar y môr yn dod i'r tir yma, ynghyd ag is-orsafoedd a rhyng-gysylltydd rhyngwladol. Yn ogystal â hynny, mae cynigion ar gyfer fferm solar ar raddfa fawr a system storio ynni batri. Nawr, er bod pob un o'r prosiectau hyn yn werthfawr ar eu pen eu hunain ac yn bwysig ar y cyd mewn perthynas â phontio i sero net, mae'r effaith gronnol ar y gymuned hon yn creu straen a phryder sylweddol i drigolion lleol, ac wrth gwrs, mae'n tanseilio cefnogaeth y cyhoedd i'r trawsnewid y mae pob un ohonom am ei weld i ynni adnewyddadwy.
Felly, mae'n bryd ailystyried ein dull o ddatblygu'r grid. Yn hytrach na pharhau â'r model canolog 'prif ganolfan a lloerennau' hwnnw, dylem fod yn newid i ddull mwy gwasgaredig, dull 'gwe pry cop'—un sy'n lledaenu seilwaith yn fwy cyfartal a theg ar draws ein gwlad. Byddai hynny'n caniatáu inni fynd ar drywydd ein nodau ynni glân gan barchu hawliau'r bobl sy'n byw ger y datblygiadau hyn. Fodd bynnag, mae'r mater ehangach hwnnw'n ddadl ar gyfer diwrnod arall mae'n siŵr.
Felly, i ddod yn ôl at yr hyn sydd gerbron, rwy'n galw ar y Llywodraeth i adfer rheolaeth ar y mater hwn gyda fframwaith cenedlaethol cryf sy'n cydbwyso buddiannau'r diwydiant yn well â hawliau pobl leol, sy'n cynnwys meini prawf clir yn seiliedig ar wyddoniaeth ar gyfer ble a sut y gellir lleoli systemau storio ynni batri, ac sy'n adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn uniondeb ein system gynllunio.
O ystyried y risgiau presennol, y bylchau yn y trosolwg a phryder dwfn y gymuned, rwy'n galw ar y Llywodraeth heddiw i osod moratoriwm ar brosiectau systemau storio ynni batri ar raddfa fawr. Y rhai sydd â chapasiti sy'n fwy na 250 MWh a'r rhai sydd wedi'u lleoli o fewn cilometr i gartrefi. Nawr, nid galwad i atal ynni glân yw hynny, ond galwad i'w ddarparu'n gyfrifol. Mae'r trothwy o 250 MWh, gyda llaw, yn caniatáu i brosiectau llai â risg is fynd rhagddynt; credaf fod prosiectau o 250 MWh neu fwy yn dod o dan y categori datblygiadau sylweddol. Mae datblygiadau ar y raddfa hon fel arfer yn cynnwys safleoedd gydag o leiaf oddeutu 50 o unedau tebyg i gynwysyddion llongau a ddefnyddir i gadw'r holl unedau batri a'r seilwaith ychwanegol sydd ei angen i gadw caledwedd ategol fel newidyddion, peirianwaith switsio a chydrannau eraill. Ac mae'r parth clustogi o 1 km yn adlewyrchu'r rheoliadau diogelwch newydd a fabwysiadwyd yn Califfornia, a gyflwynwyd ar ôl y tân yn Moss Landing y soniais amdano yn gynharach yn y ddadl.
Mae moratoriwm yn rhoi amser inni wneud pethau'n iawn. Mae'n diogelu cymunedau ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio ag arferion gorau rhyngwladol. Ond ochr yn ochr â'r moratoriwm, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i lansio asesiad risg llawn, annibynnol i effeithiau diogelwch ac amgylcheddol systemau storio ynni batri ar raddfa fawr. Nawr, mae'n rhaid i'r asesiad hwn flaenoriaethu iechyd y cyhoedd, diogelu'r amgylchedd a lleisiau cymunedol. Mae angen iddo adolygu pob safle presennol ac arfaethedig yng Nghymru. Mae angen iddo sefydlu canllawiau diogelwch cenedlaethol clir yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae angen iddo barhau'n gwbl annibynnol ar fuddiannau masnachol. Yna, dylai canlyniad yr asesiad hwnnw lunio polisi cynllunio cenedlaethol newydd sy'n wybodus, yn dryloyw ac yn gadarn.
Rhaid i Gymru beidio ag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol lle cafodd datblygiadau wedi'u rheoleiddio'n wael eu cyfiawnhau yn enw cynnydd. Mae angen i ynni glân fod yn ynni diogel, ac mae angen i weithredu ar yr hinsawdd gael ei yrru gan y gymuned, ac mae angen i seilwaith y dyfodol gael ei adeiladu ar sail ymddiriedaeth, diogelwch a thegwch. Felly, mae fy ngalwad yn glir: moratoriwm ar y broses gynllunio ar gyfer prosiectau storio ynni batri yng Nghymru sydd dros 250 MWh ac sydd o fewn cilometr i'r cartref agosaf hyd nes bod y Llywodraeth wedi cynnal asesiad risg llawn i oblygiadau diogelwch prosiectau o'r fath ar gymunedau cyfagos a'r amgylchedd ehangach. Nid gwrthwynebu yw hynny, ond diogelu. Nid oedi, ond diwydrwydd dyladwy. Felly, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i adeiladu Cymru sero net, ond un sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn deilwng o ymddiriedaeth ein pobl.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio nawr i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
The Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning now to reply to the debate—Rebecca Evans.

Diolch. I'd like to begin by thanking Llyr Gruffydd for tabling this debate this evening. The Welsh Government is committed to decarbonising our energy system and to promoting the growth of sustainable and renewable energy. To address the climate crisis and to reach our net-zero targets we need a range of renewable technologies to meet our future energy needs. Renewable energy also generates significant opportunities to create those green jobs and to stimulate economic growth across our communities. The growth in energy generation from renewable sources does require flexibility, including measures to match supply with demand, and energy storage is one type of technology that can help as it retains the excess power that can then be used as required. Energy storage does have an important part to play in managing the transition to a low-carbon economy and to ensure that we have a secure and resilient and flexible energy system that meets the needs of users, and I'm really grateful to Llyr for the way in which he set out his strong recognition of that in his contribution within this debate.
As a general point, we would see these projects clustering around our existing grid connection points, and that then goes on to reduce the connection costs and helps, of course, to minimise the need for overhead lines. In Wales we have led on a planned approach to the energy transition, looking at what networks are needed to connect energy use with renewable generation and storage and, at a national level, our 'Future Energy Grids for Wales' report sets out what a net-zero energy system might look like and what networks we may need to best serve our communities for the long term. And we've also supported our local authorities to produce local area energy plans that set out the changes needed to transition to net zero in specific areas. So, we are working with the National Energy System Operator on the regional energy strategic plan for Wales, and that will give us a clearer understanding of how much storage capacity we need to ensure that stable, secure energy supply in Wales.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Llyr Gruffydd am gyflwyno'r ddadl hon heno. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio ein system ynni ac i hybu twf ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy. Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chyflawni ein targedau sero net, mae angen ystod o dechnolegau adnewyddadwy arnom i ddiwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol. Mae ynni adnewyddadwy hefyd yn creu cyfleoedd sylweddol i greu swyddi gwyrdd ac i ysgogi twf economaidd ar draws ein cymunedau. Mae'r twf mewn cynhyrchiant ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn gofyn am hyblygrwydd, gan gynnwys mesurau i sicrhau y gall y cyflenwad ateb y galw, ac mae storio ynni'n un math o dechnoleg a all helpu gan ei fod yn cadw'r pŵer dros ben y gellir ei ddefnyddio wedyn yn ôl yr angen. Mae gan storio ynni ran bwysig i'w chwarae wrth reoli'r newid i economi carbon isel ac i sicrhau bod gennym system ynni ddiogel, wydn a hyblyg sy'n diwallu anghenion defnyddwyr, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr am y ffordd y nododd ei gydnabyddiaeth gref o hynny yn ei gyfraniad yn y ddadl hon.
Fel pwynt cyffredinol, byddem yn gweld y prosiectau hyn yn clystyru o amgylch pwyntiau cysylltu ein grid presennol, ac mae hynny wedyn yn mynd ymlaen i leihau'r costau cysylltu ac yn helpu i leihau'r angen am linellau uwchben. Yng Nghymru, rydym wedi arwain ar ddull wedi'i gynllunio o drawsnewid i ynni adnewyddadwy, gan edrych ar ba rwydweithiau sydd eu hangen i gysylltu'r defnydd o ynni â chyfleusterau cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy, ac ar lefel genedlaethol, mae ein hadroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' yn nodi sut olwg a fyddai ar system ynni sero net a pha rwydweithiau y gallai fod eu hangen arnom i wasanaethu ein cymunedau yn y ffordd orau ar gyfer y tymor hir. Ac rydym hefyd wedi cefnogi ein hawdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau ynni ardaloedd lleol sy'n nodi'r newidiadau sydd eu hangen i drawsnewid i sero net mewn ardaloedd penodol. Felly, rydym yn gweithio gyda'r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol ar y cynllun ynni rhanbarthol strategol ar gyfer Cymru, a bydd hynny'n rhoi dealltwriaeth gliriach i ni o faint o gapasiti storio sydd ei angen arnom i sicrhau cyflenwad ynni sefydlog a diogel yng Nghymru.
Decisions on the appropriate locations for battery storage development are made through the planning process, and national and local planning policies in the development plan, supported by national planning policy guidance in 'Planning Policy Wales', provide the framework for considering planning applications for battery storage facilities. National planning guidance in 'Planning Policy Wales' is clear that renewable and low-carbon energy is of paramount importance in order to tackle the climate emergency and to increase energy security. 'Future Wales' also contains policies to support the growth of sustainable and renewable energy, and recognises that there is a need for large-scale energy storage as part of a resilient energy system. I do, of course, though, recognise the potential environmental impacts, and the health and safety issues with battery storage are valid concerns. The planning system does consider how these issues impact on the acceptability of proposals, including considering issues such as landscaping, design and layout. Planning applications are subject to consultation with key stakeholders, and the fire and rescue authorities are consulted on major development proposals. The planning system is able to prevent and mitigate potential harm resulting from the development proposals by imposing conditions on planning permissions.
Major planning applications require early engagement with communities and consultees at the pre-application stage, and again through the application process. That does provide local communities with the opportunity to make representations on development proposals and to raise any concerns that they may have. Listening to the contribution this evening, I am just reminded by how important it is then that the developers respond openly and transparently and in detail, providing proper responses to those issues that are raised by communities throughout that process. In addition to the control provided by the planning system, it's also important to note that development proposals need to comply with other regulatory regimes in order to ensure that the development is operated safely. These additional controls include the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015, the Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2016 and the fire safety regime.
I'm aware that there are a number of proposals for large-scale battery storage facilities across Wales, including in north Wales. Given the Welsh Ministers' role in the planning system, I obviously can't comment on the merits of specific developments, and I realise this is the second debate this afternoon where we have had issues of that type, and I do understand that's frustrating to communities and to colleagues sometimes, but any queries relating to specific proposals at a pre-application stage should be directed to the developers. But, as I mentioned earlier, the planning system provides a robust policy framework for considering the potential environmental and other impacts of battery storage facilities. The views of key stakeholders, such as Natural Resources Wales, the fire and rescue service and the Health and Safety Executive may be sought on battery storage proposals, and their advice should then inform the planning decision-making process. Given that battery energy storage systems can present a risk of fire, we would of course encourage developers to engage early with the fire and rescue service.
Site operators also have duties under the Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 to take general fire precautions at their premises, having first undertaken a risk assessment, and that then is enforced by the fire and rescue authority. Planning proposals may also be subject to the need for hazardous substance consent. This consent is administered usually by the local authority. However, energy storage proposals seen to date have generally not reached the control thresholds that would require hazardous substance consent. Other regulatory controls are provided by the control of major accident hazards regime, which is operated by both the HSE and NRW.
And of course, we've got our new Infrastructure (Wales) Act 2024, which establishes a new process for consenting major projects in Wales, including for battery storage over 50 MW. Battery storage associated with other significant infrastructure projects will also fall into the infrastructure consent system. So, as we go about developing that subordinate legislation under the Infrastructure (Wales) Act, we're engaging with stakeholders to determine who should be consulted on different types of applications, and that will include engagement with bodies such as the fire and rescue services.
So, as I've mentioned, I can't comment on specific cases this evening, but I hope that I have provided some reassurance, and have referred to a number of the protections that exist in the planning system and encourage constituents and colleagues to engage as early as possible within these planning applications. I know that Llyr has set down a number of specific challenges to me this evening, but I think I'll give that some further consideration and take some further advice on those specific asks within the debate. But I'm really grateful for the points raised this evening.
Gwneir penderfyniadau ar y lleoliadau priodol ar gyfer datblygu cyfleusterau storio ynni batri drwy'r broses gynllunio, ac mae polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol yn y cynllun datblygu, wedi'u cefnogi gan ganllawiau polisi cynllunio cenedlaethol yn 'Polisi Cynllunio Cymru', yn darparu'r fframwaith ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio ar gyfer cyfleusterau storio batri. Mae canllawiau cynllunio cenedlaethol yn 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi'n glir fod ynni adnewyddadwy a charbon isel o'r pwys mwyaf er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac i gynyddu diogeledd ynni. Mae 'Cymru’r Dyfodol' hefyd yn cynnwys polisïau i gefnogi twf ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy, ac yn cydnabod bod angen storio ynni ar raddfa fawr fel rhan o system ynni wydn. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod, serch hynny, yr effeithiau amgylcheddol posibl, ac mae'r materion iechyd a diogelwch gyda systemau storio batri yn bryderon dilys. Mae'r system gynllunio yn ystyried sut y mae'r materion hyn yn effeithio ar ba mor dderbyniol yw cynigion, gan gynnwys ystyried materion fel tirlunio, dyluniad a chynllun. Mae ceisiadau cynllunio yn destun ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol, ac ymgynghorir â'r awdurdodau tân ac achub ar gynigion datblygu mawr. Mae'r system gynllunio'n gallu atal a lliniaru niwed posibl sy'n deillio o'r cynigion datblygu drwy osod amodau ar ganiatâd cynllunio.
Mae gofyn i geisiadau cynllunio mawr ymgysylltu'n gynnar â chymunedau ac ymgyngoreion ar y cam cyn ymgeisio, ac eto drwy gydol y broses ymgeisio. Mae hynny'n rhoi cyfle i gymunedau lleol wneud sylwadau ar gynigion datblygu ac i godi unrhyw bryderon a allai fod ganddynt. Wrth wrando ar y cyfraniad heno, rwy'n cael fy atgoffa pa mor bwysig yw hi, felly, fod y datblygwyr yn ymateb yn agored ac yn dryloyw ac yn fanwl, gan ddarparu ymatebion priodol i'r materion a godir gan gymunedau drwy gydol y broses honno. Yn ogystal â'r rheolaeth a ddarperir gan y system gynllunio, mae hefyd yn bwysig nodi bod angen i gynigion datblygu gydymffurfio â threfniadau rheoleiddio eraill er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn cael ei weithredu'n ddiogel. Mae'r rheolaethau ychwanegol hyn yn cynnwys Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a'r drefn ddiogelwch tân.
Rwy'n ymwybodol fod nifer o gynigion ar gyfer cyfleusterau storio ynni batri ar raddfa fawr ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd. O ystyried rôl Gweinidogion Cymru yn y system gynllunio, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar rinweddau datblygiadau penodol, ac rwy'n sylweddoli mai dyma'r ail ddadl y prynhawn yma lle rydym wedi cael materion o'r fath yn codi, ac rwy'n deall bod hynny'n rhwystredig i gymunedau ac i gyd-Aelodau weithiau, ond dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau'n ymwneud â chynigion penodol yn y cyfnod cyn-ymgeisio at y datblygwyr. Ond fel y soniais yn gynharach, mae'r system gynllunio'n darparu fframwaith polisi cadarn ar gyfer ystyried effeithiau amgylcheddol ac effeithiau eraill posibl cyfleusterau storio batri. Gellir gofyn am farn rhanddeiliaid allweddol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwasanaeth tân ac achub a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gynigion storio batri, a dylai eu cyngor lywio'r broses o wneud penderfyniadau cynllunio. O ystyried y gall systemau storio batri greu risg o dân, byddem yn annog datblygwyr wrth gwrs i ymgysylltu'n gynnar â'r gwasanaeth tân ac achub.
Mae gan weithredwyr safleoedd ddyletswyddau hefyd o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 i weithredu rhagofalon tân cyffredinol ar eu safleoedd, ar ôl cynnal asesiad risg yn gyntaf, ac yna caiff hynny ei orfodi gan yr awdurdod tân ac achub. Gall cynigion cynllunio fod yn amodol hefyd ar yr angen am gydsyniad sylweddau peryglus. Fel arfer, caiff y cydsyniad hwn ei weinyddu gan yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, nid yw'r cynigion storio ynni a welwyd hyd yma at ei gilydd wedi cyrraedd y trothwyon rheoli y byddai angen cydsyniad sylweddau peryglus ar eu cyfer. Darperir rheolaethau rheoleiddiol eraill gan y drefn reoli peryglon damweiniau mawr, a weithredir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a CNC.
Ac wrth gwrs, mae gennym ein Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 newydd, sy'n sefydlu proses newydd ar gyfer rhoi cydsyniad i brosiectau mawr yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer cyfleusterau storio batri dros 50 MW. Bydd storio batri sy'n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith arwyddocaol eraill hefyd yn dod o dan y system gydsyniad seilwaith. Felly, wrth inni fynd ati i ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth honno o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru), rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i benderfynu pwy y dylid ymgynghori â hwy ar wahanol fathau o geisiadau, a bydd hynny'n cynnwys ymgysylltu â chyrff fel y gwasanaethau tân ac achub.
Felly, fel y soniais, ni allaf wneud sylwadau ar achosion penodol heno, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd, a chyfeiriais at nifer o'r amddiffyniadau sy'n bodoli yn y system gynllunio gan annog etholwyr a chyd-Aelodau i ymgysylltu mor fuan â phosibl â'r ceisiadau cynllunio hyn. Gwn fod Llyr wedi cyflwyno nifer o heriau penodol i mi heno, ond fe roddaf ystyriaeth bellach i hynny a chael cyngor pellach ar y cwestiynau penodol hynny yn y ddadl. Ond rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau a godwyd heno.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, diolch i'r Aelodau am y cyfraniad i'r ddadl yna. A dyna ni, dyna ddod â'n gwaith ni i ben am heddiw.
I thank the Cabinet Secretary and I thank Members for their contributions to that debate. That brings today's proceedings to a close.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:50.
The meeting ended at 17:50.